Cerrig y Rhyd (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cerrig y Rhyd

gan Winnie Parry

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cerrig y Rhyd
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Winnie Parry
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




CYNHWYSIAD.

CERRIG Y RHYD,—Y rhai a'u camo

Y CAWR HWNNW.—y cwch, llithro i'r môr ar fin nos, gweddi Gwilym, y cawr

Y PLAS GWYDR.—tymer ddrwg, gorchmynion, dymchweliad y plas

CWYN Y RHOSYN,—aniddigrwydd, pleser, ochenaid

ANWYLAF. I. Y cardotyn a'r forwyn fach, II. Croesaw'r tylawd.

UCHELGAIS Y PLANT—plant Llwyn Onn

Y GOEDWIG DDU, I. Yr Helwyr Gwyllt. II. Pwy fentrai i'r Goedwig Ddu. III Llwybr enbyd. IV. Cariad brawd. V. Gwobr y dewr.

BLODAU ARIAN. I Heulwen a Chwmwl. II Yn y Dyffryn Tywyll. III. Dedwyddwch

FY FFROG NEWYDD, pam na hoffaf hi.

Y MARCHOG GLAS,—brwydr, Gwych, y delyn, dadl y marchogion, dyfarniad Gwawr.

HEN FERCH,—dewis Barbara, gwaith y tân, marw Magdalen, bywyd hen ferch

BREUDDWYD NADOLIG,—byd annifyr, y deml a'r efengyl, dilyn y seren, y gorffwys.

HUW—cartref Huw, colli'r cyfaill olaf, modryb ddifeddwl, ar fedd ei fam

ESGIDIAU NADOLIG,—dau gartref, penbleth Becca, esgidiau Nadolig

Y CASTELL GER Y LLI.

DROS FOEL Y DON.—y ddamwain yn y Ty Mawr, gŵr a gwraig a phlant, dychryn Margiad fach, y daith i Gaernarfon, dros Foel y Don, chwilio am Fryn Teg, agos ac ymhell.

CERRIG Y RHYD.

DAWNSIA'R dyfroedd clir cydrhwng
Hen gerrig llwyd y rhyd,
A llawer sydd, o wawr tan nos,
Yn camu rhain o hyd;
Fe ddaw y plant ag ysgafn droed.
A'r gwanwyn yn eu gwedd,
A'r hen yn camu'n araf iawn,
A'i droed ar fin y bedd;
A dawnsia calon ambell un
Fel dawnsia'r dyfroedd gwiw,
Ac arall ddaw a'i fron mor drist,
Rhy drwm y baich o fyw.
Cerrig y rhyd,
Hen gerrig y rhyd,
Mae llawer yn cofio hen gerrig y rhyd.

Murmura'r dyfroedd dan y ser,
Ychydig ydyw'r rhi'
Sy'n camu dros y cerrig llwyd,
Sy'n camu dros y lli'.
Daw ambell ddau a'n dwylaw ymhleth,
Y naill i'r llall yn fyd,
Fe bery serch, meddylient hwy,
Tra llifa dwfr y rhyd;
Ac ambell un a ddaw yn llesg
Ar ol y dydd a'i gur,
A theimla'i faich yn nofio'i ffwrdd
Yn ffrydiau'r dyfroedd pur;
Cerrig y rhyd,
Hen gerrig y rhyd,
Mae llawer yn caru hen gerrig y rhyd.

Ymhell o swn y dyfroedd cu,
Dan oer, ddieithriol nen,
Cysgodau hiraeth yn ymdoi
Llawenydd dan eu llen;
O am gael golwg ar y fan,
Cael unwaith deimlo'r swyn
Yn chwythu dros yr enaid trist,
Fel awel leddfol fwyn;
Cael cwrdd y rhai a gwrddem gynt
Wrth gamu dros y rhyd,
Cyfeillion dyddiau cynt—nid oes
Eu tebyg yn y byd.
Cerrig y rhyd,
Hen gerrig y rhyd,
Mae hiraeth ar lawer am gerrig y rhyd.

Y CAWR HWNNW.

“TYD i chware i'r cwch, Babi.”

“Na, mae mami wedi peri i ni beidio mynd at y dŵr.”

“O hìdia befo, 'neiff hi ddim dwrdìo am dipyn bach, bach wyddost; ac ystalwm y deudodd hi hynny pan oeddwn i'n fychan. Tyd, 'na i dy godi di i mewn.”

Gorchfygwyd Babi, er eì bod braidd yn ameu nad oedd “ystalwm” Gwilym yn ddim pellach na'r diwrnod hwnnw, a gadawodd iddo ei chodi i mewn. Nid oedd hynny yn orchwyl hawdd, am nad oedd Gwilym lawer mwy na hi; ond llwyddodd o'r diwedd, a dringodd i mewn ar eì hol.

Yr oedd y cwch yn siglo ar yr afon oedd yn llifo gyda gwaelod eu gardd, ac un o'r gwaharddedig bethau i'r ddau blentyn oedd myned yn agos i'r dŵr. Fodd bynnag, yn eu chwareu yr oeddynt wedi dod at ymyl yr afon, a meddyliodd Gwilym mor hyfryd fuasai cael ymddifyrru yn y pleser-gwch. Nid oedd neb yn y golwg, yr oedd y forwyn fyddai yn eu gwylio wedi eu gadael i'w chwareu eu hunain. Yn ei galon meddyliai Gwilym fod ei fam yn ei iselhau yn fawr wrth beri iddo gadw oddiwrth yr afon a'r cwch bach a'i swynion. Hogyn mawr fel y fo syrthio i'r afon neu adael i Babi syrthio! Mor wirion oedd ei fam!

“On'd tydi hi'n braf, Babi? Wyt ti ddim yn leicio siglo fel hyn?”

Yr oedd Babi yn pwyso dros ochr y cwch a'i dwylaw bach yn y dŵr, yr oedd wedi colli ei het yn rhywle yn yr ardd, a hongiai eì gwallt fel gorchudd dros ei gwyneb. Cododd ei phen ar ofyniad Gwilym, ac meddai, gan edrych tua'r ardd,—“O Gwilym, wel di'r dŵr mawr? Fedrwn ni ddim mynd yn ol.”

Trodd Gwilym a gwelodd fod y cwch wedi symud ymhell o'r lan, ac yn dal i symud i lawr yr afon, gan adael y ty a'r ardd a phopeth adnabyddus. Dychrynnodd ar hyn. I wneyd pethau yn waeth yr oedd yn dechreu nosi, a thorrodd Babi allan i grio; nid oedd y dagrau ymhell o lygaid Gwilym, ond ceisiodd gysuro Babi. “Aros, Babi,” meddai, “paid a chrio, 'na i waeddi." A gwaeddodd yn uchel,— “Mami, mami.” Ond nid oedd dim llais yn ateb. Daliai Babi i grio yn dorcalonnus, ac ni wyddai Gwilym beth i'w wneyd. Ymhen ychydig meddyliodd y buasai yn dweyd ei bader. Yr oedd yn cofio y byddai yn gofyn i Iesu Grist ei gadw yn sâff. Ond cododd dadl yng nghalon Gwilym; yr oedd wedi bod yn hogyn drwg, wedi anufuddhau i'w fam, a dywedai ei galon wrtho fod hynny yn digio yr Un y byddai yn dweyd ei bader wrtho. Nid oedd diben meddwl y buasai hwnnw yn ei gadw ef, ac yntau wedi ei ddigio. Ond Babi, nid oedd hi wedi gwneyd dim drwg. Aeth ar ei liniau yng ngwaelod y cwch, plygodd ei dwylaw a chauodd ei lygaid. Peidiodd Babi a chrio, ac edrychai ar ei brawd â llygaid glâs mawr synedig. Beth oedd Gwilym yn wneyd? Wrth liniau Mami yr arferent blygu eu dwylin. Meddai Gwilym,—“Mistar Iesu Grist, 'tydw i ddim yn gofyn i chi 'nghadw i achos yr ydych chi wedi digio hefo fi; ond Babi, O cadwch hi yn sâff, os gwelwch yn dda. Tydi hi ddim wedi gwneyd dim byd. Peth bach ydi hi; ddim ond pedair oed, fydd hi ddim yn bedair tan y cynta o Fai, peth bach, O wnewch chi beidio gadael i'r cawr ei chael hi. Amen.”

Yr oedd Gwilym wedi cael anrheg o lyfr ystraeon gan ei ewythr ar ei ddydd pen blwydd; a rhyw gawr fyddai yn tramwyo'r wlad, gan gymeryd pawb a allai i'w garchar i'w pesgi, ac yna iddo gael eu bwyta, oedd y prif gymeriad yn y llyfr. Ac er hynny, y cawr fyddai fyth a hefyd ym meddwl Gwilym. Teimlai yn sicr mai i'w ddwylaw ef y syrthiai yn awr.

Yr oedd Babi wedi blino yn crio, a gwelai Gwilym fod ei llygaid bron a chau. Tynnodd ei siaced oddi am dano, a rhoddodd hi dros ei phen. Eisteddasant eill dau ar y fainc yng nghanol y cwch ; rhoddodd Gwilym ei fraich am ei chwaer, ac mewn ychydig funudau teimlai ei phen yn syrthio yn drwm ar ei ochr. Yr oedd Babi wedi anghofio popeth, yr oedd yn cysgu.

I lawr hefo'r lli yr elai'r cwch o hyd. Gwelai Gwilym y ser yn dod allan seren ar ol seren, fel llygaid yn dod i edrych arno, a'r lleuad yn codi y tu ol i'r coed ar lan yr afon. Yr oeddynt yn edrych yn ddig arno i gyd, yn ei gyhuddo am ddod a Babi i'r fath aflwydd. Yr oedd ar Gwilym eu hofn, a chuddiodd eì wyneb ar ben Babi. Yr oedd dylluan yn cwynfan yn y coed, a meddyliai Gwilym ei bod yn dweyd,—“Hogyn drwg—drwg—mae'r Cawr yn dwad—dwad—dwad.”

Ni wyddai Gwilym am faint o amser yr eisteddai fel hyn, na pha faint o ffordd yr oedd y cwch wedi myned, ond yr oedd yr amser a'r pellter i'w gweled yn hir iawn iddo. Yr oedd y lleuad wedi codi yn uchel iawn, pan, rhyngddo eî a'r goleu glir, y cododd cysgod mawr. Gwelodd Gwilym mai cwch oedd a rhywbeth mawr fel dyn yn sefyìl ynddo. Y Cawr, wrth gwrs! Tynhaodd ei fraich am Babi. Gwaeddodd y Cawr,—y fath lais! yr oedd fel taran ar y distawrwydd yng nghlyw Gwilym.

“Hylo, beth ydych chi yn wneyd y fan yma dwedwch? Yn eu gwelyau y dylai plant da fod yr amser yma.”

“O Mistar Cawr, peidiwch a gwneyd dim byd i Babi. Mae hi'n dda bob amser. Y fi sy'n hogyn drwg. Peth bach ydi hi. Cewch fynd a fi i'r carchar, ond peidiwch a gwneyd dim i Babi.”

“Aroswch dipyn bach, onid plant Mrs. Price sydd yma? Diar mi! Wel Gwilym, beth sy'n gwneyd iti feddwl fy mod am dy roì yn y carchar?”

Yr oedd Gwilym o hyd yn dal ei afael yn Babi. Nid oedd y ffaith fod y Cawr yn gwybod pwy oeddynt yn lleihau dim ar ei ofn, ond yn hytrach yn ei sicrhau, pe bai eisiau hynny, yn ei dyb am dano; canys yr oedd Cawr yn gwybod pob peth bob amser. Edrychai i fyny i'r gwyneb oedd yn plygu uwch ei ben ac meddai,—“Ydw i yn gwybod mai chi ydi'r Cawr mae fy llyfr yn deyd ei hanes ac y byddwch yn mynd a phlant bach i'ch carchar, ond O! peidiwch a mynd a Babi yno.” Chwarddodd y Cawr mor uchel, fel yr oedd yr adsain yn deffro ar bob llaw. “Felly yn wir,” meddai, “a dyna pwy ydw i? Wel, mi gewch weld. Dowch 'rwan.”

Gafaelodd yn Babi yn esmwyth iawn pan welodd ei bod yn cysgu a chododd hi i'r cwch yr oedd ynddo, ac yna cododd Gwilym ar ei hol. Rhoddodd ryg fawr flewog drostynt; ac wedi sicrhau y cwch gwag tu ol, tynnodd tua'r lan, yr hwn gyrhaeddodd mewn ychydig o funudau. Neidiodd y Cawr i'r lan ac wedi sicrhau y ddau gwch, estynnodd Gwilym allan yn gyntaf; yna cymerodd Babi ar ei fraich, a chan gydio yn llaw Gwilym cychwynodd i fyny llwybr cul yn y coed. Yr oedd Gwilym mor oer a stiff fel na fedrai bron roddi y naill droed heibio'r llall. Ni ddywedai y Cawr ddim byd. Clywai Gwilym y dylluan, ond yr oedd yn awr fel yn chwerthin ac yn gwaeddi yn ddirmygus,—“Mae'r Cawr wedi dwad—dwad.”

Ar hyd y ffordd ceisiai Gwilym ddyfalu pa beth oedd yn mynd i ddigwydd iddynt. Oedd cael ei fwyta yn fyw yn waeth na llosgi? Yr oedd yn cofio llosgi ei fys unwaith wrth wneyd cyflaith, ac nid oedd y teimlad yn hyfryd. Torrwyd ar ei ddyfaliadau drwy i'r Cawr sefyll yn llonydd. Edrychodd Gwilym o'i amgylch, a gwelai eu bod wedi dod o'r coed a'u bod yn sefyll wrth ddrws ty lled fawr. Nid oedd yn edrych yn debyg iawn i garchar. Yr oedd y drws fel drws rhyw dŷ arall, ac ni welai Gwilym yr un bar haiarn ar y ffenestri. Cyn i'r Cawr allu cnocio, agorwyd y drws gan rywun oddi mewn. Fflachia goleu allan i'r tywyllwch. Aeth y Cawr i mewn, a Gwilym gydag ef. Safai gwraig yn y lobi, a thywynnai y goleu ar ei gwyneb. Penderfynodd Gwilym mai dynes ffeind yr olwg arni oedd gwraig y Cawr, a meddyliodd y buasai yn apelio ati ar ran Babi.

“Pwy sydd gynnoch chi yna, John?” gofynnai i'w gŵr.

“Rhyw ddau blentyn gefais i mewn cwch ar yr afon, ewch a hwy at y tân, rhaid i mi fynd i ymorol am y car, er mwyn i mi fynd a hwy —” Yr oedd y Cawr wedi mynd drwy y drws, ac ni chlywodd Gwilym y gair diweddaf. Pe buasai Gwilym heb fod wedi ei feddiannu mor llwyr a drychfeddwl y Cawr, buasai yn canfod yn awr yn y goleu mai dyn lled dal oedd y Cawr, a chanddo farf fawr ddu, ond drwy eì feddyliau ei hun y gwelai Gwilym.

Yr oedd gwraig y Cawr wedi eu harwain i ystafell oleu braf, fwy anhebyg fyth i garchar, ond hwyrach mai yn y seler yr oedd y carchar, neu mewn rhyw gastell ymhell yn y wlad wrth bod rhaid cael car i fynd yno. Gwelai Gwilym fwrdd wedi ei osod erbyn swper, a chofiodd nad oedd wedi cael bwyd er's meityn iawn. Yr oedd Babi wedi deffro erbyn hyn, ac yn edrych o'i chwmpas â llygaid synedig iawn. Eisteddodd y wraig o flaen y tân a Babi ar ei glin, a thynnodd Gwilym at ei hochr. "O mi 'rydych chi'n oer, pethau bach," meddai hi, gan rwbio dwylaw Babi. Meddyliodd Gwilym mai yn awr oedd yr amser iddo ofyn am iddi hi grefu ar y Cawr beidio gwneyd dim i Babi, ac meddai, gan edrych yn ei llygaid.—"Wnewch chi ofyn i'r Cawr beidio gwneyd dim i Babi. Deudwch wrtho y caiff o fy ngheffyl bach haearn newydd i, mae o yn un neis iawn."

Edrychodd hi arno yn synedig, ond cyn y gallai ateb dyma y Cawr i mewn, ac meddai,—"Rhowch rywbeth i'r ddau bach yma i fwyta, Mary, mae'r car wrth y drws: plant bach Mrs. Price ydynt hwy, byddant yn chwilio am danynt yn brysur mae'n debyg."

“Mae o'n son rhywbeth am ryw Gawr, a'i fod yn mynd i roi ei geffyl haearn newydd iddo am beidio gwneyd dim i Babi,” meddai. Chwarddodd y Cawr nes bron dychrynnu Babi. “Cawn weld,” meddai.

Gosododd y wraig garedig fwyd o'u blaenau, ac er ei fod mewn braw mawr, nid allai Gwilym ymatal rhag y bara a'r menyn a'r jam, ond cyn dechreu gwnaeth i Babi blygu ei dwylaw bach, ac yna gofynnodd fendith yn sobr iawn, gan ddiweddu, — “A chadw Babi. Amen.”

Tra yr oeddynt yn bwyta siaradai y Cawr â'i wraig o'r neilliu yn ddistaw, a chlywai Gwilym hithau yn chwerthin. Mae'n debyg mai meddwl mor dda fyddent i'w bwyta yr oeddynt. A bu bron iddo a thagu.

Wedi iddynt ddarfod, rhoddodd y wraig shawl fawr wlanen am Babi, ac un arall am dano yntan hefyd, er ei fawr ddigofaint. Ei lapio mewn shawl fel hogen!

Neidiodd y Cawr i'r car, estynnodd ei wraig Babi iddo, ac yna cododd y gwas Gwilym i mewn, a chychwynnodd y cerbyd. Gwelai Gwilym fod y cawr wedi rhoddi ei fraich am Babi, a bod ei phen yn pwyso ar ei fynwes, fel y byddai ar fynwes ei fam. Nid oedd bosibl y medrai wneyd dim byd i Babi. Ond i ble, tybed, yr oedd yn mynd a hwy? Os oedd ei fam yn chwilio am danynt, O na chai afael ynddynt cyn iddynt fyned yn rhy bell! Ond cyflymai y cerbyd yn ei flaen; hedai y gwrychoedd heibio iddynt fel mellt. O'r diwedd safodd yn stond o flaen—ple? Ni fedrai Gwilym gredu ei olwg. Ie, eu ty hwy oedd yn ddigon sicr, dacw'r goeden gelyn fawr o flaen ffenestr y parlwr. Yr oedd y drws yn agored. Rhedai rhywun allan wrth glywed swn yr olwynion: Ei fam oedd. “A ydych wedi cael hyd iddynt hwy?” gofynnai yn frysiog.

“Dyma fi wedi dod a dipyn o eiddo i chwi, Mrs. Price,” gwaeddai y Cawr. Rhoddodd Babi ym mreichiau ei mham. Rhedodd y forwyn allan a chydiodd yn Gwilym, gan ei gario i'r ty. Gwelai Gwilym fod ei llygaid yn gochion a bod y dagrau yn rhedeg i lawr ei gruddiau. Yr oedd ei fam a'r Cawr yn siarad â'u gilydd.

“Oh, Mr. Jones anwyl, diolch i chwi am ddod a hwy adref, yr oeddym yn meddwl yn wir fod rhywbeth wedi digwydd iddynt, wrth weled y cwch wedi mynd i ffwrdd.”

“Wel, mae yn dda gennyf yn fy nghalon fy mod wedi dod ar eu traws. Digwydd bod allan yn morio tipyn gyda'r nos yr oeddwn. Yr oedd mor braf. Ond rhaid i mi ddweyd nos dawch, mae'r ceffyl yn dechreu mynd yn anesmwyth. Caiff y gwas ddod a'r cwch i fyny yn y boreu.” Rhoddodd gusan ar dalcen Babi oedd yn edrych â llygaid cysglyd iawn ym mreichiau ei mham. Yna trodd at Gwilym ac meddai,—“Peidiwch chwi a mynd i'r cwch eto, Gwilym, ar eich pen eich hun fel yna, neu hwyrach y daw y Cawr mewn gwirionedd." Edrychodd Gwilym yn ei wyneb, ac atebodd, —“Tenciw, Mr. Cawr, am ddwad a ni adre at mami. Yr ydych chi'n ffeindiach o lawer na'r Cawr yn y llyfr. Mi gewch fy ngheffyl bach newydd i os oes arnoch chi isio o'n arw iawm.”

Ysgydwodd y Cawr ei ben dan chwerthin, ac wedi dweyd “nos dawch” wrthynt oll neidiodd i'w gerbyd, a chlywent y ceffyl yn carlamu tuag adref. Ceisiai ei fam ddarbwyllo Gwilym mai Mr. Jones, Plas Hendre, oedd wedi dod a hwy adref, ond ni fynnai Gwilym gredu, a'r Cawr fu ef ganddo am amser maith. “Y Cawr hwnnw wyddost ti, Babi, fuo mor ffeind wrtho ni; yn lle myned a ni i'r carchar daeth a ni adre i mami, a 'toedd arno ddim isio fy ngheffyl

bach haearn i na dim.”

Y PLAS GWYDR.

PRYDNAWN poeth iawn oedd, ac yr oedd Maggie wedi llwyr flino ar y dydd a'i helyntion. Yr oedd y plant lleiaf yn ddrwg eu tymer; ac ni fedrai eu cadw yn ddiddig yn ei byw. Yr oedd Bob hefyd yn ei phoeni yn fwy nag arferol. O'r diwedd collodd ei hamynedd yn lân.

“Wna i ddim chware hefo chi, yr ydych yn rhy gâs,” meddai yn ddigllon.

Rhedodd allan i'r ardd a thaflodd ei hun ar y glaswellt o dan yr hen goeden afalau, hoff fan Maggie pan fyddai ei byd bach yn myned o chwith. Trwy y brigau gwelai yr awyr lâs dyner, ac yr oedd fel yn gofidio am ei thymer ddrwg. Trodd ar ei hochr er mwyn peidio edrych arno.

Tra y gorweddai fel hyn, daeth i fyny llwybr yr ardd y foneddiges bach ryfeddaf a welodd erioed. Yr oedd mor fechan, mor sionc! Yr oedd ganddi ddau llygad du, disglair, fel llygaid robin goch. A’i gwisg! wel yr oedd yn ddyryswch iddi. Pa fodd y gallodd wneyd ffrog o flodau llygaid y dydd a mantell o ddail y rhosyn coch? A pha fodd yr oedd yn gallu dal y defnynnau gwlith yn goron ar ei phen? Yn un llaw yr oedd yn dal lili wen. Safodd o flaen Maggie, a gwenodd arni yn dirion. Wrth iddi symud ei phen disgleiriai y defnynnau gwlith fel gemau. Estynnodd ei llaw allan, ac meddai mewn llais ariannaidd,—

“Dewch hefo fì, Maggie, a chewch weled lawer o bethau hardd iawn.”

Cododd Maggie ar eì thraed, a chydiodd yn y llaw fach estynedig. Aeth y ddwy allan drwy lidiart yr ardd, ar hyd y ffordd oedd ar y dechreu yn ddigon cynefin i Maggie; ond buan iawn aeth y llwybr yn hollol ddieithr iddi. Dechreuodd deimlo yn llesg, ac yr oedd ei thraed yn ddolurus gan mor arw oedd y fordd. Pan oedd ar fedr eistedd i lawr gan flinder, daethant i olwg y plas mawr. Yr oedd ei furiau o wydr gloew, fel yr oedd popeth oddimewn i’w weled yn eglur. Y fath bethau prydferth ni welodd Maggie erioed, a safodd i edrych arnynt drwy y muriau.

“A garech chi fyned i fewn?” gofynnodd ei harweinydd iddi.

“Carwn yn lawr,” oedd eì hateb. Aethant ymlaen at ddrws y palas. Uwch ei ben yr oedd y geiriau hyn yn ysgrifenedig mewn llythrennau gloew,—“PLAS DAIONI.” Gyda’i lili wen y cyffyrddodd y foneddiges fechan â'r drws, agorodd ym ebrwydd. Aeth Maggie i fewn, a chaeodd y drws ar ei hol cyn i'w harweinydd ei chanlyn, ac ni welodd y foneddiges a'r wisg flodau mwy.

Teyrnasai distawrwydd mawr oddifewn i'r palas. Safodd Maggie ar ganol llawr y neuadd gyntaf. Ni welai yr un creadur. Y peth cyntaf a dynnodd ei sylw oedd rhes o lythrennau breision ar y mur gwydr o'i blaen, a dyma ddarllennodd,—

“BOB TRO Y BYDDWCH MEWN TYMER DDRWG, NEU Y BYDDWCH YN ANUFUDD, CHWI GEWCH WELED HOLLT YN RHEDEG DRWY UN O'R MURIAU, AC OS A YR HOLLT DRWY YR OLL O'R MURIAU FE DDYMCHWEDL Y PLAS AR EICH CEFN.”

Fflachia y geiriau fel cleddyfau, a theimla Maggie braidd yn edifar ganddi ddod o dan gronglwyd y plas gwydr, er mor brydferth ydoedd Ond wrth edrych ar yr holl ryfeddodau o’i hamgylch, anghofiodd ei hofnau. Cychwynnodd ar daith drwy yr ystafelloedd prydferth. Daeth i un lle yr oedd bwrdd mawr wedi ei osod a phob math o ddanteithion. Teimlai fod arni eisieu bwyd, a meddyliodd y buasai yn mwynhau ychydig o honynt. Sylwodd fod yno un gadair fach wedi ei gosod wrth y bwrdd, ac eisteddodd anni. O’i blaen ynghanol y danteithion yr oedd bowliaid o fara llefrith, ei swper arferol. Nid oedd yn hoff iawn o hono, a llawer oedd wedi rwgnach yn ei erbyn pan oedd gartref. “Chyma i mo'r hen fara llefrith ’na beth bynnag,” —meddai, gan wneyd gwyneb ar y bwyd. Gyda bod y geiriau o’i genau, clywai glec fawr dros yr ystafell, a gwelai hollt ym rhedeg drwy y mur gyferbyn a hi. Cofiodd am y geiriau oedd ar fur yr ystafell gyntaf. Wrth ben yr hollt yr oedd geiriau ereill,—

“BWYTEWCH YR HYN SYDD O'CH BLAEN.”

Cydiodd Maggie yn y fowlen â llaw grynedig, a dechreuodd fwyta y bara llefrith. Wedi iddi ei orffen teimlai yn bur gysglyd, ac edrychodd o’i chwmpas am le i orffwyso. Trwy ddrws agored yr ystafell fwyta gwelai ystafell arall debyg i ystafell wely. Pan aeth i fewn canfu nifer o welyau hardd anghyffredin, yn edrych yn esmwyth ac yn ddeniadol iawn. Ond yn eu canol yr oedd gwely bach tebyg iawn i'r un y byddai hi yn cysgu ynddo gartref. Yr oedd yn bur galed, a meddyliodd y buasai un o’r lleill yn esmwythach o lawer. Wedi iddi dynnu am dani, yr oedd ar fedr gorwedd yn yr un harddai yno, pan redodd rhes o lythrennau fel mellten uwchben y gwely bach caled,—

“GORWEDDWCH YN Y GWELY YMA.” Cofiodd Maggie am yr hollt ym mur yr ystafell gerllaw, ac ufuddhaodd i'r gorchymyn, gan roddi ei phen i lawr ar obenydd y gwely bach oedd mor debyg i hwnnw oedd gartref. Gan ei bod wedi blino cysgodd yn drwm; ac yr oedd yr haul yn disgleirio fel tân drwy holl furiau y plas gwydr pan ddeffrôdd bore dranoeth. Yr oedd amryw o wisgoedd hardd yn yr ystafell, a thybiodd Maggie y buasai yn edrych yn neis iawn wedi gwisgo am dani yn un ohonynt, yn lle yn y ffrog stwff a'r brat gwyn oedd ganddi. Ond pan roddodd ei llaw ar ffrog sidan lâs oedd wedi denu ei llygaid, gwibiai y llythrennau yn ol a blaen ar hyd y muriau,—

“RHODDWCH. Y FFROG STWFF A'R BRAT GWYN AM DANOCH.”

Taflodd y dilledyn gwych i ben pellaf yr ystafell, gan ddweyd,—“Cha i ddim byd yn yr hen le yma.” Rhwygwyd y mur o'i blaen gan hollt, a chlywai glec fawr yn swnio yn ei chlustiau. Ac felly drwy y dydd, ni chai gyffwrdd â dim bron oedd yn y plas. Yr oedd yr oll o’r rhyfeddodau,—y teganau a’r darluniau drudfawr,—yn waharddedig. Ond ni welai yr un creadur yn un man yno, ac nid oedd swn llais yn disgyn ar ei chlyw. Dim ond y llythrennau melltenog yn ei chanlyn o hyd, ac weithiau clywai ambell i glec, pan fyddai wedi tramgwyddo yn erbyn rhyw orchymyn. Yr oedd y distawrwydd a'r unigrwydd yn llethol, a daeth hiraeth ar Maggie, nes oedd yn colli golwg ar yr holl brydferthion drwy i'r dagrau ei dallu. Hiraethai am y plant fyddai yn blino cymaint eu gwylio, a hiraethai hyd yn oed am Bob fyddai yn ei blino beunydd â'i driciau a'i ddireidi. Penderfynodd adael y plas pruddaidd, distaw, a’i furiau gloew, a myned adref at ei mam, at y plant, at Bob. Cyfeiriodd ei chamrau tua'r drws allanol, ond rhedai y llythrennau o'i blaen,—

“ARHOSWCH YMA, NID YDYCH DDIGON UFUDD AC ADDFWYN ETO.”

Ond ymlaen yr aeth, ac yn canlyn pob cam a roddai clywai glec ofnadwy. Gwelai yr holltau yn rhedeg drwy y muriau, y llythrennau yn gwau o'i hamgylch. Pan gyrhaeddodd y drws, nid oedd ond un llecyn bach heb yr un hollt, ac arno y geiriau,—

“OS HOLLTIR Y LLECYN YMA DYMCHWELIR Y PLAS.”

Agorodd Maggie y drws, ond cyn iddi groesi y trothwy dyma’r adeilad yn deilchion o’i hamwylch, ac wrth deimlo y gwydr miniog yn torri i’w chnawd, dechreuodd waeddi yn uchel, a chlywai lais yn ei hateb rhywle uwch ei phen,—

“Hylo yr hen Fag, wyt ti yna? Beth yn y byd wyt ti yn gwaeddi fel ’na, dywed?”

Agorodd Maggie ei llygaid, a gwelodd Bob yn eistedd ar un o frigau yr hen goeden, yr hon oedd yn clecian odditano, a'r dail mân yn disgyn ar ei gwyneb. Neidiodd ar ei thraed, ac yn ei llawenydd am nad oedd y plas gwydr ddim ond breuddwyd, taflodd ei breichiau am wddf Bob ei brawd, a dywedodd,—

“O, Bob anwyl, mae yn dda gen i dy weld ti.”

“Wel paid a fy mygu i ’nte,” meddai hwnnw, gan geisio ymryddhau o’i gafael.

Nid yn fuan yr anghofiodd Maggie ei breuddwyd o dan y goeden afalau, a phan fyddai ar fedr colli ei thymer clywai swn dymchweliad y

palas gwydr ac ymdrechai i feistroli ei hun.

CWYN Y RHOSYN.

TYFAI rhosyn unwaith mewn gardd brydferth. Yr oedd yno lawer rhosyn a blodeuyn arall yn codi eu pennau i dderbyn pelydrau yr heulwen yn yr ardd brydferth; ond nid oedd yr un blodeuyn mor wych a'r rhosyn yma. Yr oedd ei wrid mor ddwfn a'i arogl mor beraidd, ac yr oedd ei ddail gwyrdd yn cau o'i amgylch mor gariadlawn.

Dringai y goeden y tyfai arni i fyny mur y ty oedd yn sefyll yng nghanol yr ardd, ac ar y brigyn uchaf ohoni y lledai y rhosyn ei ddail gwridog. Yr oedd ffenestr fechan gerllaw, a byddai dau lygad tyner yn gwylio y rhosyn bob dydd, ond ni wyddai y rhosyn ddim am hynny ar y dechreu.

Cusanai yr haul ef yn y boreu yn gyntaf o flodau yr ardd, a thywynnai ei belydrau arno drwy y dydd; a phan fyddai cysgodau yr hwyr yn lledu dros yr ardd, byddai y gwlith disglair yn disgyn ar y rhosyn, ac yn ei ddisychedu â'i ddefnynnau grisialaidd.

Canai y fronfraith, y fwyalchen, a llu o adar ereill iddo o'r wawr dan fachlud haul yn y gorllewin pell. A suai yr eos ef i gysgu â'i miwsig peraidd, o dan lewyrch y lloer a'r ser. Ond er hynny i gyd, yr oedd calon y rhosyn yn drist, ac fel hyn y cwynai wrtho ei hun ryw foreu hafnaidd,—

“Dyma fi yn y fan yma, nis gallaf symud i wneyd daioni i neb; mae yr adar yn gallu ehedeg yn yr awyr, ac yn gallu gwneyd pobl yn ddedwydd â'u cân; ond, am gwneyd pobl yn ddedwydd â'u cân; ond, am danaf fi, nis gallaf roddi mwynhad i unrhyw un. Yr wyf allan o gyrraedd gwneyd daioni i fyny yn y fan yma. Mae meistresi yr ardd yn dod ac yn arogli y blodau ereill, ac yn eu dodi yn eu mynwes. O mor ddedwydd y maent yn teimlo! Ond druan ohonof fi!”

A phlygodd y rhosyn ei ben, a wylodd ddagrau mawr o wlith i lawr o ddeilen i ddeilen. Yn y man daeth awel dyner ac ysgydwodd y goeden, ac a blygodd y rhosyn prydferth yn agosach i'r ffenestr fach. Ac yna clywodd lais gwan yn dweyd,— “Symudwch y cyrten dipyn bach, mam, er mwyn i mi weled fy rhosyn anwyl. Mae yna bob dydd yn edrych arnaf. Mae yr adar yn ehedeg i ffwrdd mewn munud, ond mae y rhosyn coch yn aros o hyd, ac yr ydwyf yn ei garu.”

Synnodd y rhosyn braidd wrth glywed ei hun yn cael ei ganmol fel hyn, a chododd ei ben, ac yr oedd dedwyddwch yn llanw ei galon wrth feddwl ei fod yntau hefyd yn rhoddi boddhad i ryw un, ac yn peri difyrrwch i blentyn claf oedd yn gorwedd drwy y dydd ar ei gwely cystudd. Ac o hynny allan siriolodd y rhosyn, a cheisiai ddangos eì hun yn fwy-fwy yng ngolwg y ffenestr. Nid oedd yn grwgnach am nad oedd, fel yr adar, yn gallu ehedeg yma ac acw a chanu yn beraidd, ac yr oedd yn dda ganddo hefyd ei fod allan o gyrraedd dwylaw y rhai fyddai yn rhodio drwy yr ardd fel nas gallent ei dorri a'i dynnu o olwg y ffenestr fach.

Ond fel yr oedd yr haf yn treulio teimlai y rhosyn fod ei oes fer bron ar ben. Yr oedd llewyrch tanbaid yr haul yn awr yn peri iddo bron llesmeirio, ac nid oedd ond disgwyl i'w ddail ddechreu syrthio o'i amgylch, a gofidiai yn ddwys wrth feddwl na fyddai yno yr un rhosyn i lonni y plentyn claf mwy, oherwydd nid oedd yr un arall wedi ymddangos ar y brigyn uchaf.

Un boreu, pan oedd bron methu codi ei ben, clywai lais o gyfeiriad y ffenestr yn dweyd,— “Mor brydferth mae yn edrych; rhaid i ni gael y rhosyn yr oedd mor hoff o'i wylio i osod yn ei dwylaw.” Ac agorwyd y ffenestr, a chydiodd llaw yn y rhosyn ac a'i torrodd oddiar y brigyn, a theimla ef ei hun yn cael ei ddwyn i fewn i ystafell. Ond fel yr oedd y llaw yn ei osod rhwng y dwylaw bach plygedig, rhoddodd y rhosyn ochenaid, a syrthiodd ei ddail yn un gawod wridog dros fynwes lonydd y plentyn marw.

Nid oedd mwyach angen rhosyn wrth y ffenestr i lonni y ddau lygad fyddai yn ei wylio mor hoffus. Yr oeddynt yn awr yn gwylio prydferthwch mwy na phrydferthwch y rhosyn.

ANWYLAF.

I. Y CARDOTYN A'R FORWYN FACH.

DRAW ymhell yn y wlad lle mae yr haul yn codi, safai, lawer oes yn ol, ddinas wych ar lan afon. Mor loew oedd dyfroedd yr afon fel yr oedd tyrau a muriau gwyn y ddinas i'w gweled ar ei gwyneb fel mewn drych. Trwy y dydd y tywynnai yr haul ar y ddinas wych, a deuai y lloer a'r ser i'w gwylio yn yr hwyr, ac nid oedd dinas harddach yn yr holl wlad, a buasech yn meddwl nad allai na thristwch na gofid drigo o'i mewn.

Ac yn byw yn y ddinas yr oedd dynion tlawd a dynion cyfoethog,—yr oedd yno lawer mwy o dlodion nac o gyfoethogion. A brenin y wlad honno a osododd lywodraethwr ar y ddinas wych, i edrych ar ei hol ac i'w rheoli. Enw y gŵr yma oedd Iestyn. Ymhen ychydig amser wedi iddo gael ei ddyrchafu i'w swydd, efe a ddechreuodd gasglu cyfoeth ynghyd, a phwy fwyaf yr oedd yn ei gael mwyaf y fyddai arno eisieu, a phan na fedrai ei gael drwy ffordd iawn aeth ati i ysbeilio trigolion y ddinas, gan fod yn greulon tuag atynt, a gorfodi iddynt dalu iddo ef eu henillion, drwy ddweyd fod y brenin wedi gorchymyn iddo eu trethu. Yr oedd ei gyfoeth mor fawr fel yr oedd ei blas bron yn rhy fychan i gynnwys yr holl drysorau.

Ond os oedd gan Iestyn gymaint o bethau gwerthfawr, yr oedd un peth gwerthfawrocach na'r cyfan ar ol,—nìd oedd yn meddu serch un creadur; yn ei garu nid oedd na gŵr na gwraig na phlentyn. Yr oedd ganddo lawer o weision a morwynion yn gweini arno yn ei blas, ond yr oedd pob un o honynt yn ei ofni ac yn ei gashau o waelod eu calon. A chan eu bod yn cael eu gorthrymu gan eu meistr, yr oeddynt hwythau yn myned yn debyg iddo, ac yn gorthrymu y gwan a'r tlawd ar bob achlysur.

Ryw ganol dydd poeth daeth at borth y plas gardotyn. Yr oedd yn ymddangos fel hen ŵr, a'i gefn wedi crymu, ac yn rhoddi ei bwys ar ei ffon. Carpiog iawn oedd ei wisg, a gwelw iawn ei wyneb, ond yr oedd ei lygaid yn glir a miniog fel dur, ac edrychai'r cardotyn o'i amgylch fel un yn argraffu'r olygfa ar ei gof. Gofynnodd i'r gwas ddaeth i edrych pwy oedd yn curo, am lymaid o ddwfr i dorri ei syched yng ngwres y dydd. Ond gwrthododd hwnnw yn sarrug roddi defnyn iddo, a danfonodd ef ymaith gan ddweyd yn sarhaus,—

“Os na wnei di brysuro dy gamrau, hen ŵr, rhaid galw ar y meistr, a bydd yn waeth arnat ti. Mae o wedi gwneyd cyfraith i garcharu pob cardotyn."

A chaeodd y porth haearn gyda chlonc drystfawr.

Ond yn gwrando ar y gwas a'r hen gardotyn yr oedd morwyn fach perthynol i'r plas. Hi oedd y forwyn isaf yn y tŷ, ac i'w rhan hi y byddai y dyledswyddau mwyaf darostyngol yn syrthio. Ond ni fyddai hi ddim yn grwgnach. Byddai y gweision a'r morwynion eraill yn ei thrin yn chwerw iawn. Nid oedd yn cael bwyd gan gystal a hwy, ac ni chai eistedd gyda hwy wrth y bwrdd yn neuadd y morwynion. A byddai hi yn arfer myned a'i phryd allan i'r cyntedd, ac eistedd yno ar un o'r meinciau cerrig i fwyta ei thamaid. A dyna lle 'roedd hi yn bwyta eì chiniaw o fara sych a dwfr pan glywodd hì ddeisyfiad yr hên gardotyn, a'i ateb mor chwerw gan y gwas. Pan aeth hwn o'r golwg, agorodd y porth mawr yn ddistaw, a rhedodd yn ysgafn ar ol yr hen gardotyn. Nid oedd efe wedi myned ymhell. A phan deimlodd efe ei llaw ar ei fraich trodd ati. Meddyliodd mai cardotes fach yr un fath ag ef oedd hi, canys yr oedd ei gwisg bron mor garpiog a'i wisg yntau. Yr oedd ei thraed yn noeth, a disgleirient fel ifori yng nghanol y glaswellt oedd ar fin y ffordd lle 'roedd hi'n sefyll. Nid oedd ganddi ddim i orchuddio ei gwallt, oedd yn disgleirio yn yr haul fel coron brenhines. Syllodd y cardotyn arni, a meddyliodd nad oedd erioed wedi gweled gwyneb mor brydferth a mor brudd. Estynnodd yr eneth ei thamaid bara iddo, a rhoddodd y cwpan yn ei law, gan ddywedyd,—

“Clywais di yn gofyn am ddiod. Dyma i ti damaid o fara gydag ef.”

Ac edrychodd arno â dau lygad glas llawn o dosturi. Yr oedd yn gwybod beth oedd eisieu bwyd, er ei bod yn byw ym mhlas y gŵr cyfoethocaf yn y ddimas, ac yr oedd yn gallu cydymdeimlo âg ef. Eisteddodd y cardotyn ar ochr y ffordd i fwyta y tamaid ac i dorri ei syched â'r dwfr, a safodd y forwyn fach wrth ei ymyl yn ei wylio. Wrth roddi y cwpan yn ol iddi gofynnodd,—

“O ba le y daethost ti, fy ngeneth dlos i?”

“Morwyn ydwyf yn y plas, a fy enw ydyw Anwylaf.”

"Yr ydwyf yn diolch i ti, Anwylaf, am dosturio wrth hen gardotyn tlawd; bydded bendith y nefoedd arnat ti.”

“Mi fuasai yn dda gennyf pe buasai gennyf rywbeth gwell i'w roddi i ti, ond nid oes gennyf arian na dim byd gwerthfawr arall. Ond mae gennyf un peth, a mi a'i rhoddaf i ti,—mae gennyf aderyn bach dof. Mi fyddaf yn ei gadw mewn agen ym mur fy ystafell, a phan fydd pawb yn y plas yn cysgu byddaf yn ei ollwng allan, ac yna fe fydd yn canu i mi nes bydd fy nghalon yn llawenhau. Canys wrth ei wrando byddaf yn cofio am amser dedwydd pan nad oeddwn yn forwyn ym mhlas llywodraethwr y ddinas. A mi roddaf yr aderyn i ti, er mwyn i tithau gael ychydig o ddedwyddwch wrth gofio am amser oedd yn deg, oherwydd yr wyt yn edrych yn fwy truenus na fi.”

Daeth deigryn i lygaid gloew y cardotyn, ac meddai mewn llais tyner iawn,—

“Cadw dy aderyn bach, Anwylaf, mi gaf fi ddedwyddwch yn fuan, a chei dithau weled dyddiau teg iawn. Paid anghofio yr hen gardotyn na'i eiriau.”

Ac aeth oddiwrthi yng nghyfeiriad un o heolydd y ddinas. Safodd Anwylaf am ennyd yn edrych arno yn cerdded yn araf, a'i bwys ar ei ffon, gan geisio dyfalu beth oedd ystyr ei eiriau, ac yna rhedodd yn ei hol i'r plas, lle y cafodd gerydd tost am fyned tu allan i'r porth.

II. CROESAW'R TYLAWD.

Trwy y dydd hwnnw y crwydrodd yr hen gardotyn ar hyd heolydd y ddinas wych, gan gardota o ddrws i ddrws, ond ni roddodd neb ddim iddo. Yr oedd y gwŷr cyfoethog yn rhy brysur gyda phleserau o bob math, a'r gwŷr tlodion hwythau yn rhy brysur gyda'u gofidiau, fel na chafodd efe sylw gan y naill na'r llall. Pan oedd yr haul yn machludo dros y ddinas wych, gan gochi y tyrau gwynion a'r muriau, a gwneyd yr afon fel llinell o dân, daeth y carotyn at ddrws tŷ yn sefyll yn un o heolydd culaf a mwyaf distadl y ddinas. Curodd yn ddistaw, gan ddisgwyl cael ond yr un atebiad nacaol ag a gafodd wrth bob drws arall. Yr oedd yn teimlo yn flinedig iawn, a buasai yn hoffi cael gorffwys am ennyd. Agorwyd y drws gan hen ŵr trist iawn ei wyneb. Gofynnodd y cardotyn iddo am gardod, ac atebodd yr hen ŵr,—

“Yr ydym yn ddigon tlawd ein hunain, ond cewch ran o'r hyn sydd gennym, dewch i'r ty.”

Canlynodd y cardotyn ef i'r ty, a gwnaeth yr hen ŵr iddo eistedd wrth y bwrdd. Yr oedd gwraig yn paratoi swper, a rhoddodd hithau groesaw iddo i'r hyn oedd ganddynt.

Ymhen ychydig o amser gosododd y wraig ddysglaid o botes wedi wneyd o ddalen poethion ar ganol y bwrdd, a thamaid o fara, a gwydriad o ddwfr wrth ochr plât bob un. Edrychai y ddau hen bobl yn bur drist o hyd, ac ni siaradent bron air; ond cymhellasant y cardotyn yn garedig i fwyta. A phan, wedi iddo orffen, yr oedd ar fedr troi allan i'r heol, gwahoddasant ef i aros gyda hwy y noson honno, a chydsyniodd yr hen gardotyn yn bur ddiolchgar, canys yr oedd wedi blino yn fawr. Ond wrth weled y ddau yn edrych mor drist, a'r dagrau yn codi o hyd i lygaid yr hen wraig, ni allai ymatal rhag gofyn iddynt achos eu tristwch, yna yr hen ŵr a atebodd mydag ochenaid,—

“Ym mhen tridiau, os na fedraf dalu swm o arian sydd ddyledus arnaf i Iestyn, llywodraethwr y ddinas, fe enfyn ef ei weision yma i'm dwyn i'r carchar. Nid oeddym ni yn dlawd bob amser, yr oedd genmym ddigon i ni ein hunain ac i roddi i eraill, ond daeth gorchymyn at Iestyn oddiwrth y brenin fod iddo drethu holl drigolion gweithiol y ddinas, ac y mae y dreth honno wedi llyncu ein cyfoeth ni i gyd, fel nad oes gennym ddim i dalu yr hyn mae efe yn ei ofyn i mi ymhen tridiau.”

“Ie,” meddai'r hen wraig, “a gwaeth na hynny, yr oedd gennym mi saith o blant, a buont feirw bob un y naill ar ol y llall, a ganwyd i ni wedyn un eneth, yr hon a alwasom yn Anwylaf, am ei bod yr anwylaf o'r plant i gyd... A hi a dyfodd i fyny yn eneth dda i ni, ac yr oedd fel perl yn ein golwg. Ac angau a'i gadawodd inni, i'n llonni. Ond ychydig amser yn ol, danfonodd Iestyn un o'i weision yma i fyned ag Anwylaf oddiarnom i weini ym mhlas ei feistr. Ac ni welsom byth mohoni. Feallai ei bod wedi marw, canys gŵr creulon ydyw Iestyn, ac nid ydyw Anwylaf erioed wedi arfer gweithio yn galed.”

A chuddiodd ei gwyneb yn ei ffedog.

“Peidiwch a wylo, mi welais i Anwylaî heddyw, a chewch chwithau ei gweled cyn pen chydig amser. Peidiwch anghofio y cardotyn na'i eiriau.”

Yna y dechreuodd hi ei holi ynghylch Anwylaf, pa fodd yr edrychai. A'r cardotyn a ddywedodd,—

“Ni welais i yr un fun mor brydferth a'th ferch Anwylaf, o goron ei phen euraidd hyd wadn ei throed bach gwyn, ac nid oes yr un mwy rhinweddol a chalon dyner na hi yn holl wlad y brenin.”

A boddlonodd yr hen wraig ar y ganmoliaeth yma, ac ni allai wneyd digon o groesaw i'r cardotyn. Ond aeth efe ymaith gyda thoriad y wawr, cyn i'r ddau ddeffro o'u cwsg.

Y diwrnod hwnnw daeth cenadwri at Iestyn oddiwrth y brenin, i ddweyd ei fod am ddod ar daith drwy y ddinas y diwrnod canlynol. Ac yna Iestyn a ddechreuodd wneyd parotoadau mawr i dderbyn y brenin i'w blas, canys yno ym sicr yr arhosai i orffwys. A bwriadodd Iestyn wneyd gwledd odidog i'w groesawu, a gwahoddodd holl gyfoethogion y ddinas iddi. Yr oedd gweision a morwynion Iestyn i sefyll yn rhengau wrth borth y plas pam fyddai y brenin yn myned i fewn; pob un mewn gwisg newydd brydferth, ond nid oedd Anwylaf i fod yn eu mysg. A hi a wylodd yn ddistaw ar ei gwely y noson honno; canys buasai hithau yn hoffi cael gweled y brenìn.

A holl bobl y ddinas a wnaethant baratoadau ar gyfer ei ddyfodiad, ond ni chymerai tad a mam Anwylaf dim dyddordeb ynddynt, oherwydd nid oedd ond deuddydd eto o ryddid iddynt, ac yna byddent yn cael eu dodi mewn cell dywell heb weled na goleu haul, na goleu lloer, na chael golwg ar ddyfroedd yr afon byth mwy, canys nì îyddai neb byth yn cael ei ollwng o garchar Iestyn.

A'r diwrnod wedyn yr agorwyd porth mawr y ddinas wych, a daeth y brenin i mewn yn ei gerbyd euraidd, yn cael ei dynnu gan bedwar march gwyn, a'i farchogion yn marchogaeth wrth ochr y cerbyd. Ac edrychai'r oll yn odidog a dewr. Disgleiria'r haul ar eu harfau gloew, ac ar eu gwisgoedd hardd. Ond y mwyaf dewr ac ardderchog oedd y brenin ei hun. Yr oedd ganddo fantell o borffor a choron o aur ar ei ben. Ond yr oedd ei wynepryd yn brydferthach na'i wisg, er godidoced oedd honno. A thramwyasant drwy y ddinas hyd oni ddaethant at blas Iestyn, ac yna y safodd y meirch yn llonydd, a daeth Iestyn allan ac a benliniodd o flaen y cerbyd gan ddeisyf ar i'r brenin ddisgyn ac anrhydeddu ei blas a'i bresenoldeb. Ond ni wenodd y brenin arno, ac ni chododd oddi ar y glustog lle'r eisteddai, eithr efe a edrychodd ym myw llygaid Iestyn ac a ddywedodd,—

“Dos a galw yma forwyn o'r enw Anwylaf sydd yn dy wasanaeth di, a dywed wrthi am ddod a'r aderyn bach o'r agen yn y mur.”

Yna dechreuodd ofni fod ei drais a'i ormes yn hysbys i'r brenin, ac a ddanfonodd un o'r morwynion i chwilio am Anwylaf. A phan glywodd hi fod y brenin wedi galw am dami, dychrynnodd yn fawr: eto yr oedd hefyd yn llawenhau wrth feddwl y cai hithau hefyd ei weled. A rhedodd i'w hystafell i geisio yr aderyn hoff, gan geisio dyfalu pa fodd y gallai y brenin fod yn gwybod am dano.

Pan ddaeth hi at y cerbyd, estynnodd y brenin ei law iddi, ac meddai,—

“Tyred i fyny Anwylaf, wyt ti wedi anghofio yr hen gardotyn?”

Edrychodd Anwylaf arno, ac nis gallai gredu mai yr hen gardotyn tlawd oedd efe, canys yr oedd y brenin yn ddyn ieuanc, ac nid oedd eì ysgwyddau wedi crymu fel yr hen gardotyn. Ond wrth syllu yn ei wyneb adnabu ei lygaid, oedd yn disgleirio fel gemau. Gwnaeth y brenin iddi eistedd wrth ei ochr ar y glustog sidan yn ei charpiau fel yr oedd hi; a gorffwysai ei thraed bach noethion ar y croen blewog oedd yn gorchuddio gwaelod y cerbyd, a gorweddai ei llaw, oedd yn galed gan lafur, yn ysgafn yn llaw y brenin, a theimlai Anwylaf yn ddiogel am byth. Yna trodd y brenin at Iestyn, ac at y dorf o weision a gwahoddedigion, ac meddai, a'i lygaid yn pelydru fel mellt,—

“Mi a wn dy ddrygioni di, O Iestyn, pa fath galon sydd yn dy fynwes. Bydd barod i roddi cyfrif o dy waith. A chwi, weision ufudd eich meistr, a chwi gyfoethogion, gwybyddwch i mi gymeryd taith drwy y ddinas hon yng ngwedd cardotyn tlawd anghenus, ac ni chefais drugaredd gan yr un ohonoch, oddi eithr gan y forwyn hon, a chan un arall y cewch wybod ei enw yn y man. Ewch a dysgwch dosturi, gan wneyd i bawb fel y dymunech i eraill wneyd i chwi, gan na wyddoch pa bryd y byddwch yn gofyn trugaredd eich hunain.”

Ac yna efe a archodd i'w farchogion gychwyn, ac aeth yr orymdaith yn ei blaen, gan adael Iestyn a'i weision a'i wahoddedirion yn edrych ar eu gilydd mewn braw.

Ac Anwylaf oedd yn eistedd wrth ochr y brenin a'r aderyn bach yn ei mynwes, a daeth gwynt tyner o dros yr afon ac a gusanodd ei gruddiau, ac a ymdroellodd yng nghudynau aur ei gwallt. Ni theimlodd hi erioed mor ddedwydd. Un peth oedd eisieu, cael gweled ei thad a'i mam. A thrwy y ddinas wych y tramwyasant, drwy ei heolydd llydain, heibio ei phlasau têg, a cheisiai y marchogion ddyfalu ym mha un ohonynt y gwnai y brenin aros i orffwyso. Ond heibio porth pob un y marchoga y cerbyd tanbaid, nes yr oedd wedi eu gadael ar ei ol, a dechreuai yr heolydd fyned yn gulach ac yn fwy distadl. Yn un o'r heolydd cul, er syndod y marchogion, safodd y cerbyd o flaen drws isel heb unrhyw addurn arno, ac aeth y brenin i lawr, ac a gurodd arno a'i law ei hun. Ac yr oedd calon Anwylaf yn llamu ers pan ddaethant ì'r heol, canys yr oedd yr oll yn gynefin iddi, a hwn oedd drws ei chartref. A phan agorwyd y drws gan ei mam, neidiodd i'w breichiau a chofleidiodd hi mewn llawenydd. Ac arhosodd y brenin yn nhy tad Anwylaf y diwrnod hwnnw hyd drannoeth, a cherddodd gydag ef drwy yr heol ym mraich ym mraich, canys yr oedd brenhinoedd yn y dyddiau hynny yn gwneyd pethau na wneir ganddynt yn y dyddiau hyn. A phan oedd ar ymadael y boreu, deisyfodd gan rieni Anwylaf un peth, cael eu merch yn wraig iddo. A thad a mam Anwylaf nid oeddynt foddlawn yn eu calonnau i ymadael â hi, yr oedd iddynt fel un wedi dod yn ol oddiwrth y meirw; eto, hwy a ofnasant nacau y brenin. Yna ei mam a ddywedodd,—

“Fel y dywed Anwylaf y dywedwn ni. Os ydyw hi yn foddlawn i fyned gyda chwi, nid allwn ni ei rhwystro.”

Ac edrychodd ar ei merch. Yna trôdd y brenin at Anwylaf, ac meddai,—

“O Anwylaf, anwylaf yn wir i mi, a ddeui di gyda mi, i fod yn wraig, yn frenhines i mi, i wisgo coron, ac i eistedd wrth fy ochr ar fy ngorsedd?”

Hithau a edrychodd ar ei thad a'i mam, ac ar wyneb y brenin, ac yna daeth a safodd o'i flaen gan blygu ei phen, a phlethu ei dwylaw. A hi a ddywedodd,

“O frenin, yr wyf yn dy garu, tydi dy hun, dy ben, dy ddwy law, a'th draed, ac nid dy goron, na dy orsedd; ond mae fy nhad a fy mam yn fy ngharu innau, ac yr wyf wedi bod fel dieithryn iddynt ers amser maith, ac yn awr y maent yn llawenhau am fy nghael yn ol, a gaffi droi eu llawenydd yn dristwch trwy eu gadael eto? Ni fyddai hynny yn ymddwyn yn dosturiol tuag atynt, ac felly, O frenin, rhaid iti ymadael heb Anwylaî, ond mi fyddaf yn hiraethu am danat.”

A disgynnodd y dagrau i lawr, lawr hyd ei thraed. Yna y brenin a ymaflodd yn ei llaw, ac a drôdd at ei thad a'i mam, ac meddai, —

“Chwi glywsoch beth a ddywedodd, ac yn awr, os rhoddwch hi i mi, hi a fydd y trysor mwyaf yn fy ngolwg, bydd i mi yn fwy na'm coron, a'm gorsedd, ac ni raid i chwi ymadael â hi, canys cewch ei gweled hi beunydd, cewch weled ei hapusrwydd, ac yna y byddwch chwithau hefyd yn hapus.”

Ac felly yr aeth y brenin ag Anwylaf, a'i thad a'i mam gydag ef i'w blas.

Ac ar ddiwrnod ei briodas, efe a ddanfonodd am Iestyn i gael ei farnu yn llys y brenin yng ngwydd holl drigolion y ddinas. Ac yr oedd llawer o dystion yn ei erbyn. A galwodd y brenin holl wŷr doeth y wlad i wrando ei achos, ac i roddi barn arno.

Ac ymgrymodd Iestyn, y llywodraethwr drygionus oedd wedi gorthrymu'r gwan a'r tlawd, o flaen yr orsedd, i dderbyn ei ddedfryd. Ac ar yr orsedd wrth ochr y brenin eisteddai Anwylaf, a choron aur ar eì phen; ei gwisg oedd o sidan symudliw, ac yr oedd prydferthwch ei gwynepryd fel prydferthwch y wawr. Yna un o'r gwŷr doeth a safodd i fyny ac a ddarllennodd mewn llais uchel y ddedfryd hon,—

“Gwrando, O Iestyn, yr hwn a fradychaist dy frenin, ac a fuost greulon ac angharedig wrth y gwan a'r diniwed, gan eu cau mewn carcharau, a'u hamddifadu o freintiau eu bywyd. Yr ydym ni yn gweled mai felly sydd yn gyfiawn wneyd â thithau. Ac yna ti a gludir i gell dywell, ac yno y byddi fyw am weddill dy einioes, heb weled goleu dydd byth mwy, lle nis gelli edrych ar wyneb y nefoedd, na chanfod yr haul na'r lloer na'r ser, na theimlo ar dy wyneb yr awel iach yn chwythu, a lle ni chlywi na llais dyn nac anifail, ond y trigi o ddydd i ddydd mewn tywyllwch, fel dyn dall, heb wybod gwahaniaeth rhwng nos a dydd. Dyma ein dedfryd ni arnat ti. Fel y gwnaethost i eraill, felly y bydded i tithau.” Ac eisteddodd y gŵr doeth, a'r dorf a lefodd,—

“Felly y bydded i tithau, hyn sydd gyfiawn.”

A'r brenin a drodd at Anwylaf, ac a ddywedodd,—

“Beth wyt ti yn ei ddweyd, frenhines Anwylaf?”

Ac Anwylaf a ddododd ei llaw fechan ar wallt du Iestyn, fel y penliniai o'i flaen. A chan droi ei gwyneb at ei gŵr, hi ddywedodd mewn llais tyner,—

“Yr wyf fi mor ddedwydd heddyw, fel nas gallaf oddef gweled un creadur mewn tristwch, ac felly, O frenin, yr wyf yn erfyn arnat ti faddeu iddo ei holl drosedd a'i ryddhau o'i gadwynau, fel y caiff eto fyw i edrych ar oleuni anwyl yr haul.”

A'r brenin a orchymynnodd i'r dorf farnu rhwng y ddwy ddedfryd. A bu distawrwydd dwfn am ychydig eiliadau, yn y gwaeddodd llais clir fel cloch arian drwy neuadd y llys,—

“Bydded yn ol gair y frenhines Anwylaf."

Ac adleisiwyd y geiriau gan yr holl dorf. Ac Iestyn a blygodd ei ben ac a wylodd, ac a gusanodd draed Anwylaf. A hi a ddatododd ei gadwynau a'i llaw ei hun. Ac efe a ddanfonwyd gan y brenin i gwrr pell o'i deyrnas, lle y llywodraethodd yn gyfiawn am lawer blwyddyn.

Ond ar y ddinas wych y gosododd y brenin dad Anwylaf i lywodraethu, ac efe a roddodd iddo blas Iestyn a'i holl gyfoeth. A'r llywodraethwr newydd a gymerodd yr holl drysorau ac a'u rhannodd ymhlith tlodion y ddinas, fel nad oedd eisieu ar neb o'i mewn. A llais pob dyn oedd o'i blaid. Ac yr oedd efe a'i wraig yn ddedwydd yn nedwyddwch Anwylaf.

UCHELGAIS Y PLANT.

OGYLCH yr aelwyd ’stedda’r plant
Yng ngegin fawr Llwyn On,
A goleu’r tân ddisgleiria’n glir
Ar eu gwynebau llon;
Ymgomiant am y dyddiau i ddod
Beth fyddant maes o law,
O hapus, hapus, ieuanc rai,
Ni theimlant gysgod braw.

“Dewr filwr fyddaf fi,” medd Wil,
A fflachia’i lygaid du,
“A'm gloew gledd a dyrr i lawr
Elynion lawer llu;
Mi fyddaf fel yr arwyr gynt—
Mi frwydra’ ymlaen o hyd,
Nes elo clod y milwr dewr
Drwy'r ddaear fawr i gyd.”

“Rwyf fi am fod yn forwr rhydd,”
Medd Dic gan wenu'n llon,
“’Rwy’n meddwl nad oes dim mor braf
A morio uwch y don;
Mi geisiaf long a'i hwyliau gwyn
Yn chwyddo gan y gwynt,
I wledydd pell, fel Capten hon,
Yr hwyliaf ar fy hynt.”

“A fi,” medd Gwen, y peraidd lais,
“Cantores fyddaf fi,
Mi swyna'r byd i gyd â'm cân
Ynillaf glod a bri;
A chanaf nes daw'r bobol oll
I wrando Gwen Llwyn On,
A bloeddiant drwy y neuadd fawr,—
‘Brenhines cerdd yw hon.’”

“A fi,” medd Megan, gruddiau hon
Oedd fel rhosynau haf,
“’Rwyf fi am briodi mab y plas
A byw yn hynod braf;
Mi wisgaf ŵn o sidan glâs.
A'i odre hyd y llawr,
A mantell ffasiwn newydd hardd,
A het a chantel fawr.”

Ond un o'r plant ni ddywedai air,—
Ieuenga’ o'r pump oedd hi;
A gwaeddai Wil ar draws y lleill,—
“Ann bach, beth fyddi di?”
“Wel,” meddai hon, gan syllu'n ddwys
Yng ngoleu clir y fflam,
“’Rwy'n meddwl aros gartre', Wil,
Yn forwyn bach i mam.”

Y GOEDWIG DDU.

I. YR HELWYR GWYLLT.

YN yr amser pan fyddai y bodau bychain hynny, y tylwyth teg, yn gwneyd eu cartref ymhlith dynion, yr oedd yn trigo mewn bwthyn bychan ar fin coedwig dri o frodyr,—Gwilym, Robert, a Dafydd. Helwyr oeddynt, a gelwid hwy yn helwyr gwylltion am eu bod mor ddi-ofn a beiddgar, yn mentro i bob perygl heb ymdroi. Safai y bwthyn mewn lle unig iawn. O'i flaen ymestynnai y môr, gan belled ag y gwelai y llygaid; a phan fyddai y brodyr wedi blino ar hela y ceirw a'r anifeiliaid ereill oedd i'w cael yn y goedwig, cymerent eu cwch ac aent allan i bysgota. Tu ol i'r bwthyn yr oedd y goedwig fawr dywyll. Yr oedd y tri brawd yn adnabod bron yr holl o honi, er mor fawr a thywyll oedd; ac nid oeddynt yn hoffi dim yn fwy na chrwydro drwyddi ar ol yr anifeiliaid gwylltion, ac ni fyddent byth yn dychwelyd i'r bwthyn heb ddwyn rhyw greadur gyda hwynt, yr hwn yr oeddynt wedi ei ladd yn ystod y dydd.

Yr oedd Gwilym a Robert, ynghyda Dafydd, yn meddwl eu bod yn ddynion dewr iawn, ac nad oeddynt yn ofni dim allai eu cyfarfod. Ond er eu holl ddewrder, yr oedd un rhan o'r goedwig na feiddient fyned yn agos ati. Yr oedd y mynediad iddi mor dywyll, mor ddu, fel yr oedd yn edrych fel canol nos pan oedd yr haul yn tywynnu wrth ymyl y bwthyn. Ni wyddai neb beth oedd yn y rhan honno o'r goedwig. Dywedai rhai fod swynwr yn byw yno, mewn plas yn llawn o bob peth dychrynllyd, a bod bwystfilod rheibus yn gwau drwy y coed o amgylch y plas; ac os safech i syllu yn hir, y gwelech eu lygaid tanllyd yn dìsgleirio yn nhywyllwch y coed. Ac ar hanner nos dywedid y gellid clywed eu rhuadau am filldiroedd lawer.

Nid oedd y tri brawd hyn yn ddynion nodedig am eu daioni na'u caredigrwydd. Ond yr oedd y tri yn caru un peth gymaint ag oedd yn eu calon i garu. Yr oedd iddynt un chwaer. Hi oedd yr ieuengaf ohonynt. Bronwen oedd ei henw. Yr oedd ei llygaid fel yr awyr ganol dydd haf, ei gruddiau fel y rhosynau oedd yn tyfu yng ngardd y bwthyn, ei chroen fel yr eira pan newydd ddisgyn, a'i gwallt yn disgleirio fel goleu yr haul. Pe buasai rhywun yn dweyd wrth un o’i thri brawd fod geneth fwy prydferth i’w chael yn y byd yn rhywle, ni fuasent yn ei goelio, na phe buasai yn dweyd fod un yn debyg iddi. Eu Bronwen bach anwyl oedd hi, ac yr oeddynt yn meddwl eu bod yn ei charu yn fwy nag oeddynt yn caru eu hunain. Ac yr oedd hithau yn eu caru hwy yn fawr. Tybiai nad oedd neb mor ddewr, mor gryf a hwy. Pan fyddai y tri wedi myned allan ì'r goedwig i hela, trefnai Bronwen y bwthyn; ac erbyn eu dychweliad yn yr hwyr, byddai pob man yn lân a gloew, a swper yn eu disgwyl ar y bwrdd wrth y tân. Wrth ddynesu at eu cartref chwythai un o'r brodyr ei gorn, a byddai y drws yn agor mewn eiliad, a’r peth cyntaf welai y tri wrth ddod i olwg y bwthyn fyddai Bronwen yn rhedeg i'w cyfarfod, a’i gwallt yn chwifio tu ol iddi fel baner aur.

Yr oedd telyn yn sefyll mewn un gongl o’r bwthyn, a phan fyddai yr helwyr yn eistedd wrth y tân wedi gorffen eu pryd bwyd, tynnai Bronwen hi i ganol y llawr, ac yna eisteddai ar stôl a chwareuai arni hen ganeuon oedd yn anwyl ganddynt i gyd.

Yr oedd un arall yn byw gyda'r tri brawd a’u chwaer Bronwen. Hanner brawd iddynt oedd. Gruffydd oedd ei enw. Os oedd y tri heliwr yn caru eu chwaer Bronwen, yr oeddynt yn casau eu hanner brawd â chas mwy na’u cariad at Fronwen. Nid oedd ganddynt reswm am hyn; ni fyddai Gruffydd yn gwneyd dim i’w digio, ond ceisio eu boddio ymhob modd; ond mwyaf ufudd a gostyngedig fyddai Gruffydd, mwyaf brwnt a chas fyddai y tri wrtho. Yr oedd y tri brawd yn hŷn na Gruffydd lawer o flynyddau. Buasai ef yn hoffi yn fawr gael myned i'r goedwig i hela gyda hwy; ond pan ofynnai iddynt am gael myned, chwarddent am ei ben yn ddirmygus, gan ddweyd,—“Tydi fyned i'r goedwig, nid ydwyt ddigon cryf a dewr, buasai y bwystfilod yn dy lyncu ar unwaith.” A gorchymynent iddo aros gartref i dorri coed a chodi dŵr o'r ffynnon. Nid oedd Gruffydd yn grwgnach gwneyd hyn, ond yr oedd arno eisiau gweld y goedwig, a'i ddymuniad mwyaf oedd cael bwa a chod o saethau fel ei îrodyr.

Er fod Gwilym a'i ddau frawd mor ddirmygus ohono, yr oedd Gruffydd yn caru y tri ac yn eu hedmygu yn fawr. Meddyliai nad oedd dynion tebyg iddynt i’w cael yn unman. Ac am Bronwen, buasai yn rhoddi ei fywyd drosti. Nid oedd hi yn ei ddirmygu ac yn ymddwyn yn angharedig tuag ato. Yr oedd calon Bronwen yn rhy dyner i wneyd hynny, ond gwyddai Gruffydd nad oedd hi ddim yn ei garu fel y carai hi ei brodyr. A pha ryfedd? Yr oeddynt hwy yn dal, yn syth, a chryf, yr oedd eu llygaid yn las a disglair, eu gwallt yn felyn, a’u cerddediad yn rhydd. Yr oedd eu llais yn ddwfn a nerthol. Ac yr ydoedd ef yn fychan ac eiddil, nid oedd yn llawer talach na Bronwen ei hun. Yr oedd wedi edrych yn nwfr gloew y ffynnon, ac yno y gwelai nad oedd iddo wynepryd tebyg i'w frodyr, yr helwyr. Yr oedd ei lygaid yn ddu, ei wallt yn ddu, a'i groen yn dywyll. Na, nid oedd modd i neb garu un fel efe, ac yr oedd calon Gruffydd yn drist.

Rhyw ddiwrnod tra ’roedd y tri brawd allan yn hela, daeth i'w cyfarfod hen wr a baich o briciau ar ei gefn. Pan bron wrth eu hymyl torrodd llinyn y baich, a syrthiodd yr oll o'r priciau ar y llawr. Chwarddodd y tri wrth weled trallod yr hen wr, a phan ofynnodd iddynt ei gynorthwyo i’w casglu at eu gilydd a’u rhwymo drachefn, atebodd un ohonynt yn wawdlyd fod ganddynt rywbeth gwell i’w wneyd nag ymdroi i hel priciau pob hen ddyn a ddigwyddai rwymo ei faich yn rhy lac, ac aethant ar hyd eu ffordd gan chwerthin a dynwared ei dristwch.

Nid oedd y diwrnod hwnnw yn un mor ffortunus i’r tri heliwr, a phan ddaeth y nos bu orfod iddynt droi eu gwynebau tua chartref a’u dwylaw yn weigion. Yr oedd eu tymer braidd yn flin, ac yr oeddynt yn newynog ac yn meddwl am y swper fyddai gan Bronwen i’w croesawu, ac mor felus fyddai gorffwys ar ol eu holl ofer grwydro drwy’r goedwig.

Ond beth oedd eu syndod pan ar ddyfod i olwg y bwthyn i ganfod fod pob ffenestr iddo yn dywyll, y drws yn gauad, a dim golwg ar Fronwen. Erbyn iddynt fyned i fewn i’r bwthyn cawsant yr aelwyd heb wreichionen o dân: ac yn lle y swper cysurus yr oeddynt yn ei ddisgwyl, bwrdd gwag, ac oerni, a thywyllwch.

II. PWY FENTRAI I'R GOEDWIG DDU.

Tra yr oeddynt yn synnu beth oedd yr achos bod y fath gyfnewidiad yn y bwthyn, ac yn ceisio dyfalu pa le yr oedd Bronwen, daeth Gruffydd i fewn; a dechreuodd y tri ei holi. Nid oedd ganddo ddim i ddweyd, ond ei fod wedi bod yn torri coed drwy y dydd ychydig o bellder o'r tŷ; a phan oedd yr haul yn machlud ei fod wedi dyfod a chael yr un olwg ar y lle ag oedd arno yn awr. Yr oedd er hynny wedi bod allan yn ceisio Bronwen yn y goedwig, ond nid oedd wedi cael dim o'i hanes; ac ar ganiad corn Gwilym yr oedd wedi dychwelyd i edrych a oeddynt hwy wedi ei gweled ar eu ffordd gartref. Ac wrth ddiweddu yr oedd llygaid Gruffydd yn llenwi, a'i lais yn crynnu, oherwydd yr oedd yn ofni fod rhyw niwed wedi dìgwydd iddi—bod rhyw fwystfil wedi rhuthro o'r coed a'i lladd.

Pan orffennodd Gruffydd, dechreuodd y tri ei ddwrdio yn enbyd am na buasai wedi gwylio Bronwen yn well. “Ond beth sydd i ddisgwyl,” meddai un, “oddiwrth greadur llwfr fel tydi? Pe buasai rhyw fwystfil yn dod i'w llarpio, ni fuaset yn gwneyd dim ond gwaeddi.” Ac yr oedd gan bob un ei air brwnt, ac yr oeddynt yn dweyd mai arno ef yr oedd yr holl fai yn gorffwys fod Bronwen wedi ei cholli. Ni atebodd Gruffydd yr un gair; ond aeth i geisio cynneu tân ar yr aelwyd, ac yna i wneyd y swper yn barod goreu y gallai, a rhyw niwl yn dod i'w lygaid a rhyw chwydd i'w wddf bob tro yr ai heibio y delyn yn y gongl. Digon aniolchgar yr eisteddodd y tri wrth y bwrdd, a llawer o rwgnach oedd am nad oedd y bwyd wedi ei baratoi mor drefnus ag y byddai Bronwen yn arfer gwneyd. Tra yr oeddynt yn bwyta aeth Gruffydd i gongl dywyll y naill du i'r aelwyd, ac yno yr eisteddodd a'i ben yn pwyso ar y pared. Wedi iddynt orffen eu swper cododd y tri heliwr oddiwrth y bwrdd, a chymerodd un dorch o binwydd, a goleuodd hi wrth y tân ar yr aelwyd; a chymerodd y tri eu bwa a’u saethau, ac yr oeddynt yn cychwyn i'r goedwig drachefn i geisio Bronwen. Wrth eu gweled yn paratoi i fyned allan crefodd Gruffydd am gael myned i’w canlyn, ond atebodd Gwilym ef yn sarrug,—“Ni fyddwn yn hoffi cael cwmni un llwfr. Pe buasai bachgen dewr wedi ei adael gyda Bronwen mae’n debyg y buasai hi yma i'n croesawu ni heno.” Ac aeth y tri allan, gan adael Gruffydd ei hunan yn y bwthyn.

Pan oedd y wawr yn torri dros ben y mynydd mawr tua’r dwyrain, dychwelodd y tri brawd, ond heb Bronwen. Am bedwar diwrnod y ceisiasant hi, a dychwelent bob nos i'r bwthyn i dywallt eu llid ar Ruffydd. Cwynent yn fawr mor anifyr ydoedd heb Bronwen i’w gwneyd yn gysurus, nid oedd neb i ganu’r delyn iddynt pan yn flinedig ar ol crwydro drwy y goedwig. Ond yr oedd Gruffydd heb yr un meddwl am neb ond am Bronwen. Beth oedd wedi digwydd iddi?

Ar y bumed noson ar ol ymadawiad disymwth Bronwen, cafodd y tri brawd freuddwyd. Yr un breuddwyd ddaeth i'r tri. Gwelsant ddynes fechan yn sefyll wrth droed eu gwely. Ni welodd yr un o honynt neb prydferthach. Yr oedd yn fwy prydferth na Bronwen eu chwaer. Sut wisg oedd am dani ni allent ddweyd, ond yr oedd yn disgleirio fel y goleuni fyddent yn weled yn y dwyrain, pan yn cychwyn i hela gyda’r dydd. Yr oedd dwy aden loew ganddi, un ar bob ysgwydd. Ar ei phen yr oedd coron o flodau mor deg ag oeddynt o ddieithr i’r tri. Yn ei llaw yr oedd gwialen arian. Syllodd arnynt am funud, ac yna meddai mewn llais clir,—

“Yr wyf fi yn un o'r tylwyth teg sydd yn hoffi gwylio a chynorthwyo dynion. Prydferth yw fy enw. Yr wyf yn gwybod eich bod wedi colli eich chwaer a dywedaf i chwi pa le y mae, a’r ffordd i chwi ei chyrchu yn ol. Yr ydych yn cofio yr hen ŵr a gyfarfuasoch yn y goedwig y dydd o’r blaen. Gwas oedd i’r swynwr sydd yn byw yn y Goedwig Ddu. Yr ydych yn cofio eich bod wedi gwawdio yr hen ŵr, ac er tâl i chwi am eich ymddygiad angharedig, newidiodd y gwas hwnnw ei hunan i aderyn mor deg, mor brydferth, na welwyd ei debyg yn y wlad yma. Ehedodd o amgylch y bwthyn yma a dechreuodd ganu y gân felusaf a glywodd clust; ac yna daeth Bronwen allan i weled yr aderyn oedd yn canu mor bêr.” Ehedodd yr aderyn o’i blaen gan ei denu ar ei ol i ddyfnderoedd y Goedwig Ddu, ac yno y mae, ym mhlas y swynwr. Ac yn awr ni allaf wneyd dim mwy i chwi na dweyd, os ewch i’w cheisio, pan ddeuwch at borth y plas, y dywedir i chwi pa beth fydd raid i chwi ei wneuthur yn ychwaneg i’w chael o afaelion y swynwr. Yr wyf yn gwneyd hyn am fy mod wedi clywed eich bod yn caru eich chwaer yn fawr. Ond yr wyf yn eich cynghori i beidio gwawdio neb yn y dyfodol, gan na wyddoch beth ddigwydd i chwi am hynny. Mae y ffordd drwy y Goedwig Ddu yn arw a blin, ac yr wyf yn gadael i chwi ffon i’ch cynorthwyo.”

Deffrodd y tri ac adroddasant wrth eu gilydd yr hyn oeddynt wedi weled. Penderfynasant mai brenddwyd heb ystyr iddo oedd; ond pan ddaeth y bore yr oedd wrth wely pob un ffon lwyd.

Nid oedd y tri yn rhyw barod iawn i gychwyn tua'r Goedwig Ddu, er eu bod yn caru Bronwen mor fawr. Yr oedd Gruffydd hefyd wedi cael yr un breuddwyd, a phan ddeffrodd, adroddodd ef i'w frodyr, a pharatodd i gychwyn ar unwaith tua'r lle yr oedd Bronwen wedi ei chaethiwo. Pan welodd ei frodyr hyn dywedasant,—

“Tydi fyned i'r Goedwig Ddu i geisio Bronwen! Gwaith i ddynion dewr fel nyni ydyw hynny. Rhaid i ti aros adref i wylio y ty.”

Gwnaethant eu hunain yn barod. Aethant a'u bwâu cryfaf a'u saethau mwyaf miniog. Ond edrychasant yn bur ddirmygus ar y ffon fechan lwyd oedd Prydferth wedi adael i bob un.

“Pa ddaioni wna hona i ni, nid oes yr un o honom yn gloff, ond dynion cryfion ydym,” meddai Gwilym. A chychwynnasant ar eu taith heb y ffyn.

Ni ddywedodd Grufiydd air pan orchymynnodd ei frodyr iddo aros gartref, ond penderfynodd yn ddistaw y buasai yn cychwyn tua'r Goedwig Ddu ar hyd ffordd arall gan gynted ag y buasent hwy o olwg y bwthyn. Fodd bynnag, ni allodd lwyddo i wneyd hyn, am y rheswm fod un o'r tri wedi troi y goriad yn y drws wedi iddynt fyned allan, ac yr oedd Gruffydd yn garcharor. Eisteddodd i lawr wrth ochr ei wely, a syllodd am amser maith ar y ffon lwyd wrth ei ymyl. Yr oedd yn teimlo yn bur ofidus am fod ei frodyr wedi ei rwystro ì fyned gyda hwy i geisio Bronwen. Fel y syllai o'i flaen yn drist, disgleiriodd rhyw oleu rhyfedd yn yr ystafell. Cododd Gruffydd ei lygad a gwelodd Prydferth yn sefyll o'i flaen.

“Yr wyf wedi gweled dy frodyr yn cychwyn,” meddai, “ac wedi eu clywed yn dirmygu y ffon lwyd, ac am hynny ni lwyddant i ddwyn Bronwen gartref. Dos di i’r Goedwig Ddu, ac ni fydd dy daith yn ofer. Os bydd y ffordd yn galed paid a thorri dy galon. Byddi yn sicr o lwyddo yn y diwedd.”

A diflannodd gyda'r geiriau hyn o olwg Gruffydd. Aeth ef at y drws a cheisiodd ei agor, a gallodd wneyd hynny yn hawdd. Yna trodd yn ei ol a chymerodd y ffon yn ei law, a chychwynnodd tua'r Goedwig heb na bwa na saethau.

III. LLWYBR ENBYD.

Pan ddaeth y tri brawd at y Goedwig Ddu, yr oeddynt mewn petrusder i ba gyfeiriad i gychwyn er mwyn dod at blas y swynwr. Yr oedd Gwilym am gychwyn tua’r de, tra yr oedd y ddau arall am fynd tua’r gogledd. Fel yr oeddynt yn sefyll yn amhenderfynol, safodd Prydferth o’u blaen; a chan gyfeirio ei ffon arian tua’r ddaear, meddai hi,—“Welwch chwi y llinell o bridd coch yna, dilynwch y llinell a deuwch cyn hir at y plas lle y mae Bronwen eich chwaer wedi ei charcharu.”

Edrychodd y brodyr a gwelsant wrth eu traed linell o bridd coch fel gwaed, yr oedd yn rhedeg drwy y glaswellt ac yn disgleirio ar y ddaear ddu. Nid ydoedd yr helwyr erioed o'r blaen wedi gweled pridd o'r fath. Cychwynnodd y tri gyda’r llinell goch i mewn i gysgod tywyll y coed.

Pan ddaeth Gruffydd at gychwyniad y Goedwig Ddu, safodd yntau hefyd yn yr un benbleth oherwydd anwybodaeth pa lwybr i'w ddilyn. Ond yr oedd wedi penderfynu myned yn syth drwyddi nes dod at y plas, pan safodd Prydferth wrth ei ymyl, a rhoddodd yr un cyfarwyddyd iddo ag i'w frodyr.

Wedi i Ruffydd deithio ychydig drwy y coed dechreuodd y ffordd fyned yn galed iawn. Yr oedd y llwybr yn llawn o gerrig miniog, y rhai a dorrent ei draed. Mewn ambell i fan byddai y drain mor ddyrus fel y byddent yn torri ei ddillad nes oeddynt yn hongian yn gudynau am dano. Ond pan fyddai y drain fwyaf creulon, a’r cerrig yn fwyaf miniog, cofiai Gruffydd am eiriau Prydferth y byddai ef yn sicr o lwyddo i ddwyn Bronwen o ddwylaw y swynwr, a chydiai yn dynach yn ei ffon lwyd; a byddai ei ddoluriau yn lliniaru ychydig wrth wneyd hynny.

Pan oedd wedi cerdded tua phum milltir, gwelai dri o ddynion yn sefyll ar ganol y llwybr ychydig o'i flaen, ac wrth graffu arnynt cafodd mai ei frodyr oeddynt, a chiliodd tu ol i lwyn o ddrain wrth ymyl. Clywai Gwilym yn dweyd wrth y ddau arall,—“Ni fedraf fi fyned gam ymhellach, ni fedrwn byth gyrraedd y plas ar hyd ffordd fel hon, yr wyf yn cynnyg ein bod yn troi yn ol.” Ond ni fynnai Robert a Dafydd wneyd hynny, ac aethant hwy yn eu blaen, a throdd Gwilym ei wyneb tua chartref. Syllodd Gruffydd arno wrth iddo fyned heibio i'r llwyn drain lle yr oedd yn ymguddio, a gwelodd fod golwg truenus arno. Yr oedd ei ddillad yn garpiau, gan fel yr oedd y drain wedi eu dryllio, a’i draed yn gwaedu, ac yr oedd ei gerddediad yn anhebyg iawn i fel yr oedd wrth iddo gychwyn yn y bore.

Aeth ddau arall ymlaen, a dilynodd Gruffydd hwy a’r llinell goch o bell. Gwelodd y ddau o'r diwedd yn sefyll i siarad, ac wedi ychydig funudau aeth Dafydd yn ei flaen ei hun, a throdd Robert i fyned yr un ffordd a Gwilym, a gwelodd Gruffydd fod golwg truenus arno yntau fel ar ei frawd. Dilynodd Ddafydd drachefn am beth amser, ond yr oedd y ffordd wedi myned yn mwy garw nag erioed, a gwelodd Gruffydd Ddafydd hefyd yn sefyll ac yn troi yn ol tua'r bwthyn lle yr oedd y ddau arall erbyn hyn, mae'n debyg, wedi cyrraedd.

Ar ol iddo weled y diweddaf yn rhoi y gwaith o geisio Bronwen i fyny, dechreuodd y daith fyned ym fwy garw fyth i Ruffydd. Yr oedd y nos yn agoshau, ac yr oedd y llinell o bridd coch wedi myned yn llinell o dân coch, a disgleiriai o’i flaen gan belled ag y gallai ganfod. Clywai ruadau y bleiddiaid a’r eirth, gwelai eu llygaid yn gwibio trwy y coed, ond ni ddeuent yn agos i’r circle goch. Bob cam oedd yn ei roddi yr oedd ol ei draed yn goch ar y ddaear gan fel oedd y cerrig yn tynnu y gwaed ohonynt.

Wedi iddo ddilyn y llinell o dân drwy y nos, nes torrodd y wawr, cafodd fod y coed wedi myned yn deneuach, a’i fod yn ymyl gwastadedd llydan. Gwelai y llinell goch yn rhedeg ar ei draws, a chychwynnodd ar ei hol, ac fel yr oedd yn teithio cyfododd yr haul a thaflai ei belydrau tanbaid ar y gwastadedd. Llifai y chwys i lawr gwyneb Gruffydd, ac yr oedd bron a llesmeirio oherwydd nad oedd chwa o wynt yn dod o un cyfeiriad i ddofi ychydlg ar y gwres. Yr oedd y ddaear yn dywodlyd, ac yr oedd y teithiwr fel yn cerdded ar dân gan mor boeth oedd y tywod. Nid oedd coeden yn unman, na dim i atal pelydrau yr haul. Yr oedd llygaid Gruffydd wedi syllu cymaint ar y llinell o bridd coch fel yr oedd yn tybied ei fod yn gweled llinell felly ym mhob cyfeiriad yr edrychai, ac ni wyddai weithiau pa un ydoedd y llinell oedd i’w chanlyn. Ond pan fyddai am droi o’r iawn gyfeiriad, byddai y ffon lwyd yn glynu yn dynn yn y ddaear, ac wrth iddo sefyll byddai yn ei dynnu i ymyl y wir linell. Pan ar y gwastadedd sych tywodlyd, daeth syched mawr ar Gruffydd. Edrychai o'i amgylch am ffynnon neu afon; ond ni welai ddim ond tywod, tywod ym mhob man. Yr oedd bron a syrthio, ac yn meddwl na buasai byth yn gallu cyrraedd y palas lle yr oedd Bronwen. Eisteddodd i lawr ar y tywod, ac wrth deimlo fod ei waith yntau hefyd yn ofer, llifai y dagrau heilltion dros ei ruddiau, ac yr oeddynt yn llosgi fel tân. Yr oedd y ffon lwyd wedi syrthio wrth ei ochr; ac wrth iddo ei chodi gan feddwl myned yn ei flaen tra y parhai ei nerth, gwelodd ffrwd fechan loew yn treiglo yn y lle yr oedd y ffon wedi gorwedd. Aeth ar ei liniau wrth ei hochr, ac yfodd gyda mwy o foddhad nag a deimlodd erioed o’r blaen wrth brofi dwfr. Gyda ei fod wedi cael digon, suddodd y ffrwd i’r tywod, ac ni welodd Gruffydd ddim golwg arni wedyn.

Aeth ymlaen wedi hyn yn fwy calonnog, ac yn fuan daeth y nos, a gwelai y llinell o dân fel ar y noson cynt. Gyda gwawr y dydd dilynol, yr oedd yr hin wedi newid yn hollol. Yr oedd efe eto ar ganol gwastadedd mawr; ond yn lle tywod dan ei draed, yr oedd eira gwyn yn gorchuddio bob man. Chwythai y gwynt nes oedd bron a’i daflu i lawr. Curai y cenllysg mawr ar ei ben â chymaint o nerth a min fel yr oedd yn tynnu gwaed o'i ruddiau. Ac fel yr oedd y gwres y dydd blaenorol, felly yr oedd yr oerni yn awr. Safodd Gruffydd am eiliad i gael ei anadl, a phan ar gychwyn drachefn ni fedrai symud ei draed, yr oedd wedi rhewi yn y ddaear. Ni wyddai pa fodd i ddod yn rhydd. Yr oedd yn myned yn fwy dinerth o hyd; syrthiodd y ffon lwyd o’i law rewllyd a disgynnodd wrth ei draed. Ymhen ychydig eiliadau teimlai Gruffydd fod ei draed yn rhydd, a chan godi y ffon bach oedd wedi gwneyd dwy cymwynas mor fawr iddo, cychwynnodd drachefn.

Maith iawn oedd y gwastadedd hwnnw, a gwelai Gruffydd y llinell goch yn ymestyn draw i’r pellder. Yr oedd yn ofni weithiau na chai ef byth weled Bronwen, ond ni feddyliodd unwaith am droi yn ol. Os byddai farw ar y gwastadedd llydan oer, byddai yn sicr o farw o hiraeth am Bronwen pe bai yn gallu cyrraedd y bwthyn hebddi.

Erbyn boreu y trydydd diwrnod o’i daith yr oedd Gruffydd wedi cyrraedd terfyn y gwastadedd. Gwelai yn awr dir coediog, ond nid mor wyllt a thywyll a'r Goedwig Ddu. Gwelai hefyd dyrau plas yn ymgodi drwy y coed; ond rhwng Gruffydd a’r rhan yma yr oedd afon ddu ddofn yn rhedeg yn gryf. Llamai ei thonnau duon yn erbyn yr ochrau caregog. Rhedai y llinell goch ar draws yr afon, ac yr oedd Gruffydd yn meddwl y buasai raid iddo roddi heibio bob gobaith am weled Bronwen, gan nad allai ddychmygu pa fodd i groesi'r dwfr du. Ond tra yr oedd yn digalonni fel hyn clywodd lais Prydferth yn dweyd yn ei glust,—

“Tafl y ffon lwyd ar draws y lli, gwneiff bont i ti groesi at y plas.”

Gwnaeth Gruffydd fel y gorchymynnodd y llais, a gwelodd y ffon yn sefyll uwch y dwfr, a’i dau ben yn gorffwys un ar bob ochr i’r afon. Gwan iawn oedd y bont. Siglai o dan bwysau Gruffydd, ac yr oedd mor gul fel nad oedd arni le iddo bron roddi ei droed. Lluchiai y tonnau llidiog dros ei ben, ac yr oedd yn meddwl mai suddo i ddyfnder yr afon y buasai, ond cyrhaeddodd yr ochr arall o'r diwedd. Arweinia y llinell goch ef i fyny at borth y plas oedd wedi ef weled drwy y coed. A hwnnw oedd y plas rhyfeddaf welodd Gruffydd erioed, yr oedd ei furiau o farmor du, ac yr oedd barrau o ddur gloew ar bob ffenestr. Yr oedd yn fwy tebyg i garchar, a dyna yn wir ydoedd. Curodd Gruffydd wrth y porth, ac agorodd y porth iddo o hono ei hun.

IV. CARIAD BRAWD.

Cafodd Gruffydd ei hun mewn neuadd fawr. Ac yn un cwr yr oedd gorsedd, ac arni ddyn yn eistedd. Ni welodd Gruffydd neb a golwg mor ffyrnig arno.

“Beth wyt yn ei geisio?” gofynnai iddo mewn llais dychrynllyd, a phrin yr oedd gan Ruffydd ddigon o wroldeb i ateb yn grynedig ei fod wedi dod i geisio ei chwaer Bronwen.

“Wedi i mi gael carcharor, ni fyddaf yn ei gollwng yn rhydd heb dâl mawr am wneyd hynny. Onibai am y ffon lwyd sydd yn dy law buaset tithau yn garcharor, ond ni allaf gymeryd neb yn gaeth os bydd ganddynt un o ffyn Prydferth gyda hwy.”

Yr oedd Gruffydd yn methu gwybod beth allai ei roddi i'r swynwr am ollwng Bronwen yn rhydd. Nid oedd ganddo ddim gwerthfawr; yn wir nid oedd ganddo ddim yn y byd. Tra yr oedd yn sefyll ynghanol y neuadd yn ceisio dyfalu beth i wneyd, clywai swn gruddfannau yn esgyn o'r cellau o dan y neuadd, lle ’roedd y carcharorion yn cael eu poenydio yn ol gorchymyn y swynwr; ac yn eu plith yr oedd llais Bronwen yn ocheneidio. Wrth ei weled yn sefyll yn ddistaw heb ddweyd gair dywedodd y swynwr,—

“Yr wyt yn gweled nad oes gennyt ddim y gelli ei roddi am i mi ryddhau dy chwaer, ond y mae un ffordd arall y medri ei phrynnu. Os wyt ti yn foddlon i gymeryd ei lle yn y gell dywyll o dan y neuadd hon, mi a’i gollyngaf hi yn rhydd.” Petrusai Gruffydd ychydig cyn rhoddi ateb, nid am nad oedd yn foddlon i wneyd unrhyw beth dros Bronwen, ond yr oedd yn ceisio dyfalu pa fodd yr ai hi adref ar hyd y gwastadedd llydan a thrwy y Goedwig Ddu. Pwy fuasai yn ei harwain, oherwydd yr oedd y llinell goch wedi diflannu wedi iddo gyrraedd y plas? Tra yr ydoedd yn ceisio penderfynu pa un fyddai y goreu i Bronwen, ai dioddefiadau y gell dywyll ai yr oerni a'r gwres a'r holl flinder oedd o’i blaen cyn y caffai hi weled y bwthyn rhwng y môr a'r goedwig, clywai lais, yr hwn a adnabyddodd fel llais Prydferth yn dweyd,—

“Paid petruso, mi ofalaf fi am ddwyn Bronwen adref yn ddiogel.”

Yna atebodd Gruffydd y swynwr, gan amlygu ei foddlonrwydd i aros yno yn lle Bronwen. Cyn iddo ei gollwng hi o’r carchar trodd y swynwr at Ruffydd gan ddweyd,—

“Mae un peth eto. Pan weli di hi yn gadael y plas, dy adael di yma am byth, bydd raid i ti wenu, neu bydd y cyfan yn ofer, a byddaf yn ei chludo yn ol i’r gell,”

Addawodd Gruffydd y buasai yn ceisio gwenu wrth weled Bronwen yn cychwyn adref. Yna gorchymynnodd y swynwr i’w weision gyrchu Bronwen o’i charchar. A gwelodd Gruffydd hi yn sefyll wrth borth y neuadd. Ond nid oedd hi yn gallu ei weled, oherwydd fod y swynwr wedi dallu ei llygaid am y funud. A gwelodd Gruffydd Prydferth yn sefyll oddi-allan, ac wrth ei hochr yr oedd cerbyd gwyn ar ffurf crogen ac yn disgleirio fel grisial, ac yn ei dynnu yr oedd dau alarch gwyn, a gosododd Prydferth Fronwen i eistedd yn y cerbyd ac eisteddodd hithau wrth ei hochr. Yna lledodd y ddau alarch eu hadenydd claer, ac ehedasant i fyny, i fyny, o olwg Gruffydd, a’r cerbyd yn eu dilyn. A thra yr oedd yn gwylio gwenai ef o hyd, er fod y briw oedd o dan ei fron yn gwaedu yn araf, a’r boen yn gwelwi ei wefusau, a’r chwys oer yn rhedeg i lawr ei dalcen.

V. GWOBR Y DEWR.

Wedi i ddrws y neuadd gau, daeth gweision y swynwr i ymafaelyd yn Grufiydd i’w gludo i’r gell. Ond, pan ddarfu iddynt gyffwrdd âg ef, aethant yn ddiymadferth, a disgynnodd cwsg trwm dros holl drigolion y plas a thros y swynwr hefyd. A safodd Prydferth gerllaw i Ruffydd, ac meddai mewn lais tyner a charedig,—

“Mae dy ofidiau ar ben, yr wyf wedi dy brofi i’r eithaf, a gwelaf dy fod yn caru Bronwen yn fwy na thi dy hun. Yr wyf am dy ddanfon gartref yn awr, a chei fyned yr un modd ag yr aeth Bronwen. Tyred.”

A chydiodd Prydferth yn ei law, ac aeth ag ef allan at y cerbyd grisial, lledodd yr elyrch eu hadenydd, a theimlai Gruffydd y cerbyd yn esgyn esgyn i fyny nes oeddynt ymhell uwchben y plas, ac yn ehedeg yn gyflym uwch y gwastadedd a'r goedwig. Ni safodd yr elyrch nes oeddynt yn disgyn gyferbyn a'r bwthyn. Yr oedd yn fin nos, ac yr oedd goleu tân yn disgleirio drwy y ffenestri. Cyn i Brydferth ymadael âg ef dywedodd wrth Ruffydd,—“Am dy wroldeb a’th serch at Fronwen yr wyf am rhoddi gwobr iti. Beth ydyw y peth yr wyt yn ddymuno fwyaf yn y byd?”

Ni phetrusodd Gruffydd am eiliad cyn yr atebodd,—

“Cael serch fy mrodyr a Bronwen. Mae arnaf eisieu i Fronwen fy ngharu fel y mae hi’n caru Gwilym a Robert a Dafydd,”

“Edrych drwy y ffenestr yma,” meddai Prydferth, “a gwrandaw.”

Edrychodd Gruffydd drwy un o’r ffenestri isel, a gwelai y tri brawd yn eistedd o gylch y tân yn edrych yn drist ryfeddol, a Bronwen yn eu canol, a’r dagrau yn rhedeg i lawr ei gwyneb. A chlywai hi yn dweyd,—“O na fuasai Gruffydd gyda ni. Ond mae ef yn y gell dywell ym mhlas y swynwr; ac er mwyn i mi ddyfod oddiyno y mae ef yno, meddai Prydferth wrthyf.”

“Te,” meddai Gwilym, “yr oedd ef yn fwy dewr na ni. Ac yr wyf yn edifarhau am fy mod wedi ei ddirmygu gymaint pan oedd gyda ni.”

“A ninnau hefyd,” meddai y ddau arall.

Ar hyn diflannodd Prydferth o olwg Gruffydd, ac agorodd yntau ddrws y bwthyn. Ac ni fu mwy o lawenydd yn y bwthyn hwnnw hyd yn oed pan ddaeth Bronwen yn ol. Ac yr oedd heddwch a chariad yn teyrnasu yno.

Pan fyddai y brodyr yn myned allan i hela aent a Gruffydd i’w canlyn; ac ni fu iddynt ef ddirmygu byth am ei fod yn eiddil ei gorff ac yn dywyll ei bryd, oherwydd yr oeddynt yn cofio am y Goedwig Ddu, ac mor ddewr yr oedd Gryffydd wedi ymddwyn, ac mai iddo ef yr oeddynt yn ddyledus am ddychweliad Bronwen i wneyd eu bwthyn yn gysurus fel cynt.

BLODAU ARIAN.

I. HEULWEN A CHWMWL.

YSTALWM iawn, iawn, mewn tref yng ngwlad Rhywle, trigai gŵr cyfoethog. Yr oedd ganddo wraig a thair o ferched, ac yr oeddynt yn byw yn un o dai harddaf y dref.

Cathrin, Elin, a Gwen, oedd enwau y tair chwaer. Yr oedd Cathrin ac Elin yn efeilliaid, ac yn hŷn na Gwen o ddwy flynedd. Ac yr oeddynt yn ddedwydd iawn i gyd yn eu ty gwych. Ond nid oedd yr ieuengaf o’r chwiorydd yn cael ei dedwyddwch yn yr un pethau a’r ddwy arall. Ymhyfrydai Cathrin ac Elin mewn gwisgo eu hunain mewn dillad gwychion a gemau drudfawr, a harddu eu hunain ymhob modd; ac yna elent allan i gyngherddau a chynhulliadau eraill oedd yn cael eu cynnal er mwyn pleseru pobl y dref. Ac yno byddent yn tynnu sylw yr edrychwyr trwy wychder eu dillad, a disgleirdeb eu gemau, a thrwy eu gwallt melynaur a’u llygaid gloew, oedd yr un lliw a’r blodau dyfai ar ochr y ffordd. Ac yr oeddynt yn ymfalchio am fod pawb yn eu hedmygu.

Ond yr oedd Gwen yn wahanol. Nid oedd yn hoff o fyned i’r lleoedd hynny, a theimlai yn anedwydd pan fyddai llawer yn edrych arni. Dywedai y bobl fyddai yn ymgasglu at eu gilydd fel hyn i bleseru eu hunain, mai y ddwy chwaer hynaf oedd y prydferthaf. Ond yr oedd eraill nad aent i’r cwmni yma yn dweyd fod Gwen yn rhagori yn fawr ym mhrydferthwch ei gwynepryd ar Cathrin ac Elin; oherwydd yr oedd ei llygaid yn fwyn fel sêr yr haf, a chyffyrddiad ei dwylaw yn dyner fel y goleuni. Ni wisgai ddillad gwych yn awr, ni roddai em ar ei mynwes ac yn ei gwallt sidanaidd. Ond gwyn a syml fyddai ei gown, a gwisgai rosyn yn ei gwallt fel addurn.

Yr oedd wedi bod yn gwisgo fel ei chwiorydd; ond ryw ddiwrnod yr oedd yn cerdded ar hyd yr heol pan ddaeth i'w chyfarfod blentyn bychan troednoeth, a’i gorff bychan i’w weled drwy y tyllau yn ei ddillad carpiog. Yr oedd yn wylo yn chwerw, a gofynnodd Gwen iddo beth oedd yn ei boeni.

“Isio bwyd sy arna i” oedd yr atebiad, a pharhai i wylo.

Safodd Gwen am ennyd yn syllu ar ben y bachgen carpiog, ac yna trodd ei llygaid ar ei gwisg drudfawr ac ar y gemau oedd yn disgleirio ar ei dwylaw. Wedi sefyll yn synfyfyrio fel hyn am ychydig, cymerodd afael yn llaw y plentyn, ac meddai yn dyner,—

“Dewch hefo fi gartref.”

Wedi cyrraedd y ty rhoddodd fwyd a dillad iddo, ac nid efe oedd y diweddaf iddi gynorthwyo yn y fath fodd; ac er mwyn gallu gwneyd hynny, gwerthodd ei gemau bob un, ac ni phrynnodd ychwaneg o ddillad gwychion.

Yr oedd gardd brydferth yn ymestyn tu ol i dŷ ei thad, er mai yng nghanol y dref yr oedd yn sefyll, a dyna hoff fan Gwen. Yr oedd yn caru y blodau, y coed, y dail, yn caru pob blewyn gwyrdd a dyfai o’r ddaear. Ac yr oedd yn llawenychu yn y wennol fyddai yn nythu dan y tô, ac yn y frongoch oedd a’i nyth yn y goeden afalau; a chan ei bod yn caru y blodau gymaint, treuliai lawer awr yn eu gwylio ac yn eu meithrin, oherwydd nid oes diofalwch mewn cariad, a chludai hwynt yn ei dwylaw i lonni y rhai fyddai yn glaf a diobaith, ac yn byw mewn tlodi ac amhrydferthwch. A dyma y bobl a ddywedent fod Gwen yn rhagori ar ei chwiorydd mewn prydferthwch, oherwydd yr oeddynt yn gwybod natur y llewyrch oedd yn ei llygaid, ac yn adnabod tynerwch ei dwylaw.

Ond daeth cwmwl mawr du dros dŷ gwych y gŵr cyfoethog, a thros yr ardd brydferth lle nythai y frongoch. Collodd y gŵr ei gyfoeth mewn un diwrnod, ac yr oedd raid iddo ef a'i deulu adael eu cartref urddasol, a myned i fyw i fwthyn bach mewn pentref gwledig filltiroedd o ffordd o'r dref. Ond y diwrnod cyn iddynt gychwyn i'w cartref newydd, tarawyd y tad â chlefyd marwol; ac ymhen ychydig ddyddiau yr oedd yn wir wedi ymadael â'i dŷ hardd, ond nid am y bwthyn bach yn y pentref. Yr oedd wedi myned i wlad nad oes neb yn dod yn ol oddiyno; a gorfu i'w wraig a'r tair chwaer fyned hebddo i'w cartref gwledig, a chalonnau trist yn eu mynwesau oherwydd colli un oedd anwyl ganddynt,—pur iawn oedd galar Gwen a'i mam; ond am y ddwy eneth arall, nid marwolaeth eu tad yn unig oedd yn peri i'r dagrau lifo mor chwerw dros eu gruddiau,—na, nid dros eu gruddiau chwaith, achos sychent hwy cyn iddynt dreiglo i lawr, rhag ofn i'w cyffyrddiad hallt wneyd ei ol ar eu gwynebau dirychau. Yr oeddynt yn wylo am golli eu gemau, eu dilladau gwych, am eu bod yn gorfod byw yn y bwthyn bach mewn pentref bychan gwledig, lle nad oedd cyngherddau a chynhulliadau eraill iddynt fyned i ddangos eu harddwch, ac yr oeddynt yn blino eu mam yn feunyddiol â'u grwgnach ac â'u tymer ddrwg am nad oedd ganddi fodd i roddi arian iddynt i gael gynau newydd, ac yr oedd eu grwgnach yn gadael ol ar eu gwynebau yn fwy o lawer na phe buasant yn gadael i'r dagrau lifo drostynt. Ac nid oedd yr un o fewn y pentref fuasai yn dweyd eu bod yn brydferth yn awr, tra y sonient beunydd am brydferthwch ac anwylwch Gwen. A'r dirgelwch oedd hyn,—carai Gwen bawb o'i hamgylch, tra y carai y ddwy arall neb ond eu hunain.

Er bod Gwen yn hiraethu ar ol ei thad, ac yn gofidio am ei bod wedi gadael yr ardd brydferth am byth, eto ymegniai i fod yn galonnog er mwyn cysuro ei mam, yr hon oedd fel yn gwanychu gan ei galar. Ac yn wir cafodd Gwen, er ei bod wedi colli yr ardd, cafodd fod yn y wlad flodau a choed lle y nythai llawer o adar, ac yr oedd hefyd aml i blentyn tlawd. Ond nid oedd gan Gwen yn awr ddim ond geiriau caredig a'i dagrau i roddi iddynt, a charent hi am hyn gymaint ag a wnai y rhai yn y dref, ac yr oedd llawer un claf yn hoffi iddi ei wylio wrth ochr ei wely yn y nos, am fod cyffyrddiad ei llaw fel balm.

Yn y pentref lle y trigai y fam a'i thair merch yn awr, yr oedd hanes rhyfedd yn cael ei adrodd. Dywedid fod yn tyfu yn yr amgylchoedd flodau rhyfedd,—galwent hwy yn flodau arian. Elai yr hwn oedd mor ffodus a chael hyd i rai ohonynt yn gyfoethog tuhwnt i ddychymyg. Yr oedd llawer o geisio wedi bod am y blodau hyn; ond ychydig iawn oedd wedi eu cael. Yr oedd dau neu dri o deuluoedd wedi dod i feddiant o rai ohonynt, a synnai y rhai oedd yn chwilio yn ddibaid ymhob man, ac yn crwydro milltiroedd er mwyn dod o hyd iddynt, mai y rhai hynny na fyddent byth yn gadael eu goruchwylion i'w ceisio oedd wedi eu cael. A mawr oedd yr holi oedd arnynt, ond ysgydwai y rhai ffortunus hyn eu pennau. Nid oedd ganddynt ddim i'w ddweyd am hyn, nid am nad oeddynt yn ewyllysio i'w cymdogion gael yr un daioni, ond am fod y llecyn neu'r man y cawsent hwy wedi diflannu o'u cof ar ol cyrraedd eu cartrefì.

II. YN Y DYFFRYN TYWYLL.

Pan glywodd y ddwy chwaer Cathrin ac Elin yr hanes yma, penderfynasant ar unwaith fynd i geisio y blodau rhyfedd drudfawr hyn, a chychwynasant un bore gyda'u gilydd, yn fwy calonnog nag y gwelwyd hwy ers amser, gan eu bod yn tybio yn sicr y caent y blodau, ac nid oeddynt am ddychwelyd hebddynt. Buasai Gwen hefyd yn hoffi myned i'w ceisio, achos yr oedd yn gweled fod ar ei mam angen am ymborth gwell nag oedd yn gael yn awr.

Yr oedd Gwen yn gweithio aml i ddiwrnod ar y ffermydd wrth ymyl, yn teneuo y rwdins a rhyw oruchwylion eraill fyddent yn arfer roddi i ferched a bechgyn, ond ychydig allai ennill yn y modd yma, a gwariai yr ychydig arian am ryw ddanteithfwyd i'w mam, ond yn awr ni allai wneyd cymaint a hyn, oherwydd, gan bod ei dwy chwaer yn myned oddicartref, ni allai adael ei mam, yr hon oedd yn dal yn glaf am gyhyd o amser. Ceisiodd gan un ohonynt aros, ond ni wnaent; dywedent y byddent yn ol yn fuan gyda'r blodau, ac yna y cawsai eu mam ddigonedd o bob peth at wella.

Ar ol ymadawiad y ddwy chwaer, gwaethygodd y fam gymaint fel y gwelodd Gwen bod raid iddi gael meddyg i'w gweled ar unwaith. Yn y nos y daeth i deimlo hyn. Nid oedd wedi myned i'w gwely, eithr gwyliai wrth ochr ei mam, ac oddeutu deuddeg o'r gloch yr oedd wedi mynd mor wael fel yr ofnai yr eneth, os na chaffai gynorthwy meddyg rhag blaen, na byddai iddi weled toriad diwrnod arall, a phenderfynodd fyned i'w gyrchu yno ar unwaith. Rhedodd i'r ty nesaf, a chafodd gan y wraig ddod i aros gyda'i mam tra yr elai ar ei neges.

Trigai y meddyg mewn tref oddeutu tair milltir o'r pentref,—tair milltir wrth fyned ar hyd y ffordd fawr, ond yr oedd ffordd arall agosach o gryn filltir a hanner. Arweiniai hon i lawr gallt serth, a thrwy nant gul, oedd fel agen rhwng dau fur o graig. Ni fyddai neb yn cymeryd y ffordd hon byd yn oed yn y dydd, gan y dywedid fod ysbrydion gwynebau dychrynllyd i'w gweled yno, ac y gellid clywed eu swn wrth wrando ar ben un o'r ddwy graig. Cofiai Gwen am bob un o'r hanesion hyn, am bob desgrifiad erchyll o'r ysbrydion, ond ni phetrusai pa ffordd i'w chymeryd; buasai cael y meddyg hanner awr yn gynt yn beth mawr yn y cyflwr yr oedd ei mam ynddo. Yr oedd yn dywyll pan gychwynnodd o'r tŷ; ond pan gyrhaeddodd waelod yr allt oedd yn arwain i'r nant gul, cododd y lleuad dros ysgwydd un o'r ddwy graig, a disgleiriodd i mewn i'r agen dywyll. Cychwynnodd Gwen redeg ar hyd y llwybr mwsoglyd, ac yr oedd ei chalon yn curo yn gyflym gan ofn yr ysbrydion. Pan yng nghanol y nant, gwelai o'i blaen, yn gorchuddio y llwybr, wely o flodau gwynion yn disgleirio yng ngoleu gwyn y lloer. Yn ei brys mawr aeth Gwen ychydig gamrau o'i ffordd rhag sathru y blodau oedd mor brydferth yn gwenu arni, yng nghanol y lle anedwydd hwnnw, ac wrth fyned heibio gwyrodd i lawr a thynnodd ddyrnaid, ond heb aros munud. gan feddwl y buasent yn diddanu ei mam â'u gwynder pur. Ni sylwodd Gwen fod pob blodeuyn wedi cau wrth iddi eu tynnu, ond fel y prysurai yn ei blaen, synnai fod cymaint o bwysau ynddynt, a gwyrodd ei llygaid i edrych arnynt, ond yr oedd y lleuad wedi myned tu ol i'r graig arall erbyn hyn, ac ni allai weled dim o'i blaen.

Cyrhaeddodd dŷ y meddyg yn ddiogel, ac heb gymeryd ond ychydig iawn o amser i wneyd hynny, ac wedi aros yno ychydig funudau, cafodd ei chludo ganddo yn ei gerbyd yn ol i dŷ ei mam.

III. DEDWYDDWCH.

Pan aeth Gwen i'r tŷ, rhoddodd y dyrnaid blodau ar fwrdd bychan o'r neìlldu heb edrych arnynt, ac aeth a'r meddyg i fyny y grisiau i ystafell ei mam. O dan ei driniaeth fedrus lliniarodd poenau y wraig glaf, ac erbyn y boreu yr oedd wedi syrthio i gwsg tawel; a phan ddeffrodd yn hwyr y dydd canlynol, yr oedd ei chlefyd wedi troi, a dywedodd y meddyg y byddai iddi wella yn fuan. Wrth drefnu yr ystafell ychydig ddyddiau ar ol hyn, cofiodd Gwen am y blodau hynny oedd wedi dynnu yn y nant, ac aeth at y bwrdd bychan i'w ceisio gan ofidio ei bod wedi anghofio eu rhoddi mewn dwfr, ac ofnai y byddent wedi gwywo cymaint na fuasai modd eu hadferyd. Ond beth oedd ei syndod pan y gwelodd hwynt yn disgleirio o'i blaen mor brydferth ag erioed; ond wrth iddi eu codi yn ei llaw, disgynnodd pob dalen oddiwrth eu gilydd, a syrthiasant yn gawod dew ar y bwrdd gyda swn rhyfedd, a daliai Gwen swpyn o goesau sychion yn ei llaw. Cyfeiriodd ei llygaid oddiwrth y rhai hyn at y dalennau oedd wedi weled yn disgyn oddi arnynt, ac er mwy o syndod fyth iddi gwelai bentyrrau o arian, a deallodd mai y blodau arian oedd wedi dynnu mor ddifater. Ni arhosodd i'w cyfrif, ond rhedodd i fyny i ddweyd wrth ei mam, a'u dangos iddi. Ond pan ofynnodd honno iddi ym mha le yr oedd wedi eu cael ni allai ddweyd dim ond mai o'r blodau arian y daethant.

Ni fu ei mam yn hir heb wella ar ol hyn, gan ei bod yn gallu prynnu bwydydd nerthol a phob anghenrhaid â'r arian; ac yna aeth hi a Gwen yn ol i'w hen dŷ yn y dref, ac unwaith eto cafodd Gwen rodio drwy lwybrau yr ardd a gwrando ar y frongoch oedd a'i nyth yn y goeden afalau, a meddyliai fod y blodau yno yn brydferthach na'r blodau oedd yn y wlad, an chân y robin yn felusach na'r un glywodd wrth ymyl y bwthyn. Ond ni fu iddynt adael y pentref heb aros peth amser gan ddisgwyl y deuai Cathrin ac Elin yn ol. Ni ddaethant, fodd bynnag, y pryd hynny; a gadawodd y ddwy y lle gan erfyn ar wraig y tŷ nesaf ddweyd wrthynt lle yr oedd eu mam a'u chwaer wedi myned os byth y deuent at ddrws y bwthyn.

Aeth yr amser heibio yn ddedwydd i Gwen a'i mam yn yr hen gartref. Gwyliai Gwen ei blodau yn yr ardd, ac hefyd yr oedd ganddi ei hen ddedwyddwch o allu cynorthwyo eraill.

Un boreu yr oedd yn sefyll wrth borth yr ardd, a gwelodd ddwy ddynes a'u pwys âr y clawdd wrth ymyl. Yr oedd eu gwedd yn hagr, a'u gwisg yn garpiog. Yr oedd yr esgidiau am eu traed yn dyllau, ac nid oedd ganddynt unrhyw orchudd ar eu pennau rhag gwres yr haul neu erwinder y gwlaw. Agorodd Gwen y porth, a gofynnodd iddynt ddod i mewn gan feddwl eu cynorthwyo yn eu hangen; ond beth oedd ei syndod pan aeth i'w hymyl, ac y clywodd eu llais, i ganfod mai ei chwiorydd Cathrin ac Elin oeddynt, a chymaint a'i syndod oedd ei llawenydd, oherwydd yr oedd yn gofidio yn aml na fuasent yn gallu mwynhau cyfoeth y blodau arian gyda hi a'i mam. Ac felly yr oedd ei chroesaw yn gynnes, ond yn cael ei derbyn gyda dagrau gan y ddwy chwaer. Ac o hynny allan yr oedd pawb yn hapus yn y ty hwnnw, a'r un ffordd y gymerent i fod felly i gyd.

Yr oedd yr ofer chwilio ymhlith blinderau y byd, a'r croesau yr oeddynt wedi gyfarfod ar y ffordd, wedi newid tymer y ddwy chwaer, a chyda gostyngeiddrwydd a diolchgarwch y dilynent Gwen ar hyd llwybrau addfwynder a charedigrwydd at eraill, a chawsant felly lawenydd newydd, yr hwn a ddisgleiriai ar eu gwynebau, gan eu gwneyd yn brydferthach nag erioed.

FY FFROG NEWYDD.

’RYDYCH chwi, y bobol fawr ’ma,
Yn meddwl oll i gyd
Nad oes i ni, y plant ’ma, ddim
I'n blino yn y byd;
Ond os gwrandewch am funud bach,
Danghosaf i chwi’n glir
Mai camgymeriad mawr yw hyn
O’ch eiddo chwi yn wir.

I ddechreu ar fy ’stori, wel,
Rhyw ddiwrnod aeth fy mam
I'r dref—hen le anifyr iawn,
Mi ddwedaf i chwi pam;
A phrynnodd yno yn Siop y Groes
Ffrog newydd spon i mi,—
Un las a rhesi coch a gwyn—
“Ffrog oreu” chwedl hi.

A ffrog fel hon ’rwyf bron yn siwr
Erioed ni welsoch chwi;
’Roedd ar ei llewys bwffin mawr, a
Ac yn ei godre hi
’Roedd bwcram wedi ’i wnio fel
Y safai bron yn syth;
Er hynny waeth gen i yn wir
’D awn heb ei gweled byth.

Oes arnoch eisio gwybod pam?
Wel ’rhoswch dipyn bach,—
Medd Bob fy mrawd,—“O'r anwyl, Nel,
Mae’th ffrog di fel hen sach,
Ni chei di ddwad hefo fi
I weled nyth y dryw,
Dychrynna’r cywion bach i gyd
Wrth glywed ffasiwn siw.”


Fy nhad a ofnai ’i maeddu ’n fawr
Pan ’steddwn ar ei lin,
Ac meddai,—“Prin yr oeddwn yn
Dy nabod di, fy mun;”
A mam a waeddai,—“Gwylia’th ffrog!”
Ac hyd ’n oed Pero'r ci
Edrychai â chil ei lygaid fel
Pe yn fy ameu i.

Ac felly chwi ddeallwch pam
Yr wyf yn dwedyd hyn—
Fod well gen fi fy hen ffrog stwff
A'm brat o lian gwyn;
Canys ynddynt caf fi redeg ras
A Pero i lawr y rhiw,
A myned hefo Bob fy mrawd
I weled nyth y dryw.


Y MARCHOG GLAS.

I. MERCH Y BRENIN.

YR oedd brenin unwaith a chanddo un ferch, a'i henw Gwawr. Ac yr oedd fel ei henw. A bu ei mam farw, ac yna yr oedd y dyddiau yn hir ac unig i blentyn y brenin yng nghastell caerog ei thad, a chysgod nos a lechai yn ei llygaid yn lle goleuni y boreu.

Un diwrnod aeth y brenin allan i ryfel â brenin arall, a phan ddaeth yn ei ol yn orchfygwr, yr oedd gydag ef fachgen a'i lygaid fel y dwfr dwfn oedd o amgylch y castell, a'i wallt yn troelli'n ddu ar ei ysgwyddau; ac ni wyddai neb pwy ydoedd. Y milwyr a'i cawsant yn crwydro hyd faes y frwydr yn wylo yn chwerw, a dywedai rhai mai mab y brenin gorchfygedig ydoedd. Holodd tad Gwawr ef, ond atebai'r bachgen mewn iaith ddieithr, a pharhaodd i wylo ar hyd y ffordd i'r castell. Yr oedd Gwawr yn sefyll yn y porth yn disgwyl ei thad, a phan welodd y bachgen hi, peidiodd ei ddagrau a llifo, a daeth cysur iddo. A chan na wyddent ei enw yn y castell galwasant ef Gwych. Ac o'r dydd hwnnw nid oedd y dyddiau mwyach yn hir i Wawr, nid oedd hi chwaith yn unig, a'r cysgod a giliodd o'i llygaid, a goleuni'r bore ddaeth yn ol. A dysgodd Gwych y geiriau siaradai merch y brenin, ac anghofiodd bron yr oll o eiriau ei iaith ei hun. Ac yr oedd yn y castell hen delynor, yr hwn a chwareuai i’r brenin y cerddi a hoffai. Weithiau chwareuai yn fwyn a thyner, gerddi am yr adar a'r blodau a cherddi serch, a gwenai y brenin. Tro arall tarawai'r tannau â llaw gref, a chlywid bloedd y gâd, yn y nodau, a thaniai llygaid ei feistr, ond yr oedd y telynor yn hen iawn, ac yn fwy mynych byddai ei gerdd yn cwynfan am y milwyr, yr arwyr oedd wedi syrthio ar faes y frwydr; ac fel y cofiai y brenin am ei farchogion dewr oeddynt a'u breichiau yn ddinerth yn lonyddwch angau, deuai prudd-der i'w lygaid wrth wrandaw y tannau hiraethus yn wylo. A charai yr hen delynor y ddau blentyn Gwych a Gwawr, a dysgodd i Wych pa fodd i dynnu'r mwynder o'i hen delyn, ac ymhen amser daeth y bachgen i chwareu mor felus a'r telynor. Ac yna y bu farw yr hen wr a gwnaeth y brenin Wych yn delynor yn ei le. A Gwawr oedd y brydferthaf yn y wlad, a soniai pawb am ei thegwch. Canai y beirdd iddi eu cerddi mwynaf, ond gwell oedd gan ferch y brenin glywed swn y tannau pan chwareuai Gwych, telynor ei thad, arnynt.

Ac i lys y brenin deuai marchogion dewraf y byd, ac yr oedd pob un o honynt yn deisyf cael Gwawr yn wraig iddo ei hun. A Gwych a edrychai arnynt fel y llanwent y neuadd, a meddyliai ynddo ei hun y byddai un o honynt yn myned a merch y brenin gydag ef i ffwrdd i'w wlad ei hun ryw ddydd; ac O! fel y cwynai y delyn wrth i'r telynor feddwl mor ddu ac oer fyddai y castell heb oleuni ei phrydferthwch; ac O! na fuasai ef ei hun yn farchog, yn gwisgo arfau gloew, ac yspardynau aur, ac yna feallai — ond diweddai ei gerdd mewn cri gwylofus. nid oedd ond telynor y brenin.

Un diwrnod, ni chlywid swn y tannau yn neuadd y castell. Yr oedd y delyn yno, ond yr oedd y telynor wedi mynd; ac ni wyddai neb y ffordd a gymerodd. Ac yna cysgod nos a ddaeth i lygaid merch y brenin, cysgod trymach na'r un orweddai ynddynt pan safai ym mhorth y castell pan yn blentyn, ac y gwelodd Gwych am y tro cyntaf. Ac nid oedd mwyach fel ei henw, a Gwawr a gludodd y delyn i'w hystafell ei hun, ac a'i gosododd wrth ei ffenestr, a phan ddisgynnai'r hwyr yn ysgafn dros y dyffryn islaw, safai a'i phen yn pwyso ar y delyn, yn gwylied y porth, ac fel yr elai y nos yn dduach disgynnai y dagrau i lawr yn araf hyd y tannau. — Gwyliai'r porth pan fyddai'r wawr yn torri, a phan fyddai'r hwyr yn cau am y wlad, ond ni ddeuai'r un a ddisgwyliai drwyddi, ac ni chlywid mwy swn y delyn yn y castell, eithr yr oedd yn fud, a'i thannau wedi eu rhydu gan y dagrau a ollyngai Gwawr merch y brenin arnynt.

Ac felly yr aeth y dyddiau heibio, a deuai y marchogion o hyd i ymofyn Gwawr yn wraig, ac yn eu plith un diwrnod daeth marchog a'i wisg yn harddach, a'i arfau yn fwy disglair ac yn fwy ysplenydd na'r un. Mantell o felfed glâs oedd dros ei ysgwyddau, ac uwch ei helm gloew y chwifiai pluen lâs. Ar gefn march gwyn y daeth, a glâs oedd y cyfrwy a'r ffrwyn, ac arian yn eu haddurno, a'r genfa a'r ddwy werthol oedd o arian. A galwasant y marchog hwnnw y Marchog Glâs. A Gwawr a'i gwelodd ef yn dod drwy borth y castell gyda'r hwyr, fel y safai yn gwylio a'i phen yn pwyso ar delyn Gwych y telynor.

O'r amser yma penderfynodd y brenin fod yn bryd i'w ferch Gwawr briodi, ac ni wyddai i ba un o'r marchogion y byddai oreu iddo ei rhoddi, gan eì fod yn frenin doeth, ac yn gwybod bod mai nid wrth yr olwg allanol y mae adnabod dyn, a bod gwisg hardd a gwyneb teg yn aml yn cuddio calon ddu. A gwnaeth amod â'r oll o honynt, eu bod i fyned allan i'r byd am ddeuddeng mis, a'r un gyflawnai y weithred ddewraf yn ystod yr amser hwnnw oedd i fod yn wr i'w ferch. Gwawr ei hun oedd i farnu, ar y dydd y deuent yn ol, pa un oedd y weithred deilyngaf.

Yna yr aeth y marchogion allan o lys y brenin, allan o wyddfod prydferthwch Gwawr, a chyda hwynt elai'r Marchog Glâs, yr hwn nad oedd neb wedi gweled ei wyneb, oherwydd nid oedd wedi diosg ei helm drwy yr amser y bu yn y castell.

II. GWIR WRHYDRI.

Ac ymhen y flwyddyn daeth y marchogion yn ol. Ac ar y diwrnod hwnnw eisteddai Gwawr wrth ochr ei thad i wrandaw yr hyn yr oeddynt wedi wneyd yn ystod y deuddeng mis, ac i farnu pa un o honynt oedd wedi cyflawni'r weithred fwyaf teilwng. A'r naill ar ol y llall daeth pob marchog o'i blaen, gan adrodd y gwrhydri yr oedd wedi ei wneyd. Yr oedd un wedi bod ymhlith rhai yn gwarchae ar ddinas gaerog, ac efe oedd y cyntaf i ddringo ei muriau, ac i blannu baner ei fyddin ar ei thŵr. Yr oedd un arall wedi bod mewn ymdrech â phump o wŷr ar unwaith, ac wedi eu lladd â'i gledd ei hun. Yr oedd un arall wedi marchog drwy wlad y gelyn yn ddiofn yng ngoleuni dydd. Ac felly yr aethant ymlaen nes oedd y marchogion i gyd ond un wedi dweyd ei hanes, a'r un hwnnw oedd y Marchog Glâs. Safai ymhen draw y neuadd, a'i ben yn pwyso ar ei fynwes. Yr oedd golwg prudd arno, ac edrychai'n flinderus, ac fel pe wedi dod o bell ffordd. Yn ddistaw y safai, ac wedi i'r llu marchogion orffen, ni chynhygiodd ddweyd gair. Wedi disgwyl ychydig, gofynnodd y brenin oedd ganddo ef ddim gweithred ddewr i ddweyd am dani; ond ysgydwodd ei ben, ac meddai, — “Nac oes un gwerth ei chrybwyll.”

Yna trodd y brenin at Gwawr gan ddweyd, — “Yn awr fy merch Gwawr, barna di pa un o'r dewrion hyn sydd wedi cyflawni'r weithred deilyngaf.” A thrist iawn ydoedd merch y brenin; oherwydd yr oedd yn meddwl am Wych, telynor ei thad, ac ni welai yr un o'r marchogion mor deg a gwrol ag oedd ef, ac nid oedd yn chwennych priodi yr un o honynt. Ond yn y dyddiau hynny rhaid oedd i bob merch ufuddhau i orchymyn ei thad, ac felly Gwawr. Ond cyn y gallai ddweyd pa un o'r marchogion oedd wedi gweithredu yn fwyaf teilwng, daeth gŵr ymlaen o ganol y dorf oedd yn gwrando ymhen isa'r neuadd, ac meddai mewn llais uchel, —

“Mae gennyf fi air i ddweyd wrth y dywysoges Gwawr o blaid y Marchog Glâs. Un noswaith ar ol brwydr galed gorweddai milwr ar faes y frwydr wedi ei glwyfo yn dost, a daeth nifer o farchogion heibio yn dilyn ar ol y gelyn. Gyrasant eu meirch heibio, ac ambell un yn carlamu dros y milwr clwyfus, heb wrandaw ei gri am gymorth. Ond trodd un o'r rheng, a chan ddisgyn oddiar ei farch gwyn, cododd y milwr yn ei freichiau, gan ei ddodi ar gefn ei anifail, ac aeth ag ef i lety, ac yno y gweinyddodd arno am ddyddiau lawer, gan anghofio yr anrhydedd yr oedd y marchogion ereill yn ennill wrth ddilyn yr ymdrech. Y Marchog Glâs oedd yr un hwnnw wnaeth y cariadwaith hwn, ac yr wyf yn gofyn i ti, O Wawr, merch ein brenin, onid ydyw y weithred hon yn fwy teilwng na'r un sydd wedi ei hadrodd o dy flaen?” A thawodd y gŵr yng nghanol distawrwydd dwfn, a syllai pob llygad ar y Marchog Glâs. Trodd y brenin at Wawr, ond cyn y gallai yngan gair, daeth hen wr ymlaen a'i war wedi crymu, a'i farf wen yn disgyn ar ei fynwes, ac mewn llais crynedig deisyfodd ar y brenin adael iddo ddweyd ychydig eiriau. Wedi cael caniatad meddai,—

“Un diwrnod yr oeddwn yn teithio yn flinderus ac yn llesg ar hyd y ffordd a fy maich ar fy nghefn, a gwelwn farchog ar farch gwyn yn dod fy nghyfarfod. Ciliais o'r ffordd er mwyn iddo fyned heibio heb wneyd niwed i mi, ond safodd y march wrth fy ymyl, ac wedi siarad ychydig â mi, disgynnodd ei feistr i'r llawr, a chan godi fy maich oddiar fy nghefn dododd ef ar ei farch, a dywedodd wrthyf am esgyn i'w le, ei fod yn ei roddi at fy ngwasanaeth, ac yna aeth ymaith heb aros i dderbyn fy niolch, a mae'r march wedi bod o gymorth mawr i mi ddwyn fy meichiau hyd y ffordd unig. Dacw'r marchog wnaeth hynny,” gan estyn ei law grynedig at y Marchog Glâs. “Ac O ferch y brenin, beth feddyli di o'r weithred hon?”

Unwaith eto ataliwyd Gwawr rhag ateb drwy i wr arall ddod ymlaen â chrefu am ryddid i siarad. “ Yr oedd gŵr,” meddai, “a chanddo ddau blentyn, ac yr oeddynt yn amddifad o bob perthynas arall ond un ewythr a drigai mewn gwlad bell; a bu farw tad y plant, a chyn tynnu ei anadl olaf dywedodd wrth y ddau blentyn am geisio myned at ei frawd, eu hewythr. Ac yr oedd taith o agos i bedwar mis i'r wlad lle yr oedd ef yn byw, a chychwynnodd y ddau allan yn unig, heb wybod yn iawn pa ffordd i gymeryd. A'r diwrnod cyntaf o'u taith, fel yr oedd yn nosi, a hwythau wedi eistedd wrth ochr y clawdd yn teimlo'n ofnus ac yn wylo, daeth marchog heibio iddynt, ac wedi eu holi, danfonodd hwynt yr holl ffordd i dŷ eu hewythr, gan eu gwarchod a'u hamddiffyn yn gariadus ar hyd y ffordd. Ac yn awr saif y marchog hwnnw yn y fan acw,” a chyfeiriodd ei law at yr un a'r bluen lâs yn plygu uwch ei helm. “Gwyddai fy meistr, ewythr y plant amddifad, yr hyn oedd i gymeryd lle heddyw, a danfonodd fi ar ol eu cynorthwywr i ddweyd yr hanes hwn er ei glod, gan y gwyddai na fyddai yn hysbys trwy ffordd arall, gan fod y marchog yn gwadu iddo wneyd ond hynny oedd yn ddyledus arno fel dyn. Ac yr wyf finnau hefyd yn gofyn, — Onid wyt ti'n tybied mai hon ydyw'r weithred deilyngaf sydd wedi ei hadrodd heddyw?”

Yna y llefodd y dorf enw y Marchog Glâs, a chododd Gwawr merch y brenin ar ei thraed, a distawodd y lleisiau, yna dywedodd,

“Yr wyf finnau o'r un farm a chwi, O wŷr fy nhad, mai yr hyn a gyflawnodd y Marchog Glâs sydd fwyaf teilwng o anrhydedd. Mewn hunanaberth y mae gwir ddewrder; a thithau, yr hwn y geilw dynion y Marchog Glâs, dynesa a diosg dy helm.”

Ac eisteddodd merch y brenin wrth ochr ei thad drachefn; a daeth y Marchog Glâs ymlaen, a phan gyferbyn a'r orsedd diosgodd ei helm a'r miswrn oedd yn cuddio ei wedd, a'i wyneb oedd gwyneb Gwych, telynor y brenin gynt. Yna y cododd Gwawr drachefn a'i gwisg yn disgleirio o'i hamgylch, ond mwy oedd disgleirdeb prydferthwch ei gwyneb, a chiliodd y cysgod o'i llygaid, a rhoddodd ei llaw yn llaw yr un oedd wedi hiraethu am dano cyhyd, ac meddai, a'i llais yn canu drwy y neuadd,— “Croesaw, croesaw i ti, O Wych.”

Ond yr oedd mwy yn edrychiad ei llygaid ac yng nghyffyrddiad ei llaw nag yn y geiriau hyn.

Yna y dywedodd Gwych ei fod ar ei deithiau wedi dod o hyd i wybodaeth oedd yn profi mai ef yn wir oedd mab y brenin hwnnw orchfygwyd gan dad Gwawr, yn yr amser gynt, pan ddaeth i'r castell gyntaf. A phan wybu fad Gwawr hyn rhoddodd i Wych deyrnas ei dad, a theyrnasodd ef a Gwawr arni yn gyfiawn, ac yn eu plas yr oedd y delyn. Ond ni ddisgynnodd dagrau hyd ei thannau mwy, ac nid oedd rhwd i'w ganfod hyd-ddynt.

HEN FERCH.

I

“BARBARA, Barbara, paid a thorri fy nghalon â’th ffolineb. Caiff Magdalen fyw hefo ni, a chei ofalu am dani fel yr wyt ti’n gwneyd yrwan.”

Ysgydwodd Barbara ei phen.

“Nid fel ’rydw i’n gwneyd yrwan fyddai hi, Huw. Y peth diweddaf ddwedodd fy mam wrtha i cyn marw oedd,—‘Paid byth a gadael Magdalen, Barbara! Mi wneis innau addaw y cai hi fod fy ngofal cynta. Ac wel di, Huw, mi fyddwn yn torri fy ngair i fy mam wrth wneyd yr hyn wyt ti yn ofyn i mi.”

“Ie, ond Barbara, wyt ti yn meddwl pe buasai dy fam yn gwybod sut mae hi rhyngom ni, y buasai hi yn gofyn hyn i ti? ’Twyt ti ddim yn meddwl y buasai yn dda ganddi dy roi di a Magdalen yn fy ngofal i?”

“Dwn i ddim, Huw,” meddai ag ochenaid, “’rydw i yn meddwl mai fy nyledswydd ydyw aros hefo Magdalen.”

“Dyledswydd wir! 'rwyt yn ddigon a gwylltio undyn. Son am reswm merch; ’rydw i'n ei brofi ’rwan beth bynnag. Yr oeddwn yn meddwl dy fod yn fy ngharu, ond gwelaf nad wyt ti ddim. O leiaf, yr wyt yn caru dy chwaer yn fwy.”

Edrychodd Barbara arno fel y safai o’i flaen yn dal a syth, pelydrau diweddaf y gorllewin yn tywynnu ar ei wyneb, syllodd yn ei lygaid oedd yn edrych arni mor ymbilgar. Ddim yn ei garu! A garodd ferch wr erioed fel y carai hi Huw? Nid oedd yn meddwl, Onid oedd ganddo ryw syniad mor galed oedd iddi hi ei anfon oddiwrthi, a throi ei gwyneb oddiwrth serch, oddiwrth ddedwyddwch, er mwyn cadw ei gair i’w mham, a gwneyd yr hyn y teimlai oedd yn iawn? Suddai ei eiriau i’w chalon, fel pe bai bob un o ddur miniog, ond tyner iawn yr atebai,

“Nid cwestiwn o garu mwy neu garu llai sydd yma, Huw. Ond yr ydw i wedi addaw.”

“Ac felly, mae pob peth ar ben rhyngom ni?”

Plygodd Barbara ei phen, ac ni welodd Huw y dagrau oedd ym llenwi ei llygaid. Trodd ar ei sawdl heb air yn ychwaneg, a gadawodd hi yn sefyll a’i phwys ar lidiart yr ardd, yn syllu arno yn brasgamu oddiwrthi, heb unwaith droi ei ben yn ol; a phan aeth o’i golwg heibio troad yn y llwybr, teimlai fel pe buasai darn o’i bywyd wedi myned gydag ef. Clywai chwibaniad y gwylanod yn dod o gyfeiriad y môr; nid oedd wedi sylwi o’r blaen mor wylofus oedd y cri: disgynnai ar ei chlust fel clul prudd, o ffarwel, ffarwel i bob gobaith, i’r holl freuddwydion euraidd. Torrwyd ar ei meddyliau hiraethus gan lais gwan plentyn yn galw,—“Barbara, Barbara.” Sychodd Barbara y dagrau oedd ar ei gruddiau,—nid oedd wiw gadael i Fagdalen weled ei bod wedi bod yn crio,—a phrysurodd i’r tŷ.

“O mi ’rydw i wedi blino, Barbara, lle buost ti mor hir? Mae Dot hefyd wedi rhedeg allan.” Gorweddai plentyn ar soffa wrth ymyl y ffenestr; gwyneb bach gwyn iawn a godwyd oddiar y glustog i gyfarch Barbara. Wrth ochr y soffa yr oedd dwy faglen, a dywedent yn ddistaw ei hanes bach i gyd. Yr oedd Magdalen yn gloff. Nid allai symud heb gynorthwy y baglau, ac yn ddigon poenus felly, a’r oll o achos diofalwch morwyn yn gadael iddi syrthio pan yn fabi. “Pawb wedi dy adael di? Wel, dyma fi wedi dod yn ol,” meddai Barbara, gan fyned ar ei gliniau wrth ochr y soffa. Rhoddodd ei breichiau am Magdalen, a gosododd y pen bach blinedig i orffwys ar ei hysgwydd, yn y dull yr oedd hi yn ei hoffi. Estynnodd Magdalen ei llaw a thynnodd hi yn esmwyth hyd wyneb ei chwaer. “Mae hi yn anifyr iawn hebot ti, Barbara,” meddai.

Teimlai Barbara ryw esmwythdra yn dod trosti o dan gyffyrddiad y llaw fach deneu, a cheisiodd ddifyrru Magdalen nes y daeth yn amser iddi ei chario i’w gwely. Arhosodd wrth ei hochr nes oedd hi wedi cysgu, ac yna diffoddodd y ganwyll a chododd len y ffenestr. Yr oedd y lleuad yn tywynnu’n ddisglair, a thaflai ei phelydrau ariannaidd i mewn i'r ystafell. Draw yn y pellter gwelai Barbara oleu yn un o ffenestri Pen y Bryn, a gwyddai fod Huw yn parotoi i fyned i ffwrdd hefo’r tren boreu, yn ol i’r dref fawr Seisonig lle y dilynai ei orchwyl fel clerc mewn masnachdy. Dechreuodd y frwydr drachefn yn ei chalon. Yr edd yn tybied ei bod wedi rhoddi terfyn arni y prydnawn, ond wele’r hen ddadl yn codi eto. Oedd hi yn gwneyd yn iawn yn ei anfon oddiwrthi fel y gwnaeth? Onid oedd yn cario ei syniad o ddyledswydd yn rhy bell?

Cerddai yn ol a blaen rhwng y gwely a’r ffenestr, yn awr gwelai y goleu yn fflachio yn eglur o ffenestr Pen y Bryn, yna disgynnai ei llygaid ar y gwyneb bychan ar y gobennydd, yn ddisglair wyn yng ngoleu y lleuad. Yr oedd ei chalon yn cael ei thynnu ddwy ffordd. Oedd raid iddi roddi ei bywyd i gyd? Er bod Huw wedi ei gadael fel y gwnaeth, gwyddai nad oedd eisieu iddi ond anfon gair ato nag y deuai yn ol. Ond gaiff hi anfon y gair hwnnw?

Pwysodd ei thalcen ar y gwydr oer. O na chai ryw sicrwydd pa beth oedd yn iawn! O hyd disgleiriai y goleu’n glir drwy y ffenestr; disgynnai ar y bwrdd wrth ei hochr; gwibiai ar hyd y llyfrau arno, fflachiai ar ymylon aur ei Beibl. Cofiodd Barbara am hen gyfaill i’w mham, yr hon a arferai pan mewn rhyw amheuaeth ynghylch ei dyledswydd agor ei Beibl, a’r geiriau y disgynnai ei llygaid arnynt gyntaf fyddent i roddi terfyn ar y ddadl. Llawer gwaith y bu, Barbara yn gwenu wrth ei gweled yn defnyddio y moddion “hen ffasiwn;” a gwenai yn awr at ei phlentynrwydd ei hun tra y goleuai y ganwyll ac yr agorai y llyfr. Ciliodd y wên ac aeth rhyw arswyd drwyddi pan ddisgynnodd ei llygaid ar y geiriau,—“Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ol, yn gymwys i deyrnas Dduw.” Ai damwain oedd? Ni fynnai Barbara gredu hynny. Yr oeddynt fel atebiad i’w holl erfyniadau am arweiniad. Onid oedd hi yn edrych yn ol wedi dechreu ar ei gwaith? Yr oedd ganddi un peth i’w wneyd eto. Tynnodd agoriad o'i phoced, ac agorodd flwch bychan oedd ym sefyll ar y bwrdd. Tynnodd allan y trysorau oedd ynddo. Trysorau! Rhosyn wedi gwywo oedd un. Gwyddai ar ba bren yr oedd wedi tyfu wrth ochr drws Pen y Bryn. Yr oedd yn cofio Huw yn ei roddi iddi. Yr oedd hynny ers talwm iawn, cyn iddo fynd i Loegr, pan oedd ei serch heb fyned ymhellach nag edrychiad. Wrth ei ochr yr oedd sprigyn o “hen wr,” hwnnw hefyd yn sych a chrin. A’r trysor olaf oedd darlun. Feallai nad oedd yn ddarlun hardd iawn, nad oedd y gwynepryd yn brydferth. Buasai ambell un yn dweyd, hwyrach, nad oedd y talcen ddigon uchel, un arall nad oedd y trwyn yn ddigon ffurfiol i ateb i ddeddfau prydferthwch dynol; ond i Farbara—i Farbara Huw oedd efe, nid oedd diffyg ynddo o gwbl. Fodd bynnag nid arhosodd i syllu ar y darlun yn awr, ond gan ei gymeryd ym un llaw gyda'r rhosyn a'r hen wr, cymerodd y ganwyll yn y llall ac aeth i lawr y grisiau ar flaenau ei thraed.

Yr oedd tân y gegin yn llosgi'n goch a safodd uwch ei ben, ac heb gryndod llaw gollyngodd ei thrysorau un ar ol un i'w ganol. Teimlai fel pe bai ei hieuenctyd wedi ei dorri yn dair rhan, ei bod yn eu llosgi y naill ar ol y llall. Plygodd ei dwylaw ac edrychodd arnynt yn diflannu. Nid oedd y sugn wedi myned i gyd o’r rhosyn, clywai ef yn sio, sio. Crebychai y darlun gan y gwres, gwelai y fflamau yn difa y gwynepryd, a meddyliai fod llygaid Huw yn edrych yn alarus arni o ddyfnder y tân. Peidiwch a gwenu, yr oedd Barbara o ddifri. Iddi hi yr oedd yn wir drychineb, er i’r edrychwr feallai nad oedd y digrifol ddim ymhell. Pan ddychwelodd i’w hystafell yr oedd y goleu wedi diffodd yn ffenestr Pen y Bryn, y lleuad wedi disgyn y tu ol i’r waen, a thywyllwch yn teyrnasu oddiamgylch. Ond gyferbyn a’i ffenestr disgleiriai seren fawr,—mor bur, mor ddistaw oedd ei thwyniad. Daeth rhyw dawelwch sanctaidd dros ysbryd Barbara; gwyddai fod yr hen amheuon ar ben, fod yr ymdrech drosodd, ac mai yn goncwerwr y daeth allan.

II.

Hanes syml iawn ydyw hanes Barbara. Nid oedd ei bywyd, fel bywyd llawer un, yn hynod am ddim ond ei dreialon a’i brofedigaethau yn ei gorffennol. Ond dyddiau mwy blin oedd eto yn ei haros, pan feddyliai nad oedd cymorth i’w gael yn unman. Hyd yn hyn ni wyddai hi ystyr y gair tlodi o gwbl, ond yn awr yr oedd i wybod ei ddioddefiadau dyfnaf a'i bigiadau mwyaf miniog. Torrodd yr ariandy ymha un yr oedd ychydig gyfoeth y ddwy chwaer amddifad, ac nid oedd dim yn aros ond y bwthyn gwledig yr oeddynt yn byw ynddo. Y peth cyntaf ddaeth i feddwl Barbara oedd sut i gadw yr aflwydd oddiwrth Fagdalen,—Magdalen oedd yn dioddef cymaint eisoes, nid oedd wiw dweyd wrthi.

Ceisiai ddyfalu pa beth i’w wneyd, pa fodd i ennill cynhaliaeth iddynt ill dwy, pa fodd i gadw ei chwaer fel na fuasai yn gwybod fod dim allan o le.

O foreu tan mos, a bron o nos fan foreu, y gweithiai allan gynlluniau, ond ni wnai yr un y tro. O’r diwedd penderfynodd geisio gwaith fel gwniadreg,—“cymeryd i fewn waith plaen,” fel y dywedir. Druan o Farbara, yr oedd ei baich yn drwm. Meddyliai weithiau am werthu y ty, ond wedyn ni fedrai oddef y peth. Fe dorrai Magdalen ei chalon ym sicr pe byddai raid iddi fyned i ffwrdd o olwg y rhiw ac o swn murmur yr afonig oedd yn rhedeg yng ngwaelod y cwm.

Er mwyn cadw Magdalen mewn anwybodaeth o’u sefyllfa, yr oedd yn rhaid iddi lafurio yn yr oriau pan y byddai hi yn cysgu. Nid oedd yn gynefin â'r gwaith, a buan y gwnaeth ei argraff arni.

“Wyddost ti be, Barbara,” meddai Magdalen wrthi ryw ddiwrnod, “’dwn i ddim beth sy arnat ti, mae dy lygaid yn gochion, ac ’rwyt yn crychu dy dalcen, nes wyt ti’n edrych fel hen wraig, a mae dy fysedd wedi mynd mor deneu fel maent yn brifo fy ngwyneb.”

Magdalen ddiniwed, ni wyddai ddim am y nosweithiau maith yr eisteddai Barbara yn ceisio ennill cynhaliaeth iddynt, ac mai goleu y ganwyll oedd yn gwneyd i’w llygaid edrych fel pe buasai yn wylo yn barhaus. Ond daliai Barbara ati o hyd. Pwy ŵyr yr holl gur calon, yr holl ocheneidiau oedd ynglyn â phob pwyth o'r gwniadau hir ddeuai o’i llaw yn yr amser hynny, pan yr oedd mor dlawd fel yr oedd yn methu fforddio y tamaid a roddai i Dot y gath, oedd gymaint ddifyrrwch i Fagdalen.

Ymhell i’r nos y tywynnai ei chanwyll allan pan fyddai holl oleuadau y fro wedi diffoddi, pan fyddai y goleu wedi myned allan yn hen amaethdy Pen y Bryn oedd i’w weled o’i ffenestr.

Yno hefyd yr oedd y blynyddoedd wedi dod a chyfnewidiadau,—yr hen wr, tad Huw, wedi ei gasglu at ei dadau, a Huw wedi dychwelyd i gymeryd gofal y fferm, a’i wraig gydag ef. Nid oedd y ffaith yma wedi cyffwrdd â theimladau Barbara o gwbl. Yr oedd wedi myned allan o’i bywyd gyda chysgodau y gorffennol, ac yn y presennol yr oedd hi yn byw, a chwerw iawn oedd y presennol hwnnw. Yr oedd Magdalen yn marw, ni allai gelu y ffaith oddiwrthi ei hun yn hwy. Yr oedd yn gwywo bob dydd, y gwyneb bach yn myned yn wynnach, wynnach. Wedi eu taflu o'r neilldu yr oedd y ddwy faglen, a gwyddai Barbara na fyddai angen eu cynhorthwy mwy, na chai byth glywed eu swn ar y llawr. Gorweddai Magdalen yn llonydd iawn drwy y dydd. Yr oedd rhyw dawelwch mawr wedi dod drosti, rhyw amynedd dieithr wedi meddiannu ysbryd y plentyn. Ni chlywyd ond yn anaml yr hen gŵyn ei bod wedi blino. Meddyliai Barbara weithiau fod cysgod gorffwystra tragwyddol wedi disgyn arni yn y misoedd diweddaf o’i bywyd.

“Symudwch hi i le dipyn cynhesach,” meddai y meddyg, “mi estynnith hynny dipyn ar ei bywyd.” Yr oedd ei eiriau yn watwaredd i Farbara; ni wyddai ef, yn ei ddiniweidrwydd, faint oedd wedi ddioddef er mwyn talu iddo am ei ymweliad.

Pan ddaeth y rhew a'r eira gyntaf ar y ddaear bu Magdalen farw. Nid oedd Barbara yn meddwl fod y diwedd mor agos. Prydnawn ydoedd yng nghanol mis Rhagfyr; oddiallan disgleiriai y ddaear rewllyd dan belydrau machlud haul. Gorweddai Magdalen yn ddistaw iawn a’i llygaid yng nghaead, a meddyliai Barbara ei bod yn cysgu. Syllai arni, mor debyg i angeu oedd yr olwg ar ei gwyneb. Aeth rhyw ddychryn drwy ei chalon, a chyffyrddodd yn ysgafn a’i thalcen. Cododd yr amrantau gwynion, ac edrychodd Magdalen arni. Yr oedd rhyw olwg pell yn ei llygaid fel pe buasai wedi syllu ar bellteroedd tudraw i olwg dynol. Rhoddodd Barbara ei breichiau am dani fel byddai arfer, a meddyliodd mor drwm oedd y pen bach ar ei hysgwydd,

“Cana i mi, Barbara,” sibrydai.
“Beth gamaf, f'anwylyd?”
“Am Dduw yn sychu'r dagrau.”


Ceisiodd Barbara ganu, goreu gallai, yr emyn fyddai Magdalen yn ei hoffi, yn diweddu, —“Ac ni bydd wylo mwy, ond Duw a sych bob deigryn oddiwrth eu llygaid hwy.” Rhoddodd Magdalen ochenaid, a theimlai Barbara ryw gryndod yn myned trwyddi. Rhoddodd ei gwefus ar ei thalcen, yr oedd yn oer. Yr oedd Magdalen wedi marw. Gollyngodd Barbara ei gafael ynddi, gosododd ei phen ym esmwyth ar y gobennydd. Mor dawel oedd ei hedrychiad; yr oedd y llinellau poen wedi eu hesmwythau i gyd, y crychiadau wedi eu dileu oddiar y gwynepryd, prydferthwch angeu yn aros arno. Daeth y geiriau at Farbara yn ei gofid,—“Y mae Efe yn rhoddi hun i'w anwylyd.”

Ni wyddai pa hyd y safodd yn syllu ar wyneb marw eì chwaer. Torrwyd ar y distawrwydd gan swn y drws yn agor, a daeth geneth un o’r cymdogion i mewn. Byddai yn arfer dyfod i ofyn am Fagdalen bob dydd. Daeth i mewn i’r ystaîell a gofynnodd yn ddistaw,—“Sut mae Magdalen heddyw.” Gwelodd ryw olwg dieithr ar wyneb Barbara, a syrthiodd ei llygaid ar y gwyneb llonydd ar y gobennydd. “O be sy, Miss Hughes?” meddai yn ddychrynedig. “Mae Magdalen wedi marw, Elin,” atebai Barbara yn ddistaw. “O mi af i nol mam,” a rhedodd adref mewn braw i ddweyd wrth ei mham am brofedigaeth Miss Hughes. Yn fuan iawn yr oedd hi gyda Barbara, a bu yn garedig iawn wrthi yn ystod y dyddiau pruddaidd hynny, a safai hi ag Elin wrth ei hochr pan syrthiai y tywyrch rhewedig ar gaead arch ei chwaer, a phan y teimlai ei bod yn unig ar y ddaear heb berthynas agos iddi yn unman.

II.

Mae llawer blwyddyn wedi myned heibio er y diwrnod Rhagfyr rhewllyd pan y safai Barbara yn gwrando ar y geiriau, “Llwch at lwch, lludw at ludw;” ac y teimlai ei bob heb neb i’w garu nag i’w charu o fewn y byd. Mae y bywyd bychan dioddefgar wedi diflannu o adgofion pawb, nid oes dim yn aros ond y bedd bach gwyrdd yn y fynwent, a rhyw wagder tragwyddol yng nghalon Barbara. Ond nid yw hi yn meddwl am dani ei hun, pan y cofia y poen oedd yn dilyn Magdalen ar y ddaear, ac wrth feddwl am y gorffwystra yr oedd wedi cael mynediad iddo.

Mae yn gorfod gweithio am ei bara beunyddiol, ond nid ydyw yr ymdrech mor galed. Mae yn fwy cynhefin â'r gwaith, ac yn gallu ennill mwy. Daw aml i ochenaid o'i chalon wrth feddwl mor dda fuasai ganddi am hyn pan oedd Magdalen gyda hi. Ond dyna ydyw bywyd, ni chawn yr hyn a ddymunem pan y dymunem; a phan y delo, y mae rhyw “ond” neu rhyw “pe buasai” yn tynnu llawer o’r melusder. Ac felly gyda Barbara, nid ydyw llwyddiant o fawr o bwys yn ei golwg yn awr. Y mae ei gwallt wedi gwynnu, ac amser wedi crebychu ei gwynepryd. Ond tangnefedd sydd yn tywynnu yn ei llygaid tyner, y tangnefedd sydd yn dod wrth ddweyd,—“Gwneler dy ewyllys.”

Hen ferch y galwant hi yn ddigon dirmygus; ond ni wyddant ddim o’i hanes. Anwybodus ydynt o gyweirnod ei bywyd, ac nid ydynt yn gallu canfod prydferthwch hunan-ymwadiad.

BREUDDWYD NADOLIG.

YR oedd yn oer iawn. Crynnai Bobbie yn ei garpiau a rhwbiai y naill droed bach noeth ar draws y llall bob yn ail, ond nid oedd hynny yn ei gynhesu rhyw lawer. Disgleiriai y palmant gwlyb yng ngoleuni y lampau. Tarawodd cloc yn y tŵr wrth ymyl saith curiad. Ychydig iawn o bobl oedd eisieu matches heno meddyliai Bobbie ynddo ei hun. Un geiniog oedd ganddo yn ei feddiant, a phecyn bychan o flychau matches. Curai y gwlaw yn ddidor. “Nadolig gwlyb,” meddai pobl wrth eu gilydd, wrth brysuro i’w cartrefi. Feallai y troai y gwlaw yn eira cyn y bore, yr oedd mor hynod oer.

Diferai carpiau Bobbie yn aberoedd bychain o’i gwmpas, rhedai y dwfr o’i wallt dryslyd i lawr ei wyneb bach budr, ond yr oedd rhywbeth gwaeth na hynny,—cafodd fod ei nwyddau, er ei holl ofal yn ceisio eu cadw yn sych dan ei jecad garpiog, yn wlybion, ac yr oedd hynny yn golygu na fyddai iddo gael eu gwerthu; nid oedd pobl yn hoffi matches damp, fel y gwyddai Bobbie drwy brofiad.

Lle anifyr iawn oedd y byd yn nhyb Bobbie, ac feallai y buasai eraill yn meddwl yr un peth yn ei le. Y stryd oedd byd Bobbie. Yr oedd hanner dwsin o eiriau cyffredin iawn, syml iawn, na wyddai ddim am eu hystyr,—mam, tad, brawd, chwaer, cartref, cariad. Ni wyddai ef ddim am danynt. Nid oedd ganddo dad na mam, na brawd na chwaer, nid oedd iddo gartref, ac nid oedd neb yn y byd i gyd yn ei garu. Buasai llawer yn dweyd yn ei le mai anifyr iawn oedd y byd.

Dedwyddwch Bobbie oedd cael digon o geiniogau i dalu am gysgod allan o'r stryd, ac yn enwedig ar noson wlyb, oer; ond nid oedd yn debyg o gael hynny heno, a chymysgai ei ddagrau a'r dafnau gwlaw ar ei ruddiau teneu.

Tarawodd yr un cloc eto darawiad y chwarter, a thrôdd y bachgennyn bach carpiog ei lygaid yn y cyfeiriad. Yr ochr arall i’r stryd yr oedd eglwys, yn nhŵr yr hon yr oedd y cloc yr ydoedd wedi glywed yn taro. Disgleiriai goleu yn ei ffenestri. Yr oedd gwasanaeth nos cyn Nadolig yn cael ei gynnal ynddi. Ni wyddai Bobbie ddim am Nadolig, ac nid oedd erioed wedi bod mewn eglwys. Yr oedd y drws yn llydan agored, a gwibiodd Bobbie ar draws y stryd rhwng y bobl oedd yn myned a dod yn frysiog. Yr oedd yn edrych yn braf iawn tu fewn i'r eglwys. Edrychodd i fyny ac i lawr y palmant, nid oedd yr un plismon, dychryn bywyd Bobbie, yn y golwg yn unman. Nid oedd gobaith iddo gael gwerthu ei fatches wrth aros yn y stryd. Aeth yn nes at y drws, a rhoddodd ei ben i mewn. Ychydig o bobl oedd wedi dod ynghyd eto, yr oedd braidd yn gynnar, ac yr oeddynt a’u cefnau ato i gyd. Ond O mor gynnes oedd yr awyr! A mor braf oedd y goleu! Ac ni welodd Bobbie erioed le mor wych, yr oedd yn rhagori ar ffenestri y siopau yn fawr. Braidd heb ymwybod iddo ei hun, aeth yn ddistaw ac araf heibio bost y drws ac i mewn i sêt yn ymyl. Yr oedd un o’r colofnau yn gorffwys Wrth ymyl yr eisteddle yma, a chuddiwyd ffurf bychan y plentyn o olwg y rhai ddeuai i mewn.

Wrth swatio ar y glustog, teimlai Bobbie fod y byd dipyn bach llai anifyr, yr oedd llawer iawn cynhesach beth bynnag, pe buasai ganddo grystyn i'w gnoi ni fuasai raid cwyno. Pwysodd ei ben ar gefn y sêt, nid oedd yn cyrraedd at yr ymyl, a daeth rhyw gysgadrwydd drosto, ond aeth yn effro iawn pan ddechreuodd yr organydd chwareu yr anthem Nadolig, ac y dechreuodd y côr ganu. Yr oedd y naill beth yn rhyfeddach na'r llall i Bobbie, ond y peth mwyaf rhyfedd a mwyaf prydferth, y peth goreu glywodd ef erioed, oedd yr hyn ddywedai y gŵr oedd yn siarad. Adroddai am y doethion yn dilyn y seren, ac yn cael hyd i’r plentyn sanctaidd, yn cael hyd i’w Gwaredwr, ac yna desgrifiai y Gwaredwr yma mor fwyn, mor dyner, mor garedig ydoedd, a'r croesaw oedd yn roddi i’r rhai ddeuai ato, fel y cofleidiai hwynt, a’r fath gysur a gorffwysdra melus ddenai iddynt, wedi iddynt ei gael, ac y dygai hwynt i’w gartref, lle na byddai na phoen na thristwch, nag eisieu o unrhyw fath. Yr oedd eisieu llawer o bethau arnynt yn awr; yn y dreî fawr honno feallai fod amryw eisieu bara y nos Nadolig hwnnw, ond wedi cyrraedd ei gartref ef ni fyddai arnynt eisieu mwy. Nid oedd Bobbie yn deall y bregeth air am air, ond dyma un peth yr oedd yn brofiadol iawn ohono. Ar y terfyn erfyniai y gŵr arnynt ddilyn “Ei seren ef” hyd onis caffont ef. Yr oedd y Gwaredwr yma yn eu cymhell, bawb ohonynt, yr oedd yn eu gwahodd,— “Deuwch ataf fi bawb ar y sydd yn flinderog ac yn llwythog.” Rhoddodd Bobbie nod â'i ben yn frysiog. Dyma beth eto yr oedd yn ei ddeall, a phenderfynodd ddilyn y seren hyd nes y deuai o hyd i’r hwn y soniai y gŵr am dano. Ond pa le’r oedd y seren? Nid oedd yr un i'w gweled pan ddaeth i mewn o'r gwlaw. Petrusai Bobbie yn fawr hyd nes y gwelodd y bobl yn codi i fyned allan, ac yna rhedodd drwy y drws mewn eiliad o flaen yr un. Yr oedd wedi peidio gwlawio. Cododd Bobbie ei ben a syllodd ar yr awyr. Yr oedd yn glir a rhewllyd, dim cwmwl yn unman, a channoedd o ser yn disgleirio yno, ond yn union o’i flaen yr oedd un seren, a phenderfynodd ar unwaith mai honno oedd y seren,— “Ei seren ef.” Yr oedd mor fawr a gloew, ac yn tywynnu mor dyner ac esmwyth, yr oedd fel yn gwenu arno. Cychwynnodd Bobbie yn ei chyfeiriad. Aeth heibio siop fara, a daeth eisieu bwyd yn ol iddo. Trôdd at y drws ac aeth i mewn, a phrynnodd dorth fechan. Nid oedd angen cadw y geiniog i gael ychwaneg o fatches yfory. Ni fyddai arno eisieu bwyd byth wedi iddo ddod o hyd i’r dyn hwnnw, y Gwaredwr hwnnw, yr oedd newydd glywed sôn am dano. Cododd ei lygaid i edrych oedd y seren yno o hyd, ac wrth ei gweled aeth yn ei flaen yn galonnog dan gnoi ei dorth, a meddwl am y dyn hwnnw yr oedd y seren yn ei arwain ato. Yr oedd yn methu peidio synnu o hyd fod arno ei eisieu ef. Hyd yn hyn, ar ffordd pawb yr oedd wedi bod. Erlidid ef gan bob plismon welai, ac yr oedd pawb yn cilio oddiwrtho. Nid oedd ar neb ei eisieu; ond yr oedd hwn, y Gwaredwr yma, yn gofyn iddo ddod ato, yr oedd y gŵr hwnnw oedd yn siarad yn yr eglwys wedi dweyd hynny.

Cadwai Bobbie ei olwg ar y seren yn ddibaid, a cherddai yn yr un cyfeiriad. Yr oedd wedi myned ymhell iawn yr oedd yn meddwl. Yr oedd wedi gadael y dref erbyn hyn, ac yn cerdded ar hyd ffordd yn y wlad, ffordd rhwng dau glawdd du, heb dai o amgylch yn unman, dim ond yr awyr fawr lydan uwch ei ben a’r sêr fel llygaid gloew yn ei wylio, a’i gyfaill, y seren fawr, yn gwenu arno. Buasai ar Bobbie ofn, onibai am ei seren ef.

Yr oedd wedi troi i rewi; ac yr oedd carpiau gwlybion Bobbie yn caledu yn araf am dano, a’r ffordd yn myned yn wrymiau mawr o dan ei draed, ac yn boenus iawn i’w cherdded. Teimlai Bobbie yn bur flinedig, ac yr oedd ei galon yn dechreu gwanhau. Er ei fod yn dilyn y seren o hyd, nid oedd yn dyfod yn agosach ati o gwbl, nac yn gweled ei fod yn dod yn nes at y Gwaredwr. Wedi cerdded ychydig ymhellach, meddyliodd y buasai yn eistedd i orffwys wrth ochr y ffordd o dan y clawdd, ac y buasai yn gwylio y seren o hyd rhag ofn ei cholli, ac eisteddodd ar y ddaear oer, a’i lygaid yn gwylio y seren yn ddyfal. Ond er ei waetha cauodd ei amrantau, syrthiodd ei ben ar ei fynwes, a daeth cwsg ato. A thra yr oedd Bobbie yn cysgu o dan gysgod y clawdd, a’r seren fawr yn ei wylio ef yn awr, cafodd freuddwyd brydferth a rhyfedd.

Breuddwydiodd ei fod yn dilyn y seren o hyd, a’i bod o’r diwedd wedi ei arwain i ryw wlad decach nag oedd Bobbie erioed wedi dychmygu am dani. Ac yno gadawodd y seren ef, ond yn ei lle tywynnmai yr haul yn ddisglair, â chynhesai ei belydrau ei gorff bach oer. Ar y llawr yr oedd rhywbeth gwyrdd esmwyth, ac yr oedd ei gyffyrddiad yn lliniaru y doluriau ar ei draed. Yr oedd yno flodau hefyd na welodd eu tebyg yn holl ffenestri y siopau mawr yn y dref, ac yr oedd eu harogl yn felusach na dim wyddai am dano. Ond er mor deg oedd y wlad, ac er mor felus arogl y blodau, yr oedd Bobbie yn teimlo yn bur flinedig, ac hiraethai am ddod o hyd i'r dyn hwnnw oedd ei eisieu. Yr oedd llawer o bobl yn ei gyfarfod, a golwg hardd arnynt oll. A phenderfynodd Bobbie holi un ohonynt, harddach na neb welodd erioed, a hwnnw oedd y Gwaredwr. A chymerodd Bobbie yn ei freichiau, a rhoddodd y pen bach lluddedig i orffwys ar ei fynwes, ac o dan y cyffyrddiad sanctaidd, ciliodd gofidiau Bobbie yn llwyr; iachawyd ei holl ddoluriau; ac wrth syllu yn y gwvneb tyner bendigedig yr oedd Bobbie yn berffaith ddedwydd, a phob eisieu ei galon bach newynog wedi ei ddigoni.

Ond diangodd yr oll, a deffrôdd o dan y clawdd ar ochr y ffordd yn y tywyllwch mawr. Trodd ei lygaid i edrych am y seren, ond yr oedd honno hefyd wedi diflannu fel y breuddwyd dedwydd. Yr oedd cawod o eira yn disgyn yn ysgafn. Nid oedd diben myned yn ei flaen ymhellach, ni allai byth gael hyd i’r wlad dêg a’r gŵr a’r dwylaw tyner, a’r gwyneb addfwyn, heb y seren, ac yr oedd honno wedi diflannu. Arhosai yno, feallai y deuai i’r golwg eto yn y man. Nid oedd yr eira mor oer ag arfer, chwaith, a chauodd Bobbie ei lygaid drachefn, a syrthiodd hun fwy dwfn ano.

Aeth oriau y nos heibio yn araf, a pheidiodd yr eira a disgyn. Yn y dwyrain torrodd y Wawr yn dyner oleu, ac yr oedd yn ddydd Nadolig. Tywynnai heulwen felen wannaidd ar ruddiau Bobbie. Daeth robin goch a siglodd ei hun ar frigyn yn y clawdd du uwch ei ben. Gwnai ryw swm bach fel yn ceisio canu, ond yr oedd yr eira a’r oerni yn ei ddigalonni, a siglai ar y brigyn a’i ben yn ei blu. Ymhen eiliad aeth y frongoch yn fwy hyf; lledodd ei adenydd bychain, a disgynnodd ar law oer y plentyn, a dechreuodd ei esgus gân drachefn. Ond nid oedd galwad y frongoch, na chusan esmwyth yr haul oedd yn araf doddi yr eira hyd ei wallt, yn gallu deffro y cysgadwr bach carpiog. Yr oedd breuddwyd Bobbie wedi dod yn wir. Nid oedd ei fyd yn anifyr mwy.

HUW.

BWTHYN bychan, gwyngalchog, ar ochr bryn oedd cartref Huw. Meddyliai ef mai hwnnw oedd y bwthyn harddaf yn yr holl wlad.

Nid oedd gan Huw frawd na chwaer. Pe buasech yn gofyn iddo a oedd ganddo dad buasai yn dweyd “Oes;” a phe gofynnech ymhellach ymha le yr oedd ei dad yn byw cawsech yr ateb,—“Yn y nefoedd y mae mam yn dweyd y mae o, ac mi rydan ni yn mynd yno ryw ddiwrnod hefyd.”

Er fod Huw heb dad ar y ddaear, na brodyr na chwiorydd i gyd-chwareu ag ef, eto nid oedd yn teimlo yn unig nac yn annedwydd. Yr oedd ei fam ganddo. Os oedd Huw yn meddwl nad oedd bwthyn tebyg i’w gartref ef, yr oedd yn gwybod mad oedd y fath fam a’i fam ef yn y byd i gyd. Nid oedd gan yr un wraig yr edrychai arni wallt mor euraidd na llygaid mor dirion, ma gwên mor anwyl ag yr oedd ganddi hi. Yr oedd ei fam yn dad, yn frodyr, yn chwiorydd, yn gartref, yn bopeth iddo; a breuddwydiai yn fynych am yr holl bethau yr oedd am wneyd iddi pan y tyfai yn ddyn mawr fel oedd ei dad yn y llun oedd ganddynt o hono. Syllai ef lawer ar y darlun lle yr hongiai wrth ben y simddau yn y parlwr, a dymunai’n fawr fod yn debyg iddo.

Bywyd dedwydd oedd ei fywyd y pryd hyn. O amgylch y bwthyn gwyngalchog yr oedd gardd brydferth, ac ynddi y chwareuai Huw ar hyd y dyddiau hafaidd. Hoffai y blodau yn fawr, a’i bleser mwyaf fyddai cael helpu ei fam i’w dyfrhau, a’i chanlyn o’r naill goeden i’r llall i dynnu y dail gwywedig ac i osod cangen fyddai yn ymdaenu gormod yn ei lle. Yr oedd ganddynt flodau ereill i’w trin, a thyfai y rhai hynny, nid yng ngardd y bwthyn, ond yng “ngardd ’y nhad,” meddai Huw. Gardd fechan iawn oedd hon, a thaflai croes o farmor gwyn ei chysgod arni, ac heb fod ym mhell cyfodai muriau llwydion hen eglwys y plwyf. Wrth wylio y blodau yma siaradai ei fam wrtho am ei dad,—dyn mor dda ydoedd, ac fel yr oedd Iesu Grist wedi anfon am dano i fyw i’r nefoedd, a therfynai bob amser drwy ddweyd,—“A chofia di, machgen i, fod yn hogyn da, gael i ni fynd yno hefyd.” Edrychai Huw i fyny i’r awyr las uwch ei ben, ac yma syllai yn ei gwyneb, gan addaw gydag edrychiad difrifol iawn fod yn fachgen da.

Ond ni pharhaodd y dyddiau braf yn y bwthyn gwyngalchog yn hir i Huw. Pan oedd y seithfed haf o’i fywyd bychan yn dechreu tywynnu daeth cwmwl du dros y ffurfafen.

Ni welwyd ei fam yn yr ardd gydag ef yn gwylio y blodau yn awr. Elai Huw yno ar dro ar ei ben ei hun, ond nid oedd yr un swyn yno yn awr. Nid oedd yr awyr mor las na’r blodau mor wridog, nid oedd eu harogl mor beraidd ganddo. Yr oedd rhywun heb fod yno. Yr oedd eisieu ei fam arno cyn y gallai fwynhau yr ardd a’i swynion. Ond gorweddai hi drwy y dyddiau euraidd yn wan a gwelw ar ei gwely. Eisteddai Huw am oriau wrth ochr y gwely hwnnw, a’i law fechan yn cydio yn dynn yn y bysedd teneuon oedd mor anwyl ganddo. Tra y gorweddai ei fam yno, siaradai lawer wrtho am ei dad, a chrefodd lawer arno fod yn fachgen da. Un diwrnod dywedodd wrtho,— “Ydw i’n mynd at Iesu Grist i’r nefoedd Huw, a chaf weld dy dad yno.”

Edrychodd Huw yn ei gwyneb, ac meddai,—

“Gai ddwad hefo chi, mam?”

“Nid ’rwan, cariad, ond os byddi di ’n hogyn da, cei ddwad ryw ddiwrnod.”

Wylai Huw wrth feddwl fod ei fam am ei adael, er ei bod yn myned i’r nefoedd at Iesu Grist, ac yr oedd yn methu gwybod pam na chai ef fynd gyda hi, ni fyddai ei fam yn arfer mynd i unlle hebddo ef. Ond addawodd fod yn fachgen da. Rhyw foreu ymhen ychydig o ddyddiau wedi’r ymddiddan yma, daeth angel gwyn disglair i’r bwthyn a chymerodd fam Huw gydag ef i’r nefoedd, lle nid oedd mewn poen a gwendid mwy.

Ond ni chymerai yr angel Huw. Yn fuan ar ol hyn bu raid iddo ffarwelio â'r bwthyn ac â'r ardd a'i blodau gwych. Cymerodd modryb iddo ef i’w chartref. Hen ferch oedd hi. Yr oedd ganddi dŷ mwy o lawer na chartref bychan Huw, ac yr oedd ynddo ddodrefn harddach a mwy drudfawr, yr oedd hefyd yn meddwl llawer iawn o’i thy mawr a’i dodrefn hardd; ond nid oedd ganddi le yn ei chalon i blentyn bach, ac yno y dechreuodd gofidiau i Huw.

Yr oedd arno hiraeth yn y ty mawr am yr hen gegin, am ei stol fach, lle yr eisteddai wrth droed ei fam i ddysgu ei adnodau a’i emynnau bach. A mwy na’r oll, yr oedd arno hiraeth am ei fam. Nid oedd neb yn dod i osod y dillad yn wastad ar ei wely cyn iddo fynd i gysgu, nid oedd neb wrth lin yr hon yr adroddai ei weddi bach, neb i roddi cusan ar ei dalcen wrth ddweyd “nos dda.” Unig iawn y teimlai Huw druan. Yr unig gysur oedd ganddo oedd darlun oedd yn ei ystafell wely. Darlun o’r Bugail Da yn dwyn oen bach blinedig yn ei fynwes oedd. Syllai Huw lawer ar y gwyneb tirion, a chysurai ei hun drwy feddwl y deuai y Bugail Da i’w ddwyn yntau yn ci fynwes i’r nefoedd ryw ddiwrnod. Ond yr oedd llai o gysur yn y darlun ymhen ychydig, a byddai Huw yn ofni edrych ar y gwyneb addfwyn, am ei fod yn dychmygu fod y llygaid yn ei ganlyn ag edrychiad gofidus a thrist. A dyma y rheswm. Yr oedd Huw yn cael gwaith caled iawn i fod yn fachgen da yn nhy ei fodryb, a gwyddai ei fod yn fachgen drwg yn aml, a gwnai y darlun ef deimlo yn euog. Nid oedd wedi teimlo un anhawster pan yr oedd ei fam gydag ef. Ond yr oedd yn troseddu yn ddibaid yn erbyn ei fodryb. Nid oedd yr hen ferch yn amcan bod yn galed wrtho, nag yn angharedig, ond nid oedd hi’n caru nag yn deall plant, ac yn enwedig bachgen bach. Ni chai Huw redeg i fyny'r grisiau, ni chai wneyd y trwst lleiaf, a pha blentyn feder chwareu heb drwst? Ac os byddai ol ei droed ar y carped coch yr oedd Miss Thomas ym meddwl cymaint o hono, y fath ddwrdio fyddai yn gael! Gwaherddid iddo wneyd y peth yma a’r peth arall, nes oedd ei fywyd wedi mynd yn faich iddo a chwpan ei anedwyddwch bron llifo drosodd.

Yr oedd gardd fawr o amgylch ty ei fodryb, a meddyliodd Huw y buasai yn cael mwynhad wrth wylio y blodau fel yr arferai wneyd gyda’i fam yn yr hen ardd anwyl gartref, ond ni chai fynd yn agos atynt gan y garddwr. Os oedd arno eisieu bod yn yr ardd, yr oedd yn rhaid iddo gerdded yn araf ar hyd y llwybrau heb gyffwrdd mewn unrhyw flodeuyn.

Un diwrnod cafodd hyd i nifer o gregin gwynion yr oedd rhywun wedi eu taflu wrth ochr y ffordd tu allan i lidiart yr ardd, a chasglodd Huw nhw ac aeth a hwy i'r ty gan feddwl cael chwareu â hwy, ond pan welodd ei fodryb y cregin gwynion dywedodd wrtho,—

“Rhaid i chi fynd a rheina yn ’i hola, Huw, fynna i ddim rhyw ’nialwch fel ’na yn y ty, mi ydach chi ’ch hun yn gneyd digon o lanast heb ddwad a phetha fel’na yma. Cerwch a nhw i'r lôn mewn munud.”

Yr oedd Huw wedi hoffi y cregin yn fawr, ac wedi meddwl cael difyrru ei hun hefo nhw; a phan glywodd ei fodryb yn ei ddwrdio anghofiodd ei fod wedi addaw wrth ei fam fod yn hogyn da, a meddai, gan luchio y cregin wrth draed ei fodryb,—

“Hen ddynes galed ydych chi. Dydw i ddim yn ych caru chi ddim mymryn. Chai i ddim byd ginoch chi.”

A rhedodd allan o'r ty ac ar hyd llwybr yr ardd i'r ffordd heb wybod i ba gyfeiriad yr elai, yn hanner dall gan y dagrau oedd yn llifo o’i lygaid. O’r diwedd safodd bron wedi colli ei anadl, a chafodd ei fod yn yr hen fynwent yn ymyl gardd ei dad. Pan welodd y llecyn lle yr oedd y blodau yn tyfu'n wyllt yn awr, daeth rhyw ddychryn trwy ei galon. Yr oedd wedi bod yn fachgen drwg, wedi dweyd geiriau câs wth eì fodryb, ni chai fyned i’r nefoedd at ei fam, ac yr oedd arno eisieu mynd mwy nag erioed. Taflodd ei hun ar ei wyneb i ganol y blodau gan waeddi,—

“O mam, mam, mam, pam ddaruch chi fynd i'r nefoedd?” Cusanai y blodau y pen bychan tywyll yn eu canol, ac atebai yr adar ocheneidiau y plentyn unig. Ymhen ychydig deuai yr ocheneidiau yn anamlach, ac o'r diwedd distawodd ei swn. Yr oedd Huw wedi anghofio ei drallod am ennyd, yr oedd cwsg wedi taenu ei aden drosto.

Yn nhy Miss Thomas daeth amser te, ond ni wnaeth Huw ei ymddangosiad wrth y bwrdd. Dechreuodd hi ddwrdio wrth y forwyn am fod plant mor ddrwg, a phenderfynodd na chai Huw ddim ond darn o fara sych pan y deuai, am ei fod wedi aros mor hwyr, ac hefyd am ei fod wedi dangos tymer mor ddrwg yn y prydnawn. Ond aeth y pryd heibio, a swper yr un modd, ond ni ddaeth Huw i’r ty. Wrth ei gweled ym tywyllu dechreuodd yr hen ferch deimlo yn anesmwyth, a danfonodd y garddwr i chwilio yr ardd i gyd a'r ffordd oddiallan, ac aeth ei hun at y llidiart bellaf i edrych oedd dim golwg ar y crwydryn bach yn dod o rywle. Aeth yr oriau heibio heb ei ddychweliad fodd bynnag.

Danfonwyd amryw o ddynion o’r pentref gerllaw i chwilio ymhob cyfeiriad, ac aeth Miss Thomas gyda lantern yn ei llaw i geisio y plentyn colledig.

Ceisiwyd ef ymhob man ond y fynwent. Feddyliodd neb am y fan honno. Yr oedd ym lle rhy anhebyg i feddu unrhyw swyn i blentyn. Wrth weled fod eu ceisiadau yn ofer dychwelodd y dynion i’w cartrefi, ac aeth Miss Thomas adref hefyd, ond nid i gysgu, yr oedd mewn gormod o fraw yn ceisio dyfalu i ba le yr aeth Huw, ac yn cyhuddo ei hun o fod yn rhy strict gydag ef.

Gan gynted ag y torrodd y dydd aeth allan drachefn. Cerddodd i lawr yng nghyfeiriad yr afon, gan feddwl weithiau ei fod wedi syrthio i'r dwfr. Yr oedd y llwybr yn arwain gyda chlawdd y fynwent, a syrthiodd ei llygaid ar y groes wen oedd yn disgleirio yn eglur yng ngoleu tanbaid y dwyrain, ac yr oedd yn teimlo yn frawychus wrth feddwl nad oedd wedi cyflawni ei haddewid i’w chwaer, o fod yn dyner wryh ei bachgen bach. Ond beth oedd yn gorwedd yn llonydd wrth droed y groes? Rhoddodd ei chalon naid, a phrysurodd dros y gamfa oedd gerllaw, a chyn pen ychydig o eiliadau yr oedd yn plygu uwchben y crwydryn bychan. Gorweddai a’i foch yn pwyso ar ei law. Yr oedd ei wallt a’i ddillad yn dyferol o wlith, a disgleiriai y defnynnau ar ei wyneb. Cododd ei fodryb ef yn ei breichiau, a dygodd ef gartref yn cysgu o hyd.

Bu Huw yn ei wely heb symud am lawer o fisoedd mewn poen mawr ar ol hyn; a phan giliodd y poen gadawodd ef yn wan a diffrwyth. Yr oedd y gwlith oer wedi tynnu’r nerth o’i aelodau bach fel na fedrai byth redeg a chwareu mwy. Ond yr oedd y noson honno wedi creu cyfnewidiad mawr yng nghalon yr hen ferch, a llawer gwaith y teimlai y buasai yn rhoddi llawer iawn o’i chyfoeth, os nad yr oll, am gael clywed trwst Huw yn rhedeg i fyny ac i lawr y grisiau, ac am weled ôl ei draed budron ar y carped. Newidiodd Huw ei farn am ei fodryb yn y dyddiau hynny. Meddyliai ei bod yn edrych arno bron fel y byddai ei fam, yr oedd ei llais hefyd yn dynerach wrth siarad ag ef, ac meddai wrthi um diwrnod,—

“Dynes ffeind ydach chi wedi’r cwbl, modryb; ’roeddwn i’n meddwl ych bod chi’n galed ystalwm.”

Yr oedd Huw wedi dychryn pan deimlodd rywbeth cynnes yn disgyn ar ei wyneb wrth i'w fodryb blygu i roddi cusan iddo.

Yr oedd Huw yn mwynhau yr ardd yn awr yn fwy, er ei fod yn methu symud o'i hamgylch, ond yr oedd ei fodryb ym ei gario allan ar bob diwrnod braf, ac yn ei osod mewn cadair yng nghynhesrwydd yr haul. Byddai hefyd yn torri y blodau prydferthaf, ac yn eu dwyn iddo, a rhyw ddiwrnod daeth a’r cregin gwynion iddo, y rhai yr oedd wedi eu hoffi mor fawr y diwrnod anffodus hwnnw. A mwy na’r oll nid oedd byth yn teimlo yn unig yn awr.

Tosturiai pobl y pentref am fod y fath faich a gofal plentyn “na fedra symud mwy na babi” wedi ei osod ar Miss Thomas. Ond y mae beichiau yn bethau daionus ambell dro; ac ychydig ŵyr beth oedd gwerth y baich hwnnw i’r hen ferch.

ESGIDIAU NADOLIG.

YR oedd yn brydnawn oer rhewllyd ddau ddiwrnod cyn dydd Nadolig. Gorweddai yr eira yn fantell wen ar y llawr, ac yr oedd y plant, wrth ddod o’r ysgol, yn lluchio eu gilydd gydag ef. Yr oeddynt wedi eu gollwng allan awr yn gynt, a’r ysgol wedi torri am ychydig ddyddiau y gwyliau. Mor fywiog, mor hapus oeddynt, a’r un o honynt yn fwy bywiog a mwy hapus nag un eneth fechan oedd, feallai, wedi gweled wyth dydd Nadolig arall.

Galwai y plant eraill hi yn Becca. Buasai hi ei hun yn dweyd wrthych mai Rebecca Elinor Owen oedd ei henw, gyda phwyslais neilltuol ar yr “Elinor.” Ffermdy tua milltir o’r dref oedd ei chartref, a meddyliai Becca nad oedd gan neb gartref cyffelyb iddo.

Yn lle myned yn syth ar hyd yr heol oedd yn arwain allan o'r dref i'r ffordd at yr Hendre Isaf, aeth Becca gyda’i chyfeillion i edrych ffenestri y siopau oedd wedi eu harwisgo â phob math o bethau prydferth erbyn y Nadolig. Yn un ffenestr yr oedd doli fawr yn cael ei harddangos, a safodd Becca yn hir yn syllu arni, ac yn penderfynu pwy fyddai ei pherchennog. Safodd hefyd wrth ffenestr siop cyfrwywr, er gwaethaf y plant ereill oedd yn gwaeddi,—

“Tyd, Becca, ’toes ’na ddim byd neis yn fan ’na.”

Ond yr oedd llygaid Becca wedi syrthio ar goler ci, ac yr oedd y goler yn gorwedd yn ymyl y ddoli yn ei meddwl.

Wedi gorffen eu pererindod drwy yr heolydd, ymadawodd y plant a’n gilydd, a throdd Becca tua chartref. Ei hunan yr oedd hi. Nid oedd neb o’r plant ond hi ac un eneth bach arall: yn byw allan o’r dref ac yr ochr honno.

Bwthyn bychan yn sefyll o fewn cae neu ddau i ffermdy’r Hendre Isaf oedd cartref Maggie Morgan, ac arferai hi a Becca fyned a dod i ac o’r ysgol gyda’u gilydd bob dydd. Ryw fodd yr oedd Becca wedi colli Maggie wrth ddod allan o’r ysgol, ac yr oedd yn methu gwybod paham yr oedd Maggie wedi myned adref hebddi.

Rhedai Becca i lawr y ffordd yn ysgafn ei throed ac yn ysgafn ei chalon, yn meddwl am yr holl ddedwyddwch oedd i ddod i’w rhan y Nadolig oedd yn ymyl. Yfory yr oedd yn dod i’r dref gyda ei thad, ac yr oedd nid yn unig am edrych drwy y fífenestri ar y pethau neis, ond am fyned i mewn i’r siop a phrynnu rhai o honynt hefo ei harian ei hun. Gartref mewn blwch bach yn ei hystafell wely yr oedd gan Becca bum swllt. O yr holl bethau yr oedd y pum swllt am brynnu! Y ddoli fawr a’r wisg brydferth, y goler leder a’i bwcl gloew i Dobi. “Rhywbeth i mam hefyd, a rhywbeth arall i nhad.” A dyna Wil y gwas a Mary y forwyn, yr oedd yn rhaìd cofio am danynt i gyd.

Ond rhoddwyd atalfa ar ei meddyliau dedwydd yn sydyn ac anisgwyliadwy. Mewn un man rhoddai y ffordd dro sydyn, ac wedi i Becca fyned heibio iddo, y peth cyntaf welai hi oedd Maggie Morgan yn eistedd ar garreg wrth ochr y clawdd yn wylo yn dorcalonnus.

“Maggie,” meddai mewn dychryn, “be ’di’r mater? ’Be ti’n crio fel ’na? A be oeddat ti’n rhedeg adre o mlaen i? Pam na fasat ti’n dwad i weld y siopa?”

I’r rhes gofyniadau hyn nid atebodd Maggie yr un gair, ond daliai i sobian yn dorcalonnus.

“Wel, dwad wrtha i be sy’, Maggie bach,” erfyniai Becca, a rhoddodd ei llaw ar ysgwydd y llall. O’r diwedd, mewn llais toredig, cafodd yr helynt gan Maggie.

“Speitio fy ’sgidia i ’roeddan nhw,” meddai hi. Edrychodd Becca ar draed ei chydymaith bach. Ac yn wir yr oedd golwg truenus ar y “sgidia,” yn anhebyg iawn i'r pâr clyd a’u gwadnau tewion oedd am draed Becca, a’r rhai oedd yn teimlo mor gynnes a chyfforddus. Druan o Maggie, yr oedd blaenau ei thraed hi yn adnabod teimlad yr eira oedd ar y ffordd. Syllodd Becca arnynt am funud neu ddau, tra y parhaodd dagrau Maggie i lifo o hyd, ac yna ceisiodd ei chysuro.

“Hidia befo nhw,” meddai hi, “plant brwnt oeddan nhw am dy speitio di, Maggie, a mi gân wybod hynny gin i hefyd. Pwy oedd yn dy speitio di? Elin Thomas oedd un, ’dw i’n siwr. Paid a chrio. Toes dim ond fory, ac wedyn fydd N’dolig, ac wyrach y cei di sgidia newydd.”

Ysgydwodd Maggie ei phen. ’Doedd N’dolig yn peri fawr o gysur iddi hi.

“’Roedd mam am brynnu rhai i mi, ond mae nhad yn sal ers pythefnos, ac heb fod wrth i waith, a tydi o ddim wedi mendio eto,” a rhoddodd Maggie ochenaid drom.

“Wel, hidia befo’r sgidia, mi gei blym pwdin ’Dolig, fydd pawb yn cael hwnnw ’Dolig.”

Ond ’roedd Maggie yn sicr iawn na chai hi ddim plym pwdin.

“Roedd mam yn methu wybod sut y cai hi werth swllt o flawd i bobi heddyw,” meddai.

Distawodd hyn geisiadau Becca i’w chysuro am ennyd, ond wedi meddwl ychydig amser, dyma ei llygaid yn gloewi,—

“Wn i be ’nawn i,” meddai, “mi ’fynna i mam gei di ddwad acw dydd ’Dolig, a mi gei blym pwdin. Mae plant Cefneithin yn dwad acw, a’r hogyn digri hwnnw fydd yn gneyd campia, mi fydd acw sport iawn. Mae mam yn siwr o adael i ti ddwad. Tyd rwan, mae hi jest yn nos.”

A gafaelodd Becca yn ei llaw. Cododd Maggie ar ei thraed a dechreuodd sychu'r dagrau a gwedd mwy calonnog ar ei gwyneb, ond daeth cwmwl drachefn ac edrychodd i lawr ar esgidiau diolwg, ac meddai mewn llais isel,

“Fedra i ddim dwad yn rhein. Mi ’neith y plant fy speitio i.”

“Dy speitio di, a finna yno!” A thaflodd Becca ei phen yn ol gydag ysgogiad dirmygus. “Faswn yn licio’ clywad nhw. Tyd am ras i lawr yr allt ’ma.”

A chydiodd yn llaw Maggie, a ffwrdd a'r ddwy fel y gwynt. Erbyn cyrraedd gwaelod yr allt a chartref Maggie yr oedd hi wedi llonni lawer.

“Cofia di, ddoi i dy ’nol, Cis,” meddai Becca, a chan ei tharo yn ysgafn a’i llaw rhedodd ymaith.

Ond wedi iddi fyned o olwg y bwthyn arafodd ei cherddediad, ac yr oedd Becca yn meddwl yn ddwfn nes cyrhaeddodd hi ddrws y ty. Mor bell yr oedd hi wedi suddo mewn myfyrdod fel bu orfod i Tobi neidio ab ei gwyneb a rhoi llyfiad iddo cyn y talai ei feistres ddim sylw i’w groesawiad arferol. Wrth i Becca fyned i mewn i gegin fawr y ffermdy galwodd ei mam arni,—

“Tyn dy sgidia yma, Becca, mae nhw’n siwr o fod yn ’lyb ar ol bod yn yr eira ’na.”

’Roedd ei mam yn brysur yn crasu teisenau yn y pobty, a gwyddai Becca mai pethau erbyn y Nadolig oeddynt. Tynnodd ei hesgidiau fel ’roedd ei mam wedi gofyn iddi, a rhoddodd ei slipars bach o leder coch, oedd wedi eu gosod yn barod iddi ar yr aelwyd, am ei thraed. Edrychodd ar ei hesgidiau, a daeth par o esgidiau ereill i’w meddwl, gwahanol iawn yr olwg. Aeth o’r gegin i’r parlwr bach, a chrychiad dwfn o hyd ar y talcen gwyn o dan y cudynau tywyll. Nid oedd Becca wedi darfod myfyrio. Taflodd ei hun ar y mat o flaen y tân coch i aros nes byddai te yn barod, a syllai i ddyfnder y goelcerth. ’Roedd yn gweled ynddo lawer iawn o bethau. ’Roedd yno bum swllt gloew, doli fawr, a choler ci, ac mewn cwrr arall par o hen esgidiau a thyllau mawr ynddynt. Gorweddai Tobi wrth ei hochr, a throdd Becca i edrych ar ei goler. Nid oedd yn edrych yn respectable iawn yn ei golwg. Yr oedd y plating wedi gwisgo i gyd oddiar y bwcl, ag oddiar y plât yr oedd Wil y gwas wedi torri yr enw Tobi mewn llythrennau breision. Af ol te, pan oedd ei thad yn eistedd wrth oleu'r tân yn smocio ei bibell, dringodd Becca ar ei lin, fel byddai ei harfer, a gorffwysodd ei phen ar ei ysgwydd.

“Nhad,” meddai hi, “be fasach chi’n neyd? Bwriwch bod ginoch chi bum swllt, a bod arnoch isio prynnu doli a choler i’ch ci a lot o bresenta bach, a dyma chi’n gweld rhyw hogan bach a thylla mawr yn ’i sgidia hi, nes yr oedd yr eira yn mynd i fewn, a fedra ei mam ddim prynnu rhai newydd iddi hi. Fasach chi’n prynnu’r ddol a’r petha erill, ’ta fasach chi’n prynnu sgidia newydd i’r hogan bach?”

“Wel, ’dw i’n meddwl mai prynnu sgidia faswn i, Becca. Nid dyna fasat ti yn neyd?”

“Twn i ddim. ’Dach chi’n meddwl y basa’ch tad a’ch mam yn hidio am i chi beidio prynnu rhywbeth iddyn nhw ’Dolig?”

“Na tydw i ddim yn meddwl y base nhw,” meddai y tad dan wenu. “Ond neidia i lawr rwan, rhaid i mi fynd allan.”

Eisteddodd Becca hefo Tobi wrth y tân am ychydig amser yn hwy, a’r crychiad o hyd yn ei thalcen, ond fe giliodd ym fuan, a throdd yr eneth bach at y ci, a dechreuodd chwareu gydag ef. “Hidia befo, Tobi,” sibrydai yn ei glust, “mi gei di goler newydd y ’Dolig nesa wyddost. Tydi o ddim ods gin ti nag ydi? A mi ’na i lanhau hon yn lân, lân erbyn y ’Dolig yma.”

Cydsyniodd Tobi drwy lyfu gwyneb ei feistres bach yn frysiog. Byddai Becca yn dweyd mai rhoi cusan y byddai felly.

Wrth iddi fyned i'w gwely y noson honno tynnodd Becca y pum swllt allan o’r blwch bach. Mor ddiwyd yr oedd wedi eu hel! Gwyddai hanes pob ceiniog ynddo. Dyna y pisin tair gafodd hi gan ei thad am chwynnu gwely winwyn yn yr ardd ryw dro yn yr haf, y swllt gafodd gan y dyn fyddai yn prynnu’r defaid,— yr oedd hanes i bob darn oedd yno. Wedi iddi eu cyfrif yn ofalus, clymodd hwy yng ngongl ei chadach poced.

Brydnawn drannoeth cyn cychwyn i'r dref hefo ei thad, gofynnodd iddo am ddau hanner coron yn lle yr arian mân.

“Tad, Becca, ’rwyt ti’n gyfoethog iawn,” meddai wrth estyn y ddau bisin gwyn iddi, “beth wyt ti am brynnu hefo’r holl arian ’na?”

Gwenodd Becca, a chlymodd hwy yng nghongl ei chadach yn lle y pres ereill. A rhoddodd yr hancaish yn ofalus yng ngwaelod ei phoced. Wrth fyned heibio y ffenestr lle yr oedd y ddoli fawr trodd ei phen draw, ac felly pan yn mynd heibio siop y sadler.

Arweiniodd Becca ei thad i'r siop lle byddent yn arfer prynnu esgidiau, a dewisodd bar o esgidiau cryfion cynnes, y rhai y meddyliai fuasent yn ffitio Maggie. Safodd ei thad yn edrych arni ac yn rhoi gair o gyngor iddi, ond ni ofynnodd i bwy yr oeddynt. Meddyliai fod rhyw gysylltiad rhwng yr holi y nos o’r blaen a’r par esgidiau mewydd. “Aros yna am funud, Becca, mi ddo i dy nol di yn union,” meddai wrthi. Daeth yn ei ol a phecyn dan ei fraich cyn i’r siopwr orffen clymu’r esgidiau mewn papur ag i Becca drosglwyddo y ddau hanner coron i’w ddwylaw.

Wedi iddynt fynd i amryw o siopau a gweled y ffenestri i gyd, aeth y ddau adref, Becca yn cario’r esgidiau yn ofalus, ac ar y ffordd dywedodd wrth ei thad i bwy yr oeddynt i fyned.

“Diar anwyl,” meddai ei thad, “wyddwn i ddim fod Richard Morgan yn wael, rhaid i mi siarad hefo dy fam. Rhaid gyrru rhywbeth iddyn nhw.”

Dywedodd Becca yr hanes wrth ei mam ar ol te, a danghosodd yr esgidiau iddi. Ac yna gofynnodd am ganiatad i ofyn i Maggie ddod yno drannoeth,

“Ceith yn neno’r diar,” oedd yr ateb, “a rhaid i mi roi dipyn o dorth frith a mince pies mewn basged i ti fynd hefo'r esgidia.”

Wedi gwneyd y fasged yn barod cychwynnodd Becca, a Tobi a’r hen goler wedi ei glanhau yn loew yn ei dilyn.

Curodd Becca wrth ddrws y bwthyn, a daeth Maggie i agor iddi. “Mae mam yn gyrru’r fasged yma i dy fam, a mae hi’n gofyn sut mae dy dad, ac isio i ti ddwad acw fory. Mi ddoi dy ’nol di ar ol brecwast. Nos dawch.”

A rhedodd Becca ymaith heb i Maggie ddweyd yr un gair ond edrych arni hi mewn syndod.

Pwy all ddweyd y dedwyddwch oedd yn y bwthyn wrth agor y fasged a chwilio’r trysorau? Roedd yr esgidiau am draed Maggie cyn pen chwarter awr, ac mor gyfforddus oeddynt ar ol yr hen ffagiau oedd wedi bod yn wisgo. Yn y fasged hefyd yr oedd rhywbeth heblaw y bara brith a phethau o'r fath, rhywbeth fuasai yn ceisio bara iddynt nes byddai y tad yn abl ddechreu ar ei waith drachefn. A gwawriodd dydd Nadolig yn fwy llawen ar deulu’r bwthyn bach nag yr oeddynt wedi meddwl, diolch i Becca. Cafodd hithau rywbeth nad oedd hi ddim ym ei ddisgwyl. Yr oedd wedi gosod ei hosan, fel arfer nos Nadolig, wrth ochr ei gwely, cyn myned i gysgu, ac wrth godi yn y boreu beth welai hi ond pen y ddoli fawr yn ymestyn o honi, ac erbyn chwilio i waelod yr hosan yr oedd y goler leder i Tobi yno hefyd, y bwcl yn disgleirio fel arian.

“Sut ’roedd yr hen ddyn bach yn gwybod beth oedd arna i isio tybed?” meddai wrthi ei hun.

Y dydd Nadolig hwnnw oedd y dedwyddaf yr oedd Maggie yn ei gofio. Fu erioed y fath chwareu a sport ag oedd yn yr Hendre Isaf. Ac yr oedd Tobi a’i goler newydd am ei wddf yn mwynhau ei hun gymaint a neb yn myned at bawb ac fel yn dweyd,—“Edrych ar fy ngoler newydd, yn tydi hi'n grand?”

Y CASTELL GER Y LLI.

(Cyfieithiad o “The Castle by the Sea” gan Longfellow).

A WELAIST di y castell,
Y castell ger y lli?
Cymylau aur yr hwyrddydd
A daenant drosto’u bri.

“Mae fel yn chwennych disgyn
I'r dyfroedd clir islaw,
Ac fel yn chwennych esgyn
I’r wybren euraidd draw.”

“Y castell, mi a’i gwelais,
A’r lloer oedd uwch ei ben,
Ac araf iawn a distaw
Y taenai’r niwl ei len.”

“Oedd cân yn swn yr awel,
A chân yn swn y donn?
A ddeuai seiniau’r delyn bêr
O’r castell ger dy fron?”

“Y donn oedd oer a distaw,
A’r awel oedd yn brudd,
A chlywais swn gwylofus gri,—
Daeth deigryn ar fy ngrudd.”

“A welaist di y brenin,
Ynghyd â'i briod pur,
A’u mentyll heirdd a’u coron aur,
Yn rhodio ar y mur?

“A rhyngddynt hwy yn cerdded
A welaist feinwen dlos,
A’i gwallt fel twyniad heulwen,
A'i gruddiau fel y rhos?”

“Y tad a’r fam mi’n gwelais,
Heb iddynt goron mwy;
Mewn galar wisg yn rhodio,—
’Run feinwen gyda hwy.”



DROS FOEL Y DON.

’ROEDD damwain angeuol wedi digwydd ar fferm Ty Mawr; un o’r gweision wedi ei ddal yn yr injan falu, a’i anafu mor dost fel y bu farw cyn iddynt allu ei symud o’r lle. Dyn o’r enw John Hughes oedd, ac ni wyddai neb ddim o’i hanes cyn iddo ddod i’r ardal. Ymddangosai yn hollol amddifad o berthynasau. Ni fyddai un amser yn derbyn llythyr. Ni fyddai neb yn dod o unman i’w weled, nac yntau yn myned i unlle o’r ardal. Daeth at ddrws Ty Mawr un cynhaeaf ychydig flynyddau yn flaenorol gan ofyn gwaith. Yr oedd angen gweithwyr ar y fferm, a chymerwyd ef i fewn. Yr oedd yn weithiwr dygn a medrus, ac ni throwyd ef i ffwrdd ar ddiwedd y cynhaeaf.

Yr oedd geneth fechan gydag ef oddeutu pump oed, a chawsant lety gyda gwraig weddw o’r enw Betsan Jones yn un o’r bythynod oedd ar y ffordd fawr tu allan i lidiart Ty Mawr. Ac yno yr oedd cartref y ddau pan y cymerwyd un ymaith yn ddisymwth, gan adael y gwannaf yn unig a diamddiffyn.

Yr oedd gŵr Ty Mawr wedi dwyn y treuliau claddu, a buasai yn hoffi myned a’r eneth bach gydag ef gartref i’w chydfagu â’i blant ei hun, gan fod yn amlwg nad oedd ond tloty o’i blaen. Ond gwyddai na chaffai dderbyniad gan ei wraig. Dynes dal deneu oedd gwraig Ty Mawr, a golwg gwgus arni bob amser bron; ei llygaid glâs oer heb yr un wreichionen o dynerwch ynddynt, yn gwibio ol a blaen yn ddibaid fel yn chwilio am droseddwr i dderbyn ei gosb, a phan awgrymodd Robert Williams ei ddymuniad wrthi ynglyn â'r eneth amddifad, disgynnodd arno fel llew ar ei ysglyfaeth. Yr oedd yn parotoi y boreufwyd ar y pryd, ac yr oedd pob ysgogiad o’i heiddo yn cydgordio â'r geiriau sarrug ddylifai dros ei gwefusau. Curai ei chlocsiau yn y llawr cerrig tra yn myned yn ol a blaen rhwng y bwrdd a’r aelwyd. Curai y llwy ar ymyl y llestri wrth eu llenwi o’r crochan uwd uwch ben y tân, a dodai hwynt ar y bwrdd gyda’r fath egni nes yr oedd perygl iddynt fyned yn deilchion. “Dwad yma wir,” meddai. “Y dyn ’i hun! Tyda chi ddim yn meddwl fod ginon ni ddigon o waith i gael bwyd a dillad i’n plant yn hunan heb fynd i fagu plentyn estron, na wyr neb ar y ddaear o ble doth hi na’i thad? Faswn i’n meddwl ych bod chi wedi gneyd hen ddigon yn talu am gladdu. Fasa pob creadur a llygad yn ’i ben yn gadael i’r plwy ’i gladdu o, ond dyna fel y byddwch chi bob amsar, yn gneyd cam â’ch teulu ych hun er mwyn rhyw hen nialwch. A’r holl hwribwrli hefo’r cwêst hefyd. Fasa rhywun yn meddwl fod gini ddigon o waith heb orfod olchi’r lloria ar ol traed budron dwsin o ddynion diarth. Ddaw hi ddim yma, dyna ddigon i chi, a waeth un gair mwy na chant. Aed i’r wyrcws, mae yn ddifai lle iddi hi, yr hen fursan bach. Mae ’i gwell hi wedi bod yno ganwaith.”

Pallodd ei hanadl, a chyn iddi ail ddechreu, clywid swn traed ar y palmant cerrig tuallan i’r drws, a daeth y gweision i fewn at eu boreubryd, a’r ddau fachgen hynaf, oedd yn gweithio ar y tir, gyda hwynt. Cymerodd Robert Williams ei het oedd wrth ei ochr ar y fainc ac wedi rhoddi rhyw gyfarwyddiadau i'r gweision, aeth allan. Yr oedd y pedwar bachgen ieuangaf yn rhedeg naill ar ol y llall o amgylch y buarth, ac yn defnyddio eu lleisiau hyd eithaf eu gallu, tra y cynorthwyai y ddau gi i wneyd y trwst yn fwy drwy gyfarth yn ddibaid.

Tel y cyrhaeddai y ffarmwr y llidiart yn arwain i'r caeau, clywai ei wraig yn gwaeddi o ddrws y ty,—

"Hei hogia, dowch i nol ych brecwast mewn dau funud neu mi fyddwch yn hwyr i'r ysgol. 'Dach chi'n clywed? “Rwan, Ifan gollwng Wil mewn munud, neu mi golcha i di.” A gwelai'r hogia yn gwneyd yn wyllt am ddrws y ty, y naill yn syrthio ar draws y llall fel y ceisiai pob un o’r pedwar fyned i fewn yn gyntaf. Deuai ochenaid dros ei wefusau fel y caeai y llidiart ar ei ol, ac yr oedd ei lygaid yn llawn tristwch, a’r wên arferol wedi cilio oddiar ei wyneb crwn rhadlon. Yr oedd y ffaith fod John Hughes wedi cyfarfod â’i ddiwedd tra yn ei wasanaeth yn pwyso gryn lawer ar ei feddwl, ac yn enwedig pan y cofiai am ei eneth bach a’i chyflwr amddifad. “Margiad bach” arferai ei thad ei galw, ac yr oedd yr enw yn un anwyl a chynefin i wr y Ty Mawr flynyddau yn ol. Yr oedd yn anwyl eto, ond gydag anwyldeb gwahanol, yr anwyldeb hwnnw fydd gennym at ryw drysor wedi ei golli. Yr oedd yntau wedi colli ei drysor. Gorweddai Margiad bach Ty Mawr yn y fynwent, a charreg las wrth ei phen. Dywedai yr ysgrifen arni ei bod wedi marw yn wyth oed, ac ar ddiwedd y cofnodiad yr oedd y geiriau,—“Canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd.”

Pan dorrwyd y bedd bychan hwnnw dywedai rhai siaradus yr ardal fod yn dda nad oedd gan Margiad Williams Ty Mawr yr un eneth arall “i ddychryn i farwolaeth hefo’i thempar.”

Efallai mai cof am y plentyn oedd yn gorwedd dan y garreg honno oedd yn ei wneyd mor dyner tuag at y fechan unig oedd yn dwyn yr un enw.

Fel y cerddai ar hyd lwybr y cae oedd uwchben y ffordd fawr gwelai hi yn dod allan o ddrws y bwthyn lle y lletyai John Hughes gynt, ac yn myned i gyfeiriad y pentref, a meddyliai ei bod yn myned i’r ysgol. Gwyliai hi nes yr aeth o’r golwg, ac yr oedd rhywbeth yn unigrwydd y ffurf bychan yn peri iddo dynnu cefn ei law ar draws ei lygaid. Ond nid myned i’r ysgol yr oedd Margiad bach pan welodd gŵr Ty Mawr hi’n gadael bwthyn Betsan Jones. Tua’r adeg yr oedd Margiad Williams yn mynegu ei meddwl i’w gŵr ynglyn a hi, yr oedd yr eneth bach ym dod i lawr y grisiau o’i hystafell fechan. Clywai Betsan Jones yn siarad â chymydoges dros wrych yr ardd gefn, a disgynnodd y geiriau canlynol ar ei chlust. Gofynnai y wraig i Betsan,—

“Be ddaw o Margiad bach ’rwan, tybed? Mi ddyla Robat Willias neyd rwbath iddi hi.”

“Mi ’na pe cawsa fo lonydd, mi ellwch benderfynu, ond mi dynna Margiad Willias groen i wynab o tasa fo’n meiddio meddwl am y fath beth. I’r wyrcws, decyn i, rhaid iddi hi fynd. Fydd yma ddim lle iddi ar ol yr wythnos yma. Mae dau o ddynion y lein yn dwad yma i lojio. Ple bynnag yr eith hi, mi geith rywun ddigon o fyd hefo hi. Mae ’i thad wedi ’i dyfetha hi, y criadur! Meddyliwch am dani yn mynnu cael y glog lâs honno i fynd i'r cynhebrwng.”

Ond yr oedd teimladau’r llall ym dynerach, a meddai,—“Y peth wirion bach.” A gwnaeth y geiriau tyner i’r dagrau neidio i lygaid y gwrandawr bychan ar y grisiau. Ni arosodd i glywed ychwaneg o’r ysgwrs. Trodd yn ei hol i fyny’r grisiau mor gyflym a distaw ag y medrai fyned, a’r gair “wyrcws” yn seinio yn ei chlustiau. Nid oedd munud i’w golli. Yr oedd rhaid dianc. Edrychai’r plentyn wyth mlwydd oed o amgylch yr ystafell â llygaid mawr dychrynedig. Yr oedd ganddi ei thrysorau bychain. Y ddau mwyaf gwerthfawr yn ei golwg oedd darlun bachgen bach oddeutu yr un oed a hi ei hun. Yr oedd amser wedi melynu’r cerdyn ac wedi gwanhau y llinellau. Gwyddai Margiad bach holl hanes y darlun hwnnw; yr oedd ei thad wedi ei adrodd wrthi lawer gwaith,—pa fodd yr oedd wedi myned i Gaergybi hefo’i fam i “dynnu ei lun” pan yn hogyn bach, a’r holl bethau rhyfedd a digrif oedd wedi digwydd ar y daith honno. Y trysor arall oedd doli gawsai gan ei hathrawes yn yr Ysgol Sul. Yr oedd yn rhaid cludo y rhai hyn gyda hi. Tynnodd y darlun o’i guddfan a cheisiodd ei roddi ym mhoced ei ffrog, ond yr oedd yn rhy fechan i ddal y cerdyn yn ddiogel, a gwelodd y byddai raid iddi ei dwyn yn ei llaw gyda’r ddoli. Yr oedd y glog lâs gyfeiriwyd ati gan Betsan Jones yn hongian tu ol i’r drws, a rhoddodd hi am dani a’r cap crwn brethyn glâs oedd i’w chanlyn am ei phen. Agorodd ddrws ei hystafell yn ddistaw, ac aeth i lawr y grisiau ar flaenau ei thraed. Clywai Betsan Jones yn siarad o hyd gyda gwraig y ty nesaf, ac aeth allan drwy y drws oedd yn gwynebu’r ffordd fawr.

Yr oedd y gair “wyrcws” yn ei gyrru fel fflangell. Y fath ddarlun ddeuai o’i blaen ynglyn ag ef! Yr oedd unwaith wedi gweled cerbyd yn llawn o enethod bychain yn myned heibio’r bwthyn am ddiwrnod o ddifyrrwch i rywle. Yr oedd gwisg y tloty am danynt, a’u gwallt wedi ei dorri’n gwta. Methai Margiad bach a dyfalu eu hanes, a mynnodd wybod gan rywun. O’r eglurhad hwnnw yr oedd wedi ffurfio, gyda dychymyg byw afresymol plentyn, syniad rhyfedd ac ofnadwy am y lle hwnnw a’r modd y byddai genethod bach yn cael eu trin yno. Ymhlith y pethau yr oedd yn wybod ddigwyddai iddi pe dalient ac yr aent a hi yno, oedd y torrid ei gwallt, y cudynau fyddai ei thad yn droi am ei fysedd; ac ni chawsai wisgo ei chlog a’i chap glâs. Yr oedd hynny’n eithaf sicr. Yr oedd yn fwy na thebyg y digwyddai pethau gwaeth hyd yn oed na hynny iddi, a phrysurai’r meddwl ei chamrau.

Wedi myned ychydig o ffordd goddiweddwyd hi gan fechgyn Ty Mawr, ac arafodd ei cherddediad ychydig er mwyn iddynt fyned heibio iddi. Bechgyn Ty Mawr oedd dychryn ei bywyd. Yr oeddynt mor fawr a chryf, a phan afaelent ynddi byddai eu bysedd fel haearn. Byddai arni eu harswyd bob amser, ac nid elai yn agos i’r lle os na fyddai ei thad yn ymyl. Ond yr oedd un o honynt yn wahanol i’r lleill ym mhob ystyr. Yr oedd yn llai ac yn eiddilach ei gorlif, ac yr oedd llygaid tyner ei dad ganddo. Gwyddai Margiad bach y gwahaniaeth yn dda. Ni fyddai Wil byth yn ei rhwystro ar y ffordd wrth fyned i’r ysgol fel yr hoffai y lleill wneyd. Ni byddai yn ei phinsio fel y gwnai y tri arall pan y llwyddent i gael gafael ynddi. Fel yr elent heibio iddi y boreu hwnnw safai a’i chefn ar y gwrych a’i chalon yn ei gwddf rhag ofn y buasent yn cymeryd yn eu pennau i ymyrryd â hi, a dod o hyd i’r ddoli a’r darlun oedd yn ddwyn mor ofalus o dan ei chlog. Ond yr oedd ganddynt rywbeth pwysicach mewn golwg y boreu hwnnw na blino geneth bach, ac aethant heibio fel corwynt, gan udganu a’u llais fel arfer, a chuddiodd troad y ffordd hwynt o’i golwg mewn eiliad. Ond ni chanlynodd Wil y tri arall yn hir. Trodd yn ei ol a daeth i’w chyfarfod ar hyd y ffordd, a meddai pan wrth ei hymyl,—

“Brysia neu mi fyddwn yn hwyr.”

“Tydw i ddim yn dwad i'r ysgol heddyw, Wil.”

“Lle ti’n mynd ’ta?”

Edrychai y plentyn arno am ennyd tra y petrusai a fyddai’n ddoeth dyweyd ei helynt wrth Wil.

“Dudwch wrtha i, Margiad bach,” crefai yr olaf.

“Nei di ddim deyd wrth neb os gna i ddeyd wrtha ti?”

“Na ’na i.”

“Wir-yr?”

“Wir-yr.”

“Mae nhw am ’y ngyrru i i’r wrcws.” A daeth yr edrychiad dychrynedig yn amlycach i’w llygaid, fel edrychiad deryn bach yn y ddalfa, a throdd ei phen i edrych oedd y “nhw” oedd am ei dal yn y golwg.

Nid oedd dychymyg Wil erioed wedi troi o gwmpas y gair “wyrcws,” a disgynnai ar ei glust yn hollol ddiystyr. Ni allai ddyfalu pa fath le oedd, ond deallai wrth edrychiad Margiad bach ei fod yn lle anymunol, lle fel y jêl yn sicr. Ni allai dychymyg Wil gyrraedd ymhellach, a meddai,—

“Am be mae nhw am fynd a chdi yno?”

“Am ddim. Am fod ’y nhad wedi marw, a ’toes ’na ddim lle i mi yn nhy Betsan Jones, medda hi.”

“O mi gei ddwad i ty ni.”

“Na. Cha i ddim dwad gin dy fam.”

Syrthiodd gwynepryd Wil, ond gloewodd drachefn yn sydyn a meddai,—“Mi gei ddwad gin ’y nhad.” Ond ysgydwai Margiad bach ei phen. Yr oedd yn graffach na Wil, ac yr oedd wedi cael llawer prawf mai nid yr hyn fyddai gŵr Ty Mawr yn ewyllysio fyddai’n dod i ben yno.

“Wel, lle ti’n mynd ’ta?” gofynnai Wil, wrth weled nad oedd ei gynhygiad yn cael derbyniad parod. Daeth yr eneth bach a'i genau at ei glust a sisialodd,—

“Cofia di beidio deyd wrth neb. ’Dw i ’n mynd i dŷ nain. Cofia di beidio deyd neu mi ddôn ar f’ ol i, i fynd a fi i’r wyrcws.”

Edrychai Wil arni’n syn, a meddai,—

“I dŷ nain!”

“Hist!" a gostyngodd ei llais.

“Lle mae ty nain?"

“Yn sir Fon, a rhaid i mi fynd.”

Carasai Wil holi ychwaneg arni, ond yr oedd ei frodyr wedi ei golli, ac yn llefain arno ddod yn ei flaen. Crefodd Margiad bach arno fyned, rhag ofn iddynt ddod yn ol. Ei geiriau diweddaf wrtho oeddynt,—“Cofia beidio deyd wrth neb.”

Yr oedd yn methu deall beth oedd wedi digwydd i'w thad. Yr oedd wedi ei gadael, ond i be? Nid oedd erioed wedi ei gadael am noson o'r blaen. Yr oedd y diwrnod y gweodd ef ddiweddaf, wythnos yn ol, ymhell ymhell yn y gorffennol yn rhywle. Beth oedd “marw” tybed? Yr oedd babi bach y ty nesaf wedi “marw” ychydig wythnosau yn ol, ac yr oedd wedi myned gydag un o’i chwiorydd—ei chyfeilles bach yn yr ysgol—i’w weled yn ei arch fechan. Meddyliai ei fod yn edrych fel y byddai pan yn cysgu yn ei gryd, a buasai yn caru edrych arno o hyd, yr oedd mor dlws. Yr oeddynt wedi myned ag ef i ffwrdd mhen diwrnod neu ddau, ac nid oedd wedi ei weled wedyn. Dywedai pawb fod ei thad wedi “marw,” ac yr oeddynt wedi myned ag yntau i ffwrdd i’r fynwent, ac ofnai na welai mohono byth mwy. Yr oedd wedi gweled yr arch oedd gymaint yn fwy nag arch y babi bach, er na fedrai gael gan neb godi’r caead iddi gael golwg ar y gwyneb yr oedd mor gynefin ag ef. Yr oedd wedi bod yn y fynwent hefyd, y diwrnod yr aethant ag ef yno, pan oedd Betsan Jones mor flin wrthi am fynnu ei chlog lâs i fyned.

Mor falch oedd ei thad a hithau o’r glog lâs. Nid oedd gan yr un eneth bach yn yr ardal un debyg iddi. Yr oedd y ddau wedi ei gweled mewn ffenestr un o fasnachdai Caernarfon pan oeddynt wedi myned gyda’u gilydd i ffair ben tymor, ac aethant i fewn i’w phwrcasu. Yr oedd ei phris yn dipyn o syndod i John Hughes, ond ni fynnai siomi Margiad bach, a thalodd am dani o’i gyflog prin. Yr oedd y dilledyn wedi bod yn destyn llawer araeth gan wraig Ty Mawr. Y fath wastraff ar arian! Ond nid oedd y ddau yn malio llawer yn yr hyn ddywedai Margiad Williams, a gwisgai Margiad. bach y glôg oedd ei thad a hithau yn edmygu gymaint. Yr oedd y diwrnod y prynwyd hi yn un i’w gofio yn hir. Aeth ei thad a hi i’r cei, a dangosodd iddi y tir yr ochr arall i’r afon lle yr oedd “ty nain.”

Hoff ystori Margiad bach er pan oedd yn cofio oedd hanes “ty nain” yn sir Fon, ac yr oedd wedi ei wrando ugeiniau o weithiau pan yn eistedd ar lin ei thad cyn myned i’w gwely. Yr oedd mor gyfarwydd â Brynteg a phe buasai wedi byw ei holl wyth mlynedd bywyd yno. Yr oedd yn adnabod ei furiau gwyngalchog a’r pren rhosynau’n dringo o amgylch y drws. Gwyddai am yr ardd o’i flaen lle y tyfai “hen wr a’r rhosyn mynydd,” a “botwm gŵr ifanc,” a lle yr oedd y fainc a’r cychod gwenyn yn rhes armi. Gwyddai am y berllan wrth ochr y ty, a’r coed afalau ac eirin, ac am yr afon lonydd wrth law lle y byddai ei thad yn nofio cwch bach pan yn hogyn. Yr oedd yn gynefin â chegin fawr y ty a’i distiau derw, y setl wrth ochr y tân, a’r cwpwrdd cornel lle cedwid y mêl fyddai y gwenyn yn gasglu o’r blodau. Ar ddiwedd yr hanes, gofynnai bob amser,- “Pryd cawn ni fynd yno, tada?” A'r ateb fyddai, “Mi awn ni yno ryw ddiwrnod, Margiad bach.”

Y boreu hwnnw, cyn codi o’i gwely, yr oedd wedi meddwl myned i weled y lle yr oedd ei thad yn gorwedd, ond yr oedd wedi ei brawychu gymaint wrth eiriau Betsan Jones, nes i bob meddwl suddo i’r un meddwl mawr o ffoi. A phan ddaeth hwnnw iddi cofiodd am Frynteg, a meddyliodd fod y “rhyw ddiwrnod” hwnnw fyddai ei thad yn son am dano wedi dod. Ac wrth gychwyn ar ei thaith nid oedd ganddi’r un amheuaeth na chyrhaeddai yr hafan. ddymunol “ty nain.”

Fel y cerddai ymlaen yng nghyfeiriad tref Caernarfon, cofiodd am ei bwriad y boreu, a meddyliai yr hoffai ddod yn ei hol gyda’i nain, ac y caent ef yn gorwedd fel babi bach y ty nesaf, yn dlws a llonydd, ac y caent fyned ag ef i Frynteg, a byddai iddo’n sicr ddeffroi yn y fan honno.

Cerddai mor gyflym ag y gallai, a daliai y ddoli a'r cerdyn yn dynn o dan ei mantell lâs. Mis Tachwedd oedd, ac yr oedd yn foreu oer, y wybren wedi ei gorchuddio â chymylau bygythiol, y gwrychoedd o bob tu’r ffordd yn noethion, a'r gwynt yn cwynfan yn brudd trwyddynt.

Wedi cyrraedd y dref ceisiodd ddod o hyd i’r ffordd at lan y môr, oherwydd y gwyddai y byddai raid iddi fyned dros y dwfr rywfodd i gyrraedd sir Fon. Nid oedd yn cofio yn iawn pa ffordd yr oedd wedi myned gyda’i thad, ond ar ol crwydro ar hyd heol neu ddwy cafodd ei hun yn y Maes, o dan gysgod muriau llwydion yr hen gastell, a daeth o’r diwedd i’r cei. Ceisiai ddyfalu pa un o’r cychod oedd yn myned i sir Fon. Yr oedd eu nifer mor liosog nes ei synnu. Cerddodd at Borth yr Aur, ac yno yr oedd twrr o fechgyn ysgol, rhai a'u pwysau ar y mur isel, a'r lleill yn eistedd arno, yn edrych i lawr i’r dwfr. Syllai Margiad bach arnynt yn amheus. Yr oedd yn ofni braidd gofyn iddynt ei chyfarwyddo at y cwch. Taflodd ei golwg drosodd at y tir yr ochr arall i’r afon. Yr oedd y llanw i lawr, a’r tywod yn codi’n felyn o’r tonnau brigwyn. Aeth yn agosach at y bechgyn, ac wedi petruso ychydig gofynnodd yn wylaidd y ffordd at y lle yr oedd y cwch i sir Fon yn cychwyn. Trôdd yr oll eu llygaid ar yr eneth fechan yn ei gwisg lâs, ac edrychent arni gyda chywreinrwydd, ac meddai un yn wawdus,-”Cwch! ’toes na ddim cwch yn mynd i sir Fon y beth wirion. Stemar bach sy’n mynd, a mae hi’n siwr o fynd ar lawr heiddyw.” Syrthiodd gwynepryd Margiad bach wrth y geiriau gwawdus, ond daeth un arall o’r bechgyn at ei hymyl a meddai,—“Oes ginoch chi isio mynd i sir Fon? I lawr ffor’ acw mae'r stemar.” Ond cyn y gallai droi i fyned i’r cyfeiriad dangosai iddi gwaeddodd yr un oedd wedi ei hateb gyntaf,—“Mae tair ceiniog am fynd hefo’r stemar, a mi ddaliai i nad oes gini hi yr un ddimai.” Yr oedd yn hawdd gweled wrth wyneb Margiad bach fod ei ddyfaliad yn gywir. Daeth y dagrau i’w llygaid er ei gwaethaf, ac ni allai gadw ei gwefus rhag crynu. Wrth weled yr arwyddion yma llefai ei gelyn drachefn,—“Un iawn, ynte, yn meddwl cael mynd hefo'r stemar am ddim.” A chwardd. odd yr oll o’r bechgyn, ac eithrio yr un oedd wedi ceisio ei chyfarwyddo at y stemar. Edrychai hwnnw ar ei hol yn fyfyrgar fel yr elai drwy y porth a’i chalon bach bron ar dorri. Yr oedd heb ei “thada” ac wedi colli y gobaith o gyrraedd diogelwch rhag y wyrcws, a daeth yr arswyd ofnadwy arni drachefn yr aent a hi i’r lle hwnnw.

Nid oedd, fodd bynnag, wedi myned lawer o gamrau i fyny’r Stryd Fawr na chlywai rywun yn gwaeddi, “Hei hogan bach,” a phan drodd ei phen gwelai y bachgen oedd wedi bod yn dyner wrthi wrth ei hymyl. Edrychai arni yn siriol, a meddai,—“Os ewch chi i Lan y Foel mi fedrwch fynd i sir Fon hefo cwch y Borth, a ’toes dim ond dima am i blant fynd. Mae gini ddima, a mi cewch chi hi.” A thynnodd y ddimai, ei holl gyfoeth bydol, o’i boced o ganol nifer o fân daclau, a rhoddodd hi yn llaw Margiad bach. Caeodd ei bysedd arni, ac edrychai i wyneb rhadlon y plentyn oedd yn gwenu arni, a chiliodd ei gofid tra y gwenai yn ol arno. “’Dach chi’n gwybod y ffordd i Lan y Foel?” gofynnai rhoddwr y ddimai iddi. Ysgydwai Margiad bach ei phen. “Mi ddo i i’ch danfon chi dipyn bach, mi oeddan ni’n byw yno stalwm, a mi fydda ni’n mynd i sir Fon yn y cwch o hyd. Braf oedd hi hefyd.”

Yr oedd y ddau erbyn hyn yn cerdded i gyfeiriad gorsaf y rheilffordd, ac wedi gadael honno darfyddodd y tai, a chafodd Margiad bach ei hun drachefn yn y wlad. Yr oedd ei byd wedi gloewi gryn lawer. Yr oedd y byd tuallan iddi hefyd wedi gloewi,—y cymylau duon wedi cilio, yr haul yn tywynnu er yn wannaidd. Canai robin goch yn y gwrych gerllaw, a deuai nodyn hir ac undonog yr asgell arian yn awr ac eilwaith, a gwelent ef yn gwibio yma ac acw, gwyn ei aden yn fflachio yn yr haul. Yr oedd y bachgen bach wedi dweyd wrthi beth oedd ei enw, pa le yr oedd yn byw yn nhref Caernarfon, a pha ddosbarth yr oedd ynddo yn yr ysgol, ac yn dechreu holi Margiad bach ar y cyfryw destynau pan glywid cloch yn canu tu ol iddynt yn rhywle, ac meddai yn frysiog,—“Dyna’r gloch gynta. Mi fydd i’n hwyr. Cerrwch yn ych blaen yn syth o hyd, a mi ddowch i Lan y Foel, a wedyn mynd i lawr yr allt, nid yr allt gynta’ ond yr un wedyn, at lan y môr.”

Galwai y cyfarwyddiadau hyn ar ei ol, tra y rhedai yng nghyfeiriad y dref, yn edrych dros ei ysgwydd ar Margiad bach wrth fyned. Rhywfodd wedi hynny nid oedd pethau mor obeithiol yng ngolwg y teithiwr bychan. Aeth yr haul o’r golwg hefyd. Cododd y gwynt, a chwythai’n oer i’w gwyneb. Troellai gudynau ei gwallt tu ol iddi, a chwibanai drwy y rhes o goed ynn oedd gydag un ochr i’r ffordd. Cyfrifai Margiad bach y bonion fel yr elai heibio iddynt. Yr oedd pymtheg ohonynt yn dal a syth, a chodau gwywedig eu hadau yn hongian yn brudd ar y brigau, ac yn suo yn yr awel.

Yr oedd yn brydnawn pan gyrhaeddodd Lan y Foel. Daeth o hyd i’r borth yn ddidrafferth. Yr oedd y cwch a’i hwyl goch i fyny wedi ei sicrhau wrth y cei isel. Ond nid oedd y cychwr i’w weled, ac eisteddodd Margiad bach ar garreg fawr gerllaw i’w ddisgwyl. Teimlai yn flinedig, ac yr oedd ei thraed yn ddolurus ar ol y daith. Yr oedd gefail gof yng ngolwg y llecyn, a gwelai oleu coch y tân yn fflachio drwy y drws agored. Meddyliai y buasai yn caru dal ei dwylaw ato i’w cynhesu, yr oeddynt mor oer. Toc gwelai nifer o blant yn dod o’r ysgol, ac yn sefyll i wylied tân y gof am ennyd. Yn anffodus syrthiodd llygaid un o honynt ar yr eneth fechan yn eistedd ar y garreg ar lan y môr. Dangosodd hi â’i fys i’r gweddill. Deffrowyd eu cywreinrwydd parthed yr “hogan” oedd yn eistedd mor unig a llonydd yn y fan honno, ac mewn eiliad yr oedd yr oll o’i hamgylch. Cododd ar ei thraed, ac ar y funud daeth pwff o wynt dros y dwfr a chododd gwrr y glôg lâs gan ddatguddio'r trysorau ddaliai mor dynn yn erbyn ei mynwes. Ni fuont yn ei meddiant yn hir wedyn. Cipiwyd hwy o’i dwylaw er ei gwaethaf, a gwelai gyda braw dri neu bedwar o’r bechgyn yn ymrafaelio am y ddoli, a’r gweddill yn llygadrythu ar y darlun, a bron a’i dynnu’n ddarnau rhyngddynt tra y llefent eu barn arno. “Llun i chariad hi!” “Yldi dillad digri sy gino fo.” “Un codog ynte.” Dyma rai o’r sylwadau ddisgynnai ar glust Margiad bach. Ac yn ben ar y cwbl gwelai o’r diwedd y ddoli a’r darlun yn fflachio heibio ei llygaid ac yn disgyn i’r dwfr dulas wrth ochr y cei. Yn y cyfwng yma daeth y cychwr i’r lle. A phan welodd Margiad bach yn wylo, ac y deallodd beth oedd ei helynt, ceryddodd y plant yn llym, a neidiodd i’r cwch i geisio cyrraedd y ddoli. Ond yr oedd y llanw wedi ei dwyn yn rhy bell. Yr unig beth gafodd afael ynddo oedd y cerdyn, wedi meddalu yn barod gan y dwfr, a’r darlun wedi ei olchi i ffwrdd yn lân. Rhoddodd hwn i’r eneth bach, a phan ddeallodd fod arni eisieu myned drosodd cododd hi’n garedig dros ochr y cwch, a rhoddodd hi i eistedd ar y fainc. Yr oedd y plant wedi dianc i gyd erbyn hyn, yn ofni canlyniadau eu hymddygiad tuag ati.

Fel y gadawai y cwch y lan, eisteddai a’i llygaid ar y tir yr oedd trwyn y cwch iddo, a’r dagrau heb orffen sychu ar ei gruddiau. Yr oedd colli y ddoli a’r darlun yn brofedigaeth fawr. Daliai y cerdyn gwyn gwlyb o dan gysgod ei chlôg, yr unig ran oedd yn aros o’i thrysor pennaf. Yr oedd bron a thorri i wylo drachefn wrth feddwl am ei cholled, ond fel y siglwyd y ewch gan y tonnau a’r gwynt anghofiodd bob peth mewn ofn. Nid oedd erioed wedi bod mewn cwch o’r blaen, a deuai ei chalon i’w gwddf bob tro y cyrhaeddent frig ton ac y disgynnent i’r dyfnderoedd drachefn. Ni pharhaodd ei mordaith gyntaf yn hir, fodd bynnag, a daethant i’r ochr draw yn ddiogel. Pan yn cerdded i fyny cerrig llithrig y cei, teimlai Margiad bach fod ei threialon yn awr ar ben. Yr oedd yn sir Fon; ni fyddai yn hir cyn cael hyd i Frynteg, “ty nain.” Cerddai gyda’r bobl oedd wedi dwad hefo’r cwch i fyny’r ffordd, a gofynnodd i ryw wraig oedd yn myned ychydig gamrau o’i blaen pa ffordd oedd myned i Frynteg. “Mi ’dw i’n myned heibio yno, a mi ’na i ddangos o i chi.” A cherddodd y ddwy am bellderoedd yn nhyb Margiad bach, yr hon oedd yn flinedig iawn erbyn hyn, ac yn dechreu teimlo yn newynog hefyd. Ceisiai y wraig ei holi o ba le yr oedd yn dod, ond ychydig ddywedai y plentyn wrthi. Ac o'r diwedd gadawodd iddi, gan feddwl ei bod yn eneth bach ryfedd iawn, a cheisiai ddyfalu beth oedd ei neges ym Mrynteg. Pan oedd gobaith Margiad bach bron a diffygio, daethant at lidiart yn arwain i fuarth tyddyn bychan ychydig o’r ffordd. Dywedodd y wraig wrthi ei bod wedi cyrraedd Brynteg, ac wedi agor y llidiart iddi aeth yn ei blaen i fyny’r ffordd. Cerddai y plentyn drwy y buarth at y drws, ac edrychai o’i chwmpas gan geisio rhai o'r pethau yr oedd mor gynefin a hwy. Ni welai ardd yn tebygu i'r un oedd ganddi ddarlun mor fyw o honi yn ei meddwl. Ni welai y berllan a’r coed afalau a’r eirin; a cherrig llwydion heb erioed eu gwyn galchu oedd muriau y ty. Nid ty nain oedd yn sicr, er mai Brynteg oedd ei enw. Safai y drws yn agored, a phan gurodd yn wylaidd daeth gwraig canol oed i’r golwg o’r gegin. Edrychai ar y plentyn yn ymofyngar, ac wrth ei gweled yn sefyll heb ddweyd gair, gofynnodd,—

“Wel, be sy isio?”

Syllodd Margiad bach i'w gwyneb. Yn sicr nid nain oedd hon, ond gofynnodd,—

“Hwn ’di ty nain, os gwelwch chi’n dda?”

Edrychai’r wraig yn synedig arni, a meddai, “John Williams a’i frawd sy’n byw yma, a fi sy’n cadw ty iddyn nhw. Dau hen lanc ydyn nhw,” ac ychwanegodd wrth weled y plentyn yn troi i ffwrdd yn siomedig yr olwg. “Wyrach mai Brynteg Isa oedd arnoch chi isio. Mi ddangosai i’r ffordd i chi fynd at yno.” A daeth ar ei hol at y llidiart a cheisiodd egluro lle yr oedd Brynteg Isa. Yr oedd y cyfarwyddiadau yn ddyrus iawn i Margiad bach, ond cerddai ymlaen ar hyd y ffordd leidiog mor gyflym ag y gallai er gwaethaf ei lludded. Pan gyrhaeddodd y troad yr oedd y wraig wedi dweyd wrthi am gymeryd, daeth yn gawod drom o genllysg, a churai i’w gwyneb nes bron a’i dallu. Yr oedd y nos hefyd bron a’i dal, ac nid oedd Margiad bach yn hoff o’r tywyllwch.

Aeth heibio’r troad, ond ni welai dŷ yn y golwg yn unman, a gofynnodd i fachgen oedd yn dyfod i’w chyfarfod yn tywys ceffyl llwyd mawr, pa ffordd oedd myned i Frynteg Isa. Gyrrodd hwnnw hi heibio troad arall yn y ffordd a daeth o’r diwedd at amaethdy arall. Curai fel yn ei chalon yn gyflym. Tybed y caffai weled ei nain o’r diwedd! Byddai yn sicr o’i hadnabod. Dynes wridgoch a’i gwallt yn “ddu fel y frân,”—dyna fel byddai ei thad yn ei desgrifio i Fargiad bach, ac yr oedd hithau wedi ychwanegu at y darlun,—llygaid tyner fel rhai ei thad. Nid oedd y drws yn agored ym Mrynteg Isa ty arall, a phan gurodd daeth gwraig lled ieuanc ati a golwg helbulus ar ei gwyneb, a chlywai Margiad bach swn plentyn yn crio. Gwelodd y fechan unig ar unwaith mai nid ei nain oedd hon eto. Ni arhosodd y wraig i’r plentyn ddweyd gair, ond meddai,—“Toes ginon ni ddim byd i roi heiddyw,” a chaeodd y drws yn ei gwyneb. Nid oedd yn ddideimlad at gardotwyr fel rheol, ond yr oedd yn llawn trafferth y diwrnod hwnnw, y babi yn flin; y forwyn wedi ymadael heb rybudd. Yr oedd hefyd yn ddiwrnod pobi a’r bara eisiau eu tynnu o’r pobty y funud honno.

Trôdd Margiad bach oddiwrth y drws a siomedigaeth yn llenwi ei chalon at yr ymyl. Ym mha le yr oedd y Brynteg oedd yn geisio? Tybed y deuai o hyd iddo byth?

Crwydrai i fyny ac i lawr y ffyrdd culion rhwng y gwrychoedd uchel. Mor unig, mor ddistaw oedd! Yr unig swn glywai oedd chwi. baniad prudd gwylan yn y pellder yn rhywle.

Daeth dyn drwy lidiart wrth ei hymyl i’r ffordd, a gofynnodd iddo yr hyn oedd wedi ofyn yn ofer ddwywaith o'r blaen y prydnawn hwnnw. ”Brynteg?” meddai, “dach chi’n dwad orwth yno ’rwan.”

“Nid Brynteg yna.”

“O, Brynteg John Williams a’i frawd ’dach chi’n feddwl, decyn i.”

Ond ysgydwai Margiad bach ei phen, oherwydd cofiai mai “John Williams a’i frawd” oedd yn byw yn y lle cyntaf yr aeth i holi.

“Wel, ’twn i ddim lle ’dach chi’n feddwl os nad ydach chi’n meddwl Brynteg y Llan. Dyma ffor ewch chi gynta i fano,” meddai gan agor y llidiart oedd newydd gau ar ei ol. “Cerwch ar hyd y llwybr ’na a dros y gamfa i’r ffordd gul, a wedyn mae giat Brynteg dipyn bach yn is i lawr na’r gamfa. Rhaid i chi frysio ne mi fydd yn nos arnoch chi yngeneth i. Cymwch ofol na newch chi ddim mynd yn rhy agos i’r afon.”

Llusgai Margiad bach ei thraed dolurus hyd y llwybr llaith. Yr oedd y cymylau wedi clirio erbyn hyn, ac ambell seren oleu brydferth yn disgleirio yma ac acw yn y wybren oer glir uwchben. Toc daeth at y llidiart fel y dywedai y dyn wrthi. Ceisiai wneyd allan yn y gwyll a oedd rhywbeth yn gynefin yngolwg y lle—yr oedd y dyn wedi son am yr afon—ond yr oedd y goleu wedi pallu gormod. Cyn y gallai gyrraedd drws y ty clywai swn cadwen yn cael ei llusgo hyd y cerrig palmant, a rhuthrodd ci mawr arni. Nid oedd arni ofn cwn yn gyffredin. Yr oedd dau gi Ty Mawr ymhlith ei chyfeillion goreu. Ond nid oedd y ci yma yn debyg i Spot a Carlo. Teimlai ei ddannedd yn gafael yn ei mantell, ac yn ei dychryn gollyngodd afael yn y cerdyn oedd wedi ddal yn ei llaw o hyd. Diangodd fodd bynnag gan adael darn o’r brethyn yn ei grafangau. Aeth allan drwy y lidiart ac i lawr ffordd gul at y gors gydag ochr yr hon y rhedai lli llonydd distaw yr afon. Nid oedd o ryw lawer o bwys ei bod wedi methu myned at ddrws Brynteg y Llan. Mae yn debyg nad oedd ei nain yno mwy nag yn y lleoedd eraill oedd wedi bod yn holi. Fel y crwydrai yn unig gyda glan yr afon llithrodd ei throed ar y gwellt gwlyb, a theimlai yr oerni esmwyth ar ei gwyneb. Gwelai y ser uwch ei phen. Caeodd ei llygaid. Mor felus oedd gorffwyso ar ol y crwydro maith. Llithrodd yn araf, araf nes y golchai y dwfr ei gwyneb, ac y sisialai drwy ei gwallt hir.

Cafwyd hi boreu drannoeth gan rai o weision Brynteg, ei mantell lâs wedi troi am hen foncyff oedd gyda glan yr afon, a chludwyd hi heibio’r ardd, lle yn yr haf y tyfai y “rhosyn mynydd” a’r blodau eraill y gwyddai am danynt mor dda, ac heibio’r berllan a’i choed afalau ac eirin yn sefyll yn noeth yn awr, i ysgubor yr amaethdy, lle gorweddai ar hen gist a’r dwfr yn araf dreiglo o’i dillad ac o gudynau ei gwallt. Syllodd y dynion am ennyd ar y gwyneb prydferth llonydd, ac yna aethant allan yn ddistaw ar flaenau eu traed, fel pe yn ofni ei deffroi o gwsg mor dawel.

Nid oedd neb yn y lle pan ddaeth gwr Brynteg a’i wraig i fewn i weled y crwydryn bach oedd wedi cyfarfod a’i diwedd yn nyfroedd oer afon y llan. Safai’r ddau un o bobtu’r gist, hen wr a hen wraig a’u gwallt wedi gwynnu, a’u llygaid yn llawn prudd-der. Fel y syllai’r wraig ar y gwyneb bychan daeth enw dros ei gwefusau nad oedd wedi ei seinio ers blynyddoedd lawer, a meddai, “Yn tydi hi’n debyg i John pan oedd o’n hogyn bach. Lle mae o heddyw tybed?” Edrychodd ei gwr i’w gwyneb am eiliad, ac yna trodd ac aeth allan yn frysiog, ond arosodd gwraig Brynteg ychydig yn hwy gyda’r plentyn marw, a chyn ymadael plygodd ei phen a chusanodd y talcen oer, a rhoddodd ei llaw ar y dwylaw bychan tra y codai llanw adgof yn ei chalon nes peri i'r dagrau ddisgyn dros ei gruddiau llwydion rhychlyd.

Claddwyd Margiad bach fel crwydryn ym mynwent y plwyf lle safai Brynteg. Yr oedd ymchwiliad wedi cael ei wneyd am dani yng nghymydogaeth Ty Mawr pan wybuwyd ei cholli, ac yr oedd Robert Williams mewn pryder mawr yn ei chylch, ac yn beio ei hun na fuasai wedi mynnu dod a hi i Dy Mawr er gwaethaf ei wraig. Ond nid oedd ei chyfaill bychan Wil mewn pryder o gwbl am dani. Yr oedd yn ddiogel yn nhy ei nain erbyn hyn. Buasai yn caru dyweyd wrth ei dad, ond cofiai ei fod wedi rhoddi ei air i Margiad bach na fyddai iddo ddyweyd wrth neb, rhag ofn iddi gael ei chymeryd i’r “wyrcws.” Yn y man, fodd bynnag, daeth y newydd am ei thynged i’r ardal. Gwnaeth argraff ddofn ar wr Ty Mawr. Teimlai ei wraig fod rhyw gyfnewidiad wedi dod trosto, a bod ei dylanwad arno wedi colli lawer o’i rym. Gwelodd hyn yn eglur pan y ceisiodd ei rwystro roddi carreg, fel yr un oedd ar Margiad bach Ty Mawr, ar y llecyn lle gorweddai y crwydryn bychan yn y fynwent yr ochr arall i’r Fenai. Am dano ef, teimlai fel pe yn euog o farwolaeth y plentyn amddifad, ac ni pheidiai ac edifarhau na fuasai wedi myned a hi gydag ef i Dy Mawr y diwrnod y claddwyd ei thad. Ond yr oedd Margiad bach yn ddiogel yn yr hafan ddymunol.




CAERNARFON:

CWMNI’R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.)

SWYDDFA “CYMRU.”

Nodiadau[golygu]


Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.