Drych yr Amseroedd (testun cyfansawdd)
← | Drych yr Amseroedd (testun cyfansawdd) gan Robert Jones, Rhoslan golygwyd gan Hugh Humphreys, Caernarfon |
→ |
I'w darllen megys adran gweler Drych yr Amseroedd |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
DRYCH YR AMSEROEDD:
YN CYNWYS
HANES AM Y PETHAU MWYAF NODEDIG A
DDYGWYDDASANT YN BENAF YN NGWYNEDD,
YN Y DDWY GANRIF DDIWEDDAF,
MEWN PERTHYNAS I GREFYDD.
————————————————
GAN ROBERT JONES, RHOSLAN.
————————————————
Ystyriais y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen ossoedd.-DAFYDD!
CAERNARFON:
CYHOEDDEDIG AC AR WERTH GAN H. HUMPHREYS,
I'w gael hefyd gan yr holl Lyfrwerthwyr.
Y RHAGYMADRODD.
GARIDIG GYFEILLION,
NID oes odid o genedl ag sydd yn meddu gradd o ddysgeidiaeth, wedi bod, hyd yn ddiweddar, yn fwy difraw a musgrell am gadw coffadwriaeth o lawer o bethau tra nodedig a ddygwyddasant yn eu plith, na'r Cymry. Mae yn wir eu bod faith oesoedd heb fanteision i helaethu eu gwybodaeth. Ychydig o honynt, tua'r unfed ganrif ar bymtheg, a fedrai ddarllen; a llawer llai yr oesoedd cyn hyny. Nid oedd (amser maith ar ol hyn) ond ychydig o lyfrau Cymraeg yn argraffedig: ond yn awr mae yr addewid hono yn dechreu cael ei chyflawni, "Llawer a gyniweiriant, a gwybodaeth a amlheir." Mae yn wir fod breintiau ein cenedl ni yn bresenol (trwy ddaioni Duw) yn dra helaeth. Gall yr Arglwydd ddywedyd yn briodol am ein gwlad, megys y dywedodd gynt am ei winllan, "Beth oedd i'w wneuthur ychwaneg i'm gwinllan nag a wnaethum ynddi ?" Mae yn ddiau i bwy bynag y rhoddir llawer, llawer a ofynir ganddo. Fe allai fod rhai ag sydd yn ceisio darllen, ïe, i fuddioldeb, yn addef fod y Bibl, a llyfrau da ereill, yn llesol i'w darllen, ond yn methu a deall fod darllen llyfrau hanesiaeth ond hollol afreidiol. Ystyried y cyfryw, fod llyfr da Duw, sef y Bibl, a rhan fawr o hono yn hanesiol, fel y gwelir yn yr Hen Destament a'r Newydd. Gobeithiaf nad oes neb sydd yn addef dwyfoldeb yr Ysgrythyrau, yn gallu cyfrif y rhanau hanesiol hyny o honynt yn afreidiol; "Canys holl air Duw sydd bur."
Pe na buasai genym ond y rhanau athrawiaethol yn unig o'r Ysgrythyrau, pa fodd y cawsem wybod pwy a greodd y bydoedd! ac yn mha gyflwr yr oedd ein rhieni cyntaf yn Eden cyn cwympo? a'r modd gwarthus y syrthiodd Adda a'i wraig fel dwy seren, o uchder dedwyddwch i ddyfnder trueni, ynghyda'u holl hiliogaeth i'r unrhyw bydew dinystriol! Ac os buasai rhyw draddodiadau amherffaith wedi dyfod i ni, o dad i fab, ac o fab i wyr, o'r cynfyd am eu cwymp, a bod rhyw greadur maleisus â llaw yn y gwaith o'u hudo; ac oni ba'i i'r Bibl roddi hanes cywir i ni am y twyllwr, sef, mai y diafol ydoedd; oni fuasai rhai, o bosibl, yn barod i ddychymygu mai rhyw fwystfil dychrynllyd, neu sarph ehedegog, neu ynte wiber enbyd o'r diffeithwch, a'u gwenwynodd yn fuan ar ol eu creu. Am v diluw hefyd, ni buasai genym un darluniad cywir am dano, ond rhyw ddychymygion gwyrgam a chyfeiliornus, fel y sydd gan rai o'r Paganiaid hyd heddyw, oni buasai yr adroddiad am dano yn y Bibl. Diau mai trwy hanesiaeth yr Ysgrythyrau y cawsom dystiolaeth ddiamheuol am Abraham yn aberthu ei fab, helyntion Joseph, gwyrthiau Moses, agor y môr a boddi Pharao, teithiau yr Israeliaid, dull y babell a'r aberthau, atal dyfroodd yr Iorddonen, Dafydd yn lladd y cawr, teml Solomon, Jona yn mol y pysgodyn, y tri llangc yn y ffwrn dan, Daniel yn ffau y llewod: ac aneirif o bethau ereill tra hynod a ddygwyddasant yn yr oesoedd gynt. Buasem hefyd yn y fagddu o dywyllwch am Gyfryngwr y Testament Newydd, oni buasai yr hanes sanctaidd hòno a gawsom gan yr Efengylwyr am dano, sef mawredd ei Berson, Duw-ddyn yn un Crist, ei genedliad goruwchnaturiol, ei sanctaidd enedigaeth, ei demtasiynau, ei wyrthiau, ei annhraethol ddyoddefaint, ei angeu poenus, ei gladdedigaeth, ei anrhydeddus adgyfodiad, ei esgyniad gogoneddus, a'i ddyfodiad i farnu byw a meirw: yn nghyda theithiau, yr erlidigaethau, a'r gwaredigaethau a gyfarfu â'r Apostolion sanctaidd, a llwyddiant eu gweinidogaeth.
Er nad oes unrhyw hanesyddiaeth i'w chystadlu âg eiddo dynion sanctaidd Duw, y rhai a lefarasant megys y cynhyrfwyd hwy gan yr Yspryd Glân, eto y mae hanesiaeth yr eglwys, a'r tymhestloedd yr aeth trwyddynt, a'r erlidigaethau a ddyoddefodd tan ddwylaw creulon ymerawdwyr Rhufain baganaidd: a'r gorthrymder, y lladd a'r llosgi a fu gan y bwystfil anghristaidd, sef y Pab a'i ganlynwyr, ar braidd Crist, yn deilwng iawn o'u cadw mewn coffadwriaeth. Onid ydyw hefyd yn hyfryd cael ychydig o hanes y sêr boreol a adlewyrchodd oddiwrth Haul cyfiawnder, i ddechreu ymlid y nos a'r adar aflan allan o'r wlad? Oni buasai i ryw rai fod mor ffyddlon a chadw coffadwriaeth mewn ysgrifen am yr ardderchog lu o ferthyron a ehedodd adref trwy ganol fflamau tanllyd o ferthyrdod yn orfoleddus; ac am yr enwog Ioan Wickliff, Luther wrol, a'r dichlynaidd Ioan Calfin—ni buasem ni yn gwybod fod y fath wyr enwog (yn nghyda miloedd ereill o dystion ffyddlon tros Dduw) erioed yn y byd. A chan fod hanesiaeth yn ddiamheuol yn mhob oes, ac yn mhob gwlad mor fuddiol ac adeiladol, a raid i'r Cymry uniaith gael eu cau mewn tywyllwch ac anwybodaeth am y pethau rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd yn eu plith.
Y mae yn eithaf gwir ddarfod i rai yn y Deheudir fod yn ddiwyd a llafurus i gasglu ynghyd gryn lawer o hanes y Cymry yn yr iaith Gymraeg (i ba rai yr ydym yn dra rhwymedig,) ond gan eu bod yn byw yn mhell, ac yn ddyeithrol am lawer o bethau a ddygwyddasant yn Ngwynedd, mewn perthynas i grefydd, yn y ddwy ganrif ddiweddaf; a chan fod llawer o bethau teilwng iawn o fod mewn coffadwriaeth heb son am danynt mewn ysgrifen gan neb mwy na'u gilydd; wrth ystyried hyny, a gweled pawb yn esgeuluso, anturiais (trwy gael llawer o anogaethau) gymeryd y gwaith mewn llaw, i osod allan, hyd y gellais, y pethau mwyaf nodedig a neillduol a fu yn mysg crefyddwyr siroedd Gwynedd: ond yn beth helaethach am wlad fy ngenedigaeth, am fy mod yn fwy hysbys o'r helyntion a fu ynghylch crefydd yno nag yn un lle arall: ond ni ddarfu i mi yn wirfoddol esgeuluso y siroedd ereill, heb goffau am y pethau mwyaf eu pwys a ellais i gasglu, a fu ynddynt mewn perthynas i grefydd er dechreuad y diwygiad yn Nghymru, a manau ereill; sef, tua'r flwyddyn 1739. A chan fy mod yn rhy anghyfarwydd yn y Deheudir i roddi nemor o hanesiaeth cywir ynghylch crefydd yno, am hyny gorfu arnaf adael heibio; ond yn unig coffâu am rai personau o'r wlad hono, a fu yn enwog yn ein mysg. Diau hefyd i mi adael allan lawer o bethau teilwng o'u coffâu, mewn siroedd ereill, heb grybwyll am danynt, o achos na buaswn yn fwy adnabyddus o honynt. Ond fe allai y caiff rhyw rai, yn y Dehau a'r Gogledd, eu tueddu i ysgrifenu yn fwy trefnus a chyflawn na myfi, hanesyddiaeth crefydd yn ngwlad ein genedigaeth.
Gallaf ddywedyd fod hyny hefyd yn beth anogaeth i mi ysgrifenu yr hanes fel y gwnaethum; sef clywed ambell un yn adrodd rhyw bethau ynghylch crefydd heb fod agos yn gywir, ond yn eithaf gwyrgam a chamasyniol. Ac oni buasai i rywun achub hanesiaeth o ddwylaw y rhai oedd yn ei bradychu, ac yn ei hystumio i bob agwedd anghywir, yn ol eu dychymygion, wrth geisio ei gosod allan, diau y gallai llawer fod mewn petrusder am y cyfan y maent yn ei glywed, am fod cymaint o anghysondeb yn yr adroddiad o honynt. Nid wyf yn rhyfygu dywedyd nad oes llawer o amherffeithrwydd yn fy ngwaith inau; gwnaethum fy ngoreu na byddai ynddo ddim ond sydd wirionedd. Cefais y rhan fwyaf o'r hanesion a fu or's 80 mlynedd gan rai oedd yn dystion cywir o'u gwirionedd. Os bernwch fy llafur gwael hwn yn deilwng o dderbyniad, darllenwch ef, a'ch plant ar eich ôl; o wneuthur felly cewch achos i ryfeddu daioni yr Arglwydd tuag atom ni y Cymry tlodion, yn enwedig yn yr oen bresenol. Ac wrth eich gadael, erfyniaf ar yr Arglwydd, yn ngeiriau y ddau ddysgybl, "Aros gyda ni; canys y mae yn hwyrhau, a'r dydd yn darfod."
Ydwyf eich annheilwng gyfaill, ROBERT JONES.
CAPEL Y DINAS,[1]
- Chwef. 10, 1820.
DANGOSEG
Mr. Wroth, Mr. Walter Cradoc, Mr. William Erbury
Mr. John Williams yn Sir Gaernarfon
Mr. Ellis Rowlands, o Ruthyn, Mr. Vavasor Powell, Mr. Morgan Llwyd
Capel helyg yn Mhlwyf Llangybi. Hwlcyn Llwyd, ei ddiwedd
Mr. Henry Maurice, Mr. Hugh Owen, Bron y clydwr, Mr. William Rowlands
Eto yn y carchar yn yr Amwythig.
Eto ei erlidigaeth a'i waredigaethau
Morgan Llwyd, ei droadigaeth trwy weinidogaeth Mr. Walter Cradoc yn Ngwrecsam
Eto ei lyfrau; Tri Aderyn, &c.
Prophwydoliaethau Morgan Llwyd.
Mr. Vavasor Powell yn Plas teg, Sir Flint
Erlidigaeth yn Mhwllheli.
Edward, y siopwr duwiol yn Abererch, yn achub dyn rhag hunanladdiad
Mr. James Owen—ffoi yn y nos i Sir Feirionydd.
Mr. W. Phillips, ei droadigaeth a'i weinidogaeth yn Mhwllheli.
Mr. John Thomas yn weinidog yn Mhwllheli
Mr. David Williams, eto Richard Thomas, eto yn boddi wrth ochr tir yr Iwerddon.
Mr. Rees Harris, eto Mr. Benjamin Jones
Griffith Williams, esgob Kilkenny, yn urddo Rhys Parry i fod yn gurad Llanllechyd.
Eto yn gadael Palas Ofa i dlodion Llanllechyd
Y gwyr enwog a fuont yn offerynau i gyfieithu yr Ysgrythyrau Sanctaidd i'r iaith Gymraeg, Mr. W. Salisbury, &c.
Amryw argraffiadau o'r Ysgrythyrau Sanctaidd
Sefydliad Cymdeithas y Beiblau Frutanaidd a Thramor—Mr. Charles, o'r Bala, yn offerynol.
Doctor Hoadley, esgob Bangor, ei bregeth
Doctor H. Humphreys, esgob Bangor, ac Owen Griffith, Llanystymdwy
Anwybodaeth a thywyllwch yn gorlenwi y wlad
Diodles—y dull o'i rhoddi i'r tlawd
Y Sul cyntaf ar ol claddu, yr holl deulu yn myned ar eu gliniau ar y bedd, pob un yn dywedyd ei bader
Offrymu mewn claddedigaethau, Pabyddiaeth digymysg
Dywedyd tesni neu ffortun—breuddwydion-ofergoelion
Twmpathau chwareu
Y dull o dreulio y Sabbathau, Gwylmabsantau, &c., claddu y meirw ar y Sabbathau, heidio i'r tafarnau ar ol claddu, yr athrawon yn anfucheddol a chyfeiliornus.
Llythyr dan y gareg, Daroganau Robyn Ddu, aderyn y cyrph, wats farw, a 1620
Mr. Wroth yn dechreu pregethu yn y Deheudir
Mr. Walter Cradoc tua'r un amser.
Mr. Robert Powell, ficar Codegstone, Sir Forganwg, hyd y flwyddyn 1640
Mr. Rees Pritchard, ficar Llanymddyfri, yn cydoesi
Mr. Griffith Jones, person Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, yn dechreu pregethu
Ysgolion rhad Mr. Griffith Jones, trwy gynorthwy Mrs. Bevan
Priodoli dechreuad y diwygiad i'r Ysgolion rhad.
John Roberts, Nant Gwrtheyrn, gerllaw Nefyn, ei freuddwyd hynod o flaen y diwygiad yn Ngogledd Cymru
Y diwygiad yn tori allan yn Lloegr, Scotland, Cymru ac America
William Prichard, Glasfryn fawr, plwyf Llangybi, yn cael ei argyhoeddi wrth glywed ei gymydog, Francis Evans, yn darllen ac yn gweddïo gyda ei deulu
Eto yn atal chwareuyddiaethau ar y Sabbath yn ei ardal
Y niwaid o esgeuluso addoliad teulaidd, a'r fendith o'i chyflawni
Mr. Lewis Rees yn dyfod i Bwllheli i bregethu
Mr. Howell Harris, Mr. Jenkin Morgan, yn pregethu ger y Bala
Francis Evans yn myned i'r Bala, ac yn dyfod a Jenkin Morgan i gadw Ysgol yn Glasfryn fawr
Geneth yn caru crefydd yn llwyddo gyda ei nain i gael Jenkin Morgan i bregethu yn y Tywyn, gerllaw Tydweiliog
Mr. Jenkin Morgan yn pregethu yn Glasfryn; dyn yn dyfod i'r oedfa a cherig yn ei boced, i'w hergydio ato; ei enw oedd Richard Dafydd; galwyd ef i gynghori, a bu yn fendith i lawer
Hanes Mr. Howell Harris
Eto yn dyfod i Sir Gaernarfon; yn gwrando y Chancellor yn Llannor yn pregethu yn ei erbyn ef ei hun
Eto yn cael ei erlid yn Mhenmorfa.
Yn Glasfryn fawr yn nhŷ W. Prichard y pregethodd Mr. Harris gyntaf; offeiriad y plwyf yn ei rwystro i bregethu.
Yr ail le y cafodd Mr. Harris bregethu oedd Ty'n Llanfihangel, ger Rhyd y clafdy; nerthoedd gyda'i bregeth.
Yna yn Tywyn Tydweiliog; a llawer yn cael eu galw, &c.
Agwedd y dychweledigion ieuaingc yn more eu crefydd
Yr erlidigaeth yn cynyddu yn ddirfawr; taflu cerig trwy ffenestri capel Pwllheli ar amser addoliad.
Ergydio cerig at y bobl nes y byddai eu gwaed yn llifo wrth fyned i'w cartrefi
Mr. Evan Williams o'r Deheudir yn cael ei guddio mewn cwppwrdd; John Jones, Penrhyn, Llaniestyn, yn diangc o'u gafael
Mr. David Jenkins, offeiriad o'r Deheudir, brawd Daniel Jenkins
Mr. Daniel Rowlands yn pregethu wrth ochr Llan Tydweiliog.
Hanes Mr. Daniel Rowlands.
Mr. Pugh, gweinidog yr Ymneillduwyr yn agos i Langeitho,—trigolion yr ardaloedd yn cyrchu i'w wrando
Arddeliad ar bregethau Mr Rowlands; pregethu amryw droion yn ddiarwybod am yr amser
Gwrandawyr Mr Pugh yn cilio i Langeitho.
Mr. Rowlands yn ymuno â Mr. Howell Harris.
Meistriaid W. Williams, Peter Williams, a Howell Davies.
Cynghorwyr i gynghori; marw Daniel Rowlands.
Hanes Mr. Rowlands yn myned i Sir Gaernarfon.
Pergethu ar y gareg farch, yn Sarn fellteyrn, wrth y Llan
Y bregeth werthfawr
Mr. Price, cyfaill Mr. Rowlands, yn cael ei daro â chareg
Cantorion Llan Nefyn yn canu Salm 119.
Ei atal i bregethu yn Gelli dara, Lleyn, gan dorf o erlidwyr gyda drum
Gorfod myned o Ynys Fôn heb bregethu unwaith
Yr Ymneillduwyr a'r Methodistiaid yn myned ar eu penau eu hunain
Y Canghellwr a'i gyfeillion bob bore Mercher yn pregethu yn Dyneïo yn erbyn Mr. Harris, Mr Rowlands, &c.
Eto yn myned i erlid pregethwyr i Fryn tani, Llannor
Mr. Llwyd, Ty newydd, plwyf Llannor, a'r Canghellwr
Clochydd Llannor yn cyfansoddi Interlute i ddirmygu crefyddwyr
Y Canghellwr yn troi y Clochydd o'i swydd oherwydd ymrafael a fu rhyngddynt
Eto yn rhwygo gwisg uchaf Mr. Lewis Rees â'i gleddyf.
Dorti Ddu a'r Canghellwr
Dorti Ddu yn myned 80 milldir i Llanidloes i ollwng ei budreddi ar ei fedd
Torf o erlidwyr yn curo yn ddidrugaredd, yn Llanaelhaiarn, y rhai a aethent o Leyn i Fôn i wrando Mr. Rowlands
William Prichard yn symud o Lasfryn fawr i Blas Penmynydd
Cael erlidigaeth greulon yno
Mr. Benjamin Thomas yn cael ei erlid yn Minffordd
William Prichard yn symud i Bodlew, gerllaw Llanddaniel; yn gorfod cadw ci mawr i'w amddiffyn rhag yr erlidwyr; dyn o Niwbwrch yn prynu cyllell yn Nghaernarfon i'w ladd
Yn symud o Fodlew i Glwchdyrnog, lle y bu farw
Hanes bywyd William Prichard
Mr, Peter Williams yn pregethu wrth Benrhoe Lleugwy
Y dirmyg a gafodd Mr. Peter Williams yn Nhrefriw
Y bregeth gyntaf yn Llanrwst
Yr erlidwyr yn bwriadu taflu y pregethwr tros y bont i'r afon; trosglwyddo y pregethwr mewn cwch tros yr afon; gorfod diffodd y canwyllau a chuddio Morris Griffith, y pregethwr, mewn cist, a chlo arno.
Ychydig yn Ngwynedd wedi derbyn doniau i bregethu
John Richards, Bryniog uchaf, gerllaw Llanrwst.
Yn pregethu gerllaw mynwentydd pan y byddai y bobl yn dyfod o'r Llanau
Barn ar ŵr urddasol am erlid pregethwr yn agos i Drefriw
Lewis Evan yn pregethu ar fryn gerllaw y ffordd o Wytherin.
Yr erlidwyr wedi rhoddi powdr gwn yn y ddaear yn Llansannan, lle yr oedd y bregeth i fod; dyn yn ei ganfod cyn y bregeth; felly amddiffynodd Duw ei bobl.
Y pregethwyr yn cael eu llusgo i'r Pwll grawys, Dinbych.
Yr erlidwyr yn anog ci i rwygo y pregethwr, yn lle hyny ymaflodd yn ffroenau y march, a diangodd y pregethwr.
Yr erlidwyr yn ymddwyn yn annynol at ferched crefyddol
Gwerthu eiddo Thomas Llwyd, a'i yspeilio o'r cyfan oedd ganddo, o herwydd ei grefydd.
Defnyddio y gyfraith i gospi yr erlidwyr.
Erlid a gwawd ar ŵr a gwraig am dderbyn pregethu i'w tŷ yn Henllan, yn agos i Ddinbych, ac amddiffyniad Duw iddynt.
Taran yn dychrynu erlidwyr y gŵr hwn yn Llanelwy
Lewis Evan yn cael ei daro gan ddyn ar bont yn Nyffryn Clwyd nes oedd ei waed yn llifo; deuddeng mis yn ngharchar
Yr erlidwyr yn rhuthro ar ŵr boneddig (yr hwn y dygwyddodd fod cadach am ei ben,) gan ei faeddu yn ddidrugaredd, gan feddwl mai pregethwr oedd.
Pan ddaeth y pregethwr i'r dref ni feiddiodd neb ei erlid.
Tro cyffelyb yn Nghorwen.
Erlid mawr yn Llofft wen, yn agos i Adwy y clawdd
Erlid Mr. Peter Williams.
Mr. David Williams yn pregethu yn agos i Gaergwrle, Sir Fflint; llu o erlidwyr yn dyfod am ben y tŷ
Y drws yn cael ei agor iddo i bregethu iddynt ar ochr y ffordd wrth oleuni y lloer
Edward Jones, gerllaw Treffynon, a deimlodd wg Duw ar ei gydwybod am floeddio gyda dynion annuwiol
Gwylmabsant yn Rhuddlan bob Sabbath tra y parhai y cynauaf, lle y cyflogid medelwyr dros yr wythnos, &c.
William Griffith, o'r Wyddgrug, yn pregethu ar yr heol; cael ei luchio â thom a cherig, a'i lusgo a'i faeddu yo ddidosturi. 65
Pregethwr yn cael ei waredu o law yr erlidwyr
Gelyniaeth ficar Rhuddlan a'i wraig i grefydd; barn Duw arno
Eto Edward Hughes; eto Thomas Jones
Jane Jones, mammaeth ymgeleddgar i achos yr Arglwydd
Y bregeth gyntaf yn ei thŷ.
Yr Ysgol rad a'r Ysgol nos yno yn foddion i daweln yr erlidigaeth
Deg o wŷr ieuaingc yn cael eu galw dan yr un bregeth.
Yr erlidwyr drwy deg, a thrwy fygythion, am atal llwyddiant crefydd; yr offeiriadau yn pregethu yn ei herbyn; anfon gwarantau i ddal y ddal y pregethwyr
Hugh Thomas yn gorfod ymguddio
Dal Hugh Griffith gerllaw Aberdaron
Dal Morgan Griffith, gŵr gweddw, pregethwr, a'i blant bychain mewn cawell.
Ei roddi ef a'i gyfeillion yn ngharchar Conwy.
Erlid creulon yn Tŷ cerig, Aberdaron; Lewis Rees o'r Deheudir
Erlid mewn cyfarfod pregethu gerllaw Penmorfa; un dyn ieuangc o'r erlidwyr yn marw yn druenus.
Gŵr yn derbyn pregethu i'w dy, yn agos i Benmorfa; gŵr urddasol yn clywed hyny, ac yn dywedyd na fwytâi ei giniaw nes mynegi i'w feistres tir
Dau dro neillduol a ddygwyddodd i'r erlidwyr yn y Dolydd byrfon a Rhos tryfan, yn Arfon
Gŵr yn troi tarw rhuthrog at gynulleidfa, a'r tarw yn ei gornio ef ei hun yn ddychrynllyd
Pump a deugain yn myned mewn llestr o Sir Gaernarfon i'r cyfarfod mawr yn Llangeitho; yn cael eu dirmygu a'u gwawdio wrth ddyfod yn ol yn Aberdyfi a Thywyn
Gwraig yn nacâu rhoi llety iddynt; aeth ei thŷ ar dân cyn y bore
Trigolion Harlech fel un gŵr yn eu hergydio â cherig.
Gorfod cadw oedfaon yn y nos rhag ofn yr erlidwyr
Erlid chwerw iawn mewn cyfarfod misol yn Ffestiniog.
Tro nodedig am atal erlid yn Abergynolwyn
Cathrine Owen yn sefyll rhwng y pregethwr a'r erlidwyr
Vavasor Powell, Walter Cradoc, Hugh Owen, Henry Williams, yn ddefnyddiol i daenu yr efengyl yn Sir Drefaldwyn
Howell Harris yn pregethu yn Sir Drefaldwyn
Diwygiad nerthol yn tori allan
Y cyfarfod neillduol cyntaf yn y sir
Erlid yn Llanidloes; gwraig yn ceisio lladd y pregethwr â chryman
Atal Howell Harris i bregethu yn Cemmaes a Machynlleth
Trigolion Machynlleth a Llanymawddwy yn curo ac yn baeddu pregethwr yn ddidosturi.
Baeddu D. Jones o Langán, a'i atal i bregethu
Merch ieuangc grefyddol, morwyn i gyfreithiwr, trwy ei sobr a'i duwiol ymarweddiad, yn peri iddo newid ei farn am grefyddwyr
Erlidigaeth gan offeiriad Manafon
Duwioldeb crefyddwyr y dyddiau hyny
Gofal yr Arglwydd yn ei Ragluniaeth am danynt
Sefydlu cyfarfodydd neillduol trwy y Deheudir a'r Gogledd; yr erlidwyr yn eu galw y Weddi dywyll
I Gymdeithas neillduol gyntaf yn Sir Gaernarfon.
Yr ymraniad rhwng Rowlands a Harris
Eto, ei benderfyniad yn Nghymarfa Llanidloes
Eto, effeithiau galarus trwy Gymru; rhai pregethwyr o ochr Harris, a rhai o ochr Rowlands
Yr amser y buwyd heb ddiwygiad ar ol yr ymraniad
Sylfaeniad yr adeilad presennol yn Trefecca
Mr. Harris yn casglu nifer ato yno.
Ei ewyllys ddiweddaf, fod y cwbl o'i eiddo i fod rhwng y teulu dros byth
Amryw o'r pregethwyr ag oedd gyda Mr. Harris yn ei adael; yn troi yn Antinomiaid, &c.
Yn y flwyddyn 1762 diwygiad mawr yn Nghymru
Yr amser y daeth Hymnau Mr. W. Williams allan.
Antinomiaeth neu benrhyddid yn drygu yr eglwys.
Thomas Seen, T. Meredith, &c. yn athrawon iddynt
Mr. Popkin yn gwyro at athrawiaeth R. Sandeman
Pregethwr o Sir Aberteifi wedi gwyro at Antinomiaeth
Mr. Peter Williams yn gwyro at Sabeliaeth.
John a James Relley yn dal allan adferiad pob peth, &c.
Niwaid mawr penrhyddid mewn amryw leoedd trwy Ogledd a Deheudir Cymru
Yn dal allan nad oedd y ddeddf yn rheol bywyd i gredadyn, yn dirmygu addoliad teuluaidd
Un gŵr boneddig yn bygwth y byddai raid i bawb o'i ddeiliaid wadu eu crefydd neu golli eu tiroedd
Un yn gwadu ei grefydd, ac efe yn unig yn colli ei dyddyn.
Dinystr penrhyddid yn Sir Fôn; yn codi ei ben yn Sir Gaernarfon
Mr. a Miss Ingram, yr anweledigion
Mari y fantell wen, ei bywyd a'i marwolaeth
Dyfodiad y Bedyddwyr i'n gwlad
Dyfodiad y Wesleyaid i Gymru, a'u hathrawiaeth
Bedyddio a chymuno yn Eglwys Loegr
Gŵr boneddig yn arfer y gyfraith i atal pregethu, y canlyniad fu i Lewis Morris gilio i'r Deheudir; ychwanegu rhyddid crefyddol
Ordeinio ychydig bregethwyr o bob sir i weinyddu yr ordinbadau yn eglwysi y Trefnyddion Calfiuaidd.
Rhybudd Ymneillduwr iddynt
Y lle, a'r dull y cynaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf.
Un fechan yn y Bala, ei haflonyddu
Y gyntaf yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon; un yn y Bala yn 1767, nifer y gwrandawyr, &c.
Am y Cyfarfodydd Misol
Sefydlu Blaenoriaid i ofalu am achosion eglwysig, Nifer y capeli yn 1736, y cyntaf yn y Deheudir, y cyntaf yn y Gogledd.
Arian Mrs. Bowen at yr ysgolion rhad, Ysgol nos a'i buddioldeb
Ysgolion rhad dan olygiad T. Charles, sefydliad yr Ysgol Sabbathol yn Nghaerloyw gan Raikes, ac yn Nghymru
Y dull o'u cadw, ynghyda'u llwyddiant
Pregethwyr y Deheudir
Eto, Gwynedd
Cymdeithas Genadol Llundain, y Morafiaid.
Mynediad y Cenadon i Otaheiti, &c.
Cyfieithu y Bibl i iaith China, a'r India Ddwyreiniol
Barn Duw am halogi y Sabbath.
Haelioni gŵr cyfoethog i'r tlodion, ei wraig yn annhrugarog.
Angel yn arwain genethig
Yr eneth yn cael gwir grefydd
Diwygiadau yn Nghymru, yn 1739, 1762, ac 1817
Diwygiad yn Beddgelert, &c. Eto yn siroedd Gwynedd
Eto yn Sir Aberteifi. Eto yn America.
Y Cymru yn ffyddlon i'r llywodraeth
Yr achos o'u ffyddlondeb.
YMDDIDDAN
RHWNG
YMOFYNGAR A SYLWEDYDD
YMOFYNGAR. Da genyf eich gweled, fy hen gyfaill caredig, ar dir y byw.--Yn ddiweddar bum yn meddwl am danoch, ac yn hiraethu am eich gweled.
SYLWEDYDD. Dywed yr hen ddiareb, mai "Gynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd." Nis gallaf adrodd mor dda genyf gyfarfod â chwithau eto unwaith cyn myned i lwch y bedd. Ond pa beth yn fwyaf neillduol oedd ar eich meddwi, pan yr oeddych cymaint eich awydd am fy ngweled?
YMOF. Myfyrio yr oeddwn ar y gwaith rhyfedd a wnaeth yr Arglwydd, o'i fawr drugaredd, yn yr oesoedd diweddaf drwy yr efengyl yn Nghymru; a bod llaw yr Arglwydd, yn amlwg ac yn wyrthiol, yn dwyn y gwaith gogoneddus ymlaen: ond er mor ryfedd yr amddiffynodd Duw ei achos, ac y cospodd yr erlidwyr, er hyny, meddaf, hyd y gwn i, ni bu wiw gan neb gadw coffadwriaeth, na dodi y pethau hyn mewn ysgrifen, i ddangos i'r oes bresennol ac i'r oesoedd a ddel, ryfedd weithredoedd Duw. A chan na wyddwn am neb o'm cydnabyddiaeth ag oedd mor hysbys â chwi yn holl amgylchiadau crefydd yn ein gwlad; ac yn enwedig gan eich bod gyda'r achos er's mwy na haner can' mlynedd, ac hefyd yn adnabyddus â llawer o hen frodyr, a chlywed o honoch gan y rhei'ny lawer o bethau tra rhyfedd a ddygwyddasant cyn ein geni ni; gan hyny dymunaf arnoch eistedd i lawr (oddigerth bod rhyw rwystr neillduol) dan y cysgod-lwyn hyfryd hwn, ac adrodd, hyd y galloch, y pethau mwyaf neillduol a ddygwyddasant yn y ddwy ganrif ddiweddaf ynghylch crefydd.
SYL. Pe buasech chwi, neu ryw rai ereill, yn gallu fy mherswadio ugain mlynedd yn gynt i gymeryd y gwaith mewn llaw, buasai yn debyg o fod mewn gwell trefn, ac yn gyflawnach, pan oedd y côf a'r cyneddfau ereill heb eu pylu gan hepiant; ond, fel y dywed y ddiareb, "Gwell hwyr na hwyrach.". Yr wyf, gan hyny, yn barod i ateb eich gofynion oreu y gallwyf.
YMOF. Yr wyf yn dra diolchgar i chwi, fy nghyfaill caredig. Gan hyny mi achubaf y cyfleusdra i ofyn i chwi beth yw yr hanesion cyntaf sydd genych am ddiwygiad mewn crefydd yn Sir Gaernarfon, a manau ereill yn Ngwynedd?
SYL. Ar ol i'r Arglwydd anfon allan y tri Athraw godidog hyny yn y Deheudir, sef Mr. Wroth, Mr. Walter Cradoc, a Mr. William Erbury (ynghydag ereill hefyd,) y rhai a fuont fel tair seren fore, wedi bir nos o dywyllwch dudew, a'r fagddu o Babyddiaeth, arddelodd Duw eu gweinidogaeth i ddifa y lleni tywyll, mewn gradd fel na allodd y diafol na'i offerynau wneud у y rhwyg i fyny hyd heddyw. Ond ni chyrhaeddodd adsain beraidd eu cenadwri mor belled a Gwynedd, yn enwedig Mr. Wroth a Mr. Erbury. Mae yn wir fod Mr. Cradoc yn Ngwreesam, ond nid oes sicrwydd iddo fod yn Sir Gaernarfon. Clywais fod rhyw ysgrifenydd Seisonig yn rhoddi hanes crefydd ymhlith y Cymry (er na welais i ei waith,) a'r hanes y mae efe yn ei roddi sydd fel hyn; sef ddyfod o dri o wŷr ieuaingc o Rydychain i Sir Gaernarfon, tua'r flwyddyn 1646, neu beth diweddarach. Yr oeddynt oll o Sir Gaernarfon, ond ni chefais enwau ond un o honynt, sef John Williams. Am Mr. Williams, dywedir ei fod yn ddyn neillduol mewn dysgeidiaeth a duwioldeb, ac yn dra diwyd i gynyg efengyl y deyrnas i bechaduriaid. Arddelodd Duw ei lafur er bendith i lawer yn y wlad, a gwnaeth ef yn dad ysprydol i lawer, ie, i'r rhan fwyaf o'r dychweledigion ieuaingc yn y wlad y dyddiau hyny. Gellir meddwl yn lled sicr mai efe yw y gwr a drowyd allan wyl Bartholomeus, 1662, o'r Llan yn Sir Gaernarfon, fel y cawn hanes gan y Dr. Calamy ond nid yw y Doctor yn enwi y Llan y trowyd ef allan o honi. Mae yn debyg mai Llandwrog ydoedd: oblegyd yr oedd hen Wr a fagwyd yn y plwyf hwnw yn cofio clywed gan ei hynafiaid, pan oedd yn fachgen, i wr fod yn pregethu yn y Llan hòno a fyddai yn dyrchafu ei lais fel udgorn, a'u bod yn ei glywed dros chwarter milldir o ffordd. Mae Calamy, yn ei hanes am Sir Ddinbych, yn adrodd am un Ellis Rowlands, o Ruthyn, fel yr oedd yn pregethu yn achlysurol yn Sir Gaernarfon, i'r erlidwyr ei lusgo allan o'r pulpud. lled ddiamheuol mai un o'r ddau dyn a fū, fel meibion y daran, yn aflonyddu y byd yn Llandwrog. Barna ereill, yn ol a glywsant gan rai o'u hynafiaid, mai o Lan a elwir Ynys Cynhaiarn y trowyd Mr. Williams allan, ac iddo briodi etifeddes y Gwynfryn, gerllaw Pwllheli, a darfod i'w mab droi allan yn ddyn meddw afradlon, a threulio ei etifeddiaeth yn llwyr. Ereill a dybiant mai Henry Morris ydoedd priod etifeddes y Gwynfryn. Ond i fyned ymlaen a'r hanes, cafodd Mr. Williams ei gynorthwyo yn y diwygiad boreuol hwn gan Vavasor Powell, a Morgan Llvyd, y rhai a fuont dra bendithiol i lawer drwy eu gweinidogaeth. Byddai Morgan Llwyd yn pregethu yn Mhwllheli ar ddyddiau marchnad, a'i arfer oedd myned trwy y farchnad a'i ddwylaw ar ei gefn, a'i Fibl yn ei law; a byddai y bobl yn cilio o'i flaen, fel pe buasai gerbyd yn carlamu trwy'r heolydd.
YMOF. Pa beth a ddaeth o John Williams ar ol ei droi allan o'r Llan?
SYL. Yr oedd Mr. Williams wedi casglu eglwys cyn y cyfnewidiad yn nechreuad teyrnasiad Charles yr ail; ond pan gafodd ef (gyda lluaws o rai ereill) ei droi allan o'r Llan, cymerodd ei daith i Landain i ochelyd poethder yr erlid, fel y tybir: ond er mor ddychrynllyd oedd y dymhestl, ni allodd aros yn hir oddiwrth ei anwyl gyfeillion, eithr dychwelodd yn ol atynt, fel bugail gofalus a ffyddlon, i wylio drostynt ac i'w cynorthwyo. Cafodd ef a hwythau eu rhan yn helaeth o'r erlidigaeth. Byddai gorfod arnynt yn fynych gadw eu cyfarfodydd yn y nos, rhag cael eu haflonyddu gan yr erlidwyr. Amherchid eu cyrph yn greulon, a llunid aneirif gelwyddau arnynt. Taflwyd rhyw nifer o honynt i garchar, ynghyda chymeryd ymaith eu meddiannau. Ffeiniwyd y Capel helyg, yn mhlwyf Llangybi, ddwywaith, i haner can'punt bob tro, a thalwyd y cyfan gan ychydig o bersonau ag oeddynt yn caru achos eu Harglwydd. Yr oedd yn yr amseroedd hyny wr tra chreulon yn byw yn y Plas newydd, gerllaw Llandwrog, a elwid Hwlcyn Llwyd, ac o ran ei swydd yn ustus heddwch. Anfonodd i ran o'r wlad a elwid Eifionydd (ddeg neu bymtheg milldir o ffordd) i ruthro ar y trueiniaid gwirion, heb un achos, ond eu bod yn addoli Duw; gan eu harwain, fel defaid i'r lladdfa, at balas yr ustus creulon, a'u dodi mewn dalfa o'r bore hyd brydnawn. Dygwyddodd i un o weision yr ustus ddyfod i'w gweled; atolygasant ar hwnw fod mor garedig a myned drostynt at ei feistr, a dangos iddo nad oeddynt hwy yn gwrthod myned i garchar, os oedd y gyfraith yn gofyn hyny; ond nad oedd un gyfraith i'w cadw yno i lewygu o newyn. Bu y gwas mor dirion a gwneyd eu harchiad: ond yn y fan, tra'r oedd y dyn yn dyweyd drostynt, ffromodd yr hen lew creulon yn erchyll, a dechreuodd ymwylltio, amhwyllo, ac ymgynddeiriogi, nes trengodd yn ddisymwth yn farw yn y fan, a chafodd y praidd diniwaid fyned yn rhydd o'r gwarchau, a dychwelyd yn siriol at eu teuluoedd mewn diolchgarwch.
YMOF. Och! ddiwedd echryslon yr adyn truenus. Mae hyn yn dwyn i'm côf y geiriau yn Zec. ii. 8, "A gyffyrddo â chwi sydd yn cyffwrdd â chanwyll ei lygaid ef." Ond ewyllysiwn glywed ychwaneg genych am Mr. Williams a'i gyfeillion, yn yr amser trallodus hwnw.
SYL. Er i lawer wrthgilio yn yr amser erlidigaethns hwnw, eto cafodd amryw gymhorth i sefyll yn ddiysgog dros y gwirionedd, yn wyneb yr holl dymhestloedd: ac am Mr. Williams, parhau yn ffyddlon a diwyd yn ngweinidogaeth y gair a wnaeth ef, nid yn unig mewn amryw barthau yn Sir Gaernarfon, ond hefyd mewn rhai manau o Siroedd Meirionydd, Dinbych, a Fflint. Yr oedd ei athrawiaeth yn ddeffrous ac fel dyferiad diliau mêl, a'i ymarweddiad yn arogli yn beraidd o rym duwioldeb: yr ydoedd yn anwyl ac yn barchus gan bawb ag oedd yn caru Crist a'i achos. Wedi treulio ac ymdreulio fel hyn yn ngwasanaeth yr Arglwydd ynghylch deng mlynedd, clafychodd o'r crŷd tridiau, a gorphenodd ei yrfa mewn tangnefedd, er mawr alar i laweroedd, yn y flwyddyn 1676; neu o 1673 1674, yn ol hanes y Dr. Calamy.
YMOF. Pa fodd yr ymdarawodd y praidd amddifaid ar ol colli eu bugail gofalus a ffyddlon?
SYL. Cawsant eu cynorthwyo yn achlysurol gan amryw weinidogion; yn mysg ereill, gan Henry Maurice, yr hwn a dreuliodd y rhan fwyaf o'i amser yn y weinidogaeth yn bregethwr teithiol trwy holl Gymru. Ar ol hyny dewisasant un Hugh Owen, Bron y clydwr, yn fugail arnynt: a chan mai pregethwr teithiol oedd yntau hefyd, am hyny nis gallai fod yn fynych yn eu plith. Yr oedd un William Rowlands yn byw yn y Maen llwyd, gerllaw Llangybi, yn dra defnyddiol fel cynorthwywr, yn yr amser blinderus hwnw.
YMOF. Clywais, gan hen bobl, am Henry Maurice, ei fod yn dra defnyddiol yn ei ddydd. Adroddwch beth o'i hanes.
SYL. Mab ydoedd ef i Griffith Maurice o Methlem yn Lleyn, Sir Gaernarfon. Dygwyd ef i fyny i'r weinidogaeth yn Rhydychain, a bu yn gurad yn Sir Hereford. Symudodd oddiyno i Stretton, yn Sir yr Amwythig. Talai y lle hwnw iddo 140 punt y flwyddyn. Ymwelodd yr Arglwydd â'r ardal â chlefyd niweidiol, yr hwn a fudodd amryw o'r trigolion i'r beddau; ac yn hyn deffrowyd yntau yn dra dwys yn nghylch ei gyflwr tragywyddol, wrth ystyried ei fod ef ei hun i farw. Anesmwythodd hefyd am iddo gydymffurfio; ond cadwodd ei feddwl dros amser iddo ei hun: yn un peth am ei fod wedi rhedeg i 300 punt o ddyled wrth adgyweirio y persondy; a pheth arall, am ei fod yn ofni na allai ei wraig ddal y tywydd os rhoddai ei le i fyny: ond deallodd ei wraig fod rhyw beth yn ei flino, a phenderfynodd fynu gwybod yr achos o flinder ei feddyliau. Yntau a addefodd wrthi nad allai fod yn dawel yn ei feddyliau os arosai yn hwy yn ei le fel gweinidog: ond ar yr un pryd, fod ei ofal yn fawr am dani hi a'i phlentyn bach, pa fodd y caent eu cynaliaeth rhagllaw. Dymunodd hithau arno wneyd yn ol ei gydwybod; gan sicrhau iddo y gallai hi, yn rhydd, draddodi ei hun a'i phlentyn i ofal rhagluniaeth Duw, i ba un nis gallai anymddiried mewn un modd. Ei hateb iddo a'i cynaliodd ac a'i calonogodd ef yn fawr. Pan bregethodd ei bregeth olaf yno, derbyniodd lythyr oddiwrth Ganghellor yr esgobaeth, yn ei fygwth am iddo ddywedyd rhywbeth yn erbyn llywodraeth yr eglwys. Yntau a anfonodd iddo yn ateb, nad oedd un dyben ganddo yn yr hyn a bregethodd i feio ar neb, na’u hamharchu, ond yn hytrach dystewi ei gydwybod archolledig ei hunan. Rhoddes ei feddiannau bydol yn llwyr o flaen ei ofynwyr: hwythau a'u cymerasant yn gwbl, heb adael iddo ddim; a chan nad oedd hyny yn ddigon i'w boddloni, rhoddasant ef yngharchar yn yr Amwythig. Yn y sefyllfa anghysurus yma cafodd fynych gynorthwy gan rai oedd gwbl anadnabyddus iddo. Gwraig y carchar oedd ar y cyntaf yn annhirion a sarug wrtho; ond cyn hir cafodd ei gwir ddychwelyd trwyddo, fel ceidwad y carchar gynt. O'r diwedd rhai o'i gyfeillion, fel yr oedd yn gweddu, a ymrwymasant i dalu ei ddyled, a rhyddhawyd ef. Wedi hyn arosodd yn yr Amwythig dros ryw faint o amser, ac yna symudodd i Abergafeni. Dewiswyd ef yn fuan yn weinidog i gorph o bobl yn Llanigon a Merthyr. Eithr nid oedd ei wasanaeth i gael ei gyfyngu iddynt hwy yn unig; canys yr oedd ei awyddfryd cymaint fel nad oedd yn foddlon i gaethiwo ei hunan i gylch mor fychan. Treuliodd ei amser i ymdeithio drwy holl Gymru yn ngwasanaeth ei Feistr nefol; a phregethu efengyl Crist mewn manau tywyll oedd ei orchwyl beunyddiol, a bu yn fendithiol i lawer o eneidiau. Cyrchai lluaws mawr i'w wrando mewn amryw fanau.
Dyoddefodd lawer o galedfyd wrth deithio ar bob math o dywydd ar hyd y ffyrdd mynyddig, a bod yn fynych mewn lleoedd anghysurus i letya. Ei arfer, gartref ac oddi cartref, wrth gadw dyledswydd fore a hwyr, fyddai esbonio rhyw ran o'r ysgrythyr; a bu hyny yn fendithiol i lawer. Coffaf un esiampl nodedig o hyny. Cafodd ei alw i ymweled â geneth i wr boneddig anghrefyddol, yr hon oedd yn saith mlwydd oed, i'r dyben o geisio gwneyd lles iddi fel physygwr; ond er na iachawyd hi o'i chloffni, cafodd feddyginiaeth anfeidrol well, sef gras i gofio ei Chreawdwr yn nyddiau ei hieuengctyd, trwy ei nefol addysgiadau ef. Os deallai fod rhyw o rai wahanol ieithoedd yn ei wrando yn pregethu neu yn gweddio, cai pawb fyddai yn bresennol ran o'r addoliad yn ei iaith ei hun, pe buasai ond un, ie, yr iselaf yn y teulu. Gwnaeth ei elynion yn fynych gynllwyn i geisio ei ddal; ond yr Arglwydd a'i cuddiodd yn nghysgod ei law. Un waith, pan oedd newydd ddarfod pregethu, llechodd mewn cell yn y tŷ, ac ni chanfu yr erlidwyr y drws i ddyfod ato. Bryd arall, daeth cwnstabl i mewn i'r ystafell, ac yntau yn pregethu, a gorchymynodd iddo dewi. Efe yn wrol a archodd iddo, yn enw y Duw mawr yr hwn oedd efe yn ei bregethu, na rwystrai mo hono, gan ystyried y byddai raid iddo ateb yn y dydd mawr. Y dyn, ar hyny, a eisteddodd i lawr dan grynu, ac a wrandawodd yn bwyllog hyd ddiwedd y cyfarfod, ac yna aeth ymaith yn llonydd. Ni ddaliwyd ef ond unwaith. Cafodd feichiau, a phan ddaeth ger bron y frawdle, rhyddhawyd ef gan rai boneddigion ag oedd ustusiaid yr heddwch, y rhai hefyd oeddynt gyfeillion a pherthynasau iddo. Odid nad yn Sir Gaernarfon y bu hyny. Pan oedd yn byw yn yr Amwythig, darostyngwyd ef rai gweithiau i iselder mawr; ond cynorthwywyd ef lawer tro megys yn wyrthiol. Unwaith pan oedd mewn gweddi gyda'i deulu yn adrodd ei gyfyngder ger bron Duw, curodd gwr wrth y drws, a rhoddodd iddo ddyrnaid o arian oddiwrth rhyw gyfeillion, heb fynegu pwy oeddynt. Bryd arall, pan oedd yn dra isel arno, daeth yr un gŵr a swm go fawr o arian iddo yr un modd. Ataliwyd oddiwrtho etifeddiaeth ag oedd gyfiawn iawn i'w wraig ei meddiannu, dros ddeng mlynedd, ar gam, yr hon oedd werth 40 punt yn y flwyddyn. Ond er y cwbl, siriol a diwyd oedd hi yn ei sefyllfa isel; ond yn awyddus os byddai bosibl i'r meichiau gael eu rhyddhau; yr hyn trwy ddaioni rhagluniaeth Duw, a'i fendith ar eu diwydrwydd, a gyflawnwyd cyn marw Mr. Maurice. Y deng mlynedd hefyd a ddaethant i ben, i'r tir ddyfod i'w gyfiawn etifeddion, ychydig ar ol ei farwolaeth. Gofynodd rhai o'i gyfeillion yn Sir Gaernarfon iddo unwaith, Pa fodd yr oedd yn byw (canys gwyddent am ei sefyllfa isel). Byw yr wyf, meddai yntau, ar y chweched o Mathew. Gofynasant iddo yn mhen blynyddau drachefn, Pa fodd yr oedd у 6ed o Mathew yn troi allan. O! da iawn (meddai yntau), i Dduw byddo y diolch. Yn ei bregethiad, ei amcan fyddai gosod sylfaen ffordd iachawdwriaeth trwy Grist. Pan goffâi ef Ysgrythyr, ni adawai hi heb ei hegluro a dangos ei hystyr yn oleu. Pan y cynghorid ef gan ei gyfeillion i arbed ei hun, dywedai wrthynt, Fod yn rhaid i wr a segurodd yn y bore ddyblu ei ddiwydrwydd yn y prydnawn. Llafur gormodol a theithiau blinderus, o'r diwedd a dorodd ei rym, ac a'i prysurodd i'w fodd.
Yr oedd ei ymddygiad yn ei glefyd diweddaf yn cyfateb yn gyson i'w ymarweddiad yn ei fywyd. Amlygodd yn dra difrifol ddaioni Duw tuag ato ef a'i deulu. Pan ddywedodd ei wraig wrtho, Fy anwylyd, chwi a gawsoch noswaith flin neithwyr; atebodd yntau, Beth os cefais? cafodd Job lawer o nosweithiau blinion. Pan welodd efe y bobl yn wylo o'i amgylch, eb efe wrth ei wraig. A ydwyt ti yn sylwi ar diriondeb yr Arglwydd tuag atom, ddyeithriaid tlodion, yn cyfodi cynifer o gyfeillion i ni? Cariad Crist, eb efe, sydd yn fawr adfywiad i'm henaid. Bendigedig a fyddo Duw, yr hwn a'm gwnaeth i a thithau yn gyfranogion o'r un gras. Pell oedd oddiwrtho feddwl fod ynddo ddim teilyngdod, ac eto yr oedd yn llawenhau yn nhystiolaeth ei gydwybod. Fo ddywedai am dano ei hun fel hyn, Nid wyf yn ymddiried yn fy ngwaith a'm llafur; ac eto, yr wyf yn llawennau o'u plegyd hefyd. Bu farw yn Gorphenaf 1682, ryw faint dros ddeugain mlwydd oed.
YMOF. Gan i chwi grybwyll y byddai Morgan Llwyd, yn mysg manau ereill, yn pregethu yn Pwllheli, dymunwn glywed ychwaneg o'i hanes.
SYL. Yr oedd Morgan Llwyd o deulu Cynfal, yn mhlwyf Maentwrog, Sir Feirionydd. Yr oedd yn fab, medd rhai, nai medd ereill, i Hugh Llwyd, Cynfal. Clywais ddywedyd, pan oedd yr hen ŵr yn glaf, ychydig cyn marw, ei fod yn dymuno gweled Morgan. Gofynodd y rhai oedd gydag ef iddo, Ai nid ydych yn ewyllysio gweled eich mab Dafydd? Atebodd yntau, Nag wyf: nid yw hwnw ond ffwl meddw, fel finau. O! na chawn weled Morgan. Y mae yn debygol wrth hyn mai ei fab ydoedd. Ac y mae yn dra thebygol mai drwy weinidogaeth Walter Cradoc y cafodd droadigaeth, pan oedd Cradoc yn gweinidogaethu yn Ngwrecsam: ond pa un ai yn yr ysgol, ai ar ryw achos arall, yr oedd efe yno, nid yw yn hysbys. Yr oedd yn ŵr o gyneddfau cryfion, yn nodedig am ei dduwioldeb, dwfn iawn ei fyfyrdodau: ac yr oedd llawer o bethau dirgelaidd yn ei ymadroddion, ei lythyrau a'i lyfrau, anhawdd i lawer eu deall. Ysgrifenodd amryw o lyfrau bychain yn Gymraeg, megys Llyfr y Tri Aderyn, Gair o'r Gair, Yr Ymroddiad, Gwaedd yn Nghymru, &c. Teithiodd lawer trwy Gymru i bregethu yr efengyl. Gelwid ef gan wyr y Deheudir, Morgan Llwyd o Wynedd. Bu yn weinidog yn Ngwrecsam dros rai blynyddoedd, yn yr amser y trowyd amryw offeiriadau anfucheddol o'r Llanau. Bu farw o gylch y flwyddyn 1660, a chladdwyd ef yn mynwent yr Ymneillduwyr gerllaw Gwrecsam. Gwelais y gareg yno a fuasai ar ei fedd, ac arni y ddwy lythyren yma, sef, M. Ll., Dywedir i ryw Wr boneddig, o erlidiwr creulon, yn ei gynddaredd wrth fyned heibio, drywanu ei gleddyf i'w fedd hyd at y carn. Dywedir fod 'rhyw bwys a thrymder neillduol wedi syrthio ar feddyliau Vavasor Powell,[2] y nos y bu farw Morgan Llwyd, ac iddo ddywedyd wrth y rhai oedd gydag ef y geiriau hyn, "Aeth y seren ddysgleiriaf yn Nghymru dan gwmwl heno:" er na wyddai ef y pryd hyny ddim am y farwolaeth a ddygwyddasai. Byddai rhyw bethau neillduol yn cael eu hamlygu i Morgan Llwyd cyn eu dyfod i ben. Un tro pan oedd yn pregethu yn mhentref Ffestiniog, a bod yno, yn mysg amryw oedd yn cellwair ac yn gwawdio, un dyn ieuangc yn rhagori arnynt oll mewn ysgafnder a chellwair; wrth sylwi arno, nododd ef allan, gan ddywedyd wrtho fel hyn, "Tydi y dyn ieuangc, gelli adael heibio dy gellwair: tydi yw y cyntaf a gleddir yn y fynwent yma." Ac felly y bu. Bryd arall, fel yr oedd yn pregethu yn Machynllaith, a rhai plant wedi dringo i goed ag oedd gerllaw, efe a gyfeiriodd ei law tuag atynt, gan ddywedyd y geiriau hyn, "Pan ddol y plant hyn i oedran gwŷr, fe ymâd yr efengyl o Fachynllaith;" ac felly y bu dros faith flynyddau. Ond y peth hynotaf oedd ei ragfynegiad am ddiwygiad mewn crefydd yn Nghymru, yn y geirjau nodedig sy'n canlyn. "Y mae dynion gwych (hiliogaeth yr hen Jacob) yn barod i gyfodi alian o'r pridd, ac er hyny, o'r nefoedd y disgynant. Y mae ffynonau y môr tragywyddol yn tori allan ynddynt; ac ni all y byd, na'r cnawd, na'r cythraul, mo'u cau, na'u cadw dan y ddaear. Y rhai hyn a orchfygant y tri byd, oddi fewn, oddi allan, ac oddi fry. Fe fydd y rhai hyn yn golofnau yn nheml Dduw, ac arnynt hwy yr ysgrifenir y tri enw: ynddynt hwy y darllenir enw y Tad nefol, yr hwn yw y Brenin anfarwol; a'r Fam nefol, yr hon yw Caersalem newydd, a'r naturiaeth angylaidd; a'r Brawd nefol, Crist, o flaen yr hwn nid yw yr haul ganol dydd ond fel sachlen ddu dywyll; ac wrth ei enw newydd ni bydd ond ychydig a'i hedwyn. Yna yr ymddengys Paradwys, a phren y bywyd, ac arch y dystiolaeth, a'r manna cuddiedig, a'r byd anweledig sydd trwy y byd hwn; a hwnw a bery byth. Ni theflir y pethau hyn i'r cwn. Bwyd y môch yw y mês, ond y rhai ysprydol a fwytânt o fara y bywyd: ac yno y ceir gweled rhagor rhwng y morwynion call a'r rhai anghall, ac y dywedir y llais cryf, Y sawl sy frwnt, bydded frwnt eto, a'r gwatwarwr coeg-ddall, bydded ddall byth. Ond y cyfiawn a gred, ac a gaiff weled â'i lygaid y Brenin Iesu yn ei degwch; a'r delwau a gwympant o'i flaen, a'r teyrnasoedd a blygant i'r bummed freniniaeth fel meibion Israel i Joseph, megys y dywed yr ysgrythyr sanctaidd yn helaeth. Agos yw hyn, wrth y drws: Ie, ac yn oes gŵr fe'i gwelir. Mae у droell yn troi yn rhyfedd drwy yr holl fyd yn barod; ac a dry eto yn gyflymach ac yn rhyfeddach beunydd. Dan. xii. 10; Math. xxv.; Dat. xxii. 11; Esay xxxiii. 17; Dan. vii. 27; Esay xi. 9."
D.S. Os cydmerir yr amser yr ysgrifenodd M. Llwyd y rhagfynegiad uchod â'r amser y torodd y diwygiad allan yn Nghymru; ïe, yn Lloegr, Scotland, ac America hefyd, sef tua'r flwyddyn 1739, gellir gweled i'r cyflawniad ddyfod i ben fel y rhagddywedasai ef, sef, "Yn oes gŵr fe'i gwelir."
YMOF. Y mae yn debygol i lawer o bethau rhyfedd ddygwydd yn yr amseroedd terfysglyd hyny; dymunwn i chwi adrodd ychydig yn rhagor o'r hanes, os gellwch.
SYL. Bu ryw bryd, yn yr amseroedd hyny, i ryw ychydig nifer o weinidogion ymgyfarfod yn Mhwllheli , i gynyg, pregethu, yn wyneb mawr erlid ac enbydrwydd. Gofynodd un honynt, Pwy a bregetha yma heddyw? Atebodd un gweinidog ieuangc, yn ddiegwan o ffydd, Os caniatewch, fy mrodyr, myfi a bregethaf. Ac fel yr oedd yn myned yn mlaen yn ei orchwyl pwysfawr, saethodd un o'r erlidwyr fwled heibio ei ben i'r pared. Wrth ganfod y waredigaeth ryfedd o eiddo Duw tuag ato, adroddodd y geiriau hyn, "Yn nghysgod dy law y'm suddiwyd," ac yna aeth yn mlaen yn galonog hyd ddiwedd y cyfarfod.
YMOF. Gan fod pethau mor ryfedd wedi bod yn yr hen amseroedd, ewyllysiwn glywed ychwaneg genych.
SYL. Yr oedd yn byw yn y cyfamser, yn rhyw le gerllaw Abererch, wr a alwent Edward dduwiol, nes weithiau, Y Siopwr duwiol. Pan oedd yn fachgen mewn gwasanaeth, mewn lle a elwir y Clenenau, canfuwyd ganddo lyfr bychan yn dysgu darllen; a throwyd ef o'i le am hyny. Dygwyddodd ar ryw achos cyfreithlon, iddo gael ei ddal yn Mhwllheli, ar noson marchnad, nes ei myned yn llawer o'r nos; canfu, i'w dyb ef, fod y môr wedi llenwi ar ei ffordd, fel na allai'ddychwelyd adref ar hyd y ffordd arferol; trodd yn ol trwy ran arall o'r dref, i amgylchu y dwfr, ac wrth fyned, daeth cymhelliad cryf i'w feddwl i alw mewn tŷ adnabyddus iddo wrth fyned heibio: wedi galw wrth y drws, daeth gŵr y tŷ i agoryd iddo; ac wedi cyfarch eu gilydd, dywedodd wrth y gŵr, Nis gwn i ba beth y gelwais yma, ond yn fy myw ni chawswn lonydd i beidio. Atebodd gwr y tŷ, Os na wyddech chwi, fe wyddai Duw. Ac yno fe dynodd gortyn oddiar ei gefn, â pha un yr oedd yn myned i'w grogi ei hun: a bu yr hen wr duwiol, drwy ei gynghorion a'i weddïau, yn offerynol i achub y creadur tlawd o safn y brofedigaeth uffernol hòno. Ond am y llanw a dybiasai ei fod ar y ffordd, nid oedd dim o'r fath i fod yr oriau hyny.
YMOF. Soniasoch fod Hugh Owen, Fron y clydwr, wedi bod yn fugail ar yr eglwys yn Sir Gaernarfon, ac na allodd gan ei lafur a'i deithiau fod yn arosol yno. Da fyddai genyf glywed pa fodd y bu arnynt am weinidogion wedi hyny.
SYL. Erfyniodd Henry Maurice ar Stephen Hughes, o Abertawe, ganiatáu i James Owen, ei gynorthwywr, ddyfod i'w plith; a bu Dr. Hughes mor dirion a chydsynio yn wirfoddol. Dr. J. Owen a arosodd gyda hwynt yspaid blwyddyn, ac a fu yn dra defnyddiol yn eu mysg. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac o ymarweddiad duwiol a diargyhoedd: ond cynyddodd yr erlidigaeth fel y gorfu arno ffoi yn y nos i Sir Feirionydd. Bu H. Maurice iddynt yn bob cynorthwy ag a allai, nes ei farw; yr hyn a ddygwyddodd yn y flwyddyn 1682, fel y soniais eisoes. Y gweinidog cyntaf a sefydlodd yn eu plith oedd W. Phillips, o Sir Gaerfyrddin (neu fel y myn rhai, o Sir Forganwg.) Cawsai ddysgeidiaeth dda; ond troes allan yn ei ieuengctyd yn ddyn gwag ac anystyriol. Yr oedd ganddo un cyfaill mwy neillduol nag ereill, ag oedd yn cydredeg gydag ef i bob gwagedd. Ar ryw Sabbath, gofynodd y naill i'r llall, i ba le y cawn fyned heddyw? A gawn ni fyned i wrandaw ar y gwr a'r gwr yn pregethu? ac felly fu. Wedi dyfod allan, dywedodd ei gyfaill wrtho, Wel, bellach ni a awn i'r lle a'r lle, i wneyd ein hunain yn llawen gyda rhyw ddigrifwch. Dywedodd Mr. Phillips wrtho, Fy nghyfaill, y mae yn rhyfedd genyf eich clywed. Oni chlywsoch fel yr oedd y pregethwr yn dywedyd am bechod, a'r gosp ddychrynllyd ddyledus o'i herwydd? gan hyny, pa fodd y gallwn wneuthur y mawr ddrwg hwn, a phechu yn erbyn Duw? O hyny allan gadawodd ei hen gyfeillion ofer, a'u ffyrdd pechadurus, ac a ymroddodd i geisio yr Arglwydd â'i holl galon. Daeth yn mlaen ar gynydd mewn gras a gwybodaeth iachusol, a doniau helaeth. Cafodd anogaeth i arfer ei ddoniau yn gyhoeddus: ac wedi cael prawf boddlongar o'i addasrwydd i'r weinidogaeth, cymhellwyd ef i ddyfod i Sir Gaernarfon; yntau a anturiodd yno, heb wybod beth a allai y canlyniad fod; ond fel y prophwyd, ufuddhaodd i'r alwad, gan ddywedyd, Wele fi, anfon fi.
Bu ar y cyntaf megys cynorthwywr i Mr. Henry Maurice. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1688, a phreswyliodd yn y Gwynfryn. Ni chai na gwas na morwyn, ond rhyw rai na chymerai neb arall mohonynt. Cafodd o'r diwedd ryw greadur annosparthus ac ymladdgar yn forwyn, a byddai hono yn rhegu ac yn diawlio, fel pe buasai o ddyben i'w boeni. Sylwodd hon y byddai ei meistr yn cilio i'r parlwr yn fynych wrtho ei hun. Un tro dywedodd hithau wrthi ei hun, Pa beth y mae yr hen ddiawl yn ei wneyd acw? Edrychodd trwy dwll y clo, a chanfu y gŵr duwiol ar ei liniau, a'r dagrau yn у llifo ar hyd ei ruddiau; a thrwy hyny fel moddion dechreuol, enillwyd y creadur ysgeler i garu crefydd a duwioldeb: ac o у hyny allan bu yn aelod defnyddiol yn yr eglwys. Yr oedd Mr. Phillips yn wr hŷf a gwrol o ran ei dymher; a chan fod y Weithred o Oddefiad (Act of Toleration) wedi dyfod allan, cafodd le i bregethu yn Nghaernarfon. Parhaodd i weinidogaethu yno, ynghyda manau ereill, tra bu efe byw: ond nid nemawr ymhellach, am lawer o flynyddoedd, y bu pregethu yn Nghaernarfon gan yr Ymneillduwyr.
YMOF. Pwy a fu yn gweinidogaethu yn Mhwllheli ar ol Mr. Phillips?
SYL. Un Mr. John Thomas, o ryw barth o'r Deheudir. Bu yntau yn byw yn y Gwynfryn, a bu yn weinidog ffyddlon i'r eglwys tra parhaodd ei oes. Nid oedd ei ddoniau yn helaeth; ond am ei dduwioldeb a thynerwch ei gydwybod, nid yn hawdd y ceid ei gyffelyb. Prin y medrai ofyn am ei eiddo yr hyn a dalai, gan dynerwch ei gydwybod. Un tro rhoddes ryw ddau ddiffaethwr ar waith i wneuthur rhyw adeilad iddo; hwythau, o dra dirmyg ar grefydd, a wnaethant y gwaith mor dwyllodrus fel y syrthiodd i lawr yn ebrwydd ar ol ei orphen: yna daethant at yr hen wr duwiol yn ddigywilydd i ofyn eu cyflog. Pa fodd y talaf i chwi, ebe yntau, gan fod y gwaith wedi syrthio? Ypa y ddau ddibiryn ystrywgar a gymerasant arnynt ymwylltio a rbegi y naill y llall, a thaeru yn haerllug â'u gilydd. Arnat ti, fulain (ebe un) yr oedd y bai. Celwydd, genaw (medd y llall,) arnat ti yr oedd y bai. Tewch, druain, y meddai yr hen wr duwiol a diniwaid wrthynt; peidiwch a thyngu, a mi a dalaf i chwi y cyfan: ac felly y bu. Hwythau a aethant ymaith dan chwerthin yn eu dyrnau, heb feddwl dim am y cyfrif yn y farn fawr am weithred mor ysgeler. Deuai i lawr weithiau o'i lyfrgell pan y byddid yn twymo y ffwrn, fel y gallai yr olwg ar y fflamau dychrynllyd adgofio iddo echrys boenau y damnedigion. Ar ol Mr. John Thomas bu Mr. David Williams yma dros ychydig. Nid oedd efe ond gwanaidd o gorph, ac yn afiachus y rhan amlaf. Aeth yn ol i'w wlad, sef y Deheudir, a bu farw yn lled ieuangc. Yr oedd у ei dduwioldeb yn amlwg, a bu yn fendith i lawer tra bu efe yma. Ar ol hyny daeth Mr. Richard Thomas, o'r Deheudir, i fod yn weinidog i'r eglwys yn Mhwllheli, a'r manau ereill perthynol i'r corph pryd hyny. Yr oedd yn ŵr o gyneddfau cryfion, ac anghyffredin ei gôf, ac yn fedrus mewn meddyginiaeth: ond dywedir iddo wyro yn ei farn i ryw raddau oddiwrth y wir athrawiaeth. Ni bu yn gysurus i'r eglwys, nag o nemawr adeiladaeth yn eu plith. Ymrwystrodd yn ormodol â negeseuau y bywyd hwn: ac wrth ymdaith ar y môr ynghylch rhyw fasnach fydol, boddodd wrth ochr tir yr Iwerddon. Ar ol y ddamwain anghysurus hon, buont dros ryw gymaint o amser heb weinidog: ond yn mhen enyd, dewisasant Mr. Rees Harris yn weinidog iddynt. Bu ef yn eu plith dros amryw o flynyddoedd, yn ddiwyd a llafurus; gorphenodd ei yrfa, wedi treulio ei ddyddiau yn ddiargyhoedd a chariadus yn mysg ei frodyr, ac yn ei ardal. Ar ol marw Mr. Harris, dewiswyd Mr. Benjamin Jones i weinidogaethu yn eu plith; ac efe yw eu bugail yn bresennol. A chan mai fy amcan yn hyn o ymddiddan yw ceisio achub rhag myned i dir anghof ryw ychydig o hanesion yr amseroedd a 'aethant heibio, gadawaf i'r oes nesaf goffáu am llwyddiant a defnyddioldeb y gŵr da hwnw.
YMOF. A ddygwyddodd dim neillduol o arwyddion gwir grefydd mewn un cwr arall o'r wlad, heblaw y manau a soniasoch?
SYL. Yr oedd gwr yn mhlwyf Llanllechid, yn agos i Fangor, yn berchen ar le a elwir Palas Ofa. Dygwyd ef i fyny yn weinidog o eglwys Loegr, a chafodd ei osod yn esgob Kilkenny yn yr Iwerddon. Gorfu iddo ffoi oddiyno yn amser y brenin Charles y cyntaf, mae'n debyg, pan y lladdwyd dau can' mil o Brotestaniaid yn yr Iwerddon. Daeth cenad ar ei ol i chwilio am dano i Balas Ofa: cyfarfu hwnw âg ef mewn hen ddillad gwael, gerllaw y tŷ, a chryman drain ar ei fraich. Gofynodd iddo a welsai ef yr esgob? Dywedodd yntau wrtho, Yr oedd efe yma yn bur ddiweddar. Felly fe aeth hwnw ymaith heb gael ei ysglyfaeth. Dygwyddodd, tra bu ef yn ymguddio yn ei hen gartref, fod yno wylnos, ac yntau yn llechu yn y llofft. Cafodd ryw foddlonrwydd yn ngwaith y clochydd yn darllen yn yr wylnos. Pan gafodd gyfleustra, gyrodd am dano; ac wedi ymddiddan llawer ag ef, a chael lle i farnu ei fod yn ddyn duwiol, anogodd ef i ddyfod ato ef i Kilkenny, i gael ei urddo yn gurad yn Llanllechid. Ac wedi i'r dymhests fyned drosodd, ac i'r esgob fyned yn ol, aeth yntau drosodd, ac urddwyd ef; a bu yn gweinidogaethu yn Llanllechid amryw flynyddoedd. Darllen Homili y bu, dros ryw amser, yn lle pregethu. Enw y gŵr oedd Rhys Parry: ond am ei fod o radd isel, ac yn enwedig am ei fod yn tueddu at wir grefydd, gelwid ef gan y cyffredin, mewn ffordd o wawd, Syr Rhys.[3] Ond er gwaeled oedd yr offeryn, arddelodd Duw ef i ddychwelyd amryw o'u ffyrdd drgionus, ac i droi eu hwynebau at Dduw: ac er nad oeddynt ond praidd bychain, cawsant eu herlid yn chwerw. Byddai gorfod arnynt ddiangc i'r mynydd i ymgyfarfod i weddïo, i ganu mawl, ac i hyfforddi eu gilydd yn nghylch mater eu heneidiau: ond nid oes hanes i'r symlrwydd oedd yn eu plith barhau nemawr ar ol yr oes hòno. Gadawodd yr esgob y Palas Ofa i dlodion Llanllechid dros byth; ac y mae yr ardreth, sef yr arian, i'w rhanu bob haner blwyddyn. Enw yr esgob oedd Griffith Williams, ond gelwid ef yn gyffredin yr Esgob Williams. Argraffwyd llyfr lled fawr o'i waith, ar ddull corph o dduwinyddiaeth, yn mha un yr ymddengys yn amlwg ei fod yn oleu ac yn gadarn yn y wir athrawiaeth; ac nid yw yn anhawdd archwaethu wrth ei ddarllen, fod ei enaid yntau ei hun yn brofiadol o'r unrhyw.
YMOF. A oes eto ddim gwir deilwng o'u coffâu o hanesion yn yr amseroedd tywyll hyny?
SYL. Meddyliwn na byddai yn anfuddiol coffâu ychydig am y gwŷr enwog a fuont yn offerynol i gyfieithu yr Ysgrythyrau sanctaidd i'r iaith Gymraeg.—Y cyntaf a anturiodd at y gwaith canmoladwy a llafurus hwn oedd William Salisbury, o'r Cae du, yn Llansanan, Sir Ddinbych. Cyfieithodd y Testament Newydd, gan mwyaf ei hun, ac argraffwyd ef yn y flwyddyn 1567. Argraffodd hefyd rai llyfrau bychain ereill. Nid oes lle i amheu nad oedd yn wr duwiol, ac ymdrechgar iawn dros achos Duw a llesâd eneidiau anfarwol. Bu y Cymry 21 o flynyddau wedi hyny heb gael y Beibl yn gyflawn: yr hyn o'r diwedd a ddygwyd i ben trwy lafur y Doctor William Morgan, yr hwn oedd y pryd hyny yn ficar yn Llanrhaiadr yn Mochnant. Ganwyd ef yn Ewybr-nant, yn mhlwyf Penmachno, yn Sir Gaernarfon. Dygodd y plwyfolion ryw achwyniad arno at yr esgob. Mae lle i feddwl mai ei lymder yn erbyn eu drwgfoesau hwy a fu yr achos iddynt chwilio allan rywbeth yn ei erbyn. Wedi ymddangos o hono ger bron yr archesgob, wrth iddo ymddiddan â'r Dr. William Morgan, cafodd le i farnu ei fod yn nodedig o hyddysg yn yr ieithoedd gwreiddiol, yn mha rai yr ysgrifenasid yr Ysgrythyrau. Gofynodd yr archesgob iddo, a oedd efe mor hyddysg yn yr iaith Gymraeg ag oedd efe yn yr ieithoedd gwreiddiol. Atebodd yntau, Gobeithio, fy arglwydd esgob, y bernwch fy mod yn fwy cyfarwydd yn iaith fy mam nag mewn un iaith arall. Yna yr esgob, yn lle gwrando ar enllib y plwyfolion, a anogodd y doctor i gyfieithu yr hen Destament (yr hwn yr oedd efe eisoes wedi ei ddechreu,) ac felly daeth argraffiad o'r Bibl allan yn gyflawn yn y flwyddyn 1588. Er mai Doctor Morgan oedd prif awdwr y cyfieithiad hwn, eto yr oedd amryw yn ei gynorthwyo, sef y Doctor W. Hughes, o Sir Gaernarfon, esgob Llanelwy. Cynorthwywr arall, haelionus o thirion iawn, a fu Doctor John Whitgifft, archesgob Caergaint, sef drwy ei gynghorion, ei haelioni, a'i esiampl i ereill i fod yn gynorthwyol yn y gwaith ardderchog hwnw, er mai Sais ydoedd ef ei hun. Hefyd y Doctor Hugh Bellot, yr hwn a wnaed yn esgob Bangor, a fu yn gynorthwyol iawn i ddwyn y gwaith mawr yn mlaen. Y Doctor Gabriel Goodman hefyd sydd yn deilwng o fod mewn coffadwriaeth, am ei gymhorth a'i garedigrwydd yn lletya y Dr. W. Morgan, tra bu yn golygu argraffiad y Bibl, heblaw ei gynorthwyon mewn amryw ffyrdd ereill. Yn nesaf yr enwir y Doctor David Powell, ficar Rhiwabon, yr hwn oedd wr tra dysgedig, yn Gymro rhagorol, a hyddysg iawn yn hanesion ei wlad; nid oes amheuaeth na bu y gŵr enwog hwn yn gynorthwyol iawn i'r gwaith. Cynorthwywr nodedig arall oedd Edmund Prys, archddiacon Meirionydd, yr hwn oedd ysgolhaig mawr a phrydydd enwog. Cyfansoddodd y Salmau ar gân, y rhai sydd mewn derbyniad mawr, ac a arferir yn y rhan fwyaf o eglwysi Cymru hyd heddyw. Ganwyd ef yn y Gerddi bluog, a bu fyw yn y Tyddyn du, gerllaw Maentwrog, yn yr hwn blwyf yr oedd ef yn berson, ac yno y claddwyd ef. Wedi mawr lafur ac ymdrech y gwŷr dysgedig hyn, daeth y Bibl allan, fel y soniwyd, yn y flwyddyn 1588. Diwygiodd y Doctor William Morgan lawer ar gyfieithiad Mr. W. Salisbury o'r Testament Newydd yn y flwyddyn 1567.
Ond yn gymaint ag na argraffwyd nemawr yn ychwaneg o Fiblau y pryd hyny nag un i bob Llan, nid oedd y wlad yn gyffredin yn gwybod fawr am dano, ond yr hyn a glywent ddarllen o hono ar y Sabbath yn yr eglwysydd: a chan nad oedd ond prinder o honynt ar y cyntaf, a llawer o honynt wedi darn ddryīlio, gwelodd rhai gwŷr dysgedig fawr angenrheidrwydd am argraffiad drachefn o'r Bibl sanctaidd, ac hefyd bod eisiau perffeithio a diwygio peth ar gyfieithiad y Dr. Morgan. Felly y Doctor Richard Parry (ar ol hyny esgob Llanelwy,). a gymerodd y gorchwyl pwysfawr mewn llaw: a'r Bibl sanctaidd a argraffwyd yr ail waith yn y flwyddyn 1620. Y cyfieithiad hwn o eiddo y Dr. Parry sydd genym yn arferedig hyd heddyw. Yr oedd yr enwog a'r dysgedig Dr. John Davies, person Mallwyd, yn gynorthwywr defnyddiol i'r Dr. Parry, yn y gwaith llafurus hwn. Dywedir i'r Dr. Davies gael ei ddwyn i fyny gyda'r Dr. Morgan; ac felly cafodd fantais fawr yn ieuangc i fod yn fedrus ymhob dysgeidiaeth, yn enwedig yn iaith ei wlad. Dywed ef ei hun (ac ereill hefyd) ei fod yn cynorthwyo y Dr. Morgan a'r Dr. Parry yn y ddau gyfieithiad uchod o'r Bibl i'r Gymraeg. Dyma y gwyr enwog a fuont mor. ymdrechgar i ddwyn gair Duw i'n gwlad, er's mwy na dau can' mlynedd bellach: ac er y dylem yn benaf roddi y clod i'r Duw mawr, yr hwn a addasodd ac a dueddodd gynifer at waith mor dda, ac a'u cynorthwyodd i fyned trwy orchwyl mor bwysfawr, eto dylai coffadwriaeth y gwŷr clodfawr hyn seinio yn beraidd yn ein gwlad, a'u parchu gan ein cenedl tra b'o haul yn goleuo; gan fod medi mor helaeth o ffrwyth yr hâd a hauwyd mor gynar yn ein gwlad. Gwŷr o Wynedd, sef Gogledd Cymru, oedd pob un o'r cyfieithwyr: yr oeddynt mor ddysgedig yn yr Hebraeg a'r Groeg, fel, o bosibl, nad oes un cyfieithiad yn y byd yn well na'r un Cymraeg; ac er ei fod yn hir cyn dyfod, eto fe'i gwnaed yn dda yn y diwedd.
YMOF. Wele, rhyfedd drugaredd Duw yn gwawrio ar Gymru, wedi hir nos o dywyllwch dudew! Ond gan fod y ddau argraffiad a soniasoch bris mawr, ac hefyd yn lled brinion, pa fodd yr agorwyd y ffordd i'r gwerinos tlodion allu cael y Bibl sanctaidd o fewn cyrhaedd iddynt ei bwrcasu?
SYL. Yn y flwyddyn 1630 daeth trydydd argraffiad o'r Bibl allan, mewn llythyrenau mân, fel y gallai y tlodion ei bwrcasu, yn mhen deng mlynedd ar ol yr ail argraffiad. Y gorchwyl elusengar a daionus hwn a ddygwyd ymlaen ar draul dau wr enwog o hiliogaeth y Cymry, yr rhai oeddynt y pryd hyny yn henuriaid (aldermen) yn ninas Llundain; sef Mr. Rowland Heylen, a Syr Thomas Middleton, o enedigaeth o Gastell y Waun, gerllaw Croesoswallt, Sir yr Amwythig; a rhyw rai ereill yn eu cynorthwyo. Mae Mr. Stephan Hughes, yn ei lythyr o flaen Llyfr y Ficar, yn dywedyd mai Syr T. Middleton, yn anad neb arall, a ddangosodd y drugaredd hon gyntaf i'n gwlad ni, sef i fod mewn traul i argraffu y Bibl yn llyfr bychan er budd cyffredin i'r bobl; er ei fod o'r blaen yn llyfr mawr yn yr eglwysydd. Ebe ef yn mhellach, "Yr wyf fi yn dymuno o'm calon ar Dduw ar i bob bendith ysprydol a thymhorol ddisgyn ar bob un o hiliogaeth Syr T. Middleton, yn Ngwynedd neu un lle arall. Rhodded Duw iddynt fendithion aneirif fel tywod y môr, fel glaswellt y ddaear, ac fel sêr y nefoedd. A bydded i bob un yn Nghymru ag sydd yn caru Duw, ac yn hiraethu am iachawdwriaeth eneidiau anfarwol, gyduno i gyhoeddi o'u calon, Amen, ac Amen, boed felly. O Arglwydd grasol, bendithia eppil Syr Thomas Middleton, a bydded ei enw dros byth yn anrhydeddus." Pan ddaeth yr argraffiad hwnw o'r Bibl allan y canodd y gŵr duwiol hwnw, Mr. Rees Pritchard, ficar Llanymddyfri, anogaethau difrifol i brynu y Bibl, dysgu ei ddarllen, a'i iawn ddefnyddio. Rhan o'i ddwys gynghorion a welir yn y geiriau canlynol:
Mae'r Bibl bach yn awr yn gyson, |
Pob merch tincr gyda'r Saeson, |
YMOF. Gan i'r wawr nefol ddechreu tywynu ar ein cenedl, adroddwch pa fodd у bu arnynt wedi hyn am Fiblau.
SYL. Daeth argraffiad arall allan yn y flwyddyn 1654. Yr oedd llawer o feiau a gwallau yn yr argraffiad hwnw; ac nid yw yn gwbl hysbys pwy a fu yn offerynol i'w ddwyn allan. Tybia rhai mai Mr. Vavasor Powell, a Mr. Walter Cradoc, a'u cyfeillion, a gawsant y fraint o ddyfod a'r gorchwyl i ben. Daeth allan argraffiad o'r Testament Newydd yn y flwyddyn 1647. Bu Mr. Stephan Hughes, a drowyd allan o Eglwys Meidryn, yn Sir Gaerfyrddin, yn ddefnyddiol iawn yn ei oes i daenu yr efengyl ymhlith y Cymry. Cyfieithodd ac argraffodd lawer o lyfrau er budd i'r Cymry tlodion. Llwyddodd hefyd i gaei cynorthwy amryw o foneddigion y wlad i gael argraffiad drachefn o'r Bibl yn y flwyddyn 1678. Yr oedd yn y cyfamser ŵr tra haelionus, a llafurus iawn dros y Cymry, yn byw yn Llundain, sef Mr. Thomas Gouge. Rhoddodd ysgolion rhad mewn llawer o drefydd yn Nghymru, a chyfranodd Feiblau, Testamentau, a llawer o lyfrau ereill i'r tlodion. Nid yn unig yr oedd yn rhanu braidd ei holl feddiannau ei hun, ond hefyd yr oedd yn anog ac yn cymhell llawer ereill i wneuthur lles i'r Cymry. Bu hefyd yn gynorthwy i ddwyn allan yr argraffiad o'r Bibl y soniwyd uchod am dano. Yr oedd Stephan Hughes wedi bwriadu rhoddi argraffiad drachefn o'r Bibl allan, ac wedi parotôi at hyny: ond cafodd ei alw i orphwyso oddiwrth ei lafur cyn cyflawni ei amcan. Ar ol marw S. Hughes, cymerodd David Jones, a droisid allan o Landyssilio, Sir Gaerfyrddin, y gorchwyl llafurus mewn llaw; a thrwy gynorthwy amryw weinidogion, yn benaf o Lundain, daeth argraffiad allan yn y flwyddyn 1690. Wedi hyny daeth argraffiad arall o'r Bibl allan, gan wr cymwynasgar, ac addas i'r gorchwyl, sef Moses Williams, Ficar Dyfynog yn Sir Frycheiniog, yr hwn oedd ysgolhaig da a Chymro rhagorol. Yn y flwyddyn 1718 y daeth yr argraffiad hwn allan, trwy gynorthwy y Gymdeithas anrhydeddus a sefydlwyd (er's mwy na chân' mlynedd) er helaethu gwybodaeth Gristionogol. Y mae y Cymry fel cenedl dan rwymau neillduol i gydnabod daioni a chariad Duw tuag atynt am iddo dueddu a chynal y Gymdeithas enwog hon gynifer o flynyddoedd i anrhegu y Cymry â thros driugain mil o y Fiblau, o'r flwyddyn 1718 hyd y flwyddyn 1769: a pha faint o filoedd ar ol hyny nis gallaf ddywedyd; heblaw llawer o filoedd o lyfrau da ereill a lifodd i'n plith o haelioni y Gymdeithas odidog hon. Ni bu yn mysg y Cymry er pan y maent yn genedì, y filfed ran o Fiblau ag sydd yn awr. Yn y flwyddiyo 1460 yr argraffwyd y llyfr cyntaf erioed yn y deyrnas hon: ac nid oedd cyn hyny un llyfr i'w gael ond mewn ysgrifen-law. Yn y flwyddyn 1803 ffurfiwyd y Gymdeithas odidog hono yn Llundain ag sydd o gymaint bendith i filoedd o ddynolryw, sef Bibl Gymdeithas Frytanaidd a Thramor. Y mae hon a'i chylch yn helaethach na'r Gymdeithas a soniwyd am dani o'r blaen. Mae ei llwyddiant eisoes yn anhraethol fawr, a'i hadenydd yn ymestyn dros ryw ranau o holl barthau y byd. Ei chynorthwywyr ydynt dra lluosog drwy holl Frydain, a llawer o deyrnasoedd ereill; yn gynwysedig o bob gradd a sefyllfa o ddynion: tywysogion, esgobion, ynghyda llawer o eglwyswyr o bob gradd, ac ymneillduwyr o bob enw, goreugwyr penaf y deyrnas, ¡e, y tlodion hefyd, yn ol eu gallu, yn bwrw eu hatlingau yn siriol i'r drysorfa hon. Nid oes yn y Gymdeithas hon ddim cilwg gan wahanol enwau a phleidiau crefyddol y naill tuag at y llall; ond pawb blith draphlith yn cyduno yn siriol, ac â'u holl egni yn defnyddio pob moddion tuag at lwyddiant y gwaith gogoneddus hwn.
YMOF. Rhyfedd diriondeb trugaredd yr Arglwydd tuag atom!! Ond trwy bwy, a pha fodd y dechreuodd y Gymdeithas fendithiol hon?
SYL. Er yr holl filoedd o Fiblau a ddaethai i'n gwlad o bryd i bryd, yr oedd llawer o gannoedd, ïe, filoedd o bersonau unigol, heblaw teuluoedd lawer, drwy'r dalaith, yn hollol amddifad o honynt. Cynhyrfodd hyn dosturi y Parch. Thomas Charles o'r Bala, i ystyried pa fodd i gael Biblau i'r Cymry tlodion: ac wedi' methu llwyddo dros amser, gosododd y peth gerbron ei gyfeillion yn Llundain, a llwyddodd yn ei amcan i gael Biblau i'r Cymry. Ac wrth sefydlu trefn i fyned trwy y gorchwyl, daeth i feddwl rhai o'r cyfeillion, fod cymmaint, a mwy o eisiau Biblau ar filoedd o drueiniaid tywyll paganaidd, trwy amrywiol barthau y byd, nag oedd ar y Cymry. Wrth ystyried hyny, penderfynwyd i bawb oedd yn bresennol, gydymroddi i osod y sylfaen i lawr, drwy gyfranu yn haelionus tuag at ddechreu dwyn ymlaen y gorchwyl bendithfawr hwn. Ac er nad oedd ei ddechreuad ond bychan, megys cwmwl a welwyd yn codi o'r môr fel cledr llaw gwr, eto, efe a daenodd dros yr holl nefoedd. Felly y gwaith tra rhyfedd hwn sydd yn ymledaenu ac yn llwyddo fwy fwy; ac y mae lle i obeithio ac i gadarn hyderu yn wyneb llawer o addewidion mawr iawn a gwerthfawr, Nad yw hi eto ond dechreu gwario; ond y llenwir y ddaear o wybodaeth yr Arglwydd.
YMOF. Y mae yn dda genyf gyfarfod â chwi, fy nghyfaill caredig, i glywed y newyddion diddanus hyn genych: ond a ellwch chwi gofio am ryw rai ereill yn yr amseroedd tywyll gynt a pheth daioni ynddynt tuag at Arglwydd Dduw Israel?
SYL. Yn fuan ar ol marwolaeth y Frenines Ann, pregethodd y Doctor Hoadley, esgob Bangor, o flaen y brenin (Sior, cyntaf) ar freniniaeth Crist. Yn y bregeth dangosodd nad oedd teyrnas Crist o'r byd hwn, ac na wnaeth Crist erioed esgobion yn arglwyddi, ac na roddodd efe iddynt yr awdurdod a honent fod ganddynt; ac wedi hyny ysgrifenodd llyfr i'r un perwyl. Cafodd ei wrthwynebu i'r eithaf gan Doctor Sherlock, ac ereill; ond amddiffynodd y llywodraeth ef fel na wnaed iddo niweid. Yn nechreuad teyrnasian William a Mary, yr oedd yn byw yn y Gesail gyfarch, gerllaw Penmorfa, y Doctor H. Humphreys, esgob Bangor, yr hwn oedd wr mwynaidd, o rodiad hardd, isel a gwael yn ei olwg ei hun. Prawf o'i ostyngeiddrwydd a ymddengys yn ei ymddygiad at hen wr duwiol (yn ol pob argoelion,) sef Owen Griffith o Lanystumdwy, yr hwn oedd brydydd canmoladwy yn ei oes. Pan y dygwyddai i'r hen wr fyned i wrando ar yr esgob, er nad oedd ond tlawd o ran ei sefyllfa, eto parchai yr esgob ef, gan ei yru o'r Llan o'i flaen, a dywedyd wrtho, "Y mae dawn Duw genyt ti, Owen bach; ond nid oes genyf fi ddim ond a gefais am fy arian." Gellir meddwl ei fod yn fwy diduedd na llawer, gan i'r brenin William ei ddewis, yn mysg ereill, i roddi ymgais at wneyd heddwch rhwng Eglwys Loegr a'r Ymneillduwyr, yr hyn beth yr oedd y brenin yn ei fawr ewyllysio.
YMOF. Oni b'ai fod arnaf ofn eich blino, erfyniwn arnoch roddi byr ddarluniad o agwedd ein gwlad yn yr amseroedd gynt, cyn i freintiau'r efengyl ddyfod mor helaeth i'w mysg ag y maent yn y dyddiau hyn?
SYL. Anwybodaeth a thywyllwch dudew oedd yn gorlenwi y wlad. Nid oedd ond ychydig yn medru darllen. Prinion iawn oedd Biblau, ac nid oedd ond ychydig o lyfrau ereill wedi eu hargraffu yn yr iaith Gymraeg y dyddiau hyny: o ba herwydd yr oedd llawer iawn o weddill Pabyddiaeth yn aros yn y wlad. Pan y byddai gwraig yn esgor, gweddïai y fydwraig a hithau yn daer ar i Dduw a Mair wen ei chymhorth. Hwy a ddysgent eu plant, ac arferent eu hunain, wrth fyned y nos i'w gwely (a'r bore hefyd, os caent hamdden) ddywedyd y Pader, sef Gweddi'r Arglwydd, y Credo, a'r Deg gorchymyn,[4] ynghyda rhyw wag ddychymyg, ffôl a alwent Breuddwyd Mair; yr oedd hwnw yn fwy cymeradwy yn eu golwg nag un o'r lleill. Arferai bagad o'r cymydogion ymdyru at eu gilydd y nos o flaen claddedigaeth y marw, a byddai pawb yn myned ar eu gliniau pan ddelent gyntaf i'r tŷ. Gellir meddwl mai dechreuad yr arfer hon oedd, gweddïo am ddedwyddol ymwared enaid eu cyfaill marw allan o'r purdan.—Yna darllenai y clochydd, neu ryw un arall, ryw ranau o wasanaeth y claddedigaeth, er y byddai llawer o afreolaeth ac ysgafnder tra y cyflawnid hyny; ac wedi hyny, pob math o chwareyddiaethau a ddylynid hyd haner nos, neu ysgatfydd byd ganiad y ceiliog. Nid oedd un gwaharddiad i'r ynfydrwydd hyn gael ei gyflawni, oni byddai i wr neu wraig farw yn nghanol eu dyddiau, a gadael o'u hol blant amddifaid neu berthynasau galarus. Fe ddygwyddodd un tro mewn wylnos rhyw hen ferch, i'r chwareu barhau nes darfu y canwyllau: a phryd nad oedd ganddynt ond ychydig o lewyrch tân i chwareu cardiau wrtho, aeth rhyw langc eithaf rhyfygus, ac a gymerth y corph yn ei freichiau (yr hwn oedd y pryd hyny heb ei roddi mewn arch) gan wneuthur oerleisiau i ddychryn ei gyfeillion ynfyd; a bu mor drwstan a syrthio i lawr yn eu canol hwynt, a'r corph yn ei freichiau.
YMOF. Galarus meddwl mor anystyriol a phechadurus oedd agwedd ein gwlad yn y dyddiau tywyll hyny; yn enwedig yn wyneb amgylchiad mor sobr a gweled un o flaen eu llygaid wedi myned trwy borth angeu i'r farn a thragywyddoldeb, a hwythau eu hunain ar syrthio dros y geulan. —Y mae yn gof genyf glywed fy nhaid yn son am ryw beth a elwid Diodlas, neu, Diodles. A gaf fi glywed genych pa beth oedd hwnw?
SYL. Pan ddygwyddai i ryw un farw mewn teulu, byddai rhywun tlawd a ddewisai y teulu yn cael y ffafr o dderbyn y gardod ddedwydd hono, sef y ddiodles. Y dull o'i rhoddi i'r tlawd oedd fel hyn; anfonai y teulu gwpan at wneuthurwr yr arch i'w lliwio yr un lliw a'r arch: (dau liw a arferid ar eirch y pryd hyny; lliw du ar eirch rhai wedi bod yn brïod, a lliw gwŷn ar eirch rhai sengl:) a phan ddeuai dydd y claddedigaeth, wedi dodi y corph ar elor, cyflwynai penaeth y tŷ yr elusen у goelgrefyddol i'r tlawd; sef forth fawr o fara da, a darn helaeth o gaws, a dryll o arian yn blanedig yn y caws, a llonaid y gwpan liwiedig o gwrw, os byddai, neu o laeth, gan eu hestyn dros y corph i'r tlawd.' Yntau a fendithiai, ac a weddïai yn ddwys a difrifol gydag enaid y marw. Arferai yr holl deulu, у Sul cyntaf ar ol claddu, fyned ar eu gliniau ar y bedd, pob un i ddywedyd ei Bader. Ac ni choffäent am neb o'u teulu na'u perthynasau, wedi eu meirw, heb ddywedyd yn ddefosiynol iawn, "Nefoedd iddo."
YMOF. Ni allaf lai na sýnu wrth glywed genych am gymaint o weddillion Pabyddiaeth a lynodd yn ein gwlad, wedi taflu yr iau Babaidd oddiar yddfau ein hynafiaid. Mae yn ddïau mai oddiar y dŷb wyrgam fod eneidiau ar ol marw yn myned i'r Purdan, y tarddodd yr arferiad o roddi dïodles dros y marw; ac hefyd, yr arferiad o ddywedyd, Nefoedd iddo, wrth son am un o'u cyfeillion trangcedig. O herwydd pe buasent yn credu fod pawb yn eu mynediad trwy borth angeu, yn myned yn ebrwydd, naill ai i'r nefoedd neu i uffern, ofer ac ynfyd yn eu golwg fuasai rhoddi gweddi nac offrwm drostynt byth mwy.
"Ffei o'r Pab a'i wael aberth,
Burdan gwael, a'i bardwn gwerth."
Mae arnaf chwant gwybod, onid yw yr arferiad o offrymu sydd yn aros eto yn ein mysg, yn sawru yn gryf o Babyddiaeth?
SYL. Sicr iawn mai Pabyddiaeth digymysg yw, er nad oes un o gant, yn ein dyddiau ni, yn edrych arno yn ddim amgen nag arfer gwlad, a thâl am gladdu. Dalier sylw fod y gair offrwm, ynddo ei hun, yn arwyddo rhywbeth mwy na chyflog am gladdu; sef rhyw aberth tuag at gael cymhorth gweddïau i brysuro yr enaid o'r lle poenus hwnw, sef y Purdan. Golygwch blant amddifaid, wrth gladdu eu tad caruaidd, neu eu hanwyl fam, yn dyfod at yr allor dan wylo dagrau, a'u calonau ar dori, wrth feddwl fod eu rhieni tirion yn poeni yn fflamau tanllyd y Purdan. Oni allech chwi feddwl yr offryment yn ewyllysgar, er mwyn eu cael ar frys oddiyno? Yr un modd, yn ddiau, y gwnai tad neu fam ar ol un o'u hanwyl blant. Ac am y perthynasau ereill, ynghydag amryw o'r cymydogion, ni allai y rhai hyny lai, o dosturi, nag aberthu rhyw gymaint dros eu hen gyfaill caredig, tuag at ei ddedwyddol ymwared o'r lle poenus hwnw.
YMOF. Mae drueni fod y ddefod goelgrefyddol hon yn cael ei dal i fyny yn barhaus. Diau y dylai yr Eglwyswyr eu hunain ei ffieiddio, a dywedyd yn onest yn ei herbyn. Ond am eu bod gan mwyaf heb ystyried ei natur, neu yn hytrach yn caru budr elw, gwell ganddynt dewi a son. Ond a oedd yn yr amseroedd gynt (ac eto fe allai yn ormodol) lawer o ofergoelion heblaw a soniasoch eisoes?
SYL. Oedd, beth aneirif. Llawer oedd yn coelio y medrai y rhai a fyddent yn dywedyd tesni neu ffortun, ragfynegu eu helyntion yn yspaid eu hoes. Cyrchu mawr a fyddai at ryw swynwr, pan fyddai dyn neu anifail yn glaf: a choel mawr fyddai gan lawer i'r Almanac. Sylw neillduol a fyddai ar bob math o freuddwydion gan y rhan fwyaf; a llawer iawn yn cymeryd arnynt eu deongli. Llawer ofergoelion a arferid wrth weled y lloer newydd: a braidd yr ehedai aderyn, ac y cai yr oen bach diniwaid ymddangos, na'r falwoden ymlusgo, heb ffurfio rhyw ddychymyg am yr hyn a ddygwyddai iddynt y flwyddyn ganlynol. Mewn gair, braidd y dodent ewin ar eu croen heb ryw goel. Ond mi derfynaf ar hyn yn ngeiriau yr hen ddiareb "Pob diareb gwir, pob coel celwydd."
YMOF. Mae yn amlwg, fel y dywed y gŵr doeth, fod trueni dyn yn fawr arno: ac er gwneuthur o Dduw ddyn yn uniawn, hwy a chwiliasant allan lawer o ddychymygion. Ond ewch rhagoch gan adrodd ychydig pa fodd yr oeddynt yn treulio y Sabbathau yn ein gwlad yn y dyddiau tywyll hyny.
SYL. Tra halogedig a phechadurus yn gyffredinol. Mewn rhai manau cyflogid cerddor dros y tymhor haf, i ganu i dorf annuwiol o ynfydion gwamal a ymdyrent i ryw lanerch deg, ar fynydd, neu ryw gytir arall, i gynal math o gyfarfod annuwiol a elwid, Twmpath chwareu, neu chwareuyddfa gampau. Byddai yno, nid yn unig ganu a dawnsio, ond amryw ereill o arferion gwageddol, yn cael eu cyflawni, a hyny tra parhai goleu dydd iddynt. Ymgasglai ereill i'r pentrefi i chwareu y bêl a'u holl egni, hyd yn nod ar yr anedd gysegredig: ac ereill yn fawr eu lludded yn erlid y bêl droed, ac weithiau yn tori aelodau eu gilydd yn yr ymrysonfa. Treuliai ereill y Sabbathau yn y tafarndai, i ymdrybaeddu mewn meddwdod hyd dranoeth; ac yn fynych ni ddybenid y cyfarfodydd llygredig hyn heb ymladdfeydd gwaedlyd. Yr oedd mewn llawer o ardaloedd un Sul pennodol yn y flwyddyn a elwid gwylmabsant, ac yr oedd hwnw yn un o brif wyliau y diafol: casglai ynghyd at eu cyfeillion luaws o ieuengctyd gwamal o bell ac agos, i wledda, meddwi, canu, dawnsio, a phob gloddest. Parhai y cyfarfod hwn yn gyffredin o brydnawn Sadwrn hyd nos Fawrth. Arferent hefyd weithiau gladdu eu meirw ar y Sabbathau. Alaethus meddwl y dull gwag ac anystyriol a fyddai ar y werin ar ol danfon eu cymydog i dŷ ei hir gartref. Heidient yn lluoedd i'r tafarndai i yfed diod gadarn, i'r dyben i ddiffodd pob ystyriaeth am farw a byd arall o'u meddyliau. Rai gweithiau cyrchent gerddor i'r cwmni i'w difyru, fel y cyrchwyd Samson gynt i beri chwerthin. Fel hyn y treuliodd y rhan fwyaf o'n hynafiaid eu dyddiau, ac mewn moment disgynent i'r bedd. Ond Och! na b'ai pobl yr oes hon, sydd mor helaeth eu breintiau, yn rhagori mwy arnynt mewn rhinwedd nag y maent.
YMOF. Mawr yw yr achos sydd genym i ryfeddu daioni Duw tuag atom, am i'n llinynau syrthio mewn lleoedd mor hyfryd, sef trefnu i ni gael ein geni mewn gwlad ac oes ag y mae yr efengyl yn seinio mor beraidd yn ein clustiau., Os cyfrifodd un o'r hen Feirdd cenhedlig ei hun yn ddedwydd yn ei enedigaeth (er mai mewn oes dywyll y cawsai ei eni) pan y dywedai,
"Ei chyfrif 'rwy'n rhagorfraint imi,
Yn 'r oes hon im' gael fy ngeni."
O! pa faint mwy ni, y rhai y cyfododd Haul cyfiawnder arnom, a meddyginiaeth yn ei esgyll. Ond cyn gadael yr hanes am ddull ein gwlad yr amseroedd gynt, dymunwn glywed genych pa fath athrawiaethau ac egwyddorion crefyddol oedd yn cael eu traddodi a'u derbyn yn y dyddiau hyny.
SYL. Anfucheddol iawn yn gyffredinol oedd yr athrawon, a thywyll a diffrwyth oedd eu hathrawiaethau: ac nid oedd un arwydd fod y gwynt nerthol a'r tân sanctaidd yn gweithredu drwyddynt. Swm a sylwedd yr athrawiaeth gan mwyaf oedd hyn; fod dyn yn cael ei ail-eni wrth ei fedyddio; a bod yn rhaid i bawb edifarhau a gwella ei fuchedd, a dyfod yn fynych i'r eglwys a'r cymun: bod raid i bawb wneyd ei oreu, ac y byddai i haeddiant Crist wneuthur i fyny yr hyn a fyddai yn ddiffygiol; ac mai ar law dyn ei hun yr oedd dewis neu wrthod gras a gogoniant. Cyfrifid cystudd corphorol yn foddion digonol (os nid yn deilyngdod) i addasu dynion i deyrnas nefoedd. —Hyn, ynghyda llawer o bethau cyffelyb, oedd gynt (os nad eto gan lawer) megys rheolau anffaeledig i'r gwrandawyr, wrth ddylyn pa rai (meddynt) y caent etifeddu teyrnas nefoedd.
YMOF. Dyma dywyllwch a ellir ei deimlo, fel hwnw yn yr Aipht gynt. Mae mor beryglus pwyso ar y pethau hyn ag ydyw adeiladu ar y tywod. Nid oes yma son am bechod gwreiddiol, na throi enaid o feddiant Satan, na bywhau trwy ras, na symud o farwolaeth i fywyd; na gair o son am argyhoeddi a dwys bigo y galon, na chrybwylliad unwaith am ffydd, heb yr hon ni ellir rhyngu bodd Duw, nac am gyfiawnhad rhad pechadur trwy gyfrifiad o gyfiawnder yr Arglwydd Iesu Grist, nac ychwaith am sancteiddiad yr Yspryd Glân. Rhag y fath athrawiaethau cyfeiliornus, gwared ni, Arglwydd daionus. Ond, ai yr un egwyddorion oedd gan y gwrandawyr a chan eu hathrawon?
SYL. Pa fodd y gellid dysgwyl yn amgenach? Digon i'r dysgybl fod fel ei athraw. Os dygwyddid weithiau son am enaid, Wele, meddant, os da y gwnawn da y cawn. Yr oeddynt o'r meddyliau y byddai clorian ddydd y farn i bwyso gweithredoedd pawb; as os y rhai da a fyddai drymaf, nefoedd wen i'r rheiny: ond os y gweithredoedd drwg a dröent y clorian, nid llai nag uffern byth a ellid ddysgwyl. Wrth ddyfod o'r addoliad, fe allai y dywedai ambell un lled ddefosiynol, "Onid oedd pregeth dda yn yr eglwys heddyw?" Oedd, oedd (atebai ereill,) pe gwnaem ond yr haner. Yr oedd y Llythyr dan y gareg yn gymeradwy iawn yn y dyddiau hyny, a choel fawr iawn oedd ar-ddaroganau Robin Ddu. Byddai rhyw rai, dan arweiniad Satan, yn cael rhyw ffug o weledigaethau, gan roi allan yn argraffedig eu bod yn gweled nef ac uffern; a byddai y rhei'ny yn effeithio yn fawr ar y gwerinos. Dywedid am gerdd neu garol lled grefyddol, ei bod cystal a phregeth. Rhoddid mwy coel ar aderyn y cyrph a'r wats farw nag ar yr holl Fibl. Os byddai i rai o'r babanod feirw o flaen eu rhieni, yr oeddynt yn coelio y byddai y rhei'ny fel cynifer o ganwyllau i'w goleuo i deyrnas nef, pan y byddent hwythau feirw eu hunain. Digon o'r fath ynfydrwydd bellach: a mi a ddiweddgloaf yn ngeiriau yr apostol, "Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awr hon yn gorchymyn i bob dyn yn mhob man i'edifarhau."
YMOF. Yr wyf yn ddiolchgar i chwi, fy hen gyfaill, am adrodd cymaint a hyn o helynt ein gwlad yn yr oesoedd gynt, Nid oeddwn yn blino arnoch; er hyny y mae brys arnaf am glywed pa bryd, a pha fodd, yr ymwelodd Duw a'n gwlad, i chwalu, mewn graddau, y fagddu o dywyllwch oedd fel cwmwl afiach yn gorchuddio, gan mwyaf, dros holl Wynedd. Pa beth oedd y moddion dechreuol, neu y seren ddydd a ymddangosodd, i arwyddo fod y wawr yn nesâu?
SYL. Er fod Gwynedd, fel y soniwyd, mewn dirfawr dywyllwch ac anwybodaeth, yn enwedig ar ol marwolaeth y gwŷr enwog hyny a fuont yn offerynol i ddwyn gair Duw i'n dwylaw yn ein hiaith ein hunain, fe dorodd gwawr yn y Deheubarth yn foreuach. Tua'r flwyddyn 1620, dechreuodd Mr. Wroth, o Lanfaches, yn Sir Fynwy, bregethu yn enwog ac yn llwyddiannus iawn. A'r gwr enwog hwnw, Mr. Walter Cradoc, tua'r un amser. Mr. Robert Powell, Ficar Cadegstone, yn Sir Forganwg a lafuriodd yn ddiwyd a llwyddiannus hyd y flwyddyn 1640, pryd y gorphenodd ef a Mr. Wroth eu gyrfa a'u llafur yn ngwinllan eu Harglwydd. Yn cydoesi â'r ddau wr enwog hyn yr oedd Mr. Rees Pritchard, ficar Llanymddyfri, yr hwn oedd seren oleu yn ei oes. Yr oedd Mr. Powell a Mr. Pritchard yn gyfeillgar iawn â'u gilydd, ac o fawr gynorthwy y naill i'r llall mewn amser tywyll. Yr oedd hefyd yn yr amser hyny, ac yn ganlynol i hyny, lawer o weinidogion enwog yn mysg yr Ymneillduwyr, y rhai a fuont ffyddlon iawn yn wyneb erlidigaethau chwerwon, ac yn fendithiol i laweroedd yn eu hoes: a bydd eu coffadwriaeth yn arogli yn beraidd hyd ddiwedd. Yn nghylch can mlynedd ar ol y gwŷr defnyddioł uchod, sef yr hen ficar a'i gyfeillion, gwelodd yr Arglwydd yn dda gymeryd yn ei law y Parchedig Griffith Jones, Person Llanddowror, Sir Gaerfyrddin, yr hwn a fu yn ymdrechgar ac yn ddiwyd dros lawer o flynyddoedd, i bregethu yr efengyl i dorfeydd lluosog gyda grym, dwysder, ac arddeliad mawr; a hyny mewn amser ag yr oedd dirywiad trwm, nid yn unig yn yr Eglwys Sefydledig, ond hefyd yn mysg yr Ymneillduwyr. Wrth iddo ystyried fod y wlad gan mwyaf yn anllythyrenog, ac yn dra anwybodus, nid oedd ganddo, dros amser, ddim i'w wneuthur ond ymofidio o'r herwydd: ond daeth i'w feddwl i ystyried a oedd yn bosibl cael rhyw foddion i osod i fyny ysgolion rhad i ddysgu plant tlodion i ddarllen gair Duw, a'u hegwyddori mewn gwir grefydd. Dechreuodd ymosod yn egnïol at y gwaith, a llwyddodd yn ei amcan tu hwnt i bob dysgwyliad; ac o radd i radd, ymdaenodd yr ysgolion rhad dros y rhan fwyaf o holl ardaloedd Cymru, a rhyfedd fendithion a'u dylynodd. Cafodd Mr. Jones gymhorth gan amryw o wŷr cyfrifol a haelionus at y gorchwyl tra angenrheidiol hwn; ond y fwyaf nodedig oedd y bendefiges elusengar hòno, Mrs. Bevan, o Laugharne, yr hon oedd megys mam yn Israel. Cynaliodd hon yr ysgolion ymlaen, gan mwyaf ar ei thraul ei hun, hyd ddiwedd ei hoes, er fod Mr. Jones wedi gorphen ei yrfa flynyddau o'i blaen. Gadawodd ddeng mil o bunnau yn ei hewyllys tuag at barhad y gwaith elusengar hwn hyd ddiwedd amser: ond ryw fodd y mae y rhodd haelionus hono wedi ei throi i lwybr nad ydym ni yn Ngwynedd yn cael dim o'i llesad, na neb yn un man arall nemawr well erddi. Pan ddaeth yr ysgolion hyny gyntaf i Wynedd, daeth y gelyn ac a hauodd efrau yn mysg y gwenith. Trôdd golygwr yr ysgolion allan yn ddyn meddw, a hollol annuwiol; ac felly hefyd yr oedd y rhan fwyaf o'r ysgolfeistriaid. Ond er yr holl annhrefn oedd ar yr ysgolion, cafodd miloedd ynddynt y fraint o ddysgu darllen gair Duw. Ond tuag at atal llwyddiant yr ysgolion, taenwyd chwedl gelwyddog ar hyd y wlad, mai brenhines oedd Mrs. Bevan, ac y byddai yn galw am plant i ryw deyrnas arall: a bu hyn yn atalfa i rai yru eu plant i'r ysgol: eithr diddymwyd y dychymyg gwyrgam hwnw cyn pen hir. Ond er pob peth gellir priodoli dechreuad y diwygiad i'r ysgolion rhad, pa rai a fu fel caniad y ceiliog yn arwyddo fod gwawr y bore ar ymddangos.
YMOF." Ni feddyliais erioed o'r blaen fod yr ysgolion hyny wedi bod mor ddefnyddiol i ragbarotoi y ffordd i gael Dagon i lawr. Ond pa beth oedd yr arwydd cyntaf yn ein gwlad ni, os gellwch gofio, fod gwawr y bore yn nesâu, heblaw yr ysgolion?
SYL. Yr oedd gwr yn byw gerllaw Nefyn, mewn lle a elwir Nant Gwrtheyrn, mewn blinder meddwl ynghylch mater ei enaid. Pa un ai yn ddigyfrwng ai trwy foddion y gweithiodd hyny arno, nis gallaf ddywedyd. Pa fodd bynag, yr oedd yn barnu yn benderfynol nad oedd ef na'i gymydogion yn feddiannol ar rym duwioldeb. Enw y gŵr oedd John Roberts. Yn ei drallod, breuddwydiodd iddo weled megys pen yn dyfod oddiwrth y Dehau, ac yn goleuo y wlad; ac yn llefain, nes bod cyffro a deffroad trwy'r ardaloedd. Trwy hyny credodd y cai weled diwygiad yn y wlad cyn hir; ac felly y bu. Canys yn fuan wedi hyny y torodd diwygiad allan trwy Loegr, Scotland, ac America; a ninau y Cymry tlodion a gawsom gyfranogi yn helaeth o hono. A chafodd y gwr a freuddwydiodd weled a phrofi yn sylweddol yr hyn y breuddwydiodd am dano, a bu yn aelod defnyddiol yn eglwys Dduw hyd ddiwedd ei oes.
YMOF. Y mae hyn yn dwyn ar gôf i mi eiriau yr apostol, "Duw wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd." Dywed Elihu hefyd, Fod Duw yn llefaru unwaith, ïe, ddwywaith, ond ni ddeall dyn: trwy hûn, a thrwy weledigaeth nos, &c. Ond adroddwch rywbeth eto yn flaenorol i'r diwygiad.
SYL. Yr oedd yn byw yn y dyddiau hyny yn Nglasfryn fawr, plwyf Llangybi, yn Eifionydd, un William Prichard, yr hwn oedd wr cyfrifol, bywiog ei gyneddfau, ac yn fwy awdurdodol yn ei ardal na llawer o'i sefyllfa. Ar ryw noswaith wrth ddyfod adref, dyrysodd gan dywyllwch y nos, a chollodd ei ffordd, fel nas gwyddai pa le yr ydoedd: ond o'r diwedd gwelodd oleuni o ffenestr, a chyrchodd ato. Adnabu y lle yn ebrwydd, sef mai Pen-cae-newydd ydoedd. Yn y cyfamser yr oedd gwr y tŷ yn darllen pennod yn y teulu. Wrth weled hyny, tarawodd fel saeth i'w feddyliau, fod ganddo yntau deulu, ac na byddai ef un amser yn arferu hyn yn eu mysg. Ar ol darllen, sylwodd gwr y tŷ ar ryw bethau yn y bennod, er addysg i'w deulu. Aeth hyn hefyd yn ddwys i'w feddyliau, na byddai ef yn dywedyd dim wrth ei deulu am gyflwr eu heneidiau. Wedi hyn aeth gwr y tŷ i weddïo. Aeth hyn yn ddwysach na'r cwbl at feddyliau y gŵr oedd yn y ffenestr, wrth feddwl na byddai ef un amser yn plygu ei liniau i weddïo gyda'i deulu. Aeth y gŵr adref dan ddwys ystyriaeth o'i gyflwr ei hun a'i deulu, a gwelwyd yn ganlynol ddiwygiad amlwg arno. Yr oedd lle yn yr ardal y byddai mawr gyrchu iddo gan lawer i halogi y Sabbath, trwy lawer math o chwareuyddiaethau. Methodd y gwr hwn, o gydwybod, oddef iddynt halogi dydd yr Arglwydd; ond aeth atynt yn wrol, gan ddangos iddynt y perygl o dori gorchymyn Duw; ac ni feiddiai neb mwyach ymgasglu yno o'r dydd hwnw allan. Enw y gŵr oedd yn darllen ac yn gweddio yn ei deulu oedd Francis Evans (Ymneillduwr o ran ei broffes.) Mewn lle a elwir Cae'r tyddyn y bu fyw y rhan olaf o'i ddyddiau, yn amlwg mewn duwioldeb, nes gorphen ei daith yn llawen a gorfoleddus.
YMOF. Nid yw addoliad i Dduw mewn teulu ond peth distadl iawn yn nghyfrif llawer: ond dylem ei olygu yn ddyledswydd ac yn fraint; ïe, braint nodedig yw cael cydymostwng o flaen ein Tad nefol, i dalu diolch iddo am ei drugareddau, ac i erfyn am ei fendith. Dywedai Josua (er cymaint o orchwylion oedd ganddo mewn llaw,) Myfi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd. Yr wyf yn cofio i mi ddarllen yn y Drysorfa, hanes nodedig am ŵr crefyddol yn trin llawer o fasnach fydol, ac er hyny yn cynal addoliad i Dduw gyda'i deulu a'i brentisiaid yn gyson hwyr a bore; bendithion nef a daear oedd yn disgyn yn gawodydd tra bu yn gwneuthur felly. Ond fel yr oedd y fasnach yn cynyddu, dechreuodd esgeuluso addoliad teuluaidd y bore, gan feddwl (er mai yn groes i'w gydwybod,) os cyflawnai y ddyledswydd gyda'i wraig, y gwnai hyny y tro, a gadael y teulu ereill wrth eu gorchwylion. Wedi treulio talm o amser fel hyn, derbyniodd lythyr o Lundain, oddiwrth hen brentis iddo, yn mha un yr oedd hwnw yn addef, nas gallai fyth, fyth, fod yn ddigon diolchgar i'w feistr am y rhagorfraint a gawsai yn ei deulu, sef cyfranogi o'r addoliad teuluaidd: na byth fod yn ddigon diolchgar i Dduw, am y fendith a gawsai yn yr ymarferiad o hono. Dymunodd ar ei feistr, gyda'r taerineb mwyaf, na byddai iddo byth, byth, esgeuluso y cyflawniadau hyny, gan hyderu fod ganddo brentisiaid a thylwyth i gael eu hail-eni yn ei deulu eto. Effeithiodd y llythyr yn ddwys ar feddyliau y gŵr; yr oedd pob llinell o hono yn melltenu yn arswydus yn ei wyneb. Cyfrifodd ei hun yn llofrudd ei deulu: gofidiodd a galarodd yn chwerwdost, a llefodd yn daer am faddeuant. Ac ni esgeulusodd wedi hyny gadw yr addoliad yn mysg ei holl deulu tra fu byw. Ond er i mi fyned ychydig o'r llwybr, gobeithio y maddeuwch i mi am goffau yr adroddiad uchod am yr effeithiau a'r fendith sydd yn cydfyned âg addoli Duw mewn teulu. Ond ewch rhagoch â'r hanes.
SYL. Yn fuan ar ol hyn daeth Mr. Lewis Rees i Bwllheli i bregethu, yr hwn oedd weinidog deffrous a llafurus, a nodedig iawn mewn gweddi, yn enwedig yn ei ddyddiau boreuol, yn mysg yr Ymneillduwyr, ac a fu yn offerynol yn ei oes i alw llawer at Dduw. Ar ol y bregeth, aeth yr ychydig gyfeillion ato, i gael rhagor o'i gyfeillach; a dechreuasant gwyno wrtho eu bod yn isel ac yn ddigalon: neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r gwrandawyr yn lleihau. Anogodd yntau hwynt i beidio llwfrhau ac ymollwng yn ormodol.[5] Ebe ef, Y mae y Wawr nefol yn dechreu tori gyda ni yn y Deheudir. Y mae acw ryw ddyn rhyfedd iawn wedi codi yn ddiweddar, a elwir Mr. Howell Harris; ac y mae yn myned oddiamgylch, i'r trefydd, a'r pentrefydd, y prif-ffyrdd, a'r caeau; ac fel ôg fawr y mae yn rhwygo y ffordd y cerddo. O! (meddynt hwythau) na chaem ef yma i'n plith ni. Fe allai y daw ef, ebe yntau. Dywedodd yn mhellach wrthynt, fod dyn gerllaw'r Bala, a elwir Jenkin Morgan, yn cadw'r ysgol râd, dan Mr. Griffith Jones, a'i fod yn cynghori ar hyd y cymydogaethau yn ddeffrous ac yn llwyddiannus. A oes posibl (meddynt hwythau) cael hwnw i'n plith ni, neu i'n gwlad? Atebodd Mr. Lewis Rees, mai tan aden eglwys Loegr yr oedd yr ysgol a'r meistr (er iddo wedi hyny ymneillduo, a chael ei ddewis yn weinidog yn Môn.) Pe gallech gael rhyw wr cyfrifol yn yr ardal yn caru crefydd, heb gymeryd arno yr enw o Ymneillduwr, fe allai y llwyddai hwnw gyda'r person i gael yr ysgol i'r Llan. Daeth yn fuan i feddyliau y cyfeillion am y gŵr a soniwyd am dano o'r blaen, sef William Prichard o Lasfryn fawr, mai efe oedd y cymhwysaf o bawb a wyddent am dano i gymeryd y gorchwyl mewn llaw.
Y bore Llun canlynol, cymerodd y gŵr a grybwyllwyd o'r blaen, sef Francis Evans, ei daith i'r Bala, a llwyddodd i gael yr ysgolfeistr gydag ef adref: a rhag i neb dybio ei fod yn Ymneillduwr, aeth ag ef yn uniongyrchol heibio ei gartref ei hun i Lasfryn fawr at William Prichard. Bu gwr y tŷ mor gymwynasgar a myned at offeiriad y plwyf a deisyf ei ffafr am genad i'r ysgol fyned i'r Llan. Cafodd nacâd hollawl gan hwnw (oddiar y dŷb, mae'n debyg, fod yr ysgolfeistr yn un o'r crefyddwyr.) Os oes genych chwi awdurdod ar eich eglwys (ebe W. P.) y mae genyf finau awdurdod ar fy nghegin; caiff gadw yr ysgol yno: ac felly fu. Wedi dechreu yr ysgol, daeth yno fagad o blant, a rhai mewn oedran. Byddai yr ysgolfeistr yn ddiwyd iawn wrth ei orchwyl; yn dysgu iddynt ddarllen, eu cateceisio, a gweddïo fore a hwyr gyda'r ysgolheigion. Llunid cyfarfodydd iddo i gynghori neu bregethu, a deuai cryn nifer i wrando arno; a bu yno radd o arddeliad ar y gair. Nid oedd un man ond Glasfryn fawr (hyd y deallais i) y cai dderbyniad. Yr oedd y pryd hyny eneth seml, yn caru crefydd, yn byw gyda'i nain, yn y Tywyn, yn agos i Dydweiliog. Clywodd yr eneth son am yr ysgolfeistr; a bu daer ar ei nain am genad iddo ddyfod yno i gynghori. Wedi iddi lwyddo, gwahoddwyd ychydig o'r cymydogion i ddyfod i'r oedfa, a hyny mor ddirgel ag a ellid.—Fel yr oedd un tro yn Nglasfryn fawr daeth yno ddyn ar yr oedfa, a cherig yn ei boced, gan fwriadu eu hergydio ato: ond yn lle cyflawni ei amcan, arddelodd Duw ei air i gyrhaedd ei galon, fel y gorfu iddo ollwng y cerig i lawr o un i un. Bu y gŵr o hyny allan âg argoelion amlwg o dduwioldeb arno; a chafodd anogaeth i gynghori ei gyd-bechaduriaid i droi at yr Arglwydd, a bu yn fendithiol i lawer. Enw y gŵr oedd Richard Dafydd. Dro arall daeth dyn i mewn ar ganol yr oedfa, a golwg gyffrous arno; a meddyliodd y pregethwr mai am erlid yr oedd hwnw: ond cafodd newid ei farn am dano yn ebrwydd, wrth weled ei ddagrau yn llifo. Cyffro o natur arall oedd ar y gŵr, sef trallod ynghylch mater ei enaid.
YMOF. Mi debygwn wrth yr hyn a adroddasoch fod rhyw arwyddion o'r diwedd o'r wawr yn dechreu ymddangos. Crybwyllasoch eisoes am Mr. Howell Harris: byddai yn dda genyf glywed ychwaneg am dano, ac am ei ddyfodiad i'n gwlad.
SYL. Gan fod hanes tra helaeth am dano yn argraffedig eisoes, ni bydd i mi yma ond rhoddi ychydig dalfyriad o'i hanes —Ganwyd ef yn Nhrefeca, yn Sir Frycheiniog, yn y flwyddyn 1714. Cafodd ei gadw mewn ysgol nes oedd yn ddeunaw oed. Bwriadwyd ei ddwyn i fyny yn weinidog o'r Eglwys Sefydledig, a bu dros ryw ychydig amser yn Rhydychain i'r dyben hyny. Ond pan oedd yn un ar hugain oed, aeth i'r sacrament, ac ar adroddiad y geiriau hyny, "Eu coffa sydd yn drwm genym," &c., cafodd ei daro gan ei gydwybod, nad oedd efe yn wir deimladwy fod pechod yn annhraeth ei oddef, ac ofnodd ei fod yn myned at fwrdd yr Arglwydd a chelwydd yn ei enau. Meddyliodd godi a myned ymaith: a thuag at lonyddu ei gydwybod, meddyliodd wellhau ei fuchedd o hyny allan. Nid oedd er hyny ond tywyll iawn am ei gyflwr fel pechadur colledig, nag am ffordd a threfn iachawdwriaeth trwy Grist: ond eto yr oedd y wasgfa am ei gyflwr yn trymhau fwyfwy arno. Un diwrnod, wrth weddïo, teimlodd gymhelliad cryf ynddo i roddi ei hun i'r Arglwydd fel yr oedd. Aeth yr ail waith i dderbyn Swper yr Arglwydd yn drwmlwythog a blinderog. Ond wrth i'r Gweinidog ddarllen gwahoddiad yr Arglwydd Iesu i'r cyfryw ddyfod ato ef fel yr esmwythâi arnynt, torwyd ei gadwynau, a chafodd y fath ddatguddiad o'r Cyfryngwr, fel ag y llanwyd ei enaid o dangnefedd a chariad Duw. Cafodd yn fynych y fath amlygiadau o gariad anghyfnewidiol y. Jehofa nes y byddai ei enaid yn llawn o orfoledd yr iachawdwriaeth. Erbyn hyn yr oedd wedi ei addasu gan Dduw i fod fel udgorn i roddi gwaedd ar fyd cysglyd. Dechreuodd yn gyntaf yn ei gymydogaeth rybuddio a chynghori cynifer ag a ddeuent i wrando arno. Aeth yn fuan son mawr am dano; ac aeth y tai yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr. Llefarai dair gwaith neu bedair, ie, weithiau bumwaith yn y dydd. Yr oedd ei weinidogaeth yn daranllyd a deffrous, fel y gellid yn briodol ei alw yn "Fab y daran". Ni byddai y pryd hyny yn arfer llefaru oddiwrth un testyn pennodol, ond traddodi i'r bobl yr hyn a roddai yr Arglwydd iddo. Yr oedd effeithiau tra nerthol yn dylyn ei weinidogaeth, a llwyddiant mawr a ddylynodd ei genadwri. Llawer a ddwysbigwyd yn eu calon, ac a wir ddychwelwyd at yr Arglwydd. Fel yr oedd yn llwyddo, cododd erlid mawr arno yn fuan. Y pen swyddwyr a fygythient ei gospi, yr offeiriaid a bregethent yn ei erbyn, gan ei ddarlunio fel twyllwr a gau brophwyd, a'r gwerinos a fyddent, agos ymhob man, yn terfysgu ac yn lluchio yn wallgofus y pethau cyntaf a gaent i'r dwylaw. Rhy faith fyddai adrodd yr erlidiau dychrynllyd yr aeth drwyddynt yn agos i'r Cemmaes, Machynlleth, y Bala, Caerlleon-ar-wysg, Mynwy, ac amrywiol fanau ereill yn Lloegr a Chymru. Dygwyddodd pan oedd yn gadpen ar y Milisia Sir Frycheiniog, ac yntau gyda'i wŷr mewn rhyw dref yn Lloegr, ymofyn o hono a oedd dim pregethu yn y dref hòno. Dywedodd rhyw un wrtho, fod ymgais i hyny wedi bod hir amser aeth heibio, yn nhŷ rhyw wraig dlawd yn y dref, ond bod hyny wedi cael ei lwyr ddiddymu yno. Aeth yntau at y wraig, ac a ofynodd iddi, a roddai hi genad iddo ef bregethu wrth ei thy? Atebodd hithau, ei bod yn ofni mai gwaith ofer oedd cynyg ar y fath beth: ond ei bod yn ddigon boddlon, os у anturiai efe. Archodd Mr. Harris daenu y gair drwy y dref fod yno wr i bregethu, gan benu y lle a'r awr. Trefnodd y Milisia i sefyll o'i amgylch, a rhoes wisg am dano ar ei ddillad milwraidd. Ond gyda'i fod yn dechreu pregethu, dyma yr erlidwyr yn dechreu ymgasglu yno o bob cwr, mewn eithaf afreolaeth. Gwaeddodd yntau, " Dystawrwydd yn enw Brenin y nefoedd." Ond cynyddu yr oedd y terfysg. Yna yn ebrwydd diosgodd y wisg uchaf, nes oedd y wisg filwraidd yn y golwg, a gwaeddodd allan yr ail waith, Dystawrwydd yn enw George yr ail;" ac ar hyny dechreuodd y drums chwareu. Brawychodd y terfysgwyr yn ddirfawr, a chafodd yntau lonydd i bregethu. Cafodd gyfleusdra i ddangos iddynt mor amharchus oeddynt o Frenin y nefoedd, pan na ostegent yn ei enw ef i wrando llais yr efengyl: ond i arswyd eu dal pan glywsant swn drums Brenin Lloegr.
YMOF. Pa bryd y daeth Mr. Howell Harris i Sir Gaernarfon? a phwy a'i derbyniodd ef yno y tro cyntaf i bregethu?
SYL. Y flwyddyn y daeth i Sir Gaernarfon oedd 1741. Daeth i Bwllheli ar nos Sadwrn, a gofynodd y bore Sabbath, pa le yr oedd y pregethwr goreu yn yr Eglwys yn y parthau hyny Dywedwyd wrtho fod y Canghellwr (Chancellor) yn pregethu yn agos yno, sef yn Llannor. Aeth yno a chlywodd bregeth ryfedd am dano ei hun. Yr oedd y Canghellwr, mae'n debyg, wedi clywed ei fod yn bwriadu dyfod i'r wlad, ac o herwydd hyny rhag-rybuddiodd ei wrandawyr i ochelyd yr heretic melldigedig. Gosododd ef allan yn ei bregeth yn genad dros Satan, yn elyn Duw a'i eglwys, ac hefyd yn elyn i holl ddynol. ryw. Galwodd ef yn weinidog dros y cythraul, yn dwyllwr a gau-brophwyd, ac yn llawer gwaeth nag un anghenfil o heretic, ïe, yn waeth na'r diafol ei hun. Anogodd ei wrandawyr yn ddifrifol, gariad at Dduw a'i Eglwys, a'u gwlad, i wrthsefyll yn unfryd y cyfryw ddyn ofnadwy ag oedd debyg o ddinystrio nid yn unig eu meddiannau, ond hefyd eu heneidiau anfarwol, &c. Nis gwyddai ef na'r bobl fod Mr. Harris yno yn gwrando. Wedi dyfod allan o'r Llan, aeth i ymddiddan â'r Eglwyswr yn nghylch gosod i fyny ysgolion rhad yn y wlad, ac i'w alw i gyfrif am ei bregeth. Deallodd y bobl mai efe oedd y gŵr a nodasid yn y bregeth, ac yna yn ddiymaros dechreuwyd ergydio y cerig ato yn dra ffyrnig, ond diangodd o'u dwylaw heb gael llawer o niwaid. Ar ei ddychweliad yn ol, cafodd ei erlid yn Mhenmorfa, ond ni wnaed llawer o niwaid iddo yno.
YMOF. Mae yn amlwg wrth yr hyn a ddywedasoch, fod y ddraig a'i hâd wedi cynhyrfu yn fore i ddal i fyny deyrnas y tywyllwch. Yr wyf wedi synu fod y fath araith gableddus wedi dyfod allan o enau neb ag oedd o dan yr enw gweinidog, yr efengyl: oblegyd pe buasai y diafol ei hun yn cael esgyn i bulpud, a chael benthyg gwenwisg, a gallu, fel asen Balaam, lefaru mewn iaith ddynol, a ellir barnu y gallasai wneuthur yn amgenach? Ond ewch ymlaen i fynegi am waith Mr. Harris yn pregethu yn y wlad hon, a phwy a'i derbyniodd gyntaf.
SYL. Pa un ai ar ei ddyfodiad cyntaf i'r wlad, neu ynte ar ei ddychweliad o'r wlad, y bu yn Llannor, ni allaf ddywedyd: ond sicr yw mai yn Nglasfryn fawr, yn nhŷ William Prichard, y pregethodd gyntaf. A chyda ei fod yn dechreu pregethu, dyma offeiriad y plwyf, a haid o oferwyr gwamal yn gynorthwy iddo, yn dylyn ei sodlau. Rhuthrodd yr offeiriad yn mlaen at y pregethwr, yr hwn, wrth weled terfysg yn dechreu, a roes heibio bregethu, ac a aeth ar ei liniau i weddïo. Pan ddaeth yr offeiriad hyd ato, rhoddes ei law ar ei enau, i atal i neb ei glywed. Cododd Mr. Harris i fyny, a dywedodd wrtho, "Pa beth yw hyn yr ydych yn ei wneuthur? a rwystrwch chwi ddyn i weddïo ar Dduw? Byddaf dyst yn eich erbyn am hyn yn nydd y farn." "Byddaf fi yn dyst yn dy erbyn di, y burgun budr (ebe yr offeiriad wrtho yntau,) am dy fod yn myned ar hyd y wlad i dwyllo y bobl. Yna galwodd yr offeiriad yn groch ar un o'i ffyddlon ganlynwyr, gan alw arno wrth ei enw am ddyfod ymlaen. Yntau yn sefyll draw, ac yn eu clywed yn son am y farn, a ddywedodd yn lled uchel, "A glywch chwi, a glywch chwi ar y gwŷr! Ni wn i pa un ffolaf o honoch eich dau. Ni feiddia un o honoch ddywedyd gair yno." Ar hyny gwr y tŷ a drôdd yr offeiriad allan, ac a gauodd y drws ar ei ol. Ar ol llonyddu y terfysg, rhoddes Mr. Harris gynyg eilwaith ar bregethu; ond ni chafodd nemawr o hwylusdod, gan fod ei feddyliau wedi terfysgu yn y cythrwfl. Cynghorodd bawb i ymwrthod â'r cyfryw fugeiliaid didduw, gan ymddidoli a chilio oddiwrthynt. Yr ail le y cafodd bregethu oedd Ty'n Llanfihangel, gerllaw Rhyd y clafdy. Ymgasglodd yno dyrfa fawr i wrando arno. Yr oedd y gair wedi ymdaenu ar hyd y wlad mai dyn wedi bod mewn gweledigaeth ydoedd, yr hyn beth oedd yn cael derbyniad difrifol gan lawer yn y dyddiau hyny. Daeth ypo, yn mysg ereill, wr boneddig tra gelyniaethol, mewn bwriad o'i (saethu ef gan na ddaeth y pregethwr yn union at yr amser addawedig, blinodd y gwr boneddig yn dysgwyl, ac aeth adref i'w giniaw. Erbyn hyn yr oedd Mr. Harris yno. Safodd wrth ochr y tŷ, a chafodd gymhorth anghyffredin i lefaru. Soniodd, yn mysg pethau ereill, fel y byddai dynion yn rhyfygu dywedyd wrth Dduw, "Deued dy deyrnas." Beth, meddai ef, pe b'ai yr Arglwydd yn dyfod gyda gallu a gogoniant mawr, gyda miloedd o angylion, ac a thân fflamllyd? Oni byddit yn barod i waeddi, yn lle Deued dy deyrnas, o Arglwydd, aros ronyn: nid wyf fi barod. Bu y fath effeithiau drwy y weinidogaeth, yr oedfa hòno, nes oedd llawer yn methu sefyll, ond yn cwympo i lawr ar y ddaear: ac wrth fyned i'w cartrefi yn llefain ac yn wylo ar hyd y ffordd, fel pe buasai y waedd haner nos yn swnio yn eu clustiau. Y dydd canlynol pregethodd yn y Tywyn, yn agos i Tydweiliog; arddelodd Duw yr oedfa hono hefyd mewn modd neillduol. Cafodd llawer yno eu gwir ddychwelyd, y rhai a fuont wedi hyny yn addurn i'w proffes ac yn ddefnyddiol yn eu hoes. Un o honynt oedd John Griffith, yr hwn a fu dros amser yn athraw defnyddiol yn yr eglwys; er iddo wedi hyny gael ei lusgo i leoedd lleidiog, a bod o dan wrthgiliad dwfn lawer o flynyddoedd: ond fe ymwelodd Duw ag ef drachefn; fel Samson gynt, gwallt ei ben a ddechreuodd dyfu, daeth adref yn amlwg i dŷ ei Dad cyn nos. Yr oedfa hono y cafodd un o ferched y Tyddyn mawr ei galw, yr hon a fu wraig i Mr. Jenkin Morgan, y soniwyd am dano o'r blaen. Yr oedd pedair o chwiorydd o honynt, ac yn cael eu cyfrif yn ferched gweddus a synwyrol, ac yn barchus yn eu hardal. Cafodd y tair ereill eu galw cyn pen hir, a buont fel cynifer o famaethod ymgeleddgar gydag achos Duw mewn dyddiau ag y gallesid gofyn yn briodol, "Pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw.". Bu y Tyddyn mawr, a rhai manau ereill yn y gymydogaeth, fel gwlad Gosen gynt, yn noddfa gysurus i'r pererinion lluddedig, wedi bod mewn 'stormydd o erlidigaethau.—Mewn dau le arall y pregethodd Mr. Harris yn y wlad yma y tro hwnw, sef y Rhydolion, yn agos i Lanengan, a Phortinlleyn. Am y lle cyntaf, sef y Rhydolion, oedfa galed a gafodd ef yno, heb nemawr o arddeliad fel y cawsai o'r blaen; ond ni chlywais ddim am yr oedfa yn Portinlleyn, na da na drwg.
YMOF. Pa fath agwedd oedd ar y dychwelwyr ieuaingc hyn yn more eu crefydd? Ac yn mha le yr oeddynt yn cael didwyll laeth y gair i ymborthi arno?
SYL. Yr oedd eu dull syml, sobr, a phwysig, yn gywilydd mawr i'r rhan fwyaf o broffeswyr ein dyddiau ni. Yr oedd eu cydwybodau yn dyner, eu calonau yn ddrylliog, ac ofn Duw o flaen eu llygaid. Nid oedd pleser mewn coeg-wisgoedd, na blâs ar gellwair a choeg-ddigrifwch yn y dyddiau hyny. Cyfeillach yr annuwiolion oedd ofid calon iddynt. Yr oeddynt yn barchus iawn o'r Sabbath, ac yn wyliadwrus rhag ei halogi. Gweddïent yn fynych bymtheg gwaith yn y dydd, a'u cri yn feunyddiol oedd, Pa beth a wnawn fel y byddom gadwedig? Mewn gair, yr oedd eu holl agweddau yn tystio eu bod yn treulio eu dyddiau fel rhai yn ngolwg byd arall. Wrth ystyried y dirywiad a'r ysgafnder, yr anghariad, balchder, y cybydddod a'r cnawdolrwydd sydd wedi goresgyn llawer o broffeswyr yr amser pesennol, mae yn bryd gwaeddi allan gyda Job, o na baem fel yn y misoedd o'r blaen! Am yr hyn a ofynasoch drachefn, sef pa le y byddent yn cael llaeth y gair i ymborthi arno—unodd llawer â Mr. John Thomas, yn Mhwllheli, sef yr hen weinidog duwiol y soniwyd o'r blaen am dano. Erbyn hyn yr oedd yr erlidigaeth yn cynyddu yn ddirfawr. Teflid cerig trwy ffenestri Capel Pwllheli, ïe, weithiau teflid hwy mor egnïol trwy un ffenestr nes y byddent yn myned allan trwy ffenestr arall, a hyny yn amser yr addoliad, fel y byddai y gwrandawyr yn fynych mewn perygl bywyd. Erbyn dyfod allan, byddai torf yn eu dysgwyl yn mhen y dref; yr un modd wrth yr Efail newydd, a Rhyd y clafdy. Ni rusent luchio cerig atynt nes y byddai y trueiniaid â'u gwaed yn llifo wrth fyned i'w cartrefi. Llechai rhai o'r erlidwyr tu draw i'r cloddiau, er mwyn cael cyfleusdra gwell i anelu atynt. Ond er yr holl elyniaeth a'r erlid, llwyddo yr oedd crefydd. Yn yr amser hyny daeth yma un Mr. Evan Williams, o'r Deheudir, dros ychydig. Ymgasglodd torf o erlidwyr, ac wedi cael un i'w gafael eisoes, sef John Jones, o'r Penrhyn, Llaniestyn, daethant fel llewod i'r Tyddyn mawr, a chwiliasant y tŷ yn fanwl; ond yr oedd y teulu, wrth ddeall eu bod ar fedr dal Mr. E. Williams, wedi ei guddio mewn cwpwrdd: ac er i un o honynt daro y cwpwrdd â'i droed, dan dyngu a rhegi, a dywedyd, Fe allai mai dyma lle mae ef," er hyny ni chawsant ef. A thra buont yn chwilio y tŷ, diangodd Mr. John Jones hefyd yn ddystaw o'u mysg, a gorfu arnynt fyned ymaith heb un o'r ddau. Wrth weled nad oedd un argoel llonyddwch iddo yn y wlad hon, ymroddodd E. Williams i fyned i'w wlad ei hun; a hebryngwyd ef ran o'r ffordd. Yr oedd wedi cael cymaint o fraw oddiwrth yr erlidwyr, nes yr oedd yn barod i ddywedyd fel Cain, "Pwy bynag a'm caffo a'm lladd." Nid âi heibio i un man heb ofni yn ei galon fod pawb am ei ddal. Bu yn weinidog duwiol a llafurus yn Sir Gaerfyrddin tra fu byw, ond byth ni bu yn iach ar ol bod yn Sir Gaernarfon. —Yn nghylch yr amser hyny, daeth yma offeiriad ieuangc o'r Deheudir, a elwid Mr. David Jenkins; brawd oedd i Mr. Daniel Jenkins, a fu farw yn ddiweddar. Llewyrchodd dros ychydig fel seren ddysglaer, a phwerau y nef oedd yn dylyn ei weinidogaeth. Yr Arglwydd, i ryw ddybenion, a'i symudodd ato ei hun yn nghanol ei lwyddiant ac yn more ei ddyddiau, er galar trwm i lawer. Pan glywodd Mr. Daniel Rowlands, Llangeitho, ei farw, dywedodd mewn syndod a galar fel hyn, "Wele, fe dorwyd ymaith fy mraich ddehau!" Ar ei ddyfodiad i'n gwlad ni, meddyliwyd y cawsai bregethu yn Llan Tydweiliog, gan ei fod yn wr eglwysig: ond ofnodd offeiriad y plwyf roi cenad iddo (er ei fod unwaith wedi lled addaw,) rhag ofn i'w frodyr parchedig wgu arno o'r achos; ac felly y bu gorfod iddo sefyll wrth ochr y Llan i bregethu. Ond er cau drysau y deml rhagddo, fe agorodd Duw galonau, fel yr agorodd galon Lydia, i dderbyn trysorau yr iachawdwriaeth, a chafodd llawer y tro hwnw eu gwir ddychwelyd. Un o'r oedfaon mwyaf neillduol oedd hon o un a fuasai o'r blaen yn y wlad. Bu yn pregethu y tro hwnw ar brif-ffordd yn rhyw le yn Lleyn; a daeth rhyw erlidiwr creulon ato, a chareg fawr yn ei law; amcanodd ei daro, ond goruwchreolodd yr Arglwydd yr ergyd; aeth y gareg heibio i'r pregethwr, a soddodd yn y clawdd.
YMOF. Clywais fod Mr. Daniel Rowlands, o Langeitho, yn enwog iawn yn ei ddyddiau, ac yn un o'r pregethwyr mwyaf rhagorol yn ei oes. Da genyf os gellwch adrodd ychydig o'i hanes,
SYL. Yr oedd ei dad yn berson Llangeitho, heb ddim argoelion neillduol o grefydd arno. Dygodd ddau o'i feibion i fyny yn wŷr eglwysig, sef John a Daniel. Am Mr. John Rowlands, nid oedd ond dyn gwâg, cellweirus a meddw; er ei fod yn ddyn o synwyrau cryfion, a pharod iawn ei atebion. Boddodd ynghanol ei ddyddiau, wrth ymdrochi yn y môr. Mr. Daniel Rowlands, ar ol cael ei urddo, a fu yn gurad yn Sir Gaerfyrddin hyd farwolaeth ei dad; a chan ei fod o gyneddfau bywiog, ac o dymherau siriol, yr oedd yn boddio y plwyfolion yn rhagorol, a deuai llawer i wrandaw arno. Wedi marw ei dad, sefydlwyd ef yn weinidog Llangeitho: ond erbyn dyfod yno, ni byddai ond ychydig yn dyfod i wrando arno. Yr oedd yr amser hyny wr boneddig yn byw yn agos yno, sef yn Llanpenal, a elwid Mr. Pugh, yn weinidog enwog a llafurus yn mysg yr Ymneillduwyr, ac yn arogli yn beraidd yn mhob ymarferiad o dduwioldeb; a than wrandawiad y gwr duwiol hwnw y cyrchai yr holl ardaloedd, fel nad oedd y Llanau ond lled weigion oddi amgylch yno yn y dyddiau hyny. Dechreuodd Mr. Rowlands geisio chwilio allan pa beth oedd yr achos o hyny. Meddyliodd ynddo ei hun mai pregethu tân uffern a damnedigaeth yr oedd gweinidogion yr Ymneillduwyr: a dywedodd ynddo ei hun, "Pa beth sydd gan yr ben Mr. Pugh i'w wrandawyr lluosog, ond hyny? ac oni allaf finau bregethu felly?". Yn fuan dechreuodd ar y gorchwyl yn y modd hwnw: chwiliodd am y testynau llymaf o fewn y Bibl i bregethu oddi wrthynt, sef y rhai a osodent allan druenus gyflwr yr annuwiol mewn byd arall, a'r gosp ddyledus am bechod ag oedd yn sicr o ddisgyn arnynt i dragywyddoldeb, megys y testynau canlynol, "Yr annuwiolion a ymchwelant i uffern. Daeth dydd mawr ei ddigter ef.—Y rhai hyn a ant i gospedigaeth dragywyddol. Ewch oddiwrthyf, rai melldigedig, i'r tân tragywyddol," yn nghydag amryw destynau o'r fath. Yn fuan iawn dechreuodd y bobl ymgasglu yn dorfeydd i wrando arno, ac felly fwy fwy, у naill dro ar ol y llall, a'r gair bywiol yn dechreu dwysbigo calonau amryw. Yr oedd rhai yn barnu nad oedd dim llai na chant dan ddwys argyhoeddiad cyn i ddim arwyddion neillduol o grefydd ymddangos yn y gweinidog ei hun.
Yn y dyddiau hyny byddai G. Jones, o Landdowror, yn dyfod i bregethu i amryw o Eglwysydd yn y wlad; ac fel yr oedd un tro wedi dyfod i bregethu i Landdewi brefi, gerllaw Llangeitho, aeth lluoedd oddiyno, ynghyda'r ardaloedd cymydogaethol, wrando arno; ac yn eu plith aeth Mr. D. Rowlands. Cafodd pregeth y gwr enwog hwn y cyfryw effaith ddwys ar ei feddyliau, fel y syrthiodd i'r fath raddau o ddigalondid ag y penderfynodd na anturiai bregethu byth mwy. Fel yr oedd y bobl yn dychwelyd i'w cartrefi, nid oedd ganddynt ar hyd y ffordd ond son am y bregeth, a phawb yn cyd-ddywedyd na chlywsent erioed o'r blaen bregeth o'i bath. Ond po mwyaf yr oeddynt hwy yn canmol y bregeth, dyfnaf yr oedd yntau yn soddi i ddigalondid. Ond yr oedd un gŵr yn eu plith, yn marchogaeth wrth ystlys Mr. Rowlands, a dywedodd hwnw wrth y rhai oedd yn mawrygu y bregeth, "Wel, wel, canmolwch chwi a fynoch ar y cyfarfod heddyw, ni chefais i ddim budd ynddo: y mae genyf fi achos i ddiolch i Dduw am offeiriad bach Llangeitho," (gan daro ei law ar ei ysgwydd ef.). Ar hyny teimlodd ei gadwynau i ryw raddau yn cael eu tori, a'i yspryd ymollyngar yn cael ei adfywio, fel y dywedodd ynddo ei hun, "Pwy, a wyr na wna yr Arglwydd ryw ddefnydd o honof finau, greadur gwael?" A chyn pen nemawr torodd y Wawr ar ei enaid tlawd, ac amryw o'i wrandawyr: ar ol llawer o'stormydd ac argyhoeddiadau grymus, llanwyd eu heneidiau â gorfoledd yr iachawdwriaeth nes oedd sain cân a moliant yn llanw y cynulleidfaoedd. A dyna ddechreuad y gorfoledd ymhlith y Methodistiaid, ag sydd a chymaint o ddywedyd yn ei erbyn gan lawer.-Un tro pan oedd yn pregethu ar fore Sabbath yn Llangeitho, disgynodd y fath weithrediadau grymus ar ei yspryd ef ac ar amryw o'r gwrandawyr, nes iddynt lwyr anghofio eu bod yno gynifer o oriau. Meddyliodd Mr. Rowlands ddybenu ryw bryd ar y bregeth: ond ystyriodd drachefn ei bod yn afresymol iddo ddybenu mor fuan; ond yn y man, er mawr syndod iddo, fe ganfu yr haul yn tywynu i'r Llan trwy y drws gorllewinol, ac yna dybenodd yn ebrwydd. Yr oedd gwrandawyr Mr. Pugh erbyn hyn yn cilio yn lluoedd i Langeitho; a'r hen wr duwiol, yn lle cynfigenu, yn anog ei gynulleidfa a'r gwrandawyr yn siriol i fyned yno. Ryw bryd, pan ddaeth un o'i gynulleidfa ato i achwyn fod Mr. Rowlards wedi cyfeiliorni mewn rhyw bwngc o athrawiaeth, dywedodd yntau, Na chondemniwch ef: plentyn yw efe: fe'i dysg ei Dad nefol ef yn well.—Yr wyf fi yn credu yn sicr fod yr Arglwydd mewn modd neillduol yn ei arddel, a bod ganddo waith mawr iddo i'w wneuthur. Nid hir y bu yr hen weinidog duwiol heb orphen ei yrfa mewn tangnefedd, ac yr oedd yn dawel foddlon fod y golofn yn myned y ffordd yr oedd yn myned. Nid hir wedi hyny y bu Mr. Rowlands heb fyned o amgylch amryw barthau o'r Deheudir i bregethu. Unodd a Howell Harris: a chododd yr Arglwydd amryw ereill y pryd hyny o wŷr deffrous a llawn o sêl dduwiol, y rhai a fuont yn ddefnyddiol iawn i'r eglwys yn eu hoes, sef William Williams, Peter Williams, a Howell Davies. Yr oedd y rhai hyn yn weinidogion o'r Eglwys Sefydledig. Codwyd llawer ereill hefyd i lefaru, o rai heb gael eu hurddo gan esgob; a gelwid y rhai hyny, Cynghorwyr; yr oedd amryw o honynt yn ddiwyd dros achos yr Arglwydd, ac yn ffyddlon a llafurus yn eu hoes, ac o fendith i lawer. Ond i fod yn fyr: er nad oedd fawr neb llai yn ei olwg ei hun na Rowlands, er hyny yr oedd ei gynydd a'i gymeradwyaeth gan y wladwriaeth yn peri iddo gael ei fawr barchu gan luoedd, ond yn enwedig gan ei frodyr yn y weinidogaeth, fel y rhoddent, yn wirfoddol, y flaenoriaeth iddo, yn enwedig yn y pulpud. Gellid dywedyd am dano megys am y tri cyntaf o gedyrn Dafydd, na chyrhaeddodd neb mo hono. Dywedai un am dano, "Fod pob rhagoriaethau yn ei ddoniau: dyfnder defnyddiau, grym a phereidd-dra llais, ac eglurdeb a bywiogrwydd yn traddodi dyfnion bethau Duw, nes peri syndod, a'r effeithiau mwyaf rhyfeddol ar ei wrandawyr." —Bu farw yn y flwyddyn 1790, yn ddwy ar bymtheg a thriugain oed.
YMOF. A oes hanes i Rowlands ddyfod i Sir Gaernarfon?
SYL. Oes: ymhen rhyw dalm o amser ar ol Howell Harris, anturiodd yma er maint oedd cynddaredd yr erlidwyr. Deallwyd yn Penmorfa mai un o'r pregethwyr oedd efe, a bygythiwyd ef yn chwerw yno, gan sicrhau iddo, os âi efe ymlaen, y byddai ei esgyrn yn ddigon mân i'w rhoddi mewn cwd cyn y deuai yn ol. Yr oedd hwn yn gyfarchiad chwerw i filwr ieuangc: ond er mor ddychrynilyd ydoedd y bygythion, ymlaen yr aeth efe i Leyn. Cafodd yno ychydig o gyfeillion siriol; a rhoddwyd cais am genad iddo i bregethu yn Llan Follteyrn; ond cauwyd y drws yn ei erbyn. Safodd ar y gareg feirch wrth borth y fynwent, a phregethodd i dorf luosog o bobl. Ei destyn oedd yn Jer. xxx. 21, "Canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesâu ataf fi? medd yr Arglwydd." Profodd yn eglur nad oedd neb ond Crist wedi llwyr roddi ei galon i'r perffeithrwydd y mae cyfraith Duw yn gofyn. Fel yr oedd yn myned yn mlaen ar ei bregeth, gosododd allan y modd yr oedd y gyfraith fanol a chyfiawnder gofynol, yn nhrefn y cyfamod, yn darlunio yr echryslon boenau a'r arteithiau y byddai raid i'r Meichiau bendigedig fyned trwyddynt, os ymrwymai i dalu dyled pechaduriaid. "Gwybydd (meddai cyfiawnder) er dyfod at yr eiddot dy hun, na chai ond tŷ yr anifail i letya, a phreseb yn grŷd, a chadachau yn wisgoedd." Ond yn lle cilio yn ol, atebai y Gwaredwr, "Boddlon i'r driniaeth hono er mwyn fy nyweddi."—Os wynebi i fyd sydd dan y felldith, cai fod heb le i roi dy ben i lawr: ïe, byddi yn nodi eithaf llid a malais creaduriaid ag sydd yn cael eu gynal genyt bob moment."O fy nghyfraith lân, yr wyf yn foddlon i hyny."—Cai hefyd chwysu megys dafnau gwaed ar noswaith oer, a phoeri yn dy wyneb, a'th goroni â drain: a'th ddysgyblion, wedi bod cyhyd o amser yn gweled dy wyrthiau, ac yn gwrando dy nefol athrawiaethau, yn dy adael yn yr ing mwyaf: ïe, un o honynt yn dy werthu, ac un arall yn dy wadu, gan dyngu a rhegi yn haerllug na adwaenai mo honot.—"Er caleted hyn oll (meddai y Gwaredwr mawr) ni throaf yn ol er neb: cuddiwyd edifeirwch o'm golwg." Yn ganlynol wele gyfiawnder a'r gyfraith yn cyd-dystio, "O! tydi wrthddrych clodforedd holl angylion y nef, a gwir hyfrydwch Jehofa Dad, os anturi i'r fachnïaeth ddigyffelyb yma, bydd holl allu uffern yn ymosod arnat, a digofaint dy Dad nefol yn ddigymysg ar dy enaid a'th gorph sanctaidd ar y groes: ïe, os rhaid dywedyd y cyfan, gorfydd arnat oddef tywallt allan y dyferyn diweddaf o waed dy galon.". Yn awr, pwy heb syndod a all feddwl am y Meichiau hawddgar yn ymrwymo yn wyneb yr holl ystormydd i gymeryd y gorchwyl caled arno ei hun, ac yn wyneb y cwbl yn gwaeddi, BODDLON!
Ni allodd efe fyned yn mlaen yn mhellach mewn ffordd o bregethu, canys torodd allan yn un floedd orfoleddus o wylo a dïolch ar lawer yn y gynulleidfa, megys y blwch enaint yn llenwi y lle a'i berarogl: ac nid anghofiwyd y tro hwn gan lawer ddyddiau eu hoes.—Dygwyddodd rywbryd pan oedd yn pregethu yn mhentref Tydweiliog, a rhyw wr cyfrifol a'i enw Mr Price yn gweddïo o'i flaen, i hwnw gael ei daro â chareg gan ryw wr boneddig, nes oedd ei waed yn llifo: ond nid wyf yn sicr a gafodd Mr. Rowlands lonydd i bregethu y tro hwnw. Bryd arall, yr oedd rhyw led addewid iddo gael pregethu yn Eglwys Nefyn: ond i'w atal, rhoddes yr Eglwyswr, ynghyd ag ereill o'r un dueddfryd, y cantorion i ganu yn y Llan y 119 Salm; ac yna y buont yn oerleisio am oriau, fel na chafwyd cynyg ar bregethu yno y tro hwnw. Barned pawb pa fath ganu rhyfygus a allai hwnw fod. Fel yr oedd rywbryd yn amcanu pregethu mewn lle a elwid Gelli dara, gerllaw Pwllheli, daeth yno dorf o erlidwyr, a chanddynt drum i foddi llais y pregethwr; a chan nad oeddynt yn curo hòno yn ddigon egnïol, daeth rhyw adyn diserch o Bwllheli, a'i enw Andrew, a phan welodd hwnw nad oeddynt yn ddigon effro yn eu gorchwyl, enynodd ei sêl a chymerodd ei ffon, ac a darawodd y drum nes ei dryllio a'i myned yn ddiddefnydd hollol. —Aeth tua'r amser hwnw i Ynys Môn, mewn bwriad o gael pregethu yn Llangefni. Ymgasglodd yno amryw o Eglwyswyr, ac wedi dadleu enyd âg ef am ei awdurdod i bregethu, addefasant ei fod wedi ei gwbl addasu i weinidogaethu yn ei wlad ei hun, ond nid mewn un wlad arall. Yr oedd Mr. William Williams yn cyd-deithio âg ef y tro hwnw; ond ni chai ef braidd ddywedyd gair, am nad oedd wedi cael cwbl urddau. Gorfu arnynt fyned o Fôn heb bregethu unwaith y tro hwnw.
YMOF. Oni soniasoch mai i Bwllheli yr oedd cyrchfa yr ychydig broffeswyr oedd yn y wlad ar y cyntaf? Pa fodd y darfu i'r rhan fwyaf o honynt adael y cymundeb yno, a myned ar eu penau eu hunain?
SYL. Pan ddaeth Mr. Harris ymhen talm o amser drachefn i'n gwlad, dangosodd ei anfoddlonrwydd i'r bobl ymneillduo, gan eu ceryddu; am eu bod yn cyfyngu y gwaith trwy hel yr halen i un cwd: a dangosodd iddynt y dylasai y diwygiad oedd yn tori allan yn y wlad gael ei ledaenu i gylch mwy. Nid hir y bu yr hen weinidog duwiol, Mr. John Thomas, fyw wedi hyn: a chan nad oedd Mr. Richard Thomas, a ddaeth yn ei le, yn cael ei ystyried yn llanw ei le fel gweinidog, cawsant eu tueddu i wneuthur yn ol anogaethau Mr. Harris, i amcanu helaethu y diwygiad yn fwy trwy'r wlad.
Cyn diwedd yr erlid creulon yn Mhwllheli, daeth gweinidog enwog o'r Deheudir, ac a ddangosodd i'w wrandawyr gynwysiad y. Weithred o Oddefiad (Act of Toleration,) a bod yr erlidwyr yn agored i gael eu cospi yn ol y gyfraith, ac y caent brofi awchlymder y gyfraith cyn y byddai hir, os na lonyddent. Wedi clywed hyn syrthiodd arswyd ar y dref, ac o hyny allan cafodd yr Ymneillduwyr lonydd i addoli Duw yn heddychol.
YMOF. A barhaodd y Canghellwr y soniasoch am dano i chwythu bygythion, ac i erlid yr efengyl? neu ynte, a ddarfu iddo chwydu allan ei wenwyn i gyd yn y bregeth gableddus hono yn Llannor?
SYL. Nid oedd y dymhestl ond dechreu y pryd hyny: ond cynyddodd yr erlidigaeth fwy fwy mewn amryw fanau yn y wlad. Lluniodd y Canghellwr a'i frodyr parchedig gyfarfod 'i fod bob bore Mercher yn Dyneio, yn agos i Bwllheli, o flaen y farchnad i bregethu yn erbyn y cyfeiliornadau dinystriol, yn eu tyb hwy, oedd yn ymdaenu ar hyd y wlad. Yr oedd y rhan fwyaf o Eglwyswyr yr ardaloedd i ddyfod yno, a phob un yn ei dro i bregethu, gan ymdrechu yn egnïol i wrthsefyll yr heresiau dinystriol ag oedd yn codi yn ein mysg. Eu testynau fyddai y rhai'n a'r cyffelyb, "Ymogelwch rhag gậu brophwydi.—A chanddynt rith duwioldeb, eithr gwedi gwadu ei grym hi.—Y rhai hyn yw y rhai sydd yn ymlusgo i deiau, gan ddwyn yn gaeth wrageddos llwythog o bechodau," &c.
Yr oedd pregethu yn mhlwyf Llannor, yn Mryn tani, a rhyw fanau ereill, yn fuan ar ol dechreu y diwygiad; a byddai y Canghellwr a'i fintai yn astud iawn i fyned yno i erlid. Yr oedd hefyd wr boneddig yn byw yn y plwyf, un John Llwyd, Yswain, o'r Tŷ newydd, yr hwn oedd ysgolhaig rhagorol: ond yr oedd y Canghellwr ac yntau mewn eithaf gelyniaeth a'u gilydd. Pan y delai y Canghellwr a'i blaid i erlid, byddai y gwr boneddig yn sicr o fod yn ei gyfarfod wrth y drws; a gofynai iddo, "Beth yw dy neges di yma, John Owen?" Yna tröent i ymddiddan yn Saes'neg, yna yn Lladin, a thrachefn yn Groeg. Ond ni allai y Canghellwr siarad yr iaith Groeg; yna y dirmygai y gŵr boneddig ef i'r eithaf, a dywedai wrtho, "Gollyngais yn anghof fwy nag a ddysgaist ti erioed." Felly gorfyddai i'r Canghellwr fyned ymaith dan ei warth; a chai y plant fendith yn y tŷ o dan weinidogaeth y gair tra byddai y ddau wr boneddig yn ymgecru â'u gilydd oddiallan. Yr oedd yn y cyfamser glochydd yn Llannor, yn ddyn celfyddgar, yn arddwr, yn ysgolhaig, ac yn brydydd; yn byw yn gryno a chysurus, ac yn gyfaill mawr â'r Canghellwr. Cafodd anogaeth gan ei Feistr i gyfansoddi coeg-chwareu (Interlude,) gan ddarlunio ynddi amryw bersonau, megys Whitfield, "Harris, ac amryw ereill, yn y modd mwyaf gwarthus, erlidgar, a rhyfygus, ag y gallai ingc a phapur osod allan. Argraffwyd y gwaith, a chafodd lawer o arian gan amryw yn y wlad am ei waith cableddus. Arweiniodd ei feistr ef un tro i gyfarfod oedd gan foneddigion mewn palas a elwir Bodfel, yn agos i Bwllheli, a than guro ei gefn, dywedodd wrth y cwmni, "Gwelwch, foneddigion! dyma y gŵr a wnaeth y gwaith." Ar hyny cyfranodd y boneddigion iddo yn y fan ddeg gini a deugain. Nid hir wedi hyn y bu y farn heb ei orddiwes. Fel yr oedd yn dychwelyd adref o argraffu ei lyfr, trôdd i felin gerllaw y Bala i orphwyso. Gofynodd y rhai oedd yn dygwydd bod yno iddo, beth oedd ganddo yn ei gludo. Atebodd yntau (gan ddysgwyl cael parch mawr am ei chwedl) mai Interlude oedd ganddo yn erbyn y Cradocs. "Y distryw mawr (ebe rhei'ny,) pa beth a wnaethant hwy i ti? Yn mha le mae rhâff? ni a'i crogwn ef yn ddioed." Ac er fod y rhei'ny mor ddigrefydd ag yntau, dychrynodd yr adyn yn ddirfawr am ei fywyd. Bryd arall, fel yr oedd y Canghellwr yn rhodio ar hyd y fynwent, dychymygodd fod y clochydd yn ceisio taflu y gloch ar ei gefn. Rhuthrodd ato fel arth, yn llawn cynddaredd, gan haeru yn haerllug ei fod yn ceisio ei ladd. Methodd gan y clochydd ei oddef, ond arth yn mron mor waedwyllt ag yntau: ac os mawr oedd y cariad a fuasai unwaith rhyngddynt, mwy a fu y câs a'r gelyniaeth o hyny allan; a throwyd y clochydd o'i swydd. Yn fuan wedi hyny, aeth i gyfreithio ar ryw achos:ac o ddiffyg dyfod i'r Mwythig ddiwrnod yn gynt, collodd y gyfraith. Ac er yr holl arian a gawsai, syrthiodd i dlodi; ac enyd cyn ei ddiwedd, collodd ei iechyd, a bu farw yn druenus.
YMOF. Soniasoch gryn lawer eisoes am y Canghellwr erlidgar: od oes genych ragor o'i hanes, a diwedd ei daith, dymunwn glywed ymhellach.
SYL. Ei enw oedd John Owen, o enedigaeth o Lanidloes. Cafodd ei ddyrchafu i fod yn ficar Llannor a Dyneio, ac yn Ganghellwr Bangor. Yr oedd yn ddyn hyf a gwrol, ac yn rhagori o ran doniau naturiol ar y rhan fwyaf o'i frodyr parchcdig; a thrwy hyny, daeth lluaws ar y cyntaf i wrando arno; a meddyliodd y werin anwybodus nad oedd ei fath yn y byd. A chan fod y cyfryw dyb dda yn y wlad yn gyffredin am dano, cafodd ei athrawiaethau cableddus rwyddach derbyniad. Dygwyd amryw o rai gwirion a diniwaid o'i flaen yn achos eu crefydd: yntau a ymddygai tuag atynt fel llew creulon, gan daranu bygythion yn eu herbyn, a'u cospi mor belled ag y. goddefai y gyfraith, os nid yn mhellach. A diau pe buasai llywodraeth y Pab heb ei diddymu o'n gwlad, y buasai ef gyda hyfrydwch, fel Bonner gynt, yn eu llusgo yn ddidrugaredd i'r fflamau tân. Danfonodd ef ynghyda rhai ereill ag oeddynt o'r un duedd ag yntau) ryw rai i garchar: ac yn ei gynddaredd rhwygodd wisg uchaf Mr. Lewis Rees â'i gleddyf: Ond nid hir y bu cyn i farn Duw a'i wg ymddangos yn amlwg yn ei erbyn. Adeiladodd felin wynt; a chyn cael dim budd oddiwrthi, daeth rhyw gorwynt dychrynllyd, ac a'i drylliodd yn chwilfriw yn ddisymwth. Adeiladwyd llong iddo gerllaw Pwllheli: ond methwyd ei chael i'r môr mewn modd yn y byd tra bu efe byw; ond ar ol ei farw cafwyd hi i'r môr fel llestr arall. Yr oedd hen ferch dra chythreulig yn byw yn mhlwyf Llannor, a elwid Dorothy Ellis; ond gelwid hi yn gyffredin mewn ffordd o ddifenwad, Dorti Ddu. Aeth amrafael arswydus, ie, gelyniaeth anghymodlon rhwng y Canghellwr a'r hen fenyw hono. Ni adawai lonydd iddo yn un man, yn mysg boneddigion mwy nag yn mysg y cyffredin: rhegai a melldithiai ef, gan daeru yn haerllug ei fod yn ceisio ei threisio. A phan yr elai i'r Llan i bregethu, safai hithau ar gyfer y pulpud i regi ac i felldithio â'i holl egpi. Gorchymynai y Canghellwr i'r Wardeniaid ei llusgo allan: a thrafferth ddirfawr a fyddai ar y rhei'ny yn cael y fath wiber ddychrynllyd o'r Llan. Rhwymid hi weithiau wrth bost yn mhorth y fynwent nes darfod yr addoliad; ond yn y man y darfyddai y Canghellwr a'i wasanaeth, byddai hithau yn mhorth y fynwent yn ei ddysgwy! allan, gan godi ei dillad a syrthio ar ei gliniau noethion i regi a melldithio â'i holl egni yn ddychrynllyd. A chan nad oedd dim yn tycio i'w darostwng, cyhoeddwyd barn o ysgymundod arni. Gwnaed cadair bwrpasol i'w gosod arni i gyfaddef ac i ddywedyd ar ol yr Eglwyswr; dywedai hithau yn union yn y gwrthwyneb: ac yn lle diwygio aeth yn saith ysgymunach. O'r diwedd amharod iechyd y Canghellwr o herwydd ei bod yn ei boeni ac yn ei ofidio beunydd, ac aeth waeth waeth, nes ġ diweddodd ei daith yn eithaf anghysurus yn nghanol ei ddyddiau. Cyn ei farw, gorchymynodd ddwyn ei gorph i Lanidloes i'w gladdu, fel na chai Dorti Ddu, na neb yn Llannor, ei sathru dan eu traed. Tra yr oedd ei gorph yn aros heb ei gladdu, yr oeddynt yn cadw gwyliadwriaeth rhag i'r hen Dorti ruthro ato i'w amharchu: ond er mor wyliadwrus oeddynt, cafodd yn rhyw fodd gyfle i ddyfod i'r ystafell lle yr ydoedd, ac ymaflodd yn ei drwyn, gan ei ysgytio yn dra ffyrnig. A chan na allai ddangos ei chynddaredd tuag ato yn y wlad hon ar ol ei gladdu, aeth yn unswydd i Lanidloes, yn nghylch 80 milldir o ffordd, i wneyd y dirmyg ffieiddiaf a allasai, sef gollwng ei budreddi ar ei fedd!
YMOF. Mae hanes dychrynllyd yr adyn truenus hwn yn dwyn i'm cof eiriau y Šalmydd, "Gosod dithau un annuwiol arno ef." Os oedd gelyniaeth y llewod hyn at eu gilydd mor ofnadwy mewn byd amherffaith, pa beth a fydd pan y rhwymir hwynt ynghyd yn ysgubau i'w llwyr losgi? Ond a ddarfu yr erlidigaeth bellach?
SYL. Naddo; ac ni dderfydd chwaith tra byddo hâd yn wraig o fewn cyrhaedd i'r ddraig a'i hâd eu drygu.
YMOF. Ond pa ddichell ymhellach a arferwyd i geisio atal pregethiad yr efengyl? Dymunaf i chwi adrodd yn mhellach rai o'r pethau mwyaf neillduol am yr erlidigaethau yn y dyddiau hyny.
SYL. Dygwyddodd unwaith i ryw gynifer fyned o Leyn i Sir Fôn i wrando Mr. Daniel Rowlands, sef y tro hwnw ag y rhwystrwyd ef i bregethu yn Llangefni; ac wrth ddyfod yn ol yr oedd torf o erlidwyr yn dysgwyl am danynt yn Llanaelhaiarn, a churasant hwy yn ddidrugaredd, fel pe buasent gwn cynddeiriog, nes oedd eu gwaed yn llifo, a rhai o honynt yn cwympo oddiar eu ceffylau; a chafodd y rhai oedd ar eu traed y cyffelyb driniaeth. Wedi i William Prichard symud o Lasfryn fawr i Blas Penmynydd, yn Môn, cafodd yno ei ran yn helaeth o'r erlidigaeth. Dryllid ei erydr a chêr y ceffylau yn y nos; a thrafferth fawr fyddai ceisio llafurio y tir gan elyniaeth yr ardal. Daeth Mr. Benjamin Thomas ryw Sabbath i bregethu mewn tŷ gerllaw yno, sef Minffordd, yn agos i Sarn fraint, ac ymgasglodd torf o erlidwyr i aflonyddu y cyfarfod, a ffyn mawrion yn eu dwylaw, ac ar un o honynt ben o haiarn, A chyda bod y gwr yn dechreu pregethu, tafodd un o honynt lestraid mawr o ddwfr ar ei ben, ac yna dechreuasant guro â'u holl egni, fel pe buasent yn lladd nadroedd. Fel yr oedd Mr. B. Thomas yn ddyn cryf a bywiog, gadawodd hwynt oll wrth redeg; a diangodd oddiarnynt heb gael nemawr o niwaid.
Bryd arall ymgasglodd lluaws o erlidwyr creulon at dŷ W. Prichard, mewn bwriad i'w ladd. Rhuthrodd rhai o honynt i'r drws, gan ofyn yn llidiog i'r wraig, "Pa le mae dy bengrwn di?" Atebodd hithau, nad oedd efe gartref (canys yr oedd ef y pryd hyny wedi myned ar ryw achos i Sir Gaernarfon,) a chan na chawsant ef, nid oedd ganddynt ddim i'w wneuthur ond dryllio y ffenestri, a gwneyd pob galanastra ag a allent ar ei feddiannau. Symudodd W. Prichard oddiyno i le a elwir Bodlew, gerllaw Llanddaniel. Byddai raid iddo gadw ci mawr i'w amddiffyn ar hyd y ffyrdd, gan mor lidiog oedd trigolion ye ardaloedd. Anogodd y diafol un dyn o Niwbwrch i brynu cyllell fawr yn Nghaernarfon, gan fwriadu ei ladd yn ddilai, ac aeth i'w dy ef i'r dyben hyny: a pha beth a ddygwyddodd fod yn y cyfamser ond gwr y tŷ yn darllen pennod ac yn gweddio gyda'i deulu. Synodd y dyn yn ddirfawr, a dywedodd ynddo ei hun, "Os peth fel hyn y mae y rhai hyn yn ei wneuthur, yn enw y Gŵr goreu ni wnaf ddim iddynt." Cyfaddefodd y dyn ei fwriad gwaedlyd, ac aeth adref yn heddychol. Symudodd W Prichard drachefn o Fodlew i Glwch dyrnog, lle y treuliodd y gweddill o'i ddyddiau yn addurn i'w broffes, a bu farw mewn henaint teg. Defnyddiodd Duw ef fel offeryn dechreuol i blanu y Winwydden ffrwythlon yn Môn, yr hon sydd yr awr hon a'i changenau wedi ymledaenu dros y rhan fwyaf o'r wlad. Dygwyddodd fod yn Môn y pryd hyny ddau o wŷr boneddigion, sef William Bulkeley, o'r Brynddu, a'r Councillor Williams, o'r Tŷ fry, yn dirionach at grefydd nag ereill: ac anogodd y rhei'ny William Prichard a'i gyfeillion oedd yn cael eu herlid, i ddefnyddio y gyfraith o blaid eu rhyddid crefyddol; ac felly y gwnaethant. Daliwyd rhai o'r mawrion oedd yn blaenori yn y gwaith o erlid, diangodd ereill o'r wlad, a dychrynodd y lleill; ac felly gostegwyd y terfysgwyr, o 'radd i radd, trwy Ynys Fôn byd heddyw, a bu tawelwch mawr.[6]
Cyn gostegu yr erlidwyr, cyhoeddwyd Mr. Peter Williams rywbryd i bregethu yn agos i Benrhos Llugwy, wrth dŷ tafarn. Erbyn ei ddyfod yno, yr oedd cwmni anhawddgar yn dysgwyl am dano. Ni chai fyned i'r tŷ, na lle i'w geffyl. Ond gan ei Ond gan ei fod yn wr o feddwl gwrol, ac o ddygiad boneddigaidd i fyny, methasant ei wrthsefyll. Yna yn ebrwydd safodd i fyny, a rhoes y gair hwnw o'r Salm allan i ganu,
"Yr Arglwydd biau'r ddaear lawr,
A'i llawnder mawr sydd eiddo.
Yr Arglwydd biau yr holl fyd,
A'r bobl i gyd sydd ynddo."
Cerddodd y fath awdurdod gyda'r gair, nes oedd gwŷr y pastynau a'r cyrn yn taflu pob peth o'u dwylaw; ac wedi eu dal gan ddychryn, dechreuasant nesu ymlaen, a gwrandawsant yn llonydd hyd ddiwedd y cyfarfod. Tan y bregeth yma y dychwelwyd Owen Thomas, Rowland a Richard Hughes, dau ddyn hynod mewn duwioldeb a zêl dros achos Duw; ac ar ol hyny goddefasant lawer o gam a gorthrymder.
Cyn gadael hanes Mr. Peter Williams, adroddaf am y dirmyg a gafodd mewn lle elwir Trefriw, yn agos i Lanrwst. Beth a wnaeth y dorf anifeilaidd, ond diosg clôs y gŵr, a'i lenwi â soeg. Dygwyddodd fod yn eu mysg un dyn tra nerthol; ac wrth weled y fath ffieidd-dra enynodd ei ddig yn ddirfawr yn erbyn yr ynfydion gwallgofus, a gwaeddodd allan, "Ffei! dyma ffieidd-dra na welwyd erioed ei fath!" a dechreuodd chwalu y dorf o'i gwmpas fel gwybed. Cymerodd y clôs, gan dywallt y у soeg o hono, a'i lanhau, ac ymgeleddodd y pregethwr. Ac wedi y cyfan pregethodd Mr. Williams yn wrol, ac ni feiddiodd neb ei aflonyddu, gan arswyd y gŵr oedd yn ei amddiffyn.
Gan fod yr hyn a adroddwyd uchod wedi dygwydd yn ardal Llanrwst, fe allai na byddai yn anfoddhaol genych glywed ychydig yn nghylch y bregeth gynaf a fu yn y dref hono. Yr oedd pregethu wedi dechreu yn fore mewn lle a elwir Crafnant: a byddai rhai o Lanrwst yn myned yno i erlid. Meddyliodd rhywrai am gynyg pregethu yn y dref, a chawsant genad i ddyfod i ryw dy yno. Pan y daeth y noswaith bennodol, safodd cryn nifer o'r erlidwyr ar y bont i ddysgwyl y pregethwr, mewn bwriad i'w daflu i'r afon. Ond wedi deall am y cynllwyn, trosglwyddwyd y pregethwr mewn cwch tros yr afon. Mewn llofft yr oedd y cyfarfod; dechreuwyd yr oedfa trwy ganu mawl a gweddïo, yn darllenodd y gŵr ei destyn, sef y geiriau canlynol:—"Wele yr wyf yn mynegi i chwi newyddion da o lawenydd mawr," &c. Ond cyn iddo gael llefaru nemawr, cododd yno derfysg nid bychan; ac ymegnïodd rhai i geisio dyfod trwy y dyrfa at y pregethwr. "Pan ddeallodd gŵr y tŷ na chaid llonydd, diffoddodd y canwyllau, a chuddiodd yr athraw mewn cist, a chlô arno. Bu yr erlidwyr yno hyd y plygain yn chwilio am dano, ond methodd ganddynt ei gael. Enw y pregethwr oedd Morris Griffith. Aeth at yr Ymneillduwyr wedi hyn, a bu yn weinidog parchedig yn Sir Benfro hyd ei farwolaeth. Bu Llanrwst, yn enwedig y dref, amser maith ar ol hyn heb i neb gynyg pregethu yno; ond byddai ambell oedfa yn achlysurol yn mhlwyf Llansantffraid, Llanfairtalhaiarn, Llanddoged, Penmachno, &c. Nid oedd y pryd hyny ond ychydig yn Ngwynedd wedi derbyn doniau i bregethu; ambell un o'r Deheudir, yn awr a phryd arall, a fyddai yn dyfod atynt. Tua'r amser hwnw yr oedd gwr yn byw yn mhlwyf Llanrwst, mewn lle a elwir Bryniog uchaf, un John Richards, yr hwn oedd brydydd rhagorol; ac o herwydd hyny, yn nghyda harddwch ei berson, ei dymher addfwyn a siriol, oedd wedi enill parch mawr gan bob gradd o'i gydnabyddiaeth: ond er y cyfan, nid oedd ynddo un tuedd at wir dduwioldeb, nes yr ymwelodd Duw ag ef trwy glefyd trwm, yn mha un y deffrowyd ei gydwybod, a llanwyd ei enaid o fraw a dychryn, wrth feddwl ei fod yn wynebu y farn yn anmharod." Wedi gwellhau o'r clefyd, ymroddodd i fyw yn foesol a dichlynaidd, gan ymarfer â gweddïo yn ei deulu fore a hwyr. Erbyn hyn yr oedd son am dano trwy yr ardal. Wedi i rai oedd yn arddel crefydd glywed am y cyfnewidiad oedd yn ei fuchedd, anfonasant ato ddwy waith neu dair, fod gwr yn pregethu yn y lle a'r lle. Ni wnaeth gyfrif yn y byd ar y cyntaf o'u gwahoddiad; ond wrth ystyried nad oedd neb arall yn yr holl ardal yn cael anfon atynt i'w cymhell i ddyfod i wrando y gair, daeth i'w feddyliau, wrth eu bod yn parhau i anfon ato, a oedd gan yr Arglwydd trwy hyny ryw alwad arno, ag y dylasai ei wrando. Y tro cyntaf ar ol hyn pan glywodd fod rhyw wr yn dyfod i bregethu, aeth yno yn ddiymaros: arddelodd yr Arglwydd yr oedfa hono mewn modd neillduol, fel y goleuwyd ei feddwl, i raddau helaeth, am ffordd yr iachawdwriaeth trwy y Cyfryngwr, ac y llanwyd ei enaid o ddiddanwch yr efengyl. Gallasai ddywedyd cyn diwedd y cyfarfod, megys y dywedodd Ruth, "Dy bobl di a fydd fy mhobl i," &c. Yn mhen ychydig o flynyddau ar ol hyn, dechreuodd yotau bregethu yn oleu ac yn wlithog. Braidd y beiddiai neb ei erlid o herwydd y parch oedd gan yr holl ardaloedd iddo. Ni chyfarfyddai gweinidog y plwyf âg ef un amser heb gyfarch gwell iddo; a'i dystiolaeth am dano a fyddai yn wastadol, Ei fod yn credu ei fod yn wr duwiol. Bu amryw weithiau yn pregethu gerllaw mynwentydd rhai o'r eglwysi cymydogaethol, pan y byddai y bobl yn dyfod o'r Llanau, gan na cheid gafael arnynt yn un man arall, i'w hanog i ddychwelyd at yr Ar. glwydd. Treuliodd weddill ei ddyddiau yn ddiwyd a ffyddlon tros ei Feistr, yn addurn i'w broffes, megys seren yn llewyrchu mewn ardal dywyll. Gorphenodd ei yrfa yn y flwyddyn 1763, yn 44 oed.[7] Yn mhen maith flynyddoedd ar ol hyn, dygwyddodd brydnawn Sabbath ar faes yn agos i Drefriw, i ryw ŵr ddyfod i gynyg pregethu; yn y cyfamser daeth yno wr urddasol, o'r ardal, yn llawn o nwydau digofus a chythreulig, ac a gipiodd y Bibl o law y pregethwr, gan ei droedio o'i flaen y fel pe buasai bêl droed. Cyn pon bir tarawyd y gwr â math o walīgofrwydd arswydus. Byddai yn crochleisio yn ofnadwy fel y clywid ef bellder mawr o ffordd. Yr oedd efe yn ddychryn mawr, nid yn unig i'w deulu, ond hefyd i amryw yn y gymydogaeth. Parhaodd yn yr agwedd arawydus hono hyd ddydd ei farwolaeth. Gwas a ymrysona â'i Luniwr!
Gan fy mod eisoes wedi dyfod a'r hanes mor belled a chwr Sir Ddinbych, adroddaf i chwi hanes tra rhyfedd a ddygwyddodd yn more y diwygiad yn y wlad hòno. Yr oedd un o'r enw Lewis Evan, pregethwr teithiol, wedi addaw dyfod i bregethu ar ryw brydnawn Sabbath, ar fryn ger llaw y ffordd o Wytherin i Lansannan. Yr oedd yn y cyfamser wr yn byw gerllaw a fyddai yn ymhyfrydu yn fawr mewn cellwair a choeg ddigrifwch. Meddyliodd hwnw unwaith am fyned i'r Llan: ond ofnodd y delid ef yn rhy hir, os âi ef yno, ac y collai y difyrwch o wawdio y pregethwr. Wedi aros ychydig yn y dafarn, aeth tua'r lle yr oedd y cyfarfod i fod ynddo: a chan nad oedd yno neb wedi dyfod, gorweddodd i lawr, a chysgodd. Yn mhen ennyd, daeth yno wr arall, cyn i'r bobl ymgynull yn nghyd, a chanfu y dyn a ddaethai o'r dafarn, yn cysgu. Rhodiodd y gŵr i fyny ac i waered ar hyd y bryn i aros i'r bobl ddyfod yn nghyd; ac wrth edrych o'i gwmpas, canfu welltyn praff, megys wedi ei blanu yn y ddaear; ymaflodd ynddo, a chanfu yn ebrwydd mai powdwr oedd ynddo, ac wedi iddo gloddio â'i law, cafodd dywarchen fechan, a phowdwr oddi tani, a ffôs neu rigol fain yn cyrhaeddyd i ben y bryn, a phowdwr ynddi o benbwygilydd; ao ar ben y bryn le crwn wedi ei dori yn y ddaear, o gylch dwy droedfedd drosto, ac ynddo lawer o bowdwr, a gwellt yn ei orchuddio yn dra chywrain, a thywyrch wedi eu rhoddi yn drefnus ar bob man, fel na byddai i neb amheu fod yno un math o berygl. Darfu i'r gwr a ganfu y gwelltyn grafu ymaith y powdwr yn llwyr, a dodi y tywyrch yn eu lle fel o'r blaen, a'r gwelltyn hefyd a ddododd efe yn ei le fel y cawsai ef. Erbyn hyn, yr oedd y pregethwr a'r bobl yn dyfod; a safodd y gwr i bregethu yn gymhwys ar y fan yr oedd y powdwr wedi ei guddio ynddo. Yr oedd y gŵr a ganfu y bradwriaeth yn sylwi yn fanwl pwy a ddeusi at y lle yr oedd y gwelltyn ynddo: ac yn mhen ychydig, dyna ddyn yn rhedeg, a gwisg certiwr am dano, a mwg o'i gwmpas; a phan gyrhaeddodd hyd at y gwelltyn, dechreuodd chwythu ei dân. Erbyn hyn dyma y gŵr a ganfuasai y ddichell yn gwaeddi arno, "Methaist genyt dy gast y tro hwn." Felly amddiffynodd Duw ei bobl megys yn wyrthiol y pryd hyny. Gwas i gyfreithiwr oedd y dyn a ddaeth â'r tân, ond pa un ai efe ai ei feistr oedd ddyfnaf yn y ddichell, dydd y farn a'i dengys.
YMOF. Rhyfedd yr elyniaeth ysgeler, a'r dichellion uffernol oedd yn bod y dyddiau hyny, fel bob amser, yn erbyn crefydd! Y mae yr helyntion a adroddasoch yn dwyn i'm cof eiriau yr Apostol, "Yr Arglwydd a fedr wared y duwiol rhag profedigaeth, a chadw y rhai anghyfiawn i ddydd y farn i'w poeni."-Cyn i chwi adael ardaloedd Dinbych a Fflint, gadewch glywed eto rai o'r pethau mwyaf hynod a ddygwyddasant yno.
SYL. Pan wynebwyd gyntaf i gynyg pregethu yn nhref Dinbych, ymosododd trigolion y dref a'r wlad i erlid yn dra ffyrnig dros enyd o amser. Byddent, nid yn unig yn curo yr ychydig broffeswyr tlodion ag oedd yn dyfod yno i geisio gwrando y gair, ond hefyd yn eu llusgo i le a elwir Pwll y grawys, i'w rhynu a'u darnfoddi. Un tro, fel yr oeddynt wedi Ilusgo rhyw bregethgwr i'r pwll, ac heb allu canlyn arno fel y dymunent, rhuthrodd un ar ei farch, a chi mawr ganddo, ar fedr ei larpio. Ond wedi iddo anog y ci i rwygo y dyn, yn lle gwneuthur felly, ymaflodd y creadur ffyrnig yn ffroenau y march, ac ni fynai ollwng ei afael. A thra y buont hwy yn ceisio cael y march o afael y ci, cafodd y pregethwr tlawd gyfle i ddiangc o'u dwylaw.-Byddent mor annynol ac anifeilaidd a chodi merched ar eu penau yn y modd mwyaf gwarthus, er gwawd i'r holl edrychwyr. Rhuthrasant i dŷ un Thomas Lloyd, a chymerasant pobpeth oedd ganddo yn ei dŷ, gan eu gwerthu oll yn y farchnad, a gadael y gŵr a'r wraig rhwng dau bared moel, i ymdaro fel y gallent. Ond er ei yspeilio o'r cyfan oedd ganddo, ni adawodd Duw ef heb ei wobr; canys llwyddodd wedi hyny yn dra helaeth yn ei feddiannau bydol. Cyn darostwng y terfysgwyr yno, bu gorfod defnyddio y gyfraith; a drud iawn a fu y tro i rai lled uchel eu sefyllfa; ond diangodd rhai o'r wlad rhag ofn, ac ni ddychwelasant byth yn ol.
Yr oedd yn byw yn Henllan, gerllaw Dinbych, ŵr a gwraig a anturiasent dderbyn pregethu i'w tŷ, yn ngwyneb llawer o erlid a gwawd, ac o radd i radd, cynyddodd yr elyniaeth i'r fath greulondeb fel y taflwyd hwy allan. Ond gofalodd yr Arglwydd am ei achos, ac am danynt hwythau, fel y cafwyd lle i adeiladu tý iddynt, ac i dderbyn yr efengyl; ac yn y lle hwnw buont fyw yn ffyddlon a chysurus 33 o flynyddoedd. Eu dymuniad gwastadol oedd cael gweled lle helaethach i bregethu yr efengyl cyn eu marw; a chawsant eu deisyfiad, sef capel helaeth a threfnus, a lluaws mawr o wrandawyr ynddo. Gwysiwyd y gŵr amryw weithiau, gan ei fygwyth a'i wawdio, a dywedyd y byddai raid iddo fyned yn filwr ar un o longau y Brenin. Un tro nodedig, pan oedd yn gorfod iddo ymddangos yn Llanelwy, a'i feddyliau yn isel a therfysglyd, daeth yr ysgrythyr yma gyda grym i'w feddwl, "Na ofelwch pa fodd, neu pa beth a lefarwch; canys rhoddir i chwi yn yr awr hono pa beth a lefaroch." Ac fel yr oedd y penaethiaid wedi ymgynull yn nghyd i drin ei fater, daeth taran ddychrynllyd yn y cyfamser, ac a barodd y fath arswyd, fel y daeth glesni ar bob wyneb, a phawb a aethant ymaith gyda braw, a chafodd yr hen wr fyned adref yn heddychol. Bu ef a'i wraig fyw i oedran teg, a buont feirw mewn tangnefedd megys tywysenau wedi llawn aeddfedu.
Un tro, safodd dau ddyn, a phastynau mawrion yn eu dwy, law, wrth bont yn Nyffryn Clwyd, i ddysgwyl pregethwr oedd i ddyfod o ffordd hono, sef Lewis Evan. Tarawodd un o honynt ef yn dra chreulon ar ei ben, nes oedd ei waed yn ffrydio: ond er hyny ni thaflwyd ef oddiar ei farch. Ni wyddai gan y syndod oedd yn ei ben o achos y dyrnod, fod ei waed yn llifo, nes i ryw wraig ei gyfarfod, a gofyn iddo yn gyffrous, "Yn enw y Mawredd, pa beth yw y drefn yna sydd arnoch!" Cyrhaeddodd fel yr oedd at rai o'i gyfeillion i gael ymgeledd, ac i iachâu ei friwiau. —Tro nodedig a ddygwyddodd mewn rhyw dref. Yr oedd rhyw wr wedi addaw dyfod yno i bregethu, ac aeth y gair ar led am ei ddyfodiad. Ymgasglodd torf o oferwyr y dref, yn llawn o zêl erlidigaethus, i ddysgwyl am dano. Yn y cyfamser daeth gwr boneddig mawr ar ymdaith i'r dref; a dygwyddodd fod gan y gwr gadach wedi ei rwymo am ei ben, o herwydd rhyw afiechyd, mae yn debyg. Barnodd y dorf yn ddiamheuol mai hwnw oedd y pregethwr, oblegyd y byddai amryw o'r pregethwyr y dyddiau hyny yn gwisgo cadachau am eu penau; a dyna y nôd a fyddai gan lawer ar bregethwyr. Pa fodd bynag, rhuthrasant ar y gŵr boneddig, gan ei luchio, ei guro, a'i faeddu yn ddidrugaredd; ac yntau wedi synu, ac yn ofni am ei fywyd, yn methu gwybod na deall pa beth oedd ar y gwallgofiaid. Nid oedd wiw iddo waeddi Gosteg arnynt mwy nag ar donau y môr: ond dylynasant ef nes iddo gael tafarn neu ryw le i ddiangc oddiar eu ffordd. Bu arswyd a dychryn mawr arnynt pan wybuant pa fath wr a drinwyd ganddynt mor atgas; ac nid wyf yn sicr a gafodd rhai o honynt eu cospi am y fath ymddygiad gwarthus. Camgymeryd y diwrnod a fu yr achos iddynt ymosod ar y gŵr boneddig. Dranoeth yr oedd addewid i'r pregethwr fod yn y dref; ac o herwydd y braw a gafodd pobl y dref yn acbos y gŵr boneddig, у ni feiddiodd neb ei erlid, ond cafodd fyned a dyfod yn heddychol, heb neb yn ei aflonyddu.—Bu tro lled debyg yn Nghorwen
Yr oedd dau ddyn a fyddent yn arfer prynu moch yn myned trwy y dref ar fore oer iawn, a chanddynt gadachau am eu penau. Dechreuodd pobl y dref ymosod arnynt yn egniol, gan dybied mai pregethwyr oeddynt. Ond beth a wnaeth y rhei'ny ond troi arnynt yn wrol, heb brisio beth a gaent gyntaf i'w dwylaw i'w taflu atynt, nes ffôdd pawb i'w pebyll, megys y gwnaeth yr yspryd drwg gynt â meibion Scefa.
Yr oedd erlid mawr tua'r amser hwnw o ddeutu Adwy'r Clawdd, ac amryw fanau ereill. Aethant a dodrefn y tŷ lle byddai pregethu (sef y Llofft wen) i Wrecsam, a gwerthwyd hwynt yn llwyr ar y farchnad, a gwariwyd yr arian am ddiod gadarn. Daliwyd Mr. Peter Williams, ac aethant a chymaint a feddai oddiarno, ond blwch bychan, yn mha un yr oedd haner gini yn ddiarwybod iddynt. Cymerodd cyfreithiwr o Aberhonddu yr achos mewn llaw, a chodwyd y mater i Lundain; ac er ymgais llawer gan y cyfreithwyr yno wyro barn, methodd ganddynt lwyddo: a thrwy hyny, a'r farn a oddiweddodd rai o'r erlidwyr, gostegwyd yr ystorm hono, fel na chyfododd hyd heddyw i'r un graddau.
Yn agos i Gaergwrle, yn Sir Fflint, y bu tro nodedig iawn. Cyhoeddwyd Mr. David Williams, o'r Deheudir, i bregethu ryw noswaith mewn tŷ bychan. Daeth yno yn lled gynar: ond yn min y nos, dyma ryw ferch yn rhuthro i'r tŷ, bron wedi colli ei hanadl wrth redeg; a'r newydd oedd ganddi pan y cafodd ei gwynt i allu siarad oedd, fod llu o erlidwyr yn dyfod at y tŷ. Yna cododd gwr y tŷ i fyny a chlôdd y drws. Erbyn hyny dyma y dyrfa afreolus wedi dyfod, yn tyngu, rhegi, a diawlio, gan ddywedyd yn haerllug y byddai raid i wr y tŷ yru y pregethwr allan atynt; ond ni fynai yntau er dim gydsynio i wneyd hyny. Aethant hwythau yn fwy fwy afreolus, gan dyngu i'r distryw mawr, oni chaent y pregethwr allan, y tynent y tŷ i lawr am eu penau. Rhedodd rhai o honynt i chwilio am drosolion; ond cyn iddynt wneuthur nemawr o niwaid, dymunodd y pregethwr gael myned allan, gan ddywedyd, "Gollyngwch fi: rhaid i mi gael myned." Yna agorwyd y drws, ac aeth yntau allan i ganol y dorf, ac a ymddiddanodd â hwynt yn debyg i hyn; "Yn enw y Gŵr goreu, beth sydd a fynoch â dyn dyeithr ar ei daith? Pa enw neu anrhydedd a fyddai i chwi pe baech yn fy lladd?", Dygwyddodd fod yn eu mysg ryw ddyn cryfach na chyffredin: safodd hwnw i fyny yn eu canol, gan waeddi allan à llonaid ei safn o lwon, "Onid dyn iawn yw hwn: mynaf chwareu teg iddo er gwaethaf pawb." Gwelodd Mr. David Williams fod y drws wedi agor iddo megys yn wyrthiol i gael pregethu: cafodd le i sefyll yn ochr y ffordd, a phregethodd gyda llawer o hyfrydwch wrth oleuni y lloer; a diau na bu Haul cyfiawnder yn gwbl absennol. Bu pawb mor ddystaw a chûn yr Aipht, ac ymadawsant yn heddychol.
Yr oedd y gŵr yn byw yn agos i'r amser hyny ger llaw Treffynon, a elwid Edward Jones. Yr oedd yn rhagori mewn dysg a doniau ar lawer o bregethwyr tlodion y dyddiau hyny. Cafodd ei ddyrchafu yn' olygwr ar ryw weithydd yn y wlad hono. Fel yr oedd efe, ynghyda rhai gwŷr ereill o sefyllfa uwch na'r cyffredin, yn cyd-deithio ar eu meirch, dygwyddodd iddynt ddyfod heibio i dyrfa o ynfydion yn prysur chwareu, y naill blwyf yn erbyn y llall. Safasant dros ryw enyd i edrych arnynt: ac enillodd y plwyf yr oedd efe yn perthyn iddo y gamp; ac o wag orfoledd am y fuddugoliaeth, rhoisant floedd nes oedd y ddaear yn dadseinio; a themtiwyd yntau i ynfyd floeddio gyda hwynt. Teimlodd yn y fan wg Duw ar ei gydwybod, a'r pethau oedd efe yn eu mwynhau o'r blaen yn cilio oddiwrtho: ac ni chynygiodd bregethu byth wedi hyny. Da i bawb gymeryd cynghor yr Apostol; "Na ddiffoddwch yr Yspryd—Ac na thristewch lân Yspryd Duw." Ond er iddo golli ei fraint yn yr eglwys, ni ellid barnu yn galed am ei gyflwr; oblegyd yr oedd arwyddion o dduwioldeb arno tra y bu ef byw.
YMOF. Rhyfedd diriondeb Duw at ei eiddo, y rhai sydd fel wyn yn mysg bleiddiaid, ac fel lili yn mysg drain. Diau y gall Sïon ddywedyd gyda'r Salmydd, "Oni buasai yr Arglwydd yr hwn a fu gyda ni, pan gyfododd dynion yn ein herbyn; yna y'n llyngcasent ni yn fyw, pan enynodd eu llid hwynt i'n herbyn." Cyn gadael y gwledydd hyn, gadewch glywed rhyw ychydig o'r helynt a fu yn Rhuddlan; canys clywais fod yno lawer o derfysg ac erlid pan y dechreuwyd pregethu yno.
SYL. Felly y bu. Yr oedd y dref a'r ardaloedd yn blaenori mewn annuwioldeb ar y wlad yn gyffredin. Cedwid yno bob Sabbath, tra parhai y cynhauaf, fath o gyfarfod lluosog a elwid Gwylmabsant, yn mha un y cyflogid y medelwyr tros yr wythnos. Gwerthid hefyd grymanau, ac amryw bethau ereill, megys pe buasai yn ddiwrnod marchnad. Wedi darfod eu negesau, ymdyrent i'r tafarndai i ganu, dawnsio, a meddwi, yn fynych hyd fore Llun: ac odid na byddai yno ymladd gwaedlyd cyn ymadael. Chwi ellwch feddwl nad oedd hi ddim llai na pherygl bywyd i wynebu yno i gynyg pregethu; ac er hyny anturiodd un William Griffith, o gerllaw y Wyddgrug, a safodd ar yr heol, o achos na cheid un tŷ. Ni chafodd braidd ond dechreu, nad dyna y dom a'r cerig yn cael eu lluchio ato gan dorf ar unwaith; a chafodd ei lusgo a'i faeddu ganddynt yn ddidosturi. Byddai rhyw rai ereill yn dyfod yno i amcanu pregethu; ond yr un driniaeth a gaffai pawb. Un tro wedi dirdynu digon ar ryw bregethwr a ddaethai yno i lefaru, cytunasant â'u gilydd i'w gipio a'i daflu dros y bont i'w foddi: ond fel y mae bywyd pawb yn llaw yr Arglwydd, gwaredwyd ef yn rhyfedd o'u dwylaw. —Yr oedd yno y pryd hyny ficar tra gelyniaethol i grefydd; ac nid oedd neb yn chwythu tân yr erlidigaeth yn fwy nag ef. Un Sabbath, rhoes bum'swllt i'r erlidwyr i dalu am ddiod gadarn i'w gwneyd yn ddigon calonog at eu gorchwyl, a hyny yn union ar ol y cymun. Ond buan y goddiweddodd y farn ef yn amlwg; canys tua phen yr wythnos, dyrysodd ei synwyrau, a bu orfod ei ddanfon i dŷ y gwallgofiaid; ac yno y bu efe hyd ddydd ei farwolaeth. Bu ei wraig hefyd (yr hon a feddiannodd yr elw o'r plwyf yn absen ei gwr) yn dra gelyniaethol i grefydd, hyd ag yr oedd ynddi: ac ni ddiangodd hithau chwaith, na rhai o'i theulu, heb arwyddion o anfoddlonrwydd Duw tuag atynt. Yr oedd yno wr arall o erlidiwr ysgeler, ac yn dylyn puteindra gyda gwraig ei gymydog. Ei enw (byd yr wyf yn cofio) oedd Edward Hughes. Dygwyddodd un tro fod pregethwr, yn ei athrawiaeth, yn datgan bygythion Duw allan o'r gair yn erbyn amryw bechodau ffaidd; ac yn mysg ymadroddion ereill, gwaeddodd allan, "O buteiniwr!" A chan fod yr adyn hwnw yn euog o'r cyfryw ffieidd-dra, cipiodd lonaid ei law o dom, tharawodd y pregethwr yn ei wyneb, gan ddywedyd, "Pa fodd y gwyddost ti am danaf fi?" Parhaodd ¡ erlid: ond ar ryw Sabbath, wedi bod yn y dafarn, ac wedi hyny yn erlid; tarawyd ef yn ei gwsg â math o fitiau dychrynllyd y noswaith hono, fel y byddai raid ei rwymo ef a rhaffau; ac ni chafodd iachâd o honynt hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yno ŵr arall hefyd a elwid Thomas Jones, yr hwn oedd yn erlidiwr gair Duw, a'i achos: ond cyn pen hir, cyrhaeddodd llaw yr Arglwydd yntau hefyd; canys un diwrnod, fel yr oedd yn y maes, tarawyd ef yn ei forddwyd gan ryw farn anweledig, fel y gorfu ei ddwyn of i'w dŷ, lle y gorweddodd chwe' mis. Ac er na ddychwelodd at yr hwn a'i tarawodd, eto cyfaddefodd mai erlid crefydd a ddygodd y farn arno. —Nis gallaf lai na chrybwyll yma am wraig weddw oedd yn byw yno fel Lot yn Sodom. Ei henw oedd Jane Jones. Bu yn fammaeth ymgeleddgar i achos Duw yn y dref hono tra bu hi byw; heb neb yn ei chynorthwyo am lawer o flynyddoedd. Hi oedd yr un a agorodd ei drws gyntaf i'r efengyl yno. A'r noswaith gyntaf y derbyniodd bregethu i'w thŷ, torwyd ei holl ffenestri, a thynwyd un o'i llygaid. Ond er chwerwed oedd y croesau, ei phenderfyniad oedd fel Lydia, "Deuwch i'm tŷ." Cafodd'hi a'i dau blentyn eu cynal yn ddigonol er syndod i lawer pa fodd yr oeddynt yn gallu byw. "Y rhai a geisiant yr Arglwydd, ni bydd arnynt eisiau dim daioni."
Parhaodd yr erlid yno (er mai nid yn yr un graddau o greulondeb ag ar y dechreu) nes y daeth Ysgol rad i gael ei chadw yno: a mawr a fu yr helbul i gael ei dechreu, o herwydd llid a gwrthwynebiad gwraig y ficar a'i churad. Ond wedi ei dechreu, daeth yno lawer o blant, a llarieiddiodd y dref a'r ardal o radd i radd, fel y daethant yn fwy moesol a thueddol i wrando y gair. Ond yn fwyaf neillduol, ysgol y nos a fu yn offerynol, drwy fendith yr Arglwydd, i dori rhagfarn yr ardaloedd at grefydd. Cedwid hi ddwywaith yn yr wythnos, a deuai iddi luaws mawr o bobl ieuaingc, heblaw plant; ac at ddiwedd yr ysgol, erbyn yr elid i gateceisio, byddai yno nifer mawr o hen bobl: ac mae allan o ddadl i Dduw, er mwyn ei enw, ac er achub eneidiau, wneuthur y moddion gwael hyny yn fendith i lawer. Y mae y tô hwnw wedi myned adref oll, a llawer o honynt wedi gadael tystioliaeth eglur o'u hol y gwyddent fod eu Prynwr yn fyw. Llawer tywydd a fu ar Ruddlan wedi hyny, fel y berth yn llosgi yn dân, a'r berth heb ei difa; a'r achos yw, oblegyd fod Angel mawr y cyfamod yn preswylio ynddi. —Gadawaf ardaloedd Dinbych a Fflint yn bresenol: fe allai y bydd i'r hyn a adroddwyd fod yn foddion i gymhell rhyw rai o'r siroedd hyny i ysgrifenu yn helaethach. Ond nis gallaf lai cyn diweddu nag adrodd un tro nodedig a fu yn ardal Llansannan yn nechreu y diwygiad. Cytunodd deg o wyr lled ieuainge i fyned gyda'u gilydd i wrando pregeth i blwyf Llanfair; ac ni buasai neb o honynt yn y fath gyfarfod o'r blaen. Cafodd y deg eu galw a'u deffroi am eu cyflwr; a chawsant y fraint o fod yn harddwch i'w proffes, ac yn ddiwyd a ffyddlon hyd angeu, oddieithr un neu ddau o honynt. Un o'r deg oedd yr hen bererin duwiol, Edward Parry, a fu yn athraw defnyddiol, ac yn ymgeleddwr i achos Duw hyd ddiwedd ei ddyddiau; ac y mae ei goffadwriaeth yn barchus hyd heddyw.
YMOF. A arferwyd rhyw ddichellion heblaw amherchi cyrph dynion, tuag at atal pregethu yr efengyl?
SYL. Do, yn ddiau, amryw ffyrdd. Weithiau trwy deg, eu perswadio i ochel cymeryd eu twyllo i adael ffydd yr Eglwys, ac i wadu eu bedydd. Bryd arall bygythid hwy yn dra ffyrnig: oni pheidient y byddent yn gas gan bawb; ac y gwnai y mawrion yr hyn a allent o ddrwg iddynt. Pregethai yr Eglwyswyr yn eu herbyn; gan eu dynodi yn dwyllwyr, yn gau brophwydi, yn hereticiaid, ac mai hwy yw y rhai y dywedir am danynt eu bod yn ymlusgo i deiau, yn llwyr-fwyta tai gwragedd gweddwon, a hyny yn rhith hir weddïo, a'r cyffelyb. Codwyd amryw o leoedd eu preswylfod, heb un achos ond eu bod yn glynu yn eu proffes. Anfonwyd gwarantau allan i ddal cynifer a ellid cael gafael arnynt, gan eu herlid allan o'r wlad yn sawdwyr. Ni feiddiai amryw o honynt gysgu yn eu gwelyau dros hir amser, rhag rhuthro arnynt ganol nos. Bu un o honynt, sef Hugh Thomas, yn gorfod ffoi tua Chaernarfon a Llanberis. A phan wybu nad oedd allan o'r perygl yno, ymroddodd i ddyfod adref, deued a ddelai. Bu rhyw gymydog mor dirion a gwneuthur math o luest iddo mewn clawdd, a swp o wellt yn lle dôr arno, lle y treuliodd chwech wythnos o amser, nos a dydd, yn y sefyllfa anghysurus hono, fel y rhai hyny gynt, "Mewn tyllau ac ogofeydd y ddaear." Byddai raid i'r wraig ddwyn lluniaeth iddo yn ddirgelaidd iawn, rhag i neb fynegi neu ddatguddio y lle yr oedd. Ond cafodd ei ryddhau yn ol hyny trwy ffafr un o fawrion y wlad. Daliwyd un pregethwr, a elwid Hugh Griffith, gerllaw Aberdaron, gan ddau ddyn awyddus i'r gorchwyl; ond gan ei fod yn ddyn bywiog, chwimwth, diangodd o'u dwylaw; methodd ganddynt (er iddynt braidd golli eu hanadl yn rhedeg) a'i oddiweddyd; ac fe aeth drosodd i Fôn, ac a wladychodd yno hyd ddydd ei farwolaeth. Ond er i lawer gael eu cuddio rhag eu dal yn y rhwyd, er hyny daeth amryw i'r fagl. Yn mysg ereill, un Morgan Griffith, yr hwn fyddai yn arfer ei ddoniau i bregethu yn achlysurol, yn yr un gymydogaeth. Pan y dygwyd ef i Bwllheli, ger bron yr Ustusiaid, a'r rhagswyddwyr, daeth a'i blant bychain mewn cewyll i'w gosod ger bron y swyddwyr; yr oedd hefyd wedi claddu ei wraig yn ddiweddar; ac er y cyfan, nid oedd gradd o dosturi yn cael ei ddangos tuag ato ef na'i rai bach amddifaid: canys, fel y dywed Solomon: "Tosturi y drygionus sydd greulon." Gadawyd hwynt ar yr heol, o'u rhan hwy, heb lygad i dosturio wrthynt. Ond, yn ol ei addewid, Tad уг amddifaid yw Duw. Gofalodd Rhagluniaeth am danynt oll: ac y mae rhai o'i hiliogaeth, yn bresenol, mewn amgylchiadau cysurus ac yn barchus yn eu hardal. Ond er pob peth, myned a orfu arno ef, druan gwr, gyda bagad o'i gyfeillion, ar eu taith tua gwlad y Saeson. Rhoddwyd hwy oll i letya yn ngharchar Conwy, heb ddim ond gwellt i ymdrôi ynddo. Pan glywodd trigolion y dref am eu dyfodiad yno, ymgasglodd lluaws o honynt, a llusernau yn eu dwylaw, i gael golwg arnynt. Yr oeddynt hwythau, erbyn hyn, wedi cysgu yn eu lludded; ond darfu iddynt ddeffro yn ebrwydd wrth ddadwrdd y dorf a ddaethai i'w gweled. Cododd Morgan Griffith i fyny, ac a'u cyfarchodd yn debyg i hyn: "Myfi feddyliwn mai i'n gweled y daethoch. Mae i chwi gyflawn groesaw. Fe allai na byddai yn anfoddhaol genych glywed am ba beth y cawsom ein gyru yma. Bydded hysbys i chwi oll, mai nid am un trosedd yn erbyn cyfraith ein gwlad: ond am ddarllen yr ysgrythyrau, gweddïo, a chanu mawl i Dduw, a chynghori ein gilydd i geisio yr Arglwydd tra gellir ei gael, a galw arno tra fyddo yn agos, yr ydym yn cael ein gyru o'n gwlad, ac oddiwrth ein teuluoedd, heb ddysgwyl eu gweled byth mwy. Ond y mae ein cydwybodau yn dawel; ac yr ydym yn llawen am ein cyfrif yn deilwng i ddyoddef anmharch er mwyn ei enw ef." Ac â chyfryw ymadroddion y cynghorodd ac yr anogodd efe hwynt i ymofyn am wir dduwioldeb, fel y gallent ddiangc rhag y digofaint sydd ar ddyfod. Ymaflodd y gair mewn modd deffrous yn meddyliau gwr ieuaingce heinif oedd yno. Methodd ganddo gael y saeth o'i gydwybod yn llwyr, er gwaethaf y diafol a'i hudoliaethau, yn nghyda llygredd ei galon ddrygionus ei hun. Bu lawer o flynyddoedd heb wneyd proffes gyhoeddus o grefydd. Ac er bod yr hâd yn hir megys yn guddiedig yn y ddaear, er hyny torodd allan yn amlwg mewn amser. Bu y gŵr yn ddefnyddiol yn ei hen ddyddiau dros achos yr efengyl yn ardal dywyll Dwygyfylchi; cadwodd ei ddrws yn agored i bregethu yr efengyl hyd ddydd ei farwolaeth: ac y mae ei deulu, y rhai sydd barchus a galluog yn y byd, yn parhau i wneyd yr un modd.
Ryw dalm o amser o flaen hyn, bu erlid creulon mewn lle a elwir Tŷ ceryg, yn Aberdaron. Daeth Mr. Lewis Rees, o'r Deheudir, yno i gynyg pregethu. Erbyn dyfod i'r lle, yr oedd yno dorf ddirfawr o erlidwyr; ac un Mr. Morris Griffith yn flaenor arnynt. Pan ddaeth Mr. Rees i'r lle, cyfarfu Mr. Griffith ag ef a'i gleddyf noeth yn ei law. "Pa beth," ebe fe, "os dywedi air yma heddyw, myfi a'th redaf â'r 'cleddyf." Atebodd Mr. Rees, yn addfwyn, "Yr ydych yn llaw gwr arall, Syr." Gyda y gair hwnw gostyngodd ei gleddyf i lawr, fel pe na buasai grym ynddo i'w ddal i fyny yn hwy. Ond yn mlaen â'u gorchwyl ysgeler yr aeth y dyrfa afreolus; i guro a baeddu, nid yn unig y pregethwr, ond hefyd cynifer o broffeswyr ag, oedd yno yn bresenol. Y merched, trwy gael eu hanog, oeddynt yn hytrach yn waeth na'r dynion. Cawsanty pregethwr i lawr yn fuan. Gorweddodd un arno rhag ofn iddynt ei ladd, gan dderbyn y dyrnodiau yn ei le. Ar ol i'r terfysg lonyddu ychydig, llusgasant Mr. Roes i ryw dy, i'w gadw yn garcharor hyd dranoeth. Dygwyd ef oddi yno o flaen ustus, a'r hen_Ganghellwr creulon a ymddygodd tuag ato yn dra ffyrnig. Er y cyfan cafodd ddychwelyd adref heb lawer iawn o niwaid. Gorfu rhoddi Mr. Morris Griffith yn llaw y gyfraith. Daeth swyddog o Sir Ddinbych i'w ddal; ac er ei fod yn ddyn cryf o gorpholaeth, ac yn peri ei arswyd yn nhir y rhai byw, er hyny pan ymaflodd y swyddog ynddo, dflanodd fel bretyn dan ei law. Och, mór egwan a brawychus yw cydwybod euog!
Goddefwch i mi adrodd ychydig yn rhagor o bethau, a ddygwyddasant yn fwy diweddar. Lluniwyd cyfarfod i bregethu nid ymhell oddiwrth Benmorfa. Erbyn dyfod yn nghyd nid oedd fawr hamdden i gynyg pregethu, gan dorf afreolus a ddaethai yno i derfysgu ac i erlid. Yr oedd yn eu mysg ddyn ieuangc, oedd yn tra rhagori ar bawb ereill oedd yno am gellwair, gwawdio, a dirmygu y gwaith hyd y gallai. Nid wyf yn sicr a gafodd ef weled haul yn codi, cyn gorfod ymddangos yn y farn, yn adyn truenus fel yr oedd. Parodd hyny fraw yn meddyliau amryw yn y gymydogaeth.
Nid yn mhell o'r un ardal yr anturiodd gŵr dderbyn pregethu i'w dŷ, er bod y wraig foneddig oedd berchen y lle yn byw yn lled agos ato: ac er bod yno bregethu er's amryw flynyddoedd, mae yn lled sicr nad oedd y wraig foneddig yn gwybod hyny; ond dygwyddodd i ŵr urddasol o gyfaill iddi ddyfod i ymweled â hi, a chymerodd ei daith un bore i ymweled âg eglwyswr ieuangc oedd yn y gymydogaeth. Yn mysg ereill o'u hymddiddanion, adroddodd y gŵr ieuangc wrtho fod pregethu yn nhŷ tenant i'r wraig foneddig, a hyny nid yn mhell oddiwrth ei phalas; a'i fod yn ofni yn fawr nad oedd neb mor ffyddlon a mynegi iddi. "A ydyw y peth yn wir?" ebe y gŵr urddasol. "O ydyw," meddai y llall, "yn ddigon sicr." Dywedodd yntau, Wel, ni fwytaf fi fy nghiniaw heddyw nes ei gwneyd yn hysbys." Ac felly y gŵr a ddychwelodd yn ol i'r palas. Erbyn ei ddyfod yno gofynodd y morwynion rywbeth iddo; ond ni chawsant un ateb ganddo er gofyn eilwaith ac eilwaith. Cyffrôdd y rhai hyny, a rhedasant i alw ei briod i lawr o'r llofft. Daeth hòno ar frys ato, mewn braw a dychryn, fel y gallwn feddwl, gan ddymuno arno ddywedyd rhywbeth wrth hi; ond ni ddywedodd efe ddim wrth hòno na neb arall tra y bu byw! Bu farw yn mhen ychydig ddyddiau, heb ddywedyd eto fod y tenant tylawd yn derbyn pregethu i'w dŷ. Cafodd hwn a'i wraig lonydd o hyny allan i gadw eu drws yn agored i'r efengyl hyd ddydd eu marwolaeth.
Ni allaf lai na dwyn ar gof i chwi am ddau dro tra neillduol a ddygwyddasant yn Arfon. Cytunwyd â gwraig oedd yn cadw tafarn, mewn lle a elwir y Dolydd Byrion, i gael cynal cyfarfod misol yn ei thŷ. Erbyn dyfod yno at yr awr a bennodasid i bregethu, yr oedd y tŷ yn llawn o ddynion o bell ac agos, a ddaethent yno yn fwriadol, mewn eithaf gelyniaeth, i rwystro y gwaith: ac amryw o fawrion yn eu plith. Dygasent gyda hwy ryw nifer o ynau a thabyrddau; offerynau tra amberthynasol i amddiffyn yr Eglwys; oblegyd dan y lliw o wneuthur hyny, mae yn debyg, yr oeddynt wedi dyfod yn nghyd. A chan na chaid lle yn y tŷ, nac yn agos ato, i gynyg pregethu, cyhoeddodd rhywun yn y drws, ar fod i bawb oedd yn chwennych gwrando, ddyfod i le gerllaw yno, a elwid Rhos Tryfan. A chyn dechreu y cyfarfod, dyma swn y tabwrdd yn dyfod ar ein hol; ac yn mhen enyd aeth yn gwbl ddystaw. Cyn pen nemawr clywem ei thrwst yn dynesu atom eilwaith; ac eto yr oeddym yn methu deall ei bod fawr nês nag o'r blaen. Clywsom wed'yn beth oedd yr achos na ddaeth y gwr a'r tabwrdd hyd atom: wedi dyfod tua chan' llath oddiwrth y tŷ, dechreuodd y dyn grynu yn arswydus: aethant ag ef yn ol i'r tŷ, gan roddi iddo yr hyn a fynai o ddiod gadarn, tuag at ei wneyd yn ddigon calonog. Rhoddwyd cynyg eilwaith i fyned yn mlaen â'r gorchwyl; ond ni allasant fyned ddim pellach na'r waith gyntaf: dechreuodd y dyn grynu yn erchyll fel oʻr blaen. Diddymwyd eu hamcan; gorfu arnynt ddychwelyd yn ol i'r dafarn, i orphen eu diwrnod gyda rhyw ddifyrwch arall: a chafwyd llonyddwch i gadw y cyfarfod yn heddychol. Wrth i ni ddyfod yn ol o'r cyfarfod heibio iddynt, gollyngasant amryw ergydion dros ein penau. Cafodd un wraig feichiog, oedd yn sefyll ger llaw iddynt, y fath fraw, wrth iddynt ollwng ergyd yn ei hymyl, ag a fu yn achos o angeu iddi.
Yr oedd cyfarfod, ryw bryd arall, wedi ei gyhoeddi yn yr un lle, sef Rhos Tryfan, ar brydnawn Sabbath; a daeth lluaws yn nghyd i wrando. Yr oedd gan wr yn y gymydogaeth darw a fyddai yn arfer rhuthro yn erchyll, fel yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos ato. Trôdd y gwr yr anifail yn union at y gynulleidfa: ac yr oedd yn dyfod yn mlaen, dan ruo a lleisio yn ddychrynllyd, tuag at y bobl. Ond cyn ei ddyfod atynt, canfu fuwch encyd oddiwrtho: gadawodd bawb yn llonydd a rhedodd ar ol hono. Addawodd Duw wneuthur amod dros ei bobl ag anifeiliaid y maes, &c. Ond mhen tro o amser, rhuthrodd y creadur afreolus ar y gŵr ei hun, gan ei gornio yn ddychrynllyd; ac o'r braidd y cafodd ddiangc gyda ei einioes.
YMOF. Yr wyf yn rhwymedig iawn i chwi, am adrodd y pethau tra rhyfedd a ddygwyddasant yn ein gwlad yn mysg ein hynafiaid: a chan ddarfod i chwi grybwyll rhai o'r pethau mwyaf nodedig yn achos crefydd, mewn pedair o Siroedd Gwynedd, a ellwch chwi gofio am ryw bethau neillduol a ddygwyddasant yn Sir Feirionydd a Threfaldwyn?
SYL. Am Sir Feirionydd, gellwch gael hanesion lled helaeth yn y Drysorfa, mewn ymddiddanion rhwng Scrutator a Senex. Ond gellir ychwanegu ychydig. Yr oedd, ryw bryd, ryw nifer mawr o bobl, nid llai a phump a deugain, wedi myned mewn llestr i'r Deheudir, o Sir Gaernarfon, i'r cyfarfod mawr yn Llangeitho. Cyn dyfod yn ol, trôdd y gwynt, fel y gorfu i ni ddyfod adref ar hyd y tir. Wrth weled y fath' rifedi o honom, cawsom ein dirmygu a'n gwawdio i'r eithaf yn Aberdyfi: ac o'r braidd y gadawsant i ni ddyfod trwy dref y Tywyn, heb ein herlid dra llidus.
Erbyn ein dyfod i Abermaw yr oedd hi yn dechreu nosi; ac yn dymhestl fawr o wynt a gwlaw. Lled gynhyrfus oedd y pentref ar ein dyfodiad yno; ond bu llawer o'r trigolion mor dirion a lletya cynifer ag a arosasant yno. Aethai rhai yn mlaen i ymofyn lletyau yn y wlad. Felly cafodd pawb y ffafr o le i orphwys y noson hono. Yr oedd yno un wraig, yr hon pan ofynwyd iddi am le i letya, a safodd ar y drws, ac a ddywedodd yn haerllug; "Na chewch yma gymaint a dafn o ddwfr; nid wyf yn amheu na roddech fy nhŷ ar dân cyn y bore, pe gollyngwn chwi i mewn." Ond buan y cyrhaeddodd llaw Duw hi am ei thraha a'i chreulondeb; canys cyn y bore yr oedd y tŷ yn wenfflam, a braidd gymaint ag oedd ynddo yn lludw. Yr oedd y tŷ yn y pen nesaf i'r afon o rês o dai oeddynt i gyd yn gydiol a'u gilydd. Troes y gwynt, yn y cyfanser, i chwythu ymaith y tân a'r gwreichion, oddiwrth y tai ereill; pe amgen, buasai y rhai hyny yn debyg o gael eu llosgi oll. Dychwelodd y gwynt yn ol cyn y bore, i'r lle y buasai am lawer o ddyddiau cyn hyny; a lle yr arosodd lawer o ddyddiau wedi hyny hefyd.
Dranoeth, ar ein taith tuag adref, fel yr oeddym yn dyfod trwy dref Harlech, cododd y trigolion fel un gŵr i'n hergydio â cheryg, fel pe buasent yn tybio mai eu dyledswydd oedd ein llabyddio. Tarawsant rai yn eu penau, nes oedd y gwaed yn llifo. Cafodd un ergyd ar ei sawdl, fel y bu yn gloff am wythnosau.
Dywedwyd cryn lawer, yn y Drysorfa, o hanes Dolgelley; ond rhy faith, pe gellid cofio, fyddai adrodd un o lawer o'r helyntion a'r erlidigaethau a ddyoddefodd llawer yno o hen bererinion cywir; pa rai, gan mwyaf, sydd yn awr yn gorphwys yn dawel oddiwrth eu llafur. Gorfu tros rai blynyddoedd fyned yn ddystaw iawn i'r dref, yn y nos, a chadw yr oedfaon cyn dydd, a myned ymaith ar doriad y wawr cyn i'r llewod godi o'u gorweddfaoedd. Byddai un yn aros i fyny trwy y nos, i fyned o amgylch i alw pawb oedd yn caru gwrando, i ddyfod ynghyd at yr amser. Llwyddodd Duw ei waith yn rhyfedd yno, yn wyneb pob stormydd. Ond y mae yno, er's hir amser, bob tawelwch i bregethu yr efengyl.
Bu terfysg ac erlid chwerw iawn mewn cyfarfod misol yn Ffestiniog. Aflonyddwyd y cyfarfod fel na chafwyd pregathu; curwyd a baeddwyd rhai yn dra chreulon. Nid hir y bu y farn heb oddiweddyd y rhai oedd yn blaenori fwyaf yn yr erlid hwnw.
Tro nodedig iawn a fu mewn pentref bychan, a elwir Abergynolwyn. Anturiwyd yno i bregethu ar brydnawn Sabbath. Erbyn dyfod yno, yr oedd golwg lidus, greulon, erlidgar, ar y dorf luosog a ddaethai ynghyd, fel yr oedd yn aeth ac yn ddychryn meddwl wynebu arnynt; canys nid oedd odid un o honynt a welsai bregethwr, nac ychwaith broffeswr erioed yn un lle. Cafwyd llonydd gweddol i gadw y cyfarfod mewn modd annysgwyliedig Ond erbyn clywed pa fodd y cafwyd llonyddwch, canfuwyd fod llaw ddirgelaidd Rhagluniaeth yn sicr yn y tro. Dygwyddodd fod gŵr yn byw yn yr ardal a elwid John Lewis; buasai hwnw dro neu ddau yn gwrando pregethu, ac yr oedd wedi ei dueddu i feddwl ei fod yn waith da. Yr oedd gan y gŵr hwn fab-yn-nghyfraith, (neu fab gwŷn, fel y galwent ef,) ag oedd yn aruthrol o gryf. Dywedodd yr hen wr wrtho fod y rhai'n a'r rhai'n yn bwriadu erlid ac amharchu y gŵr dyeithr yno heddyw: "ac (ebe fe,) ni byddai raid i ti ond eu bygwth, mae yn sicr y byddent yn ddigon llonydd." Bu y dyn yn falch o'r swydd; bygythiodd hwynt yn erwin, a pharodd ei arswyd yn nhir y rhai byw. Ni bu y cyfarfod heb radd o arddeliad arno. Ac o hyny hyd heddyw, mae pregethu yn yr ardal, a gradd o lwyddiant ar y gwaith.
Ond cyn gadael Meirionydd, er fod genyf y parch mwyaf i ysgrifenydd y Drysorfa, eto yr wyf yn deall iddo gael yr hanes am y wraig a safodd rhwng y pregethwr a'r erlidiwr, yn amherffaith, ac mewn rhan yn gamsyniol. Fel hyn y bu am y tro hwnw. Yr oedd y cyfeillion yn Nolgelley wedi cael eu herlid yn echryslon y nos Sul o'r blaen, ac un wedi cael ei daro â chareg, fel у bu yn hir mewn llewyg; er nad oedd yno y tro hwnw neb yn pregethu. Y nos Sabbath ganlynol daeth yno ddau i bregethu; a chwi ellwch feddwl na allai natur lai nag ofni. Pa fodd bynag, wedi ymgasglu o'r gwrandawyr i'r tŷ, eisteddodd y wraig, sef Cathrine Owen, yn y ffenestr oedd ar gyfer y pregethwyr, gan ddywedyd yn siriol iawn: "Ni chânt eich taro oni tharawant chwi trwyddof fi." Bu hyn yn rym i feddwl y pregethwyr wrth ei gweled mor ddisigl yn ei hymddiried yn yr Arglwydd. Cafwyd llonyddwch y tro hwn heb ei ddysgwyl.
YMOF. Adroddwch ychydig bellach o'r hyn a alloch gofio am Sir Drefaldwyn: mae'n debyg fod yno ryw bethau wedi dygwydd, teilwng i sylwi arnynt.
SYL. Cododd yr haul yn foreuach ar y sir yma nag odid un o siroedd Gwynedd. Bu Mr. Vavasor Powell, Mr. Walter Cradoc, Mr. Huw Owen, a Mr. Henry Williams, yn ddefnyddiol i daenu yr efengyl trwy amryw barthau o'r wlad hon yn adeg yr erlidigaeth greulon yn amser Charles II. Bu gweinidogaeth Mr. Lewis Rees, yn mhen blynyddoedd ar ol hyny, yn fendithiol i lawer trwy amryw fanau o'r Sir, yn enwedig Llanbrynmair. Nid oes odid fan yn Nghymru y bu y ganwyll gyhyd heb ddiffodd a'r ardal yma. Ar ol i Mr. Howell Harris gael ei ddeffro am ei gyflwr, fel pechadur colledig, noeth, ac agored i ddigofaint Duw dros dragywyddoldeb, a chael datguddiad o Gyfryngwr y Testament Newydd yn ddigonol Waredwr oddiwrth y llid a fydd; ni allodd ymatal heb ddyrchafu ei lais fel udgorn i waeddi ar bechaduriaid, lle bynag y cai afael arnynt, gan eu cymhell i ffoi ar frys i'r noddfa: canys yr oedd y gair fel tân wedi ei gau o fewn ei esgyrn. Tarawodd allan, fel un o feibion y daran, yn ddidderbyn wyneb i'r prifffyrdd a'r caeau, trefydd a phentrefi i ddeffrous argyhoeddi torwyr Sabbathau, tyngwyr, meddwon, celwyddwyr, &c., gan ddarlunio y farn ofnadwy megys o flaen eu llygaid, a gwreichion tân uffern, mewn ystyriaeth, yn eu plith. Bu yn offerynol i ddeffro llawer o drymgwsg pechod. Yr oedd gallu y nef yn у nerthol weithio trwy ei weinidogaeth. Erbyn hyn yr oedd y diafol a'i weision yn dechreu cynhyrfu, a'r cryf arfog yn ymgynddeiriogi rhag colli ei neuadd. Ond er pob dichell a malais uffernol, llwyddo yr oedd y gwaith.
Yn mhen rhyw gymaint o amser, anturiodd Mr. Harris i Wynedd; ac y mae yn lled sicr mai i Sir Drefaldwyn y daeth gyntaf. Tybia rhai mai yn Llanbrynmair y dechreuodd efe bregethu yn y sir hono. Cafodd amryw eu galw yn yr ardal, a. fu yn ffyddlon a defnyddiol dros eu hoes. Ond daeth rhyw wynt drwg oddiar yr anialwch, ac a ddiffrwythodd y gwaith i raddau mawr dros hir amser. Er hyny yr Arglwydd, o'i ddaioni, a ymwelodd wedyn yn rasol, a'r ardal. Torodd allan ddiwygiad nerthol, a thywalltiadau grymus o alar a gorfoledd, fel tywalltiad o wlaw graslawn. Cafodd lluoedd o ieuengctyd eu galw a'u chwanegu at yr eglwys, fel llu banerog. Oddeutu y flwyddyn 1762 y bu hyn. Y tro cyntaf y daeth Mr. Harris i'r wlad yma, aeth o Lanbrynmair i blwyf Llanwnog; ac oddiyno i'r Tyddyn, yn Llandinam, cartref Mrs. Bowen. Bu yno dderbyniad croesawgar i'r efengyl amryw fynyddoedd: ac y mae llawer o'i hiliogaeth, nid yn unig yn barchus ac yn glyd eu sefyllfa, ond hefyd amryw o honynt yn ddefnyddiol yn yr eglwys. Yn nhŷ y wraig hon y cynaliwyd y cyfarfod neillduol cyntaf yn y sir. Cafodd Mr. Harris lonydd i bregethu yn, neu yn agos i dref Llanidloes y tro cyntaf: ond ar ol hyny, ni chafodd ef na'i frodyr, dros amryw flynyddoedd, ond eu herlid a'u lluchio yn ddidrugaredd. Un tro, pan oedd pregethwr ar ei liniau yn gweddïo, daeth benyw ysgeler, warthus, yn llawn o gythraul, a chanddi yn ei dwylaw gryman drain; cynygiodd hollti y. gwr âg ef: ond goruwchreolodd Rhagluniaeth yr ergyd. Ci mawr gwneuthurwr menyg o'r dref a gafodd y dyrnod, nes tori asgwrn ei gefn. Wrth weled hyn, rhuthrodd perchen y ci ati, a tharawodd hi nes oedd hi yn ymdreiglo ar hyd yr heol. Felly y dybenwyd y terfysg y tro hwnw. Ond y mae yno yn awr, er's llawer o amser, bob llonyddwch i'r efengyl; ac y mae yr eglwys yn siriol ac yn cynyddu.
Tua'r amser cyntaf y daeth Mr. Harris i'r wlad yma cynygiodd bregethu yn agos i'r Cemmaes: a daeth marchog y sir, offeiriad y plwyf, a dau ustus heddwch, a'r cwnstabl gyda hwynt, a llawer o'r gwerinos, i derfysgu ac i'w gymeryd ef i fyny fel drwg-weithredwr. Ond wedi iddynt ei ddwrdio a'i fygwth, gollyngasant ef yn rhydd.
Ar ei ddychweliad yn ol o Sir Feirionydd, pregethodd yn Ninas Mawddwy: ac aeth ymlaen i Fachynlleth, lle y ceisiodd lefaru mewn drws agored uwchlaw y bobl; ond gorfu arno yn fuan roddi heibio, gan swn y dorf yn bloeddio, yn tyngu a rhegi, a thaflu cerig neu y peth cyntaf y caent afael arno. Daeth ato gyfreithiwr, dan ymwylltio, a'i araith yn dra uffernol; ac yr oedd gŵr boneddig, a'r offeiriad hefyd yn yr un yspryd a hwythau, yn flaenoriaid ar y werin derfysglyd: ond er eu holl greulondeb, gwaredwyd ef o'u canol heb gael llawer iawn o niwaid. Parhaodd trigolion Machynlleth a'r ardaloedd, mewn eithaf gelyniaeth at grefydd am lawer o flynyddoedd. Cawsant afael mewn pregethwr unwaith, llusgwyd ef gerbron rhai o'u pendefigion, ac am na ddarfu i'r rhai hyny gospi digon arno i foddio eu cynddaredd hwy, curasant a baeddasant ef eu hunain yn dra chreulon, ac oni buasai i ryw ŵr â mwy o dosturi na hwy ei achub, buasai yn debyg o gael ei ladd ganddynt. Cafodd yr un gŵr ei guro a'i faeddu yn Llan y Mawddwy wrth fyned oddiyno; gorfu arno roi cyflog i ddyn am ei anfon tros Fwlch y groes tua'r Bala. Byddai yn berygl, y dyddiau hyny, i grefyddwyr fyned hyd yn nod i'r farchnad, rhag cael eu herlid gan drigolion y dref. Yn mhen talm o amser wedi hyn, cynygiodd Mr. D. Jones o Langan bregethu yno, ond, allan o law, cyfododd terfysg nid bychan—cipiwyd y Bibl o'i law, ac wedi baeddu ychydig arno, gofynodd rhai o'r mawrion iddo, a wnai efe addaw, os cai fyned ymaith yn heddychlon, na ddeuai efe yno byth mwyach i bregethu. Atebodd yntau yn bwyllog ac yn siriol: "Nid oes un addewid yn perthyn i chwi na'ch tad.". A diau nad oes un addewid i neb mwy nag i'r diafol, os byddant fyw a marw yn eu hannuwioldeb. Gollyngwyd ef yn rhydd, ond ni chafodd bregethu.
Cafodd y dref ei darostwng i adael llonydd i grefydd mewn modd tra rhyfedd. Daeth merch ieuangc grefyddol i wasanaethu at ŵr boneddig yn y dref (sef y cyfreithiwr y soniwyd eisoes am dano,) yr hon, trwy ei diwair a'i sobr ymarweddiad, ynghyda'i diwydrwydd gonest, a fu yn foddion i beri i'r gŵr newid ei farn am grefyddwyr. Bu y gŵr mor dirion ar ol hyny a chynyg, o hono ei hun, le i bregethu yn y dref, a'i osod hefyd i'r dyben. A chan fod gan hwn lywodraeth go fawr yn y dref, ac wrth weled y gŵr yma yn dangos tynerwch at grefydd, ni feiddiodd neb yno erlid nemawr hyd heddyw. Faint o fendith a all gweinidog duwiol fod mewn teulu, fel y llangces fechan hono gynt yn nhŷ Naaman y Syriad!
Bu cryn derfysg mewn cyfarfod misol, mewn pentref bychan yn y sir hon, a elwir Manafon. Erbyn dyfod ynghyd i'r cyfarfod, yr oedd yno ddarpariaeth go ryfedd wedi ei barotôi yn eu herbyn. Gorchymynodd yr eglwyswr parchedig ganu y gloch; danfonodd yn mhell am drum a rhyw Offer ereill, megys padell ffrio, &c., y rhai fyddai debycaf o ddyrysu y cyfarfod. Dechreuodd y ddwy oedfa ar unwaith: y gŵr urddasol yn trefnu у fyddin, a bagad o'r gwerinos dylion yn trin eu celfi trystfawr yn dra ewyllysgar; ac yn eu mysg y clochydd, yr hwn sydd yn rhwym i ddywedyd Amen yn wastad gyda ei feistr. Ond am yr oedfa arall nid oedd arfau milwriaeth hono yn gnawdol, ond yn nerthol, trwy Dduw, i fwrw cestyll i'r llawr: ac ni lwydda un offeryn a lunir yn erbyn yr efengyl. Ac er yr holl drwst a'r terfysg, methasant atal sain Drum yr efengyl. Cafodd y gwrandawyr hamdden i glywed gair y gwirionedd, ac ymadael yn siriol.
D.S. Er na choffawyd yn yr adroddiad uchod ond am ychydig o bregethwyr, yr oedd amryw o'r dechreuad yn cydlafurio o'r Deau a'r Gogledd; a rhyw nifer yn y wlad hono wedi cael eu cymhwyso i bregethu yn eu hardaloedd, a manau ereill hefyd.
YMOF. Crybwyllasoch gryn lawer am y blinderau a gafodd ein hen dadau ar eu taith tua'r bywyd; a pha ryfedd? "canys felly yr erlidiasant hwy y prophwydi a fu o'ch blaen chwi:" ie, "a phawb sy'n ewyllysio byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu, a erlidir." Ond pa beth oedd hyn i'w gydmaru â'r dirboenau a'r arteithiau marwol a ddyoddefodd yr hen ferthyron duwiol yn Itali, Ffraingc, Ynys Brydain, &c.? Dymunwn gael clywed genych yn mhellach, pa fodd yr oedd crefyddwyr yn dyfod yn mlaen yn y dyddiau terfysglyd hyn?
SYL. Llwyddo yr oedd y gwaith er pob moddion a arferid i geisio ei wrthsefyll. Yr oedd proffeswyr y dyddiau hyny yn debyg i'r Hebreaid yn yr Aipht: "Fel y gorthryment hwynt felly yr amlhaent ac y cynyddent." Mae y wir eglwys wedi ei hadeiladu ar y graig, a phyrth uffern nis gorchfygant hi. Yr oedd zêl wresog a diwydrwydd mawr mewn llawer y dyddiau hyny, nid yn unig i fod yn ddyfal i ddylyn moddion gras yn eu hardal, ond hefyd i deithio yn mhell i glywed gair y bywyd. Yr oedd y gair y pryd hyny yn cyrhaeddyd trwodd, ac yn dwysbigo y galon, fel ag yr oedd cellwair a choeg-ddigrifwch, i raddau, wedi cwympo i lawr, fel Dagon o flaen yr arch. Ar ol gwrando athrawiaethau yr efengyl, y rhai a gyfrifid yn fwy gwerthfawr nag aur coeth, eu hadgoffa ac ymddiddan am danynt oedd prif ddifyrwch y rhai grasol y pryd hyny, yn ol cynghor yr apostol, "Dal yn well ar y pethau a glywsent, rhag un amser eu gollwng hwy i golli." Treuliai rhai nosweithiau cyfan i ymdrechu â Duw, fel Jacob gynt. Yr oedd dull eu hwynebau yn tystio fod sobrwydd ac ofa Duw yn meddiannu eu calonau. Yr oedd hyd yn nod eu gwisgoedd gweddus yn brawf eu bod yn ffieiddio balchder a choeg-wisgiadau. Yr oedd anwyldeb ganddynt am eu gilydd, fel nad oedd dim yn fwy hoff ganddynt na chyfeillach eu gilydd; yr oedd cariad brawdol fel rhosyn peraroglaidd yn arogli yn beraidd yn eu plith; er nad oeddynt ar y goreu heb eu brychau ac efrau yn gymysgedig â hwy.
YMOF. Gan fod cymaint o elyniaeth tuag at yr efengyl yn y gwledydd y dyddiau hyny, pa fodd y cafwyd lle i bregethu mewn amrywiol fanau yn Ngogledd Cymru?
SYL. Eiddo yr Arglwydd y ddaear a'i chyflawnder; ac efe sydd yn llywodraethu yn mreniniaeth dynion. Cafodd rhai eu galw trwy bregethiad y gair, ag oedd yn feddianwyr ar eu tir a'u tai eu hunain. Yr oedd hefyd rai o'r boneddigion mor dyner a pheidio gorthrymu eu deiliaid yn achos crefydd. A phan y bwrid rhai allan o'u trigfanau am arddel crefydd, trefnai Rhagluniaeth ymwared iddynt o le arall. Cododd amryw yn y gwledydd i arfer eu doniau i hyfforddi eu gilydd yn y pethau a berthynent i'w tragywyddol ddyogelwch a'u hapusrwydd; a gwnaeth yr Arglwydd ddefnydd o honynt i oleuo amryw i weled eu cyflwr truenus ac andwyol, a'u cyfarwyddo i'r wir noddfa, a'u taer gymhell i ddyfod at Grist, ac i gredu ynddo, fel у caent fywyd yn ei enw; gan ddangos y perygl o hyderu ar eu cyfiawnderau eu hunain, ac na chyfiawnheir neb trwy weithredoedd y ddeddf: a dangos hefyd, nad yw gwir ffydd yn gadael neb sydd yn feddiannol arni yn segur na diffrwyth, ond yn eu gwneuthur yn awyddus i weithredoedd da: ac er nad oedd eu gwybodaeth a'u doniau ond bychain, eto yr oeddynt mewn zêl ac awyddfryd duwiol â'u holl galon am i'r bobl gael eu hachub.
Yr amser hyny y sefydlwyd cyfarfodydd neillduol trwy, y Deheudir a'r Gogledd; a diau fod y diafol a'i weision yn dra digllawn wrthynt. Dechreuwyd eu cablu a'u henllibio, gan eu galw y WEDDI DYWYLL, a haeru yn haerllug mai godineb a phuteindra oedd yn cael eu cyflawni ynddynt: pan, mewn gwirionedd, Duw yn dyst, y gorchwyl fyddai yno, ac y sydd eto, yw darllen y Bibl, gweddïo, canu mawl, addysgu eu gilydd yn y pethau a berthynent i fywyd a duwioldeb, ac anog eu gilydd i gariad a gweithredoedd da. Y cyfarfod cyntaf o'r natur yma a gynaliwyd yn Sir Gaernarfon, mewn lle ar dir Plas Llangwynadl. Ac er yr holl ddirmyg a'r diystyrwch parhaus a fwrid ar yr ychydig grefyddwyr tlodion oedd yn y wlad, ac er gwaeled oedd yr offerynau, eto llwyddo yn raddol Yr oedd y gwaith.
YMOF. Gan fod yr holl ddyfais a gynlluniwyd wedi methu llwyddo i ddistrywio a dyrysu y gwaith a'r achos crefyddol yma yn ei febyd; a ddarfu i'r sarph uffernol arfer rhyw ddichell newydd i ddwyn yn mlaen ei hamcan maleisus, tuag at atal ac aflwyddo cynydd crefydd?
SYL. Mae y ddichell fwyaf maleisddrwg o eiddo y diafol heb son am dani eto, sef yr hyn a alwai yr hen bobl yn ymraniado Nid oedd yr holl erlid, dirmyg, a'r enllib a roddwyd ar grefydd, ddim i'w cydmaru mewn galanastra a niwaid i'r hyn a wnaeth. y tro gofidus yma i grefydd.
YMOF. Y mae braw a dychryn yn llenwi fy meddyliau wrth eich clywed. Mae rhyw adgof genyf finau, pan oeddwn yn fachgen, y byddai rhai hen broffeswyr yn son rhywbeth am yr ymraniad; ond aeth hyny trwy fy nghlustiau, fel na feddyliais i fawr am dano byth mwyach. Ond mi debygwn wrth eich crybwylliad am dano, iddo fod o ganlyniad tra gofidus. Adroddwch ychydig am dano.
SYL. Nid yw yn un gradd o hyfrydwch genyf son am dano, ond cymerwch yr hyn a ganlyn yn fyr. Yr oedd Mr. Harris, fel y soniwyd o'r blaen, yn ddeffrous, yn ddiwyd, ac yn llwyddiannus yn ei weinidogaeth, a llawer wedi cael eu galw trwyddo. Perchid ef fel tad a chyfrifid ef fel blaenor yn yr eglwys. Nid oedd efe yn arfer y llwybr cyffredin o bregethu; ond traddodi yr hyn a roddai yr Arglwydd iddo, a hyny gan mwyaf mewn ffordd argyhoeddiadol. Hyd yma yr oedd undeb a brawdgarwch yn mhlith y corph o Fethodistiaid trwy Gymru. Ond yn mhen talm o amser, daeth cyfnewidiad amlwg yn ngweinidogaeth Mr. Harris; aeth i bregethu i broffeswyr yn fwy nag i ddeffrôi y byd yn gyffredinol fel o'r blaen. Meddyliodd iddo gael rhyw ddatguddiad o fawredd gogoneddus person y Cyfryngwr, yn amgen nag a gawsai o'r blaen erioed, ac y mae lle i feddwl i'r gelyn, yn y cyfamser, gael goddefiad i daflu gwreichionen o'r tân dyeithr i'w fynwes, tan yr enw marworyn oddiar yr allor. Gwyrodd i ryw raddau at Sabeliaeth. Yr oedd ef yn ŵr o feddwl tra anorchfygol; ni chymerai yn hawdd ei blygu. Cafodd ei wrthwynebu gan rai brodyr oedd yn cael eu blino â'i ddull yn llefaru am berson a marwolaeth Crist, sef "fod Duw wedi marw,;" &c. Yr oedd gwrthwynebiad oddiwrth frodyr crefyddol yn beth cwbl anadnabyddus ac annysgwyliedig i Mr. Harris: hyd yn hyn yr oeddynt yn gwrando arno ac yn ei barchu fel tad a phen athraw, fel yr oedd yn wirioneddol i'r rhan fwyaf o broffeswyr y dyddiau hyny. Yntau, yn lle arafu a phwyllo, ac ystyried yn ddifrifol a oedd ei ymadroddion yn addas am y pyngciau uchod, a chwerwodd yn ei yspryd tuag atynt; a hwythau, yn ddiau yn ormodol, tuag ato yntau; a phellasant yn raddol oddiwrth eu gilydd, hyd nes addfedodd y cweryl i'r fath radd fel y torodd allan yn ymraniad gofidus. Mewn cymanfa fechan yn Llanidloes, tua y flwyddyn 1754, y daeth yr ymraniad i hollol benderfyniad: o hyny allan aeth y bobl yn ddwy blaid; pobl Mr. Harris, a phobl Mr. Rowlands, fel y galwent hwy. Bu yr effeithiau o'r tro galarus hwn yn dra niweidiol trwy Gymru. Aeth y pleidiau i ymddadleu ac i ymryson â'u gilydd, hyd nes y drylliwyd y cymdeithasau bychain ar hyd y wlad yn chwilfriw, ac yr aeth crefydd yn isel, a braidd i'r dim mewn llawer o ardaloedd lle y buasai ymddangosiad golygus unwaith. Gallasid dywedyd fod y wlad o'i flaen fel gardd Paradwys, ac ar ei ol yn ddiffeithwch anghyfaneddol. Nid oedd fawr o'r pregethwyr yn gwybod nemawr am yr anghydfod, cyn i'r ymraniad dori allan yn gyhoeddus yn nghymanfa Llanidloes. Aeth amryw o'r llefarwyr, yn llawn zel o ochr Mr. Harris; ereill a lynasant wrth Mr. Rowlands; o ba rai yr oedd Mr. W. Williams, Mr. P. Williams, Mr. H. Davies, Mr. D. Williams, Mr. John Belcher, ac amryw ereill.
Wedi ymranu fel hyn, aeth y llefarwyr oedd o blaid Mr. Harris yn ddiymaros trwy y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru, lle yr oedd cymdeithasau neillduol wedi eu sefydlu; yna ar ol y bregeth galwent y cyfeillion yn nghyd, gan ofyn iddynt pwy oedd o du yr Arglwydd; a'i bod yn bryd iddynt ochelyd cael eu twyllo, gan sicrhau fod yr offeiriaid, fel yr arferent alw Mr. Rowlauds a'i ganlynwyr, wedi colli Duw. Gan fod hyn yn beth mor ddyeithr ac annysgwyliedig i'r rhan fwyaf o eglwysi, a hwythau yn dyner eu cydwybodau ac yn ieuaingc mewn proffes, taflodd hyny y fath ddyryswch i'w meddyliau nas gwyddent ar ba law i droi. Ofnodd llawer fyned yn agos at Mr. Rowlands a'i blaid, rhag cael eu twyllo, fel yr oedd y dysgawdwyr ereill wedi eu rhybuddio. Cauwyd y drysau mewn amryw fanau fel na chai Mr. Rowlands, na neb o'i ganlynwyr, dderbyniad i bregethu: ond o radd i radd dychwelyd a wnaeth y rhan fwyaf at blaid Mr. Rowlands, y rhai oeddynt yn dal y wir athrawiaeth yn fwy cyson na'r lleill: er hyny bu yspaid maith o amser ar ol hyn, tair blynedd ar ddeg o leiaf, heb un diwygiad neillduol yn un parth o'r wlad. Yn yr yspaid maith hyny o amser, y rhoddes rhai ag oedd wedi dechreu pregethu y gorchwyl heibio dros flynyddau, o herwydd petrusder a digalondid. Cafodd y gelyn diafol oddefiad y pryd hyny i ddyfod fel gwaedgi uffernol i ganol y praidd, i darfu y defaid, eu herlid, a'u gwasgaru ar hyd yr anialwch; ac oni buasai i'r Bugail da, o'i fawr gariad a'i ras, ofalu am danynt, darfuasai am y praidd yn llwyr. Ond gan eu bod wedi eu rhoddi iddo gan y Tad i'w cadw, aeth ar eu hol i'r anialwch, gan eu dwyn adref ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen. Amcanodd Satan yn fore wneyd rhwyg ac ymraniad rhwng dau ag oedd yn golofnau yn yr eglwys Gristionogol, sef Paul a Barnabas, Act. xv. 39. Ond er iddynt ymadael a'u gilydd, goruwch-lywodraethodd yr Arglwydd y ddamwain hono i fod er llwyddiant i'r efengyl, ac yn ddymchweliad i deyrnas y diafol. Mae addewid rasol yr Arglwydd yn sicrhau, "Pan ddelo y gelyn i mewn fel afon, Yspryd yr Arglwydd a'i hymlid ef ymaith." Dygwyddodd i Mr. Rowlands goffâu yn ei bregeth, yn amser yr ymraniad, am dro nodedig a fu yn Rhufain, pan oedd у traed pridd y sonir am danynt yn llyfr Daniel yn dechreu malurio; fod y gelynion wedi tori i mewn i'r ddinas, a chan faint oedd gofal y dinasyddion am eu heulun-dduwiau, у gosodasant luaws mawr o'r milwyr cadarnaf i amddiffyn y PANTHEON, sef tŷ y rhith-dduwiau hyn (mor fawr yw ynfydrwydd dynolryw, fod yn addoli y fath bethau diles nas gallant gadw na gwaredu eu hunain!) Ond bu i'r milwyr, yn lle gwylio yn ddyfal, fod mor anffyddlon a chysgu yn drwm; a diau y buasai y gelynion wedi rhuthro ar y duwiau meirwon hyny, ac yspeilio yr holl drysorau oedd yn perthyn iddynt, oni buasai i hen ŵydd oedd gerllaw roi creglais ofnadwy i ddeffrôi y milwyr at eu harfau; ac felly cadwyd y duwiau. Oddiwrth yr hanes yma gwnaeth y casgliad hyn yn erbyn y rhai oedd yn dal allan fod Duw wedi marw, sef "Fod gwydd fyw yn well na Duw marw."
Cyn gadael yr hanes uchod, fe allai y byddai yn angenrheidiol coffâu pa fodd yr aeth Mr. Harris a'i ganlynwyr yn mlaen, ar ol yr ymraniad gofidus hwn. Gallwn feddwl gan ei fod yn offerynol yn llaw yr Arglwydd i argyhoeddi y rhan fwyaf o'r rhai a ddaethent at grefydd yn y dyddiau hyny, fod eu tuedd a'u serch tuag ato, a'u hymlyniad yn fawr wrtho; ac wedi iddo roi heibio deithio trwy Gymru i bregethu fel o'r blaen, a chartrefu yn Nhrefecca, ymgasglodd cryn nifer o'r rhai hyny ato o amryw barthau o'r wlad, ac yr oedd yn pregethu iddynt ddwy waith neu dair bob dydd. Yn Ebrill 1752, sylfaenwyd yr adeilad presennol sydd yn Nhrefecca. Yr oedd efe yn barnu ei fod yn cael ei gymhell gan yr un yspryd i godi yr adeilad, ag a'i hanogasasai ef ar y cyntaf i fyned allan i bregethu. Mae yn debyg mai adeilad o'r fath a gyfodasai rhyw ŵr duwiol yn Germany gynt, ag a fu yn dra bendithiol, a'i tueddodd i wneyd yr adeilad yn Nhrefecca; a'r un modd hefyd y gwnaeth Mr. Whitfield yn yr Amddifaid (Orphan House) yn yr America. Fe allai; os addas barnu' wrth y. canlyniadau, nad oedd un o'r ddau a'r un alwad neillduol iddynt yn hyn o orchwyl, a'r gŵr duwiol hwnw, Mr. Frank, o Germany. Gwell dystewi na barnu gwŷr mor enwog a defnyddiol yn ngwaith yr Arglwydd: dwfn ac anchwiliadwy yw Rhagluniaeth y Nef. Wedi iddo sefydlu fel hyn, a dwyn yn mlaen yr adeilad yn Nhrefecca, ymgasglodd yno gryn nifer o bobl o amryw barthau o Gymru, fel yr oeddynt, tua dechreu y flwydddyn 1754, yn nghylch cant o nifer yn sefydlog yno, heblaw llawer fyddai yno yn achlysurol. Arosodd llawer yno hyd ddiwedd eu hoes; ereill a ddychwelasant i'w cartrefi am nad oedd eu hamgylchiadau yn goddef iddynt aros. Daeth rhai teuluoedd o Wynedd i fyw i'r teulu, ereill a gymerasant dyddynod yn y gymydogaeth, er mwyn gweinidogaeth Mr. Harris; ond ni chyfrifid y rhai a gymerent dyddynod, yn lle byw yn y teulu, fawr amgen na phroselytiaid y porth. Llawer o deuluoedd tylodion a dderbyniwyd o bryd i bryd i'r teulu, ac amryw â meddiannau ganddynt a ddaethant yno hefyd: ond os byddai i neb, wedi rhoi eu meddiannau i'r teulu, flino ar eu lle a myned tua eu cartrefi ni chaniateid iddynt gael nemawr o'u meddiannau i fyned yn ol. Hyn a rhai pethau ereill nad oeddynt weddus yn y gŵr duwiol hwnw, a fu yn foddion i ollwng miloedd o dafodau rhyddion yn Nghymru, nid yn unig i gablu Mr. Harris, ond hefyd i enllibio crefydd a chrefyddwyr er ei fwyn, gan haeru mai pentyru cynysgaeth i'w ferch yr ydoedd (canys un ferch oedd ganddo) a'r cyfoeth oedd gan y naill a'r llall yn dyfod i Drefecca. Ond ar ol ei farw canfyddwyd ei fod yn ddidwyll am y cyfoeth a roddwyd dan ei ofal, fel na adawodd un geiniogwerth i'w ferch yn ei ewyllys ddiweddaf, ond cynysgaeth ei mam yn unig; a'r eiddo oll oedd yn perthyn i Drefecca i fod rhwng y teulu dros byth. Y mae yn ddiddadl i lawer fod yn feddiannol ar dduwioldeb amlwg yn y teulu hwnw, a gadael tystiolaeth eglur, ar eu hymadawiad oddiyma, fod eu Prynwr yn fyw, ac y gwyddent i bwy yr oeddynt wedi credu. Hyny oedd yn feius yn amryw o honynt, eu bod yn cynwys meddyliau rhy gyfyng am bob plaid o grefyddwyr na byddai yr un agwedd a threfn a hwy yn Nhrefecca; ond y mae y canolfur gwahaniaeth hwnw wedi ei symud yn awr er's llawer blwyddyn.
YMOF. Dychrynllyd y galanastra a wnaeth y gelyn yn moreuddydd y diwygiad: peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir. Gresyn i'r gwynt drwg oddiar yr anialwch wywo, dros faith amser, gynifer o flodau perarogl oedd mor hardd yr olwg arnynt yn ngwinllan Duw. Gobeithio y bydd i'r tro gofidus hwnw, a'r canlyniad o hono, fod yn rhybudd deffrous i bob cangen o eglwys trwy y byd, na ryfygont rwygo corph Crist, sef ei eglwys. Oni b'ai ofn eich blino, ewyllysiwn glywed genych a arosodd y pregethwyr a unodd gyda Mr. Harris i orphen eu gyrfa yn Nhrefecca?
SYL. Naddo, ychydig a drigodd yno hyd eu marwolaeth. Darfu i'r rhai a arosodd yno, amryw weithiau, anturio i ffeiriau a marchnadoedd i bregethu, fel Howell Harris; ond am nad oeddynt wedi eu haddasu i'r gwaith pwysfawr hwnw fel efe, ni chafwyd dim hanes i'r gorchwyl a gymerasent mewn llaw ateb fawr o ddyben. Am ereill o'r llefarwyr a safodd o blaid Harris, unodd y rhan fwyaf o honynt mewn amser gyda Rowlands a'i frodyr; trôdd ryw ychydig at yr Ymneillduwyr; gwyrodd ereill yn ardaloedd Llanfairmuallt at Antinomiaeth, ac un Thomas Seen yn athraw iddynt. Unodd rhyw nifer â'u gilydd yn Sir Drefaldwyn, sef Thom Meredydd, ac Evan Thomas, ac yn Sir Ddinbych, Moses Lewis, ac amryw gyda hwy, pa rai a fuasant gynt yn wresog o blaid Harris. Methodd ganddynt foddloni cartrefu gyda theulu Trefecca, eithr ymadawsant; a rhag i neb eu cyfrif yn wrthgilwyr, ffurfiasant gyda eu gilydd ryw fath o grefydd led ryfedd, o amryw ddefnyddiau. Benthyciasant gryn lawer o waith Cudworth, ac amryw o'r pethau anhawddaf eu deall o waith Morgan Llwyd, a William Erbury: a thuag at wneyd eu proffes yn ddigon ysprydol, rhoisant gryn swm o surdoes y Crynwyr am ben eu defnyddiau ereill. Ar ol dodi yr holl gymysg hyn yn nghyd, yr oedd y grefydd yma gwisg glytiog cardotyn, yn anhawdd dirnad pa beth oedd ei dechreuad. Nid oedd ganddynt ystyr lythyrenol ar un rhan o'r ysgrythyrau, ond golygu y cyfan yn ysprydol. Er esiampl, nid y ddaear yr ydym ni yn byw arni a losgir, ond y ddaear sydd mewn dyn. Yr haul yn tywyllu, haul rheswm. Dwy fydd yn malu mewn melin, y ddwy anian, &c. Nid oedd ganddynt un parch i'r Sabbath nac i un o ordinhadau yr efengyl; er hyny cawsant rai canlynwyr mewn pump o Siroedd Cymru: ond y maent yn awr wedi hollol ddarfod a diflanu er's blynyddoedd, am a wn i, yn mhob man. Felly darfyddo pob gau grefydd o flaen yr efengyl ogoneddus o begwn i begwn i'r byd; a dyweded pob un a garo y gwirionedd, Amen.
YMOF. Fe allai i chwi sylwi o amser i amser, pa bethau, yn fwyaf neillduol, a ddefuyddiodd y gelyn diafol i geisio dyrysu ac aflwyddo y gwaith, yn ganlynol i'r ymraniad; canys diau na bu Satan, y gelyn dichellgar, maleisus, ddim heb arferyd rhyw ddyfais uffernol tuag at ddistrywio achos Duw.
SYL. Hir nos, a gauaf diffrwyth a fu yr effeithiau o'r ymraniad gofidus a grybwyllwyd am dano. Dylai fod y tro galarus hwn yn rhybudd i bob corph o broffeswyr gwir grefydd, i daer ymbil ar yr Arglwydd am eu cadw mewn yspryd ac yn nghwlwm tangnefedd, rhag eu cael yn waeth na'r milwyr Rhufeinaidd, y rhai ni feiddiasant ddryllio corph Crist, na thori asgwrn o hono. Ond er mwyn ei ddyweddi, fe gymerodd Iesu ei ddryllio gan y cleddyf wedi ei ddeffro; oblegyd "yr Arglwydd â fynai ei ddryllio ef," fel y byddai ei gorph, sef ei eglwys, yn gyfan i dragywyddoldeb.
Tua y flwyddyn 1762, yn wyneb mawr annheilyngdod a gwaeledd, cofiodd Duw ei gyfamod, trwy ymweled yn rasol â thorf fawr o bechaduriaid ar hyd amryw o ardaloedd Cymru: cododd Haul cyfiawnder ar werin fawr o'r rhai oedd yn mro a chysgod angeu. Gellid dywedyd yn y dyddiau hafaidd hyn, "Wele y gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith. Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad."
Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng y diwygiad yma a'r hwn a duechreuodd ar y cyntaf trwy Howell Harris: yr oedd hwnw o ran dull ei weithrediadau yn llym ac yn daranllyd iawn: ond yn hwn, megys gynt yn nhŷ Cornelius, tyrfaoedd lluosog yn mawrygu Duw heb allu ymatal, ond weithiau yn llamu o orfoledd, fel Dafydd gynt o flaen yr arch. Treulid weithiau nosweithiau cyfain mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gwyl. Clywais gan hen wraig dduwiol iddo barhau dri diwrnod a thair noswaith yn ddigyswllt, mewn lle a elwir Lonfudr, yn Lleyn, yn Sir Gaernarfon, y naill dyrfa yn cylchynu y llall; pan elai rhai adref, deuai rhai ereill yn eu lle; ac er myned i'w cartrefi dros ychydig, ni allent aros nemawr heb ddyfod yn ol. Pan ddaeth y tywalltiadau grymus hyn ar amryw o gannoedd, os nad miloedd, trwy y Deheudir a Gwynedd, bu llawer o gynhwrf a dadleu yn ei gylch; daliwyd llawer â syndod, gan ddywedyd, "Beth a all hyn fod?" "Meddwon ydynt," meddai rhai; "O'u côf y maent," meddai ereill; yn debyg iawn i'r rhai hyny gynt ar ddydd y Pentecost: ond ni feiddiodd braidd neb wneyd niwaid iddynt, ond yn unig eu gwneuthur yn nod i gynen tafodau.
YMOF. Hyfryd genyf glywed am y diwygiad y soniasoch am dano, a'i ymdaeniad helaeth. Mae yn sicr, ynghyda'r haleluia, a'r gorfoledd siriol, fod yn ei ganlyn, neu ynte yn ei ragflaenu, argyhoeddiadau deffrous, a galar dwys am bechod, a thro amlwg ar fuchedd y rhai oedd yn ei brofi. Ond bu agos i chwi anghofio adrodd ychydig o'ch golygiadau ar y pethau fu fwyaf tebygol i ddrygu crefydd, ac i dristâu yr Yspryd Glân.
SYL. Yn y dyddiau hafaidd hyn pan oedd yr haul yn tywynu mor ddysglaer, a'r gwlith a'r manna yn dyferu mor hyfryd, yr oedd athrawiaethau rhad ras yn cael eu traddodi yn oleu ac yn ogoneddus. Cyfiawnhad trwy ffydd yn unig, heb weithredoedd y ddeddf; llwyr ddiddymu haeddiant dyn; ac nad oedd ei gyfiawnderau ond fel bratiau budron; ac mai Crist sydd oll yn oll i bechadur. (Y mae yn nodedig i sylwi arno, mai y dydd y daeth William Williams â'r llyfr hymnau a elwir "y Môr o Wydr" i Langeitho, y torodd y diwygiad allan, ar ol hir auaf a fuasai yn gorchuddio yr eglwysi yn achos y rhwyg y soniwyd am dano o'r blaen.) Ac er mor hyfryd oedd y dyddiau gorfoleddus hyn, a'r mawr angenrheidrwydd oedd o gyhoeddi yr efengyl yn ei goleu a'i phurdeb, er mwyn dadymchwelyd yr hen athrawiaethau deddfol, tywyll, ag oedd yn gorlenwi y wlad; er hyny y mae lle i amheu a oedd pawb oedd yn pregethu yr athrawiaeth oleu, ddysglaer, am gyfiawnhad rhad, mor ofalus ag y buasai da i ddangos yr angenrheidrwydd o ffrwythau ffydd, megys y dywed Iago, mai ffydd heb weithredoedd marw yw. Ni bu un udgorn arian erioed yn cyhoeddi rhad ras yn fwy soniarus na'r apostol Paul; er hyny, megys â'r un anadl, dwys anogai bawb i fod yn awyddus i weithredoedd da, ïe, i flaenori mewn gweithredoedd da; ac yn ol addysg ein Hiachawdwr: "Llewyrched felly eich goleuni gerbron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr hwn sydd yn y nefoedd." Ond er mor hawddgar a dymunol ydyw yr haf cynhes, eto y mae llawer o fwystfilod gwenwynig yn ymlusgo o'u llochesau, a llawer o chwŷn drygsawr yn tyfu yn y gerddi hyfrydaf. Ac er fod yr iachawdwriaeth, yn y cymhwysiad o honi, yn ei natur yn dysgu dynion i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, yn gyfiawn, ac yn dduwiol; er hyny bu rhai yn mhob oes mor felldigedig a cheisio troi gras ein Duw ni i drythyllwch; fel yr Israeliaid gynt, yn eistedd i lawr i fwyta, a chyfodi i fyny i chwareu. Bellach i geisio ateb eich gofyniad, sef pa bethau yn fwyaf enwedigol a ddefnyddiodd y gelyn uffernol, tuag at anharddu a diddymu y gwaith grasol oedd yn cael ei ddwyn ymlaen gan Dduw yn ein gwlad. Tywynai yr haul yn rhy ddysglaer yn y dyddiau hyny i Arminiaeth ddangos ei gwyneb. Fe feddyliodd yr hen Satan gyfrwysddrwg mai gyru y butain hòno a elwir Penrhyddid, yn ei glan-drwsiad, oedd oreu. Gelwir hi yn llyfr y Datguddiad, Jezebel, a chan John Bunyan, Hyder gnawdol. Daeth hon a'i gwên ar ei genau, mewn gwisg ddgeithriol, i gyfarch gwell i deulu Sïon. Cafodd dderbyniad go helaeth gan rai oedd heb ei hadnabod; ond yr oedd ereill yn graffach eu llygaid, ac yn lletya un o'r enw Ofn Duwiol yn y teulu, ac hefyd wedi darllen ei hanes yn y 7fed a'r 9fed bennod o'r Diarebion. Ond gwnaeth gryn niwaid i'r rhai hyny hefyd, cyn iddynt ei llwyr adnabod: dywedir fod gradd o gloffni ar rai o'i phlegyd ddyddiau eu hoes. Denodd rai i falchder a choeg-ddigrifwch; llithrodd ereill i ddiota yn ormodol; hudodd amryw i ddylyn chwantau ieuengctyd, nes gwywo eu proffes i raddau mawr. Ni byddai raid bod dim anghydfod rhwng Arminiaeth ac Antinomiaeth; dwy o efeilliaid ydynt, un-fam un-dad; ond eu bod fel llwynogod Samson, yn edrych y naill yn wrthwyneb i'r llall; ond y maent yn cytuno yn un galon i losgi yr ŷd. Amhosibl yw bod neb yn Arminiad heb fod hefyd yn Antinomiad, nac ychwaith bod yn Antinomiad heb fod hefyd yn Arminiad; canys y mae gwir ryddid efengylaidd yn rhyddhau y credadyn oddiwrth y naill a'r llall o honynt.
YMOF. Mae yn amlwg, fel y dywed yr apostol Pedr, fod y gelyn diafol megys llew rhuadwy yn rhodio oddiamgylch, gan geisio y neb a allo ei lyngcu. Ambosibl yw ei wrthsefyll heb holl arfogaeth Duw, a chynorthwyon parhaus yr Yspryd Glan i'w defnyddio. Ond chwennychwn glywed genych, a lwyddodd y gelyn trwy y ddichell hon, i lusgo rhai o'r eglwys (o'r hyn lleiaf mewn enw o fod ynddi,) heblaw eu gwywo yn eu proffes, eu nychu yn eu heneidiau, a'u difreintio o lawer o orfoledd yr iachawdwriaeth?
SYL. Do, ambell un, o amser i amser mewn amryw fanau; rhai gan feddwdod, rhai gan odineb, a rhai gan dwyll a chelwydd, &c., a gorfu eu diarddel er gofid i rai, a gwawd i ereill: ond trugaredd dirion yr Arglwydd fod mor lleied, wrth ystyried mor lluosog yw y corph o broffeswyr, a chymaint o weddill llygredd sydd yn mhawb. Cafodd rhai o honynt wir edifeirwch ac adferiad, er nad ymadawodd y cleddyf â'u tai byth: ereill a aethant rhagddynt yn eu gyrfa bechadurus hyd ddiwedd eu hoes.
YMOF. Mae yn addas ac yn bryd i bawb o honom ystyried cynghor yr apostol: "Yr hwn sydd yn sefyll, edryched na syrthio." Ond a ddarfu i'r hudoles hon, sef Penrhyddid, newid ei gwisgoedd, ei lliw, ei llais, a'i henw, weithiau; ac ymddyeithrio, fel gwraig Jeroboam, er mwyn cael derbyniad mwy croesawgar gan ei chanlynwyr? A cofleidiwyd hi gan ryw bersonau, ac mewn rhyw ardaloedd yn fwy na'u gilydd?
SYL. Pan y cai gyfle i hau ei chyfeiliornadau, ymwisgai yn wych, gan goluro ei hwyneb, fel Jezebel gynt; a newid ei dull braidd mor aml a'r lleuad: odid iddi fod yn yr un wisg yn y naill wlad ag y byddai mewn gwlad arall, rhag ei hadnabod. Gellir dywedyd am dani, y twyllai hi, pe byddai bosibl, ïe, yr etholedigion. Ond i ateb eich gofyniad am y personau, ac yna am y lleoedd, y gwnaeth hon fwyaf o alanastra. Soniais o'r blaen am Thomas Seen a'i ganlynwyr; dywedai y rhai hyny nad oeddynt yn pechu, er ymdrybaeddu mewn meddwdod a'r cyffelyb ffieidd-dra; mai yr "hen ddyn" oedd yn meddwi, &c. Am T. Meredith, a M. Lewis, a'u dylynwyr, haerent hwy fod dwy anian yn mhawb, y naill yn esgyn i fyny, ac mai Judas oedd у llall yn myned i'w lle ei hun; ac na ddylid barnu arnynt am newydd-loer na Sabbath, ei bod yn Sabbath arnynt hwy bob dydd fel ei gilydd; ac y gallent brynu gwerthu, &c., y diwrnod hwnw fel diwrnod arall, a llawer o'r cyffelyb amryfuseddau.
Y nesaf oedd Mr. Popkin, gŵr boneddig o'r Deheudir. Bu rai blynyddoedd yn pregethu yn mhlith y Methodistiaid; ond у gwyrodd at athrawiaeth un Robert Sandeman, o Scotland. Cafodd rai canlynwyr dros amser, ond nid oeddynt ond nifer fechan. Arwyddair yr hen swyn-wraig yn mysg y rhai hyny, oedd credu noeth, hollol ymddifad o bob effeithiau sanctaidd. Tramwyodd Mr. Popkin mor bell a Sir Gaernarfon i blanu ei egwyddorion; ond gwywo a wnaethant yn llwyr yno. Ac yn ol pob tebygoliaeth, diwedd hollol a fuasai ar y grefydd yma yn Nghymru, oni buasai i gangen o Fedyddwyr ei phriodi i godi hâd i'r marw: ond lled amhlantadwy ydyw hi yno hefyd.
Yn ganlynol i hyny, tarawodd o ganol y praidd yn Sir Aberteifi, ŵr tra nodedig, wedi ei gynysgaeddu â doniau helaeth; a bu dros amser mewn cymeradwyaeth mawr fel pregethwr yn mhlith у Methodistiaid, gan mwyaf drwy Gymru. Ond y mae lle i feddwl wrth y canlyniad, iddo yn lled fore yfed traflwngc glew o gwpan yr hudoles: canys chwyddodd yn anferth; a dywedant mai dyna yr effeithiau mae yn ei adael ar bawb a yfo o'i phiol, ac y mae yn naturiol i'r naill ei gael oddiwrth y llall. Glynodd hwn, fel y gwahanglwyf, yn ormodol wrth rai hyd derfyn eu hoes. Yn y dyddiau hyny fe ymdaenodd ysgafnder, fel pla, trwy amryw o ardaloedd Deheubarth a Gwynedd. Ac er ei fod, trwy fawr ddaioni yr Arglwydd, wedi ei ddileu i raddau lled helaeth o'r eglwysi, eto y mae ei greithiau i'w gweled yn amlwg hyd heddyw yn y manau y cafodd fwyaf o dderbyniad. Ar ei ymadawiad oddiwrth y rhai oedd yn cael eu hanfoddloni yn ei ymddygiad balch a chellweirus, meddyliodd ond troi allan fel pen-athraw, y buasai mwy na haner Cymru yn wirfoddol o'i blaid. Ymosododd yn egnïol at ei orchwyl rhyfygus. Ond ei fawr siomedigaeth, ni chafodd nemawr o ganlynwyr, na'r rhai hyny ychwaith ond tros ychydig amser: gadawyd ef gan bawb fel halen diflas, heb fod yn gymhwys i'r tir nac i'r domen. "Y rhai a ymdroant i'w trofeydd, yr Arglwydd a'u gŷr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel." Salm cxxv. 5.
Am y Parchedig Peter Williams, bu ef yn llafurus a ffyddlon flynyddau lawer yn y weinidogaeth. Bu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i droi llawer o dywyllwch i oleuni. Trwy ei lafur diball a'i ddiwydrwydd, daeth allan dri argraffiad o'r Bibl sanctaidd, ynghyda sylwadau tra buddiol ar bob pennod, a Mynegeir Ysgrythyrol;[8] hefyd rhai pethau defnyddiol ereill. Ond cafodd amryw eu hanfoddloni yn ei olygiadau ar athrawiaeth y Drindod; a hyny yn fwyaf neillduol yn ei sylwadau ar y bennod gyntaf o'r efengyl yn ol Ioan. Barnwyd ei fod yn gwyro at Sabeliaeth. Cymerodd rhai y gorchwyl mewn llaw o'i gyhuddo a'i geryddu yn llym, yn lle ei gynghori fel tad, yn ol addysg yr apostol, 1 Tim. v. 1. Yn yr ymryson a'r dadleu yn nghylch y pwngc (a diau yw na ddylasid goddef neb yn y corph ag a safai yn gyndyn dros y fath gyfeiliornad dinystriol ag yw Sabeliaeth,) collodd ef a hwythau, i raddau, yspryd addfwynder: ac mewn gormod o fyrbwylldra, yn lle gwneyd pob ymgais tuag at ei adgyweirio, bwriwyd ef allan o'r synagog. Mae lle i amheu i rai oedd yn blaenori yn y gwaith ruthro ar ŵr cyfiawnach na hwy eu hunain. Ond er pob tymhestloedd, "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig.
Yn fuan ar ol dechreu y diwygiad diweddar yn Nghymru, cyfododd yn Sir Benfro ddau frawd, John a James Relly, y rhai oeddynt Saeson o ran tafodiaith. Yr oedd un o'r ddau ddoniau helaeth i osod allan offeiriadaeth Crist: ond am na bu wyliadwrus i gadw o fewn terfynau y gwirionedd, cafodd yr hen hudoles o Benrhyddid gyfleusdra i ddenu yr athraw hwnw i gofleiddio un o'r ellyllon mwyaf uffernol a melldigedig oedd yn perthyn iddi; sef dal allan adferiad pob peth; hyny yw, y byddai i'r holl ddamnedigion, ïe, am a wn i, y cythreuliaid hefyd, gael eu rhyddhau a'u hachub trwy anfeidroldeb iawn y Cyfryngwr, ryw amser. Dyma gyfeiliornad tebyg i'r llyffaint hyny a ddaethant allan o safn y ddraig. Nid yw purdan y Pabyddion i'w gydmaru â hwn. Ond trwy fawr drugaredd ymlusgodd o Gymru yn foreu dan ei warth; ond dywedir fod rhywrai mor ddall a'i letya ef eto yn Lloegr. Hen arfer y gelyn yw hau efrau yn mhlith y gwenith yn mhob oes.
Am y lleoedd y taenodd y Jezebel hon ei hudoliaeth, a'r niwaid a ganlynodd, nid oes cymaint o achos cwyno yn bresennol, gan fod y gogleddwynt a'r deheuwynt nefol wedi chwythu ymaith, i raddau helaeth, y tarth afiach a fu gynt yn cuddio yr haul. Buaswn yn gwbl ddystaw yn ei gylch, ond er rhybudd a gocheliad i'r oesoedd a ddel, adroddaf ychydig am dano fel y canlyn. Mewn rhai manau yn mlaenau Sir A berteifi, yn enwedig Aberystwyth a'i chyffiniau, y gwnaeth y bwystfil hwn gryn niwaid dros amser. A Chil y cwm flodeuog, a rhai manau ereill yn Sir Gaerfyrddin,a iselwyd yn fawr, trwy roddi gormod o le i'r anghenfil o Benrhyddid i letya yn eu mysg; ond y mae y cryfarfog hwn wedi ei droi allan (gobeithio) yn lled lwyr er's talm, ac yr wyf yn hyderu na chaiff dderbyniad yno nac yn un man arall byth mwyach. Gwnaeth niwaid mawr yn nghymdeithas Castellnedd, a rhai lleoedd ereill yn Sir Forganwg, a diau i rai fyned i'w beddau dan eu creithiau o'r achos. Ond er y pla dinystriol a ddrygodd gymaint o ardaloedd, cafodd cannoedd, ïe, yn y manau mwyaf llygredig, eu cadw rhag ymlygru i droi gras ein Duw ni i drythyllwch. Ni ddiangodd Gwynedd ychwaith (rai manau o honi,) oddiar hudoliaeth y sarph wenieithus yma. Hauwyd cryn lawer o'i theganau twyllodrus yn benaf yn Nyffryn Clwyd, a rhai cyrau o Sir Fflint, gan eu chwythu hwynt i falchder, ysgafnder, a choeg-ddigrifwch. A chan eu bod yn ieuaingc mewn proffes, a chanddynt rai arweinwyr heb fawr o ofn Duw yn eu meddiannu, cawsant yn fuan eu llygru i'r fath raddau fel nad oedd llawer o'r athrawon mwyaf syml a sylweddol ond hollol ddiystyr yn eu golwg; na braidd neb yn eu boddio ond a fyddai yn cydredeg gyda hwynt i'r unrhyw ormod rhysedd. Bu hyny yn ddiau yn achos i'r Arglwydd wgu flynyddau ar yr ardaloedd: ond trwy anfeidrol ddaioni Duw, fe iachawyd y dyfroedd; er nad yw yr effeithiau wedi eu llwyr symud. Adwy y clawdd hefyd, er ei ffyddlondeb a'i charedigrwydd, a syrthiodd yn raddol yn ddiarwybod i flasu peth ar rith-wleddoedd yr hudoles, yn enwedig pan y daeth llwyddiant bydol i wenu ar yr ardaloedd. Ond nid llawer yno a yfodd o'i chwpan fustlaidd. Galwodd heibio yn lled foreu i Rosllanerchrugog; gwnaeth yno gryn lawer o'i hol dros lawer o flynyddoedd: ond pan ddaeth y dydd i ddechreu gwawrio, gorfu arni ffoi, fel y ddylluan, o faen pelydr haul cyfiawnder; a da yw os gallant ei hesgymuno yn llwyr o'r wlad, fel na roddo neb lety noswaith iddi byth mwy. Ac os cafodd hi yn ddiweddar ryw ddull newydd o wisgoedd symudliw o Loegr, dyeithriol i'r Cymry o'r blaen, i ymddangos ronyn yn fwy prydferth nag y bydd hi weithiau; am hyny mwy-fwy yw y perygl o'i chofleidio, yn enwedig gan fod nifer fawr o wŷr deallus wedi rhoi derbyniad croesawgar iddi. Ond rhag i neb gael eu siomi ganddi, gellir ei hadnabod wrth ei gwisgoedd. O Holland, gan un Iago Arminius, y cafodd hi wisg isaf: a darn o wê Ioan Calfin, o Geneva, yw defnydd ei chochl neu ei gwisg uchaf. Mae yn hawdd i chwi ddeall, ond craffu, mai nid y wisg ddiwnïad sydd ganddi, er mor hardd y mae yn ceisio dangos ei hun. Rhuf. xi. 6.
Cafodd Sir Fôn fwy o niwaid oddiwrthi, dros amser, na'r holl fanau a grybwyllwyd; hauodd ei hefrau yno yn gyffredin trwy y wlad; y rhan fwyaf o'r cymdeithasau yn y Sir a dynodd hi yn gwbl i'w rhwyd. Un o'i phrif byngciau yno oedd ymwrthod yn llwyr â'r ddeddf, nid yn unig fel cyfamod o weithredoedd am gymeradwyaeth gyda Duw, ond hefyd nad oedd angenrheidrwydd am dani fel rheol bywyd i gredadyn. Teganau plant y cyfrifid addoliad teuluaidd gan y rhan fwyaf o'i chanIynwyr. Gofynodd un o brif athrawon y daliadau gwyrgam hyn i broffeswr ieuangc, "A wyddost ti pa fodd y cei wybod a wyt ti dan y ddeddf ai nad wyt?". Dywedodd hwnw wrtho, y byddai dda ganddo wybod; "Wele," ebe yntau, "dos i'th wely heb weddïo, ac os wyt dan y ddeddf fe â yr hen gydwybod yn derfysglyd i bwrpas; ond os wyt dan yr efengyl ti a gysgi yn dawel. Yr oedd ganddynt ryw ddull anamlwg o ymadroddi yn nghylch crefydd; sef deongli amryw o'r ysgrythyrau mewn dull ysprydol ag oeddynt i'w deall yn llythyrenol, megys y geiriau hyny a'u cyffelyb: "Y ddaear a'r gwaith fyddo ynddi a losgir:" sef y ddaear sydd mewn dyn, &c. Yr oedd hwnw yn bwngc credadwy yn eu plith, os caent unwaith afael mewn dyn, na byddai raid i hwnw byth betruso y cyfrgollid ef yn dragywydd, beth bynag a ddygwyddai iddo. Gwrthwynebwyd eu cyfeiliornadau gan amryw o'u gwlad eu hunain, a rhai o wledydd ereill; ond nid oedd dim yn tycio, nes o'r diwedd y syrthiodd rhai i feiau gwarthus, ac yna i wrthgiliad hollawl. Tua'r amser hyny daeth bygythiad oddiwrth ŵr boneddig, y byddai raid i bawb o'i ddeiliaid oedd yn proffesu, wadu eu crefydd, neu golli eu tiroedd. Yr oedd llawer o ofnau na ddaliai rhai mo'r tywydd; ond cafodd pawb gymhorth i sefyll dros y gwirionedd, ond y gŵr a fu a'r llaw benaf yn ffurfio daliadau Antinomaidd yn y wlad, ac oedd mor gyfarwydd i wybod a oedd dyn dan y ddeddf. Yn wyneb y bygythiad am golli ei dir aeth i Lundain at y gŵr boneddig i wadu ei grefydd; ac er y cyfan, hwnw yn unig a gollodd ei dyddyn, ac ni throwyd neb allan ond efe. Bu o hyny allan hyd ddiwedd ei oes yn adyn, fel dylluan y diffeithwch, dibarch gan bawb. Ond yr hwn sydd yn codi y tlawd o'r llwch a ymwelodd yn rasol â'r ynys hon yn ei hisel radd, gan yru ymaith y niwl afiachus, yn raddol, yn llwyr o'r wlad. Bu un cyfarfod misol a gadwyd yno yn foddion, dan fendith yr Arglwydd, i ddechreu dadymchwelyd castell yr hudoles: ac o hyny allan, trwy nerthol weithrediadau yr efengyl, diflanodd ymaith fel diffyg oddiar yr haul; fel y mae yn syndod gweled y wlad heddyw fel gardd Baradwys, ac yn galw yn uchel am ddiolchgarwch. Tua'r un amser mewn lle yn Sir Gaernarfon a elwir Rhos ddu, yn Lleyn, yr ymddangosodd y swyn-wraig ddichellgar, mewn gwisg hollawl wahanol i'r un oedd ganddi yn Môn. Yr oedd tymherau toddedig mewn addoliad yn bethau gwael a dirmygus, ac i'w gwrthsefyll hyd yr eithaf yn eu daliadau yno: ond yma yn gwbl i'r gwrthwyneb; canu a gorfoleddu oedd crefydd i gyd, heb argyhoeddiad, ond yn unig unwaith; nac edifeirwch na chalon ddrylliog oddieithr am ryw feiau mawrion; ac heb edrych cymaint pa fodd y byddai y fuchedd. Ac o radd i radd aeth y canu yn rhy debyg i'r dawns o flaen y llo aur. Cyfrifent bawb a bregethai yn llym ac yn daranllyd, ac a ddynoethai dwyll y galon, a'r perygl o ymorphwys ar gau grefydd, yn debyg i Herod, mai am ladd y plant bychain yr oeddynt; a'u bod yn adeiladu Jerusalem â gwaed, &c. Nid llawer o bersonau fu yn arddel y grefydd yma, ac nid ymdaenodd ond ychydig; diflanodd yn fuan fel cicaion Jona. Ni bu fawr o lewyrch ar neb o'i dylynwyr tra buont byw. Gwrthgiliodd rhai yn hollawl.
Prin y gallaf farnu ei fod yn werth ei ysgrifenu na'i ddarllen yr ynfydrwydd digywilydd a luniwyd yn benaf gan wraig ymadroddus, rith grefyddol, a'i gŵr hefyd o'r gyfrinach. Yr oeddynt yn byw mewn tŷ ar fynydd Llanllyfni. Dechreuasant hysbysu i amryw eu bod wedi cael cydnabyddiaeth â rhyw dylwyth a elwid Anweledigion. Yr hanes oeddynt yn fynegi am danynt sydd debyg i hyn: Eu bod yn genedi luosog, mawr eu cyfoeth; ac yn blith draphlith mewn ffeiriau a marchnadoedd gyda ni; ac nad oedd neb yn eu canfod, ond y rhai oedd wedi ymroddi i fyned i'w cymdeithas. Yr oedd y gelyn diafol wedi llwyddo i beri i rai goelio y teithient hwy, eu meirch, a'u cerbydau, ar hyd yr eira heb i neb weled eu hol. Yr oedd y fenyw ddichellgar a soniwyd eisoes am dani wedi cael gan ryw nifer gredu fod gŵr boneddig mawr yn byw yn agos i'w thŷ ar y mynydd, mewn palas godidog, gyda'i ferch, a'u henwau oedd Mr. a Miss Ingram. Ymgasglai cryn lawer o ynfydion, gan mwyaf o bell y byddent yn dyfod, i gadw math o gyfarfodydd yn y nos, heb oleuni canwyll na fflam y tân, ond a gaid oddiwrth y marwor: canys ni allai y tylwyth anweledig oddef y goleuni. Weithiau deuai yr hen ŵr boneddig i bregethu iddynt ei hun; bryd arall y ferch a ddeuai mewn dillad gwynion. Ar ol treulio talm o amser cyn cael allan y twyll, dygwyddodd i ryw ddyn cyfrwysach nag ereill o'r frawdoliaeth, graffu yn fanwl ac adnabod yn eglur mai gwraig y tŷ oedd yn dyfod atynt i'w twyllo; weithiau mewn dillad mab, bryd arall mewn dillad merch. Gwaeddodd y dyn allan: "Gwrandewch, bobl, ein twyllo ydym yn gael yn ddiamheuol! myfi a wnaf fy llw mai M—— yw hon." Gyda hyny aeth yn derfysg trwy y tŷ, a gorfu i'r creadur tlawd ddiangc am ei einioes. Aeth y ddichell uffernol hono i warth, a chynifer oll â ufuddhasant iddi a wasgarwyd; ac nid aethant rhagddynt yn mhellach, eu hynfydrwydd a ddaeth yn amlwg i bawb. Yn fuan ar ol hyny daeth un arall yn genad dros y diafol, o Ynys Fôn i Sir Feirionydd. Ei henw oedd Mari Evans, a gelwid hi yn gyffredin, Mari y fantell wen. Gadawodd ei gŵr a chanlynodd ŵr gwraig arall, gan haeru ill dau nad oedd y briodas gyntaf ond cnawdol, ac nad oedd yn bechod ei thori; ond bod eu priodas hwy yn bresennol yn ysprydol ac yn iawn. Buont ryw dalm o amser yn crwydro o'r naill wlad i'r llall, a bu iddi ferch o hwnw. O'r diwedd darfu iddo ei gadael, a hithau a wladychodd ger llaw y Traeth Bychan hyd ddiwedd ei hoes. Cafodd gan luaws mawr o ynfydion tywyll yr ardal hono a Ffestiniog, hefyd Penmachno, a rhai manau ereill, goelio ei bod yn un â Christ, ac mai yr un peth oedd dyfod ati hi a dyfod at Grist; a pha beth bynag a wneid iddi, neu erddi, mai yr un ydoedd a phe gwnaethid ef i Grist yn bersonol. Twyllodd ei dylynwyr i gredu ei bod wedi priodi cyfiawnder; danfonwyd iddi lawer o anrhegion at y briodas, a lluniwyd neithior odidog iddi yn Ffestiniog; gwisgwyd hi yn wych odiaeth, fel cangen haf, ar gost ei chanIynwyr, gan ei harwisgo â mantell goch gostfawr, a myned yn lluoedd, a hithau yn eu canol, i eglwys y plwyf, ac oddiyno i'r dafarn hyd yr hwyr, i halogi y Sabbath. Hi a berswadiodd ei dysgyblion na byddai hi farw byth (fel y rhith brophwydes hono, Johanna Southcott;) ond er ei hamod ag angeu, a'i chyngrair ag uffern, cipiwyd hi ymaith oddiyno i'w lle ei hun: cadwyd hi yn hir heb ei chladdu, gan ddysgwyl yr adgyfodai drachefn. Gellwch wybod ei bod yn dywyllwch a ellid ei deimlo yn yr ardal y cafodd y fath fudrog a hon y gradd lleiaf o dderbyniad: ond gwir yw y gair, "Pan dybient ei bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid." Ond er i rai o'r trueiniaid tywyll lynu wrth yr ynfydrwydd a soniwyd dros amser ar ol marwolaeth eu heulun, eto diflanodd yn raddol o flaen efengyl gallu Duw.
YMOF. Wele y mae yr hyn a adroddasoch yn dangos tri pheth yn amlwg, sef, dichellion diorphwys Satan yn erbyn eglwys Dduw; hefyd mawr ddallineb ac ynfydrwydd dynolryw trwy bechod, yn cymeryd eu harwain yn wirfoddol gan y gelyn uffernol i bob rhyw ffiaidd gyfeiliornadau; a chyda hyny, gariad, ffyddlondeb, a gofal yr Arglwydd dros ei eiddo, yn dryllio eu cadwynau, yn dyrysu bwriadau eu gelynion, ac yn gwaredu eu bywyd o ddistryw. A ddarfu i chwi sylwi ar ddim arall a fu yn debyg o ddyrysu peth ar y gwaith, yn fwyaf neillduol yn Ngwynedd?
SYL. Dyfodiad y Bedyddwyr i'n gwlad a' barodd gynhwrf nid bychan trwy y wlad yn gyffredin, am fod eu dull o weinyddu yr ordinhad o fedydd yn hollol ddyeithr i'r rhan fwyaf yn y gwledydd hyn. A chan ei fod felly, ac fel y dywed y ddiareb, "Gwŷn pob peth newydd," ymgasglodd torfeydd lluosog o bob ardal i'w gwrandaw, ond yn fwyaf neillduoli edrych arnynt yn bedyddio. Yr oedd eu dull yn trochi meibion, a merched yn mhob gwlad ac ar bob math o dywydd, yn ymddangos yn hynod o beryglus a niweidiol i iechyd, os nad i fywydau rhai gweiniaid. Esiampl Crist yn cael ei fedyddio gan Ioan yn yr Iorddonen oedd eu rheswm cadarnaf am eu trefn. Os canlyn esiampl Crist a ddylem yn mhob peth, paham na ddylynem ef yn ei enwaediad? Nid oedd goruchwyliaeth yr efengyl, dan y Testament newydd, wedi ei sefydlu yn nyddiau Ioan Fedyddiwr, am hyny meddai Crist, "Yr hwn sydd leiaf yn nheyrnas nefoedd sydd fwy nag ef." Mae eu haraeth wrth fedyddio yn fynych yn anaddas i natur yr ordinhad sanctaidd hono, yr hon a ddylai gael ei gweinyddu megys yn ngwydd Duw, gyda'r symlrwydd mwyai: yn lle hyny bydd rhai mor ryfygus yn eu haraeth a galw pawb i'r maes o bob enw, gan ddywedyd yn debyg i'r Goliath hwnw gynt, "Pwy a ymladd â mi?" Nid oes dim yn cynhyrfu eu zêl yn fwy na dadleu yn erbyn bedydd babanod, er i Grist ddywedyd mai "Eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd." Mae lle i ofni fod gormod yn eu mysg o'r rhai na phrofasant ysprydolrwydd y ddeddf na gwerthfawrogrwydd y Cyfryngwr, yn pwyso yn ormodol ar eu bedydd, a braidd yn benderfynol na chedwir neb mewn oedran heb gael eu trochi yn gyntaf; beth bynag yw eu meddyliau am y lleidr ar y groes. Wrth ddywedyd hyn nid wyf yn taflu y diystyrwch lleiaf ar y corph o Fedyddwyr, y rhai a fuont yn llafurus, ac yn ddefnyddiol yn ngwinllan yr Arglwydd hyd heddyw, er's oesoedd mewn llawer gwlad, ac a oddefasant lawer o erlidigaethau blinion. Bu, ac y mae yn eu plith lawer o bregethwyr enwog yn Nghymru, Lloegr, a gwledydd ereill: a phwy sydd fwy defnyddiol na'r Dr. Carey yn yr India Ddwyreiniol? Ond ni ddiangasant hwythau heb ymraniadau terfysglyd, er gofid i bob gwir dduwiol: aeth rhai yn fore yn Arminiaid, ereill yn fwy diweddar yn Sociniaid, a rhyw ychydig yn Sandemaniaid. Ond nid yw y gwenith ddim gwaeth am fod efrau yn tyfu yn yr un maes. Yn ganlynol fe derfysgwyd Gwynedd a'r Deheudir i gryn raddau trwy ddyfodiad y Wesleyaid i Gymru. Heidiodd y gwerinos yn lluoedd i wrando arnynt o bob parth, fel y buasech yn meddwl ar y cyntaf yr aethai y byd yn llwyr ar eu hol. Yr oedd llawer o wrandawyr cyffredin mor dywyll na wyddent ragor rhwng_gwirionedd a chyfeiliornad; ac ereill wrth glywed am drefn Duw yn achub yn rhad y penaf o bechaduriaid, heb arian ac heb werth, yn llidio yn ddirgelaidd yn erbyn arfaeth ac etholedigaeth gras; a chan nad oedd ganddynt resymau digonol i amddiffyn eu hegwyddorion deddfol, wrth wrando ar athrawiaeth prynedigaeth gyffredinol, cawsant eu cadarnhau yn eu tybiau am grefydd, oblegyd yr oedd y golygiadau hyny yn boddio eu harchwaeth yn rhagorol. Am eu hathrawiaethau nid ydynt yn llwyr wadu y pechod gwreiddiol fel yr hen Arminiaid; yr hyn sydd ry wrthun y dyddiau hyn i neb geisio sefyll drosto, rhag i'r babanod fu farw cyn pechu yn weithredol eu cyhuddo am eu tybiau cyfeiliornus, a sefyll yn dystion yn eu herbyn. Ond y mae yr Arminiaid presenol yn nyddu eu hedef yn feinach trwy haeru fod Crist yn mru y wyryf wedi llwyr dynu ymaith y pechod gwreiddiol a'i effeithiau, a dodi holl ddynolryw mewn cyffelyb sefyllfa ag yr oedd Adda cyn pechu. Ac mewn canlyniad i hyny fod yr holl fabanod sydd yn marw cyn pechu yn weithredol yn myned oll i'r nefoedd, heb un angenrheidrwydd o gael eu golchi. Gellir meddwl nad oedd yr athrawiaeth hon yn cael ei chredu gan Job, yn ol ei ofyniad, "Pwy a ddyry beth glân allan o beth aflan? Neb." Na chan Dafydd ychwaith, yr hwn oedd gwbl wahanol ei farn: "Wele," meddai efe, "mewn anwiredd y'm lluniwyd," &c. Am y pyngciau ereill, megys gwadu etholedigaeth ddiamodol, prynedigaeth neillduol, galwedigaeth effeithiol, a pharhad mewn gras; a'r pwngc tra chyfeiliornus hwnw, o wadu cyfrifiad o gyfiawnder y Cyfryngwr i bechadur, gan haeru mai ffydd yw y cyfiawnder a wared rhag angeu—byddai yn rhy faith, ac allan o fy llwybr fel hanesydd, eu hegluro (pe bawn yn addas i hyny,) a gwrthbrofi y rhesymau yn eu herbyn; gellwch gael hyny yn eglur yn ngwaith Mr. Eliseus Cole, y Dr. Owen, ac ereill. A chan eu gadael, gyda difrifol ddymuniad ar iddynt gael eu gwir oleuo yn ngwirionedd gogoneddus yr efengyl, heb na'u barnu na'u diystyru, ond dywedyd fel y dywedodd un gweinidog duwiol am danynt: "Y rhai sydd dduwiol o honynt, Duw a roddodd ras iddynt, ond dysgu eu hegwyddorion a wnaethant gan eu gilydd."
YMOF. Pa fodd yr oedd proffeswyr yn nyddiau boreuol y diwygiad yn cael yr ordinhadau, sef bedydd a swper yr Arglwydd?
SYL. Yn Eglwys Loegr y byddai pawb yn bedyddio eu plant, a chan mwyaf yn cymuno, yn Ngwynedd: ond byddai ar brydiau rai o offeiriaid y Deheudir yn gweinyddu swper yr Arglwydd yn eu plith yn y capeli. Nid oedd yr amseroedd hyny odid un capel na thŷ wedi ei awdurdodi yn ol y gyfraith i bregethu ynddynt; nac ond ychydig o'r pregethwyr wedi cymeryd caniatâd (licence) i fod tan nodded y gyfraith. Bum yn rhyfeddu lawer gwaith, er maint a ddyfeisiwyd o ffyrdd i geisio gyru crefydd o'r wlad, trwy erlid mewn pregethau, ac argraffu llyfrau i'r un dyben, taflu rhai o'u tai a'u tiroedd, trin ereill yn greulon trwy eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, dodi rhai yn y carcharau, yn mysg ereill, un Lewis Evan a fu yn y carchar yn Nolgelley flwyddyn gyfan, gyru ereill yn sawdwyr, &c., a chan faint o ddichellion a arferwyd, pa fodd na buasai rai trwy yr holl flynyddoedd yn defnyddio y gyfraith i gospi y pregethwyr, yn nghyda'r rhai oedd yn eu derbyn hefyd? Ond fe guddiwyd hyny oddiwrth y doethion a'r deallus trwy yr holl amser; a thrwy hyny fe gafodd yr efengyl y wlad o'i blaen i daenu ei newyddion da yn y prifffyrdd a'r caeau, trefydd, pentrefi, mynyddoedd a glanau y moroedd, &c. yn ddirwystr, oddieithr y byddai ychydig erlid weithiau. Y cyntaf a ddefnyddiodd y gyfraith oedd rhyw ŵr boneddig oedd yn byw yn Sir Feirionydd. Dalwyd un William Pugh, a gorfu arno dalu ugain punt o ddirwy. Ciliodd L. Morris i'r Deheudir rhag ei ddal, ac yno rhoddodd ei hun dan nodded y llywodraeth. Erbyn hyn, wrth weled y dymhestl yn dyfod, yr oedd yn llawn bryd diangc ar frys i ryw le am ddyogelwch. Nid oedd rhaid ond wynebu at yr fam hynaws, llywodraeth Prydain, nad oedd hon yn union yn barod i daenu ei haden gynhes dros y gorthrymedig. Fo gafodd llawer o'r pregethwyr tlodion eu dirmygu i'r eithaf mewn llysoedd barnol wrth geisio yr hyn oedd y gyfraith yn ganiatâu. Gorfu ar bregethwyr Sir Feirionydd gael cyfreithiwr i ddadleu eu hachos cyn llwyddo gyda'r mawrion. Ar ol cael y pregethwyr a'r capeli dan nodded y gyfraith, yn fuan ar ol hyny daeth cynygiad newydd i'r Senedd i gaethiwo ar ryddid. Ond er mawr siomedigaeth i lawer (fel Haman gynt,) yn lle cyfyngu rhyddid crefyddol, eangwyd ei derfynau yn fwy nag y buasai o'r blaen er's llawer o oesoedd. A chan fod eglwysi yn amlhau, a'r gweinidogion a fyddai yn arferol o ddyfod atom wedi heneiddio, a rhai o honynt wedi marw, barnwyd fod angen neillduol am ryw lwybr i'r eglwysi gael eu breintiau. Ffurfio y drefn i ddwyn hyn yn mlaen oedd waith anhawdd, ac yn gofyn llawer o bwyll a doethineb; a gadael i'r henafgwyr oedd yn blaenori mewn gwybodaeth a gras (mewn undeb a'r rhai cymhwysaf o'r ieuengctyd) ystyried y mater yn ddwys ac yn ddifrifol cyn ei benderfynu. Ond nid mor ganmoladwy yr ymddygodd rhyw ychydig o'r pregethwyr ieuaingc yn yr achos. Yr oeddynt mor danbaid anorchfygol, yr oedd raid ei gael i ben yn ddiymaros, beth bynag fyddai y canlyniad; heb ystyried y dylesid mewn addfwynder ddysgu y rhai gwrthwynebus. Tybiodd y gelyn uffernol, wrth weled gradd o annghydfod, mai rhwyg a fyddai y canlyniad; ond methodd gael ei amcan i ben. I'r dyben o wneyd pawb yn dawel, ac yn siriol at eu gilydd, yr Arglwydd a gymerodd y Parchedig T. Charles o'r Bala yn ei law, i sefyll ar yr adwy: a thrwy ei ddoethineb a'i larieidd-dra fel cymedrolwr hynaws a thirion, sefydlodd ef, yn nghyda'r corph yn gyffredin, drefn esmwyth a boddhaol, i ddwyn y gwaith yn mlaen heb friwo neb; sef ordeinio rhyw nifer fechan o bregethwyr o bob sir, at y rhai oedd o'r blaen, i weinyddu yr ordinhadau o fedydd a swper yr Arglwydd, a'r rhai hyn o ddewisiad cyfarfod misol eu sir, gan chwanegu atynt mewn amser i ddyfod, yn ol y byddai yr achos am danynt. Methodd gan ryw ychydig yn y Deheudir a chydsynio â'r drefn, ac y maent hyd yma wedi sefyll allan ar eu penau eu hunain: ond nid ydynt ond ychydig nifer, ac nid oes ganddynt un rheswm digonol i gyfiawnhau eu hymddygiad. Ond er fod ein breintiau yn helaeth, a'r gwaith dan ei goron (er nad heb ei frychau,) er hyny, os yr Arglwydd ni cheidw y ddinas, ofer y gwylia y ceidwaid. Mae yn gof genyf glywed i hen ŵr duwiol o Ymneillduwr rybuddio y corph o Fethodistiaid mewn geiriau tebyg i hyn, "Fy mrodyr, gwawriodd bore arnom ninau yr Ymneillduwyr, a bu llawer o bresenoldeb yr Arglwydd yn ein plith, yn nghanol erlidiau; ond nid oedd trefn arnom y pryd hyny fel y dymunasem. Ond wedi cael rhyddid cydwybod i addoli Duw, ac ymgorphori yn eglwysi, a chael gweinidogion yn rheolaidd, aeth yn ganol y dydd arnom. Ond nid hir iawn y bu heb ddechreu nosi: aeth yn gyntaf, yn ail, ac yn drydydd, gan amryw o'n gweinidogion ni, heb fawr o enaid y weinidogaeth; newidiwyd y tarianau aur am rai prês. 1 Bren. xiv. 27. Am danoch chwithau, y Methodistiaid, gwawriodd bore lled ddeffrous arnoch chwithau, ond yr oeddych yn ddigon annhrefnus flynyddau lawer; ond yn awr mae yn ganol dydd arnoch chwithau. Y mae eich capelydd yn fawrion ac yn drefnus, eich gweinidogion yn ddoniol, a chan mwyaf yn drwsiadus, eich gwrandawyr yn lluosog, a'r wlad yn gyffredin yn eich parchu. Gwiliwch! O gwiliwch! rhag y bydd raid i'r gwyliedydd waeddi arnoch, 'Daeth у bore a'r nos hefyd.'" Y mae y rhybudd uchod yn deilwng o sylw pob un o honom; gan gofio geiriau yr apostol, "Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll edryched na syrthio."
YMOF. Mae genym fawr achos i ryfeddu daioni a thiriondeb yr Arglwydd tuag atom, yn mysg aneirif luoedd ereill o'i fendithion, am gadw cymaint o undeb a brawdgarwch yn ein plith gyhyd o amser, er i'r gelyn roi cynyg lawer gwaith i ddyrysu ac i ddiddymu yr undeb. Onid ellir barnu fod y Cymanfeydd (Associations) a'r cyfarfodydd misol yn llaw Rhagluniaeth ddwyfol, a thrwy, arddeliad yr Arglwydd arnynt yn foddion neillduol i ddal i fyny undeb a brawdgarwch yn y corph trwy yr holl dalaith? Dymunwn glywed genych pa fodd y dechreuodd y cyfarfodydd hyny, a pha fodd y cynyddasant i'r agwedd sydd arnynt yn bresenol?
SYL. Y Gymdeithasfa gyntaf a gynaliwyd yn nhy Jeffrey Dafydd, o'r Rhiwiau, ymhlwyf Llanddeusant, yn Sir Gaerfyrddin. Yr oedd yn bresennol yn y cyfarfod hwnw (sef y blaenffrwyth o honynt yn Nghymru, Meistriaid Howell Harris, Daniel Rowlands, William Williams, o Bant y celyn, ac ychydig gynghorwyr; ac er nad oedd yno ond nifer fechan ynghyd, eto yr oedd presennoldeb yr Arglwydd yn eu plith. Mewn Cymdeithasfa yn fuan ar ol hono, anogodd Mr. Harris bawb oedd yn bresennol i gyfansoddi ychydig benillion a hymnau erbyn y gymdeithasfa nesaf, i edrych a oedd yr Arglwydd wedi cynysgaeddu neb o honynt â dawn prydyddiaeth. Felly y gwnaethant; ac wedi i bawb o honynt ddarllen eu gwaith, dywedodd Mr. Harris, "Williams bïau y canu." Cydsyniodd pawb oedd yno i'w anog i ddefnyddio ei dalent er gogoniant i Dduw a lles ei eglwys: ac felly y gwnaeth efe. Ас er na efrydiodd efe burdeb iaith, na rheolau barddoniaeth, yn gywrain; eto bu ei waith o fendith i filoedd; ac yr wyf yn hyderu y bydd felly hyd ddiwedd amser. Bu Cymdeithasfa fechan yn y Bala yn fuan ar ol dechreu y diwygiad: yr oedd Mr Howell Davies ynddi, ond ni chafwyd fawr o lonyddwch y tro hwnw gan y saethu a'r afreolaeth blin oedd yn mysg y mawrion a'r gwerinos.
Y Gymdeithasfa gyntaf yn Môn a gynaliwyd yn y Mynydd mwyn, gerllaw Llanerchymedd; yr oedd Mr. Thomas Foulks, a John Evans o'r Bala ynddi. Yn mhentref Clynog, ar yr heol, y cynaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf yn Sir Gaernarfon; pregethodd John Thomas o Langwnlle, John Griffith o Leyn, ac ereill yn hòno. Am Gymdeithasfaoedd Fflint, Dinbych, a Threfaldwyn, nis gallaf alw i gof y manau y buont gyntaf yn y rhai hyny. Nid oedd y gwrandawyr y dyddiau hyny ond ychydig o rifedi. Y mae yn gof genyf nad oedd yn Nghymdeithasfa y Bala, yn y flwyddyn 1767, ond prin ddau gant o wrandawyr. Nid oedd, tros faith flynyddoedd, ond un cyfarfod neillduol yn mhob Cymdeithasfa, sef gan y pregethwyr dros awr neu ddwy. Wedi hyny lluniwyd dau gyfarfod neillduol yn gysylltiedig o lefarwyr a blaenoriaid: un i ymdrin â phethau allanol crefydd, a'r llall i drin materion athrawiaethol, profiadol, dysgyblaethol, ac ymarferol. Ond yn ddiweddar y mae wedi ei helaethu, fel y mae gan y pregethwyr gyfarfod neillduol gyda'u gilydd; felly yr un modd rhyw nifer o flaenoriaid pob sir yn Ngwynedd: ac felly yn yr un modd y maent yn cynal eu cyfarfodydd yn y Deheudir. Bydd torfeydd tra lluosog yn ymgynull iddynt yn gyffredin. Fe fydd o 15 i 20 mil o leiaf amryw weithiau yn gynulledig ynddynt.
YMOF. Rhowch glywed ychydig eto am y cyfarfodydd misol, eu dechreuad a'u cynnydd: y mae yn gof genyf fi nad oedd y gwrandawyr agos mor luosog ynddynt ag y maent yn y dyddiau hyn.
SYL. Nid wyf yn hysbys o'u dechreuad: pa un a oeddynt wedi dechreu cyn yr ymraniad nis gwn. Nid oeddid yn eu cynal ar y cyntaf tros rai blynyddoedd, ond mewn dau le yn Sir Gaernarfon, sef y Tŷ mawr, a'r Lôn Fudr. Nid oedd un cyfarfod neillduol ynddynt y dyddiau hyny; yn unig y pregethwyr (rhyw nifer fechan iawn oeddynt) a ddeuent ynghyd ychydig cyn y bregeth, i drefnu eu teithiau Sabbathol dros y mis i bregethu. Yna fe bregethai un o honynt i nifer fechan o wrandawyr, wedi hyny âi pawb i'w cartrefi. Nid oedd yn y dyddiau hyny neb mwy na'u gilydd wedi eu sefydlu fel blaenoriaid yn mhlith y cymdeithasau neillduol; ac oherwydd hyny, am nad oedd neb yn myned tros ei ardal i'r cyfarfod misol, byddai llawer cwr o'r wlad, amryw o Sabbathau, heb neb i bregethu. Ond fel yr oedd rhai o newydd yn cael eu cymhell i lefaru, a mwy o alwad am weinidogaeth y gair trwy y wlad yn gyffredin, barnwyd yn angenrheidiol i'r cyfarfod misol gael helaethu ei derfynau. A chan nad oedd cyfleusdra i'w dderbyn, na galwad am dano, ond mewn ychydig o fanau yn y wlad, gorfu ei anfon, fel yr arch gynt, o fan i fan trwy y wlad: weithiau mewn pentrefi, ac mewn rhai trefydd ceid cenad i'w gynal gan amryw o'r tafarnwyr er mwyn yr ychydig elw a gaent oddiwrtho. Diau, yn ei gylchdro fel hyn, i'r Arglwydd ei arddel i fod yn fendith i lawer. Deuai cannoedd i wrando i loedd cyhoeddus fel hyn, na ddeuent yn agos i bregeth mewn tŷ na chapel. Wedi talm o amser adeiladwyd capeli, y naill ar ol y llall, ac yn y rhai hyny y cynhelir y cyfarfodydd misol yn bresenol. Sefydlwyd blaenoriaid hefyd i ofalu am, ac i iawn drefnu achosion yr eglwysi. Cyffelyb i'r un dull y maent yn cael eu cynal â'r Gymdeithasfa; ond eu bod yn perthyn yn unig i un sir, a'r llall i amryw siroedd ynghyd.
YMOF. Mae yn amlwg wrth olygu y gwaith o'i gychwyniad, a pha mor wael oedd yr offerynau a ddefnyddiwyd i'w ddwyn yn mlaen, y gellir dywedyd gyda'r Salmydd, "O'r Arglwydd y daeth hyn: hyn oedd ryfedd yn ein golwg ni." A fyddai yn anhawdd genych roi ychydig o hanes y capeli cyn dybenu?
SYL. Nid oedd trwy holl Wynedd yn nechreu y diwygiad yn mhlith y Methodistiaid, sef tua'r flwyddyn 1736, ond chwech o dai addoliad, heblaw gan Eglwys Loegr, yn perthyn i un enw o grefyddwyr, sef dau yn Ngwrecsam, un yn Llanfyllin, un yn Newmarket, un yn Ninbych, ac un yn Mhwllheli. Yr oeddynt oll yn perthyn i'r Annibynwyr, ond un yn Ngwrecsam oedd yn eiddo'r Bedyddwyr. Y capel cyntaf a adeiladwyd yn Nghymru gan y Methodistiaid, oedd y Groes wen yn Sir Forganwg: a'r cyntaf yn Ngogledd Cymru oedd Adwy y clawdd yn Sir Ddinbych; y cyntaf yn Sir Feirionydd oedd capel y Bala: y cyntaf yn Sir Flint oedd capel y Berthen gron: y cyntaf yn Sir Gaernarfon oedd capel Clynog; a'r cyntaf yn Sir Fôn oedd capel Llangristiolus. Nid oes mor 80 mlynedd er pan godwyd y cyntaf o honynt; ond rhyfedd fel y cynyddodd eu rhifedi mewn mor lleied o amser i nemawr lai na dau gant o nifer yn perthyn i'r Methodistiaid yn Ngwynedd, heblaw sydd gan enwadau ereill o grefyddwyr! Y mae amryw o honynt wedi eu helaethu er's blynyddoedd; a llawer wedi gorfod eu hail adeiladu; ïe, a rhai wedi eu trydydd adeiladu, oherwydd eu bod yn rhy fychain i gynwys y gwrandawyr. Mae yn rhesymol i farnu fod y gost yn fawr i ddwyn i ben nifer mor fawr o dai addoliad; er hyny nid wyf yn deall i neb gael eu beichio, na'u gofidio, wrth gario y gwaith yn mlaen; a hyny oherwydd fod y corph o Fethodistiaid mor lluosog; o chwe'cheiniog i swllt bob chwarter blwyddyn oddiwrth bob aelod a gliriai y ddyled yn esmwyth. (A pha hyd y bydd y balch a'r meddwyn yn treulio mwy ddengwaith ar eu melus chwantau?) A chan fod y tlodion, ïe, gannoedd o honynt, mor isel arnynt trwy y gwledydd, da os gall y rhai hyny hebgor ceiniog neu ddwy bob chwarter blwyddyn.
YMOF. Mae yn gof genyf i chwi grybwyll am yr ysgolion rhad a osodwyd i fyny trwy lafur ac ymdrech y Parchedig Griffith Jones, ac a gynaliwyd ar ol ei farwolaeth ef trwy haelioni Mrs. Bevan, o Lacharn, tra y bu hi byw; a'r modd y cafodd Gwynedd ddirfawr golled am danynt ddwy waith; y tro cyntaf trwy ymarweddiad annuwiol y golygwr a'r ysgolfeistriaid; ac iddynt eilwaith gael eu hadferu i ni gan y bendefiges rinweddol hono Mrs. Bevan; ond ar ol ei marwolaeth bu atalfa ar yr arian a adawodd ar ei hol tuag at eu cynal am ddeng mlynedd ar hugain; ac er i'r arian gael eu henill at yr ysgolion, er hyny y maent yn nwylaw rhyw rai, rhy debyg i'r ci yn y preseb, ni phrofai y gwair ei hun, ac ni feiddiai yr ŷch ei brofi ychwaith, mal y dywed y chwedl, fel nad oes dim o honynt yn cyrhaedd atom ni. Pa fodd y bu gan hyny i blant tlodion Gwynedd gael eu dysgu?
SYL. Cynaliwyd ysgolion y nos yn y tymhor gauaf tros lawer o flynyddoedd, yn aml ddwywaith yn yr wythnos. Yr oeddynt wedi dechreu yn y Deheudir cyn i ni yma glywed son am danynt. Y gyntaf yn Ngogledd Cymru, hyd y gwn i, a gynaliwyd yn Capel Curig, yn y flwyddyn 1767, i ddysgu i'r bobl ieuaingc ddarllen, pa rai na allent gael amser i ddyfod i'r ysgol y dydd. Nid hir y bu ein gwlad ar ol hyn heb golli yr ysgolion rhad yn llwyr: nid oedd wedi hyny ond naill ai ymdrechu i gadw ysgolion y nos, neu adael i'r plant tlodion fyned ymlaen, fel paganiaid, heb fedru llythyren ar lyfr. Ymdaenodd y rhai'n yn raddol trwy amryw o ardaloedd, a buont o fawr fendith i gannoedd; nid yn unig trwy ddysgu y plant a'r bobl ieuaingc i ddarllen y gair yn ddeallus, ond hefyd eu hegwyddori yn y pethau a berthyn i fywyd a duwioldeb; a chafodd nifer fawr eu tueddu yn wirfoddol'i fod yn ddysgawdwyr ynddynt, heb na gwerth na gwobrwy. Tua'r amser hwnw cafodd y Parchedig T. Charles ar ei feddwl, ynghyda rhai o'i gyfeillion yn Lloegr, sefydlu rhyw ychydig nifer o ysgolion rhad, trwy dair neu bedair o siroedd Gwynedd, i'w symud o fan i fan bob haner blwyddyn: rhoddes y rhai hyny gychwyniad da a chynydd/dysgeidiaeth i lawer o dlodion. Ond tu hwnt i bobpeth, yr Ysgolion Sabbathol a helaethodd freintiau yr oes bresennol, fel na bu y Cymry, er pan y maent yn genedl, mor gyflawn o ragorfreintiau yr efengyl ag ydynt y dyddiau hyn.—Un Robert Raikes, Yswain, o Gaerloyw, wrth weled aneirif o blant tlodion. yn cael eu dwyn i fyny mewn anwybodaeth o Dduw a dyledswyddau crefyddol, a dybiodd y gallai Ysgolion Sabbathol fod o fawr fendith yn y wlad. A chan ddechreu yn Nghaerloyw yn y flwyddyn 1803, ac wrth weled ei lwyddiant yno a manau ereill, bu y gŵr da yn gynorthwyol i'w sefydlu mewn amryw barthau o'r deyrnas. A diau na bydd ef, na neb a fyddo yn ffyddlon dros achos Duw, heb eu gwobr. Yn mysg llawer o lafur a diwydrwydd y diweddar Barchedig. T. Charles—nid yn unig yn pregethu yr efengyl, a chyhoeddi amryw lyfrau, yn enwedig y Geiriadur Ysgrythyrol, yr hwn yw y ganwyll oleuaf a ymddangosodd erioed yn Nghymru i egluro ardderchawgrwydd a chysondeb athrawiaethau yr efengyl, ac a fydd yn amgen trysor i'n gwlad na holl drysorau yr India, ac yn helaethach esponiad ar yr ysgrythyrau sanctaidd nag un a ddaeth eto yn ein hiaith ni i'n mysg: heblaw y gorchwylion pwysfawr a soniwyd, ymdrechodd yn wrol heb ddiffygio i blanu a lledaenu Ysgolion Sabbathol, gan anog byd y gallai bob ardal trwy Gymru i osod i fyny yr ysgolion hyn, a thaer gymhell pawb a fedrai ddarllen, ac oeddynt a dim gwasgfa arnynt am achub eneidiau, ar iddynt ymroddi yn ffyddlon ac yn ddiwyd at y gorchwyl llwyr angenrheidiol hwn; sef, nid yn unig dysgu i ddarllen yn gywir ac yn ddeallus bawb a fyddai dan eu gofal, ond hefyd eu hegwyddori yn y pethau sydd yn perthyn i fywyd a duwioldeb. Bu y gŵr duwiol hwn nid yn unig yn taer gymhell pawb hyd y gallai i ymaflyd yn y gorchwyl hwn, ond byddai ei hun hefyd yn dra llafurus a diwyd tu hwnt i bawb ereill, yn mhob ardal hyd y gallai gyrhaedd, yn addysgu, yn egwyddori, ac yn gwrando ar adrodd pennodau o'r Bibl: hyn oedd ei fawr hyfrydwch, ac ni ddiffygiodd ynddo hyd ddiwedd ei oes. Cafodd weled llwyddiant mawr yn ei ddydd ar ei lafur trwy y rhan fwyaf o Gymru, tu hwnt, i raddau mawr, i'w ddysgwyliad. Cyhoeddodd lyfr cynwysfawr o egwyddorion y grefydd Gristionogol, yn gynorthwy i athrawon yr ysgolion i egwyddori yr ysgolheigion; fel y byddai iddynt hwy a'r rhai fyddai dan eu gofal ei drysori yn eu cof. Ond er i'r gŵr tra defnyddiol hwnw ein gadael, a gorphen ei yrfa mewn llawenydd, ac er ei fod wedi marw, y mae efe yn llafaru eto: ie, er i'r llusern oleu yma gael ei symud o'n mysg, eto cynyddu a llwyddo y mae yr ysgolion fwyfwy trwy y gwledydd. Mae llawer o filoedd o blant a phobl ieuaingc, ac amryw o hen bobl hefyd, yn ymgynull yn lluoedd bob Sabbath i gael eu dysgu, ac y mae yr athrawon yn ddiwyd ac yn ffyddlon yn eu gorchwyl. Os bydd rhieni y plant yn esgeuluso anfon y plant i'r ysgol, y mae rhai o'r athrawon mor garedig a myned o amgylch i ddeisyf arnynt eu hanfon i gael eu dysgu. Er mwyn iawn drefn ar yr ysgolion, y maent yn cael eu rhanu yn ddosparthiadau, ac athraw yn perthyn i bob dosparth, fel y gallo y plant bach, yr hen bobl, a phawb gael edrych atynt yn ofalus. Arferir gweddïo a chanu penill o salm neu hymn ar ddechreu a diwedd pob ysgol. Mae yr athrawon yn arfer cadw cyfarfod gyda'u gilydd yn achlysurol i hyfforddi y naill y llall i ddarllen yn gywir ac yn ddeallus, ac i gydolygu y moddion mwyaf tebygol i lwyddo yr ysgolion. Mae pob sir wedi ei rhanu yn ddosparthiadau, ac o ddeuddeg i bymtheg o ysgolion yn mhob dosparth. Cedwir cyfarfod bob chwech wythnos, neu bob dau fis yn rhai manau, lle y bydd rhyw nifer o athrawon o bob ysgol a fyddo. yn perthyn i'r dosparth hwnw yn dyfod ynghyd, a chyfrif yn cael ei roddi i'r ysgrifenydd o weithrediadau pob ysgol o fewn y cylch y maent yn perthyn iddo, megys nifer yr athrawon, rhifedi y plant, pa sawl un sydd yn dysgu darllen y Bibl, a pha nifer sydd yn y Testament, ac felly mewn llyfrau llai pa nifer o bennodau a ddysgwyd allan yn y chwech wythnos, pa sawl adnod a ddysgodd y rhai lleiaf o'r plant, a pha faint o'r Hyfforddwr a ddysgwyd allan; hefyd nifer y rhai sydd yn darllen ac yn silliadu, &c. Gofynir i ddau bregethwr fod yn mhob un o'r cyfarfodydd hyn i gateceisio dwy neu dair o ysgolion yr ardal, ac yn ganlynol pregethu yn y lle hwnw ddau o'r gloch brydnawn. Chwi welwch, fy nghyfaill, fod breintiau ieuengctyd yr oes bresennol yn tra rhagori ar ddim manteision crefyddol oedd yn ein dyddiau boreuol ni: nid oedd na rhieni nac ysgolfeistriaid yn son gair wrthym ni am y pechod dychrynllyd o halogi y Sabbath: y cerydd i gyd a fyddai arnom oedd ein bygwth yn dost am dreulio ein dillad, a dryllio ein hesgidiau. Gellir dywedyd am genedl y Cymry y dyddiau hyn, eu bod wedi eu derchafu mewn breintiau hyd y nefoedd, tu hwnt i bawb o drigolion y ddaear; ond och feddwl, os tynir lluaws i lawr o ganol breintiau mor ardderchog hyd yn uffern!. Ond er malais a chynddaredd y llew rhuadwy, a dwfn lygredigaeth calon dyn; ac er fod y cryf arfog yn cadw ei neuadd; eto pan ddêl un cryfach nag ef arno, a'i orchfygu, efe a ddwg ymaith ei holl arfogaeth ef: oblegyd fe fyn Iesu weled o lafur ei enaid; a phob un a fyddo ffyddlon yn ei winllan, diau na bydd eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. O nifer y cyfryw y gwnelo Duw holl ddeiliaid yr Ysgolion Sabbathol. Amen. Cyn gadael hanes yr ysgolion hyn, gallaf ddywedyd yn mhellach, er cysur a chalondid i'r rhai sydd yn llafurio ynddynt, ac er argyhoeddiad i'r esgeuluswyr, fod newyddion tra chysurus yn dyfod o bob gwlad am eu cynydd a'u llwyddiant. fe ddysgir miloedd o bennodau allan bob chwech wythnos mewn rhai siroedd, heblaw lluaws mawr o adnodau gan y plant bach. Ac onid yw hyn yn rhagarwydd fod y wawr ar dori i lenwi y ddaear o wybodaeth yr Arglwydd fel y toa y dyfroedd y môr?
YMOF. Gwir iawn: o'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni! Wele y mae y canwyllau wedi eu dodi yn nwylaw torf luosog o ieuengctyd Cymru; nid oes eisiau bellach ond i'r tân sanctaidd ddisgyn yn nerthol i galonau miloedd o newydd sydd wedi eu dyrchafu â'r fath ragorol freintiau; ac o gael hyny, byddent fel cynifer o ganwyllau dysglaer yn y canwyllbren aur, yn llewyrchu ger bron dynion, fel y gogonedder ein Tad yr hwn sydd yn y nefoedd. Ni cheisiaf genych yn mhellach, rhag eich atal oddiwrth eich gorchwylion mwy angenrheidiol, ond rhoddi ychydig o hanes y rhai mwyaf enwog a defnyddiol a fu yn llafurio yn ngweinidogaeth yr efengyl. Nid wyf yn ceisio genych roddi dim o hanes y rhai sydd yn fyw o honynt, gan hyderu y gwna rhyw un hyny ar ol iddynt adael y maes; ond y rhai a fu ffyddlawn yn eu dydd, ac a hunasant yn yr Iesu.
SYL. Wrth ystyried fod coffadwriaeth y cyfiawn yn fendigedig; ac er cuddio eu corph yn llwch y bedd, eto rhaid mai annheilwng iawn ydyw claddu eu coffadwriaeth dros byth yn nhir anghof. Gan hyny, yn ol eich dymuniad, rhoddaf ychydig o hanes rhai o'r sêr boreuol, a fachludasant dros derfyngylch amser i'r aneddle lonydd. Fe fydd i mi yn gyntaf, gan hyny, fel y mae yn deilwng, goffâu am y rhai mwyaf adnabyddus yn Ngwynedd, ac a ddaethant i'n gwlad o'r Deheudir, yn wyneb erlidigaethau chwerwon, i bregethu gair y bywyd. Ond er fod ein brodyr yno yn haeddu y blaenoriaeth yn y diwygiad presenol, er hyny ni chaniatu amser i mi yn awr ond braidd eu henwi. Mr. Jenkin Morgans a anturiodd yma gyntaf i gadw ysgol ac i bregethu, a bu ei weinidogaeth yn foddion i ddeffrôi rhai. Yna Mr. Howell Harris a ddaeth fel taran ddychrynllyd, a nerthoedd grymus yn dylyn ei weinidogaeth. Yn ganlynol Mr. Daniel Rowlands a wynebodd yn fore atom megys udgorn arian i beraidd seinio efengyl hedd. Wedi hyny Mr. W. Williams, peraidd ganiedydd Israel, a Mr. Peter Williams a fuont yn enwog a defnyddiol. Mr. Howell Davies addfwyn; arddelodd yr Arglwydd ef yn amlwg yn mysg y Cymry a'r Saeson. Mr. David Jones, o Langan, a fu yma lawer tro yn hyfryd chwareu tannau telyn euraidd yr efengyl, nes y byddai llawer credadyn llwfr yn barod i lamu o lawenydd. Mr. W. Davies, o Gastellnedd, a fu yn was ufudd a ffyddlawn yn eglwys Dduw. Ar y cyntaf nid oedd ei ddawn ond bechan, ond ei gynydd yn y weinidogaeth a fu yn eglur i bawb. John Belcher a lafuriodd yn ddiwyd dalm o amser yn ein mysg. Mr. David Williams oedd dduwinydd da, a gwlithog ei weinidogaeth. Dafydd William Rees oedd wedi ymroddi at waith y weinidogaeth: pressiwyd ef o'r pwlpud yn Ngaerfyrddin; ond yn mhen amser cafodd ei ryddhau, a phregethodd wedi hyny hyd ddiwedd ei oes. Mr. Samson Thomas, o Sir Benfro, a Mr. John Harris, a fuont ffyddlon a diwyd yn ngweinidogaeth y gair tra y parhaodd ei dyddiau. John Evans, Cil y cwm, a berseiniodd hyfryd lais yr efengyl tra y parhaodd ei dymhor byr ar y ddaear. Oni b'ai fod hanes lled gyflawn am Mr. William Llwyd, o Gaio, ni buaswn mor ddystaw am dano; gallaf chwanegu hyn, mai seren oleu a chwmwl gwlithog yn yr eglwys ydoedd. Hefyd Dafydd Morris a deithiodd yn ddiwyd trwy Ogledd a Deheubarth Cymru i gyfranu gair y gwirionedd, gydag arddeliad mawr. Yr oedd ei ddoniau yn dra chyflawn, i athrawiaethu, i argyhoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder: odid y caed neb yn ein plith wedi ei ddonio mor helaeth ag ef at bob rhan o'r gwaith. Ni chyrhaeddodd oes hir yn y byd. Nid diystyrwch ar neb o'r brodyr ereill a fuont feirw yn y Deheudir, a barodd i mi beidio eu coffâu, ond yr amser a ballai; yr wyf yn hyderu y cymerir fi yn esgusodol am hyn. Bellach i roddi golygiad byr ar siroedd Gwynedd, gan ddechreu ar Sir Drefaldwyn. Jeremiah Williams a ddechreuodd yn fore, ac a fu yn llafurus yn y winllan, ac yn ffyddlon hyd ei ddiwedd. Edward Watkin, wedi hir lafurio yn pregethu yr efengyl, a derfynodd ei ddyddiau yn Nghaergybi. Yr oedd ei ddoniau yn oleu a deallus, a than radd o arddeliad yn gyffredin. William Lewis ac Ellis Edward, er nad oedd eu doniau yn helaeth, eto buont ffyddlon ar ychydig, a gorphenasant eu gyrfa yn dawel. Thomas Meredydd oedd weithiwr ffyddlon yn y winllan, a'i genadwri yn dderbyniol iawn gan bawb o deulu Sïon. A'r hen bererin, Lewis Evans, wedi dyoddef cryn lawer o erlidigaethau, a hwyliodd ei lestr bach rhwng y creigiau nes cyrhaedd yn y diwedd y porthladd dymunol. Terfynaf am y sir yma, ond coffâu am John Pierce, gynt o Sir Gaernarfon, yr hwn a fu ddefnyddiol i ddwyn yn mlaen yr achos goreu; yr oedd ei ddoniau yn fendithiol iawn, yn enwedig yn y cymdeithasau neillduol. Yr oedd ei weinidogaeth gyhoeddus hefyd yn dra derbyniol trwy yr holl eglwysi. O ran ei dymher naturiol nid oedd yn gysurus iddo ei hun nac i ereill chwaith, am ei fod yn ddarostyngedig i'r pruddglwyf. Ond er cael ei lwybr yn ddreiniog, diangodd yn y diwedd i'r orphwysfa lonydd.
Yn nesaf, sir Feirionydd. Ni chyrhaeddodd y diwygiad y dyddiau hyny, na thros hir amser, nemawr o'r wlad hon, ond y Bala a'i chyffiniau. Enynodd y tân sanctaidd yn rymus yn nghalonau rhyw ychydig nifer yn moreu y diwygiad yn y Bala: ac, yn mysg ereill, un Evan Moses oedd yn llewyrchu mewn lle tywyll; yr oedd ei dduwioldeb yn amlwg, ei gynghorion yn fendithiol, ei weddïau yn aml a gafaelgar, a'i zêl yn wresog dros achos Duw. Aeddfedodd fel tywysen lawn yn moreu ei oes i'r cynauaf mawr. Ei frawd, John Moses, nid oedd mor amlwg mewn crefydd, nac fel pregethwr, ag ef; eto mewn barn cariad, nid oes amheuaeth nad oedd efe yn ŵr duwiol. William Evans a fu yn llafurus ac yn ddiwyd i gyhoeddi yr efengyl ar hyd conglau tywyll y wlad, nes yr anhwyluswyd ei iechyd gan y parlys; a chan i hyn amharu ei gof a gwanhau ei synwyrau, bu farw felly megys tan radd o gwmwl. Dafydd Edward, o'r Bala, a lafuriodd yn ddiwyd iawn i ddefnyddio ei ddwy dalent yn ffyddlon; gellir dywedyd am dano yn well nag am lawer, yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth. John Ellis, o'r Abermaw; coffawyd am dano yn addas iawn yn y Drysorfa; ac y mae yr englyn a ddodwyd ar gareg ei fedd yn fyr ddarluniad o hono:
Dyn oedd â doniau addas,—a manwl,
Mwynaidd ei gymdeithas:
I Dduw Ion, a'i wiw ddinas,
Ymrôdd o'i wirfodd yn was.
Humphrey Edwards, o'r Bala, oedd hen filwr dewrwych yn myddin yr Arglwydd Iesu: yr oedd ei dŷ a'i galon yn gartrefle i achos Duw hyd ddiwedd ei ddyddiau; yr oedd ei yspryd yn iraidd; ei weddïau yn afaelgar; a chafodd atebiad lawer tro i'w erfyniadau gan Dduw. Huno yn dawel yn awr y mae yr hen bererin duwiol yn mynwent Llanycil, i aros iddo ef a'i gydfrodyr gael eu galw i'r wledd dragywyddol. Robert Jones, o Blas-y-drain, yr ychydig amser y bu ar y maes, a ymdrechodd hardd-deg ymdrech y ffydd; bu lafurus yn ei orchwyl yn anog pechaduriaid i ffoi i'r noddfa. Bu farw ynghanol ei ddyddiau. Am John Evans, o'r Bala, gellir dywedyd: Wele Israeliad yn wir, yn yr hwn nid oes dwyll. Yr oedd efe yn gadarn yn athrawiaeth yr efengyl, yn gyfiawn yn ei fasnach, yn harddwch i'w broffes, ac yn gyfaill calon i achos Duw. Bu farw mewn henaint teg. Cewch ragor o'i hanes yn y Drysorfa newydd.
Thomas Foulks oedd yn bregethwr serchiadol; byddai llawer o golli dagrau dan ei weinidogaeth. Byddai yn rhanu tua chan' punt bob blwyddyn rhwng y tlodion; ac er hyny yr oedd ei gyfoeth yn cynyddu yn feunyddiol; megys y dywed y gŵr doeth, "Rhyw un a wasgar ei dda, ac fe chwanegir iddo: rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi; gair ein Duw ni a saif byth." Symudodd i Fachynlleth, ac yno bu farw.
Nid oes genyf, wrth adael Meirionydd, ond coffâu ychydig am y diweddar barchedig Mr. T. Charles, o'r Bala. Yr oedd ei ddwfn dreiddiad i wirioneddau yr efengyl yn eu cysondeb yn dra ardderchog; ei lafur diflino gyda phob rhan o waith yr Arglwydd, ei ymarweddiad duwiol, ei agwedd efengylaidd a thirion, a'i ddefnyddioldeb yn ei oes, yn dra nodedig. Galar trwm i filoedd oedd i'r fath seren oleu fachludo, ïe, i dad mor hawddgar ein gadael, fel cynifer o blant amddifaid, ar ei ol. Gellir dywedyd am dano, "Llawer un a weithiodd yn rymus; ond tydi a ragoraist arnynt oll."[9] Yn nesaf, Sir Filint. John Owens, o'r Berthen gron, a'i frawd Humphrey Owens, a fuont lafurus, ffyddlawn, a defnyddiol yn eu dydd. Dyoddefasant lawer o groesau yn achos yr efengyl. Bu farw John Owens ar ei daith yn Llangurig, er mawr alar i'w deulu a'i gyfeillion. Eithr Humphrey Owens a fu byw rai blynyddoedd ar ol ei frawd, yn ddiwyd a defnyddiol gyda gwaith yr Arglwydd. Bu ynte farw cyn cyrhaedd henaint. James Bulkley, o Gaerwys, er nad oedd ei ddoniau yn helaeth, eto gwnaeth a allai dros achos yr efengyl. Robert Roberts, o'r Wyddgrug, a fu yn ymdrechgar yn ol ei ddawn i anog ei gyd-bechaduriaid i ffoi rhag y llid a fydd. Robert Price, o Blas Winter, er nad oedd ei wybodaeth na'i ddoniau yn helaeth yn mhethau yr efengyl, eto bu yn ymdrechgar a siriol gydag achos Duw hyd angeu. John Richards oedd ŵr o'r Deheudir; bu dros amser yn olygwr ar ysgolion Mrs. Bevan, ac yn pregethu yn achlysurol. Bu farw yn Rhuddlan.
Golygaf bellach ychydig ar amryw lefarwyr Sir Ddinbych, y rhai sydd wedi gadaw y maes, a diosg eu harfau. David Jones, o Adwy y clawdd, oedd wedi ei gymhwyso gan yr Arglwydd i waith y weinidogaeth; yr oedd ei ddoniau yn eglur a gwlithog, ei yspryd yn wrol a'i dymherau yn addfwyn, ac yn addas i wynebu pob math o wrandawyr: bu farw yn yr Wyddgrug. Robert Llwyd a fu yn golofn ddefnyddiol yn Nyffryn Clwyd; er ei fod yn alluog yn y byd, braidd y caid neb mwy gostyngedig a hunanymwadol nag efe; ni byddai yn teithio llawer, ond bod yn ddiwyd a llafurus yn ei ardal. John Jones, o Lansannan, a fu yn ymdrechgar yn y winllan; ond ni allodd wneuthur llawer gan ei afiechyd; diangodd adref yn nghanol ei ddyddiau, o afael ei holl ofidiau. Edward Parry, o Lansannan, a gychwynodd yn foreu tua thir y bywyd, ac a deithiodd yn siriol nes cael ei ddwyn i mewn i lawenydd ei Arglwydd. Agorodd ei ddrws a'i galon i'r efengyl, bu yn lleteugar i weinidogion y gair dros faith amser; ac ni ddiffygiodd, yn ol y dawn a dderbyniodd, i fod yn gynorthwy i'r gwaith, bob rhan o hono. Soniais o'r blaen am John Richards o Fryniog, am hyny nid ymhelaethaf yn bresennol. John Thomas, gynt o Langwnlle, a wladychodd yn Sir Ddinbych yn niwedd ei oes. Yr oedd ef yn gadarn ac yn oleu yn athrawiaeth yr efengyl, a bu yn ddiwyd ac yn wrol faith amser yn y winllan: lled boethlyd oedd ei dymher weithiau; ond pwy sydd berffaith? Bu farw mawn gwth o oedran. Robert Evans, o Lanrwst; blodeuyn hardd yn ei ardal ydoedd ef, siriol a chyfeillgar, eglur a gwlithog ei ddoniau; cafodd ei alw yn ieuangc i gyhoeddi yr efengyl. Goddiweddodd angeu ef yn ddisymwth trwy gwympo o ben cerbyd wrth ddychwelyd o Lundain, er braw a galar i lawer. Ond os bydd rhai yn meddwl yn gyfyng am ei gyflwr yn wyneb y tro dychrynllyd hwn, cofied y cyfryw mai yr un ddamwain sydd i bawb. John Williams, o Henllan, bu raid iddo ef yn fuan ddiosg ei arfau i ymddangos yn y llŷs uchaf. Ar ei daith bu farw yn Aberffraw. John Davies, o Henllan, a ddechreuodd bregethu yn ei ardal, symudodd i Liverpool, ond ni bu yn gysurus nac mor ddefnyddiol yno a'r dysgwyliad. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau. Gŵr yn ymdaith o'i le ei hun sydd debyg i aderyn yn cilio o'i nyth. Yn olaf, John Jones, o Lansantffraid; bu rhyw dalm o amser yn athrofa Lady Huntingdon. Ni bu yn weinidog i un eglwys neillduol, eithr ymroddodd i bregethu yn deithiol hyd y gallai gan afiechyd; ond ni bu yn bir heb orphen ei yrfa. Yr oedd ei dymher yn serchiadol, a'i ddoniau yn addas a defnyddiol.
Ychydig yn mhellach am yr offerynau a fu yn ffyddlon i gyhoeddi yr efengyl yn Ynys Fôn. Y cyntaf oedd Richard Thomas, yr hwn o achos ei afreolaeth a redodd i ddyled; ffodd i'r Deheudir, a bu yno nes enill digon i gyflawni â'i ofynwyr. Dygwyddodd iddo, yn y cyfamser, fyned i wrando pregeth; arddelodd yr Arglwydd y gair er ei wir droadigaeth; dychwelodd i Fôn, a thalodd ei ddyled, a dechreuodd gynghori ei gymydogion yn achos eu heneidiau. Wrth weled ei onestrwydd a'r arwyddion amlwg o wir gyfnewidiad yn ei fuchedd, tynerodd hyny feddyliau yr ardal i wrando arno yn ddiragfarn; bu yn fendithiol i lawer. Hugh Griffith, o Landdaniel, a ddaliwyd yn Lleyn i'w anfon yn sawdwr; ond diangodd o'u gafael i Fôn; glynodd wrth y gorchwyl o gynghori ei gyd-bechaduriaid tra fu byw: ond nid oedd mor dderbyniol gan rai oherwydd fod ei dymherau naturiol yn lled boethlyd. Nid oes neb yn amberffaith tu yma i'r bedd. Richard Jones, o Niwbwrch, a fu yn wresog yn ei gychwyniad, a chafodd ran o'r weinidogaeth; ond gwaelu a wnaeth yn ei hen ddyddiau, er hyny ni lwyr adawodd grefydd. William Roberts, o Amlwch, a fu yn was ufudd i'r eglwys yn ol ei ddawn, yn gariadus a derbyniol gan ei frodyr trwy yr holl eglwysi. Owen Thomas yn nyddiau ei ieuengctyd oedd nodedig am bob oferedd a direidi; cafodd ddwys argyhoeddiad; ac os oedd efe o'r blaen yn amlwg mewn annuwioldeb, rhagorodd wedi hyny ar lawer mewn duwioldeb. Galwyd ef, a rhyw nifer oedd yn caru crefydd, o flaen eu meistr tir i Blas Lleugwy, lle yr oedd amryw o eglwyswyr wedi dyfod ynghyd: a'r cwestiwn a ofynwyd iddynt oedd, pa un a wnaent ai gadael crefydd ai colli eu trigfanau; ond cyd-atebasant eu bod yn barnu fod dirmyg Crist yn fwy golud na thrysorau yr Aipht. Yr oedd un o honynt yn bur dlawd; methodd hwnw ymatal, ond llefodd allan: "Yn wir y mae Duw yn anfeidrol dda i mi, gogoniant byth, diolch iddo;" a dechreuodd lamu yn ei glocsiau yn nghanol eu parlwr boneddigaidd, fel y cloff yn mhorth y deml gynt. Synodd y boneddigion yn fawr ar yr olwg; ond eu troi allan o'u lleoedd a gafodd pob un o honynt. Am Owen Thomas, bu yn ddefnyddiol iawn, yn enwedig yn nechreu y diwygiad: cafodd ddoniau addas i'r amseroedd tywyll hyny; yr oedd ei genadwri mor agos at eu deall, ac yn darlunio eu harferion llygredig mor eglur, pan na wyddent ddim y pryd hyny am na deddf nac efengyl. Evan Griffith, o'r Chwaen hen, oedd a'i ymddygiad yn addas i'r efengyl, yn llafurus a siriol yn ngwaith yr Arglwydd: ond ni ddiangodd yn gwbl oddiwrth yr amryfusedd oedd yn y wlad yn ei ddyddiau ef. William Evans, o'r Aberffraw, dros ei dymhor byr a fu ddiwyd ac egnïol yn ol y ddawn a dderbyniodd, yn ngwaith ei feistr; ac ni bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Michael Thomas, Garnen, oedd o dymher fywiog a charuaidd. Pan ymosododd at waith y weinidogaeth, dyryswyd ef yn fuan i gryn raddau gan y daliadau gwyrgam oedd yn y wlad y dyddiau hyny; ond adferwyd ef yn gyfangwbl oddiwrthynt, a bu o hyny allan, tra cynaliwyd ei iechyd, yn ddiwyd a ffyddlon; gorphenodd ei daith yn nghanol ei ddyddiau. Terfynaf am Sir Fôn, ond crybwyll gair am John Jones, o Fodynolwyn. Daeth o Sir Aberteifi i Sir Gaernarfon i gadw ysgol, lle y dechreuodd bregethu yr efengyl yn fywiog; symudodd i Fôn, ac yno y treuliodd weddill ei ddyddiau yn wrol ac yn ddefnyddiol, heb ddiffygio yn y gwaith mwyaf gogoneddus: teithiodd trwy Gymru amryw weithiau, nes methodd gan henaint: gorphenodd ei yrfa er enill iddo ei hun, ond colled i ereill: mae ei le heb ei gwbl lenwi eto yn y wlad, yn enwedig yn y cyfarfodydd misol. Yn ddiweddaf Edward Jones, yn ddiweddar o Langefni; yr oedd ef yn ŵr duwiol a dichlynaidd, cyfarwydd iawn yn yr ysgrythyrau; bu yn ffyddlon ar ychydig, gosodwyd ef ar lawer.
Bellach, am Sir Gaernarfon. Pedwar o bregethwyr y wlad yma a orphenasent eu gyrfa cyn i mi eu gweled na'u clywed erioed. Robert Ellis, o'r Cwm glas, Llanberis; y mae ei hanes yn gwbl ddyeithr i mi. Evan Dafydd, Hafod y rhyg, oedd ŵr amlwg iawn mewn crefydd. Wedi cael ei ddeffroi am ei gyflwr, pan y cai ychydig o'i gymydogion ynghyd, darllenai y Bibl a llyfrau da, ereill iddynt, gan eu cynghori yn ddwys ddifrifol i ffoi i'r wir noddfa rhag y llid a fydd. Llawer taith a roddes ef o gerllaw Caernarfon i Leyn i wrando pregeth neu ddwy: Dylai hyn fod yn argyhoeddiad i lawer, na wrandawant ond un bregeth ar y Sabbath, er eu cael yn eu hymyl. Am Morgan Griffith, soniais o'r blaen am dano y modd y pressiwyd ef, ac fel y bu arno yn ngharchar Conwy, &c. Evan Roberts oedd y pedwerydd; gwnaeth yntau a allai o blaid teyrnas Crist. Aeddfedodd yn gynar i orphwys oddiwrth ei lafur. Yn Lleyn yr oedd ei preswylfa. Siarl Marc oedd un a ddihunwyd yn more ei ddyddiau; yr oedd yn ŵr o synwyrau cryfion, ac yn gadarn yn y wir athrawiaeth, a'i ddoniau yn eglur i draddodi ei genadwri; yr oedd yn barchus yn ei ardal, yn dderbyniol gan yr eglwysi, a'i rodiad yn addas i'r efengyl, ac yn ddeffrous, yn enwedig yn ei ddyddiau olaf.
Robert Williams, gynt o Drewen, er nad oedd ond gwaelaidd o ran ei iechyd, eto ni bu na segur na diffrwyth i alw pechaduriaid at Grist: yr oedd ei agwedd sobr, ei symlrwydd, a'i larieidd-dra yn brawf amlwg o'i dduwioldeb.
Griffith Prichard, a Charles Prichard, a fuont ill dau yn fendith i lawer, er nad oedd eu doniau na'u gwybodaeth mor ardderchog a rhai o'r brodyr, eto cawsant gymhorth i ddefnyddio eu talentau bychain yn ddiwyd ac yn ddefnyddiol hyd ddiwedd eu hoes.
John Hughes, er nad oedd ond isel yn y byd, eto yr oedd ei symlrwydd yn rhagori ar lawer helaethach 'eu doniau: ac os na chafodd ond megys un dalent, ni chuddiodd hòno yn y ddaear, ond defnyddiodd hi yn ffyddlon dros ei frenin.
John Jones, o Benrhyn, a ddaeth i'r winllan yn foreu, ac a fu yno hyd yr hwyr; cafodd fwy o ddoniau na llawer o'i gyfoedion, ac ni bu na segur na diffrwyth yn yr ymarferiad o honynt: ond yn amser yr ymraniad gofidus, a soniwyd o'r blaen am dano, gwyrodd yn fawr ei zēt at deulu Mr. Harris; daeth yn ol drachefn, ond yn lled wywedig; cafodd radd amlwg o adferiad eilwaith; ond er y cyfan, gwyrodd yn ormodol at y wag-broffes a fu yn y Rhos ddu, am ba un y crywyllwyd o'r blaen, ac ni chafwyd lle i gredu iddo hyd ei fedd enill y tir a gollodd. Bu farw gerllaw Pwllheli yn gyflawn o ddyddiau. Na thybied neb fy mod yn barnu yn galed am ei gyflwr wrth adrodd fel hyn; ac ni soniaswn am ei wendidau, ond er rhybudd i ereill, na byddo iddynt gymeryd eu cylcharwain â phob awel dysgeidiaeth, ond aros yn y man y galwodd Duw ar eu hol.
Richard Jones, o Lanengan, oedd addfwyn ei dymher: dechreuodd lefaru ychydig yn gyhoedd, cafodd ei symud i fyd yr ysprydoedd cyn cael ond ychydig brawf o hono. Hugh Thomas, am ba un y soniais eisoes, fel y cuddiwyd ef yn amser erlid, rhag ei bressio. Gellir dywedyd am dano, er na chyfranwyd iddo ond gradd fechan o wybodaeth a doniau i lefaru yn gyhoeddus: eto yr oedd ei gydwybod yn dyner, a'i holl galon yn erbyn pechod, ac yn ddoniol â gafaelgar mewn gweddi.
Richard Dafydd, er nad oedd ond anfedrus yn ei ddysg a'i ddoniau cyffredin yn llefaru, er hyny, rai amserau, byddai yn cael cymhorth ac arddeliad tu hwnt i bob dysgwyliad: diau i'w weinidogaeth fod yn fendith i lawer. William Daniel a lanwodd y lle a roddwyd iddo gan yr Arglwydd yn ffyddlon; teithiau Sabbothol oedd ei gylch yn gyffredin; yr oedd yn dawel a diolchgar am y lle lleiaf yn eglwys Dduw: tynodd ei gwys i ben yn ddiddig, trwy dònau o afiechyd, hyd nes y galwyd ef adref.
Soniwyd o'r blaen am John Griffith (gelwid ef yn gyffredin, John Griffith Ellis,) gellir dywedyd na chynysgaeddwyd neb yn Ngwynedd, yn more y diwygiad, a'r fath gyflawnder o ddoniau goleu, iraidd a gwlithog, ag efe; yr oedd y Gogledd a'r Deheudir yn sychedu am ei weinidogaeth, a pha ryfedd, canys byddai effeithiau grymus a thoddedig yn dylyn ei genadwri. Trueni gresynus i'r ddraig â'i chynffon dynu y fath seren oleu dan orchudd gwrthgiliad, faith flynyddau. Ond rhyfedd ras, ac anghyfnewidiol gariad, a'i cofiodd yn ei isel radd. Adferwyd ef dalm o amser cyn diwedd ei daith.
Edward Roberts, gerllaw Pwllheli, oedd a'i rodiad yn ddiargyhoedd, er nad yn enwog o ran ei ddysg a'i ddoniau, eto bu yn ufudd a ffyddlon dros yr Arglwydd i wneuthur yr hyn a allai. Robert Owen, o'r Tŷ gwyn, oedd gynorthwyol i achos yr Arglwydd, yn ol y doniau bychain a dderbyniodd, tra fu byw. Thomas Ellis, o'r Hafod, a ddefnyddiodd ei dalentau bychain yn ddiwyd yn ei ardal; gellir dywedyd na lanwodd neb ei le yn gwbl yn y parthau hyny hyd heddyw.
Robert Owen, gynt o Fryn y gadfa, oedd yn rhagori ar lawer o broffeswyr mewn symlrwydd duwiol; ei ymddiddanion yn gyffredin a fyddai am bethau buddiol. Gwyrodd yntau yn yr ymraniad i gryn raddau at deulu Mr. Harris, ond cliriwyd ef oddiwrth hyny amser maith cyn ei farw. Lled gymysglyd oedd ei olygiadau ar rai o destynau y Beibl; ond nid dim yn niweidiol i'r athrawiaeth sydd yn ol duwioldeb. Richard Hughes, o Fryn engan, a fu yn dra llafurus trwy Ogledd a Deubarth Cymru i gyhoeddi gair y bywyd; er nad oedd ei ddoniau yn helaeth, eto yr oedd calondid a gwroldeb neillduol yn ei feddyliau gyda'r gwaith yn ddiddiffygio: byddai ar amserau yn cael oedfaon anghyffredin. Bu farw yn nghanol ei ddyddiau. William Dafydd, o Lanllyfni, a dreuliodd ei yrfa grefyddol yn dra chyfeillgar a siriol yn mysg ei frodyr; teithiodd hyd y gallodd ar hyd y gwledydd i bregethu yr efengyl: yr oedd ei ymddygiad yn synwyrol ac addas, yr hyn oedd yn tueddu yn gyffredin i'w garu a'i fawr barchu. Amharwyd ei iechyd gan radd o'r parlys, a bu flynyddau cyn ei farw heb allu symud cam o'i unfan. Ond diangodd o'i holl ofidiau.
Robert Roberts, o Glynog, oedd seren oleu yn ei dymhor byr. Ni ymddangosodd neb yn Sir Gaernarfon o'i fath yn yr oes bresenol; yr oedd ei dreiddiad i ddirgelion yr efengyl, ei ddoniau cyflawn, ei zêl wresog yn traddodi ei genadwri, pereidd-dra ei lais, yn nghyda'i gyfeillach addfwyn a siriol, yn ei ardderchogi nid yn unig i fod yn addurn i'w broffes, ond hefyd i fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Galar trwm a cholled ddirfawr oedd i'r fath lusern lewyrchus ddiffoddi yn nghanol nos mor dywyll. Cerydd gofidus arnom oedd cymeryd ymaith oddiwrthym ganwyll o'r canwyllbren aur, oedd yn cyneu mor ddysglaer. Gofidiwyd ef yn dost dros amryw o flynyddau gan ddolur y gareg, ond dyoddefodd ei gystudd yn amyneddgar. Bu farw yn ddeugain mlwydd oed, wedi bod yn y weinidogaeth bymtheng mlynedd.
Robert roes aml rybydd,—wiw lewyrch,
I lawer o wledydd:
Galar o un bwygilydd,
A thrallod ddarfod ei ddydd.
Robert Owen, o Dderwen uchaf, oedd yn ŵr ieuangc prydferth, wedi ei egwyddori yn fanwl yn y wir athrawiaeth: treuliodd enyd o'i amser yn athraw ysgol: yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur ac ysgrythyrol. Bu farw yn mlodau ei ddyddiau o'r darfodedigaeth.
Richard Williams, o Gaernarfon, ni chafodd ond braidd ymddangos i weinidogaethu yn gyhoeddus, na chymerwyd ef oddiwrthym i ffordd yr holl ddaear. Treuliodd ei yrfa grefyddol yn syml a diargyhoedd.
Thomas Evans, o'r Waun fawr, oedd o dymher addfwyn a chyfeillgar, gonest a diddichell; yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur a dealladwy, ac yn addas iawn i lawer o wrandawyr anwybodus y dyddiau hyny a fyddent yn arferol o'i wrandaw. Yr oedd ei gynydd mewn doniau a defnyddioldeb yn amlwg fel yr oedd yn aeddfedu i ogoniant. Gadawodd dystiolaeth eglur ar ei ol yn niwedd ei ddyddiau, ei bod yn dawel rhyngddo a Duw mewn Cyfryngwr. Bu farw o'r darfodedigaeth cyn cyrhaedd henaint. Evan Evans, ei fab, a addurnwyd yn ieuangc iawn â doniau ystwyth, goleu, a serchiadol. Tybiodd llawer y byddai yn ddefnyddiol fel lamp yn yr eglwys hir amser; ond cafodd pawb eu siomi: torwyd ef i lawr pan oedd ei lewyrch yn fwyaf dysglaer. Symudodd yn agos i Lanidloes i geisio meddyginiaethu rhyw afiechyd oedd arno; ond yn lle gwellhad, angeu a'i cludodd i'w garchar tywyll hyd fore mawr yr adgyfodiad.
Thomas Griffith (tad y godidog fardd, Dafydd Thomas,) oedd ŵr o gydeddfau cryfion, craff ei olwg ar y wir athrawiaeth. Byddai yn arfer cynghori ei gyd-bechaduriaid yn achlysurol i gilio oddiwrth ddrygioni, ac i ffoi i'r wir noddfa. John Williams, Llandegai, a fu yn ddefnyddiol iawn hir flynyddoedd, yn cynal gair y, bywyd heb ddiffygio, yn wyneb llawer o ddigalondid. Bu dros amser maith yn derbyn pregethwyr i'w dŷ heb gynorthwy neb. Yr oedd yn llenwi lle mawr yn ei ardal, yn enwedig yn yr eglwys; bu farw yn nghanol ei ddyddiau, er galar a cholled i lawer, ac ni lanwyd ei le yn gwbl gan neb hyd yma.
Griffith Thomas, o Dremadoc, a alwyd i'r winllan yn ieuangc; preswyliodd yn Llundain amryw flynyddau; yno y dechreuodd bregethu. Amharwyd ei iechyd; daeth i'w wlad, a threuliodd weddill ei ddyddiau yn ddiwyd a ffyddlon yn ngwaith yr Arglwydd nes ei aeddfedu i'r wlad lle na ddywed y preswylydd, Claf ydwyf.
YMOF. Yr wyf yn rhwymedig iawn i chwi, fy nghyfaill caredig, am gyfodi, megys o fedd anghof, goffadwriaeth am gynifer o'r hen bererinion, pa rai a ddygasant bwys y dydd a'r gwrês. A oes neb eto heb i chwi grybwyll am danynt, ag y byddai yn annheilwng gollwng eu coffadwriaeth i dir anghof?
SYL. Gwnaethoch yn dda gofio. Daeth un John Morgans, o'r Deheudir, yn gurad i Lanberis; byddai cryn lawer yn cyrchu i wrando arno: ac er nad oedd ei wybodaeth na'i ddoniau yn ardderchog, eto gellir barnu fod 'ei amcan am ddyrchafu Crist, ac achub pechaduriaid. Ymddangosodd yn fwy amlwg gyda chrefydd yn ei hen ddyddiau. Mae yn debyg y cafwyd ynddo beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel. Yr oedd yn ficar yn Nghlynog, un gŵr eglwysig tra enwog, y Parchedig Richard Nanney, o ymarweddiad hynaws a thirion. Cyfrifid ef, fel pregethwr, yn rhagori ar y rhan fwyaf o'i frodyr urddasol: nid oedd gofalon bydol yn cael nemawr o le ar ei feddyliau; oblegyd nid adwaenai ei anifeiliaid ei hun, ond yr un a fyddai efe yn ei farchogaeth. Ond O! er mor foesol a phrydferth oedd ei ymddygiad yn ystod ei fywyd, eto nid oedd pelydr yr efengyl, na'r anadl oddiwrth y pedwar gwynt yn effeithioli ei weinidogaeth i gyrhaedd calonau ei wrandawyr yr holl amser hyn: ond yn niwedd ei ddyddiau, cododd goleuni yn yr hwyr, daeth arddeliad amlwg ar ei weinidogaeth; a bu fel dyferiad diliau mêl i lawer o eneidiau trallodedig. Ymgasglai lluaws mawr o amryw blwyfydd i wrando arno nes y byddai eglwys fawr Clynog bron yn haner llawn: byddai raid ei gynorthwyo i'r pwlpud rai gweithiau o achos ei henaint a'i lesgedd. Ar ol pregethu eisteddai i lawr yn y pwlpud i aros i'r gynulleidfa ganu Salm neu hymn, a byddai yn fynych dywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn gorlenwi calonau llawer o'r gwrandawyr nes y byddai y deml fawr yn adseinio yn beraidd o haleluiah i Dduw a'r Oen. Bu farw y gŵr parchedig hwn yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau, dros 80 mlwydd oed.
YMOF. Gadewch gael clywed genych, cyn ymadael, ryw ychydig o hanes y Gymdeithas Genadol, ag sydd, fel ag yr wyf yn clywed, yn fendith fawr trwy amryw barthau o'r byd.
SYL. Mae hon, a'r Fibl Gymdeithas Frutanaidd a Thramor, fel y ddau udgorn arian, eisoes wedi bod yn foddion i ddeffrôi llawer; ac yn myned rhagddynt yn llwyddiannus i chwalu y tywyllwch o'u blaen: ac er nad ydyw eto ond megys gwawr bore, er hyny gan fod eu tarddiad oddiwrth haul cyfiawnder, diau yr ânt rhagddynt oleuach, oleuach, nes elo teyrnasoedd y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef. Soniwyd o'r blaen am Gymdeithas y Biblau, a'i defnyddioldeb. Am y Gymdeithas Genadawl, nid rhaid dywedyd llawer, gan fod cymaint eisoes o'i hanes yn argraffedig; ffurfiwyd hi yn Llundain yn y flwyddyn 1795. Treuliodd y gwir Gristionogion flynyddau lawer yn dra anystyriol o gyflwr gresynol y paganiaid tywyll, eulunaddolgar, oedd yn cael eu cludo gan Satan yn filiynau tros y geulan i ddistryw tragywyddol: ond o'r diwedd cyffrôdd Duw feddyliau ei bobl fel na allent gysgu yn hwy heb gynyg wynebu ar rhyw lwybr tuag at eu dwyn o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw.
Y Morafiaid, yn flaenorol i bawb, a anturiasant gynyg yr efengyl i drigolion tywyll Greenland, a manau ereill. Dyoddefasant lawer o galedi a chyfyngderau mawrion: ond llwyddodd Duw eu llafur a'u hymdrechiadau i fod yn fendith i lawer. Nid wyf fi yn deall i neb arall gynhyrfu fawr yn achos y trueiniaid di-Dduw, sef y paganiaid, nes y cododd yr Arglwydd y Gymdeithas Genadol; er fod amryw yn ymofidio yn eu hachos, ac yn gweddïo drostynt; ond nid oeddynt yn gweled un llwybr yn ymddangos trwy ba un y gellid gwneyd dim yn rhagor iddynt; ond pan sefydlwyd y Gymdeithas uchod, ffurfiwyd trefn yn mysg aelodau y Gymdeithas, yn gyntaf, i gadw cyfarfod blynyddol yn Llundain, i roddi prawf a ellid cael modd i anfon yr efengyl at drueiniaid oedd yn cael eu dyfetha o eisiau gwybodaeth. Cawsant yn fuan le i hyderu y llwyddai yr Arglwydd eu hamcanion; casglwyd cyn hir dair mil o bunnau at yr achos tra angenrheidiol hwn. Yn yr ail gyfarfod yr oedd lluaws mawr o weinidogion o amryw enwau, megys Eglwyswyr, Annibynwyr, Presbyteriaid, Methodistiaid, &c., a'r gwrandawyr yn dra lluosog, oblegyd fe bregethodd pedwar o weinidogion yn y cyfarfod hwnw, yn mysg ereill, Mr. Jones, o Langan. Yr oedd y casgliad, erbyn hyn, wedi helaethu i ddeng mil o bunnau. Tueddwyd 28, neu ragor, i anturio tros y moroedd meithion, i'r ynysoedd sydd yn Môr y Dehau, sef Otaheite, &c., ac yn eu mysg un Cymro, sef John Davies, o Sir Drefaldwyn. Bu ef a'i frodyr o fendith i lawer yno, ac yn yr ynysoedd ereill cyfagos; er eu bod am hir amser mewn digalondid mawr, ac yn goddef llawer iawn o galedi; a'u gofid mwyaf oedd gweled mor lleied o lwyddiant ar eu hymdrechiadau. Ond er hau mewn dagrau amser maith, y maent yn medi mewn llawenydd yn bresennol. Y mae yr anialwch gwag erchyll wedi myned yn ddoldir; y rhith-dduwiau wedi eu llosgi yn tân; yr allorau wedi eu distrywio, a thai addoliad i'r gwir Dduw yn cael eu hadeiladu. Brenin Otaheite hefyd wedi dyfod i gofleidio y grefydd Gristionogol. Nid yno yn unig y mae y gwaith gogoneddus hwn yn llwyddo, ond hefyd mewn amryw barthau o Affrica baganaidd, sef yn mysg yr Hottentotiaid, y Caffrariaid aflan a chreulon, yn nghydag ynys Lattacoo, a'i brenin, oedd mor anwybodus na welsent un math o lyfr erioed. Y mae yn agos i China lafur a diwydrwydd mawr yn cyfieithu y Testament Newydd, a rhanau o'r Hen, i iaith yr ymerodraeth hono, er gwaethaf yr ymerawdwr creulon; ac y maent yn cael eu darllen gyda blas gan amryw yn y wlad hòno. Y mae hefyd yn yr India Ddwyreiniol lwyddiant neillduol ar lafur cenadau yn cyfieithu yr ysgrythyrau i amryw ieithoedd, y gwledydd meithion hyny sydd a'u trigolion yn aneirif o luosogrwydd. Ni bydd i mi ymhelaethu ar hyn yn bresennol, gan hyderu y bydd i'r hyn a adroddwyd godi awydd ynoch i ddarllen hanesion helaethach sydd yn argraffedig eisoes.
YMOF. Fe allai fod rhywbeth eto ar eich meddwl, y byddai yn fuddiol ei goffâu.
SYL. Chwi a wyddoch, er fod ein gwlad wedi ei dyrchafu hyd y nef o ran breintiau, fod gormodedd o blant, ac ereill, yn ddiarswyd yn halogi y Sabbath. Adroddaf hanes byr am ddau blentyn a ddaethant i ddiwedd dychrynllyd wrth halogi dydd yr Arglwydd. Yn agos i Gapel Curig, byddai plant yr ardal yn arfer ymgynull i ryw ofer-gampau ar y Sabbath; ond yn nghanol eu hynfydrwydd rhyfygus syrthiodd careg fawr o ochr y ffordd, a lladdodd un o honynt yn farw. Bryd arall, yr oedd bachgen yn dringo i olwyn oedd yn perthyn i waith mwn, ac yn ddisymwth trôdd yr olwyn nes gwasgu ei ben rhyngddi a'r mur, a dryllio ei esgyrn, a bu farw yn y fan. Bydded i blant ac ereill, oddiwrth yr esiamplau hyn, feddwl am gofio cadw yn sanctaidd y dydd Sabbath.
Yn gymaint a bod, yn mhob oes o'r byd, rai dynion yn meddu tymher haelionus ac elusengar, ac ereill yn dra chreulon ac annhrugarog, adroddaf i chwi hanes nodedig am ŵr cyfoethog, a haelionus iawn i'r tlodion, oedd yn byw yn Ysgeifiog, yn Sir Filint, tua'r flwyddyn 1739. Dygwyddodd, yn ei amser of, dymhor o gyfyngder mawr ar dlodion, ie, braidd newyn: ond po mwyaf oedd y. wasgfa ar y tlodion, mwyaf yr oedd yntau yn ymhelaethu i dosturio. Yr oedd ganddo, yn y cyfamser, faes o bys, a phan ddechreuodd aeddfedu, parodd gyhoeddi trwy yr holl ardaloedd, fod cenad i dlodion yr holl gymydogaethau gasglu faint a fynent o'r pys, a byddai lluoedd dirfawr bob dydd yn ymborthi arnynt. Wedi dyfod y cynauaf i mewn, cafodd pawb ddigonedd o fara.
Yn mhen amser gorchymynodd y meistr gasglu y gwellt ynghyd, gan feddwl nad oedd dim o'r ffrwyth wedi ei adael ar ol y tlodion; ond ar ol ei ddyrnu, cafwyd cymaint o bys ag a fyddai arferol fod flwyddyn arall. Ond er maint oedd ef yn ei gyfranu, cynyddu fwyfwy yr oedd ei gyfoeth yn feunyddiol. Yn fuan ar ol hyny priodwyd y gŵr âg un oludos o ran cyfoeth, gyfaddas iddo ei hun; wedi i hon ddechreu llywodraethu y tŷ, edrychodd yn gilwgus ar y fail fawr, â pha un y rhenid cardodau y tlodion: taflodd hòno heibio yn ebrwydd, a thrôdd allan mor annhrugarog a chybyddlyd, fel o'r diwedd nad oedd yn werth amser i'r tlawd alw wrth ei drws. Ond nid hir y bu y farn heb eu goddiweddyd yn amlwg; bu farw eu hanifeiliaid; ehedodd eu cyfoeth oddi wrthynt fel aderyn, a darostyngwyd hwynt, cyn diwedd eu hoes, i dlodi dirfawr. Nid oes un rheswm i'w roddi am hyn ond geiriau Solomon, "Rhyw un a wasgar ei dda, ac fo chwanegir iddo: rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi."
Y mae chwant arnaf, cyn i mi eich gadael, grybwyll am eneth amddifad ag oedd yn byw gyda rhai o'i pherthynasau yn Nolyddelen. Cafodd genad un tro i fyned i ymweled âg ereill o'i pherthynasau encyd o ffordd oddiyno. Ond ar ei dychweliad adref, tarawodd wrth blant ar y ffordd, a threuliodd ei hamser gyda y rhai hyny, heb gofio am y nos, a'r daith oedd o'i blaen. Wedi cychwyn, aeth yn dywyll, ac yr oedd yr eira yn gorchuddio y ddaear: dyrysodd, a chollodd y ffordd, a daeth o'r diwedd at afon; methodd fyned trwy hono heb wlychu hyd ei gwasg; teithiodd ymlaen dan wylo, yn flin arni, nes llwyr ddiffygio; nid oedd ganddi, erbyn hyn, ond ymrôi yn ochr craig i rynu i farwolaeth. Yn y sefyllfa anghysurus yma, canfu ddyn yn myned heibio iddi yn dra chyflym—gwaeddodd arno, ond nid atebodd mo honi; hithau a redodd ar ei ol of dan waeddi arno yn dra chwynfanus, nes y daeth at feudy, ac yno y collodd hi ef; aeth i mewn i hwnw, ymdrôdd yn y gwair, a chysgodd yno hyd y bore; ar ol codi adnabu y lle, a daeth adref mor fuan ag y gallodd; wedi adrodd ei hanes, aeth dyn yn union i'r lle, a chanfu ôl ei thraed hi o'r graig i'r beudy, ar hyd yr eira, heb ddim ôl neb arall. Gadawaf i chwi ac ereill farnu pwy a allai yr arweinydd fod. Y mae yr apostol yn dywedyd am yr angylion, mai ysprydion gwasanaethgar ydynt hwy, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth. A chan i'r eneth hon gael ei thueddu yn mhen amser i ddewis y rhan dda, a bod hyd ei diwedd yn amlwg mewn crefydd, pwy a all ddywedyd nad angel a anfonwyd i achub ei bywyd, fel y caffai fywyd a barhai byth. Gall y ddau adroddiad uchod ymddangos i rai mor ddiystyr ag oedd y llawnder mawr y dywedwyd am dano yn ngolwg y tywysog yn Samaria.
YMOF. Er mor felus a hyfryd oedd genyf wrando yr amrywiol hanesion a adroddasoch, eto rhaid ymadael: wele, yr haul ar gyrhaedd ei gaerau yn y gorllewin; gan hyny ni cheisiaf ddim yn rhagor genych wrth ymadael, ond crybwyll ychydig am y diwygiad sydd yn y gwledydd y dyddiau hyn.
SYL. Grybwyllais eisoes am y diwygiad yn Nghymru, a manau ereill, a ddechreuodd tua'r flwyddyn 1739, a'r modd y cafodd ei aflwyddo trwy yr ymraniad gofidus a glywsoch am dano. Tua'r flwyddyn 1762, torodd allan ddiwygiad mawr trwy amryw o ardaloedd Cymru (soniais ychydig am dano o'r blaen;) trwy hwnw cafodd yr eglwysi eu hadfywio a'u cadarnhau, a helaethu eu terfynau, trwy lawer o ardaloedd. Bu amryw ddiwygiadau ar ol hyny trwy y Deheudir a Gwynedd; a'r gwaith yn myned rhagddo yn llwyddiannus. Pan y byddai yn auaf dros amser ar rai ardaloedd, byddai manau ereill dan dywyniadau cynhes haul cyfiawnder. Ac fe allai, yn mhen ychydig flynyddoedd, byddai yr hin yn cyfnewid, y manau tywyll yn oleu, a'r lleoedd oedd yn oleu yn ddiweddar yn awr dan gwmwl. Bu yn parhau yn y dull hwnw lawer o flynyddoedd, a'r gwaith yn llwyddo yn raddol yn gyffredin trwy y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru. Ond er's rhyw gymaint o amser a aeth heibio, nid oedd effeithiau mor rymus yn cydfyned a phregethiad y gair ag y buasai yn yr amseroedd gynt: dim llawer yn cael eu hychwanegu at yr eglwysi. Yr ieuengctyd, er cymaint eu manteision crefyddol, yn myned ymlaen yn dalgryfion a diarswyd i bechu yn rhyfygus yn erbyn Duw: er dyfod yn lluoedd i wrando y gair, yr oedd yr olwg arnynt yn ddibris ac yn dra anystyriol: yr oeddynt yn ymdrybaeddu yn y pechodau mwyaf gwarthus yn ddigywilydd, megys meddwdod, puteindra, a'r cyffelyb. Yr oeddynt yn cael eu rhybuddio yn ddwys a difrifol o'r pwlpudau, a thaer-weddiwyd llawer drostynt; eto nid oedd dim yn tycio i'w diwygio.
Ond er cryfed ydoedd llywodraeth Satan ar ieuengctyd ac ereill, eto yn eu hisel-radd, fe gofiodd yr Arglwydd am ei bobl; oherwydd fod ei drugaredd Ef yn parhau yn dragywydd. Dynoethodd ei fraich a gwnaeth rymusderau. Agorwyd dyfrddorau y nefoedd, a thywalltwyd y gwlaw graslawn yn gawodydd ar y sychdir. Yna yr anialwch a'r anghyfaneddle a orfoleddasant, dechreuodd y diffaethwch flodeuo fel rhosyn. Cyflawnwyd, i raddau helaeth, yr addewid hono o eiddo Duw, "Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir. Yna y llama y cloff fel yr hydd, ac y cân tafod y mudan."
Tua'r flwyddyn 1817, ymddangosodd yr arwyddion cyntaf fod yr addewid hono ar gael ei chyflawni ar lawer ardal, mewn mesur; "Wele y gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith; gwelwyd blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad." Ac o bob man, Beddgelert a gafodd y fraint o fod yn flaenffrwyth y diwygiad presennol. Cyn hyn gallesid dyweyd am yr ardal hòno, "Dyma Sïon, nid oes neb yn ei cheisio." Ond yn nghanol y nos dywyll o ddigalondid, y bobl oedd yn eistedd mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr: ac i'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angeu y cyfododd goleuni. Nid oes neb yn cofio gweled yn un man arddeliad mwy grymus ar foddion gras nag a fu yn yr ardal yma, a llawer o fanau ereill. Yr oedd yr argyhoeddiadau yn fwy nerthol yn deffroi y gydwybod, yn dwysbigo y galon, a'r tywalltiadau o orfoledd yr iachawdwriaeth yn fwy grymus, nag y gwelwyd ef mewn rhai diwygiadau o'r blaen. Yr oedd yn rhagori ar un diwygiad a fu cyn hyn yn ei ledaeniad; canys cyrhaeddodd gradd o hono i bob sir yn Ngwynedd, a rhai o siroedd y Deheudir, a hyny yn yspaid dwy flynedd neu dair o amser; a chwanegwyd at yr eglwysi, er pan ddechreuodd, rai miloedd, rhwng yr amrywiol wledydd sydd wedi cyfranogi o hono. Chwanegwyd at gymdeithas Beddgelert ei hun ynghylch naw ugain; chwech ugain yn Mrynengan, heblaw niferoedd mawr mewn amryw fanau ereill hefyd.
Nid oes ond ychydig o ardaloedd Sir Gaernarfon heb radd o'r tywalltiadau grasol hyn arnynt. Cyrhaeddodd y gawod fendithiol hon, sef y gwlaw graslawn, fynydd-dir a dyffrynoedd Sir Feirionydd. Yr oedd y ddwy Gymdeithasfa ddiweddaf a fu yn y Bala yn dystion amlwg fod ôl llaw yr Arglwydd ar y dorf luosog oedd yn gwrando; felly Caernarfon a Phwllheli yn yr un modd; ac amryw o Gymdeithasfaoedd ereill yn lled gyffelyb. Mae Sir Ddinbych a Flint dan yr unrhyw dywalltiadau, lawer ardal o honynt, a llawer wedi eu chwanegu at yr eglwysi. Ni chafodd Sir Drefaldwyn mo'i gadael yn amddifad; mae yno mewn rhai manau gryn rifedi yn ymofyn y ffordd tua Sïon; yn dechreu codi baner Iesu i fyny, ac yn myned yn mlaen yn siriol fel tyrfa yn cadw gwyl. Y mae Sir Fôn, aml ei breintiau, yr hon a ragorodd ar lawer mewn ffyddlondeb a llafur gyda'r gwaith yn ei holl ranau, wedi profi eisoes, mewn rhai manau, felusder y grawn-sypiau, ac yn hiraethu yn fawr am gael eu profi yn helaethach. Y mae y cwmwl bychan wedi dyrchafu o'r môr, pwy a wyr nad yw y gwlaw mawr ar ddisgyn? Brysied y bore!
Mae yn Sir Aberteifi hefyd, yn y dyddiau hyn, ddiwygiad grymus iawn; sef yn Llangeitho, Tregaron, Lledrod, a manau ereill; ond gan fy mod yn ddyeithriol yno, nis gallaf roddi ychwaneg yn bresennol o hanes crefydd yn y gwledydd hyny. Gan fod cymaint o ddiystyru ac o gablu ar y tywalltiadau o orfoledd a fu, ac sydd yn awr yn Nghymru, fe allai y byddai yn addas chwilio, ai yn mhlith ein cenedl ni yn unig y mae, ac y bu, y cyffelyb weithrediadau.
Yr ydym yn clywed am effeithiau tra thebyg, trwy bregethiad yr efengyl, yn disgyn yn rymus iawn ar amryw fanau yn Affrica. Mae yr argyhoeddiadau mor llym a grymus nos y bydd amryw yn methu ymatal heb lefain allan dan y weinidogaeth, "Pa beth a wnaent i fod yn gadwedig" (a'r dagrau yn llifo i lawr ar hyd eu hwynebau duon.) Ac wedi tori eu cadwynau, a chael datguddiad o'r Cyfryngwr bendigedig yn eu hachub fel pentewynion o'r gyneu dân, bydd y fath ganiadau peraidd yn eu plith, a sain cân a moliant fel tyrfa yn cadw gwyl.
Cawsom hefyd rai hanesion tra sicr fod tywalltiadau cyffelyb i hyn yn disgyn yn rymus ar laweroedd yn rhai manau yn America, yn canlyn diwygiadau mawrion; heblaw amryw wledydd ereill, mewn oesoedd a aethant heibio, a fu gyfranog o'r un cyffelyb effeithiau ag sydd yn awr yn Nghymru. Ond ni oddef rhai i'r hen Frutaniaid ganmawl eu Duw mewn llais clodforedd â llef uchel, rhag (meddant) aflonyddu yr addoliad. Mae yn wir fod rhai yn profi gweithrediadau grymus ar eu serchiadau dros amser, heb gyfnewidiad yn y galon a'r fuchedd, yn debyg i'r hâd ar y graig, neu i'r rhei'ny a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o'r Yspryd Glân, ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw. Pwy er hyny a all brofi, nad hâd da a hauwyd ar y graig, er iddo wywo? ac mai nid nerthoedd y byd a ddaw a brofodd y rhai hyny a syrthiasant ymaith? Ond ni fyn llawer yn ein dyddiau ni nad rhyw benboethder, neu wallgofrwydd (enthusiasm) yw y dylanwadau nerthol sydd yn gorlenwi nifer fawr o wrandawyr yr efengyl (yn enwedig dychweledigion ieuaingc:) ac am fod llawer o honynt yn gwrthgilio, y mae hyn yn eu cadarnhau nad yw y cyfan o hono ond rhyw dân dyeithr, annheilwng i neb sefyll drosto, na'i amddiffyn; ond yn hytrach y dylid dywedyd yn ei erbyn, a'i wrthsefyll. Ond wrth ganfod y ffrwythau grasol a welir ar lawer sydd yn brofiadol o hono, ni all neb diragfarn lai nag addef mai llaw Duw a wnaeth hyn. Ond yr un pryd, nid oes lle i amheu na chais y diafol, fel swynwyr yr Aipht gynt, gynhyrfu rhai o'i deulu yntau (yn enwedig rhith-grefyddwyr,) i geisio dynwared gwaith yr Yspryd Glân, er mwyn gwaradwyddo yr efengyl, a chadarnhau yr annuwiolion yn eu casineb a'u gelyniaeth at grefydd.
Ond er holl ymgeision a dichellion y gelyn uffernol, y mae diwygiad amlwg ar fucheddau cannoedd trwy y gwledydd, a alwyd trwy nerthol weithrediad yr efengyl, tan arddeliad yr Yspryd Glân, yn ei ddylanwadau nerthol, yn y blynyddoedd hyn. Mae hefyd ryw radd o gywilydd ac arswyd wedi meddiannu amryw o'r ieuengctyd gwamal, dibroffes, fel nad ydynt mewn ffeiriau, neu rhyw dyrfaoedd lluosog o'r fath, ddim mor dalgryfion, a rhyfygus, i gynal i fyny eu hysgeler annuwioldeb ag, yr oeddynt yn yr amseroedd a aeth heibio. Pa beth yw yr achos fod llawer o ardaloedd Lloegr, yr Iwerddon, ac amryw yn Scotland, yn terfysgu, ac yn codi gwrthryfel yn erbyn llywodraeth dirion Ynys Prydain? Onid eu dyeithrwch i'r Bibl, a gwir grefydd; ac o herwydd hyny nid ydynt yn ofni Duw, nac yn anrhydeddu y brenin; nac ychwaith yn arswydo cablu urddas; ond yn ymdrybaeddu mewn tywyllwch a phob ffieidddra, a llawer o honynt yn Ddeistiaid amlwg, sef yw hyny, gwadu Crist, a dwyfoldeb y Bibl: a miloedd ereill yn ymdroi yn y fagddu o Babyddiaeth, yn meddiant y tywyllwch; ac o'r farn yn hollol mai mammaeth duwioldeb yw anwybodaeth. A pha beth a ddysgwylir gan y naill na'r llail o'r rhai hyn? ond pob math o arferion halogedig a phechadurus, megys meddwdod, godineb, lladrad, celwydd, balchder, cybydd-dod, didduwiaeth, tyngu, cablu Duw a'r brenin, a chyffelyb i'r rhai hyn; am ba rai mae Duw yn dywedyd, na chaiff y rhai sydd yn gwneuthur y cyfryw bethau etifeddu teyrnas Dduw: a bod digofaint Duw yn dyfod ar blant anufudd-dod. Rywfodd fe gadwyd ein cenedl ni yn rhyfedd, yn nghanol terfysgoedd, yn ffyddlawn i'r llywodraeth. Dywedodd un gŷr anrhydeddus yn y Senedd, y gallasid yn hawdd adael y Cymry allan heb son am danynt pan yr oeddynt yn sefydlu'cyfreithiau newyddion i atal ac i gospi terfysgwyr gwrthryfelgar yn erbyn y llywodraeth.
Ond pa fodd y cafodd y Cymry eu cadw mor heddychol rhagor ereill? A oeddynt wrth naturiaeth yn well na'r rhei'ny? Nac oeddynt ddim. A oedd y tlodi a'r cyfyngderau a fu arnynt yn lai, ac yn haws ei oddef, na'r caledi sydd ar y terfysgwyr? pa un bynag am hyny, nid am hyn y cafodd ein gwlad ni ei chadw mor dawel ynghanol iselder mawr ar filoedd o dlodion. Diau mai y Bibl, dan fendith Duw, a'r pregethiad o hono, ynghyd a'r Ysgolion Sabbathol i ddysgu darllen y gair, a'i drysori yn y cof; y mae yn yr ysgolion hyn hefyd (lle maent yn cael eu hiawn drefnu,) addysgu a hyfforddi ieuengctyd ac ereill yn egwyddorion gwir grefydd, ynghyda dyledswyddau perthynol i bob sefyllfa, at Dduw a dyn; a thrwy y moddion hyn (ac arddeliad yr Arglwydd arnynt,) y cadwyd ein cenedl rhag y pla dinystriol o ddidduwiaeth, a gwrthryfel yn erbyn y llywodraeth. —O! Gymru, dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di.
Rhaid ymadael bellach, fy nghyfaill caredig. Ychydig a feddyliais pan gyfarfum chwi, y buasai ein hymddiddanion yn parhau cyhyd: methu yr oeddwn adael eich serchiadol gyfeillach, gan ystyried hefyd mai un o fil y cawn gymaint a hyn o gymdeithas â'n gilydd mwyach ar dir y rhai byw. Mae yr oriau bron a dirwyn i ben, pan y bydd y cyfan a welir yma is yr haul yn ein gadael, fel mantell Elias gynt. Duw yr heddwch a'ch llwyddo, ac a'ch cynyddo ymhob gras, hyd ddiwedd eich taith. Nos dda i chwi, byddwch wych.
YMOF. Yr wyf yn dra diolchgar i chwi, fy anwyl gyfaill, am eich cymdeithas ddiddanus, ac am yr hanesion tra rhyfedd a adroddasoch i mi; pa rai oedd yn deilwng o fod coffadwriaeth am danynt yn ysgrifenedig i'r genedlaeth a ddêl; gan hyderu y bydd yn ddifyr gan amryw eu ddarllen pan y byddom ni yn llechu yn dawel yn ngharchardy tywyll angeu. Yr wyf yn teimlo hiraeth yn fy llenwi wrth feddwl (fel y soniasoch) nad yw yn debyg y cawn weled ein gilydd mwy tu yma i'r byd tragywyddol. Ond er hyny yr ydym yn hyderu, trwy rad drugaredd, yn enw, a thrwy iawn ac eiriolaeth y Cyfryngwr Iesu Grist, y cawn gydgyfarfod yn yr aneddle lonydd, heb ymadael mwy; lle cawn weled ein Gwaredwr heb len, a bod yn debyg iddo, a byw byth yn ei nefol gymdeithas. A chan eich gorchymyn i Dduw, ac i air ei ras ef, yr wyf yn cymeryd fy nghenad oddiwrthych, dan golli dagrau; er hyny ni allaf lai na chanu ynghanol fy ngalar, ddymuniad yr hen fardd am lwyddiant yr efengyl:
Os wyt ti am ddybenu'r byd,
Cyflawna ar frys Dy Air i gyd,
Dy Etholedig galw yn nghyd
O gwmpas daear fawr;
Aed sain dy efengyl trwy bob gwlad,
A golch fyrddiynau yn dy waed,
A dyro iddynt wir iachad;
Ac yna tyr'd i lawr.
CAERNARFON: ARGRAFWYD GAN H. HUMPHREYS.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Y mae Awdwr y llyfr hwn yn cael ei adnabod fynychaf wrth yr enw Robert Jones Rhoslan, ond brydiau ereill gelwir of Robert Jones Ty Bwlcyn, a Robert Jones, Capel Dinas, neu Lôn Fudr. Yr achlysur oedd fel hyn, wedi iddo fod am amser yn cadw ysgol mewn gwahanol fanau yn Sir Gaernarfon, Sir Fflint, &c., sefydlodd mewn tyddyn o'r enw Tir Bach, Rhoslan; ac wedi bod yno am rai blynyddau cymerodd dyddyn helaethach, sef Tŷ Bwlcyn, lle y bu fyw hyd farwolaeth ei wraig; a chan fod un o hen gapeli y Methodistiaid yn y gymydogaeth hono o'r enw Dinas, lle yr ystyrid ei gartref crefyddol, gelwid ef cyn diwedd ei oes yn "Robert Jones Dinas," neu y "Lôn Fudr," enw arall ar yr un lle; ac mewn tŷ a adeiladwyd iddo wrth y Capel hwnw y bu farw Ebrill 18, 1829—gwel "Llyfryddiaeth y Cymry," a "Methodistiaeth Cymru."
- ↑ Gan fod hanes y gŵr enwog hwn, Mr. Vavasor Powell, yn argraffedig eisoes yn yr iaith Gymraeg, nid wyf yn gweled angenrheidrwydd ychwanegu, ond yn unig coffâu un tro neillduol a gyfarfu âg ef yn Sir Fflint. Yr oedd wedi addaw dyfod i bregethu ar ryw fynydd neu gyttir, nid yn mhell o Gaergwrle. Wrth geisio dyfod i dŷ cyfaill iddo gerllaw yno, nosodd arno, a chollodd y ffordd, bu yn crwydro yn hir yn nhywyllwch y nos, o'r diwedd canfu oleuni a thynodd tuag ato; a pha beth oedd yno ond palas mawr; anturiodd guro wrth un o'r drysau. Daeth morwyn i agor iddo, adnabu hono ef (canys un o'i gymydogaeth ef oedd hi.) Gofynodd iddi, a oedd hi yn meddwl y gallai efe gael lletya yno y nos hono: atebodd hithau fod ei meistr yn greulon yn erbyn crefydd, ond bod ei meistres beth yn dynerach. Aeth y llangces at ei meistres i ddywedyd am dano. Gorchymynodd hithau i'r forwyn ei droi ef yn ddystaw i ystafell i aros i'r gwr boneddig fyned i'w orweddfa; ac wedi hyny daeth y wraig foneddig at Mr. Powell, yntau a ymddiddanodd â hi yn ddifrifol am natur gwir grefydd, nes yr enillwyd ei serch, trwy yr ymddiddan, i benderfynu myned i wrando arno dranoeth. Aeth Mr. Powell, ymaith yn fore iawn. Gofynodd y wraig foneddig i'w gŵr a gai hi a'i mab geffyl bob un i fyned i daith fechan; ac wedi cael y ceffylau yn barod dechreuasant eu taith tua'r bregeth. Daeth hen wraig adnabyddus iddynt i'w cyfarfod, ac wedi iddi gyfarch gwell i'r wraig foneddig, ebe hi yn mhellach wrthi, Gwyliwch, fy Meistres, fyned at y cythreuliaid sydd yn y mynydd yn pregethu. Yr wyf fi (meddai y wraig foneddig.) yn bwriadu myned. Ni orphwysodd yr hen wraig nes mynegi hyny i'r gwr boneddig: yntau wedi ymwylltio a gymerodd geffyl iddo ei hun ac i'r mab arall (canys dau o feibion oedd iddynt,) ac ymaith ag ef tua'r mynydd, i ladd y pregethwr; a phwy a ddaeth, oddiwrth dŷ ei gyfaill, i gyfarfod âg ef, ond Mr. Powell: a chan ei fod yn wr trefnus, ac o ddygiad da i fyny, ni feddyliodd y gŵr boneddig mai y pregethwr ydoedd mewn un modd. Wedi cyfarch eu gilydd, dywedodd y gŵr boneddig wrth Mr. Powell, ei fod yn myned i saethu y pregethwr: O'r goreu, ebe Mr. Powell, myfi a gymeraf fy mhleser i ddyfod gyda chwi; felly cyd-deithio a wnaethant; ond ar y ffordd dywedodd Mr. Powell wrth y gwr boneddig, Fe allai y byddai well i ni wrando ychydig ar y pregethwr yn gyntaf, odid na ddywaid er gyfeiliornadau amlwg, ac yna fe fydd genym reswm i'w roddi paham y lladdasom ef. Gwelodd y gwr boneddig fod hyny yn ei le, ac yn rhesymol; a than ymddiddan â'u gilydd daethant hyd at y lle yr oedd y cyfarfod: a phwy a ymosododd at y gwaith o bregethu ond yr un oedd yn cyd-deithio â'r gŵr boneddig. Cafodd y gŵr boneddig a'i wraig eu gwir ddychwelyd at yr Arglwydd, a buont yn siriol ac yn ymgeleddgar i achos Duw mewn amseroedd blinion ac erlidigaethus; ac yn noddfa i'r gweinidogion a drowyd allan o'r eglwysydd yn y flwyddyn 1662. Plas teg oedd enw y lle yr oeddynt yn byw, y mae rhwng Caergwrle a'r Wyddgrug. Yr oedd Mr. V. Powell cyn hyny wedi breuddwydio ei fod yn cael nyth aderyn, ac ynddo ddau gyw, a'i weled ei hun yn dal y ddau hen, a'r ddau gyw yn diengyd. Bu dros amser yn synfeddylio beth a allai ystyr y breuddwyd fod, ond cafodd ddeongliad o hono yma; canys daliwyd y tad a'r fam trwy'r efengyl, ond diangodd y ddau fab yn hollol ddigrefydd.
- ↑ Y mae yr awdwr yn gwneuthur camgymeriad bychan yma. Nid mewn "ffordd o wawd" y gelwid ef Syr Rhys, oblegyd Syr ydoedd teitl cyffredin curadiaid yn yr oes hono:—Gol.
- ↑ Peidied neb a chamsynied, a barnu fy mod yn rhoddi un gradd o ddiystyrwch ar y weddi ragorol hono o eiddo yr Arglwydd Iesu Grist, sef y Pader, nag ychwaith ar y Credo, nag mewn un modd ar Gyfraith sanctaidd y Jehofa: ond er nid wyf o'r farn mai mewn ffordd o weddi y dylai y Credo na'r Deg gorchymyn gael eu harferyd.
- ↑ Mae'n amlwg fod agwedd ddeffrous ar grefyddwyr yn amser yr erlidigaeth, ond ar ol caniatâu rhyddid cydwybod (er mor hyfryd a siriol oedd cael gwaredigaeth o ddwylaw erlidwyr creulon,) eto buan iawn yr aeth yr eglwys yn fwy cysglyd, ac yr adfeiliodd crefydd i raddau mawr yn mysg y rhan fwyaf o'r Ymneillduwyr dros lawer o flynyddoedd; er fod rhai gweinidogion deffrous a defnyddiol yn eu plith yn yr hir auaf diffrwyth hyn. Trueni fod haf mor hyfryd o dawelwch yn magu bwystfilod gwenwynig, sef cysgadrwydd, ffurfioldeb, ac iechyd yspryd; a gwaeth na hyny, cofleidio â thaenu ar led yr athrawiaethau mwyaf cyfeiliornus, nid amgen Ariaeth a Soziniaeth, megys y mae amryw o'r Presbyteriaid wedi gwneyd er's llawer o flynyddoedd.
- ↑ Gan i mi gael hanes mwy cyflawn am y gŵr uchod ar ol ysgrifenu ychydig am dano o'r blaen, gwelais yn addas ychwanegu yr hyn a ganlyn.
Ganwyd ef yn y flwyddyn 1702, yn y Bryn rhydd, plwyf Llanarmon: cafodd ei addysgu yn yr iaith Gymraeg, Saes'neg, a rhyw ychydig o'r Lladin. Wedi ei briodi, ymadawodd o'r Bryn rhydd i Lasfryn fawr, yn mhlwyf Llangybi. Yr oedd arfer pryd hyny gan fagad o wyr o fyned i'r dafarn ar ol y gosper i fyw yn llawen, ac i ymddifyru mewn coeg ddigrifwch. Wedi aros yno un nos Sul yn hwy nag arferol, wrth ddyfod adref, collodd y ffordd, ac wedi ymddyrysu enyd canfu oleuni, a thynodd tuag ato; adnabu y lle yn ebrwydd, a rhoddes ail gynyg i fyned adref; dyrysodd eilwaith, gan grwydro yma a thraw; canfu oleuni drachefn, a dynesodd tuag ato, gwybu yn union mai y lle y buasai o'r blaen ydoedd. Synodd yn aruthr pa fodd yr oedd yn cyfeiliorni ac yntau mor gydnabyddus: rhoddes gynyg teg y drydedd waith i fyned adref, ond methodd y llwybr fel o'r blaen, hyd nes ydoedd yn llawer o'r nos, a chanfu oleuni y trydydd tro, ac wrth ganfod mai yr un man ydoedd ag y buasai o'r blaen, efe a bruddhaodd, gan feddwl beth a allai hyn fod, a pha beth oedd yn ei dywys yno y naill dro ar ol y llall: wedi edrych trwy y ffenestr canfu wr y tŷ yn darllen Mathew xxv.; yn ganlynol aeth y gwr i weddïo dros ei deulu a'i gymydogion annuwiol, ar i Dduw faddeu iddynt, a'u troi hwynt i ymofyn gwir dduwioldeb: wedi hyny cafodd ei ffordd yn rhwydd adref. Synodd yn ddirfawr fod y gŵr yn gweddïo tros ereill, &c.; effeithiodd hyny yn ddwys ar ei feddyliau wrth fyned adref; ac yr oedd rhai adnodau o'r bennod a ddarllenasid wedi cael argraff neillduol ar ei feddyliau. Bu yspaid dwy flynedd tan ddwfn argyhoeddiad, tynai yn fynych i leoedd dirgel i weddïo. Trwy ei ymarweddiad sobr a'i weddïau difrifol enillwyd dau o'i weision i adael eu hynfydrwydd, ac i garu gwir grefydd. Tynodd y cyfnewidiad yma sylw y gymydogaeth arno ef neillduol, ac hefyd ar ei deulu.
Nid oedd yr amser hwnw ddim pregethu yn Sir Gaernarfon nac yn Môn ond gan weinidogion Eglwys Loegr, a hyny ond unwaith yn y mis, gan rai, neu unwaith bob pythefnos, yn gyffredin, gan ereill. Yr oedd diadell fechan o Ymneillduwyr yn Mhwllheli a rhai manau ereill yn Sir Gaernarfon, a chanddynt hen weinidog duwiol, ond nid oedd ei ddoniau yn helaeth; isel iawn oedd y gwaith yn eu plith pan ddaeth Mr. Lewis Rees i ymweled a hwynt. Wedi clywed gan Mr. L. Rees am Mr. Howel Harris, a Mr. Jenkin Morgan, yr hwn oedd athraw ysgol, a chael hwnw i Lasfryn fawr i gadw ysgol, dechreuwyd llunio chwedlau celwyddog ar William Prichard a'r ysgol-feistr, gan haeru eu bod yn dysgu egwyddorion cyfeiliornus i'r plant, a bod llong o'r gwledydd tramor yn dyfod i ryw borthladd cyfagos, a'u bod yn bwriadu gwerthu y plant yn gaethweision, fel nas gwelai eu rhïeni mo honynt byth mwy. Taerai ereill eu bod am ddenu dynion o'u plaid i godi gwrthryfel yn y wlad; ereill yn dywedyd mai ymgasglu yr oeddynt i fyw mewn aflendid a thrythyllwch, a llawer yn chwaneg o anwireddau disail.
Dygwyddodd i William Prichard, wrth glywed son am y Canghellwr Owen fyned un tro i wrando arno i Lannor; wedi dyfod o'r Llan, gofynodd un iddo, Pa fodd yr oeddych yn hoffi pregeth y Canghellwr-A oeddych chwi yn caru yr athrawiaeth? Yntau a atebodd, "Nid oeddwn i yn caru mo honi, na dim o'r fath athrawiaeth:" Ebe y llall, "Pa'm hyny, William?"
"Am ei fod yn dywedyd anwiredd ac yn wrthwyneb i air Duw." Yn fuan ar ol hyn gwasanaethwyd ef gan ringyll llys eglwysig Bangor, i ateb am ei gam ymddygiad yn erbyn y Canghellwr, ac felly bu gorfod arno ateb yn llys Bangor, oddeutu dwy flynedd neu dair, ac yn methu cael neb i'w amddiffyn, a hyny yn anad dim am iddo ddywedyd yn y fynwent fod y Canghellwr Owen yn dywedyd anwir yn ei bregeth, er y gallasai efe brofi hyny yn ddi-wrthddadl allan o air Duw. O'r diwedd efe a gododd y gyfraith allan o lys Bangor i'r Sessiwn fawr, a'r Counsellor Williams o'r Tŷ fry a safodd yn amddiffynwr iddo; ac wedi dyfod a thystion i brofi yr hyn a ddywedasai y Canghellwr yn ei bregeth, &c., dywedodd y Counsellor y gwnai ef ddiswyddo y Canghellwr os oedd efe yn chwennych talu y pwyth iddo: dywedodd yntau, Nad oedd yn dewis hyny, nac yn chwennych ymddïal, &c. A chan na allodd y Canghellwr dori bywioliaeth William Prichard trwy y gyfraith, dychymygodd lwybr arall, sef llunio pob enllib a chwedlau celwyddog wrth ei feistr tir, nes llwyddo i'w gael allan o Lasfryn fawr yn y flwyddyn 1742. Symudodd i Blas Penmynydd yn Môn: erbyn dyfod yno yr oedd yr holl ardaloedd wedi clywed son fod ganddo ryw grefydd newydd, ynghyda'i deulu; ac y byddai pawb a wnai un math o gyfeillach â hwy yn sicr o fyned o'u synwyrau; felly yr oedd pawb yn edrych arnynt fel pe buasent wedi dyfod â'r pla dinystriol i'r wlad: a'r gwŷr urddasol tu hwnt i bawb, mewn eithaf llid tuag ato, ac yn anog ereill i wueyd a allent o ddirmyg iddo ef a'i deulu, ynghyda distrywio ei eiddo. Yr oedd yn y gymydogaeth wr yn byw a fyddai yn masnachu mewn prynu a gwerthu llawer o ddefaid; danfonai luoedd o honynt i yd a gwair William Prichard, a rhoddai ddynion afreolus i'w cadw yno, fel na feiddiai perchen yr yd a'r gwair, na'i weision, eu gyru ymaith. Yr oedd ef a'i deulu yn goddef hyn oll yn amyneddgar, heb geisio ymddial, gan gyfrif yn fraint iddynt ddyoddef yn achos yr efengyl. Llawer o golledion ereill a wnaed iddo, a dinystr ar ei feddiannau, heb un achos ond ei fod yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni.
Yn nechreu y flwyddyn 1743, daeth Mr. Lewis Rees (a grybwyllwyd am dano o'r blaen) i Blas Penmynydd, a phregethodd mewn hen felin yn agos yno, ac yr oedd o bymtheg i ugain yn ei wrando. Dywedai ef ei hun wrth adrodd ei hanes, pan roddes ef y gair hwnw allan'i ganu, "Dysgwyliaf o'r mynyddoedd draw," &c. i'r bobl ddychryn yn ddirfawr, gan ddychymygu fod torfaoedd yn dyfod o fynyddoedd Sir Gaernarfon i gynorthwyo y crefyddwyr: pa fodd bynag, ni bu y tro hwnw ddim erlid; yr oedd rhai yn canmol y bregeth, ac ereill yn ei goganu. —Yn mis Ebrill canlynol y daeth un Benjamin Thomas, o'r Deheudir, i Blas Penmynydd, mewn bwriad o gael pregethu, a chyn ei ddyfod, yr oedd W. Prichard wedi cael awdurdod o lys Bangor i neillduo tŷ bychan a elwid Minffordd yn lle i gynal addoliad yn ol y gyfraith. Soniwyd eisoes am yr agwedd greulon oedd ar yr erlidwyr. Howel Thomas, o Blas Llangefni, a gafodd yr ergyd â'r ffon a'r haiarn; tarawyd ef mor egnïol ar ei ben nes yr oedd ei waed yn llifo, a'r pen haiarn, wrth bwys y tarawiad, a dorodd ac a aeth tros y clawdd i'r cae. Dylynodd yr erlidwyr y trueiniaid gwirion ar hyd y ffordd gan eu curo â ffyn mawrion yn greulon, a hwythau yn cerdded yn araf, nes oedd eu gwaed yn ffrydio ar hyd y ffordd tros fwy na chwarter milldir, nes blinasant o'r diwedd yn eu curo; ond diangodd y pregethwr oddiarnynt (fel y soniwyd) heb gael dim niwaid.
Yn fuan ar ol hyny y gwnaeth torf o erlidwyr yn yr ardal gynghrair a'u gilydd; yr oeddynt o 200 i 250 o rifedi, ac wedi gosod gwylwyr, darfu i'r rhei'ny ddychymygu ei weled ef a phregethwr yn dyfod gydag ef tuag adref nos Sadwrn; a daethant yn lluoedd am ben y tŷ ddydd Sul; a chwi ellwch feddwl ei fod yn fraw mawr i'r wraig weled y fath haid o wiberod gelyniaethol yn dynesu ati, gan ddywedyd wrthi (tan fytheirio llwon arswydus) "Yr ydym ni yn dyfod i ladd dy bengrwn di, a'i bregethwr.", Os pengrwn yr ydych yn ei alw, ebe hithau yn bwyllog (a'i phlentyn bach dau fis oed yn ei breichiau,) nid yw efe gartref yr awrhon —Celwydd wyt ti yn ei ddywedyd, meddent hwythau. Gofynodd y forwyn genad i'w meistres i gau y drws, Paid, gâd iddynt, ebe hithau; ac felly ni ddaethant i'r tŷ, ond drylliasant yr holl ffenestri, a distrywiasant bresebau y meirch a'r gwartheg, a phob peth a allasent gael gafael arno, gan fyned i'r ysgubor a chymysgu yr haidd a'r ceirch am ben eu gilydd, a thyngu yn echryslon y lladdent pwy bynag a'u gwrthwyn. ebai. Yr oedd rhyw drefn Rhagluniaeth ryfedd fod y gweinidogion oll y Sul hwnw wedi myned i Llanffinen i'r gwasanaeth, pe amgen buasai yn berygl iddynt am eu bywydau. O flaen hyny yr oedd un o'r gweision yn yr ysgubor yn trwsio yr aradr, ddechreunos, a bachgen yn dal y ganwyll iddo; saethodd un ergyd rhwng y ddau nes yr oedd yn dartsain yn y pared. Wedi dyfod y gŵr adref, a chlywed yr hanes, a gweled y difrod a wnaethid ar ei feddiannau, penderfynodd nad oedd modd byw felly mewn enbydrwydd am ei einioes ei hun a'i deulu, heb gael rhyw un o'i blaid i'w amddiffyn. Yr oedd gwr o gyfreithiwr ag oedd yn ewyllysiwr da i grefydd, yn byw ar gyffiniau y Saeson; rhoddodd y gŵr enwau y rhai penaf o'r terfysgwyr i'r cyfreithiwr; daeth swyddog o Sir Ddinbych i'w gwasanaethu, a gorfu arnynt ateb i'r gyfraith yn Sessiwn y Mwythig, a thalu yn llawn am y golled a'r ormes a wnaethent; ffôdd eraill rhag ofn y crogbren. Yr oedd un gŵr o gymydog iddo, lled alluog yn y byd, ac yn rhagori ar bawb ereill mewn gelyniaeth at grefydd, ac felly y parhaodd rhai o'i genedl yn olynol, nes i farn amlwg (mal Herod gynt) oddiweddyd un o honynt yn neillduol. Er i William Prichard enill y gyfraith fel na feiddiodd neb o hyny allan ddrygu ei feddiannau rhag ofn cosp; er hyny nid oedd llid yr erlidwyr un gronyn llai: y ddyfais nesaf a luniasant oedd pentyru achwyniadau celwyddog at ei Feistr tir, sef iddo ddyfod a heresiau dinystriol i'r wlad, a'i fod yn erbyn y llywodraeth, a'r canlyniad a fu oedd ei droi allan o Blas Penmynydd. Symudodd oddiyno i Fodlew fawr, yn mhlwyf Llanddaniel, yn y flwyddyn 1745. Nid oedd ymddygiad pobl yr ardal hòno ddim gwell tuag ato na'r rhai o'r blaen. Dygwyddodd pan oedd efe yn byw yn Mhlas Penmynydd, i ddau gwnstabl ddyfod i'r tŷ, a chynorthwywyr yn eu canlyn, gan anelu yr amser yr oedd y teulu yn bwyta eu ciniaw, a gwarant i ddal un o'r gweision i fyned yn sawdwr, sef Morris Griffith; gofyn. odd ei feistres genad iddo fyned i'r llofft i roi esgidiau am ei draed, y byddai haws iddo eu canlyn; yntau a neidiodd allan trwy ffenestr y garret tu cefn i'r tŷ, ac yr oedd yn rhy gyflym i neb o honynt ei oddiweddyd. Dyoddefodd William Prichard lawer o amharch wrth fyned i farchnadoedd Caernarfon, yn enwedig os byddai rhai o'r gwyr uddasol yn bresennol, gan ddannod iddo mai efe a ddechreuodd daenu sismau a heresiau ar hyd y wlad, i wyrdroi pobl ddiniwaid i gredu celwydd, ac i wadu yr Eglwys. —Un tro, fel yr oedd yn dyfod dros Foel y dòn, dygwyddodd fod yn y cwch un o gawri y wlad, sef Mr. Morris, o le a elwir Paradwys; dechreuodd hwnw ffonodio ei geffyl ac yntau yn dra mileinig, dan dyngu a rhegi yn ysgeler; wedi dyfod i'r lan, parhau i guro yr oedd Mr. Morris, yn ddiarbed. Gofynodd William Prichard iddo, "Pa'm yr ydych yn fy nghuro heb un achos?" Atebodd yntau â'r yspryd drwg lonaid ei safn, "Y mae hyny yn ormed o barch i ti." A chan nad oedd un tebygolrwydd i gael heddwch ganddo, rhuthrodd William Prichard iddo, a thaflodd ef i lawr ar ei gefn, a llusgodd ef gerfydd ei draed ar hyd y gro, nes torchi ei ddillad, a pheth o'i groen hefyd. Erbyn hyn yr oedd y gwr wedi troi ei dôn, ac yn dechreu gwaeddi yn groch, "Mwrdwr, mwrdwr, er mwyn Duw achubwch fy hoedl!" Ond ni ddaeth neb i'w achub, cafodd ei drin fel yr oedd yn haeddu. Wedi iddynt weled cawr y wlad wedi ei orchfygu (fel Goliath gynt) arswydodd pawb gynyg dim amharch iddo byth mwyach. Y peth nesaf a wnaethant, oddiar eu lild tuag ato, oedd llwyddo gyda'i feistres tir i'w droi allan o Fodlew, Galan gauaf, 1750. A chan nad oedd cynyg am le yn Môn nac Arfon, clybu fod lle yn rhydd gan Mr. William Bulkeley o'r Brynddu; aeth at y gwr boneddig, gofynodd hwnw iddo, Pa beth yw yr achos eu bod yn dy droi allan o'th dyddyn? Ai methu talu yr oeddyt? Nage, meddai yntau, O achos fy marn mewn pethau crefyddol, ac am fy mod yn Ymneillduwr oddiwrth Eglwys Loegr. Onid oes rhywbeth heblaw hyny yn dy erbyn, gosodaf i ti ddigon o dir; felly, efe a gymerodd Glwchdyrnog, a'r lleoedd oedd i'w ganlyn, mewn amrwymiad (lease) ac a aeth yno i fyw Galan gauaf 1750.
Bu cyfeillgarwch mawr rhyngddo a'i feistr tir mewn pethau crefyddol a gwladol, tra bu ei feistr byw. Yr oedd yn aelod o gynulleidfa yr Ymneillduwyr yn Mhwllheli, a byddai yn myned yno yn fisol i gymundeb swper yr Arglwydd tra bu yn byw yn Mhlas Penmynydd a Bodlew. Ar ol sefydlu yn Glwchdyrnog neillduwyd tŷ ar y tir, yn lle i addoli Duw yn ol cyfreithiau y deyrnas, ac yno y byddai y rhai a ddeuai i'r wlad yn pregethu. Yr oedd yn dra chyfeillgar a'r Methodistiaid Caifinaidd, holl ystod ei fywyd, ac yn mawr barchu eu gweinidogion. Yr oedd yn ddiwyd iawn yn cyflawni dyledswyddau crefyddol yn ei deulu fore a hwyr: tystiodd gwas a fu yn ei wasanaethu un mlynedd ar ddeg, na welodd mo hono, er neb ryw drafferth, gymaint ag unwaith yn esgeuluso addoliad teuluaidd. Yn gyffredin wrth ddarllen a gweddïo yn ei deulu byddai dagrau edifeirwch yn cwympo tros ei ruddiau, ynghyda'i ymbiliau taerion yn enw y Cyfryngwr, yr hyn oedd yn brawf amlwg o undeb ei yspryd â Duw, ac yr oedd ei ymarweddiad sobr a diargyhoedd mewn gair a gweithred yn peri i'w gymydogion annuwiolaf addef ei dduwioldeb: byddai arswyd pechu yn rhyfygus ar drigolion yr ardal, os meddylient ei fod yn agos, yn enwedig yn ei ddyddiau diweddaf. Yn mis Ebrill, 1773, cafodd glefyd trwm; ymddygodd dano yn dra amyneddgar a thawel: pan y cai ychydig hamdden gan rym y clefyd, ei bleser a fyddai dye wedyd rhywbeth am ddaioni Duw; anogai ei wraig a'i blant i ymddiried yn yr Arglwydd, ac i ymofyn yn ddifrifol am rym duwioldeb, gan ei fod ef yn eu gadael. Parai i un o'i feibion ddarllen Ioan xiv. Wedi ei gwrando, dywedai, "O ryfedd gariad Crist! Ie, ïe, i bechadur!" Fel yr oedd angeu yn nesâu, yr oedd yn cael mwy o bresennoldeb Duw, ac yn fwy diysgog i wynebu yr hen Iorddonen. Dywedai wrth elynion ei enaid, "siglwch fy sail, os geilwch." Mae cadarn sail Duw yn sefyll, &c. Oddeutu awr cyn gorphen ei yrfa, ac efe yn siriol ac yn gyflawn yn ei synwyrau, galwodd ei wraig a'i blant ato; a phan ddaethant, edrychodd yn sobr arnynt, gan ddywedyd, "Wel, fy ngwraig a'm plant anwyl, yr wyf fi am eich gadael; myfi a weddiais lawer trosoch ar i Dduw ymweled â chwi yn ffordd ei râs, heb un argoel amlwg eto i Dduw gyflawni fy nymuniadau; ond fe allai pan y byddwyf fi yn pydru yn y bedd yr etyb Duw fy ymbiliau, ac y cyfyd ef rai o noch yn dystion tros ei enw a'i achos, ac i fod yn golofnau yn ei dy. Wedi hyny dywedodd, "O Arglwydd dyro râs i'm gwraig a'm plant, fel y byddo iddynt adnabod Iesu Grist yn Briod i'w heneidiau, a bod yn ffyddlon hyd angeu yn dy wasanaeth." Ac yna rhoddes gynyg i ganu y penill canlynol,
"Dal f'enaid i fyny, 'rwy'n ffaelu bob dydd,
A nertha fy nghalon yn ffyddlon mewn ffydd:
Rho i mi dy 'nabod yn Briod, yn Frawd,,
Yr ydwyf yn barod i ymadael â'r cnawd."Wedi hyny rhoddes i fyny yr yspryd yn orfoleddus yn nghyfiawnder difrycheulyd y Meichiau bendigedig, a chauodd ei lygaid naturiol, a'i yspryd a ehedodd ymaith at ei Arglwydd;" "Lle ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf." Bu farw y 9fed o fis Mawrth, 1773, yn 71 oed.
Er nas gwelodd ef yn ei ddydd gyflawniad o'i weddïau tros ei deulu, er hyny ar ol ei ymadawiad, daeth rhai o'i blant a'i berthynasau i gofleidio gwir grefydd, ac i fod yn ddefnyddiol yn ei dy a thros ei achos. "Ni ddywedais wrth hâd Jacob, ceisiwch fi yn ofer." - ↑ Bu gŵr arall o'r un enw yn yr un lle ar ei ol ef ryw gymaint o amser; symudodd oddiyno, a bu farw yn ddiweddar yn Rhuddlan.
- ↑ Y mae argraffiad newydd diwygiedig o'r Mynegeir wedi ei ddwyn allan yn ddiweddar gan H. Humphreys, Caernarfon, pris 5s 6ch. mewn llian hardd.
- ↑ Ar ol coffâu am hen bererinion Sir Feirionydd, cawsom y newydd galarus am farwolaeth y Cadben William Williams, o Gaerlleon (gynt o'r Abermaw,) yr hwn ar ei fordaith o Milford i Liverpool, a daflwyd gan dymhestl fawr yn nhywyllwch y nos i greigle arswydus, rhwng Aberdaron a'r Rhiw, yn Sir Gaernarfon: pan y gwelsant eu hunain megys yn safn angeu, anturio a wnaethant i'r bâd, i ddysgwyl achub eu bywydau; ond trôdd hwnw yn ebrwydd gan nerth y tònau, a boddodd y cadben a'i fab, a phawb ereill oedd yn y llestr, ond un morwr ieuangc o Gaergybi a achubwyd trwy gynorthwy trigolion yr ardal, y rhai sydd yn haeddu parch am eu hymddygiadau gonest a charuaidd yn y tro. Yr oedd y Mate, sef yr Is-lywydd, yn ddyn amlwg mewn crefydd a duwioldeb; dygwyd ef i Gaernarfon i'w gladdu gyda'i deulu. Deuwyd â'r Cadben Williams hefyd a'i fab i Bwllheli i'w claddu. Pregethodd y Parchedig Michael Roberts, o flaen cychwyn y cyrph, i dorf luosog o wrandawyr, ac yn eu mysg nifer fawr o forwyr. trefnwyd y claddedigaeth fel y canlyn, sef i'r hen forwyr gario y cadben, ac i'r morwyr ieuaingc gario y mab. Yr oedd eu claddedigaeth yn weddaidd ac yn barchus: nid oes braidd neb yn cofio gweled cymaint o wylo yn mynwent Denso a'r diwrnod hwnw. Wrth ddiweddu yr hanes am dano, cymerwch yr hyn a ganlyn yn mhellach. Yr oedd yn ei ienengctyd yn byw yn ol helynt y byd hwn, yn anystyriol a chellweirus, ac yn yfed i ormodedd: ond o ran ei dymher naturiol yn siriol ac yn gariadus gan ei gyfeillion. Cafodd ddwys argyhoeddiad pan yr oedd tua thair ar ddeg ar hugain oed; ac os oedd efe o'r blaen yn amlwg yn ei ffyrdd pechadurus, gellir dywedyd am dano ar ol hyny fel y dywed yr Apostol, "lle yr amlhaodd pechod, y rhagor amlhaodd gras". Nid hir y bu wedi cael ei oleuo a'i ddeffroi am ei gyflwr truenus a cholledig, a phrofi cymod a heddwch Duw yn ei gydwybod trwy ffydd yn Iawn y Cyfryngwr, heb deimlo gymhelliadau difrifol ar ei feddyliau i anog a pherswadio ei gyd-bechaduriaid (yn enwedig morwyr,) i ffoi i'r wir noddfa, allan o gyrhaedd melldithion y ddeddf, a'r digofaint sydd ar ddyfod. Byddai nid yn unig yn pregethu braidd yn mhob porthladd lle yr elai, eithr hefyd ar ei long, ac yn mhob man y caffai gyfleusdra. Cyflwr ei frodyr, y morwyr, oedd yn gwasgu fwyaf ar ei feddyliau: byddai yn eu hargyhoeddi hwy yn onest, yn llym, ac yn ddidderbyn wyneb; eto byddai ei sirioldeb a'i addfwynder tuag atynt yn peri iddynt ei garu a i fawr barchu, a deuent yn lluoedd i wrando arno pa le bynag y caent cyfleusdra i'w glywed. Mae lle i fawr ofni y bydd yn ddychryn ofnadwy yn y farn a ddaw i wrandawyr yr efengyl, a fyddant wedi y cwbl yn ol, orfod sefyll yn wyneb y tystion a fu mor daer dros Dduw yn eu rhybuddio: pa faint mwy yn ngwyddfod y Barnwr ar ei orsedd! Am weinidogaeth yr hen gadben, nid oedd ei ddull a'i lwybr yn pregethu wedi ei addurno â chymaint o ddoethineb y cnawd, a godidogrwydd ymadrodd; er hyny byddai yn traddodi ei genadwri mewn modd eglur, ac agos at ddeall ei wrandawyr: ac er nad oedd ond megys corn hwrdd yn ngolwg amryw, eto gan ei fod wrth enau yr Offeiriad nefol arddelwyd ef i dynu i lawr ryw ddarnau o gaerau annuwioldeb: diau i lawer gael bendith trwy ei weinidogaeth. Adroddwyd, gan y dyn a achubwyd, ei fod ef a'i gyfaili, y Mate, yn gweddïo ac yn canmawl Duw yn y llong ychydig amser cyn eu trosglwyddo i'r trigfanau nefol: aeth y ddau i'r bâd dan ysgwyd dwylaw yn siriol. Dygwyddodd y ddamwain ryfedd hon, Rhagfyr 16, 1819. Ei oedran oedd 63.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.