Neidio i'r cynnwys

Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau (Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cofiant Daniel Owen: ynghyd a Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau

gan John Owen, Y Wyddgrug

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Cofiant Daniel Owen: ynghyda Sylwadau ar ei Ysgrifeniadau
ar Wicipedia

Darlun o'r Cerflun o Daniel Owen.

"Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifenais, ond i'r dyn cyffredin."

COFIANT

DANIEL OWEN;

YNGHYDA

SYLWADAU AR EI YSGRIFENIADAU

GAN Y PARCH. JOHN OWEN,

YR WYDDGRUG.

—————————————

GWRECSAM:

CYHOEDDIEDIG GAN HUGHES A'I FAB

1899

AT Y DARLLENYDD

Pan ofynnodd Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, i mi ysgrifennu ychydig o hanes Daniel Owen, i ymddangos ynglŷn â'r Argraffiad Goffadwriaethol a fwriadent gyhoeddi, nis gallwn wrthod. Teimlwn y dylai rhai o brif ffeithiau bywyd awdur Rhys Lewis gael eu casglu at ei gilydd tra yr oedd ei hen gyfeillion yn yr Wyddgrug eto yn fyw - y rhai a'i hadwaenant orau, ac a'i hoffent fwyaf. Nid oedd gennyf ond casglu yr hanes a'i ddodi wrth eu gilydd. Teimlwn, fel llawer o'i gyfeillion yn y dref, hiraeth cywir am dano, ac awyddfryd am weled ychydig o hanes ei fywyd yn ymddangos. Daeth cyfleustra i dalu'r warogaeth hon i'n hanwyl gyfaill ynglŷn â'r cyhoeddiad hwn o'i Weithiau; ac er nad oeddwn yn teimlo fod ynof gymhwyster neilltuol i'r gwaith, a bod lliaws o oruchwylion eraill ar y pryd yn galw am fy sylw, eto, teimlwn fod rhwymedigaeth arnaf i dalu y deyrnged hon o barch i un oedd wedi llenwi lle mor fawr yn mywyd yr Wyddgrug, ac yn wir, yn llenyddiaeth Cymru.

Yr oedd un cymhelliad arall yn peri i mi afael yn y gwaith, sef awyddfryd gweled y gof-golofn y bwriedir ei gosod i fynnu yn ein tref wedi ei chwblhau a thalu am dani. Pan gofiwn yr hyfrydwch a'r budd a dderbyniwyd wrth ddarllen gweithiau Daniel Owen gan y Cymry ymhob rhan o'r byd, gallesid disgwyl i'r deyrnged hon i'w goffadwriaeth gael ei thalu yn ddiymdroi; ac er bod oddeutu £300 wedi eu casglu, y mae agen eto am oddeutu £100 yn ychwaneg er cwblhau y gwaith, a thalu am osod y cerflun i fynu. Y mae yn chwith genym feddwl fod ysgrifennydd gweithgar y mudiad, Mr Llywelyn Eaton, wedi ei gymryd ymaith cyn gweled gwaith wedi ei orffen. Da gennym ddeall fod y bonheddwr adnabyddus, Mr Thomas Parry, U.H., o'r Wyddgrug, wedi ymgymryd â bod yn ysgrifennydd yn lle'r diweddar Mr Eaton. Yr ydym yn hyderu y bydd cyhoeddiad hanes bywyd yr awdur yn rhyw gymaint o fantais er cwblhau yr amcan uchod, a hynny heb ychwaneg o oediad.

Yn y Cofiant byr hwn yr ydym wedi ceisio rhoddi darlun syml o awdur Rhys Lewis, fel yr ymddangosai i'w gyfeillion. Oddiwrth ein hadnabyddiaeth o'i gymeriad gonest a dihocced yr ydym yn sicr na fuasai yn hoffi i ni geisio ei ddangos yn wahanol i'r hyn ydoedd; eto yr ydym yn hyderu y cydnabyddir nad ydym wedi troseddu chwaeth dda wrth lefaru am y marw.

Y mae gennym i gydnabod yn arbennig gymorth Mr Isaac Jones, o'r dref hon, yr hwn a fu yn gydymaith i Daniel Owen o'r adeg yr ydoedd yn blentyn hyd ei farwolaeth. Ganddo ef y cawsom y prif ffeithiau am febyd ac ieuengctyd ein gwrthddrych, yn ogystal a llawer o hanes y siop fu yn fath o Athrofa i Daniel Owen. Hefyd, cawsom hanes lled fanwl gan Mr Robert Williams, un o flaenoriaid Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yr Wyddgrug, am gyssylltiad Daniel Owen â'r capel o'r adeg y derbyniwyd ef hyd nes i'w iechyd dorri i lawr. Derbynied y ddau gyfaill hyn ein diolch mwyaf cynnes. Yr ydym hefyd wedi ymgynghori âg amryw o frodyr sydd wedi treulio eu hoes yn y dref, er gallu penderfynu rhai pwyntiau yr oedd graddau o ansicrwydd gyda golwg arnynt.

Credwn ein bod wedi cydnabod yng nghwrs y llyfr y cyfeillion eraill oedd yn abl i daflu goleu i ni ar wahanol gyfnodau ym mywyd ein gwrthddrych.

Darfu Mr John Morgan (Rambler) yn garedig ysgrifenu rhai o'i atgofion i'w dodi i mewn, ond o herwydd prinder gofod bu raid cwtogi yr atgofion hyn. Trwy ganiatad golygydd y Goleuad, a chydsyniad yr awdwr, yr ydym yn cyhoeddi erthygl y Parch. Ellis Edwards, M.A., ar Fywyd ac Athrylith Daniel Owen, a ymddangosodd yn y Goleuad ar ôl ei farwolaeth. Rhoddodd Mr John Lloyd, golygydd y County Herald, ganiatad parod i ni gyhoeddi y desgrifiad personol o Daniel Owen, a ymddangosodd yn y County Herald flynyddoedd yn ôl. Bydd yr Adgofion a'r Desgrifiad hwn yn fantais i'r darllenydd i gyraedd adnabyddiaeth fwy cywir a chyflawn o'r hyn ydoedd Daniel Owen.

Nis gallwn ddwyn y Rhagarweiniad hwn i derfyniad heb gydnabod yn ddiolchgar garedigrwydd Mr Isaac Foulkes (Llyfrbryf), perchennog a golygydd y Cymro, am ganiatáu i ni wneud defnydd mor helaeth o'r Atgofion a ysgrifenwyd i'r Cymro gan Daniel Owen ei hun naw mlynedd yn ol. Teimlwn yn fwy dyledus i Mr. Foulkes yn gymaint a'i fod ef ei hun yn bwriadu dwyn allan Gofiant helaeth o Daniel Owen.

Derbynied Llyfrbryf, ynghyd â'r oll o'r cyfeillion a nodwyd, ein diolch mwyaf cywir am eu cymorth gwerthfawr.

Gwelir fod yr erthygl a ysgrifennodd Daniel Owen i'r Drysorfa, ar ol marwolaeth ei hen olygydd, y Parch. Roger Edwards, wedi ei dodi i mewn ar ôl y portread o "Gymeriadau Methodistaidd." Heblaw fod yr erthygl yn werthfawr ynddi ei hun fel darlun cywir a chyflawn o un yr oedd yr awdur yn dra dyledus iddo, ceir yn yr erthygl hefyd enghraifft nodedig o allu'r ysgrifenydd i sylwi, a'i fedr i ddesgrifio. Y mae'r erthygl hefyd yn dangos nodweddion arbenig arddull Daniel Owen. Dodwyd i mewn y ganig dlws a gyfansoddodd y boreu Nadolig diweddaf y bu fyw, a'r hon sydd yn rhoddi gwelediad i ni i mewn i deimladau yr awdur tua diwedd ei fywyd.

Ydwyf, yr eiddoch yn gywir,
JOHN OWEN.

YR WYDDGRUG,

Tachwedd 22ain, 1899

CYNHWYSIAD


Mebyd ac Ieuenctid
Hanes ei deulu—Cyfyngder yn ei gartre—Disgrifiad o'i frawd Dafydd Owen.
Ei Addysg
Yn yr Ysgol Eglwysig—Yn mynd i'r Ysgol Frytanaidd—Ei athraw.
Ei Brentisiaeth
Egwyddorwas dilledydd gyda Mr John Angell Jones—Disgrifiad o gymmeriad ei feistr—Marwnad Glan Alun iddo—Bywyd yn y siop deilwriaid—Y dadleuon Diwinyddol—Gwleidyddiaeth a barddoniaeth—Bywyd llenyddol y dref y cyfnod hwn.
Yn Dechrau Cyfansoddi Barddoniaeth, &c.
Yn y cyfarfodydd cystadleuol—Yn ysgrifenu i'r Wasg—Gwahanol gymdeithasau llenyddol yn y dref.
Yn Dechrau Pregethu
Yn myned i Goleg y Bala—Barn ei gyd-efrydwyr am dano—Ei ddisgrifiad ef ei hun o'r cyfnod hwn mewn Hiraeth-gân ar ôl y Parch. John Evans, Croesoswallt.
Yn gadael Coleg y Bala
Paham y gadawodd—Yn ail ymafael yn ei alwedigaeth—Yn pregethu ar y Sabothau—Yn areithio yng nghyfarfodydd y Nadolig—Ei iechyd yn torri i lawr—Yn rhoddi i fynnu pregethu—Ei ddefnyddioldeb yn ei Eglwys fel athro ac fel arweinydd cymdeithasau dadleuol a llenyddol.
Materion Cyhoeddus a Threfol
Ar lwyfan wleidyddol yn areithio yn 1874—Fel Gwleidyddwr—Ar Fyrddau Lleol—Yn Ynad Heddwch.
Ei Gystudd a'i Farwolaeth
Ei Gladdedigaeth
Ei garreg fedd a'i hargraff.
Ei Ewyllys
Ei Gofadail
Atgofion Mr John Morgan (Rambler)
Sylwadau'r Parch. Ellis Edwards, M.A., ar gymeriad ac athrylith Daniel Owen.
Disgrifiad gan Mr John Lloyd (Crwydryn), Treffynnon
Hanes Ei Weithiau Llenyddol
Sylwadau am ei Nodweddion fel Ysgrifennydd
"Enoc Huws" a "Gwen Thomas"

DANIEL OWEN

GANWYD Daniel Owen ar yr 20fed o Hydref, 1836, yn Maesydrê, yr Wyddgrug. Enw ei dad ydoedd Robert Owen, ac enw morwynol ei fam ydoedd Sarah Edwards. Brodor ydoedd ei dad o Ddolgellau; ond yr oedd wedi symud pan yn lled ieuanc i weithio i'r mwnau yn Sir Flint. Cawn mai yn Rhesycae yr aeth ei dad a'i fam i fyw gyntaf ar ol priodi. Gyda golwg ar Robert Owen, dywed Daniel Owen yn y braslinelliad o'i fywyd a anfonodd i'r Cymro am Fehefin 1af, 1891, nad oedd dim neillduol yn ei dad am a wyddai ef, ond ei fod yn gymydog da, yn ddyn gonest, ac yn Gristion cywir. Yn yr hanes a ysgrifenwyd gan y diweddar Barch. Owen Jones o Landudno—yr Wyddgrug y pryd hwnw—am y trychineb a gymmerodd le yng ngwaith glô yr Argoed, pryd y collodd Robert Owen, yn ogystal a dau fab iddo, eu bywydau, dywedir am dano,—"Cawsai aml a blin gystuddiau yn y blynyddoedd diweddaf, ond yr oedd lle i feddwl ei fod yn ofni Duw yn fwy na llawer. Byddai yn ddyfal ac astud iawn yn yr arferiad o foddion gras; a'i ymdrech dwys yn ddiau oedd am ymddwyn yn addas i efengyl Crist."

Ymddengys mai gŵr dysyml ydoedd, heb fod ynddo unrhyw arbenigrwydd o ran talent. Yn wir, sylwa ei fab,—"Os oes ynof fymryn o dalent, yr wyf yn credu i mi ei etifeddu o ochr fy mam." Ganwyd a magwyd ei fam yn Llanfair, ger Rhuthun. Yr oedd ei daid o ochr ei fam yn berthynas i Thomas Edward , ac yr oeddynt ar delerau cyfeillgar iawn. Byddai y ddau gâr yn fynych yn ymryson prydyddu. Bu ei fam pan yn eneth lled ieuangc yn gwrando laweroedd o weithiau ar interliwdiau Twm o'r Nant, a dysgodd lawer o honynt ar ei chôf, a gallai eu hadrodd yn ei hen ddyddiau, a dywed ei mab y byddai yn arfer settlo pob cwestiwn drwy ddifynu llinell o weithiau Twm. Ymddengys mai nid interliwdiau Twm oedd yr unig rai y bu yn eu gwrando yn nyddiau ei hieuengctid; yr oedd ei mab yn cofio ei chlywed yn son am eraill. Nid dyma'r unig ddylanwadau, pa fodd bynnag, y daeth danynt ym moreu ei hoes, oblegid fe'i clywyd yn ymffrostio yn fynych ei bod wedi cael y fraint o adrodd pennod i Charles o'r Bala fwy nag unwaith pan yn lled ieuangc. Gwelwn felly yn hanes mam Daniel Owen gyd-gyfarfyddiad y ddwy ffrwd o ddylanwad a lifai drwy rannau o Ogledd Cymru oddeutu dechrau y ganrif hon. Dywed ei mab fod gan ei fam uwch meddwl o Charles o'r Bala na neb arall. Oblegid erbyn iddo ef ddod yn ddigon hen i sylwi, yr oedd Sarah Owen wedi cyfarfod â "throion chwith" a diau ei bod yn profi'r Ysgrythurau a ddysgodd, ac a adroddodd i Mr Charles, yn fwy o gysur ac o gynhaliad i'w meddwl na dim arall. Y mae ei mab wedi rhoddi desgrifiad lled fyw o'i fam yn y braslun y cyfeiriwyd ato uchod. Dyma fel y dywed, - "Dynes fechan oedd fy mam, ond yr oedd ryw ddefnydd anghyffredin ynddi. I ddangos y defnydd yr oedd fy mam wedi ei wneud o hono, yr wyf yn adrodd i chwi yr hanesyn hwn—gallwn adrodd eraill lawn mor rhyfedd: Cerddodd o Resycae i'r Wyddgrug â phlentyn ar ei braich. Cynnorthwyodd fy nhaid a fy nain i gorddi wedi cyrraedd yr Wyddgrug, yna cerddodd i Gaerllion a'r plentyn yn ei breichiau. Yr oedd iddi chwaer yn gwasanaethu yng Nghaer, a chwaer arall yn gwasanaethu chwe' milltir tudraw i Gaer. Cariwyd y plentyn y chwe' milltir hwn gan y chwaer o Gaer. Dychwelodd yn ol i'r Wyddgrug y noson honno, wedi cerdded ar ddiwrnod gwresog 44 o filltiroedd, ac wedi cario'r plentyn 38 o filltiroedd." Profa hyn ei bod o gyfansoddiad eithriadol o wydn; ond gwnelai ein tadau orchestion mewn cerdded yn y blynyddoedd hyny. Cafodd fyw i oedran mawr. Dioddefodd ingoedd am flynyddoedd ar amserau oddiwrth y cancer, yr afiechyd o ba un y bu farw yn y flwyddyn 1881, yn 83 mlwydd oed.

Bu i Robert Owen a'i briod chwech o blant—pedwar o fechgyn a dwy o ferched. Pan nad oedd Daniel ond 7 mis oed, cymerodd amgylchiad le a adawodd ei ôl ar ei holl fywyd, sef gorlifiad Gwaith Glo yr Argoed, hanner milltir gerllaw tref yr Wyddgrug, pryd y collodd un-ar-hugain o weithwyr eu bywydau, ac yn eu plith Robert Owen a'i ddau fab, Robert a Thomas. Taflodd y digwyddiad alaethus hwnnw oleuni ar aelwyd Robert a Sarah Owen, Maesydrê. Yn hanes y ddau fachgen—un yn ddeuddeg a'r llall oddeutu deg oed, gwelwn y fath gartre oedd ganddynt. Dyma fel yr ysgrifena y Parch. Owen Jones am danynt:—

"Robert Owen, un hynod am ganu Hymnau oedd yr un bychan yma, arferai ganu yn hynod o siriol yn yr addoldy yn wastadol; wrth fyned at ei waith yn y plygeiniau atseiniau Emynau Dirwest, neu ynte Emynau'r Ysgol Sabbothol, ar y dôn 'Hyfryd' gyda phereidd-dra neilltuol; a phan oedd gyfyngaf a duaf arnynt yn eu carchar chwith, wedi i'r dwfr gau arnynt, efe a roddai yr emyn prydferth a ganlyn allan, yr hon a ddatseinid â llawen floedd gan berchenogion ffydd yng nghrombil y ddaear, pan oedd eu cnawd a'u natur yn dechrau pallu, a gobaith am un ymwared, ond drwy angeu, wedi ei golli:—

'O fryniau Caersalem ceir gweled,'" &c.

Am y bachgen arall Thomas, dywedir,— "Y bachgen hwn oedd un tebyg iawn i fachgen duwiol; dwysach a difrifolach ei ymddiddanion a'i ymddygiadau na'r rhan fwyaf o'i gyfoedion, Trysorai rannau helaeth o'r Ysgrythyrau yn ei gôf, a phan ellid cael y llaw uchaf ar ei wylder, ymddiddanai am bethau hanfodol crefydd fel hen Gristion profiadol." Credwn mai efe oedd yr hynaf o'r ddau.

Y mae Daniel Owen yn ei fras-linelliad o'i fywyd wedi desgrifio amgylchiadau ei gartre yn y geiriau dwys a ganlyn:— "Gadawyd fy mam yn weddw gyda phedwar o blant - dau fab a dwy ferch — myfi yn blentyn saith mis oed. Amgylchiad ofnadwy oedd hwnnw i fy mam, a bu agos allan o'i phwyll am lawer o wythnosau, gan godi bob awr o'r nos am amser wedi claddu ei gŵr a'i dau fab, ac agor y ffenestr gan ryw led-ddisgwyl eu gweled yn dyfod adref o'r gwaith. Yr oedd damweiniau o'r fath yn bethau lled anghyffredin y dyddiau hynny, a chynhyrfwyd y wlad drwyddi oll." Gwnaeth yr amgylchiad trist hwn argraph annileadwy ar y plentyn ieuangaf. Agorodd ei ymwybyddiaeth megis o dan gysgod pruddaidd y trychineb ofnadwy. Bu boddiad ei dad a'i ddau frawd yn achos i bruddhau ffurfafen y cartre, ac arweiniodd y teulu i wybod beth ydoedd tlodi, os nad angen. Dyfynwn eiriau Daniel Owen ei hun,— "Drwy ymdrechion y Parch. Roger Edwards, yr hwn oedd ŵr ieuanc newydd ddyfod i'r Wyddgrug, a'r Parch. Owen Jones, diweddar o Landudno, ac yr wyf yn meddwl y Parch. Thomas Jones, awdur y Noe Bres, ac eraill, casglwyd cannoedd o bunnau i'r gweddwon a'r rhai niweidiwyd yn namwain Gwaith yr Argoed. Rhoddwyd yr arian ym manc Treffynnon, ac yn ol y trefniadau, derbyniasai fy mam, fel eraill, 14/- yr wythnos hyd nes y buaswn i — y plentyn ieuangaf — yn bedair-ar-ddeg oed. Ond och! Ymhen ychydig wythnosau torrodd y banc a chollwyd yr holl arian. Brwydr galed a fu hi wedyn ar fy mam i fagu ei phlant. Ni feiddiaf ddisgrifio i chwi fy mhrofiad, wedi i mi ddyfod i ddeall pethau — y cyfyngder a'r tlodi — mwyaf a feddyliaf am dano, mwyaf oll yr edmygaf ddewrder, ffydd, ac ysbryd di-ildio fy mam; ond beth yr ydwyf yn son, mi a geisiais bortreadu ychydig o'i phrofedigaethau yn Mari Lewis — mam Rhys Lewis — ond fy mod wedi ymatal rhag desgrifio ambell gyfyngder."

Am y gweddill o'r plant. Nid oes dim i'w ddweud am ei chwiorydd. Arosodd un chwaer gyda ei mam, a chyda ei brawd ar ol hyny hyd ei marwolaeth. Ond dylid gwneud crybwylliad arbennig am ei frawd hynaf, ac erbyn hyn ei unig frawd. Wele'r disgrifiad a gawsom o honno, — "Yr oedd Dafydd Owen yn meddu corph hardd, ac wedi ei ddonio â meddwl bywiog a chyflym, yn llawn o nwyfiant chwarae. Darllenodd lawer yn Gymraeg a Saesneg ar hanesyddiaeth, barddoniaeth, a ffug-chwedlau. Meddai gôf gafaelgar, a thoreth o ddawn i draethu ei feddyliau. Yr oedd yn bert a pharablus dros ben, ac yn ddigymhar am adrodd ystoriau. Yr oedd ganddo ystôr dihysbydd o hanesynau a chwedlau am bethau rhyfedd a digrifol, y rhai a adroddai gyda y fath hwyl i'w gyfeillion. Ymhyfrydai hefyd mewn chwarae triciau digrifol gydag amryw o'r rhai a gydweithiant âg ef." Nis gellir amau nad oedd ei frawd iau yn meddwl am dano pan yn desgrifio rhai o'r cymmeriadau mwyaf adnabyddus yn Rhys Lewis. Dyma fel y dywed am dano yn y bras-linelliad y cyfeiriwyd ato uchod:-

"Nid oedd dim neilltuol yn fy chwiorydd; ond yr oedd fy mrawd Dafydd yn sicr yn un o'r bechgyn mwyaf talentog — yn naturiol — a anwyd yng Nghymru. Pe buasai genyf chwarter ei dalent, buaswn yn ddiolchgar. Ond - ïe; yr "ond" ydyw yr aflwydd! — ac nid oes eisieu son mwy am dano. Ni wnaeth efe niwed i neb ond iddo ei hun. Gwastraffodd ei athrylith mewn cylchoedd na ddylasai; ond cafodd — drwy hir gystudd — amser i edifarhau, a mi a gredaf iddo gael trugaredd."

Teg ydyw cydnabod fod ei frawd ieuengach mewn dyled arbenig iddo. Yr oedd Dafydd, fel y sylwyd, yn ŵr darllengar, ac yn llawer mwy cyfarwydd na'r cyffredin mewn llenyddiaeth Gymraeg a Seisnig. Yr oedd yn "Sais" pur dda fel y dywedir, yr hyn sydd yn brawf o ragoriaeth, pan gofiom am ei ddiffyg manteision, ac iddo gael ei ddwyn i fynu mewn cymydogaeth hollol Gymreig, — yr hyn ydoedd Maesydrê y pryd hwnw. Drwy fod Daniel naw mlwydd yn iau na'i frawd, ac yn amddifad o dad, tyfodd i fynu megis o dan ei gysgod, ac y mae yn anmhosibl deall hanes bywyd y nofelydd heb gyfeirio at eiddo ei frawd — yr hwn a fu ei athraw cyntaf — ac a agorodd y drws iddo i ystorfeydd gwybodaeth, a theg yw cydnabod ymhellach fod Dafydd wedi bod yn dra charedig wrtho mewn ystyron eraill yn y cyfnod yr oedd yn dechrau pregethu, ac er hwyrach fod Nofelydd mewn perygl o fyned i eithafion pan yn son am "Dafydd," canys efe oedd ei wron cyntaf; eto tystiolaeth unfryd y rhai a'i hadwaenant

ydyw ei fod yn meddu ar alluoedd tra anghyffredin.

Ei Addysg

Nid oes sicrwydd i ba le yr anfonwyd ef am addysg gyntaf. Ni ddarfu ein hysbysu yn ei adgofion. Y mae yn wir ei fod yn rhoddi desgrifiad o Rhys Lewis yn myned y tro cyntaf i Ysgol Robert y Sowldiwr, eto ni ddylid cymryd yr hanes hwn yn ddesgrifiad llythrennol o fore oes y Nofelydd. Bu yna ysgol yn cael ei chynnal gan hen filwr yn rhan o'r Wyddgrug a elwir y Bedlam, ond yr oedd hyny cyn geni awdur Rhys Lewis. Yr oedd yna Ysgol Eglwysig yn cael ei chadw y pryd hwn yn Ponterwyl, ar yr ochr ddwyreiniol i orsaf y Rheilffordd. Y mae rhanau o'r muriau yn aros hyd heddyw. Y tebyg ydyw ei fod wedi mynychu yr ysgol hon am ychydig amser, er nas gellir bod yn gwbl sicr. Wele'r cyfeiriad at yr ysgol hon yn y Dreflan,— "Cyn dechreuad yr Ysgol Brydeinig yn y Dreflan, yr oedd yn rhaid i mi fyned i'r Eglwys o leiaf unwaith bob Sabboth, neu ynte orfod goddef triniaeth yr hold out ddydd Llun y bore. Yr wyf yn cofio yn dda am lawer awr y bu raid i mi ei threulio yn yr hen Eglwys o fewn i'r eisteddleoedd dyfnion, o ba le yr oedd yn amhosibl bron i mi weled y Person, o herwydd bychander fy maintioli a dyfnder y sêdd, na ychwaith ddeall ond ychydig o'r hyn a ddwedai efe. Yn wir, nid oeddwn yn gofalu rhyw lawer beth a ddywedai y gŵr eglwysig, canys fy mhryder mawr i fyddai gallu edrych yn ddifrifol pan fyddai yr "hen ffoniwr," fel y gelwid ef gan y plant, yn myned heibio, yr hwn a gerddai yn ol a blaen ar hyd yr Eglwys yn ystod yr holl wasanaeth cyn ddistawed â chath, a gwialen gref yn ei law, gweinyddu'r hon ar ein penau a'n hysgwyddau oedd yn fforddio dirfawr ddifyrrwch iddo, goeilem ni. Yn y cyfnod hwnw ar fy oes, yr oeddwn yn teimlo rhyw barchedigaeth mawr i'r adeilad henafol a gwych, ac yr oedd rhyw ddirgelwch ac ofnadwyaeth i mi ynglŷn â llawer o bethau perthynol iddi." Yr ysgol-feistr ar y pryd ydoedd gŵr o'r enw John Roberts. Prif noddwr yr ysgol ydoedd y Parch. Charles Butler Clough, M.A. — wedi hyny Deon Clough o Lanelwy, desgrifiad o'r hwn a geir yn ddiau yn Mr Brown, y Person. Disgwylid i'r plant a fynychent yr ysgol — a dyma yr unig ysgol y pryd hwnw i blant tlodion yr Wyddgrug — (yr oedd yna ysgol breifat i'r hon yr anfonid plant rhieni allent fforddio talu) i fyned i wasanaeth yr Eglwys. Ond gadawodd Daniel yr ysgol hon yn rhy ieuanc i dderbyn nemawr o argraph, oblegid yn y flwyddyn 1845 cychwynnwyd yr Ysgol Frytanaidd. Diamheu i'r cyfeillion Ymneillduol yn y dref gael eu symbylu i adeiladu yr Ysgol Frytanaidd, o herwydd yr orfodaeth a roddid ar eu plant i fyned i wasanaeth yr Eglwys, oblegid wythnos cyn agor yr Ysgol Frytanaidd, cyhoeddodd yr ysgol-feistr yn Ponterwyl fod rhyddid i holl blant yr Ymneillduwyr i fyned gyda'u rhieni ar y Sabboth. Pa fodd bynnag, pan agorwyd yr Ysgol Frytanaidd, ymadawodd oddeutu hanner y plant o'r Ysgol Eglwysig, ac yn eu plith, mae'n debyg, Daniel Owen, oblegid y mae yn sicr ei fod yn bresennol ar agoriad yr ysgol hono. Ysywaeth, nid yw wedi adrodd dim o hanes y blynyddoedd hyn yn y bras-linelliad y cyfeiriwyd ato. Yn ol ydym wedi casglu gan rai o'i gyfoedion, nid oedd dim hynod ynddo pan oedd yn blentyn yn yr ysgol. Cymmerai ei ran mewn chwaraeon gyda y plant, er nad oedd yn fachgen cryf iawn. Tueddai braidd at fod yn ddistaw, os nad yn yswil. Ni thynnodd sylw neb yn ystod y blynyddoedd hyn, fel yn meddu unrhyw allu arbenig. Enw yr athraw yn yr Ysgol Frytanaidd ydoedd William Davies, ac er bod yr enw yn un digon Cymreig, eto Sais uniaith ydoedd. Credid yn lled gyffredinol, y pryd hwnw, mai mantais arbenig i blant Cymreig ydoedd cael eu dysgu gan un na fedrai Gymraeg. Yr oedd y gŵr hwn, pa fodd bynnag, yn un tra llwyddiannus fel ysgol-feistr. Nodweddid ef yn bennaf gan fanylder, ac er na ragorodd Daniel Owen mewn dysgu, eto nis gellir amheu i'r addysg a dderbyniodd adael ei hol arno, yn enwedig ar ei syniadau am y dull goreu o gyfranu addysg, oblegid yr oedd ynddo rai elfenau nodedig fel athraw; ac y mae yn ffaith fod yna liaws o rai a dderbyniant addysg y pryd hwnw yn yr Ysgol Frytanaidd wedi d'od i amlygrwydd — ac yn ddynion a gydnabyddid gan bawb fel gwŷr o allu, megis y diweddar Barchn. Robert Davies, Amwythig, W. Hinton Jones o'r un lle, y Parch. David Jones, Gweinidog yr Annibynwyr yn Sleaford, swydd Lincoln.

Ei Brentisiaeth.

Pan yn ddeuddeg oed, gosodwyd ef yn egwyddorwas teiliwr gyda Mr John Angell Jones. Telerau ei brentisiaeth oeddynt — ei fod i weithio heb dâl am flwyddyn; ond byddai ef ag egwyddorwas arall — i'r hwn yr ydym yn ddyledus am


hysbysrwydd ynghylch y cyfnod hwn — yn cael "cwpaned o de" ynghyd â cheiniog yr un bob prydnawn Sadwrn, gan Ann Jones, gwraig John Angell Jones, gyda chyngor priodol pa fodd i'w defnyddio. Ymhen blwyddyn daeth i dderbyn 2/- yn yr wythnos, ac felly codwyd swllt bob blwyddyn yn y cyflog hyd y bumed flwyddyn, pan y daeth yn rhydd o'i brentisiaeth. Ond ni ddylid anghofio hefyd fod y meistr wedi dangos llawer o garedigrwydd tuag at ei egwyddorwas drwy roddi iddo ddilladau yn ystod tymhor ei brentisiaeth. Diamhau fod dyfod o dan arolygiaeth Angell Jones wedi bod yn fendith fawr iddo, ac yr oedd yn ddiau yn fwy dyledus iddo mewn ystyr grefyddol na neb arall. Dyma fel yr ysgrifena am ei hen feistr,- "Mae genyf lawer o achos diolch i mi gael myned dan ofal yr hen Angell, o herwydd cyn hyny yr oeddwn wedi dechrau ymhoffi mewn cwmni drwg. Yr oedd y rheolau yn fanwl gydag ef. Byddai raid i mi fod tair gwaith yn y capel ar y Sul, ac ymhob moddion ganol yr wythnos." Bu Angell Jones yn lle tad i'r egwyddorwas ieuanc. Nid yn unig dysgodd iddo ei alwedigaeth, ond gofalai am ei gymeriad. Yr oedd y seiat plant mewn bri yn yr Wyddgrug yr adeg hon, a gofalai yr hen flaenor am i Daniel fynychu y cyfarfod hwn gyda chysondeb. Y mae yn amlwg i'r cyfarfod hwn adael argraph ddofn ar ei feddwl. Dyma fel y disgrifia seiat y plant yn Hunan-Gofiant Rhys Lewis:-

"Pan oeddwn fachgen, un o'r sefydliadau crefyddol gwerthfawrocaf oedd y cyfarfod plant, neu yn ol yr enw arferol gan ieuangc a hen, y seiat plant. Cynnelid hi yn wythnosol yn ddifwlch haf a gauaf; ac yr wyf yn meddwl y gallaf sicrhau nad oedd un bachgen na geneth, os byddai eu rhieni yn aelodau eglwysig, heb roddi eu presenoldeb ynddi yn gyson; oddigerth i afiechyd eu lluddias. Os absenolai un ei hun am fwy nag un noswaith yn olynol, heb fod rheswm digonol am hyny, byddai i Abel Hughes, cyn sicred a'r byd, alw y tad neu y fam i gyfrif yn y seiat ganlynol; ac os nad ellid rhoddi rheswm boddhaol, rhoddid cerydd cyhoeddus iddynt am yr esgeulustra."

Ni fethem wrth ddweyd fod Daniel Owen yn ddyledus yn benaf am ei hyfforddiant crefyddol, fel y cydnabyddai efe ei hun, i ofal ei hen feistr caredig a chrefyddol Angell Jones. Bendith anrhaethol oedd iddo dd'od i gydnabyddiaeth agos, a than ddylanwad y fath un yng nghyfnod pwysicaf ei fywyd.

Yn y Drysorfa am Fawrth, 1860, ceir darlun cywir a chryno o Angell Jones, mewn llinellau barddonol gan ei gyd-drefwr Glan Alun, a themtir ni yma i ddifynu rhai rhanau o'r alar-gân bert hono,—

"Bu farw Angell! newydd trwm,
Ein blaenor a'n hen ffrynd;
Ar ol ein tadau, a'i frodyr ef
Mae yntau wedi myn'd.

"Bu farw Angell! hedodd fry,
Ennillodd ef y gamp;
A dyma eto un yn fyr
O'r brodyr o'r hen stamp.

"Rhyw chwithdod am ei wedd a'i lais,
Ac am ei eiriau ffraeth;
Ar lawer tro daw'r atgof cu
I'r fynwes megis saeth.

"Chwith am ei weddi a'i oslef ddwys,
Chwith am ei gnyciog ddawn;
Chwith am ei lòn chwerthiniad ef,
A'i ddagrau parod iawn.

"Efe a welsom ni erioed
Yng nghornel y seat fawr;
'Roedd Angell i ni fel y coed
Yn rhan o'r Capel Mawr.

"Fe deimlai yr holl dyrfa fawr
Uwch ben ei olaf gell;

Wel! claddwyd llawer iawn o'i waeth,
Nid llawer un o'i well.

"Beth er nad oedd e'n fawr ei ddawn,
Nac uchel ddysg, pa waeth?
O ran teilyngdod dyma'r gair—
'A allodd hwn fe'i gwnaeth.'

"Yng nghoron deg y Cristion pur,
Plith ei holl berlau drud;
Ffyddlondeb — O! ffyddlondeb yw
Y perl disgleiria i gyd.

"Ystyriai Angell gadw drws
Yn nhlws gynteddau Duw,
Yn uwch anrhydedd na mwynhau
Palasau dynolryw.

"Pan yr oedd Angell yn y byd,
A'i annwyl briod Ann,
Yr oeddynt hwy yn effro o hyd,
A'u llygaid ymhob man.'

"Fe rodd y ddau ar hyd eu hoes
Eu hysgwydd dan y baich,
Heb derfyn ar eu hewyllys da,
Ond grym a hyd eu braich.

"Paham y rhaid manylu,
Nid da yw bod yn faith;
Adwaenid ef fel gweithiwr llon,
A'i galon yn y gwaith.

"'Roedd Angell hefyd, iawn yw son,
Yn bur i'r bôn i'w blaid;
Tra yn yr anial glynu'n glos
Bawb wrth ei lwyth sydd raid.


"Un cadarn yn ei ffydd oedd o,
Hen Galfin at y gwraidd;
Yn wir, fe gloddiai ambell dro
Yn îs na hynny braidd.

"Y Gwir Barchedig Angell James,
Er cymaint oedd ei fri,
Ni fyddai berffaith yn y nef
Heb gwmni'n Angell ni.

"Ar alwad yr Archangel mawr,
A'i floedd ar foreu brawd,
Yn Angell byw fe gwyd o'r bedd
Ar wedd ei hynaf Frawd."

Yr ydym wedi dyfynnu darnau lled helaeth o'r farwnad uchod, nid yn unig am ei bod yn ddesgrifiad byw o un a roddodd gyfeiriad i fywyd ein gwrthrych, ond un hefyd a awgrymodd i'r awdur liaws o nodweddion yn ei bortread o Abel Hughes. Ar ôl gorphen ei brentisiaeth, cawn Daniel Owen yn gweithio dan gyflog i'w hen feistr Angell Jones, sef o'r adeg pan yr ydoedd yn 18eg oed hyd nes oedd yn 28ain oed, pan adawodd yr Wyddgrug am Athrofa'r Bala.

Dyma fel y cyfeiria efe ei hun at y blynyddoedd hyn yn y braslinelliad y cyfeiriwyd ato eisoes,—"Gweithiai ar y bwrdd gyda'r hen Angell hanner dwsin o ddynion call, sobr, a darllengar, a bu yn fath o goleg i mi. Deffrodd ynof ryw gymaint o feddylgarwch." Yr oedd yr ysbryd dadleuol yn fyw iawn yn ystod y blynyddoedd cyntaf o'r cyfnod hwn, a diamheu fod y teimlad hwn lawn mor gryf, os nad mwy felly, yn Sir Fflint nag odid fan yng Nghymru. Yr oedd tri o'r gweithwyr yn Wesleyaid, ac yn amddiffynwyr pybyr i'r syniadau Arminaidd (un ohonynt yn bregethwr cynnorthwyol, ni gredwn), a thri ohonynt yn Galfiniaid. Yr oedd y dadleuon ynghylch bedydd yn cynhyrfu cryn lawer ar feddwl y wlad y pryd hwnw; a llawer dadl frwd a gymmerodd le ar y bwrdd ar y pynciau dadleuol. Ac er na chymmerai y llanc ran flaenllaw yn y dadleuon, eto "cymmerai i mewn" yr hyn a ddywedid. Deffrowyd ei feddwl, a daeth i wybod am y teimladau cryfion a goleddid gan wahanol bleidiau, er nad oedd ef ei hun yn meddu tuedd na gallu arbenig at ddadleuaeth.

Adrodda un o'r gweithwyr ddaeth ar ol hyny yn adnabyddus iawn fel llenor a phregethwr, hanes un o'r dadleuon a gymmerodd le yn y shop, ag sydd yn enghraifft o lawer. Dodwn yr hanes i lawr yng ngeiriau ein hadroddydd,— "Unwaith yr oedd Arfaeth Duw wedi bod yn destun dadl — y ddadl wedi parhau yn gyndyn am rai dyddiau — digwyddodd i mi gael i'm llaw y pryd hwnw waith Charnock ar y Priodoliaethau Dwyfol. (Dygid cyfieithiad Cymraeg y Parch. Owen Jones — o Landudno ar ol hyn — o'r gwaith hwn allan yn yr Wyddgrug, gan Mr Hugh Jones, argraphydd), ac arhosais i fynu un noswaith ymron hyd doriad y dydd i ddarllen y bennod ar y pwnc am Arfaeth Duw, ac aethym i'r gweithdy drannoeth wedi ymwisgo goreu y medrwn yn arfogaeth y diwinydd cryf hwnw. Gosodwyd y ddadl ar safle uwch, ac amddiffynnid y golygiadau Calfinaidd â rhesymau newyddion — rhesymau nad oedd neb yn y gweithdy wedi eu clywed o'r blaen, na dychmygu am danynt. Teimlai pawb fod Arminiaeth, fel y cynrychiolid hi yno, yn cael y gwaethaf, ac yn gorfod tewi a myn'd yn fud. Nid oedd neb yn llawenhau yn fwy yng ngoruchafiaeth Calfiniaeth, nac yn edmygu ei hamddiffynnydd yn fwy na Daniel Owen; ond ni wyddai efe ar y pryd nad oeddwn i yn ddim ond genau trwsgl i Stephen Charnock. Synwn i ddim na fu'r dadleuon brwd hynny yn dipyn o help i'n clymu wrth ein gilydd mewn cyfeillgarwch, ac i dynu allan ac awchu rhywfaint ar ein meddyliau. Nid oes arnom gywilydd o'r hen 'shop,' yn hytrach yr ydym yn diolch am dani. Beth bynnag a ennillir gan fechgyn 'y llwyau arian' yn Rugby a lleoedd eraill, y mae rhywbeth i'w ennill mewn lle fel yr hen 'shop,' sydd yn gwastattu breintiau'r uchel a'r isel'" Er nas gellid dweyd i Daniel Owen ragori fel diwinydd — canys prin y gellir dweud fod ganddo chwaeth arbenig yn y cyfeiriad hwn — eto y mae yn sicr, fel y dywed ei gyfaill, fod yr hyn a glywodd yn y dadleuon hyn wedi deffro a symbylu ei feddwl, ac ni chymerodd cyfnewidiad le mewn un modd yn y golygiadau y gwreiddiwyd ef ynddynt yn y blynyddoedd hyn.

Yn Dechrau Cyfansoddi Barddoniaeth

Daeth yna ŵr o Ruddlan i weithio ar y bwrdd — yr hwn oedd yn cymmeryd dyddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth — ac fel yr oedd y dadleuon duwinyddol yn oeri yn eu gwres, cymmerai materion gwleidyddol eu lle. Arferai y gŵr o Ruddlan dderbyn yr Amserau, newyddiadur a greodd gyfnod newydd yn hanes gwleidyddol Cymru. Darllenid pob gair o hanes gweithrediadau y Parliament, a chymerid dyddordeb dwfn yn llythyrau yr "Hen Ffarmwr," ac yn y ddadl fawr ar ryfel rhwng "Meddyliwr" a "Phreswylydd Bryniau Cribog Cymru." I'r lle hwn y daeth gŵr ieuanc o Ddyffryn Clwyd, a adwaenir heddiw fel y Parch. N. Cynhafal Jones, D.D. Yr oedd y gŵr ieuanc o Langynhafal wedi ei lyngcu i fynu gan ysbryd barddoni, ac enynodd yr un ysbryd yn ei gydweithwyr, ac yn neb yn fwy na Daniel Owen, a daethant yn gyfeillion mynwesol. Y mae yn wir fod Daniel Owen wedi arfer rhigymu ychydig cyn hyny. Yr oedd yn ddiau wedi etifeddu y duedd hon oddi wrth ei fam, yr hon oedd wedi trysori cymaint o farddoniaeth ei châr Twm o'r Nant ar ei chôf, a darnau o ba un a adroddai yng nghlyw ei phlant; eto i'w gyfaill o Ddyffryn Clwyd yr oedd ein gwrthddrych yn ddyledus am hyfforddiant yn rheolau barddoniaeth. Dyma fel y cyfeiria Daniel Owen at y cyfnod hwn,— "Dygodd hyn elfen newydd i'r bwrdd, a bu o ddiddanwch mawr, a chreodd ynof hoffter at farddoniaeth, a pharodd i mi golli ambell noswaith o gysgu i geisio prydyddu."

Ychydig flynyddoedd cyn hyn, yr oedd yna gyfarfod cystadleuol wedi ei sefydlu yn yr Wyddgrug, un o'r rhai cyntaf yng Nghymru. Cafodd y cyfarfod hwn ei sefydlu gan y Parch. Roger Edwards (yr hwn a weithredai fel beirniad am flynyddoedd). Gwnaed hyn yn bennaf ar gais dau neu dri o wŷr ieuainc yn y dref, sef y diweddar Mr Edward Griffith — yr hwn a fu yn flaenor amlwg yn yr Wyddgrug, ac yn wir, Sir Fflint, am flynyddau — a Mr Peter Roberts, Y.H., Llanelwy, gŵr ag sydd yn dra hysbys ymhlith blaenoriaid y Methodistiaid Calfinaidd.

Diau fod yna ysbrydiaeth farddonol a llenyddol yn yr Wyddgrug ers blynyddoedd. Yma y ganwyd ag y magwyd y Parch. John Blackwell (Alun). Yr oedd y Parchn. Roger Edwards a Thomas Jones (Glan Alun), yn feirdd adnabyddus, a'r Parch. Owen Jones yn hanesydd; Darfu i'r cyfarfod cystadleuol blynyddol, a gynhelid ar y Nadolig, symbylu a rhoddi cyfeiriad i allu barddonol a llenyddol amryw o wŷr ieuainc, amryw o ba rai a ddaethant yn hysbys ymhell tu hwnt i dref yr Wyddgrug, a chreodd awyrgylch lenyddol yn y dref a adawodd ei hôl yn amlwg ar y rhai oedd yn ieuanc y pryd hwnnw. Y mae yn amheus genym a oedd yma un dref yng Nghymru mor llawn o ysbryd llenyddol ag ydoedd tref yr Wyddgrug yn y cyfnod hwn.

Rhoddid £2 yn wobr am draethawd, a £2 yn wobr am bryddest, a sicrheid rhai o lenorion gorau ein gwlad i fod yn feirniaid, megis y Parchn. John Roberts (Ieuan Gwyllt), John Hughes, D.D., Liverpool, D. Charles Davies, M. A., a Griffith Parry, D.D.

Yn y cyfarfodydd hyn y daeth Daniel Owen gyntaf i sylw. Gwelwyd ar unwaith fod yna dalent eithriadol yn y llanc gwylaidd o Faesydrê. Ennillodd y wobr gyntaf neu yr ail bob tro yr ymgeisiodd; ond dangosai y pryd hwnw y synwyr a'i hynodai mewn materion o'r fath ar hyd ei oes, canys, dywed,— "Ond byddwn yn lled ofalus pa bryd, ym mha le, ac ar ba destun y cystadleuwn." Ennillodd y brif wobr mewn cyfansoddi Pryddest ar y testun "Y Wraig Weddw o Nain." Testun ag ydoedd mor gydnaws a'i dymher, ac yn wir â hanes ei gartre ef ei hun. . . . Er i'w fryd fyned i gyfeiriad arall, byddai yn cyfansoddi ychydig yn awr a phryd arall hyd y diwedd. Efallai mai nid annyddorol fyddai siampl o'i farddoniaeth y pryd hwn — y dernyn cyntaf a ymddangosodd mewn argraph. Y ffugenw a fabwysiadai y pryd hwn ydoedd Glaslwyn — enw a ddiosgodd ymaith fel y cerddai blynyddoedd ymlaen:—

MYNWENT YR WYDDGRUG.
Fy anadl dynnaf ataf — byddaf ddwys,
Na foed i'm dyrfu dim, na rhoddi pwys
Fy nhroed yn drwm ar oer weddillion rhai
Sy'n huno'n dêr dan do o oerllyd glai.

Ah! Wilson,[1] ai fan hyn mae'th isel fedd
Diaddurnedig yw, a hagr ei wedd;
Heb ôl celfyddyd mewn cywrainwaith cain
Yn codi colofn it' o'r mynor glain,
Ai am nad ydwyt deilwng o'r fath fri
Y darfu'th genedl ymddwyn atat ti
Fel hyn? O! na, yr wyt yn deilwng iawn
O bob rhyw fri a pharch a chofiant llawn.
Fy ngwlad! fy ngwlad! pa fodd y gwnaethost hyn
Ag un o'th feibion enwog? 'rwyf yn syn!
Yn dy wladgarwch nac ymffrostia mwy
Rhag peri gofid im', ac agor clwy'
Fy mron wrth gofio'th Wilson sydd yn awr
Er dy dragwyddol warth, mor wael ei wawr.
Ond er pob amarch gefaist, Wilson gu,
Yr wyt yn ddistaw yn dy feddrod du:
Un gair anhawddgar chwaith ni roddi im',
Ond perffaith ddistaw wyt heb rwgnach dim.
Yn iach it, Wilson, hûn mewn tawel hedd,
Ac wrth i'm fyn'd, rhof ddeigryn ar dy fedd.
Allan o'r Methodist, Mai, 1856.

Y mae yn teilyngu sylw fod Nofelydd cyntaf Cymru wedi arfer ei ddychymyg ar y cyntaf mewn barddoni, megis y gwnaeth prif Nofelydd Scotland; a diau pe wedi cyfyngu ei hun at farddoniaeth, y buasai yn cyraedd safle anrhydeddus ymhlith Beirdd Cymru. Nid oedd ef, pa fodd bynnag, yn cyfyngu ei hun yn hollol at farddoniaeth, hyd yn oed y cyfnod hwnw ar ei fywyd, byddai yn ymgeisio ar gyfieithu ac arall-eirio yng nghyfarfodydd y Nadolig. Fel hyn daeth yn feistr ar ysgrifenu Cymraeg; ac y mae yn ffaith ei fod yn rhagori ar ei gyd-efrydwyr mewn ysgrifennu traethodau pan yn efrydydd yn Athrofa'r Bala.

Cyhoeddid papur newydd, neu gyfnodolyn pythefnosol, yr hwn a elwid Charles o'r Bala dan olygiaeth ei gyfaill, Nathaniel Cynhafal Jones. Ymddangosai cyfieithiad o waith Daniel Owen o nofel Americanaidd, Ten nights in a bar, yn y cyfnodolyn hwn, yr hyn a dynai sylw mawr yn y dref. Yn y blynyddoedd hyn hefyd dechreuodd ysgrifennu disgrifiad o hen gymeriadau hynod yn y dref i gyhoeddiad yn y Deheudir. Y mae amryw o'r ystraeion hyn wedi eu hail—argraphu yn y llyfr a gyhoeddwyd ar ol ei farwolaeth, dan yr enw o Straeon y Pentan. Byddai yn arfer gohebu hefyd y pryd hwn i rai papurau Cymreig a Seisnig. Efallai ei fod yntau yn y cyfnod cynnar hwn wedi gwybod rhywbeth am deimladau plentynnaidd John Aelod Jones, y rhai a ddarlunia mor ddoniol yn y Dreflan.

Ac ni chyfyngodd ei hun yn unig i lenyddiaeth, dysgodd elfennau cerddoriaeth yn lled dda. Er na ddarfu erioed gystadlu ar ganu yng nghyfarfodydd y Nadolig, eto cymmerai ei le ymysg y cantorion. Yr oedd yn aelod o'r côr, a chymerai ei le yn y sêt ganu. Bu yn dechrau canu yn y cyfarfodydd gweddi a'r seiat. Ystyrid fod ganddo lais tenor mwyn, a gwnelai y gwasanaeth hwn mewn modd diymhongar a chwaethus hyd nes y torrodd ei iechyd i lawr. Yr oedd yna hefyd gymdeithas ddadleuol wedi ei sefydlu yn addoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn yr Wyddgrug er pan oedd Daniel Owen yn lled ieuanc. Yr oedd y gymdeithas hon yn lled gref 45 o flynyddoedd yn ol. Cyfarfyddai nifer o wŷr ieuainc llengar yn y gymdeithas hon, a dadleuid lliaws o bynciau duwinyddol. Un o brif ysgogwyr y gymdeithas hon ydoedd y diweddar Mr Edward Griffith y cyfeiriwyd ato eisoes; gŵr o feddwl cadarn a gafaelgar, ac yn meddu dawn arbennig mewn ymresymu a dadleu; ac yn eu mysg hefyd ceid amryw o wŷr ieuainc daeth i lenwi cylchoedd amlwg, megis y Parch. Robert Davies, Amwythig, a Mr. Peter Roberts, yr hwn a ystyrir yn un o'r siaradwyr mwyaf llithrig a hyawdl o fewn corph y Methodistiaid, a rhai brodyr sydd heddiw yn fyw yn yr Wyddgrug, ar y rhai y mae yn hawdd canfod ôl y ddisgyblaeth yr aethant drwyddi yn y cyfarfodydd hyn. Er fod Daniel Owen yn bresennol, eto yr oedd yn rhy ieuanc i gymmeryd rhan flaenllaw yn y dadleuon, ac nid oedd ynddo duedd gref at byncian duwinyddol unrhyw amser, fel y sylwyd eisoes, ac yr oedd ei wyleidd-dra naturiol yn peri iddo ymgadw i fesur o'r golwg.

Wedi i'r gymdeithas uchod farw, codwyd un arall yn ei lle oddeutu y flwyddyn 1861. Cynhelid y cyfarfodydd ar nos Sabboth. Yn y cyfarfodydd hyn darllenid papurau ar wahanol faterion, a dilynid hyn gan rydd-ymddiddan, yr hyn a arweiniai ar adegau i ddadleuaeth frwd. Bryd arall rhoddid ar bob un i ddwyn darnau detholedig o farddoniaeth neu ryddiaith i'r cyfarfod. Edrychid ar ddetholiad y darn, ynghyd â'r adroddiad o hono, fel prawf o chwaeth a dawn yr aelodau. Un o aelodau y gymdeithas hon ydoedd y gŵr a adwaenir heddyw fel y Parch. Ellis Edwards, M.A., athraw Moeseg yn Athrofa Dduwinyddol y Bala. Yr oedd ef yn fachgenyn lled ieuanc y pryd hwn, a rhoddwyd arno ef, ynghyd âg amryw o frodyr ieuainc eraill, i ddarllen papur ar y "pedwar peth bychan" a nodir gan Solomon yn Llyfr y Diarhebion, a threuliwyd cyfarfod difyr yn gwrando arnynt yn darllen eu cyfansoddiadau — y tro cyntaf erioed i'r pedwar, yn ol pob tebyg, gymmeryd rhan gyhoeddus ynddi. Yn yr ail gymdeithas hon, fel y gellir ei galw, cymmerai Daniel Owen ran flaenllaw. Oddeutu yr un adeg, ac ef allai fel math o efelychiad i'r gymdeithas uchod, cychwynnwyd un anenwadol Seisnig yn y dref. Materion gwleidyddol a gwyddonol a ymdrinid â hwy yn benaf yn y gymdeithas hon, ac o herwydd fod yr iaith Seisnig yn cael ei defnyddio, cauid allan y rhan fwyaf o'r bechgyn Cymreig, ond cawn fod Daniel Owen wedi ymuno â hon hefyd, ac yn cymmeryd rhan yn ei gweithrediadau. Yn nghyfarfod diwedd y tymor adroddodd A Natural Bridge, dernyn cywrain o eiddo y gof dysgedig Elihu Burritt. Dengys hyn mor awyddus ydoedd, er gwaethaf ei amddifadrwydd o'r hyn a eilw Wil Bryan yn cheek, i gymmeryd mantais ar bob cyfleustra i ddiwyllio ei hun.

Yn dechrau pregethu.

Arferai Daniel Owen fynychu Ysgol Sabbothol a gedwid mewn tŷ annedd yn Rhydygoleu, o ba un y tyfodd eglwys bresennol Maesydre. Yr oedd yr ysgol hon dan ofal y fam eglwys yn yr Wyddgrug. Yr oedd Daniel Owen oddeutu 19eg oed pan y daeth yn aelod o Ysgol Sabbothol y dref. Nid oedd eto wedi ei dderbyn yn gyflawn aelod, er ei fod wedi ei ddwyn i fyny yn seiat y plant. Er bod ei fuchedd yn gwbl ddiargyhoedd, ac mai pobl y capel oedd ei gyfeillion, ac ym mhethau y capel y cymmerai ddyddordeb. Ac er iddo gael ei gymell yn fynych i ddod yn gyflawn aelod, ni chymerodd y cam hwn hyd y flwyddyn 1859, sef blwyddyn y diwygiad. Yn ol a glywsom, ni welwyd golygfeydd mor gyffrous yn yr Wyddgrug, ac mewn rhai rhannau o Gymru, eto adeg hyfryd iawn ydoedd y tymor hwn. Ymunodd llawer â chrefydd, ac yn eu plith Daniel Owen, yn ŵr ieuanc 23ain oed. Yn y flwyddyn 1864 dygwyd ei achos gerbron yr eglwys fel ymgeisydd am y Weinidogaeth. Cynnyrchodd y cais beth syndod ymhlith yr aelodau, o herwydd hyd yr adeg hon nid oedd Daniel Owen wedi cymmeryd unrhyw ran ym moddion cyhoeddus y capel. Er hynny yr oedd wedi profi ei hun yn ŵr ieuanc o allu diamheuol yn y cymdeithasau dadleuol, ac yng nghyfarfodydd llenyddol y dref. Diau fod y gwyleidd-dra naturiol, oedd yn elfen mor amlwg ynddo, wedi peri iddo fod yn ymarhous i gymmeryd rhan gyhoeddus yn y gwasanaeth. Y mae efe ei hun wedi dwyn tystiolaeth mai ildio i gymhelliadau taer ei gyfeillion a barodd iddo ddechrau pregethu, at lenyddiaeth yr oedd gogwydd cryf ei feddwl ef o'r cychwyn, eto, gallwn fod yn sicr fod y cyfeillion a'u hannogodd i ymaflyd yng ngwaith y Weinidogaeth yn gweled ynddo gymhwysderau arbennig, onide ni buasent byth yn ei wthio i gymmeryd y cam hwn. Oddiwrth yr hyn a ysgrifenodd ei hun, ac wrth alw i'n côf ei gyfeiriadau at y cam hwn, credwn na argyhoeddwyd ef ei hun erioed ei fod wedi ei alw i'r gwaith o bregethu, ac efallai nas gellir dweyd iddo un amser gael ei feddiannu gan ysbryd pregethu.

Ar ol i'r achos gael ei osod o flaen yr eglwys, cafodd ganiatâd i fyned ymlaen. . . . Yn y tŷ a nnedd yn Pownall's Row, Maesydrê, lle y cynhelid yr Ysgol Sabbothol, y pregethodd ei bregeth gyntaf, a hyny ar noson waith; ac er nad oedd ond ystafell fechan, a'r gynnulleidfa yn cyfatteb i'r lle, eto lled anhwylus fu arno, y fath oedd ei ddiffyg hunan-feddiant, fel y gorfu iddo fyned i'w logell, a dwyn allan yr hyn oedd wedi ei baratoi mewn ysgrifen. Yn fuan ar ol hyn, pa fodd bynnag, pregethai yn y dref, a'r tro hwn llwyddodd i fyned drwy ei waith yn ddi-brofedigaeth; yn wir, er boddlonrwydd cyffredinol. Ei destun ydoedd Galatiaid vi. 7, "Na thwyller chwi: ni watworir Duw; canys beth bynnag a hauo dyn, hyny hefyd a fed efe."

Dyma y desgrifiad a gawsom o'r bregeth gan un oedd yn ei gwrando,— "Yr oedd yn bregeth feddylgar, wedi ei chyfansoddi yn fanwl, ac mewn iaith ystwyth a phrydferth: yr oedd mîn a bachau ynddi, a chyfeiriad ymarferol i'r holl sylwadau; y traddodiad yn weddaidd a naturiol, a gwelid yn ei bregeth gyntaf yn y capel y nodweddion a'i hynodai mewn blynyddoedd dilynol" Hamddenol, meddir, ydoedd ei ddull o draddodi — nid oedd yn canu nac yn dyrchafu ei lef — er na fyddai yn dibrisio y rhai a allent wneud hyny yn effeithiol. Yr oedd ei bregeth yn gyffelyb i'w arddull lenyddol, yn hynod o syml ac i'r pwynt. Nid oedd yn curo o amgylch y twmpathau, dywedai yr hyn oedd ganddo yn glir a hynod ddigwmpas. Teimlid wrth ei wrando ei fod yn siarad wrth ei gynulleidfa. Nid siarad am y gwirionedd, ond ei draethu wrth ei wrandawyr. O herwydd hyn, er nas gellid dweyd ei fod yn bregethwr poblogaidd, eto yr oedd yn ennill sylw ei wrandawyr yn gyffredinol. Yr oedd yn bregethwr "dyddorol iawn," meddai un chwaer o'r dref hon wrthym. Anfynych y clywyd ef yn pregethu ar bynciau athrawiaethol, ac ni roddai lawer o le i esboniadaeth. Desgrifio ac elfennu cymeriadau ydoedd y duedd amlycaf yn ei bregethu, fel y gwelir yn ei Offrymau Neilltuaeth. Ymhoffai mewn desgrifio cymmeriadau am y rhai na ddywedir ond ychydig iawn yn y Beibl ei hun. Yn wir, oddi wrth y cyfeiriadau lleiaf tynai ddarlun cyflawn o honynt, a nyddai o'i ddychymmyg ei hun hanes bywyd aml un, er enghraipht, y gŵr a ddymunai yn gyntaf gael myned a chladdu ei dad cyn dilyn yr Iesu, a diau ei fod yn fynych yn cael ei gario ymaith gan ei ddychymmyg, fel y gellir dweyd am un o bregethwyr enwogaf Scotland, sydd yn dra hoff o ymdrin â chymmeriadau Beiblaidd. Yr oedd ei wedd a thôn ei lais yn ddwys a difrifol, ac ni roddai ffordd i'r humour ddaeth i'r golwg yn ei ysgrifau. Y mae y pregethau a gyhoeddodd yn nghyfnod ei waeledd yn gosod allan yn lled glir i'r darllenydd ei nodweddion arbenig fel pregethwr. Yr oedd y dull hwn yn llai cyffredin y pryd hwnnw, yn enwedig ym mysg y Methodistiaid nag ydyw heddyw, ac nid pawb oedd yn mwynhau yr elfeniad clir a threiddiol o gymmeriadau a geid ym mhregethau Daniel Owen, eto pan gyhoeddwyd hwy yn y Drysorfa, ennillasant sylw a chymmeradwyaeth uchel.

Yn haf 1865 aeth i mewn i Athrofa y Bala, ac arhosodd yn y Coleg hyd ddiwedd y flwyddyn 1867. Hyfryd yw dwyn tystiolaeth i garedigrwydd cyfeillion yr Wyddgrug tuag ato yr adeg hon. Yn ol ei dystiolaeth ef ei hun, ac yn wir, oddiwrth yr hyn a glywsom gan eraill, ni wnaeth gynnydd mawr yn ei efrydiau yn y Coleg. Yr ydoedd eisoes yn 29 oed, ac er ei fod yn lled gyfarwydd â'r iaith Saesneg, eto, nid oedd wedi cael nemor baratoad yn elfenau dysgeidiaeth, ac yr oedd erbyn hyn wedi cael blas ar ddarllen llenyddiaeth Seisnig, ac ar ol myned i'r Bala, cafodd gyfleusdra i ymroddi i ddarllen. Nis gellir dweyd iddo erioed ddysgu efrydu yn ystyr fanwl y gair, a dywed un oedd yn y Bala yr un amser ag ef, ac un a gafodd gyfleusterau arbenig i'w adwaen mewn blynyddoedd diweddarach, fod yn amheus a fuasai yn manteisio llawer pe yn cyfyngu ei hun i'r efrydiau arferol. Eto i gyd, safodd yn lled uchel yn arholiad y Coleg mewn rhai pynciau. Yr oedd yn sefyll rywle yn y canol ar y rhestr mewn materion duwinyddol. Esgeulusai rai cangennau, megis Meintonaeth yn hollol. Pan y dywedai un o'i gyd-hefrydwyr, "Tyr'd i ddosbarth Algebra, Daniel." "Na," meddai yntau, "nid wyf yn greadur cyfrifol." Efallai mai ofer fuasai ceisio ei rwymo dan ddisgyblaeth arferol y Coleg.

Dyfynwn yr hyn a ddywed un o'i gyd-efrydwyr mwyaf disglaer,— "Efallai mai gwell oedd iddo gymmeryd ei ffordd ei hun. Araf yr oedd ei alluoedd yn aeddfedu, a phe gosodid gorfodaeth arno, diau y gwnelid cam âg ef. Tyfodd ei dalentau i'r hyn oeddynt yn ddistaw ac arafaidd." Naturiol ydyw i ni ofyn, A oedd gan ei athrawon neu ei gyd-efrydwyr unrhyw syniad am y posibilrwydd iddo enwogi ei hun mewn bywyd? Ateb nacaol a gawsom i'r cwestiwn hwn. Er mor graff ydoedd Dr Edwards, y mae'n hollol sicr na ddychymmygodd ef, mwy na chyd-efrydwyr Daniel Owen, y byddai ei enw yn un o'r rhai mwyaf hysbys yn llenyddiaeth ei wlad cyn diwedd y ganrif; a'i fod yn un o'r ychydig efrydwyr y ceid model cerflun o hono o fewn muriau y Coleg. Nid yw hyn i ryfeddu ato. Nid oedd yna argoelion o'i allu i'w ganfod yn ei waith yn yr Athrofa, ac yr oedd y llwybr a gymmerodd yn un hollol newydd. D'od o hyd i'w ddawn a ddarfu ymhen blynyddoedd diweddarach. Dodwn yma sylwadau y Parch. Richard Evans, Harlech am dano, yn nghartref yr hwn y lletyai yn ystod ei arhosiad yn Athrofa y Bala:—

"Gallaf finnau ddweud am dano fel ag y dywed pawb yr wyf yn credu a ddaeth i gyffyrddiad âg ef, ei fod yn un o'r rhai mwyaf dymunol, yr oedd yn gwmni diddan, ac yn gyfaill ffyddlon ac yn garedig i bawb, ac yn tynu serch pawb tuag ato. Efe, yr wyf yn credu, oedd ffafrddyn y Bala tra y bu yno. Yr oedd y pryd hwnw yn or-hoff o'r digrifol. Os byddai rhywbeth felly wedi cael ei ddweyd neu ei wneyd, neu ryw berson felly yn y cyffiniau, byddai Dan (oblegid dyna fel y gelwid ef gan ei gyd-efrydwyr) yn bur sicr o wybod am dano a chael mwynhad mawr oddiwrtho, ond er mor hoff oedd o'r digrifol, ni welais mohono erioed yn gwneud dim i ymylu ar ddirmygu na gwawdio neb. Na, yr oedd yn fonheddwr yn ei holl ymddygiadau, ac ni fyddai dim y pryd hwnw ag y byddai ef yn ei anghymmeradwyo yn fwy nag ymddygiadau isel-wael. [Gallwn ychwanegu fod y nodwedd hon yn amlwg ynddo hyd y diwedd]. Nid wyf yn meddwl fod dim o waith y Coleg wedi ennill llawer o serch Mr Daniel Owen, ac nis gallaf ddweyd pa ran o'r gwaith aeth a mwyaf o'i fryd; ond gwn yn dda pa ran aeth a lleiaf, sef Mathematics. Yr wyf yn credu na chawsant ddim o'i serch. Yn wir, yr oedd yn wir gâs ganddo hwynt; ond er y cwbl yr oedd ef yn efrydydd cydwybodol, er nas gellid dweyd ei fod yn un aiddgar iawn. Nis gallasai, er hyny, oddef gwastraffu ei amser. Arferai aros i fynu yn hwyr i ddarllen, ac mewn canlynid nid oedd yn godwr bore, ac felly mewn brys y byddai yn paratoi ei hun i fynd i'w ddosbarth erbyn naw,"

Adeg hapus yn ei fywyd ydoedd y cyfnod hwn. Daeth i gylch hollol newydd, er na ffurfiodd gyfeillgarwch agos ond âg ychydig, eto, edrychid arno gan yr efrydwyr yn gyffredinol fel un diddan, synwyrol, a chraff; yr oedd ar y telerau gorau â phawb, ac meddai ystôr ddiderfyn o hanesynnau yn egluro y "dynol deulu." Yn ei Hiraethgân i'r Parch. John Evans, Croesoswallt — un o'i gyfeillion mwyaf mynwesol yn ystod ei arhosiad yn y Bala — cawn gyfeiriadau at y cyfnod hwn ar ei fywyd:—

Eisteddais wrth dy ochr lawer awr
Ar fainc y Coleg ddyddiau hapus gynt,
Pan oedd hoenusrwydd ysbryd yn rhoi gwawr
Ar ein breuddwydion — aethant gyda'r gwynt;
Pa le mae'r bechgyn oeddynt o gylch y bwrdd,
Rhai yma, a rhai acw — rhai'n y ne'?
A gawn ni, eto gyda'n gilydd gwrdd
Heb neb ar ol — heb neb yn wâg ei le?

Collgwynfa ydoedd colli'r dyddiau pan
Cyd-rodiem hyd ymylon Tegid hen,
Cyn i'w ramantus gyssegredig làn
Gael ei halogi'n hagr gan y trên;
Er byw yn fain, fel hen geffylau Rice,[2]
Ein calon oedd yn hoew ac yn llon;
Pwy feddyliasai, dywed, ar ein llais
Mor weigion oedd ein pyrsau'r adeg hon?

Yn gadael Coleg y Bala.

Fel y sylwyd uchod, gadawodd Daniel Owen y Bala ymhen dwy flynedd a hanner, sef yn ystod gwyliau y Nadolig, 1867. Yr oedd ei ymadawiad yn sydyn ac annisgwyliadwy iddo ef ei hun, yn ogystal ag i athrawon y Coleg. Y mae tegwch ai goffadwriaeth yn galw am i ni egluro yr amgylchiadau a barodd iddo gymmeryd y cam hwn. Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at garedigrwydd ei frawd hynaf Dafydd tuag ato, a diamheu fod atgofion am yr hyn a wnaeth yn lliwio desgrifiad y Nofelydd o "Bob" yn Rhys Lewis. Cyn myned i'r Athrofa, gwnaed cytundeb rhwng y ddau frawd, yn ol yr hwn yr oedd Dafydd i ofalu am eu mam a'u chwaer Leah - yr hon oedd yn wanaidd ei hiechyd — hyd nes y byddai Daniel wedi gorphen ei addysg yn yr Athrofa; ond ychydig cyn gwyliau y Nadolig, 1867, derbyniodd Daniel lythyr oddi wrth ei frawd yn ei hysbysu ei fod wedi priodi, ac wedi gwneyd cartref iddo ei hun. Parodd hyn i'w frawd ieuangach benderfynu mai ei ddyletswydd ydoedd d'od adref a chynnal ei fam a'i chwaer rhag myned i ymofyn am elusen blwyfol. Ni fynegodd ei resymau dros ei ymadawiad i Dr. Edwards nag i neb o'i gyfeillion. Yr eglurhad a roddir am ei ddistawrwydd ar y pwynt hwn ydyw annibyniaeth ei ysbryd, ynghyd ag annhueddrwydd i ddweyd ei gŵyn, nac i dderbyn cymhorth gan eraill. Ymhen blynyddoedd ar ol hyn y daeth Dr. Edwards i wybod y gwir reswm am ei ymadawiad cyn gorphen ei dymhor yn y Bala. Nis gellir llai na gofidio, ar un golwg, na buasai wedi egluro yr holl amgylchiadau i'r Prif-athraw. Pa fodd bynnag dychwelodd yn ol i'r Wyddgrug, ac aeth ar ei union o'r orsaf cyn myned adref, at Mr. John Angell Jones, mab ei hen feistr, i ymofyn gwaith. Ymafaelodd ar unwaith yn ei alwedigaeth, gan weithio ar y bwrdd fel cynt. Ceir yn ei ymddygiad yn yr holl amgylchiadau hyn ddangosiad o gymmeriad Daniel Owen gymaint a dim. Nis gallai feddwl am aros yn y Bala — er mor ddedwydd ydoedd — ar draul gadael ei hen fam a'i chwaer fethiantus yn ddiswcr, oblegid nid oedd yr ychydig a ennillid ganddynt hwy drwy gymmeryd i mewn ddillad i'w golchi yn ddigon i'w cynnal. Fel hyn bu yn gweithio a'i ddwylaw fel teiliwr am rai blynyddoedd wedi dychwelyd o'r Bala, a'r tebyg yw mai ei ofal ffyddlawn am ei fam a'i chwaer a barodd iddo aros yn ddi-briod. Arferai bregethu yn gyson ar y Sabboth, ac yn ol yr hyn a ysgrifenodd ef ei hun, cawn iddo fod yn pregethu yn ystod y tymhor hwn yn mhrif gapelau y Cyfundeb yn Ngogledd Cymru, ac yn amryw o drefi Lloegr, megis Liverpool a Manchester. Ystyrid ef yn bregethwr cymmeradwy, yn enwedig gan y dosbarth mwyaf deallgar o'r gwrandawyr, ac y mae adgofion am ei bregethu yn aros hyd heddyw mewn rhai manau. Testun y bregeth olaf a draddododd ydoedd, "Canys ni allai efe fod yn guddiedig." Y gyntaf o'r pregethau a ymddangosodd yn Offrymau Neillduaeth. Yn ystod y blynyddoedd hyn, bu yn dra gwasanaethgar gyda'r achos yn yr Wyddgrug. Cymmerai ran amlwg iawn yng nghyfarfodydd y Nadolig; yn wir, daeth plyg newydd i'r golwg yn ei ddawn wrth areithio yn y cyfarfodydd hyn na chanfyddwyd ef yn ei bregethau. Gollyngai y ffrwyn yn rhydd i'w arabedd, a mynych y gwelwyd ef am chwarter awr yn ymollwng i draethu y pethau mwyaf digrifol a doniol, a'r rhai hyny wedi eu cymysgu â llawer iawn o addysg a moes-wersi buddiol, nes y byddai y dorf fawr wedi ei gwefreiddio drwyddi. Wele rai o'i destunau, - "Bethma," "Manteision tlodi," "Siarad â Siaradwyr," "Meibion a Merched," "Y Difyr a'r Da." Ymddangosodd ei sylwadau ar y testunau uchod yn y Siswrn, a gyhoeddwyd mewn blynyddoedd diweddar gan Mr J. Lloyd Morris, o'r dref hon. Yn y blynyddoedd hyn bu yn Holwyddorwr yr Ysgolion Sabbothol, yn Nosbarth yr Wyddgrug, am y tymor o dair blynedd.

Yn ystod y blynyddoedd ar ol ei ddychweliad o'r Bala, pan yn dilyn ei alwedigaeth fel teiliwr, daeth yn dra hyddysg mewn llenyddiaeth ffug-chwedleuol. Byddai gweithiau amryw o'r prif nofelwyr yn cael eu darllen yn uchel yn y gweithdy. Yn wir, yr oedd yn fath o gymdeithas darllen; a dywed un oedd yn bresennol fod yr oll o nofelau Syr Walter Scott wedi eu darllen yn y modd yma (yr hyn sydd ynddo ei hun, yn ôl un beirniad lled enwog, yn liberal education); yr oll o weithiau Charles Dickens; amryw o nofelau Thackeray a George Eliot. Derbynnid y Daily News bob dydd i'r gweithdy, a darllenwyd pob gair o hanes Prawf Tichborne ganddynt. Y mae yn sicr fod Daniel Owen yn darllen llawer ar ei ben ei hun. Derbyniai y Traethodydd, a chynhaliai ddosbarth darllen ar nos Fawrth yn y capel ag oedd yn gofyn am baratoad lled fanwl gogyfer âg ef. Yn wir, yr oedd ar hyd ei oes yn ddarllenwr mawr mewn rhai cyfeiriadau, ac yn ddarllenwr hynod o gyflym. Y mae yn amheus gennym a oedd yna yng Nghymru, tuallan i swyddfeydd y Wasg, ddarllenwr eangach ar newyddiaduron. Derbyniai a darllenai braidd yr oll o'r newyddiaduron Cymreig a gyhoeddid.

Teimlai er's amser anesmwythid gyda golwg ar ei amgylchiadau. Prin yr oedd yr hyn a enillai yn ddigon iddo allu cadw ei gartre. Ac nid oedd yn teimlo addfedrwydd i ymgyflwyno yn hollol i waith y Weinidogaeth, er iddo unwaith gael gwahoddiad i fyned yn weinidog ar eglwys lled gref yn Sir Feirionydd. Penderfynodd gychwyn masnach ei hun fel Tailor and Draper, mewn cysylltiad â gŵr ieuanc arall. Gwenodd Rhagluniaeth arno, ac ymhen ychydig daeth i amgylchiadau cysurus, yr hyn oedd yn brofiad newydd iddo. Ond ym Mawrth, 1876, torrodd ei iechyd i lawr. Tra yn symud rhôl o frethyn yn y Shop torrodd gwaedlestr iddo, a chollodd lawer o waed; ofnid am ei einioes am amser maith; offrymwyd gweddïau taerion ar ei ran yn eglwys yr Wyddgrug; a chlywsom ef yn cyfeirio gyda dwysder at yr adeg hon yn ei gystudd diweddaf. Ac er i'w einioes gael ei harbed, eto gwanhaodd ei nerth yn fawr, crymodd ei wàr, ac aeth i wisgo gwedd hynafgwr cyn ei fod yn llawn deugain mlwydd oed. Wele y cyfeiriad a wneir at yr afiechyd hwn gan Daniel Owen yn y bras-linelliad o'i fywyd:-

"Ym Mawrth, 1876, torrais blood-vessel yn yr ysgyfaint dair gwaith mewn ystod pythefnos. Ni feddyliodd neb y buaswn yn byw, a bûm yn dihoeni am flynyddau. Bu Dr. Edwards (mab y Parch. Roger Edwards) a Dr. John Roberts, Caer, yn hynod ofalus o honof y pryd hwnnw."

Nid yn unig yr oedd ei nerth wedi amharu fel nad allai gymmeryd gofal o'i fasnach, ond yr oedd yr afiechyd wedi effeithio yn ddwys ar ei nervous system. Ymhen rhai misoedd ar ol hyny yr oedd y Parch. Edward Mathews yn pregethu yn yr Wyddgrug, a themtiwyd ef i fyned i wrando arno yn yr hwyr. Ar gymhelliad taer ei gyfeillion aeth i eistedd i'r gadair o dan y pulpud yn y sêt fawr, gan wynebu felly y gynnulleidfa. Bu hyn yn ormod iddo ddal. Gorfu iddo gilio a myned allan ymhen ychydig fynydau; a byth er hyny bu arno ofn cynnulleidfa fawr. Arosai i wrando yn y Vestry am amser maith ar ol hyn; ac ymhen blynyddoedd diweddarach eisteddai yn agos i'r drws. Yn fisoedd yr haf dilynol aeth i Bangor-is-y-coed, ger Gwrecsam, i aros gyda Mr. W. R. Evans, yn awr Clerk of the Peace, swydd Ddinbych. Bu y cyfnewidiad hwn, ynghyd â'r gofal tyner a gymmerid o hono gan Mrs. Evans, yn foddion i adfer ei iechyd i raddau helaeth. Yr oedd yn byw mewn ofn parhaus rhag i waed-lestr dorri yn ei ysgyfaint, a llethid ef ar amserau gan y teimladau hyn. Yn ystod ei arosiad yn Bangor-is-y-coed daeth i gyfarfyddiad â'i hen athraw, Dr. Edwards, yr hwn y pryd hwnnw a ddaeth i ddeall y rheswm paham y gadawodd y Bala; arweiniodd hyn y Doctor i gymmeryd dyddordeb adnewyddol yn ei hen efrydydd.

Er pob cymhelliad o eiddo cyfeillion yr Wyddgrug, methwyd a chael ganddo i gymmeryd ei le fel cynt. Methwyd a chael ganddo, er pob perswad, i afael yng ngwaith y Weinidogaeth mwy. Diau mai un rheswm am hyny ydoedd gwendid ei iechyd, yr hwn oedd wedi effeithio mor fawr ar ei nerth gewynol nes peri fod annerch cynnulleidfa yn ei lethu. Tra y teimlai yn dra chartrefol, yn enwedig yn y rhan ddiweddaf o'i fywyd, mewn cylchoedd bychan, eto arswydai wynebu cynnulleidfa yn Neuadd y Dref, hyd yn oed yn y cymmeriad o gadeirydd cyfarfod y Nadolig. Yn ychwanegol at hyn, y mae ei dystiolaeth ef ei hun yn y bras-llinelliad y dyfynnwyd o hono eisoes, yn profi nad oedd yn argyhoeddedig ei fod wedi ei alw i'r gwaith hwn. Ychydig amser cyn ei farwolaeth yr oeddid yn ymddiddan â dau ŵr ieuanc fwriadant fyned i'r Weinidogaeth yn y dref hon, a gofynwyd iddo ef ddweyd gair wrthynt, yr hyn a wnaeth gyda dwysder nad anghofier ef gan neb oedd yn bresennol. "Byddwch yn sicr," meddai, "eich bod yn eich lle, os teimlwch eich bod wedi eich galw i'r gwaith o bregethu byddwch yn y sefyllfa fwyaf dedwydd ar wyneb y ddaear. O'r ochr arall, os na theimlwch yr argyhoeddiad o hyn yn eich mynwesau eich hunain, byddwch yn y cyflwr mwyaf annedwydd o bawb." Erioed ni chlywsom ef yn siarad gyda y fath ddifrifwch a dwyster. Daeth er hyny yn raddol i ymaflyd mewn gwaith o fewn cylchoedd mwyaf neillduedig yr eglwys. Ymgymerodd a bod yn athraw yn yr Ysgol Sabbothol, a gellir dweud ei fod yn athraw tra llwyddiannus. Dosbarth o bobl mewn oed, yn meddu gwybodaeth lled helaeth oedd yn gwneyd i fynu ei ddosbarth. Yr oedd yn un o'r darllenwyr goreu. Clywsom un o'i gyd-efrydwyr mwyaf galluog yn Athrofa y Bala yn dweyd ei fod y darllenwr goreu yn y Coleg. Rhoddai bwys ar ddarllen fel athraw. Disgwyliai i bawb ddarllen gan "osod allan y synwyr." Er bod ei ddosbarth yn cynnwys dynion o wahanol oedran a chyrhaeddiadau, llwyddai i wneyd yn ddyddorol ac addysgiadol i bob un.

Bu yn dra ffyddlon gyda chymdeithas y bobl ieuainc, yr hon a gyfarfyddai nos Sabbath yn y Schoolroom ynglŷn â'r capel. Bu llyfr y Proffeswr Drummond ar Natural Law in the Spiritual World yn destyn trafodaeth am un tymor. Un noswaith gwelwyd gŵr ieuanc dieithr yn y gymdeithas hon, ac wrth ei alw i ddweud gair prophwydai yr athraw y byddai yn fuan yn un o wŷr mwyaf adnabyddus ei wlad. Y gŵr ieuanc hwnw ydoedd Mr T. E. Ellis, marwolaeth gynnar yr hwn sydd wedi peri'r fath alar cyffredinol. Cawn hefyd iddo gymmeryd rhan flaenllaw mewn cymdeithas ddadleuol a sefydlwyd yn 1888. Llywyddai'r holl gyfarfodydd gyda deheurwydd amlwg.

Drachefn, pan sefydlwyd canghen lewyrchus o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Wyddgrug, yn 1892, efe a weithredai fel llywydd ac athraw y gymdeithas hyd nes y daliwyd ef gan ei gystudd diweddaf. Yn y cyfarfodydd hyn darllenid rhannau Cymru Fu. Rhannu o weithiau Charles Edwards, Alun, Ceiriog, ac Eben Fardd. Yr oedd yr athro yn Gymro zelog, ac ni chollai y cyfleustra am flynyddoedd i argymhell pobl ieuanc y dref i ddysgu Cymraeg, a llawenhau yn fawr o herwydd y deffroad Cymreig gymmerodd le y blynyddoedd diweddaf. Cydymdeimlai yn fawr â'r ysgol newydd mewn llenyddiaeth a barddoniaeth Gymreig.

Materion Cyhoeddus a Threfol.

Er mai fel llenor yr adwaenir Daniel Owen, eto cymmerai dyddordeb, ac yn wir cymmerodd ran flaenllaw yn materion gwleidyddol y sir a'r dref. Yn nechrau y flwyddyn 1874 cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Neuadd y Dref i gyd-lawenhau am fuddugoliaeth Syr Robert Cunliffe yn yr etholiad cyffredinol oedd newydd derfynu,[3][4] a phan y caed brwydr dair-onglog ym Mwrdeisdrefi Fflint, yr oedd amryw o brif arweinwyr y Rhyddfrydwyr yn y rhanau hyn o'r wlad yn bresennol, megis Syr George Osborne Morgan, A.S., Mr. Samuel Holland, A.S., Mr. Thomas Gee, ac eraill. Galwyd ar Mr Daniel Owen i anerch y cyfarfod fel cynnrychiolydd y gweithwyr. Nid heb bryder yr edrychai ei gyfeillion arno yn sefyll i fynu mewn lle mor bwysig. Ond aeth drwy ei waith yn dra llwyddiannus. Yr oedd wedi paratoi anerchiad campus, yr hwn a draddodai gyda hunanfeddiant a dylanwad mawr, a'r teimlad cyffredin ydoedd mai efe a wnaeth yr araith orau y noswaith honno, er y gwŷr grymus oedd ar y llwyfan. Testun ei araeth ydoedd "Bonedd a Gwerin ein gwlad." Dangosodd ei ddoethineb arferol yn y dewisiad o'r testyn, ac yn ei ddull yn ymdrin âg ef. Nid aeth i mewn i gwestiynau y dydd, gadawodd y rhai hynny i'r gwŷr mwy cyfarwydd oedd i gymeryd rhan yn y cyfarfod; ond dangosodd berthynas dibyniad y gwahanol ddosbarthiadau ar eu gilydd, a'u rhwymedigaeth tuag at eu gilydd, mewn dull clir a chartrefol, gan wneyd defnydd o'i arabedd a'i ysmaldod chwareus. Teimlodd pawb fod yna ryw elfenau arbenig yn y gŵr ieuanc diymhongar oedd wedi ei fagu yn eu plith. Cymmerai dyddordeb arbenig yn yr etholiadau canlynol, ac er na cheisiodd anerch cynulleidfa yn gyhoeddus, eto gweithiai ei ran gyda'i blaid. Cododd o'i wely ychydig fisoedd cyn ei farw i bleidleisio dros Mr. J. Herbert Lewis. Yr oedd yn Rhyddfrydwr, ac yn Ymneillduwr cryf. Nid oedd ei chwaeth lenyddol wedi oeri na gwanhau dim ar ei zel Rhyddfrydol nac Ymneilltuol. Gellir dweyd am dano yntau fel y canwyd am ei hen feistr, Angell Jones,—

Yr oedd yn bur i'r bôn i'w blaid.

Yr oedd ynddo gydymdeimlad dwfn â'r teimlad Cymreig o'r cychwyn. Ynglŷn â bywyd trefol, yr oedd wedi ei ddewis er's rhai blynyddoedd yn aelod o'r Bwrdd Lleol, a phan newidiwyd y bwrdd hwn i fod yn Gynghor Dinesig, dychwelwyd ef yn anrhydeddus. Yr oedd ei anerchiad at yr etholwyr yn un o'r pethau mwyaf ffel a ymddangosodd yn yr etholiad. Llwyddodd i osod allan deimladau Thomas Bartley mewn ffurf chwaethus a llenyddol. Anrhydeddodd y Cynghor Dinesig ei hun drwy ei ddewis i fod ei gadeirydd cyntaf, ac yn rhinwedd y penodiad hwn gwnaed ef yn Ynad Heddwch. Ychydig o weithiau y gallodd eistedd ar y faingc. Cyflawnai ei waith fel Cadeirydd gyda deheurwydd a natur dda. Er nad oedd yn meddu gwybodaeth fanwl, nac hwyrach yn meddu llawer o flas ar fanion, eto yr oedd ei synnwyr cryf, a'i ysmaldod diniwed yn llawer o gymhorth iddo yn ei swydd. Os nad oedd yn deall yn drwyadl bob mater a ddeuai ger ei fron, gellid bod yn sicr ei fod yn deall ysbryd a nodweddion ei gyd-aelodau yn drwyadl.

Yn ystod y flwyddyn y bu yn ei swydd, sef 1895, dioddefai lliaws o dlodion y dref oddiwrth galedi. Cymmerwyd y mater i fynu gan y Cynghor Dinesig, a phenderfynasant ofyn am gydweithrediad holl eglwysi y dref — yn Eglwyswyr, Ymneillduwyr, a Phabyddion. Cafwyd cynrychiolaeth gyflawn o'r holl eglwysi, a gwnaed trefniadau i gasglu tuag at ddarparu lluniaeth i blant tlodion y dref — llawer o ba rai a ofnid oedd mewn eisiau. Llywyddid y pwyllgor a benodwyd i ofalu am hyn gan Mr. Daniel Owen, fel cadeirydd y Cynghor Dinesig. Trwy ei fedr a'i natur dda yn benaf llwyddwyd i gael cydweithrediad hollol, a daeth cynrychiolwyr y gwahanol eglwysi i adnabod eu gilydd yn well. Profodd ei adnabyddiaeth drylwyr o'r dref a'i thrigolion, gwyddai am enw, ïe, llysenw y cymmeriadau y gwneid ymholiad yn eu cylch, a bu hyn, ynghyd â'i fedrusrwydd i roddi olew ar olwynion y peirianwaith, yn fantais arbenig yn y cyfwng hwn.

    1. hwn ##
    2. far ##

Ei Gystudd a'i Farwolaeth

Yr oedd yn amlwg fod ei iechyd yn gwanhau ers dros flwyddyn; ond rywfodd, nid oedd hyn yn peri pryder i'w gyfeillion, yr oedd wedi bod i raddau yn wanaidd ei iechyd er's blynyddoedd. Pan ffurfiwyd y Cynghor Dinesig gyntaf, ac y ceisid ganddo fod yn gadeirydd, teimlai yn anhueddol i gydsynio, o herwydd sefyllfa ei iechyd, ond cymmerodd ei berswadio, pa fodd bynnag, i gymmeryd yr anrhydedd a gymhellid arno gan deimlad cyffredinol yr holl dref, a chyflawnodd ei ddyletswyddau newydd gyda yni a bywiogrwydd neillduol; ond dydd Gwener y Groglith cyntaf ar ol hyn, cymmerwyd ef yn glaf, a gorfu iddo ymgadw i'w ystafell; ond o dan ofal ei feddyg ffyddlawn gwellhaodd ddigon i fyned allan. Bu yn y capel ychydig o weithiau, a'r tro diweddaf y bu yno ydoedd Sabboth, Mai y 5ed, pan yr oedd pregeth angladdol yn cael ei thraddodi i unig ferch hen gydymaith ei oes, Mr. Isaac Jones, yr hon oedd yn gymmeriad hynod o ddymunol. Elai hefyd am ychydig oriau yn ystod y dydd i'w fasnachdy yn misoedd yr haf; ond fel yr oedd yr hîn yn oeri, cadwodd yn gwbl i'r tŷ, ac yn ystod y tair wythnos diweddaf, cyfyngwyd ef yn hollol i'w ystafell wely. Codai am ychydig amser yn ei ystafell hyd y diwedd. Dylid dweyd ei fod wedi gwerthu y tŷ a adeiladodd iddo ei hun o dan gysgod Bryn y Beili, bron gyferbyn â'r tŷ bychan lle y ganwyd ac y magwyd ef, ac yn yr hwn hefyd yr ysgrifennodd Rhys Lewis. Bu yn ffodus yn ei lety, - darfu i Mrs. Evans, gyda'r hon y lletyai, a Miss Jones, weini arno gyda gofal a thynerwch mawr. Gwnaed pobpeth a allai caredigrwydd i leddfu ei gystudd. Nid arbedodd ei feddyg, Dr. Edwards, unrhyw ymdrech er ceisio ei wellhau, a galwodd ato y Doctoriaid Trushaw o'r dref hon, a Dobbie a Roberts o Gaerlleon, ond nid oedd dim yn tycio i beri gwellhad. Yn wir, ofnai ef ei hun o'r dechrau nad oedd adferiad iddo; eto, hiraethai am gael gwella. Dymunai am gael ymroddi yn fwy i weithio gyda chrefydd. Os ydoedd ei lafur llenyddol, ynghyd â'r temtasiynau a all fod yn gysylltiedig â bywyd felly, wedi myned a'i fryd yn ormodol, yn awr, pa fodd bynnag, pan yr oedd y diwedd yn nesâu sefydlai ei feddwl ar y sylweddau pur. Cafodd gysur arbenig ym Mhryddest Elfed ar "Orsedd Gras," yr hon a ymddangosodd y pryd hwn. Gwelsom ei fod wedi nodi allan rai darnau, a darllenai hwy eilwaith a thrachefn. Wele rai o'r darnau a nodwyd ganddo: -

Gorsedd dirion, Gorsedd anwyl, Gorsedd afradloniaid ffol,
Gorsedd lle disgwylia Cariad am y rhai sy'n d'od yn ol.
Nos na dydd ni ddaw neb yno heb fod croesaw iddo ef—
Nid oes porth na chauir rywbryd ond trugarog borth y nef!
Nid oes cau ar hwn: mae Duw'n rhy hoff o wel'd ei blant i'w gau;
A pho amlaf deuant, mwyaf yw ei ras yn amlhau:
Mae'n caru'r llaw sy'n curo'n fynych, fynych, wrth y drws.
Ac y mae'r fendith, wrth ei chadw'n hir, yn myned yn fwy tlws—
"Briwsion?" — llefai'r wraig o Ganaan, o dan gur ei phryder trwm,
Ond i enaid mor urddasol yr oedd briwsion yn rhy lwm.
Cadwodd Iesu'r briwsion, er i'w chalon dori bron yn ddwy.

"Y pethau mwyaf" a lanwant ei feddwl yr wythnosau hyn; eto, ar amserau, yr ymddangosai yn lled siriol. Dymunai yn fawr am ran yng ngweddïau ei frodyr a'i chwiorydd crefyddol. Yr oedd yn credu yng ngweddïau'r eglwys. Credai fod yr Arglwydd wedi gwrando ei gweddïau yn flaenorol ar ei ran yn ystod ei gystudd trwm bedair blynedd ar bymtheg yn ôl. Ymsiriolai wrth glywed fod yna weddïau yn cael eu hoffrymu yn barhaus drosto. Ystyriai fod hyn yn rhyw awgrym i " bwy yr oedd yn perthyn." Nos Sadwrn diweddaf y bu fyw, gofynnai i Miss Jones i ddarllen iddo gyfieithiad o emyn hwyrol Lyte, yr hwn a welir yn Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd : -

"Trig gyda mi, fy Nuw mae'i dydd yn ffoi,
Cysgodau yr hwyr o'm hamgylch sy'n crynhoi;
Diflanna nerth y ddaear hon, a'i bri,
Cynhorthwy’r gwan, O aros gyda mi."

Gofynnodd i'r holl benillion oeddynt mor gyfaddas i'w sefyllfa ef gael eu darllen, a theimlai eu bod yn rhoddi cysur iddo fel yr oedd cysgodau yr hwyr o'i amgylch yn crynhoi. Yr oedd ers dyddiau yn credu fod dechrau'r diwedd wedi dod, a gweddïau am i'r struggle fod yn fyr. Yr oedd ei natur nervous yn brawychu wrth feddwl am yr ymddatodiad, ac er ei fod yn suddo yn gyflym dydd Llun, eto yr oedd yn ymwybodol hyd y diwedd, a gwelid ef a'i ddwylaw ymhleth yn fynych yn gweddïo yn floesg am gael gollyngdod buan, ac am 8 o'r gloch fore Mawrth, yr 22ain o Hydref, caniatawyd ei weddi. Bu farw ddau ddiwrnod wedi iddo gyrraedd ei 59 mlwydd oed.

Ei Gladdedigaeth

Pan ddeallwyd fod ei ysbryd wedi ehedeg ymaith, llanwyd yr holl dref a thristwch dwfn. Ac er nad oedd iddo berthnasau yn y dref, eto yr oedd ei farwolaeth yn alar personol i lu o gyfeillion. Anghofid yn llwyr bob diffygion a welwyd ynddo, ac ni chofid ond am y cyfaill hoff, caredig, a diddan, yr hwn ni chaem "weled ei wyneb ef mwy." Cymerodd y claddedigaeth le y dydd Iau canlynol, sef ar y 24ain, yng nghladdfa gyhoeddus yr Wyddgrug. Cyn cychwyn y corff i'r gladdfa, cynhaliwyd gwasanaeth yn addoldy y Methodistiaid yn New Street Ar ôl dechrau drwy ddarllen rhan o'r Gair a gweddïo, ynghyd â chanu emyn, cafwyd anerchiadau byrion gan y Parchn. Ellis Edwards, M.A., Bala, Robert Owen, Tŷ Draw, yr Wyddgrug. Rhoddodd Mr. Edwards amryw o'i atgofion am yr ymadawedig ym mlynyddoedd ei ieuenctid. Dilynwyd ef gan y Parch. Robert Owen, gyda sylwadau ar ei gymemriad. Cyfeiriodd at ei synnwyr cryf , ei onestrwydd, ynghyd â'i lafur gyda'r achos yn y dref.

Ar ôl gweddïo, aethpwyd yn orymdaith i'r gladdfa. Gwelwyd nifer mawr o weinidogion y sir o bob enwad, ynghyd â chlerigwyr y dref, yn yr orymdaith; aelodau o'r Bwrdd Llywodraethol yr Ysgol Ganolraddol, o ba un yr oedd yr ymadawedig yn aelod, ac o Gyngor Dinesig y dref, o ba un yr oedd yn gadeirydd, ynghyd ag amryw o gynrychiolwyr llenyddiaeth, a lliaws mawr o gyfeillion o'r dref a'r cylch, er bod yr hin yn dra anfanteisiol Gan fod yr orymdaith mor fawr, penderfynwyd myned ar unwaith at y bedd. Darllenwyd rhannau o'r Ysgrythur, a gweddïwyd drachefn, ac ar ôl canu'r hen emyn adnabyddus, -

O fryniau Caersalem ceir gweled
Holl daith yr anialwch i gyd,"

ymadawodd y dyrfa. Gosodwyd ef i orwedd yn yr un bedd a'i fam, a'i frawd a'i chwaer.

Y Saboth, y 27ain, gwnaed cyfeiriadau at gymeriad a gwasanaeth yr ymadawedig i lenyddiaeth Cymru, yn Eglwys y Plwyf, gan y Parch. E. M. Roderick, M.A., y Vicar. Pregethwyd hefyd bregeth angladdol iddo yn addoldy New street - lle yr arferai addoli- gan y gweinidog, oddi ar y testun Psalm xlix 1-4.

Wele y Beddargraff ar y garreg ddiaddurn, lle y gorwedd ei weddillion marwol, y fwyaf syml ei hargraff o fewn y fynwent : —

Yma
Y
Gorwedd gweddillion
DAFYDD OWEN
Adeiladydd, Wyddgrug
Yr hwn a fu farw Chwefror 4ydd, 1880,
Yn 53 oed.
Hefyd
SARAH OWEN
Awst 14eg,1881
Yn 85 oed

"Dibenodd 'nawr dy boenau— dy gyfall
Da gefaist yn angeu.
Daw dwthwn y doi dithau
Pwy ŵyr! wedi llwyr wellhau."

A
LEAH
Mawrth 3ydd, 1890
67 mlwydd oed.
Hefyd
DANIEL OWEN
Yr hwn a fu farw Hydref 22ain, 1895
"Pwy sydd ŵr doeth a deallus yn eich plith? Dangosed
trwy ymarweddiad da, ei weithredoedd mewn
mwyneidd-dra doethineb."

Ewyllys y diweddar Daniel Owen.

Y mae cynnwys ei ewyllys yn ddiddorol, ac yn unol â chymeriad y testamentwr.

Penododd ddau gymydog, a chyfeillion iddo, y rhai oeddynt yn aelodau yn yr un eglwys, yn gymun weinyddwyr, gan roddi £10 i bob un ohonynt, ynghyd ag £20 yn ychwanegol i gael ei rannu yn gyfartal rhwng eu plant Gadawodd £5 yr un i'w weithwyr, ynghyd â phâr o ddillad i bob un ohonynt £10 i'w egwyddorwas, ynghyd â'i oriawr a'r gadwyn aur berthynol iddi. £10 i'w gyfrannu ymhlith tlodion yr eglwys yn New Street. £20 tuag at y Genhadaeth Dramor y Methodistiaid Calfinaidd. £5 i'w lety- wraig, ynghyd A'r gadair yr arferai eistedd ynddi ei ddarluniau ynghyd â'r gist lle y cadwai ei ddillad. £5 hefyd i Miss Jones a weinyddai arno, ynghyd â'r royalty a dderbynnid oddi wrth werthiant Straeon y Pentan am 40 mlynedd. Y gweddill o'i eiddo personol, yr hyn oedd yn ychydig gannoedd, i'w rhannu rhwng ei dair nith.

Cofadail i Daniel Owen.

Yr oedd amryw o newyddiaduron wedi cyfeirio at y dymunoldeb o wneud tysteb i'r ymadawedig ychydig wythnosau cyn ei farwolaeth. Pan y soniodd ei gyfaill llyfr-bryf am hyn, pan yn edrych am dano ychydig amser cyn ei farwolaeth, dywedai, "Mi fyddai i wedi myn'd, yn ôl pob tebyg, cyn y gwneir hynny," ac felly y bu. Ar ôl ei farwolaeth ceid fod yna deimlad cyffredinol dros roddi amlygiad o edmygedd cenhedlaethol ohono. Ar wahoddiad cyffredinol cyfarfu nifer o wŷr dylanwadol, y rhai oeddynt yn cynrychioli gwahanol ddosbarthiadau, yn Nghaerllion, o dan lywyddiaeth Mr. J. Herbert Lewis, A.S. — yr aelod dros Fwrdeistrefi Fflint — a phenderfynwyd gosod i fyny Gerflun o Daniel Owen mewn lle amlwg yn ei dref enedigol, a derbyniwyd amryw o addewidion tuag at yr amcan hwn yn y fan a'r lle, a thrwy lythyrau o wahanol barthau o Gymru. Dewiswyd Mr. Llywelyn Eaton, yr Wyddgrug, yn ysgrifenydd yn Ngogledd Cymru, a'r Parch. J. A. Jenkins, B. A, Coleg Caerdydd, yn ysgrifenydd yn y Deheudir.

Derbyniwyd cyfraniadau oddi wrth bob dosbarth a phlaid yn ein gwlad, ac erbyn dechrau y flwyddyn hon [5] yr ydym yn deall fod yn agos i £300 wedi eu casglu. Penderfynwyd ar Mr. W. Goscombe John, y cerflunydd Cymreig enwog i wneud y gwaith, a thêg yw cydnabod ei fod yntau wedi ymgymryd a'i wneud yn rhad, gan nad oedd y swm a dderbyniwyd ond prin ddigon i dalu am y defnyddiau tuag at wneuthur y cerflun.

Y mae y cerflun, yr hwn sydd mewn pres, yn barod, a gosodir ef i fynnu ymhen ychydig fisoedd mewn lle amlwg yn y dref. Cawn fod pob dosbarth o fewn ein gwlad, " gwrêng a bonheddig," wedi cyfrannu tuag at y gof-golofn. Y mae y Duke of Westminster wedi rhoddi yn rhad y carreg i fod yn sylfaen i'r cerflun. Nis gallwn fynd heibio heb gyfeirio at lafur dyfal yr ysgrifenydd, Mr. Llywelyn Eaton, ynglŷn â'r gwaith hwn.

Er pan yr ysgrifennwyd yr uchod, y mae ysgrifenydd y gofadail, "yntau wedi marw," a hynny heb weled gosod i fynnu y cerflun yr oedd wedi gosod gymaint o'i fryd arno. Yr oedd Mr. Llywelyn Eaton, fel Mr. Daniel Owen, yn un o blant yr Wyddgrug, ac wedi yfed i fesur o ysbryd llenyddol y cyfnod y magwyd ef ynddo.

ADGOFION AM DANIEL OWEN

(Gan Mr John Morgan (Rambler), yr Wyddgrug.)

YR wyf yn cofio'n dda am y tro cyntaf y deuais i gyffyrddiad â fy nghyfaill Daniel Owen, sef mewn cyfarfod Pernny Readings a gynhaliwyd yn y British School-(yn awr y Board School), diwedd y flwyddyn 1869, union ddeg mlynedd ar hugain yn ôl. Yr oeddem ill dau ar y rhaglen i gymryd ein rhan yn y cyfarfod, myfi gydag adroddiad, ac yntau gydag anerchiad. Yr oedd fy adroddiad i yn un ddigrifol, a derbyniais lawer o gymeradwyaeth er mor ynfyted y peth a ddwedais; derbyniodd efe lai o gymeradwyaeth, ond mwy, ynghyd â gwell gwrandawiad. Testun ei anerchiad y noson honno ydoedd, - "The Sisters, the Misses Comedy and Tragedy, their nature and parts. Dangosai mai swydd y ddwy ydoedd addysgu, un trwy lefain "gochel!" ond, a mynd ymlaen y ffordd yna, mai dinistr y llall a amcanai ei ddifyrru a gwneud i ffordd â'i ddiffygion trwy eu chwerthin ymaith, oblegid hyn, Miss Comedy ydoedd y mwyaf poblogaidd o lawer, ac amheuai pa un ai hi ynte ei chwaer ydoedd y ffrind cywiraf i ddyn. Yr ydoedd dyn yn greadur rhesymol, ac am hynny yn un cyfrifol, a da oedd iddo gael ei sobri weithiau. Ai nid oedd cyfarfodydd y Penny Readings yn rhedeg i ormod rhysedd, gan aberthu addysg a phwyll i chwerthiniad heb ddim amcan iddo ond chwerthiniad cildarddach drain dan grochan ? Teimlwn wrth wrandaw fy mod yn myned i le bach iawn, ac ofnwn i neb fy ngweled. Dywedai fod dyn wedi ei eni i'r byd yma i fyw, nid i chware, y cai chware ar y ffordd wrth fynd ymlaen, ond byw oedd amcan ei fywyd; ac wrth fyw i chware yr ydoedd y dyn yn colli amcan ei ddyfodiad i'r byd. Yr un fath gyda mwynhad, nid oedd mwynhad i'w gyrhaeddyd wrth wneud hynny yn amcan bywyd, ond yr oedd i'w gymryd ar y ffordd - i'w gael wrth deithio—wrth i ddyn wneud ei waith, ac i'w gael felly gyda rhyw foddhad ag ydoedd yn ei wneuthur yn werth i'w gael. Wedi'r cyfarfod, dywedais wrtho fod ei anerchiad wedi peri i mi gywilyddio, ac atebai yntau nad oedd wedi amcanu hynny, a rywsut neu'i gilydd dechreuodd cyfeillach rhyngom a barhaodd hyd weddill ein hoes ac ni chyfododd dim trwy gydol yr amser i darfu ar ein cyfeillgarwch. Nis bum yn hir heb ddeall ei fod yn ddyn o gydymdeimlad llydan iawn, ac mor ddwfn ag ydoedd o lydan. Ni fyddai yn arfer a dweud rhyw lawer am ei gydymdeimlad, ond pan fyddai dyn ar lawr, byddai gwasgiad ei law ac edrychiad ei lygaid yn dweud mwy ac yn dweud yn well nag araith o awr o hyd. Nid oedd gwendidau chwaith yn rhwystro dim arno, ond pan welai ddyn yn ymysgwyd ac yn treio codi, rhedai ei gydymdeimlad ato'n fwy. "Mae e' wedi pechu; ydyw, y mae o, ond mae e'n ceisio codi, a throi ei wyneb tuag adref," a dyna oedd yn penderfynu y mater gydag efe. Rhyfedd mor lleied a feddyliai o'r dynion "duwiol dros ben" yma, sydd a'u dwy droedfedd bob amser yn barod i fesur cwympiadau pawb, gan anghofio i'r Arglwydd "ewyllysio trugaredd, ac nid aberth, a gwybodaeth o Dduw, yn fwy na phoeth-offrymau." Llawer a gondemniodd erioed ar y cyfeillion hynny nad rhaid iddynt wrth feddyg, nac edifeirwch, na dim. Ryw fore, pan oeddwn gydag ef yn yr ystafell y tu ôl i'r shop, daeth brawd a adwaenem ein dau i mewn, ac wedi peth siarad, aeth hwnnw at ei hoff bwnc gan ffeindio bai ar y ddiod, tra y gallasent eu rhoddi at achosion da yn gyffredinol, yn enwedig achosion crefyddol, megis yr Achosion Cenhadol a'r Beibl Gymdeithas. Cydolygai Mr Owen â'r brawd yn yr oll a ddywedai, ac wedi gwrando ar y cyfaill yn dweud yr oll oedd ganddo am y wedd druenus yna ar bethau, dechreuai ddweud fod y dirwestwyr, fel y gwyddai pawb, yn nodedig am eu haelioni, ac yn wir, hawdd y gallent fod yn haelionus, gan y gwybyddai bawb nad oeddynt hwy yn gwario dim ar felys-chwantau. Yna gan droi at y silff gerllaw, gofynnai i'r brawd, " Faint ydach chi'n ei roi at yr Achosion Cenhadol ac at y Beibl Gymdeithas?" Estynnai yr Adroddiadau i lawr, a chan edrych ar yr Adroddiadau ai ymlaen i ddweud,—" Wela i mo'ch enw ch'i i lawr am ddim, dim at y Genhadaeth, a'r un faint yn union at y Beibl Gymdeithas." Ymesgusodai y brawd gan ddweud ei fod ef yn dlawd, fel y gwyddai Mr Owen, ac na ellid disgwyl llawer oddi wrtho ef. "Tlawd!" ebe Daniel, " sut y darfu i chwi brynu'r fferm fechan acw, a rhoi saith cant a hanner o bunnau am dani hi, a does mor blwyddyn er pan ddaru i chi brynu'r tŷ 'r ydech chi'n byw ynddo, ac fe roesoch dri chant o bunnau am hwnnw. Dyma enw David Davies o'r ------- yn cael deunaw swllt yr wythnos, a chanddo saith o blant, mae ei enw fo i lawr am hanner coron; gwir fod Dafydd yn cymryd glasied weithiau, a dyna y rheswm pam ei fod yn rhoi hwyrach; ond y chwi, nad ydych yn gwario dimau ar eich melys-chwantau, yr ydych yn rhy dlawd i roddi dim, ac yr ydech chi'n gwario mil o bunnau yn y flwyddyn i chwanegu at eich ystâd ! Yr ydech chi'n grefyddwr hefyd, a 'dydi Dafydd Dafis ddim yn y seiat, hwyrach fod gan hynny rywbeth i wneud â'r cwestiwn!" "Yr ydech chi'n myned yn rhy bell yrŵan, Mr. Owen, cofiwch ch'i beth 'rydech chi'n ei ddeud." "Rhy bell!" atebai Daniel. "Rhy bell a ddeutsoch ch'i, 'rydech chi'n pydru yn eich pres---,"ar hyn, allan a'i gyfaill cynted ag y gallai,—" Dyna," meddai Daniel, "ddaw hwnna ddim yma i ragrithio eto. Mi rois hi iddo yn go hallt hefyd, ond pan aeth i gwyno nad oedd pobl yn rhoi dim at achosion crefydd, gan faint oeddent yn ei gwario ar ddiod, mi gollais i fy amynedd ag e. Ei sort o yn siarad am roi at achosion da !" " Mi es innau yn 'mhellach nag y bwriadwn hefyd." "Ie,"' meddwn innau, "satan yn condemnio pechod oedd yna yn siŵr." Eto, yr oedd Mr. Owen yn teimlo ei fod wedi dweud gormod, a theimlai hefyd fod yna wir yn yr hyn a ddywedai y cyfaill, ond na ddylasid ei ddweud ganddo ef.

Yr oedd rhodres yn ei gynhyrfu yn wastad, a phob ymdrech ar fod yn rhywbeth ar gost rhy w un arall. Nid oedd neb a edmygai haelioni yn fwy nag ef, ond casâi yr hwn a fynnai fod yn haelionus ar gost eraill â chas perffaith. Yr oedd y gau, beth bynnag a fyddai, yn rhwym o'i gynhyrfu. Un tro, daeth yno i'r un ystafell ag y soniais am dani o'r blaen, hen frawd a berchid yn fawr gennym ein dau, ond hen frawd a oedd yn berchen nifer o wendidau, y rhai nis gallai Mr. Owen lai na bod yn llawdrwm arnynt pan ga'i y cyfleustra. Rywbryd yn yr ymddiddan dyma'r hen frawd yn estyn ei droed ymlaen, gan ddweud,—"Does ddim yn well gen i na hen esgid; 'does dim welwch chi'n gwisgo yn esmwythach." Yr oedd amryw o glytiau ar yr esgid, a theimlai Daniel mai awydd i ni weld y clytiau, a chael ei ganmol am ei gynildeb, a barai iddo estyn ei droed a sôn am yr esgidiau; ac meddai, "Ie, mae bod yn ofalus am hen bethau —dillad ac esgidiau—yn beth i'w ganmol yn fawr. Wyddoch ch'i beth, pan af i'n gyfoethog, mi fynnaf innau glytio fy esgidiau." Teimlodd yr hen frawd yr ergyd, ac ebe, "onid yw yn ddiwrnod braf iawn," a heb aros am ateb, ymaith âg ef

Yr ydoedd Mr. Owen wedi ennill enw da iddo ei hun ym marn y cyhoedd, cyn iddo fynd i gadw siop o'i eiddo ei hun, a chyn iddo ysgrifennu llinell o'i nofelau. Yr oedd ei ofal am ei fam ac am ei chwaer hefyd wedi ei anwylo yn meddwl pawb. Daeth adref o'r Bala yn gynt o lawer nag y dylasai, ac yn gynt o lawer nag y bwriadasai unwaith, yn unig am ei fod yn bryderus ynghylch ei fam. Llawer a feddyliodd am dani hi, ac yn helaeth y talodd hithau yn ôl iddo Yr ydoedd yn hynod dyner hefyd o'i chwaer.

Braidd nad wyf yn tybied mai ei afiechyd a achlysurodd ehangiad ei gyhoeddusrwydd. Bu yn sâl iawn, agos iawn hyd farw; yr oeddem oll wedi anobeithio y byddai fyw, a bu llawer o weddïo trosto, ac yr wyf yn cofio, yn arbennig am un bore Saboth, pan oedd yn hofran rhwng byw a marw, fod yna ryw weddi hynod yn cael ei hoffrymu gan weinidog oedd yn byw yng Ngwrecsam y pryd hwnnw, ac o'r dydd hwnnw allan trodd Daniel i wella, a gwella yn raddol a wnaeth hyd nes yr adferwyd ei iechyd; ac yr wyf i wedi bod yn meddwl, byth er hynny, fod ei adferiad yn atebiad uniongyrchol i'r weddi hono, oblegid er mai un oedd yn ei hoffrymu, eto yr oedd yr holl gynulleidfa yn uno yn y gwasanaeth, ac fe'n dysgir mai " llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn." Ond, wedi gwella, nid oedd modd i'w gael i'r pulpud, ofnai siarad yn gyhoeddus, hyd yn oed yn ei gartref, a chiliai i'r cefn, y tu ôl i bawb, lle yr arhosodd hyd y diwedd, er pob cymell fu arno. Yr oedd ei afiechyd wedi ei analluogi—neu o'r hyn lleiaf, yr oedd efe yn credu ei fod—i wneuthur dim mwy yn y cyhoedd; aeth yn ddiegni ac yn ddiysbryd, fel yr oedd rhai ohonom yn ofni mai gorwedd i lawr a marw a wnâi dan ein dwylaw. Dyna'r pryd y aeth y diweddar Barch. Roger Edwards ato i'w ysgwyd, ac i geisio ganddo ysgrifennu ychydig i'r Drysorfa. Wedi hir gymell cydsyniodd, a pharatôdd nifer o'i bregethau, y rhai a ddaethant allan dan y teitl o Offrymau Neillduaeth. Wedi dechrau cafodd flas ar y gwaith, ac wedi gorffen y pregethau ysgrifennodd y Dreflan, a hynny hefyd ar gymhelliad Mr. Edwards. Bu yn dweud wrthyf fy hun ei fod dan rwymedigaeth neillduol i Mr. Edwards am ei gymhellion yn gystal ag am ei awgrymiadau. Am a wn i, nad ydy w yr hyn a grybwyllwyd am guddiad ei gryfder yn ddangosiad pur deg ohono, ac yn index cywir o'i garitor. Yr oedd y gallu i ddisgrifio yn amlycach ynddo na'r gallu i ddadansoddi ac i farnu. Yr oedd ei natur unplyg a dioced yn ei arwain yn fynych i gasgliadau, os casgliadau hefyd, a phenderfyniadau na chyfiawnhaid mohonynt gan ddim o'r tu allan i'w fynwes ei hun. Aml iawn y byddai ei deimladau yn rhedeg gan ei gymryd gyda hwynt, tra y byddai ei farn yn gofyn- " Pa le yr wyt ti." Mewn gwirionedd, creature of impulse perffaith ydoedd, ac o herwydd hynny yr oedd ei nerth a'i wendid yn gorwedd yn yr un lle. Hefyd, ac am yr un rheswm, yr ydoedd ei argraffiadau cyntaf , fel rheol, yn debycach o fod yn gywir na'i ail, am y byddai y rhai hynny yn cael dylanwadu arnynt yn eu ffurfiad gan dueddiadau ei feddwl gymaint â chan ffeithiau; yn wir, dyna fyddai yn andwyo ei farn, cymryd tueddiadau yn lle ffeithiau, a gweithredu ar y rhai hynny.

Yng nghanol ei feirniadaeth, a'i ddiffyg barn yr ydoedd yn gymeriad noble iawn, llawn o natur dda ac o gydymdeimlad, gwelai rinweddau yn arall, ogystal â'i golliadau, ac nid oedd dim yn fwy gwrthun ganddo nac un a lawenhâi yng ngwendid eraill, a chaeai â châs perffaith yr un a geisiai ddyrchafu ei hun ar draul tynnu i lawr eraill, ac yr ydym oll wedi gweled rhai felly. Dylwn ddweud, hefyd, fod y disgrifiadau a roddid ganddo yn ei nofelau wedi costio llawer iddo; nid ysgrifennai ond yn afrwydd, ac y mae rhai o'i bethau gorau wedi eu hysgrifennu ganddo lawer o weithiau trosodd[6] a hynny bob tro yn araf iawn, wedi ystyried pob brawddeg drosodd a throsodd drachefn- ond wedi eu hysgrifennu maent agos yn berffaith. Rhaid eu bod yn dda, onide ni fuasai yn gallu ysgrifennu fel ag i ddal i fynnu y ddiddordeb yn ei nofelau hyd y diwedd, oblegid ar ragoriaeth y disgrifiadau y maent oll yn dibynnu. Ni fedrai greu plot, ac nid oes yna yr un plot yn yr oll o'i weithiau, ond dywedai yr hanes yn ddigyffelyb, gan ei fod yn teimlo i'r byw bopeth a ddisgrifiai. Yr ydwyf yn cofio mynd i edrych am dano un noswaith pan ymddangosai Rhys Lewis gyntaf; y noswaith honno, "Seth," mab Thomas Bartley, oedd ganddo; ysgrifennai frawddeg, yna gosodai ei ben ar ei fraich, ac wylai dan ochain dros y lle; ciliais o'r golwg, a deuais yno drachefn, ond cefais Daniel yr un fath, a bu wythnos gyfan cyn gorffen yr hanes rhyfedd hwnnw am Seth a'r capel mawr. Mewn cysylltiad â hyn, dywedais wrtho wedyn fod llawer o golli dagrau wedi bod wrth ddarllen am Seth. "Wel," meddai yntau, "wylodd neb wrth ddarllen gymaint ag y gwnes i wrth ysgrifennu," a chredaf yn sicr bod ei holl greadigaethau wedi eu cysegru, iddo ei hun beth bynnag, trwy ddagrau.

Buasai yn dda gennyf ychwanegu, ond ni chaniatâ gofod, a dibennaf trwy fynegi fy hiraeth am dano a'm hanwyldeb o'i goffadwriaeth—coffadwriaeth sydd eto'n fendigedig yn ei dref enedigol, ac ymysg y bobl a'i hadwaenai orau.

ELLIS EDWARDS. M.A.

AR

DANIEL OWEN

(O'r Goleuad am Hydref 30ain, 1895.)

CYSEGREDIG heddiw, wedi myned "i ffordd yr holl ddaear!" Pa beth sydd yn aros yn feddyliau y rhai a'i hadwaenant am flynyddoedd meithion fel ei neilltuolrwydd disgleiriaf a holl gynhwysol? Credwn nas gall y rhai a gawsant fwyaf o'i gymdeithas amau am foment. Y mae un peth yn sefyll allan fel pwynt o oleuni. Hynny a'i gwahaniaethai yn bennaf, yn hynny y safai ar ei ben ei hun, hynny ddeuai i'r golwg bron ymhob ymddiddan cyn pen ychydig o eiliadau : taflai ryw oleuni ar y pwnc dan sylw oedd yn draethawd mewn un pelydriad. Dywedai air, ac yr oedd fel fflachiad sydyn yr electric light. Yr oedd y gymhariaeth mor gymwys, y sylw mor unionsyth, mor anfursenaidd, mor hydreiddiol, mor wreichionog o gywir, fel yr adnabyddech yn y fan, ac y cydnabyddech gyda, hwyrach, ryw deimlad o barlys, ddyfodiad mellten, a phresenoldeb ysbryd breintiedig ac anghyffredin. Teimlech mor rhydd, mor eglur, mor ddiamwisg, mor risialaidd yw y gwirionedd mewn gwirionedd, gymaint o fwg sydd mewn rhai eglurhadau, ac—rhaid i ni arfer y gair eto—mor felltenaidd y gall taith meddwl fod. Dyma, ni a gredwn, oedd prif nodweddion ei allu meddyliol,- eglurder ei syniad, a'r cyflymdra di-oedi gyda pha un y trawai y nod oedd ganddo mewn golwg. Yn gyffredin yr oedd cywirdeb y sylw yn cael ei ad-dystio gan galonnau y rhai a wyddent am y pwnc. Teimlent fod Daniel Owen wedi darllen i waelod calon pawb wrth ei ddweud. Nid oes gan yr ysgrifennydd bron un atgof am fwynhad bywiocach na'r hyn a gai wrth wrando ar Daniel Owen yn disgrifio rhagoriaethau pregethwyr a phregethau, neu yn adrodd y pregethau. Mewn ychydig funudau ar ôl diwedd yr oedfa, tywalltai allan sylwadau oeddynt yn eich gwanu i'r byw fel y pethau yr oeddech yn hollol wedi eu meddwl, ond fil o filltiroedd oddi wrth fedru eu dweud. Yr iasau o fwynhad a gynhyrchai y disgrifiad ! Nid oedd ond y gwir, ond teimlech mai y gwir yn ei hanfod ydoedd. Yr oedd yn oleuni eiriaswyn, bob brawddeg a gair. Byth nid ymbalfalai Daniel Owen am ymadrodd na syniad, pan na chawsai ddim amser, yn ôl a welid, i fyfyrio neu gasglu barn. A glywodd rhywun ef erioed mewn penbleth sut i ddweud, neu mewn amheuaeth beth i’w ddweud i osod allan ei feddwl ? Nid chwiliwr oedd, ond canfyddwr. Mewn gair, yr oedd, os bu neb erioed, yn ŵr o athrylith fyw. A oes cysylltiad rhwng y gair a thrwy, trwodd? Os nad oes y mae rhwng y peth. Dyn ar unwaith yn gweled drwodd at y gwir, heb ond ychydig o help profiad na dysg, dyna ddyn o athrylith, pa beth bynnag y w y testun y mae a fynno âg ef. Y mae athrylith sydd yn tanio ar ôl llafur a dysg. Rhaid iddi lawer o gynnud cyn y deffry y fflam. Ond gŵr oedd Daniel Owen a welai ar un ergyd, ac ar un cyffyrddiad â phwnc, drwy ryw allu mewnol o hydreiddiwch, megis pe na bai ansicrwydd ac aneglurder yn bod iddo. Nid ydym yn honni ei fod bob amser, yn ei sylw, yn gweled y peth yr oedd mwyaf o eisiau ei weled, ac eto yr ydym yn dweud hyn yn fwy fel addefiad o amherffeithrwydd natur dyn yn gyffredinol, nag oddi ar brofiad o hanes Daniel Owen. Ei nod gwahaniaethol ef, o ran ei feddwl a'i ddeall, oedd y gwrthwyneb.

Y cyd-drigiad hwn gyda noethni y gwir, a'i ddigasedd at bob ffug, seremoni wag, agweddau disylwedd a dirwasgiad ar natur iach, sydd yn dyfod i'r golwg yn rhai o brif gymeriadau ei lyfrau. Yn true to nature, Wil Bryan, trawai un o'r tannau oedd yn swnio yn ddi-baid a chryfaf yn ei galon ef ei hun. John Aelod Jones, Mr. Smart, a'r mwynwr gau, ac eraill,—nid ydynt, ni chredwn, yn ddarluniau o neb neillduol. Ond dynodent egwyddor a dull yr oedd ei enaid ar dân yn eu herbyn. Nid ydym yn cofio erioed ei weled yn dirmygu dyn, nac erioed yn chwerw, ond efe a wnâi siarad yn boeth, neu, yn hytrach, yn wresog, o herwydd ni chlywsom am dano erioed mewn tymer ddrwg ychwaith,—ac ymhlith y pethau a enynnent fwyaf ar ei enaid ydoedd ffug.

Un o'i amcanion pennaf ydoedd amddiffyn naturioldeb,—naturioldeb mewn dull, mewn gweithred, ac, yn enwedig mewn ymarferiadau crefyddol. Yr oedd hyn yn dilyn oddi wrth ei gyd-drigiad â'r gwir. Teimlai mai y peth ar beth oedd yn ôl natur dyn, fel y crëwyd ef gan y Brenin Mawr. Hynny oedd yn ddynoliaeth, ac felly, hynny oedd i'w ganmol, a chamgymeriad oedd y peth gwrthwyneb, pa faint bynnag o ganiatâd, o awdurdod, neu o grefydd ymddangosiadol oedd y tu cefn iddo. Ni fynnai osod ei hun mewn mould "gelfyddydol," ac ni fynnai i arall wasgu cyd-ddyn iddi. Daliai mai'r ffurf orau ar ddyn oedd y dyn ei hun, ac mai gwaith crefydd oedd ei berffeithio. Y dwyfoldeb a ddyrchefid ganddo oedd yr un a ddangosai ei hun mewn naturioldeb. Y naturiol, yn ei farn ef, oedd sianel y dwyfol ym myd dyn. Ac felly, y mae Mr. Pugh, Rhys Lewis, yn uwch ganddo na dynion mwy galluog, ac un fel Wil Bryan ddiras yn fwy gobeithiol yn ei olwg na llawer un sydd yn ymddangos heb bechod o gwbl

Ond hanner sylw yw hyn. Er iddo synied yn llawn mor glir, a meddu gallu llawn mor eithriadol i wneud ei eiriau megis yn wydr pur,—yn nesaf peth at feddwl ei hun, ni fuasai yn agos o fod yr hyn ydoedd oni buasai ei fod yn gweled ac yn teimlo cymaint. Yr oedd yn fyw i bopeth bron, oddigerth manylion mesur a rhif. Ond os na fedrai fesur tir, gallai ehedeg drwy'r ffurfafen drosto, a chanu gwych gân na fedr mesuroniaeth byth mo'i chynhyrchu. Os nad oedd manylion rhif yn ei ddenu, yr oedd y cyfanion mwyaf pwysig yn brif faterion ei enaid. Pynciau diwinyddiaeth a chrefydd— gyda rhain y magwyd ef. Crefydd a'i "moddion," esiampl grefyddol a galluoedd naturiol ei fam, y cyfarfodydd cystadleuol a gychwynnwyd gan gyfeillion crefyddol, ac a wobrwyent gan mwyaf am draethodau a barddoniaeth grefyddol. Y cyfarfodydd darllen, yr ymddiddanion parhaus yn ei ieuenctid ar faterion diwinyddol — y pethau hyn a ffurfiasent Daniel Owen yn y blynyddoedd pan y mae dyn yn fwyaf agored i argraff.

Pan ddaeth pregethau Robertson o Brighton allan, cafodd y fath fwynhad ynddynt, drachtiai mor awyddus ohonynt, ac adroddai hwynt gyda'r fath rym fel y mentrwn amau a ddarfu i Robertson ei hun eu traddodi yn well. Ei fam, fel y dywedodd ef ei hun, oedd "Mari Lewis," ei brif chwedl, ac yr oedd effaith ei bywyd arno yn neillduol o fawr. Bu yn dilyn moddion cyhoeddus crefydd—gydag ychydig o ataliadau- o’r amser ei brentisiaeth, pan y gorfodid ef gan Angell Jones i fynd iddynt deirgwaith bob Sabath, a phob tro yn yr wythnos, a gwleddai ar bregethau da. Yr oedd yn fyw o deimlad "naturiol" hefyd, ac yn fy w iddo i raddau eithriadol Ail deimlai deimladau lu. Deallai ddynion oeddynt, fel y dywedwn yn gyffredin, yn hollol wahanol i'w gilydd. Ie, deallai hwynt yn well nag yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn eu deall eu hunain.

Bydded i chwi osod o'i flaen rai o syniadau uchaf pregethwyr gorau, neu y beirdd uchaf, yn y fan yr oedd ar ei aden, gyda'r gwroniaid eu hunain, ond pwy a deimlai ddiddordeb mwy yn Edward Sibian a holl oddities y dref? Bydded i chwi adrodd profedigaethau neu lawenydd rhywun, yr oedd efe ynddynt, ac yn eu canol ar y funud, fel y mae greddf mam yn treiddio i, ac yn taenu dros, ond yn myned tu hwnt i brofiad ei phlentyn. Achosion eglwysig, achosion trefol, achosion teuluaidd, teimladau yr hen a'r ieuainc, y dwys a'r digrif, nid oedd dim, o'r bron yn y cylch y troai efe ynddo, nad oedd yn cael atsain a chydymdeimlad yn ei galon ef, ac yn derbyn bywyd newydd yn ei eiriau. Yr oedd yn fwy nag un o'i lyfrau, ac na hwy oll gyda'u gilydd. Dywed yn ei Hunangofiant fod y siop weithio yn fath o goleg iddo. Yr oedd felly i raddau nodedig. Yr oedd y siop honno yn un o'r mannau mwyaf deffroadol i'r meddwl yn yr holl dref; ie, tybed nad allem ddweud yn yr holl wlad. Anghyfiawnder cymdeithasol, athrylith farddonol, teilyngdod awdwyr, cerddoriaeth—byth a hefyd torrai y gweithdy allan yn un oriel o felodaidd gwirioneddol—gwleidyddiaeth, ac hefyd diwinyddiaeth—byddai ymwneud llawn o ynni â hwynt oll. Swyn neillduol y cwbl oedd y caech yno siarad oedd yn boeth o'r galon, heb ddim celu anawsterau, heb ddim arbed yr hyn a fernid yn an-reswm, na dim o driniaeth y menig kid. Ymgyrch am fywyd ydoedd. Yr oedd ei brif nodwedd, ymdafliad at wirionedd, yn cael y bwyd a garai yno am flynyddoedd. Ond nid athrylith, nac eangder teimlad, a roddant gyfrif am agosrwydd cyson at y gwir. Pa fodd y bu i Daniel Owen, drwy oes o agos i drigain mlynedd, gadw y cariad hwn at wirionedd, a'r gallu hwn i'w weled ? Nid oes ond un ffordd i'w gadw, bydded gallu dyn yr hyn a fyddo. Rhaid bod gogwydd moesol y galon tuag at y gwir. Rhaid bod disgyblaeth sydd yn dewis y gwir yn cael ei pharhau. Rhaid bod enaid sydd yn dal i feddu gwelediad ohono yn un sydd yn dal i wrthod ei werthu am weniaith, am arian, am ddyrchafiad mewn cymdeithas. Rhaid ei fod yn un nad yw balchder yn sychu ei gydymdeimlad, na hunan yn ei bellhau oddi wrth ei ryw, nad yw ofn yn diffodd ei obeithion na pharch yn ei suo i hunanfoddhad. Un o'r bobl oedd Daniel Owen yn ei haniad, ac un ohonynt a fu, yn ei feddyliau, ac yn ei ymhyfrydiad ar fyd ei oes. Cof gennym iddo gael ei ddewis i ateb dros y gweithwyr mewn cyfarfod gwleidyddol bwysig yn ei dref, pan oedd Syr Robert Cunliffe, a doniau eraill ymhlith y siaradwyr. Gweithiwr oedd Daniel Owen ei hun y pryd hwnnw, ond ei araith ef oedd yr orau o gwbl. Yr oedd mwy o grit ynddi, ys dywed y Sais, nag yn un arall. Efe oedd y pencampwr o ddigon. Dros ei gydweithwyr, ac ar eu rhan y siaradai y noson honno, a chyda'r gweithwyr a'r bobl gyffredin y bu fyw ei fywyd hyd y diwedd. Mor ddieithr yw y meddwl, ac eto mor wir, y galliasai efe, fel eraill, gael mwy nag un ffordd at fywyd llai beichus. Ond ni symudodd fodfedd tuag at ddim o'r fath beth. Ni themtiodd ei lwyddiant ef i geisio cyfeillion mwy cyfoethog. Ni arferai weniaith i geisio ymgodi, ni phellhaodd oddi wrth drueiniaid y ddaear. Yn yr ystafell tu ôl i'r shop, neu y gegin gul gartref, ar ôl holl oriau ei lafur, y gwelai ei gyfeillion ef yn ysgrifennu Rhys Lewis, ac yno y cawsant ef yn hollol yr un un wedi i'w glod daenu drwy Gymru, ac wedi iddo gael ei wneud yn Ustus Heddwch, ag eistedd gyda mawrion y tir. Gwerthodd y tŷ—nid oedd yn fawr—a godasai iddo ei hunan ychydig o'r dref , a daeth yn ôl i ganol ei gyd-ddynion drachefn. Ni chlywodd neb am dano yn gwneuthur tro "gwael," yn crafangu am elw, yn troi ei gefn mewn ymchwydd ar un o'i gyd-ddynion, yn deffro digasedd drwy fudr-falchder. A gadwir i lawr falchder i'r fath raddau heb grefydd ? Cafodd lawer o'r gwir, ond cafodd ef am iddo ei garu, ac ymlynu wrtho. Ond rhaid ymatal; pan gofiwn y dirfawr dlodi a fu yn rhan iddo am lawer o flynyddoedd, pan feddyliwn mor hynod o brin oedd yr holl amser a gai i ddarllen ac i feddwl, i dderbyn gwybodaeth ac i'w roddi pan ystyriom am ei wendid corfforol, a'i faith anallu, rhaid gollwng teimlad i mewn ag y mae ei newydd-deb yn un o'r profion gorau o fawredd Daniel Owen—syndod aruthr. Tra yr oedd gyda ni, ymddangosai yn beth mor naturiol iddo fod yr hyn ydoedd, mai ychydig o syndod a deimlid gan neb. Ond yn awr gwelwn mai yr esboniad cymhwysaf, a'r unig un priodol ar ei allu rhyfedd, yw mai rhodd Duw ydoedd Daniel Owen. Yr oedd yn greadur ar ei ben ei hun. Y cyfaill pur! Yr oedd ei enaid fel tannau telyn arian i rai o deimladau cryfaf, tyneraf, dyfnaf ac uchaf natur dyn. Profodd arteithiau newyn am flynyddoedd. Gorchfygodd hwy trwy ei lafur gonest ei hun. Teimlodd i'r byw, droeon di-rif, dan ddylanwadau llais y nef. Ymgeisiai rhag ysgrifennu un gair a lygrai Enynnodd a llefarodd ganwaith dros ei ryw, ac yn erbyn anwiredd. Plygai ei galon yn isel o flaen pob gwir sancteiddrwydd. Dyrchafwyd ef gan ei holl genedl Ond aeth ei wedd yn ofnus ac ingol pan agosâi at y cyfnewidiad mawr. Ymgrymai a dychrynai o flaen y Purdeb ofnadwy at yr hwn y dynesai. Dwys weddïau yn ei oriau olaf! Nid dieithr oedd iddo ymbil ar Dduw. Pa le yr êl un ysbryd ond lle yr esgynnai ei ddymuniadau dyfnaf, a phwy a'i hadwaenai a all amau pa le, er holl amrywiaeth ei feddyliau, yr a'i dwys ddyhead ei galon ef.

DESGRIFIAD O DANIEL OWEN.

(Gan Mr. John Lloyd (Crwydryn), Treffynnon.)

WELE ddisgrifiad a ymddangosodd o Daniel Owen yn y County Herald, Mehefin 10fed, 1887, gan un a alwai ei hun Crwydryn, sef Mr. John Lloyd o Dreffynnon:—

"Tra yn edrych arno, meddyliem' fod pwy bynnag a roddodd fodolaeth i'r ymadrodd fod 'naw teiliwr yn gwneud un dyn' yn dra anadnabyddus o holl 'ferchyg y nodwydd' yn Sir Fflint, neu ni fuasai byth yn rhyfygu gwneuthur sylw mor gyfeiliornus. Pe yn adnabod un ohonynt, yr ydym ar fedr cyfeirio ato, galliasai yn hawdd aralleirio'r frawddeg, a dweud fod yr un teiliwr hwn yn well na llawer naw dy/ a'r dynion hynny heb fod yn rhai cyffredin ychwaith. Ni wastraffodd natur gnawd ac esgyrn iddo. Lled gynnil, mewn gwirionedd y bu yn ei dosraniad o'r naill a'r llall Er wedi ei gynysgaeddu â chorff eiddil, cyfrannodd yn ddibrin iddo ddarfelydd y buasai degwm ohono yn gynhysgaeth gyfoethog o oes i oes i lawer o feib awen ei wlad. Nid ydyw yn ieuanc, a phell ydyw o fod yn hen. Mae, er hynny, yn agosach i gyffiniau y tymor diweddaf na'r cyntaf , canys y mae lluosogiad y gwallt a'r cernflew gwynion yn tystio ei fod bellach wedi cyrraedd tiriogaeth yr 'hen lanc' Mae hefyd yn ymarferol wedi trosglwyddo ei hunan i'r dosbarth ystyfnig hwn o blant dynion. Ganwyd ef, fel y cyfeiriwyd eisoes, yn y dref a breswylir ganddo, ac er ei fod bellach yn rhagor na llawn deugain mlwydd oed, y mae yn rhy werthfawr a dwfn ei barch yn ei ardal enedigol iddi roddi llythyr ysgar iddo. Ynfydrwydd mewn ardal ydyw ffarwelio â'i henwogion, ac y mae ef yn ddiddadl yn un o'r cyfryw. Pwy feddyliai wrth sylwi arno yn cerdded yn hamddenol hyd heolydd yr Wyddgrug, gydag un llaw ym mhoced ei lodrau a'r llall yn ymrwyfo yn araf wrth ei ochr; ei ben, ar yr hwn y mae het jim crow ddu, yn cyfateb i'r wisg sydd fynychaf am dano, yn ogwydd mewn gostyngeiddrwydd arwyddocaol o'r enwad y perthynai iddo; ei ddau lygad bychan chwareus yn tremio i bob cyfeiriad—pwy feddyliai mai y gŵr cymharol ieuanc yna yr olwg ydyw awdur Rhys Lewis? Eto dyna fe. Pwy mor ddiymhongar, gwylaidd, ie, mor ddiddichell ? Er ei fod yn aml, aml, yn 'nhir neilltuaeth' yn ei fasnachdy, eto gadawer iddo eistedd yno wrth y pentan, penelin ei fraich ddeheu ar y bwrdd, a chetyn cwta rhwng ei ddannedd, a chydymaith gerllaw yn eistedd ar hen gadair ag y mae ei chefn wedi ei ysgar oddi wrth ei chorff . . . yn yr ymgom bydd wedi anghofio ei unigedd yn llwyr.. Mor ddifrifol yr edrycha ym myw ein llygad ! Gyda'r fath oslef y traetha ei syniadau o barthed i wahanol faterion ac amgylchiadau ! Treigla amser yn ei gwmni diddan bron yn ddiarwybod. Er yn ymwybodol ein bod ym mhresenoldeb 'gŵr mawr/ eto mae ei agosrwydd atom yn peri i ni deimlo yn berffaith glir rhag cyfeirio dim ato ei hunan, nac utganu clod ei alluoedd. Disgyblaeth ragorol i ddifa hunaniaeth llawer un fyddai treulio ychydig oriau yn athrofa Gostyngeiddrwydd gydag awdur Rhys Lewis"

HANES EI WAITH LLENYDDOL

.

DODWN yma hanes byr o ymddangosiad ei weithiau llenyddol. Gellir dweud mai ar ôl i'w fywyd cyhoeddus ddod i derfyniad, o'r hyn leiaf fel pregethwr, y dechreuodd ei yrfa lenyddol. Ar ôl i'w iechyd dorri i lawr yn 1s76, a phan yn dihoeni am fisoedd, dechreuodd, ar gymhelliad taer y Parch. Roger Edwards, ysgrifennu ei bregethau i'r Drysorfa. Byddai yn feius ynom yn y lle hwn i beidio talu gwarogaeth i graffter hen olygydd hybarch y Drysorfa. Nid oedd Daniel Owen ond pregethwr ân- ordeiniedig, ac mewn cymhariaeth yn ddi-nod. Teg yw dweud iddo dynnu sylw arbennig rai o'n cynulleidfaoedd mwyaf deallgar. Y mae yn sicr nad ystyriai neb ef yn bregethwr poblogaidd; ond yr oedd y Parch. Roger Edwards yn abl i weled fod yna elfennau eithriadol yn y gŵr ieuanc yr oedd afiechyd wedi selio ei enau. Diau hefyd fod Mr Edwards yn ei gymell i ymgymryd ag ysgrifennu ei bregethau er mwyn ei dynnu allan ohono ei hun, oblegid yr oedd yr afiechyd wedi effeithio ar ei nervous system i'r fath raddau nes peri iddo ymdeimlo ag ef ei hun yn barhaus. Adwaenir y Parch. Roger Edwards fel dyn cryf, ac un a gymerodd ran fel arweinydd yn Nghyfundeb y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd Cymru am flynyddoedd lawer; ond wrth graffu ar ei hanes yn y dref hon, gwelwn fod yna haen ddofn o dynerwch yn ei natur. Ac ni ddylid anghofio ei ofal tadol am y pregethwr ieuanc disyml a gododd megis wrth ei draed Drwy anogaeth, os nad dirwasgiad y golygydd, yr anfonodd Daniel Owen y pregethau a alwyd yn " Offrymau Neillduaeth " i'r Drysorfa. Enillasant sylw ar unwaith. Er ei fod wedi pregethu rhai ohonynt yn y cynulleidfaoedd, eto, ni ddarfu iddynt gynhyrchu y fath sylw a phan yn ymddangos ar ddalennau y Drysorfa. Wedi hyn ysgrifennodd ychydig o frasluniau Methodistaidd i'r un cyhoeddiad, ac yn fuan cyhoeddwyd yr Offrymau Neillduaeth a'r brasluniau yn un gyfrol. Efallai mai un o'r pethau a roddodd fwyaf o foddhad i'r awdur y pryd hwn oedd, gwaith Dr. Edwards yn ysgrifennu llythyr o gymeradwyaeth o'r llyfr i'r Goleuad. Teimlai yr awdur fod cael canmoliaeth gan y fath ŵr yn ganmoliaeth yn wir, oblegid yr oedd Dr. Edwards yn sefyll bron mor uchel fel beirniad llenyddol ag ydoedd fel diwinydd. Ac nid ar air yn unig yr oedd y Doctor yn canmol, ond cymerodd 60 o gopïau o'r llyf r ei hunan, er mwyn eu rhannu rhwng efrydwyr y Bala, ac eraill. Yn ddilynol i hyn, gwasgwyd ar Daniel Owen i ysgrifennu ffugchwedl i'r Drysorfa. Ymddengys mai i Proff. Ellis Edwards yr ydym yn ddyledus am y syniad hwn. Yr oedd Proff Edwards wedi cael mantais arbennig i adnabod teithi meddwl ei gydymaith. Cyfeillachasant lawer a'u gilydd ar hyd y blynyddoedd; ac ar ôl i'r brasluniau ymddangos, cymhellodd ei dad, y Parch. Roger Edwards, i geisio gan Daniel Owen i ysgrifennu ffugchwedl Ac er iddo wrthod yn bendant ar y cyntaf, ni fynnai Mr Edwards ei nacáu; ac ar amlen y Drysorfa yn niwedd y flwyddyn 1878, gwelwyd hysbysiad y byddai y "Dreflan, gan Daniel Owen," yn ymddangos yn y flwyddyn ddilynol Eiddo y Parch. Roger Edwards yw y teitl, ac y mae bron yn sicr mai i'w ddylanwad ef ar yr awdur y rhaid priodoli ymddangosiad y Dreflan.

Yr oedd ymddangosiad novel mewn cylchgrawn crefyddol fel y Drysorfa yn newyddbeth yng Nghymru. Y mae yn wir fod y golygydd ei hun wedi portreadu amryw o hen gymeriadau a adwaenai pan yn llanc yn sir Feirionydd dan y pennawd "Y tri brawd a'u teuluoedd," eto nid ffugchwedl ydoedd.

Dyma fel y cyfeiria y golygydd at y mater hwn yn ei Ragymadrodd i'r Dreflan, pan ei cyhoeddwyd yn llyfr ar wahân yn y flwyddyn 1881; cyhoeddedig gan Feistri P. M. Evans a'i Fab, Treffynnon: "Dichon fod rhyw ychydig nifer o bobl dda yn meithrin gwrthwynebiad ddwyn allan wirioneddau crefyddol mewn adroddiadau neu storïau fel y ceir yma. Ond os rhydd y cyfryw ddarlleniad trwyadl i'r Dreflan, hwy a welant nad oes ynddi ddim yn annaturiol neu yn anghymeradwy, megis y mae mewn llawer o ffugchwedlau; ac yn y llyfr hwn hefyd cyflwynir lliaws o wersi daionus i rai nad ânt i edrych am danynt mewn pregethau, traethodau, ac esboniadau."

Yn ddilynol cawn ef yn dechrau ar Rhys Lewis. Gwnaeth hyn, meddai, am na adawai y golygydd lonydd iddo. Cymerodd y ffugchwedl hon dair blynedd i ymddangos. Ysgrifennai bennod ar gyfer bob mis i'r Drysorfa, heb fod ganddo ddim wrth gefn, Wedi ei chwblhau cyhoeddwyd hi yn llyfr 4/-,gan yr awdur, a gwerthwyd dwy fil o gopïau, sef yr holl argraffiad mewn chwe mis. Y mae yn amheus a gafodd dim ei ddarllen mor awchus â chyffredinol yng Nghymru a Hunangofiant Rhys Lewis. Parodd ei hymddangosiad yn fisol yn y Drysorfa gynnydd mawr yng ngwerthiant y cylchgrawn hwnnw, a'r fath oedd swyn a phoblogrwydd y ffug-chwedl, fel yr aeth y Drysorfa yn hysbys tu hwnt i ffiniau y Methodistiaid. A phan gyhoeddwyd Rhys Lewis yn llyfr, yn 1885, gellir dweud iddo gael ei ddarllen gan bawb o fewn Cymru a deimlant ddiddordeb yn llenyddiaeth eu gwlad. Gwerthodd y copyright i Feistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, a dygasant hwythau ailargraffiad, gyda nifer o ddarluniau allan. Y mae yr argraffiad hwnnw bellach wedi ei ddihysbyddu.

Oddeutu wyth mlynedd yn ôl ymddangosodd cyfieithiad Seisnig o Rhys Lewis. Nis gellir dweud fod hwn wedi bod yn llwyddiant. Nid oedd y cyfieithydd yn gyfarwydd ag ystyr fanwl yr hyn a ysgrifennai, ac o ganlyniad, llawer o gamgymeriadau digrifol a wnaed ganddo mae yn amheus hefyd a oedd yn bosibl rhoddi cyfieithiad da o'r fath lyf r a Rhys Lewis. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, na chafwyd un yn y cyfieithiad a ymddangosodd yn y flwyddyn 1888.

Cyhoeddwyd gan Mr. John Lloyd Morris, yr Wyddgrug, gasgliad o'r amryw ddarnau o'i waith, yr hwn a elwid y Siswrn, a chyhoeddwyd ail-argraffiad ymhen amser. Yn y flwyddyn 1890, dechreuodd ysgrifennu Enoc Huws i'r Cymro. Diau mai i daerni a symbyliad golygydd y Cymro y dylid priodoli ymddangosiad Enoc Hughes. Ar ôl iddi oll ymddangos drwy y Cymro, prynwyd y copyright gan Feistri Hughes a'i Fab.

Ymddangosodd cyfieithiad da o Enoc Huws yn Wades, gan yr Anrhydeddus Claud Tivian, dan olygiaeth O. M. Edwards, M.A., Rhydychen.

Ar ôl gorffen Enoc Hughes gawn ef yn dechrau ar unwaith ar ysgrifennu Gwen Thomas i'r Cymro,—copyright o'r gwaith hwn a brynwyd drachefn gan Feistri Hughes a'i Fab. Ysgrifennai storïau bychain i'r Cymro yn lled fynych, y rhai a gyhoeddwyd ganddo yn llyfr, dan yr enw Straeon y Pentan. Gwelir oddi wrth yr uchod mai yn rhannau misol neu wythnosol yr ymddangosodd ei weithiau ar y cyntaf. Y mae bron yn sicr nas gellid cael ganddo i ysgrifennu ond yn y modd hwn. Ysgrifennai ddogn mis yn ei fis, heb edrych dim tu hwnt i hynny. Ysgrifennai y Dreflan a Rhys Lewis ar ôl myned gartre, a mynych y byddai yn aros i fynnu hyd oriau y bore i gwblhau y bennod. Pan yn ysgrifennu Enoc Huws a Gwen Thomas ysgrifennai yn y masnachdy, yng nghanol ei oruchwylion, pryd y torrid ar ei heddwch yn barhaus. Pan elwid arno o'i ystafell gefn i weini ar gwsmeriaid, gadawai y M.S. ar y bwrdd, a dychwelai yn ôl i ail-ymaflyd yn ei waith. Ac weithiau canfyddai fod rhai o'i gyfeillion direidus wedi bod a llaw yn y gwaith.

DANIEL OWEN

FEL

YSGRIFENNYDD

YN y sylwadau dilynol ceisiwn nodi allan rai o nodweddion Daniel Owen fel ysgrifennydd, a thrwy hynny ateb y cwestiwn, - Pa beth sydd yn cyfrif am boblogrwydd ei weithiau? ac ymhellach, ceisiwn ymofyn, - Beth yw dylanwad ei ysgrifeniadau ar y wlad? Diamau y rhaid priodoli graddau o'i boblogrwydd i'r ffurf ffug-chwedleuol yr ysgrifennai ynddi Gwestiwn eang yw hwn, - Beth sydd yn cyfrif am boblogrwydd y dull hwn o ysgrifennu? yn enwedig yn y ffurf o ddisgrifiad o gymeriadau. Gwelir fod y ffurf hon yn boblogaidd ymhob gwlad wareiddiedig lle y maent wedi cyrraedd diwylliant meddyliol lled uchel Efallai y rhaid i wareiddiad gyrraedd aeddfedrwydd neilltuol cyn y rhoddir bri arbennig i'r ffug-chwedl. Gellir dweud mai yr hyn yw arluniaeth mewn celf, dyna yw y ffugchwedl ddisgrifiadol mewn llenyddiaeth. Rhaid i genedl ddod yn ymwybodol o honni ei hun cyn y gall y math hwn o lenyddiaeth flaguro. Diau mai un o nodweddion amlycaf ein dyddiau ni yw hunanymwybyddiaeth. Y mae dynion yn fyw iawn iddynt eu hunain; ac yn chwilfrydig i wybod am eu gilydd. Y mae yn sicr hefyd fod yna fwy o dynerwch a chydymdeimlad ' yng ngwahanol gylchoedd cymdeithas. Diau fod yr amser yr ymddangosodd Daniel Owen yn fanteisiol i'r dull hwn o ysgrifennu. Nid oedd neb wedi ceisio disgrifio bywyd Cymru, yn enwedig bywyd crefyddol ein gwlad, oddieithr drwy fywgraffiadau, a rhaid cydnabod mai ychydig iawn o Gofiantau gwir lwyddiannus oedd wedi ymddangos cyn ymddangosiad " Hunangofiant Gweinidog Bethel." Credwn y buasai yn amhosibl i'w ysgrifeniadau ymddangos lawer cyn hyn. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, na fuasai ysgrifeniadau o'r natur yma yn cael derbyniad genhedlaeth yn ôl. Yn y deffroad mawr crefyddol yn y ganrif ddiweddaf, ac yn wir yn y blynyddoedd dilynol pan yr oedd y diwygiad hwnnw yn cymryd ffurf arhosol, nis gellid disgwyl cael disgrifiad ohono; yr oedd dynion yn bwy yn rhy agos ato; yn rhan ohono. Nid oeddynt eto wedi cael digon o amser ac o brofiad i'w galluogi i ddisgrifio eu bywyd eu hunain. Yn wir, ni oddefai angerddoldeb eu teimlad crefyddol iddynt i wneud hynny. Erbyn i Daniel Owen ymddangos yr oedd canrif wedi myned heibio er y Diwygiad Methodistaidd yng Nghymru. Yr oedd y genhedlaeth gyntaf o grefyddwyr yn y rhannau hyn o Gymru wedi myned i orffwys. Yr oedd atgofion am yr hen bobl yn llenwi lliaws o feddyliau eu holynwyr pan yr oedd awdur Rhys Lewis yn fachgennyn. Yr oedd man preswylfod yr awdur yn fantais iddo hefyd. Yr oedd yn byw yn agos i Glawdd Offa, yn ymyl y terfynau lle mae bywyd Seisnig a Chymreig yn cydgyfarfod. Cymreig, yn ddiau, ydoedd haen isaf bywyd tref yr Wyddgrug pan oedd ef yn ieuanc, eto yr oedd yr ysbryd Cymreig yn cael ei fywhau a'i symbylu gan y dylanwadau Seisnig a lifant i'r lle drwy fasnach a'r gweithfeydd glo a mwynol. Tra na chafodd y rhanbarth hwn o Gymru ei orlifo gan y llanw Seisnig, megis Maesyfed a rhannau o Maldwyn, eto, daeth yr ysbryd â'r bywyd Cymreig i gyffyrddiad, os nad gwrthdrawiad â syniadau a theimladau gwahanol iddo ei hun, a thrwy hynny daeth y Cymry, efallai, yn fwy ymwybodol o'u nodweddion arbennig eu hunain. Diau y gwelid y duedd hon yn fwy cyffredin yn y rhannau hyn nag yn y siroedd pellaf o derfyn Lloegr. Yr un modd ceir fod yr Ysgol Ysgotaidd o nofelwyr yn disgrifio cymeriadau oeddynt yn byw yn rhannau isaf Scotland, ar y terfyn rhwng y ddwy wlad, ac y mae rhai o'r cymeriadau cryfaf, mwyaf trawiadol a ddisgrifir yn rhai oeddynt wedi dod i lawr o rannau mwy Celtaidd o'r Alban. Heblaw bod yr amser, ac hyd yn oed lle ei breswylfod yn fanteisiol iddo, dylid ychwanegu fod amgylchiadau bywyd yr awdur ei hun yn gyfryw ag i ddyfnhau ynddo y duedd i ddarlunio cymeriadau â bywyd crefyddol ei wlad Yr oedd wedi ei orfodi gan afiechyd i gilio, bron yn hollol, o bob gwaith cyhoeddus; anfonwyd ef i "dir neilltuaeth," a phriodol y galwai y pregethau a ymddangosent yn y Drysorfa yn "Offrymau Neillduaeth." Sylwa Froude, mai wedi i Bunyan ymneilltuo o'i waith cyhoeddus i dawelwch carchar Bedford, y daeth i ysgrifennu y darlun anfarwol a roddodd o fywyd crefyddol y Piwritaniaid yn Nhaith y Pererin. Yr un modd yn ein dyddiau ni. Wedi i rai o'r ysgrifenwyr Ysgotaidd, megis Stevenson a Ian Maclaren ymadael o'u gwlad, y cafwyd ganddynt y disgrifiadau o'r cymeriadau a welsant yn eu hen gartre. Y mae yn amheus iawn gennym pe buasai iechyd Daniel Owen wedi parhau yn gryf, fel ag iddo allu myned ymlaen gyda gwaith y Weinidogaeth, y cawsem y Dreflan a Rhys Lewis. Pan yr ydoedd yn hanner ei ddyddiau gwanhawyd ei nerth, ac i fesur mawr edrychodd a sylwedydd a fu am y gweddill o'i fywyd, a ffrwyth y cyfnod hwn yw y llyfrau sydd wedi gwneud ei enw yn un teuluaidd drwy Gymru.

I ba beth y priodolir ei boblogrwydd fel ysgrifennydd? Nid oes amheuaeth na chafodd Rhys Lewis y derbyniad mwyaf awchus a chyffredinol o'r un llyfr Cymraeg ar ei ymddangosiad cyntaf. Daeth y Drysorfa oedd yn gyfyngedig i aelwydydd Methodistaidd yn hysbys drwy yr holl wlad. Cododd rhif ei derbynwyr yn fawr; ac wele drydydd argraffiad o'r llyfr yn ymddangos, a hynny o fewn ychydig flynyddoedd. Diau fod mwy nag un ateb i'r cwestiwn,—Pa fodd y rhoddir cyfrif am y derbyniad roddwyd iddo? Nodwn yma rai atebion. Tybiwn y rhaid priodoli rhyw gymaint o'r poblogrwydd hwn i'w arddull; tra yr oedd arddull ysgrifenwyr Cymreig y rhai a ddarllenid gan liaws ein gwlad - yn tueddu i fod yn drymaidd, os nad clogyrnaidd, neu ynte yn rhy glasurol i gydio yn meddwl darllenwyr cyffredin. Yn y nofelau hyn, o'r tu arall, wele Gymraeg yn cael ei ysgrifennu mewn modd syml a hynod digwmpas. Pe gofynnid, - Beth yw nodwedd arbennig ei arddull? Buasem yn ateb - uniongyrchedd (directness.) Gellir, yn sicr, gymhwyso ato ef y dywediad " yr arddull yw y dyn;" yma gwelir cymeriad dirodres yr awdur yn llewyrchu drwy ei arddull. Ysgrifennai fel y byddai yn siarad, a phan mewn cywair lled dda, ac mewn cylch bychan, llefarai yn dra effeithiol. Yr hyn a hynodai ei siarad, yn ddiau, ydoedd priodoldeb; yr oedd yn siarad i'r pwynt; yr oedd ei ymadroddion " fel hoelion wedi eu sicrhau;" felly hefyd pan yn ysgrifennu. Yr oedd wedi ennill y feistrolaeth hon ar ysgrifennu Cymraeg drwy fod yn ffyddlon iddo ei hun, a thrwy ymarferiad lled gyson ag ysgrifennu a siarad er pan ydoedd yn llanc Ni phetrusai ddwyn i mewn hen eiriau Cymraeg cryfion - geiriau a blas Cymreig arnynt. (Pan ofynnwyd iddo gan gyfaill, - Pa le yr oedd i wedi dod o hyd i'r hen eiriau hyn? Atebai mai gan ei f am y clywodd hwy. Diau ei bod hithau wedi eu clywed yn ei chartref yn Nyffryn Clwyd, yn ogystal ag yn yr hen ganeuon Cymreig ydoedd mor hoff o drysori yn ei chof. Darfu iddo hefyd roddi lliw lleol ar ei arddull drwy ddwyn i mewn lliaws o eiriau ac ymadroddion a ddefnyddid yn bennaf yn Sir Fflint Y mae yn hysbys fod disgrifiadau o gymeriadau gwahanol rannau o Brydain, pan wedi eu hysgrifennu ym mhriod-ddull y rhan honno o'r wlad, megis Lancashire, yn dra phoblogaidd gyda'r darllenwyr. Nid oes amheuaeth nad yw poblogrwydd nofelau Scotaidd i’w briodoli, i raddau, i waith yr awdwyr yn dwyn i mewn geiriau ac ymadroddion sydd allan o'r ffordd gyffredin. Yr ydym wedi clywed llawer yn ystod y blynyddoedd diweddaf am Gymraeg Rhydychen, a gwyddys pa mor boblogaidd y mae wedi dod er gwaethaf yr ysgwyd pen gan geidwaid y Gymraeg; y mae dull Mr O. M. Edwards, ac eraill o ysgrifennu, yn wrthweithiad amlwg oddi wrth yr ' hen ddull trymaidd. Y mae yr ysgol newydd hon wedi llwyddo i ysgafnhau yr arddull Gymreig, a theg yw cofio mai Daniel Owen ydoedd un o'r rhai cyntaf o'n hysgrifenwyr adnabyddus i dorri tir newydd yn y cyfeiriad hwn. Wrth ddarllen llyfrau Daniel Owen, teimla y gwerinwr ei hun gartre, tra y teimla ei hun yn fynych yn gyffelyb i un yn darllen iaith ddieithr wrth ddarllen aml i lyfr Cymraeg. Y mae ei weithiau yn hawdd eu deall, bron na ddywedem nas gellir camgymryd y meddwl; y mae felly, nid yn unig o herwydd y geiriau syml a chartrefol a ddefnyddir, ond o herwydd chlirder yr arddull - y bare style fel ei gelwir. Gwelir grym ei arddull os cymharwn y cyfieithiad Saesneg o'i weithiau â'r Gymraeg; hyd yn oed yn y rhannau hynny lle y mae y cyfieithiad yn hollol gywir a phriodol, teimlir fod yna rhyw elfen wedi ei cholli oedd yn ein swyno yn y gwreiddiol. Efallai y tybir ein bod yn rhoddi gormod o bwys ar arddull yr awdur ond dylid cofio fod ei ddull arhennig ef o ysgrifennu yn llawer llai cyffredin bymtheng mlynedd yn ôl nag ydyw heddiw. Y mae ei weithiau hefyd yn ffrwyth sylwadaeth; nid creadigaethau wedi eu nyddu o ymysgaroedd ei ddychymyg ei hun ydynt Yr oedd Daniel Owen wedi ei ddonio â gallu eithriadol i sylwi, gwelai y digwyddiadau lleiaf; ac er nad oedd yn hynod am ei allu i gofio ffeithiau, eto cadwai afael tyn yn yr argraffiadau a wnaed ar ei feddwl; yr oedd yn un y gellid dweud am dano ei fod yn man of observation, chwedl y diweddar Richard Humphreys o'r Dyffryn, a medrai gyfleu ffrwyth ei sylwadaeth gyda y cywirdeb mwyaf. Treuliodd ei fywyd mewn cylch hynod gyfyng - ac eithrio'r ddwy flynedd a hanner y bu yn Athrofa y Bala - yn yr Wyddgrug y treuliodd ei holl fywyd. Sylwa George Eliot, yn un o'i gweithiau, mai mantais fawr i ddyn yw cael ei gau i mewn i gylch cyfyng yn dechrau ei fywyd, ei fod drwy hynny yn dod i adnabod y byd yn well, ac hefyd ' fod ei wybodaeth am y cylch bychan y dygir un i fynnu ynddo yn agoriad i'r oll o fywyd. Pa fodd bynnag am hynny, yr oedd y nofelydd yn un hynod o gartrefol, fel y dywedir mai rhan neilltuol o Lundain ydoedd byd Dr Johnson, felly, yn sicr, y gellir dweud mai yr Wyddgrug ydoedd byd Daniel Owen; y mae delw y dref bron ar bob tudalen a ysgrifennwyd ganddo yn y Dreflan a Rhys Lewis. Nid oedd ynddo nemor o awydd teithio; yn wir, nid oedd gan olygfeydd nemor o swyn iddo. Wrth ddarllen ei weithiau ni chyfarfyddwn braidd byth a disgrifiadau o brydferthwch natur; bron nad ymddengys yn ddall iddynt; plant dynion ydoedd ddiddorol iddo ef. Darllenai braidd yr oll o'r papurau Cymreig yng Ngogledd Cymru, a rhai o newyddiaduron Cymreig y Deheudir a'r Unol Daleithiau. Anfynych y gwelwyd neb yn mwynhau cymdeithas eu cyd-ddynion yn fwy; er hynny, ni chymerai fantais ar ei gyfeillion i awyro ei syniadau ei hun. Medrai wrando; a hoff iawn oedd ganddo glywed newyddion; yr oedd pob math o ddynion yn ddiddorol iddo. Er nad ellid dweud ei fod erioed wedi gwneud llawer o gyfeillion mynwesol, yn enwedig ar ôl blynyddoedd ieuenctid[7] eto yr oedd ganddo gydnabyddiaeth eang o fewn cylch ei gartre. Y fath ydoedd ei ddiddordeb mewn eraill, fel yr ymddiriedai llawer iddo eu cyfrinion. Gwnelai i'r mwyaf cyffredin ei gyraeddiadau deimlo yn gartrefol yn ei gwmni, a chymerai ddiddordeb byw yn amgylchiadau pawb o'i amgylch; ac y mae yn sicr gennym fod ei ymadawiad wedi peri gwacter ym mywyd llaweroedd. Canfyddai yr elfennau da, a hynny mewn cymeriadau amhoblogaidd neu ddiffygiol; a gallai ddisgrifio yr hyn a welai. Prin, hwyrach, y gellid dweud fod ei farn yn gryf; yr oedd yn ddiffygiol mewn cydbwysedd, a chai ei gario ymaith gan ei deimladau fel y cyffredin ohonom. Yr oedd yna rywbeth human iawn ynddo yn yr ystyr hon. Ffrwyth ei sylwadaeth, gan hynny, yw llawer o'r hyn ysgrifennwyd ganddo - "y pethau a welodd dan haul," - a dyma un rheswm am y swyn sydd yn ei weithiau i liaws ein gwlad. Disgrifia gymeriadau tebyg i'r rhai yr ydym oll yn eu hadwaen. Cyfeiria y diweddar Barch. Roger Edwards at y nodwedd hon yn ei Ragymadrodd i'r Dreflan. Meddai:—

"Gwelir fod yr awdur yn sylwedydd craff ar y natur ddynol, ac ar gymdeithas grefyddol yn gyffredinol, fel, er nad oedd yn portreadu unrhyw bersonau neilltuol, fod ei ddisgrifiadau mor naturiol â phe buasai yn rhoddi hanes gwrthrychau byw oedd o flaen ei lygaid; yn wir, derbyniais fel golygydd y Drysorfa, lythyr difrifol, ym mha un y dywedai yr ysgrifenydd ei fod yn deall fod y cymeriadau a bortreedid yn y Dreflan wedi eu cymryd o'r plwyf yr oedd efe yn byw ynddo, ac felly, fod yr awdur 'yn ceisio pardduo un o'r llanerchau mwyaf moesol a chrefyddol ' yn ein gwlad, a'i waith o'r herwydd yn 'sothach enllibgar tra yr oedd y plwyf a nodid, a'r wlad o'i amgylch, yn hollol ddieithr i'n cyfaill. Wrth ddarllen y llythyr achwyngar hwn, nis gallaswn lai na meddwl am eiriau Solomon, - ' Megis mewn dwfr y mae wyneb yn ateb i wyneb, felly y mae calon dyn i
ddyn,' ac fel hyn rhaid bod y Dreflan yn darlunio egwyddorion a theimladau sydd yn gyffredin i ddynolryw mewn byd ac eglwys." Tra y mae y cymeriadau a ddisgrifir mor wirioneddol â phe buasent yn fywgraffiad, eto y maent yn enyn diddordeb mwy cyffredinol, o herwydd nad ydynt yn gyfyngedig i bersonau, lle, a'r amgylchiadau sydd yn arwahanol oddi wrth fywgraffiad.

Elfen arall a nodwn yw ei ysmaldod (humour). Nid oes a fynnom â deffinio beth yw humour Dadleua rhai bod yr elfen hon yn brin yn llenyddiaeth Cymru, ac mai nid yr un ystyr yn hollol a roddir i'r gair ysmaldod ag a roddir i'r gair Saesneg humour. Efallai fod rhywbeth yn hanes ein cenedl, yn wladol a chrefyddol, yn rhoddi cyfrif am hyn. Dichon hefyd nad yw yr iaith Gymraeg yr un mor gyfaddas i'r pwrpas hwn ag ydyw rhai ieithoedd eraill. Teimlir, pa fodd bynnag, fod yr elfen hon yn treiddio drwy ysgrifeniadau Daniel Owen, ac y mae yn elfen iachus ac adfywiol; nid oes yma chwerwedd gwawdlyd ar un llaw, tra hefyd y mae wedi ymgadw, ar y cyfan, oddi wrth ymadroddion di-chwaeth. Teimlir yr ysmaldod hwn, nid yn unig yn y cymeriadau digrifol, megis Wil Bryan, ond yn nisgrifiadau yr awdur o gymeriadau yn ymylu ar fod yn hurt, megis Thomas a Barbara Bartley, a Marged, ac yn arbennig yn ei wawl-luniau o John Aelod Jones, Jones y Plismon, ac Eos Prydain. Ysmaldod iachus a chwareus a geir yn y disgrifiadau hyn. Teimla y darllenydd fod llygaid yr awdur yn twinklo yn siriol arno mewn llawer man. Un wedd ar ei ysmaldod ydyw, drwy orliwio yr amgylchiadau, a hynny yn y fath fodd ag i adael y darllenydd wybod fod yr awdur yn ymwybodol o hynny. Nis gellir dweud fod ei ysmaldod bob amser yn berffaith naturiol; teimla un yn awr ac eilwaith oddi wrth ymgais yr awdur i fod yn ddoniol; y pryd hynny nid yw yn ffyddlon i'w arddull ei hun. Yr ydym yn dyfalu fod dylanwad Dickens i'w ganfod arno yn y rhannau hynny o'i waith, canys yr oedd yn edmygydd a darllenydd mawr o Dickens; a thra yr ydym yn barod i gyfaddef fod darllen Dickens wedi bod yn foddion i aeddfedu ei alluoedd fel ysgrifenydd, eto nid oedd yn efelychydd ymwybodol ohono. Nid efelychiad yw Rhys Lewis.

Elfen arall ydyw ei dynerwch (pathos). Diamau gennym mai dyma un o'r haenau dyfnaf yn ei weithiau, a'r elfen hon yn ei ysgrifeniadau sydd yn cyffwrdd dwysaf â chalon y darllenwyr a dyma a rydd gyfrif hefyd am yr afael gafodd rhai o'i weithiau, yn enwedig Rhys Lewis, ar liaws nad oeddynt erioed wedi teimlo unrhyw swyn mewn llenyddiaeth, yn enwedig yn ffurf o ffug-chwedl. Yr oedd yna elfen leddf a dwys yn gynhenid yn yr awdur, oblegid yr oedd yn Gelt trwyadl; ac yr oedd amgylchiadau trallodus ei febyd, ac yn enwedig ei afiechyd peryglus, wedi dwysau yr elfen hon ynddo. Y mae yna elfen o brudd-der yn treiddio drwy ei ysgrifeniadau islaw yr elfen chwareus. Teimlir yr un elfen yn Stevenson, y nofelydd Scotaidd, y mae y ffurfafen yn tueddu at fod yn bruddaidd, ac ar yr adegau mwyaf golau, ni adawir i ni anghofio yn llwyr fod yna gymylau tywyll ar y gorwel. I bresenoldeb yr elfen hon yn ei weithiau yr ydym yn priodoli poblogrwydd ei weithiau gyda'r canol oed, a'r oedrannus, — y rhai sydd wedi gorfyw breuddwydion mebyd ac ieuenctid, ac wedi profi troeon chwith yr yrfa. Yr oedd y nodwedd hon — y nodwedd gysurol y gellir ei galw — yn cyfodi o gydymdeimlad yr awdur â phobl dlodion ein gwlad, y profedigaethus a'r adfydus; yr oedd profiad ei fywyd ef ei hun wedi ei ddysgu i ddisgrifio treialon y dosbarth hwn— "They learn in sorrow what they teach in song". Yr oedd ar Gymru angen neilltuol am lenyddiaeth o natur gysurol, yr oedd llaweroedd yn dioddef mewn unigrwydd ar hyd a lled ein gwlad, ac yn sychedu am gydymdeimlad. Gwelsom amryw enghreifftiau o hyn; clywsom hen gwpl, rhai fuasent yn sefyll yn lle y gwreiddiol o Thomas a Barbara Bartley, yn dweud iddynt eu dau wylo llawer uwchben ei ddisgrifiadau; ac y mae rhai wrth anfon eu rhoddion at osod i fynnu y cerflun ohono yn cydnabod eu dyled iddo am y cysur a weinyddodd ei lyfrau iddynt Nis gellir dweud fod yn ei weithiau gyd-drawiadau hynod; nid yw yn enyn chwilfrydedd yn y darllenydd i wybod beth fydd y diwedd. Rhaid cydnabod nad oedd yn gelfydd yn ngweithiad allan ffug-chwedl, yr hyn a elwir yn gudd-amcan (plot); yr oedd ef ei hun yn ymwybodol o hynny, a chamgymeriad, ni chredwn, ydoedd iddo geisio at ddwyn i mewn rai o nodweddion y nofelau Saesneg i'w weithiau. Ei ymgais yn y cyfeiriad hwn sydd yn cyfrif am y ffaith nad yw rhannau diweddaf y Dreflan a Rhys Lewis yn gyfartal i'r rhan flaenaf. Diau ei fod yn fwy llwyddiannus yng ngweithdai allan y stori yn Enoc Huws a Gwen Thomas, er nas gallwn gydnabod eu bod yn gyfartal mewn gwir werth i'r nofelau cyntaf a nodwyd. Fel disgrifiad o gymeriadau Cymreig, ni chredwn y saif clod gweithiau Daniel Owen. Yn ei gyfarchiad i'r darllenydd yn dechrau Rhys Lewis, dywed yr awdur, "Os oes rhyw rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau yw hwnnw." Yn y Dreflan cawn ddisgrifiad o'r cymeriadau oedd yn byw yn yr Wyddgrug pan ydoedd ef yn ieuanc. Yn Rhys Lewis drachefn, nid oes amheuaeth nad oedd rhai o gymeriadau y dref o flaen ei feddwl pan yn tynnu darlun o Abel Hughes, y mae ar gael yn ysgrifen Daniel Owen ei hun mai ei fam ydoedd y gwreiddiol o Mari Lewis, er bod serch a thalent ei mab wedi ei hamwisgo â nodweddion na chanfyddid hwynt gan y cyffredin. Dywedir hefyd fod yna amryw o chwiorydd, "Mamau yn Israel," yn byw yn yr Wyddgrug yr amser hwnnw, a awgryment i'r awdur amryw o'r nodweddion a ddisgrifir mor fyw yng nghymeriad Mari Lewis; ac y mae y gafael cryf y mae y darlun hwn o fam Rhys Lewis wedi ei gael ar feddwl y darllenwyr yn brawf pa mor unol ydyw y disgrifiad ag atgofion cysegredig lliaws drwy Gymru. Y ddau gymeriad mwyaf adnabyddus, efallai, ydynt Wil Bryan a Thomas Bartley, er na ddylid anghofio Barbara Bartley.

Llawer o ddyfalu sydd wedi bod gyda golwg ar y gwreiddiol o "Wil Bryan." Y mae rhai wedi myned mor bell a nodi personau oedd yn cyfateb i'r disgrifiad. Y mae yn sicr, pa fodd bynnag, nad yw yr awdur wedi ceisio rhoddi portread o unrhyw un arbennig yn Wil Bryan cawsom ei dystiolaeth ef ei hun ar y pen hwn; ar yr un pryd, nis gellir dweud mai creadigaeth ei ddychymyg ef ei hun ydy w y carictor, yn hytrach, ffrwyth ei sylwadaeth a'i atgofion ydyw; yr oedd y cymeriad yn gynnyrch amgylchiadau neilltuol. Gwelir yn Wil Bryan wrthweithiad yn erbyn bywyd manwl a Phiwritanaidd, mewn un na allasai ymddiosg yn llwyr oddi wrth ddylanwadau crefyddol; ceid amryw, meddir, o'r type hwn yn y dref pan oedd yr awdur yn ieuanc. Dygwyd Wil Bryan i fyny mewn teulu ydoedd yn proffesu crefydd; yr oedd ei dad yn gwneud honiadau uchel yn gyhoeddus, eto nid oedd yna ddidwylledd crefyddol yng ngartre y bachgen cyflym ei gyraeddiadau; gwelodd anghysondeb rhwng proffes ei dad a'i ymddygiadau yn ei fasnach,; ac fel canlyniad tyfodd i fynnu, i raddau, yn wawdiwr o bethau cysegredig. Ceir yn ei gymeriad gyfuniad o wybodaeth am grefydd, ynghyd â hyfdra a dibristod wrth sôn am dani, ac eto, o dan y cwbl, yr oedd yna haen o onestrwydd yn ei gymeriad; yn wir, y gonestrwydd ' hwn, heb fod arweiniad priodol, a'i gwnaeth yn wawdiwr. Meddai Wil Bryan graffter a synnwyr i wahaniaethu, a daw yr ochr orau i'w natur i'r golwg yn ei barch gwirioneddol i'r fath gymeriadau ag Abel Hughes a Mari Lewis.

Y mae astudiaeth o gymeriad Wil Bryan yn awgrymu amryw o werai difrifol i'r darllenydd. Y mae yr hwn na wel ond yr elfen ddigrifol yn Wil Bryan, heb ganfod ond un ochr i'r cymeriad, a honno yr un fwyaf arwynebol Un peth, efallai, sydd yn taro y darllenydd, yn enwedig yn y rhannau mwyaf Cymreig o'n gwlad, yw cynefindra Wil Bryan â'r iaith Saesneg, fel eu gwelir yn y defnydd parhaus a wna o frawddegau Saesneg; nis gallasid gweled hyn ond mewn tref ar y terfynau rhwng Lloegr a Chymru; ac y mae Wil yn enghraifft o ddylanwad arwynebol bywyd Seisnig ar gymeriad Cymreig. Y mae yn amlwg fod gwybodaeth Wil Bryan o'r iaith Seisnig wedi bywiogi ei feddwl, a rhoddi iddo fath o hunanhyder nad allasid ei ddisgwyl mewn llanc o'r un safle yn y siroedd mwyaf Cymreig o'r Dywysogaeth. Credwn fod yr awdur yn dangos ei fedrusrwydd hefyd mewn dwyn cymeriad fel Wil Bryan i'w waith; y mae graddau o wit y cymeriad yn gysylltiedig â'r iaith. Diamau pe buasai y geiriau, ac yn enwedig y brawddegau Seisnig sydd yn britho ymddiddanion Wil Bryan yn cael eu gadael allan, y buasent yn colli llawer o'r awch a'r raciness sydd ynddynt.

Cofia llawer am ysgrifau y diweddar Mr. John Griffiths (Gohebydd Llundain), i'r Faner. Ni wnaeth un ysgrifenydd gymaint i ennill sylw ac ennyn diddordeb amaethwyr Cymru yng ngwaith y Senedd a'r Gohebydd; ac ni fuasai ei ysgrifau ef yn agos mor fyw oni bai am y pertrwydd gyda pha un y defnyddiau dermau Seisnig nad oedd cyfystyron dealladwy iddynt yn y Gymraeg.

Cymeriad arall sydd yn cystadlu mewn poblogrwydd â Wil Bryan ydyw Thomas Bartley, ac efallai na fethem wrth ddweud mai dyma gampwaith yr awdur. Y mae yna fwy o naturioldeb yn y disgrifiad nag yn Wil Bryan; dyma y portread perffeithiaf o weithiwr tlawd, anwybodus o Gymro Gwelir ymhob brawddeg gywirdeb a manylder sylwadaeth yr awdur; yr oedd wedi sylwi ar holl fywyd ac ysgogiadau Thomas a Barbara Bartley. Rheda elfen nwyfus a chwareus, wedi ei thyneru gan gydymdeimlad, drwy y disgrifiad; gwelwn yn Thomas Bartley fywyd syml yn troi o fewn cylch bychan, arferion cartrefol, llawenydd plentynnaidd, galar mud, ynghyd â synnwyr da yn, nghanol ei anwybodaeth, yn ogystal â charedigrwydd a lletygarwch Cymreig. Hynod mor gywir hefyd yw ei disgrifiad yr awdur o ddeffroad bywyd crefyddol mewn un o gyraeddiadau Thomas Bartley. Y mae yn amheus a ydoedd yn abl i olrhain datblygiad meddyliol cymeriadau fel Bob, - un ydoedd wedi ei daflu i amheuaeth yn neffroad cyntaf ei feddwl; ac yr ydym yn gorfod teimlo nad yw yr awdur wedi taflu nemor o oleuni ar ddatblygiad teimladau Wil Bryan tuag at grefydd. Cawn Bob yn marw yn ieuanc, a'r goleuni yn tywynnu ar ei feddwl yn niwl y glyn, tra y mae Wil Bryan yn aros yn ei unfan, cyn belled ag y gwelir yn Enoc Huws. Ni cheir gan Daniel Owen yr elfeniad manwl o ddatblygiad cymeriad fel a geir gan George Eliot neu George Meredith, mae'n wir, eto y mae yn gartrefol hollol wrth olrhain teimladau syml Thomas a Barbara Bartley; gwelir rhai o elfennau dyfnaf meddwl yr awdur yn y serchogrwydd tyner gyda pha un y mae yn trin helyntion teuluaidd a chrefyddol y ddau "hen bar," ac yn enwedig yn ei ddisgrifiad o farwolaeth Seth. Cyfaddefai ei fod wedi ei orchfygu gan ei deimladau yn llwyr pan yn portreadu yr amgylchiadau ynglŷn â marwolaeth Seth. Credwn y gwelir yr awdur ar ei orau yn y disgrifiad o Thomas a Barbara Bartley. Gwelir mwy o ddyfnderoedd ei ysbryd yn y rhan hon nag yn un portread o'i eiddo; yr oedd Thomas Bartley wedi dod yn rhan o'i fywyd, yr oedd yn byw gydag ef; ac yn ei gystudd diweddaf, pan yn cael ei flino gan ddiffyg cwsg, tynnai ddarlun o'i hen gyfaill (a'r hwn sydd yn awr ger ein bron, sef y darlun sydd yn fy meddiant), fel yr ymddangosai i lygaid ei ddychymyg.

"Enoc Huws" a "Gwen Thomas"

Y mae cylch y ddwy ffug-chwedl ddiweddaf yn ehangach na'r rhai blaenorol; bywyd tref, a disgrifiadau o gymeriadau a geir yn y Dreflan a Rhys Lewis fel ffrwyth ei atgofion a'i sylwadaeth bersonol ef ei hun. Cawn ef yn ei weithiau olaf yn dibynnu mwy ar yr hyn a glywodd gan eraill; efallai fod yn y gweithiau hyn fwy o gelfyddyd, ac ymddengys fel yn rhoddi mwy o ffrwyn i'w ddychymyg, eto nid ydynt yn gafael mor ddwfn yng nghalon y darllenwyr, tra y mae yn edrych ar fywyd o'r un safbwynt ag yn y nofelau blaenorol, eto y mae yna elfen fwy cyffredinol (secular) yn rhedeg drwyddynt. Y capel ydoedd y canolbwynt o gylch pa un y troai yr holl hanes yn y Dreflan a Rhys Lewis; ac nid yw yr awdur yn gadael i ni aros yn hir o gyffiniau y capel. Yn Enoc Huws drachefn ceir ddisgrifiad o helyntion manwl. Tref yr Wyddgrug yw cylch ei nofelau cyntaf, tra y mae Enoc Huws yn cymryd i mewn Sir Fflint. Nid oes angen dweud nad oedd gan ein hawdur brofiad personol o fywyd a phrofedigaethau y mwynwyr, ond yr oedd wedi bod yn sylwedydd craff ar helyntion y dosbarth diddorol hwn; ac yr oedd hefyd yn dra chydnabyddus ag amryw bersonau oeddynt wedi treulio blynyddoedd ynglŷn â'r gweithiau plwm. Cymerai diddordeb byw yn yr hyn a ddigwyddai ynglŷn â hwynt; ac yr oedd ganddo yn y modd yma wybodaeth fanwl iawn am y dynion fu â llaw yn agor rhai o'r gweithiau hyn; a gwelir ffrwyth y wybodaeth hon yn ei ddisgrifiad o Captain Trefor, a phrofedigaethau Denman ai deulu, eto nis gellir edrych ar Enoc Huws fel disgrifiad o fywyd y mwynwyr; nid oedd yr awdur wedi rhoddi ei fryd ar ddarlunio bywyd y dosbarth lluosog hwn, megis y gwna Bret Harte yn ei ddarluniau o fywyd mwynwyr gweithiau aur Califfornia. Yn Gwen Thomas drachefn, ceir darlun o fywyd gwledig Cymru yn fwy cyffredinol, ac ystyria rhai bod y gwaith hwn y stori fwyaf cyflawn a pherffaith o eiddo yr awdur; eto er mor gywir yw llawer o'r disgrifiadau, nis gellir dweud fod y cymeriadau yn sefyll allan yn amlwg o flaen y meddwl, er y creda rhai na chynhyrchodd athrylith Daniel Owen ddim mwy prydferth na chymeriadau Gwen ac Elin yn Gwen Thomas. Nid yw y cymeriadau a bortreadir yn Enoc Huws a Gwen Thomas wedi dod yn adnabyddus i liaws ein gwlad; ystyrir y gweithiau hy n, gyda graddau o gywirdeb, fel math o atodiad i Rhys Lewis.

Priodol yw gofyn,—Beth oedd nodwedd arbennig dychymyg yr awdur? Nis gellir dweud mai mewn cynllunio hanes, fel ag i'r digwyddiadau gyd-daro yn naturiol i'w gilydd, yr oedd cuddiad ei gryfder; yr oedd yn gwybod yn eithaf da nad oedd yn llwyddiannus mewn cynllunio yr hyn a elwir yn plot a phan y ceisia; wneud hynny, prin y gellir dweud ei fod yn llwyddiannus iawn yn ei ymgais; nid oedd yn feistr ar grynhoi neu gau i fynnu ei storïau. Prin y gellir teimlo fod y diddordeb yn y darllenydd yn myned ar gynnydd fel yr eir ymlaen; yn wir, teimlir i raddau yn siomedig gyda therfyniad amryw o'i nofelau, megis y Dreflan a Rhys Lewis, ac efallai mai camgymeriad oedd iddo geisio eu diweddu ar gynllun Seisnig. Fel y dywed Proff. W. L. Jones, Bangor, yn ei erthygl ar Daniel Owen, yn yr ailargraffiad o'r Gwyddoniadur Cymreig, Cyf. X. td. 740 B.:—"Ni saif Rhys Lewis, mwy na'r Pickwick Papers, yn ngwyneb beirniadaeth y rhai sydd yn barnu nofel fel cyfanwaith, yn hytrach nag fel cyfres o ddarluniau, neu o ddigwyddiadau anghysylltiol. Nid ydyw y cudd amcan (plot) ond egwan, ac nid ydyw cydbwysedd a chymesuredd y gwahanol rannau o'r llyfr yr hyn a ddisgwyliwn, ac a gawn, yng nghynhyrchion y prif chwedleuwyr Seisnig. Ond nid fel crefftwr llenyddol, yn gweithio allan gynlluniau cywrain yn ei nofelau, y dylid barnu Daniel Owen. Ni ddeil gymhariaeth am foment i'r meistriaid y gelfyddyd o chwedleua - y rhai sydd yn ymdrechu am ffurf, am fesur, am drefn, a chywreinrwydd cynllun, yn gystal ag am ddarlunio cymeriadau; ond fel un sydd yn meddu gwelediad treiddgar, dychymyg bywiog, cydymdeimlad eang ac arabedd di-ball, saif Daniel Owen yn uchel iawn ymysg llenorion unrhyw wlad." Clywid rhai yn cwyno o herwydd fod Daniel Owen wedi cyfyngu ei hun i gylch bychan, i un dref, ac yn arbennig i gylch un enwad bychan Cymreig. Diamau fod y cyhuddiad yn wir, a rhaid cydnabod, ysywaeth, fod y ffaith hon yn milwrio rhyw gymaint yn erbyn darlleniad ei weithiau; ond credwn mai i'r ffaith ei fod yn disgrifio y bywyd yr oedd ef yn hollol adnabyddus ohono y ceir un rheswm am ei lwyddiant; a chredwn mai i'r graddau yr oedd yn eangu cylch ei ddisgrifiadau, i'r graddau hynny yr oedd yn colli mewn grym amwyster; y mae swyn ei ddisgrifiadau i'w briodoli i fesur mawr i'r ffaith eu bod yn ffrwyth ei sylw a'i atgofion cyntaf a mwyaf cysegredig ef ei hun. Teimla y darllenydd eu bod yn true to nature, chwedl Wil Bryan. Yr oedd yr awdur, fel yr ydym eisoes wedi cyfeirio, yn un a dreuliodd fywyd hynod gartrefol, os nad neilltuedig. Yn y dyddiau hyn rhoddir bri mawr ar yr ysgol Ysgotaidd o nofelwyr; y mae yr ysgrifenwyr hyn yn sicr yn cyfyngu eu hunain i gylch bychan; ac onid un elfen o swyn yn ei nofelau yw eu bod yn cynnwys portread o gymeriadau nad oedd y byd oddi allan iddynt yn eu hadnabod? Ac nid ydym yn barod i addef mai diffyg yn ein hawdur ydoedd cyfyngu ei ddisgrifiadau i fesur mawr i'r cylchoedd yr oedd ef ei hun wedi troi ynddynt ar hyd ei oes; dylid edrych arnynt fel portread wedi eu lliwio gan ddychymyg yr awdur o ffurfiau neillduol o gymeriadau crefyddol a gwledig tua chanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Nis gall neb ddarllen nofelau Daniel Owen heb sylwi pa mor hapus ydyw wrth roddi enwau i'r cymeriadau a disgrifiad- enwau sydd yn gafael yn y cof; ymddengys mai ei arfer ydoedd dewis enwau ychydig o'r ffordd gyffredin, enwau ysgrythurol yn fynych, megis Abel Hughes, Enoc Huws, Jeremiah Jenkins, neu ynte gyfenwau Seisnig ac estronol, megis Wil Bryan, Thomas Bartley, Trefor, Denman, a Solet, ac y mae yn ffaith am amryw o'r enwau hyn, fod yr awdur nid wedi eu llunio ei hunan, ond yn hytrach wedi benthyca enwau oeddynt yn dra adnabyddus iddo ym mlynyddoedd ei febyd a'i ieuenctid; ac nis gallwn fyrned heibio i'r ffaith fechan, ei fod wrth roddi enw ar geiliog Thomas Bartley wedi gwneud defnydd o enw ci bychan ei letywraig yn y Bala, o'r hwn yr oedd yn dra hoff, felly, gwelir argraff ei atgofion ar y rhannau allanol a mwyaf arwynebol o'i waith.

Ymofynnwn ymhellach. Beth fydd dylanwad cyffredinol ei weithiau? Cytuna pawb fod yna elfen ddyddorus yn ei weithiau; yr oedd llenyddiaeth Gymreig yn dra amddifad o'r elfen hon; yr oedd hanes y genedl, a'r dwyster teimlad a gynhyrchwyd gan y Diwygiad Methodistaidd, yn cau allan lenyddiaeth o natur fywiog a diddores. Clywsom y Proff. O. M. Edwards yn dywedyd fod caneuon y beirdd cyn y Diwygiad hwn yn gyfryw nas gellid byth eu cyhoeddi. Ysgubwyd ymaith llenyddiaeth amhur diwedd yr eilfed ganrif ar bymtheg a dechrau y ddeunawfed ganrif gan lifeiriant y Diwygiad. Llenyddiaeth grefyddol, neu o'r hyn lleiaf, llenyddiaeth yn dwyn delw ysbryd dwys a difrifol y Diwygiad Methodistaidd, oedd o fewn cyrraedd darllenwyr Cymreig; ychydig o'r elfen hoenus a chwareus a geid yng ngweithiau ysgrifenwyr Cymreig. Credwn i Daniel Owen gyfarfod â'r angen hwn, a thrwy hynny atal, i fesur, wrthweithiad cryf yn erbyn bywyd crefyddol Cymru, megis a ddilynodd y cyfnod Piwritanaidd yn yr eilfed ganrif ar bymtheg; ac i'r ffaith fod ei weithiau yn cynnwys yr elfen o adloniant i feddwl llaweroedd yr ydym yn priodoli graddau o boblogrwydd ei weithiau. Ceir yn ei weithiau hefyd elfen gysurol Y mae yn rhaid cydnabod mai ychydig o lenyddiaeth o'r natur hon oedd yn ein gwlad pan ymddangosodd y Dreflan a Rhys Lewis; darllenir ynddynt am dreialon a siomedigaethau y tlawd a'r profedigaethus, a theimlwn wrth sylwi ar y disgrifiadau hyn fod calon yr awdur yn curo mewn cydymdeimlad â'r rhai a ddisgrifia; yn wir, ymddengys i ni mai dirgelwch ei nerth fel ysgrifenydd ydoedd ei allu i osod ei hunan yn lle eraill. Nid ffrwyth dychymyg oer, yn gweithio ar gof cywir, a welwn yn ei ddisgrifiadau, ond dyn yn meddu ar lawer o natur, a honno yn twymno ei ddychymyg, ac yn bywiogi ei gof i ddarlunio yr hyn a welodd, le, ac a deimlodd ef ei hun. Y mae darllen am ymdrech galed Mari Lewis i fagu ei hamddifaid, marwolaeth Bob gwrol galon, a Seth ddiniwed, ynghyd ag archoll calon Mr. Pugh, a siomedigaethau teulu Denman, wedi apelio at lu oeddynt yn dioddef mewn distawrwydd ar hyd a lled ein gwlad. Y mae darllen am helyntion blinion eraill wedi bod yn ollyngdod i lawer calon drom, ac wedi bod yn gynhaliad iddynt rhag llethu dan freichiau bywyd.

Yr ydym hefyd yn tybied fod y gweithiau hyn yn cynnwys addysg i'r darllenwyr; y maent wedi cyfrannu gwybodaeth i ddosbarth pwysig o'i gydgenedl Yr ydym yn honni fod ein hawdur wedi tynnu y llen oddi ar fywyd ymneilltuol Cymreig, yn enwedig yr adran y perthynai ef e ei hun iddi. Nid oedd neb o'r blaen wedi ceisio rhoddi darlun poblogaidd o fywyd mewnol Methodistaidd i'r rhai oddi allan. Ceid gwawdluniau yn fynych o'r Seiat, a helyntion mewnol y capelau; a diau fod y cymdeithasau hyn yn rhy fynych wedi gosod eu hunain yn agored i wawdiaeth, ond llwyddodd Daniel Owen i roddi darlun ohonynt fel yr ymddangosent i'r rhai oddi mewn. Dangosodd yr elfen o nerth a swyn oedd yn perthyn i'n sefydliadau, ac i'r digwyddiadau ynglŷn â hwy, megis Seiat y Plant, y Seiat, dewis Blaenoriaid, a dewis Bugail, ac ymweliad Cyfarfod Misol à lle. Yr ydym yn tybied fod i'r disgrifiadau hyn werth hanesyddol, a ganfyddir yn fwy fel y cerdda flynyddoedd heibio; ac nis gall neb sydd yn teimlo diddordeb yn ei wlad lai na hoffi cael darluniad cywir o'i symudiadau crefyddol Y mae yn perthyn i'r disgrifiadau hyn gwerth ehangach na'u perthynas ag un enwad o fewn Cymru. Yn ei draethawd ar On the Aversion of Men of Taste to Evangelical Relgion, dywed John Foster mai cyfeiriadau dirmygus llenorion, a gwawd-luniau nofelwyr, oedd un achos o'r gwrthnawsedd a welid ymysg lliaws yn erlyn crefydd efengylaidd. A chymrid ysgrifenwyr ffugchwedlau hyd gyfodiad yr ysgol Ysgotaidd o nofelwyr, tra anffafriol i grefydd efengylaidd, yn enwedig yn ei ffurf ymneilltuol, y maent wedi bod; ac wrth gofio hyn, ni ddylid rhyfeddu llawer at y gwrthwynebiad a deimlid gan lawer yn erbyn y ffurf hon o ysgrifennu. Os edrychir dros restr prif nofelwyr y ganrif hon, ceir fod amryw o'r rhai enwocaf ohonynt yn amddifad hollol o gydymdeimlad â chrefydd ef efengylaidd; a rhai ohonynt, yn wir, yn ymwrthod yn gyfan gwbl â Christionogaeth. Y mae rhai o'r ysgrifenwyr hyn, er yn talu gwrogaeth ffurfiol fel mater o foesgarwch a chwaeth dda, eto yn hollol ddistaw o berthynas i'r elfennau dyfnaf mewn crefydd; a phan yn rhoddi disgrifiad o gymeriadau o nodwedd efengylaidd, yn arbennig y type ymneilltuol, y maent yn llwyddo i'w ddarlunio yn y fath fodd fel ag i gynnyrch dirmyg yn y darllenwyr tuag at y cyfryw. Er mor iachus yw nofelau Syr Walter Scott mewn llawer ystyr, eto, rhaid cydnabod nad yw y Presbyteriaid ar eu mantais bob amser o gael eu darlunio ganddo. Cymharer ef yn yr ystyr hon, er enghraifft, â Barrie, Ian Maclaren, a Crockette; y mae Charles Dickens drachefn, yr hwn a ddarllenir gymaint gan yr ieuainc, yn dra hoff o ddethol ei gnafiaid o blith y rhai a wnânt honiadau uchel o grefydd. Nis gellir gwadu, ysywaeth, nad yw y dosbarth hwn yn dra hoff o gario eu hystrywiau twyllodrus ymlaen o dan glog o grefydd, eto y mae ieuo crefydd a thwyll yn barhaus yn tueddu i osod argraff anffafriol ar yr ieuanc a'r diwybod, ac yn enwedig pan y mae " "rhai rhagorol " Dickens fel rheol yn perthyn i'r rhai na arddelant grefydd Crist. Y mae yna eraill, megis Mrs. Oliphant, fel pe wedi ymddiofrydu i wneud cymeriadau ymneilltuol a ddisgrifir ganddynt yn wrthrychau gwawd a dirmyg eu darllenwyr. Nid oes amheuaeth nad yw y rhagfarn a deimlir yn erbyn Ymneilltuaeth ac Ymneilltuwyr mewn rhai cylchoedd yn y deyrnas hon i'w briodoli i fesur i ddylanwad y ffug-chwedlau a ddarllenir; a diamau gennym fod yr un achos yn cyfrif, i raddau, am ymddieithried llawer o blant yr Ymneilltuwyr eu hunain oddi wrth grefydd eu tadau. Yr oedd Daniel Owen yn hynod gyfarwydd â nofelau Seisnig, yn un o'r rhai mwyaf cyfarwydd, efallai, yng Nghymru, a chlywsom ef yn addef ei fod wedi teimlo eu hannhegwch at Ymneilltuaeth ac at grefydd efengylaidd; ac un o'r cymhellion a barodd iddo ddisgrifio yr hyn a welodd ac a glywodd ymysg ei bobi ei hun ydoedd ceisio unioni y cam a wneid â hwy. Daeth ei lyfrau ef i ddwylaw rhai na feddylient am ddarllen Hanes Crefydd yng Nghymru, gan ein haneswyr, nag yn y llu o Gofiantau sydd wedi ymddangos. Y mae ei weithiau hefyd yn llawn o addysg i'r neb a ystyrio; nid yw yr hwn na wel ond yr elfennau digrifol a chwareus sydd yn ei nofelau wedi deall gwir ystyr ei weithiau; ceir ynddynt lawer o wersi ar y modd i ymddwyn mewn llawer o amgylchiadau bywyd cyffredin, yn ogystal â chysylltiadau crefyddol Treiddia drwyddynt elfen gref o synnwyr cyffredin, a deffry y gynneddf hon, os; gellir ei galw felly, yn y darllenydd; y mae i synnwyr cyffredin yn nodweddu yr oll o'i brif gymeriadau, megis y fam Biwritanaidd Mari Lewis, y duwiolfrydig Abel Hughes, y pert a'r direidus Wil Bryan, ie, hyd yn oed y trwsgl Thomas Bartley. Ceir yn ei ddisgrifiadau awgrymiadau gwerthfawr gyda golwg ar fywyd ein heglwysi, oblegid y mae wedi rhoddi darlun byw o gymeriadau plentynnaidd, a hunandybus megis John Aelod Jones, o gymeriadau anhydrin megis Jeremiah Jenkins, ac o rai twyllodrus i'r gwraidd, megis Captain Trefor; ac yn ei ddisgrifiad o ddewisiad Blaenoriaid neu Fugail y mae wedi rhoddi cynhorthwy i eglwysi ganfod y peryglon sydd yn anwahanol gysylltiedig â'r rhyddid a ganiatâ ymneilltuaeth iddynt; ac yn bennaf oll, y mae tôn foesol ei weithiau yn iachus, tra y mae yna dosturi yn cael ei ddangos tuag at y gwan, eto nid yw yn ceisio bychan drwg pechod. Y mae halen Piwritaniaeth yn treiddio drwy ei lyfrau, ac er ei fod yn dwyn cymeriadau brith i mewn, a thrwy hynny, o dan angenrheidrwydd i ddisgrifio ffurfiau cymharol isel o fywyd, ac felly ddefnyddio rhai ymadroddion sydd yn tueddu at fod yn gwrs, eto y mae argraff gyffredinol ei ysgrifeniadau yn dda; ac yn ei lyfrau cyntaf , lle y mae yn cyffwrdd amlaf a chymeriadau crefyddol, y mae yn cydnabod gwirionedd crefydd ysbrydol mewn modd na cheir ond anfynych mewn llyfran o'r nodwedd hon. Cydnabyddai yn ddiamwys werth crefydd bersonol yn ei holl weithiau. Yr ydym yn teimlo fod yr awdur mewn cydymdeimlad trwyadl â Mari Lewis pan y mae yn son am y " tro mawr," am ras yn y galon;" ac yn Gwen Tomos y mae yn rhoddi yng ngenau Gwen yr athrawiaeth efengylaidd yn ei phlaendra mwyaf wrth ymddiddan â'i brawd Harri; a theimlwn yn berffaith sicr mai gwella a llesoli ei gydgenedl ydoedd nod pennaf yr awdur. Yn ei Ragymadrodd i'r argraffiad cyntaf o Rhys Lewis, dywed, - "Nid i'r doeth a'r deallus yr ysgrifennais, ond i'r dyn cyffredin; os oes rhy w rinwedd yn y llyfr, Cymreigrwydd ei gymeriadau ydyw hwnnw, a'r ffaith nad ydyw yn ddyledus am ei ddefnyddiau i estroniaid. Os oes ynddo rywbeth a'i duedd heb fod i adeiladu, yn gystal â difyrru y darllenydd, ni phâr hynny fwy o ofid i neb nag i'r awdur;" a'r dymuniad i Wneuthur lles a barodd iddo, yn ei holl weithiau, ymosod; yn erbyn pob math o ffug a rhodres. Yr oedd yn casáu â'i holl enaid pob ymddangosiad twyllodrus, megis i ffug-wybodaeth, ffug-ostyngeiddrwydd, a ffug grefyddolder. Pregetha yn ei holl lyfrau y pwysigrwydd o fod yn onest a ffyddlon i ni ein hunain, i'n gwlad, ein hiaith, a'n hegwyddorion eto llwydda i wneud hyn, heb greu amheuaeth yn meddwl ei ddarllenwyr, nad yw y gwir i'w ganfod yn unman. Yn hyn gwahaniaetha yn fawr oddi wrth rai ysgrifenwyr Seisnig tra enwog^ o fewn y genhedlaeth a aeth heibio. Dangosodd, drwy aml i bortread, fod yna gymeriadau cywir, a thrwyadl dda a chrefyddol, wedi byw yn ein plith. Terfynwn y sylwadau hyn drwy ddyfyniad o'r erthygl ar Daniel wen yn y Gwyddoniadur y cyfeiriwyd ati uchod : - "Yn ei farwolaeth gymharol gynnar, collodd Cymru un o'r rhai mwyaf medrus a chywrain o'r llenorion ac meddai am ddarlunio bywyd ac arferion gwerin ein gwlad. Er nad oedd cylch ei wybodaeth yn eang, na'i ddiwylliant yn uchel, o'i gymharu â llu o'i gyfoedion yng Nghymru, eto gellir yn hyderus gymhwyso ato eiriau Goronwy Owen am ei noddwr, Lewis Morus o Fôn, -

"Tra bo gwiwdeb ar iaith a gwaed y Brython,
Ef a gaiff hoewaf wiw goffeion"



DIWEDD Y COFIANT

DIWEDT) Y COFIANT

Digitized by

GoogleDigitized by LjOOQ lC

OFFRYMAU NEILLDUAETH

SEF

CYMERIADAU BIBLAIDD A METHODISTAIDD

GAN


DANIEL OWEN,

WYDDGRUG.


——————————————————


GWRECSAM:

CYHOEDDEDIG GAN HUGHES A'I FAB

Digitized by LjOOQ lC

AT Y DARLLENYDD.

——————————————————————————

PAROTOWYD yr "Offrymau" hyn i'r wasg gan mwyaf, yn ystod afiechyd a hir nychdod, ac ymddangosasant, bron yn y wedd bresennol, o dro i dro, yn y DRYSORFA; ac hwyrach fod esgusawd yn ddyledus oddiwrthyf am eu cyhoeddi fel hyn yn llyfr. Nid ydwyf yn dysgwyl elw nac enwogrwydd oddiwrth fy llyfryn; ond rhagrithiwn pe dywedwn nad ydwyf yn ystyried fod ynddo ronyn bach o deilyngdod, a chredaf y gall y darlleniad o hono wneyd peth lles a fforddio ychydig o ddifyrwch. Nid ydwyf heb gofio y gall gwendid corfforol gynyrchu gwendid meddyliol, ac fod yn bosibl mai cyfuniad o'r ddau wendid a barodd i mi ymgymeryd a'r anturiaeth hon. Os bydd darlleniad o'r llyfr yn cadarnhau y dybiaeth, nid oes genyf ond erfyn ar y darllenydd i edrych arno fel gwendid.

YR AWDWR.

Gorphenaf, 1879. Digitized by LiOOQ lC

CYNNWYSIAD.

PENNOD I.

Yr anmhosiblrwydd i Grist fod yn guddiedig

PENNOD II

Hunan-dwyll

PENNOD III

Cain

PENNOD IV

Agar

PENNOD V

Simon Pedr

PENNOD VI

Y Canwriad

PENNOD VII

Y Ddau Ddysgybl

CYMERIADAU METHODISTAIDD

PENNOD I

Mr. Jones y shop a George Rhodric

PENNOD II

Mr. Jones y shop a William Thomas

PENNOD III

William Thomas a'r dewis Blaenoriaid

PENNOD IV

Dewis Blaenoriaid

PENNOD V

Y Blaenoriaid newydd yn y glorian

YR ANMHOSIBLEWYDD I GRIST FOD

YN GUDDIEDIG

"Eithr ni allai Efe fod yn guddiedig."—MARC vii. 24.

A OEDD ar Grìst eisieu bod yn guddiedig? Mae rhywbeth yn nghyflëad y geiriau gan yr Efengylwr ag sydd braidd yn awgrymu ei fod. Ac os felly yr oedd, nid ydyw hyny yn beth i ryfeddu ato. Tuedd gyffredin dynion, mae yn wir, ydyw bod yn amlwg; a mawr ydyw yr ymdrech am wneyd arddangosiad a thynu sylw. Ac nid y lleiaf o'r pethau annymunol i'r teimlad ynglyn â marw ydyw, fod dyn yn cael ei guddio o'r golwg; ac y mae yn rhyw gysur i feddwl dyn, hyd yn nod yn yr amgylchiad iad hwnw, y bydd careg ar ei fedd, a'i enw arni, i gadw ei goffadwriaeth yn y golwg pan y bydd ef ei hun wedi myned o'r golwg. Ond er yr holl awydd hwn sydd mewn dyn am fod yn amlwg, mae yna amserau yn hanes pob un pryd y mae bod yn guddiedig yn felus ac yn ddymunol; adegau y bydd dyn yn hoffi bod ar ei ben ei hun i fwynhau seibiant a hamdden unigrwydd, heb yr un llygad i edrych arno, na neb i aflonyddu ar ddystawrwydd ei feddyliau ei hun. Ac os ydyw hyn yn wir am ddynion cyffredin, beth raid ei fod am ddynion mawr—dynion sydd yn llenwi cylchoedd uchel mewn cymdeithas? Y mae rhyw ychydig o ddynion yn y byd na fodrant symud o un dref i dref arall heb fod hanner y byd yn gwybod hyny bore drannoeth, a phob ysgogiad ac ymddygiad o'r eiddynt yn cael eu gwylio—miloedd o lygaid yn edrych i'w hwynebau, ac yn craffu ar eu holau—yr oll a ddywedant yn gyhoeddus yn cael ei argraffu, a'i ddarllen gan filmiloedd, ei feirniadu yn llym a miniog gan rai, a'i organmawl gan eraill; dynion sydd yn codi bob bore i dderbyn gan eu cydddynion gymaint o barch a chlod, anmharch & chenfigen, ag a fyddai yn ddigon i wallgofi hanner llon'd gwlad o ddynion cyffredin. Pa ryfedd os ydyw dynion o'r fath yma yn ymawyddu rai adegau am fod yn guddiedig o olwg y byd? Nid oedd yn rhyfedd fod Mr. Spurgeon yn myned i Germany i dreulio ei holidays; oblegid, fel y dywedai ef ei hun, fe gaffai lonydd yno, gan na fedrai y bobl ei ddeall ef, nac yntau eu deall hwy.

Mae yn ddiammheu fod yr awydd yma am lonyddwch yn ein Hiachawdwr, ar rai adegau. yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus. "Wele fe aeth y byd ar ei ol Ef." Yr oedd pob diwrnod iddo Ef yn ddiwrnod i wynebu miloedd o bobl, ac yntau ei hun yn ganolbwynt yr holl gynnulliad. Yr oedd pob diwrnod iddo Ef yn ddiwrnod i fyned dan driniaeth ugeiniau o elynion a chenfigenwyr, i ateb eu cwestiynau cyfrwys a dyrys, ac hefyd i dderbyn mawl a gogoniant ugeiniau o'i gyfeillion—i wynebu anghrediniaeth yn ei ffurf waethaf—clefydau ac anhwylderau yn eu gwedd fwyaf arswydus. Ni chai amser i fwyta. Yr oedd rhai yn dysgwyl am ei ddysgeidiaeth. rhwng ei dameidiau. Yr oedd y dyrfa yn ei wasgu ymhob man. Os diangai dros y môr mewn bâd, yr oeddynt hwythau yn ei ddilyn yn union. Pa ryfedd os oedd yn teimlo yn lluddedig a gorchfygedig, ac yn dianc i dueddau Tyrus a Sidon-ar derfynau y Cenedloedd—lle nad oedd mor adnabyddus, i geisio bod yn guddiedig am enyd?. Ond yr oedd ei glod wedi rhedeg o'i flaen; ac yno drachefn yr oedd y llesg a'r anafus, y cloff a'r afiach, yn ymdreiglo ar hyd y ffyrdd yn ei ddysgwyl. "Canys nid allai Efe fod yn guddiedig."

Y mae ystyr ymha un yr oedd Efe yn guddiedig; ac fe fuasai llawn ddatguddiad o hono ei hun yn dyrysu amcan ei ddyfodiad i'r byd. "Pes adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant." Yn raddol yr amlygodd ei hun. Nid oedd na "phryd na thegwch" ynddo i'r lliaws. Ychydig a allasent ddyweyd, "Ni a welsom ei ogoniant Ef-gogoniant megys yr uniganedig oddiwrth y Tad, yn llawn gras a gwirionedd." Yr oedd Efe yn gwisgo rhyw gymaint o disguise; ac mewn ystyr, ys dywed Pascal, yr oedd Efe yn fwy cuddiedig pan y darfu iddo ymddangos na chyn iddo ymddangos. Yr oedd yr Israel yn adnabod Duw yn well yn y pellder na phan y daeth i'w hymyl. "Yn y byd yr oedd Efe, a'r byd nid adnabu Ef." Eto nid allai Efe fod yn guddiedig. Yr oedd Efe yn rhy fawr i fod yn guddiedig. Yr oedd Crist mor fawr fel nad allai Efe ei hun guddio ei hun.

Yr oedd pawb a phobpeth arall yn rhy fychain i allu ei guddio, ac yr oedd yntau yn rhy fawr i allu cuddio ei hun. Mae yn hawdd cuddio y bychan, ond nid ellir cuddio y. mawr. Bydd cawod o eira yn cuddio yr aber fechan yn fynych, ond nid oes bosibl cuddio y môr. Gall yr aderyn bach redeg i'r dyrysni, a'r llwynog i'w ffau, gan wneuthur eu hunain yn guddiedig; ond nid oes gan y graig dalgref le y gall hi roddi ei phen i lawr.

Ychydig o ddynion a enir i'r byd i fod yn amlwg. Ffawd y rhan fwyaf o ddynion ydyw bod yn guddiedig. Mewn dull o siarad, mae naw cant a deunaw a phedwar ugain o bob mil o ddynolryw yn efeilliaid; hyny ydyw, y mae dynion mor debyg i'w gilydd, o ran galluoedd a doniau, fel nad oes dim mwy o wahaniaeth rhyngddynt nag sydd rhwng efeilliaid yn gyffredin. Mae dynolryw yn debyg fel yr ymddengys byddin o filwyr o ychydig bellder.

Pan yr ydych yn edrych ar fyddin neu gatrawd o filwyr, o ychydig bellder, wedi eu gwneyd yn rheng, mae y milwyr i gyd yn ymddangos yr un faint a'r un fath, oddigerth rhyw un neu ddau a welir yn ymgodi ar feirch yn uwch na'r gweddill. Dyna ddarlun o ddynolryw. Mae tebygolrwydd dynion i'w gilydd yn gwneyd pawb bron yn guddiedig ; ac fe all miliwn o bobl syrthio mewn un dydd, heb i'r byd deimlo dim mwy na phe byddai milfil o ddail yn syrthio yn y goedwig. Ond nid allai Efe fod yn guddiedig. Mae Efe yn ymgodi yn nghanol y ddynoliaeth fel derwen frigog yn nghanol cae o wair. Mewn un ystyr, yr oedd Iesu Grist yn debyg i bob dyn. Yr oedd mor debyg i ddynion yn gyffredin fel y darfu i'r Iuddewon â'u llygaid yn agored ei gamgymeryd am bechadur; ac eto yr oedd Efe yn rhagori cymaint ar blant gwragedd fel y gwelodd y dyn a anesid yn ddall y gwahaniaeth.

Nid allai Efe fod yn guddiedig yn holl amgylchiadau bywyd. Nid allai fod yn guddiedig ar ei enedigaeth. Nid ydyw geni dyn i'r byd o ddim dyddordeb i neb ond i'w fam, ac ychydig o berthynasau a chymydogion. Fe fydd rhai yn dyfod i weled y newyddanedig, mae yn wir ; ond nid "y doethion" fydd y rhai hyny yn gyffredin. Ac, fel y soniwyd eisoes, rhyw un o fil sydd yn gallu tori dim ffigiwr yn y byd ar ol dyfod iddo. Ond yr oedd Iesu Grist yn wrthddrych o ddyddordeb mawr cyn ei eni. Yr oedd yn "ddymuniant" yr holl genedloedd. Fe'i ganwyd yn un o'r dinasoedd tlotaf, ac yn y lle tlotaf yn y ddinas. Ond nid allai ei enedigaeth fod yn guddiedig. Yr oedd ei effeithiau yn fawr. Effeithiodd ar amser. Pan anwyd Crist y daeth amser i'w oed. Bachgen yn yr ysgol oedd amser cyn y geni yn Bethlehem! Yr adeg hono y daeth amser i feddiant o'r etifeddiaeth. "Yn nghyflawnder yr amser." Effeithiodd ei enedigaeth ar yr wybren. Yr oedd hen draddodiad fod y planodau yn effeithio ar ddynion— yn enwedig ar adeg genedigaeth; a mawr a fyddai yr belynt a'r drafferth i wybod o dan ba blaned y byddai y plentyn wedi ei eni, gan y credid fod a fyno dylanwad y blaned yn fawr a dyfodol y plentyn. Hwyrach fod rhywbeth yn hyny, ar a wyddom ni. Ond ni chlywyd ond am un erioed yr oedd ei enedigaeth yn effeithio ar y planedau. Canys gwelsom ei seren Ef yn y dwyrain, a daethom i'w addoli Ef." "Hyd oni safodd hi goruwch y lle y ganwyd y mab bychan." Nid allai ei enedigaeth fod yn guddiedig yn y nefoedd. Geiriau yr angylion yn gystal a'r bugeiliaid y diwrnod hwnw oeddynt, "Awn hyd Bethlehem." "Ac yr oedd gyda'r angel liaws o lu nefol."

Nid allai Efe fod yn guddiedig ar adeg ei gyflwyniad. Yr oeddym yn son fod dynion yn debyg i'w gilydd; ond y mae y tebygolrwydd yma yn fwy mewn mabandod. Ychydig, os dim, mynegiant sydd yn ngwyneb plentyn ychydig wythnosau oed; ac nid ydyw plentyn yn yr oedran hwnw yn eich argyhoeddi fod ganddo allu i ddim ond i waeddi. Ond yr oodd iachawdwriaeth yn ngwyneb Iesu Grist pan oedd yn chwech wythnos oed; ac yr oedd hen bobl yn cael nerth i farw ac i fyw wrth edrych arno!

"Yr awr hon, Arglwydd, y gollyngi dy was mewn tangnefedd, yn ol dy air, canys fy llygaid a welsant dy iachawdwriaeth, yr hon a barotöaist ger bron wyneb yr holl bobloedd." Yr oedd Anna brophwydes, merch Phanuel, o lwyth Aser, yr hon oedd dros ganmlwydd oed, càn gryfed a heinyf y diwrnod hwnw a phe buasai yn meddwl byw gant arall. "A hi a lefarodd am dano Ef wrth y rhai oll oedd yn dysgwyl ymwared yn Jerusalem." Canys "nid allai Efe fod yn guddiedig."

Ond y mae a fyno yr ymadrodd yma yn ddiammheu â Christ yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus yn y cyfnod hwnw y mae pobpeth fel wedi cydgyfarfod i wneyd yn anmhosibl iddo fod yn guddiedig. Elfen bwysig yn ei gyhoeddusrwydd oedd ei allu i gyflawni gwyrthiau. Mae yn syndod y fath orawydd sydd mewn dyn am y rhyfedd. Mae gallu dyn yn derfynol; mae yna ryw derfyn na fedr dyn fyned drosto; a'r ymdrech yn barhâus ydyw am fyned am yr agosaf at y terfyn hwnw. Po agosaf y medr dyn fyned at yr anmhosibl, mwyaf amlwg y mae yn dyfod ymhlith ei gydddynion. Mae y bachgen yn yr ysgol a fedr wneyd rhywbeth na fedr y plant eraill ei wneyd, pa un bynag ai mewn dysgu ai chware, yn rhwym o fod yn hero, ac yn frenin arnynt i gyd yn fuan. Yr oedd y gallu yma yn Nghrist i wneyd "y pethau na wnaeth neb arall," yn gwneyd yn anmhosibl iddo fod yn guddiedig. Yr oedd yna un peth ag oedd wedi gorchfygu dyn yn lân, sef natur. Yr oedd dyn yn gorfod teimlo nad oedd ganddo ddim awdurdod ar ddeddfau hon; a'r peth uchaf y gallodd dyn ei gyrhaedd oedd medrusrwydd, hyny ydyw, gallu i ddeall y deddfau hyn. Ni a ddychymygwn ei weled yn ceisio at rywbeth uwch. Ni a ddychymygwn weled ben longwr meddylgar wedi ei ddal gan yr ystorm ryw noswaith ar fôr Galilea, ac yna yn sefyll yn synfyfyrgar am enyd, ac yn llefaru, "Wel, aros di fôr, a thithan wynt; paham yr ydych yn aflonyddu ar grëadur anfarwol fel myfi? Yr wyf fi yn fwy na chwi eich dau. Gostegwch! llonyddwch!" Ond ni wnai y môr ddim ond cynddeiriogi, a'r gwynt ddim ond chwerthin am ei ben. Ni a welwn yr un llongwr drachefn yn yr un amgylchiadau, wedi ei ddal gan yr ystorm, ond fod yna Un Person arall ar y llong, a hwnw yn cysgu. A oedd y gwynt a'r môr wedi cymeryd mantais ar ei gwsg i aflonyddu yn fwy? Mae yr hen longwr, gan gofio aflwyddiant yr hen experiment, wedi ei lenwi â braw, yn rhedeg at yr Hwn oedd yn cysgu, ac yn gwaeddi, "Feistr, Feistr! darfu am danom." Ac wele Hwnw yn fwy ei awdurdod yn ei gwsg na hwynt i gyd yn effro! "Ac Efe a geryddodd y gwynt a'r môr, a bu tawelwch mawr. Pwy yw Hwn, gan fod y gwynt a'r môr yn ufuddhau iddo.?" Mae Hwn yn rhywun gwahanol i bawb. Canys "nid allai Efe fod yn guddiedig."

Mae gan y meddyg well cyfleusdra na neb i fod yn amlwg ac enwog, am ei fod yn ymwneyd â'r peth mwyaf gwerthfawr gan ddyn, sef ei iechyd, ïe, ei fywyd. Ac y mae yn debyg mai y meddyg sydd yn byw agosaf i gymydogaeth yr anmhosibl; ac nid oes neb a fedr ddyfod i gyhoeddusrwydd yn gynt, ac ennill mwy o wir barch a gwarogaeth gwlad, na meddyg da. Ond gyda'i holl allu a'i fedrusrwydd, mae yn gorfod dyweyd yn fynych, "Anfeddyginiaethol." Ond fe welodd y byd unwaith, a dim ond unwaith, Un na wyddai beth oedd ystyr anfeddyginiaethol. Yr oedd ei allu yn ddiderfyn. A hyn oedd ar y byd ei eisieu; yr oedd yna ddigonedd o feddygon o'r blaen. Nid eisieu medrusrwydd (skill) oedd ar y byd, ond eisieu rhywun a fedrai ddywedyd wrth y clefyd am ymadael, ac i hwnw ufuddhâu. Ni welodd y byd ond Un a allai wneyd hyny, gyda rhyw ychydig oeddynt yn practisio dan ei awdurdod. Yr oedd gallu yr Iesu mor fawr fel yr oedd yn gorfod cadw i ffwrdd o rai lleoedd rhag ei ddangos. Ac mae yn debyg mai dyma ydyw y rheswm na chawn banes yr Arglwydd Iesu mewn claddedigaethau. Ni a gawn ei hanes mewn priodas unwaith. Pe buasem ni yn myned i ddyweyd i ba un y dylasai fyned—i briodas neu i gladdedigaeth—buasem ni, yn ddiau, yn dyweyd mai i'r olaf. Diammheu hefyd, mewn ystod tair blynedd ar ddeg ar hugain, fod rhai o'i berthynasau a'i gyfeillion wedi marw; ond nid oes dim hanes ei fod yn claddu yr un o honynt. Fe fu yn ystafell y marw unwaith, ond buan y tröwyd hi ya ystafell y byw. Fe gyfarfyddodd gladdedigaeth ar y ffordd unwaith, ond ni fu yno fawr o gladdu y diwrnod hwnw. Y gwirionedd ydyw, fel y dywedai y diweddar Barch. David Jones, Caernarfon, "pe buasai Iesu Grist yn arfer myned i gladdedigaethau, na chladdasent neb byth!" Yr oedd ei allu y fath brofedigaeth iddo fel y buasai yn dyrysu pob claddedigaeth. Ni allai Efe ac angeu fod yn yr un fan yn hir. Bywyd oedd efe i gyd; yr oedd bywyd yn ei ddillad; pe buasai un ddim ond yn cyffwrdd â'i ddillad, fe fuasai yn iach yn y fan. Pe buasent yn rhoi ei gochl ar arch dyn marw, buasai y marw yn cyfodi y foment hono. Lle bynag yr äi Efe, nid allai fod yn guddiedig.

Y wedd yma ar Grist, dybygid, oedd gan yr efengylwr Marc o flaen ei feddwl pan ddywedodd nad allai Efe fod yn guddiedig. Ond mor wir ydyw yr ymadrodd am dano ymhob ystyr. Y mae yr hyn ydyw Efe ynddo ei hun, y Dwyfol a'r dynol yn un Person, er ei fod yn llawn dirgelwch, yn gyfryw nad ellir ei guddio. Yr oedd ei honiadau digyffelyb yn ei osod ar ei ben ei hun yn nghanol y ddynoliaeth. Yr oedd ei ddysgeidiaeth bur a newydd mor anhawdd ei chuddio a chuddio yr haul. Yr oedd ei fywyd perffaith a dibechod yn sefyll ar ei ben ei hun yn hanes dyn. Ac yn enwedig y mae amcan mawr ei ddyfodiad i'r byd, a'r hyn ydyw ar gyfer pechaur, yn ei osod mewn dysgleirdeb nad ellir ei guddio byth. Fe geisiwyd ei guddio lawer gwaith. Ceisiodd yr Iuddewon ei guddio, ceisiodd y bedd ei guddio, ond i'r golwg yr oedd yn dyfod. Ceisiodd y byd yn ei erledigaethau creulawn, a'i anffyddiaeth, ei guddio; ond po fwyaf y ceisid ei guddio, mwyaf yn y byd yr oedd yn dyfod i'r golwg.

Ac ni fu yr ymadrodd erioed yn fwy gwir nag ydyw heddyw, nad all Efe fod yn guddiedig. Mae ei egwyddorion yn treiddio trwy bob cymdeithas. Mae ei enw yn gwahaniaethu paganiaid a phobl wareiddiedig. Mae hyd yn nod y papyrau newyddion, er yn anwybodol, hwyrach, yn croniclo bob dydd yr adeg y daeth i'r byd. Mae dechreuad pob llythyr, a phob bil sydd yn cael ei settlo, yn ei gydnabod. Yn ei enw Ef y bedyddir pob un, ac yn ei enw Ef y gobeithir wrth farw. Ni all Efe fod yn gudd-

iedig.

II

HUNAN-DWYLL

"Na thwylled neb ei hunan."—1 CORINTHIAID iii. 18.

HEN gynghor wedi ei roi er ys llawer dydd bellach, ond y sydd yr un mor gymhwysiadwy heddyw a phan y rhoddwyd ef gyntaf, gan fod pawb o honom mor ddarostyngedig i dwyllo ei hunan. Nid oes odid i neb yn rhy ieuanc ac anmhrofiadol i allu tystio fod llawer o dwyll yn bod yn y byd; ac y mae yn hawddach dyweyd beth ydyw twyll na dyweyd lle y mae: mae yn haws rhoi desgrifiad o dwyll na rhoi ein bys ar ei drigfod a dyweyd lle y mae yn byw. Gau ymddangosiad, neu, y peth hwnw sydd yn ymddangos yr hyn nid ydyw—dyna ydyw twyll; y peth hwnw ag sydd yn gwisgo gwedd gwirionedd—yn debyg i wirionedd, ac heb fod yn wirionedd. Nid ydyw y natur ddynol, hyd yn nod yn ei hystad lygredig, yn hoff o dwyll ynddo ei hun. Yn wir, y mae yna ryw wrthdarawiad yn mhawb'i dwyll. Os daw y masnachwr i ddeall fod y cwsmer yn ei dwyllo, mae yn rhaid iddo, yn unol â deddf ei natur, anghymeradwyo ei ymddygiad; ac os daw y cwsmer i ddeal fod y masnachwr yn ei dwyllo ef, mae yn rhaid iddo yntau, o dan yr un ddeddf, gondemnio ei ymddygiad. Ac o herwydd hyny y mae twyll bob amser, cyn gwneyd ei ymddangosiad ymhlith dynion, yn gorfod gwisgo gwedd gwirionedd. Yn wir, hyn sydd yn ei wneyd yn dwyll—ei debygolrwydd i'r gwirionedd. Pe deuai efe ymlaen yn ei liw a'i lun ei hunan, ni chai dderbyniad, ni chai fyw. Ac y mae yn compliment lled dda i'r gwir fod twyll yn gorfod lladrata ei ddillad cyn y caiff dderbyniad gan ddynion. A hyn sydd yn ei wneyd yn elyn mor beryglus: fod yn hawdd ei gamgymeryd am gyfaill. Er mai llais Jacob fydd yn disgyn ar y glust, y dwylaw ydynt ddwylaw Esau. Mae yn dyfod i'n cyfarfod â gwên ar ei enau i'n cusanu, ond y mae llu y tu cefn ganddo i'n cymeryd yn garcharorion. Ac fel Judas, y mae yn dyfod, yn gyffredin yn y nos gyda lanternau; nid ydyw yn hoff o'r haul, nid yw yn hoff o'r dydd. Po fwyaf o oleuni fydd o'n cwmpas, diogelaf yn y byd y byddwn rhag y gelyn twyll.

Y mae i dwyll amryw ffurfiau. Mae dyn yn twyllo eraill, yn cael ei dwyllo gan eraill, ac yn twyllo ei hun. Mae y dyn sydd yn twyllo eraill yn wrthddrych i'w gondemnio; mae y. dyn sydd yn cael ei dwyllo gan eraill yn wrthddrych i gydymdeimlo âg ef; ac y mae'r dyn sydd yn twyllo ei hun yn wrthddrych i'w gondemnio, ac i gydymdeimlo âg ef. Mae y dyn sydd yn twyllo ei hunan yn wrthddrych i'w gondemnio, am nad ydyw yn defnyddio y moddion sydd o fewn ei gyrhaedd i gael allan ei dwyll; ac y mae y ffaith ei fod yn gallu byw yn dawel mewn hunan-dwyll yn ei wneyd yn wrthddrych i dosturio wrtho ac i gydymdeimlo ag ef.

O bob twyll, hunan-dwyll ydyw y rhyfeddaf, a mwyaf anhawdd rhoddi cyfrif am dano. Pan y mae dyn yn twyllo arall, y mae o angenrheidrwydd yn tybied y bydd hyny o ryw fantais iddo; ond pan y bydd dyn yn ei dwyllo ei hun, mae fel pe byddai wedi ymranu yn ddau, a throi yn elyn iddo ef ei hunan. Ac eto y mae pawb yn teimlo cariad tuag ato ef ei hunan. "Ni chasäodd neb erioed ei gnawd ei hun;" ac yn briodol y gellir dyweyd na chasäsaodd neb erioed ei enaid ei hun. Ond er fod gan ddyn le i gredu ei fod yn twyllo ei hun, mae yn ymattal rhag chwilio ei hunan a chael allan y gwir. Ond hwyrach mai yr hyn y buasem ni yn ei dybied, ar yr olwg gyntaf, a fuasai y rheswm cryfaf gan ddyn dros chwilio ei hun, a chael allan ei wir sefyllfa-sef y cariad sydd ganddo ato ei hun—wedi ail ystyried, mai hwn ydyw y rheswm ei fod heb wneyd. Y fath ydyw cariad dyn ato ef ei hun fel, er fod ganddo seiliau cryfion dros feddwl ei fod yn twyllo ei hun, ei fod yn ymattal rhag chwilio ei hun a phrofi ei hun, rhag ofn fod yr hyn y mae yn ei ofni yn wir, ac iddo syrthio yn ei olwg ei hun. Yr un modd ag y bydd ambell i fasnachwr yn gwneyd: mae rhywbeth yn dywedyd wrtho bob dydd nad ydyw ei fasnach cystal ag y bu: ei fod yn myned yn ol yn y byd; ei fod yn myned yn dlotach. Mae y masnachwr yn dychrynu wrth feddwl am hyny; ond y mae yn ymattal rhag cymeryd stock," a gwneyd ei lyfrau i fyny, rhag ofn fod yr hyn y mae efe yn ei ofni yn wir, neu ynte yn waeth nag y mae erioed wedi ei feddwl. Felly y bydd dyn yn gwneyd yn fynych gyda'i gyflwr ger bron Duw. Mae rhywbeth yn sibrwd wrtho bob dydd nad ydyw ystad ei galon fel y dylai fod—fod yna rywbeth allan o'i le, ac yn debyg o droi yn chwerw iddo ryw ddiwrnod. Mae hyn yn ei ddychrynu ar brydiau; ond fel y dyn gyda'i fasnach, y mae yn gwrthod myned at y maen prawf, ac yn taflu y peth ymaith, gan obeithio y goreu. Mae ambell un, mae yn wir, yn wrthgyferbyniol i hyn, bob amser yn troi gwyneb lantern dywyll. ammheuaeth i'w fynwes ei hun,i chwilio am deimladau crefyddol ac arwyddion o dduwioldeb, ac o' angenrheidrwydd yn methu eu cael, am y rheswm fod pob teimlad, pa un bynnag ai crefyddol ai anghrefyddol, yn diflanu pan eir i chwilio am dano. Mae yn apmhosibl cael gafael ar deimlad o fath yn y byd ar wahan oddiwrth y gwrthddrych fydd yn ei gynnyrchu. Os mynwn feddianu teimladau crefyddol, mae yn rhaid i ni fod â'n meddwl wedi ei sefydlu ar Wrthddrych mawr ffydd ac addoliad, ac nid arnom ein hunain. Ar yr un pryd, mae yn ddyledswydd arbenig arnom brofi ein hunain yn ddyfal a beunydd wrth y gwirionedd, rhag bod neb o honom yn debyg o fod yn ol ; oblegid y mae y galon yn fwy ei thwyll na dim-yn. ddrwg ddiobaith; ac hwyrach na raid i ni ond curo wrth ei drws na bydd yn agor i ni ei hystafelloedd, ac yn dadguddio pethau na ddarfu i ni erioed ddychymygu eu bod ynom ni. Nid yw bunan-dwyll wedi ei gyfyngu i blith y bobl a elwir yn "bobl y byd," neu bobl ddigrefydd: na, mae yn dringo dros furiau yr eglwys, ac yn dinystrio cannoedd o broffeswyr crefydd. Ac yn wir, fe ddylai proffeswr crefydd fod ar fwy o wyliadwriaeth rhag twyllo ei hun nag hyd yn nod y dyn dibroffes; oblegid y mae rhywbeth hunan-dwyll y dyn dibroffes ag sydd yn hawdd ei ganfod—yn hawdd dyfod o hyd iddo, tra mae y proffeswr yn aml yn defnyddio yr hyn y mae efe yo ei dybied ydynt ei rinweddau fel sylfaen i adeiladu hunan-dwyll arno. Mae y broffes ei hupan, yr hon sydd dda ynddi ei hun, yn cael ei defnyddio fel achlysur yn fynych i ddyn dwyllo ei hunan. Diau ei fod yn ymwybodol o'r pwysigrwydd sydd ynglŷn a phroffesu enw Crist—y pwysigrwydd y mae y byd, yr eglwys, a'r Bibl yn ei osod arno; ac wedi iddo gymeryd y broffes arno, mae yn teimlo ei fod wedi rhoi cam mawr o flaen y byd digrefydd ei fod wedi ennill tir na ddarfu y dyn dibroffes erioed mo'i ennill; ac os na bydd gwyliadwriaeth mawr ganddo ar ei ysbryd, mae perygl iddo aros ar y cam y mae wedi ei roi heb fyned yr un cam pellach byth. Mae lle i ofni fod lliaws yn edrych ar aelodaeth eglwysig yn gyffelyb i aelodaeth mewn “ cymdeithas gyfeillgar." Os bydd eu henwau ar y llyfr, a hwythau yn talu eu cyfraniadau yn gyson, y maent yn teimlo yn berffaith dawel.

Mae cymaint o ffurfiau hefyd yn nglŷn â chrefydd fel y mae yn hawdd iawn i ddyn gamgymeryd y rhai hyn am grefydd ei hun. Mae yn rhaid i ni wrth ryw gymaint o ddefodau a ffurfiau gyda chrefydd tra yn y fuchedd hon; ond y mae tueddfryd dyn bob amser at yr hyn sydd yn hawdd, ac i osgoi yr hyn sydd yn anhawdd. Fe all dyn ddyfod i'r capel yn lled gyson a phrydlawn, a chydymffurfio a'r holl ffurfiau angenrheidiol i weddusrwydd, heb lawer o drafferth iddo ei hun; ond y mae ymladd â llygredigaeth ei galon, dyfalbarhau mewn gweddi ddirgel, sylweddoli a gosod ei holl fryd er bethau ysbrydol ac anweledig, yn rhywbeth hollol wahanol, ac yn gofyn holl egni dyn i'w gyflawni yn briodol. Ar yr un pryd, y mae y fath gysylltiad rhwng ffurfiau allanol crefydd a chrefydd ei hun, fel y mae perygl i ddyn gamgymeryd y naill am y llall, a theimlo yn berffaith dawel wedi myned trwy y ffurf, pan y mae ei galon yn hollol ddyeithr i ysbryd y pethau. Mae llawer un nad allai gysgu yn dawel gan argyhoeddiadau cydwybod pe yr esgeulusai y moddion ar y Sabbath, a myned i rodiana hyd y wlad; ond pe yr elai yr un un i'r bregeth bore Sabbath, a chysgu y rhan fwyaf o'r amser, a phed elai i'r ysgol y prydnawn ac heb sylweddoli dim ar y wers, ac i'r oedfa y nos d'i feddyliau ar bethau hollol ddyeithr i'r efengyl, efe a allai gysgu yn dawel y noson hono, fel dyn wedi gwneyd ei ddyledswydd.

Rhag twyllo ein hunain, hefyd, dylem fod yn ofalus rhag rhoddi gormod o bwys ar opiniynau rhai eraill am danom. Llywodraethir ni gan opiniynau rhai eraill am danom yn fwy nag y darfu i ni erioed feddwl. Mae dyn yn hoff o wybod beth y mae eraill yn ei feddwl o hono. Gwir y clywir rhai yn dyweyd, nad ydynt yn gofalu beth a ddywedo eraill am danynt, nac yn ei feddwl o honynt. Ond rhaid fod y rhai sydd yn dyweyd felly yn rhagrithio, neu ynte yn amddifad o gymeriad gwerth ei ddal i fyny. Mae yn naturiol i ddyn fod yn awyddus i wybod pa ystâd y mae yn ddal yn meddyliau rhai eraill. Tybed nad oedd yr awydd hwn yn Y drych goreu i ddyn adnabod ei hun ydyw Gair Duw. Yma y gwel bortrëad cywir a chyflawn o hono ei hun, ond iddo ddal ei hunan yn onest yn ei wyneb. Ië, yn onest, meddwn, canys onid ydym yn dueddol i osgoi rhyw ranau o'r Bibl? Onid ydym yn dueddol i droi y dalenau nes dyfod o hyd i'r rhanau cysurus, esmwyth i'w darllen, a chilio oddiwrth y rhanau hyny sydd yn curo yn lled drwm ar yr hyn yr ydym ni yn hoff o hono? Mae lle i ofni mai un rheswm mawr paham y mae llawer o honom yn meddu càn leied o adnabyddiaeth o honom ein hunain ac o Dduw ydyw, nad ydym yn gwneyd chware teg a'r Bibl. Mae darlun perffaith o bob un o honom yn yr Ysgrythyr: ond nid ar unwaith y deuwn i'w adnabod; mae hyn i'w gyrhaedd trwy lafur, fel pobpeth arall. Milton, os ydym yn cofio yn dda, sydd yn disgrifio Efa yn dyfod at lan yr afon, gyda min yr hwyr, am y tro cyntaf yn ei bywyd. Pan ddaeth i ymyl yr afon hi a welodd ei chysgod yn y dwfr. Edrychodd arno mewn syndod; ac edrychai y cysgod mewn syndod. Ciliodd yn ol; ciliodd y cysgod yn ol. Daeth ymlaen drachefn; daeth y cysgod ymlaen. Yr oedd yn methu yn glir a deall beth allasai hwnw fod; ni welsai y fath beth erioed o'r blaen. A dyna lle y bu yn myned yn ol ac ymlaen am yspaid maith, a'r cysgod yn ei dynwared. Wrth ddal i edrych ar y cysgod yn yr afon, hi a welai rywun arall yn edrych dros ei hysgwydd, ac yr oedd yn sicr ei bod wedi gweled y wyneb hwnw yn flaenorol; ac erbyn iddi droi ei phen, pwy a welai ond Adda yn edrych dros ei hysgwydd! Esboniodd Adda iddi yn union mai darlun perffaith o honi ei hun yr oedd hi yn ei weled yn yr afon. Yr un modd y gellir dyweyd am y Bibl. Wrth edrych i hwn yr ydym yn gweled darlun; ond nid ar unwaith y deuwn i'w adnabod fel ein darlun ni ein hunain; ac wrth edrych ac edrych, odid fawr na ddaw Adda yr Ail i edrych dros ein hysgwydd, ac eglura efe i ni mai darlun o honom ein hunain yr ydym yn ei weled, ac efe a'n dwg ni allan o bob dyryswch.

Ar hyn o bryd, fel y mae'r gwaethaf, mae y nifer lliosocaf yn ein gwlad yn byw heb fath yn y byd o broffes o grefydd—heb gymeryd arnynt eu bod yn grefyddol. Ac y mae gan bob dosbarth reswm digonol yn eu meddwl eu hunain dros fyw felly. Mae un dosbarth o bobl ddigrefydd yn ymfoddloni yn yr ystyriaeth eu bod yn perthyn i'r dosbarth llïosocaf; fod y rhan fwyaf o'u cymydogion yr un fath a hwy eu hunain. Ar yr olwg gyntaf, mae cryn ddefnydd cysur yn hyn, ac yn amgylchiadau cyffredin bywyd y mae yn ateb dyben da. Os bydd dyn wedi colli ei ffordd ar y mynydd, a'r nos wedi ei ddal, os yn unig y bydd, fe deimla y brofedigaeth yn fawr; ond os bydd amryw eraill gydag ef, nid ydyw yn gofalu cymaint am y canlyniadau, gan y caiff yr un ffawd a'r gweddill. Pe dygwyddai i ddyn wneyd tro lled drwstan mewn cymydogaeth, mae yn gysur i'w feddwl, ac yn help iddo ymgynnal o dan y brofedigaeth, gofio fod yno amryw yn yr un gymydogaeth wedi gwneyd yr un peth. Ond pe efe fuasai yr unig un euog o gyflawni y tro trwstan, buasai y brofedigaeth yn llemach o lawer iddo. Mae'r gynnaliaeth y mae dyn yn ei chael mewn amgylchiadau o'r fath, oddiar yr ystyriaeth fod llawer eraill yn yr un cyflwr ag ef, yn tarddu yn ddiammheu o'r cydymdeimlad dirgeledig sydd rhwng y naill ddyn a'r llall; ac y mae hyn wedi ei roddi i ni gan Ragluniaeth ddoeth er ein cysur tra yn y bywyd presennol. Ond y mae yr hunan-dwyll pechadurus yn defnyddio hyn fel rheswm i ymfoddloni mewn anufudd-dod i'r efengyl. Yn y byd a ddaw, ymhlith yr annuwiolion bydd pob cydymdeimlad wedi darfod, a'r hyn oedd yn fforddio cysur yn y byd hwn, sef lliosogrwydd y cymdeithion, yn blaenllymu y dyoddefiadau, ac yn gwneyd yr ing yn fwy annyoddefol. Byddai yn well gan yr annuwiol gael "llechu yn y fagddu fawr” ar ei ben ei hun, mewn rhyw ogof anghysbell, ar derfynau colledigaeth, na bod yn nghanol milfil o'r rhai y bu yn cydbechu â hwynt yn ngwlad yr efengyl.

Mae dosbarth arall ag sydd yn ymgysuro yn y meddwl fod yna lawer mewn gwaeth cyflwr na hwy. Maent yn ymwybodol o rywfath o hunan-gyfiawnder. Ni ddarfu iddynt erioed feddwi, nac erioed wneyd yr arferiad o dyngu a rhegu; maent yn talu eu ffordd, ac yn cyflawni llawer o garedigrwydd. Ond y maent yn gwybod am eraill sydd yn euog o bob bai; ac wrth gymharu eu hunain a'r cyfryw, maent yn tybied y safent chance lled dda y dydd mawr a ddaw. Ac y mae rhywbeth yn hyn eto, ar yr olwg gyntaf, ag sydd yn ymddangos yn ddefnydd cysur gwirioneddol. Yn wir, gyda golwg ar bethau y bywyd presennol, y mae dynion cyn hyn wedi gallu anghofio eu trueni eu hunain wrth edrych ar drueni mwy yr oedd eraill yn ei afael. Mae hanes am ryw foneddwr, a fuasai unwaith mewn amgylchiadau cyfoethog a chysurus, ond a syrthiasai i'r fath iselder a thlodi, fel nad oedd yn meddu esgidiau i'w rhoi am ei draed. Un bore wrth gychwyn allan o un o'r common lodging- houses yn Llundain, heb foreufwyd na golwg am dano, edrychai ar ei draed noethion, a llifai y dagrau o'i lygaid, wrth gofio yr amser pan oedd yn berchenog carriage and pair, a gweision a morwynion i weini arno. Ond y peth cyntaf & dynodd ei sylw wedi myned i'r heol, ydoedd dyn heb draed; ac fe löewodd ei ysbryd y foment hono. "I beth y cwynaf fi?" meddai; "dyna grëadur truan mewn gwaeth cyflwr na minnau. Mae fy nhraed genyf eto; yr wyf can iached heddyw ag y bum erioed; a pha beth bynag a gollais, mae y dyn yna wedi colli mwy." Anghofiodd ei drueni ei hun wrth edrych ar drueni mwy un arall. Yr un modd y bydd llawer un yn gwneyd gyda'i gyflwr. Mae rhyw fflachiadau o oleuni ysbrydol yn rhedeg trwy galon pob dyn ar adegau; ond yn lle eu croesawu, mae llawer un, er mwyn tawelu ei gydwybod, yn cymharu ei hunan ag eraill a ystyrir mewn gwaeth cyflwr, ac yn dechre cyfrif ei chances gyda'r Goruchaf, heb gofio fod y goreu o honom yn rhwym i ddamnedigaeth, os na chyfarfyddwn â thrugaredd Duw yn ei Fab. Mae twyll y dosbarth hwn yn dyfod i'r golwg cyn iddynt adael y byd. Fel y bydd dyn yn cael ei wasgu yn nês, nês, i'r byd tragywyddol, mae pobl eraill yn syrthio ar dde ac aswy o'i feddwl, ac o'r diwedd nid yw yn gweled neb ond efe ei hun o flaen y Duw anfeidrol sanctaidd. Yr un fath â dyn ar longddrylliad: tra bydd y llong heb ei gwneyd yn ddarnau, mae y boneddwr yn gallu meddwl am gysur y ferch ieuanc yn y fan yma, neu yr hen wr yn y fan draw; ond wedi i'r llestr gael ei gwneyd yn ysgyrion, ac iddo yntau gael ei ollwng i drugaredd y tònau, nid oes neb yr adeg hono yn cael lle yn ei feddwl, na neb yn y fath berygl ag ef ei hun. O flaen gorsedd Duw, os yn annuwiol, efe ei hun o bawb fydd y truenusaf a mwyaf anobeithiol yn ngolwg dyn.

Y dosbarth llïosocaf o hunan-dwyllwyr, ymhlith gwrandäwyr yr efengyl, mae yn debyg, ydyw y rhai hyny sydd yn byw bob amser mewn ymrafael â hwy eu hunain. Maent yn gwrandaw bob amser, ac y mae eu cydwybod yn cyd-dystiolaethu a'r gwirionedd. Maent yn tynu plan o'u bywyd bob wythnos, ac y mae y bwriad o fyw yn grefyddol bob amser yn y cynllun; ond yn y cynllun y mae yn aros—nid ydyw byth yn dyfod i weithrediad. Maent yn byw fel pe bae ganddynt lease ar eu bywyd. Edrychant ar amser fel pe byddai i gyd o'u blaenau, pan, fe allai, fod y rhan fwyaf o hono y tu ol i'w cefn. Maent yn gweled ac yn teimlo fod pobpeth yn cyfnewid ac yn myned beibio, ond eu heinioes a'u cyfleusderau hwy eu hunain. Nid annhebyg ydyw i'r plentyn pan yn myned gyda'r train am y tro cyntaf. Mae y plentyn ar lin ei fam yn y train yn meddwl mai y gwartheg a'r tai a'r gwrychod sydd yn symud, ac mai efe ei hun sydd yn llonydd, nes y daw i station ddyeithr, lle y mae yn gweled ei gyfeiliornad. Mae rhyw hudoliaeth gyffelyb ar feddwl dyn. Mae yn gweled amgylchiadau yn newid cymydogaethau yn newid; mae yn gweled ei gyfoedion yn marw; ond nid ydyw byth yn sylweddoli y meddwl ei fod ef hunan yn prysur gyflymu tua therfyn ei einioes. Yn ofer yr ymresymir âg ef am ffolineb o oedi ymofyn am grefydd a heddwch â Duw, o herwydd ansicrwydd awr marwolaeth; oblegid dyna ei reswm ef dros oedi. Gan nad wyr pa bryd y bydd yn rhaid iddo farw, mae yn gwenieithio iddo ei bun y gall fyw yn hen. Mae yn troi rheswm Duw dros iddo beidio oedi yn rheswm dros oedi. Mae graslonrwydd a pharodrwydd anfeidrol y Brenin mawr i dderbyn y pechadur gwaethaf ar yr unfed awr ar ddeg yn rheswm ganddo dros barhâu mewn gwrthryfel yn ei erbyn hyd y gall.

Mae y drychfeddwl yn arswydus, fod yn bosibl, nid yn unig i wrandäwyr yr efengyl, ond hyd yn nod i'r rhai sydd yn dal swyddau uchel ynglŷn â theyrnas Crist, dwyllo eu hunain. Yr oedd y digyffelyb Paul yn dychrynu wrth feddwl am y posiblrwydd iddo ef, wedi iddo bregethu i eraill, fod ei hun yn anghymeradwy. Cyn can mlynedd i heddyw bydd pawb o honom

"Yn gwel'd gan bwy mae sylwedd,
A phwy sydd heb y gwir."

III

CAIN.

"Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu."

—GENESIS iv. 13.

DRUAN oedd Cain! a raid i ni ei osod yn y "chamber of horrors?" Os rhaid, bydd hyny yn anewyllysgar genym; oblegid y mae yn rhaid i bob un a deimlodd ei enaid yn suddo i lawr i lynclyn anobaith ei arddel fel ei frawd, ar yr hwn y cafodd y diafol fan gwan. Er mai efe ydoedd y cyntaf a anwyd i'r byd, yr oedd "yr iachawdwriaeth fawr yn Nghrist" yn y byd o'i flaen; ond, ysywaeth, yr oedd yr anghenfil anobaith yn y byd hefyd, yn gwylio am gyfleusdra i'w rwymo yn ei gadwyni haiarn! Gadewch i ni edrych ychydig i'w hanes.

Mae yr hanes a gawn yn llyfr Genesis am Cain ac Abel yn hynod o fyr; nid oes ond y prif linellau yn eu hanes yn cael eu croniclo. Ac fe fyddai cofio hyn wrth ddarllen llyfr Genesis yn gyffredinol—nad ydyw yr ysgrifenydd yn cymeryd arno roddi hanes manwl a difwlch—yn fantais fawr i'w ddeall, ac i esbonio yr anhawsderau a gyfarfyddir yn y llyfr. Yn fynych, fe fydd yr ysgrifenydd yn neidio dros ugeiniau o flynyddoedd rhwng dwy adnod; a phe cedwid y ffaith hon mewn golwg, symudid yr anghysonderau ymddangosiadol a geir yn hanes Cain, megys ei waith yn myned i dir Nod i geisio gwraig, &c. Dywed dysgedigion wrthym mai ystyr yr enw Cain ydyw eiddo neu gynnysgaeth; ac mai ystyr yr enw Abel ydyw gwagedd neu ddiddymdra. Mae gwahanol ystyr y ddau enw yn adrodd wrthym, yn ddiammheu, hanes profiad ein rhieni cyntaf. Yn oesoedd boreuaf y byd, fe roddid enwau ar blant mewn ffordd wahanol i'r hyn a wneir yn ein dyddiau ni. Yn awr, fe elwir y bachgen yn Ioan neu Samuel, am mai dyna oedd enw ei daid, neu o herwydd mai dyna yw enw ei ewythr, yr hwn sydd yn meddu ychydig o dda y byd hwn. Ond yn oesoedd cyntaf y byd, rhoddid enw ar y plentyn ag a fyddai yn dynodi ei gymeriad, neu ynte yr amgylchiadau o dan ba rai y byddai wedi ei eni. Pan anwyd Cain, meddyliodd Adda ac Efa, yn ddïau, eu bod wedi cael cyflawniad o'r addewid am Had y wraig; ond buan y gwelsant eu cyfeiliornad. Pan anwyd yr ail fab, ni edrychent ar hwnw fel cynnysgaeth, ond gwagedd! diddymdra! Pa siomiant, pa dristwch, pa ing a deimlasant rhwng y ddau enedigaeth sydd ddirgelwch i ni; ond y mae yr enwau a roisant ar eu bechgyn yn agor cil drws ystafell eu profiad, i ni allu gweled ychydig o'i chwerwder. Y peth nesaf yn hanes y ddau frawd ydyw yr orchwyliaeth a ddewisasant. Ymgymerodd Cain â llafurio y ddaear, ac Abel â bugeilio defaid. Yna fe'n hysbysir am eu crefydd, sef bod y ddau yn addoli Duw trwy offrymu. Mae lle i feddwl iddynt hwy, neu eu tad Adda, gael dadguddiad am y dull a'r modd yr oeddynt i addoli, ac hefyd gyfarwyddyd am ryw amser penodol i gyflwyno eu haddoliad; oblegid y mae esbonwyr dysgedig yn dyweyd am y geiriau, "Wedi talm o ddyddiau," yr adeg yr oedd Cain ac Abel yn cydaddoli, y dylid eu cyfieithu yn "ddiwedd y dyddiau," neu "y dydd olaf," sef, fel y tybir, y Sabboth; fel hyn y mae pob lle i feddwl fod Cain ac Abel yn gosod rhyw arbenigrwydd ar y seithfed dydd i addoli arno, rhagor rhyw ddiwrnod arall. Cain a ddygodd o ffrwyth y ddaear offrwm i'r Arglwydd, ac Abel o flaenffrwyth ei ddefaid ac o'u brasder hwynt. Trwy ryw arwydd amlwg, fe ddarfu i'r Arglwydd ddangos ei gymeradwyaeth i offrwm Abel, a'i anghymeradwyaeth i offrwm Cain. Paham y darfu i'r Jebofah ymddwyn felly, ni's gwnawn ymofyn yn y fan yma. Cain, wrth weled y gymeradwyaeth a gafodd ei frawd, a lanwyd o ddigofaint; ac fe fethodd a pheidio ei ddangos. Fe "syrthiodd ei wynebpryd," medd yr hanes; fe wisgodd ei wyneb drem ddigofus, fe laesodd ei aeliau. Darfu i'r Arglwydd ei geryddu am hyn. "Paham y llidiaist ?" meddai Duw, phaham y syrthiodd dy wynebpryd? Os da y gwnai, oni chai oruchafiaeth?" Ond fe fu y cerydd yn aflwyddiannus; a diwedd yr hanes ydyw ddarfod i Cain ladd ei frawd!

Yn awr, a ddarfu i ni erioed feddwl mai nid ar unwaith y gallodd Cain gyrhaedd y tir yma mewn drygioni a chreulondeb? Nid mewn diwrnod y gallodd ddyfod i'r ystad o feddwl i'w alluogi i fod yn llofrudd, ac yn enwedig yn llofrudd ei frawd. Mae yn rhaid i ni gofio na chafodd efe lawer o gymhellion i hyn, ac na chafodd ei lygru gan lawer o esiamplau drwg, na'i hudo gan lawer o gymdeithion drwg; ond rhywbeth oedd hyn yr oedd ef ei hun wedi ei fagu yn ei fynwes am lawer o amser, ac, o bosibl, am lawer o flynyddoedd. Mae yn ddiammheu fod Cain yn wrthddrych sylw neillduol y diafol, yr hen sarpb oedd wedi twyllo ei rieni. Nid rhyw lawer o amser oedd er pan yr oedd yr Arglwydd wedi dyweyd wrth y diafol, "Gelyniaeth hefyd a osodaf rhyngot ti a'r wraig, a rhwng dy had di a'i had hithau; efe a ysiga dy ben di, a thithau a ysigi ei sawdl ef." Mae yn sicr i'r geiriau hynod hyn suddo yn ddwfn i feddwl y diafol, yn gystal ag Efa; ac os darfu i Efa dybied, pan anwyd Cain, fel y mae yn ddilys iddi wneyd, ei bod wedi cael cyflawniad o'r addewid hon am Had y wraig i ysigo pen y sarph, mae yr un mor resymol i ni feddwl fod diafol wedi tybied yr un peth. Pan anwyd Cain, yr oedd yn naturiol i'r gelyn uffernol ymson, "Wel, dyma yr Had'y darfu i'r Arglwydd Dduw fygwth oedd i ysigo fy mhen i wedi dyfod! A hwn y bydd yn rhaid i mi ymladd bellach; hwn fydd fy ngelyn mawr! Ni thynaf fy sylw oddiarno na dydd na nos; mi a'i gwyliaf bob moment. Ah! beth os gallaf ei wneyd yn Cain—yn gynnysgaeth i mi, ac nid i Efa? Mi a blanaf fy egwyddorion fy hunan yn ei gyfansoddiad; mi a'i hudaf ef fel yr hudais ei fam a'i dad; mi a anadlaf yn ei ffroenau anadl uffern nes yr â yn ddiafol byw!"

Mae cryn dywyllwch yn nghylch y moddion a ddefnyddir gan y diafol i ddylanwadu ar ddynion; ond nid oes dim yn fwy eglur yn holl ddysgeidiaeth y Bibl na'r ffaith ei fod yn gallu dylanwadu yn effeithiol iawn. A phrin y gallwn feddwl am neb tebycach iddo arfer ei holl ddylanwad a'i ystrywiau arno na Chain. Yr oedd ei gais i gwympo ei dad a'i fam newydd gael ei goroni â llwyddiant mawr; yr oedd yr hyn yr oedd Duw wedi ei fynegu iddo am "Had y wraig" yn fresh yn ei feddwl; &c y mae yn eithaf rhesymol i ni dybied ei fod wedi dechre arfer ei ddichellion a'i ddylanwad ar Cain hyd yn nod pan yr oedd yn blentyn ar lin ei fam. Cawsai Efa brofiad chwerw o gydymffurfio a themtasiynau y sarph. Yn lle y dedwyddwch pur a digwmwl a fwynhäai hi o'r blaen, ymddaenodd nos fel y fagddu dros ei meddwl. Ond yr oedd yna un seren yn dysgleirio yn nghanol y fagddu i gyd; yr addewid am Had y wraig. A phan anwyd Cain, dacw ei hwyneb yn dechre sirioli, a glöewder gobaith yn chware yn ei llygaid ! "Eiddo !" "cynnysgaeth!" ebe hi; "dyma fi wedi cael cyflawniad o'r addewid! Dyma yr 'Had' sydd i ysigo pen y sarph wedi ei gael!" Ond, fel yr awgrymwyd o'r blaen, hi a siaradodd yn rhy fuan. Cyn i Cain ddysgu cerdded, hi a welodd olion dylanwad yr hen sarph arno ef. A phan anwyd yr ail fab, rhoes ein rhieni cyntaf enw arno ag oedd yn mynegu y fath ddirfawr siomedigaeth oeddynt wedi ei gael yn eu mab cyntaf. Galwasant ei enw ef Abel—gwagedd i Gallasent, gyda mwy o briodoldeb, alw Abel yn Cain, a Chain yn Abel; ond fel y sylwodd rhywun, darfu i'r Ail Adda wella ychydig ar y camgymeriad yma o'r eiddynt; rhoddodd Iesu Grist ddarn newydd at enw Abel, ac fe'i galwodd yn "Abel gyfiawn."

Yr oedd yr egwyddorion drwg yma yr oedd y diafol wedi eu rhoi yn natur Cain—yr hon oedd yn llygredig eisoes, yn cynnyddu fel yr oedd yntau yn cynnyddu; ac aethant yn gryfach fel yr oedd yntau yn myned yn gryfach, nes iddynt, o'r diwedd, ffurfio gwrthdarawiad rhyngddo a'i frawd Abel. Prin y buasem yn dysgwyl i ddosbarthiad gwaith gymeryd lle mor gynnar yn hanes dynoliaeth, yn enwedig rhwng dau frawd—prin y buasem yn dysgwyl i un brawd ymroddi yn hollol i un gwaith, a'r llall ymroddi yn hollol i waith arall, ond ar yr ystyriaeth nad oedd yna ddim cymdeithas ysbryd rhwng y ddau. "Dos di un ffordd, af finnau ffordd arall," meddai Cain. Ac y mae hyd yn nod yr orchwyliaeth a ddewisodd y ddau yn rhoi mantais ragorol i ni weled y gwahaniaeth oedd yn nghymeriad y ddau. "Pob gyffelyb ymgais." Mae yn gofyn dyn a chalon fawr ganddo i wneyd bugail da; calon yn llawn tynerwch; dyn a fedr ganu ar y dyffrynoedd, ac ymddifyru wrth weled yr wyn yn prancio ar y bryniau; un y bydd brefiadau y defaid yn disgyn fel cerddoriaeth ar ei glust; un â'i galon yn gwaedu o gydymdeimlad pan wêl yr oen bach mewn caledi, ac na phetrusa ei gofleidio yn ei fynwes yr un fath a mam gyda'i maban; un a fedr edrych yn myw llygad y ddafad ddireswm, a darllen ei dymuniad! Pa un ai Cain ai Abel ydyw y dyn at y gwaith yna? "Abel oedd fugail defaid." Ond y mae yn bosibl i ddyn a chalon galed, front, grebychlyd, wneyd ffarmwr da. Nid ydym yn awgrymu fod amaethwyr fel dosbarth yn llai tyner a hynaws na rhyw ddosbarth arall o ddynion, ond nad ydyw tynerwch calon yn anhebgorol at y gwaith. Y ddaear. oer, galed, garegog! nid oes eisieu llawer o dynerwch calon i aredig ei hwyneb hi! Gwelsom ambell un cyn hyn, nad oedd nemawr uwch na'r anifail, yn cymeryd y prize am y ffarm. orau. "Cain oedd yn llafurio y ddaear."

Ond y mae rhyw dir cyffredin ac y mae gwahanol gymeriadau yn cydgyfarfod arno. Ar rai achlysuron bydd y tylawd a'r cyfoethog, yr haelionus a'r cybyddlyd, y pur a'r halogedig, y Phariseaid a'r publican, yn cydgyfarfod. Ac felly yma. Mae Cain ac Abel yn cydgyfarfod i addoli. Nid oedd Cain yn anffyddiwr, er cynddrwg oedd. Yr oedd ôl bysedd y Creawdwr yn rhy newydd ac iraidd ar natur o'i gwmpas iddo ef allu bod yn anffyddiwr. Nid oedd gan Cain ond rhyw un cam i'w roddi yn ol—ac yna Duw oedd y cwbl—tu hwnt i'w dad, nid oedd yno ddim i'w weled ond y Duw tragywyddol yn llenwi dystawrwydd anfeidroldeb! Na, yr oedd yn rhy gynnar o lawer i'r diafol allu gwneyd neb yn atheist nac yn anffyddiwr. Ac yn wir, nid yw y diafol yn gofalu cymaint am i neb fod yn anffyddiwr, os gall ei wneyd yn dwyll-grefyddwr.

A ddarfu i ni sylwi mai trwy offerynoliaeth crefyddwyr digrefydd—Os oes ystyr i'r fath ymadrodd y mae y diafol wedi dwyn oddiamgylch ei weithredoedd mwyaf anfad? Pan aeth y diafol i wneyd ei orchestwaith, nid y pagan anwybodus a ddefnyddiodd yn offeryn —nid y Rhufeiniwr didduw—nid yr anffyddiwr proffesedig, ond Judas, un o'r deuddeg, un oedd "yn y seiat"—un oedd yn bregethwr. Ac mae yma wers i ni i fod ar ein gwyliadwriaeth, rhag ein bod yn dwyn cysylltiad a chrefydd yn allanol, ac eto bod yn offerynau yn llaw y diafol i wneyd mwy o niwed i grefydd nag y gallasem pe na buasem yn dwyn cysylltiad â chrefydd o gwbl. Trwy bwy y mae y diafol yn hyrwyddo mwyaf ar ei deyrnas yn ein dyddiau ni? Ai trwy y meddwyn cyhoeddus? Ai trwy yr anffyddiwr proffesedig? O nage, ond trwy y dyn yna sydd yn cymeryd rhan amlwg yn ngwasanaeth crefydd ar y Sabboth, yn athraw hwyrach yn yr Ysgol Sabbothol, ac yn twyllo ei gymydog tu ol i'r counter ddydd Llun y bore, neu yn y dafarn, yn nghanol y meddwon a gwatworwyr, nos Lun. Dyna ddyn wrth fodd calon y diafol. Mae y dyn yna yn cario dagr o dan ei fantell, ac yn trywanu crefydd yn ei chalon ger gwydd y byd!

Yr oedd Cain yn addolwr. Wrth yr allor y mae efe ac Abel yn cydgyfarfod i gyflwyno eu gwasanaeth i Dduw; canlyniad yr hyn a fu i'r Arglwydd ddangos ei gymeradwyaeth i Abel, a'i Anghymeradwyaeth i Cain. Wrth weled y gymeradwyaeth a gafodd Abel dyma yr archelyn, cenfigen, yn cymeryd meddiant o orsedd calon Cain. Nid am fod Cain yn maelio cymaint yn y gymeradwyaeth ei hun; oblegid buasai yn hawdd iddo ei chael, pe buasai yn ei cheisio yn briodol; ond y ffaith fod ei frawd wedi cael yr oruchafiaeth arno a'i brathodd yn ei galon. O genfigen, pwy a draetha dy oes di? O na buasit farw gyda Chain! Fe ddarfu i'r genfigen yna estyn ei gwraidd trwy ei gyfansoddiad, nes o'r diwedd ffurfio yn ddrychfeddwl—yn idea, ïe, y drychfeddwl arswydus i ladd ei frawd; arswydus iddo ef ei hun ar y cyntaf, ni a gredwn, a'r hwn a ymlidiai efe o’i feddwl gyda dirmyg. Ond fe ddeuai y drychleddwl i'w galon drachefn a thrachefn, nes o'r diwedd fyned yn llettywr cyson yn ei fynwes—yn ei ddilyn pan fyddai gyda'i orchwyliaeth yn y maes, yn ei gadw yn effro am oriau yn y nos, yn ei gynhyrfu yn ei freuddwydion, ac yn gydymaith gwastadol iddo pan ddeffröai yn y bore, fel ellyll du, hagr, ac aflan, nes o'r diwedd ffurfio yn benderfyniad cadarn i ladd ei frawd y cyfleusdra cyntaf a gaffai! Nid ydyw yn ymddangos fod y cyfleusdra yma wedi dyfod mor fuan ag y buasai yn ei ddymuno, ac o ganlyniad efe a benderfynodd wneuthur cyfleusdra i'r pwrpas hwnw. Fe ddywedir fod yn nghyfieithiad y Deg a Thriugain dri gair bach yn Gen. iv. 8, nad ydynt i'w cael yn ein cyfieithiad ni. Mae yr adnod yn Gymraeg yn darllen fel hyn:—"A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd; ac fel yr oeddynt hwy yn y maes," &c. Gwelwn nad ydyw yr adnod yn Gymraeg yn dyweyd wrthym beth a ddywedodd Cain. Ond fel hyn y darllena yr adnod yn y Deg a Thriugain:—"A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd, Awn i'r maes; ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a'i lladdodd ef." Os oes awdurdod i'r cyfieithiad yna, y mae yn rhoi ar ddeall i ni mai nid rhyw feddwl sydyn yn Cain oedd lladd ei frawd, ond hen fwriad wedi tyfu ac addfedu yn ei galon ddrygionus, ac mai ei amcan wrth wahodd ei frawd i'r maes i roi tro oedd, cario allan y bwriad hwnw.

Edrychwch ar y ddau yn myned i'r maes: un yn nghanol ei ddiniweidrwydd, y llall yn gwisgo gwên dwyllodrus i gadw drwgdybiaeth draw. Mae yn awr yn colli ei ddewrder dan rym cyhuddiadau cydwybod ; mae ei nerves yn gwanhau; ond drachefn y mae yn adfeddiannu ei nerth, yn edrych yn wyllt o'i gwmpas rhag ofn bod rhywun yn gwylio. Ond anghofiodd, druan, edrych i fyny. Ac yno y mae yn rhuthro ar ei frawd, ac yn ei glwyfo yn farwol! Mae yr olygfa yn tragical i'r eithaf! Prin y gallwn ddychymygu beth oedd teimladau Abel pan yn marw dan law ei frawd, a llawer llai teimladau Cain pan y darfu iddo sylweddoli ei fod yn llofrudd, ac yn llofrudd ei frawd! Mae ei gydwybod yn deffro fel arthes wedi colli ei chenawon; o'r braidd mae yn gallu credu ei fod wedi medru cyflawni y fath weithred ysgeler. Mae yn edrych ar ei ddwylaw mewn ammheuaeth; ond y mae y rhai hyny yn goch gan waed; mae ei dalcen yn wlyb gan chwys oer; mae yn gweled y lle yn dechre troi o'i gwmpas, ac y mae yn cychwyn ffoi. Ond y mae meddwl arall yn ei daraw: mae yn rhoi un edrychiad gwyllt o'i gwmpas, ac yna y mae yn prysuro i gladdu ei frawd yn y ddaear. Mae yn edrych o'i amgylch unwaith eto, ac yna yn dianc. Ond cyn iddo fyned ymhell, dyna lef fel taran yn ei attal: "Cain, mae Abel dy frawd?" Ac fel pob drwgweithredwr ar ei ol, wrth gael ei ddal, dyna y celwydd yn dyfod allan y gair cyntaf, "Nis gwn i;" a thrahausder yn dilyn hyny, "Ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi ?" Ond dyna y gair nesaf yn ei daraw yn fud. "Beth a wnaethost? Llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o'r ddaear," meddai Duw. "Yr awr hon melldigedig wyt o'r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o'th law di. Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear. Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu."

Mae gwahanol farnau mewn perthynas i wir ystyr geiriau Cain mewn atebiad i'r ddedfryd hon o eiddo Duw arno. Rhy brin y gellir edrych arnynt fel iaith gwir edifeirwch. Edrycha rhai arnynt fel dadganiad o ysbryd grwgnachlyd; eraill a edrychant arnynt fel mynegiad o anobaith dwfn; ac yn unol â'r golygiad hwn a gyfieithant y geiriau "Mwy yw fy nghosbedigaeth nag y gallaf ei oddef," ac fel yna y mae y geiriau yn y Bibl Saesoneg. Ond hwyrach fod yr ymadrodd yn cynnwys y ddau feddwl, oblegid y mae ysbryd grwgnachlyd ac ysbryd anobethiol yn canlyn eu gilydd yn led gyffredin. Mae y gweddill o hanes Cain yn cael ei adrodd mewn ychydig eiriau; ond nid oes genym fwriad i'w ddilyn gyda dim manyldeb ymhellach. Nid ydyw yr hanes heb ei wersi.

Y fath amlygiad sydd yma o anmhleidgarwch yr Arglwydd. Mae yn wir ei fod wedi dangos ei foddlonrwydd i Abel, a'i anfoddlonrwydd i Cain. Ond paham y darfu iddo wneyd hyn? A ddangosodd yr Arglwydd ryw ffafr dueddgar i Abel? Mae yr hanes yn dywedyd yn wahanol. "Os da y gwnai," meddai Duw wrth Cain, "oni chai oruchafiaeth? Ac oni wnai yn dda, pechod a orwedd wrth y drws." Ymddyga di, fel pe dywedasai Duw, yr un fath ag Abel dy frawd, ac fe fydd yr un gymeradwyaeth yn dy aros di ag a dderbyniodd yntau. Ac nid yn unig hyny, ond y mae yn ymddangos mai Cain a gawsai y gymeradwyaeth gyntaf, pe buasai wedi dyfod ymlaen yn yr ysbryd priodol a chyda'r offrwm priodol. "Atat ti y mae ei ddymuniad ef hefyd, a thi a lywodraethi arno ef." Tydi ydyw y mab hynaf, ebe Duw, a chenyt ti y mae yr hawl gyntaf i'r fendith a'r gymeradwyaeth. Nid oedd gan Cain yr un gair i'w yngan yn erbyn cyfiawnder y ddedfryd a gyhoeddwyd arno. Fe fydd Duw yn gweithredu wrth yr un reol tuag at bawb o honom. Pe gallai dyn deimlo, hyd yn nod yn ngholledigaeth, mai nid arno ef yr oedd y bai ei fod yno—ei fod wedi gwneyd ei oreu yn llwybr Duw a'r efengyl i beidio myned i ddystryw, ac eto ei fod wedi methu—pe gallai dyn deimlo felly, meddem, byddai y dyn hwnw wedi lleddfu y naill hanner o'i boenedigaeth. Ond nid felly y bydd; yn hytrach fe fydd yna argyhoeddiad dwfn a thragywyddol yn enaid y dyn colledig mai arno ef ei hun yr oedd y bai, ei fod wedi cael pob cyfleusdra i fod yn gadwedig, fod yr un croesaw yn ei aros ef ag oedd yn aros eraill a wnaethant ddefnydd o hono; a dyma fydd yn ysu ei enaid byth, fod y cyfrifoldeb o fod yn golledig yn gorwedd yn gwbl wrth ei ddrws ef ei hunan.

Nid allwn lai na gweled hefyd yn yr hanes yr hyn y mae pechod yn dwyn dyn iddo wedi iddo wneyd ei waith arno. I'r galon y mae pechod yn dyfod gyntaf mewn meddwl drwg. A ddarfu i ni sylwi, wrth rodio yn y wlad, ar yr hen dŷ gwag, a'r ffenestri wedi tori; neu yr hen ysgubor wag, heb neb yn ei mynychu; ac a ddarfu i ni sylwi ar y wenol ddyeithr yn dyfod yn ei thymimor, ac yn myacd ar ei ehediad fel saeth i fewn trwy un ffenestr, a thrwy y llall allan; ac yna yn gwneyd tro hirgrwn, ac yn gwneyd yr un peth drachefn, nes boddloni ei hunan nad oedd yn yr hen dŷ neu yr hen ysgubor wag ddim i'w niweidio; ac yna y mae yn eistedd ar y trawst, ac yn canu yno, ac o'r diwedd yn gwneyd ei nyth yno, ac yn cenedlu ei rhyw? Dyna ddarlun i ni o galon dyn a phechod. I'r galon, fel y nodasom, y mae pechod yn dyfod gyntaf, mewn meddwl drwg. Gwyliwn roddi croesaw iddo. Oblegid os caiff pechod wneyd ei nyth yn nghalon dyn, y mae yn sicr o fagu ei ryw, a thori allan mewn gweithredoedd drwg, ac yn y diwedd adael dyn mewn anobaith—ei adael yn wibiad! "Gwibiad a chrwydriad fyddi." Yr un fath â'r seren wib, wedi tori dros derfyngylch yr haul, yn ffoi o hyd, heb wybod i ba le y mae yn ffoi, ac eto yn methu peidio ffoi; wedi tori dros bob deddf ond y ddeddf sydd yn ei gyru ymhellach oddiwrth yr haul. Dyna ddarlun o ddyn wedi i bechod wneyd ei waith arno. Gwibiad ydyw yn llywodraeth Duw; creadur wedi tori dros bob deddf ond y ddeddf sydd yn ei yru yn ddyfnach i drueni, ac ymhellach oddiwrth Awdwr ei fodolaeth a chanolbwynt ei ddedwyddwch.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 


  1. Y Wilson y cyfeirir ato yw'r arlunydd enwog John Wilson, B.A., yr hwn a fu farw yn y Golomendy, gerllaw yr Wyddgrug, a'r hwn a gladdwyd yn fynwent y dref.
  2. Mr. Rice Edwards, gan yr hwn y llogid ceffylau gan yr efrydwyr i fyned i'w teithiau.
  3. Mae'r wybodaeth yma yn anghywir, colli bu hanes Cunliffe, oherwydd ei fod wedi pechu anghydffurfwyr fel Thomas Gee a Daniel Owen trwy wrthwynebu datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd. Peter Ellis Eyton, Rhyddfrydwr oedd yn gefnogol i ddatgysylltu bu'n fuddugol. Cyfarfod i roi tysteb i Cunliffe, fel diolch am ei wasanaeth ac i geisio ail uno'r blaid rhwygedig oedd y cyfarfod yn yr Wyddgrug ar ôl yr etholiad
  4. TYSTEB I SYR ROBERT CUNLIFFE - Baner ac Amserau Cymru 1874 adalwyd 21 Rhagfyr 2021
  5. Sef 1899
  6. Nis gellir dweud hyn am ei nofelau diweddaf
  7. Gwel ei gân " Forau y Nadolig " ar ddiwedd y gyfrol hon