Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala (testun cyfansawdd)

gan Robert Owen, Pennal

I'w darllen pennod wrth bennod gweler: Ysgolfeistriaid Mr Charles o'r Bala

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Robert Owen, Pennal
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Charles
ar Wicipedia









YSGOLFEISTRIAID

MR. CHARLES O'R BALA.

GAN Y

PARCH. ROBERT OWEN, M.A.,
PENNAL.

~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~~

DOLGELLAU:

ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS. SMITHFIELD LANE.

1898.

RHAGYMADRODD.

YMDDANGOSODD y penodau hyn mewn ffurf o ysgrifau yn y Drysorfa am 1895, 1896, 1897. Cyflwynir hwy yn awr i'r darllenydd mewn ffurf ddiwygiedig, gyda rhai ychwanegiadau.

Un o gynlluniau mwyaf llwyddianus Mr. Charles er llesoli ei gydgenedl ydoedd sefydliad yr Ysgolion Rhad Cylchynol. Hanes yr Ysgolion hyn mewn gwirionedd ydyw hanes dechreuad y Deffroad Cenedlaethol yn Nghymru, yn enwedig yn Ngogledd Cymru.

Anhawdd ydyw cyfeirio at yr un cyfnod pwysicach yn hanes crefyddol Cymru, na'r cyfnod a gynwysir yn y drafodaeth hon, sef yr ugain mlynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf, a'r ugain mlynedd cyntaf o'r ganrif bresenol.

Po fwyaf a chwilir i hanes Mr. Charles, mwyaf yn y byd yr ymddengys ei amrywiol ragoriaethau. Llefara calon y dyngarwr yn groew yn holl hanes yr Ysgolion Cylchynol. Y mae y dynion cywir fu yn ysgolfeistriaid cyflogedig gan Mr. Charles hefyd yn llefaru eto yn eu cymeriad a'u gwaith.

Amcanwyd yn y penodau hyn roddi y llinellau amlycaf yn hanes yr Ysgolion Cylchynol.

Caiff y darllenydd beth gwybodaeth pellach ar y mater yn Nghofiant y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, gan y Parch. Jonathan Jones, Llanelwy, tudal. 136-140; a Chofiant Owen Owens, Cors-y-wlad, gan y Parch. Henry Hughes, Brynkir, tudal. 71, 72.

ROBERT OWEN.

PENNAL,
Ebrill 26ain, 1898.

CYNWYSIAD

——————♦——————

Rhagymadrodd

Cynwysiad

Yr Ysgolion Cylchynol yn dechreu yn 1785—Y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn "Seren fore y Diwygiad "—Y cynorthwyon at yr Ysgolion—Dyled y Cymry i'r Saeson—Cyflog yr Ysgolfeistriaid—Llythyr ynghylch eu llwyddiant—Byr olwg ar lafur 20 mlynedd—Hen ysgrifau Lewis William, Llanfachreth—Llythyr Mr. John Jones, Penyparc, o berthynas i'r Ysgol Gylchynol

Y Parch, Dr. O. Thomas yn Nghynadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn y Bala, yn 1885—Yr Ysgolfeistriaid cyntaf Mr. Charles a'r Ysgolfeistriaid yn un a chytun—Tystiolaeth Lewis William — Tystiolaeth Lewis Morris, Coedygweddill—Dirgelwch llwyddiant Mr. Charles—John Davies, y Cenhadwr Cymreig cyntaf—Ei hanes—Yn cychwyn i Ynysoedd Mor y De yn 1800—Ei lafur a'i lwyddiant fel Cenhadwr—John Hughes, Pontrobert, yn un o'r Ysgolfeistriaid—Yn gorfoleddu yn y Cyfarfod Misol y dechreuodd bregethu—Helyntion hynod ei fywyd—Sylw Dr. Lewis Edwards, y Bala, am dano.

PENOD III.—YR YSGOLFEISTRIAID YN DYFOD YN BREGETHWYR—

Rheolau Mr. Charles i'r Ysgolfeistriaid—Llythyr at Mr. Charles oddiwrth Gymdeithas Genhadol Llundain yn 1799—Cymru yn Baganaidd—Ysgolfeistriaid Griffith Jones, Llanddowror, yn amser Howell Harries—Y Parch. Robert Roberts, Clynog, yn rhestr yr Ysgolfeistriaid—crwydriadau boreuol John Ellis, Abermaw—Yn cael ei gyflogi gan Mr. Charles—Yn byw yn Abermaw, ac yn dechreu pregethu—Yn cael ei rwystro i bregethu yn Llwyngwril gan Lewis Morris yn 1788—Yn cadw Ysgol yn Brynygath, Trawsfynydd—Lewis Morris yn Ysgol Brynygath—Mr. Charles yno yn pregethu—Trwydded gyfreithiol John Ellis

Pedwar pregethwr cyntaf Gorllewin Meirionydd—William Pugh, Llechwedd—Ei gartref—Ei droedigaeth—Maesyrafallen, y lle y pregethid gyntaf gan yr Ymneillduwyr—Yn cadw yr Ysgol Gylchynol yn Aberdyfi—Milwyr yn ei ddal yn ei dŷ—Darluniad o agwedd y wlad gan Robert Jones, Rhoslan—Mr. Charles ar fater yr Erledigaeth fawr yn 1795—Yr Erledigaeth ffyrnicaf yn ardaloedd Towyn, Meirionydd—Y milwyr yn methu dal Lewis Morris Ymwared yn dyfod o'r Bala—Chwarter Sessiwn Sir Feirionydd, 1795—Diwedd oes William Pugh

Yr Ysgolfeistriaid yn dianc rhag cael eu herlid—Eu dull o symud o fan i fan—Tystiolaeth y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yn "Nrych yr Amseroedd "—Meirion a Threfaldwyn yn cael yr Ysgolion gyntaf—Y Parch. Thomas Davies, Llanwyddelen— Bore oes y Parch. Robert Evans—Yn cychwyn o'r Bala yn 1807—Yn cyflawni gwrhydri yn ngwaelod Sir Drefaldwyn— Blaenffrwyth y Diwygiad yn ngwaelod y Sir — Darluniad Robert Evans o'r wlad o gylch 1808—Llythyr Mr. Charles— Robert Evans yn symud i Lanidloes—Yn ddiweddaf oll i Aberteifi

Dyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala—Bore oes Daniel Evans—Olwynion Rhagluniaeth—Angel yn talu dyled—Dysgu y plant heb eu curo—Tro cyfrwys yn y Gwynfryn—Yn pregethu y tro cyntaf, yn 1814—Yn yr Ysgol, yn Ngwrecsam—Yn priodi, ac yn ymsefydlu yn Harlech—Fel pregethwr—Yn oen ac yn llew—Yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meir— ionydd—Gweithrediadau y Cyfarfod Misol yn ei amser—Blyn— yddoedd olaf ei einioes

Richard Owen y gweddiwr hynod—Mr. Charles mewn perygl am ei fywyd—Darluniad o ffordd Mynydd Migneint—Richard Owen yn gweddio am estyniad o 15 mlynedd at oes Mr. Charles Hanes bywyd Richard Owen — Bore oes Thomas Owen—Ei hanes yn dechreu pregethu—Cynghorion Mr. Charles a'i dad ei hun iddo—Yu dechreu cadw yr Ysgol Gylchynol yn 1802—Helbul yn Ysgol Llanfor—Yn enill llawer at Grist—Odfa galed yn Abergynolwyn—Hynodrwydd ei fywyd.

Hunangofiant Richard Jones—Helyntion Maentwrog yn nyddiau ei febyd — Yn symud i'r Bala yn 1800—Yn dyfod at grefydd — Yn dyfod yn un o Ysgolfeistriaid Mr. Charles—Yn dechreu pregethu yn Nhrawsfynydd—Yn ymsefydlu yn y Bala yn 1829—John Roberts, Llangwm, mewn Cyfarfod Misol yn Nolyddelen—Cyfarfod Misol yn Nhrawsfynydd—John Griffith Capel Curig, ac Owen William, Towyn

Humphrey Edwards yn parhau ar hyd ei oes yn Ysgolfeistr— Yn cael ei argyhoeddi wrth wrando Dafydd Morris, Tŵr Gwyn —Yn cael ei adnabod gan Mr. Charles—Yn dyfod i Landynan i gadw Ysgol—Gorfoledd ymhlith y plant amryw droion—Yn foddion i roddi i lawr chwareuon ofer—Yn atal ymladd gornest ar fynydd Hiraethog, ac ar y Berwyn—Yn flaenor ymhob man—Yn arweinydd i John Evans, New Inn, i Bont yr Eryd—Yn Nghyfarfod Jiwbili yr Ysgol Sul yn 1848—Yn marw yn 1854 www

Thomas Meredith, Llanbrynmair—Abraham Wood—Llanfairpwllgwyngyll yn Mon—Mari Lewis, yr Ysgolfeistres—Bore oes John Jones, Penyparc—Owen Jones, y Gelli—John Jones, y blaenor cyntaf—Ysgrifenydd cyntaf y Cyfarfod Ysgolion— Ei lythyrau ar faterion yr Ysgol Rad—Y Cyfarfodydd Ysgolion yn cychwyn gyntaf yn Bryncrug—Deddf-roddwr Sir Feirionydd—Ei goffadwriaeth.

Dywediad Dr. Owen Thomas am dano—Dywediad Mr. R. Oliver Rees—Lle ei enedigaeth—Ei hanes am ei fam—Yn myned i'r Seiat — Gyda'r Militia—Yn was ffarm—Yn dysgu plant yn Llanegryn—Yn chware soldiers bach Mr. Charles yn ei holi a'i gyflogi yn y flwyddyn 1799—Ei gysylltiad cyntaf â Llanfachreth—Yn athraw ar Mary Jones yn 1800

Cyfarfyddiad olaf Lewis William â Mr. Charles—Yr ymddiddan rhyngddynt—Cylch ei lafur gyda'r Ysgol—Ei grefyddoldeb—Ei lythyr o Aberdyfi—Ei ymddiddan â Marchog y Sir—Yn cadw Ysgol Madam Bevan yn Celynin yn 1812—Gorfoledd yn Ysgol Bryncrug—Yn ffarwelio a'r capel yno—Yn ail gychwyn yr Ysgol yn Nolgellau yn 1802—Yn priodi yn 1819—Yn ymsefydlu yn Llanfachreth—Yn dechreu pregethu yn 1807— Sabboth yn Nhanygrisiau—Engreifftiau o'i ddull yn rhoi ei gyhoeddiadau—Ei ddiwedd gogoneddus yn 1862

YSGOLFEISTRIAID MR. CHARLES

O'R BALA.

——————♦——————

PENOD I.

——————

CAN MLYNEDD YN OL.

Yr Ysgolion Cylchynol yn dechreu yn 1785—Y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn "Seren fore y Diwygiad "—Y cynorthwyon at yr Ysgolion—Dyled y Cymry i'r Saeson—Cyflog yr Ysgolfeistriaid—Llythyr ynghylch eu llwyddiant—Byr olwg ar lafur 20 mlynedd—Hen ysgrifau Lewis William, Llanfachreth—Llythyr Mr. John Jones, Penyparc, o berthynas i'r Ysgol Gylchynol

MAE crybwyllion wedi eu gwneuthur ddeuddeng mlynedd yn ol, mewn cysylltiad â chyfarfodydd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, a thrachefn tra yr oeddid yn galw sylw arbenig at hanes y Cyfundeb ar ben ei Drydedd Jiwbili, at y cyfryngau a ddefnyddiodd Mr. Charles o'r Bala, ac a fendithiwyd mor neillduol gan Ragluniaeth, i beri diwygiad tra mawr mewn gwybodaeth a chrefydd trwy amrywiol Siroedd Cymru. Un o'r cyfryngau, a'r cyntaf oll mewn trefn yn gystal ag amser, ydoedd yr Ysgolion Dyddiol Cylchynol. Tra mae hanes dechreuad a chynydd yr Ysgolion Sabbothol bellach yn weddol hysbys, nid ydyw hanes yr ysgolion hyn, a'r daioni a gynyrchwyd drwyddynt, mor hysbys ag a fyddai yn fuddiol. Er cael syniad oreu gellir am gynydd yr Ail Gyfnod yn hanes y Cyfundeb, ac er deall y sefyllfa fel y dywedir ar bethau y pryd hwnw, da fyddai pe ceid gwybod tipyn ychwaneg am y gweithredoedd daionus a wnaeth Mr. Charles trwy gyfrwng yr Ysgolion Rhad Cylchynol.[1]

Y mae addysg erbyn y dyddiau hyn yn boblogaidd—Addysg Elfenol, Ganolraddol, Uwchraddol, Athrofaol—rhaid cael addysg bellach cyn y bydd meibion a merched yn gymwys i droi allan i'r byd. Nid oes obaith i enill bywioliaeth gysurus, nac i fod yn ddefnyddiol mewn unrhyw gylch o gymdeithas, heb gael addysg. Nid yw yn bosibl i rinwedd na chrefydd wreiddio yn y ddynoliaeth heb ryw gymaint o hyfforddiant pan yn ieuanc. Ond mor hynod o dywyll ac anwybodus oedd hynafiaid yr oes oleu hon! Ac heb symud y caddug o dywyllwch yn gyntaf, a rhoddi graddau o oleuni gwybodaeth i drigolion y wlad, oeddynt gan' mlynedd yn ol i fesur mawr yn baganaidd, anhawdd, a nesaf peth i anmhosibilrwydd, oedd eu troi oddiwrth arferion drygionus, a'u hofer ymarweddiad. Gwelodd Mr. Charles hyn, a theimlodd i'r byw fod cyflwr ei gydgenedl mor resynus o isel. Ac ar unwaith mae yn rhoddi cynlluniau ar waith i wella cyflwr y wlad. Beth oedd natur, a chynllun, ac eangder yr ysgolion y mae genym hanes am danynt yn y cyfnod hwn? Pwy oedd yr ysgolfeistriaid fu yn ngwasanaeth Mr. Charles? Beth fu maint y daioni a gynyrchwyd trwy offerynoliaeth yr ysgolion? Ceisio rhoddi rhyw fath o atebiad i'r cyfryw gwestiynau fydd amcan y sylwadau dilynol.

Ychydig ydyw y pellder rhwng amser dechreuad yr Ysgolion Cylchynol a'r Ysgolion Sabbothol. Yn hytrach, rhoddwyd cychwyniad i'r naill a'r llall yr un adeg, sef yn 1785, y flwyddyn yr ymunodd Mr. Charles a'r Cyfundeb. Yr un oedd yr angen am y naill a'r llall, a'r un oedd yr amcan i ymgyrhaedd ato trwy y naill fel y llall. Y gwir amcan ydoedd dysgu plant a phobl Cymru i ddarllen ac i ddeall y Beibl yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd y ffordd wedi ei chau i fyny, i raddau pell, yn erbyn y gobaith i'r Efengyl gyraedd meddyliau a chalonau y bobl, oherwydd yr anwybodaeth a'r tywyllwch oedd yn teyrnasu dros yr holl wlad. Paham, gellid gofyn, na buasai Mr. Charles yn sefydlu Ysgolion Sabbothol yn gyntaf, yna yr ysgolion dyddiol wedi hyny? Yr ateb ydyw, nad oedd fawr neb i'w cael o blith y bobl yn un man a fedrai air ar lyfr, ac felly anmhosibl oedd cael athrawon i addysgu yn yr Ysgolion Sabbothol. Trwy ddechreu fel y gwnaed, fe ddechreuwyd yn y dechreu, gan ddarparu yn gyntaf oll athrawon i addysgu y rhai na fedrent ddarllen.

Mae yn wybyddus i Mr. Charles, yn union wedi iddo ymuno a'r Methodistiaid, cyn diwedd y flwyddyn 1785, fyned ar daith i bregethu trwy Ogledd Cymru, yn ol y drefn oedd yn arferedig yn y Corff o'r dechreuad, ac iddo yn ystod y daith hono weled cyflwr gresynus y wlad. "Nid oedd," meddai ef ei hun, "ond prin un o ugain, mewn amryw fanau, yn medru darllen yr Ysgrythyrau; ac mewn ambell barth, yn ol ymofyniad penodol, anhawdd oedd cael cymaint ag un wedi ei ddysgu i ddarllen." (Cofiant gan y Parch. T. Jones, tu dal. 168.) Gweled hyn a gynhyrfodd ei ysbryd, ac a barodd iddo deimlo hyd ddyfnder ei enaid, o herwydd cyflwr gresynus ei gydgenedl. Pa beth oedd i'w wneyd er adferu cenedl o bobl o'r fath ddyfnder o dywyllwch? Dyma fater digon mawr i Gymdeithasfa neu Senedd y wlad i ymaflyd ynddo. Ond tra nad oedd y naill na'r llall yn meddwl nac yn amcanu at y fath waith dyngarol, y mae Mr. Charles yn mentro yr anturiaeth ei hunan.

Hysbys ydyw i'r Parch. Griffith Jones, Llanddowror, lafurio yn llwyddianus i roddi addysg i werin Cymru yn ei amser ef. Teilynga enw y gŵr hwn fod yn fwy adnabyddus, oblegid saif ef ochr yn ochr â diwygwyr ardderchog ei wlad. Mae yn cael ei alw yn "Seren fore y Diwygiad," am ei fod y cyntaf o'r diwygwyr a'i oleuni yn goleuo ar doriad y wawr, ychydig cyn i'r tadau Methodistaidd gychwyn ar eu gwaith. Yr oedd yn cydlafurio à Howell Harries a'r Diwygwyr eraill am dymor, gyda'r gwahaniaeth nad oedd ei lafur personol ef ddim ond lleol, ac yn gwbl o fewn cylch yr Eglwys Sefydledig. Efe yn gyntaf a sefydlodd Ysgolion Cylchynol, y rhai a fu bron yr unig gyfryngau i ledaenu addysg elfenol trwy Gymru am flynyddau lawer. Buont yn flodeuog o dan ei arolygiaeth ef am ddeng mlynedd ar hugain—rhwng 1730 a 1760. Yr oedd dros 200 o'r ysgolion hyn yn Nghymru, y nifer liosocaf mae'n wir yn y Deheudir, y flwyddyn y bu Mr. Jones farw. Trosglwyddodd ef yn ei ewyllys £7000 i ofal Lady Bevan, gwraig foneddig yn berchen cyfoeth a duwioldeb, yr hon a fu yn cydgario ymlaen yr Ysgolion âg ef yn ystod ei ddydd. Cysegrodd hithau ei heiddo a'i thalent i'w cario ymlaen yn yr un llwybr, a chyda yr un amcan ag y gwnaethai y periglor duwiol o Landdowror yn flaenorol. Ysgolion Madam Bevan y gelwid hwy wedi hyny hyd ddiwedd ei hoes hi ac am flynyddoedd wedi hyny. Yn y cyfnod hwn, ac yn ngwasanaeth y wraig foneddig hon, y bu y Parch. Robert Jones, Rhoslan, hanesydd cyntaf y Methodistiaid, yn cadw ysgol—un o'r Ysgolion Cylchynolyn Sir Fflint, yn Mryn Siencyn yn Môn, a Brynengan a manau eraill yn Sir Gaernarfon. Yn y tymor hwn hefyd y daeth Henry Richard, o Sir Benfro, i gadw Ysgol Rad Mrs. Bevan, i blwyf Llanaber, Abermaw, a'i gynghorion ef i'r plant yn yr ysgol ddyddiol a fu yn foddion i roddi y cychwyniad cyntaf i Fethodistiaeth yn Abermaw[2]. Yr oedd yr Henry Richard crybwylledig yn dad i'r Parchn. Ebenezer a Thomas Richard, ac yn daid i'r Apostol heddwch, sef y diweddar Henry Richard, A.S. Gadawodd Madam Bevan holl eiddo Griffith Jones, a gweddill ei hetifeddiaeth ei hun, tuag at barhau yr Ysgolion Cylchynol ar ol ei dydd hithau, ond darfu i un o'r ymddiriedolwyr o dan ei hewyllys wrthod trosglwyddo yr arian i'r amcan hwnw, a chauwyd yr ysgolion oll i fyny yn 1779, hyd nes y daeth y Scheme i weithrediad drachefn yn 1809. Yr oedd yr unig ffynhonell i gyfranu addysg i dlodion a gwerin Cymru yn awr wedi darfod pan y darfyddodd Ysgolion Madam Bevan yn 1779.

Yn yr ystad hon, heb fod odid yr un ysgol yn yr holl wlad, y cafodd Mr. Charles Ogledd Cymru ar ei ymsefydliad yn y Bala. Clywsai yn nyddiau ei febyd, mae yn bur sicr, am Ysgolion Cylchynol Mr. Griffith Jones, oblegid yr oedd wedi ei eni a'i fagu yn agos i Landdowror, ac yr oedd yn bump oed pan fu y gwr enwog hwnw farw. Mae yntau ei hun yn dechreu ar waith cyffelyb yn y Bala, yn y flwyddyn 1785. Anturiaeth ydoedd hon a fuasai yn digaloni unrhyw ddyn heb ei fod yn meddu ffydd gref, ac awydd angerddol i lesoli ei gydgenedl. Nid oedd ganddo neb ond ei hunan yn yr anturiaeth: efe oedd yn cynllunio, ac yn trefnu, ac yn arolygu yr ysgolion. Bychan oedd y dechreuad o angenrheidrwydd; a pha fodd y gallesid disgwyl i gyfnewidiad mawr gymeryd lle mewn gwlad gyfan o ddechreuad mor fychan? O ba le yr oedd yr athrawon i'w cael? Ac wedi cael yr athrawon, o ba le yr oedd eu cynhaliaeth i ddyfod? Cwestiynau oedd y rhai hyn i ffydd yn unig i'w hateb. Mae ef ei hun yn adrodd am y cychwyniad cyntaf, mewn llythyr a ysgrifenwyd ganddo at gyfaill yn Llundain:—

"Rhoddais y cynyg o flaen ychydig gyfeillion am ddechreu ar gydgynorthwyad, at dalu cyflog i ysgolfeistr; a hwnw i gael ei symud o le i le ar gylch, i ddysgu y tlodion i ddarllen, a'u hyfforddi yn mhrif egwyddorion Cristionogaeth, trwy eu catecisio. Yn y flwyddyn 1785 y dechreuodd y gwaith hwn. Ar y cyntaf ni roddwyd ond un ysgolfeistr ar waith; ond fel y cynyddodd y cynorthwyon yr oedd amlhad ar yr ysgolion, hyd onid oeddynt yn ugain o nifer. Rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf bu raid i mi fy hun eu dysgu; hwythau wedi hyny a fuont ddysgawdwyr i eraill a anfonais atynt i ddysgu bod yn Ysgolfeistriaid."

Yr oedd y cynorthwyon tuag at gynal yr ysgolion yn dyfod, yn benaf, oddiwrth ewyllyswyr da o Loegr, yn foneddigion a boneddigesau, ac oddiwrth rai personau yn Nghymru. Yn y Drysorfa Ysbrydol am Hydref, 1800, y mae Mr. Charles yn cydnabod derbyniad y swm o £470, sef arian wedi eu gadael mewn ewyllys gan D. Ellis, yn mhlwyf Helygen, Sir Fflint, tuag at yr amcan hwn. Yr oedd Mr. Charles ei hun hefyd yn cyfranu yn haelionus tuag at gynal yr ysgolion. Dywed ei fod yn rhoddi yr oll a dderbyniai oddiwrth ei wasanaeth ynglŷn a'r achos yn y Bala tuag at eu cario ymlaen, tra yr oedd yn cael ei gynal ei hun trwy ddiwydrwydd ei wraig, yr hon a arolygai orchwylion y siop a'r fasnach a gedwid ganddi. Nid ychydig oedd yr anhawsderau a'i cyfarfyddai yn yr ystyr yma, oblegid wedi iddo fwrw ei goelbren ymysg y Methodistiaid, pobl dlodion oedd y rhai hyny fel rheol, ac o ganlyniad yn ofer y dysgwyliai am fawr o help arianol oddiwrthynt hwy. Yr oedd yn wahanol gyda Mr. Griffith Jones, Llanddowror, yn ei ymdrech i sefydlu ei Ysgolion Cylchynol ef, driugain mlynedd yn flaenorol. Yr oedd ef yn aelod o'r Eglwys Sefydledig, i'r hon y perthynai, mewn enw o leiaf, fawrion y tir, ac yn yr hon yr oedd cyfoeth y wlad. Heblaw hyny, gorfu i Mr. Charles wynebu erledigaeth lawer, nid yn unig oddiwrth bobl anwybodus, ond oddiwrth yr Eglwys ei hun, a'r clerigwyr, ac uchelwyr ei wlad. Nid oedd ganddo ond troi ei wyneb at gyfoethogion crefyddol y tu allan i Gymru. Ac fe ddarfu llawer yn ewyllysgar ei gynorthwyo â'u rhoddion gwirfoddol, heb yr hyn nis gallasai gario ymlaen ei gynllun. Deuai y rhoddion weithiau trwy iddo apelio am danynt, pryd arall deuent heb eu ceisio, gan i'r son am y daioni a wnaethid trwy yr Ysgolion gyraedd clustiau cyfoethogion, trwy gylchoedd eang. Y mae llythyrau ar gael oddiwrth ei gynorthwywyr yn yr achos hwn ato ef, ac oddiwrtho yntau atynt hwythau. Y mae llythyr oddiwrtho i'w weled yn yr Evangelical Magazine, tua deuddeng mlynedd wedi iddo ddechreu ar y gorchwyl hwn yn diolch yn gyhoeddus i foneddwr a alwai ei hun G. T. G., am ei rodd haelionus o £50 tuag at gynal a thaenu yr Ysgolion Rhad Cymreig. Ac yn yr un llythyr efe a ddywed:—"Y mae yr Arglwydd wedi gwneuthur llawer erddom, ond y mae arnom eisieu, ac yr ydym yn taer erfyn am y fendith yn barhaol." Tuag ugain mlynedd yn ol, pan yr oedd ymdrechion neillduol yn cael eu gwneuthur i sefydlu yr Achosion Seisnig yn Nghymru, dygai y diweddar Barchedig Ddoctor Edwards, o'r Bala, y ffaith fod y Cymry yn ddyledwyr i'r Saeson, ymlaen fel un o'r rhesymau cryfion dros i ni fod yn bleidiol i'r Achosion hyn. Darfu i lawer o'r Saeson anfon eu rhoddion i Gymru i gynorthwyo Mr. Charles i gynal ysgolion, er goleuo a dysgu tlodion y wlad, ac i godi y wlad o dywyllwch ofergoeliaeth a phaganiaeth. Trwy eu haelioni hwy a llafur egnïol y tadau, o dan fendith yr Arglwydd, yr ydym ni, er's llawer o amser, yn mwynhau rhagorfreintiau crefyddol mor fawr. Onid oes yma le rhesymol a chryf, pe na buasai dim arall, dros i ninau gynorthwyo y Saeson i gael manteision crefyddol yn ein gwlad yn yr oes hon?

Bu llafur Mr. Charles gyda'r Ysgolion Dyddiol Cylchynol yn fawr iawn. Arno ef yr oedd y gofal i chwilio am athrawon, eu symud o fan i fan yn yr amser priodol, arolygu yr ysgolion, holwyddori y plant, dysgu llawer o'r athrawon ei hun, chwilio am foddion eu cynhaliaeth, talu cyflogau i'r athrawon, cario ymlaen ohebiaeth â'r gwahanol ardaloedd, ac â'r rhai a'i cynorthwyent yn y gwaith. Ei amcan cyntaf oedd am i'r athrawon fod o gymeriad pur, duwiol ac ymroddgar. A chytuna pawb fod ei graffder yn hynyma yn nodedig, gan i lawer o'r dynion a gyflogodd fel athrawon, fel y ceir gweled yn mhellach ymlaen, droi allan yn ddefnyddiol ac enwog gyda chrefydd. Ar y cyntaf £8 oedd y cyflog a roddai i'r athrawon; wedi hyny daeth angenrheidrwydd ei godi i 12 a 15 y flwyddyn. Dynion o amgylchiadau isel oeddynt o ran moddion, ac yr oedd hyny yn gymhwysder neillduol ar gyfer y lleoedd yr elent iddynt, a'r cyflog a dderbynient. Byddent yn cael eu llety a'u hymborth yn fynych yn rhad, a chan amlaf am ddim. Ychydig amser yn ol yr oedd rhai personau yn Sir Feirionydd yn cofio y byddent yn cael eu cadw, o ran bwyd a llety, yn y ty hwn am fis, ac yn y ty arall am fis drachefn; ac elent yn eu tro i'r gwahanol ffermdai, heb dalu dim tra yr arosent mewn ardal. Cymraeg yn unig a ddysgid yn yr Ysgolion, ac yr oedd y llyfrau yn gwbl o natur elfenol a chrefyddol—llyfrau Griffith Jones, Llanddowror, hyd nes y cyhoeddodd Mr. Charles ei lyfrau ei hun. Cynelid ysgolion nos hefyd yn yr wythnos, er mwyn i'r rhai mewn oed, nas gallent adael eu gorchwylion y dydd, gael y fantais o ddysgu darllen. A thrwy gynorthwy yr ysgolion dyddiol a'r ysgolion nos y cychwynid ac y cynelid Ysgolion Sabbothol ymhob cymydogaeth. Tri, chwech, neu naw mis yn unig yr arosai yr ysgolfeistr mewn ardal, ac yna symudid ef i ardal arall; ac oddiwrth hyn y cafodd yr ysgolion eu galw yn Ysgolion Cylchynol.

Cynyddodd yr Ysgolion, fel y crybwyllwyd, o un i ugain o nifer. Bu eu cynydd mor gyflym, a'r llwyddiant a'u dilynodd mor fawr, nes peri syndod a llawenydd annhraethol i'w sylfaenydd enwog ei hun. Efe a ysgrifena, ymhen y deuddeng mlynedd ar ol eu cychwyniad, yn y geiriau canlynol:— "Y maent wedi llwyddo tuhwnt i'm disgwyliad; y galwad am ysgolfeistriaid a fawr amlhaodd; ac y mae cyfnewidiad amlwg yn egwyddorion a moesau y bobl y bu yr Ysgolion yn eu plith. Yn raddol fe gynyddodd nifer y dysgawdwyr hyd yn ugain. Gosodais Ysgolion Sabbothol ac ysgolion y nos ar droed, er mwyn y rhai yr oedd eu gorchwylion a'u tlodi yn eu hatal rhag dyfod i ysgolion y dydd. Pa ymgais bynag o'r natur hwn a wnaethom, fe lwyddodd yn rhyfedd, nes llenwi y wlad o ysgolion o ryw fath neu gilydd, ac yr oedd pawb yn cael eu dysgu ar unwaith. Yr effeithiau daionus oeddynt yn gyfatebol; difrifwch cyffredinol ynghylch pethau tragwyddol a gymerodd le mewn aml ardal helaeth; llawer o ganoedd a gawsant eu deffroi i deimlo eu pechod a'u heisieu o Grist; ac y mae genyf bob rheswm i goelio eu bod heddyw yn ddilynwyr ffyddlon iddo." Gellir yn hawdd gredu na fu cymaint o lwyddiant ar ddim symudiad daionus o eiddo y Cyfundeb, yn ystod y 150 o flynyddoedd ei hanes, na'r hyn a ddilynodd yr Ysgolion Cylchynol hyn, oddieithr y llwyddiant a ddilynodd ymdrechion Harries a Rowlands, ar doriad allan cyntaf y Diwygiad. Dywed y Dr. Lewis Edwards am Mr. Charles yn y cysylltiad hwn, "Pe na buasai wedi gwneyd dim ond a wnaeth gyda'r Ysgolion Dyddiol, buasai hyn yn unig yn gymaint ag a wnaeth rhai yr ysgrifenwyd cyfrolau am danynt yn Lloegr."

Ymhen ychydig gydag ugain mlynedd pallodd y cynorthwyon a ddeuent o Loegr tuag at gynaliaeth yr Ysgolion Cylchynol. Y mae dau beth a roddant gyfrif am hyny. Yn un peth, wedi sefydlu Ysgolion Sabbothol mor gyffredinol trwy bob rhan o'r wlad, coleddid y dybiaeth nad oedd angen mwyach am yr Ysgolion Dyddiol. Peth arall ydoedd, ddarfod i'r ffaith fod casgliadau mor helaeth wedi dyfod o Gymru i Lundain tuag at y Feibl Gymdeithas, y blynyddoedd cyntaf ar ol ei sefydliad, beri i'r Saeson gredu nad oedd ar bobl a allent gasglu cymaint o arian eu hunain, ddim angen am help. Am yr ymresymiad olaf, fe ddywed Mr. Charles wrth ei ohebwyr mai peth eithriadol oedd casgliadau y Cymry y pryd hwn- Yr oedd yn eithaf rhesymol iddynt deimlo yn gynes tuag at Gymdeithas a ddaeth â chyflawnder o Feiblau i'w gwlad. Ac am y cyntaf dywed, er nad oedd yr angen am Ysgolion Dydd- iol yn gymaint ag yn y dechreu, eto fod ganddo o chwech i ddeg o athrawon yn y flwyddyn 1808, ac nad oedd yn ei law y flwyddyn hono haner digon o arian tuag at ddwyn eu traul. Ychwanega hefyd fod amryw fanau tywyll, mewn parthau gwledig, hyd y pryd hwnw, ac mai yr unig feddyginiaeth ar eu cyfer oedd yr ysgolion dyddiol. Heblaw hyny, yr oedd ef ei hun yn argyhoeddedig fod angen anfon yr ysgolfeistriaid drachefn a thrachefn trwy y parthau yr oeddynt wedi bod ynddynt, er mwyn ail—enyn sel a ffyddlondeb gyda'r gwaith oedd wedi ei ddechreu. Parhaodd i gredu hyd ddiwedd ei oes fod addysg ddyddiol yn gystal ag addysg Sabbothol yn hanfodol angenrheidiol i gynydd gwareiddiad a llwyddiant yr efengyl; a pharhaodd yr ysgolion a gychwynwyd ganddo ef i gael eu cario ymlaen, mewn rhyw wedd neu gilydd, hyd ddiwedd ei oes, ac ymhell wedi iddo ef fyned i orphwys oddi— wrth ei lafur.

Oddeutu adeg Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn 1885, daethpwyd o hyd i sypyn mawr o hen ysgrifau un o'r rhai ffyddlonaf o ysgolfeistriaid Mr. Charles, sef Lewis William, Llanfachreth, ac yn yr hen ysgrifau ceir llawer o gyfeiriadau at yr Ysgolion Cylchynol, ac at yr hyn a ddywed eu sylfaenydd enwog ei hun am danynt. Yn y dosbarth o Orllewin Meir— ionydd, rhwng afon Abermaw ac Afon Dyfi, lle y treuliodd Lewis William lawer o'i amser fel ysgolfeistr, ymddengys y byddai y gwahanol ardaloedd yn cynorthwyo eu gilydd i gynal ysgol y cylch, pan y pallodd y cymorth oddiwrth y cyfeillion elusengar o Loegr. Profa yr hen ysgrifau wirionedd y cyfeiriadau a geir yn llythyrau Mr. Charles, y rhai a ysgrifenodd tua'r flwyddyn 1808. Dyma y cofnodiad yn un o'r ysgrifau:—

"Coffadwriaeth am yr hyn a dderbyniwyd at gynal yr ysgol yn y flwyddyn

1808:— Bryncrug, £2 8s.; John Jones (Penyparc), 1 1s.; Dyfi, £2 10s. 6c.; Pennal, £2 6s. 9c.; John Morris (Pennal), 6s.; Corris, 10s. 6c.; Cwrt, £1 1s.; Towyn, 10s. 6c.; Llwyngwril 10s.; Mr. Vaughan (Bwlch), £1 1s. = £12 11s 3c."

Yr oedd teimlad yr eglwysi wedi ei enill erbyn hyn o blaid yr ysgol ddyddiol. Gwneid y casgliad tuag ati yn chwarterol, weithiau yn gyhoeddus yn y gynulleidfa, dro arall trwy fyned o amgylch yr ardal i gasglu. Weithiau gosodid yn ngofal y personau a benodid i gasglu, i gymell pawb i ddyfod i'r Ysgol Sul, ac ni adewid neb heb gymhelliad i ddyfod yn aelodau o honi. Telid rhyw gymaint gan y rhieni dros y plant, y pryd hwn, yn enwedig os byddent am ddysgu Saesneg. Mewn rhai engreifftiau ymrwymai personau unigol am gyflog i'r ysgolfeistr ymlaen llaw. Rheolau syml oedd y rheolau, a gofelid, yn benaf dim, i osod gwedd grefyddol ar yr holl addysg a gyfrenid yn yr ysgolion. Mewn cyfarfod athrawon y dosbarth ceir y sylw canlynol,—"Bwriwyd golwg ar Ysgol y Cylch. Ystyriwyd fod ei hamser ar ben yn Llanegryn, Gorphenaf 4ydd, a'i bod i ddechreu un ai yn Llanerchgoediog ai Bryncrug—hyn i gael ei derfynu rhwng John Jones a Harri Jones y Sul nesaf."

Y mae un weithred dda yn arwain i rai eraill. Ac y mae y tebyg yn cynyrchu ei debyg mewn hanesiaeth, yn gystal ag mewn natur a chrefydd. Cynyrchodd yr Ysgolion Cylchynol dueddfryd mewn eraill, yn ngwahanol barthau y wlad, i gyfodi ysgolion o radd wahanol. Bu Evan Richardson, Caernarfon; Michael Roberts, Pwllheli; John Roberts, Llangwm; yn cadw ysgolion dyddiol; pa un a oedd rhyw gysylltiad rhwng y rhai hyn â'r Ysgolion Cylchynol nid ydyw yn hawdd penderfynu. Ac eraill lawer a'u dilynasant hwy, fel y gellir dweyd fod y gareg a daflodd Mr. Charles i'r llyn, yn 1785, yn para i yru y tonau yn eu blaen hyd heddyw.

Yn yr hen ysgrifau y cyfeiriwyd atynt, ceir profion ychwanegol fod yr Ysgolion Cylchynol yn cael eu cario ymlaen ymhen chwe' blynedd ar ol marw Mr. Charles, i ryw raddau yn debyg fel yr oeddynt yn ei amser ef. Ysgrifenwyd y llythyr canlynol gan Mr. John Jones, Penyparc, un o'r ysgolfeistriaid, at ysgolfeistr y cylch ar y pryd:—

"Y Brawd Lewis William,—Bydded hysbys i chwi y penderfyniadau a wnaed yn y cyfarfod brodyr nos Fawrth, y 19eg o Fedi, 1820, ynghylch yr Ysgol Gylchynol.—1. Daeth chwech o gynrychiolwyr dros yr ysgolion canlynol i ymofyn am yr ysgol; Towyn, Dyfi, Pennal, Bwlch, Bryncrug, Llanegryn. 2. Rhoisant alwad unfrydol am yr ysgol. 3. Penderfynwyd am roddi i'r athraw £4 y chwarter am ddysgu Cymraeg heb derfyn i'r rhifedi; ac i'r athraw gael rhydaid i gymeryd cymaint ag 20 i ddysgu Saesneg (os bydd galw), ac i gyfarwyddwyr yr ysgolion gael haner y pris oddiwrth y rhieni fel y cynygiasoch, ac i'r athraw gael yr haner arall. 4. Tynwyd lots pa rai o'r ysgolion a drefna Rhagluniaeth gyntaf i gael yr ysgol; a daeth y lot (1) i Dowyn, (2) Dyfi, (3) Bwlch, (4) Pennal. 5. Barnwyd y dylid casglu cyflog chwech wythnos cyn dyfodiad yr athraw i bob lle. "D. S.—Fod yr ysgol i fod chwarter ymhob lle, ac i ryw berson neu bersonau ymrwymo i'r athraw dros y rhai Cymraeg am ei gyflog, ac felly fod pob lle megys ar ei ben ei hun.—Oddiwrth eich annheilwng frawd,

JNO, JONES, Ysg. y Cylch."

Daw y tro, yn ol llaw, i roddi yn fwy uniongyrchol hanes rhai o'r Ysgolfeistriaid.

PENOD II

Y PARCH, JOHN DAVIES, TAHITI, A JOHN HUGHES, PONTROBERT.

Y Parch, Dr. O. Thomas yn Nghynadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, yn y Bala, yn 1885—Yr Ysgolfeistriaid cyntaf Mr. Charles a'r Ysgolfeistriaid yn un a chytun—Tystiolaeth Lewis William — Tystiolaeth Lewis Morris, Coedygweddill—Dirgelwch llwyddiant Mr. Charles—John Davies, y Cenhadwr Cymreig cyntaf—Ei hanes—Yn cychwyn i Ynysoedd Mor y De yn 1800—Ei lafur a'i lwyddiant fel Cenhadwr—John Hughes, Pontrobert, yn un o'r Ysgolfeistriaid—Yn gorfoleddu yn y Cyfarfod Misol y dechreuodd bregethu—Helyntion hynod ei fywyd—Sylw Dr. Lewis Edwards, y Bala, am dano.

——————

YN Nghynhadledd Canmlwyddiant yr Ysgol Sabbothol, a gynhaliwyd yn y Bala, Hydref 13, 14, 1885, rhoddodd y Parch. Dr. O. Thomas, Liverpool, enwau yr ysgolfeistriaid, sef, cynifer ag y gwyddai ef am danynt. Y pwnc y traethai efe arno yn y Gynhadledd ydoedd "Dylanwad Mr. Charles ar Addysg Grefyddol a Duwinyddiaeth Cymru;" a'r ail benawd yn ei araeth ydyw, "Y mae wedi dylanwadu ar Dduwinyddiaeth Cymru trwy ei ymdrechion i sefydlu Ysgolion Dyddiol a Sabbothol yn ein gwlad, er addysgu y bobl i ddarllen y Llyfr Dwyfol, ac i ymgydnabyddu â'i ystyr."

Diamheu nas gallesid pigo allan neb yn yr oes hon yn meddu gwybodaeth mor eang ar y mater, ac mor alluog i'w egluro gyda'r fath fedr a meistrolaeth. Ar ol dweyd nad oes rhestr gyflawn o ysgolfeistriaid Mr. Charles ar gael, y mae yn enwi y rhai canlynol a fu yn y gwasanaeth anrhydeddus hwn:

—Y Parchn. John Davies, y Cenhadwr enwog i Ynysoedd Mor y De; John Hughes, Pontrobert; Thomas Davies, Llanwyddelen; John Ellis, Abermaw; Robert Roberts, Clynnog; Lewis William, Llanfachreth; Richard Jones, y Bala; Robert Evans, Llanidloes; Daniel Evans, Harlech; Thomas Owen, Wyddgrug; Mri. David Roberts, o Fangor; John Jones, Penyparc. Meirionydd. Dyna yr oll a enwir gan Dr Thomas. Ond efe a ychwanega, "Nid ydwyf, ar hyn o bryd, yn gallu cofio am neb arall; ond y mae yn ddiamheu fod lliaws heblaw y rhai a nodwyd." Yn ychwanegol at y rhai uchod, fe fu Hugh Evans, o'r Sarnau, gerllaw y Bala; a William Pugh, Llechwedd, Llanfihangel-y-Pennant, yn Meirionydd, yn ysgolfeistriaid cyflogedig. Ychwanegir hefyd enwau Robert Morgan a Dafydd Rhisiart, a fu yn ysgolfeistriaid yn Nghorris; ac un o'r enw William Owen, o Abergynolwyn. Ond ofer, fel y crybwyllwyd, ydyw ceisio cael rhestr gyflawn o honynt. Nid yw yn debyg fod neb o'r rhai a geir yn y rhestr uchod ymhlith yr ysgolfeistriaid cyntaf a gyflogwyd. Yr oedd y rhai hyny, yn ol pob tebygolrwydd, yn y Bala, neu yn rhywle yn agos i'r Bala. Buasai yn beth dyddorol iawn i wybod pwy oedd y cyntaf un a osodwyd yn y gwaith. Tra thebyg mai un o'r Bala, neu o'r gymydogaeth, ydoedd hwnw, oblegid Mr. Charles ei hun a'i dysgodd ef i fod yn ysgolfeistr, ac ychwaneg hefyd na hwnw—"rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf bu raid i mi fy hun eu dysgu; hwythau, wedi hyny, a fuont yn ddysgawdwyr i eraill a anfonais atynt i fod yn ysgolfeistriaid."—(Cofiant gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, tu dal. 168.) Cyfododd amryw bregethwyr yn y Bala a'r cymydogaethau yn y cyfnod hwn, a diamheu i rai o'r cyfryw, os nad yr oll o honynt, fod dros ryw dymor o'u bywyd yn ysgolfeistriaid. Mr. Charles ei hun hefyd a ddywed am y cyntaf un a gyflogwyd ganddo, "Symudwyd yr anhawsder hwn," sef yr anhawsder i gael person cymwys yn ysgolfeistr, i gychwyn, "trwy i mi ddysgu dyn tlawd fy hun, a'i gyflogi ar y cyntaf i fod yn agos. ataf, fel y byddai i'w ysgol fod, mewn ystyr, o dan fy arolygiaeth wastadol." Cynyddodd nifer yr Ysgolfeistriaid o un i 20. Eu cyflog ar y cyntaf oedd £8 yn y flwyddyn; wedi hyny amrywiai o £12 i 15. Tybir y byddai Mr. Charles yn talu iddynt oll yn flynyddol oddeutu £200, a disgynai arno ef ei hun i gasglu y swm hwn tuag at dreuliau yr Ysgolion Rhad Cylchynol.

Oddeutu deng mlynedd ar hugain y bu Mr. Charles yn arolygu ac yn gofalu am yr ysgolion, ac y mae tystiolaethau ei lythyrau ef at ei ohebwyr, a'i ohebwyr ato yntau, yn profi nas gellir dangos maint eu dylanwad, na rhoddi pris ar y daioni a ddaeth i Ogledd Cymru trwyddynt. Peth amlwg yn eu hanes ydyw fod undeb a chydweithrediad a chyfeillgarwch arbenig yn bodoli rhwng yr Ysgolfeistriaid a'r gwr parchedig oedd wedi eu cyflogi i'r gwaith. Byddai ef bob amser yn amcanu i gyflogi dynion i fod yn athrawon o egwyddorion pur, cywir eu buchedd, yn meddu duwioldeb personol, ac yn llawn sel ac awydd i wneuthur daioni, pe na buasai ynddynt ddim cymhwysderau ond hyn. Ac ar ol amryw flynyddoedd o brofiad gyda dygiad ymlaen yr Ysgolion efe a ddywed, "Y mae fy ngofal wedi ei ad-dalu yn dra helaeth, canys y mae yr athrawon mor awyddus ag ydwyf fi fy hunan am i'r gwaith lwyddo, ac y mae hapusrwydd tragwyddol y rhai a ddysgir ganddynt yn cael y lle mwyaf dyfal yn eu meddyliau." Y cyfryw ydyw tystiolaeth Mr. Charles am yr ysgolfeistriaid ffyddlawn a gyflogid ganddo, a'r rhai oeddynt yn cydweithio gydag ef i addysgu ardaloedd tywyll Gogledd Cymru, gan' mlynedd yn ol. Yr oedd yr Ysgolfeistriaid, o'r tu arall, yn ei barchu yntau â pharch dau-ddyblyg. Ac y mae yn bur sicr ddarfod i'w addfwynder ef, a'i sel diball i wneuthur daioni i'w genedl, gynyrchu llawer o'r cyffelyb ysbryd yn y dynion distadl, crefyddol, oeddynt yn ei wasanaeth. Peth y gallesid gasglu yn naturiol oddiwrth ei hanes a'i foneddigeiddrwydd Cristionogol ydyw hyn. Heblaw hyny, y mae amryw grybwyllion i'w cael, wedi disgyn o enau y rhai oeddynt yn byw yn yr oes hono, yn dwyn i'r amlwg yr unrhyw wirionedd. "Wedi i Ragluniaeth fy nhywys," ebai Lewis William, Llanfachreth, un o'r ysgolfeistriaid, "i lawer o fanau gyda'r ysgol ddyddiol a Sabbothol, hi a'm tywysodd trwy anfoniad Mr. Charles i Lanfachreth (ger Dolgellau), o gylch y flwyddyn 1800. Nis gallaf ddweyd gynifer o weithiau y bum yn Llanfachreth, o anfoniad Mr. Charles, weithiau am fis, pryd arall am ddau, a rhai gweithiau am chwarter blwyddyn. Yr achos am fyrdra yr amser oedd, y mawr alw fyddai am yr ysgol ddyddiol i fanau eraill, er mwyn sefydlu a chynorthwyo gyda'r Ysgol Sabbothol. Ond wedi marw Mr. Charles, a thra bum yn cadw ysgol, yr oeddwn yn myned ar alwad yr ardaloedd, ac iddynt hwy roi cyflog i mi, neu ddwyn fy nhraul, ac ychydig fyddai hyny mewn llawer o fanau y bum ynddynt. Ond galwyd arnaf i Lanfachreth i fod yno am flwyddyn, i gadw ysgol Gymraeg a Saesneg (yr oeddwn wedi dechreu cyn hyn yn y modd hwn, er fy mod yn anfedrus iawn.) Darfu i ryw bersonau fyned dan rwymau i mi am £5 y chwarter, a derbyniais hwynt. A bum yno ychydig yn ychwaneg ar ewyllys da. Ond yr oeddwn yn fy nheimlad i raddau mawr wedi colli ewyllys da Preswylydd y berth, er pan oeddwn wedi ymadael o fod dan ofal Mr. Charles."

Eraill hefyd, heblaw athrawon yr Ysgolion Cylchynol, a deimlent hoffder mawr tuag at Mr. Charles, ac ymlyniad dwfn wrtho, ar gyfrif ei ledneisrwydd, a'r gefnogaeth wresog a roddai i bawb fyddent yn amcanu gwneuthur daioni. Nid oedd Lewis Morris, Coedygweddill, yn ysgolfeistr. Ond efe oedd un o'r ddau bregethwr cyntaf gyda'r Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd. Cafodd dröedigaeth amlwg ac uniongyrchol wrth wrando canu ar ddiwedd odfa gan y Parch. Dafydd Morris, Sir Aberteifi, mewn ty annedd, yn Heol y Maengwyn, Machynlleth, yn mis Awst, 1789. Wedi myned i'r dref hono i redegfa ceffylau yr oedd, a thra yn dychwelyd ar hyd yr heol clywai y canu, ac meddai wrtho ei hun, "Mae y rhai hyn gyda gwell gwaith na mi." Ar y funyd aeth saeth lem i'w galon, nes ei sobri yn nghanol ei wylltineb. Dyn o gorff mawr, cryf, cadarn, esgyrnog, oedd Lewis Morris. Efe oedd pen-campwr chwareuon a rhedegfeydd ei wlad, ac yn y cyfryw gynulliadau byddai ar bawb ei arswyd. Wedi iddo ddechreu pregethu, yr hyn a wnaeth ymhen y flwyddyn ar ol ei droedigaeth, byddai llwfrdra a digalondid ar amserau yn ei feddianu yntau. Gan gyfeirio at yr adegau hyn, meddai ef ei hun, "Dywedodd y cyfaill anwyl a pharchus, Mr. Charles o'r Bala, wrthyf, pan yr oeddwn un tro yn myned at yr esgynlawr i bregethu mewn Cymdeithasfa yn Nghaerfyrddin, oddiar fy mod yn ofnus ac isel fy meddwl. Cofiwch na bydd neb yn gwrando arnoch ond pechaduriaid; ac y bydd y gwirionedd a fydd genych yn fwy na phawb a fydd yn gwrando arnoch.' Ei ddywediad synwyrlawn a gododd fy meddwl i fyny o iselder mawr, ac a fu yn gymorth i mi lawer gwaith wedi hyny." Mynych y gwna Lewis Morris, yn ei Adgofion o hanes ei fywyd, gyfeiriadau cyffelyb o anwyldeb at y gwr byd-glodfawr o'r Bala.

Yr oedd Mr. Charles, tu hwnt i amheuaeth, yn ŵr wrth fodd calon Duw, wedi ei godi yn arbenig ar gyfer anghenion Cymru yn yr oes yr oedd yn byw ynddi, a dyma yn ddiau a rydd gyfrif am y llwyddiant a fu ar bob gwaith yr ymgymerodd ef â'i gyflawni. Yr oedd yn ŵr hoffus yn serch ei gydoeswyr hefyd, ac yn fwyaf neillduol ymysg yr ysgolfeistriaid oeddynt yn gyflogedig yn ei wasanaeth; ac oherwydd yr hoffder a'r cydweithrediad oedd yn bod ar y naill law a'r llall y bu llwyddiant mor fawr ar y gwaith cyntaf yr ymgymerodd ag ef, ar ol ymuno â'r Methodistiaid yn y Bala, ar ddechreuad yr ail haner canrif yn hanes y Cyfundeb, sef rhoddi cychwyniad i'r Ysgolion Rhad Cylchynol. Dyma ddechreuad y llwyddiant mawr a gynyrchwyd trwy fywyd a llafur Mr. Charles, ac a barodd ddylanwad mor fendithiol a pharhaol ar Fethodistiaeth Cymru.

Bellach, amcenir rhoddi ychydig o hanes rhai o'r ysgolfeistriaid mwyaf hynod. Y cyntaf ar y rhestr a enwir gan Dr. Thomas, yn ei anerchiad i'r Gynhadledd yn y Bala, ydyw,—

Y PARCH. JOHN DAVIES, O SIR DRE FALDWYN.

Efe oedd y Cenhadwr Cymreig cyntaf. Aeth allan yn y flwyddyn 1800 i Ynysoedd Mor y De, a bu yno am oes faith yn gwneuthur gwasanaeth mawr. Ychydig o wybodaeth sydd am dano yn Nghymru, yr hyn sydd yn beth rhyfedd, gan ystyried yr enwogrwydd y daeth iddo, a'r gwasanaeth mawr a wnaeth fel cenhadwr. Yr hanes helaethaf o lawer a welsom am dano ydyw, yr ysgrifau a ysgrifenwyd gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod, i'r Newyddion Da, yn y rhan gyntaf o'r flwyddyn 1892. Gan ei fod wedi cychwyn ei yrfa fel un o ysgolfeistriaid Mr. Charles, cymerir o'r ysgrifau crybwylledig yn benaf, y prif ddigwyddiadau yn hanes ei fywyd, er gwneuthur ei hanes gymaint a hyn yn fwy hysbys. Brodor ydoedd o ardal Pontrobert, Sir Drefaldwyn. Ganwyd ef Gorphenaf 11eg, 1772. Gwehydd oedd ei dad, ac mae yn debyg iddo yntau gael ei ddwyn i fyny yn yr un gelfyddyd. Yr oedd ei deulu yn grefyddol, a chafodd yntau y fantais fawr o ymgydnabyddu a phethau crefydd yn ieuanc. Un o'i gyfoedion ydoedd y Parch. John Hughes, Pontrobert. Parhaodd y ddau yn gyfeillion cywir am dros driugain mlynedd. Perthynai y ddau i'r un eglwys yn eu hieuenctyd, yn ardal Pontrobert. Yr oedd Ann Griffiths, yr emynyddes, yn aelod o'r un eglwys yr un adeg. Trwy ryw foddion, nad yw yn hysbys, cyflogodd Mr. Charles y ddau lanc ieuanc fel ysgolfeistriaid i'w Ysgolion Cylchynol. Ychydig o hanes John Davies yn y swydd hon sydd ar gael. Ond y mae sicrwydd ei fod yn cadw ysgol yn Llanrhaiadr-yn-Mochnant, yn mis Medi, 1797, ac yn Llanwyddelen, yn mis Mai, 1800.

Yr oedd Mr. Charles yn bleidiwr selog i Gymdeithas Genhadol Llundain, yr hon a sefydlwyd oddeutu can' mlynedd yn ol, o'r cychwyn cyntaf. Ceir hysbysiad yn y Drysorfa Ysbrydol ei fod yn derbyn casgliadau oddiwrth eglwysi Cymru tuag at dreuliau y Gymdeithas yn y flwyddyn 1799. Oddeutu y pryd hwn yr oedd mewn gohebiaeth & Thrysorydd y Gymdeithas o berthynas i gael cenhadon o Gymru, ac mewn llythyr ato i'r perwyl hwn ceir y geiriau canlynol yn llythyr y gŵr yr oedd yn gohebu âg ef:-"Eich ymdrechion at gael cenhadon addas fydd y gwasanaeth mwyaf gwerthfawr a ellwch wneyd i'r achos. Ac yn ol fy marn i, y mae ysgolfeistriaid yn debyg o fod ymysg y rhai mwyaf defnyddiol fel cenhadon ymysg pobl anfoesedig." Mewn canlyniad i'r ohebiaeth hon y mae John Davies yn rhoddi i fyny yr ysgol yn Llanwyddelen, ac yn mis Mai, 1800, yn cychwyn fel cenhadwr i Ynysoedd Mor y De. Y Parch. Richard Jones, Llanfair, a ysgrifena, "Cofus genyf glywed fy mam yn dywedyd fod yno wylo mawr yn Llanwyddelen pan oedd ef yn ymadael." Yn mis Mai, 1800, cychwynodd y Royal Admiral, gan gludo 25 o genhadon, ac yn eu mysg y Parch. John Davies a'i briod, a glaniodd yn Ynys Tahiti, Gorphenaf 10, 1801. Bu ei briod byw yn yr Ynys un mlynedd ar ddeg, a bu yntau byw yno bedair blynedd ar ddeg a deugain. Wedi glanio yn yr ynys, ysgrifenodd y cenhadwr anturiaethus lythyrau adref at ei rieni, at deulu Ann Griffiths, yr Emynyddes, ac hyd ddiwedd ei oes at ei gyfaill mynwesol, y Parch. John Hughes, Pontrobert, llawer o'r rhai a ymddangosasant yn y Drysorfa.

Bu ef a'i gyd-genhadon yn llafurio yn Ynysoedd Mor y De, trwy anhawsderau a pheryglon dirif, am ddeg neu ddeuddeng mlynedd heb argoelion o odid i ddim llwyddiant. Yr oedd ffydd y cyfarwyddwyr yn Llundain bron a diffygio, a buont ar fin galw y cenhadon adref. Ond yn yr awr dywyllaf fe dorodd y wawr, trwy i Pomare, brenin Tahiti, gofleidio Cristionogaeth. Dygodd hyn gyfnewidiad trwyadl ar yr Achos Cenhadol yn Tahiti, a'r ynysoedd cylchynol. Am y deg ar hugain mlynedd dilynol dilynwyd y cyffroad crefyddol yno a llwyddiant bron digyffelyb, ac erbyn y flwyddyn 1819 yr oedd y brenin, yr hwn oedd blaenffrwyth yr Ynys i Grist, wedi adeiladu capel, yr hwn a elwid yn Gapel Brenhinol, yr addoldy mwyaf ei faintioli a adeiladwyd erioed mewn unrhyw wlad. Yr oedd yr addoldy mor fawr fel nas gallai yr un pregethwr wneyd ei hun yn glywadwy ynddo: gosodwyd ynddo dri o bulpudau, a byddai pregethwyr yn llefaru ymhob un o'r tri yr un adeg. Ac ymhen ychydig wed'yn rhifai y cyflawn aelodau yn y maes lle y llafuriai y cenhadwr Cymreig, yn Papara, 363. a'r gynulleidfa gyhoeddus ar adegau, 1200. Parhaodd y genhadaeth i lwyddo dros amryw flynyddau. Wedi hyn, modd bynag, daeth pethau chwerwon i brofi y gwaith da, megys, dadleuon ymysg y cenhadon eu hunain, ymweliadau llongau tramor yn eu masnach â'r trigolion, dylanwad Ewropeaid annuwiol ar foesau yr ynyswyr, dyfodiad y Babaeth i'w plith, ac yn ddiweddaf oll cymerwyd yr ynys gan y Ffrancod, a gwnaed hi yn drefedigaeth Ffrengig.

Bu y Parch. John Davies yn llafurio yn yr Ynys 54 o flynyddoedd, yn fawr ei lafur ac yn fawr ei barch. Cymerai y blaen mewn pethau gwladol a chrefyddol. Llafur mawr, digon i sicrhau enwogrwydd i unrhyw genhadwr, oedd ei lafur llenyddol—cyfansoddi llyfrau yn iaith y brodorion, cyfieithu rhanau helaeth o'r Ysgrythyrau a llawer o lyfrau eraill, pregethu y Sabbothau, ac arolygu yr holl waith. Parhaodd trwy holl flinderau bywyd yn dirf ac iraidd yn ngwaith ei Arglwydd. Ac Awst 11, 1855, cymerwyd ef oddiwrth ei lafur at ei wobr, yn 84 mlwydd oed. Pe buasai gan y Methodistiaid Genhadaeth o'u heiddo eu hunain yn ei amser ef, diameu y buasai ei hanes yn llawer mwy adnabyddus.

Y PARCH. JOHN HUGHES, PONTROBERT,

Yr oedd yntau yn un o'r ysgolfeistriaid, ac fe gododd o sefyllfa o ddinodedd i safle o ddylanwad mawr, nid yn unig yn ei sir enedigol, ond yn y Cyfundeb oll. Ganwyd ef yn ardal Pontrobert, yn y flwyddyn 1775. Yr oedd dair blynedd yn ieuengach na'r Parch. John Davies, y Cenhadwr. Dygwyd ef i fyny yn wehydd, yn nghartref ac yn nghwmni y Cenhadwr, a'r pryd hwnw ffurfiwyd cyfeillgarwch rhyngddynt, yr hwn a barhaodd ar hyd eu hoes. At John Hughes y byddai y Cenhadwr yn ysgrifenu ei lythyrau o Ynys Tahiti, ac y mae 33 o honynt ar gael yn awr ymysg papyrau y cyntaf. Yr oedd y ddau yn wŷr ieuainc crefyddol, a gwnaethant ddefnydd da o'u horiau hamddenol. Clywodd Mr. Charles am eu crefydd a'u diwydrwydd, ac o ran dim a wyddys yn wahanol, cyflogwyd y ddau yr un adeg i fod yn ysgolfeistriaid. Bu John Hughes yn cadw ysgol yn Llanwrin, Llanidloes, Berthlas, Llanfihangel, a Phontrobert, a diamheu mewn lleoedd eraill. Mawrhai ef ei swydd fel ysgolfeistr. Pan yr ysgrifenai at ei gyfeillion, ac hyd yn nod at ei ddarpar gwraig, terfynai ei lythyrau gyda'r geiriau, "John Hughes, Athraw Ysgol." Parhaodd i gadw yr Ysgol Rad hyd 1805, y flwyddyn yr ymbriododd â Ruth Evans. Y mae dyddordeb hanesyddol, fel y mae yn wybyddus, yn perthyn i Ruth Evans. Bu hi am bedair blynedd yn forwyn yn ngwasanaeth rhieni Ann Griffiths, yr Emynyddes enwog. Y hi a glywodd yr Emynau gyntaf o bawb, oblegid nid ysgrifenodd Ann Griffiths yr Emynau ei hun, ond eu hadrodd a wnaeth yn nghlywedigaeth y forwyn. Adroddodd hithau hwynt wrth Mr. Charles o'r Bala, ac ar ei ddymuniad ef ysgrifenwyd hwynt i'w hargraffu gan ei phriod, John Hughes. Felly y diogelwyd hwynt rhag myned ar ddifancoll.

Dechreuodd John Hughes bregethu yn y flwyddyn 1802. Yr oedd yn neidio ac yn gorfoleddu yn moddion cyhoeddus y Cyfarfod Misol y cafodd ganiatad i bregethu. Cymerodd afael yn y geiriau, "Pa faint mwy y bydd i waed Crist," ac ail—adroddai drachefn a thrachefn yr ymadrodd, "Difai i Dduw!" "Difai i Dduw!" "Ni welodd Duw fai yn yr Aberth yma. Diolch iddo! Bendigedig !" Yn Llanidloes y pregethodd gyntaf ar ol cael caniatad, ar fore Sul. Dechreuai y gwasanaeth, fel yr arferid y pryd hwnw, am 9 o'r gloch, a phregethodd yntau nes yr oedd ar fin 11 o'r gloch. Pe gwnaethai un o'i sefyllfa ef hyny yn yr oes pregethau byrion hon, torasid ei ben ar unwaith, fel y torai Tomos Bartley benau ei gywion ceiliogod. Ond er gwneuthur hyny i John Hughes, yr oedd digon o grefydd a phenderfyniad ynddo i ddyfod yn fyw drachefn. Pe llwyddasai yr hen frodyr a geisient ei rwystro i bregethu yn eu hamcan, buasai un o brif golofnau yr achos mawr yn Sir Drefaldwyn wedi ei thaflu i lawr yn y cychwyn. Yr oedd John Hughes yn athrawiaethwr a duwinydd o radd uchel. Yr oedd yn nodedig o grefyddol ei ysbryd a diwyd i gyraedd gwybodaeth yn nechreu ei oes, ac felly y parhaodd hyd y diwedd. Trwy dlodi ac anhawsderau dirfawr daeth yn awdurdod ar bynciau Duwinyddol yn llysoedd y Cyfundeb. Clywsom, pan yn dra ieuanc, yr hanesyn canlynol am dano:—Yr oedd Mr. Charles mewn Cymdeithasfa yn Nghaernarfon, yn ceisio galw i gof y gair Groeg am "lwyr brynu," ac er ceisio, methai a chael gafael ynddo. A dyma John Hughes mewn diwyg ac ymddangosiad Cymroaidd, a chyda llais croch, yn gwaeddi o ganol y dorf,— εξαγοράζω! Cyfododd hyny ef lawer o raddau yn nghyfrif yr hen dadau byth o hyny allan.

Yr hanes argraffedig helaethaf am dano ydyw yr Ysgrifau dyddorol a ysgrifenwyd ar hanes ei fywyd gan y Parch. Edward Griffiths, Meifod, i'r Traethodydd, 1890 ac 1891. Ei Hunan-Gofiant ef ei hun, ac yn enwedig ei Ddydd-lyfr am 1816, y flwyddyn ddilynol i frwydr fawr Waterloo, blwyddyn o gyfyngder mawr yn y deyrnas, ydyw un o'r pethau llawnaf o ddyddordeb yn hanes crefydd Cymru y blynyddoedd hyny. Yr oedd ef yn un o'r engreifftiau goreu o oes y teithio, pan oedd teithio yn ei fan uwchaf. Ond er y teithio a'r llafurio, helbulus a fu bywyd yr hen bererin, oherwydd nad oedd ei enillion trwy y naill a'r llall yn ddigon i'w gadw ef a'i deulu uwchlaw angen. Y mae ei hanes am y rhan ddiweddaf o'i oes yn ddigon hysbys i grefyddwyr hynaf y wlad. Bu farw Awst y 3ydd, 1854. Yr Ail Gyfrol o Fethodistiaeth Cymru, yr hon a ysgrifenid ychydig cyn ei farw, a ddywed:—"Y mae yr hen frawd parchedig ar y maes gweinidogaethol er's 52 mlynedd, ac nid mynych y bu neb yn fwy ffyddlawn a diwyd, yn ei wlad ei hun, a thros yr holl Dywysogaeth."

Cofus genym glywed y diweddar Dr. Lewis Edwards, o'r Bala, yn gwneuthur y sylw, er calondid i ddyn ieuanc oedd yn lled ddiffygiol mewn dawn yn y cyhoedd "Nid oedd gan John Hughes, Pontrobert, ddim dawn. Yn naturiol yr oedd ei lais y mwyaf ansoniarus ac aflafar a glywsoch erioed; ond pan fyddai wedi ei wresogi gan y gwirionedd, byddai mor rymus

a hyawdl nes cario pob peth o'i flaen."

PENOD III.

YR YSGOLFEISTRIAID YN DYFOD YN BREGETHWYR.

Y PARCH. JOHN ELLIS, ABERMAW.

Rheolau Mr. Charles i'r Ysgolfeistriaid—Llythyr at Mr. Charles oddiwrth Gymdeithas Genhadol Llundain yn 1799—Cymru yn Baganaidd—Ysgolfeistriaid Griffith Jones, Llanddowror, yn amser Howell Harries—Y Parch. Robert Roberts, Clynog, yn rhestr yr Ysgolfeistriaid—Crwydriadau boreuol John Ellis, Abermaw—Yn cael ei gyflogi gan Mr. Charles —Yn byw yn Abermaw, ac yn dechreu pregethu—Yn cael ei rwystro i bregethu yn Llwyngwril gan Lewis Morris yn 1788—Yn cadw ysgol yn Brynygath, Trawsfynydd—Lewis Morris yn ysgol Brynygath—Mr. Charles yno yn pregethu—Trwydded gyfreithiol John Ellis.

OR lliaws ysgolfeistriaid cyflogedig a fu yn ngwasanaeth ac o dan arolygiaeth Mr. Charles, cyfododd amryw, fe allai y nifer lliosocaf, yn bregethwyr. Daeth nifer o honynt i safleoedd pwysig yn y Corff, a rhai yn enwog fel pregethwyr. Mae yn wir i eraill aros yn y swydd o ysgolfeistriaid ar hyd eu hoes, fel y cawn sylwi eto, a bu y cyfryw yn wasanaethgar i achos crefydd mewn cylchoedd llai cyhoeddus. Am na chadwyd rhestr gyflawn, aeth enwau llawer o'r dynion llai cyhoeddus hyn ar goll. Nid ydyw ond peth naturiol i'r rhai a ddaethant yn bregethwyr ac efengylwyr fod yn fwy adnabyddus yn yr oes hon. Peth naturiol ddigon hefyd ydoedd i nifer da o'r ysgolfeistriaid gyfodi yn bregethwyr. Y mae llawer o debygolrwydd a chydnawsedd rhwng y ddwy swydd a'u gilydd, ac yr oedd y gwahaniaeth rhyngddynt, gan' mlynedd yn ol, yn llawer llai nag ydyw yn bresenol.

Un o'r cymhwysderau cyntaf oll, fel y crybwyllwyd o'r blaen, yr edrychai Mr. Charles am dano mewn dynion i fod yn ysgolfeistriaid ydoedd eu bod yn ddynion crefyddol. Yr oedd yr addysg a gyfrenid yn yr ysgolion bron yn gwbl yn addysg grefyddol. Un o'r rheolau perthynol i'r swydd ydoedd, y disgwylid i'r athrawon, pan yn ymweled â theuluoedd yn yr ardaloedd lle y cedwid yr ysgolion, nid yn unig ymddiddan am bethau crefyddol, ond darllen a gweddio gyda'r teuluoedd, fel y byddai iddynt adael argraff er daioni yn yr holl gylchoedd lle yr elent. Yr oeddynt hefyd i gynorthwyo mewn sefydlu a chario ymlaen yr Ysgol Sabbothol ymhob ardal lle y byddai ysgol ddyddiol ynddi. Yn ychwanegol at hyn oll byddent yn cael mantais ragorol i siarad yn gyhoeddus, ac i roddi ymarferiad i'r dawn oedd ynddynt. Nid oedd yn rhyfedd, gan hyny, i lawer o'r ysgolfeistriaid gyfodi yn bregethwyr.

Pan oedd Cymdeithas Genhadol Llundain yn chwilio am genhadon i fyned allan i Ynysoedd Mor y De, yn ystod blynyddoedd olaf y ganrif ddiweddaf, at Mr. Charles yr anfonai y Cyfarwyddwyr am genhadon o Gymru, a chydag ef yr ymohebent. Mewn llythyr ato yn 1799, fel y nodwyd eisoes, dywed Mr. Hardcastle, trysorydd y Gymdeithas, "Eich ymdrechiadau gael cenhadon addas fydd y gwasanaeth mwyaf gwerthfawr a ellir wneyd i'r achos. Ac yn ol fy marn i, y mae ysgolfeistriaid yn debygol o fod ymysg y rhai mwyaf defnyddiol fel cenhadon at bobl anfoesedig." Rhan arbenig o waith cenhadon mewn gwledydd anwaraidd, fel yr ydym yn darllen, ydyw sefydlu ysgolion i ddysgu y bobl i ddarllen a deall. Yr oedd Cymru, yn nyddiau Mr. Charles, i fesur mawr, yn wlad baganaidd. A rhan fawr o'r gwaith i efengyleiddio y wlad oedd dysgu y bobl i ddarllen a deall yr Ysgrythyrau, ac wedi hyny eu rhybuddio a'u perswadio i dderbyn yr efengyl, trwy gredu yn yr Hwn a anfonodd Duw i'r byd i achub y byd. A'r rhai a gafodd y fraint o wneuthur y cyntaf oedd y rhai cymhwysaf i wneuthur yr olaf. Cafodd ysgolfeistriaid yr Ysgolion Cylchynol training da, can belled ag yr oedd yn myned, i ddyfod yn bregethwyr teithiol ymysg y Methodistiaid.

Y mae yn hysbys fod nifer mawr o bregethwyr wedi cyfodi bron yn ddisymwth, i gynorthwyo Harries a Rowlands ar gychwyniad cyntaf y Diwygiad Methodistaidd. Ymhen saith mlynedd ar ol i Howell Harries dori allan fel seren danbaid unigol yn Nhrefecca y cynhaliwyd y Gymdeithasfa gyntaf, yn Watford, a'r pryd hwnw yr oedd tua deugain o gynghorwyr wedi cyfodi o honynt eu hunain i'w gynorthwyo, o blith y cymdeithasau a ffurfiasid trwy ei lafur ef ac ychydig weinidogion urddedig eraill. Ac erbyn y flwyddyn 1746, deng mlynedd ar ol y cychwyn cyntaf, yr oedd y cymdeithasau wedi cyraedd saith ugain, a'r cynghorwyr tua haner cant. Yr oeddynt i fod, fel y trefnwyd yn y Gymdeithasfa gyntaf, yn gynghorwyr cyhoeddus a chynghorwyr anghyhoedd, yn ol mesur eu dawn a'u cymhwysderau. Mae yn achos o syndod fod nifer mor fawr wedi cyfodi o blith y werin, mewn amser mor fyr, i fod yn gymwys i addysgu eu cyd-ddynion yn gyhoeddus, wrth ystyried sefyllfa dywyll ac anwybodus y wlad ar y pryd. Prin oedd moddion addysg, a phrinion oedd y Beiblau ymysg y bobl gyffredin; trwy ba foddion, gan hyny, yr oedd y cynghorwyr hyn wedi cael eu haddysgu i ddarllen a deall eu Beiblau? Y mae y Parch. John Hughes, yn Methodistiaeth Cymru, yn priodoli eu haddysgiaeth a'u cymwysderau i Ysgolion Cylchynol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, ac y mae ef o'r farn mai rhai wedi bod yn ysgolfeistriaid yr ysgolion hyny oedd y cynghorwyr Methodistaidd. Yr oedd yr ysgolion hyny wedi eu sefydlu yn 1730, tua chwe' blynedd cyn i'r diwygwyr, Harries a Rowlands, ddechreu ar eu gwaith. Trwy eu lledaeniad hwy yr oedd y ffordd wedi dechreu cael ei digaregu ar gyfer y gwaith mwy oedd yn dilyn. Fel hyn y dywed Mr. Hughes:—"Mae yn agos yn anghredadwy pa fodd y cododd cynifer o gynghorwyr mewn amser mor fyr, a than anfanteision mor fawrion. Nid oedd ond tua chwe' blynedd er pan ddechreuasai Harries a Rowlands ddyfod i sylw cyhoeddus; ac eto, wele ddeugain o gynghorwyr wedi codi at eu gwaith! Mae hyn yn fwy syn pan ystyriom leied o foddion gwybodaeth oedd yn y wlad; leied o Feiblau oeddynt yn y tir; a lleied y nifer fedrent ddarllen. Ymddengys i mi yn beth tebygol fod Ysgolion Cylchynol Griffith Jones wedi gwasanaethu i ddwyn hyn oddiamgylch, megys yn ddifwriad a diarwybod. Ymofynid am wyr i gadw yr ysgolion hyny a fyddent o air da, ac yn meddu gradd o wybodaeth eu hunain, a gradd o gymhwysder i gyfranu gwybodaeth i eraill. Arferent holi yr ysgolheigion bob dydd yn egwyddorion ac ymarferiadau crefydd; a thrwy hyn cyrhaeddent fesur mwy neu lai o rwyddineb a medrusrwydd i gyfarch cynulleidfa ar bynciau crefyddol" (Cyf. I., tu dal. 235).

Fel hyn yr oedd yr Arglwydd yn creu y naill beth ar gyfer y llall, a digaregid y ffordd trwy yr amrywiol amgylchiadau hyny i ddwyn y wlad o dan ddylanwad yr efengyl. Olwynion Rhagluniaeth fawr y Nef yn distaw droi, yr Hollwybodol yn ordeinio ei was o Landdowror i anfon dynion trwy y wlad i ddysgu yr anwybodus; a phan y daeth y diwygwyr i gyhoeddi yr efengyl, ac i blanu eglwysi, y dynion hyny, wedi eu cymhwyso yn ddiarwybod iddynt eu hunain, i gynorthwyo i gario y gwaith yn ei flaen.

Cyffelyb ydoedd yr amgylchiadau yn Ngogledd Cymru yn amser Mr. Charles. Cam digon naturiol a gymerid gan ysgolfeistriaid yr ysgolion dyddiol, trwy symud o fod yn ddysgawdwyr syml yr ieuainc a'r anwybodus, i'r sefyllfa uwch, i rybuddio a pherswadio pechaduriaid yn fwy cyhoeddus. Ac adnabyddid hwy bellach yn fwy cyffredinol, nid wrth yr enwau cynghorwyr, ond llefarwyr a phregethwyr. Heblaw eu bod wedi cael ymarferiad rhagorol trwy holwyddori a siarad yn gyhoeddus, yn yr ysgolion dyddiol a Sabbothol, yr oeddynt bellach wedi cael blas ar hyfforddi eu cyd-ddynion, ac yr oedd tan y diwygiad yn llosgi yn eu heneidiau mewn awyddfryd i enill pechaduriaid at Grist. Yr oedd hefyd elfenau eraill, y pryd hwn, yn cydweithio er chwyddo mintai y rhai a bregethent. Yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol sefydlu yr Ysgol Sabbothol, torodd diwygiadau allan trwy amrywiol ranau o'r wlad, ac fe ychwanegwyd llawer at nifer y dychweledigion ymhob man. Nid rhyfedd, o dan y cyfryw amgylchiadau, i nifer da o ysgolfeistriaid Mr. Charles gyfodi i fod yn bregethwyr. Yn y cyfnod hwn cyfododd llu mawr o bregethwyr, y rhai a ddaethant yn weinidogion enwog yn eu gwlad yn ser disglaer yn ffurfafen yr Eglwys-y nifer lliosocaf o bregethwyr enwog a gyfododd mewn unrhyw gyfnod yn hanes y Cyfundeb. A chyfrifir rhai a fuont yn cadw ysgol ddyddiol yn rhestr y pregethwyr enwocaf.

Yn ei restr o hen ysgolfeistriaid Mr. Charles, y mae y Parch. Dr. Owen Thomas yn enwi y pregethwr seraphaidd, Robert Roberts, Clynog. Dywed hefyd mai am tua dwy flynedd wedi iddo ddechreu pregethu y bu yn athraw ysgol Gymraeg mewn amryw gymydogaethau yn Eifionydd, tra y cartrefai gyda'i deulu yn Ynys Galed, heb fod ymhell o Frynengan. Yn ei hanes ef dadblygodd yr ysgolfeistr allan o'r pregethwr, ac nid y pregethwr o'r ysgolfeistr. Ond amgylchiadau, mewn rhan, o leiaf, a'i gyrodd ef i gadw ysgol. Daeth ei iechyd mor fregus, fel nas gallai mwy ddilyn y gorchwylion y buasai arferol â hwy yn flaenorol, fel gwas cyflogedig yn llafurio gyda'r amaethwyr. Nid ydyw mor eglur ychwaith iddo ef fod yn athraw cyflogedig o dan Mr. Charles. Fel y canlyn yr ysgrifena y Parch. Richard Jones, y Wern, am dano yn ei Gofiant: "Treuliodd rai blynyddau ar y dechreu yn cadw ysgol Gymraeg, yn ardaloedd Eifionydd, yr hon oedd yn cael ei chynal trwy ewyllys da yr amrywiol ardaloedd yn y rhan hono o'r wlad; ac yn y cylchoedd y bu yn cael ei chadw atebodd ddiben daionus, gyda'r ysgol a'i weinidogaeth ymhob ardal. Ond nid hir y parhaodd yn y dull hwn, canys yr oedd ei iechyd yn rhy fregus i ymgynal yn y modd yma i gadw ysgol, ac i ufuddhau i alwad y brodyr yn ei weinidogaeth. Eithr fel yr oedd galwad yr eglwysi am ei weinidogaeth trwy holl Gymru yn ychwanegu, hyn, gyda chydsyniad y brodyr yn ei alwad, a'i tueddodd i ymroddi yn hollol i waith y weinidog- aeth, yn yr hon y llafuriodd yn ffyddlawn a diysgog hyd ddiwedd ei oes."

Ond er y dywedir mai trwy ewyllys da yr ardaloedd y cedwid yr ysgol, digon posibl mai Mr. Charles a roddai yr ardaloedd ar waith i'w chario ymlaen. Os felly, nid oes dim yn anghyson iddo gael ei restru yn y rhestr o ysgolfeistriaid Mr. Charles, ac fe roddodd ef anrhydedd ar y swydd o athraw ysgol, yn gystal ag ar y swydd o bregethu yr efengyl. Mae yr amser y bu yn cadw yr ysgol yn cyfateb yn hollol i'r adeg yr oedd mwyaf o alwad am yr ysgolion. Dechreuodd bregethu yn 1787; oddeutu yr un adeg hefyd y dechreuodd gadw ysgol, a bu farw yn 1802, yn 40 mlwydd oed. Un o'r pethau mwyaf godidog yn hanes enwogion y Cyfundeb o'r dechreuad ydyw y darluniad a rydd y Parch. Dr. O. Thomas am y seraphbregethwr, Robert Roberts o Glynog, yn Nghofiant y Parch. John Jones, Talysarn.

Un o'r rhai y mae sicrwydd iddo fod ymysg Ysgolfeistriaid cyflogedig yr Ysgolion Cylchynol, a'r hwn, er iddo ddyfod yn ddylanwadol ac yn amlwg fel pregethwr, sydd yn llai adnabyddus yn yr oes hon nag amryw o'i gydoeswyr, ydoedd

Y PARCH. JOHN ELLIS, ABERMAW.

Ganwyd ef yn Ysbytty, Sir Feirionydd, a chafodd ei ddwyn i fyny yn mhentref bychan Capel Garmon, mewn tlodi ac oferedd, heb neb i ofalu am dano o ran mater ei enaid, mwy na phe buasai heb fod ganddo yr un enaid. Dechreuodd ddysgu crefft cylchwr (cooper), a gorphenodd ei dysgu yn Llanrwst. Wrth wrando yn y dref hono ar un o'r enw Robert Evans yn pregethu, effeithiodd y bregeth yn fawr arno, nes ei dueddu i fyned i wrando yr efengyl drachefn. Symudodd oddiyno i Ffestiniog i weithio, a bu yn y lle hwnw am dymor yn dilyn pob oferedd, gan roddi rhaff i'w nwydau pechadurus. Yr oedd hyn cyn bod yn Ffestiniog Ysgol Sul, na chapel, na phregethu, ond yn unig yn achlysurol. Aeth i wrando y pregethu achlysurol gydag un o'i gydweithwyr, ac ymwelodd yr Arglwydd ag ef drachefn, trwy ei sobri a'i ddifrifoli yn fawr. Mewn canlyniad iddo amlygu tuedd i wrando y pregethu, ymddygodd ei dad yn ddigllawn tuag ato, a rhybuddiodd ef nad elai mwy i wrando ar y cyfryw bobl a'r Methodistiaid; ac oherwydd creulondeb ac ymddygiad chwerw ei dad, gadawodd Ffestiniog yn llanc ieuanc, heb wybod i ba le yr elai. Arweiniwyd ef gan Ragluniaeth i Lanbrynmair, lle yr arosodd dros ysbaid saith mlynedd, gan weithio ei grefft fel cylchwr. Yr oedd crefydd wedi hen wreiddio yn Llanbrynmair, Hwyrach fod llygaid y llanc ieuanc oedd o dan argyhoeddiad, ar y lle oblegid hyny. Yr oedd eto mewn trallod mawr ynghylch mater ei enaid, ac wrth wrando ar y Parch. Richard Tibbot y llewyrchodd goleuni i'w feddwl, a chyda'r goleuni y daeth tangnefedd. Ymunodd â chrefydd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ymhen y mis wedi cyrhaedd Llanbrynmair.

Bu cymdeithas y brodyr crefyddol yn y lle hwn o fendith annhraethol iddo, yn ystod y saith mlynedd hyn. Cafodd yr ymgeledd angenrheidiol i'w enaid, gwreiddiodd crefydd ynddo, a deallodd ffordd Duw yn fanylach. Tra yn aros yma priododd ferch ieuanc grefyddol oedd yn aelod o'r un eglwys ag ef Symudodd o Lanbrynmair drachefn i'w hen gymydogaethau, Llanrwst a Ffestiniog. Ac wedi cyfarfod, medd yr hanes, & Rhagluniaethau cyfyng, anogwyd ef i fyned i gadw Ysgol Rad Deithiol, o dan arolygiaeth Mr. Charles, o'r Bala. "Bu peth petrusder [tebygol mai geiriau Mr. Charles ei hun yw y rhai hyn] ynghylch ei gyflogi i hyny, oherwydd ei ddieithrwch i'r gwaith, a'i anfedrusrwydd oherwydd hyny i'r fath orchwyl. Ond ar daer ddymuniad y brodyr yn eglwysi Ffestiniog a Thrawsfynydd, anturiwyd ei gyflogi, gan obeithio y cai gymorth yn y gwaith, a'i addysgu ei hun tra byddai yn llafurio i addysgu eraill. Felly y bu. Yr oedd yn ŵr o dymer dirion, serchog, ac enillgar; yn trin y plant yn dirion, ac yn eu henill trwy gariad."

Yr oedd yn Ffestiniog, erbyn hyn, un eglwys, ac un capel wedi ei adeiladu er's blwyddyn neu ddwy, yr hwn a elwir hyd heddyw yn hen gapel, er ei fod er's pedwar ugain ac un o flynyddau (1813) wed ei droi, yn dŷ anedd. Yr oedd y brodyr yno ac yn Nhrawsfynydd yn graff eu golwg, pan yn argymell y gwr hwn i sylw Mr. Charles. Troes John Ellis allan yn ysgolfeistr llwyddianus. Yr oedd ynddo y tri pheth yr amcenid eu cael yn yr ysgolfeistriaid—duwioldeb personol, gallu i addysgu, a chymeriad disglaer, i adael argraff dda ar yr ardaloedd lle cynhelid yr ysgolion. Nid oes wybodaeth sicr am yr amser yr ymsefydlodd yn Abermaw, na pha beth a'i harweiniodd yno, nac ychwaith am yr amser y dechreuodd bregethu. Yn y Drysorfa Ysbrydol, ddwy flynedd cyn marw Mr. Charles, ceir y sylwadau canlynol am dano: "Nid hir y bu wedi dechreu cadw yr ysgol heb gael ei gymell gan y brodyr crefyddol i arfer ei ddawn i gynghori ychydig yn gyhoeddus; ac fel yr oedd ei ddawn yn cynyddu, a'r Arglwydd yn gwneyd arddeliad o hono, rhoddwyd galwad mwy iddo, nes gwedi bod wrth yr ysgol, a symud o le i le yn mharthau uchaf swydd Meirion dros ddeng mlynedd, ac ar yr un pryd yn pregethu yn aml, rhoddodd heibio yr ysgol yn llwyr, ac ymroddodd i lafurio yn y Gair, gan bregethu yn ddyfal trwy holl barthau Deheudir a Gwynedd, hyd ddydd ei farwolaeth. Yr oedd yn wr goleu yn yr Ysgrythyrau, cadarn yn athrawiaeth gras yn ei hamrywiol ganghenau; yn wr ysbrydol o ran ei brofiad o bethau Duw, syml a diargyhoedd yn ei rodiad." Y mae hanesyn neu ddau yn Adgofion yr hen bregethwr, Lewis Morris, am dano ei hun, yn rhoddi ychydig o oleuni ar fywyd John Ellis a'i amserau, ynghyd a'r amser y daeth i fyw i'r Abermaw, ac y dechreuodd bregethu. Un hanesyn ydyw am fintai o erlidwyr, a Lewis Morris fel cawr yn arwain y fintai, i rwystro pregethu ar ddydd Sabboth yn Llwyngwril. "Ymysg y lliaws," ebe Lewis Morris, "yr oeddwn inau yn llawn gelyniaeth yn erbyn achos yr Arglwydd, ac yn gwrthwynebu 'y pregethu newydd' â'm holl egni. Un prydnawn Sabboth daeth ychydig grefyddwyr o'r Abermaw, a phregethwr, sef John Ellis, i Lwyngwril, gyda bwriad o gadw odfa yno, a chawsant addewid o le i bregethu mewn ty tafarn yn y pentref. Daethum inau i'r pentref y Sabboth hwnw, yn ol fy arfer, i ddilyn gwag ddifyrwch, pan y dywedwyd wrthyf fi a'm cyfeillion nad oedd wiw i ni fyned i'r dafarn i yfed cwrw y Sul hwnw, gan fod yno bregethu. Pan glywais hyn aethum yn llawn gwylltineb at y ty tafarn, a gelwais am y gwr i'r drws, a dywedais wrtho os ydoedd am roddi ei dy i bregethwyr a chrefyddwyr, ac nid i ni, yr ataliwn i iddo werthu cwrw yn gwbl, gan yr awn â phob achos neu gwrdd yfed i dŷ arall yn y pentref. Dychrynodd y dyn wrth hyn, gan y gwyddai fod genyf y dylanwad mwyaf ar fy nghymdeithion; ac efe a rwystrodd yr odfa, a gorfu i'r crefyddwyr fyned ymaith yn siomedig." Digwyddodd yr amgylchiadau hyn yn y flwyddyn 1788, gant a chwech i'r flwyddyn eleni. Yr oedd John Ellis yn byw yn yr Abermaw yn y flwyddyn hono; ; yr oedd wedi dechreu pregethu, feallai, er's blwyddyn yn gynt. Yr ydym yn gweled, modd bynag, ei fod yn pregethu yn 1788; fe ddechreuodd bregethu cyn hir wedi iddo ddechreu cadw yr ysgol; gan hyny, yr oedd John Ellis yn athraw cyflogedig ymysg rhai o'r ysgolfeistriaid cyntaf a gyflogwyd gan Mr. Charles.

Peth tra dyddorol arall a gofnodir gan Lewis Morris ydyw, yr hanes am dano ei hun yn myned i'r Ysgol. "Aethum y Calanmai canlynol at y dywededig John Ellis, o'r Abermaw, i Fryn-y-gath, Trawsfynydd, lle yr oedd ef y pryd hyny yn cadw ysgol ddyddiol; a bum yno dair wythnos; a dyna pryd y dysgais ddarllen fy Mibl." Yr oedd hyn o fewn llai na blwyddyn i'r adeg yr argyhoeddwyd ef, a llai na dwy flynedd i'r amser y buasai yn rhwystro yr hwn yr elai yn awr ato i'r ysgol i bregethu, ac efe ei hun y pryd hwn yn ddeng mlwydd ar hugain oed. Clywsom un o feibion Bryn-y-gath yn adrodd, amser yn ol, fel y clywsai ef ei fam, neu ei nain, yn rhoddi hanes Lewis Morris yn dyfod yno, o'r hyn yr oedd hi yn llygad-dyst. Adroddai am dano yn gwyro i lawr hyd ei haner wrth ddyfod i mewn trwy y drws, ac yn gwyro yr un fath wrth basio o dan swmer llofft y tŷ, ac yn cyfarch y teulu, gan ddywedyd, "Lewsyn, Coedygweddill, ydw' i (wrth yr enw hwn yr adnabyddid ef cyn hyn ac yr hawg wedi hyn); 'rydw' i wedi dyfod yma i'r Ysgol at Siôn Ellis, ac yn dyfod atoch chwi i edrych a gaf fi lodgings." Dywedir nad oedd yn adnabod llythyrenau y wyddor pan yr aeth yno. Yr oedd rhai personau yn byw yn yr ardal yn lled ddiweddar oeddynt yn cofio gwraig, yr hon, yr adeg yr ydym yn cyfeirio ati, oedd yn eneth fechan, ac yn ferch i un o amaethwyr y gymydogaeth, a ddysgodd Lewis Morris i adnabod y llythyrenau, tra yr oedd yr athraw wrthi yn dysgu y plant eraill. Ac fe barhaodd tymor ei ysgol am dair wythnos! Ymhen ychydig wedi hyny, fe ddechreuodd Lewis Morris bregethu; ymhen pum' mlynedd, yr oedd yn bregethwr pur adnabyddus. Hynod mor wahanol erbyn hyn ydyw moddion addysg, a'r ffordd i bregethwr ddechreu pregethu. Pregethwr, neu efrydydd yn myn'd i Fryn-y-gath i'r Ysgol! Bryn-y-gath, o bob lle yn y byd, fuasai y lle olaf i ymgeiswyr am y weinidogaeth fyned i chwilio am addysg, yn yr oes aml-freintiog hon. Y mae pob to o efrydwyr sydd wedi bod yn Athrofa y Bala yn gwybod pa le y mae Abergeirw. Oddeutu milldir i'r de orllewin o Abergeirw, y mae Bryn-y- gath. Ffermdy unigol ydyw, a'i sefyllfa ar ben llechwedd uchel, uwchlaw ceunant rhamantus, mewn rhandir anhygyrch ac anghysbell, yn y pellderoedd pell, rhwng bryniau Meirionydd, ddeng milldir hir o Ddolgellau, saith o Drawsfynydd, a deg neu well dros y mynydd noethlwm, o'r Bala. Yno y bu un o bregethwyr cyntaf Gorllewin Meirionydd yn derbyn ei addysg, yn un o Ysgolion Cylchynol y dyddiau gynt. Pregethai Mr. Charles un tro, ar ddiwrnod teg o haf, yn yr awyr agored o flaen tŷ Bryn-y-gath, a thra yr oedd yn egluro yn ei bregeth am ail enedigaeth, dywedai rhai o'r bechgyn oeddynt wedi d'od i fyny o'r cymoedd i'r odfa, y naill wrth y llall, "Glywi di, glywi di, y dyn yn son am eni ddwywaith!" Mor fyred oedd eu gwybodaeth fel na feddent yr un dychymyg am ail enedigaeth. Bu rhai o berthynasau Mrs. Charles yn byw yn Bryn-y-gath ychydig yn flaenorol i'r amser crybwylledig. Ychydig yn is i lawr na'r lle, yr ochr arall i'r ceunant, y mae Cwmhwyson, neu fel y swnir ef gan y cymydogion Cwmeisian, man genedigol Williams o'r Wern.

Yn y lle hwn a lleoedd cyffelyb, megis y dywedir yn ei fyrgofiant yn y Drysorfa Ysbrydol, yn "symud o le i le yn mharthau uchaf Swydd Meirion," y treuliodd John Ellis ddeng mlynedd o'i amser gyda'r Ysgol deithiol. Ond er yr anfanteision mawrion, mewn ardaloedd noethlwm, anghysbell, teneu eu poblogaeth, byr eu hamgyffredion, fe lwyddodd yn fawr yn y swydd o ysgolfeistr, i addysgu llawer o ieuenctyd y wlad, yn gystal ag yn y swydd uwch o bregethwr yr efengyl, fel y gadawodd argraff ddaionus ar y wlad yr oedd yn byw ynddi, ac y mae coffa am dano eto, ymhen yr holl flynyddoedd wedi iddo fyned i ffordd yr holl ddaear. Dywediad Mr. Humphreys, o'r Dyffryn, am dano ydoedd, "Yr oedd John Ellis, y Bermo, yn HYPER-Calfin mewn athrawiaeth, ac yn moral agent yn ei fuchedd a'i rodiad yn y byd." Ymhen llai na deng mlynedd wedi iddo ddechreu pregethu, bu raid iddo ef a'i frodyr yn y weinidogaeth gymeryd trwydded (license) i bregethu, er mwyn ei ddiogelwch rhag cosb y gyfraith. A ganlyn ydyw y drwydded, yr hon sydd wedi ei hysgrifenu ar groen, ac wedi ei harwyddo gan y swyddog gwladol, yn Llys Sirol y Bala, yn mis Gorphenaf, 1795:—


"Thomas A Beckett Sessions."
MERIONETH}
To WIT. }
This is to certify that John Ellis, of Barmouth, in the' County of Merioneth, hath this seventeenth day of July, One Thousand Seven Hundred and Ninety Five, in open Court at the General Quarter Sessions of the Peace held at Bala in and for the said County, before Rice Anwyl and Thomas Davies, Clerks, being Justices assigned to keep the peace in and for the said County, taken the usual oath and subscribed the Declaration to qualify himself as a Protestant Dissenting Preacher and Teacher according to the Act of Parliament in that case made and provided.
EDWARD ANWYL,
Dpt. Clk. of the Peace."



Mae y Drwydded, fel yr ysgrifenwyd hi yn y Llys Sirol, yn awr yn meddiant wyr John Ellis, sef Mr. John Timothy, Einion House, Friog, yr hwn sydd wedi bod yn flaenor ffyddlawn yn eglwys y Friog am lawer o flynyddoedd, ac yn Abermaw am lawer o amser yn flaenorol. Mae ef yn bwriadu cyflwyno y drwydded i Lyfrgell Athrofa y Bala, os nad ydyw eisoes wedi gwneyd hyny, i fod yn goffadwriaeth weledig i'r oesoedd a ddaw o helyntion yr amseroedd gynt.

Y mae yn perthyn i eglwys y Methodistiaid yn Abermaw (capel Caersalem yn awr) hen lyfr, yn cynwys rhestr o enwau y cyflawn aelodau am y flwyddyn 1810. Rhif y meibion, 22; merched, 50; cyfan, 72. Yn eu plith y mae enw John Ellis, ac am fis Awst y flwyddyn hono, y mae y gair marw ar gyfer ei enw yn y llyfr. Dyna y mis a'r flwyddyn y cymerodd hyny le, yn y 52ain mlwydd o'i oedran. Yr oedd hyn flwyddyn cyn i'r Ordeiniad cyntaf ymhlith y Methodistiaid gymeryd lle. Yn ol ei safle, o ran parch a dylanwad yn y Sir, pe buasai byw un flwyddyn yn hwy, y tebygolrwydd ydyw mai John Ellis, Abermaw, fuasai un o'r rhai cyntaf i gael ei ordeinio o Feirionydd.

PENOD IV.

GOSOD Y PREGETHWYR A'R ADDOLDAI O DAN AMDDIFFYNIAD Y GYFRAITH.

Pedwar pregethwr cyntaf Gorllewin Meirionydd—William Pugh, Llechwedd—Ei gartref—Ei dröedigaeth—Maesyrafallen, y lle y pregethid gyntaf gan yr Ymneillduwyr—Yn cadw yr Ysgol Gylchynol yn Aberdyfi —Milwyr yn ei ddal yn ei dy—Darluniad o agwedd y wlad gan Robert Jones, Rhoslan—Mr. Charles ar fater yr Erledigaeth fawr yn 1795—Yr Erledigaeth ffyrnicaf yn ardaloedd Towyn, Meirionydd—Y milwyr yn methu dal Lewis Morris—Ymwared yn dyfod o'r Bala—Chwarter Sessiwn Sir Feirionydd, 1795—Diwedd oes William Pugh.

UN o'r pedwar cyntaf a ddechreuodd bregethu ymhlith y Methodistiaid yn Ngorllewin Meirionydd ydoedd William Pugh, Llechwedd, plwyf Llanfihangel-y-Pennant. Y pedwar, yn ol trefn amseryddol, oeddynt Edward Roberts, Trawsfynydd, yr hwn a adnabyddid yn ei oes wrth yr enw Hen Vicar y Crowcallt; John Ellis, Abermaw; Edward Foulk, Dolgellau; a William Pugh. Fe ddechreuodd Lewis Morris yn fuan wedi hyn. Ond nid ydyw yn hollol sicr pa un ai Edward Foulk ai William Pugh ddechreuodd lefaru gyntaf. Dywed Methodistiaeth Cymru, ac yr oedd Robert Jones, Rhoslan, wedi dweyd yr un peth o'i flaen, nad oedd yr un cynghorwr i'w gael yn y flwyddyn 1785, o Roslan yn Sir Gaernarfon, hyd Fachynlleth yn Sir Drefaldwyn. Mor anaml oedd y cynghorwyr y pryd hwnw o'u cymharu â'r nifer sydd yn yr un rhanbarth yn awr, ymhen cant a naw (1894) o flynyddoedd! Rhoddwyd hanes yr ysgolfeistr a'r pregethwr dylanwadol, John Ellis, Abermaw, yn yr ysgrif ddiweddaf. Gwneir yn bresenol rai crybwyllion am William Pugh. Ni chyrhaedd— odd efe enwogrwydd John Ellis, fel ysgolfeistr na phregethwr; eto, teilynga ei enw le ymhlith ffyddloniaid y Cyfundeb yn Sir Feirionydd, ar gyfrif ei fod wedi sefyll yn dyst amlwg dros y gwirionedd mewn amser hynod ar grefydd, ac am mai efe oedd un o'r rhai cyntaf a gafodd ei ddirwyo i £20 am bregethu heb drwydded, amgylchiad a arweiniodd y Cyfun- deb i alw eu hunain yn Ymneillduwyr, ac i geisio nawdd cyfraith y tir dros y pregethwyr a'r capelau, yn gystal a thros y tai anedd lle y pregethid yr efengyl ynddynt.

Ganwyd William Pugh yn Maesyllan, ffermdy adnabyddus o fewn chwarter milldir i'r Llechwedd, man lle y treuliodd gydol ei oes, Awst 1af, 1749. Yr enw wrth yr hwn yr adnabyddid ef, ac yr adnabyddir ef hyd heddyw, yn mro ei enedigaeth, ydoedd William Hugh. Ystyrid ei rieni yn grefyddol, yn ol syniad pobl yr oes hono am grefydd. Llenwid meddwl. y bachgen William âg ystyriaethau crefyddol, tra yn ieuanc iawn. Byddai rhyw feddyliau arswydlawn am holl-bresenoldeb Duw a byd tragwyddol yn ei feddianu wrth fugeilio defaid ar hyd ochrau Cader Idris. Ond gwisgodd yr argraffiadau hyny ymaith, ac aeth yntau i ddilyn chwareuon a champau yr amseroedd, a dywedir ei fod ar y blaen gyda'r cyfryw gampau. Yr oedd yn fwy diwylliedig na'r cyffredin o'i gyfoeswyr; medrai ganu Salmau, a darllen y llithoedd yn Eglwys y plwyf pan yn bump oed; dygasid ef i feddwl am bethau yn eu pwysigrwydd cynhenid, a meddai ar deimladau coeth a thyner. Pan o dan argyhoeddiad, llenwid ei fyfyrdodau â braw yn yr olwg ar ei gyflwr colledig, yn gymaint felly nes iddo fod ar fin colli ei synwyrau. Crefydd eglwys y plwyf oedd ei grefydd oll yn nyddiau ei ieuenctyd. Saif Maesyllan, lle y ganwyd ef, a'r Llechwedd, lle y treuliodd ei oes, yn ngolwg eglwys plwyf Llanfihangel-y-Pennant, ac o fewn rhyw ddau ergyd careg iddi. Mae y Llechwedd, fel yr arwydda yr enw, ar lechwedd bryn uchel, yn gwynebu ar Gader Idris, y wyneb pellaf oddiwrth Ddolgellau, bron wrth droed y Gader, a rhyw ddwy filldir o Abergynolwyn, ac wyth milldir o Dowyn. Yn Ty'nybryn, yn yr ardal hon y ganwyd Dr. William Owen Pughe, y Geiriadurwr enwog, ddeng mlynedd ar ol genedigaeth William Hugh. Yn yr un ardal hefyd y ganwyd Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl. Ac at William Hugh i'r Llechwedd yr aeth Mary Jones, ar ol casglu digon o arian, i ymholi ymha le y gallai gael Beibl. Yntau a'i cyfarwyddodd, yn y flwyddyn 1800, pan oedd hi yn 16 oed, i'r daith fythgofiadwy i'r Bala, at Mr. Charles, i geisio Beibl. Yr oedd William Pugh y pryd hwnw vn haner cant oed, ac yn swn ei gynghorion a'i weinidogaeth ef y gwreiddiodd argraffiadau crefyddol cyntaf ar feddwl Mary Jones.

Priodolai William Pugh ei droedigaeth i'r adeg yr aeth i wrando ar y Parch. Benjamin Evans, gweinidog perthynol i'r Annibynwyr, yn pregethu yn agos i'r Abermaw. Nid oedd gan y Methodistiaid, na'r un enwad Ymneillduol arall, achos crefyddol yn un man yn yr holl wlad, yn amgylchoedd ei gartref, rhwng afon Abermaw ac afon Dyfi, yn nyddiau ei ieuenctyd. Ond deuai y gweinidog parchedig uchod yr holl ffordd o Lanuwchllyn (canys yno yr oedd yn weinidog) i ffermdy o'r enw Maes-yr-afallen, o fewn rhyw bedair milldir i Abermaw, i bregethu yn achlysurol, gan fod y tŷ hwnw wedi ei drwyddedu iddo i gynal moddion crefyddol. Clywodd William Pugh, a gwr arall o dueddiadau crefyddol, o'r enw John Lewis, am y pregethu ar ddull newydd oedd y tu draw i afon Abermaw, ac meddai yr olaf, "Dos di, William, i'w gwrando, ac i edrych pa beth sydd ganddynt; ti elli di wybod a oes ganddynt rywbeth o werth; ac os oes, minau a ddeuaf wed'yn." A rhyw foreu Sul, y mae William Pugh yn cychwyn i'w daith, dros lechwedd Cader Idris, pellder o leiaf o bymtheg milldir, i fyned i wrando ar y pregethu newydd. Ni fuasai erioed o'r blaen yn gwrando y tuallan i furiau Eglwys y plwyf, a synai yn fawr at ddull dirodres a diseremoni o gario y gwasanaeth ymlaen. "Yr oeddwn yn golygu," meddai, "fod i wr o ddull a gwisg gyffredin, esgyn i ben stôl i siarad â'i gyd-ddynion, yn beth tra simpl." Gair arferedig hyd. heddyw, yn y parthau hyn o Sir Feirionydd, ydyw y gair "simpl," neu "simpil." Golygir wrtho rywbeth islaw, neu waelach na'r cyffredin. Yr oedd dull y gwasanaeth mor wael ac mor ddieithriol yn ngolwg William Pugh, fel na ddeallodd ac na chofiodd yr un gair o bregeth y boreu. Ond am bregeth yr hwyr, testyn yr hon ydoedd Rhufeiniaid i. 16, "Canys nid oes arnaf gywilydd o efengyl Crist, oblegid gallu Duw yw hi, er iachawdwriaeth i bob un sydd yn credu," nid anghofiodd mo honi hyd derfyn ei oes. Glynodd y gwirionedd a draethwyd yn ei glywedigaeth yn yr odfa hono yn ei feddwl. O hyny allan yr oedd yn ddyn newydd, a dechreuodd cyfnod o ddefnyddioldeb ar ei fywyd. Bu yr amgylchiad hwn yn foddion i ddwyn yr Efengyl o'r tu hwnt i afon Abermaw i'r rhanbarth o'r wlad a elwir Rhwng y Ddwy Afon, rhanbarth sydd o leiaf yn bymtheng milldir o led, ac yn ugain milldir o hyd. Nid oedd yn y rhan hon yr un gynulleidfa Ymneillduol, na'r un gymdeithas Eglwysig, yr amser y daeth Mr. Charles i fyw i'r Bala, ac y dechreuodd sefydlu yr Ysgolion Cylchynol. Y mae o fewn yr un cylch yn awr, gan y Methodistiaid yn unig, ugain o eglwysi.

Bu William Pugh dros ryw dymor yn un o ysgolfeistriaid yr Ysgolion Cylchynol. Pa bryd y dechreuodd nid yw yn hysbys. Hawdd y gellir gweled fod ynddo y cymhwysderau yr edrychai Mr. Charles am danynt wrth gyflogi yr ysgol- feistriaid. Yr oedd yn fwy diwylliedig na'r cyffredin o'i gydoeswyr; yr oedd yn ddeallus, ac yn medru darllen, er yn dra ieuanc. Profir y ffaith ei fod i fesur yn ddeallus oddiwrth yr ymddiddan a fu rhyngddo ef a'i gyfaill, John Lewis, fel y crybwyllwyd eisoes, mewn perthynas i wrando yr Ymneillduwyr, tra yr oedd ef eto yn dra ieuanc, ac yn ol pob tebygolrwydd cyn iddo gael ei argyhoeddi, "Dos di, William, i'w gwrando, ac i edrych pa beth sydd ganddynt; ti elli di wybod a oes ganddynt rywbeth o werth." Yr oedd hefyd yn dyner ac addfwyn ei dymer, ac yr oedd yn feddianol ar gymeriad da a chrefydd amlwg-cymhwysderau a ystyrid y rhai penaf i gymeryd gofal yr ysgolion dyddiol dan sylw. Yr oedd yn 35 mlwydd oed pan y rhoddwyd y cychwyniad cyntaf i'r Ysgolion Rhad, ac yr oedd yn 40 pan ddechreuodd bregethu, yr hyn a gymerodd le o gylch y flwyddyn 1790. Oddeutu y tymor hwn, yn lled debygol, y bu am amser byr yn ysgolfeistr. Mewn un lle yn unig y ceir crybwylliad am dano yn cadw ysgol o dan arolygiaeth Mr. Charles, sef yn yr Hen Felin, mewn cwm cul, neillduedig, oddeutu milldir o Aberdyfi, yn nghyraedd golwg y ffordd fawr sydd yn arwain oddiyno i Fachynlleth. Yn y cwm neillduedig hwn, yn yr Hen Felin, y dechreuwyd yr achos crefyddol yn Aberdyfi, ac yno y bu yr ysgolfeistr hwn yn cadw yr ysgol. Nid oes wybodaeth i William Pugh fod lawer oddicartref gyda'r Ysgolion Cylchynol, ac nid yw yn debyg iddo fod wrth y gorchwyl hwn yn hir. Efengylwr defnyddiol yn nghylchoedd ei gartref ydoedd. Yn ei gartref, yn y Llechwedd, y bu yn preswylio dros dymor maith ei fywyd. Yn ei gartref yr ydoedd pan yr anfonwyd deuddeg o filwyr arfog, y rhai a aethant i mewn i'w dŷ yn foreu iawn, ar ddydd Gwener, yn nechreu haf 1795, ac a'i daliasant yn ei wely. Wedi derbyn y wŷ's aeth gyda'r milwyr i lawr i Dowyn i ymddangos o flaen yr Ustus Heddwch, yr hwn a'i dirwyodd i 20 am bregethu heb fod ganddo drwydded gyfreithiol i wneuthur hyny. Yr amgylchiad hwn ynghyd ag ychydig o rai cyffelyb, a greodd gynwrf mawr yn y Cyfundeb, ac a arweiniodd i'r penderfyniad i osod personau ac anedd-dai o dan amddiffyniad cyfraith y tir, yn y flwyddyn grybwylledig.

Y Parch. Robert Jones, Rhoslan, hanesydd hynaf y Methodistiaid, ag eithrio Mr. Charles ei hun, yn Nrych yr Amseroedd, a ddywed:—"Bum yn rhyfeddu lawer gwaith, er maint a ddyfeisiwyd o ffyrdd i geisio gyru crefydd o'r wlad, trwy erlid mewn pregethau, ac argraffu llyfrau i'r un diben, taflu rhai allan o'u tiroedd, trin eraill yn greulawn trwy eu curo a'u baeddu yn ddidrugaredd, dodi rhai yn y carcharau, ymysg eraill un Lewis Evan (Llanllugan, Sir Drefaldwyn), a fu yn y carchar yn Nolgellau flwyddyn gyfan, gyru eraill yn sawdwyr, &c., a chan faint o ddichellion a arferwyd, pa fodd na buasai rhai yr holl flynyddoedd yn defnyddio'r gyfraith i gosbi pregethwyr, ynghyd a'r rhai oedd yn eu derbyn hefyd? Ond fe guddiwyd hyny rhag y doethion a'r deallus trwy yr holl amser; a thrwy hyny fe gafodd yr efengyl yr holl wlad o'i blaen i daenu ei newyddion da yn y prif—ffyrdd a'r caeau, trefydd, pentrefi, mynyddoedd, a glanau y moroedd, &c., yn ddirwystr, oddieithr y byddai ychydig erlid weithiau. Y cyntaf a ddefnyddiodd y gyfraith oedd rhyw wr boneddig. oedd yn byw yn Sir Feirionydd. Daliwyd un William Pugh, a gorfu arno dalu ugain punt o ddirwy. Ciliodd Lewis Morris i'r Deheudir rhag ei ddal, ac yno rhoddodd ei hun dan nodded y llywodraeth."

Y mae Mr. Charles yn ei Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig—llyfr bychan rhagorol a ddygwyd allan yn Gymraeg ddechreu y flwyddyn hon (1894)—yn crybwyll amryw ffyrdd a ddefnyddiodd y gelynion i ymosod ar y Methodistiaid, a chyfeiria yn ei lyfr at yr ymosodiad crybwylledig yn y paragraff uchod. Y blynyddoedd cyntaf, y wedd ar yr ymosodiad ydoedd ffyrnigrwydd y werin anwybodus, arfau creulondeb y rhai oedd ffyn, llaid, a cheryg." Archollwyd llawer o'r saint yn eu cyrff, ac ni iachawyd eu creithiau nes disgyn of honynt i'r bedd. Ar ol hyn newidiwyd y dull o erlid. Ceisiwyd rhoddi deddf y Ty Cwrdd (Conventicle Act) mewn grym. Ebe Mr. Charles, "Costiodd ein hymlyniad diysgog wrth yr Eglwys Sefydledig i ni mewn dirwyon, yn ystod un flwyddyn, yn agos i gan' punt; oblegid yr oeddym yn petruso cofrestru ein tai addoliad, a thrwyddedu ein pregethwyr fel Ymneillduwyr." Cyfeirir yn y costau mewn un flwyddyn mewn dirwyon, yn ddiamheu, at yr amgylchiadau cythryblus a gymerodd le yn y rhan grybwylledig o Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1795. Yn y rhan olaf o'r dyfyniad hefyd, dyry Mr. Charles eglurhad ar y ffaith ddarfod i'r Methodistiaid oedi yn hir i alw eu hunain yn Ymneillduwyr. Hyny yw, oherwydd eu hymlyniad wrth yr Eglwys Sefydledig, yr oeddynt yn petruso cofrestru y tai a thrwyddedu y pregethwyr, ac nis gallent wneuthur hyn heb iddynt yn gyntaf gydnabod eu hunain yn Ymneillduwyr. Bu y mater hwn gerbron mewn Cymdeithasfa a gynhaliwyd mor foreu a'r flwyddyn 1745. Barnai rhai o'r cynghorwyr y pryd hwnw mai gwell oedd iddynt osod eu hunain o dan amddiffyniad y gyfraith trwy gymeryd trwydded i bregethu, gan eu bod mewn ofnau i gael eu dal, a'u cymeryd yn garcharorion. Yr hyn y cytunwyd arno yn y Gymdeithasfa hono (ceir y penderfyniad yn y Trevecca Minutes) ydoedd, "y byddai cymeryd trwydded gyfreithiol i bregethu ar hyn o bryd, ar y naill law, a gadael y gwaith ar y llaw arall, yn ddianrhydedd i'r Arglwydd." Mor gadarn y glynai y tadau wrth yr hyn a ystyrient oedd yn iawn. Tra yr oedd yr enwadau Anghydffurfiol eraill yn cydnabod eu hunain yn Ymneillduwyr, ac mewn canlyniad yn meddu hawl gyfreithiol i gofrestru lleoedd addoliad, ac i drwyddedu pregethwyr, parhaodd y Methodistiaid am haner can' mlynedd lawn i sefyll at y penderfyniad a basiwyd ganddynt yn y Gymdeithasfa uchod yn Mlaen-y-glyn, Gorphenaf 3ydd, 1745— Ond daeth amgylchiadau, pa fodd bynag, i wisgo gwedd mor fygythiol, fel y gorfu iddynt hwythau fyned i lechu o dan gysgod cyfraith y tir, yr hyn a wnaethant trwy gyffesu y broffes angenrheidiol o'u Hymneillduaeth. Yn yr amser a grybwyllwyd eisoes, yr oedd yn byw yn Ynys Maengwyn, yn agos i Dowyn Meirionydd, foneddwr yn llawn llid yn erbyn y Methodistiaid, yr hwn a gymerodd y gyfraith yn ei law ei hun i gosbi gyda llymder tost y pregethwyr, a'r rhai a wrandawent arnynt. Gan ei bod yn amser o ryfel poeth a pharhaus rhwng y deyrnas hon a Ffrainc, cadwai y boneddwr nifer o filwyr o amgylch ei balas. Dywed yr hen bregethwr, Lewis Morris, yr hwn a breswyliai o fewn saith milldir i balas y boneddwr, a'r hwn oedd yn berffaith hysbys yn holl amgylchiadau yr erledigaeth, fod ganddo gynifer a "phedwar ugain" o filwyr wrth ei alwad. Bu y milwyr o wasanaeth mawr iddo i gario amcanion yr erledigaeth ymlaen, ac i greu dychryn ymhlith y crefyddwyr. Dechreuasai yr erledigaeth, a gwelid arwyddion ystorm yn crynhoi er's rhai blynyddau, ond yn y flwyddyn 1795 y torodd allan yn ei gwedd ffyrnicaf, ac y cyrhaeddodd ei phwynt uwchaf. Gosodai y boneddwr gyflegrau a drylliau ar gyfer y manau y cynhelid y gwasanaeth crefyddol, gan fygwth chwythu yn ddrylliau pwy bynag a ymgasglent yno, Yr oedd ganddo denantiaid yn ardal Corris; hyd y gellir gweled, yno y dechreuodd yr erledigaeth yn y wedd ffyrnig hon. Yno y bygythiwyd bwrw Jane Roberts, Rugog, un o'r pump crefyddwyr cyntaf yn Nghorris, allan o'i thyddyn. Yno yr oedd Dafydd Humphrey yn byw, gwr duwiol a phenderfynol, taid Mr. Humphrey Davies, U.H., Abercorris, yr hwn pan glywodd fod y milwyr ar eu ffordd i Gorris, a gymerodd y pulpud ar ei gefn o'r Hen Gastell, y ty y cynhelid y gwasanaeth crefyddol ynddo, ac a'i cuddiodd yn y beudy; yntau ei hun a ymguddiodd yn y rhedyn ar y llechwedd uwchlaw, "a gwelwn," meddai, "y fyddin arfog yn dyfod dan saethu, nes oedd y mwg yn llenwi Cwm Corris o ben bwygilydd." Wedi aflwyddo y tro hwn, gyrwyd y milwyr allan i ddal a dirwyo eraill. Anfonwyd deuddeg o honynt, fel y crybwyllwyd, i ddal William Pugh. Cymerodd un o'r deuddeg arno fod yn glaf ar y ffordd, ac ymesgusododd; ond cyrhaeddodd yr unarddeg yn arfog at y Llechwedd, a daliasant y pregethwr yn ei wely. Aeth yntau gyda'r milwyr o flaen yr Ustus, a gorfu iddo dalu £20 o ddirwy. Trwy gynildeb ei wraig, medd yr hanes, ynghyd a chynorthwy cyfeillion eraill, talwyd yr ugain punt, a gollyngwyd yntau yn rhydd. Cariwyd y newydd i glustiau y boneddwr fod William Pugh wedi pregethu drachefn yn Nolgellau, a phe llwyddasid i'w ddwyn i'r ddalfa yr ail dro, buasai y ddirwy yn £40. Rhag yr aflwydd hwn, llwyddodd i ddianc i ymguddio yn rhywle hyd Chwarter Sessiwn nesaf y Sir, pryd y rhoddwyd iddo amddiffyniad y gyfraith. Dywedwyd am Lewis Morris, ddarfod iddo ddianc i'r Deheudir rhag y rhai a geisient ei ddwyn i'r ddalfa. Yr oedd yn wybyddus iddo ef ei hun, ac i'w gyfeillion, fod yn mwriad y boneddwr erlidgar, pe llwyddasai i'w ddal, ei roddi ar fwrdd Man of War, neu ei anfon ar unwaith i faes y gwaed. Rhoddasid gorchymyn cyn hyn i'w gymeryd i fyny pan yn pregethu heb fod nepell oddiwrth balas y gwr mawr, ond ofnai y dynion osod llaw arno, gan ei fod y fath gawr o ddyn. Modd bynag, gymaint oedd awch yr erlidiwr i anrheithio y rhai penaf o'r saint, fel y rhoddodd orchymyn i'r milwyr, dranoeth wedi dal William Pugh, i fyned allan i ddal Lewis Morris. Ond yn rhagluniaethol yr oedd ef wedi myned oddicartref, ar gyhoeddiad i Sir Drefaldwyn, ac ar ei ffordd adref aeth i'r Bala, ac erbyn hyn yr oedd Mr. Charles, a John Evans, ac eraill, mewn pryder mawr yn ei gylch, a hwy a'i perswadiasant ef i beidio myned adref, ond i ffoi i Sir Benfro, at Cadben Bowen, Llwyngwair, yr hwn oedd yn Ustus Heddwch, ac yn aelod gyda'r Methodistiaid. Mor rhamantus ydyw hanes y daith hon, ac mor rhyfedd y diangodd yr hen bererin rhag cael ei fradychu, a'i ddwyn i'r ddalfa. "Ar y ffordd o'r Bala," ebe ef ei hun, "yr oeddwn yn myned trwy bentref Llanymowddwy; yr oedd yn enyd o'r nos, a gwaeddais wrth y tollborth yno; daeth y gwr yn ei grys i agor y gate, ac a ofynodd i mi i ba le yr oeddwn yn teithio? Ymlaen,' ebe finau. Y mae yn fyd garw tua Thowyn,' meddai ef; 'mae yno wr boneddig yn erlid. pregethwyr y Methodistiaid; ac efe a rydd ddeugain punt am ddal un o honynt,' gan fy enwi i, 'ac y mae y milwyr yn chwilio yn ddyfal am dano.' Ymlaen yr aethum, a chyrhaeddais balas Llwyngwair mewn diogelwch, lle cefais dderbyniad croesawgar, a charedigrwydd mawr; ond ni chefais license i bregethu cyn y Chwarter Gwyl Mihangel, pan y daeth Cadben Bowen gyda mi i Gaerfyrddin, ac a gafodd un i mi yno."

Nid oedd pall bellach ar weithredoedd creulawn y gŵr erlidgar hwn i geisio llethu y crefyddwyr. Clustfeiniai am unrhyw gwynion yn erbyn y saint, ac fel Saul o Tarsus, taranai fygythion i'w herbyn, gan geisio eu difetha trwy y dull hwn o erlid a gymerasai mewn llaw. Heblaw gosod dirwy o £20 ar William Pugh, gosododd ddirwy o £20 ar Griffith Owen, Llanerchgoediog, £20 ar Edward Williams, Towyn, ac £20 ar dŷ yn Bryncrug. Nid oedd eto yr un capel wedi ei adeiladu yn yr holl ddosbarth hwn o'r wlad; yr oedd yma naw neu ddeg o eglwysi wedi eu ffurfio er ys pedair neu bum' mlynedd, a'r gwasanaeth crefyddol yn cael ei gynal mewn tai anedd. Yr oedd y crefyddwyr wedi eu dal gan ddychryn, tafodau y pregethwyr wedi eu distewi, a hwythau wedi cymeryd y traed i ffoi, a rhai o'r dynion a'u derbynient i'w tai yn ffoi gyda hwy, ac am dymor byr yr oedd yr holl achosion crefyddol rhwng y ddwy Afon wedi sefyll yn hollol. Mr. Charles oedd eu noddwr yn eu trallod a'u hofnau. Ato ef yr oeddynt yn apelio am gydymdeimlad a chyfarwyddyd. Yr oedd llawer o ymohebu â'r Bala yn y cyfwng pwysig yr oedd yr eglwysi ynddo. Ac oddiyno y cododd. ymwared yn yr amgylchiad hwn, fel llawer amgylchiad arall. Cymerwyd yr achos i ystyriaeth mewn Cymdeithasfa yn y Bala, ai nid priodol oedd gosod y pregethwyr a'r tai addoliad yn ddioedi o dan nawdd y gyfraith, trwy y Ddeddf Goddefiad. Nid oedd pawb eto yn cydweled. Gwrthwynebid gan y brodyr o Sir Gaernarfon, gan na fynent ar un cyfrif gael eu galw yn Ymneillduwyr. Ond yr oedd Mr. Charles, a John Evans, o'r Bala, yn bleidiol. Ar y cyfan, fodd bynag, yr oedd addfedrwydd yn awr yn y Cyfundeb i gymeryd y cam hwn y buwyd. yn hwyrfrydig o'r dechreu i'w gymeryd; ac wrth weled peryglon mawrion pregethwyr ac aelodau trwy yr erlidigaeth chwerw hon, boddlonodd pawb. Bellach yr oedd disgwyliad mawr am Chwarter Sessiwn y Sir, yr hwn a gynhelid yn y Bala, yr unig lys cyfreithiol lle yr oedd y trwyddedau i'w cael. Yr oedd y ffoedigion wedi ymgasglu ynghyd yno, ynghyd a phawb oedd yn disgwyl cael eu gosod dan nawdd y gyfraith. Yr oedd Mr. Charles a brodyr zelog y Bala wedi sicrhau gwasanaeth cyfreithiwr galluog, yr hwn oedd yn Ymneillduwr, sef Mr. David Francis Jones, o Gaerlleon, i'w hamddiffyn. Ac ar y 17eg o Gorphenaf, 1795, rhoddwyd allan lïaws o'r trwyddedau cyfreithiol, a chydnabyddodd y Methodistiaid eu hunain o hyny allan yn Ymneillduwyr.

Yr oedd ynadon Sir Feirionydd yn gryf a phenderfynol yn erbyn rhoddi y trwyddeddau cyfreithiol hyn i'r Methodistiaid, a phe gallasent eu gomedd, ni roddasent mo honynt o gwbl. Ond yr oedd y gyfraith yn eu gorfodi i'w rhoddi, a phe buasent yn gwrthod, buasai y gyfiaith yn cael ei thori, a hwythau eu hunain yn dyfod i afael y gyfraith fel ei throseddwyr. Un o'r ynadon a'u harwyddodd, yr hwn oedd offeiriad Llandderfel, a ddywedai yn gyhoeddus yn y llys, "Os rhaid i'm llaw arwyddo y papyrau hyn, y mae fy nghalon yn erbyn hyny." "Y cwbl sydd arnom ni eisieu," ebe Mr. Jones, cyfreithiwr y Methodistiaid, "ydyw eich llaw; am eich calon, nid ydym ni yn gofalu dim am hono."

Un o ffyrdd y gelynion oedd yr erledigaeth hon i ymosod ar y Methodistiaid yn ystod y cant a haner o flynyddoedd eu hanes, a hyny wedi i oruchwyliaeth "y ffyn, y llaid, a'r ceryg beidio." Y dull nesaf ydoedd ymosodiad trwy y wasg, cyhuddo ger bron y byd bobl gywir eu hamcanion, gan draethu anwireddau, a chyhoeddi traethodau adgas ac enllibus i'w pardduo. Ac ymhen y saith mlynedd union ar ol yr amgylchiad cyffrous y rhoddwyd darluniad o hono, sef yn y flwyddyn 1802, y galwyd ar Mr. Charles, trwy benodiad y Gymdeithasfa, i ysgrifenu ei Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig.

Ar ol i helyntion blwyddyn gofiadwy yr erledigaeth fawr fyned heibio, treuliodd Wm. Pugh ei oes, mewn heddwch a llonyddwch, yn y Llechwedd, ei gartref neillduedig a thawel. Nid oes hanes am dano yn cadw ysgol o hyny allan. Yn ei dy ef, wedi ei gofrestru, mae yn debyg, y cynhelid holl wasanaeth crefyddol yr ardal am flynyddoedd, a'r moddion a gynhelid yno a ddaeth yn hedyn yr achos sydd yn awr yn Abergynolwyn. Efengylydd mwyn a thyner ydoedd ef, ei lais yn beraidd a soniarus a chryf. Efe am dymor maith fyddai yn arwain y canu ar y maes yn Sasiynau y Bala. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a bu yn ddefnyddiol iawn gydag achos crefydd yn ei ardal ei hun a'r ardaloedd cylchynol. Y mae ei hiliogaeth a'u hysgwyddau yn dynion o dan yr arch gyda'r Methodistiaid hyd heddyw, a rhai o honynt yn gerddorion fel yntau. Bu farw Medi 14, 1829, yn 80 mlwydd oed. Ysgrifenwyd cofiant am dano i'r Drysorfa gan ei fab, yr hwn

a fu am flynyddau yn arweinydd y canu yn un o gapelau Liverpool.

PENOD V.

Y PARCH ROBERT EVANS, LLANIDLOES.

Yr Ysgolfeistriaid yn dianc rhag cael eu herlid—Eu dull o symud o fan i fan —Tystiolaeth y Parch. Robert Jones, Rhoslan, yn Nrych yr Amseroedd—Meirion a Threfaldwyn yn cael yr Ysgolion gyntaf—Y Parch. Thomas Davies, Llanwyddelen—Bore oes y Parch. Robert Evans—— Yn cychwyn o'r Bala yn 1807—Yn cyflawni gwrhydri yn ngwaelod Sir Drefaldwyn—Blaenffrwyth y Diwygiad yn ngwaelod y Sir—Darluniad Robert Evans o'r wlad o gylch 1808—Llythyr Mr. Charles—Robert Evans yn symud i Lanidloes—Yn ddiweddaf oll i Aberteifi.

YR oedd yr Ysgolion Rhad Cylchynol wedi eu rhoddi ar waith gan Mr. Charles, ddeng mlynedd lawn cyn blwyddyn yr Erledigaeth fawr yn Sir Feirionydd yn 1795, y rhoddwyd ychydig o'i hanes yn y benod flaenorol. Erbyn y flwyddyn hon, yr oeddynt wedi gwneuthur llawer o wasanaeth, ac wedi cyraedd yn agos i anterth eu poblogrwydd a'u defnyddioldeb. Yr ysgolfeistriaid, yn rhinwedd eu swydd fel rhai yn dysgu ieuainc a hen i ddarllen gair yr Arglwydd, fuont yn foddion i ffurfio cnewyllyn yr achos mewn llawer ardal, yn y cyfnod hwn. Ond nid oes wybodaeth ddarfod i neb o honynt hwy am eu bod yn ysgolfeistriaid, syrthio o dan fflangell yr Erledigaeth grybwylledig, er i lawer o honynt gael eu camdrin yn chwerw mewn manau eraill. Y pregethwyr, o herwydd eu bod yn pregethu heb drwydded, a'r tai a'u derbynient i bregethu ynddynt heb eu trwyddedu, ydoedd nôd dialedd yr erlidwyr yn yr erledigaeth hon. Hawdd y gallasai yr ysgolfeistriaid symudol, yn anad neb, ddianc o gyrhaedd y poenydwyr, gan nad oedd i neb o honynt hwy ddinas barhaus yn unman. Gwaith cydmarol rwydd, yn yr ystyr o ymfudo, ydoedd symud yr ysgol a'r ysgolfeistr yn nyddiau goruchwyliaeth yr Ysgolion Cylchynol. Sefydlid yr ysgol mewn ardal, a symudid hi i ardal arall, pan ddelai y tymor i fyny, mewn llai o amser nag un-dydd un-nos. Yr oedd y cyfleusderau i gynal yr ysgolion yn hynod o brinion ac anmhwrpasol. Nid oedd ysgoldai wedi eu hadeiladu mewn tref na gwlad; ac nid oedd ond ychydig iawn o gapelau y pryd hwnw. Gallesid, er engraifft, gyfrif holl gapelau Gorllewin Meirionydd, yn y flwyddyn 1800, ar benau bysedd un llaw, a thebyg ydoedd yn yr holl siroedd. Nid yn y capelau y cynelid yr ysgolion dyddiol cylchynol y pryd hyn, fel y buwyd yn gwneuthur am haner canrif wedi hyny; ond mewn tai anedd, ac ysguboriau, a beudai, neu unrhyw adeiladau eraill cysylltiedig â'r ffermdai. Byddai raid i'r trefi a'r pentrefi ildio eu hawl yn yr Ysgol, er mwyn iddi fyned yn ei thro i'r ardaloedd gwledig, a'r cymoedd anmhoblog, gan mai Ysgol Gylchynol ydoedd. Saith mlynedd yn ol (yn 1888), clywsom ŵr oedranus yn adrodd ddarfod iddo glywed ei dad yn adrodd, fel y cofiai yn dda am y diwrnod y daeth un o'r ysgolfeistriaid i dŷ ei rieni, i gychwyn ysgol yn yr ardal. Deuai yno, a'i gelfi a'i eiddo i gyd gydag ef, mewn car llusg. Yr oedd ei holl glud yn gynwysedig mewn sypyn o ddillad at ei angen ei hun, ynghyd ag ychydig o lyfrau elfenol er mantais i'r ysgol—llyfrau Cymraeg o waith Griffith Jones, Llanddowror, a'r rhai a ychwanegodd Mr Charles atynt. Arosa yn y ffermdy hwn un mis, gan dderbyn bwyd a llety yn rhad, yn y ffermdy arall y mis arall, ac felly yn y blaen. A phan ddelai y tri, neu chwech, neu naw mis i fyny, cychwynai ef a'i offer gydag ef yn yr un dull ag y daethai, i gychwyn yr ysgol drachefn mewn cymydogaeth arall. Mor syml a dirodres ydoedd yr hen ysgolfeistriaid, fel y gellid tybied eu bod wedi llwyrfeistroli cyngor yr Apostol, "O bydd genym ymborth a dillad, ymfoddlonwn ar hyny."

Ymddengys ddarfod i rai siroedd fwynhau ffrwyth yr Ysgolion Cylchynol yn fwy nag eraill. Gosodwyd mwy o nifer o honynt ar waith fel yr oedd y cyfleusderau yn rhoi. Lled sicr ydyw i'r bendithion a gyrhaeddwyd drwyddynt gyraedd i'r holl siroedd, ond y mae yn eithaf rhesymol i ni gredu fod cylch eu gweithgarwch uniongyrchol yn gyfyngach. Cyfodai nifer lliosocach o ddynion cymwys i fod yn athrawon mewn rhai cymydogaethau, a deuai galwadau am yr ysgolion yn fwy, a dylanwadai y naill beth ar y llall, fel y mae yr alwad yn effeithio ar y cynyrch, a'r cynyrch yn effeithio ar yr alwad. Dywed y Parch. Robert Jones, yn Nrych yr Amseroedd, mai mewn tair neu bedair o'r siroedd y sefydlwyd yr ysgolion. Dyma ei eiriau ef:—"Tua'r amser hwnw, cafodd y Parchedig T. Charles ar ei feddwl, ynghyd a rhai o'i gyfeillion yn Lloegr, sefydlu rhyw ychydig nifer o ysgolion rhad, trwy dair neu bedair o Siroedd Gwynedd, i'w symud o fan i fan bob haner blwyddyn; rhoddes y rhai hyn gychwyniad da, a chynydd dysgeidiaeth i lawer o dlodion. Ond tuhwnt i bob peth, yr Ysgolion Sabbothol a helaethodd freintiau yr oes bresenol, fel na bu y Cymry, er pan y maent yn genedl, mor gyflawn o ragorfreintiau ag ydynt yn y dyddiau hyn." Ysgrifenai Robert Jones Ddrych yr Amseroedd ymhen tua phum' mlynedd ar ol marw Mr. Charles, oblegid cyhoeddwyd y llyfr yn nechreu 1820. Yr oedd yr awdwr yn fwy hyddysg yn hanes. Cymru, o leiaf yn hanes crefydd Cymru, na neb arall am haner olaf y ganrif ddiweddaf, a chwarter cyntaf y ganrif bresenol, bu yn cadw ysgol ei hun, o fan i fan, o dan arolygiaeth Madam Bevan, ac yr oedd yn gwybod cystal a neb am Ysgolion Cylchynol Mr. Charles, oblegid yr oedd y ddau yn gyfeillion mynwesol. Nid oes, gan hyny, ddim amheuaeth o berthynas i gywirdeb ei dystiolaeth ef.

Nid ydyw Robert Jones yn enwi y tair neu bedair o Siroedd Gwynedd y sefydlwyd yr ysgolion ynddynt. Ond gallwn benderfynu hyd sicrwydd fod Sir Feirionydd a Sir Drefaldwyn. yn ddwy o honynt. Mae y ffaith fod Mr. Charles ei hun yn byw yn y Bala yn ddigon o reswm dros fod Sir Feirionydd wedi ei breintio yn helaeth yn yr ystyr hon, ac y mae mwy o hanes yr ysgolion fu ynddi hi ar gael hyd heddyw. Sir Drefaldwyn, hefyd, a ddaeth i mewn yn helaeth am yr un breintiau, am y rheswm, yn un peth, ei bod yn agosach i'r Deheudir, o'r lle y daeth y Diwygiad Methodistaidd; a chan fod rhanau o'r sir hon wedi ei harloesi yn foreuach, yr oedd yn barotach i dderbyn yr ysgolion. Gwnaeth Howell Harries ei ymddangosiad yma yn foreu, a dilynwyd ef gan amryw o'r diwygwyr eraill. Planwyd amryw o eglwysi, yn enwedig yn ngwaelod y sir, y pryd hwnw. Gafaelodd crefydd yn foreu mewn rhai parthau o'r wlad, fel erbyn dyddiau Mr. Charles, yr oedd y tir wedi ei fraenaru, ac yr oedd yma addfedrwydd a pharodrwydd i alw am yr ysgolion ar eu cychwyniad cyntaf allan. Mewn llawer o fanau, yr ysgolion dyddiol hyn a'r ysgolfeistriaid fyddent yn offerynau i ddeffro y bobl i ystyried eu cyflwr, a hwy fyddent y moddion uniongyrchol i ffurfio cnewyllyn achos crefydd yn y manau lle yr arhosent. Ond yn y sir hon, digwyddodd yn wahanol. Yr oedd eglwysi wedi eu planu, a chrefydd y Diwygiad wedi enill y blaen ar yr ysgolion, a digaregu y ffordd i'r fath raddau, nes peri addfedrwydd yn yr ardaloedd i alw am foddion addysg i'w plith, trwy offerynoliaeth yr Ysgolion Dyddiol Cylchynol. Heblaw hyny, hefyd, bu yr ysbryd crefyddol a ddaethai eisoes i'r cyrion hyn, yn foddion i fagu a meithrin dynion cymwys i fod yn athrawon, megis John Davies, y Cenhadwr, a John Hughes, Pontrobert, am y rhai y crybwyllwyd yn barod. Bu eraill hefyd yn ysgolfeistriaid. cyflogedig o dan arolygiaeth Mr. Charles, yn Sir Drefaldwyn, yn fwy agos i ddiwedd ei oes, ac yn eu plith yr ydoedd.

Y PARCH. T. DAVIES, LLANWYDDELEN.

Ychydig sydd wedi ei ysgrifenu am dano ef, ac y mae hanes ei fywyd yn awr yn anhawdd dyfod o hyd iddo, gan fod ei gydoeswyr wedi eu cludo o un i un at eu tadau. Ond y mae llawer o hen bobl yn ardal yr Adfa yn ei gofio yn dda. Dywedir y bu ei rieni yn byw yn ardal Cynwyd, yn Sir Feirionydd, ac mai yno y magwyd Thomas Davies. Yn y Gymdeithasfa, gan Mr. Edward Jones, Bangor, ceir ei enw yn rhestr gweinidogion Sir Drefaldwyn—yn dechreu pregethu yn 1821; yn cael ei ordeinio yn 1838; yn marw Ionawr 20, 1842, yn 49 mlwydd oed. Tebygol ydyw iddo dreulio ei oes bron yn gwbl yn rhan isaf y sir hon. Ysgrifenodd hanes yr achos yn Llanwyddelen, i Oleuad Cymru, yn 1830, cyfrol 7fed, tudal. 10. Cofnodir gan ysgrifenydd lleol ddarfod iddo fod yn weithgar gyda'r Ysgol Sabbothol, a llenwi y swydd o flaenor cyn dechreu ar waith y weinidogaeth. Meddai ddylanwad mawr yn yr ardal lle y preswyliai. Adnabyddid ef fel dyn tawel, diymffrost. Yr oedd ei ymddangosiad yn ddychryn i'r mwyaf gwamal. Rhedai heidiau o fechgyn gwamal yr ardal ymaith y foment y deuai ef i'r golwg.

Bu cais ar ol ei farw am wneuthur cofiant iddo, ond ni wnaed mo hyny. Cyfansoddodd John Hughes, Pontrobert, ac eraill, farddoniaeth ar ei ol. Dyn crwn, gwridgoch, cydnerth ydoedd; yn llawn yni a thân, yn lleisiwr da, ac yn bregethwr cymeradwy. Cadwai yr ysgol gylchynol o fan i fan. Bu yn ei chadw yn y Cefn Du, ffermdy ger Meifod. Y mae Mr. David Jones, Edgebold, Amwythig, sydd yn awr yn fyw, yn cofio ei fod yn yr ysgol yno gydag ef. Bu yn cadw yr ysgol yn Llanrhaiadr Mochnant hefyd, ymhen blynyddoedd ar ol y Parch. John Davies, y Cenadwr i Tahiti. Cadw yr ysgol y byddai yn yr Adfa, ac yn byw yn Tŷ Capel. Arhosai dros y Sul yn y Trallwm, mewn tŷ lle yr oedd y frech wen wedi bod, cafodd yntau y clefyd hwnw yno, a bu farw o hono ymhen ychydig ddyddiau, yn y flwyddyn a nodwyd, yn nghanol ei ddefnyddioldeb.

Y PARCH. ROBERT EVANS, LLANIDLOES.

Yr oedd ef yn wr cymeradwy iawn yn ei oes, a'i ddefnyddioldeb yn eang fel addysgwr a phregethwr. Ganwyd ef yn Llangower, gerllaw y Bala, yn y flwyddyn 1784. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Daniel Evans, y Penrhyn, Sir Feirionydd. Aelodau gyda'r Annibynwyr oedd ei rieni, a dygwyd yntau i fyny, yn more ei oes, gyda'r un bobl. Pan yn dair ar ddeg oed ymfudodd i'r Bala, at ewythr iddo, i ddysgu y gelfyddyd o wehydd. Ymunodd yno â'r Methodistiaid, a dechreuodd weithio gyda chrefydd yn fore. Yr oedd wedi ei eni bron yr un flwyddyn ag y ganwyd yr Ysgol Sabbothol; a chan fod ei gartref haner y ffordd rhwng Llanuwchllyn a'r Bala—lleoedd enwog am eu crefydd yr oes hono—clywodd swn caniadau Seion yn nyddiau ei febyd. Ac wrth symud i dref y Bala, dair blynedd cyn terfynu y ganrif ddiweddaf, symudai i blith nifer mawr o saint a phererinion. Aeth yno pryd yr oedd yn ddyddiau euraidd ar grefydd,—y proffwydi yn eu llawn nerth a gogoniant, y blaenoriaid a'r hen grefyddwyr yn bigion. duwiolion y wlad, y diwygiadau crefyddol yn aml, a'r Ysgol Sabbothol yn cyflymu tuag uchelfan ei phoblogrwydd. Yn nghanol awyrgylch mor dyner ac amgylchiadau mor ffafriol, gwreiddiodd argraffiadau crefyddol yn ddwfn ynddo, yn ystod y deng mlynedd y bu yn trigianu yn y Bala.

Pan yn dair ar hugain oed, Mr. Charles, yn ol ei graffder arferol, yn gweled ynddo elfenau dyn defnyddiol, a'i hanfonodd i gadw ysgol gylchynol, i ardaloedd tywyll a phaganaidd yn ngwaelod Sir Drefaldwyn, megis Llangynog, Llansilin, Llanrhaiadr, a manau eraill. Yn 1807 y mae Robert Evans yn gadael y Bala a Sir Feirionydd, ac yn wynebu ar y sir lle y treuliodd y rhan helaethaf o'i oes. Llangynog ydyw y lle cyntaf iddo ddechreu ar ei waith. Fel hyn yr edrydd Methodistiaeth Cymru am yr anfoniad, a'r amser, a'r lle, a'r gwaith y dechreuodd y gwr ieuanc yn uniongyrchol ei gyflawni "Oddeutu y flwyddyn 1807, anfonodd Mr. Charles i'r lle hwn wr ieuanc crefyddol a siriol i gadw ysgol. Cafodd y cyfarfodydd llygredig ar y Sabbothau yn fawr eu rhwysg yn Llangynog, yn y Pennant, ac yn enwedig yn Hirnant, ond ddarfod tori llawer ar eu grym trwy foddion tra hynod. Yr oedd gwyl fawr o ddawnsio ar y pryd yn cael ei chynal yn Hirnant. Ar ol yr odfa yn Llangynog, aeth y gwr ieuanc yno, yn llawn eiddigedd dros ogoniant Duw a sancteiddrwydd y Sabboth. Daeth yn ddisymwth i ganol y dawnswyr, gan gyfeirio ei gamrau rhwng y rhengau at y fiddler, yn yr hwn yr ymaflodd, gan ei orchymyn i ymbarotoi i'r farn, i roddi cyfrif am ei waith yn halogi Sabbothau Duw. Gwnaeth hyn mewn dull mor ddisymwth ac awdurdodol nes peri distawrwydd yn y fan. Disgynodd arswyd hefyd ar y chwareuwyr, oddiar euogrwydd cydwybod, nes peri iddynt oll ffoi ymaith gyda phrysurdeb, a gadawyd y crvthor yn unig. Yr oedd braw wedi ei ddal yntau, a chaed ganddo addunedu nad ymheliai efe mwyach A'r fath wasanaeth....... Parodd y tro hwn ergyd ychwanegol ar yr hen gampau llygredig, a pharhau a wnaethant i adfeilio a syrthio, fel yr oedd goleuni gwybodaeth, trwy weinidogaeth yr efengyl, yn amlhau."

Dyma wroldeb mewn gwr ieuanc tair ar hugain oed, newydd droi allan oddiwrth ei orchwylion bydol o dref y Bala, teilwng o Howell Harris. Cyfarfyddodd ag erlidiau, a chyflawnodd wrhydri cyffelyb i'r cawr o Drefecca yn ei swydd o ysgolfeistr a phregethwr yr efengyl, er fod dyddiau yr erlid wedi myned heibio erbyn hyn mewn llawer o ardaloedd y wlad. Bu yn foddion i roddi ysgogiad i Fethodistiaeth mewn amrywiol fanau yn y parthau hyn. Yn ngwaith Robert Evans, yn llafurio gyda'r ysgolion cylchynol, y rhoddwyd ail gychwyniad megis i'r diwygiad crefyddol yn rhanau isaf Sir Drefaldwyn. Cawsai y sir hon ei breintio, fel y crybwyllwyd, ag awelon cyntaf y Diwygiad. Daeth Howell Harris yma ar ei deithiau yn 1739 a 1741, ac argyhoeddwyd llawer ymhob odfa o'i eiddo, a glynodd llawer o'r pryd hwnw wrth grefydd. Arferai y Parch. Owen Thomas ddywedyd ei fod wedi bod yn siarad â hen wr yn Sir Drefaldwyn oedd wedi bod yn gwrando ar Howell Harris, ac meddai yr hen wr wrtho, "Yr oedd hwnw yn llefaru am uffern fel pe buasai wedi bod yn uffern, ac yn llefaru am y Nefoedd fel pe buasai wedi bod yn y Nefoedd." Yn y daith gyntaf hon o'i eiddo trwy y sir, yn ol pob tebyg, yr argyhoeddwyd Lewis Evan, o Llanllugan, ynghyd a rhai cynghorwyr eraill. Y mae coffadwriaeth Lewis Evan yn fendigedig. Bu mewn peryglon am ei einioes rai gweithiau yn ei deithiau trwy y Gogledd. Pan ar ei daith trwy Sir Feirionydd, anfonodd un o ynadon heddwch y Bala ef i garchar Dolgellau, ac yno y bu am haner blwyddyn. Er hyny, parhaodd i bregethu hyd nes yr oedd yn 72 mlwydd oed, a bu farw yn y flwyddyn 1792. Ffurfiwyd amryw eglwysi neu gymdeithasau bychain yn ardaloedd Llanllugan a Llanfaircaereinion er yn fore iawn. Yn nghofnodion Trefecca yr ydym yn cael fod Richard Tibbot yn cael ei osod yn ymwelwr cyffredinol y dosbarth hwn. Mae yntau yn anfon adroddiadau manwl am y Cymdeithasau i'r Gymdeithasfa yn ystod y blynyddoedd 1742—5. Yn Nghymdeithasfa Glanyrafon, Sir Gaerfyrddin (Mawrth 1af, 1742), mae Lewis Evan yn cael ei osod i gynorthwyo Morgan Hughes, "mewn gofalu am y Cymdeithasau yn Llanfair, Llanllugan, a Llanwyddelan." Ymhlith llawer o bethau, dywed Richard Tibbot yn ei adroddiadau,—"Mae derbyniad da i Lewis Evan ac Evan Jenkins gyda'r bobl gyffredin, a daw llawer i'w gwrando." Mewn adroddiad arall,—"Y mae genyf le i gredu fod Duw yn bendithio ac yn llwyddo Lewis Evan, Llanllugan, ac Evan Jenkins, Llanidloes."

Yr oedd yn Llanllugan y pryd hwn ugain o aelodau. Cadwent y cynulliadau (bands) y meibion a'r merched ar wahan. Anfona yr arolygwr hanes cyflwr a phrofiad pob un wrth eu henwau, mewn llythyr i'r Gymdeithasfa: un yn dywyll am ei gyfiawnhad; arall yn pwyso ar Dduw trwy ffydd; dau eraill dan y ddeddf; chwech yn gysurus eu profiad, heb fod i anghrediniaeth nemawr o oruchafiaeth arnynt; dwy o'r merched ieuainc yn mwynhau llawer o ryddid; naw eraill yn dywyll o ran eu gwybodaeth. Ac â llawer o ymadroddion cyffelyb yr adroddir am ddechreuad a chynydd y gwaith da yn eu plith. Ymhen blwyddyn ar ol Cymdeithasfa Watford, ysgrifena Richard Tibbot am y Cymdeithasau yn Sir Drefaldwyn, "Y maent wedi bod yn amddifad iawn o neb yn ymweled a hwy er Cymdeithasfa Watford. Y mae cri yn eu mysg am rywrai i ddyfod atynt, yn enwedig Mr. Rowlands." Yr oedd triugain a chwech o flynyddau wedi myned heibio er pan gynhyrfwyd y wlad trwy udgorn y Diwygiad gan Howell Harris, pan anfonodd Mr. Charles Robert Evans i'r cyffiniau hyn i gadw yr ysgol gylchynol. Yr amcan i gyfeirio at ddyddiau Howell Harris yn y sylwadau blaenorol ydoedd, yn un peth, er dangos fod rhanau o'r wlad heb eu gwareiddio eto, y pryd hwn, ar ol cymaint o amser. Gwaith mawr a graddol ydoedd troi Cymru baganaidd i fod yn Gymru wareiddiedig. Cafodd Robert Evans helyntion blinion i ddwyn y bobl yn y cyffiniau hyn i stat o wareiddiad, yn ogystal ag i addysgu ieuanc a hen i ddarllen Gair Duw. Fel hyn y rhydd ef ei hun yr hanes, pan yn henafgwr yn Llanidloes, i'r Parch. John Hughes, Liverpool:—

"Yn y flwyddyn 1808, mudwyd fi i Lansilin [o Langynog]. Dechreuwyd cadw yr ysgol mewn rhan o dŷ y tlodion, yn nghwr uchaf y pentref. Nid oeddwn yn gwybod am un crefyddwr o un enwad am dair milldir o gwmpas. Yr oedd achos crefyddol wedi bod yn y Lawnt, ond yr oedd hwnw wedi syrthio, y crefyddwyr wedi eu symud, rhai i'r bedd, a rhai wedi myned i ardal y Carneddau i fyw. Yr oedd yr holl fro, gan hyny, yn anialwch gwag erchyll, ac heb ddim ofn Duw yn y lle. Yr oedd yma, er hyny, un hen wr yn hoff o wrando, ac wrth ymddiddan âg ef, deallwyd mai dymunol fyddai gwneuthur cais ar ddwyn yr efengyl i le, heb fod ymhell, o'r euw Llangadwaladr. Penderfynwyd cynyg ar y gorchwyl, a chafwyd addewid am odfa yno ar ryw brydnawn Sabboth; ond aeth y son i glustiau gwrthwynebwyr, a chasglodd lliaws mawr o Lansilin, Cymdý, a Rhiwlas, yn llawn cyaddaredd, a lluchiwyd y pregethwr, a'i bleidwyr, â darnau o lechau; clwyfwyd llawer, ac yn eu mysg, tarawyd yr hen wr crybwylledig yn ochr ei ben; torwyd ei het, ac archollwyd ei ben yn dost. A phan welodd y pregethwr fod ei wrandawyr mewn perygl o gael eu hanafu, efe a ymataliodd ac a aeth ymaith, gan ysgwyd y llwch oddiwrth ei draed, a dywedyd, Mae yr efengyl yn gadael Llangadwaladr!'

"Ar ol mudo i Lansilin,' medd yr un gwr, 'gwnaed pob ymdrech i gadw ysgolion wythnosol Sabbothol, a nosweithiol. Sefydlwyd rhai yn Llansilin, Rhiwlas, Clynin, ac mewn tŷ ffarm yn agos i Moelfre. Cafwyd lliaws o blant i'r ysgolion, ond ni chaniatawyd i'r gwaith fyned rhagddo heb lawer o anghysuron a mân ymosodiadau; ac ymysg gofidiau eraill, pregethwyd yn fy erbyn gan weinidog y plwyf. Ond er pob gofid, cefais y fath hyfrydwch gyda'r plant, na anghofiaf dros fy oes. Rai blynyddoedd ar ol hyn, mewn odfa yn Cefn-canol, yr ardal nesaf, cefais yr hyfrydwch ychwanegol o weled amryw o'r rhai a fuasent yn blant yn yr ysgol yn Llansilin, yn awr yn ngafael iachawdwriaeth, yn canu ac yn gorfoleddu am y Gwaredwr. Golygfa na allaf ei hanghofio. Fel hyn, mewn amseroedd tywyll, a thrwy foddion disylw, y goleuodd yr Arglwydd ganwyll fechan yn Llansilin, Rhiwlas, Cymdý, &c., na ddiffodda, mi hyderaf, hyd ddiwedd amser.'

"Ar ddymuniad Mr. Charles ac wedi rhyw gymaint o arosiad, symudwyd i Laurhaiadr-yn-Mochnant. Cymerwyd hen ysgubor i gadw yr ysgol ynddi yn agos i'r bont. Daeth ychydig o blant ynghyd y prydnawn cyntaf; ond yr hyn a barodd gyffro anferth yn y lle hwn oedd fod yr athraw yn gweddio mewn hen ysgubor. Arferol oeddwn o ddibenu yr ysgol trwy ganu a gweddio! Cauwyd y drws yn ebrwydd rhagof, rhag na byddai yr ysgubor yn dda i ddim byth mwy. Gwnaed yr holl derfysg yma gan rai a ddylasent wybod yn well. Yn awr (1853), mae yma gapel prydferth, a chynulleidfa dda, a golwg obeithiol ar y gwaith."

Peth arall i'w weled yn yr hanes hwn ydyw, ei fod yn cytuno yn hollol, o ran amser a ffeithiau, a'r adroddiad a rydd Mr. Charles ei hun, mewn llythyr at gyfaill yn Llundain, yn y flwyddyn 1808, sef blwyddyn wedi i'r Parch. Robert Evans ddechreu ar ei waith gyda'r ysgolion. Fel hyn y dywed Mr. Charles yn ei lythyr:—"Y mae, hyd heddyw, lawer o leoedd tywyll mewn amryw ranau o'r wlad, ymha rai nid oes dynion addas, ac ewyllysgar hefyd, i osod Ysgolion Sabbothol ar droed. Ac am hyny, fy unig feddyginiaeth ydyw anfon Ysgolion Cylchynol i'r cyfryw leoedd..... Yn bresenol y mae ystor yr ysgolion yn isel iawn, yn llai na digon at haner y draul yr wyf dani y flwyddyn hon. Ar y cyntaf yr oeddwn yn cyflogi meistriaid am wyth bunt yn y flwyddyn; yn awr yr wyf yn talu pymtheg; fel yr oeddwn yn gallu cadw ugain y pryd hyny ar yr un gost a deg yn bresenol. Ac y mae yn ofid. arnaf am nad yw yn fy ngallu i osod mwy o ddysgawdwyr ar waith, gan fod eu heisiau yn dra amlwg mewn amryw ranau o'r wlad."

Bu y Parch. Robert Evans yn dra llafurus a llwyddianus gyda goruchwylion yr ysgol symudol. Yr oedd yn ddyn wedi ei dori allan i'r gwaith. Meddai gymhwysder arbenig i addysgu plant, a dawn i ganu: denai ef y plant, a denai y plant eu rhieni. Talodd y gwaith yn dda iddo yn y byd hwn. Bu yn foddion i wrthweithio llygredigaethau a hen arferion. annuwiol y wlad. Gwelodd lawer o ffrwyth ei lafur, er llawenydd annhraethol iddo ei hun. Y mae hanes am dano. yn cadw ysgol mewn llawer o fanau ar hyd Sir Drefaldwyn, y pen uchaf yn gystal a'r pen isaf,—yn y Drefnewydd; yn y Rhaiadr am flwyddyn gyfan, cyn bod y lle wedi ei osod o dan ofal Cenhadaeth y Deheudir; yn Camlan, ger Dinas Mawddwy, o 1815 i 1818. Yn y flwyddyn ddiweddaf a enwyd symudodd i Lanidloes i fyw, pan yn 34 mlwydd oed, wedi bod yn cadw yr ysgol am un mlynedd ar ddeg, ac yn pregethu am wyth mlynedd. Yr hyn a'i dygodd i drigianu yn Llanidloes ydoedd priodi gwraig grefyddol o'r enw Jane Thomas, yr hon oedd yn y fasnach wlaneni, ac yn chwaer i Mr. John Thomas, blaenor yn yr eglwys hono. Yn ol arfer yr oes hono gyda phregethwyr y Methodistiaid, cariai y wraig ymlaen y fasnach, a llafuriai ei phriod gyda gwaith y weinidogaeth, ynghyd a gofalu am yr eglwysi, a'r achos yn ei holl gysylltiadau, nid yn unig yn Llanidloes, ond hefyd yn y cymydogaethau cylchynol. Perthynai iddo yni blynyddoedd ei ieuenctyd trwy ei oes. Yr oedd yn barchus ymhlith pob graddau, a meddai ar ddoniau a gallu naturiol uwchlaw y cyffredin,—dawn siarad a phereidd-dra llais Ezeciel, llithrigrwydd a gwresogrwydd Apolos, a thystiolaeth pawb ydoedd. ei fod yn ddyn Duw.

Parhaodd amser ei ymdeithiad yn Llanidloes 36 mlynedd. Ac os oedd ei ddyddiau yn ei olwg ei hun yn ychydig a drwg, fel dyddiau Jacob, yn nghyfrif ei frodyr yr oeddynt yn llawer, ac yn dra llwyddianus. Wedi dyfod yn weddw ac yn unig, y mae yn gadael Llanidloes, Mai 10, 1854, ac yn symud i Aberteifi, trwy briodi Mrs. M. Evans, lle mae yn gwneuthur ei gartref am weddill ei oes. Ni byddai yn blino yn nyddiau ei henaint yn adrodd hanesion crefydd boreu ei oes yn y Bala, am Mr. Charles, a John Evans, a Mr. Llwyd. Tymor byr fu iddo yn ei gartref newydd, oblegid terfynodd ei yrfa ddaearol Awst 24, 1860; ac ar gyfrif ei gymeriad a'i wasanaeth, dangoswyd parch mawr i'w goffadwriaeth gan ei frodyr yn Aberteifi.

PENOD VI.

Y PARCH. DANIEL EVANS, Y PENRHYN.

Dyddiadur Mr. Gabriel Davies, y Bala—Bore oes Daniel Evans—Olwynion Rhagluniaeth—Angel yn talu dyled—Dysgu y plant heb eu curo—Tro cyfrwys yn y Gwynfryn—Yn pregethu y tro cyntaf, yn 1814—Yn yr ysgol, yn Ngwrecsam—Yn priodi, ac yn ymsefydlu yn Harlech—Fel pregethwr—Yn oen ac yn llew—Yn ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd—Gweithrediadau y Cyfarfod Misol yn ei amser—Blynyddoedd olaf ei einioes.

DECHREUODD amryw o'r hen Ysgolfeistriaid eu gyrfa yn ngwasanaeth ac o dan arolygiaeth Mr. Charles, y rhai a barhasant i gadw yr ysgolion ymlaen yn yr un dull ac yn ddarostyngedig i'r un rheolau, dros rai blynyddau ar ol ei farwolaeth ef. Cymerai yr eglwysi, a'r dynion blaenaf yn y gwahanol ardaloedd, y gorchwyl mewn llaw i'w parhau cyhyd ag y ceid moddion i'w cynal. Yn Nyddiadur Mr. Gabriel Davies, y blaenor haeddbarch o'r Bala, am y flwyddyn 1816, ceir Rhaglen o waith Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, yr hon, mae'n debyg, a fwriedid ei rhoddi yn llaw y llywydd, pwy bynag fyddai; a'r chweched mater ar y rhaglen ydyw, Hanes yr Ysgolion Rhad, a'r rhai Sabbothol. Golygid felly, yn ddiamheu, fod y brodyr yn ei ystyried yn fater o angenrheidrwydd i gario ymlaen yr ysgolion. Daeth amryw o'r dynion a ddechreuasant eu gyrfa fel athrawon symudol, ar gyflog bychan yn y flwyddyn, yn ddefnyddiol iawn gyda chrefydd mewn cylchoedd eraill. Un o'r cyfryw oedd gwrthddrych y sylwadau yn y benod hon.

Mab ydoedd Daniel Evans i John a Jane Evans, Llangower, ger llaw y Bala. Yr oedd yn frawd i'r Parch. Robert Evans, Llanidloes, yr hwn y gwnaed crybwyllion am dano eisoes. Ganwyd ef Awst zofed, 1788. Yr oedd yn ieuengach. o bedair blynedd na'i frawd Robert Evans. Dygwyd y ddau i fyny o'u mebyd gyda'r Annibynwyr, yn ol crefydd eu rhieni; symudodd y ddau i'r Bala; ymunodd y ddau â'r Methodistiaid. Cydnabyddai Daniel yn ddiolchgar ei fod wedi ei ddwyn i fyny o'i febyd ar aelwyd grefyddol. Ystyriai hyn yn un o freintiau penaf ei fywyd. Yr oedd rhyw dynerwch mwy na'r cyffredin ynddo er yn fachgen. Prawf o hyn ydoedd, ddarfod iddo gael ei osod i wasanaethu mewn ffermdy, ac iddo fethu aros yno ond am dymor byr yn unig: gadawodd y lle, a dychwelodd adref, o herwydd fod y teulu lle yr arhosai yn arfer llwon a rhegfeydd. Hawdd iawn y gallasai y rhai a adnabyddent Daniel Evans, mewn blynyddoedd addfetach, gredu yr hanesyn hwn am dano.

Ni ddywedir beth a'i dygodd ef i drigianu i dref y Bala; ac hwyrach, o ran hyny, na bu yn aros yn y dref o gwbl, oblegid y mae Llangower yn agos i'r Bala, ac yr oedd tŷ ei rieni yn nes drachefn. Ymunodd, modd bynag, â'r Methodistiaid yno pan yn un-ar-bymtheg oed. Dygwyd ef trwy hyn i sylw Mr. Charles, a chan fod y gwr da yn ei weled yn ddyn ieuanc crefyddol a gobeithiol, cyflogodd yntau hefyd fel y gwnaethai a'i frawd o'i flaen, i fod yn un o athrawon yr Ysgolion Cylchynol. Ugain oed ydoedd pan ddechreuodd ar y gwaith fel athraw, a blwyddyn union ar ol ei frawd y dechreuodd, sef yn y flwyddyn 1808. O chwech i ddeg oedd gan Mr. Charles o ysgolfeistriaid yn ei wasanaeth y flwyddyn hon, ac yr oedd y ddau frawd o Langower, Robert Evans a Daniel Evans, yn ddau o honynt. Bu Daniel Evans yn cadw yr ysgol gylchynol yn y lleoedd canlynol—a digon tebyg mewn lleoedd eraill hefyd—Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Rhiwlas, Llandrillo, Llangwm, Dyffryn Ardudwy, Gwynfryn, Harlech, Penrhyndeudraeth.

Y me olwynion Rhagluniaeth, wrth edrych arnynt yn troi ymlaen yn y dyfodol, yn dywyll ac anesboniadwy; nis gŵyr dyn yn nyddiau ei ieuenctyd yn y byd i b'le yr arweinir ef; ond wrth edrych yn ol ar gwrs ei fywyd, gwel fod y llwybrau dyrus i gyd yn oleu, wedi eu trefnu yn y modd doethaf. Mae y ddau lanc o Langower yn cael eu hanfon gan Mr. Charles i gadw yr ysgolion symudol, o fewn blwyddyn i'r un amser, i gwr isaf Sir Drefaldwyn, heb ddim ond cefnen o fynydd rhwng eu llwybrau—un yn cychwyn trwy Lwyneinion, dros y Berwyn, i Langynog; a'r llall trwy Landrillo, dros y Berwyn, i Lanarmon. A phan oedd Daniel yn y Rhiwlas, yr oedd o fewn cylch terfynau maes llafur ei frawd, Robert Evans. Ond trwy ryw foddion neu gilydd, y maent yn ymwahanu i wahanol gyfeiriadau, y naill yn cael ei arwain i dreulio rhan helaethaf ei oes yn Sir Drefaldwyn, a'r llall yn cael ei arwain i dreulio ei oes yntau i'r rhan Orllewinol o Feirionydd.

Pan ddechreuodd Daniel Evans ar ei waith fel ysgolfeistr yr oedd yn lled isel ei amgylchiadau, methai a chael y ddau pen i'r llinyn ynghyd. Yn yr amgylchiadau hyn yr oedd pan yn cadw yr ysgol yn y Rhiwlas, ei logell yn wâg, a'i wisg yn llwm. Yn ei gyfyngder, anturiodd ofyn i'w chwaer oedd yn byw yn y Bala, am fenthyg haner gini, yr hon yn garedig a'i rhoddodd iddo, ar yr amod iddo eu talu yn ol at y rhent. Yr oedd amser y rhent yn nesu, ac ni feddai yntau foddion i'w talu yn ol fel yr addawsai, a pharai hyny iddo dristwch mawr. Yn hollol ddamweiniol, modd bynag, yn ei drallod mawr, arweiniwyd ef dros gefnen o fynydd, a thra yn myned y ffordd hono, tynwyd ei sylw at bapyr gwyn ar lawr, ac wedi ei agor yr oedd o'i fewn haner gini. Ac er iddo roddi pob hysbysrwydd ynghylch yr arian, ni ddaeth neb i'w ceisio. "Cefais fel hyn," meddai ef ei hun, "fodd i dalu fy nyled gan angel." Dywedai wrth ei deulu ychydig cyn marw, na fu arno ddim eisiau dim ar ol y tro hwn, er iddi fod yn brin arno lawer gwaith.

Dywed Mr. Morris Davies, blaenor adnabyddus yn Llanrwst, iddo glywed y Parch. Daniel Evans ei hun yn adrodd yr hanes uchod, ac y mae dipyn helaethach fel ei hadroddir ganddo ef. Fel hyn y dywed Mr. Morris Davies:—Yr oeddwn yn fachgen ieuanc 17eg oed pan y clywais yr hen weinidog hybarch yn adrodd yr hanes yn nhy capel Harlech, y lle yr oedd ef a'i deulu yn byw y pryd hwnw. Yr oeddwn yn digwydd cael y fraint o fod yno ryw brydnawngwaith gyda'r gwr yr oeddwn yn ei wasanaeth, ac Evan Thomas, Pen'rallt, hen flaenor yn eglwys Harlech y pryd hwnw, yn cael cwpanaid of de ar ol bod mewn odfa rhyw wr dieithr yn y prydnawn. Yr oedd Seiat yn Harlech y noswaith hono, a dyna y rheswm ein bod yn aros yno. Ar ol bwyta, trodd yr ymddiddan rhwng y brodyr rywfodd, nas gallaf yn awr gofio, at ofal Duw am ei bobl pan y byddont yn ymddiried ynddo, a dywedodd Daniel Evans yr hanes am dano ei hun. "Yr oeddwn," meddai, "wedi myned mor llwm fy ngwisg fel yr oedd arnaf gywilydd myned o gwmpas ar y Sabbothau, a chefais fenthyg dwy bunt gan fy chwaer i brynu dillad; ond yr oeddwn wedi addaw eu talu yn ddidroi yn ol iddi at y rhent, a mawr oedd fy mhryder am fodd i gyflawni fy addewid. Nesäi yr amser penodedig, ac nid oedd yr arian yn dyfod o unman, er gweddio a disgwyl am ymwared o rywle; eto dal yn dywyll iawn yr oedd hi arnaf, ac erbyn i'r amser dd'od i ben nid oedd genyf ond haner penadur, yn lle dwy gyfan i fyned i'm chwaer i'r Bala. Bum yn petruso yn hir y diwrnod cyn y rhent, pa un a wnawn ai myned ai peidio. Ond ar ol hir ystyriaeth, bernais y byddai yn well i mi fyn'd i'r Bala gyda hyny oedd genyf. Felly cychwynais dros y mynydd yn hynod drallodus fy meddwl. Ac yn rhywle ar y ffordd mewn lle anial. lle nad oedd ond Duw a dafad, troais at ryw graig i orphwys. Aethum ar fy ngliniau, a thywelltais fy nghalon gerbron fy Nhad Nefol; a phan yn cychwyn oddiyno i fy siwrna gwelwn. ar lawr o fy mlaen yn disgleirio yn mhelydrau yr haul sofren a haner. Dychrynais, ac aethum rai camrau ymlaen gan eu gadael. Ail feddyliais, a throais yn ol a chodais hwy. Bellach. ni wyddwn beth i'w wneyd. Tybiwn weithiau mai rhyw angel oedd wedi d'od a hwy yno yn ddistaw. Pryd arall ofnwn mai rhyw fugail tlawd oedd wedi eu colli, ac mai fy nyledswydd oedd eu rhoddi i ryw un i'w cadw nes rhoddi hysbysrwydd, fel y gallo eu gwir berchenog eu cael. Yn llawn cynwrf meddwl gan bethau fel hyn y cyrhaeddais dref y Bala. Penderfynais ymgynghori â Mr. Charles, a dywedais yr oll wrtho, gan ofyn iddo beth fyddai oreu i mi wneyd â'r arian. Dywed- odd yntau, 'Credu yr wyf mai dy Dad Nefol a'u hanfonodd i ti, Daniel, ac na phetrusa dalu â hwy dy ddyled i'th chwaer.' 'Aros yma am funyd,' ebe fe wed'yn, 'deuaf yn ol yma atat. yn union deg.' Ac felly y daeth, a boneddwr dieithr i mi gydag ef, a gofynodd Mr. Charles i mi adrodd yr hanes fel yr oedd wedi digwydd. Ac fel yr oeddwn yn adrodd, dylanwadai yr hanes yn fawr ar deimladau y boneddwr. Yr oedd yn wylo yn hidl, ac aeth i'w logell, a rhoddodd bapyr pum' punt yn anrheg i mi." A dywedai Daniel Evans na fu arno brinder mawr am arian byth ar ol hyny.

Ymhen pum' mlynedd wedi dechreu ar ei waith gyda'r ysgol symudol, sef yn 1813, y daeth gyntaf i Benrhyndeudraeth i gadw ysgol. Mae yn debyg iddo aros yno fwy na blwyddyn y tro hwn. Yr oedd yn meddu ar gymhwysder neillduol i fod yn ysgolfeistr yn yr oes yr oedd yn byw ynddi. Nodwedd yr oes oedd fod yn rhaid curo yn ddidrugaredd; derbyniai pob plentyn ddeugain gwïalenod ond un, pa un bynag fyddai achos yn galw ai peidio. Ond medrai Daniel Evans ddysgu y plant trwy eu denu, ac heb eu curo. Yr oedd y fath addfwynder yn ei natur, anhawdd ydyw credu y gallasai ddefnyddio y wïalen, pe buasai y brenin Nebuchodonosor yn gorchymyn. Yr oedd yn boblogaidd iawn gyda'r plant oblegid ei hynawsedd, ac enillai hefyd gefnogaeth a chydweithrediad eu rhieni, ar gyfrif yr un rhesymau. Yr oedd amryw hen bobl yn byw yn y Penrhyn, yn bur ddiweddar, y rhai a'i cofient yno yn cadw ysgol y tro cyntaf, a thystiolaeth unfrydol y cyfryw ydoedd fod galar mawr yn y Penrhyn y diwrnod yr oedd Daniel Evans yn ymadael. Hebryngai nifer mawr o bobl a phlant ef ran o'r ffordd, wylai y plant, ac wylai y bobl, ac nid yn fynych y gwelwyd cymaint o wylo ar ymadawiad neb â'r diwrnod hwnw.

Bu yn cadw ysgol hefyd yn y Gwynfryn, yn agos i Ddyffryn Ardudwy, yn amser Mr. Charles, neu ymhen ychydig ar ol ei farw. Byddai y plant yn hoff o hono yno, ar gyfrif ei dynerwch a'i addfwynder; ni fynent er dim ei golli o'r ardal. Un o'i ysgolheigion a adroddai yr hanesyn canlynol i brofi hyny: Wedi dal y plant ar fai un diwrnod, cymerai Daniel Evans arno ei fod yn ymadael o'r ardal. Y plant yn gweled hyny a ddechreuasant wylo. Ond nid oedd dim yn tycio, casglodd yr ysgolfeistr y gwahanol bethau oedd ganddo ynghyd, ac a'u gwnaeth yn becyn, i osod argraff ar eu meddwl ei fod yn benderfynol o ymadael. Dechreuodd un oedd yno mewn oed, pa fodd bynag, eiriol dros y plant, ac addawodd fyned yn feichiau na fyddent ddim yn blant drwg mwyach. Wnai hyny mo'r tro, heb gael dyn arall o'r pentref i roddi ei air drostynt; ac wedi cael dau i ymrwymo yn feichiafon na byddai y plant ddim yn blant drwg mwyach, addawodd aros yno am dymor yn hwy. Felly, trwy gyfrwysdra a diniweidrwydd yr ysgolfeistr addfwyn, crewyd diwygiad yn y plant o hyny allan. Yr un a addroddai yr hanesyn uchod ydoedd, Samuel Jones dduwiol a nefolaidd, yr hwn a fu yn flaenor eglwysig am dros ddeng mlynedd ar hugain, ac yn flaenor y gân yn Eglwys y Gwynfryn, am 55 mlynedd. Bu farw Ebrill 23,1890, yn 81 mlwydd oed. Yr oedd ef yn llygad-dyst o'r drafodaeth rhwng yr ysgolfeistr a'r plant yn y Gwynfryn.

Yn y Penrhyn y dechreuodd Daniel Evans bregethu, yn y flwyddyn 1814, a hyny yn bur ddi-seremoni. Yr oedd yn perthyn i Eglwys y Penrhyn y pryd hwn ddau flaenor pur hynod, Ellis Humphreys a Robert Ellis. Yr oedd gair y ddau hen flaenor yn ddeddf ar bob peth yn yr Eglwys. Un nos Sabboth, yn y flwyddyn uchod, wedi myned i'r cyfarfod gweddi, daeth y ddau hen flaenor, Ellis Humphreys a Robert Ellis, at yr ysgolfeistr, a dywedasant wrtho, "Rhaid i ti bregethu i ni heno, Daniel." "Na, yn wir," meddai yntau, "Nis gallaf; ni fum i erioed yn pregethu, nac yn meddwl am hyny yn awr, ychwaith." "O, medri, o'r goreu," meddynt hwythau; "Ni dy helpwn ni di." Gwthiasant ef i'r pulpud, a dywedasant, "Canmol dy oreu ar Iesu Grist, Daniel bach." Yn cael ei orfodi fel hyn, anturiodd i dreio, a chafodd hwyl pur dda y tro cyntaf. Torodd un o'r chwiorydd allan i orfoleddu. Ar y diwedd, cyfododd Ellis Humphreys i fyny i gyhoeddi, a'r peth cyntaf a ddywedodd ydoedd, "Bydd Daniel yma yn pregethu eto y Sabboth nesaf." Addefai ef ei hun fod yn dda ganddo glywed yr hen flaenor yn ei gyhoeddi, a thybiai ei hun yn glamp o bregethwr. Bu yn ddiwyd ar hyd yr wythnos ddilynol yn parotoi at bregethu drachefn; ac erbyn nos Sadwrn, yr oedd y bregeth wedi ei gorphen. Wedi darllen a gweddio, cymerodd ei destyn, ac ar ol gair neu ddau o ragymadrodd, collodd y cyfan. Er treio, a disgwyl am oleuni, nid oedd dim goleuni yn dyfod; aeth yn dywyll fel y fagddu arno. Ac mewn llais crynedig, bu gorfod arno ofyn i'r blaenoriaid enwi rhai o'r brodyr i fyned i weddi. Aeth yntau allan, ac i'r ty, ac ar ei union i'w wely. Nid oes wybodaeth dros ba hyd y bu yn ei wely, na pha bryd yr anturiodd bregethu drachefn. "Dyna y tro mwyaf bendithiol i mi," arferai ddywedyd, "o holl ddigwyddiadau fy mywyd." Rywbryd ar ol hyn bu am dymor byr yn Ngwrecsam, gyda'r Parch. John Hughes, wedi hyny o Liverpool, yr hwn ar y pryd oedd yn cadw math o ysgol i barotoi dynion ieuainc i'r weinidogaeth. Yr oedd gydag ef yno, Ffoulk Evans, a'r hynod Dafydd Rolant, y Bala. Llawer o droion trwstan a digrif a adroddid am y dynion ieuainc tra yn yr ysgol yn Ngwrecsam, oherwydd nad oeddynt yn gwybod ond y nesaf peth i ddim o'r iaith Saesneg. Cofus gan ysgrifenydd hyn o hanes, ei fod ar ymweliad yn y Pentre, cartref Dafydd Rolant, yn ardal Llidiardau, ger y Bala. Adroddai yr hen batriarch rai o'r troion trwstan a ddigwyddent, ac ymhlith pethau eraill, dywedai ddarfod i Mr. Hughes ofyn iddo ef ofyn bendith ar y bwyd yn Saesneg, ac iddo yntau ufuddhau, gyda hyny o Saesneg oedd ganddo yn y geiriau canlynol:—"O Lord, bless this lump of beef, through Jesus Christ. Amen."

Ar ol yr adeg yma, aeth gwrthddrych y sylwadau hyn i'r Dyffryn i gadw ysgol yr ail waith. Tra yr oedd yno yr adeg hon yr ymunodd y Parch. Richard Humphreys â'r Eglwys yn y Dyffryn. Bu y ddau yn gyfeillion cu, yn cydweithio llawer a'u gilydd, ac yn ddwy golofn gref o dan yr achos yn y sir am flynyddoedd meithion. Tra yn y Dyffryn yn cadw ysgol y tro hwn ymbriododd Daniel Evans gyda Margaret Evans, Penycerrig, Harlech, o gylch y flwyddyn 1822, a Mr. Humphreys, o'r Dyffryn oedd ei was priodas. Penderfynodd hyn. ei drigfan bellach am weddill ei oes yn Ngorllewin Meirionydd. O hyn allan daeth yn bregethwr a ffermwr, yn lle yn bregethwr ac ysgolfeistr. Wrth yr enw Daniel Evans, Harlech, yr adnabyddid ef bellach weddill ei oes, oblegid mail yno y treuliodd y rhan bwysicaf o honi. Symudodd o Harlech i'r Penrhyn i gadw siop, ac yno y treuliodd ugain mlynedd olaf ei oes.

Derbyniwyd Daniel Evans yn aelod o Gyfarfod Misol Sir Feirionydd, fel pregethwr, yn y flwyddyn 1815. Ac ar yr un pryd ag ef yr oedd y Parchedigion Lewis William, Llanfachreth; Richard Jones, y Bala; Richard Roberts, Dolgellau; a John Peters, Trawsfynydd, yn cael eu derbyn. Ordeiniwyd Daniel Evans i gyflawn waith y weinidogaeth yn 1831. Fel pregethwr, ni ystyrid ef yn fawr, ac ar yr un cyfrif ni honai yntau ei hun unrhyw fawredd. Er hyny, yr oedd yn gymeradwy iawn gan y saint. Y gwlith tyner oedd ei weinidogaeth, ac nid y gwlaw mawr. Cyfranai fara y bywyd bob amser, yn ffordd ac ysbryd yr Efengyl. Credai pawb nad oedd neb duwiolach na Daniel Evans yn holl Sir Feirionydd. Mae ei ymddangosiad diymhongar, patriarchaidd, o flaen ein golwg, a'i dôn fach, leddf, yn swnio yn ein clustiau hyd heddyw. Ond nid oedd digon o swn ganddo yn y pulpud i fod yn uchel yn syniad y plant. A theimlent yn ddig wrth eu rhieni am iddynt ei osod ef a Richard Roberts, Dolgellau, i'w bedyddio, mewn amser pryd nad oedd ganddynt hwy ddim gallu i ddangos gwrthwynebiad. O'r tu arall, os deuent i wybod—a pha beth sydd na ddaw plant o hyd i wybod—mai Cadwaladr Owen, neu John Jones, Talysarn, a'u bedyddiodd, teimlent yn sicr fod eu rhieni wedi dangos ffafraeth iddynt hwy, a theimlent eu bod fel plant byth wed'yn uwchlaw y plant eraill. Byddai yn arferiad gan Daniel Evans yn fynych: ar ddiwedd paragraph yn ei bregeth, i wneuthur y sylw,— "Rhyw bethau plaen fel ene, fydd gen i." Fe allai y ceir engraifft lled gywir o'i ddull hamddenol o bregethu, yn ei bregeth ar y geiriau, "Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi." Y mae rhai, meddai, yn ymrwystro gydag anhawsderau crefydd, yn digio am na fedrant ddeall ei phethau mawr hi, ac felly ni fynant ddim o'r pethau hawdd sydd yn perthyn iddi. Yr un fath ag y gwelwch chwi ambell un yn ceisio myned trwy y traeth yna i'r ochr draw. Mae yna ryd hwylus, pwrpasol i fyned trwodd; ond y mae yna lynau, a phyllau peryglus hefyd. Mae ambell un wedi dyfod at yr afon yn dychrynu, a digaloni, ac yn troi yn ei ol; pe buasai ond myned ychydig bach o latheni yn mhellach, fe ddaethai at y rhyd. Felly y mae llawer yn ymrwystro gydag etholedigaeth, a chyfiawnhad, a sancteiddhad. Ond enaid anwyl, dyma ti ryd sych i fyned trwyddo,—"Cred yn yr Arglwydd. Iesu Grist."

"Un rhinwedd neillduol yn Daniel Evans, fel pregethwr," ebai y Parch. Griffith Williams, Talsarnau, "ac feallai mai hwnw oedd y gwerthfawrocaf gan lawer, ni byddai un amser yn faith. Nis gwyddom ond am ddau beth ag y mae y lliaws yn caru cael mesur byr o honynt, sef milldir fer, a phregeth fer, a byddent yn cael pregeth fer ganddo ef bob amser."

Daniel Evans oedd y llareiddiaf o'r holl frodyr yn y sir yn y dyddiau gynt. Ond medrai yntau fod yn llwynog ac yn llew weithiau. Ceir engraifft o hono yn ymddwyn fel y llew un tro, mewn cysylltiad a sefydliad y fugeiliaeth yn y sir. Yr oedd yr hen bobl wedi cynefino cymaint & ffordd y teithio, a moddion rhad i gario yr achos ymlaen, fel mai gwaith aruthrol fawr ydoedd symud yr eglwysi o'r hen ddull i'r ffordd bresenol. Er ceisio rhoddi cychwyniad rywfodd i'r symudiad bugeiliol gosododd Mr. Morgan, o'r Dyffryn, mewn undeb a'r brodyr blaenaf yn Ngorllewin Meirionydd, gynllun ar droed, sef fod i bob eglwys ddewis gweinidog neu. bregethwr o'i dewisiad ei hun, i gadw cyfarfod eglwysig unwaith yn y mis, ac i arolygu cymaint ag a ellid ar yr eglwysi. Dros un flwyddyn yn unig yr oedd y dewisiad i barhau, ac ail ddewisiad i fod ar derfyn y flwyddyn. Yr oedd Daniel Evans, trwy benodiad y Cyfarfod Misol, ar ymweliad âg eglwys, heb fod ymhell o'r Dyffryn (ar yr hon yr oedd Mr. Morgan wedi bod yn arolygwr yn ol y cynllun newydd, y flwyddyn flaenorol), a gofynai ar ddiwedd y cyfarfod eglwysig, "A ydych chwi yma am i'r fugeiliaeth gael ei chario ymlaen. y flwyddyn hon ar yr un cynllun a'r flwyddyn ddiweddaf?' Ac meddai un brawd mewn atebiad, yr hwn hefyd oedd yn un o flaenoriaid yr eglwys, "Nac ydwyf fi, o'm rhan i, yn hidio dim am y cynllun-nid wyf fi yn ei weled yn ddim byd ond twll i wneyd poced." "Hwn a hwn," ebe Daniel Evans, gan gau ei ddwrn, a chodi ei fraich i fyny, "mi fydda i yn dyst yn eich erbyn yn y farn, mai nid gwneyd arian ydyw ein hamcan ni y gweinidogion, ond ein hunig amcan ydyw lles a llwyddiant yr eglwysi."

Bu Daniel Evans yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am chwe blynedd, o 1840 i 1846. Pan ranwyd Cyfarfod Misol Sir Feirionydd yn ddau, yn nechreu 1840, Mr. John Jones, Plasucha, Talsarnau, a osodwyd yn ysgrifenydd, ac yn ei lawysgrif ef y mae y Cofnodion am y troion cyntaf. Ond cyn diwedd y flwyddyn hono, symudodd ef i fyw i Ynysgain, ger Criccieth. Ar ei ol ef, y mae y Parch. Daniel Evans, y pryd hwnw o Harlech, yn dechreu ar ei waith. Nid oedd wedi bod yn ysgrifenydd ond am dro neu ddau, pan y galwyd arno i ysgrifenu i lawr yn Llyfr y Cofnodion y penderfyniad canlynol: Cyfarfod Misol Talsarnau, yr hwn a gynhaliwyd Rhagfyr 1af a'r 2il, 1840.-"Penderfynwyd fod i'r Parch. Robert Griffith, Dolgellau; Cadben William Griffith, Abermaw; a William Richard, Gwynfryn, fyned i'r Dyffryn, ar gais yr eglwys yno, i ymddiddan â gwr ieuanc sydd ar ei feddwl i ddechreu pregethu." Y gwr ieuanc hwn ydoedd y Parch. Edward Morgan, yr hwn, trwy ymroddiad mawr, ei dalent ddisglaer, a'i hyawdledd digyffelyb, a ddaeth, cyn pen ychydig iawn o flynyddoedd, i wefreiddio cynulleidfaoedd ei wlad, ac i gael ei gydnabod gan bawb yn un o enwogion penaf Cymru.

Yr oedd ffyddlondeb a chywirdeb Daniel Evans, yn ei wneuthur yn ysgrifenydd diogel. Ond byr ydyw y cofnodion a ysgrifenodd; hanes pob Cyfarfod Misol yr un faint, o ran hyd-Mis Ionawr a mis Awst gellid tybio yn cynwys yr un faint o waith—oll yn myned i un tudalen o'r llyfr, mewn ysgrifen weddol fân. Sylwadau ar hanes profiad blaenoriaid y lle, ynghyd a blaenoriaid a phregethwyr a dderbynid yn aelodau newyddion, a fyddai cynwys rhan helaeth o'r un tudalen a geid am bob Cyfarfod Misol. Yr oedd delw Mr. Charles i'w weled yn amlwg iawn ar ei waith yn cofnodi hanes cyfarfodydd. Rhan helaeth o waith y brodyr ymhob Cyfarfod. Misol, yr adeg hono, fyddai trefnu y teithio mawr oedd yn y wlad y rhai a ddeuent i mewn i'r sir, a'r rhai a elent allan o'r sir. Yr engreifftiau canlynol allan o'r Llyfr Cofnodion a roddant gipolwg ar waith yr hen frodyr yn y blynyddoedd hyny. Yn Nghyfarfod Misol Ystradgwyn, yn y flwyddyn 1840.

"Penaerfynwyd y brodyr canlynol i fyned o'r sir: Richard Roberts, i Sir Fon; Richard Humphreys, i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith, Dol- gellau, heb benderfynu i ba le."

"Dolgellau Mawrth, 1841; rhoddwyd caniatad i Owen Williams, Towyn, i fyned i Sir Aberteifi am naw diwrnod"

"Sion, Mai, 1841, rhoddwyd caniatad i John Williams, Llanfachreth, i fyned i'r Deheudir; David Williams, Talsarnau, i Sir Drefaldwyn; a Robert Griffith, Dolgellau i rywfan."

Y cyhoeddiadau pell ymlaen hefyd oeddynt yn peri blinder i'r frawdoliaeth y pryd hwnw. Yn Nghofnodau Cyfarfod. Misol y Cwrt, yn Medi 1844, haner can mlynedd i eleni (1894), cawn sylwadau ar y niwed o roddi cyhoeddiadau ymhell ymlaen, ac yn y cyfarfod hwnw, anogwyd i syrthio yn ol ar yr hen drefn "dim ond dau fis." Mewn cysylltiad â'r cofnodiad hwn, dywed y Parch. Griffith Williams Talsarnau, pan yn ysgrifenu byr gofiant am Daniel Evans, yn y flwyddyn 1871, "Beth pe buasai yr hen frodyr yn cael gweled Dyddiadur rhai o flaenoriaid neu bregethwyr y blynyddoedd diweddaf hyn? caent weled pob Sabboth ymhob mis am flwyddyn, dwy, a thair, wedi eu llenwi hyd yr ymylon âg addewidion, a'r rhai mwyaf blaenllaw yn dechreu pwyntellu y bedwaredd flwyddyn! Dywedir fod rhai wedi addaw y Sabboth cyntaf ar ol y Pasc, y Sulgwyn, neu y Nadolig am flynyddoedd, os nad am eu hoes. Ni ryfeddaf nad y peth cyntaf a wna y brodyr blaenbell hyn, pan yn deffro o lwch y bedd, a fydd ceisio adgofio ymha le yr oeddynt wedi addaw bod y Sabboth cyntaf ar ol hyny!"

Yr unig gof sydd gan yr ysgrifenydd am Daniel Evans yn gwneuthur dim gwaith yn y Cyfarfod Misol, ydyw ei weled yn llywyddu yn Nghyfarfod Misol Llanelltyd, y tro cyntaf iddo. fod yn y lle hwnw mewn cyfarfod o'r fath. Ar ol myned i mewn i'r capel, eisteddai yr hen bererin, fel un o'r aelodau eraill, mewn eisteddle yn ochr y capel. Wedi myned trwy y gwasanaeth dechreuol, trwy ddarllen a gweddio, cynygiodd rhyw frawd, a chefnogwyd gan un arall, fod i Daniel Evans. lywyddu. Aeth yntau yn mlaen yn union, yn arafaidd i'r sêt fawr, a'r peth cyntaf a ddywedodd wedi cyraedd yno, gyda'i ben gwyn crynedig, a'i aceniad addfwyn arafaidd, ydoedd, "Yr ydych wedi fy ngosod i yn y lle hwn, nid am fod dim cymhwysder ynof i'r lle, ond o herwydd fod fy mhen i yn wyn."

Nesaodd dyddiau Daniel Evans i farw, o herwydd llesgedd a gwendid, bu dros rai blynyddau heb bregethu. Yr oedd yn naturiol yn ofnus, a chan ei fod yn rhoddi mwy o le nag a ddylasai i'w ofnau, dywedai wrth ei wraig un diwrnod, "Mae arnaf ofn fy nghrefydd, Margaret fach, ac yr wyf yn ofni mail yn uffern y byddaf wedi yr oll." Trodd ei briod ato a dywedodd mewn ton chwyrn, geryddol, "Sut na byddai arnoch. chwi gywilydd, Daniel Evans? Wedi crefydda ar hyd eich oes, ac yn y diwedd yn ofni eich crefydd! hen weinidog fel chwi yn ofni nad oes genych yr un grefydd, ac mai i uffern yr ewch; i uffern yn wir! beth a wnaech chwi yn y fan hono? Pe baech chwi yn myn'd yno, mi'ch ciciai rhyw gythraul chwi oddiyno yn bur fuan, 'rwyn siwr o hyny!" Dywedir i'r araeth hon wneuthur lles mawr iddo; ni soniodd ei fod yn ofni ei grefydd ar ol hyny.

Gadawodd Daniel Evans goffadwriaeth yn perarogli ar ei ol. Mae ei feddrod i'w weled o flaen capel Nazareth, Penrhyndeudraeth, ac yn gerfiedig ar y golofn,—

"Er cof am y Parch. Daniel Evans, Penrhyn, yr hwn a fu

farw Tachwedd 7fed, 1868, yn 80 mlwydd oed."

PENOD VII.

Y PARCH. THOMAS OWEN, WYDDGRUG.

Richard Owen y gweddiwr hynod—Mr. Charles mewn perygl am ei fywyd—Darluniad o ffordd Mynydd Migneint—Richard Owen yn gweddio am estyniad o 15 mlynedd at oes Mr. Charles—Hanes bywyd Richard Owen—Bore oes Thomas Owen — Ei hanes yn dechreu pregethu—Cynghorion Mr. Charles a'i dad ei hun iddo—Yn dechreu cadw yr Ysgol Gylchynol yn 1802—Helbul yn ysgol Llanfor—Yn enill llawer at Grist—Odfa galed yn Abergynolwyn—Hynodrwydd ei fywyd.

UN o blant y Bala oedd y gwr hwn eto. O'r Bala yr anfonwyd ef allan i fod yn un o'r ysgolfeistriaid. Fel Thomas Owen, y Bala, yr adnabyddid ef dros hir amser wedi iddo ddechreu pregethu. Rhan gymhariaethol fechan yn niwedd ei oes, fel y ceir gweled yn mhellach ymlaen, a dreuliodd yn y Wyddgrug. Rhyfedd fel y mae chwe' blynedd a deugain—canys hyny o amser sydd er pan fu farw—wedi cario ei enw mor bell i dir anghof. Ar wahan i'r ffaith iddo fod yn un o Ysgolfeistriaid Mr. Charles, mae ei hanes ef a'i hynod dad yn werth gwneuthur coffa am danynt.

Mab ydoedd Thomas Owen i Richard Owen, o'r Bala, y gweddiwr hynod, yr hwn a fu yn gweddio gyda'r fath daerineb am arbediad bywyd Mr. Charles, pan yr oedd mewn perygl o golli ei fywyd. Credid yn gyffredinol i'r weddi hono gael ei gwrando, canys estynwyd pymtheng mlynedd yn oes y gwr enwog yr oedd y fath bryder yn ei gylch, yn ol y deisyfiad uniongyrchol oedd yn y weddi. Mae yr hanes anghyffredin hwnw yn myned o hyd yn llai hysbys trwy dreigliad blynyddoedd, er nad anghofiwyd ac na anghofir byth mo'r amgylchiad. Dywedir yn y Cofiant gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, fod Mr. Charles wedi ei gynysgaeddu â "chryn radd o rym ac iechyd corfforol," ac y byddai yn arfer a theithio, trwy lawer o anghyfleusderau ac ar bob tywydd garw gyda gwaith yr Arglwydd. "Ond yn fuan ar ol dechreu y gauaf oer yn 1799, wrth deithio ar noswaith oerlem dros fynydd Migneint, ar ei ddychweliad o Sir Gaernarfon, ymaflodd oerfel dwys yn mawd ei law aswy, yr hwn a barodd ddolur maith a gofidus. Ar ol gwneyd prawf o amryw foddion a medr amryw feddygon, ac, yn olaf, un enwog yn Nghaerlleon, bu raid iddo, yn y diwedd, ddychwelyd adref a goddef ei thori, neu yn hytrach ei chodi ymaith."

Llawer o ddyfalu fu y flwyddyn hon (1895)— blwyddyn o rew ac eira ac oerni mawr—pa bryd y bu tymor cyffelyb o'r blaen. Mae y dyfyniad uchod yn rhoddi ar ddeall i ni fod blwyddyn olaf y ganrif ddiweddaf, o leiaf, yn debyg iddi. Mor agos hefyd oedd y fan y bu yn gyfyng ar y gwr enwog o'r Bala y flwyddyn hono i'r lle y claddwyd y trên yn yr eira eleni, ac y bu yno dros amryw ddyddiau, a'r lluwchfeydd eira yn gymaint, yn ol adroddiad y newyddiaduron, fel nad oedd golwg i'w gael ar gwr uchaf corn simdda yr agerbeiriant.[3] Ar Fynydd Migneint y bu y naill ddigwyddiad a'r llall. Ond gymaint yn fwy anhawdd ac anniben oedd teithio yn amser Mr. Charles. Nid oedd son y pryd hwnw am reilffordd nac agerbeiriant; dau droed neu gefn y ceffyl fyddai y moddion mwyaf cyfleus i dramwyo ffyrdd anhygyrch dros fynydd a gwlad. Cymer y rheilffordd sydd yn cysylltu y Bala â Ffestiniog yr un cyfeiriad a ffordd fawr Mynydd Migneint, hyd nes y cyrhaedda i ben y mynydd. Ond nid ydyw y rheilffordd yn myned ond megis dros wddf y mynydd, gan gymeryd ei rhedfa i lawr heibio Trawsfynydd, ac ymlaen i Ffestiniog. Arweinia yr hen ffordd fawr, fyddai yn yr amser gynt yn dramwyfa o Sir Gaernarfon, trwy Ffestiniog i'r Bala, ar draws neu ar hyd cefn uchaf Mynydd Migneint, a chyfrifid ei hyd, o fewn terfynau y mynydd yn unig, sef o Bont-yr-Afon-Gam i Bont Taihirion, yn chwe' milldir. Wrth deithio yn y gerbydres o'r Bala tua Ffestiniog, pan agos a chyraedd i dop y mynydd, os edrychir at lechwedd uchaf y mynydd tua'r gogledd, gwelir cipdrem ar hen ffordd Mynydd Migneint, yn rhedeg ar hyd y llechwedd a elwir Llechwedd-deiliog. Croesi adref i'r Bala ar hyd y ffordd acw, ar noswaith arw, oer, yr oedd yr enwog Mr. Charles, pan y rhewodd ei law. Bu Dr. Edwards a Dr. Parry yn teithio llawer ar hyd yr un ffordd, gyda'r gwaith o gludo yr efengyl y tu draw i'r mynydd, a llu o efengylwyr eraill, a thô ar ol to o efrydwyr y Bala, yn ol desgrifiad Glan Alun, rhai ar draed, eraill ar feirch, eraill mewn cerbydau. Cofir gan efrydwyr deg ar hugain a phymtheng mlynedd ar hugain yn ol, fel y byddent hwy a Dr. Edwards yn yr un cerbyd yn croesi y mynydd aml i ddydd. Llun ystormus, ac, wedi cyraedd yr ochr agosaf i'r Bala, yn disgyn yn Rhydyfen, i orphwys ac i ymdwymno wrth danllwyth o dân, ac i gymeryd lluniaeth, yr hwn a barotoid yn fedrus a chroesawus gan Mrs. Williams, a'i merch Miss Williams, yn awr Mrs. Jones, yr hon sydd er ys rhai blynyddau. wedi symud o Rhydyfen i fyw i Ddyffryn Clwyd. Mor chwyldroadol yn awr, i'r rhai a arferent deithio yn yr hen ddull arafaidd, ydyw gweled y gerbydres gyda'i llwyth trwm yn llamu i fyny y mynydd, ac yn chwyrnellu i lawr i'r ochr draw gyda gwylltineb ffyrnicach.

Unwaith, o leiaf, yn nghof yr ysgrifenydd, digwyddodd cyfyngder wrth groesi Mynydd Migneint, nid annhebyg i'r hyn gymerodd le yn 1799. Rhewodd dwylaw dau ddyn cryf, ar noswaith o rew ac eira, i'r fath raddau, na ddaethant ddim- fel cynt tra buont byw. Llawer a sonid gan hen bobl Ffestiniog y flwyddyn hono am Mr. Charles o'r Bala yn cyfarfod â chyfyngder cyffelyb yn yr un lle, a hyny yn nghof aml un oedd yr adeg hono yn fyw.

Dywed cofiantydd Mr. Charles ddarfod i'r ddamwain a a gymerodd le y flwyddyn y cyfeiriwyd ati uchod, ynghyd a'r oruchwyliaeth lem y bu raid ei gweinyddu ar ei law, achosi pryder mawr iddo ef ei hun a'i deulu a'i gyfeillion ymhob man. A bu llawer o weddio yn yr eglwysi ar ei ran. "Yn nghyfyngder yr amgylchiad, pan oedd ei fywyd mewn cryn enbydrwydd, a nifer o gynulleidfa y Bala wedi ymgynull i gyd-weddio yn yr achos, daliwyd sylw neillduol ar erfyniadau un hen wr syml a duwiol. Wrth erfyn am estyniad oes Mr. Charles, efe a olygodd ac a ddefnyddiodd eiriau yr Arglwydd am estyniad oes Hezeciah (2 Bren. xx. 6); adroddodd amryw weithiau gyda rhyw ymafliad a dadleuaeth syml-wresog, a hyder Cristionogol yn Nuw. Pymtheng mlynedd yn ychwaneg, O, Arglwydd!—yr ydym yn erfyn am bymtheng mlynedd o estyniad at ddyddiau ei oes-ac oni roddi di bymtheng mlynedd o estyniad at ddyddiau ei oes—ac oni roddi di bymtheng mlynedd, O, ein Duw, er mwyn dy eglwys a'th achos,' &c., &c. O fewn ychydig i bymtheng mlynedd. ar ol hyn y terfynodd gyrfa ddaearol Mr. Charles. Yr oedd, nid yn unig y rhai a glywodd yr hen wr yn gweddio, wedi sylwi ar yr adeg, ond crybwyllodd Mr. Charles ei hun aml waith am y peth, a dywedodd yn bersonol wrth ei hen gyfaill, Richard Owen, tua blwyddyn cyn amser ei farwolaeth, fod y tymor yn agoshau at y diwedd. A phan yr oedd ei iechyd yn gwaelu, ac yntau wedi myned i'r Abermaw er ceisio adgyfnerthiad, daliwyd sylw arno yn dywedyd wrth Sarah, ei anwyl briod, 'Sally, y mae y pymtheng mlynedd yn agos i ben.'"

Yn ystod y pymtheng mlynedd hyn y gwelodd yr Arglwydd yn dda roddi estyniad einioes iddo y cyflawnodd Mr. Charles rai o brif orchestion ei fywyd. Yn y cyfnod hwn y sefydlwyd y Feibl Gymdeithas. Yn y cyfnod hwn hefyd y dygodd allan yr ail gyfrol o'r Drysorfa Ysbrydol, a'r Amddiffyniad i'r Methodistiaid Cymreig, a'r Geiriadur Ysgrythyrol—gwaith na welodd Cymru mo'i ragorach, er holl fanteision addysg dros ysbaid o agos i gan' mlynedd—gwaith y canodd Dafydd Cadwaladr am dano yn ei farwnad i Mr. Charles:—

"Y Dr. Morgan a'r hen Salsbri
Ddaeth a'r trysor goreu i ni;
Ac ar eu hol ni chafodd Cymru
Gyffelyb i'th Eiriadur di."

Ond pwy oedd Richard Owen, y gweddiwr hynod? Wedi gwneuthur ymholiad gydag ysgrifenwyr a chofiadwyr tref y Bala a'r amgylchoedd, yr oll a gafwyd fel rheol ydoedd, eu bod wedi clywed llawer o son am dano, ond nas gwyddent ddim ychwaneg. Ymhen tua thair blynedd, modd bynag, ar ol marw y Parch. Thomas Owen, y Wyddgrug, ysgrifenwyd bywgraffiad byr iddo, a rhoddwyd yr un pryd dipyn o hanes ei dad, yr hen weddiwr hynod. Y Parchedig Roger Edwards, y Wyddgrug, yn ol pob tebygolrwydd, a ysgrifenodd yr hanes, gwr a weithiodd cyn galeted a neb o'r Methodistiaid, a gwr sydd yn haeddianol o barch dau-ddyblyg ymhlith lu o wasanaethwyr eu gwlad. Ar yr hyn a ysgrifenwyd y pryd hwnw y mae y rhan fwyaf o'r pethau a ddywedir yma yn seiliedig.

Mab oedd Richard Owen i Robert Owen, gof, o Wytherin. Gan iddo golli ei dad a'i fam yn ieuanc, dygwyd ef i fyny yn Mhencelli, gerllaw y Bala, gyda pherthynas iddo. Prentisiwyd ef yn gryd, a phan y tyfodd i fyny, aeth i weithio i Lanrwst, wedi hyny i Dreffynon, wedi hyny drachefn i Neston, yn Sir Gaerlleon. Llanc ieuanc gwyllt, yn rhedeg i bob rhysedd ydoedd, ond trwy weinidogaeth y Wesleyaid Seisnig yn Neston, effeithiwyd cyfnewidiad trwyadl yn ei fuchedd. Chwenychai, modd bynag, wedi hyn, ddychwelyd yn ol i Gymru i gael mwynhau rhagorfreintiau yr efengyl yn ei iaith. ei hun, a phenderfynodd ymsefydlu yn y Bala. Nid oedd wedi gwybod am ddim Methodistiaid ond y Methodistiaid Wesleyaidd, ac erbyn dyfod i'r Bala, teimlai fod yr athrawiaeth a bregethid gan y Methodistiaid yno yn wahanol iawn i'r hyn a glywsai ef gan y Methodistiaid Wesleyaidd yn Neston—un yn Galfinaidd, y llall yn Arminaidd. Aeth at y Parch. Thomas Foulkes, y pryd hwnw o'r Bala, yr hwn y clywsai oedd wedi ei argyhoeddi o dan weinidogaeth John Wesley, a dywedai wrtho derfysg ei feddwl, gan ychwanegu, "Nid oes gan y bobl hyn ddim ond gras, gras! Nid ydynt ond anfynych iawn yn son am weithredoedd." Cynghorodd Mr. Foulkes ef i lynu wrth y Methodistiaid Cymreig, ac meddai, "Maent yn bobl dda, er nad ydynt yr un farn a Mr. Wesley; ac os nad ydynt yn son llawer am weithredoedd da, yr wyf fi yn dyst eu bod yn eu gwneyd."

Parhai o hyd yn gythryblus ei feddwl wrth wrando pregethau ar yr athrawiaeth Galfinaidd, ac yn enwedig oherwydd yr Etholedigaeth, a hiraethai am gael clywed yr athrawiaeth a glywsai yn nyddiau ei argyhoeddiad yn Sir Gaerlleon. Penderfynodd ynddo ei hun y byddai raid iddo adael y Bala o'r herwydd. Yn ddamweiniol, neu yn ragluniaethol, perswadiwyd ef gan un o hen grefyddwyr y dref i fyned yn ei gwmni ef i Ddyffryn Ardudwy, i wrando y Parchedig Daniel Rowland, Llangeitho, yr hwn oedd ar daith trwy y Gogledd. Testyn pregeth Mr. Rowland yn y Dyffryn oedd, "A'r Arglwydd a gauodd arno ef," sef Noah yn yr Arch. Dywedai y pregethwr yn ei bregeth fod drws yr Arch yn agored i'r holl greaduriaid, a bod Noah yn derbyn pob creadur a ddeuai, ond mai Duw oedd yn rhoddi greddf yn y creaduriaid i ddyfod; felly mai dyledswydd gweinidogion yr efengyl ydyw galw ar bawb i dderbyn yr iachawdwriaeth, ond Duw, yn ol ei arfaeth a'i ras, sydd yn rhoddi tuedd yn y meddwl i dderbyn yr iachawdwriaeth. Duw sydd yn tueddu meddwl pechaduriaid i redeg i'r noddfa, ac Efe sydd yn cau y drws wedi yr elont iddi. Bu y bregeth hon yn foddion i'w gymodi am byth â'r athrawiaeth Galfinaidd, a chymaint ydoedd ei lawenydd wedi iddo gael y goleuni hwn, fel y dywedai ei fod yn foddlawn iawn i gropian yn ol bob cam i'r Bala pe buasai raid.

Nid ydyw y daith hon o eiddo y Parch. Daniel Rowland trwy y Dyffryn wedi ei chroniclo ynglyn â hanes yr achos yno. Sicr ydyw mai nid un o'i deithiau cyntaf i'r Gogledd ydoedd, ond rhaid fod hyn wedi cymeryd lle gryn amser ar ol yr ymraniad rhwng Rowland a Harris.

Ymglymodd Richard Owen wrth y Methodistiaid o'r pryd hwn allan, ac ymhen amser, dewiswyd ef yn un o flaenoriaid eglwys y Bala. Yr oedd yn weddiwr mawr, nid yn amser saldra Mr. Charles yn unig, ond yn wastad ar hyd ei yrfa grefyddol. Dywediad Mr. Charles ydoedd y medrai Richard Owen fyned i'r nefoedd o flaen pawb o'r frawdoliaeth yn y Bala. Rhoddir rhai engreifftiau er dangos hyny. Un tro pan yn gweddio yn gyhoeddus, cafodd afael yn y geiriau, "Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys," &c. Adroddai drosodd a throsodd drachefn y geiriau, "Y graig hon," a "phyrth uffern," a chan daflu ymaith ei het, yr hon, yn gyffredin, a fyddai yn ei law, neu o dan ei gesail pan yn gweddio, rhoddai floedd effeithiol, "Challenge i ti, Satan: Pyrth uffern nis gorchfygant hi'—ond fe orchfyga hi: Bendigedig!" Soniai hen bobl y Bala am weddi arall hynod iawn o'i eiddo. Galwodd Mr. Charles arno i ddiweddu y seiat unwaith. Yn y weddi hon, cafodd afael yn y geiriau yn y Salm, "O, byrth, dyrchefwch eich penau, ac ymddyrchefwch, ddrysau tragwyddol." Adroddai y geiriau drosodd a throsodd, a gwresogai ei ysbryd fwy-fwy wrth adrodd, "O byrth, dyrchefwch eich penau," ac ymaith a'r het oedd y pryd hwn o dan ei gesail, yr hon ar ei hedfa a darawodd fonet Mrs. Charles, a gwaeddai y gweddiwr (ar y pyrth fry, mae'n debyg), "Make room!" Torodd allan yn orfoledd mawr ar y weddi ryfedd hon ar ddiwedd y seiat.

Pan yn gweddio ar ddyledswydd yn y teulu, byddai ganddo ystôl dri-throed o dan ei ddwylaw, gyrai yr ystôl yn ystod ei weddi, os cyfodai yr hwyl, oddiamgylch y tŷ. Fel y twymnai ef, clywid yr ystol yn cychwyn, o amgylch ogylch yr ystafell, nes peri un feddwl mai yr ystol a agorai y ffordd i'w ddymuniadau gael eu harllwys allan; a dywedir y byddai yn gwneuthur amryw o'r cylchdroadau o amgylch yr ystafell cyn y cyrhaeddai yr Amen. Aeth unwaith i ymofyn mawn i'r pen- tŷ, lle o bwrpas i gadw tanwydd, a chan yr arferai yn fynych weddio yn y dirgel, gwelodd yno gyfle i fyned ar ei liniau, a dyna lle y bu am gryn ysbaid o amser mewn gweddi yn gweddio, ac ymhen hir a hwyr aeth yn ol i'r tŷ wedi anghofio yn llwyr y mawn. Gofynodd y wraig, wedi iddo fyned i'r tŷ, "Wel, Richard, lle mae y mawn?" "Wel, ïe, yn siwr, Ann bach," atebai yntau, "yr oeddwn wedi anghofio beth oedd fy neges yn myned i'r pen-tŷ." Nid rhyfedd ydoedd i weddi y cyfryw weddiwr lwyddo i beri estyniad o bymtheng mlynedd yn oes Mr. Charles.

Mab ydoedd Thomas Owen, y Wyddgrug, fel y crybwyllwyd, i'r diweddar Richard Owen uchod. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1781. Cafodd ddygiad i fyny yn yr awyrgylch fwyaf crefyddol, o dan gronglwyd lle yr oedd cymundeb dyddiol a'r nefoedd, yn swn cynghorion a gweddïau taerion ei dad duwiol, yn nhref y Bala, yr hon oedd Jerusalem Methodistiaid y Gogledd; lle yr oedd y nifer fwyaf o bregethwyr a blaenoriaid, a hen bobl dduwiol; a'r Ysgol Sul yn cychwyn ei gyrfa ac yn lliosogi o dan arweiniad ei sylfaenydd enwog, a chewri pregethwyr Cymru yn dyfod trwy y dref ar eu teithiau, i bregethu. Yr oedd dynion ieuainc y Bala yn cael eu dwyn i fyny wrth draed enwogion y cyfnod hwn, fel mewn cyfnodau dilynol. Dechreuodd Thomas Owen ei oes yn dra chrefyddol, ond wedi tyfu yn llanc aeth dros dymor byr ar gyfeiliorn, gan ddilyn ieuenctyd gwyllt yr oes; ac wedi rhoddi tro trwy y commins, fel y dywedai yr hen bobl, daeth yn ol i'r seiat ar amser o ddiwygiad grymus. Wedi hyny, dechreuodd lafurio gyda sel a ffyddlondeb o blaid crefydd, ac yr oedd ynddo dalent na ddylesid mo'i chuddio. Pan oedd tua 21 oed, galwodd yr hybarch bregethwr, John Evans, un boreu Sabboth arno ef a John Peters, wedi hyny o Drawsfynydd, a dywedodd wrthynt, "Y mae yn rhaid i chwi fyn'd yn fy lle i heddyw, oherwydd fy mod yn annalluog gan afiechyd i fyned i'm cyhoeddiad. Ewch chwi, a darllenwch benod, ac ewch i weddi yn fyr; ac os cewch ar eich meddwl, dywedwch ychydig oddiwrth y benod." Aeth y ddau ddyn ieuanc, a gwnaethant yn ol y cyfarwyddyd, ac er fod ar feddwl y naill a'r llall i bregethu, ni fynegasant ddim o hyny i'w gilydd, ac ni ddarfu iddynt gynyg pregethu y diwrnod hwnw. Cydnabyddir fod y patriarch John Evans yn un o'r rhai craffaf a fu yn perthyn i'r Cyfundeb erioed, a phrofa yr amgylchiad hwn. hyny.

Traddododd Thomas Owen ei bregeth gyntaf yn nhŷ hen wraig o'r enw Siân Llwyd, yn Llanfor, yn y flwyddyn 1802. Trwy berswad Mr. Charles y llwyddwyd i'w gael i bregethu y tro cyntaf yn nhref y Bala, oherwydd ei fod yn llwfr ac yn ofnus i bregethu yn nghlywedigaeth cynifer a dybid eu bod yn golofnau, a thrwy dipyn o gyfrwysdra diniwed y dygwyd hyn oddiamgylch.

Un o'r cynghorion a roddodd Mr. Charles iddo yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu ydoedd, "Arfera fyned a dyfod gyda'th gyhoeddiadau yn ddiymdroi; na ddos yn afreidiol i dai y cyfeillion ar y ffordd: a bydd mor ddidrafferth i bawb ag y byddo modd." A dywedir y byddai yn ymddwyn yn ol y cyngor hwn ar hyd ei oes. Rhoddodd ei dad gyngor rhagorol iddo un tro ynghylch pregethu. Yr oedd y ddau mewn ymddiddan â'u gilydd ar ryw fater Ysgrythyrol, ac meddai y mab, "Mae y cyffredinolrwydd yn barnu fel a'r fel, fy nhad." Yr hen wr a'i hatebodd yn ddioed, "Dear me, fachgen, beth ydyw y gair mawr yna sydd genyt?-Y cyffredinolrwydd!- Mae yn air rhy hir o lawer. Cymer ofal rhag i ti wrth bregethu fyned i ddywedyd geiriau mawr fel y. Dywed di-y cyffredin-os bydd eisieu, ac nid-y cyffredinolrwydd." Yr oedd Thomas Owen wedi ei brentisio i fod yn grydd, yn ol crefft ei dad. Ond rywbryd oddeutu yr amser y dechreuodd bregethu, fe ddarfu Mr. Charles ei gymell i fyned i gadw un o'r Ysgolion Cylchynol, i'r hyn yr ufuddhaodd. Yr ydym yn gweled o hyd mai yn y Bala ac oddeutu y Bala yr oedd. Mr. Charles yn cael y nifer liosocaf o ddefnyddiau i fyned i gadw yr ysgolion; yr ydym yn cyfarfod yn wastad hefyd a'i graffder yn pigo allan y dynion mwyaf crefyddol; ac yn ol pob hanes, ymddengys mai efe fyddai yn cymell y dynion cymwys i'r gwaith, ac nid hwy fyddent yn cymell eu hunain, Rhed yr hanes ddarfod i Thomas Owen fod am un tymor yn cadw yr Ysgol yn Waen y Bala, yn y tŷ a elwid Caerleon. "Bu hefyd yn cynal ysgol am ysbaid yn eglwys Llanfor, gerllaw y Bala, lle yr oedd yn myned ymlaen yn dra llwyddianus. Yr oedd yn catecheisio y plant yn egwyddorion mawrion Cristionogaeth, heb fod mewn un modd yn sectaidd; ond er hyny, daeth yr offeiriad i droi yr ysgol allan o'r eglwys, am ei bod, meddai ef, yn dwyn Methodistiaeth i mewn iddi. Un prydnawn, dyma yr ysgolfeistr ieuanc, a'r plant, yn cael eu gyru allan ar ffrwst o'r hen anedd gysegredig; ac wele y ffarwelio mwyaf cynhyrfiol yn cymeryd lle: y plant o amgylch eu hathraw yn crio yn dost, ac yntau yn wylo gyda hwy, ac yn gweddio drostynt. Trwy garedigrwydd y boneddwr clodus, Mr. Price, o'r Rhiwlas, cafodd fenthyg llofft yr hearse yn y fynwent i gadw yr ysgol ynddi, nes i dymor ei harosiad y tro hwn yn Llanfor ddyfod i'r pen."

Y lle y symudodd iddo gyntaf o'r Bala ydoedd i Dregeiriog, o fewn wyth milldir i Groesoswallt. I gadw yr ysgol yr aeth yno. Bu yn ddiwyd gyda'r gorchwyl hwn, a chydag achos crefydd yn gyffredinol yn y cylch. Ar doriad yr ysgol elai ar deithiau i bregethu trwy Ogledd Cymru. Dioddefodd erledigaeth drom wrth bregethu yn ardaloedd paganaidd Clawdd Offa. Ond nid ydys yn cael iddo fod yn cadw ysgol yn unman tuallan i Ddwyrain Meirionydd. O fewn y cylch hwn bu yn foddion i enill llawer o eneidiau at Grist tra yn cyflawni y swydd o ysgolfeistr, fel y cafodd brawf amryw weithiau yn ddiweddarach ar ei oes. Yr oedd rhywbeth yn debyg i arian byw yn nghyfansoddiad natur Thomas Owen-cyfodai weithiau yn bur uchel, a disgynai bryd arall yn isel iawn, a chyfodai a disgynai yn aml gyda chyflymdra yr arian byw. Yr oedd yn boblogaidd iawn yn nhymor cyntaf ei fywyd, a chyrchai llawer o bobl i wrandoarno. Soniai hen bobl yn Aberdyfi, amser yn ol, am odfa rymus a gafodd pan yn pregethu rywbryd yn yr awyr agored, ar bont Rhydymeirch, yn ardal Maethlon, y tu cefn i Aberdyfi, pryd nad oedd yr un capel wedi ei adeiladu yn Maethlon nac Aberdyfi. Wrth yr enw Thomas Owen y Bala yr adnabyddid. ef y pryd hwnw. Feallai mai yn ystod yr un daith y pregethai yn y Cwrt, lle yn agos i odre Cader Idris, ardal a ádnabyddir yn awr er's chwarter canrif wrth yr enw Abergynolwyn. Yr oedd yr odfa hono i'w deimlad ei hun yn un o'r rhai tywyllaf a chaletaf; methai a chael gafael ar ddim byd, a methai ddweyd dim byd wrth ei fodd, a theimlai gywilydd mawr o hono ei hun ar ol darfod. Penderfynodd nad elai ddim i'r lle hwnw i bregethu mwyach. Ymhen blynyddau ar ol hyn. yr oedd ar daith drachefn trwy y parth hwn o'r sir, ac erbyn iddo dderbyn taflen y cyhoeddiad hwn oddiwrth y trefnwr, wele y Cwrt i lawr yn y trefniad. Yr oedd yn benderfynol nad elai yno oherwydd maint ei gywilydd, a chredai pe yr aethai na ddeuai neb yno i wrando, ac arfaethai yn ei feddwl fyned heibio y lle yn ddistaw. Ond pan yn ymyl y groesffordd oedd. yn troi tuag yno, daeth gwraig allan o dŷ ar fin y ffordd, a gofynai iddo, "Ai chwi yw y gwr dieithr sydd i fod yn y Cwrt?" "Ië, mae'n debyg," atebai yntau. "Chwi fuoch yn pregethu yn y Cwrt o'r blaen, onid do?" "Dyma hi," meddai wrtho ei hun, "mae y wraig hon yn myn'd i edliw i mi yr hen odfa dywyll." "O," ebe hi, dan wylo, "mi ddiolchaf byth am eich odfa yma y tro o'r blaen; yn yr odfa hono y cefais i yr olwg gyntaf ar fy nghyflwr ac ar Grist.[4]"

Yn y flwyddyn 1807, aeth i fyw i Adwy'r Clawdd, ac nid ydym yn cael iddo fod mewn cysylltiad a'r ysgolion cylchynol ar ol hyn. Bu yn cyfaneddu yn Adwy'r Clawdd yn agos i ddeng mlynedd ar hugain. Bu o wasanaeth mawr i achos yr Arglwydd yr oll o'r amser a dreuliodd yn y lle hwn. Gwelodd, modd bynag, "dduon ragluniaethau" yn ystod ei fywyd. Ymaflodd ynddo afiechyd meddyliol, a syrthiodd i iselder ysbryd, yr hyn a barodd iddo fod heb bregethu am flynyddau. Tua'r amser y daeth dirwest i'r wlad, gadawodd y pruddglwyf ef, a chafodd ei adferu i bregethu drachefn. Bu yn preswylio am dymor byr yn Ngwernymynydd, ac yn cadw toll-borth yno. Symudodd oddiyno i dref y Wyddgrug, lle y treuliodd y pedair blynedd ar ddeg olaf o'i oes. Arhodd ei fwâ yn gryf hyd ben y daith. Diweddodd ei yrfa ddaearol mewn

tangnefedd ar yr 8fed o Ragfyr, 1851, yn nghanol cymeradwyaeth a pharch ei holl frodyr.

PENOD VIII.

Y PARCH. RICHARD JONES, Y BALA.

Hunan-gofiant Richard Jones—Helyntion Maentwrog yn nyddiau ei febyd —Yn symud i'r Bala yn 1800—Yn dyfod at grefydd—Yn dyfod yn un o Ysgolfeistriaid Mr. Charles——Yn dechreu pregethu yn Nhrawsfynydd— Yn ymsefydlu yn y Bala yn 1829—John Roberts, Llangwm, mewn Cyfarfod Misol yn Nolyddelen—Cyfarfod Misol yn Nhrawsfynydd—John Griffith, Capel Curig, ac Owen William, Towyn.

YR oedd graddau ymysg yr Ysgolfeistriaid Cylchynol mewn gallu a defnyddioldeb, fel ymysg ysgolfeistriaid pob oes Prin y gellid eu cymharu o ran dysgeidiaeth, oblegid ysgolfeistriaid heb gael y nesaf peth i ddim addysg oeddynt. Elfenol oedd yr ysgolion yn ngwir ystyr y gair; rhai felly oedd gymwys i amgylchiadau y wlad y pryd hwnw, ac athrawon byr eu dysg oedd y rhai cymhwysaf i arwain y cyfryw ysgolion. Ond perthynai Richard Jones i radd uwch na'r cyffredin o'r athrawon. Cafodd ef dri chwarter blwyddyn o ysgol yn bwrpasol i'w gymhwyso i gadw ysgolion Seisnig. Galwyd ef hefyd i'r gwaith yn ddiweddarach ar oes Mr. Charles na'r rhan liosocaf o'r lleill.

Mab iddo ef oedd y blaenor parchus, y diweddar Mr. Richard Jones, o'r Bala. Merch iddo oedd priod y cenhadwr ffraeth a selog, ac adnabyddus, y Parch. James Williams, Llydaw. Mab arall iddo ydyw Mr. Edward Jones, Y.H., yn awr o Blasyracre, Bala. Yntau hefyd erbyn hyn wedi gadael y fuchedd hon.

Yn y flwyddyn 1836, bedair blynedd cyn ei farwolaeth, ysgrifenodd fywgraffiad byr am dano ei hun, a chyhoeddwyd hwn ynghyd a sylwadau cynwysfawr am y gwrthddrych gan y Parch. Lewis Jones, Bala, yn 1841. Mae y bywgraffiad yn werthfawr ar gyfrif y goleuni a rydd ar amgylchiadau boreu ei oes, a hanes yr ardaloedd y bu yn byw ynddynt, ynghyd ag ychydig o wybodaeth pellach am Ysgolion Cylchynol Mr. Charles.

Ganwyd Richard Jones, Hydref 17, 1784, mewn ty a elwid Tafarn-y-trip, yn ngwaelod Plwyf Ffestiniog, Sir Feirionydd. Saif Tafarn-y-trip ar ochr y ffordd, oddeutu haner y pellder rhwng Maentwrog a gorsaf Tanybwlch, ar Reilffordd Porthmadog a Ffestiniog. Mae y ty gerllaw Plas Tanybwlch, byddai ef pan yn fachgen yn gwneuthur mân swyddau o gwm- pas palasdy Mr. Oakley, Tanybwlch, er enill ychydig at ei gynhaliaeth. Yr oedd yr ieuengaf ond un o ddeuddeg o blant. Dywed ei hun nad oedd lle i ddisgwyl iddo gael fawr o fanteision mewn dysg, "a mi yn un o gynifer o blant tlodion mewn cymydogaeth dywyll iawn." Mae geiriau olaf y frawddeg yn arwyddo mai pell iawn yn ol oedd y rhan yma o'r wlad y pryd hwn, mewn moddion dysg a chrefydd. Eithriad oedd fod haner dwsin mewn plwyf yn alluog i ddarllen, a pheth mwy eithriadol oedd cael dau neu dri a fedrent ysgrifenu. "Yn haf y flwyddyn 1790," ebai ef ei hun, "anfonodd Mr. Charles, o'r Bala, ŵr duwiol i'r gymydogaeth i gadw ysgol rad Gymraeg, yr hon a gedwid mewn ty lled wael a elwid Ty'ny- fedwen, plwyf Maentwrog, ac anfonodd fy rhieni rhyw nifer o'u plant, ac yn un o'r nifer yr oeddwn inau, y pryd hyny rhwng pump a chwech oed." Dysgodd ddarllen yn rhwydd yn yr oedran bore hwnw. Byddai dyn a fedrai ddarllen yn hwylus yn cael sylw mawr mewn ardal, ond yr oedd fod bachgen chwech oed yn medru darllen yn rhigl yn beth mor hynod, fel yr aeth son am dano trwy'r holl wlad, a cheisid ganddo ddarllen yn nghlywedigaeth bron bawb a'i gwelai. Dechreuodd yr Ysgolion Cylchynol ddwyn ffrwyth yn foreu. Bu yr ysgol hon yn mhlwyf Maentwrog—terfyna Tafarn-y-trip ar y plwyf hwn yn foddion i roddi cychwyniad i un a ddaeth wedi hyny yn wr rhagorol yn Sir Feirionydd. Ceir cipolwg yma hefyd ar yr anhawsderau a gyfarfyddid i gael lle i gario yr ysgolion ymlaen yn y mwyafrif o'r ardaloedd. Mewn tŷ gwael y cedwid yr ysgol hon, ac mewn lle anghysbell. Y gwr duwiol a gadwai yr ysgol hon yn Maentwrog y tymor hwn ydoedd Hugh Evans, o'r Sarnau, yr hwn a ddaeth wedi hyn yn bregethwr gwlithog iawn. Dywed Methodistiaeth Cymru, gan gyfeirio at yr hanes dan sylw, "Fe welir yn yr amgylchiad hwn, fel llawer eraill, brawf o fuddioldeb yr ysgolion rhad. osodasai Mr. Charles i fyny yn y wlad. Pan oedd Richard Jones yn chwe' blwydd oed, anfonwyd ysgolfeistr duwiol i gadw ysgol rad Gymraeg i blwyf Maentwrog, sef y plwyf nesaf at yr hwn yr oedd Richard ynddo, i'r hon yr anfonwyd ef, ynghyd ag eraill o'i frodyr. Yn yr ysgol hon, er ieuenged ydoedd, fe ddysgodd ddarllen Cymraeg yn rhwydd a chywir mewn ychydig fisoedd."

Ymhen rhyw gymaint o amser ar ol hyn anfonwyd ef drosychydig amser i ysgol a gynhelid yn Eglwys plwyf Maentwrog, gan un o'r enw Ellis Williams. Nid yw yn canmol iddo ddysgu llawer yn hon. Calanmai, 1796, pan oedd yn 12 oed, rhoddwyd ef yn egwyddorwas i ddysgu y gelfyddyd of wneuthurwr dillad, a pharhaodd ei brentisiaeth bedair blynedd. Yn ystod pedair blynedd olaf y ganrif ddiweddaf, yr oedd yn amser drwg a chyfyng ar y wlad yn gyffredinol. Yr ymborth yn brin, yn afiach, a drud, a gwaith ymhlith pob dosbarth o'r bron wedi darfod. Gymaint oedd iselder masnach a chyni y trigolion fel y gorfu iddo adael ty ei feistr y diwrnod y daeth yn rhydd o'i brentisiaeth, gan nad oedd dim gwaith i weithiwr o'i grefft ef, ac heb ddim i'w wneyd y bu gan mwyaf yr haf dilynol.

Heblaw ei bod yn gyfyng ar amgylchiadau tymhorol trigolion y wlad, hynodrwydd arall yr amseroedd hyn ydoedd y diwygiadau crefyddol grymus a fyddai yn aml yn tori allan— yn llawer amlach nag yn yr oes fawr ei breintiau yr ydym ni yn byw ynddi. Y mae amseroedd cyfyng, yn sicr, yn fwy manteisiol fel meithrinfa i grefydd nag amseroedd o lwyddiant, ac y mae yn sicr i amryw ddiwygiadau grymus dori allan mewn gwahanol ranau o'r wlad ar derfyn y ddwy ganrif. Ac fe gawn o enau Richard Jones ei hun ddarluniad o ddiwygiad a dorodd allan yn yr ardaloedd hyn:—"Yn y blynyddoedd. hyn [1796—1800] torodd diwygiad grymus iawn allan gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn Ffestiniog, Maentwrog, a Thrawsfynydd, a byddai gorfoledd mawr gan y bobl; byddai odfa y boreu yn gyffredin yn Ffestiniog, a dau o'r gloch mewn ty a elwir Garth Gwyn, a byddai y bobl yn neidio a llemain, ac yn canu a bloeddio ar hyd y ffordd o'r naill le i'r llall, a minau yn cael pleser mawr yn eu canlyn a gwrando arnynt, ac hefyd. yn gwrando ar y pregethwr, os bloeddiai ei oreu, ac onide ni byddai o fawr o werth yn fy ngolwg." Yn yr hanes hwn yr ydym yn cael darluniad gan lygad—dyst o'r gorfoledd a barhaodd yn Nghymru, fwy neu lai, am dymor o gan' mlynedd, ac hefyd o ddull y bobl o "neidio, a llemain, a chanu a bloeddio," wrth symud yn dyrfaoedd gyda'u gilydd o'r naill fan i'r llall. Nid oedd yr un capel yn Maentwrog y pryd hwn. Yn ddiweddarach yr adeiladwyd yr unig gapel a fu yma gan y Methodistiaid yn ystod oes yr "Hynod William Ellis" Yn awr er's dros ugain mlynedd mae yma ddau gapel, Maentwrog Uchaf a Maentwrog Isaf, ac y mae y Garth Gwyn, lle y cynhelid y moddion crefyddol ddiwedd y ganrif ddiweddaf, yn y canol, oddeutu haner y ffordd rhwng y ddau. Adeiladwyd hefyd gapel yn Llenyrch yn 1861, ardal fechan a olygir fel rhan o gymydogaeth Maentwrog.

Yn mis Tachwedd, 1800, y mae Richard Jones yn gadael ei ardal enedigol, ac yn symud i drigianu i dref y Bala. "Ar y nos Sul cyntaf ar ol i mi ddyfod i'r Bala," meddai, "yr oeddynt yn cadw cyfarfod gweddi yn llofft fawr ty Mr. Charles, o flaen i'r gwr enwog hwnw gael tori ei fawd, canys torwyd hi dranoeth. Cefais inau y fraint o fod yno gyda hwynt, ac yr wyf yn cofio fod yno hen wr yn gweddio am arbediad Mr. Charles yn daer iawn, ac yn gwaeddi, Pymtheg, Arglwydd, oni roi di ef i ni bymtheg mlynedd, Arglwydd? Er mwyn fy mrodyr y mae yr arch hon, a'm cymydogion hefyd.' "

Er nad oedd ond llanc un-ar-bymtheg oed, daliodd sylw mawr ar yr hen wr yn gweddio, oblegid ei fod yn gwaeddi yn arw, a bod ei ddull yn wahanol i'r lleill. Fe gofir fod yr hanes hwn am weddi ryfedd Richard Owen dduwiol wedi ei roddi yn yr ysgrif ddiweddaf, fel y cafwyd ef o ffynhonell arall. Os ydyw dyddiad mynediad Richard Jones i'r Bala yn gywir, bu Mr. Charles yn dioddef yn hir iawn oddiwrth yr anhwyldeb ar ei law cyn myned trwy yr oruchwyliaeth derfynol, oblegid dywedir yn ei gofiant ei fod wedi cael oerfel yn gynar yn ngauaf 1799, ac yn awr pan y cynhelid y cyfarfod gweddi hynod y nos Sul cyn i'r oruchwyliaeth derfynol gymeryd lle, y mae yn fis Tachwedd, 1800.

Y mae bellach yn fyd newydd ar Richard Jones, wedi symud o Faentwrog i drigianu yn y Bala. Dilyna ei alwedigaeth gydag Edward Evans, un o flaenoriaid rhagorol eglwys y Bala. Mwynha gyflawnder o freintiau Sabbothol ac wythnosol, a rhydd ei feistr bob cefnogaeth iddo i ddilyn moddion gras a byw yn grefyddol. Nid oedd yn proffesu pan aeth i'r Bala, ac ni ddaeth yn broffeswr am bump neu chwe' blynedd. Er hyny, ymbalfalai am y gwirionedd, dilynai yr Ysgol Sul, a gwrandawai y pregethau yn gyson, a thrwy hyny daeth i weled ei fod yn bechadur colledig ac andwyol. Wrth wrando Mr. Charles yn pregethu ar y geiriau, "Yn ol yr arfaeth dragwyddol," y meddyliodd gyntaf erioed am etholedigaeth. Credodd yn y fan wrth wrando yn yr etholedigaeth. Megis er ei waethaf y gwnaeth hyn, oblegid nid oedd ar un cyfrif yn ei hoffi. Syrthiodd o ran ei feddwl i drobwll yr oedd llawer iawn o wrandawyr efengyl yn yr oes hono yn syrthio iddo. Ymresymai ag ef ei hun, mewn ysbryd deddfol a hunanwybodus, fel y gwnai y rhan fwyaf yn yr un stat meddwl ag ef. Os wyf wedi fy ethol, byddaf sicr o gyraedd y nefoedd, sut bynag y byddaf byw. Os nad wyf wedi fy ethol, yn uffern. y byddaf, beth bynag a wnaf. Yn y modd hwn y rhesymai y rhesymolwyr y dyddiau gynt, heb chwilio am ddim gwybodaeth pellach, ac heb geisio credu yr holl wirionedd am y drefn i gadw. Ond wedi bod yn y sefyllfa hon o ran ei feddwl, daeth allan o'r trobwll yn y modd a ganlyn—ac mae ei ymresymiad rhesymol yn deilwng o ystyriaeth pob amheuwr:—"Yr wyf yn hollol sicr mai marw a wnaf rywbryd, bwytawyf faint a fynwyf, ac arferaf foddion bywyd faint a fynwyf; ac er y gwn mai marw a raid, arfer moddion bywyd yr ydwyf o hyd. Y mae Duw wedi trefnu moddion bywyd tragwyddol, a moddion i'w harfer ydynt, ac nid oes neb a ŵyr na chaf fywyd am byth wrth eu harfer. Am hyny mi a arferaf â moddion gras tra fyddwyf byw; mi wnaf y tro i fyn'd i uffern. yn y diwedd, pe b'ai raid." Felly y penderfynodd wneyd, ac felly y gwnaeth tra fu byw. Bob yn dipyn, tra yn cadw at ei benderfyniad, cafodd y lan, a bwriodd ei goelbren ymysg pobl yr Arglwydd.

Ymddengys ei fod yn grefyddol bob amser cyn dyfod, fel y dywedai yr hen bobl, at grefydd. Cafodd le i weithio, a gwaith a wnai y tro iddo, yn union, pan y daeth yn un o filwyr Seion. Gwell yw adrodd y modd y daeth i gysylltiad ag ysgolion Mr. Charles yn ei eiriau ef ei hun :—"Yn fuan wedi i mi ymuno â'r eglwys, cafodd Mr. Charles ar ei feddwl yn fawr, gan nad oedd ysgolfeistriaid crefyddol i'w cael i gadw ysgolion Saesneg, a oedd dim modd rhoi ychydig o ddysg i ddynion ieuainc crefyddol, i'r diben o'u cymhwyso i gadw ysgol yma a thraw ar hyd y gwledydd. Ac fel yr oedd ei feddwl gwrol ef am bob peth a dybiai a wnai leshad i ddynion, ni orphwysai nes cael y peth i ben. ac felly y bu hyn. Hefyd penododd ar ddau o eglwys y Bala, sef Morris Rowlands a minnau, a danfonodd ni ein dau i Gaergybi, yn Môn, yn mis Tachwedd, 1807, ac aeth yn rhwymedig am ein hysgol a'n cynhaliaeth hefyd, ei hun; ni wn pa faint o gynorthwy a gafodd, ond yr wyf yn meddwl mai go ychydig." Yr oedd y Morris Rowlands uchod yn ŵr nodedig o dduwiol. Ond collodd ei iechyd, a bu farw ymhen ychydig o fisoedd. Arhosodd Richard Jones yn Nghaergybi am dri chwarter blwyddyn, pryd yr ysgrifenodd ei feistr at Mr. Charles i'w hysbysu ei fod wedi dysgu digon. Ymhen y mis ar ol cyrhaedd adref, dechreuodd gadw ysgol yn nghapel y Methodistiaid yn y Bala.

Yr oedd ef wedi ei gymhwyso, fel y gwelir, i gadw Ysgol Ganolraddol neu Uwchraddol, h.y., yr oedd yn alluog i gyfranu. addysg yn yr iaith Saesneg i'r ysgolheigion. Cynyddai yr alwad at ddiwedd oes Mr. Charles am ysgolfeistriaid galluocach na'r rhai cyntaf, yr hyn a brawf fod agwedd y wlad wedi newid llawer o ran gwybodaeth mewn ychydig dros ugain mlynedd o amser. Un o'r cyfryw ysgolfeistriaid ydoedd. Richard Jones. Ar ol i'w dymor yn nhref y Bala ddyfod i fyny, aeth i gadw ysgol i Drefrhiwaedog, a bu gyda yr un gorchwyl drachefn am yn agos i bedair blynedd yn y Parc, gerllaw y Bala. Yma dewiswyd ef yn un o flaenoriad yr eglwys. Yn Mehefin, 1814, y flwyddyn y bu farw Mr. Charles, y mae yn symud i gadw ysgoli Drawsfynydd. Ac am ddau o'r gloch y Sul, Mawrth 19, 1815, y mae yn sefyll ar risiau pulpud Capel Cwmprysor, yn darllen yr unfed Salm ar ddeg, ac yn gwneuthur sylwadau oddiwrth un adnod, ac yn gwneuthur yn gyffelyb hwyr yr un dydd yn Nhrawsfynydd. A dyma y diwrnod a gyfrifai fel y dydd y dechreuodd bregethu. Y mae bellach yn bregethwr ac ysgolfeistr, a chyflawna y naill swydd a'r llall yn drwyadl a chymeradwy. Yr oedd y lle y pryd hwnw yn dra anghysbell iddo fyned i'w deithiau Sabbothol. Ac nid oedd ganddo, meddai ef ei hun, amser cyfreithlawn i fod oddicartref ond o 11 o'r gloch ddydd Sadwrn hyd 8 o'r gloch bore Llun, ac mor gydwybodol ydoedd i gyflawni ei waith yn iawn, fel mai anaml iawn y methodd, haf na gauaf, ddechreu yr ysgol yr awr foreuol hono, faint bynag fyddai pellder ei daith y Sabboth blaenorol. Fel Richard Jones, Trawsfynydd, yr adnabyddid ef gan lawer hyd ddiwedd ei oes, gan iddo fod yno yn lled hir, ac oddiyno yr aeth ei enw yn hysbys trwy y wlad fel efengylwr. Yno y priododd, ac yr ymsefydlodd, fel y dywedir, yn y byd. Yn Nghymdeithasfa y Bala, 1825, ordeiniwyd ef i holl waith y weinidogaeth, ac yn. niwedd yr un flwyddyn anfonwyd ef tros y Gogledd i wasanaethu yr achos yn Llundain, a bu yno 11 o Sabbothau. Ar ol dychwelyd o Lundain y pryd hwn, ni cheisiodd gadw ysgol mwyach. Ymroddais," meddai, "i gymeryd y byd a gawn wrth wasanaethu yr eglwysi yn y sir, ynghyd âg ambell daith weithiau i siroedd eraill."

Calanmai, 1829, y mae yn gadael Trawsfynydd, wedi bod yn y lle hwnw yn fawr ei barch am 15 mlynedd, ac ar gais brodyr a chyfeillion yn y Bala y mae yn symud yno, efe a'i deulu, i gyfaneddu hyd ddiwedd ei oes. Gwasanaethu yr eglwysi a wna bellach yn gyffredinol trwy y Cyfundeb, weithiau yn Llundain, weithiau yn Liverpool a Manchester, bryd. arall ar daith i'r Deheudir ac i siroedd y Gogledd, ond gan mwyaf yn Sir Feirionydd, gan gymeryd y byd a gai. Golyga yr ymadrodd hwn o'i eiddo fod yn rhaid i weinidog yr efengyl ymhlith y Methodistiaid, yn ei amser ef, ymfoddloni ar ymborth a dillad a dim ond hyny, gan nad oedd yr eglwysi eto yn credu fod y sawl a bregethai yr efengyl i fyw wrth yr efengyl. Llanwodd Richard Jones le mawr yn ei ddydd yn y Cyfundeb, ac yn neillduol yn Meirionydd, ei sir enedigol. Ystyrid ef yn un o'r colofnau gyda holl symudiadau yr achos yn y sir. Yr adeg y pwyswyd arno gan ei frodyr i fyned i fyw i'r Bala, nid oedd odid neb o weinidogion y sir yn gymaint ei ddylanwad ag ef. Yr oedd hen bregethwyr y Bala wedi eu symud oddiwrth eu gwaith at eu gwobr, a nifer y rhai cyfrifol wedi teneuo yn fawr. John Roberts, Llangwm, oedd yr arweinydd a'r pen—rheolwr y blynyddau hyn, ac yr oedd yntau. yn hen ac o fewn pum' mlynedd i ddiwedd ei oes pan symudodd Richard Jones i'r Bala. Yr oedd John Roberts yn helaethach ei wybodaeth, ac yn rhwyddach ei ymadrodd na phregethwyr ei oes yn gyffredin, yn llawn yni a bywiogrwydd, a chanddo allu arbenig i gario ymlaen amgylchiadau allanol yr achos. Efe oedd Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol am y pum' mlynedd ar hugain y bu yn trigianu yn y sir. Yr oedd wedi ei eni i deyrnasu, ac ystyrid gan lawer ei fod yn teyrnasu ac yn llywodraethu mwy nag a ddylasai. Prawf o hyn ydyw. yr hanesyn canlynol:—Yr oedd Cyfarfod Misol yn cael ei gynal yn Nolwyddelen rywbryd, ac wrth holi am hanes yr achos yn y lle, gofynai John Roberts i'r hen bregethwr adnabyddus, John Williams (Shon William), Dolyddelen, "A ydyw y bobl ieuainc yn Nolyddelen yma yn helpu tipyn arnoch chwi i gario yr achos ymlaen, John Williams?" "Nac ydynt," oedd yr ateb chwyrn, "nac ydynt," 'does dim eisieu. iddynt wneyd; yr wyf fi yn gwneyd y cwbl fy hun, fel yr ydych. chwithau yn gwneyd y cwbl eich hun yn y Cyfarfod Misol yma!"

Cyn belled ag y gellir casglu oddiwrth amgylchiadau cydgyfarfyddol, Richard Jones, y Bala, a ddaeth yn Ysgrifenydd Cyfarfod Misol y Sir am y chwe' blynedd rhwng marwolaeth John Roberts, Llangwm, yn 1834, a'r amser y rhanwyd y Sir, yn ddau Gyfarfod Misol, yn 1840. Nid oes dim cofnodion ar gael i brofi y ffaith; a methwyd a chael tystiolaeth ar air i'w sicrhau, ond mae ei enw ef i'w weled yn fynych lle y dysgwylid cael enw Ysgrifenydd y Cyfarfod Misol. "Digon tebyg mai y fo oedd yr Ysgrifenydd" meddai y blaenor haeddbarch a'r cofiadur rhagorol, Mr. Bleddyn Llwyd, Gyrddinan, Dolyddelen. Yr wyf yn cofio fy mod mewn Cyfarfod Misol yn Nhrawsfynydd, cyn rhanu dau ben y Sir, ac yr oedd Richard. Jones yn eistedd wrth ryw fwrdd yn y sêt fawr, ac yn codi i fyny yn awr a phryd arall i wneuthur sylwadau byrion." "Dyna un peth," ychwanegai, "wyf yn gofio Richard Jones. yn ddweyd yn y Cyfarfod Misol hwnw: y dylai pregethwyr beidio grwgnach o herwydd yr hyn oeddynt yn ei gael am bregethu; nid oedd ganddynt le i rwgnach, yr oedd wedi gwella llawer yn y peth hwn rhagor y bu. Fe fum i,' ebai, 'yn dyfod o'r Bala i Drawsfynydd yma heb gael digon am fy ngwasanaeth am y Sabboth i gadw y merlyn hyd y Sabboth dilynol.'" Ac yr oedd y sylw hwn am wellhad wedi cymeryd lle yn y gydnabyddiaeth Sabbothol, yn cael ei wneuthur fwy nag ugain mlynedd o amser cyn i ddyddiau yr hen oruchwyliaeth fyned heibio.

Yn y Cyfarfod Misol hwnw yn Nhrawsfynydd rhoddai John Griffith, Capel Curig, blaenor adnabyddus a dylanwadol y tymor hwn, ac un a gymerai ran flaenllaw yn ngwaith y Cyfarfod Misol, gynghorion i bawb, yn bregethwyr a blaenoriaid, i fod yn ffyddlon i ddilyn y Cyfarfodydd Misol gyda chysondeb, a'r pwysigrwydd o wneuthur hyny. Ar ol iddo eistedd i lawr, cyfododd yr hynod hen bregethwr, Owen William, Towyn, ar ei draed, ac a ddywedodd:-"Ni waeth i rai o honom heb ddyfod iddynt, nid oes neb yn gofyn pa beth ydym dda wedi i ni ddyfod." Ac aeth yn dipyn o ymdderu rhwng yr hen bregethwr o Dowyn a'r blaenor o Gapel Curig. Lewis Jones, y Bala, a gyfododd i gyfryngu rhyngddynt, mewn ysbryd addfwyn a hawddgar, gan ddangos ei bod yn ddyledswydd ar bawb i fynychu y cyfarfodydd, nid yn unig er mwyn rhoddi help i gario y gwaith yn ei flaen, ond hefyd er derbyn lles a bendith bersonol, trwy ddyfod i gyffyrddiad â phethau mawr y Deyrnas.

Crediniaeth pawb am Richard Jones ydoedd ei fod yn un o ddynion goreu ei oes yn y cylchoedd yr oedd yn troi ynddynt. "Nid yn fynych," dywedwyd wedi iddo orphen ei yrfa, "y gwelwyd neb llai ei frychau, ac amlach ei rinweddau." Treuliodd ran gyntaf ei oes yn wasanaethgar fel ysgolfeistr, a'r rhan olaf o honi fel gweinidog yr Efengyl a gweithiwr egnïol yn ngwinllan ei Arglwydd. Torwyd ef i lawr yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Cymerwyd ef yn glaf yn Nhymdeithasfa y Gwanwyn yn Aberystwyth, ac ymhen pythefnos, sef boreu ddydd Gwener y Groglith, Ebrill 17eg, 1840, bu

farw, yn 55 mlwydd oed.

PENOD IX.

HUMPHREY EDWARDS, LLANDYNAN.

Humphrey Edwards yn parhau ar hyd ei oes yn Ysgolfeistr—Yn cael ei argyhoeddi wrth wrando Dafydd Morris, Twr Gwyn—Yn cael ei adnabod gan Mr. Charles—Yn dyfod i Landynan i gadw ysgol— Gorfoledd yn mhlith y plant amryw droion—Yn foddion i roddi i lawr chwareuon ofer—Yn atal ymladd gornest ar fynydd Hiraethog ac ar y Berwyn—Yn flaenor yn mhob man—Yn arweinydd i John Evans, New Inn, i Bont yr Eryd—Ya Nghyfarfod Jiwbili yr Ysgol Sul yn 1848— Yn marw yn 1854.

Arglwydd ddosbarth o ddynion a wnaethant lawer of waith, er arloesi y wlad mewn ystyr foesol a chrefyddol, sef y dosbarth a elwir yn lleygwyr—dynion na dderbyniasant urddau Eglwysig gan Esgob, ac na chawsant eu hordeinio yn weinidogion gan unrhyw enwad crefyddol. Un felly yn arbenig oedd Howell Harris, tad Cyfundeb y Methodistiaid. Rhai felly oedd y llïaws cynghorwyr a gyfodasant yn ei amser ef, a thros ddeugain mlynedd ar ol ei amser ef. Dynion wedi cael argyhoeddiad trwyadl o'u cyflwr colledig eu hunain, a thân dwyfol byth wed'yn yn llosgi yn eu hesgyrn, ac. yn eu gyru allan i'r byd i ddeffro eu cyd-ddynion oeddynt yn yr un cyflwr a hwythau. Rhai a gyflawnent yn llythyrenol eiriau yr Apostol Iago, "a throi o rywun ef," a thrwy ei droi yn cadw enaid rhag angeu, a chuddio llïaws o bechodau." Daeth llawer o ysgolfeistriaid Mr. Charles, megis y crybwyllwyd yn flaenorol, yn bregethwyr defnyddiol, a rhai o honynt yn enwog, ac felly mae eu henwau hwy hyd heddyw yn dra hysbys yn y wlad. Arhosodd eraill yn ysgolfeistriaid hyd eu bedd, neu o leiaf, hyd oni phallodd eu nerth gan henaint. Ni ddaethant hwy mor adnabyddus, ac ni chyrhaeddodd eu henwau yr un cyhoeddusrwydd â'r rhai a ddaethant i'r weinidogaeth. Treuliasant eu hoes gyda gwaith da, a gwaith o ganlyniadau parhaol, ond mewn ffordd mwy anghyhoedd. Aethant trwy y byd yn ddistaw, gan oleuo a gwasgaru peraroglau yn y ffordd yr elent.

"Y mae'r gemau a'r perlau puraf gore'u lliwiau îs y llo'r,
Dan y tonau'n gudd rhwng creigiau yn nyfnderoedd mawr y môr;
Ac mae'r blodau teca'u lliwiau, lle nas gwelir byth mo'u gwawr,
Ac yn taenu'u peraroglau, lle nas sylwa neb mo'u sawr!'

Un o'r cyfryw ydoedd.

HUMPHREY EDWARDS, LLANDYNAN.

Gadawodd ei waith yn Pandy Glyn Diphwys, Cerrigydruidion, pan yn agos i bymtheg ar hugain oed, ac ar archiad Mr. Charles aeth i gadw ysgol ddyddiol râd i Gwyddelwern, yn agos i Gorwen. Parhaodd i gadw ysgol o fan i fan, yn Siroedd Dinbych, Fflint, a Meirionydd am ddeugain mlynedd, ac ni roddodd y gorchwyl i fyny hyd nes y daliwyd ef gan henaint a musgrellni. Gweithredai fel blaenor yn yr eglwysi bychain ymhob ardal lle y bu yn trigianu. Bu yn offeryn yn llaw yr Arglwydd i ddarostwng llawer o annuwioldeb, ac i arwain pechaduriaid nid ychydig at y Gwaredwr.

Ganwyd ef ar y 22ain o Dachwedd, 1765, yn Melin y Wig, ar derfyn Sir Feirionydd a Sir Ddinbych, tu draw i Gorwen, Enw ei dad oedd Thomas Edwards, tanner wrth ei gelfyddyd. Dygwyd yntau i fyny yn yr un gelfyddyd a'i dad. Yr oedd yn ugain oed cyn i Mr. Charles ddyfod i fyw i'r Bala, a chyn bod Ysgol Sul wedi ei sefydlu yn Nghymru. Treuliodd yntau ddarn cyntaf ei oes yn wyllt ac yn gwbl ddioruchwyliaeth. Symudasai o'i ardal enedigol i wasanaeth Barcer yn Roe Wen, gan ddilyn ei gelfyddyd fel tanner. Tra yno, ac efe oddeutu deg ar hugain oed, dygwyddodd iddo fyned i Gonwy, i wrando ar y Parch. Dafydd Morris, o Sir Aberteifi, yn pregethu. Clwyfwyd ef yn yr odfa hono. Bu dan argyhoeddiad llym am gryn amser—gwelai ei hun yn euog—arswydai yn yr olwg ar enbydrwydd ei gyflwr—ofnai bob nos wrth fyned i'w wely, rhag y byddai yn agor ei lygaid yn uffern—dysgwyliai aml i waith i'r gwely ymollwng dano, ac mor ofnadwy oedd yr olwg ar bob peth o'i amgylch fel yr ofnai ac y crynai. Hynodrwydd mawr y cyfnod hwn ar grefydd yn Nghymru ydoedd, y byddai y sawl a argyhoeddid yn cael eu hargyhoeddi yn llym. Mor debyg i argyhoeddiad Saul o Tarsus fu argyhoeddiad llawer o'r hen bobl! Ac mor aml y clywid am ddynion a ddaethant yn ddefnyddiol gyda chrefydd a argyhoeddwyd trwy weinidogaeth rymus y gwas da a'r llefarwr nerthol, Dafydd Morris, o Sir Aberteifi! Wedi bod yn hir wrth Sina, yn clywed y taranau ac yn gweled y mellt a'r mwg, llewyrchodd y goleuni ar feddwl Humphrey Edwards megys yn uniongyrchol o'r nefoedd. Tra yn rhodio wrtho ei hun ar y ffordd, daeth y geiriau hyny yn syth i'w feddwl, "Lle yr amlhaodd pechod, y rhagor amlhaodd gras." O hyny allan yr oedd yn ddyn. newydd. Ymunodd â'r eglwys yn y Roe Wen. Ond wrth gyflwyno ei hun i'r brodyr crefyddol, dysgwyliai bob munyd gael ei droi allan o'r eglwys, gan mor ddrwg yr ymddangosai ei gyflwr ei hun iddo ei hun, ac mor hynod o dda a duwiol y syniai am bawb o'r crefyddwyr eraill. Arweiniwyd ef wedi hyn trwy ddyffryn tywyll, du, amheuon ac anghrediniaeth. Ofnai mai twyll a rhagrith oedd ei holl grefydd, nad oedd yn ofni Duw mewn gwirionedd, nad oedd ganddo ond rhith o grefydd, mai diffoddi a wnai ei ganwyll, ac mai i'r carchar du y bwrid ef yn y diwedd. Ond daeth y goleuni yr ail waith, a chyda'r goleuni y tro hwn ffydd a gweithgarwch a barhaodd hyd ddiwedd ei oes.

Symudodd oddeutu y pryd hwn o Roe Wen i Glyn Diphwys, Cerrigydruidion. Yr oedd capelau a moddion gras y pryd hyny yn brinion. Byddai raid i Humphrey Edwards fyned yn fynych mor bell a'r Bala i wrando pregethau, ac elai yno bob Sul pen mis i gymuno. Wrth fyned a dyfod i'r Bala daeth Mr. Charles i ddeall am ei duedd grefyddol gref. Ac wedi iddo. orphen ei amser yn Pandy Glyn Diphwys, cyflogwyd ef gan Mr. Charles i fyned i gadw ysgol yn Gwyddelwern. Yr oedd hyn tua diwedd y ganrif ddiweddaf, yn y flwyddyn 1799 yn dra thebygol. Dechreuodd ar ei waith fel ysgolfeistr, yn ol dim hanes a geir, heb ddim parotoad. Y chwarter cyntaf, cadwai yr ysgol mewn hen adeilad annymunol; nid oedd ond hanner to uwch ei ben, a dim ond tyllau ffenestri heb ddim gwydr yn y muriau. Ac er fod yr ysgolfeistr newydd yn llawn awydd i wneuthur daioni dros ei Arglwydd, eto tueddai y dechreuad anfanteisiol hwn i'w ddigaloni, a phan ddaeth Mr. Charles yno ymhen y chwarter, soniai am roddi ei swydd i fyny. "Rhoi dy swydd i fyny, y machgen i," ebe Mr. Charles, "paid a meddwl am hyny; gweithwyr ac nid segurwyr sydd arnaf fi eisieu." Nid oedd digaloni, a methu, yn eiriau yn ngeirlyfr Mr. Charles, a chyffrodd ei eiriau yr ysgolfeistr i fwy o zel a brwdfrydedd, ac ni chlybuwyd am dano yn son am roddi ei swydd i fyny ar ol hyn. Y symudiad cyntaf a wnaeth gyda'r ysgol ydoedd o Gwyddelwern i Landynan. Digwyddodd iddo fod yn arwain Mr. Charles ar ei daith i Langollen, a thra yn cydio yn mhen ei geffyl, wrth ddisgyn i lawr Bwlch Rhisgog, ebe y cydymaith wrth y marchogwr, Yr wyf yn ofni fod yr holl bobl sydd yn trigo y ffordd acw" —gan gyfeirio â'i fys at ardal Llandynan—"yr wyf yn ofni fod yr holl bobl sydd yn trigo y ffordd acw yn hynod o dywyll a phaganaidd." Gwyddai am y fangre yn dda, oblegid nid oedd nebpell oddiwrth ei ardal enedigol. "Wel, Humphrey," ebe Mr. Charles, "ti gai fyned acw i gadw ysgol, a'u dysgu hwynt yn y ffordd dda ac uniawn." Felly fu; dyma ei gysylltiad cyntaf & Llandynan, lle bu ganddo ysgol lwyddiannus y tro hwn am hanner blwyddyn. Ac mewn cysylltiad â'r lle hwn y daeth yn adnabyddus drwy y wlad.

Ei symudiad nesaf ydoedd i Langollen. Cafodd yno dderbyniad croesawgar a chalonog. Ni pheidiodd a chanmol hyd ddiwedd ei oes y caredigrwydd a dderbyniodd oddiar law yr hen frodyr, Mri. Robert Cooper, John Williams, o'r Bryniau, a Mr. Edwards, Siamber Wen. Byddai yma yn cadw ysgol nos, er mantais i'r rhai na allent ddilyn yr ysgol liw dydd. Yr oedd yn rhan o waith yr ysgolfeistriaid dyddiol symudol i gadw Ysgol Sul ymhob ardal lle yr arhosent. Cadwai yntau Ysgol Sul yn Llangollen, ac ymwthiai i'r wlad o amgylch gyda'r gorchwyl hwn, lle bynag y rhoddid drws agored iddo, a gwnelai ymdrech eilwaith ac eilwaith i gael y drws i agor. Adroddir am dano yn myned i Glyndyfrdwy un. Sabboth i geisio sefydlu Ysgol Sul yno y diwrnod hwnw. Ond ni thyciodd ei genadwri; dywedai y bobl na ddaethai. yr amser eto iddynt hwy weled angen am Ysgol Sul. Aeth yno drachefn y Sabboth dilynol, gan obeithio a gweddio ar hyd y ffordd, os na roddid derbyniad iddo i unrhyw dŷ, y rhoddid caniatad iddo i gynal ysgol yn yr awyr agored. Er ei syndod, yr oedd drysau lawer wedi agor erbyn yr ail ymgais o'i eiddo, a pharodrwydd hefyd i'w gynorthwyo yn y gorchwyl, ac felly y dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yn Glyndyfrdwy.

Bu yn cadw ysgol gylchynol wedi hyny yn Llanelidan, yn ardal Melin-y-coed, ac yn Ngherrigydruidion. Yn y lle olaf a enwyd, ryw nos Sabboth wrth gadw seiat gyda'r plant a'r bobl ieuainc, torodd allan yn orfoledd mawr. Cyfarfod arbenig gyda'r plant ar eu penau eu hunain ydoedd hwn yn ddiameu. Ni chaniateid i'r plant gael bod yn y seiat gan yr hen Fethodistiaid hyd nes oedd wedi cyraedd dipyn ymlaen i'r ganrif bresenol. Y rheswm dros gau y plant allan ydoedd, rhag iddynt gario allan i'r byd yr hyn a ddywedid ac a wneid yn y seiat. Rywbryd tuag amser Diwygiad Beddgelert y dechreuwyd gadael i'r plant fynychu y cyfarfodydd eglwysig. Pan oedd Humphrey Edwards yn ei dro yn Llandrillo, daeth lliaws o blant bychain ato i ofyn a gaent hwy ddyfod gydag ef i'r seiat. "Wel," meddai, "deuwch gyda mi at y capel, gofynaf finau i'r blaenor a gewch chwi ddyfod." "Gollyngwch y pethau bychain anwyl i mewn, Humphrey," ebai yntau. Ac yn bur fuan wedi iddynt fyned i mewn, torodd allan yn orfoledd ymhlith hen ac ieuainc. Fel yr oedd yn holi y plant yn Llanelidan un tro, digwyddodd iddo ofyn y cwestiwn, Paham yr oedd yr Arglwydd yn drugarog wrth bechaduriaid annheilwng? "Er ei fwyn ei Hun," atebai rhyw fachgen bychan, "oherwydd fod ei drugaredd yn parhau yn dragywydd." Gyda bod yr atebiad dros enau y bachgen, disgynodd yr awel nefol ar yr holl gynulleidfa. Cofiai yr hen wr gyda hyfrydwch tra fu byw am y tro hwn.

Digwyddodd tro hynod tra yr oedd yn cadw yr ysgol yn Glanyrafon, ardal yn agos i Gorwen. Yr oedd amryw of drigolion yr ardal hon yn ei wawdio am ei fod yn cadw seiat plant. Cyn hir, pa fodd bynag, cymerodd digwyddiad le a roes daw bythol ar y cyfryw wawd. Fel yr oedd Miss Grace Jones, Llawr y Bettws (wedi hyny priod y Parch. John Hughes, Liverpool), yn adrodd y seithfed Salm wedi'r cant, pan ddaeth at y geiriau, "Efe a dorodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barau haiarn," hi a dorodd allan i waeddi a gorfoleddu, a syrthiodd i lawr fel pe buasai mewn pêr-lewyg. Cafodd hyn y fath effaith ar y gynulleidfa fel yr aethant oll yn foddfa o ddagrau, a'r fath ydoedd y dylanwad, pan y cododd yr eneth i fyny i adrodd y gweddill, nad anghofiwyd mo'r tro tra y bu y genhedlaeth hono byw. Dyma ddechreuad diwygiad grymus a dorodd allan yn yr ardaloedd cylchynol. Llawer o ddigwyddiadau cyffelyb a adroddir ynglyn a hanes. bywyd Humphrey Edwards, neu fel y gelwid ef ymhell cyn diwedd ei oes, yr hen Humphrey Edwards. Ysgolfeistr ysgol ddyddiol symudol ydoedd; i addysgu plant yn ddyddiol yn elfenau gwybodaeth y cyflogid ef i fyned i'r gwahanol ardaloedd. Parhaodd yn y gwaith chwarter canrif wedi diwedd oes Mr. Charles, ei gyflogydd cyntaf. Ond er mai dyna oedd gorchwyl ei fywyd, nid am ei ysgolheigdod y mae coffa, nac am nifer y plant a lwyddodd i'w hanfon trwy yr arholiadau, ond am ei grefyddoldeb, ac am ei ddylanwad dihafal er moesoli a chrefyddoli y rhanau o'r wlad y bu byw ynddynt. Dyn eiddil o gorff ydoedd, a gwael yr olwg arno, ac afrwydd a hwyrdrwm ei ymadrodd; ond oherwydd ei grefyddoldeb dwfn, hysbys trwy yr holl wlad, meddai ddylanwad difesur ar bob graddau o ddynion. Dyma lle yr oedd cuddiad ei gryfder, a dyma lle yr oedd cuddiad cryfder holl athrawon mwyaf llwyddianus Mr. Charles.

Yr oedd amseroedd Humphrey Edwards yn amseroedd. tywyll a phaganaidd. Rhydd hanes ei fywyd ef lawer o oleuni ar amgylchiadau ei oes. Dilynai gwerin Cymru arferion ffol a phechadurus. Chwareuon a'r drygau cysylltiedig â hwy oedd y pla difaol yn yr amseroedd hyn. Dyma pryd yr oedd chwareu yn ei fri—hen ac ieuanc, tlawd a chyfoethog, offeiriaid a phobl yn chwareu—yn eu hafiaeth yn chwareu ar ddydd yr Arglwydd. Yr oedd y wlad wedi ei phaganeiddio trwy y chwareuon. Byth er pan oedd Charles I., yn y flwyddyn. 1633, trwy ddylanwad yr esgobion, wedi pasio cyfraith fod yn rhaid darllen "Llyfr y Chwareuon" yn yr eglwysi ar y Sabbothau, daeth pla y chwareu yn ail natur i holl drigolion Cymru. Ni lwyddodd dim byd yn well er dieithrio gwlad oddiwrth grefydd. Parhaodd dylanwad y gyfraith hono yn ei heffeithiau yn agos i 200 o flynyddau, hyd nes daeth yr Ysgol Sabbothol a'r diwygiadau crefyddol i ladd eu dylanwad o radd i radd. Defnyddiodd yr Arglwydd Humphrey Edwards yn offeryn yn ei law i roddi terfyn, trwy gyrion tair o siroedd Cymru, ar y chwareuon llygredig hyn ar y Sabboth. Yr oedd yn arferiad yn Melin—y— Wig gan bob graddau o'r trigolion it ymgasglu at eu gilydd i guro bowliau (chwareu nad yw yn rhoi difyrwch i neb ond plant yn awr) ar ddydd yr Arglwydd. Ryw ddydd Sadwrn, heb ddweyd yr un gair wrth neb, ym— gymerodd yr hen ysgolfeistr duwiol à dryllio'n llwyr holl offerynau yr oferedd hwn; a phan ddaeth yr oferwyr ynghyd dranoeth, a chanfod offerynau eu difyrwch wedi en dinystrio, ni feiddiodd neb godi yn erbyn y dinystrydd, gymaint oedd ei arswyd ar ddynion annuwiol y wlad.

Nodwedd arall ar ei amseroedd ef ydoedd, ymladdfeydd chwerwon a chreulon rhwng gwahanol bersonau a phartïon, ac yn aml rhwng dwy ardal â'u gilydd, y rhai a ddibenent mewn tywallt gwaed, ac ar brydiau mewn colli bywydau. Y mae hanesion am yr hen bererin yn rhoddi terfyn ar yr ymladdfeydd, ac yn gwasgaru y cwerylwyr trwy ei dduwiolfrydedd argyhoeddiadol syml. Gwr oedranus o Ddinbych, yn awr yn 91 mlwydd oed, a edrydd yr hanesyn canlynol:—"Yr oedd Humphrey Edwards, un o athrawon Mr. Charles, o'r Bala, mewn trwbwl mawr droion, fel yr wyf yn cofio yn dda. Unwaith, pan yr oedd dau ddyn wedi ymrwymo i ymladd gornest (duel) ar fynydd Hiraethog, aeth Humphrey Edwards i'r Bala i ofyn i Mr. Charles am ei gyngor. Gofynodd Mr. Charles iddo a oedd yn gwybod am yr amser, a'r lle, ar y mynydd yr oeddynt i gyfarfod. Ydwyf,' meddai Humphrey Edwards.

'Wel,' ebe Mr. Charles, 'peidiwch a dweyd gair wrthynt, ond ewch eich hunan cyn yr amser penodedig i'r lle y maent i gyfarfod, a gorweddwch yn y grug, a phan y byddant yn barod i ymladd, codwch yn sydyn, ac ewch atynt.' Felly y gwnaeth, ac aeth y ddau ymaith heb daro dyrnod! Oherwydd presenoldeb yr hen Gristion, yr oedd cymaint o'i ofn ar yr annuwiolion." Y mae hanes hefyd am nifer o ddynion wedi syrthio allan â'u gilydd yn Bettws-gwerfil-goch, y rhai i'r diben o benderfynu yr ymrafel, a benodasant ar le ac amser ar fynydd. Berwyn i ymladd y frwydr allan. Hyn hefyd a ddaeth i glywedigaeth yr hen ŵr, ac a'u rhagflaenodd i'r llanerch benodedig, gyda'r amcan o weddio drostynt ar faes yr ymladdfa. Cyn hir, dyma'r dynion yn dyfod yn llu, a phan y gwelsant ef diangasant ymaith fel pe buasai haid o ellyllon yn barod i'w cymeryd yn garcharorion. Yr oedd mor adnabyddus yn yr ardaloedd hyn fel dyn sanctaidd Duw, ni byddai raid iddo ond ymddangos i gynulliad o oferwyr, i beri iddynt ymwasgaru yn ebrwydd.

Ymddengys mai yn Mhont yr Eryd, yn Nwyrain Meirionydd, y dechreuodd Humphrey Edwards wasanaethu swydd blaenor, er na chafodd ei ddewis yn rheolaidd i'r swydd, na'r pryd hwn nac wedi hyny. Yr oedd hyn yn nechreu y ganrif bresenol. A lle bynag y symudai, ac y syrthiai coelbren yr hen ysgolfeistr i aros dros ysbaid o amser, gweithredai fel blaenor eglwysig, heb na dewisiad na chaniatad y Cyfarfod Misol, na chynrychiolwyr i gymeryd llais yr eglwys, nac unrhyw reol na deddf yn y byd.

Yn rhinwedd ei swydd fel blaenor, neu ynte fel cymwynaswr i'r achos, digwyddodd iddo un tro fod yn arweinydd i'r hen efengylwr clodus, Mr. Evans, o'r New Inn. Yr oedd wedi dyfod o Bont yr Eryd i Gorwen i ymofyn y gŵr da i ddyfod i bregethu i'r lle blaenaf, ac fel yr oeddynt ar y ffordd yn myned i'r cyhoeddiad daeth syniadau chwithig, yn ol yr arfer, i feddwl Mr. Evans—yr oedd yn rhaid iddo gael troi yn ei ol, ni ddeuai ddim i'w gyhoeddiad, dyweded ei arweinydd y peth a ddywedai. Nid oedd yr efengylwr yn rhoddi un rheswm. boddhaol dros yr ymddygiad rhyfedd hwn o'i eiddo, eithr datganai ei benderfyniad yn syml na ddeuai ddim i bregethu i Bont yr Eryd. Wedi hir ddadleu gofynodd Humphrey Edwards iddo, Pa beth oedd y tân dieithr yr oedd meibion Aaron yn ei offrymu gerbron yr Arglwydd? Yna dechreuodd yr hen weinidog draethu am y tân dieithr, a dechreuodd deithio ymlaen, nes yr anghofiodd ei benderfyniad i droi yn ol, a pharhaodd y bregeth hyd nes y daethant i Bont yr Eryd, lle yr oedd yr odfa i gael ei chynal.

Yn nghwrs y blynyddoedd daeth amser i'r hen Humphrey Edwards roddi cadw yr ysgol i fyny, oherwydd musgrellni henaint. Bu hyn yn y flwyddyn 1839. Treuliodd weddill ei oes yn Llidiart Annie, ac yn nhy capel Llandynan. Yn ei gofiant a argraffwyd ac a gyhoeddwyd yn llyfryn bychan gan Mr. Hugh Jones, Llangollen, dywedir ddarfod iddo ef "gael y fraint o oroesi pob un o hen ysgolfeistriaid Mr. Charles." Nid ydyw y sylw hwn yn gywir, fel y cawn weled eto, oblegid fe ddarfu i Lewis William, Llanfachreth, un o'r rhai penaf o'r ysgolfeistriaid, ei oroesi ef chwech neu wyth mlynedd. Ar y 5ed o Hydref, 1848, cynhaliwyd cyfarfod tra dyddorol yn Nghorwen, dan yr enw Jiwbili yr Ysgol Sabbothol. Yr oedd Humphrey Edwards yn bresenol yn y cyfarfod hwn, yn hen wr wedi pasio ei bedwar ugain oed. Ymhlith gweithrediadau cynulliad boreu y cyfarfod, ceir y sylw canlynol:— "Galwodd y cadeirydd ar Mr. Humphrey Edwards, Llantysilio, yr hwn a fu yn cadw ysgol y Madam Bevan (?), dan arolygiaeth y Parch. T. Charles, o'r Bala, a'r hwn sydd yn awr yn hen ddisgybl, wedi cael coron penllwydni, i roddi ychydig o hanes am ansawdd y gymydogaeth mewn diffyg deall, a moes, cyn i'r Ysgol Sabbothol gael ei sefydlu. Yr hynafgwr hybarch a wnaeth hyny mewn modd cryno, gan ddatgan ei lawenydd wrth weled y fath gynulleidfa o'i flaen yn gysylltiedig â'r Ysgol Sabbothol." Anerchodd y cynulliad yn yr hwyr drachefn, gan ddarlunio yr olwg oedd ar y wlad cyn dechreuad yr Ysgol Sul, a rhoddodd hysbysrwydd am yr amser y dechreuwyd pregethu gan y Methodistiaid yn y cyffiniau. Aeth y dyrfa rhwng y cyfarfodydd yn orymdaith fawr trwy dref Corwen, ac yn ngherbyd cyntaf yr orymdaith eisteddai y ddau hen batriarch Humphrey Edwards, yr ysgolfeistr, a John Morris, o'r Bala. Yr oedd yn bresenol, ac yn cymeryd rhan gyhoeddus yn y Jiwbili yn Nghorwen, y Parchn. John Hughes, Llangollen; Robert Evans, Talybont; J. Parry, D.D., y Bala; Robert Owen, Nefyn; John Thomas, y Bala; John Hughes, Pont Rhobert."

Bu Humphrey Edwards, yr hen ysgolfeistr gweithgar, farw Mai 23, 1854, a chludwyd ef i'w orweddfan i fynwent Llantysilio. Pregethwyd pregeth angladdol iddo yn Llandynan, gan y Parch. Richard Edwards, Llanddyn Hall, Llangollen. Cerddodd amryw o ddisgynyddion y gwr da yn ol ei draed. Bu ei fab, J. Edwards, yn flaenor eglwysig yn Llandynan. Wyr iddo ydyw John Jones, Caegwyn, Bethesda, Blaenau Ffestiniog. Or-wyr iddo ydyw y pregethwr ieuanc hoffus ac

addawol iawn, Mr. John David Jones, yr hwn sydd yn bresenol wedi myned am dro er lles ei iechyd i Awstralia.

PENOD X.

JOHN JONES, PENYPARC, AC ERAILL.

Thomas Meredith, Llanbrynmair—Abraham Wood—Llanfairpwllgwyngyll yn Mon—Mari Lewis, yr Ysgolfeistres—Bore oes John Jones, Penyparc —Owen Jones, y Gelli—John Jones, y Blaenor cyntaf—Ysgrifenydd cyntaf y Cyfarfod Ysgolion—Ei lythyrau ar faterion yr Ysgol Rad— Y Cyfarfodydd Ysgolion yn cychwyn gyntaf yn Bryncrug—Deddfroddwr cyntaf Sir Feirionydd—Ei Goffadwriaeth.

UN arall a dreuliodd ei oes yn un o'r Ysgolfeistriaid heb ddyfod yn bregethwr ydoedd John Jones, Penyparc, Bryncrug, yr hwn a fu yn un o'r dynion pwysicaf, am yr haner. cyntaf o'r ganrif hon, ymhlith y Methodistiaid yn y rhan Orllewinol o Sir Feirionydd. Ond cyn rhoddi bras-ddarluniad o hono ef a'i waith, y mae dau neu dri eraill o'r Ysgolfeistriaid yn galw am goffad.

Thomas Meredith, o Lanbrynmair, oedd un o'r rhai fu yn ngwasanaeth Mr. Charles yn cadw yr Ysgol Rad. Yr oedd efe hefyd yn bregethwr melus a chymeradwy. Bu Llanbrynmair yn enwog am ei chrefyddwyr a'i phregethwyr ymhlith yr Ymneillduwyr er dyddiau Howell Harris. Fel hyn y dywedir yn Methodistiaeth Cymru, yn yr hanes am Carno, am deulu Thomas Meredith:—"Tua'r flwyddyn 1767, daeth gwr o Lanbrynmair i fyw i'r plwyf hwn. Yr oedd efe a'i wraig yn rhai amlwg iawn mewn crefydd a duwioldeb, fel y bu eu plant a'u teuluoedd ar eu hol. Mab iddynt hwy oedd Thomas Meredith, yr hwn a fu yn bregethwr parchus a defnyddiol dros lawer o flynyddoedd, a'r hwn hefyd a fu yn cadw Ysgol Rad dan olygiad Mr. Charles." Bu yn cadw yr ysgol yn Cemmaes, ac yn Gilfach-y-Rhew, rhwng Carno a Llanwnog, a manau eraill. Yr oedd yn gefnder i Gwilym Williams, Pentre mawr, Llanbrynmair, ac yn gefnder hefyd i Abraham Wood, Fronderwgoed, o'r un lle. Yr oedd Abraham Wood yn bregethwr yn nyddiau Williams, Pantycelyn. Canodd Williams iddo ef a'i fam,—

"Prin y gwelwyd dyn fwy gonest,
Dyn fwy syml îs y rhod;
Gwell ei gof, llareiddiach ei natur,
Nemawr iawn nid oedd yn bod:
Chwiliwch allan bwyll, amynedd,
A diwydrwydd ysbryd gwiw,
Abra'm oedd yn berchen arnynt,
Gymaint un a neb yn fyw."

Bu Abraham Wood yn efrydydd yn Ngholeg Lady Huntington. Ymddengys ei fod ef a'r Arglwyddes yn lled gydnabyddus. a'u gilydd; a dywedir iddi fyn'd yn dywyll ar Abraham pan yn pregethu un tro yn ei phresenoldeb hi ac eraill, ac i'r Iarlles waeddi dros y lle, "Go to Calvary, Abraham,—go to Calvary!" a phan y gwnaeth y cyngor, daeth yn oleuni arno yn y fan. Ymysg papyrau anghyhoeddedig John Hughes, Pont—robert, cafwyd ychydig nodiadau coffadwriaethol am Thomas. Meredith, y rhai a ddywedant iddo fod yn pregethu am 31 mlynedd, fod ei athrawiaeth a'i fuchedd yn gymeradwy iawn gan y saint, ac iddo farw yn y flwyddyn 1811. Dywedir yn Nghofiant y Parch. Thomas Richards, Abergwaen,—"Daethum i Garnachwen y noswaith hono; gwrandewais Thomas Meredith; cawsom gyfeillach dra buddiol." Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1806. Mor ddiweddar a Mehefin 28ain, 1895, y bu farw merch i Thomas Meredith, Mrs. Mary Jones, yn 84 oed, yn nhŷ ei mab, Mr. Thomas Jones, Brynbach,. Llanbrynmair. Yr oedd yn wraig barchus a chrefyddol.

Ychydig o hanes yr Hen Ysgolfeistriaid yn Sir Gaernarfon. a Mon sydd ar gael. Mae yn debyg na bu llawer o honynt. yn y ddwy sir hyn. O leiaf, dyna y casgliad y deuir iddo, gan nad oes hanes am danynt i'w gael. Ceir yr hanes canlynol yn Methodistiaeth Cymru, yn ei adroddiad am achos crefydd yn Llanfairpwllgwyngyll, yn Mon:—"Oddeutu yr amser y dechreuodd Rhisiart Morris gynghori ei gydwladwyr yn gyhoeddus, sef tua 60 mlynedd yn ol (1794), daeth un Richard Evans i'r gymydogaeth i gadw ysgol ddyddiol Gymreig, feallai trwy anfoniad Mr. Charles. Yr oedd y gwr hwn yn ddyn duwiol a llafurus iawn gyda'r gorchwyl a osodwyd iddo; a bu yn dra defnyddiol, nid yn Llanfair yn unig, ond hefyd mewn llawer o ardaloedd eraill. Ar ei ddyfodiad i'r ardal hon, aeth ef a Rhisiart Morris trwy yr ardal i ymweled â phob ty, gan erchi ar iddynt ddyfod i'r capel ddwy noswaith yn yr wythnos i ddysgu darllen Cymraeg; y byddai yn dda ganddynt eu gweled, ac y gwnaent a allent i'w dysgu a'u cyfarwyddo. Llwyddasant hefyd gyda lliaws o'r cymydogion, ac ymysg eraill y dyn a fuasai gynt yn gwatwar; addawodd hwn ddyfod i gadw y drws rhag dim aflonyddwch."

Un tro, tra yn holwyddori yr ysgolorion am fywyd ac angau Iesu Grist, a thra yn canu penill, torodd allan yn orfoledd mawr. Mae hyn yn cytuno â'r hanes a geid yn fynych am Ysgolfeistriaid Mr. Charles, oblegid dynion duwiol ac ymroddedig gyda chrefydd a gyflogai efe i fod yn Ysgolfeistriaid.

Yn y cyfnod y bu Mr. Charles yn cario ymlaen yr Ysgolion Rhad Cylchynol, defnyddid ganddo yr offerynau fyddent. fwyaf tebyg o adael argraff grefyddol ar blant yr ardaloedd. Digon tebyg iddo alw rhai gwragedd at y gorchwyl hwn. Y mae genym hanes pendant am un o'r enw Mari Lewis fu yn gyflogedig ganddo, yr hon oedd athrawes gyntaf yr hen bregethwr cymeradwy a phoblogaidd, y Parch. Dafydd Rolant, y Bala. Dyma fel y dywedir yn ei Gofiant, gan y Parch. O. Jones, B.A.,—"Yr ysgol gyntaf y bu ynddi oedd yr un a gadwai Mari Lewis. Yr oedd y wraig hon yn un o'r rhai yr oedd Mr. Charles yn eu cynal yma a thraw ar hyd y wlad i gadw yr ysgolion dyddiol; byddent yn cael eu symud. ganddo o'r naill ardal i'r llall, yn ol fel y byddai yr angen, a gwnaethant les dirfawr. Bu Mari Lewis yn athrawes dda a ffyddlawn am lawer o flynyddoedd, ac mewn amryw ardaloedd: bu yn ardaloedd Cynllwyd, y Parc, Talybont, a Chefnddwysarn, lle y bu byw ei blynyddoedd olaf. Bu farw tua phum' mlynedd yn ol (sef oddeutu 1858), a gwnaeth les mawr yn ei hoes. Yn yr ysgol hon, pan y cedwid hi yn Pant-y-neuadd, y dywed un o'i gyfoedion iddo weled Deio, Cwmtylo, gyntaf, yn blentyn saith neu wyth mlwydd oed, bochgoch, diniwed yr olwg arno, yn droednoeth, goesnoeth. Peidied neb a meddwl mai ysgol wael oedd hon, am mai gwraig oedd. yr athrawes. Na, y mae genym bob lle i gasglu mai ysgolfeistres dda oedd Mari Lewis; a dysgai, nid Cymraeg yn unig, ond Saesneg ac ysgrifenu hefyd, os nad oedd yn dysgu cymaint o rifyddiaeth ag oedd galwad am dano. Arferai a gweddio ar ddiwedd yr ysgol, er mai gwraig oedd, at yr hyn. yr oedd y plant yn synu yn fawr."

Dywed y Parch. Dr. Owen Thomas fod John Jones, Penyparc, yn un o Ysgolfeistriaid Mr. Charles. Mae yn hysbys ddigon ddarfod iddo ef fod yn ysgolfeistr o gryn bwysigrwydd am faith flynyddoedd, ond nid ydyw ei gysylltiad â'r ysgolion symudol yn llawn mor amlwg. Arferid edrych arno yn nghylchoedd ei gartref fel un yn cadw ysgol o'i eiddo ei hun yn ei ardal enedigol yn Bryncrug. Yno yr oedd ei gartref, ac yn yr ardal hono y bu yn byw ar hyd ei oes. Yr oedd yn cymeryd dyddordeb mawr yn yr Ysgolion Cylchynol, a chymerai ran gyda'r brodyr yn trefnu cylch yr ysgolion ar ol marw Mr. Charles. Dichon iddo fod yn eu cadw yn bersonol. ei hun. Yr oedd, fodd bynag, yn gohebu & Mr. Charles, ac yr oedd hefyd yn gynghorwr iddo ar faterion yr ysgolion. Ffermdy ydyw Penyparc, o fewn chwarter milldir i bentref Bryncrug, ac o fewn dwy filldir i Dowyn Meirionydd. Mab oedd John Jones i Lewis Jones, Penyparc; yr oedd Lewis Jones yn un o'r rhai cyntaf a agorodd ei ddrws i dderbyn pregethu yr efengyl yn Bryncrug. Ganwyd John, y mab, yn Berthlwyd Fach, yn y flwyddyn 1769. Yr oedd felly yn ugain oed pan y planwyd eglwysi Ymneillduol cyntaf y broydd hyn. Yr hen bregethwr, Lewis Morris, yn ysgrifenu oddeutu 1840, a ddywed," Mr. Lewis Jones, o Benyparc, yn more pregethu yn yr ardal, a agorodd ei ddrws i arch Duw; ac y mae ei fab, Mr. John Jones, yr un modd yn llafurus a ffyddlawn hyd heddyw, fel gweithiwr medrus gydag amrywiol ranau o achos. Iesu Grist."

Yr oedd Lewis Jones mewn amgylchiadau cysurus, ac felly cafodd John, ei unig fab, well addysg na llawer o'i gyfoedion. Anfonwyd ef i'r ysgol i'r Amwythig. Pobl o amgylchiadau cefnog yn y byd yn unig a anfonent eu plant oddicartref i'r ysgol yr oes hono, ac ni byddai eu hanfoniad ond fel ymweliadau angylion, yn few and far between. A'r rhai a anfonid oddicartref am addysg, o wlad Meirion, ddiwedd y ganrif ddiweddaf a dechreu hon, i'r Amwythig yr anfonid hwy. Yn yr Amwythig yr oedd ysgol uwchraddol y blynyddoedd hyny. Ymha le yno, hwyrach y gall rhywun ateb.

Nid oedd yn John Jones gymhwysder i fod yn amaethwr. Cydoeswr a chymydog iddo a adroddai y chwedl ganlynol am dano:—Yr oedd yn aredig ar y fferm un tro gydag aradr bren, o'r hen ffasiwn, a rhyw bwt o swch ar ei phen, a bachgen o'i flaen yn gyru y ceffylau. "Ho, fachgen," meddai, "dal atat, nid oes genyf yr un gŵys." Ar ol myned i'r pen dywedodd y bachgen wrtho, "Meistr, meistr, nid oes yr un swch ar yr aradr!" Gan nad oedd gymhwysder ynddo at ffarmio, ymgymerodd â chadw ysgol ddyddiol. Ac yn yr holl bethau hyn gwelir yn amlwg law Rhagluniaeth. Yn ol tystiolaeth John Jones ei hun, aeth y Parch. Owen Jones, y Gelli, ato i'r ysgol pan yr oedd yn saith neu wyth oed, a bu gydag ef yn yr ysgol o dair i bedair blynedd.

Yr oedd Mr. O. Jones yn enedigol o Crynllwyn, ffermdy o'r tu arall i afon Dysyni o Benyparc. Yr oedd gydag ef yn yr ysgol felly yn ystod erledigaeth fawr y flwyddyn 1795; erledigaeth na welodd y wlad yn y parth hwn o Feirionydd mo'i thostach er dechreuad Methodistiaeth; erledigaeth a gyfodwyd trwy i brif foneddwr y wlad gymeryd y gyfraith yn ei law i ddirwyo y pregethwyr a'r gwrandawyr, a'r tai y pregethid ynddynt. (nid oedd eto yr un capel wedi ei adeiladu yn yr amgylchoedd). Oherwydd ffyrnigrwydd yr erledigaeth hon gwasgarwyd dros ryw dymor bron yr oll o'r eglwysi bychain oeddynt newydd gael eu ffurfio yn y cymydogaethau hyn, trwy gylch o wlad o ugain milldir o amgylchedd. Yn ystod y flwyddyn 1795 hefyd y penderfynodd Cymdeithasfa Methodistiaid Gogledd Cymru osod y pregethwyr, a'r tai lle y pregethid yr efengyl ynddynt, o dan amddiffyniad y gyfraith, trwy drwy- ddedu y naill a'r llall yn gyfreithiol. Nid rhyfedd i hen grefyddwyr y parthau yma ddyfod yn weithwyr da yn nheyrnas yr Iesu; yr oeddynt wedi eu tynu, ar y cychwyn, trwy ffwrneisiau poethion erledigaeth.

Heblaw ei fod yn adnabyddus yn ei oes fel ysgolfeistr o fri, yr oedd John Jones yn enwog mewn cylchoedd eraill. Yn ol dywediad Lewis Morris, yr oedd yn "weithiwr medrus. gydag amrywiol ranau o achos Iesu Grist." Y tebyg ydyw mai efe oedd un o'r rhai cyntaf, os nad y cyntaf oll, a osodwyd yn y swydd o flaenor, pan y daeth Mr. Charles o'r Bala trwy y wlad i ddangos yr angenrheidrwydd am osod blaenoriaid ar yr eglwysi. Bu ef yn cadw lle diacon a gweinidog yn ei eglwys gartref, yn Bryncrug, am yn agos i 60 mlynedd. Pan y byddai y daith, neu y teithiau bychain cylchynol, heb yr un pregethwr y Sabboth, cymerai ef benod i'w darllen, a rhoddai gynghorion buddiol i'r gwrandawyr oddiwrthi. "Yr oedd," ebe un oedd yn aelod o eglwys Bryncrug yn ei amser, "yn arw am fyned yn erbyn pechod, a chadw disgyblaeth i fyny, a byddai yn hollol ddidderbyn-wyneb wrth ddisgyblu. Dywedai am saint y Beibl, wedi iddynt syrthio i ryw fai a chael eu ceryddu, y byddent ar eu gwyliadwriaeth i ochel y pechod hwnw byth wed'yn." Meddai yr un gwr, "Holi yr ysgol yn bur ddwfn y byddai; rhoddai orchymyn pendant i bawb gau eu llyfrau, a dywedai, os byddent am eu defnyddio, 'mai yr hwyaf ei wynt am dani hi.'" Efe oedd Ysgrifenydd Cyfarfod Ysgolion y Dosbarth yr oedd yn byw ynddo o'r cychwyn cyntaf, a pharhaodd yn ei swydd hyd nes iddo fethu gan henaint. Byddai Lewis William, Llanfachreth, yn ei alw, "ein parchus a'n hanrhydeddus ysgrifenydd." Ymwelai ag Ysgolion Sabbothol y cylchoedd i hyrwyddo eu sefydliad a'u dygiad ymlaen, ac i ddysgu yr ysgolheigion sut i ddarllen yn gywir, trwy gadw at yr atalnodau, a rhoddi y pwysleisiad yn briodol wrth ddarllen -ar yr hyn bethau y rhoddai efe bwys mawr. Un o drigolion hynaf Corris a ddywedai rhyw wyth mlynedd yn ol ei fod yn ei gofio yn ymweled â'r Ysgol Sul yno, ac iddo ar y diwedd alw holl ddynion yr ysgol ynghyd yn un cylch mawr, er mwyn eu profi yn gyhoeddus mewn darllen; a phan y byddai un yn methu, rhoddai gyfle i'r lleill ei gywiro, ac elai y rhai fyddent. yn methu i lawr yn y rhestr, a'r rhai fyddent yn cywiro i fyny, a'r goreu am ddarllen, o angenrheidrwydd, a safai ar ben y rhestr yn y diwedd.

Ystyrid ef yn dduwinydd pur alluog, ac edrychid arno gan ei gydoeswyr fel awdurdod ar bynciau crefydd. Gwnaeth holiadau manwl ar bynciau y Cyffes Ffydd, a chyhoeddwyd. hwy yn y Drysorfa o fis i fis; ac ar anogaeth y Gymdeithasfa y gwnaeth hyn. Efe oedd un o'r ysgrifenwyr mynychaf i'r cyfnodolion yn ei oes. Mewn hen gyfrolau o Oleuad Cymru a'r hen Drysorfa ceir ysgrifau yn aml mewn rhyddiaeth a barddoniaeth a'i enw ef wrthynt. Cyfansoddodd rai llyfrau, ac yn arbenig y Silliadur, llyfr elfenol at wasanaeth yr Ysgol Sul, a bu defnyddio mawr arno yn ystod ei oes ac ar ol ei ddydd, fel y defnyddio mawr fu ar lyfrau y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, yn yr ysgolion dyddiol cyn dyddiau Mr. Charles. Yr oedd yn un o'r trefnwyr a'r siaradwyr yn y Cymdeithasfaoedd, a rhoddai y Corff bwys mawr ar ei farn.

Ymysg papyrau anghyhoeddedig Lewis William, Llanfachreth, ceir cryn nifer o lythyrau John Jones, Penyparc. Mae y rhai hyn oll wedi eu hysgrifenu mewn llawysgrifen ragorol, teilwng o lawysgrifen y goreuon o ysgolfeistriaid yr oes hon. Cynwys y llythyrau gan mwyaf ydyw materion yn dal cysylltiad â'r ysgolion cylchynol, ac achos crefydd yn y Dosbarth. Byddai yr hen frodyr ar ol dydd Mr. Charles yn ofalus iawn i gario pob peth crefydd, a phob peth yr Ysgol Rad Gylchynol, yn ol cynllun ac esiampl sylfaenydd enwog yr ysgolion dyddiol a'r Ysgolion Sabbothol. Ac arbenigrwydd ar eu gweithrediadau yn ddyddiol a Sabbothol ydoedd, "Crefydd yn uchaf." Wele engraifft neu ddwy i ddangos hyn. Mewn. cyfarfod athrawon y Dosbarth ceir y sylw canlynol:—"Bwriwyd golwg ar ysgol y cylch. Ystyriwyd fod ei hamser ar ben yn Llanegryn, Gorphenaf 4ydd, a'i bod i ddechreu un ai yn Llanerchgoediog ai Bryncrug,—hyn i gael ei benderfynu rhwng John Jones a Harri Jones y Sul nesaf." Harri Jones, Nantymynach, oedd y diweddaf a enwyd, a chyd—flaenor yn yr un eglwys a John Jones. Gwaith yn cael ei ymddiried i ddau wr o ddylanwad, na chawsid ei wneuthur yn awr heb lais cynrychiolydd o bob Ysgol Sul, serch bod ddau neu bedwar mis heb ddyfod i benderfyniad ynghylch y mater.

Ceir y dyfyniad canlynol yn un o'r llythyrau oddiwrth John Jones, Penyparc, ysgrifenydd y Cyfarfod Ysgolion, at Gyfarfod Chwech—wythnosol Llwyngwril, a gynhelid Ebrill, 1819:—

Yr ydys yn gobeithio y bydd i'r Cyfarfod gofio am y chwaer fechan sydd megis heb fronau iddi, sef Ysgol y Dyffryngwyn (Maethlon), a'i chynorthwyo fel cylch i ddanfon yr athraw yno am ryw faint o amser a farnoch yn addas. Nid oes yno yn bresenol yr un ysgol wythnosol, na neb ar y Sabbothau, ond a gaffont ar haelioni eraill. Mi a fum yno y Sabboth diweddaf, ac yr oeddwn yn gorfod tosturio wrth eu cri a'u tlodi yn ngwyneb eu parodrwydd a'u haddfedrwydd i dderbyn addysg. Un o ddibenion penaf sefydliad yr ysgol ydoedd cynorthwyo manau gweiniaid."

Yr oedd John Jones, Penyparc, yn un o'r ychydig bersonau a fu yn trefnu ac yn rhoddi y cychwyniad cyntaf i'r Cyfarfodydd Ysgolion Sabbothol, sydd wedi bod mewn arferiad a bri trwy holl siroedd Cymru. Yn ei ardal ef, sef Bryncrug, y cynhaliwyd y Cyfarfod Ysgolion cyntaf oll, a hyny yn ngwanwyn y flwyddyn 1809. Ac y mae yn dra thebyg mai yn ei dŷ ef ei hun, yn Penyparc, y gwnaethpwyd y trefniadau cyntaf o berthynas iddynt. I'r Parch. Owen Jones, y Gelli, yr hwn oedd yn preswylio y flwyddyn uchod yn Nhowyn, y priodolir sefydliad y Cyfarfodydd Ysgolion. Bywgraffydd y gwr enwog hwnw, y Parch. John Hughes, Pontrobert, a rydd y dystiolaeth bendant a ganlyn:—"Yn yr ysbaid y bu yn byw yn Nhowyn y rhoddodd ef y cychwyniad cyntaf ar y Cyfarfodydd Chwech-wythnosol a Dau-fisol yn achos yr Ysgolion Sabbothol. Er i'r cyfryw gyfarfodydd fyned i lawr am flynyddoedd yn yr ardaloedd hyny, wedi ei symudiad ef o Dowyn, eto yn fuan wedi iddo ddyfod i fyw i Sir Drefaldwyn, trwy gydgordiad a chydweithrediad amryw o'i frodyr, sefydlwyd y cyfryw gyfarfodydd, ac y maent yn parhau hyd heddyw (1830), nid yn unig yn Swydd Drefaldwyn, ond trwy Gymru yn gyffredinol ymhlith y Methodistiaid." Un o'r rhai oedd yn llygad—dystion o'r Cyfarfod Ysgolion cyntaf hwn a ddywed, tra yr holwyddorai y Parch. Owen Jones oddiar Ddisgyniad a Dyrchafiad yr Arglwydd Iesu,—"Yr oedd yr athrawiaeth yn teithio megis ar ei huchelfanau, mewn mawredd, ardderchogrwydd, ac awdurdod."

Deddfroddwr penaf Sir Feirionydd oedd John Jones, ac nid oes le i ameu mai efe oedd gwr deheulaw y Parch. Owen Jones, y Gelli, yn rhoddi cychwyniad i'r Cyfarfodydd Ysgolion. Bu ef yn athraw, trefnydd, a gwr o gyngor yn ei wlad lawn haner can' mlynedd.

"A'i gymeryd ymhob peth," ebai y Parch. Roger Edwards, Wyddgrug, "nid hawdd y ceid ei gyffelyb."

Yn llyfr cofnodion Cyfarfod Misol Gorllewin Meirionydd, Awst 4, 1846, ceir y penderfyniad canlynol yn cael ei basio:— "Coffhawyd am farwolaeth yr hen athraw ffyddlon a duwiol, Mr. John Jones, Penyparc, gerllaw Towyn; a dymunwyd ar yr ysgolion feddwl am brynu y Silliadur gwerthfawr a wnaeth at wasanaeth yr Ysgolion Sabbothol. Rhoddwyd hefyd ar Mr. Williams, a Mr. R. O. Rees, Dolgellau, i ysgrifenu coffadwriaeth am dano i'r Drysorfa." Adnewyddwyd y penderfyniad hwn ymhen dwy flynedd; a thrachefn yn 1849, dymunwyd ar y Parch. Mr. Morgan i ysgrifenu cofiant iddo. Ond ni ysgrifenwyd dim, hyd nes i ysgrifenydd yr hanes hwn, ryw saith mlynedd yn ol, ddyfod o hyd i gryn swm of ddefnyddiau yn ysgrifau anghyhoeddedig Lewis William, Llanfachreth.

Ar ol ei enw ef defnyddid y teitl o A.Y., Athraw Ysgol, a gwerthfawr yn ei olwg oedd y teitl hwn. Y mae yr ysgrifen. ganlynol yn gerfiedig ar gareg ei fedd yn Mynwent Blwyfol Towyn :—

Coffadwriaeth

Am y diwedddar JOHN JONES, A.Y.,

Penyparc,

Yr hwn a ymadawodd a'r byd hwn.

Y 27ain o Orphenaf, 1846, yn 77ain oed.


PENOD XI.

Y PARCH. LEWIS WILLIAM, LLANFACHRETH.

Dywediad Dr. Owen Thomas am dano—Dywediad Mr. R. Oliver Rees— Lle ei enedigaeth—Ei hanes am ei fam—Yn myned i'r Seiat—Gyda'r Militia—Yn was ffarm—Yn dysgu plant yn Llanegryn—Yn chware soldiers bach—Mr. Charles yn ei holi a'i gyflogi yn y flwyddyn 1799— Ei gysylltiad cyntaf â Llanfachreth—Yn athraw ar Mary Jones yn 1800.

EIR crybwyllion aml i dro yn y penodau blaenorol am Lewis William, Llanfachreth. Efe oedd yr hynotaf, a'r mwyaf llafurus a defnyddiol o'r holl ysgolfeistriaid. Efe oedd mewn golwg hefyd yn benaf pan y dechreuwyd ysgrifenu ar y mater hwn. Wrth roddi rhestr o Ysgolfeistriaid Mr. Charles yn Nghynhadledd Canmlwyddol y Bala, Hydref 14, 1885, dywed y Parch. Owen Thomas, D.D., "Un arall (o'r ysgolfeistriaid) oedd Lewis William, Llanfachreth; un a ddechreuodd ar y gwaith o addysgu eraill cyn medru odid ddim ei hunan; ond wedi ychydig barotoad, a droes allan gan ddechreu ar bedair punt yn y flwyddyn o gyflog, yn un o'r athrawon mwyaf llwyddianus a gyflogwyd gan Mr. Charles erioed." Mae y gwaith a wnaed ganddo ef gyda'r gorchwyl hwn yn anhygoel, ac y mae hanes ei fywyd, o'r dechreu i'r diwedd, yn llawn o addysgiadau a chalondid i bawb sydd ar eu meddwl i wneuthur rhyw wasanaeth gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu. Trwyddo ef, sef trwy ei waith yn cadw cofnodion am ddigwyddiadau ei fywyd a'i wahanol orchwylion beunyddiol, y cafwyd swm mawr o wybodaeth o berthynas i ysgolion Mr. Charles—gwybodaeth na fuasai ar gael o gwbl onibai hyny. Teilynga hanes ei fywyd a'i lafur sylw helaethach na'i frodyr fu yn yr un alwedigaeth.

Fel hyn yr ysgrifena y diweddar Mr. R. O. Rees, Dolgellau, am hynodrwydd Lewis William:—"Hynodrwydd mewn sêl angerddol, mewn llafur diorphwys, mewn ffyddlondeb diarebol, a defnyddioldeb cyffredinol yn ngwasanaeth ei Dduw a'i gyd-ddynion. Gall ei hanes roddi rhyw syniad mor hynod oedd rhai o'r offerynau a ddefnyddiodd Duw mewn oesau blaenorol i wneyd Cymru yr hyn ydyw yn yr oes freintiedig hon. Dyn bychan oedd Mr. Lewis William ymhob ystyr naturiol—bychan ei gorff, bychan ei enaid, bychan ei ddoniau. Ond pob gewyn yn ei gorff bychan, a phob cyneddf a dawn yn ei enaid llai, gwelid yr oll yn eu llawn waith yn wastadol mewn rhyw lwybr neu gilydd yn ngwasanaeth ei Greawdwr a'i Dduw."

Ganwyd Lewis William mewn bwthyn bychan, o'r enw Gwastadgoed, yn ardal Pennal, Sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1774—Nid oes gareg ar gareg o'r ty hwn yn aros er's llawer blwyddyn. Ond os ä y darllenydd rywbryd o bentref Pennal, ar hyd y ffordd fawr, oddeutu milldir i gyfeiriad Aberdyfi, wedi pasio ysgoldy presenol y Bryniau yn nghwr pellaf y cae y saif yr ysgoldy ynddo, bydd yn myned heibio mangre genedigaeth gwr na flina pobl Gorllewin Meirionydd ddim yn son am dano. Enw ei dad oedd William Jones, a'i fam Susan Jones—y ddau yn dlodion ac heb fedru gair ar lyfr. Pan oedd yn ddwy flwydd oed, symudodd ei rieni i'r Hen Dy, yn agos i'r Henfelin Aberdyfi, ac ymhen y flwyddyn drachefn symudasant i'r Hafod, oddeutu tair milldir o Dowyn. Bu farw ei dad pan oedd ef yn bedair oed, a gadawyd yntau a'r plant eraill gyda'u mam weddw.

Rhydd Lewis William, yn ei bapyrau ysgrifenedig, ddarluniad o ddull y wlad o fyw pan oedd ef yn blentyn, ac ymysg pethau eraill y modd y llafuriai ei fam i fagu y plant,— "Byddai yn gwneuthur cymwynasau i'r cymydogion," meddai, "ac yn cael ei thalu yn bur dda, a phan elai yn gyfyng iawn, anfonai ei chwyn at y plwyf, sef Dolgellau, ac nid wyf yn gwybod iddi gael ei gomedd erioed o'r hyn a geisiai. Ni bu yn cael dim yn benodol o'r plwyf, ond byddai yn cael rhoi ei hachos yn Eglwys Dolgellau i geinioca iddi. Byddai yn cael cymaint a 10s. ac o hyny i 15s. lawer tro mewn modd o ewyllys da." Pan oedd yn 16 oed, ymunodd Lewis William. a Militia Sir Feirionydd, yn amser "Rhyfel Buoneparte." Wedi ei ryddhau am dymor oddiwrth y rwymedigaeth hon dychwelodd adref, a phrentisiwyd ef yn grydd gydag un John Jones, o'r Cemaes, Sir Drefaldwyn. (Nid yw yn rhoddi dim. o hanes ei deulu ar ol hyn).

Tra yn aros yn Cemaes y pryd hwn, yn llanc tua 18 oed, yr argyhoeddwyd ef, ac y bwriodd ei goelbren ymysg pobl yr Arglwydd. Casglwyd defnyddiau hanes ei fywyd oddiwrth ei bapyrau ysgrifenedig, ac oddiwrth yr hyn a ysgrifenodd Mr. R. O. Rees, Dolgellau, am dano mewn cysylltiad â Chofiant Mary Jones—gwybodaeth a gawsai y gwr hwnw o'i enau ef ei hun. I Mr. Oliver Rees, yn benaf, y mae hanes ei droedigaeth, a'i gyflogiad gan Mr. Charles, yn nghyda digwyddiadau ei ddyddiau diweddaf, i'w priodoli. Heb yn wybod yn hollol iddo ei hun teimlai awydd i ymuno â chrefydd, ond ofni a chilio yn ol y byddai. "Bum lawer tro wrth ddrws yr addoldy, yn benderfynol o fyned i mewn i'r cydgynulliad, ond yn methu, ac yn troi yn fy ol tua chartref." Mewn cyfarfod. gweddi yn Ty Uchaf, Mallwyd, ar foreu Sabboth, yn gwrando— ar Mr. Jones, Mathafarn, wedi hyny Dolfonddu, yn darllen Rhuf. v., ac yn esbonio rhanau o'r benod, pan y darllenai y geiriai, "Megys trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad," cafodd olwg yn y fan arno ei hun yn golledig. Syrthiodd i lewyg a chariwyd ef allan fel un marw. Aeth erbyn dau o'r gloch, wedi iddo ddyfod ato ei hun, i wrando pregeth i Mathafarn. Y geiriau fu yn foddion i beri iddi oleuo arno oeddynt, "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i'r byd i gadw pechaduriaid; o ba rai y penaf ydwyf fi." "Dyma y dydd," meddai, "yr agorwyd fy llygaid i weled fy ngholledigaeth, ond diolch byth! i weled Ceidwad hefyd, ac o hyny hyd yn awr nid wyf wedi colli fy ngolwg ar y naill na'r llall."

Ymhen tuag wythnos wedi yr adeg a nodwyd yr ydym yn ei gael yn penderfynu cynyg ei hun i eglwys y Methodistiaid a ymgynullai mewn ty anedd yn Nghwmllinau. Y mae ganddo haner coron yn ei feddiant, a llawn fwriada roddi hwnw am gael myned i'r seiat. "Ar nos y society y mae yn myn'd at ddrws y ty lle y cyfarfyddid. Mae yn sefyll yno am ysbaid mewn cyfyng-gyngor. O'r diwedd anturia daro y drws â llaw grynedig. Wele frawd yn agoryd—

"Beth sy' arnat ti eisio yma, 'machgen i?"

"Eisio dwad i'r seiat, os ca' i; dyma i ch'i haner coron-y cwbl sy' gen' i yn y byd—am gael dwad, os ca' i."

"Dwad, 'machgen anwyl i, cei; cadw dy haner coron; cei groeso calon gyda ni am ddim."

Gofynwyd iddo yn y cyfarfod, "Beth pe b'ai Iesu Grist yn ceisio gen' ti wneyd rhywbeth drosto yn y byd, a wnaet ti hyny?"

"O! gwnawn yn y fan, beth bynag a geisiai Iesu Grist gen' i."

Rees Lumley, Dolcorslwyn, oedd y gwr a ofynodd y cwestiwn hwn iddo, a gofynodd ef ddwy neu dair gwaith mewn gwahanol ffyrdd. Ei atebiad i'r cwestiwn hwn y noswaith yr ymunodd âg eglwys Dduw ydyw yr allwedd i holl hanes ei fywyd "Gwnawn yn y fan beth bynag a geisiai Iesu Grist." Teimlai ar hyd ei oes ei rwymedigaeth i wneuthur yr hyn a allai gyda chrefydd, ac fe'i gwnaeth.

Yn fuan ar ol ei ymuniad â chrefydd yn ardal y Cemaes, galwyd arno at y Militia drachefn yn ol ei ymrwymiad. Bu yn crwydro gyda hwy, fel y dywed ei hun, yn Sandown Castle, Dover, a Penzance (Cornwall), a dychwelasant yn ol i'r Bala. Yna rhyddhawyd hwy bawb i'w cartref, gan iddi fyned yn heddwch. Daliodd afael yn ei grefydd yn ei holl grwydriadau, a mwy na hyny, rhybuddiodd a chynghorodd lawer ar ei gymdeithion digrefydd, fel y rhybuddiai Paul ei gyd-forwyr ar ei daith i Rufain. Yn union ar ol ei ryddhad aeth i Gemaes i orphen ei ymrwymiad fel prentis o grydd. Oddiyno symudodd dros ysbaid byr i Aberdyfi, ac ymhen ychydig cyflogodd am haner blwyddyn i weithio ar y tir yn Closbach, Llanegryn. Dywed ef ei hun mai dyma y lle agosaf iddo golli ei grefydd o un man y bu, oherwydd nad oedd dim crefydd yn y teulu.

Y lle nesaf yr ydym yn ei gael ydyw yn gweini gyda pherthynasau iddo yn y Trychiad, wrth ymyl pentref Llanegryn. Gwnaeth ymrwymiad yn ei gyflogiad y tro hwn i gael myned i addoli i'r lle yr ewyllysiai. Teimlai yn ddwys dros anwybodaeth ieuenctyd Llanegryn, a phenderfynodd sefydlu Ysgol ar y Sabboth, a rhai nosweithiau yn yr wythnos, i'w dysgu i ddarllen. Ni wyddai ddim am Ysgol Sabbothol, ond dichon iddo glywed am un pan yn y Bala am ysbaid byr gyda'r Militia, a chlywsai hefyd fod ei gymydog, John Jones, Penyparc, yn cadw Ysgol Sul yn Bryncrug. Ni chawsai yr un diwrnod o ysgol, ac nis gallai ddarllen dim ei hun. Anturiodd, modd bynag, i geisio cael ieuenctyd Llanegryn i wneuthur yr hyn nis gallai wneyd ei hun. Y cyfryw ydoedd ei sel a'i boblogrwydd gyda'r plant fel y tyrent ato i gael gwersi ganddo. Dysgai y wyddor i'r rhai lleiaf, trwy eu cael oll i'w chydganu ar y dôn "Ymgyrch Gwyr Harlech," a ddysgasai ei hun pan gyda'r Militia ychydig flynyddau yn flaenorol. Y mae hanes am y cenhadwr enwog, Robert Moffat, yn defnyddio yr un cynllun gyda Phaganiaid Affrica; dysgodd yntau y wyddor Saesneg iddynt hwy trwy eu cael i'w chanu ar dôn genedlaethol Ysgotland, "Auld Lang Syne." Ond ymhen deugain mlynedd y gwnaeth Moffat hyn, ar ol i Lewis William ddefnyddio y cynllun gyda phlant Llanegryn.

Ond prif gamp Lewis William oedd ei ddyfais i allu addysgu y dosbarth uchaf ac yntau heb fedru darllen ei hun. I ddyfod dros ben yr anhawsder, llwyddodd ryw gymaint trwy fyned at chwaer grefyddol, Betty Ifan—yr hon ryw ffordd a fedrai ddarllen yn lled dda—i gael gwers ei hun yn y gwersi oeddynt i ddyfod dan sylw yn yr Ysgol y tro nesaf. Dyfais arall a ddyfeisiodd ydoedd cymeryd nifer o ysgolheigion o blith y darllenwyr goreu o Ysgol Waddoledig Llanegryn, yr hon oedd y pryd hwnw mewn cryn fri, a rhoddai hwynt i ymryson darllen am wobr fechan. Testyn y gystadleuaeth fyddai y wers oedd i ddyfod dan sylw yn ei ysgol ef ei hun y tro canlynol. Efe ei hun fyddai y beirniad! Craffai yn fanwl arnynt yn seinio pob llythyren, ac yn y modd hwn, megys yn wyrthiol, llwyddodd i gyraedd gradd o wybodaeth. fel ag i benderfynu pwy fyddai piau y wobr. Fel hyn aeth rhagddo, gan gelu ei anwybodaeth ei hun, i ddyfod yn feistr ar ei waith gyda'r plant.

Yr oedd eisiau dechreu a diweddu y cyfarfod trwy weddi. Y ddyfais a arferai ar y cyntaf i gadw ei arabiaid ieuainc anwaraidd yn llonydd a distaw, iddo allu gweddio oedd, gwneyd iddynt fyned trwy y gwahanol ymarferiadau milwrol, neu fel y galwai ef y gwaith, "chwareu soldiers bach," fel y dysgasai ef ei hun gyda'r Militia. Pan y deuai at y "Stand at ease," a'r "Attention," safent oll yn llonydd, ac wele yn y fan weddi fér drostynt i'r nef. Ar ddiwedd y cyfarfod ychwanegid y "Quick march"—allan.

Yn y flwyddyn olaf o'r ganrif ddiweddaf mae y dyn ieuanc— syml hwn yn gweini mewn ffarm yn Llanegryn, ac yn addysgu plant y plentref fel hyn i ddarllen Cymraeg. Yn y flwyddyn hono y mae Cyfarfod Misol yn Abergynolwyn, ardal gyfagos, ac y mae Mr. Charles ar ei ffordd yno yn lletŷa yn Penyparc. Mewn ymddiddan ar fater yr ysgolion, gofyna Mr. Charles i John Jones a wyddai ef ddim am yr un dyn ieuanc arall a wnai y tro i fod yn un o'i ysgolfeistriaid? Atebai yntau fod rhyw ddyn ieuanc yn Llanegryn yn llafurus iawn i addysgu y plant, ond nas gallai ddarllen ei hun.

Dyn ieuanc yn addysgu plant i ddarllen, heb fedru darllen ei hun?" gofynai Mr. Charles. "Felly maent yn dweyd," oedd yr ateb. Methai Mr. Charles a deall hyn, er cymaint ei ddyfeisiadau. Ar ol ychydig siarad pellach, fodd bynag, anfonodd am y dyn ieuanc i ddyfod i'w gyfarfod i Abergynolwyn dranoeth. Daeth Lewis William yno, a'i wisg a'i wedd yn wladaidd, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le rhyngddynt:

"Wel, 'machgen i, y maent yn dyweyd dy fod di yn cadw ysgol yn Llanegryn acw ar y Sabbothau a nosweithiau yr wythnos, i addysgu y plant i ddarllen. A oes llawer o blant yn dyfod atat ti i'r cyfarfodydd ?"

"Oes, syr, fwy nag a allaf eu dysgu nhw, syr."

"A ydyn nhw yn dysgu tipyn gen' ti?"

"'Rydw i'n meddwl fod rhai o honyn' nhw, syr."

A fedri di dipyn o Saesneg ?"

"Fedraf fi ddim ond ambell air a glywais i gyda'r Militia, syr."

"A fedri di ddarllen Cymraeg yn dda?"

"'Fedra i ddarllen bron ddim, syr; ond 'rydw i'n ceisio dysgu 'ngora', syr."

"A fuost ti ddim mewn ysgol cyn dechreu gweini?"

"Naddo, syr; che's i ddiwrnod o ysgol erioed, syr."

"A fyddai dy dad a dy fam ddim yn dy ddysgu i ddarllen gartref?"

"Na fyddan', syr; fedrai nhad na mam ddarllen yr un gair eu hunain, syr."

Agorai Mr. Charles y Beibl ar y benod gyntaf o'r Epistol at yr Hebreaid, a dymunai arno ddarllen yr adnodau blaenaf.

"Duw we—wedi iddo—le—lefaru la—lawer gwaith, a llawer modd, gynt wrth y tad—au, trwy y pro—proph— (prophwydi, sisialai John Ellis, o'r Abermaw—un arall o'r ysgolfeistriaid yn ei glust o'r tu cefn iddo) yn y d—ydd—iau. —di—wedd—af hyn a le—lefarodd wrth—ym ni yn ei Fab,—"

"Dyna ddigon machgen i, dyna ddigon. Wel! sut yr wyt ti yn gallu addysgu nebi ddarllen, mae tu hwnt i fy amgyffred i. Dywed i mi, 'machgen i, sut yr wyt ti yn gwneyd i addysgu y plant acw i ddarllen."

Rhoddodd yntau iddo fanylion y dull a gymerai—y cyd— ganu yr A, B, C, y gwersi parotoawl gyda Betti Ifan—ymryson darllen bechgyn y Grammar School—y chware soldiers bach, &c. Ar anogaeth Mr. Charles, aeth i'r ysgol am tua chwarter blwyddyn at John Jones, Penyparc, tua dwy filldir o Lanegryn. Yr oedd John Jones yn un o'r ysgolfeistriaid. cyflogedig, ac yn fwy o ysgolhaig na nemawr neb y pryd hwnw; a dyna yr oll o addysg ddyddiol a gafodd Lewis William. Gwnaeth un ymdrech ychwanegol hefyd i ddyfod yn ddarllenwr. Clywsai lawer gwaith mai rhagoriaeth uchaf darllenyddiaeth oedd gallu darllen "fel parson." Gymaint oedd ei awydd i ddyfod yn ysgolfeistr o dan Mr. Charles, fel yr elai yn fynych i Eglwysi Llanegryn a Thowyn i glywed y "parson" yn darllen.

Y canlyniad fu i Mr. Charles ei gyflogi, yn y flwyddyn 1799, i fod yn athraw i'w ysgolion, am bedair punt y flwyddyn o gyflog; a dyma ddechreuad ei yrfa lwyddianus fel ysgolfeistr. Nid hawdd yw penderfynu, pa un ydyw y ffaith hynotaf, anturiaeth a dyfalbarhad Lewis William yn ymgymeryd â'r fath waith o dan y fath amgylchiadau, ynte craffder pelldreiddiol Mr. Charles i weled yn yr hwn a gyflogai y pryd hwn ddefnyddiau dyn defnyddiol, i ddysgu plant a phobl anwybodus Cymru mewn amseroedd tywyll. Oes y prawf a'r arholiadau, ac oes yr hogi crymanau ydyw yr oes hon, ond byr fu arholiad Lewis William—anturiodd ef i'r cynhauaf gyda'i gryman heb aros ond tri mis i'w barotoi rywsut, ac er hyny, llafuriodd yn helaethach na'i frodyr oll; ac y mae eglwysi y wlad yn awr yn medi o ffrwyth ei lafur. Bu yn symudol o ardal i ardal yn cadw yr Ysgol Rad gylchynol, am bum mlynedd ar hugain. A gwnaeth wasanaeth mawr, fel y ceir gweled eto, gyda theyrnas yr Arglwydd Iesu, mewn. llawer o wahanol gylchoedd.

Ei eiriau ef ei hun a ddangosant ei gysylltiad cyntaf å Llanfachreth. "Wedi i Ragluniaeth fy nhywys," meddai, "i lawer o fanau gyda'r ysgol ddyddiol a Sabbothol, hi am tywysodd trwy anfoniad Mr. Charles i Lanfachreth. o gylch y flwyddyn 1800. Nis gallaf ddweyd gynifer o weithiau y bum yn Llanfachreth, o anfoniad Mr. Charles, weithiau am fis, pryd arall am ddau, a rhai gweithiau am chwarter blwyddyn. Yr achos o fyrdra yr amser oedd, y mawr alw fyddai am yr ysgol ddyddiol i fanau eraill, er mwyn sefydlu a chynorthwyo yr Ysgol Sabbothol. Ond wedi marw Mr. Charles, a thra y bum yn cadw yr ysgol, yr oeddwn yn myned ar alwad yr ardaloedd, ac iddynt hwy roi cyflog i mi, neu ddwyn fy nhraul, ac ychydig fyddai hyny mewn llawer o fanau y bum ynddynt." Ymsefydlodd yn arhosol yn Llanfachreth yn y flwyddyn 1824. Dyma y ffordd, trwy gyfrwng Rhagluniaeth, y cysylltwyd ei enw â Llanfachreth.

Efe oedd athraw Mary Jones, y Gymraes fechan heb yr un Beibl, yn yr ysgol ddyddiol, ar adeg ei thaith fyth—gofiadwy i'r Bala, i brynu Beibl gan Mr. Charles, amgylchiad a arweiniodd yn uniongyrchol i sefydliad y Feibl Gymdeithas. Yn Abergynolwyn y cadwai yr ysgol, a merch fechan Ty'nddol yn un o'i ysgolheigion. Yr oedd felly yn y fantais oreu i gael holl hanes y daith hono o enau yr eneth ei hun, yn gystal a chan Mr. Charles wedi hyny. Cymerodd hyn le ymhen y flwyddyn

wedi iddo ddechreu ar ei waith fel ysgolfeistr, sef yn y fl. 1800.

PENOD XII.

Y PARCH. LEWIS WILLIAM, LLANFACHRETH.

Cyfarfyddiad olaf Lewis William â Mr. Charles—Yr ymddiddan rhyngddynt—Cylch ei lafur gyda'r Ysgol—Ei grefyddoldeb—Ei lythyr o Aberdyfi—Ei ymddiddan a Marchog y Sir—Yn cadw Ysgol Madam Bevan yn Celynin yn 1812—Gorfoledd yn Ysgol Bryncrug—Yn ffarwelio a'r capel yno—Yn ail gychwyn yr Ysgol yn Nolgellau yn 1802—Yn priodi yn 1819—Yn ymsefydlu yn Llanfachreth—Yn dechreu pregethu yn 1807—Sabboth yn Nhanygrisiau—Engreifftiau o'i ddull yn rhoi ei gyhoeddiadau—Ei ddiwedd gogoneddus yn 1862.

ERIOED ni bu apostol nac archesgob yn mawrhau ei swydd yn fwy nag y mawrhai Lewis William ei swydd o ysgolfeistr, trwy apwyntiad a than arolygiaeth Mr. Charles. Pan y cyflogwyd ef yn y flwyddyn 1799, gadawodd weithio ar y tir yn Llanegryn, ac aeth at John Jones, Penyparc, un o'r ysgolfeistriaid eraill, am dri mis i ddysgu darllen Cymraeg, a dyna yr holl barotoad at ei swydd. Cymerai wers i'w helpu ymlaen oddiwrth bob dyn byw a gyfarfyddai, ac oddiwrth bob amgylchiad a ddeuai i'w ran yn ffordd rhagluniaeth. Gwnelai Mr. Charles hefyd yn bersonol bob peth yn ei allu i'w gyfarwyddo a'i addysgu, yn enwedig pan yr ymwelai yn achlysurol â'r ysgolion a gedwid ganddo, yn ngwahanol ardaloedd y wlad.

[Y Parch. William Davies, Llanegryn, mewn llythyr dydd— iedig Mawrth 16, 1898, yn rhoddi adgofion dyddorol am Lewis William a ddywed:—"Ryw brydnawngwaith yn 1855, yr oedd Lewis William a minau yn myned i gynal Cyfarfod Dirwestol i Bontddu (lle haner y ffordd rhwng Dolgellau a'r Abermaw). Byddai Cyfarfodydd Dirwestol yn cael eu cynal yn rheolaidd y pryd hwnw yn Nosbarth Dolgellau, ac yr oedd Lewis William a minau wedi ein penodi gyda'n gilydd y flwyddyn hono i gynal cyfarfod yn Bontddu, ac hefyd yn nghapel yr Annibynwyr yn y Brithdir, a chawsom lawer ymgom ddifyr ar y ffordd o'r naill le i'r llall, oblegid yr oedd Lewis William yn un difyr iawn yn ei gwmni. Wedi i ni gyraedd yn agos i Bontddu, dywedodd Lewis William wrthyf:

'Fe fum i yn cadw ysgol ddyddiol yn y Bontddu yma, tua deugain mlynedd yn ol, a'r pryd hyny y gwelais Mr. Charles o'r Bala am y tro diweddaf. Yr oedd ef a Mrs. Charles wedi bod yn Abermaw er mwyn eu hiechyd, ac yr oeddynt yn dychwelyd eu dau mewn gig, a phan gyferbyn a'r capel, lle yr oeddwn yn cadw yr Ysgol, disgynodd Mr. Charles o'r cerbyd, ac er bod encyd o riw serth i ddringo i'r capel, fe ddaeth atom i'r ysgol. Siaradodd ychydig wrth y plant, gan eu hanog i ddysgu, a bod yn blant da, yn ufudd i'w hathraw, ac yn barchus o hono. Yna gofynodd i mi fyn'd gydag ef. Ac wedi i ni gyraedd at y cerbyd, archodd i Mrs. Charles gerdded yr anifail ymlaen, ac y cerddai yntau am ychydig gyda mi. Dywedodd wrthyf fod yn dda ganddo weled cynifer o blant yn yr ysgol, fy mod yn cael cyfleusdra felly i hyfforddi llawer ymhen eu ffordd, ac i wneyd daioni amserol a thragwyddol iddynt. Anogodd fi i barhau yn ffyddlon gyda'r gwaith, ac os oedd y cyflog yn fychan, a'r drafferth a'r blinder yn fawr, y byddai gwobr helaeth i'm llafur gan yr Arglwydd.' Yna ychwanegai yr hen frawd,—

'Mr. Charles,' meddai, 'oedd y dyn goreu a welais i erioed. Dyma fyddai ganddo bob amser pan yn ymddiddan â mi, fy holi a fyddai trigolion yr ardal y byddwn yn cadw ysgol ynddi yn dyfod i foddion gras, ac i'r Ysgol Sabbothol, a fyddai y plant yn dyfod i'r ysgol ddyddiol, a wyddwn i am ryw gymydogaeth arall lle yr oedd y plant yn cael eu hesgeuluso, ac y byddai yn dda cynal ysgol yno—addysgu plant a phobl, a dwyn y wlad i wybodaeth y gwirionedd oedd y peth mawr ar ei feddwl, ac i hyny yr oedd yn cysegru ei fywyd— ïe, rhodd yr Arglwydd i Wynedd, ac i Gymru oedd Mr. Charles.'"

Ni bu yr hanes hwn yn argraffedig o'r blaen. Gwelir ynddo fanylwch a ffyddlondeb digyffelyb Lewis William, a chymeriad gloew Mr. Charles yn disgleirio hyd y diwedd. Ar ei ffordd adref o'r Abermaw y tro diweddaf y bu yno, yn ol pob tebyg, yr oedd Mr. Charles y pryd hwn. Dywedir yn y Cofiant gan gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, ddarfod iddo fyned adref trwy Fachynlleth, lle y pregethodd ei bregethau olaf, Sabboth, Medi 4ydd, 1814].

Aeth i Lanfachreth—y lle y mae ei enw byth wedi ei gysylltu âg ef—i gadw Ysgol Gylchynol am y tro cyntaf, yn ol ei dystiolaeth ei hun, yn 1800. Eithr nid aeth yno i fyw am chwarter canrif wedi hyn. Cenhadwr symudol fu yr holl amser yma, yn byw yn nhai estroniaid yn y gwahanol gymydogaethau. Cadw ysgol ddyddiol, i addysgu plant tlodion Sir Feirionydd i ddysgu darllen Cymraeg, ac i'w hyfforddi yn elfenau cyntaf crefydd, oedd y gwaith a hoffai o ddyfnder ei galon. Cylch ei lafur gyda'r gorchwyl hwn oedd o Aberdyfi ar lan y môr, ar un llaw, i fyny hyd Buarthyrê, ffermdy wrth odreu un o'r bryniau pell, oddeutu wyth milldir i'r gogledd uwchlaw Dolgellau, ar y llaw arall; ac o'r Bontddu i Lanymowddwy, a mesur y wlad ar ei thraws, gan gymeryd tref enwog Dolgellau i'r cylch. Efe a fu ben—ysgolfeistr yr holl gylch hwn am y chwarter cyntaf o'r ganrif bresenol. Bu yn cyflawni ei swydd ymhob lle, ardal, cwm, a thref, o fewn y cylch hwn laweroedd o weithiau, fel y byddai y galw am dano. Ac er tywylled yr ymddangosai ei achos fel ysgolfeistr ar y cychwyn, trwy ei ddyfalbarhad dihafal, daeth mewn amser i gael ei barchu gan y bobl fel tywysog.

Rhaid cofio mai bychan iawn oedd ei gyrhaeddiadau addysgawl. Addysgu plant a phobl i ddarllen Cymraeg fu ei brif waith trwy ei oes. Byddai ychydig nifer yn yr ysgolion. yn cael eu hyfforddi mewn gramadeg a rhifyddiaeth. A chyn diwedd y tymor y bu yn ysgolfeistr, byddai ganddo yn rhai o'r ysgolion ychydig nifer dewisedig i'w haddysgu mewn Saesneg, a derbyniai dâl uwch dros addysg y cyfryw. Cadwai restr o'r plant a berthynent i'r ysgol, eu henwau, eu hoedran, a'u graddau mewn dysg, mewn mân lyfrau neu ar ddalenau unigol, ac y mae llawer o'r dalenau hyn i'w gweled yma ac acw, ymysg ei bapyrau ysgrifenedig. Oddiwrth y papyrau hyn, gwelir fod 77 o blant gydag ef yn yr ysgol yn Bryncrug, yn 1820; 30 yn Llanerchgoediog. yn 1818; 50 yn y Bwlch, yn 1812; 60 yn Llwyngwril, yn 1812; 92 yn Towyn, yn 1818, -10 o honynt yn dysgu ysgrifenu; 7 yn darllen yn eu Beiblau; 26 yn eu Testamentau; 66 yn yr A. B. C, sillebu, a darllen yn y llyfr corn; dim un wedi myned mor bell ag i ddysgu. rhifyddiaeth; 49 yn yr Ysgol Rad y diwrnod y dechreuodd yn y Bontddu, Mawrth 7, 1815; 61 yn Buarthyrê, yn 1816; 103 yn Nolgellau, yn 1817,-65 o'r cyfryw heb gyraedd ddim. pellach na diwedd y llythyrenau, 26 yn dysgu ysgrifenu, a 7 yn dysgu rhifyddiaeth. Bu yn Nolgellau drachefn yn 1822 ac yn 1824. Y mae rhestr faith o'r plant oedd gydag ef yn yr ysgol y blynyddau hyn ar gael, ac yn eu plith ceir enw y diweddar Barchedig Roger Edwards, y Wyddgrug. Ac efe fyddai yn cymeryd gofal yr ysgol ar fore Llun, i aros yr ysgolfeistr adref o'i gyhoeddiad.

Crefyddoldeb oedd addurn penaf Lewis William. Yr oedd fel Job, yn wr "perffaith ac uniawn," o'r dydd yr argyhoeddwyd ef, a bu felly bob dydd hyd ddiwedd ei oes. Cariai ei grefydd gydag ef wrth gyflawni holl orchwylion bywyd. Hyn, ynghyd a'i fedr i ddenu y plant a'u rhieni, a'i ffyddlondeb a'i frwdfrydedd diball, a barai ei fod mor boblogaidd a llwyddianus. Ystyrid ei ddyfodiad ef i ardal bron yn gyfystyr a dyfodiad diwygiad crefyddol. Ymrysonai yr ardaloedd am ei gael i gadw ysgol ddyddiol; ac mor gywir ac uniawn oedd ei fywyd yntau oll, fel yr ymgyrhaeddai yn ei holl orchwylion i wneuthur ewyllys yr Arglwydd. Bu y brodyr yn Salem, Dolgellau, un tro ar ol marw Mr. Charles, yn pwyso arno i ddyfod. i'w tref hwy i gadw yr ysgol, ac anogent ef i ymadael o Aberdyfi, lle oedd y pryd hwnw yn fychan a di-nôd, gan dybied. yn ddiameu y buasai unrhyw ysgolfeistr yn neidio at y cynygiad. Mae y brodyr yn Nolgellau yn pwyso eu hachos eu hunain ymlaen. "Peidiwch," meddant, "a meddwl am aros ddim yn hwy na Chymdeithasfa Abermaw fan bellaf." Mae yntau yn ateb o Aberdyfi yn y geiriau canlynol:— "Mae taerni fy anwyl ysgolheigion yn Aberdyfi, ynghyd a fy anwyl gyfeillion yn mron tori fy nghalon; a golwg ar iselder yr achos yn ein plith, ac y byddaf finau wrth symud yn foddion i'w iselhau yn is; nis gwn beth a wnaf. Nis gallaf ddisgwyl cael rhan yn ngweddïau fy mrodyr a'm chwiorydd, i ddyfod i'ch plith chwi yn bresenol. Ac un o'r rhesymau sydd genyf i beidio ymadael oddiyma ydyw, fy mod wedi addaw bod yma am chwarter; ac os amgen, mi a fyddaf dorwr amod, ac o ganlyniad yn achos o lawer o gablu. Hyn oddiwrth eich annheilyngaf wasanaethwr, LEWIS WILLIAM, Aberdyfi, Ionawr 7, 1817."

Ymha le y ceir y fath gydwybodolrwydd ymysg holl gyfathrach rhwng dynion â'u gilydd?

Dengys yr ymddiddan canlynol fu rhyngddo â Marchog y Sir—hanes a geir ymysg ei bapyrau ei hun—y modd y dygid yr ysgolion rhad ymlaen yn amser Mr. Charles, ynghyd a'i hunan—aberthiad yntau i'r gwaith:—"Holai Marchog y Sir, a pherchen y rhan fwyaf o'r plwyf (Llanfachreth), Syr Robert Vaughan, Nannau [mae Plas Nannau o fewn milldir i Lanfachreth], lawer arnaf am hanes y Methodistiaid, a gofynai faint o gyflog oeddwn yn gael y chwarter am gadw yr ysgol. Gwyddai mai ysgol rad oedd i'r plant. Dywedwn wrtho mai tair punt oeddwn yn gael ar y cyntaf, ond i'r cyflog godi i bedair gwedi hyny. Fe fyddai yn rhyfeddu pa fodd yr oeddwn yn cael bwyd a dillad. Dywedwn wrtho fy mod yn ceisio byw yn bur gynil, a bod y bobl yn bur ffeind wrthyf, ambell un yn rhoddi i mi haner pwys o fenyn neu lai, ac eraill yn fy ngwahodd i'w tai i gymeryd pryd o fwyd. Byddwn yn dywedyd y buasai yn well genyf gadw ysgol am ddim pe byddwn yn gallu, na bod heb gadw ysgol, gan y pleser fyddwn yn gael yn y gwaith. Gofynai i mi o ba le y derbyniwn fy nghyflog, sef hyny oeddwn yn gael. Atebwn mai gan Mr. John Griffith, o'r Abermaw, a'i fod yntau yn eu cael oddiwrth Mr. Charles, a bod gan Mr. Charles ddeuddeg neu bymtheg o athrawon fel finau, a rhagor weithiau, o dan ei ofal. Yna holai y boneddwr o b'le yr oedd Mr. Charles yn cael yr arian. Atebwn inau fod ganddo amryw ffyrdd; bod y Methodistiaid yn Sir Feirionydd yn gwneyd casgliad unwaith y chwarter, ac yn gofyn ewyllys da o geiniog gan bob un; a bod rhai yn gyfoethog, ac yn cyfranu mwy na'r gofyn. Methai yntau ddeall pa fodd yr oedd hyn yn ddigon i wneyd i fyny fy nghyflog i a'r lleill. Dywedwn wrtho yn mhellach fod y Methodistiaid yn lliosog, a bod y naill geiniog at y llall yn dyfod yn llawer; fod Mr. Charles, oblegid ei fawr awydd am weled plant tlodion yn cael eu dysgu, yn cyfranu llawer ei hun; ei fod yn fynych yn myned i drefydd Lloegr, ac i Lundain, i gynal cyfarfodydd. mawr, lle y byddai boneddigion cyfoethog, fel y chwi, syr, yn bresenol, ac o'r cyfryw ysbryd i wneyd daioni âg ef ei hun; ei fod yn rhoddi achos Cymru, ac yn arbenig Sir Feirionydd, ger eu bronau, a byddent hwythau yn aml yn cyfranu yn haelionus i'w gynorthwyo yn ei amcan. Canmolai y boneddwr y gwaith yn fawr, a'r modd yr oedd yn cael ei gario ymlaen.

Fel prawf o'r hyn a ddywedir uchod, ac hefyd o'r hyn a grybwyllir mewn manau eraill, ceir ymysg ei bapyrau enwau personau a roddent iddo bwys o ymenyn, eraill haner pwys, &c., yn rhoddion fel ysgolfeistr yr ardal. Ceir yn ychwanegol. enwau personau a roddent lety iddo, ac yn eu plith dywed. iddo gael ymborth a llety am fis heb dalu dim gan Mr. Harri Jones, Nantymynach.

Yn ystod y flwyddyn 1812 bu yn cadw ysgol mewn tri man yn Mhlwyf Celynin, Meirionydd, o dan lywodraethiad ymddiriedolwyr ysgolion Madam Bevan. Cyfarfyddir ag amryw lythyrau wedi eu hysgrifenu ganddo y flwyddyn hon, ac adroddiadau meithion am ansawdd yr ysgol o dan ei ofal, wedi eu cyfeirio oddiwrth "yr annheilyngaf a'r anfedrusaf o bawb," at "fy anwyl a'm hanrhydeddus ymddiriedolwyr," ac enwa Mr. D. Davies (Llanidloes), a Mr. Griffith a Mr. C. Lewis (Aberteifi), wrth eu henwau. Dywed un hen chwaer grefyddol, yr hon oedd yn fyw ddeng mlynedd ol, ei bod yn cofio Lewis William yn cadw ysgol yn Llwyngwril, a'i fod yn myned i Ysgol Sul yr Eglwys gyda'r person. Ac y mae dau lythyr ymysg papyrau Lewis William oddiwrth Thomas Jones, curad Celynin, at Drustees y Welsh Circulating Charity Schools, yn hysbysu fod Lewis William yn cymuno yn yr Eglwys, a bod yr ysgol yn llwyddo o dan ei ofal, ac hefyd fod yr holl blwyfolion yn dymuno i'r ysgol gael ei pharhau yn y plwyf. Ymddangosai y cyfeiriadau hyn yn annealladwy, hyd nes y daethpwyd o hyd i'r hyn a ganlyn ymysg papyrau Lewis William ei hun:—"Goddefodd Mr. Charles i Blwyf Celynin fy nghael i gadw ysgol Madam Bevan; ond ni chawn mo honi mwy onid awn i'r Deheudir i'w chadw, yr hyn nad oeddwn yn dewis, oherwydd yr oedd rhyw rwymau caethion yn perthyn iddi, y rhai nad oeddwn yn ewyllysio myned iddynt." Ceir hanes Lewis William yn holwyddori plant yn Eglwys Blwyfol Llwyngwril, ac yn eu cynghori yn gyhoeddus yno tra bu mewn cysylltiad ag Ysgolion Madam Bevan. Arbenigrwydd yr holl ysgolion dyddiol y bu ef yn eu cadw, o ardal i ardal, ydoedd fod gwedd grefyddol hollol arnynt. Y Beibl, Llyfrau Elfenol y Parch. Griffith Jones, Llanddowror; Sillydd Mr. Charles, a'r Hyfforddwr, yr hwn a elwid fynychaf y pryd hwnw wrth yr enw "Llyfr Egwyddorion,"—dyna yr holl lyfrau a ddefnyddid. Cynghorai yr athraw duwiol y plant sut i ymddwyn yn holl amgylchiadau bywyd, ar hyd y ffyrdd, ac yn eu cartrefi. Crefydd yn gyntaf oedd arwyddair yr Ysgolion Rhad Cylchynol ymhob man tra buont o dan arolygiaeth Mr. Charles, a thra bu Lewis William yn athraw iddynt. Weithiau torai allan yn orfoledd, nid yn unig wrth iddo holwyddori yr ysgolion ar y Sabboth, ond ymysg y plant eu hunain wrth iddo eu holwyddori yn yr ysgol ddyddiol. Yn amser Diwygiad Beddgelert y mae hanes am orfoledd neillduol yn tori allan ymysg y plant, yn nghapel Bryncrug, tra yn cael eu holwyddori gan Lewis William ar ddydd gwaith, ganol cynhauaf gwair. Yr oedd John Jones, Penyparc, fe ddywedir, gydag ef yn yr ysgol y diwrnod hwnw. Yr oedd y drysau yn gauad, a dywed rhai eu bod wedi eu cloi. Y gwragedd yn clywed eu plant yn gwaeddi, a ymgasglent ynghyd o bob cwr i'r pentref, ac ymdyrent o amgylch y capel, yn methu yn lân a deall y gwaeddi oedd oddimewn i'r capel, ac yn tybied fod rhywun yn haner ladd y plant; a gyrasant gyda phob brys am eu gwyr i ddyfod yno o'r caeau gwair, hyd nes yr oedd y court o amgylch y capel wedi ei lenwi gan wyr a gwragedd, mewn pryder dirfawr am eu plant. A mawr oedd eu llawenydd pan ddeallasant nad oedd dim niwed wedi digwydd iddynt, ond mai gorfoleddu yr oeddynt hwy a'r ysgolfeistr gyda'u gilydd.

Gwelodd yr ysgolfeistr duwiol lawer o orfoledd, a bu llawer o gymundeb rhyngddo â Duw yn y capel hwn. Hen le cysegredig. Y capel wedi ei adeiladu y cyntaf ond un yn yr holl gylch rhwng Afon Dyfi ac Afon Abermaw. Adroddai Mr. Jones, gynt o Gwyddelfynydd, beth amser yn ol, am ymddygiad hynod o eiddo yr hen bererin, Lewis William, y tro olaf y bu yn pregethu yn Mryncrug. Yr oedd yn ei hen ddyddiau, a bron wedi llwyr golli ei olwg. Ymddangosai yn hynod o anfoddlawn i ymadael o'r capel ar ddiwedd y gwasanaeth nos Sul. Cerddai yn ol a blaen, a'i ben i lawr, ar draws y capel o flaen y pulpud. Wedi dyfod i'r drws i gychwyn tua Gwyddelfynydd, troes yn ol drachefn a'i wyneb i'r capel unwaith eto, a dywedai, "Ffarwel i ti, yr hen gapel, am byth; gwelais lawer o Dduw ynot ti erioed!"

Cylch y bu ef yn ddefnyddiol iawn ynddo ar hyd ei oes ydoedd gyda'r Ysgol Sabbothol. Gwnaeth Mr. Charles ddefnydd mawr o'r ysgolfeistriaid i blanu Ysgolion Sul yn yr holl ardaloedd, ac i adgyfodi rhai trancedig. Nid oes gan yr oes hon ond ychydig o amgyffred am yr anhawsderau a gafodd y tadau i sefydlu yr Ysgolion Sabbothol, a'u cario ymlaen ar ol eu sefydlu. Am yr ugain mlynedd cyntaf, a mwy, wedi rhoddi cychwyniad iddi mewn llawer ardal a thref, elai i lawr yn llwyr drachefn. Ac yn y rhan yma o Feirionydd, Lewis William fu y prif offeryn i ail gychwyn Ysgolion Sul trancedig. Nid oes unlle wedi bod yn fwy pleidiol i'r Ysgol Sul na thref Dolgellau. Magodd hi ddynion glewion ar faes y rhan hon o winllan yr Arglwydd. Ond bu hi farw yn y dechreu, hyd yn nod yn Nolgellau, a Lewis William a'i hadgyfododd yno. "Sefydlasid hi gyntaf yma," ebe y diweddar Mr. R. Oliver Rees, "gan ysgolfeistr blaenorol, John Ellis (o'r Abermaw), ond profasai gwrthwynebiad cryf swyddogion ac aelodau yr 'Hen Gapel' iddo gadw ysgol ar ddydd yr Arglwydd yn angeuol iddi. Ail sefydlodd Lewis William Ysgol Sabbothol pan y daeth yma i gadw ysgol ddyddiol yn 1802, a hyny yn ngwyneb gwg y swyddogion oll ond un. Arferid cynal y moddion Sabbothol cyntaf am 9 o'r yn y boreu. Cynhaliai yntau yr ysgol am 6 o'r gloch yn y boreu. Cyn hir, symudodd y gwrthwynebwyr y society i'r awr foreuol hon Symudodd yntau yr ysgol i'r awr foreuol of 4 o'r gloch! Deuai o 60 i 80 o blant iddi ar yr oriau boreuol hyn. Plant gan mwyaf oedd ei ysgolheigion ar y cyntaf. Tra yr oedd ef yn 'flin arno yn rhwyfo' yn erbyn y croeswyntoedd hyn, deuai ei noddwr ffyddlawn, Mr. Charles, yma i gyhoeddiad Sabboth. Wedi deall helbulon ei hoff sefydliad, dadleuai drosti gyda'i holl sel a'i ddoethineb, ac, yn erbyn teimlad y penaethiaid gwrthwynebol, mynodd le i'r ysgol am 9 o'r gloch yn y boreu fel un o foddion rheolaidd y dydd. sanctaidd." Un engraifft ydyw hon o lawer o rai cyffelyb a gyfarfyddodd yn ei hynt fel ysgolfeistr cylchynol, hyd y flwyddyn 1815, neu ddiweddarach. Ond, fel ei noddwr o'r Bala, ni ildiai ac ni ddigalonai efe nes gorchfygu.

Am y pum' mlynedd ar hugain cyntaf o'r ganrif bresenol, yr oedd dynion cymwys i arwain ac i gadw cyfrifon yn yr eglwysi yn hynod o brinion, ac felly gwnaed defnydd helaeth o wasanaeth Lewis William yn y gwahanol eglwysi. A byddai ef yn flaenor yn blaenori ymhob lle dros y tymor yr arosai gyda'r ysgol. O ganlyniad, cadwodd lawer o fân ddalenau yn cynwys penderfyniadau a chyfrifon, derbyniadau a thaliadau, yn dal cysylltiad â gwahanol ardaloedd. Gwnaeth lawer o wasanaeth hefyd fel llyfrwerthwr a dosbarthwr llyfrau. Efe oedd y llyfrwerthwr cyntaf o bwys yn y parthau hyn, ar raddfa fechan, mae'n wir; eto gwnaeth wasanaeth da fel hyn. am haner can' mlynedd.

Yn 1819, tra yn aros yn Nolgellau, priododd; a bu Ann Williams yn wraig gymwys iawn iddo,—gynil, ddiwyd, ddarbodus, ac yn gwbl o gyffelyb feddwl i'w phriod hynod. Yn 1824 symudodd i Lanfachreth, i fod yn arosol yno bellach. Aeth yno y tro hwn i gadw ty capel ar gais y brodyr. "Trwy fod rhai cyfeillion," ebe ef ei hun, "yn gofyn a ddeuwn, darfu i mi a'm hanwyl wraig gydsynio i fyned; ac i mi gadw ysgol ddyddiol, a chymeryd tâl gymaint a geid am ddysgu y plant, a byw ar hyny os gallem. Aethom yno y flwyddyn gyntaf ar yr amod i dalu zp. o rent am y ty, a chael y capel i gadw ysgol, a 4c. y pryd am fwyd pregethwyr. Gwnaethom gyfrif ymhen y flwyddyn, ac yr oedd hyn yn dyfod yn 2p. 8s., er nad oedd ond 4c. y pryd, oblegid yr oedd yr amser hwnw lawer o bregethwyr yn teithio. Darfu i ni lwfio yr wyth swllt, a dywedyd y cymerem ni y ty am fwyd y pregethwyr. Buom felly am dros 20 mlynedd." Ymhen ychydig, modd bynag, gwelodd y ddeuddyn diwyd nad allent ddim byw ar yr hyn a dderbynient fel hyn, a dechreuasant gadw siop.

Yn eu masnach gymharol gyfyng, buont ill dau yn onest, cyfiawn, ac unplyg. Treuliasant 38 mlynedd yn Llanfachreth, a'r Arglwydd yn bendithio eu trigle, a'r hyn oll yr ymgymerodd eu dwylaw i'w wneuthur.

Daeth Lewis William yn bregethwr heb yn wybod iddo ei hun. Can belled ag y gallai gofio, yn 1807 y dechreuodd bregethu, ac yn 1815 derbyniwyd ef gan Gyfarfod Misol Sir Feirionydd yn bregethwr rheolaidd. Cyfrifid ef o ran ei ddoniau pregethwrol y lleiaf o'r llwythau, a chyfrifai yntau ei hun felly. Os byddai eisieu gwybod maint cymhariaethol unrhyw un o'r gweision lleiaf, dywedid, "Y mae can lleied pregethwr a Lewis William, Llanfachreth." Eto i gyd, trwy ei zel a'i ffyddlondeb anghymarol, gwnaeth fel pregethwr fwy o ddaioni na llawer un mawr ei ddoniau, o herwydd gwresogrwydd ei ysbryd a'i awyddfryd angerddol i wasanaethu Crist a dynion. Bu bob amser yn gymeradwy gan y bobl. Y mae engreifftiau nid ychydig i'w cael lle y bu trwy bregethu yn foddion i enill eneidiau i Grist. Cofia rhai o frodyr hynaf Ffestiniog am dano yn pregethu am ddau a chwech yn Nhanygrisiau ar Sabboth heb fod ymhell o 1850. Yn y prydnawn, methai a chael gafael ar ddim i'w ddweyd wrth y gynulleidfa, ond ail-adroddai ei destyn drachefn a thrachefn, gan wenu yn siriol uwch ei ben, a dywedai wrth y bobl, "Pe gwelech chwi y pethau yr wyf fi yn eu gweled yn yr adnod hon, fe fyddech chwithau hefyd yn gwenu." Ond yn odfa yr hwyr cafodd. rwyddineb anarferol, ac yr oedd ei bregeth yn neillduol of rymus. Daeth nifer mawr i'r seiat mewn canlyniad i'r bregeth hono, a throes amryw o'r dychweledigion allan yn ddynion. defnyddiol gyda chrefydd.

Ceir ymysg ei ysgrifau gopïau o lythyrau a anfonid ganddo at y Cyfarfod Misol, yn ol fel byddai yr arfer y blynyddoedd. hyny, yn rhoddi hysbysrwydd i'r brodyr yn gyhoeddus am ei Sabbothau am y mis dilynol—pa rai fyddent yn llawn a pha rai fyddent yn wàg. Gwnelai pob pregethwr a berthynai i'r Cyfarfod Misol yr un fath. Er gweled dull y tadau o gario. yr achos ymlaen cymerer y ddwy engraifft ganlynol:— "Dolgellau, Mehefin 26, 1822.—At Gymedrolwr Cyfarfod Misol Maentwrog.—Hyn sydd yn ateb i'ch ymofyniad o hanes fy Sabbothau y mis nesaf:—Gorph. 7, Penrhyn—(seiat nos Sadwrn); 14, Heb addo; 21, Heb addo; 28, Dovey 9, Capel —2, Egryn Nos. Hyn oddiwrth eich ufudd was, LEWIS WILLIAM."

"Dolgellau, Gorphenaf 23, 1822.—At Gymedrolwr Cyfarfod Misol Sir Feirionydd, yn Harlech. Hyn sydd yn ateb i'ch ymofyniad o fy hanes mewn perthynas i Sabbothau y mis canlynol:—Awst 4, Neuadd—ddu 9 (seiat nos Sadwrn), Capel Gwyn 2, Maentwrog nos; 11, Cwrt 9, Fawnog 2, Corris 6; 18, Heb addo; 25, Towyn 9, Capel 2, Egryn nos. Hyn sydd oddiwrth eich ufudd was, LEWIS WILLIAM."

Dyma arfer y tadau. Beth feddylia y Cyfarfodydd Misol, yn yr oes hon o roddi a derbyn cyhoeddiadau am saith mlynedd ymlaen llaw, o ddull y tadau o'u trefnu am fis yn unig?

Dyma ran fawr o waith Cyfarfod Misol yn y blynyddau gynt. Cwt fel y mae i lawr yma ydyw Abergynolwyn yn awr. Fawnog ydyw Ystradgwyn. Neuadd—ddu sydd enw ar anedd-dy adnabyddus yn Mlaenau Ffestiniog. Yn y ty hwn y cynhelid moddion crefyddol yn yr oll o Flaenau Ffestiniog hyd y flwyddyn 1826. Capel Gwyn oedd enw y capel yn Llan Ffestiniog y pryd hwn. A dyma yr unig daith Sabboth oedd yn yr oll o blwyf Ffestiniog a phlwyf Maentwrog gyda'u gilydd.

Bu Lewis William farw Awst 14eg, 1862, yn 88 mlwydd oed. Gosodwyd cofgolofn ar ei fedd trwy gasgliadau cyffredinol gan Ysgolion Sabbothol Dosbarth Dolgellau, ac, fel y gweddai iddi fod, y hi yw y gofgolofn uchaf yn Mynwent Ymneillduol Llanfachreth. Dyma eiriau olaf yr hen bererin, a sibrydodd efe yn nghlust Mr. R. O. Rees, tra yr ymwelai âg ef ar foreu Sul, ar ei ffordd i'r Cyfarfod Ysgolion:—"Cofiwch fi yn serchog iawn at y brodyr i gyd. Dywedwch wrthyn nhw mai fy erfyniad olaf am byth atynt ydyw—am i bawb weithio eu goreu gyda yr Ysgol Sul—perwch i bawb feddwl yn llawer iawn gwell, o Grist fel talwr. Dyma fi—'rydw' i wedi bod yn ceisio gwneyd rhyw 'chydig iawn, fel y gallwn i, yn Ei wasanaeth am agos i 60 mlynedd—y talwr goreu 'rioed—arian parod bob amser a welais i. Byddai'n rhoi rhyw deimlad i mi yn y fan y mod i yn ei blesio fo. 'Dallsai o byth roi tâl gwell gen' i gael na hyny. Dyma 'ngwasanaeth i yma ar ben, 'does arno fo yr un ddimai o ddyled i mi. Beth bynag sy' geno i'w roi i mi eto, yn y byd mawr yr ydw i'n myn'd iddo—gras! gras! gras! gras!" Yma gorchfygwyd ei lais gwan gan ei deimladau. Ni ychwanegodd air mwy at ei genadwri i mi, ond clywid ef yn sibrwd ymlaen ynddo ei hun, "Gras! gras! gras!"

Y cyfryw ydoedd un o ysgolfeistriaid mwyaf diwyd a ffyddlonaf Mr. Charles, y Bala.






ARGRAFFWYD GAN E W. EVANS, SMITHFIELD LANE, DOLGELLAU.



Nodiadau[golygu]

  1. Dechreuwyd anfon y Penodau hyn ar Hen Ysgolfeistriaid Mr. Charles i'r Drysorfa yn y flwyddyn 1893, tra yr oedd cyfarfodydd newydd gael eu cynal trwy y wlad er cof am Drydydd Jiwbili y Cyfundeb.
  2. Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf II., tu dal 290.
  3. Yr oedd yr eira mor drwchus, ac yn parhau mor hir ar y ddaear yn ngauaf 1895, fel y bu cerbydau y rheilffordd dros rai dyddiau yn gladdedig 'ynddo, ac fe ddigwyddodd hyn yn agos i'r fan lle rhewodd llaw Mr. Charles yn 1799.
  4. Adroddir yr hanes hwn dipyn yn wahanol yn Straeon y Pentan, gan y nofelydd enwog, Daniel Owen. Er fod yr ystyr yr un yn y naill adroddiad a'r llall, mae y tebygolrwydd yn gryfach o blaid yr adroddiad a geir yma.

Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.