Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau

gan William Davies (Gwilym Teilo)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Traethawd ar Gaio a'i Hynafiaethau
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Cynwyl Gaeo
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Davies (Gwilym Teilo)
ar Wicipedia


Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

—————————————

CAIO A'I HYNAFIAETHAU, &c.

GAN GWILYM TEILO.

—————————————

TRAETHAWD

AR

CAIO A'I HYNAFIAETHAU,

YR OGOFAU, AFON COTHI, &c.

GAN GWILYM TEILO.

—————————————

FEL EI CYHOEDDWYD YN "NGOLUD YR OES," CYF. I.

—————————————

CAERNARFON :

ARGRAFFWYD GAN H. HUMPHREYS, YN SWYDDFA

"GOLUD YR OES."

Cynnwys


Cyflwynedig

I

MISS JOHNES,

O'R DOLAU COTHI,

FEL ARWYDD O BARCH DIFFUANT TUAG ATI,

AM EI HYMDRECHION DIFLIN

O BLAID DERCHAFIAD CYMRU, CYMRO, A CHYMRAEG,

GAN EI HUFUDDAF WASANAETHYDD

——YR AWDWR

LLANDEILO, RHAG, 6 , 1862

CAIO A'I HYNAFIAETHAU, YR OGOFAU AC AFON COTHI, &c.

UN o hynodion penaf gwlad ein genedigaeth ydyw ei bod mor orlawn o olion hynafiaethol. Mae yn mhob cymydogaeth gymdeithasfäu (associations) ysplenydd o'r hyn sydd yn dlws ac yn arddunol—o'r hyn sydd yn hanesiol a marchwriaethol (chivalrous)—ar ael pob bryn, ac ar wyrdd-lawr pob dyffryn braidd, yn nghydag amrywiaeth annherfynol yn ei thirweddau (sceneries) byth-foddus. Cofiaethau am fuddugoliaethau gogoneddus, ac am drai a llanw mawredd a godidogrwydd cenedl: te, megys yn ysgrifenedig ar ei chreigiau "â phin o haiarn ac â phlwm," mae y dewrder gorchestol a'r mawredd milwrol a berthynai i'n hen dadau gynt, pan y safent dros iawnderau eu gwlad, yn erbyn rhuthriadau y Rhufeiniaid, y Daniaid, a'r Normaniaid, ac yn erbyn hen fradwriaethau y Pictiaid a'r Saeson! Mae prydferthwch yn coroni gruddiau ef hanffrwythlonder yn mhob man-llwydion greigiau a charneddau mawreddog, ogofau eang a chestyll cedyrn, aruthrol feini a chysegrawl gromlechau, wrth ba rai y bu ein cyndadau dewr a gwladgarol yn addoli gynt; ynghydag hynafol draddodiadau yn poblogi llawer o'i choedwigoedd mawrion, ac olion monumentau i'w harwyr braidd i'w canfod yn mhob man. Ac wrth weled y dibrisdod a deflir arnynt yn yr oes bresenol, y mae ein hawen yn ymdori allan yn ei galar, ie, wrth weled cymaint o ddifaterwch yn cael ei roddi ar yr hyn a gyfansoddai gymaint o fawredd ein cenedl:—

Fy ngwlad! O! fy ngwlad, mae dy demlau cysegrol,
A'th sanctaidd allorau 'n malurio yn nghyd!
Dy gestyll, dy gaerau, dy gylchau derwyddol,
A beddau dy arwyr sy'n llwyd iawn eu pryd;
Symudir y gromlech, a meini dy heddwch,
Lle gynt bu 'r addoli, gan law difaterwch,
Ar fri dy hynafiaid rhoir pob diystyrwch,
Mae'th fawredd cyntefig ar fachlud o'r byd!

Pa le mae colofnau cofebawl d'wroniaid,
Gyflawnent wrhydri dros freiniau'r wlad gu?
Nid ydyw yr haulwen o'i orsedd ordanbaid
Yn dangos braidd adail ar fedd un o'r llu!
Dibrisir y garnedd lle gorwedd y Brython,
A brynai ei ryddid â thwymn waed ei galon;
Gadawyd i'r mwswg a'r danadl gwylltion,
I guddio'i orweddle mewn angof du, du!


Y mae genym hefyd draddodiadau am ddyddiau hynodawl, y rhai sy wedi eu trosglwyddo i ni drwy agenau, megys, o amserau erchyll; amserau pan y chwenychwyd cadgyrch y rhyfel-faes yn fwy nag arferion heddychawl yr aelwyd—amserau pan oedd y waywffon a'r bicell, ac offerynau o gyffelyb natur, yn cael mwy o sylw na meithriniad palmwydd blodeuawg heddwch—amserau pan oedd gweryriad y rhyfelfarch yn gymysgedig â llais croch-ruawl udgorn rhyfel, yn enyn nwydau mwy cydweddol â'u hymarweddiadau ac â'u chwaeth, na thyneraf gerddoriaeth eu telynorion, neu addysg synwyrlym eu Derwyddon athronyddawl. Y rhai hyn oeddynt yn wir gymdeithasfäu dyddiau marchwriaethol neu wrol-gampol, pan ydoedd holl uchelgais dyn yn gadael ei wylltaf nwydau yn benrydd, ac yn eu hymarferyd fel offerynau i`gyrhaeddyd meddiant o'i freuddwydion mwyaf mawreddawg a gorwych, yn absenoldeb teimladau mwy coethedig mewn cymdeithas i atal eu rhamant.

Yr hyn ag sydd yn peri llawer o flinder i feddwl y gwladgarwr ydyw, nad oes genym fawr o hanes yr hyn a fu yn cynwys cymaint o ogoniant cyntefig ein cenedl ar gael. Y mae miloedd o'r llawysgrifau Cymreig, drwy ddifaterwch yr oesau, wedi yslithro, ac yn yslithro i ebargofiant. Er yr holl gynhyrfiadau mawrion a phwysig sydd wedi cymeryd lle, y mae rhai o'r hen ysgrifau hyn wedi dyfod i'n dwylaw yn ddyogel; wedi gorfyw tymhestloedd ac ysgubiadau gwaedlyd rhyfeloedd, a chynyrfiadau gwladwriaethol arswydus, ac wedi nofiaw megys eirch ysplenydd mewn dyogelwch hyd dònau ymchwyddawl amser, gan ddwyn i ni hanes amserau a fuasent yn eu habsenoldeb yn dudalenau blanc yn ein llenyddiaeth hanesyddawl, yn nghylch yr hen genedl enwawg a galluawg a boblogodd yr ynys ysplenydd hon gyntaf. Mae yn wir fod eu negeseuau a'u cenadiaethau yn gwbl analluawg i'n cynysgaethu âg adroddion manwl am helyntion boreuaf ein cenedl; ond eto, gweithredant fel y tipynau glas sydd i'w gweled yn ymruthro oddi rhwng cymylau gordduon y ffurfafen—fel llain o dir a fyddai wedi ei ddadgysylltu oddiwrth gyfandir neu fel ffaglau unigawl a fyddant yn taflu llewyrch gwanllyd, ond eto yn ffyddlawn, ar foddau ac arferion, ac ar gyflwr moesol a chymdeithasol ein dewrion gyndadau. Mae rhagluniaeth wedi ein hanrhydeddu â rhyw gipolwg ar braidd bob cyfnod yn ein hanes, yr hyn sydd yn fynegai (index) i nodweddion yr oesau a'u cynyrchasant; fel mae gwênau hyd yn nod y seren hwyrawl, mewn noson ddu gymylawg, yn ddigon i ddangos i ni agwedd gyffredinawl yr wybren ar y pryd, efelly mae yr anghysbell a'r henafol ddarnau hyn, ag sydd mor feichiawg o'r amserau a fu, yn ein hanrhegu â byr gyflym-drem ar agweddion cyffredinawl y gwahanawl ganrifoedd.

Gellir olrhain y dadgymaliad hwn sydd yn ein llenyddiaeth hanesyddawl, i'r ffaith a grybwyllasom eisoes; ond, a siarad eto mewn dull cymhariaethawl, y mae yr ychydig ag sydd ar gael, â digon o dystiolaeth ynddynt eu hunain i gadarnhau nad ydynt ond dolenau euraidd o gadwyn hanesyddawl, a fuasai yn ddyddorawl i bob oesau i ddyfod! Nid ydynt ond fel rhyw grwydrol sêr, ychydig wedi eu gadael mewn cyferbyniad i'r nifer fawr a fu unwaith yn britho tudalenau ein hanesiaeth. Profant er hyny, nad oedd y Cymry islaw y cenedloedd cymydogaethawl mewn celfyddyd, llenyddiaeth, a gwareiddiad; ond o'r tu arall, profant y daliant y Cymry eu cyferbynu â'r rhai mwyaf dysglaer a goleuedig o honynt, yn enwedig yn eu hysgrifeniadau moesonawl. Meddyliem mai nid gweithred gwbl annyddorawl fyddai dechreu gyda PHENTREF CYNWYL GAIO.

PENTREF CYNWYL GAIO.

Ymddengys fod y pentref bychan a thawel hwn wedi bod yn enwawg iawn yn yr oesau a aethant heibio, ac wedi bod yn dref bwysig yn y Deheubarth. Dywed Lewis, yn ei "Topographical History of Wales," ei bod yn cael ei galw mewn rhai o'r hen ysgrifau yn "Caer Gaio."[1]

Y mae y gair "Caer" yn dangos fynychaf fod y lle hwnw ag sydd yn dwyn yr enw, wedi bod ryw amser yn cael ei amddiffyn naill ai gan gastell neu ryw adeilad milwrol arall. Gan fod amryw o hen olion hynafiaethol Rhufeinig yn ac o amgylch y pentref, mae yn rhaid fod y lle yn adnabyddus i'r genedl feiddgar hono. Yn ol traddodiad, yr oedd yma dref fawr wedi ei hadeiladu ganddynt, gan mwyaf o briddfeini cochion (bricks,) a'i bod yn adnabyddus yn herwydd hyny wrth yr enw "Y DREF GOCH YN NEHEUBARTH." (Gwel "Lewis's Wales" eto; dan yr enw "CONWYL Cayo.") Mae'n hawen eto yn anesmwyth, wrth weled y mawredd a berthynai gynt i'r lle hwn, a'r hwn sydd fel wedi ei lwyr ddileu. Gwrandewch hi!

"Dref Goch yn Neheubarth," —machludodd dy fawredd,
Nid ydyw yn aros dy falch rwysg yn awr!
Dygaerau a ddrylliwyd, dy furiau y’nt garnedd,
Yn gorwedd oll heddyw'n gyd-wastad â'r llawr!
Dy eang balasau, a'th lysoeddheirdd dedwydd,
Faluriwyd fel nad oes braidd olion i'w cael,
O'r manau y safent mewn gwychder ysplenydd,
Lle trigai dy arwyr, rai dewrion ac hael.

'Ry'm fel pe yn clywed rhyw erchyll floeddiadau,
Yn adsain hen ddyffrynyr Arnell, swn cad,
A thwrw'i thabyrddau fel trymawl daranau ,
A chrechweny bleiddiaid wrth dref Gaio fad ;
Tingciadau dur arfau, oer waedd y Rhufeinwr,
Mewn iaith anneallus,clywch drwst fel cwymp mur,
Clywch ruthr y gadgyrch! min -fin gledd pob milwr,
A Chaio yn syrthio i ddwylaw ein gwŷr!


Mae у ffaith fod llawer o'r priddfeini hyn wedi eu darganfod yn yr ardal hon yn ddiweddar, i raddau yn cadarnhau y traddodiad, neu'r ffaith . Heblaw hyn yna, mae yno lawer o leoedd sydd a'r geiriau neu enwau "Coch" a "Dref" yn nglŷn â hwynt. Yn nghymydogaeth y pentref y mae hen olion a elwir "Melin milwyr;" mae yn eithaf tebygol mai yma yr oedd y Rhufeiniaid, yn ystod eu harosiad yn y rhan hon o'r wlad, yn malu eu hŷd, &c. Nid oedd y milwyr Rhufeinig yn cael ymsegura, megys ag y mae milwyr Prydain yn y dyddiau presenol; gorfodid hwy pan na buasent yn dylyn eu "galwedigaeth", ysef rhyfela, i adeiladu tai, i falu ŷd, ac i wneyd ffyrdd o'r naill ran o'r wlad i'r rhan arall, y rhai a elwir yn awr yn "Sarnau." Ar y ffordd i Landdewi Brefi, y mae un o'r sarnau hyn i'w gweled yn awr. Yn ol rhai ysgrifenwyr gelwid hi "Sarn Helen," mewn an- rhydedd i Helena, mam Cystenyn Fawr. Mae ereill yn barnu mai llygriad ydyw yr enw, ac mai "Sarn Lleng" neu "Lleon," ydoedd ei hiawn enw. Y mae amyw o grugiau (tumuli) yn y gymydogaeth, yn enwedig wrth "Bont rhyd Remus." Gellir casglu yn mhellach, na fu y Rhufeiniaid yn segur iawn yn ardal Caio. Mawr oedd eu hanturiaeth! Hwy a dyllasant y creigiau er cael gafael yn y mwn aur cuddiedig, gan ffurfio rhai o'r ogofau mwyaf eang ac anferth a wnaethant yn ystod eu harosiad yn "Ynys Prydain, ysef "Ogofau Cynwyl Gaio."

Yspeilient y defaid o ael y mynyddau,
Lladratent gynyrchion diwydrwydd pob Haw;
Yn feiddgar anturient i agor y creigiau,
Fel eryr y gwelent ysglyfaeth o draw!
'Roedd "Melin y milwyr" malu cynyrchion
A godwyd drwy lafur a lludded a chwys
Ein tadau diniwaid, gan wasgar trallodion
I fynwes y palas, y bwth, a phob llys.


Gan ein bod yn awr yn trin. Pentref Caio, efallai mai nid gweithred hollol anfuddiol fyddai rhoddi rhyw gipolwg ar ei Heglwys, &c., cyn yr ymadawn â hi.

Fel pob peth a fu, mae amser wedi bod a'i law drom, yn dileu braidd yr oll o'r adeiladau penigamp a mawreddog ag ydoedd yn cyfansoddi yr hen "Gaer Gaiaw."

Cynwysa y plwyf oddeutu 2000 o drigolion, o ba nifer y mae oddeutu 125 yn gwneyd i fyny boblogaeth y pentref. Cynwysa 3 o siopau, 3 o dafarndai, 1 ysgoldy, 1 capel (Methodistiaid,) ac un Eglwys henafawl, yr hon sydd yn ddiweddar wedi cael ei thrwsio. a'i hadgyweirio gyda chwaeth a medrusrwydd canmoladwy. Cafodd ei hailagoryd gan y dysgedig Connop Thirlwall, Esgob Ty-ddewi, ar y 14eg o Ebrill, 1858.

Yr hen adeilad orwech ao urddasol hon ydyw yr unig un o bwys ag sydd yn tynu sylw yr ymdeithydd. Y mae yr adeiladaeth yn perthyn i'r dullwedd (style) Gothicaidd, ac a ystyrir yn hen iawn. Y mae hynafiaethwyr yn methu a phenderfynu yn mha gyfnod ei hadeiladwyd, yn herwydd absenoldeb unrhyw beth o bwys yn y muriau, &c., ag a fyddai yn debyg o arwain y dyb yn gywir at yr amser yr adeiladwyd hi. Y mae yn yr Eglwys hon ddau arlun cerfiedig (figures) yn noethion, y rhai a feddylir ydynt gerfluniau o Adda. ae Efa. Y mae clochdy mawreddawg a banawg yn nglŷn â'r Eglwys, yr hwn a ystyrir fel un o'r rhai uchelaf yn y sir, ac yn dangos yn ei adeiladwaith rywbeth tebyg i ddullwedd ein castelli. Meddylir nas gellir olrhain ei adeiladaeth yn mhellach yn ol na'r 12ed ganrif.[2] Y mae y tai ag sydd yn cyfansoddi y pentref bychan a phrydferth hwn, oll o adeiladwaith diweddar, ac yn edrych yn lanwedd. Y mae ei sefyllfa ar dipyn o godiad tir, a'r Afon Annell yn rhedeg ar y naill ochr iddo; a Nant Frena ar yr ochr arall iddi, yr hon sydd yn tarddu yn uniongyrchol o ucheldir "Brenach."[3] Ychydig bellder uwchlaw i'r pentref saif y ficerdy, mewn man prydferth yn nyffryn tlws yr Annell. Ceir golwg dra boddhaus oddiar ei ddrws; i'r ochr ddeheuol y mae y pentref, ei Eglwys a'i glochdy godidog yn dal y llygad; ac ar yr ochr aswy, y mae golygfa ddyddorol i'w chael ar dirweddau (sceneries) swynawl,—a dolydd ffrwythlawn a maesydd gwyrdd-wawr tlws ddyffryn yr Annell, yn estyn o'n blaen. Mae y goedwig ysplenydd a elwir "Coed- y-byllfa yn ymdoni yn awelon balmaidd Maihafhin, a chân yr adar yn adseinio bro a byn, yn fawl i'w Perydd am dymhor mor ogoneddus a hyfryd! Ychydig yn is i lawr y saif "Crug-y-bar."[4] Beth all ystyr yr enw hwn fod? Dywed rhai mai "heap of confusion" ydyw ei ystyr. Y mae haenau (strata) daearegol y lle yn ymddangos fel pe wedi bod dan gynhyrfiadau arswydus ryw amser. Mae gan yr Annibynwyr gapel prydferth yma. Y'n agos gyferbyn a "Chrug-y-bar" y saif "Bryn-y-garth"; y mae olion capel i'w ganfod yma. Y mae olion hen gapel arall i'w weled mewn cae perthynol i Brondeilo, ysef, capel Cwrt-y-cadno, ychydig yn is i lawr. Gelwir y cae, "Cae'r capel." Gellir casglu yn naturiol ei fod wedi ei enwi, neu ei gysegru, i Sant Teilo, yr hwn ydoedd un o seintiau mwyaf enwog yr Eglwys Frydeinig, ac yn Esgob Llandaf, o.c. 540, ac i'r hwn y mae cynifer o eglwysi a chapelau wedi eu cysegru yn esgobaethau Llandaf a a Thy-ddewi. Yn agos i Frondeilo, y tu arall i'r dyffryn, y mae hen balas Llanwrthwl. Y mae rhai hynafiaethwyr yn barnu fod Eglwys wedi bod yma ryw amser, a'i bod wedi ei chysegru i "Sant Wrthwl." Mae y ffaith fod hen ywen ardderchog i'w gweled yno yn awr, mewn cae tu draw i'r Annell, a chyferbyn a'r tŷ, yn profi i raddau pell fod hen gapel neu eglwys wedi bod yno yn yr amser gynt. Mae yn debyg ei bod yn hen arferiad cyn cred, cyn cof a chadw, i blanu coed Yw mewn mynwentydd, megys ag y gwelir yn ymylon yr hen gapelau henaf yn ein hynys. Y mae cae arall ar y tyddyn hwn, a elwir "Cae'r polion."[5] Cafwyd dwy o feddfeini yma, yr rhai a symudwyd yn ddiweddar, ac y maent i'w gweled yn awr ar y lawnt gyferbyn a'r Dolau Cothi, palas y boneddwr a'r gwladgarwr drwyddo hwnw, John Johnes, Yswain, un o brif noddwyr yr Eisteddfodau, a Chymru a Chymraeg. Y mae yn gerfiedig ar un o'r meini crybwylledig yr hyn a ganlyn:"Servator fidei patri æque semper amator, Hic Palinus jacet, cultor pientissimus Equi," neu yn debyg yn Saesoneg, "Here lies Paulinus, a most pious maintainer of justice, preserver of his religious principles, and constant lover of his country." Tybir mae cofebion ydynt y meini hyn ar feddau rhyw arwyr a syrthiasant yn "Mrwydr fawr Llanwrthwl," a ymladdwyd rhwng y Rhufeiniaid a'r Brutaniaid Mae yn bur debyg mai Rhufeiniaid oeddynt, o leiaf gellir casglu oddiwrth enw Paulinus mai Rhufeinwr ydoedd. Mae ereill yn barnu mai Paul Hen a feddylir. Hon efallai ydoedd y frwydr olaf a ymladdwyd yn y rhan hono o'r wlad, rhwng y Cymry a'r treisruthrwyr Rhufeinig. Mae ein hawen eto yn anesmwyth, ac yn barod i arllwys allan ei hyawdledd yn ffrwd o deimlad, gan lawenydd a gynyrcha y meddwl i̇'n cyndadau dewr a gwladgar gael perffaith oruchafiaeth ar y genedl feiddgar a chigyddlyd, a fu yn eu gormesu mor drwm am gynifer o flynyddau!

Am flinion flynyddau y gwnaethant ormesu
Y wlad oddiamglych âg haiarnaidd law;
Ein tadau o'ent gaethion dan iau yr estronlu,
A Chaio yn orsaf Rufeinig o fraw!
Ar ei heolydd y prangciai'r rhyfel-feirch
Rhufeinig, mor esmwyth a nwyfus eu carn ;
Fe welwyd y gelyn yn gyru'r dihefeirch,
Nes enyn y gwreichion yn fflamau o'r sarn.


Cadarnhau dy furiau wnaethant,
Gwnaed rhag-furiau cedyrn erch!
Teimlent sicrwydd mewn dyfodiant,
Adeiliadent gaerau derch;
Rhoi gwibdeithiau wnai'r treis-ruthwyr
Hyd y wlad mewn rhyfyg syn;
Gan yspeilio, erch ormeswyr,
Dda a defaid bro a bryn.


Cymru druan oedd yn huno,
Megys gwelir Etna boeth,
Cyn yindoro, cyn dylifo
Ei ddialedd tanllyd noeth;
Llwfr ydoedd ein dewr dadan,
Megys enyd, er eu grym,

Megys sarph grynoa'n dorchau
Cyn ymneidia'n gref a llym !

Nid oedd gobaith i'w gwaredu,
Arni taenodd noson ddu,
Eu gobeithion wedi pallu,
Gan mor gadarn oedd y llu;
Gwel'd yr eirth, fel corwynt deifiol
A ysgubai flodau gardd,
Yn dwyn ymaith eu meddiannau,
Pob peth gwerthfawr, pob peth hardd.


Yn nghanol y t'wyllwch, ha! wele ryw fellten
O fynwes wladgarawl rhyw hen fardd yn d'od,
A greodd ryw daran gynhyrfus yn wybren
Gwladgarwch y Cymry—mae'n awr fel erio'd
Yn enyn eu mynwes—cynhyrfai eu henaid
Yn fflamau o deimlad, o gariad a serch
At hen wlad eu tadau oedd 'nawr rhwng y bleiddiaid,
Yn ochain dan orthrwm a thrais Rhufain erch.

Ein gwlad, a gaiff Rhufain dy drymaidd ormesu,
A chochwaed ein tadau yn berwi'n ein bron ?
A wnawn ni ymostwng fel hyn idd ein sathru
Dan draed y barbariaid, Na! medd y fraich hon!
Atynt wroniaid! yn rhydd o'r cadwynau,
Ymlamwch i'w herbyn fel un nerthol dòn!
Y cleddyf a'r bicell, y bwa a'r saethau,
Gânt heddyw ddwyn eto ein rhyddid i'n côl!
Banerau cyfiawnder uwch ini sy'n chwarau,
Ymruthrwch! ymruthrwch, na foed un ar ol!

Adsain y geiriau wnaeth gwbl ddihuno,
Dewr—feib yr ynys sy 'nawr o gylch Caio!
Rhwng creigiau y Cothi, mae'r gân fel diareb,
Clogwyni moelwylltion y wlad sy'n cyd—ateb !
Uchelfloedd "I'r gadgyrch," ein rhyddid neu angau!
"I'r gadgyrch," wroniaid, sy'n adsain y creigiau!
Clyw'r meirch yn gweryru! tarandrwst eu carnau
A glywir, a thingcian cyffrous yr arfau !
Banllefawg floeddiadau brwdfrydig ein harwyr
Sy'n rhuo nes crynu y ddaear a'r awyr!
"Ein rhyddid o ddwylaw y gwaedlyd Rufeinlu,
Neu'n gwaed fyddo heddyw o'n hamgylch yn ceulu!
Ein cyrph fyddo'n balmant i draed y Rhufeiniaid,
Os ni ni enillwn hen Gaio, wroniaid!"
Ofnadwy y ddyrnod wasgarant i rengau
Cadarnaf y gelyn, celanedd ac angau


Sy'n arwain pob llymsaeth i galon y gelyn.
Gwel! gwel y cyffro-y gwylltio a'r dychryn,
Sy'n meddu eu mynwes,-fel llew yn ei goedwig
Yw'r Cymry yr awrhon i'r eryr Rhufeinig.
Gwel y Rhufeiniaid yn gorwedd yn haenau,
A'u gwaed yn amgylchu eu hoer-gyrph yn dorchau;
"Paulinus" falch lywydd, a'r milwyr cyffredin,
A gyd-ymgymysgant eu gwaed yn y dyffryn!
Y meirch a'r marchogion y rhai oe'nt mor hylwydd,
A gyd-ddisgynasant i freichiau dystawrwydd !
"Buddugoliaeth!" yr udgyrn a seiniant,-
Gyrasom wŷr Rhufain fel gwellt gan lifeiriant;
Hen Gaio a gawsom, a'n tref achubasom,
O grafange y gelyn ein gwlad enillasom!

Fe gododd y lloerwen yn brudd y nos hono,
Uwch ben maes Llanwrthwl 'roedd trymder y bedd;
Dangosai ei marwaidd belydron digffyro
Oer lwmgyrph Rhufeiniaid yn welwon eu gwedd.
Roedd gwaed yr estroniaid yn llif hyd y ddaear,
Yn haenau gorweddent yn feirwon, O! fraw,
Y lloer a ddysgleiriai'u helmetau trylachar,
A'u harfau dywynent fel fflamau o draw!


SANT CYNWYL

Yr oedd y Cynwyl hwn, enw pa un sydd wedi ei gysylltu â Phentref Caio yn herwydd fod yr Eglwys wedi ei chysegru iddo, yn fab i Dynawd Fyr, neu Dynawd Fawr, neu Dynawd Wr. Ei enw Lladin oedd Dinothus, ac yn ol Bede, Dinoot Abbas. Yr oedd y Dynawd hwn, yn ol y Proffeswr Rees, yn frawd i Deiniol Wyn, ac yn un o brif-lywyddion North Britain, yn amser Urien Rheged, ac yn fab i Pabo, o linell Coel Godebog. (Gwel y Welsh Saints, p. 206.) Mae yn debyg iddo enill peth bri fel arwr, oblegyd gelwir ef yn y Trioedd Cymreig yn "un o dair colofn y wladwriaeth mewn rhyfel." Nid oes dim o hanes Sant Cynwyl ar gael. Ni a gawn yn y "Welsh Saints," p. 212, fod Cynyr Farf-drwch, neu Cynyr Farf-wyn, neu Cynyr Ceinfarfog ap Gwron ap Cunedda, yr hwn oedd yn benadur, yn byw yn Nghynwyl Gaio, tua chanol y 5ed ganrif.

Yr ydoedd yn dad i chwech o seintiau, ysef Gwyn, Gwynno, Gwynnoro, Celynin, a Ceitho; ac yn ol y traddodiad cawsant eu geni i gyd ar yr un waith! Dywed y Proffeswr Rees, un o'r prif feirniaid hanesyddawl a fu yn ein gwlad erioed, fod ganddo hefyd fab o'r enw Cai (gwel ei "Welsh Saints," p. 213,) yr hwn, mae yn debyg, a roddodd ei enw i "Caio." Yr oedd yn yr amser a aeth heibio gapel a elwid "Pump saint," yr hwn, fel y barna Rees, oedd wedi ei gysegru iddynt, yn gystal a Llan-pump-saint. Dywedir fod eu "gwyl" yn cael ei chadw ar ddydd yr Holl-saint (Allsaints.) Nid oes dim hybsysiaeth pellach yn eu cylch, ond tybir mai Ceitho ydoedd sylfaenydd Llangeitho yn Ngheredigion, ac fod ei ŵyl yntau yn cael ei chynal ar y 5ed o Awst. Efallai y dysgwylir i ni roddi hen draddodiadau, sydd eto i'w cael yn nghymydogaeth Cynwyl Caio, ar lawr yn ein traethawd; gan eu bod mor aneglur a thywyll, y rhan fwyaf o honynt, tybiasom mai gwaith hollol ddifudd fuasai rhoddi cyfres ar lawr o honynt, am mai gwrachïaidd ac ofergoelus ydynt braidd i gyd. Er esiampl, dyma un o honynt: Y mae ffynon fechan ar lan yr afon Annell, yr hon a elwir "Ffynon Gynwyl." Dywed hen bobl y gymydogaeth fod traddodiad yn dyweyd i blentyn gael ei ddarganfod yn ymyl y ffynon hon, rai oesau yn ol, ac iddynt ei alw yn "Cynwyl," ac iddynt enwi y ffynon yn Ffynon Cynwyl" yn herwydd hyny, ac iddo dyfu i fyny yn ddyn o gryn enwogrwydd; a byddent weithiau yn ei alw "Cynwyl Caio," am mai yn mhlwyf Caio yr oedd yn byw; ac iddynt wedi ei farw, alw y plwyf yn blwyf Cynwyl Caio o barch iddo. Dyna y traddodiad yn llythyrenol. Ni fyddai ond gwaith afreidiol i ni fyned i chwalu y gabildi yna, er nad ydoedd y dygwyddiad yn ei ystyr symlaf yn beth hollol annichonadwy; ond mor rwydd y mae y beirniaid hanesyddawl yn medru gwasgaru niwl tew hen draddodiadau tywyll ac aneglur fel hwna ac i ddwyn y ffeithiau a gynwys ereill i'r golwg!

Lewys Glyn Cothi

Ni a ddeuwn i waered yn awr hyd y 15ed ganrif, at y glwys-fardd Lewys Glyn Cothi. Yr oedd yr anwyl fardd hwn yn byw yn Mhwll-tyn-byd, yn Nghwm cothi, yn yr amser uchod . Fe ddylai pobl Cwmcothi ymdrechu cael allan hyd sicrwydd y man y bu byw ynddo. Yr oedd yn sicr fod ganddo balas ysplenydd, am ei fod yn foneddwr cyfoethog iawn , yn ddyn o chwaeth goethedig, ac yn fardd godidog.[6] Byddai yn fri nid bychan iddynt pe gallent, drwy lafur ac ym chwil, gael allan i eglurder y ffaith hon . Gallant, fel ag y mae sefyllfa pethau yn bresenol, hòni hawl yn un o'r beirdd godidocaf a fu yn Nghymru. Fe fu holl Itali unwaith yn berwimewn ymrafael yn nghylch lle genedigol ei Dante, gan fod cymaint o leoedd yn hòni yr anrhydedd fawr hono . Efelly y bu trefi a dinasoedd yn nghylch Homer ac ereill, rhy faith i'w henwi. Ymffrostia Llangathen yn ei Dyer, y bardd anfarwawl ac awdwr y bryddest orchestawl "Bryn y Grongaer." Lleoedd bychain ereill yn mhob rhan o'n gwlad a ymffrostiant yn eu beirdd a'u llenorion, y rhai a fuont megys Lewys Glyn Cothi, &c., yn oleuadau ac yn heuliau dysglaer, yn llewyrchu eu goleuni yn nenau yr oesau a aethant heibio. Fe ddylai pentref Caio ymffrostio ynddo, am ei fod wedi cartrefu ynddi, ac wedi talu ymweliadau mynych â hi, a'r hyn ag sydd mor wir werthfawr ydyw, fod Lewys ei hun yn ei gywyddau a'i awdlau wedi cofnodi hyny, fel y cawn ddangos eto. Hyderwn y bydd y llinellau hyn yn foddion i gynyrchu awydd ac uchelgais ynddynt i gael allan yr holl ffeithiau perthynol iddo: bu yn byw yn rhywle yn y gymydogaeth am lawer o flynyddau. Nid oes dim eisiau i ni grybwyll wrth y darllenydd mor wir werthfawr ydyw cywyddau Lewys Glyn Cothi. Y maent yn llawn o grybwyllion hanesyddawl o bwys, ac yn rhoddi cipolwg i ni ar y dull yr oedd pethau yn cael eu dwyn yn mlaen yn Nghaio, &c., yn yr amser hwnw. Y mae yn beth gwir foddhaus i gael ambell olwg gan ryw hen fardd godidog fel hyn ar y moddau yr oedd ein hynafiaid yn "byw ac yn bod," ac ar sefyllfa wareiddiol ein tadau yn yr oesau a'r canrifoedd a aethant heibio. Ni a gawn, fel y dangosir, hanes llawer iawn o gymeriadau o bwys, o balasau mawrion ac ysplenydd, ag oedd yn Nghaio a'i hamgylchoedd, rhwng y blynyddau o.c. 1430 a 1470, hanes pa rai a fuasent wedi eu claddu mewn bythol ebargofiant oni buasai i'r bardd eu cofnodi yn ei farddoniaeth. Nid mewn dull o ymffrost y dywedwn, ond yr ydym yn credu mai y ni ydym y cyntaf sydd wedi taflu ychydig o oleuni ar yr hen gywyddau hyn yn eu perthynas â Chethinog ac à "Chaio." O leiaf nid ydym ni wedi gweled dim ar y testyn, ond yn unig yr hyn sydd mewn nodiadau gan yr offeiriaid dysgedig, y beirdd gorchestol, a'r beirniaid manylgraff a diguro, sydd er eu bod "wedi marw, yn llefaru eto," ysef Gwallter Mechain ac Ioan Tegid, yn gwaith ein bardd, yr hwn a gyhoeddwyd drwy eu llafur a'u cydweithrediad hwy. Goddefer i ni ddwyn tystiolaeth hefyd, ein bod yn synu peth pa fodd y gallasant fod mor gywir yn eu nodiadau lleol, tra yr oeddynt yn ddyeithriaid i'r ardaloedd a goffeir ganddynt yn eu notes. Wel, ni a awn rhagom yn awr at y cywyddau, gan

ddechreu gyd a'r cywydd i

GYNWYL GAIO.

Ni a gyfieithwn y "nodiadau" ag sydd yn taro ein pwrpas, gan gymeryd ein rhyddid i dynu oddiwrth, neu roddi at unrhyw beth, yn ol fel y byddo amgylchiadau yn gofyn.

"Goreu un lle ger ein llaw,
I leyg yw Cynwyl Gaiaw;
Mi a gawn ym o Gynwyl,
Mwy nog o Iorc, (1) yn min gŵyl;
Awn i Gynwyl wèn ganwaith,
Ac yno aed a gân iaith;
Ni ddeuai hwn ei ddau hyd
O Gynwyl Gaio enyd;
A'r haela' oll yn rhoi'i lyn
Hir o dudwedd Rhyd Odyn; (2)
Dyn yw heb, hyd yn Nhiber, (3)
Domas Llwyd (4) dim us a llèr. (5)

Mab Morgan (6) yn mhob mawrgost,
Mwy nog un y mỳn ei gost;
Ban Dafydd Fychan (7) yw fo,
Ben cywaeth meibion Caio.
Bid rhyw Philip Trahaearn[7]
Bena' o'r byd ban ro barn;
A chaned faled (8) i ferch,
A chyrhaedded awch Rhydderch.
Glyn Aeron, Rhyd Odyn dir,
Oedd ei adail a'i ddeheudir.
Digrifion doethion fu'r do
Oedd a aned oddi yno.

A gair mwyn a geir am wys,
Tomas (9) fal Tim sy felys.
Gwna ei hun, gan ei hanerch,
Gan' mil o ganeuau merch;
A phob penill Ebrillaidd
I fedw grym, hefyd a'i gwraidd.
Nid dewr un, er maint ei ras,
Nid da ym onid Tomas;

Mae'n dda Mon a weddiwyd,
Mae sy well ym, Tomas Llwyd;
Arafa' oll yw ar fil,
Nes ei ofyn yn sivil;
Ef yw un, pan ofyner,
A ofyn barn a fo'n bêr;
A gwna hawl, ac enwi hon,
Wedi'r hawl fo dyr holion;
Os barn, neu wys, a bair neb,
Parotaf y pair ateb;
Os aliwns a gwnsela
I fwrw ein tir o fraint da,
Ar Domas rhaid yw ymwan,
A'u bwrw hwynt-hwy obry'n y tân;
O dyd ei lawnfryd a'i law,
Domas Llwyd am ais Llydaw."

Dyna i gyd sydd o'r cywydd hwn ar gael.

ESPONIADUR:—Mae y bardd yn y cywydd dyfynedig yn moli Caio yn uchel, ac yn ymffrostio yn fawr yn y gwleddoedd a gafodd yno; siarada yn uchel iawn ar haelfrydigrwydd a chymwynasgarwch un Tomas Llwyd, yr hwn oedd yn byw yn Nghaio yn amser ein melus-fardd Lewys. Fe all Caio ymlawenychu mewn bardd arall, ysef y Tomas Llwyd hwn; dywed am dano, fel cyfansoddwr rhiangerddi tlysion, ei fod o dymher addfwyn a charedig, ac o yspryd rhyddfrydig a gwladgarol. Nid ydyw y beirniaid Mechain a Thegid yn dyweyd dim ynghylch y Tomas Llwyd yma. Yr ydym ni yn barnu mai un o hynafion Llwydiaid Ffos-y-Bleiddiau ydoedd, olafiaid pa rai sydd yn byw yn y Brunant (Bre-nant?) yn ymyl Caio yn awr. Dyma waith eto i ryw rai yn Nghaiaw, ydyw gwneuthur ymchwiliad manwl yn nghylch y Tomas Llwyd hwn, a threio dyfod o hyd i rai o'i ganiadau—maent yn sicr o fod ar gael yn rhywle yn awr. Byddai yn anrhydedd i Gaio, ac yn enw i'r hwn a ddaw o hyd iddynt. Maent yn werth ymchwil ac ymholiad manwl. Gallem feddwl eu bod yn lluosog, wrth y ddwy linell hyn o eiddo'n bardd:—

"Gwna ei hun, gan ei hanerch,
Gan' mil o ganeuau merch."

Gwel y ffugyrau a roddasom yn y cywydd blaenorol. (1) "Mwy nog o Iorc," &c. Better than those feasts at York.

(2) "Rhyd Odyn" neu Odwyn. Palas Rhydedwyn, neu Edwinsford, ar afon Cothi, yn mhlwyf Llansawel.

(3) "Hyd yn Nhiber." Mor bell a'r afon Tiber.

(4) Y Tomas Llwyd a nodwyd.

(5) "Ller." Efrau y llafur.

(6) "Mab Morgan," &c. Rhyw Forgan Llwyd.

(7) "Ban Dafydd Fychan." Yr oedd y Vaughans, neu y Fychaniaid, yn deulu lluosog, fel y cawn nodi eto. Dywed ein bardd am danynt,—

"Mae'r deuddeg llwyth yn Nghaeaw,
Mae pob llwyth yn wyth neu naw."

(8) "Faled," Baled neu Riangerdd.

Awdl i Gaio

Yn awr ni awn yn mlaen at yr "AWDL" sydd ganddo i Gaio; fe dafla hon ryw oleuni pellach ar rai pethau. Gwel yr un gwaith, rhan 2, dos. iv., tud. 311.

"Caio wen ucho, a Non, (1)—a'i mab,
A Mair a'r gwyryfon;
Asa, (2) Cynin (3) a'i weision,
Iesu hael, a groeso hon.

Hon a'i gwyr gwychion yn rhoi gwin—o wydd,
A noddo sant Awstin, (4)
A gwragedd teg yw'r egin,
Oll oll, ac a ddel o'i llin.

O'i llin a'i hegin, hil a had,—Amen
Dymuned y mab rhad;
Ac o'i phlant a lanwant y wlad,
Ac o wyrion mwy cariad.

Cariad Wendodiad (5) a dyf,—o dyfiad
Cadifor ap Selyf; (6)

Ac o Wynedd mae genyf,
O Galo doed i Gae' Dyf. (7)

I Gaio y deuaf,ac i Dywyn;
O Gaio nid âf er gwan dyfyn;
Addange (8) ni thynir o anoddyn—dŵr,
O Gaio na'm twr i gam ni'm tỳn.

Y cae ehelaeth cylch tŵr Cuhelyn ( 9)
Ydyw y wen Affrig rhwng naw dyffryn;
AgwyrdaCaioageryn'—roida, Ac yn y dyrfa y gwnan' derfyn.

Pob pysg i adwedd, pob pysgodyn,
A gaid o dudwedd aig Rhydodyn;
Pob hydd o'r mynydd ; pob mun—ewigedd,
Pob gwledd a'i diredd, pob aderyn .
* * * * * * *
Ni ddel i Gaiaw (10) drin o Ddulyn, (11)
Nac un gwayw o rwysg , nac un goresgyn,
Nac un farwolaeth, nac un enyn—trais;
Nac un gwaew'n nwyais, nac un newyn.

Mair o'r Fynachlawg (12) fanawg a fyn
Groesi holl Gaio, a'i bro a'i bryn;
Dewi o Lan Crwys (13) flodeuyn—Caio;
Ei rhoi hi iso fal glân rosyn.

Sawyl (14) a Chynwyl, (15) gwnewch ucho hyn,
A'i Pumpsaint (16 ) hefyd, rhag cryd neu gryn;
Ceitho’n (17) cloi yno, Clynin (18)—dros Gaio,
Hefyd Gwnaro ( 19) Gwynio (20) a Gwŷn (21.)

I ni sugr candi a ddêl cyn—cyfedd
phybyrawl wledd, a phob rhyw lŷn ;
Eu haur i brif—feirdd, heb warafyn,
A rhoi brywusder i bob erestyn;
I bob rhai mwnai o’u meinyn—blasoedd,
O'u trefi wleddoedd, trwy y flwyddyn.

Odlau , cywyddau didolc iddyn',
Ac heb un gongl mewn bànawg englyn,
Crythau, telynau a gyflenwyn'—nef,
A gân eu dolef hwy gan y delyn.

Ac arfawg filwyr, ac erfyn—cadau;
A tharianau a pheisiau a ffŷn;
A Chaio wenwlad, Duw'n ei chanlyn;
A Chaio aeth heb ddim o chwŷn;

A Chaio heb un brycheuyn—y sydd,
Mal y bydd gwinwydd, neu ffrwyth gwenyn."

Mae y bardd yn dymuno nawdd cynifer o seintiau i fod yn dyner wrth Gaio. Dengys fod ei serch mor gryf at Gaio ag ydyw serch yr "addange" (beaver) at y dyfroedd. Sonia eto am y gwleddoedd a gafodd yno, lle yr oeddent yn chwareu offerynau cerdd, y crythau a'r telynau, ac yn adrodd a chanu "odlau cywyddau ac englyn." Dyna hen amser braf, onide? Y mae Caio a'i milwyr dewrion, a phob peth ynddi, yn ymddangos fel paradwys yn ei olwg.

(1) "Non." Ni ddywed y beirniaid a enwasom eisoes ddim yn ei chylch. Yr ydym ni yn credu mai y seintes enwog Non, merch Cynyr o Gaer Gawch yn Mynwy ydyw, a mam Dewi Sant, i'r hon y mae eglwysi yn Gŵyr (Gower) a Chydweli wedi eu cysegru.

(2) "Sant Asa," neu Asaf, ap Sawyl Benuchel, ap Pabo, sant o'r 6ed ganrif, yr hwn a sylfaenodd Fonachdy Llanelwy—esgobaeth pa un sydd yn awr yn dwyn ei enw.

(3) "Cynin." Sant o'r 5ed ganrif; mab Tudwal Befr, o ferch Brychan. Wrth "ei weision" gellid meddwl mai ei offeiriaid oeddynt, gan fod "Achau y Saint" yn dyweyd ei fod yn esgob.

(4) "Sant Awstin." Tad yr eglwys Ladinaeg. Ganwyd o.c. 354; bu farw yn 431. Yr oedd un arall o'r enw hwn, ysef Awstin Fonach, apostol y Sacson— iaid, ac archesgob cyntaf Canterbury. (Gwel "Glyn Cothi," tud. 311, note 6.)

(5). "Wendodiad." "Appertaining to Gwyndawd, or North Wales," ebe Tegid.

(6) "Cadifor ab Selyf," Arglwydd Caio. Enw ei wraig oedd Lleucu, merch Einion ap Sitsyllt, Arglwydd Meirionydd. (Gwel Glyn Cothi, tud. 312, note 14.)

(7) "Gae' Dyf."—Caerdydd (Cardiff.)

(8) "Addango."—A beaver.

(9) "Cuhelyn ab Gwrgant," 24th King of Britain.

(10) "Ni ddel i Gaiaw," h.y. (11) y Gwyddelod Dublin, i'w hyspeilio.

(12) Tybed mai nid Mair y Forwyn a Monachlog Talyllychau a feddylia y bardd? Y mae Monachlog Talyllychau wedi ei chysegru i Mair y "Forwyn Fendigaid," ao i Ioan Fedyddiwr.

(13) "Lan y Crwys." Plwyf yn rhanol yn hwn— drwd Caio a Chethinog. Y mae yr eglwys yn gyflwynedig i Dewi Sant. Gerllaw iddi y mae "Careg y Tair Croes," llygriad o ba un yn ddiamen yw Crwys.

(14) "Sawyl." Sawyl Benuchel, cefnder Asaf, i'r hwn y mae Llansawel yn gyflwynedig.

(15) "Cynwyl." Wedi ei grybwyll eisoes.

(16) "Pumpsaint," eto.

(17) "Ceitho," eto.

(18) "Clynin." Dywed Tegid, tud. 313, dosp. iv., nod. 49½, "Clynin, or Celynin, son of Heli ap Glanog, a saint who lived towards the close of the sixth century." Yn hyn yr ydym yn gwahaniaethu tipyn oddiwrth y dysgedig Tegid. Yr ydym ni yn credu mai y Celynin a nodasom yn barod, ysef ap Cynyr Farf—drwch o Gaio, a feddylia y bardd.

(19) Pa ddewin a fedr ddeall beth a feddylir wrth "Gwnaro" yn y llinell hon? Onid "Gwynoro" ap Cynyr, a brawd Celynin, a feddylir?

(20) "Gwynio." Onid y brawd arall ydyw?

(21) "Gwyn." Dywed Tegid eto, nod. 50, p. 313, mai brawd Celynin, ac ap Heli ap Glanog ydyw. Yn hyn eto dymunwn ddyweyd ei fod yn cyfeiliorni ychydig. Dywed y bardd o Glyn Cothi yn eithaf eglur yn y penill,——

"A'i Pumpsaint hefyd, &c.," "Ceitho'n cloi yno, Clynin—dros Gaio, Hefyd Gwnaro, Gwynio, a Gwyn."

Cywydd i Dafydd ap Tomas Fychan o Gaio

Wele gywydd arall o waith ein bardd, i "Dafydd ap Tomas Fychan," o Gaio:—

"Aed y bardd a rodio byd,
I Gynwyl Gaio enyd
Na ddoed led ei droed yr ŵyl,
Neu led gwaun o wlad Gynwyl;
Minau ni ddof, os mynaf,
O Gynwyl hyd ganol haf:
Camwedd, a gwagedd, a gau,
Cwmwd Caio! ei hamau;
A'r un Duw ar rŵn o dir,
A wnaeth Gaio'n waith gywir.
Isag oedd mewn curas gwyn,
Wedi adail Rhyd Odyn;
Mab i Isag oedd Iago, (1)
Marchogion fu'i feibion fo.
Caio ei hun, dalfainge hael,
Yw Nas'reth wen, neu Israel.
Mae'r deuddeg llwyth yn Nghaeaw,
A phob llwyth yn wyth neu naw;
Mae yno bob husmanaeth, (2)
Morgan o'r muriau a'i gwnaeth; (3)
Adde fach Dafydd Fychan,
Y mae'r brut fel am ryw Bran;
I Domas, wedi Emyr (4)
Llydaw, y rhoed llaw mab Llyr; (5)
Dafydd o'i waed ef a ddoeth
Drwy ei âch ef i dra chyfoeth;
I Domas, o waed amhur,
Nid oedd werth y nodwydd ddur;
Esrom Dafydd ap Tomas,
Neu Esau yw yn y Sais;
A'i bryd ef obry Dafydd,
Pryd ar fath Peredur fydd;
Un gwr, a hwnw a garwn,
A Dafydd hyd fedd yw hwn;
Un frig bendefig Rhys Du,
Ac on oedd i gynyddu,
A fago'r haf o egin,
O Ronwy Goch (6) o ran gwin.
Dafydd cylch dolydd Dwy'lais,
Ydyw ei wlad o hyd Lais; (7)

Cylchyn Rhyd Odyn fu'n 'stor,
Caio unsud Parc Win'sor.
Deuddeg arwydd yw blwyddyn,
A dau a deg ydyw dyn.
A'r haul a aeth mewn rhuwl well
I Ddafydd yn ddwy efell,
A'i ddau fraich hyd ar ddofr wen,
A'i ddyrnau a ddyr onen;
A'i wyneb wrth yr. Annell,
A'i law a wna lu yn well.
Thomas a'i fardd-was fo,
Yn fyw oeddwn, nef iddo;
Ni wn ŵyl o'r dengwyl da,
Heb dâl ardal Llanwrda; (8)
Ni byddaf wyl heb Ddafydd,
Nac enyd awr, nac un dydd;
Ni wypwyf, drwy nerth Cwyfen, (9)
Eisiau mab Thomas. Amen.

ESPONIADUR:—

(1) "Iago," neu James, yr hwn enw sydd yn parhau yn enw teulu enwog Rhyd Odyn hyd y dydd hwn.

(2) "Hwsmonaeth." Amaethyddiaeth dda.

(3) "Morgan o'r muriau, &c.," h.y., Morgan a sychodd dir gwlyb â'r defnyddiau a gafodd yn y muriau. Efallai fod hyn yn cyduno â'r hen ysgrif, drwy brofi fod Caio wedi bod yn cael ei hamddiffyn gan gaerau, neu furiau, a'i bod efelly yn cyfateb i'r enw "Caer Gaio."

(4) "Emyr Llydaw." Tywysog yr hwn a ddaeth o Armorica, gyda'i ewythr Garmon, a Chadfan. Yr oedd yn byw yn y 5ed ganrif.

(5) "Mab Llyr." Bran ap Llyr, tad Caradog. Gelwir ef Bran Fendigaid, a chan y beirdd, "Bendigeid Fran," &c.

(6) "Gronwy Goch" ydoedd y 5ed olynydd i Elystan Glodrydd, ac yr oedd Dafydd ap Tomas Fychan y 5ed o Garonwy Goch.

(7) "Hyd Lais," ysef yr afon Llais, yr hon sydd yn ymarllwys i'r afon odidog Towy, yn gyfagos i Groes Inn, Llangathen. Ni a gawn fod yr holl wlad a or- wedd rhwng Caio ac Aberglais, yn ymyl Llangathen, yn eu meddiant. Yr oedd Henri ap Gwilym ap Tomas Fychan yn byw yn Ngethinog, yn Nglan Tywi. Yr oedd Llywelyn ap Henri ap Gwilym yn byw yn y Bryn Hafod. Yr oedd Llywelyn yn byw yn Ngethinog, yn ymyl Llangathen, ysef yn y Bryn hafod; ac fe fu Harri yn byw yn Lan Lais, cyn myned. i fyw i'r Cwrt Henri, palas y presenol Parch. H. Wade Green. Yr oedd Gwilym ap Tomas Fychan yn byw yn Nghefn Maelgoed, Llangathen. Mae gan ein bardd gywyddau, ac awdlau "moliant," i'r enwogion hyn i gyd; yr hyn a brawf fod y Fychaniaid, neu y Vaughans, yn deulu lluosog, cyfoethog, ac o ddylanwad mawr yn y rhanau hyn o'r Deheubarth; a dengys fod y bardd yn gyfeillgar a hwynt, a'i fod mewn bri mawr ganddynt.

(8) "Heb dål, &c." Llan Wrda, plwyf yn hwndrwd Caio. Mae yr Eglwys yn gyflwynedig i Sant Cawrdaf, ap Caradog Fraich Fras (a brawd i Cathen, i'r hwn y mae Eglwys Llangathen, wedi ei chysegru.) Yr oedd yn byw yn y 6ed ganrif.

(9) "Cwyfen" ap Brwynen Hen ap Cothi. Sant oedd yn byw tua diwedd y 7ed ganrif. Pwy ydoedd Cothi, wys? Yr oedd "Coth" yn un o feibion Caw, yr hwn oedd arwr dan y brenin Arthur. Fe allai mai yr un oeddynt.

Mae yn rhaid addef mai gwaith sych iawn ydyw treiddiaw i mewn i hen bethau fel hyn; ond O! pa mor werthfawr ydynt. Edrychwch gymaint o gymeriadau ysplenydd ydoedd yn enwogi Caio yn yr amser gynt! Ac efallai y bydd eu hadgyfodi fel yma, drwy ddangos y mawredd a'r bri a berthynai i'r pentref bychan hwn, yn foddion i gynhyrfu ei drigolion i ymestyn yn mlaen at ddyrchafu yr hen le eto i'w enwogrwydd cyntefig; ac yr ydym yn credu mai un cam da tuag at sicrhau hyay ydyw gweithgarwch a nawdd y boneddwr gwladgar John Johnes, Yswain, Dolau Cothi, perchenog yr Ogofau. Pe buasai y werin yn gyffredin yn gallu dyfod o hyd i waith y bardd gorohestawl Lewis Glyn Cothi, ni fuasem yn blino cymaint ar y darllenydd, nac yn myned i'r drafferth chwaith o'u had—ysgrifenu, nac i roddi cymaint o ddyfyniadau o honynt. Ond, yn herwydd fod copi o'r gwaith mor ddrud, ac yn wir mor brin, fel na cheir ef ond yn llyfrgelloedd ein prif lenorion, a chyfoethogion y tir, wrth roddi yr oll fel yma o'r farddoniaeth sydd yn perthyn yn neillduol i Gaio a'i hardaloedd, fe ellid gwneyd pamphled rhadlawn o honynt, felly fe fyddai o fewn cyrhaedd y werin. Pe gwnelid hyn â'r holl farddoniaeth hanesiol sy genym yn dwyn cysylltiad â gwahanol ardaloedd, fe fyddai yn symudiad canmoladwy, yn herwydd y rhesymau a roddasom yn barod. Llyma gywydd eto sydd yn llawn cyfeiriadau hanesyddawl, &c., wedi ei gyfeirio gan ein bardd i DAFYDD FYCHAN O GAIO

"DAFYDD FYCHAN O GAIO."

Dengys fod pedair cangen bwysig wedi deilliaw allan o lwynau Dafydd Fychan, am rinweddau pa rai y siarada yn uchel, ysef Rhys, Tomas, Llywelyn, a Dafydd. Ac mae yn ymddangos oddiwrth rai llinellau yn y cywydd, ei fod wedi rhanu ei ystad rhyngddynt, megys:—

"Dafydd Fychan a'i rhanodd,
A phob un fu'n rhanu rhodd, &c."

Pan yr oedd tad a mab yn hapio bod yr un enw, gelwid y mab yn "Fychan," neu yn awr yn Saesoneg, "Junior." Mae hyn yn arferiad cyffredin yn awr; megys pan fyddo tad o'r enw "John Jones," a'r mab yn John hefyd, adnabyddir yr olaf fel "John bach Jones," &c. Yr oedd bonedd Dafydd Fychan, o Gaio, fel y canlyn, yr hwn sydd yn meddiant Miss Lloyd, o Laques, Llanystyffan. (Gwel Glyn Cothi, page 205, Rhan I. dosparth iii.)

Philip Trahaearn , o Ryd Odyn.

Llywelyn | Philip
Dafydd | Llywelyn
Morgan | Dafydd
Dafydd | Morgan
Dafydd | Morgan Fychan.

Llyma y "CYWYDD."

"Mae ffynon gwlad paradwys,
A berw o'i phen heb or phwys;
Duw a yrodd i diriaw,
O hon bedair afon draw;
Afon dda ddigon i ddyn,
Erioed ydoedd Rhyd Odyn. (1)
Pedeir-ran o Forgan fu,
Draw o hon wedi'r hanu;
Dafydd Fychan a'i rhanodd,
A phob un fu'n rhanu rhodd.
Mae in' egin, myn Egwad, (2)
O Rys Du, wyr o ystad.

Neshau draw o Lan Sawyl, (3)
A un at Rys hwnt i'r ŵyl;
Ysgwier yw dros Gaiaw,
Yno â'i wlad yn ei law.

Mi wn y ffordd, myn y ffydd!
O'i dai ef, lle mae Dafydd;
Dydd da i'r gwrda, bob gŵyl,
Draw ganwaith o dre' Gynwyl.

Ymalidia yr ha' er hyn,
Oleu i dai Lywelyn.
Henw y gŵr yw Hen Gyrys, (4)
Erioed o Lan Wrda Lys.

Minau o bydd grym ynof,
Mis i dai Tomas y dof,
Ei fedd, (5) ei ddillad am f'ais,
(Be cof) yn fab y cefais.

Ei dri broder a'm ceryn',
Nid cas gan Domas un dyn.

Dynion o'r pedwar deunydd,
Wedi'u rhoi, yw'r pedwar hŷdd.
Arwydd ydyw yr awrhon,
Wreiddiaw Rhys o'r ddaear hon;
A'i rinwedd, lle cyfrenir,
Yw'n null y tad enill tir.
I'r dwfr dealler Dafydd,
Mwy yw ei rent no'r Môr Udd;
A'i aur yn Nghaiaw'n gawad,
Dros dir, ond a roes ei dad.
Er byn Llywelyn o'm llw,
I'r tân y deiryd hwnw;
A'i aur uwch ben a enyn,
Ni ddiffydd tra fo dydd dyn.
Am fod Tomas yn rasol,
Awyr yw hwn ar eu hol."

Dyma ddysgrifiad campus a doniol o'r pedwar brawd—dy fechgyn godidog!

"Pedwar clo 'ynt, pedwar cledd,
Ar eu cwmwd rhag camwedd;
Rhag rhedeg o Lyn Tegid,
A cholli oll a chael llid.
Pedwar sant, myn Pedr! y sydd
Dan ei bedwar ban beunydd.
Yr ail pedwar a welir,
Ac a à dan Caiaw dir.
Dringaw mae pedwar angel,
Dan y byd, fal dwyn y bêl.
Caiaw, fal diwreiddiaw dâr,
Yw'r byd, a'i phwys ar bedwar.
Llew sy'n cynal Malläen, (6)
Ac Ych dan Gaiaw wen.
'Gwr a saif yn groes ar wŷr,
Ac arall yn gyw Eryr.
Ai rhyfedd yw rhoi hefyd,
O Forgan bedwar ban byd;
Rhifaw a wn yn rhyfalch,
Dri ac un o bedwar gwalch;
Tair oes hir i'r tri y sydd,
Pedeir-oes i'r pedwerydd."

ESPONIADUR:-

(1) "Rhyd Odyn." Enwyd eisoes.

(2) "Egwad." Sant oedd yn byw oddeutu diwedd y 7ed ganrif, ac i'r hwn mae Eglwys Llanegwad, yn Nghethinog, wedi ei chysegru. Yr oedd William Egwad (bardd rhagorol,) a flodeuodd yn y 15ed ganrif, a'r hwn oedd yn enedigol o Lanegwad, yn ddysgybl i Lewis Glyn Cothi. Mae hen olion yno yn awr, a elwir "Eisteddfa Egwad." Mab ydoedd Sant Egwad i Cynddylig ap Cenydd, ap Aur y Coed Aur.

(3) "Llan Sawyl." Plwyf yn ymyl un Caio. Mae wedi ei alw ar ol Sawyl Benuchel, yr hwn oedd yn byw yn nghanol y 6ed ganrif. Rhestrir ef gyda Phasgen a Rhun, dan y titl o "dri Thywysog Uchel- frydig Prydain," ac yn herwydd ei drais, fe ymunodd ei bobl drwy gynghrair â'r Sacsoniaid, a thrwy hyny hwy aethant yn un bobl. Yn ganlynol, efe a gyflwyn- odd ei hunan i wasanaeth crefydd, (Gwel y Cambrian Biography, p. 313;) yr hyn, ebe'r beirniad Rees, sydd yn ymddangos fel yn ymarferiad gan dywysog- ion wedi iddynt golli eu harglwyddiaethau. Fe ddy- benodd Sawyl ei yrfa yn Monachlog Bangor Is-coed. "Llan Sadwrn." Gan ein bod yn ymyl y lle, cys- tal i ni ddyweyd fod yr Eglwys wedi ei chysegru i Sadwrn, neu Sadwrn Farchog, ap Bicanys o Lydaw, a brawd Emyr Llydaw, yr hwn oedd yn byw yn y 6ed ganrif. Daeth i'r wlad hon gyda Chadfan, o Lydaw, yn ei hen ddyddiau; ac y mae y capel oedd dan Cyn- wyl Gaio wedi ei gyflwyno iddo.

(4) "Henw y gŵr yw Hen Gyrys." Cyrus o Iâl.

(5) "Ei fedd, &c," h.y., meth—metheglin.

(6) "Malläen." Tybiwn mai y mynydd ger Caio, a elwir "Mynydd Mallân," a feddylia ein bardd. Nid ydym yn gweled dim arall yn dywyll iawn yn y cywydd hwn, ag sydd yn gofyn esponiad.

Un cywydd yn ychwaneg, ac yna ni a ymadawn a'r hen fardd godidog ar hyn o bryd; gan hyderu y cawn hamdden i roddi tro am dano eto cyn bo hir.

"I PHILIP AP TOMAS FYCHAN, O'R ANNELL."

Yr anedd wrth yr Annell, (1)
Ni wn i ddyn anedd well;
Dafydd fu'n magu â medd,
Yr ynys yn yr anedd.
Yn ei ol ei nai eilwaith, (2)
A wnai â gwin yr un gwaith;
Ffurfodd yn rhodd o'r eiddaw,
Philip[8] corph Huail ap Caw. (3)
I Urien (teml Wynen lân!) (4)
Y saif âch Tomas Fychan.
Philip o ddeugyff haelion,
Yw'r ddar hir o'r ddaear hon!
Ei dad oedd frig i bob dyn,
O Rydderch, yntau'n wreiddyn;
Ei fam oedd flodau am fedd,
O Einion, yntau'n unwedd.
Y bêl, nai Esgob Eli, (5)
Ef à i'r al fry a hi,
Ef a dal cystal ag wyth,
Hyn a dalai'r hen dylwyth.
Ni wnai gwaeth, (6) yn un gŵr,
Yn y Deau, no deuwr;
Dwy wlad dano fo a fydd,
Dwy dref, a deudir ufydd;
Dau dda a lenwis dwy ddôl,
Da byw (7) wythwaith, da bathol. (8)
Mal mab i Ddyfnwal Moel Mud, (9)
Yw Philip praff ei olud;
E fesurai'n brif saeraidd,
Y grwn & hyd gronyn haidd; (10)
Un rhyw y gwna ŵyr Hywel,
Ar ei dir yr awr y dêl;
Mesur oll y maes a'r ŷd,
Ac ei erydr bob gwrhyd. (11)
Cwmwd hir tair milltir mawr, (12)
Canterw mân, cantre' maenawr.
Mae yn llaw hil Dyfnawal,
Yr erwi mawr a'r aur mâl;[9].

Y cyfoeth ef a'i cafas,
Ac ar ei ol dawn a gras.
Tir yr hynaif trwy raniad,
A rhan o dir yr hen dad;
Tai'r gorhendad, a'r tad da,
Tai'r Ewythyr fal Troia; (13)
Tai'r Sieb, lle trois y iaith, (14)
Philip a'u caffo eilwaith;
Philip a gaiff ei weled,
Yn nhai Sais, aen' hwy i sied. (15)
Cymered dai Cymaron,
Y gan fab gwinau o Fon;
Ni'm gad Philip gredadwy,
O dŷ'r medd i un dre' mwy.
Nid abl ym onid ei blas,
Nid da ym ond mab Tomas;
Ni ddof oddiwrth nai Ddafydd,
Yni ddêl y nos yn ddydd; (16)
Yni ddêl naw o Ddulyn,
Yni ddel o Wynedd un,
Yni ddêl dros ddwr Mynyw,
Y du bach a'r bwbach byw.

ESPONIADUR:—

(1) Pa le yr oedd "Yr anedd wrth yr Annell" wys? Efallai fod olion yr hen balasau y cyfeiria y bardd atynt, eto i'w canfod yn Nyffryn yr Annell. Mae'n bur debyg fod y presenawl Glan-yr-Annell wedi ei adeiladu ar safle un o'r hen balasau hyn.

(2) "Ei nai eilwaith," ysef fod Philip yn dylyn haelfrydigrwydd ei ewythr Dafydd.

(3) "Huail ap Caw," yr hwn a enwogedd ei hun gymaint yn rhyfeloedd Arthur. Rhestrir ef gyda Chai ap Cynyr Cein-farfog, o Gaio, a Trystan ap Tallwch, dan yr enw "y tri Arweinydd Coronawg mewn rhyfel." Gwel y Cambrian Biography, p. 180.

(4) "Teml Wynen lân." Myn teml, &c. "Urien." Urien Rheged, un o hynafiaid anghysbell teulu Dinefwr.

(5) "Esgob Eli." Philip Morgan, D.C.L., yr hwn ydgedd yn hanu o'r hen deulu yma. Yr oedd yn gyfreithiwr enwawg, ac yn ddiplomatydd galluawg. Fe'i penodwyd yn ganghellydd Normandy ar yr 8fed o fis Ebrill, 1418; ac a gysegrwyd yn yr Eglwys gadeiriol yn Esgob Worcester ac Eli ar y 3ydd dydd o'fis Rhagfyr, 1419. Ymddengys yn ol "Rymer's Fædera," iddo fod yn Normandy o'r flwyddyn 1414 hyd y flwyddyn 1420. Yr oedd Philip mewn bri mawr gyda'r Brenin Harri V. (Gwel ei hanes yn mhellach yn "Williams' Biographical Dictionary," tudal. 339.) Bu farw yn y flwyddyn 1435.

(6) "Ni wnai gwaeth, &c." Ni wnai lai no deuwr.

(7) (8) "Da byw," live stock; Da bathawl, coined speciæ.

(9) "Dyfnwal Moel Mud." Brenin Prydain, yr hwn, ebe rhai awdwyr, a deyrnasodd dros Brydain benbaladr oddeutu 400 o flynyddau cyn dyfodiad y Messiah; ond ffug ydyw hyny. Y mae yn enwog am y cyfreithiau a ffurfiodd; meddiant o ba rai a gafodd Hywel Dda, pan yn llunio ei gyfreithiau. Mae y "Trioedd Cyfraith" ganddo yn ei gyfreithiau. Ond y mae beirniaid enwog mewn hanesyddiaeth, megys Mr. T. Stephen o Ferthyr, yn dwyn Dyfnwal Moel Mud i waered (os ydym yn cofio,) i̇'r 12ed ganrif.

(10) "Y gronyn haidd." Yr hynafol "fesur hir" yn ngwaith Hywel Dda, megys, "y tri gronyn haidd.” (Gwel y "Myfyrian Archæology," vol. iii.)

(11) Dengys wrth yr ymadrodd yn y ddwy linell yma, fod Philip yn amaethydd brwdfrydig, ac ei fod deall ei fusnes yn dda. Mae yr aradr yn hen offeryn yn Nghymru. "Aradr yr arsang," i.e. "overtreading. plough and mattock." "This mode," ebe Meyrick, yn ei "Costume of the Ancient Britons and Irish," tudal 21; gwel hefyd arlun o honi yn plate v., p. 21, "This mode was practised by the Egyptians, and is exhibited on the walls of a sepulchre at Elcithias; the figure with the wooden plough, on which he treads (arsang) to bear it to the earth by its weight, is taken from an illumination in the British Museum, apparently about the age of the 7th century, and what is extremely remarkable, the cattle which draw the plough are the ychen banawg, literally hunched oxen, as they are represented, which do not occur in any later illumination." Mae yn debyg mae Illtud ydoedd awdwr yr "Improved Plough," yn y 5ed ganrif.

(12) Pale yr oedd y "Cwmwd hir," &c., a "Chantre' Maenawr"? Yr oeddynt yn sicr o fod yn gorwedd yn nghymydogaeth Caio.

(13) "Tai'r Ewythyr, &c." Yma mae y bardd yn cyfeiriaw at wahanol deitlau Philip i'w ystad; megys "Tai yr hynaif;" "Rhan o dir yr hen dad, a'r tad da," (taid); ac am dai ei ewythr, a ellid dybied oedd yn nwylaw Saeson,-"yn nhai Sais," &c., ac mae y bardd yn dangos iddo ei ewyllys da drwy ddymuno, "a'u caffo eilwaith."

(14) "Tai Sied," shed—a shed of land, ebe Tegid.

(15) "Aent hwy i sied." A common term for strayed sheep; defaid sied, ebe Tegid.

(16) "Yni." Hyd oni.

BER DREM AR GYMERIADAU ENWOG EREILL A FUONT YN BYW YN NGHAIO.

YR hyn sydd yn gosod mwyaf o fri ar bob tref, neu bentref, tŷ, neu dŵyn, ydyw, os bydd ffawd wedi taflu rywbryd ryw berson enwog i breswylio yno. Mae Stratford-upon-avon ag anfarwol fri yn ei choroni, yn unig am i'r bardd Shakspeare fod yn byw yno. Y "Deserted Village," a wnaethpwyd yn fythwyrdd drwy Oliver Goldsmith; lleoedd ereill ydynt wir enwog yn unig am yr un rheswm. Fe welir bellach nad ydyw Pentref Caio mewn un modd, yn anenwog yn yr ystyr hon, gan ei fod wedi ei fendithio à chymeriadau nodedig ac athrylithfawr. Yn mhlith y "cydser" hyn y saif enw Dafydd Jones o Gaio. Ganwyd ef yn Cwm Gogerddan, plwyf Caio, yn y flwyddyn 1710. Bu yn byw yma hyd ei ail briodas, pryd y symudodd i Hafod-dafolog, Llanwrda. Bu farw yn y flwyddyn 1777, yn 67 oed, ac a gladdwyd yn Nghrug-y-bar, ger Caio. Ei gampwaith oedd cyfieithu i'r Gymraeg "Salmau a Hymnau Dr. Watts." Daeth yr argraffiad cyntaf o'r "Salmau” allan yn y flwyddyn 1753; a'i gyfieithiad o'r "Hymnau" yn mhen ychydig flynyddau wedi hyny. Yr ydoedd hefyd yn awdwr casgliad o "Hymnau," yn dair rhan, dan y titl "Difyrwch i'r Pererinion, o fawl i'r Oen, yn cynwys hymnau ar amryw destynau o'r Ysgrythyr Lân." Mae ef hefyd yn awdwr llawer o ddarnau ar wahanol destynau, yn amryw gyfnodolion ei oes. Mae ei syniadau yn ei "Salmau a'i Hymnau" yn dduwiol, ac yn dda, ac yn llawn tynerwch calon; ond nid ymddengys ei fod yn meddu awen danllyd a gwreiddiol. Nodir ei "66th Hymn," yn ail lyfr Watts, fel un o'r cyfieithiadau hapusaf yn ein iaith. Gŵr enwog iawn a fu yn offeiriad yn Nghaio ydoedd y Parch. Eliezer Williams, mab yr anfarwol Barch. Peter Williams, o Gaerfyrddin, yr hwn sydd yn adnabyddus i bob dyn yn Nghymru, yn herwydd yr argraffiad ysplenydd a ddygodd allan o'r Beibl yn Gymraeg, ysef "Beibl Peter Williams." Gorphenodd ysgrifenu ei nodiadau esponiadol, y rhai sydd mor ryfeddol o syml ac hyfforddiadol, yn mis Mai, 1770. Cynwysai yr argraffiad cyntaf 3600 o gopiau. Yr ail, yn y flwyddyn 1774, 6400 o gopiau; a'r trydydd, yn 1796, 4000 o gopiau, ond cyn gorpheniad yr argraffiad olaf, fe fu farw, yn nghanol ei orchestwaith a'i ddefnyddioldeb. Dylasem ddywedyd iddo argraffu y "Concordance" yn 1773; ac iddo argraffu 4000 o gopiau Cymreig o "Cann's Bible," yn nghyda nodiadau cyfoethawg a synwyrlym. Pwy a ŵyr—ie, pa angel a fedr ddychymygu y dylanwad moesol a chrefyddol a gafodd yr un-mil-ar-bymtheg (16,000) Beiblau hyn yn ein gwlad! Mab i'r dyn rhyfeddol yna ydoedd y Parch. Eliezer Williams, M.A. Pan oedd yn Chaplain ar fwrdd H.M.S. "Cambridge," yr ydym yn cael iddo dderbyn gwahoddiad, oddiwrth Arglwydd Galloway, i ymgymeryd â ficeriaeth Caio yn y flwyddyn 1784. Yr ydym yn cael ei fod hefyd yn hynafiaethydd enwog, yn ohebydd i'r "Cambrian Register,"[10] "The Gentleman's Magazine," &c. Yr ydoedd hefyd yn fardd galluawg iawn. Argraffodd yn 1801, ei "Nautical Odes, or Poetical Sketches, designed to commemorate the achievements of the British Navy," cyhoeddiad pa rai a ddygodd fri mawr arno. Treuliodd y rhan ddiweddaf o'i oes lafurfawr yn Llanbedr, lle y sefydlodd ysgol Ramadegawl, o ba un yr urddid cystadleuwyr i'r urdd Eglwysig. Wedi iddo arolygu y sefydliad rhagorol hwn am bedair ar ddeg o flynyddau, efe a fu farw ar yr 20ed o fis Ionawr, 1820. Cyhoeddodd ei fab, yn y fl. 1840, gyfrol wythplyg harddwych o'i weithiau yn yr iaith Saesonig, gyda'r teitl canlynol, "The English Works of the Revd. Eliezer Williams, M.A., Vicar of Lampeter, &c., with a Memoir of his Life."

Yr oedd Mr. Williams yn fardd Cymreig o enwogrwydd nid bychan. Y mae awdlau ac englynion o'i waith yn "Seren Gomer." Yr oedd yn gyd—feirniad â Iolo Morganwg, yn Eisteddfod Caerfyrddin, yn 1824. Yr oedd yn gohebu i brif gylchgronau ei oes. Dyn mawr a gweithgar oedd hwn.

"YR OGOFAU."

FOD hen weithiau aur yn Nghymru sydd ffaith sydd yn awr yn cael ei haddef gan bawb. Y mae enwau megys Gelli-aur, Melin-yr-aur, Troed-yr-aur, a rhai cyffelyb, yn sicr o fod yn dwyn cysylltiad â hwynt. Mae llawer iawn o grybwyllion gan y cyn-feirdd yn nghylch llawer o bethau a wnaethent o'r aur, &c. Mae yn amlwg ei fod yn ymarferiad cyffredin i wisgo aur-dorchau gan ein tywysogion, a chadywyddion ein byddinoedd, yn amser Aneurin (bardd a flodeuodd yn y 6ed ganrif.) Pan yr oeddynt yn myned i ryfel, gwisgent hwynt am eu gyddfau, fel arwydd o anrhydedd, dylanwad ac awdurdod. Dywed Aneurin:—

"Try wyr a thriugait a thrichant eur-dorchawg."

Mae rhai o'r torchau hyn i'w gweled yn Dolau Cothi yn awr.[11] Sonia Llywarch Hen hefyd am ei gadagryf ddewrion-feib fel yma:—

"Pedwar mabarugaint a'm bu,
Eur-dorchawg tywysawg llu," &c.

Cawn hanes fod y Cymry hefyd (heb i ni ymhelaethu dyfynu o weithiau y beirdd, megys Owain Cyfeiliawg, &c., ar hyn o bryd yn mhellach,) yn addurno y medd-gyrn, y rhyfel-gyrn, yspardynan, tarianau, a'u gwisgoedd, a thrwsiadwaith o aur. Gellir casglu oddiwrth hynyna fod y Cymry yn gyfoethawg iawn yn y mŵn gwerthfawr hwn. Fe drethodd y Rhufeiniaid ein cenedl yn drwm iawn yn amser y brenin Cynfelyn (Cunobelinus,) a chawn mai mewn bathodau aur (gold coins) yr oeddynt yn ei thalu. Y mae rhai o'r bathodau hyn ar gael yn awr, y rhai sydd yn dwyn enw "Cynfelyn" un ochr, a'r gair Tascio, ysef taxing neu "dreth," ar yr ochr arall. Dywed Tacitus, yr hanesydd Rhufeinig clodfawr, yn hanes bywyd Agricola, tudal. 12, "Fert Britannia aurum et argentum et alia metalia, pretium victoria." Dyma dystiolaeth benderfynol ar y pwngc, er fod Caisar yn dyweyd mai arian, "prês," a "thyrch heiyrn," oedd gan y Cymry; ond y mae yn well genym ni gredu Tacitus yn hyn o bwnge na'r brenin!

Y mae Cynwyl Gaio, fel y crybwyllasom eisoes, yn cael ei henwogi gan yr Ogofau ysplenydd sydd yn ei hymyl, fel rhai oeddynt yn welyau i'r aur. Yma, mae yn debyg, yr oedd California Cymru, a dyma lle yr oedd ei chloddfeydd helaethaf a godidocaf.

Yn ystod arosiad y byddinoedd Rhufeinig yn Nghaio, y mae yn sicr weithian mai eu gwaith hwy yno ydoedd cloddio aur. Yn ei erthygl gampus ar "Gloddfeuydd aur cyntefig y Cymry," o waith y dysgedig Barch. Eliezer Williams, yr hon sydd yn argraffedig yn "Williams's English Works," a'r hon yn wreiddiol a ymddangosodd yn y "Cambrian Register,"[12] fe ddywed fod yr enw "Cynwyl" yn deilliaw o cyn, first, and gwyl gwylio, to watch or to be vigilant; dywed ei bod yn safle a feddianwyd gan advanced guards Caius; ac ebe fe, "It is probable that the advanced guard of the Britons was stationed at Cynwyl Elved (the advanced post of Elved,) a place situated a few miles to the south of Caio." Dywed fod y Gauliaid, yr Elfetiaid, a'r Britantiaid yn un bobl. Gellir casglu hefyd, oddiwrth gyfeiriad y bardd Llywarch Hen, fod Cynwyl ac Elfed yn orsafoedd o bwys; dywed "Cyfarwyddom ni cam Elfed." "Let us be guided onward to the plains of Elved." Mae y ffeithiau hyn yn profi yn ddiameuol mai yr hyn a gadwodd y Rhufeiniad cyhyd o amser yn Nghaio, ydoedd gwerthfawrogrwydd y mwn aur a lechai yn yr Ogofau. Mae y meddwl hwn yn taflu goleuni ar y gofyniad naturiol-"I ba ddyben yr oedd y Rhufeiniaid yn amddiffyn Caio a chaerau mor gedyrn?" Gwelir yn eglur yn awr mai er dal meddiant hollol o'r Ogofau. Rhaid fod y mwn yn un gwerthfawr,[13] cyn iddynt gloddio y fath ogofeydd eang, a gwneyd y fath dramwyfeydd tanddaearol rhyfedd, y rhai sydd yn syndod i holl wyddonwyr y deyrnas i'w gweled. Os cywir y cofiwn, y mae nifer yr Ogofau yn wyth. Y mae rhai wedi tramwyo i mewn iddynt mor bell a haner milldir; ond bernir nad oes neb wedi cyrhaeddyd eu man eithaf. Nid oes dadl na fuasai y Rhufeiniaid wedi tan-gloddio y mynydd i gyd! Dyna feiddgarwch! tyllu i mewn i galon y creigiau, heb gymhorth na "gun cotton" na phylor! Y mae hofferynau i'w canfod yn awr yn nghreigiau anferth yr Ogofau! Wedi teithio i mewn iddynt, yr ydym yn dyfod o hyd i ystafelloedd eang-fawr, i golofnau ysplenydd wedi eu cerfio o'r creigiau, ac uwchben y mae eu nen yn ymddysgleirio fel y grisial tryloywaf, nes y mae goleuni gwanllyd y ganwyll yn eu dangos mewn gwahanol liwiau, megys rhai prydferth yr enfys, yr hyn sydd yn creu braw drwy'r fynwes, gan eu harddunedd mawreddog, a'u gwychder ysplenydd. Mae nant fechan i'w chlywed obry! obry! megys yn nyfnderoedd y ddaear, yn berwi fel crochan, nes y mae ei hadsain yn dragywyddol furmur, yn adseinio yn yr Ogofau, o graig i graig—o glogwyn i glogwyn—nes creu dychryn nid ychydig ynom. Dywed Mr. Smyth, M.A., yn ei "Memoirs of the Geological Survey of Great Britain, and of the Museum of Economic Geology," 1. page 480, (Gwel hefyd "Archæologia Cambrensis," vol 1. iii series, page 800,)—"The majority of the workings, extending to a considerable depth for some acres over the side of the hill, are open to the day, or worked as usual in the early days of mining, like a quarry, and the rock through which the lodes run, a portion of the lower silurian rocks, is in many cases exposed, and exhibits beds much contorted and broken, though having a general tendency to dip northward. Here and there a sort of cave has been opened on some of the quartz veins, and in some cases has been pushed on as a gallery, of the dimensions of the present day, viz. 6 or 7 feet high, and 5 or 6 feet wide; and among these, two of the most remarkable are kept clear by Mr. Johnes, and, being easily accessible, allow of close examination. The upper surface of the hill is at this, the south-western extremity of the workings, deeply marked by a trench running north-east and south-west, similar to the excavations technically called open casts, where the upper portion of the lodes were in very early times worked away; and when it was afterwards found disadvantageous to pursue the lode in this manner, a more energetic and experienced mind must have suggested the plan of driving adit levels from the north face of the hill through the barren rock, in order to cut the lode at a greater depth than it could be otherwise reached; and the perseverance in driving 170 feet through the slate, in each of the levels in question, was no doubt based on a sufficient knowledge of the continuous nature of the mineral lode."

"Subsequently follows a parallel between the Gogovau and the extraordinary hill called Cstate, at Verespatal, in Transylvannia, within the confines of Dacia Ulterior, where the grand arches and roomy tunnels, wrought in hard sandstone and porphyry, by that enterprising people, the Romans, throw into the shade the puny works of their followers, and prove that the art of extracting gold from quartz, even when invisible to the naked eye, was then understood."[14]

Y mae y dyfyniadau blaenorol yn ddysgrifiad cywir sefyllfa bresenol yr "Ogofau."

Mae y fynedfa i'r Ogofau mewn man pur ryfeddawl. Y mae pant mawr yno, a darnau o hen greigiau aruthrol yr olwg arnynt, yn ymddangos fel hen olion castell mawreddig, neu amddiffynfa gadarn a dyrchafedig. Mae yn eithaf amlwg fod y lle hwn wedi bod ryw amser yn cael ei ysgwyd gan ddaeargrynfâu arswydus.

Dywed Mr. Williams yn mhellach, "Fe ddywed Pliny yn ei Hanesiaeth Naturiol, ei fod yn arferiad cyffredin gan y milwyr Rhufeinig, pan yn sefydlog yn y taleithiau Yspaenig, i gloddio mynyddau cyfain pan y tybient eu bod yn cynwys y mwnau gwerthfawr. Eu bod yn arwain cŵrs afonydd, ac yn eu gosod i ddylifo i waered dros oredau anferth, nes y byddai holl nerth y peiriant naturiol ac anorchfygol hwn yn chwareu ar droed neu wadn y mynyddau a gloddient, nes eu llwyr ddadwreiddio!" Dyma bobl ryfedd, onide! Yr oedd ganddynt oredau a chynlluniau ereill, y rhai oeddynt yn atal y tywod a'r rwbal rhag myned i waered gyda'r llif, yr hwn a sifient drwy ograu, megys ag y maent yn y dull presenol yn y wlad hon, gan wasgaru yn rhwydd felly yr aur oddiwrth y defnyddiau diwerth eraill, sorod, &c. Y mae hanes cyffelyb am y Rhufeiniaid, pan yn gorsafu yn ymyl mynyddau a gynwysent aur, neu ryw fwnau gwerthfawr ereill, gan Rollin yn ei “An— cient History."

Y mae yn ymddangos fel peth diamheuol, mai gweithrediadau o gyffelyb natur i'r rhai a enwyd oedd yn cael eu dwyn yn mlaen ganddynt yn Ogofau Cynwyl Gaio. Ac y mae yn fwy na thebyg fod yr afon fechan sydd i'w chlywed yn murmuro yn awr yn yr Ogofau hyn, wedi bod yn gwasanaethu arnynt, megys y sylwasom uchod ar y defnydd a wnaent o afonydd, pan y byddent yn gyfleus. Y mae i'w weled yn awr, yn agos i'r man lle tardda y Cothi, olion rhyw fath o dwmpath mawr, neu "mole,"—yr hwn, y mae yn debyg, oedd yn andwyo yr afon o'i chŵrs naturiol, neu arferol. Y mae ffordd yr hen ddwfrlwybr (aqueduct) i'w ganfod yn eglur yno yn awr, ac y mae olion yn ymddangos hefyd, y rhai a roddant ryw gipdrem i ni feddwl am y nerth gyda pha un yr ymarllwysai y llif i waered. Yr oedd dwfr, wedi ei gyfyngu felly, yn grych anwrthwynebadwy, ac yn ddigon nerthol i ddysgubo y cwbl ymaith o'i flaen. Y mae y pwll mawr, yr hwn a ffurfiwyd gan ei ddyfrgwymp, ac a elwir "Pwll Uffern Gothi," yn dangos yn eglur i ni gyda pha nerth y disgynai y dyfroedd dros y graig. Barna yr un awdwr dysgedig eto, fod y camlas (canal,) olion pa un ydynt i'w canfod ar y bryn sydd gyferbyn a'r Brunant, yn sicr o fod filltir uwchlaw i wely yr afon o ba un ei codwyd! Oddiyma yr oedd yn cael ei arwain yn gornant i'r man uchelaf, yn union uwch ben cloddfeydd mwnawl yr Ogofau! Atelid ei gŵrs wed'yn, a chrynhoid ef i ddyfr—gronfa (reservoir) anferth, er iddo gasglu ei nerth, cyn ei ollwng i ymarllwys ar draws y cloddiau islaw! Pan nad oedd angen y dwfr hwn arnynt, yr oedd yslyw (sluice,) megys ag y barna Williams, ar yr ochr arall i'r ddyfr—gronfa, lle y gollyngid ef i ddiangc, gan ei arwain drwy ffôs (dyke,) olion pa un sydd i'w gweled eto yn ymyl Caio, lle yr ymarllwysai i nant fechan, yr hon, yn mhell islaw, sydd yn cymysgu ei dyfreedd â rhai y Cothi.

Ar lanau y camlasau hyn, yr oeddynt yn adeiladu melinau a pheiriannau defnyddiol ereill, y rhai a gedwid i weithio drwy nerth y dwfr a dynwyd yn wreiddiol o'r afon! Dyna oedd "Melin y Milwyr," am yr hon yr ydym wedi son yn barod. Ystyr yr enw Milwyr ydyw mil o wŷr (1000 men.) Tybir fod pob rheng, megys ag y maent yn awr, yn cynwys mil o wŷr. Yr ydym yn cael fod hen olion melinau, o gyffelyb waith, i'w cael yn mhob man lle y bu y Rhufeiniaid yn gorsafu. Y mae hefyd ryw bethau cyffelyb i'w gweled yn yr Amerig Ddeheuol. (Gwel "Williams's English Works," p. 165.) Dywed yr un awdwr, tudal. 154, fod llawer o drigolion plwyf Caio yn tybied eu hunain yn olafiaid i'r Rhufeiniaid; dywed hefyd eu bod yn ymfalchio yn hyny, ac fod enwau Rhufeinig yn beth cyffredin yn eu mysg. "Y mae person yn awr (ebe fe) yn fyw, yr hwn sydd yn dwyn yr enw Paulinus, ond y mae y presenol Baulinus, yn lle bod yn llywyddu byddinoedd, ac yn trais-ruthro ar deyrnasoedd, yn gweithio fel dydd-weithiwr, ac yn byw yn ddigon ymfoddlongar yn ei fwthyn!"

Y mae maen mawr yn ymyl y fynedfa i'r Ogofau, yn tynu ein sylw, gwyneb pa un a ddengys ei fod wedi ei gafnu mewn pedwar neu bump o fanau. Barna Mr. Smyth (Gwel "Archæologia Cambrensis," p. 300) mai ar y maen hwn yr oeddynt yn tori y mŵn, fel y gallent yn rhwydd ei ddosparthu oddiwrth y rwbal a'r sorod. Ond cofnoda Williams eto, yn ei weithiau ysplenydd, tud. 155, yr hen chwedl a ganlyn yn nghylch y maen hwn:—

"Yr oedd pamp o saint ieuaingc ar eu pererindod tua chreirfa (shrine) Ty Ddewi, ac yn herwydd en bod yn flinedig ac yn newynog ar eu taith, hwy a orweddasant, ac a orphwysasant en penau ar yr hen glustog fawreddog hon. Fe gauodd cwsg eu llygaid yn fuan, fel na allent ddala allan yn mhellach, drwy rym eu gweddiau, gynllwynion eu gelynion. Fe döwyd y nen yn fuan â chymylau gordduon, fel y collwyd pob gwrthddrych yn nghysgodion y nos dywyllaf. Yr oedd y taranau yn rhuo, y mellt yn llechedenu, a'r gwlaw yn disgyn i waered yn llifeiriant chwyrnwyllt. Fe gynyddodd yr ystorom nes yr ymsythodd holl anian gan yr oerfel, ac fe deimlodd hyd yn nod duwioldeb a thosturi ei effaith rewol. Fe drodd y gwlaw yn gesair anferthol, y rhai a yrwyd gan y gwynt yn chwyrnwyllt a chyda nerth mawr yn erbyn penau y pump pererin blinedig, nes sicrhau eu penau wrth y glustog, olion pa rai ydynt y pum' twll sydd yn awr i'w gweled yn y maen. Wedi cael eu cludo mewn llawenydd gan y swynwr oedd yn meddiannu yr Ogofau yn y bryniau hyn, hwy a guddiwyd yn un o'u celloedd mwyaf dyogel, yn mha le y cadwynir hwynt gan annhoredig gadwynau swyngyfaredd, hyd nes bydd yr esgobaeth wedi ei bendithio âg Esgob duwiol."

Y mae traddodiad hefyd fod Owen Law Goch yn gorwedd dan effaith swyngyfaredd yn Ogof Merddin, a phan ei dihunir y daw y Cymry eto yn berchenogion ar yr ymerodraeth a gollasant, ac y cânt berffaith oruchafiaeth ar bob cenedl a fyddo yn fwy anwybodus, ac yn fwy anfoesawl na hwynt-hwy.

Yr ydym yn gwybod am amryw o Ogofau y dywedir fod "Owain Law Goch" yn huno ynddynt, megys Ogof Pant-y-Llyn, yn ymyl Llandybie, yn mha le, er's amryw o flynyddoedd yn ol, y deuwyd o hyd i bedwar ar ddeg o ysgerbydau (skeletons) dynion. Gwel ddarlun o honynt yn "Dillwyn's Swansea."

Y mae y chwedl ddifyrus a ganlyn yn cael ei choffa gan ein hawdwr eto:—

"Yr oedd ymdeithydd unwaith yn ymweled â'r gymydogaeth enwog hon, a phan oedd ar gefn ei arweinydd yn croesi y Cothi, yn agos i'r 'Mole' y soniasom am dano eisoes; ond cyn myned haner y ffordd dros y llifeiriant, i lawr yr aethant dwmbwl—dambal! Ond gan mai tric 'planedig' ydoedd, yr oedd yno wrth gwrs gyfaill i'r arweinydd wrth law i estyn cynorthwy i'r ymdeithydd, a'i dynu i dir sych yn ddyogel." Yr oedd hon yn ffordd ysmala, ac yn wir, ar ryw ystyr yn beryglus, i dynu arian o logell y dysgedigion a'r hynafiaethwyr diniwaid a fyddent yn talu eu mynych ymweliadau â chymydogaeth yr Ogofau. Gan fod yspryd prydyddu yn teyrnasu yn y gymydogaeth, wrth gwrs, ni chawsai joke mor ddigrif fyned heibio heb ei chofnodi gan yr awen. Y mae yr hynafiaethydd a fu ar gefn yr arweinydd yn y "Votas" yn cael ei gynharú i fuwch, yr hon sydd yn atal ei llaeth hyd nes y GWLYCHIR ei thethau! Ah! dyma y secret, yr oedd y gŵr yn un cybyddlyd, ac yn cadw ei law megys ar ei logell, rhag rhoddi gormod i'w arweinydd am y drafferth o fyned ag ef oddiamgylch i ryfeddodau yr ardal! Dyma yr englynion, os gellir eu galw yn englynion hefyd,—

"Wyr! dyma frodir hyfrydion,—gwalchod
Yn gwlychu marchogion !
Rhoi gŵr main o Lundain lon,
O! ryfedd yn yr afon!

"Godrwyr yw y gwŷr heb gel,—os pwyllo,
Os pallu wna'r armel[15]

Gwlych y deth, y gwalch uchel,
A llaith ddwrn, a'r llaeth a ddêl."

Englyn arall:—

"Gwr am chwech trwy afon fechan,—ddyg ddyn,
Ddygwyddodd yn drwstan;
Yn y rhyd, ebe dynaran,
Rho swllt, cei frysio i'r làn."

Yr oedd yr ysgrifenydd yn dysgwyl cael rhyw awgrym yn nghylch yr Ogofau yn y "Cambrian Triumphans," "Liber Landavensis," y "Iolo MSS.," neu yn "Camden's Britannia," ond yn hyn fe'i siomwyd. Mr. Williams ydyw yr unig hynafiaethydd ag sydd wedi taflu ei enaid megys i'r testyn; ac mae yn rhaid cyfaddef, na fuasai genym ddim (ond ffiloreg rhai o "Ysgol y bendro," efallai) o bwys ar lawr, yn nghylch y lle rhyfedd hwn, oni buasai ef. Dylasem ddyweyd hefyd fod yr ysgrif sydd ar feddfaen Maes Llanwrthwl i'w gweled yn "Camden's Britannia." Fe gafwyd careg yn ymyl y Black Cock, ar fynydd Trefcastell (gwel "Williams's Works," p. 154,) yn dwyn yr ysgrif "Poenius Posthumus." Dywed ef fel yma (a chyfeiria at Annals of Tacitus, book 14, chap. 37,) "Poenius Posthumus, who had disgraced himself by his irresolution and misconduct, (i. e. during the absence of the Roman Army on the expedition to Anglesey, when the indignant Britons put several Roman garrisons to the sword, and Paulinus, on his return, gained a complete victory over them,) was so mortified by his success, and so chagrined at the contempt in which he was held by the legion, whose military lustre he had sullied, that he added to his other imprudent deeds, the most unjustifiable of all actions, that of laying violent hands on himself." Yr ydym yn barnu mai yr un maen ydyw hwn ag a ddysgrifir gan Jones o'r Derwydd, yn ei "History of Wales," cerflun o ba un sydd i'w weled gan Theo. Jones, yn ei "History of Brecknockshire," ac ei fod yn dwyn arno yr hyn a ganlyn, "Imp. Cassiano," "Imperatori Domino Nostro Marco Cassiano Latino posthumo pio felici Aug." Mae yn rhaid i ni gyfaddef fod y tipyn gwybodaeth o'r Lladinaeg sydd genym wedi ei dirwyn i'r pen wrth geisio chwalu ystyr y llinellau yma. Gan mai yn yr un fan y cafwyd y cerig, mae genym le i feddwl mai yr un ydynt. Ond sut y mae un yn "Ponius Posthumus," a'r llall yn "Posthumo Pio," sydd yn ein dyrysu; pe baem ni yn cael cyfle i weled yr ysgrif wreiddiol, gallem wed'yn benderfynu pa un sydd yn iawn. Dywed Jones, yn rhagymadrodd ei History of Wales, i'r maen hwn gael ei symud gan ryw "Vandal" o Drefcastell, a'i fod yn mur Parc Dinefwr. Yr ydym wedi gwneyd ymchwiliadau am dano yno, ond yn aflwyddiannus. Symudwyd ef, ebe fe, yn y flwyddyn 1769.

Yn mhlith pethau ereill sydd o bryd i bryd wedi eu darganfod yn Nghaio a'r ardal, y mae dwy wddfdyrch aur (gold torques) wedi eu cael ar dir y gwladgarawl J. Jones, Ysw,, Dalaucothi. Y mae yn meddiant y boneddwr hwn faen gwerthfawr a elwir Amethyst, ynghyda bust (intaglio) o'r dduwies Diana. Cafwyd hefyd yn y flwyddyn 1792 dair mil o fathodau copr, ac yn eu plith yr oedd rhai o amser Gallienus, Solina, ac o'r deg-ar-hugain gormesdeyrn ereill. Y maent yn'dyfod o hyd i rywbeth yma yn barhaus, yr hyn sydd yn brawf anwrthwynebol fod y Rhufeiniaid wedi bod mewn rhwysg a mawredd yma yn y canrifoedd a aethant heibio. Nodwn yn y fan yma eto, fod y "Gododin" yn llawn o gyfeiriadau yn nghylch yr "aur dyrch." Nid oes un ddadl nad cyfeiriadau at yr addurniadau, megys llun eryr, llew, neu darw, a grogai ein tywysogion gynt am eu gyddfau, ydynt y rhai a ganlyn, a rhai cyffelyb:—

"Eryr Pengwern, pell gelwid heno;
Ar waed gwyr gwelid."

"Tarw trin, rhyfel adwn."—LLYWARCH HEN.

Yn awr, ni a awn rhagom i wneuthur rhai sylwadau ar yr AFON COTHI.

AFON COTHI

Yr ydym braidd wedi hysbyddu y testyn hwn yn ein hymdriniaeth â'r Ogofau, ac yn ei berthynas â gwrthddrychau ereill sydd wedi bod dan ein sylw yn y rhanau blaenorol o'n traethawd. Y mae y Cothi yn tarddu, neu yn suo allan, o hen gors ar fynydd a elwir "Bryn Catel," yn mhlwyf Llanddewi Brefi, uwchlaw pentref enwog Caio. Yr unig hynodrwydd sydd yn perthyn i'r afon hon yn awr, ydyw ei bod mor orllawn o bysgod. Y mae er's blynyddau bellach yn cael ei dyogelu (preserved) gan warchodwyr sydd dan amryw foneddigion, y rhai sydd wedi ymffurt yn gymdeithas i'r perwyl hwnw, dan yr enw "The River Cothi Fishing Club." Ac anferthawl y lles y mae wedi ei wneyd, drwy gario allan eu gwahanol drefniadau er sicrhau llwyddiant eu hanturiaeth. Y mae boneddigion o bob rhan o'r deyrnas yn talu ymweliad â'i glanau, er cael ychydig—dywedwn llawer iawn—o fwyniant i ddal y pysg amrywiol sydd yn awr yn lluosog yn yr afon hon. Gan fod cymaint o son am y "pysgota" ysplenydd sydd i'w gael yn Nghothi, fe dalodd awdwr y llinellau hyn ymweliad â'i glanau yn mis Awst, 1857, er mwyn dadluddedu ychydig ar ei feddwl, a chael tipyn o bleser yn y gelfyddyd ddiniwaid o "bysgota plufyn," ac ni anghofia fyth y digrifwch a'r mwyniant a gafodd yno. Fe ddaliodd ef a'i gyfeillion ddeugain pwys o frithyllod ysplenydd, a dau sewin oddeutu pwys a haner yr un!


Er fod llawer a ânt yno, hyd yn nod yn fwy llwyddiannus yn y grefft, eto, yr oeddym yn teimlo ein bod wedi cael ein gwala o ddifyrwch. Gan na adewir i garwyr y "wialen" a'r "coch-a-bonddu" bysgota yn Nghothi ar ol y dydd diweddaf o Awst bob blwyddyn, gofaled yr ymdeithwyr fyned yno cyn hyny. Y mae y Cwmpeini hyn wedi lledaenu eu golygiadau a'u gweithrediadau yn ddiweddar, ac y maent yn gwarchawd a dyogelu yr afon odidog Tywi eto.

Y pysg a welsom ni yno oeddynt y rhai canlynol— yr eog, y sewin, y brithyll, y lyswen, &c. Y mae y Cothi yn rhedeg drwy anialwch diffaeth ac annhramwyadwy braidd, i lawr i waered hyd Gwm Cothi, drwy greigiau erchyll, nes y ffurfia yn fynych yn dro-byllau arswydus yr olwg arnynt, ac ymarllwysa i'r afon brydferth Tywi, yn ymyl Pont-ar-Gothi, oddeutu chwe' milldir i dref Caerfyrddin. Y mae llawer o felinau ar ei glanau, paham hefyd na allai fod llawer iawn o weithfeydd ereill ar ei glanau, megys gweithfeydd gwlan, brethynau, &c.? Mae yn sicr o fod cyfleusterau nodedig er dwyn gwahanol orchwylion y gweithiau hyny yn mlaen, pe byddai anturiaethwyr a dynion o gyfalaf (capital) yn gwybod am y gwahanol gymhwysderau a'r cyfleusterau sydd yn angenrheidiol er gwneuthur symudiadau o'r fath yn llwyddiannus. Ni a ddirwynwn ein traethawd i fyny gyda dyweyd y chwedl ganlynol:—Yr oedd hen wag o'r enw William Shôn yn byw yn yr ardal, yn y ganrif ddiweddaf, ac yn gwneyd bywioliaeth bur ddidaro drwy broffesu rhywbeth a ymylai ar gwnsuriaeth. Yr oedd yn proffesu gwella pob math o glefydau, ac i ddarllen tynghedfen dyn neu geffyl! Ni fyddai Shôn yn darllen dwfr, nac yn cynyg gweinyddu ei rinweddau, a'i gyffuriau meddygol, &c., ond cyn cyfodiad, ac wedi machludiad yr haul! Fee yr hen walch oedd fel y canlyn:—Hyn a hyn o fara ceirch dros geffyl, caws dros eidion, ac ychydig gash, fel y byddai y llogell yn caniatau, am ddarllen dwfr, neu ddarllen y dyfodiant! Yr oedd maen mawr ar lan yr afon, yn mha le yr oedd yn rhaid i'r aberthydd offrymu ei aberth, drwy osod ei offrwm dan y maen hwn; tybid mai aberth i'r duwiau ydoedd! Wedi i'r bobl ofergoelus ac anwybodus hyn fyned ymaith, ceid gweled yr hen wron yn carlamu tua'r maen, i gyrchu yr offrymau! Wrth syn-fyfyrio ar un o hen greigiau erchyll yr afon hynod hon, yn swn un o'i thro-byllau dyfn-ruol, a gweled ei physg godidog yn ymgampio mor nwyfus ynddynt, y mae ein meddwl yn cael ei lanw syndod, wrth feddwl mor wahanol ydyw pethau yn awr, ar, ac yn nghymydogaeth ei glanau, i'r hyn oeddynt yn amserau blinion ac ofergoelus ein tadau! Yr ydym yn canfod ar ei glanau anial-leoedd sydd wedi cael eu trochi a'u cysegru â gwaed ein hynafiaid! Y mae yma leoedd hefyd wedi eu cysegru gan awenydd orwisgi Lewis Glyn Cothi, gan Hymnau Dafydd Jones, gan "Athroniaeth" Lewis,[16] a chan ehediadau awenyddawl y diweddar ddysgedig Eliezer Williams. Yr ydym yn gweled lleoedd hefyd wedi eu poblogi gan y Cymry—plant y bryniau moelwylltion er's miloedd lawer o flynyddau. Ie, y mae cenedlaethau wedi wylo—wedi canu llawer gyda'r hen delyn Gymreig—wedi ymladd brwydrau anfarwol—wedi adeiladu caerau a chastelli, gwyddfâu a themlau, ac wedi myned gyda'r llif i fythol ddystawrwydd! Byd rhyfedd ydyw y byd hwn! Hyderwn ein bod fel hyn, yn frysiog, wedi bod yn llwyddiannus i brofi fod yr "Ogofau ac Afon Cothi," pentref Caio a'i hardaloedd, yn llawn o destynau gwir ddyddorol, a'u bod un ac oll yn cynwys maesydd ag sydd yn wir werth i'r hynafiaethydd droi ei olygon manylgraff tuag atynt, am fod eu hynodion a'u holion hynafiaethol, y rhai y buom yn ymdrin tipyn â hwy, yn profi eu bod yn orlawn o'r hyn a gyfansoddai lawer o fawredd, nid yn unig y Deheubarth, ond Cymru gynt. Gan orphwys mewn gobaith y bydd i hyn o hanes Cynwyl Gaio fod yn foddion i ddadblygu talentau, ac i ddwyn i'r golwg fechgyn eto o'r gymydogaeth, a fyddant yn sêr tanbaid yn ffurfafen ein llenyddiaeth, y rhai a fyddant yn llewyrchu hyd yn oes oesoedd, yn llewyrchu bri digwmwl ar eu gwlad a'u cenedl, ac yn rhai a fyddant yn foddlon i aberthu pob peth er lles "Cymru, Cymro, a Chymraeg,"—ïe, aberthu pob peth er dyrchafu eu cydgenedl mewn rhinwedd, moesoldeb, a chrefydd.

ATTODIAD.

"Brenach." Enw cyffredin ar rai o afonydd Cymru ydyw "Brân" (Brëan,) o Bre—bryn, neu fynydd, ac an—ffrwd. Ystyr y gair "ach" ydyw dwfr; felly ystyr yr enw "Brenach" ydyw ffrwd fynyddig. Mae llawer o fynyddau yn cadw yr enw, megys y Moelfre, y Frenni fawr, Penbre, &c.

"Crug—y—bar." Dywed Williams am y lle hwn fel y canlyn: "Crug—y—bar, or the barrow of anger and resentment, is supposed to be the place where the Romans interred some of their garrison, slain during the insurrection of the Britons under Boadicea. It is related by Tacitus (Annals of Tacitus, book 12, chap. 31, 32,) that when Ostorius commanded in Britain, he advanced within no inconsiderable distance of the channel that separates Great Britain from Ireland, and that he was for some time stationed among the Silures, or inhabitants of South Wales."

"Cambrian Register." Yr ydym ni yn rhyw dybied weithiau fod gan y Parch. Eliezer Williams law fawr yn nygiad y llyfr enwog ond prin hwn allan. Carem wybod os gwir ei fod â rhyw ran ynddo heblaw fel gohebydd. Mae yr hyn a ganlyn ar ei wynebddalen: "The Cambrian Register, &c., London. Printed for E. Williams, &c., Bookseller to Prince Regent, &c., &c." A oedd yr E. Williams yn berthynas iddo? O leiaf, gellid meddwl hyny, gan ei fod yn ysgrifenu cymaint iddo, &c.

"Dolau Cothi." Palas y boneddwr a'r gwladgarwr trwyadl John Johnes, Yswain; saif yn ymyl yr Ogofau, ac y mae groesaw gwresog yno i bawb o ewyllyswyr da i iaith a llen y Cymry; ac i'r rhai sydd yn talu ymweliadau â'r Ogofau. Hir oes i holl noddwyr Cymru.

"Lewis of Caio."[17] "The father of the late vicar of that parish, and the editor of a collection of Welsh Poems, called Flores Poetarum Britannicorum, published an excellent Treatise on Natural Philosophy, in the language of the principality, which he modestly called 'Briwsion oddiar Fwrdd y Dysgedigion,' or 'Fragments from the table of the Literati.' It is an admirable epitome of everything that is valuable in the philosophical discoveries of the last and preceding century, and is as much admired for the beauty of its language as the compendious fecundity of its pages, while its style seems as artless as its contents are useful."

—————————————————————————————————————————————

H. HUMPHREYS, ARGRAFFYDD, CAERYNARFON

Nodiadau[golygu]

  1. Gelwid hi Caer Gaio yn amser Llywarch Hen, o.c. 520 hyd 630 megys:—
    Lluest Cadwallawn tra Chaer
    Caiaw, byddin ac ynnwru taer,
    Can' cad a thori can' caer.
  2. Gwel yr Archæologia Cambrensis, III. Series, page 300
  3. Gwel Attodiad
  4. Gwel Attodiad
  5. Cae Pawlin, neu Paulinus, efallai.
  6. Bu Lewys yn swyddog milwrol hefyd dan laril Jasper Penfro.
  7. "Philip Trahaearn," o Ryd Odyn.
  8. Yr oedd y Philip hwn yn frawd i dad Harri ap Gwilym o Gwrt Meary, Liangathen.
  9. Milled Goid
  10. Gwel Attodiad
  11. Gwel Attodiad.
  12. "C. Register," vol. iii. p. 31. Published in 1818, and dedicated to the Rev. Thos. Beynon, Archdeacon of Cardiganshire.
  13. Y mae Syr Joseph Banks yn barnu mai cloddfeydd aur oeddynt.
  14. "The Geological Survey," ebe Mr. Smyth yn mhellach, "discovered, however, a specimen of free gold in the quartz of one of the lodes, and thus corroborated the evidence which tended to prove that the mines were worked for gold."
  15. Armel, Armael,—Second milk.
  16. Gwel Attodiad.
  17. (See "Cambrian Register," Vol. iii. p. 130, 131.) The above Lewis was the predecessor of Williams at Caio.


Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.