Cymeriadau (T. Gwynn Jones testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cymeriadau (T. Gwynn Jones testun cyfansawdd)

gan Thomas Gwynn Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cymeriadau (T. Gwynn Jones)

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Gwynn Jones
ar Wicipedia










CYMERIADAU




CYMERIADAU

GAN

T. GWYNN JONES







WRECSAM

HUGHES A'I FAB

1933





Gwnaed ac argraffwyd yng Nghymru









I

ARGLWYDD CLWYD

er cof am a ddysgais

ganddo gynt.





CYNNWYS


EDWARD ANWYL


ER geni Syr Edward Anwyl yn Lloegr—yn ninas Caerlleon, yn 1866—ac er ei addysgu yn Ysgol Harri'r Wythfed yn y ddinas honno, ac yn Rhydychen, Cymro oedd Syr Edward hyd y gwraidd.

Fel myfyriwr, bu ei yrfa yn ddisglair. Er pan benodwyd ef yn Athro'r Ieithoedd Celtig yn Aberystwyth yn 1892, ac wedi hynny yn Athro Ieitheg Gymhariaethol, dangosodd mai nid ysgolhaig yn unig ydoedd, canys llanwodd lawer o swyddi cyhoeddus â mawr glod iddo'i hun, a gwnaed ef yn farchog fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i ddysg ei wlad. Brithir cyhoeddiadau'r Cambrian Archaeological Association ag ysgrifau o'i waith ar bob math o bynciau, ac ysgrifennodd yn ddiamau gannoedd o erthyglau i gylchgronau Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg ac Almaeneg. Ymhlith ei lyfrau gellir nodi Gramadeg Cymraeg yng nghyfres unffurf Sonnenschein, a llyfr ym arfer yn yr un gyfres; llyfr Saesneg ar Grefydd yr hen Geltiaid; Rhagymadrodd a Gramadeg i Farddoniaeth y Gogynfeirdd; Esboniad Cymraeg ar Lyfr Hosea; Cyfieithiad o'r Gododdin, heb sôn am ei ysgrifau ar y Mabinogion yn Y Gwyddoniadur a'r Zeitschrift für celtische philologie, a'i erthyglau ar amrywiol bynciau yn Hastings' Encyclopaedia of Religion and Ethics.

Fel dyn, anfynych y ceid ei debyg. Tawel a mwyn, bonheddig a chadarn, nid oedd amgylchiad na wyddai Edward Anwyl sut i ddyfod trwyddo yn yr un ffordd briodol ac urddasol. Yr oedd ei wybodaeth yn eang, ni waeth ym mha gylch, a'i gof ysblennydd bob amser yn ei wasanaethu yn ddiffael; Groeg a Lladin ar flaenau ei fysedd—prydyddai Ladin difai ei glasuroldeb; sicr a phwyllog yn nyrys bethau ieitheg gymhariaethol; ar flaen ei oes ym mhob dysg Geltig; meistr ar hanes hynafiaeth; Hebraeg at ei alwad pan fynnai; diwinyddiaeth, a gwyddor newydd crefydd gymhariaethol yn hysbys iddo—synnai pawb a'i hadwaenai, ymhlith gwŷr cyfarwydd y gwybodau, at ei wybod a'i fedr. A'i symledd dirodres tros ben y cwbl. Soniech am a fynnech, caech wybod a synnwyr a doethineb gan Edward Anwyl. Bu fyw mor syml a gweithiodd mor galed. Rhyw ddeg ar hugain neu ragor o ddarlithiau mewn wythnos, a phob un o'r rhai hynny wedi ei gorffen yn drwyadl. O'i ystafell yn y Coleg

i'w lety, ac o'i lety i'w ystafell, gwyddem ym mha le i'w gael wrth y goleuni a welem drwy'r ffenestr.

Darllenai lyfrau mawr, fel Hastings' Encyclopædia, o glawr i glawr megis wrth ei bwys, ac nid anghofiai unrhyw ffaith newydd y deuai o hyd iddi. Neidiai i'w lle yn ei feddwl disgybledig, ac yno y safai i'w wasanaethu pan fyddai ei hangen. Bûm yn tybio bod yr awydd am gynnull gwybodaeth ar bob math o bynciau ym mhob cwr o faes diddordeb llawer ehangach na'r cyffredin wedi mynd yn oruchaf nwyd ynddo, fel na fedrai ef mwy wneuthur rhai pethau a wnai gynt. Dywedodd wrthyf ar un achlysur, "Na adewch i'ch dysg ladd eich dawn." Ni wyddwn pa beth yn gymwys a feddyliai, ac ni bûm ddigon hy i ofyn iddo, ond cyn hir ar ôl ei farw, darllenais ysgrif o'r eiddo, a wnaeth pan oedd yn fyfyriwr, y dychan clyfraf a chywiraf ar rai o wendidau bywyd Cymreig a sgrifennodd neb erioed. Ai chwith gan Edward Anwyl ar ôl dawn a aberthwyd er dysg? Nid wyf yn ameu. A oes rywun bellach a ŵyr pa beth a ddaeth o brydyddiaeth un rhan o'i brofiad fel myfyriwr yn Rhydychen?

Pan lefarai, llifai ei frawddegau allan heb ball, heb fyth fefl ar ramadeg na chystrawen, heb fod unrhyw gymal yn chwithig na thrwsgl, ond ag ôl disgyblaeth glasurol ar bob adran. Oni synnech at ddisgleirdeb unrhyw fflach yma ac acw yn ei waith, rhyfeddech at berffeithrwydd y cyfan yn ei grynswth.

Swynid chwi gan ei Gymraeg perffaith, oedd fel lleferydd Cymro o Leyn na wybu ddywedyd ei feddwl erioed mewn un iaith arall. Deuai'r wên dirion a'r gair cynefin—"Wel, rhyfedd iawn, rhyfedd iawn!" Yna, yn Saesneg, mor rhugl a pherffaith eto, fel na wybuasech ei fyw yn unman ond yn Lloegr. Clywais ef at hynny, mewn cwmpeini lle'r oeddym yn ymdrechu'n boenus i siarad â Ffrancod ac Almaeniaid, yn troi i'r ieithoedd hynny heb anhawster na phall am eiriau na phriod-ddull.

Ac nid peiriant ydoedd ychwaith. Gwelais ef ar y traeth yn Aberystwyth yn edrych ar yr haul yn ymachlud. Safai â'i law ar ganllaw rhodfa glan y môr, a gwên ar ei wyneb. Aeth pedwar ohonom yr oedd inni'r fraint o fod yn gyfeillion iddo, heibio iddo deirgwaith, yn ei ymyl. Ni welodd monom. Ac ni phallodd y wên oddi ar ei wyneb am ugain munud cyfan. Bûm yn sôn wrtho am yr Wyddfa dan oleuni haul Medi pan ddisgynno arni drwy Ddrws y Coed nes ei bod fel un talp o amethyst, a sylwais ddyfod yr un goleuni i'w lygaid a'r un wên hoffus ar ei wyneb. Clywais ef yn siarad ar osteg am gelfyddyd gwlad Roeg, a'r un goleuni a'r un wên fyth yn ei lygaid ac ar ei wyneb.

Ni bu yn ein hoes ni Gymro a adwaenid yn well nag ef. Ac ni bu hwyrach Gymro yr oedd ynddo gymaint nad adwaenid. Tawel, pwyllog, gafaelgar, cryf, gwyddai ei feddwl a'i amcan yn drwyadl, a medrai edrych ymhell, a disgwyl yn hir. Mewn pwyllgor, byddai ei wylio yn wers i ddyn ystyriol. Cadwai at ei bwnc. Prin fyddai ei eiriau, a manwl. Dacw ddarn o bapur o'i flaen, a phensil yn ei law. Gallech feddwl nad yw'n gwrando, ac mai ei brif a'i unig amcan yw bod y lluniau y mae'n eu tynnu ar y papur yn rhai cywir -llun pennau'r bobl sydd o'i gwmpas, neu lun cwnhingod yn rhedeg i'w tyllau neu yn edrych allan ar y byd o'r tyllau hynny. Fe allai ein bod ni sydd o'i gwmpas yn edrych yn debyg iawn i haid o gwnhingod iddo ef-mor ddibwrpas ydym! Eto, medr ef wenu mor dirion wrth dynnu ein lluniau, ac wrth droi at ambell un ohonom a sibrwd mor fwyn—"Wel, peth rhyfedd ydi pwyllgor, on'te!" Pa dawel ddifyrrwch a gafodd yn ei ddydd! Ond arhoswch iddo siarad a dodi trefn ar bethau. Ni thybiasech y gallai dyn dynnu lluniau a chynlluniau ar unwaith, a hel y cwnhingod i gyd i'r tyllau cyfaddas. Llawer un yn ddiau a aeth i'w dwll heb wybod dim pwy a'i gyrrodd yno, a heb ddychmygu mai twll arall oedd ei nod ef ei hun ar hyd yr amser.

A'i egni eto. Gwelais ef yn cyrraedd Lerpwl wedi teithio o Gaerdydd. Cawsom egwyl i yfed cwpanaid o dê cyn bod yn rhaid iddo ddarlithio yn y Brifysgol ar Hynafiaethau Cymru a'r Goror. Siaradodd am awr ac ugain munud, heb air ar bapur o'i flaen. Ni faglodd ar gymaint ag un frawddeg; ni fethodd unwaith a rhoddi enw dyn na lle na gwrthrych, na nodi blwyddyn. Gorffennodd. Aethom allan. Cafodd damaid o fwyd. Aeth yn syth i'r traen i deithio ar hyd nos i dreulio trannoeth mewn rhyw bwyllgor. Felly o ddydd i ddydd, o flwyddyn i flwyddyn. Ni roed caletach gweithiwr erioed i orffwys yn naear gwlad a garodd.

Perthynai i bob enwad. Ni fedrech feddwl amdano ond fel dyn a Chymro. Ac y mae calonnau ei gyfeillion yn cynhesu, serch bod ei galon odidog ef weithian yn oer, wrth gofio na charwyd yn ei oes Gymro yn fwy nag y carwyd ef. Rhyw reswm tebyg, ryw dro, a barodd roi'r cyfenw a ddygai ar rywun o'i hynafiaid. Un gair sydd yn Gymraeg a'i disgrifiai. A hwnnw oedd ei enw. Ac Ac y mae yntau yn ei fedd yn wyth a deugain oed!

1914.

THOMAS FRANCIS ROBERTS


CYN y gellid gwneuthur dim tebyg i roddi syniad cywir am wasanaeth a dylanwad y Prifathro Roberts, byddai raid darllen yn fanwl drwy gofnodion y deugain mlynedd diwethaf. Hyd yn oed pe gwneid hynny, byddai yn ei hanes lawer iawn na ellid ei fesur, canys ni pherthynai ef i'r dosbarth lluosog hwnnw sy'n hoffi dawnsio ar ôl amlygrwydd. Eto, nid oes amheuaeth yn y byd na chollwyd dyn anghyffredin yn ei farwolaeth ef.

Nid oedd yn drigain oed, a hyd yn ddiweddar iawn, nid edrychai cyn hyned ag ydoedd. Rhag ei wyleiddied a'i daweled, gallai dyn feddwl na bu nemor gyffro erioed yn ei drigain mlwydd namyn un. Wrth lan ei fedd, ni allwn i beidio â meddwl am derfyn dydd o hydref cynnar, yn rhywle ar draeth Cymru—rhwng Aberdyfi ac Ardudwy, dyweder. Goleuni porffor ar fôr a tharth golau ar fynydd; tawelwch dwfn ar bopeth; hud ar y bryniau a'r nentydd, a rhyw deimlad yn yr awyr fod diwrnod gwych yn darfod yn ei odidowgrwydd a'i aeddfedrwydd; ac eto, fod y dydd hwnnw, rywfodd, yn rhy dawel i neb fod wedi gweled ei holl ysblander. Credaf mai prin yr adnabu ei oes ef yn iawn, ac mai cymharol fychan oedd rhif y rhai a'i deallai yn dda. Nid oedd yn debyg iawn i neb o'i gyd-fyfyrwyr yn Aberystwyth, mewn unpeth, er bod yr ansoddau oedd ynddynt hwy bron i gyd ynddo yntau, ac er ei ddwyn i fyny yng nghanol yr un dylanwadau. Hyd y gallaf i farnu, ychydig iawn o ddynion tebyg iddo a berthynai i'r un do ag ef ymhlith ysgolheigion Cymreig. Er na chefais y fraint o adnabod Thomas Edward Ellis yn bersonol, tybiaf mai ef oedd y tebycaf i'r Prifathro o'r holl wŷr ieuainc galluog oedd yn Aberystwyth ar unwaith ag ef. Yr oedd tawelwch Sir Feirionydd yn y ddau, tawelwch Ardudwy yn nyddiau'r hydref. Y mae'r un tawelwch yn eraill o feibion yr un sir, sydd eto'n fyw, yr un gweithgarwch ynddynt a'r un mwynder.

Am y Prifathro, teimlwn bob amser fod dau beth rhyfeddol ynddo—y cywirdeb a'r dyfalwch y ceir cymaint ohonynt ymhlith y Bedyddwyr fel pobl, a'r neilltuedd tynghedfennol a geir yng nghytganau'r ddrama Roeg. Nid wyf yn meddwl ychwaith mai rhyw gais i esbonio yn ôl yr amgylchiadau

yn unig yw dywedyd hynny. Yr oedd rhywbeth tragoedus (os ceir llunio ffurf ar air) yng ngolwg ac yn nhawelwch y Prifathro. Gwelais ef yn ei feistroli ei hun pan oedd yn daro rhwng dwy bersonoliaeth. Rhaid ei bod yn ymdrech iddo gwyddech wrth ei dawedogrwydd—ond ni chollai dawelwch ei olwg am eiliad.

Clywais ef yn siarad ar goedd lawer tro. Prin y gellid dywedyd y byddai byth yn hyawdl, yn ystyr gyffredin y gair hwnnw; ac eto, yr oedd yn hyawdl mewn ystyr dawel, wastad, a gwahanol iawn i'r llacrwydd ymadrodd a'r triciau mân a elwir yn gyffredin yn hyawdledd. Cofiaf yn arbennig am un o'r anerchiadau cyhoeddus olaf a draddododd, onid wyf yn methu. Yn Bootle y bu hynny, adeg Eisteddfod Birkenhead (1917). Sôn yr oedd am un o'i hoff bynciau—addysg Cymru. Dywedodd cadeirydd y cyfarfod—Pedr Hir—na chlywodd ef erioed mo'r Prifathro mor hyawdl, ac yr oeddwn o'r un farn ag ef. Dadansoddodd holl nodweddion pobl gyffredin Cymru, eu dawn helaeth a'u greddfau hael a charedig. Soniodd am y wlad fach arall a garai ef—gwlad Roeg—a dangosodd y llwybrau y dylai addysg Cymru eu cerdded, a'r cwbl gyda gwres oedd yn anghyffredin iddo. Ac eto, ni fedrwn i yn fy myw lai na theimlo bod ei bwyll wrthi ar ei egni yn mesur a phwyso ei holl eiriau, ac yn gweled gwendid a pherygl pob rhagoriaeth a champ yn glir o'i flaen.

Mewn ymddiddanion personol, sylwais lawer gwaith ar yr un peth. Nid wyf yn sicr nad oedd ei ochelgarwch yn rhy anhyblyg ar brydiau, ond yr oedd ei sefydlogrwydd yn sicr yn ardderchog. Wedi holl droadau ymddiddan hir—milltiroedd o gerdded a siarad—cyfodai niwlen geiriau yn sydyn, megis; ac yno, yn yr un adwy, fel gwyliwr o Roegwr gynt, safai yntau o hyd, yr un fath, ac nid o ddiffyg gwybod na dychymyg na chydymdeimlad â'r ochr arall chwaith.

O ŵr mor gadarn ei fwriad, yr oedd gwyleidddra hynod ynddo, hyd dawedogrwydd. Eto, yn y mân bethau hynny, sy'n dynodi anghofrwydd di fwriad cynifer ohonom, ni chefais i erioed mono'n pallu; a hoffwn yma gydnabod un peth arbennig a gefais ynddo fwy nag unwaith a dwy— cwrteisi hael a meddylgar, yn groes i bob defod ac arfer ffurfiol sydd, bron o angenrheidrwydd, yn rheoleiddio amgylchiadau cymdeithasol.

Yr oedd unwaith yn fryd ganddo baratoi at gyhoeddi yn llyfr Cymraeg nifer o ddarlithoedd oedd ganddo ar y dramâu Groeg. Gobeithio bod y gwaith hwnnw eto ar gael. Gofynnodd i mi drosi'r dyfyniadau i fydr Cymraeg iddo, ar gyfer y gwaith. Am ei feirniadaeth ar y cyfieithiadau, cwta oedd hi, ond dangosai ei fod ef mor gyflym i adnabod teithi'r Gymraeg ag ydoedd i weled meddwl ac ysbryd a chrefft y Groegiaid—gresyn na adawsai ei ddyletswyddau iddo hamdden i gyhoeddi llawer ychwaneg ar y pynciau hyn. Cofir am ei gyfieithiad o "The Raven" Edgar Allen Poe—yr unig ddarn o fydryddiaeth o'i waith y digwyddodd i mi erioed ei weled.

Anaml iawn y clywais ef yn chwerthin, ond yr oedd ganddo ryw gychwyn gwên anghyffredin iawn, a gwbl newidiai wedd ei wyneb am eiliad, a dim ond eiliad. Prin yr ysgogai ei wefusau, ond agorai ei lygaid, gloywent hyd eu dyfnderoedd, ac yna, popeth fel cynt. Dywedai rhai a'i cofiai yn fyfyriwr ieuanc mai siaradwr hyawdl a thanbaid fyddai y pryd hwnnw. Yn fuan ar ôl ei benodi'n brifathro Aberystwyth y clywais i ef gyntaf. Tawel iawn ydoedd yr adeg honno. Tebyg mai ei ddisgyblaeth glasurol a gyfrifai am y newid posibl yn ei ddull wrth lefaru ar goedd. Pan ddoi'r cysgod gwên hwnnw dros ei wyneb—fe'i gwelais unwaith pan oeddym yn gorfod gwrando ar sampl ysgubol o'r ymfflamychu aml-eiriog hwnnw a glywir nid yn anfynych yng Nghymru,—meddyliwn fod mwy na disgyblaeth yn y peth hefyd. Tybiais lawer gwaith fod, y tu ôl i'r wên honno, gyfandir nad adnabu neb, hyd yn oed o'i gyfeillion. Ac weithian, nid adnebydd.

1919.

DIC TRYFAN


RICHARD HUGHES WILLIAMS oedd ei enw, "yn ôl y Seisnigawl arfer," chwedl John Jones Gelli Lyfdy, gynt; ond rywbryd yn o gynnar ar ei yrfa lenyddol, dechreuodd ysgrifennu yn Saesneg tan yr enwau "Tryvan Arvon" a "Dick Tryvan" (y mae cennad i Gymro a sgrifenno yn Saesneg ddewis enw Cymraeg). Rywfodd, yr olaf o'r ddau enw a lynodd wrtho ymhlith ei gyfeillion, er mai'r blaenaf oedd y tlysaf yn ddiamau—ond y mae llawer canrif er pan fu'r Cymry yn hoff o bethau tlysion!

Brodor o Rostryfan, yn Sir Gaernarfon, ydoedd, er bod teulu ei dad yn dyfod o dueddau Aberdaron, a thraddodiad yn eu plith, fel y clywais y mab ei hun yn dywedyd, eu bod yn ddisgynydd ion i'r hen fardd Lewys Daron. Ganed Dic Tryfan tua'r flwyddyn 1878. Chwarelwr oedd ei dad; ac ni chafodd yntau, oedd yn un o deulu o bedwar neu bump, ryw lawer o gyfleustra addysg yn hogyn. Aeth i weithio i'r chwarel ei hun pan oedd tua deuddeg oed; ond yr oedd elfen lenyddol ynddo wrth natur, a chawsai grap ar ddarllen Saesneg yn yr ysgol. Dechreuodd ddarllen ac ysgrifennu Cymraeg yn ieuanc. Yr oedd elfen brydyddu ynddo hefyd, ac enillodd wobrau yn gynnar yn y cyfarfodydd cystadleuol a gynhelid yn yr ardal a'r cymdogaethau. Clywais gan rai a'i hadwaenai'n hogyn mai un distaw, dwys, ydoedd. Un felly fu ar hyd ei oes.

Dechreuodd gael blas ar ddarllen nofelau tra'r oedd yn y chwarel. Dywedodd ei hun wrthyf fel y cafodd afael yn rhywle ar gopi rhad o un o nofelau Charles Dickens, os da fy nghof, a'r modd y darllenodd honno drwy drafferth nid bychan, am mai prin oedd ei Saesneg. Tarawodd yr ystori honno, ac eraill a ddarllenodd tua'r un adeg, yr elfen oedd yn ei natur ef ei hun, a dychmygai fel y byddai yntau, rywdro, yn nofelydd.

Pan oedd tuag ugain oed, gadawodd y chwarel. Casglasai ddigon o arian i dalu am ychydig ddysg iddo'i hun. Y pryd hwnnw, yr oedd yng Nghaernarfon ysgol ramadegol fechan, "Ysgol Jones Bach," fel y gelwid hi—cof da am yr athro, hen ŵr bach, yn mynd ar ryw hanner tuth a'r naill law ym mlaen llawes y fraich arall. Ysgol dda oedd " Ysgol Jones Bach," a synnai pawb sut y gallai'r athro roddi cymaint o sylw personol i

gynifer o ddisgyblion mor amrywiol a gwahanol

i'w gilydd. Hynny a wnai, sut bynnag, a llawer un a gychwynnwyd yn effeithiol ganddo ar ben ei lwybr.

Wedi bod yn yr ysgol honno am ysbaid, rhoes Dic Tryfan gynnig ar waith gyda'r papurau newyddion. Gwn nad oedd ganddo lawer o feddwl o'r alwedigaeth honno, o'i rhan ei hun, er iddo ei dysgu'n dda iawn. Ar lenydda yr oedd ei fryd ef, a darganfu'n fuan iawn nad llenorion sydd eisiau at y gwaith. Eto, hwnnw oedd yr unig ddrws agored i un yn ei amgylchiadau ef yr adeg honno yng Nghymru. Dyna'r pryd y deuthum i i'w adnabod gyntaf.

Yr oedd yn ddyn ieuanc cydnerth, yn tueddu at fod yn dew, ond yn hynod yswil a thawedog. Cyfaddefodd wrthyf wedyn iddo basio drws un swyddfa wyth waith cyn magu digon o hyder i fynd i mewn i roi cynnig ar waith a addewsid iddo yno. Ond o'r diwedd, i mewn yr aeth, a dechrau arni. Ychydig, feallai, a ddechreuodd arni drwy wneuthur llai o chwarae teg ag ef ei hun. Yr oedd yn dawedog a breuddwydiol iawn ei olwg, ac yn meddwl, y mae'n debyg, mai trawsineb ystiward oedd i'w ddisgwyl oddi wrth bawb mewn rhyw fath o awdurdod.

Ni chawsai eto hyd i'r llawysgrifen oedd naturiol iddo, nac ychwaith i'r dull gorau i afael mewn ysgrifell. Cydiai ynddi yn rhy agos i flaen y pin dur, a gwasgai hi fel pe buasai gŷn i'w daro â morthwyl; âi'r inc hyd ei fysedd, ac yma ac acw ar hyd y papur, yn ffurfiau amgen na llythrennau ; felly, mynych rwygai yntau ei bapur, a rhoddai ail gynnig arni. Yr oedd yn rhaid iddo ddysgu cymryd llai o le i'w benelinoedd ar y bwrdd ac eistedd dipyn yn sythach. Nid atebai ei eirfa Saesneg i'r alwad arni yn ddigon buan, ac yr oedd ôl Cymraeg yn glynu wrth ei gystrawen, fwy na pheidio. Gallesid tybio mai torri ei galon a wnaethai, a thybiwyd mai dyna a ddigwyddodd, canys ni bu'n hir gyda'r gwaith. Collwyd golwg arno yn sydyn, ac ni wyddai neb i ba le yr aethai.

Pan welwyd ef drachefn, yr oedd ei ystum wedi newid. Dysgasai drin yr ysgrifell yn y ffordd briodol i'w law, ac yr oedd yn feistr ar Law Fer Pitman. Cafwyd allan beth o'r hanes ymhen amser. Buasai'n gweithio mewn rhyw ffowndri yn Lerpwl am ryw hyd, ac aethai o'r diwedd i ysgol yn Llundain. Yno, dan athrawon synhwyrol y mae gennyf barch iddynt, pwy bynnag oeddynt—dysgodd feistroli ei law ac ysgrifennu Llaw Fer. Eto, yr oedd rhai anhawsterau yn aros. Gorfu iddo wynebu ysbaid arall o hyfforddiad caled—ennill cyflymdra a pharodrwydd yn enwedig. Ni phallodd unwaith yn ei ymdrech yr oedd ynddo benderfyniad ystyfnig, os tawel. Ysgrifennai bethau drosodd lawer gwaith yn ddi-gŵyn. Ac o'r diwedd, cafodd ei draed tano. Gwelais ei bapurau ar ôl ei farwolaeth. Mewn llawer ystyr, beth bynnag, dysgasai drefnusrwydd a gofal na buasai neb byth yn tybio ar y dechrau y cyrhaeddai eu bath.

Bu'n ohebydd i amryw bapurau, yng Nghymru ac yn Lloegr. Bu am ysbaid yn ysgrifennydd hysbysiadau i wneuthurwyr rhyw feddyginiaeth anffaeledig. Yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth adref am dro, a golwg go wael arno. Gofyn o gyfaill iddo paham na chymerasai beth o'r feddyginiaeth. Heb ddim ond gwneuthur rhyw lygad bach direidus, atebodd yn gwta, "Dyna wnês i!" Cyn hir, daeth yn ei ôl i Gaernarfon, a bu'n gweithio yno fel golygydd am rai blynyddoedd. Er maint oedd ei anfanteision, dysgodd y grefft honno yn drwyadl. Symudodd i Aberystwyth, oddi yno i Lanelli, ac yna am ysbaid i Gaerdydd.

Cyfaddefodd wrthyf unwaith mai ei gas beth oedd y teleffôn, eto byddai â'r gragen wrth ei glust, yn ysgrifennu i lawr beth a ddywedai'r dyn yn y pen arall wrtho. Ond daeth y Rhyfel. Pan alwyd ef yn ei dro i'r fyddin, gwrthododd y meddygon ei dderbyn fel ymladdwr oblegid nad oedd ei galon yn ddigon iach, ond bernid, y mae'n debyg, ei fod yn gymwys i fynd i wneuthur rheidiau rhyfel. Felly, bu'n gweithio am fisoedd yng ngwaith Penbre. Rhyddhawyd ef oddi yno tua dechrau 1919, oblegid bod drwg ar ei ysgyfaint erbyn hynny; a phan ddychwelodd i Aberystwyth, nid oedd onid croen am esgyrn. Dechreuodd wasanaethu fel un o olygwyr y Cambrian News, ac am ysbaid edrychai fel pe buasai'n gwella; ond yr oedd y peswch yn dal ato, a gyrrwyd ef i Iachwyfa Tregaron, gyda'r bwriad, yn ôl a ddywedodd ef ei hun wrthyf, o'i symud ymhen ychydig i Dalgarth.

Gŵr prudd oedd wrth natur; eto, fel y dywed wyd eisoes, yr oedd penderfyniad ystyfnig yn perthyn iddo. Pan gychwynnai i Dregaron, dywedai wrthyf ei fod am fynnu gwella. Cymerai dawelwch a gorffwys, meddai, a deuai yn ei ôl a gorffennai'r nofel yr oedd wedi ei chynllunio, yn disgrifio bywyd yn y gwaith pylor. Credwn y gwnai hynny, canys gwyddwn iddo wneuthur pethau mor anodd a hynny.

Ond nid hir y bu yn Nhregaron cyn dyfod yr hanes mai gwaethygu yr oedd. Torrodd ei galon, mi gredaf, ac yna suddodd yn gyflym. Bu farw fis Gorffennaf, 1920, a chladdwyd ef yn Aber ystwyth. Nid oedd ond tua deugain oed. Nid oedd ddrwg ar ei ysgyfaint pan aeth i'r gwaith pylor. Bu'r mynych newid o wres mawr i oerfel a gwlybaniaeth, y chwysu a'r oerni, yn ormod iddo. Yng ngwasanaeth ei "wlad" y lladdwyd ef. Yr oedd yn ddrwg iawn gan yr holl swyddogion caredig dros ei weddw, meddent hwy, ond nid oedd fodd gwneuthur dim erddi, wrth gwrs, ac y mae hi'n gorfod ennill ei thamaid orau y gallo. Dylai ei gydwladwyr gael gwybod cymaint â hyn o'r hanes—peth nad tebyg y cânt o unman arall. Pan gofiwyf amdano, ni bydd gennyf i ddim parch i'm "gwlad," mi gyfaddefaf.

Dywedais iddo yn gynnar gymryd hoffter at ddarllen nofelau, a breuddwydio am ddyfod yn nofelwr ei hun. Llafuriodd yn galed iawn i ddysgu'r grefft honno. Darllenodd yr holl nofelwyr Saesneg gwerth eu darllen, ac yr oedd ganddo ddigon o wybodaeth o'r Ffrangeg i ddarllen nofelau ynddi hithau. Darllenodd hefyd gyfieithiadau Saesneg o'r nofelwyr Rwsiaidd, a manwl astudiodd grefft ysgrifennu'r ystori fer yn enwedig; ac yr oedd ers tro cyn ei farw yn feistr ar y grefft honno, yn sicr. Rhwng Cymraeg a Saesneg, ysgrifennodd yn ddiau rai cannoedd o ystraeon byrion, ac y mae yn eu plith o leiaf rai cystal ag a ysgrifennwyd yn unman erioed.

Ysgrifennai am y bywyd a adwaenai, ac fe adnabu lawer gwedd ar fywyd hefyd, o fywyd chwarelwyr Arfon hyd at fywyd ysgrifenwyr a cherddedwyr, a'r dyrfa gymysg a weithiai yng ngweithfeydd darpar y Rhyfel. Cyfarfu â chymeriadau hynod, a gwelodd ochr ddu'r peth a eilw llau a chwain cymdeithas yn " ogoniant." Clywais ef yn adrodd hanes un noswaith—gwynt a glaw a thywyllwch; tyrfa gymysg, rhyw ddi gwyddiad cynhyrfus, a chyffro yn corddi dyfnderoedd tywyll natur dyn. Yng nghanol y cyffro i gyd, a chyrff rhai dynion wedi eu chwythu fel na welwyd byth na migwrn nac asgwrn ohonynt, safai un hen ŵr o Gymro â'i gefn yn erbyn rhyw gaban, ac adroddai yn bwyllog—"Wel, dyma noddfa i lofruddion! Dyma noddfa i lofruddion! Dyma noddfa i lofruddion!"

Yr oedd yn graff iawn, a'i lygaid bob amser yn agored ar ragoriaethau a diffygion dynion. Gwnai i'r manylion lleiaf wasanaethu ei amcan, a dysgodd gynhildeb rhyfeddol. Diwygiai ei waith yn barhaus. Gwelais ei gopïau ef ei hun o rai o'i ystraeon Saesneg a Chymraeg, wedi eu torri a'u pastio ar ddail gwynion, a'u diwygio hyd yn oed ar ôl eu cyhoeddi. Allan â phob gair dianghenraid, a gwelid ei gais parhaus i ddyfod o hyd i'r ffordd symlaf o ddywedyd peth. Cadwai ei gyfrinach i'r diwedd.

Ceir enghraifft nodedig o hynny yn yr ystori fer olaf, ond odid, a sgrifennodd—"Mynd adref," a gyhoeddwyd yn Y Goleuad, tua'r Nadolig, 1915, mi gredaf. Yn honno, dychmygai hanes bachgen o Gymro yn y Rhyfel yn Ffrainc. Gwelwch ef yn breuddwydio yn y ffos, weled ei dad a'i fam, a'i hen athro yn yr Ysgol Sul gynt, yn dyfod ato. Meddai ei dad wrtho:

"Wel, dyma lle'r wyt ti? Mi ddywedais ddigon wrthyt, on'd do? Er, pe bawn ugain mlynedd yn iau, hwyrach mai yma y baswn innau hefyd!"

Meddai'r hen athro:

"Wel, fy machgen bach i, yma'r wyt tithau! Bendith Dduw arnat!"

Ac meddai'r fam hithau:

"Wyt ti wedi brifo, 'machgen annwyl i?"

Wedi brifo yr oedd y bachgen. Daw ato'i hun yn yr ysbyty, a gofyn i'r weinyddes pa bryd y câi fynd adref.

Cewch fynd adref yfory," ebr hithau.

Yna disgrifir yr hen gwpl adref wrth y tân, y tad yn tanio'i bibell heb ddim tybaco ynddi, a'r fam yn edrych ar fap o Ffrainc.

"Yn y fan yma y mae o," medd yr hen wraig.

"Na," medd yr hen ŵr, "ddaw o byth yn ei ôl!"

Cyfyd yr hen wraig, egyr y drws ac edrych allan.

"Beth oedd yna ?" ebr yr hen ŵr.

"Dim!" medd hithau, gan eistedd drachefn.

Ond ar hyd y llwybr at y tŷ, daw'r bachgen yn llawen. Cais neidio dros y pennor, fel cynt, a chlyw boen fawr yn ei ochr, a syrth i lawr.

Druan bach, dyna fo wedi mynd adref!" meddai'r weinyddes, wrth erchwyn y gwely, yn yr ysbyty yn Ffrainc.

Mewn pethau tyner fel hyn yr oedd ei gryfdwr, ond nid oedd heb ryw ysmaldod sych, cyrhaedd gar. Ysgrifennodd amryw nofelau, ond ni chyhoeddwyd yr un ohonynt yn llyfr eto. O wythnos i wythnos, yng nghanol gwaith arall blin a chaled, ac am gyflog bychan, yr ysgrifennai. Odid Gymro o'i oed a sgrifennodd gymaint ag ef, ac y cyhoeddwyd cymaint o'i waith; eto cymharol ychydig a wyddai amdano, hyd yn oed wrth ei enw, canys er maint a sonio'r Cymry am lenyddiaeth werinol a gwerin lenyddol, nid ydynt yn hoff iawn o brynu llyfrau. Achwynai beirniad dysgedig yn ddiweddar na bai ystraeon byrion medrus i'w cael yn Gymraeg. Gofyn iddo a ddarllenasai ef ystraeon Dic Tryfan. Ni chlywsai erioed sôn am ei enw, ac eto y mae Straeon y Chwarel a Thair Stori Fer o'i waith ar y farchnad. Disgwylir i lyfrau Cymraeg ddyfod at y drws i'w gwerthu eu hunain. Cefais lythyr yn ddiweddar, oddi wrth ŵr yn byw mewn tref gwbl Gymreig, yn holi ym mha le y ceid llyfrau Dic Tryfan. Ni wyddai'r "siopwyr" yno ddim am yr awdur na'i lyfrau, na sut yn y byd y cai'r cwsmer druan hyd iddynt. "Dim galw amdanynt!" Ie. Ni byddai alw am y sothach Saesneg sydd yn eu ffenestri chwaith, oni bai ei fod yno i'w greu.

Un o'r dynion caredicaf a wisgodd esgid erioed oedd Dic Tryfan. Yr oedd ganddo ddychymyg hynod fyw—mor fyw, yn wir, fel yr ymrithiai ei ddychmygion fel ffeithiau iddo yn aml; ond ni bu gywirach na diniweitiach dyn erioed. Chwarddai am ben gwendidau dynion—a bu yn y cyfle i weled cryn lawer ohonynt—ond maddeuai'n rhwydd a llwyr.

Yr oedd yn hoff iawn o gerddoriaeth, ond ni sylwais fod ganddo nemor duedd at gelfyddyd o fath yn y byd ond y gelfyddyd lenyddol. Syml dros ben oedd ei arferion. Carai fywyd gwlad—ei bennaf difyrrwch oedd mynd i Aberdaron i fwrw gwyliau, a breuddwydiodd lawer am gael cartref mewn lle felly, a llonydd i sgrifennu wrth ei bwys. Gwelai brydferthwch Natur, er na ddisgrifiai mono cystal o lawer ag y disgrifiai ystum corff dyn neu osgo meddwl. Caffai fawr ddifyrrwch wrth sylwi ar ymddygiadau a dywediadau hogiau bach, a charai adar ac anifeiliaid. Cof gennyf hen gi a fyddai yng Nghaernarfon gynt. Pan glywai hwnnw fiwsig o fath yn y byd, eisteddai yn y fan, codai ei drwyn i'r awyr a dechreuai udo. Wrth ei glywed felly un diwrnod, gofynnais i Ddic Tryfan pa un, dybiai ef, ai hoff ai anhoff oedd ganddo'r sŵn (organ law oedd wrthi ar y pryd, neu ynteu'r hen greadur a fyddai'n canu "The last rose of summer" ar ei gornet, ac yna’n troi'n sydyn at "Wŷr Harlech" pan welai rai ohonom yn dyfod). Ni allai fy nghyfaill f'ateb. Ond cyn pen dwyawr, yr oedd ganddo stori am y ci. "Y Cerddor" oedd ei theitl, a doniol odiaeth ydoedd.

Un o'i hoff gymeriadau oedd "Yr Hen Grydd." Gwelais y gŵr rai troeon, a gwn mor gywir oedd ei lun gan y cyfarwydd. Caech ffilosoffi'r hen ŵr hwnnw mewn brawddegau cwta, hawdd i'w cofio, a gwerth eu cofio. Gwelais mai nid mewn llyfrau yn unig y dysgodd Dic Tryfan ei grefft. Dyna un rheswm ei bod hi cystal. Ysgrifennai Gymraeg pur gywir, ond dysgodd ysgrifennu Saesneg llawn cywirach—peth a ddylai fod o ryw ddiddordeb i'r bobl sy'n sôn byth a hefyd am addysg Cymru, canys os bu Cymro erioed hyd fêr ei esgyrn, ef oedd hwnnw. Dyfynnai ym adroddion diarhebol hen wladwyr syml ond doeth—deallai gymeriad. Gresyn na chawsem ei nofel ar fywyd y gwaith powdr. Tynasai dipyn o'r chwydd o bennau rhai pobl. Wedi llafur maith a chaled, yng nghanol ei ddyddiau, a'i feistrolaeth ar y grefft y daliodd ati drwy bob rhwystr wedi ei hennill, torrodd ei galon garedig ddiniwed. Hyn er cof amdano gan un a'i carai.

1921.

HENRY JONES


YR oedd Syr Henry Jones wedi heneiddio ac wedi dioddef llawer pan ddeuthum i gyntaf i gydnabyddiaeth ag ef.

Yr wyf yn ei gofio flynyddoedd yn ôl yn darlithio yng Nghaernarfon, ar lyfr Balfour, Seiliau Cred. Y pryd hwnnw, yr oedd yn ei rwysg, corff gosgeiddig, wyneb glân, wedi ei eillio onid y trawswch, cnwd da o wallt; ysgogiadau cyflym, byw; lleferydd rhwydd, Cymraeg ardderchog. Dro arall, clywais ef yn areithio yng Nghaernarfon ar Ddydd Gŵyl Lafur. Darlith ar economeg wladol, mewn Cymraeg grymus, dealladwy i bawb.

Ar ddiwedd y ddarlith ar lyfr Balfour, gwelais ddigwyddiad diddorol, y gellir bellach ei grybwyll. Daethai'r darlithiwr i lawr oddi ar y llwyfan, ac yr oedd gwŷr mawr y dref yn tyrru o'i gwmpas i ysgwyd llaw ag ef. Tra'r oedd hynny ar dro, sylwais ar ddyn a safai yn f'ymyl ychydig o'r neilltu. Edrychai hwnnw yn o anesmwyth, os nad anfoddog, a gwelais o'r diwedd ei fod yn ceisio cael sylw Syr Henry. Bu wrthi am rai munudau yn ceisio dal golwg y darlithiwr, ond yr oedd cynifer o bobl am ysgwyd llaw â hwnnw fel nad oedd i'r llall nemor siawns. O'r diwedd, blinodd yntau, a throes ar ei sawdl, cystal â dywedyd, "Twt lol! 'does reswm ar beth fel hyn!" Y funud honno, dyma fraich y darlithiwr i'r golwg drwy'r twrr oedd o'i gwmpas, a chlywn ei lais yn dywedyd yn groyw-"Dafydd! aros funud, gael iti ddwad i gnoi tamed o swper hefo mi!" Dyellais wedyn mai ei frawd oedd y llall.

Aeth blynyddoedd heibio. Un dydd, pan oeddwn ar orffen darlith i ddosbarth, daeth rhywun i ddywedyd bod Syr Henry Jones am fy ngweled. Euthum allan. Ni chefais fwy o syndod nemor dro. Edrychai 'n gwbl wahanol, wedi dioddef, wedi gwynnu, a gadael ei farf. Bûm gydag ef y diwrnod hwnnw am oriau, ac yr wyf yn cofio iddo fywiogi, megis, pan ddywedais, mewn ateb i ryw gwestiwn, mai yn Sir Ddinbych y'm ganed. Am addysg y soniai y diwrnod hwnnw, ac yr oedd mor llawn o eiddgarwch a phe na buasai ond llanc. O'r dydd hwnnw, aethom yn gyfeillion, ac yn ystod haf, 1921, treuliais rai oriau yn ei gymdeithas bob dydd am rai wythnosau.

Un Sul poeth, ciniawai gyda ni. Wedi'r pryd, gofynnais iddo a fynnai orffwyso ychydig. Nid âi i wely, ond dywedodd mai da fuasai ganddo gysgu ychydig, gan fod anhunedd yn ei boeni ar y pryd. Dodais glustog tan ei ben ar lwth wrth y ffenestr, a hugan trosto. Tybiais ei fod yn cysgu. Tywynnai'r haul arno trwy ddail y pren masarn o flaen y ffenestr. Daeth tristwch drosof wrth edrych ar ei wyneb a gwylio ymchwydd ei anadliad.

"Waeth heb, ddaw o ddim !" meddai gan godi ar ei eistedd yn sydyn, "awn allan am dro."

Allan â ni. Yr oedd ef mor hoyw a bywiog â phe cysgasai noswaith. Dywedodd lawer o'i hanes wrthyf. . . Y noswaith honno, buom yn canu emynau Cymraeg, a dwy neu dair tôn o'i waith ef ei hun. Pan euthum i'w ddanfon i'w lety ar ôl swpera, yr oedd hi'n un ar ddeg o'r gloch, ond siaradai mor fywiog ag erioed, a chwarddai wrth sôn am ei ieuenctid.

Yr oedd dau gyfaill wedi galw yn fy nhŷ un noswaith, un ohonynt yn delynor, a thelyn i'w ganlyn. Tuag un ar ddeg, pan oedd y telynor wrthi yn canu penillion ar "Ben Rhaw," daeth Syr Henry heibio. Buwyd wrthi awr yn hwy. Nid oedd neb ieuengach na hoywach nag ef yn y cwmpeini hwnnw. Yr oedd yr hen geinciau Cymreig ar y delyn wedi deffro rhywbeth dieithr ynddo, a theimlwn fy mod yn deall pethau nas dyellais o'r blaen wrth ei glywed yn canu ac yn chwerthin, a'i weled yn codi ar ei draed a cherdded o gwmpas, megis pe na allasai fod yn llonydd.

Un bore, ar lan y môr, a'r lle yn llawn o ymwelwyr o bob man, cerddem gyda'n gilydd. Dechreu odd sôn am ffilosoffi. O dipyn i beth, twymodd ati, a dechreuodd ddywedyd pethau godidog. Cyfeiriai at lyfrau nas darllenswn i erioed, a gorfu arnaf ymesgusodi drwy ddywedyd nad ffilosoffydd monof. "A ydych yn meddwl," meddai, "y dywedwn i bethau fel hyn wrthych pe na baech?" Troai pobl i edrych arnom, ond ni welai ef neb ohonynt, mi gredaf. Darlithiodd i mi yno am awr, fel pe buaswn ddosbarth neu gynulleidfa. Rhown lawer pe gallwn gofio'r pethau a ddywedodd, yn gywir fel y clywais hwy. Cyflawnder ac aeddfedrwydd meddwl, toreth iaith, awen bardd—pob camp ar ddyn yn ei odidowgrwydd pennaf. Cerddem allan o'r dref ar hyd heol fwy gwledig. Yr oedd ochr y ffordd yn frith gan lygaid y dydd a daint y llew. Eisteddasom ar lawr yno, ac ehedydd yn canu yng nglesni'r awyr gynnes uwch ein pennau. Sôn yr oedd ef am bwrpas bywyd a'i ymdrech barhaus i ymberffeithio a chyrraedd rhyw nod. Soniodd am alar ei wraig oblegid colli mab.

"Yr oedd hi'n drist iawn ac yn ddwys," meddai. "Cymerais hi allan i'r ardd un diwrnod—yr oedd hi yn hoff ryfeddol o flodau. Gofynnais iddi 'A ydych chwi yn meddwl ei fod ef a wnaeth y blodyn hwn, a'i brydferthwch a'i holl fanyldeb, yn mynd i fethu i'r mesur lleiaf yn y lleiaf un o'i amcanion? Nid wyf i!"

Bu ddistaw am ennyd ac yna meddai gan syllu ym myw fy llygaid petrus innau:

"Na, 'dydi o ddim yn mynd i fethu!”

Odid glywed ei debyg am adrodd ystraeon. Mewn cwmpeini un diwrnod, soniem am y bobl fydd yn dychmygu pethau yn fyw iawn ac yna'n eu mynegi fel ffeithiau.

"Rhaid i mi adrodd i chwi un ystori," meddai, "am un hogyn bach felly a adwaenwn i. Byddai bob amser yn adrodd ei ddychmygion fel ffeithiau, a'i fam yn ei geryddu a'i ddanfon i ofyn i Dduw faddau iddo am ddywedyd anwiredd. Un diwrnod daeth i'r tŷ a dywedyd ei fod wedi gweled blaidd mawr mewn rhyw gae. 'Now, now,' meddai'r fam, you must not say that. You did not see a wolf. It must have been a dog that you saw, if you saw anything at all. You go and ask God to forgive you.' Aeth y bychan yn ddigon pendrist. Cyn bo hir, daeth yn ei ôl yn llawen, fel pe buasai popeth yn iawn. 'Well," meddai ei fam, did you tell God that you were sorry?' 'Yes," meddai yntau,' and do you know what God said?' Ni fedrai hithau beidio â dywedyd: 'No, what did God say?' 'Well," meddai'r bychan, 'God said, Yes, it was a dog, but when I first saw that dog, I thought it was a wolf too!'"

Ni welais mono ond rhyw unwaith neu ddwy wedyn. Yr argraff a ddaw'n ôl yw'r hanner tristwch hwnnw a ddaeth tros y meddwl wrth wylio'r Dyn yn ceisio cysgu. Wedi oes weddol hir a llawn o ymyl i ymyl, wedi chwilio a meddwl, gwybod a phrofi, wedi gweled a bod yn sicr o bethau ardderchog, dyma dywyllwch a distaw rwydd nas torrir. Ac eto clywaf y llais hwnnw yn adrodd, yn rhyw chwyrn ond mwyn iawn, tra bo'r llygaid yn edrych trwof—"Na, 'dydi o ddim yn mynd i fethu!"

JOHN HUMPHREY DAVIES


Y MAE llawer er Dadorchuddio colofn yr oeddis, colofn a godwyd er cof am enwogion o Gymry. Daethai llawer o bobl ynghyd o bob cyfeiriad, ac yr oedd yn rhaid cael areithiau gan wŷr mawr, wrth reswm.

Dyna lle'r oeddynt ar lwyfan a godwyd at y pwrpas, yn llefaru y naill ar ôl y llall. Nid wyf yn cofio nemor ddim o'r areithiau—llawer o sôn am y "werin" a "gweledigaeth," "gwladgarwch," a phethau felly. Ond dyma fardd ar ei draed i adrodd englynion. Wyneb llyfn, gwallt mawr, llais da. Ni wnaeth yr englynion lawer o argraff arnaf hyd nes dyfod at linell olaf un ohonynt, oedd wedi ei bwriadu er clod i'r cwmpeini urddasol a ddaethai ynghyd y diwrnod hwnnw. Drwg gennyf nad wyf yn cofio'r englyn, ond ymhlith y dyrfa, meddai'r llinell olaf, gwelid "prif fashers Gwalia." Ni chlywais i mo'r term mashers ers blynyddoedd maith bellach, ac nid wyf yn rhyw sicr iawn o'i darddiad na'i union ystyr, ond ar y pryd yr oedd yn gyffredin gan ryw ddosbarth o Saeson—tebyg iddo fynd i ffordd yr holl ddaear yn fuan wedyn. Pan glywais ef yn y fath gysylltiadau, daeth arnaf awydd chwerthin nad hawdd ei fygu.

Yn f'ymdrechion, tebyg i mi dynnu sylw gŵr ieuanc a safai yn f'ymyl, a gwelwn fod hwnnw hefyd mewn tipyn o anhawster. Dawnsiai ei lygaid a llanwai ei fochau wrth iddo geisio edrych yn weddol sobr mewn lle felly. Edrych ohonom y naill yn llygaid y llall, a deall. Cyn hir daeth rhywun heibio a dywedyd wrth y naill ohonom. pwy oedd y llall. John Humphrey Davies oedd y gŵr ieuanc. Cawsom gyfle yn y man i gyd chwerthin ein gwala, fel y cawsom lawer tro ac am lawer peth wedyn. Clywaf ei chwerthin y funud hon, a gwelaf ddawns ei lygaid a thro cornelau ei wefusau, ac ni allaf na chwarddwyf innau hefyd, er mai ychydig oriau'n ôl yr oeddwn yn ymgroesi'n drist uwchben ei fedd yn naear Langeitho.

Erbyn ei ddyfod ef a minnau i gysylltiad agos a'n gilydd, yr oedd tymor rhyw gastiau bachgennaidd drosodd, ond yr oedd y synnwyr iach hwnnw yno o hyd. Synnwyr rhadlon, hynaws a di-wenwyn ydoedd. Nid oedd derfyn ar ei ddiddordeb mewn cymeriadau, na'i gyffelyb am adrodd hanes dynion a rhywbeth anghyffredin neu

ddigrif o'u cwmpas. Cafodd brofiad cyfraith ar un adeg yn ei oes, ac fe'm tarawai bob amser fod ynddo elfen gref at olrhain a datod dirgelwch. Synnais lawer tro wrth wrando arno gymaint o bethau rhyfedd sydd ym mywyd gwlad dawel ddigyffro. Pe sgrifenasai'n llyfr yr ystraeon y clywais ef yn eu hadrodd, fe fuasai pobl yn dywedyd heddiw golli nofelydd medrus yn ei farwolaeth ef. Adroddai ei ystori bob amser â manyldeb a threfn cyfreithiwr. Cefais droeon fod ganddo ddiddordeb mawr mewn digwyddiadau rhyfedd ac anesboniadwy— cyd-darawiadau, os mynnir, ond eu bod yn gadael ar y meddwl ryw argraff ddieithr fod darnau mawr o fywyd na fedrwn ni mo'u hegluro, a dywedyd y lleiaf.

Dechreuodd gasglu llyfrau yn fachgen ieuanc, ac yr oedd y Cwrt Mawr yn llawn o lyfrau, bron bob ystafell yn y tŷ. Eto, ni welais erioed mono'n methu a dodi ei law ar y llyfr a fynnai rhag ei flaen. Ddeufis cyn ei farw, yng Nghwm Cynfelyn, ac yntau bellach yn anabl i symud heb gynhorthwy, yr oeddwn yn ceisio rhyw wybodaeth ganddo. Cyfarwyddodd fi i fynd i ystafell arall ac edrych ar yr astell a'r astell am lyfr llawysgrif mewn caead coch. Cefais hyd iddo yn

union lle dywedasai. Agorodd yntau'r llyfr, a chael hyd i gofnod a gopïasai o lawysgrif yn Llundain yn agos i ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, er nad aethai drwy'r copïau byth er hynny. Y prynhawn hwnnw cefais hyd i hanner dwsin o lyfrau, o ganol miloedd lawer, heb fethu un waith ohono ef yn ei gyfarwyddyd. Mwy na hynny, yr oedd y wybodaeth a fynnwn yn y llyfrau a enwodd bob cynnig. Hyd yr wyf yn cofio, ni chlywais mono'n enwi tudalen mewn llyfr lle byddai rywbeth a geisid, ond dywedai mai yn agos i'r dechrau neu'r canol neu'r diwedd, ar y tu chwith neu'r de, yn agos i'r brig neu'r gwaelod. Ac fe ddoid o hyd i'r peth a geisid yn rhyfeddol bob amser. Yr oedd ganddo lygad barcud at brint neu lawysgrifen, ac am law, ni welais erioed mono'n methu.

Ni wn a adawodd ar gof a chadw rai o'r hanesion a glywais ganddo o dro i dro am y pethau rhyfedd a ddigwyddodd iddo wrth chwilio am lyfrau. Gallwn adrodd rhai ohonynt, ond y lwc fyddai ei fod ef ei hun wedi eu sgrifennu. Yr oedd ganddo ryw ddawn annaearol bron i wybod ym mha le i chwilio am beth, a chanlynai ar drywydd gyda sicrwydd a synnai ddyn. Enghraifft o lwyddiant y ddawn honno oedd dyfod o hyd i lawysgrifau Robert Roberts, "Yr Ysgolor Mawr."

Nid casglwr yn unig ydoedd chwaith. Gwyddai gynnwys ei lyfrau gyda manyldeb nodedig; gwyddai hanes eu hawduron neu eu hysgrifenwyr, hanes eu perchenogion a'u treigl o law i law. Clywais ef droeon yn adrodd hanes llyfr felly hyd ryw bwynt, ac yna'n cyfaddef na wyddai ba beth a ddaethai ohono wedyn, ond ymhen amser, cai hyd i'r trywydd drachefn, a gorffennai drwy brynu'r llyfr ei hun. Buasai hanes llawn am ei ymchwiliadau a'i lwyddiant yn beth rhamantus.

Un tro yr oedd yn Llundain yn chwilota'r mân lyfrau ail llaw a geir mewn bocsiau o flaen siopau yn Charing Cross Road. Daeth llyfryn Saesneg o amrywiol bamffledau i'w law dro ar ôl tro, nes iddo hanner digio wrtho, am nad oedd ynddo ddim at ei bwrpas. Aeth rhagddo at focs arall ac arall, ac yna yn ei ôl at y cyntaf. A dyma'r un llyfryn i'w law drachefn, a'i agor ar ddalen lle 'roedd y llythrennau "M.L." wrth droed traethodyn. Ar y pryd, yr oedd yntau'n golygu'r ail gyfrol o weithiau Morgan Llwyd, a gwelodd mai llythrennau cyntaf enw hwnnw oedd yr "M.L." Ni wyddai am y traethawd cyn hynny. Gwelir ef yn y gyfrol. Dyma'i eiriau yntau ar ôl adrodd yr hanes i mi: "Yr oedd yn union fel pe buasai Morgan Llwyd ei hun, neu Tom Ellis, wedi penderfynu bod rhaid i'r llyfr ddyfod i'm llaw i." Darllener "Llythyrau Goronwy Owain" ganddo, a cheir enghreifftiau o'r un ddawn ddigymar. Nid rhag blaen yr adroddai'r hanesion hyn ychwaith. Byddai raid cael yr awyrgylch, rywfodd. Noswaith o aeaf ystormus, wrth dân coed yn y Cwrt Mawr, wedi siarad hyd oriau mân y bore, meddai'n sydyn: "Gwynn, fuoch chi rywdro ar ôl disgwyl cyfaill a siarad yn hir ag ef, yn teimlo rhyw fath o ofn rhag ei weled yn codi a mynd?" Addef hynny o gyd-brofiad, ac ni wn i bryd yr aethom i gysgu'r noswaith honno.

Wedi bod ieithyddion medrus wrthi'n ddysgedig yn egluro ystyr a tharddiad geiriau neu ffurfiau anghyffredin, gwelais ef fwy nag unwaith yn gwenu, ac yn dangos cofnod o ewyllys neu lythyr, yn profi unwaith am byth mai enw lle fyddai'r gair neu'r ffurf, wedi'r cwbl. Ac nid Cymraeg yn unig a ddarllenai. Yn wir, yr oedd yn un o'r darllenwyr helaethaf a adnabûm i erioed, a'i ddiddordeb yn cyrraedd i bob cyfeiriad. Dywedais eisoes fod cymeriadau'n ddiddorol iddo. Dafydd Ifans, Llanrwst; Gwilym Cowlyd; Myrddin Fardd, a llawer eraill y cyfarfu â hwynt, gwyddai eu hanes yn fanwl a chymerai'r diddordeb llwyraf yn eu nodweddion, eu mympwyon a'u gweithredoedd. Goronwy Owain, y Morysiaid, y Prydydd Hir, Robert Roberts, yr hen ddewiniaid Cymreig gynt, fel John Dee, John Evans, Arise Evans, Jac Ffynnon Elian, Harris Cwrt y Cadno, etc., gwyddai eu hanes i gyd, ac eraill na chlywodd y rhan fwyaf ohonom erioed mo'u henwau. Hen ysgolheigion gynt a hen gasglwyr llyfrau a llawysgrifau, achau teuluoedd, hen weithredoedd ac ewyllysiau, llythyrau personol, traddodiadau gwlad, anferth ddigrifwch hen gymeriadau rhyfedd,—synnai dyn sut byth y cawsai amser i gasglu'r fath ystôr ohonynt a'r fath wybodaeth helaeth a manwl amdanynt.

Eto, fel gŵr cyhoeddus. Gwelais ef yn llywyddu llawer cyfarfod anodd i'w drin, ac nis gwelais erioed yn cymryd cam gwag. Adwaenai ddynion yn dda; meddai reol berffaith arno'i hun hyd yn oed yn yr amgylchiadau mwyaf anodd. Unwaith, yn ystod cyfarfod hir a chyffrous, gwelais ef a'i wyneb yn wyn fel y galchen, ond nid oedd gryndod yn ei lais nag arwydd cyffro yn ei osgo, dim ond bod ei lais, hwyrach, ronyn yn sychach nag arfer, a'i frawddegau'n gwteuach. Cyn pen dau funud wedi setlo'r mater, chwarddai fel pe na buasai dim yn y byd wedi digwydd. Fel trefnwr a chyfeiriwr, anodd cael ei debyg. Hyd yn oed yn ei afiechyd hir, yr oedd ei ben mor glir a'i feddwl mor fyw ag erioed. Gwelai ymhell, barnai'n gywir ac yn gyflym, gweithredai'n esgud a chadarn, byddai garedig a thosturus.

Bu'n amlwg iawn, eto ni charai amlygrwydd. Nid hoff ganddo dynnu ei lun, a chredaf nad wyf yn methu wrth ddywedyd bod rhyw elfen yswil ynddo hefyd. Nid wyf yn meddwl bod cerddoriaeth yn ddiddorol iawn iddo. Unwaith y gwelais ef yn gorfod gwrando ar beth a elwir yn "symffoni" ddiweddar. Tybiwn ei fod mewn poen, fel yr oeddwn fy hun, ond chwerthin a wnaeth ef, pan gawsom ddihangfa o'r diwedd. Y tro diwethaf y gwelais ef, ar brynhawn Sul ryw fis cyn ei farw, gwrandawem ar y wireless—rhyw ganu ac actio o Loegr, llais rhyw ddandi, gallech dyngu bod rwff am ei wddf ac eddi ar flaen ei lewys a gwyntyll yn ei law. Yr oeddwn i wedi laru ar y peth, ond yn edrych mor ddiboen ag y gallwn, rhag ofn bod y peth yn ei ddifyrru ef, ar wastad ei gefn yn ei wely fel yr oedd. Cyn hir, meddai: "Ych chi'n mwynhau hwn, Gwynn?" Ofnaf i mi alw yr Arglwydd mawr yn dyst mai fel arall yr oedd. Galwodd yn ebrwydd ar y Gwyddel caredig a ofalai amdano. Daeth yntau. "Stop that damned thing!" meddai llais a'r hen chwerthin ynddo, ac aethom i adrodd ystraeon. Yr oedd yn feirniad campus ar brydyddiaeth, ond i'w blesio, byddai raid iddi gynnwys yr un peth anhepgor—cymeriad. Mawrygai gyfeillgarwch yn arbennig, ac yn sicr ni bu neb erioed ag iddo fwy o gyfeillion.

Pan aem i Langeitho i'w hebrwng i'w hir gartref, gorweddai niwl gwelw yn dorchau ar y bryniau a'r coed, a'r dagrau mân ar y cawn a'r glaswellt, yn ddirifedi, "Fel grawn, fel adar, fel gro neu flodau." Ymlaen â ni, garr ar ôl carr, y naill yn diflannu yn y niwl o flaen y llall, a'r dirgelwch o hyd ymlaen. Pan gyrhaeddwyd Tregaron, treiddiodd yr haul drwy'r niwl, cododd yntau'n araf. Wedi'r glaw, yr oedd y coed mor iraidd a phe bai wanwyn. Daeth yr hen fynyddoedd i'r golwg, a'u lliwiau hwythau'n fyw i gyd. Ac yno, pan roed ef i orwedd heb fod ymhell oddi wrth golofn Daniel Rowland, yr oedd heulwen ysblennydd yn tywynnu ar yr arch. Draw ymestynnai'r cwm y bûm yn ei gerdded gynt gydag ef i gyfeiriad y Cwrt Mawr, gan ryw las ofni rhag darfod yn rhy fuan o'r daith ar hyd gwely afon wedi sychu, a hud heulwen araul ar y wlad, nes bod ynom ymsyniad ein bod bron ar hiniog y byd nad yw'n darfod. Canai'r dorf. Yr oedd yno un a glywai chwerthin iach cwmni bychan a fu gynt yn agor hen aelwyd gyn cof, i fyny'r cwm hwnnw, a llawenydd a chyfeillgarwch yr hwyr, pan ddoi tawelwch swrth dros fro, a su'r gwenyn gwylltion yn y coed rhosyn ar furiau'r tŷ yn gyson a mwyn. . . . A heno, y mae Cymro gwych arall yn huno yn naear sant Langeitho.

1926, 1930.

DAVID WILLIAMS


"CANYS rhoed i ddynion farw." Fe ddaw plant dynion i wybod hynny'n gynnar ar eu hoes, i'w ddeall cyn bo hir, ac i ddygymod ag ef i ryw fesur, efallai, cyn y diwedd.

Eto, y mae rhai dynion y byddwn rywfodd yn methu â meddwl amdanynt nac yn heneiddio nac yn marw. Un o'r rhai hynny oedd Dafydd Wiliam, fel y carem ei alw, un o feibion breiniol cadernid, mwynder a goleuni. Ac eto, pan glybuom ei farw, oni theimlem nad angau ei hun sy'n greulon? Onid ef a roddes derfyn tawel ar ddioddef oedd yn ymddangos i ni ers misoedd naill ai'n greulondeb hagr ai ynteu'n chwarae hagrach fyth Yr wyf y funud hon fel pe gwelwn ei wên a phe clywn ei lais yntau, yn chwerthin cerydd arnaf am "ddywedyd pethau". . . A! fe fyddai'n fwy na da wybod ei fod ef, o hyd, ac nad darn ar glawr yr wyddbwyll mono mwy!

Hyd yn oed cyn dyfod i mi'r fraint o gyfarfod ag ef, buaswn gydnabyddus â nifer o gymdeithion ei ieuenctid, a llawer a glywswn amdano, am ei angerdd mawr a'i ddiniweidrwydd llwyr. Ond daeth ef a minnau'n gymdogion yn Aberystwyth, ac yn gyfeillion. Llawer tro yr aeth oriau dros ein pennau megis heb yn wybod i ni, a minnau'n gwrando ar ei wybodaeth a'i brofiad a'i ddoethineb, ei ddysg helaeth a manwl, ei reddf at ddeall pethau anodd, ei ddawn at ddewis gair, ac yn bennaf dim, praffter ardderchog ei feddwl. Beth nas rhoddwn am gael unwaith eto weled y meddwl hwnnw'n gweithio? Ei weled, meddaf.

Dyma hi'n hwyr o haf—Mehefin cynnar. Wrthi'n cyfieithu pennod o'r Epistol at y Galatiaid y bu ef a minnau. Y mae hi weithian yn trymhau, a Phen Dinas draw o'n blaenau fel pe bai eisoes yn cysgu yn y goleuni ambr. Y mae'r ffenestr yn agored. Sŵn gwenyn—pa sŵn mor garedig?—yn y coed oddi allan. Aroglau blodau weithiau'n tonni i mewn gydag awel fach sy fel pe bai wedi colli ei ffordd yn yr awyr drom. Perffaith dawelwch. Cwbl brydferthwch. Sut y gallai fod unpeth drwg mewn bod: Nac unpeth brwnt? Syniem, mewn distawrwydd, ac yr oedd ef yn anadlu'n hir ac yn araf. Rhywbeth y buasem eisoes yn sôn amdano eto yn aros y tu cefn i'n meddyliau, rhywbeth a llawer enw arno, rhywbeth du, aruthr, nad oedd amgyffred arno er hynny. Ac eto—Natur!

Clywn fy llais fy hun, fel pe buaswn yn gwrando ar lais rhywun arall, yn gofyn cwestiwn, hen, hen gwestiwn. Gwelwn ei ben yntau'n codi'n sydyn, ei lygaid yn fflachio, ei wefusau'n lled agor, ac yn crynhoi megis i lefaru, yn pwdu, bron, ac yna'n cau drachefn heb lefaru gair; ei dalcen gwych yn crychu, yntau'n cuchio hyd yn oed, a difrifwch mawr yn dyfod i'w olwg. Dacw fo'n plygu a'i benelin ar y bwrdd a'i ên ar ei law, ac yn edrych draw, fel pe bai'n gweled trwy fater a phellter—neu fel pe na bai'n eu gweled o gwbl. Bydd felly am ysbaid, yn gwbl lonydd a distaw, aruthr grynhoi ar bob egni meddwl. Yna daw goleuni i'w lygaid, cryn cornelau ei wefusau, a thyrr gwên dros ei wyneb cadarn ardderchog, yna ymlaen ag ef i draethu ei feddwl . . . Ac nis clywir mwy

Llawer a glywswn, fel y dywedais, am ei angerdd gynt. Clywais amdano unwaith, wrth ddarlithio i ddosbarth, hyd yn oed yn gymharol ddiweddar, yn sefyll wrth gefn cadair, ac wrth lefaru yn gafael ynddi a'i throi a'i throsi yn ei angerdd nes dyfod o'r cefn yn rhydd yn ei ddwy law, yntau gan chwerthin yn ei bwrw ymaith a mynd rhagddo fel pe na ddigwyddasai ddim. Er na welais i erioed dystiolaeth mor weithredol o'i angerdd, mynych y gwelais ef mewn eiliad yn meistroli ton o angerdd—dyna un o'r pethau mwyaf rhyfeddol ynddo.

Clywais ef lawer tro'n pregethu, a phobl yn dywedyd ei fod mewn hwyl, pryd y gwyddwn innau ei fod yn ymatal bob cam o'r ffordd, ac mai yn yr ymatal hwnnw yr oedd godidowgrwydd. ei rym a'i ddylanwad—y maint oedd y tu cefn i'r cwbl! Tra bwyf a thra cofiwyf Ddafydd Wiliam, mi fyddaf, er truaned fwyf a maint y methwyf a bod fel y mynnwn, eto'n gwybod maint y godidowgrwydd a all fod mewn rhai dynion, ac fel yr enillant y feistrolaeth honno arnynt hwy eu hunain, a thrwy hynny ar bopeth arall, sy'n eu gosod o'r neilltu fel arglwyddi ar eu tynged eu hunain, fel capteiniaid eu heneidiau eu hunain.

1927.

ALAFON


"TAD! ie," meddai, a rhyw hanner gwên ar ei wyneb tirion, oedd y pryd hwnnw heb ôl y boen a fu arno wedyn, "ro'n i'n meddwl mai chi 'ro'n i'n i weld yn dwad ar hyd y ffordd. Sut yr ydach chi? Dowch i mewn!"

Gŵr tal, golygus. O ran teip, pe dodesid cap Cardinal am ei ben, tyngasech mai Eidalwr o Gardinal ydoedd, ac nid Cymro o weinidog Methodist. Y peth cyntaf yr wyf yn ei gofio amdano yw ei enw—Alafon. Nid oeddwn ond glaslanc y pryd hwnnw, ond darllenswn rywbeth. o'i waith. Ni wnaeth y darn, pa beth bynnag ydoedd, ddigon o argraff arnaf i beri i mi ei gofio. Ond fe wnaeth yr enw.

Fel y bydd dyn yn synio am un nis gwelodd, syniais mai gŵr tal, bonheddig ydoedd, ag iddo wyneb tirion. Ac am unwaith, bu gywir y dychymyg fydd mor fynych yn methu. Clywais ef yn pregethu droeon yn ystod y blynyddoedd. hynny, ond nid erys cof am ei bregethu. Y peth yr wyf yn ei gofio'n fyw o'r cyfnod hwnnw yw ei wyleidd-dra a mwynder ei lais.

Pan euthum i fyw i Gaernarfon, yn rhywle o bump i chwech ar hugain oed, deuthum i'w adnabod, braint y byddaf yn ddiolchgar amdani tra bwyf. Daethom yn gydnabod cyn hir, ac yn gyfeillion yn y man. Gŵr oedd ef a ddeallai ac na wrthodai ei dirionwch a'i gydymdeimlad hyd yn oed i'r "to newydd" gwrthryfelgar oedd, yntau yn ei dro, yn mynd i roi'r byd yn ei le, heb fwy o amcan am ddeall y to cynt nag to cynt nag oedd gan hwnnw—oddieithr Alafon—am ei ddeall yntau.

"Tad annwyl!" meddai ef, pan ddywedem neu pan ysgrifennem rywbeth gwaeth na'i gilydd, a rhyw wên addfwyn yn crychu cornel ei wefus, a'i lygaid dyfnion yn rhyw araf droi tuag atom. Cof gennyf am yr amser y cyhoeddwyd llyfr Saesneg tra phlaen ar y Pulpud Cymreig,[1] gan dri o rai tipyn hŷn na'm cymdeithion a minnau, dau o Arfon ac un o Fôn. Bu ymosod ffyrnig arnynt mewn rhai cylchoedd, ond nid ydoedd hyd yn oed y pechaduriaid rhyfygus hynny y tu hwnt i ddealltwriaeth a chydymdeimlad Alafon— clywais ef yn eu hamddiffyn yn dawel ac urddasol yn erbyn ymosodiad gwyllt a chyffredin iawn.

Yn fy nghydnabyddiaeth i ag ef, y peth cyntaf a'm tarawodd oedd ei ddawn i ddeall syniadau a safonau newyddion—nid ei fod o angenrheidrwydd yn eu derbyn bob amser, ond ni phallai byth a'u deall, ac ni frochai un amser o'u plegid. Deallodd darddiad a datblygiad y mudiad llenyddol newydd a ddaeth tua'r cyfnod hwn, fel canlyniad naturiol astudio'r Gymraeg a'i llenyddiaeth yn drefnus o gyfnod i gyfnod. Meddwl agored, ysgolheigaidd, oedd ganddo, a thiriondeb cyson, hyd yn oed pan feirniedid y traddodiad y dygwyd ef i fyny yn ei ganol.

Anffawd yn hytrach na bai'r traddodiad hwnnw oedd bod bylchau tost yn ei gysylltiad a'i wreiddiau ei hun, ac nad oedd iddo ond un math o ymgeledd a nawdd, sef cystadleuaeth eisteddfodol. Canlyniad y cyfyngdra hwn oedd mai darn cymharol fyr hyd yn oed o lenyddiaeth Gymraeg oedd yn weddol hysbys i'r traddodiad, a syniad ei feirniaid yntau am gyfnodau cynt oedd na chynhwysent odid ddim ond "ofergoeledd mynachaidd." Rhyw ddechrau darganfod anghywirdeb y syniadau hyn yr oedd y rhai a elwid yn "do newydd," ac nid oedd fodd i hynny ddigwydd. cyn dechrau dwyn llawysgrifau a llyfrau Cymraeg at ei gilydd i lyfrgelloedd cyhoeddus—o ran hynny, nid ydys eto ond ar ganol y gwaith hwnnw.

Meddwl oedd meddwl Alafon a allai sylweddoli'r pethau hyn. Nid oedd ar ei gyfyl ddim o osgo'r bobl fydd yn sôn amdanynt eu hunain fel "ni'r beirdd" ac yn diflasu dyn drwy sôn am "yr awen" a rhyw rwdlan felly. Ni chaech mono ond ar ddamwain fawr i sôn gair am ddim o'i waith ef ei hun. Nid mater o newid mesur neu eirfa oedd y gwahaniaeth a welir yn ei bethau diweddarach ef o'u cymharu â phethau'r cyfnod cynt, ond cais dealltwriaeth celfydd wrth natur i ennill y feistrolaeth a fynnai'r nwyd honno nad oes gelfyddyd hebddi, ac ni aned mo'r sawl a allai fforddio symlu rhyw nawdd uwchraddol tuag ato ef, gan awgrymu nad oedd ei ddatblygiad yn ddim ond rhyw wendid neu fympwy, rhyw geisio bwrw ymaith feistrolaeth ar un dull er mwyn dynwared un arall.

Nid dynwared a fynnai Alafon, ond bodloni nwyd y celfydd a ddeallai ac a fedrai ddal i'w ddisgyblu ei hun hyd y diwedd, a phlesio llai arno'i hun nag ar neb arall wedi'r cwbl. Yr oedd ynddo ef ddyfnderau nas mynegodd erioed mewn un gerdd o'r eiddo. Nid yn ei awdlau cystadleuol y down o hyd iddo, canys er iddo gystadlu llawer —cystadlu oedd llenydda yn ei gyfnod a'i gylch ef yn ei ieuenctid—eto, nid cystadleuwr mono ef wrth natur. Yn rhai o'i gerddi mân y cawn gip ar y dyn rhyfeddol oedd Alafon.

Ac am y dyn y mynnwn sôn. Hyd yn oed yn y cyfnod anturiaethus yr wyf yn sôn amdano, ni byddai ddim tebyg i gael mynd i fyny i Glwt-y-bont i dreulio diwrnod gydag ef. Byddai'r peth fel pererindod.

"Tad! ie, 'ro'n i'n meddwl mai chi 'ro'n i'n i weld yn dwad ar hyd y ffordd. Sut yr ydach chi? Dowch i mewn !"

I mewn â minnau ac i'r astudfa—yr hen un, cyn altro'r tŷ. Aeth titw tomos las allan yn ebrwydd drwy'r ffenestr agored pan welodd ddyn dieithr yn dyfod i mewn, ac aeth at y plisgyn cneuen gocoa a ddodasai gŵr y tŷ at ei wasanaeth ar y pren gyferbyn. Rhedodd yr ehedydd cloff i ymguddio yn y dail mewn bocs yn y gornel (deuai i mewn bob nos i gysgu yno, byth er pan drwsiodd gŵr y tŷ ei goes iddo, ac yno y cysgodd nes ei ladd ryw ddiwrnod gan y gath, a themtio'i gymwynaswr bron i'w lladd hithau). Yr oedd gan y gath y tro hwn fwy o hyder ac ymddiried. Daeth a rhwbio'i phen yn erbyn fy nghoes a mewian ddwywaith neu dair yn gyfeillgar. Esgusodwch fi am funud," meddai gŵr y tŷ, "rhaid i mi sgrifennu llythyr neu ddau. Mae rhyw fachgen bach o'r ardal yma yn Llundain, a'i fam druan yn o wael, ac y mae tipyn o drwbwl ynghylch ewyllys rhyw hen greadur arall a fu farw dro yn ôl."

Aeth ati i sgrifennu. Daeth robin goch yn y man ar astell y ffenestr, camodd ei ben ac edrych odd i mewn. Gwelodd yntau ddyn dieithr, ac aeth yn ei ôl i chwilio am bryfed llai.

"Mygwch tra bydda i wrthi," meddai gŵr y tŷ. "Dyma'r gymysgedd. Awn allan am dro wedyn."

Sail y gymysgedd oedd dail tybaco, a'r chwaneg iadau oedd dail rhosyn coch wedi eu cynhaeafa. Gorffennwyd y llythyrau, ac aethom allan. Tra buasem i mewn, disgynasai cawod drom o law taranau, nes troi llwch y ffordd yn llaid gwlyb. Fel y cerddem ymlaen, safodd Alafon yn sydyn gan edrych ar lawr. "Mi ddaw rhywbeth ar ei draws o," meddai; plygodd, cododd rywbeth a thaflodd ef dros y gwrych i'r cae. Wrth yr ôl fel llinyn oedd ar draws darn o'r ffordd, dyellais mai pryf genwair oedd y peth a welsai.

"Tad!" meddai yntau, tan wenu, "dyna fi wedi drysu arfaeth y creadur bach yna am byth, hwyrach!"

Cerddasom i fyny ochr y mynydd, onid oeddym yng ngolwg Llanberis, onid wyf yn cam-gofio. Soniem am bryfed genwair, adar a blodau. Cyfarfuom ag amryw bobl ar y ffordd. Sylwais nad aeth un dyn ieuanc na bachgen heibio i ni heb dynnu ei gap i'm cyfaill, nac un hen wraig heb ei gyfarch fel "Mistar Owen bach!" cyn ymadael. Wedi cyrraedd man neilltuol, dyma ni yn sefyll.

"Y mae arna i eisiau dangos rhywbeth i chi," meddai fy nghyfaill. "Edrychwch ar draws y cwm. Welwch chi lun wyneb merch ar yr ochr arall?"

Gwelwn yr wyneb. Trwyn a gên Roegaidd, a'r gwallt wedi ei droi'n gwlwm ar y gwegil yn null y Groegesau gynt.

"Dyna," meddai yntau, "the great lone face of Eryri, fel y galwodd rhywun ef. Y maent yn dywedyd bod rhyw burdeb rhyfeddol ynddo, ac mi fyddaf yn meddwl eu bod yn iawn hefyd. Bydd yn hoff gennyf ddyfod yma i edrych arno."

Rhyw graith ar y mynydd ydoedd, ond po fwyaf y syllem arno, tebycaf yn y byd ydoedd i wyneb merch, a'r argraff arno yn rhyfeddol bur ac unig ac ardderchog. Bûm yn edrych, yng nghwmpeini cerfiedyddion medrus, ar waith rhai o hen feistri Groegaidd a Rhufeinig y cŷn a'r morthwyl, ac yn gwrando'n ddyfal ar eu hesboniadau dysgedig ar gamp y gwaith. Ychydig iawn a lefarodd f'arweinydd y tro hwn. Craith ar fynydd oedd o'n blaenau, un o ddamweiniau Natur. Eto, gwelais fwy nag y medrodd y lleill ei ddangos i mi, canys safwn yn ymyl bardd a chelfydd, un na fedrodd, efallai, er cymaint o bethau tlysion a ddywedodd erioed, ddim llefaru traean yr hyn a ganfu, a deimlodd ac a ddeallodd, ond a fedrodd beri i eraill weled a theimlo a deall rhywfaint ohono hefyd.

Disgynasom i lawr i'r pentref yn araf, heb siarad rhyw lawer. Fel yr oeddym yn cyrraedd y tŷ, yr oedd y taranau yn dechrau rholio yn y pellter, a chymylau dugoch yn yr awyr, yn corri mynyddoedd Eryri. Ymsaethai'r glaw i lawr fel picellau. arian, gan chwilfriwio'n fil o ddagrau gloywon yn erbyn pren, maen a daear. Ni cheid egwyl rhwng taran a tharan, gan ateb y creigiau.

"Tad! ond ydi'r sŵn yn ardderchog!" meddai fy nghyfaill, a safem yn fud i wylio a gwrando. Hoffwn gofio rhai o'r ychydig bethau a ddywedodd, ond ni ddaw ond un yn ôl fel y llefarwyd—"Tad! ond ydi'r sŵn yn ardderchog!" Ond daw tôn y llais mwyn, a'r goleuni tawel oedd yn y llygaid ac ar yr wyneb yn ôl ar draws y blynyddoedd cymysg, y goleuni "na bu erioed ar dir na môr," ond a welwn ni, bechaduriaid, weithiau, drwy lygaid rhai o freiniol feibion Duw.

Aethom i'r tŷ ac eistedd yn hir i wrando ar y sŵn. Pan dawelodd yr ystorm y noswaith honno, dechreuodd fy nghyfaill sôn am gasgliad bychan o'i gerddi yr oedd arno flys ei gyhoeddi. Gwyddwn am lawer o'r darnau eisoes. A chyn i ni fynd i gysgu, rywbryd yn oriau mân y bore, clywais gyfrinach a wnaeth i mi feddwl fy mod yn deall pam yr aethai'r wyneb unig hwnnw ar lethr y mynydd megis yn bersonoliaeth i Alafon. Darllenodd i mi ddwy gerdd nas clywswn o'r blaen, ac nad oedd yntau am eu dodi yn y llyfr. Yn brin a syml iawn, dywedodd yr hanes. Crefais arno eu cyhoeddi, ac fe wnaeth—"Hen fynwent bro hud" a "Dros y Ffin" (gweler y Cathlau, td. 62/64). Mi wn na byddai ef ddig wrthyf mwy am ddywedyd cymaint â hyn. Ni allwn ofyn iddo, ond rywfodd ni allwn beidio â meddwl bod yr wyneb unig a ddangosodd i mi yn debyg i wyneb rhywun, gynt . . .

Yr wyf yn cofio mynd i'w hebrwng i'w gyhoeddiad, ddiwrnod poeth heulog ym mis Gorffennaf. Ar hyd ffordd Fethel yr aem. Dechreuodd sôn am adar. Gwyddwn eisoes ei fod ef yn gyfaill pob ederyn gwyllt, a chreaduriaid heb fod lawn mor hygar-gweler y soned, Cathlau Bore a Nawn, td. 82, "Meudwy'r Ardd," i'r llyffant a laddodd ef drwy ddamwain wrth drin yr ardd, a'r gerdd ar y tudalen nesaf i'r Brongoch Briw." Gwyddwn hefyd ei fod yn bysgotwr-hen gamp a ddysgodd yn hogyn, yr wyf yn sicr, ar wahân, megis, i dynerwch mawr ei natur. Ond dyma'r pryd y dyellais gyntaf am faint ei wybodaeth, a honno'n wybodaeth a enillwyd ar ei hunion o lyfr natur, heb gymorth llyfrau dynion.

Nythai brain yn y coed tua Chae Tolpis, ac aethom i sôn am frain. Cofiaf i mi ddywedyd fy mod wedi darllen yn rhywle bethau rhyfedd am arferion brain. Dechreuodd yntau ddywedyd eu hanes, fel y profant ac y cosbant rai a droseddo yn eu plith eu hunain. Nid wyf yn honni gallu cofio ei eiriau fel y llefarodd hwy bellach, ond dyma gynnwys rhan o'r ymddiddan hwnnw:

"Lle bydd brain yn cartrefu, cewch lawer o bleser wrth eu gwylio. Adar call iawn ydynt, a phe bai dynion yn deall eu harferion yn iawn, nid wyf yn amau dim na ddysgem lawer oddi wrthynt. Y mae'n wir, mi gredaf, fod ganddynt gyfraith yn perthyn i'r haid, a'u bod yn profi ac yn cosbi'r brain a'i torro. Pan fo'r llys yn profi un fo wedi troseddu, fe welwch y carcharor yn y canol, a'r lleill o gwmpas ar y coed, a dyna lle byddant yn crawcian am hydion, yn union fel pe baent yn tystiolaethu ac yn dadlu ac yn rhoi barn. Gwelais hynny droeon fy hun, ac unwaith gwelais y carcharor yn cael ei droi ymaith o blith yr haid. Yr oedd yno sŵn ofnadwy, a phob brân fucheddol a'i phigiad ar y frân ddrwg, nes aeth hi o'r golwg.

"Yr wyf yn cofio sôn am y peth wrth hen goedwr ar ystâd y Faenol, a dywedodd yntau fod yn ddigon gwir bod y brain yn cosbi troseddau yn eu herbyn. Gwelodd brawf felly ei hun, meddai, a'r diwedd fu i'r frân a dorrodd y gyfraith gael ei chrogi rhwng dau frigyn, a phob un o'r lleill yn ei phigo yn ei thro, ac yno y bu ei chorff nes pydru! Wni ddim a oedd y manylion i gyd yn wir, ond adroddai'r hen wr yr hanes yn ddifrif ddigon."

Un ystori arall, am gallineb cŵn y tro hwn. Credai Alafon fod cŵn yn gallu rhesymu. Cefais innau ddigon o achos i gredu'r un peth, a thrin y mater hwnnw yr oeddym. Meddai yntau:

"Tad! ie, creaduriaid rhyfeddol ydi cŵn. Yr wyf yn cofio un hen gi, a adwaenwn yn dda pan oeddwn yn rhyw hogyn. Yr oedd o wedi mynd yn hen iawn ac yn ddiwerth ers talwm, wedi colli ei ddannedd, a'i glyw wedi mynd yn drwm, ond ni allai ei feistr yn ei fyw feddwl am wneud dim iddo fo. Sut bynnag, yn ei henaint, mi gafodd ryw glwy, a dyna lle'r oedd o yn dihoeni ac yn bwrw ei flew ac wedi mynd i fethu bwyta, nes bod yn drueni edrych arno.

"Ryw ddiwrnod, dyma'r ffermwr, wrth edrych arno'n gorwedd ar lawr y gegin, yn dywedyd wrth ei wraig: Yn wir, mae'n drueni gweled yr hen gi yma. Mi fyddai'n fwy o drugaredd i saethu fo na gadael iddo fyw fel hyn. Lle mae'r gwn?' Wedi cael hyd i'r gwn, aeth y ffermwr ati i'w lanhau'n barod. Llwythodd y gwn, ond erbyn mynd i chwilio am yr hen gi, nid oedd olwg arno yn unman. Tua'r hwyr, daeth yr hogyn o'r caeau, a dywedodd weled y ci yn ymyl rhyw hen bwll mwyn ar y tir. Ac yno wedi boddi yn y pwll y cafwyd yr hen gi druan. Nid wyf yn amau dim nad oedd wedi deall."

Tua chanol y ffordd i fyny i allt Fethel, safasom i gymryd ein gwynt. Dyma Alafon yn dechrau gwneud rhyw sŵn bach main drwy dynnu ei anadl rhwng ei wefusau. Yr oedd robin goch ar y wal yn ein hymyl. Fel y gwnai Alafon y sŵn, neidiai robin yn nes atom. Daeth i lawr ar y ffordd ac yna yn nes nes, hyd onid oedd wrth droed Alafon, fel pe buasai'n hen gyfarwydd ag ef. Yno y bu yn edrych i fyny ato, hyd nes i mi yn ddifeddwl symud fy nhroed. Yna, ehedodd i ben y wal drachefn. Pe buasem yng Nghlwt-y-bont, buaswn yn deall y peth, ond yr oeddym yn rhy bell o gyrraedd cydnabod personol Alafon yn y fan honno. Gofynnais iddo sut y gallai ef wneuthur peth felly. "Wn i ddim," meddai tan wenu, "ond maent yn greaduriaid bach dofion iawn, ac yn cyfeillachu â dyn yn rhwydd."

Adroddodd i mi wedyn ei hanes ef ei hun yn croesi'r mynydd ac yn dyfod ar draws rhyw lannerch fach werdd, lle'r oedd ffrwd fechan yn ymwasgar ar hyd y tir, a blodau gwylltion yn tyfu yno, ac ederyn bach unig yno'n canu a'i holl egni, o lawr i frigyn ac o frigyn i lawr. Y llannerch honno oedd "Gwerddon y Ffridd," gweler Cathlau Bore a Nawn, td. 36. O, ydyw, y mae yntau bellach wedi dyfod o hyd i

"ryw lannerch fel hon,
O dlysni parhaus a dedwyddwch llon,
Heb gof am ofidus glwyf!"

—os nad cof ganddo, hyd yn oed yno, fod ambell hen gyfaill eto mewn dygn ymdrech am einioes hynny o ffydd a adwyd iddo yn y byd sydd o honi!

Fis Awst, 1915, bwriais ddeuddydd a noswaith yn Llwyn Iorwg. Cyrhaeddais yn ddi-rybudd, fel arfer, ond nid oedd hynny ond mwy fyth o groeso, ped fai bosibl. Prudd oedd gweled dadfeiliad y corff gwisgi, golygus, a rhyw ymostyngiad trist ond mwyn yn y drem. Braint oedd cael mynd allan gyda'r offeiriad—arferaf y gair o fwriad—ar ei hynt i edrych am ei blwyfolion, a'i helpu dros gamfeydd y gwelais ef yn eu neidio gynt. Yr oedd yr wybren y diwrnod hwnnw yn llawn cymylau gwynion disglair o bob llun. Cytunasem ein dau fod cysgod uffern ar y byd, ond wrth edrych ar y cymylau, y mae'n ddiau gennyf ei fod ef yn gweled y tu draw iddynt i gyd. "Dacw fyd," meddai, "y mae hi'n dawel acw ac yn olau."

Treuliasom fin yr hwyr yn yr ardd, lle'r oedd digonedd o fefus ac eirin Mair. "Y mae'r merched yma," meddai, "wedi eu hel, ond gadael tipyn i'r adar." Gallwn ysgrifennu pennod am ardd Alafon, ond darllened pawb a ddarlleno hyn o annheilwng goffa ei gerdd ef ei hun iddi (gweler y Cathlau, td. 44). Prin yr oedd ganddo gymaint ag arfer i'w ddywedyd y dechreunos hwnnw, mewn geiriau, o leiaf. Ond wedi cilio o'r goleuni i'r gorllewin a disgyn arnom o dawelwch y nos, daeth egwyl o'r hen amser drosto. Dywed odd lawer o bethau wrthyf, fwy nag erioed o'r blaen am ei fywyd a'i brofiadau ef ei hun, hanes cyfansoddi cerdd "Hen Gloc Mawr y Dre" ac ambell un arall, hanes yr hen gylch llenyddol yng Nghaernarfon gynt. Buasai'n darllen trwy lythyrau a phapurau oes ychydig cyn hynny, a chyfododd llawer peth i'r wyneb with sôn am danynt. Yr oedd y Cathlau wedi eu cyhoeddi erbyn hyn. Diolchais iddo am ddodi yn y llyfr y ddwy gerdd yr oedd yn betrus yn eu cylch gynt. Cefais wybod y noswaith honno beth y buasai'n rhy hy gennyf ei ofyn byth iddo—pwy oedd y ferch a gwsg yn yr hen fynwent, honno a wyddai'r ddirgel ffordd dros y ffin. Yn y gwyll caredig, gwelwn ei lygaid gwlybion yn disgleirio, a chlywn ei lais fel pe buasai'n dyfod o bell . . .

Cefais un olwg arno wedyn, yn Aberystwyth, tua diwedd Medi—yr olaf. Yr oedd ef dipyn yn fwy syn a thawedog. Fel erioed, fe wyddai fwy nag a ddywedai.

Dywedodd wrthyf unwaith na theimlodd erioed ei fod wedi llwyddo yn ei amcanion. Atebais mai rhyw "frychfeddwl," fel y dywedai yntau yn nydd ei afiaith gynt, oedd peth felly; ac eto, yr oedd Alafon yn fwy na dim a wnaeth, yr oedd y tu hwnt i bob amheuaeth yn Gristion a gŵr bonheddig. Pa waeth am ddim arall yn y byd? Gŵyr eraill o'i hen gyfeillion, efallai, ddirgelwch y pennill rhyfeddol hwn o'r eiddo, ac oni ŵyr ein calonnau ninnau fwy na'n pennau, pe na bai arnom ofn ymddiried ynddynt?—

"Mi wn fod ffin, mi wn fod llen,
Yn cuddio'th wlad oddi wrthym ni,
Ond gŵyr fy nghalon fwy na'm pen,
A'r ddirgel ffordd a wyddost ti!"

1916, 1930.

JOHN MORRIS-JONES


Y TRO cyntaf y gwelais ef oedd yn Eisteddfod Landudno, 1896.

Yn un o gyfarfodydd y bore, eisteddwn wrth fwrdd y wasg, yn disgwyl i'r cystadleuaethau ddechrau. Nid oedd y beirdd eto wedi cyrraedd o'u "Gorsedd," ac yr oedd rhai mân bethau eisoes ar droed. Yn fy ymyl eisteddai gŵr ieuanc dieithr i mi; gwallt du iawn, syth ac yn hytrach yn llaes a thrwchus, weithiau'n tueddu i ddisgyn dros ei dalcen ar un tu a chuddio ei lygad, ac yntau'n ei droi ymaith yn rhyw chwyrn â'i law; un llygad fel pe buasai'n gibddall, y llall yn anghyffredin o fyw a gloyw; gwawr felen braidd ar ei groen; gwên yn chwarae ar ei wefusau, gan ddangos dannedd cryfion braf. Sylwais ar y pethau hyn wrth iddo ef siarad ag un o swyddogion y llwyfan a ddaethai heibio.

Yn y man, dyma orymdaith y beirdd i mewn. Wrth basio'r lle yr oeddym ni yn eistedd, troes yr "Archdderwydd" (Hwfa Môn), edrychodd yn dra digllon ar y gŵr ieuanc, estynnodd ei law a rhol o bapur ynddi tuag ato, gan fwmian rhyw beth yn dra chynhyrfus, fel yr ymddangosai i mi.

Pwy bynnag a gerddai nesaf i'r "Archdderwydd," cydiodd hwnnw yn ei fraich ac aeth y beirdd i fyny i'r llwyfan. Chwarddodd y gŵr ieuanc. Bûm yn siarad ychydig eiriau ag ef am y digwyddiad, oedd wedi ei ddifyrru ef yn fawr. Ni ryfygais ofyn iddo pwy ydoedd ac ni ddywedodd yntau ddim amdano'i hun, ond yr oeddwn yn sicr yn fy meddwl fy hun mai John Morris-Jones ydoedd, a gwybûm cyn nos mai ê. Yr oedd ef eisoes wedi cyhoeddi ei ysgrifau ar "Orsedd y Beirdd" yn y Cymru, cylchgrawn O. M. Edwards, fel yr adwaenid ef y pryd hwnnw, ac yr oedd llawer o sôn amdanynt yn Llandudno yr wythnos honno. Hynny, ond odid, a gynhyrfodd dipyn ar yr "Archdderwydd"—dywedodd rhywun wrthyf mai yn yr " Orsedd" y bore hwnnw, onid wyf yn camgofio, y traethodd ef y llinellau clasurol hynny am y beirdd a'u beirniad newydd:

"Mwynhau eu hedd y maen' hw'
A Siôn Morys yn marw!"

Cefais yr argraff ar fy meddwl y tro hwnnw fod John Morris-Jones wedi cadw hyd hynny lawer o ryw ddireidi bachgennaidd. Credaf iddo ei gadw hyd y diwedd bron. Parodd ffawd

wedi hynny ei ddyfod ef a minnau yn gydnabyddus â'n gilydd, yn bersonol a swyddogol. Tua'r flwyddyn 1902, bûm mor hy â chyhoeddi llyfryn o ryw gerddi bachgennaidd. Adolygwyd hwnnw yn un o'r papurau Saesneg (gan yr Athro William Lewis Jones, o Goleg Bangor, fel y dywedodd ef ei hun wrthyf ymhen blynyddoedd rai). Yr oedd yr adolygiad yn eithaf teg, ond bod ynddo ryw anfanyldeb neu ddau anlwcus. Cymerth eraill ran mewn gohebiaeth a ddilynodd, ac yn eu plith yr Athro John Morris-Jones. Yr oedd yr adolygydd wedi condemnio arfer y ffurf "rhian" yn lle "rhiain," a dywedwyd mai un o erchyllterau Puw oedd "rhian" a "rhianod." Am yr unig dro yn f'oes, cymerais innau ran mewn dadl yn codi o feirniadaeth arnaf fy hun—ildio i'r demtasiwn o ddangos bod y ddwy ffurf i'w cael gan Huw Morys ymhell cyn geni Puw, er nad oedd dim dadl nad oedd y beirniaid yn iawn am y ffurfiau cywir. Erbyn hyn, y mae'n anodd gennyf gredu mor ddifrif oeddym oll yn y cyfnod hwnnw, ac ni chrybwyllwn am y peth oni bai ei fod yn ddarn diddorol—i mi, o leiaf—o berthynas Syr John a minnau.

Yr un flwyddyn, yr oedd yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor, ac am y tro cyntaf, peidiodd testunau'r gadair a'r goron â bod yn rhai haniaethol. Yr oeddwn innau wedi llyfasu danfon awdl i mewn i gystadleuaeth y gadair eisoes. Oblegid y ffrwgwd fach yn y papur Saesneg, tybio yr oeddwn na byddai nemor siawns i'r awdl, canys yr oedd John Morris-Jones yn un o'r beirniaid, ac ofni'r oeddwn innau y gallai fod tipyn o bosibilrwydd iddo daro ar ffurfiau anghywir ynddi hithau hefyd. Felly ni feddyliais fwy am y gogynnig hwnnw.

Yn y dyddiau hynny, nid oedd reol fod pob ymgeisydd i ddanfon ei enw priod dan sêl i'r ysgrifennydd gyda'i gyfansoddiad, ac ni wyddai ond fy ngwraig ac un arall fy mod innau wedi cynnig. Felly, pan ddaeth fy nghyfaill, a'm cydolygydd y pryd hwnnw, Daniel Rees, a'r neges un noswaith i Gaernarfon fod y pwyllgor am i mi fod yn yr eisteddfod ar gyfer y cadeirio drannoeth, nid oedd gennyf ddigon o hyder i gredu'r ystori. Cefais wybod wedyn mai William Lewis Jones a amheuodd pwy oedd awdur y gerdd a fernid yn orau, ac a gadarnhaodd ei dyb drwy gael hyd i ddarn o'm llawysgrifen a'm henw wrtho.

Digwyddai fy mod eisoes wedi addo bod mewn lle arall drannoeth. Yr addewid honno a gedwais, a chefais felly ysgoi peth a fuasai'n dipyn o brawf ar duedd ry barod i weled ochr ddigrif pethau. Y diwrnod wedyn, euthum i Fangor, lle gwelais goroni fy hen gyfaill Silyn Roberts, ac y cyfarfum, ymhlith eraill, â John Morris Jones.

O'r dydd hwnnw hyd y diwedd, buom yn gyfeillion, ac ni chefais i ond y caredigrwydd mwyaf ar ei law. Gwahoddodd fi i Lanfair i dreulio diwrnod gydag ef, a hyfryd fyth yw'r cof am y dydd hwnnw o Fedi. Nid wyf yn meddwl i ni sôn am ffrwgwd y papur newydd, a'r argraff a gefais y diwrnod hwnnw oedd fy mod wedi taro ar Gymro a barchai iaith ei dadau fel y perchid Groeg a Lladin gan ysgolheigion clasurol, ac nad oedd un llafur na thrafferth yn ormod ganddo i osgoi'r peth lleiaf a allai fod yn fefl arni. Cofiwn am fy hen athro Lladin pan oeddwn hogyn, na fynnai lythyren o'i lle, a'r meistr ar ieithoedd diweddar, a ddysgodd i mi fy Nghymraeg, ar dafod a thrwy ysgrifen, un y byddai priod-ddull anghymreig yn peri dolur iddo. Sonied a sonio am " ddegymu mintys ac anis," fel pe bai hynny'n ddigon o esgus dros bob aflerwch a diogi, mi wn ardderchoced oedd y ddisgyblaeth honno. Bwriais noswaith yng nghartref yr Athro droeon wedi hynny. Nid oedd ŵr mwynach nag ef ar ei aelwyd ei hun na diddanach. Os gellid ei gael i ddarllen prydyddiaeth Gymraeg ar osteg—ac nid anodd fyddai hynny—neu i sôn am bwynt o ramadeg neu gystrawen, âi'r amser heibio heb yn wybod i ddyn. Ceid cyfle hefyd i weled gwaith ei law ef ei hun, naill ai'n copïo llawysgrif un arall, ai'n gwneuthur cloc, ai ynteu'n tynnu llun. Yr un gofal ac amynedd a glendid celfyddus, yr un gonestrwydd ag a geid yn ei holl waith. Er i fwy nag un o'r aml wŷr tanbaid sydd yng Nghymru gymryd yn ei ben o dro i dro fy mod i yn ddisgybl personol iddo, y gwirionedd syml yw na chefais i erioed mo'r fraint, y buaswn yn falch dros ben ohoni, o fod yn ddisgybl iddo yn yr ystyr honno. Eto, mewn ystyr arall, ohonom ni sydd yn ymhel â dysg Gymraeg yng Nghymru, pwy nad yw'n ddisgybl iddo? Hebddo ef, y mae'n lled sicr na buasai lawer o lun ar astudio'r Gymraeg yn y colegau Cymreig hyd heddiw. Wrth gwrs, nid anghofir am Syr John Rhys, ei athro yntau yn ei dro, ond y gwir yw ei fynd ef yn gynnar i dalu sylw i bynciau ehangach na dysgu'r Gymraeg yn unig; ac am y lleill o'i ddisgyblion ef, nid oedd iddynt oll mo'r ddawn ymddisgyblu parhaus oedd yn nodwedd mor amlwg yng nghymeriad John Morris-Jones.

Ni olyga hyn, wrth reswm, na wnaeth eraill o'r twr hwnnw o ddynion ieuainc a sefydlodd Gymdeithas Dafydd ap Gwilym yn Rhydychen lawer o wasanaeth gwerthfawr iawn, ond nid cam â neb yw dywedyd nad oedd onid un arall yn eu plith a chanddo'r ddawn ymddisgyblu oedd gan John Morris—Jones, sef oedd hwnnw, Puleston Jones. Yn ysgrifeniadau'r ddau hyn, ceir llawer gwahaniaeth, gwir yw, ond ceir un peth cyffredin iddynt, sef parch i iaith a manyldeb disgyblaeth barhaus. Ysgrifennai Owen Edwards yn ddifyr ac yn brydferth iawn, ond nid mor fanwl; y mae ei arddull ef ar y dechrau cystal ag ydoedd ar y diwedd—peth gwych i'w ddywedyd, hefyd—ond ni allodd rywfodd adael ei ôl ar ei ganlynwyr, ac y mae rhai ohonynt erbyn hyn yn ysgrifennu Cymraeg digon erchyll i beri i'r llenor mwyn ac awenus hwnnw droi yn ei fedd.

Diddorol fyddai astudio'r gwahaniaeth rhwng y tri. Rhamantwr oedd Owen Edwards, cyfarwydd Cymreig awenus, megis o'r oesau canol, a geiriau yn llun ac yn lliw ac yn ddilyniad digwyddiadau iddo. Hen uchelwr rhadlon, megis, ydoedd Puleston, a wrandawsai ar gannoedd o gyfarwyddon ac eraill yn adrodd eu straeon, a geiriau'n bersonoliaethau iddo, yn gymeriadau y gwyddai ef drwy reddf a deall sut yr ymglyment â'i gilydd, a pha effaith ar y naill a gai bod yn ymyl y llall. Celfydd oedd John Morris-Jones a welai eiriau'n ymgyfuno wrth reidrwydd rheol a pharhad traddodiad.

Bydd rhai'n dywedyd yn aml mai'r unig beth sy'n iawn mewn iaith yw'r hyn sydd gyffredin, hynny yw, mai'r hyn y sydd yw'r hyn sy hefyd yn iawn, a digrif yw sylwi yn aml ar ymdrechion ieithyddion—nid yng Nghymru yn unig—i ddangos mewn ymarferiad eu bod yn credu'r peth a ddysgant fel athrawiaeth. Ond dilyn yr athrawiaeth hon i'r pen draw, nid rhaid i lenor namyn ysgrifennu ar ei gyfer yn union fel y bydd "y dyn yn y stryd" yn llefaru, a dyna bopeth yn iawn. Pa beth bynnag yw'r "gwir" ieithyddol—nid llawer haws cael hyd iddo na rhyw wir arall—ni all fod amau nad yw holl ieithoedd llenyddol y byd yn ddadl barhaus yn erbyn yr athrawiaeth hon. Yr oedd John Morris-Jones yn un o'r dynion na dderbyniant mo'r athrawiaeth hon. Iddo ef, yr oedd bod yn iawn yn cynnwys mwy na dim ond bod.

Bydd rhai o'i feirniaid yn y wlad hon yn dywedyd nad geirofydd mono—ar y Cyfandir, anghytuno â rhai o'i syniadau y byddis. Rhaid cydnabod, wrth gwrs, mai rhai heb fod yn eir ofyddion eu hunain fydd barotaf i'w dderbyn yntau i'r un dosbarth, ond y mae cymaint â hyn o wir yn eu hawgrymiad—nid geirofydd yn unig ydoedd ef, ond ieithofydd hefyd. Hyd yn oed er anghytuno â rhai o'i gasgliadau, rhaid cydnabod iddo ddangos medr anghyffredin wrth drin datblygiad seiniau, ond dechreuai ei waith ef cyn iawn lle gorffen llafur y seinofyddion. Gramadegwr, astudiwr cystrawen a phriod—ddull, un a aned i astudio'r pethau sy'n gwneuthur celfyddyd iaith yn bosibl, ydoedd ef. Ac yn y maes hwn darganfyddai rywbeth newydd o hyd. Iddo ef, y pethau hynny, pan ddarganfyddid a phan brofid nes ei fodloni ef, oedd yr iawn a'r gwir. Ni rusodd erioed ymwrthod â'r peth y profwyd ei fod yn anghywir, hyd yn oed er iddo ef ei hun fod wedi arfer y ffurfiau hynny gynt. Pan ddeuthum i'w adnabod gyntaf, hyn a'm tarawodd fwyaf o bopeth yr oedd cywirdeb a manylder yn egwyddor iddo, ac ni lefarodd erioed mo'r ganmoliaeth wag a ddifetha lawer bachgen a allai ddysgu sgrifennu'n burion.

Clasurydd hyd fêr ei esgyrn ydoedd ef. Nid dyma'r amser hyd yn oed i ddyn gymryd arno benderfynu mewn hanner dwsin o eiriau sut brydydd ydoedd, na pha mor gywir neu anghywir oedd ei farn a'i safonau beirniadol, faint o "feirniadaeth ar fywyd" oedd yn ei waith, neu ba faint o drwyn oedd ganddo at fath arbennig o nwyd—un peth y gellid disgwyl i ni a'i hadwaenai ef ei wneuthur, gyda rhywfaint o lwydd ac o les, fyddai rhoi i rai nas gwelsant ryw fath o syniad am y dyn. Nid oedd yn siaradwr cyhoeddus llithrig; yn wir, herciog fyddai; ond os dyfynnai ddarn o brydyddiaeth neu o iaith rydd, gwnai hynny â pherffeithrwydd. Y peth hyotlaf a glywais i ganddo erioed oedd darlith ar Williams Pantycelyn, a draddodes yn Aberystwyth rai blynyddoedd yn ôl. Adroddai lawer o waith Williams, wrth gwrs, a hynny gydag effaith anghyffredin. Yr oedd tinc yr hwyl Gymreig ganddo, ond na chaniatâi ef i'w graddfa amrywio ond ychydig i fyny ac i lawr. Ceid ganddo yr un peth yn ei feirniadaethau eisteddfodol, lle y cadwai gynulleidfa gymysg o filoedd o bobl i wrando arno fel y gwrandewir ar feistr. Yn wir, daeth gwrando arno'n traddodi beirniadaeth yn un o'r pethau mwyaf deniadol yn eisteddfodau ei gyfnod,—un o'r profion sicraf hefyd o lwyr effeithioldeb Cymraeg glân a graenus hyd heddiw ym mhob rhan o Gymru.

Er maint ei ofal am arddull lenyddol, llefarai dafodiaith yr ardal lle ganed ef bron yn ddiofal. Enwai rai o'r misoedd o leiaf yn Saesneg; dywedai rifedi tudalen neu flwyddyn, a phethau felly, yn gyson yn Saesneg, a Saesneg fyddai llawer o'i eiriau moes wrth y bwrdd (megis "plis," "tanciw," etc.). Synnwn bob amser at y gwahan iaeth hwn rhwng ei iaith lyfr a'i iaith lafar, ond ni ellais erioed fod yn ddigon hy i alw ei sylw at y peth. Ceid ganddo hefyd, y mae'n wir, lawer o hen eiriau diddorol iawn, a arferai y mae'n ddiau fel rhai a glywsai beunydd yn ei ieuenctid, ond ni chefais le i gredu fod i dafodiaith fel y cyfryw ddiddordeb mawr iddo.

Pan ai'n ymddiddan personol rhwng dau, teimlwn bob amser ei fod ef ar ei orau, er ei fod hefyd mewn cwmni helaeth yn adroddwr ystraeon ardderchog. Anodd yma beidio â chynnwys yr olaf a glywais ganddo, ychydig cyn ei farw. Yr oedd rhywun yn holi'r Ysgol Sul, ac yntau'n un o'r plant. Soniwyd am Lyn Genesareth, a gofynnodd yr holwr:

"A oes sôn am ryw lyn arall yn y Beibl?"

Distawrwydd am ennyd; yna clywid llais y bachgen dylaf oedd yno yn ateb:

"Oes."

"Wel?" meddai'r holwr.

"Llyn Pysgod Angau," meddai'r atebwr.

Credaf nad anghofia neb ohonom oedd yno byth mo groywder y modd y llefarodd Syr John yr ateb hwnnw i ni.

Mewn ymddiddan mwy personol, y peth a'm tarawodd i lawer gwaith oedd fod ynddo ryw fath o wyleidd-dra ac o ddiniweidrwydd anghyffredin. Credaf na byddai byth yn rhyw hapus iawn yng nghwmpeini dieithriaid—byddai rhyw sychter cwta undonog yn ei lais, ac edrychai'n anesmwyth. Yr wyf yn berffaith sicr iddo lawer gwaith dynnu ymosod ffyrnig arno ef ei hun drwy beth a ddywedodd yn gwbl ddiniwed. Odid well chwarddwr nag ef. Eto ni roed iddo'r ddawn i chwerthin ar bapur. Peth arall a'm tarawodd oedd ei barch i lefel gyffredin gonestrwydd dynol, hyd yn oed pan sonnid am rai a gyfrifid yn elynion iddo.

Ni sylwais i erioed fod yn ei wladgarwch ddim byd annaturiol. Er hoffed ganddo bopeth Cymreig, ni chlywech ganddo byth mo frawddegau'r gwladgarwr proffesedig. Yr wyf yn sicr na freuddwydiodd erioed bod yn fraint, megis, i'r Gymraeg gael ei wasanaeth ef na neb arall ohonom, ond dywedodd wrthyf unwaith mai braint i ni oedd cael fel ein galwedigaeth waith a garem. Yr oedd ganddo fwy o ffydd nag y sydd gan rai ohonom gyda golwg ar barhâd yr iaith. Eto, pan sonnid ei bod hi mewn perygl, gallech fod yn sicr mai nid rhyw sentimentalwch wylofus a thwyllodrus a barai iddo ef weithio erddi. Gyda'i farwolaeth ef, daeth cyfnod yn hanes addysg a diwylliant cartref yng Nghymru i ben, er y dichon llawer o'r mân ffigurau a lanwai swyddi uchel yn ystod y cyfnod fyw am flynydd oedd eto. Diau fod gwrth ddadlau yn ei waed, ond fe ŵyr ei gyfeillion fod hanner hynny yn ddyledus i'w awydd am fynegi a chyfiawnhau'r peth a ystyriai ef yn gywirdeb diamau. Ni welais odid ddim mor ddihoced â'i syndod pan amheuid rhai o'i osodiadau. Am bethau eraill a ddywedai yn ei ddadleuon, fel y soniais eisoes, ni allai ef ddim chwerthin mewn print, ac am hynny cymerid o ddifrif lawer peth nad oedd o ran bwriad nemor mwy na digrif. Er na bûm i fyfyriwr dosbarth iddo, braint i minnau ddywedyd gydag eraill, "Disgybl wyf, ef a'm dysgawdd."

1929, 1930.

RICHARD ELLIS


ANFYNYCH y digwydd y peth, ond fe ddaw i ran dyn ar dro ambell gydnabyddiaeth a dyf yn ebrwydd yn adnabyddiaeth, megis pe bai'n barhâd o rywbeth a fu eisoes.

Y tro cyntaf y cyfarfüm â Richard Ellis, ni bu rhyngom ond ychydig eiriau, a'r rhai hynny oblegid yr amgylchiadau yn gorfod bod yn ffurfiol —cyfarchiad dau yn yr un gwasanaeth. Agos i ugain mlynedd yn ddiweddarach, y tro diweddaf y gwelais ef, yn wir, cofiem fanylion y tro hwnnw. Cofiai ef hyd yn oed liw a thoriad y dillad a wisgwn. Pe buaswn ansicr o'm chwaeth fy hun neu grefft y teiliwr a wnaeth y dillad hynny, buaswn yn fodlon ar ôl deall bod y naill a'r llall yn gymeradwy gan fy hen gyfaill, canys yr oedd iddo ef, beth bynnag, chwaeth berffaith yn y pethau hynny fel mewn eraill. Mewn gwirionedd, gallwn innau ar yr un pryd alw o flaen fy llygaid ei ymddangosiad a'i ysgogiadau yntau—ei law dde tan benelin ei fraich chwith a deufys flaen y llall ar ei ên. Goleuni caredig yn ei lygaid a gwên groesawus yn crychu'r mymryn lleiaf ar ei wefus uchaf. Llais o'r tirionaf. Pob gair yn gymwys. Cwrteisi perffaith, mwy di-ystum nag eiddo Ffrancwr, rhywiocach nag eiddo Sais, cwrteisi Cymro, o'r amser gynt. Gofynnai'r meddwl iddo'i hun pa bryd ac ym mha le y cyfarfuasem ni o'r blaen, a chodai megis rhyw frithgof am amser pell yn ôl ac amgylchiadau gwahanol. Ni wyddwn pam ac nis gwn. Ond yr oedd rhyw fud sicrwydd felly o'r tu cefn i argraff y funud, nid annhebyg i'r teimlad a ddaw dros ddyn weithiau ei fod yn adnabod lle na bu ynddo erioed o'r blaen.

Eto, haws disgrifio llawer cydnabyddiaeth ddigon damweiniol na rhoi syniad am gyfeillgarwch felly. Cefais y fraint o gydweithio ag ef am ryw dair blynedd a hanner, ac ychydig iawn fu nifer y dyddiau yn ystod y cyfnod hwnnw na byddai a wnelem lawer y naill â'r llall. Cydgerddem lawer beunydd, ac ni bu daith na bai fyrrach na'r chwedl. Er mai byr fu'r cyfnod a chymysglyd, yn wir, y mae iddo bellach helaethach mesur ac unrhywiach modd. Gorwedda draw yn y pellter fel llannerch heulog, mor ddistaw ac araul fel y byddai anodd gan ddyn feddwl dorri erioed ar ei thawelwch gan gymaint a gwich flin un wenynen farch. Ymwahanodd ein llwybrau

wedyn, ond parhaodd y cyfeillgarwch heb na phallu na phylu hyd oni ddaeth ei yrfa ef i ben, fis Awst, 1928. Ac ni allaf eto gredu ddarfod am y cyfeillgarwch hwnnw.

Gŵr tawel, bonheddig, gwylaidd, rhy wylaidd, oedd Richard Ellis. Oni bai ei wyleiddied, nid aethai drwy'r byd heb fod ond ychydig a wyddai am ei ddiddordeb eang a'i wybodaeth helaeth am bob math o bobl a phethau mewn meysydd diarffordd. Llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg, hanes Cymru ac ysgolheigion Cymreig, hanes Rhydychen a godidowgrwydd pethau coll yn byw byth yn ei hawyr; hanes ac achau teuluoedd, eu ffyniad a'i orffeniad; hanes y Sipsiwn Cymreig, llên gwerin, arferion a defodau,—aeth ffrwyth sylw ac ymchwil oes lafurus i'w ganlyn i'r distawrwydd mawr, ac nid oes yn aros onid ychydig gyfeillion a ŵyr hynny. Eto, yr wyf yn sicr na fynasai ef ei hun ar un cyfrif iddi fod yn amgen. Casbeth oedd ganddo dynnu sylw ato'i hun mewn modd yn y byd—trafferth fawr a fyddai gael ganddo wneuthur unpeth ar goedd, a digrif fyddai ganddo ruthr y chwilod dangos i ganol ffrwd y goleuni ym mân chwaraeon bywyd.

Ei arwr pennaf oedd Edward Lhuyd. Treuliodd ei oes i gasglu hanes y gŵr gwych hwnnw, a'i arfaeth er yn gynnar oedd cyhoeddi ei lythyrau a gweddillion ei lafur, ac ysgrifennu hanes ei fywyd. Dechreuodd ar y gorchwyl pryd nad oedd ef eto onid myfyriwr, a daliodd ato ar hyd ei oes. Gadawodd ar ei ôl bentyrrau o gyfeiriadau, nodiadau a chopïau o sgrifeniadau o waith ac ynghylch Lhuyd, ond bu farw heb gymaint a dodi ar bapur gynllun o'r gwaith a fwriadai. Mor drwyadl oedd ei ymchwil am ddeunydd fel na fynnai ddechrau sgrifennu cyn ei fodloni ei hun ei fod wedi cael y cwbl. Casglodd gymaint o ddeunydd yn wir fel yr wyf yn credu iddo ddechrau amau a allai ef byth gael arno drefn a dosbarth. Ac eto, ni allai roddi'r gorau i chwilio. Bydd trwyadledd dynion fel efô yn peri i ddyn dybio bod mesur o anhrwyadledd yn beth anhepgor i'r sawl a fentro sgrifennu. Ryw flwyddyn cyn ei farw aeth i Iwerddon, lle darganfu lawer o bethau yn llawysgrif Lhuyd, a dywedodd wrthyf ychydig cyn y diwedd y byddai raid iddo fynd i'r Alban ac i'r Cyfandir i chwilio am chwaneg.

Edmygai Luyd tros fesur, ac ni flinai byth ar sôn amdano, ei ddysg helaeth a manwl, ei weithgarwch diorffwys, ei gymeriad urddasol a'i foneddigeiddrwydd Cymreig perffaith. Soniai amdano fel pe buasai'n ei adnabod erioed, fel pe byddai ddisgybl yn sôn am ei athro. Diau gennyf fod Lhuyd megis yn byw iddo ef yn y geiriau a sgrifennodd ei law ar bapur. Byddai'n llawenydd ganddo hyd yn oed ddyfod o hyd i lythrennau cyntaf ei enw ar lyfr, neu un o'i farciau yma ac acw yn dangos pa beth a ddarllenasai. Ni allai oddef meddwl am ddinistrio na llythyr na nodiad o waith undyn—clywais ef yn dywedyd bod hynny iddo ef megis pe byddid o wirfodd yn dinistrio personoliaeth dyn. Wrth fynych wrando ar fanylion yr hanes ganddo ef, aeth Lhuyd yn fyw i minnau. Ac mor debyg oedd ef i Richard Ellis!

Ond nid Lhuyd yn unig, hyd yn oed er mai ef yn bennaf, ac nid Cymry yn unig, er mai pennaf hwythau. Odid ysgolhaig o ryw nod a fu yn Rhydychen na wyddai ef ei hanes—ni allai beidio â chodi pob cyfeiriad at hanes a llafur pob gwŷr enwog o bob cenedl a fu yno. "A wyddoch chwi," meddwn wrtho, "am deulu o Wyniaid o Sir Ddinbych—yr oedd un ohonynt yn ysgolhaig, rywbryd yn y ddeunawfed ganrif, neu gynt?"

Garthewin?" meddai yntau, "O ie, gwn."

Yna, ymlaen ag ef gyda hanes y teulu, eu hachau a'u cysylltiadau a phob rhyw gamp arnynt. Yr un modd am ddwsin o deuluoedd o'r un sir, boed yn eu hanes ai rhamant ai trychineb, neu fagu ohonynt ysgolhaig, ni waeth ym mha faes, neu gymeriad ag arno un arbenigrwydd arall. Ac felly am bob sir yng Nghymru.

Ysgrifennodd ugeiniau o lythyrau yn ateb i eraill a fyddai ar ôl hanes rhywun neu gilydd ac a ddeuai i wybod yn y naill ffordd neu'r llall am ei wybodaeth a'i gymwynasgarwch ef. Olrheiniodd hanes ymweliadau Shelley â Chymru ac Iwerddon, a darganfu ffeithiau anhysbys am y bardd a'i gyfeillion. Tua diwedd ei oes, datblygodd ddiddordeb arbennig yn arweinwyr cynnar y Methodistiaid Calfinaidd, a chasglodd ddigon o ffeithiau i sgrifennu penodau diddorol o'u hanes. Ar y llaw arall, casglodd lawer o wybodaeth ddiddorol am ymdrechion olaf Catholigaeth Gymreig ac araf ddiflaniad yr hen ffydd.

Nid y meirw ychwaith, ond y byw hefyd. Yr oedd dynion o bob math yn ddiddorol iddo, eu prydweddion a'u hysgogiadau diymwybod, eu gwisgoedd, eu lleferydd a'u hymddiddanion. Yr oedd ganddo ryw ddawn ryfeddol i daro ar gymeriadau a rhyw arbenigrwydd arnynt, ni waeth o ba ddosbarth y byddent. Cyn sicred â'i fynd ar daith i rywle, deuai yn ei ôl wedi cyfarfod â rhyw gymeriad hynotach na'i gilydd. Yr oedd ganddo reddf at gael hyd i gymeriadau anghyffredin ac ennill eu hymddiried a'u cyfrinach. Er mai tawedog fyddai mewn cwmni dieithr, sylwais lawer gwaith wrth gyd-deithio ag ef mor rhwydd y tynnai dynion o bob dosbarth ysgwrs ag ef. Dawnsiai ei lygaid, chwaraeai gwên o gwmpas cornelau ei wefusau, dywedai rywbeth cwta rhwng difrif a chwarae, rhywbeth a agorai ddôr atgof a lleferydd, a byddai'n ymddiddan rhyngddo a rhywun yn y fan. Sylwai'n fanwl ar arferion dynion, yn enwedig eu symudiadau a'u hystumiau difwriad. Carai blant bychain yn fawr, a chai bleser diderfyn wrth wylio'u symud iadau a gwrando ar eu dywediadau, byddai'n gyfaill a chydymaith iddynt rhag blaen, a chofiai hwy bob Nadolig yn gyson am flynyddoedd. Er maint ei ddiddordeb mewn personau ac yn y deall a'r bwriad, nid amau gennyf nad oedd ei ddiddor deb yn y reddf sydd wrth wraidd personoliaeth effro yn llawn cymaint; fel rhyw grynhodeb of ddynoliaeth yr oedd dyn yn ddiddorol iddo. Mesurai a phwysai ddynion yn fuan iawn, ac ni welais erioed mono'n methu yn ei ddadansoddiad, hyd yn oed er i mi fy hun synio'n wahanol iddo ar y dechrau.

Bûm trwy ei bapurau oll ar ôl ei farwolaeth. Ysgrifennodd lawer iawn, yn enwedig yn ei ieuenctid, ond ychydig a gyhoeddodd. Yr oedd y duedd i'w feirniadu ei hun a diwygio'i waith ynddo'n gynnar. Cefais hyd i ffurfiau lawer ar ambell delyneg neu soned o'i eiddo, ond prin yr wyf yn meddwl bod un ohonynt wedi cyrraedd ffurf y buasai ef ei hun yn ei hystyried yn derfynol. Gadawodd hefyd ar ei ôl lawer o chwedlau neu straeon byrion, ac o leiaf astudiaeth neu ddwy a fwriadwyd ar gyfer ystraeon hir neu nofelau, mi dybiaf, yn gystal â nifer o frasluniau neu astudiaethau o gymeriadau ac amgylchiadau cymhleth, ac amryw ddychanau miniog. Ond ni adawodd un o'r pethau hyn mewn ffurf orffenedig, er bod digonedd o ôl newid a diwygio arnynt, ac o chwilio parhaus am ragorach mynegiad. Ryw flwyddyn neu ddwy cyn ei farwolaeth, dangosodd i mi gyfres o sonedau y ceisiais yn daer ganddo eu cyhoeddi. Hanner addawodd wneuthur hynny, ond nis gwnaeth ac ni chefais hyd iddynt hwy ymhlith ei bapurau, ac nid oes gennyf un syniad pa beth a ddaeth ohonynt.

Yr oedd rhyw agosatrwydd ac elfen bersonol gref yn ei holl brydyddiaeth, a chredaf mai i bersonau byw yr ysgrifennodd lawer o'i gathlau. Yr oedd gan y llais, y llygaid, y dwylo a'r gwallt yn enwedig atyniad arbennig iddo, ac ni byddai byth heb fod yn chwith ganddo am bethau a fu ac a ddarfu, ac eto a wrthodai ddarfod. Gellid meddwl bod ambell bennill o'i eiddo, neu gân fach nis gorffennwyd, yn llun cywir, agos fel ffotograff, a rhai o'r profiadau a ddisgrifiodd yn rhai na fynnid ac eto na ellid peidio â'u corffori mewn geiriau. Ffigur mynych yn y cathlau anorffenedig hyn ganddo oedd angau, a chredaf fod yr amgyffred amdano yn datblygu ac yn tirioni ynghwrs y blynyddoedd. Yn un o'r ceisiau diwethaf, a barnu wrth ddatblygiad yr ysgrifen, "the dark lady" y gelwid angau, a thosturi trist oedd yn ei hwyneb hi pan ddatguddid ef yn yr awr olaf oll. Rhwng gwyleidd-dra naturiol, diffyg hyder a'r awydd parhaus am gyrraedd perffeith rwydd, gadawyd yr ymdrechion hyn olf heb eu gorffen na'u cyhoeddi.

Byddai rhyw ddiniweidrwydd nodedig yn ei wyleidd-dra. Cof gennyf iddo unwaith addo darllen papur ar Edward Lhuyd i gymdeithas yr oedd ef a minnau'n aelodau ohoni. Yr oedd y gwaith yn barod mewn pryd, ond erbyn y diwrnod yr oedd ef i ddarllen y papur, yr oedd annwyd arno. Gelwais i'w weled ganol dydd. Ofnai na byddai fodd iddo ddarllen y papur. Gwelwn fod ei betrusdod yn fwy na'i annwyd. Ceisiais ei ddarbwyllo, ond mynnai i mi ddarllen y papur yn ei le. Addewais alw i weled sut y byddai gyda'r hwyr. Yr oedd erbyn hynny yn llawer gwaeth, meddai, ac ni allai feddwl am anturio darllen y papur. Nid oedd ond addo cymryd ei le. Rhoes y papur imi. Yr oedd yn un lled hir, wedi ei sgrifennu mewn llaw brydferth yr olwg ond nid hawdd iawn i'w darllen yn rhugl, a nifer o chwanegiadau ar ddail llai na'r lleill, i'w cymryd i mewn yma ac acw, a sêr neu groesau wedi eu dodi i ddangos y mannau yr oeddynt i fod. Gwelais mai anodd fyddai i mi ochel camgymeriadau. Gofynnais a gawn i ddodi'r dail mewn trefn a'm cadwai rhag mynd ar gyfeiliorn. Cael cennad yn rhwydd. Gofyn am ddail gwynion, siswrn a phast. Torri'r dail lle'r oedd chwanegiadau i fod a phastio'r darnau fel y byddent yn dilyn yn eu lleoedd, a rhifnodi'r cwbl. Nid anghofiaf mo'i edmygedd. o'r ddyfais fach seml honno. Pan elwais ar fy ffordd adref o'r cyfarfod, yr oedd yr annwyd yn llawer gwell, a rhywfaint o flas ar fywyd eto.

Hoffaf lle o bobman ganddo oedd Rhydychen. Bu yno'n fyfyriwr o Goleg yr Iesu; aeth yno drachefn pan roddes ei Goleg iddo ddofod i'w gynorthwyo i ddal ati i chwilio hanes Edward Lhuyd, ac yno, yn fuan iawn ar ôl dychwelyd yno am y trydydd tro, y bu farw. Credaf mai prin y ceid undyn yn ei oes a wyddai gymaint ag ef am y ddinas a'i hanes a'i henwogion. Treuliais beth amser yn ei gwmni yno yn haf 1928. Pan adawsai Gymru ychydig amser cyn hynny, yr oedd ei gyfeillion yn bryderus yn ei gylch am nad oedd nemor lun ar ei iechyd ers tro, er na fynnai ef gydnabod hynny. Ond wedi mynd i Rydychen ymsioncodd eilwaith—nis gwelswn ef cystal ers blynyddoedd. Yr oedd yr hin yn hyfryd, ac ni bu i neb erioed gystal arweinydd yn y ddinas ag a gefais i yr haf hwnnw. Ni buaswn erioed o'r blaen yno ddigon o hyd a chennyf ddigon o egwyl i gael dim ond rhyw gipolwg ar y lle. Adeiladau o lawer dull, delwau addurn, weithiau ormod ohonynt yn rhes gyda'i gilydd, efallai; cof am ambell dôn a dull o sôn am yr amser yr oeddis yno, a barai ansicrwydd, o leiaf, am rai o'r effeithiau-rhyw argraff felly a arhosai. At hynny, i'r sawl na fynnodd ei dynged agor iddo mo'r ffordd a fuasai ddewis ganddo gynt, naturiol fydd dywedyd ohono wrtho'i hun-ac eraill-bod y naill ffordd cystal a'r llall wedi'r cwbl. Ond daeth gafael Rhydychen arnaf innau hefyd yr haf hwnnw. Dyddiau heulog, helaeth; crwydro o fan i fan with hamdden, gydag un a dynghedwyd megis i fyw yno o ganrif i ganrif, a deall yn y modd a'r man hwnnw beth nis dyellir mewn modd na man arall . . .

DANIEL REES


NID oeddwn ond rhyw bump ar hugain oed pan gyfarfüm gyntaf â Daniel Rees. Yr oedd yntau agos i ugain mlynedd yn hŷn. I'r rhan fwyaf o lawer o ddynion pump ar hugain, bydd dynion na bo iddynt ond rhyw ddeng mlynedd o flaen arnynt hwy eisoes wedi cyrraedd rhyw oedran na ellir synio'n bendant amdano na gwybod megis pa fodd i'w gymharu o ran posibilrwydd a'r peth y gellir bod wedi ei wybod a'i brofi oddi mewn i'r pump ar hugain. Gellir tybio y bydd rhai dynion deugain ac uchod yn aml yn yr un ansicrwydd ynghylch y peth a fo posibl yn bump ar hugain, er y gallai dyn feddwl bod llai o esgus dros yr ansicrwydd hwnnw.

Gwn bellach fod yn bosibl i gorun dyn foeli cyn ei fyned ef ei hun yn hen, ac nad wrth rifedi blynyddoedd y gellir yn fanwl ddywedyd pa bryd y bydd dyn yn peidio â bod yn ieuanc. Ni pheidiodd Daniel Rees tra bu fyw. Hyd yn oed o ran corff, nid oedd arno, y tro olaf y gwelais ef, odid ddim o ôl y blynyddoedd, o'i gymharu â'r hyn oedd y tro cyntaf. Yr oedd fy mhen yn wynnach na'i ben ef, ond wrth ymddiddan ag ef, sylweddolais yn gliriach na thrwy un profiad arall mai gwir a ddywedai ef wrthyf yn fynych, ym mlynyddoedd cynnar ein cyfeillgarwch, y byddwn innau'n iau pan awn yn hŷn.

"Pam y byddwch chwi, brydyddion ieuainc, yn sôn byth a beunydd am yr hydref?" meddai wrthyf un tro, "pam na soniech am y gwanwyn?" Yr wyf yn ofni i mi geisio dangos iddo mai diriach yr hydref na'r gwanwyn. Chwarddodd a dywedodd nad felly y barnwn tra bawn. Ac weithian, gwn innau mai ef oedd nesaf i'w le. Llawer gwaith, yn ystod rhai blynyddoedd tywyll y bu dda i mi am ei oleudrem ef.

Nid yw ond fel doe gennyf gofio'n hymddiddan cyntaf, a arweiniodd i'n perthynas a'n gilydd. Ei frawddegau cwta, pendant, a'i lygaid byw, a ddywedai fwy na'i eiriau. Rhoes yr argraff arnaf y tro hwnnw mai gŵr trefnus ei feddwl ydoedd, yn gallu ffurfio barn yn ebrwydd ac yn ei dal yn bendant a phenderfynol. Tybiais mai mater o fusnes fyddai'n perthynas â'n gilydd. Cyn pen pythefnos wedi fy myned i'r un gwasanaeth ag ef, yr oeddym yn gyfeillion. Rhwyfem ynghyd ar afon Fenai, a deallem fod nid ychydig o bethau tebyg yn ein profiadau gynt.

Dyellais yn fuan nad methu a wneuthum wrth fwrw mai gŵr pendant a phenderfynol ydoedd. Nid oedd dim a'i trôi oddi wrth ei fwriad, ond gwybûm o gam i gam mai mwynder bonheddig oedd gwaelod ei natur. Anghytunem o ran syniadau ambell dro, ond ni welais mo hynny'n mennu dim ar ei garedigrwydd a'i gyfeillgarwch, na hyd yn oed yn crychu dim ar ei gwrteisi arferol. Yr oedd mewn gwirionedd ryw elfen wylaidd yn ei natur, er tybio o lawer un bod rhywbeth yn chwyrn ynddo. Y tebycaf a adnabûm. iddo yn hynny o beth oedd Emrys ap Iwan, a gyfaddefai orfod ymladd â'i wyleidd-dra yn ei ieuenctid, ac a roes yr un argraff mai tuedd chwern oedd ynddo yn ddiweddarach. Ond mewn cwmni cymysg pan ddeffroid rhagfarnau, codai Daniel Rees ei olwg i fyny, crynai ei ffroen, tynhâi ei wefusau. Ac ni bu dim mwy tawel ac urddasol na'i leferydd a'i ymgrymiad pan dorrai ar ei ddistawrwydd ar ôl ambell ddigwyd. Mynych y dywedodd wrthyf mai peth gwerth ei wneuthur oedd dysgu goddef ffyliaid yn llawen.

Prin y gallwn adrodd hanes ei berthynas ef a minnau yn llawn heb ddywedyd pethau na ddaeth yr amser i'w dywedyd eto. Dangosai uniondeb a chadernid. Er bod ganddo syniadau digon pendant ar ofynion a thelerau'r apêl at y lliaws, megis y ceir er enghraifft ym myd y papurau newyddion, nid ildiai ddim i'r apêl honno, a byddai gan amlaf ar yr ochr amhoblogaidd. Nid anghofiaf mono'n wynebu cynulleidfa fawr yng Nghaernarfon i dystio yn erbyn y rhai a ddaethai yno i chwythu'r tân rhyfel yn erbyn y Boeriaid. Aeth i fyny ar y llwyfan a dechreuodd siarad yn dawel. Yr oeddwn i yn y gynulleidfa, ac yn gweled yr elfennau a ddechreuodd anesmwytho, rhai a fyddai'n gyffredin yn flaenllaw dros heddwch ac yn erbyn milwriaeth. Yn araf y cynyddodd y curo traed, a ddechreuwyd yn ysgafn ond yn gyson. Yna ymledodd ymysg elfennau eraill, a thawelodd y rhai a'i cychwynnodd. Yr oeddynt hwy wedi gwneud eu rhan yn llwyddiannus. Undodwr y cyfrifid Daniel Rees. Wynebodd y gynulleidfa yn dawel am ennyd, yna ymgrymodd a daeth i awr. Pan gydymdeimlais ag ef ar y diwedd, bu ennyd yn ddistaw a'i wyneb yn wyn, yna cododd ei ysgwyddau a murmurodd, "lascia dir le genti!" ("gad i'r taeogion gega!")[2]

Un tro wrth groesi'r Maes yng Nghaernarfon, gwelodd ddyn meddw yn cam-drin ei wraig. Parodd iddo beidio. Bygythiodd hwnnw yntau. Cydiodd Daniel Rees yn ei wegil a'i feingefn, trochodd ef yn y dwfr ym mhadell y ffownten yno, bwriodd ef ar lawr, a cherddodd ymaith fel pe na buasai dim wedi digwydd. Cerddai'n syth, weithiau a'i olygon i lawr, lawn cyn amled a'i ben i fyny. Ar brydiau clywid ef megis yn adrodd rhywbeth wrtho'i hun, neu'n chwerthin yn isel wrth fynd heibio. Gwisgai ddillad brethyn cartref a het ffelt uchel, nid annhebyg i het silc, yn gyffredin, ond dibris fyddai am ei wisg. Yr oedd yn chwarddwr calonnog, ond clywais ef lawer tro yn atal ei chwerthin ar ei ganol, megis pe daethai i'w feddwl ryw atgof sydyn am un o'r pethau na bydd dynion yn chwerthin wrth eu cofio. Mewn ymddiddan byddai ei gwrteisi yn rheolaidd. Nid esgeulusai mo dermau ymddiddan gwiw. Hyd yn oed wedi blynyddoedd o gyfeillgarwch agos a chwbl ymddiried, anfynych iawn y'm cyfarchai heb ddodi "Meistr" o flaen fy enw.

Anfynych y cyfarfyddid â dyn mor amlochrog ac mor fedrus mewn cynifer o bethau. Yr oedd yn ieithwr rhagorol. Cyhoeddodd gyfieithiad Cymraeg o "Alcestis" Euripides yn 1887, pan oedd yn olygydd papur newydd yn Lloegr, ac yr oedd yn Lladinwr hyffordd. Dysgodd Lydaweg, yn nyddiau'r ymglywed rhwng Llydaw a Chymru, a bu'n ymdrawo rhywfaint ag anawsterau Gwyddeleg. Cymerai ddiddordeb mewn ieithoedd gwneud, ac yr oedd ganddo gasgliad o'u llawlyfrau-Volapuk, Nova Romana, iaith Bolak, Esperanto ac eraill. Credai yn yr egwyddor, ond nid oedd hyd yn oed Esperanto yn ei gwbl fodloni. Wedi ei fyned i Lundain i wasanaeth y Llywodraeth (aeth yno tua 1907) dysgodd Hwngareg, ac ef oedd yr awdurdod ar yr iaith honno yn y swyddfa lle'r oedd. Yr oedd, wrth gwrs, yn gynefin â'r ieithoedd Lladin, a llefarai Almaeneg yn ddigon rhugl. Mewn gramadeg, byddai ganddo rai mympwyon, megis tuedd i ganlyn ymresymiad y gramadegwyr a fynnai gynt beri i gystrawen pob iaith gydymffurfio â chystrawen Ladin. Yr oedd yn dra hoff o rifyddiaeth a mechaneg, a dyfeisiodd beiriant cyfrif, "Melinrivo" oedd yr enw a roddai arno. Credai y gallai wella ar y peiriannau cyfrif sydd eisoes ar arfer, ac yr oedd ganddo beiriannau cymhleth a droid gan olwyn ddŵr at ddwyn ei arbrofion ymlaen. Bu farw a'r ddyfais heb ei chwpláu. Byddai ganddo gynt hefyd syniadau am foddion i ddiwygio peiriannau printio. Yr oedd ganddo lawysgrifen glir, bryd ferth, ac ni welais erioed gan neb law fer (ysgrifennai un Pitman) mor sicr a hawdd ei darllen.

O'i holl hoffterau, efallai mai Dante oedd y pennaf. Ni wn yn fanwl pa bryd y dechreuodd droi'r Divina Commedia i'r Gymraeg, ond yr oedd yn tynnu at orffen y gwaith pan ddeuthum i'w adnabod gyntaf, a rhaid ei fod wrthi ers blynydd oedd. Gofynnodd i mi ryw noswaith, pan wyliem yr Eifl megis ar dân ym machlud haul, a ddarllenswn i Dante. Cyfaddefais nas darllenswn. Diwedd yr ymddiddan fu iddo ofyn i mi a ddarllenwn drwy ei gyfieithiad fel y byddai yntau'n ei baratoi. Pan ddywedais na fedrwn i ddim Eidaleg, meddai yntau, "O, fe'ch dysg eich Lladin." Darllenais y cyfieithiad o ganiad i ganiad, ochr yn ochr â'r gerdd gysefin, ac er fy syndod, cefais fy mod yn dysgu Eidaleg heb yn wybod i mi fy hun. Pan gyfaddefais hynny wrtho, gwenodd a dywedodd:

"Nid yw dysgu ieithoedd yn beth mor anodd ag y mynn y gramadegwyr."

A gwir yw hynny. Cyhoeddwyd ei gyfieithiad yn gyfrol helaeth yn 1903. Ni chafodd gymaint o sylw ag a haeddai llafur mor fawr, ond fe ddaw ei dro ryw ddydd. Ni wn i am gyfieithiad ffydd lonach. Hyfryd, wedi blynyddoedd lawer, yw cofio cyfnod y cydweithio hwnnw. Ymddengys bellach yn eang o'i gymharu â chyfnodau a'i dilynodd. Buom drwy lawenydd a thristwch gyda'n gilydd. Gwelais ef a'i gefn ar y wal yn ymladd â phrofedigaeth chwerw. Pan ddaeth adfyd i'm rhan innau yn fy nhro, ni phallodd.

Digwyddodd ambell gyd-darawiad hynod yn ein hanes. Dyma un. Ymhen ysbaid wedi ei fyned ef i Lundain, yr oeddwn un dydd yn nhref Gaernarfon. Wrth fynd heibio tŷ bwyta yno, lle byddem ar dro yn cyd-yfed tê, meddyliais. sicr ei weled ef yn eistedd wrth fwrdd yno. Erbyn troi'n ôl i sylwi'n fanwl, nid oedd yno neb. Cyn pen tridiau, daeth llythyr oddi wrtho i'r lle'r oeddwn yn trigo ar y pryd. Gofynnai:

"A oeddych chwi drwy ryw siawns yn Llun dain ddydd Mawrth diweddaf? Pan ddeuthum allan o'r swyddfa i'r ystryd, ddeuddeg o'r gloch, fe'ch gwelwn, mi gymerwn fy llw, ar yr ochr arall i'r heol. Croesais cyn gynted ag y gallwn drwy ganol cryn drafnidiaeth, ond ofer fu'r ymchwil amdanoch."

Yr un dydd a'r un awr y tybiwn innau ei weled yntau yng Nghaernarfon.

Efallai mai noswaith brysur fyddai yn ein llafur y dyddiau hynny, deg o'r gloch, hwyrach, a darllen a chywiro "copi" ar dro. Agorai drws f'ystafell yn ddistaw, dôi yntau i mewn yn araf. Darn o bapur neu lyfr yn ei law, gwên ar ei wyneb. Tynnai ei law dros ei dalcen helaeth a thrwy ei wallt nes bod hwnnw'n cyrlio ar ei gorun. Efallai mai epigram Lladin fyddai ganddo, neu linell o eiddo Dante. . . . Mi awn yn ôl i'r bywyd hwnnw a'i drafferthion eto, pedfai siawns ei ddyfod yntau hefyd yno, a dyfod y dyddiau

hynny'n ôl. Ni ddont . . .

FFILOSOFFYDD


YR hyn a roes i mi fy syniad cyntaf am ffilosoffyddion oedd yr hanesion bychain a geid mewn rhai llyfrau am Roegiaid a Rhufeiniaid o'r dosbarth hwnnw gynt. Meddyliwn amdanynt fel dynion ag iddynt farfau go laes a dillad heb fod o'r deunydd na'r dull gorau fu erioed. Credwn mai dynion oeddynt na byddent yn rhoi pris yn y byd ar gyfoeth nac anrhydedd, na byddai waeth ganddynt pa beth a ddoi i'w rhan, a'u bod yn arfer dywedyd na fedrai neb ddwyn dim o'u heiddo oddi arnynt, gwnaed a fynnai. Darllenswn dystiolaeth gredadwy y byddent weithiau yn dywedyd pethau plaen iawn, hyd yn oed wrth wŷr mawrion y byddai eraill yn eu hofni ac o leiaf yn cymryd arnynt eu perchi dros fesur. Deuthum i ddeall y byddai pobl weithiau yn eu canmol, a thro arall yn rhoi gwenwyn iddynt i'w yfed. Dyellais hefyd mai ymhen hir a hwyr ar ôl eu claddu—neu beidio â chymryd cymaint â hynny o drafferth—y canmolid mwyaf arnynt. Yn ddiweddarach, sylweddolais fod o leiaf ddau ddosbarth ohonynt hwythau, er eu galw wrth yr un enw, ac mai â thôn y llais yn unig y gellid gwahaniaethu rhwng y ddau. Wrth sôn am un dosbarth, codech eich llais o ganol hyd ddiwedd y term. Wrth grybwyll y llall, gostyngech. Aech i helbul yn fynych hefyd am eu bod hwy mor hoff o eiriau dieithr a'u harfer yn barhaus heb eu bod oll yn rhoddi'r un ystyr iddynt. Yr unig siawns i ddeall meddwl llawer ohonynt fyddai eu gorfod i lefaru iaith y byddai raid i ddyn gwbl wybod ystyr ei dermau ei hun cyn y gallai eu trosi i'w heglurder hi. Oblegid rhyw ystyriaethau o'r fath, anodd oedd peidio â thybio bod yr hen ffilosoffyddion. wedi darfod o'r byd, neu ynteu fod yn amheus a fuont erioed i'w cael ynddo yn gymwys fel y cawsai dyn yr argraff amdanynt. Ond y mae ambell lwc yn y byd o hyd. Pan oeddwn ar fin anobeithio a chredu na byddai yn y byd byth eto un ffilosoffydd, cyfarfum ag un yn cyfateb yn union i'r ddelwedd honno a gawswn yn y dyddiau gynt.

Ym mis Awst, 1914, y bu hynny. Digwyddai nad oedd fy iechyd yn rhyw dda iawn, a gorfu arnaf gilio i un o'r ardaloedd hoffaf gennyf yng Nghymru i fwrw ychydig seibiant a cheisio denu cwsg yn ei ôl, ardal uchel, agored, lle y mae awyr lân, ysgafn, unigeddau maith i'w crwydro, ac adfeilion hen fynachlog yn y gilfach dawelaf a phrydferthaf yn y byd.

Yr wythnos y torrodd y Rhyfel Mawr allan ydoedd, a theimlwn fel pe buaswn yn mynd ar bererindod i chwilio am weddillion Cristnogaeth. Odid na chawn orffwys yn yr ardal honno a'i chorsydd, ei rhosydd a'i chilfechydd tawel, lle byddai dyn fel pe bai wedi gado'r byd ac na byddai arno byth mwy eisiau troi'n ôl. Ond methais. Yr oedd y cysgod yno o'm blaen i. Holai pawb a gyfarfyddwn am y newydd diweddaraf. Daeth y post â llythyr oddi wrth gyfaill o Lydawiad oedd ar gychwyn yn llawn ysbryd i'r drin . . .

Cerddais un prynhawn ar hyd ffordd unig i'r mynydd-dir. Un dyn a welais yn ystod milltir oedd o gerdded. Gweithiwr deugain oed neu ragor, ffon tan ei law, pac bychan ar ei gefn. Cyfarchodd fi yn Saesneg, gan holi am y lle nesaf y cai'r traen. Hen filwr ydoedd, meddai, wedi bod ysbaid yn gweithio mewn gwaith mwyn yn y mynydd-dir. Clywsai am yr helynt. Cychwynnodd rhag ei flaen, cyn dyfod galwad, i chwilio am y traen a'i dygai at orchwyl oedd ar y pryd, efallai, yn edrych yn ddewisach iddo na'r gorchwyl a adawodd. Dywedais y newydd a ddarllenswn wrtho, rhennais fy nhybaco ag ef, cyfarwyddais ef i'r lle nesaf y cai draen. Cododd ei gap i mi ac ymlaen ag ef. Popeth a feddai mewn un pac bychan ar ei gefn, yn mynd ar ei gyfer cyn dyfod y gorchymyn. Sylweddolais fod dynion felly, a'u bod eisoes ar eu hynt i ymladd â rhai'r un ffunud â hwy nas gwelsant erioed ac nad oedd un cweryl rhyngddynt â'i gilydd.

Un hwyr, yr oedd gwasanaeth ymostyngiad, fel y gelwid, yn yr eglwys, oedd heb fod ymhell o'r lle yr arhoswn. Euthum yno. Yr oedd yr adeilad yn llawn. Darllenwyd gweddïau arbennig a drefnwyd at yr amcan, a drefnwyd yn weddus hefyd. Nid oedd ynddynt awgrym mai dyletswydd Duw oedd bod ar un ochr. Yr oedd y canu yn rhagorol, yn enwedig y canu salmau. Cawsom bregeth oedd, yr wyf yn sicr, yn gwbl onest, ond bod cyfnod neu ddau o wahaniaeth rhyngddi ag agwedd y gweddïau. Nid oedd Duw ynddi hi onid Duw tylwythol, Duw un gainc o drigolion yr ynys hon hefyd, ac ym ddengys mai ei ddial ef am droseddau politicaidd y cyfnod oedd y rhyfel. Nid oedd ar y bregeth gymaint ag ôl mudiadau a datblygiadau canrif yn syniadau'r eglwys ei hun am y byd a'r greadigaeth a pherthynas Duw a dynion. Yr oedd dysgeidiaeth y bregeth yn syml ac elfennol iawn, yn gwbl gyntefig, yn wir. Nid fel beirniadaeth na chondemniad yr wyf yn dywedyd hynny, ond fel ffaith seml, a ddengys mor anodd yw i unpeth onid greddf gyntefig lywodraethu dynion ar rai adegau. Nid ymddengys fod dysg na gwybodaeth yn cyfrif pan ddêl y dwymyn, na bod y pwyll a'r farn, yr ystyrir eu bod, yn gyffredin, yn anhepgor ym mhob agwedd ar fywyd gwareiddiedig, mwy yn gallu gweithredu. Syml ac elfennol iawn, yn sicr, oedd cymhelliad yr hen filwr a welswn yn cyrchu ar ei gyfer wrth alwad ias yr arswyd cyntefig sy'n diffrwytho pob cynneddf uwch a ddatblygodd dynion ym mylchau cymharol dawel eu hanes tymhestlog yng nghwrs yr oesau. Hynny oedd ystyr y bregeth, a thrist oedd gorfod teimlo mai ê, gan orfod amau a fydd hi byth amgen nag y bu. Sylweddolais fod dynion digon gonest hefyd yn synio am Dduw a dyn wrth rym y reddf gyntefig, a'u bod hwythau yn eu ffordd eu hunain eisoes yn ymladd â rhai tebyg iddynt ar yr ochr arall, rhai nas gwelsant erioed ac na allai fod un cweryl rhyngddynt fel dynion.

Fore drannoeth, dychwelwn wedi bod yn chwilio am bapur newydd. Ar y ffordd, cyfarfum â hen ŵr tal. Barf weddol laes ganddo, wedi britho'n drwm. Dillad go gyffredin am dano. Golwg braidd yn welw. Llygaid tawel, tirion, a dynnai sylw dyn. Cyfarchodd well i mi, a gofynnodd gwestiwn pawb y dyddiau hynny— beth oedd y newydd. Buom yn ymddiddan yn hir. Cymraeg â blas arno ganddo, a'r synnwyr cryf a geir gan wladwyr syml wedi treulio oes yn agos at natur. Wedi sôn cyffredinol am yr helynt, gofynnodd i mi pa beth oedd fy meddwl mewn gwirionedd am y cyffro. Dywedais mai fy nhuedd gref oedd credu nad oedd wahaniaeth rhyngddo a phob rhyfel a fu o'i flaen. Edrychodd. yn graff arnaf, yna gofynnodd:

"A pha beth meddech chwi am y lleill?"

Dywedais mai ffrae rhwng cnafon oedd pob rhyfel wrth farn y ffilosoffyddion pennaf y gwyddwn amdanynt.

"Y mae'n fwy na thebyg," meddai, "ond beth am y miloedd cyffredin?"

"Wel," meddwn, "ffyliaid y bydd ambell ffilosoffydd yn galw'r rheini, nid mewn ystyr ddrwg, efallai, ond galwn hwy'n ddynion di niwed. Ni wn i am ddim tebycach fel esboniad na bod y cnafon pan ffraeont yn gyrru'r diniwed i ymladd trostynt. Y mae dosbarth arall o ddynion, rhai heb fod yn ddi-fai, y mae'n debyg, ond a fydd yn rhywle tua'r canol, dywedwn. Bydd y rheini'n ceisio argyhoeddi'r lliaws mai ofer yw ymryson a dinistrio. Yn gyffredin, methu a wnant, ond ambell waith, cyfyd y lliaws mud yn erbyn y cnafon a'u trin dipyn yn erwin, a chaiff y dynion canol siawns i rai o'u cynghorion am ennyd. Ond cyn hir daw'r cnafon yn ôl, wedi ymolchi ac ymdrwsio, ac fel y buont y bydd pethau wedyn. Onid ydych yn meddwl mai rhyw chwarae felly yw hanes dynion fyth a hefyd, ac nad yw cynnydd ond dychymyg?"

"Nid annhebyg i hynny," meddai, "ond ni wn i ddim na ellir barnu yn rhy fuan. Hir yw pob ymaros ac araf fydd pob newid. Ni ddaw dim cyn ei dymor ac ni ddysgir ond trwy ddioddef. Er hynny, nid rhaid efallai ddioddef cymaint ag a ddioddefir, ac fe dyf pethau'n gynt o ddaear wedi'i thrin. Ysgrifennwch, fy machgen i, 'rych chwi yn ifanc."

Dywedais nad oeddwn fy hun yn meddwl y gwnawn lawer o les i neb, yn enwedig i mi fy hun, pe gwnaethwn hynny, a thebyg i mi, yn siomedigaeth y dyddiau hynny, sôn rhywbeth am oferedd pob breuddwyd am fuddugoliaeth doethineb a rheswm, ac am hyder anghymesur y dynion fyddai'n meddwl y gallai dim a sgrifennant fod yn unpeth amgen nag oferedd munud awr.

"Er hynny," meddai'r hen ŵr, "sgrifennwch. A fyddech chwi a minnau'n ymddiddan am bethau fel hyn yma heddiw oni bai am rai a sgrifennodd gynt? Litera scripta manet."

Aeth yr ymddiddan ymlaen. Pan ymadawsom, gwyddwn fy mod wedi gweled a siarad ag un o'm ffilosoffyddion gynt, gŵr a ddarllenai Roeg a Lladin, a dreuliodd ei oes yn dlawd, fel hwythau, onid am ei ddoethineb, na allai un ddamwain ei dwyn oddi arno. Carwn ped arhosai rai o'r llythrennau hynny, a dorrwyd yma wedi llawer blwyddyn, am eu bod yn cadw cyfran o ddoethineb hen ffilosoffydd y cyfarfuwyd ag ef orig ar

hynt bywyd.

CHWILDROADWR


EISTEDDEM, dri ohonom, ar ochr yr heol, yn llawn lewych haul yr Aifft, bob un yn ddistaw ac yn ddwfn yn ei fyfyrdod ei hun. Pesychodd pob un ohonom bron ar unwaith.

"Schrecklich!" meddai'r canol o'r tri, a fygodd ei beswch gyntaf, "und Sie auch?"

Adnabuom y peswch a'r crygni yn ei lais, ac atebasom, a'r un grygni, mai felly yr oedd. Ysmaliodd yntau am y peth. Cydchwarddasom. Felly y bu dechrau'r gydnabyddiaeth.

Rwsiad, Almaenwr, a Chymro. Myfi yw'r unig un o'r tri sy bellach ar dir y byw. Ieuainc oeddym, neb ohonom dros bymtheg ar hugain. Cristnogion, o leiaf mewn enw, ond bod tras a hyfforddiant yn ein gosod ymhell ar wahân mewn llawer peth. Ond yr oedd i ni un anffortun gyffredin. Cyfarfyddem bron bob dydd wedyn. Ni byddem byth o ddifrif, ar air, o leiaf, megis pe na fynasem ddatguddio'r hyn oedd odditanodd.

Un tal a main oedd y Rwsiad—galwaf ef Vassili—ond lluniaidd a chymesur, ag iddo'r llygaid breuddwydiol dyfnaf a welais erioed. Canol faint oedd yr Almaenwr—galwer ef Albrecht—a thybiwn ei fod ef unwaith yn dew. Yr oedd breuddwyd hefyd yn ei lygaid gleision yntau, ond nid megis yn llygaid Vassili. Yr oedd y ddau'n ddynion o ddysg, a heb ddim rhodres.

Tyfodd ein cydnabyddiaeth drwy ryw hanner cellwair am ysbaid. Nid bod y naill yn amau'r llall. Byddem fel pe baem ar fin cyfeillgarwch nes, ond hefyd fel pe mynnem ei ohirio, yn hytrach na'i rwystro. Weithiau, digwyddai rhyw beth a fyddai megis yn cilagor y ddôr oddi mewn, ond rywfodd neu gilydd, dôi'r hanner cellwair yn ei ôl, bob amser yn rhywiog ei naws, ond nid yn anfynych yn beth y gallasai eraill dybio nad oedd ond anystyriaeth ag ynddi radd o ryfyg. Ond fe wyddem ni yr achos.

Un hwyr hyfryd yn y gwanwyn, a ninnau'n eistedd yn ddistaw yn y cyntedd, wedi blino heb yn wybod, ond odid, ar ein hymddiddan cyffredin, codwyd cwr y llen oddi ar y peth oedd y tu ôl i'n cellwair, am ryw eiliad. Yr oedd yr haul yn ymachlud yng ngogoniant lliw gwaed a fflam ac orain. Fry yr oedd glas dwfn ffurfafen y Dwyrain, yn feddal a di-gwmwl. Tua'r dwyrain arhosai adlewych rhosynnog, fel y gwrid ar rudd plentyn, a hwnnw'n araf wywo'n las dwfn yn ei dro. Tua'r gorllewin, troi'r anialwch yn ddu ac yn dduach, megis pe byddai fry gyson ysgwyd rhyw adanedd aruthr a bwrw i lawr eu cysgodion tywyll. Nid oedd afon Nil onid llain llwyd yn y gwyll, ac yr oedd pyramidiau Sakkarah a Ghizeh, a fuasai gynnau'n glir a llym mewn llif o ambr tawdd, bellach yn aruthr ac aneglur ym mhlygion y nos.

Buasem efallai hanner awr yn mud wylio miragl gymysg dydd a nos, y prydferthwch anhraethadwy hwnnw nas gwelir yn iawn onid mewn distawrwydd di-symud. Yn sydyn clywid gweddill llais bâs dwfn yn rholio allan beroriaeth geiriau Vergil:

Majoresque cadunt altis de montibus umbra.

Troesom at Vassili, heb ddywedyd gair, ac ail adroddes yntau'r llinell, yn araf a difrif. "Superbe!" meddai Albrecht, yn isel, "encore, une fois." (Ffrangeg fyddai cyfrwng rhwyddaf ein hymddiddan.) Ond distaw fu Vassili, a syllai ar y gymysgedd o goch a glas oedd fel pe'n ymwingo lle'r aethai'r haul i lawr. Yna, â llais dyfnach a chadarnach, adroddes linellau Catullus:

Soles occidere et redire possunt,
Et nobis cum semel occidit brevis lux,
Nox est perpetua una dormienda.

Tinc y gloch ginio. "Manger, toujours manger!" meddai Albrecht tan ei lais.

Torrwyd yr hud. Gwahanu mewn distawrwydd. Ond datguddiwyd rhywbeth heblaw prydferthwch nos y Dwyrain yn yr awr honno. Ni chellweiriem lawn cymaint wedyn. Dôi'r cydofid i'r golwg drwy'r ewyn ar yr wyneb. Ychydig ddyddiau wedyn, eisteddwn yn yr un man. Yr oedd hi yn dywyll. Buaswn fy hun yn gwylio gwyrth yr ymachlud, ac wedi cinio, daethwn allan i ddarllen wrth oleuni'r lamp drydan yn y cyntedd. Yr oedd awel yr hwyr o'r gogledd-orllewin wedi peidio, a'r dymheredd eto wedi tyneru. Miliynau o bwyntiau bychain o ruddaur yn brathu drwy las tawel y ffurfafen, gan ysgafnhau calon dyn ac yna ei llethu drachefn ag anobaith y peth nad oes gyrraedd arno. Ymnyddai rhyw darth gwyn tenau uwchben ac o amgylch y palmwydd gyda'r afon yn y pellter. O ryw gaban dros y ffordd, codai undon leddf gweddi rhyw Fahometan blin, gan nofio gyda sicrwydd ymddiried llwyr ar yr awyr feddal, ac ymgolli yn y chwalfa ddiderfyn, lle'r oedd Allah. Deffrowyd atseiniau El Mokkatam gan chwiban iad agerbeiriant, yn torri fel cri pechod ar fyd o ddiniweidrwydd a thangnefedd, ond a ddarfu mewn tawelwch oedd ddyfnach oblegid yr ysgrech. A darllenwn innau heb ddeall, a da fuasai gennyf fod yn Fahometan, ag iddo o leiaf un sicrwydd na allai dim ei ysgogi.

Disgynnodd dau gysgod ar y llain golau of flaen y cyntedd. Daethai fy nghymdeithion, a chynhesodd fy nghalon atynt. Eistedd yn ddistaw ennyd. Gorweddai'r llyfr y buaswn yn ei ddarllen yn agored ar fy nglin. "Le Temple Enseveli," gan Maeterlinck, ydoedd. Gafaelodd Albrecht ynddo, darllenodd ddalen neu ddwy yn ddistaw.

"Vraiment," meddai, a chan droi'r dalennau yn ôl, dechreuodd ddarllen ar osteg ddarn lle dywed yr awdur fod hyd yn oed droseddau dyn yn mynd allan o'i fywyd yr eiliad y teimlo ef na allai un demtasiwn nac un grym yn y byd beri iddo wneuthur eu tebyg eilwaith.

"Gwir, onid ê?" meddai, gan ddodi'r llyfr ar y bwrdd a throi ataf i.

"Ni wn i ddim," meddwn, "ond efallai ei fod yn iawn. O leiaf y mae'r gosodiad yn gysur ac yn gryfhad i'r natur orau."

"Ydyw," meddai yntau, "canys bydd dyn yn gwneud cynifer peth y bydd ganddo gywilydd o'i blegid wedyn, ac na allo byth ei ddadwneud."

"Na'i anghofio chwaith," meddwn.

Ni ddywedasai Vassili air. Gŵyrodd tuag atom, edrychodd arnom; a gofynnodd, braidd yn arw, mi dybiwn:

"Pa beth sydd gennych chwithau eich dau i'w anghofio?"

Distawrwydd. Ni wn i beth oedd ym meddwl Albrecht. Am danaf fy hun, ni allwn beidio â meddwl am f'atgofion cynnar am "Seiat" yng Nghymru, a theimlo nad mawr iawn y gwahaniaeth rhwng cyffesu a rhyw glafaidd fwynhau ymddarostyngiad. Eto, nid wyf yn amau nad oeddym yn ddigon gonest yn y peth a ddywedasem. Diau mai dyna feddwl Albrecht, canys dywedodd:

"O, llawer peth. Ni all un dyn gymeradwyo'i holl weithredoedd."

"Ond pa weithredoedd?" meddai Vassili.

"Nid gweithredoedd yn unig, efallai," meddwn innau, "ond agwedd a meddwl a geiriau hefyd."

Gwyliai Vassili ein hwynebau. Chwarddodd, rhyw chwerthiniad byr, cras, nid o ddifyrrwch na dirmyg.

"Manion!" meddai. "A wnaeth un ohonoch ryw gyflafan rywdro?" Yr oedd rhywbeth yn ei lais a yrrai iâs drwy ddyn, eto ni theimlwn i ddim atgasrwydd ato. Distaw fuom ein dau.

"Naddo," meddai, "nis gwnaethoch ac nis gwyddoch. Pe gwnaethech, a allech chwi byth anghofio? Na allech. Dywed Maeterlinck y gellwch anghofio, a maddau i chwi eich hun. Ond ni ellwch. Bydd a wneloch â rhywbeth oddi allan i chwi eich hun—Duw, Natur, Cyfiawnder, gelwch fel y mynnoch. Ni waeth i chwi heb. Nid eich meistr eich hun monoch."

"Ond," meddai Albrecht, "dywedyd y mae Maeterlinck, oni allech anghofio, y byddech yn abl i wneud yr un peth eilwaith, ond pe na allai dim yn y byd beri i chwi wneuthur y peth drachefn, yna na byddai gan y weithred ddim hawl i'ch condemnio mwy, y byddech yn feistr arnoch eich hun."

"Meistr!" llefai Vassili, "nid efô! Caeth, offeryn, dim yn y byd. Ond y mae meistr, ac ni ddihengir rhagddo. Pwy neu ba beth yw ef? Ni wn i. Ni wyr neb. Duw meddent. Boed. Ni allant ddywedyd mwy. Ond y mae ef yno. A ddarllensoch "Pelleas et Melisande?" Yr oedd Maeterlinck yn nes i'w le pan ysgrifennodd y chwarae hwnnw. Gofynnir ai moesol yw'r meistr anhysbys hwn. Ni wni. Ein tynged yw gwneud peth a'n cosbi o'i blegid."

"Onid yw'r gosb yn awgrymu moesoldeb?" meddwn.

"Dichon hynny," meddai Vassili; "onid yw'r gorfod yntau yn arwyddo anfoesoldeb?"

"Pe bai orfod," meddwn, "fe fyddai'n debyg eich bod yn eich lle. Ond a orfydd arnom wneuthur gweithred nas cymeradwyom?"

"Gorfydd, gan amgylchiadau," meddai Albrecht.

"Ond," meddai Vassili, "dywedasoch mai dyn yw ei feistr ei hun."

"Do," meddai Albrecht, "ond nis gŵyr ef bob amser. Pan wnêl ef beth na allo wedyn ei gymeradwyo, bydd yn ei gondemnio'i hun, yn dioddef, yn gwneud iawn, ac felly yn dyfod yn feistr arno'i hun."

"Perthyn iddo ddioddef," meddai Vassili, "ond nid eiddo na maddau iddo'i hun nac anghofio, ddim. Na. Nid oes brofiad i chwi'ch dau. Nis gwyddoch."

Tawodd yn sydyn, cyfododd, cerddodd dro neu ddau am y bwrdd, yna eisteddodd. Plyg odd ei ben yn isel. Syllodd arnom â difrifwch gresynus. "A ddigwyddodd i un ohonoch," meddai, fel pe buasai'n gwthio'r geiriau allan, "a ddigwyddodd i un ohonoch erioed ladd dyn?" Syllodd yn graff arnom, a ninnau'n fud, a mi, o leiaf, yn clywed eto yn fy nghlustiau gri ysgyfarnog a glwyfais ag ergyd drwstan, flynyddoedd lawer cynt, ac a griai yr un ffunud â phlentyn.

"Na," meddai ef, "nis gwnaethoch ac nis gwyddoch!"

Cyfododd yn sydyn a cherddodd ymaith. Ni soniasom byth am y peth wedyn, ond pa beth bynnag a fu, yr oedd yn hoff gennym y gŵr a'r wyneb agored a'r llygaid dwfn. Ar draws chwarter canrif, y mae'r olaf o'r tri yn cofio amdano â thynerwch a thosturi. Pwy a edwyn galon dyn? Barned ni, o'i dosturi, bawb ohonom.

GWAS


"YR Hen Dolc." Dyna oedd yr enw a roddem i gyd arno bob amser, a hynny am na welodd neb ohonom erioed mono'n gwisgo het na byddai ynddi ryw dolc arbennig. Bu'n anodd gennyf ddeall fy hun gynt pa fodd y medrai ef bob amser beri tolc a fyddai'n union yr un fath ym mhob het a gaffai. Dyellais wedyn. Ni phrynodd het newydd, yr wyf yn sicr, yn ystod yr wyth mlynedd y bûm i'n byw yn yr un ardal ag ef.

Mab i amaethwr cefnog ydoedd, a thrigai'r teulu yn un o ddyffrynnoedd ffrwythlonaf Gogledd Cymru. Un oedd ei dad o'r dosbarth hwnnw o ffermwyr Cymreig y ganrif ddiwethaf, a fyddai fel pe buasent wedi cadw nodweddion y ddeunawfed ganrif yn gyflawn, dyn mawr cadarn, bonheddig ei olwg, arafaidd ei leferydd, gosgeiddig ei symudiadau, anhraethol foneddigeiddiach ei olwg a'i lais a'i eiriau na'r ysgwieryn hanner gwaed oedd biau'r fferm lle'r oedd ef yn byw.

Dyn gwahanol iawn oedd ei fab, Yr Hen Dolc. Nid oedd yn hen iawn pan adwaenwn i ef, ond edrychai, ar ryw wedd, yn hŷn na'i dad. Dyn canol faint, tenau, megis pe na buasai ynddo ddim ond croen ac esgyrn, cyn galeted â'r dur o'i gorun i'w sawdl. Wyneb cul, a hwnnw fel pe buasai wedi gwystno, fel y gwelsoch ambell afal, onid oedd yn rhychau mân i gyd trosto. Barf lwyd-olau, denau, a fyddai erbyn tua diwedd yr wythnos fel col haidd ar ei gernau a'i ên, a thrawswch o'r un lliw, nad eilliai byth moni. Gwallt llwyd-olau, tenau, a gadwai yn wastad yn fyr. Dau lygad las, garedig, yn gloywi'n rhyfedd ambell waith, pan wenai ef. Cnoai dybaco nes bod ei ddannedd cryfion yn felynion. Pan wenai, gostyngai un cwr i'w wefl isaf fwy na'r cwr arall, a chaeai yntau un llygad y mymryn lleiaf, fel pe buasai ef am wneud llygad bach arnoch. Wrth yr olwg honno arno gallasech feddwl ei fod yn dipyn o walch, ac y deuai geiriau â min arnynt dros ei wefus, Ond os oeddynt yn ei feddwl, ni ddoent byth dros y wefus gam honno.

Cerddai â rhyw hanner plygiad yn ei gorff, y peth tebycaf a welsoch i osgo dyn â phladur yn ei ddwylo, yn camu ymlaen ar fedr torri arfod â hi, a phan âi'n gyflym-ni welais erioed mono, o ran hynny, yn mynd yn araf-ysgydwai ei freichiau o ochr i ochr, yn debyg iawn i osgo breichiau dyn a laddo wair â phladur. Mewn gwirionedd, mab y bladur oedd Yr Hen Dolc. Wrth ei weled byddwn i yn meddwl am bladur wedi troi'n ddyn. "Un garw amdani ydi'r Hen Dolc," meddai pawb, ac arferid dywedyd ddarfod iddo unwaith wrth ladd gwair, gan faint ei" erwindeb amdani," gamu ymlaen mor eiddgar nes mynd llafn y bladur rhwng gwadn ei esgid a bysedd ei droed. Nid wyf yn meddwl y gallai hynny fod yn wir llythrennol. Ond yr oedd yn ddigon gwir mewn ystyr arall. Busnes Yr Hen Dolc mewn bywyd oedd "bod wrthi," a'i eiriau mawr oedd gyrru 'mlaen," "gyrru arni," "dal ati."

Ni chawsai odid ddim addysg, er bod iddo chwaer a gawsai. O'i fachgendod, y mae'n debyg, dysgwyd ef i "yrru 'mlaen." Byddai sôn ei fod yn medru "dal yr arad" yn wyth oed, ac yr oedd yn "canlyn y wedd" yn ddeuddeg. Ei un gofid fyddai methu "gyrru arni." Pan fyddai'n dywydd gwlyb, cwynai nad oedd fodd "gyrru arni." Pan godai eraill yn y bore, byddai'r Hen Dolc eisoes yn "gyrru arni," ac wedi nos wylio pawb, byddai yntau fyth yn "gyrru arni." Torrodd ei law yn o ddrwg unwaith with "sbaena gwenith," ond daliodd i "yrru arni" drwy'r dydd, nes bod rhaid arno ymatal am beth amser wedi hynny tan law'r meddyg. Yn ystod yr amser hwnnw bu agos iddo dorri ei galon am na fedrai "yrru arni."

Ni fedrai na phrynu na gwerthu. Ni welwyd mono erioed mewn ffair na marchnad. Ei dad oedd y dyn at beth felly. Ped aethai'r Hen Dolc i'r ffair, "gwag symera" y galwasai ei dad hynny, ac yr oedd bob amser ddigon o waith "gyrru arni" adref i'r Hen Dolc.

Ai i'r capel ar y Sul, ond "gyrru arni" y byddai rhwng y cyfarfodydd y diwrnod hwnnw yr un fath. Ai i'r cyfarfodydd ar noson waith hefyd, bob amser ar frys gwyllt oherwydd methu "dwad i ben" a chychwyn mewn pryd. A gwelid ef yn prysuro ar hyd y ffordd, fel dyn â phladur yn ei ddwylo, ar ei hynt i'r capel, i wrando ar ei dad ac eraill yn sôn am y byd arall a drygioni hwn. Pa faint o ddifyrrwch neu o les a gaffai wrth hynny, ni wyddys, ond ni soniai'r Hen Dolc fyth air am un byd ond hwn, a'r rhaid oedd arno ef i "yrru 'mlaen" ynddo.

Bu farw ei dad a'i fam, priododd ei chwaer. Aeth y rhan fwyaf o'r eiddo, a gasglasai'r Hen Dolc ei hun drwy "yrru arni" mor gyson, i gadw'r chwaer a'i theulu ar eu traed rywsut. Ac am Yr Hen Dolc, bu raid iddo ef fynd i weithio am gyflog. Cyflog bychan iawn oedd hwnnw hefyd, rhyw chweugain yn yr wythnos a'i fwyd. Ond dyma'r cyflog cyntaf a enillodd Yr Hen Dolc -nage, y cyntaf a dalwyd iddo erioed. Paham nad aethai'n ffarmwr ei hun, meddai'r cymdogion wrth ei gilydd. Sut y gallasai? Ni wyddai ddim am brynu a gwerthu. "Gyrru arni" oedd ei orchwyl ef, ac aethai ffrwyth ei lafur i osod eraill ar eu traed.

Ni chwynodd Yr Hen Dolc ddim, hyd y gwybu neb. Aeth yn "was ffarm cyffredin," fel y dywedid, "gyrrodd arni" yr un ffunud tros arall am flynyddoedd, am chweugain yr wythnos a'i fwyd. Hyd y gwyddai neb, yr oedd "gyrru arni" yn gymaint o bleser iddo wedyn ag oedd cynt. Ac nid oedd ei feistr newydd fymryn tirionach wrtho nag a fuasai ei hen feistr, ei dad. Beth yn y byd oedd gymwys i'r Hen Dolc ond gyrru arni," a pha waeth dros bwy y gwnai hynny?

Collais olwg arno, am fod yn rhaid i minnau yn fy nhro ddechrau "gyrru arni" yn fy ffordd. Aeth blynyddoedd heibio. Un diwrnod, digwyddais fod yn yr hen ardal. Yr oeddynt yn claddu'r Hen Dolc y diwrnod hwnnw. Cefais innau weddill ei hanes, a thynnais fy het— het feddal a tholc ynddi hithau—ar lan ei fedd, druan gŵr.

Buasai farw ei frawd ynghyfraith, gan adael gweddw a thri neu bedwar o blant heb ddim ar eu cyfer. A chadwodd Yr Hen Dolc hwy tra medrodd, drwy ddal i "yrru arni" hyd y dydd olaf.

Diniwed, gonest, diwyd, hael, mud. Dyna'i fywyd. Aberth i syniadau cul, caled, am ddau fyd. Nid wyf yn meddwl iddo unwaith dybio bod dim o'i le ynddynt chwaith. A thristach fyth yw na feddyliodd ei dad hynny mwy nag yntau. Na'i ddosbarth. Na neb.





ARGRAFFWYD GAN

HUGHES A'I FAB

WRECSAM

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.

 

Nodiadau[golygu]

  1. The Welsh Pulpit. . . By a Scribe, a Pharisee and a Lawyer. London, 1894.
  2. Dante, Purgatorio, canto v, 13.