Storïau Mawr y Byd (testun cyfansawdd)
← | Storïau Mawr y Byd gan T Rowland Hughes |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Storïau Mawr y Byd |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
STORÏAU MAWR Y BYD
STORÏAU MAWR Y BYD
GAN
T. ROWLAND HUGHES
1936
Ail Argraffiad— Awst. 1937
Argraffwyd yng Nghymru yng Nwasg Gee, Dinbych
a rhwymwyd yng Nghymru
CYNNWYS
Rhagair
I "Iliad" Homer
II Odyseus
III Ioseff
IV Iason
V Branwen Ferch Llŷr
VI Cuchulain, Arwr Iwerddon
VII Y Tywysog Ahmad
VIII Beowlff
IX Arthur
X Y Saint Greal
XI Cân y Nibelung
XII Cân Roland
Y DARLUNIAU
Ulysses yn Gwawdio Polyphemus (Turner)
Achiles yn Ymladd
Odyseus a'r Môr-Forynion
Yd yn yr Aifft
Pyramidiau'r Aifft
Iason a'r Cnu Aur
Branwen (Talbot Hughes)
Maen Cuchulain
Sinbad y Morwr yn Myned ar Long
Llong Viking o Gokstad
Y Brenin Arthur
Y Saint Greal
Bedd Siegfried
Roland yn Canu ei Utgorn
Y Breche de Roland
RHAGAIR
Y MAE arnaf ddiolch i Gyngor Canol Darlledu i'r Ysgolion am eu gwahoddiad i baratoi'r sgyrsiau hyn. Cefais i lawer o bleser wrth y gwaith, a hyderaf y bydd eu darllen yn symbyliad i blant Cymru i wybod llawer mwy am lenyddiaeth gynnar y gwledydd.
Darllenodd y Parch. E. Tegla Davies bob pennod yn ofalus cyn eu cyhoeddi, ac yr wyf yn ddiolchgar iddo am lawer awgrym gwerthfawr iawn. Diolch hefyd i berchenogion y lluniau am eu caniatâd parod i'w harfer yn y llyfr hwn, ac i'r B.B.C. am roddi benthyg nifer o flociau.
- Ebrill, 1936
Storïau Mawr y Byd
"ILIAD" HOMER
PE gofynnai rhywun i chwi enwi rhai o feirdd mawr y byd, am bwy, tybed, y meddyliech?.........Ie, am feirdd Saesneg fel Shakespeare a Milton neu (a chwarae teg i chwi am fod yn falch o lenorion eich gwlad eich hun) am feirdd Cymraeg fel T. Gwynn Jones a R. Williams Parry. Pe bai raid i mi ateb y cwestiwn, credaf mai enw Homer a ddeuai gyntaf i'm meddwl—Homer, yr hynaf o'r beirdd i gyd, ac un o'r rhai mwyaf a welodd ac a wêl y byd. Am dair mil o flynyddoedd daliodd ei gerddi i swyno'r oesau. Newidiodd y byd: erys hud a chyfaredd y bardd.
Yn agos i dair mil o flynyddoedd yn ôl y canodd Homer ddwy stori hir mewn barddoniaeth. Trwy'r gyntaf, yr Iliad, clywir rhuthr milwyr, trwst arfau a charlam meirch, ond yn y llall, yr Odyssey, gwrandawn ar grwth y gwynt a suon y môr, a gwelwn y wawr yn torri ar ynysoedd y palmwydd.
Stori am ddinas o'r enw Ilium neu, yn Gymraeg, Caer Droea, a geir yn yr Iliad, dinas yn sefyll ar lan yr Helespont, erbyn hyn y Dardanelles. A fedrwch chwi dynnu darlun yn eich meddwl ohoni hi, dinas yn y dwyrain debyg i'r rhai hynny y sonnir amdanynt yn y Beibl? Yn ôl y chwedl, yr oedd yn ddinas santaidd a godwyd gan y duwiau, Neifion ac Apolo. O'i hamgylch yr oedd muriau cedyrn, llydain, a milwyr mewn gwisgoedd o haearn yn cerdded hyd-ddynt o dŵr i dŵr i wylio rhag pob gelyn. Yn y muriau yr oedd pyrth yn arwain i'r ystrydoedd heirdd a llydain, a chlwyd fawr ym mhob porth i'w cau yn y nos, ac yn y dydd hefyd pan oedd gelynion yn bygwth.
Enw brenin y ddinas hon oedd Priam, ac yr oedd ganddo amryw feibion. A wnewch chwi gofio enwau dau ohonynt? Un oedd Hector, milwr dewraf a chryfaf Caer Droea, arwr ac arweinydd y fyddin. Y llall oedd Paris, gŵr ieuanc mor hardd ei bryd fel y syllai'r duwiesau mewn syndod ar ei brydferthwch. Yr oedd glâs y môr yn ei lygaid ac aur y wawr yn ei wallt. I Baris rhoes un o'r duwiesau yr hawl i ddewis y ferch dlysaf yn y byd yn wraig. Hwyliodd dros y môr i wlad Groeg, gan aros yn nhŷ Menelaos, brenin Sparta, dinas bwysig yn y wlad honno. Syrthiodd mewn cariad â Helen, gwraig Menelaos a'r dlysaf o ferched y byd, a thrwy gymorth y dduwies cymhellodd. hi i adael ei gŵr a'i merch fach a mynd gydag ef i Gaer Droea.
Yr oedd Menelaos yn wyllt, a galwodd at ei gilydd holl frenhinoedd Groeg. Yn fuan casglwyd byddin fawr, rhyw gan mil o wŷr, a chychwynasant yn eu llongau i gyfeiriad Caer Droea. Dacw hwy'n mynd dros y môr peryglus, yr hwyliau cyn wynned â'r eira, blaen pob llong wedi ei addurno ag aur, a'r rhwyfwyr cryfion yn tynnu â holl nerth eu gewynnau. Yn sydyn, ar eu llaw dde, dacw fflachiadau'r mellt, arwydd bod Iau, y prif dduw, o'u plaid ac yn dymuno'n dda iddynt ar eu taith. Teimlai Agamemnon, arweinydd y fyddin a brawd Menelaos, mai gwaith hawdd fyddai gorchfygu Caer Droea, llosgi'r ddinas i'r llawr a dwyn Helen yn ôl i'w chartref yng Ngroeg.
Ond nid felly y bu. Aeth naw mlynedd heibio, a byddin y Groegiaid o hyd y tu allan i furiau Caer Droea yn ceisio ennill y ddinas, ac yn methu. Yn ystod y naw mlynedd fe laddwyd cannoedd o bob ochr, a hiraethai llawer o'r Groegiaid am eu gwlad a'u cartrefi. Yn y nawfed flwyddyn aeth pethau o ddrwg i waeth trwy i ffrae ddigwydd rhwng Agamemnon, brenin ac arweinydd y Groegiaid, ac Achiles, eu milwr dewraf a chryfaf. Mewn dig, ciliodd Achiles o'r frwydr.
Achiles yw arwr cerdd ardderchog Homer. Mab oedd i un o frenhinoedd Groeg, ond y dduwies Thetis, merch i dduw'r môr, oedd ei fam. Wedi ei eni, aeth y dduwies ag ef i Annwn ac yno gollyngodd ef wrth ei sawdl i Afon y Cysgodion, fel na allai cleddyf na saeth nac unrhyw arf glwyfo'i gorff. Magwyd ef gan ei dad, a'i fwyd oedd calonnau llewod, a chig eirth ac anifeiliaid gwylltion eraill. Yn fachgen, gallai ladd llewod, a rhedeg fel yr hydd, ond gallai hefyd ganu'r delyn, a chanu ei hun fel eos.
Nid oedd neb ym myddin y Groegiaid a allai ymladd fel Achiles, a phroffwydai hen ŵr doeth na syrthiai'r ddinas ond trwy ei gymorth ef. Ond yn awr wele'r Groegiaid yn gorfod brwydro hebddo, a gwnâi byddin Caer Droea ddifrod mawr yn eu mysg. Clwyfwyd y brenin, Agamemnon, a nifer fawr o'r arweinwyr, a rhuthrodd Hector a'i filwyr i ganol. ffosydd y Groegiaid. Yr oedd eu llongau hefyd mewn perygl o gael eu llosgi, a daeth ton o ofn ac anobaith drostynt. Rhoes Achiles, gan iddo wneuthur llw i beidio ag ymladd ei hun, fenthyg ei wisg o ddur a'i arfau gloyw i'w gyfaill pennaf, Patroclus, gan feddwl y byddai gweld yr arfau yn unig yn dychrynu'r gelynion ac yn eu gyrru'n ôl i Gaer Droea. Brysiodd Patroclus allan i'r maes, ond tynnodd y duw Apolo ei wisg arfog oddi amdano, a syrthiodd cyn hir yn aberth. i waywffon Hector.
Wrth y llongau, â'i feddwl trist yn ofni'r gwaethaf, gwelai Achiles negesydd yn rhuthro'n wyllt tuag ato. Un o filwyr y Groegiaid oedd, a dechreuodd adrodd ei stori ar unwaith.
"Achiles," meddai â dagrau yn ei lygaid, "mae dy gyfaill, Patroclus, wedi ei ladd, ac o amgylch ei gorff y mae'r brwydro'n ffyrnig. Erbyn hyn y mae dy wisg ryfel ym meddiant Hector, ac fel bleiddiaid yr ymladd y gelynion am gorff dy gyfaill dewr."
'Roedd calon fawr Achiles ar dorri'n ddwy wrth glywed y geiriau. Tros ei wallt modrwyog a'i wyneb hawddgar a thros ei ddillad gwerthfawr lluchiodd lwch a lludw, fel dyn yn colli arno'i hun. Fe'i taflodd ei hun ar lawr, gan dynnu ei wallt o'r gwraidd a griddfan dros y lle. Cymaint ei dristwch fel yr ofnai'r milwr ei weld yn claddu ei gleddyf yn ei fynwes ei hun.
I lawr yn nyfnder y moroedd clywodd ei fam, y dduwies Thetis, ef yn wylo, a brysiodd ato i'w gysuro.
"Achiles, fy mab," meddai'r dduwies, "paham yr wyt ti'n wylo? Paham y torri dy galon fel hyn?"
"Mae fy nghyfaill anwylaf wedi ei ladd," oedd ateb Achiles, "ac aeth y wisg o haearn a roddais iddo'n fenthyg, y wisg ryfel a roes y duwiau i'm tad, i feddiant Hector."
"Aros yma wrth y llongau," meddai'r dduwies, "a phaid â mentro i'r frwydr nes i mi ddyfod yn ôi. Gyda'r wawr yfory dychwelaf â gwisg o haearn ac arfau wedi eu gwneuthur gan Fwlcan ei hun, Fwlcan, gof y duwiau."
Ac i ffwrdd â'r dduwies i geisio'r ffafr hon gan Fwlcan.
Cyn hir syrthiodd yr haul i'r môr, a thrwy'r nos faith wylodd Achiles uwch corff ei gyfaill, Patroclus. Tyngodd na fwytâi ac nad yfai hyd nes dial y cam ar Hector; tyngodd hefyd na chleddid Patroclus hyd nes gorwedd o Hector yn farw wrth ei ochr.
Bore trannoeth, cyn gynted ag y daeth golau melyn y wawr i nef y dwyrain, safodd ei fam, y dduwies Thetis, wrth ochr Achiles gan roddi o'i flaen y wisg ryfel a'r arfau a wnaed gan Fwlcan ar ei gyfer. Syllai'r Groegiaid mewn syndod ar yr arfau, a gafaelodd Achiles ynddynt, â'i lygaid yn melltennu tân. Ni roddwyd i neb erioed arfau fel y rhai hyn. Toddasai Fwlcan aur ac arian a phrês a thun mewn tân ac ugain o feginau'n chwythu arno. Yr oedd y darian anferth yn bum trwch, dwy o brês, dwy o dun, ac un o aur. Arni fe dynnodd y gof enwog lun y ddaear a'r môr, yr haul a'r lloer a sêr y nefoedd. Yr oedd hefyd lun priodas mewn dinas heddychlon, pobl yn cario ffaglau llachar a gwŷr ieuainc yn dawnsio i sŵn telynau a phibau. Arni hefyd yr oedd llun hen wŷr doeth mewn llys barn, llun tref gaerog a'r milwyr yn cerdded allan i ymladd, llun dôl ffrwythlon a'r aradrwyr yn gyrru eu ceffylau drosti gan adael rhychau tywyll o'u hôl, llun maes o yd a'r medelwyr yn ei dorri, llun gwinllannoedd hyfryd, a llun gwartheg ger afon a dau lew gwyllt yn rhuthro arnynt. Dyna i chwi rai o'r lluniau a gerfiwyd mewn aur ar wyneb y darian. Rhoes Achiles y wisg amdano, a gafaelodd ei law yn y darian fawr.
Wedi i'r Groegiaid gael ysbaid i fwyta a gorffwys, arweiniodd Achiles hwy i'r frwydr â'i wisg ryfeddol yn disgleirio fel y fflachia coelcerth yn y nos. Un floedd anferth, gair i'r ceffylau chwim, aflonydd, ac i ffwrdd ag ef yn ei gerbyd rhyfel i wynebu'r gelynion. Dywaid Homer fod ei gleddyf yn eu mysg fel tân yn difa ochr mynydd. Ciliasant mewn dychryn o'i flaen gan ruthro at yr afon, amryw ohonynt yn eu taflu eu hunain i'r dyfroedd, a'r lli chwyrn yn eu hysgubo gydag ef. Bu bron i Achiles ei hun golli ei fywyd yn y tonnau, oherwydd yr oedd duw yr afon yn ddig wrtho am ruddo'r dwfr pur â gwaed ei elynion.
Ar dŵr uchel yn ninas Caer Droea syllai'r hen frenin Priam mewn braw ar y difrod a wnâi Achiles. Rhoes orchymyn i agor y pyrth led y pen er mwyn i'w filwyr gael dianc i'r ddinas am loches. Felly fe lifodd y fyddin trwy'r pyrth, pob milwr yn dianc am ei fywyd. Pob un? Na, arhosodd un y tu allan, â'i darian yn erbyn y mur, i wynebu Achiles. Hector oedd y milwr hwn, er bod ei dad a'i fam ar y mur uwchben yn erfyn arno ddianc.
Caewyd y pyrth, a gwelai Hector Achiles yn agosáu'n gyflym, ei wisg arfog yn fflachio fel yr haul a'i fraich gref yn dal y waywffon anferth yn yr awyr. Yn sydyn daeth ofn i galon Hector, a throes i ddianc gan redeg hyd ochr y mur. Fel cudyll yn erlid colomen y rhuthrodd Achiles ar ei ôl, a theirgwaith y rhedodd y ddau o amgylch muriau Caer Droea. Y pedwerydd tro daeth un o'r duwiesau i lawr atynt gan gymell Hector i wrthsefyll y Groegwr. Hyrddiodd Achiles ei waywffon fawr ato, a suddodd y blaen miniog i'w wddf gan ei fwrw i'r llawr.
"Achiles," meddai Hector, a phrin y gallai anadlu, "erfyniaf arnat roi fy nghorff i'm rhieni i'w gladdu ag anrhydedd yng Nghaer Droea. Cei aur ac anrhegion lawer ganddynt."
Ond cofiai Achiles am ei gyfaill, Patroclus, a thynodd y wisg o ddur oddi am Hector a chlymodd ei elyn marw wrth ei gerbyd rhyfel. Yna chwipiodd y ceffylau chwim, a llusgodd y corff hyd y gwastadedd i gyfeiriad y llongau. Uwchben, ar furiau Caer Droea, yr oedd calon yr hen frenin Priam ar dorri, ond gofalodd y duwiau na niweidiwyd corff Hector o gwbl.
Rhoddwyd Hector i orwedd wrth ochr elor Patroclus, ac o'u hamgylch aberthodd y Groegiaid wartheg a defaid a geifr i'r duwiau. Trannoeth, torrwyd cannoedd o goed ar lethrau mynydd Ida gerllaw, ac ar y pentwr anferth a godwyd â hwynt y rhoddwyd corff Patroclus i'w losgi. Chwythodd gwynt y gogledd a gwynt y gorllewin ar y goelcerth trwy'r nos, ac yr oedd rhu'r fflamau fel taran y môr ar greigiau mawr. Ac yn ymyl safai Achiles yn tywallt ar y ddaear win o gwpan aur. Pan ddaeth y bore, casglwyd llwch Patroclus i wrn o aur, a threuliwyd y gweddill o'r dydd, yn ôl arfer y cyfnod hwnnw, mewn chwareuon a gorchestion rhyfel.
Daeth nos a chwsg i'r gwersyll, ond gorweddai Achiles yn drist gan wylo am ei gyfaill, Patroclus. Ni ddôi cwsg iddo ef, a chododd i grwydro'n aflonydd hyd y draethell unig. Gyda'r wawr, rhwymodd Hector wrth ei gerbyd rhyfel a rhuthrodd deirgwaith o amgylch y cruglwyth lle y llosgwyd Patroclus. Am ddeuddeng niwrnod, heb gysgu na bwyta, bu Achiles yn galaru am ei gyfaill, a phob bore llusgwyd Hector yn ddidrugaredd drwy'r llwch. Yna daeth y dduwies Thetis i lawr at Achiles.
"Fy mab," meddai, "y mae'r duwiau'n ddig wrthyt. Rho gorff Hector yn ôl i'w deulu a chymer yr anrhegion gwerthfawr a gynigiant iti."
Y nos honno mentrodd yr hen frenin Priam allan o ddinas Caer Droca, a thrwy gymorth y duwiau croesodd y gwastadedd unig at wersyll y Groegiaid. Penliniodd o flaen Achiles a chusanodd ei ddwylo, y dwylo a laddodd ei fab, Hector. Crwydrodd meddwl Achiles yn hiraethus at ei dad ei hun a daeth tynerwch i'w galon. Rhoes ei law ar law'r hen ŵr, ac wylodd y ddau gyda'i gilydd. Eneiniwyd corff Hector â balm gwerthfawr a gwisgwyd ef mewn mantell hardd cyn ei ddwyn yn ôl i Gaer Droea. Yna galwodd Achiles am naw niwrnod o heddwch i wŷr y ddinas fawr gael claddu Hector ag anrhydedd.
II—ODYSEUS
(O "Odyssey" Homer)
YN y bennod ddiwethaf cawsoch stori gan Homer allan o'i gerdd odidog, "Yr Iliad." Clywsoch am y Groegiaid yn gadael eu gwlad ac am ddeng mlynedd yn ceisio ennill dinas Caer Droea. O'r diwedd lladdwyd Hector gan Achiles, ac yn fuan wedyn gorchfygwyd a llosgwyd y ddinas fawr. Yna cychwynnodd y Groegiaid yn ôl i'w gwlad a'u cartrefi.
Ym myddin y Groegiaid yr oedd milwr cryf, gwrol a doeth, o'r enw Odyseus neu Ulysses. Sonia Homer amdano fel gŵr pwyllog mewn cyngor, ond yr oedd hefyd mor eofn ag Achiles ei hun mewn brwydr. Am y gwron hwn, Odyseus, y canodd Homer ei gerdd hir arall, "Yr Odyssey."
Yn ystod y deng mlynedd y bu'n brwydro'n galed y tu allan i furiau Caer Droea fe ddeuai hiraeth ar Odyseus yn aml am droi'n ôl i'w wlad. Hiraethai am weld ei wraig, Penelope, a'i fachgen bach, Telemachus, a cherdded eto hyd fryniau creigiog ei dir ei hun. Felly, wedi i ddinas Caer Droea syrthio a'i difa gan gleddyf a thân, galwodd Odyseus ei wŷr at ei gilydd yn llawen. Llusgwyd y llongau i lawr i'r môr a chydiodd dwylo parod yn y rhwyfau hir.
"Fy nghyfeillion," meddai Odyseus wrthynt, "meddyliwch yn awr, nid am elynion a rhyfela, ond am gartref, gwraig a phlant. Daethom yma'n wŷr canol oed, yn anterth ein nerth, ond awn yn ôl yn flinedig a'n gwallt yn dechrau britho. Er hynny, na ddigalonnwn; penderfynwn y bydd ein llongau'n fuan iawn yn nofio'n dawel a diogel yn yr hafan a adawsom ddeng mlynedd yn ôl."
Yr oedd deuddeg llong, a hanner cant o ddynion ym mhob un. Â chri o lawenydd y tynnodd y gwŷr yn y rhwyfau gan yrru'r llongau'n gyflym i'r dwfn, ac yna lledwyd yr hwyliau gwynion yn yr awel. Torrai blaen pob llong lwybr buan drwy'r tonnau i gyfeiriad y gorllewin a machlud haul. Ond cyn hir cododd gwynt cryf o'r gogledd, a churodd ystorm enbyd ar y llongau, gan eu hysgubo ymhell o'u ffordd. Am ddyddiau lawer llithrasant dros y môr at drugaredd y gwynt, ac yr oedd eu hwyliau'n garpiau i gyd. O'r diwedd daethant at dir dieithr, gwlad dawel a diog. Arni tywynnai haul o awyr las, ddigwmwl, ac ni welsai'r llongwyr erioed y fath ffrwythau a blodau a choed. Cysgai'r bryniau yn niwlen ysgafn, euraid y pellter, a gŵyrai'r coed yn llonydd a digyffro fel pe bai'r awel yn ofni cyffwrdd eu dail. Canai'r adar yn freuddwydiol, ac yr oedd hyd yn oed tonnau'r môr yn distewi a gorffwys wrth y glannau llonydd. Gorweddai pobl y wlad yn swrth a diymadferth o dan y palmwydd, rhai yn cysgu ac eraill yn bwyta ffrwythau melys ac yn yfed gwin. Ac o'u cwmpas ym mhobman yr oedd sŵn miwsig pêr.
Glaniodd tri o wŷr Odyseus i holi beth oedd enw'r wlad, ond wedi i'r tri fwyta o'r ffrwythau, eisteddasant hwythau i lawr yn ddiog, gan anghofio popeth am eu neges, a dymuno aros byth yn nhawelwch breuddwydiol y palmwydd. Bu raid i Odyseus eu cario'n ôl i'r llongau, ac mewn brys y gafaelwyd yn y rhwyfau, rhag ofn i eraill fwyta o'r ffrwythau a syrthio o dan hud y fro ryfedd hon.
Wedi hwylio am rai dyddiau daethant i wlad brydferth arall, ac ar ei bryniau a'i gwastadeddau ffrwythlon tyfai digonedd o yd a haidd, a gŵyrai coed y gwinwydd o dan bwysau'r grawn. Porai cannoedd o eifr a defaid ar y llethrau, ond yn rhyfedd iawn, nid oedd pobl y wlad yn plannu na hau dim nac yn codi tai. Tyfai popeth yn eu tir heb iddynt hwy lafurio o gwbl. Yn y nos a'r niwl glaniodd Odyseus a'i wŷr ar draeth tawel ynys gerllaw, a thrannoeth, wedi cynnau tân, eisteddasant i wledda ar gig y geifr ac yfed gwin o'r llongau.
Y bore wedyn, gan adael y llongau eraill yn niogelwch yr ynys, hwyliodd Odyseus a'i wŷr drosodd i'r tir. Wedi glanio yno, rhwymwyd y llong yng nghysgod craig, ac yna dewisodd Odyseus ddeuddeg o wŷr i'w ganlyn. Fel anrheg i bobl y wlad dug gydag ef groen gafr yn llawn o win melys o'r llong. Yn fuan daethant at ogof anferth â brigau'r llawryf dros ei tho uchel. Y tu allan iddi yr oedd corlannau ac ynddynt eifr a defaid wedi eu rhwymo. Yn yr ogof crogai digonedd o gaws ar y muriau, ac yr oedd yno grochanau a chawgiau mawr yn llawn o laeth a hufen.
"Brysiwn," meddai un o'i wŷr wrth Odyseus, "a chymerwn y caws a'r ŵyn a'r mynnau geifr i'r llong cyn i gawr yr ogof ddychwelyd."
"Na," meddai Odyseus, "yr wyf am ei weld. Pwy a ŵyr, efallai y cawn anrhegion gwerthfawr ganddo?"
Felly, wedi cynnau tân, dechreuasant fwyta o'r caws, ac yna gorwedd i aros nes dyfod cysgodion cynnar y nos.
Yn sydyn clywsant sŵn traed yn ysgwyd y ddaear, a brefiadau uchel defaid a geifr. Mewn dychryn dihangodd pob un ohonynt i bendraw'r ogof, gan chwilio am gonglau tywyll i guddio ynddynt. Gan yrru ei braidd o'i flaen a chan daflu llwyth anferth of coed tân ar lawr yr ogof, daeth y cawr, Polyffemus, i mewn. Dychrynodd Odyseus a'i wŷr wrth ei weld; dychrynasant yn fwy fyth pan afaelodd mewn craig anferth a'i gwthio i'w lle yng ngheg yr ogof. Ar ôl godro'r geifr dechreuodd y cawr gynnau tân, ac yn fuan goleuai'r fflamau disglair yr ogof i gyd. Syrthiodd llygad y cawr ar yr ymwelwyr—llygad ac nid llygaid, oherwydd un llygad a oedd ganddo, a hwnnw'n perlio yng nghanol ei dalcen.
"Ddieithriaid," gofynnodd, "pwy ydych chwi? O b'le y daethoch dros y tonnau? Lladron ac ysbeilwyr ydych, y mae'n debyg?"
Yr oedd ei lais dwfn fel taran yn yr ogof.
"Na," meddai Odyseus, "nid lladron nac ysbeilwyr mohonom, ond milwyr Groeg ar ein ffordd adref o Gaer Droea."
"Ym mh'le y gadewaist dy long?" gofynnodd y cawr.
"Gyrrodd y gwynt a'r tonnau ein llong yn yfflon ar y creigiau, ond medrais i a'm cyfeillion nofio i dir," meddai Odyseus, gan ddweud celwydd rhag ofn i'r cawr ddinistrio'r llong.
Yr unig ateb a wnaeth Polyffemus oedd neidio i fyny a chydio â'i ddwylo mawr mewn dau o'r milwyr. Curodd eu pennau yn erbyn llawr yr ogof, ac yna fel llew, bwytaodd hwy i'w swper. Yfodd hefyd lond crochan mawr o laeth cyn gorwedd i lawr i gysgu.
Â'i gleddyf yn ei law mentrodd Odyseus ato gan feddwl ei ladd, ond cofiodd am y graig fawr yng ngheg yr ogof. Nid oedd neb ond Polyffemus a fedrai symud y graig honno o'i lle, ac felly rhaid oedd gadael iddo fyw.
Aeth oriau hir y nos heibio'n araf, ac o'r diwedd gwelsant lygedyn o olau'n ymddangos rhwng y graig a tho'r ogof. Deffroes Polyffemus, ac ar ôl godro'r geifr, gafaelodd mewn dau arall o gyfeillion Odyseus a bwytaodd hwynt i'w frecwast. Wedyn symudodd y graig fawr a gyrrodd ei braidd allan i bori. Aeth yntau ar eu holau, ond gan ofalu tynnu'r graig i'w lle yng ngheg yr ogof.
Dechreuodd Odyseus feddwl am ffordd i ddianc, ac ar lawr yr ogof gwelodd bren mawr olewydd a'i ganghennau wedi eu torri i ffwrdd. Pastwn Polyffemus oedd, ond prin y gallai ugain o ddynion cyffredin ei symud. Yr oedd mor hir â hwylbren llong. Torrodd Odyseus ddarn ryw chwe throedfedd o hyd i ffwrdd a naddodd ei flaen yn finiog, gan ei roi, wedyn, yn y tân i galedu. Yna cuddiwyd y pren o dan wair yr ogof a dewiswyd pedwar o wŷr i afael gydag Odyseus ynddo pan ddôi'r cyfle.
Gyda'r nos clywsant eto sŵn traed y cawr yn ysgwyd y ddaear. Daeth i mewn i'r ogof, gan yrru ei braidd o'i flaen, ac ar ôl godro'r geifr, bwytaodd ddau arall o'r Groegiaid i'w swper. Yna mentrodd Odyseus ato, gan gynnig iddo beth o'r gwin a ddug gydag ef o'r llong. Yfodd Polyffemus y gwin melys â blas.
"Rho ychwaneg imi," meddai, "a minnau a roddaf anrheg i tithau."
Deirgwaith yr yfodd, ac yr oedd y gwin yn ei feddwi.
"Ni chefais erioed win fel hwn," meddai. "Beth yw dy enw di?"
"Neb yw f'enw i," meddai Odyseus. "Neb y gelwir fi gan bawb."
"Yna bwytâf Neb yn olaf o bawb," ebe'r cawr. "Dyna'r ffafr a roddaf iti."
O dan ddylanwad y gwin syrthiodd Polyffemus i gysgu'n drwm, gan chwyrnu dros y lle. Cydiodd y Groegiaid yn y pren, gan roi ei flaen yn y tân nes llosgi ohono'n goch. Safasant uwchben y cawr, ac â'u holl nerth gwthiodd Odyseus a'i wŷr y blaen chwilboeth i mewn i'w lygad gan ei droi a'i droi yn ei ben. Rhuodd sgrechiadau Polyffemus fel taranau trwy'r ogof gan ddeffro adlais ar ôl adlais yn y creigiau a'r bryniau, a ffoes y Groegiaid mewn arswyd i bellterau tywyll yr ogof. Brysiodd y cewri oedd yn byw ar y bryniau cyfagos i holi Polyffemus beth oedd yn bod arno.
"Pam yr wyt ti'n ein deffro ni ganol nos â sŵn mor ofnadwy? A oes rhywun yn dwyn dy ddefaid a'th eifr neu yn ceisio dy ladd di?"
"Neb sydd yn fy lladd i," gwaeddodd y cawr. "Neb sydd yn fy lladd i."
Aeth y cewri eraill i ffwrdd yn ddig gan droi clust fyddar i'w gri, a gwenodd Odyseus wrth weld ei ystryw'n llwyddo cystal.
Gan ocheneidio a chrio, ymbalfalodd y cawr i enau'r ogof. Symudodd y graig o'r neilltu, ac eisteddodd i lawr yn y drws gan ddal ei freichiau allan rhag ofn i'r Groegiaid ddianc. Yna meddyliodd Odyseus am gynllun arall. A brigau helyg clymodd yr hyrddod gyda'i gilydd fesul tri, ac o dan yr hwrdd canol bob tro rhwymodd un o'i gyfeillion. Pan ddaeth y wawr, dechreuodd y geifr a'r hyrddod grwydro at y drws, ac wrth eu gollwng allan tynnodd Polyffemus ei law hyd gefn pob un rhag ofn bod y Groegiaid yn marchogaeth arnynt. Yn olaf oll, yn hongian o dan hwrdd mawr blewog, daeth Odyseus ei hun. Hwn oedd hoff anifail y cawr a dechreuodd siarad wrtho gan roi ei ddwylo mawr ar ei gefn.
"A oes rhywbeth yn bod arnat tithau hefyd, fy hwrdd annwyl, fel dy feistr? Fel rheol, ti yw'r cyntaf yn gadael yr ogof, y cyntaf i bori'r gwair ac i yfed o'r afonig. Ond heddiw dyma ti yn olaf un. Ai tosturio dros dy feistr yr wyt ti?"
Yna, heb ddychmygu bod Odyseus yn hongian dano, gadawodd i'r hwrdd fynd allan.
Yn rhydd unwaith eto, brysiodd y Groegiaid i lawr i'r môr, gan yrru llawer o anifeiliaid gorau Polyffemus o'u blaen i'r llong. Rhwyfasant ar frys allan i'r môr, ac yna safodd Odyseus ar flaen y llong gan weiddi â llais uchel:
"Polyffemus, yr anghenfil, cawsom ddial arnat am ladd a bwyta'n cyfeillion. Am weithred mor ofnadwy, cefaist dâl y duwiau."
Pan glywodd y geiriau yr oedd Polyffemus fel creadur cynddeiriog. Torrodd frig y bryn i ffwrdd gan ei hyrddio i'r môr i gyfeiriad y llais. Disgynnodd yn agos iawn i'r llong gan godi tonnau mawr a'i gyrodd hi'n ôl eto i'r tir. A pholyn hir gwthiodd Odyseus y llong unwaith eto o'r lan, a thynnodd y morwyr am eu bywyd yn y rhwyfau.
Ymhell allan yn y môr, ni fedrai Odyseus ymatal rhag herio'r cawr unwaith eto, er i'w gyfeillion erfyn yn daer arno i beidio.
"Polyffemus!" gwaeddodd. "Os gofyn rhywun iti sut y collaist dy olwg, dywed wrtho mai Odyseus, y Groegwr, a dynnodd dy lygad."
Yn wyllt, cydiodd y cawr mewn craig anferth gan ei throi o gwmpas ei ben a'i lluchio i'r awyr â'i holl nerth. Ond pan syrthiodd i'r môr, ni wnaeth y don fawr a gododd ond gyrru ei elynion ymhellach o'i afael at lannau'r ynys gerllaw. Yno yr oedd eu cyfeillion yn eu haros, a thrist iawn oeddynt pan glywsant am y gwŷr a laddwyd gan y cawr. Aberthwyd yr hwrdd mawr i'r duwiau, ac eisteddodd pawb i fwyta cig y geifr ac i yfed gwin melys cyn cysgu'r nos yn nhawelwch yr ynys.
Trannoeth, cyn gynted ag y daeth rhosynnau'r wawr i'r nef, hwyliodd y deuddeg llong eto dros y tonnau llwyd.
'YD YN YR AIFFT'
Mur-ddarluniau o olygfeydd Cynhaeaf yn yr hen Aifft, a gymerwyd o Feddrod Menna yn Thebes oddeutu 1400 c.c.
III—IOSEFF
(Stori o'r Beibl)
YN y ddwy bennod ddiwethaf daethom o hyd i rai o chwedlau Groeg, ond awn yn awr ymhellach i'r dwyrain i chwilio am storïau gwlad fechan arall. A gawn ni gymryd arnom ein bod yn byw ryw ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, tua'r amser pan oedd Crist ar y ddaear? Hwyliwn mewn llong o borthladd Athen yng ngwlad Groeg, llong go fach a dynion cryfion yn tynnu yn y rhwyfau mawr, gwŷr â'u hwynebau wedi eu melynu gan haul y dwyrain a'u rhychu gan wyntoedd y môr. Gadawn wlad Groeg yn gyflym ond nid ydym yn hir o olwg tir. Ar ein llaw chwith y mae mynyddoedd yn y pellter, mynyddoedd y buasai'n rhaid inni eu croesi pe baem heb ddewis teithio mewn llong, ac awn heibio i lawer ynys brydferth yn cysgu'n dawel yng nglesni'r môr. Ar ôl rhai dyddiau moriwn heibio i ynys fawr Cyprus ac yna trown i'r deau. Tynn y llongwyr yn y rhwyfau â mwy o egni nag erioed, ac y mae gwên hapus ar eu hwynebau.
"Byddwn ym mhorthladd Iaffa cyn hir," meddant, "ac ni welsom ein gwragedd a'n plant ers wythnosau lawer. Y mae gennym hanesion am y môr ac am wledydd dieithr i'w hadrodd wrthynt."
Dyma ni ym mhorthladd Iaffa yng gwlad Canaan, a brysiwn i mewn i'r tir i gyfeiriad y mynyddoedd acw sy'n codi yn y pellter. Ar y ffordd sylwn ar lawer o bethau na welsom mohonynt erioed yng Nghymru. Awn heibio i farchnadwyr yn gyrru eu camelod llwythog, rhai i lawr i Ierwsalem a'r Aifft, ac eraill i fyny i Ddamascus a Syria. Gwisgant sidanau prydferth, ac y mae sandalau o ledr am eu traed. Weithiau ceir cymaint â chant o gamelod dan eu gofal, heblaw llawer o asynnod yn cario crwyn mawr yn llawn o ddŵr. Cludant ddŵr am fod amryw o'r ffynhonnau wedi sychu, ac y mae dŵr yn ddrud i'w brynu gan y rhai sy'n ei werthu ar ochr y ffordd.
Beth sydd gan y marchnadwyr hyn? Porffor enwog Tyrus, pysgod o Fôr Galilea, haearn a chopr o fryniau Lebanon, balm o Gilead, halen o'r Môr Marw, platiau o Fabilon, sandalau o Laodicea, gwisgoedd o India, sidanau a pheraroglau ac aur o Arabia a'r dwyrain, melysion o'r Aifft, gwlân a ffrwythau'r olewydd o'r llethrau ger yr Iorddonen-y mae pob math o nwyddau ar gefnau'r camelod. Gwelwn hefyd Arabiaid croenddu ar eu ffordd i dref a marchnad, a rhuthra cerbyd rhyfel Rhufeinig heibio inni a helm y milwr yn disgleirio yn yr haul. Ar fin y ffordd mewn cytiau o glai â brigau'r olewydd wedi eu plethu ar eu toau, y mae amryw fynaich, a chlywn o dro i dro rai cannoedd o gardotwyr â lleisiau uchel, croch, yn erfyn am dosturi.
Sylwch ar y coed; y maent yn wahanol i goed Cymru. Edrychwch ar bren uchel, tywyll, y cypres yn codi'n fain fel tŵr eglwys i'r nef, ar yr olewydd a'i brigau arian uwch y boncyff anferth, rhychiog, ar y palmwydd tal, llonydd, ac ar y gwinwydd ar lethrau'r bryniau a phentyrrau'r grawnwin yn hongian arnynt. Y mae aroglau coed y lemon hefyd yn yr awel.
Ond dyma ni yn y mynyddoedd, ac y mae'r awyr yn iach a thyner, er bod ambell wth o wynt yn chwythu cwmwl bach o dywod weithiau o'r anialwch draw. Ymunwn â'r bugeiliaid sy'n eistedd i gael pryd o fwyd o dan y coed acw. Teisennau o wenith wedi eu trochi mewn olew a fwytânt a physgod wedi eu sychu a'u halltu, ond y mae ganddynt hefyd ddigonedd o ffigys a chnau. Eisteddant ar fryn uwchlaw Sichem, dinas yn cysgodi o dan graig anferth. Wrth fwyta adroddant hanesion wrth ei gilydd, ac am stori dda rhai campus yw'r bugeiliaid hyn. Awn atynt a gofynnwn iddynt am stori.
"O'r gorau," medd un ohonynt, "cewch glywed am fachgen o'r enw Ioseff, a werthwyd yn yr ardal hon i farchnadwyr ond a ddaeth yn Brif Weinidog gwlad fawr ymhell oddi yma."
Gorweddwn ninnau i lawr o dan y coed i fwyta ffigys ac i wrando ar y stori.
Gyrrwyd ef i'r bryniau hyn (medd y bugail) gan ei dad i chwilio am ei frodyr. Flynyddoedd cyn hynny prynasai ei dad, Iacob, ddarn o dir i fyny yma cyn symud i fyw i'r deau yn Hebron, a phan âi'r borfa'n brin yn Hebron, arweiniai ei feibion y praidd yma i Sichem. Ond arhosai Ioseff a'i frawd ieuangaf, Beniamin, adref gyda'u tad, oherwydd yr oedd yr hen ŵr yn hoff iawn ohonynt.
Nid oedd Ioseff a'i frodyr hynaf yn gyfeillion mawr. Bechgyn gwyllt ac anhydrin oeddynt hwy, a deuai Iacob i wybod yn aml am eu castiau trwy i Ioseff achwyn arnynt. Gwelent hefyd y sylw a'r ffafrau a gâi ef gan y tad. Un dydd daeth marchnadwyr o'r Aifft heibio i'w cartref, a phrynodd Iacob ganddynt liain drud, amryliw. Cymerodd y deunydd i wneuthur gwisg hardd i Ioseff, mantell ag iddi ddwy lawes hir a llydain, ac ar bob ymyl frodiad o liwiau cain. Edrychai'r caethweision â'r cymdogion arno mewn syndod, ond ei felltithio a wnâi'r brodyr. Crysau o liain cartref bras oedd ganddynt hwy.
Aethai pethau o ddrwg i waeth wedi i Ioseff ddechrau adrodd ei freuddwydion wrthynt.
"Cefais freuddwyd rhyfedd neithiwr," meddai un hwyr ger y tân. "Yr oeddym i gyd mewn cae ŷd yn rhwymo ysgubau. Safai fy ysgub i yn y canol yn syth i fyny a'ch rhai chwithau o amgylch yn ymgrymu iddi."
Dywedodd wrthynt hefyd am freuddwyd arall pan welsai'r haul a'r lloer ac un seren ar ddeg yn ymgrymu iddo ef.
A'i wisg brydferth amdano a ffon fugail dderw yn ei law, cyrhaeddodd Ioseff, wedi tri diwrnod o gerdded blin, y bryniau hyn i chwilio am ei frodyr. Bu raid iddo gerdded am ddiwrnod arall cyn dod o hyd iddynt, oherwydd symudasent i'r gogledd i rosydd ffrwythlon Dothan. Gwelsant ef yn agosáu dros frig y bryn, ac ymddangosai fel tywysog ieuanc yn ei wisg hardd.
Cydiodd un o'r brodyr yn chwyrn yn ei ffon fugail, a throes at y lleill â chas yn ei lygaid.
"Dacw'r Breuddwydiwr yn dod," meddai rhwng ei ddannedd, "a dyma'n cyfle i roi diwedd arno ef a'i freuddwydion."
Chwarddodd un arall yn fileinig, a chasglodd y brodyr at ei gilydd yn barod i syrthio arno. Ond ymwthiodd yr hynaf ohonynt, Reuben, i'r canol, gan eu cynghori i ymatal.
"Na thywelltwch waed," meddai. "Bwriwch ef i'r pydew i farw o newyn."
Cytunodd y brodyr, ac aeth Reuben ymaith oddi wrthynt, oherwydd ni allai aros i weld cam drin ei frawd. Credai y câi gyfle yn y nos i achub Ioseff a'i yrru'n ôl at ei dad.
Gafaelodd dwylo creulon yn Ioseff, a rhwygwyd ei wisg dlos oddi amdano. Trawodd un ef ar ei wyneb, llusgwyd a chariwyd ef at y pydew, ac fe'i bwriwyd yn bendramwnwgl iddo. Llithrodd cwymp o faw a cherrig mân i lawr arno, a gorweddodd yntau'n syfrdan a briwedig.
Gan geisio chwerthin uwch y peth, er bod cydwybod rhai ohonynt yn bur anesmwyth, eisteddodd y brodyr yn gylch i fwyta gerllaw. Ymhen encyd, galwodd un sylw y lleill at garafan (hynny yw, cwmni o farchnadwyr) a welai'n agosáu o'r gogledd.
"Ismaeliaid o Gilead," meddai, "yn dwyn llysiau a balm a myrr i'r Aifft. Dowch, gwerthwn Ioseff iddynt."
Codwyd y llanc o'r pydew, a chynigiodd y brodyr ef i'r marchnadwyr am gant o ddarnau arian. Gwyddai'r Ismaeliaid y caent fwy na hynny amdano yn yr Aifft, ond, er hynny, ysgwyd eu pennau a wnaent. Yr oeddynt yn ddigon cyfrwys i dybio bod rhyw reswm drwg dros ei werthu ac mai cael gwared ag ef oedd prif amcan y brodyr.
"Ugain darn o arian," meddai'r hynaf o'r marchnadwyr. "Ugain a dim mwy."
Cydsyniodd y brodyr, a chodwyd Ioseff yn annhyner ar gefn un o'r camelod. Yna, â lleisiau croch y marchnadwyr yn eu hannog, cychwynnodd y rheng hir o anifeiliaid llwythog tua'r deau, gan ddiflannu'n fuan dros y bryn yng ngwyll cynnar y nos.
Pan ddaeth Reuben yn ôl at ei frodyr, gwelodd fod y pydew'n wag, a phan glywodd hanes gwerthu Ioseff, rhwygodd ei ddillad mewn gofid. Trochwyd y fantell amryliw yng ngwaed mynn gafr, a chredodd yr hen ŵr, Iacob, i'w hoff fab gael ei larpio gan fwystfil. Rhwygodd yntau ei ddillad, ac am ddyddiau lawer, â sachlen am ei lwynau, galarodd yn chwerw. Nid oedd neb a allai ei gysuro.
Teithiodd Ioseff i lawr trwy wlad Canaan ac yna dros anialwch maith Sur. Blinodd ar honcian trwsgl ac undonog y camelod; blinodd fwy ar loywder
diderfyn y diffeithwch. Nid ymddangosai'r marchnadwyr yn lluddedig o gwbl; gwŷr cyhyrog yr anialwch oeddynt hwy, ac o dan eu twrbanau aflêr yr oedd wynebau o liw'r efydd. O'r diwedd gadawsant y diffeithwch o'u holau, a hyfryd oedd edrych ar lun y palmwydd mewn llynnau llonydd, ar wyrddlesni'r dolydd ac ar felyn yr ŷd. Ffrydiai dŵr arian ymysg gerddi a chaeau a choed, ac yn y pellter yr oedd muriau a themlau gwynion dinas Tanis. Ymddangosai fel dinas o eira wedi ei fframio yng nglesni'r nef. Wedi cyrraedd ei heolydd, anghofiodd Ioseff ei flinder wrth syllu ar blasau o gerrig nâdd ac ar golofnau cerfiedig a themlau heirdd. Clywsai lawer gan deithwyr am y wlad gyfoethog hon, ac yn ddiarwybod bron, edrychodd tua'r gorwel gan ryw hanner disgwyl y câi olwg ar lonyddwch onglog y Pyramidiau.
Trannoeth, safai'r bachgen lluniaidd, dwy ar bymtheg oed, ym marchnad y caethion. Derbyniodd y gwŷr o Gilead bris da amdano, a dygwyd ef ymaith i dŷ Potiffar, swyddog uchel yn llys Pharo, brenin yr Aifft. Yno am flynyddoedd, er y deuai aml blwc o hiraeth am ei gartref drosto, gweithiodd mor galed ac yr oedd ei gymeriad mor lân nes ei benodi i ofalu am holl dŷ ac eiddo'i feistr. Yn anffodus, syrthiodd gwraig Potiffar mewn cariad ag ef, a chan na chymerai ei hudo ganddi, dyfeisiodd hithau gelwyddau amdano, a thaflodd ei gŵr ef i garchar.
Ni bu'n hir yn y carchar cyn ennill serch a pharch y ceidwad, a rhoes hwnnw'r carcharorion oll o dan ei ofal. Siaradai Ioseff yn gyfeillgar â hwy, a daeth i adnabod dau ohonynt yn dda. Bwtler y brenin oedd un, a phrif bobydd y llys oedd y llall. Eglurodd iddynt. ystyr eu breuddwydion, gan ddywedyd y crogid y pobydd ymhen tri diwrnod ond yr adferid y bwtler i'w swydd ym mhlas y brenin. Dri diwrnod wedyn, ar ŵyl a gynhelid i ddathlu pen-blwydd Pharo, daeth proffwydoliaeth Ioseff yn wir, ac wrth ymadael â'r carchar, addawodd y bwtler y gwnâi bopeth a allai i'w ryddhau yntau.
Ond yn rhwysg a difyrrwch y llys anghofiodd y bwtler yn lân am Ioseff, a threiglodd dwy flynedd hir heibio ac yntau'n garcharor o hyd. Yna, un dydd, galwodd ceidwad y carchar yn gyffrous arno.
"Tyrd ar frys," meddai. "Y mae milwyr a gweision o'r llys yn aros amdanat."
Yn ystafell y ceidwad eilliwyd wyneb Ioseff yn lân, torrwyd ei wallt a rhoddwyd iddo wisg o liain prydferth yr Aifft. Gadawodd dawelwch a thywyllwch y carchar a rhodiodd drwy'r ystrydoedd heulog i gyfeiriad plas Pharo. Arweiniodd y milwyr ef yn gyflym drwy erddi'r plas, heibio i lawer ffynnon gerfiedig, a'u dŵr, wrth godi a disgyn, yn troi'n gawodydd o berlau gloyw yn yr heulwen. Cerddai Ioseff fel gŵr mewn breuddwyd rhwng dwy res o balmwydd mawr, ac yna heibio i gerfluniau o ifori nes cyrraedd grisiau o farmor yn arwain i gyntedd y llys. Yma yr oedd lluniau amryliw ar fur a cholofn, ond ni chafodd amser i sylwi arnynt, dim ond brysio ymlaen heibio i dyrrau o wŷr mewn dillad heirdd yn sgwrsio'n bryderus â'i gilydd. Aeth y siwrnai'n fwy o freuddwyd fyth i'r llanc o fugail pan groesodd drothwy neuadd anferth a cherdded rhwng dwy reng o filwyr tal, pob un â gwaywffon hir yn ei law dde, at risiau o farmor gwyn. Uwch y grisiau hyn eisteddai Pharo ar ei orsedd, a gwisgai goron o aur am ei ben. O'i amgylch safai tywysogion, arglwyddi, offeiriaid, dewiniaid a milwyr y llys, a chodai peraroglau fel niwl o lawer thuser.
Penliniodd Ioseff o flaen yr orsedd, a syllodd Pharo ar ei gorff lluniaidd. Yn ddirmygus yr edrychodd yr offeiriaid a'r dewiniaid arno, gan sylwi ar olion y cadwynau ar ei goesau noeth.
"Cyfod," meddai Pharo. "Breuddwydiais freuddwyd, a chlywais y gelli di ddehongli breuddwydion."
Taflodd y brenin gilwg at yr offeiriaid a'r dewiniaid wrth ychwanegu, "Methodd holl ddoethion fy llys."
"Nid myfi," atebodd Ioseff, "ond Duw a rydd ateb i Pharo."
"Gwrando! Yn fy mreuddwyd safwn ar fin afon, ac ohoni daeth saith o wartheg tewion, braf, gan droi i'r weirglodd i bori. Ar eu holau esgynnodd saith o wartheg teneuon, truenus a hyll yr olwg. Llyncodd y rhai teneuon y saith arall, ond nid oeddynt fymryn tewach wedyn. Gwelais hefyd yn fy mreuddwyd gorsen ac arni saith tywysen lawn a theg, ond yn fuan llyncwyd hwy gan saith o dywys mân a gwywedig."
Ni phetrusodd Ioseff ddim cyn ateb.
"Yr un un yw'r ddau freuddwyd," meddai. "Trwy wlad yr Aifft daw saith mlynedd o lawnder a digonedd, ond llyncir eu braster gan saith mlynedd o brinder a newyn. Deifia'r haul yd y meysydd, ac ni chyfyd yr afon i ddyfrhau'r dolydd a'r gerddi. Gan hynny, edryched Pharo am ŵr deallgar a doeth, a gosoded ef yn bennaeth ar yr Aifft. Cadwed y gŵr hwnnw a'i swyddogion bumed ran o gnwd y wlad bob blwyddyn am saith mlynedd, fel na ddifether yr Aifft ym mlynyddoedd y newyn."
Siaradai Ioseff yn ddwys a difrifol, a buan y gwelodd gredu o'r arglwyddi a'r offeiriaid ei eiriau. Bu tawelwch hir, ac yna cododd Pharo gan dynnu modrwy oddi ar ei fys a'i rhoi ar law Ioseff.
"Edrych," meddai, "gosodais di'n bennaeth ar holl wlad yr Aifft."
* . . * . . * . . *
Aeth naw mlynedd heibio. Un dydd, ger neuadd fawr yn ninas Tanis oedai cwmni o fugeiliaid o Ganaan. Yr oedd golwg flinedig a newynog arnynt, a gorweddai eu hasynnod ar lawr yn ddiymadferth. Blin fuasai'r daith dros fryniau Canaan a thros ddiffeithwch crasboeth Sur, ac oherwydd y prinder yn eu gwlad, ychydig o fara a theisennau o wenith a fwytasent ar y daith. Ymhen ysbaid, agorodd drws mawr y neuadd, ac yng nghanol tyrfa o bobl o lawer iaith a lliw, ymwthiodd y deg brawd drwyddo. Wedi aros eu tro, ymgrymasant o flaen Prif Weinidog yr Aifft a'i swyddogion. Eisteddai ef ar fath o orsedd, wedi ei wisgo mewn mantell o liain cain. Yr oedd cylch o aur am ei dalcen a chadwyn o aur am ei wddf, a disgleiriai gemau ar ei fynwes a modrwyau ar ei law.
"O b'le y daethoch?" gofynnodd drwy'r cyfieithydd.
"O wlad Canaan i brynu yd."
Curai calon Ioseff yn wyllt o'i fewn, ac anodd oedd ymatal rhag cofleidio a chusanu ei frodyr. Ond mynnai wybod eu helynt a hanes ei dad a'i frawd ieuangaf, Beniamin. Tybed a oedd yr hen ŵr tyner yn fyw o hyd? A Beniamin bach, nad oedd ond pum mlwydd oed pan adawsai Ioseff ei gartref, a dyfodd yntau'n llanc o fugail?
Meddyliodd am gynllun i gael gwybod eu hanes i gyd. Cyhuddodd hwy o fod yn ysbïwyr, ac wedi tridiau o garchar, gollyngodd naw ohonynt yn rhydd ar yr amod eu bod yn dwyn Beniamin gyda hwy y tro nesaf. Cadwyd un ohonynt, Simeon, yn y carchar. Rhoes Ioseff iddynt ddigon o fwyd ar gyfer y daith, ac ym mhob sachaid o yd a brynasent cuddiodd y swyddog yr arian a dalasent amdano.
Pan ddaethant o Ganaan yr ail dro, darparodd Ioseff wledd iddynt yn ei dŷ, a chychwynasant yn synn yn ôl a'u hasynnod yn dwyn sacheidiau mawr o ŷd. Yn sach Beniamin cuddiasai'r swyddog gwpan arian a charlamodd ar eu holau, gan eu cyhuddo o ladrata. Troesant yn ôl i'r plas yn drist ac ofnus, ac yno ni allai Ioseff guddio'i deimladau'n hwy. Cofleidiodd a chusanodd ei frodyr oll, ac wylodd ar ysgwydd Beniamin.
Ymhen ysbaid, gyrrwyd gwagenni a chaethion i ddwyn yr hen ŵr penwyn, Iacob, a'i holl deulu, i fyw i'r Aifft. Croesawyd hwy gan Pharo ei hun, a rhoddwyd iddynt dir ffrwythlon Gosen i fugeilio'u praidd arno.
* . . * . . * . . *
Dyna i chwi stori'r bugeiliaid ar fryniau Sichem. Ysgrifennwyd hi i lawr, ymysg llawer o storïau diddorol eraill, mewn llyfr y gwyddoch yn dda amdano. Ers llawer dydd, talodd ambell ffermwr yng Nghymru lwyth o wair am gael benthyg y llyfr hwnnw am ddiwrnod, ond gellwch ei brynu heddiw am ychydig geiniogau.
A glywsoch chwi erioed am Syr Walter Scott, nofelydd a bardd yr Alban? Rhai dyddiau cyn iddo farw, eisteddai'n wael yn ei lyfrgell fawr.
"Lockhart," meddai wrth ei fab yng nghyfraith, "darllen ychydig imi."
"O'r gorau," meddai Lockhart. "Pa lyfr a hoffech imi ddarllen ohono?"
"A oes angen iti ofyn? Nid oes ond un llyfr."
Cymerodd Lockhart y Beibl yn ei ddwylo a darllenodd yn dawel. Gwelai wên hapus ar wyneb llwyd Syr Walter. Yn y llyfrgell fawr nid oedd ond un llyfr.
IV—IASON
YN y bennod hon awn yn ôl eto i Roeg, gwlad y chwedlau. Pe medrem grwydro i mewn i neuadd un o frenhinoedd Groeg un hwyr ryw dair mil o flynyddoedd yn ôl, gwelem y lle'n llawn o bobl yn eistedd i wrando storïau. Pwy sydd yn adrodd y storïau hyn? Na, nid pawb yn ei dro, oherwydd yr oedd dweud stori'n gelfyddyd anodd ei meistroli. I fardd y llys y rhoddid y gwaith, ac yr oedd ef yn delynor hefyd. Gwrandawai milwyr a gwragedd, ieuainc a hen, arno'n canu'r delyn ac yn sôn am arwyr y genedl. Pam na fuasent yn rhoi eu hamser i ddarllen llyfrau gyda'r nos fel y byddwch chwi? Nid oedd llyfrau i'w cael, ac felly o fardd i fardd y trosglwyddid y storïau i lawr o oes i oes.
Bach iawn oedd y byd i Homer. Gwyddai am lannau ac ynysoedd Môr Aegea ac am ogledd Affrig a'r Aifft, ond y tu draw i'r ffiniau hyn yr oedd gwledydd rhyfedd a dieithr. Llongau bach, nad oeddynt o fawr werth mewn stormydd geirwon, oedd gan y morwyr, ac ni fentrai'r un ohonynt ymhell iawn. Nid yw'n syn i'r beirdd greu chwedlau am ynysoedd a broydd dieithr, gan ddychmygu bod duwiau a duwiesau, cewri a chorachod, swynwyr a thylwyth teg yn byw arnynt. Mewn oes felly y tyfodd y stori am Iason a'i daith beryglus i ynysoedd a gwledydd pell i chwilio am y Cnu Aur.
Ar ben mynydd Pelion, mynydd creigiog a'r eira'n wyn ar ei lethrau bron trwy'r flwyddyn, yr oedd ogof fawr, ac ynddi trigai hen ŵr doeth. Deallai hwn holl brofiadau dynion, a chanai ei gynghorion doeth gan redeg ei fysedd hyd dannau telyn o aur. Yr oedd mor enwog fel y gyrrai brenhinoedd Groeg eu bechgyn ato i'w magu o dan ei ddisgyblaeth. Dysgent ganu'r delyn, dawnsio, rhedeg fel yr hydd, ymladd yn wrol, hela anifeiliaid gwylltion a chwerthin yn wyneb pob perygl. Dysgent hefyd ofni'r duwiau, parchu'r hen a'r gwan, a bod yn garedig wrth ei gilydd ym mhob anhawster. Nid oedd meibion mor wrol a doeth â'r bechgyn a oedd yng ngofal hen ŵr yr ogof.
Yma y magwyd Iason er yn blentyn, ac am flynyddoedd ni wyddai pam na sut y daeth yno; ni wyddai hyd yn oed pwy oedd. Ond un dydd, wedi iddo dyfu i fyny'n llanc cryf a hardd, safai ar graig uchel a'r cymylau'n hofran o amgylch ei ben. Syllai'n freuddwydiol i'r pellter, a daeth hen ŵr yr ogof ato gan roi ei law ar ei ysgwydd.
"Iason, beth a weli di yn y pellter draw?" gofynnodd.
"Gwelaf gaeau ffrwythlon, gwastadeddau'r ŷd yn melynu yn yr haul, a dinasoedd poblog ger glannau'r môr."
"Daeth yr awr imi ddweud ychydig o'th hanes wrthyt ti. A wyddost ti sut y daethost yma?"
"Wn i ddim byd amdanaf fy hun," atebodd Iason.
"Yr oedd dy dad yn frenin ar y tiroedd a'r dinasoedd acw, ond dygwyd ei deyrnas oddi arno trwy dwyll gan ei frawd, dy ewythr Pelias. Ceisiodd Pelias dy ladd dithau, ond dihangodd dy dad gan dy ddwyn di yma i'm gofal i. Yr wyt yn awr yn ddigon hen i gychwyn allan i ddial y cam."
Cychwynnodd Iason y diwrnod hwnnw, gan ffarwelio'n dyner â'r hen ŵr ac â'i gyfeillion yn yr ogof.
"Un gair olaf," meddai'r hen ŵr wrtho. "Cofia fod yn garedig wrth yr hen a'r gwan bob amser."
Neidiodd Iason yn ysgafn o graig i graig hyd lethrau peryglus y mynydd, ac yna crwydrodd drwy goed tywyll nes dod allan i'r wlad agored. Cyrhaeddodd afon wyllt, ac ar ei glan yr oedd hen wraig ofnadwy hyll a charpiog yn wylo am na fedrai groesi. Cofiodd Iason am gyngor olaf yr hen ŵr a chariodd y wrach ar ei gefn i ganol y dŵr. Yn rhuthr y dyfroedd nid gwaith hawdd fuasai croesi'r afon ei hun; anos fyth oedd cadw'i draed dano a'r hen wraig yn gwingo a chicio a sgrechian. Er hynny, cyrhaeddodd y lan arall yn ddiogel, ac yna neidiodd yr hen wraig yn ysgafn oddi ar ei gefn. Er ei syndod, gwelodd hi'n newid yn dduwies dal a phrydferth a'i charpiau hyll yn troi'n fantell sidanaidd â gemau lawer yn disgleirio ynddi.
"Myfi," meddai wrtho, "yw Hera, duwies y nefoedd. Pan fyddi mewn unrhyw berygl, galw arnaf."
Yna diflannodd mewn cwmwl amryliw i'r awyr.
Aeth Iason yn ei flaen i gyfeiriad tyrrau'r ddinas a welai yn y pellter. Collasai un o'i sandalau yn yr afon, a cherddai'n araf a chloff yn awr. Yr oedd ystrydoedd y ddinas yn llawn o bobl, ond ymlwybrodd Iason drwyddynt nes cyrraedd ohono'r deml fawr. Yno safodd i syllu ar ddefod rwysgfawr; yr oedd y brenin, Pelias, yn aberthu i'r duwiau.
Syrthiodd llygaid y brenin ar y llanc cryf a hoyw, a gwelodd fod un troed iddo'n noeth. Aeth wyneb Pelias yn wyn gan ofn, oherwydd dywedai proffwydoliaeth yn y wlad y deuai gŵr ieuanc, heb wisgo dim ond un sandal, i ddwyn ei deyrnas oddi arno.
"Ŵr dieithr, pwy wyt ti?" gofynnodd, â chryndod yn ei lais.
"Myfi yw Iason, mab dy frawd, a deuthum yma i hawlio fy nheyrnas."
Cymerodd Pelias arno roi croeso mawr i'r bachgen, gan ei osod i eistedd wrth ochr ei ferched prydferth yn y wledd ac estyn bwyd blasus a gwin melys iddo. Yna canodd bardd ei delyn ac adrodd y chwedl am y Cnu Aur. Dywedai'r gerdd fod Cnu Aur ryw hwrdd rhyfeddol yn crogi ar bren mewn gwlad bell o'r enw Colchis, a sarff wenwynig yn ei wylio ddydd a nos. Crogwyd y Cnu yno gan frenin o Roeg, a aberthodd yr hwrdd i'r duwiau ar ôl dianc i'r wlad bell ar ei gefn. Yn ôl y gân, ni ddeuai heddwch byth i'w enaid hyd nes dyfod o'r Cnu Aur eto i Roeg.
Gwyliai Pelias wyneb y llanc, Iason, yn graff, a sylwodd ar y tân yn ei lygaid.
"Hy," meddai, "bu amser pan fentrwn i allan ar unwaith i chwilio am drysor felly, ond yr wyf yn awr yn hen. Nid yw gwŷr ieuainc heddiw mor eofn â'u tadau; nid oes yma neb yn ddigon dewr i wynebu'r daith."
Neidiodd Iason ar ei draed â'i lygaid yn fflam.
"Dyma un," gwaeddodd, "yn barod i chwilio am y Cnu Aur, yn barod hyd yn oed i farw yn yr antur."
"Pe dyget y Cnu Aur yn ôl i Roeg, ildiwn fy nheyrnas i gyd iti," meddai Pelias, gan gredu y collai Iason ei fywyd ymhell cyn cyrraedd Colchis.
Derbyniodd Iason yr her. Daeth o hyd i saer coed medrus o'r enw Argus, ac adeiladodd hwnnw, o bren y pinwydd, long gref ond ysgafn a lle ynddi i hanner cant o rwyfwyr. Argo y galwyd y llong, a chasglodd Iason iddi rai o'i hen gyfeillion o'r ogof ar fynydd Pelion a rhai o ddewrion enwocaf Groeg. Yn eu mysg yr oedd Hercwlff nerthol ac eofn, Peleus, tad Achiles y cawsom ei hanes gan Homer, ac Orffeus, y telynor swynol.
Wedi aberthu i'r dduwies Hera, troesant flaen y llong i gyfeiriad y dwyrain, ac yn sŵn telyn a chaneuon Orffeus y llithrodd drwy'r tonnau.
Fel Odyseus a'i gyfeillion, wynebodd dewrion yr Argo lawer o beryglon enbyd ar eu taith. Denwyd hwy i ynys yn llawn o ferched prydferth, ac oni bai i Hercwlff eu herio'n gas, yno yr arhosent. Brwydrasant yn erbyn cewri â chwech o freichiau ganddynt, ac wedyn bu bron iddynt â chael eu gwasgu i farwolaeth gan ddwy ynys o rew a oedd yn cau'n sydyn am y llong. Collasant eu harwr cryfaf, Hercwlff, ar y daith, a buont am ddyddiau lawer yn nannedd ystormydd geirwon. Lladdwyd un o'r cwmni gan faedd gwyllt, a bu farw llywiwr medrus yr Argo. Mewn ofn y moriasant heibio i wlad yr Amasoniaid, cenedl o ferched anferth a dreuliai bob dydd yn trin cleddyf a phicell. Daeth hefyd lu o adar mawr milain, a chanddynt blu o bres fel saethau miniog, i ymosod arnynt a'u clwyfo.
O'r diwedd daethant i Golchis, gwlad y Cnu Aur, a chymerodd y brenin, Actes, arno fod yn falch iawn o'u gweld. Wedi iddynt fwyta, adroddodd Iason hanes y fordaith, a gwyliai llygaid mawr Medea, merch y brenin, ef â syndod ac edmygedd. Ni welsai hi erioed ŵr mor hardd a lluniaidd â hwn.
"Deuthum yma, O Frenin," meddai Iason, "i ddwyn y Cnu Aur yn ôl i Roeg, ac yna rhydd Pelias deyrnas fy nhad imi."
Edrychodd Aetes yn gas arno.
"Ni bu eich holl helyntion ond chwarae plant wrth y rhai sy'n eich aros," meddai. "Oni chlywaist ti, Iason, am beryglon antur y Cnu Aur?"
"Clywais fod sarff wenwynig yn ei wylio ddydd a nos," atebodd Iason.
"Gwrando. Cyn y gelli fynd yn agos at y ddraig, bydd dau darw gwyllt ar dy lwybr. Y mae i'r ddau garnau a chyrn o bres, a chwythant dân deifiol o'u ffroenau. Llosgir yn golsyn pwy bynnag a fentra'n agos atynt. Dy waith di fydd eu dofi a'u rhwymo wrth aradr, ac yna aredig pedair acer o dir. Ym mhob cwys rhaid iti hau dannedd draig wenwynig, ac o'r hadau hyn cyfyd byddin o wŷr arfog. Wedi iti frwydro â hwy a'u lladd bob un y cei'r fraint o wynebu'r sarff dan bren y Cnu Aur. Y mae'n rhaid cyflawni'r holl bethau hyn rhwng codiad a machlud haul un dydd."
Gwelai Iason y wên filain a chwaraeai ar wyneb y brenin Aetes, a cherddai siom ac ofn trwy ei galon. Er hynny, ni ddangosodd ei ofn i'r brenin, ond gan hyderu y caffai gymorth y dduwies Hera, dywedodd yr wynebai'r holl beryglon drannoeth. Yna cododd ac aeth yn ôl i'w long i gysgu'r nos.
Ni chysgodd Medea y nos honno. Yn y dolydd a'r coed casglodd lysiau a gwreiddiau prin, a rhoes hwy mewn crochan mawr gan weu swynion o'u hamgylch. Gyda'r wawr aeth i gyfarfod Iason at y llong.
"Pam y mynni di farw ar antur fel hon?" gofynnodd iddo.
"Nid oes arnaf ofn marw," atebodd Iason.
"Nid dewrder a ennill iti'r Cnu Aur."
Syllodd Iason i ddwfn eu llygaid duon a gwelodd ei bod yn ei garu.
"Beth, ynteu?" gofynnodd iddi.
"Cymer yr ennaint hwn," ebe Medea, "ac ira dy holl gorff a'th arfau ag ef. Ni'th glwyfir wedyn gan arf na gwenwyn na thân."
Ufuddhaodd Iason, ac wedi gwrando ar eraill o gynghorion Medea, brysiodd i lys y brenin.
"Felly, fe ddaethost?" meddai Aetes. "Credwn y buasit ti a'th gyfeillion wedi dianc mewn ofn ymhell cyn i'r wawr dorri."
"Y mae'r haul yn dringo'r nef," meddai Iason wrtho. "Yr wyf yn barod."
Arweiniodd y brenin ef i faes ag ynddo aradr fawr haearn. Tan y ddaear yn rhywle clywid rhu'r ddau darw. Gadawyd Iason ei hun ar y cae, a chydiodd yn dynn yn ei darian gan roddi ei gleddyf a'i waywffon o'r neilltu. Yn sydyn, â'u sŵn yn ysgwyd y ddaear, rhuthrodd y teirw tuag ato, ac yr oedd y tân o'u ffroenau'n llosgi'r coed a'r gwair yn lludw. Gwthiodd Iason ei darian i'w hwynebau, a phan welodd ei gyfle, cydiodd yng nghorn un ohonynt, ac â thro sydyn hyrddiodd ef ar ei gefn. Tynnodd â'i holl nerth yng nghynffon y llall nes ei gael ar ei liniau wrth ochr y cyntaf. Yna trawodd yr iau haearn ar eu hysgwyddau a rhwymodd hwy wrth yr aradr drom. Gwrandawai gwŷr y llys a chyfeillion Iason mewn dychryn ar ruadau'r teirw, a gwelent hwy'n nogio a chicio'n wyllt. Ond ymlaen yr âi'r aradr drwy'r maes gan dorri cwys ar ôl cwys yn y tir. Erbyn canol dydd yr oedd y maes i gyd wedi ei rychu, a gyrrwyd yr anifeiliaid blinedig yn ôl i'w cell dan y ddaear.
A gwg ar ei wyneb, rhoes Aetes helm yn llawn o ddannedd dreigiau gwenwynig i Iason, a cherddodd yntau ar hyd pob rhych gan hau'r had rhyfedd ynddynt. O'r ddaear gyffrous cododd rhengau o filwyr arfog, pob un â helm ar ei ben a gwaywffon hir yn ei law. Na, nid byddin o wŷr llonydd a diymadferth mohonynt, ond tyrfa ffyrnig yn dyheu am waed. Gan ddilyn cyngor Medea, safodd Iason o'r neilltu heb na chleddyf na gwaywffon yn ei law, a chydiodd mewn carreg fawr. Taflodd hi i ganol y milwyr, a thrawodd ddau ohonynt i'r llawr. Yna neidiodd y ddau hynny ar eu traed gan ruthro ar ei gilydd, ac yn fuan yr oedd y maes i gyd yn ferw o wŷr yn ymladd. Â'i bwys ar ei waywffon, gwyliai Iason y brwydro ffyrnig, a chyn llithro o'r haul i'r môr, nid oedd un o'r rhyfelwyr yn fyw. Fel y syrthient i'r llawr, llyncai'r ddaear hwy, a thyfai glaswellt a blodau yn eu lle.
Brysiodd Iason at y brenin Aetes i hawlio'r Cnu Aur.
"Cawn siarad am hynny yfory," meddai'r brenin yn sarrug, a throes ymaith gyda'i filwyr i'r llys.
Wrth y llong eisteddodd Iason a'i gymrodyr gan ddyfalu pa gynllun a gaent i dwyllo'r ddraig. Daeth Medea atynt yn ddirgel ac ofnus.
"Y mae fy nhad yn cynnull ei wŷr," meddai, "a phen bore yfory rhuthra'i fyddin arnoch a'ch lladd. Y mae hefyd am fy lladd i, oherwydd gŵyr mai trwof fi y llwyddodd Iason heddiw. Yn awr, Iason, tyrd ar frys, a mi a'th arweiniaf at y Cnu Aur. Gwnewch chwithau'r llong yn barod i hwylio ar unwaith."
Gefn nos dilynodd Iason Fedea drwy wyll y goedwig hyd lwybrau y methai pelydrau'r lloer dreiddio atynt. Ymhen ysbaid cydiodd Medea'n dynn yn ei fraich.
"Edrych," meddai mewn islais.
Ar bren heb fod nepell i ffwrdd gwelai Iason ogoniant euraid y Cnu Aur, a'i harddwch fel harddwch y machlud ym Mai. Rhoes gam eiddgar ymlaen, ond yna syrthiodd ei lygaid ar y sarff wenwynig, a'i chorff hir, llachar, yn nyddu o amgylch y pren.
"Aros di yma," sisialodd Medea, a dechreuodd ganu'n isel gan agosáu'n araf at y sarff a'i swyno â'i llais pêr. Gan ddal i ganu, irodd Medea lygad y sarff ag olew o fêl a llysiau prin, ac ymhen encyd syrthiodd yr anghenfil i gysgu. Aeth Iason ymlaen yn llechwraidd a chamodd dros y corff gloyw. Yna cydiodd yn y Cnu Aur, a rhuthrodd y ddau ymaith drwy'r goedwig at y llong.
Crogwyd y Cnu Aur ar hwylbren yr Argo, ac ymaith â'r llong fel march yn rhusio. Canai Orffeus gân newydd ar ei delyn, a gwrandawai Iason a Medea arno gan syllu'n dyner ym myw llygaid ei gilydd.
Yr oedd taith hir ac enbyd o'u blaen, a niwl ac ystormydd a pheryglon yn eu haros. Ond stori hir arall yw honno.
V—BRANWEN FERCH LLYR
HYD yn hyn crwydrasom i wledydd go bell i chwilio am storïau mawr y byd, ac y mae'n bur debyg fod rhai ohonoch yn dechrau gofyn pa bryd y cawn stori o'n gwlad ein hunain. Y mae gan Gymru storïau llawn mor ddiddorol â rhai gwledydd eraill.
Flynyddoedd maith yn ôl, cyn i ddyn feddwl am greu peiriant i argraffu llyfrau, ysgrifennwyd barddoniaeth a chyfreithiau a storïau i lawr ar groen, fel rheol ar groen llo. Gwaith araf iawn oedd, wrth gwrs, a threuliai mynaich fisoedd a blynyddoedd wrtho. Gwnaent eu gwaith yn hynod ddestlus, a byddai'n werth i chwi weld dalennau prydferth yr hen lawysgrifau. Buasai'ch athrawon yn bur falch ohonoch chwi pe medrech ysgrifennu hanner cystal â'r mynaich hynny.
Beth a ddigwyddodd i'r hen lawysgrifau? Aeth llawer ohonynt ar goll, ond yn ffodus, cadwyd rhai, ac y maent yn drysorau hynod werthfawr. Ynddynt hwy y ceir barddoniaeth ein hen hen feirdd a chwedlau'r gorffennol pell.
Tybed a fedrwch chwi gofio enwau dau ohonynt? Un yw Llyfr Gwyn Rhydderch, a'r llall yw Llyfr Coch Hergest. Enwaf y ddau hyn am mai ynddynt hwy y cadwyd y stori a geir yn y bennod hon. Erbyn hyn y mae Llyfr Gwyn Rhydderch yn Aberystwyth a Llyfr Coch Hergest yn Rhydychen. Pe digwydd i chwi fynd i Aberystwyth am eich gwyliau haf, ewch am dro i'r llyfrgell fawr ar y bryn a cheisiwch olwg ar yr hen lawysgrif a gadwodd inni hyd heddiw, ymysg chwedlau eraill, yr hanes tlws am Franwen Ferch Llŷr.
Yn Harlech ar graig uwch y môr, eisteddai Brân, brenin Prydain, un dydd, ac o'i amgylch yr oedd arglwyddi a milwyr ei lys. Ymhell allan yn y môr gwelent dair llong ar ddeg yn hwylio'n gyflym tuag atynt a'r gwynt yn gryf o'u hôl.
"Mi a welaf longau acw," meddai'r brenin, "ac yn dyfod yn hŷ tua'r tir. Erchwch i wŷr fy llys wisgo'u harfau a mynd i holi eu neges."
Brysiodd y gwŷr i lawr at y môr, a gwelsant fod y llongau'n neilltuol o hardd a'u baneri teg o bali yn chwarae yn yr awel. Ar y llong gyntaf cododd milwr darian â'i blaen at i fyny fel arwydd o heddwch. Yna daeth negeswyr mewn badau at y lan, gan gyfarch gwell i'r brenin, a safai ar graig-uchel uwch eu pennau.
"Duw a roddo dda i chwi," atebodd yntau, "a chroeso i chwi. Pwy biau'r llongau hyn, a phwy sydd ben arnynt?"
"Arglwydd," meddent, "Matholwch, brenin Iwerddon, biau'r llongau, ac y mae ef ei hun yma."
"Beth yw ei neges?" gofynnodd Brân.
"Myn briodi dy chwaer, Branwen, a rhwymo Iwerddon wrth Ynys y Cedyrn, fel y byddont gadarnach."
Gwahoddwyd Matholwch i'r tir, a rhwng y ddau lu yr oedd milwyr lawer yn Harlech y nos honno. Trannoeth, mewn cyngor, penderfynwyd rhoddi Branwen yn wraig i Fatholwch, a chynhaliwyd y wledd briodasol yn Aberffraw, yn Sir Fôn, ymhen rhai dyddiau. Yno eisteddasant i wledda ac ymddiddan mewn pebyll anferth, oherwydd nid oedd un tŷ yn ddigon mawr i gynnwys Brân. A phriodwyd Matholwch a Branwen y nos honno.
Trannoeth, pwy a ddaeth i Aberffraw ar ei dro ond gŵr cas, annifyr, o'r enw Efnisien, hanner brawd i'r brenin. Wedi iddo daro ar lety meirch Matholwch gofynnodd i'r gweision pwy bioedd y meirch.
"Matholwch, brenin Iwerddon," atebasant hwythau.
"Beth a wnânt hwy yma?" gofynnodd Efnisien.
"Y mae Matholwch ei hun yma, ac ef a briododd Franwen, dy chwaer."
"Priodi Branwen fy chwaer!" gwaeddodd Efnisien. "A heb fy nghennad i! Ni allent hwy roi mwy o ddirmyg arnaf."
Yn wyllt, aeth at y meirch a thorri eu gweflau wrth eu dannedd, a'u clustiau wrth eu pennau a'u cynffonnau wrth eu cefn. Torrodd eu hamrannau hefyd wrth yr asgwrn, nes gwneuthur ohono'r meirch i gyd yn ddiwerth.
Pan glywodd Matholwch am gyflwr y meirch, galwodd ei wŷr at ei gilydd yn ddig, ac aethant i lawr i'w llongau, gan feddwl troi'n ôl i Iwerddon. Brysiodd negeswyr Brân ar eu holau i ofyn pam yr oeddynt yn ymadael mor sydyn.
"Duw a ŵyr," atebodd Matholwch, "pes gwybuaswn, ni ddaethwn yma o gwbl. Ni ddeallaf y peth. Rhoi Branwen Ferch Llŷr, un o'r Tair Prif Riain yn yr ynys hon, yn wraig imi, ac yna fy sarhau a'm gwaradwyddo trwy gamdrin fy meirch!"
Dychwelodd y negeswyr at Frân, a deallodd y brenin mai Efnisien oedd yn euog o'r cam. Cymhellwyd Matholwch i droi'n ôl i'r llys, a chaed heddwch trwy i Frân roi march iach iddo am bob un a lygrwyd, gwialen arian gyhyd ag ef ei hun, a chlawr aur cyfled â'i wyneb. Rhoes iddo hefyd bair neu grochan rhyfeddol, y Pair Dadeni. Pe bai milwr yn cael ei ladd heddiw, dim ond ei roi yn y pair ac fe godai'n fyw yfory, yn gryf ac iach ond heb ei leferydd. Wedi derbyn ohono'r anrhegion hyn yr oedd Matholwch yn llawen, a bu canu a gwledda am ddyddiau lawer yn y llys yn Aberffraw.
Yna hwyliodd y tair llong ar ddeg i Iwerddon, ac ar fwrdd un ohonynt yr oedd y ferch dlos, Branwen, yn llon yng nghwmni ei gŵr, y brenin Matholwch. Bu llawenydd mawr yn Iwerddon, a deuai'r arglwyddi a'r arglwyddesau i dalu teyrnged i'r frenhines newydd. Rhoddai hithau iddynt anrhegion gwerthfawr a thlysau a modrwyau heirdd. Felly y treuliodd Branwen flwyddyn hapus yn y llys, a mab a aned iddi, a rhoddwyd arno'r enw Gwern fab Matholwch.
Yn yr ail flwyddyn clywodd pobl Iwerddon am y gwaradwydd a gawsai Matholwch yng Nghymru, pan ddifethwyd ei feirch yn Aberffraw. Bu cyffro mawr yn y llys, a galwai'r penaethiaid i gyd am ddial y sarhad. Gyrrwyd Branwen o ystafell y brenin i'r gegin i bobi bara, a rhoddwyd hawl i'r cigydd i roi bonclust iddi bob dydd.
Aeth tair blynedd heibio a Branwen druan yn dioddef y gwaradwydd hwn. Ni wyddai Brân ddim am y peth, oherwydd gofalodd penaethiaid Iwerddon nad âi llong na chwch i Gymru, ac o deuai llong o Gymru i Iwerddon, carcharid y llongwyr bob un.
Stori drist yw stori Branwen. Dacw hi, ddydd ar ôl dydd, yn pobi bara yng nghegin y llys ac yn edrych allan ar y traeth unig ac ar donnau llwyd y môr rhyngddi â Chymru. Nid oedd, er hynny, yn hollol unig. Gyda hi yn y gegin yr oedd aderyn drudwen, a safai beunydd ar ochr y cafn yn ei gwylio'n trin y toes. Siaradai Branwen ag ef, ac yn araf deg dysgodd iaith i'r aderyn, gan fynegi iddo sut ŵr oedd ei brawd, y cawr Brân. Ysgrifennodd lythyr yn adrodd hanes ei phoen a'i hamarch yn Iwerddon, a rhwymodd ef am fôn esgyll yr aderyn hoff. Y mae gan un bardd Cymraeg, Mr. R. Williams Parry, ddarn tlws o farddoniaeth yn darlunio Branwen, un bore, yn gollwng y drudwen ar ei hynt tua Chymru.
Heddiw ar drothwy'r ddôr |
Pan ddengys haul o'i gell |
Wedi cyrraedd y mynyddoedd hyn, mynyddoedd Cymru, hedodd trostynt i Gaer Saint yn Arfon a disgyn ar ysgwydd Brân. Ysgydwodd yr aderyn ei blu, oni ddarganfuwyd y llythyr, a thrist iawn oedd Brân o glywed am waradwydd Branwen. Cynhullodd fyddin fawr ar unwaith, a chychwynnodd tuag Iwerddon, gan adael ei fab, Caradog, a saith tywysog i ofalu am yr ynys hon. Nid aeth Brân ei hun mewn llong, gan ei fod yn ddigon mawr i gerdded trwy'r lli.
Yn Iwerddon rhuthrodd gwylwyr moch Matholwch o lan y môr at y brenin.
"Arglwydd, henffych well!" meddant.
"Duw a roddo dda i chwi," atebodd Matholwch.
"A oes rhyw newyddion gennych?"
"Arglwydd, y mae gennym ni newyddion rhyfedd. Coed a welsom ar y môr yn y lle ni welsom ni erioed un pren, a ger llaw y coed mynydd mawr a hwnnw'n symud, ac ar ben y mynydd ddau lyn."
Gyrrodd Matholwch genhadon at Franwen i ofyn ystyr y pethau hyn.
"Gwyr Ynys y Cedyrn, o glywed fy mhoen a'm hamarch," meddai hithau, "sy'n dyfod yma dros y môr."
"Beth yw'r coed a welwyd ar y môr?" gofynnodd. y cenhadon.
"Hwylbrenni'r llongau."
"Beth yw'r mynydd gerllaw'r llongau?"
"Brân, fy mrawd, yn dyfod i ddŵr bas, a'r ddau lyn ar ei ben yw ei ddau lygaid yn edrych yn ddig tuag yma."
Galwodd Matholwch holl filwyr Iwerddon ynghyd a phenderfynu cilio'n ôl dros afon Llinon (Shannon) ac yna dinistrio'r bont. Ond wedi cyrraedd yno, gorweddodd y cawr, Brân, ar draws yr afon. "A fo pen, bid bont," meddai wrth ei filwyr, geiriau a ddaeth yn ddihareb wedyn. "Myfi a fyddaf bont."
A cherddodd ei fyddin dros ei gorff i'r lan arall.
Yna, gydag y cyfododd Brân, daeth cenhadon Matholwch ato.
"Y mae Matholwch," meddant, "am roddi brenhiniaeth Iwerddon i Wern, mab dy chwaer, a'th nai dithau."
"Ewch yn ôl at Fatholwch a dywedwch wrtho y mynnaf y frenhiniaeth fy hun," atebodd Brân.
Ymhen ysbaid, dychwelodd y negeswyr â'r newydd y bwriadai Matholwch anrhydeddu Brân trwy godi tŷ iddo, y tŷ cyntaf erioed i fod yn ddigon mawr i'w gynnwys ef, ac y rhoddid y frenhiniaeth i Wern yn y tŷ hwnnw. Cymhellodd Branwen ei brawd i dderbyn y cynnig, oherwydd yr oedd ofn yn ei chalon yr âi'r ddwy fyddin i ymladd ac y lleddid milwyr lawer o'i hachos hi.
Adeiladwyd y tŷ anferth, ac yr oedd iddo gant o golofnau. Yna dyfeisiodd y Gwyddyl ystryw i ladd eu gelynion. O boptu i bob colofn crogwyd sach o groen ar hoel, a gŵr arfog ym mhob un ohonynt. Yr oedd felly ddau gant o wŷr yn ymguddio yn yr adeilad. Ond daeth Efnisien, y gŵr cas a fuasai'n camdrin y meirch yn Aberffraw, i mewn i'r lle, a chanfod y sachau ar y colofnau.
"Beth sydd yn y sach hon?" gofynnodd i un o'r Gwyddyl.
"Blawd, gyfaill," oedd yr ateb.
Teimlodd Efnisien y sach a gwasgodd ben y milwr a ymguddiai ynddi, nes ei ladd. Rhoes ei law ar un arall, a gofyn,
"Beth sydd yma?"
"Blawd," meddai'r Gwyddel.
Gwasgodd Efnisien ben gŵr y sach honno yn yr un modd, ac felly yr aeth o sach i sach nes lladd ohono'r milwyr oll. Yna daeth gwŷr Ynys Iwerddon i mewn o un ochr, a gwŷr Ynys y Cedyrn o'r ochr arall. Eisteddodd pawb yn gyfeillgar â'i gilydd, ac yn eu gŵydd oll estynnwyd y frenhiniaeth i Wern, fab Branwen.
Galwodd Brân y mab ato'n dyner, ac wedi derbyn ei fendith, aeth Gwern at Fanawydan, brawd Brân. Oddi wrtho ef aeth gan wenu'n llon at Nisien, brawd y gŵr cas, Efnisien.
"Paham," meddai Efnisien yn ddig, "na ddaw fy nai, fab fy chwaer, ataf fi? Buaswn i'n gyfeillgar ag ef hyd yn oed pe na bai'n frenin Iwerddon."
Pan aeth y mab ato, cydiodd Efnisien ynddo gerfydd ei draed, a chyn i neb fedru ei atal, taflodd ef i ganol y tân. Pan welodd Branwen ei mab yn llosgi yn y tân, neidiodd i fyny gan fwriadu ei thaflu ei hun i'r fflamau ar ei ôl. Ond cydiodd Brân ynddi ag un llaw, a gafaelodd yn ei darian â'r llaw arall. Cododd pawb ar hyd y tŷ, a phob milwr yn cymryd ei arfau. Dechreuodd y Gwyddyl gynnau tân dan y Pair Dadeni, gan fwrw iddo rai o'r gwŷr a laddwyd yn y sachau gan Efnisien. Gwelodd Efnisien hynny, a dywedodd wrtho'i hun,
"O Dduw! Gwae fi fy mod yn achos y difrod hwn ar wŷr Ynys y Cedyrn, a melltith arnaf oni cheisiaf eu gwared."
Gorweddodd ymysg cyrff y Gwyddyl, a bwriwyd ef i'r Pair Dadeni. Ymestynnodd yntau yn y Pair, oni thorrodd ef yn bedwar darn, ac oni thorrodd ei galon ei hun. Yna rhuthrodd y ddwy fyddin fawr ar ei gilydd, gan frwydro'n ffyrnig. Lladdwyd cannoedd o boptu, a syrthiodd Brân ei hun wedi ei glwyfo â gwaywffon wenwynig. Wrth farw dymunodd i'w filwyr, os dihangent, gladdu ei ben yn Llundain.
O'r fyddin fawr a aeth drosodd i ddial y cam ar Franwen dim ond saith a ddihangodd yn ôl i Gymru. Hwyliasant yn drist dros y môr, a Branwen gyda hwy. Yn Aber Alaw, yn Sir Fôn, y daethant i'r tir, ac yno eisteddasant i orffwys. A dagrau yn ei llygaid, edrychodd Branwen ar ei gwlad ei hun a thros y tonnau ar Ynys Iwerddon.
"O fab Duw," meddai, "gwae fi o'm genedigaeth! Dwy ynys dda a ddifethwyd o'm hachos i."
Rhoes ochenaid fawr a thorri ei chalon. Ac yno, yng Nglan Alaw, y claddwyd "un o'r Tair Prif Riain yr ynys hon."
VI—CUCHULAIN, ARWR IWERDDON
NID Cymru, wrth gwrs, yw'r unig wlad a chanddi hen lawysgrifau gwerthfawr yn cynnwys storïau diddorol o'r gorffennol pell. Yn Iwerddon, er enghraifft, y mae dau hen lyfr y medrwch chwi, efallai, gofio'u henwau. Y cyntaf yw Llyfr y Fuwch Lwyd, enw a gafodd y llawysgrif oddi wrth y croen a ddefnyddid yn lle papur yn yr oes bell honno. Ysgrifennwyd y llyfr hwn mewn mynachdy unig ar lan yr afon Llinon (Shannon) dros wyth cant o flynyddoedd yn ôl. Y llall yw Llyfr Leinster, cyfrol fawr â'i dalennau o groen llo. Mynaich a fu wrthi'n ddyfal yn ysgrifennu'r llyfrau hyn, gan gadw ynddynt, nid yn unig hanesion am y seintiau a bywyd crefyddol y wlad, ond hefyd orchestion cewri paganaidd yn yr oesau pell cyn dyfod Cristionogaeth i'r tir. Am ganrifoedd maith cyn dyddiau'r mynaich fe ganasai'r beirdd eu cerddi am y gwroniaid hyn, ond i'r mynaich y mae'r diolch am eu rhoi ar gof a chadw. Erbyn hyn, y mae'r rhan fwyaf o'r storïau'n mynd yn ôl ryw ddwy fil o flynyddoedd.
Cuchulain, arwr Ulster, oedd gwron pennaf y beirdd a'r chwedleuwyr yn Iwerddon. Clywn amdano'n fachgen bach yn gwrando â syndod am fawredd Conor, brenin Ulster a brawd ei fam, ac am ddewrion y llys yn Emain Macha. Hiraethai am fod yno ymysg meibion yr arglwyddi, ac un diwrnod, pan nad oedd ond pum mlwydd oed, gadawodd ei gartref, ar waethaf ei fam, a cherddodd dros y bryniau moel a chreigiog i'r llys. Derbyniwyd ef yn garedig gan ei ewythr, y brenin Conor, ac yn fuan synnodd yr holl lys at ei gryfder a'i ddewrder yn chwaraeon y bechgyn. Ei enw y pryd hwn oedd Setanta, a diddorol yw'r stori amdano'n cael ei alw yn Cuchulain. Un diwrnod, aeth y brenin Conor a holl bendefigion y llys i wledd yng nghastell gof a chrefftwr cywrain o'r enw Culain. Hwn oedd prif of Ulster, ac iddo ef y rhoddid y gwaith o wneuthur arfau a chleddyfau gorau'r llys. Wedi i bob un ohonynt gymryd ei le wrth y byrddau hir, troes Culain at y brenin.
"Fy Mrenin," gofynnodd, "a oes rhywun heb gyrraedd?"
"Na," atebodd Conor, "y mae pawb yma. Pam yr wyt yn gofyn?"
"Am yr hoffwn ollwng fy nghi mawr a ffyrnig yn rhydd i wylio'r castell. Y mae'n gryfach ac yn ffyrnicach na chant o gŵn cyffredin, ac ni faidd gelyn ddod yn agos i'r castell pan fo'r ci yn ei wylio."
"O'r gorau," meddai Conor. "Yn rhydd ag ef, ynteu!"
Gollyngwyd y ci, ac yna caewyd dorau mawr y castell. Gan ffroeni'r ddaear a chyfarth dros bob man, rhuthrodd y ci o amgylch y muriau ac yna gorweddodd â'i drwyn ar ei bawen o flaen y llidiart. Yr oedd yn barod i larpio pwy bynnag a ddeuai heibio.
Pwy a ddaeth ar hyd y ffordd ond y bachgen chwech oed, Setanta; rhedai'n hapus gan daro pêl â phastwn. a dilyn ôl ceffylau a cherbydau Conor o'r llys. Dechreuodd y ci mawr udo nes dychryn pawb yn y wledd, a phan ddaeth y bachgen yn nes neidiodd fel mellten tuag ato gan ysgyrnygu ei ddannedd hir. Ond taflodd Setanta ei bêl i mewn i safn agored y ci, trawodd ef â'i bastwn, ac yna gafaelodd yn ei goesau ôl a hyrddiodd ef yn erbyn craig nes ei ladd.
Rhuthrodd y milwyr allan o'r wledd, a phan welodd y gof, Culain, ei hoff gi yn farw yr oedd yn drist iawn.
"Yn awr," meddai wrth Conor, "bydd y bleiddiaid a'r lladron yn difetha fy ngwartheg a'm defaid a'm holl eiddo."
"Peidiwch â gofidio, Culain," meddai'r bachgen. "Mi ofalaf i na ddigwydd hynny."
"O?" atebodd y gof yn syn. "Beth, tybed, a elli di ei wneud?"
"Chwiliaf y wlad i gyd am gi tebyg iddo, a magaf ef i gymryd lle'r ci a leddais. Hyd hynny, byddaf i fy hun yn gi i chwi, a gwyliaf eich tŷ a'ch praidd. Yr wyf cyn gyflymed ar fy nhroed ag unrhyw gi."
Felly y galwyd Setanta yn Cuchulain—hynny yw, Ci Culain—a phroffwydodd hen Dderwydd doeth y byddai ei enw ar bob tafod cyn hir.
Un dydd, ryw flwyddyn wedyn, digwyddodd i Guchulain glywed un o'r Derwyddon yn rhoi gwers i nifer o'r bechgyn hynaf ar y glaswellt allan yn yr haul. Y Derwyddon oedd proffwydi a doethion yr hen oes yn Iwerddon ac yng Nghymru.
"Bydd y bachgen," meddai, "a wisg arfau am y tro cyntaf heddiw yn tyfu yn arwr mwyaf Iwerddon."
Disgleiriai llygaid y bechgyn oherwydd yr oeddynt oll, ond Cuchulain, mewn oed i ddwyn arfau.
"Ond," ychwanegodd y Derwydd, "bydd yr arwr hwnnw yn marw yn ieuanc, yn ieuanc iawn."
Aeth Cuchulain yn syth at y brenin Conor, ac er nad oedd ond saith mlwydd oed, gofynnodd iddo am wisg o ddur, am gledd a phicell a cherbyd rhyfel.
"Yr wyt yn rhy ieuanc o lawer," oedd ateb y brenin. "Pwy a roes y syniad yn dy ben?"
"Cathbad, y Derwydd," meddai Cuchulain.
Synnodd Conor wrth glywed hyn, ond yr oedd yn rhaid hyd yn oed i frenin yn yr oes honno wrando ar lais y Derwyddon. Felly aeth gyda'r bachgen i neuadd yr arfau. Cymerodd darian fawr oddi ar y mur, a dewisodd gleddyf a dwy waywffon gref. Mewn llawenydd, brysiodd Cuchulain allan i brofi nerth yr arfau; chwifiodd y cleddyf a'r gwaywffyn a gyrrodd eu blaenau i mewn i'r ddaear galed. Torrodd hwy i gyd. yn ddarnau mân, ac aeth yn ei ôl at y brenin i erfyn am rai eraill. Plygodd a thorrodd y rhai hynny hefyd, ac o'r diwedd nid oedd ond arfau'r brenin ei hun a ddaliai ei nerth. Yr un un fu ei hanes yn dewis cerbyd rhyfel. Neidiodd i amryw ohonynt gan yrru'r ceffylau'n wyllt, ond sigo a thorri a wnâi pob cerbyd. Galwodd y brenin am ei gerbyd rhyfel ei hun, ac yn hwnnw y cychwynnodd Cuchulain ar ei antur gyntaf.
Aeth allan ar unwaith gan ruthro trwy ddyffrynnoedd tywyll a thros fryniau creigiog. Y nos honno heriodd dri chawr mewn castell unig, tri brawd a fu am flynyddoedd yn lladd milwyr dewraf Ulster. Lladdodd y tri ohonynt, anrheithiodd a llosgodd eu castell a dychwelodd adref â'u pennau yn ei gerbyd rhyfel. Ni ddywedai neb yn Emain Macha ar ôl hynny fod Cuchulain yn rhy ieuanc i ddwyn arfau.
Fe edrydd yr hen chwedl am ugeiniau o orchestion Cuchulain, a gobeithiaf yn fawr y byddwch yn eu darllen drosoch eich hunain. Penderfynodd y buasai'n priodi Emer, merch dlysaf Iwerddon i gyd, ond nid oedd ei thad, Fforgal y Derwydd, yn fodlon i hynny. Aeth Fforgal at y brenin Conor gan gymryd arno y rhoddai Emer yn wraig i Guchulain os mentrai'r gwron i Wlad y Cysgodion a byw yno am flwyddyn. Credai Fforgal y byddai Cuchulain farw ar y daith, gan mai peryglus iawn oedd y ffordd i'r tir pell, a chreulon y frenhines a reolai yno. Ond, ar ôl llawer o anturiaethau, cyrhaeddodd Cuchulain Wlad y Cysgodion, a gorfododd y gawres a deyrnasai arni i ddysgu iddo bopeth a wyddai am ymladd. Yno gwnaeth gyfaill o fachgen arall o'r enw Fferdia, a chyda'i gilydd wynebai'r ddau bob math o beryglon. Aeth y frenhines yn hoff iawn o Guchulain, a dysgodd iddo ystrywiau rhyfel na wyddai neb arall amdanynt.
Ymhen blwyddyn, dychwelodd i Iwerddon a galwodd ei wŷr at ei gilydd. Yn ei gerbyd rhyfel, â phladuriau yng nghlwm wrth yr olwynion, rhuthrodd i gastell Fforgal a chariodd Emer i ffwrdd gydag ef, a'i gwisgoedd heirdd a'i thlysau o aur ac arian. Wedyn nid oedd dau hapusach na hwy yn y llys yn Emain Macha.
Cyn hir, cododd y gweddill o Iwerddon fel un gŵr yn erbyn Ulster, ac ar adeg pan oedd milwyr Conor, i gyd ond Cuchulain, o dan swyn a melltith un o'r duwiesau. Safodd Cuchulain ei hun i wynebu'r holl fyddin, a daeth milwr ar ôl milwr i'r maes i ymladd ag ef. Ond yr oeddynt fel plant yn ei ddwylo, ac â'i gleddyf tanbaid a'i waywffon hir a'i ffon-dafl beryglus fe glwyfai gant o ddynion bob dydd. O'i flaen ef yr oedd y fyddin anferth fel cnwd o eira'n toddi yn wyneb yr haul. Ddydd a nos am wythnosau lawer, brwydrodd Cuchulain nes bod clwyfau llosg dros ei gorff i gyd. Yna daeth ei dad, y duw Lleu, duw'r Goleuni, i lawr ato, gan ei lapio yn ei fantell am dri diwrnod a thair nos; ynddi cysgodd yr arwr yn dawel, ac ar ei holl glwyfau rhoes Lleu lysiau meddygol i'w hiacháu. Ar ddiwedd y tri diwrnod deffroes Cuchulain cyn gryfed ac iached ag erioed. Safodd eto i herio pob gelyn a ddeuai o'r fyddin fawr.
Gwelodd ddyn ieuanc cryf a hoyw yn dod i ymladd ag ef, a phan adnabu ef rhoes Cuchulain ei gleddyf yn y wain. Fferdia, ei gyfaill yng Ngwlad y Cysgodion, oedd.
"Fferdia," meddai Cuchulain, "er mwyn yr hen amser pan wynebem bob math o beryglon gyda'n gilydd, gâd inni beidio ag ymladd."
"Cuchulain, fy nghyfaill hoff, y mae'n rhaid imi frwydro â thi. Rhoddais fy llw i'r frenhines yr awn allan yn dy erbyn. Os gwrthodaf, bydd holl feirdd y llys yn canu cerddi digrif amdanaf a phawb yn chwerthin am fy mhen. Gwell gennyf farw wrth ymladd â chyfaill na bod yn destun gwawd y beirdd."
Brwydrasant drwy'r dydd gerllaw afon ar ffin Ulster, a phan aeth yr haul i lawr rhoesant gusan i'w gilydd. Y nos honno gyrrodd Fferdia hanner ei fwyd i Guchulain, a gyrrodd Cuchulain hanner ei lysiau meddygol gwerthfawr i Fferdia. Rhoddwyd eu ceffylau hefyd ochr yn ochr yn yr un ystabl, a chysgodd eu dau was wrth yr un tân.
Yn fore drannoeth neidiodd y ddau i'r cerbydau rhyfel gan daflu picell ar ôl picell at ei gilydd. Trwy'r dydd hir gwrandawai'r fyddin gerllaw ar sŵn yr ymladd wrth yr afon, a phan ddaeth cysgodion y nos cusanodd y ddau arwr ei gilydd yn llawen. Rhoddwyd eu ceffylau eto yn yr un ystabl, a chysgodd eu dau was wrth yr un tân.
Y trydydd dydd, â chleddyfau y brwydrasant, a chyn i'r haul syrthio dros y mynyddoedd i'r môr yr oedd clwyfau'n brathu eu cyrff drostynt oll. Yn drist. y gadawsant ei gilydd, gan wybod y syrthiai un ohonynt yn y frwydr drannoeth. Y nos honno ni roddwyd eu ceffylau yn yr un ystabl, ac ni chysgodd eu dau was wrth yr un tân.
Y pedwerydd dydd bu'r brwydro'n chwyrn a thanbaid, mor ffyrnig nes torri o'r ceffylau eu tresi yn y gwersyll gerllaw wrth glywed sŵn aruthr cleddyf a tharian. Syllai'r fyddin mewn ofn a syndod ar y ddau arwr, ac yna, ar ôl ymladd hir, gwelsant Fferdia'n syrthio i'r llawr.
Rhedodd Cuchulain ato a chododd ei hen gyfaill yn ei freichiau, gan ei gario dros yr afon er mwyn iddo gael marw ar ddaear Ulster. Uwch ei ben wylodd yn chwerw.
"Fferdia, fy nghyfaill hoff," meddai, "bydd dy farw di fel cwmwl du yn hongian byth uwch fy llwybr. Doe yr oeddit mor gadarn â'r mynydd acw; heddiw yr wyt yn llai na chysgod. Byr a thrist fydd fy mywyd innau'n awr."
Penderfynodd brenhines Iwerddon ddial ar Guchulain am ladd ei milwyr gorau a chadw ei byddin rhag lladrata yn Ulster. Aeth at frodyr a chyfeillion y gwŷr a laddwyd gan eu cynhyfru a'u cyffroi. Am yr ail waith casglwyd byddin fawr i gau amdano, a chan fod melltith un o'r duwiesau yn cadw milwyr Ulster yn wan a chysglyd yn Emain Macha nid oedd ond Cuchulain ei hun i herio'r gelynion. Wedi ffarwelio'n dyner ag Emer, ei wraig, rhuthrodd allan yn ei gerbyd rhyfel. Ar y ffordd cyfarfu â thair hen wrach a llygad chwith pob un yn ddall. Rhoesant iddo gig i'w fwyta, ond wedi iddo'i lyncu parlyswyd hanner ei gorff. Yna gwelodd y fyddin yn agosáu'n gyflym mewn cerbydau rhyfel.
Cyn dechrau ymladd gyrrodd y frenhines gyfrwys dri o'r Derwyddon at Guchulain. Edrychid ar y Derwyddon fel gwŷr neilltuol o ddoeth a chrefyddol, ac yr oedd yn bechod mawr gwrthod unrhyw beth a ofynnent. Yn ei gerbyd yr oedd gan Guchulain dair gwaywffon gref, a dywedai proffwydoliaeth y lleddid brenin gan bob un ohonynt. Daeth y Derwydd cyntaf ato.
"Cuchulain," meddai, "oni roddi un o'th waywffyn imi, bydd fy melltith arnat."
"Cymer hi," meddai Cuchulain, a thaflodd y waywffon i galon y Derwydd. Cydiodd un o arweinwyr y fyddin ynddi wedyn a hyrddiodd hi'n ôl, gan ladd gyrrwr cerbyd Cuchulain—Laeg, brenin pob gyrrwr cerbydau.
"Cuchulain," meddai'r ail Dderwydd, "bydd fy melltith ar Ulster oni roddi un o'th waywffyn imi."
"Cymer hi," meddai Cuchulain, a thaflodd y waywffon finiog drwy ben y Derwydd. Gafaelodd brenin Leinster ynddi a thaflodd hi yn ei hôl, gan ladd ceffyl enwog Cuchulain—Llwyd Macha, brenin pob ceffyl.
"Cuchulain," meddai'r trydydd Derwydd, "rho dy waywffon olaf imi neu bydd fy melltith ar dy holl deulu."
"Cymer hi," oedd ateb Cuchulain, ac fel mellten y saethodd y waywffon trwy gorff y Derwydd. Ond taflwyd hi yn ei hôl gan un o arweinwyr ei elynion. ac aeth i galon Cuchulain, brenin pob milwr.
Mewn ofn a thawelwch y syllodd y fyddin fawr arno'n syrthio, pob milwr â'i bwys ar ei waywffon. Gadawsant iddo gerdded mewn poen i yfed ac ymdrochi mewn llyn gerllaw, ond pan ddaeth allan o'r dŵr ni fedrai gerdded. Wrth y lan safai colofn o garreg, ac fe'i rhwymodd Cuchulain ei hun wrthi gan fynnu marw ar ei draed. Pylodd goleuni tanbaid ei lygaid, ac aeth ei wyneb yn wyn fel eira.
Yn araf y nesaodd ei elynion ato, ac yr oedd ofn yn eu calonnau. Gwelsant frân yn hofran uwch ei ben, ac yn fuan disgynnodd yn eofn ar ei ysgwydd lonydd. Gwyddent, wrth hynny, fod gwron Ulster yn farw o'r diwedd, ac nad oedd raid i neb ei ofni mwy.
VII—Y TYWYSOG AHMAD
(O "Nosau Arabia")
EFALLAI fod y stori a gawsom yn y bennod ddiwethaf braidd yn newydd a dieithr i rai ohonoch, ond yr wyf yn siwr i chwi oll glywed am Nosau Arabia, casgliad o storïau melyn yn llawn rhamant, lliw a doethineb y Dwyrain. Y mae'n debyg y cofiwch eich athro neu'ch athrawes yn adrodd wrthych am Sindbad y Morwr, am Aladin a'i lamp ryfeddol, ac am Ali Baba a'r deugain lladron.
Y mae'r storïau hyn yn hen iawn er na chopïwyd hwy i lawr mewn llawysgrifau Arabeg hyd y drydedd ganrif ar ddeg. Efallai iddynt gychwyn yn India, ac adroddwyd hwy wedyn am flynyddoedd ym Mhersia cyn cyrraedd Arabia, gwlad y chwedleuwyr medrus a'u lliwiodd mor gain. O oes i oes cynhyddai'r storïau mewn maint a rhif, ac aent yn brydferthach o hyd.
"Difyrrwch Mil ac Un o Nosau" yw enw llawn y casgliad hwn. Yn ôl hen chwedl, wedi i'w wraig gyntaf fod yn anffyddlon iddo, priodai brenin ym Mhersia ferch ieuanc bob dydd, a'r bore trannoeth torrai ei phen i ffwrdd. O'r diwedd daeth tro Shahrazad, merch y Prif Weinidog, a noson ei phriodas dechreuodd adrodd stori wrth y brenin ond gan ofalu ei gadael heb ei gorffen. Cadwodd y brenin hi'n fyw drannoeth er mwyn cael clywed gweddill y stori. Felly, o nos i nos, adroddodd Shahrazad ei storïau difyr, ac am fil ac un o nosau gwrandawodd y brenin mewn syndod gan ei chadw'n fyw o hyd i adrodd ychwaneg. Yn y diwedd aeth yn hoff iawn ohoni.
Erbyn heddiw gwrendy'r byd i gyd ar storïau Shahrazad, ac yn awr yr wyf am i chwithau wrando ar ei llais hyfryd yn sôn am helyntion y Tywysog Ahmad.
Yr oedd gan Swltan, neu frenin, yn India dri mab—Husayn, yr hynaf, Ali, yr ail, ac Ahmad, yr ieuangaf. Yn y llys hefyd o dan ofal y Swltan yr oedd merch i'w frawd, y Dywysoges Nur al—Nihar. Ystyr ei henw oedd "Goleuni'r Dydd," ac, yn wir, nid oedd tywysoges yn India fawr mor dlos a hoenus â hon. Magwyd hi'n dyner gan y Swltan wedi marw ei frawd, a hi oedd cannwyll ei lygad.
Pan ddaeth yr adeg iddo chwilio am dywysog o wlad arall yn ŵr i Nur al—Nihar, sylweddolodd y Swltan fod ei dri mab mewn cariad â hi. Siaradodd â'r tri gan geisio perswadio pob un ohonynt i garu rhywun arall, ond nid oedd dim a ddywedai yn tycio. Felly, wedi meddwl yn hir dros y peth, galwodd ei dri mab ato i'w ystafell.
"Fy meibion," meddai, "gan na allaf eich perswadio i anghofio'ch cyfnither, Nur al—Nihar, meddyliais am gynllun i benderfynu rhyngoch. Yr wyf am i'r tri ohonoch gymryd blwyddyn i grwydro ymhell i wledydd. dieithr; cewch weision ac arian o'r llys at y daith. I hwnnw a ddaw o hyd i'r trysor mwyaf prin a hynod y rhoddaf Nur al-Nihar yn wraig."
Heb oedi dim, cychwynnodd y meibion y diwrnod hwnnw ar gefnau eu ceffylau gan wisgo dillad marchnadwyr. Teithiasant yng nghwmni ei gilydd nes iddynt gyrraedd, gyda'r nos, dafarndy a safai ar groesffordd. Oddi yno cychwynnai tair ffordd i wahanol gyfeiriadau, a'r bore trannoeth dewisodd y tri brawd bob un ei ffordd gan addo cyfarfod yn yr un lle ymhen blwyddyn. Yr oedd pwy bynnag a gyrhaeddai yno gyntaf i aros hyd nes dyfod o'r lleill.
Ymunodd Husayn, yr hynaf, â charafan a deithiai i ran arall o India. Am dri mis bu'n crwydro dros leoedd anial a thrwy fforestydd tywyll, ac yna heibio i gaeau ffrwythlon a phentrefi a gerddi tlysion. Cyrhaeddodd Bishangarh, prif ddinas De India, a throes i'r farchnad fawr gan ryfeddu at gyfoeth a harddwch y lle. Yno yr oedd llieiniau wedi eu haddurno â lluniau adar a choed a blodau, sidanau a phali gwerthfawr o Bersia a'r Aifft, llestri gwydr cain eu lliw o China, a gemau a thlysau lawer. Syllodd Husayn hefyd ar y cwpanau aur ac arian, ac ynddynt disgleiriai rhuddem ac emrallt a diemwnt nes goleuo'r farchnad i gyd. Gwisgai'r merched sidanau cain a pherlau llachar, ac yr oedd gan hyd yn oed y caethion yn y ddinas gyfoethog hon freichledau o aur â gemau'n fflachio ynddynt. Gwerthid blodau ym mhob rhan o'r farchnad, a gwisgai pawb, tlawd a chyfoethog, flodau amryliw. Cariai rhai flodeuglwm yn eu dwylo, rhwymai eraill goron o ddail a blodau o amgylch eu pennau, ac yr oedd gan lawer raffau o flodau'n hongian dros eu hysgwyddau. A hyfryd oedd y persawr yn yr awel.
Yn flinedig braidd, eisteddodd Husayn mewn siop gan wylio â syndod yn ei lygaid y bobl a âi heibio. Yna gwelodd farchnadwr yn y stryd gerllaw, ac yn ei ddwylo yr oedd carped bychan digon cyffredin yr olwg.
"Faint am hwn?" gwaeddai'r marchnadwr. "Faint am hwn? Pwy a rydd imi ei werth? Deng mil ar hugain o ddarnau aur! Deng mil ar hugain mewn aur!"
Galwodd Husayn arno ato a chymerodd y carped yn ei ddwylo.
"Byddai ychydig ddarnau o arian yn ddigon am hwn," meddai. "Pa rinwedd arbennig sydd ynddo i wneud ei bris mor uchel?"
"Rhaid i'm meistr gael deugain mil mewn aur amdano," meddai'r marchnadwr. "Pwy bynnag a eisteddo ar y carped hwn a dymuno mynd i rywle bydd yn y lle hwnnw ar drawiad amrant."
"Hawdd yw dweud hynny," meddai Husayn.
"Hawdd yw ei brofi hefyd," oedd ateb y marchnadwr. "Ym mh'le'r ydych yn aros?"
"Mewn tafarndy gerilaw mur y ddinas," atebodd Husayn.
"Eisteddwn ar y carped, ynteu, a dymunwn ein dau gael bod yn y tafarndy."
Cyn gynted ag yr eisteddasant ar y carped a dymuno mynd i'r gwesty, yno yr oeddynt. Mewn llawenydd rhoes Husayn ddeugain mil mewn aur am y carped a rhoes ugain mil arall i'r marchnadwr. "Ni ddaw yr un o'm brodyr ar draws trysor fel hwn," meddai wrtho'i hun.
Treuliodd Husayn rai misoedd ym Mishangarh gan wylio bywyd ac arferion y ddinas fawr. Aeth i weld y pagodau santaidd, rhai wedi eu hadeiladu o bres ac ôl llaw y cerfiwr medrus ar y muriau heirdd. Ymysg llwyni o rôs a siasmin safai eraill yn golofnau o farmor gwyn, a bwa pob tŵr wedi ei gerfio'n gain. I mewn yr oedd rhes ar res o ddelwau, a gemau'n llygaid i bob un. I'r pagodau hyn casglai'r bobl yn dyrfaoedd, a deuai pererinion hefyd o bell gan ddwyn aur ac arian ac anrhegion gwerthfawr i'r duwiau. Sylwodd Husayn hefyd ar y defodau a'r seremonïau rhyfedd, ac ar y chwaraeon, y gwledda, a'r dawnsio, o amgylch y pagodau.
Felly y treuliodd fisoedd difyr ym Mishangarh a phan dynnai'r flwyddyn tua'i therfyn eisteddodd ar y carped gyda'i geffyl a'i weision ac mewn eiliad yr oedd yn ôl yn y tafarndy lle y ffarweliodd â'i frodyr.
Beth a ddigwyddodd i Ali, yr ail frawd? I Bersia yr aeth ef, gan aros, wedi pedwar mis o deithio, mewn dinas o'r enw Shiraz. Yno, yn y farchnad, daeth ar draws gŵr yn ceisio gwerthu corn bychan o ifori am ddeng mil ar hugain o aur. Synnodd Ali ei fod yn hawlio cymaint am rywbeth mor ddisylw, a gofynnodd iddo paham yr oedd y pris mor uchel.
"Y mae gwydr bychan ym mhob pen i'r corn," oedd ateb y dyn. "Beth bynnag a ddymuni ei weld drwyddo, er i'r peth hwnnw fod gannoedd o filltiroedd i ffwrdd, fe'i gweli."
Gafaelodd Ali yn y corn a rhoes ef wrth ei lygad gan ddymuno gweld ei dad, y Swltan. Er ei syndod gallai ei weld yn eistedd yn iach a hoenus ar ei orsedd. Gwelodd hefyd y Dywysoges Nur al-Nihar yn siarad a chwerthin ymysg ei morynion.
"O, f'Arglwydd," meddai'r gŵr a geisiai werthu'r corn iddo, "dywaid fy meistr na chymer lai na deugain mil mewn aur amdano."
Talodd Ali'r pris yn llon ac am rai misoedd crwydrodd drwy rannau o Bersia cyn dychwelyd i'r tafarndy ar y groesffordd. Yr oedd Husayn yno'n ei aros.
Dilynasai Ahmad, y brawd ieuangaf, y ffordd i Samarcand, ac ym marchnad y ddinas honno daeth gŵr ato gan gynnig afal iddo am bymtheng mil ar hugain o ddarnau aur.
"Paham y mae mor ddrud?" gofynnodd Ahmad.
"Cymerwyd blynyddoedd maith i wneud yr afal hwn," oedd yr ateb. "Gwnaed ef gan hen ŵr doeth trwy gymysgu meddyginiaethau a llysiau lawer. Beth bynnag fo'r clefyd neu'r clwyf arno, dim ond i rywun gwael arogleuo'r afal hwn a bydd yn holliach." Casglodd tyrfa fechan o bobl o'u cwmpas, ac ymwthiodd un ohonynt at y gwerthwr.
"Y mae gennyf gyfaill bron marw," meddai, "a dywaid y meddygon na ellir ei achub. Gad iddo arogleuo'r afal hwn a byw."
Aeth Ahmad gyda'r twr o bobl at wely'r claf, ac mewn syndod, gwelodd ef yn arogleuo'r afal ac yna'n codi'n ŵr holliach. Prynodd yr afal am ddeugain mil o ddarnau aur, ac wedi rhai misoedd o grwydro ymysg gerddi a phlasau gwych y rhan honno o'r wlad, cychwynnodd ar y daith hir a blinedig yn ôl.
Yr oedd y brodyr yn falch iawn o weld ei gilydd, a dechreuasant sôn ar unwaith am y pethau rhyfedd a diddorol a welsant ar eu teithiau.
"Fy mrodyr," meddai Husayn, "dyma i chwi'r trysor a gefais i—y carped hwn yr eisteddaf arno."
Ni welai'r ddau arall ddim neilltuol yn y carped bach.
"Telais ddeugain pwrs o aur am hwn," meddai Husayn, "ac y mae'n werth llawer mwy. Pwy bynnag a eisteddo ar y carped hwn o dymuno mynd i rywle, bydd yn y lle hwnnw mewn eiliad. Arno y deuthum i a'm gweision yn ôl yma dri mis cyn ein hamser."
"Hynod iawn," meddai Ali. "Ond y mae gennyf i rywbeth mwy anghyffredin fyth. Dyma fo—y corn bychan hwn o ifori a gostiodd ddeugain pwrs o aur imi ym Mhersia."
Cymerodd Husayn ef yn ei law.
"Husayn," meddai Ali, "meddwl am rywun ymhell yr hoffet ti ei weld y funud yma, ac yna edrych di drwy'r corn."
Rhoes Husayn y corn wrth ei lygad gan ddymuno gweld y Dywysoges Nur al-Nihar, ond y foment nesaf dechreuodd ei law grynu ac aeth ei wyneb yn wyn fel y galchen. Troes at ei ddau frawd â'i lygaid yn llawn poen a thristwch.
"Mi welais Nur al-Nihar," meddai. "Gorweddai ar ei gwely a'i morynion mewn dagrau o'i chwmpas. Y mae'n marw, yn marw."
Edrychodd y ddau arall drwy'r corn a gwelsant fod ei eiriau'n wir.
"Fy mrodyr," meddai'r ieuangaf, Ahmad, "ni welsoch eto fy nhrysor i. Rhoddais ddeugain pwrs o aur am yr afal hwn yn Samarcand. Y mae ei aroglau'n iacháu pob afiechyd. Awn ag ef ar frys i Nur al-Nihar."
Eisteddasant ar y carped a chyn gynted ag y dymunodd y tri fod yn ystafell Nur al-Nihar, yno yr oeddynt. Rhoes Ahmad yr afal wrth ei ffroenau hi, ac ymhen ennyd deffroes o'i chwsg, a daeth gwrid iach i'w gruddiau llwyd.
Yn llawen, aeth y tri brawd at orsedd y Swltan gan roi o'i flaen y tri thrysor. Clywsai'r Swltan cyn iddynt. ddod ato am eu hanes yn iacháu Nur al-Nihar, ac yr oedd yn awr mewn penbleth.
"Fy meibion," meddai, "ni fedraf yn fy myw benderfynu rhyngoch. Y mae'n wir mai afal Ahmad a iachaodd fy nith, ond ni fuasai'r afal o unrhyw werth onibai i'r corn ifori ddangos i chwi ei bod yn wael, ac i'r carped hwn eich cludo mor gyflym i'w hystafell. Bu'r tri thrysor mor werthfawr â'i gilydd. Yn awr y mae gennyf gynllun arall. Ewch allan, bob un ar ei farch, i'r maes mawr y tu draw i furiau'r ddinas. Cymerwch fwa a saeth, ac i'r neb a saetho bellaf y rhoddaf Nur al-Nihar yn wraig."
Ar y maes casglodd tyrfa fawr o wyr y llys i wylio'r saethu. Aeth saeth Husayn yn bell iawn, ond curwyd ef gan Ali, yr ail frawd. Saethodd Ahmad yn olaf, ond er chwilio a chwilio, methwyd yn lân a dod o hyd i'w saeth ef, er y credai pawb iddi fynd ymhellach nag un o'r lleill. Felly rhoes y Swltan ei nith brydferth, Nur al-Nihar, yn wraig i Ali, ei ail fab.
Bu'r briodas ymhen ychydig ddyddiau, ond nid oedd Husayn nac Ahmad yno. Penderfynasai Husayn roi heibio bob urddas fel mab y Swltan a throi yn feudwy, gan ddewis byw'n dlawd ac unig mewn lle anghysbell. Yn lle mynd i'r briodas, aeth Ahmad i chwilio am ei saeth, ac wedi cerdded yn hir, daeth at greigiau serth a miniog. Er ei syndod gwelai ei saeth yn gorwedd ar un ohonynt. Gerllaw yr oedd rhyw fath o ogof ac ynddo ddrws mawr o haearn, Mentrodd Ahmad drwy'r drws, ac ar ôl cerddedd drwy'r ogof â llusernau disglair yn hongian wrth ei tho fe'i cafodd ei hun mewn plas gwych, anferth. Daeth tywysoges neilltuol o brydferth i'w gyfarfod, tlysach o lawer na Nur al-Nihar. Yr oedd ei gwisg o sidan cain, a fflachiai holl liwiau'r enfys yn ei pherlau drud. Ymgrymodd ei morynion teg o'i flaen.
"Croeso iti, y Tywysog Ahmad," meddai wrtho gan ei arwain i neuadd gyfoethog, â bwa mawr y to wedi ei gerfio'n goeth. Yr oedd y muriau o farmor gwyn wedi eu haddurno ag aur ac â darluniau heirdd. Yno llosgai canhwyllau wedi eu perarogli ag ambyr, a syllai Ahmad mewn syndod ar y morynion teg, y sidanau amryliw, y llestri cywrain a gerfiwyd mewn aur, a'r perlau gwerthfawr a ddisgleiriai ym mhobman. Ac o rywle deuai nodau swynol offerynnau cerdd. Yr oedd y plas hwn yn harddach nag unrhyw freuddwyd.
Arweiniodd y Dywysoges ef i lwyfan bychan gan ei roi i eistedd ar orsedd o berlau drud.
"Yr wyt ym mhlas y Tylwyth Teg," meddai wrtho, "a'm tad i yw eu brenin. Fy enw i yw Peri-Banu. Myfi a yrrodd dy saeth di mor bell er mwyn dy hudo di yma yn ŵr i mi ac yn Dywysog y Tylwyth Teg. Oherwydd. yr wyf yn dy garu, Ahmad."
Yn fuan, mewn ystafell odidocach fyth, eisteddasant i fwyta, ac yr oedd pob math o seigiau ar y bwrdd, a gwin mewn ffiolau o aur a gemau. Yna daeth côr y Tylwyth Teg i ganu a dawnsio iddynt.
Treuliodd Ahmad fisoedd hapus yn y plas a'i serch at y Dywysoges yn cynhyddu bob dydd. Ond wedi i chwe mis fynd heibio daeth hiraeth arno am weld ei dad, y Swltan. Er na hoffai o gwbl iddo'i gadael, caniataodd ei wraig iddo fynd, canys yr oeddynt erbyn hyn wedi priodi.
"Dyma iti ugain o filwyr arfog ar geffylau heirdd," meddai, "a march harddach na'r cwbl i tithau. Dos, ond cofia na chei ddweud gair wrth neb amdanaf i nac am dy briodas nac am y lle hwn."
Ar geffyl cyflymach na gwynt yr ystorm a gemau llachar hyd gyfrwy a ffrwyn cyrhaeddodd Ahmad lys ei dad. Cafodd groeso mawr gan y Swltan a chan wŷr y llys.
"Buom yn chwilio amdanat ym mhobman am fisoedd," meddai'r Swltan. "Ym mh'le y buost ti?"
Nid atebodd Ahmad, ond addawodd y deuai i weld ei dad unwaith bob mis.
Felly, unwaith bob mis, bob tro y llithrai hanner-lleuad i wybren y Gorllewin, ymwelai Ahmad â'r llys ac edrychai pawb mewn syndod arno ef a'i filwyr gwych. Âi ei osgordd yn fwy ac yn harddach bob tro, a dechreuodd un Cynghorwr drwg sibrwd yng nghlust y Swltan fod Ahmad yn decach ei wisg ac yn gyfoethocach nag ef ei hun.
"Beth pe bai'n troi'n fradwr ac yn dod â byddin yn dy erbyn?" meddai. "Beth pe bai am ddial arnat am golli Nur al-Nihar?"
Aeth y Swltan yn aflonydd ei feddwl a galwodd ddewines gyfrwys i'w ystafell. Cuddiodd honno yn y creigiau, a phan ddaeth Ahmad a'i filwyr drwy'r drws haearn, cymerodd arni fod yn marw o newyn. Cariodd Ahmad hi i mewn i blas y Tylwyth Teg, ac yno daeth y ddewines o hyd i'r holl hanes.
"Y ffordd orau i'w boeni," meddai wrth y Swtlan, pan ddychwelodd i'r llys, "yw gofyn iddo wneud pethau amhosibl."
Pan ddaeth Ahmad at ei dad y tro wedyn, dywedodd y Swltan wrtho,
"Ahmad, clywais dy hanes i gyd. Pan ei di'n ôl at dy frenhines yr wyf am iti ofyn am gymwynas ganddi. Hoffwn gael pabell sy'n ddigon bach i law dyn ei chuddio ond yn ddigon mawr, pan agorir hi allan, i gynnwys fy holl fyddin a'r ceffylau a'r camelod."
Nid arhosodd Ahmad yn hir yn y llys y tro hwn, ond aeth yn ôl yn drist i blas y Tylwyth Teg. Gwelodd Peri-Banu y prudd-der yn ei wyneb, a phan ddywedodd wrthi am ddymuniad y Swltan ysgydwodd ei phen.
"Yr hen wrach a ddygaist ti yma i'w hymgeleddu a aeth â'r hanes i'r llys, ac y mae cynllwynion drwg ym meddwl y Swltan."
Dychwelodd Ahmad i'r llys ymhen dau ddiwrnod â phabell fechan wedi ei chuddio yn ei law. Pan agorwyd hi allan ar y maes yr oedd yn fwy na digon i gynnwys holl fyddin y Swltan.
Brathai eiddigedd fron y Swltan, ac wedi siarad â'r ddewines gofynnodd am ffafr arall.
"Ahmad," meddai, "clywais fod ffynnon yng ngwlad y Tylwyth Teg, ffynnon â'i dŵr yn iacháu pob clefyd. Y mae pedwar llew gwyllt yn ei gwylio. Tyrd ag ychydig o'r dŵr hwnnw i'th hen dad."
Yn y plas dan y ddaear gwrandawodd Peri-Banu ar y cais a ddug Ahmad o lys y Swltan.
"Yfory, pan dorro'r wawr," meddai, "cymer fy nau geffyl cyflymaf a dos i neuadd y castell acw ar y mynydd. Ar gefn un o'r ceffylau gofalaf y bydd dafad farw wedi ei thorri'n bedair rhan. Pan ddeui at y ffynnon tafl y darnau o gig i'r llewod, yna brysia i'r ffynnon a llanw'r ffiol hon â'r dŵr."
Trannoeth, cyn gynted ag y daeth gwrid y wawr i'r dwyrain, carlamodd Ahmad at y ffynnon, taflodd y ddafad i safnau'r llewod a rhuthrodd yn ei ôl gyda'r dŵr gwyrthiol yn y ffiol. Er ei syndod, dilynodd y llewod ef bob cam at blas y Swltan gan ysgwyd eu cynffonnau'n hapus bob tro yr edrychai'n ôl arnynt.
Cymerodd y Swltan arno'i groesawu'n gynnes, ond, yn fuan, ymgynghorodd eto â'r ddewines.
"Y mae dy hen dad, Ahmad," meddai wedyn, "am ofyn ffafr arall gennyt. Yng gwlad y Tylwyth Teg y mae dyn bychan dair troedfedd o uchter ond â barf bum llath ar hugain o hyd. Ar ei ysgwydd caria fár o haearn yn pwyso dau gant a hanner o bwysau, ond geill y dyn bychan hwn ei droi o gwmpas ei ben heb grych ar ei dalcen, fel pe bai'n bastwn o bren. Tyrd â'r gŵr hwnnw yma inni gael ei weld."
Dychwelodd Ahmad yn drist at Beri-Banu. "O," meddai hithau, "Shabar, fy mrawd, yw'r dyn bychan."
Taflodd arogldarth i fflamau'r tân, a'r funud nesaf daeth Shabar i mewn i'r ystafell. Dyn bychan, bychan oedd, yn ofnadwy hyll, ac â barf hir, drwchus yn llusgo hyd y llawr. Yr oedd ei ben yn fawr iawn ond ei lygaid yn fychain fel llygaid mochyn, a'i fwstas hir, troellog, yn cyrraedd at ei glustiau. Yr oedd crwb ar ei gefn ac ar ei fynwes, ac ar ei ysgwydd dde cariai fár mawr trwm o haearn. Gwrandawodd Shabar yn astud ar Beri-Banu yn adrodd holl hanes y ddewines ac eiddigedd y Swltan.
Bore trannoeth, aeth Ahmad a Shabar gyda'i gilydd i lys y Swltan. Pan gyraeddasant byrth y ddinas dihangodd y gwylwyr a'r bobl i gyd mewn dychryn; rhuthrent yn wyllt i dai a siopau, llawer ohonynt yn colli eu sandalau oddi am eu traed a'u tyrbanau oddi am eu pennau. Yn y llys hefyd ffoes y cynghorwyr a'r gwylwyr am eu bywyd.
"Dyma fi," meddai Shabar wrth y Swltan. "Beth a fynni di?"
Troes y Swltan ei ben i ffwrdd; ni fedrai edrych ar greadur mor hyll. Gwylltiodd Shabar a chododd ei fár o haearn i fyny gan ei ollwng ar ben y Swltan. Lladdwyd ef yn y fan, a lladdodd Shabar y cynghorwr drwg a'r hen ddewines gyfrwys.
"Lladdaf holl bobl y ddinas," meddai, "oni phenliniant o flaen Ahmad, y Swltan newydd, ac o flaen fy chwaer, brenhines yr India."
Llawenychodd y bobl, yn dlawd a chyfoethog, oherwydd yr oedd pawb yn hoff o'r Tywysog Ahmad. "Hir oes i'r Brenin Ahmad! Hir oes i'r Brenin Ahmad!" oedd y cri a godai drwy'r ddinas i gyd.
Felly y daeth Ahmad yn Swltan India yn ogystal ag yn Dywysog y Tylwyth Teg. I Ali, ei ail frawd, rhoes ddinas fawr gyfagos i'w rheoli, ond gwrthododd Husayn yn lân adael unigrwydd ei fro anghysbell.
VIII-BEOWLFF
Un o arwyr cynnar cenedl y Saeson yw Beowlff. Ysgrifennwyd ei hanes i lawr mewn darn hir o farddoniaeth tua'r flwyddyn saith cant, hynny yw, tua deuddeg cant o flynyddoedd yn ôl, ond y mae'r chwedl yn hŷn o lawer na hynny. Perthyn stori Beowlff i'r oes cyn i'r Saeson ddyfod trosodd i'r wlad hon o gwbl, i'r cyfnod pan oeddynt yn byw ar y Cyfandir ger glannau Môr y Gogledd. Bywyd a digwyddiadau a syniadau'r oes bell honno a geir ynddi.
Yng nghyfnod y chwedl yr oedd gan Ddenmarc frenin nerthol a galluog o'r enw Hrothgar, milwr beiddgar a arweiniai ei fyddin i fuddugoliaeth bob tro. Enillodd hwn y fath enwogrwydd a chyfoeth fel y cyrchai rhyfelwyr dewraf pob gwlad i'w lys.
Wedi rhai blynyddoedd penderfynodd Hrothgar godi neuadd fawr, lle i gannoedd o'i filwyr wledda a'u difyrru eu hunain. Aeth llu o weithwyr ati i'w hadeiladu, a chyn hir safai'r muriau uchel, mawreddog, yn gadarn, a gwelid o bell ei phinaclau yn yr awyr fel cyrn rhyw garw anferth. "Y Carw" neu "Yr Hydd" a roes Hrothgar yn enw arni, a phob hwyrnos casglai'r milwyr iddi â balchter yn eu calonnau. Yr oedd yn anrhydedd perthyn i frenin a fedrai godi neuadd fel hon, ac yn y wledd canai'r telynorion am fawredd Hrothgar. Rhoddai yntau dorchau aur a thrysorau lawer yn haelfrydig i'w ryfelwyr.
Mewn cors afiach nepell i ffwrdd trigai anghenfil o'r enw Grendel. Nis gwelid byth yn y dydd, ond yn y nos deuai allan o'i ffau i grwydro'n llechwraidd dros y rhosydd unig a thrwy'r corsydd llaith. Yr oedd y creadur hwn yn ofnadwy i edrych arno, ac nid oedd cleddyf yn bod yn ddigon miniog i dorri trwy ei groen tywyll, corniog. Clywodd Grendel o'r gors y canu a'r chwerthin yn y neuadd, ac ysgyrnygodd ei ddanedd mawr. Un hwyr, wedi tawelu o'r sŵn, aeth i mewn yn lladradaidd i'r adeilad a gwelodd yno lawer o filwyr yn cysgu'n drwm. Cydiodd ei freichiau mawr yn sydyn mewn deg ar hugain ohonynt, gwasgodd hwy i farwolaeth a dug hwynt ymaith i'w bwyta yn eu ffau. Bore trannoeth, yr oedd yr holl wlad mewn galar a gofid. Eisteddai'r hen frenin Hrothgar yn drist yn y neuadd fawr; eisteddai heb yngan gair, gan syllu ar ôl y gwaed a oedd hyd y llawr.
Y nos wedyn, daeth Grendel eto i'r neuadd a dug ymaith eraill o filwyr Hrothgar. Y oedd y milwr cryfaf fel plentyn bach yn ei ddwylo, a daeth ofn ar bawb trwy'r holl wlad. Ni fentrai neb allan yn y nos, ac ni chysgai enaid byw yn y neuadd fawr. Lawer bore, gwelent mewn dychryn ôl traed yr anghenfil a fu'n crwydro'r nos i chwilio am ysglyfaeth. Aberthodd y brenin Hrothgar i'r duwiau, ond am ddeuddeng mlynedd daliai Grendel i ladd a dychryn. Gwag a thawel oedd Neuadd y Carw yn yr hwyrnos; peidiodd tinc y delyn, llais y bardd a chwerthin milwr.
Wedi i ddeuddeng mlynedd o arswyd lithro heibio, crwydrai un o wylwyr Hrothgar un dydd ar gefn ei farch uwch glan y môr. Gwelai long fawr yn agosáu'n gyflym at y tir, a charlamodd i lawr i'r traeth. Erbyn iddo gyrraedd yno, yr oedd y llong wrth y lan, a milwyr tal, cryfion, yn neidio ohoni a'i chlymu wrth y graig.
Safodd y gwyliwr gerllaw, gan godi ei waywffon hir uwch ei ben a galw arnynt.
"Ddieithriaid, sy'n glanio mor hyf yn ein tir, pwy ydych chwi? Myfi yw gwyliwr y traeth, a mynnaf wybod o b'le y daethoch a phwy ydych a'ch neges yma."
Syllodd ag edmygedd ar y pymtheng milwr a safai ger y llong, gan graffu ar eu harfau gloyw a'u gwisgoedd o ddur llachar. Gwelodd fod un ohonynt yn dalach ac yn fwy urddasol na'r lleill, a hwnnw a'i hatebodd.
"Rhyfelwyr o'r Gogledd-dir ydym," meddai, "a daethom yma dros ewyn y môr i geisio dy frenin, Hrothgar. Clywsom am yr arswyd sydd trwy'r wlad ac am Grendel, yr anghenfil sy'n lladd a difetha yn y nos. Myfi yw Beowlff, a deuthum yma i ymladd â Grendel."
Arweiniodd y gwyliwr hwy i olwg y neuadd fawr, ac yna rhuthrodd yn ôl i warchod y traeth. Wedi rhoi eu tariannau a'u gwaywffyn i bwyso'n erbyn mur y neuadd, cerddodd Beowlff a'i gyfeillion i mewn yn eofn. Daeth un o filwyr y brenin atynt i holi pwy oeddynt.
"Dywed wrth y brenin y mynn Beowlff o lwyth y Geatiaid ger Môr y Gogledd siarad ag ef."
Dug y milwr y neges i Hrothgar.
"Beowlff!" meddai'r hen frenin. "Cofiaf imi ei weld pan oedd yn fachgen, a chlywais ar ôl hynny lawer stori ryfedd am ei wrhydri. Clywais ei fod yn gryfach na deg ar hugain o filwyr cyffredin. Rhown groeso iddo ac i'w gyfeillion. Pwy a ŵyr, efallai mai ef a'n gwared oddi wrth Grendel?"
Ymhen ennyd safai Beowlff o flaen Hrothgar.
"Henffych iti, O Frenin," meddai. "Myfi yw Beowlff, a deuthum yma i'th gynorthwyo. Dywaid morwyr a thelynorion yn ein gwlad ni fod rhyw greadur erchyll yn lladd a dychryn dy bobl. Dywedant hefyd fod y neuadd brydferth hon yn wag a distaw wedi i'r haul fachlud. Gwyddai fy nghyfeillion am fy nerth i mewn rhyfel, a chymhellwyd fi i groesi'r môr a herio Grendel."
"Flynyddoedd yn ôl," meddai Hrothgar, “yr oeddwn i a'th dad yn gyfeillion mawr. Un tro dihangodd yma rhag ei elynion, a rhoddais lety ac amddiffyn iddo. Erbyn hyn y mae dy dad wedi marw, ac yr wyf innau'n hen a chrynedig. Y mae'r hanes am Grendel a'r gwae a bair yn rhy hir i'w adrodd wrthyt yn awr, ond teg yw dywedyd wrthyt i lawer gwron aros yn y neuadd hon gyda'r nos a'u cleddyfau tanbaid yn eu llaw. Bore trannoeth, nid oedd sôn amdanynt, dim ond ôl eu gwaed hyd y byrddau a'r llawr ac ôl traed yr anghenfil yn arwain tua'r gors. Amled y digwyddodd hynny! Ond yn awr eistedd wrth y bwrdd, ac wedi i ti a'th gyfeillion fwyta, cawn glywed am dy gynlluniau."
Eisteddasant i fwyta ac yfed medd, a chanodd telynorion gerddi am hen wroniaid y genedl. Wrth edrych ar gorff cryf Beowlff, dechreuodd yr hen frenin Hrothgar obeithio bod diwedd Grendel ar ddod. Daeth y frenhines hefyd i mewn i'r neuadd, ac estynnodd gwpan arian yn llawn o win i Feowlff. Yr oedd diolch yn ei chalon fod arwr fel hwn yn barod i anturio 'i fywyd drosti hi a'i gwlad.
Yn sŵn cân a chwerthin y treuliwyd oriau'r wledd, ond cyn hir tawelodd y miri, oherwydd gwyddai pob milwr fod y nos yn agosáu. Cododd Hrothgar a'i holl wŷr, ac aethant allan gan adael Beowlff a'i gymdeithion yn unig yn y neuadd.
"Cofia arfer dy holl nerth," meddai Hrothgar wrth ymadael. "Os gorchfygi'r creadur hwn, bydd sôn amdanat ym mhob gwlad."
Gorweddodd cyfeillion Beowlff i lawr i gysgu; yr oeddynt oll yn flinedig wedi'r rhwyfo caled dros y môr. Tynnodd Beowlff ei wisg haearn oddi amdano, a rhoes ei gleddyf o'r neilltu.
"Gan nad oes arf gan Grendel," meddai wrtho'i hun, "brwydraf innau heb yr un. Dibynnaf innau ar nerth fy mraich."
Yn fuan yr oedd pob man yn dawel a thywyll; nid oedd y sŵn lleiaf yn y neuadd fawr, dim ond anadl rhai o'r milwyr yn cysgu'n drwm. Heb fod yn nepell gorweddai'r hen frenin Hrothgar ar ei wely, gan ofni clywed bob munud waedd olaf y milwyr o'r neuadd.
Trwy'r niwl tywyll a oedd yn hofran uwch y gors afiach camai'r anghenfil, Grendel, yn llechwraidd tua'r neuadd. Llithrodd hyd greigiau peryglus, ac yna rhedodd dros y morfa unig nes gweled ohono ffurf yr adeilad mawr yn y tywyllwch o'i flaen. Uwchben yr oedd cymylau mawr, duon, yn yr awyr. Cyrhaeddodd y drws a cheisiodd ei agor, ond yr oedd bolltau haearn arno y tu mewn. Ag un ergyd drylliodd y creadur y drws yn ddarnau mân. I mewn ag ef, a thywynnai golau gwyrdd, annaearol, o'i lygaid. Trwy'r gwyll gwelai bymtheng milwr yn cysgu ar y llawr, a gorfoleddai wrth feddwl am dreulio'r nos yn eu bwyta un ar ôl un. Gafaelodd ei bawen fawr yn y cyntaf, a rhwygodd ef yn ddarnau. Bwytaodd ef yn y fan ac yna estynnodd ei bawen i gydio yn y nesaf. Credai y byddai hwnnw hefyd fel plentyn yn ei gafrangau, ond er ei syndod, neidiodd y milwr i fyny, ac yr oedd ei fysedd ar fraich yr anghenfil fel bysedd o ddur.
Daeth ofn i galon y creadur, a cheisiodd daflu Beowlff i ffwrdd oddi wrtho. Methodd yn lân, ac yn fuan llusgai'r ddau ei gilydd ar draws ac ar hyd y neuadd gan droi byrddau a meinciau ym mhobman. Rhuthrodd cyfeillion Beowlff, bob un â'i gleddyf yn ei law, atynt, gan geisio niweidio'r bwystfil, ond anodd oedd gweld dim ond llygaid gwyrddion Grendel yn y tywyllwch. Gwyddent hefyd nad oedd cleddyf yn dda i ddim ar groen caled y creadur hwn.
Yr oedd sŵn yr ornest fel taranau yn y neuadd, ac am filltiroedd o amgylch gwrandawai pobl mewn dychryn ar y cynnwrf. Penderfynodd Grenfel ddianc yn ôl i'w ffau, ac ymlusgodd ar draws y neuadd tua'r drws. Gwingai a rhuai wrth geisio ei ryddhau ei hun o afael Beowlff, a theimlai fel pe bai ei fraich anferth yn cael ei thynnu o'i gwraidd. A sgrech annaearol, rhoes naid. at y drws a ffoi allan i'r nos a'r niwl. Ymlusgodd i'w ffau yn y gors afiach i farw, gan adael ei fraich a'i ysgwydd yn nwylo Beowlff.
Bu llawenydd mawr yn y neuadd. Crogwyd y fraich anferth dan y to, a chasglodd llawer o filwyr yno i syllu'n synn arni. Gyda'r wawr, brysiodd cannoedd o bobl yno i'w gweld, a charlamodd rhyfelwyr ar eu meirch gwynion dros y morfa gan ddilyn ôl gwaed yr anghenfil. Daethant at hen lyn tywyll o dan goed, a'i wyneb crychiog yn goch gan waed. Yn nyfnder y pwll hwnnw y gorweddai'r creadur a wnaethai gymaint o ddifrod yn y tir.
Yn y wledd yn Neuadd y Carw canai llawer telynor glodydd Beowlff, ac yfai pawb y medd yn llawen. Edrychai Hrothgar unwaith eto â balchter ar aur cerfiedig y muriau a'r to.
"Beowlff, arwr pob arwr," meddai, "o hyn allan byddi fel mab imi, a chei gennyf bopeth a ddymuni."
Yna rhoes iddo helm a gwisg-ryfel wedi eu haddurno ag aur, baner o aur pur a chleddyf yn disgleirio â gemau lawer. Arweiniwyd at ddrws y neuadd hefyd wyth o geffylau cyflymaf y wlad, ac yr oedd aur ar eu ffrwynau a chyfryw un ohonynt yn frith gan berlau. Rhoes y frenhines hithau anrhegion gwerthfawr iddo, ond gwell na'r cwbl i gyd i Feowlff oedd gweld y milwyr yn bwyta ac yfed yn llon yn y neuadd a fu gynt yn wag ac unig gyda'r nos.
Y BRENIN ARTHUR
O'r Cerflun gan Peter Vischer sy'n un o'r Cerfluniau o enwogion o amgylch bedd Maximilian yn Innsbruck, Awstria. Dengys hyn bwysigrwydd Arthur fel arwr chwedlau sifalri'r Canol Oesoedd.
IX—ARTHUR
A FUOCH chwi'n gwneud caseg-eira ryw dro? Y gaeaf diwethaf, gwelais fachgen wedi gwneud un lawer mwy nag ef ei hun. Wrth iddo'i gwthio drwy'r eira, cynhyddai o hyd nes mynd ohoni yn y diwedd yn rhy fawr iddo'i symud o gwbl. Go debyg i'r gaseg-eira honno fu hanes y brenin Arthur. Cychwynnodd y chwedl tua'r chweched ganrif ac aeth yn fwy ac yn fwy o hyd. Erbyn yr Oesoedd Canol yr oedd yn fwy nag un chwedl arall, a thyfasai Arthur, pennaeth y Brythoniaid, yn Ymherodr chwedloniaeth Ewrop.
Flynyddoedd maith yn ôl, medd y chwedl, yr oedd brenin ar yr ynys hon o'r enw Uthr Pendragon, milwr dewr ac arweinydd doeth. Syrthiodd mewn cariad â thywysoges Cernyw, a thrwy gymorth y swynwr, Myrddin, enillodd hi'n wraig. Gŵr rhyfedd oedd y Myrddin hwn; gallai newid ei ffurf fel y mynnai, hyd yn oed ei wneud ei hun yn anweledig, a dim ond iddo ddymuno bod yn rhywle, yno y byddai mewn eiliad. Deallai hwn feddyliau pawb, a darllenai'r dyfodol fel llyfr. Bu raid i'r brenin addo i Fyrddin y rhoddai ei fab, pan enid ef, i'w ofal ef i'w ddwyn i fyny.
Dri diwrnod wedi geni'r mab, Arthur, rhoes y brenin orchymyn i'w weision i ddwyn y plentyn i borth y ddinas a'i roi i hen ŵr carpiog a fyddai'n aros yno. Yr hen ŵr, wrth gwrs, oedd Myrddin, a dug y plentyn ymaith i blas pennaeth dewr a charedig o'r enw Syr Ector. Yno y magwyd Arthur, a rhoddai Syr Ector iddo yr un sylw a'r un manteision ag a roddai i'w fab ei hun, Cai. Tyfodd Cai ac Arthur yn hapus yn yr un cartref, ac edrychent ar ei gilydd fel brodyr.
Ddwy flynedd wedyn, galwodd Uthr ei benaethiaid ato. Gorweddai ar ei wely, ac yr oedd ei lais yn wan a chrynedig.
"Yr wyf yn marw," meddai wrthynt, "ac yr wyf am i chwi oll fynd ar eich llw i ofalu am y deyrnas nes bod fy mab, Arthur, yn ddigon mawr i deyrnasau yn fy lle."
Tyngodd y penaethiaid y byddent deyrngar i fab y brenin, ond wedi marw Uthr, dechreuasant ffraeo ac ymladd â'i gilydd, ac yr oedd llygaid pob un ohonynt ar yr orsedd. Ymhen rhai blynyddoedd lledaenodd y brwydro drwy'r wlad i gyd. Sethrid yr yd dan garnau'r meirch, dioddefai'r tlodion oherwydd prinder bwyd a manteisiai lladron ac ysbeilwyr ar eu cyfle i ladd a difetha. Cyn ddryced pethau ag yr aeth Myrddin at Archesgob Caergaint a gofyn iddo alw'r holl benaethiaid ynghyd i Lundain ddydd Nadolig.
Bore dydd Nadolig yr oedd eglwys gadeiriol Llundain yn llawn o farchogion a phenaethiaid. Ar ôl y gwasanaeth daethant allan i'r fynwent, ac yno, mewn lle agored, safai carreg ysgwâr, enfawr, o farmor, ac arni eingion ddur ryw droedfedd o uchter. Yn yr eingion yr oedd cleddyf llachar, ac ar y garreg y geiriau hyn mewn llythrennau aur: "Y gŵr a dynno'r cleddyf hwn o'r eingion, hwnnw yw gwir frenin Prydain."
Cydiodd pennaeth ar ôl pennaeth yng ngharn y cledd, ond ni fedrai un ohonynt ei symud ddim. Felly gyrrodd yr Archesgob negeswyr allan drwy'r wlad i gyhoeddi y cynhelid chwaraeon a thwrneimant yn Llundain y dydd cyntaf o'r flwyddyn.
Bore'r chwaraeon cyfarfu cannoedd o farchogion ar y maes yn barod i ddangos eu medr a'u gwrhydri. Yn eu mysg yr oedd Syr Ector a'r ddau lanc, Cai ac Arthur. Yn sydyn troes Cai at Arthur.
"Arthur," meddai, "gadewais fy nghleddyf ar ôl yn y llety. Anghofiais ei wisgo yn fy mrys."
"Af i'w nôl ar unwaith," ebr Arthur, a neidiodd ar gefn ei farch.
Pan gyrhaeddodd y llety, yr oedd y drws ar glo, ac er curo a churo nid oedd ateb i'w gael. Cychwynnodd yn ôl yn siomedig, ond ar ei ffordd i'r maes gwelodd y cleddyf yn y fynwent. Rhwymodd ei farch wrth gamfa a brysiodd hyd lwybr y fynwent at y cleddyf. Cydiodd ynddo a thynnodd ef yn rhwydd ddigon o'r eingion. Heb feddwl rhagor am y peth, aeth ag ef i Gai, a gwyddai hwnnw ar unwaith mai'r cleddyf hynod o'r fynwent oedd. Aeth i chwilio am ei dad, Syr Ector, a dywedodd wrtho,
"Syr, dyma'r cleddyf o'r eingion yn y fynwent. Myfi yw gwir frenin y wlad."
Yr unig ateb a wnaeth Syr Ector oedd gorchymyn i Arthur a Chai ei ddilyn i'r eglwys. Yno rhoes law ei fab ar lyfr cysegredig ac erchi iddo ddywedyd ar ei lw sut y daeth y cleddyf i'w feddiant.
"Arthur a'i rhoes imi," ebe Cai.
"Pa fodd y cefaist ti'r cleddyf?" gofynnodd Syr Ector i Arthur.
"Dychwelais i'r llety i geisio cleddyf Cai, ond nid oedd neb yno. Ar y ffordd yn ôl tynnais y cleddyf hwn allan o'r eingion yn y fynwent."
Aeth y tri i'r fynwent a rhoddi'r cleddyf yn ôl yn yr eingion. Er tynnu ohonynt â'u holl egni, ni allai Syr Ector na Chai ei syflyd ddim, ond ildiodd ar unwaith i law Arthur.
Pan glywodd yr Archesgob yr hanes, galwodd y penaethiaid a'r marchogion ynghyd i'r fynwent. Yno yng ngŵydd pawb tynnodd Arthur y cleddyf o'r eingion, ond ni fodlonwyd y penaethiaid eiddigus. Gohiriwyd cyhoeddi Arthur yn frenin hyd y Pasg, a gohiriwyd wedyn hyd ŵyl y Sulgwyn. Ymgynhullodd tyrfa fawr yn y fynwent eto, a cheisiodd llawer un dynnu'r cleddyf o'r eingion. Arthur yn unig a fedrai, a dechreuodd llu o bobl gyffredin weiddi â lleisiau uchel: "Arthur yw ein brenin! Arthur a fynnwn! Coroner Arthur!" Pan glywsant hyn, penliniodd y penaethiaid a'r marchogion o'i flaen, a chymerodd Arthur y cleddyf i'r eglwys, a chan ei ddal i fyny rhwng ei ddwy law, cysegrodd ef o flaen yr allor. Yn fuan wedyn coronwyd Arthur yn frenin Prydain.
Treuliodd rai blynyddoedd caled yn ceisio dwyn trefn ar y wlad. Bu raid iddo oresgyn rhai o'r penaethiaid, dwyn eu caerau a'u tiroedd oddi arnynt a rhoi eraill i reoli yn eu lle. Torrodd ffyrdd drwy goedwigoedd tywyll a sychodd gorsydd lawer a'u gwneud yn ddigon da i blannu yd ynddynt. Darfu lladrad a difrod yr ysbeilwyr, a llawen oedd y bobl oll o dan eu brenin newydd. Daeth Arthur yn enwog hefyd fel milwr; yn wir, nid oedd neb a safai'n hir o flaen ei gleddyf a'i waywffon ef. Casglodd un brenin ar ddeg eu gwŷr ynghyd i'w herio, ond gorchfygodd Arthur a'i fyddin hwy mewn brwydr hir a thanbaid. Deuai marchogion dewr o bob gwlad i ymuno â'i lys, a rhoddai yntau anrhegion gwerthfawr iddynt.
Un dydd crwydrodd Arthur gyda Myrddin ar lan llyn mawr, a gwelsant fraich wedi ei gwisgo mewn samit gwyn yn codi o'r dŵr. Daliai'r llaw gleddyf hardd. Gerllaw cerddai rhiain deg dros wyneb y dŵr.
"Dacw Riain y Llyn," ebe Myrddin. "Yn y llyn y mae craig fawr ag ynddi blas ysblennydd. Edrych, y mae'r rhiain yn dod atom."
Nesaodd y rhiain atynt, a gofynnodd Arthur iddi pwy bioedd y cleddyf.
"Myfi a'i piau," atebodd hithau, "ond yr wyf yn ei roi i ti. Cymer y cwch acw a rhwyfa ato."
Rhwyfodd Arthur at y cleddyf a chydiodd ynddo. Yno diflannodd y llaw dan y dŵr, a syllodd Arthur yn syn ar y perlau drud a addurnai wain a charn y cleddyf. Y cleddyf hwn, Caledfwlch, a fu yn llaw'r brenin Arthur byth ar ôl hyn.
Yn fuan wedyn priododd Arthur y dywysoges Gwenhwyfar, a mawr fu'r llawenydd yn y llys. Yn anrheg briodas rhoes ei thad y Ford Gron i'r brenin, bwrdd enfawr a lle i gant a hanner o farchogion eistedd wrtho. Sefydlwyd Urdd enwog y Ford Gron, a chymerai pob marchog lw i gynorthwyo'r gwan bob amser. Y mae'r chwedlau am farchogion y Ford Gron yn llawn o ddigwyddiadau cyffrous a rhamantus, a chanodd llawer bardd am eu gorchestion.
Cyn rhyfedded â hanes ei goroni'n frenin yw'r stori am ymadawiad Arthur. Yr oedd ganddo nai o'r enw Medrawd, ac ymhen blynyddoedd troes hwnnw'n fradwr. Dywedodd wrth y penaethiaid fod Arthur, a oedd yn brwydro dros y môr, wedi ei ladd, a chymhellodd hwy i'w goroni ef yn frenin. Brysiodd Arthur yn ei ôl i Brydain, ond casglodd Medrawd fyddin fawr i'w wrthsefyll. Wedi ymladd dwy frwydr boeth, ciliodd Medrawd a'i wŷr i'r gorllewin, a dilynodd Arthur hwy. Cyfarfu'r ddwy fyddin ar faes Camlan, a bu cyflafan enbyd. Rhuthrai gwŷr a merch yn bendramwnwgl i'w gilydd, gan ddryllio cleddyfau a gwaywffyn a thariannau. Trwy'r dydd hir clywid o bell atsain y brwydro, a gorweddai miloedd o farchogion dewr yn llonydd ar y maes. Syllodd Arthur yn drist ar y celanedd, ac mewn dig cydiodd yn ei waywffon a rhuthro at Fedrawd a welai'n sefyll yn unig ger ei filwyr marw. Hyrddiodd y waywffon ato a gwelai hi'n gwanu ei gorff. Ond cyn syrthio i'r llawr, trawodd Medrawd Arthur ar ei ben â'i gleddyf, a threiddiodd y blaen miniog drwy'r helm.
Cludodd ei farchog olaf, Syr Bedwyr, y brenin at gapel bach gerllaw, a chlywent oddi draw sŵn lladron rheibus yn ysbeilio cyrff y meirw ar y maes.
"Paid ag wylo, Bedwyr," meddai Arthur. "Cymer Galedfwlch, fy nghleddyf, a dos ag ef i lawr at y llyn acw. Tafl ef i'r llyn a thyrd yn ôl i ddweud wrthyf beth a welaist."
Brysiodd Bedwyr i lawr hyd y llwybr ysgythrog, nes cyrraedd ohono fan unig lle torrai'r dŵr yn frigwyn ar greigiau. Syllodd ar y perlau a ddisgleiriai yng ngharn y cleddyf ac ar y llafn a fflachiai yng ngolau'r lloer. Ni fedrai ei daflu i'r dŵr a chuddiodd ef dan bren.
"Beth a welaist ti, Bedwyr?" gofynnodd y brenin yn wan, pan ddychwelodd ato.
"Ni welais i ddim ond ewyn y tonnau, ac ni chlywais ond sŵn y gwynt."
"A wyt tithau'n troi'n fradwr, Bedwyr? Dos yn ôl at y llyn a thafl y cleddyf i'r tonnau."
Aeth Bedwyr eilwaith a chydiodd eto yn y cleddyf. Fflachiai'r perlau'n loywach a thecach o hyd, ac yr oedd disgleirdeb y llafn yn ei ddallu.
"Gwarth fyddai taflu cleddyf fel hwn i'r dŵr," meddai wrtho'i hun, ac wedi ei guddio eto, brysiodd yn ôl at Arthur.
"Beth a welaist ti, Bedwyr?" gofynnodd yntau.
"Ni welais i ddim ond y tonnau'n curo ar y lan," atebodd Bedwyr.
"Fradwr! Am y tro olaf, dos a thafl y cleddyf i'r llyn. Os methi y tro hwn, er fy ngwanned, mi a godaf ac a'th laddaf di â'm llaw fy hun. Dos!"
Y trydydd tro, ... ond gwrandewch ar yr Athro T. Gwynn Jones yn adrodd yr hanes yn ei awdl, "Ymadawiad Arthur."
'Roedd ei gawraidd gyhyrrau
A'u hegni hwynt yn gwanhau;
Ond ar unnaid er hynny
Chwifiodd ei fraich ufudd fry,
A'r arf drosto drithro a drodd
Heb aros, ac fe'i bwriodd
Onid oedd fel darn o dân
Yn y nwyfre yn hofran;
Fel modrwy, trwy'r gwagle trodd
Ennyd, a syth ddisgynnodd,
Fel mellten glaer ysblennydd,
A welwo deg wawl y dydd.
O'r dŵr cododd braich wedi ei gwisgo mewn samit claerwyn, a chydiodd y llaw yn ddeheuig yn y cleddyf. Chwifiwyd ef deirgwaith uwch y tonnau, ac yna tynnwyd ef dan y dŵr.
Adroddodd Bedwyr yr hanes wrth Arthur, ac yna dymunodd y brenin i'r marchog ei ddwyn ar ei gefn at fin y llyn. Yno ger y lan yr oedd llong brydferth ag arni rianedd teg â chyflau duon am eu pennau. Yn eu mysg safai tair brenhines hardd, ac wylai pob un yn drist. Rhoddwyd y brenin llesg i orwedd ar wely o sidan, a deuai sŵn nodau pêr o rywle fel y llithrai'r llong yn araf dros y dŵr.
"O, f'Arglwydd, fy Mrenin, beth a wnaf?" meddai Bedwyr mewn dagrau. "Beth a ddaw ohonof ymysg fy holl elynion?"
"Paid ag wylo, Bedwyr," ebe Arthur. "Af i Ynys Afallon, ac yno iacheir fy holl glwyfau. Gweddïa drosof."
Fel breuddwyd y diflannodd y llong hyd lwybr arian y lloer.
Yn ein mysg ni Gymry, y mae chwedl arall am ymadawiad Arthur. Dywedir bod y brenin a'i farchogion yn cysgu mewn ogof fawr yn y mynyddoedd. Y mae eu gwisgoedd rhyfel amdanynt a'u harfau gloyw wrth eu hochrau a thrysorau lawer ar y llawr rhyngddynt. Uwch eu pennau croga cloch anferth. Ni ddeffroir y marchogion hyn gan daranau'r ystorm, ond pan ddelo'r dydd i Arthur ddychwelyd i arwain ei bobl, fe gân rhywun y gloch a galw â llais uchel: "Daeth y dydd! Torrodd y wawr!" Darllenwch y chwedl dlos drosoch eich hunain yn awdl y Parch. William Morris, "Ogof Arthur."
X—SAINT GREAL
(O lyfr Syr Thomas Malory)
BETH oedd Saint Greal? Yn ôl yr hen hanes, hwn oedd y cwpan yr yfodd Crist ohono yn y Swper Olaf, a dywedid i Beilat ei roddi wedyn i Ioseff o Arimathea. Pan groeshoeliwyd Crist ar Galfaria, daliodd Ioseff y llestr i dderbyn ei waed. Carcharwyd ef gan yr Iddewon yn fuan wedyn, ond ymddangosodd Crist iddo yn ei gell ac ymddiried Saint Greal iddo eto. Pan rhyddhawyd ef ymhen blynyddoedd, crwydrodd Ioseff a'i ddilynwyr drwy lawer o wledydd a dwyn Saint Greal gyda hwy. Daethant drosodd i'r wlad hon, a chredodd llawer o bobl yn efengyl Crist. Ond fel y llithrodd amser heibio, diflannodd Saint Greal yn llwyr; aeth y byd yn rhy ddrwg iddo aros ynddo. Ymddangosai weithiau i ambell un duwiol, ond anaml iawn y digwyddai hynny oherwydd dim ond y gŵr glân a phur ei galon a allai weld y llestr santaidd hwn.
Yn niwedd y ddeuddegfed a dechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, crewyd llu o chwedlau am anturiau. marchogion Arthur yn eu hymchwil am Saint Greal. Darluniai'r rhai hyn rai o farchogion enwocaf y Ford Gron, yn arbennig Gwalchmai, Peredur, Lawnslot, Bwrt a Galâth, yn mentro drwy bob math o beryglon i geisio'r llestr, ac felly, yn ôl yr hanes, y chwalwyd arwyr llys Arthur i bedwar ban y byd.
Ar ŵyl y Sulgwyn eisteddai Arthur a'i farchogion wrth y Ford Gron yn y llys yng Nghamalot. I mewn i'r neuadd daeth rhiain deg ar gefn march ag ôl teithio o bell arno, a gofynnodd am weld Syr Lawnslot. Wedi i'r brenin ei ddangos iddi, aeth at ei sedd a dymuno arno'i dilyn hi i'r goedwig. Er na ddywedai hi amcan y daith, archodd Lawnslot i'w ysgwier gyfrwyo'i farch ac ymaith ag ef gyda'r rhiain. Carlamodd y ddau drwy goedwig fawr ac yna drwy gwm hir nes cyrraedd mynachlog gwragedd. Yno arhosai Syr Bwrt a Syr Lionel ar eu ffordd i Gamalot, a balch iawn oeddynt o weld Lawnslot. Ymhen ennyd cerddodd deuddeg lleian i mewn atynt, a chyda hwy yr oedd llanc glandeg a lluniaidd. Ni welsai Lawnslot fachgen harddach erioed.
"Ni a fagodd y mab hwn," meddent wrth Syr Lawnslot, "ac erfyniwn arnat i'w urddo'n farchog."
"A fynn ef ei hun hynny?" gofynnodd Lawnslot.
"Mynnaf," ebe'r llanc.
Bore trannoeth urddwyd y bachgen, Galâth, yn farchog, a dychwelodd Lawnslot i'r llys gyda Bwrt a Lionel. Yno yr oedd pawb ar fin eistedd wrth y Ford Gron, ac wedi i Arthur eu cyfarch yn llawen, aeth y tri marchog hwythau i'w seddau. Cyn i neb fwyta dim rhuthrodd ysgwier i mewn i'r neuadd.
"Syr," meddai wrth Arthur, "y mae gennyf newyddion rhyfedd. Gwelais faen mawr, â chleddyf ynddo, yn nofio ar wyneb yr afon."
Brysiodd Arthur a'r marchogion oll i lan y dŵr a syllodd pawb yn syn ar y maen o farmor coch ac ar y cleddyf a'i berlau drud. Mewn llythrennau aur yr oedd y geiriau hyn ar garn y cleddyf: "Ni ddwg neb fi ymaith ond y gŵr y crewyd fi i grogi ar ei glun, a hwnnw fydd marchog gorau'r byd."
"Lawnslot," ebr Arthur, "ti yw marchog gorau'r byd. Cais di ei dynnu."
"Na, Syr," atebodd Lawnslot, "gwn nad fy nghleddyf i yw."
Cymhellodd y brenin Beredur a Gwalchmai i gydio'n y cleddyf, ond ni allai un ohonynt ei symud fodfedd. Dychwelodd pawb i'r llys, a chyn gynted ag yr eisteddasant wrth y Ford Gron, caeodd yr holl ddrysau a'r ffenestri ohonynt eu hunain. Yna cerddodd hen ŵr i mewn i'r neuadd, â gwisg wen amdano, ac ni wyddai neb o b'le y daethai. Dug gydag ef farchog ieuanc mewn arfau cochion, ond heb gleddyf na tharian, dim ond gwain ddi-lafn wrth ei glun.
"Tangnefedd i chwi, farchogion heirdd," meddai'r hen ŵr, ac yna troes at Arthur.
"Syr, trwy gyfrwng y marchog ieuanc yma, o linach Ioseff o Arimathea, y cyflawnir rhyfeddodau'r llys hwn."
Wedi diosg rhyfelwisg y llanc, rhoes yr henwr am dano fantell wedi'i haddurno ag ermyn ac arweiniodd ef i'r Sedd Beryglus wrth ochr Lawnslot. Tynnodd ymaith y pali a orchuddiai'r sedd, ac wele lythrennau aur arni: "Dyma Sedd Galâth, y Tywysog uchel." Eisteddodd y llanc yn y sedd na feiddiodd neb arall eistedd ynddi erioed heb golli ei fywyd. Yna aeth yr henwr ymaith, ac yr oedd ugain ysgwier yn ei aros y tu allan. Yn fuan dug Arthur Galâth i lawr at yr afon, a thynnodd y llanc y cledd yn rhydd o'r marmor coch.
Gyda'r nos honno eisteddodd pawb yn llawen ar swper yn y llys. Yn sydyn clywsant sŵn fel pe bai mil o daranau yn rhwygo'r nefoedd ac yn ysgwyd y ddaear. I mewn i'r neuadd daeth tywyn o olau clir a thanbaid, disgleiriach seithwaith na golau haul yn ei anterth. Edrychodd y marchogion ar ei gilydd heb fedru yngan gair, a gwelent bawb yn harddach nag erioed o'r blaen. Fel pe'n nofio ar y golau, daeth Saint Greal i mewn a throsto orchudd o samit gwyn. Llanwyd y neuadd ag aroglau pêr, ac o flaen pob marchog ymddangosodd y danteithion a'r gwin a garai orau'n y byd. Yna diflannodd Saint Greal o'u golwg.
Diolchodd Arthur i Dduw am y rhyfeddod hwn ar ŵyl y Sulgwyn, a neidiodd Gwalchmai ar ei draed.
"Bore yfory," meddai, "cychwynnaf i chwilio am Saint Greal. Rhoddaf flwyddyn a mwy i'w geisio, ac ar fy llw, ni ddychwelaf i'r llys nes imi ei weld yn gliriach nag y gwelais ef heddiw, os hynny yw ewyllys Duw."
Cododd y marchogion eraill hefyd a thyngu'r un llw, ond taenodd tristwch dros wyneb Arthur.
"Gwalchmai," ebe'r brenin, "yr wyt yn chwalu'r Urdd orau a welodd y byd erioed. Cerais fy marchogion fel y cerais fy mywyd fy hun, ond unwaith y cychwynnant i geisio Saint Greal ni ddeuant yn ôl ataf i Gamalot."
Ni chysgodd Arthur y nos honno, a thrannoeth, yn fore, canodd y marchogion yn iach iddo ac i'w gwragedd a'u cariadau. Yr oedd y brenin yn rhy drist i ddywedyd gair wrthynt, a phan ddarfu sŵn y meirch yn y pellter yr oedd heolydd Camalot yn dawel fel y bedd.
Teithiodd y marchogion yn dyrfa gyda'i gilydd y diwrnod cyntaf, ond trannoeth dewisodd pob un ei ffordd ei hun. Yn hwyr y pedwerydd dydd, daeth Galâth i fynachlog wen, a derbyniwyd ef â pharch dwfn gan y mynaich. Diosgwyd ei arfau ac arweiniwyd ef i ystafell lle yr oedd dau arall o farchogion Arthur.
"Beth a wnewch chwi yma?" gofynnodd Galâth.
"Y mae tarian ryfeddol yn y lle hwn," meddent wrtho. "Dywedir na eill neb ei dwyn ymaith heb golli ei fywyd yn fuan wedyn neu gael ei anafu'n enbyd."
"Nid oes tarian gennyf—i," ebe Galâth.
Bore trannoeth, wedi gwrando offeren, gofynnodd un o'r marchogion i fynach ym mh'le yr oedd y darian. Dygwyd ef y tu ôl i'r allor, ac yno yr oedd tarian wen, wen, ag arni groes goch.
"Dim ond y marchog gorau'n y byd a eill ei dwyn," ebe'r mynach.
Clymodd y marchog y darian am ei wddf, a charlamodd yntau ymaith gyda'i ysgwier. Heb fod yn nepell rhuthrodd marchog, â'i wisg a'i geffyl yn wyn i gyd, arno, a thrywanu ei ysgwydd a'i daro i'r llawr. Cymerth y gŵr dieithr y darian oddi arno a rhoes hi i'r ysgwier.
"Dwg y darian hon," meddai, "i Syr Galâth, a adewaist yn y fynachlog. Dywed wrtho mai Ioseff o Arimathea a luniodd y groes â'i waed ei hun cyn marw."
Felly y daeth y darian hynod â'r groes goch arni i ddwylo Galâth, a chafodd anturiau rhyfedd yn fuan wedyn. Gorchfygodd saith o farchogion drwg a rhyddhaodd y rhianedd a garcharwyd yn eu castell. Ymladdodd hefyd, heb wybod pwy oeddynt, â Lawnslot a Pheredur, a hyrddiodd y ddau oddi ar eu meirch. Ymhen ysbaid daeth ar draws ugain o wŷr arfog yn ymosod ar Beredur ac ar fedr ei ladd. Rhuthrodd ar garlam gwyllt atynt, a gyrrodd ergydion aml a ffyrnig ei gleddyf hwy ar ffo mewn dychryn. Yna crwydrodd drwy leoedd anial ac anghysbell nes cyrraedd ohono gastell lle yr oedd twrneimant ar dro. Carlamodd Galâth i ganol y marchogion, a buan y gwelwyd nad oedd yno neb a allai wrthsefyll ei waywffon a'i gleddyf. Taflodd hyd yn oed Walchmai, un o wŷr enwocaf llys Arthur, i'r llawr a'i glwyfo yn ei ben.
Ymaith ag ef wedyn, a chyfarfod rhiain eurwallt a'i harweiniodd yn y nos i lan y môr. Ar y traeth gwelai long â gorchudd o samit gwyn drosti i gyd.
"Galâth, croeso iti!" ebe lleisiau o'r llong. "Buom yn aros yn hir amdanat."
Gadawodd Galâth a'r rhiain eu meirch ar y lan, a mynd i mewn i'r llong. Yno yr oedd Bwrt a Pheredur, a chofleidiodd y marchogion ei gilydd.
"O b'le y daeth y llong ysblennydd hon?" gofynnodd Galâth, gan dynnu ei helm a rhoi ei gleddyf o'r neilltu.
"Ni wyddom ni mwy na thithau," atebodd y ddau arall, "onid Duw a'i gyrrodd yma."
Cydiodd gwynt cryf yn yr hwyliau, a llithrodd y llong fel gwylan dros y môr. Chwaraeai gwrid cyntaf y wawr ar y tonnau, ac chyn hir hwyliasant rhwng dwy graig anferth. Yno yr oedd llong brydferth arall, ac arweiniodd y rhiain y tri marchog ar ei bwrdd. Nid oedd enaid byw ynddi, ac wrth droed gwely o bali cain yr oedd cleddyf â'i lafn hanner troedfedd allan o'r wain. Fflachiai lliwiau lawer o ben ei garn, ond yr oedd y dwrn ei hun a'r wain o groen sarff. Ceisiodd Bwrt a Pheredur afael ynddo, ond ni fedrai llaw un ohonynt gau am ei garn. Yna gwelodd Galâth y geiriau hyn mewn llythrennau aur ar y cleddyf: "Y gŵr a'm gwregysa i, ni phecha, a hwnnw a gydia yn fy ngharn, nis clwyfir gan arf yn y byd."
"Cleddyf santaidd yw hwn â hanes hir iddo," ebe'r rhiain. "Y mae'r gwregys yn llawer rhy wan i'r cleddyf grogi wrtho, ac ordeiniwyd mai merch lân a phur yn unig a allai wneuthur gwregys teilwng iddo. Felly, dro'n ôl, gwneuthum i wregys o'm gwallt fy hun ar ei gyfer."
Agorodd gist a safai wrth y gwely, ac ohoni tynnodd wregys o wallt euraid ag ynddo emau lawer a boglwm o aur pur. Rhwymodd y cleddyf wrtho.
"Cymer di y cleddyf, Galâth," ebe Peredur a Bwrt.
"Gadewch imi geisio cau fy llaw am ei garn yn gyntaf," meddai Galâth.
Cydiodd yn rhwydd yn y carn, ac yna gwregysodd y rhiain y cleddyf amdano. Felly yr urddwyd Galâth yn farchog eilwaith, ac aethant wedyn i'r llong a'u dug yno. Cipiodd y gwynt hwy'n gyflym dros y môr, a glaniasant gerllaw castell lle yr oedd twr o farchogion yn barod i syrthio arnynt. Gorchfygasant y rhai hynny, a chymerodd y tri marchog a'r rhiain bob un farch oddi arnynt.
Bu farw'r rhiain yn fuan wedyn, a rhoes y marchogion hi ar long a'i gorchuddio â phali gloyw-ddu. Llithrodd y llong dros y dŵr a diflannu yn y pellter. Pwy a'i gwelodd ac a aeth iddi ond Syr Lawnslot, ac yno, ymhen ysbaid, y cyfarfu Galâth ag ef. Llawen iawn oeddynt o weld ei gilydd a chael cyfle i adrodd eu helyntion.
"Wedi teithio'n hir ac ymhell," meddai Lawnslot, "deuthum at groes faen, ac yn ei hymyl safai capel hen iawn. Rhwymais fy march wrth bren a chrogais fy nharian ar gangen; yna mentrais at y drws agored. O ganhwyllbrennau arian deuai golau disglair tuag ataf, a cheisias gamu i mewn i gyfeiriad yr allor. Ond ni fedrwn; daliai rhywbeth fi'n ôl fel na allwn roi un troed o flaen y llall.
"Felly trois yn ôl yn drist, ac wedi rhoi fy helm a'm cleddyf heibio, gorweddais i gysgu o dan y groes. Rhwng cwsg ac effro gwelais ddau farch gwyn yn mynd heibio gan dynnu elor ag arno farchog yn wael. Safasant wrth y groes, a chlywais y marchog yn gweiddi'n drist, 'O Dduw, pa bryd y caf iachâd? Pa bryd y gwelaf Saint Greal?' Yn sydyn nofiodd y canhwyllbrennau allan o'r eglwys ac aros o flaen y groes faen. Ac ar fwrdd o arian llachar yr oedd Saint Greal. Ymlusgodd y marchog oddi ar yr elor, a nesaodd ar ei liniau a'i ddwylo at y bwrdd. Cyffyrddodd a chusanodd Saint Greal, a gwelais y gŵr gwanllyd ac afiach yn codi'n gryf a holliach. Diflannodd y canhwyllbrennau a'r bwrdd arian yn ôl trwy ddrws y capel, a cheisiais innau godi a'u dilyn. Ni fedrwn symud. Cymerodd y marchog dieithr fy march a'm harfau, a chlywais lais fel pe o'r awyr yn dywedyd, 'Lawnslot, cyfod a dos ymaith o'r lle santaidd hwn.'
"Yn siomedig dilynais lwybr a arweiniai i hen fynachlog. Yno gweddïai mynach, a syrthiais iannau ar fy ngliniau wrth ei ochr. Cysgais yn y fynachlog y nos honno, a bore trannoeth cefais farch ac arfau gan yr abad. Crwydrais wedyn drwy goedwig fawr nes dyfod i lan y môr. Yno yr oedd llong brydferth yn f'aros, ac er nad oedd neb ynddi, lledodd yr hwyliau yn yr awel a buan yr oeddwn o olwg tir.
"Glaniais ymhen dyddiau wrth droed castell, ac â'm cleddyf yn fy llaw dringais y grisiau at y porth yng ngolau'r lloer. Gwyliai dau lew mawr y porth, a phan oeddwn ar fedr rhuthro arnynt, dyma lais yn galw arnaf: 'Lawnslot, nid trwy nerth ond trwy ddaioni deui i mewn i'r castell hwn.' Syrthiodd fy nghleddyf o'm llaw, a rhoddais ef yn y wain mewn cywilydd. Euthum drwy'r porth heb i un o'r llewod fy mygythio, ac yn y castell yr oedd pob drws yn agored. Deuthum i'r neuadd, ac yn ei phen draw yr oedd drws caeëdig. Er imi wthio â'm holl nerth, nid agorai hwnnw. O'r ystafell deuai llais swynol yn canu salm, a gwyddwn, rywfodd, fod Saint Greal drwy'r drws hwnnw.
"Syrthiais ar fy ngliniau a gweddïais am un olwg ar y llestr santaidd. Agorodd y drws, ac o'r ystafell tywynnai'r golau disgleiriaf a welswm erioed. Codais gan feddwl mynd i mewn, ond ni fedrwn symud cam. Yn yr ystafell gwelwn fwrdd arian, ac arno, mewn gorchudd o bali coch, yr oedd Saint Greal. Mewn llawenydd neidiais dros y trothwy, ond rhyngof â Saint Greal fflachiodd mellt llachar, a syrthiais i'r llawr mewn llewyg.
"Bûm yn anymwybodol am ddyddiau lawer. Pan ddeuthum ataf fy hun, safai Peles, brenin y castell, wrth fy ngwely, a dywedodd wrthyf, 'Lawnslot, yr wyt yng Nghaer Carbonec ac yma y mae Saint Greal. Dychwel yn awr i lys Arthur, oherwydd ni weli byth eto mo'r llestr santaidd.'"
"Felly, dyma fi," ebe Lawnslot wrth Galâth, "ac ufuddhâf i orchymyn y brenin Peles."
Wedi i'r ddau gofleidio'i gilydd, cychwynnodd Galâth eto ar ei hynt, a chyn hir cyfarfu â Pheredur a Bwrt. Ar ôl llawer o anturiau daethant hwythau hefyd i Gaer Carbonec, ond nid oedd y lle mwyach yn wag a thawel. Yr oedd tyrfa o farchogion yno, a chafodd y tri groeso mawr gan y brenin Peles. Pan oeddynt ar swper yn y neuadd cludodd pedair o rianedd teg wely i mewn, ac arno gorweddai gŵr gwael â choron aur am ei ben.
"Galâth, Farchog, croeso iti!" meddai mewn llais gwanllyd. "Yn hir ac mewn blinder y bûm yn dy aros. Rhyddhâ fi'n awr o'm hafiechyd a'm poen."
Ymddangosodd pedwar angel yn dwyn bwrdd arian, ac arno yr oedd Saint Greal dan orchudd. Agorodd y drws ym mhen draw'r neuadd, y drws y curasai Lawnslot arno, a thrwyddo cerddodd angylion eraill, rhai yn dwyn canhwyllau, un yn dal gwaywffon â gwaed yn diferu o'i blaen i flwch arian, ac un arall â lliain yn ei llaw. Rhoddwyd y canhwyllau ar y bwrdd, y lliain yn gwrlid dros Saint Greal, a'r waywffon yn unionsyth yng nghanol y llestr. Yna uwch y llestr ymddangosodd gŵr tebyg i Grist, a chymerth Saint Greal yn ei ddwylo creithiog. Penliniodd o flaen Galâth, a dywedyd,
"Syr Galâth, dos ymaith i'r ddinas santaidd, Sarras, ac yno y tynnir y gorchudd oddi ar Saint Greal. Cymer Beredur a Bwrt gyda thi a dos i lan y môr. Yno bydd llong yn d'aros, a gofala fod gennyt y cleddyf a'r gwregys o eurwallt iddo."
Rhoes Galâth ei fysedd yn y gwaed a ddiferai o flaen y waywffon, ac irodd goesau'r brenin a orweddai'n ddiymadferth ar y gwely. Ymhen ennyd cododd y gŵr hwnnw'n holliach, a chychwynnodd y tri marchog ymaith yn llawen. Wedi teithio am dri diwrnod, daethant i lan y môr, ac yno yr oedd llong yn eu haros. Aethant iddi, ac wele yn ei chanol y bwrdd arian ac arno Saint Greal dan orchudd o samit coch.
Cyn hir cyrhaeddwyd Sarras. Wrth borth y ddinas gwelsant henwr crwm ar ffyn baglau. Er y gwyddai na allai'r dyn gerdded cam, rhoes Galâth Saint Greal yn ei ddwylo. Yn union taflodd yr henwr ei faglau ymaith a dug y llestr o'u blaen tua phlas y brenin.
Brenin drwg oedd brenin Sarras. Cyn gynted ag y clywodd gyrraedd o'r tri marchog ei ddinas, rhoes orchymyn i'w filwyr i'w carcharu. Yng ngharchar y buont flwyddyn gron, ond yr oedd Saint Greal yno gyda hwy yn eu porthi a'u cynnal. Pan fu farw'r brenin, rhyddhawyd hwy, a dewisodd pobl y ddinas Galâth i deyrnasu arnynt. O amgylch Saint Greal gwnaeth gas o aur a pherlau, a phob dydd gweddïai ar ei liniau o'i flaen.
Flwyddyn i'r dydd y coronwyd ef yn frenin, cododd Galâth yn fore a chlywodd lais yn dywedyd wrtho am ganu'n iach i Beredur a Bwrt. Cofleidiodd yntau hwynt yn dyner, a phenliniodd ar weddi gerbron y bwrdd arian. Fel y gweddïai cododd y gorchudd oddi ar Saint Greal, a syllodd yntau ar y llestr a'i holl ogoniant. Disgynnodd cwmwl o angylion i ddwyn ei enaid ymaith, a gwelai Peredur a Bwrt law o'r anwel yn cymryd Saint Greal oddi yno. Ni welodd neb ar y ddaear y llestr santaidd byth wedyn.
Aeth Peredur ymaith a throi'n feudwy. Yn lle'r rhyfelwisg a'r arfau llachar gwisgodd abid mynach. Bu farw ymhen dwy flynedd, a chladdodd Bwrt ef wrth ochr Galâth.
Yn drist ac unig yr ymlwybrodd Bwrt tua Chamalot. Ef oedd yr olaf o farchogion Arthur i ddychwelyd o ymchwil hir Saint Greal, a balch oedd y brenin o'i weld, oherwydd credasai pawb iddo farw ymhell. Sylwodd Bwrt fod llawer eisteddfa'n wag o amgylch y Ford Gron, a chrwydrodd ei lygaid yn drist o sedd i sedd. Edrychodd yn hir trwy niwl ei ddagrau ar seddau Peredur a Galâth.
XI—CÂN Y NIBELUNG
SAIF "Cân y Nibelung" yn llên gynnar yr Almaen fel "Iliad" Homer ymysg y Groegiaid. Ei harwr yw Siegfried, gwron a adnabyddid yn gynharach yng ngherddi a chwedlau Gwlad yr Iâ o dan yr enw Sigurd. Soniasai ugeiniau o ganeuon a storïau am wrhydri Sigurd, a thua'r ddeuddegfed ganrif creodd rhyw fardd di—enw yn yr Almaen y gerdd hir a chyfoethog, "Cân y Nibelung." Ysgrifennwyd hi i lawr yn y drydedd ganrif ar ddeg gan lawer mynach yn yr Almaen, a chanai'r telynorion crwydrol am anturiau Siegfried. Ond fel y llithrai'r blynyddoedd heibio, daeth y beirdd o hyd i destunau newyddion, ac anghofiodd y byd yn lân am Siegfried.
Yn agos i bum cant o flynyddoedd wedyn, yn y ddeunawfed ganrif, darganfu ysgolheigion yn yr Almaen rai o'r hen lawysgrifau. Cyhoeddwyd "Cân y Nibelung" yn llyfr, ond ni chymerodd pobl lawer o sylw ohono ar y cychwyn. Gwrthododd brenin yr Almaen, Ffredrig Fawr, roddi copi o'r llyfr yn ei lyfrgell hyd yn oed. Cyn hir, er hynny, gwelodd y wlad brydferthwch yr hen stori a'r rhamant a oedd o amgylch ei harwr, Siegfried, a daethpwyd i edrych ar y llawysgrif fel un o drysorau mwyaf yr Almaen. Erbyn heddiw ceir y chwedl yn iaith bron bob gwlad, a daeth Siegfried yn enwog hefyd fel arwr dramâu persain y cerddor enwog, Wagner.
Brenin y tir ffrwythlon o amgylch yr afon Rhein oedd Siegmund, tad Siegfried. Yr oedd yn falch iawn o'i fab, gan edmygu ei gorff cryf a'i ysbryd dewr. Nid oedd bachgen yn y wlad a fedrai daflu'r waywffon mor ddeheuig, neu garlamu mor eofn ar farch. Ond cyn hir, fel ambell hogyn cryf yn eich ysgol chwi, dechreuodd Siegfried gymryd mantais ar ei gryfder ac ymddwyn yn gas a chreulon at fechgyn eraill. Curai fechgyn llawer mwy nag ef ei hun yn ddidrugaredd, ac o'r diwedd penderfynodd ei dad ei yrru i ffwrdd i'r goedwig at hen of doeth o'r enw Mimer. Gwyddai'r brenin Siegmund fod y gof yn ddigon cryf a chall i drin y bachgen, ac y rhoddai waith iddo i'w gadw allan o bob direidi.
Gweithiodd Siegfried yn galed yn yr efail am flynyddoedd; chwythai'r fegin fawr bob dydd a churai â morthwyl anferth ar yr eingion. Tyfodd i fyny'n of cywrain a gallai lunio, nid yn unig gleddyfau a gwisgoedd rhyfel, ond hefyd dlysau cain. Gwrandawai'n astud ar gynghorion doeth Mimer, a daeth yntau'n gall a gwybodus. Clywai'r gof hefyd yn adrodd storïau am Frenhinoedd y Folsung, ei gyndadau, ac yn proffwydo y codai Folsung eto i gyflawni gorchestion. "Myfi," meddai Siegfried wrtho'i hun, "fydd y Folsung hwnnw."
Aeth yn gryfach ac yn gryfach bob dydd, a dangosodd ei nerth un dydd trwy lusgo'r gof mwyaf, Wieland, gerfydd ei wallt ar draws yr efail. Gwylltiodd Mimer, ond yr oedd arno yntau hefyd ofn y llanc.
"Mimer," meddai Siegfried, wedi darganfod ei nerth ei hun, "y mae'n bryd imi gael cleddyf."
"Cydia'n y morthwyl yma, ynteu," ebe Mimer, a thynnodd ddarn o haearn fflamgoch o'r tân a'i roi ar yr eingion.
Gafaelodd llaw Siegfried ym morthwyl trymaf yr efail, a thrawodd yr haearn ag ergyd a ysgwydai'r lle. Drylliwyd yr haearn yn chwilfriw, a suddodd yr eingion droedfedd i'r ddaear.
Yr oedd cymaint o ofn y bachgen ar Fimer wedi hyn nes penderfynu ohono ddyfeisio cynllun i'w ladd.
"Siegfried," meddai, un dydd, "rhaid imi gael tân mwy yn y ffwrn i wneud cleddyf iti. Dos i'r goedwig at y torrwr mawn a dwg faich mawr yn ôl yma.'
A phastwn cryf yn ei law, cychwynnodd Siegfried yn llawen, a daeth cyn hir i berfeddion y goedwig dywyll. Yno ni chanai aderyn, ac o'i flaen gwelai gors afiach yn llawn o nadroedd gwenwynig a llyfaint hyll. Ffiaidd ganddo oedd eu chwithrwd llechwraidd a'u crawcian aflafar, a brysiodd i dŷ'r torrwr mawn gan ofyn am dân i losgi'r creaduriaid hyn.
"Druan ohonot, Siegfried!" meddai'r torrwr mawn. "Bu Mimer yma o'th flaen, a chynhyrfodd y ddraig yn y goedwig i ymosod arnat pan ddychweli tua'r efail. Gwell iti gymryd ffordd arall yn ôl."
"Nid oes ofn arnaf," atebodd Siegfried. "Rho'r tân imi."
Gan ddwyn yn ei law ffagl yn llosgi, aeth yn ei ôl at y gors. Taflodd lwythi o frigau crin iddi, ac yna cyneuodd goelcerth a losgodd y nadroedd a'r llyfaint i gyd. Yn sydyn rhuthrodd y ddraig arno o'r goedwig gerllaw; yr oedd ei rhu fel sŵn taranau, a chwythai wenwyn o'i ffroenau. Syrthiodd y pastwn mawr ar ei phen deirgwaith, ac yna gorweddai'n farw. Llifodd y gwaed allan ohoni, a rhoes Siegfried ei fys ynddo. Teimlai groen ei fys yn troi'n galed fel haearn. Tynnodd ei wisg oddi amdano a throchi ei holl gorff yng ngwaed y ddraig, nes bod ei groen i gyd yn ddigon caled i wrthsefyll unrhyw gleddyf. Ei groen i gyd? Na, yr oedd un man na chaledwyd mohono; heb yn wybod iddo, glynodd deilen fach ar ei gefn rhwng ei ddwy ysgwydd, ac nid aeth y gwaed ar y man hwnnw.
Wedi cyrraedd yn ôl i'r efail taflodd Siegfried ben y draig wrth draed Mimer, a chymerai'r gof arno ei fod yn falch o'r orchest. Gwyddai Siegfried am y twyll yng nghalon Mimer, a thrawodd ef yn gelain â'r pastwn. Yna, wedi treulio dydd yn gwneud cleddyf iddo'i hun, dychwelodd i lys ei dad, y brenin Siegmund.
Arhosodd Siegfried yn y llys am rai blynyddoedd yn dysgu trin y cledd a chymryd rhan mewn llawer twrneimant. Rhoes y brenin iddo arfau gloyw a gwisg o haearn, a chyn hir cynhaliwyd gwledd i'w gyfarch fel etifedd i'r orsedd, brenin nesaf yr Iseldiroedd. Parhaodd y wledd am saith niwrnod, a chlywid sŵn telyn a chân drwy bob neuadd. Yna cychwynnodd Siegfried allan i ennill clod ac anrhydedd.
Croesodd y môr mewn ystorm enbyd i Wlad yr Iâ, a chyrhaeddodd gastell y frenhines enwog, Brunhild. Yr oedd y frenhines hon yn nodedig am ei nerth; yn wir, dywedid ei bod yn gryfach na deg o filwyr ei llys gyda'i gilydd. Yr oedd gwisg ryfel amdani bob amser a chleddyf mawr wrth ei hochr, ond yr oedd, er hynny, yn neilltuol o brydferth. Deuai marchogion o bob gwlad i geisio'i hennill yn wraig, ond yr unig ffordd i wneuthur hynny oedd trwy gael y gorau arni mewn gorchestion rhyfel.
Cafodd Siegfried groeso yn llys Brunhild, a thrannoeth cyfarfu marchogion lawer ar y maes, amryw ohonynt yn barod i herio'r frenhines er mwyn ceisio'i hennill. Dangosodd Siegfried ei nerth trwy gydio mewn carreg enfawr a'i thaflu ar draws y maes. Synnodd pawb wrth weld mor gryf ydoedd, a chredent fod y gwron a orchfygai Brunhild wedi ymddangos o'r diwedd.
"Na," meddai Siegfried, "ni cheisiaf orchfygu Brunhild. Y mae hi'n brydferth, yn gref ac yn urddasol, ond rhaid i'r ferch a garaf i fod yn dyner ac yn wylaidd."
Oddi yno crwydrodd trwy leoedd anial a pheryglus, gan ymladd â chewri a lladron ar ei ffordd. Cyrhaeddodd Wlad y Nibelung, Tir y Niwl, ac yno yr oedd y ddau dywysog, Nibelung a Schilbung, yn eistedd ar ochr mynydd yn ffraeo ynghylch y trysor a adawyd iddynt gan eu tad. Yr oedd y trysor hwn yn enwog, a buasai hyd yn oed y duwiau'n ymryson yn ei gylch. Syllodd Siegfried ar y pentyrrau disglair o aur pur, ar y perlau di-rif, ac yn arbennig ar y cleddyf enwog, Balmung. Cynigiodd y tywysogion y cleddyf iddo, os rhannai'r trysor yn deg rhyngddynt. Ceisiodd yntau wneuthur hynny, ond dechreuasant ei felltithio a'i gyhuddo o gadw rhan o'r trysor yn ôl iddo'i hun. Daethant yn ei erbyn gyda deuddeg o gewri ffyrnig o ogof gerllaw, ond cydiodd Siegfried yn y cleddyf, Balmung, a rhuthrodd arnynt. Er bod swynwyr yn gweu niwl trwchus o'i amgylch ac yn galw'r taranau i ysgwyd y mynyddoedd, gorchfygodd y cewri oll a lladdodd y ddau dywysog. Gwyliai corach o'r enw Alberich yr ymladd, gan aros am ei gyfle i syrthio'n llechwraidd ar Siegfried. Gelyn peryglus oedd hwn, oherwydd yr oedd ganddo fantell a'i gwnâi'n anweledig, and gorthrechodd Siegfried ef a chymerodd y fantell oddi arno. Crefodd Alberich arno i beidio â'i ladd, gan addo y rhoddai ei fywyd i wylio'r trysor drosto. Gadawodd Siegfried iddo fyw, ac ni bu gwas ffyddlonach i'w feistr nag a fu Alberich i Siegfried ar ôl hynny.
Derbyniodd pobl y wlad y gwron yn llawen fel eu brenin, a rhannodd yntau lawer o'r trysorau ymysg y milwyr dewraf. Wedi cael trefn ar y wlad, dewisodd ddeuddeg o'r rhyfelwyr cryfaf i'w ganlyn, a hwyliodd y cwmni dros y môr i'r Iseldiroedd.
Balch iawn oedd ei dad, y brenin Siegmund, o weld Siegfried a'i ddilynwyr dewr, a mawr fu eu croeso yn y llys. Yn y wledd canai'r beirdd am brydferthwch a thynerwch y dywysoges Kriemhild, merch i frenin Bwrgwndi, a gwrandawai Siegfried yn astud arnynt. Daeth hiraeth arno am weld y dywysoges hardd, er i'w dad geisio'i atal, cychwynnodd am Fwrgwndi gyda'i ddeuddeng milwr. Canai'r adar yn y coed, ac nid oedd cwmwl yng nglas y nef uwchben.
Wedi marchogaeth am saith niwrnod, daethant i Worms, prif ddinas Bwrgwndi, a chasglodd y bobl i'r heolydd i syllu ar eu gwisgoedd llachar ac ar yr aur a'r arian a addurnai gyfrwyau'r meirch. Fflachiai tarian a helm yn yr haul, a churai carnau aflonydd y meirch ar y palmant.
O ffenestr ei blas gwyliai'r brenin Gunther, brawd Kriemhild, y dieithriaid yn agosáu, a galwodd Hagen, un o'i farchogion, ato.
"Pwy yw'r gwŷr ysblennydd hyn?" gofynnodd.
"Edrychant fel brenhinoedd," atebodd Hagen. "Ni synnwn i fawr na ddaeth Siegfried, Tywysog yr Iseldiroedd, a'i gymdeithion yma."
"Hwnnw y cân y beirdd amdano?" gofynnodd Gunther. "Y gwron a orchfygodd Wlad y Nibelung?"
"Ie, dywedir iddo'n fachgen ladd draig ffyrnig ac ymdrochi yn ei gwaed, fel na all cleddyf frathu ei groen. Gwell iti roi croeso iddo."
Croesawyd Siegfried a'i wŷr gan y brenin, a chynhaliwyd gwledd yn y llys. Trannoeth, trefnwyd twrneimant a chwareuon yn y maes gerllaw, a synnodd pawb wrth weld gwrhydri a nerth Siegfried. O'i ffenestr yn y plas gwyliai'r dywysoges Kriemhild ef, a gwyddai yn ei chalon ei bod yn ei garu.
Er treulio ohono flwyddyn yn y llys, ni welodd Siegfried y dywysoges wyneb yn wyneb. Yna torrodd rhyfel allan rhwng Bwrgwndi a'r Sacsoniaid, a brwydrodd Siegfried yn ddewr ym myddin Gunther. Dug ddau frenin y gelynion yn garcharorion i Worms, a chynhaliwyd gwledd fawr i ddathlu'r fuddugoliaeth. Yn y wledd honno y gwelodd Siegfried y dywysoges Kriemhild am y tro cyntaf. Disgleiriai gemau lawer yn ei gwisg o bali amryliw, ond yr oedd hi'n brydferthach nag un perl, ac yr oedd pob marchog yn y llys yn barod i farw drosti. Ond Siegfried a gafodd yr anrhydedd o'i hebrwng drwy'r neuadd yng ngolwg y milwyr i gyd. Parhaodd y wledd am ddeuddeng niwrnod, a phob dydd cerddai Siegfried wrth ochr Kriemhild, a gwyddai'r holl lys eu bod mewn cariad â'i gilydd.
Penderfynodd y brenin Gunther ennill Brunhild yn wraig. Hi, fel y cofiwch, oedd brenhines Gwlad yr Iâ, a'r unig ffordd i'w hennill oedd cael y gorau arni mewn gorchestion rhyfel. Aeth Siegfried gydag ef dros y môr, ac wedi cyrraedd Gwlad yr Iâ, mewn ofn y safodd Gunther ar y maes i herio Brunhild. Trwy roddi amdano'r fantell a ddug oddi ar y corach yn Nhir y Nibelung, fe'i gwnaeth Siegfried ei hun yn anweledig, ac ef, nid Gunther, a ddaliai'r darian ac a hyrddiai'r waywffon hir a'r garreg enfawr. Felly yr enillwyd yr ornest, a mawr oedd y llawenydd yn Worms pan gyrhaeddodd y gwroniaid yn ôl a'r frenhines Brunhild gyda hwy.
Priodwyd Siegfried a Kriemhild yn fuan wedyn, a dychwelodd y gwron gyda'i wraig i'r Iseldiroedd. Rhoes Siegmund ei goron i'w fab, ac am ddeng mlynedd teyrnasodd Siegfried yn ddoeth a chyfiawn. Aeth ei glod ar led drwy bob gwlad, ac nid oedd cenedl dan haul mor falch o'i brenin â phobl yr Iseldiroedd.
Yn ninas Worms yr oedd cas ac eiddigedd yng nghalon Brunhild; anfelys iddi hi oedd clywed bod Siegfried yn fwy nerthol ac yn gyfoethocach na'i phriod hi, y brenin Gunther. Cymhellodd y brenin i wahodd Siegfried a Kriemhild i wledd fawr yn y llys yn Worms. Cydsyniodd yntau, a brysiodd deg ar hugain o farchogion ar geffylau heirdd i'r Iseldiroedd i gyflwyno'r neges. Derbyniodd Siegfried y gwahoddiad yn llawen, a chyda mil o wŷr arfog, cychwynnodd tua Worms. Gydag ef yr oedd Kriemhild a'i dad, Siegmund, mawr fu'r croeso a gawsant yn Worms. Neilltuwyd ystafelloedd gwychaf y plas ar eu cyfer, a chynhaliwyd gwledd i ddwy fil o farchogion. Eisteddai'r ddau frenin, Siegfried a Gunther, yn gyfeillgar ochr yn ochr yn y wledd.
Trannoeth, galwodd utgyrn lawer y gwŷr i'r twrneimant, a gwych oedd yr olygfa ar y maes y tu allan i'r ddinas. Cyflawnodd llawer marchog orchestion yng ngŵydd y rhianedd teg, a chanai clychau'r ddinas yn uchel a llon. Aeth y miri ymlaen am un dydd ar ddeg, ac nid oedd wyneb trist yn holl heolydd Worms.
Ar yr unfed dydd ar ddeg gwyliai Kriemhild a Brunhild y chwareuon gyda'i gilydd.
"Edrych," meddai Kriemhild, "mor ddewr a nerthol yw Siegfried. Saif allan ymysg y milwyr fel y lloer ymysg y sêr."
"Nid yw mor nerthol â Gunther," atebodd Brunhild. "Ef yw'r mwyaf o frenhinoedd byd, a phe dôi angen am hynny, gallai alw ar Siegfried a'i holl farchogion i'w wasanaethu."
Aeth y ddadl rhwng y ddwy yn gweryl, ac yn ei dicter dywedodd Kriemhild wrth y llall mai nerth Siegfried a'i gorchfygodd hi yng Nghwlad yr Iâ. Hir y bu Gunther a Siegfried yn ceisio'u tawelu, ac wedi i'r llid liniaru, cerddai Brunhild yn aflonydd o amgylch ei hystafell. Pwy a ddaeth ati ond y marchog Hagen, a thyngodd lw y deuai o hyd i gynllun i ladd Siegfried. Medrodd gymell y brenin Gunther a rhai o'r marchogion i'w gefnogi, ac yna aeth y bradwr at Kriemhild gan gymryd arno dosturio wrthi. Edrychasai hi ar Hagen fel cyfaill erioed, ac yn awr dywedodd gyfrinach fawr Siegfried wrtho.
"Nid oes ond un man gwan ar ei gorff," meddai "ac y mae arnaf ofn yn fy nghalon rhag i ryw bicell neu saeth gyrraedd y man hwnnw."
"Ym mh'le y mae'r man hwnnw?" gofynnodd Hagen, gan geisio cuddio'i chwilfrydedd twyllodrus. Edrychodd Kriemhild yn graff arno cyn ateb. "Rhwng ei ddwy ysgwydd," meddai o'r diwedd. "Yno y syrthiodd y ddeilen pan ymolchodd yng ngwaed y ddraig.”
"Gwn beth a wnawn i'w amddiffyn," ebe Hagen. "Ar ei wisg uwchben y lle gwan gwnïa di groes fach ag edau goch. Gwyliaf innau Siegfried bob cyfle, a cheidw fy nharian bob picell rhag y man hwnnw."
Bore trannoeth, cychwynnodd Gunther a'i farchogion i hela anifeiliaid gwylltion yn y goedwig. Er i Kriemhild, a freuddwydiodd y noson gynt fod peryglon yn ei aros, geisio'i gymell i beidio, aeth Siegfried gyda hwy. Gadawodd y lleill yn y goedwig a rhuthrodd ar ôl llwynog ffyrnig. Lladdodd hwnnw a lladdodd lew mawr, ŷch gwyllt, baedd a charw. Yna o'r pellter daeth galwad glir y cyrn, a throes Siegfried yn ôl tua'r gwersyll ar ffin y goedwig. Ar y ffordd gwelodd arth yn dianc i ddryswch y mangoed. Neidiodd oddi ar ei farch a dilynodd yr arth ar flaenau'i draed. Gwasgodd yr anifail â'i freichiau cryfion, llusgodd ef at ei geffyl a'i rwymo wrth y cyfryw. Yna carlamodd i'r gwersyll, a syllai Gunther ag edmygedd arno'n agosáu. Edifarhâi'r brenin iddo wrando ar gynllwynion Hagen.
Wedi i'r helwyr oll ddychwelyd, cynhaliwyd gwledd yn y gwersyll, ond nid oedd yno win i'w yfed.
"Pam na ddwg y gweision y gwin i'r bwrdd?" gofynnodd Siegfried.
"Ar Hagen y mae'r bai," atebodd Gunther, "ac nid ar y gweision."
"Credais y byddai'r gwersyll rai milltiroedd i ffwrdd," ebe Hagen, "ac felly aethpwyd â'r gwin yno. Ond y mae cornant o ddŵr pur gerllaw, a geill pwy bynnag a fynn dorri ei syched ynddi."
Wedi bwyta, cerddodd Siegfried ac eraill hyd lethr y bryn tua'r gornant.
"Clywais lawer o sôn,” meddai Hagen, a oedd yn y cwmni, "am gyflymdra'r brenin Siegfried ar ei droed. Tybed a eill fy nghuro i ar redeg at y gornant?"
"Yr wyf yn barod i redeg yn fy ngwisg haearn a dwyn fy nharian a'm gwaywffon a'm bwa," atebodd Siegfried gan wenu.
Tynnodd Hagen a Gunther eu gwisgoedd uchaf oddi amdanynt, a rhedodd y tri tua'r gornant. Cafodd Siegfried y blaen arnynt yn rhwydd, ac eisteddodd i lawr wrth y gornant i'w haros. Rhoes yntau ei wisg ryfel a'i arfau o'r neilltu, ac yna disgwyl i'r brenin Gunther gael yfed yn gyntaf. Safodd Hagen yn llechwraidd y tu ôl iddo, gan syllu ar y groes fach a wnïwyd ag edau goch ar ei gefn. Yn ddistaw bach cymerodd gleddyf a gwaywffon a bwa Siegfried oddi wrtho, ac yna cydiodd mewn picell finiog. Hyrddiodd hi i gefn yr arwr fel y gŵyrai i yfed o'r afonig, a rhuthrodd ymaith am ei fywyd.
Ger bwrlwm swynol yr afonig gorweddai Siegfried yn wan a thrist. Âi ei ruddiau'n wynnach, wynnach, fel y rhuddai'r blodau â llif ei waed. Ar darian fawr o aur cludwyd ei gorff yn ôl i Worms, a gadawyd ef wrth ddrws Kriemhild gyda'r nos. Trannoeth, yr oedd galar yn holl heolydd y ddinas, ond nid oedd dagrau fel
dagrau Kriemhild na hiraeth fel ei hiraeth hi.XII−CÂN ROLAND
YN llyfrgell fawr Bodley yn Rhydychen y mae, nid yn unig filoedd ar filoedd o lyfrau, ond hefyd lawer o lawysgrifau gwerthfawr. Yn eu mysg y mae un fach wedi ei phlygu fel llyfr ac ôl bysedd lu ar groen ei dalennau. Yr oedd hon yn ddigon bach i fynd i mewn i boced neu i waled y telynor yn yr hen amser, a gellwch ddychmygu'r cerddor â'i delyn ar ei gefn yn crwydro o gastell i gastell ac o farchnad i farchnad yn Ffrainc. Mewn tref brysur safai yng nghanol y farchnad gan dynnu'r llawysgrif o'i waled a chydio yn ei delyn. Ac arhosai'r bobl a lifai heibio i wrando ar y gân am Roland a brwydr Roncesvalles.
Ym mh'le y mae'r Roncesvalles yma, tybed? Rhwng Ysbaen a Ffrainc, fel y gwyddoch chwi, y mae rhes o fynyddoedd uchel, mynyddoedd y Barwynion, a'u copaon llwm, anial, yn ymgyrraedd i'r nefoedd. Fel y dowch yn is, y mae'r coed pinwydd talsyth ac yna goedwigoedd o ffawydd, deri a phibgnau. Trwy ddyffrynnoedd cul y mynyddoedd hyn, yn yr hen oes, y croesai byddinoedd o Ffrainc i Ysbaen; trwyddynt hefyd y rhuthrai lluoedd arfog y paganiaid, y Saraseniaid, o Ysbaen i Ffrainc. Enw ar un o'r cymoedd hyn yw Roncesvalles. Ar ei lawr gwastad y mae caeau o laswellt ac edrychant yn dlws yn yr haf yn llawn o chwerthin blodau amryliw. Ond ar bob ochr cyfyd y llethrau coediog yn serth a thawel, ac uwchben saif aml "fynydd llonydd llwyd." Lle unig yw Roncesvalles, a chul iawn yw genau'r bwlch hwn ym mynyddoedd y Barwynion. Ynddo, yn yr wythfed ganrif, medd y chwedl, y syrthiodd y gwron Roland a llu o farchogion gorau Siarlymaen, Ymherodr Ffrainc.
Bu Siarlymaen a'i fyddin am saith mlynedd yn ymladd yn Ysbaen ac yn goresgyn dinasoedd y paganiaid. O'r diwedd nid oedd ond dinas Saragosa heb ei choncro, ac yr oedd ofn ar Farsiles, brenin y ddinas honno. Galwodd ei fyddin fawr, dros ugain mil o wŷr, at ei gilydd, a gofynnodd am gyngor i'r arglwyddi.
"Y mae Siarlymaen a'i fyddin yn cau amdanom," meddai. "Beth a wnawn ni?"
Bu distawrwydd hir, ac yna atebodd Blancandrin, un o'r marchogion hynaf.
"Paid ag ofni, O Frenin," meddai, "oherwydd y mae gennyf gynllun. Gyrr negeswyr at Siarlymaen gan gynnig iddo anrhegion gwerthfawr, eirth a chŵn a llewod, saith gant o gamelod, aur ac arian ar bedwar cant o fulod, ceffylau chwim a pherlau a gwisgoedd drud. Dywed wrtho, ond iddo ymadael o'r wlad, y byddi dithau'n ei ddilyn i Ffrainc ac yn troi'n Gristion. Felly fe'th wna di'n frenin, odditano ef, ar Ysbaen i gyd."
Derbyniodd y brenin Marsiles y cyngor, ac yn fuan ymadawodd deg o'i arglwyddi i gyflwyno'r neges i Siarlymaen. Yn eu dwylo, fel arwydd o heddwch, yr oedd brigau'r olewydd, a marchogent ar geffylau claerwyn, pob un â ffrwyn o aur a chyfryw o arian.
Gorffwysai Siarlymaen a'i bymtheng mil o filwyr mewn perllan fawr, y brenin yn y canol ar orsedd o aur, a chydag ef ei ddau filwr dewraf, Roland ac Olifer. Penliniodd y paganiaid o'i flaen a siaradodd Blancandrin drostynt.
"Henffych iti, O Ymherodr," meddai. "Negeswyr ydym oddi wrth Marsiles, brenin Saragosa. Dymuna iti ddychwelyd i'th wlad dy hun a chynnig iti drysorau ac anifeiliaid lawer. Daw yntau ar dy ôl i Ffrainc a thry'n Gristion."
Plygodd Siarlymaen ei ben i feddwl ynghylch y geiriau cyn ateb.
"Gwn yn iawn," meddai ymhen ennyd, "fod eich brenin, Marsiles, yn fy nghasáu. Pa sicrwydd sydd gennyf y ceidw at ei air?"
"Rhown feichiafon iti," oedd ateb Blancandrin. "Bydd fy mab i fy hun yn un ohonynt a chei eu lladd oni cheidw'n brenin ei addewid."
Rhoddwyd pabell i'r cenhadon gysgu'r nos, a'r bore wedyn galwodd Siarlymaen ei arglwyddi i gyngor.
"Paid â derbyn y cynnig," meddai Roland, nai i'r Ymherodr. "Yr ydym yn Ysbaen ers saith mlynedd, ac ni fu dinas a allodd ein gwrthsefyll. Gwyddom mai bradwr yw Marsiles, ac y mae rhyw gynllun cyfrwys y tu ôl i'w addewidion."
Yna camodd Ganelon, un arall o'r arglwyddi, ymlaen at orsedd Siarlymaen. Gŵr balch oedd hwn, ac yn elyn i Roland.
"Fy Mrenin," meddai, "paid â gwrando ar gynghorion ffyliaid. Gan fod Marsiles yn barod i ymostwng iti, derbyn ei gynnig."
Yr oedd llawer o'r arglwyddi hynaf o blaid hyn, ac felly penderfynodd yr Ymherodr yrru negesydd i Saragosa.
"Pwy a gaf i'w yrru'n negesydd at Farsiles?" gofynnodd.
"Fi," meddai Roland. "Mi hoffwn i'n fawr gael mynd."
"Na," meddai ei gyfaill, Olifer, "yr wyt ti'n rhy wyllt o lawer i fod yn negesydd heddwch. Mi af fi."
Cynigiodd amryw o'r arglwyddi fynd, ond yr oedd Siarlymaen yn rhy hoff ohonynt i adael iddynt fentro i ddwylo Marsiles.
"Beth am Ganelon, ynteu?" gwaeddodd Roland. "Gan mai ef sy'n ein cynghori i dderbyn y cynnig, ef a ddylai fynd â'r newydd i Farsiles."
Yr oedd ofn ar Ganelon pan glywodd hyn, oherwydd gwyddai y byddai ei fywyd mewn perygl yn llys Marsiles.
"Ganelon," meddai'r Ymherodr, "cyfrwya dy geffyl a dos at Farsiles. Os mynn droi'n Gristion caiff hanner Ysbaen i lywodraethu arni; rhoddaf yr hanner arall i'm nai, Roland. Os gwrthyd, dywed wrtho y rhuthra fy myddin ar furiau Saragosa ac y llusgaf ef gyda mi mewn cadwynau i Ffrainc, ac yno y torraf ei ben."
Ar ei geffyl hardd ac yn ei wisg ddisglair o haearn aeth Ganelon ar ei daith. Yr oedd arswyd yn ei galon a gwnaeth lw y talai'n ôl i Roland am hyn.
Ar orsedd o aur pur, a'i fyddin fawr o'i amgylch, eisteddai Marsiles i glywed ei neges.
"O Frenin," meddai Ganelon, "dymuna Siarlymaen iti droi'n Gristion, ac yna cei reoli hanner Ysbaen. Yr hanner arall a rydd ef i'w nai balch a byrbwyll, Roland. Oni chytuni, fe'th lusgir i Ffrainc mewn cadwynau a thorrir dy ben."
Gwylltiodd Marsiles pan glywodd y geiriau hyn a chydiodd mewn picell finiog gan feddwl ei thaflu at Ganelon. Neidiodd rhai o'r arglwyddi ato i'w dawelu. Â'i law ar ei gledd safodd Ganelon yn eofn i wynebu'r brenin.
Galwodd Marsiles rai o'i arglwyddi o'r neilltu o dan bren olewydd, ac wedi iddo ymgynhori â hwy, arweiniwyd Ganelon ato.
"Negesydd," meddai â gwên, gan roddi mantell werthfawr o groen yn anrheg iddo, "hoffwn inni fod yn gyfeillion. Y mae Siarlymaen erbyn hyn yn hen a musgrell: onid yw'n bryd iddo ddychwelyd i Ffrainc a gorffwys ar ôl ei ryfeloedd hir? Pa bryd y blina ar ymladd?"
"Ni flina ar frwydro tra fo'i nai, Roland, yn fyw," oedd ateb Ganelon. "Ni ddaw cysgod o ofn i galon Siarlymaen tra fo Roland ac Olifer a'r deuddeg arglwydd wrth ei ochr."
"Y mae gennyf innau fyddin gref," meddai Marsiles. "Ni welaist erioed ei gwell. Oni allaf herio byddin Siarlymaen?"
"Na," atebodd y bradwr, Ganelon, "ni elli. Gyrr ugain o feichiafon i'r Ymherodr, ac yna fe arweinia'i fyddin dros y mynyddoedd yn ôl i Ffrainc. Y mae'n siwr o adael Roland ac Olifer i wylio'r ffordd o'u hôl, a chei dithau gyfle i syrthio arnynt a'u lladd."
Felly y troes Ganelon yn fradwr, a derbyniodd lawer o anrhegion heirdd gan Farsiles a'i arglwyddi.
Yn fuan safodd eto o flaen gorsedd Siarlymaen.
"Fy Mrenin," meddai, "dyma iti agoriadau dinas Saragosa, a gerllaw y mae gennyf aur ac arian ac anrhegion ar gannoedd o fulod a chamelod. Cyn diwedd y mis daw Marsiles ar dy ôl i Ffrainc a thry'n Gristion."
Cyhoeddodd mil o utgyrn fod y rhyfel hir ar ben. Ar flaen y picellau chwifiai baneri amryliw yn yr awel, a disgleiriai helm a tharian yn yr haul fel y llifai byddin anferth Siarlymaen dros y mynyddoedd yn ôl i Ffrainc. Yn araf y symudent, oherwydd yr oedd ganddynt fulod a chamelod a gwagenni lawer yn cario trysorau drutaf Ysbaen. Derbyniodd Siarlymaen gyngor Ganelon gan adael Roland, Oliver, ac ugain mil o'i farchogion
Yn wynebu tud. 133Y BRECHE DE ROLAND
Hollt enfawr yn y creigiau uwchben y Cirque de Gavarnie ym mynyddoedd y Barwynion. Dywed chwedl i Roland ei thorri ag un ergyd a'i gleddyf.
—————————————
Saraseniaid eu dilyn yn ddistaw bach.
Pan gredent fod yr Ymherodr a'i lu yn ddiogel, symudodd Roland a'i farchogion dewr ymlaen yn araf, gan daflu golwg aml yn eu holau. Tros y bryniau creigiog a thrwy'r dyffrynnoedd tywyll teithiasant drwy'r dydd a thrwy'r nos. Pan dorrai gwawr yr ail ddydd yr oeddynt yng nghwm cul ac unig Roncesvalles. Carlamodd Olifer i fyny ochr un o'r bryniau gan edrych o'i gwmpas ar y llethrau o amgylch y cwm. Yn sydyn, gwelai belydrau'r haul drwy'r coed yn chwarae ar arfau disglair ym mhobman, ac yn ôl i gyfeiriad Ysbaen yr oedd miloedd o faneri'n agosáu. I ffwrdd ag ef fel mellten i lawr at Roland a'r marchogion eraill.
"Y mae miloedd ar filoedd o Saraseniaid yn y coed hyd lethrau'r bryniau," meddai, "ac y mae byddin fawr o'n hôl. Deuant ar ein gwarthaf yn fuan iawn."
"O'r gorau," meddai Roland â thân rhyfel yn fflachio yn ei lygaid, "gad iddynt ddod."
"Ond y mae ganddynt ugain milwr am bob un ohonom ni," meddai Olifer. "Chwyth dy utgorn mawr fel y clyw Siarlymaen a'r fyddin am ein perygl."
"Na," meddai Roland, "ni chaiff neb ddweud mai llwfr fu marchogion Siarlymaen. Os marw sydd raid, byddwn farw yn herio'r gelyn."
Erbyn hyn caeai'r gelynion amdanynt, a gwelid fflach eu dur ar bob craig a thrum. Llifai eu miloedd fel rhaeadr dros lethrau'r cwm. Arweiniai Roland, Olifer a'r Archesgob Tyrpin farchogion Siarlymaen, ac â'u cri yn uchel yn y gwynt rhuthrasant i wynebu'r gelyn.
Ni fu ymladdfa fel hon erioed o'r blaen. Syrthiai dynion a cheffylau'n bendramwnwgl i'r llawr a thorrai tarian a chledd a gwaywffon yn yfflon yn yr ornest. Yr oedd sŵn y gâd fel taranau'r ystorm yng nghreigiau'r mynyddoedd. Teirgwaith y ciliodd y gelynion o flaen marchogion dewr Siarlymaen, ond o'r llethrau coediog deuai miloedd o filwyr eraill i ymosod arnynt. Un ar ôl un, syrthiodd gwroniaid Ffrainc i'r llawr, a chyn hir nid oedd ond rhyw drigain ohonynt i herio'r miloedd.
Rhoes Roland ei utgorn mawr o ifori cerfiedig wrth ei wefusau. Chwythodd unwaith, a chrwydrodd y sŵn dros y mynyddoedd pell i glustiau Siarlymaen. Chwythodd eilwaith, a chododd llawer eryr o'i nyth gan ddianc mewn dychryn. Chwythodd y trydydd tro, a llifai gwaed o'i geg a thros ei wisg hardd o haearn.
Yn y pellter, arhosodd Siarlymaen ar ei daith.
"Utgorn Roland!" meddai. "Y mae mewn perygl."
"Na," meddai Ganelon, "cellwair y mae. Efallai ei fod yn hela yn y mynyddoedd."
Fel cri o boen ymhell, daeth y sŵn eilwaith i glustiau Siarlymaen. Syrthiodd ei lygaid ar Ganelon a gwelodd euogrwydd y bradwr yn ei wyneb.
"Rhwymwch Ganelon," oedd ei orchymyn i'r milwyr, "a chaner holl utgyrn y fyddin. Awn yn ôl ar unwaith!"
* . . * . . * . . *
Yn Roncesvalles nid oedd ond tri marchog yn fyw— Roland, Olifer, a'r Archesgob Tyrpin. Fel tonnau'r môr y rhuthrasai'r paganiaid arnynt, ac yn awr syllai Roland â dagrau yn ei lygaid ar y milwyr dewr a orweddai'n farw ar y maes. Yna gwelodd fod Olifer wedi ei glwyfo ac mewn perygl o gael ei ladd, a charlamodd yn wyllt drwy'r gelynion at ei ochr. Wedi ei ddallu gan waed, ni wyddai Olifer mai Roland a ruthrai ato, a chan feddwl mai gelyn oedd, trawodd ef ar ei helm gan ei glwyfo'n enbyd. Yna syrthiodd Olifer i'r llawr gan farw a'i wyneb tua'r Dwyrain.
Ochr yn ochr, carlamodd Roland a'r Archesgob Tyrpin i ganol y gelynion gan ladd llawer ohonynt. Tros y mynyddoedd deuai sŵn utgyrn Siarlymaen yn nes o hyd, ac mewn dychryn ffoes y paganiaid i gyfeiriad Ysbaen.
Wedi ei glwyfo â llawer picell fain, gorweddodd yr Archesgob i farw ar y glaswellt a oedd erbyn hyn yn goch gan waed. Ymlusgodd Roland o dan bren pinwydd gerllaw, gan roi ei ben i orwedd ar ei geffyl marw a throi ei wyneb tuag Ysbaen. Llithrodd ei gleddyf enwog, Durendal, o'i law, ond cydiodd ynddo drachefn gan benderfynu nad âi hwnnw i ddwylo'r paganiaid. Wrth ei ymyl yr oedd craig gadarn, a medrodd godi gan afael yn dynn yn ei gleddyf â'i ddwy law. Yna trawodd y graig â'i holl egni gan feddwl malurio'r cleddyf. Holltodd y graig fawr yn ddwy, ond nid oedd y cleddyf fymryn gwaeth. Hyd heddiw dangosir yr hollt yn y graig lle y syrthiodd ergyd olaf Roland.
Disgynnodd y gwron yn farw dros ei geffyl llonydd, ac yno, o dan bren pinwydd tal, â'i wyneb tuag Ysbaen, y darganfu Siarlymaen ef. Nid hir y bu'r Ymherodr a’i fyddin cyn dial y cam ar Farsiles a'i filwyr, ac yr oedd marw enbyd yn aros Ganelon, y bradwr.
* . . * . . * . . *
Dyna i chwi'r chwedl. Erys y cwm unig ym mynwes y Barwynion o hyd, a phed aech chwi yno, fel yr aeth un bardd Cymraeg yn ddiweddar, teimlech chwithau fawredd tawel y mynyddoedd niwlog. Ni thyrr ond bref gwartheg, cyfarth ci, a chlychau'r defaid, ar hedd y cwm.
Edrych y bardd, Mr. Iorwerth Peate, ar y mynyddoedd mawr. Tybed a gofiant hwy ddigwyddiadau'r hen chwedl?
"Fynyddoedd llwyd, a gofiwch chwi
Helyntion pell y dyddiau gynt?"
Ac etyb y mynyddoedd:
"Nid ydynt bell i ni, na'u bri
Yn ddim ond sawr ar frig y gwynt.
Ni ddaw o'n niwl un milwr tal
O'r hen oes fud i Roncesvalles."
Atgoffa'r bardd hwy am Siarlymaen, Roland a'i wŷr, mawredd Ffrainc a gwychder Ysbaen, ond dyma'r ateb a ddaw o'r mynyddoedd:
"Niwloedd a nos, y sêr a'r wawr,
Yn Roncesvalles y rhain sy fawr."
Ond os anghofiodd y mynyddoedd y stori, erys y chwedl hyd heddiw mewn llawer gwlad a llawer iaith.
Nodiadau
[golygu]
Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.