Neidio i'r cynnwys

Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes Methodistiaid Arfon-Waenfawr (testun cyfansawdd)

gan William Hobley

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Methodistiaeth Arfon-Waenfawr

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




HANES

METHODISTIAETH

ARFON


DOSBARTH CAERNARVON


ARDALOEDD WAENFAWR A BEDDGELERT

(O'r dechre hyd ddiwedd y flwyddyn 1900)



GAN


W. HOBLEY.



CYHOEDDEDIG GAN GYFARFOD MISOL ARFON

MCMXIII

RHAGAIR.

——————

FE ddanfonwyd ar gyfer yr hanes hwn ryw gymaint o hanes oddiwrth bob eglwys. Nid yw'r hanes a ddanfonwyd oddiwrth eglwysi y Cyfarfod Misol yn gyffredinol ond byrr a bylchog yn fynych. Gwelwyd, hefyd, nad oedd yr amseriadau, pan roid hwy,—yr hyn a wneid weithiau a weithiau ddim—mewn un modd i ymddiried ynddynt. Yn wyneb hynny, fe deimlwyd fod yn rhaid ceisio defnyddiau chwanegol. Fe welir oddiwrth waelod y ddalen gyntaf yn hanes pob lle, i ba raddau y llwyddwyd yn hynny.

Fe gafwyd, yn y dull hwnnw, ddefnyddiau helaeth anarferol ynglŷn â'r eglwysi yn y gyfrol neilltuol hon. Er hynny, yn araf iawn y deuent i law. Ar ddamwain, megys, y byddwn yn clywed am ysgrif neu'ysgrifau ym meddiant hwn ac arall. Oherwydd bod yr ysgrifau hynny yn hwyr yn dod i law, bu raid i mi ysgrifennu rhai pethau ddwywaith, ac hyd yn oed deirgwaith drosodd, a hynny cyn derbyn ohonof y nodiadau gan gyfeillion fu yn edrych dros fy ysgrif. Heblaw hynny, byddaf mewn penbleth weithiau uwchben anghysonderau yn y gwahanol ysgrifau, y bydd ysgrif chwanegol, hwyrach, yn eu hegluro. Mantais fawr i mi, gan hynny, fyddai cael y defnyddiau i gyd o flaen fy llygaid ar unwaith. Mi fyddaf rwymedig am hysbysrwydd ynghylch unrhyw ysgrifau a all fod ym meddiant rhywrai a deifl oleuni ar yr hanes.

Mi gredaf fod lliaws o ysgrifau felly ar gael, sef ysgrifau, dyweder, ar godiad a chynnydd yr ysgol Sul, ar hen gymeriadau mewn ardal, neu gofnodion o seiadau, neu hunan-gofiannau, neu ddyddlyfrau yn cynnwys cyfeiriadau at yr achos crefyddol, neu gyfrifon eglwysig yn myned ymhellach yn ol nag 1830. Mi ymgymerwn â pheidio danfon am y pethau hynny nes byddai eu heisieu, a pheidio eu cadw yn hir ar ol eu cael."

Mae taflenni y Cyfarfod Misol yn ystod 1854—73 ar wyneb un ddalen go faintiolus. Methu gennyf a tharo wrth dafleni 1855, 1857, 1859, 1861, 1863—4—5, 1867, 1872. Mi fyddwn rwymedig am hysbysrwydd ynghylch un neu ragor o honynt. A'r un modd am hen weithredoedd capeli ym meddiant personau neilltuol. Y mae llyfr cofnodion y Cyfarfod Misol a gedwid gan John Robert Jones (Bangor) ar goll. Bu ef farw yn 1845. Fe gyfrifir hwn yn llyfr gwerthfawr. Mi fuaswn yn rhwymedig am hysbysrwydd yn ei gylch.

Fe gyfleir ar ddiwedd ambell i adran yn yr hanes hwn gyfeiriad at fan mewn cylchgrawn neu bapur wythnosol, neu gofiant neu lyfr hanes. Weithiau y mae'r adran yn grynhöad o'r fan a grybwyllir; weithiau y mae rhyw gyffyrddiadau wedi eu dodi i mewn o ffynonellau eraill; weithiau fe geir y rhan fwyaf neu agos y cwbl wedi ei dynnu o'r ffynonellau eraill hynny, sef yn bennaf y rhai y cyfeirir atynt ar waelod y ddalen gyntaf yn hanes pob lle. Mi fyddwn rwymedig am fy nghyfeirio at hen gofiaduron da, fel y gallwn eu gweled neu ohebu â hwy. Ceir llawer o bethau gwerthfawr weithiau gan y cyfryw.

Croesawir unrhyw hysbysiad pellach am bersonau neu bethau y buwyd yn rhy fyrr gyda hwy, er mwyn eu dodi i mewn ar ddiwedd yr hanes. Byddaf ddiolchgar, hefyd, am gywiriadau mewn amseriadau neu bethau eraill. Ynglyn â'r amseriad noder sail y cywiriad.

Y mae'r lliaws ysgrifau y dyfynnir ohonynt yma wedi eu crynhoi a'u cwtogi fwy neu lai. Y mae rhai ysgrifau meithion wedi eu corffori yn y gyfrol hon; ond er gadael llawer allan, fe ddiogelwyd popeth y tybid ei fod o unrhyw werth neilltuol i amcan yr hanes hwn.

Trefnwyd drwy benderfyniad y Cyfarfod Misol ar fod yr hanes i ddibennu gyda diwedd y flwyddyn 1900. Rhaid peidio edrych yma, gan hynny, am grynhoad ar hanes neb a fu farw yn ddiweddarach na hynny. Ni olrheinir hanes neb, chwaith, ar ol symud ohono i Gyfarfod Misol arall, er marw ohono o fewn cyfnod yr hanes hwn, gan y gellir disgwyl i'w hanes ymddangos yn hanes y Cyfarfod Misol hwnnw.

W. HOBLEY.

Y CYNNWYS.

HANES METHODISTIAETH ARFON.

——————

ARDAL Y WAENFAWR.

——————

ARWEINIOL.[1]

Y MAE capel presennol y Waen yn y rhan henafol o'r pentref. Y rhan honno sydd ychydig fwy na 3 milltir i'r de-ddwyrain o'r maes yng Nghaernarvon, ar y ffordd i Feddgelert. Yn ymyl yr oedd yr hen ffordd Rufeinig o Segontium (yr hen Gaernarvon) i Feddgelert. Y pentref erbyn hyn yn ymestyn o Groesywaen (ychydig pellach o Gaernarfon na'r garreg dair milltir), hyd y stesion ar y narrow-gauge, ag sy'n tynnu at y garreg bedair milltir. Y Waen ei hunan, a elwir felly yn awr, sydd oddeutu milltir o arwynebedd bob ffordd. Ganwyd Owen Williams yn 1790, a chof ganddo dir y waen, a elwir yn briodol felly, heb ond un tŷ annedd arno, sef Cefn y Waen Robert Owen.

Wyneba'r ffordd o Gaernarvon yn o deg at yr hafn rhwng y Foel Eilian a'r Mynyddfawr; ac ar y chwith wrth fyned drwy'r Waen y mae mynydd y Cefndu, ac ar y dde yr Alltgoed fawr, gyda'r afon Gwyrfai yn ymddolennu cydrhyngddynt. Tynnodd Dafydd Thomas y Wyrfai i gyd i'w safn unwaith, yn ymyl ei tharddle wrth gopa'r Wyddfa, pan wedi poethi wrth ddringo ar ddiwrnod tesog yn yr haf. Eithaf gorchwyl fuasai hwnnw i Fynydd yr Eliffant ei hun, â'i dduryn anferth, erbyn cyrraedd o'r Wyrfai i Ddyffryn Betws, pe gwelid ef yn ymysgwyd ryw ddiwrnod, gan roi arwyddion o fywyd. Tra tharawiadol yw'r olygfa ar y ddau fynydd, y Foel Eilian a'r Mynyddfawr, wrth nesau atynt yn y pellter, yn enwedig ar noswaith loergan leuad. Y pryd hwnnw y mae rhyw swyn drostynt, yn peri iddynt megys ymbellhau oddiwrthym i wlad hud a lledrith. Y Foel sydd lefngron, fel anferth dwmpath gwâdd, ond llyfnach na hwnnw, a'r Mynydd-fawr a adnabyddir yn y fan fel mynydd yr eliffant, gyda'i dduryn yn ymestyn i'r ochr bellaf i'r Foel. Nid rhyfedd fod y fangre. hon, yr ochr yma a'r ochr draw, yn wlad lledrithiau o'r anweledig. Fe deimlodd George Borrow rywbeth yma na theimlodd mo'r cyffelyb yn unlle arall, ac yr oedd ef yn neilltuol agored i'r math hwn o ddylanwad. Daw bryniau'r Iwerddon i'r golwg ar dro ar adeg machlud haul, oddiar ochr y Cefndu, pan fydd yr awyr yn glir a theneuedig iawn, ac ambell waith fe'u gwelir yn un rhes hirfaith, ac yn ymddangos fel pe wedi tramwy ymhell o ffordd ar draws y mor tuag atom. A bellach, dyma'r teligraff diwifrau yn dechre cael ei osod ar lethr y Cefndu. A chyda hwn bydd gwledydd cyfain, a chyfandiroedd pell, yn dechre agoshau ar draws yr anweledig, ac yn rhyw fodd cyfrin yn ymrithio megys o'n blaen. Uwchben hen lethr y Cefndu, nid nepell oddiwrth Greigiau padell y brain, hen gartref y tylwyth teg, fe welir yn y man, ar y nosweithiau tywyllion, fflachiadau disymwth yn yr awyr uwchben, megys tywyniadau esgyll cenhadon anweledig, yn dwyn gyda hwy eu cenadwriau o lawenydd neu o dristwch, o gyfarwyddyd neu o rybudd, yn amseroedd rhyfel a heddwch. A bydd yma rialti rhyfeddach eto na dawns y capiau cochion ar loergan lleuad gynt.

Dywed Dafydd Thomas y gelwid cytir y Waenfawr amser yn ol yn Waenfawr Treflan, a bod tenantiaid ystâd Treflan, a oedd y pryd hwnnw ym meddiant Syr Watkin W. Wynn, yn honni hawl i droi eu hanifeiliaid yno i bori. A dywed ef, hefyd, fod ar y cwrr o'r Waen sydd agosaf i'r Dreflan lawer iawn o dai henafol iawn, a elwid Pentref y Waen. Sylwir ganddo fod rhes o bentrefi bychain, o fewn llai na chwarter milltir y naill i'r llall, yn dechre yn Nhŷ-ucha'r-ffordd ac yn diweddu yn yr Hafod Oleu, ar lethr y Cefndu, wrth ochr y ffordd i Lanberis. Tai bychain tebyg i'w gilydd y disgrifir hwy ganddo, gydag un ystafell, a'r hen simdde fawr. Tŷ-ucha'r-ffordd, lle dechreuodd y Methodistiaid bregethu, fel y tybia Dafydd Thomas, ydoedd y mwyaf ohonynt, a thŷ un ystafell ydoedd hwnnw. Yn y tŷ hwnnw y bu Owen Williams yn trigiannu am flynyddoedd. Yma y troes Lyfr y Caniadau ar fesur cerdd, ac yma, orchwyl buddiolach, yr ysgrifennodd ei gyfran ei hun o'r Geirlyfr. Yr oedd y mân-bentrefi yma yn amrywio mewn maint, heb ond rhyw hanner dwsin neu lai o dai yn rhai ohonynt, a rhyw gymaint mwy yn eraill. Gelwid y pentrefi hyn wrth wahanol enwau: Tŷ-ucha'r-ffordd, Pentre uchaf, Pentre isaf, Bryn y pistyll, Ty'n y gerddi, Bryneithin, Hafod oleu. Yr oedd y rhai'n yn hen dai, ebe Dafydd Thomas, pan oedd ei daid a'i nain ef yn ieuainc, y naill wedi ei eni yn 1740 a'r llall yn 1746. Dywedent hwy fod y cwbl ohonynt wedi eu toi â cherryg o'r Cefn- du yn eu hamser hwy. Y mae amryw o'r hen dai hyn yn aros o hyd.

Ganwyd Dafydd Thomas yn 1820, ac yn y cyfnod hwnnw gwehyddion oedd lliaws o'r bobl. Cof ganddo weled pilio'r llin yn ei gartref, a llinwr o Gaernarfon yn dod yno i'w drin yn yr ysgubor, a'i fam yn ei nyddu gyda'r hen dradl, a hwythau'r plant yn gwisgo'r crysau geirwon.

Golwg henaidd oedd ar y ffactri wlan yn y Dreflan pan oedd Dafydd Thomas yn fachgen. Murddyn erbyn hyn. Yr hen bandý yn Hafod y Wern yn llawer hynach na'r ffactri. Cof gan Dafydd Thomas glywed Owen Williams yn dweyd "agos 70 mlynedd yn ol," sef tuag 1830, fod oddeutu 500 o weithwyr ym mwngloddiau Drws y coed a Simdde'r ddylluan gan mlynedd cyn hynny, a'u bod agos oll yn prynnu eu dillad, ac yn cael eu gwneud, yn y Waen- fawr. Prynnai rhai o'r tyddynwyr wrthbannau, gwlaneni, llin- wlaneni, gan eu cymdogion, ac aent â hwy yn bynnau ar gefnau clapiau o geffylau bychain i ffeiriau Llanerchymedd a lleoedd eraill. Ond gwelodd Dafydd Thomas dro ar fyd, ac fel y bu gwaetha'r modd, aeth y meibion i wisgo ffustian, a'r merched sidanau a ffriliau.

Tua 1750 y dechreuodd preswylwyr y mân bentrefi adeiladu tai ar y cytir. Ymgasglai nifer ynghyd ar brynhawngwaith ar ryw lanerch neilltuol, a chyn bore codid rhyw fwthyn tyweirch, gyda darn o dir wedi ei farcio allan o'i amgylch, a mwg wedi ei ollwng drwy'r simne. Cysgid yn y bwthyn bob nos, a cheibid ac arloesid y llecyn tir yn ystod y dydd. Yn y dull hwnnw y ceid cerryg i wneud tý amgenach na'r cyntaf, ac i wneud cloddiau cerryg. Yr oedd dau le tân ymhob un o'r tai hyn.

Yn 1803 gwerthodd Syr Watkin stâd Treflan i John Evans, cyfreithiwr yng Nghaernarvon. Honnai John Evans hawl i'r mân dyddynod ar y sail mai perthyn i'r stâd yr oedd y cytir. Yr oedd rhai o'r tyddynwyr eisoes wedi prynnu eu hawl gan y llywodraeth. Cafodd y lleill rybudd gan John Evans i ymadael. Rhai yn dychryn ac yn ymadael â'u hawl, ar yr amod eu bod yn cael aros ar ardreth fechan. Eraill yn ymgyfreithio. Anfonwyd rhai i garchar am ysbaid. Daliodd bawb ohonynt eu meddiant yn y tai, ond collasant feddiant o'r tir. Yn 1844, pryd y bu gwerthu ar y stâd drachefn, prynnwyd y tyddynnod agos i gyd gan y preswylwyr. Yn etholiad 1868, yr oedd 54 yn meddu pleidlais yma, pan nad oedd ond 51 ym mhlwyf mawr Llanberis i gyd, a oedd am y terfyn âg ef. Cafodd Love Jones-Parry 45 o'r pleidleisiau hyn yn erbyn Pennant, serch fod y nifer mwyaf yn gweithio mewn cloddfeydd llechi gyda'r meistradoedd i gyd yn ffafriol i hawliau Pennant.

Tua 1750 y dechreuwyd cloddio yn egniol am gerryg toi. Oddeutu 1800 symudodd lliaws o'r ardal hon i Nantlle a Llanddeiniolen a Bethesda, lle y dechreuid gweithio chwarelau newyddion yn brysur. Llwyddodd y cloddfeydd gymaint fel, yn y man, na fynnai braidd neb i fab o'r eiddynt fod mewn unrhyw alwedigaeth amgen nag fel chwarelwr. Chwarelwyr a rhai yn byw arnynt yw'r ardalwyr bellach. Dros y mynydd i'r dde, fel yr eir o Gaernarvon, y mae'r ffordd i chwarel Cors y bryniau a chwareli Nantlle; ac i'r chwith o chwarelau Cefndu, ceir Glynrhonwy a Dinorwig. Cloddir ychydig fwn haearn o ochr y Foel.

Cafodd Owen Williams olwg ar y Garneddwen pan ydoedd efe oddeutu deuddeg oed. Yr ydoedd yn ei dŷb ef oddeutu 500 o dunelli, a chynwysai gerryg o wahanol faintioli. Casglodd y gawres y cerryg hyn yn ei ffedog yng Nghwmdwythach. Wrth ddod dros ochr ogleddol y Foel eilian, fe lithrodd ei throed, a rhed dwy ffrydlif o ddwfr yn ol ei dau sawdl. A Gafl y Widdan y gelwir y lle hyd heddyw. Ei meddwl ydoedd gwneud pont dros y Foeldon o Arfon i Fon, ond methu a wnaeth yn ei hamcan, yn gymaint a darfod i linyn ei barclod dorri, ac i'r llwyth ddisgyn yn y fan yma, Ond os methu gan y widdan yn ei hamcan hi, llwyddodd John Jones y ffermwr i wneud cloddiau defnyddiol allan o'r garnedd.

Pan oedd Dafydd Thomas yn ieuanc yr oedd agos bawb yn credu mewn ysbrydion, rhith-angladdau, adar corff, canwyllau corff, ac yng ngallu dewiniaid. Y ceiliog yn canu allan o amser, a gweled y falwen ddu gyntaf yn y tymor, os heb fod ar dir glas, ydoedd arwydd o aflwydd. Maint yr aflwydd ydoedd maint caledwch y tir y gwelid hi arno. Rhai pobl a chwiliai'r nos am arian mewn cilfachau tywyll, anhygyrch. Nain Dafydd Thomas a haerai ddarfod iddi weled y tylwyth teg. Bu hi a'i mam allan gyda'r nos ar un tro mewn gweirglodd ar lan afon, pryd y codai tarth allan o'r afon. Y tarth yn cilio ychydig. Er eu syndod, gwelai'r fam a'r ferch ddwsinau o feibion a merched bychain, bach yn dawnsio ar y weirglodd. Fel y chwalai'r tarth ymaith, graddol ymgollai'r bobl fach o'r golwg. Gwelodd aml un heb eu llaw hwy y cyffelyb. Byddai ofn y tylwyth teg yn rhwystro pobl hanner cant oed yn awr rhag myned yn blant i Greigiau padell y brain ar y Cefndu. Tebyg fod a wnelai'r brain a gyrchai yno rywbeth â'r traddodiad am y peisiau gleision. Yr oedd gweithdŷ John Hughes y crydd yn fan dihafal am straeon bwganod. Nid oedd mo fath Morgan Owen Penybont am eu hadrodd. Byddai Dafydd Thomas pan yn hogyn yno yn gwrando arno â'i lygaid a'i geg yn llawn agored. Gwelai Morgan Owen fwganod ym mhob rhith. Ffordd ddewisol ganddynt o ymddangos ydoedd gyda'r rhan uchaf ar ddull dyn, a'r rhan isaf ar ddull anifail, ceffyl neu afr neu'r cyffelyb. Rhyw gorr neu gilydd a welid ganddo bryd arall. Morgan yn myned adref ar un noswaith dywell iawn gyda'i lantern yn ei law. Pa beth a ddigwyddodd wrth gamu ohono dros ryw ffos ddwfr, ond corach bychan yn ymrithio wrth ei glun, a chan ddiffodd y lantern yn dianc ymaith drachefn.

Y mae Dafydd Thomas yn adrodd chwedl, ag y dywed fod pawb yn y Waen yn ei chredu "75 mlynedd yn ol" (1825), ac na wyddai ef ei hun ddim pa fodd i'w hanghredu. Yr oedd rhyw ddyhiryn wedi torri i mewn i'r Graig lwyd, a dwyn £25, arian a dderbyniwyd am anifeiliaid, ac a fwriedid i dalu'r ardreth. Mawr oedd pryder y teulu. Dywedwyd wrthynt y gallasai Arabella o Ddinbych fynegi pwy oedd y lleidr. Digwyddai fod teilwriaid yn pwytho ar y bwrdd yn y Graig lwyd un diwrnod. Ebe Rolant Dafydd, gwr y tŷ, wrth Guto'r teiliwr, "Guto, a ei di yno ?" Yn addo iddo bâr o esgidiau ddim gwaeth na newydd, os ae Profi'r esgidiau: ffitio i'r dim. Addo talu i Guto am ei amser a'i draul. Ymhen deugain mlynedd ar ol i'r helynt ddigwydd y clywodd Dafydd Thomas yr hanes gan Guto ei hun. Yr oedd gan y ddau achos i ymweled â Dinbych y pryd hwnnw. Wedi nodi'r amgylchiadau a adroddwyd eisoes, elai Griffith Morris ymlaen gyda'r hanes: "Ar nos Iau y cefais i'r esgidiau gan Rolant Dafydd, a deg swllt at fy nhraul, gan gynnwys y goron oedd i'w thalu i Bella, sef ei gwobr arferol. Mi gychwynais cyn dydd fore Gwener. Bore braf yn y gwanwyn ydoedd. Mi gyrhaeddais Lanrwst dipyn cyn canol dydd, a chefais yno bryd da o fwyd. Mi gyrhaeddais Ddinbych yn gynnar, wedi cerdded dros 40 milltir. Daethum o hyd i Bella yn ei thŷ, a dechreuais ddweyd fy neges. 'O' meddai hi, mi wn dy neges di o'r gore. Wedi colli arian y mae rhywun? Eglurodd Griffith Morris yr amgylchiadau. "Wel," ebe Bella, "mi allaf ddweyd lle y maent. Oes yna ryw feudŷ dan y tŷ? ac a oes yna ryw garreg fawr yn y ddaear yn ei ymyl ?" "Y mae yno feudŷ, ond nis gwn am y garreg," ebe Griffith Morris. Yno y mae nhw," ebe Bella, "odditan y garreg, mewn twll, a'r gwas sydd wedi eu dwyn. 'Dydyn nhw ddim yno i gyd. Y mae o wedi gwario dwy bunt am ddeunydd dillad, ac y mae y rheiny yn cael eu gwneud gan deiliwr yng Nghaernarvon." Dychwelodd Griffith Morris drannoeth, ac yr oedd yng Nghaernarvon erbyn tri ar y gloch y prynhawn. Cyfarfu â Rolant Dafydd yn nhŷ Alice Griffith Pen y deitsh. Yr oedd mab ynghyfraith Rolant Dafydd gydag ef, ac wedi clywed yr adroddiad, ymaith âg ef o nerth y carnau i'r Graig lwyd, dros dair milltir a hanner o ffordd. Dychwelyd ymhen dwy awr, a'r gwas gydag ef, y cwbl wedi troi allan fel yr hysbyswyd gan Arabella. Yr oedd Griffith Morris yn gymydog agos i Ddafydd Thomas. Ni chlywodd efe mo neb erioed yn ameu ei eirwiredd, ac nid oedd ganddo yntau ei hunan unrhyw sail dros wneud hynny.

Yn ddiweddarach nag amseriad yr hanes olaf yma, yr oedd gwr cyfarwydd neu ddewin yn trigiannu yn y Waenfawr ei hun, sef Griffith Ellis Cil haul, fawr ei glod. Canys nid dewin yn unig oedd efe, ond meddyg anifail a dyn, a gwr heb ei fath am ddofi lloerigion. Nid oedd yn feddyg trwyddedig ar ddyn nac anifail; ond llwyddai ef yn fynych wedi methu gan wŷr trwyddedig. Bu lliaws o wallgofiaid dan ei ofal wedi methu gan bawb eraill a'u gwastrodedd. Nid ymddengys ei fod yn ddewin wrth reol a chelfyddyd, a llysieulyfr Culpepper, fe ddywedir, oedd ei lyfr codi cythreuliaid. Yr oedd cip o olwg ar luniau'r llysiau, bellter oddiwrthynt, yng nghynnwrf y meddyliau, yn gwasanaethu yn lle lluniau cythreuliaid. Eithr y mae pob lle i gredu fod greddf y dewin yn eiddo Griffith Ellis. Y mae'n sicr fod rhai aelodau o'r teulu wedi bod yn meddu ar y cyfielyb: sef eu bod yn ymdeimlo â lliaws o bethau cyn digwydd ohonynt, nes gallu yn rhyw fodd eu rhagfynegu, er nad, fe ddichon, gyda holl fanylder Arabella o Ddinbych. Heblaw dawn natur, tynnodd Griffith Ellis gydnabyddiaeth yn ei ieuenctid âg amryw wŷr cyfarwydd o'r cyfnod hwnnw. A thrwy'r cwbl, llwynog cyfrwys, henffel ydoedd ef ei hun. Un lofft hir oedd i'r Cilhaul. Pan fyddai dieithryn yn y tŷ yn adrodd ei helynt, byddai Griffith Ellis ond odid yn y llofft yn gwrando. Yn y man, deuai i mewn i'r gegin, gan sychu chwys ei dalcen â'i law. "O!" ebai fe, yn yr olwg ar y dieithryn, "yr ydych yn dod o'r fan a'r fan. Yr oeddwn yn eich disgwyl ers tridiau!" Yr oedd hanner y frwydr wedi ei hennill eisoes, fynychaf. Edrydd Mr. Evan Jones y Garn stori a glywodd yn blentyn gan Griffith Ellis ei hun. Galwodd gwr o sir Ddinbych unwaith yn y Cilhaul. Gwraig y plas oedd wedi colli ei modrwy briodas. "Hysbyswch i bawb fy mod yn dod ar y diwrnod a'r diwrnod," ebe'r dewin. Griffith Ellis yn cyrraedd ar y diwrnod hwnnw, ac yn cerdded yn hamddenol o amgylch y plas. Y forwyn, mewn modd dirgelaidd, yn rhoi y fodrwy yn ei law. "Na ddwedwch wrth neb," ebe fe, "ac ni ddwedaf innau." Griffith Ellis yn gorchymyn paratoi rhyw bedwar neu bamp o bytiau toes, ac, wedi cael cyfle, yn eu taflu i hwyaden â marciau neilltuol ar ei hesgyll. Yna yn gorchymyn cau'r hwyaden honno arni ei hun. Y bore nesaf, ebe'r dewin wrth wraig y plas, "Nis medraf wneud dim o'r helynt yma yn amgen na bod y chwiaden a'r marciau duon yna arni wedi llyncu'r fodrwy. 'Does dim i'w wneud ond i hagor hi, ac fe'm siomir yn fawr os nad yw'r fodrwy yn ei bol." A gwir y dyfalodd! Eithr hen stori ddewinol ydyw hon wedi'r cwbl. Clywodd Griffith Ellis y chwedl, yn ddiau, ac fe ddichon iddo gael cyfle i actio'r cyffelyb ystryw ei hun. Edrydd Mr. Evan Jones stori arall ar ei ol. Archwyd iddo ymweled â gwraig orweddiog ym Mon. Gorchmynodd ddwyn i'r stafell bedair o gyllill wedi eu glanhau yn loewon, a chynfas wen lân. A chyda'r pedair cyllell wedi eu dodi yn ddestlus ar y gynfas wen yngolwg y wraig, ebe Griffith Ellis, mewn ton gwynfanllyd, a chan edrych at i lawr ar y wraig yn ei gwely, "Gresyn! gresyn! fod yn rhaid i hagor hi." Ar hynny y neidiodd y wraig allan o'i gwely yn holliach! Unwaith, fe ddaeth gwraig o Fon ato gyda chŵyn ynghylch ei mab. Yr ydoedd hwnnw wedi troi ei gefn ar ei hen gariad, a dilyn un newydd. Cyfarfu â'r hen, a bygythiodd honno ei witsio, fel na lyncai damaid fyth ond hynny. Dechreuodd yntau waelu a chymeryd i'w wely, ac yn y man nis medrai lyncu gronyn o fara. Wedi clywed ohono'r manylion, ebe'r dewin,—" Y mae o wedi mynd yn rhy bell i mi wneud dim ohono. Y mae o wedi credu gair y ferch, a mynd yn rhy lwyr dan ei dylanwad. Bydd wedi marw cyn pen nos yforu." Ac yn ol y ddarogan y digwyddodd y peth. Mam y bachgen hwnnw a adroddodd yr hanes wrth Mr. Evan Jones. Bu gwraig am ddeng mlynedd mewn iselder meddwl, ar ol ei siomi mewn serch, ond a ddilynodd gyfarwyddid Griffith Ellis, ac a ymsioncodd ac a ymsiriolodd, a bu am ugain mlynedd heb och na gruddfan. Yna fe ail—gydiodd yr hen anhwyl ynddi, a hi a ddaeth i ymofyn â'r dewin drachefn. Yr ydoedd yn wraig barchus yr olwg arni, ac yn holi'r ffordd am y dewin y gwelwyd hi gan Mr. Evan Jones, ac y clywodd efe ei stori. Bu Dafydd Thomas yn ymddiddan â Griffith Ellis yn ei hen ddyddiau ynghylch ei hanes a'i orchestion Soniai am John Jones, Tyddyn Elen, wr cyfarwydd, a dywedai nad oedd mo'i hafal yn y gwledydd fel meddyg dyn ac anifail. Gallai, hefyd, wastrodedd y Tylwyth Teg, canys fe ymddanghosai Griffith Ellis yn cwbl gredu ynddynt, ebe Dafydd Thomas. Feallai hynny; ond gallasai Griffith Ellis, ei fab, gymeryd arno cystal a dim actor a sangodd ar ystyllen. Pa ddelw bynnag, fe draethai Griffith Ellis ei farn am y Tylwyth Teg wrth Ddafydd Thomas, mai rhyw fath ar fodau rhwng dynion ac angylion oeddynt. "Nid oes neb yn gweld monynt yn awr," ebai Dafydd Thomas. "Nagoes," ebai yntau, "ond darllenwch i'r Beibl, chwi gewch weld mai ar ryw adegau neilltuol y byddai rhyw fodau wybrennol yn ymddangos i ddynion ar y ddaear yn yr hen amserau." Yr oedd Griffith Ellis yn gallu gwastrodedd ysbrydion a flinai dai pobl, a chyflawnodd wrhydri yn y ffordd honno, nid yn unig yn y Waenfawr a'r ardaloedd cylchynnol, ond hyd berfeddion Eifionydd ac hyd eithaf cyrrau Mon a Dinbych. Ei swynair wrth wastrodedd ysbrydion, neu mewn achosion dyrys gyda dyn neu anifail ydoedd hwnnw,— Rhad-Duwi-ni, a seinid ganddo megys un gair, ac yn dra chyflym, a hynny drosodd a throsodd. Yr oedd dylanwad cyfareddol yn nheimlad llawer yn ynganiad y swynair hwnnw. Ni ddaeth Griffith Ellis i gysylltiad mor uniongyrchol â hanes crefydd a Simon y swynwr ac Elymas a meibion Scefa, neu hyd yn oed y ddewines o Endor, eithr, fel hwythau, yr oedd efe yn ddrych o angen calon dyn yn ei pherthynas â'r anweledig, ac, fel hwythau, yn ddrych o gyflwr ei oes a'i wlad. Y mae ei hanes ef, a rhai cyffelyb iddo, yn gyfrodedd â hanes crefydd, megys y dysg yr ysgrythyrau sanctaidd i ni synio.

Gwr cryn lawer yn israddol i'w dad ar y cyfan oedd Griffith Ellis y mab, ond gyn hynoted ag yntau mewn rhai cyfeiriadau. Nid yn feddyg dyn nac anifail, fel ei dad, ond, fel yntau, yn gallu gwastrodedd gwallgofiaid yn eithaf deg. Ac er yn fwy anystyriol o lawer na'i dad, yr ydoedd yn hafal iddo yng ngrym cynhenid ei feddwl. Rhywbeth anarferol yn ei olwg. O ran ffurf a maintioli y corff, y pen a'r wyneb, ac hyd yn oed mynegiant y llygaid i fesur, yn swrn debyg i Napoleon fawr. Pan safai gyda'i gefn ar y mur, yn gwrando ar ymddiddan heb gymeryd arno glywed, yr oedd osgo'r corff ac edrychiad y llygaid yn union fel eiddo'r mochyn yn ei gwt, pan glyw swn dieithriaid yn dynesu. Meddai ar gyflawnder o eiriau disgrifiadol, a dywediadau ar ddull diarhebion. Yr oedd yn anarferol o ffraeth a chyflym ei ateb. Byddai awch ar ei ymadroddion mewn ymddiddanion cyffredin: ei ddywediadau yn gwta, yn frathog, yn ddisgrifiadol, ac yn fynych yn wawdus a choeglym. Er yn eithafol anystyriol mewn ymddiddan, eto yn fucheddol ei foes, heb lwon na serthedd, ac yn ymgymeryd yn naturiol â'r meddwl am y byd anweledig. Trigiannodd yn y Bontnewydd yn y rhan olaf o'i oes. Daeth rhai aelodau o'r teulu hynod hwn yn ymroddedig i grefydd, fel y ceir gwneud cyfeiriad atynt eto. Daeth dau frawd i'r Griffith Ellis olaf dan ddylanwad diwygiad '59. Ystyrrid hwy yn ddynion go anghyffredin. Enghreifftiau oeddynt o'r modd y mae crefydc, ar dymor diwygiad, yn cipio gafael ar ddyn, fel fflam ar babwyzen, mewn amgylchiadau a'i gwna yn eithaf anhebyg o deimlo cim o gwbl oddiwrthi ar dymorau cyffredin.

Cynyrchodd yr ardal rai dynion o enwogrwydd yn y wlad, a rhai eraill o enwogrwydd yn y cylch Methodistaidd yn Arfon. Heb son am brifon yr hen amseroedd, Garmon a Beuno, fel y gwna Owen Williams, dyna John Evans, a droes allan ar ymchwil am y Cymry a ymfudodd i'r America dan nawdd Madoc ab Owain Gwynedd; a'i frawd Evan Evans, a fu farw yn ieuanc, ac a ystyrrid yn bregethwr o'r radd flaenaf. Dyna Gutyn Peris, genedigol o'r Hafod Oleu; Humphrey Griffith, ffrwyth ysgrifell yr hwn a ymddanghosai yng Ngreal Llundain; a'i frawd, Dafydd Ddu Eryri, y gwr cryfaf ei gynneddf nid hwyrach o holl blant yr ardal; ac Owen Williams "y Waunfawr," ac Ioan Arfon. Dengys hanes eglwysi Arfon ddarfod i amryw ddynion droi allan o'r Waen i eglwysi eraill, y profwyd eu dyfodiad yn beth gwerthfawr. Un o'r gwŷr hynny oedd Hugh Jones Bron'rerw yn y Capel Uchaf, Clynnog; un arall oedd Dafydd Rowland, pen blaenor Moriah am ysbaid maith; un arall, Robert Evans, prif flaenor Caernarvon.

Y mae Dafydd Thomas yn manylu peth ar hanes rhai gwŷr ag sy'n fwy nodweddiadol o'r lle, yn ddiau, na rhai o'r gwŷr a enwyd, yn gymaint a'u bod yn fwy o wir gynnyrch y lle, wedi aros yma yn hwy, ac heb dderbyn cymaint o ddylanwadau o'r tuallan. Un o'r cyfryw ydoedd Sion Jones y doctor, a fu farw tuag 1820, nodedig am lawer o bethau. Yr oedd yn ddoctor esgyrn. Byddai'n asio esgyrn rhai wedi eu hanafu yn y chwarelau. Yr oedd yn feddyg llysieuol, hefyd. Ef a'i feibion ymhlith y rhai cyntaf i godi tai ar y cytir. Efe oedd y mwyaf blaenllaw yn yr helynt gyda John Evans y cyfreithiwr. Llusgwyd ef gan y beiliaid i'r carchar yn yr achos hwnnw. Yn rhyw gymaint o heliwr a physgotwr, gan foelystota ar ol Nimrod, a defnyddio ymadrodd Morgan Llwyd. Yr oedd yn yr ardal ryw gred yn ei ddawn i godi cythreuliaid. Ymhen blynyddoedd ar ol ei gladdu ym mynwent y Betws, gwelai rhai pobl ef mewn cornelau tywyll yn yr hwyrnos. Gwelwyd ef felly gan wehydd ar allt y Pwll budr, yn anelu at aderyn yn y coed. Nid aeth yr ergyd allan, dim ond ffrit y badell." Eithaf gorchest i wr a'i gorff yn gorwedd dan y briddell. Cerddodd y gwehydd yn ddiarswyd tuag ato, a gofalai y doctor am gadw yn yr un pellter o hyd oddiwrtho, nes dod ohono i bendraw y winllan, ac yna mewn modd nas gallai dim dewin ei olrhain, fe ddiflannodd o'r golwg. Dywedodd y gwehydd yr ystori hon wrth fam Dafydd Thomas, gyda rhai merched eraill. yn y cwmni, a Dafydd Thomas yn llencyn yn gwrando gyda'i lygaid yn grwn agored. Yr oedd Dafydd Thomas o'r farn y credai y gwehydd yn gwbl ei stori ei hun. Robert Dafydd "Luke yr adeiladydd, a fedrai adeiladu tŷ o'i sylfaen i'w grib heb gynorthwy neb copa walltog. Rhyw £7 neu £8 ydoedd ei dâl am wneud tŷ, ac efe a wnaeth y rhan fwyaf o'r tai a adeiladwyd yn ei amser ef. Cawr o faint a nerth. Wrth gylymu pwysau ar flaen y llif medrai lifio arno ei hunan yn y pwll llif. Argyhoeddwyd ef dan bregeth Richard Tibbot yn Nhŷ-ucha'r-ffordd, ac ystyrrid ef yn niwedd ei oes yn dduwiolach gwr na chyffredin. Tuag adeg brwydr Waterloo y dallwyd Hugh Morris wrth danio pylor yn y Gloddfa. Wrth grwydro am ei damaid rhowd llety iddo ar un noswaith gan Sion Morris yr Ynys. Eglwyswr oedd Sion, 'a Methodist oedd Hugh. Ar y weddi yn y gwasanaeth teuluaidd, cofiai Hugh am y teulu caredig y lletyai gyda hwy, ac yn enwedig am wr y tŷ. Ar hynny, dyna Sion ar ei draed,—"Hwda, Huwcyn, na hidia am danaf fi! Gweddïa dros y brenin a'i filwyr; mi weddïaf fi drosof fy hun!" Gan y gwas y clywodd Dafydd Thomas y peth hwn. A dywed ymhellach fod pump neu chwech o'r tyddynwyr y pryd hwnnw yn cadw gwely i grwydriaid tlodion a ddeuai o amgylch yn y dull hwnnw. Myntumia yr un pryd eu bod yn onestach pobl na'r "haflug anwaraidd " sy'n bla ar y wlad yn awr. Ond tybed nad oedd y tyddynwyr hynny yn gadael i'r cŵn defaid benderfynu pa rai o'r crwydriaid y gellid dibynnu ar eu gonestrwydd?

Edrydd Richard Jones yn y Traethodydd am rai pobl oddeutu canol y ganrif ddiweddaf, nad elent i na llan na chapel. Yn eu plith, dyna Neli Morgan Bryn Goleu. Berr a chorffol, garw yr olwg arni a gwrol, a "llais garw, gwrol," fel Cigfran Morgan Llwyd. Hyddysg yn hanes y tylwyth teg a llen gwerin. Craff ei sylw ar arwyddion tywydd. Yr oedd Neli Morgan yn wrthwynebol iawn i'r ymfudo i'r America yr oedd cymaint ohono y pryd hwnnw. 'Does yno ddim lle ffit i bobol fyw yno, wel di. Mae yno lyffant du dafadennog, cimint a theiciall, a hwnnw yn gweiddi fel mul mawr, weldi!"

Coffeir yn yr ardal, hefyd, am Evan Jones y Cyrnant, tad Richard Jones y Cymnant, fel dyn go anghyffredin, heb fod yn grefyddwr, ac heb dderbyn dim manteision dysg. Meddai ar wybodaeth dda yn y gyfraith a phynciau eraill, ac elid ato gan liaws am gyngor, a meddai ar synwyr cyffredin a chraffter go anarferol. Enghraifft dda o'r gwladwr syml a chryf, wedi ei fagu a'i feithrin yn gyfangwbl ar aelwyd ei henafiaid, wedi ei wneud o uwd a thatws llaeth, ac wedi cadw o fewn y wal derfyn deuluol, heb hedeg i'r goruchelder, heb dramwy rhandiroedd dirgelfan diarffordd.

Cof gan Ddafydd Thomas am ddynion yn gweithio am wyth neu naw ceiniog y dydd yn y cynhaeaf gwair, a gweithio o bump y bore hyd naw yr hwyr. Yr arlwy adeg cynhaeaf, bara ceirch a haidd, ynghydag ychydig enwyn neu gawl llaeth. Tatws llaeth i ginio, a da os ceid dipyn o facwn neu gig mollt neu eidion wedi ei halltu a'i sychu.

Rhydd Dafydd Thomas am nelliad o hanes addysg yn yr ardal. Y mae efe, pa fodd bynna, yn gadael allan hanes a roddir yn Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru (III. 264). Yno fe roir ar ddeall fod yr Anibynwyr yn 1816 wedi cael addewid am ysgol rad symudol y Dr. Daniel Williams, a oedd yn cael ei chadw ar y pryd ym Methel, gan Ellis Thomas. Disgwyliasid y rhoisai y Methodistiaid fenthyg eu capel i'r amcan, ond gomeddwyd, a bu raid ardrethu tŷ gwag ym Mryneithin. Wedi i'r Methodistiaid ddeall, neu eu blaenoriaid, feallai, fod llawer wedi eu tramgwyddo gan eu gomeddiad, fe agorwyd y capel i'r ysgol a rhoddwyd y tŷ i fyny. Dywed Dafydd Thomas am y blynyddoedd oddeutu 1830 nad oedd. ond ychydig o bennau teuluoedd o 40 i 50 oed yn medru darllen; ond bod lliaws o rai hŷn na hwy yn ddarllenwyr da. Y rheswm am hynny ydoedd manteision rhagorach y dosbarth olaf. Bu un o ysgolfeistriaid Griffith Jones Llanddowror am dymor ym Metws Garmon. Bu taid Dafydd Thomas yno gydag ef am dros flwyddyn. Ymadawodd yr ysgolfeistr oddiyno i Landwrog, fel y tybir. Bu'r ysgol drachefn ym Metws Garmon. Clywodd Dafydd Thomas John Pritchard, taid Eos Bradwen, yn dweyd iddo ef fod yno, a bod yn gydysgolheigion âg ef, John a Humphrey a Dafydd (sef Dafydd Ddu Eryri), meibion Thomas Gruffydd y pregethwr; Evan a John, meibion Thomas Evans y pregethwr; Griffith Williams (Gutyn Peris); John ac Edmwnd, meibion John Francis, a symudodd yn fuan wedyn i Amlwch. Edmwnd, wedi hynny yn fasnachwr yng Nghaernarvon, ac yn bregethwr gyda'r Bedyddwyr. Ni chafwyd ysgol am flynyddau ar ol hyn. Bu Dafydd Ddu ei hunan yn cadw ysgol yn y Betws a mannau eraill nid nepell o'r Waenfawr. Nid gwiw ydoedd iddo ef na'i ddilynwyr aros mwy na dwy flynedd. yn yr un man, am yr ystyrrid dwy flynedd yn llawn digon o ysgol i unrhyw fachgen heb amcan pellach mewn golwg ganddo na gweithio â'i ddwylaw.

Gwr ieuanc o Gaernarvon, o'r enw William Owen, a ddaeth i gadw ysgol yng nghapel y Methodistiaid yn 1827. "Dyn musgrell, gwael ei iechyd, a chrwth mawr ar ei gefn. Oherwydd mynych wendid, a'r ysgol yn edwino, ymadawodd ymhen y flwyddyn." Yn 1829 daeth Thomas Edwards, gwr ieuanc o'r Deheudir, i gadw ysgol yng nghapel yr Anibynwyr. Cyn pen y flwyddyn derbyniodd alwad fel gweinidog i Ebenezer, Llanddeiniolen. Yn 1831 daeth Thomas Griffith yma, gwr a fu am rai blynyddoedd yn gynorthwywr i Evan Richardson yng Nghaernarvon. Ysgolfeistr da. Symudodd i'r Felinheli cyn pen dwy flynedd. Am ysbaid byrr y bu Henry Vaughan yn y Waen yn ystod bachgendod Dafydd Thomas. Teiliwr wrth ei alwedigaeth. Ei goes chwith wedi ei thorri ymaith ychydig yn uwch na phen ei lin, a cherddai gyda baglen a ffon. Bu'n cadw ysgol ganu yma ar y nosweithiau am ryw chwarter blwyddyn yn ystod y gaeaf. Cof gan Dafydd Thomas am dano yn sefyll ar ganol llawr y capel, yr ysgolheigion yn sefyll o'i flaen, y faglen dan ei gesail chwith, a'r ffon yn ei law ddehau yn cadw'r amser. Eithr nid y ffon yn unig a gadwai'r amser. Eithr y lin bwt hefyd, canys fel y byddai'r ffon yn codi a gostwng byddai'r lin bwt hefyd yn ysgwyd ol a blaen, a symudiad y naill a gydatebai i symudiad y llall, er mawr gymorth i Dafydd Thomas a'i gydysgolheigion i sylwi ar y pwnc. Y mae Dafydd Thomas yn meddwl y gall sicrhau nad oedd dim ysgol ddyddiol yn y flwyddyn 1834 yn mhlwyfi mawrion Llanrug, Llanberis, Betws Garmon a Llanwnda, sef y plwyfi sy'n cylchynnu'r Waenfawr.

Ni bu yma ysgol sefydlog hyd 1837, pryd yr adeiladwyd yr ysgoldy genedlaethol lled eang. Bu yno rai athrawon da, megys David Roberts, wedi hynny rheithor Mostyn, ac Elis Wyn o Wyrfai. Croesawid yr ysgol yn awchus yn yr ardal, a chyfrannodd yr ardalwyr yn gyffredinol tuag ati. Danghoswyd caredigrwydd gan awdurdodau yr ysgol tuag at y capel, yn gymaint ag y cynhelid ysgol Sul y Methodistiaid yn yr ysgoldy yn ystod haf 1837, pryd yr adeiledid y capel newydd. Er hynny, fe aethpwyd i deimlo yn fuan fod dylanwad eglwysig cryf yn cael ei arfer drwy gyfrwng yr ysgol, yn anisgwyliadwy iawn i bobl y capel. Cynhelid gwasan- aeth eglwysig yn yr ysgol ar y Suliau, a byddai raid i'r plant a elai yno roi eu presenoldeb yn y gwasanaeth dan berygl cosp y Llun dilynol. Dysgid catecism yr eglwys y peth cyntaf bob bore. Y mae Pierce Williams yn edrych ar yr ysgol fel ymosodiad pendant ar ymneilltuaeth, a dywed ef y byddai ffafrau amlwg yn cael eu dangos i blant yn cydffurfio â'r gofynion o natur eglwysig, tra y cospid y lleill mewn dull diystyrllyd. Dechreuwyd cynhyrfu am ysgol arall, a chedwid cyfarfodydd i'r amcan yn yr ardal. Cafwyd John Phillips a John Owen Gwindy yma i ddadleu'r achos mewn amrywiol gyfarfodydd. Eithr yr oedd plaid yn y capel yn erbyn i arian yr achos fyned tuag at gynnal ysgol ddyddiol. Yn y cyfwng yma y mae'r eglwyswyr yn llareiddio'r gosp am esgeulustra gyda phethau eglwysig, ac yn rhoi allan mai ysgol ddi-Dduw fyddai'r ysgol newydd, a thrwy'r moddion yma yn cyfnerthu'r blaid geidwadol yn y capel. Byddai John Jones Talsarn yn dod yma i roi pregeth ar y nos Fercher ryw unwaith yn y flwyddyn, a chafwyd ganddo ef ar yr achlysur hwnnw, drwy ddylanwad Owen Jones y crydd ac eraill o'r blaid ddiwygiadol, siarad o blaid ysgol newydd. Gwnaeth yntau "ymosodiad ofnadwy," ebe Dafydd Thomas, ar gatecism yr eglwys, ac, wedi'r tarannu hwnnw, llwyddwyd i gychwyn ysgol yn y capel yn 1849. Gwr o'r enw Joseph Griffith, ysgolfeistr rhagorol, yn ei chychwyn. Ar ei ol ef, David Williams o Bethesda. "Llwyddiant perffaith,' Llwyddiant perffaith," yn ol Dafydd Thomas. Eithr ni cheid cymorth y llywodraeth i ysgol a gynhelid yn y capel. Cynhyrfu am ysgoldy, a llwyddo. Codwyd yr ysgoldy yn 1852 ar dir yn perthyn i'r capel. Chwarelwyr yn codi'r cerryg, a'r tyddynwyr yn eu cario, yn rhad. Gweddill y draul yn cael ei gyfrif fel dyled ar y capel. Ond er cael cymorth y llywodraeth, rhaid ydoedd am gymorth y capel hefyd. Cynhaliwyd yr ysgol ymlaen hyd etholiad y Bwrdd Ysgol yn 1871. Cydnebydd Dafydd Thomas lwyddiant yr holl ymdrech, er heb ddwyn sel neilltuol drosto. Y mae Pierce Williams yn dwyn mawr sel dros yr ymdrech, ac yn rhoi mawrglod i'r "blaid ddiwygiadol" yn yr eglwys a'i dygodd i ben.

Gwelwyd mai yn 1837, yn yr ysgoldy, y dechreuodd yr Eglwys Wladol gynnal moddion yn y pentref. Yr oedd yr eglwys ym Metws Garmon, oddeutu milltir o ffordd i gyfeiriad Beddgelert. Nid oedd poblogaeth y plwyf hwnnw ond 94 yn ol deiliadeb 1861. Dechreuodd yr Anibynwyr bregethu yma yn 1813. Adeiladwyd eu capel yn 1829, ym mhen blynyddoedd ar ol sefydlu'r eglwys. (Hanes Eglwysi Anibynnol, III. 265).

Y mae Pierce Williams yn rhoi pwys ar yr hyn a ddengys hanes yr ardal ei fod yn wir, sef mai dynion amlwg gyda chrefydd oedd yr arweinwyr yma gydag addysg a phethau gwladwriaethol. Eglura ef, hefyd, mai mantais i'r achos oedd mantoliad pleidiau yn yr eglwys, megys yn y wladwriaeth, sef y blaid geidwadol, a fynnai gario allan gynlluniau y Cyfarfod Misol, ac a gynrychiolid gan y blaenoriaid, a'r blaid ddiwygiadol, a fynnai gymell pethau i ystyriaeth heb fod eto yn rhan o gynlluniau y Cyfarfod Misol, a geilw ef y blaid hon yn blaid yr aelodau cyffredin. Y ddwy blaid yn fwy neu lai amlwg yng ngweithrediadau eglwys y Waen hyd oddeutu 1875. Go nodweddiadol o chwarelwyr Arfon o hyd yw y pleidiau hyn. Achos o gŵyn gan Pierce Williams ydyw ddarfod i rai go led amlwg gyda'r blaid ddiwygiadol cyn eu dyrchafu i'r flaenoriaeth, droi yn weddol geidwadol ar ol y dyrchafiad hwnnw. Hawdd fyddai gwneud yr ensyniad fod rhywbeth yn hyn, hefyd, yn nodweddiadol o chwarelwyr Arfon. Onid rhywbeth nodweddiadol o'r natur ddynol ei hun ydyw? Oni welir y cyffelyb yn y wladwriaeth hefyd? Oni welwyd pencampwyr dadleuaeth wleidyddol yn cael eu mawr lareiddio a'u dofi wedi y dyrchafer hwy o Dŷ'r Cyffredin i Dŷ'r Arglwyddi?

Dengys y daflen yma berthynas eglwysi'r cylch âg eglwys y Waen, ac amser eu sefydlu. Waenfawr

Ymganghennodd eglwysi'r dref a'r cylch o Foriah. Rhoir taflen eto yn hanes eglwysi'r dref a'r cylch i ddangos hynny. Ni ddanghosir eglwysi Ceunant a Thanycoed yma, gan mai canghennau o Lanrug ydynt hwy; ond dodir eu hanes yma am eu bod yn perthyn i eglwysi Dosbarth Caernarvon. Rhif eglwys y Waen yn 1823 oedd 65, ond fod Moriah wedi ymganghennu ohoni cyn hynny. Yr oedd rhif y tair eglwys, sef y Waen, Salem, a Chroesywaen, yn 765 yn 1900. Y mae'r gymdeithas fechan a sefydlwyd gan Howel Harris neu rywun drosto yn Hafod y rhug, wedi ymestyn yn eglwys y Waen a'r eglwysi a ymganghennodd ohoni yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol yn 3214 o aelodau, yn ol Ystadegau 1900. Ond gan fod camgymeriad yng nghofnod Moriah am y flwyddyn honno, cymerer cofnod 1901 am Moriah, yr hyn sy'n 116 yn llai, a gwnel hynny y cyfanswm yn 3098. Rhif yr eglwys ynghyd â'r eglwysi a ymganghennodd yn uniongyrchol ohoni erbyn 1900 ydoedd 1360 (gan gywiro cofnod Moriah).

Y WAENFAWR.[2]

Sylwa Morgan Jones yn y Drysorfa am 1848, mai "tua chan mlynedd yn ol y byddai Mr. Howel Harris yn myned drwy'r wiad hon, a'r man y byddai'n pregethu ynddo oedd Hafod y rhug, a dyma'r lle y ceir hanes fod pregethu ynddo gyntaf yn y gymdogaeth hon." Yn 1741 y daeth Howel Harris i'r sir am y tro cyntaf. Y mae hanes yr ymweliad hwnnw, hyd y mae ar gael mewn argraff, yn myned i ddangos ddarfod iddo gyfyngu ei hunan y pryd hwnnw i'r pen arall i'r sir. Daeth i'r sir drachefn oddeutu'r flwyddyn a nodir gan Morgan Jones, a'r pryd hwnnw aeth drwy'r Waenfawr ar ei ffordd i Fon. Gwnawd cais at olygydd papurau Howel Harris, y Parch. D. E. Jenkins Dinbych, am oleu ar ymweliad Howel Harris a'r ardal, a dyma fel yr ysgrifenna: "Nis gallaf ddod o byd i ddim ynghylch y Waenfawr hyd 1749, pan, dan y dyddiad, Dydd Gwener, Mehefin 15, y croesodd Harris drosodd o Lanberis, by way [of] Glyndowr's Tower by Rocks Mountains &c amazing!! O wt. am I to be sent this way to publish ye Name of Jesus—many heard now as did not before. I went to ye Top of ye Tower & prayd wth. 2 Brethren wth. me on ye Top of it & came to Weinvawr where I discoursd att 9 on Look unto me all ye ends of ye Earth & I was led so as I was not att all This some time before to shew ye Life of faith and to search ye Legal spirit & had authority to cut & lash selfrighteousness &c.' Ac yna dan 'Wein vawr Caernarvonsh.: Saturday 16. Last night I sat up till broad day in ye Private Society shewg. home ye Life of faith they havg. become very dead by ye weakness of Their faith & Their Legality. I home in Publick & private aftr. we have believd to stand fast in gospel Liberty,' ac felly ymlaen. Y mae'n eithaf eglur oddiwrth hyn fod naill ai Harris ei hun wedi bod yn y lle o'r blaen, neu fod rhywun arall dano ef wedi sefydlu cymdeithas neilltuol yn y lle." Ymesgusoda Mr. Jenkins am fethu ganddo ddwyn y pwnc olaf yna i eglurder, oblegid anhawsterau y llawysgrif. Fe welir fod yma gymdeithas eglwysig cyn Mehefin 15, 1749. "Tua chan mlynedd yn ol," ebe Morgan Jones, gan ysgrifennu yn 1848, y byddai Howel Harris yn ymweled â'r lle. Os cymerir 1748 fel amseriad sefydlu'r eglwys yma, fe ymddengys hynny fel yn o debyg i gywir. Dichon y sefydlwyd cymdeithas eglwysig yr un pryd yn Llanberis, ac mai dyma'r ddwy gyntaf yn Arfon, os nad oedd yna un yng Nghlynnog.

Fe ymddengys oddiwrth Fethodistiaeth Cymru fod gwahaniaeth barn yn yr ardal ynghylch y man y bu pregethu gyntaf yno gyda'r Methodistiaid, gan y dywedai rhai hen bobl mai Bryngoleu ydoedd y fan, lle ag oedd, hwnnw hefyd, ar dir Hafod y rhug. Y mae'r gwahanol adroddiadau yn cytuno mewn dweyd mai yn Hafod y rhug y bu Howel Harris, ond yn unig y dywedid gan rai y bu pregethu yn y Bryngoleu cyn hynny, sef gan y Methodistiaid.

Evan Dafydd ydoedd gwr Hafod y rhug, ac yr ydoedd efe yn gynghorwr. Nid oes hysbysrwydd am y pryd y daeth efe ei hun at grefydd. Fe adroddir, pa fodd bynnag, ym Methodistiaeth Cymru, am dano yn gwrando ar bregeth yn y Bryngoleu, sef y gyntaf, debygir, a draddodwyd yno, os nad yr unig un. Wedi cyrraedd ohono adref, bu ymddiddan rhyngddo ef a'r wraig ynghylch yr oedfa, ymddiddan a'i dengys hi yn wraig eithaf ffraeth a thafodlym. Yr oedd efe wedi ei gwahodd hi gydag ef i'r oedfa, ond ymesgusodai hithau gan ddweyd fod arni eisieu rhoi bwyd i'r moch. Fe ddywedir ddarfod iddo ddychwelyd cyn diwedd y bregeth, pa beth bynnag a argoelai hynny, prun ai ofn y wraig ynte rhywbeth arall. "Pa beth oedd gan y pregethwr i'w ddweyd?" gofynnai hithau. "'Roedd y Beibl ganddo o'i flaen," ebe yntau. "Wel ïe," ebe hithau, "ond beth oedd o'n i ddeud?" "Yr oedd o'n edrych arna'i o hyd, ac yn dweyd mai disgyblion y diafol oeddym, a bod i nod o arnom ni." Ebe hithau yn ol, "Pam na fuasit ti yn aros yno hyd y diwedd, fel y gallsit ofyn iddo, ai bugail y diafol oedd o, gan i fod o mor gyfarwydd â'i nod o?" Dichon fod Evan Dafydd wedi ei argyhoeddi cyn ymweliad Howel Harris. Efe a fu farw Ebrill 24, 1750, yn 45 oed. Enwir ef gan Robert Jones Rhoslan fel un o'r pedwar cynghorwr a fu yn sir Gaernarvon na chlywodd efe mohonynt. Pregethwr syml, cyfeiriol, yn ol y syniad am dano. Yn ei gartref ef yn Hafod y rhug y bu'r pregethu o adeg ymweliad Howel Harris â'r lle, a'r traddodiad ydoedd, fel y deallai Morgan Jones ef, ddarfod i Harris bregethu yno fwy nag unwaith. Dywedid, hefyd, mai nid ychydig a ddioddefodd Evan Dafydd oddiwrth ei wraig oblegid cynnal pregethu yn y tŷ. Ond gan mai yno y cynhelid hynny o bregethu a geid yn yr ardal, tebyg wedi'r cwbl mai gwaeth ei chyfarthiad na'i brathiad.

Wedi marw Evan Dafydd, cynhelid pregethu yn Nhŷ ucha'r ffordd, lle mwy canolog, ac heb fod nepell oddiwrth y capel a adeiladwyd wedi hynny. Dywed Dafydd Thomas na chlywodd efe fod neb yn trigiannu yn Nhŷ ucha'r ffordd yr holl amser y bu'r Methodistiaid yn cynnal gwasanaeth yno, sef ystod 1750-84. Tua'r un amser, neu ychydig cynt, ebe Mr. Francis Jones, y symudodd Thomas Griffith yma, efallai mai ar ei briodas â merch Cae'r ysgubor, tyddyn gerllaw. Daeth yma o Bandŷ Glynllifon, gwehydd wrth ei alwedigaeth, ac yn adnabyddus fel gwr ieuanc crefyddol. Efe a ddaeth ar unwaith yn nawdd i'r achos bychan. Elai oddiamgylch hefyd fel cynghorwr ar brydiau, er na wyddys pa bryd y dechreuodd ar hynny o waith. Yr oedd gan Robert Jones feddwl uchel ohono. "Thomas Griffith (tad y godidog fardd, Dafydd Thomas) oedd wr o gyneddfau cryfion, craff ei olwg ar y wir athrawiaeth." Er mwyn dofi cynddaredd yr erlidwyr elai yn fwy neu lai cyson i wasanaeth y llan, fel y rhoir ar ddeall yn y Methodistiaeth. Eithr nid ydoedd hynny chwaith ond arfer y Methodistiaid cyntefig am yn hir o amser wedi hynny. Byddai rhai o'i ddyledwyr yn cynnyg tâl iddo wrth ddyfod allan o'r llan, gan wybod am ei ddull manwl, ac os gwrthodai ei dderbyn, gelwid am dystion o hynny, er mwyn peidio â thalu rhagllaw. Awgrymir, braidd, yn y dywediad ddarfod iddo lacio yn ei fanylrwydd yn wyneb y brofedigaeth honno. Fel y nesae Richard Tibbot at y Waenfawr, pan ar ei hynt drwy'r wlad gyda phregethu, fe ddechreuai ganu, ac wrth ei glywed, yn llawenydd ei galon, fe daflai Thomas Griffith o'r neilltu offerynau ei gelfyddyd, gyda'r geiriau, "Dyma Tibbot, yr wy'n tybied." Edrydd Mr. Francis Jones "fyfyrdod "Sion Lleyn ar ei gladdedigaeth:

Ni bu ddoeth neb yn ei ddydd
Graffach na Thomas Gruffydd;
Ei ofal oedd ddyfal ddwys,
Mawr wiwglwm, am yr eglwys.

Y mae gan Dafydd Thomas fymryn o stori am Richard Tibbot. Yr oedd taid Dafydd Thomas yn llencyn yn helpio'r seiri pan wneid pont y Cyrnant dros y Wyrfai. Rhyd a sarnau oedd yn y lle yn flaenorol. Yr oeddid wedi tynnu y sarnau a chymeryd y cerryg i wneud pont, a dodwyd planc am y pryd dros yr afon. Tibbot yn nesu, ac, fel arfer, dan ganu. Dywedwyd gan rai o'r gweithwyr am droi y planc hwnnw pan fyddai'r hen bregethwr yn myned drosto, a rhoi dowcfa iddo. Pan gyrhaeddodd yntau i'r lle, gan ameu rhywbeth yn ei galon, mae'n debyg, rhoes swllt i'r dynion i'w rhannu rhyngddynt, gan ychwanegu fod yn ddrwg ganddo na feddai chwaneg i'w roi iddynt. A dywedai wrthynt ei fod i bregethu yn Nhŷ ucha'r ffordd y noswaith honno, a gwahoddai hwy yno. Addawsant ddod, a rhowd awgrym i'r ddau lanc i beidio ymyrraeth â'r planc. Aeth pawb ohonynt yno, a dyna'r pryd yr argyhoeddwyd Robert Dafydd Luke, y soniwyd am dano yn yr Arweiniad ynglyn âg adeiladu tai ar y cytir. Ymhob ffair agos cyn hynny herid ef i ymladd gan ryw fwli neu gilydd, a hynny oblegid ei faint a'i nerth, heb fod ei hunan o duedd ymladdgar. Rhoes un gurfa ar ol ei argyhoeddiad i gewryn na fynnai adael llonydd iddo ar y ffordd, ac yna fe gafas lonydd weddill ei ddyddiau.

Fel y dywedwyd, yr oedd Thomas Griffith yn dad i Ddafydd Ddu Eryri. Gadawodd y mab y Corff am Eglwys Loegr. Mab arall ydoedd John Thomas, y pregethwr o Lanberis; a mab arall eto ydoedd Humphrey Griffith (neu Thomas), un o lenorion Greal Llundain. A dichon nad y leiaf yn y teulu ydoedd Mary Thomas y ferch, a fu'n cadw'r tŷ capel cyhyd. Teulu nid anhynod. Bu Thomas Griffith, y tad, farw Gorffennaf 5, 1781, yn 64 oed. Dywed Morgan Jones y bu peth llwyddiant ar grefydd yn amser Thomas Griffith. Heblaw cynghori yma ac acw ar achlysur, Thomas Griffith a'i fab John a gasglodd ynghyd yr ychydig ddisgyblion oedd ar wasgar yn ardal Llanberis, gan eu ffurfio yn eglwys yn Llwyncelyn. Ac os oedd peth llwyddiant, yr oedd peth erledigaeth hefyd. Ffoid rhag y gelynion rai prydiau i ochr y Cefn du, a chynhelid yr addoliad yng Nghrug y brain.

Nid llai hynod na theulu Thomas Griffith, os nad, yn wir, yn llawn hynotach, a hynotach yn eu perthynas uniongyrchol â chrefydd, ydoedd teulu Thomas Evans. Nid oedd Thomas Griffith ond Thomas Griffith y cynghorwr, tra'r oedd Thomas Evans yn Thomas Evans y pregethwr, sef a arwyddoceid wrth hynny, gwr o ddoniau nawsaidd a phoblogaidd. Daeth Thomas Evans yma o Dai'r ffynnon ym Mangor, ar ei briodas feallai, neu cynt, â merch Evan Dafydd. Bu'n trigiannu yng Ngwredog uchaf, ac wedi hynny yn Hafod oleu. Yr ydoedd yma yn gyd-lafurwr â Thomas Griffith. Pan ddywedir ym Methodistiaeth Cymru mai ar ol colli Thomas Griffith y daeth Thomas Evans yn swcwr i'r achos, rhaid deall hynny yn gytunol âg adroddiadau eraill diweddarach, fel yn golygu mai dyna'r pryd y cymerodd efe'r arweiniad yn lle Thomas Griffith. Y mae pob lle i gredu'r eglurhad yna. Bu ef farw Medi 4, 1788, yn 48 oed, ymhen saith mlynedd ar ol Thomas Griffith; ac er ei fod yn bregethwr poblogaidd, nid yw ei enw fyth yn cael ei gysylltu âg un lle arall heblaw y Waen. Gellir nodi mai 48 yw yr oedran a briodolir iddo gan Griffith Solomon (Drysorfa, 1837, t. 119), a chan Dafydd Ddu ynglyn â'i Farwnad iddo, a chan Fethodistiaeth Cymru ar eu hol hwy; ond 46 roir yn Y Gymdeithasfa, t. 471. Yr ydoedd ei fab Evan yn wyth oed pan fu farw Thomas Griffith, a thebyg fod John yn hŷn; ac eithaf tebyg ydyw, fel y sylwyd, fod Thomas Evans yma o leiaf er adeg ei briodas. Yr ydoedd tad Dafydd Thomas yn cofio Thomas Evans yn dda. Soniai am dano fel cynllun o ddyn i'w efelychu. Ar ol dychwelyd ohono o daith yn y Deheudir unwaith, bu ymddiddan rhyngddo â John Jones, Cefn y waen, cydchwarelwr âg ef. Yn ateb i ymholiad hwnnw, fe ddywedodd mai 29s. 6ch. a dderbyniodd fel tâl am ei bregethu yn ystod ei daith o chwech wythnos. Ynglŷn â thaith a fwriadai gymeryd i'r Deheudir, fe adroddir ym Methodistiaeth Cymru ymddiddan rhyngddo â hen chwaer yn yr eglwys. Dywed Dafydd Thomas mai Malan Thomas, yr hen ferch a gadwai'r tŷ capel wedi hynny, ydoedd honno, sef merch Thomas Griffith. Petrusai Thomas Evans fyned ar y daith, am nad oedd neb arall i gymeryd gofal yr achos. Ar ei waith yn mynegi ei betruster yn y seiat, ebe Malan Thomas, "Ewch, ewch, Thomas bach, a rhowch lyfr i mi, a mi osoda'i i lawr bob peth heb fod yn iawn; a chewch 'ithau ei weld wedi dychwelyd yn ol." Wedi dychwelyd ohono yn ol o'r Deheudir, fe roes Thomas Evans hanes ei daith yn y seiat, ac yna wedi gorffen fe ofynnodd am y llyfr. "Dyma fo," ebe'r hen chwaer, "fu yma ddim o'i le-mae o'n wyn i gyd !" "Wel, yn wir," ebe Thomas Evans, "ni welais i yr un eglwys ar y ddaear o'r blaen, ac ni chlywais i ddim am yr un chwaith, wedi bod am chwech wythnos o amser heb bechu! Yn hyn yr ydych wedi tra rhagori arnaf fi!" John Pierce, Robert Jones Rhoslan a Thomas Evans, yn ol Robert Evans (Trefriw) oedd y tri blaenaf yng Nghyfarfodydd Misol y sir gynt, a dywed ef fod rhai pethau yn Thomas Evans yn rhagori ar y lleill. Disgrifir ef ganddo fel "gwr o ddoniau a chymhwysterau tra helaeth, a phregethwr hynod o bwysig a chynwysfawr." Dywed hefyd ei fod mewn achosion dyrys yn fwy didderbyn wyneb na neb yn y sir, tra ar yr un pryd yr ydoedd yn wr hynaws ac addfwyn. "Ac er, yng nghyflawniad ei ddyledswydd, y byddai yn hynod o benderfynol a diblygu, byddai yn haws peidio â thramgwyddo wrtho ef na llawer." Clywodd Robert Evans ef yn dweyd nad oedd neb yn nhref Caernarvon ar un pryd a roddai gwpanaid o ddwfr oer iddo fel pregethwr. O dan ei weinidogaeth ef yr argyhoeddwyd Robert Evans ei hun. (Drysorfa, 1837, t. 154). Dyma dystiolaeth Robert Jones ei hunan am dano: "Thomas Evans o'r Waenfawr oedd o dymer addfwyn a chyfeillgar, gonest a diddichell. Yr oedd ei ddoniau i bregethu yn eglur a dealladwy, ac yn addas iawn i lawer o wrandawyr anwybodus y dyddiau hynny, a fyddai yn arferol o'i wrandaw. Yr oedd ei gynnydd mewn doniau a defnyddioldeb yn amlwg fel yr oedd yn addfedu i ogoniant. Gadawodd dystiolaeth eglur ar ei ol yn niwedd ei ddyddiau, ei bod yn dawel rhyngddo a Duw mewn Cyfryngwr."

Diweddai ei einioes mewn diddanwch,
Gan dywallt dagrau diolchgarwch;
Dyma air oedd hyfryd ganddo,
Sef, "Na ddarfu i Dduw'n apwyntio
I ddigofaint (chwerw alaeth),
Ond i gaffael iachawdwriaeth;
Ynghanol glyn, angeu syn,
Y gelyn ddarfu gilio,
Fe ddwedai, "Dyma'r gair sy'n gwawrio,
Megys seren i'm cysuro!"
Dyna un o'i anadliadau,
A'i lafurus olaf eiriau.—(Dafydd Ddu Eryri.)

Eithr yr oedd dau fab Thomas Evans yn hynotach gwŷr nag yntau. Y mae cymeriad yr arwr yn dod i'r golwg yn John Evans, yr hynaf o'r ddau, debygir. Yn Llundain yr ydoedd pan y clywodd am lwyth o Indiaid Cymreig, sef hiliogaeth Madoc ap Owen Gwynedd a'i ddilynwyr, darganfyddwyr cyntefig yr America. Stori ramantus ydyw, ond rhaid ei chwtogi yma. Taniwyd John Evans gan awydd am olrhain y llwyth yma, a'u trosi i ffydd Crist. Y mae awdwr hanes diweddar Charles o'r Bala wedi darganfod dolen newydd yng nghadwen y stori. Yr oedd Charles yn Llundain yn niwedd haf 1792, sef yr adeg y cychwynnodd John Evans i'r Gorllewin, ac a'i gwelodd cyn cychwyn, gan ymddiried neges iddo at wr yn Baltimore, sef y Parch. Lewis Richards. Mae llythyr Richards at Charles ar gael yn cyfeirio at ymweliad John Evans âg ef, ac at ei benderfyniad, er pob cais i'w atal, i fyned ar ei ymchwil arwrol. Ar ol rhai helyntion, a dilyn cwrs y Missouri am 1600 o filltiroedd, cymerwyd ef yn glaf o'r dwymyn boeth, a bu farw yn 1797. (Thomas Charles II. 128. Geninen Gwyl Dewi, 1907, t. 46).

Pregethwr anghyffredin, fel yr ymddengys, ydoedd y brawd arall, Evan Evans. Bu yntau farw Chwefror 27, 1797, sef yr un flwyddyn a'i frawd, yn 24 oed. Gallesid tybio oddiwrth ryw bethau yn ei hanes fod eofndra dychmygol yn nodwedd arno yntau, fel ei frawd. Sonir am dano yn pregethu yn yr awyr agored yn Aber-fach-awyr, pryd y disgynnodd gwlaw trwm ar y bobl ar ganol y bregeth. Torrodd yntau allan mewn gweddi, "O Arglwydd, creawdwr a llywodraethwr pob peth, dyro seibiant am ychydig amser i gynghori hyn o bobl sydd â'u hwynebau ar y byd tragwyddol." Yn y fan ataliwyd y gwlaw. Fel hyn y dywed Owen Thomas am dano: "Evan Evans o'r Waenfawr—yr hwn ni chafodd fyw ond rhyw dair blynedd wedi iddo ddechre pregethu, eithr a wnaeth, yn yr amser byrr hwnnw, y fath argraff ar Gymru, fel mai syniad y rhai callaf o'r hen bobl ydoedd, fod y fath gyflawnder o ragoriaethau gweinidogaethol ynddo, ag a fuasent yn ei godi, pe cawsai fyw a'i gynnal, i'r dosbarth uchaf o ran poblogrwydd a dylanwad ymhlith pregethwyr ein gwlad." (Cofiant J. Jones, t. 941). Ebe Robert Jones: "Evan Evans a addurnwyd â doniau ystwyth, goleu a serchiadol... Torwyd ef i lawr pan oedd y llewyrch yn fwyaf disglair." Ebe Griffith Solomon: "Evan Evans oedd fel rhyw rosyn yng ngardd yr Arglwydd. Yr oedd y dyn ieuanc hwn wedi derbyn doniau darn debyg i Elihu gynt, goeliaf fi" (Drysorfa, 1837, t. 119). Yn Llanidloes yr ydoedd y flwyddyn olaf o'i oes yn ceisio adferiad iechyd. Edrydd Mr. Francis Jones o gofiant John Mills am Edward Mills y tad yn nodi allan Evan Evans fel un o'r pregethwyr mwyaf grymus ac effeithiol a glywsai erioed. Pan bregethai ar noswaith yn y dref, rhedai Edward Mills y ddwy filltir o'r fferm i'r capel, er mwyn bod yn bresennol pan roid yr emyn cyntaf allan, oblegid yr oedd y fath swyn yn y llais fel y toddai y gynulleidfa dano. Deuai rhai o ddynion anuwiolaf y dref i'w wrando. Yr oedd anhwyldeb ar ei droed, ac yn niwedd y gwasanaeth byddai ei esgid yn llawn gwaed. gan y doluriau oedd arno, er y byddai ef yn ystod y bregeth mewn cwbl angof o unrhyw anesmwythyd.

Fe gyfeiriwyd at erlidiau. Erlidiwr go ffyrnig oedd William Williams Llwynbedw, tyddyn gerllaw Tŷ-ucha'r-ffordd. Erlidiai ef o fewn ei dŷ, gan fod yn rhwystr i'w wraig ddilyn y gwasanaeth, cystal ag oddiallan. Ar y ffordd ryw ddiwrnod i farchnad Caernarvon, wrth Penycefn, aeth i ymladd âg un o'i gymdogion. Ac fel yr oeddynt yn ymladd, ac yn ymosod yn ffyrnig ar ei gilydd, wele wr dieithr yn dod heibio, yn waed ac archollion. Troes atynt, a rhoes arnynt feddwl am dri gair,—angeu, barn a thragwyddoldeb, ac ymaith âg ef. Ebe'r naill ymladdwr wrth y llall, "Pwy oedd y gwalch yna oedd yn dweyd y fath eiriau? Y mae ol ymladd arno yntau ei hun." Pregethwr wedi ei faeddu yn y Bontnewydd ydoedd y gwr, ac ar ei ffordd i Lanberis. Yn ol adroddiad arall, John Thomas Llanberis ydoedd y pregethwr, ar ei ffordd adref o Rostryfan, yn dianc oddiar erlidwyr yno. Eithr fe ddilynir adroddiad Morgan Jones o'r stori yma. Gwalch neu pa beth a'u dywedodd, fe lynodd y tri gair yng nghydwybod William Williams. Fe ddaeth o'r dref heb ei neges, yn sobr, ac nid yn feddw fel arfer. Wedi dod i'r tŷ, gofynnodd i'r wraig yn y man, onid oedd hi yn myned i'r seiat y noswaith honno? Synnu a wnaeth arni wrth yr ymholiad anarferol. Ond wele'r ddau, o fewn ennyd fechan, yn cychwyn i'r seiat gyda'i gilydd. Ac felly y parhausant i wneuthur ddyddiau eu cyd-bererindod.

Dro arall yn Nhŷ-ucha'r-ffordd, ar ganol pregeth, wele wr i mewn, gan orchymyn y pregethwr yn hŷf i dewi. Elai yntau ymlaen gyda'i bregeth heb gymeryd arno ddim. Ymgynddeiriogai yr aflonyddwr wrth ddull hamddenol y pregethwr, ac elai yn hyfach hyfach. Gorfu i'r pregethwr, ni wyddys mo'i enw, ddod i lawr oddiar yr hen goffr y safai arni. Aeth at yr aflonyddwr, cydiodd afael arno, a dododd ef ar y llawr, ac a'i gwasgodd yn dynn, er yn eithaf hamddenol. Wyddochi gwas i bwy ydw i?" gofynnai y gwr ar lawr. "Gwn o'r goreu," ebe'r pregethwr, "gwas y cythraul wyti, ond nid oes arna i ddim o dy ofn di na'th feistr." Ac ni ollyngodd y pregethwr mo'i afael hyd oni addawodd y gwas hwnnw, gwas i wr eglwysig fe ymddengys, na ddelai efe yno byth ond hynny i aflonyddu ar y gwasanaeth. Wedi ei ollwng, diangodd y gwas fel llechgi, ac oddiar ben yr hen goffr drachefn, aeth y pregeth— wr ymlaen yn dawel gyda'i bregeth, ac o ran ei ddull fel pe na buasai dim neilltuol yn y byd wedi digwydd.

Y mae Morgan Jones, wrth roi hanes diwygiad 1859, yn adrodd hanesyn a glywodd efe gan hen wr am yr achos yn Nhŷ-ucha'r- ffordd. Daeth pregethwr dieithr i'r ardal, ac elai Wmphra Thomas, yr hen flaenor, i'r gwasanaeth yn ddigalon iawn, am na wyddai i ble y troid am lety i'r pregethwr, nac am y degwm arferol. Cyn cyrraedd y tŷ, pa fodd bynnag, wrth oleu'r lloer, wele rhywbeth disglair i'w ganfod ar y llawr. Gyda chyffro meddwl y gwelai Wmphra Thomas dri bisin swllt, â gwawr y lloer arnynt, ar gledr ei law. "Wel, wel," ebe fe wrtho'i hun, "dyma swllt am swper, swllt am frecwast a swllt yn llaw gwas yr Arglwydd." "Tybed fod hynyna'n wirionedd?" ebe Morgan Jones wrth wrando. "Ydi," ebe'r hen wr, "gyn wired a'r pader iti. Mi glywais Wmphra Thomas i hun yn dweyd, a ddwedodd o 'rioed anwiredd."

Yn 1784, drwy ymyriad person Aber, fe orfodwyd y ddiadell fechan godi o Dŷ-ucha'r-ffordd, a chwilio am gorlan mewn man arall. Yn y cyfwng hwnnw y daeth John Evans a Thomas Charles heibio, neu, yn ol adroddiad arall, John Evans ei hun, yr hwn a hysbysodd yr helynt i Charles wedi hynny. Gyda'r cynorthwy yma y penderfynwyd prynu darn o dir i adeiladu capel arno. Yn 1785 y dywedir ddarfod gwneuthur hyn, a William Evans y gwehydd a breswyliai yn y tŷ. Amseriad y weithred ydyw 1786. Yn honno fe ddywedir y prynid y tŷ, a elwid tŷ y cipar, ynghyda'r tŷ allan a'r ardd, a elwid gardd y cipar coch. Yr arian pwrcas, £40. Prynwyd gan Humphrey Lloyd Caernarvon a Lowri ei wraig. Fe ymddengys, pa fodd bynnag, oddiwrth gofnodion Cymdeithasfa'r Bala, 1787 a 1790, fod taliad blaenorol o £5 wedi ei wneud. Yr ymddiriedolwyr: Thomas Evans Gwredog, Llanwnda, Hugh Williams Drws deugoed, Robert Jones Tirbach, Llanystumdwy [Rhoslan], Thomas Charles Bala, John Evans canwyllwr. Fe ymddengys na chyflwynwyd mo'r eiddo ar yr ymddiriedaeth a osodir allan yn y Weithred Gyfansoddiadol, ac yn 1890, fe benodwyd ymddiriedolwyr, a thynnwyd allan weithred yn gosod allan yr ymddiriedaeth.

1785, mae'n debyg, ydoedd amseriad y capel cyntaf. Yr ydoedd John Owen yn cofio'r capel hwn. Tybiai ef mai chwanegu at y tŷ oedd yno a wnawd, a'i gyfaddasu yn gapel, a throi gweithdy William Evans yn stabl. Capel bach" y gelwir ef ganddo ef. Adeilad cul 4 llath neu 5 wrth 6 llath neu 7 o fesur, sef y tu fewn yn ddiau, canys y mesur hwnnw a roid yn gyffredin gynt. Y tŷ, a'r stabl tucefn, wrth y talcen gogleddol, a phalis coed rhwng y capel a'r tŷ. Yn llofft y tŷ capel yr oedd gwely y pregethwr, ac yno y cedwid y tân, ac y paratoid bwyd y pregethwr, gan nad oedd lle priodol i wneud tân yn y llawr. Drws o'r tŷ i'r capel, a drws i'r capel ar yr ochr ddwyreiniol, nid nepell oddiwrth y talcen deheuol. Y pulpud ar yr ochr ddwyreiniol, gyda ffenestr yn ei ymyl ar yr ochr ogleddol iddo. Dwy ffenestr ar yr ochr orllewinol i'r capel. Meinciau ar lawr y capel, a dau blanc yn y pen deheuol yn cael eu cynnal gan gerryg. Dywed John Owen fod traul yr adeiladau ynghyda'r tir yn £150.

Yn y flwyddyn 1791, ebe Morgan Jones, y sefydlwyd yr ysgol Sul gan John Pritchard ac Evan Evans y pregethwr. Nodid y flwyddyn hon yn y lleoedd eu hunain fel blwyddyn cychwyniad yr ysgol yn Llanllyfni a Brynrodyn. Fe eglurwyd yn hanes y Capel Uchaf fod John Owen yr Henbant, cychwynnydd yr ysgol yno, yn nodi 1794 fel yr adeg y cychwynnwyd, a'i fod ef yn haeru yn bendant mai dyna'r ysgol Sul gyntaf yn Arfon. Edryched y cywrain i'r hanes ynglyn â'r Capel Uchaf a Llanllyfni. Yn Nhy-ucha'r-ffordd y cedwid yr ysgol, gan fod ysbryd erlid wedi chwythu drosodd bellach. Cynhelid yr ysgol at ddechreunos yn y gaeaf. Eid i'r goedwig i dorri pren fforchog, ebe Morgan Jones, a dodid ef ar lawr y tŷ, ar ol torri twll yn ei ben uchaf i ddal y ganwyll, ac o amgylch y pren fforchog yr eid uwchben y wers. Y mae Morgan Jones yn rhyfeddu y modd yr aeth y pren fforchog yn bren mawr erbyn yr amser yr ysgrifennai ef, gan ymganghennu ym Mhenrallt [Moriah], Salem, Rhyd-ddu a Drws y coed. Ychwanegir gan Mr. Francis Jones mai David Jones Penycae, wedi hynny yn flaenor ymroddgar, ac a fu farw tuag 1817, oddeutu 30 oed, oedd y cyntaf i ddechreu'r ysgol drwy ddarllen ynghyd a gweddi. Gweddi yn unig a arferid cyn hynny. Cyn bo hir iawn, fe sefydlwyd canghennau yng Ngherryg y rhyd, Tŷ newydd (Treflan) a Gwredog isaf.

Yn 1807 fe chwalwyd wyneb y capel cyntaf, ac estynnwyd y mur ymlaen, nes ei wneud yn gymaint ddwywaith ag ydoedd o'r blaen. Rhowd llofft un ar bob talcen. Codwyd mur cerryg yn lle'r palis coed oedd rhwng y capel a'r tŷ. Wyneb y capel at y dehau, a ffenestr tucefn iddo, a drws ar y wyneb yn lled agos i'r pen dwyreiniol. Drws arall ar y talcen gorllewinol, gyda ffenestr ar ganol y talcen hwnnw. Ffenestr ar y cefn yn tynnu at y pen dwyreiniol. Y tŷ ar y cefn yn y pen gorllewinol, wedi ei adael fel yr ydoedd. Meinciau ar ganol y llawr, gyda sêt wrth y mur o amgylch. Yn y gongl, ar y llaw aswy i'r pulpud, yr oedd eisteddle y dechreuwr canu, sef Dafydd Hughes Pendas. Eisteddai amryw hen bobl yn yr un sêt ag yntau. Grisiau'r pulpud yr ochr agosaf i'r drws. Mesur y capel, chwe llath neu saith wrth tua deg, yr hyd blaenorol yn lled yn awr. Tra y buwyd yn adeiladu fe ddygid y moddion ymlaen yn y Tŷmawr gerllaw.

Yn adeg adeiladu'r capel fe brofwyd adfywiad lled rymus, yn bennaf ymhlith y plant a'r bobl ieuainc. Y pryd hwnnw y daeth David Jones, y pregethwr o Feddgelert wedi hynny, a David Jones Penycae, y blaenor wedi hynny, at grefydd.

Y blaenoriaid cyntaf a gofid gan John Owen oedd Thomas Jones Gwredog (Tanrallt), Harri Thomas ac Wmphra Thomas Hafod Oleu. Bu Thomas Jones farw 1809-10. Ar gefn ei geffyl yn wastad y deuai i'r capel oherwydd cloffni. Heb ddawn neilltuol. Crydd oedd Harri Thomas Bryngwylan. Brodor o Feddgelert, a'r blaenor cyntaf yno. Sais da, ac yn cael y gair o fwriadu myned yn offeiriad unwaith. Yn derbyn newyddiadur Seisnig. Heb ddawn rwydd, ar y blaen mewn gwybodaeth gyffredin. Disgyblwr llym. Disgyn ar fai fel barcut ar gyw. Yn egnïol gyda'r achos. Clywodd Dafydd Thomas ddarfod iddo ddod ag ysbryd y diwygiad gydag ef o Feddgelert, a thŷb mai dyna'r pryd y daeth yma. Gallasai fod wedi cludo y marworyn gydag ef o Feddgelert; ond yr oedd yma cyn hynny, gan y cofid ef yn flaenor gan John Owen cyn codi David Jones Penycae, a bu ef farw yn 1817, y flwyddyn y teimlwyd cyffro cyntaf y diwygiad. Bu farw rywbryd oddeutu 1820, ar ol symud ohono i'r tolldy yng Nghaeathro. (Ed- rycher Pentref, Beddgelert). Wmphra Thomas oedd wr lled. ddiddan. Dechreu'r canu cyn i David Hughes afael yn y gorchwyl. Gofyn ar goedd, "A oes rhywun yn medru'r dôn ar y pennill a'r pennill?" Cyrhaeddiadau bychain, ond ffyddlon a hynaws. Bu farw yn nechre 1814.

David Jones Penycae y cyfeiriwyd ato ynglyn â'r ysgol Sul ydoedd y cyntaf a alwyd yn flaenor ar ol y rhai a enwyd ddiweddaf. Ffyddlon, gweithgar, ac o ddawn gyflawn fel gweddiwr cyhoeddus. Gwr rhagorol, a aeth ymaith yn nhoriad ei ddyddiau.

Ni bu cymaint cyffro yn yr ardal hon yn adeg diwygiad mawr Beddgelert. Ni chyfrifai John Owen ddarfod profi mwy na godreu'r gafod yma. Eithr fe chwanegwyd Dafydd Rowland at yr eglwys y pryd hwnnw, a ddaeth mor hysbys ar ol hynny fel blaenor Moriah. Hefyd ei dad Rowland Morris ac eraill.

Yn ystod 1818-9 y galwyd Richard Owen Bryneithin a Morgan Owen Ty'n-cae-newydd yn flaenoriaid.

Cyfarfu Morgan Owen Ty'n-cae-newydd â'i ddiwedd drwy lithriad carreg yn chwarel Cefn du, Ebrill, 1820. Ymroddiad i'r achos ydoedd ei nodwedd ef. Ym mis Medi y 15 dilynol, mewn cyffelyb fodd a Morgan Owen, ac yn yr un chwarel, y cyfarfu John Hughes Ty'ntwll â'i ddiwedd, y ddau flaenor o fewn tua phum mis i'w gilydd. Tua mis o amser oedd er pan ddychwelasai John Hughes o daith o'r Deheudir, fel cyfaill i Daniel Jones Llanllechid, gan ddechreu'r odfeuon o'i flaen. Wrth hynny fe welir y cyfrifid John Hughes yn wr o ddoniau cyhoeddus.

Y llyfr cyfrifon eglwysig, Rhagfyr 1818-Medi, 1820, a gedwid gan John Hughes Ty'ntwll. Ychydig ddyfyniadau yma. Pregethwyr y Rhagfyr cyntaf, 1s. bob un, oddigerth David Williams, 6ch. Chwefror, 1819: Wm. Edwarts, 1s.; Humphrey Gwalchmai a'i gyfaill, 2s.; John Humphreys, 1s.; Richardson, 1s. 6ch.; Mr. Lloyd, 1s.; Morris Jones, 1s.; Daniel Jones, 1s. 6ch. Am y gweddill o'r amser ychydig ddetholiad. Lewis Moris, 1s. 6ch.; Moses Parry, 1s.; Robert David [Dafydd] 1s.; Peter Roberts, 1s.; Thomas Jones a'i gyfaill, 2s.; Michael Roberts, 1s. 6ch.; Griffith Salmon, 1s. 6ch.; John Wyne, 1s.; Evan Lewis, 2s.; Charles Mellish (?), 1s.; John Walters, 1s.; Benjamin a'i gyfaill, 2s. Taliadau cyffredinol eto: Cyfarfod Misol Llanrug, 8s. 4c.; cwrw, 2s.; i Owen Williams am rwymo'r Beibl, 6s.; i William Thomas am frâg, 10s. 6ch.; hops, 1s.; cwrw, 2s.; i William Roberts am frâg, 11s.; i William Thomas am frâg, 11s. 3c.; i Mary Thomas i brynu tumbler, 6ch. Rhyw 7s. neu 8s. yn y mis i Mary Thomas at gadw'r tŷ dros ben yr hyn a delid am lô, brâg, etc. Rhowd hynny o gwrw a brâg a nodir yn y llyfr i lawr yma.

Yn 1822, ymhen 15 mlynedd ar ol yr helaethiad ar y capel, fe'i helaethwyd drachefn, drwy dynnu ei wyneb i lawr i'r amcan o'i ledu oddeutu 3 llathen. Ei fesur bellach oddeutu 10 llath ysgwar. Dodwyd llofit yn y cefn gyferbyn a'r pulpud, yn ychwanegol at y llofftydd yn y talcennau. Gwnaed grisiau cerryg o'r tuallan ar yr ochr orllewinol i fyned i'r llofftydd, a thynnwyd ymaith y grisiau oddifewn. Cyn helaethu'r capel yr oeddid wedi adeiladu tŷ newydd ar yr ochr ddwyreiniol, o'r un lled ac uchder a'r capel cyn ei helaethu. Gadawyd yr hen dŷ i sefyll.

Dyma'r enwau oedd ar lyfr casgl Eglwys Waenfawr yn 1823: 1. Richard Owen. 2. William Evans. 3. David Rowland. 4. Owen Jones. 5. Owen Solomon. 5. Evan Davies. 6. John Pritchard. 7. Richard Griffith. 8. John Ellis. 9. John Price. 10. John Williams (1). 11. John Williams (2). 12. John Williams (3). 13. William Griffith. 14. Owen Owens. 15. Richard Jones. 16. John Owen. 17. Edward Pritchard. 18. Richard Davies. 19. William Jones. 20. John Thomas. 21. Thomas Williams. 22. John Jones. 23. Rowland Morris. 24. William Owen (1). 25. William Owen (2). 26. Griffith Pritchard. 27. Thomas Griffith. 28. Griffith Evans. 29. Ellis Price. 30. Hugh Owen. 31. William Jones (2). 32. William Dafydd. 33. Dafydd Rolant. 34. Thomas Morys. 35. Robert Jones. 36. Harri William. 37. William Jones (3). 38. Mary Thomas. 39. Anne Pritchard. 40. Anne Jones. 41. Catherine Jones. 42. Doly Jones. 43. Catherine Pritchard. 44. Margaret Pritchard. 45. Margaret Thomas. 46. Elizabeth Griffith. 47. Margaret Jones. 48. Ellen Williams. 49. Catherine Williams. 49. Elizabeth Pritchard. 50. Mary Griffith. 50. Margaret Ffowc. 51. Ellin Jones. 52. Jane Williams. 53. Ellinor Thomas. 54. Ellin Roberts. 55. Catherine Ellis. 56. Elizabeth Thomas. 57. Anne Hughes. 58. Mary Thomas. 59. Margaret Humphreys. 60. Ellinor Davies (c). 61. Ellinor Davies. 61. Anna Thomas. 62. Jane Evans. 63. Ellin Humphrey. 64. Jinie Owen. 65. Beci Jones.

Gwnawd Thomas Griffith, John Owen a William Evans Cilfechydd yn flaenoriaid yn 1828. Ymadawodd Dafydd Rowland i Gaernarvon yn 1830, wedi gwasanaethu fel blaenor ers 1823 o leiaf.

Dyddiau Malan Thomas a nesasant i farw, yr hyn a ddigwyddodd ar Ionawr 9, 1830, a hithau yn llawn 75 mlwydd oed, ac wedi bod yn geidwad y tŷ am 45 mlynedd. Nid llai effeithiol fel ceidwad y tŷ capel oedd Malan Thomas nag oedd Dafydd Ddu ei brawd fel athraw a llenor a bardd. A'r un peth yw dweyd hynny a dweyd ei bod yn ddihareb am ei rhagoriaeth yn ei swydd. Gwnelai pob pregethwr dieithr ei ffordd am dŷ capel y Waen yn ei hamser hi hyd fyth y gellid. A dyddiau y teithio gyda phregethu ydoedd y rheiny, fel y byddai Malan Thomas ar ei llawn hwde gyda'i gorchwyl. Yr oedd Dafydd Morris Twrgwyn yn lletya gyda hi ar dro, a chlywodd Malan ef yn adrodd pennill yn ei gwsg, yr hwn y tystiai efe, ar ol ei adrodd iddo yn y bore wedi codi, na chlywodd mono erioed o'r blaen. A dyma'r pennill nid anheilwng o fod wedi ei sibrwd wrtho yn ei gwsg allan o arall fyd:

Yngolwg dyn 'rwy'n aflan
O'r gwadan hyd y pen;
Yngolwg Duw 'rwy'n gyfiawn,—
Pur yw fy mantell wen:
Cyfiawnder y Messiah,
A haeddiant Adda'r Ail;
'Does ellyll yng ngwlad annwn
All gloddio dan fy sail.

Adroddwyd pennill arall wrth Dafydd Morris yn y tŷ capel hwn,—y pryd hwnnw pan ydoedd yn gwbl effro ac ar gychwyn i'w daith,—a'i ysbrydoliaeth heb fod o nodwedd uwchddaearol, sef gan Dafydd Ddu pan ydoedd yn llencyn. Nid yw'n hysbys ai ar yr un ymweliad y cafodd Dafydd Morris y naill bennill cystal a'r llall, neu, os mai felly y digwyddodd, gallasai fod wedi edrych ar yr ail bennill fel cennad i'w gernodio, fel na'i tra-dyrchefid ef ar ol y cyntaf. Ar gychwyn i'w daith, heriodd y pregethwr, yn ei ddull siriol ef, y bardd ieuanc i roi pennill iddo. Cafodd hwn, megys ar ysbrydoliaeth y foment:

Am Dafydd Morris 'rwyf fi'n syn;
Nid oes, mae hyn yn rhyfedd,—
Berffeithiach Cristion mewn un plwy
Yn cario mwy o lygredd.

Ar fyrr, ehed ei enaid ef
Yn iach i'r nef fendigaid,
A'i gorff a fydd ar waelod bedd
Ddanteithiol wledd i bryfaid.

Profwyd yn helaeth o ddylanwad diwygiad 1832, ac ymunodd lliaws â'r eglwys.

Bu Ellis Ffoulkes a Thomas Owen yma yn nechre haf 1836 yn sefydlu y Gymdeithas Gymedroldeb. Ym Medi o'r un flwyddyn cychwynnwyd y Gymdeithas Ddirwestol gyda mawr frwdaniaeth. Y Parch. Daniel Jones Moriah [? Caernarvon] yma yn ei sefydlu. Evan Dafydd y cyntaf i roi ei enw. Rhoes Evan Owen ei enw yn yr ysgol Sul i Owen Jones Brynpistyll, yn un o'r rhai cyntaf, ebe fe. Ond mis Ebrill yw'r amseriad a nodir ganddo. Os y mis Ebrill dilynol, yr oedd braidd yn ddiweddar; os y mis Ebrill blaenorol, yna i'r Gymdeithas Gymedroldeb yr ymrwymodd y pryd hwnnw. (Fy hanes fy hun, t. 55).

Dechreuwyd blino'r gwersyll ynghylch ail-adeiladu'r capel tuag 1830, ymhen wyth mlynedd ar ol ei helaethu. Y blaenoriaid yn anfoddlon i symud. Ar ol diwygiad 1832 y cwestiwn yn ailgodi. Owen Jones Brynpistyll o'r diwedd, wedi cryn ymdaeru, yn cymeryd arno'i hun ymdaro, gan fyned i'r capel a phwyso'i ffon i grac mewn congl ohono, gan ddryllio'r plastr a thynnu cerryg i lawr. Sion Prys erbyn hynny, mewn ffrwst a dychryn, yn llwyddo i ddarbwyllo y Cyfarfod Misol i roi caniatad i'r ail-adeiladu. Yn 1837 y chwalwyd y capel a'r adeiladau. Codwyd capel yn mesur 18 llath wrth 16. Y capel presennol ar sylfaen hwnnw, a'r ddau o'r un ffurf, oddigerth y wyneb. Adeiladwyd, hefyd, dŷ capel. Y capel y pryd hwnnw heb lofft arno. Meinciau ar ganol y llawr. Y seti o amgylch y muriau gyda drws ar bob un. William Prydderch a bregethodd gyntaf yn y capel, a hynny pan yr ydoedd yn anorffennol, heb seti. Yn yr agoriad ddechre Mawrth, 1838, pregethodd John Elias, John Jones Talsam, John Phillips Treffynnon, Robert Owen Nefyn. Bedyddiwyd Owen Griffith (Eryr eryri) a Richard Jones Cymnant gan Robert Owen noswaith yr agoriad. Yn yr ardd o flaen y capel y pregethid yn ystod haf 1837, a chynhelid yr ysgol Sul yn yr ysgoldy genhedlaethol. Cydaddolid gyda'r Anibynwyr wedi i'r gaeaf ddechre nesau. Yr oedd dyled yn aros oddiwrth helaethu'r capel ar droion blaenorol, a thalwyd hi i ffwrdd y pryd hwn.

Y mae Evan Owen yn rhoi ar ddeall mai isel ydoedd ar yr achos oddeutu 1839, a hynny ar ol y diwygiad grymus saith mlynedd cynt, a'r llewyrch ar ddirwest dair blynedd cynt. A dywed ef nad oedd ar y pryd ond un dyn dibriod yn eglwys y Waen, ac mai Griffith Jones Caeronwy (Ty'ntwll) oedd hwnnw (t. 58).

Y pryd hwn, yn ol Pierce Williams, yr oedd y blaid ddiwygiadol yn galw yn uchel am gyfrifon rheolaidd, er mawr gynnwrf yng ngwersyll y swyddogion. Yr oedd yr aflonyddwch hwn iddynt hwy yn argoel o ddymchweliad awdurdod. Ond y mae Pierce Williams ei hun yn deongli pob dirgelwch yngoleu cyferbyniaeth pleidiau. Yn hwyr neu hwyrach fe drefnwyd archwiliad blynyddol i'r cyfrifon.

William Evans Cilfechydd, tad Robert Evans Caernarvon, y blaenor clodfawr, a ymadawodd i Gaernarvon tuag 1840, yn flaenor yma ers tuag 1828. Byddai ef yn eistedd yn y set fawr yn Engedi, pa un a alwyd ef yno i'r swydd o flaenor ai peidio. Yn wr tal, yn gwisgo yn well na'r cyffredin, ac yn cadw cerbyd, ebe Pierce Williams. Wedi ei droi o'i dyddyn gerllaw y Felinheli oherwydd ei Fethodistiaeth. Un o arweinwyr cyfarfod dirwestol y plant. Troes Robert ei fachgen allan yn un o ddirwestwyr mwyaf aiddgar y cyfnod hwnnw. Elai William Evans a phlant y Waen gydag ef yn ei gerbyd i gynnal cyfarfodydd dirwestol yn yr ardaloedd oddiamgylch, a byddai'r cerbyd mor llawn ohonynt fel y rhyfeddid, wrth eu gweled yn dod allan, pa fodd erioed yr aethant i mewn. Rhoes y cerbyd hwn ddylanwad arbennig i William Evans ym myd y plant. Credai William Evans yn ymddanghosiad ysbrydion, ac nid elai dros bont y Cyrnant yr hwyr heb warcheidwaid, am fod y gwr drwg a'i loches yno. Cred lliaws y pryd hwnnw oedd hynny. Heb ddawn neilltuol ei hunan, ei duedd yn hytrach yn y cyhoedd oedd dirgelu ei feddwl ei hun. Arferai ddweyd, ar ol ambell gyfarfod, pryd y byddai rhai wedi siarad eu meddwl yn o agored, na byddai yn meddwl nemor ohono'i hun nes bod mewn cyfarfod o fath hwnnw, ac yna y dechreuai feddwl y rhaid fod rhywbeth ynddo yntau wrth gymharu ei hunan â'r fath wŷr.

Sion Prisiart, fe gofir, ynghydag Evan Evans y pregethwr, a sefydlodd yr ysgol Sul. Tachwedd 28, 1848, yn 84 oed, y bu efe farw, wedi bod yn aelod dros drigain mlynedd, ac yn ddirwestwr ers cychwyniad y Gymdeithas. Llafuriodd i sefydlu canghennau gyda'r ysgol Sul. Dywed Eos Beuno (Bontnewydd), mai efe a gychwynnodd yr ysgol yn y Wredog isaf, yn ymyl Glanrafon fawr, ac yn y Betws a Cherryg y rhyd wedi hynny. Elai i'r Wredog yn y bore, i'r Betws yn y pnawn am awr, a Cherryg y rhyd am awr. Dweyd ei feddwl yn ddidderbynwyneb. Yn flaenor ers pan ydoedd Dafydd Thomas yn ieuanc, a chyfrifid ef ganddo yn un o'r darllenwyr Cymraeg goreu a glywodd. Dywed Eos Beuno fod Rumsey Williams y cyfreithiwr a'r heliwr cadarn, yn cymell Sion Prisiart ar un tro i gymeryd ci bach iddo ar y Sul i fferm ger Cerryg y rhyd. Ond er yr elai Sion Prisiart y ffordd honno ar y Sul, ni fynnai gymeryd. y ci bach gydag ef. Arferai weithio fel teiliwr i Rumsey Williams, a rhoes Rumsey y dydd Llun iddo i fyned, gan na fynnai gymeryd y ci ar y Sul. Ar ei wely angeu, fe ddywedir y gwaeddai Rumsey am Sion Prisiart. Elai Mari Williams yr Allt yn eneth fach at Sion Prisiart i ddysgu adnodau. Yn ieuanc, fe'i treisgipiwyd ef fel milwr i Dover, a bu yno am rai blynyddoedd. Yno y dysgodd ddarllen Saesneg. Elai, yn ol trefniant y Cyfarfod Misol, gyda phregethwyr dieithr, o amgylch y Waen, ar eu taith drwy'r wlad. Ni arferodd erioed â gwydrau, a darllenai hebddynt wrth ddechre oedfa yng nghapel Bontnewydd yn 80 oed. Efe oedd taid y Parch. David Jones (Hyfrydle a Rhuddlan), Ioan Glan Menai, Eos Brad- wen, cystal ag Eos Beuno.

Dewis Morgan Jones ac Owen Morgan yn flaenoriaid ar yr un noswaith yn 1848.

Perthyn i blaid y diwygwyr, ebe Pierce Williams, yr oedd ei dad, William Owen Tan y marion, a fu farw Medi 12, 1851, yn 54 oed. Gweithiwr distaw. Gofalus rhag colli naws crefydd yn ei ymdrechion dros ddiwygiadau mewn pethau allanol.

Richard Owen Bryneithin oedd gynghorwr difyr a gafaelgar (Drysorfa, 1852, t. 205). Gwr dawnus. Bu am ddau fis yn y Deheudir gyda Moses Jones Dinas, yn dechreu'r moddion iddo. Un o'r blaenoriaid cyntaf a gofid gan Dafydd Thomas, a disgrifir ef ganddo fel dyn o dalent, yn ddoniol a gafaelgar mewn gweddi, yn gallu siarad yn dda ac i bwrpas ar unrhyw bwnc, ac yn holwr plant dihafal. Medrai wneud ei hunan yn blentyn gyda phlant. Holi o'r Hyfforddwr heb fod y llyfr yn ei law, ac os gwelai rhywun yn edrych i'r llyfr yn llechwraidd, gwnelai gilwg arno. Safai yn uchel ar un tymor yng Nghyfarfod Misol y sir, a bu yn un o drefnwyr cyhoeddiadau pregethwyr drwy'r sir. Sefyll yn y canol rhwng y ddwy blaid, yr hen a'r newydd, ebe Pierce Williams, ac yn wr call ac yn fab diddanwch. Mwy o allu naturiol na chyrhaeddiadau. Bu farw y dydd diweddaf o'r flwyddyn 1851, yn 61 oed.

Sel Sion Prys oedd fwy na'i wybodaeth, ebe Dafydd Thomas; ond cyfrifid ef ganddo yn wr bucheddol. Efe ydoedd y pen blaenor ar un cyfnod. Aeth dan ddrwg-dybiaeth yn rhyw achos, a diarddelwyd ef, heb sail yn y byd ebe Pierce Williams. Ymunodd â'r Anibynwyr am ysbaid go ferr, ac yna dychwelodd yn ol. Ni chodwyd ef i'r swydd drachefn. Er hynny, ni phallodd mewn cysondeb. Argyhoeddodd yr eglwys ei fod yn Israeliad yn wir. Dywedodd rai misoedd cyn marw y gwyddai efe hyd sicrwydd ers deugain mlynedd na ddemnid mono. Bu farw Ionawr 14, 1856, yn 73 oed.

Yr oedd rhif yr eglwys yn 1854 yn 155. Gosodid 383 o'r eisteddleoedd allan o 400. Cyfartaledd pris eisteddle, 9c. Swm. y derbyniadau am y seti, £50 16s. Y casgl at y weinidogaeth, £37 15s. Swm y ddyled yn 1853, £150; yn 1854, £220. Yr ychwanegiad hwn yn dod drwy i'r eglwys ymgymeryd â helpu adeiladu'r ysgoldy yn ymyl y capel. Rhif yr eglwys yn 1858, 179. Gosodid 336 allan o'r 400 eisteddle. Pris eisteddle, 7g. Swm y derbyniadau am seti, £39 3s. Casgl y weinidogaeth, £56. Y ddyled yn 1857, £90; yn 1858, £80.

Yna fe ddaeth y diwygiad, gan weddnewid popeth am gryn ysbaid. Fe'i teimlid yma yn ei rym. Tua dechreu'r flwyddyn fe fyddai Morgan Jones yn derbyn llythyrau o Lechryd, sir Aberteifi, yn rhoi hanes y diwygiad. Darllenid hwy yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Nos Sul, Mawrth 27, cyhoeddodd un o'r blaenoriaid gyfarfod gweddi ar y nos Lun dilynol i ofyn i'r Arglwydd am ddyfod i achub i'r Waen. Y capel bron yn llawn. Myned adref yn siomedig. Erbyn y seiat ddilynol, wele eneth ieuanc o deulu anghrefyddol yn y lle. Edrychid arni braidd yn sarrug. Hi a ddywedai mai ofn marw yn anuwiol oedd arni. Ers pa bryd?

Er cyfarfod gweddi nos Lun. "Ysgub y blaenffrwyth ydi hi," ebe un brawd. Y nos Sul dilynol, hen wrthgiliwr yn dychwelyd. Rywbryd oddeutu 'r adeg yma, yng nghof un, y torrodd y diwygiad allan gyda "dyn bach o bregethwr o sir Fon, yn mynd wrth ei ffon i'r pulpud." Dal at y cyfarfod gweddi, a rhoi un arall ar y nos Iau. Rhywun neu gilydd yn barhaus yn dod o'r newydd. Yr oedd yma gyfarfod pregethu Sul a Llun y Sulgwyn, pryd y pregethai Thomas Hughes Machynlleth, Griffith Evans Caergeiliog, Hugh Jones ieu. Llanerchymedd a Thomas Ellis Pennant. Arhosodd tri i'r seiat nos Sul, a nos Lun naw. Wrth weled rhai yn aros ar ol nos Sul, torrodd William Davies Cae ystil allan, "O diolch am dynnu'r cyrtain!" Owen Griffith (Eryr Eryri) ydoedd un ohonynt. Pan ddaeth y naw at ei gilydd i'r un man fe ddisgynnodd rhyw ddylanwad dieithr, anolrheinadwy ar yr holl eglwys. Mewn ymddiddan ar hanner canmlwyddiant y diwygiad yn seiat y Waen, fe adroddai Jane Williams Llwyn bedw am ddau fachgen ieuainc, y dywedai hi eu bod yng nghyfarfod nos Sadwrn y Sulgwyn yn y Waen, y cyfarfod pregethu, y mae'n debyg—sef John [Jones] Tyddyn ac Wmphra William. Dywedai fod y ddau yn Salem y bore Sul â'u gwynebau yn tywynnu fel wynebau angylion. "Y mae y ddau," ebe hi, "erbyn hyn yn y Nefoedd." Yng nghyfarfod gweddi nos Fawrth arhosodd 12, a nos Sadwrn, 14. Y nos Sul, 16; nos Lun, 10; nos Fercher, ar ol pregeth gan Thomas Phillips, 19. Sef 84 mewn deng niwrnod. Y Sul dilynol, drachefn, 11, hen wrandawyr gan mwyaf. Erbyn Gorffennaf 4, 123 o ddychweledigion. Cyfarfodydd gweddi bellach yn y tai, yn y chwarelau, ar lan y Wyrfai, yn y cymoedd ac wrth ochrau'r cloddiau. Yr ysgol wedi cynyddu, ac erbyn hyn yn 450 o rif. Erbyn Tachwedd 19, 137 wedi eu derbyn yn gyflawn aelodau. Y nifer yma gyda'i gilydd yn derbyn y Cymun ar nos Fercher, Tachwedd 16, John Jones Llanllechid yn gweinyddu. Dywed Morgan Jones fod y cynnydd mewn rhif erbyn Tachwedd 19 agos yn wyth ugain. Y mae Morgan Jones yn cymeryd ei ddameg drachefn yn y Drysorfa am Gorffennaf 1861, a dywed fod y dychweledigion oll yn dal eu ffordd oddigerth un neu ddau. Rywbryd yn ystod y diwygiad bu Dafydd Jones (Caernarvon) yma yn pregethu ar y geiriau, "Mor hawddgar yw dy bebyll di." Yr oedd lliaws fel mewn llesmair o fwynhad wrth ei ddisgrifiadau. Llefodd Robert Closs Garregwen allan, ac yntau heb arddel crefydd, "Dafydd anwyl, taw, cyn fy lladd i!" Mewn cyfarfod i'r dychweledigion ddechreu'r gaeaf, adroddai William Jones Dwr oer, y blaenor, beth o'i brofiad. Cafodd ef grefydd wedi bod yn y wlad bell. Drannoeth wedi ei harddel, penderfynodd gadw dyledswydd. Wedi agor y Beibl, wele ddau o'i hen gyfeillion i mewn, ar eu ffordd i Gaernarvon. Yr oedd William Jones rai dyddiau cyn hynny wedi cytuno â hwy i fyned y diwrnod hwnnw i'r dref am sbri. Yr oedd mewn profedigaeth i ddodi'r Beibl o'r neilltu; ond ar ail ystyried aeth ymlaen gyda'r darllen a'r weddi. Yna fe roddwyd pryd o fwyd o flaen y ddau gyfaill. Yr oeddynt hwythau yn bwyta fel rhai yn breuddwydio. Aethant eu ffordd heb yngan gair, gan droi tua chartref. Yr oedd y ddau wedi arddel crefydd ym Methesda cyn pen ychydig wythnosau, a daethant yn golofnau gyda'r achos yno. Fe ddaeth chwech o'r dychweledigion yn y Waen yn flaenoriaid. Edrydd Mr. Evan Evans am William Jones 'Rhen efail yn pregethu yn y Waen ymhen rhyw gymaint o amser ar ol y diwygiad. Ar ganol y bregeth, fe deimlwyd rhyw ddylanwad yn cerdded y lle, ac yn symud fel tonn ar draws y capel. Nid oedd neb yno heb deimlo'r peth. Ebe'r pregethwr: "Mi welaf nad yw Gwr y Tŷ ddim wedi ymadael." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 400. Drysorfa, 1859, t. 276, 416; 1861, t. 245, sef ysgrifau Morgan Jones.) Rhif yr eglwys yn 1860, 334, cynnydd o 155 ers 1858; rhif yn 1862, 321; yn 1866, 290, cynnydd o 111 ers 1858. Y casgl at y weinidogaeth yn 1866, £90 10s., cynnydd o £34 10s. ers 1858.

Bu Pierce Owen y Gors, neu Williams, fel yr ysgrifennai ef ei hun ei enw, tad Mr. D. P. Williams, Y.H., farw Ebrill 14, 1859, yn 54 oed. Daeth at grefydd yn niwygiad 1832. Pwyllog, gochelgar nodedig, di-droi-yn-ol, craff, ac yn gynllunydd. Ar y blaen gyda phethau allanol crefydd a chydag achos addysg. Yn allu ym mhlaid y diwygwyr, ebe'r Pierce Williams arall.

Ar flaen y golofn ymosodol bob amser, ebe Pierce Williams, y byddai Griffith Jones Ty'ntwll. Cynorthwywr galluog Owen Jones y crydd, ebe Dafydd Thomas. Owen Jones hirben yn fwy o'r golwg; Griffith Jones gynhyrfus yn fwy yn y golwg. Yn selog mewn amser ac allan o amser. Bu farw Hydref 1, 1860.

Rhagfyr, 1860, dewiswyd yn flaenoriaid, Samuel Morgan, David Morgan a Pierce Williams. Ymadawodd Samuel Morgan i Ddwyran, Môn, yn 1880. Yr oedd ef yn ysgrythyrwr da ac yn ffyddlon gyda'r gwaith.

Thomas Griffith Caegwyn gadarngryf, a fu farw Tachwedd 24, 1861, yn 75 oed, wedi bod yn flaenor am 33 mlynedd. Efe ydoedd y pen blaenor ar ol marw Richard Owen. Deuai i'r seiat ar ei union o'r chwarel heb alw adref, gyda'i biser bach o dan ei gesail, a gwthiai ef o'r golwg dan y fainc. Enwog am brydlondeb: prydlon wrth ddechre, prydlon wrth ddiweddu. Pan fyddai'r amser ar ben, yn o ddiswta weithiau, dyma'r pennill allan, neu ddamn pennill, "Trig yn Seion, aros yno." Go chwyrn wrth blant direidus. Gofal ganddo am esgeuluswyr. Yn ei amser ef yr oedd boneti yn dechre cymeryd lle'r hetiau. Anfadrwydd oedd hynny yngolwg Thomas Griffith, a dyrnai yn drwm ar yr arfer, yn gwbl ofer er hynny. Pan oedd y ciwpi yn dod i'r ffasiwn, fe ymladdodd yn ddewr yn erbyn y drwg hwnnw, ond ni orfu. Os byddai gan eneth fonet gwychach na'i chyfoedion, neu fachgen giwpi mwy golygus na neb arall, byddai Thomas Griffith wedi eu llygadu, ac fe anelai am danynt â'i bicell lymdost, er mawr fraw i'r drwgweithredwyr. Byddai yn codi llawer o fwganod, ebe Pierce Williams, heb allu eu dodi i lawr. Ond oni wnaeth Don Quixote y cyffelyb? Cewri, dewiniaid a byddinoedd arfog i'r arwr hwnnw ydoedd y mynachod cycyllog, y diadelloedd defaid a'r melinau gwynt. Ac nid o ddiffyg dewrder yn Thomas Griffith, mwy nag yn arwr mawr crebwyll, y troes ei ymgyrch ef allan yn ffuantus. Teil pawb warogaeth i amcan cywir Thomas Griffith. A dywed Mr. Owen Jones (Eryri Works gynt), ei fod ef y gweddiwr gyda'r hynotaf yn y Waen yn ei amser ef. Wyr iddo ef ydyw Mr. Thomas Jones yr ysgolfeistr.

Daethpwyd i deimlo fod yn rhaid naill ai helaethu'r capel neu godi un arall ar gwrr y Waen. Ymrannwyd yn ddwy blaid ar y cwestiwn, a rhedodd teimladau yn uchel. Y tymor yma ar ryw olwg y mwyaf profedigaethus yn hanes yr eglwys, ebe Mr. Francis Jones. Wedi bod o'r mater yn y Cyfarfod Misol droion, y blaid oedd am helaethu'r capel a orfu. Nid oedd tawelwch wedyn. Dyma fel y rhed cofnod Cyfarfod Misol Tachwedd, 1863: Waenfawr. Anghydfod yn yr eglwys oherwydd ail-adeiladu'r capel. Amryw yn dymuno cael rhyddid i adeiladu capel newydd. Darllennwyd llythyr oddiwrth ran o'r eglwys yn gofyn am hyn. I fyned yno i chwilio i'r achos: Mr. Phillips, Mr. J. Owen, Mr. D. Jones, Mr. Rt. Ellis. I fyned yno Tach. 11eg. Fod awdurdod y Cyfarfod Misol i'w gyflwyno i'r brodyr hyn i ymdrin â'r achos fel y barnont oreu." Yr hyn a wnawd yn 1863 ydoedd tynnu to'r capel i lawr, codi'r muriau yn uwch ynghyda'r tô, tynnu y wyneb i lawr, gan estyn peth ar ei hyd, a newid peth ar ffurf y wyneb fel ag i ateb i'r cefn, a gwneud y cwbl yn newydd oddifewn. Y draul dros £1100. Y ddyled yn 1862, £80; yn 1865, £1335; yn 1866, £1288.

Adeiladwyd ysgoldy Penrallt yn 1864. Rhoddwyd y tir yn rhodd gan Evan Owen Penrallt. Cedwid yr ysgol cyn hynny yn nhŷ Hugh Jones Penrallt, a chyn hynny yng Ngwredog. Rhoid pregeth yno unwaith yn y mis. Bu cyfeillion o'r Waen yn cynorthwyo ym Mhenrallt o'r dechre, sef John Griffith Penffordd Fangor a William Humphreys, ac wedi hynny, Owen Evans a John Ellis. Bu farw Owen Jones y Siop yn 1864. Efe ydoedd ysgrifen- nydd a thrysorydd yr eglwys. Bu'n arolygwr yr ysgol am flynydd- oedd, a rhagorai yn ei swydd. Yr ydoedd yn ysgolor, fel y cyfrifid y pryd hwnnw, ac wedi bod yn cadw ysgol ar un adeg yn Nhŷ ucha'r ffordd. Yn wr o ymddiried.

Richard Humphreys (Bontnewydd wedi hynny) oedd y cyntaf a godwyd i bregethu o fewn yr eglwys yn ystod y ganrif, sef ar Ionawr 11, 1865.

Byddid yn mwynhau gwasanaeth Dafydd Jones yn y seiadau ar nos Sadyrnau amryw weithiau mewn blwyddyn am flynyddau pan oedd efe yn trigiannu yng Nghaernarvon. Yn ddiweddarach bu Dafydd Morris yn dod yma yn gyson o Gaeathro am flynyddau.

Medi 25, 1867, rhowd galwad i Ddaniel Evans Ffosyffin. Dechreuodd ar ei waith yma yn nechre 1868. Wedi bod yma am dros bedair blynedd fe ymadawodd i Ffosyffin yn Nhachwedd 1872. Dyma fel y dywed Mr. R. O. Jones am dano: "Yr oedd yn hynod o boblogaidd a chymeradwy tra y bu yma. Yr oedd yn ddyn hynod o garedig a diymhongar, yn gyfaill cywir, a'i holl ymddygiadau yn eithriadol foneddigaidd tuag at bawb yn ddiwahaniaeth. Llwyddai i gael popeth a ofynnai, nid yn unig gan yr aelodau, ond gan y gwrandawyr hefyd. Gwnaeth un peth ar fore Sul gyda'r gwrandawyr a adawodd argraff dda arnynt tra fu yma. Gofynnodd i bawb o'r gwrandawyr heb fod yn aelodau aros ar ol. Arhosodd pawb, a chafodd ymddiddan â hwy. A thystiai amryw ohonynt fod yno le rhyfedd o ddifrifol, ac ni ddarfu iddynt yn fuan anghofio'r ymddiddan. Nodweddid ei bregethau gan ddifrifwch. Er y byddai efe mewn cymdeithas yn llawn humour ac arabedd, eto ni chlywid byth ddim yn tueddu at hynny yn ei bregethau. Yr oedd ei sylwadau oddiwrth ei destyn yn naturiol a threiddgar, ac yn meddu rhyw newydd-deb parhaus. Yr oedd ei alluoedd meddyliol yn gryfion, a chan ei fod wedi disgyblu ei feddwl yn dda, yr oedd yn gallu cyfansoddi pregethau yn lled rwydd, a'r rhai hynny y fath ag oedd yn goleuo y deall ac yn cynhyrfu y gydwybod." Ystyrrid ef gan y gwrandawyr yn bregethwr awgrymiadol, a byddai adrodd ar ei sylwadau, megys y sylw hwnnw o'i eiddo, fod dwy adnod a ymddanghosai yn gwrthddweyd ei gilydd, wrth eu cymeryd ar wahan, eto wrth eu dwyn gyferbyn â'i gilydd, ac i wrthdarawiad â'i gilydd, yn taro tân y naill o'r llall, a roddai oleu newydd ar y ddwy. Fe gafodd Mr. J. W. Thomas lawer o'i gyfeillach pan yma. I'w fryd ef y pryd hwnnw, nid oedd odid gangen o wybodaeth gyffredinol namyn cerddoriaeth, nad oedd gan y gweinidog gryn swrn ohoni yn feddiant iddo'i hun. Danghosai gydnabyddiaeth â barddoniaeth Saesneg a Chymraeg. Adroddai allan o'i gof ddarnau go hirion o waith Shakspere, Burns, Byron, Wordsworth ac eraill. Yn grâff ei sylw ar bregethwyr. John Jones Talsarn ydoedd ei eilun. Esgyrnedd ei bregeth a grym ei bersonoliaeth yn y pulpud yn ei ddangos tuhwnt i eraill, hyd yn oed pan na chaffai yr awel gydag ef. Yn ddihafal am amrywio ei lais yn ol nodwedd ei bwnc. Owen Thomas oedd pregethwr yr oes ddilynol yn ei olwg. Edmygai ei gyfansoddiad glân. Yn gallu gosod ei bwnc mewn trefn i'w amcan ei hun yn well na neb. Mathews yn medru pwysleisio fel ag i dynnu sylw pawb. Y Dr. John Hughes yr unig un a glywodd a gaffai hwyl wrth ddweyd pennau ei bregeth, ac yn hynny yn rhagori ar bawb a glywodd efe. Heblaw meddu ar wybodaeth, yr oedd y gweinidog, ebe Mr. Thomas, yn dangos awydd i gyfrannu gwybodaeth i eraill. Ac yr oedd ganddo ddawn i dynnu eraill allan yn y seiat, ac i wneud defnydd o bob cyffyrddiad. Yr oedd William Parry y Parc wedi bod yn meddwl gryn dipyn am y nefoedd. "Ymhle y mae'r nefoedd, William Parry ?" "Yn rhyw le i fyny yna " ebe William Parry. "Ond fe ddywed y bobl sy'n wrthdroed i ni ei bod i fyny, fel chwithau." Wedi peth egluro, William Parry yn dod i ddeall. "Wel," ebe William Parry, "nid ydi hi ddim yn y ddaear, beth bynnag!" Yntau yn cipio'r syniad i fyny,—Y nefoedd ddim yn y ddaear, ac yn ei agor allan a'i egluro fel ag i roi boddlonrwydd i bawb.

Yr oedd Owen Morgan Pant y cerryg yn wr distaw, digynnwrf, pwyllog, ymresymiadol a rhesymol, anhawdd ganddo siarad yn gyhoeddus, ond pan wnae, yn dweyd geiriau â sylwedd ynddynt. Gwr o ymddiried; gwr cymeradwy. Llafuriodd i gasglu gwybodaeth, a rhoes hyn radd o awdurdod i'w farn ar bynciau diwinyddol. "Pan gynghorai," ebe Pierce Williams, derbynnid ei gyngor yn yr ysbryd goreu, a phan geryddai, ni feiddiai neb godi i fyny a gofyn, Pwy wyt ti, fel y gwrandawom ar dy lais?" Dywed Mr. R. O. Jones na chlywyd mono yn ceryddu neb am arfer geiriau anweddus, ac na chlywyd mo neb yn arfer y cyfryw eiriau yn ei wydd.

Feallai mai William Jones Dwr oer a dywynna allan yn fwyaf disglair, ar y cyfan, ymhlith blaenoriaid y Waen o'r cychwyn. Yr ydoedd efe yn ddyn y buasai arbenigrwydd yn perthyn iddo mewn unrhyw gymdeithas o ddynion. Yn ymyl bod, os nad yn llawn dwylath o daldra. Ymrestrodd gyda'r volunteers yn ieuanc, ac yr oedd ol disgyblaeth filwrol yn aros arno i'r diwedd. Yr oedd ei safiad yn syth, ei ddwyfron yn tafiu allan, ei edrychiad yn eon, ac yr ydoedd o gorff cryf a chymesur a llathraidd. Yn ei amser goreu yn ddyn sionc a gwisgi. Oherwydd methu o William Thomas Brynmelyn a'i glywed yn siarad rhag y gwynt yn chwarel Cae braich y cafn, rhoes yntau yn ddiatreg lam ato dros cutting Penrhydd, rhyw ddeg troedfedd neu ragor o led, ac o wyth i ddeg llath o ddyfnder. Os byddai tollborth Glangwna yn gaeedig wrth fyned ohono i Gaernarvon neu ddod yn ol, fe neidiai dros y llidiart heb gymaint a tharo ei law arno. Ei wisg oreu ydoedd gôt o wawr las, gwasgod o liw bwff gyda llin sidan wedi ei nyddu i mewn i'r deunydd, clôs pen glin llwyd gyda botymau melynion â ruban plethedig arno, hosanau o liw glas gyda rhesi gwynion, esgid fach â ruban yn ei chau am y troed del, coler yn lled godi i fyny, a ffunen sidan India am y gwddf, o liw coch neu las fel y digwyddai, a thros ben hynny het silc foneddig a ffon. Dyna ef ar y ffordd i'r dref, a'r bachgen John William Thomas yn syllu arno gydag edmygedd wrth iddo fyned. Eithr pa beth ydyw hyna y mae efe yn ei fwmial wrtho'i hun fel y cerdd yn ei flaen? Dyna'r geiriau,—"O Iesu mawr, cadw fi yn agos atat ti!" a'r cyffelyb erfyniau. Yr oedd urddas yn gorffwys ar ei wedd a llymder yn ei edrychiad. Gwr penderfynol, di-droi-yn-ol. A gwisgai ei wedd dawelwch, a rhywbeth o dywyniad wynepryd y sant. Heb fod yn siaradwr naturiol ddawnus, yr oedd awch ar ei ymadroddion. Ar brydiau fe siaradai dan ryw gyffroad arno'i hun, a'i deimlad yn dygyfor o'i fewn, ac yna fe luchiai ei ymadroddion allan gyda grym, a gwefreiddiai'r gynulleidfa. Ac, yn arbennig, yr ydoedd yn arweinydd dynion. A thros ben ei gyneddfau naturiol, yr oedd ei gymeriad fel crefyddwr yn ddifrycheulyd; yr oedd yn nodedig mewn gweddi; ac yr oedd yn llwyr-ymroddgar i'r achos. Fe wasanaethai ei holl nodweddion ynghyd i'w wneuthur yn wr cadarn, nerthol yn yr eglwys. Cyn dod at grefydd, efe oedd pen ymladdwr yr ardaloedd. Mynych y cyflawnai wrhydri fel ymladdwr mewn ffeiriau a gwylmabsantau. Mewn llofft yng Nghaernarvon unwaith fe ymosodwyd arno gan nifer o ddyhirod. A chan fethu ohono wthio ei ffordd drwyddynt, fe ddododd ei ddwylo ar y distiau isel, a dechreuodd gicio â'r fath egni fel y diangodd bawb ohonynt ymaith. Dro arall, ar y maes yn y dref, fe welai gyfaill iddo yn cael y gwaethaf yn ring y paffio. Gan fethu ohono, oherwydd y tyndra, a gwthio ei ffordd drwodd, fe giliodd beth yn ol, er cymeryd wîb, a rhoes lam dros bennau'r bobl i ganol y ring, a gwaredodd ei gyfaill. Yr oedd boneddiges unwaith, merch i deulu gyda'r uchaf yn y sir, yn cael ei chludo yn un o'r cerbydau bychain perthynol i'r inclên yn y chwarel, pan y torrodd y gadwen, ac y cychwynnodd y certwyn ar y goriwaered. Yr oedd William Jones yn digwydd bod yn ymyl, ac mewn amrantiad rhoes lam dros y certwyn, gan godi'r foneddiges allan fel yr elai drosodd, a'i chludo gydag ef i'r ochr arall. Y chwedl yn yr ardal ydyw ddarfod ei wobrwyo yn hael dros ben am ei ddewrder, a mynn rhai ddarfod i'r foneddiges fyned mor bell a chynnyg priodas iddo, gan faint ei theimlad o waredigaeth am ei gwaredu mewn modd a ymddanghosai braidd yn wyrthiol. Yr oedd ei galon ef, pa ddelw bynnag, yn rhwym wrth arall. Yr ydoedd o hiliogaeth yr Anacim. Diau fod yr enw oedd iddo, ac i'w deulu o'i flaen, yn ei wisgo â dylanwad arbennig ar ol ei droedigaeth. Sonia Mr. J. W. Thomas am ewythr iddo, Sion Sion, a gyflawnodd wrhydri yn ei ddydd ail i'r eiddo tri chedyrn Dafydd. Ni wiw son am danynt yma. Eithr un peth a wnae o fewn y cysegr, sef cadw gwyliadwriaeth ar nifer o las—lanciau a eisteddai ar fainc ar y llawr. Pan elai ambell un ohonynt ar dro yn rhy aflonydd, fe gawsai gelpan na byddai eisieu ail arno y rhawg, nac ar neb yn ei ymyl. Fe arferai William Jones ddweyd, ebe Pierce Williams, fod yn dda ganddo na ddarfu efe erioed yn ei amser gwaethaf dynnu eraill i ymrafael, ond mai cael ei wthio iddi y byddai er yn waethaf iddo. Nid hoff ganddo, ar ol ei ddychweliad, son am yr hen weithredoedd gynt. Ac nid amheuai neb gywirdeb y dychweliad hwnnw. Ni ddanghosai'r awydd lleiaf am sylw, ac eto fe'i perchid ym mhobman, a chreai ei ymddanghosiad arswyd ar yr afreolus. Ac yr oedd rhywbeth o'i amgylch yn rhwystro i neb fyned yn hyf arno. Pan elai ambell un, fel y digwyddai gynt, yn hyf dan ddisgyblaeth, gan herio'r eglwys i'w fwrw allan, ni fyddai eisieu ond i William Jones godi ar ei draed, nad ymdawelai, gan ymostwng i gymeryd ei arwain allan. Eithr nid ymyrrai fyth ynglyn â diarddeliad merch, pa mor ystrywgar bynnag y byddai neu pa mor fawr bynnag ei hystranciau. Gwelid rhai merched gynt y gorfu eu llusgo allan, ond ni cheid fyth mo help William Jones i'w gwastrodedd drwy na gair na gweithred. Tebyg nad oedd hynny yn lleihau dim ar ei ddylanwad gyda'r rhiannod. Ond heblaw awdurdod uniongyrchol a thynerwch, gallai ddefnyddio callineb neu gyfrwystra, er cyrraedd amcanion teilwng. Rhydd Pierce Williams enghraifft neu ddwy o hynny. Yr oedd amryw yn gwarafun rhoi'r capel i gynnal cyfarfodydd gwleidyddol. Rhowd ef i gynnal cyfarfod Jones-Parry. Gelwid William Jones i siarad, ond cyndyn iawn ydoedd i godi, nes y gwthiwyd ef ymlaen. Cyfeiriodd at wrthwynebiad dosbarth yn yr eglwys i areithio ar bolitics yn y capel. "Yr ydw i yn cael boddlonrwydd i mi fy hun," ebe yntau," wrth feddwl mai oddiar yr un mynydd y rhoes yr Arglwydd y ddeddf foesol a'r ddeddf wladwriaethol." Cyfeiriodd hefyd at waith yr ymgeisydd yn rhoi tir i adeiladu capelau, gan ddangos drwy hynny ei fod dros ryddid. Yn y dull yma y ceisiai fyned dan sail y gwrthwynebiad i arfer yr addoldy ar y cyfryw achlysuron. Enghraifft arall ohono. Yr oedd arweinwyr canu y Waen ar un adeg yn arfer mynychu tafarnau. Penodwyd William Jones ynghyda dau eraill i ymddiddan â hwy yn eu cyfarfod canu yn y capel. Clywodd y cantorion, a bwriadent sefyll at eu gynau. Ond fe ddechreuodd William Jones: "Wel, gyfeillion, nid ydym wedi dod yma i'ch diraddio. Na, ni byddai unrhyw anrhydedd yn rhy uchel gennyf i'ch gweled yn cael eich codi iddo, ond i chwi gael eich codi iddo gan Dduw ei hun yn ei ragluniaeth a'i ras. Ond mi ddymunwn eich rhybuddio o'ch perygl o fyw yng nghyfeddach y dafarn, a thrin llestri y cysegr yr un pryd. Am wn i, na chawsai y brenin balch Belsasar lonydd i gynnal y wledd fawr honno a wnaeth ym Mabilon i fil o dywysogion, yr un modd a chyda rhyw wleddoedd eraill a wnaeth, oni bae iddo alw am lestri teml Dduw iddi; ond gan iddo wneud hynny, fe enynnodd digofaint Duw tuag ato, a'r noson honno fe laddwyd Belsasar. Gwyliwch chwithau, gyfeillion, wrth gymysgu crechwen y dafarn â phethau cysegredig y Tŷ." Tarawyd y cantorion â mudandod, fel na allent yngenyd dim, a chafodd y ddau frawd eraill eu cyfle hwythau i draethu eu meddwl yn llawn a diwrthwynebiad. Yr oedd rhyw gyffyrddiad of wreiddioldeb yn fynych i'w deimlo yn ei ymadroddion cwta. Ac yr oedd ganddo'i ddull nodweddiadol ei hun o ddweyd ei bethau. Ebe fe wrth Catrin Ty'n drwfwl, yr hon fyddai weithiau i mewn yn y seiat ac weithiau allan: "Mae nhw'n deudud am y crocodeil ei fod yn gallu byw ar y tir neu yn y dwr, yr un a fynno. A chreadur i warchod rhagddo ydi'r crocodeil. Mae hi'n bryd i tithau, Catrin, benderfynu lle yr wyti yn meddwl aros." Dywed Mrs. Jane Williams Pant defaid y byddai ganddo nid yn anfynych ddywediadau cryno, ar ddull diarhebion, a chyfleus i'w dodi yn y cof. Dyna ddywediad o'r math hwnnw fyddai ganddo—"Ein traed ni yw Beibl y byd." Edrydd Mr. Owen Jones (yr Eryri) sylw neu ddau o'i eiddo ag sy'n ddigon arnynt eu hunain i ddangos y perthynai iddo graffter sylw ac awch meddwl. Wrth gynghori pobl ieuainc i ddilyn cwmni da, eglurai pan fyddai clafr ar yr hespwrn, os dilyn ynghynffon y praidd a wnelai, y byddai yn debyg o farw, ond os y gwelid ef ynghanol y defaid gwlanog, y deuai yr hespwrn yn ei flaen, ac y gwellhae o'r clafr. Cynghori pobl ieuainc i ddod i'r tresi dro arall. Ebol yn myned o flaen y mail—coach, yn cadw ar y ffordd am filltir neu ragor, gyda'r mail yn ei yrru ymlaen. Ond yn y man, pan ddeuid i groesffordd, yr ebol yn troi oddiar y ffordd. Heb ei strapio yn y tresi yr ydoedd—dyna'r achos. Wedi ei strapio yn y tresi, nid allai lai na chadw ar y ffordd. Edrydd Pierce Williams enghraifft ohono yn dyfynnu sylwadau bachog yr hen bregethwyr, yn yr hyn y dywed efe y rhagorai. Cymell prydlondeb yr ydoedd ar y pryd. "Yr oedd William Jones Nantglyn yn dweyd mai ar ol yn y nefoedd y bydd y rhai fydd ar ol yn dod i foddion gras. Dwedai y bydd y duwiolion fu farw ar eu holau, wrth fethu eu gweled yn y nefoedd, yn troi i ofyn i ryw angel, 'Ymhle y mae hwn a hwn?' 'Welais i mono fo yma,' meddai'r angel. Y mae wedi cychwyn ers dwy flynedd o'm blaen i.' 'Chyrhaeddodd o ddim yma eto," meddai'r angel. 'Wel, wel, 'dydio'n rhyfedd yn y byd, o ran hynny, oblegid ar ol y gwelais io erioed yn dod i foddion gras!" Fe fyddai mewn gwell hwyl weithiau na'i gilydd. A byddai ar brydiau yn o bruddglwyfus, ac anhawdd fyddai cael ganddo siarad pan ddigwyddai felly iddo. Tebyg ddarfod i'r pruddglwyfni hwnnw ei atal rhag bod mor flaenllaw yn gyhoeddus ag a fuasai fel arall. Fe ymwelai John Jones Talsarn âg ef ar brydiau, er mwyn ei galonogi. Tynnai John Jones ef allan mewn ymddiddanion ar bynciau athrawiaethol, nes yr adseiniai'r tŷ weithiau gan rym lleisiau y ddau. Elai yntau i ddanfon John Jones adref heibio chwarel Cors y bryniau, gan ddiweddu gyda chael ei hunan yn nhŷ John Jones, a chydgysgai âg ef y noswaith honno. Gallai ddweyd gair yn ei bryd wrth enaid diffygiol. Edrydd Pierce Williams ei air i Beti Prisiart Pen y gamfa. Hen wreigan o gymeriad nodedig oedd Beti Prisiart. Yr oedd Dafydd Morris yn ymddiddan â hi. Eithr yr oedd yr hen wraig y noswaith honno yn cwyno yn dost oherwydd ymosodiadau y diafol, ac yr oedd yn isel iawn o'r achos. Anogai'r gweinidog, yn y man, William Jones i ddweyd gair wrthi. Cododd yntau ar ei draed. "Ai cwyno 'rwyti, Beti bach?" "Ie'n wir, William Jones, isel iawn ydw'i, yn cael fy nghuro gan y diafol nes wyf bron wedi mynd i lawr." "Wel, bobl," ebe William Jones, "dyma un llestr â digon o eiddo ynddi i fod yn werth gan y diafol ei dilyn am daith hir, a gollwng ei ergydion ati. Pan oedd rhyfel rhwng Ffrainc a'r wlad hon yn amser Buonaparte, fe fyddai llongau rhyfel Ffrainc yn gwylio am longau marsiandwyr y wlad hon, ac yn eu cymeryd yn anrhaith rhyfel pan allent. Fe fyddai cychod cerryg calch yn cael llonydd ganddynt i fyned a dyfod fel y mynnent; nid oeddynt yn eu hystyried yn werth powdwr a bwlet: ond am longau mawr, llawn o farsandïaeth werthfawr, os na lwyddent i'w cymeryd yn anrhaith, byddent yn sicr o'u dilyn hyd nes y cyrhaeddent y porthladd dymunol, gan gymeryd pob cyfle i ymosod arnynt. Wyddochi beth, bobol, hen lestr yn llawn o farsiandiaeth y nef yw Beti Prisiart, ac nid yw'n rhyfedd yn y byd fod y diafol yn ymosod arni, oblegid y mae o mewn rhyfel â'r wlad honno. Gwyliwch, bobol, rhag bod yn rhyw gychod cerryg calch gyda chrefydd, na bydd yn wiw gan y diafol ymosod arnoch, a gwastraffu powdwr a bwlet arnoch.' Gallai gyflwyno sylw'r tlawd gerbron y gynulleidfa gyda thynerwch effeithiol. Edrydd Eos Beuno am dano yn cyflwyno achos gwraig weddw dlawd gerbron. Ac adgoffai'r gynulleidfa mai'r cwbl oedd eisieu oedd talu ei phass i lan yr afon, y cymerai'r Llywodraeth Fawr ofal ohoni o hynny ymlaen. Cafodd y sylw y fath ddylanwad, fel yr oedd y casgl y tro hwnnw yn anarferol o fawr. Er holl awdurdod dull William Jones, ni flaenorai efe yn gymaint a Richard Owen neu Morgan Jones. Nid ydoedd chwaith o gwbl yn hafal iddynt hwy o ran dawn siarad. Eithr mewn awdurdod tawel fe ragorai. A thra y llaesodd dwylaw eraill ar y ffordd, fe wisgwyd William Jones âg ysbryd yr Arglwydd megys â mantell. Bu ef farw yn y flwyddyn 1874, yn 87 oed.

Rhoes yr eglwys alwad i'r Parch. Francis Jones, Ebrill 28, Rhoir hanes y cyfarfod sefydlu yn y Goleuad am Ragfyr 5. Adeiladwyd tŷ i'r gweinidog yn 1875. Traul, dros £700. Y ddyled yn 1874, £820; yn 1875, £747. Rhif yr eglwys yn 1874, 314.

Yn 1875 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, R. O. Jones, Evan Owen, a Morgan Jones. Ymadawodd yr olaf i Groesywaen pan sefydlwyd eglwys yno. Yn y flwyddyn hon y dechreuwyd cyhoeddi ystadegau yr eglwys.

Heb fod yn flaenor, yr oedd William Thomas Brynmelyn yn blaenori ar amryw ystyriaethau. Saif allan yn bennaf fel dirwestwr mwyaf aiddgar yr ardal ar ol dyddiau William Evans Cilfechydd. Eithr nid dirwest ydoedd ei unig bwnc. Yr ydoedd yn weithgar gyda'r achos yn gyffredinol, ac yn gyson yn y moddion ar hyd ei Yr ydoedd yn neilltuol ar weddi, a dywedir y byddai ym mhob wylnos. Yn rhy agored, medd Pierce Williams, i gwyno ar ei gymdogion yn ei weddiau cyhoeddus, a hynny mewn dull mor fanwl fel na ellid camgymeryd pwy a olygid. Fel siaradwr dawnus yn sefyll ar ei ben ei hun yn yr eglwys yn ei gyfnod. Cyfeirir gan Richard Jones at ei ddisgrifiad o ffarwel y meddwyn i'w wydraid olaf. Dermyn teilwng o Gough ei hun unrhyw ddiwrnod, ebe Richard Jones. Cymerer hynny gyda gronyn o halen. Eithr nid oedd amheuaeth am ei ddawn. Fe glywyd Pierce Williams yn dweyd ar achlysur na chlywodd efe mo neb a fedrai siarad cystal a William Thomas ar bob pwnc a godai i fyny. Cymhariaethau ysgrythyrol fyddai ganddo yn y cyffredin, ac ni byddai pall arnynt. Defnyddiai hefyd iaith dda. Nid oedd William Thomas, ebe Pierce Williams, yn perthyn i'r naill blaid na'r llall, y diwygwyr na'r ceidwadwyr, ond ymosodai ar y naill a'r llall yn eu tro. Yr oedd yn fwy eang na'r naill na'r llall, ond gwnelai ei unigrwydd ei rym yn llai. Areithiodd lawer ar ddirwest yn yr ardaloedd oddiamgylch. Gwr difyrrus yn ei gwmni. Yr un pennill a roe allan yn ddidor braidd yn y cyfarfod gweddi, ebe Mrs. Jane Williams Pant defaid, ydoedd,-Gadawn y byd ar ol, Y byd y cawsom wae. Mab iddo ydyw Mr. J. W. Thomas, ac ŵyr ydyw Mr. T. Llewelyn Thomas (Cemaes, Trefaldwyn). Bu farw Ionawr, 16, 1876.

Profwyd gradd o adfywiad crefyddol yn yr ardal yn 1876. Pregethwyd yn ystod Mawrth 13-17 gan James Donne, J. Roberts (Ieuan Gwyllt) ac Evan Roberts (Engedi). Cynhaliwyd cyfar- fodydd gweddiau yn ystod yr wythnos flaenorol. Arhosodd 22 ar ol. Yr ardal wedi ei chyffro drwyddi. Tymor diwygiad Moody ydoedd hwn. (Goleuad, 1876, Mawrth 25, t. 15).

Gomeddai John Owen Cae ystil (Tŷ capel gynt) weithredu fel blaenor, er wedi ei ddewis. Ni byddai yng nghyngor y blaenoriaid, ac ni weithredai fel y cyfryw yn gyhoeddus. Yr ydoedd yn gofiadur arbennig, fel y dengys y sylwadau a gymerwyd gan Mr. Francis Jones o'i enau. Nid yw'r sylwadau hynny ond lled fyrion, ond y maent yn neilltuol o fanwl a chryno yn y geiriad, a chydag amseriadau manwl-gywir. Ac wrth eu bod yn myned ymhellach yn ol nag atgofion neb arall yn hanes yr eglwys, y mae gwerth arbennig arnynt mor bell ag y maent yn cyrraedd. Ei wybodaeth yn fawr, er fod ei lyfrgell yn fechan. Y Beibl, Geiriadur Charles ac ychydig esboniadau oedd cynnwys ei lyfrgell agos i gyd. Byddai'r eglwys yn dyheu am ei glywed yn siarad. Ei fywyd yn llwyr-gytun a'i brofiadau. Bu farw Rhagfyr 2, 1878.

Gwr o ddawn ydoedd Morgan Jones Hafod oleu. Anfynych y clywodd Mr. Francis Jones ei ragorach, fel yr arfera ddweyd, mewn gallu ar ymadrodd ac o ran deheurwydd fel siaradwr. Daeth at grefydd yn niwygiad 1832. Dewiswyd ef yn flaenor yn 1848. Yn wr cymeradwy yn y Cyfarfod Misol a'r Cyfarfod Ysgolion. Yn fwy cyhoeddus fel blaenor ym mhob cylch na'r un arall o flaenoriaid yr eglwys yn ei gyfnod. Yr ydoedd felly yn y cyfarfod llenyddol, ac, ar un adeg, yn y cyfarfod dirwestol, cystal a chyfarfodydd mwy neilltuol yr eglwys. Efe yn bennaf a wasanaethai mewn cynhebryngau. Holwr ysgol campus. Edrydd Mrs. Jane Williams Pant defaid y codai o'i sêt, gan roi pennill allan, a chyn ei ganu, dechre holi arno, gan ennyn chwilfrydedd yr ysgol. Ar dro y digwyddodd hynny. Yn ddarllenwr o'i ieuenctid, ac yn ysgrythyrwr da. A dawn iraidd, rwydd, ystwyth, swynol ymhob cyflawniad cyhoeddus. Byddai lliaws yn wylo yn fynych wrth ei lais melodaidd mewn gweddi. Cyhoeddwr dawnus, clir. Y ddawn i arwain ynddo yn gynhenid. Fel stiwart yn chwarel Cefndu am 30 mlynedd, fe'i cyfrifid yn wr caredig, hywaeth. Cefnder i Griffith Jones Tregarth. Byddai weithiau yn rhyw gaffio am arabedd ei hun, ond yn wahanol i'w gefnder yn hynny, yn amlach yn cael cam gwag nag yn sangu ar dir caled. Yr ydoedd yn gefnder hefyd i Owen Morgan y blaenor. Eithr o gyneddfau yn hytrach yn gyferbyniol iddo yntau, gan fod y naill yn ymadroddus a'r llall yn dawedog. Mwy o falasarn, hefyd, yn Owen Morgan ar gyfer dydd tymhestlog. Yr ydoedd Morgan Jones yn gynllunydd yn yr eglwys, a medrai weithio ei gynlluniau allan. Medru goddef geiriau bryntion, a thywallt olew ar ddyfroedd cythryblus. Yn cyfarfod ymosodiadau disymwth yn dawel, a chyda thymer ddisgybledig. Yn ddyn caredig, agos at bawb. Yn dyner, er yn grâff. "Wna'i mo'ch canmol chwi rhag i chwi ymfalchio; wna'i mo'ch beirniadu chwi rhag i chwi dorri eich calon," ebe fe wrth ymgeisydd ieuanc am y weinidogaeth. Rhoes amser ac arian yn rhwydd i wasanaethu'r achos. Y mae Pierce Williams yn ei gyferbynu â Richard Owen, ac yn rhoi bywiogrwydd, gwres ac eangder gwybodaeth ymhlaid Morgan Jones yn fwy, tra yn rhoi hunanlywodraeth a golygiad cyffredinol dros anghenion yr eglwys ymhlaid Richard Owen yn fwy. Richard Owen yn fwy yn ei farn ef o ran cydgrynhoad yr holl nodweddion angenrheidiol. Y naill a'r llall, er hynny, yn enghreifftiau da o'r cydgrynhoad hwnnw. Llestri hardd ydoedd y naill a'r llall, er nad yw eu coffadwriaeth yn rhoi sain cwbl gynghaneddol pan darewir hwy yn swta â migymnau'r llaw. O'i gyferbynu â William Jones drachefn, fe arferai Morgan Jones fwy ar ei ddylanwad, yr oedd yn naturiol yn fwy o arweinydd cyhoeddus, ac yr oedd ganddo fwy o ddawn swynol. Oblegid y pethau hyn y dywed Mr. Evan Evans mai Morgan Jones oedd "haul y Waen" yn ei amser. Bu farw Chwefror 20, 1878, yn 67 oed. Pregethodd Mr. Francis Jones y nos Sul dilynol mewn coffadwriaeth ohono oddiar Mathew xxv. 13. (Goleuad, 1879, Mawrth 8, t. 13).

Yn Nhachwedd 1880, wedi i Eglwys Loegr werthu ei hawl yn yr ysgoldy genhedlaethol, cymerwyd y lle ar ardreth, a chynelid ysgol Sul yno, a phregeth bob mis.

Yn 1881 dewiswyd yn flaenoriaid: Owen Griffith, Owen Evans a Thomas Jones. Ymadawodd y blaenaf i Lanberis yn 1890, a'r olaf i Groesywaen ar sefydliad yr eglwys yno.

Medi 20, 1882, y dechreuodd J. J. Evans bregethu. Derbyniodd alwad i Lanfachreth yn 1889.

Cafwyd cyfres o gyfarfodydd gweddi a phregethau yn 1882, pryd yr ymunodd dros 80 â'r eglwys, ac y codwyd y rhif i 400. Bu Richard Owen yma yn 1884, ac, heb i lawer ddod o'r newydd, fe fu ei ymweliad â'r ardaloedd hyn yn adnewyddiad i'r eglwysi.

Hydref, 1883, yr ymadawodd Mr. Francis Jones i Abergele, wedi bod yma am naw mlynedd. Rhowd galwad i'r Parch. W. Ryle Davies, Mawrth 21, 1884. Dechre ar ei waith yma, Ebrill 1.

Bu farw Evan Owen, Medi 29, 1884, yn 71 oed, ac yn flaenor er 1875. Dyn mawr, cyhyrog. Ffyddlon iawn, heb ragoriaeth doniau. Bu ei wasanaeth yno gyda'r ysgol yn dra gwerthfawr. Ei ddidwylledd uwchlaw ei ameu.

Owen Jones y crydd oedd y cynllunydd goreu a gofid gan Dafydd Thomas. Nid yn ymadroddwr hyawdl. Ni fu'n flaenor; er hynny yn blaenori pawb gyda phob symudiad. Syn gan Richard Jones na etholwyd mono yn flaenor, gan ei fod yn hynod fel dyn a christion, ac yn llawn cymhwysterau er bod yn ddefnyddiol mewn byd ac eglwys. Ni chuddiodd mo'i dalentau chwaith, ond yr oedd fel lamp yn llosgi yn ddisglair. Disgrifir ef ymhellach gan Richard Jones fel yr ydoedd y pryd yr adnabu efe ef gyntaf. Tua chanol oed y pryd hwnnw, ac wedi colli ei wallt oddiar y coryn, a'r cernflew yn britho. Ychydig o dan y taldra cyffredin, gyda thalcen llydan a llawn, bochgernau lled uchel, llygaid canolig eu maint, trwyn byrr lluniaidd, gwefusau llawn. Tawel, boneddigaidd, hunanfeddiannol. Un goes ddiffrwyth, ac yn cerdded gyda ffynn bagl. Bob pnawn Mercher, darllennai Richard Jones yr Amserau iddo yn ei weithdy, yr unig un hyd y gŵyr ef, a dderbyniai newyddiadur yn yr ardal. Pan fyddai rhyw garreg afael mewn erthygl, fe gymerai Owen Jones seibiant i'w hystyried, a dodai saig ffres of dybaco ynghil ei foch, lledgamai ei ben, a gwnae lygaid main drwy'r ffenestr ar lechwedd y Cyrnant gyferbyn. Wedi cael boddlonrwydd meddwl, ail ymeflid yn yr edau grydd, a thynnid hi drwy'r tyllau gydag egni adnewyddol. Tlawd ei amgylchiadau, gyda theulu lliosog. Yn agored i lewygfeydd. Yn galonnog a phenderfynol drwy'r cwbl. Yn cyfrannu at yr achos gyda'r goreu. Sian Jones ei briod yn gynllunydd ddihafal yn ei thŷ, a chafodd yntau dipyn o hamdden oddiwrth drafferthion yn niwedd oes. Yn anibynnol ei feddwl ac yn eofn i'w ddweyd. Nid oedd teimlad mor amlwg ynddo a llawer. Yn wr pwyllog, yn adnabod y natur ddynol, yn cydymdeimlo âg ieuenctid. Yn gydbwys ei alluoedd a'i gymeriad. Pam na wnawd mono yn flaenor? Mab iddo ef ydyw Mr. E. O. Jones, ac ŵyr iddo ydyw Mr. O. H. Jones (Llan- ilar). Bu farw Mehefin 9, 1884, yn 82 oed.

Blaenor ymroddedig a duwiol ydoedd Samuel Morgan, ebe cofnod y Cyfarfod Misol. Brawd Owen Morgan, a gwr tawel fel yntau. Yn siaradwr eithaf rhwydd, a chysondeb yn ei feddyliau. Ofn mawr bod yn dramgwydd i eraill. Yn flaenor ers 1861. Y mae'r nodiad yma am dano gan Ryle Davies: "Dechreuodd ei grefydd gyda 'glyn cysgod angeu,' sef pregeth gan y diweddar Barch. D. Jones Treborth ar y testyn. Darlunid y glyn fel nant ddofn, gul, dywyll, yn llawn o fwystfilod rheibus ar bob llaw. Wrth wrando'r darluniad byw, teimlai Samuel Morgan ei enaid yn myned i lawr drwy'r glyn dychrynllyd ynghanol ofnau mawrion; ond pan ar ymollwng ynghanol yr ofnau, clywai lais ymlaen yn gweiddi yn uchel, 'Mi fyddaf fi yn Dduw iti.' Pan y clywodd y geiriau hyn collodd ei holl ofnau ar unwaith. Ymunodd â chrefydd, ac erbyn hyn dyma ef wedi dyfod i'r glyn yn llythrennol. Ond y mae yn gallu dweyd yn orfoleddus fod Iesu Grist wedi ymlid ymaith yr holl fwystfilod rheibus." (Cofiant, t. 100). Bu farw yn nechre 1885 yn 70 oed.

Sefydlwyd cangen-eglwys Croesywaen yn 1886. Aeth dros 120 o'r aelodau oddiyma yno. Eglwys y Waen yn 500 o aelodau yn niwedd 1885. Yn niwedd y flwyddyn yr ymadawodd W. Ryle Davies, gan dderbyn galwad o eglwys Holloway, Llundain. Danghosodd ynni a brwdfrydedd mewn hyfforddi dynion ieuainc yma, a gadawodd ei ol yn amlwg ar amryw ohonynt. Cafodd rai odfeuon nodedig yma.

Yn 1886 yr agorwyd ysgoldy y Groeslon, er mwyn cynnal yno y moddion a gynhelid yn yr ysgoldy genhedlaethol gynt, sef ysgol ar bnawn Sul a phregeth bob mis. Y tir yn rhodd gan Mr. William Williams Groeslon. Rhowd y bregeth agoriadol Rhagfyr 2, yn y pnawn, gan Mr. Ryle Davies.

Yn 1887 y dewiswyd Evan Evans a John W. Thomas yn flaenoriaid.

Ebrill 27, 1890, rhowd galwad i Mr. W. O. Jones, B.A. Ymadawodd cyn diwedd 1892, gan dderbyn galwad i Chatham Street, Lerpwl.

Cyfeiriwyd o'r blaen at Evan Owen a'i lyfr, Fy hanes fy hun. Bu ef yn trigiannu mewn amryw fannau yn Arfon, a chyfeirir ato rai troion ynglyn â hanes gwahanol eglwysi yn y gwaith hwn. Bu yn y Waen ar ddau dymor. Hen gymeriad agored, difyr, cywir. Yn ei Ragdraith i'r Hanes y mae Alafon yn ei ddisgrifio fel "cyfuniad i raddau o Tomos Bartley a Wil Bryan; o ran helbulon a gwaredigaethau, yr oedd yn tebygu i Robinson Crusoe ac i Bererin Bunyan." Robinson Crusoe wedi treulio ei oes ar dir sych, dealler. Y mae'r hunangofiant byrr hwn yn un gwir lwyddiannus. Engraifft deg ydyw o'r dull byw o ysgrifennu a welir weithiau heb un ymgais at hynny. Terry Evan Owen ar y pethau sydd eisieu eu dweyd, yn lle troi a throsi o'u hamgylch heb unwaith fyned atynt, yn null lliaws y tybir ganddynt eu hunain eu bod yn amgen ysgrifenwyr nag ef. Bu farw yn Abertawe, Medi 10, 1891, yn 84 oed; ond claddwyd ef ym mynwent Betws Garmon.

Tachwedd 20, 1891, y bu farw Pierce Williams, yn 61 oed, sef y gwr y dyfynnwyd mor fynych o'i ysgriflyfr ynghorff hanes yr eglwys yma. Yn flaenor ers 1861. Yr arweinydd yn yr ardal mewn helyntion plwyfol, gwleidyddol a chrefyddol. Cadeirydd y Bwrdd Ysgol. Fel goruchwyliwr chwarel enillodd ymddiried meistri a gweithwyr. Ar ol Morgan Jones, efe ydoedd pen blaenor yr eglwys. Athraw rhagorol gyda dosbarth pnawn Sul a noson waith. Disgrifir ef gan un o'i hen ddisgyblion fel athraw call, treiddgar, â ffordd ganddo o'i eiddo'i hun o holi ar yr atebion a gawsai, gan aros ar yr un adnod weithiau am Suliau bwygilydd. Medru deffro meddylgarwch yn eraill. Cerddor gwych. Bu yn arweinydd y cor ac yn arweinydd y canu cynulleidfaol am dymor maith. Meddai ar gryn wybodaeth gyffredinol. Efrydodd ddaeareg am flynyddoedd. Pwyll a challineb yn dod i'r golwg ynddo mewn amgylchiadau dyrus yn yr eglwys. O ysbryd nwyfus, ac yn fyw i'r digrifol. Mawr fwynhae gyfeillach a sgwrs Fy hanes fy hun. Fe gymerth lawer o drafferth i grynhoi ynghyd yr hanes a geir yn ei ysgriflyfr, ac y mae'r hanes hwnnw, fel y gwelwyd, yn ffrwyth sylwadaeth a chraffter. Y mae'r eglwys ei hun, yn neilltuol, yn ddyledus iddo am ei drafferth honno. Dengys yr ysgriflyfr ddawn i ysgrifennu yn rhwydd a threfnus a chywir. Cymerth drafferth i gael amseriadau cywir, pethau na thrafferthir i'w cael o gwbl gan liaws, heb sôn am eu cael yn gywir. A chymerth drafferth i gyfleu'r pethau. mewn modd llawn a chywir, hynny hefyd yn beth na cheir yn rhy aml. Y mae syniad uchel am dano yn aros o hyd yn yr ardal, fel gwr o allu a medr a defnyddioldeb. Bydd Mr. Francis Jones yn ei gymharu â Morgan Jones, gan roi 'r ragoriaeth i Pierce Williams o ran eangder a nerth meddwl, ac eangder cylch ei ddarllen; ar ragoriaeth fel siaradwr i Morgan Jones. Yn yr hwyr wedi'r cynhebrwng, traddodwyd pregeth goffadwriaethol gan Dr. Hughes, oddiar Datguddiad xiv. 13: "Ac mi a glywais lef o'r nef yn dywedyd wrthyf, Gwyn eu byd y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorffwysont oddiwrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt." (Goleuad, 1891, Rhagfyr 3, t. 9).

Yn 1892 dewiswyd yn flaenoriaid, William Griffith, T. E. Jones a R. Owen. Mai 11 y dechreuodd R. R. Jones bregethu. Yn 1899 ymadawodd i Lwyneinion ger y Bala.

Ebrill 2, 1893, rhowd galwad i Mr. Lewis Williams. Daeth yma o eglwys Siloh, Aberystwyth. Ebrill 12, dechreuodd W. Vaughan Jones bregethu; Mehefin 27, 1894, dechreuodd Thomas J. Jones; Mehefin 29, 1899, dechreuodd T. Llewelyn Thomas.

Profwyd gradd o adfywiad yn ystod 1894. Dechreuwyd teimlo rhyw ysbryd newydd yng nghyfarfod gweddi'r bobl ieuainc. Ymhen amser cafwyd wythnos o gyfarfodydd gweddi, ac yna wythnos o bregethau. Cafwyd cyfarfod eglwysig i groesawu 20 o ddychweledigion yn nechre Tachwedd. (Goleuad, 1894, Tach. 7, t. 6).

Yn 1897 talwyd y gweddill o'r ddyled ar yr adeiladau, sef £172. Yn 1898 chwalwyd i lawr yr hen ysgoldy a'r tŷ capel, a gwnawd rhai newydd. Traul, dros £1400.

Arferid cynnal yr ysgol Sul yn y capel hyd 1862, pryd y symudwyd y plant i'r hen ysgoldy, hyd ar ol helaethu'r capel yn 1863. Yna cadwyd ysgol y plant ar y llawr a'r rhai mewn oedran yn y llofft. Yn 1877 symudwyd y plant drachefn i'r hen ysgoldy, ac ar wahan y maent er hynny. Adeiladu ysgoldy Penrallt, 1864, a'r Groeslon, 1886. Cychwyn cangen-ysgol yn yr hen ysgoldy genhedlaethol, 1880 (Croesywaen wedi hynny); ym mhlas Glanrafon 1883, yr hon gynhaliwyd am rai blynyddoedd. Bu ysgol yn y Wredog isaf yn ymyl yma am ystod o amser yn lled gynnar yn y ganrif o'r blaen. Owen Jones y siop oedd arolygwr yr ysgol yn amser Richard Jones. Bywiog, gweithgar ac effro ydoedd ef. Symudwyd Richard Jones o ddosbarth y plant i ddosbarth Dafydd Thomas y Tai isaf, sef dosbarth o fechgyn o 12 i 18 oed. Y Dafydd Thomas yma ydoedd ysgrifennydd yr ysgriflyfr y dyfynnwyd gynifer o weithiau ohono. Cafodd Richard ieuanc hyfforddiant trwyadl ac effeithiol mewn hanesiaeth ysgrythyrol yn y dosbarth hwnnw. Cau y Beiblau y deng munud olaf, a holi drachefn ar yr hyn yr aethpwyd drosto o'r blaen, cynllun a gymhellir gan Richard Jones i sylw eraill. Dyma adroddiad ymwelwyr y Canmlwyddiant: "Tachwedd 8, 1885. Waenfawr. Nifer yn bresennol, 130. Cerir y gweithrediadau ymlaen mewn tawelwch, oblegid fod ysgol y plant dan bedair arddeg oed ar wahan. Y dosbarth rhagoraf mewn darllenyddiaeth yn yr holl gylch ydoedd dosbarth o ferched ieuainc a welsom yma. Cyffredin a difywyd oedd yr atebion yn rhai o'r dosbarthiadau canol. Mewn un dosbarth o fechgyn ni thelid nemor sylw i orffwysfan, pwyslais, oslef na theimlad. Ymunodd yr ysgol mewn siant, yn cael eu cynorthwyo gan offeryn, mewn modd swynol iawn. Cymerir gryn drafferth yn yr ysgol hon gyda chwestiynau gwobrwyol y Cyfarfod Misol a'r Cyfarfod Ysgolion, a saif yr ymgeiswyr yn gyffredin yn anrhydeddus ar y rhestr. Tachwedd 1. Ysgol y Plant. Nifer yn bresenol, 135. Un o'r ysgolion rhagoraf yn y dosbarth. Trefn dda a disgyblaeth gampus. Popeth yn gweithio fel peirianwaith, a'r athrawon fel yn cael pleser yn y gwaith. Canu rhagorol. Pe rhennid rhai o'r dosbarthiadau ieuengaf, fe fyddai'r ysgol hon yn gynllun perffaith o drefniant addysgol. Y plant lleiaf yn dysgu'r A B fel dysgu cân heb adnabod y llythrennau. Dylesid newid y dull hwnnw. Hydref 25. Penrallt. Ffyddlondeb mewn man anghysbell. Y dosbarthiadau ieuengaf yn darllen yn bur wallus. Ymgais i'w gwella. Cyfarfod darllen gyda'r plant yn ystod yr wythnos. Atebion cyffredin yn y dosbarthiadau hynaf, a'r gwersi yn ddieithr iddynt. Dosbarth o rai mewn oed yn dysgu darllen. Wedi esgeuluso hynny pan yn ieuanc, ond yn meistroli eu tasg. Cedwir cyfrif o bresenoldeb pob aelod ar wahan. Hydref 18. Croesywaen. Nifer yn bresennol, 117. Ysgol ragorol, yn cael ei chario ymlaen yn ddoeth ac yn drefnus. Dosbarthiadau o rai o 10 i 13 yn rhy fawr. Bychander yr adeilad yw'r achos. Nid oes dosbarth athrawon ynglŷn â'r ysgol. Ymgais dda i ddarllen; gwybodaeth ysgrythyrol ganmoladwy; ond byddai mwy o bara- toad yn fanteisiol. Y'llafur' yn yr holl ysgol allan o faes neilltuol wedi ef nodi yn flaenorol. D. Davies (Tremlyn). W. Gwenlyn Evans."

Wmphra Thomas oedd yr arweinydd canu cyntaf y mae dim cyfeiriad ato, a thebyg ei fod ef yn cyflawni ei swydd yn Nhŷucha'r-ffordd. Dafydd Hughes Pendas wedi hynny. Bu ef farw yn 1814. Thomas Williams Tŷ cwta ydoedd y dechreuydd canu cyntaf a gofid gan Dafydd Thomas, ac felly, mae'n eithaf tebyg, olynydd Dafydd Hughes. Y nesaf Wmphra William, brawd ei ragflaenydd. "Rhuo fel tarw," ebe Dafydd Thomas. Tebyg yn eu dull oedd y ddau frawd, ebe un cofiannydd. Disgrifir Wmphra William ganddo ef fel dyn dros ddwy lath o daldra. Gwr parod ei atebion. Ynghongl y sêt fawr y dechreuai'r canu. Cau ei lygaid wrth ganu, ac ysgwyd ei ben yn fawr. Siwr o'r dôn. Llais tenor uchel a chlir a da. Y mae yna ddisgrifiad arall eto o Wmphra William fel canwr, sef eiddo Richard Jones. Daw nid ychydig of bethau eraill i'r golwg o'r cyfnod hwnnw, heblaw y canu, yngoleu y disgrifiadau hyn. Henwr tal, trwm, corffol, ebe Richard Jones. Ar ol rhoi'r emyn allan, ebwch anaturiol. Ymsaethai y llais i fyny i'r entrych, ac yno yn cwafrio am ennyd mor ddireol ag ystranciau barcutan bapur. Ceisio dod o hyd i'r cyweirnod y byddid yn ystod y troadau rhyfedd hyn, ac yna wedi ei gael dechreuai'r gynulleidfa ymuno. Ystumiau anaturiol Wmphra William ar ei wyneb yn debycach i ddyn yn crio nag i ddyn yn canu. Os byddai dieithriaid yno, Richard ieuanc yn gobeithio'r anwyl na cheid ddim seiat y noson honno, er mwyn i'r côr gael cyfle i ddal anrhydedd cerddorol y Waen i fyny yn eu golwg. Addefa Richard Jones na wyddai neb yn y Waen y pryd hwnnw cystal ag Wmphra William pa fodd i ddod o hyd i'r cyweirnod. Yna William Davies, gyda rhyw lais main, fel llais merch, ebe Dafydd Thomas. Yn 1860 y bu Wmphra William farw. Y pryd hwnnw y dewiswyd Pierce Williams, Morgan Jones a Moses Roberts: yr olaf yn absen y lleill. Yr adeg yma y dechreuwyd ymroi o ddifrif i ganiadaeth. Rhoes lliaws o wŷr ieuainc eu bryd ar hynny, fel y daeth canu y Waen yn y man yn enwog drwy Gymru. Pierce Williams, heb feddu ar ragoriaeth anarferol mewn llais, oedd sicr o'i nôd bob amser. Yn rhagori ar bawb a glywodd Mr. J. W. Thomas am dôn ar gyfer pob rhywogaeth o bennill roid allan, a rhoid allan y pryd hwnnw, weithiau, benillion na chlywsid o'r blaen, a phenillion go ddireol. Ond boed y pennill y peth y bo, byddai Pierce Williams yn gywir ddifeth gyda'r dôn. Enwir Thomas Jones Llys Elen ac Owen Griffith (Eryr Eryri) yn arbennig fel rhai a lafuriasant gyda chaniadaeth. Yr oedd Owen Griffith yn gyfansoddwr tonau, a rhoddai fynegiant ardderchog fel arweinydd i ambell bennill. Bu côr y Waen yn wasanaethgar iawn yng nghymanfaoedd yr ysgol Sul a dirwest ar un adeg, o dan ei arweiniad ef. Tuag 1878 y dygwyd yr offeryn i'r addoliad. Yr arweinydd ers 1890 ydyw Mr. J. W. Thomas. Y canu, bellach, o nodwedd uwchraddol, yn arbennig ar y prydiau hynny pan fo hwyliau'r arweinydd yn cael eu bolio allan gan yr awelon. Anibynwr ydoedd Richard Owen Pritchard, a ymfudodd i'r America rai blynyddoedd, hwyrach, yn ddiweddarach nag 1861. Bu iddo ef ddylanwad arbennig ar ganiadaeth yr ardal.

Yr hen bobl with holi profiad, ebe Pierce Williams, yn ceisio olrhain meddyliau a bwriadau'r galon. Rhoid cwestiwn go blentynaidd ar dro. Rhydd Pierce Williams fel engraifft,—"A fuaset ti yn leicio cael crefydd ?" Cododd un brawd ar ei draed yn y man, cerddodd at y sêt fawr, a gwnaeth ei apel at y blaenoriaid, pa beth a feddylid ganddynt yn eu gwahodd yno,—hwy oedd wedi bod yn gweithio yn galed drwy'r dydd yn y chwarel,—ac heb ddarparu yn well na hynny ar eu cyfer. Beth oedd rhyw gwestiwn plentynaidd, neu waeth na phlentynaidd, fel, "A fuaset ti yn leicio cael crefydd ?" yn dda? "Beth fuasechi yn ddisgwyl fel ateb ond, 'Buaswn.' Pe buasechi yn gofyn y cwestiwn i'r cythraul ei hun, tebyg mai 'Buaswn' fuasai ei ateb yntau." Fel mai rhaid ydoedd wrth ofal yr adeg honno wrth ymlwybro ymlaen. Holid yn llym wrth dderbyn i aelodaeth. Eithr os byddai'r ym— geisydd yn gwisgo yn o blaen, ac heb ddilyn yr arfer newydd. gyda'r gwallt, elai hynny ymhell iawn o'i blaid. Ond gyda phob cyfyngdra yn y dull, ceid yn fynych wlith bendith ar y cyfarfodydd.

Disgyblaeth lem oedd yr arfer. Hen wr parchus,—ef a'i deulu ymhlith y rhai mwyaf eu dylanwad yn y lle—wedi cymeryd un gwydraid o gwrw ar dro. Diarddelwyd ef. Chwerwodd y teulu. Daeth yr hen wr i'r seiat yn ol cyn bo hir. Eithr fe ddarfu'r amgylchiad ddifetha ei ddylanwad fel crefyddwr am weddill ei oes. Geneth dlawd wedi cael gŵn sidan wedi ei droi heibio. Ei rhybuddio na thalai y cyfryw ffardial mo'r tro yno. Ei wisgo a wnaeth yr eneth, er hynny, am nad oedd ganddi yr un arall, a chafodd lonydd. Yr eneth yn cael un o'r hen foneti mawr ar dro arall, a hwnnw yn drwmlwythog o flodau a dail amryliw. Yr hen flaenor, —yr un un ydoedd—wedi ei gynhyrfu y tro hwnnw i'r gwaelod isaf, nes colli ei limpin yn lân. Ni ddywedir ddarfod diarddel yr eneth y troion hyn, namyn ei cheryddu yn dost anaele.

Blinid y saint, hefyd, ar brydiau gan ymrafaelion. Llusgwyd Cadi Beca allan o'r seiat aml waith, am na fynnai hi fyned heb ei llusgo. Er ei llusgo allan, byddai Cadi yn ol y seiat nesaf, neu'r nesaf at honno. Cadi Beca ydoedd ei henw y tuallan i'r seiat, ond Catrin William y gelwid hi oddifewn, o achos mai William Dafydd oedd ei thad. Wrth godi yn ei le un tro, ebe'r pen blaenor, "Mi welaf Catrin William yma heno. 'Dwyti ddim ffit i fod yma, ac am hynny, dos allan!" Eithr nid mor rhwydd a hynny y ceid gwared o Gatrin. A bu yno beth ymgecraeth. Richard Jones a sonia am dani fel Catrin Ty'n drwfwl. "Llarpen o fenyw drom, ferr a chethin yr olwg arni." Ymladd a chweryla oedd y pechod parod i amgylchu Cadi, a gallai arfer ei dyrnau gyda deheurwydd ac effeithioldeb. Un tro, yn y seiat, wedi i'r ddedfryd fyned i'w herbyn, hi a gododd ar ei thraed, a heriodd un o'r blaenoriaid wrth ei enw, os ydoedd ei hun yn ddibechod, am fyned ag agor y drws iddi. Byddid mewn penbleth weithiau i wybod pa beth a wneid â hi. Gadawodd Cadi yr ardal ymhen amser, a'r wlad a gafas lonydd. Er hynny, hi lynodd yn ddewr wrth grefydd i'r diwedd. A thebygir, wedi'r cwbl, nad ydoedd mor ddrwg ei chalon.

Y mae Dafydd Thomas yn sôn am weddïwyr hynod a glywodd yma. Fe ddywed y cyfrifid Owen Salmon, brawd Griffith Solomon, gan Owen Williams, awdur y Geirlyfr, yn un o'r rhai goreu a glywodd efe erioed fel gweddiwr. Cyfrifai Dafydd Thomas ei hun William Thomas Brynmelyn yn un o'r rhai mwyaf cynwysfawr, er fod eraill mwy gwlithog. "Dynion heb allu darllen ond yn bur garbwl, megys John Williams Dwr oer, William Owen Gwredog, William Jones y crydd, Roger Williams a Robert Rolant,—yn hollol anllythrennog, ac heb eu hystyried yn llawn mor llachar a'r cyffredin mewn pethau eraill, ond yn feistriaid y gynulleidfa pan ar eu gliniau, ac yn gallu hoelio clust pawb wrth eu lleferydd." Dywed Mr. Owen Jones (yr Eryri) mai Richard Griffith, a ymfudodd i'r America pan tua 30 oed, oedd un o'r rhai hynotaf mewn dawn gweddi a glywodd efe erioed.

Sonir am rai brodyr a chwiorydd go hynod heblaw y rhai a nodwyd. Enwyd Dafydd Hughes y Bendas fel dechreuwr canu. Daeth at grefydd yn fore a pharhaodd hyd yn hwyr. Dywed John Owen y byddai ganddo sylwadau hynod. Edrydd un: "Mae cychod y Borth yna yn cario pob rhyw beth, môch a phopeth. Ond ni wna cychod y plasau yna mo hynny, ac y mae rhyw arogl da yn dod ohonyn nhw. Ac felly y gwelwchi rai dynion yn foddlon i dderbyn a chario popeth, ond ni wna'r duwiol mo hynny." John Ellis Tŷ—ucha'r—ffordd oedd hen gristion da, diniwed. Ei hoff adnod ar weddi, "Os gallant ymbalfalu am dano a'i gael ef." A gwaeddai "Gogoniant" ar brydiau wrth ei choffhau. Evan Dafydd Llys y gwynt oedd hen wr parod, hoew, o dymherau bywiog, heb nemor allu. Pan glywai rai yn tueddu at brofiad uchel, ei air fyddai, "Cadw amat rhag anghofio'r Arglwydd dy Dduw"; a phan glywai rai yn tueddu at ddigalondid, "Cofia dy air wrth dy was, yn yr hwn y peraist iddo obeithio." Owen Salmon, brawd y Parch. Griffith Solomon, a thad Richard Owen Bryneithin, y blaenor, a fu fyw i oedran teg, gan wella yn ei grefydd o hyd. O feddwl cryf a barn addfed. Sonir am "William Morgan ieuanc, nefolaidd ei ysbryd, yr hwn a fachludodd ynghanol ei ddisgleirdeb." (Drysorfa, 1852, t. 205). Sonia Mr. Thomas Jones Tŷ capel am Owen Ellis ac Ellis Roberts, meibion Griffith Ellis Cil haul. Yr oedd William Ellis, yn enwedig, â rhywbeth nodedig iawn ynddo. Ysgubwyd hwy i mewn i'r eglwys gan donn diwygiad 1859. Daeth i'r golwg yn Owen yn union ddawn nefolaidd. Yr oedd swyn yn ei lais: yr ydoedd yn felodaidd ac yn fwyn. A chlywid yn ei weddiau syniadau anarferol. Ni oerodd ei gariad cyntaf, a bu farw yn fuan wedi i donn y diwygiad gilio yn ol. Ellis Roberts oedd ganwr carolau. Dyna un—"Er cofio'r dydd ganwyd ein Ceidwad mewn pryd." Ond ei hoff garol oedd "Carol y blwch." Diweddai pob pennill ohono gyda'r llinell—"Rhoi blwch aur Nadolig yn Glennig i'r da." Cenid carolau y pryd hwnnw ar nosweithiau'r Suliau o flaen ac ar ol y Nadolig. Drwy gelfyddyd Noah y trowyd cywion y gigfran yn golomennod hawddgar. John, brawd Pierce Williams, ebe Mr. Thomas Jones, oedd yn tebygu i Owen Ellis yn ei ddawn gweddi. Dechreuai Evan Jones Llys y gwynt, tad Mr. Thomas Jones, gyfrif ei oed o'r diwygiad yn 1859. Gofynnai am gael ei dderbyn fel bachgen 21 oed i'r cyfarfod gweddi bechgyn ieuainc fore Sul. Dilyn pob cyfarfod gweddi yn ddifeth ar ol hynny.

Rhai merched go neilltuol hefyd. Soniwyd am Malan Thomas o'r blaen. Martha Gruffydd, gwraig John Ellis, a feddai fwy o wybodaeth na'r cyffredin. Mam yn Israel. Gwraig synhwyrol a chrefyddol ydoedd Pegi Richard yr hen siop. Yr oedd Pegi Salmon, gwraig Evan Dafydd, a chwaer Griffith ac Owen Salmon; Pegi Jones, gwraig William Owen; ac Elin Williams Tŷ hen, i gyd yn wragedd a gair da iddynt gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun, ebe John Owen, yr hwn a gyfeiria atynt yn y dull byrr yma. Dyma sylwadau o eiddo Mr. R. O. Jones am ferched oedd yma o fewn ei gof ef ei hun: "Y fwyaf nodedig oedd Modlan, neu Magdalen Jones, priod Owen Jones y Siop, ac wedi hyny, Capten Pritchard. o Gaernarvon. Merch ydoedd hi i Robert Jones Rhoslan. Meddai brofiadau a theimladau crefyddol uchel, a byddai'n fynych mewn hwyl nefolaidd yn rhoi datganiad i'w chariad ar y Gwaredwr. Ymroddai i ddysgu a hyfforddi plant yr ardal yn y Beibl. Cynhaliai gyfarfodydd i holi'r plant yn hanes gwroniaid yr Hen Destament, weithiau yn ei thŷ neu dai cymdogion, neu yn yr awyr agored, weithiau yn y capel neu ysgoldy Penrallt. Byddai wrth ei bodd ynghanol twrr o blant, yn eu hyfforddi yn hanesion yr Hen Destament ac yn hanes y Gwaredwr. Hawdd iawn fyddai gan fechgyn ieuainc dyrru at ei gilydd ar y Sul i Bont y Cyrnant, a llawer gwaith y gwelwyd Modlan yn myned i'w canol i ddarllen rhannau o'r Beibl ac i'w cynghori. Hefyd, yr oedd yn llenores pur dda. Cyhoeddodd rai llyfrau bychain, addysgiadol, megys Rhodd Nain ac eraill. Bu farw yn 1895. [Lled hawdd ei thramgwyddo ydoedd, a chynhaliai gyfarfodydd o'i heiddo ei hun yn ei thŷ ei hunan, pan wedi digio wrth awdurdodau y capel. Yng nghyfarfodydd y merched, a gynhelid y pryd hwnnw, hi roddai fawr bwys ar addurniadau mewn gwisg fel arwyddion o falchter ysbrydol.] Un hynod iawn, hefyd, oedd Ruth Williams, mam Mr. D. P. Williams, Y.H., Ei hynodrwydd hi oedd tanbeidrwydd teimlad mewn canmol trefn cadwedigaeth. Nid oedd yn yr holl wlad ei gwell am orfoleddu. Nid yn unig moliannai â'i thafod, ond byddai'n neidio ac yn dawnsio yn ei sêt ac ar lawr y capel, a llawer gwaith y parhaodd i orfoleddu ar hyd y ffordd tuag adref o'r capel. [Yr ydoedd un tro, ebe Mr. Thomas Jones, wedi plygu y cwd blawd a'i ddodi dan ei het silc fawr, er mwyn ei gadw allan o'r golwg yn y gwasanaeth. Eithr hi anghofiodd am y cwd blawd pan ddechreuodd orfoleddu, ac aeth yr het i gantio y naill ochr, nes bod y blawd yn colli dros ei dillad. Byddai'n gorfoleddu law yn llaw â phobl wrth gerdded allan drwy'r capel. Ymadrodd a geid yn fynych ganddi, fel gyda mam Carlyle, oedd "gwreiddyn y mater." "A yw gwreiddyn y mater gen ti?" Gyda'r teimlad uchel hwn, nid oedd heb graffter i adnabod yr ysbrydion. Ceisiai gweinidog ieuanc unwaith ei thynnu allan, pan ar ymweliad â hi yn ei thŷ, er mwyn cael arddanghosiad o deimlad uchel, debygid. Yr ydoedd hi y pryd hwnnw dros 90 oed. Atebai hithau yn eithaf claiar, nad allai pobl ieuainc ddim myned i mewn i brofiad yr hen yn y cyfryw bethau.] Margaret Pritchard, (Pegi Richard John Owen yn ddiau), mam Richard Jones, awdwr yr erthygl yn y Traethodydd, a edrychid arni fel un o'r gwragedd mwyaf llednais a duwiol yn yr ardal. Barbara Pritchard oedd nodedig am ei gallu a'i dawn i weddio, a'i chwaer ieuangach, Sian Pritchard, oedd yn byw beunydd yn y Beibl. Merched yr hen flaenor, Richard Owen, oedd y ddwy olaf. Cynhelid cyfarfod gweddi y merched yn rheolaidd am lawer o flynyddoedd. Arferai'r gwragedd wisgo cap gwyn wedi ei gwilio o dan eu hetiau. Gwisgai rhai ddwy res neu dair o gwilyn; ond ni oddefid hynny yn y cynulliad hwn. Gwrthododd un wniadwraig gydymffurfio â phenderfyniad y lleill, a diarddelwyd hi o'r cyfarfod gweddi!"

Y mae gan Mr. R. O. Jones sylwadau pellach, yn dwyn perthynas â'r ysgol Sul, dirwest, y gymdeithas lenyddol a'r Cyfarfod Misol: "Rhwng 40 a 50 mlynedd yn ol, cymerodd amryw frodyr (na chrybwyllwyd am danynt yn y gweddill o'r hanes presennol), ran flaenllaw iawn ynglyn â'r ysgol Sul, addysg, llenyddiaeth a'r achos dirwestol. Cychwynnwyd ganddynt gyfarfodydd llenyddol, a ffurfiwyd undeb llenyddol rhwng y Waen, Ceunant a Llanrug. Cymerodd Ebenezer Morris, a fu yma yn ysgolfeistr am lawer o flynyddoedd, ac a ymadawodd oddiyma ddiwedd 1869 i Borthaethwy, ran flaenllaw gyda'r ysgol Sul, a gwnaeth wasanaeth rhagorol ynglyn â llenyddiaeth. Yr oedd bywiogrwydd a sel Moses Roberts, brodor o Dalsarnau, gyda'r ysgol a'r achos dirwestol, yn eithriadol. Dafydd Thomas oedd yn athraw llwyddiannus, ac yn fyw i bob diwygiad cymdeithasol. Owen Jones (yr Eryri), Thomas Jones Cyrnant lodge, Richard Jones Tŷ capel, Evan Evans, Richard Griffith Ty'r gorlan, Thomas Jones Brynmelyn, O. Griffith (Eryr Eryri) ac eraill, oedd i gyd yn amlwg iawn gyda'r ysgol a llenyddiaeth, a chymerent ran amlwg yn nygiad ymlaen waith allanol yr eglwys. A symbylid y swyddogion ganddynt hwy ac eraill yng nghyfeiriad bugeiliaeth eglwysig. Y cam cyntaf tuag at hynny oedd cael y Parch. D. Morris Caeathro yma i gynnal seiadau.

"Ymddengys fod y Cyfarfod Misol yn cael lle mawr yma yn adeg ein tadau. Rhywbryd tua'r flwyddyn 1848, bu yma Gyfarfod Misol eithriadol o luosog. Yr oedd y capel yn orlawn, a thyrfa allan yn llanw'r cowrt a'r ardd o flaen y capel. Pregethid yn y ffenestr wrth ochr y pulpud. Yr oedd Henry Rees yma yn cymeryd rhan. Yma, hefyd, mewn Cyfarfod Misol y bu John Williams Llecheiddior dan dipyn o gerydd y diwrnod cyntaf, ond yn seiat y bore dilynol dywedodd ychydig eiriau gyda'r fath hwyl nes y torrodd allan yn orfoledd. Rhowd croesaw calonnog i Gyfarfod Misol 1869, er fod yr eglwys dan faich lled drwm, wedi rhoi traul fawr ar ailadeiladu'r capel, yn talu llawer at dreuliau'r ysgol Frytanaidd, ac wedi dechre cynnal gweinidog. Ym Medi 1883 caed yma Gyfarfod Misol fel cymdeithasfa yn ei weithrediadau a'i boblogrwydd. Yn hwn yr ordeiniwyd John Thomas i fyned allan fel cenhadwr i Fryniau Cassia. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan Thomas Lewis, oedd wedi bod ar ymweliad â'r maes cenhadol, a'r Parchn. Edward Griffith Meifod, Rhys Jones, Dafydd Morris, W. Rowlands, Josiah Thomas, Thomas Levi, D. Charles Davies a'r Dr. Lewis Edwards."

Y mae Pierce Williams yn cyferbynu pethau fel yr oeddynt (dyweder, tuag 1850-65), ac fel y maent yn awr (1890). Mwy o arddanghosiadau corfforol o deimlad y pryd hwnnw. Gofyn am arwydd go amlwg o argyhoeddiad mewn ymgeisydd am aelodaeth. Nid oedd i un ddweyd ei fod yn gweddio yn ddigonol. Rhoi mwy o bwys ar yr hyn y tybid eu bod yn arwyddion allanol o falchter, megys gwisg. Heb roi cymaint pwys ag yn awr ar gyfrannu at gynnal crefydd. Heb eu deffro i ystyr y wedd wleidyddol ar grefydd. Mwy o ryw fath o waith gyda chrefydd yn awr, gyda llai o deimlad. Gellir cymeryd yr hen bobl yn ysgafn wrth edrych arnynt o rai cyfeiriadau; ond yr oeddynt wedi eu cyfaddasu i'w hoes eu hunain, ac yn effeithiol i'r gwaith y galwyd hwy iddo.

Rhif yr eglwys yn 1900, 446. Y ddyled, £924.

BETWS GARMON (SALEM)[3]

EIR heibio'r Betws ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Feddgelert, drwy'r bwlch i bentref Salem, a elwir felly oddiwrth y capel. Yr ydys yma yn ymyl Llyn Cwellyn. Y mae'r pentref chwe milltir o Gaernarvon, ac y mae tair milltir ymlaen i Rhyd-ddu. "Yr oeddwn yn awr yn tynnu tuag ardal fynyddig yr Eryri," ebe George Borrow. "Yr oedd bryn ardderchog a elwid Moel Eilio o'm blaen tua'r gogledd, a mynydd enfawr a elwid Pen Drws Coed [Mynyddfawr] yn gorwedd gyferbyn ag ef i'r de, yn union fel eliffant ar ei orwedd, gyda'i ben yn is na thopyn ei gefn. Ymhen encyd aethum i ddyffryn heulog, tlws odiaeth, ac yn y man daethum i bont ar draws ffrwd hyfryd [y Wyrfai] yn rhedeg yng nghyfeiriad y de. Fel y safwn ar y bont honno prin na ffansiwn fy hun ym mharadwys, gan mor hardd neu mor fawreddus yr edrychai popeth -gwyrddion weunydd heulog orweddai ym mhobman o'm deutu, yn cael torri ar eu traws gan y ffrwd, ag yr oedd ei dyfroedd yn rhedeg gan dincian chwerthin dros wely o raian. Eilio ardderchog i'r gogledd, anferth Ben Drws Coed i'r de, mynydd tal ymhell tuhwnt iddynt i'r dwyrain. 'Ni bum erioed mewn ysmotyn mor hawddgar!' mi lefwn wrthyf fy hun mewn perlewyg hollol. 'O mor falch a fuaswn i wybod enw'r bont y cefais y nef wedi ei hagoryd i mi, megys y dywedai fy hen gyfeillion yr Ysbaenwyr, wrth sefyll arni [Pont y Betws]. . . Gan gerdded yn gyflym tua'r de daethum yn fuan at derfyn y dyffryn. Terfyna'r dyffryn mewn bwlch isel rhwng Moel Eilio-ag sydd gyda llaw yn rhan o esgair y Wyddfa-a Phen Drws Coed. Yr olaf, yr eliffant yn ei orwedd gyda'i ben wedi ei droi i'r gogledd-ddwyrain a ymddengys fel ped ewyllysiai fario'r bwlch gyda'i dduryn. Wrth y duryn y meddyliaf fath o gefnen riciog yn disgyn i lawr at y ffordd. Aethum drwy'r bwlch, gan fyned heibio i raiedryn bychan, a red gyda llawer o dwrf i lawr ochr serth y Foel Eilio. . . Rhed yr afon gan drochionni heibio blaen eithaf swch yr eliffant. Gan ddilyn cwrs yr afon daethum allan gyda hi o'r diwedd o'r bwlch i ddyffryn amgylchynedig â mynyddoedd anferth. Yn estynedig ar hyd-ddo o orllewin i ddwyrain, ac yn meddiannu ei ran ddeheuol yn llwyr, fe orwedd llyn o ddwfr hirgul, y tywallt cornant y bwlch ei hun iddo. Un o'r lliaws llynoedd hardd ydoedd hwn, ag yr oeddwn ychydig ddyddiau yn gynt wedi eu gweled o'r Wyddfa. Am y Wyddfa, gwelwn hi'n awr yn uchel uwch fy llaw yn y gogledd-ddwyrain yn edrych yn fawreddog iawn yn wir, yn disgleirio fel helm arian tra'n dal gogoniant machlud haul. Aethum rhagof yn arafaidd ar hyd y ffordd, y llyn is fy llaw ddeheu tra'r oedd ochr lethrog y Wyddfa uwch fy llaw aswy. Y prynhawnddydd oedd dawel-lonydd, ac nid oedd unrhyw drwst yn disgyn ar fy nghlust, oddigerth swn pistyll a ymdywalltai i'r llyn oddiwrth fynydd du a guchiai oddiarnodd ar y dde, ac a daflai gysgod prudd ymhell drosto. Y rhaiadr hwn oedd yng nghymdogaeth craig hynod yr olwg arni, a ymdaflai dros y llyn oddiwrth ochr y mynydd. Crwydrais gryn bellter ffordd heb gyfarfod na gweled neb byw bedyddiol. . . . Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn y mae'r llyn yn llawer eangach nag y gwelswn ef o'r blaen, canys yr oedd y mynydd hirfaith ar y dde wedi cyrraedd ei derfyn, a'r llyn wedi ymestyn gryn lawer yn y rhanbarth honno, ac yn lle'r mynydd du yr oedd bryn prydferth tuhwnt iddo." Yn y modd hyn y deonglir cyfriniaeth naturiol yr olygfa gan George Borrow. Diau y teimlodd lliaws o frodorion y lle ei hunan gyfriniaeth uwch hyd yn oed na hon yn yr un olygfa ar adegau o ddyrchafiad ysbrydol; ond erys yr olygfa am ei dehongliad teilwng gan ryw athrylith sydd eto yn aneffro, hyd y gwyddis.

Er fod yr eglwys wladol yn y lle hwn ar gychwyniad Methodistiaeth, pryd nad ydoedd yn y Waenfawr a'r Rhyd-ddu, eto fe lynodd cysgodion nos yn hwy yma nac yn y lleoedd hynny o lawer o flynyddoedd, yn enwedig yn hwy nag yn y Waen, er agosed ydoedd. Wedi i halogwyr dydd yr Arglwydd ddechre gwladeiddio yngwydd crefyddwyr, hwy gilient yma o ddau ben yr ardal er cael llonyddwch gyda'u gorchest-gampau. A cheid ymrafaelion mynych rhwng hogiau y ddau ben i'r ardal. Fe fyddai'r campwyr hyn yn dilyn y gwasanaeth fwy neu lai yn yr eglwys, a gwelwyd yr offeiriaid yn llywyddu yn y mabol-gampau wedi i'r gwasanaeth fyned drosodd. Yr oedd yr eglwys a'r dafarn yma yn gyfleus yn ymyl ei gilydd. Dechreuid y dydd yng ngwasanaeth yr eglwys; diweddid yng nghyfeddach y dafarn. Elai'r elw oddiwrth y campau i gynorthwyo rhai mewn angen, neu ryw achos a gyfrifid yn deilwng. Rhoid gwobrau am saethu a champau eraill, a thelid rhywbeth i lawr am gynnyg. Yr arian a delid felly elai i gynorthwyo'r achosion dyngarol. Fe daflai'r amcan dyngarol oedd iddynt glôg o gyfiawnder ymarferol dros y campau, a chyda'r ateg hwnnw iddynt fe barhausont yn llawer hwy.

Yn yr awyrgylch neilltuol yma nid yw mor anhawdd deall pa fodd y coleddid ysbryd mor erledigaethus tuag at y penaugryniaid llym eu chwaeth a rhagfarnllyd eu syniadau. Ac felly ni ddarllennwn ym Methodistiaeth Cymru (II. 146) am y pedwar gwŷr hynny elai o Lanberis drwy Nant y Betws i Helyghirion, rhwng Llangybi a Phwllheli, y byddai raid gofalu er mwyn osgoi erledigaeth o'r fath fwyaf sarhaus, am fyned drwy'r Nant cyn codi o'r trigolion y bore, ac aros nes iddi nosi cyn dychwelyd drachefn.

Fe godir nodiadau John Davies yr Ystrad yma ar hanes dechreuad yr achos allan o'r llyfr eglwys. Ysgrifennwyd hwy yn ddiweddarach na'r amgylchiadau eu hunain. Eithr yr oedd efe yn sylwedydd craff ac yn gofiadur da.

"Yr oedd y gymdogaeth neu Nant y Betws cyn dechre cadw ysgol Sabothol a phregethu'r Efengyl ynddi yn debyg i'r geiriau hynny yn Esieciel y Proffwyd, 'Canys tywyllwch a orchuddia't ddaear a'r fagddu y bobloedd; ond arnat ti y cyfyd yr Arglwydd ei oleuni'—sef ar yr ysgol Sul a phregethu'r Efengyl—'a'i ogoniant a welir arnat.'

'Cyn i'r Methodistiaid ddechre cadw ysgol yng Ngherryg y rhyd a Bron y fedw, yr oedd y Wesleyaid wedi bod yn cadw ysgol yn ysgubor Plas isa am dymor cyn adeiladu capel Salem neu Dynyweirglodd. Y bregeth gyntaf wyf yn gofio ganddynt oedd yn hen ysgubor John Williams Betws dafarn, dan yr un to a thŷ Ann Thomas, wrth glawdd yr hen fynwent cyn adeiladu'r llan newydd. Y pregethwr oedd genhadwr perthynol i'r Wesleyaid wedi dod o Affrica. William Davies oedd ei enw. Buont yn pregethu wedi hyn yn Llecha rola. Ychydig o lwyddiant fu ar eu llafur yn y gymdogaeth. Enillwyd ychydig i broffesu, sef dau fab Caeau gwynion, Humphrey Hughes a Richard Hughes, William Roberts Llecha rola a'i wraig. Ond darfod a wnaeth yr achos yn bur fuan wedi gwneud y capel yn Nhynyweirglodd.

"Pan y dechreuodd John Pritchard gadw ysgol yng Ngherryg y rhyd, cyn bo hir iawn fe ddechreuwyd cadw cyfarfod gweddi yno. John Pritchard, John Owen Hafod y rhug, John Williams Dwr oer, William Owen Tŷn drwfwl, a Rowland Morris Cae ystil, John Elis teiliwr, Owen Owens Pant y waen, Richard Owen, Thomas Griffith Pant cae haidd, Thomas Williams Tŷ cwta, Morgan Owen Ty'n cae newydd, Elis Hughes Ty'n'ronen, David Hughes Pen y cae, ac amryw eraill nas gallaf eu cofio. Byddent yn dyfod bob yn bedwar at chwech o'r gloch nos Saboth pan na byddai pregeth yn y Waen. A byddai amom ninnau y plant gymaint o'u hofn a phe baent yn bedwar o angylion, a ffoi y byddem i ryw gysgod rhag iddynt ein gweled. Mae plant ein heglwysi ni'n awr yn bur wahanol—dim ofn crefyddwr mwy na rhyw ddyn arall.

"Ond fe lwyddwyd i gael pregethwr i Gerryg y rhyd, sef John Thomas Llanberis. Bu Rowland Abram Ysgoldy yno yn pregethu. Nid oes gennyf ddim cof am y bregeth. Yr oedd y tŷ yn orlawn o bobl yn gwrando. Wedi hyn cymerwyd y capel am rent gan y Wesleyaid. Ymhen rhyw ysbaid o amser dechreuodd y Methodistiaid bregethu ynddo. Nid oedd y pryd hyn o Lwyn onn i Lwyn bedw ond ychydig o bersonau yn proffesu. Rees Williams Cwm bychan a'i wraig, Elin Davies Cerryg y rhyd, Ann y ferch, Elin Davies Tŷ coch, Garreg fawr, Cathrin Elis Betws ffarm, Margared Morgans Minffordd, Ann Griffith Hafod y wern, Cathrin Williams Cae Howit. Nid ydym yn cofio am ychwaneg pan y dechreuwyd pregethu yn rheolaidd yn Salem.

"Mae'n debyg na bu mewn un gymdogaeth mor fechan gymaint o hen bobl yn digwydd bod yn fyw ar unwaith ag oedd y pryd hwn yn y gymdogaeth hon. Yr ydym yn cofio fod, rhwng gwŷr a gwragedd, o bump a thriugain i bedwar ugain, yn agos i ddeugain mewn nifer—eu pennau fel y gwlan, y pren almon wedi blodeuo. Byddai'r adnod honno yn Secaria, 8 ben. 4 adnod, yn dyfod i'm meddwl, wrth eu gweled yn myned a dyfod i'r pregethau y Saboth: 'Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerusalem, a phob gwr a'i ffon yn ei law gan amlder dyddiau.' Marged Roberts Tŷ'r capel â'i ffon yn ei llaw, Elisabeth Hughes Plas isa â'i ffon yn ei llaw, Elisabeth Hughes Ty'n y weirglodd â'i ffon yn ei llaw, Gwen Williams Cwm bychan a'i ffon yn ei llaw, Pyrs Owen yn ddyn wrth ei ddwyffon gan amlder dyddiau, William Jones Hafod y wern wrth ei ddwyffon, Owen Griffith Tyddyn Syr Huw wrth ei ffon, John Lewis Tŷ coch a Letis Hughes wrth eu ffyn, John Davies yr Ystrad (tad yr ysgrifennydd) wrth ei ffon, Owen Lewis Betws wrth ei ffon, ac amryw eraill nas gallwn eu cofio, wrth eu ffyn gan amlder dyddiau.

"Yr oedd pregethu'r Efengyl yn y dyddiau hyn yn effeithiol iawn. Gellir dyweyd na bu hi tuag atom ni mewn gair yn unig, ond mewn nerth ac yn yr Ysbryd Glan ac mewn sicrwydd mawr. Yr oedd llaw yr Arglwydd yn cydweithio, a nifer mawr yn credu. Yr oedd tywyllwch ac anwybodaeth a hen draddodiadau ofergoelus yr hen bobl yn gestyll o flaen gweinidogaeth yr Efengyl yn y dyddiau hynny, ond yr arfau nad ydynt gnawdol a fu yn nerthol drwy Dduw i'w bwrw i'r llawr. Argyhoeddwyd amryw o'r hen bobl y soniasom am danynt o'r blaen. Cafodd amryw ohonynt dro amlwg ac effeithiol a buont yn ffyddlon hyd angeu. Gallem enwi rhai ddaeth i'r Seiat yn bedwar ugain, megys Elisabeth Hughes Ty'n y weirglodd (nain Owen Hughes Graianfryn), Pyrs Owen yr Odyn, Margarad Roberts, Caergors gynt, yn awr yn byw yn nhy'r capel efo'i merch, Elisabeth Roberts, yr hon a briododd Griffith Davies Cwm yr ael hir, Nant Uchaf, Llanberis.

"Nid oedd seiat ganol yr wythnos y pryd hyn ond yn y Waenfawr. Byddai Ann Evans Bron y fedw a mam William Thomas Bron y fedw a mam William Jones Ty'n y ceunant, tad Thomas Jones Bron y fedw, y pryd hyn yn dod i'r Waen am flynyddoedd i'r seiat ganol wythnos.

"Pregeth ddau o'r gloch fyddai yn Salem. Byddent yn galw seiat bach ar ol, a byddai rhai yn aros o'r newydd yn wastad o ardal y Waen neu Ryd-ddu neu Salem. Byddent yn dod o Ddrws y coed uchaf, o Lwyn y forwyn, o waith Drws y coed, dros fwlch y noch, ar hyd ochr y planwydd, drwy gors Cwm bychan. Yr oedd ganddynt blanc dros yr afon i ddod i Ddôl y Bala.

Wedi sefydlu pregethu rheolaidd, Rhyd-ddu 10, Salem 2, Waen 6, symudwyd yr ysgol o Gerryg y rhyd, a rhanwyd hi, un ran i fyned i Salem a rhan arall i'r llan. I ganlyn y rhan aeth i'r llan yr aethum i. Yr oedd cyfamod wedi ei wneud rhyngom a'r person, Armstrong Williams, iddo ef ddyfod atom ni i'r ysgol at 9 o'r gloch, a'r ysgol aros gydag yntau yn y gwasanaeth. Byddai ef yn holi yr ysgol yn Hyfforddwr Mr. Charles bob yn ail â John Prichard. Bu yn gwrando pregethau yn yr hen Salem pan oedd yn byw ym Mhlas y nant. Rhyw lechu yng nghil y drws y byddai a diengyd i ffwrdd cyn y diwedd.

"Yr oedd canu Salm yn llewyrchus iawn yn llan y Betws y pryd hyn. Byddai Ffoulk Roberts y Clegyr yn dod atom i'n dysgu, deuai bob nos Sadwrn. Yr oeddem wedi ei gyflogi am ddwy flynedd. Cynyddodd y côr hyd o 40 i 50. Yr oedd lliaws o hen bobl ynddo. Perthynai iddo rai o'r Waenfawr. Ystyrrid ef y côr goreu yn yr holl ardaloedd. Cawsom ein galw i ganu i Lanberis a Llanrug a Llanwnda a Llanllyfni, ac i Landegfan yn sir Fon, pe buasem yn myned. Yr oedd y canu da wedi dylanwadu cymaint ar y bobl fel yr oeddynt yn dylifo o bob man i'w glywed, nes yr oedd yr hen lan yn rhy fechan i'w cynnal.

"Saboth Thomas Owen oedd yn Saboth byth gofiadwy. Saboth y tywalltwyd yr Ysbryd Glan yn helaeth. Yr oedd y Saboth hwnw yn fath o Bentecost i ardaloedd Rhyd-ddu a Salem a'r Waenfawr a'r amgylchoedd. Dau o'r gloch yn Salem wrth bregethu ar weddi Jabes i ychydig hen bobl, syrthiodd yr Ysbryd Glan arnynt nes torri yn orfoledd mawr. Yr oedd morwyn William Evans Cilfechydd a gwas William Davies Waen yn gorfoleddu hyd y ffordd wrth ddod o'r bregeth. Yr oedd fy mam wedi dod adref o'm blaen. Yr oeddwn i wedi aros yn y Betws gyda nifer o bobl ifanc i ddysgu rhywbeth. Pan ddaethum i'r tŷ, y peth cyntaf ddywedodd fy mam wrthyf oedd,—' Sioncyn, 'daseti yn y capel y pnawn yma, gael iti weled gorfoleddu!' Penderfynais fyned i'r Waen y nos i weled gorfoleddu. Wyddwn i yn y byd beth oedd gorfoleddu. Yr oedd si wedi myned ar led mewn ychydig amser fel taran fod gorfoleddu yn y capel am 2 o'r gloch. Aeth pawb o'r bobl ieuainc i'r Waen y nos. Erbyn cyrraedd yno yr oedd yr hen gapel wedi ei orlenwi. Dechreu'r odfa, rhoi pennill i ganu—dim gorfoleddu eto. Y pregethwr yn troi at ei destyn, dechre darllen, Habacuc iii. 16,—' Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef; daeth pydredd i'm hesgym, ac yn fy lle y crynais — Ar ganol darllen, dyma hen bobl sêt fawr y ar eu traed â'u dwylo i fyny. Ar hyn torrodd yn orfoledd drwy'r holl gapel, i lawr ac i fyny. Ni bu côr canu Salem byth yn y Betws ar ol y Saboth hwnnw, oblegid rhwng Saboth Thomas Owen a'r Saboth canlynol gyda Robert Owen Nefyn, aeth y rhan fwyaf o'r côr i'r seiat. Diwygiad bendigedig oedd diwygiad 1831. Dechreuodd yn nechre Mai a pharhaodd yn ei wres ar hyd yr haf. Ym- ledodd y diwygiad i'r gwahanol ardaloedd. Codwyd meibion a merched crefyddol a defnyddiol iawn ohono.

"Buom yn cerdded i'r Waenfawr i'r seiat am yn agos i ddwy flynedd. Caem seiat bach ar ol y bregeth adref weithiau i ymddiddan â'r hen frodyr a'r hen chwiorydd. Byddent weithiau yn bur ddigrif ac yn bur onest. Yr oedd Pyrs Owen unwaith yn adrodd i'r pregethwr ei fod yn ei wely ac yn meddwl am bregeth y Sul o'r blaen, a dyma Iesu Grist ato ac yn sefyll wrth ei ymyl. 'Beth ddwedodd o?' meddai'r pregethwr. 'Peri imi gredu yn yr Arglwydd Iesu,' meddai yntau. Beth wnaeth i chwi feddwl mai Iesu Grist oedd o?' meddai'r pregethwr. 'Diawc a'm cato i, ond 'doedd o yr un fath yn union ag Iesu Grist,' meddai Pyrs, a Iesu Grist oedd o hefyd, neu fe ddaru mi feddwl mai y fo oedd o beth bynnag. Yr oedd i lais o wrth fy modd i, a'i olwg o'n hardd. Mi gysgais yn gysurus dan y bore ar ol i'r gwr ymadael â mi.' Hen chwaer arall yn dweyd ei phrofiad yn seiat ganol yr wythnos. Yr adnod honno yn y Salm a'i digalonnai yn arw iawn,—' Tra yr oeddwn yn myfyrio, enynnodd tân a mi a leferais â'm tafod.' Meddyliai hithau fod rhyw wreichionnen fach yn ei mynwes, ond ei bod yn methu hel tanwydd myfyrdod arno er ei ennyn yn dân, fel y medrai hi lefaru â'i thafod. Mae eisieu llefaru,' meddai, 'yn ein teuluoedd. Pe bae gennyf fwy o dân, mi lefarwn ac a fynegwn yr hyn a wnaeth Duw i'm henaid.' Gofynnodd Rhys Williams iddi, beth oedd hi'n feddwl oedd y Salmydd wedi ei lefaru â'i dafod fel ffrwyth ei fyfyrdod? 'Wel, y Salm fawr, Rhysyn,' meddai hithau. Daswn innau wedi myfyrio yn iawn, mi fuasai gen i Salm o brofiad iti, Rhysyn bach !' [Lettuce Hughes Tŷ coch ydoedd y chwaer, ebe Mr. S. R. Williams, a dywed na fedrai ddarllen, ond bod ganddi stôr o adnodau yn ei chof. Priodola ef yr hanesyn nesaf iddi hi.] Chwaer arall yn adrodd iddi fod mewn brwydr ofnadwy â'r diafol wrth ddod i'r seiat. Bu'n meddwl am y seiat drwy'r dydd, a phan ddaeth amser cychwyn, cychwynnodd. 'Fel yr oeddwn yn mynd oddiwrth y tŷ ar y llwybr yn y Deg llathen, dyma Satan i'm cyfarfod. 'Be ddwedodd o wrthych?' meddai Rhys Williams. 'I ble yr ei di?' medda fo wrtha'i. 'Mi af i'r seiat,' meddwn innau wrtho fyntau. Be 'nei di yn y fan honno, rwyti'n ormod o bechadur,' medda fo wrtha'i wedyn. 'Ddaru chi ildio iddo?' gofynnai Rhys Williams. Na, choeliai fawr,' meddai hithau. 'Mi ddeudis wrtho fod Iesu Grist yn derbyn pechaduriaid.' Aeth hi yn ei blaen heibio y Drosgol, a'r diafol yn ei dilyn hyd ben bryn Cae Hywel. [Yma, yn ol Mr. Williams, meddai hi wrth y diafol, 'Ymaith, Satan,' ac ymaith ag ef!]

"Yr oedd y weinidogaeth deithiol yn effeithiol ryfeddol yn y blynyddoedd hynny. Byddai wyth o bregethwyr gyda ni aml i fis. Byddai Rhys Williams yn cael gan John Jones Talsarn roi ambell i bregeth ini ar noson waith.

Saboth cymundeb ar ol yr odfa 2 o'r gloch, byddai Rhys Williams yn myned i'r tŷ capel i nol bwrdd bach crwn, a'i osod ar y llawr, taenu lliain arno, gosod yr elfennau ar y bwrdd. Y bara ar blât bach, a chwpan bach, a photel o wydr du i ddal y gwin. Wedi hynny, mi ddoe yr eglwys o amgylch y bwrdd, yn blant yr un Tad o amgylch yr un bwrdd, ac ymborthi ar yr un bara, yn credu yn yr un Crist, yn ymladd â'r un gelynion, yn teithio tua'r un wlad,—yr oeddym yn un a chytun yn yr un lle.

"Byddai'n digwydd weithiau na fyddai neb ond Rowland Roberts a minnau i gadw cyfarfod gweddi nos Lun cynta'r mis. Mi ae Margared Morgans Minffordd i weddi y pryd hwnnw, a byddai 'n hwyliog iawn. A Mary Williams Cwm bychan yn barod i lanw y cylch pe byddai galwad. Byddai'n barod iawn i ddweyd ei phrofiad a'r profiad hwnnw yn bur gynes yn gyffredin. Pan fyddai Rhys Williams adref, byddwn yn teimlo fel pe buasai lond y capel ohonom, gan mor gryf a chalonog y byddem. Cawsom gymorth i ddal ati er gwaned oeddem. Dyna ryw ychydig o hanes yn bur fler i chwi, fy mrodyr, feallai y bydd o ryw wasanaeth i chwi pan y byddaf fi wedi huno gyda'm tadau. Amen."

Nid yw'r hanes hwn ond am gyfnod yr hen gapel, a hyd agoriad y newydd yn 1841. Nodir gan Mr. Williams mai Elin Dafydd oedd gwraig Cerryg y rhyd, ac y dygai hi sel dros yr ysgol, cystal a rhoi lloches iddi yn ei thŷ. Ac heblaw y gwasanaeth arbennig hwn pan ydoedd yr Arch yn ei thŷ, dywed y dylid coffa hefyd am ei phrofiadau melus mewn blynyddoedd diweddarach. Gwasanaethai ar y pregethwyr a ddeuai yno yn achlysurol. Ac yr oedd ei gwr, er heb broffesu, yr un mor gefnogol i'r gwaith a hithau.

Elai Rhys Williams i ysgol Bron y fedw, er bod ohono yn aelod yn Nhynyweirglodd, hyd nes yr agorwyd y capel yn Rhyd-ddu yn 1825. Efe ydoedd arolygwr yr ysgol ym Mron y fedw, a gwnaed ef yn arolygwr ar ei ddyfodiad i Dynyweirglodd. John Davies yr Ystrad oedd yr ysgrifennydd.

Yng nghyfarfod gweddi nos Lun cyntaf y mis yn y flwyddyn 1829, nid oedd ond un brawd i gymeryd rhan gyhoeddus. Disgwylid fod y cyfarfod ar ben gyda'r pennill a rowd i ganu wedi iddo orffen ei weddi. Fel yr oeddid yn meddwl am gychwyn allan, dyma swn gweddi yn dod o un o'r seti. Marged Morgan oedd yno yn ymbil â'r Arglwydd am eu cofio. Y Sul dilynol y digwyddodd y tro hynod gyda Thomas Owen Llangefni. Y pryd hwn y daeth Owen Jones Hafod y wern, Dafydd Hughes Hafoty a John Davies yr Ystrad i'r golwg gyda chrefydd.

Prynwyd y capel a'r tŷ yn 1831 am oddeutu £150, fel y bernir.

Yn 1833 y ffurfiwyd yr eglwys. Y pregethwr cyntaf y talwyd iddo oedd David Jones Beddgelert, ac yr oedd hynny yn Hydref 13. Hydref 15 y gwnawd y casgl mis cyntaf, sef naw swllt. Rhagfyr 8, y bu'r cymun cyntaf, John Jones Talsarn yn gweinyddu. Dwy— waith y bu'r cymun yn 1834, a gweinyddwyd gan Mr. Lloyd a William Jones Rhyd—ddu. Gweinyddwyd bedair gwaith yn 1835.

Dyma'r taliadau cyntaf at y weinidogaeth (un oedfa): Hydref 13, David Jones 1s.; 20, John Wynn Caernarvon 1s. 6ch.; 27, Griffith Hughes Edeyrn 2s.; Tachwedd 3, Robert Williams Bont fechan 1s. 6ch.; 17, Michael Jones Llanberis 1s. 6ch.; 24, Hugh Roberts Bangor, 1s. 6ch.

Y blaenoriaid cyntaf,—Rhys Williams a John Davies. Yn ol a glywodd Mr. Williams nid oedd yr eglwys ar ei sefydliad, er dylanwad diwygiad 1831—2, ond oddeutu 30.

Teimlwyd diwygiad diwestol 1836 yma yn ei rym. O'r blaen arferid yfed cwrw ynglŷn â geni'r byw a chladdu'r marw. O'r blaen ni weinyddid disgyblaeth am feddwi achlysurol, os nad mewn achosion go eithriadol. Newidiwyd hyn i gyd gyda'r diwygiad yma.

Fe ddechreuwyd teimlo'r capel yn anghyfleus o fychan. Nid oedd y tir y safai'r capel arno yn caniatau ei helaethu. Awydd am gapel newydd, ac ofn rhag colli'r gwres wrth newid y fan. Cael addewid am y llanerch y saif y capel presennol arni, llanerch yr arferid ymryson saethu yno gynt ar brynhawn Suliau. Agor y capel gyda chyfarfod pregethu, Rhagfyr 3, 1841. Gweinyddwyd gan John Owen y Gwyndy, Richard Humphreys y Dyffryn, William Roberts Clynnog a John Jones Talsarn. Ni wyddys mo draul y capel a'r tŷ cysylltiedig, am y rheswm fod yr ardalwyr wedi gwneud llawer eu hunain gyda chario a chodi cerryg a gro. Eithr fe dalwyd £400 mewn arian.

Dywedir gan Mr. Williams fod John Owen y Gwyndy yma Rhagfyr 3 ar yr agoriad. Y mae'r sylw yma yn llyfr y cyfrifon, prun bynnag: Tachwedd 29 [28 yn gywir, sef y Sul] 1841. John Owen Penygroes Bethesda, bregethodd gyntaf yn y capel newydd. Ei destyn,—" Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo, etc." Dat. iii. 20. Yn dilyn ceir y nodiad yma: "Y pennill cyntaf a ganwyd yn y capel newydd:—

1. O Arglwydd, gwna dy drigfan
O fewn i'r muriau hyn;
Byth na chyhoedder yma
Ond Iawn Calfaria Fryn.
Er mwyn yr Aberth hwnnw
A'r taliad gwerthfawr drud,
Llewyrcha'th wyneb grasol
Tra pery oes y byd.

2. Dy hyfryd bresenoldeb
Fo yma'n llanw'r lle.
A'r pur awelon nefol
Fel ffrwd lifeiriol gre'.
Pelydrau o'th ogoniant
A gwedd dy wyneb llon
Aroso yn ddigwmwl
O fewn i'r Salem hon."

Diwygiad dirwestol tymor y Clwb Du. Cyfarfodydd brwd a gorymdeithio o'r naill ardal i'r llall. Oeri wedyn.

Rhif yr aelodau yn 1854, 41. Swm y ddyled, £254. Eisteddleoedd, 112; gosodid, 95. Cyfartaledd pris eisteddle am y chwarter, 7½c. Derbyniadau am y seti am y flwyddyn, £12. Yr hyn a ddengys fod pob perchen anadl o blith y rhai oedd gyfrifol am sêt yn talu am dani, ac un dros ben! Talu llogau âg arian y seti. Casgl y weinidogaeth, £7 3s. Bu cynnydd o 13 yn yr aelodau yn ystod y flwyddyn. Erbyn 1858, rhif yr eglwys, 44. Swm y ddyled yr un.

Codwyd yr eglwys yn amlwg drwy ddiwygiad 1859. Ysgydwyd hi o radd o ddifaterwch, ac amlhawyd plant iddi. Rhif yr eglwys yn 1859, 78; yn 1860, 80. Tynnwyd y ddyled i lawr yn ystod 1860 o £254 i £54. Casgl y weinidogaeth yr un flwyddyn, £18 12s. Rhif yr eglwys yn 1862, 76; yn 1866, 75 (mae'n debyg, er mai 175 sydd yn yr ystadegau). Yn 1859 y codwyd David Hughes Garreg fawr a John Humphreys Hafod y wern yn flaenoriaid.

Ac yn 1859 (Mai 7) y bu farw Rhys Williams Cwm bychan, yn 66 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 26 blynedd. Daeth at grefydd yn 21 oed yn "hen gapel main Waenfawr." Yn fuan wedyn y dechreuwyd cadw'r ysgol ym Mron y fedw uchaf, lle trigiannai Ann Evans. Gwnawd ef yn un o'r ddau flaenor cyntaf yma gyda John Davies, sef yn 1833, ac ni chodwyd neb arall tra bu Rhys Williams byw. O'r adeg y daeth at grefydd fe ymroes i lafurio am wybodaeth ysgrythyrol a phynciol. Yr oedd ganddo farn dda am bregeth. Chwiliai am reswm am y ffydd oedd yndde. Ac yr oedd ol yr Efengyl ar ei fuchedd. Gwnelai waith blaenor. Cerddai ar ei draed i Gyfarfodydd Misol y sir, pan y cynhelid hwy yn Lleyn ac Eifionnydd cystal ag yn Arfon. Ffyddlon gartref yr un modd. Llawenhae yn llawenydd eraill. Fel welbon o ystwyth. Yn ei elfen mewn ymddiddan crefyddol. Fel penteulu ynghanol ei deulu yn eglwys Salem. Fe gynhaliai yr ymddiddan yn y seiat mewn dull cartrefol a hamddenol. Efe oedd yr hynaf o'r ddau flaenor, ac efe yn hytrach a gymerai'r arweiniad. Efe, hefyd, oedd y dylanwad personol mwyaf yn yr eglwys o'r cychwyn, ac fe enillodd ymddiriedaeth yr ardal yn gyffredinol. Yr ydoedd yn gymydog cymwynasgar, gan estyn cymdogaeth dda ymhell ac agos. Ei ragoriaeth yn fwy mewn cymeriad na doniau, ac yn elfennau mwyaf deniadol cymeriad yn gymaint ag yn y rhai cryfaf. Oherwydd galwadau y gwaith copr yn Nrws y coed, nid oedd ef yn gallu bod yn bresennol yn y seiadau mor gyson a John Davies, eithr fe ddengys nodiadau John Davies y lle arbennig oedd i'w gyd-swyddog yn arweiniad yr eglwys. Nid oedd Rhys Williams yn gyfartal â John Davies mewn dawn gyhoeddus, ond yr oedd iddo gyneddfau priodol iddo'i hun, a dylanwad cyffredinol, a roddai urddas arno ynghanol pawb yn y lle. Gellir dyfalu ei nodwedd neilltuol oddiwrth ei ddisgynyddion. Y noson o flaen y cynhebrwng. fe bregethodd Thomas Williams Rhyd-ddu oddiar Philipiaid i. 21: "Canys byw i mi yw Crist a marw sydd elw." (Ysgrif John Davies yr Ystrad yn y Drysorfa, 1862, t. 318).

Robert Williams Tŷ capel a ddaeth yma o Ddolgelley yn 1857, ac a fu farw yma yn 1864. Nid oedd yn flaenor, ond gwnelai waith gwir flaenor. Fe gysegrodd ei hun i wasanaeth yr Arglwydd. Bu'n famaeth dirion i ddychweledigion 1859. Fe arweiniai yng nghyfarfodydd gweddi y bobl ieuainc, a chynghorai a chyfarwyddai yno. Meddai ddawn neilltuol i dynnu allan y bobl ieuainc, fel y gwnaent unrhyw beth a ofynnai iddynt. Siaradai â hwy yn gyfrinachol am bethau pwysig, a pherchid ef ganddynt hwythau fel eu tad yng Nghrist. Byddai'n barod â'i brofigd melys yn y seiat. Un o ragorolion y ddaear ydoedd.

Yn 1867 fe ail-adeiladwyd y capel yn ei faint a'i ffurf presennol. Traul, £570. Prynwyd y tir yn rhydd-ddaliadol yn 1868 am 20. Swm y ddyled yn niwedd y flwyddyn, £457.

Yr oedd Owen Jones Hafod y wern yma yn ystod 1867-8 yn gwasanaethu fel blaenor. Symudodd oddiyma i Engedi. Rhoes anrhydedd ar ei swydd. Yr ydoedd yn flaenor yn Gaerwen cyn dod yma. Disgrifir ef gan Mr. Griffith Williams fel o far sicrach na John Davies. Yn wr pwyllog, call, o synnwyr cyffredin cryf. Yn wastad ei dymer. Un o'r athrawon goreu, ac yn holwr da. Ei brif lyfrau, Geiriadur Charles, James Hughes ac Adam Clarke. (Edrycher Engedi).

Yn ystod 1862-7 fe ddeuai Thomas Williams Rhyd-ddu a Dafydd Morris Caeathro yma yn o reolaidd i gynnal seiat. Yn 1872 dewiswyd John Owen Tŷ newydd yn flaenor. Symudedd oddiyma i Nazareth. Yn Chwefror, 1874, dewiswyd yn flaenoriaid, Griffith Williams a S. R. Williams.

Yn 1882 y symudodd John Davies yr Ystrad oddiyma i'r Bontnewydd, wedi bod yn flaenor yma o'r cychwyn. Ganwyd ef tua 1810 yn yr Ystrad. Ei dad, Sion Dafydd, yn grefyddwr o rywiogaeth gyffredin. Ei fam, Sian Dafydd, oedd wraig fawr, esgyrniog, dal, ac o garictor nobl, ysbrydol ei dull, yn ymroddgar i grefydd, yn hoff o ganu, ebe Mr. Griffith Williams. Yr oedd John Davies o alluoedd cyflym, y cyfryw a fuasai yn ei alluogi i fanteisio yn amlwg ar gyfleusterau dysg. Eithr ni chafodd efe ddim o hynny. Olrheiniai ei droedigaeth i'r oedfa yn y Waen yn amser diwygiad 1831, y cyfeirir ati ganddo. Yn ol ei adroddiad sef ei hun wrth ei blant, fe ddychrynnodd gymaint y pryd hwnnw fel y neidiodd dros ddwy sêt, aeth o'r capel heb ei het, a rhedodd adref, gan weddio a chanu bob yn ail. Dywed Mr. Griffith Williams ddarfod i Owen Jones Hafod y wern gael tro yr un adeg, a'i fod ef a John Davies yn dod adref gyda'i gilydd, a darfod iddynt droi i feudy Bryn y gloch i weddio gyda'i gilydd, a phenderfynu ill dau y pryd hwnnw ymroi i grefydd. Ymroes John Davies i ddarllen, gan brynu ei ganwyllau ei hun, ac aros yn ei ystafell gyda'i lyfrau, weithiau am oriau. Daeth yn arweinydd y gân yn fuan, ac yr oedd yn arweinydd medrus, gyda llais clir, soniarus, er nad ystyrrid ef yn garolwr. Fe gyfansoddai ambell bennill, ac ymhyfrydai mewn rhigymu. Fe geid disgrifiadau barddonol ganddo weithiau yn anerchiadau, ac ar dro yn ei weddïau. Bu'n ysgrifennydd yr eglwys am yn agos i hanner canrif, a danghosai y llyfrau cyfrifon a gadwai drefn, glanweithdra a manylwch. Teithiodd lawer i'r Cyfarfodydd Misol cyn y rhaniad ar y sir, cystal ag wedi hynny, ac yr oedd yn dra theyrngarol i'r Cyfundeb. Yn fanwl ei gadwraeth o'r Saboth, yn gryf yn erbyn y ddiod feddwol a thybaco, ac yn tueddu yn hytrach at fod yn gyfyng ei olygwedd ar fywyd. Yn offeiriad yn ei dŷ ei hun, a rhai o'i weddïau, yn arbennig, yn gadael argraff arhosol ar ei deulu. Ar ol symud Rhys Williams, efe oedd bellach yr arweinydd yn yr eglwys. Gadawai gynhaeaf gwair i ddod i'r seiat, ac yr oedd yn brydlon ym mhob cyfarfod. Yn fedrus iawn yn ei ffordd ei hun wrth gadw seiat. Nid elai o'r sêt fawr wrth arwain. Y chwiorydd a holid ganddo yn gyffredin, ebe Mr. Griffith Williams; gyda hwy y cawsai ddeunydd seiat y fath a gymeradwyai ei chwaeth ef yn fwyaf. Gofynnai i Mari Williams Cwm bychan, a fedrai hi gyfeirio at adeg neillduol yn ei phrofiad ? "Wel," ebe hithau, "mi fydd y llwch ar y drecsiwn weithiau, weldi, fel ar bwysau y glorian acw, fel y bydd agos a mynd o'r golwg, ond yn cael ei chwalu ymaith drachefn, a'r drecsiwn yn dod yn amlwg." Ebe John Davies yn ol, "Cael eich hunan gyda chrefydd ddarfu chwi. 'Dydi'r plentyn ddim yn cofio ei stori gyntaf, ond cael ei hun yn siarad y mae. Felly chwithau." Nid yw hynny yn ymddangos yn gwbl gyson â hanes troedigaeth John Davies ei hun; and dyna ddull uniongred y Cyfundeb yng nghyfnod John Davies. Ystyria Mr. Griffith Williams fod ei allu i gyfleu ei fater yn fwy na gogyfartal i'w allu i feddwl, a bod hynny i'w ganfod ynddo fel holwr ysgol. Byddai'n dueddol o fod wedi crynhoi ygnhyd ei ymadferthoedd i'r Sul cyntaf fel holwr. Holai mor dda, fel y tebygasid y buasai'n anhawdd i neb wneud yn well. Ond nid allai gynnal yr hwyl uchel honno dros y Suliau dilynol. Byddai sylwadau o'i eiddo yn ei weddïau yn bachu yn y cof, ebe Mr. Griffith Williams. "Dyma ni ym Mhorth y Nef! Y mae hi'n dda yma. Beth pe baem ni i mewn!" "Gwared ni rhag ymddangos. Y mae yna Un yn ymddangos drosom ni." Ymhyfrydai ym Mathew Henry, James Hughes, Gurnal, Taith y Pererin, a rhai o weithiau Baxter, Howe a'r Dr. Owen. A gwnelai yn fawr o'r Hyfforddwr a'r Gyffes Ffydd, fel ag i beri eu bod yn o daclus yn ei gof. Dan bregeth yn cyffwrdd ag ef, byddai ei gorff i gyd, fel yr eisteddai dan y pulpud, yn ymnyddu mewn mwynhad, a chwareuai arwydd ei gymeradwyaeth fel gwenol gwehydd, ar draws ei wynebpryd o gwrr i gwrr. Byddai pregethwr â thinc yn ei lais yn ei ogleisio'n deg, ac yr oedd Thomas Hughes Machynlleth, yn ei rym, yn ddihafal wr yn ei olwg. Fe wreiddiodd mor ddwfn yn Salem, fel y bu ei symud yn wir gyfnewidiad ar bethau yn y lle.

Dodir yma sylw Mr. Griffith Williams ar Farged William, gwraig weddw, a gadwodd y tŷ capel am 50 mlynedd, ac oedd yn dra gofalus am y pregethwyr. Bu'n athrawes efo'r plant yn nosbarth yr A B dros 40 mlynedd. Yr oedd iddi dalent arbennig gyda dysgu'r plant: enillai eu serch, a gadawai ol ei haddysg arnynt.

Yn Nhachwedd, 1882, derbyniwyd i'r Cyfarfod Misol ym Mhenmaenmawr fel blaenoriaid, Henry Owen Cae sgubor a Robert Williams Cwmbychan. Yn 1887 dewiswyd R. T. Hughes Plas isaf i'r swydd. Yn 1889 symudodd John Jones yma o'r Baladeulyn, a galwyd ef yn flaenor yma.

Yn 1890 adeiladwyd y tŷ capel presennol ar draul o £195.

Ym Mehefin 1891 yr ymgymerodd Mr. Rhys Lewis â bugeiliaeth yr eglwys.

Rhowd nenfwd newydd yn y capel yn 1894 ar draul o £92 5s. 8g. Gwnaed atgyweiriadau oddifewn ac allan, a phwrcaswyd offeryn cerdd, yn 1896, ar draul o £99 10s. rhwng y naill a'r llall. Swm y ddyled yn 1900, £50.

Dewiswyd J. D. Jones yn flaenor yn 1899. A'r un flwyddyn, Awst 11, y bu farw John Jones Plas isaf, yn 62 oed. Brodor o Landwrog. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth John Jones, Mochdre y pryd hynny. Galwyd ef yn flaenor yn y Baladeulyn yn 1887. Torrai i lawr yn aml wrth son am flynyddoedd ei oferedd. Tinc y wir fetel ynddo ar weddi. Dywedai wrth ei fab at y diwedd ei bod yn "all right " arno. (Goleuad, 1899, Awst 23, t. 7.).

Gwerthwyd capel Tynyweirglodd i Eglwys Loegr i gynnal ysgol ddyddiol. Edrydd Mr. Edward Owen yn ei ysgrif ar Ysgol Sul Rhyd-ddu am blant ysgolion cenhedlaethol y Waen, Cwmyglo, Llanrug, Bontnewydd a'r Betws yn cael eu haroli yn y Waen yn y bennod gyntaf o Efengyl Ioan, yn amser John Griffith yr athraw cyntaf. A dywed ef fod plant y Betws (cynrychiolid pob ysgol gan 14 o'r plant hynaf) yn ateb pob cwestiwn wedi methu gan y lleill. Cofier yr un pryd fod 5 o'r 14 hynny yn blant o Ryd-ddu, gan yr elai Rhyd-ddu gyda Salem fel un ysgol. Yn y flwyddyn 1866 adeiladwyd ystafell i gadw ysgol ddyddiol berthynol i'r capel ar draul o £50. Bu amryw o'r ysgolfeistriaid yn wasanaethgar i'r achos. John Williams, a ddaeth yma o Feddgelert, wedi hynny gweinidog Siloh, Caernarfon, a fu yma am ran o 1867-8, ac a wnaeth waith da. Yn nechre 1869 daeth W. T. Jones (Llanbedrog) yma, ac a lafuriodd gyda'r plant. J. R. Williams (Pwllheli) a fu yma yn 1870-2, ac yna Moses Jones (Bala) hyd 1873, y naill fel y llall â'i wasanaeth i'r eglwys yn werthfawr.

Ymweliad â'r ysgol Sul, Hydref 11, 1885. "Ysgol fechan weithgar yr olwg arni. Anghyfartaledd yn rhif rhai o'r dosbarthiadau ieuengaf. Rhai o ddosbarthiadau y merched yn dangos gallu anghyffredin i esbonio, ond y darlleniad braidd yn wallus. Mewn un dosbarth o ddynion, pob aelod o'r dosbarth yn gofyn ei gwestiwn i bob un yn y dosbarth, a'r athraw yntau yn gofyn ei gwestiwn yn ei dro. Yr athraw yn cael ei guddio o'r golwg. Y cwestiynau a'r atebion yn gyffredin, a'r darllen yn wallus ac aneffeithiol. Dosbarth o fechgyn o 20 i 25. Diffyg pwyslais wrth ddarllen, ac heb dalu sylw priodol i'r gwahan-nodau. Dosbarth o ddynion canol. oed heb athraw. Yr un diffyg yma eto. Diffyg llafur ar gyfer y dosbarth, ac ar gyfer arholiadau y Cyfarfod Misol a'r Cyfarfod Ysgolion. Yr arholi a'r atebion ar ddiwedd yr ysgol yn wir dda."

Er bod ar y cyntaf yn fangre erledigaeth, daeth Salem yn y man yn fangre heddwch; a phabell Duw a welwyd yma.

Rhif yr eglwys yn 1900, 120.

CEUNANT[4]

Dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yma oddeutu'r flwyddyn 1820 mewn hen anedd-dy o'r enw Tanyffordd, a breswylid gan John Williams, gynt o'r Tyddyn rhuddig. Fe'i cyfrifid ef a'i wraig ymhlith y ffyddloniaid gyda chrefydd. Edward James Bryn crwn oedd yr arolygwr tra cynhelid yr ysgol yma. Ymhen oddeutu dwy flynedd fe'i symudwyd i hen ysgubor Tanygraig. Fe ychwanegwyd rhai dosbarthiadau o newydd yma. Cadwai Robert Williams Pant-hafodlas ei ddosbarth o blant bach yn yr hen simne fawr, a dodai'r plant i eistedd ar y pentan. Yn ymyl y plant hyn yr oedd dosbarth o ddynion dros ddeugain mlwydd oed, hwythau hefyd, fel y plant, yn dysgu'r wyddor, a Thomas Parry 'Rallt yn athraw iddynt. Byddai y rhai hyn mewn cymaint afiaeth gyda'u gwers yn eu ffordd hwy a'r plant bach gerllaw iddynt. Wrth eu profi ar ddull go ddyrus unwaith, ac yntau'n gweled ei hunan yn dal y prawf yn deg, ebe un o honynt, Mi ddaliwn fy mhrofi yn yr A B yma ac i'r llyfr fod ar ben y Garreg lefain! Athrawon eraill, oedd Thomas Jones Hafodlas, tad yr un diweddarach, John Morris a John Parry, y ddau o'r Pen-hafodlas, Thomas Griffith Ceunant, John Jones Tanygraig, Richard Peters Penygraig, a Robert Jones Hafodlas yn arolygwr. Heblaw yr arolygwr, John Morris a Thomas Jones a Robert Williams yn unig a broffesent grefydd ar y pryd.

Ymhen o dair i bedair blynedd fe ddaethpwyd i'r penderfyniad i wneud cais am ysgoldy yn lle'r hen ysgubor. Gwrthwynebid y cais yn y Cyfarfod Ysgolion gan Ysgol Llanrug. Bu John Morris a Richard Peters am flwyddyn gyfan yn apelio yn ofer at y Cyfarfod Ysgolion. Yr oedd dwy filltir o ffordd i Lanrug. Cymerodd y ddau frawd hyn gyfrif, gan hynny, o'r holl blant a gwragedd yn yr ardal nad ellesid disgwyl iddynt fyned mor bell a Llanrug, ond y disgwylid eu cael i ysgoldy o'r fath a geisid. Yr oedd y nifer yn ddigonnol er ennill i'w plaid wr o ddylanwad yn y Cyfarfod Ysgolion, sef John Roberts Castell, Llanddeiniolen, a throdd y ddadl o'r diwedd gyda hwy. Ymgymerwyd âg adeiladu'r ysgoldy yng ngwanwyn 1825. Ni ddaeth i feddwl neb, hyd yr ymddengys, i sicrhau prydles ar yr eiddo, namyn cael caniatad y Parch. P. B. Williams Pantafon yn unig i adeiladu. Cafwyd help sylweddol i ddwyn y treuliau gan John Parry Penhafodlas, gweithiwr cyffredin o ran ei alwedigaeth, ond gwr o gyfoeth ymhlith ei gydweithwyr.

Nid oedd yr ysgoldy ond bychan, ond fe wthid i mewn iddo wyth o ddosbarthiadau ar ochr y meibion, ac wyth ar ochr y merched. Thomas Jones Hafodlas oedd athraw yr AB ar ochr y meibion; John Morris yr A, B, AB; Richard Peters Penygraig gyda dynion mewn oed, ar ol gyda dysgu; Thomas Parry, 'Rallt, y sillebu a'r llyfrau i rai'n dechre; John Thomas Hafodlas, y Testament; John Parry Pen-hafodlas, y Beibl. Arferai John Parry roi ceiniog am ddysgu allan, yr hyn fu'n symbyliad i ddechre at fedru darllen y Beibl, ac yna i'w drysori yn y cof. Hugh Hughes Brynglas oedd athraw y bechgyn fedrai ddarllen yn dda; a John Griffiths Tanygraig yn athraw ar athrawon, pan fyddai eu heisieu. Owen Jones Adwy'r ddeugoed a ddysgai enethod bach yn yr A B. Efe fynychaf roddai'r pennill allan ar ganol yr ysgol, ac a arweiniai gyda'i ganu. Dechreuai ganu braidd cyn gorffen ledio'r pennill, mewn goslefau tarawiadol,

Wele, fod brodyr yn byw ynghyd,
Mor dda, mor hyfryd ydoedd!

Ar ddosbarthiadau eraill y merched, yn ateb mewn trefn i rai'r meibion, fe geid yn athrawon, Thomas Griffith Ceunant, Jane Jones Penygraig (gwraig Richard Peters), Hugh Griffith Tainewyddion, Ann Jones 'Rallt, Robert Williams Pant-hafodlas, Lydia Parry Pen-hafodlas, Grace Jones Tanyffordd, yn cael ei chynorthwyo gan Edward James Bryn crwn. Ys dywed Morgan Llwyd am yr hen athrawon.

Iraidd oeddynt rai'n eu hamser.

Fe aeth pethau ymlaen yn dawel a hamddenol am o bedair i bum mlynedd. Cynhelid yr ysgol ar bnawn Sul, a'r cyfarfod gweddi bob yn ail nos Sul, a'r cyfarfod gweddi wythnosol. Bob yn ail nos Sul y ceid pregeth yn "hen gapel y Rhos," fel y gelwid capel Llanrug. Arferid cynnal cyfarfodydd gweddi yn y tai yn flaenorol i dymor yr ysgoldy, a pharheid i'w cynnal. Cynhelid hwy yn fynych yn enwedig yn y 'Rallt, oherwydd llesgedd yr hen wraig dduwiol, mam Ann Jones yr athrawes, a dorrai allan mewn gorfoledd pan fyddai y cyfeillion yn agoshau i'r tŷ, gan waeddi, Pa fodd y daeth hyn i mi? O'r pedwar brawd crefyddol fe fyddai tri oddicartref yn ystod yr wythnos gyda'u gwaith. Eithr fe wir ofalai John Morris am y cyfarfod gweddi wythnosol, a deuai y chwiorydd crefyddol i'w gymorth. Yr oeddynt yn naw mewn nifer, ac fe ddodir eu henwau i lawr yma, fel y byddo'r hyn a wnaeth y rhai hyn yn cael ei adrodd am ysbaid un oes o leiaf. Dyma hwynt: Elizabeth Owen Coldŷ, Ann Pritchard Adwy'r-ddeugoed, Ann Jones 'Rallt, y ddwy Elizabeth Jones Hafodlas, Lydia Parry Penhafodlas, Elin Parry Pant hafodlas, Jane Jones Penygraig a Grace Jones Tanyffordd.

Un tro fe wnaeth John Morris apwyntiad â gwr y prynodd fuwch ganddo, i'w gyfarfod ar noswaith y cyfarfod gweddi, a hynny mewn llwyr angof o'r cyd-ddigwyddiad. Pan ddaeth hynny i'w feddwl bu mewn cryn wewyr. Eithr fe gofiodd y deuai Thomas Griffith y Ceunant y ffordd honno at ei waith, a phenderfynodd ofyn iddo ef, er nad ydoedd yn grefyddwr, fyned i'w le ef, i'r cyfarfod gweddi, a rhoi allan emyn a darllen pennod ac yna galw ar y chwiorydd i weddio. Addawodd yntau fyned. Eithr wedi myned nis gallasai ymysgwyd i wneud ei ran yn y cyfarfod, a disgwylid yn hir ac yn bryderus am John Morris. Teimlodd Thomas Griffith i'r byw wrth weled y fath bryder am ymddanghosiad y gwr, ac yn y man dyma ef ar ei draed, gan egluro na ddeuai John Morris ddim y noswaith honno. "Mae'n gwilydd i ni," ebe fe'n mhellach, "fod cymaint o honom yn disgwyl wrth un dyn; nid yw enaid John Morris yn fwy gwerthfawr na'r eiddom ninnau, ac nid oes mwy o rwymau arno ef i weddïo na ninnau. Gwir y darfu iddo ef ofyn i mi ddarllen pennod, a chanu emyn i ddechre, ac yna galw ar y chwiorydd i fyned ymlaen, ond yn wir," ebe fe'n bwysleisiol, "nis gallaf gan gywilydd ofyn y fath neges a hon." Llefarai mewn teimlad amlwg, fel yr oedd lliaws mewn dagrau. Pwysodd Elizabeth Jones Hafodlas, mam Thomas Jones, ar iddo ymgymeryd â'r gwaith a rowd arno, ac yr elai hithau i weddi, a gwnaeth yntau hynny. Wedi'r weddi, gorfu arno roi pennill allan a darllen drachefn o flaen gweddi arall. Troes y cyfarfod hwn allan yn un go anarferol. Ni ddaeth Thomas Griffith am ysbaid i broffesu crefydd, ond yr oedd yr argyhoeddiadau a brofodd efe yn ddilynol wedi eu cychwyn yma.

Yn union ar ol hyn fe ddechreuwyd teimlo rhyw gynnwrf yn y gwersyll, a daeth amryw i broffesu crefydd, ac yn eu plith, ac yn un o'r rhai cyntaf, John Roberts Gorseddau. Ac ar gefn hynny, drachefn, y torrodd allan ddiwygiad 1830-2. Ymhlith y plant yn yr ardal hon y torrodd y diwygiad hwnnw allan. Enciliodd lliaws o'r plant hynny oddiwrth y broffes a wnaent ar y pryd, er ddarfod i rai ohonynt yn ddiweddarach ail-ymaflyd mewn crefydd a dod yn addurn iddi. Yn y man fe ddeuai pobl hŷn yn aelodau yn eglwys Llanrug. Erbyn diwedd 1832, yr oedd y rhai canlynol yn aelodau, oll yn dal cysylltiad â'r ysgoldy: Hugh Griffith Tai newyddion, Thomas Parry 'Rallt, Richard Jones Caeglas, William Hughes Tŷ canol, Hugh Jones Merddyn, Hugh Williams Tŷ isaf, Thomas Griffith Ceunant a Richard Peters Penygraig. Yr oedd Henry Jones Hafodlas erbyn hyn wedi dod yma i fyw ac yn proffesu.

Fe dynnodd John Morris ei gŵys i'r pen heb edrych yn ol. Ystyrrid ef y galluocaf o'r pedwar brawd crefyddol a lafurient yn yr ysgoldy. Y pennill hoffai roi allan ar nos Lun cynta'r mis fyddai, "Bydd mynydd tŷ ein Harglwydd ni." Bu farw ddiwedd Mawrth neu ddechre Ebrill, 1834, ymhen naw mlynedd ar ol adeiladu'r ysgoldy.

Fe fu Thomas Jones Hafodlas, tad y gwr o'r un enw, yn arolygwr yr ysgol am flynyddau. Yn ei areithiau dirwestol fe ymosodai ar y dybaco cystal a'r ddiod, a rhoddai iddo'r enw, "yr hen lwynog blewsych." Yn ei weddïau fe ddiolchai yn fynych am fod ei goelbren wedi disgyn ar ochr y Cefn du. O bosibl na chafodd efe achos ychwanegol i fyfyrio ar hyfrydwch ei randir ar yr hen Gefn pan na fynnai ei atal rhag trawsforio i'r America. Robert Jones Hafodlas oedd o gyfansoddiad eiddilach na llawer, a meddwl cryfach, ond ni luddiwyd ef rhag bod yn hynod ffyddlon gyda'r ysgol dros dymor.

Y seiat gyntaf a gynhaliwyd yn yr hen ysgoldy yn nechre haf 1832 ar nos Sadwrn, a phwy ymgymerodd â phroffes o grefydd y noswaith honno ond Thomas Griffith y Ceunant. Yr oedd Daniel Jones Llanllechid yn pregethu yno ar y pryd, ond yr oedd Thomas Griffith wedi mynegu ei awydd i John Morris am gael cyflwyno ei hunan yn aelod yno yn hytrach nag yng nghapel y Rhos, a dyna 88 HANES METHODISTIAETH ARFON. fel y digwyddodd cynnal y seiat. Ymhen oddeutu tair blynedd fe'i neilltuwyd ef yn flaenor yn Llanrug. Yr oedd craffter ei feddwl a gwastadrwydd ei gymeriad yn gyfryw ag i'w wneud y dylanwad mwyaf yn yr ysgoldy, a thrwy ei lafur gyda'r plant fe fagodd dô o ieuenctid a lanwasant gylchoedd anrhydeddus mewn blynyddoedd i ddod. Wedi dewisiad Thomas Griffith yn flaenor yn 1835, fe geid. pregeth yn achlysurol yn yr ysgoldy. Griffith Jones Tregarth a arferai son am oedfa iddo ef yno. Fe ddisgrifiai ei hun yn y pulpud. Yr oedd ceuedd yn y mur ar ffurf bwaog, a bron y pulpud heb ddod allan nemor ffordd oddiwrth y mur, fel y gwelai Griffith Jones ei hunan, oblegid ei faintioli, megys wedi ei doddi i'r lle, ac ofnasai am ei goryn, pe digwyddasai anghofio ei hunan ychydig a myned i fymryn o hwyl! Eithr fe awd i anesmwytho am le eangach. Rhag ofn y draul, galwai rhai yn unig am helaethiad ar yr hen ysgoldy. Pender- fynwyd y ddadl gan John Parry Pen hafodlas, gan yr addawai ef bunt at helaethiad a deg punt at gapel newydd. Sicrhawyd pryd- les y tro hwn am 99 mlynedd o 1839. Yr ymddiriedolwyr oedd: Hugh Griffith Tai newyddion, Richard Peters Penygraig, Robert Williams Pant-hafodlas a Hugh Jones Merddyn. Cwblhawyd y capel yn gynnar yn haf 1839, medd Robert Parry. Eithr y mae y Drysorfa am Mai, 1839, yn rhoi rhif aelodau eglwysig y Ceunant fel 30. A chan mai ar ol codi'r capel y ffurf- iwyd yr eglwys, rhaid bod y capel wedi ei agor cyn sicrhau'r brydles, yr hyn a ddigwyddodd aml waith. Dywed Eiddon Jones hefyd nad oes enw neb o'r Ceunant yn llyfr casgl gweinidogaeth Llanrug am 1838. Mae'n ddiau mai 1837 yw blwyddyn adeiladu'r capel a ffurfio'r eglwys. Awyddid yn y Ceunant am fod ar wahan i Lan- rug. Gyda pheth gwrthwynebiad, fe sefydlwyd yr eglwys yn Awst o'r un flwyddyn ag yr agorwyd y capel. Yn y flwyddyn nesaf fe wnawd cais at y Cyfarfod Misol am ragor o flaenoriaid, er cynnorthwyo Thomas Griffith. Dewiswyd Hugh Griffith a Robert Williams. Dros ryw dymor ar ol yr ymadawiad â Llanrug arferid cael pregethwr oddiyno; ond wedi hynny ymgysylltwyd â'r Waenfawr. Wedi hynny gwnaed yr hen ysgoldy yn dŷ capel. Penodwyd Richard Rowlands a Mary Williams ei wraig i ofalu am y tŷ capel. Byddai Mary Williams yn fynych mewn hwyl gorfoledd yn y capel, ond erbyn dod i'r tŷ nid mor ofalus ydoedd am lanweithdra.

Fe ddaeth y Cyfarfod Misol cyntaf i'r Ceunant yn 1845. Yr oedd Owen Thomas a John Phillips, y ddau o Fangor, John Jones Talsarn a William Roberts Clynnog yno yn pregethu. Yn yr oedfa ddeg y pregethodd Owen Thomas oddiar y geiriau, "Onid oedd ein calon yn llosgi ynom, tra yr ydoedd yn ymddiddan â ni ar y ffordd," testyn un o oedfaon mawr ei oes yn Sasiwn Caernarvon. Yr oedd yn agos i ddeuddeg ar y gloch pan orffennodd, ac ni wnaeth John Jones namyn terfynu'r oedfa trwy weddi. Yr oedd pregeth John Phillips yn un ryfeddol oddiar, "Trefna dy dŷ, canys yforu marw fyddi, ac ni byddi byw," ac hefyd pregeth William Roberts ar y Ffigisbren Ddiffrwyth. Cyfarfod Misol i'w hir gofio oedd y cyntaf hwn yn y Ceunant.

Yn 1846 y bu farw Robert Williams Pant hafodlas, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am o bum i chwe blynedd. Yr oedd o nwyf wresog ond oriog, weithiau'n isel iawn weithiau'n uchel iawn. Yn ystod yr un flwyddyn, fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Thomas Jones Tanygraig ac Edward Roberts, yr hwn a ddechreuodd bregethu yn ddiweddarach.

Bu cyfnewidiad am dymor byr yn nhrefn y daith. Unwyd y Ceunant, Waenfawr, Caeathro, Salem a Rhyd-ddu. Eithr ni atebodd mo'r drefn hon, a dychwelwyd yn ol i'r cysylltiad â Waenfawr. Un bregeth a geid ar y Sul, ond ar ol hynny ddwy ar un Sul o'r mis.

Ail godwyd y tŷ capel ar furiau yr hen ysgoldy ym mis Mawrth, 1849. Sicrhawyd gwasanaeth Richard Roberts, wedi hynny o Bryn'refail, i'r tŷ capel. Rhif yr eglwys y pryd hwn ydoedd o 48 i 50, nifer bychan braidd i ymgymeryd â'r treuliau parhaus, ond fel yr oedd yn yr ardal liaws o ddynion ieuainc ewyllysgar i weithio gyda'r achos. Ymffurfiodd y gwyr ieuainc hyn yn gôr canu dirwestol dan arweiniad Robert Griffith Tai newyddion, a chanhaliwyd ganddynt liaws o gyfarfodydd dirwestol yn y wlad oddiamgylch. Yr oedd William Roberts Tai newyddion yn nodedig o effeithiol fel siaradwr.

Dyma restr o'r pregethwyr a glywid yma fynychaf yn ystod y blynyddoedd hyn: Daniel Jones a Morris Jones, Llanllechid, Dafydd Jones Beddgelert, Thomas Pritchard Nant, Thomas Williams Rhyd-ddu, Dafydd Jones Caernarvon, Dafydd Pritchard Pentir, Morris Hughes Felinheli, John Jones Talsarn, William Roberts Clynnog, John Williams Llecheiddior, Thomas Hughes Chwillan (Gatehouse), wedi hynny o Gaernarvon, Robert Ellis Ysgoldy, Ellis Ffoulkes, John Phillips, Hugh Roberts, David Roberts, i gyd o Fangor, Dafydd Morris Cilfodan, John Williams Llanrug, David Davies a William Williams, ill dau o'r Bontnewydd, William Griffith Pwllheli, William Jones a Hugh Davies, ill dau o Lanberis, Cadwaladr Owen, Owen Rowland Môn.

Golygfa i'w chofio yn y blynyddoedd hyn fyddai gweinyddiad y cymun. Anfynych yr elai heibio heb orfoledd, yn neilltuol ymhlith y chwiorydd. Mawr y boddhad a gaffai Dafydd Jones Caernarvon yn y gwleddoedd hyn, canys efe fynychaf a weinyddai ynddynt.

Hugh Griffith Tai newyddion, yr hen flaenor ffyddlon, a foddodd yn llyn Llanberis yn nechreu'r flwyddyn 1858. Daeth William Thomas Penygraig yma o Engedi, Caernarvon, yn flaenorol i hyn, ac yr oeddid bellach wedi colli ei wasanaeth yntau fel blaenor trwy farwolaeth. Yn 1859 fe neilltuwyd Thomas Jones Hafodlas i lanw'r bwlch a wnaed ym marwolaeth Hugh Griffith.

Yn 1859-60 fe ddechreuodd y diwygiad a thorri allan yn y Waenfawr, a phrofwyd ohono yn y Ceunant. Bu'r ymweliad yn fywyd newydd i'r eglwys, ac yn ychwanegiad at y rhif. Daeth rhai i'r golwg y bu eu gwasanaeth o werth. Fe gafodd yr ymweliad effaith dda ar yr ysgol: daeth i mewn iddi ysbryd ac ynni newydd. Parhae William Roberts yn ffyddlon fel athraw ar y dosbarth athrawon, a Thomas Griffith yntau, er colli ei olwg, a barhae i roddi ei bresenoldeb yn y dosbarth, ac i'w adeiladu allan o drysor ei wybodaeth ysgrythyrol. Yn wir, fe barhaodd dylanwad y diwygiad yn hir, fel y gwelwyd lawer gwaith y tŷ wedi ei lanw â'r cwmwl, a'r cyntedd o ddisgleirdeb gogoniant yr Arglwydd.

Fe deimlwyd angen am helaethu'r capel. Yng ngwanwyn 1862 y dechreuwyd ar y gwaith. Rhyw 110 oedd nifer yr aelodau y pryd hwn. Ar ei agoriad fe roddwyd gofal y canu i John Lloyd Brynglas, a bu gwelliant amlwg ar y rhan hon o'r gwasanaeth.

Yn y flwyddyn 1866 y bu farw Thomas Griffith, wedi bod yn flaenor yma, ym mhob ystyr i'r gair, am tua 31 mlynedd. Yr oedd iddo awdurdod deddfwr yn yr eglwys. Gwr ydoedd yn myned wrth farn, ac nid wrth deimlad. Yr oedd yn ddyn o allu naturiol, a meddai'r wybodaeth angenrheidiol iddo yn ei swydd, ac yr ydoedd yn eithaf siaradwr. Efe a gadwai gyfrifon yr eglwys. Yr oedd yn flaenllaw yn y Cyfarfod Misol.

Oddeutu'r flwyddyn 1866 aethpwyd i deimlo'r ddyled yn fath o hunllef ar y gwaith, ac ymwrolwyd i'w symud. Ac wedi dechre ymysgwyd, fe ymwrolwyd gymaint fel ag i benderfynu cael y pregethwr am y Sul i'r Ceunant yn unig, canys fe dybid, ond symud ymaith y ddyled yn gyntaf peth, y gellid sicrhau hynny. Y cynllun y disgynnwyd arno oedd ffurfio pwyllgor i barhau am ugain mis, a nodi casglyddion i fyned trwy'r gymdogaeth i dderbyn rhoddion yn fisol, a chyflwyno'r cyfraniadau yn y pwyllgor, fel y gallasai'r ysgrifennydd baratoi taflen yn dangos rhodd pob un at y capel. Erbyn diwedd 1867 fe gafwyd fod yr arian mewn llaw a thipyn dros ben. Ymwahanwyd oddiwrth y Waenfawr ar y Sulgwyn, 1868, pryd y gwasanaethwyd gan Mr. John Roberts, Clynnog y pryd hwnnw, ac a adnabyddir bellach oreu fel Iolo Caernarvon.

Gwr ffyddlon gyda'r ysgol oedd William Roberts Tai newyddion, a fu farw trwy gwymp darn o graig yn chwarel Llanberis, Hydref 10, 1867. Mae'r ysgol wedi ei chadw yn lled lewyrchus ar hyd y blynyddoedd. Cymerer yma adroddiad ymwelwyr 1878: Ysgol Ceunant. Y mae yma fywyd a gweithgarwch, a hynny ar gynllun pur effeithiol. Athrawon effro a goleuedig, yn ymddangos i ni fel yn deall elfennau hanfodol swydd athraw. Cyfunir gyda'r addysg a weinyddir yn y dosbarthiadau hynaf yr athrawiaethol a'r ymarferol, ac ni esgeulusir gyda hynny y gelfyddyd o ddarllen. Gall fod hyn i'w briodoli yn bennaf i'r ffaith fod yma ddosbarth o athrawon yn cael eu cymhwyso, ac yn ymroddi i'r gwaith o ddysgu eraill, pan fo angen am hynny. Cwynir mai lled ddilewyrch yw'r holwyddori: byddai rhoddi mwy o fywyd a chyfeiriad i'r holwyddori gyda'r plant yn sicr o fod yn fuddiol. Gydag anogaeth gyhoeddus o'r pulpud, a mynych ymweliad â'r rhai sy'n esgeuluso, gellid yn hawdd chwyddo rhifedi yr aelodau. John Davies Caernarvon, Pierce Williams Waenfawr, John Roberts Bontnewydd."

Yn 1867, hefyd, y dechreuodd W. T. Jones Hafodlas bregethu. Aeth yn genhadwr i Enlli yn 1875. Yn 1867 y daeth John Jones yma o Drefin, cyn hynny o Hebron, Llanberis. Bu'n flaenor yn Hebron a Threfin, a chodwyd ef i'r swydd yma.

Bu'r hynafgwr dyddorol, Evan Evans Hafodlas, farw yn y gymdogaeth hon, Ionawr 28, 1870, yn 95 mlwydd oed, wedi trigiannu yma am oddeutu ugain mlynedd. Ganwyd ef gerllaw y Bala, ac yr oedd gyda'r Methodistiaid, er yn lled gynnar ar eu hanes, ym Mhwllheli, Nant Lleyn, Caernarvon a Bangor, ac yn un o'r sylfaenwyr yn y lle diweddaf. Gwr hysbys yn arwyddion yr amseroedd, ac yn addfedu o ran ei brofiad o grefydd.

Wedi dechre pregethu yma yn y flwyddyn 1853, fe alwyd Edward Roberts Tanrallt yn fugail ar yr eglwys yn 1870.

Mae nodyn yn y Goleuad am Awst 30, 1873, ar y Ceunant gan Ymwelydd. Cyfeiria at benderfyniad yr eglwys ychydig wythnosau yn flaenorol i harddu y capel a'i adgyweirio ychydig, a bod rhai o ferched ieuainc yr eglwys wedi casglu'r swm o £23 at yr amcan. Dywed, hefyd, fod y Temlwyr Da yn gweithio yn ardderchog yma, a bod y cyfarfodydd a gynhelid yn rhai o nodwedd fuddiol. Yn 1875 y gwnawd Robert Parry Panthyfryd a John Hughes Pantycoed yn flaenoriaid.

Yn y flwyddyn 1879 y bu farw y ddau Thomas Jones. Thomas Jones Hafodlas yn Awst 16, yn 55 mlwydd oed, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am ugain mlynedd. Selog, ffyddlon, cydwybodol yng ngwaith yr Arglwydd, ac o farn addfed, ac yn wr o gyngor. Thomas Jones Tanygraig yn Nhachwedd 22, agos yn 65 mlwydd oed, wedi bod yn flaenor am 33 mlynedd. Argyhoeddwyd ef, mewn modd a adawodd ei argraff arno ar hyd ei oes, wrth wrando ar John Elias. Ar brydiau fe dorrai allan mewn gorfoledd cyhoeddus. Gair mawr gydag ef oedd "windio wrth angeu y groes." Meddai ysbryd maddeugar: tynnai ymaith o'i galon bob gwreiddyn chwerwedd. Gofalai am y plant; ymwelai â'r cleifion. Yr oedd ei bresenoldeb yn taenu sirioldeb ymhob cynhulliad; rhoddai fywyd yn y cynhulliad eglwysig yn arbennig, a meddai ar ddawn i arwain yr ymddiddan. Noswaith cyn marw adroddodd bennill nodweddiadol o'i brofiad: "Wrth edrych Iesu ar Dy Groes, a meddwl dyfnder d'angeu loes."

Yn 1880 y penodwyd Thomas Parry Tŷ canol, John Lloyd Brynglas a William Hughes Tanyffordd yn flaenoriaid. Bu farw Robert Parry Rhagfyr 29, 1883, wedi bod yn y swydd o flaenor am yn agos i naw mlynedd. Mae'r hanes am yr achos yn y Ceunant yn dra dyledus iddo ef oherwydd ei sylw manwl ar bethau, a'i arfer o gofnodi amgylchiadau. Ac nid cofnodwr yn unig ydoedd, ond yr hyn na cheir yn fynych mewn cofnodwr, sef cyfnewidiwr, pan fyddai galw am hynny. Gwelai pan fyddai angen cyfnewid yn nhrefn pethau, ac yr oedd ganddo ddigon o awdurdod i ddwyn y cyfryw gyfnewidiad oddiamgylch. Yr oedd yn arweinydd mewn byd ac eglwys. Llafuriodd gyda'r bobl ieuainc, er eangu eu gwybodaeth yn wladol a chrefyddol. Ei bwyll a'i arafwch oedd hysbys i bob dyn, a'i ysbryd barn a chyngor.

Nid oedd ond gweithiwr, nac oedd, ond
Yr oedd yn weithiwr! berr ei hyd
A fu ei oes, ond rhoes ei llond
O ystyr da a llafur drud.—(Alafon).

Mawrth 16, 1884, y bu farw John Hughes Merddyn, wedi bod yn flaenor yn y Ceunant am ugain mlynedd, ac yng Nghwmyglo cyn hynny am rai blynyddoedd. Cyflawn mewn cymhwysterau; yn gyfranwr hael; yn wr o farn, yn ysgrythyrwr da, ac yn dra gwasanaethgar gyda'r ysgol Sul. Yn amlwg yn ei fisoedd diweddaf ei fod yn teimlo yn ei ysbryd oddi wrth nerth y gwirionedd. Yr un flwyddyn ag y bu farw ei dad y galwyd Hugh J. Hughes Merddyn yn flaenor; ac ar ei ymadawiad ef i Gaernarvon y galwyd ei frawd, Griffith J. Hughes, i'r swydd yn 1888.

Chwefror 5, 1885, y bu farw y gweinidog, y Parch. Edward Roberts, yn 57 mlwydd oed. Yr oedd wedi ei alw yn flaenor yn y Ceunant pan yn ddeunaw oed. Bu'n pregethu am 32 mlynedd. Pregethwr buddiol, sylweddol. Yn y cyfarfod eglwysig y ceid ef ar ei oreu. Arlwyai yno wledd, a chydrhyngddo ef ac Elizabeth Hughes Merddyn, fe deimlai aml un ei phiol yn llawn. Am rai blynyddoedd fe gadwai gofnod presenoldeb pob aelod yn y seiat, ynghyd a sylwedd y profiadau, gan roi crynhodeb o'r cyfan ar ddiwedd blwyddyn. Fel yr Apostol Paul mewn rhai eglwysi, felly Edward Roberts yn y Ceunant a wnaeth waith bugail heb unrhyw dâl mewn arian. Ei orfoledd oedd tystiolaeth ei gydwybod. Ofnodd Dduw o'i ieuenctid. Gwas ffyddlawn a doeth, ac yn ofni Duw yn fwy na llawer.

Wele gofnodion Edward Roberts ger ein bron! Maent yn dechre gyda dechre 1880, ac yn diweddu gydag Ionawr 29, 1885. Mae cofnod presenoldeb pob aelod ar lyfrau eraill, ac wedi eu cadw yn fanwl. Gan fod cofnodion o seiadau yn dra phrin, hyd y gwyddis, fe roir rhyw gymaint o le iddynt yma, sef i bigion bethau. Nodir pwy a gymerodd ran, a phwy adroddodd brofiad. Rhif yr aelodau yn 1880 ydoedd 132, ac yn 1885, 110.

"1880. Ionawr 22. Elizabeth Roberts Ty'nllwyn: Och fi! canys benthyg oedd.' Mai benthyg oedd pethau'r ddaear, ac y dylai hi fod yn ofalus pa fodd i'w defnyddio; a'i bod yn teimlo mai ymgynghori â gwr Duw a gair yr Arglwydd oedd y goreu iddi hi yn wyneb ei mawr ddiffygion. Chwefror 25. Adroddwyd profiad Jane Williams Tainewyddion oedd yn wael. Dywedai y treuliai nosweithiau i ddiolch i'r Arglwydd. Ebrill 14. Adroddwyd o'r Cyfarfod Misol ar ol hen flaenor ymadawedig o Hermon, pe buasai efe wedi llafurio cymaint am brofiad ysbrydol ag a wnaeth i ddeall pynciau crefydd, y buasai wedi cael llawer mwy c gysur iddo'i hun a bod yn gyfrwng mwy o gysur i eraill. Ebrill 28. Elizabeth Griffith Hafodlas a ddywedai y buasai wedi digalonni rhag dyfod i'r seiat y noswaith honno, onibae i ddarn o adnod ddod i'w meddwl,—"A threiswyr sydd yn ei chipio hi."

"1881. Chwefror 2. Profiad crefyddol disglair Mary Hughes Tŷ canol wedi cyffroi Thomas Parry Tŷ canol i geisio ymarfer ei hun i dduwioldeb. Gwyddai ef mai felly yr oedd hi wedi llwyddo; mynnai drwy bob trafferth gael hamdden i ddarllen ei Beibl, ac i fyfyrio bob dydd am oes faith. Sylwadau ar derfyn y flwyddyn 1881. 1. Bu rhyw ychydig yn bresennol yn y cyfarfodydd eglwysig braidd i gyd. 2. Deunaw heb gael un seiat. 4. Nifer yn bresennol at ei gilydd, 40.

"1882. Ionawr 25. Elizabeth Hughes yn torri allan mewn gorfoledd, nes fod pawb yn wylo. Sylwadau ar derfyn y flwyddyn. 2. 15 heb gael yr un seiat. 3. Heb gael pum seiat, 21 4. Cyfar- taledd, 40. 5. Oddeutu 20 wedi dilyn yn lled gyson.

"1883. Chwefror 21, Elizabeth Hughes Merddyn yn adrodd hen adnod a gododd ei phen hi uwchlaw ofn, 'Pa faint mwy y bydd i waed Crist.' Wedi diolch mwy am yr adnod yna na holl adnodau'r Beibl i gyd. Adnod fawr, yn cynnwys yr holl Feibl i gyd. Ebrill 4. Catherine Griffiths Bryncwil yn teimlo fod maddeuant rhad yn tueddu i gynyrchu edifeirwch dwfn. Ebrill 18. Gair o brofiad gwir ysbrydol gan Elizabeth Hughes. Torrodd allan i orfoledd cyn y diwedd. Cyn hynny y seiat yn oer; y swyddogion yn fud, ac heb ddeall ei gilydd. Canwyd pennill yr hen chwaer oedd yn gorfoleddu,- Ar groesbren brynhawn.' Mehefin 27. Catherine Jones Tanygraig yn teimlo ei bod yn nesu at ryw wlad.' Y dwfr yn myned yn llai wrth blymio o hyd. Yn ddigalon, ac eto'n gobeithio. Gorffennaf 25. Elizabeth Hughes: Y nôd sydd ar y rhagrithiwr wedi ei dychryn yn fawr; ond cafodd lan. Medi 5. Adroddiad gan y rhai fu yn gwrando Richard Owen yn y Capel Coch. Pawb wedi eu deffro: boddhad, difrifwch ac ofn. Elizabeth Hughes yn cael cymaint gyda chrefydd ag a allai ei ddal. Hydref 10. William Jones Rallt yn gofidio oherwydd ddarfod iddo pan o bymtheg i bump arhugain oed ddilyn bywyd nad oedd dda i ddim. Elizabeth Hughes: Myfi yw y ffordd.' Yr wyf o hyd yn dueddol i fynd ymhell iawn o'm lle; ond y mae yn ffordd i mi ddyfod at Dduw yn ei enw ef. Da iawn i mi fydd cael myned at orsedd gras. Byddaf yn meddwl yn bur gryf ambell dro fy mod mewn heddwch â Duw; ond y mae yn biti garw fy mod yn mynd i ameu drachefn. Ond mae munyd o edrych ar Aberth y Groes yn tawel ddistewi môr tonnog fy oes. Hydref 31. Adnodau a adroddwyd: 'Angau a lyncwyd mewn buddugoliaeth.' 'Ymdrechwch am fyned i mewn trwy y porth cyfyng.' Dangos yr un diwydrwydd er mwyn llawn sicrwydd gobaith.' 'Bydded ymadroddion fy ngenau a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy ger dy fron, O Arglwydd, fy nghraig a'm prynwr.' 'Nac ofna, braidd bychan, canys rhyngodd bodd i'r Tad roddi i chwi y deyrnas.' Sylwadau ar derfyn y flwyddyn. 19 heb gael seiat o gwbl; 20 eraill heb gael pum seiat. Presennol ar gyfartaledd, 37.

"1884. Ionawr 30. Gormod o areithio. Mawrth 26. Dywedwyd gair oddiwrth yr hen chwaer hynod Elizabeth Hughes. Y doctor yn dweyd ei bod yn gwella. Yr hen chwaer yn wylo nes fod dillad y gwely o'i deutu yn wlybion. Gofyn iddi paham? Hiraeth am Iesu Grist. Meddyliais fy mod yn mynd ato, ond dyma'r doctor yn dweyd fy mod yn well.' Hi a gymhellai'r eglwys i ganmol yr Iesu. Dim yn poeni cymaint arni ag iddi fod mor ddistaw am dano, a pheidio canmol mwy arno wrth bobl. Mehefin 18. John Hughes Caerweddus yn dweyd mai gwaith Elizabeth Hughes Merddyn yn cynnal y ddyledswydd deuluaidd pan oedd hi yn gweini yn y Tai isaf, Pentir, a hynny yngwydd 9 neu 10 o ddynion, a fu yn foddion i'w ddwyn ef at grefydd. Mehefin 25. Sylwyd fod yn debyg fod yr Arglwydd Iesu yn sylwi yn y nefoedd ar waith eglwys y Ceunant yn dyfod ynghyd mor gryno i gladdedigaeth Elizabeth Hughes, a'i fod ef yn diolch iddynt am eu caredigrwydd iddo ef ei hun. Bydd yn chwith iawn ar ei hol, canys' Elizabeth a lanwyd o'r Ysbryd Glan.' Awst 6. Henry Williams yn teimlo fod ganddo fwy o afael mewn crefydd wedi bod yn gwrando'r ddiweddar chwaer, Elizabeth Hughes, yn adrodd ei phrofiadau. Tachwedd 19. William Parry Glandwr yn dweyd mai'r hyn a'i cymhellodd ef i ddod i'r seiat oedd sylw y Dr. Owen Thomas am yr hen wraig wrth ben yr ysgol yn gweiddi ar William yn y gwaelod, 'Tyr'd i fyny, William.' Mi feddyliais am geisio dringo i fyny rhag cywilydd i mi.' Sylwadau ar derfyn y flwyddyn. Un chwaer yn bresennol ymhob seiat ond un. Pedwar arddeg heb gael un seiat."

Dyma adroddiad yr ymwelwyr â'r ysgol Sul yn 1885: "Da gennym weled trefn ac effeithiolrwydd yn yr addysg a weinyddir, yn enwedig gyda'r bobl ieuainc. Ymddengys fod yma bob parodrwydd i ymgymeryd â bod yn athrawon, a'r holwyddori yn gyfryw nas gellir beio rhyw lawer arno. Barnwn nad anfuddiol fyddai treulio ychydig amser gyda chaniadaeth, a da fyddai pe gellid dwyn i mewn y graddoliadau safonol. Dywedid wrthym y gallesid sicrhau mwy o lafur gogyfer ag arholiadau y Cyfarfod Misol, pe cyfyngid testynau y Gymanfa i'r un maes. John Davies, Thomas Jones."

Cryn gynnwrf achoswyd gan y son am adeiladu capel newydd yn 1887. Yr oedd rhan isaf yr ardal yn wrthwynebol i'w leoliad presennol. Dadl y rhan uchaf oedd ei fod yn eiddo rhydd-ddaliadol, yr hyn a sicrhawyd yn 1883 am y swm o £30, a bod gwerth £200 o ddefnyddiau ynddo, a'r ddadl hon a gariodd y dydd. Codwyd capel da, 58 troedfedd wrth 32 troedfedd, gydag ystafell odditano, a thŷ yn y talcen deheuol. Y cytundeb am y gwaith oedd £900. Ymadawodd amryw i Lanrug ar hyn, a chadwyd ysgol Sul yn llofft adeilad perthynol i Mr. John Hughes Tanycoed. Aflonyddai pobl Tanycoed bellach am ysgoldy, a chefnogid hwy gan y Cyfarfod Misol. Ar yr amod fod y rhai aeth i Lanrug yn dychwelyd yn ol, ymgymerwyd âg adeiladu ysgoldy yn Nhanycoed am y swm o £250. Gwnaeth hyn faich yr eglwys yn un llethol. Hydref 16, 1892, y bu farw William Hughes Tanyffordd yn 58 mlwydd oed, wedi gwasanaethu fel blaenor am ddeuddeng mlynedd. Yn nhymor diwygiad 1859 y symbylwyd ef i broffesu crefydd, dan bregeth John Phillips Bangor ar y Ffigysbren Ddiffrwyth yng nghapel Llanrug. Efe oedd trysorydd yr eglwys; yr oedd yn athraw da, ac yn arweinydd cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc ar fore Sul. Darllennodd lawer, yn enwedig ar y Beibl. Bu'n ddefnyddiol heb fod yn gyhoeddus iawn. Ymorffwysai ar drefn yr efengyl.

Yn 1895 y gwnawd John G. Davies Tŷ Capel yn flaenor, ac yn 1898, Henry P. Jones Tŷ uchaf, W. W. Jones Tŷ canol a J. T. Jones Hafodlas.

Yn Rhagfyr 1897 fe ffurfiwyd eglwys yn Nhanycoed, pan ymadawodd 30 o aelodau o'r Ceunant, ac y daeth Tanycoed yn daith gyda'r Ceunant. Rhif yr aelodau yn niwedd 1897 ydoedd 135.

Chwefror 25, 1900, bu farw John Lloyd Brynglas, yn 67 mlwydd oed, wedi gwasanaethu'r swydd o flaenor am ugain mlynedd. Llafuriodd gyda chaniadaeth fel olynydd Owen Roberts o'r flwyddyn 1862. Ystyrrid ef yn gerddor gwych, a bu'n athraw cerddorol. i dô ar ol to o'r bobl ieuainc. Bu'n ffyddlon gyda'r Band of Hope Yr oedd yn golofn i'r achos.

Rhif yr aelodau yn niwedd 1900 ydoedd 121; rhif yr ysgol, 140.

CROESYWAEN.[5]

Pan nad oedd ond un capel yn ardal y Waenfawr, elai lliaws yno drwy lwybrau go anhygyrch weithiau, a thros bellter o ffordd, cymaint a dwy filltir neu ragor mewn rhai enghreifftiau. Dyma'r achos am y galw am gapel arall oddeutu 1863, y cyfeiriwyd ato yn hanes y Waenfawr. Er mai plaid yr un capel a orfu, eto yr oedd y teimlad o angen capel arall yn aros o hyd. Daeth y mater i ben yn Ebrill, 1878, pan y penodwyd pedwar o frodyr i wrando llais ardal Croesywaen ynghylch capel newydd. Fe gafodd y mater ei drafod mewn amryw gyfarfodydd go derfysglyd.

Yn Nhachwedd 1880, ar waith yr eglwyswyr yn rhoi eu gwasanaeth yno i fyny, a myned i'r Eglwys newydd, cymerwyd yr Hen Ysgoldy Genhedlaethol ar ardreth, a chychwynnwyd ysgol Sul yno. Cychwynnwyd y 14 o'r mis, pryd yr oedd 82 yn bresennol, T. Jones, ysgolfeistr, yn arolygwr. Traddodwyd y bregeth gyntaf yn y prynhawn gan Mr. Francis Jones, Chwefror 6, 1881. Cafwyd amryw bregethau yn ystod y flwyddyn, ac wedi hynny trefnwyd pregeth yn rheolaidd unwaith yn y mis. Cychwynnwyd casgl misol at dreuliau yr ysgol ym Medi, 1881, a pharhawyd gydag ef hys nes y trowyd ef yn gasgl at y capel newydd.

Yn Nhachwedd, 1882, impiwyd ysgol fechan Plas Glanrafon i ysgol Croesywaen, ac anfonwyd y Mri. Benjamin Williams a Robert Williams Brynbeddau, yno i gynorthwyo. Ar ol hynny bu'r Mri. Morgan Jones Pant a William Parry Warwick yn myned yno. Gwŷr fu'n ffyddlon a blaenllaw am ysbaid maith gyda'r ysgol hon oedd W. Williams (Sardis) a Mr. R. H. Parry Glanrafon. Yn nechre Ebrill, 1883, gwnawd cais gan ysgol Croesywaen ar eglwys y Waen am gapel. Cyfarfodydd cynhyrfus. Teimladau yn llareiddio mymryn, a chydnabod rhesymoldeb y pwnc, ond fod masnach yn isel.

Ar waith eglwys y Waen yn rhoi galwad i W. Ryle Davies, fe gytunwyd drwy benderfyniadau ar godi eapel a sefydlu eglwys, ynghyda rhoi gofal y ddwy eglwys ar y bugail newydd. Oedi son am gapel wnawd, pa ddelw bynnag, hyd nes symbylwyd y meddwl am gapel newydd gan gymun-rodd William Jones Penrhiw i'r amcan, sef £400, ar yr amod fod y capel yn rhywle ar y ffordd fawr o Ysgoldy Croesywaen hyd Benbryn caeglas, a'i fod i gael cychwyn ei adeiladu o fewn chwe mis. Y Waen yn erbyn capel yng Nghroesywaen, ac eisieu iddo fod yn Nhŷ'n cae. Ystyrrid Croesywaen yn rhy agos i'r hen gapel, sef pen arall y pentref, ac ychydig gyda hanner milltir yn nes i Gaernarvon. Penodwyd gan y Cyfarfod Misol i ystyried y mater, y Parchn. Evan Jones, William Rowlands, John Owen Jones a'r Dr. Roberts Penygroes. Cyfarfu'r brodyr hyn frodyr o'r lle, Awst 10, 1885. Dyfarnwyd o blaid Croesywaen. Y fam-eglwys yn ffromi ac yn gwrthod cynysgaeth i'r ferch.

Penderfynu gweithio ymlaen. Cynlluniodd R. Lloyd Jones ei gapel cyntaf. Prynwyd y tir, sef 30 llath wrth 29 am £88 19s. 6ch. Ymgymerwyd â'r gwaith gan y Mri. Lewis a Williams (Llangaffo, Môn), am £1140. Arwyddo'r cytundeb, Hydref 5. Dodi'r sylfaen i lawr, Hydref 7. Er dod i fyny â thelerau'r llythyr-cymun, llwyddwyd i'w dorri drwy gyfraith. Brwdfrydedd yn ennyn fwy nag erioed. Cwblhau'r gwaith cyn diwedd 1886. Lle yn y capel i 400. Arwyddo'r weithred, Tachwedd 1886. Yr ymddiriedolwyr: T. Jones, Morgan Jones, John Roberts, William Jones, W. Williams, T. Hughes, (Dr.) Hughes. Yr holl draul, gan gynnwys y tir a dodrefnu'r capel, £1380.

Ffarwelio â'r fam-eglwys, nos Iau, Rhagfyr 2, 1886. Agor y capel, Rhagfyr 12, pryd y pregethodd W. Ryle Davies, y bore oddiar II. Cronicl v. 6, a Nehemia iv. 19, 20, a'r hwyr oddiar Hosea xiv. 5. Nos Iau, Rhagfyr 16, sefydlu'r eglwys. Cenhadon y Cyfarfod Misol, y Parchn. Evan Roberts Engedi a T. Gwynedd Roberts, ac Owen Roberts (Engedi). Rhif yr aelodau yn bresennol ar y pryd, 110. Daeth 122 o aelodau y Waen yma. Rhif erbyn diwedd y flwyddyn, 130. Y ddyled erbyn diwedd y flwyddyn £1175. Yn ddilog, 498. Daeth dau o flaenoriaid y Waen yma i gymeryd gofal yr eglwys, sef Morgan Jones Pant a T. Jones yr ysgolfeistr. Fe fu'r achos dan eu harweiniad hwy hyd Chwefror 1887, pryd y dewiswyd atynt, Dr. Hughes a Richard Griffith Bodhyfryd.

W. Phillip Williams yn derbyn galwad yr eglwys, 1890, ac yn ymsefydlu yma, Gorffennaf 8. Daeth yma o Dywyn, Abergele.

Dewis Hugh Jones Frongoediog yn flaenor, Ebrill, 1895. A Thachwedd, 1897, dewis William Morgan Ty newydd a John Thomas Coed gwydryn.

Mawrth 6, 1898, y cyrhaeddodd bugail yr eglwys, William Phillip Williams, ei derfyn, yn 42 oed, ac wedi gwasanaethu'r eglwys am yn agos i wyth mlynedd. Brodor o'r Carneddi. O ochr ei fam yn hanu o deulu Gwaengwiail, teulu yn cynnwys amryw o ddynion o feddyliau cryf a diwylliedig. Dechreuodd bregethu yn 20 oed yn y Carneddi. Ordeiniwyd yn 1889. Fe fu'n fugail yn Nhywyn, Abergele, am flwyddyn, cyn derbyn yr alwad i Groesywaen. Ymagorodd yn raddol. Osgo fymryn yn ddihidio arno, gyda gwên go agored. Tywyniad go berliog yn y llygaid. Siarad mewn dull dipyn yn ddirodres, fel un yn mynny rhoi'r pwys ar y pethau yn hytrach nag ar y ffordd o'u cyfleu. Yn araf-deg y deuid i'w werthfawrogi. O ran ffurf ei feddwl yn perthyn yn o amlwg i'r dosbarth dihidio am dano'i hun o chwarelwr, ac nid i'r dosbarth go falchaidd mwy lliosog. Fymryn yn ymwybodol o hynny, ond yn ymgryfhau yn araf yn seiliau ei gymeriad. Ei nodwedd hwn ddaeth rhyngddo âg ennill sylw am gryn ysbaid; ond wedi dechre craffu arno, dechreuid priodoli iddo ragoriaeth go uchel, ac yn enwedig gwreiddioldeb meddwl. Llwybr iddo'i hun wrth weithio'i bwnc allan. Meddwl llawn mwy arno'i hun na darllen. Darllen ychydig lyfrau gwydn, megys Butler, Jonathan Edwards, Lewis Edwards, a rhyw gymaint ar Shakspere a Milton. Go araf i dderbyn barn arall, fel y chwarelwr pan heb fod dan ddylanwad chwiw y chwarel. Ymwthiodd i serch yr eglwys. Cyfaill pur. Bu llwyddiant ar ei ymdrechion gyda'r bobl ieuainc. Gweddïai yn uchel yn ei ystafell, a chyda gafael gref, yn ystod y tridiau olaf y bu fyw, a hynny am baratoad i'r cyfnewidiad o'i flaen, a thros ei deulu a'r eglwys. (Goleuad, 1898, Mawrth 30, t. 2, gan y Parch. R. Pryse Ellis).

Tachwedd 6, 1898, cymeryd llais yr eglwys ar Mr. James Jones, fel bugail. Yntau yn dod yma, Ionawr, 1899.

Chwarelwr wrth ei alwedigaeth ydoedd Richard Griffith, a droes yn fasnachwr, ac a gasglodd gyfoeth. Gwasanaethgar gyda phethau allanol yr achos yn y capel mawr. Bu'n flaenor yma am dros 12 mlynedd. Cyson yn y moddion. Addawodd dir yn rhad i'r adeiladau a fwriedid eu codi ynglyn â'r capel. Cwblhawyd ei addewid gan ei feibion ar ei ol. Bu farw Rhagfyr 1, 1898.

Ystyrrid Morgan Jones yn ddyn o allu. Efrydodd y Dr. Lewis Edwards o'i ieuenctid, yn arbennig Athrawiaeth yr Iawn. Darllenai Thomas Charles Edwards a D. Charles Davies. Meddai ar synnwyr da, a barn, ac yr oedd yn gynghorwr. Cerddor da. Yn ddyn o ysbryd crefyddol. Blaenor yn y Waen ers 1875, ac yn arwain yr eglwys yma gyda Mr. Thomas Jones hyd 1887, pan y galwyd hwy, gydag eraill, yn ffurfiol i'r swydd. Fe fu'n codi canu ynghyd ag eraill yn y Waen, ac yn drysorydd yno am 25 mlynedd, megys yr oedd yma hefyd hyd ddiwedd ei oes. Y golofn amlwg yma o'r dechre. Yn wyllt o dymer, ond yn cael gras ataliol. Naws ieuenctid arno. Yn wr tyner ei deimlad, yn egwyddorol ac yn hunan-aberthol. Cynneddf naturiol a diwylliant wedi eu mantoli yn ddymunol. Ei farwolaeth yn ergyd drom i'r achos, yr hyn a ddigwyddodd Hydref 21, 1899, pan yn 77 oed.

Y ddyled erbyn 1899 o dan £200. Yr holl draul o'r dechre ynglyn â'r adeiladau hyd at 1899, £1573. Traul o £1565 am yr adeiladau newyddion, sef tŷ i'r gweinidog, tŷ capel, ysgoldy i gynnwys 300, ystafell fechan ar gyfer dosbarthiadau darllen, a chegin. Y gwaith wedi ei orffen erbyn diwedd 1900. Swm y treuliau ar yr adeiladau o'r dechre, £3137.

Y mae'r cyfarfod gweddi bore Sul am 9 ar y gloch wedi bod yn un bendithiol, yn enwedig i ddynion ieuainc. Cynhaliwyd y cyfarfod pregethu cyntaf yma, Hydref 6, 1895, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn. G. Roberts Carneddi ac Abraham Oliver Talsarnau. Ar ol hynny, cynhaliwyd y cyfarfod ym mis Medi. Sefydlwyd yma Gymdeithas Lenyddol lewyrchus. Y mae gwedd lewyrchus wedi bod, hefyd, ar ganiadaeth yma. Mr. G. G. Jones Ty'ntwll yw'r arweinydd.

Y mae gan Mr. Thomas Jones sylwadau ar rai personau heb fod yn swyddogion. Un a weithiodd yn egniol yn y winllan ar hyd ei oes oedd Humphrey Owen Pant y cerryg. Yn flaenllaw yn y seiat, ac yn cymeryd lle blaenor yno yn fynych. Yn wr duwiol a'i gynghorion yn cyrraedd adref. Wrth gynghori i gyfrannu, adroddai am Guto Dafydd yn rhoi ei hanner coron diweddaf at yr achos. Trannoeth fe welai dwmpath gwâdd yn codi i'r golwg, ac, er ei fawr syndod, hanner coron yn disgleirio allan ohono. "Wel- wchi, fel y mae'r Arglwydd yn talu!" ebe yntau. Ni fu fy Hanes fy Hun, neu, fel arall, Evan Owen Ty'n twll, yma ond am ysbaid ferr; ond bu o wir gynorthwy yn yr ysbaid honno. T. J. Thomas Coed gwydryn a feddai ragoriaethau uchel er yn blentyn. Yn y cyfarfod llenyddol blynyddol, yr oedd ar y blaen ym mhob cystadleuaeth y cymerai ran ynddi, a safai ymhlith yr uchaf yn yr arholiadau sirol. Yr oedd iddo gymeriad gloew. A disgwylid bethau gwych oddiwrtho. Dechreuodd ei iechyd ballu ym misoedd cyntaf ei brawf fel pregethwr, ac yntau wedi myned i goleg Aberystwyth. Bu farw mewn hyder mabaidd, Mawrth 1, 1895, yn 21 oed.

Ceisir crynhoi yma rai o sylwadau Mr. Benjamin Williams ar rai o'r cymeriadau y sylwir amynt ganddo ef. Henwr ffyddlon, brwdfrydig gyda'r capel newydd oedd Dafydd Roberts Ty'n y clwt (m. Ebrill 22, 1887, yn 75 oed). Distaw yn yr eglwys oedd Sarah Anne (priod y Dr. W. Hughes), ond rhyfeddol fyw gyda phethau allanol yr eglwys. Merch Mr. Evan Evans, ac yn dwyn ei nodweddion (m. Awst 31, 1890, yn 32 oed). Jane Jones Vronoleu, mam Mr. T. Jones yr ysgolfeistr, oedd un o'r ffyddlonaf o'r merched, os nad y fwyaf felly. Yn brydlon ac yn gyson yn mhob cyfarfod, rhag disgyn o'r Ysbryd pan na byddai hi yno (m. Tachwedd 3, 1890, yn 76 oed). Gydag Ellen Jones Llys Elen yr oedd llety'r pregethwyr y blynyddoedd cyntaf. Gwraig ddeallus, siriol, selog, ddiwyd, rinweddol, ofalus (m. Mehefin 1, 1891, yn 50 oed). Robert Griffiths Llys Meredydd, mab Dafydd Roberts Ty'n y clwt, oedd un o'r colofnau. Yn fyw gyda'r gwaith o gychwyn yr achos. O feddwl eang ac yn weledydd gweledigaethau. Efe a gynhyrfodd gyntaf am weinidog (m. Mehefin 1, 1892, yn 46 oed). William Hughes Bodlondeb, tad y Dr. Hughes, oedd yntau yn golofn yn y moddion cyhoeddus (m. Hydref 12, 1893, yn 83 oed). Humphrey Owen Pant y cerryg a ymdrechodd lawer am gael capel yn y pen yma i'r ardal mor bell yn ol ag 1863, ac yr ydoedd yr un mor selog gyda'r ymdrech ddiweddarach. Yn wr dawnus, yn ysgrythyrwr a diwinydd, yn athro llwyddiannus, yn weddïwr cyhoeddus grymus (m. Mai 15, 1895, yn 82 oed). Thomas Jones Llys Elen (priod yr Ellen Jones a grybwyllwyd am dani) oedd wr y byddid yn well wedi bod yn ei gwmni. Darllenai lawer, a gwnae yr hyn a ddarllenai yn feddiant iddo'i hun. Yn un o'r athrawon goreu, ac yn gerddor gwych. Brawd i Mr. J. W. Thomas Bryn Melyn (m. Mawrth 5, 1897, yn 65 oed).

Rhif yr eglwys yn 1900, 199. Swm y ddyled, £135 7s. 9½c.

TANYCOED.[6]

Gorwedd yr ardal fechan yma cydrhwng Ceunant a Phontrhythallt, y lle olaf gerllaw Llanrug. Y mae rhyw gymaint dros filltir o ffordd i'r Ceunant, a honno yn allt go drom at ei gilydd. Cyn cychwyn unrhyw foddion crefyddol yma, yr oedd y nifer fwyaf o'r bobl yn ddibroffes. Ychydig oedd yn proffesu gyda'r Methodistiaid.

Dechreuwyd cynnal Ysgol Sul yma yn 1887. Rhoes Mr. John Hughes Pant y coed fenthyg llofft i gynnal ysgol Sul a chyfarfod plant yn ystod yr wythnos. Maint y llofft, 6 llath wrth 5, a'r tô yn rhedeg un ffordd. Nifer yr ysgol, 92, wedi eu rhanu yn 9 o ddosbarthiadau. Y plant wedi eu cyfleu lle'r oedd y tô yn isel. Cyfartaledd presenoldeb y flwyddyn gyntaf, 70. Yr arolygwr cyntaf, John Hughes Pant y coed; ysgrifenyddion, Edward Davies Gelliod a Thomas P. Jones 'Rallt; arweinwyr y canu, John Hughes Cae'rweddus, William O. Jones ac Edward Davies. Rhai eraill fu'n offerynnol i roi cychwyn i'r ysgol,—Jeffrey Roberts, Owen Jones, Robert Davies, John Davies, David Edwards, R. T. Jones, Rolant Roberts, Robert Owens. Am dymor byrr bu Richard Hughes, D. O. Hughes, W. P. Jones, H. T. Parry, yn cynorthwyo o'r Ceunant.

Gwnawd cais at eglwys y Ceunant am ganiatad i godi ysgoldy. Nid oedd addfedrwydd i hynny. Apeliwyd at y Cyfarfod Misol. Nodwyd i ystyried y cais, y Parchn. W. Rowlands Cefnywaen a T. Gwynedd Roberts. Cyfarfyddwyd hwy gan John Hughes Pant y coed, John Davies Maes y gerddi, Jeffrey Roberts, Robert Davies, Owen Jones Ty'n llwyn. Daethpwyd i'r penderfyniad fod angen ysgoldy yma, ac adeiladwyd yn 1890. Ei gwerth, oddeutu £250. Y tir wedi ei bwrcasu y flwyddyn flaenorol am £24, y swm yma yn gynwysedig yn y cyfanswm blaenorol.

Sefydlwyd yr eglwys nos Fawrth, Rhagfyr 28, 1897, gan y Parchn. David Williams Cwmyglo, Lewis Williams Waenfawr a Mr. Morris Roberts Llanrug. Rhif yr eglwys ar y cyntaf, 49. Y blaenoriaid cyntaf, John Hughes, yn flaenor yn y Ceunant ers 1875, a John J. Lloyd, a ddewiswyd ar sefydliad yr eglwys. Dewiswyd John O. Hughes Caehoedyn, Hydref 2, 1898.

Yr ydoedd D. O. Hughes Hafod Owen wedi cychwyn fel arweinydd y canu, ond cymerwyd ef ymaith oddiwrth ei waith at ei wobr. Y rhai fu'n gofalu am ganiadaeth y cysegr,—Richard T. Jones, W. O. Jones, Thomas R. Williams, Richard H. Williams. John Hughes Cae'rweddus ydoedd un y bu ei oes faith yn oes of ganu yn y cysegr.

Bu sefydlu'r achos o fendith fawr. Y rhai oedd bell a wnaethpwyd yn agos, a chafodd plant yr ardal freintiau newyddion. "Prennau'r coed a ganant o flaen yr Arglwydd."

Rhif yr eglwys yn 1900, 81.

ARDAL BEDDGELERT.[7]


ARWEINIOL.

Y MAE hyd plwyf Beddgelert, o ddwyrain i orllewin, a'i led, hefyd, o ogledd i dde tua 10 milltir, a chynnwys dair o nentydd, sef Colwyn, Gwynant a Nantmor. Gorwedd yng nghantrefi Eifionnydd, Isgorfai ac Ardudwy. Ei derfynau a gyrraedd hyd drum y Wyddfa, a chynnwys ei ochr a'i waelod deheuol agos yn gyfan gwbl, ynghyda'r Foel Hebog, yr Aran, y Graig Goch a'r Mynyddfawr a chyfran o'r Siabod. Yr oedd y boblogaeth yn 1831 yn 777; bu wedi hynny yn gymaint a 1500; yr ydoedd yn 1230 yn 1901.

"Lle hynod o anhygyrch. Hyd o fewn ychydig ugeiniau o flynyddoedd yn ol, nid oedd ffyrdd i un cyfeiriad, oddigerth un rhibyn cul i gyfeiriad Caernarvon. Y mae'n amlwg mai un lled ddiweddar ydoedd honno. O'r herwydd, yr oedd pob math o glud yn hynod o drafferthus i'r trigolion. Yr oedd y llwybrau dros y bylchau yn hynod gulion, geirwon a serth. Nid oedd yn bosibl troi olwyn un math o fen i unrhyw gyfeiriad. Byddai weithiau gychod yn cludo ar lanw i fyny ac i lawr hyd y Traeth Mawr. Yr oedd y ffeiriau a'r marchnadoedd ymhell." (Ysgrif Gruffydd Prisiart).

Fe deifl George Borrow rywbeth o swyn cyfrin ei bersonoliaeth ei hun dros yr ardal. "Y mae Bethgelert wedi ei gyfleu mewn dyffryn amgylchynedig gan furiau enfawr, Moel Hebog a Cherrig Llan [Craig y Llan] yn hynotaf ohonynt; y blaenaf yn ei warchod ar y dde, a'r olaf, y sy'n eithaf du ac agos yn unionsyth, ar y dwyrain. Rhuthra ffrwd fechan drwy'r dyffryn a chyrch allan drwy fwlch yn ei ben de-ddwyreiniol. Dywed rhai fod y dyffryn yn dwyn ei enw, Beddgelert, oddiwrth fod yn fan claddu Celert, sant Prydeinig o'r chweched ganrif. [Cyfeirir hefyd at stori Gelert y ci. Dywed Pennant fod yn ei feddiant lun sel y priordy, wedi ei amseru 1531, a bod arno ffigyr y forwyn a'r plentyn, gyda'r gair Bethkele]. Ar ol crwydro o amgylch y dyffryn am beth amser a gweled ychydig o'i ryfeddodau, holais am fy ffordd i Ffestiniog a chychwynais tua'r lle hwnw. Y ffordd yno sy drwy'r bwlch ym mhen de-ddwyreiniol y dyffryn. Wedi cyrraedd dor y bwlch mi droais i edrych ar yr olygfa yr oeddwn yn ei gadael o'm hôl. Y weledigaeth a ymgyflwynai i'm llygaid oedd fawreddus a phrydferth dros ben. O'm blaen yr oedd dôl Gelert gyda'r afon yn llifo drwodd tua'r bwlch, tuhwnt i'r ddôl cadwen yr Eryri; ar y dde y cadarn Gerrig Llan, ar y chwith y cyfartal gadarn Hebog, ond nid mor serth hwnnw. Mewn gwirionedd, dyffryn Gelert sy ddyffryn rhyfeddol yn cydymgais am fawreddusrwydd a harddwch âg unrhyw ddyffryn naill ai yn yr Alpau neu'r Pyrenees. Ar ol hir a sefydlog olygiad mi droais o amgylch drachefn ac a aethum ar fy ffordd. Yn y man mi ddois at bont ar draws ffrwd, ag y dywedwyd wrthyf gan ryw wr y gelwid yn Aber Glas Lyn neu bont y bala y llyn llwydlas. Mi ddaethum yn fuan allan o'r bwlch, ac wedi myned beth o ffordd arhosais eto i edmygu'r olygfa. I'r gorllewin yr oedd y Wyddfa; yn deg i'r gogledd yr oedd cadwen aruthr o greigiau; o'r tu ol iddynt yr oedd pigyn blaenfain yn ymddangos yn cydymgais â'r Wyddfa ei hun mewn uchder; cydrhwng y creigiau a'r ffordd lle safwn i yr oedd golygfa hardd o goedwigoedd. Aethum ymlaen drachefn, gan fyned o amgylch ochr bryn gydag esgyniad arafdeg. Wedi tro bach arhosais drachefn i edrych o'm hamgylch. Dyna lle'r oedd yr olygfa gyfoethog ar goedwigoedd i'r gogledd, tu ol iddi yr oedd y creigiau, a thu ol i'r creigiau y cyfodai y bryn pigfain rhyfeddol yn polioni'r nef; ger ei fron i'r dde-ddwyrain yr oedd clamp o fynydd maith."

Dyfynnir yma o ysgrif Carneddog yn y Cymru: "Yn Aberglaslyn ceir y cyfuniad o'r golygfeydd mwyaf rhamantus a swynol yng Nghymru. . . . . Yr oedd Matthews Ewenni ar 'Wibdaith drwy Fon ac Arfon,' ac fel hyn y daeth tuag Aberglaslyn,—'Gydag ochr y Wyddfa yr aethum, gan ddisgyn yn raddol rhwng y bryniau mawrion, nes o'r diwedd suddo i mewn i Feddgelert—fel gorffwysfa oesol oddiwrth bob ystorm. Aethum i Aberglaslyn, tua milltir a hanner islaw y pentref hwn. Yr ydym yn myned rhwng y creigydd uchel,—yn unionsyth ymron bob ochr, ac yn ymestyn at ei gilydd gyda sarugrwydd anghymodadwy. Ar ochrau y creigydd, mewn man neu ddau, y mae ychydig o goed ffynidwydd wedi crymu eu pennau, ac yn llechu yn ddistaw a gwylaidd . . . fel mewn agwedd ostyngedig yn addoli . . . yn ymyl arwyddion o fawredd Duw tragwyddoldeb. Yr oedd ychydig eifr, un yma a'r llall draw, yn dringo'r creigydd serth, rhyngom a'r wybren fry . . . Gyda hyn, dyma y byd mawr fel pe buasai yn caead i fyny yn oes oesoedd o'n blaen . . . Ond gyda'n bod yn cyrraedd y bont, . . . wele fyd newydd yn agor o'n blaen ar un olwg . . . O! Arglwydd fy Nuw, tra mawr ydwyt, gwisgaist ogoniant a harddwch.' Ar lifogydd mawrion bydd yr olygfa ar yr afon yn gyffrous, a dwndwr y dwr wrth gorddi rhwng y meini yn fyddarol. Wele amrywion ei bywyd yn ol Eifion Wyn —

O fynyddfaen y Wyddfa—ei rhedlif
Afradlon gychwynna;
Tonni hyd Feddgelert wna
I lawr o'r pinacl eira.

Sïadol frysia wedyn—a gwynna
Geunant Aberglaslyn;
Rhed heibio godreu'r dibyn,
A'i mawr gorff fel marmor gwyn."

Rhwng ardal Llanberis ar y naill law i'r Wyddfa, ac ardal Beddgelert ar y llaw arall, ynghydag ardal Talysarn ychydig yn nes i'r môr, hithau hefyd yn cychwyn o fan nythle'r Eryr, fe geir nifer o ddyffrynoedd toredig, yn ymestyn ac yn ymagor mewn rhyw gyfuniad anrhaethol o weledigaethau o ramantedd a swyn a dirgelwch, mewn mynydd a bryn a chraig ysgythrog, mewn hafnau a cheunentydd a llechweddi caregog, mewn afon a llyn a rhaiadr, mewn coed a phrysglwyni a mwsogl. Allan o ganol y cyfoeth aneirif hwn o addurnedd amrywiol, fe geir y Wyddfa yn ymgodi fel rhyw binacl asgellog, yn ddiystyr megys o'r addurnedd o amgylch, gan ymestyn am berffeithrwydd uwch a dwyfolach, sef claer wyneb y nefoedd oddiarnodd. Wrth ymestyn felly, fe'i ceir hi gan amlaf yn uwch ei llaw na'r tymhestloedd a rhialtwch yr elfennau, ag y mae pob rhan arall o'r olygfa yn mynych deimlo oddiwrth rwysg eu hawdurdod, gan gael eu claddu o'r golwg ar brydiau dan fentyll eu tywyllni neu guwch eu digofaint ffrom. Ac nid gormod dweyd chwaith, ddarfod i rai o drigolion godreu'r Wyddfa, o bryd i bryd, godi i ryw gydymdeimlad â thawelwch a chlaerder difesur y cymundeb nefol ag y mae ei phinaclau hi yn fynych yn rhyw arwyddlun ohono.

Rhaid addef nad oedd lliaws yr hen bererinion yn rhyw agored iawn i ddylanwadau allanol natur. Eithr dir yw fod rhai ohonynt felly. Ac ynghanol y fath ryfeddod o amrywiaeth mewn lluniau a lliwiau, mewn mynydd a nant a llyn, tybed na ddywedodd ambell un ohonynt wrtho'i hun, ac yntau 'mewn myfyr fel mewn hun," eiriau Pantycelyn?—

O f'enaid, edrych arno'n awr,
Yn llanw'r nef, yn llanw'r llawr,
Yn holl ogoniant dwr a thir.

Mae'n ddiau fod myfyrdodau lliaws o'r hen bererinion wedi cymeryd cyfeiriad nid cwbl anhebyg i eiddo William Williams Llandegai, pan aeth efe drwodd yma am y tro cyntaf, sef ydoedd y rheiny: "Nid yw'r mynediad i mewn i'r dyffryn hwn [sef Nant Gwynant] o bentre Beddgelert ond lled lôn gul glonciog, hyd lan afon, a'r nad yw'n addo boddineb mawr i gywreinrwydd y teithiwr; ond mor hyfryd i'w deimlad weled ei hun yn ddirybudd ddiarwybod yn cael ei gludo megys i wlad swyn! Nis gallswn beidio tynnu gwers ar fy mynediad cyntaf i mewn, oddiwrth y dywediad hwnnw o eiddo'n Gwaredwr, 'Cul yw'r ffordd sy'n arwain i'r bywyd.' Eithr gwynfydedigrwydd y cyflwr hwnnw a wnelai eithaf daledigaeth am boen a blinder y mynediad i mewn iddo." (Observations on the Snowdon Mountains, 1802, t. 50).

Tŷb rhai nad yw pobl wedi treulio oes wrth odreu'r Wyddfa ddim yn teimlo dyddordeb neilltuol ynddi, ac nad yw crefydd chwaith yn tueddu i ddeffro cywreinrwydd yngwydd rhyfeddodau natur, o leiaf lle na byddis ddim wedi derbyn amaethiad uchel ar y galluoedd naturiol. Eithr cymerer yma enghraifft deg o ddull dyn o'r wlad o deimlo yn mhresenoldeb y Wyddfa, un a dreuliodd ei oes wrth ei godreu, llafurwr y ddaear yn nechre oes a mwnwr wedi hynny, ac un y deffrowyd ei natur gan y awyr" yn niwygiad mawr Beddgelert, ac un y digonnwyd ei anghenion dyfnaf â gras Efengyl Crist. Dyma fel yr ysgrifennodd Gruffydd Prisiart, un o hen flaenoriaid Beddgelert, ei fyfyrdodau am y Wyddfa: "O un cyfeiriad cyfyd fel colofn dair-onglog, fel y bidog canu yn yr yn meinhau tuag i fyny; o gyfeiriad arall ymddengys fel astell deneu, yn llydan yn y gwaelod, yn culhau oddiarnodd; o gyfeiriad arall edrych yn hanner cron, fel cynog neu ystên odro fawr, â chlust uchel wrthi; o gyfeiriad arall y mae fel yn cuddio'i phen, a dim ond y gwarr yn y golwg; o gyfeiriad arall ymddengys fel menyw yn ei heistedd a'i chlôg am dani, ei bronnau yn taflu allan yn uchel a'i phen ar led-ogwydd yn ol . . . . Dodwyd gorchuddlen drosti i amddiffyn ei hurddas, a wisg yn gyffredin haf a gaeaf, ac a amrywia yn ei liw, weithiau'n llwyd-ddu, bryd arall yn oleuwen, bryd arall yn rhuddgoch a gwyn. Ys dywed un o hen feirdd Cymru:

Eryri hardd oreurog.
Liwus, wych, lân, laes ei chlog,
Bur enwog, lwys, bron y glod,
Brenhines bryniau hynod.
Trwy'r hafddydd tywydd tês,
Yn bennoeth, byddi baunes;
A phob gaeaf oeraf fydd,
Tan awyr cei het newydd,
A mantell uwch cafell cwm,
Yn gwrlid fel gwyn garlwm;
Rhag fferdod a rhyndod rhew,
Hyll yw adrodd, a llwydrew.

Yr un orchudd-len sydd iddi, a wisgir ganddi ar wahanol brydiau mewn gwahanol ddulliau, ac a dywynna mewn gwahanol liwiau, ond gan y noda 'r bardd ei bod yn cael het a mantell newydd bob gaeaf, pa sawl het a mantell a gafodd er dechreu'r cread? A phwy roddodd yr enw Gwydd-fan iddi? A pha Sais a roes yr enw Snowdon iddi? Pwy a esgynnodd i'w phen gyntaf, ac o ba gwrr iddi yr esgynnodd ? Pwy a ysbiodd gyntaf drwy ddrych o wydr ar ei phen? Pwy gyntaf a welodd oddiami yr Ynys Werdd ac Ynys Manaw a chreigiau'r Alban a siroedd Lloegr ? Pwy oedd yr arweinydd cyntaf i'w phen, a phwy a arweiniwyd ganddo? Pa faint a gafodd am ei lafur? Pwy a farchogodd gyntaf i'w phen, ac o ba le ? Pa sawl boneddwr a boneddiges a fu ar ei phen? a pha sawl dyn a dynes o'r cyffredin bobl ? Pa sawl llwdn dafad fu'n pori arni? Pa sawl llwynog fu'n llochesu ynddi? Pa sawl cigfran fu'n nythu ynddi? Ac os gwyddost ei huchder, pa faint ydyw ei dyfnder? faint ei thryfesur? pa sawl troedfedd betryal ydyw ei chrynswth? pa'r faint ei phwysau? Beth yw'r achos fod cregin yn ei cherryg? A fu hi'n waelod i'r môr unwaith? Os bu, pa fodd yr aeth yn sychdir? Os gelli, ateb dithau!" Fe deimlir cyffyrddiad o'r un ysbrydiaeth yma ag a welir mewn hen farddoniaeth uchelryw. Ofer fuasai chwilio am y cyffelyb, nac o ran cywreinrwydd meddwl nac ychwaith o ran ysbryd crefyddol cuddiedig, yn y rhan fwyaf o lyfrau teithwyr Seisnig yng Nghymru. Ac er y gwyddis nad yw'r cyffelyb gywreinrwydd ysbryd wedi ei ddeffro yn y lliaws hyd yn oed o bobl grefyddol, eto rhaid ei fod mewn rhai ohonynt, a rhaid mai ysbryd crefydd ynddynt a'i deffrôdd yn rhai o honynt hwythau drachefn.

Y mae llawer wedi ei ysgrifennu yn y Gymraeg a'r Saesneg ar draddodiadau, hynafiaethau a llen gwerin y lle hwn, ac y mae yn dra chyfoethog yn yr ystyr hwn. Tebyg fod y Diwygiad Methodistaidd wedi lleihau dylanwad traddodiadau a lledrithiau ar feddwl y werin, gan ddwyn i mewn draddodiadau a gweledigaethau amgenach yn eu lle. Eithr yr oedd, mewn amser a aeth heibio o leiaf, ryw hynodrwydd ar ardymer trigolion y lle yn eu gwahaniaethu i ryw radd oddiwrth eraill. Clywyd angylion yn canu yn amser yr hen ddiwygiadau yn yr ardaloedd hyn yn fwy mynych, feallai, nag yn unlle arall yng Ngogledd Cymru. Diwygiad Beddgelert (1817 ac ymlaen), fel y gelwid ef, ydoedd yr hynotaf a fu yng Nghymru o ran angerddoldeb ac o ran parhad yr effeithiau. Yr oedd rhyw arbenigrwydd o ran sel ac angerddoldeb ar grefyddwyr Beddgelert y pryd hwnnw a dynnai sylw ymhell ac agos. Dyma ddisgrifiad o amgylchiadau allanol yr amaethwyr gan Pennant (t. 169): "Nid yw'r llecyn mynyddig hwn yn ymyl y Wyddfa ond prin yn dwyn unrhyw ŷd. Y cynnyrch ydyw gwartheg a defaid, sydd yn ystod haf yn cadw yn uchel iawn i fyny ar y mynydd, yn cael eu dilyn gan eu perchenogion a'u teuluoedd, a aneddant y tymor hwnnw mewn hafod-dai neu laethdai, megys y gwna amaethwyr yr Alpau Swissaidd yn eu sennes. Cynwysa'r tai hyn ystafell hirgul isel, gyda thwll yn y naill ben i ollwng allan y mwg oddiwrth y tân a wneir odditanodd. Y dodrefn sydd syml iawn, cerryg yn lle stolion, a'r gwelyau gwellt wedi eu dodi yn gyfochrol i'w gilydd. Gwnelant eu brethyn eu hunain, gan ddefnyddio eu lliwiau eu hunain, wedi eu casglu oddiar y creigiau, sef pen du y cerryg neu lichenomphaloides a chen arall, sef y lichen carietinus. Yn ystod haf ymrydd y dynion i'r cynhaeaf neu ofalu am y praidd, a'r merched i odro neu wneud ymenyn a chaws i'w hangenraid eu hunain. Godrant ddefaid a geifr, gan wneud caws o'r llaeth i'w defnydd eu hunain. Ymborth y bobl fynyddig hyn sy'n blaen iawn, gan gynnwys ymenyn, caws a bara ceirch. Maidd ydyw eu diod; nid nad oes ganddynt ynghadw ychydig botelau o gwrw pur gryf, fel cordial ar gyfer gwaeledd. Y maent yn bobl o ddeall da, yn wagelog a ffelwych; yn gyffredin yn dal, teneu ac o gyfansoddiad da, oddiwrth eu dull o fyw. At y gaeaf disgynnant i'w hendref, neu hen annedd, lle'r arweiniant yn ystod gaeaf fywyd diofal," sef yn cribo gwlan, nyddu neu weu.

A dyma eto ddisgrifiad o'r un cyfnod, yn cynnwys y mewnol a'r allanol, o safle neilltuol yr ysgrifennydd, sef Williams Llandegai: "Y mae preswylwyr mynyddoedd Cymru mor agored a lletygar, fel y gallai dieithryn deithio yn eu plith heb fyned i unrhyw draul am fwyd a llety. Gallsai Sais alw eu ffâr yn arw; pa ddelw bynnag, mewn amaethdai yn gyffredin y mae ganddynt dri math o fara, sef gwenith, haidd a cheirch. Y ceirch a ddefnyddir fynychaf, a hwn ynghyda llaeth, ymenyn, caws a phytatws yw eu hymborth cynefin yn yr haf. Y mae ganddynt hefyd frithyll rhagorol, a fwyteir ganddynt yn ei adeg. Ac ar gyfer gaeaf y mae ganddynt gig eidion neu ddafad a choch yr wden, sef cig helfa neu gig gafr wedi ei hongian yn y simne ar wden, wedi ei gwneud o frigau helyg neu gyll. .. Y maent yn galed a bywiog, ond nid oes ganddynt mo'r ymroddiad a'r penderfyniad meddwl angenrheidiol i lafurwaith parhaus, a hwy o'u mabandod wedi eu harfer i gynywair y bryniau ar ol y praidd. Yn yr haf ânt yn droednoeth, ond anfynych yn goesnoeth, fel y dywedwyd yn ddiweddar gan deithiwr. Mewn bargeinion yn hirben a ffelgraff, mewn ymddiddan yn hoff o ddigrifwch, yn sobr, yn dra chynil, er fod teithydd diweddar wedi rhoi amgen gair iddynt. Ymddengys eu cyfarchiadau i rai braidd yn flinderus,—'Sut mae'r galon?' 'Sut mae'r wreigdda gartref, a'r plant, a'r gweddill o'r teulu?' a hynny yn cael ei fynych adrodd. Pan gyfarfyddant mewn tafarn yfant iechyd ei gilydd, neu iechyd y sawl yr el y siwg iddo ar bob tro. Y maent yn hynod o onest; ac os cyhuddir neb o ladrata dafad, edrychir arno yn ddyn digydwybod, ac hyd yn oed ei blant a goegir oblegid camymddygiad y tad, a theflir hynny i wyneb cymdogion pan wedi syrthio allan â'i gilydd Gydag ychydig eithriadau, y mae'r trigolion o'r grefydd sefydledig [cyfrifir y Methodistiaid yn perthyn i'r grefydd sefydledig, gan nad oeddynt eto wedi ymwahanu drwy alw gweinidogion o'u plith eu hunain]; ac ers pan y mae'r Methodistiaid wedi dod mor lluosog a phoblogaidd, y maent [sef y trigolion] wedi myned yn fanwl a gwresog iawn mewn materion crefyddol, ac yn hynod wybodus mewn daliadau Efengylaidd. Amlwg i bob meddwl diragfarn ydyw fod moesau'r werin bobl yng Nghymru wedi gwella yn fawr er pan y mae Methodistiaeth wedi dod yn beth cyffredin: tyngu, medd-dod, ymladd, etc. sydd lai mynych, a chedwir y Suliau yn fanwl. Ond wrth ollwng gafael o un eithaf, mynych y digwydd fod dynion o ddeall egwan yn rhedeg i'r eithaf cyferbyniol. Hunandyb, ofergoeledd, penboethni, rhagrith, etc., ar hyn o bryd yw gwendidau arglwyddaidd y werinos. Y rhai hyn sydd wedi dod i'r fath fri, fel ag i wneud i grefydd ymddangos yn warthus. Yn lle'r ymddygiad gweddeiddlwys a'r duwiolfryd tawel hwnnw a nodwedda'r grefydd Gristnogol, munudiau amhwyllus, neidio, canu, crïo, a'r cyffelyb, sydd wedi tyfu mewn arfer yng nghynulliadau y sectariaid hyn. Er dylanwadu ar y nwydau, ceir y pregethwyr yn bugunad rhyw orhelaethrwydd o ffregod carbwl, anghysylltiol, ac am yr achos hwnnw nid yn amhriodol y gelwir hwy yn Frygawthwyr (Ranters). Pobl y mynydd a geidw eu hunain i fesur mawr ar wahan oddiwrth bobl y dyffryn; anfynych y deuant i lawr i'r dyffryndir am wragedd, ac ni fynn pobl y dyffryn ddringo i fyny'r llethrau creigiog, a dwyn i lawr ddyweddi i'w bwthyn. Eu galwedigaethau sydd wahanol, ac angenrheidiol i'w cymheiriaid fod wedi eu haddasu i'w gwahanol ddulliau o fyw." (Observations, t. 7—17.) Yr oedd rhyw gymaint o bwynt i'r sylwadau olaf i gyd yn ardaloedd y chwarelau wrth droed y Wyddfa, lle preswylid y dyffryndir yn bennaf gan chwarelwyr. Ond ar y goreu, y mae'r sylwadau yn sawru o fymryn bach o ddiffyg cydnabyddiaeth o du yr awdur â'r 'werinos' y sonia am danynt, er trigiannu ohono yn eu plith. Ond a chymeryd y sylwadau fel y maent yn eu crynswth, fe'u ceir yn gadarnhad nodedig i'r hyn a honnir o blaid dylanwad Methodistiaeth ar arferion, moesau a chrefydd Cymru.

Traetha Gruffydd Prisiart ei lên ar arferion, defodau, ofergoeledd a chrefydd Eglwysig, o safle ychydig yn wahanol.—"Un o ddefodion y wylnos fyddai gosod cynfas wen grogedig yr ochr bellaf i'r arch, yna gosod dail gleision a brigau bychain, a llwyau piwtar neu bres os byddent i'w cael, yn groes-ymgroes dros y gynfas i gyd. Yna gosod canwyllau goleuedig, dwy neu dair, ar yr arch gerbron y gynfas, fel y byddai'r olwg yn hynod brydferth. Ar ol i'r clochydd ddarllen y gosber, elai un o'r teulu at y drws, rhag myned o neb allan heb dderbyn dogn o ymborth, yr hyn, pe cymerasai le, a ystyrrid yn sarhad ar y marw. Ac yn gysylltiedig â hyn yr oedd bendith-wers, i'w chyflwyno dros y byw a'r marw. Wedi hynny, ar ol rhyw ymddiddan neu gampau digrifol, ymadawent. Trannoeth, wedi dodi'r corff ar yr elor, byddai un o berthynasau y marw yn rhannu'r ddiodles' dros y corff, sef cypanaid o gwrw neu laeth a estynnid i ryw dlawd penodedig, ynghyda thorth dda, a dernyn o gaws â damn arian yn blanedig ynddo. Yna, wedi i'r tlawd hwnnw adrodd y fendith-wers dros y marw, a rhyw seremonïau eraill, cychwynnent tua'r llan. Wrth offrymu, os byddai y teulu o ryw barchedigaeth, deuai un o honynt ymlaen at yr allor i syllu beth a fyddai offrwm pawb. Os na byddai, yn ol ei feddwl ef, yn deilwng, ystyrrid ef yn sarhad ar y marw. Wedi gorffen y gwasanaeth, rhoi y corff i lawr, ac offrymu i'r clochydd, aent i 'hel y siot,' fel ei galwent. Byddai raid i hon, hefyd, fod i fyny â safon yr offrwm a'r barchedigaeth, neu ni thalai ddim. Ac yr oedd yn rhaid i'r yfed a'r gloddest a'r meddwi fod yn gwbl gyffelyb, fel erbyn y diwedd y byddai'r anhrefn wedi myned dros ben bob gweddeidd-dra ar y fath achlysur. Wedi gwasanaeth y priodasau, hefyd, aent yn uniongyrchol i'r tafarndai i yfed, canu a dawnsio hyd fore drannoeth, neu, os byddai gan y wraig ieuanc gartref lled dda, eid yn gynarach o'r dafarn er mwyn gorffen yn y tŷ. Y Saboth canlynol yr oedd y neithior. Ae y cwmpeini oll i'r llan i'r gwasanaeth y bore, yna aent gyda'i gilydd i'r tafarndai hyd yr hwyr neu drannoeth.

"Yr oedd gwr yn byw mewn tyddyn mynyddig (ni waeth heb ei enwi) yn y plwyf. Rhoes y gair allan ei fod wedi myned i gyfrinach y Tylwyth Teg, a'i fod yn derbyn arian ganddynt. A dyma wedd y gyfrinach. Yr oedd rhyw rai o'r tylwyth i ddod i'r tŷ rhwng pryd codi a boreubryd, ac i fyned i ystafell wely y gwr a'r wraig, ar ol trefnu'r ystafell ar eu cyfer. Nid oedd neb i fyned i mewn i'r ystafell bellach rhag cyffroi y tegyddion, hyd nes elai'r gwr yno. Gadewid demyn triswllt ar y gwely bob bore, a pharhaodd hynny am ysbaid led faith. Elai'r gwr bellach i Lanrwst, a phrynnai yno bynnau o wenith, peth tra amheuthyn, canys yr arfer oedd

Bara ceirch cadarn o flawd wedi rhuddo,
Ac ychydig o 'fen yn ac enwyn i ginio.


Dechreuai'r ardalwyr ryfeddu ar ol y bwystfil.' A mawr yr ymwrwst ar hyd yr ardaloedd oherwydd y digwyddiad. Ond wedi'r cwbl nid oedd ond twyll. Mewn cyfrinach yr oedd y gwr â thylwyth arall, mewn cwrr arall o'r sir, oedd yn bathu arian drwg. Gallaswn adrodd rhagor am y modd y byddai'r ystrywgar yn twyllo'r chud a'r ofergoelus o barth y Tylwyth Teg ac ymddanghosiad ysbrydion.

"Gynt yr oedd y gred mewn ymddanghosiad ysbrydion yn dra chyffredinol. Nid oedd braidd lwyn o goed na chil adwy na byddai rhyw ysbryd neu gilydd yn y lle. Yr oedd un hen wr yn nodedig am eu canfod. Yr oedd yn yr ardal un bwg a alwai'r ardalwyr yn 'lloicoed.' Dywedai'r hen wr am hwn mai clamp o lo braf ydoedd, a phluen wen ar ei grwper, ac yn brefu yn ddiniwed. Yr oedd hen draddodiad y byddai rhywbeth yn ymrithio ar y ffordd sy'n arwain o'r pentref i un o'r nentydd. Ryw noswaith dyma amaethwr yn cyfeirio adref heibio'r lle yn lled hwyr. Clywai swn dieithr a chynnwrf fel yr elai ymlaen, a meddiennid ef gan y fath arswyd nes ei fod yn glafoerian yn cyrraedd adref. Troes y peth allan yn ddim ond gwaith bechgyn direidus yn cymeryd mantais ar yr hen draddodiad ynghylch y lle. Yr oedd rhyw ellyll a elwid Jac y Lanter yn gwibio yn y nentydd. Dywedid y byddai'n ceisio denu rhai dros y clogwyni i dorri eu gyddfau, ac eraill i'r dwfr i foddi.

"Yr oedd pedwar ban y plwyf yn gwrando'n gyson, a byddai'r cymun yn cael ei weinyddu ar y Pasg. Ond yr oedd bucheddau'r gweinidogion yn brawf na wyddent nemor am grefydd bersonol, heblaw fod eu pregethau yn aml yn rhywbeth is nag Arminiaeth. Pan yn fachgennyn, mi glywais fy nhad yn ymddiddan â hen lan-wraig. Gofynnai fy nhad, pa un oedd ffordd cadwedigaeth, ai drwy'r cyfamod gweithredoedd ai'r cyfamod gras? Atebodd hithau mai y gweithredoedd. Gofynnodd yntau eilwaith, pa beth oedd ganddi hi wedi ei wneuthur? Atebodd hithau na wnaethai ddrwg erioed, na bu'n lladrata nac yn puteinio, a'i bod wedi myned i'r llan bob Sul tra gallodd, a phaham na chawsai fyned i'r nefoedd? Yr oedd yr hen wraig yn gynllun teg o'r plwyfolion. Deddf gweithredoedd ac nid deddf ffydd oedd ganddynt. Gallwn feddwl wrth yr hyn a welais ac a glywais mai hynod ddifoes oedd y gwrandawyr [yn y llan] yn aml. Rhof un ffaith i brofi hyn. Yr oedd gwr yn byw yn ymyl Pont Aberglaslyn, yn llanwr selog. Bob Saboth cyn myned i mewn i'r llan, ymwelai â'r tair tafarn yn y pentref. Galwai am beint o gwrw, yfai bob un ar ei dalcen. Yn y llan, gostyngai ei ben i lawr ar ei liniau am gyntun. Un Saboth ymaflodd un o'r amaethwyr yn ei ymyl yn ei berwig, ac wedi ei lapio yn glap yn ei law, hitiodd yr offeiriad â hi yn ei dalcen. Cydiodd yntau yn y berwig, ond gan barhau i ddarllen, a throi cil ei lygad yn awr ac eilwaith at y man y daeth ohono. Ar amrantiad dyna'r berwig yn ol at dalcen y neb a'i taflodd, a dyna hi'n ha! ha! drwy'r holl gynulleidfa."

Ceir y nodiad yma gan Carneddog: "Yr oedd y bobl gyffredin yn credu y medrai rhai neilltuol, gyda rhyw nôd du ar eu cyrff, witsio. Yn wir, cadarnheir gan ddynion geirwir y medrent wneud pethau rhyfedd. Yr olaf a ystyrrid fel witsrag oedd Sian Nog. Byddai plant gwaethaf y pentref ofn pasio bedd Sian, druan, ac elent ar flaenau eu traed heibio. Y mae ei bedd digofnod yn ymyl y llidiart. Erbyn hyn y mae ofn tylwyth y gyfriniaeth ddu wedi llwyr gilio o'r ardal. Wedi dadgorfforiad y mynachlogydd, ac yn eu mysg Priordy y Santes Fair yn Eryri, fe adawyd y lle yn hanner adfeiliedig. Nid oed waddol i gadw offeiriad yma, a bu'r plwyf heb yr un gwr eglwysig yn trigiannu o'i fewn am gyfnod o ddau can mlynedd a mwy. Nid yw ficeriaeth Beddgelert yn hen, oblegid hyd tua 1801, ni chynhelid ond un gwasanaeth yn yr eglwys, a hwnw ar fore Sul, o dan nawdd person Llandecwyn. Yr oedd toreth y bobl yn anwybodus ac ofergoelus iawn. Yr oedd mab i un o ffermydd mwyaf y plwyf wedi cael ei wahodd i'r llan un bore Sul yn dad bedydd i blentyn cymydog. Pan ofynnodd y person iddo, a oedd efe yn credu yn Nuw Dad, Duw Fab, a Duw yr Ysbryd Glan? fe edrychodd yn syn, ac a atebodd, 'Na, yr wyf yn ymwrthod â hwy oll.' Un bore Sul braf o haf, yr oedd dau hen ffermwr yn myned adref o'r eglwys, pryd y cyfarfu gwr lled wybodus â hwy, a gofynnodd iddynt a oeddynt wedi cael pregeth go dda y bore hwnnw? 'Wel, do, am wn i, wir,' meddai un o honynt. Am beth yr oedd y person yn trin heddyw?' 'Am ryw Ioan Fedyddiwr.' 'Wel, gwarchod ni,' meddai'r llall ohonynt, 'rhyw greadur cyn- ddeiriog oedd hwnnw, 'roedd o'n medru byta locustiaid a mel gwyllt,' meddai Mr. Jones [sef y person]. 'Mi ddeydodd, hefyd, fod rhyw gnawas o hogan wedi deyd wrth i mam fod yn rhaid torri i ben o. Gwarchod ni! 'roedd o'n deyd rhyw straeon rhyfadd ofnadwy heiddiw.' Yna hwy aethant ymlaen gan son am y fuwch yma a'r ddafad acw, a chodi cerryg oddiar y ffordd. Yr oedd y Beibl yn ddieithr i'r werin. Tystia'r cofnodlyfr priodasau na fedrai un o bob cant o'r merched sgrifennu eu henwau. Ni roddent ond croes. Medrai ychydig o'r dynion wneud prif lythrennau eu henw. Ni fedrai ond plant y boneddigion a'r prif ffermydd sgrifennu eu henwau yn llawn. Yn 1740 cawn fod un o gangen-ysgolion Griffith Jones Llanddowror yn y llan. Nodir fod rhif yr ysgolorion yn 62. Ni hysbysir pwy oedd yr athro. Yn 1764, ac yn ddilynol, yr oedd Robert Jones Rhoslan yn cadw ysgol yn yr un lle.'

Fe deifl sylwadau Mr. David Pritchard ar yr hen drigolion oleu ar eu nodwedd, ac a'n cynorthwyant i synio yn gywir am y dyn naturiol a'r dyn ysbrydol yn eu mysg. Fel yma y dywed (gan grynhoi): "Hoff bleser Wil y Tancia oedd adrodd barddoniaeth, a gwneud ambell i rigwm ei hun:

Eis i Feillionnen i chwilio am fawnen,
Ac eis i Dancia i geisio ei thoncio;
Fe roddodd Sali y pridd i'w losgi,
Ac aeth yn lludw fel y marw.

Arferai Sali bysgota gyda chawell yn y llyn yn afon Colwyn, a elwir ar ei henw hi, sef Llyn Sara. Yn yr haf hi a arferai wisgo'i hun mewn pais a betgwn a het silc, a gwerthai hosanau a darnau grisial i'r ymwelwyr. Yr oedd Modryb Catrin Prys yn byw ym Mryn melyn yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Yr oedd hon yn ddefosiynol yn null yr oes honno. Hi ddarllennai lawer ar lyfrau proffwydi'r Hen Destament. Wrth agor Eseciel neu Ddaniel, hi ddywedai, megys wrthi ei hun, "Wel, gad glywed, fab dyn, be' sy genti i'w ddweyd.' Wrth agor ar y bumed o Eseciel, lle darllennir, 'Tithau, fab dyn, cymer i ti gyllell lem, cymer i ti ellyn eillio,' hi ddywedai, 'Wel, fab dyn, be' wyti am neud hefo nhw?' Adroddai'r pader a chredo'r Apostolion wrth fyned i'w gwely, ac, yn aml y rhigymau yma:

Pedwar post sydd gan fy ngwely,
Pedwar angel Duw o'm deutu;
A pheth bynnag ddaw i'm blino,
Duw, Mab Mair, ddelo i'm gwylio.

Mi rof fy mhen i lawr i gysgu,
Mi rof fy enaid i Grist Iesu;
A lle bynnag bydd fy niwedd,
Duw ddwg f'enaid i dangnefedd.


Ei hen forwyn, Sioned Prys, oedd yn hynod iawn yn amser y diwygiad mawr. Ar ol bod yn canmol y drefn i faddeu pechodau unwaith, gan neidio a gorfoleddu, ebe Catrin ei meistres wrthi, 'Dos i dy wely, a dywed dy bader, ac mi fydd yn haws iti gael i madda' nhw, ddyliwn i.' Yn amser Hugh Dafydd yn Gwastad Annes [Agnes], daeth dau o frodyr y wraig yma o Gae'r llwynog, Cwm Croesor, sef E. William a W. William. Hen lanc oedd. William William, a llawer a boenid arno o'r herwydd. Yr hyn a ddywedai yn ol fyddai, na phriodai efe mo neb byth, os na byddai ryw ffigiwr arni. Ymhen amser, fe gafas un a chlamp o ffigiwr arni, fel y tybiai efe. Ond dywedai Hugh Dafydd mai'r ffigiwr 9 ydoedd, wedi torri ei goes. Bu Dafydd Gruffydd, hen lanc eto, yn aneddu yn Gwastad Annes. Nid ae hwn i lan na chapel. Yr oedd teimlad dwys yn rhan y cyfryw yn amser y diwygiad mawr. Aeth John Jones Glan Gwynant ato. 'Wel, Dafydd Gruffydd, a ydych ddim yn meddwl y dylech fynd i foddion crefyddol, rhag ofn i'ch amser gwerthfawr fynd heibio?' 'Be' wyti'n feddwl, Sion,' gofynnai yntau, 'dywed yn blaen imi.' 'A fyddwchi ddim yn meddwl am farw weithiau, Dafydd Gruffydd?' 'Meddwl am farw, yn wir', ebe yntau, 'meddwl am fyw dy egni, y ffwl gwirion; mi fyddi'n siwr o farw yn ddigon buan wedyn, mi dyffeia'i di!' Ac ofer y troes y cais i'w ddarbwyllo. Mi glywais mai tri oedd yma yn amser y diwygiad mawr na welwyd monynt yn wylo yn hidl, yr hen lencyn hwn yn un o'r tri. Bu yma hen deiliwr a'i wraig yn nechreu'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a arferent dramgwyddo'n fynych wrth ei gilydd, a llawer gwaith yr ail-briodwyd hwy gan y cwnstabliaid. Yr oedd marchog y nodwydd yn bur ddefosiynol ei arferion, ac arferai ddweyd ei bader wrth fyned i'w orffwysfan. Tybiai'r wraig, druan, na wnelai hynny ond i flino ei meddwl hi. Un noswaith aeth yn ffrae wyllt wibwm rhwng y ddau ynghylch y pader, a'r canlyniad fu i'r pwythwr pert hel ei arfau ynghyd a chymeryd y goes, a'i gadael am byth. Edifarhaodd yn y man. Ymgymerwyd â cheisio eu cymodi, a deuwyd ymlaen i Fwlch derw. Y cymodwr a aeth i mewn yn gyntaf i wyneb y ddrycin. Ar ol hir ymdrafod, ol a blaen, cyrchwyd y nodwyddwr i mewn. Ei gyfarchiad cyntaf oedd, Wel, Begw! wyti'n foddlon imi gael deyd fy mhader bellach?' 'Ydechi'n gweld!' llefai hithau, 'dyma fo'n dechre arni hi ar unwaith eto. Ni threiai ddim byw hefo fo, waeth i chwi heb gyboli!' Er y cwbl, cymodi a wnawd, a dywedir y bu gwell heddwch rhagllaw, a chafodd y gwr lonydd i ddweyd ei bader. Mab Sygun bach oedd William Dafydd, a ddaeth i gyfaneddu i Dŷ Glan y llyn. Pan fu farw Gruffydd Jones Hafodydd, daethpwyd a hen dderw caled at William Dafydd i'w lifio at wneud arch. Wedi bod ohono ef a'i fab Robert yn llifio'n ddiwyd am gryn ennyd, heb wneud fawr o'u hol ar yr hen goedyn, meddai William Dafydd,—Wysti be', Bob, rhaid iti fynd i'r 'Fodydd i ddweyd wrthyn nhw am halltu'r hen wr yna, achos mi fydd wedi hen ddrewi cyn y llifiwn i'r hen goeden yma!' Pan ddigwyddws William Dafydd fod yn y Tŷ uchaf, Beddgelert, un tro, dyma Hugh Evans Meillionnen i mewn. Ar y ffordd yr ydoedd i weled yr anifeiliaid oedd ganddo'n pori yn Llanfrothen. Ac mewn cyfeiriad at hynny, ebe William Dafydd, mewn dull chwareus, ' Pe buasai sir Gaernarvon yma i gyd gan Hugh Evans, fe fuasai arno eisieu cae i'r dyniewaid yn sir Fon wedyn.' Holodd John Jones Talsarn William Dafydd unwaith ynghylch iechyd John Jones Glan Gwynant. Gwael iawn ydio'n wir,' ebe yntau. Mynegai John Jones ei bryder rhag mai colli'r dydd a wnae. 'Dwn i ddim, wir,' ebai William Dafydd. 'Mi rydwi'n barnu y rhaid cael rhyw Angeu heblaw'r un sydd y ffordd acw, ne ni chyll o mo'r dydd, mi dyffeia'i ol' Chwarddai John Jones wrth adrodd y sylw. Meddai William Dafydd ar lais mwyn, treiddgar. Yn absen John Jones Ty'n llwyn, efe a arweiniai'r canu ym Methania. Ond yr oedd gogwydd ei feddwl yn fwy at yr ysgafn a'r gwamal. Ar ol symud ohono i'r pentref, fe ganodd lawer i ddilyn tannau'r delyn yn y Goat Inn. Efe oedd y pencampwr ar yfed y chwart mawr. Gresyn oedd i William Dafydd gamddefnyddio'i dalent."

Cymerer eto rai o'r cymeriadau a ddisgrifir yn y Drych, gan ysgrifennydd a fagwyd yn Rhyd-ddu. Dyna Sion Emwnt Glanrafon. Eglwyswr oedd Sion, ond rhoir yr awgrym y byddai yn myned i'r capel ar dro weithiau. Eithr y person a'r boneddigion ydoedd y rhai y tyngai wrthynt, serch hynny. Rhaid fod Sion yn Rhyd—ddu fel aderyn brith ymhlith yr adar, gan y dywedir yr elai'r holl ardal ynghyd i gapel Rhyd-ddu. Dywedir fod lliaws ohonynt heb broffesu, er yn hynod o selog ymhob cyfarfod ond yr un eglwysig. O ran ei agwedd allanol, gwr tal, esgyrniog a chryf y dywedir fod Sion. Gwyllt fel blaidd ar y funud, debygid, ydoedd, ac yn gallu rhoi dyrnod fel duryn eliffant; ond pan nad oedd yr helynt yn un bwysig, ac heb fod egwyddor yn cael ei haberthu, yn swatio y funud nesaf ac yn myned fel oen llyweth, gan gymeryd yn ganiataol fod popeth o'r goreu rhyngddo a'i wrthwynebydd o hynny'n mlaen. Ac felly yn gyffredin y digwyddai. Heliwr cadarn ydoedd, a'i gampau helwriaethol yn adnabyddus drwy'r fro. Drwy'r cwbl, yr ydoedd yn ddyn syml, diddichell, difrad, gonest, geirwir, cymwynasgar. Cas gan ei enaid ydoedd pob dyn celwyddog, anonest. Yn y tŷ a aneddai yr oedd bwydo teithwyr yn ddeddf ers degau o flynyddoedd cyn i Sion fyned yno, eithr fe gariodd yntau'r arfer ymlaen. Er galw o bryd i bryd yn ei dŷ, ni welodd yr ysgrifennydd mono gymaint ag unwaith â'i drwyn mewn llyfr, megys y mae arfer rhai. Er hynny, fe wyddid fod ganddo'r parch dyfnaf i Dduw a threfn rhagluniaeth, a dywedir, pe o'r ddeddf y buasai bywyd, yna y buasai rhagolygon Sion yn ddisglair iawn. Gresyn, er hynny, na chafodd Sion mo'r weledigaeth, ac iddo "fethu torri trwy." Ond ni wyddis mo ffordd y Brenin yn gyfangwbl. (Gorffennaf 3 a 24).

Sonir hefyd am hen lanciau Clogwyn y gwin. Dywedir fod llawer wedi ei ysgrifennu am danynt, a llawer o hynny yn anwiredd. Fe ddichon, er hynny, fod yr hyn oedd yn anwiredd mewn ffaith, yn wir mewn idea, neu ynte pa fodd y mae llyfr fel Hunangofiant Rhys Lewis yn wir ar ei hyd, fel y gŵyr pawb ei fod. Y mae chwedlau gwlad yn rhyw fath o ymylwaith ar y gwir gymeriad, ac yn addurn arno yn aml, os nad oes pobl faleisus yn trigiannu y ffordd honno. Pa ddelw bynnag, ni gyfyngwn ein hunain yma i'r gwir noeth. Dynion hynod am eu nerth a'u grymuster, ac mor hynod a hynny am eu geirwiredd a'u huniondeb oedd hen lanciau Clogwyn y gwin. Eithr fel y mae gwrthddywediad yn hanfod gwirionedd, felly yr oedd hen lanciau Clogwyn y gwin yn llawn direidi a chastiau drwg. Nid diogel iawn fyddai neb—nid am ei hoedl, y mae'n wir—ond eto am iechyd llawn ei gorff, a gymerai fantais anheg ar y gwan, neu a gyflawnai weithredoedd llechwraidd. Clywodd yr ysgrifennydd ei dad yn adrodd am un tro digrif. Ar brynhawngwaith tesog, a hithau yn ddiwmod cneifio yn Nrws y coed, yr oedd gwr dierth o'r Deheudir i bregethu yn Rhyd-ddu. Yn ol trefn a defod gorfod oedd ar rywun o bob tŷ fyned i'r cneifio, ac felly yr aeth un o'r brodyr yno. Codi'n fore, dechre cneifio yn gynnar, gweithio'n galed, er mwyn bod yn yr oedfa yn brydlon, os gellid. Ond dyma Robin o'r diwedd wedi gorffen ei lwdn olaf, ac ymaith âg ef, gyda'r gwellaif a'r pastwn a'r cnuf gwlan dan ei gesail, a phump neu chwech o gwn bugail yn ei ddilyn. Ffrystio i'r capel filltir o ffordd, ac i mewn yn llewys ei grys gyda'r cwn, y cnuf gwlan, y gwellaif a'r pastwn a'r cwbl. Y chwys yn pistyllio dros ei wyneb. Yntau'n cymeryd y cnuf gwlan i'w sychu, nes fod y gwlan yn glynu yn ei farf arw, a golwg ddigrif arno, er yn gwbl ddifrif a diniwed. Ac yn y drych hwnnw yr arhosodd drwy'r oedfa, yn wrthrych difyrrwch i rai yn y gynulleidfa, ac yn wrthrych synedigaeth yn ddiau i'r gwr dierth o'r Deheudir. Er yn cymeryd arnynt gospi eraill ar brydiau, gwnelent hynny gydag amcan i wella'r drwgweithredwr. Yr oeddynt yn gydnabyddus â hanes ac achyddiaeth yr holl ardal. Perthynai iddynt graffter i adnabod dynion, ac am hynny yr oedd gweinyddiaeth cosp oddiwrthynt yn ddifeth. Meibion natur oeddynt, ac yn perthyn i oruchwyliaeth a aeth yn hen ac a ddiflannodd, gan roi lle i'r hyn y mae'r ysgrifennydd braidd yn ameu sy'n well. Erthygl fawr eu credo, mai Duw yw Pen-rheolwr y byd, a bod drwg anesgorol ym mhob anwiredd a thwyll. (Gorffennaf 24).

Yr oedd Elis a Neli Jones yn frawd a chwaer, yn byw gyda'i gilydd, a'r ddau yn ddibriod, ac yn byw dan yr unto a'u chwaer Mari, sef gwraig William Jones Llwyn y forwyn, un o flaenoriaid Rhyd-ddu. Pedwar hen bererin cywir. Er hynny, nid oedd Elis Jones yn proffesu crefydd. Tebyg mai byw dan lywodraeth ac yn rhwymedigaeth ofn yr oedd lliaws o'r dosbarth yma y pryd hwnnw, ofn sydd bellach wedi cilio ymaith yn rhy lwyr. Gelwir ef yn gristion cywir gan yr ysgrifennydd, ac yr oedd yn ddiddichell fel maban. Darllennai bennod gyfan ar ei hyd bob dydd wrth ddyledswydd, beth bynnag fyddai'r hyd neu beth bynnag fyddai'r pwnc. Aeth i Lundain ar dro fel tyst yn achos anghydwelediad ynglyn â chwarel Bwlch Cwmllan. Gan ddirnad pwys ei dystiolaeth yn ddiau, ceisiodd cyfreithiwr y blaid wrthwynebol atal ei dystiolaeth ar y tir ei fod yn ddyn rhy anwybodus i roi pwys ar ddim a ddywedid ganddo. Ac yr oedd yr olwg syml a gwledig oedd arno yn rhoi grym yn y ddadl, neu fe ddisgwylid hynny. Yr oedd y barnwr ar y fainc yn rhy hirben, pa fodd bynnag, i adael i'r penogyn coch yma gael ei dynnu ar draws y trywydd. Gofynnodd y barnwr drwy'r cyfieithydd, A wyddochi beth yw'r llyfr yna?" "Gwn o'r gore," ebe yntau. "A ddarfu i chwi ei ddarllen erioed?" "Do." "Pa bryd ?" "Bore ddoe cyn cychwyn yma." "A fyddwchi yn ei ddarllen yn aml?" "Byddaf, yn darllen pennod ohono bob dydd ers yn agos i drigian mlynedd." Yna fe droes y barnwr i gyfarch y cyfreithwyr: "Mae'r hynafgwr yma o fryniau Cymru yn peri i ni gywilyddio, a byddai bron yn anichonadwy i wr fel efe ddweyd celwydd yn fwriadol." Yna fe archodd gymeryd ei dystiolaeth; a rhoes tystiolaeth Elis Jones derfyn ar yr ymrafael. Yr oedd y boneddigion yn y llys yn mynnu ysgwyd llaw âg ef ar y diwedd. (Medi 11). A disgleiriach nag yntau ei chwiorydd a'i frawd yng nghyfraith, fel y ceir crybwyll am danynt hwy yng nghorff yr hanes.

Fe ganfyddir mai amcan yr enghreifftiau amrywiol a rowd ydyw dangos rhyw waelod o gymeriad a berthynai i bobl yr ardal yn yr amser gynt. Tybir, hefyd, fod rhyw linell ysgafn o wahaniaethiad nodweddiad perthynol i'r rhanbarth yma yn dod i'r golwg ynddynt, a'u bod, gan hynny, yn rhyw help i roi gerbron bortread cymeriad ysbrydol yr ardal, neu ryw amlinelliad ysgafn ohono. Fe geisir rhoi'r prydwedd yn amlycach eto.

Dyma nodiad Carneddog ar Ddirwest yn yr ardal: "Ystyrrid plwyf Beddgelert yn un o'r lleoedd meddwaf yn y Gogledd cyn toriad allan y diwygiad mawr. Prif orchest y llymeitwyr oedd yfed cynnwys y chwart mawr' ar un traflynciad, ac yna ceid ef yn rhad. Yr oedd yn y pentref bedair o dafarnau,—tair yn rhai pur fawrion, ond gwr y dafarn leiaf a wnaeth ei ffortiwn, a chododd dŷ helaeth, a elwid ar lafar yn Blas Gabriel. Yn 1833 daeth Dirwest i fri. Anrhegwyd fi yn ddiweddar â medal ddirwestol y cyfnod hwnnw. Caed yr hen dlws yn yr afon ym Mlaen Nantmor yng Ngorffennaf, 1902. Y mae'n lled fawr o faint gyda thwll ynddo. O amgylch un tu iddo, fe geir mewn llythrennau breision,—'Ardystiad Dirwestol. Sefydlwyd 1833.' Wrth y twll ceir arlun o 'law mewn llaw.' Ar ei ganol, rhwng dwy gangen glymedig ceir,—'Yr ydym yn ymrwymo i ymwrthod â diodydd meddwawl, ond yn Feddygol.' O dan hyn ceir darlun o'r Delyn Gymreig. Ar yr ochr arall, ceir darlun o deulu sobr, dedwydd a llon. Sefydlodd Gruffydd Prisiart Gymdeithas Cymedroldeb Beddgelert' ar Ebrill 10, 1834. Gwnaeth ddaioni dirfawr, er nad oedd rhifedi yr aelodau eto yn lluosog. Tachwedd, 26, 1836, cawn i Gymdeithas Lwyrymataliol gael ei sefydlu ym Meddgelert. Ymdaenodd y don ddirwestol dros 'oror yr Eryri' o ben i ben. Ardystiodd rhai o feddwon pennaf y plwyf. Cynhelid cyrddau yn y pentref, a deuai pobl y nentydd yno yn lluoedd brwdfrydig. Er mwyn cael troi allan i orymdeithio, gan fod hynny mewn bri mawr, penderfynwyd prynnu y 'Faner Fawr,' fel ei gelwid. Y mae'r faner ardderchog hon ar gael eto, ac mewn cadwraeth dda. Y mae ei lliwiau, ei harwyddeiriau a'i lluniau yn berffaith eglur, ac yn hollol Gymreig. Dyma'r hyn sydd arni, at i fyny: 'Meddwdod o'r Byd. Cymdeithas Ddirwestol Beddgelert. Sefydlwyd Tachwedd 26, 1836. Ar y llaw aswy, gwelir lluniau'r glwth a'r meddw, a delw o Angeu a'i bladur yn ei law. Gwelir meddwyn ar lawr, a'i wraig yn wylo, a photel o wirod yn ymyl. O dan hynny y geiriau, Y meddw a'r glwth a ddaw i dlodi. Ar y llaw ddehau, gwelir tad a mam yn eistedd yn eu parlwr clyd, gyda'r Beibl yn eu llaw. Arwyddion llawnder yn gymysg â blodau. Y geiriau odditanodd, Tyred gyda ni, a ni a wnawn i ti ddaioni. O dan y cwbl y ceid y geiriau,-Rhoddaist faner i'r rhai a'th ofnant, i'w dyrchafu oherwydd y gwirionedd. Bu llawer o orymdeithio gyda'r faner hon. Yr olwg ar y faner ar y blaen a gariai ddylanwad mawr ar y fyddin ddirwestol, ac ar feddwon yr ardaloedd. Cerid hi ar bolion gan feddwon diwygiedig. Gorymdeithiwyd i lawr i Dremadoc un tro, a phan welodd dirwestwyr ardal Nantmor a Phont Aberglaslyn y fyddin yn dod i lawr y Gymwynas, a'r Faner Fawr ar y blaen, methodd llawer o'r rhai mwyaf selog a dal heb waeddi a wylo. Yr oedd yr olygfa yn syfrdanol. Daliodd llawer eu hardystiad hyd eu bedd. Chwyldrowyd cyflwr moesol yr ardaloedd."

Dyma adroddiad yr ymwelydd â'r ysgolion adeg y Canmlwyddiant (1885): "Ni chedwir rhestr bersonol o bresenoldeb yr ysgolheigion yn yr un o'r pum ysgol. Y prif gatecismau, yr Hyfforddwr, Rhodd Tad, Rhodd Mam. Dim paratoad arbennig i athrawon na dosbarthiadau. Saith o athrawon heb fod yn aelodau eglwysig. Defnyddir y catecismau yn y dosbarthiadau isaf yn unig. Ar y cyfan, y rhan yma o'r gwaith yn gymeradwy. Dygir y gwaith ar gyfer y Cyfarfodydd Chwarterol a Blynyddol i'r ysgol, a cheir y cynllun yn ateb yn eithaf da. Nid oes gan yr un o'r ysgolion stafelloedd gwahaniaethol i'r plant, ac am hynny defnyddir llyfrau ac nid cardiau. Dim Safonau. Y nifer ar gyfartaledd ym mhob dosbarth (plant), o saith i wyth. Ym Mheniel yn unig yr arholir y plant yn flynyddol, gan eu dyrchafu o'r naill ddosbarth i'r llall. Siaredir yn erbyn drwg arferion yn niwedd yr ysgol. Tua chant o aelodau eglwysig heb ddilyn yr ysgol. Siaredir â hwy yn gyhoeddus a chyfrinachol. Rhai heb fod yn aelodau eglwysig mor ffyddlon i'r ysgol a'r rhai sydd. Dim rheolau argraffedig yn yr un o'r ysgolion. George Thomas."

Yr oedd yma briordŷ er yn fore, y tybir oddiwrth y sylfeini y daethpwyd o hyd iddynt ei fod yn adeilad górwych. Chwalwyd yr eglwys yn 1830, un o'r hen eglwysi cywreiniaf yn y sir. Yr oedd gan yr Anibynwyr bregethu yn achlysurol yn y pentref yn gynnar yn y ganrif o'r blaen. Gosodwyd carreg sylfaen capel, heb fod moddion cyson yma o'r blaen, Gorffennaf 27, 1852. (Hanes Eglwysi Anibynnol, III. 226). Daeth y Wesleyaid yma yn gynnar yn yr un ganrif. "Ar y cyntaf llwyddasant yn anghyffredin. Torrodd diwygiad grymus yn eu plith, gorfoledd mawr, cyrchu anghyffredin i'w gwrando, fel y tybiesid ar y cyntaf y buasai yn ysgubo popeth o'i flaen. Y prif leoedd y cynelid y moddion oedd y Tŷ mawr yn Nantmor a Chwm cloch yn Nant y colwyn. Megys ar darawiad ymunodd lliaws ,yn wŷr a gwragedd, a'u Cyfundeb, gan ei ddilyn bant a bryn yn llawn sel, ac ymhlith y lliaws yr oedd amryw o rai meddwaf y plwyf. Cododd o'u plith dri o bregethwyr, yn llawn sel, ond ni buont o nemor wasanaeth yma oherwydd eu symudiad buan i leoedd eraill i wasanaethu. Yr oeddynt yn llawn sel, ond yn brin mewn gwybodaeth. Pallodd un o'r tri yn fuan. Gofynnodd un iddo pam y pregethai gwymp oddiwrth ras. Dywedai yntau y pregethai hi tra byddai chwythad ynddo. Bu cystal a'i air, oherwydd fe gwympodd ei hun yn fuan, a phregethodd yr athrawiaeth yn ei ymarweddiad tra fu'n chwythu, chwedl yntau. Yr oedd llawer o bethau lled ddigrif mewn cysylltiad â hwy, na waeth heb sôn am danynt, a bu'r cyfryw bethau yn achlysur i'r ieuenctid gasglu i'r moddion, ac aethant o'r diwedd yn hyf ac afreolus. Dechreuwyd oeri, dychwelodd amryw at eu chwydiad yn ol, pallodd y pregethwyr ddod yma o radd i radd, nes o'r diwedd pallu yn gwbl. A gellir dweyd am y diwygiad hwn mai mewn noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu." (Ysgrif Gruffydd Prisiart). Oddeutu'r un blynyddoedd, daeth y Moraviaid i Ddrws y coed. Ymunodd William Gruffydd a'i deulu â hwy (edrycher Rhyd-ddu); ond nid arhosodd ef yn y gymdogaeth yn hir, a darfu'r blaid yn y man.

Dengys y tabl canlynol berthynas yr eglwysi, fel eglwysi, âg eglwys y Pentref, ac amser eu sefydlu:

Amseriad sefydliad cyntaf yr eglwys, mor agos ag y gellir dyfalu, yw 1784. Un eglwys ydoedd, nes ymganghennu ohoni ar yr amseriadau a ddangosir. Eithaf tebyg y bu yma fath ar gyfeillach eglwysig pan fu Robert Jones Rhoslan yn cadw ysgol yn y llan oddeutu 1764, ond na pharhaodd nemor neu ddim yn hwy na'i arosiad ef yma, yr hyn nad ydoedd ond ystod o ryw ychydig fisoedd. Yn ol y Methodistiaeth, tua 40 oedd rhif yr eglwys o'i symudiad i'r pentref hyd y diwygiad, sef dros ystod 1790-1817. Yr oedd rhif y pedair eglwys yn niwedd 1900 yn 555.

PENTREF BEDDGELERT[8]

Yr oedd Robert Jones Rhoslan, y pryd hwnnw oddeutu 19 oed, yn cadw ysgol y Madam Beavan yn y llan yn 1764 (neu oddeutu hynny). Yn ol Methodistiaeth Cymru fe roes holiad i'r plant i'w ateb drannoeth,—"Pa le y mae eglwys Dduw?" Wedi clywed yr holiad gan y plant, ebe un o henuriaid yr ardal, "Pw! ai dyna'r fath feistr sy gennych. Ymha le y mae'r eglwys? ac yntau ynddi hi bob dydd!" Daethpwyd a'r ateb i Robert Jones. Chwanegai yntau fod son yn y Beibl am "glustiau'r eglwys," a dymunai wybod drachefn beth oedd y rheiny? Atebai'r henuriad yn ol, "Wfft i'r fath lob! Be' sy haws iddo weld nag mai clochdy ydi clust eglwys?"

Byrr fu arosiad Robert Jones yma. Eithr ni bu ei lafur yn ofer, fel yr ymddengys. Clywodd llencyn o'r enw Robert Dafydd ar ei galon fyned i wrando ar Robert Jones yn holi'r plant, gwir arwydd o feddwl, er mai gwyllt ac ofer ydoedd dan hynny. Bu'r amgylchiad yn achlysur ei droedigaeth, ac adnabyddid ef ar ol hynny fel Robert Dafydd Brynengan. Dechreuodd hen wragedd y gymdogaeth regi Robert Jones am yrru Robert Dafydd o'i gof. Nid oedd eto ddim pregethu gan y Methodistiaid ym Meddgelert, na dim pregethu sefydlog ganddynt yn nes na Brynengan. Ond pan fyddai pregethu achlysurol yn y cyrraedd, hysbysid hynny i Robert Dafydd gan yr ysgolfeistr, drwy gyfrwng cenadwri ar bapur. Elai Robert Dafydd yma ac acw i wrando, a daeth trallod i'w feddwl am ei gyflwr. Bu yn dymuno bod yn gythraul yn lle bod yn ddyn, gan dybio mai llai fuasai ei boenau yn uffern. Y pryd hwnnw bu'n gwrando ar Huw Tomos, Gruffydd Prisiart, Siarl Marc, Robert Williams ac eraill.

Elai Robert Dafydd gyda'i gyfaill, Owen Tomos, beth yn ddiweddarach i wrando pregethau ym Mrynengan, gan ddychwelyd, 12 milltir o ffordd, yr un noswaith. Yr oedd ewythr Robert Dafydd, y lletyai gydag ef, yn wrthwynebol i'r grefydd newydd, ac ni fynnai mo'r arfer yma. A dyna fel y mudodd Robert Dafydd i Frynengan. Aeth Owen Tomos i Fôn. Yr oedd Robert Jones eisoes wedi ymadael. Dywedir yn y Methodistiaeth y bu hyn yn ergyd drom i'r achos bychan a gychwynasid. Ni amserir mo'r cychwyniad. Nid anhebyg fod yma fath ar seiat neu gyfeillach ysbrydol cyn ymadael o Robert Jones â'r lle. Dywedir y bu'r 'achos' dros ryw dymor mewn llewygfa drom, neu, fe ddichon, yn fwy manwl, nad oedd yma ddim o'r fath beth ag achos. Ymhellach ymlaen fe ddywedir mai pan yr oedd pregethu yn cael ei gynnal mewn hen adeilad a elwid y Stamps y ffurfiwyd y gymdeithas eglwysig gyntaf (II. 200). Cesglir nad oedd dim pregethu cyson ym Meddgelert yn 1771, sef y flwyddyn y bu Dafydd Morris drwy'r wlad, gan na fu ef yma y pryd hwnnw.

Bellach, dilynir ysgrif Gruffydd Prisiart. "Thomas Prisiart Aberglaslyn oedd clochydd y llan. Ei fab Harri a brentisiwyd yn grydd. Wedi gorffen ei brentisiaeth danfonwyd ef i Fotwnog gyda'r amcan o'i ddwyn i fyny yn wr eglwysig. Ymwelodd yr Arglwydd âg ef yno mewn argyhoeddiadau dwfn. Dychwelodd adref gan ymwrthod â'r meddwl am fod yn wr eglwysig, er blinder i'w dad. Profodd ŵg y teulu. Yn y man cychwynnodd ysgol mewn beudy a elwid yr Hen odyn, ar dir Caeddafydd yn Nantmor, a breswylid gan Owen Owens. ["Hen gartref Dafydd Nanmor oedd Cae Ddafydd. Saif ar y llethr, yr ochr ddehau, uwchben y dyffryn lle gorwedd Hafod garegog, hen gartref Rhys Goch Eryri. Y mae'r Hen odyn ychydig yn uwch i fyny. Y mae'r Cwt coch yn adfeilion ychydig uwchlaw'r ffordd. Y mae plasdŷ Dôl y frïog am y nant a'r Hen odyn." Llenor, 1895, t. 25, nodiad]. Tua 1783 y bu hyn, tua 80 mlynedd yn ol. [Y mae Carneddog yn awgrymu'r amseriad 1779, a noda allan o'r cofnodion plwyfol fod Harri wedi ei fedyddio Mawrth 14, 1760]. Ychydig oedd gydag ef, ond ymroes i'w dysgu, a gweddiai gyda hwy, a phregethai iddynt weithiau. Ymhen ysbaid dechreuai rhieni'r plant ac eraill gyrchu i'r ysgol yn awr ac eilwaith. Ymhen ysbaid drachefn torrodd yn ddiwygiad ymhlith plant yr ysgol, a elwid yn ddiwygiad y plant. Gorfoleddai y plant. Wrth weled yr effeithiau hyn, ymwasgodd mwy eto at yr ysgol. Dechreuwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yma ac yn y Cwt coch, cwt ar Caeddafydd lle diddyfnid ebolion cesyg. Cedwid, hefyd, ambell seiat gyda'r plant. Yr oedd gan y plant ambell gyfarfod gweddi yn y Cwt arnynt eu hunain. Ar ganol eu gorfoledd un tro, rhedodd un o foneddigion palas Dolfrïog oedd gyferbyn â hwy at y fan, pwysodd ar y ddôr o wiail plethedig, pan y cwympodd y ddôr i mewn i'r cwt, ac yntau yn rhemwth arno. Ar y pryd yr oedd y plant yn canu y darn pennill yma:

Mae Satan ar lawr,
Mae hyn yn beth mawr,
A'r adar yn canu ar doriad y wawr.

Ar hyn ffyrnigodd y creadur, a dechreuodd regi a melltithio, ond ni chyffyrddodd â'r un o'r plant. Yr oedd boneddigion Dolfriog yn dra gelynol i'r grefydd newydd, a rhoddent bob sarhad a allent arni. Taflodd rhywun y ddôr yn y man i lifddwfr yr afon gerllaw, a chludwyd hi ymaith. Yna cynhelid y moddion yn y Cwt coch, ac mewn corlannau a lleoedd neilltuedig. Gwelwyd anfoddlonrwydd perchen y gwaith ar y teulu erlidgar, a hynny yn fuan.

"O'r diwedd dechreuwyd sibrwd ynghylch cael ambell oedfa. Cafwyd gan Robert Jones Rhoslan addaw dod. Awd i dŷ gwag ar fferm y Corlwyni, y buwyd yn cadw rhisgl ynddo. Adroddaf helynt yr oedfa fel y derbyniais ef o enau un oedd yn y lle,—' Wedi imi glywed ynghylch yr oedfa, a'r peth mor newydd, a hefyd fod y tŷ rhisgl ar dir fy nhad, aethum i lawr gan weu fy hosan. Yr oedd yn ddiwrnod teg, braf. Erbyn mynd yno, yr oedd lliaws wedi dod ynghyd, ac, fel finnau, amryw yn gweu eu hosannau, ac eraill yn ymddiddan yn lled gellweirus. Ond daeth y pregethwr a dechreuodd, a ninnau yn parhau i weu, tra yr oedd eraill yn lled afreolus. Dringai rhai i ben y tŷ gan feddwl cyflawni rhyw aflonyddwch. Er y cyfan, yr oedd y pregethwr yn mynd ymlaen. Ond yn ddisymwth dyna fellten, ac ar darawiad taran arswydus nes oedd pawb yn delwi. Ymataliodd y pregethwr am funud, gan edrych o'i gwmpas. Wrth weld y bobl wedi brawychu, ymaflodd yn y Beibl, gan ei ystyn hyd ei fraich atynt. 'Bobl!' meddai, yr ydym wedi brawychu yn fawr wrth glywed y daran. Beth am y gair sydd yn hwn?' Saethodd y gair hwnnw i fy nghalon, ac nid aeth oddiyno hyd heddyw. Ni bu dim aflonyddwch wedi hynny, ond pob rhwyddineb i bregethu.' Er mai hon oedd yr oedfa gyntaf erioed, fe ddichon, gan y Methodistiaid yn yr ardal, fe fedyddiwyd un â'r Ysbryd Glan. Ei henw oedd Jane Richard.

"Bellach y mae cyfnod newydd yn dechre. Wrth gael ambell i oedfa yn awr ac eilwaith, gwelwyd angenrheidrwydd am ffurfio cymdeithas eglwysig. Daeth atynt ddynion cymwys o leoedd eraill i'w cynorthwyo. Sefydlwyd cymdeithas, ffurfiwyd rheolau, penodwyd swyddog, sef Henry Tomos. [Sef yn y Tŷ rhisgl, ar dir y Corlwyni, ebe Carneddog]. Ond llawer o'r rhai oedd wedi ymwasgu at y diwygiad a aethent yn eu hol. Ni fynnent ymostwng dan unrhyw iau. Pan ddeuai cynghorwr i'r ardal, ni ddiangai heb ryw gymaint o amharch, ac anhawdd fyddai cael llety iddo. Clywais am wreigan weddw oedd yn byw mewn lle a elwid yn Cae'r myngis, ddarfod iddi lawer noswaith orwedd yn ei dillad ar gaead ei chist, er mwyn i'r cynghorwr gael ei gwely. Un o'r mannau cyntaf a agorodd heblaw yr Hen odyn oedd y Corlwyni. Enillwyd y gwr a'r wraig at grefydd yn lled fuan ar ol i'r pregethu ddechre, er eu bod gynt yn dra gelynol. Clywais y wraig yn adrodd ymhen blynyddoedd mor elynol ydoedd. Byddwn yn dymuno i rywbeth fynd â phennau y tai i ffwrdd y byddai pregethu ynddynt, ond o drugaredd y mae fy egwyddor wedi newid.' Bu ei thŷ ar ol hynny yn noddfa i bregethu a phregethwyr ysbaid maith. Yma y gwelais innau bregethwr gyntaf. Hefyd ysgwyd llaw â phregethwr, sef Arthur Jones. Un tro, yr oedd cyhoeddiad Gruffydd Jones Ynys y pandy [Ty'n llech wedi hynny] i fod yno i bregethu. Daeth lliaws ynghyd, yn eu plith ddau lanc o'r ardal (waeth heb eu henwi). Llanwasant eu pocedau â phridd y wâdd, a dringasant i'r llofft oedd yn lled agored, gan gyfleu eu hunain uwchben y fan y safai y pregethwr. Wedi dechreu'r oedfa, dech- reuasant ollwng y pridd i lawr, drwy gysylltiadau yr hen lofft, yn gymwys ar y Beibl oedd yn ei law. Taflai yntau ef ymaith yn awr ac eilwaith, gan ganlyn ar ei bregeth. O'r diwedd darfu'r pridd, ac yna nid oedd ganddynt ddim i'w wneud ond gwrando. Daeth llewyrch neilltuol gyda'r oedfa. Cafodd y ddau yn y daflod. ddwysbigiad. Daethant i lawr ystrym ystrym gan waeddi a nadu am y mwyat. Ymunodd y ddau â'r achos ymhen ychydig, a buont wasanaethgar gydag o. Tro rhyfedd oedd hwn.

At yr adeg yma mi briododd Henry Tomos, a rhoes goreu i gadw'r ysgol. Ymaflodd ysgolheiges iddo, o'r enw Elin Tomos, yng ngwaith yr ysgol am ysbaid, nis gwn pa hyd. Un wir grefyddol ydoedd, a chefais dystiolaethau iddi fod o les i'r rhai ieuainc. Bu yn cadw ysgol Sabothol yn llofft ystabl Caeddafydd. Marsley Powel oedd enw gwraig Henry Tomos, merch i amaethwr oedd yn byw ar y pryd yn Hafod rhisgl, Gwynant. Yr ydoedd wedi ei hennill at grefydd ers amser. Byddai'n myned gyn belled a Brynengan ei hunan i odfeuon gras, ac yn dychwelyd ei hunan yn nyfnder nos. Weithiau byddai'n gorfoleddu bron yr holl ffordd nes cyrraedd adref. Hefyd yr oedd wedi ei hegwyddori yn dda, ac ystyried yr amser a'r manteision, ac o dueddiad dysgu a llywodraethu eraill. Bu'n addurn i'w phroffes. Wedi i Henry Tomos ymsefydlu wrth yr hen Stamps, symudodd eisteddle'r achos o Nantmor. Byddai oedfa yn y Corlwyni a lleoedd eraill yn awr ac eilwaith, ond cedwid y seiadau yn yr hen Stamps. Dioddefodd ychydig ganlynwyr yr achos lawer o anfri wrth fynd a dod o Nantmor. Yr oedd llwybr i'r llan, hefyd, yn agos i ddrws y tŷ, ac os byddai moddion ar y pryd yr elai'r llanwyr heibio caent bob anfri a fedrai tafod roi arnynt.

"Gwelwyd angen am swyddog yn rhagor, a neilltuwyd Richard Tomos, brawd Henry. Yr oedd Richard y pryd hwn yn grefyddwr gwresog, ac yn meddu gradd o ddawn i'r swydd, a mwy o wybodaeth gyffredin ac ysgrythyrol na llawer. Yr oedd Henry Tomos yn ddarostyngedig i'r pruddglwyf, yr hyn a'i gwnae yn hollol ddifudd. Ymollyngodd mor llwyr, yn y man, fel nad ymgysylltai â'r ddiadell fechan o gwbl. Tua'r adeg yma daeth teulu o sir Fon oedd yn dda arnynt yn y byd o'r enw Hughes, teulu gwir grefyddol, i fyw i Feillionnen. Cyfreithiwr ydoedd y gwr. Yr oedd y gwersyll eisoes yn edrych allan am symud i le arall. Rhoes y teulu yma dý bychan oedd ar eu tyddyn o'r enw Ty'nycoed i gynnal moddion. [Y mae llythyr o eiddo Sara Charles ar gael, cyfeiriedig at ei gwr, y 'Parch. Thos. Charles, at Mrs. Williams, Veillionnen,' sef enw morwynol gwraig y cyfreithiwr ym Meddgelert, fel y tŷb awdur cofiant Charles. Y mae'r llythyr wedi ei amseru Tach. 24, 1784. Y mae llythyr oddiwrth Charles at ei wraig o Bwllheli, wedi ei amseru Tach. 18, 1784. Y mae llythyr oddiwrth y wraig ato ef i Drawsfynydd, wedi ei amseru Tach. 25, 1784. Os yw dyfaliad y cofiannydd yn gywir, mai gwraig Hughes Meillionnen oedd Mrs. Williams Meillionnen, yna mae'n debyg y penderfynir yn lled agos amseriad symud yr achos i Dy'n y coed gan lythyr Sara Charles. Gweler T. Charles II. 515-7. Y mae gan Carneddog nodiad yma yn cywiro sylw Gruffydd Prisiart am deulu Meillionnen, ac yn dangos mai Davies oedd enw morwynol y wraig y cyfeirir ati, yna Williams, yna Hughes. Y mae'r nodiad yn dwyn cysylltiad âg amryw bersonau amlwg yn yr hanes, a rhed fel yma: "O 1744 i 1777 yr oedd gwr lled gefnog yn byw ym Meillionnen, a chanddynt brydles ar y lle. Y mae'r dyddiadau a geir ar ei garreg fedd ef a'r teulu yn cytuno â'r cofnodlyfr plwyfol. Bu Dorothy, baban John Williams Meillionnen, ac Elizabeth ei wraig, farw Mawrth 14, 1745, yn flwydd oed. Bu Elizabeth Howel farw Gorffennaf 3, 1765, yn 60 oed. Bu John Williams farw Mehefin 10, 1777, yn 71 oed. Yr oedd Elizabeth Howel yn ferch Howel John Griffith, neu Howel Jones o'r Ereiniog, ac yn chwaer i Edward Powel Ereiniog ac i John a Griffith Powel Hafod y rhisgl, ac o'r un cyff a Phoweliaid Llanfihangel y Pennant. Yr oedd Harri Thomas wedi priodi Marsli Powel, merch i John Powel o Hafod y rhisgl, ac felly yr oedd Elizabeth Howel neu Powel yn fodryb iddi. Yr oedd John Williams yn wr crefyddol, ac yn eangfrydig ei syniadau, ac yr oedd ei wraig o'r un dueddfryd ysbryd. Yr oedd Marsli Thomas yn nodedig o grefyddol a thanbaid. Ar ol marw Elizabeth Howel, priododd John Williams Letuce Davies, a berchenogai Danrallt, gerllaw Abergele. Ceir hysbysiad am fedyddiad plant i' John Williams, yeoman of Meillionnen and Letuce his wife' yn y cofnodlyfr plwyfol, William yn 1772 a John yn 1776. Ar ol marw John Williams yn 1777, bu Letuce Williams yn byw yn weddw am gyfnod yn y lle, a bu hi yn lletya Thomas Charles yno yn 1784, fel y cyfeiria'r llythyr. Yr oedd yn wraig ryddfrydig, gymwynasgar a chrefyddol. Mewn un hen ysgrif neilltuol, gelwir hi "yn weddw gyfrifol oedd yn byw ym Meillionnen." Yn y cyfamser priododd Letuce Williams â Rice Hughes Treferwydd, Môn, ysgrifennydd cyfreithiol yn Dinam. Yr oedd ef wedi bwrw ei goelbren gyda'r Methodistiaid ym Môn, ac yn dwyn mawr sel dros yr achos. Buont yn dal Meillionnen am ysbaid fel 'penturiaeth,' gan fyw yn rhanol yno ac ym Môn. Trwy eu hofferynoliaeth hwy y cafodd bwthyn Ty'n y coed ei agor at wasanaeth y Methodistiaid. Dodrefnwyd y tŷ yn bwrpasol at gynnal moddion gan Letuce Hughes. Pan fyddai Ty'n y coed yn rhy fychan i'r gynulleidfa, cynhelid y gwasanaeth ym Meillionnen. Bu Rice Hughes farw yn 1794 yn 42 mlwydd oed a Letuce Hughes yn 1819"]. Ymunodd amryw o rai cyfrifol â'r achos yn Nhŷ'n y coed, sef William Sion o'r Gefnen, William Williams o'r Ffridd, wedi hynny Hafod rhisgl, Rhys William Hafod llan, Richard a Hywel Gruffydd o'r Carneddi, ynghydag eraill. Hefyd, mhen ysbaid daeth Henry Tomos yn rhydd o'i lewyg, a daeth i'w plith ac i'w swydd. Anfonai gwraig Meillionnen ddodrefn at wasanaeth y tŷ, ynghydag ymborth a phethau eraill. Byddai'r cynghorwyr, hefyd, yn myned yno i letya weithiau, a chynhelid ambell oedfa yno. Clywais hen wr yn dweyd iddo fod yn gwrando Peter Williams yno unwaith [ar ei daith gyntaf drwy'r rhan yma o'r wlad, ebe Cameddog]. Yr oedd i'r achos elynion yn y parth yma. Dangosodd un elyniaeth mwy nag eraill. Ryw noswaith lled dywyll pan yr oedd seiat yno, daeth amaethwr cyfagos, a llifiodd bron drwodd drawstiau'r bont-bren oedd yn croesi'r afon ar y llwybr at Dy'n y coed. Wedi gorffen y cyfarfod, cychwynasant i lawr at yr afon fel arfer. Wrth fynd i lawr, dywedodd Richard Tomos, 'Yr wyf yn meddwl gyfeillion, mai gwell peidio mynd at y bont heno, rhag ofn fod rhyw berygl yn bod. Ni drown, ac a awn i lawr gyda'r afon nes mynd i'r ffordd.' Felly fa. Pe digwyddasant fyned at y bont fel arfer, yn gymaint a bod craig serth o bobtu a llyn dwfn o dani, collasai rai eu bywyd, os nad pawb. Ond er i'r diniwed ddianc, ni ddiangodd cyflawnydd y weithred. Er ei fod yn dda arno yn y byd ar y pryd, darostyngwyd ei deulu i dlodi, fel erbyn hyn nad oes yma gymaint ag un ohonynt. Rywbryd arall, yr oedd y pregethwr i ddyfod yma dros fwlch Cwmpas trayn [Cwm strallyn], ac i lawr drwy bant y Fallen i'r Gymwynas ger llaw Pont Aberglaslyn. Aeth lliaws o'r pentref i lawr i fwlch y Fallen i'w ddisgwyl. Casglodd bob un ei dwrr o gerrig i'w ymyl, y naill res yn sefyll uwchlaw y llall, a'r rhai byrraf yn y rhes flaenaf, fel na byddai perygl i'r rhai o'r tucefn eu tarro. Pan ddaeth y truan i'r golwg, ergydiodd un o'r rhes bellaf garreg, a phwy a darawodd ond un o'r bechgyn yn y rhes flaenaf, a hynny ar ei foch, nes fod twll drwy ei foch i'w enau. Ar hyn syrthiodd i lawr mewn llewyg. Yn y fan, rhuthrodd y lleill ato mewn dychryn, gan ofni eu bod wedi achosi marwolaeth ddisyfyd iddo. Felly cafodd y pregethwr druan ei arbed. Bu craith fawr ar foch y bachgen tra fu byw.

"Yn gymaint ag y byddai oedfa yn awr a phryd arall yn y Corlwyni, cymerodd Richard Edmwnd yn ei ben fyned i ambell gyfarfod misol i ymofyn pregethwr. Yr oedd yn dda arno, ac yn cadw merlen dda bob amser. Caredigrwydd at yr achos yn unig a gymhellai'r hen wr. Ond yn gymaint ag nad oedd yn swyddog, tramgwyddodd hyn Richard Tomos yn fawr, yn gymaint yn y diwedd ag y ciliodd oddiwrth yr achos yn gwbl tra fu byw. Cyn hir, yn ddyn ieuanc, syrthiodd i afael afiechyd a fu'n angeu iddo. Yn ei selni yr oedd yn gryn ystorm arno oherwydd ei wrthgiliad. Dywedai nad oedd ganddo ddim am dani ond yr hyn oedd gan y gwahangleifion hynny wrth fyned i wersyll yr Asyriaid, 'Os cadwant ni'n fyw, byw fyddwn.'

"Yr adeg yma, symudodd Henry Tomos i gymdogaeth Waenfawr, yna i dyrnpeg Llangwna, yna i dyrnpeg Dolydd byrion yn agos i Lanwnda, lle bu farw. Yr oedd yn ddarostyngedig i'r llewygfeydd o bruddglwyf wedi ymadael oddiyma, ond dywedir fod rhyw lewyrch neilltuol ar ei ysbryd tua diwedd ei oes. Y tro diweddaf y gwelais ef oedd mewn cymanfa yng Nghaernarvon. Yr oedd, er yn hen wr, mewn tymer nefolaidd, yn canmol ei Waredwr. Teimlais rywbeth wrth ei wrando nad aeth yn angof gennyf eto. Er ei symudiadau, yr oedd wedi casglu swm o gyfoeth. Yr oedd ganddo £60 yn llog ar gapel Moriah, a adawodd yn ei ewyllys ddiweddaf yn rhodd iddynt. Bu'n offeryn, er ei lewygfeydd a'r cwbl, i gychwyn gwaith mawr, megys y gwelir heddyw. Heddwch i'w lwch.

"Bellach yr oedd eisieu swyddogion newydd, a neilltuwyd William Sion o'r Gefnen a William Williams o'r Ffridd, dau wr cyfrifol a gwir ddefnyddiol, a hynny tra buont. Ond daeth y tymor i ben yn Nhŷ'n y coed eto, drwy i angeu symud penteulu Meillionnen i'r bedd. Daeth arall yn feddiannydd arno, ac ni chaniatae i bregethu fod yno mwyach. Digwyddodd ar y pryd fod tŷ gwag yn y pentref, sef Pen y bont fawr. Cymerwyd ef ar ardreth. [Tua 60 neu 63 o flynyddoedd yn ol, meddir ym Meth. Cymru, neu rhwng 1791 a 1794, a chyfrif o adeg cyhoeddi'r ail gyfrol. Dywedir hefyd mai tua 40 oedd rhif yr aelodau y pryd hwnnw. Tua'r flwyddyn 1794 y dywedir yr adeiladwyd y capel.] Dyma ddechre cyfnod newydd eto ar yr achos. Chwanegwyd y gwrandawyr, a chaed chwanegiad a mwy o amrywiaeth o bregethwyr. Dewiswyd swyddog yn chwanegol, sef Rhys William Hafod llan. Cafwyd yma gyfarfod misol, y cyntaf erioed yn y lle y mae'n debyg. Cynhaliwyd y pregethu ar yr heol o flaen drws y Tŷ uchaf, a'r garreg farch oedd y pulpud. Pwy oedd y pregethwyr nis gwn, heblaw Robert Roberts o Glynnog. Clywais un yn adrodd ei bod yn clywed ei lais pan yn pregethu chwarter milltir o bellter oddiwrtho. Bu symudiad yr achos i'r pentref yn foddion i'w ddwyn yn fwy i wyneb erledigaeth. Yr oedd erbyn hyn wedi dod i ymyl ffau un o'r llewod, a oedd yn byw yn y Tŷ isaf yn union gyferbyn a Phen y bont fawr. Yr oedd ganddo was o'r un duedd ag ef ei hun. Pan fyddai pregeth, rhoe i'r gwas ddogn da o drwyth Syr John, yna anfonai ef allan i lan yr afon i luchio cerryg i'r tŷ, os gallai. Un tro bu am awr yn ceisio lluchio cerryg drwy'r ffenestr, ac er nad oedd ond oddeutu 20 llath oddiwrthi methodd a thaflu un garreg i mewn. Brydiau eraill rhoe hen wisg ddierth am dano, a chan orwedd ar y bont, gwnae nadau drwg, a bygythiai gyda llwon y byddai iddo'u lladd. A chan mor fwystfilaidd yr olwg arno, byddai'n peri arswyd ar lawer o'r benywod. Brydiau eraill elai'r llew ei hun i'w cyfarfod, a chasglai dwrr o gerryg, a lluchiai hwy'n ddiarbed nes yr elent dros y bont. Weithiau lluchiai'r dom atynt. Clywais un yn adrodd, er cymaint o luchio a fu ar eu holau, na tharawyd neb â charreg, ond y bu y dom hyd-ddynt lawer gwaith. Un Saboth gorfu i Mr. Richards Caernarvon gadw oedfa yn nrws Pen y bont. Ar y pryd daeth y llew allan o'i ffau yn lled feddw, gan dyngu â mawr lwon, os na thawai, y deuai, ato ac y rhoddai'r bigfforch drwy ei berfedd. Ond yn gymaint nad ymataliai y pregethwr, dyma fe yn dod gyda'r bigfforch, gan dyngu hyd i ganol y bont, pryd yr ymaflodd rhyw ddirgrynfa ynddo, a throes yn ol. Cymerodd ail feddwl drachefn, a methodd ddyfod gam ymhellach yr ail dro. Ac yn gyffelyb y trydydd tro. Yr oedd y dirgryniad yn ymaflyd ynddo bob tro yn yr un fan. Felly cafwyd llonyddwch y tro yma hefyd. Nid rhyw lawer o lwyddiant a fu ar y teulu yma mwy na theuluoedd eraill a fu dan sylw. Yr oedd amryw eraill yn gydgyfranogion yn y gwaith pechadurus, na waeth imi heb sôn am danynt.

"Yn yr ysbaid yma defnyddiodd y gelyn foddion eraill. Daeth apostolion Mari'r Fantell Wen yma. Un yn unig a enillodd y rhai'n i'w ffydd, ac nid hir y buont heb droi eu cefnau. Enillasant ugeiniau mewn lleoedd eraill i gredu eu ffoleddau. Plaid arall ddaeth yma yr un pryd oedd teulu Moses Lewis, fel y galwai'r hen bobl hwynt. Buont yn cynnal pregethu mewn lle o'r enw Tŷ hen, ac ym Mwlch y garreg [ar dir Hafod llan]. Enillodd y rhai'n dros ychydig blaid fechan dra selog. Brodor o dueddau Llanrwst oedd y Moses hwn. Yr oeddynt yn dal nad oeddynt yn pechu ar ol cael tro, ac mai yr hen ddyn' oedd yn cyflawni'r cwbl yn ol hynny. Eu prif ddull o gynnal eu moddion oedd canu, canu eu gweddiau a'u pregethau a'r cwbl. Yr oeddynt yn sylfaenu hyn ar y geiriau yn y Salm, 'Cofio yr ydwyf fy nghân y nos, sef gweddi ar Dduw fy einioes. Yr oeddynt yn dra gelynol i'r Methodistiaid. Gwaeddent ar eu hol, nodent hwy'n gyfeiliornwyr, ynghyda phob dirmyg a allent roi. Ni buont o hir barhad: diffoddasant fel clindarddach drain dan grochan.

"Dechreuwyd sibrwd am gapel. Yr oedd anhawsterau mawr ar y ffordd, oherwydd rhagfarn tir-feddianwyr at ymneilltuaeth. Eithr fe ddigwyddodd i etholiad seneddol gymeryd lle, ac aeth yn frwydr galed rhwng Lord Bulkeley a Syr Robert [Williams] Plas y nant. Yr oedd gan W. Williams y Ffridd vote. Addawodd Syr Robert unrhyw gymwynas iddo am dani. Derbyniodd yntau'r cynnyg ar yr amod ei fod yn rhoi lle i adeiladu capel. Aethpwyd ynghyd âg adeiladu ar unwaith. Nid oedd y capel cyntaf hwn ond bychan a diaddurn, a'i faintioli yn rhywbeth oddeutu 8 llath bob ffordd, ac heb eisteddleoedd iddo ond dwy, un o boptu'r pulpud. Ar y cyntaf nid oedd meinciau ynddo ond yn unig wrth y mur. Ond ymhen amser daeth y naill deulu a'r llall â mainc i'w gosod ar ganol y llawr. Pridd oedd y llawr. Yn y gaeaf taenent gnwd. o frwyn drosto, gan y byddai'r llawr ar dywydd gwlyb yn slut slot. [Siloam yw'r enw. Dywed Carneddog fod y resêt am yr adeiladu ar gael, ac y rhed fel yma: "This is a Memorandum, that we, Robt. Roberts and Robt. Parry, Received of Rice Williams, on account of the Chapel Built at Bethgelart, the sum of Sixty five Pounds, in full of all Demands, as Witness our Hands, the 25th Day of November, 1797. Pd. us Robt. X (the mark of) Roberts, Do. of Robt. X Parry." Codwyd y capel yn 1794, er na thalwyd mo ofynion y seiri hyd 1797.] Hefyd yr oedd tŷ bychan yn gysylltiedig âg e, cynwysedig o lawr a llofft. Yn y llofft yr oedd y cyfleustra byw. Y gyntaf a gyfleasant yma i fyw a gweinyddu i'r achos oedd gwreigan weddw o'r enw Sian Roberts, y soniais am dani o'r blaen, y byddai'n gorwedd ar y gist er mwyn i'r pregethwr gael y gwely. Yn y llofft fechan yma y buont yn cadw eu seiadau am oddeutu 20 mlynedd. Dull y moddion yn gyffredin fyddai seiat nos Sadwrn, oedfa yn Hafod llan fore Saboth, ac yn y capel at un ar y gloch. Ar ol yr oedfa yma dychwelai'r pregethwr adref. Dyna'r cynllun am flynyddoedd lawer, ond y byddai pregethu yn Nantmor, weithiau yn y Tylymi, ac weithiau yn y Corlwyni.

"Nid hir ar ol y symudiad y bu farw William Sion o'r Gefnen. Yr oedd William Sion yn wr hynod gyfrifol gan y cyfeillion. Sonient am dano gyda phob parchedigaeth. Dywedent mai bugail tyner, gofalus ydoedd, o duedd i gynnal a chysuro y gweiniaid. ["Un o golofnau cadamaf yr achos. Dywedir ei fod yn dra hyddysg yn yr ysgrythyrau, ac yn wr hynod ddiargyhoedd ei ymarweddiad. Perchid ef gan wreng a bonheddig." Llenor, t. 39]. Ond yr oedd gan berchen y gwaith wrth law un cymwys i lanw ei le, sef Robert Roberts, gwr oedd yn byw ar y pryd mewn tyddyn o'r enw Clogwyn yn Nantmor.

"Yr oedd y cyfnod o'r symudiad i'r capel hyd y diwygiad mawr yn un pwysig, yn gymaint a'i fod yn fyd da, drwy fod prisiau uchel ar bob da gwerthadwy, a hynny o achos y rhyfel yn amser Napoleon Fawr. Yr oedd meddwdod fel llifeiriant yma, ac yr oedd yma gyfarfodydd blynyddol fwy nag a fu un amser, hyd y gwyddis. Pan adeiladwyd y gwestŷ, yr hyn a fu tua dechreu'r cyfnod, sefydlwyd helwriaeth flynyddol er cynorthwy i'r tŷ, pryd y deuai Mr. Rumsey Williams yma â haid o helgwn, ynghyda helddyn. Ac heblaw y rheiny byddai haid o foneddion corachaidd o amryw leoedd yn cydgyfarfod, a mawr fyddai'r gloddest a'r meddwi. Ymgasglai lliaws o'r ieuenctid o'r nentydd yno atynt, ac yna curo a baeddu ei gilydd, heblaw llawer o anfoes arall. Wedi i'r tafarnwyr eraill ddeall fod elw da oddiwrth yr helwriaethau, penderfynasant hwythau feddu helwriaeth flynyddol. Erbyn hyn dyma dair o helgwn-wyliau blynyddol yn y pentref. Yr adeg yma yr oedd ysbryd ymladd wedi codi i ryw frî hynod. Beth bynnag fyddai sefyllfa neu gymeriad unrhyw lanc, ni thalai nodwydd os na byddai'n ymladdwr. Ac yn gymaint ag nad oedd neb yn fawr ond yr ymladdwr, yr oedd pawb yn meithrin y cyfryw ysbryd; ac yn gymaint ag y byddai rhyw gweryl yn gyffredin rhwng trigolion Nantmor a'r nentydd eraill, byddai yma ymladd gwastadol. Diwrnod arall llygredig i'r eithaf oedd diwmod gosod y degwm. Rhennid diod yn helaeth, a mawr y cyrchu o bedwar ban plwyf, a phob tro, mawr fyddai'r meddwi a'r ymladd, a mawr y llid a'r genfigen ar ol y diwrnod. Yr oedd y priodasau a'r claddedigaethau a'r nosweithiau llawen yn warthus o anuwiol yn y cyfnod yma. A'r cocin saethu oedd gydgyfarfyddiad tra llygredig. Y ffeiriau oedd gyffelyb—meddwi ac ymladd fyddai bob amser ynddynt. Y Saboth a halogid mewn amryw fodd, weithiau drwy feddwi, a chasglai ieuenctid at ei gilydd i gynnal chwareuaeth o bob math yn y naill le a'r llall. "Dyma'r pryd yr ail-gychwynnwyd yr ysgol Sabothol, ar ol yr ysbaid y bu Elin Jones yn ei chynnal. Boddloner ar yr hyn ddywedaf o barth iddi yn ardal Nantmor, oblegid yno yr oeddwn ar y pryd. Yn y nos, ar y cyntaf, y cynhelid hi, a hynny yn y gaeaf. [Nodir gan Carneddog mai y rhai offerynol yn sefydliad yr ysgol y pryd hwn oedd Robert Roberts Clogwyn, John Prisiant Corlwyni, William Williams Cae Ddafydd, Richard Williams Cwm bychan, y tri brawd, Robert, Richard a Hywel Gruffydd o'r Carneddi. Tŷb Cameddog i hyn ddigwydd tua 1787. Dywed, hefyd, fod arswyd Hugh Anwyl y Ddolfrïog ar y rhai anwybodus yn gryn rwystr ar ffordd sefydlu'r ysgol, gan yr arferai bob math ar fygythion. Nodir, hefyd, fod Owen Gruffydd yn dipyn o brydydd a chanwr carolau.] Y lle cyntaf yr wyf yn ei chofio yw tŷ Owen Gruffydd Bwlch gwernog, ond y tymor nesaf symudwyd hi i'r Tylymi, yna i Aberglaslyn, yna i Ddolfriog yna i'r Tylymi yn ol, wedi hynny i Ddolfriog drachefn. [Yr oedd yr hen berchennog, Hugh Anwyl, erbyn hynny yn fethdalwr, a'i stâd wedi ei gwerthu. Carneddog.] Diffoddodd am ysbaid. Adlewyrchodd drachefn yn y Ddinas ddu. Yna i'r Tylymni am y trydydd tro. Yno yr arhosodd hyd y cafodd breswyl yng Nghapel Peniel. Cynhelid hi yn y gwahanol leoedd hyn weithiau'r dydd ac weithiau'r nos. Ar y cyntaf yr oedd llawer o bethau heb fod yn ddymunol mewn cysylltiad â hi, yn enwedig pan gynhelid hi yn y nos. Er hynny bu'n fendith. Dysgodd lawer o honom i ddarllen, ac yr ydym wedi mwynhau ei chynyrch ar hyd ein hoes.

"Er fod tymor y lluchio cerryg a dom wedi myned drosodd, eto yr oedd llawer yn elynol i grefydd. Byddai'r pregethwyr yn dychwelyd â'u teimladau yn friwedig gan mor anhawdd pregethu yma. ["Aeth yn ddywediad cyffredin gan amryw, 'Mae'r fan a'r fan mor galed a Beddgelert." (Goleuad Cymru.)] Ni chwanegwyd braidd neb at yr eglwys o fewn corff ugain mlynedd, oddigerth tri o fewn ychydig i doriad y diwygiad. ["Ym mis Mawrth daeth un, er syndod a llawenydd i amryw; a thua dechreu'r haf daeth dau neu dri eraill." (Goleuad Cymru.)] Yr oedd pawb a ddilynai'r achos yn hen neu ganol oed, oddigerth y tri a nodwyd, ac nid oedd eu nifer yn llawn deugain, er fod yr achos wedi ei gychwyn ers deuddeg neu bymtheg ar hugain o flynyddoedd [1782-5, gan gyfrif yn ol o 1817 mae'n debyg]. Ond yr oeddynt yn rhai gwirioneddol dda, ac wedi ymwregysu â ffyddlondeb. Ychydig flynyddoedd cyn y diwygiad yr oeddid wedi newid trefn y moddion, drwy roddi oedfa'r capel yn yr hwyr yn lle am un ar y gloch. Daeth oedfa un i'r Tylyrni. Rhowd y Tylymni dan nawdd y gyfraith, drwy ei recordio. Bu moddion rheolaidd yno hyd nes cael capel yn y gymdogaeth. Ychydig flynyddoedd cyn y diwygiad, hefyd, y bu farw R. Roberts y Clogwyn, a dewiswyd John Jones i'r swydd yn ei le. Bu ef yn offeryn i godi'r canu. Ni bu neb yn meddu'r dalent honno yma yn flaenorol. Bu'n dechreu'r canu hyd nes y lluddiwyd ef gan henaint.

"Cafwyd rhagarwyddion o'r diwygiad fisoedd cyn i ddim neilltuol dorri allan. [Dywed Carneddog y byddai rhai o'r hen bobl cyn toriad y diwygiad yn breuddwydio yn rhyfedd, ac yn adrodd eu breuddwydion wrth eraill. Cyn bo hir cafwyd y dehongliad. Edrydd ar ol Ellis Jones (y blaenor ym Moriah gynt), yr hyn a glywodd efe gan ei dad a'i fam. Gwelai William Williams Cwmcloch ei hun mewn breuddwyd yn ceisio ymwthio drwy dwll mewn mur trwchus. Methodd ganddo yn lân a myned drwodd, yna fe dynnodd ei ddillad oddi am dano, ac a aeth drwodd yn noeth luman, a gwelai lu yn dod ar ei ol drwy'r un twll. Pan dorrodd y diwygiad allan, y cyntaf i'r seiat oedd William Williams. Adroddir, hefyd, o ysgrifau William Davies, y "mwnwr llengarol o Feddgelert," am Rhisiart Wmffre yn breuddwydio ei fod yn gweled ei hunan yn myned drwy level newydd, nad oedd neb erioed wedi ei gweithio o'r blaen. Wedi cyrraedd drwyddi ac edrych yn ol, fe welai liaws mawr yn ei ddilyn. "Adroddodd y breuddwyd i'w gydweithwyr yn y fwnfa. Y farn gyffredin ydoedd y tarawai Rhisiart Wmffre wrth wythïen gyfoethog o gopr; ond tybiai eraill mai rhyw anffawd oedd i'w gyfarfod ef yn y gwaith. Ymhen ychydig amser yr oedd Richard William Bryn engan yn pregethu yn Hafod y llan. Fe ddychwelwyd Rhisiart Wmffre, ac fel hynny y dehonglwyd ei freuddwyd. Cafodd well ffawd na phe cawsai holl gopr y Wyddfa i gyd. Yr oedd yn flaenffrwyth y diwygiad. Byddai'r hen bobl yn son llawer am y breuddwydion rhyfedd hyn."] Byddai'r seiadau yn newydd iddynt yn anad un moddion. Byddai llestri rhai yn codi i nofio rai prydiau, yn enwedig yr hen chwiorydd. Dywedai'r naill wrth y llall, 'Fe ddaw diwygiad.' Yr oedd yr arwyddion hyn wedi dechre yn gynnar yn 1817. Yn nechreu'r haf y daeth y tri i'r seiat. Nos Saboth ym mis Awst yr oedd Richard Williams Brynengan yn Hafod y llan, pryd y torrodd y diwygiad. [Yr oedd y diwygiad eisoes wedi torri allan ar ffurf amlwg yn nechreu'r flwyddyn hon yn Nant, Lleyn. Bu'r hanes hwnnw yn symbyliad i'r diwygiad yma (Hanes Diwygiadau, Henry Hughes, t. 253-7). Y mae wedi ei ddweyd yn fynych fod John Elias yn Nhremadog y Sul yr oedd Richard Williams yn Havod y llan, ac i gorff y gynulleidfa fyned yno, saith milltir o ffordd. Dywed Mr. Henry Hughes na fu John Elias yno y flwyddyn honno ond ar Sul olaf Tachwedd, ac mai Robert Sion Huw, Llithfaen y pryd hwnnw, oedd yn pregethu yn y Tylyrni yr un adeg. Ac er i nifer gychwyn i wrando ar John Elias, eto ddarfod iddynt droi yn ol yn y man ar air hen wraig, sef fod Robert Sion Huw mor wirioneddol was i Grist a John Elias. Cafodd Robert Sion Huw arddeliad mawr, tra'r oedd oedfa John Elias yn galed iawn. Mae gan Mr. Hughes dystiolaeth Dr. Owen Thomas i hyn, ac eiddo John Jones, Tŷ capel Peniel (t. 259-60). Mae distawrwydd Gruffydd Prisiart ynghylch oedfa John Elias yn ei gadarnhau. Cymharer disgrifiad Robert Ellis Ysgoldy o oedfa Richard Williams (Cofiant, t. 227). Ioan vi. 44, "Ni ddichon neb ddyfod ataf fi, oddieithr i'r Tad . . . . ei dynnu ef," oedd y testyn, ebe John Jones. A dywed ddarfod i lawer fyned o'r oedfa heb ymddiddan a'i gilydd yr holl ffordd adref gan syndod.] Ar ddechreu'r moddion nid oedd dim neilltuol mewn arddeliad yn y golwg, ond fel yr oeddid yn ymlwybro ymlaen yr oedd y nerthoedd yn dechre cerdded, a chyn y diwedd torrodd ac aeth yn llefain cryf a dagrau, rhai o'r newydd a rhai mewn cysylltiad â'r achos o'r blaen. Tarawyd pawb â syndod. Richard Williams ydoedd y distadlaf a'r diystyrraf o'r gwŷr a ddeuai atom i gynnyg pregethu; ni chae gan y byd un amser ond llysenwau. Ond dyma'r hwn a arddelodd yr Ysbryd Glan. Bu'r tro yn foddion i godi Richard Williams yn ein hardaloedd tra bu. Wedi toriad allan y diwygiad cerddodd ymlaen yn rymus drwy'r nant. Ar y cyntaf yr oedd rhyw ddylanwad yn disgyn ar rai heb fod mewn moddion. Mae'n ffaith i ddwy dorri allan i waeddi yn y fuches, ac eraill yn eu tai, pryd na byddai moddion cyhoeddus. Fel, mewn ychydig wythnosau yr oedd wedi cerdded yr holl gymdogaeth. Ymhen ychydig wythnosau dechreuodd amryw dorri ymlaen i ymuno â'r achos, a pharhausant. Ymhen y mis neu bum wythnos yr oedd degau wedi dod i'r seiat yn y pentref, gan nad oedd seiat ond yno. Ond er yr holl gynnwrf oedd yng Ngwynant, nid oedd yr argoel lleiaf fod dim neilltuol yn cyffwrdd â neb yn un parth arall o'r plwyf, ond yn unig fod mwy o gyrchu i'r pentref i'w cyfarfod a'u gweled a'u clywed. [Yr oedd llond capel yn y seiat nesaf yn y pentref, a dylanwad neilltuol iawn, yn ol Robert Ellis (t. 229). Yn ol Gruffydd Prisiart, yr oedd y dylanwadau yn gyfyngedig y pryd hwnnw i bobl Nant Gwynant, ond y tyrrai eraill yno i'w gweled. Nid "llond capel o ddynion ar ddarfod am danynt" eto, ond y rhan fwyaf yn cael eu cymell gan gywreinrwydd yn bennaf.] Wedi i'r diwygiad ddechre yn y Nant, ni symudodd oddiyno nes marcio yr oll bron oedd i gael eu torri i lawr. Ond daeth yr amser iddo symud. Ar y Saboth blaenorol i ffair Gwyl y Grog [syrth yr wyl ar Medi 21 yma] yr oedd yr holwyddorwr yn yr ysgol yn cynghori y bobl ieuainc i ymddwyn yn weddaidd yn y ffair, pan y disgynnodd rhyw ddylanwad neilltuol arno ef a phawb yn yr ysgol. Torrodd bron bawb i wylo a rhai i waeddi allan. Wedi dechre fel hyn, enynnodd yn rymus drwy'r pentref a'r cymdogaethau hyd Ddrws y coed. [Byddid yn y capel yn aml am chwe awr, ebe John Jones, er fod gan rai o 3 i 6 milltir i'w cerdded adref.] Gorfu rhoi dwy seiat bellach yn yr wythnos, ac un arall o flaen oedfa prynhawn Saboth. A braidd, er hynny, y deuid i ben âg ymddiddan â'r dychweledigion. Ymwelwyd â'r lle gan amryw bregethwyr ar y ffordd i gymanfa Pwllheli. Yn eu plith daeth Eben Richards Tregaron. Cafodd oedfa lewyrchus yn y pentref nos Sadwrn, ac un fwy felly yn Hafod rhisgl bore drannoeth, pan y daeth amryw i'r seiat o'r newydd. Yr oedd yma Gyfarfod Misol y mis dilynol i'r un y torrodd y diwygiad yn y pentref arno. Yr oedd yma ddieithriaid o'r holl barthau cylchynnol. Daeth bagad o Ddolyddelen, ac yn eu plith Cadwaladr Owen; a dyma'r pryd y daliwyd ef. ["A dywedir eu bod wrth groesi'r mynydd yn llawn cellwair, a Chadwaladr Owen mor gellweirus a neb; ond daethant adref yn ol wedi eu lladd. . . ." (Cofiant R. Ellis, t. 231)]. Bu'r cyfarfod hwn yn ysgytfa o'r newydd i'r rhannau o'r plwyf lle'r oedd y tân wedi dechre ennyn. Ar seiat brynhawn Saboth weithiau, byddai tyrfa lond y cowrt wedi ymgasglu, a byddai dylanwad y swn oddifewn yn disgyn yn ddisymwth ar rai oddiallan. Un tro, pan oedd y lliaws ynghyd hyd at y drws, wrth glywed y swn, meddai un wrth ei gyfaill,— 'A ddoi di i fewn?' 'Na ddof' oedd yr ateb. 'Wel, ffarwel iti ynte!' ac i fewn ag ef, a rhoes floedd fawr, 'Bobl anwyl! pa beth a wnaf?' Ar hynny torrodd allan yn waeddi mawr, a dyna hynny o seiat a fu y pryd hwnnw; a gwaeddi mawr a fu am oriau, a mawr lafur fu i'w gostegu er mwyn cael oedfa. Fel hyn yr aeth y diwygiad ymlaen am bedwar mis, sef hyd y Nadolig, pan yr oedd dros gant wedi ymuno â'r achos. Ond nid oedd un wawr wedi torri eto ar ardal Nantmor. Nos Sadwrn, o flaen y Nadolig ar y Saboth, yr oeddwn i a'm chwaer adref yn y Tylyrni yn gwarchod, a'n rhieni yn y pentref yn y seiat fel arfer. Tua 9 o'r gloch aethum i gongl yn y tŷ lle'r oedd ffenestr led fawr yn agored uwch fy mhen. Yn ddisymwth clywn ganu yn gymwys uwch fy mhen gan ryw liaws aneirif, fel y tybiaswn; a meddyliais ar y cyntaf fy mod yn eu deall, ond erbyn ail ystyried nid oeddwn yn deall un gair. Ond yr oedd y sain fel sain tyrfa fawr, ac o natur mwy soniarus na dim a glywodd fy nghlustiau o'r blaen nac ar ol hynny. Yr oeddwn yn tebygu ar y pryd fod fy nghyfansoddiad oll yn ymddatod gan rym y swyn a'r beroriaeth. Ond ni bu o hir barhad, yn ol fy meddwl, ond gan imi braidd golli arnaf fy hun, nis gallaf farnu yn gywir am ei barhad. Beth bynnag, aethum i'r drws; ond erbyn hynny yr oedd yr adsain bron a myned o'm clyw yng nghyfeiriad Llanfrothen. Ymhen ennyd daeth fy rhieni gartref. Yn y man, adroddais fy ngweledigaeth wrthynt. Ac ebe un ohonynt yn y fan, 'Wel, yn wir, fe ddaw y diwygiad i Nantmor.' Ac fe ddaeth, ac yr oedd yr hyn a glywais yn rhagarwydd o'i ddyfodiad. Trannoeth yr oedd ychydig gyfnewidiad yn y moddion, yr oedfa ganol dydd yn y pentref, ac yn y Tylyrni y nos. Cyrhaeddodd Edward Jones [Williams ydoedd: "ni wyddis ddim am dano heblaw mai pregethwr oedd," ebe Biographical Dictionary Joseph Evans] Llangwyryfon o Benrhyn yn lled hwyr. Daeth David Jones Beddgelert, hefyd, o Ysgoldy Llanfrothen. Dechreuodd ef yr oedfa. Adroddai wedyn ei bod yn dywyll fel y fagddu arno hyd ganol y weddi, pan y daeth torf o'r pentref at y tŷ dan ganu. Ar hyn torrodd y wawr ar y gweddiwr, ac yr oedd fel pe buasai'r nefoedd yn agoryd ac yn tywallt uwch ei ben. Cymerodd Edward Jones [?] ei destyn, "I agoryd eu llygaid, ac i'w troi o dywyllwch i oleuni." Yr oedd swn crac yn yr oedfa, ond heb dorri eto. Yr oedd llanc ieuanc, yn gwasanaethu yn agos, wedi gwahodd nifer o bobl ieuainc o Lanfrothen i'r oedfa gydag ef, er mwyn cael sport. Yr oedd y llanc hwn wedi symud ymlaen yn ystod y bregeth o'r pen arall i'r ystafell, nes bod yn ymyl y pregethwr, yn grynedig ac yn wylo. Ar hynny torrodd eraill i wylo, a rhai i waeddi allan. Tor- rodd rhai o'r hen chwiorydd i waeddi, 'Mawr allu Duw yw hwn!' Dyma ddechreu'r diwygiad yn Nantmor. Y Saboth nesaf yr oedd gan William Roberts Clynnog bregeth ar, 'Yr oedd gan ryw wr ddau fab,' yn llawn o addysgiadau a chymhwysiadau effeithiol. Richard Williams Brynengan oedd yma y Saboth wedi hynny ar y geiriau, 'Trwy ffydd, Noe, wedi ei rybuddio gan Dduw am y pethau nis gwelsid eto, gyda pharchedig ofn a ddarparodd Arch i gadw ei dŷ.' Wrth sôn am y perygl o golli'r adeg i fyned i mewn i'r Arch, yr oedd y llewyrch yn dod, a Richard yn dechre ymwyro ar dde ac aswy, ac weithiau ymlaen ac weithiau yn ol, gan gau ei lygaid a gwneud cuchiau, fel pe buasai mewn gwewyr i esgor ar fynydd. O'r diwedd, fe waeddodd gyda nerth, 'Mi ddoi dithau i ymofyn am Arch toc! Ond cofia y bydd hi'n rhy ddiweddar pan y daw hi i ddechre bwrw a'r ceunentydd i ddechre llifo.' Ar hyn rhoes gwr oedd yn gwrando yn agos i'r tân floedd fawr,— Be' ydi hyn, bobol? be' ydi hyn, bobol?' a rhoes naid neu ddwy nes oedd yn y pen arall i'r tŷ. A rhoes floedd drachefn, Oho! mi gwelaf o rwan'; yna fe droes yn ei ol i'r fan lle safai o'r blaen, a dechreuodd weddio fel y medrai. Erbyn hyn yr oedd wedi myned yn gynnwrf drwy'r tŷ, rhai yn wylo, rhai yn gweiddi, eraill yn gweddïo. Parhaodd y gwaeddi ysbaid maith, ac yr oedd yno amryw wedi eu dwysbigo. Bu'r oedfa hon yn rhyw oedfa o aredig anghyffredin o ddwfn ar yr ardal. [Y mae Mr. David Pritchard yn adrodd Robert Anwyl yn rhoi hanes ei argyhoeddiad, ar ol ŵyr iddo. Yn ol yr adroddiad hwnnw yr oedd yr oedfa yn y Clogwyn. Eithr fe sicrha Carneddog na bu pregethu yn y Clogwyn o gwbl, ac mai yn y Tylyrni y rhowd pregeth Arch Noah. "Mewn pregeth yn y Clogwyn y cefais i'r proc, nad anghofiaf fyth mohono. Lladdodd hwnnw fi, os darfu dim erioed fy lladd i. Byddwn yn mynd efo'r bobl ar draws ac ar hyd i'r moddion cyn hynny, ond yr oeddwn mor ddiddeall ac mor galed a'r anifail, hyd yr adeg honno yn y Clogwyn. Yr hen Richard Williams Brynengan oedd yno yn pregethu. Soniai am y mynediad i'r Arch, a'r drws yn cau ar Noah a'i deulu, ac wrth gau arnynt hwy yr oedd Duw yn cau pawb arall allan. "Ha, wrandawyr anghrediniol, dyma hi wedi dod i'r pen arnynt: y cynnyg olaf am byth wedi ei roddi iddynt, a hwythau wedi ei wrthod gyda gwawd. Ond yn awr, wele Dduw yn gwrthod,—a hwythau yn galw pan y mae wedi mynd yn rhy ddiweddar !" Wyddwn i ddim ble 'roeddwn i'n sefyll, gan ofn y cau allan. 'Roeddwn i bron methu cael fy ngwynt. Mi fum am rai dyddiau â dim gwawr o un man. Cyn pen hir, mi eis i'r Tylyrni i glywed rhyw ddyn hynod o Ddolyddelen (John Jones Talsarn wedi hynny), oedd yn dechre pregethu yr adeg honno. 'Roedd hwnnw fel angel, os gwn i be' ydi angel. Dyna oedd ganddo fo, y gobaith da drwy ras, ac ni chlywais i ddim mo'r fath beth gan neb, na chynt na chwedyn."] Ymhen rhyw dair neu bedair wythnos yr oeddynt yn dechre dylifo i'r seiat. A Gwyl Fair bwriais innau fy nghoelbren yn eu plith, ac yr oeddwn yn cyflawni'r nifer o 140 mewn chwe mis. Erbyn dechreu'r haf yr oedd ugeiniau yn rhagor wedi dod i'r eglwysi, a pharhaodd rhai i ddod am ddwy neu dair blynedd. Dywedir ddarfod oddeutu 240 ynghorff y blynyddoedd hyn ymuno â'r eglwys yn y pentref. Ni bu cymaint a hynny ar unwaith yn yr eglwys. Erbyn hyn yr oedd y dychweledigion, lawer o honynt, wedi ymadael o gymdogaeth Sinai, a gwersyllu'n nes i Galfaria. Yr oedd y gweiddi wedi troi yn orfoledd. Yr haf yma bu oddeutu 60 ohonom yng Nghymanfa'r Bala. Yr oedd llawer o edrych arnom, ac o ymwthio o'n cwmpas, a chroeso fwy na mwy i'w gael yn y Bala, ac wrth fyned a dychwelyd. Bu lliaws ohonom yn myned i'r Bala am flynyddoedd, a gwleddoedd heb eu hail a gawsom lawer pryd. Hawdd oedd ennyn y tân yr adeg yma. Un diwmod yr oedd dau yn dyfod mewn trol o Wynant, a thorrodd yn orfoledd arnynt. Buont yn canu ac yn neidio yn y drol am amryw filltiroedd, a'r ddau anifail yn cerdded mor bwyllog o'r blaen a buchod Bethsemes gynt. [Mab a merch oeddynt, wedi dod bedair milltir o ffordd. Wedi dechre ymddiddan, torasant ymhen ennyd mewn gorfoledd. Cyfarfu John Jones â hwy, a dywed eu bod yn parhau mewn gorfoledd hyd nes cyrraedd y pentref. Dywed Mr. Henry Hughes mai Richard Williams Erw suran wedi hynny, oedd y gwr ieuanc, ac y daeth yn flaenor enwog yn Horeb, Prenteg, ac yn dad i Mr. Richard Williams Bod y gadle, blaenor yn Rhyd y clafdy, Lleyn. Sonia Robert Ellis am ferch ieuanc brydweddol neilltuol, a gymerai'r diwygiad yn ysgafn, pan yn y fuches yn godro yn torri allan i waeddi dros y nant dan argyhoeddiad meddwl. Dywed y troes hynny yn wir ddychweliad iddi, ac y cofir am ei sirioldeb yn gweini ar yr achos goreu. Dywed Mr. Henry Hughes mai Alice Gruffydd, merch y Bwlch ydoedd, a gwraig Hafod llan ar ol hynny, a nain o du ei mam i briod Plenydd.] Buwyd yn canu ac yn neidio'n ddidor mewn claddedigaeth, a'r offeiriad fel wedi dyrysu yn y swn. O barth y canu yn yr awyr. Ar ryw noswaith daeth côr ardderchog i Wynant, yn gyfagos i Hafod y llan, lle'r oedd y diwygiad wedi dechre. Dechreuasant tua 10 ddechreunos a pharhausant hyd ddau y bore. Adroddodd y gwr fu yn eu gwrando wrthyf, pan y clywodd hwynt yn dechre iddo roi ei bwys ar y clawdd, a phan orffenasant iddo gychwyn adref, gan dybied iddo wrando arnynt tua chwarter awr; ond erbyn myned adref yr oedd yn dri ar y bore. Tybiai iddo golli arno'i hun gan bereidd-dra a nefoleidd-dra'r sain. Yr ydoedd yn wr nas gellir ameu ei eirwiredd. Fel yr oedd y diwygiad yn symud, yr oedd y canu yn gyffelyb: clywid ef oddeutu'r pentref, ac fel y crybwyllais yn Nantmor. [Dywed John Jones fod amryw dystion syml a geirwir i'r canu hwn, a'u clywsant amryw weithiau, a rhai ohonynt am oriau ynghyd]. Gallaswn adrodd llawer o barth y gweddïo. Yr oedd yn ddibaid, a phob amser ac ym mhob man, ac yn daer. Ei gysegroedd oedd beudai, corlannau, llwyni coed, ochr ffordd, ochr deisiau mawn, ceunentydd, glan afon, bol clawdd. Nid oes braidd lanerch nad oes colofn eneiniedig yn sefyll arni. Rhoes yr ymwelydd rhyfedd yma ysigfa i anuwioldeb y fath na chododd ef byth ei ben i'r fath raddau. Aeth yr arferion y soniwyd am danynt i lawr, fel nad oes gan y rhan fwyaf bellach gymaint a chof am danynt. Y mae i'w adrodd hefyd yr elai pobl yr ardaloedd i gynnal cyfarfodydd gweddi mewn gwahanol leoedd, pobl Gwynant i flaenau Llanberis, y pentref i'r Pennant, a Nantmor i Lanfrothen, a bu hynny yn foddion i gychwyn achos yn y lleoedd hynny. [Gwnel John Jones y sylwadau yma: "Fe barhaodd yr adfywiad o dair i bedair blynedd yn neilltuol o rymus a siriol. Yn raddol fe laesodd yr awelon. Parodd hynny i lawer ymofyn yn fwy diwyd am gyfaill a lŷn yn well na brawd. Dychwelodd rhai fel Orpah at eu duwiau eu hunain, ond nid llawer hyd yma. Bu farw rai genethod ieuainc heb ymadael â'r cariad cyntaf. Amryw o'r hen gyfeillion a ymadawodd â'r byd â'r haul yn llewyrchu yn eglur arnynt, yr hyn oedd yn llawer o rym a chalondid i'r cyfeillion ieuainc a hen a adawsant ar eu hol. Ond nid wyf yn gallu dangos ond ychydig mewn cymhariaeth o'r peth fel yr ymddanghosodd yn ei rymusterau y pryd hwnnw. Mae'n dda gennyf allu dweyd fod golwg siriol ar y gwaith hyd yma, ac arwyddion fod yr Arglwydd yn ei ddwyn ymlaen, ac yn parhau i roddi llewyrch ei wyneb."]

"Gwelwyd angen am leoedd mwy cyfleus i addoli. [Edrycher hanes Bethania, Rhyd-ddu a Pheniel]. Erbyn i'r heidiau hyn godi o'r hen gwch yr oedd eglwys y pentref wedi ei hysbeilio yn dost, wedi dod i lawr yn agos gant o nifer. [Helaethwyd ac adgyweiriwyd capel y pentref yn 1826. Buwyd 27 mlynedd yn talu'r ddyled. Casglwyd £50 yn 1853 i'w llwyr ddileu. Bu'r adgyweiriad diweddaf arno yn 1858, a'r draul ar y capel a'r tri thŷ dros £1100. Cafwyd prydles y pryd hwn ar y capel, a chwaneg o dir er helaethu'r capel, a chafwyd y tŷ yn eiddo'r capel, y cwbl am ardreth o £1 i'r tirfeddiannydd. (Cofnodion y Cyfarfod Misol am Mai 10, 1858). Y ddyled yn 1859, £800. Erbyn 1860, £850. Yr oedd lle i 400 ynddo, a gosodid 330. Cliriwyd y ddyled erbyn 1881. Yn niwedd mis Hydref y cafwyd Jiwbili gollyngdod, pryd y pregethwyd ynglyn â'r amgylchiad gan y Parchn. W. Elias Williams Penygroes, Hugh Jones Nerpwl a Joseph Thomas Carno. Yr oeddid wedi cael prydles arno yn 1857 gan Syr R. Bulkeley am 99 mlynedd, ar ardreth o £1 yn y flwyddyn, ar yr amod 'ei fod i'w ddefnyddio fel lle addoliad a dim arall.' Awst 5, 1893, mewn arwerthiant ar y stât, prynnwyd ef am £40. Yn 1898 adeiladwyd tŷ gweinidog am £600. Yn niwedd 1900 yr oedd yr adeiladau yn rhydd oddiwrth ddyled].

"Ymadawodd y blaenoriaid, William Williams a Rhys Williams, i Fethania yn 1825 [1822], ar sefydliad yr eglwys yno. Ond yr oedd yn dymor hapus ar yr achos, yn gymaint a bod John Jones wedi ennill y safle o fod yn drefnydd cyhoeddiadau y pregethwyr teithiol. Cawsom hufen doniau de a gogledd am oddeutu 30 mlynedd. Bu Beddgelert cyn y diwygiad am 10 mlynedd heb un gwr dieithr o'r de yma yn pregethu. Hefyd, yr oedd bod gyn lleied o waith disgyblu a thorri allan yn peri dedwyddwch i'r eglwys. Oddeutu 1833-4 yr oedd dieithriaid yn dechre casglu yma i'r gweithydd, a meddwdod yn codi ei ben. Ond daeth dirwest allan yn 1836, a rhoes iddo ergyd farwol braidd, am y pryd.

Ymhen tua chwe blynedd ar ol y diwygiad dirwestol cafwyd diwygiad arall. Chwanegwyd tua 50 at yr eglwys ar y pryd. Trodd y dychweledigion allan yn dda yn ddieithriad, am a wn. Rhoes y diwygiad yma gyfnerthiad mawr i'r eglwys yn y pentref. Daeth y nifer yn ol i 160.

"Tua phum neu chwe blynedd yn ol cawsom y trydydd diwygiad. [Y rhan yma yn cael ei sgrifennu tua 1864-5. Eir heibio i ddiwygiad 1832. Tebyg na theimlwyd dim amlwg iawn yma y pryd hwnnw. Dichon fod adnoddau teimlad a nwyd wedi eu dihysbyddu yn rhy lwyr yn y diwygiad blaenorol i ganiatau hynny.] Chwanegodd hwn nifer yr eglwys i 200 neu ragor yn y pentref. [Rhif yr eglwys yn 1853, 100; yn 1856, 130; yn 1858, 140; yn 1860, 190; yn 1862, 200; yn 1866, 200]. Nid oedd yr yn o'r diwygiadau yr un fath. Yr oedd y gweithrediadau yn wahanol, a'r effeithiau yn wahanol i gryn raddau. [Nos Fawrth, Hydref 11, 1859, y daeth Dafydd Morgan i Feddgelert. Yr oedd yn yr ardal amaethwr anuwiol, a arferai lygadrythu yn hyf ar y pregethwyr yn y pulpud, ac a ymffrostiai yn y dafarn nad oedd yr un ohonynt wedi gallu dal ei drem. Pan sicrhawyd ef y cyfarfyddai â'i feistr yn y diwygiwr, chwarddai yn ddiystyrllyd. Fel arfer, yr oedd llygaid Dafydd Morgan yn cyniweirio drwy'r dorf, ac yn y man sefydlodd ei lygad ar eiddo'r gwatworwr. Craffai lliaws ar yr ornest. Yr oedd llygad y naill yn dynn yn llygad y llall. Disgynnodd lygad yr amaethwr, ond am eiliad yn unig, a chododd ef drachefn. Ond methu ganddo ymwroli eilwaith. Crynnodd ymhob gewyn, troes yn welw, dodes ei dalcen ar astell y sêt, ac felly yr eisteddodd hyd ddiwedd yr oedfa. Y testyn, "Ymddatod oddiwrth rwymau dy wddf, ti gaethferch Seion." Arhosodd amryw i barhau. Yr oedd Dafydd Morgan yma eto nos Sadwrn, Tachwedd 12, wedi bod ym Methania y prynhawn. Arhosodd amryw eto, un bachgen yn ei ddiod y profwyd yn ddilynol iddo gael gwir argyhoeddiad. (Cofiant Dafydd Morgan t. 459—64). Dywed Mr. Pyrs Roberts y bu llawer o ddychweledigion '59 farw â'u coronau ar eu pennau.]

"Yr wyf o'r blaen wedi sylwi ar Henry Tomos a William Sion. Am William Williams Hafod rhisgl [y Ffridd cyn hynny], dyn canolig o daldra ydoedd, cadarn, a chryfach na'r cyffredin. Fel crefyddwr yr ydoedd yn drwyadl. O ran ei ddoniau a'i gyrhaeddiadau nid ydoedd ond bychan. Y goron fawr oedd arno ydoedd ffyddlondeb a charedigrwydd. Byddai'n barod bob amser i wneud a allai, a gallodd lawer, yn enwedig gyda rhannau allanol y gwaith; a byddai'n barod bob amser i roi bob help gyda'r ysbrydol. Fel y dywedodd un—

I'r rhai clwyfus archolledig
Dangosai Feddyg yn y fan.

Yn gymaint ag iddo ymuno â chrefydd yn 26 oed, ac iddo broffesu am 41 mlynedd, cafodd gyfleustra i wneud llawer o ddaioni pan oedd yr achos yn ei ddechreuad bychan. Rhys Williams oedd ddyn cadarn o gorffolaeth, ychydig dalach na William Williams. Yr oedd yn nodedig fel llywodraethwr yn mhob cylch, yn y vestry, yn y teulu, yn yr eglwys. Pan yn diarddel, wedi i'r eglwys adrodd ei barn, Rhys Williams bob amser a fyddai raid selio'r dynged, ac un gair o'i enau fyddai'n ddigon. Yr oedd Rhys Williams yn gryn ddarllenwr, a thrwy hynny yn lled egwyddorol a chadarn yn yr athrawiaeth; ond yr oedd yn ddarostyngedig i ryw ddistawrwydd yn gyffredin. Yn y cyfarfodydd neilltuol anhawdd fyddai cael ganddo godi i ddweyd gair; ond pan godai byddem bob amser â'n pigau yn agored, oherwydd gwyddem y caem rywbeth gwerth ei ddal a'i gadw. Gofynais iddo unwaith pam yr oedd mor ddistaw? a dywedai yntau ddarfod iddo yn rhywfodd syrthio i'r dull hwnnw, ac i'r Ysbryd Glan, yn ol ei farn ef, gymeryd y pethau oddiarno yn gerydd arno, nes ei fod heb ddim i'w ddweyd. Ond er ei ddistawrwydd bu o wasanaeth mawr i'r achos yn ei holl rannau. Bu'n proffesu, ac yn swyddog, cyhyd, os nad hwy, na William Williams. Cyd-deithiodd y ddau lawer, ymhell ac agos, i gyfarfodydd misol, ar eu traul eu hunain am yr holl flynyddoedd a nodais. Bu Rhys Williams farw yn ystod rhyw lygeidyn siriol o ddiwygiad a dorrodd allan yng Ngwynant. Pan adroddodd ei fab iddo fod y diwygiad wedi torri allan, ebe fe,—' Yr awron, Arglwydd, y gollyngi dy was, ddeuda i, Wil.' A'i ollwng a gadd. [Edrycher Bethania.]

"Yr oedd yn Robert Roberts o'r Clogwyn, Nantmor, ragoriaethau na bu yn neb o'r blaenoriaid o'i flaen nac ar ei ol. Dygwyd ef i fyny yn fachgennyn, ar ol marw ei rieni, gyda chwaer iddo yn Llanberis. Dilynodd yr alwedigaeth o fwngloddiwr. Dyma'r pryd y tueddwyd ef at grefydd. Wrth fod Mr. Morgans, ei frawd ynghyfraith, yn berson, cafodd gyfle da yn ei lyfrgell ef i gasglu gwybodaeth. Ymbriododd â Jane Prichard, merch Richard Edmwnd, un o'r benywod duwiolaf a adnabum. Aeth i fyw i'r Clogwyn. Pan symudodd ef yma yr oedd ieuenctid yr ardal yn dra rhyfygus. Ond rhoddes yr Arglwydd ryw eneiniad anghyffredin ar Robert Roberts, nes yr aeth yn ofn i weithredwyr drwg. Efe a gychwynodd yr ysgol Sabothol yn yr ardal; a rhyfyg o'r mwyaf fuasai i neb arall anturio dwyn trefn ar y fath giwed. Ond yr oedd ei bresenoldeb ef yn ddigon. Pan glywai am rai wedi bod yn cynnal chwareuaeth ar y Saboth, elai atynt yn y fan, ac ni byddai raid iddo ond ymddangos na byddai pawb ar ffo. Ryw Saboth yr oedd lliaws o'r llanciau wedi ymgasglu i lanerch go ddirgelaidd i arfer eu campau. Gwybu yntau am danynt, a thuag atynt yr aeth yn y fan. Yr oedd yn eu hymyl cyn iddynt ei ganfod, ond y foment y canfuwyd ef, dyna bawb yn cymeryd y sodlau, fel pe buasai lew o'r goedwig ar eu hol. Aeth rhai i feudy cyfagos, ac ymguddiasant dan y gwellt. Aeth yntau drwy'r beudy, gan bwnio â'i ffon a mwmial wrtho'i hun, 'Pa le y mae'r creaduriaid anuwiol sy'n torri gorchymyn Duw fel hyn.' Cyffyrddodd â rhai ohonynt heb gymeryd arno. Yr oedd y garfan arall wedi ffoi i goedwig gerllaw, a llechasant yno nes oedd efe'n ddigon pell. Nid wyf yn gwybod i rai mewn dim oed ymgasglu at ei gilydd ar ol y Saboth hwnnw. Dichon i blantos wneud hynny yn o ddirgelaidd. Ar Saboth arall yr oedd lliaws yn chware pêl ar bared y llan. Aeth gwr y gwesty o'r herwydd at un o'r blaenoriaid. Gwrthod gwrando ar hwnnw. Anfonodd gwr y gwesty gennad arall, yr hyn a barai iddynt hwythau chwerwi mwy. Ffrommodd gwr y gwesty, a dywedai wrthynt y byddai Robert y Clogwyn yn dod at yr oedfa un, ac y danfonai ef atynt. Pan gyfeiriodd Robert tuag atynt, yr oeddynt yn ffoi ymaith, rhai i bob cyfeiriad, cyn dynesu ohono atynt, fel na chafodd gymaint a'u cyfarch. Yr oedd neithior yn cael ei gynnal yn y gwesty un Saboth. Ond ebe un o'r cwmni, 'Lads, mi fydd yn dywydd arnom toc. Mi fydd Robert y Clogwyn yn dod heibio i'r bregeth, ac os gwel ni bydd yma yn y fan.' Tarawodd hyn y cwmni bron â llesmair. Dodwyd dau wyliedydd, un ym mhob ffenestr. Ymhen ennyd dyma Robert heibio. Syrthiodd pawb ar ei ddeulin a thalcen, ac nid oedd cymaint a rhwnc anadl i'w glywed. Ond wedi ei fyned heibio draw, ymuniawnodd pawb. Ofnid wedyn rhag dywedyd o rywun wrtho. Penderfynwyd nad oedd diogelwch gwell na myned i'r oedfa. Felly aethant oddieithr dau. Ni bu fawr drefn ar y neithior er i rai ddychwelyd yn ol i'r gwesty. Bu dylanwad Robert Roberts yn foddion i dynnu i lawr arferion oedd yn dal eu tir hyd hynny. Yr oedd nodwedd arall ynddo, sef rhywbeth a barai i bawb ei hoffi. Ni feiddiai y llanciau gwylltaf ddweyd gair gwael am dano. Yr oedd yn gristion ym mhob man ac ym mhob cylch. Casglodd lawer o wybodaeth drwy ddyfal ddarllen. Heblaw diwinyddiaeth, yr oedd ganddo ryw gymaint o wybodaeth mewn seryddiaeth a daearyddiaeth a physigwriaeth. Dyn lled fyr a gwargrwm ydoedd, a lled wael ei iechyd ers blynyddau. Arferai ddweyd mai ar golofnau yr oedd ei babell yn sefyll. Cwympodd yn 45 oed. [Ganwyd yn 1760, yn ol yr ysgrif o Beniel; a bu farw yn 1814, yn ol yr ysgrif oddiyma. Os yw'r naill a'r llall yn gywir, buasai'n 54 oed. Gallesid tybio fod 1814 yn debycach i gywir fel blwyddyn ei farwolaeth na naw mlynedd yn gynt. Yma y mae Carneddog yn dyfynnu o'r cofnodlyfr plwyfol: Robert Roberts Clogwyn, buried Decr. 22nd., 1814. Dywed hefyd mai 54 oedd ei oedran.] Gallesid meddwl ei fod wedi myned i orffwys ar ganol ei yrfa; eto yr oedd wedi gorffen ei brif waith, sef torri adwyau yn yr anialwch a gwneud ffordd i gerbyd Brenin Seion. Er marw, yr oedd ol ei draed ym mhob man lle cerddodd. Yr wyf yn cofio i bac o lanciau, ar ol ei farw, benderfynu ryw Saboth ail ddechre y chware. Awd yno, ond rywfodd ni ddeuai pethau fel y disgwyl. Yr oedd drain yn eu cydwybodau. O'r diwedd safasant, gan gyfaddef i'w gilydd fod rhyw achos nad elai y chware ymlaen. Penderfynwyd ei roi i fyny am byth, ac felly fu: ni chynygiwyd gyflawni y cyfryw beth yn yr ardal o hynny hyd heddyw. (Edrycher Peniel).

"Ni sylwaf yn rhagor ar y swyddogion, ond dywedaf ychydig am bedwar brawd, sef meibion Gruffydd Morris ac Elinor Edmwnd o'r Carneddi, Nantmor. [Bu Hywel Griffith yn aelod yn eglwys y pentref dros doreth ei oes, neu aelodau oedd y tri, Robert, Richard a Hywel ym Mheniel ar y cyntaf. Dodir y sylwadau arnynt yma, er mwyn i'r ysgrif fod yn gyfan gyda'i gilydd, oddigerth y rhannau ohoni yn yr Arweiniad.] Yr oedd y brodyr hyn yn hynod debyg i'w gilydd, yn un peth yn eu maintioli, bob un yn bum troedfedd a deng modfedd a hanner. Yr oeddynt, hefyd, yn eu gwynepryd yn hynod debyg, sef gwynepryd lled dywyll, fel yr adnabyddid y naill yn hawdd oddiwrth y llall. Hefyd yr oeddynt yn debyg i'w gilydd yn eu harferion: ni bu un ohonynt un amser yn cnoi nac yn llosgi ffwgws. Hefyd ni wyddis i'r un ohonynt drwy gydol ei oes fod yn feddw, er byw mewn oes yr oedd llawer o feddwi ynddi. Yn eu moesau, hefyd, yr oeddynt yn debyg: ni wyddis i lw na rheg syrthio dros eu genau ysbaid eu bywyd. Yr oeddynt yn tebygu mewn tymer, sef yn bwyllog ac araf; ond os cyffroid hwy yr oedd y pedwar yn lled wyllt, ond nid yn eithafol a ffôl felly, yr un ohonynt. Yr oeddynt yn tynnu at y naill y llall yn hyd eu hoes. A'r un modd am eu crefydd, ac yma sylwaf ar bob un ohonynt yn bersonol. Morris Gruffydd oedd yr hynaf. Yr oedd tuedd ynddo yn blentyn i ymwasgu at grefyddwyr. Bu am ychydig yn ddisgybl i Henry Tomos, ond wedi troi allan i wasanaethu'r byd fe gollodd ei gychwyniad. Ymhen ennyd rhoes heibio wasanaeth, a throes i gadw ysgol. Meddai ar dalent neilltuol i dderbyn dysg a rhoi dysg. Y lleoedd yr ymsefydlodd gyda'r ysgol oedd Llanrug a Llanllechid. Y pryd y dechreuodd gyda'r ysgol, ymunodd â'r eglwys sefydledig, a glynodd wrthi hyd y diwedd, ond gwrandawai ar y Methodistiaid bob cyfle a gaffai. Bum yn ymddiddan âg e yn ei salwch olaf. Yr oedd yn hawdd deall iddo gael profiad helaeth o grefydd. Bu farw yn 82 mlwydd oed. Y nesaf ydyw Robert Gruffydd. Ymunodd yntau â chrefydd yn llanc ieuanc, ond daeth cwmwl drosto am ysbaid lled faith; ond yn y diwygiad mawr cafodd ymweliad drachefn, ac yr oedd braidd yn fwy hynod na neb yn yr ardal, a pharhaodd ei effeithiau i raddau tra bu, ysbaid deng mlynedd ar hugain. Bob amser ar ei liniau, ymdorrai ei ysbryd fel bomb-shell, a lluchiai dân i bob cyfeiriad. Ond daeth ei dymor yntau i fyny: bu farw ymhen y tair blynedd ar ol ei frawd, ac yn yr un oedran, sef 82. Yr oedd ei ddau frawd iau nag ef, sef Richard a Hywel gydag ef y noswaith y bu farw, ac wedi'r amgylchiad, ebe Hywel wrth Richard, 'Wel, Dic, rhaid i tithau ymorol am gael dy bac yn barod. Ti sydd i fynd nesaf: dyma Morris a Robin wedi mynd! Ac megys y dywedodd, felly y bu. Y nesaf, gan hynny, ydyw Richard, y trydydd brawd [sef tad Gruffydd Prisiart ei hun]. Ymunodd yntau â chrefydd pan yn llanc: ymwelodd yr Arglwydd âg e drwy glefyd trwm. Ac yn nyfnder ei salwch ryw ddiwrnod dechreuodd weddïo, a pharhaodd i weddïo tra bu'n sâl. Addawai pan wellhae yr ae yntau i Dy'n y coed i'r seiat. Ac felly fu: yr hyn a addunedodd yn ei gystudd, fe'i talodd. O hynny allan, ymroes i fywyd a llafur crefydd. Yr oedd yn dra hyddysg yn y Beibl, yn enwedig yr Hen Destament. Yr oedd fel oracl gan ei gyd-ardalwyr. Popeth mawr a phwysig, ato ef y deuid i'w benderfynu. Yr oedd yn gofiadur nodedig: adroddai bregeth yn lled gyflawn. Ond yn ei wythnosau a'i ddyddiau olaf yr oedd ei gof ryfeddaf. Dywedodd wrthyf ar un o'i ddyddiau olaf, fod pob pennill ac adnod y bu ei lygaid arnynt yn ystod ei fywyd yn dylifo i'w feddwl, ac nas gwyddai o ba le y deuent, a hynny nos a dydd, ac nas gallai adrodd y cysur a ddeilliai i'w feddwl oddiwrthynt. Pan wedi ei gaethiwo gartref gan henaint, cymhellodd y cyfeillion eu hunain arno i gynnal cyfarfod gweddi gydag ef. Atebodd yntau nad oedd waeth iddynt heb boeni, fod ganddo ef ddigon, y cymerai ef ei siawns ar yr hyn oedd ganddo. Ac yn ol pob tebyg, yr oedd ganddo ddigon. Bu farw, Ionawr 1855, yn 86 oed, wedi proffesu yn ddifwlch dros 60 mlynedd. Ei eiriau olaf a ddeallais oedd: 'Mae'r Tad yn cadw; mae'r Mab yn cadw; mae'r Ysbryd Glan yn cadw; mae pawb yn cadw.' Yr olaf o'r brodyr yw Hywel. Ymunodd yntau â chrefydd yn fachgennyn lled ieuanc. Bu am ychydig yn ddisgybl i Henry Tomos, a dichon mai y pryd hwnnw y dechreuodd yr argraffiadau crefyddol ar ei feddwl. Ond beth bynnag am y pryd, ymaflodd mewn crefydd o ddifrif, a llafuriodd yn ol ei fanteision yn weddol dda. O ran ei ddawn, yr oedd ar ei ben ei hun, yn enwedig ei ddawn gweddi. Byddai ei weddiau fel pe buasent wedi eu hastudio. Yn gyffredin, pa beth bynnag yr ymaflai ynddo ar ddechreu'r weddi, hynny a ddilynai braidd nes gorffen. Os cyfiawnhad, neu sancteiddhad, neu berson yr Arglwydd Iesu, neu ynte yr angylion, neu pa bwnc bynnag a fyddai, dyna fyddai ganddo rhagllaw gydag ychydig eithriad am y tro. Yr oedd ei ddawn a'i ddull yn hynod briodol iddo ef, ond ni wasanaethai ineb arall. Yn gymaint a bod ei ddull y fath, ac oblegid yr eneiniad a fyddai yn gyffredin ar ei ysbryd, yr oedd pawb yn hoff o'i wrando. Gweddiai ar adegau neilltuol yn hynod ddorus, megys ar wylnosau, dyddiau diolchgarwch, dyddiau ympryd, neu amgylchiad arbennig arall. Er enghraifft, y dydd ympryd a gyhoeddodd y llywodraeth yn achos y rhyfel yn y Crimea. Nodwyd ef i ddiweddu un o'r cyfarfodydd, a dechreuodd yn ei ddull arferol, fel yma: 'Arglwydd mawr! dyma ni wedi ein galw at waith rhyfedd heddyw. Dyma ni wedi ein galw, nid yn unig i weddïo, ond i ymprydio hefyd. Ac yr ydym yn disgwyl y bydd llawer iawn o ffrwyth ar heddyw—y bydd llawer iawn o bethau yn cael eu gwneud. Yr ydym yn disgwyl y bydd llawer iawn o bladuriau a sychod yn cael eu gwneud heddyw; ac y bydd heddyw yn ddydd i roi terfyn ar y rhyfel gwaedlyd; ac y bydd yr arfau a ddefnyddir i ladd dynion yn cael eu troi i drin y ddaear, y cleddyf a'r canans mawr yna y byddant yn cael eu rhoi heibio am byth, os nad oes eu heisieu at y byd yma. Feallai fod y byd yma yn y fath sefyllfa ag y rhaid iti gymeryd y cleddyf ato, ac na wna un moddion arall mo'r tro. Os felly, cymer y cleddyf ato fo ynte! Er iddo ladd miloedd, lladded filoedd eto. Gwell i filoedd eto gael eu lladd ganddo, os hynny raid, ac os na wna moddion eraill y tro i ddiwygio'r byd. Y mae'r byd yma yn awr yn y fath gyflwr, fel na chaiff yr Efengyl mo'i ffordd—y mae tywysog llywodraeth yr awyr, llywodraethwr mawr y byd yma, ar ffordd yr Efengyl. Yr wyt wedi rhoi'r byd yma i'th Fab; ac y mae'n rhaid i'r Efengyl fyned dros y byd yma i gyd. Gan hynny, yn hytrach na bod rhwystr ar ffordd yr Efengyl, cymer y cleddyf at y byd: gwell iddo ladd miloedd eto, na bod yr holl genhedloedd yn myned i dragwyddoldeb yn amharod, yn filoedd ar filoedd, oesoedd ar ol oesoedd, yn ddidor.' Dyna fel y dechreuodd. Dyna'r fath oedd Hywel fel gweddiwr. Yn ei ddull ymddiddanol yr oedd yn lled gyffelyb. Byddai'n gosod pob peth bron allan drwy ryw ddrychfeddyliau dychmygol a phell, fel yr arswydid weithiau rhag iddo syrthio i gyfeiliornad, yn enwedig pan fyddai'n holi'r ysgol. Byddai'n hynod bob amser ar Berson yr Arglwydd Iesu. Yr oedd wedi darllen gwaith y Dr. Owen chwe gwaith drosodd [ar Berson Crist, y mae'n debyg]. Yr oedd wedi berwi cymaint o ran ei ysbryd yn ei waith ef, fel y byddai ymddiddan am y Gwrthrych Mawr yn hyfrydwch o'r mwyaf ganddo, a chan eraill wrth wrando arno. Gofynnodd gweinidog iddo unwaith yn nhŷ'r capel, beth oedd ei oedran. Yntau a atebodd mai 83. Yna dechreuodd ddisgrifio'r sefyllfa henafol: 'Yr wyf wedi mynd ymhell dros y terfyn. Yr wyf yn gweld fy hun mewn rhyw gwm pell ac anial ac anifyr. Ychydig o bobl sy'n preswylio yma. Nid oes yr un dyn na dynes ieuanc o'i fewn, nac ychwaith yn agos i'w gyffiniau. A'r ychydig sydd yma, yr ydym, rai ohonom, yn hanner deillion, eraill yn gwbl ddeillion, eraill yn gloffion, eraill heb fedru symud o'u lle, eraill yn hanner byddar, eraill yn gwbl fyddar, eraill yn sâl, eraill yn marw. Mewn gair, nid oes ond y methiantwch yngafael pawb. Ac o'r herwydd, nis gall y naill fod i'r llall o nemor gysur. Nid oes o'r braidd drwy'r holl fro ond gruddfanau i'w clywed o'r naill ben i'r flwyddyn i'r llall. Nid yw'n bosibl disgrifio'r henaint cyn mynd iddo, nac, yn wir, wedi mynd iddo. Wrth sylwi ar y peth ydwyf, yr wyf braidd yn anghredu imi fod y peth a fum, gan gymaint y cyfnewidiad!' Oherwydd ei ymddyddanion a'i dymer siriol, yr oedd pawb yn dra hoff o'i gymdeithas, y digrefydd fel y crefyddwr, ac, er y byddai ei ymadroddion yn lled ysmala weithiau, eto medrai gadw ar dir digon uchel fel na chollai ddim o'i gymeriad crefyddol un amser. Yr oedd cymhares ei fywyd fel yntau'n hen, ac at ei diwedd yn orweddiog. O'r herwydd byddai ef yn myned o'r neilltu i gysgu, yn ei misoedd olaf hi, er mwyn i'w merch gael lle i wasanaethu arni. Ryw fore, pan ddaeth efe i'w hystafell, dywedodd,-'Dyma lle rwyti heddyw eto, Nani! Yn enw dyn byw, mae rhyw aros, beth ofnadwy, ynoti, neu mi aet oddiyma i rywle bellach! Fore arall dywedai, Wyddosti beth oeddwn i'n wneud cyn dod i lawr yma, Nani ?' 'Na wn i.' 'Darllen Salm dy gladdedigaeth di.' Nid oedd dywediadau o'r fath yn cael un argraff ddrwg ar Nani. Byddai'r ddau yn ymddiddan ynghylch marw mor ddigyffro ag y sonient am fyned i'r capel. O ddiffyg cwsg, yn ei amser diweddaf, byddai drwy gydol y nos yn adrodd penillion neu rannau o'r Beibl neu'n gweddio. Pan gaethiwyd ef i'w wely, ymwelodd brawd âg ef oedd yn flaenor ar y pryd. Dywedodd wrtho,—Wel, yr wyti yn flaenor, ac wedi derbyn llawer o gymhwyster i'r swydd—dawn da, llawer o wybodaeth,' a phethau eraill a enwyd. 'Wel, dyro nhw ar dân yn y capel yna. Llosga nhw yna; y mae nhw wedi mynd dydy nhw'n teimlo dim. Llosga nhw! neu mi ân i dân tragwyddol o ganol y seiat.' Un diwrnod aeth yn ymddiddan rhyngddo a chyfaill ynghylch y nefoedd—beth oedd ei natur, pa le'r oedd, a'r cyffelyb. Tynnodd yntau ei law o dan y dillad, a gosododd hi ar ei ddwyfron, a dywedodd, gan daro ei ddwyfron ddwywaith neu dair, "Dyma lle mai hi! Dyma lle mae hi! Wyddosti beth! pe bae i ryw gythraul fy llusgo i uffern, mi waeddwn, Bendigedig! nes byddai'r cythreuliaid yn chwalu fel gwybed o nghwmpas i!' Bu farw yn niwedd yr un flwyddyn a'i briod yn 85 oed, ac wedi proffesu yn ddifwlch am 70 mlynedd." [Dyma fel y canodd Dewi Arfon i'r ddau:

Gwel Ann a Hywel yma—yn y gro,
Blaenffrwyth gras Duw yma;
Er cof am fardd coeth, doeth, da,
Ei feddfaen fo y Wyddfa.]

Hyd yma y cyrraedd sylwadau Gruffydd Prisiart. Crybwyllwyd mai John Jones Glan Gwynant a ddewiswyd yn flaenor yn lle Robert Roberts, ac felly yn 1814 neu'n lled fuan wedi hynny. Ganwyd ef yn 1777; bu farw Chwefror 10, 1853, yn 76 mlwydd oed. Yn weydd wrth gelfyddyd, fe symudodd yn 15 oed o Drawsfynydd i Gelli yr ynn, yn y plwyf hwn. Gwaith ei wraig gyntaf, Catrin Williams, yn ymuno â'r eglwys yma, a brofwyd yn foddion ei ddychweliad yntau, er mai cyffroi ei elyniaeth a ddarfu'r amgylchiad hwnnw ar y cyntaf. Bu'n ysgrifennydd y Cyfarfod Misol am rai blynyddoedd, a phenodwyd ef yn drefnydd cyhoeddiadau y pregethwyr teithiol. Fel y gwelwyd, sonia Gruffydd Prisiart am y pentref yn mwynhau doniau de a gogledd am 30 mlynedd oblegid y trefniant yma. Bernir iddo fod yn y deheudir tua 30 gwaith ynglyn â'r achos yma. Nid hawdd y diangai pregethwr poblogaidd rhagddo. Diau iddo fod yn foddion drwy'r gwasanaeth yma i godi llawer ar Fethodistiaeth yn y wlad. Tebygir fod ganddo ddawn arbennig i'w swydd. Er hynny, fe ddanghosai fymryn o bartïaeth i'w anwyl Feddgelert. Byddai pregethwr go neilltuol yn cael pregethu yma ar ei daith wrth fyned a dod. Digwyddodd hynny gyda William Morris Cilgerran, a hynny pryd yr oedd lleoedd pwysig yn gorfod myned hebddo o gwbl. Dywed Mr. Pierce Roberts fod yr argraff ar rai yma mai dyna pam y collodd yr ysgrifenyddiaeth, ond chwanega y dichon nad oedd hynny yn gywir. Tra theyrngarol i'r Cyfundeb ydoedd ymhob peth. Pan anogid codi ysgolion dyddiol, ymroes i gael ysgoldy, gan ddisgwyl rhodd oddiwrth y llywodraeth tuag at yr amcan. Bu peth anibendod gyda hynny. Yn y cyfamser, dyma Lord John Russell ar arhosiad yn y Royal Goat Hotel ym Meddgelert. Rhowd yr achos o'i flaen mewn llythyr gan yr athro. Yn ateb i'w alwad ef, aeth John Jones a'r athro ato i'r gwesty. Rhoes £5 iddynt yn rhodd at yr ysgol, ac aeth yno gyda hwy i holi'r plant. Wrth droi ohono ymaith, ymaflodd John Jones yn ei ysgwydd, ac a gyflwynodd iddo bâr o hosannau cochddu'r ddafad, gan ei sicrhau y cawsai hwy'n gynes iawn i'w draed. Dywedodd wrtho, hefyd, ei fod o'r un egwyddorion gwleidyddol ag yntau. Ymhen ysbaid fe ddaeth rhodd o £150 tuag at yr adeilad, ac achubwyd eu pen rhag profedigaeth. Bu'n overseer tlodion y plwyf am flynyddoedd. Dywed John Jones Tremadoc yn y Drysorfa fod ganddo reswm naturiol cryf, a phe buasai wedi cael addysg y buasai'n un anghyffredin. Dywed Mr. Pyrs Roberts mai efe oedd y trefniedydd ymhlith y blaenoriaid, a'i fod yn hyddysg iawn ym manylion y trefniadau a'r rheolau. Cofnodydd gwych ydoedd. Y mae ei lyfr cofrestr Bedyddiadau, perthynol i sir Gaernarvon, yn ddestluswaith. Cynwys tua saith mil o enwau, gan ddechre tuag 1808, a gorffen yn 1838. Ceidwadol ei ysbryd ydoedd, fel yr hen flaenoriaid yn gyffredin, ebe Mr. Pyrs Roberts. Rhydd enghraifft o'r cyfnod pan nad oedd oedfa brynhawn yn y pentref, ondly disgwylid i'r bobl fyned i'r bregeth, naill ai ym Mheniel neu Fethania. Codwyd awydd am wasanaeth yn y pentref, oblegid pellter y ffordd; ond gwrthwynebai yntau hynny hyd nes y trechwyd ef. Am ysbaid, wrth gyhoeddi'r moddion, chwanegai yn swta ar y diwedd y byddai cyfarfod gweddi yn y prynhawn i rai analluog i fyned i'r bregeth. Deuai pawb yn y man i'r cyfarfod gweddi. Ni ragorai mewn tynnu eraill i weithio ; ac yr oedd yn naturiol iddo wneud y gwaith ei hun, heb ystyried bob amser a allai fod rhywun arall a'i cyflawnai hwyrach cystal. John Jones oedd arolygwr yr ysgol, ac efe a drefnai ddechre a diwedd yr ysgol. Rhwng dechre a diwedd elai'n fynych i ymweled â'r hen saint oedd yn analluog i ddilyn y moddion. Crybwyllodd Gruffydd Prisiart am ei wasanaeth neilltuol efo'r canu. Dyma fel y rhydd John Jones Tremadoc hanes y terfyn: "Llesghau yn fawr yr oedd efe y blynyddoedd diweddaf o ran ei gorff, fel nad allai fyned allan ond i'r capel, yn yr hyn y parhaodd hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth. Efe a obeithiodd pan yn marw. Yn ei glefyd diweddaf, galwodd am ei fab, Robert, i ddarllen iddo'r rhan flaenaf o'r bumed bennod at y Rhufeiniaid, hyd y chweched adnod, ac a ddywedodd, 'Dyna sail fy ngobaith.' Claddwyd ef yn barchus ym mynwent Beddgelert gan dyrfa fawr o'i gyfeillion, ei frodyr a'i berthynasau, a phlant yr ysgol yn wylo ar ei ol. Yr oedd un ar ddeg o'i blant yn bresennol, a golwg bywiolaeth gysurus ar bob un o ran gwisg a gwedd." (Drysorfa, 1854, t. 62.) Mewn gwasanaeth cyhoeddus i'r Cyfundeb yn ei dymor yr oedd o flaen holl flaenoriaid y sir; ac mewn awdurdod yn y capel yr oedd o flaen holl flaenoriaid yr eglwys; ond ar amryw ystyriaethau pwysig eraill, yr oedd rhai eraill o flaenoriaid yr eglwys yn myned tuhwnt iddo. Y mae Carneddog yn rhoi ei doddaid beddargraff, o waith Ioan Madoc, ond cred nad ydyw ar ei fedd:

Gwel unig annedd John Jones Glan Gwynant,
Hen flaenor duwiol, o oesol lesiant;
Am waith ei Arglwydd mewn uchel lwyddiant
Bu'n hir ofalu, bu'n wr o foliant;
Fel enwog swyddog a sant-bu'n gweithio
Yn ddvfal erddo drwy ddyfal urddiant.

Daeth Dafydd Jones y pregethwr yma oddeutu 1810 o Rostryfan. (Edrycher Rhostryfan.) Symudodd oddiyma i Rydbach rywbryd yn rhan olaf ei oes. Dechreuodd bregethu yn 1809, a bu farw Ebrill 17, 1869, yn 94 oed. Analluogwyd ef i bregethu y 4 blynedd olaf. Dywed Mr. Pyrs Roberts ddarfod iddo gael crefydd pan yn gweithio ar y cob ym Mhorthmadoc. Rhaid fod hynny, os yw'r adroddiad yn gywir, pan oeddid yn dechre adennill y tir oddiar y môr yn 1808, ac yntau y pryd hwnnw yn 33 oed. Yn ol adroddiad arall, daeth at grefydd yn adeg adfywiad crefyddol yn y Waenfawr yn 1807. (Edrycher Waenfawr.) A dywed Mr. Pyrs Roberts ymhellach mai dyn cryf, ymladdgar ydoedd gynt. Edrydd Mr. D. Pritchard yr elai bob dydd o'r neilltu i weddïo am ddeng munud pan ar y morglawdd. Dywed y Parch. Hugh Roberts Bangor (Drysorja, 1870, t. 128) am dano, ei fod o gyfansoddiad corfforol cadarn, ei lais yn uchel, ei ddawn parablu yn rhwydd, a chanddo feddiant cyflawn arno'i hun, gan lefaru fel un heb deimlo dim anhwylustod yn ei feddwl na gwendid yn ei gorff. Ni ddeallai Saesneg; nid oedd ganddo wybodaeth helaeth; treuliodd ei amser ynghanol trafferthion bywiolaeth. Eithr fe ddarllenai lawer ar Eiriadur Charles, Esboniad James Hughes a llyfr Gurnall. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, yn ddyn addfwyn a duwiol, yn Fethodist trwyadl. Yn wrandawr da, teimladol, ar eraill. Yn fwy o weddiwr na phregethwr. Yn wresog ac effeithiol yn y seiat. Bu'n fynych ar daith pregethu gydag eraill. Ni ordeiniwyd mono, ac ni ddeallodd Hugh Roberts i hynny fod yn un brofedigaeth iddo. Nid yw disgrifiad William Davies y mwnwr o draddodiad Dafydd Jones, a adroddir gan Carneddog, yn ymddangos yn gwbl gytun â'r eiddo Hugh Roberts. Sonir gan William Davies am ei lais mawr, crynedig, a dywed ei fod wrth bregethu yn rhyw ymdagu, ac yn ymddangos fel pe bae rhyw rwystr yn ei enau yn peri i'r ymadrodd ddod allan, nid yn ystwythlyfn, ond megys bob yn rhan. Ond dywed ei fod yn hollol fel arall yn y seiat, y llais yn glir a pheraidd, cystal a'i fod o ymddanghosiad tywysogaidd, a'i gynghorion yn ddoeth a'i brofiadau yn felus. Dichon y byddai Dafydd Jones. wrth bregethu, fel eraill, weithiau yn rhyw ymdagu, ac weithiau yn ymdorri ar draws y rhwystrau, canys fe ddywed Mr. D. Pritchard y bloeddiai yn uchel gyda'i lais mawr pan gaffai hwyl. Adroddir am dano yn y Llenor (1895, Gorffennaf, t. 56) yn pregethu yn Aberglaslyn yn adeg diwygiad 1818, oddiar y geiriau, "Oni ddychwel yr anuwiol, efe a hoga ei gleddyf," pryd yr argyhoeddwyd gwr ieuanc cellweirus o ardal Nantmor wrth ei wrando. Dywedir ddarfod i'r bachgen hwnnw fyned drwy bangfeydd argyhoeddiad, ond troes allan yn flaenor ac athro ffyddlon. Y mae ysgrif gan John Jones Glan Gwynant yn y Drysorfa (1831, t. 203) ar fachgen i Ddafydd Jones a fu farw Rhagfyr 2, 1830, yn 6 oed, yn awgrymu fod bywyd teuluaidd Dafydd Jones yn gyson a hardd. Yn ddilynol i John Jones y codwyd yn flaenoriaid, Richard Roberts Caergors a Dafydd Roberts y Ffridd. Symudodd Dafydd Roberts i'r America. Ar ol adeiladu capel Rhyd-ddu yn 1825, fe symudodd Richard Roberts yno. (Edrycher Rhyd-ddu). Dywed Mr. D. Pritchard mai mab Bryn hafod, Clynnog, oedd efe. Er ei fod o duedd foesol o'i febyd, nid ymgymerodd â phroffes gyhoeddus hyd ar ol priodi. John Roberts, ei dad ynghyfraith, oedd stiwart y Barwn Hill, a cheid yng Nghaer'gors ganu'r delyn a'r crwth, ac yfed cwrw a gloddesta. Bwriadwyd i'r pethau hynny fod yn eu rhwysg yn y briodas, ond ataliwyd hynny gan y priodfab, a bu llai eu rhwysg yng Nghae'rgors yn ol hynny. Yn araf, fel y dywed Mr. Pritchard, y gweithiai argyhoeddiad yn ei feddwl. Ac ni bu'n hir wedi ymuno â'r eglwys, na wnawd ef yn flaenor. Gan fod Richard Roberts yn ysgrifennydd yr ysgol, pryd yr oedd John Jones yn arolygwr, a John Jones yn myned allan i ymweled, byddai'r pwys a'r gofal ynglyn â'r ysgol yn disgyn arno ef. Dywed Mr. Pyrs Roberts ei fod yn gadarn yn yr ysgrythyrau, ac yn ddyn ysbrydol iawn. A dywed, wrth ei gymharu â John Jones, mail Richard Roberts oedd y diwinydd a'r athrawiaethwr, a'i fod yn fwy galluog ei feddwl ac yn fwy hyawdl, ac yn fwy medrus i gael eraill i weithio. A sylwa, hefyd, mai pa faint bynnag oedd ei ragoriaeth fel athro, fel holwr, ac fel siaradwr, ei fod yn fwy fyth fel gweddiwr. Dywed, yn wir, mai efe oedd y gweddiwr hynotaf a glywodd efe erioed. Tawel, toddedig yn ei ddull: nis gellid gwrando arno heb ollwng dagrau. Melancolaidd ydoedd o ran tymer. Pan yn ddyn cymharol ieuanc bu am daith drwy Leyn ac Eifionnydd gyda William Prytherch, tad y gwr a adwaenir felly yn awr, a'i swydd ydoedd dechreu'r oedfa iddo. Bu William Prytherch yn adrodd am dano wrth Mr. Pyrs Roberts ymhen blynyddoedd. "Sut y mae poor Richard?" fe ofynnai. A dywedai y byddai ef yn ddigon amharod ei ysbryd aml waith i godi i fyny i bregethu, ond y byddai Richard wedi ei godi ef i ysbryd pregethu cyn bod ohono wedi myned drwy hanner ei weddi. Mewn un lle yr oedd gwr mawr o gorff, a mawr ei awdurdod yn y lle, ac o gryn safle fydol. A phan welodd hwnnw'r ddau yn dod, fe ofynnodd, "Pwy ydi'r hogyn yma sy gyda thi, William ?" Dodes ei ofn ar Richard. Llithrodd Richard allan o'r tŷ capel bum munud cyn amser dechre. Dychwelodd yn ol ychydig funudau wedi'r amser, ac yr oedd y bobl yn canu pan awd i'r capel. Gweddïai Richard yn nodedig y tro hwnnw. Y blaenor mawr yn gwaeddi Amen yn uchel gyda'r weddi. "Pan ddowd allan," ebe Prytherch, "Richard oedd y cwbl ganddo: ni thalai neb ddim ond Richard." A dywedai Prytherch ei hun nad anghofiai efe ddim am ei weddi y tro hwnnw. Meddai ar ddylanwad ar yr ieuainc. Pan ddeuail drwy'r ardal ar Ddydd Diolchgarwch, a'r bechgyn yn chware bandi, wrth ei weled ef hwy beidient â'r chware, gan ddodi'r clwb o'r tu ol ar y cefn. Elai yntau heibio yn dawel gyda nod ar y bechgyn. Yn ol Robert Ellis Ysgoldy, yn ei adgofion am ddiwygiad Beddgelert (Cofiant, t. 223), Richard Roberts Caergors oedd yr holwyddorwr a rybuddiai'r bobl ieuainc o flaen ffair Gwyl y Grog, pryd y teimlwyd y diwygiad yn y pentref. Ar ganol y cynghori cerddodd ias o deimlad drwy'r lle. Y mae'r cynghorwr yn ymddeffro, ei bwnc yn ymeangu a'i ddawn yn ymagor. Daeth ar draws y llinell honno,—"Mae'r afael sicraf fry." El Robert Ellis ymlaen: "Ac â'i ddawn ystwyth a'i deimlad gwresog, chwareuai ar y gair 'fry.' 'Oddi fry y daw popeth o werth ini—oddi fry y daw'r goleuni, y gwres a'r glaw—oddi fry y daw bendithion iechydwriaeth i'r ddaear—o'r uchelder y mae Duw yn tywallt ei Ysbryd. Dyma obaith i ddynion caled Beddgelert. Os ydyw'n dywyll yma, mae'n oleu fry; os yn wan yma, mae'n gadarn fry.' Gyda'i eiriau, yr oedd rhywbeth mor ddwys, mor rymus, yn disgyn ar yr holl ysgol, yn hen ac ieuainc, fel y gwelid pawb yn torri allan i wylo. Mor rymus oedd y dylanwad, nes yr oedd y plant mewn dychryn rhedai un bachgen bychan at ei dad, a llefai, 'Nhad anwyl, dyma ddydd y farn wedi dod.' Wylo dwys a distaw oedd yn llenwi'r lle."

Daeth William Roberts a Gruffydd Prisiart yma o Fethania, y ddau yn swyddogion yno cyn eu galw yma. Yr oedd William Roberts yn frawd i John Roberts Waterloo, ac yn ewythr i Mr. Pyrs Roberts, frawd ei dad. Dywed Mr. Pyrs Roberts y bu William Roberts yn arweinydd amlwg yn Methania. Dechreuodd weithio gyda'r achos yn y pentref, ond nid llawer o gyfle a gafodd, gan fod dynion cryfion yma eisoes. Yn ol Mr. Pyrs Roberts, yr oedd yn ddyn galluocach na'i frawd, John Roberts, ac yn meddu ar ddawn i arwain yng nghyfarfodydd yr eglwys. Yr oedd yn areithiwr dylanwadol dros ben ar ddirwest, ac, yng ngair Mr. Pyrs Roberts, yn cario y plwyf o'i flaen. Eithr fe ddyrysodd yn ei amgylchiadau, tarfodd ei ysbryd, a llesghaodd ar y ffordd.

Am ddwy flynedd y bu Gruffydd Prisiart yn gwasanaethu'r swydd ym Methania. Gwnaeth Gruffydd Prisiart yr hyn yr esgeulusodd llawer ei wneud, sef cofnodi'r pethau rhyfedd a welsent ac a glywsent ynglyn â chodiad Methodistiaeth. Fe deimlir yn yr hyn a gafwyd gan Gruffydd Prisiart, ei fod ef yn ddyn o feddwl diwylliedig a barn gydbwys. Gwelir fod ei sylw ar fanylion: gŵyr werth y cyffyrddiad manylaidd. Cymharer, er enghraifft, ei ddisgrifiad ef o arferion yr oes o'r blaen âg eiddo William Williams Llandegai, awdwr Prynhawngwaith y Cymry, yn ei lyfr Seisnig ar fynyddoedd yr Eryri. Heblaw manylder disgrifiad o arferion neu ddigwyddiadau, fe geir ganddo, hefyd, rai enghreifftiau o'r gallu i gyfleu cymeriad gerbron. Y mae ei gymhariaeth o'r pedwar brawd yn nodedig o dda, ac y mae'r portread o Hywel Gruffydd yn arbennig o werthfawr. Y mae ei gof am amgylchiadau a dywediadau, a'r mynegiadau o deimlad neu dymer, yn y dull a thôn y llais, yn ymddangos yn afaelgar dros ben. Diau fod ei gof yn y pethau hyn wedi ei awchlymu yn fawr gan y dyddordeb a deimlai yn holl helynt yr ardal, yn enwedig ei helynt grefyddol, ac yn fwy na dim, yn niwygiad mawr 1818, y profodd efe ei hun ohono, yn fachgen 18 oed. Ar ol y fath brofiad ag a ddisgrifir ganddo o'r canu yn yr awyr, nid rhyfedd fod holl olygfa'r diwygiad wedi ymagor yn ei ddychymyg mewn rhyw oleu claerwyn, a bod pob cymeriad ac amgylchiad yn sefyll allan arno'i hun i'w olwg o ganol y rhuthriadau teimlad rhamantus. Fel ysgrifennydd, y mae'n ddiffygiol mewn crynoder awchlym; ond gydag arfer gyson, a mwy o sylw ar gynlluniau uchel, fe fuasai wedi ennill yn fawr yn hynny. Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn arno o'r Cymru (XXV., rhif 146): "Yr oedd yn hysbys yn niwynyddiaeth y Methodistiaid, ac wedi darllen llawer ar lyfrau pynciol yr amseroedd, megys ysgrifeniadau Richard Jones o'r Wern a Richard Williams [Pregethwr a'r Gwrandawr], ac yr oedd mewn cydymdeimlad â llenyddiaeth drwy'r hen Wladgarwr, a misolion y cyfnod hwnnw. Pe wedi cael gwell manteision, a mwy o ryddhad oddiwrth helbulon bywyd, gallasai, o ran ei alluoedd, fod wedi cyfoethogi llenyddiaeth Cymru. Yr oedd y dylanwad dyrchafedig a feddai Gruffydd Prisiart i'w briodoli i'r awyrgylch ysbrydol yr oedd yn byw ynddi. Yr oedd ei gartref yn gysegr i Dduw, ac yr oedd wedi ei fendithio âg un o'r gwragedd mwyaf doeth a duwiol a wisgodd fodrwy erioed." Nid yw efe ei hun yn gadael i'w gysgod ddisgyn ar yr hanes ond gyn lleied ag y bo modd. Yn ol Mr. Pyrs Roberts, fe wasanaethodd swydd diacon yn dda, ac yr oedd llawer o hynodrwydd yn perthyn iddo. Yr oedd yn un medrus iawn i gadw seiat, a phan fyddai'r cyfarfod hwnnw yn bygwth myned yn swrth, gwyddai ef yn dda at bwy o'r saint i droi, a gallai eu tynnu allan. bob amser. Gallai darro ar wythïen gyfoethog a chael seiat wlithog a hwylus, pan fyddai weithiau wedi bygwth troi fel arall. Clywodd Mr. Pyrs Roberts hanesyn am dano yn ymddiddan â hen chwaer dduwiol iawn a ffyddlon dros ben. Yr oedd yr hen chwaer yn byw o 3 i 4 milltir o ffordd o'r capel, mewn bwthyn unig ei hunan, fwy na hanner y ffordd i Flaen Nantmor, mewn lle o'r enw Penrhyn gwartheg, ar yr ochr arall i'r ffordd i Lyn y Dinas. Yr oedd ei llwybr i'r pentref yn anhygyrch a garw, a phont garreg i'w chroesi ym mhen isaf y llyn, ac nid gorchwyl hawdd a hollol ddiberygl bob amser fyddai ei chroesi. Ond nid oedd dim lesteiriai'r hen sant hon i'r seiat a'r cyfarfod gweddi ond afiechyd. Trwy deg a gwlaw gwelid hi, er yn byw ymhellach na neb arall, yn ymlwybro i'w hoff gyrchfan. Un noswaith yr oedd y seiat yn cychwyn dipyn yn aniben, a Gruffydd Prisiart yn teimlo hynny. Ond gwelai fod yr hen chwaer o Benrhyn gwartheg ganddo i syrthio'n ol arni am air o brofiad, ac ymhen ennyd anelodd am dani. 'Be' sy' gen ti heno, Siani,' meddai. 'Nid oes dim heno, Gruffydd Prisiart,' meddai hithau. Ond gwyddai Gruffydd Prisiart o'r goreu y gallai gael rhywbeth yn y fan yma, ond iddo fedru mynd o'i gwmpas yn iawn. Troes i ganmol ei sel a'i ffyddlondeb yn dyfod mor bell i'r capel ar noswaith dywyll a drycinog, a thrwy gryn anhawsterau, 'nes codi cywilydd wyneb ar lawer ohonom,'—meddai. Yn y man, gofynnodd iddi, 'Siani, yn y lle pell ac unig acw, fyddi di'n darllen dipyn weithiau?' 'O byddaf, Gruffydd,' meddai hithau, 'y mae'n rhaid imi ddarllen.' 'A fyddi di'n gweddïo weithiau?' 'O byddaf, Gruffydd, y mae'n rhaid imi weddïo: fedra'i ddim cadw a dal ymlaen heb ddarllen a gweddïo: fedra'i ddim byw heb weddio —y mae'n rhaid imi weddio.' Dyma ddigon i Gruffydd Prisiart. Daliodd yn effeithiol iawn ar y gair rhaid, a gwnaeth ddeunydd seiat ardderchog o hono. Ei bwnc oedd dangos mor ddiwerth yw crefydd heb raid ynddi, a siaradai yn ofnadwy. Ac wrth orffen traethu, troai at Siani drachefn, 'Wel, Siani, wyddosti beth? ni rown bin o'm llawes am grefydd na bydd rhaid ynddi hi.' Gwresogodd y seiat gyda hyna, a siaradodd rhyw hanner dwsin, a chafwyd seiat i'w chofio. Yr oedd Gruffydd Prisiart yn holwr da ar ddiwedd ysgol. Teimlai fawr sel dros y Cyfarfod Ysgolion. Ceid math o Gyfarfod Ysgol weithiau y pryd hwnnw ar ddiwrnod gwaith. Fel rhyw enghraifft o'i ddull a'i ffordd gellid nodi un amgylchiad. Yr oedd mater wedi ei nodi i'r ysgol chwilio arno, a'r Parch. John Owen Ty'nllwyn yn holwr. Yr oedd rhif yr ysgol y noswaith honno yn 160 neu 170. Holid pob dosbarth arno'i hun yn yr adnod oedd wedi ei phennu, a dosbarth Gruffydd Prisiart oedd y cyntaf. Ymddanghosai'r athro yn bur ddidaro, y dosbarth yn sefyll ac yntau'n eistedd. Ond fel y gwasgai'r holwr yn drymach drymach ar y dosbarth, y mae Gruffydd Prisiart o'r diwedd yn codi'n sydyn, ac yn rhoi rhes o atebion gwahanol i'r cwestiwn, 'Ond,' meddai, 'y mae'n gwestiwn tywyll iawn, onid ydyw, John?' 'Yr oeddem ni yn gwybod hynny,' meddai'r holwr, heb i chwi ddweyd. Dod yma i geisio cael goleu arno yr oeddem ni heno.' Edrydd Mr. Pyrs Roberts am dano'i hun yn dod i'r seiat. Troes Gruffydd Prisiart ato, "Rwyti wedi cael pob manteision, wedi bod yn gyson ym mhob moddion. A wyti wedi darllen dipyn? a meddwl dipyn? A wyti wedi dechre cadw dyledswydd gartref?" Yn ateb i'r cwestiwn olaf, dywedai'r bachgen, "Nag ydw'i." "Wel, dyn a dy helpio di! Wn i ddim be' wnei di! Mi ddylaset fod wedi dechre y bore nesaf ar ol dy dderbyn [sef ar brawf]." Ar hynny dyna Robert Morris yn codi ac yn cymeryd ei ran, gan ddweyd nad oedd y tad ond yn darllen ar y ddyledswydd, a bod yn anhawdd i Byrs weddio, pan nad oedd y tad ond yn darllen; a chynghorai Pyrs i ddarllen a gweddïo pan fyddai ei dad oddi-cartref, a phan glywai ei dad y gofalai am y ddyledswydd yn gyflawn o hynny ymlaen. Dywed Mr. Tecwyn Parry mai Gruffydd Prisiart a fu'n foddion i ddeffro ei awen ef, os bu ganddo'r fath beth, chwedl yntau. Dywed, hefyd, ei fod yn feirniad craff mewn barddoniaeth, ac yn hynafiaethydd gwych. Dyma sylwadau Glaslyn arno: "Y mae'r amser y bum yn cydymdaith â Gruffydd Prisiart erbyn hyn yn ymddangos i mi fel mordaith dros y cefnfor, heb yr un garreg filltir yn y golwg. Wrth alw i'm cof un o broffwydi sanctaidd y diwygiad mawr, yr wyf yn teimlo fy mod yn gosod fy hun mewn sefyllfa gyffelyb i'r brenin Saul gyda'r ddewines o Endor, yn galw y proffwyd o'i fedd i'm ceryddu. Tua'r flwyddyn 1856 y daethum i gydnabyddiaeth âg ef, a bum mewn cyfeillgarwch agos a serchog âg ef hyd ddiwedd ei oes. Gwr cadarn ac esgyrnog oedd efe, ac ar yr olwg gyntaf braidd yn torri ar y garw; braidd yn wyllt o ran ei dymer, er hynny yn dawel, ond tawelwch y mynydd tanllyd oedd, a gwell oedd peidio â'i gyffroi, a phe tarewsid ef ar y rudd ddehau, ni fuasai fyth yn troi'r llall cyn rhoi dymnod yn ol. Tua'r flwyddyu 1846 daeth mintai o ddynion cryfion of swydd Fflint i dorri parc o goed i Ddolfriog; a'r noswaith cyn iddynt ymadael o'r ardal, cytunasant â'i gilydd i ymosod ar bobl y pentref a'u baeddu. Yfasant yn drwm, a dechreuasant faeddu a churo pawb a ddeuent allan o'u tai. Yr oedd seiat yn yr hen gapel ar y pryd, a phan oedd y frawdoliaeth yn dychwelyd o'r capel, ymosodwyd arnynt yn fileinig ar y ffordd, a diangodd y rhai gwanaf am eu bywyd. Yn y rhuthrgyrch tarawyd Gruffydd Prisiart gan un ohonynt; ond cafodd ddyrnod yn ol nes yr ydoedd yn llyfu'r llwch. Gorchfygwyd y gelynion, a Gruffydd Prisiart oedd yr unig un o'r frawdoliaeth a gymerodd ran yn yr ymladdfa; ac er ei fod yn flaenor gwnaeth yn llygad ei le. Fel blaenor dylid ei restru yn y rhenc flaenaf. A chofier mai nid peth hawdd oedd rhagori ymhlith blaenoriaid y Methodistiaid yn ei oes ef, er fod yn bur hawdd gwneud hynny'n awr. Yr oedd eangder ei wybodaeth, rhyddfrydigrwydd ei farn, a dyfnder ei brofiad yn ei gymhwyso i fod yn arweinydd crefyddol mewn unrhyw gylch. Yr oedd mwy o'r cristion na'r swyddog yn ymddangos ynddo bob amser, a'r swydd yn ymguddio yn y gwaith. Er ei fod yn Fethodist ffyddlon, nid yn fynych yr elai i'r Cyfarfod Misol, ac nid wyf yn gwybod iddo gymeryd rhan arbennig yn y cylch hwnnw. Yr oedd yn barchus o'r weinidogaeth, ac yn gweddïo llawer dros bregethwyr; ond pan ddigwyddai Saboth gwag ni byddai arno ddim brys i'w lenwi, gan ei fod yn awyddus i ddwyn allan ddoniau'r eglwys. Byddai wrth ei fodd mewn cyfarfod gweddi, ac yr oedd yn weddïwr mawr ei hun. Ac yn y seiat, arferai gymell yr ieuenctid i ddiwyllio ac ymarfer dawn gweddi. Ac y mae'r ychydig sy'n cofio y to o weddïwyr anghymharol oedd ym Meddgelert yn ei amser ef yn sicr o fod yn teimlo fel fy hunan fod rhywbeth wedi ei golli o'r cyfarfodydd hyn yn y dyddiau hyn. Efe fyddai'n arwain y seiat, ac yr oedd yn fedrus yn y gwaith o dynnu allan brofiadau heb grwydro hyd y capel i chwilio am danynt. Yr oedd ynddo ryw ffwdan hapus oedd yn gwneud hyd yn oed ei gamgymeriadau yn dderbyniol. Mewn disgyblaeth byddai'n onest, ac eto'n dyner, ac ni tharawai byth ar lawr. Mewn achos o gweryl yn yr eglwys, meddiannai ei hun yn rhyfedd ac ystyried tanbeidrwydd ei natur; ond os elai un o'r pleidiau i eithafion cynhyrfai beth, ac ar achosion felly gwelais fflam yn ennyn yn ei lygad oedd yn ddigon i roi coedwig ar dan. Yr oedd yn nodedig am ei ymdrechion gyda'r bobl ieuainc, a chadwodd i fyny gyfarfodydd darllen er diwyllio eu meddyliau ac ennyn meddylgarwch ynddynt. Yr oeddynt hwythau yn hoff ohono ef, er y cafodd ambell un go ddireidus deimlo clawr y llyfr yn llosgi ar ei glust. Yr oedd gyda'i dymer nervous a'i ysbryd eofn yn gallu dylanwadu yn ffafriol ar y bobl ieuainc, y galluogid ef trwyddynt i luosogi ei bersonoliaeth mewn modd rhyfedd yn eu mysg. Yr oedd Gruffydd Prisiart, yn gystal a'i gâr Hywel Gruffydd, yn wŷr o athrylith ddiamheuol. Ond gan nad oedd ynddynt ddim awydd i fod yn gyhoeddus, ac ennill clod dynion, aethant drwy'r byd heb iddo braidd wybod am danynt. Mae blodau mor brydferth yn yr anialwch allan o olwg dyn ag sy'n ngardd y pendefig, ac y mae'r perl mor bur ac mor ddisglair yn nyfnder y môr a phan yn addurno coron yr ymerawdwr. Dioddefodd afiechyd maith a phoenus, a'r tro diweddaf yr wyf yn ei gofio yn y seiat yn adrodd ei brofiad, cododd ei law at ei ben dolurus, ac aeth dros y pennill hwn gyda rhyw deimlad dwys-dreiddiol;

'Rwy'n tybio pe bae nhraed yn rhydd
O'r blin gaethiwed hyn,
Na wnawn ond canu—

Mae arnaf hiraeth am hen gyfeillion." Ychwanega Glaslyn mewn nodyn ar wahân: "Methais ymatal rhag wylo wrth ysgrifennu y darn pennill a adroddodd yn y seiat." Aeth Gruffydd Prisiart am dro i Borthmadoc er lles ei iechyd, at ei fab Mr. William Pritchard, ac yno y bu farw, Gorffennaf 4, 1868, yn 69 oed.

Y ddau a ddewiswyd yn gyntaf fel blaenoriaid ar ol marw John Jones oedd John Roberts Waterloo a Robert Jones Siop y Gornel, mab i John Jones. Y flwyddyn a nodir i John Roberts yn Ystadegau 1893 ydyw 1849. Eithr yn 1853 y bu John Jones farw. Yr un pryd, neu ryw gymaint yn ddiweddarach, y dewiswyd William Jones Cae'r moch. Symudodd ef i Glynnog. Yr oedd Robert Jones, yn ol Mr. Pyrs Roberts, yn ddyn gwerthfawr, cryf o feddwl a chymeriad. Yr oedd yn ddirwestwr pybyr mewn adeg bwysig; ac fel y dur i'w argyhoeddiadau ym mhob pwnc. Gwnaeth waith mawr a charai weithio. Anaml iawn y gwelid ef yn absenol o'r seiat neu gyfarfod gweddi. Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn arno o'r Cymru (XXV., rhif 146): "Un o golofnau yr ysgol Sabothol ym Meddgelert. Arolygwr a fu efe am ran o'i oes, a disgynnodd y swydd iddo fel treftadaeth ar ol ei dad. Efe oedd y mwyaf llwyddiannus gyda'r gorchwyl o holi'r plant. Wedi cael ateb llawn i'w gwestiwn, ymestynnai ei gorff tal, ac ymdaenai gwên ddisglair dros ei wyneb crwn. Yna, ail ofynnai yr un cwestiwn, a cheid taran o atebiad. 'Dywedwch eto, fy mhlant i,' ac yna taran drachefn, fel y byddai'r plant a'r ysgol mewn hwyl hyfryd. yn y diwedd. Yr oedd yn ddyn goleuedig a gwir grefyddol, ac yn arweinydd yr eglwys a'r ysgol. Nid oedd ganddo lawer o lyfrau, ac nid oedd yn ddarllennwr mawr; ond yr oedd ganddo ddawn neilltuol i ddeall gair Duw, ac i'w gymhwyso at eraill. Ac yr oedd yn hynod deyrngarol i Fethodistiaeth, ac yn cario'r Cyfundeb yn ei fynwes." El Carneddog ymlaen: "Dywed henafgwr wrthyf ei fod yn weddiwr eneiniedig. Nid oedd mor alluog a'i frawd, Rhys Jones, ond medrai siarad yn dda ar faterion yn y Cyfarfodydd Ysgolion. Yr oedd yn wr hollol ddiwenwyn, a cherid ef gan bawb. Bu farw Mawrth 19, 1881, yn 68 oed, yn flaenor ers 38 mlynedd."

Efe oedd ein hathraw a'n doeth gyfarwyddwr,
Cysurai'r trallodus, cyfnerthai y gwan.—(Carneddog.)

Yr oedd John Roberts, "yr hen siopwr," yn ddyn urddasol o ran ymddanghosiad ac awdurdodol ei wedd. Meddai ar ddylanwad neilltuol yn yr ardal mewn byd ac eglwys. Gwnaeth waith pwysig ynglyn âg addysg. I'w ymdrechion ef yn arbennig y gellir priodoli cychwyniad yr ysgol Frutanaidd. Ymladdodd yn ddewr dros ei chael yma, ac hefyd dros gael mynwent rydd, yn gyfochrol â hen fynwent yr eglwys. Bu'n dŵr o nerth i'r achos crefyddol yn y lle am flynyddoedd lawer. Yr oedd ei air yn ddeddf. Ac yr oedd, yr un pryd, yn rhyfeddol o lwyddiannus i gael eraill i weithio gyda'r achos. Heblaw bod yn filwr ei hun, yr oedd hefyd yn gadfridog: heblaw ymladd, medrai yr un pryd drefnu'r fyddin i ymladd. Gallai ddweyd wrth un, Cerdda, ac efe a ae; wrth arall, Gwna hyn, ac efe a'i gwnae. Ymddeffroai, ac ymaflai mewn gorchwyl yn y fan. Wedi i'r Cyfarfod Misol unwaith wrthod rhoi caniatad i godi capel newydd, am fod dyled yn aros ar yr hen, a chlywed ohono yntau yr wrthddadl gan y brodyr fu yno, ymroes yn y fan i glirio'r ddyled, yr hyn a wnawd yn union. Nid oedd hyn ond enghraifft o'i ddull cyffredin. Disgrifiad Mr. Pyrs Roberts ohono a gafwyd hyd yn hyn. Dyn tal ydoedd a chwimwth, cadarn, heb fod yn gnodiog. Yr oedd golwg hoew, effro, hunanfeddiannol arno. Ynghanol y tŷ capelaid llawn a fyddai ym Meddgelert, yn enwedig ar ol oedfa'r nos, oddeutu 35 mlynedd yn ol,—ac eisteddiad gref fyddai honno cystal a llawn,—yr oedd ef fel brenin mewn llu. Yr oedd gan amryw yno rywbeth neu gilydd heb fod ganddo ef i'r un graddau, ond byddai pawb yno megys yn canolbwyntio ynddo ef. Cawsai bob un eithaf chware teg i draethu ei feddwl. A gwelid ar ei wyneb argraff o werthfawrogiad o bob un, ac o gyfran pob un. Byddai'r gyfeillach honno, y blynyddoedd hynny, bob amser, debygid, o duedd adeiladol heb sôn am fod yn ddifyr. Codai pwnc i sylw weithiau, ond yn fynychach, feallai, atgofion o hen bregethwyr,—o'u pregethau ac o'u nodweddion. Os byddai eisieu cael y testyn, ac yntau wedi ei glywed rywbryd, fe'i ceid yn y fan gan wr y tŷ capel, John William, a dyna fymryn o nod arwyddocaol ar wyneb John Roberts. Gyda phwnc, craffai ef ar yr hyn ddywedid gan bob un, a symiai y cwbl i fyny yn amlwg yn ei feddwl ei hun, ond heb ymyryd ei hun yn y ddadl, oddigerth ar dro, neu mewn geiriau go gwta. Hwyrach y ceid sylw o eiddo Thomas John; neu fe elai Pyrs Roberts dros ddisgrifiad neu ymresymiad gan John Jones Talsam, gan roi syniad inni wrth fyned heibio am hwyl y bregeth; neu fe geid cyfeiriad at oedfa fawr Dr. Edwards yn sasiwn Bangor, ar "Ein Tad," oedfa fwy "o'i hysgwyddai i fyny" nag a glywodd y llefarwr gan neb arall, a rhoddid syniad am gynnwys y bregeth, ynghyda'r pennau —(1) Tad uwchlaw deddf natur; (2) Tad uwchlaw'r ddeddf foesol. Byddai pawb yn gwbl rydd, ond byddai pawb yn rhyw fodd aneffiniadwy fel yn golygu presenoldeb John Roberts ym mhob sylw. Ar ryw fore eithafol o oer, a chnwd o eira ar y ddaear, dyma John Roberts ei hun, wrth alw yn y tŷ capel, yn adrodd sylw o eiddo Henry Rees, am yr adyn truan, tlawd, heb ddim ar wyneb daear i droi ato, y ddaear yn orchuddiedig gan rew ac eira, ac yntau heb ond ei grys am dano yn y gwyntoedd creulon,—gyda'i ddannedd yn crynu yn ei gilydd, yn troi i wneud ei apel at Dduw. Rhoes fymryn o ysgydwad i'w ben ar ol adrodd y sylw, a'i lygaid yn myned yn llymach eu hedrychiad, gan arwyddo gwerthfawrogiad o ystyr y sylw. Pan aeth Gladstone drwy'r ardal ynglyn âg agoriad y ffordd haearn ar y Wyddfa, penodwyd John Roberts gan y trigolion i wneud rhyw anrheg drostynt. Wrth wneud ychydig sylwadau ar yr achlysur, dywedodd wrth y gwladweinydd ei fod o'r un oedran ag yntau i'r flwyddyn. Gwenodd Gladstone ar hynny, a dywedai yn ol, "Yr ydych yn dal eich oedran yn well na mi." A thebyg fod hynny yn gywir, er cadarned cyfansoddiad yr arwr hwnnw. Fel hyn y rhed cofnod y Cyfarfod Misol: "Yr oedd yn un o flaenoriaid hynaf y Cyfarfod Misol, ac yn grand old man yn ei oes. Yr oedd wedi bod ar y blaen gyda symudiadau cyhoeddus, yn wr o allu a dylanwad, ac yn gefnogydd aiddgar i agweddau diweddar ar waith crefyddol yn y Cyfundeb." Y mae Carneddog yn dyfynnu Glaslyn: "Bu ei lafur gyda'r dosbarthiadau o bob oedran yn fendith i'r ardal. Yr oedd ei ddull meistrolgar o holi'r ysgol yn llawn o ddyddordeb. Yr oedd yn foneddwr diwylliedig, a chwrtais yn ei holl ymddygiadau, ac o ran gwybodaeth a rhyddid ymadrodd yn gymwys i annerch unrhyw gynhulliad mewn llan a llŷs. Efe oedd arweinydd y canu cynulleidfaol hyd hwyr ei fywyd, ac yr oedd drwy ei lais tyner, tonnog, wedi dylanwadu ar y canu i'r fath raddau fel yr oedd rhyw fiwsig rhyfedd i'w deimlo ynddo, a thystiai llawer o'r gweinidogion nad oedd un gynulleidfa o fewn cylch Cyfarfod Misol Arfon yn canu gyda'r fath swyn, tynerwch a melodedd a chynulleidfa Beddgelert." El Carneddog ymlaen ei hun: "Gweithiodd yn galed er cael manteision addysg i'r dosbarth gweithiol, sef sefydliad yr Ysgol Frutanaidd yn 1851, a'r Bwrdd Ysgol cyntaf yn 1871, i'r hwn y bu'n gadeirydd am 18 mlynedd. Bu'n flaenorydd yn ei oes, er hyrwyddo holl fuddiannau y plwyf yn grefyddol a gwladol." Bu farw Hydref 17, 1897, yn 88 oed.

Yn fuan ar ol codi y rhai a nodwyd olaf y daeth Robert Williams gwehydd i'r ardal. Yr oedd ef yn flaenor ym Methania, a galwyd ef ym Meddgelert. Un o ardal Clynnog. Ymsefydlodd yn y man yn y Perthi uchaf, ar dir y Perthi. Yn arbennig fel gweddiwr. Bu am rai blynyddoedd yn arfer gweithio yn y Royal Goat Hotel. Cedwid y ddyledswydd deuluaidd yno ganddo ef ac un arall, a deuai'r teulu i gyd i'r gwasanaeth. Dyn da a chyflawn ac yn areithiwr da ar ddirwest. Mr. Pyrs Roberts a'i hadgyfododd ef ar gyfer yr hanes hwn, a blaenor arall o'r un enw, oedd yma tua'r un adeg, yn byw yn Tanllwyn. Dyn da, difrif, distaw ydoedd ef.

Y blaenoriaid nesaf oedd Rhys Jones Glangwynant, mab i John Jones yntau hefyd, a Richard Owen (Glaslyn). Yn ol yr ysgrif o'r lle, "tynnodd Rhys Jones ei gŵys i'r pen yn wastad ac esmwyth; ac yr oedd yn ddyn call, yn ddiwinydd da, a gair yn ei amser ganddo." Yn ol Mr. Pyrs Roberts yr oedd John Roberts a Rhys Jones yn rhagori ar bawb a fu o'u blaen mewn gofal cyffredinol am yr achos. Dywed ymhellach am Rhys Jones ei fod yn drefnus gyda phopeth, a bod taclusrwydd yn nodwedd arbennig arno. Ei anerchiadau yn y seiat a'r ysgol Sul yn fyrr, yn bwrpasol, yn gryno. Yn un o'r holwyr goreu, a ffordd ddeheuig ganddo i ofyn cwestiwn ei gwestiwn bob amser yn glir a goleu. Nid oedd dim gwasgarog a dibwynt yn perthyn iddo. Ni siaradai yn fynych yn gyhoeddus; ond pan wnae, byddai'n glir a synhwyrol. Torrwyd ef i lawr yn anterth ei nerth. Yn ol cofnod y Cyfarfod Misol, yr oedd ei ffyddlondeb, ei dduwioldeb a'i barodrwydd i'r nefoedd yn amlwg. Dywed Glaslyn ei fod yn llawn ysmaldod diniwed ar hyd ei oes,—"o lawn digrifwch a'i lond o grefydd." Bu'n offeryn, ebe Glaslyn, i ledaenu llawer ar Esboniad James. Hughes yn y plwyf, yr esboniad cyntaf a gafodd ddim derbyniad yma. Ebe Carneddog: "Nid oedd neb mwy boneddigaidd, caredig a phert, ac yr oedd ym mhob cylch yn wr o ymddiried, yn bwyllog a gochelgar. Yr oedd haelfrydigrwydd yn llinell amlwg yn ei gymeriad. Bu farw Tachwedd 18, 1886, yn 60 mlwydd oed, ac wedi bod yn flaenor am 26 mlynedd."

Yn ei swydd ni cheid un sant—mor ddifai,
Yn y glyn canai Cristion Glan Gwynant.

Os gwâg, o us a gwegi—yw y byd,
Hwn o bawb mewn gweddi,
Fu o ddyled, yn medi
Gwenith nef, ganwaith i ni.

Suddai i bwnc—Rhys oedd Baul—o ddoniau
Diddanus, myfyriol,
Geiriau da y gwr duwiol
Drwy'u had a fedir o'i ol.—(Carneddog.)

Dewiswyd Pyrs Roberts a Richard Morris Cwmcloch yn flaenoriaid yn 1875. Symudodd Richard Morris i gymdogaeth Llanrwst, ac yr oedd yn flaenor yng nghapel Salem y tuallan i'r dref. Gwr cryf, agored, ac yn ymddangos fymryn yn fyrbwyll. Yn 1880 fe ddewiswyd William Pritchard Tŷ Emrys, Robert Roberts Meirion Terrace a George Thomas yr ysgolfeistr. Anafwyd Robert Roberts yn y chwarel yn 1882, a throes hynny yn angeuol iddo. Dywed Carneddog ei fod yn wr darllengar a gwybodus, yn siaradwr da, ac yn meddu ar brofiadau melus. Yn flaenllaw gyda'r ysgol Sul a'r Cyfarfod Ysgolion.

Y gwas da a ffyddlon oedd fawr mewn duwioldeb,
Oedd weddaidd ei rodiad a disglair ei foes,
Ei fuchedd oedd un i'w harddelwi mewn purdeb,—
Grasusau y nef a addurnodd ei oes.—(Carneddog.)

Yn ol Carneddog, yr oedd William Pritchard yn wr boneddigaidd, tawel a heddychol. Heb feddu ar allu meddwl cryf, na thalent. neilltuol fel siaradwr cyhoeddus; ond yn meddu ar farn a doethineb. Yn chwyrn yn erbyn chwareuaethau ac ysgafnder, ac yn caru cynnal y ddisgyblaeth. Yn ffyddlon, yn hael ei gyfraniadau, yn ddefnyddiol gyda'r ysgol, yn dangnefeddwr. Bu farw Mai 26, 1893, yn 60 oed. Fel athro ysgol, ebe Carneddog, yr oedd George Thomas yn enwog. Brodor o'r Drefnewydd. Daeth yma heb fedru Cymraeg, a meistrolodd yr iaith yn fuan. Bu'n arweinydd corawl yn y pentref. Gweddïai yn gyhoeddus yn Saesneg. Yr oedd yn fanwl yn ei swydd fel ysgrifennydd yr eglwys. Bu farw Ebrill 28, 1895, yn 62 oed. Yn 1894 fe ddewiswyd David Pritchard Cwmcloch, Griffith Williams Smith Street, Robert H. Roberts.

Edward Morris oedd ysgolfeistr cyntaf yr ysgol Frutanaidd, pregethwr gyda'r Bedyddwyr. Yn ol rhestr y Cyfarfod Misol yn 1851, yr oedd yn bregethwr gyda'r Methodistiaid erbyn hynny, a bu yng Nghyfarfod Misol Medi. Y mae ei enw i lawr mewn rhestr ynglyn â'r Cofnodion am 1852, ond wedi ei groesi allan, ac ni bu mewn Cyfarfod Misol namyn ym Medi, 1851. Dyfynna Carneddog Wilym Eryri yn ei gylch. Dywed ef y taflai'r ysgolfeistr y riwl fawr atynt hwy y plant, ac y tarewid hwy weithiau yn eu pennau gyda'r fath rym fel y codai chŵydd yn y fan cymaint ag ŵy iar. Byddai raid myned a'r riwl yn ol i'r Pharo Neco. Cred Gwilym y buasai naill hanner plant y dyddiau yma yn marw dan ei ddwylo. Eithr ni oddefid mono ddim rhagor gan y rhieni, a gorfu iddo gymeryd y goes. Cychwynnodd John Williams ei flwyddyn brawf fel pregethwr yma, Mehefin, 1861, sef yr un o'r enw a fu'n weinidog ar Siloh, Caernarvon, wedi hynny; a Griffith Tecwyn Parry, Rhagfyr 3, 1866; a W. Matthew Williams yn 1876. Rhoddwyd llythyr cyflwyniad i'r olaf i'r America, Gorffennaf 2, 1883. Adnabyddir ef bellach fel William Matthew, ac y mae yn fugail yn Nosbarth Waukesha, Wisconsin.

Bu William Ellis, gweinidog cyntaf yr eglwys, farw Gorffennaf 13, 1895, yn 58 oed, wedi gwasanaethu ei swydd yma am y 24 blynedd olaf o'i oes, namyn ychydig fisoedd. Daeth o Beniel yma (Edrycher Peniel). Un o ardal Cefn y waen ydoedd. Aeth o chwarel Dinorwig i'r ysgol at Eben Fardd yn ei 21 mlwydd oed, yn ol Carneddog yn y Cymru. Meddyliai ei ysgolfeistr yn dda ohono, a buont yn ymohebu peth wedi iddo adael yr ysgol. Darllennai bob llyfr y caffai afael arno pan yn chwarelwr, a daeth y nodwedd hon yn amlwg arno dros ei oes. Yr oedd ganddo gasgliad go dda o lyfrau y Puritaniaid, a rhai o'r llyfrau goreu diweddar, a darllennai y naill a'r llall yn drwyadl. Yr oedd wedi darllen Arweiniad Driver i'r Hen Destament deirgwaith drosodd. A darllennai'n ofalus. Yr oedd yn hynotach fyth yn ei waith yn ysgrifennu ei feddyliau i lawr. Dywed Carneddog yr ysgrifennodd lond pentwr anferth o fân gopïau, ac yr ysgribliai ei fyfyrdodau a'i fân draethodau ar gefn papur te a siwgr, ar gefn biliau, amlenni llythyrau, ac ar bob lliw o bapur, gwyn, glas a lliwiau eraill. "Ceir ganddo fath o esboniadau byrion ar y mwyafrif o'r Efengylau a'r Epistolau, cannoedd lawer o fân draethodau ar bob math o destynau Beiblaidd, a rhai gwleidyddol, ynghyda phregethau dirif." Dywed golygydd y Llusern ei fod yn amheus a oedd un gweinidog yn Arfon â'i feddwl wedi ei gyfoethogi fwy â gwybodaeth ddiwinyddol iachus, a'i fod yn amheus a oedd cymaint ag un yn dod yn agos ato. Yr oedd yn ddiwyd gyda dosbarthiadau Beiblaidd. Yn ymwelydd ffyddlon â'r claf. Yr oedd rhyw duedd neilltuedig ynddo. Cerddai hyd y gallai i'w gyhoeddiadau, a defnyddiai'r amser hwnnw i fyfyrio a myned dros ei bregethau. Ni fynnai bregethu mewn Cyfarfod Misol er cynnyg iddo, a gwrthododd lywyddiaeth y Cyfarfod Misol. Gwell ganddo oedd capelau bach na rhai mawr, a'r rhai anghysbell a diarffordd o'r rheiny a hoffai fwyaf. Dyn gwlad ydoedd, ac nid dyn tref. Er hynny, yn wr serchog gyda'i gyfeillion, ac yn un a fawr hoffid ganddynt. Tystiolaeth John William y tŷ capel am dano ydoedd, ei fod yn ddyn i'w air, yn un na thorrai mo'i gyhoeddiad er dim; y cawsai rai seiadau anarferol; ei fod yn fawr yn y cyfarfod darllen. Sylwa Carneddog y perchid ef gan y rhai mwyaf anystyriol, ac yr ofnai rhai ei gyfarfod ar y ffordd mewn lle unig, a hynny gan rym ei gymeriad fel dyn Duw. Pregethwr pwnc ydoedd, ac ymdriniai â'i bwnc mewn dull difrif. Heb odidowgrwydd ymadrodd, yr oedd ei bregethau yn llawn Efengyl, ac yn cael eu cymhwyso gyda medr y gwr difrifol.

William Ellis I cael molawd—ni chwennych;
Hynny gynt fae'n anffawd!
Un unig, bell anianawd
I ddenu bri oedd ein brawd,

William Ellis, dewisydd—llyfrau oedd—
Didwyll frwd efrydydd:
Ti'r llanerch fud, darllennydd
Na fynnai saib o'th fewn sydd.

William Ellis! welai miloedd—ei wlad
Mo'i ledawl alluoedd;
Un dorrai i'r dyfnderoedd
Dwyfol â nerth diflin oedd.


William Ellis I fel milwr—Iesu Grist
Gwasgai raib y Twyllwr ;
A choron difalch arwr
Fry gadd ef, tr-agwedd wr.—(Alafon.)

(Traethodydd, 1897, t. 425. Cymru, 1910, t. 287. Drysorfa, 1895, t. 426. Llusern, 1895, Awst. Goleuad, 1895, Awst 14, t. 4).

Derbyniodd y Parch. W. J. Williams alwad yma, ac ymsefydlodd yn y lle yn 1899. (Llanfair pwll gwyngyll yn awr).

Y mae gan Mr. Pyrs Roberts atgofion am amryw eraill. Dynion. duwiol diamheuol oedd Robert Morris Dinas moch a Morris Parry Glan y gors, Dibriod oedd y ddau. Bu Robert Morris yn gwasanaethu am hir amser gydag Evan Pyrs Dinas moch. Bu unwaith ar fin ymadael am fod arno eisieu rhyw bunt yn chwaneg o gyflog am y tymor. Y wraig a hysbyswyd o hynny pan oedd y gwr oddicartref, a boddlonai hi iddo fyned, gan dybied nad ellsid ddim rhoi rhagor iddo. Nid oedd Evan Pyrs yn aelod eglwysig, er yn ddyn darllengar a selog, a phan glywodd ni fynnai sôn am ymadawiad Robert Morris. "Y mae'n well gen i roi mwy o lawer, Siani, na cholli Robin Morris, Y mae'n werth ei gadw er mwyn y ddyledswydd deuluaidd. Byddai'n chwith iawn ar yr aelwyd weled y ddyledswydd hebddo. Cofia, Siani, mai nid gwerth punt na dwy ydyw ei gael i gadw dyledswydd." A chyflogwyd ef ar unwaith. Dywedai un am dano, y buasai'n werth cerdded dwy filltir o ffordd i glywed Robert Morris yn gweddio. Ar brydiau byddai yn yr uchelderau o ran ei brofiad. Dyn hynod, hefyd, oedd Morris Parry. Ei hoff air pan wedi myned i'r hwyl oedd, "Arglwydd ein Hior." Ac wedi codi i'r pwynt hwn, tywalltai allan ffrydlif o hyawdledd a gorchfygai bawb. Pyrs Ifan oedd a dawn gwirioneddol hynod ganddo pan gaffai hwyl. Cyflawnder o eiriau heb wastraff. Dawn fel y môr. Digon cyffredin heb yr afael honno. Wedi bod yn hen greadur meddw iawn. Dynion da iawn oedd William ac Elieser, meibion Ellis Jones y Colwyn. Cododd nifer o ddynion cedyrn o ddiwygiad 1840. Y mae'n ymddangos ei fod yn anhawdd cael dosbarth o weddiwyr cyffelyb iddynt. Yn eu plith yr oedd William Williams Cwmcloch, Owen Evans Cwmcloch, Robert Williams Cae pompren. Y mae disgynyddion iddynt yma a thraw yn bregethwyr a blaenoriaid. Dynes hynod oedd Sian Ifan, y cafodd Gruffydd Prisiart ganddi ddeunydd ei gyngor ynghylch crefydd a rhaid ynddi. Cerddai yn ei chlocsiau, yn y gaeaf efo'i lantern a'i ffon. Hen greadures dal, het jim cro, sannau bach, glandeg iawn yr olwg arni,—pendefiges natur. Un o hen deulu Beddgelert ydoedd: chwaer i Pyrs Ifan y crydd. Lowri Parry, wedyn, gwraig y tŷ capel, wrth ei baglau, er yn ddynes hynod o gref. Yr oedd ei Hamen yn cynhesu eich calon. Hyddysg iawn yn Gurnal. Hen wniadrag ydoedd, a daeth Elin William ati i ddysgu gwnio. Dechreuodd Elin William gadw'r tŷ capel ar ei hol yn 18 oed. Hwy ddeuent fel colomenod i'w ffenestri,— Nansi Ifan, Alis William, Marged Roberts Ty'nllan; Doli Owen a Neli Robert a Nans William Tŷ gwyn; Marged Prichard, mam William Prichard Tŷ gwyn, gwraig gyson ; Sian William y Perthi, mam Daniel Williams blaenor, Porthmadoc, gwir dda, gwastad iawn, haelionnus, gweithgar gyda chrefydd; Als Griffith, a Marged Davies, mam Hywel Davies, yn hel yr addewidion ar wely angeu. Gofynnwn iddi, wrth ei gweled yn lledu ei breichiau allan, 'Be' ydych yn wneud?' 'Hel yr addewidion, wel di,' meddai hithau." Catrin Jones, gwraig gyntaf John Jones, yn grefyddol anghyffredin er yn ifanc. Gorfoleddai Richard Roberts Cae'rgors yn adeg ei chladdu. Pan wrthi yn ei phriddo, "Waeth i chwi un mymryn heb," meddai yntau; "bydd oddiyna ar ei hunion!"

Heblaw a goffheir gan Mr. Pyrs Roberts, ceir coffa yn y Drysorfa (1869, t. 315) am Robert Morus, a fu farw Mawrth 6, 1867, yn 73 oed, yn wr parchus, haelionnus, cyson yn y moddion, cyson ei fuchedd. Hefyd am Elizabeth Roberts, merch Hafod Lwyfog, gwraig John Roberts y blaenor, a fu farw Mai 10, 1887. Daeth at grefydd yn niwygiad 1840, ym Methania, a hithau yn 26 oed. Yn arfer cynildeb er mwyn bod yn elusengar. Ni adawai i ddim ei lluddias oddiwrth weddi ddirgel ar adeg benodol. Yn ffyddlon yn gyhoeddus. Yn meddu ar grefydd gyflawn; yn mwynhau cysuron yr Efengyl yn helaeth. Yn ystod y ddau ddiwrnod diweddaf o'i chystudd, yn arbennig, cawsai ddadleniadau neilltuol ar ogoniant Crist, a thorrai allan, megys pe gwelsai eraill y cyffelyb, Gogoneddus iawn, onite ?" (Drysorfa, 1887, t. 435).

Y mae Mr. D. Pritchard yn son am rai o hen athrawon y pentref. Rhowd ei gyfeiriad at Hywel Gruffydd yn yr Arweiniad, a chafwyd cyfeiriad ganddo at Richard Roberts Cae'rgors. Pyrs Ifan oedd athro'r A B C. Yn y naill gongl o'r sêt fawr yr oedd Pyrs Ifan yn gofalu am yr eginyn, ac yn y gongl arall ceid y dywysen addfed yn nosbarth Gruffydd Prisiart. Os camymddygid, fe afaelai Pyrs Ifan ym môn braich y troseddwr, gan ei gwasgu nes y tybid fod yr esgyrn yn clecian. [Dywedai William Wmffre wrth Carneddog y byddai Gruffydd Prisiart fel athro yn talu llawer o sylw i esboniadau, yr olrheiniai ramadeg y geiriau a'r gwreiddeiriau, ac y rhoe fwy o oleu ar adnod wrth ei darllen nag ambell un mewn hanner awr o draethu. Cymru XIX., 108, t. 28]. Robert Jones a fu'n arolygwr yr ysgol am flynyddoedd. Fe geryddai heb ddeilen ar ei dafod. Yn hoff o'r plant—"Fy mhlant bach, anwyl i!" Derbyniodd John Roberts Waterloo ei briodoledd amlycaf oddiwrth ei fam, Sian Ifan, canys dynes wrol, awdurdodol ydoedd hi. Yr oedd ef yn fwy o hanesydd ysgrythyrol nac o ddiwinydd. Yn arweinydd ym mhob man, efe a arweiniai y blaid oedd am Fwrdd Ysgol. Y pryd hwnnw fe ffyrnigodd un o amaethwyr pennaf y plwyf wrtho, "Mi sathra'i ar dy denyn di, machgen i," ebe'r amaethwr. "Camp iti, ni adawa'i monofo lusgo " Dosbarth lliosog o ferched oedd gan Rhys Jones. Yr oedd yn fedrus mewn dadl. Ei weithdy weithiau yn fath o ddosbarth, yn enwedig pan fyddai E. R. Evans y Dinas yn galw. Mwynhae Rhys Jones y dadleu yno yn fawr. John Jones Stryd yr eglwys a'i ddosbarth oedd glymedig yn ei gilydd fel yr iorwg. Brodor o Ddolyddelen, ac yn perthyn i deulu Dolyddelen. Efe oedd arweinydd hen gôr enwog Beddgelert. Ni feddai Ifan Dinas (Evan R. Evans) ddawn i gyfrannu gwybodaeth, er mai efe, feallai, oedd y mwyaf ei wybodaeth yn yr ardal. Yr oedd ganddo gasgl da o lyfrau, a gwnaeth ddeunydd da ohonynt. Llefarai buchedd William Pritchard Tŷ Emrys gyfrolau. Robert William Frondeg oedd un o ragorolion y gymdogaeth. Ymboenodd gyda thwrr o fechgyn direidus, a llwyddodd yn rhyfedd i'w dwyn dan drefn a dosbarth.

Ceid yn y seiat ar nos Sadwrn, unwaith yn y flwyddyn bob un, John Jones Talsarn a Dafydd Jones. Y mae gan Mr. Pyrs Roberts atgof am y naill a'r llall. "Pwy sydd yma i ddweyd gair?" ebe Dafydd Jones. "Elin Williams y Gwindy, beth sy ganddoch chwi?" "Gweld fy hun yn amherffaith iawn: gweld rhyw bwyth ar ol o hyd, a hynny er gochel hynny fedra'i rhag anghofio'r Brenin Mawr." "Mae'n dda gen i eich clywed yn dweyd," meddai Dafydd Jones, "Cofiwch hyn: fedrwchi ddim disgwyl bod yn berffaith, na bydd rhyw bwyth ar ol o hyd. Ond chwi gewch deimlo rhyw ddiwmod fod y pwyth olaf yn y wisg, ac â'r wisg yn gyflawn am danoch y cewch fynd i mewn i'wydd y Brenin." Yr oedd Elin William yn nain i Robert Griffith Dinbych, diweddar olygydd y Faner. Byddai John Jones yn dweyd pethau a fyddai'n synnu pawb. Ac yr oedd yn gallu tynnu eraill i ddweyd hefyd. Fe draethai un tro am drueni yr anuwiol mewn dull oedd yn synnu pawb. "Os ei di i uffern wedi mwynhau cymaint o fendithion y ddaear, y funud gyntaf yr ei di yno ti dorri dy galon am dragwyddoldeb. Pan weli furiau yr hen garchar wedi eu duo gan fwg poenau y damnedigion, ti dorri dy galon am dragwyddoldeb." Y mae gan y Parch. G. Tecwyn Parry atgof am Ddafydd Jones yn y seiat nos Sadwrn. Dyma fel y dywed (gan grynhoi): "'Rwyf yn cofio'r munud yma un tro rhyfedd iawn yn y seiat. 'Roedd Dafydd Jones yn agor y seiat, a phawb ohonom yn glust i gyd tra'r ydoedd yn siarad. Y nefoedd oedd y testyn; a rhoddai yntau'r ffrwyn i'w awen wrth ddisgrifio. 'Ti gei fynd am dro ochr yn ochr a'r angel, a bydd dy edyn mor gryfion a'r eiddo yntau. A thi gei weled gydag ef ryfeddodau diderfyn yr ymerodraeth fawr. Y mae yn Natur o'n cwmpas lawer o brydferthwch; ond y mae'r cyfan yn gwywo ymaith yn ymyl gogoniant y nefoedd, canys ynddi hi y mae'n Duw ni ar ei oreu.' Wedi'n codi oddiar y ddaear o ran ein meddyliau, fe eisteddodd i lawr. Cyn bron i Ddafydd Jones eistedd i lawr yn yr hen gadair fawr, yr oedd Gruffydd Prisiart ar ei draed, ac yn siarad yn arafaidd a phwyllog. "Prin yr wyf yn credu fod geiriau Mr. Jones yn wirioneddau y gellir ymddiried ynddynt. Ehediadau barddonol ydynt, ffrwyth dychymyg ei awen fywiog, ac nid gwirioneddau sefydlog. Y mae arnom ni angen rhywbeth amgen na dychmygion yn sail ein gobeithion, ac y mae'n beryglus i ni adeiladu ar ddim ond sy wirionedd.' Yr oedd y seraff adeiniog yn y gadair fawr yn gwingo yn anesmwyth. Ei gynhyrfu ef oedd yr amcan. Cyn i Gruffydd Prisiart eistedd yr oedd Mr. Jones ar ei draed, a gwedd angylaidd arno, a'r gair cyntaf a ddywedodd oedd, 'Na, na, Gruffydd Prisiart, nid dychmygion oedd y syniadau a draethais am y nefoedd, ond gwirioneddau—realities—oedd y cyfan; ac nid oedd yr hyn a draethais ond eco gwanaidd o'r hyn ydynt mewn gwirionedd.' Ac er mor ardderchog ydoedd o'r blaen, yr oedd yn llawer mwy felly pan ail-ddechreuodd yn awr. Yr oedd dagrau Gruffydd Prisiart yn llifo, ac ymysgydwai fel corsen yn y gwynt. Yr oedd ef wedi cyrraedd ei amcan, a ni ac yntau wedi cael trêt nad anghofiwn yn y fuchedd hon. Bu'm yn ymddiddan âg ef am y tro wedi hynny, ac wylai wrth ei atgofio; a dywedai mai dyna'r ffordd i gael gwledd heb ei bath, ac y gwyddai hynny yn dda ar y pryd."

Y mae Carneddog yn dyfynnu Gwilym Eryri o'i Atgofion Bore Oes, am oddeutu 1851—6. "Trefn y moddion pan oeddwn blentyn oedd, cwrdd gweddi am ddeg, ysgol am ddau, a'r bregeth am chwech. Byddai'r pregethwyr ym Mheniel y bore, ym Methania am ddau, ac yn y pentref am chwech; ac os byddai un hwyliog, dilynid ef ar hyd y dydd. Llawer gwaith y gwelais yr hen gapel yn orlawn, ac ugeiniau yn y cowrt o'r tu allan. Ar adegau felly arferid agor y ffenestr er mwyn i'r rhai fyddai allan gael rhan o'r wledd. Ie, gwledd mewn gwirionedd fyddai gan yr hen bobl—yr Amen i'w chlywed o bob cwrr, ac nid rhyw Amen swta, ond llond calon a cheg o Amen . . . Fe gae pregethwr da, llefarwr hyglyw, gyda llais uchel a melodaidd, dderbyniad bendigedig ym Meddgelert yr adeg honno. Byddai y canu, hefyd, yn ardderchog o nefolaidd,—pawb yn canu—yr ysbryd yn aros gyda hwy—eu calonnau yn toddi o lawenydd a gorfoledd, a phawb yn slyrio ac yn treblu yr hen donau anwyl."

Rhif yr eglwys yn 1900, 196.

BETHANIA, NANT GWYNANT[9]

Y mae gwreiddiau'r hanes yn yr ardal hon wedi eu holrhain yn hanes eglwys y pentref. Y cyntaf o'r ardal y gwyddis ei fod wedi ymuno â'r Methodistiaid oedd Rhys Williams Hafod y llan, yr hyn a ddigwyddodd pan ymgynhullai'r eglwys yn Nhy'n y coed, sef oddeutu 1788-90. Cymerodd ran flaenllaw yn adeiladu capel 1794. Yr oedd yn wr o flaen ei oes. Cadwai gyfrifon manwl, yn enwedig ynglyn â'r achos ym Methania. O gymeriad di droi yn ol. Yn gydymdeimladol â'r tlawd. Nid oedd cyflog llafurwr yn nechreu'r ganrif ddiweddaf ond 4½c. y dydd. Rhoes yntau waith i nifer i arloesi'r cae newydd, gan chwanegu pryd o fwyd at y cyflog, a mawr ganmolid ef am ei haelfrydedd. Bu farw Gorffennaf 3, 1832, yn 77 oed. (Edrycher Pentref). Symudodd William Williams o'r Ffridd i Hafod rhisgl, Nant Gwynant, yn 1800, blaenor ym Meddgelert yntau hefyd er 1799. O dymer led wyllt, fe gymerai ei dramgwyddo gan bethau go fychain weithiau. Collodd ddagrau lawer gwaith o'r herwydd. Bu farw Hydref 15, 1825, yn 67 oed. (Edrycher Pentref). Yr oedd y ddau hyn fel dau gedyn yr achos yn yr ardal hon. Tebygir ddarfod iddynt fod yn foddion i wella moesau yr ardal yn fawr, ac i gael amryw i ymuno â'r eglwys ym Meddgelert. Yr oedd tŷ y naill a'r llall mewn ystyr arbennig yn dŷ yr Arglwydd.

Erbyn 1800, ac ychydig cyn hynny, byddai pregeth yn Hafod llan bob bore Sul. Y mae'n sicr, ebe Mr. Morris Anwyl Jones, nad yw'r adroddiad am John Thomas yn rhoi'r bregeth gyntaf yn yr ardal yn 1810, yng nghorlan y Wenallt, yn gywir, gan fod pregethu yn Hafod y llan fwy na deng mlynedd cyn hynny.

Tua diwedd 1821 neu ddechre 1822 y penderfynwyd adeiladu capel. Cafwyd tir i'r amcan ar stâd Mostyn ar brydles o 60 mlynedd, wedi ei dyddio Rhagfyr, 1825, yn ddilynol i'r adeiladu. Y mae cofnodiad yn aros am dderbyniadau yr eisteddleoedd am dair blynedd, yn dechre gyda Rhagfyr, 1822. Ceir nodiad fel yma: "15 Ionawr, 1824, talais rent y capel, 5s." Y mae ar gael daflenni yn cynnwys enwau'r pregethwyr a'u testynau. Dengys y rhai'n fod y daith hyd 1822 fel yma: Tylyrni, Hafod y llan, pentref. Ond erbyn 1822, Tylymi, Bethania, pentref. Wedi cael capel, yr oedd Bethania, Peniel a'r pentref yn daith hyd tuag 1855, a Bethania a Pheniel o hynny hyd 1877. Y tri swyddog cyntaf yma ydoedd, Rhys Williams, William Williams a Griffith Jones Hafodydd brithion, y tri yn ffermwyr cyfrifol. Griffith Jones oedd y swyddog cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys ei hun. Yr oedd ei gartref yn hynod anghysbell, ond cerddodd lawer i'r moddion i Feddgelert, Hafod llan a Hafod rhisgl. Bernir ei fod yn wr rhagorol. Gorfoleddwr mawr yn amser y diwygiad. Câr i John Jones Talysarn. Bu farw Hydref 18, 1837. Nid oedd mwyafrif yr aelodau ond cyffredin eu hamgylchiadau, fel nad oedd y derbyn- iadau yn dod i fyny a'r taliadau. Yn 1826 y mae'r derbyniadau yn llai na'r taliadau o £6 4s. 0½c., ac yn 1827 o £8 6s. 8½c.

Mesur y capel ydoedd 9 llath wrth 7. Gwnawd tŷ capel ac ystabl. Wele yma y "cyfrif o gostau adeiladu capel Bethania yn y flwyddyn 1822," fel y mae yn aros yn llawysgrifen dwt Rhys William. "Am dorri dae'r, gwneud cwterydd a chloddiau, a chlirio o'i gwmpas, £6 7s. 2g. Codi'r cerrig a'u tynnu at y gwaith, £13 5s. 2g. Gwaith maen, 398 llath, am 1s. y llath, £19 18s. Gwaith wrth y dydd, £1 17s. 9g.; rhodd, 5s.=£2 2s. 9c. 471 troed. o goed, viz. 404¾ am 22d., 21 feet am 23d., 45¾ feet am 2s., £43 14s. [43 13s. 9½c.] Am 5 dwsin o bolion a'u cario, £1 14s. Am gario 471½ feet o goed am 4d. y droedfedd, £7 17s. 2g.; cario ais ac amryw bethau eraill, 11s. 10c.=£8 9s. Am 82 hobet o galch, 13c. a 41 pecaid am 17c., £2 18s. [£2 18s. 1g.]=£7 6s. 10c. [£7 6s. 11c.]. Am gario'r calch, £3 7s.; Am flew, £1 4s.; ei gario, 4s.=£1 8s. Am 8700 slates, £8 12s.; cario rhai at y ffordd, 2s. 6ch.=£8 14. 6ch. Am 10 bwndel o ais, £1 16s. 3c. Am doi 178 llath am 5½c. y llath, £4 1s. 7c.; gosod cerrig tablau, 3s.=£4 4s. 7c. Plastro, £4 17s. Teils crib, £1 10s.; eu cario, 4s. 6ch.=£1 14s. 6ch. Gwaith coed a'r llifio, £28 12s. 2g. Paint, oil a brwsh, 12s. 7½c. Hoelion a chyrt, £5 16s. 8g. Gwaith y gof, £1 10s. 6ch. Am ddau rate a'u gosod, 17s. Am amryw bethau yn shop Richard Williams, £6 3s. 9c., am bowlins ffenestri, 2s. 6ch.46 6s. 3c. Gwydro, 77 troed., 8. mod., 10 rhan, am 1s. 6ch. y droedfedd, £5 16s. 9c. Gwneud ystabl, £10. Cost y turnpikes, £1 1s. 51c. Release y capel, £2 6s. 2 bapur stamp i wneud biliau, 6s. 8g. [Cyfanswm] £192 4s. 10c. Telais am goed bedw, £1 5s. Am Release, £5 5s. [Cyfanswm] £198 14s. 10c. Benthyciwyd gan Robert Jones, £160. Casglwyd £36 4s. Y derbyniadau, £196 4s. Y taliadau, £192 4s. 10c. Gweddill yn llaw, £3 19s. 2g." Y mae nodiad pellach wedi ei amseru, Mehefin 11, 1827: "Swm yr arian dderbyniwyd at adeiladu capel Bethania y flwyddyn 1822. Derbyniwyd gan ewyllyswyr da, £36 10s. Benthyciwyd gan Robert Jones Bwlchbach, £160. Benthyciwyd gan William Ellis Beddgelert £10. [Cyfanswm] £206 10s. Y costau aeth i adeiladu fel y maent i'w gweled yr ochr arall, £198 14s. 10c. Y gweddill yn llaw, £7 15s. 2g. Rhagfyr, 1828, Talwyd am baentio'r capel, £5 10s."

Diau i lawer o'r gwaith gael ei wneud yn rhad. Y mae rhestr y cyfranwyr o £36 10s. wedi ei hamseru, Mawrth 23, 1822. Ceir ynddi chwecheiniog yr eneth forwyn a theirpunt y meistr. Cynwysa'r rhestr 120 o enwau. Erys eu plant a'u hwyrion â'u hysgwyddau dan yr Arch. Rhifai yr eglwys o'r cychwyn hyd ddiwygiad '59 oddeutu 60 o aelodau. (Cymharer y cyfrif o'r Ystadegau ynglyn â hanes y diwygiad ymhellach ymlaen).

Ymwelid â'r gymdogaeth gan gewri'r pulpud. Nid oedd eu cydnabyddiaeth am oedfa am lawer blwyddyn ond swllt neu ddau, ac mewn dim amgylchiad dros 3s. Dyma restr pregethwyr Mehefin a Gorffennaf, 1823: John Jones Llanllyfni, John Jones Tremadoc, Griffith Solomon, Rowland Abraham, Richard Jones y Wern, Robert Owen Llanystumdwy, Owen Jones Plasgwyn, Dafydd Cadwaladr.

Yn y flwyddyn 1836, dewiswyd Owen Williams Hafod rhisgl yn flaenor, a thua'r un adeg William Griffith Williams Hafod y llan, y ddau yn feibion i'r swyddogion cyntaf. [Yr un adeg a William Griffith, neu William Griffith Williams, y dewiswyd Gruffydd Prisiart, yn ol fel y dywedai William Wmffre wrth Carneddog. Cymru XIX., rhif 108, t. 28. Dywedir, hefyd, mai dau swyddog oedd yma ar y pryd. Rhaid fod y dewisiad, gan hynny, rhwng dewisiad Owen Williams yn 1836 a marw Griffith Jones yn Hydref 18, 1837. Yn ol Mr. Pyrs Roberts, fe wnawd William Roberts, brawd John Roberts Waterloo, yn flaenor yma. Fe symudodd y ddau olaf i'r pentref. Edrycher Pentref]. Bu farw Owen Williams, Ionawr 10, 1853, yn 47 oed, er colled a galar dwys i'r eglwys. Ceir cofiant iddo gan John Owen Gwyndy yn y Drysorfa (1854, t. 60). Crynhoir yma y cofiant hwnnw. Yn Hafod rhisgl ceid gorffwysfa a llety cysurus, a chyfeillach a berffeithiai'r cwbl. Pan oedd y seiat yng nghapel y pentref, yr oedd gan y teulu hwn chwe milltir o ffordd yno, ac yr oedd rhai teuluoedd eraill a chanddynt chwaneg. Sonia John Owen am yr eglwys yn Hafod rhisgl cyn adeiladu'r capel. Diau y cynhelid seiadau yno ynglyn â'r odfeuon. Magwyd Owen Williams fel hyn yn yr eglwys yn nhŷ ei dad. Gogwyddai Owen ieuanc at gyfeillach yr hen yn hytrach, nes myned ohono fel Joseph yn un arno'i hun ynghanol y plant eraill. Ar amgylchiad neilltuol cyfarfu yn Hafod y rhisgl John Jones Edeyrn, Michael Roberts, John Jones Tremadoc a Robert Jones Rhoslan, yr olaf yn batriarch erbyn hynny, ac yn un tra hoff o blant. Dechreuodd holi Owen. "Fy machgen bach i, a ddeui di gyda mi i gysgu heno?" Yn ddefosiynol iawn atebai Owen bach yn ol, "Dof, os cai gymorth." Wedi sylwi ar y defnydd o'r ymadrodd gan hen grefyddwyr yr oedd Owen, pan y teimlent eu hunain mewn amgylchiadau yr amheuent eu gallu eu hunain yn eu gwyneb. Gogleisiwyd John Jones Edeyrn gan yr ateb, a dechreuai ymollwng i chwerthin. Ac yna gofynnai i'r bychan, dan chwerthin: 'Cymorth, fy machgen i—cymorth; pa gymorth sydd eisieu i gysgu gyda Robert Jones?" Y colyn yn y cwestiwn ydoedd mai un tra aflonydd yn ei wely oedd yr hen Robert Jones, a chan fod gan yr henafgwyr hynny i gyd eithaf profiad o'r peth, nid bychan y difyrrwch a barai ateb y bachgen a choegni'r hen Edeyrn. Tebygid ddarfod i'r mawr lawenydd fod yn fymryn o wers i'r bachgen hefyd, gan roi syniad newydd iddo am y gradd o berygl a allai fod mewn ymyryd â phethau perthynol i bennau gwynion. Aeth i'r ysgol i Dremadoc yn 12 oed, ond ni chwareuai yno ond anaml â phlant eraill, ac yr oedd difrifwch yn ei wedd a'i ymddiddanion. Llafuriodd am wybodaeth ynghanol gofalon y fferm, nes y daeth y blaenaf yn hynny yn yr ardal. Wedi ei alw yn unllais gan yr eglwys fel blaenor, fe ymroes o newydd i fuchedd sanctaidd ac i wahanol ganghennau gwasanaeth y swydd. Meddai gymhwysterau anghyffredin i ddysgu ac arwain eglwys, sef gwybodaeth eang yn y Beibl, hynawsedd tymer a challineb, profiad o bethau crefydd ynddo'i hun, ynghydag ymarweddiad amlwg mewn duwioldeb. Ond ni pharodd y cymhwysterau hyn iddo esgeuluso rhannau allanol y swydd, ac nid llai amlwg ei gymhwysterau yn y rhannau hynny. Yr oedd yn an hawdd cyfarfod â gwell gwladwr. Wrth ddysgu ac ymddiddan yn y cyfarfod eglwysig ychydig o'i eiriau ei hun a ddefnyddiai, ond geiriau y Beibl hyd yr oedd modd a danghosai fedrusrwydd mawr wrth eu cymhwyso. Byddai ei ymddiddan â rhai wedi eu goddiweddyd ar ryw fai yn llawn cydymdeimlad, a medrai arfer geiriau syml y Beibl mewn ymddiddan felly, nes y byddai'r ymadrodd yn barnu meddyliau a bwriadau y galon. Wrth anog i gariad brawdol, dywedai mai cariad oedd y prif rosyn yng ngardd-lysiau Iesu Grist. Prin byth y gweddiai heb ofyn am i gariad gael ei dywallt ar led mewn calonnau. Fel Ioan y disgybl anwyl yr oedd yn llawn cariad. Atebai i'r darlleniad Saesneg o'r geiriau, Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, sef, Gwyn eu byd gwneuthurwyr tangnefedd. Un tro daeth cymydog ato yn danbaid iawn ei dymer am fod defaid Hafod y rhisgl wedi torri i'w dir ef. Atebai yntau'n llariaidd, "Gallwn wneud yr hyn a rwystra'r defaid mewn ychydig amser; ond pe dechreuem ni gweryla o'u hachos, gallai hynny barhau am flynyddoedd." Yr ateb arafaidd a ddenodd y cymydog i'r gongl at y bibell, a gyrrwyd pob natur ddrwg i ffordd. Gwraig yn dod ato i gwyno fod gwraig arall wedi ei difrio yn gywilyddus. "O!" ebe yntau, un wan ydi hi, 'does ganddi hi ddim llywodraeth ar ei thymerau gwylltion. Y mae hi'n ymguro nes anafu ei hun. Ond yr ydych chwi yn gref i oddef, ac felly yr ydych yn gallu osgoi ei niwed hi." Drwy gyfryw atebion a chynghorion arafaidd y gostyngid ymchwydd y galon. Haelionnus iawn ydoedd i dlodion yr ardal. Pan glywodd gwraig dlawd am ei farwolaeth, torrodd allan,-"Y Brenin Mawr a'm helpio i a fy mhac plant; dyna fy ymwared mewn caledi wedi colli." Ymroes yn ymdrechgar yr ychydig amser a gafodd gyda hwy i ddysgu ei ddau fachgen yng ngeiriau'r ffydd. Cymhellai addysgu'r plant ar eraill. Dywedai gwraig wrtho yn y seiat unwaith, wrth ymddiddan â hi ynghylch ei phlant, y byddai'n dwrdio llawer amynt. "Pe baech yn dysgu mwy," ebe yntau, "caech ddwrdio llai." Gwnae bwynt o ymddiddan ynghylch pethau crefydd gyda rhai dibroffes. Cyffelyb ydoedd mewn cystudd maith a nychlyd i'r hyn ydoedd yn iach. Er dangos yn gynil weithiau awydd am lesad, gwelid yn fwyaf amlwg ganddo ymostyngiad tawel i ewyllys ei Dad nefol.

Mab Rhys Williams oedd William Griffith Williams. Fel gyda'i dad yr achos mawr a lle cynnes iddo yn ei galon. Daliodd yn ffyddlon yr un fath er i'r llewyrch allanol ar bethau amrywio. Yr oedd yn neilltuol o ofalus am i'r gwasanaethyddion fyned i'r moddion. Elai cynifer ag oedd modd o'i dŷ ef i'r gwasanaeth bob amser. Ar adegau elai i hwyl neilltuol yn y seiat. Arferai John Griffith Porth treuddyn, Prenteg, ag adrodd am "hen wr Hafod y llan yn tanio yn y seiat, ac yn rhoi sbonc oddiwrth y llawr i ganmol ei Waredwr." Bu farw Gorffennaf 22, 1858, yn 67 oed.

Ar ol marwolaeth Owen Williams, dewiswyd yn swyddogion, Pyrs Roberts Llyn du isaf [Pyrs Roberts o 3 i 4 blynedd yn gynt yn ol cofnod yn y Goleuad], John Hughes Hen gapel a John Jones Hafod lwyfog. Symudodd y ddau olaf i Beniel yn fuan. Yn eu lle dewiswyd Robert Williams Belan Wen a William Jones Hen gapel. Symudodd yr olaf i Glynnog (Capel Uchaf).

Yr oedd Robert Williams Belan Wen yn gymeriad cryf a gloew. Yfodd yn ddwfn o Gurnal: meddiannodd ef yn ddigon llwyr i fedru ei ddefnyddio yn rhwydd a pharod yn y seiadau, a hynny er lles a bendith i eraill. Ei fawr nerth oedd mewn gweddi. Fe weddïai ynddo'i hun, fel y dywedir am dano, wrth fyned a dod gyda'i waith beunyddiol, a gweddïai yn y capel nes tynnu ohono y nefoedd i lawr. Erys yr atgof melus am ei weddïau hyd heddyw. Yr oedd iddo ddylanwad ar ieuenctid anystyriol. Fe ddanghosai lymder yn erbyn arferion drwg. Bu farw Tachwedd 15, 1871. Yr oedd John Hughes Hen gapel yn gofiadur pregethau digyffelyb braidd. Bu John Jones Hafodlwyfog yn wasanaethgar gyda'r ysgol a'r canu. (Edrycher Peniel ar y ddau olaf.) Ystyrrid William Jones Hen gapel yn ddiwinydd rhagorol.

Bu cyfnod cyn diwygiad '59 pan nad oedd ond 12 yn yr eglwys yn cymeryd rhan gyhoeddus. Un peth oedd yn galonogol, pan gollid un o'r rhif codai un arall yn ddiffael yn ei le. Cynhelid ysgol yn Blaen Nantmor, ac yno ni wnae yr un dyn arfer gweddi gyhoeddus; ond gwneid hynny am beth amser gan ddynes, Sioned Wmphre Hafodowen. Yn y diwygiad daeth amryw bennau teuluoedd yn aelodau, à chwanegwyd o 25 i 30 at y rhif. Cludid ambell wreichionen yma oddiar aelwyd Bethesda, lle gweithiai rhai o wŷr ieuainc y Nant. Prynhawn Sadwrn, Tachwedd 12, y daeth Dafydd Morgan yma. Dacw Hugh Jones Drws y coed yn y sêt fawr yn ei ddagrau. Adwaenai'r diwygiwr ef er ei ymweliad blaenorol. "A ddowch chwi heddyw, Hugh Jones?" gofynnai'r pregethwr. Ac yna cododd ei lais mewn oslef dyner, felodaidd,— "Y mae dy briod yn edrych dros y canllawiau aur ac yn disgwyl am danat, a ddoi di heddyw?" Ar ol y bregeth, hysbyswyd fod un ar ol yn ymyl y drws. "Y mae yma chwaneg nag un," ebe'r diwygiwr, "chwiliwch eto." Gwnaed ail ymchwil heb ganfod neb. Rhaid fod yma fwy nag un," ebe yntau, "chwiliwch yn fanwl eto." Wedi ymddiddan â'r wraig yn ymyl y drws, dywedodd un o'r blaenoriaid, "Dyma ni wedi cael gafael mewn un arall, Mr. Morgan," "Ond own ni'n dweyd i chwi," ebe yntau. Yr henwr, William Jones Cefn y gerynt ydoedd. Eistedd yn y sêt fawr yr ydoedd fel arfer, oblegid ei fod yn drwm ei glyw. "Wel, oni fuasai'n biti ini golli hwn," ebe'r diwygiwr. "Faint ydi'ch oed chi ?" "Pedwar ugain a dwy." "Wnewchi ddechre cadw'r ddyledswydd ar unwaith?" "Rwy wedi dechre, yn barod." "Ers faint?" "Ers bythefnos." "Welwchi, bobol, dechre gweddio wythnosau cyn proffesu. Wn i ddim beth yw'r rheswm, os nad gweled yr oeddynt ill dau [yr oedd y diwygiwr wedi cyfeirio at henwr arall 84 oed, ag y bu'r cyffelyb yn ei hanes] eu bod wedi ei gadael yn bell iawn cyn dechre, a'u bod yn teimlo fod eisieu gweithio tipyn ymlaen i wneud i fyny. Pe buasai William Jones yn mynd fel yma ar ei ddwyffon at ddrws un o'r mawrion yn y cwm yma, ac yn cymell ei wasanaeth iddynt, fuase'r un ohonynt yn rhoi diwrnod o gyflog iddo, ond dyma'r Arglwydd yn ei dderbyn, ac nid hynny'n unig, ond dyma fe yn cael dyfod i mewn yn y first class. Yr wyf yn ewyllysio rhoddi i'r olaf hwn megys i tithau." Gwnel awdur Cofiant Dafydd Morgan y sylwadau hyn: "Hyfryd iawn i'r hen saint a gofient ddiwygiad Beddgelert oedd gwylio' prydferth ysbonciadau yr ewigod ar fynyddoedd y perlysiau.' Mynych y clybuwyd gwydrau y serenod [yn hongian o'r gronglwyd] yn tincian pan darawai ambell i orfoleddwr ei ben yn eu herbyn. Atgyfodwyd emynau 1818, ac yr oedd gwlith eu genedigaeth arnynt ym mawl 1859. Wele un ohonynt:

'Rwyf yma fel y llenad
Yn llawn o frychau i gyd,
Yn newid mae fy mhrofiad
Yn aml yn y byd ;
Os unwaith caf fynd adre
Yng nghlwyfau Adda'r Ail,
Ni byddaf mwy fel lleuad,
Ond disglair fel yr haul."

(Cofiant Dafydd Morgan, t. 464.) Rhif yr aelodau, Ionawr, 1854, 43; yn niwedd 1856, 56; 1858, 56; 1860, 91; 1862, 88; 1866, 74. Am y flwyddyn 1854, dengys yr Ystadegau mai £6 oedd y ddyled; fod yn y capel 104 o eisteddleoedd, ac y gosodid y nifer hwnnw; mai 6ch. oedd pris eisteddle am y chwarter; mai £10 8s. Oc. oedd swm y derbyniadau am y seti yn flynyddol; ac mai £8 10s. Oc. oedd swm y casgl at y weinidogaeth.

Yn y flwyddyn 1863 adeiladwyd ysgoldy yn Blaen Nantmor ar stâd Daniel Vawdrey, ar brydles o 40 mlynedd. Yr amcan oedd cynnal ysgol Sul a chael pregeth achlysurol. Y draul, oddeutu £60. Yn y cyfnod hwn y dewiswyd i'r swyddogaeth, John Williams Gwastad Agnes (Capel Curig ar ol hynny) a Pyrs Roberts Hafod y llan. Yr oedd John Williams yn un o blant amlwg diwygiad 1859. Yn proffesu cyn hynny, ond y pryd hwnnw yr aeth i'r dwfn. Yn weddiwr cyhoeddus neilltuol. Er hynny, yn dywyll arno weithiau, ac arferai ddweyd y profai y tywyllwch hwnnw yn fendith iddo, gan y gyrrai ef yn fwy i'r dirgel. Cadwai y ddyledswydd deuluaidd ar ddiwrnod cneifio defaid. Gorfu iddo ymadael â Gwastad Agnes yn anisgwyliadwy, ac ni wyddai y diwrnod olaf pwy a ddeuai i brynnu ei eiddo. "I ba le yr ewch eto, John Williams?" gofynnai cymydog. "'Dwn i ar y ddaear," ebai, "ond y mae Efe yn sicr o ofalu am danaf i a'm pac plant." Cynygiwyd fferm iddo yn union deg, a symudodd i Gapel Curig. Mab iddo ydoedd y Parch. W. Curig Williams, Rhosgadfan. Mab i W. Griffith Williams Hafod llan oedd Pyrs Roberts Hafod llan. Yr oedd ef pan yn wr ieuanc yn ddefnyddiol. Symudodd i Groesor ac oddiyno i Fetws Garmon, a bu'n swyddog yn y ddau le. Daeth yn ol i'w ardal enedigol yn 1891, a bu farw Rhagfyr 28 yr un flwyddyn, yn 60 oed. Yr oedd ol y dirgel ar ei weddi a'i fuchedd.

Yn 1867 penderfynu ail-adeiladu'r capel. Nid oedd ond 18 mlynedd o'r brydles heb ddod i ben, ac yr oedd meddwl adeiladu o'r newydd ar hynny o brydles yn achos o bryder. Cymhellwyd myned ymlaen gan y Cyfarfod Misol. Helaethwyd y capel, adgyweiriwyd y tŷ, rhowd railings haearn o flaen y capel ynghyda ffordd ato. Y draul, £433 7s. 6ch. Rhowd llawer o lafur yn rhad gan drigolion yr ardal. Cyn pen wyth mlynedd yr oedd y ddyled wedi ei thalu.

Yn Rhagfyr, 1872, fe ddewiswyd Robert Williams Hafod rhisgl (nid yn 1863, fel y mae yn Ystadegau 1893), Ellis Roberts Hafodowen (Nazareth, Penrhyndeudraeth ar ol hynny) a Pyrs Davies Cwm llan (Tabernacl, Porthmadoc, ar ol hynny) i'r swyddogaeth. Yr oedd Pyrs Davies yn flaenllaw gyda phob symudiad, ac yn amlwg yn y gras o haelioni. Dysgwyd yr eglwys i gyfrannu ganddo. Yn y flwyddyn 1878 dewiswyd Richard Jones Hafodydd brithion, William Jones Buarthau (Beddgelert wedi hynny) a William Humphreys Tan y bryn. Daeth Richard Jones yma o Beniel. Ni fu byw ystod faith ar ol dod. Ychydig o raen oedd ar ganiadaeth yma cyn ei ddod; ond gwellhaodd yn fawr drwy ei ymdrechion ef. Bernir fod ol ei addysg ef ar ganiadaeth y lle hyd heddyw. Bu farw Mai 16, 1858, yn 57 oed.

Symudodd Ellis Roberts i Nazareth, Penrhyndeudraeth, tuag 1878, a galwyd ef i'r swydd yno. Bu farw Mawrth 7, 1888, yn 60 oed. Magwyd ef yn y Clogwyn, Nantmor, a'i dad ef oedd y blaenor, William Roberts y Clogwyn. Cafodd y fraint o'i ddwyn i fyny ynghanol traddodiadau crefyddol neilltuol. Oddeutu chwe blynedd y bu ei arhosiad yn yr ardal hon, wedi ei ddewis yn flaenor. Eithr fe'i profodd ei hun yn yr amser hwnnw yn wr rhagorol, yn ddychryn i anuwioldeb, ac yn un na phrisiai am wên na gŵg tlawd na chyfoethog, os credai fod yr hyn a wnaent o'i le. Un bore Sul, fe welodd un o foneddigion yr ardal allan yn saethu. Aeth ato yn y fan i ddweyd nad oedd yn gwneud yn iawn, ac yn lle ffromi ac ymosod arno, fel yr ofnid gan y rhai oedd yn edrych ar yr hyn elai ymlaen, diolchodd y boneddwr yn gynes iddo. Fel ŵyr i Robert Roberts y Clogwyn, fe'i profai ei hun yn asglodyn o'r hen foncyff.

Bu Pyrs Roberts Llyndy isaf farw Tachwedd 10, 1879, yn 73 oed, yn flaenor ers yn agos i 30 mlynedd. Bu'n ffyddlon a gweithgar, a dioddefodd gystudd trwm a maith yn dawel ac amyneddgar. Ni phroffesodd grefydd nes bod yn ychydig dros 40 oed, a gwnawd ef yn flaenor ymhen rhyw ddwy flynedd. Ymgysylltodd drwy briodas â theulu Dolyddelen, a bu hynny yn achlysur mynych ymweliadau John a Dafydd Jones. Efe a ymdrechai gael dechre pob moddion yn brydlon, a byddai yn gyson ym mhob moddion. Blaenor distaw, doeth. Gallai roi taw ar ddadl. Llafuriodd gyda'r ieuanc. Bu'n dra ffyddlon i'r Cyfarfod Misol, ac adroddai ohono gyda blas. Go anobeithiol ydoedd yn ei gystudd diweddaf hyd yn agos i'r terfyn, pryd y dywedodd wrth ei ferch nad oedd angen canwyll arno, fod pob man yn oleu o'i gwmpas: llu y nef wedi dod i'w hebrwng adref. O fendigedig goffadwriaeth. (Goleuad, 1879, Tachwedd 15, t. 13; a 29, t. 12.)

Yn 1882 rhowd porth i'r capel ar draul o £50. Awd, yn y man, drwy brofiad dierth ynglyn â'r capel. Adroddir yr helynt gyda theimlad fel yma: "Yn Rhagfyr, 1885, daeth prydles y capel i ben. Gofynnai perchennog y tir £400 am dano, neu ymadael â'r lle. Yn y flwyddyn 1886 fe geisiwyd drwy bob moddion ddarbwyllo'r perchennog o anhegwch ei gynnyg, ond yn ofer. Daeth y rhybudd terfynol i ymadael â'r capel, a thaenodd hynny donn o brudd-der dros yr ardal. Enillwyd, hefyd, gydymdeimlad gwlad. Gwaith an hawdd oedd cloi y drysau a rhoi'r allweddau i'r perchennog a myned i ysgoldy y bwrdd i addoli. Yn arbennig, yr oedd yn anhawdd i hen frodyr a chwiorydd oedd wedi treulio'u hoes yn swn y gweddïau taerion a'r pregethau eneiniedig a wrandawsid ganddynt yn yr hen gapel; a rhai ohonynt yn ystod eu hoes wedi teimlo pethau mawr yno, nes yr oedd eu heneidiau wedi ymglymu am y lle, a'i wneud yn fangre anwylaf y ddaear iddynt. Ac yn ddiweddar iawn, mewn cyfarfod, clywsom Mr. Robert Williams Hafod y rhisgl yn adrodd ei hanes ef a Mr. William Williams Pen y bryn, yn myned rhyw ddydd Sadwrn gyda'r drol i gludo'r hyn oedd y gyfraith yn ganiatau o ddodrefn y cysegr, i ysgoldy'r Bwrdd. Dywedai mai dyma'r gorchwyl anhawddaf y buont yn ei gyflawni yn eu bywyd, a bod y dagrau yn treiglo i lawr eu gruddiau pan yn troi eu cefn ar y capel gyda'u llwyth cysegredig. Wedi cyfarfod o honom i addoli yn yr ysgoldy am rai misoedd, penderfynwyd ceisio dod i ryw delerau â'r boneddwr. Dyma'r nodiad yn llyfr y capel am y pryniant, a gadewir iddo lefaru drosto'i hun: 'Tachwedd 10, 1887, prynnwyd y capel, y tŷ, a 1003 llathen ysgwar o dir am £335 gan J. W. Jones, Ysw., Llundain [nid y blaenor o'r enw].' Er y cwbl, yr oedd llawenydd mawr yn yr ardal, wedi cael y capel yn ol, a'i gael yn feddiant bythol."

Bu Mr. John Jones (Hermon, Bethesda) yn trigiannu yma of 1868 hyd 1873, gan gadw ysgol a phregethu. Yn 1873 y tarawyd ysgoldy Blaen Nantmor gan fellten, a pharodd ddinystr mawr arno. Ail adeiladwyd ar draul o tua £40.

Yn y flwyddyn 1887, hefyd, yr ail-adeiladwyd ysgoldy Blaen Nantmor ar draul o £80. Ymroes yr eglwys o ddifrif yn wyneb y beichiau hyn. Llwyddwyd i glirio'r cyfan mewn saith mlynedd. Yn 1879 dechreuodd Griffith Owen bregethu; yn 1885 derbyniodd alwad i fugeilio'r eglwys. Yn 1891 daeth y stâd y mae'r capel arni yn feddiant Syr Edward Watkin. Cyflwynodd ef dir i'r eglwys i adeiladu tŷ capel arno. Ac yn 1895 cyflwynodd dir drachefn i adeiladu tŷ'r gweinidog arno. Traul yr olaf, £260. Yn 1897 yr adeiladwyd y tŷ capel, ac yr adgyweiriwyd yr hen dŷ capel, gan adeiladu tŷ yn gysylltiedig âg ef, ar draul o £600. Traul y cyfan, £860.

Y swyddogion sy'n aros erbyn 1900: Robert Williams Hafod y rhisgl, Richard Jones Hafodydd brithion, William Humphreys Tan y bryn a William Williams Penybryn. Dewiswyd yr olaf yn 1897.

Dywedir fod gwrthwynebiad cryf i'r ysgol Sul ar y cychwyn. Danghosid cyndynrwydd gyda chychwyn dan y syniad nad oedd ymgasglu ar ddydd yr Arglwydd i ddysgu darllen ddim yn deilwng o'r diwrnod. Dywedai Hugh Hughes Gellidara mai pladurwr o'i gymdogaeth ef a gychwynodd yr ysgol Sul ym Methania. Tybir iddi gael ei sefydlu yn adeg diwygiad 1818, neu feallai ychydig yn gynt. Cynhaliwyd hi gyntaf mewn beudy ar dir Hafod y llan, a elwir Ty'r gorsen. Y mae'r lle hwnnw yn awr yn dŷ annedd, ac yn perthyn i haf-dý Syr Edward Watkin. Ni wyddis pa hyd y bu'r ysgol yno, ond tra bu hi byddai gwraig Hafod y llan yn rhoi pryd o botes i'r rhai a ddeuent yno i'r bregeth, ac a arhosent i'r ysgol. Canodd Hywel Gruffydd am yr hen wraig fel yma:

Beti Jones oedd wraig rinweddol,
Tra defnyddiol yn ei dydd;
Os ei siwmai faith orffennodd,
Byth ni ffaeliodd goleu'i ffydd.

Cynhaliwyd yr ysgol mewn amryw fannau yn y tymor yma. Ymhlith mannau eraill, mewn ty a elwir o hyd yr Ysgoldy. Saif ar ochr y brif-ffordd, yn agos i ran isaf Llyn Gwynant. Ar ol adeiladu'r capel yn 1822, symudwyd yr ysgol yno, ac am oddeutu 16 neu 17 mlynedd, cynhaliwyd hi yno yn un ysgol. Gan fod rhai cyrrau o'r ardal mor anghysbell, tair milldir o ffordd i flaen y Nant, y tu uchaf i Lyn Gwynant, ac o ddwy i dair milltir i Flaen Nantmor, penderfynwyd selydlu cainc ohoni yn y cyrrau hyn. Torrodd y naill gainc allan yn Hafod rhisgl, cartref Owen Williams, a bu yno oddeutu 30 mlynedd, yn ysgol gref a llwyddiannus, gydag o 35 i 40 o aelodau. Yna lleihaodd poblogaeth y cwrr yma o'r ardal gryn lawer, a phenderfynwyd ymuno âg ysgol y capel. Torrodd y gainc arall yn ffermdy Gelli Iago. Yr oedd hwn yn lle eang, cyfleus. Yn un ran ohono yr oedd y gwŷr, yn y rhan arall y gwragedd, ac yn y rhan arall y plant. Gofelid am yr ysgol yn ffyddlon gan John Roberts Llwynrhwch, brawd Pyrs Roberts Llyn du isaf, er nad oedd yn proffesu crefydd. Rhif yr ysgol hon yn niwedd 1850, 32; yn 1900, 34. Yr oeddid wedi symud yn 1863 o Gelli Iago i'r ysgoldy newydd. Rhif yr ysgol yn y capel a'r ysgoldy ynghyd yn 1900, 120. Y mae Mr. David Pritchard yn traethu ar rai cymeriadau a fu yma heb fod yn swyddogion. John Jones Ty'n llwyn oedd fab yr hen gerddor, John Pritchard Berthlwyd. Ofer iawn ym more. oes. Wylai yn hidl wrth gofio amser ei oferedd. Bu'n arweinydd y gân am flynyddoedd. Meddai ar lais soniarus a mwyn. Yr oedd ei lwybr i'w ddirgelfan mewn gweddi yn goch gan ol ei draed. Bu farw Ebrill 17, 1863, yn 82 oed. Dyma fel y canodd Emrys Porthmadoc iddo:

Dyma fedd hen gristion didwyll
A gyfrifwn megys tad;
Y mae tyst i'w ragoriaethau
Ym mhob mynwes sy'n y wlad.

Gallwn herio gwlad i nodi
Unrhyw wyrni yn ei gam;
Golwg amo wnae i estron
Hoffi'r dyn heb wybod pam.

Pan y plygai John mewn gweddi,
Teimlai ei ysbryd yn cyffroi,
A chyfeiriai fel yr eryr
Tua'r nefoedd heb ymdroi.

Fel tywysog yn yr ymdrech,
Yn hyderus, eto'n ŵyl;
Teimlai'r dyrfa nad oedd yno.
Ddim o'r gelfyddydol hwyl.

Thomas Williams Ty'n coicia [Ty'n coed cae] oedd un o gewri y Nant mewn duwioldeb. Efe oedd arolygwr cyntaf yr ysgol yn yr ardal. Meddai ar ddawn trefnu ac arolygu. Rhagweledydd oedd Robert Gruffydd Ty'n coed cae, a chaffai ei gynghorion sylw. Richard Humphrey Pen y bryn (ac Ysgoldy) oedd enwog am dduwioldeb. Ei ddirgelfan dan gysgod hen gelynen gerllaw'r tŷ. Fe dorrai allan yno weithiau mewn hwyl gorfoledd.

Mwynhad oedd bod yng nghwmni Margaret Davies Ty'n llwyn, fel y traethai am ofal ei Gwaredwr am dani. Bu farw yn 1847 yn 62 oed. Dyma fel y canodd Emrys iddi hithau:

Triniai'r byd a'i amgylchiadau
Fel yngoleu'r farn a fydd.

Yng nghyfeillach plant yr Arglwydd,
Pan y cwrddent yn ei Dŷ,
Yr oedd arogl ar ei phrofiad
O'r eneiniad oddi fry.
Swn cadernid y Cyfamod
Oedd yn ei hochenaid ddofn,
Distaw ddagrau hyder santaidd
Oedd yn angeu i'w holl ofn.

Sian Evans, gwraig Pyrs Roberts y Bwlch, a gadwai'r ddyledswydd deuluaidd ei hunan wedi marw ei phriod, a rhaid ydoedd i bawb fod yn bresennol. Bu farw Mehefin 27, 1842, yn 76 oed. Sian Roberts Penrhiwgoch oedd dra gofalus am y ddyledswydd deuluaidd hwyr a bore. Yr oedd ei phriod yn fyw ac yn aelod eglwysig, ond arni hi y gorffwysai yr arweiniad yn y gwasanaeth. Ei " diolch " cyhoeddus yn ennyn gwres yn y gwasanaeth. Bu farw Hydref 1866, yn 60 oed.

Ow I dynnu priod anwyl—a thrwyadl
Athrawes o'i gorchwyl;
Un deg oedd—nodedig ŵyl—o dan gu
Aden Iesu mae'n cadw noswyl.

Gwen William, merch Hafod llan, oedd ei hun yn wraig dduwiol, a magodd ferched a ddaeth yn neilltuol felly. Bu Doli, ac ar ei hol hi, Elin, yn cadw'r tŷ capel, a gwnaethont eu rhan yn ardderchog yn y cylch hwnnw. Y diwrnod y bu farw Elin aeth tair o ferched ieuainc o Feddgelert ar hynt i hel cnau. Ym mhen uchaf llyn Dinas yr oeddynt yn dod ar i fyny, mewn bwriad i fyned gyn belled a'r Bwlch. Gwelai'r tair gyda'i gilydd Elin William mewn gwisg wen yn siglo'i hun yn wynfydus ar gangen coeden. Dychrynasant yn yr olwg, ac ymlaen â hwy. Erbyn cyrraedd ohonynt y tŷ capel, yr oedd Elin William wedi marw ers ugain munud. Ymddanghosodd ei chorff serol iddynt, ar hedfan ei berchen i'r trigfannau nefol, ar agwedd gyfaddas i'w dimadaeth ieuangaidd hwy. Mae enwau'r tair ar gael, ac yr oedd un ohonynt yn fyw yn gymharol ddiweddar. [Sefyll ar y gangen yr oedd corff serol Elin William, yn ol Mr. John Roberts (Llanllyfni), a Jane ei chwaer ef oedd un o'r tair a'i gwelodd, ac Ann Parry Plas Colwyn ydoedd un arall.] Ann Jones fu'n gweini o ewyllys calon yn nhy'r capel, ac a fagodd blant sy'n golofnau i'r achos. Caredig wrth y tlawd oedd Beti Jones Hafod llan, ac un yn ymfawrygu mewn gweini ar weision yr Arglwydd. Alis Roberts, gwraig gyntaf William Gruffydd Hafod llan, oedd yr un a gafodd yr olwg ryfedd arni ei hun yn anisgwyliadwy ac yn fythgofiadwy, wrth odro ar fore Sul yn amser y diwygiad mawr.

Trefnus, gofalus a fu—mwyn, wiwglod,
Mewn eglwys a theulu;
Drwy ras aeth at yr Iesu,
I drigfan y Ganaan gu.—(Hywel Gruffydd.)

Y mae gan Carneddog nodiad ar Fanny Jones Fedw bach. Hen ferch wreiddiol, a hyddysg yn yr Ysgrythyrau.

O Feibl Peter Williams
Derbyniai faeth o hyd,
A deall wnae ei wersi cudd,
Heb gymorth dysg y byd.

Byddai'n ateb yn rhagorol yn y Cyfarfodydd Ysgolion. Gyda hi yn y Fedw y lletyai y pregethwyr a ddeuai i'r ysgoldy. Yr oedd yn hynod am ei Hamen glochaidd. Hi fu'r olaf i'w seinio yn y lle. Bu farw Mai 14, 1885.

Brwdfrydig fyddai 'i moliant,
A chynes ei Hamen,
Nes dringodd i glodfori'r Oen,
A'i choron ar ei phen.—(Carneddog.)

Swm y ddyled ar yr adeiladau yn 1900, £660. Rhif yr eglwys, 101.

RHYD-DDU.[10]

Rhyd-ddu sydd bentref bychan ar esgair y Wyddfa, ar y ffordd fawr o Gaernarvon i Feddgelert, oddeutu 9 milltir o'r cyntaf a 4 milltir o'r olaf. Y mae'r esgyniad oddiyma i ben y Wyddfa yn llawer ysgafnach nag o Lanberis. Llawer teithiwr hynod â meddyliau hynod yn dygyfor o'i fewn a aeth heibio yma o bryd i bryd. Un o'r hynotaf o'r cyfryw yn ei ffordd ei hun yn ddiau oedd George Borrow. Yr ydoedd wedi cychwyn o Gaernarvon ar brynhawn Sul am oddeutu tri ar y gloch. "Ymhen ennyd fechan edrychais yn ol; y fath olygfa! Y llyn arianaidd a'r mynydd cysgodfawr dros ei ochr ddeheuol yn edrych yn awr, tebygwn, yn dra thebyg i Gibraltar. Oedais ac oedais, gan syllu a syllu, nes o'r diwedd drwy ymdrech yn unig tynnais fy hun ymaith. Yr ydoedd yr hwyrnos bellach yn hyfryd o glaear yng ngwlad y rhyfedd- odau. Ymaith y ffrystiais, gan fyned heibio i ddwy ffrwd dyrfus yn dod o'r Wyddfa i dalu teyrnged i'r llyn. Ac yn awr yr oeddwn wedi gadael y llyn a'r dyffryn tu ol, ac yn esgyn i fyny'r bryn. Fel y cyrhaeddwn ei drum, i fyny cyfodai'r lloer i lonni fy ffordd. Ymhen ysbaid fechan wynebid amaf gan fwlch caregog, gwyllt, a ffrwd yn rhedeg i lawr y bwlch â rhuad gwag, gyda phont yn gorwedd drosti. Gofynnais i ffigyr a welwn yn sefyll wrth y bont enw'r lle. 'Rhyd-ddu '-croesais y bont. Yr oedd llais y Meth- odist yn ysgrechian o gapel bychan ar fy chwith. Aethum at y drws a gwrandawn: 'Pan gymer y pechadur afael yn Nuw, Duw a gymer afael yn y pechadur.' Yr oedd y llais yn ddychrynllyd o grug. Aethum ymlaen." Tebyg mai crygni'r hwyl Gymreig ydoedd hwn, fel a glywir weithiau o hyd gyda llais yn dod o waelod corn y breuant, mewn gwr bron-eang, nerthol, nwydus. Pwy bynnag oedd y pregethwr cryglyd hwnnw yn 1854, fe ddywedodd frawddeg a deithiodd y byd.

Egyr nodiadau Mr. R. R. Morris fel yma: "Nid oes yng Nghymru gwmwd o fath y cwmwd y gorffwys pentref Rhyd-ddu tua'i ganol, a mynyddoedd brasaf Eryri yn gylch o amgylch. Y Wyddfa a'r Aran ar du y dwyrain, Moel Hebog ar du y de, y Mynydd Du a'r Mynydd Mawr ar du y gorllewin, a Moel Eilian ar du y gogledd. Safer ar ben Pont Caergors, agorer y llygaid, ac ni cheir golygfa o'i bath yng Nghymru. Mae'r olygfa gymaint yn eangach yma nag yn Nant Gwynant, neu Nant Peris, neu Nant Ffrancon. Yr wyf yn gweled heddyw yn y niwl lawer o'r hen seintiau, ac yr wyf yn clywed rhai ohonynt yr awr hon yn siarad, yn gweddio, yn canu. Nid yw melustra cerdd bore oes byth yn tewi. Richard Roberts Caergors, fy nhaid, wyf yn ei gofio gyntaf o bawb. Yng Nghaergors gyda fy nhaid y cefais fy magu hyd nes oeddwn tua 12 oed, pan y symudais at fy rhieni i bentref Rhyd-ddu. Yr wyf yn cofio gwedd, yn cofio llais, yn cofio caredigrwydd fy nhaid mor fyw heddyw a 50 mlynedd yn ol."

Atgofion o'r hen amser yw'r cerryg orest a ddanghosir eto yn yr ardal. Yr ymrysonfa ydoedd i'w codi, naill ai ar y gliniau neu ar hyd y breichiau, neu ynte i'w taflu dros yr ysgwydd. Ar y nos Suliau ar nosweithiau hirion y gaeaf yn yr amser hwnnw fe ddeuai y trigolion ynghyd i dai ei gilydd i adrodd chwedlau, ac ar yr un pryd i wneuthur rhyw fân gelfi, llwyau pren neu'r cyffelyb, a'r merched i weu hosannau. Yfid yn helaeth o'r cwrw cartref oedd mewn bri y pryd hwnnw. Ar hirddydd haf ymroid i ymladdfeydd ceiliogod, yr hyn a fynych arweiniai i ymladdfeydd gwŷr, a'r rheiny weithiau yn ffymig a gwaedlyd. Ymryson codymu oedd mewn bri, a thynnu'r dorch, codi neu daflu cerryg, rhedeg, a champau eraill. Elai'r trigianwyr, neu rai ohonynt, yn achlysurol naill ai i eglwys y Betws neu i eglwys Beddgelert. Ni fynnai'r bobl hynny glywed sôn am y fath beth a phregethu y tuallan i furiau yr eglwys. Brygawthian, ac nid pregethu ydoedd hynny. Yr ydoedd gwr o fath Elis Wyn, awdwr y Bardd Cwsc, dan ddylanwad yr un ragfamn, fel y dengys ei lyfr. Arferent ddweyd, hefyd, fod son am eglwys yn y Beibl, ond nid am Fethodistiaeth.

Yr unig hysbysiad pendant a welwyd ynghylch cychwyn pregethu yma sydd yng nghofiant Michael Roberts i'w dad. Wrth son am ei dad yn dilyn pregethu yma ac acw pan yn fachgen ieuanc, fe ychwanega y pregethid yn fore, hefyd, ym Mwlch y gylfin, ar dir Drws y coed uchaf, nid yn nepell oddiwrth y fan yr adeiladwyd capel Rhyd-ddu wedi hynny. Yn 1752 y ganwyd John Roberts, tad Michael Roberts. Dywed Michael Roberts, hefyd, y bu'r achos yma o'r blaen cyn adeg codi'r capel. (Cofiant Michael Roberts, t. 140).

Dechreuodd yr ysgol Sul yn y Planwydd bach, beudy ar dir y Planwydd wedi hynny, yn Nant Betws, yn nechreu'r ganrif o'r blaen. Tenant y Planwydd bach y pryd hwnnw oedd Sion Robert Ellis, ac y mae ei ddisgynyddion o hyd yn y Planwydd. Nid oes ond murddyn y Planwydd bach yn aros. Tebyg mai gwr y tŷ a arweiniai gyda'r gwaith. Y traddodiad ydyw mai Sion Prisiart y Waenfawr ydoedd sefydlydd yr ysgol yn yr ardal hon.

Fe symudodd Sion Robert Ellis i Fronfedw uchaf, a chynhelid yr ysgol yno. Deuai Sion Prisiart yno drachefn. Y cwbl a all Mr. Edward Owen nodi o aelodau yr ysgol ydyw gwr a gwraig Clogwyn gwin a'r pedwar llanc, Sion Gruffydd Cwellyn, a hwyrach ei rieni, ac Ann Parry Bronfedw isaf. Tybia mai ychydig oedd y nifer. Sais ydoedd trigiannydd Glanrafon ar y pryd. Nid yw'r Bronfedw uchaf cyntefig ond murddyn yn awr, tu uchaf i Ty'n y ceunant, yn ymyl y llwybr sy'n croesi o Nant y Betws i Lanberis.

Wedi marw Sion Robert Ellis, symudwyd yr ysgol i dŷ Ellis Griffith, yr hwn oedd newydd briodi Ann Evans, merch Dafydd Evan Nantlle. Eu tŷ hwy yw'r Bronfedw uchaf presennol. Ac yno yr arhosodd yr ysgol bellach hyd yr adeiladwyd y capel yn 1825. Ymunodd Rhys Williams Cwmbychan â'r ysgol hon, a daeth yn arolygwr yma. Yn 1814 y daeth ef at grefydd, ac ar ol hynny y cychwynwyd yr ysgol yma. Yng nghyfarfod chwech wythnosol Pentir, Hydref 17, 1819, rhowd rhif ysgol Bronfedw fel 61, a rhif y penodau a ddysgwyd er y cyfarfod o'r blaen yn 259. Dilynai llanciau y Clogwyn gwin yr ysgol yma hefyd. Rhys Williams yn nodi Robert i adrodd y Deg Gorchymyn y Sul dilynol. "Duw cato fi," ebe Robert, "fedra'i ddim un, ragor deg." Dro arall, Rhys Williams yn nodi un o'r brodyr ereill i'r un gorchwyl. Galw arno ymlaen ar ddechreu'r ysgol i'w hadrodd. Yntau yn hysbysu ddarfod iddo chwilio'r Testament Newydd i gyd a methu ganddo daro arnynt! Tyb Edward Owen ydyw nad oedd hyn i gyd ond bregedd y ddau frawd, a dywed eu bod fel brodyr yn hynod am eu cyfrwystra.

Cedwid cyfarfod gweddi ar brydiau ym Mronfedw uchaf ac ambell i seiat. A gwneid y cyffelyb yn achlysurol yn Nrws y coed, Cae'r gors a'r Ffridd uchaf ac isaf. Ar garreg uwchben y drws yn Nrws y coed y mae'r llinellau yma:

Dymuniad calon'r adeiladydd
'Rhwn a'th wnaeth o ben bwygilydd,—
Fod yma groeso i Dduw a'i grefydd
Tra bo carreg ar ei gilydd.—(W.G.).

Enw'r gwr a gerfiodd y llinellau hyn ar gapan ei ddrws ydoedd William Gruffydd. Buwyd yn cynnal ysgol Sul yma hefyd ar un adeg. Pan ddaeth y Morafiaid i ardal Drws y coed, sef oddeutu'r pryd y symudwyd yr achos ym Meddgelert o Dynycoed i Benybont fawr, fe ymunodd William Gruffydd â hwy. Gwnaeth ef a'i deulu lawer i ostwng corn anuwioldeb yn yr ardal. Pan ymadawodd y teulu hwn â'r ardal fe edwinodd achos y Morafiaid yma, ac fe ymunodd yr ychydig weddill ohonynt â'r Methodistiaid. (Llenor, 1895, t. 37.)

Diwygiad Beddgelert roes y symbyliad mawr i'r achos yma. Awd o hynny ymlaen yn fwy cyson ac mewn nifer mwy i'r moddion ym Meddgelert, ac i'r capel yn Nhynyweirglodd, ymhen isaf Llyn Cwellyn, wedi dechre o'r achos yno. Yn 1825 codwyd capel yn Rhyd-ddu. Dyma'r amseriad ar y lechfaen ar dalcen y capel. Ac y mae'r amseriad hwnnw wedi ei godi o'r hen lechfaen oedd ar yr adeilad cyntaf. Dywedir, pa fodd bynnag, fod dyfodiad y Parch. William Jones i'r ardal ac adeiladu'r capel yn gyfamserol. Yn ol T. Lloyd Jones, yn ei ysgrif ar eglwys Talsarn, yn 1829 y symudodd William Jones oddiyno i Ryd-ddu. Ond gan fod yr hen lechfaen yn aros, a'r ail lechfaen wedi ei chopio ohoni, diau mai 1825 ydyw amseriad y capel cyntaf yma. Rhoes rhywun y lechfaen ar yr amod ei fod yn cael rhoi enw i'r capel. Remaliah ydoedd yr enw a rowd, ond ni lynodd wrth y lle. Mesur y tir, 52 llath wrth 18. Tir perthynol i'r Ffridd isaf. Y brydles am 99 mlynedd am £1 yn y flwyddyn. Amseriad y brydles, Mai 23, 1831. Codid capeli yn fynych y pryd hwnnw cyn cael gweithred ar y tir, ond fe fu'r oediad yn fwy nag arfer y tro yma. Yr ymddiriedolwyr: William Roberts Clynnog, David Roberts Ffridd isaf, Robert Roberts Blaen cae, Llanddeiniolen, David Rowland Waenfawr, chwarelwr, John Wynne Caernarvon, John Huxley.

Sefydlwyd yr eglwys ar agoriad y capel, a galwyd David Roberts y Ffridd isaf yn flaenor. Tebyg na fu yma achos yn yr ystyr briodol cyn hyn, namyn seiat achlysurol, a hynny flynyddoedd lawer cyn hyn, ac mai ym Meddgelert yr oeddid yn ymaelodi, a rhai yn Nhynyweirglodd yn ddiweddarach. Yno yr elai Rhys William Cwmbychan, ac wedi codi'r capel yma, yno hefyd y dilynai efe'r ysgol. Ymsefydlodd William Jones, brawd John Jones Talsarn, yma ychydig cyn agoriad y capel, neu ynte yn 1829. Codwyd yn flaenoriaid yn 1831, Hugh Evans Tŷ newydd a Richard Williams Simna'r ddyllhuan. Ar ymfudiad Dafydd Roberts a Hugh Evans i'r America yn 1848 y codwyd William Jones Llwyn y forwyn a John Reade yn flaenoriaid. "Dyn distaw a ffeind iawn oedd Dafydd Roberts," ebe Mr. Edward Owen. Richard Williams oedd wr deallgar a selog. Deuai ddwy filltir o ffordd i'r moddion. Yn arswyd i anuwiolion. Bu ef farw oddeutu 1848. Trefnwyd Rhyd-ddu ar y cyntaf yn daith gyda Beddgelert a Waenfawr. Yn 1838 yr oedd Rhyd-ddu yn daith gyda Salem a'r Waenfawr.

Ym Mai, 1845, derbyn Evan Roberts yn bregethwr i'r Cyfarfod Misol. Yn 1846 y daeth John Jones yma o'r Baladeulyn, ar ymfudiad William Jones i Wisconsin, America. Bu William Jones yma am 17 flynedd, a bu o fawr wasanaeth i'r achos, megys ag y bu wedi hynny yn Wisconsin. Yn gynorthwy i'r achos ym mhob gwedd arno, yn allanol ac yn fewnol. Nid oedd ef o alluoedd cyfartal i'w frodyr. Eithr yr oedd efe yn dra chymeradwy fel pregethwr ac fel dyn. Ar brydiau, fel pregethwr, yn codi i gryn rymuster. Ymgymerodd John Jones â'r fasnach a gedwid gan William Jones. Symudodd yntau oddiyma i Frynrodyn yn 1851, wedi bod, yntau hefyd, yn dra gwasanaethgar i'r achos. Gwasanaethai y gwŷr hyn yr achos yn rhad, ac yr oedd eu sefyllfa yn y byd yn eu galluogi i fod yn gynorthwyol iawn i eglwys fechan. Yr oedd Evan Roberts yma yn gyfamserol â John Jones. Gwr call a thawel, "yn feddiannol ar gryn swm o adnoddau meddyliol," ebe Mr. Edward Owen, "er efallai yn brin mewn dawn swynol i draethu." Ebe Mr. R. R. Morris am dano: "Yr wyf yn ei gofio yn dod i'r daith i bregethu. Byddai yn pregethu bob amser â'i freichiau ymhleth neu hanner ymhleth, ac yn eu curo yn achlysurol ar ei fynwes. Clywais y gofynnwyd iddo rywbryd a oedd arno ofn marw, ac iddo ateb, 'Na ddim, ond y mae arnaf gywilydd marw.'" Symudodd ef oddiyma i Frynmelyn, ger Tremadoc. Yr oedd cyfnod y gwŷr hyn yn gyfnod llewyrchus ar yr achos.

Ail-adeiladwyd y capel yn 1853—4, pryd y cytunwyd â John Griffith Llanfair i newid mesur y tir o 52 llath wrth 18 i 39 llath wrth 24. Gadawai hyn yr arwynebedd yr un, sef 936 llathen sgwar. Arwyddwyd hyn gan Thomas Williams y pregethwr, yr hwn oedd erbyn hynny yn trigiannu yma, a chan Evan Owen. Amseriad y brydles, Medi 1, 1853. Ni wyddis mo'r draul, neu a oedd dyled yn aros o'r blaen. Swm y ddyled yn cael ei nodi yn yr ystadegau yn gyntaf oll ar gyfer 1855, sef £100; yn 1856, £80; yn 1857, £55; yn 1858, £35; yn 1859 y ddyled wedi ei thalu. Lle yn y capel i 176. Gosodid yn 1854, 159. Cyfartaledd pris eisteddle, 6ch. Arian y seti am y flwyddyn, £5 12s., yr hyn sy'n £1 12s. 6ch. dros ben, wedi eu talu feallai am y flwyddyn o'r blaen, neu ynte fod rhyw ddirgelwch arall wrth y gwraidd. Nifer yr eglwys, 51. Y casgl at y weinidogaeth, £7 1s. Yr oedd taflen 1854 am ddechreu'r flwyddyn honno, sef Ionawr, a dywedir ynddi fod yr adeiladu heb ei orffen.

Bu Richard Roberts Cae'rgors farw yn 1858. Yr ydoedd ef yn flaenor ym Meddgelert pan symudodd i'r eglwys yma, oblegid ei bod yn nes i'w gartref. Ar farw Richard Williams yn 1853 y digwyddodd hynny, ac y galwyd yntau yn flaenor yn ei le. Dichon y bu rhyw gymhelliad arno i symud yn yr amgylchiad yma. "Siaradai Richard Roberts am bethau mawr y byd tragwyddol, fel pe buasai yn un o breswylwyr y byd hwnnw. Yr oedd ei dystiolaeth am fawrion bethau Duw yn fwy fel eiddo llygad-dyst nag fel un wedi darllen am y pethau hynny. Byddai Rhisiart yn syrthio i iselder meddwl mawr. Edrychai fel y prennau ffrwythau yn Ionawr. Ond pan elai tymor ei bruddglwyf heibio, byddai perarogl blodau yn codi oddiar ei weddiau" (Drych, Awst 21.) Edrydd Carneddog am dano ynghanol prysurdeb cynhaeaf gwair yng Nghaergors yn gorchymyn i'w holl deulu fyned allan i dyrru'r gwair o flaen gwlaw. Eithr pan oedd efe'n tacluso'r das, beth welodd yn y weirglodd ond pawb ohonynt mewn hwyl cân a gorfoledd. Enynnodd y tân ynddo yntau, ac ymaith âg ef tuag atynt dan neidio a moliannu, a chan waeddi'r geiriau,—"Mae'r afael sicraf fry." Yr oedd ganddo ddawn i gynghori yn gryno ac awchlym. Edrydd Mr. D. Pritchard am dano yn cynghori merched ieuainc yn yr eglwys, ac yn sylwi fod yr ŵyn weithiau yn clafrio, cystal a'r defaid. Ac eglurai fod dau fath ar glafr, y gwyn a'r melyn; a bod y clafr melyn yn haws dod o hyd iddo, ac am hynny y gellid cymhwyso'r feddyginiaeth mewn pryd. Ond am y clafr gwyn, fod hwnnw yn lladd cyn dod ohono i'r golwg. Nododd bechodau y clafr gwyn, gan rybuddio rhagddynt. "Cryf yn yr ysgrythyrau," ebe Mr. Edward Owen, "miniog yn erbyn drwg, mawr mewn gweddi." Yr oedd gan Richard Roberts eiriau fel brath cleddyf ar dro, pan dybiai efe fod galw am danynt. Os elai ambell un weithiau braidd yn hyf yn yr eglwys, gan amlygu tuedd i chwennych y blaen, tynnai Richard Roberts ef allan fymryn yn yr ymddiddan yn y seiat. "Fuaset ti yn leicio cael dy godi yn flaenor?" "Na, nid ydw i ddim ffit." "Yr oeddwn innau yn meddwl yr un fath a thi. Ond ni welais i mo'r iar un amser yn gwyro na byddai ei golwg hi ar ben y trawser." Cymeriad anuwiol oedd Neli Richard. Yn ei gwaeledd ni thalai ddim ond i Richard Roberts ddod yno i weddïo. Yntau yn dechre ymddiddan â hi. "Os cafi fendio," ebe Neli, "mi gwelir fi'n neidio yn y capel yna gyda'r ucha." "Gwelir, mi wn," ebe yntau yn o sychlyd. "Ni phegiais i 'run mochyn erioed, weldi Neli, na wichiai o'i egni." Mendiodd Neli, a dychwelodd fel yr hwch i'w hymdreiglfa yn y dom. Yr oedd Richard Roberts yn hanner brawd i'r hen flaenor, William Parry Capel Uchaf (Clynnog), ac yn daid i'r Parch. R. R. Morris Blaenau Ffestiniog. Gwnel Mr. Morris y sylw yma am dano: "Pan oedd fy nhaid yn agos i angeu, aeth Thomas Williams (y pregethwr) ato, a gofynnodd iddo a gaffai weddïo dipyn wrth ymyl y gwely. 'Na, dim gweddio yma heddyw,' oedd yr ateb. 'Yr wyf wedi gweddïo digon. Y mae'r storm drosodd heddyw, ac y mae'r tŷ wedi ei doi ar y tywydd teg.'" (Edrycher Pentref, Beddgelert.)

Boddio golud Beddgelert—a wnae hwn,
Yn hynod o ffraethbert;
Arhosol glod i Rhisiart
Yn y byd, y bu Duw'n ei bart.—(Hywel Gruffydd).

Hydref 12, 1859, bore Mercher, Dafydd Morgan yn pregethu ar "gyflog y ddwy ochr." Amryw yn gweiddi, A oes modd newid yr ochr? Bu gwawr newydd ar yr achos y pryd hwnnw. (Cofiant Dafydd Morgan, t. 469). Rhif yr eglwys yn 1858, 57; yn 1860, 103; yn 1862, 96; yn 1866, 86.

Yn 1863 y dewiswyd Robert Jones a Francis Roberts yn flaenoriaid ar fin ymadawiad John Reade i'r Baladeulyn yn 1864. Ni byddai John Reade fyth yn neidio'r clawdd, ebe Mr. Edward Owen, heb edrych beth oedd yno yr ochr arall. Yn hynny yr ydoedd braidd yn wahanol i William Jones; a bu ef yn gryn gymorth i gadw William Jones yn y tresi. (Edrycher Baladeulyn).

Daeth William Jones yma o sir Feirionydd yn 1865 i gadw ysgol. Ymadawodd i'r America yn 1867, lle'r adnabyddir ef fel William Machno Jones. Sefydlodd y Gobeithlu yma. Bu'n dra gwasanaethgar yn y cylch. Yr ydoedd, hefyd, yn bregethwr, sef yr ail o'r enw yn y lle. Yr ysgolfeistr cyntaf yn y lle, ebe Mr. Edward Owen. Bu'r Parch. W. Williams Rhostryian yma fel ysgolfeistr, ac ymroes i lafur gyda'r plant ar y nosweithiau. Moses Jones o Benmachno ydoedd, yntau hefyd, yn ysgolfeistr a phregethwr, ac a fu'n llafurus gyda chyfarfodydd y plant. Efe ydoedd. y cyntaf i gynnal cyfarfod gweddi gyda'r plant. Oddeutu dwy flynedd fu ei arosiad ef yma.

Yn 1866 adgyweiriwyd a helaethwyd y capel y drydedd waith ar draul o £131 10s. Gwnawd seti i 284. Talwyd y ddyled erbyn 1873.

Symudodd Robert Jones oddeutu 1867 i Lanaelhaearn. Cylch bychan, ond ffyddlon gyda phob rhan o'r gwaith. Ar symudiad Robert Jones y dewiswyd Griffith Francis Clogwyn Brwnt ac Edward Owen. Bu Edward Owen yn arwain y gân am rai blynyddoedd. Yn 1873 symudodd Edward Owen i Bentrecelyn ger Rhuthyn. Efe yw tad y Parch. Pierce Owen Rhydycilgwyn.

Yn ystod haf 1876 y bu farw William Jones Llwynyforwyn, yn flaenor yma ers 1848. Brodor o Fôn a ddaeth i weithio i'r Clogwyn Coch. Disgrifir ef gan Mr. Edward Owen fel dyn bywiog, fymryn yn ffroenuchel, a'r larsia a welodd Mari erioed, ysbaid cyn ei briodi. Nwydwyllt o dymer. Gair bach am yr Hen Gorff, a byddai mewn cyffro yn y fan. Cyson yn y moddion. Eiddigeddus dros ddisgyblaeth. Bu'n arolygwr ysgol am yn agos i 30 mlynedd. O'i le yn y dosbarth y dechreuai'r ysgol neu unrhyw orchwyl arall perthynol iddi. Hyddysg yn y Beibl a dawn i gymhwyso ei wersi. Cerddor go led wych a chanwr da. Yn llai galluog na Richard Roberts a mwy hyawdl. "Methodist o'r Methodistiaid oedd William Jones. Methodus ydwyf fi a Methodus a ddylai pawb fod. Os digwyddai camweddu o rywun, y dymuniad fyddai am beidio mynegi i William Jones. Yr oedd gwynepryd William Jones yn disgleirio gan burdeb. Yr oedd yn hynod hoff o Gurnall. Treuliai lawer iawn o'i amser i ddarllen a myfyrio y Beibl." (Drych, Awst 28). Dyma sylw Mr. R. R. Morris amo: "Bum yn ei wylio yn dod i lawr i'r capel ar foreuau Sul gannoedd o weithiau ar letrawa Cefn Cawellyn, ar hyd y llwybr troed serth sydd yn dod o Lwyn y forwyn i fawr. Deuai mor gynnar, a deuai mor hamddenol!— ni cherddai ar y Sul fel ar ddyddiau eraill. Efe am flynyddoedd oedd yn cyhoeddi, ac ni chlywais ei hafal. Yr wyf yn ei gofio unwaith yn cyhoeddi fel hyn: 'Bydd Dewi Arfon yma nos Sadwrn yn cadw Cyfarfod Llenyddol, a bydd y Parch. David Jones Clynnog yn pregethu bore Sul.' Gofalai am wneud gwahaniaeth rhwng y bardd a'r pregethwr. Dyn da iawn a blaenor rhagorol oedd William Jones."

Y mae enw Thomas Williams wedi ei gysylltu yn anatodol â Rhyd-ddu. Gwelwyd ei fod yma ers 1853, beth bynnag am gynt. Y rheswm am ei gysylltiad â Rhyd-ddu ym meddwl y wlad yn ddiau ydyw, am ei fod yma yn ystod diwygiad 1859. A'r pryd hwnnw fe fflamiodd allan yn odiaethol, ac o fod yn seren o'r drydedd neu'r bedwaredd radd, fe dywynai yn nychymyg gwerin gwlad megys seren o'r maintioli mwyaf, Brodor o sir Fflint ydoedd, mwnwr wrth ei alwedigaeth. Yr oedd ei ddull ysgafnaidd yn nodweddiadol o'r sir ac o'r alwedigaeth. Dywed Mr. D. Pritchard iddo gerdded lawer gwaith gyn belled ag Aberdaron ar ol gorffen ei lafur am yr wythnos, gan gyrraedd yn ol yn brydlon at ei waith erbyn dydd Llun, a'r gydnabyddiaeth yn brin ddigon i dalu'r draul ar ei esgidiau. Y mae gan Carneddog y nodiad yma amo: "Yr oedd yn bur gymeradwy. Hoffid ei ddull plaen a gor-wresog. Pan yn canlyn John Jones Talsam ar daith pregethu un tro, dy- wedodd rhywun mai Thomas Williams oedd yn twymno'r popty, a John Jones yn rhoi'r bara i mewn a'u crasu. Wrth waeddi 'Gogoniant' ar uchaf ei lais un tro ym Mheniel, fe dorrodd allan,- 'Be' ydi rhyw ditw o air fel y glory 'na sy gan y Saeson, wrth ein gair ardderchog ni-' Gogoniant!' Yna slyriai ef yn hir deir- gwaith, nes oedd y lle yn diaspedain. Cyhoeddodd lyfryn bychan o'i hymnau yn dwyn y teitl, Fy Myfyrdod. Cafodd ganmoliaeth

Dewi Arfon, fel hyn:

Ernes hapus o rawnsypiau—Canaan,
Yw cynnwys ei hymnau;
Dan y tal bren afalau—bu'n eistedd,
A'i ffraeth gynghanedd yw ffrwyth ei ganghennau.

Er hyn i gyd, ni chafodd pennill o'i waith, druan bach, ymddangos yn y Llyfr Emynau. Ceir ar garreg ei fedd ym mynwent Caeathro:

Thomas oedd wir was yr Iesu,—nid grym
Ond gwres wna'i nodweddu;
A thrwy'i swydd gwnae orseddu
Anrhydedd ar enw Rhyd-ddu.

Ei Amen llawn dymunfant—a deimlwyd
Aml waith yn ddiffuant;
Fel ei dôn ar ddwyfol dant
Ei gynes air 'Gogoniant.'—(Isalun)."

Dechreuodd bregethu tuag 1830. Aeth oddiyma i Benygroes yn 1866; ac oddiyno i'r Bwlan oddeutu 1868. Bu farw Hydref 16, 1870, yn 63 oed. (Edrycher Bwlan, a chywirer yr amseriad a roddir yno i'w farwolaeth, sef 1871). (Goleuad, 1870, Hydref 22, t. 13.)

Sefydlwyd Cyfrinfa y Temlwyr Da yma yn 1873. Yr oedd yma 80 o aelodau yn niwedd y flwyddyn.

Dewiswyd R. R. Morris ac Owen Williams yn flaenoriaid yn 1873. Dechreuodd R. R. Morris bregethu yn 1876. Ar hynny dewiswyd ei dad, William Morris, yn flaenor yn ei le. Owen Williams, dawel, ddiymhongar, a fu farw yn haf 1882, Sylw E. E. Owen yn y Drych: "Os bydd darluniau helyntion y Cristion yn grogedig ar barwydydd y nefoedd, bydd hen feudy'r Cefn a beudy Rhyd—ddu yno, fel hen fannau cyfarfod Owen Cwellyn â Duw." (Mehefin 26.) Yn 1885 derbyniwyd H. Parry Williams i'r Cyfarfod Misol fel blaenor. Yr ydoedd yn ysgrifennydd yr eglwys cyn hynny, ac y mae wedi parhau yn y swydd. Yn 1886 y bu farw y ffyddlon Francis Roberts, blaenor er 1864. Sylw Mr. R. R. Morris arno: "Yr oedd Francis Roberts yn fab i Richard Roberts Caergors, ac yn wr talaf, praffaf, ystwythaf y fro. Medrai Lyfr y Salmau yn lled lwyr ar dafod leferydd, a chae flas ar hanesion yr Hen Destament." Yn 1889 derbyniwyd William Pierce i'r Cyfarfod Misol fel blaenor.

Yn 1889 rhowd caniatad i ail-adeiladu'r capel. Pregethwyd am y tro olaf yn yr hen gapel, Gorffennaf 7, 1889, gan W. Williams Llanberis, oddiar II. Timotheus ii. 8. Y bregeth gyntaf yn y capel newydd gan H. Rawson Williams, Awst 10, 1890, am ddau y prynhawn, oddiar Luc x. 17, 18. Am chwech yr hwyr efe a bregethodd oddiar I Ioan iii. 2. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu ar y nos Fawrth a'r Mercher dilynol. Nos Fawrth am 7, dechreuwyd gan Hugh Pugh Penygraig, a phregethwyd gan J. Puleston Jones oddiar Luc xiv. 15 a David Williams Cwmyglo oddiar Ioan xix. 19. Yr ail bregethwr a gynlluniodd y capel. Traul y capel, £721.

Yn 1889 y bu farw Griffith Francis, blaenor er 1868. Mewn coffhad am dano yn y Cyfarfod Misol, Rhagfyr 26, fe ddywedwyd y bu "am gyfnod maith yn ei ffordd ddirodres ei hun yn un o'r blaenoriaid ffyddlonaf." Sylw Mr. R. R. Morris arno: "Bu'n fawr ei sel gyda'r achos. Yr oedd yn wr lled wych am sylw yn y seiat. Yr wyf yn ei gofio yn dweyd fwy nag unwaith yn y seiat,—Y mae eisieu i ni ddod i'r bregeth y Sul fel y bydd y bobl yn mynd i'r farchnad i brynnu cig, ac yn dychwelyd gyda phawb ei bisin—pawb ei bisin—pawb ei bisin!" Dewiswyd W. T. Williams Brongwyrfai yn 1890, a derbyniwyd ef i'r Cyfarfod Misol y flwyddyn ddilynol. Owen Eames a dderbyniwyd i'r Cyfarfod Misol yn 1894.

Yng Nghyfarfod Misol Tachwedd 5, 1894, fe geir cofnod i'r perwyl fod Syr E. W. Watkin, A.S., yn ymddiosg o'i hawl i ddarn tir ynglyn â'r capel a fu yng ngwasanaeth y capel ers 60 mlynedd, ond ag oedd a thywyllwch ar yr hawl iddo. Sef y darn tir y cafwyd prydles arno yn 1831.

Yn 1896 rhowd galwad i Mr. R. W. Hughes, yr hwn a ddaeth yma o Breswylfa, Llanberis. Yn 1897 prynnwyd tŷ gweinidog am £425. Yn 1899 ymadawodd Mr. R. W. Hughes, gan dderbyn galwad o Park Hill, Bangor.

Yn 1900, rhowd galwad i Mr. Isaac Davies, yr hwn a ddaeth yma o Glynceiriog. Ymadawodd i Frynrhos, Ionawr 8, 1903. Yr arolygwr cyntaf, wedi dechre cynnal yr ysgol yn y capel, oedd Dafydd Roberts y blaenor. Bu'n arolygwr hyd nes yr ymfudodd i'r America yn 1848, wedi gwasanaethu'r swydd am 22 flynedd. William Jones Llwynyforwyn a fu'n arolygwr am yn agos i 30 mlynedd. Sion Michael Llwynyforwyn fedrai drin ei ddisgyblion yn rhwydd fel y mynnai. Y mae Mr. Edward Owen yn eu henwi. Daw eu hysbrydion i fyny gyda'u henwau: Dafydd Jones Drws y coed, John Samuel Hafoty, Huw Ifan Bryn mwdwl, Twm y cloc, Robin Cwmpowdwr, Sion y bugail, Wil Bryn mwdwl. Ar ei ddewisiad yn ysgrifennydd i'r ysgol, sef oedd hynny, yn 1853, y cafodd Hugh Sion Robert Ellis ras i fod yn ffyddlon. Rhoes ef drefn a dosbarth ar gyfrifon yr eglwys. Yn 1853 yr oedd nifer yr ysgol yn 116, 11 o athrawon a 7 o athrawesau; yn 1865, y nifer yn 141, 16 o athrawon a 5 o athrawesau. Hugh Jones, y mae'n deg dweyd, y geilw ef ei hunan yn y llyfr cyfrifon. Robert Jones fu'r ysgrifennydd o 1859 hyd 1865. Morris Evans y Siop isaf a fu'n drysorydd am flynyddoedd hyd nes yr ymadawodd i Dalsarn yn 1877. Elai bob Sul drwy'r ysgol gyda'i flwch pren, a'i wên ar ei enau. Os y ceid ambell un yn o gyndyn i ddodi cwein yn y blwch, ysgydwai Morris Evans y blwch yn ei ŵydd ef, nes y clywid y pres yn tincian dros yr ysgol i gyd, a phawb yn troi i edrych y ffordd honno, a'r wên yn para o hyd ar wyneb Morris Evans. Os na byddai un ysgydwad ar y blwch yn ddigon, ysgydwid ef drachefn gan Morris Evans, a thrachefn os byddai eisieu, a deuai y cwein coch allan o'r diwedd, neu benthycid ef os byddai raid, ac elai Morris Evans ymaith gyda'r wên yn amlycach nag erioed ar ei wyneb braf. Mae'n eithaf tebyg mai'r unig athrawon ar y dechre yn y Planwydd bach a Bronfedw uchaf ydoedd Sion Prisiart a Sion Robert Ellis, a'r cyntaf yn unig hwyrach ar y dechre cyntaf. Pan ddaeth yr ysgol i Fronfedw Ann Evans, fel y gelwid y tŷ, ceid yn athrawon, Rhys Williams, Hugh Jones Ty'n y ceunant ac Ann Evans. Richard Roberts Cae'rgors a fu'n hynod o selog gyda'r ysgol wedi dod ohono i Ryd-ddu. Ystyrrid Edward Owen yn fath ar Gamaliel, ag y teimlid yn falch fod wedi eistedd wrth ei draed.

Bu yma rai cymeriadau go neilltuol ymhlith yr aelodau. Sion Michael bach Llwyn y forwyn, oedd fawr ei wanc am y nosweithiau llawen gynt. Dod adref ar un tro o noswaith lawen dan ddylanwad diod. Glynodd draenen yn ochr y gwrych ynddo. Dyna hi'n ffrwgwd rhwng Sion a'r ddraenen. Po fwyaf gurai Sion ar y ddraenen, mwyaf yn y byd y pigai y ddraenen Sion. Ar ganol yr ymladdfa wele bigiad, nid yng nghnawd Sion, ond yn ei gydwybod. Yr ydoedd yn ymladd ar ddydd Sul! Dyna Sion. adref chwap. Troes Sion allan yn ddyn newydd. Profodd y ddraenen yn ei gnawd, nid yn gennad Satan i'w gernodio, ond yn weinidog Duw i'w argyhoeddi o bechod. Dechreuodd ddiolch i Dduw am beidio â'i ddamnio am gwffio gyda'r ddraenen ar ddydd Sul. Dyna Sion Prisiart wyllt, filain, wedyn. Fel yr oedd Sion yn cludo cawellaid o datws ar ei gefn o Fronfedw, a'r bwced ar ben y gawell, wele hwnnw yn cwympo i lawr yn y man. Yr oedd Sion o dymer ry filain i ddodi ei faich i lawr, a dodi'r bwced yn ol, a pha beth a wnaeth ond cicio'r bwced o'i flaen yr holl ffordd adref! Milain i'r eithaf! Er hynny, gwr mawr mewn gweddi y cyfrifid Sion. Pan oedd Edward Owen yn hogyn pedair oed, mawr yr argraff a rowd ar ei feddwl gan yr hyn a glywai am Sion Prisiart ar ei farw-ysgafn. Yr hen ddyn a'r dyn newydd oedd yn ymladd yn ofnadwy ynddo am yr orsedd. Sion yn methu yn glir a chael ei hunan ar y Graig. Ar y Sul olaf iddo, pa ddelw bynnag, ac yntau bellach ar ei derfyn,—a holi mawr yn yr ardal pa fodd yr oedd yr ymladdfa fawr yn troi gyda Sion Prisiart,—wedi bore o ymladd creulon, a'r gelyn yn hyf iawn, wele Sion, tua dau ar y gloch prynhawn, yn torri allan mewn bloedd o fuddugoliaeth,— Mae fy nhraed ar y Graig!' Sul cofiadwy fu hwnnw i Edward Owen fach am lawer blwyddyn i ddyfod. A gwr llawn o gariad oedd Sion Jones, mab Sion Prisiart. A gwr ffyddlon, a gwr mawr mewn gweddi, oedd Thomas Roberts Drws y coed.

Hynod ymhlith y gwragedd oedd Ann Evans Bronfedw. Dan bregeth Ebenezer Morris yn llofft hen gapel Beddgelert, pan ydoedd efe yn dychwelyd adref o sasiwn Caernarvon, ar ol ei oedfa fawr yn 1818, y cafodd Ann Evans argyhoeddiad. Aelod yn y Waen fawr ydoedd hi nes i'r achos ddod i'w thŷ. Yn wir ddiacones. Yn y tywydd oer hi a ddeuai a mawnen gyda hi i'r tŷ capel. Byddai wedi ei chynneu yn y Planwydd bach ar y ffordd yno, fel y byddai yn wresog yng ngrât y tŷ capel erbyn y deuai y pregethwr yno. Pwysid ar ei barn mewn achosion o ddisgyblaeth. Addfed ei phrofiad. Yn myned yn fwy nefolaidd at y diwedd. Yn tebygu i Abraham mewn lletygarwch ac i Dorcas mewn haelioni. Hi a fu farw Gorffennaf 18, 1860, yn 83 oed. Dyna swm yr hyn a ddywedir am dani gan Thomas Williams (Drysorfa, 1862, t. 108). Llond ei chalon o gariad at yr achos, ebe Mr. Edward Owen. Merch iddi hi ydoedd gwraig y Parch. William Jones, a chyda'r fam neu'r ferch y lletyai'r pregethwyr yn wastad. Yn ei manylrwydd yn ymylu ar fod yn ddeddfol. Plant ac eraill â'i harswyd arnynt. Yn dyner yr un pryd. Adroddir am y ferch yn rhoi sofren i gwsmer ag oedd wedi rhedeg i gryn ddyled yn y siop, er mwyn iddo ei thalu yngwydd y fam. Jane Williams, gwraig Richard Williams y blaenor, goruchwyliwr gwaith mwn Simneu'r ddyllhuan, a fu o gymorth i'r achos pan ydoedd wan. Arferai hi adrodd cynghorion William Roberts a Thomas Jones Amlwch. Hoff o Orffwysfa'r Saint a'r Beibl. Bu farw Gorffennaf 26, 1857, yn 56 oed. (Drysorfa, 1858, t. 314). Y gyntaf fu'n cadw'r tŷ capel oedd Elin Rolant, gwraig weddw. Athrawes ar enethod. Selog gyda'r achos. Ar ewyllys da y gwrandawyr y cedwid hi gan mwyaf, ac felly hefyd ar un adeg y cedwid pregethwyr. Deuai hwn ac arall a mawn neu ymborth neu bethau angenrheidiol eraill i'r tŷ capel yn rhodd. Hen ferch dduwiol oedd Elin Jones Llwyn y forwyn. Dosbarth o enethod ganddi yn y sêt o dan y cloc. Athrawes am 30 mlynedd. Dywed E. E. Owen am dani yn y Drych: "Dywedai Neli wrth fy mam ar un adeg, 'Doli,' meddai, 'mae Elis [ei brawd] wedi gwerthu'r llo, weldi, ac wedi cael deg swllt arhigian am dano. Mae'r arian yn y siwg ar silff y dresal, ond 'dwn i ar y ddaear be' i neud efo nhw; nid oes gin i eisio dim byd—mae gin i ddigon o bob peth.'" Chwaer oedd Neli i Mari, gwraig William Jones Llwyn y forwyn. A dywedir ymhellach: "Aeth Neli a Mari Jones i Baradwys, a bydd eu coffadwriaeth a'u henwau yn berarogl, ac yn addurn a gogoniant i hen ardal Rhyd-ddu hyd byth." Modryb Ann, foliannus yn y moddion, oedd athrawes ymroddedig ar ddosbarth o enethod. A Doli Owen yr un modd. Am bob un o'r athrawesau hyn fe allesid dweyd, ebe Mr. Edward Owen, "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth."

Rhif yr eglwys yn 1900, 136.

PENIEL, NANTMOR[11]

Rhowd eisoes yn hanes eglwys y Pentref wreiddiau'r hanes ym Mheniel. Dros ben hynny, gellir olrhain peth ar hanes yr ysgol Sul yma. Sefydlwyd hi yma gan Robert Roberts Clogwyn, John Prichard Corlwyni, Richard Williams Cwmbychan, W. Williams Cae Ddafydd. Ym Mwlch Gwernog, tŷ Ann Dafydd [Owen Gruffydd a ddywed Gruffydd Prisiart a Charneddog] y cychwynnwyd. Tŷ bychan, isel, llawr pridd, a dim ond un ffenestr fechan i ollwng y goleuni i mewn iddo. Yn y nos y cedwid yr ysgol ar y cyntaf, a cheid goleu canwyllau brwyn. Dodid y canwyllau rhwng gwiail cawell wedi ei droi wyneb i waered. [Sef cawell marchnata. Pwysent ar y cawell, fel y suddai i mewn i'r pridd. Carneddog.] Gofalid am y goleu gan ryw un ar y tro. Eisteddid yn gylch am y cawell. Nid yn hir y buwyd nad oedd y lle wedi myned yn rhy gynnwys, ac yna rhennid yr ysgol rhwng amryw dai.

Dilynir hanes yr ysgol oddiyma ymlaen fel y ceir ef gan Carneddog. Cyfarfu'r rhan dros afon Glaslyn yn Ninas Ddu; gwaelod Nantmor ym Mhen y groes; blaen Nantmor yn y Corlwyni; a'r gweddill ym Mwlch Gwernog. Ni fu cystal llewyrch ar yr ysgol wedi ei rhanu fel hyn, a thrwy mai yn y nos o hyd y cynhelid hi, a'r fro mor wasgaredig, a'r ieuenctid mor wyllt a gwamal, syrthiodd i ddirywiad. Penderfynu ei chynnal mewn rhyw un lle cyfleus, os gellid ei gael. Yn y cyfwng yma, priododd Richard Gruffydd y Carneddi gyda Chatrin, merch Robert Hughes y Tylymi, ac aethant ar eu taith briodasol ar draed dros y mynyddoedd i sasiwn y Bala, a chafodd Richard Gruffydd gyfle i siarad â Thomas Charles drwy gyfryngdod ei gyfaill, Robert Jones Rhoslan. Yng nghwrs yr ymddiddan cydsyniodd Richard Gruffydd i agor ei dŷ i'r ysgol, ar yr amod fod Charles yn dod i'w sylfaenu, drwy egluro'r rheolau a chynghori y deiliaid. Y Sul cyntaf wedi hynny, dechreuwyd cynnal yr ysgol yn y Tylyrni. Er mawr siomedigaeth, methodd. gan Charles â dod, ac anfonodd yr hen gynghorydd, Rolant Abram o'r Ysgoldy yn ei le. Yr oedd y Tylyrni yn ddigon mawr i gynnwys tua chant o bobl. Byddai yno Flwch y Tlodion, a byddai pawb a allai yn rhoddi ei gyfran at gael dillad gweddaidd i'r tlodion i ddod i'r ysgol. A chafodd llawer eu dilladu felly. Llwyddwyd i gael yr ardalwyr i gyd yn ddieithriad yn aelodau. Yr oedd pawb yn rhwym o ddysgu'r Deg Gorchymyn, ac arferid eu hadrodd yn rheolaidd. Wedi hynny daeth yr Hyfforddwr i gael sylw. Hefyd, canu mawl, sef canu'r un mesur drosodd a throsodd, nes y delai'r holl gynulleidfa i allu canu yn rhwydd ac o galon.

Wele ddyfyniad o gofnodion cyfarfod daufisol yr athrawon, sef y rhai cyntaf a geir ynddo: "1818, Mai 10, Arolygwr, 1; golygwyr neu athrawon y dosbarth, 14; rhai yn cael eu dysgu, 70 holl nifer yr ysgol, 85; penodau a salmau a adroddwyd, 251; adnodau y plant, 141; Hyfforddwr, 5 pennod. Symudwyd 10 o'r Testament i'r Beibl, a 6 o'r Llyfr Egwyddori i'r Testament." Wele, eto, ychydig o gofnodion Cyfarfod Athrawon 1819. "Medi 12. Holl nifer, 94. Adroddwyd yn yr ysgol ar y testyn a roddwyd ddau fis yn ol, sef Teitlau Crist, 126 o adnodau; proffwydoliaeth am Grist yn yr Hen Destament, 34 o adnodau; y cyflawniad yn y Testament Newydd, 58 o adnodau. Caed fod saith o rai yn medru darllen ac heb ddysgu'r Deg Gorchymyn. Anogwyd yr holl athrawon i ymegnïo tuag at gael pawb i'w dysgu."

Gwelodd Carneddog hen ysgriflyfr cofnodion ysgol y Tylymi, wedi ei ysgrifennu mewn dull plaen gan Robert Gruffydd y Ferlas, saer coed, taid y diweddar Robert Griffith Dinbych, a gofyn a oes rhywun a ŵyr pa le y mae yn awr? Ceir ynddo hanes cyflawn am bob dau fis yn gyson, hyd adeg adeiladu'r capel, 1829. Cynhelid cyfarfod gan yr athrawon bob dau fis, darllenid y cyfrifon yn fanwl, gwneid sylwadau ar ansawdd yr ysgol, ac yn enwedig gwneid ymchwiliad manwl a oedd pawb a allai yn dyfod i'r ysgol, gyda gofalu na byddai neb yn cael ei adael o eisieu dillad priodol i ddod iddi. Robert Roberts y Clogwyn oedd yr arolygwr hyd ei farw yn 1814. Ni wyddis pwy oedd yn y swydd o hynny hyd 1820, pryd y dewiswyd William Roberts y Clogwyn. Parhaodd ef yn y swydd hyd 1829, pryd y symudwyd yr ysgol o'r Tylymi.

Sylwa Carneddog beth ar yr hyn a wnawd yn y Tylymni heblaw gyda'r ysgol. Yn fuan fe ddechreuwyd pregethu yno hefyd, sef ar brynhawn Sul. Gwnaeth Robert Gruffydd bulpud derw cadarn, a gosodwyd ef mewn congl wrth ffenestr llawr y tŷ. Dyma rai o'r hen bregethwyr fu yn y lle: Dafydd Cadwaladr, Ffoulk Evans, Lewis Morris, Isaac James, Charles Jones, James Hughes o Leyn, John Peters o'r Bala, Evan Ffoulk Llanuwchllyn, Rolant Abram, Griffith Solomon, John Thomas Llanberis, Robert Dafydd Brynengan, Dafydd William Brynengan, Robert Jones Rhoslan, Gruffydd Sion Ynys y Pandy, Robert Griffith Dolgelley, Richard Jones y Wern, Robert Sion Hugh, Moses Jones, John Williams Llecheiddior, Cadwaladr Owen, William Morris Cilgerran, Daniel Jones Llanllechid, John Elias, Michael Roberts, Dafydd Rolant, Robert Thomas Llidiardau, John Jones Tremadoc, John Jones Llanllyfni, Dafydd Jones, Dafydd Jones Beddgelert, Henry Rees, a'r olaf a fu yma, Robert Owen Apostol y Plant. Bu Robert Owen yn dilyn ei alwedigaeth fel gwehydd yn y fro pan yn llanc. Ni chafodd yr un o'r pregethwyr hyn fwy na phedwar swllt a chwe cheiniog o gydnabyddiaeth am yr oedfa, llawer driswllt, deuswllt yn aml, a swllt yw y swm lleiaf a dalwyd i'r hen ffyddloniaid pybyr.

Yn 1829, Mehefin 9, y dechreuwyd adeiladu'r capel cyntaf. A Pheniel y galwyd ef. Gosodwyd y seti Chwefror 1, 1830. Cadwyd cyfrifon manwl o'r adeiladwaith. Dyma enghraifft: "Talwyd i Robert Thomas am wneud y muriau, 463 llath, 0. 6, yn ol 1s. 1g. y llath, £25 1s. 7g. Toi 214 llath, 8. 3, yn ol 6ch., £5 7s. 5c. Plastro 365 llath 5. 5, yn ol 4c., £6 17s." Yr holl fanylion wedi eu cofnodi yn y dull yma. Y cyfanswm am adeiladwaith y capel, £163. Eithr yr oedd eisieu tŷ capel, ystabl, gardd, a gwaliau oddiamgylch, fel yr aeth yr holl draul yn £250. Nid oedd dim mewn llaw gogyfer a'r draul. Darfu i wyth o bersonau ymrwymo rhoi benthyg y swm gofynnol ar log, yn ol 4 y cant. Ymhen 25 mlynedd, bu raid ail doi ac ail wneud amryw bethau ar draul o £50. Casglwyd y swm gofynnol rhag blaen gan bobl ieuainc yr ardal. Deffrodd hynny o ymdrech ysbryd cyfrannu yn fwy yn yr ardal. Bu'r ystad yr oedd y capel wedi ei adeiladu arni yn y Chancery. Prynnwyd capel a'r ychydig dir o'i gwmpas am £200 3s. 3c., pan yr oedd y brydles ar ben. Hysbyswyd yng Nghyfarfod Misol Hydref, 1866, fod hynny wedi ei gyflawni. Ar gyfer 1867 y mae amseriad y weithred, ac yn y flwyddyn honno rhowd caniatad i helaethu'r capel. Tynnwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd un arall yn ei le, ynghyda dau dŷ cyfleus yn ei ymyl yn 1868. Traul yr holl adeiladau, £1450, gan gynnwys y tir. Dywedwyd yn y Cyfarfod Misol a gynhaliwyd ym Mheniel, Mehefin, 1874, fod y ddyled erbyn hynny wedi ei thynnu i lawr i £772. Ni thelid llog ar y pryd ond dros £100. Dywedid fod o leiaf £200 wedi eu hebgor ers pan yr oedd y gymdeithas ddilog wedi ei sefydlu. Nid oedd poblogaeth yr ardal ond oddeutu 160 dros 15 mlwydd oed. [Mae'n werth coffhau y gwasanaeth gwirfoddol gwerthfawr a wnaeth W. W. Parry Penygroes, ac wedyn Glan Meirion, a Chadwaladr Owen Gelli'r ynn gyda'r Gymdeithas Ariannol yn y fro, y cyntaf fel ysgrifennydd, a'r olaf fel trysorydd. Coronwyd eu hymdrechion, a gwnaed lles dwbl drwy'r gymdeithas. Mae'n parhau eto. Carneddog.]

Yn 1833 y sefydlwyd yr eglwys. Eithr ni bu nemor gynnydd hyd 1836. Y diwygiad dirwestol a barodd i'r achos hybu. Ymgymerodd yr eglwys yn aiddgar â'r diwygiad hwnnw, a llwyddwyd i gael pawb drwy'r ardal yn ddirwestwyr. Ymunodd y rhan fwyaf o'r rheiny â'r eglwys. Aeth mwyafrif yr ardalwyr y pryd hwnnw yn grefyddwyr, ac y mae y wedd honno ar bethau wedi parhau.

Prynhawn dydd Mawrth, Hydref 11, 1859, y cyrhaeddodd Dafydd Morgan Peniel. Wrth nesau ohono at y capel, goddiweddodd Marged Williams, a gofynnodd iddi, "I ble 'rych i'n mynd?" "Mynd i'r capel, weldi." "Pwy sydd yna heddyw?" "Chdi, machgen i, ac yr ydw i wedi gweddio am iti gael help i bregethu hefyd." Eisteddai'r hen wraig yn y sêt fawr, ac ar ryw bwynt yn y bregeth, hi gododd ar ei thraed, a chan chwyfio'i ffon, dywedai wrth y pregethwr, "'Roeddwn i'n dweyd wrthyt mai fel hyn y byddai hi, ond 'doeddwn i?" Wmphra William oedd un o'r dychweledigion. Rhoes hwn yn ystod ei fywyd byrr ogoniant lawer i'w Arglwydd, ac erys ei goffadwriaeth yn berarogl. Un arall o'r dychweledigion a breswyliai yng Ngardd llygad y dydd, sef Thomas William wrth ei enw. Nid oedd ei fuchedd flaenorol yn ateb i'w drigfan. Wrth ei weled yn arddelwi crefydd, torrodd un hen wraig allan, "Diolch! dyma garreg sylfaen teyrnas y cythraul ym Mheniel wedi ei chwalu." Cafodd Robert Williams Aberdyfi oedfa gofiadwy ym Mheniel ar y tŷ ar y graig yn amser y diwygiad. Mewn oedfa yma ar y Sul, lediodd David Pritchard Pentir bennill o'i gyfansoddiad ei hun, a chanwyd llawer ammo yr adeg honno,—

Mae'r arfaeth fawr dragwyddol
Yn gweithio'i ffordd ymlaen,
A miloedd o blant Cymru
Yn seinio newydd gân;


Mae rhai yn gwaeddi, 'Achub,'
Yng ngrym y cariad rhad,
A'r lleill yn gwaeddi, Diolch,"
Yn gynes am y gwaed.

Pennill y canwyd llawer arno ydoedd hwn :

Nid ar feddwl cadw 'chydig
Daeth Iesu Grist i'n daear ni;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Yr aeth i'r lan i Galfari;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Yr aeth i lawr i waelod bedd;
Nid ar feddwl cadw 'chydig
Y daeth i fyny'n hardd ei wedd.

(Cofiant Dafydd Morgan, t. 466.) Ar ddydd diolchgarwch, fe ddywedir yn y Drysorfa (1860, t. 62), y torrodd y diwygiad allan yn rymus iawn. Rhyw frodyr lled ddiddawn oedd yn gweddïo, fe ddywedir; ond yr oedd y fath ysbryd gweddi wedi disgyn arnynt fel yr oedd y gynulleidfa wedi ei dal â syndod. Yr oedd tua 30 wedi dod i'r seiat, sef erbyn dechreu'r flwyddyn, fan bellaf. Rhif yr eglwys Ionawr, 1854, 42; yn niwedd 1856, 65; yn 1858, 81; yn 1860, 105; yn 1862, 106; yn 1866, 95. Dywedir na ddarfu i nemor o had yr eglwys a gyffrowyd y pryd hwnnw wrthgilio.

Y blaenoriaid oedd yn y swydd pan sefydlwyd yr eglwys yma oedd John Prichard y Corlwyni, a fu farw yn 1836; Richard Williams Cwmbychan, a fu farw yn 1840; William Roberts y Clogwyn, a fu farw Mawrth 17, 1862, yn 67 oed. Am John Prichard y Corlwyni, tystiolaeth pawb a'i hadwaenai oedd fod yr achos iddo ef yn wir ofal calon. Efe oedd y trysorydd a'r ysgrifennydd, fel y digwyddai gynt nid yn anaml. Gydag ef, beth bynnag, fe weithiau hynny'n dda, gan y gwnae bob diffyg yn y derbyniadau i gyfarfod y taliadau i fyny ei hunan. Llwyddodd i gael pregethu cyson yn yr ardal bob Sul am 30 mlynedd cyn adeiladu capel yma, sef yn y Tylymi fynychaf, lle cynhelid yr ysgol hefyd. Tan ofal John Prichard y bu'r ysgol am amser maith. Gwr tawel, gweithgar, a phwysau ei gymeriad yn peri iddo gael ei barchu gan bob dyn. (Edrycher Pentref.)

Daeth William Roberts y Clogwyn i'r ardal drwy briodi merch Robert Roberts y Clogwyn. Brodor o Ddolyddelen ydoedd. Efe oedd y blaenor mwyaf ymarferol yn y lle. Teithiodd lawer gyda gweinidogion fel cyfaill, ac elai i holl Gyfarfodydd Misol y sir am dymor maith. Anfynych y bu neb erioed ffyddlonach. Gwnaeth a allodd. Byddai yn y moddion yn y capel haf a gaeaf ar bob tywydd. Arferai ddweyd nad oedd raid i neb golli dim wrth fyned i foddion gras; fod yn ddigon hawdd prynnu'r amser hwnnw yn ystod y dydd. Dechreuodd ei yrfa grefyddol yn ystod diwygiad mawr Beddgelert, ebe John Jones, a gorffennodd ei yrfa ar y ddaear ar ol gweled diwygiad 1859 a'i effeithiau, a chyfranogodd yn helaeth o fendith y naill a'r llall. Fe ddywed William Jones Nantmor, mewn nodiad amo yn y Drysorfa (1867, t. 113), mai yn 18 oed y profodd argyhoeddiad, ac mai dyna'r adeg ddifrifolaf arno yn ei oes. Yn ol hynny, profodd argyhoeddiad 4 neu 5 mlynedd o flaen y diwygiad. Gyda John Williams Dolyddelen yr ydoedd yn gwasanaethu ar y pryd. Pa bryd bynnag y dywedai ei brofiad neu y rhoddai gyngor yn yr eglwys, byddai'n dra thebyg o gyfeirio at yr helynt honno, ac ni ddeuai oddiyno ond fel colomen Noah gyda deilen olewydden yn ei gylfin. Pan tuag 20 oed daeth i Feddgelert i wasanaeth at Rhys Williams Hafod y llan. Cyfranogodd yn helaeth o'r diwygiad a dorrodd allan ymhen ysbaid. Neidiodd a gorfoleddodd lawer. Yn rhoddwr hael ei hun, arferai ganmol yr eglwys am haelioni, a daeth yr eglwys wrth ei chanmol yn nodedig yn y gras yma. Dyn brwd ei ysbryd ydoedd yn hytrach na dawnus. Er hynny, fe fyddai ei weddïau yn llawn o fater. Gwnae bwynt o ddysgu'r ieuenctid ynghylch arfer geiriau priodol wrth weddio. (Edrycher Pentref).

Richard Williams Cwmbychan oedd wr hynaws a duwiol, yn naturiol yn garedig, ac yn meddu dylanwad mawr, oblegid puredd a gaed ynddo. Arferai siarad yn barchus am bawb bob amser, a byddai pawb yn ei barchu yntau, ac ni byddai neb byth yn ei ameu am ddim a'r a ddywedai. Ymddiriedodd yn gadarn yn yr Arglwydd, a chadarnhawyd yntau â nerth yn ei enaid, canys fel y bu fyw y bu farw, a hynny yn llawn o dangnefedd yr Efengyl. (Edrycher Pentref.)

Owen Cadwaladr, un arall o'r swyddogion, oedd un y perthynai iddo nodweddion o'i eiddo'i hun. Nid tyner wrth y drwg oedd ef. Ceryddai yn llym iawn yn yr eglwys am bob math o esgeulustra. Yr oedd yn wr cadarngryf, ac un ffordd ganddo o geryddu oedd gwasgu â'i law, nes peri i'r troseddwr edifarhau am ddod i'w afael ef, a phenderfynu na chaffai afael arno rhag llaw. Byddai hynny o gyfnewidiad, ebe John Jones Tŷ capel, yn meddwl pob un a ddeuai i'w afaelion. Llygaid gwan oedd ganddo, ac arferai wydr crwn bychan i edrych trwyddo, a chredai plant yr ardal fod y gwydr hwnnw yn dangos eu pechodau yn fwy nag oeddynt. Unwaith y dodid y gwydr ar ryw blantos o bechaduriaid tua'r capel, nid oedd dim i'w wneud ond ffoi o'i ŵydd, neu ynte redeg ato i ofyn am faddeuant. A medrai Owen Cadwaladr faddeu cystal ag y medrai wasgu. Maddeuai yn rhwydd lle tybiai yr ymddiriedid ynddo. Eithr fe ddywedir y twyllid ef yn weddol hawdd gan aml ddyhiryn ieuanc, a gymerai arno arfer ymddiried er mwyn maddeuant. Rhoes Owen Cadwaladr ei arian yn o rwydd am ddysgu allan o'r Salmau a'r Diarhebion. Pan oedd William Williams Bod y gof, Llanberis, ebe Carneddog, yn blentyn adref yn efail y pentref, addawodd Owen Cadwaladr ddeuswllt iddo am ddysgu allan y bedwaredd bennod o'r Diarhebion erbyn y galwai efe yno drachefn, Daeth ymhen y pythefnos, a chododd Wil bach i ben yr engan, ac adroddodd y bachgen y bennod yn gywir, a rhoddwyd y ddeuswllt iddo o galon rydd. Yr oedd yn gredwr mawr yn noethineb Selyf. Anogai i haelioni, a dyfynnai yr ymadrodd hwnnw, "Anrhydedda'r Arglwydd â'th gyfoeth, ac â'r peth pennaf o'th holl ffrwyth; felly y llenwir dy drysorau â digonoldeb." Ac efe ei hun oedd cyfrannwr mwyaf haelionnus yr ardal at bob achos teilwng. Gollyngai ei sofren oddirhwng dwy ddimai i'r gwpan gasglu, at ddyled y capel, at gymdeithas y Beiblau, at y genhadaeth, ac at gasgl dydd diolchgarwch. Nid ceryddwr llym crintachllyd oedd Owen Cadwaladr, fel y bu ambell un o'i flaen ac ar ei ol. Ymwelai â theuluoedd tlodion yn y gaeaf rhag bod eisieu arnynt am danwydd, a chariodd lawer o lô iddynt am ddim. Ac nid oedd yn greulon wrth neb a fai yn ei ddyled. Ni feddai ar nemor ddawn gyhoeddus; ei ddawn oedd cyfrannu. Bu farw Chwefror 14, 1867.

Daeth Richard Jones Tŷ mawr at grefydd yn adeg y diwygiad dirwestol yn 1836, neu'n fuan wedyn. Gwr bychan o gorff, byw, go anibynnol. Diwyd a gweithgar gyda phob gorchwyl. Bu'n ffyddlon gyda'r ysgol Sul a'r canu. Bu'n arweinydd y gân o 1839 hyd 1856, pryd y symudodd i dŷ capel Bethania. Yr oedd yn gerddor da, ac addysgodd eraill. Ymdyrrai hen bobl yr ardal ato i'w dŷ ar fore Sul cyn adeg y moddion er cael tro ar eu hoff donau, Dysgid y tonau yn ofalus cyn dod â hwy i arfer yn y gynulleidfa. A cheid blas a hwyl nefol gyda'r tonau wrth eu dysgu. Gwelwyd hwy yn dod o'r tŷ dan wylo wedi bod yn canu, "Heddyw yn eiriol." Y mae amryw lyfrau tonau yn yr ardal o hyd, ebe John Jones, wedi eu hysgrifennu gan Richard Jones. Byddai John Jones Talsarn yn hoff o ddod i Beniel, a threuliwyd llawer noswaith gyda chanu ei donau newyddion ef. Bu Richard Jones ac yntau yn synnu eu dau wrth ganfod fel yr aeth yn dri ar y gloch y bore arnynt. A dywed John Jones Tŷ capel fod y ddau erbyn hyn yn cael canu mewn hwyl mewn Peniel nad oes nos yno, a lle na chyfrifir amser, ac nad â byth yn hwyr.

Nid oedd William Williams Tŷ mawr yn ol o gymhwysterau i'w swydd, ac ni bu yn ol yn eu rhoi mewn gweithrediad. Yr oedd ef yn hynod yn ei fanylder gyda holl waith ei swydd. Elai i bob Cyfarfod Misol drwy bob rhwystrau. Credai yn y Corff, ebe John Jones, â'i holl galon. Bu'n ymdrechgar dros ben i gael pregethu cyson ym Mheniel. Cymerodd ran helaeth o'r cyfrifoldeb yn adeg adeiladu'r capel newydd yn 1868. Parodd hynny lawer o bryder iddo, ond coronwyd ef â llwyddiant amlwg iawn. Yr oedd yn ddiwinydd cartrefol da, ebe Carneddog, ac wedi darllen Gurnal, Geiriadur Charles, a llyfrau o'r fath yn fanwl droion. Athro campus yn yr ysgol. Holwr ac atebwr rhagorol. Go arw am ei ffordd ei hun fel blaenor, ebe un a'i hadwaenai yn dda. Er hynny yn henadur gwir ddefnyddiol. Bu farw Mai 15, 1881, yn 66 oed.

Ei feddwl oedd yn eang,
A threchai bawb â'i farn;
Cefnogai rinwedd gyda phwyll,
Ond twyll a wnae yn sarn;
Ymdrechai yn egniol
O blaid pob achos da,
A thra bydd Peniel yn dŷ Dduw
Ei barch yn fyw barha.—(Carneddog.)

Griffith Williams Hendre fechan (neu Dŷ newydd) oedd flaenor ffyddlon dros ben, yn ol cofnod y Cyfarfod Misol. Yn ol Carneddog, yr oedd yn ddyn lled gyflawn o ran ei wybodaeth: diwinydd medrus, athro da, atebwr parod, siaradwr i bwrpas pan yn annerch, a gweddiwr rhagorol. Byddai gweddi Griffith Williams, yn ol barn un gweinidog, yn "batrwm o weddi." Bu farw Medi 26, 1889, yn 63 oed.

Brwdfrydig ac agored oedd
Ei galon lawn at achos Duw,
A'i ddwys gynghorion plaen ar goedd
Sy'n dal i drydar yn ein clyw;
Ei ysgwydd gadwai dan yr Arch
O'i fodd, er anhawsterau fyrdd,
Ac am ei haeledd haedda barch,
Tra'i waith flagura byth yn wyrdd.—(Carneddog.)

Daeth John Hughes i Oerddwr o Fethania yn 1853. Yn flaenor ym Methania, galwyd ef i'r swydd yma drachefn. Dyn caredig a chymwynasgar. Swyddog doeth a gofalus. Siaradwr lled dda. Meddai ar gof anghyffredin medrai gofio pregethau a dysgu adnodau fel y mynnai. Cynlluniwr ardderchog, a medrai dynnu rhai allan i gyfrannu. Yr oedd yn dipyn o brydydd gwlad, a gwnaeth ambell i emyn. Bu farw Mawrth 18, 1878, yn 63 oed. (Carneddog. Edrycher Bethania).

Brodor o Eifionnydd oedd William Jones y Ferlas. Ar symudiad John Hughes, ei frawd ynghyfraith, i Oerddwr, y daeth yntau i Fethania, lle codwyd ef yn flaenor. Symudodd oddiyno i Gaermoch, y Sygun, ger Beddgelert, ond parhaodd mewn cysylltiad â Bethania. Symudodd i'r Ferlas, Nantmor, yn 1857, a dewiswyd ef yn flaenor ym Mheniel ar unwaith. Yr oedd yn flaenor da, y goreu yn y seiat. Siaradwr i bwynt. Dyn trwm ei farn, pwyllog ei dymer, helaeth ei wybodaeth. Ei fai pennaf oedd ei fod braidd yn rhy fydol. Tuag 1864, symudodd i Borthmadoc, yna i'r Penrhyn, ac yn olaf i Glynnog. Bu'n flaenor yn y Capel Uchaf. Bu farw Ebrill 7, 1888. (Carneddog. Edrycher Bethania).

William Roberts y Clogwyn oedd fab i'r gwr o'r un enw. Codwyd ef yn flaenor yn 1885. Gwr gonest, cywir, egwyddorol. Hamddenol a phwyllog ei ddull. Yr oedd ei wreiddioldeb yn hollol Gymreig, ac yr oedd yn wladgarwr angerddol. Cyfansoddodd gryn lawer o draethodau, a pheth barddoniaeth. Darllenodd y prif lyfrau diwinyddol yn y Gymraeg, ac edmygai yn fawr Gurnal a'r Dr. Owen. Cadwodd y ddyledswydd deuluaidd drwy bob anhawsterau. Cerddodd i'r capel yn gyson o'i gartref anhygyrch, pell, drwy eithaf gwynt, gwlaw ac eira. Cyfeillachai lawer â'i Dad yn y dirgel, a byddai nawseidd—dra dymunol cymdeithas cilfachau clawdd a mynydd, a chornelau beudy'r Foty, ar arddull a chynnwys ei weddiau a'i brofiadau.

Ei ddefion rhwydd bugeiliol
Oll a sancteiddiodd Duw.—(Glaslyn.)


Yr oedd yn ddefosiynol ei ysbryd, ac yn unplyg a phenderfynol. Ystyrrid ef yn gynghorydd medrus, ei sylwadau yn fyrion a phert. Yn ddirwestwr selog. Bu farw Awst 15, 1892, yn 57 oed. (Carneddog).

William Roberts oedd onest ddirwestydd,
Yn gawr o weithiwr, a gwir areithydd;
Yn null henuriad bu fyw'n llenorydd,
Yn ir ei ddoniau, yn fawr ddiwinydd;
Anwyl sant! ei Beniel sydd—a phrudd lef,
Yn chwerw 'i dolef ar lwch ardalydd.—(Namorydd).

Dechreuodd Morris Anwyl bregethu yn 1838. Mab hynaf Robert Anwyl Cae Ddafydd. Daeth John Jones y pregethwr o Dremadoc, a John Jones y blaenor o Feddgelert i'w holi ar ei gychwyniad, gyda'r bwriad eisoes yn eu meddyliau i roi atalfa arno, fel y dywedir. Yr oedd rhyw syniad fod gormod o bregethwyr o'r braidd yn codi yn y wlad ar y pryd, a'r amcan wrth geisio atal Morris Anwyl oedd atal eraill rhagllaw. Galwyd am yr ymgeisydd i'r tŷ capel at y ddau arholydd. Yr oedd ei ymddygiad yntau'n wylaidd a'i atebion yn ddifwlch. Yna aeth y blaenor i'w holi am ei brofiad. Ac wrth wrando ar ei atebion, toddodd y gweinidog fel cŵyr, syrthiodd ar ei liniau a gwaeddodd allan, "Diolch i ti, O Arglwydd, am y gwaith amlwg a wnaethost ar dy was hwn. Diolch ! dyma bibell eto i ddwyn yr olew sanctaidd." Ni chafodd neb ei siomi yn y Morris Anwyl hwn. Cyfrifid ef yn bregethwr mawr. Syniad Gruffydd Prisiart am dano ydoedd, pe cawsai fyw, y cyfrifid ef yn un o bregethwyr blaenaf yr oes. Yr oedd ganddo, hefyd, ddawn hynod i gael y bobl ieuainc i weithio yn yr eglwys gartref. Ond mwy anwyl oedd efe gan yr Arglwydd nag ydoedd hyd yn oed gan ei bobl. Yr oedd yn rhaid i'r Arglwydd wrtho. I'r perwyl yna yr ysgrifenna John Jones Tŷ capel am dano. Y mae nodiad arno, hefyd, gan J. J. Waterloo, sef John Jones Glan Gwynant, yn y Drysorfa am 1846, t. 320. Rhydd ef ei oed yn 32, a nodir Awst 12, 1846, fel dydd ei ymadawiad. A dywed fod ei rodiad diargyhoedd, ei lafur egniol, ei weddïau taerion, a'i brofiad uchel o bethau ysbrydol, yn ei hynodi yn fawr fel cristion; a'i dreiddgarwch i ddirgelwch yr Efengyl, ynghyda'i ddawn nodedig yn ei gosod allan ger bron y gwrandawyr, yn ei hynodi yn fawr fel cennad. dros Grist. Beibl mewn gweithrediad oedd ei fuchedd, fe ddywedir, a'i weinidogaeth yn ddrych ag y danghosid ynddo ddirgeledigaethau gras. Cymherir ef i seren ddisglair a grewyd gan yr hwn a wnaeth Orion a'r Saith Seren, ac a osodwyd yn ffurfafen yr eglwys i lewyrchu i'w bobl. Ac yn ben ar y cwbl, dywedir ddarfod iddo adael meini tystiolaeth ar ei ol, yn dangos iddo fyned drwy'r Iorddonnen yn ddiangol i wlad yr addewid.

John Jones Abererch a ddaeth i'r ardal i aros yn 1854. Dechreuodd bregethu y flwyddyn ddilynol. Symudodd i sir Drefaldwyn, lle bu mewn cysylltiad bugeiliol. Ordeiniwyd i'r weinidogaeth. Symudodd i'r America, lle bu farw tuag 1867.

Ellis Hughes, mab John Hughes Oerddwr, a ddechreuodd bregethu tuag 1866. Bu farw Chwefror 20, 1870, yn 26 oed. Gwywodd mewn cystudd dwys, a'i feddwl yn fyw i'r gwaith. O feddwl byw a choeth. Gweithiodd adref.

Ior â bloedd a ddeffry ei blant—ryw dro
Er mor drwm yr hunant;
Ac yna i ogoniant
Lewis Hughes ddaw'n loew sant.—(Bardd Treflys.)

Derbyniodd William Ellis alwad i fugeilio'r eglwys yn 1866, ac ymgymerodd yr un pryd â gwaith yr ysgolfeistr, a bu'n gwasanaethu yn y naill swydd a'r llall gyda chymeradwyaeth neilltuol hyd y derbyniodd alwad i Feddgelert yn 1871. Tŷb y Parch. W. J. Williams ddarfod i'w arosiad yn yr ardal hon feithrin yr elfen neilltuedig oedd ynddo. Dywed, hefyd, ddarfod iddo weithio yn galed a darllen llawer yn ystod ei arosiad yma. Bu'n cynnal dosbarthiadau am dymhorau gyda Chyfatebiaeth Butler, a dywed Mr. Williams y gwyddai am rai yn yr ardal, wedi bod yn dilyn y dosbarthiadau hynny, a fedrent ddyfynnu Butler fel adnod o'r Beibl. Darllenai y prif Buritaniaid y pryd hwn, a dygai ei bregethau ddelw eu hathrawiaeth hwy. Ar ol hyn rhoes gyfeiriad mwy ymarferol i'w bregethu. (Drysorfa, 1895, t. 426. Edrycher Pentref).

Derbyniodd Mr. W. J. Williams alwad yma yn 1889. Symudodd oddiyma i'r Pentir a Rhiwlas yn 1893. Derbyniwyd R. J. Jones i'r Cyfarfod Misol fel pregethwr yn 1892, a derbyniodd alwad i Lanelidan, ger Rhuthyn, yn 1895. Galwyd Mr. Pierce Owen yn weinidog yn 1894, a symudodd oddiyma i Rehoboth, Llanberis, y flwyddyn ddilynol.

Codwyd i'r swyddogaeth, Isaac Roberts Corlwyni yn 1878, W. Hughes a W. Roberts yn 1885, T. W. Evans yn 1892. Daeth Edward Jones Tanyrhiw yma o Fwlchderwydd yn 1854, a John Jones Tŷ capel o Groesor yn 1878.

Y mae Carneddog yn manylu ar gymeriadau heb fod yn swyddogion eglwysig, nac yn aelodau, rai ohonynt. Morris Gruffydd y Carneddi, brawd i Sion Robert, a thad Carneddog ei hun, oedd hen gristion amlwg ym Mheniel, a naturiol ei ddull. Heb dalent i annerch yn gyhoeddus, yr oedd ei ragoriaeth yn y seiat a'r cwrdd gweddi. Yn ddiystwr a hael ei gyfraniadau. Yr oedd yn adnabod pob pregethwr, hen ac ieuanc, a'i gof yn cynnwys eu henwau, a manylion perthynasol, fel y dyddiadur. Hanner addolai Owen Thomas a David Charles Davies. Cerddodd unwaith dros y mynydd i Ffestiniog i'w clywed, a chafodd y fraint o ysgwyd llaw â hwynt! Yr oedd yn hollol ddiniwed, syml a diwenwyn. Deallai egwyddorion cerddoriaeth yn bur dda, ac yn y gangen hon yr oedd gryfaf. Ar ol symudiad Richard Jones o Beniel i Fethania yn 1856, dewiswyd ef yn godwr canu yn ei le, a bu'n llenwi'r swydd am o 18 i 20 mlynedd. Bu'n dihoeni yn hir, a'r olaf o'r hen weinidogion a alwodd i'w weled oedd Evan Peters y Bala, a chaed lle hyfryd rhyngddynt. Bu farw Mai 31, 1881, yn 66 oed. John Jones Bwlch gwernog oedd frodor o dueddau Rhostryfan, a ddaeth i Hafod lwyfog at ei gefnder, John Owen. Codwyd ef yn flaenor ym Methania (Edrycher Bethania). Symudodd i Ffestiniog, a dychwelodd i Fwlch gwernog. Ymroes i ddysgu'r sol-ffa i'r ieuenctid. Codwyd ef yn gydarweinydd y canu â Morris Gruffydd, ac yn y man aeth yn brif arweinydd. Bu'n arwain côr am flynyddau. Dyn bychan, distaw, gwyliadwrus, didramgwydd i bawb hyd y gallai. Bu farw Gorffennaf 9, 1876, yn 50 oed.

Ym meusydd toreithiog cerddoriaeth llafuriodd,
A dygodd oddiyno drysorau tra mawr,
Y rhai yn ddifloesgni a seiniant ei glodydd
Tra'r huna e'n dawel ym mhriddell y llawr.
(Robert R. Jones, Corlwyni).

Perchir coffadwriaeth John Jones yr Hendre, er nad oedd yn broffeswr Bu'n cadw ysgol ddyddiol yn hen gapel Peniel o tuag 1856 hyd 1862, am gyfnodau bob blwyddyn. Yn wr bucheddol dros ben ei hunan, fe roes gychwyn da i lawer o blant yr ardal, gan roi cynghorion syml yn erbyn cyflawni drygau. Nid oedd Sion William Garleg-tŷ (Gardd lygaid y dydd) yn proffesu chwaith, er ei fod yn wr moesol, ail ei le. Yr oedd yn ddarllenwr mawr, a chanddo gof rhagorol. Byddai'n adrodd penodau ar ddechreu'r moddion, yn enwedig yr ysgol. Adroddai'r hen wr y penodau mwyaf dyrus yn Eseciel neu Esai heb fethu gair, fel y rhyfeddai'r pregethwyr at ei fedr. Hen lanc darbodus a chefnog oedd Sion Robert Beudy newydd, heb fod yn proffesu yntau chwaith. Ni chollai ddim moddion ar y Sul, ac yr oedd ganddo ddosbarth o lanciau yn yr ysgol. Cae ei barchu fel gwlanwr plaen a chywir, ac yr oedd yn hael at yr achos mewn dull distaw. Dawn at ddysgu'r plant i ddarllen oedd gan William Roberts Pen y groes. Gallai ddangos awdurdod a bod yn garedig. Dysgodd döau o blant i ddarllen, a medrai droi y plant goreu i'r Testament yn chwech oed. William Roberts yr Aber oedd athro darllenwyr a meddylwyr yr ardal. Deallai'r prif bynciau, yr oedd yn ysgrythyrwr da, ac yn wr o feddwl effro. Yn atebwr campus yn y Cyfarfodydd Ysgolion. Hen lanc oedd Owen Ifan Dinas ddu, a garai suddo i mewn i bynciau dyfnion. Un di droi yn ol mewn dadl, a dadleuai am oriau. Byddai John Owen Ty'n llwyn yn y Cyfarfod Ysgolion yn gofyn y cwestiwn yn gyntaf i'r naill ochr i'r capel, ac wedi methu ganddynt yno, i'r ochr arall, ac wedi methu yno drachefn, i Owen Ifan. Ac yna byddai'n sicr o atebiad, a gwenai yr holwr a phawb. Efe fyddai'n selio pob cwestiwn mawr. Mab Robert Gruffydd oedd Sion Robert. Gwr boneddigaidd a hardd, a lled gefnog. Yn ffyddlon a gweithgar. Eneiniad ar ei brofiadau a'i weddïau. Bu farw Gorffennaf 7, 1876, yn 67 oed.

Dywed Carneddog iddo gael yr atgofion sy'n dilyn am hen chwiorydd gan William Buarthau Jones a John Williams Cwm bychan. Sian Richard y Clogwyn oedd ferch Richard Edmwnd o'r Corlwyni, a gwraig Robert Roberts y Clogwyn. Argyhoeddwyd hi yn y Tŷ rhisgl, o dan bregeth gyntaf Robert Jones Rhoslan yn y lle. Yr oedd hi yn wraig ddarllengar a gwybodus. Hi gynorthwyai ei gwr yn y gwaith o arolygu'r achos yn ei fabandod. Hi fyddai'n codi'r canu yn ysgol y Corlwyni, ac ym Mheniel lawer yn ddiweddarach, pan yn hen wraig, os byddai'r codwr canu yn absennol. Edrychid ati hi fel un yn caru Duw yn wirioneddol, a gwnaeth ei goreu i hyrwyddo achos crefydd yn ei hoes. [Nodir gan Mr. D. Pritchard mai y hi a gafodd y fraint o ddod â Beibl ac ystôl drithroed i Robert Jones Rhoslan ar gyfer y bregeth gyntaf yn y plwyf yn Nhŷ rhisgl]. Hannah Ifan y Tylymi, ail wraig Richard Gruffydd, a merch Ifan Siams y cowper, oedd wedi yfed yn helaeth o ysbryd y diwygiadau. Adroddai adnodau a phenillion wrth gerdded ol a blaen i'r capel, a gwnae swn rhyfedd wrthi ei hun. Hyddysg iawn yn yr Ysgrythyrau. Dywedai Dafydd Rolant y Bala fod cof Hannah Ifan fel mynegair Peter Williams. Ei hoff bennill, Caersalem, ti ddinas fy Arglwydd. Arferai fwmian ar hyd y tŷ drwy'r dydd,—" O, ryfedd ras!" Byddai ganddi brofiadau melus ym mhob seiat. Er fod Ann Jones y Llety yn byw mewn tŷ unig ynghanol y mynyddoedd, am y terfyn â phlwyf Llanfrothen, hi ddeuai i gapel Peniel i bob moddion, ar bob tywydd. Yr oedd yn hen wraig nodedig o wresog ei hysbryd, a byddai'n gorfoleddu mwy na neb. Torrai allan un tro,—"O ryfedd! y Duw mawr yn mynd trwy'i eiddo i gyd, i achub hen bechaduriaid tlodion," a thaniodd y lle gyda'r dywediad. Un wreiddiol iawn. oedd Margred William Tyrpeg bach, ac wedyn o Fryntirion. Y hi gyfarfu Dafydd Morgan ar y ffordd, ac a ddywedodd wrtho ei fod yn sicr o gael arddeliad, gan iddi fod drwy'r nos yn rhoi ei achos o flaen Duw. Gwiriwyd gair yr hen wraig, a chafwyd oedfa hynod iawn. Byddai'n ddoniol dros ben yn y seiat. Cwyno y byddai hi o hyd. Pan ofynnwyd iddi am ei phrofiad gan Dafydd Jones Beddgelert, dywedodd y geiriau,—" Moes i mi dy galon." "Wel, Margiad, be' sy' genti i ddeud ar eiria fel yna, dywad," meddai'r hen bregethwr plaen. "O Dafydd anwyl," meddai'r hen wraig, gan dorri i grio dros y capel, "mae'n fendigedig ei fod ef yn gofyn am y lle gwaetha." Digwyddodd tro digrif rhyngddi unwaith â Moses Jones Dinas. Yr oedd Moses Jones yn ei hadnabod yn dda. Pan aeth efe ati yn y seiat, dywedodd, "Sut mae'r hen galon erbyn hyn, Margiad?" "Wel, digon drwg a phechadurus ydi hi wir, Moses bach." "Mi welaf fod yr hen ddyn' yn fyw hefo ti o hyd, Margiad." "Ydi, ydi, Moses, ac yn ddigon drwg ei swn yn amal." Wel, pam na threi'i di i ladd o bellach, Margiad?" "Lladd yr hen ddyn, gwirion! Be' sy' arnati, dwad? Wyt itha wedi peidio mynd o'th go', fel 'rhen Foses arall hwnnw, pan dorrodd o lechi'r cyfamod? Wyt itha wedi anghofio'r chweched gorchymyn?" Methodd Moses Jones a chael ei draed dano wedyn, a mwynhaodd pawb y ddrama ddoniol. Nain Carneddog, mam ei fam, oedd Sioned Owen Bron yr aur, wedi hynny Bwlch llechog. Yr oedd yn wraig grefyddol ac arabus. Trefnodd ei thad yn ei ewyllys fod i Feibl Peter Williams gael ei roi i bob un o'r plant, a gwnaeth pob un ohonynt ddefnydd da o'r rhodd. Arferai Sioned Owen adnod o'r Beibl i benderfynu pob pwnc. Gofynnodd sipsi iddi unwaith am gael dweyd ei ffortiwn. Atebodd hithau y gwyddai ei ffortiwn yn iawn, ac agorodd y Beibl, gan ddarllen o lyfr Job, "Ond dyn a aned i flinder, fel yr eheda gwreichionnen i fyny." Dychrynodd y sipsi, ac aeth ymaith mewn siom a digter. Sian William Cwm bychan, gwraig Richard William, oedd ddynes oleuedig. "Y fwyaf gwybodus yn Nantmor," meddai John Owen Ty'n llwyn am dani, pan atebodd yn gampus yn rhyw Gyfarfod Ysgolion. Bu'n athrawes ar hen wragedd am flynyddau maith. Catrin Robert y Clogwyn, merch Robert Roberts, a gwraig i William Roberts, oedd yn dawel ei ffordd, yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, [dysgodd yr Hyfforddwr bob gair a chyfran helaeth o'r Beibl, ebe Mr. D. Pritchard], ac yn byw yn hollol i Dduw. Hen ferch oedd Catrin Robert Tŷ capel, a gadwodd y tŷ capel am flynyddau lawer, ac a oedd orofalus am y pregethwyr a'r achos. Cynghorai blant ei dosbarth fel pe'n fam iddynt. Yr oedd yn nodedig o grefyddol. Chwaer i Sioned Owen oedd Nansi Morris, ac heb nemor ddawn i drin y byd. Yr oedd ei meddwl fel pe wedi ei sefydlu yn y byd ysbrydol. Hoff o gynghori plant. Gweddïai yn gyhoeddus ac yn ddirgel. Byddai'n gwaeddi Amen dros y capel, mewn dull cwafriol a chynes, wrth wrando pregeth neu weddi. Bu farw mewn oedran teg, a chyda hi y collwyd yr olaf o'r hen chwiorydd Puritanaidd, hen ffasiwn eu dull o grefydda, yn Nantmor.

Dyma rai sylwadau eto ar yr hen chwiorydd gan Mr. D. Pritchard. Ann Dafydd Bwlch gwernog oedd yn llawn o ysbryd yr Efengyl. Cerddodd lawer i sasiynau Llangeitho a'r Bala. Cerddodd yn droednoeth i sasiynau y Bala, hyd yn oed yn ei hen ddyddiau. Gorfoleddodd lawer. Ei Hamen gynes yn help i'r pregethwr. Mari Prichard Bryn ysgubor a ddioddefodd lawer o erlid oddiwrth ei gwr oherwydd ei chrefydd. Eithr hi a'i henillodd ef o'r diwedd, a bu'r ddau fyw wedi hynny mewn cydymdeimlad llwyr â'i gilydd, ac mewn ymroddiad i fuchedd sanctaidd. Pa "bryd bynnag y rhoddai Margret Jones y Buarthau y pennill yma allan yng nghyfarfod y merched fe'i cenid gyda hwyl neilltuol:

Tân, tân, o blaniad pur yr Ysbryd Glan,
A wna i Seion seinio cân;
Hi deithia 'mlaen drwy'r anial maith,
Er gwaethaf llid y ddraig a'i had :
Am rin y gwaed hi gana byth.

Rhif yr eglwys yn 1900, 122.

Nodiadau

[golygu]
  1. Ysgriflyfrau Dafydd Thomas a Pierce Williams. Ysgrif Owen Williams, Geninen, 1883, t. 68. Y Waenfawr ddeugain mlynedd yn ol," gan Richard Jones (Caerludd), Traethodydd, 1895, t. 102. Ymddiddanion.
  2. Erthyglau y Parch. Francis Jones (Abergele) yn y Drysorfa, 1883, s. 175, 220. Atgofion John Owen Cae ystil (Pant), a ysgrifennwyd i lawr gan Francis Jones. Y Waenfawr ddeugain mlynedd yn ol," gan Richard Jones, Traethodydd, 1895, t. 102. "Waenfawr, yn grefyddol, yr 50 mlynedd diweddaf" (llawysgrif, 1907), gan Mr. R. O. Jones. Atgofion M. Jones, Drysorfa, 1848, t. 221. Ysgriflyfrau Dafydd Thomas a Pierce Williams. Cyfrifon eglwysig, 1818 20. Ymddiddanion. Nodiadau y Mri. R. O. Jones a J. W. Thomas,
  3. Ysgrif Mr. S. R. Williams. Llyfr cyfrifon yr eglwys o'r cychwyn, yn cynnwys atgofion John Davies yr Ystrad hyd 1841. Nodiad y Parch. J. Glyn Davies Rhyl ar ei dad, John Davies yr Ysirad. Ymddiddan â Mr. Griffith Williams.
  4. Hanes Eglwys y Ceunant [hyd 1878] gan Robert Parry. Cofnodion eglwysig gan y Parch. Edward Roberts. Nodiadau gan gyfeillion o'r lle.
  5. Ysgrif Mr. Thomas Jones ysgolfeistr. Ysgrif Mr. Benjamin Williams ar Gymeriadau Eglwys Croesywaen.
  6. Ysgrif o'r lle.
  7. Ysgrif Gruffydd Prisiart. Traethawd ar y Wyddfa (llawysgrif), gan Gruffydd Prisiart. Erthyglau yn y Drych am 1890 ar Blwyf y Bedd, gan E. E. Owen, Los Angeles, California. The Journey to Snowdon, 1781,Pennant. Observations on the Snowdon Mountains, 1802, W. Williams Llandegai. Wild Wales, George Borrow. Ysgrif Carneddog ar Aberglaslyn (Cymru xvi. 69). Ysgrifau Mr. D. Pritchard Cwmcloch. Nodiadau gan Carneddog.
  8. Ysgrif o'r lle. Ysgrif Gruffydd Prisiart, a ysgrifennwyd yn 1863 a rhai blynyddoedd ymlaen. Diwygiadau Beddgelert (seiliedig ar ysgrif Gruffydd Prisiart), Llenor, 1895, t. 21—50. Diwygiad Beddgelert, Goleuad Cymru, 1823, t. 5, gan John Jones Glan Gwynant. Nodiadau ar Gruffydd Prisiart gan Glaslyn a'r Parch G. Tecwyn Parry (llawysgrifau). Ysgrifau Mr. D. Pritchard Cwmcloch. Hanes Beddgelert (sef nodiadau ar y tair eglwys), Drysorfa, 1890, t. 13. Atgofion Mr. Pyrs Roberts, a ysgrifennwyd gan y Parch. R. Pryse Ellis. Ymddiddan â Mr. Pyrs Roberts. Nodiadau y Parch. R. Pryse Ellis a Charneddog.
  9. Ysgrif Mr. Morris Anwyl Jones. Ysgrifau Mr. D. Pritchard Cwmcloch. Taflen cyfrif yr adeiladu, 1822. Nodiadau gan Carneddog.
  10. Ysgrif o'r lle, yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1884. Ysgrifau Mr. H. Parry Williams a Pierce Williams. Ysgrif ar yr Ysgol Sul a'r hen athrawon gan Mr. J. Ogwen Owen (yn cynnwys atgofion Mr. Edward Owen yr Hendre, ger Rhuthyn). Nodiadau ar yr hen flaenoriaid gan Mr. Edward Owen. Ysgrifau yn y Drych am 1890 ar Blwyf y Bedd. Ysgrifau Mr. Pritchard Cwmcloch. Nodiadau gan y Parch. R. R. Morris Blaenau Ffestiniog a Charneddog.
  11. Ysgrif John Jones Tŷ capel. Ysgrifau Mr. D. Pritchard. Nodiadau gan Carneddog.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.