Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl (testun cyfansawdd)
← | Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl (testun cyfansawdd) gan Robert Oliver Rees |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Mary Jones y Gymraes fechan heb yr un Beibl |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
MARY JONES,
Y GYMRAES FECHAN HEB YR UN BEIBL,
A SEFYDLIAD
Y FEIBL-GYMDEITHAS;
GAN
ROBERT OLIVER REES,
DOLGELLAU.
——————
GYDA DARLUNIAU.
——————
WREXHAM:
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES AND SON.
Y CYNWYSIAD.
Nodyn gan David Charles III
Nodiad Arweiniol
PEN.
I.—BYWYD BOREUOL MARY JONES
II.—MARY JONES YN CASGLU CRONFA AT BRYNU BEIBL
III—YN MYNED I'R BALA AT MR. CHARLES I BRYNU BEIBL
IV.—GYDA MR. CHARLES YN EI STUDY YN LLWYDDO I GAEL BEIBL
V.—EI HYMWELLAD A MR. CHARLES YN ARWAIN I SEFYDLIAD Y FEIBL GYMDEITHAS
VI.—Y DEFNYDD DA A WNAETH O'I BEIBL WEDI EI BRYNU
VII.—EI ZEL GENHADOL HI A'I GWENYN
VIII.—AD-DALIAD EI BEIBL IDDI
IX.—ATHRAW YSGOL DDYDDIOL ABERGYNOLWYN AR ADEG EI THAITH I'R BALA
OL-YSGRIFEN
Nodyn oddiwrth y diweddar Barch. Dr. Charles gyda'r ysgrif wreiddiol o'r llyfryn hwn, a roddasid iddo i'w darllen.
Fy anwyl Gyfaill,
- Rhagorol! Yr oedd yn fy llwyr orchfygu wrth ei ddarllen. Tywelltais ddagrau lawer uwch ei ben. Dylai gael ei argraffu yn ddioed, a chael lledaeniad cyffredinol. Diolch yn fawr i chwi am y wledd feddyliol a fwynheais. Gyda'r cofion cywiraf atoch,
- Yr eiddoch yn wir,
- D. CHARLES.
NODIAD ARWEINIOL.
——————
CEFAIS yr oll o brif ffeithiau yr adroddiad bychan a ganlyn gan ddau gyfaill ymadawedig a gawsent bob cyfleusderau dymunadwy i'w gwybod. Y cyntaf oedd yr hybarch Lewis Williams, o Lanfachreth, yr hwn oedd yn ysgolfeistr cyflogedig gan Mr. Charles yn ei ysgol gylchynol yn Abergynolwyn, a Mary Jones yn ysgolheiges ynddi, ar adeg ei thaith i'r Bala i brynu Beibl. Clywsai ef ganddi ar y pryd holl fanylion ei hymweliad a Mr. Charles, a chlywsai hefyd gan Mr. Charles ei hun ei adroddiad yntau o'i hanes, a holl hanes cyfarfod bythgofiadwy Pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Llundain yn 1802, yn yr hwn yr apeliai ef am sefydlu Beibl Gymdeithas Gymru, ac effeithiau oll orchfygol hanes ei ysgolheiges fechan ef ar yr holl weinidogion a lleygwyr enwog oeddynt yn bresenol, yr hyn a derfynodd yn sefydliad y Feibl Gymdeitnas yn 1804.
Y cyfaill arall oedd y Parch. Robert Griffiths, o Fryncrug, lle y trealiasai Mary Jones y rhan ddiweddaf o'i bywyd. Clywsai ef ganddi yn fynych holl hanes ei bywyd boreuol, a holl fanylion ei hymweliad â Mr. Charles. Iddo ef y cyflwynodd yr hen Feibl cysegredig yn gymunrodd yn ei chystudd diweddaf. Trosglwyddodd yntau ef yn gymunrodd i minau, gydag adroddiad ysgrifenedig o brif ffeithiau bywyd Mary Jones, a manylion ei bryniad gan Mr. Charles.
Cyfrol wythplyg drwchus ydyw yr hen Feibl dyddorol hwn, o'r argraffiad a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol yn 1799—yr argraffiad olaf o'r Beibl Cymreig cyn sefydlind y Feibl-Gymdeithas. Cynwysa, heblaw y Beibl, gyfeiriadau ymyl-ddalenol John Canne, yr Apocrypha, y Llyfr Gweddi Cyffredin, y Salmau gan Edmwnd Prys, ac amrywiol Dablau Eglwysig. Ceir ynddo yn llawysgrif Mary Jones ei hun iddi ei brynu yn y flwyddyn 1800, yn 16eg mlwydd oed.
Mae yr hen Feibl hwn wedi ei drosglwyddo i'r gadwraeth gysegredig, oesol, a deilynga, yn Llyfrgell Athrofa y Cyfundeb y perthynai Mr. Charles a Mary Jones iddo yn y Bala, y dref lle y cartrefai Mr. Charles, ac y prynasai hithau y Beibl ganddo. Gwnaeth pwyllgor y Feibl-Gymdeithas yn Llundain gais taer i'w sicrhau, i'w anrhydeddu â lle arbenig yn eu Llyfrgell glodfawr hwy. Mae yn amheus genym y buasai yno un o'r canoedd gwahanol gopïau o'r Llyfr dwyfol mor gyflawn o ystyr yno a'r hen Feibl hwn. Ond barnai Pwyllgor yr Athrofa ei fod mewn lle llawer mwy manteisiol i Gymru yn eu Llyfrgell hwy yn y Bala; ac yno bellach y bydd, i'w weled gan bawb a ewyllysio.
- R. O. REES.
DOLGELLAU,
- Ion. 1af, 1879.
MARY JONES,
Y GYMRAES FECHAN HEB YR UN BEIBL
——————
PENOD I—Bywyd boreuol Mary Jones.
Dwy ffaith goronol yn hanes gwlad fechan Cymru ydyw, sefydliad yr Ysgol Sabbothol tuag at addysgu ei phobl i ddarllen, a deall, a byw Llyfr Duw, ac i hyny fod yn achlysur i sefydliad y Gymdeithas sydd â'i hamcan i ledaenu y Llyfr trwy holl wledydd y byd; a chysylltiad yr anfarwol Charles o'r Bala" â'r ddwy ffaith bwysig hyn sydd wedi ei ddyrchafu i safle goruchel, hollol wrtho ei hun, ymysg gwladgarwyr Cymru.
Effaith naturiol sefydliad Ysgolion Sabbothol trwy bob parth o Gymru, yn niwedd y ganrif ddiweddaf, oedd creu angen a galwad mwy cyffredinol nag erioed am wers-lyfr dwyfol yr ysgolion oll—Y BEIBL. Darparodd y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol argraffiad o 10,000 o gopïau o'r Beibl cyflawn i Gymru yn 1799. Gan y cynwysai yr Apocrypha, Llyfr Gweddi Gyffredin, y Psalmau, Gan Edmund Prys, ac amrywiol dablau Eglwysig, yr oedd yn gyfrol drwchus, a'i bris yn uchel. Ond mor fawr oedd y galwad a greasai yr Ysgolion Sabbothol trwy yr oll Dywysogaeth am Feiblau a Thestamentau, fel y dihysbyddwyd yr argraffiad hwnw i fyny ymhen ychydig fisoedd wedi ei ddygiad allan o'r wasg. Erbyn gwanwyn y flwyddyn 1800, yr oedd Beibl Cymraeg ar werth yn un man yn Nghymru mor anhawdd ei gael ag erioed. Yn lle diwallu yr angen, a distewi y cri, cynyrchodd y 10,000 Beiblau hyn alwad mwy gwaeddfawr nag erioed o'r blaen am filoedd lawer ychwaneg. Ond wedi dihysbyddiad cyflym yr argraffiad hwn, trodd y Gymdeithas Eglwysig yn Llundain glust fyddar i bob taerineb am argraffu un copi mwyach o'r Beibl na'r Testament Cymraeg ar gyfer angen ysgolion Ymneillduol Cymru.
Uchel a thaerion oedd y llefau a gyrhaeddent glustiau a chalon Mr. Charles o bob parth o'r wlad am Feiblau a Thestamentau i'r ysgolion; ond dim un copi o'r naill na'r llall i'w gael am unrhyw bris. Hawdd yw credu i dad cyffredinol ein Hysgolion Sabbothol, arch-apostol addysg Feiblaidd yn Nghymru, yn ei deithiau parhaus i bregethu a chynal Cymanfaoedd Ysgolion mewn gwahanol barthau o'r wlad, gyfarfod â llawer geneth dlawd a brofasai flâs yr addysg Ysgrythyrol a gyfrenid yn yr ysgolion hyn, yn cwynfan yn drist eu henaid o eisieu Beibl. Ond cyfeiriai areithwyr a thraethodwyr Seisnig a Chymraeg, trwy y blynyddau, at ryw un eneth arbenig, yr effeithiasai ei chwynfan a'i dagrau tuhwnt i un arall arno, ac a'i cynhyrfodd i wneyd yr apeliad cofiadwy ger bron pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Llundain, a arweiniodd i sefydliad y Feibl-Gymdeithas. Pwy ydoedd yr eneth arbenig hono—pa beth oedd ei henw—ymha le yr oedd yn byw, neu y cyfarfuasai Mr. Charles â hi, nis gallai neb o honynt ddweyd. Ond cyfeirient ati fel dolen fechan, ond pwysig, yn y gadwen o achosion ac effeithiau a derfynasant yn sefydliad y Feibl-Gymdeithas, ac fel engraifft dra tharawiadol o linell y bardd Seisnig, "What great results from small beginnings spring" Ond gadawent holl fanylion ei hanes yn orchuddiedig dan dywyllwch.
Yn y tudalenau canlynol, ceir hanes yr eneth arbenig hono, a manylion ei hymweliad â Mr. Charles i geisio am Feibl. Yr eneth ddyddorol hono oedd Mary Jones, merch Jacob a Mary Jones, o Dy'nyddol, Llanfihangel-y-Pennant, pentref bychan yn y dyffryn cul, prydferth, wrth droed deheuol Cader Idris. Ganwyd hi yno yn 1784. Gwehydd tlawd oedd ei thad, a gwehyddes fu hithau trwy ei hoes. Yr oedd ei rhieni yn aelodau o'r Eglwys Fethodistaidd fechan a ffurfiesid tua'r adeg hono yn yr ardal. Yn y dyddiau hyny ni oddefid i blant ddyfod i'r cyfarfodydd eglwysig. Ond arferai ei mam gymeryd Mary, er pan yr oedd tuag 8 mlwydd oed, gyda hi i gludo y lantern, pan yn myned i bob cyfarfodydd hwyrol. Yn rhinwedd y gwasanaeth plentynaidd hwnw i'w mam, goddefid i Mary fod yn eithriad i blant ereill, a chael myned i mewn gyda'i mam i'r "society," ac ni fu byth ddiwrnod allan o'r eglwys filwriaethus yma, hyd nes y galwyd hi i fyny i'r eglwys orfoleddus fry, 74 mlynedd wedi hyny.
Pan yr oedd Mary tua 10 mlwydd oed, sefydlodd y Parch. T. Charles un o'i ysgolion dyddiol cylchynol yn mhentref Abergynolwyn, dan ofal John Ellis, wedi hyny o'r Abermaw. Gan fod ysgolfeistriaid cyflogedig Mr. Charles yn ddieithriad yn ddynion ieuanc o ysbryd crefyddol a gweithgar, y canlyniad cyffredin o sefydliad ysgol ddyddiol mewn ardal fyddai sefydlu yno Ysgol Sabbothol, er addysgu yr un plant, a phawb o bob oed a ellid gasglu atynt, i "wybod yr Ysgrythyr Lân, yr hon oedd abl i'w gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth." Felly y bu yn Abergynolwyn. Sefydlodd John Ellis yno Ysgol Sabbothol mewn cysylltiad â'r un ddyddiol. Er fod ganddi tua dwy filldir o ffordd garegog i gerdded o'i chartref yno, un o'r ysgolheigion cyntaf a chysonaf yn y ddwy ysgol, hyd y goddefai tlodi ei rhieni, oedd merch fechan ymofyngar Ty'nyddol. Profai yn y ddwy i'w Chreawdwr ei bendithio â galluoedd meddwl cryfach na'r cyffredin o'i chyfoedion ieuainc yn yr ardal. Hynodai ei hun yn arbenig yn yr Ysgol Sabbothol mewn trysori yn ei chof, ac adrodd allan yn gyhoeddus, benodau cyfain o Air Duw, ac mewn "deall da" ynddo.
PENOD II.—Mary yn casglu cronfa at brynu Beibl.
FEL miloedd ereill o fythynod tlodion Cymru yn y dyddiau hyny, cyn sefydliad y Feibl Gymdeithas, nid oedd yn Nhy'nyddol yr un Beibl cyflawn. Yr oedd y Beibl Cymraeg a gyhoeddasai y Parch. Peter Williams yn Nhrefecca yn 1790—yr unig Feibl Cymraeg a argraffesid "i'r bobl" er 1769—erbyn hyn yn brin ac yn anhawdd ei gael, yn enwedig yn ardal neillduedig y gwehydd tlawd o Lanfihangel, i fyny yma yn y Gogledd. Y Beibl agosaf y gallai Mary gael caniatad i'w ddefnyddio, oedd un mewn ffermdy tua dwy filldir o'i chartref. Caniatai ei berchenogion caredig iddi ddyfod y pryd y mynai i ddarllen hwnw. At y Beibl benthyg hwnw y gwelid yr eneth fechan yn cerdded bob wythnos, fel yr hydd at yr afonydd dyfroedd, i'w ddarllen a'i chwilio, a dysgu ei benodau ar ei chof; erbyn yr Ysgol y Sabbath. Bu fel hyn heb yr un Beibl yn eiddo iddi ei hun am y chwe' mlynedd cyntaf o'i gyrfa grefyddol. Mor gryf oedd cariad yr eneth ieuanc dlawd hon at y Llyfr dwyfol, fel y parhaodd i gerdded at y Beibl benthyg hwnw trwy yr holl flynyddau hyn. Yr "un peth" a ddeisyfai ei chalon trwy y blynyddau hyn oedd Beibl cyflawn yn eiddo iddi ei hun. Pob dimai a cheiniog a dderbyniai gan gymydogion am unrhyw wasanaeth bychan, bwriai y cwbl yn ofalus i'w thrysorfa fechan gysegredig, mewn gobaith o'u gweled, ryw ddiwrnod dedwydd, yn gyfanswm digonol i allu prynu yr "un Perl gwerthfawr" yr oedd ei holl fryd ar ei feddianu.
Wedi blynyddau o ddiwidrwydd y wenynen yn casglu ei dimeiau a'i cheiniogau i'w chronfa fechan, cyrhaeddodd y cyfanswm o'r diwedd i'r swm a glywsai oedd pris yr argraffiad newydd o'r Beibl Cymreig a gyhoeddasid y flwyddyn flaenorol. Aeth i'r Llechwedd at William Huw, pregethwr, ac oracl yr achos bychan yn yr ardal, i holi ymha le y gallai brynu Beibl. Ei atebiad oedd, nad oedd yr un Beibl i'w gael ar werth yn unlle nes na'r Bala, gan Mr. Charles, ac ofnai fod yr oll o'r Beiblau a gawsai yntau o Lundain wedi eu gwerthu er's misoedd. Oni fuasai y fath atebiad—fod yn rhaid myned o 25 i 30 milldir o ffordd i geisio am Feibl, ac ansicrwydd, wedi myned, fod un Beibl i'w gael—oni fuasai y fath atebiad yn ergyd angeuol i zel geneth ieuanc dlawd gyffredin? Ond nid geneth gyffredin oedd ein geneth ieuanc dlawd o Dy'nyddol. Er ieuenged ei hoed, er tloted ei sefyllfa a'i gwisg, er dieithred a phelled y ffordd, er dieithred hefyd y boneddwr y disgwyliai y ffafr fawr ganddo, ac er ansicred ydoedd fod ganddo yntau yr un Beibl i'w werthu iddi wedi iddi fyned ato; eto, mor angerddol, anorchfygol, oedd awydd Mary am feddianu Beibl, fel y penderfynodd anturio y daith a'r rhwystrau hyn oll er ei fwyn.
PENOD III.—Mary yn myned i'r Bala at Mr. Charles i brynu Beibl.
AR foreu hafaidd yn ngwanwyn y flwyddyn 1800, wele ein harwres fechan o Dy'nyddol yn codi yn blygeiniol iawn, ac yn cychwyn i'w thaith bell tua'r Bala. Cawsai fenthyg wallet i gludo ei thrysor yn ddianaf a diogel adref, os caniatai Nefoedd a Mr. Charles iddi ei dymuniad. Yr oedd ganddi esgidiau i'w rhoddi am ei thraed i fyned i dref y Bala; cludai y rhai hyny yn y wallet ar ei chefn, a cherddai yr holl ffordd i'r Bala yn droednoeth. Mae yn foreu teg odiaeth—yr awel dymherog yn ei chefnogi ymlaen gyda'r tynerwch mwyaf calonogol—gwynebpryd llyfndeg y ffurfafen lâs uwch ei phen heb un cwmwl gwgus arno, ac yntau, llygad mawr y nefoedd, yn syllu i lawr yn sefydlog arni gyda'r serchawgrwydd gwresocaf. Mewn gair, ymddangosai holl wrthddrychau a lleisiau y greadigaeth uwch ei phen ac o'i hamgylch fel yn cydlefain arni, —"Dos ymlaen yn galonog, Gymraes fechan! Mae ein Crëwr mawr ni a thithau wedi gorchymyn i ni arfer pob moddion yn ein gallu i dy galonogi ymlaen yn dy daith, ac i dy sicrhau ei fod Ef ei hun yn dwfn gydymdeimlo âg amcan dy daith heddyw i ymofyn am ei Air Ef. Cawsom hefyd le i gredu fod ganddo Ef, yn ei arfaethau dirgel, rywbeth mwy i ganlyn i'r byd trwy dy daith hon di. Dos ymlaen yn hyderus, y fechan ddewr, a Duw y Beiblau a ninau oll â'n llygaid a'n gwenau arnat!"
Cyrhaedda Mary y Bala yn hwyr y dydd—yn rhy hwyr i gael gweled Mr. Charles y noswaith hono, gan mai un o ddeddfau ei fywyd ef gartref yn awr, gan waeledd ei iechyd, oedd, "yn gynar i'r gwely, a chynar i godi." Yn ol cyfarwyddyd William Huw iddi cyn cychwyn, ymhola am dŷ Dafydd Edward, hen bregethwr parchus yn y Bala. Wedi ei holi, deall amcan ei dyfodiad, a chlywed ei holl ystori syml a thoddiadol, enillir yr hen batriarch calon-gynes i deimlo y dyddordeb dyfnaf ynddi—"Wel, fy ngeneth i, mae yn rhy hwyr i ni gael gweled Mr. Charles heno; mae yn arfer myned i'w wely yn gynar; ond bydd yn codi gyda'r wawr yn y boreu. Cei gysgu yma heno, ac ni a awn ato mor gynted ag y cyfyd boreu yfory, er mwyn i ti allu cyrhaedd adref nos yfory."
PENOD IV.—Mary gyda Mr. Charles yn a Study, yn llwyddo i gael Beibl.
BOREU dranoeth cyfyd Dafydd Edward Mary gyda thoriad y wawr, a chyfeiriant tua thŷ Mr. Charles. Dacw oleuni yn ffenestr y study mae Mr. Charles wedi codi, ac awr bryderus Mary wedi dyfod. Cura Dafydd Edward y drws—dyna Mr. Charles ei hun yn ei agoryd. Wedi mynegu ei syndod at ymweliad mor foreuol ei hen gyfaill, gwahodda hwynt i fyny i'r study. Eglura ei dadleuwr hybarch neges ei gyfeilles ieuanc ddieithr, a phaham yr oedd rhaid arnynt aflonyddu arno ef mor foreu. Hola Mr. Charles Mary am ei hanes personol a'i gwybodaeth ysgrythyrol, a pha fodd y llwyddasai i gyrhaedd gwybodaeth mor helaeth yn y Beibl, a hithau heb un Beibl. Effeithia ei heglurhad ar y dirgelwch hwn y cerdded parhaus i ffermdy tua dwy filldir o'i chartref bob wythnos am y chwe' mlynedd blaenorol, i ddarllen a thrysori yn ei chof benodau o Feibl benthyg, a'r casglu gofalus o'i dimeiau a'i cheiniogau trwy yr holl flynyddau hyny at wneyd i fyny y swm oedd ganddi yn ei llogell i brynu Beibl ganddo ef iddi ei hun—effeithia yr eglurhad hynod hwn yn ddwys nodedig ar Mr. Charles:—
"Mae yn ddrwg dros ben genyf weled yr eneth fechan wedi dyfod yr holl ffordd o Lanfihangel yma i geisio am Feibl, a minau heb un Beibl iddi gael. Mae yr holl Feiblau a dderbyniais o Lundain i gyd ar ben er's misoedd, ond rhyw ychydig gopïau sydd yma i gyfeillion yr wyf wedi addaw eu cadw iddynt. Beth a wnaf am Feiblau Cymraeg eto nis gwn."
Traetha Mr. Charles y geiriau hyn gyda'r cydymdeimlad dwysaf; ond trywanant glustiau a chalon ei ymwelyddes ieuanc fel cynifer o bicellau llymion. Drylliant holl ddorau ei chalon. Ymdora allan i wylofain dros yr holl dŷ—blynyddoedd o'r awydd mwyaf hiraethlawn am feddu Beibl cyflawn yn eiddo iddi ei hun blynyddoedd o lafur a phryder yn casglu ei hatlingod i'w thrysorfa fechan tuag at ei brynu—oll fel hyn wedi myned yn ofer—yn gwbl ofer! O! y fath siomiant Na!—aroswch—nid calon o adamant ydyw calon arch-wladgarwr Cymru, tad cyffredinol ein Hysgolion Sabbothol â'u miloedd plant. Gwir ei fod wedi llwyddo i sefyll yn ddewr at ei arfaethau yn ffafr cyfeillion ereill, yn ngwyneb holl daerineb ei hen gyfaill Dafydd Edward dros yr eneth; ond yn awr wele belenau o ddagrau dirif, a saethau o wylofain torcalonus y ddieithr fechan siomedig ei hun, yn dechreu eu hymosodiad arno, ac wele ei arfaethau yn ffafr apelwyr blaenorol oll yn chwilfriw!—
"Wel, fy ngeneth anwyl i, mi welaf y rhaid i ti gael Beibl, er mor anhawdd ydyw i mi roddi un heb siomi cyfeillion eraill; mae yn anmhosibl i mi dy wrthod."
Yna estyna Mr. Charles Feibl i Mary, ac estyna hithau iddo yntau yr arian am dano. Os wylai ein harwres fechan o dristwch calon o'r blaen, wyla fwy, os oedd modd, yn awr o lawenydd calon, wedi enill y fath fuddugoliaeth deg ar Mr. Charles. Mor orlawn ydyw ei mynwes o ddiolchgarwch i'w chymwynaswr teimladwy, fel y metha ei thafod yn gwbl ei draethu, er ceisio. Ond gwna ei llygaid iawn am fethiant ei thafod. Wylant berlau tryloywon o ddiolchgarwch iddo, wrth roddi ei thrysor hir-ddymunedig yn y wallet i'w gludo adref. Mae dagrau ein Mair fechan o Lanfihangel, fel dagrau Mair o Bethania, yn drydanol. Wyla Mr. Charles, a wyla Dafydd Edward, yn yr olwg arnynt!—
"Os ydyw yn dda genyt ti, fy ngeneth i, gael Beibl," ebe Mr. Charles wrthi, "mae yn dda iawn genyf finau ei roddi i ti. Darllena lawer arno, a dysga lawer o hono ar dy gof, a bydd yn eneth dda.—Dafydd Edward," ychwanega Mr. Charles yn ei ddagrau, "onid ydyw y fath olygfa a hon yn ddigon i hollti y galon galetaf—geneth ieuanc, dlawd, ddeallus, yn gorfod cerdded fel hyn yr holl ffordd o Lanfihangel yma—dros 50 milldir rhwng cerdded yma ac yn ol, ac yn droednoeth hefyd a ddywedasoch chwi, onide?—i geisio am Feibl? Mae y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol, a arferai argraffu Beiblau a Thestamentau Cymreig er dechreu y ganrif ddiweddaf, wedi gwrthod yn benderfynol argraffu dim un Beibl na Thestament ychwaneg i ysgolion Cymru. Ond mae yr eneth fechan ddeallus yma wedi effeithio mor ddwys arnaf, fel nas gallaf byth orphwys nes cael rhyw lwybr arall i gyfarfod âg angen mawr ein gwlad am Air Duw."
Gollyngodd Mr. Charles ei ymwelyddes ieuanc ddyddorol ymaith gyda'r deisyfiadau dwysaf am i gyflawnder bendith Duw y Beibl orphwys arni hyd ei bedd. Pa fath raid fod teimladau mynwes ein harwres ieuanc o Lanfihangel yn dychwelyd adref y boreu hwnw—yn droednoeth eto, mae yn wir, ond yn fuddugoliaethus—a'r "un Perl gwerthfawr," a hir chwenychasai ei chalon, o'r diwedd yn feddiant personol diogel ganddi yn ei wallet ar ei chefn rhaid i ni adael hyn i bob darllenydd ei ddychymygu iddo ei hun. Wylai Mary Jones, yn hen wraig ar fin ei bedd, 66 mlynedd wedi hyn, wrth adrodd am ysbryd toddedig a nefolaidd Mr. Charles, a'i eiriau grasusol, yn siarad y boreu bythgofiadwy hwnw â hi, oedd yn eneth ieuanc dlawd a dieithr, wedi aflonyddu arno mor anamserol.
—————————————
PENOD V.—Ymweliad Mary â Mr. Charles yn arwain i sefydliad y Feibl—Gymdeithas.
FEL y sylwyd o'r blaen, hawdd ydyw credu i Mr. Charles, yn ei deithiau parhaus i gynal Cymanfaoedd Ysgolion mewn gwahanol barthau o'r wlad, gyfarfod â llawer geneth dlawd ymysg miloedd ieuenctyd yr Ysgolion Sabbothol, yn drist ei henaid o eisiau Beibl. Ond mor nodedig oedd ein harwres ieuanc ddeallgar, or-zelog, o Lanfihangel yn eu mysg hwynt oll, fel y gwnaeth ei hymweliad hi âg ef argraff ddofn, annilëadwy, ar ei ysbryd. Gwnaeth ddefnydd helaeth wedi hyny oi hanes toddiadol yn ei apeliadau at gyfeillion a boneddigion cyfoethog a haelfrydig yn Lloegr ar ran Cymru, fel engraifft nodedig o angen ac awydd ei phobl am Air Duw. Ond yr achlysur o ddyddordeb anfarwol y cynyrchodd ei hanes yr effeithiau hynotaf, oedd yn Mhwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol yn Llundain, yn Rhagfyr, 1802. Yr oedd Mr. Charles yn y brifddinas ar y pryd yn supplio capel Saesneg Spitalfields. Achubodd y cyfle o gyfarfyddiad y pwyllgor dylanwadol hwnw i osod ger eu bron angen Cymru a'i Hysgolion Sabbothol am eu gwerslyfr dwyfol. Trwy ei ymdrechion ef a Mr. Joseph Tarn, ysgrifenydd cynorthwyol y pwyllgor, ymgasglasai yr aelodau ynghyd yn dra chryno. Y cadeirydd oedd yr Hybarch Matthew Wilks, ac yr oedd yno y Parch. J. Hughes, J. Townsend, Dr. Steinkopff, J. Owen, yr ysgrifenydd, Mr. J. Tarn, ac amryw foneddwyr lleygol eraill perthynol i'r pwyllgor. Wedi gorphen gydag achosion Cymdeithas y Traethodau, dygai Mr. Tarn achos ymweliad Mr. Charles gerbron. Yna cyfodai ein gwladgarwr mawr o'r Bala i fyny i egluro ei achos. Dangosai trwy liaws o ffeithiau angen gwaedawr ei wlad am Feiblau a Thestamentau. Fel yr hynotaf o'r holl ffeithiau hyny, adrodda hanes personol Mary Jones, a'i hymweliad âg ef. Cynyrchai hanes syml, toddiadol, y Gymraes fechan deimlad angerddol, oll-orchfygol, trwy yr holl bwyllgor o blaid cais yr apelydd gwresog am sefydliad Beibl-Gymdeithas i Gymru. Yn ymchwydd uchaf y brwdfrydedd sanctaidd hwnw a gynyrchasaí ei hanes effeithiol hi, wele y Parch. Joseph Hughes yn llefain yn y teimlad dwysaf, "Mr. Charles! os Cymdeithas felly i Gymru, paham nad i'r holl deyrnas, ac i'r holl fyd hefyd!" Awgrymiad dwyfol-ysbrydoledig hwn Mr. Hughes, ar ganol apeliad Mr. Charles, a grëodd y drychfeddwl cyntaf am Feibl-Gymdeithas i'r holl fyd; ond creasid yntau gan ddrychfeddwl blaenorol Mr. Charles am Feibl-Gymdeithas i Gymru. Ni orphwysodd y teimlad angerddol a grëwyd trwy apeliad gwladgarol Mr. Charles, ac yn arbenig ystori y Gymraes fach o Lanfihangel, yn y cyfarfod bythgofiadwy hwn, hyd nes y sefydlwyd y Feibl-Gymdeithas yn Mawrth, 1804. Gwelir fel hyn y fath gysylltiad agos oedd rhwng y ffaith fechan o ymweliad ein Cymraes fechan o Feirion âg un o'r ffeithiau pwysicaf yn ei natur ai heffeithiau yn holl hanes Cristionogaeth trwy y byd. Ymffrostiwn yn gyfiawn fel cenedl yn arddunedd yr olygfa o'n hen wron Prydeinig, y tywysog Caradog, yn dadleu dros iawnderau ei wlad gerbron Claudius Cæsar a'r Senedd Rufeinig. Llawer mwy arddunol oedd yr olygfa o dywysog holl wladgarwyr Cymru, Thomas Charles, gerbron pwyllgor Cymdeithas y Traethodau Crefyddol, yn dadleu dros ei wlad am y Llyfr Dwyfol sydd yn dwyn i wlad ryddid ac iawnderau anfeidrol uwch nag y dadleuai ac yr ymladdai Caradog am danynt. Trethai arddunedd moesol yr olygfa hon holl athrylith yr arlunydd mwyaf athrylithgar i wneyd cyfiawnder â hi.
Rhaid addef y saif y Feibl-Gymdeithas byth goruwch holl Gymdeithasau y byd, fel y saif ei Llyfr goruwch ei holl wrthddrychau. Nid oes ond dau wrthddrych dwyfol gweledig mewn bod—Mab Duw yn y nef, a Llyfr Duw ar y ddaear. Duw wedi ymddangos mewn cnawd ydyw y Mab; Duw wedi ymddangos mewn llyfr ydyw y Beibl. Tra y mae y Cymdeithasau Cenhadol yn anfon dynion i lefaru wrth baganiaid y byd, mae y Feibl-Gymdeithas megis yn anfon Duw ei hun i lefaru wrthynt. Ei Llyfr hi ydyw tystysgrif a grym yr holl Gymdeithasau Cristionogol. Coron gogoniant Cymru, ac yn arbenig y sir fechan hon, Meirion, ydyw ei bod yn rhagori ar bob rhan arall o Brydain a'r byd yn y llafurus gariad a ddengys tuag at Lyfr Duw, a'r Gymdeithas sydd a'i hunig amcan i'w ledaenu dros holl wledydd y byd. Naturiol a theg ydyw ein zel hon o blaid y Feibl-Gymdeithas. Y Cymro byth-glodwiw o'r Bala, yn angerdd ei gariad at Gymru, oedd y prif achosydd o'i sefydliad. Cymraes ieuanc o Feirion, fel y gwelsom, oedd y prif swmbwl yn ei ysbryd yntau, yn ei ymgais gwladgarol hwnw. Penderfyniad cyntaf pwyllgor y Gymdeithas, wedi ei sefydliad yn 1804, oedd dwyn allan argraffiad o'r Beibl Cymraeg at wasanaeth Ysgolion Sabbothol Cymru. I'r Bala, i Mr. Charles, y danfonodd y llwyth cyntaf o'r argraffiad cyntaf hwnw yn 1806. Gymru! "dal yr hyn sydd genyt, fel na ddygo neb dy goron di!"
—————————————
PENOD VI.—Y defnydd da a wnaeth Mary o'i Beibl wedi ei brynu.
GWNAETH Mary Jones, trwy ei holl fywyd dilynol, ddefnydd da o'r Beibl a brynasai gan Mr. Charles. Yn hollol deilwng o'r zel bron ddigyffelyb a ddangosai am ei feddianu, un o'i phenderfyniadau cyntaf am dano oedd, ei ddarllen oll drwyddo yn rheolaidd, o air i air. Ymroddai yn ddyfalach nag erioed i ddarllen, chwilio, a dysgu allan benodau ei Beibl newydd ei hun. Darllenai ryw gyfran o hono bob dydd y caniatai ei hiechyd a'i hamgylchiadau, trwy y 66 mlynedd y bu fyw wedi ei brynu. Darllenodd ef trwyddo yn rheolaidd bedair gwaith. Dysgodd lyfrau cyfain o hono ar ei chof, megis Llyfr Job, y Salmau, y Diarhebion, Esaiah, Efengyl ac Epistolau Ioan, Epistolau Paul at y Rhufeiniaid a'r Ephesiaid, yr Epistol at yr Hebreaid, ac hefyd Hyfforddwr Mr. Charles ei hun.
Dangosai Mary Jones o'i hieuenctyd zel arbenig o blaid yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd yn un o ysgolheigion cyntaf yr ysgol gyntaf yn ei hardal enedigol, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn o'r ysgol yn Mryncrug tra y parhaodd ei nerth corfforol i allu cerdded iddi. Nid oedd hyn ond ffrwyth naturiol ei chwaeth arbenig at wybodaeth ysgrythyrol. Yr ydym yn gweled plant Duw, fel plant dynion, yn dra amrywiol yn eu chwaeth. Gwelir hyn yn eglur yn amrywiaeth eu chwaeth at wahanol ordinhadau crefydd. Teimla llawer—mwyafrif mawr yr atdyniad a'r mwynhad penaf mewn gwrando pregethu y gair—eraill a'i teimlant yn nefosiwn y cyfarfod gweddi—eraill yn ngwefreiddiadau nefolaidd caniadaeth y cysegr—eraill drachefn yn nghylch teuluaidd y cyfarfod eglwysig. Felly hefyd y chwaeth at wybodaeth Feiblaidd, at "ddidwyll laeth y Gair" ysbrydoledig, cyfeiria y chwaeth hwn at yr Ysgol Sabbothol, fel y baban at y fron. Yr Ysgol Sabbothol, yn ddiddadl, ydyw y fwyaf cymwys ac effeithiol o holl ordinhadau crefydd Crist tuag at greu, cryfhau, a lledaenu y chwaeth at "wybod yr Ysgrythyr Lân," yn enwedig yn ei ffurf oll-gynwysol Gymreig, fel ei sefydlwyd gan Mr. Charles.
Trefniant o wasanaeth anmhrisiadwy a sefydlwyd gan Mr. Charles, tuag at gryfhau ac eangu effeithiolrwydd ei Ysgolion Sabbothol, a lledaenu y chwaeth a'r wybodaeth Feiblaidd sydd byth er hyny mor nodweddiadol o'n cenedl ni, oedd y Cymanfaoedd Ysgolion, tuag at arholi yn gyhoeddus, a symbylu i lafur, liaws o ysgolion gyda'u gilydd. Dilynai Mary Jones y Cymanfaoedd Ysgolion yn yr holl amgylchoedd hyn gyda zel nodedig. Pa bryd neu ymha le bynag y byddai Mr. Charles i gynal Cymanfa yn y parthau hyn o'r sir, nid mynych y siomid ef o weled yr eneth zelog, fyth-ddyddorol hono o Lanfihangel ymysg y dorf o ieuenctyd ger ei fron ynddynt. Pan yn arholi yn gyhoeddus ei ganoedd dysgyblion ieuainc yn y Cymanfaoedd hyny, dywedir wrthym y byddai ei lygaid yn gyffredin ar ei ddysgybles fechan ddeallus o Lanfihangel am yr atebion goreu i'w ofyniadau mwyaf anhawdd mewn hanesiaeth ysgrythyrol; a mynych y cafodd y boddhad o weled y wybodaeth Feiblaidd a gasglasai o'r Beibl a werthasai efe iddi yn trydanu dylanwadau sanctaidd trwy yr holl dorf. Ond i goroni pob defnydd da arall a wnaeth Mary Jones o'r Beibl hwnw o'r dydd y prynasai ef, amlygai trwy ei holl fywyd dilynol lawn cymaint o ymdrech i'w fyw ag a wnaethai ar y cyntaf i'w feddianu.
PENOD VII.—Zel Genhadol Mary Jones a'i Gwenyn.
TREULIODD Mary Jones y rhan olaf o'i gyrfa ddaearol yn Mhentref Bryncrug, gerllaw Towyn Meirionydd. Amlygai hyd ei marwolaeth y dyddordeb dyfnaf yn y Gymdeithas ogoneddus yr oedd y fath gysylltiad dyddorol rhwng ei hanes personol hi ei hun â'i sefydliad cyntaf, ac hefyd yn Nghymdeithas Genhadol y Cyfundeb Methodistaidd y perthynai iddo. Yr oedd yn enwog am liosogrwydd ei gwenyn, a rhagoroldeb ei mêl a'i chwyr gwenyn. Defnyddiai ei derbyniadau blynyddol oddiwrth y mêl at ei chynaliaeth ei hun a'i theulu, a chysegrai arian y cwyr yn gyfartal rhwng y. ddwy Gymdeithas—y Feiblaidd a'r Genhadol. Ar dymor ffodus, byddai yr arian hyny yn swm mawr oddiwrth wraig yn ei sefyllfa dlawd hi. Ni chlybuwyd am neb erioed ar delerau mwy cyfeillgar gyda'r trychfilod bychain gwenwynig, dialgar, a gasglent eu mêl iddi. Pa bryd bynag y talai ymweliad â'u lluaws pebyll yn yr ardd, cyd-groesawent hi â'r warogaeth fwyaf brwdfrydig a brenhinol. Ehedent yn fyddinoedd yn y fan i'w chroesawu. Gwibient yn lluoedd llawn o yni o'i hamgylch; a cherddent wrth y canoedd ar hyd-ddi o'i phen i'w thraed yn gwbl ddiofn a diniwed. Daliai ddyrnaid o honynt ar gledr ei llaw mor ddibryder a phe buasent yn wybed cyffredin. O'r myrddiynau gwenyn a fuasent yn casglu eu mêl iddi, ac yn ymbleseru yn gwibio ar hyd ei pherson, ni cholynodd cymaint ag un hi erioed, tra y colynent ymyrwyr eraill yn ddiarbed. Ei hesboniad hi ei hun ar y ffaith hynod hon, ac hefyd ar y ffaith eu bod oll mor ddiwyd a gofalus yn casglu y mêl puraf a phereiddiaf iddi, oddiar y blodau mwyaf detholedig, oedd, eu bod i'w priodoli i'w zel genhadol i'r ffaith eu bod oll yn ymwybodol yr arferai hi gysegru rhan helaeth o ffrwyth eu diwydrwydd hwy i wasanaeth eu Crewr hwy a hithau, a'u bod, oherwydd hyny, yn cyfrif ei gwasanaethu hi yn wir fraint ac yn wir hyfrydwch. Yr oeddynt oll, fel hithau, yn llawn "ysbryd cenhadol." Pan wnaed y casgliad yn Mryncrug, yn 1854, at y miliwn Testamentau i China, cafwyd ymysg yr arian un haner sofren felen. Ofnid mai mewn amryfusedd y rhoddasid hi yn lle y darn arian gwyn o'r un maintioli. Ond cafwyd allan iddi gael ei rhoddi mewn perffaith ymwybyddiaeth o'i lliw a'i gwerth, a hyny gan y "weddw dlawd" Mary Jones. Ei gwenyn zelog a'i galluogodd i'w rhoddi.
Ond nid at Air Duw yn unig y dangosai ei wasanaethferch gywir hon ei chariad; ond "hoffai hefyd drigfan ei dy, lle preswylfod ei ogoniant." Hynodai ei hun trwy ei hoes am ei chysondeb ymhob rhan o wasanaeth y
cysegr, ac am y gwleddoedd ysbrydol a fwynhai ynddynt oll.PENOD VIII.—Ad-daliad ei Beibl i Mary Jones.
O HOLL ad-dalwyr anrhydeddus y ddaear hon am unrhyw lafur cariad drostynt, y mwyat felly ydyw y BEIBL. Gofala ef fod ei holl ad-daliadau yn deilwng o'i haniad uchel a'i gyfoeth dihysbydd. Addefa llawer fod y Beibl a'i Awdwr yn talu gyda haelfrydedd anghymharol pan y talant, ond eu bod, fel lliaws o gyfoethogion y byd hwn, yn "hirwyntog," ac yn gofyn credyd maith—"fe delir i chwi yn adgyfodiad y rhai cyfiawn." Cyfeiliornad cableddus ydyw hwn. Nid oes ar drysorfa o "anchwiliadwy olud" yr angen lleiaf am funyd o gredyd, ac nid yw byth yn ei ofyn. Gweinyddir ei holl daliadau yn ddieithriad ar y gyfundrefn o "arian parod." Cyflawner unrhyw wir wasanaeth calon gywir i'r Beibl neu i'w Dduw, wele ad-daliad parod o brofiad dedwydd i lawr ar fwrdd ein calon yn y fan-profiad nas gallasai ond hwy byth ei roddi.
Edrychwn ar y cyfrif rhwng Mary Jones a'i Beibl fel engraifft, ac yn gyntaf ar ei hochr hi i'r cyfrif. Gorchest nodedig cariad at y Beibl oedd ei thaith gofiadwy i'r Bala i'w brynu—y Beibl cyntaf ac olaf a brynodd erioed iddi ei hun. Wedi llwyddo i'w gael, gwelsom iddi deimlo yn y fan "yn llawen o'i blegyd, fel un wedi cael ysglyfaeth lawer." Ymroddai gartref i "chwilio ei ysgrythyrau" am y wybodaeth ddwyfol oedd ynddynt, fel y wenynen am y mêi. Yn ei golwg hi "mwy dymunol oeddynt nag aur, ac nag aur coeth lawer;" i'w harchwaeth hi, "melusach hefyd na'r mêl, ac na diferiad diliau mêl." Felly y "glanhâi y llances hon ei llwybr, wrth ymgadw yn ol gair" ei Beibl. "Ei dystiolaethau oedd ei hyfrydwch a'i chynghorwyr." "Dryllid ei henaid gan awydd i'w farnedigaethau bob amser." "Cymerodd ei orchymynion yn etifeddiaeth dros byth, oherwydd llawenydd ei chalon oeddynt." Wrth ei gweled yn ei blynyddau diweddaf, â'i ffon mewn un llaw, a'i hen Feibl dan ei chesail arall, yn cyfeirio ei chamrau byrion tua'r ysgol y Sabboth, gallasech edrych ar bob cam a roddai tuag yno fel yn dywedyd yn ei iaith, "Dy ddeddfau yw fy nghân yn nhŷ fy mhererindod." Bu farw a'i hen Feibl—hoffaf gyfaill ei bywyd—ar y ford yn ei hymyl.
Ond pa ad-daliad a roddodd ei Beibl iddi am ei llafurus gariad hwn" tuag ato? Mor gynted ag y talodd i Mr. Charles am dano, ac y cofleidiodd ef fel ei Beibl ei hun, gwelsom iddo yn y fan lanw ei mynwes â llawenydd angerddol nas teimlasai ei gyffelyb erioed o'r blaen. Wrth lafurio trwy ei blynyddau boreuol, wedi hyny yn ei ddarllen, ei chwilio, a thrysori ei benodau yn ei chof, buan y rhoddai iddi brofion parhaus mai "sicr iawn yw ei dystiolaethau, ac o'u cadw fod gwobr lawer." Wedi cychwyn ar ei gyrfa trwy lwybrau troellog, pyllog, niwlog bywyd, profai iddi o werth anmhrisiadwy fel "llusern i'w thraed, a llewyrch i'w llwybrau." "Ei gyngor a'i cynhaliai, a'i synwyr a'i cadwai" trwy holl demtasiynau a phrofedigaethau y byd, Pan nad oedd eto ond geneth ieuanc ddibrofiad, profodd yn "abl i'w gwneuthur yn ddoeth i iachawdwriaeth." Coronodd ei holl ad-daliadau eraill iddi trwy ei dwyn i gydnabyddiaeth bersonol â'i Awdwr—Duw. Yn Dduw holl-gyfoethog, gwnaeth Ef â hi y ffafr o'i mabwysiadu yn blentyn iddo ei hun. "Rhoddodd iddi yn ei dŷ, ac o fewn ei fagwyrydd, le ac enw gwell na meibion ac na merched—enw tragwyddol, yr hwn ni thorid ymaith." Gydag adnodau cyfoethog ei Beibl a drysorasai yn ei chof, mynych yr arlwyai iddi "wledd o basgedigion—gwledd o loew win, o basgedigion breision a gloew win puredig." Ond "os plant, etifeddion hefyd." Yn eneth dlawd o bob peth a eilw y ddaear hon yn fawr, gwnaeth Ef hi "yn etifeddes iddo ei hun, ac yn gyd-etifeddes â Christ." Rhoddai iddi hawl "i etifeddiaeth anllygredig, a dihalogedig, a diddiflanedig, ac yn nghadw yn y Nefoedd iddi," a hithau ei hun yma ar y ddaear yn nghadw "trwy allu Duw" i'w hetifeddiaeth, fel y byddai yr etifeddes ai hetifeddiaeth yn nghadw yn sicr trwy yr un gallu dwyfol i'w gilydd. Oherwydd ei pherthynas newydd ag Ef, fel "merch y Brenin," dyrchafodd hi i gylchoedd uchaf ei deyrnas ei hun—"i Fynydd Sïon, i Ddinas y Duw byw, y Jerusalem nefol, at fyrddiwn o angylion, i gymanfa a chynulleidfa y rhai cyntaf-anedig. y rhai a ysgrifenwyd yn y Nefoedd, ac at Dduw, Barnwr pawb, ac at ysbrydoedd y cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd, ac at Iesu, Cyfryngwr y Testament Newydd." Cylchoedd cymdeithasol ydyw y rhai hyn y gallai breninesau y ddaear yn hawdd genfigenu wrth yr eneth dlawd a ddyrchafasai Duw iddynt. Gan faint ei ofal tadol drosti, "gorchymynai i'w angylion am dani, i'w chadw yn ei holl ffyrdd. Ar eu dwylaw y dygent hi, rhag taro ei throed wrth gareg." "Cadwai hi fel canwyll llygad; cadwai hi dan gysgod ei adenydd." Pan y "trallodai ei chalon" gan guriadau ystormydd bywyd, ni theimlai ddiddanwch un câr na chyfaill daearol i'w gymharu a "diddanwch ysgrythyrau" ei Beibl—â llais y Cyfaill dwyfol a ddywedai wrthi ynddo, "Cred yn Nuw, a chred ynof Finau hefyd."
Trwy barhau am 60 mlynedd i edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych," yn ei hoff Feibl, mwyfwy y "newidid hi i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd." Pan ar derfyn pererindod yr anialwch, yn rhodio ar hyd glyn cysgod angau, nid ofnai niwed." Taflai adnodau ei Beibl y fath belydrau disglaer o oleuni y Nefoedd i'w meddwl, nes "troi cysgod angau yn oleu ddydd." Dan dywyniadau y goleuni dwyfol hwnw y disgynai i mewn i "ddyfroedd yr Iorddonen "—lle y suddasai myrdd o gedyrn y byd hwn yn anobeithiol "mewn llawn sicrwydd gobaith" o bresenoldeb ac arweiniad yr "Archoffeiriad mawr," ac y cyrhaeddai yn ddiogel trwodd i'r "Ganaan nefol"—"Mi âf yno," meddai wrth gyfaill, "mi âf yno trwy bob rhwystrau yn ei law Ef." Cyrhaeddodd yno yn hwyr Rhagfyr 28ain, 1866, yn 82 mlwydd oed. Yno y mae, ac y bydd "o hyn allan," yn "gweled wyneb yn wyneb" y Prynwr byw a welodd ac a adnabu gyntaf trwy "ddrych" ei Beibl.
Frenhinol Lyfr! Ddwyfol Lyfr! unig ysbryd. oledig Lyfr Duw! Pa ad-dalwr daearol mor frenhinol ei anrhydedd, mor anchwiliadwy ei olud, mor ddwyfol ei haelioni, a thydi? Pwy ond tydi a allasai ad-dalu cariad dy wasanaethferch dlawd ond cywir hon â'r fath ad-daliad ag y mae heddyw yn ei fwynhau? Dy Awdwr dwyfol a lanwo ein gwlad â gwasanaethwyr o'r un llafurus gariad" atat, ac a sicrhant oddiar ei law yr un "wobr fawr iawn."
PENOD IX.—Athraw Mary Jones yn yr ysgol ddyddiol ar adeg ei thaith i'r Bala.
HYDERWN nad annyddorol fydd i ni ychwanegu yma ychydig o hanes athraw ysgol ddyddiol Abergynolwyn ar adeg taith Mary Jones i'r Bala i brynu Beibl—Lewis Williams, wedi hyny o Lanfachreth, gerllaw y dref hon, gan ei fod yntau yn gymeriad lled hynod yn ei ffordd ei hun. Nid oedd ynddo ddim un o elfenau hynodrwydd ei gyfaill, "yr hynod William Ellis, Maentwrog," ond ei dduwiolfrydedd. Yr oedd hynodrwydd William Ellis fel dyn ac fel Cristion yn fwy gwerthfawr a dymunol fel eithriad nag fel esiampl, fel model-man. Yr oedd yn engraifft ddyddorol nodedig o amrywiaeth gwaith Duw ar eneidiau ei blant, i ladd yr unffurfiaeth a'r undonaeth sydd mor ddiflas mewn byd ac eglwys. Yr oedd elfenau hynodrwydd Lewis Williams o natur lawer uwch a gwerthfawrocach, yr oeddynt yn hanfodol i lwyddiant, os nad yn wir i fodolaeth, crefydd Crist yn y byd—hynodrwydd mewn zel angerddol, mewn llafur diorphwys, mewn ffyddlondeb diarebol, a defnyddioldeb cyffredinol yn ngwasanaeth ei Dduw a'i gydddynion. Gall ei hanes roddi rhyw syniad mor hynod oedd rhai o'r offerynau a ddefnyddiodd Duw mewn oesau blaenorol i wneyd Cymru yr hyn ydyw yn yr oes freintiedig hon. Dyn bychan oedd Lewis Williams ymhob ystyr naturiol—bychan ei gorff, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau. Ond pob gïeuyn a gewyn yn ei gorff bychan, a phob cyneddf a dawn yn ei enaid llai, gwelid yr holl yn eu llawn waith yn wastadol mewn rhyw lwybr neu gilydd yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i Dduw.
Ganwyd Lewis Williams o rieni tlodion yn Mhenal, yn 1774. Fel bechgyn eraill yr oes dywyll hono, ymroddai yn moreuddydd ei fywyd i bob arferion pechadurus, yn enwedig ar y Sabbothau. Pan tua deunaw mlwydd oed, yn brentis o grydd gerllaw y Cemmaes, Maldwyn, digwyddai fod ar foreu Sabboth mewn cyfarfod gweddi, a Mr. Jones, o Fathafarn, yn darllen Rhuf. v., ac yn gwneyd sylwadau arni. Cynyrchai darlleniad y benod o'i dechreu ryw effeithiau angerddol, dieithrol iawn iddo ef, ar ei feddwl. Ond pan y darllenai Mr. Jones y geiriau, "Trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondeniniad," trywanai y gwirionedd ei galon fel picell angeuol Syrthiai i lewyg, a chludwyd ef allan fel marw. Wedi adferu i'w ymwybyddiaeth, teimlai fel troseddwr wedi ei gondemnio i'w golli. Pan yn cael ei lethu gan y teimlad hwn, cyfeiriwyd ef at y gwirionedd gwrthgyferbyniol yn y rhan olaf o'r un adnod, "felly hefyd trwy gyfiawnder Un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd." Tywynai pelydryn o ogoniant y Cyfryngwr a'r Iawn mawr i'w feddwl tywyll, a chafodd fesur o esmwythder i'w enaid. Edrychai yn ol byth wedi hyn ar hwn fel "y tro mawr" bywydol yn ei hanes ef. Chwenychai ymuno â'r eglwys fechan a sefydlasai y Methodistiaid yn Nghwmlliniau. Gan dybied y byddai eisieu arian at hyny, fel at bobpeth arall yn y byd hwn, gwnaeth ymdrech i gynilo, nes llwyddo i wneyd i fyny haner coron. Ar nos y society aeth at ddrws y ffermdy lle y cyfarfyddid. Safai am ysbaid yno mewn gyfyng—gyngor. Anturiai o'r diwedd daro y drws â llaw grynedig. Wele frawd yn agoryd,—"Beth sy' arnat ti eisio yma, 'machgen i?"
"Eisio dwad i'r siat, os ca'i; dyma i ch'i haner coron—y cwbl sy' gen' i yn y byd—am ddwad, os ca'i."
"Dwad, 'machgen anwyl i, cei; cadw dy haner coron; cei groeso calon gyda ni am ddim."
Gofynwyd iddo yn y cyfarfod, "Beth pe bai Iesu Grist yn ceisio gen' ti wneyd rhywbeth drosto yn y byd, a wnaet ti hyny?"
"O! gwnawn yn y fan beth bynag a geisiai Iesu Grist gen' i." Ceir yn yr atebiad diweddaf hwn agoriad i holl gymeriad a bywyd dilynol y llanc hwnw hyd ei fedd.
Rai blynyddau wedi hyn, pan yn gweini gyda pherthynasau iddo yn y Trychiad, ger Llanegryn, teimlai yn ddwys dros anwybodaeth ieuenctyd y pentref. Penderfynodd geisio sefydlu ysgol ar y Sabboth a rhai o nosweithiau yr wythnos i'w haddysgu i ddarllen. Ni chawsai ei hun ddiwrnod erioed o ysgol ddyddiol na Sabbothol; nis gallai ei hun ddarllen bron air yn gywir. Nis gwyddai ef fod dim tebyg i Ysgol Sabbothol wedi ei sefydlu y pryd hwnw trwy yr oll o Orllewin Meirionydd, ond gan John Jones, Penyparc. Ond gallai John Jones ddarllen yn dda, yr hyn nis gallai ef. Bwriadai felly yn angerdd ei zel, geisio addysgu y plant i wneyd yr hyn nas gallai ei wneyd ei hun. Ond y fath oedd ei zel a'i fedr i drin y plant, fel y tyrent ato i'w ysgol. Dysgai y wyddor i'r dosbarth isaf trwy eu dysgu oll i'w chydganu ar "Ymgyrch gwŷr Harlech," a ddysgasai ei hun pan gyda'r militia. Yr oedd hyn tua deugain mlynedd cyn i'r cenhadwr enwog Robert Moffat ddefnyddio yr un llwybr gyda thorf o Affricaniaid duon. Clywsom ef yn ymffrostio gyda hwyl nodedig yn ei orchestwaith yn dysgu y wyddor Seisnig i breswylwyr un o bentrefydd Bechuana, ar hen dôn genedlaethol Scotland, "Auld lang syne," mewn un diwrnod a noswaith. Mor hwyliog ac effeithiol oedd y cynllun cerddorol hwnw fel na oddefwyd i'r athraw gysgu mynyd y noswaith hono. Profai yr un cynllun yn effeithiol nodedig yn mhentref Llanegryn, dan ysbrydoliaeth " Ymgyrch gwŷr Harlech."
Ond prif gamp athrylith a zel yr athraw newydd oedd ei ddyfais i allu addysgu y dosbarth uchaf, heb allu darllen bron ddim ei hun. Cyn yr ysgol ar y Sabbath neu ar y noson waith, gofalai am fyned at chwaer grefyddol a allai ddarllen yn dda—Betti Ifan —i gael gwers ei hun yn y gwersi darllen penodedig i'r ysgol. Ond brydiau eraill llwyddai i gael nifer o ysgolheigion, oeddynt yn ddarllenwyr Cymraeg da, o Ysgol Waddoledig Llanegryn, oedd yn lled uchel ei bri y pryd hwn, i ddyfod i ymryson darllen am ryw wobr fechan. Y testyn ymryson iddynt yn wastad—yn ddiarwybod iddynt hwy—fyddai y wers ddarllen nesaf yn ei ysgol fechan ef ei hun. Y llwynog, onidê? Efe fyddai y beirniad! Craffai, gydag amcan a phryder nas dychymygent hwy, sut y seiniai pob un bob llythyren a sill o bob gair. Byddai eu dadleuon hwy ar sain priodol gair, neu bwyslais priodol brawddeg, yn addysg werthfawrocaf ganddo ef. Galluogid ef yn wyrthiol i ffurfio a chyhoeddi barn foddhaol i'r cystadleuwyr oll ar enillydd y gamp. Fel hyn y llwyddai y beirniad i gelu ei anwybodaeth ddybryd ei hun y tu cefn i'w gwybodaeth hwy, ac i gadw ei fawredd ffugiol yn ngolwg y bechgyn fel darllenwr rhagorol. Fel hyn hefyd y deuai yn fwyfwy o feistr ar ei waith ac ar y plant yn ei ysgol.
Byddai eisieu dechreu a diweddu y cyfarfodydd trwy weddi. Y ddyfais a arferai ar y cyntaf i gadw ei arabiaid ieuainc anwaraidd yn llonydd a dystaw, iddo allu gweddio, oedd gwneyd iddynt fyned trwy y gwahanol ymarferiadau milwrol, neu fel y galwai ef y gwaith, "chwareu soldiers bach," fel y dysgasai efe ei hun gyda'r militia. Pan y deuant at y "Stand at ease," a'r "Attention!" safent oll yn llonydd, ac wele yn y fan weddi fèr drostynt i'r Nef. Ar ddiwedd y cyfarfod, ychwanegid y "Quick march!"—allan.
Mor wir yw, "Where there's a will there's a way." Pa athrylith naturiol pen a all gystadlu mewn dyfeisgarwch âg athrylith ysbrydol cariad calon at Iesu Grist, a llesåd ysbrydol ein cyd-ddynion?
Pan yr oedd Lewis Williams yn gweini ac yn llafurio fel hyn yn Llanegryn, yr oedd Cyfarfod Misol i fod yn Abergynolwyn, a Mr. Charles i fod ynddo. Lletyai Mr. Charles y nos flaenorol gyda'i ysgolfeistr cyflogedig yn Mryncrug, John Jones, Penyparc, gŵr ieuanc llawer uwch ei ddysg a'i gymeriad na'r cyffredin o ysgolfeistriaid yr oes hono. Holai Mr. Charles John Jones, a wyddai am un dyn ieuanc arall yn y parth hwnw a wnai athraw yn ei ysgolion ef. Atebai fod rhyw ddyn ieuanc yn Llanegryn yn llafurus iawn gyda'r plant yno ar y Sabbothau a rhai nosweithiau o'r wythnos, yn eu haddysgu i ddarllen; ond gan y deallai nas gallai ddarllen ei hun, ni chredai ef y gallai fod o unrhyw wasanaeth fel ysgolfeistr.
"Dyn ieuanc yn gallu addysgu plant i ddarllen, heb allu darllen ei hun?"
"Felly y maent yn dweyd."
Dirgelwch oedd hwn nas gallai Mr. Charles ei amgyffred na'i gredu; ac archodd ar John Jones anfon am i'r dyn ieuanc anamgyffredadwy ddyfod ato ef i Gyfarfod Misol Abergynolwyn. Dranoeth daeth Lewis Williams yno, a gwladeiddiwch ei wedd a'i wisg yn bradychu unrhyw beth ond yr ysgolhaig a'r dysgawdwr.
"Wel, 'machgen i, y maent yn dweyd dy fod ti yn cadw ysgol yn Llanegryn acw ar y Sabbothau a nosweithiau yr wythnos, i addysgu y plant i ddarllen. A oes llawer o blant yn dyfod atat ti i'r cyfarfodydd?"
"Oes, syr, fwy nag a allaf eu dysgu nhw, syr."
"A ydyn' nhw yn dysgu tipyn gen' ti?"
"'Rydw'i 'meddwl fod rhai o honyn' nhw, syr."
"A fedri di dipyn o Saesoneg?"
"Fedraf fi ddim ond ambell air a glywais i gyda'r militia, syr."
"A fedri di ddarllen Cymraeg yn dda?"
"Fedra' i ddarllen bron ddim, syr; ond yr ydyw'i 'n ceisio dysgu 'ngora', syr."
"A fuost ti ddim mewn ysgol cyn dechreu gweini?"
Naddo, syr; che's i ddiwrnod o ysgol erioed, syr,"
"A fyddai dy dad a dy fam ddim yn dy ddysgu i ddarllen gartref?"
"Na fyddan', syr; fedrai 'nhad na'm mam ddim darllen yr un gair eu hunan, syr."
Agorai Mr. Charles y Beibl ar y benod gyntaf o'r Epistol at yr Hebreaid, a dymunai arno ddarllen yr adnodau blaenaf.
"Duw-we-wedi-iddo-le-lef-lefaru-la-lawer gwaith, a-llawer-modd,-gynt-wrth y-tad-au-trwy y pro-proph-proph-(prophwydi, sisialai John Ellis, o'r Abermaw, yn ei glust, o'r tu cefn iddo)-yn y dd-iau-di-wedd-af hyn a le-lef- lefarodd-wrth-ym ni yn ei Fab.." "Dyna ddigon, 'machgen i, dyna ddigon; wel! sut yr wyt ti yn gallu addysgu neb i ddarllen, mae tuhwnt i fy amgyffred i. Dywed i mi, 'machgen i, sut yr wyt ti yn gwneyd i addysgu y plant acw i ddarllen?"
Rhoddai yr athraw gwylaidd iddo fanylion cyfundrefn o addysg—y cydganu yr A.B.C. —y gwersi gan Betti Ifan—ymrysonau darllen addysgiadol bechgyn y Grammar School—y 'chwareu soldiers bach,'—y gweddio, a'r cyfan —cyfundrefn drwyadl wreiddiol o addysg, nas clywsai Mr. Charles, nac un Bwrdd Addysg trwy y byd erioed, am ei chyffelyb. Ond yr oedd y ffaith mor wir ag ydoedd o ryfedd yn aros, i'r athraw ieuanc diddysg, aiddgar, trwyddi, lwyddo i addysgu ugeiniau o blant tlodion Llanegryn i ddarllen.
Nid llai rhyfedd oedd y ffaith i lygad craff y prophwyd o'r Bala weled yn y dyn ieuanc syml, gwladaidd, ac anllythrenog hwnw, ddefnydd athraw i'w ysgolion cylchynol ef. Gwelai yn eglur fod ei ewyllys a'i ymdrech i wneuthur daioni yn llawer mwy na'i allu; ac nad oedd arno eisiau ond mwy o allu—mwy o ddysg—i'w wneyd yn "filwr da i Iesu Grist," ac yn ysgolfeistr ffyddlawn a defnyddiol iddo yntau. Anogai ef i fyned am ysbaid dan addysg ei ysgolfeistr galluog John Jones, yn Mryncrug, dwy filldir o Llanegryn. Yno yr aeth, mor gyson ag a ganiatai ei amgylchiadau, am tua chwarter blwyddyn; a dyna yr oll o addysg ysgol ddyddiol a fwynhaodd erioed. Mor uchel oedd ei syniad am gael myned yn ysgolfeistr dan Mr. Charles, fel yr ymegnïai i wneyd y defnydd goreu o'i holl oriau hamddenol i addysgu ei hun yn nghanghenau symlaf dysgeidiaeth, yn enwedig mewn darllenyddiaeth. Clywsai mai y radd uchaf mewn darllenyddiaeth oedd gallu "darllen fel person."
Temtiai hyn ef i fyned yn fynych i eglwysydd Llanegryn a Thowyn i glywed y "person" yn darllen, fel ag i allu acenu a phwysleisio Cymraeg yn ol ei esiamp! ef.
Tua'r flwyddyn 1799, cyflogodd Mr. Charles ef yn athraw i'w ysgolion ef, am 4p. y flwyddyn; ac achubai bob cyfle i roddi iddo wersi a hyfforddiadau yn ei lafur. Abergynolwyn oedd un o'r ardaloedd y symudwyd ef iddynt yn 1800. Yno yr oedd, a merch fechan Tynyddol yn un o'i ysgolheigion, ar adeg ei thaith gofiadwy i'r Bala i brynu Beibl. Cafodd felly bob mantais i wybod ganddi hi ei hun ar y pryd, yn gystal a chan Mr. Charles wedi hyny, holl fanylion ei hymweliad ag ef.
Yn ei symudiadau fel ysgolfeistr o ardal i ardal, bu yn offeryn i sefydlu Ysgolion Sabbothol newyddion, ac i adgyfodi rhai trancedig, mewn lliaws o fanau, ac yn eu mysg yr ysgol drancedig yma yn Nolgellau. Sefydlesid yr Ysgol Sabbothol gyntaf yma gan ysgolfeistr blaenorol, John Ellis; ond profasai gwrthwynebiad cryf swyddogion ac aelodau blaenaf yr eglwys yn yr Hen Gapel," iddo gadw ysgol ar Ddydd yr Arglwydd, yn angeuol iddi. Ail sefydlodd Lewis Williams Ysgol Sabbothol, pan y daeth yma i gadw ysgol ddyddiol yn 1802, a hyny yn ngwyneb gwg y swyddogion oll ond un. Arferid cynal y moddion Sabbothol cyntaf am 9 o'r gloch yn y boreu. Cynhaliai yntau yr Ysgol am 6 o'r gloch. Cyn hir symudai y gwrthwynebwyr y society i'r awr foreuol hono. Symudai yntau yr ysgol i'r awr foreuach o 4 o'r gloch! Deuai o 60 i 80 o blant iddi ar yr oriau boreuaf hyn. Plant gan mwyaf oedd ei ysgolheigion ar y cyntaf. Tra yr oedd "yn flin arno yn rhwyfo" yn erbyn y croeswyntoedd hyn, deuai ei noddwr ffyddlawn Mr. Charles yma i gyhoeddiad Sabboth. Wedi deall helbulon ei hoff sefydliad, dadleuai drosti gyda'i holl zel a'i ddoethineb, ac, yn erbyn teimladau y penaethiaid gwrthwynebol, mynodd le i'r ysgol am 9 o'r gloch yn y boreu, fel un o foddion rheolaidd y dydd sanctaidd; ac felly y parhaodd hyd heddyw, i gael ei lle fel un o ordinhadau mwyaf hanfodol teyrnas Crist. Nid yw hanes y gwrthwynebiadau a ddioddefodd Lewis Williams a'r Ysgol Sabbothol, ar ei chychwyniad cyntaf yma, ond engraifft o'r hyn a ddioddefodd bron ymhob ardal sydd yn awr yn ymffrostio ynddo fel tad ei Hysgol Sabbothol. Efe oedd sylfaenydd ac ysgrifenydd cyntaf Dosbarth Ysgolion Sabbothol Dolgellau, a'i fab ysbrydol, Richard Roberts, yn is-ysgrifenydd.
Hoff gylch llafur Lewis Williams oedd yr Ysgol Sabbothol, ymweled âg ysgolion, cynal Cymanfaoedd, a darparu "pynciau " iddynt i lafurio ynddynt. Cangen o addysg yr Ysgol Sabbothol ag yr amlygai ddyddordeb arbenig ynddi oedd darllenyddiaeth. Nid oedd un rhan o "Sillydd" Mr. Charles a dynasai fwy o'i sylw na'i sylwadau yn ei ddiwedd ar yr atalnodau. Dadleuai yn gryf nad oedd pwysigrwydd y nodau bychain hyn i'w farnu o gwbl wrth ei maint. Rhoddai Mr. Charles bwys arbenig arnynt. Hawdd fyddai canfod hyny pan y darllenai y benod ar ddechreu yr oedfa. Mor fanwl y cadwai at y nodau, mor naturiol fyddai newidiadau ei lais, mor gywir ac mor glir fyddai aceniad pob gair, a phwysleisiad pob brawddeg, mor ogoneddus y dygai allan y goludoedd dwyfol o feddwl a theimlad a drysoresid yn y brawddegau a ddarllenai, fel y byddai ei ddarlleniad ef o'r Beibl yn rhyw fesur o gyfiawnder â'r Llyfr ac â'i Awdwr, ac yn wir wledd ysbrydol i bob gwrandawr meddylgar. Gofidiai Lewis Williams yn ddwys fod hyfforddiadau hyny Mr. Charles ar ddarllenyddiaeth yn ei "Sillydd" wedi eu gadael allan o wers-lyfrau Ysgolion Sabbothol yr oes hon; fod y canlyniad anocheladwy o hyny i'w weled mewn cenhedlaeth o ddarllenwyr cyhoeddus o'r Beibl sydd yn darostwng y rhan fwyaf dwyfol hon i fod y leiaf dyddorol ac addysgiadol i'r gwrandawyr o holl ranau gwasanaeth y Cysegr.
Yn ei lafur gyda'r Ysgolion Sabbothol, mynych y gwelodd y "nerth o'r Uchelder" yn cydfyned â'i waith yn eu holwyddori, yn ystod y cyfnod cyntaf o'i lafur. Ymysg ei liaws "plant" a enillodd at Grist trwy ddylanwadau oll-orchfygol ei holiadau yn yr ysgolion, yr oedd y Parch. Richard Roberts, Dolgellau, a Morris Roberts, Remsen, America. Yr amser a ballai i adrodd am y "grymusderau" a ganlynent ei lafur diorphwys trwy yr adfywiad crefyddol bythgofiadwy yn 1817-18. Gorlifai y llanw nefol i mewn i'w ysgolion dyddiol. Mynych y tröai ranau o'r rhai hyny i hoiwyddori y plant yn ngwirioneddau achubol y Beibl. Fel yn yr Ysgolion Sabbothol, felly yn yr ysgol ddyddiol, torai y plant o'i amgylch allan i "orfoleddu." Teimlai ei hun yn fynych yn llawn ysbryd i ymuno â hwynt. Ond gan faint ei bryder yn cadw y plant rhag niwed, "nis gallodd ei hun erioed gael amser i orfoleddu."
Am fod y gallu i gadw cyfrifon yn brin yn nyddiau boreuaf ei lafur, gwnai eglwysi bychain y wlad ddefnydd o'i allu bychan ef i hyny, tra yn cadw ysgol yn yr ardal. Mae ei gofnodau o daliadau eglwys fechan yn nghyffiniau y dref hon at y weinidogaeth Sabbothol, yn moreuddydd ei yrfa, yn awr ger ein bron. Gall ychydig engreifftiau o honynt fod yn ddyddorol, ac, fe allai, yn addysgiadol hefyd, i genhedlaethau dilynol o lafurwyr: Robert Griffith, 6d.; Edward Foulk, 6c.; William Huw, 6c.; Foulk Evan, 6c.; Edward Coslett, 1s.; Thomas Jones, 1s.; John Hughes, 1s.; Richard Jones, 1s.; David Elias, 1s. 6c.; Dafydd Cadwaladr, 1s.; Richard Robert, 6c.; John Peter, 6c.: Ls. Morris, 6c. Dan y fath amgylchiadau a hyn y llafuriai ac y llwyddai ein tadau i lanw Cymru âg efengyl Crist!
Pa bryd y dechreuodd "bregethu " nis gwyddai. Yn ei zel angerddol gyda'r Ysgol Sabbothol, a phob rhan o waith yr Arglwydd, yn y gwahanol fanau y symudai iddynt i gadw yr ysgolion cylchynol, mynych y gelwid ef i "ddweyd tippyn" yn y cyfarfodydd gweddi; a chyfodai o'i wely ryw foreu yn 1807 i gael ei ystyried yn "bregethwr." Yn 1815, derbyniwyd ef gan y Cyfarfod Misol fel pregethwr, a chydag ef ei fab yn y ffydd, y Parch. Richard Roberts, a'r Parch. Richard Jones, Bala, Pregethwr bychan, diarebol fychan, ydoedd, ac yn wahanol i'r cyffredin o'i frodyr bychain, credai ef hyny. Efe oedd safon pregethwyr bychain yr ardaloedd hyn—hwn a hwn yn bregethwr salach na Lewis William." Credai mae "pregethwr y cwm" ydoedd, fel nad mynych erioed y llwyddwyd i'w gael i bregethu i gynulleidfaoedd mawrion, goleuedig, "y dref." Ond yr oedd ganddo " sounding board" rhagorol o gymeriad y tu cefn i'w bregethau syml—yr oedd yn adiarebol o dduwiol. Fel y gellid credu am un nad oedd yn ail i John Elias ei hun mewn teyrngarwch trwyadl i'w Arglwydd, mynych y gwelwyd y sêl frenhinol yn eglur ar ei weinidogaeth yntau. Cafodd liaws o odfaon a gofir byth gan bawb a'i gwrandawent.
Llwybr arall y bu Lewis Williams yn llafurus a defnyddiol nodedig ynddo oedd fel llyfrwerthwr. Efe oedd y llyfrwerthwr Methodistaidd cyntaf o unrhyw bwys yn y parthau hyn. Dechreuodd ar ei lafur yn y llwybr hwn yn fuan wedi ei gysylltiad â Mr. Charles yn 1799. Teimlai Mr. Charles y parch a'r rhwymedigaeth mwyaf iddo fel un o ddosbarthwyr ffyddlonaf, gonestaf, y Drysorfa Ysbrydol, y Geiriadur, yr Hyfforddwr, a phob llyfrau eraill a gyhoeddai efe. Trwy ei lafur dyfal fel dosbarthwr llyfrau am tua haner canrif, bu yn offeryn i ledaenu trwy yr ardaloedd hyn gyfanswm mawr o lenyddiaeth grefyddol oreu y cyfnod hwnw.
Gwelir gan y cyffredin o weithwyr ar faes Cristionogaeth eu hobbies—rhyw un achos da ag y teimlent ddyddordeb arbenig ynddo, gan led neu lwyr esgeuluso achosion eraill llawn mor bwysig. Nôd anffaeledig o fychander meddyliol neu ysbrydol ydyw hobbies. Nis gwyddai ysbryd gweithgar Lewis Williams ddim am y bychander hwn. Feallai, yn wir, mai cywirach fyddai dweyd fod pob achos da pob achos a'i amcan i weithio allan amcanion dwyfol Cristionogaeth ar y byd—yn hobby ganddo ef. Diau fod eangder hwn ei zel grefyddol i'w briodoli i fesur mawr i'r ffaith i'w egwyddorion crefyddol egino a thyfu dan ddylanwadau mor uniongyrchol ysbryd ac addysgiadau Mr. Charles, a'i edmygedd annherfynol o'i gymeriad dihafal ef. Yr oedd ganddo law yn un o'r casgliadau cyntaf oll yn yr ardaloedd hyn at y Feibl Gymdeithas, yn niwedd 1805. Ni chollodd y fraint hono, ymha le bynag y byddai yn llafurio, o hyny hyd ei farwolaeth yn 1862, ond yr olaf oll, yn 1861, pan yr oedd yn gwbl analluog i adael ei aelwyd. Llwyr gollasai ei olwg rai blynyddau cyn ei farwolaeth. Ond bob blwyddyn wedi hyny, fel cynt, gwelech yr hen batriarch dall, dros ei 80 mlwydd oed, yn cerdded yn mraich casglydd arall o dŷ i dŷ trwy ei gylch, mor zelog a pharablus ag erioed, yn casglu ei hoff Gym— deithas. Golygfa effeithiol, onide?
Yn foreu yn ei gysylltiad âg ef, eglurai Mr. Charles iddo amcan a gweithrediadau y Cymdeithasau Cenhadol, ac anogai ef, i ymdrechu ymhob ardal lle y symudid ef, i sicrhau casgliad blynyddol at Gymdeithas Genhadol Llundain. Parhaodd y zel Genhadol a enynasai Mr. Charles yn ei fynwes, i losgi a goleuo hyd ddydd ei farwolaeth. Yn ei holl lafur dros lwyddiant crefydd gartref yn ei wlad ei hun, dangosai trwy ei oes yr awydd cryfaf am swn brwydr fawr Calfaria "dreiddio i gonglau pella'r byd."
Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf yn ei ardal i ymrestru dan faner Dirwest, yn niwedd 1836. Yr oedd ei ymrwymiad i barhau i bleidio y symudiad newydd hwnw yn un amodol—"tra y parhaf i gredu fod dirwest o Dduw." Parhaodd i gredu felly, ac i bleidio egwyddorion dirwest gyda zel a ffyddlondeb Cristion egwyddorol tra y bu byw.
Er lleied o fanteision addysg a fwynhasai ef ei hun, fel y gwelsom, ni lawenychai neb yn y Cyfundeb yn fwy nag ef ar sefydliad Athrofa y Bala, gan y Mri. Edwards a Charles, yn 1837, a'i llwyddiant dilynol yn anfon allan y fath nifer o weinidogion galluog "wedi eu dysgyblu i deyrnas nefoedd."
Nid â gweddïau rhâd, neu areithiau ac anogaethau gwresog i eraill, y pleidiai Lewis Williams amrywiol sefydliadau a symudiadau teyrnas y Cyfryngwr—nid trwy ganu yn hwyliog, "Aed efengyl ar adenydd dwyfol wynt," heb roddi un ddimai ar y plate tuag at hyny—y dangosai ef ei zel genhadol. Byddai ei rodd ef yn wastad mor barod a'i weddi, ei esiampl mor barod a'i anogaeth, gyda holl achosion y deyrnas fawr. Cyfrifid ef "y lleiaf o'r holl apostolion" o ran ei ddoniau pregethwrol, o fewn cylch ei Gyfarfod Misol. Ond os edrychid arno oll yn oll, yn ei lafur dyfal trwy oes faith gyda'r ysgolion dyddiol a Sabbothol, fel llyfrwerthwr a phregethwr, ac fel pleidiwr gwresog a ffyddlawn nodedig, mewn gair a gweithred, i bob achosion crefyddol a gwladgarol, safai ein pregethwr lleiaf gymhariaeth lwyddianus â'n "hapostolion penaf" mewn llafur a defnyddioldeb crefyddol; a'r llafur a'r defnyddioldeb ysbrydol hwn, wedi y cwbl, ac nid doniau na swyddau, ydynt wir safon un "mawr yn nheyrnas Nefoedd."
Yn 1819, yma yn Nolgellau, anrhegodd Arglwydd ef â gwraig a fu yn "ymgeledd gymwys" a "choron" iddo, ac yn gynorthwy gwerthfawrocaf yn ei holl lafur crefyddol a thymhorol. Yn 1824, symudodd am y bedwaredd waith i Lanfachreth i gadw ysgol, wedi bod yno y waith gyntaf yn y flwyddyn 1800; a'r waith hon dechreuodd gadw yno siop fechan; ac yno yr arosodd ef a'i briod hyd eu marwolaeth, a bendith y Duw a wasanaethent yn llwyddo eu holl lafur. Ychydig o fasnachwyr yr oes hon allant ymffrostio mewn cymeriad masnachol mor uchel ag a enillodd ein siopwr bychan o Lanfachreth.
Prynai amrywiol nwyddau ei fasnach yn masnachdy parchus y Mri. Williams a Davies, yn y dref hon. Galwai yno am amrywiaeth o nwyddau ar yr un pryd, ac yn eu mysg ryw gymaint o frethyn neu gotwm. Rhoddid y darn brethyn dewisedig ar y counter o'i flaen, a'r ffon llath, iddo fesur a thori ei hun yr hyn a fynai o hono, tra y parotoent hwy y gweddill o'r nwyddau. Yr un peth yn ngolwg meistriaid a gweision y "Shop Newydd" fuasai ameu gonestrwydd yr archangel Gabriel, o'r Nef, a gonestrwydd eu hen gwsmer, Lewis Williams, o Lanfachreth. Yn 1858, ymneillduodd ef a'i briod i orphwys oddiwrth eu llafur bydol, a mwynhau mewn tangnefedd ffrwyth bendith y Nefoedd ar eu llafur. Hyfrydwch i ni fuasai rhoddi lliaws o engreifftiau dyddorol o zel ein hen gyfaill dros achos ei Arglwydd yn ystod 38 mlynedd ei fywyd yn Llanfachreth. Ond rhaid boddloni ar geisio rhoddi rhyw syniad arwynebol fel hyn am hen athraw Mary Jones—"y ffyddlawn Lewis Williams." Cawsom y rhan fwyaf o'r ffeithiau a gofnodir yn y llyfryn bychan hwn am dano ef a'i ddysgybles ddyddorol, o'i enau ef ei hun, ar wahanol adegau wrth ei wely, yn ystod wythnosau ei gystudd diweddaf, pan yr oedd y preswylydd ysbrydol o'i fewn yn prysur ymbarotoi i gael ei "gymeryd i ogoniant. ' Bu farw Awst 14eg, 1862, yn 88 mlwydd oed. Fel y gallesid disgwyl, gwnaeth y Duw a wasanaethasai mor ffyddlon "gysgod angeu yn oleu ddydd" iddo, heb gymaint a chledr llaw gŵr o gwmwl rhwng ei brofiad â'r Nefoedd. Gosodwyd cofadail ar ei fedd trwy gasgliadau cyffredinol yn holl Ysgolion Sabbothol y Dosbarth hwn tuag at hyny. Bedd tad y Dosbarth a lliaws o'i ysgolion unigol— bedd ei ysgrifenydd cyntaf, a'r gweithiwr ffyddlonaf o'i fewn—oedd y bedd hwnw. Terfynwn bellach gydag ychwanegu anerch ymadawol ein hybarch dad, a sibrydodd â llais egwan yn ein clust un o'r Sabbothau olaf cyn ei ymadawiad, i'w gyflwyno i Gyfarfod Ysgolion y Dosbarth, a gynhelid yn y cyffiniau y Sabboth hwnw:—"Cofiwch fi yn serchog iawn at y brodyr i gyd.—Dywedwch wrthyn' nhw mai fy erfyniad olaf i am byth arnynt ydyw—am i bawb weithio eu goreu gyda'r Ysgol Sul—perwch i bawb feddwl yn llawer iawn gwell—o Iesu Grist fel talwr— Dyma fi—'r ydw'i wedi bod yn ceisio gwneyd rhyw 'chydig iawn—fel y gallwn i—yn ei wasanaeth am agos i 60 mlynedd—y talwr goreu 'rioed—arian parod bob amser a welais i—byddai'n rhoi ryw deimlad i mi yn y fan— 'y mod i'n ei blesio fo—'D allsai fo byth roi tâl gwell gen' i gael na hyny—Dyma 'ngwasanaeth i yma ar ben—'does arno fo yr un ddimai o ddyled i mi—Beth bynag sy' geno fo i'w roi i mi eto—yn y byd mawr yr ydw' i'n myn'd iddo fo—gras !—gras !—gras!—gras!" Yma gorchfygwyd ei lais gwan gan ei deimladau. Ni ychwanegodd air mwy at ei genadwri i ni, dim ond sibrwd ymlaen ynddo ei hun, "Gras!—Gras !—Gras!"
DIWEDD
OL-YSGRIFEN
ANFONWYD talfyriad Saesneg o hanes Mary Jones i'w gyhoeddi yn misolyn poblogaidd Cymdeithas y Traethodau Crefyddol—"The Sunday at Home." Ymddangosodd, gyda'r darluniau, yn y rhifyn am fis Rhagfyr. Wedi i'r tudalenau blaenorol o'i hanes cyflawnach yn Gymraeg gael eu hargraffu, wele y newydd dyddorol yn dyfod i ni, fod ceisiadau eisoes wedi eu derbyn oddiwrth swyddogion y Feibl Gymdeithas yn amryw o wledydd y Cyfandir, megis Ffrainc, Itali, Germani, a Holland, am ganiatad i gyhoeddi cyfieithiadau o'r hanes, gyda'r darluniau, yn ieithoedd y gwledydd hyny. Bernir yn debygol y derbynir ceisiad au cyffelyb eto o wledydd eraill. Yr ydym yn ychwanegu y nodiad hwn, gan dybied nad annyddorol gan ddarllenwyr yr hanes yn Gymraeg, yn y tudalenau blaenorol, yn ein gwlad ein hunain, fydd gwybod am y dyddordeb hwn a deimlir gan gyfeillion y Feibl- Gymdeithas mewn gwledydd eraill yn stori fyth ddyddorol ein "hanfarwol Charles, o'r Bala," a'r Gymraes fechan heb yr un Beibl.
—————————————
WREXHAM: ARGRAFFWYD & CHYHOEDDWYD GAN HUGHES & Son.
—————————————
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.