Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon (testun cyfansawdd)

gan William Hobley

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hanes Methodistiaeth Arfon-Caernarvon

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




HANES
METHODISTIAETH ARFON



DOSBARTH CAERNARVON



EGLWYSI'R DREF A'R CYLCH



(O'r dechre hyd ddiwedd y flwyddyn 1900)



GAN



W. HOBLEY



CYHOEDDEDIG GAN GYFARFOD MISOL ARFON


MCMXV

RHAGAIR.

YN y Rhagair i'r ddwy gyfrol flaenorol mi ofynnais am weled hen weithredoedd capeli a allai fod ym meddiant personau neilltuol, neu hen gofnodion mewn ysgrifen o weithrediadau y Cyfarfod Misol, neu ysgrifau yn dwyn perthynas â hanes yr eglwysi, neu daflenni'r Cyfarfod Misol am y blynyddoedd 1855—7—9—61—3—4—5—7—72. Ni chefais ddim neu nemor ddim yn ateb uniongyrchol i'r cais hwn. Mi ofynnaf eto am weled y taflenni a nodwyd, gan eu bod yn bwysig er cyflenwi a chywiro'r hanes mewn llaw.

Pan ymgymerais â'r gwaith hwn 12 mlynedd yn ol, fe ddodwyd yn fy llaw, drwy gyfrwng y Cyfarfod Misol, ysgrif o bob eglwys yn cynnwys yr hanes,—neu'n hytrach, y rhan amlaf, amlinelliad ysgafn o hono,—oddieithr o 16 o eglwysi oedd heb ddanfon dim. Bu'r Cyfarfod Misol 17 flynedd yn crynhoi y rhai'n ynghyd. Minnau a gesglais y gweddill fy hun, oddieithr un; ac nid wyf yn anobeithio am honno chwaith. Fe gymerth hynny o waith y 12 mlynedd agos ar eu hyd i minnau. Nid yw gwerth yr ysgrifau bob amser yn cyfateb i'r amser a gymerwyd i'w paratoi. Yr ystyriaeth o hynny a barodd i mi grynhoi ynghyd pob deunydd hanes y gallwn gael gafael arno. Fe welir y ffrwyth o hynny mewn rhan yn yr ysgrifau a nodir ar waelodion y dalennau cyntaf ynglyn â phob lle. Deallaf fod argraff ar led mai'r Cyfarfodydd Dosbarth a grynhodd y rhai'n ynghyd, sef y rhai ohonynt sydd mewn llawysgrifen a feddylir, mae'n debyg. Camgymeriad ydyw hynny. Pe buasai hynny yn gywir, mi allaf anturio dweyd y buasai'r gwaith hwn wedi ei gwbl orffen ers talm o amser bellach.

Fe ddengys y cyfeiriadau yn y paragraff blaenaf o'r ddau uchod, cystal a chyfeiriadau eraill drwy gorff y gwaith, nad yw ffynonellau'r hanes yn gyfyngedig i'r ysgrifau a nodir ar waelodion y dalennau cyntaf hynny, pa un ai mewn llawysgrifen ai mewn argraff y byddont.

Fe wneir cyfeiriad ar ddiwedd ambell adran at gylchgrawn neu bapur wythnosol neu lyfr, er cyfleustra ambell ddarlleydd achlysurol a fynnai chwilio ymhellach i'r hanes a geir yn y fan neilltuol honno. Pan wneir deunydd o'r ffynonellau hynny, oddieithr gydag amseriad neu bethau amgylchiadol, fe fynegir hynny'n bendant y rhan amlaf yn y fan a'r lle.

Nid yw ond gweddus i mi ddweyd, pan yn dyfynnu o lawysgrifau, er defnyddio dyfyn-nodau, fy mod yn ddieithriad braidd yn crynhoi ac yn cwtogi yr ymadrodd, er mwyn rhoi cymaint fyth a ellir o hanes o fewn cyn lleied fyth a ellir o le.

Fe drefnwyd, drwy benderfyniad y Cyfarfod Misol, fod yr hanes i ddibennu gyda diwedd y flwyddyn 1900. Ni cheir, gan hynny, fwy na chyfeiriad digwyddiadol, megys, at neb a fu farw yn ddiweddarach na hynny. Ni olrheinir hanes neb chwaith, ar ol symud ohono i Gyfarfod Misol arall, ymhellach. na'r symudiad hwnnw, oddieithr weithiau pan wedi symud i wlad arall, neu fod rhyw fymryn o chwanegiad achlysurol wedi ei wneud. Yn wir, o ddechreu'r gwaith, ychydig o hanes amgylchiadol neb personau a roir, gan y golygid hynny yn groes i amcan yr hanes: arhosir gan mwyaf gyda'r nodweddiad a natur dylanwad y personau hynny yn yr eglwysi.

W. HOBLEY.

Y CYNNWYS.

Y wyneblun: Evan Richardson.
Y RHAGAIR
Y CYNNWYS

Darluniau
Llun Dafydd Jones.
Llun Evan Jones.
Llun Robert Evans.
Llun taflen safonau Penrallt, 1813.
Llun taflen safonau Moriah, 1836.
Llun tocyn aelodaeth, 1818.
Llun tocyn aelodaeth, 1826.
Llun dalen o lyfr casglu plant Caeathro, 1826.

CAERNARVON A'R CYLCH:
Arweiniol
Moriah
Y Bontnewydd
Caeathro
Engedi
Siloh
Penygraig
Nazareth
Castle Square
Beulah

HANES METHODISTIAETH ARFON.


CAERNARVON A'R CYLCH.


ARWEINIOL.[1]

YSTYRRIR yr enw Caernarvon yn un o'r rhai tlysaf o ran sain ymhlith enwau lleoedd. Dodir y v Seisnig yn lle'r f Gymreig yn yr enw, fel y gwna'r beirdd yn eu henwau hwy, yn un peth am yr ystyrrir ef yn glysach felly. Rhed llinell yr enw ymlaen oddi wrth y brif lythyren yn wastad-lefn fel milwyr mewn rhenc. Ac nid llai tlws na'i henw yw gosodiad y dref ynghanol swyn a rhamantedd natur. Y mae wedi ei dodi wrth aber yr afon Saint, rhwng y Saint a'r ffrwd Cadnant neu afon Felin y dref, er fod y ffrwd honno bellach yn rhedeg o'r golwg wrth fyned drwy ganol y dref fel y mae'n bresennol. Y mae'r afon Fenai yn ei man lletaf gyferbyn a'r dref, ac o'r cei fe edrychir ar hyd yr afon hyd at y bau, a chyda'r môr agored ymlaen y mae'n olygfa hardd, amrywiol, yn enwedig at adeg machlud haul. Y mae llun y coed ar y naill ochr i'r aber, a Thwr Eryr ar yr ochr arall, fel y gwelir hwy yn y dwfr gwyrdd, llonydd, ynghyda llun y gwylanod yn ymdroelli oddiarnodd, ac fel yn camgymeryd llun y nef am y nef ei hun, yn un o'r pethau mwyaf cyfareddol mewn golygfa. Fe barodd edrych ar y lluniau hyn yn y dwfr, ar ddiwrnod tawel, braf, i'r Parch. Evan Jones sylwi wrth ei gydymaith ar y pryd ar gywreinrwydd anhraethol natur. Y mae cyfoeth dirfawr yn y golygfeydd o amgylch y dref, fel y gwelir hwy o'r cei, wrth yr aber, wrth lannau'r Fenai, o dyrau'r castell, o ben Twtil, o Goed Alun, o'r Caeau bach a Phenbrynmawr, a mannau eraill. Fe geir golwg ardderchog o ben Twtil ar fynyddoedd yr Eryri, yn un rhes hirfaith, gadwynog, amlweddog, wrth oleu dydd yn rhoi argraff o arucheledd maith, ac wrth oleu lloer yn yr hwyrnos. serenog, argraff o dawelwch aruthr; a phan y cymerir i fewn i'r olygfa y castell gerllaw, a chysgod Coed Alun ar y dwfr, a'r Fenai hefyd a'r bau, yna y mae'r argraff, ar ambell dymer ar y meddwl, yn cynghaneddu âg ambell awr euraidd neu awr arianaidd yn natur, yn un o gyfaredd annaearol. Heb drosglwyddo'r gyfaredd honno yn deg i'w eiriau, fe ganodd bachgen a anwyd yn y dref fel hyn am yr olygfa:

Mor fwyn, ym mro fy annedd,
Yw'r mis hwn a'i rymus hedd!
Cyrdyddog gorau diddan,
Ar faes a geir fis y gân.
Y ffrwd a sibrwd ei sain
Ar y cerryg gro cywrain;
Ymolwyno mawl ennyd,
Ar flaen nant, mae'r felin ŷd;[2]
Tyllog gaer yw'r castell cu,
Uwch bonedd, yn chwibanu;
I'w hynt swn gwynt sy'n gantor,
A seinio mwyn sy'n y môr.
O lawr y werdd ddôl a'r wig
Ac o'r meusydd ceir miwsig
A braint hardd yw bryniau têg
Twyn y werthyd, tan wartheg
Ond y mynydd sydd o'i sang
I'r wen awyr yn eang ..
Man hyn mae dernyn o dir
Cu'n ei fodd, lle canfyddir
Dyfnder ac uchder gwychdod.
Fwy na rhif o fewn y rhôd.
Mae'r olwg mor ehelaeth,
A'r pyncio'n ffrydio mor ffraeth;
Mae'r bêr rodfa mor brydferth,
A haul nawn yn ei lawn nerth;
Mae y llawn-fyd meillion-fawr
Dan wên fwyn a dyn yn fawr;
A phob rhan o'r cyfan cu,
Oll yn iach i'n llonychu;
Nis gall bardd, pe'n brifardd bro,
Hyd i'r lan eu darlunio:—
Maint llai y tynnai at ol
Nef seirian anfesurol.

Diau i'r castell adael ei argraff ar lawer meddwl, wrth

edrych arno yn ymestyn ac yn ymgau ac yn ymwau drwy ei gilydd, fel y canfyddir ef o wahanol gyfeiriadau, ac ar wahanol dymorau a phrydiau. Y mae arlunydd a fagwyd yn y dref er yn ieuanc, sef Mr. S. Maurice Jones, wedi cyfleu ei wahanol ymddanghosiadau drwy gyfrwng cryn liaws o wahanol arluniau. Y mae ei arlun ohono wrth oleu'r lloer, yn enwedig, yn cyfleu syniad newydd am ei fawreddusrwydd. Ymhlith eraill, fe dynnwyd arlun ohono gan Turner, mewn dull nodweddiadol, gan gyfleu syniad cwbl newydd i'r meddwl am dano. Bu'r Dr. Samuel Johnson yma yn 1774, a'i sylw ef arno ydoedd: "Ni feddyliais fod y fath adeiladau: aeth tuhwnt i'm. syniadau." (A Journey into North Wales, 1816, t. 106.) I'r meddwl paratoedig mae'r argraff yn un anarferol. Bu Fferyllfardd yn y dref yn brentis, a dyma'r argraff arno ef:

Islaw braich cesail y bryn
Hen gastell llwydfrig estyn
Ei fysedd didwrf oesawl,
A'i fri gynt rhyngwyf a'r gwawl,
Mewn llais taw, ac etaw c'oedd,
Yn siarad hen amseroedd.

A dyma enghraifft fechan arall yn dangos y modd y cysyllta'r castell yr oesau wrth yr olygfa:

Ac ar un twr, cywraint yw
Y rhuddiog Eryr heddyw.
Eithaf rhwym yw nyth y frân,
Ar dyrau lle bu'r darian.

Ac am y môr, hefyd, a'r llongau hwyliau, fel y gwelid hwy'n amlach gynt, a'r awelon yn eu bolio allan, y dywed yr un bachgen ag y cyfeiriwyd ato o'r blaen:

Mwyned i'm, yn ei dymor,
Is gwawl maith, yw sigl y môr
Heinif lengoedd nawf longau,
A dawns sydd yn cydnesau;
A llengoedd a ollyngir,
I'w llon daith allan o dir.
Banerog a hwyliog ynt
Mawreddog yw'r môr iddynt.

Del iawn yw'r cychod pysgota dan eu hwyliau, oedd amlach hwythau gynt, debygir; a thlws dros ben yr yachts, sydd hwythau'n anamlach; a mawreddus yr olwg arnynt yr hen longau hwyliau mawrion gynt, ac yn deffro meddyliau anturus ym mynwesau lliaws o hogiau'r dref yn yr olwg arnynt yn wynebu'r mór eang â'u nod ar y porthladdoedd prydferth yng ngwledydd yr haf. Fe deimlid serchowgrwydd neilltuol gynt. tuag at y capteniaid llongau, ac enynnid dyddordeb neilltuol ynddynt, yn enwedig yn y rhai ohonynt a gymerai ran yn y moddion cyhoeddus. Yr oeddynt yn ddynion wedi wynebu peryglon, wedi gweled rhyfeddodau, wedi sefyll yn wyneb temtasiynau. Fe geir engraifft o'r hoffter o'r capten llong yn y modd mae Mr. David Jones yn enwi y naill gapten ar ol y llall o blith arwyr ei ieuenctid yn eglwys Engedi. Y mae lleihad. y llongau wedi lleihau y teimlad. Yr oedd brodor o'r dref, hyd yn ddiweddar, yn gapten un o'r llongau mwyaf ar foroedd y byd heddyw. Onid gresyn colli'r "breath of ozone" o'r cyfarfod gweddi a'r seiat?

Golygfa effrous ydyw'r môr wedi bod i hogiau'r dref ar adeg pen llanw, pan y cyfyd ei donnau'n uchel ac y teifl y diferion trochionnog dros y cei, ac y llunia'r haul yntau am ambell darawiad amrant gwynfydig fwa ysblennydd drostynt. Yn gwta y cyfleir yr argraff o ddirgelwch yma:

Ac iachus fawreddus rodd,
Yw'r tonnawg fôr o tanodd :
Er mai blwng a ffrom yw bloedd
Twrf ei gynnwrf i gannoedd,
Poerwr hallt yn puro'r hin,
Yw y gorwyllt fôr gerwin.

Nid heb eu dylanwad ychwaith y bu ehediaid yr awyr, brain Coed Alun, y Penrhos, a'r coed gynt gyferbyn a'r gwesty brenhinol; a'r colomennod dieithr, clysion, gyda'u grŵn isel yn y colomendy gynt o dan y coed hynny; a'r paunod gynt a rodiennai o amgylch y gwesty, ag y byddai eu hysgrech hirllais yn glywadwy ar brydiau hyd at Ben deitsh ac ymhellach; a chawciod y castell, onid oeddynt amlach gynt? ac ystlum y nôs; y gwylanod, hefyd, a'r bili dowcan ar y bwi gyda'i adenydd yn agored neu ynte yn nofio ar wyneb y dwfr, yna'n plymio'r dyfnder, yn codi'r leden neu'r yslywen o'r gwaelod, yn eu cnoi'n hamddenol, gan eu tynnu i fewn i'w gylfin. O'r rhain i gyd y paunod yn unig a gipiodd crebwyll Robyn Ddu ymaith yn ei Olygfa, a fwriadai yn ddrych o ryfeddod o'r dref a'i hamgylchoedd. Gwir fod yr adar dofion ganddo a'r adar perorus: ceir hwy ym mhob ardal: ei gylch ef oedd y swyn cartrefol ac nid y gwylltineb syn. Rhoes awgrym i feirdd ieuainc y dref: ac yr ydym yn aros am y tafod a faidd fynegi'r dirgelwch, agored i ni i gyd. Hyd hynny, dyma'r peunod a'u gwers:

Yntau'r balch, y Paun, trwy bwys,
I'w wisg emawg, sy gymwys;
Is crochlais dai'r ysgrechllyd
Hwn, yn gorff Hunan i gyd;
Lliwiog, llygadog ydynt
Ei blyf gwib i hylif gwynt ;
Ei donllyd gynffon danlliw,
A'i wydrog wedd sy dra gwiw;
Fel fy rhes aflafar hon
Y rhodianna rhai dynion.

Y mae gerbron ddalen o ysgrifen, gwaith gwr a fagwyd yn y dref, yn rhyw goffa o ddylanwad y diwygiad diweddaf, ac a ddengys nad cwbl fud yw gwylanod y môr wedi bod yn y cylch yma. Y mae'r fyfyrdraith yn un hynod braidd a go faith, ond meiddir ei dodi ger gwydd y darllenydd: "Aethum am dro brynhawn echdoe dros yr aber a'm' meddyliau am addoliad,' fel mynyddoedd Islwyn, canys nid hawdd peidio â bod felly yn hollol yr amseroedd yma. Mi gefais fy hun wedi myned. braidd ymhellach na'm bwriad, a dechreuwn glywed swn dieithrol yn dygyfor yn y pellter. Mor o swn isel,' ebwn ni wrthyf fy hun—nid angylaidd fôr o addoliadol swn,' megys y mae'r ymadrodd gan Islwyn eto; ond môr o isel swn yn graddol godi'n uwch uwch fel y neswn ato, sef swn gwylanod y môr, fel y deallais yn y man. Yr oedd yn gymysgfa ryfedd,—gwich a gwawch, ymdderu ac ymddygwd, clebar a chlochdar, a seiniau nad oes dim geiriau i'w cyfleu. Yr oeddwn yn eu golwg yn union: yr oeddynt yn llond y culfor y tu yma i'r Belan sy'n mynd i gyfeiriad Dinas Dinlle, oddieithr yn y ddau ben, ac am beth ffordd oddiwrth y glanau. Yr oedd y llanw fwy na hanner i fewn. Rhyfeddwn yn yr olwg ar y fath nifer. Gwylanod oeddynt yn bennaf, ond gyda'r adar môr eraill a geir y ffordd yma yn eu plith. Rhennais hwy yn fy meddwl yn wyth ran, a phob rhan yn wyth arall, a phob un o'r rheiny yn wyth arall drachefn; a chefais fod oddeutu 150 yn un o'r rhannau hynny, heb eu bod yn amlach yno nag mewn lleoedd eraill, a chasglwn fod yno dros 70,000 ohonynt. Nifer aruthrol!—a bum yno yn hir yn ameu golwg fy llygaid fy hun. Ond hynotach na'r nifer oedd y swn, a'r ysbrydiaeth hefyd, i'w alw felly, a ymddanghosai yn eu rheoli. Yr oedd rhywbeth neu gilydd wedi digwydd!—yr oeddynt i gyd yn tuchan y naill wrth y llall. Yma ac acw dros y maes gwyn i gyd, gwelid rhyw un neu gilydd yn codi o'r dwfr, yn ysgwyd ei haden yn gyffrous, yna yn taflu ei hunan i'r dwfr gyda rhuthr—nid yn disgyn yn esmwyth arno fel pluen o un o'i hesgyll hi ei hunan; ac ar yr un pryd yn clochdar yn y modd mwyaf cyffrous,—gbo, gbo, gbo, gyda'r b yn o ysgafn, a swn tebyg i ddwfr yn dod allan o wddf potel, ond gyda naws ynddo o anferth duchan. Nid oeddwn yn gwbl sicr am y seiniau chwaith gan faint y dadwrdd; ar draws yr gbo, gbo, gbo, fe ddeuai gwichiadau a gwawchiadau anhraethol, anherfynol. Tarawodd i'm meddwl gydag argyhoeddiad mai'r achos ydoedd canu a gorfoleddu y cynulliadau ym Môn yn yr awyr agored yn ystod y diwygiad, yr olaf ohonynt drosodd ers ychydig ddyddiau bellach. Nid oedd dim o fath hynny wedi digwydd yn hanes y byd o'r blaen. yn y parthau yma: cynulliadau mor fawrion, a chymaint o ganu a gwaeddiadau cyffrous yn parhau gyhyd o amser. Yr oedd canu'r diwygiad wrth godi i'r awyr wedi cyffroi ysbrydion yr awyr; yr oedd y cynnwrf hwn oherwydd aflonyddu ar yr adar yn eu tiriogaeth eu hunain. Naill ai yr oeddynt yn tuchan oherwydd aflonyddu arnynt, ac yn ameu bod amcan drwg mewn bwriad tuag atynt; neu ynte yr oeddynt yn dynwared y cynhyrfiadau yn eu ffordd eu hunain. Methwn yn lân a phenderfynu prun. Ond mai'r naill neu'r llall ydoedd, neu ynteu'r naill ynghyda'r llall, nid oedd ynof unrhyw amheuaeth. Anrhaethol oedd yr argraff o ddieithrwch a dirgelwch ac ofnadwyaeth ar fy meddwl! Mi hoffaswn fod wedi aros yno yn hir, cyhyd a hwythau, ond nis gallaswn. Yr ydoedd hanner awr yn gymaint a fedrwn ddal, ac aethum ymaith â'm natur yn dirgrynu gan y dylanwad, oedd mor ddieithr a llethol i mi. Gorfoledd y diwygiad: ysgrechiadau ac ysbonciadau y gwylanod! Pa fodd i'w cynghaneddu? Credu yr wyf mai ochenaid y greadigaeth am ymwared oedd yn glywadwy yma. O'r naill du nid oedd yma. ddim rhegfeydd,—mor bell ag y gallaswn wneud allan,—dim rhwygo'i gilydd; o'r tu arall dim O diolch!" dim 'Gogoniant!' dim Haleliwia!Ar y ffordd i'w rhyddid y maent,' ebwn ni wrthyf fy hun: Canys ni a wyddom fod yr holl greadigaeth yn cydocheneidio ac mewn cyd—wewyr esgor hyd y pryd hwn. Gbo, gbo, gbo, gwich, gwawch, a seiniau nad oes dim cyflead iddynt yn llythrennau'r wyddor, er fod y Gymraeg yn well na'r Saesneg yn hynny. Wrth wrando ar y swn yn unig heb sylwi ar yr ystyr, nid cwbl anhebyg ydoedd y cyfarfod hwnnw yn y Pavilion. Ond ar y gwaelod hwnnw o ochneidiau ac aflafareiddiwch yn y Pavilion, fe ymddyrchafai ryw adeilwaith o ddyhead a mawl ysbrydol. O diolch!—Achub!— Trugarha!—Bendigedig!—Awr o dy gymdeithas felys!—Gogoniant!—Maddeu i mi am dreulio fy amser yn y lleoedd gwaethaf yn Nerpwl—Diolch!—Bendigedig !—Diolch i ti am fy mod yn gallu credu fod fy mam yn fy ngweld rwan allan o'r nefoedd! Gogoniant !—Haleliwia!' Ar glawr y gwylanod nid oedd dim ond och a thuchan: ar glawr pobl y Pavilion yr oedd dyhead a phrofiad yn hedeg ymaith ar aden eu hochenaid. Nid yw ochenaid y greadigaeth ond ei haidd am ddatguddiad meibion Duw. Etyb y greadigaeth i'r eglwys: fe'u gogoneddir ynghyd. Fel yr awn ymaith mi sylwn ar y gwylanod yn parhaus ddod allan o'r anweledig, yn ysmotiau duon yn cynyddu fwyfwy, o gyfeiriad Porthaethwy a Chaergybi a'r Eifl a Phorthdinllaen, yn ymestyn ac yn ymgyrraedd am fod yn y gorfoledd mawr, neu wrth pa enw bynnag arall y gelwid ef. Rhwydd hynt iddynt i'w pennod!" Ar y darlleniad cyntaf ar y truth go ryfedd yma, meddyliodd golygydd hyn o waith am eiriau Newman, nad ydym ni ddim yn gwybod mewn gwirionedd pa beth yw'r creaduriaid o'n hamgylch. Ac ar unrhyw olwg, fe ddengys y dernyn uchod nad yw'r creaduriaid ddim. yn gwbl heb eu neges atom, a honno'n neges bwysicach, feallai, na feddyliodd ambell un go ddiawen. Ac os mynnir myned i fewn i holl ddirgelwch y dylanwadau ar feddyliau hogiau'r dref, dealler fod a fynno'r gwylanod hefyd rywbeth â hanes yr achos; a chymerer hanes y gwylanod hyn fel rhyw enghraifft o'r hyn sydd i'w draethu, er ar ddulliau llawn amrywiaeth, am y cylch o ryfeddod am y dref—y môr o wydr wedi ei gymysgu â thân.

O ba le bynnag y tardd y dylanwad hwnnw, y mae'n ddiau fod rhywbeth priodol iddi ei hun yn nylanwad y dref ar ei bechgyn. Craffer ar yr enw cynhesol a roir gan fechgyn y dref ar ei gilydd-" hogiau'r dref." Tebyg fod y dylanwad yn un cymhleth, yn cynnwys y golygfeydd, yr hynafiaethau, a'r dylanwadau cymdeithasol. Dyfynnir yn Old Karnarvon (t. 137), linellau o eiddo brodor o'r gymdogaeth, sef caplan i William Thomas, yn amser y Frenines Elizabeth, sef sylfaenydd teulu Coed Alun:

Dyn wy'n byw, drwy nerth y Tad, ymhell o'r wlad yn estron,
Wyf ofalus (a phaham?) o hiraeth am Gaernarvon. . .
Hoff yw gennyf enwi mro, caiff filoedd o anerchion :
Anwyl ydoedd unrhyw ddydd, ac eto fydd Caernarvon. . .
O Landwrog (mawr yw mriw!) a throedle gwiw Glynllifon,
Yno'n fynych mynnwn fod,-tydi piau clod Caernarvon. . .
Syr Sion Gruffydd, ymhob sir, y'm gelwir, heb orchestion.
Ewch yn iach dan un i gyd, nes del fy ngwynfyd weithion,
O drugaredd y Mab rhad, a gweled gwlad Caernarvon.
Yn iach eilwaith, un a dau, gan wylo dagrau gloewon;
Yn iach ganwaith, fawr a bach, ac eto yn iach, Gaernarvon!

Yr oedd yr hen dref ar goryn bryn, rhyw chwarter milltir o ganol y dref bresennol ar ffordd Beddgelert. Dyma ydoedd Segontium y Rhufeiniaid a Chaer Saint yr hen Gymry. Y mae muriau yr hen dref yn aros o hyd mewn rhan. Yn ddiwedd- arach, gerllaw eglwys Llanbeblig, y codwyd Cae'r Sallwg, Cododd Hugh Fleddyn, iarll Caer, gaer ar safle'r dref bre- sennol yn 1098. yn 1098. Ceir yr enw Caernarvon gan Gerallt Gymro yn 1188. Tybir gan rai i Iorwerth II. gael ei eni yn y castell yn 1284; tybir gan eraill mai prin y gallasai muriau'r castell fod wedi eu hadeiladu erbyn hynny.

Y mae'r dref o fewn y muriau, sef fel yr ydoedd ar y cyntaf, ar ffurf betryal, y castell i'r de, a chaerau gyda thyrau arnynt ar yr ochrau eraill. Erys y muriau, oddieithr lle torrwyd hwy i lawr er mwyn cyfleustra masnach, sef wrth Pen deitsh a'r Guild Hall. Yr oedd i'r dref dair heol wedi eu croesi gan dair eraill. Y mae un ohonynt bellach wedi ei chau mewn rhan, sef yr un a red gyferbyn ag Eglwys Fair. Rhed y brif heol rhwng y Porth mawr a Phorth yr aur; ac ar ganol honno, lle cyferfydd Heol y castell â Heol y farchnad, yr oedd y Groes gynt, megys yn yr hen drefi i gyd. Tynnwyd y Groes i lawr yn y rhan fwyaf o lawer o leoedd ar ol y Diwygiad Protestanaidd. Gresyn, er hynny, oedd anharddu y cynllun cyntefig hwn. Sylwir gan Owen Williams yn ei Eirlyfr, fod tref fechan hardd, drionglog o ran ffurf, wedi ei hadeiladu yn ystod 1815-35, yn ymestyn oddiwrth y tai a wyneba'r maes yn ei ran isaf hyd y Royal Hotel.

Bu yma amryw hen blasau, a rhai ar gynllun gwych, megys y Plas Mawr, a dynnwyd i lawr oddeutu 85 mlynedd yn ol. Dywedai H. Longueville Jones, beirniad teilwng ar y pwnc, gan ysgrifennu yn 1829, ei fod o ran oedran a chynllun yn cyfateb i'r palas clodfawr yng Nghonwy. Y tŷ hwn a roes ei enw i Heol y Palas, a safai lle mae'r farchnad yn awr. Ni chynwysai'r heol yn 1788 ond 16 o dai, a £50 15s. oedd cyfanswm y rhent. Rhent y Red Lion y pryd hwnnw ydoedd £4 10s. Codwyd tri o dai ar ei safle, ac yr oedd y rhenti arnynt ychydig dros 30 mlynedd yn ol yn £130. Erys rhai o'r hen dai hyn o hyd, ond gyda chyfnewidiadau ynddynt, megys Porth yr aur, preswylfod Mr. R. D. Williams; Plas Bowman, offis y llys sirol; Plas Llanwnda yn Heol y castell, preswylfod gaeaf R. Garnons, y sonir am dano ym Methodistiaeth Cymru; Plas Spicer yn Heol yr eglwys, lle saif rhif 4 yn awr; Plas Pilston, sef y Red Lion wedi hynny; Plas Isa, yn ymyl y Dollfa. Hendref y gwr boneddig ydoedd y rhai'n ar un adeg, pryd yr oedd yr hafod yn y wlad. Pe buasai nifer o'r hen dai hyn wedi eu harbed, yn eu ffurf gyntefig, hwy a arosasent yn wers i'r llygaid o wir brydferthwch mewn adeiladwaith.

Ynghanol y ddeunawfed ganrif yr oedd yn dymor o galedi mawr yn sir Gaernarvon, a bu pobl o'r wlad yn dod i'r dref yn llu gyda'i gilydd gyda'r amcan o gymeryd meddiant ar yr yd oedd wedi ei ystorio yn y dref. Fe welir yn Llythyrau y Morrisiaid ddau gyfeiriad at y cynhyrfiadau hyn. Dyma un ohonynt: "Chwefror 13, 1758: Bu ryfel yr wythnos ddiweddaf yng Nghaernarvon. Y mob a ddaethant o'r chwarelydd a'r mwngloddiau, ac a aethant i'r gaer, ac a dorasent ystorsau ac a werthasant yd, menyn a chaws am iselbris, yno meddwi a chware mas y riwl. Codi a orug y Caeryddion yn eu herbyn mewn arfeu, lladd un, anafu eraill, carcharu rhyw fagad, a gyrru'r lleill ar ffo. Rhaid i'r Ffrench ddyfod i'n hymweled i Frydain, i edrych a wna hynny ein cytuno â'n gilydd; ni bu erioed y fath wallgofiad ar bobloedd." Yn llythyr William at Richard Morris y ceir hyn. Ceir hanes manwl yn Old Karnarvon am "ryfel" gyffelyb yn Ebrill, 1752.

Dengys yr hanes uchod gyflwr y bobl yn y cyfnod hwnnw, a'u golygu ar wahan i gysylltiadau crefyddol. Gellir cael golwg arnynt yn yr un cyfnod mewn cysylltiad mwy uniongyrchol â chrefydd drwy gyfrwng llythyr a ysgrifennwyd gan William Edwards, ysgolfeistr, at ysgrifennydd ymddiriedolwyr ysgol Dr. Daniel Williams yn y dref. Rhoir dyfyniadau o'r llythyr. "Ionawr 3, 1744. Yr wyf y dydd heddyw i ymddangos yn llys yr esgob ym Mangor. Mr. William Williams, vicar Llanbeblig a Chaernarvon, sydd wedi fy rhoddi ynddo o achos fy ysgol. . . Dywedodd, chwi a ddygasoch ddieithriaid i'r dref.... Y dieithriaid hyn oedd ddau weinidog ymneilltuol o sir Drefaldwyn, sef Mr. Lewis Rees Llanbrynmair a Mr. Jenkin Jenkins Llanfyllin, yn myned i sir Fon i bregethu. . . Cymerodd rhai gelynion sylw o hyn.... Aethant a dywedasant y chwedl i'r vicar, a chododd yntau dorf afreolus i fyned i chwilio am y pregethu, a gwnaethant ddigon o ddrwg mewn amryw fannau, megys torri tai a churo pobl. . . . Mae y dyn yma yn amcanu fy ninistr. Mae ef a'r canghellydd newydd yn meddwl diwreiddio crefydd allan o'r wlad. Ysgymunodd y canghellydd ddyn ieuanc defosiynol a duwiol, aelod o'n cynulleidfa ni, am ddysgu pobl i ddarllen Cymraeg. Mae y vicar yma a'r canghellydd newydd a holl bersoniaid a churadiaid y wlad, yn pregethu erledigaeth hyd y gallant, ac yn gosod pobl grefyddol allan yn y ffurf dduaf a gwrthunaf sydd yn bosibl iddynt, fel y casaer ac yr erlidier hwy. Maent wedi rhoddi yr holl wlad ar dân mewn poethder berwedig, fel nad oes dim llonydd i'w gael, ond dirmyg a chenfigen a malais a difenwad. Curir a baeddir pobl ar y ffordd fawr. Mae arnaf arswyd am fy mywyd, os af i rywle allan o'r dref. Y Methodistiaid y rhai a ddaethant i rai parthau o'r wlad sydd wedi achosi hyn oll; oblegid y mae y rhai a ddeffroir ganddynt yn syrthio ymaith ac yn ymuno â ni, ac y mae hynny wedi gwneud y clerigwyr yn wallgof yn eu herbyn hwy a ninnau. Yr ydym ni a hwythau yn cael ein cyfrif yr un peth. Mae y clerigwyr wedi gyrru y wlad yn wallgof a gwaith gwallgof a wneir ganddynt. Beth bynnag a wnant hwy i ni, ni chawn na chyfraith na chyfiawnder gwnawn a fynnom; ac y mae y werin afreolus, wedi deall hynny, yn ymhyfhau yn fwy i wneuthur unrhyw ddrwg a fynnant." (Hanes Eglwysi Anibynnol iii. 235.)

Clywodd Mr. R. R. Jones (Penygroes) Martha Gruffydd, nain yr hynafgwr Owen Prichard, a fu yntau farw rai blynyddoedd yn ol, yn adrodd yr hyn a gofid ganddi am arfer bechgyn ieuainc ar y Suliau. Elent yn lled lwyr ynghylch eglwys Llanwnda, a byddai rhai yn myned i'r gwasanaeth. Honno ydoedd yr eglwys agosaf i drigolion y Bont. Ar ddiwedd y gwasanaeth rhuthrai y llanciau allan gan daflu'r bel o'u blaen, ac yna byddai'r lleill o'r tuallan yn ymuno yn y chware. Ar Suliau braf cadwai'r person gyfrif y pleidiau.

Yr oedd y Bont ei hun hyd ymhell i mewn i'r ganrif ddiweddar yn gyrchfan nodedig i ymladdwyr y cymdogaethau. Sonir am un gwr a darawodd ei gyd-ymladdwr yn farw ag un ergyd. Yr oedd ffair llogi'r Bont ar un adeg yn nodedig am ei gwylltineb a'i chynnwrf. Ac hyd yn ddiweddar yr oedd y lle nid yn anhynod am ei poachers. Yr oedd amryw o'r gwyr hyn yn. ddynion o alluoedd naturiol go gryfion. "Mi fuasai'n dda. gennyf," ebe un o honynt rai blynyddoedd yn ol, "pe na thynasid fi erioed o groth gwraig." Aeth un o'r nifer, na enwir mono yma, dan argyhoeddiad, ac aeth drwy gyfnewidiad buchedd mor llwyr, fel na amheuid ei gywirdeb fyth gan neb o'i hen gymdeithion. "Dyna ddyn a gafodd dro," ebynt hwy. Darfu i un o frodorion y dref, a anwyd ym mlynyddoedd olaf y ddeunawfed ganrif, heb adael i'w enw ymddangos, ysgrifennu ei atgofion am y dref fel yr ydoedd yn nechre y bedwaredd ganrif ar-bymtheg. Defnyddiwyd yr atgofion hynny yn helaeth gan awdur Old Karnarvon, a chyhoeddwyd hwy drachefn yn gyflawn yn y Traethodydd am 1905. Rhoir dyfyniadau yma: "Cyfanswm y dref y pryd hynny ydoedd, gan mwyaf, tufewn i'r caerau, ac ychydig y tuallan iddynt. Yr oedd llawer o'r tai o wneuthuriad oesau blaenorol, a'u defnyddiau o goed derw plethedig â gwiail, wedi eu gorchuddio â chalch, ac yna dwbio graean arno. Yr oedd y llofftydd yn taflu allan dros. y muriau 3 neu 4 troedfedd. Yr oedd yr olwg arnynt, fel yr hen Red Lion gynt, yn barod i syrthio. . . . Yr oedd y ffenestri yn fychain, eraill heb wydrau arnynt o gwbl, ond bwrw y shutters i lawr ar ddau fraich o brennau, yn taflu allan o waelod y ffenestr. Ar y rhai hyn y byddai y siopwr yn gosod allan ei nwyddau. . . Yr oedd adeilad enwog gynt ar ben Heol y farchnad. lle y mae marchnad y cigyddion yn bresennol. Bu hwn yn adeilad ardderchog ryw oes: yr oedd wedi ei adeiladu o gerrig nadd; ond nid oedd na thô na drws na ffenestr arno; ond yr oedd ffenestri y seleri yn agored, drwy ba rai yr arllwysid ysgubion yr heolydd, a phob budreddi o'r tai. Yr oedd yn nodedig o ffiaidd i'r tramwywyr... Cynhelid y farchnad ar ganol y brif heol. O waelod yr heol i'r Porth mawr, byddai byrddau ar ganol yr heol at osod yr amrywiol nwyddau, hen wragedd Niwbwrch gyda'u basgedi cocos, y cewyll, yr afalau, &c., y cryddion â'u hesgidiau, y tatws a'r maip, &c. Byddai y menyn mewn basgedi ar risiau y siopau, eraill yn gwerthu ieir mewn basgedi, eraill wyau, a gwyddau yn eu hamser, &c. Ambell un gyda chwart neu fwy o yd, rhai flawd ceirch, &c. Ond byddai y farchnad yd yn Heol y farch- nad, a'r cigyddion ar hyd ochrau y Stryd fawr. . . . Byddai ambell un yma ac acw yn canu a gwerthu cerddi, a Pegi y Drum Major, fel y gelwid hi, gyda throell loteri, yn llefain â'i holl nerth, Hwi, lancia bach, dyma hi, troell y nain yn nyddu, dau i lawr dau yn eisieu, preis neu bres bob tro.' . . . Ceid gweled merched a phlant yn hel grug ar y mynyddoedd, ac yn dyfod yn fore i'r dref i'w werthu. Gwelid plant bychain o 6. i 7 mlwydd oed, yn dyfod yn goesnoeth droednoeth, â sypyn bychan fel nyth bran ar eu pennau i'w werthu. Ar ol cerdded dair milltir neu ragor fe'u gwerthent am geiniog neu ddwy. Nid oedd ysgolion y pryd hynny i roddi plant ynddynt. . . . Nid oedd y tý a elwid Pedwar a chwech ond braidd yn sefyll gan mor waeled ydoedd. Yr oedd y lle o'i amgylch yn ffiaidd. iawn oherwydd bod yno amryw domenydd a chytiau moch a budreddi eraill. . . . Daeth amser caled ar grefft wyr, dim gwaith braidd i neb; a bu mawr eisieu ymborth ar lawer. Pen- derfynwyd gan y Corporation roddi gwaith i'r neb allai weithio, a chariwyd y ddau faes drosodd i'r môr. Ac felly dechreuwyd helaethu y cei, a alwyd cei newydd. . . . Ar glwt y mawn [Turf Square] byddai hen wragedd o'r mynyddoedd yn gwerthu grug a mawn bob dydd. Byddai ganddynt ferlod yn cario'r mawn. Byddent yn cynnal eu marchnad yn y bore. . . . Nid oedd llythyr-gludydd amgen na bachgennyn yn myned ar ferlen am Fangor bob bore, ac yn dychwelyd at 7 yr hwyr. Nid oedd un math o gerbyd i gludo teithwyr yma a thraw; ond byddai hen wr o Danybont yn hwylio mewn cwch ddwywaith yn yr wythnos am y Borth, a thrwyn y Garth, a Beaumaris. Byddai yn angenrheidiol aros am dywydd addas cyn anturio i'r fordaith. Y tâl i Foel y don, 4c.; i'r Garth, 8g.; i Biwmaris, 10c. Byddai llythyr—gludydd sir Feirionydd yn myned fore ddydd Llun, ac yn dychwelyd nos Fawrth; ac eilwaith elai ddydd Gwener a dychwelai yn ol nos Sadwrn. . . Yr oedd yma ychydig o longau bychain, rhyw 5 neu 6 o lympiau crothog, diolwg; ni wnaent ond tair neu bedair siwrnai i Nerpwl ac yn ol mewn blwyddyn. . . . Hanner coron oedd y tâl am fyned i Nerpwl neu Gaer. Byddai weithiau brinder nwyddau masnachol drwy'r holl dref—y glo wedi darfod gan bawb drwy'r lle, dim i'w gael am arian. Dro arall byddai'r halen yn brin: yr wyf yn meddwl ei fod yn 6ch. y pwys. Yr oedd mewn rhyw ddirgel fan o'r dref nyth o smugglers a chanddynt halen, ond ni chaffai pawb ef ganddynt. Ar ol y cwbl, halen bras, addas i halltu penwaig oedd hwnnw; ond yr oedd yn dda ei gael, gan nad oedd ei well. Gwerthent ef am 4c y pwys. Byddai'r te, hefyd, yn brin yn lled fynych; ond ychydig iawn oedd yn gallu fforddio prynnu hwn, oherwydd fod y math gwaelaf ohono yn 8c. neu ragor yr owns, ac anfynych y cyfarfyddid a thecell mewn ty. Costiai pwys o siwgr o 10c. i 14c. . . . Yr oedd un o longau y llywodraeth yn hwylio rhwng yr Iwerddon a Chaergybi, a cherbyd 4 ceffyl yn cludo'r teithwyr ymlaen oddiyno at Borthaethwy, a'r cychod yn eu cario drosodd, ac yna aent ymlaen mewn cerbyd arall; fel hyn byddent ddiwrnodiau ar eu taith cyn cyrraedd Llundain." Fe gofir am y tymor a ddygir i sylw, mai cyfnod dechreuad cynnydd Methodistiaeth yn y dref ydoedd; ac os nad all y darllenydd lunio iddo'i hun ddrych o gyflwr allanol y bobl oddiwrth yr atgofion hyn, yna nid bai "un o fechgyn y ddeunawfed ganrif," fel y geilw ei hun, a fydd hynny.

Am yr un cyfnod y sonia Anthropos yn ei ysgrif, ar ddull dychmygol, am Gaernarvon y ddeunawfed ganrif. Cyfeirir ganddo at deithlyfr Hutton yn cofnodi taith yn 1799, a gwna i Hutton lefaru yn y modd yma: "Gresyn fod yr hen balasau wedi eu gado heb drigiannydd. Bum drwy amryw ohonynt, ac yr oeddwn yn edmygu'r adeiladwaith cywrain a chelfydd, y muriau llydan, clyd, a'r derw du Cymreig. Nis gellir sangu'r neuaddau eang heb deimlo rhyw ias od, gyfriniol, yn ymdaenu drosom—atgof am ogoniant a fu—pan oedd y lle yn adsain gan lawenydd a chân. Dyma restr ohonynt: Plas Pilston, Plas mawr, Plas Spicer, Glanrafon, Quirt, Plas Llanwnda, Plas Bowman, Plas isa, Porth yr aur. Dyna i chwi enw tlws! Beth roddodd fod i'r enw, ys gwn i?" Edrydd Anthropos allan o Hutton fod nifer y tai o fewn y muriau yn 92 ac o'r tuallan yn 300. Gwelir fod yma gywiriad pwysig ar atgof yr hen "fachgen," pan y dywed fod y dref yn bennaf o'r tufewn i'r caerau, ac mai ychydig oedd y tuallan. El Anthropos ymlaen: Ymysg y rhai oedd wedi ymgynnull i gapel Penrallt (rhagredegydd Moriah), ar nos Sul, Medi 8, 1799, yr oedd Mr. William Hutton, cynfaer Birmingham. Dywed fod y lle yn orlawn. Ychydig oedd nifer yr eisteddleoedd, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gynulleidfa yn sefyll drwy ystod y gwasanaeth. Nid yw'n dweyd enw y pregethwr, os gwyddai; ond y mae'n sylwi fod ganddo lais treiddiol, a'i fod ar brydiau yn gweiddi yn groch. Pwy ydoedd, tybed? . . . Fodd bynnag am hynny, dywed Mr. Hutton fod y lle wedi myned yn ferw drwyddo: y bobl yn llamu ac yn gorfoleddu am oriau; ac yntau yn eu canol wedi ei syfrdanu yn gyfangwbl. Ond yr oedd yr elfen feirniadol ar waith yn ei feddwl. Gofynnai iddo'i hun—Beth ydyw hanes y bobl yma bob dydd? A ydynt yn byw crefydd yn eu cysylltiadau cymdeithasol? A ydyw eu hymarweddiad yn bur, yn onest, yn ddichlynaidd? . . . Ac yn ystod y dyddiau dilynol . . . aeth oddiamgylch y bobl yn eu gwaith a'u masnach er mwyn cael goleuni ar y gofynion oeddynt yn cyniwair drwy ei feddyliau. Ac y mae ei ateb yn glir a diamwys. Cafodd ei argyhoeddi mai nid penboethni oedd yn cyfrif am y brwdfrydedd crefyddol oedd yn y dref, a bod y gorfoleddu yn cydfyned â chyfnewidiad amlwg ym mywyd y bobl. Y mae y dychweledigion," meddai, 'yn arwain bywyd. dichlynaidd ac yn ymarfer â duwioldeb bob dydd.'" Dywedir yn Old Karnarvon am gyfnod dechreu'r ganrif ddiweddaf y byddai Samuel Eborne yn derbyn papur newydd wythnosol o Loegr, ac mai ganddo ef y cawsai masnachwyr y dref wybodaeth am brisiau marchnad Llundain. Tebyg, pa ddelw bynnag, nad oedd hynny ddim yn wir am danynt i gyd. Byddai Samuel Eborne, hefyd, fe ymddengys, yn ysgrifennu dros liaws o bobl, cystal ag yn darllen iddynt. Dywedir ymhellach fod llysenwau yn ffynnu yn fawr yn y cyfnod hwnnw. Sonid am Siop William bach, Siop John gloff, Siop Jac y sadler mawr, Siop teganau Huw'r crydd. Enwau a roid ar ddynion oedd, Wil popi dol, Wil Balabwsia, Twm yr arian, Dic y divil. Gelwid twrne yn y dref yn Robyn y mul. Pan oedd y Dr. Arthur Jones yn gofyn am ei drwydded i bregethu, dywedodd cadeirydd y sesiwn wrtho y rhoddai Robyn y mul hi iddo. Ar hynny, gofynnai yntau'n ol, gan gyfarch y fainc, Prun ohonochi, foneddigion, ydyw Robyn y mul? Sonir yn yr un llyfr am ofergoeledd y bobl. Galwai gwraig gyfarwydd yn wythnosol yn nhŷ Sion a Doli'r eithin, yn agos i'r fan y saif Moriah arno. Siani Llanddona ydoedd ei henw, a galwai lliaws gyda hi er cael clywed eu ffortiwn. Hen wrach arall a breswyliai ger Bont bridd, a honnai ddarfod i Grist ddanfon llythyr ar groen iddi, ac i angel ddatguddio y fan lle dodid ef, sef dan garreg, ac am hynny fe'i gelwid ganddi yn llythyr dan garreg. Dodid y llythyr hwn ar fynwes merched ieuainc, a chredid ganddynt y galluogid hwy drwy'r gyfaredd honno i ddehongli eu dyfodol eu hunain. Sonir, hefyd, ar dystiolaeth y Parch. H. Longueville Jones, am wraig gyfarwydd yng Nghaernarvon mor ddiweddar ag 1856, a bod bri arni y pryd hwnnw ym Môn. Rai blynyddoedd yn flaenorol, llwyddodd i ddwyn yn ol arian a ladratawyd o ffermdy ger Llandegfan. Wedi gweled y fan lle dygwyd yr arian, gwysiodd yn ffurfiol y lleidr i'r byd anweledig o fewn blwyddyn o oediad, os na ddychwelid yr arian. Cyn i'r oed derfynu, lluchiwyd yr arian yn y nos drwy'r ffenestr i mewn i'r tŷ.

Yn y Llyfr glas am 1847 (t. 527) rhoir y dystiolaeth yma am gyflwr moesol y dref gan W. P. Williams: "Y mae yna lawer iawn o ddygn dlodi, budreddi a thrueni yng Nghaernarvon, gan mwyaf i'w holrain i anfoes ac anwybodaeth. Gallaf enwi tri lle yn arbennig yn y dref hon, sef Glanymor, Tanrallt a Thre'r- gof, lle nad oes gan liaws o deuloedd ond un ystafell i fyw ynddi, a honno ond 9 troedfedd ysgwar, gyda llawr pridd, a'r awyriad yn ddrwg arswydus. Nid oes i'r ystafelloedd hyn ond un ffenestr, rhyw droedfedd ysgwar, a phob pryd yn gaëedig. Gyda'r eithriad o ryw rai mewn henaint, gwaeledd a gweddwdod, y mae tlodi yng Nghaernarvon yn gyffredin yn ddyledus i lygredigaeth y bobl. Y mae cyflogau yn dda yma. Y mae'n ddyledus i'r ffordd haearn yma fod 2s. 6ch. yn awr yn cael ei dalu lle telid 1s. 6ch. gynt. Gall dynion abl i waith ei gael ar bob adeg os mynnant, ac am gyflog da. Eithr fe lifa pobl i'r trefydd o'r wlad oddiamgylch i gael eu lletya yn y mannau budron hyn, ac i gardota. Y mae Caernarvon yn llawn o'r cyfryw. Y mae'r trethi yn awr yn swllt pryd nad arferent fod ond grôt. Y drwg pennaf yn y dref hon ydyw meddwdod. Daw lliaws o'r rhai a enillant 20s. yr wythnos, a rhai a enillant 26., a dim ond 5s. adref i'w teuluoedd, a rhai ddim ond 3s.; gwerir y gweddill yn y dafarn. Nis gall eu teuluoedd ddod i le addoliad, nac i ysgol chwaith ar y Sul neu ddiwrnod arall. Nid oes ganddynt ddillad. Gwnelai ysgolion carpiog fawr les ymhlith y bobl hyn. Y mae'r ddwy a sefydlwyd gan y Methodistiaid eisoes wedi gwneud dirfawr les. Daw y plant iddynt gydag ychydig iawn am danynt." Ond odid nad oedd rhai o'r ymadroddion hyn, yn y ffurf y maent i lawr yma, braidd yn eithafol, ac nad allesid fod wedi eu cymedroli yn fwy. Yn Saesneg yr ysgrifennwyd hwy, a thebyg y llithid yr ysgrifennydd, yn ddiarwybod iddo'i hun, i ffurfiau o ymadrodd mwy eithafol wrth geisio cyfleu ei feddwl yn gryf a phendant yn yr iaith honno. Ychwanegir y dystiolaeth hon gan Caledfryn: "Yng Nghaernarvon, os ewch o'r tuallan i'r gwahanol gylchoedd crefyddol, prin y cewch gymaint ag un dyn ieuanc nad yw'n ymroi i ysmocio ac yfed, a phethau gwaeth. Y maent yn fwystfilaidd yn eu harferion yn y dref hon." Tybed nad oedd yr un esgusawd yn addas yma ag a rowd ynglyn â'r dystiolaeth flaenorol?

Y mae Caernarvon wedi dod yn dref argraffwyr. Eithr mawr y cyfnewidiad yn yr ystyr hwn rhwng Caernarvon yn y bedwaredd ganrif arbymtheg a'r ugeinfed ragor yn y ddeunawfed. Yn y ddeunawfed ganrif ni chyhoeddwyd yma namyn un peth, hyd y gwyddis, sef Carol ar goncwest gwyr y Gogledd, gan Edward Jones Maesyplwm, 1797. Dyna'r dernyn cyntaf a ddaeth allan o wasg y dref. Thomas Roberts oedd yr argraffydd. Cyhoeddodd Thomas Roberts y rhifyn cyntaf o'r Eurgrawn yn 1800, a'r ail yn 1807, sef y cwbl a ddaeth allan o'r wasg, y naill a'r llall dan olygiad Dafydd Ddu Eryri ac eraill. Daeth Peter Evans ag Awdl Elusengarwch allan yn 1820, a Hanes y Byd a'r Amseroedd gan Simon Thomas yn 1824. Daeth Lewis Evan Jones a'r Diddanwch Teuluaidd allan yn 1817 a'r Bardd Cwsc yn 1825 a'r Tri Aderyn yn 1826. Daeth Robert Griffith â Thestament Salesbury allan yn 1850. Cyhoeddodd Hugh Humphreys rai pethau pwysig, megys Addysg Chambers, ail gyfrol, yn 1856, Golud yr Oes yn 1862, Gorchestion Beirdd Cymru yn 1864, cyfieithiad o Robinson Crusoe yn 1865, Geiriadur Cymreig Cymraeg Cynddelw yn 1868, Atodiad i'r Blodau Arfon yn 1869, Gwaith Ieuan Brydydd Hir yn 1876, Barddoniaeth Cynddelw yn 1877, Josephus yn 1882, Drych y Prif Oesoedd yn 1883, Teithiau Pennant (Saesneg) yn 1883, cyfieithiad o Deithiau Pennant, Llyfr y Resolusion yn 1885, cyfieithiad o Vicar Wakefield, Taith y Pererin, ac amryw eraill. Nid oedd Hugh Humphreys yn gyhoeddwr ideal. Newidiodd briod-ddull Llyfr y Resolusion mewn mannau; newidiodd eiriad Josephus Hugh Jones Maesglasau, gan ei gyhoeddi fel cyfieithiad newydd; ac nid yw papur ac argraff lliaws o'i lyfrau cystal ag y buasai dymunol. Cofier o'i blaid, er hynny, ddarfod iddo gyhoeddi lliaws o lyfrau goreu'r iaith, a rhai o'r rheiny am y tro cyntaf; a darfod iddo gyhoeddi cryn liaws o lyfrau eraill, buddiol i wahanol ddosbarthiadau o ddarllenwyr; a bod y cwbl ohonynt agos nid yn unig yn ddiniwed eu tuedd ond yn dra buddiol i'r darllenwyr cyfaddas iddynt. Nid oes le i gasglu chwaith ddarfod iddo elwa rhyw lawer oddiwrth ei ysbryd anturus a'i lafurwaith maith. Y mae Mr. O. M. Edwards yn y Cymru wedi galw sylw at yr esgeulustod mewn cydnabod rhwymedigaeth y wlad i'w goffadwriaeth. Yn ddilynol i'w gyfnod ef y mae gwasg y dref yn amlhau llyfrau buddiol a gwerthfawr. Dechreuwyd argraffu'r Carnarvon and Denbigh Herald yma yn gynnar yn y ganrif; yr Herald Cymraeg yn 1855; y Goleuad yn 1869; y Genedl yn 1877; Gwalia yn 1881; y Geninen yn 1883; Cymru yn 1891; Cymru'r Plant yn 1892; y Drysorfa a Thrysorfa'r Plant yn 1899; y Traethodydd yn 1904; y Dinesydd yn 1912. Mae'n ddiau fod y cynyrchion hyn o eiddo'r wasg yn rhoi eu hargraff o gymaint a hynny yn fwy ar ieuenctid y dref ag mai yn y dref yr ymddanghosant. Y mae golygyddion ac argraffwyr drwy'r cyfrwng hwn yn cael eu tynnu i fyw i'r dref, ac y mae eu dylanwad hwythau mewn lliaws o enghreifftiau wedi bod yn un dymunol neu hyd yn oed yn ddyrchafedig. Ond annichon peidio â sylwi ar y cyfochredd hynod yng nghynnydd Methodistiaeth â chynnydd cynyrchion y wasg. Nis gellir priodoli'r cynnydd yn yr olaf yn gyfangwbl i'r cynnydd yn y blaenaf, bid sicr; ond teg, debygid, fyddai cydnabod mai un brif elfen yn y cynnydd olaf yw'r cynnydd blaenaf. Oddeutu'r flwyddyn 1820 yr ydoedd yn dymor adhybiad yr ysbryd eisteddfodol yn y wlad. Sefydlwyd y Gymdeithas Gymreig er diogelu yr hen lenyddiaeth yn 1818. Cynhaliwyd eisteddfod Caerfyrddin yn 1819, eisteddfod Wrexham yn 1820, eisteddfod Caernarvon yn 1821. Yr oedd hyn yn gychwyniad o'r newydd i'r eisteddfod. Cyhoeddwyd y Tourist's Guide to Caernarvon gan P. B. Williams yn 1821, a dywed ef (t. 90) fod Cymdeithas y Cymreigyddion yng Ngwynedd wedi ei sefydlu yn ddiweddar yng Nghaernarvon, a bod yr enw mewn coffhad am Gymdeithas Cymreigyddion Llundain a sefydlwyd yn 1751. Rhydd Robyn Ddu ar ddeall yn ei Deithiau (t. 21) mai efe a gwr ieuanc arall o fardd, Lewis Davies, a sefydlodd y Gymdeithas hon yn y Gerlan (Royal Oak oedd enw arall), tŷ Robert Hughes yr eilliwr yn Heol y Castell. Daeth amryw o fasnachwyr mwyaf cyfrifol y dref ynghyd, a Richard Jones (Gwyndaf Eryri) hefyd, a ddewiswyd yn fardd. Gwnawd Richard Williams cyfreithiwr yn gadeirydd, Capten Robert Williams y Deptford yn is-gadeirydd, John Jones cyfrwywr yn drysorydd. Yn y papurau trefol yng ngofal Mr. R. O. Roberts, fe ddywedir fod Cymdeithas y Gwyneddigion wedi ei sefydlu yng Nghaernarvon, Ionawr 23, 1823. Richard Williams oedd y cadeirydd ac O. W. Owen yn is-lywydd. Yr aelodau cyntaf: Peter Evans argraffydd, Hugh Griffith Hughes, Daniel Williams, Henry [?Hugh] Parry ysgrifennydd, Thomas Evans, R. Griffith, E. Richards [teiliwr], William Hughes T[own] S[ur- veyor], Robert Parry Pt [poet, sef Robyn Ddu Eryri, mae'n ddiau], William Dew, Rd Rowland, Richd Roberts [Castle] Green, Robt. Roberts C. H., W. Evans, H [?] Lewis, John Prichard, J. Powell, Edwd. Price, Thos. R. Roberts, John Jones, W. R [?] Jones. Dyma fel y geirir y rheol gyntaf: "Boed prif amcanion y Gymdeithas hon i gynnal a choleddu yr iaith Gymraeg a'i barddoniaeth, a chynyddu gwladol a brawdol gyfeillgarwch, ac hefyd er mwyn gwellhau a gloewi gwybodaeth y naill y llall, fel y byddont hwylusach yn eu holl alwedigaethau; gan hyfforddi y naill y llall, hyd eithaf eu gallu, mewn dyledswyddau dynolryw ac ymwrthod â dichell-gynnen a gormodedd; a gwarafun eu gilydd rhag arferyd ymddiddanion drwg, yr hyn a lygra foesau da, ac ymofyn am wybodaeth fuddiol; chwilio ac arloesi anghallineb o'u plith, ac annog eu gilydd i fyw yn y byd presennol—parchu'r sawl a fo'n haeddu parch, a cheryddu y neb a fo'n amharchu ei hun ac eraill." Yr oedd y cyfarfod i'w gynnal bob yn ail nos Iau o 8 hyd 10. Rheol arall ydoedd, os ymddanghosai aelod yn feddw yn y gymdeithas fod dirwy arno o 2g. a'i fod i'w ddiarddel am y noswaith honno. Rheol arall fod 2g. o ddirwy am reg neu lw. Dyma rai o'r pynciau yr ymdrinid â hwy: Pa un waethaf er lles ei deulu, ai dyn diog ai dyn meddw? Pa un sydd fwyaf niweidiol ar les cymdeithas, ai cenfigen ai gweniaeth? Pa un gyntaf, ai gwybodaeth ai dealltwriaeth? Dywed Robyn Ddu (t. 29) fod y Cymreigyddion yn hynod lewyrchus pan sefydlwyd y Gwyneddigion, ac mai cenfigen at Robert Hughes a barodd hynny. Dywed mai yn yr Union Tavern y sefydlwyd y Gwyneddigion, a gwelir mai yr un un oedd y cadeirydd yma hefyd, a bod Robyn Ddu ei hunan yn un o'r aelodau, ac yn fardd y gymdeithas newydd. Ymhen rhyw ysbaid wedi hynny fe sonir ganddo am y Cymreigyddion yn cyfarfod yn y Crown (t. 33), ac yntau yn eu plith.

Dywed Mr. John Jones (y Druid) fod "dosbarth," fel ei gelwid, sef cyfarfod â'i amcan i eangu'r meddwl drwy wybodaeth ddiwinyddol, a chyffredinol feallai, yn cyfarfod yng nghapel y Sandemaniaid yn Nhreffynnon cyn agor capel Engedi yn 1842.

Sefydlwyd cymdeithas lenyddol yn Engedi yn fuan ar ol agoriad y capel. (Edrycher Engedi). Ail gychwynnwyd cymdeithasau llenyddol y dref gyda dyfodiad y bugeiliaid Methodistaidd cyntaf. Yr oedd cymdeithas lenyddol yn cael ei chynnal yn y Bontnewydd gan Ddafydd Ddu Eryri rai blynyddoedd o flaen y gyntaf o'r cymdeithasau a nodwyd. Cymdeithas Eryron y gelwid hi. Yn hon, Tachwedd 24, 1816, y rhowd ei enw i Wilym Cawrdaf (Gweithiau Awenyddol Cawrdaf, t. xiii.). Yr ydoedd Cawrdaf ar y pryd yn cynorthwyo ei gefnder, L. E. Jones, argraffydd yng Nghaernarvon.

Y mae gan Anthropos, yn ei ysgrif Oriel Atgof, sylwadau ar y gwahanol gymdeithasau llenyddol yn y dref, fel y gwelodd efe hwynt yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar ol eu sefydlu. Dyfynnir yma: "Onid ydyw y cymdeithasau llenyddol yn un o nodweddion Caernarvon? Y mae'r ysbryd llenyddol wedi bod yn cyniwair yn y dref ers llawer dydd. Y mae yn fwy o ddylanwad arni nag ysbryd y castell. . . . Un ydoedd Moriah. Y llywydd sefydlog ydoedd y Parch. Evan Jones, y gweinidog; ac yr oedd ei ddelw ef ar y gymdeithas ac ar ei haelodau. Nid oedd yno fwy na dau ddwsin i'w gweled yn y cynhulliad; ond yr oeddynt yn siaradwyr dan gamp. . . . Cyffelyb ydoedd ambell gyfarfod i ymrysonfa'r bel droed. Gwahoddid fi neu arall i agor y mater, ac yna dyna'r scrimmage. ... Deuwch... i Salem yn nyddiau nerth a grymuster Dr. Herber Evans. Yr oedd arnaf ofn Herber. . . . Fel pob dyn mawr—gwir fawr—meddai efe'r peth cyfrin hwnnw sy'n bwrw allan ofn. Yr oedd yr olwg arno fel heulwen haf, ac nid ymguddiai dim rhag ei wres ef. Nid llywydd y gymdeithas yn unig ydoedd Herber: efe oedd y gymdeithas. . . . Gadewch i ni groesi'r heol. . . . i Ebenezer. . . . Llond y lle o bobl; tan mawr eirias yn y pen draw; a phe deuai rhyw ia—fryn llenyddol i'r fangre cawsai ei doddi yn llymaid! . . . Mewn brwdfrydedd ysbryd anhawdd fuasai rhagori ar Ebenezer. Ond yr amser a ballai i mi son am gymdeithasau eraill:

Rhy fyrr y tro i fwrw trem
Ar Siloh a bro Caersalem.

Dim ond gair am... Engedi. Yma y bum yn annerch. gyntaf ar ol dyfod i dref Caernarvon. Nid oedd ond ychydig bersonau yn wyddfodol y noswaith honno . . . . y Parch. Evan Roberts . . . . Mr. John Davies (Gwyneddon), a Mr. John Edmunds. . . . Bum yma lawer gwaith wedi hynny, a gwelais y gymdeithas, megys y cymdeithasau eraill yn y dref, yn graddol dyfu. . . ."

Dyfynnir yma o ysgrif Alafon ar Gaernarfon Lenyddol: "Y lle y mae fy meddwl yn rhedeg iddo gyntaf yw siop ddi— fost Ioan Arfon. . . . Ni welwyd neb yn sefyll yn fwy syth, nac yn fwy tawel, nac yn fwy urddasol, wrth fwrdd. masnach siop, nag y safai efe. . . . Mor falch oedd efe o weled ei fab Robert (Elphin heddyw) yn llwyddo mor hwylus yn yr ysgolion, ac yng ngholeg Aberystwyth! . . . . Cyfnod dyddorol yno oedd cyfnod y frwydr fawr rhwng Alfardd ac Ioan Arfon â'r Barnwr Homersham Cox a'i fath, oedd am gau yr iaith Gymraeg o'r llysoedd gwladol yng Nghymru. . . . William Pierce hefyd, a gafodd y ffugenw Sanddef gennym, sydd yn awr yn weinidog un o brif eglwysi Anibynol Llundain, . . . . yntau ar y pryd yn un o'r gofalwyr am yr Herald Saesneg. Mynychach ymwelydd. . . . oedd Gwilym Alltwen, tra fu yng Nghaernarvon. Ac efe, os iawn y cofiaf, a dde— chreuodd roddi Y ac Yr o flaen ffugenw beirdd. . . . Cynddelw yntau, batriarchaidd wr . . . . a fyddai'n galw yno bron bob dydd. . . . Ryw dro, pan oeddwn i yn sefyll ar gwrr maes Caernarvon mewn llu, yn gwrando ar wraig dafodrydd yn cymell ei nwyddau, daeth Cynddelw heibio; a chan roi ei law ar fy ysgwydd, ebai efe yn fy nghlust,—

.
O fy mab! tyrd hefo mi:
Disynnwyr gwrando Siani.

Ond o bawb a welid yng Nghaernarvon yr hynotaf a'r mwyaf cofiadwy oedd yr hyglod Owen Williams o'r Waunfawr. . . . Amheuthyn rhyfedd a fyddai gwrando ar Y Llyfrbryf a Ioan yn trafod ynghylch y Geiriadur, a phynciau eraill, gydag Owain Gwyrfai. . . . Mynych y byddai'r Llyfrbryf yng Nghaernarvon yn yr amser gynt. . . .Dyna Owen Gethin Jones, o gynnes goffadwriaeth, . . . a fyddai yno yn bur fynych. . . . Beirdd eraill a ymwelent â Chaernarvon yn bur fynych . . . oedd Hwfa Môn, Iolo Trefaldwyn, Mynyddog a Thudno, yn enwedig Iolo a Mynyddog. . . . Tri llenor a ymwelent yn achlysurol âg Ioan Arfon oedd Y Thesbiad, John Morgan o Gadnant a Chorfanydd. . . . Bardd o ddosbarth arbenigol oedd Bro Gwalia, fel y mae ei enw yn dangos. Ni fyddai neb yn cerdded heolydd Caernarvon â golwg mwy awdurol arno. Fe fyddai ganddo well het silc am ei ben, a gwell dillad am dano, na'r Bardd Cocos o Lanfairpwllgwyngyll; a throsedd mawr fyddai cystadlu y bardd hwnnw âg ef. Nod arwydd Bro Gwalia oedd rhôl amlwg o bapur yn ei law. . . . Siop Gwyneddon hefyd. . . . Yr oedd ef yn wr cyfarwydd yn llenyddiaeth Cymru, ac yn feirniad craff a chywir. Yr oedd wedi tyfu mewn awyr lenyddol o'i febyd, ac yr oedd ganddo lawer o gofion dyddorol am nifer mawr o wyr llen. . . . Nid llawer oedd i'w cael allai godi Yr Hen Waunfawr i well hwyl nag y gallai ef. Gymaint o wleddoedd a gafwyd yn ei siop wrth wrando ar yr hen brydydd yn son am Ddafydd Ddu a Gutyn Peris a Gutyn Padarn a Gwilym Cawrdaf. . . . Fel y mae'n hysbys, fe fu Gwyneddon, tra yn Heol y bont bridd, yn cyhoeddi'r Goleuad. . . . . Nid anniddan chwaith a fyddai'r ymweliadau â siop Mr. Hugh Humphreys a siop Ioan Mai, y cyntaf yn ymbleseru mewn dangos a chymell darluniau o enwogion, a llyfrau gwŷr o fri, a'r ail yn darllen cyfieithiad da neu englyn o'i waith. . . . Mwy diddan na hynny a fyddai orig yn y Liver, gyda Mr. M. T. Morris, a'r dawnus wyr a fyddai ar brydiau wedi galw i ymweled âg ef. Lle atyniadol i lenyddion oedd y Liver. Pwy yng Nghaernarvon, drwy ystod. yr hir flynyddoedd, a brofodd ei hun yn fwy llengarol . . .? Pwy yn fwy ymroddol a medrus ynglyn â chychwyniad a dygiad ymlaen yr eisteddfodau mawr, llwyddiannus, a fu yn y dref?"

Y mae Anthropos, hefyd, yn ei Oriel Atgof, yn son am gymeriadau llenyddol yr un cyfnod ag Alafon. Dyma rai dyfyniadau: "Gyda'r Darlunydd [yn swyddfa'r Herald Cymraeg] y dechreuais ar fy nyddgylch; ond disgwylid i mi gynorthwyo gyda'r papur newydd. . . . Dyn llydan, gweddol dal; gwyneb llawn, mynegiadol—digon tebyg i'r darluniau a welir o Thackeray. Efe oedd golygydd yr Herald Cymraeg yr adeg honno: olynydd Alfardd, fel y tybiaf. Dyn diwylliedig iawn oedd y Cwilsyn Gwyn (neu Mr. John Evans-Jones),—pur gyfarwydd â llenyddiaeth Saesneg. . . . Yr oedd Llew Llwyfo yn un o'r gweision cyflog. . . Gan y Cwilsyn Gwyn, fel rheol, yr oedd y weledigaeth, pe cawsai'r hamdden dyladwy. Y cwbl oedd yn eisieu ar y Llew ydoedd amlinelliad. . . . Deuawd dyddorol oedd y Llew a'r Cwilsyn Gwyn. . . . Dros y ffordd yr oedd Ioan Arfon. . . Yr oedd Ioan Arfon yn foneddwr wrth natur. . . . Dyn o farn; pwyllog ei barabl; ond yn dwyn mawr sel dros bethau goreu cenedl. . . . Symudais yn y man o swyddfa'r Herald Cymraeg i swyddfa'r Genedl Gymreig. Nid newid lle yn unig a wnaethum ond newid hinsawdd. . . . Y golygydd ydoedd Mr. James Evans: gwr cyfarwydd. . . . Yr oedd gwall argraff yng ngholofnau'r Genedl, megys rhoi 'Llys yr Ynadon Siriol am Lys yr Ynadon Sirol,' yn boen a blinder i'w enaid. [Fe fyddai Llew Llwyfo yn arfer ag adrodd am dano yn galw allan o'i offis ar y cysodydd, mewn ton bryderus,— A ydyw'r come yna wedi ei roi i mewn?']. . . Un o'r rhai mwyaf poblogaidd ar ddalennau'r Genedl Gymreig oedd Andronicus, awdwr y golofn wythnosol a adwaenid wrth yr enw,—Yn y Trên. Trafaeliwr masnachol oedd Andronicus. Gorfu iddo ysgrifennu yn ei flynyddoedd olaf ar wely poen a blinder, â'i fysedd wedi eu crebachu gan y gymalwst. . . . Sketches a geid ganddo: rhyw bortreadau gweddol fychain, ond yn nodedig o dlysion mewn lliw a llun. . . . Gwisgodd olygfeydd Llyn Tegid, a hen gymeriadau'r Bala, â gogoniant ac â harddwch. . . . Yr oedd Eos Bradwen wedi cyfansoddi ei gantawd wladgarol—Owain Glyndwr'—y geiriau a'r miwsig ganddo ef ei hun—lawer blwyddyn cyn iddo symud i Gaernarvon. Ac yr oedd Bugeiles y Wyddfa yn un o'r caneuon mwyaf poblogaidd... Y mae awdwr Aylwin wedi gwneud cryn ddefnydd o'r gân. . . . Efe, mewn modd neilltuol, ydoedd bardd y Wyddfa. Yr oedd ambell eclips yn hanes Eifioneilydd. . . . Yr oedd Eifioneilydd yn areithydd dihafal yn ei ddull ei hun. Yr oedd defnydd tragedian ynddo,—tebyg i Irving. Ni feddai ddim o'r elfen nwyfus a chwareus; ond yr oedd yn medru disgrifio'r brawychus a'r ofnadwy. Braidd na theimlem wrth ei wrando ein bod yn sangu ar ymylon gorffwylledd, megys pe gwrandawem ar awen wallgof Edgar Allan Poe. . . . Clywais ef yn gwneud defnydd effeithiol o'r Drama of Exile gan Mrs. Browning, ac yn darlunio'r Gorchfygwr Dwyfol yn arwain y march gwelwlas at orsedd yr Ior—

With a hand upon his mane,
And a whisper in his ear.

Braidd nad allaf glywed y whisper hwnnw yn aros ar fy nghlust hyd y dydd hwn! Gwrandewais arno yn cyfaddasu un o ystorïau dychmygol Edgar Allan Poe—the Pit and the Pendulum—at hanes y meddwyn a'i ddrws ymwared. Ond wedi cyfnod o ysblander cyhoeddus, ciliai o'r golwg, a deuai llen. dywyll dros wyneb yr haul."

Ymherthynas â'r rhai y sonir am danynt yn y ddwy ysgrif uchod, gellir nodi mai aelod ym Moriah oedd John Evans Jones; mai aelodau yn Engedi oedd Gwyneddon, Menaifardd, Andronicus; mai blaenor yn Castle Square oedd James Evans; ac y bu Eifioneilydd yn athro yn ysgol Engedi, yn aelod yn Castle Square, yn aelod ym Myddin Iachawdwriaeth. Yr ydoedd ef yn fab i'r Parch. David Davies yr exciseman, a fu'n aelod yn Engedi ac yn y Bontnewydd.

Yr oedd yn y dref, yn ystod y cyfnod y cyfeirir ato yn y ddwy ysgrif hyn, rai gwŷr eraill lawn cyn hynoted, at ei gilydd. a'r rhai y sonir am danynt ynddynt hwy, heb fod bob amser yn feirdd neu lenorion cydnabyddedig, a hynny dros ben y rhai y traethir arnynt yn hanes yr eglwysi. Yr oedd J. C. Rowlands yn arlunydd coeth, ac yn wr yn cymeryd dyddordeb mewn hynafiaethau Cymreig, cystal a'i fod o gymeriad uchel. Yr oedd Leon, y gwr a fu'n tynnu lluniau mewn olew ym masnachdy Hugh Humphreys, yn gelfyddydwr gwych, pell tuhwnt i'w sefyllfa yno. Yr oedd Nanney, un o'r ddau frawd o'r enw, ac a breswyliai yn ardal Beddgelert yn ei flynyddoedd olaf, heblaw ei fod yn wr urddasol yr olwg arno, a chyda rhywbeth myfyrgar a phell yn ei edrychiad, yn efrydydd ar awduron cyfriniol o ryw ddosbarth, megys A. E. Waite, A. P. Sinnett, a lliaws eraill. Yr oedd Jonathan Jones, goruchwyliwr treth yr incwm, yn wr go urddasol yr olwg arno, a chyda rhyw dawelwch yn ei ddull i graffu arno, o leiaf yn ei flynyddoedd diweddaf. Gwelid ef weithiau yn y blynyddoedd hynny wrth lan y môr neu fannau eraill, yn amlwg wedi ei lyncu mewn myfyrdod, a hwnnw'n fyfyrdod ar y byd ysbrydol, fel, rywfodd neu gilydd, nas gallesid peidio â chasglu. Yr ydoedd yn efrydydd o fewn rhyw gylch ar hynafiaethau Cymreig. Fe ddengys y copïau o ddau lyfr a ddarllenid ganddo, ag sy'n digwydd bod wrth law, sef Taith y Pererin a'r Bardd Cwsc, ei fod yn efrydydd manwl iawn ar rai llyfrau. Y mae ganddo nodiadau ymyl-ddalennol i'r rhai hyn yma ac acw, yn cymharu gwahanol rannau o honynt â'i gilydd, ac â llyfrau eraill; ac y mae i'r naill a'r llall fynegai helaeth a manwl i'r materion a gynwysir ynddynt. Meddai ar gasgl lled helaeth a gwych o lyfrau. Yr oedd Thomas Hobley yn wr o ddiwylliant eang, ac o allu cryf ym myd masnach a byd llyfrau, cystal a'i fod yn wr o ddawn gymdeithasol nodedig. Darllenai bob llyfr yn dwyn cysylltiad â chrefydd, ac a dynnai sylw arbennig iawn ar y pryd, megys y Vestiges of the Natural History of Creation, yr Essays and Reviews, Ecce Homo, yr Unseen Universe; a'r un modd bob ysgrif o'r nodwedd honno ynglyn â chrefydd neu wladweiniaeth yn y misolion a'r chwarterolion Seisnig; a gallai gyfleu eu prif bwyntiau yn rhwydd mewn ymddiddan. Darllenodd amryw o'r prif lyfrau mewn diwinyddiaeth ac athroniaeth; a gofalai am ymgydnabod â phrif symudiadau meddwl drwy gyfrwng yr Expositor neu gylchgronau eraill; ac yr oedd yn hoff o ddadleu ar y cyfryw bynciau, yr hyn a wnae efe gyda deheurwydd na chyfarfyddid yn fynych a'i ragorach neu ei gyffelyb. Bu dosbarth yn cyfarfod yn ei dŷ am lawer blwyddyn, yn darllen rhai o'r llyfrau a nodwyd ac eraill, ac yn ymgydnabod â syniadau John Stuart Mill, Syr William Hamilton, Mansel ac eraill. Ymhlith y gwyr a ddeuai i'r dosbarth hwnnw yr oedd John Evans, M.A., yr ysgolfeistr, wedi hynny o Groesoswallt, ac aelod ym Moriah, William Williams a Robert Evans y pregethwyr, Robert Roberts y Cross a Hugh Owen, y ddau yn flaenoriaid yn Engedi, Evan Evans y cwriwr, Menaifardd. Nid yw Alafon ond yn cyffwrdd âg enw Menaifardd. Gyda rhyw goll mewn sefydlogrwydd nodweddiad, yr oedd ef yn wr parod gyda phob math ar orchwyl, yn athro deheuig yn yr ysgol Sul, ac yn nodedig o effeithiol gyda hynny dros ryw gyfnod; yn ysgrifennydd ysgol deheuig a gwasanaethgar anarferol am rai blynyddoedd yn Engedi; yn rhyw gymaint o gerddor, o lenor, ac o fardd; yn un o'r rhai parotaf fel arweinydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus o wahanol fath; yn gynllunydd tai, yn gyfrifydd wrth ei alwedigaeth, yn ysgrifennydd gwahanol fudiadau. Yr oedd yn wr tra haelionus. Symudodd i'r America, a phan ddychwelodd oddiyno i farw, yr oedd rhywbeth yn arwyddo sobrwydd meddwl sefydlog yn ei wedd. Ni roir yr enwau hyn ond fel enghreifftiau, a gwyddis fod eraill teilwng o'u hatgoffa yn y cysylltiad hwn; ond arhoswyd gyda'r rhai y digwyddid fod yn gwybod mwyaf am danynt.

Dywed Mr. Thomas Jones Bronydre y dengys map Speed fod ysgol rydd yn y dref yn 1610, yn sefyll lle mae y neuadd sirol yn awr.

Sonia Robyn Ddu, mewn atgofion o'i eiddo am y dref, am Daniel Pritchard, a anwyd yng Nghaernarvon yn Heol y goron yn 1796. Rhoes ei rieni diwyd addysg i Ddaniel. Saer coed ydoedd, "lled gywrain yn ei waith ac awyddus am lyfr." Symudodd ei rieni i Benrallt ddeheuol yn 1811. Cychwynnodd Daniel ysgol yn ei weithdy, gan weithio gyda'i grefft a chynnal yr ysgol ymlaen yr un pryd. Amgylchynid yr ystafell â meinciau llawnion o blant bychain. Ar y cychwyn rhoid i'r plentyn ddernyn o bren amrywonglog, a llythrennau'r wyddor ar y naill wyneb a'r llall ohono. Wedi dysgu hynny rhoid i'r plentyn ddarn pren ag arno eiriau neu rifnodau. Ar y parwydydd yr oedd rhesi o wahanol fath ar greaduriaid wedi eu lliwio fel wrth natur, a dysgid eu henwau i'r plant. Dysgid rheolau rhifyddiaeth gyda chymorth mân belennau. Dodid rhai wrth ei gilydd neu tynnid rhai oddiwrth ei gilydd, ac yna gofynnid am y rhif. Dysgid iddynt rif dyddiau'r flwyddyn a pha faint a wnae ceiniog y dydd mewn blwyddyn; ac yna er mwyn gwybod pa faint a wnae unrhyw nifer o geiniogau y dydd mewn blwyddyn, nid oedd eisieu ond amlhau y cyfanswm hwnnw wrth rif y ceiniogau. Gwnaeth yr ysgolfeistr ddeial gywrain yn ei ardd. Croesawai blant ysgolion eraill at blant ei ysgol. ei hun i'w ardd ganol dydd neu hwyrddydd. Ynghanol y chware fe holai'r plant, pa faint a wnae hyn a hyn o geiniogau y dydd mewn blwyddyn? pan y cawsai ateb ar unwaith gan ei blant ei hun. Holai drachefn, pa sawl gradd sydd mewn cylch, yn y bedwaredd ran o gylch, mewn hanner cylch, mewn triongl ac ymlaen hyd ddeng ongl, ynghyda lliaws o ddirgeledigaethau eraill. Atebai plant ysgol Daniel ei hun ar darawiad, tra byddai'r lleill yn fud gan syndod. Dywed Robyn Ddu i Ddaniel fagu ysgolheigion da yn y dull hwn, tra na ydoedd ond difyrru ei hun, a dilyn ei grefft yr un pryd. A diau fod ganddo rywbeth i'w ddysgu i ysgolfeistriaid a ddaeth ar ei ol. Gwnae'r gwr cywrain, hefyd, "luniau campus" mewn lliwiau ar leni, a cherfiai goed, llysiau neu wahanol anifeiliaid mewn coed a chopr. Yr oedd yn adnabod llysiau a'u gwasanaeth, ac yn arfer eu casglu; a gwnae wydrau i'w dodi mewn ysbienddrychau. Mewn gwth o oedran fe symudodd i Fangor ac oddiyno i Nerpwl. Pan ym Mangor fe wnaeth iddo'i hun y peiriant cywrain a elwir orrery, er arddangos symudiadau'r lloer a symudiadau'r planedau o amgylch yr haul. Dywed Robyn Ddu fod hen ddisgyblion Daniel Pritchard yn rhagori ar y cyffredin mewn lliaws o bethau, ac y bu ef ei hun lawer tro yn ei gymdeithas ac yn derbyn ei addysgiadau hyd ddau neu dri ar y gloch y bore. (Y Nelson, 1895, Tachwedd, t. 7.)

Yn 1817 y sefydlwyd yr ysgol wladol genedlaethol. Dywed P. B. Williams, yn ei lyfr ar sir Gaernarvon (t. 68), mai yn llofft y farchnad gig y cynhelid ysgol y bechgyn ar y cyntaf. Adeiladwyd yr ysgol yn 1820 ar draul o £350, ac o'r swm yma yr oedd £250 wedi eu tanysgrifio i'r amcan, a'r £100 gweddill gan Gymdeithas yr Ysgolion. Yn 1837 adeiladwyd yr ysgol. rad gyntaf yn y dref yn Turkey Shore. Rhodd y llywodraeth, £1,105. Symudwyd oddiyno i le a elwid wedi hynny yn Bonded Warehouse. Yr oedd y lle hwnnw gyferbyn a thalcen y Brunswick Buildings, yr ochr arall i'r grisiau o'r maes i'r cei. Yn 1847 yr adeiladwyd yr ysgol bresennol ar ffordd Llanberis. Teimlai rhai fod dylanwad gwrthwynebol i ymneilltuaeth yn yr ysgol wladol, ac arweiniodd hynny i sefydlu ysgol yn seler Engedi, mewn dwy ystafell eang. Mae llythyr oddiwrth Robert Evans yn y Drysorfa am Hydref, 1843, yn dwyn perthynas â'r ysgol hon. Sonia ef am ddwy ysgol, sef, mae'n debyg, yn y naill a'r llall o'r stafelloedd hyn. Cynhelid y naill ysgol ar yr hen ddull gyda dau athro, a'r llall ar y dull newydd gydag un athro. Yn y flaenaf yr oedd 250 o blant; yn yr olaf, 133 Rhydd Dafydd Williams, mewn ysgrif ar eglwys Engedi, y rheolau perthynol i'r ysgol a ddarllenwyd gan John Jones Tremadoc ddydd agoriad y capel. Dyma nhwy: "1. Fod y cyfarfod hwn [sef y pwyllgor a gynhaliwyd ar hynny] yn gweled angenrheidrwydd am ysgol ddyddiol i fod dan olygiad y Trefnyddion Calvinaidd yng Nghaernarvon. 2. Fod traul yr ysgol i gael ei gynnal drwy geiniog yr wythnos oddiwrth yr ysgolheigion, a thrwy roddion blynyddol a chasgliadau. 3. Fod rhyddid i blant pawb ddyfod i'r ysgol cyn belled a bo lle, heb eu caethiwo oddiwrth ryddid cydwybod ar y Saboth. 4. Fod holl achosion yr ysgol i gael eu dwyn ymlaen gan eisteddfod o saith o ddirprwywyr wedi eu dewis gan ac o blith y tanysgrifwyr blynyddol, pedwar o'r saith o leiaf yn aelodau eglwysig gyda'r Methodistiaid Calvinaidd. Dewiswyd yn ysgrifenydd— ion, Mri. Robert Evans, grocer; W. P. Williams, druggist: ac yn drysorydd, Mr. Simon Hobley, flour merchant." Yn 1849 fe sefydlwyd ysgol i'r tlodion ym Mhenrallt ogleddol. Agorwyd yr ysgol Frytanaidd Mai 11, 1858. Y draul, £3,750. Dywedir ddarfod i Foriah, yn unig ymhlith eglwysi'r dref yn hynny, gyfrannu £1,200 tuag at yr amcan. Cyfrannodd y llywodraeth yn 1859, £1,680. Trosglwyddwyd yr ysgol i'r Bwrdd Ysgol ar Ebrill 12, 1884; ond bod yr ymddiriedolwyr yn cadw'r hawl i ddefnyddio'r ysgol ar y Suliau ac ar dri diwrnod ym mhob blwyddyn.

Yr oedd Cymdeithas Cymedroldeb yn y dref cyn sefydlu Cymdeithas Dirwest. Sefydlwyd yr olaf yn 1836. Dywed John Wynne fod yr orymdaith ddirwestol gyntaf yn y dref yn cyrraedd o Heol y llyn i Forfa Saint. Yn yr orymdaith honno yr oedd John Elias, Williams o'r Wern, Griffiths Llandrygarn, Môn, Griffith Hughes (Wesleyad); ac yr oeddynt yn areithio ar y Morfa. Yr oedd Richard Williams yr ironmonger wedi mawr hoffi dull Williams o'r Wern y pryd hwnnw yn cyfleu ei ymresymiad gerbron; a dywedai pe gallasai rywun ei argyhoeddi o'i rwymedigaeth i fod yn ddirwestwr mai Williams fuasai hwnnw. Felly yr adroddai prentis yn ei wasanaeth ar ei ol ryw dro. Robert Evans, blaenor y pryd hwnnw ym Moriah, ydoedd yr un a ymdaflodd yn llwyraf o bawb i'r gwaith. Ni bu ei hafal yn y dref o ran sel gyda'r achos, ac o ran tanbeidrwydd fel amddiffynnydd cyhoeddus iddo. Fe helaethir ar hynny yn y sylwadau arno ynglyn âg Engedi. Robyn Ddu a wnaeth fwyaf o bawb o breswylwyr y dref i ledaenu egwyddorion dirwest yn y byd. Teithiodd lawer i'r amcan am gyfnod maith drwy Gymru i gyd, a theithiodd nid ychydig yng ngwahanol rannau'r deyrnas gyfunol ac America, gan lefaru yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yr oedd yn siaradwr Saesneg rhwydd a chywir ar y cyfan. Heb amrywiaeth mawr yn ei ddull, yr oedd siarad yn naturiol iddo fel anadlu. Meddai, hefyd, ar arabedd naturiol helaeth, a dawn i adrodd hanesyn. Estynnai swyn tawel dros y dorf wrth iddo gyfarch, ac yn ei adegau dedwyddaf i gyd fe ymddanghosai fel yn chware gyda hi, ac heb unrhyw ymdrech yn y byd fel yn ei chwyrlio o amgylch pen ei fys. Wrth gymharu dulliau gwahanol genhedloedd â'i gilydd fel gwrandawyr, fe ddywed iddo weled Cymry yn wylo, yn neidio ac yn canu dan ei areithiau. (Teithiau, t. 76). Yr oedd Christmas Evans yn weinidog yn y dref ar gychwyniad dirwest, ac ni bu yn hir cyn rhoi ei ddylanwad mawr a'i ddawn dihafal o blaid yr achos. Fel hyn y sylwir arno yn ei gysylltiad â dirwest yn yr erthygl arno yn y Gwyddoniadur: "Clywsom ef amryw droion yn areithio ar yr egwyddor ddirwestol, nes gyrru tyrfaoedd o bobl i'r cyffroadau mwyaf a welsom erioed, drwy chwerthin a galaru braidd ar yr un anadl. Parodd dau beth mewn cysylltiad â dirwest ofid mawr iddo, yn ol fel y dywedai wrth yr ysgrifennydd, sef yn gyntaf, fod rhai yn gwneud crefydd o'r peth, ac yn cymeryd gosodiadau'r Efengyl, y rhai ydynt wedi eu hamcanu i dynnu dynion at Grist a'i Groes, i berswadio dynion i ddyfod yn ditotals. 'Peth ynfyd a drwg, debygaf i, yw lladrata cymhellion yr Efengyl sanctaidd at ddim arall. Mae'n ynfyd, oherwydd nid wrth ddala dannedd dynion ar y maen llifo, drwy fygwth dydd y farn olaf arnynt, fel y gwna ——— [sef gweinidog gyda'r Bedyddwyr] y daw dynion yn ditotals. Mae'n ddrwg, oblegid mai lladrata llestri'r cysegr at wasanaeth na fwriadwyd mono ydyw. Yn ail, codi dynion o ganol llaid meddwdod, i areithio, i lanw pulpudau â chabledd yn gymysg â ffolineb, a hynny yn fynych cyn i'r llaid sychu a chael ei frwsio oddiarnynt, a rhai gweithiau cyn iddynt gael ymdreiglfa arall yn y llaid.'" Gan mai yng Nghaernarvon y bu am weddill ei oes, sef hyd 1838, mae'n ddiau fod y profiad hwn o'i eiddo yn ffrwyth ei sylw o'r achos dirwestol yn y dref yn bennaf. Bu ef ei hun, pa ddelw bynnag, yn ffyddlon i'r achos hyd y diwedd, a diau i'w esiampl fod o fawr gynorthwy i'r achos yn y dref cystal a mannau eraill. Dywed Mrs. Jane Owen (Stryd Garnons) fod William Prichard, a oedd gyda'r Bedyddwyr, yn un o'r dirwestwyr gyda'r blaenaf yn y dref yn y blynyddoedd cyntaf hynny. Yr oedd yn siaradwr anarferol, a phan lefarai yn yr awyr agored fe glywid ei lais yn clecian drwy heolydd y dref. Hugh Jones y teiliwr, hefyd, ebe Mrs. Owen, oedd yn siaradwr cryf, a dywediadau bachog ganddo. Cof ganddi am ei ocheliad rhag y ddiod fain, mai cynffon y cythraul ydoedd,—os ydoedd yn fain ar y blaen, nad oedd hi ddim ond yn arwain at ddiod gryfach, megys ag yr oedd blaen cynffon y cythraul o'i holrhain yn arwain ato ef ei hun! Aelod yn Engedi ydoedd efe, wedi i'r eglwys gael ei sefydlu yno.

Y mae llythyr o eiddo Robert Evans, wedi ei amseru Tachwedd 12, 1847, yn y Drysorfa am 1848, t. 18. Rhed fel yma:

"Bernais yn addas anfon i chwi hanes gweithrediadau Cymdeithas Ddirwestol Caernarvon am y flwyddyn . . . : Ymunodd gyda'r Gymdeithas ynghorff y flwyddyn, 238. Torrodd eu hardystiad unwaith, 8. Torrodd un ei ardystiad ddwywaith. Torrodd un arall ei ardystiad deirgwaith. Tynnodd un ei enw Ymunodd 8 am fisoedd y rhai sydd wedi dyfod i ben. Ymunodd 8 am y flwyddyn sy'n cerdded. Eto un am 2 flynedd. Eto un am 5 mlynedd. Nifer y rhai a ymunodd dan 14 oed, 15. O'r gweddill yma, mae rhai wedi arwyddnodi am byth, eraill am eu hoes, eraill nes y tynnont eu henwau. Hefyd, mae yn eu mysg rai morwyr dieithr nas gwyddom eu hanes yn bresennol. Hawdd fyddai inni hefyd ddweyd faint o holl ymneilltuwyr proffesedig y dref a ymunodd gyda'r Gymdeithas ynghorff y flwyddyn, a pha nifer a dorrodd eu hardystiad; ond nyni a arbedwn. Mae llafur a llwyddiant y Gymdeithas wedi bod yn llawn cymaint y saith mlynedd blaenorol a'r ddiweddaf. Robert Evans, llywydd." Gwelir fod y fyddin ddirwestol yn y dref y pryd hwnnw yn gweithio yn gyffelyb i'r fyddin Ellmynnig ar faes y gwaed heddyw, sef fel peiriant; ac, fel honno, dyma yn ddiau ei nerth a'i gwendid.

Cynhelid o bryd i bryd gyfarfodydd pwysig. Y mae David Griffith wedi cofnodi hanes cyfarfod mawr y Maine Law yn y castell am 2 a 5 ar y gloch brynhawn Iau, Gorffennaf 16, 1857. Y vicer yn gadeirydd yn y naill gyfarfod, a'r Henadur Harvey Manceinion yn y llall. Y siaradwyr: Canon Jenkins, Samuel Pope, Neal Dow o'r America a'r Parch. John Thomas. Cenid anthemau gan y corau dan arweiniad Humphrey Williams a William Griffiths. Tybir gan D. Griffiths fod oddeutu 15,000 o bobl yn y lle.

Yng nghyfarfodydd dirwestol y dref yn ystod yr 20 mlynedd cyntaf a rhagor fe fu'r canu o fawr wasanaeth. Yr oedd gan William Griffiths a Humphrey Williams gorau pwysig dan eu harweiniad, a datganent y prif anthemau mewn modd ardderchog yn y cyfarfodydd hynny.

Fe gynhelid cyfarfod dirwest yn Engedi ar ol ei agor bob pnawn Sul am hanner awr wedi pedwar, a byddai'r capel yn llawn. Cenid darnau clasurol dan arweiniad Humphrey Williams, tad Mr. John Williams, arweinydd presennol côr y dref.

Gwanychodd dirwest ei nerth yn raddol. Fe barhaodd y cyfarfodydd hanner awr wedi pedwar brynhawn Sul am oddeutu 50 mlynedd. Byddai'r neb a benodid i arholi'r ysgol—yn Engedi o leiaf—yn rhoi araeth ddirwestol ar un Sul o'r mis am oddeutu'r un cyfnod maith. Cynhelid y cyfarfodydd pnawn Sul yn y man yn eu tro yn y gwahanol gapelau Cymreig oddieithr Caersalem. Gyda'r Methodistiaid y ceid y cynhulliadau lluosocaf, ac yn Engedi y lluosocaf i gyd. Ceid pethau rhagorol ar dro, megys araeth y Dr. David Charles, Treveca gynt, yn rhoi hanes ei ymgyrch ddirwestol ef a Henry Rees drwy ran o Gymru ym mlynyddoedd cyntaf y mudiad. Y siaradwyr mwyaf ffyddlon i'r cyfarfodydd hyn oedd John Roberts y paentiwr a Thomas Williams y saer, y naill a'r llall o Engedi. Tueddu i golli ei dymer y byddai John Roberts, a digwyddai hynny yn ddieithriad pan gyfarchai'r ysgol. Dyn da ydoedd ef er hynny. Yr oedd Thomas Williams yn meddu ar ddawn siarad anarferol. Elai ei edrychiad yn llym wrth siarad, a'i lais yn llym, a'i ymadroddion yn llym. Dylifai ei eiriau yn rhwydd a naturiol, a chodai y llais i gywair uchel, a chyffroid ei natur drwyddi, fel y llefarai ar bob pryd gydag ynni a thanbeidrwydd a thrydaniaeth teimlad. Er hynny, ni chollai mo'i hunanfeddiant. Wrth ddadleu unwaith ymhlaid Temlyddiaeth Dda, mewn cyfarchiad ar y maes, ac wrth sôn am y llywodraeth yn noddi y fasnach mewn diodydd, fe adroddai'r geiriau,—"Yr hwn sy'n preswylio yn y nefoedd a chwardd," gyda thanbeidrwydd anarferol, y fath a'i codai yn deg oddiar ei draed ar y llwyfan; ac yr oedd y pwyslais ar y gair chwardd yn ofnadwy yn ei ddynwarediad o ystyr y gair. Nid dawn i ddweyd pethau tarawiadol oedd gan Thomas Williams, ac nid swyn dull oedd yr eiddo, ac nid unrhyw wybodaeth helaeth am y pwnc; ond o ran y cyfuniad o rwyddineb ymadrodd, gyda chyffyrddiad o'r hyawdl ynddo, a llymder edrychiad a dull ac ymadrodd, ac angerddoldeb teimlad, ynghydag argyhoeddiad meddwl ar ryw ffurf arno, anfynych yn unrhyw gylch y gwelid y cyffelyb. Siaradwyr dawnus oedd Henry Edwards a George Williams o Siloh, a William Davies y rhaffwr o Foriah. Gwyneddon oedd y cyflawnaf ei wybodaeth o'r pwnc, cystal a'i fod yn siaradwr rhwydd a pharod. Trinai agweddau gwleidyddol y pwnc yn ardderchog. Efe oedd golygydd y Temlydd Cymreig. Bu'r Capten G. B. Thomas drwy bob cwrr o Ogledd Cymru yn sefydlu Temlyddiaeth Dda. Teithiodd, hefyd, mewn cysylltiad â'r un achos, drwy wahanol rannau'r deyrnas ac yn yr America, a byddai'n siarad yn ei blaid ymhob man. Er yn ddiffygiol mewn priodddull Gymreig, fe lefarai weithiau gydag angerddoldeb dull. Yr oedd ei gymhariaeth o Demlyddiaeth Dda i'r life—boat yn un o'r pethau goreu a glywid ar y llwyfan dirwestol. Gyda'r gymhariaeth honno fe fyddai'n fynych yn trydanu cynulleidfaoedd mawrion. Mewn blynyddoedd diweddarach, fe ymroes i fyned oddiamgylch i gyfarch cynhulliadau o blant, i'r hyn yr oedd ganddo ddawn gyfaddas.

Yn y dref hon y cychwynnwyd Temlyddiaeth Dda yng Ngogledd Cymru. Sefydlwyd Cyfrinfa Eryri yma yn niwedd 1871. (Temlydd Cymreig, i. 7.) Bu yma oddeutu 600 o aelodau ar un adeg. Dechreuodd yr achos edwino yn gyflym. ymhen rhyw dair blynedd neu lai.

Diffyg mawr ynglyn a'r mudiad dirwestol, nid ar y cyntaf feallai, ond ymhen ysbaid o flynyddoedd, ydoedd treulio llawer o amser i siarad am y drwg, heb wneud nemor yn ymarferol i'w atal, na meddwl rhyw lawer am wneud dim. A phan olygid meddwdod ac yfed fel drygau cymdeithasol, ac y cynygid meddyginiaeth ar eu cyfer, heb ddwyn yr Efengyl i mewn i'r drafodaeth, fel yr arferid gwneud, yna nid oedd digon o ddeunydd dirgelwch yn y pwnc i aros yn barhaus uwch ei ben, ac fe aethpwyd yn naturiol i roi gorbwyslais arno ym mhob agwedd iddo. Fe fuasai cynllunio moddion i atal y drwg wedi bod yn ddylanwad iachus; ac fe fuasai edrych ar y drwg of feddwdod, fel y gwneid å drygau eraill, yng ngoleu trefn gwaredigaeth yr Efengyl, wedi cadw'r siarad rhag rhedeg i eithafion ynfyd. O ddiffyg gwneud hynny, fe aethpwyd i ddysgu yn bendant fod eisieu cael dyn i roi'r yfed heibio cyn y gallesid disgwyl dim lles oddiwrth bregethu'r Efengyl iddo, yr hyn sy'n addysg hollol groes i ystyr trefn gras, ac i brofiad hefyd. Fel hyn y dysgid yn barhaus yn y cyfarfodydd dirwestol. Ac oddiar y gwreiddyn hwn fe darddai lliaws o geinciau penboethni. Dywedid fod yr yfwr cymedrol yn waeth na'r meddwyn, yn gymaint a'i fod yn rhoi esampl a ddilynid gan eraill, pryd na ddilynid mo esampl y meddwyn gan neb. Dywedid fod yfed diod feddwol ynddo'i hun yn bechod. Ymresymid, yn gymaint a bod llawer o ddiod yn meddwi, yna fod. ychydig o ddiod yn meddwi ychydig. Amheuid weithiau a oedd yn bosibl i yfwr cymedrol fod yn ddyn duwiol. Dywedid mai meddwdod ac yfed oedd y pechod mwyaf, a phe ceid y drwg hwn oddiar y ffordd unwaith, yr achubid y byd yn fuan. Dysgid y pethau hyn a'r cyffelyb yn groew, a rhoid pwyslais arbennig arnynt; ac wrth wneuthur hynny fe eid dan sylfaen yr addysg efengylaidd, a eilw ar ddyn, fel pechadur, i ddod yn uniongyrchol at Grist, ac a gyhoedda mai anghrediniaeth yn unig ydyw'r pechod y mae dyn yn gondemniedig o'i herwydd yng ngwydd Duw. Mae'n ddiau fod y Gobeithluoedd yng ngwahanol gapelau y dref wedi bod yn ffrwythlon o addysg ac arferion da, canys yn y rhai hyn fe ddysgid yn fwy am feddwdod fel un agwedd yn unig ar y drwg cymdeithasol, a thraethid am y drwg i ryw fesur ac ar brydiau yng ngoleu trefn yr Efengyl, a chymysgid yr addysg ddirwestol â moes-wersi buddiol eraill.

Y mae Mr. Evan Jones wedi dweyd fwy nag unwaith mai Robyn Ddu oedd yr unig wr o athrylith a gododd yng Nghaernarvon. A bu ar un cyfnod yn ddywediad gan feirdd a llenorion a drigiannent yn y dref am ysbaid, fod Ceridwen, duwies awen, wedi melltithio plant Caernarvon. Tebyg fod arlliw of wirionedd ar hynny, a bod nifer y beirdd o blith hogiau'r dref braidd yn fychan. Fe ddichon, wedi'r cwbl, na bu Caernarvon ddim yn ol o'i rhan deg mewn gwyr grymus o blith ei phlant cyn codiad Methodistiaeth cystal ag ar ol hynny, heb son am y lliaws nifer o ddynion clodfawr a fu'n trigiannu yma ar wahanol adegau. Ond a chyfyngu'r sylw i'r brodorion ar ol cyfodiad Methodistiaeth. Fe ystyrrid Richard Roberts, y telynor dall, yn un o brif delynorion ei oes. Yn 1829 fe gyhoeddodd y Cambrian Harmony, casgl o alawon Cymreig. Fe ae Robyn Ddu yn blentyn i Benrallt; bu wedi hynny gyda'r Wesleyaid a'r Anibynwyr yn ol a blaen, a chyda Seintiau y Dyddiau Diweddaf. Yr oedd elfen o ansefydlogrwydd ynddo, a chollodd lawer o'i ddylanwad o'r herwydd. Fe aeth i'r Deheudir yn fuan ar ol ymuno â'r Saint, yr hyn ydoedd oddeutu'r flwyddyn 1856, a dychwelodd oddiyno cyn bo hir; ac erbyn hynny yr oedd wedi eu gadael. Pan ofynnodd rhywun iddo, pa fodd y troes efe mor fuan oddiwrthynt, ei ateb oedd,—" 'Does dim rhaid i ddyn wisgo ambarelo o hyd, na chaiff o'i rhoi hi heibio yn y man!" Dyn rhwydd ydoedd, gyda llawer o natur dda, ac fel carreg lefn yn ysglentio dros y wyneb. Nid oes unrhyw le i ameu na chafodd efe afael o'r diwedd ar egwyddor sefydlog, nac ychwaith ei fod yn ddyn da ym môn ei natur. Ni chwynid ddim am dano yn rhan olaf ei oes. Yr oedd yn ysgrifennydd medrus, yr oedd cyffyrddiadau doniol yn ei farddoniaeth, ac yn ei amser goreu yr oedd yn siaradwr penigamp ar ddirwest, ym marn rhai, yn un o'r pedwar neu bump blaenaf a fu yng Nghymru. Ymwelai â'r dref, ar ol symud ei drigias oddiyma, bob blwyddyn braidd, a siaradai ar y maes fynychaf, am hanner awr wedi pedwar brynhawn Sul. Unwaith, gan gyfeirio ar ddull cynnil at ei gwympiadau ei hun, fe ddywedai y cadwai yr hen Farquis Môn gynt, sef arwr Waterloo, ordderchwragedd, ac y codid ef i'r cymylau fel cadeirydd y Feibl Gymdeithas gan John Elias a Christmas Evans; ond pe digwyddasai i Robyn Ddu yfed llond gwniadur o ddiod fain, yr elai'r sôn am hynny drwy Gymru benbaladr. Ganwyd ef yng Nghowrt y Boot. Yr oedd Dr. Griffith Parry, yn ddiau, yn un o feddylwyr coethaf y Cyfundeb. (Edrycher Moriah). Yr oedd Lewis Jones yn un o sylfaenwyr y wladfa Gymreig ym Mhatagonia, yn llywydd cyntaf yno, ac yn brif ynad. Yr oedd cyn hynny yn un o olygwyr y Pwnsh Cymreig, cystal a'i gyhoeddwr. Enillodd Syr William Preece safle arbennig fel dyfeisydd gwyddonol mewn trydaniaeth. Gallesid enwi amryw yn awr yn fyw wedi hynodi eu hunain mewn gwahanol gylchoedd neu gyrraedd safleoedd arbennig; ond fe enwir ond odid yr hynaf ohonynt wrth enwi'r Parch. Hugh Jones, un o bregethwyr goreu y Cyfundeb Wesleyaidd yng Nghymru yn ei oes. Brodorion y dref ydoedd y cwbl a enwyd.

Yn ymyl y dref, ger y Bontnewydd, y ganwyd y Parch. William Griffith Caergybi, un o saint amlycaf Cymru yn ei amser, ac un o'r ychydig iawn y gellir rhoi'r teitl o sant arnynt o'i ddeall yn ei ystyr uchaf i gyd. Yng nghyfarfod Undeb yr Annibynwyr yng Nghaernarvon yn 1873, a gynhaliwyd am 6 y bore ar un diwrnod yng nghapel Pendref, pan oedd y naill siaradwr dawnus ar ol y llall wedi ymollwng i beth hwyl ysgafn, a pheri nid ychydig chwerthin yn y lle, fe gododd ef ar ei draed, ac â golwg sobr iawn arno, fe estynnodd allan ei fraich grynedig, ac â'r lle wedi distewi drwyddo a difrifoli, fe ddywedodd y geiriau, yn grynedig-ddifrif,—"Yn y fangre hon y cefais i fy ail-eni." Yr oedd effaith y geiriau yn gofiadwy iawn. Eglurodd fod unrhyw ysgafnder—dyna'i air—yn y lle hwnnw yn annioddefol i'w deimlad. Pan oedd Eos Beuno yn cydgerdded âg ef unwaith wrth lan yr afon gerllaw y Bontnewydd, fe gododd William Griffith ei law i fyny, a chan bwyntio gyda'i fys at fan neilltuol ar y ffurfafen, ebe fe,—" Pan yn fachgen un arbymtheg oed, mi welais i oleu yn y fan acw,"—a chan ddodi ei law ar ei fynwes fe chwanegodd,—" ac y mae o yma byth." Er na allesid priodoli athrylith feddyliol i William Griffith, eto fe allesid priodoli iddo athrylith grefyddol. Yn y Bontnewydd y ganwyd y Parch. John Griffith, Bethesda wedi hynny, gwr o feddwl neilltuol o gryf, a chymeradwy gan bawb, a phregethwr goleu, a nerthol ar rai prydiau. (Edrycher Bontnewydd.)

Er na anwyd mo Eryron Gwyllt Walia yn y dref, eto yma y lluniwyd ei natur foesol, yn niwygiad 1818 ym Mhenrallt, a delw'r diwygiad hwnnw, fel y profwyd ef ganddo ef ym Mhenrallt, a arhosodd ar ei athrylith a'i gymeriad. (Edrycher Moriah.)

Nid mor hawdd fuasai cyfleu nodweddiad arbenigol pobl y dref drwy enghreifftiau, yn gymaint a bod y boblogaeth yn llawer llai sefydlog yma nag mewn ardaloedd gwledig. O ardaloedd eraill y buasai'r naill hanner neu ragor o'r cymeriadau neilltuol wedi dod. Ac y mae nifer mawr o'r rhai a fegir yn y dref yn symud oddiyma, ond yn fynych yn cadw delw'r dref ar eu calon. Eithr y mae rhyw haen amlwg o gymeriad trefol yn perthyn i'r lle: y mae rhai enghreifftiau eisoes wedi eu cyfleu gerbron, ac fe gyflei'r rhagor yn hanes yr eglwysi. Dichon y gallesid nodi Robyn Ddu fel yn crynhoi ynddo'i hun nodwedd- ion mwyaf neilltuol y bobl ar un wedd, ac Eryron Gwyllt Walia ar wedd arall; er, ar yr un pryd, fod y nodweddion a grynhoid yn y naill a'r llall ohonynt hwy yn graddol ddiflannu. Fe welir y nodwedd drefol ar liaws heb fod yn frodorion, ond wedi dod yma yn eu hieuenctid.

Llanbeblig ydyw eglwys y plwyf, a chapelau dibynnol arni hi yw'r lleill. Y mae'r adeilad ychydig gannoedd o lathenni i'r ochr ogledd-ddwyreiniol oddiwrth safle'r hen gaerau. Y mae wedi ei chysegru i Beblig, mab Macsen Wledig. Yr Elen y mae ei henw o hyd yn glynu wrth y gymdogaeth, megys yn Ffynnon Elen, ydoedd gwraig Macsen, a mam Peblig. Nid ydoedd yr un a mam Cystenyn Fawr, a chamgymeriad yw cyfleu ei henw yn Coed Alun. Y mae rhan o'r adeilad presennol yn hynafol iawn, ond nid yw'r rhan honno, debygir, ond wedi ei chodi ar sylfaen flaenorol. Tebygir mai Caer Sallwg oedd hynny o dref oedd ynghylch yr eglwys, ac felly yn ymyl olion yr hen Gaer Saint blaenorol. Adeiladwyd yr eglwys yn ei ffurf bresennol, fel y tybir, oddeutu dechreu'r 15fed ganrif. Mynn rhai fod y sylfaen gyntaf gyn hyned a Pheblig ei hun, sef o'r 5ed ganrif. Yr oedd gwerth y fywoliaeth yn £350. oddeutu 1880. Y mae traddodiad fod capel dibynnol ar Lanbeblig yn sefyll unwaith yn ymyl Ffynnon Elen, ond ni wyddys mo'i gyfnod. Eglwys Fair sydd ynglyn wrth dwr ar y mur ar y cei, sef eglwys y dref newydd. Ail-adeiladwyd mewn rhan yn 1812. Cynhelir gwasanaeth Byddin yr Eglwys yma yn awr. Cychwynnwyd Byddin yr Eglwys yn 1900 dan arolygiaeth Capten Griffiths. Eglwysi diweddar yw eglwys Crist a'r eglwys wrth y Twtil.

Llanfaglan sydd eglwys hynafol, yn agos i ddwy filltir o ganol y dref i'r dde-orllewin. Y mae cerrig Rhufeinig wedi eu gweithio i mewn i'r adeilad. Ceir cyfeiriadau at yr eglwys. yn y 14 ganrif. Codwyd eglwys ddiweddar yn ei lle yn nes i'r Bontnewydd. Baglan ydyw'r nawddsant. Ae eglwyswyr y Bont naill ai i'r eglwys hon neu ynte i eglwys Llanwnda. Dengys dyddlyfr D. Griffiths fod ysgol Sul eglwysig yn cael ei chynnal yn ysgol genedlaethol y pentref er 1858.

Erys coffadwriaeth Thomas Thomas, a benodwyd i viceriaeth Llanbeblig yn 1837, yn fyw a pharchedig o hyd. Yr oedd yn wr o ysbryd efengylaidd, yn bregethwr o ddylanwad, yn dwyn mawr sel dros y Feibl Gymdeithas.

Yn 1862 y penodwyd ei olynydd ef, J. C. Vincent. Daeth ef o dan ddylanwad mudiad uchel-eglwysig Rhydychen. Yn y colera a fu yn y dref yn 1866 fe ragorodd ar weinidogion eraill y dref yn ei ymroddiad i'r cleifion, a mawr ydoedd ei glod ar y pryd o'r herwydd. Bu farw yn ddyn cymharol ieuanc, ac fe ddywedid ar y pryd ei fod ar ei farw-ysgafn, mewn llawn feddiant ar ei synwyrau, yn gofyn i'r rhai o'i amgylch, onid oeddynt hwy yn gweled yr angylion yn yr ystafell? Yr oedd yn ddyn. tal, syth, cymesur, boneddig yr olwg arno, a chydag urddas llym yn argraffedig ar ei wedd.

Ei olynydd ef yn 1869 oedd H. T. Edwards, y Deon wedi hynny. Uchel-eglwyswr y cyfrifai yntau ei hun. Yr oedd rhywbeth yn ei ddylanwad ef yn gyferbyniol i'r ddau arall. Gydag ef fe ddeffrowyd y teimlad o wrthdarawiad rhwng eglwys a chapel. O'r blaen, y vicer fyddai'r cadeirydd yng nghyfarfod y Feibl Gymdeithas; ymhen rhyw gymaint ar ol iddo ef ddod yma, fe newidiwyd hynny, a pheidiodd yntau mwyach a dilyn y cyfarfodydd. Yr oedd rhywbeth yn ei ddull o siarad yn gyhoeddus y pryd hwnnw yn awgrymu'r ymladdwr. Wrth wneud rhyw bwynt neilltuol fe giliai gam yn ol ar y llwyfan, a rhoddai'r ergyd ymresymiadol neu reithegol gyda rhuthr, fel y deuai gam ymlaen drachefn; ac yr oedd rhyw ru cyffrous yn ei lais. Yr oedd yn anhawdd peidio â meddwl nad oedd gan bresenoldeb ymneilltuwyr yn y cyfarfod rywbeth i'w wneud â'r dirfawr gynnwrf. Fe godai ias o arswyd braidd yn y meddwl ieuanc wrth wrando. Yr oedd hynny cyn dyddiau'r ddadl ar ddatgysylltiad. Os gellir dibynnu ar adroddiadau, yr oedd elfen yr ymladdwr yn gryf ynddo er yn ieuanc, yn tywynnu allan yn amlwg drwy'r menyg paffio. Yr un pryd, yr oedd y cynnwrf hwnnw yn arwydd o ddiffyg hunanfeddiant cyflawn a mantoliad cydbwys. Bu mewn dadl drwy gyfrwng y Goleuad â Thomas Charles Edwards, a sylw'r gwr hwnnw arno, cyn bo hir iawn ar ol y ddadl, ydoedd, mai dyna'r fath ydoedd, pan y tybiai y gwelai rywbeth y rhuthrai arno fel tarw. Yn ei araeth deirawr fawr ar ddatgysylltiad yng Nghaernarvon, yng nghyfnod y ddadl gyhoeddus yma, fe wnaeth ymosodiad enbyd ar ymneilltuaeth. Mewn cyfarfod cyhoeddus yn ddilynol i hynny, fe ddywedodd Henry Jonathan, mewn cyfeiriad at yr araeth honno, fod y Deon wedi dweyd i'r gwrthwyneb ar bob pwynt yn yr araeth, lle'r ymosodid ar ymneilltuaeth, wrtho ef ei hun yn gyfrinachol. A gwr i ddibynnu arno oedd Henry Jonathan. Eithr dyna'i ddull ef: yng nghyfrinach ymneilltuwr fe gydnabyddai bethau andwyol braidd i'w ochr ei hun, a gwnae hynny mewn dull agored, siriol, brawdol, y fath a dynnai serch y sawl a gawsent y fraint o'i gymdeithas ato'i hun. Yn y ddadl gyhoeddus ac yn ei lyfrau, fe ddanghosai, yn ei gyfeiriadau at ymneilltuaeth ac ymneilltuwyr, ysbryd eithafol chwerw. Mae pob lle i gasglu ei fod yn gwbl ddiragrith yn y naill gysylltiad cystal a'r llall. Fe berthynai iddo liaws o ragoriaethau amlwg fel dyn, fel pregethwr, fel gwladwr, cystal a rhyw ddawn reithegol anarferol fel ysgrifennydd, yn enwedig yn y Saesneg.

Ei olynydd ef oedd y Dr. Daniel Evans yn 1876. Clywodd pawb am ddadl Corris, rhyngddo ef a Mr. Evan Jones, ac yn ol pob hanes yr oedd yn ddadleuwr medrus, cyflawn o wybodaeth, ac â dawn ganddo i gornelu'r gwrthwynebwr.

Dywedir ddarfod i Daniel Phillips Pwllheli, yn fuan ar ol pasio deddf goddefiad yn 1689, gofrestru tŷ yma i bregethu, ac iddo ddod yma i bregethu hyd y gallai hyd derfyn ei oes yn 1722. Cynhelid yr achos ymlaen oreu ellid, gyda neu heb bregethu, ac yna rhowd terfyn arno am amser maith. Trwyddedwyd tŷ yma i bregethu gan Rees Harries, gweinidog Pwllheli; ac ar ol hynny trwyddedwyd tŷ ym Mhenrallt gan Abraham Tibbot, Chwefror 28, 1780. Bernir mai tŷ yng ngwaelod Penrallt ydoedd gyferbyn â Sein Delyn. Y gweinidog sefydlog cyntaf oedd John Griffith, 1782-4; yna (Dr.) George Lewis, 1785-94. Cyn i John Griffith fyned oddiyma, yr oedd yr eglwys yn ymgynnull mewn llofft yn Nhreffynnon, ar y ffordd i Lanberis. Yn 1791 adeiladwyd Pendref. Dychwelodd John Griffith yma yn 1796, ac arhosodd hyd derfyn ei oes yn 1818. Yr oedd Caledfryn yma yn ystod 1832-48. Adeiladwyd capel newydd yn 1839. Yn fuan wedi hynny adeiladwyd Joppa yn Stryd Snowdon. Adeiladwyd Salem yn 1862, ac yna rhowd terfyn ar yr achos yn Joppa. Bu David Roberts ym. Mhendref yn ystod 1850-71. Daeth Evan (Herber) Evans i Salem yn 1865. Dywedir yn Hanes yr Eglwysi Anibynnol (t. 248) mai oddeutu 1820 y dechreuwyd pregethu yn y Bontnewydd gan William Jones, gweinidog Pendref. Yn 1818 y bu John Griffith, gweinidog Pendref cyn hynny, farw; a bu Simon Hobley yn gwrando arno ef yn pregethu yn y Bontnewydd. Agorwyd y capel yn 1826; ond ni ffurfiwyd eglwys am flynyddcedd wedi hynny.

John Griffith ydoedd tad William Griffith Caergybi, tad teilwng o'r mab. Yr oedd yn wr tal, cydnerth, hardd, boneddig yr olwg arno, parchedig yngolwg pawb, ac yn meddu ar ddawn. felys a phoblogaidd. Er hynny, bod yn dad i William Griffith ydoedd ei anrhydedd uchaf, a'i waith yn llunio ei gymeriad ef ei orchest bennaf. Ac yr oedd ei fab arall, y Parch. John Griffith (Buckley) yn addurn arall arno. Yr oedd John Griffith y tad yn fwy pregethwr na'i feibion. (Hanes Eglwysi Anibynnol, t. 234 ac ymlaen.)

Feallai mai gweinidogaeth Caledfryn oedd y fwyaf cynhyrfus o eiddo un gweinidog a fu yng Nghaernarvon. Bu ymraniad yn ei eglwys pan ymadawodd lliaws i sefydlu Joppa. Yr oedd efe yma pan torrodd y diwygiad dirwestol allan gyda'r fath rym, a gwrthwynebodd y diwygiad hwnnw. Ac megys ag yr oedd yn briodol iddo ef, wedi dechre gwrthwynebu, gwrthwynebodd â'i holl egni. Yr oedd amddiffynwyr dirwest yn y dref, o'u tu hwythau, yn meddu ar eithafion sel o blaid eu hachos. Taranai y naill yn erbyn y llall. Gadawodd y nifer mwyaf o'r tafarnwyr y capelau eraill, gan godi eu pabell ym Mhendref. Diau fod a fynnai hynny lawer â'r ymraniad. Aeth y dirwestwyr i Joppa, a gadawyd y lleill ar ol; a ffynnai gwrthwynebiad penderfynol rhwng y ddau le. Parodd ymosodiad Caledfryn ar ddirwest iddo ef a'r Dr. Arthur Jones (Bangor), oedd yn gyfeillion mawr o'r blaen, fyned dros ysbaid yn wrthwynebwyr mawr. Pan ymadawodd y dirwestwyr i Joppa, fe wnaeth y Dr. Arthur Jones y sylw fod y colomenod i gyd wedi codi o Bendref, gan adael y brain i gyd ar ol! Achos arall o gynnwrf nid bychan oedd ymosodiad Caledfryn ar grib-ddeiliaeth masnachwyr y dref. Nodai enghreifftiau yn ddigon amlwg i'w hadwaen, fel yr hysbysid hwy iddo, weithiau'n deg weithiau eraill yn anheg; ac yn naturiol fe greai hynny siarad mawr a drwgdeimlad mawr. Yr oedd yn wleidyddwr aiddgar, a pharai ei bleidgarwch i Ddatgysylltiad a phynciau eraill lawer o siarad ac ymddadleu. A byddai dwndrio nid bychan uwchben ei feirniadaethau llenyddol miniog. A dyddiau y parlwr bach cefn ydoedd y rheiny, lle'r ymgyfarfyddai'r siopwyr â'i gilydd, a dyddiau'r dondio a'r dadleu uwchben y potiau yn y tafarnau; a rhwng popeth nid oedd nemor seibiant o unrhyw hyd oddiwrth yr helyntion a barai Caledfryn. Yr oedd Caledfryn ei hun yn wrthwynebydd mor bybyr, fel y deffroai bybyrwch yn ei wrthwynebwyr yntau. Yr oedd adsain y clwcian a'r clochdar i'w glywed ymhen ugain mlynedd wedi iddo ef ymadael â'r dref. Ond y naill ochr i Galedfryn yn unig a welir yma. Yr oedd yn wr urddasol ei ymddanghosiad a'i ddull yn y cyhoedd. Bernid ef gan rai yr areithiwr ar bynciau cyffredin goreu yng Nghymru; ac yr oedd yn bregethwr poblogaidd a dylanwadol, cystal ag yn fardd a beirniad a llenor o fri yn ei amser.

Yn yr eithaf arall oddiwrth Caledfryn yr oedd (y Dr.) David Roberts. Tynnai ef y llaw yn esmwyth dros y gwallt. Gwr tawel, siriol, caruaidd, caredig, oedd ef; a phregethwr mwyn mwyn. Yr oedd ganddo ryw ddawn ddisgrifiadol mor amlwg ag eiddo neb yng Nghymru o fewn ei gylch ei hun; a chwareuai ar dannau'r delyn nes swyno pob clust.

Rhyw ymarllwysiad oedd Herber Evans. Bob tro y codai i siarad, pe na bae ond i gynnyg neu eilio diolchgarwch, deuai fel sioch am ben dyn. Goreu po hwyaf y byddai wedi aros heb siarad; yna, pan ddeuai ei dro, byddai ei holl agwedd megis yn dweyd yng ngeiriau Elihu,-"Minnau a atebaf fy rhan minnau a ddanghosaf fy meddwl. Canys yr ydwyf yn llawn geiriau: y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymell i. Wele, fy mol sydd fel gwin nid agorid arno: y mae efe yn hollti fel costrelau newyddion. Dywedaf, fel y caffwyf fy anadl: agoraf fy ngwefusau ac atebaf." Rai troion, ar ol codi ohono ar ei draed, a chyn iddo ddweyd gair o'i enau, fe welid yr holl gynulleidfa yn siglo gan chwerthin, megys pe na bae hi ond rhyw un bod, wrth weled ohoni ar ei wedd fod yr argae ar godi, a chan wybod fod rhuthr gwreichionllyd o hyawdledd yn ei hwynebu. Fe welwyd rhyw funud cyfan o hynny yn troi yn ei erbyn, gan ei wneud yn ymwybodol ohono'i hun. Weithiau fe newidiai tôn cyfarfod yn hollol ac ar unwaith ar ei waith ef yn codi ar ei draed, megys, ar un tro, pan oedd Ieuan Gwyllt wedi bod yn siarad ar hawliau addysg, mewn cysylltiad feallai â'r bwriad i sefydlu coleg yn Aberystwyth; ac wedi i'r cyfarfod fod yn un o'r rhai mwyaf hwyrdrwm, dyna yntau gerbron, a'r lle yn fyw drwyddo, a'r bobl oedd ddau funud neu dri yn ol mor drwm— bluog yr olwg arnynt, bellach yn clecian eu hadenydd megys, ac yn ysgrechian ac yn bonllefain eu cymeradwyaeth fel mewn rhyw rialti pen blwydd tywysog. Nid oedd ryfedd fod Ieuan Gwyllt ei hun, wr synfyfyrgar, o'r tucefn ar y llwyfan, yn amlygu ei syndod y fath, nes yr oedd gwyn y llygaid fel dau ddarn arian o dan yr aeliau trymion, tywyllion. Y digrifol geid yn teyrnasu yn gyffredin yn y cyfarchiadau hyn; ond yn ei fannau dedwyddaf i gyd fe geid dagrau yn gymysg â chwerthin, fel heulwen bob yn ail â gwlaw. Ambell dro, fel clo i'r araeth, fe geid rhyw ddisgrifiad ysgafn—farddonol fel bwa disglair amryw liwiau yn tywynnu i'r golwg dros y fan oedd funud yn ol yn cawodi hyfryd ddagrau, a lle'r oedd y lleithder eto heb ei sychu ymaith oddiar wyneb y ffurfafen. Mantais iddo ef oedd y cyfarchiad byrr. Er y cawsai ef wrandawiad effro dan bob pregeth, eto ni byddai'r bregeth ganddo fel rhyw ddiferyn o arian byw nad gwiw cyffwrdd ag ef. Yr oedd y cyfarchiad felly: yn rhyw un diferyn, neu ynteu'n lliaws o ddiferynau crynion, byw; ond gallasai'r bregeth beidio â bod yn hyn na'r llall; ac ar y goreu ni byddai fyth yn ddrych byw perffeithgwbl, yn ymrannu neu'n ymgau yng nghrebwyll dyn fel rhyw ddiferyn o ryfeddod a drych o gyfiawnder tragwyddol. Fel y dywedodd Robert Jones Llanllyfni am dano unwaith, ar ol ei wrando yn ei fan goreu,—" 'Dydio ddim yn rhoi pregeth i chwi; ond yr ydych yn cael rhywbeth cynddeiriog o dda ganddo yn lle pregeth."

Mae hanes am fedydd yn afon Saint yn 1789. Ffurfiwyd eglwys gan y Bedyddwyr yn 1799. Y man cyfarfod ar y cyntaf oedd yn Nhreffynnon, wedi hynny mewn tŷ ym Mhenrallt Ddeheuol hyd 1826, pryd yr adeiladwyd Caersalem. Helaethwyd yn 1855. (Hanes y Bedyddwyr iii. 358). Yr oedd y Bedyddwyr Sandemanaidd yma yn 1835, ac am gyfnod oddeutu hynny; ond ni bu eu nifer ond bychan.

Yma y treuliodd Christmas Evans y chwe blynedd diweddaf o'i oes, sef ystod 1832—8. Pan ddaeth efe i Gaernarvon yr oedd dyled o £800 ar y capel a dim ond 30 o aelodau, a rhai ohonynt o dan ddylanwad cyfundrefn J. R. Jones Ramoth. Yr oedd ymrysonfeydd a rhwygiadau wedi bod yn yr eglwys, fel yr oedd nifer o'r gwrandawyr wedi eu tarfu ac wedi ymadael i leoedd eraill. (Y Gwyddoniadur, d.g. C. E.) Ond er fod sefyllfa'r eglwys wedi cyfyngu ar ei ddylanwad yn y dref, eto bu iddo ddylanwad gwirioneddol ac arhosol. Byddai Iliaws yn myned i wrando arno o fannau eraill, a delid ef mewn parchedigaeth mawr gan bob dosbarth ac enw yn y dref. Yr oedd rywbeth cwbl arbennig ynddo ef o ran nodwedd ei athrylith a'i gymeriad. Yr ydoedd yn wr chwe troedfedd o daldra, ac yn gorffol; heb fod yn gymesur ei ffurf, a rhywbeth afrosgo yn ei symudiadau. Meddai ar ben anarferol o fawr, gyda thalcen eang, aeliau bwaog, ac wedi colli un llygad. Ymgrynhoai y genau ac ymdynhäent, megys gan chwareugarwch a direidi dychmygol, ar yr un pryd ag yr arhosai'r llygad yn llonydd, gyda gwawr oleu ynddo, ond dan gyffroad teimlad yn llewyrchu ac yn ffaglu. Gwir arwyddlun y meddwl ydoedd ei ymddanghosiad allanol. Nid oedd o feddwl cymesur, ac yr oedd yn hytrach yn ddiffygiol mewn ysbryd barn a choethder chwaeth. Nid oedd grym ei ddeall yn gyfartal â bywiogrwydd ei athrylith. Eithr yn yr hyn a elwir yn briodol yn athrylith, fe ddichon ei fod tuhwnt i bob pregethwr a fu yng Nghymru. Ni wyddys a fyddai athrylith Elis Wyn yn llewyrchu allan yn ei bregethau; ond a barnu oddiwrth y Bardd Cwsc, efe ydoedd athrylith-efaill Christmas Evans. Mae'n hawdd gweled fod Elis Wyn wedi gadael ei ol ar Christmas Evans o ran cynllun dychmygol ac o ran iaith. Mae'r ragoriaeth gydag Elis Wyn o ran gafael meddwl, cysondeb syniad, crynhoder awchlym, iaith ddiwylliedig; ond y mae Christmas Evans yn ei fannau uchaf yn dangos mwy o hyawdledd iaith a syniad, ac yn fynych athrylith fwy amrywiol. Y mae'r meddwl yn ymagor allan yn llawnach ganddo, ac y mae ynddo fwy o dynerwch ac o asbri ysgafn, chwareus, goleulawn. Rhaid peidio â'i farnu oddiwrth ei ysgrifeniadau ei hun, oddieithr mewn mannau, yn gymaint ag oddiwrth atgofion eraill o'i ddisgrifiadau hyotlaf, neu ei ddywediadau disgleiriaf. Mae'n debyg nad oedd y fath fywiogrwydd ynddo ar hyd ei araeth ag yn Herber Evans; ond tra'r oedd hyawdledd Herber Evans yn gyfyngedig i'w ddull, yr oedd Christmas Evans yn hyawdl o ran dull ac iaith a drychfeddwl. Ac er fod Herber Evans yn chware ar amrywiol dannau'r delyn, eto yr oedd Christmas Evans yn ddwysach, yn fwy cyffrous ac aruthr, yn agor golygfeydd mwy rhamantus o flaen y meddwl. yn deffro mwy ar y teimlad o'r dieithr, y rhyfeddol, y cywrain, y cyfriniol. Y mae wedi ei ddweyd lawer gwaith fod gradd helaeth o debygrwydd rhyngddo a Bunyan; ac y mae'n amlwg ei fod ef wedi dysgu llawer oddiwrtho. Y mae Bunyan yn rhagori mewn symledd a chysondeb. Nis gallasai Christmas Evans ledu allan y fath olygfeydd eang, cyson, pell—gyrhaeddol ag a geir gan Bunyan; ond yr oedd efe'n wylltach, yn llawnach o asbri plentyn, ac yn dygyfor yn fwy gan hyawdledd angerddol.

Yma y treuliodd Cynddelw y rhan olaf o'i oes, sef ystod 1862—75. Ni ddarfu iddo ef gymysgu rhyw lawer â'r bywyd trefol; ni chlywid mono ond yn achlysurol ar y llwyfan cyhoeddus. Yr efrydydd enciliedig ydoedd i fesur mawr, mor bell ag yr oedd bywyd y dref yn y cwestiwn. Yr oedd yn ei ddull yn wr agored, rhydd, yn ei inverness fawr, a chyda'i wyneb rhadlon a'i farf hirllaes. Rhadlonrwydd tawel oedd ei nôd arbennig. Dyn trwyadl dda ydoedd ef, er nad oedd dwyster crefyddol yn ymddangos yn ei nodweddu. Yr oedd teimlad crefyddol amlwg yn y dref yn amser ymweliad cyntaf Moody â'r wlad hon. Cynhelid cyfarfodydd gweddi undebol yn y gwahanol gapelau. Deuai Cynddelw i'r cyfarfod yn ei gapel ei hun. Ar un tro, yr oedd Herber Evans yno yn siarad mewn teimlad toddedig. Soniai am eneth o forwyn o'r Alban, wedi dod o ganol y mynyddoedd i wasanaeth yn rhywle ar wastatir Lloegr. Hiraethai'r eneth am wlad y bryniau,—" Oh, for a wee bit of a hill!" Dyna ei deimlad yntau ynghanol gwastad crefyddol y blynyddoedd hynny: "Oh, for a wee bit of a hill! Wrth godi ar ei ol, fe gydnabyddai Cynddelw ei anallu i ymdaflu i deimlad; ac amlwg mai ei feddwl oedd nad allai efe ddim. cynyrchu teimlad yn y dull y gwnae y llefarwr o'i flaen. Cyfansoddodd amryw lyfrau buddiol, ac yr oedd ganddo arddull ddoniol mewn rhyddiaeth, cystal a'i fod yn fardd o gryn fri. Yr oedd ei bresenoldeb yn y dref yn cynnal y traddodiad llen— yddol ynddi. Fel darlithydd cyhoeddus fe'i ceid yn ddawnus a dysgedig, ac fel pregethwr yr oedd ar unwaith yn hwylus a llafurfawr. Tebyg, er hynny, mai ei brif gynneddf ydoedd arabedd, ac y mae lliaws o'i ddywediadau ar goedd gwlad. Ystyrrid ef gan Kilsby Jones yn un o'r tri humourist mwyaf yng Nghymru yn ei amser ef. Fel y dywedai Wyndham Lewis am dano, wrth ddefnyddio un o'i eglurebau mewn cyfarfod dirwest yng Nghaernarvon,—"A gwr o athrylith fyw oedd ein Cynddelw ni."

Tybir fod y bregeth gyntaf a rowd gan y Wesleyaid yn y dref wedi ei thraddodi yng nghapel Penrallt gan Owen Davies, Medi 15, 1800 (Hanes Wesleyaeth Gymreig, t. 44). Agorwyd capel ganddynt yn 1805, ac ail-adeiladwyd yn 1826. Ymsefydlodd Samuel Davies yma yn 1807. Danghosodd ef blaid i Robyn Ddu yn ddiweddarach o rai blynyddoedd, pan yr erlidid ef gan eraill. Rhaid gan hynny iddo fod yma yr ail waith. Yr oedd ef yn ddadleuydd pwysig yn y dyddiau hynny yn erbyn y Calviniaid. Danghosodd Robyn Ddu ei serch tuag ato drwy ei restru gyda John Elias, Christmas Evans a Williams mewn cân goffadwriaethol:

D'ai Samuel Davies mewn llonder yn llawn
I selog amlygu helaethrwydd yr Iawn.

Yr oedd R. M. Preece yn ei ddydd yn ddyn pwysig yn y dref a'r cylch. Mab iddo ef ydoedd Syr William Preece. Wrth ei alwedigaeth yn oruchwyliwr yr Hen fanc, ac yn bregethwr lleol. O ran ei ddull yn gyhoeddus, yn foneddig, gyda chyffyrddiad go amlwg o'r mawreddog. Y syniad ydoedd fod pregethwyr ieuanc y cyfundeb yn y cylch yn ei ddynwared, a rhoddai hynny iddynt, ym marn y Methodistiaid, agwedd orchestol. Un o straeon clasurol y pulpud sydd yn ei gylch ef. Gofynnodd Preece i Sian y bryn, yng nghlyw Robyn Ddu, ac yntau'n hogyn y pryd hwnnw, onid oedd hi'n teimlo'n oer iawn, a hithau'n droednoeth fel ag yr ydoedd, ar ddiwrnod o eirwlaw fel hwnnw? Atebodd Sian ei bod yn teimlo'n oer iawn. Yna, ar yr amod na waeddai hi ddim dan ei bregeth ef drannoeth, addawodd Preece bâr o esgidiau iddi. Yr oedd Robyn yn eistedd wrth ymyl Sian fore Sul, a Preece yn pregethu yn wresog. Dechreuodd Sian anesmwytho, ac yn y man diosgodd yr esgidiau, cododd ar ei thraed a thaflodd hwy ymaith, a gwaeddodd allan,-" Yr esgidiau i Preece, a Christ i minnau."

Bu Thomas Aubrey yma am flwyddyn yn unig, sef 1843. Yr oedd disgwyliadau mawrion wrtho, a braidd na thybid gan rai nad enillai efe'r dref i gyd o fewn terfynau ei enwad. Byddai lliaws o blith yr enwadau eraill a aent i wrando arno yn cwyno ei fod yn defnyddio geiriau annealladwy iddynt, sef geiriau hirion gyda therfyniadau anghynefin. Fe ddywedai Caledfryn, fel yr adroddid, ei fod ef yn arfer geiriau heb fod yn yr iaith o gwbl. Gwnaeth yma, fel mewn mannau eraill, argraff o ddoniau areithyddol annhraethol, a glynodd y geiriau, Aubrey fawr ei ddawn" wrth ei goffadwriaeth yn y lle.

Bu John Bryan yn trigiannu yma fel masnachwr yn rhan olaf ei oes, sef hyd 1856, wedi bod ar un cyfnod yn weinidog, ac yn parhau i bregethu, ac yn wr amlwg a chyhoeddus yn y dref a'r cylchoedd. Cymerodd ran yn y dadleuon diwinyddol, a chan ei ffraethder tafodlym yr oedd son am dano drwy'r wlad. Fe gynyrchai ei ddull mewn rhai cylchoedd gryn ddigrifwch ac ysgafnder. Yn y watchnight fe ymguddiai o'r golwg yn y pulpud dwfn hyd ar ol i'r gloch orffen taro hanner nos, ac yna fe roe lam i'r golwg, gan estyn ei freichiau allan, a chyhoeddi'r dymuniad am Flwyddyn newydd dda. Gwr llon ydoedd, o dymer ysgafn, chwareus. Yr oedd ar un tro yn croesi drosodd o'r Iwerddon mewn agerlong gyda Simon Hobley, pryd y cododd yn dymestl fawr, ac yr oeddid yn ofni am ddiogelwch y llong a bywyd y teithwyr. Wedi i'r dymestl fyned drosodd, mynegai Simon Hobley ei syndod wrtho ei fod ef yn gallu aros yn y caban yr holl amser ynghanol perygl mor fawr. "O," ebe yntau, "gyda Hobley yn gweddio ar y dec a Bryan yn canu yn y caban, 'doedd yna berygl yn y byd am y llong!" Byddai ei enw am flynyddoedd lawer wedi ei farw yn cynyrchu sirioldeb ym mhob cwmni, megys ag y bu ei enw am flynyddoedd ar un cyfnod yn ei oes yn codi lledrithiau a bwganod dadleuaeth ddiwinyddol.

Yma, hefyd, y treuliodd Richard Bonner y rhan olaf o'i oes, sef ystod 1854-67, a bu yma fel gweinidog y gylchdaith. Yr oedd ef yn wr urddasol yr olwg arno, dros ddwy lath o daldra, ac yn gymesur, gyda wyneb hir, talcen eang, aeliau trymion. blewog, a'r holl olwg arno yn foneddigaidd ac yn gofiadwy o darawiadol. Nid hawdd oedd ei anghofio ar ol unwaith ei weled. Er fod golwg ddifrif, lem arno, eto dull mwyn oedd ganddo gyda rhyw fechgynnos y digwyddai daro arnynt wrth ei dŷ. Fe arferai ddweyd iddo gael ei ddysgu gyda'r Methodistiaid a'i achub gyda'r Wesleyaid. Fel gwr o arabedd yr adwaenid ef oreu. Yr ydoedd yr un pryd yn meddu ar amgyffrediad eang a dychymyg chwareus, ac fe geid ei bregethau yn gyfansoddiadau destlus. Traddodai yn rhwydd a thawel, ac yr oedd swyn yn ei ddull, weithiau yn codi gwen ac weithiau ddeigryn. Troai o'r naill i'r llall yn annisgwyliadwy. Ar y llwyfan yr oedd ei arbenigrwydd mwyaf. Byddai ganddo ryw eglurhad neu hanesyn neu ddywediad arab yn hoelio'r glust yn barhaus. Yr oedd mwy o awch ar y pethau oblegid ei edrych- iad syn a difrif.

Yr oedd Cynfaen yma yn ymyl diwedd ei oes. Yr oedd ef yn wr o ddiwylliant eang ac o arddull flodeuog. Yn ei bregethau, ar brydiau o leiaf, yr oedd yn gymharol syml. Fe adroddir i Hiraethog ddweyd am ei erthygl yn y Geninen ar Chwaeth a Beirniadaeth, nad oedd neb arall yng Nghymru a allasai fod wedi ei chyfansoddi. Y mae byrdra arhosiad gweinidogion yr enwad yma, sef fel gweinidogion y gylchdaith, yn rhwystr iddynt wneud argraff neilltuol ar y dref fel y cyfryw.

Pregethwr lleol oedd John Morris Stryd y llyn. Dyn o dan y taldra cyffredin ryw gymaint, ond yn llawn o gorff; a chyda gwedd siriol, dawel, hunanfeddiannol, fel dyn mewn heddwch â'i gydwybod, ac heb fod yn agored i fraw disymwth. Enillodd barch pawb a'i hadwaenai. Fe ddywedir ei fod yn bregethwr melys, adeiladol, ac y byddai nid yn anfynych yn effeithiol anarferol.

Fe grybwyllwyd ynglyn â Robyn Ddu fod Saint y Dyddiau Diweddaf yma yn 1856, ac am rai blynyddoedd cyn hynny, fe debygir, cystal a blynyddoedd lawer ar ol; ond nid oeddynt ond nifer bychan iawn. Arferent gynnal cyfarfodydd cyhoeddus o flaen yr efail lle saif y post yn awr, a chawsant eu herlid yno aml waith, a hynny rai troion gan broffeswyr crefydd. Adroddir ddarfod eu hymlid unwaith ar hyd y maes i lawr allt y cei, ac yn offis yr harbwr y cawsont loches. Fe arferai Robyn Ddu gyfarch y dorf yn rhan y Seintiau oddiar risiau o flaen tŷ lle saif banc y North and South yn awr. Pres- wylid y tŷ y pryd hwnnw gan Abraham, mab i Evan Richardson; ac yn y tŷ hwnnw y preswyliai Evan Richardson cyn hynny. (Y Nelson', 1895, Awst, t. 15.)

Cychwynnodd y Pabyddion yma ers oddeutu 45 mlynedd yn ol. Y Tad Jones, wyr Dafydd Cadwaladr, oedd yr offeiriad cyntaf. Dyn bychan, eiddil, cloff ydoedd ef, ond gyda wyneb tyner, benywaidd, difrif. Llais gwan, gwichlyd oedd ganddo, ac ni feddai ar ddawn o gwbl. Cymerid ef yn ysgafn braidd pan ddaeth gyntaf i'r dref, a gwaeddid ar ei ol gan ryw fechgynnos difeddwl. Ni chymerai yntau arno ddim, ond gwnae ei waith yn dawel, yn ffyddlon, yn ymroddgar, megys i Dduw; ac yn y man, er nad yn fuan iawn, fe ddarfu'r gwrthwynebiad a'r diystyrrwch, a daeth y Tad Jones yn uwch uwch ym meddwl pawb, fel y coleddid tuag ato flynyddoedd cyn symud ohono o'r dref deimlad o barchedigaeth cyffredinol. Y mae capel y Pabyddion gerllaw'r Twtil.

Cychwynnodd Byddin Iachawdwriaeth yma yn 1887. Fe gynhaliasant eu cyfarfodydd am flynyddoedd yn Turf Square, yn yr ystafell y cychwynnodd yr eglwys Saesneg ynddi. Mawr y cynnwrf ar y cychwyn. Bu rhif yr aelodau yn 700. Glynodd. nifer. Y mae'r Fyddin yn y dref wedi dangos ysbryd ymroddgar ac wedi gwneuthur lles diamheuol.

Eglwys Rydd y Cymru oedd yr enwad diweddaf a gychwynnodd yma. Ni bu'r enwad yn lluosog. Darfu i Mr. R. O. Roberts gopio y ffigyrau isod o'r Llyfr Glas am 1846, debygir: "Ysgolion Sul, Rhag., 1846. Ysgol wladol Caernarvon. Ar y llyfrau, 300; yn bresennol, 299. Moriah, 384, 358. Engedi, 355, 325. Wesleyad, 225, 158. Bedyddwyr, 69. Tanrallt, 25." Joppa, 70, 43. Stryd Bangor [Pendref], 240, 215. Turkey Shore [Glanymor], 66. Gan fod enwadau eraill â'u rhan yng ngwaith yr ysgol yn y Workhouse, fe gyfleir yma adroddiad yr ymwelwyr Methodistaidd am eu hymweliad â'r ysgol yn 1885, sef canmlwyddiant yr ysgol Sul yng Nghymru: "Prynhawn Saboth, Hydref 11. Ni buom mewn ysgol erioed a osododd argraff mwy dymunol ar ein meddwl. Dechreuwyd am 2 i'r funud, pryd yr oedd pawb yn bresennol—golygfa hardd iawn. Atebwyd ni fod rhoi gwobrwyon wedi bod yn foddion i gynyddu'r llafur; fod y plant yn ateb o'r Rhodd Mam yn niwedd yr ysgol; yr amcenir gwneud yr ysgol yn foddion gras; yr addysgir ac y rhybuddir y plant ymherthynas i ddrygau ac anfoesoldeb; y cynrychiolir yr Ysgol yn y Cyfarfod Ysgolion; y cerir adref y cenadwriaethau oddiyno; fod angen am chwaneg o gymorth i gario'r gwaith ymlaen. Mae braidd bawb a ddaw yma o'r tuallan yn dod er mwyn y plant, ac y mae eu llafur yn ateb diben rhagorol. Y mae'n sicr fod yr agwedd ddymunol, astud a distaw sydd ar y plant hyn i'w briodoli i fesur helaeth i'r ddisgyblaeth y maent dani ynghorff yr wythnos. Mae'r rhai o 8 i 12 yn darllen yn dda. Ymdrech neilltuol yn rhai o'r dosbarthiadau mewn dod i ddeall y Gair. Mae'r brodyr ffyddlon sy'n myned yno ar hyd y blynyddoedd yn haeddu clod dau-ddyblyg. Henry Edwards, John Jones."

Yn y bennod hon fe geisiwyd rhoi syniad am y dylanwadau. sy'n rhoi ffurf i'r cymeriad trefol. Awgrymiadau i'r cyfeiriad hwnnw a fwriedid. Ar y brodorion a'r rhai ddaw yma yn ieuainc y gweithreda'r dylanwadau hynny yn nerthol. Rhaid cofio fod y sawl a dderbyn y dylanwadau hyn yn gryfaf yn fynych yn ymadael oddiyma yn ieuainc. Bontnewydd 1807 Fe ddengys y tabl islaw berthynas gwahanol eglwysi Methodistiaid y dref a'r cylch â Moriah:—

Penrallt ydoedd enw'r hen gapel; Moriah a rowd yn enw ar y capel presennol. Yn ol y traddodiad yn y dref, nid oedd nifer y disgyblion ar y cyntaf yn gymaint a deuddeg. Nid yw Methodistiaeth Cymru yn gallu enwi mwy na chwech, heblaw Evan Richardson, ac y mae'n ansicr o ddau o'r chwech hynny. Ymhen can mlynedd ar ol sefydlu'r eglwys ym Mhenrallt fe sefydlwyd eglwys Beulah; ac yr oedd Beulah yr wythfed eglwys a darddodd yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r fam—eglwys, chwech yn uniongyrchol a dwy yn anuniongyrchol. Ymhen can mlynedd yr oedd rhif Moriah yn 595; a rhif Moriah a'r chwe changen eglwys yn 1879; a rhif eglwys ynghyd yn 2017. Erbyn 1900 yr oedd rhif y naw eglwys yn 2333. Gan fod camgyfrif yn rhif Moriah yn yr Ystadegau, fe gymerwyd ei rhif hi am 1901 yn lle 1887 a 1900. Ac yn y modd yma yr aeth y fechan yn fil a'r wael yn genedl gref. Eithr y mae gwyddoniaeth rhyfel y dyddiau yma yn ein dysgu na ddylid rhoi'r pwys yn gymaint ar rifedi ag ar nerthoedd moesol. Fe debygir fod yr hanes a gyfleir yn y cyfrolau hyn yn rhoi modd i ateb y cwestiwn, pa un ai llai ynte mwy ydyw grym moesol yr eglwysi yn awr o'u cymharu â'u cychwyn? Ac fe ddisgwylir fod y drafferth a gymerwyd i agor yr hanes allan yn raddol, yn ei drefn amseryddol naturiol, yn gynorthwy nid bychan tuag at ffurfio'r ateb, cystal ag i leoli gwahanol rannau'r hanes yn eu cysylltiadau priodol.

MORIAH.[3]

Yr oedd Howel Harris wedi galw yn y Waenfawr ar ei ffordd i Fôn yn 1749, os nad cynt. Fe ddywedir fod cyfeiriad at ym- weliad o'i eiddo â Chaernarvon yn ei ddyddiadur, er nad oes cyfeiriad at yr ymweliad hwnnw yn unlle arall. Tebyg fod hynny oddeutu 1749, ac iddo ysgoi dod yma ar ol y tro hwnnw. Fe adroddir iddo ddweyd am y tro hwnnw iddo gael ei waredu o enau'r llew pan yma; ond ni wyddys a ddarfu iddo bregethu yma ai peidio.

Fe breswyliai ryw nifer bychan o aelodau eglwys y Waen yn y dref, dim mwy na rhyw dri neu bedwar, debygir. Adroddir ym Methodistiaeth Cymru fel y byddai rhywrai, ar adegau, yn gwylio y rhai hyn ar ffordd Llanbeblig, wrth ddychwelyd ohonynt o'r moddion yn y Waen, ac fel y byddent hwythau, er mwyn ysgoi camdriniaeth, yn troi i'r llwybr drwy fynwent Llanbeblig i ffordd Llanberis, neu ynte drwy'r llwybr yn y Caeau Bach i ffordd Bontsaint. Wedi eu siomi fel hyn nifer o weithiau, rhoes yr erlidwyr yr arfer honno heibio.

Fe arferir dweyd mai'r cyntaf ymhlith y Methodistiaid i wneud cais i bregethu yn y dref oedd Williams Pantycelyn, a hynny ar ei waith yn dychwelyd o Fón. Yr ydoedd ei wraig gydag ef ar y daith honno. Pan glywodd y werinos am ei fwriad i bregethu, yr oedd y cyffro y fath fel y barnodd Williams yn ddiogelach lithro ymaith yn ddirgelaidd drannoeth.

Dafydd Jones Llangan, hyd y gwyddis, oedd y cyntaf o'r Methodistiaid i bregethu yn y dref. Fe dybir mai yn 1786 y digwyddodd hynny. Ag ychydig gyfeillion yn ei hebrwng, aeth yr efengylwr i mewn i drol oedd yn ymyl porth y castell. Yn Ysgrif W. P. Williams, Cyfrifon a phapurau yn perthyn i'r eglwys. Adroddiad yr eglwys, 1876-9, 1883-1900. Rhestr pregethwyr 1816-9. y fan, yr oedd lliaws wedi ymgasglu ynghyd. Wedi ymddiosg o'r efengylwr o'i gôb uchaf, wele ef yn sefyll gerbron yn ei wisg offeiriadol!—y gŵn du dros ei ysgwyddau, y napcyn gwyn am ei wddf, gyda'r labedi sgwâr yn disgyn ar ei fynwes. Yr oedd y gwr ei hunan, hefyd, o wedd brydferth ac urddasol. Ni ddisgwyliasid ddim golygfa o fath honno. Y mae yna un dyhiryn gyda'i logellau yn llawn o gerrig, ond nid gwiw ganddo yntau labyddio offeiriad. Yr oedd gwlith—wlaw ysgafn yn disgyn ar y pryd. Dyna'r offeiriad yn dechre cyfarch y dorf mewn dull mor siriol a phe buasai ynghanol ei blwyfolion yn Llangan dawel. Fel yr ae ymlaen fe enynnai ei wyneb gan sirioldeb wrth draethu ei genadwri. Wrth i'r gwlaw ddisgyn yn ddwysach, fe ofynnodd yn y man, oni roe neb fenthyg umbrella iddo i'w gysgodi? Ar hyn, aeth meistr yr adyn yr cedd y cerrig yn ei logellau i gyrchu umbrella, ac a'i hestynodd. at y llefarwr. Rhoes yntau foes-ymgrymiad wrth ei chymeryd yn ei law, ac aeth rhagddo gyda sirioldeb yn ei ddull a geiriau gwirionedd yn ei enau, a datganai ei fod mor gysurus dan yr umbrella honno a phe buasai yn eglwys Sant Paul yn Llundain! Cyfreithiwr o'r enw Howard, un a'i arswyd ar lawer, oedd yr un a estynodd yr umbrella; ac odditani hi, a thrwy'r gwlith— wlaw a ddisgynai, gan ddadseinio hen furiau'r castell, yr ae peroriaeth gysegredig mwyn efengylwr Llangan allan, gan synnu a swyno'r dyrfa o'i flaen. Cychwyniad teilwng i Fethodistiaeth Caernarvon!

John Roberts Llanllyfni (Llangwm wedi hynny), ac Evan Richardson, a fu yma yn cynnal yr oedfa nesaf, ymhen rhywfaint yn rhagor na blwyddyn ar ol yr oedfa gyntaf, fel y tybir. Ymddengys, oddiwrth yr adroddiad yn y Methodistiaeth, mai'r Cyfarfod Misol a'u danfonodd, a thebygir y bu rhai ceisiadau aflwyddiannus i bregethu yma. Daeth Evan Richardson yma o'i daith ym Môn, a daeth gydag ef John Gibson, ewythr Gibson y cerflunydd, garddwr y pryd hwnnw yn y George Inn, Porthaethwy, a thyddynnwr gerllaw'r Borth o'r enw Gruffydd. Arferai Michael Roberts ag adrodd mai ar y Sul yr aeth ei dad, John Roberts, i gyfarfod Evan Richardson yn y dref. Dygodd ei wraig ei ddillad goreu i John Roberts. Rhoe yntau ar ddeall nad oedd o un diben dwyn ei ddillad goreu iddo, gan, yn ol pob tebyg, na byddai ond budreddi drostynt i gyd cyn nos, a gofynnai am ddillad eraill. Cyfarfu'r ddau â'i gilydd, a chyfarfuasant hwythau â George Lewis, y Dr. wedi hynny, y pryd hwnnw yn weinidog yn y dref, a chanddo ystafell pregethu yma yn Nhre'r-ffynnon. Nid oedd y gweinidog Anibynnol, fe ymddengys, yn hysbys o'r ddau Fethodist, a holodd hwy am eu credo. Wedi cael boddlonrwydd, cynghorodd hwy i sefyll i bregethu wrth dalcen mur ei ystafell, gan na byddai digon o le i'r bobl oddifewn. Yr oedd yno liaws o wrandawyr, a chafwyd tawelwch i bregethu. Yr wythnos nesaf yr oedd John Roberts yn y farchnad yn y dref, a theimlai yn anesmwyth ar ol dechre ohono graffu ar wr yn ei ddilyn oddiamgylch. O'r diwedd fe droes ato, ac a ofynnodd iddo, a oedd rhywbeth a fynnai âg ef? Dywedai'r gwr fod yn dda ganddo gael siarad gair âg ef, a'i fod mewn blinder meddwl fyth er pan fu ef a'r gwr arall hwnnw yn pregethu yno y Sul o'r blaen. Yna gyda syndod a llawenydd, fe gymerth John Roberts y gwr gydag ef o'r neilltu i'r Angel, sef tafarn gerllaw, ac yno, mewn ystafell arnynt eu hunain, fe gafodd hamdden i gyfarwyddo a chysuro y gwr argyhoeddedig. Galwai Michael Roberts y cyfarfyddiad hwnnw yn yr Angel, y cyfarfod eglwysig cyntaf gan y Methodistiaid yn nhref Caernarvon. Enw y gwr oedd Richard Owen.

Gorfu i John Gibson ymadael â'i le yn y Borth am ddilyn y penau-cryniaid. Cof gan W. P. Williams am dano, a dywed ei fod yn dad i ail wraig Daniel Jones Llanllechid, ac yn daid i John Roberts, argraffydd, Salford, ac yn hen daid i'r Parch. John Roberts Caer. Dilynai Gibson ei alwedigaeth fel garddwr yn Henwalia, a deuai â chynnyrch ei ardd i'r farchnad ddydd Sadwrn. Henwr ydoedd pan gofid ef gan W. P. Williams, wedi cyrraedd graddau o wybodaeth, ac yn meddu ar ddawn siarad, ac yn hoffi siarad. Saif y dafarn o hyd yn y Stryd fawr, ond wedi ei hail-adeiladu. Sylwa W. P. Williams, hefyd, i wraig y dafarn ddod yn aelod gyda'r Methodistiaid yn y man, a pharhaodd felly ar hyd ei hoes. Enwir ganddo dafarnwyr eraill oedd yn aelodau lled foreu, sef Thomas Blackburn, a gwraig o'r enw Evans o'r King's Head.

Cynhaliwyd rhai odfeuon wedi hynny yn Nhre-ffynnon, cyn symud i Danrallt. Y mae'r Methodistiaeth yn enwi'r aelodau y gwyddid am danynt yn 1787, sef Richard Owen ac Elizabeth ei wraig, John Gibson, Peter Ellis, a ddaeth yma o sir Fflint, sef tad Peter Ellis y masnachydd yn ngwaelod Stryd llyn ar ol hynny. Dywed, hefyd, y dichon fod Richard Thomas ac Elinor [Ann] Williams, a fu wedi hynny yn wraig i Peter Ellis, yn eu plith. Fe fyddai Henry Jonathan, pa fodd bynnag, yn dweyd fod Peter Ellis yn aelod pan oedd nifer y disgyblion yn union yn ddeuddeg, ond bod Ann Williams yn aelod pan oedd y nifer yn llai na hynny. Dywedir y byddai John Gibson a Richard Owen yn myned i'r cyfarfod eglwysig ym Mrynengan. bob pythefnos am ysbaid. Ym Mrynengan yr oedd Evan Richardson, a dichon fod eu golwg ar ei gael i Gaernarvon. Unwaith, ar eu ffordd i Frynengan, penderfynasant na ddychwelent yn ol heb addewid ganddo y deuai i fyw i Gaernarvon. Cododd Richard Owen yn y seiat, a dywedodd wrth Evan Richardson, "Y mae'n rhaid i chwi ddod adref gyda ni; ni ddychwelwn heboch; y mae gan yr Arglwydd waith i chwi wneud yno yn ddiau." " O, Richard bach," ebe Richardson, "os deuaf acw, y bobl a'm lladdant i." Ar hynny cododd Sian, hen aelod, i fyny,—"Y mae'n rhaid i ti fyned, Evan bach, —ni wneir niwed i flewyn o'th ben; am hynny, dos gyda hwy."

Cefnogid y brodyr hyn gan y Cyfarfod Misol. Eithr yr oedd Evan Richardson ei hun yn gyfyng arno o'r herwydd. Yr oedd yn ymlynu wrth Frynengan, ac yn teimlo ofn ynghylch Caernarvon. Pan yn canu yn iach i'w gyfeillion yn y seiat ym Mrynengan yr oedd yn ymdreiglo ar y llawr, gan lefain yn groch. Yn ol ymchwiliadau a wnawd gan y Parch. Dafydd Jones, yn 1787 y daeth efe i'r dref. Pan yn dod i fyw i'r dref, a phan o fewn hanner milltir iddi, fe safodd yn sydyn, tarawodd ei ffon yn y llawr, torrodd allan i wylo, a dywedodd, "O'r dref annuwiol a llawn temtasiynau! pa beth a ddaw ohonwyf ynddi, wedi gadael y wlad ddistaw a thawel?"

Yn fuan wedi dod ohono i'r dref, fe gymerodd Evan. Richardson lofft yn Nhanrallt, sef ar y cwrr i'r dref sydd ar ffordd Bethel. Yr oedd y tŷ yn sefyll ychydig flynyddoedd yn ol, a'i ddrws yn wynebu'r allt wrth ddod i fyny oddiwrth Siloh. bach. Mesur y llofft ydoedd 14 troedfedd 3 modfedd wrth 11 troedfedd 8 modfedd, a 10 troedfedd o uchder. Cyn cymeryd y tŷ, neu, fe ddichon, ar ol hynny, yr oedd Evan Richardson yn pregethu yn rhywle yn y dref, pan ddaeth Garnons (nid. Garners, fel yn y Methodistiaeth), ynad heddwch yn y dref, a'r gwr o'r dylanwad cymdeithasol mwyaf ynddi, i aflonyddu arno. Cynhyrfwyd John Rowlands, dyn cryf o gorff, i amddiffyn y pregethwr. Aeth at Garnons, ac ebe fe, "Nid oes yma neb yn aflonyddu nac yn peri anrhefn ond y chwi, syr. Os na fyddwch yn llonydd, mi a âf a chwi fy hun i'r gwarchdwr." Yr oedd W. P. Williams yn cofio John Rowlands, a dywed yntau, oddiar ei wybodaeth ei hun, ei fod yn wr cryf, a "llais mawr, awdurdodol ganddo, yn ddigon i greu arswyd ar feddwl y gwr boneddig."

Bu Richard Owen farw ymhen rhyw flwyddyn neu ddwy ar ol dyfod o Evan Richardson yma, ac ymbriododd Evan Richardson â'i weddw, Elizabeth. Bu hi farw Awst 7, 1806, yn 55 oed. Yr ydoedd eu merch Esther yn hynod am ei gorfoleddu. Priododd Evan Richardson yr ail waith yr Ann Williams a nodwyd, sef gweddw Peter Ellis.

Buwyd yn cynnal moddion yn llofft Tanrallt am tua phum mlynedd. Y mae Griffith Solomon yn rhoi ei atgofion am lofft Tanralit: "Symudwyd o Dreffynnon ymhen dau dro neu dri i Danrallt. Safai y pregethwr yno ar ryw risiau, a thyrfa aneirif a gyrchai yno i wrando. Gwelais hwynt yno lawer gwaith pan oeddwn yn 13 a 14 oed, canys yr oeddwn yn byw yn lled agos i Gaernarvon." Atgofia Griffith Solomon, hefyd, am Richard Owen a'i wraig Elizabeth fel rhai yn proffesu duwioldeb, a chred eu bod hefyd yn meddu ar ei grym hi.

Y mae'r weithred gyntaf wedi ei hamseru Mai 1, 1793. Eithr nid oedd meddiant ar yr eiddo hyd Hydref 29, 1793- Arferir rhoi 1793 fel y flwyddyn yr adeiladwyd y capel cyntaf. Tebyg na orffennwyd mo'r capel hyd y flwyddyn ddilynol. Yr oedd dau dy bychan ar y tir, y naill yn cael ei breswylio gan Edward Jones, morwr, a'r llall gan Mary Jones, gwraig weddw. Un ty a ddywedir yn y Methodistiaeth, mewn camgymeriad, a dywedir fod Evan Richardson wedi gadael y ty ym Mhenrallt y cadwai ysgol ynddo, fel y gallai'r ddwy wraig a'i haneddai fyned i hwnnw. Aeth yntau i gadw ei ysgol i'r capel. Dywedir yn y weithred fod gan yr ymddiriedolwyr hawl i ganiatau i unrhyw berson teilwng gadw ysgol yn y capel, ond i hynny beidio ymyrryd â'r gwasanaeth. Rhan o Saffron Gardens ydoedd y tir a bwrcaswyd, a £60 a roddwyd am dano. Yr ymddiriedolwyr: Thomas Charles, Evan Richards, John Jones Edeyrn, Robert Jones Llaniestyn, John Roberts Llanllyfni, Hugh Williams, Drws deu goed, Llanrug, William Williams siopwr, Caernarvon. Yn ol Abstract of Title, Awst 23, 1828, benthyciwyd £1,000, ac adeiladwyd y capel a ddefnyddiwyd hyd 1806.

Fe welir oddiwrth y swm a fenthyciwyd fod mewn golwg gapel cymharol fawr. Nid oedd ond £60 o'r swm yn myned i brynnu'r tir. Rhaid fod llwyddiant mawr ar yr achos yn Nhanrallt. Yr oedd Evan Richardson yn boblogaidd fel pregethwr, yn barchus fel dyn, yn llwyddiannus fel ysgolfeistr. Diau mai i'w ddylanwad personol ef yn bennaf y rhaid priodoli y llwyddiant anarferol. Fe ddywedir y bu'n cynnal yr achos am ysbaid ar ei draul ei hunan, ac wedi hynny, am ysbaid, efe yn bennaf a'i cynhaliai. Cadwai gyfarfod i holwyddori'r plant un noson, pregethai noson arall, a chadwai gyfarfod eglwysig y drydedd Yn ol y Methodistiaeth fe bregethai ar brydiau ddwywaith neu dair neu bedair yr un noson yn y dref, mewn wylnos, neu yn ystod y dydd ar fwrdd llong cyn ei lansio, neu achlysur arall. Nid peth anfynych, fe ddywedir, oedd y pregethu aml hwn, ond i'r gwrthwyneb. Chwarter awr fyddai hyd y pregethau hyn, ond byddent yn hynod fywiog ac effeithiol, y rhan fynychaf yn gadael y cynhulliad mewn dagrau. noswaith.

Dyma ddyfyniad o daffen Casgl Dimai y Cyfarfod Misol: 1797, Medi, Caernarvon £12 6s. 7g. [sef i gynorthwyo'r achos yma]. Rhagfyr, £2 19s. 7g. 1798, Rhag. 3, y ddyled i gyd yn bresennol £90. 1799, Ionawr, Talwyd i John Roberts yn achos llog capel Caernarvon a'r golled yn achos arian drwg, £4 18s. Hydref, talwyd llog dros Gaernarvon, £4 10s. 1801, Awst 6, Talu i Gaernarvon £90, hefyd eu llog £4 10s.' Yr oedd hyn yn orffen talu'r ddyled.

Dywed W. P. Williams mai capel bychan diaddurn ydoedd, gydag oriel fechan yn un pen iddo gyferbyn a'r pulpud. Wrth ei gymharu â'r capel godwyd yn ddiweddarach y rhaid ei alw yn fychan, debygir. Ym Mount Pleasant Square yr ydoedd. Yr oedd yr aelodau eglwysig yn 1805 yn rhifo 154, sef 50 o feibion a 104 o ferched. Ac yr oedd hynny mewn cyfnod pan yr oedd yr eglwys yn llawer llai mewn cymhariaeth â'r gynulleidfa nag ydyw yn awr. Bu John Elias yn ysgol Evan Richardson am rai misoedd. Fe fyddai Owen Thomas, yn ei ddarlith ar yr hen bregethwyr, yn adrodd am amgylchiad ynglyn â John Elias, a ddigwyddodd yn y capel hwn, a hynny ar ol yr hen flaenor, Griffith Roberts Capel Seion, Clynnog. Yr oedd John Elias yn pregethu yma mewn Cyfarfod Misol yn 1799, ac yntau y pryd hynny yn 25 oed. Yr oedd efe y pryd hwnnw yn anarferol o boblogaidd, a chredai pregethwyr y sir fod eisieu "torri asgwrn ei gefn," er mwyn ei ddiogelu rhag balchter ysbrydol. Yn yr oedfa eisteddasant ar flaen yr oriel gyferbyn ag ef, er mwyn rhoi eu harswyd arno. Yr oedd John Jones Edeyrn, John Roberts Llanllyfni, Robert Jones Rhoslan, Robert Roberts Clynnog, yn eu plith, cewri o ddynion. Testyn y pregethwr ieuanc oedd, "Dywedwch mai da fydd i'r cyfiawn." Yn rhyw ran o'r bregeth, fe ddisgrifiai Samuel yn gwrthod y naill ar ol y llall o feibion Jesse fel brenin, ac yna yn gofyn iddo, "Ai dyma dy holl blant?" Atebodd Jesse fod yr ieuengaf eto'n ol, "ac wele y mae efe'n bugeilio'r defaid," megys pe na buasai yn werth ei gyrchu. Eithr rhaid ydoedd ei gyrchu, a hwn, er iddo beidio bod fel Eliab o ran awdurdod gwynepryd ac uchder corffolaeth, oedd eneiniog yr Arglwydd. "Cyfod, eneinia ef, canys dyma efe." Ar hynny dyna Robert Roberts, yn fyrr a chrwea, yn gwaeddi allan, "Bendigedig, dyna obaith i Robin." Fel mai yn lle cael ei orchfygu, y pregethwr ieuanc a orchfygodd.

Adroddir fod gan wraig Evan Richardson, sef ei wraig gyntaf yn ddiau, law go amlwg yn newisiad y blaenoriaid. Craffai hi ar y rhai cymhwysaf, a chymhellai hwy ar sylw ei gwr. A thebygir mai efe a'u galwai i'w swydd yn ystod y blynyddoedd cyntaf. Erbyn 1806 dyma hwy: Dafydd Jones y cwper, John Rowlands Parcia cochion, Gruffydd Samuel, William Owen, Owen Jones y llyfr-rwymydd.

Erbyn 1806 yr oedd y capel yn rhy fychan, a rhaid ydoedd ei helaethu. Dyma fel y dywedir yn yr "Abstract of Title": "The old chapel being found by far too confined for the congregation usually assembling therein, a piece of ground adjoining the same was in that year [1806] purchased." Mai 14, 1806, cytunwyd rhwng Jabez Thomas meddyg, Caernarvon, a'r rhai a enwyd ynglyn â phryniant y tir o'r blaen, oddigerth W. Williams, yr hwn oedd wedi marw, am ddernyn o dir ynglyn wrth y capel i'r dwyrain, am £80. Ar hyn rhowd chwanegiad at y capel "for a very considerable sum of money." Amlwg na wyddid erbyn 1828 faint yn benodol oedd traul yr helaethiad. Eithr fe ddywedir fod y ddyled yn £700 yn 1826, cyn codi'r capel newydd. Yr oedd dwy oriel i'r capel ar ol ei helaethu, un ar bob talcen. Yr ydoedd y capel helaethaf yn y sir. Nodir gan W. P. Williams fod yr enwau yma wrth ymrwymiad i Griffith Thomas am £120 ynglyn â'r helaethiad: Evan Richardson, Robert Griffith Slate Merchant, William Owen Hair Dresser, William Lloyd Shopkeeper, Robert Jones Blacksmith, Humphrey Pughe Skinner, John Humphreys Nailer, John Huxley Tai Meddalion, Llanrug, Miller, John Rowlands Parkia Cochion, Fuller. A dywed mai dyma'r dynion y bu eu hysgwyddau dan yr Arch o'r cychwyn. Y mae ymrwymiad i John Owen Slate Loader yn 1807, yn achos capel Bontnewydd, am £30, wedi ei arwyddo gan rai o'r enwau uchod, ynghyda David Jones Cooper. Ae'r achos ymlaen ar yr un llinellau ag yn yr hen gapel. Yn ol gweithred Mai 14, 1806, yr oedd y darn tir ychwanegol hwn yn 18 troedfedd ar wyneb heol Penrallt, yn 62 troedfedd o hyd ynglyn wrth y capel a'r tir a berthynai iddo, ac yn 56 troedfedd ar yr ochr gyferbyn, ynglyn wrth lwybr yn arwain oddiwrth heol Penrallt, ac yn myned heibio ty yn dwyn yr enw Parlwr Du. Y llwybr a sicrheid i fod yn wyth troedfedd o leiaf.

Y mae rhai danghosiadau o'r adeg yma ar gadw. "Received May 13th 1807 of the Trustees of Saffron Garden situate in Penrallt in the parish of Llanbeblig & County of Carnarvon, by payment of Mr. Robt. Griffith, the sum of Ten Pounds being One Year's Interest upon a bond for Two Hundred Pounds. £10 os. od. Robert Williams." "The Trustees of the Penrallt Chapel. To O. A. Poole. 1807 Taking Instructions to Draw Deed of Feoffment from Mr. Jabez Thomas to you 6s. 8d. Drawing the same Fo 24 £1 4s. 0d. Ingrossing 16s. 0d. Paid for Stamp and Parchment £1 12s. 6d. Attending the execution thereof and when Livery and Seisin was delivered 6s. 8d. [Cyfanswm] £4. 5s. 10d. Third Dec. 1807 Settled Will. Ellis." "For the use of the chapel at Penrallt. To John Owen Dr. 1807 June 12, 3 Bed Cords 3. 9, 1 Do. Do. 2. 9., 1 Do. Do. 1. 8, 1 floor Brush 2. 6, 1 Brush 9 [Cyfanswm] 0. 11. 5. Recd. Dec 3rd. 1808 the above sum p John Owen." "Penrallt Chapel To Wm. Roberts 1809 To Balance of acct 28. 10. I. Novr. 30th. By Cash 9. 0. 0. By Balance due to Mrs. Richard- son 5. 3. 7 [Cyfanswm y ddau olaf] 14. 3. 7 [Gweddill] 14. 6. 6 W. Evans." "Received of Mr. Robert Griffith August 24th. 1808 the sum of One Pound Ten Shilling, being the Interest of Thirty Pounds for improveing the Methodist Chapel Near Newbridge P me John Owen £1 10s. 0d."

Yr oedd Owen Jones llyfr-rwymydd yn flaenor yn Llanerchymedd cyn dod yma. Y mae ei enw ar lyfr yr eglwys am 1805. Dychwelodd yn ol i Lanerchymedd yn 1822. Yr oedd yn wr goleu yn yr ysgrythyrau, ac yn hyddysg yn athrawiaeth yr Efengyl. Gwelodd W. P. Williams rai o'i draethodau mewn llawysgrifen, ac ystyriai eu bod yn dangos cryn lawer o allu. Ei dyb ydyw ei fod ef yn rhagori ar ei gydswyddogion mewn gwybodaeth athrawiaethol.

Yr oedd enw Griffith Samuel ar y llyfr eglwys yn 1805. Gwr byrr o gorff ond grymus, ac wedi colli un llygad. Saer maen wrth ei alwedigaeth. Ni wyddai W. P. Williams ddim am ei gymhwyster i'w swydd.

Sylwir yn Nrych yr Amseroedd ar Richard Williams o Gaernarvon, na chafodd ond braidd ymddangos i weinidogaethu yn gyhoeddus, na chymerwyd ef oddiwrthym. Dywedir ddarfod iddo dreulio ei yrfa grefyddol yn syml a diargyhoedd. "Selog, ychydig a fu ar y maes," ebe Griffith Solomon. (Drysorfa, 1837, t. 119).

Y mae gerbron lyfr testynau am y blynyddoedd 1816-9. Dwg arno enw E. Jones, Penrallt, Caernarvon. Y mae'r enw Edward Jones mewn man arall. Y mae'n amlwg yn dwyn cysylltiad â Phenrallt. Y mae'r llyfr yn ddiffygiol mewn mannau. Codir yma yr hyn ohono sy'n dwyn cysylltiad â'r flwyddyn 1816: July 21, Rees Rowe and [felly i lawr], 2 o'r gloch, x. 41-2; 6 o'r gloch, I Cor. ix. 24. July 28, 6 o'r gloch, Mat. xv. 21-8. July 30, John Humphreys Caerwys, 9 o'r gloch, Heb. v. 9. Dyn o'i flaen 1 [?] Malaci vi.; 6 o'r gloch, Evan Richards, Marc xvi. 15. Awst 4 (9. 2, 6), Evan Richards, Luc x. 42, II. Petr iii. 11, Mat. xi. 28. Awst 11 (2 a 6), Heny. Wms Llandy . . . Heb. xii. 24. Awst 15, John Hughes S Tref . . . Mat. xvi. 26. Awst 18. Wm. Roberts Clyng (2 a 6), Ioan iii. 15, Galarnad iii. 37-40. Awst 21, Mr. Hay, Warrington, Salm Ixv. 4. Awst 23, John Evans Deheudir, Heb. xi. 29, John Elias, Ioan x. 14. Awst 25 (9 a 6), John Elias, Luc xxiv. 46-7. Ioan viii. 34. Awst 25, Edward Costley [?Coslett], Heb. ii. 14, 15. Dyn o'i flaen, Heb. xii. 5. Medi 1, Mr. Llwyd Bala (2 a 6), Ioan xi. 49-51, Phil. i. 27. -Petters (2 a 6), Ioan xv. 2, Heb. xi. 7. Medi 8, Richard Owen (2 a 6), Esai liii. 1, Actau xxvii. 27. Medi 9 (6), Danl Jones, Hosea vii. 2. omitted (6), Jno. Humphreys, Ioan iii. 14, 15. Medi 15 (2 a 6), John Humphreys, Exodus iii. 2, Salm iv. 3. (6) Jno. Huxley, Salm xlvi. 1. Medi 22, Heny. Williams Llandegai (2), Mat. i. 21. (6), William Havard, Esai lix. 2. Dyn o'i flaen, Rhuf. xvi. 25, 26. Medi 29, Evan Richards (2 a 6), Rhuf. viii. 30, Salm cxxx. 3. Hydref 2 (6) Rt. Griffith Doly. I. Petr ii. 24, Michael Robts., Jeremia x. 24. Hydref 3, Association (6) noson gyntaf, Jno. Williams Meidrim, Mat. ix. 12, Wm. Robts. Amlwch, Mat. v. 8. 3ydd [?] (6 bore) Petter Roberts, loan xx. 31. (10) Wm. Havard, Marc ii. 17, Eben Richard, Mat. xvi. 26. (2) Jno. Thomas Aberi., Luc xv. 24, Jno. Elias, Actau xxvi. 20. (6) Jno. Hughes Shir Drefaldwyn, Mica vi. 9, Jno. Roberts Llanllyfni, Amos iv. 12 (7 bore drannoeth) John Jones Edeyrn, Gal. ii. 21, David Cadwaladr, Gen. xv. I. Hydref 6, Evan Richards (2) Eph. v. 27, (6) Jno. Humphreys, Deut. xxxiii. 27. Hydref 13, Dd. Jones Beddgelert (2 a 6), Salm lxviii. 20, I. Tim. iv. 8. Hydref 20, Robt. David (2 a 6), Job x. 20—2, Actau xvii. 27. Hydref 27, Jno. Humphreys (2) a 6), Luc xxii. 60, I. Cor. xiii. 13. Tach. 1, Danl. Evans, Diar. xii. 26, Dyn o'i flaen, Heb. xi. 7. Tach. 3, (10) Jno. Elias, Marc viii. 38, Captn. W. Williams, Josua ii. 12; (6) Jno. Elias, Josh. xxiv. 15, Mr. Owen Jones, Heb. ix. 27. Tach. 10, Evan Richards (2 a 6), Mat. vi. 33, Col. ii. 6. Tach. 11—Jones (6), Esai xl. 6, 7. Dyn o'i flaen, 2 Cor. v. 21. Tach. 12, Jno. Elias, Rhuf. xiv. 17. Tach. 17 (10), Jas. Mathias, Heb. xii. 1, Jno. Prytherch, Heb. iii. 1; (6) Jno. Prytherch, Joel iii. 21. Tach. 19, David Cadwaladr, Job i. 1. Tach. 23, Jno. Elias, Job x. 15. Tach. 24, Jno. Huxley (2 a 6), 1 Thes. iv. 18, Exodus xxiv. 10. Yn ystod 1817, o Chwefror 7 ymlaen, ceir yma: Michael Roberts 2 waith, John Davies Nantglyn, John Elias 7 gwaith, Evan Richards 10 waith, John Jones Edeyrn 6 gwaith, Parch. Wm. Lloyd, Richard Lloyd Beaumaris, William Morris Deheudir. Yn ystod 1818 (heb gyfrif y Sasiwn), Michael Roberts 2 waith, Evan Richards 12 ngwaith, John Elias 3 gwaith, Mr. Lloyd 7 gwaith, Richard Lloyd, John Jones Edeyrn 3 gwaith. Ni chadwyd cofnod 1819 yn fanwl. Ni chyfrifwyd odfeuon y Sul ond megys un tro. Nid yw'r cofnodion hyn yn dangos y pregethai Evan Richardson yn aml ar noson waith yn y capel, er gwneuthur ohono hynny yn fynych mewn mannau eraill yn y dref. Ond gan i Mr. Lloyd ddod i gadw ysgol i'w le ef, dichon mai o flaen hynny y torrodd ei iechyd i lawr, a dywedir iddo fod yn llesg am flynyddoedd. Tebyg na phregethai yn fynych iawn ar unrhyw adeg ar nosweithiau'r wythnos yn y capel, gan fynyched ymweliadau pregethwyr dieithr; a dywedir mai yn eu habsen hwy y gwnelai hynny.

Profodd yr eglwys yn helaeth o ddiwygiad 1818. Yr oedd rhai o'r bechgyn ieuainc dan fath ar ysbrydoliaeth. Arhosent yn y capel weithiau am oriau ar ol oedfa nos Sul mewn perlewygfeydd. A byddai lliaws yn ymdyrru i wrando arnynt mewn llawenydd a dagrau. Un o'r rhai hynotaf o'r bechgyn hyn oedd Eryron Gwyllt Walia. Yn ystod yr odfeuon byddai degau rhwng 9 ac 20 oed yn moliannu, a pharhaodd hynny an fisoedd. Yr oedd Eryron ar ymweliad â'r dref yn 1854. Wrth fyned heibio'r hen gapel ar y naill law, a maes Cymanfa fawr 1818 ar y llaw arall, ebe fe wrth ei gefnder (y Dr.) Griffith Parry, gan sefyll am funud i ddweyd, a'i lais yn crynu, a'r naill law yn gyfeiriedig at y naill le a'r llall at y lle arall,—"Yma, ac yma, y gwelais fwyaf o Dduw o un man yn fy oes. Yn y capel yn y fan yma, ac ar y maes yna, gwelais a phrofais ryw gymaint o ystyr geiriau felly, Gwregysa dy gleddyf ar dy glun, O Gadarn! a'th ogoniant a'th harddwch. Ac yn dy harddwch marchog yn llwyddiannus, oherwydd gwirionedd a lledneisrwydd a chyfiawnder; a'th ddeheulaw a ddysg i ti bethau ofnadwy." (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 19—25).

Bu Evan Richardson farw, Mawrth 29, 1824, yn 65 oed. Fe ddywedodd y Dr. Lewis Edwards wrth wraig y Parch. Thomas Hughes fod Evan Richardson yn ewythr iddo. Ganwyd ef ym mhlwyf Llanfihangel—genau'r—glyn, o fewn ychydig filltiroedd i Lewis Edwards. Fe ddygai ef nodwedd pobl y rhanbarth honno yn fwy amlwg na'r gwr mawr arall, mewn bywiogrwydd, darfelydd a thynerwch amlwg, ac mewn dull ystwyth, iraidd, cyson eneiniedig. Dengys yr hyn a ddywedir am dano yn fachgen ieuanc iawn, a chyn gwrando ohono ar nemor bregeth, ei fod yn naturiol agored i ddylanwadau oddiwrth y byd anweledig, ac aeth yn ieuanc drwy brofiadau o bangfeydd meddwl. Dan bregethu Daniel Rowland Llangeitho y daeth i'r goleu am ystyr trefn yr efengyl, ac y profodd ei hun yn ymgymodi â hi. Y mae pob beirniadaeth arno, megys eiddo Griffith Solomon, ac eiddo Henry Rees (Cofiant John Jones, t. 832), ac eiddo'r Dr. Lewis Edwards (Geninen Gwyl Dewi, 1900, t. 32), yn myned i ddangos nad oedd cylch eang i'w feddwl na dim treiddgarwch arbennig yn perthyn iddo. Er hynny, fel pregethwr, fel y dywed Owen Thomas, yr oedd yn un hollol ar ei ben ei hunan. Rhyw swyn sanctaidd oedd ei hodwedd.

Pregethai'r efengyl yn llon,
Dyrchafai ei mawredd ar goedd ;
Ymlonnai'i wrandawyr o'r bron,
Gan ryfedd feluster ei floedd.—(Eryron Gwyllt Walia.)

Heblaw ymddanghosiad hardd a llais melodaidd ac eneiniad, yr oedd, hefyd, ryw chwarëurswydd tlws yn ei ffansi. Rhydd Griffith Solomon rai enghreifftiau, a daw grym y pregethwr i fesur i'r golwg ynddynt. Wrth bregethu ar Gwir yw'r gair, ac yn haeddu pob derbyniad, fe ddywedai, "Efe a gadwodd ein bywydau, efe a gyfiawnhaodd ein personau, efe a faddeuodd. ein pechodau. Haleluia!" Wrth goffa'r geiriau am wrthwynebu Satan yn gadarn yn y ffydd, fe ddywedai, "Cofiwch, nid gwiw tynnu Groeg na Hebraeg ato; ond yn y ffydd y mae ei orchfygu ef." Wrth bregethu mewn cymanfa ar y geiriau, Dyledwr ydwyf i'r Groegiaid . . . fe dybiai yntau fod rhywun yn gofyn, paham y daethant hwy yno? i'r hyn yr atebai, "Dyledwyr ydym!" Ar y geiriau, Megys gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodiwch ynddo, fe sylwai fod "lladron am ysbeilio y cristion o'i dlodi," gan olygu mai ei deimlad o'i dlodi ydoedd ei drysor mwyaf. "Yr oeddych yn gweled eich hunain yn dlodion pan dderbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd;—felly rhodiwch ynddo." Sef peidiwch a gadael i ladron eich ysbeilio o'r olwg gyntaf honno a gawsoch arnoch eich hunain yng Nghrist. Ar y geiriau, O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni drwy air y gwirionedd, fe sylwai na byddai gwraig na phlant yn arfer bod gyda gwr wrth wneud ei ewyllys, ac felly "nid oedd neb o honom ninnau gyda Duw yn y cyngor tragwyddol yn ei gymell i gofio am danom yn ei ewyllys grasol. Ond fe gofiodd am danom cyn gosod coppa'r Wyddfa. Haleluia! Bendigedig y fo efe!" Ar y geiriau, Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd, elai ymlaen yn y dull yma : Yr un ddoe dan yr Hen Destament—heddyw yr un dan y Newydd. Ddoe gydag Abraham yn egluro ei ddydd iddo—heddyw yr un yn egluro ei hun i ninnau. Ddoe gyda Moses yn ei hyfforddi i wneud y Babell—heddyw yn ein nelpu ninnau i bregethu yn y Bala. Yr un ddoe cyn amser; ac yn dragywydd wedi i amser ddarfod. Wele un wedi dyfod o dragwyddoldeb i fyd o amser; a myned ohono i dragwyddoldeb yn ol, gan orchfygu angeu ar y ffordd. Efe a edwyn ol ei draed yn yr afon. Diolch iddo byth, byth!" Arferer dychymyg hanesiol uwchben yr ymadroddion hyn: craffer ar y llefarwr glandeg, a'i ddull serchiadol, iraidd, ac agorer y glust i'w acenion melysion, a chrynhoer ynghyd y gynulleidfa gydymdeimladol, ac ni bydd mor anhawdd i'r darllenydd a ŵyr rywbeth am werth y profiadau a orwedd o'r tu ol i'r ymadroddion, sylweddoli mesur helaeth o'r swyn a'r dylanwad. Yr argraff ar John Wynne wrth ei wrando ydoedd fod pob ymadrodd yn llawn o fater ysbrydol (Goleuad, 1874, Hydref 24). Efengylu gras y byddai ef, gan adael allan felltithion y ddeddf yn o lwyr, megys, i'r gwrthwyneb, y byddai Daniel Jones Llanllechid yn tarannu melltithion y ddeddf ym mhob pregeth, boed pwnc y testyn. ddeddf neu efengyl. Yr oedd y ddau hyn, ebe David Williams (o Gaernarvon a Chonwy), gyda'i gilydd yn pregethu ar un achlysur, a themtiwyd rhyw wrandawr i gymhwyso y geiriau hynny atynt ar derfyn yr oedfa:

Wele Sinai a Chalfaria
Heddyw wedi dod ynghyd.—(Drysorfa, 1888, t. 130.)

Y dull serchiadol yma, mewn presenoldeb ac acen ac ysbryd, yn ddiau oedd y prif un o'i deithi; ac yn yr awyr deneu, oleu yma, yr oedd chware ysgafn ei ddarfelydd yn gorffwys yn esmwyth ar bob teimlad. Sylwa Griffith Solomon fod ei ddull yn holi plant "yn serchiadol, bywiog ac enillgar iawn." Wrth ofyn, "A ddymunech chwi gael gras?" a derbyn yr ateb, "fe ddywedai yntau'n ol, "Yr Arglwydd a'i rhoddo i chwi." Pan atebai plentyn wrth ei fodd, fe ddywedai wrtho, "Bendith ar dy ben di byth!" neu ynte, "Bendith ar dy gopa di!" Dywed Griffith Solomon ei fod mor gymeradwy yn ei gartref a neb a ddeuai yno o Ogledd neu Ddeheudir Cymru, yn y dyddiau hynny o deithio mawr. Ac y mae efe yn elfennu achosion ei lwyddiant anarferol yn y dref fel yma: (1) Ei rodiad sanctaidd gyda Duw; (2) ei lanweithdra a'i syberwyd mewn corff a gwisg; (3) nefoldeb ei athrawiaeth ac efengylrwydd ei weinidogaeth; (4) ei waith yn cateceisio plant. Dywedir y cafodd ugeiniau lesad tragwyddol drwy'r catceisio, a bod y cateceisio wythnosol wedi parhau hyd hynny, sef 1833, fel ffrwyth ei esiampl ef. Mewn hen ysgubor ym Mhenrallt y dechreuodd gateceisio, fel y dywedir, a neilltuai noswaith o'r wythnos i'r gwaith. Diau, er hynny, mai rhan fawr o'i ddylanwad yn y dref oedd ei lwyddiant fel ysgolfeistr. Bwriedid iddo fod yn offeiriad gan ei rieni, a chafodd ei addysg yn hen ysgol enwog Ystradmeurig. Yr oedd yr enw o ysgolhaig y dyddiau hynny yn dwyn gydag ef ddylanwad arbennig. Ac ynddo ef yr oedd bri ysgolheigtod wedi ei ieuo ag awdurdod a serchowgrwydd yr ysgolfeistr. Mae y sawl a adnabu rai o'i hen ysgolheigion yn gallu atgofio am y dôn o barchedigaeth serchiadol yn eu cyfeiriadau ato. Yr ydoedd yn gyfarwydd yn y Roeg a'r Lladin, ac yr oedd ganddo ryw gymaint o'r Ffrancaeg, ac ymhen rhai blynyddoedd wedi dod i'r dref ymgydnabu â'r Hebraeg. Geilw Griffith Solomon ef yn rhifyddwr da. Arferai John Roberts y dilledydd (o'r Cefneithin), a breswyliai yn Stryd y Palas, ag adrodd am dano yn gwrando'r bechgyn yn darllen eu Testament Saesneg gyda'r Testament. Groeg yn ei law ei hun. Gallai fod wedi darllen y Saesneg cyn dod i'r dosbarth. Ni raid petruso meddwl fod yr ysgolfeistr yn rhoi bri arno yn y dref a'r wlad yn gyffredinol. Dangosir ei safle uchel yngolwg y Cyfundeb yn y ffaith ei fod yn un o'r wyth a neilltuwyd yn yr Ordeiniad cyntaf yng Nghymdeithasfa Gogledd Cymru. Yr oedd yr ysgol yn llyffethair arno rhag efengylu yn y wlad i'r un mesur a'r nifer mwyaf o bregethwyr poblogaidd y Corff y pryd hynny. Eithr, yn ol ei allu a'i ryddid, fe deithiai yntau Dde a Gogledd ac hyd drefi Lloegr. Bu yn myned i'r Deheudir yng ngwyliau Nadolig am flynyddoedd. Fe glywodd Griffith Solomon amryw o wŷr y Deheudir yn tystio fod y disgwyliad am dano yno fel am y gwlaw ar sychdir. Bu'n foddion i ddarostwng erledigaeth yng Nghorwen y pryd na cheid llonyddwch i bregethu cyn hynny hyd yn oed i'r parchedicaf a'r mwyaf urddasol. Digwyddai fod yno gyfarfod o'r ynadon ar y diwrnod yr oedd ef i bregethu yno. Safai yr ynadon i wrando arno yn yr heol, a throes yntau i'w cyfarch yn y Saesneg. Cafodd wrandawiad parchus ganddynt; ac wrth eu gweled hwy yn gwrando fel hynny, ni feiddiodd yr un o'r erlidwyr ei aflonyddu. O'r pryd hwnnw allan fe gafwyd llonyddwch i bregethu yng Nghorwen. Y mae un hanes am dano yn dangos yr esgynai ar brydiau i arucheledd proffwydol. Yr ydoedd wedi bod yn dymor o sychdwr maith ym Môn oddeutu'r flwyddyn 1811. Nid oedd gwlaw wedi disgyn er pan roddwyd had y gwanwyn yn y tir, ac yr oedd bellach yn ŵyl Ifan yn yr haf. Yr oedd yr anifail heb ei borthiant, ac ynghanol Mehefin nid oedd obaith braidd am gynhaeaf. Ym mis Mehefin yr oedd y Gymdeithasfa yn Llangefni. Fe bregethodd Evan Richardson yn olaf y pnawn; ac ar derfyn y bregeth fe'i cymhellid yn ei feddwl ei hun i weddïo am wlaw. Disgynodd arno ysbryd gras a gweddïau. Yn y weddi fe gyfeiriai at y llanc, dan gyfarwyddid y proffwyd, yn myned eilwaith a thrachefn i edrych a welai arwyddion o wlaw. Ac yna fe dorrai allan gyda hysbysiad y llanc am gwmwl bychan yn ymddangos, a bloeddiai allan yn ei ddull ei hun fod "trwst llawer o ddyfroedd" i'w glywed. Gyda'r gair, wele fflachiad mellten a rhuad y daran yn cyffroi pawb, ac yn ebrwydd wele wlaw mawr ei nerth ef yn disgyn, megys ped agorasid ffenestri'r nefoedd! Yr oedd yr effaith yn aruthrol ar bawb yn y lle. Yr oedd yr hin ar y pryd yn boeth iawn, ond nid oedd arwydd o wlaw hyd ymyl yr adeg y disgynnodd allan o drysorau Duw. (Methodistiaeth Cymru III. 356). Eithr pa mor fawr bynnag yr ymddanghosai oddicartref, yr ydoedd yn fwyaf yn ei dref ei hun. Fel yr ysgrifennai ei ohebydd parchedig" at awdwr y Methodistiaeth, nid hwyrach y Parch. Dafydd Jones,—"Mewn gwirionedd, anhawdd fyddai nodi yr un dyn yng Nghymru na Lloegr, a fu'n foddion i ddyrchafu crefydd mor uchel yn ei gartref ag a fu Mr. Richardson, yn enwedigol pan y cofiom ei holl anfanteision." Fe gafodd ergyd trwm o'r parlys rai blynyddoedd cyn y diwedd, fel ag i'w ddifuddio i fesur mawr am y gweddill o'i oes. Fe bregethai rai gweithiau gydag arddeliad hyd yn oed y tymor hwn. Yr oedd ei olwg a'i gof wedi pallu yn fawr, ac ar un tro yn ymyl ei gartref methu ganddo atgoffa ei destyn. Torrodd allan i wylo, gan ddywedyd, "Dyma fi, hen bechadur, heb destyn, ac heb lygaid, ond nid heb Dduw. Bendigedig a fo fe,—nid heb Dduw!" Ac aeth ymlaen i bregethu ar y syniad a gyfleid i'w feddwl oddiwrth ei eiriau ei hun: "nid heb Dduw!" "Byw i mi yw Crist a marw sydd elw," oedd ei eiriau olaf. Hoff ymadrodd ganddo yn ei bregethau, mewn cyfeiriad at y Cyfryngwr, oedd hwnnw,—"Ar ei ben y byddo coronau lawer!" Ac mewn cyfeiriad at hynny y mynegir mewn llythyr cydymdeimlad at ei weddw,—"Y mae efe'n awr yn y tragwyddol fwynhad o roi'r goron ar ben y Brawd Hynaf, sef yr hyn a ddymunodd fil o weithiau."

Yn 1826 yr adeiladwyd y capel presennol. I'r capel hwn y rhowd yr enw Moriah. Penrallt oedd enw'r hen gapel, ac hyd o fewn rhyw 40 mlynedd yn ol Penrallt oedd yr enw cyffredin ar y capel presennol, o fewn cyffiniau y dref. Fel hyn y cyfeirir at yr adeiladu yn yr "Abstract of Title": "The chapel thus enlarged [yn 1806] was found to be considerably too small to contain the congregation assembling therein. It was therefore determined by several of the principal members of the congregation to pay the debts of the old chapel and build a new one. This debt was £700. In 1826 a piece of ground near the old chapel was purchased for £300. £3,000 and upwards was spent on the new chapel. In 1827, April 2 and 3, the old chapel was sold for £450 to W. Lloyd clerk and others. The parish bought this property for the purposes of a poorhouse for £450, which is an advantageous purchase for the parish." Cwtogwyd rhai o'r ymadroddion a ddyfynnwyd amryw weithiau o'r "Abstract of Title." Os y talwyd y £700 o ddyled ar yr hen adeiladau gan rai o'r prif aelodau, a hynny heb gymorth y £450 a gafwyd am danynt, fe ddangosai hynny haelioni amlwg. Talwyd £350 am y tir i'r Arlwydd Newborough. Safai tri o dai arno. Ei fesur 25 llath wrth 18. Yn ol rhai adroddiadau yr oedd yr holl draul yn £4,500. Yr oedd amryw dai wrth gefn y capel yn eiddo iddo. Y mae dangosiad a roir eto yn profi fod adeiladu'r tai hyn yn rhan o'r cynllun cyntefig. Y mae'n lled amlwg, gan hynny, fod y tai hyn, cystal a thŷ'r capel, i'w cynnwys yn y £4,500. Dengys nodiad a godwyd gan Mr. Norman Davies o'r cofnodion plwyfol mai yn Awst 10, 1828, y prynnwyd yr hen gapel gan y plwy er mwyn ei wneud yn dloty. Gelwir y fan o hyd wrth yr enw Pwrws, er i'r tloty gael ei adeiladu yn y Morfa yn 1847.

Ceir disgrifiad o'r capel yn y Trysor i'r Ieuenctid am Hydref 1826, sef y chweched rhifyn o fisolyn ceiniog bychan a olygid gan John Wynne. "Capel newydd Penrallt, Caernarvon.

Mae'r addoldy hwn yn 75 troedfedd ei hyd a 53 tr. 9 mod. ei led oddifewn, ac iddo yn y pen deheuol o dan y llawr le helaeth i gadw ysgol, etc. Mae iddo 36 o ffenestri, 26 yn perthyn i'r gallery. Ei dalcen gogleddol sydd o graig Runcorn ac ynddo dri o ddrysau, un i'r llawr a'r lleill i'r gallery. Y gallery ar ddull cylchog, yn cael ei chynnal ar 12 o golofnau haearn, ac ynddi 130 seats, y rhai a gynhaliant o 7 i 8 eistedd ynddynt, ac ar y llawr 150 seats, yn y rhai yr eistedd o 2 i 5. Felly gall dros fil eistedd yn gysurus ynddo. Dechreuwyd ei adeiladu Mai 16, 1825. Pregethwyd y waith gyntaf, Awst 6, 1826, Mr. John Williams Dolyddelen a Mr. James Hughes Lleyn yn gweini— dogaethu. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog iawn, y capel yn llawn; yr oeddynt yn clywed (Mr. James Hughes yn enwedig) o bob man ynddo, ac mae yn ymddangos ei fod yn lle mor gysurus ag un man a welir i addoli. Terfynwyd y Saboth ynddo yn dra chysurus, y brodyr yn cael cymorth i bregethu, a'r gynulleidfa yn cael cysur wrth wrando. J. W.

Yn y Tŷ hwn, gwn, yn gu,—tro ethawl,
Y traethir am Iesu;
Er cyfarch, o barch y bu,
Trwy ing, tros ddyn yn trengu.—(Dewi leuanc.)"

Fe gynlluniwyd y capel gan Robert Jones Amlwch, fel y gelwid ef, pensaer, Caernarvon. Yr ymddiriedolwyr oedd y rhai hyn: Robert Griffith, Richard Owen, Parch. W. Lloyd, John Huxley, John Wynne, Robert Evans, Humphrey Pughe, Parch. J. Jones Tremadoc, Parch. Michael Roberts, Parch. John Jones Talsarn. Richard Williams, Ironmonger, oedd y trysorydd, a W. Owen yn ysgrifennydd.

Y mae lliaws mawr o ddangosiadau ynglyn â'r adeiladu ar gadw. Pigir allan yma rai manion. 1825, May 20, For pulling down the old house at Penrallt, £5. To Evan Jones for gravel. Allowance of ale, 5s. 4d. Drawing several working plans for the chapel, £1. 1s. John Jones. To 42 Tons Runcorn Building Stones a 6s. P Ton, £12. 12s. Allowance at Runcorn 1s. 6d. Drawing a plan for the new Chapel, with houses at the back—a Map also of the ground, £3. 3s. John Jones [sef mab Robert Jones y pensaer]. To Howell Thomas Susannah for carry forty tons of free stones from Runcorn at 6 shillings per ton, £12. To O. Williams & Co. Building O. Hughes's Gable End, 69 yards a 1s. 6d. 5. 3. 6. To 45 tuns of stones at 10ld., £1 19s. 4d. To 12 Quarters of lime a 17d. p Q. 17s. To Evan Jones for Alowance of Ale, 10s. 2d. To 1 Load Building Stones from Plasnewydd quarry p the Royal Oak, Ag. 15 Tons 1s. 6d., £1. 2. 6. To Freight on 44 Tons Building Stones from Plas-newydd a 1s. 6d. £3. 6. 0. To Owen Jones Carpenter 6 days 18s. To Sharpg. 79 Dozen and 10 Shissel at 4d. Doz. £1. 6s. 7d. To 1 days work in discharging Runcorn stones a 2s., 3s. To 7 logs pine timber, 260 feet a 2s. 6d. £32 10s. To 41 Baltic Deals, 641 feet a 11d., £29 7. 7. To 5 Logs Riga Pine, 159 feet a 4s., £31. 16s. To Freight on 22 Tons Building Stones from Dibyn Mawr, 1s. 6d., 1. 13. 0. To Evan Jones for Alowance of Ale by Gravel, 2s. 6d. To 30 Stone Arches to Windows & Doors a 5s., 7. 10. 0. To make 106 yd. 8 feet. 6 of Brick. wall at 4 p yd., £2. 0s. old. To 12 cast iron Columns 12 ft. long 4 yr by 4 inches diamr. cast solid with round bases 60. 2. 0. at 18s. 8d., 56. 9. 4. To 12 cwt of Plaster of Paris, 3. 0. 0. To Centre Piece for Chandelier, £5. 5. 0. To 4 Smaller Pieces at 20s. Each, 4. 0. 0. To 257 feet Cornice at 12d., 12. 17. 0. To 5 Days Work in flooring the Chapel a 3s. 6d. p., £o. 19s. 3d. To 6 lb. Glue, 1s. 2d., 7. 0. To 10 copper tubes 2 lb. 9 oz. 2s. 8d., 6. 10. To 4 Days to Cementing etc. at 3s. 6d. £0. 14. 0. To Wm. Roberts Lab. 5 days at 1s. 9d., 8. 4. [Fe gafodd Wm. Roberts lai na'i gyflog bychan].

Y mae ar gadw ddarn o gylchlythyr Seisnig yn apelio am gynorthwy tuag at yr adeiladwaith. Dyma hynny sydd ohono: "We, the undersigned, at the request, and in the behalf of the Society of Christians denominated Calvinistic Methodists, respectfully inform the Ladies and Gentlemen in the town and neighbourhood of Carnarvon, and the Public in general, that our present place of worship being much too small and incon- venient for our congregation, it was judged necessary to build a Chapel on a larger Scale, which is now begun; but as it will unavoidably be attended with considerable expence, we humbly solicit your charitable and benevolent Contribution for that purpose, which we will gratefully acknowledge with due thankfulness." Nid oedd Evan Richardson mwyach pan wnawd y dernyn yma, a gellir bod yn sicr mai nid Mr. Lloyd fu'n euog ohono.

Cof gan William Griffith, y dechreuwr canu, a anwyd yn 1822, am dano'i hun yn myned yn blentyn i'r tŷ capel o flaen oedfa'r hwyr ar y Sul. Richard Owen a'i wraig Mari a gadwai'r tŷ capel. Gwelid y bibell a'r tybaco a'r cwrw ar y pentan ar gyfer y pregethwr. Ar ol i'r plant a gaffai'r fraint o alw yno ysgwyd llaw â'r pregethwr, fe gawsent bob o gypanaid fechan o gwrw poeth a phupur cloves ynddo gan Mari Hughes. Fe ddarfu i William Griffith ei hun flasu y ddioden felysboeth hon, er cymaint dirwestwr a fu efe yn ol hynny.

Yr oedd William Owen yr eillydd ar lyfr yr eglwys yn 1805, ac feallai yn flaenor cyn hynny. Ei enw ef oedd ar yr ymrwymiad y cyfeiriwyd ato. Dywed W. P. Williams ei fod yn wr tawel ac yn gristion gloew, yn ymwelwr â'r cleifion, ac yn athraw ffyddlon. Pan mewn oedran fe ymbriododd â lodes ieuanc oedd. yn gweini gydag ef, a hithau heb fod yn aelod. Diarddelwyd ef, ond dychwelodd yn ol fel aelod.

Daeth Robert Jones Amlwch, fel y gelwid ef, er mai brodor o Bwllheli ydoedd, i Gaernarvon tuag 1808. Gwnaed ef yn flaenor, a pharhaodd yn y swydd hyd 1827. Ni eglurir pa beth oedd yn lluddias iddo barhau. Dywed W. P. Williams ei fod yn ddyn call, lled ddysgedig, a chrefyddol, ac y daeth i feddu ar gryn ddylanwad yn y dref. Dywed, hefyd, mai yn ei dŷ ef y byddai John Elias yn lletya, ac iddo fedyddio ei holl blant ef. Y mae sôn, pa ddelw bynnag, am John Elias yn lletya gyda'r Dr. William Roberts, ewythr y Dr. Watkin Roberts. Rhoddai Robert Jones bedwar o welyau at wasanaeth y Sasiwn pan gynhelid hi yn y dref.

Bu John Hughes y pregethwr farw, Gorffennaf 20, 1828, wedi dechre pregethu yma yn 1814. Yr ydoedd yn wanaidd o gorff a chloff. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy, a chanddo fesur helaeth o ddawn y weinidogaeth. "Ychydig y bu ef; yr oedd yn effro tra y bu," ebe Griffith Solomon (Drysorfa, 1837, t. 119). Yn fachgen yr oedd yn nodedig ym mhob digrifwch, ac yn ymhoffi mewn dynwared pregethu. Aeth yn ddiofal am y moddion, ond fel y llwyddodd ei ewythr, William Owen yr eilliwr, gael ganddo ddilyn drachefn yn gyson. Gallai gofio pregethau pan na fedrai eu deall yn iawn. Daeth dan argyhoeddiad pan oddeutu 14 oed. Enillwyd ei feddwl gan mwyaf drwy bregeth ar, A ei di gyda'r gwr hwn? a chymhellwyd ei feddwl i wneud proffes. Yr ydoedd yn ysgub blaenffrwyth diwygiad 1818. Cafodd allwedd cyfrinach â'r Arglwydd mewn dirgel weddi. Yr oedd o ddeall cyflym a golygiadau treiddgar, ac yn ddawnus ei ymadrodd. Dechreuodd bregethu yn 22 oed. Teithiodd drwy'r ran fwyaf o Dde a Gogledd. Ymaflodd y darfodedigaeth ynddo. Yn nos angeu fe gododd yr Haul arno, a thorrodd allan mewn gorfoledd. (Goleuad Cymru, 1830, t. 1, gan Edmund Parry).

Ym Mai, 1831, daeth y Parch. Dafydd Jones i Gaernarvon. Yn 1832 dewiswyd yn flaenoriaid, Joseph Elias, William Swaine, Owen Ellis.

Tybia W. P. Williams mai John Rowlands Parcia cochion, pannwr, a wnawd yn flaenor yn nesaf ar ol Dafydd Jones y cwper, ac yr oedd yn y swydd cyn dod i'r dref. Yr oedd yn ddyn tal, syth, prydweddol, ac o dduwioldeb diamheuol. Dechreuai yr odfeuon yn achlysurol. Bu farw yn 1833, yn 64 oed.

Yn 1837, neu yn ymyl hynny, y symudodd Griffith Evans i Rostryfan, wedi bod yn flaenor yma am 25 mlynedd. Fel y lloer, anfynych y gwelai namyn yr ochr dywyll. Hyd yn oed mewn gweddi, ebe W. P. Williams, yr oedd fel un yn cymeryd yn ganiataol fod yr achos ar drengu. Llym a miniog ei ddull, a llym mewn disgyblaeth. Bu'n llafurio ymhlith y rhai cyntaf yn ysgol Longlai, sef cychwyn yr achos yn Nazareth, ac efe oedd yr arolygwr cyntaf yno. Yr oedd yn wr da, cywir, crefyddol. (Edrycher Rhostryfan).

Bu Richard Jones (Treuan) yn flaenor ym Moriah am rail blynyddoedd. Symudodd i Bwll y barr ger Caeathro. Y mae ei enw gyntaf ar lyfr yr eglwys yn 1817. (Edrycher Caeathro ac Engedi). Humphrey Llwyd Prysgol oedd flaenor arall, a fu wedi hynny yng Nghaeathro. (Edrycher Caeathro).

Daeth John Williams Caeathro yma o Gaeathro, lle y cadwai ysgol, a glynodd enw'r lle wrtho. Daeth yma yn 1826 i gadw ysgol Mr. Lloyd, ar ol iddo ef ei rhoddi heibio. Rhy ddiniwed ydoedd i allu gwastrodedd hogiau'r dref, ac aeth ymaith cyn bo hir. Yr oedd yn bregethwr cystal ag ysgolfeistr, ac yn wr da; ond ni wyddys mo'i helynt ymhellach.

Yr oedd swm y casgliadau yn 1833 yn £75 12s. 8g. Rhannwyd fel yma: I'r tlodion, £26 18s. 8g. At yr achos, £25. 8s. 4c. Pregethu yn Dublin, £2. 6s. 6ch. Dyled y capeli, £3. 9s. 1½g. Cymdeithas Genhadol Llundain, £17. 10s. 1g. Swm y casgliadau yn 1837, £92. 13s. 6ch., a rhannwyd fel yma: I'r tlodion, £30. 6s. 11g. I'r achos, £32. 12s. 10½c. Cymdeithas Genhadol Llundain, £19. 18s. 11g. Cymdeithas Genhadol Gartrefol, £9. 14s. 9½c. Yn 1839 yr adeiladwyd capel Nazareth. Elai'r pregethwr o Foriah i Nazareth am ddau pnawn Sul, ac elai'r blaenor, Dafydd Rowland, gydag ef. Yr oedd y pregethwr yn myned i Gae- athro cyn hynny.

Bu Mr. Lloyd farw Ebrill 16, 1841, yn 70 mlwydd oed. Daeth i Gaernarvon o Frynaerau yn 1817. Fe gymerodd y radd o B.A. yn Rhydychen, ac ystyrrid ef yn ysgolhaig Lladin gwych. Derbyniodd urddau eglwysig yn 1801, yn 30 oed. Dilynai fuchedd ofer. Aeth drwy bangfeydd argyhoeddiad, a llifai pobl i wrando arno, wedi ei ddeffro felly, yn llanau Llanfair, Rhoscolyn a Llanfihangel ym Môn. Yn y man fe ymunodd â'r Methodistiaid yng Nghaerceiliog. Pan ddaeth at y Methodistiaid nid oedd yng Ngogledd Cymru ond Thomas Charles a Simon Llwyd wedi eu neilltuo yn rheolaidd i weinyddu'r ordinhadau eglwysig, a derbyniwyd ef yn groesawus. Ceisiwyd ganddo ymroi i wasanaethu'r Cyfundeb yn llwyr, gan ei sicrhau na byddai arno eisieu dim, ond gwell oedd ganddo fod yngafael â galwedigaeth fydol. Bu yng Nghaernarvon am beth amser yng ngwasanaeth brawd o farcer oedd iddo yma, cyn symud i Nefyn i arolygu fferm ei fam a'i chwaer. Wedi bod yn cadw ysgol ym Mrynaerau, dilynodd yr un alwedigaeth yng Nghaernarvon hyd nes y priododd, ac am y 15 mlynedd diweddaf o'i oes yr oedd yn rhydd oddiwrth alwedigaeth fydol. Y mae lliaws yn cofio fel y byddai ei gydoeswyr yn y dref yn cyfeirio at "Mr." Lloyd, a phob amser gyda gradd o barchedigaeth yn y dull yr yngenid y "Mr." Disgrifir ef cyn ei droedigaeth fel dyn ffroenuchel, balchaidd. Eithr yr argraff gyffredinol oddiwrtho wedi hynny ydoedd eiddo dyn o ysbryd plantaidd, chwedl Morgan Llwyd, gan chwilio am air gwahaniaethol ei ystyr oddiwrth plentynaidd. Anaml y cyferfid â dyn diniweitiach na Mr. Lloyd, a'r disgrifiad a roid ohono fyddai, "Mr. Lloyd dduwiol, ddiniwed." Er hynny, fe lwyddodd efe gyda hogiau'r dref, pryd y methodd gan John Williams, er y cyfrifid yntau, hefyd, yn wr duwiolfrydig. Tebyg fod y naws uchel oedd yn Mr. Lloyd cyn ei argyhoeddiad yn rhoi rhyw ias o awdurdod yn ei ddull, er y cyfnewidiad amlwg a ddaeth drosto. A rhaid cofio, hefyd, mai "Mr." ydoedd, neu un a fu yn wr eglwysig. Yr oedd i hynny ei ddylanwad priodol ei hun y pryd hwnnw ar feddwl gwerin. gwlad, ac hyd yn oed uchelwyr gwlad. Yr oedd efe o gydwybod dyner. Wedi ei argyhoeddiad, aeth y gwasanaeth bedydd yn annioddefol i'w deimlad, a gorfodid ef gan hynny, ac ystyriaethau eraill, i adael yr Eglwys. Wedi hynny, am weddill ei oes, blinid ef gan y meddwl nad oedd wedi ei wir alw yn weinidog Crist, ac mai gan ddyn yn unig y derbyniodd ei swydd, gan nad ydoedd ei hunan ond dyn annuwiol ar y pryd. Tebyg fod ei amddifadrwydd o ddawn naturiol wrth gefn yr amheuon hyn, ac y bu hynny yn rheswm am iddo beidio ymroi yn llwyr, megys y cymhellwyd ef, i waith y weinidogaeth yn y Cyfundeb. Rhaid bod y cyfryw amheuon ynghylch ei alwad wedi ei nychu i fesur, ac i fesur mawr feallai, yn y gwaith. Yr oedd ei ddiffyg dawn nid yn unig yn ddiffyg dawn ar ymadrodd, ond, yn chwaneg, yn ddiffyg dawn i gynyrchu meddyliau, fel y rhaid fod ynddo ymdeimlad o wendid nid yn unig yn y traddodiad o'i genadwri, ond hefyd wrth geisio cael deunydd cenadwri pan wrtho'i hun. Adroddir gan Owen Thomas mai yn yr Ephesiaid a'r Rhufeiniaid y byddai ei destynau fynychaf, ac nad oedd ei bregethau gan amlaf ond cymaint ag a fedrai gofio o hen esboniadau Lladin Musculus a Zanchius. Gyda phregeth led newydd, fe droai ar y dydd Llun i'w hoff awduron er gweled a allodd gludo eu cynnwys gydag ef, a chlywid ef yn cwynfan wrtho'i hun, "Wel! wel! piti! piti! piti! Dyma fi wedi anghofio'r pethau goreu o'r cwbl! Gresyn! gresyn! gresyn!" Parai hyn i gyd, er cymaint y perchid ef, argraff o wendid ynddo fel pregethwr. Fe gofir yr hanesyn am y bachgen hwnnw a holid gan y pregethwr wrth fyned tua'r capel, a fyddai efe'n gweddïo dros y pregethwyr? ac a atebai'n ol y byddai. Gofynnodd yna y pregethwr, am ba beth y gweddïai efe? ac atebai'r bachgen y gweddïai am i Mr. Lloyd Caernarvon gael rhywbeth i'w ddweyd, ac y gweddïai am i John Williams Llecheiddior beidio dweyd gormod. Os y clywid neb o'r hen wrandawyr yn adrodd rhywbeth ar ei ol, byddid yn sicr o'u clywed yn adrodd am dano yn gweithio'i fysedd drwy ei gilydd yn aflonydd, ac yn holi Paul ac yn ei groesholi. Aië, Paul?" "Aië, Paul?" "Ië, Paul?" Ond er cymaint yr holi ar Paul, nid yn rhyw rwydd iawn yr atebai Paul. Ond yr oedd ochr arall iddo. Ar weddi fe fyddai bob amser yn ddwys a gafaelgar. Ac yn ei bregethau, hefyd, ar brydiau, fe atebai Paul yn gampus, â llais uchel dros y capel, nes y byddai'r holl gynulleidfa mewn dagrau, ebe Owen Thomas. "Eithr Duw—eithr Duw—eithr Duw,—yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad drwy yr hwn y carodd efe ni, ïe, pan oeddym feirw mewn camweddau a'n cyd—fywhaodd ni gyda Christ: trwy ras yr ydych yn gadwedig. Trwy ras! trwy ras! trwy ras!' Dyma obaith i'r anheilwng. Dyma obaith i minnau. Dyma obaith i tithau." Dywedir ymhellach y byddai arogledd sanctaidd yn wastadol ar yr hyn a ddywedai yn y Cyfarfod Misol. "Wedi ei wneuthur i ni gan Dduw." "Ie, frawd bach, ie, gyfeillion bach, ie, frodyr anwyl, 'gan Dduw '—fel yr oedd y brawd ifanc yn dywedyd neithiwr— daliwch ati, 'machgen anwyl i,—'gan Dduw '—y Duw y darfu i ni bechu yn ei erbyn; y Duw ddarfu i ni ddigio; y Duw biau'r gyfraith; y Duw fydd yn ein barnu; 'gan Dduw'—peidiwch digalonni, frawd bach; ymddiriedwch ynddo, frodyr anwyl; 'gan Dduw.' Bendigedig a fo. Mae o'n siwr o fod wedi gwneuthur ei waith yn iawn." Yr amser cyntaf ar ol ei argyhoeddiad, yr oedd dan y fath gyffro teimlad, fel ag i'w godi yn ei bregethau uwch ei law ei hun. Aeth sôn allan am dano, fel pan y daeth i Gaernarvon am y tro cyntaf, nad allai y capel gynnwys y gynulleidfa. A phregethodd am drysori digofaint erbyn dydd digofaint gydag effaith nas anghofid. A thros weddill ei oes, fe fyddai ar brydiau, wedi cyrraedd ohono ryw nôd yn y bregeth, yn ymgodi i ddylanwad trydanol. Ac fel y dywedodd Spurgeon am George Müller, yr oedd George Müller ei hun o'r tu ol i'r bregeth. A thywynnai disgleirdeb duwiol Mr. Lloyd drwy bob afrwyddineb yn y bregeth, a thywynnai, hefyd, yn ei ymddanghosiad, ac yn ei holl fuchedd, ac am yn hir wedi ymadael ohono â'r fuchedd hon. Pe cawsai Ddaniel Owen arall i'w gyfleu mewn chwedloniaeth, oddiar adnabyddiaeth deg ohono, fe wnaethai gymeriad cyfartal i Ddr. Primrose Goldsmith, neu Parson Adams Fielding. Ei air olaf,—Y mae yn dawel iawn oddifewn.

Pan âf uwch ei ystafell
I weled gwaith y dlawd gell;
Och, yno wrth gofio gynt
Da hwyliodd ein cyd helynt,
Ei ddiddrwg olwg wiwlon,
Yn wastad â llygad llon;
Ei weddi daer, fwynaidd dôn,
Ei ddoniau a'i 'mddiddanion;
Neu gofio ei lon gyfarch,
Rhydd i bawb y rhoddai barch;
Och, yno uwch ei annedd,
Golchwn fŷg lechen ei fedd

A dagrau caredigrwydd,
Gorffrydiant, rhedant yn rhwydd;
A gallai y rhedai rhai'n
O lefau fy wylofain,
Heb wåd trwy gaead ei gell,
Nes dyfod i'w ystafell,
I weini iddo f'annerch,
Mewn dafnau cusanau serch.—(D. Jones.)

(Drysorfa, 1844, t. 193 ac ymlaen, gan D. Jones; 1870, t. 126. Cofiant John Jones, t. 130.)

Engedi yn cael ei agor, Mehefin 19, 20, 1842. Aeth 120 o Foriah yno, ac yn eu plith Robert Evans a Joseph Elias. Yr oedd Robert Evans yn arolygwr yr ysgol er 1817, ac yr oedd yn ysgrifennydd yr eglwys er oddeutu'r un amser, a chyflawnai'r naill swydd a'r llall yn gwbl foddhaol, yn ol tystiolaeth W. P. Williams. Gwrthododd ymgymeryd â'r flaenoriaeth yn 1825; ond gwnaeth hynny pan ddewiswyd ef drachefn yn 1828. Gweithiwr tawedog a fu ym Moriah, ac ar ol hynny y datblygodd ei alluoedd cyhoeddus. Bu Joseph Elias yn gyd-arolygwr â Robert Evans am rai blynyddoedd, ac yn flaenor er 1832. (Edrycher Engedi ymherthynas â'r ddau hyn.)

Yn 1843 y daeth y Parch. Thomas Hughes i Gaernarvon. Bu John Humphreys farw Hydref 17, 1845, yn 70 oed. Dechreuodd bregethu yn 1809. Yn 1829 ataliwyd o bregethu oherwydd gormod ymarfer â'r diodydd meddwol. Bu ar ol hynny yn Nerpwl am 3 blynedd. Yna dychwelodd i Gaernar— von. Cymerth yr ardystiad dirwestol ar ol hynny, a threuliodd y gweddill o'i amser yn loew ei gymeriad. Cyfrifid ef yn wr tirion a charedig ac yn bregethwr swynol. Dan ei bregeth ef yr argyhoeddwyd Owen Owens Corsywlad oddeutu 1818, a blaenor arall, sef Henry Jones, a fu'n ffyddlon am oes faith yn Golan. Pan yn bregethwr fe gyfyngai ei hun yn bennaf i'r dref a'r gymdogaeth. Dywedodd unwaith wrth Dafydd Williams y pregethwr, "Dafydd bach, y mae'r Graig yma, ond fod llawer o bridd arni."

Yn 1845 dewiswyd yn flaenoriaid, Richard Evans, W. P. Williams, Richard Prichard. Labrwr oedd Richard Prichard, ond gwr parchus a defnyddiol. Cafodd ei wraig dro amlwg dan bregeth Ebenezer Morris yn 1818, cyn ei briodi ef, a hithau y pryd hwnnw yn "bechadures." Ar y sail yma, fe wrthwynebwyd ei etholiad gan gyfran o'r eglwys. Apeliwyd at y Cyfarfod Misol, a'r canlyniad fu gadael Richard Prichard heb ei ethol. Bu hynny yn naturiol yn gryn dramgwydd i Jane y wraig, ond dioddefodd y gwr yr oruchwyliaeth anghristnogol yn ysbryd cristion. Gellir sylwi yma fod tad W. P. Williams, sef y Capten Henry Williams, yn bedwerydd ar ddeg ar lyfr eglwys Moriah, ac ymunodd ei wraig, hefyd, yn fore. Cyn cychwyn o'i long o Nerpwl y tro olaf y bu yno, cynhaliwyd cyfarfod gweddi yn y llong. Cenid gyda hwyl, Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau. Gyferbyn a Llandudno suddodd y llong a boddwyd pawb ar ei bwrdd. Yr ydoedd yn gyfaill mawr i Evan Richardson, a galarai ef ar ei ol fel un o'r teulu. Gan i W. P. Williams oroesi cyfnod yr hanes yma, ni thraethir yn neilltuol arno; eithr fe ganfyddir fod ganddo gymhwyster arbennig i ysgrifennu ar yr eglwys hon. Cryno o gorff a meddwl oedd Richard Evans. Efe oedd y gofalwr am gyfarfod gweddi chwech y bore ar ol Dafydd Jones, ac efe a ofalai am ysgol Isalun, ac ni chollai byth o'r naill na'r llall. Israeliad yn wir yn yr hwn nid oedd dwyll.

Mehefin 26, 1846, yn 84 oed, y bu farw Dafydd Jones y cwper. Mewn nodiad chwe llinell arno yn y Drysorfa (1846, t. 256), fe ddywedir ei fod yn un o'r rhai cyntaf a ddechreuodd yr achos yng Nghaernarvon. Eithr ni enwir ef yn y Methodistiaeth ymhlith y 4 neu 5 cyntaf i gyd. Dywedir, hefyd, iddo fod yn flaenor am yn agos i 50 mlynedd. Fe'i galwyd, gan hynny, ymhen oddeutu 9 mlynedd ar ol sefydlu'r eglwys. Hyd y gwyddys, efe oedd y blaenor cyntaf. Yr oedd nifer yr aelodau am rai blynyddoedd mor fychan, fel nad oes unrhyw le i gasglu y galwodd Evan Richardson, ar gymhelliad Elizabeth ei wraig, neb i'r swydd o'i flaen ef. Urddiad esgobaethol ydoedd yr eiddo ef, gydag ymyriad benywaidd yn yr achos, y fath a ddigwyddodd, mae'n ddiau, fwy nag unwaith, mewn urddiadau unbenaethol. Fe wneir y sylw yma arno yn y Methodistiaeth: "Un hynod, hefyd, oedd Dafydd Jones y cwper, ac un a fu'n ffyddlon iawn dros ei dymor. Gresyn na buasai rhywun cydnabyddus â'r gwr hwn wedi ysgrifennu ei hanes, gan hynoted ydoedd. Diau y buasai crynhodeb o'i lafur, ei ymadroddion, ac o'i gymeriad yn ffurfio traethawd tra dyddorol a buddiol; ond nid oes y fath grynhodeb wedi ei wneud, na gobaith, bellach, y ceir un." Ac eto, yr oedd y gyfrol y dywedir hyn ynddi yn dod allan drwy'r wasg ymhen wyth mlynedd ar ol marwolaeth Dafydd Jones. Y mae'r cofnodion yma gan W. P. Williams: "Y mae'n debyg iddo fod yn addoli gyda'r ddiadell fechan yn y llofft [Tanrallt]. Fe'i ganwyd yn 1762; felly yr oedd yn 25 oed pan ddaeth Mr. Richardson i Gaernarvon. Brodor ydoedd o Bwllheli. Yr oedd yn meddu ar gryn lawer o synnwyr cyffredin a phwyll ac amynedd. Ymddanghosai fod ganddo berffaith lywodraeth arno'i hun a'i eiriau a'i dymer a'i holl ymddygiadau. Nid wyf yn gwybod i neb ei weled wedi gwylltio o ran ei dymer. Mewn achosion o ddisgyblaeth dyrus, gyda rhai o'r swyddogion cystal ag aelodau wedi colli eu tymer, elai Dafydd Jones drwy'r helynt yn hollol hamddenol. Bu'n gynorthwy mawr i Evan Richardson ac yn ymgeledd i'r achos. Wrth weddio, ni fyddai byth yn faith, ac ni phregethai, ond dywedai ei neges yn fyrr ac i bwrpas, a chydag ysbryd gostyngedig, fel plentyn yn ymddiddan â'i dad. Nid ydym yn gwybod ond ychydig iawn am danat yn awr, Nefol Dad, ond ni a ddown yn fwy cydnabyddus â'n gilydd ar ol hyn'; ac yna elai ymlaen i ofyn am wybod mwy a phrofi mwy o rym crefydd ysbrydol. Yr oedd Mr. Richardson yn hoff iawn ohono: byddai weithiau pan yn pregethu yn y Bontnewydd. yn ei gymeryd ef gydag ef. Gwnelai weithiau gamgymeriadau digrifol. Clywais ei fod unwaith wedi darllen pennod o'r Apocrypha wrth ddechreu'r oedfa. [Yr oedd yr hen feiblau yn cynnwys yr Apocrypha.] Gofynnodd y cyfeillion iddo wedi'r gwasanaeth, paham y darllenai'r Apocrypha wrth ddechre oedfa? O!' meddai yntau, 'i edrych a oeddych chwi'n gwybod y gwahaniaeth rhyngddo a Gair Duw.' Dafydd Jones a fu'n cyhoeddi'r moddion am 40 mlynedd. [Rhoddai achos y tlodion gerbron y gynulleidfa, gan roi yr enw a'r cyfeiriad, a gadawai ar hynny. Cyhoeddai mewn llais eglur ac mewn modd cryno. (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 20).] Gan ddiffyg cof, nid oedd ganddo yn niwedd ei oes ond rhyw un pennill i'w roi allan, a dyma oedd hwnnw:

Dywed i mi pa ddyn a drig
I'th lŷs parchedig Arglwydd;
A phwy a erys ac a fydd
Yn nhrigfa dy sancteiddrwydd.

Yr oedd ei gyd-swyddogion yn hoff iawn ohono, yn enwedig y Parch. D. Jones." Y mae fod Evan Richardson a Dafydd Jones mor hoff ohono yn docyn aelodaeth iddo i gymdeithas etholedigion duwiolfryd nawsaidd. A dengys y cyfuniad o'i hunanfeddiant tawel a'i ddireidi a'i felancoli,—canys fe arferid adrodd gynt fod hynny yn ei nodweddu, ac yn achos o'r camgymeriadau digrifol y cyfeiriwyd atynt,—natur gyfoethog, a thyner, a siriolwych, pan yn ymysgwyd oddiwrth y dymer drymbluog, ac yn dechre hedfan fymryn i'r glesni tawel. A chan ei fod mewn gweddi, megys plentyn gyda'i dad, fe welir mai gwr cynefin â'r Orsedd ydoedd, ac wedi ymddihatru oddi— wrth ffug a rhodres a phenboethni, os bu efe erioed yn euog ohonynt. Gwerth i ni ddeall cymaint a hyn am flaenor cyntaf Methodistiaid Caernarvon.

Gorffennaf 8, 1846, yn 76 oed, y bu farw John Huxley, ymhen deuddeng niwrnod ar ol Dafydd Jones y cwper. Tynnwyd ymaith ynddynt hwy ill dau gryn lawer o'r addfed ffrwyth cyntaf. Yn fachgen gwyllt a direidus, fe ofynnodd ei gyfaill, Robert Griffith Penrallt, a fu farw o'i flaen ef, i John Huxley ddod i wrando pregeth ar bnawn Sul i ffermdy yn agos i Bencefn, sef naill ai yn y Wern yn agos i Gaeathro neu yn Glanrafon bach, fel yr adroddai ef ei hun wrth W. P. Williams. Yr oedd ar John gywilydd rhag y meddwl am y fath beth, canys eglwyswr ydoedd, ond fe'i perswadiwyd yn y man, er na fynnai fyned i mewn i'r tŷ namyn gwrando oddiallan gyda'i het ar ei wyneb rhag ei adnabod. Chwarddai John yn ei het am ben dull gwledig a digrif yr hen bregethwr; ond yn y man fe ddechreuodd y pethau ymaflyd yn ei feddwl, ac aeth i wylo yn chwerw bellach yn ei het, fel yr oedd arno gywilydd ei weled. Dafydd Cadwaladr oedd y pregethwr. Cymhellodd Robert ef i fyned i'r cymun. Yr oedd geiriau Robert, Jac, a fuost ti erioed yn dy gymun?" fel swn yn ei glustiau ddydd a nos. Dechreuodd ddarllen ei Feibl a gweddio. Ysgrifennai wersi o'r Beibl ar wainscoat ei wely, a darllenai y rheiny gan eu cymhwyso ato'i hun. Gyda theimladau cymysg yr aeth i'r cymun yn yr eglwys ar y pasc. Dan argyhoeddiad meddwl troes ei wyneb i'r seiat ym Mhenrallt yn 1796, pan yn 26 oed. Ar y ffordd yno, ebe Peter Ellis wrtho,—"Wel, Jac, i ble yr wyti'n mynd y ffordd yma ?" Cymhellwyd ef gan Peter Ellis i ddod i mewn gyda hwy, ar ol iddo ddangos mai dyna oedd ei feddwl. Dechreuodd John Elias, oedd yn yr ysgol gydag Evan Richardson, ei chwilio a'i chwalu, a dywedai yn y man yr ofnai na byddai yno dri mis. Eithr fe'i hymgeleddwyd gan Evan Richardson. Er hynny, cael a chael oedd iddo aros. Yr oedd geiriau John Elias am y tri mis yn rhuo yn ei feddwl o hyd nes i'r tri mis ddod i ben. Adroddai John Huxley hyn ymhen mwy na hanner can mlynedd, ac o fewn ychydig fisoedd i'r diwedd. Yn frodor o Nerpwl, ni ddysgodd mo'r Gymraeg nes dod i Gaernarvon yn fachgennyn ieuanc. Fe gafodd addysg dda, a bu'n ddarllenwr ar hyd ei oes. Dywed y Parch. Hugh Roberts (Bangor) yn y Drysorfa, ei fod yn gartrefol mewn hanesiaeth wladol ac eglwysig, ei fod yn ddiwinydd galluog, yn feirniad medrus ac yn bregethwr melus odiaeth. "Ni byddai un amser yn pregethu yn faith nac yn danbaid; ni byddai yn dyrchafu nemor ar ei lais, ond yn foneddigaidd yn ei holl agweddau. Yr oedd ei lais yn beraidd, a chanddo ystôr helaeth o faterion, fel yr oedd yn gallu sicrhau astudrwydd yn ei wrandawyr. Bu yn ffyddlon iawn gyda'r ysgol Sabothol. Yr oedd yn ddyn cyflawn o synnwyr a doethineb, a llanwai bob cylch y deuai iddo yn anrhydeddus. Yr oedd ei gymeriad yn uchel yn y dref boblogaidd yr oedd yn byw ynddi, fel dyn call, synwyrol a chrefyddol, ac o chwaeth goethedig." Yr oedd yn wr coethedig, o ddawn naturiol, o ysbryd crefyddol, yn hytrach yn neilltuedig ei ffordd ac anhyblyg ei feddwl. Gwrthododd y cynnyg i'w ordeinio yn 1834, yr hyn yr edrychid arno y pryd hwnnw fel arwydd o barchedigaeth go uchel, ac fe deimlid y gwrthodiad yn brofedigaeth gan y Cyfarfod Misol. Eithr yr oedd ef yn 64 oed weithian, ac nid annhebyg iddo deimlo yr esgeuluswyd ef yn rhy hir. Bu o fewn ychydig i'w alw i'w ordeinio 11 mlynedd yn gynt, pryd nad oedd ond nifer bychan wedi eu hordeinio yn y Corff. Esgeulus ydoedd o'r Cyfarfod Misol, ac ymyriad rhywrai, fel y tybir, a rwystrodd y cynnyg i'w ordeinio y pryd hwnnw, gan nad oeddynt yn ei gael yn Fethodist digon cyfansoddiadol. Pan wrthododd ei ordeinio, fe sylwodd John Elias yn Sasiwn yr ordeinio, mai efe oedd y cyntaf yn y Cyfundeb i wrthod, a bod yn alarus ganddo am hynny. Tebyg y cofiai John Elias am y seiat yng Nghaernarvon, pryd y ceisiodd efe rwystro ei gais am aelodaeth. Bu'n pregethu am yn agos i 40 mlynedd. Maes ei lafur, yn bennaf, oedd Caernarvon a'i chyffiniau. Ni wyddai Hugh Roberts iddo fyned ar daith i sir arall fwy nag unwaith. Ni fynegir ym mha sir, ond bu ar daith bregethu yn Sir Fôn gyda John Wynne, o leiaf. Dywed Hugh Roberts y buasai yn addurn i'r weinidogaeth deithiol. Trwy gryn ymdrech y cafwyd ganddo roi anerchiad yng nghyfarfod y Feibl Gymdeithas yn y dref, eithr fe draddododd un o'r areithiau mwyaf hyawdl a grymus a oeddid wedi gael o gwbl. Unwaith y clywodd Hugh Roberts ef yn pregethu, sef yng Nghyfarfod Misol Brynengan. Hanes dioddefiadau Crist oedd sylwedd ei bregeth, ac yr oedd yn traddodi gyda'r fath oleuni, teimlad, gwres a llewyrch, fel yr oedd yr holl gynulleidfa wedi ei gorchfygu, yn toddi mewn dagrau, ac eraill yn llefain, fel yr oedd yn anhawdd ei glywed cyn diwedd yr oedfa." Nid ymgymerodd â'r symudiad dirwestol, ac aml bicell a deflid ato o'r herwydd yng nghyfarfodydd dirwestol brwd dyddiau cyntaf dirwest. Ei yrru ymhellach oddiwrth y symudiad a wnae hynny, fe debygir, ac nid hir y bu heb weled amryw o'i ymosodwyr eu hunain yn ymdrybaeddu yn y ffos. Byddai yn gyson yn y cyfarfodydd eglwysig, a rhagorai yno yn anad unman. Fe arferai Simon Hobley a dweyd yr ymddyrchafai ei lais yn arafdeg fel yr elai ymlaen gan ymgomio gyda hwn a'r llall, ac y byddai o'r diwedd mewn aml seiat wedi ymddyrchafu megys i nen y capel, ac wedi mwyneiddio nes myned yn fath o bersain ysbrydol. "Mwyn mwyn" y disgrifid ei lais ganddo ef. Ac yn ei feddwl ef, nid oedd neb a glywodd yn y cyfarfod eglwysig yn hafal iddo. Dywed W. P. Williams mai i'w ddwylo ef y daeth yr awenau ar ol Evan Richardson, ac mai efe, hefyd, oedd y nesaf iddo mewn dylanwad. Yr oedd yn dra hoff o gerddoriaeth. Tŷb W. P. Williams mai efe a chwareuai y bass viol yn yr eglwys gynt, a thra hoff ydoedd o'r hen donau Cymreig. Arferai ddweyd am y dôn Dorcas, os byddai canu yn y nefoedd, y byddai canu ar yr hen Dorcas yno. (Drysorfa, 1846, t. 256; 1849, t. 47; 1870, t. 215.)

Hydref 16, 1849, dewiswyd yn flaenoriaid, Henry Jonathan a John Richardson. Awst 6 o'r un flwyddyn yr oedd Griffith Parry yn cael ei dderbyn yn aelod o'r Cyfarfod Misol. Dros ysbaid gymharol ferr y bu John Richardson yn y swydd. Bu farw yn 37 oed. Mab Evan Richardson ydoedd. Dyma sylw W. P. Williams arno: "Yr oedd yn ddyn gwir dduwiol, ac yn hynod ddidderbyn wyneb a llym mewn disgyblaeth eglwysig. Feallai weithiau yn lled arw, ac heb ddangos digon o barch i deimladau ei frodyr. Ar yr un pryd, rhaid addef fod llawer o bethau rhagorol ynddo, a chredwn y buasai'n gwneud blaenor cymeradwy pe cawsai fyw." Dywed Mrs. Elizabeth Hughes (Uxbridge Square) mai gwael ei iechyd ydoedd ac mai dyna pam yr ataliwyd ef rhag myned i bregethu. A dywed ar ol morwyn iddo o'r enw Roberts (y Blue Bell wedi hynny, sef hen dafarn unwaith, ac wyres John Roberts Llangwm), a fu yn gweini arno am chwe blynedd, iddo gael adnewyddiad neilltuol wrth wrando'r Dr. Lewis Edwards ar y geiriau, Oherwydd dy drugaredd sydd yn dragywydd. Fe ofynnai iddi yn ymyl ei derfyn, "Gwrandewch! Wnewch chi fynnu cael crefydd iawn?" Bu mewn ymrafael â rhai aelodau oherwydd ei sel dros burdeb.

Bu farw Richard Evans Awst 27, 1853, yn 56 oed. Yr oedd yn wr o barch yn ei deulu, ac yn yr eglwys a'r byd. Yr oedd ei ie yn ie a'i nage yn nage. Nid oedd o ran doniau a chyrhaeddiadau ond cyffredin. Ymwelai â chleifion a thlodion gan weinyddu i'w hangenrheidiau. Bu'n arolygwr yr ysgol yn Isalun am 24 blynedd. Y diwrnod olaf y bu byw, ebe eil wraig wrtho, "Wel, Richard bach, y mae yn dda ganddoch Iesu Grist, onid ydyw?" Ebe yntau'n ol, "O! Mary, mae'n dda gan Iesu Grist am danaf finnau ers llawer blwyddyn, 'rwyn gwybod." Ebe hithau, "Mi fuasai'n dda iawn gennyf allu gweinyddu rhyw gysur i chwi yn awr." Ebe yntau, "O! Mary, y mae'r Cyfaill yma." (Drysorfa, 1854, t. 273.)

Tybia Mr. Norman Davies, oddiwrth gyfeiriad yn nyddlyfr Thomas Lewis at atgyweirio'r capel, yn 1854, mai yn y flwyddyn hon y rhowd seti ar lawr y capel yn lle'r meinciau blaenorol. £450 oedd dyled Moriah yn nechre 1853 a £340 yn nechre 1854. Cyfrifid yn nechre 1854 fod lle i 1,172 eistedd; yn 1856 i 1,236. Yn 1853 gosodid lleoedd i 800. Cyfartaledd pris eisteddle, swllt y chwarter, a derbynid £168 yn flynyddol oddiwrthynt. £160, fe welir, a fuasai'r swm ar gyfer 80o. Y mae bwlch ar gyfer y cwestiwn, pa ddefnydd a wneir gydag arian y seti? Dywedir na wneir casgl ar gyfer y ddyled. Nifer yr eglwys, 505. Casgl at y weinidogaeth, £80. Diarddelwyd 13 o aelodau. Agorwyd capel Siloh, Hydref 26, 1856. Talwyd i Richard Davies y saer, £210. 3s. 10c., ac i James Rees am y tir, £25. Yn 1859 y sefydlwyd eglwys yn Siloh. Swm dyled Moriah yn 1855, £270; yn 1856, £470. Gosodid seti yn 1856 i 891; y derbyniadau am y seti £178. 5s. Rhif yr eglwys, 560; y casgl at y weinidogaeth, £106. Nodir fod treuliau ysgoldy Tanrallt, yr atgyweirio ar Moriah a'r weinidogaeth yn £514.

Yn 1858 yr ymadawodd y Parch. Dafydd Jones i Dreborth. Y mae gan Robert Ellis Ysgoldy nodiad yn ei ddyddiadur ar hynny. "Ebrill 1. Cyfarfod Misol Caernarvon. Gwneud cryn helynt gydag ymadawiad D. Jones." Medi 23, 1859, cyflwynwyd iddo yn ei dŷ yn Nhreborth gloc bychan ynghydag arian, y cyfan yn dod i £104, fel cydnabyddiaeth o'i lafur fel gweinidog am 27 mlynedd. Soniai Henry Jonathan ar yr achlysur am ei bryder dirgelaidd a'i ofal gwastadol ef am yr achos. Gwrthod cyfarfod cyhoeddus ym Moriah a ddarfu'r gwr a anrhydeddid. Pan yng Nghaernarvon rhoid iddo £2 ar gyfer y Sul o 1855 ymlaen; cyn hynny £1. 1os. a £1. 5s. a £1. yn ol hyd at 1846. A dengys llyfr taliadau'r weinidogaeth am 1828—35 mai swllt a dderbyniai, yr un fath a'r brodyr cartrefol eraill, yn ystod y blynyddoedd hynny. Bu ym Moriah 5 waith yn 1846 a 4 gwaith yn 1857. Yr oedd ei barchedigaeth yn fawr yn y dref, er fod rhyw nifer yn wrthwynebol iddo, neu'n elyngar rai ohonynt, yn ei eglwys ei hun. Mae'n sicr iddo ddioddef llawer oddiwrth hynny. Er ei fod yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru, yn wr o feddwl diwylliedig wrth ystyried manteision ei amser, a chymeriad a pharch uchel iddo yn y dref a'r wlad, ac yn un o'r dynion mwyaf nawsaidd ac yn un o'r rhai callaf, cystal a'i fod yn gwneuthur gwaith pwysig yn ei eglwys, a dylanwad dirfawr iddo ar feddyliau, ac yntau heb dderbyn nemor ddim tâl i son am dano, a hynny am faith flynyddoedd; eto ni rwystrodd mo hynny i gyd iddo gael ei boenydio yn ddirgelaidd a chyhoeddus am flynyddoedd o amser. Fe ymserchid ynddo yn fawr gan liaws, er hynny. Seinid ei enw gydag oslef feddal, yn enwedig ar y sill olaf o'i enw bedydd, gan ei hen wrandawyr yng Nghaernarvon—Daf-ydd Jones! Yr oedd ysgrifennydd hyn o nodiadau yn gynefin â hynny o'i febyd wrth wrando ar scwrs ei fam. Iddi hi nid oedd hafal Daf-ydd Jones. "Pan y byddai o yn i chael hi!"—dyna'r pryd y byddai'n anghymarol; dyna'r pryd y clywid troadau gwefreiddiol y llais, ac y teflid pob teimlad i lesmair wynfydig. "Dawn oedd gan Daf-ydd Jones." Er heb ddywedyd hynny, eto fe awgrymid y gallai fod pethau eraill yn eraill yn rhagori, difrifwch Henry Rees, a phethau eraill yn eraill—ond dawn oedd y dirgelwch! "Peth crand iawn ydi dawn!" Ac yn y cymun drachefn, y fath urddas! y fath weddeidddra! y fath dynerwch sanctaidd, fel y codai'r cwpan i fyny yn ei law—"Y mae o'n cochi!"—a thôn y llais yn egluro'r ystyr cyfrin. Ië, dawn, a dawn wedi ei gysegru; dawn diymdrech, didrwst, dilyffethair o ran corff a meddwl ac ysbryd; dawn heb geisio bod yn ddawn, yn dawel, yn urddasol, yn olldreiddiol; yn codi'r gynulleidfa gyda'i gilydd am fyrr funudyn drwy'r glesni teneuedig hyd at borth y nefoedd, ac yna yn rhoil trem i mewn, ac ar hynny, gydag ysmic y llygad, dyna'r weledigaeth, neu'r awgrym pell ohoni, drosodd, a'r bregeth ar ben, a'r meddwl yn dychwelyd yn ol, yn ol i'w hen gynefin, ond er hynny gyda rhyw adlewyrch yn y meddwl o'r goleu na fu erioed ar för neu dir. Meddai'r arglwyddiaeth yma ar deimladau amrywiol ddosbarthiadau o wrandawyr, i'w rhestru o'r isaf hyd yr uchaf. Edrydd y Parch. David Jones y Garreg ddu am Dr. Lewis Edwards yn dweyd, newydd fod yn gwrando arno, na welodd ddim erioed ym Milton ei hun yn rhagori mewn arucheledd ar ddernyn o'i eiddo ef ar y Croeshoeliad. (Atgofion am D. Jones, D. C. Evans, t. 141.) Ac edrydd D. C. Evans ar ol y Dr. Evan Roberts Penygroes (t. 101), y dywedai y Dr. W. Arnot, ar ol ei wrando yn traddodi'r cyngor yn y Bala yn 1844, er iddo glywed pregethwyr pob gwlad braidd, na theimlodd mo'r fath swyn yn yr un, ac na welodd mo'r fath ddylanwad ar y gynulleidfa, a hynny er nad oedd y Dr. Arnot ddim yn deall yr iaith. A dywedai ymhellach, pan y dywedid y geiriau "enaid anwyl," fel y gwneid bob yn awr ac eilwaith, ei fod yn teimlo'i wallt yn codi ar ei ben. Er hynny, nid oedd. pob dosbarth, yn hollol, yn cael eu cludo gan ei ddawn ef yr un fath a chyda'i frawd, John Jones, a hynny er fod pawb yn ei edmygu yntau. Gallesid rhoi enghreifftiau eraill, ond bydd eiddo'r Parch. Evan Jones yn ddigon. Yr oedd efe yn aelod ym Moriah yn 1856-7, a dywed fel yma yn yr Atgofion: "Meddai'r llais pereiddiaf, yn neilltuol pan ymddyrchafai i oslef. Pregeth wastad, efengylaidd oedd ganddo, yn cael ei darllen, bob amser yn ddymunol, ac yn achlysurol gyda graddau o hwyl. Cae ef yn gyson gynulleidfa astud, dda, ac ae drwy'r holl wasanaeth gydag urddas mawr. Yn y seiat, er hynny, meddir, y rhagorai: dylifai ei ymadroddion fel gwin, a chanmolai pawb y wledd." Dichon na chlywodd Mr. Evan Jones mohono, y pryd hwnnw, ar ddim hanner dwsin o Suliau. Os darllen y byddai ym Moriah, rhaid, debygid, y darllenai gyda rhyddid hollol yn ei ddull gan amlaf. Fe gymerodd yr awenau yn naturiol ar ei ddyfodiad yma, er nad oedd y pryd hwnnw ond 26 oed, ac yn raddol fe ddaethpwyd i'w deimlo yn ddylanwad yn y dref. Yn y seiadau fe roddai ei le llawn i'r pregethwyr eraill, a gwnelai hynny, nid ar ei ddyfodiad cyntaf yma yn unig; ond ar ol codi ohono i uchter ei ddylanwad, a phan erbyn hynny yr oedd pellter amlwg rhyngddo a'r pregethwyr eraill oedd yma. Gydag ef, feallai, os rhywbeth, mai'r perygl yn hytrach oedd i eraill gymeryd mwy na'u rhan briodol. Yr oedd cyfaddaster arbennig ynddo i'r seiat yn ei ddull tawel, mwyn, cydymdeimladol, profiadol, ac ym mharodrwydd ei feddwl a'i gyfoeth o eglurebau, ac yn ei gallineb distaw a'i sirioldeb a'i adnabyddiaeth o'r natur ddynol. Dywed Henry Jonathan na welodd efe mo neb tebyg iddo am gadw seiat (D. C. Evans, t. 95), a bu ef yn y seiat gyda John Elias yn Llangefni am naw mlynedd, a chyda John Huxley am flynyddoedd. Rhydd W. P. Williams rai enghreifftiau o'i ddywediadau yn y seiat. Wrth i chwaer amlygu ei hofn na dderbyniodd faddeuant erioed, gofynnodd iddi a wyddai hi am edifeirwch. Dywedai fod edifeirwch. a maddeuant fel banknote wedi ei dorri yn ei hanner, fel y bydd masnachwyr yn gwneud weithiau er diogelwch, gan ddanfon y naill ran yn gyntaf a'r llall wedi hynny: felly y mae edifeirwch fel y naill hanner yng nghalon pechadur ar y ddaear, a'r hanner arall yn faddeuant yng Ngorsedd Duw, ac ar fynediad y credadyn i'r nefoedd bydd y darnau yn cael eu hasio, ac yn clirio y ffordd i fyny ac i lawr. Dywedodd dro arall nad oedd mo fath Duw am dynnu llun. Fe dynn yr amlinelliad yn yr ail-enedigaeth, a pherffeithia'r llun yn y sancteiddhad, ac erbyn y gorffenner ef bydd ar ddelw'r Brawd Hynaf ei hun. Dywedai dro arall, mewn cyfeiriad at y dull o wahaniaethu rhwng y cyfiawnhad a'r sancteiddhad, gan roddi'r naill o flaen y llall, y meddyliai ef, ond edrych yn ddwfn, y ceid hwy yn debyg i fynyddoedd ein gwlad, yn ymwahanu i'r golwg, ac yn cymeryd enwau gwahanol; ond wrth eu holrhain i'w gwraidd yn myned yn un â'i gilydd. Eithr fe fyddai cymhariaethau o'r fath, a rhai symlach na'r rhain, gan y defnyddiai weithiau rai tra syml, yn ymogoneddu yn arddull ei draddodiad ef. (Edrycher y Graig.) Nos Iau, Hydref 13, 1859, am saith, y cynhaliwyd oedfa Dafydd Morgan ym Moriah. Arhosodd 21 o newydd. Gofynnodd y diwygiwr brofiad un ohonynt, sef capten llong. "Yr ydw'i wedi penderfynu heno," ebe yntau, "roi tac arall arni o hyn allan." (Cofiant Dafydd Morgan, t. 469.) Dywed W. P. Williams am oedfa Dafydd Morgan nad oedd dim gorfoledd neilltuol ynddi, ond teimlad dwys a chyffredinol. Bu cyfarfod gweddi ganol dydd ffair ym Moriah yr adeg honno a'r capel yn llawn. Yr oedd y Parch. Edward Owen Gilfachgoch, Morgannwg, yn aelod yma y pryd hwnnw. Fe ddywed y gwelodd. y capel yn anioddefol lawn ar nosweithiau'r wythnos, a rhai o'r cymeriadau gwaethaf yn y dref yn bresennol. Cafodd Thomas Hughes Machynlleth oedfa hynod yma un Sul. "Pa beth yr aethoch allan i'w weled?" Baich y bregeth: mor ychydig, wedi'r cwbl, oedd llawer yn weled. Arhosodd 17 ar ol, ac yn eu plith Richard Evans a fu'n flaenor wedi hynny yng Nghaeathro. Glynodd dychweledigion y bregeth hon yn o led lwyr. Rhif yr aelodau yn 1858, 554; yn 1860, 736; yn 1862, 691; yn 1866, 705.

Yn 1860 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Evan Richardson Owen, Lewis Lewis, Robert Griffith, Richard Griffith, John Owen Ty coch. Ni fynnai y diweddaf weithredu, er y cyfrifid ef yn rhyw ddull megys un o'r swyddogion, ac nad oedd yntau, debygir, yn anfoddlon i hynny.

Yn 1862 fe ymadawodd (y Dr.) Griffith Parry i Lanrwst fel gweinidog, ac yntau y pryd hwnnw yn 35 oed, ac wedi bod. mewn masnach fel llyfrwerthydd yn y dref. Aeth i'r Bala yn 1847, ac yno y dechreuodd bregethu y flwyddyn ddilynol. Yr oedd ef yn ddyn o feddwl galluog a choeth, ac o wybodaeth eang. Yr oedd ei wasanaeth yn y seiat yn un gwerthfawr iawn, gan y traddodai yno yn fynych anerchiadau lled feithion, wedi eu meddwl yn drwyadl, ac yn llawn goleu ar bynciau mawrion yr athrawiaeth. Nid oedd hynny wrth chwaeth pawb, ond i rai yr ydoedd yn amheuthyn, ac yn foddion diwylliant ysbrydol. Cof gan Mr. John Jones Llanfaglan am dano, oddeutu'r adeg y dechreuodd bregethu, yn dod i Glynnog am y tro cyntaf yng nghwmni ei dad, Edmund Parry. Disgrifir y tad gan Mr. Jones fel gwr tal, o ymddanghosiad craff, o wisgiad da, ac mewn. clos pen glin, gyda botymau melynion, a'r olwg arno rywbeth yn foneddig.

Yn Hydref, 1865, y dechreuodd John Williams (Caergybi) bregethu.

Yn 1867 fe atgyweiriwyd y capel ar draul o tua £2,500, y ddyled flaenorol yn £600. Cadwyd y muriau a'r to. Rhowd ffenestri newydd a chryfhawyd y pen mewn amryw fannau. Yn lle bod yr oriel o amgylch fel o'r blaen, dodwyd hi oddeutu tair ochr, ac yn hanner crwn gyferbyn a'r pulpud. Dechreuwyd atgyweirio yn Ionawr. Cynhelid y gwasanaeth yn y cyfamser yn yr ysgol Frytanaidd hyd Hydref 6. Agorwyd drwy gyfarfod gweddi nos Sadwrn, Hydref 12, gan bedwar hen frawd penwyn, aelodau o'r hen gapel yr aethpwyd ohono yn 1826, sef William Swaine, John Wynne, Richard Prichard, Ellis Griffith. Gwasanaethwyd y Sul gan Joseph Thomas, ar nos Lun a dydd Mawrth gan Henry Rees, Owen Thomas, Dafydd Jones, Joseph. Thomas. Dywed Owen Thomas fod pregeth Henry Rees fore Mawrth yn un o'r rhai mwyaf dedwydd a glywodd efe ganddo erioed. "Yr oedd rhyw eneiniad nefol a bendigaid ar ei ysbryd ef ei hunan, ac ar deimladau yr holl gynulleidfa y bore hwnnw." (Cofiant H. Rees, t. 849.) Cafwyd addewidion am £1,415 15s. ar yr agoriad, yn amrywio o hanner coron i £140. Rhowd ar ddeall na chyffrowyd nemor ar y cythraul gosod seti ynglyn â'r agoriad hwn.

Chwefror 22, 1868, yn 76 oed, y bu farw Dafydd Rowland, yn flaenor yma ers 40 mlynedd, a chyn hynny yn y Waenfawr ers tuag 8 mlynedd. Yn y sylw coffa arno yn y Cyfarfod Misol fe ddywedid ei fod yn un o'r ddau flaenor hynaf yn Arfon. Yr oedd yn gynllun gweddol dda o flaenor Methodist o'r hen stamp. Fe'i hystyrrid ef yn wr pwyllog, call, cyfrwys, dyfal, di-ildio. Er yn ddi-ildio yn ei bwnc, eto wedi i'r ochr wrthwynebol drechu drwy fwyafrif, fe gyd-weithredai yntau, canys yr oedd yn gyfrwys yn gystal ag yn gryf. Fe briodolir iddo ddylanwad personoliaeth gan Mr. Henry Owen. Nis gellir yn hawdd gyfrif am ei ddylanwad ar wahan i hynny. Hollol gyffredin ydoedd o ran ei ddeall, ac yn fyrr o fanteision dysg. Yr oedd yn dra ffyddlon fel blaenor, ac yn ddiargyhoedd ei fuchedd. Yn brydlon a chyson ym mhob moddion, yn cefnogi popeth perthynol i'r Corff, yn bwysig ei ddull ym mhob trafodaeth. Y mae llyfr taliadau y weinidogaeth o 1845 hyd 1867 yn ei lawysgrifen ef. Llaw ofalus, yma ac acw yn ymgrebachu, ond gyda'r llinellau i gyd ar hyd y blynyddoedd yn gogwyddo yn union i'r un cyfeiriad. Dameg bywyd Dafydd Rowland yw ei lawysgrifen: y naill a'r llall yn fanwl, gwastad, lled hirfain, go gyfyngedig, eithaf eglur, nemor ddim wedi ei groesi allan, nemor ddim blotiau, ambell gamgymeriad wrth sillebu pethau anghynefin, ond y cwbl yn gywir yn y cyfrifon, yn dal i'w chwilio, ac yn goddef llygad y goleuni. Dywed Mr. Morris Roberts y rhoe argraff o sancteiddrwydd wrth edrych arno yn llwytho llechi yn y cei. Ar ryw olwg y mae yn syn iddo gyrraedd y fath awdurdod ag a gyrhaeddodd ym Moriah am faith flynyddoedd, ond ar olwg arall y mae'r dirgelwch yn agored i'n llygaid, yn ei ddyfalwch, ei gywirdeb, ei uniongyrchedd i'w nôd. Fe gyrhaeddodd Robespierre y lle blaenaf yn adeg y Chwyldroad Ffrengig yn uchder y chwyldro gyda'r un cymhwysterau, pryd nad oedd ond israddol o ran cylch ei welediad i liaws eraill. Dyma fel y disgrifir ef gan Mr. Evan Jones: "Eisteddai David Rowlands a'i gyd—flaenor William Swaine mewn cadair fahogani ddwyfraich, lle gallai dau eistedd ynddi, o waith David Williams Caepysgodlyn, yr hon sydd i'w gweled eto ym Moriah, yn union dan y pulpud. Gwisgai yn gyffredin dros ei ddillad eraill gob lwyd, laes, hyd ei draed. Tynnai ei law chwith yn arafaidd dros ei wallt du, yr hwn a ddisgynnai dros ei dalcen, fel Puritan perffaith, a chyfodai yn bwyllog iawn oddiar ei eisteddle yn y gadair freichiau. Araf ddringai risiau'r pulpud, ac wedi aros ennyd, a rhoddi trem ddifrifol dros y gynulleidfa, cyhoeddai yn hyglyw, mewn tôn hirllaes, ddolefus. . . Yn y seiat ar nos Sul, pa wr enwog neu anenwog bynnag fyddai wedi siarad, gofalai David Rowlands bob amser ddweyd gair ar ei ol. Yr oedd yn ffyddlon yn yr holl dŷ, ac yn gyfan ryfeddol i'r Parch. David Jones. Pa beth bynnag ddywedai Mr. David Jones, fe'i seliai David Rowlands. . . . David Rowlands oedd yn llywodraethu pawb a phopeth ym Moriah, ac nid yn anheilwng." Os oedd Dafydd Rowland yn ymgrebachu braidd yn ei law-ysgrifen ac yn ei olygwel ar fywyd, yr oedd yn ymhelaethu, yn ol ei allu, at bob achos da. Wrth hebrwng y pregethwr i Nazareth ar bnawn Sul, fe giliai esgeuluswyr oddiar ei ffordd rhag ei ofn. Ei hoff bennill, ebe Mr. Griffith Parry,—Newyddion braf a ddaeth i'm bro. Ar ei wely-ysgafn, pan ofynnwyd iddo un diwrnod, paham y gwenai efe, ei ateb oedd fod ei Dad Nefol yn ffeind iawn wrtho. (Drysorfa, 1868, t. 354.)

Tachwedd 17, 1869, fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Cornelius Davies, Ellis Jones, J. W. Stephens. Symudodd y diweddaf yn fuan i Lechryd, sir Aberteifi. Bu William Swaine farw, Chwefror 2, 1870, yn 75 oed, yn flaenor ers 38 mlynedd. Yr oedd ei enw ar lyfr yr eglwys yn 1815. Cyfrifid ef yn wr llednais a duwiol. Heb rym neilltuol yn ei feddwl, yr oedd yn o gydnabyddus â'r Ysgrythyr, ac hefyd â Thaith y Pererin, Gurnal, Boston ar Bedwar Cyflwr Dyn, Esboniad George Lewis ar y Testament Newydd a'i Gorff Diwinyddiaeth, ac, yn enwedig, Geiriadur Charles. Siaradai i bwrpas yn y seiat, er na siaradai yn aml, a theimlid ei fod yn wr mawr mewn gweddi. Dyma sylw Mr. Evan Jones arno: "Angel oedd William Swaine, diniwed a di-uchelgais. Cerid ef gan bawb, ac ni ddywedai neb ond gair da am dano. O'i ran ef cae pawb wneud yr hyn oedd dda yn ei olwg ei hun. Yr oedd yn barchus ryfeddol, ac yn haeddiannol felly. Gwrandewid arno fel angel Duw. Ond nid oedd yn cymeryd cymaint o ofal am bethau allanol yr achos a David Rowlands." Ei hoff bennill, ebe Mr. Griffith Parry,—Am Iesu Grist a'i farwol glwy, Boed miloedd mwy o sôn. A dywed, hefyd, ei fod ef ei hun, yn rhyw brofedigaeth, wedi cael adnod ganddo; ac y mae yn werth ei choffhau fel adnod un "angel angel" i "angel" arall, sef hon: "Disgwyl wrth yr Arglwydd, ymwrola, ac efe a nertha dy galon; disgwyl, meddaf, wrth yr Arglwydd."

Bu Evan Richardson Owen farw Hydref 13, 1870, yn 50 oed, ac yn flaenor er 1860. Yr oedd ef yn ŵyr i Evan Richardson. Yr ydoedd yn ŵr dichlynaidd, ac yn ffyddlon yn ei swydd. Tebygir ei fod yn meddu ar radd o graffter, cystal a bod yn fanwl ei syniadau a'i arferion. Cyfarfu unwaith yn y cei, ar brynhawn braf, à bachgen 8 oed, a ddylasai fod yn yr ysgol, er na arferid gorfodaeth y pryd hwnnw. Wrth weled y blaenor gostyngodd y bachgen ei ben. Tebygir na adwaenai y blaenor ef, ond fe aeth ato yn y fan, a gofynnai am ei enw, a pham nad ydoedd yn yr ysgol? Rhoes air o gyngor i'r bachgen, a danfonodd yn ei gylch at ei rieni y noswaith honno. Ni bu'r bachgen yn chware triwant na chynt na chwedyn, a chafodd argraff annileadwy ar ei feddwl o graffter meddwl Evan Richardson Owen.

Aeth Richard Gray Owen yn genhadwr i China o'r eglwys hon. Ni wyddys mo'r amseriad.

Yr ydoedd Owen Ellis wedi ei wneud yn flaenor yn 1832. Yr ydoedd yn fab i'r Peter Ellis y sonir am dano ynglyn â chychwyniad yr achos, o'i wraig gyntaf. Wedi bod yn flaenor am lawer o flynyddoedd, gorfu ei ddiarddel o'i swydd oherwydd anwyliadwriaeth gyda'r diodydd meddwol. Bu ar un adeg ar ei oes yn agored i lesmeiriau o brudd-der, ac nid annhebyg nad hynny fu'n achos ei lithio gyda diod. Oherwydd yr iselder hwnnw fe gadwai adref ar brydiau, a bu hynny yn achos o'i ddrwgdybio o fod dan ddylanwad y ddiod yn amlach nag oedd wir. Gwr cymharol fychan o ran maintioli, ond cymesur, a hardd a deallus a boneddig yr olwg arno. Yn ei hen ddyddiau, gyda'i ymddanghosiad trwsiadus, a'i wallt gwyn, modrwyog, a'i brydwedd tarawiadol, yr oedd yn un o'r hen wŷr prydferthaf a ellid weled. Fe gafodd fanteision boreuol da ym mhob ffordd, ac yr oedd yn ddyn goleuedig ei feddwl, a'i arferion i gyd yn fanylaidd a glanwedd a syber. Fe godai bob briwsionyn a diferyn oddiar ei blât wrth fwyta heb unrhyw rodres, ac heb dynnu'r sylw lleiaf ato'i hun. Yr oedd yn agos at yr ieuainc, megys pe yn un ohonynt. Yr oedd pob amheuaeth ynghylch ei ymarfer â diod wedi hen gilio, ac addfedodd ei gymeriad mewn prydferthwch sancteiddrwydd. Yn ei flynyddoedd olaf i gyd, yr oedd wedi symud i fyw i Lanberis, lle bu farw Chwefror 3, 1881, yn 89 oed. Yr oedd ei feddylfryd, erbyn hynny, yn gyson. ar bethau ysbrydol, a chlywid ef arno'i hunan yn adrodd adnodau a phenillion, ac yn cyfarch y Gwaredwr drwy gydol y dydd. Edrydd Mr. Morris Roberts am dano mewn seiat ym Moriah yn fuan ar ol sefydlu Mr. Evan Jones yma. Fe arferai eistedd yn y sêt fawr, ond y noswaith honno, fel yr ai Mr. Jones o amgylch, yr oedd wedi symud o'r sêt fawr at fainc yn ymyl, a symud wedyn i sêt arall. Wrth ei weled yn anesmwytho, fe ganfu Lewis Lewis fod ganddo rywbeth ar ei feddwl, a galwai sylw Mr. Jones ato. Troes yntau ato. "Y Y mae ganddochi rywbeth gwerth ei ddweyd wrth y seiat heno?" "Oes," ebe yntau, " y mae gen i rywbeth gwerth i ddweyd heno. Y mae gen i hen gyfaill wedi symud i fyw i wlad bell iawn, iawn, pellach o lawer nag America neu Awstralia. Ac mi wyddochi, pan mae hen gyfaill i chwi wedi eich gadael i fynd i fyw i wlad bell, ac wedi addo cyn cychwyn anfon i chwi hanes y wlad, yr ydych yn disgwyl y naill wythnos ar ol y llall, a'r naill ddydd ar ol y llall, am air oddiwrth y cyfaill hwnnw, ac yr ydych yn disgwyl yn wastad am rap y postman wrth y drws, ac yn cael eich siomi y naill ddiwrnod ar ol y llall, fel o'r diwedd y mae eich amynedd bron wedi pallu; ac yna yr ydych yn agor y drws, ac yn myned allan o'r tŷ, a'r person cyntaf y cewch afael arno, y cwestiwn cyntaf iddo fydd,— A ddarfu'r postman basio, deudwch?' ac yna mynd i'r tŷ yn siomedig. Ond am y cyfaill yr wyf i yn sôn am dano, ni'm siomwyd erioed ynddo. Ac mi gefais lythyr oddiwrtho yn fy ngwely un o'r nosweithiau yma, ac yr ydw'i wedi dod yma heno i ddweyd ei gynnwys wrthych chwi fel eglwys." "Wel, gadewch inni gael cynnwys y llythyr, Mr. Ellis," ebe'r gweinidog. "Dyma fo i chwi," ebe yntau,—"Iesu Grist ddoe a heddyw yr un, ac yn dragywydd. Wander— ing Jew ydw'i wedi bod, weithiau yma ac weithiau acw. Owen Ellis—North, South, East, West!—ond Iesu Grist ddoe a heddyw yr un—ac yn dragywydd! Nid yw fyth yn symud o'i centre. Y fath Waredwr ardderchog!"

Fe roir yma ddyfyniadau o Ddyddlyfrau Thomas Lewis. "1851, Mai 28, Penrallt, cyfarfod eglwysig. ———— yn dod yno i aflonyddu ar ol cael ei dorri allan y tro cynt. Mehefin 10, cyf arfod eglwysig. ———— (sef yr un gwr ag o'r blaen) yno yn aflonyddu ein cynhulliad. 17, cyf. eglwysig. Caed heddwch gan ———— (yr un gwr eto). Rhagfyr 30, cyf. eglwysig. Trowd allan ———— oherwydd ei gysylltiad â ———— (y gwr blaenorol), yn anfon llythyrau dienw, ac hefyd yn rhoddi celwyddau digywilydd ar society Penrallt a'u hanfon i'r cyhoeddiad gwaradwyddus a elwir yr Haul. 1853, Rhagfyr 19, cyfarfod brodyr yn achos fod rhai yn tyrfu am i'r merched gael votio wrth godi blaenoriaid newyddion. 1854, Ebrill 26, cyfarfodydd gweddïau am 10, 2 a 6, yn cael eu cynnal drwy'r deyrnas yn ol gorchymyn y llywodraeth yn achos y rhyfel [y Crimea]. Tach. 27, y pregethwyr yn dechre myned ar gylch i letya yn lle'r tŷ capel. 1858, Tach. 4, Parch. Dd. Jones yn ymadael o'r dref i fyw i Dreborth. 1860, Ionawr 9, Llun. Am 10, 2 a 6, ym Moriah, cyfarfod gweddiau. Yr oedd yr holl dref yn cadw heddyw o'r bron mor gysegredig a'r Saboth. 10, am 2, ym Moriah, cyfarfod gweddi rhagorol o dda. 1861, Ionawr 8, nos Fawrth yng nghapel y Wesleyaid, cyfarfod eglwysig undeb, Wesleyaid, Anibynwyr a Methodistiaid. Cyfarfod da iawn. Chwefror 26, cyf. eglwysig. Terfysglyd yn achos ———— 1871, Chwefror 15, cyfarfod brodyr yn achos Hughes yr artist [sef ynghylch cyfreithlondeb ymwneud âg ysbrydion]."

Ebrill 25, 1871, bu farw Griffith Jones, yn 58 mlwydd oed, ac wedi bod yn pregethu am tua 34 blynedd. Brodor o Lanymawddwy. Symudodd yma o Rostryfan yn 1859. Ystyrrid ef yn ddyn o allu ac yn ysgrythyrwr da. Byddai mewn gryn lafur wrth draddodi, yn plygu ei gorff, ac yn estyn ei fraich allan a'i thynnu ato ar hanner cylch, ac mewn ymdrech yn rhoi'r llais allan, ac megys yn bwhwman braidd. Yr oedd y dull hwn i'w erbyn gyda'r gwrandawyr. Yr oedd y cyflead o'i fater yn syml, ac yr oedd yn wr diymhongar, diddichell. (Drysorfa, 1871, t. 487.)

Yn 1873 cychwyn achos Seisnig Turf Square. Aeth 40 yno o Foriah. Traul y tir, £550; yr adeilad, £800. Talwyd y naill a'r llall gan Moriah.

Hydref 14, 1875, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu'r Parch. Evan Jones. Efe oedd y cyntaf a etholwyd gan yr eglwys i'r swydd o weinidog. Daeth yma o'r Dyffryn, sir Feirionnydd. Rhif yr eglwys yn 1875, 619.

Dilewyd y ddyled, £1,805. 19s. 10c., gan gynnwys y llogau, yn 1876, blwyddyn jiwbili y capel. Yr oedd £20 mewn llaw, a defnyddiwyd hwy i gychwyn llyfrgell. Cynhaliwyd cyfarfod pregethu, Rhagfyr 12, 13, pryd y pregethwyd gan R. Lumley, Owen Thomas, Joseph Thomas. Yr un flwyddyn y dechreuodd D. O'Brien Owen bregethu. Wedi bod yn weinidog yn Llanfrothen a'r Amerig, sefydlodd yma, Medi 1, 1891, fel goruchwyliwr y Llyfrfa, ar ei chychwyniad. Bu Mr. Robert Williams yn aros yma yn ystod ei flynyddoedd athrofaol, cystal a'i fod wedi ei fagu yma. Wedi hynny yn weinidog eglwys Seisnig Dolgelley. Yn ystod 1875-6 y dechreuodd y plant ddweyd eu hadnodau yn y seiat ganol yr wythnos. Dechreuwyd cynnal seiat flynyddol i'r plant, Ionawr 1, 1878.

Bu farw John Wynne, Hydref 9, 1876, oddeutu 83 oed. Daeth yma o Dremadoc, gan ddilyn John Williams fel ysgolfeistr, a fu am fyrr dymor yn olynydd Mr. Lloyd. Yr ydoedd yma yn 1821, ac yr ydoedd yn un o ymddiriedolwyr y capel presennol. Bu'n ysgolfeistr llwyddiannus. Bu'n pregethu am ysbaid o amser. Meddai ar ddoniau poblogaidd. Yr ydoedd yn gryf o gorff, yn naturiol yn hyderus, a chyda rhwyddineb ymadrodd, ac iaith ddawnus, a llais cyrhaeddgar. Meddai ar feddwl craff a gwybodaeth amrywiol. Fe ddengys ei lyfr bychan ar sir a thref Caernarvon, a ddygwyd allan yn 1860, ei ysbryd ymchwilgar a'i ddyddordeb mewn pethau cyffredin. Ym mlynyddoedd toriad allan dirwest, yr oedd yn siaradwr ffraeth a dyddorol ar y pwnc. Yn ei hen ddyddiau, yr oedd golwg darawiadol arno, gyda'i gorff cryf, cymesur, ei wallt gwyn, ei edrychiad go graff. Yn 80 oed yr oedd yn heinif, yn llawn ysbryd ac asbri. Ymunai mewn ymddiddan gyda pharodrwydd, ac mewn dadl gydag awch, a byrlymai allan ymadroddion gogleisiol. Fel yr ae'r ddadl ymlaen, fe dorrai i mewn gyda rhuthr llais, ac ymorchestai mewn ymadroddion hedegog a gwatwarlym. Yn ei lyfr y mae wedi cyfyngu ei hun i'r syml a'r plaen. Yr oedd cylch ei ddyddordeb yn drefol, gwladol, crefyddol. Y mae Mr. Evan Jones yn cyfeirio ato, oddiar ei atgof am dano yn 1856-7, fel yma: "Un o'r rhai mwyaf anibynnol ei feddwl, a pharotaf i'w ddweyd lle y teimlai fod angen, oedd Mr. John Wynne, . . . un yr oedd gan bawb, gwreng a boneddig, yn y gwaelod, y parch dyfnaf iddo. Gwr ydoedd ar hyd ei oes. heb i lawer ei adnabod. Un nos Saboth, mi a'i gwelaf yn codi yn ei sedd ar ganol y llawr, yn urddasol yn ei ffunen wen, a phawb yn disgwyl wrtho. Ei destyn y noswaith honno oedd Diotrephes. Gwr yn camdroi ei ffyrdd oedd Deio,' a gormeswr creulon gyda hynny. Os byddai ar rywun eisieu pregethu tipyn, eisieu rhybuddio dynion rhag cyfeiliorni eu ffyrdd, safai Deio' yn union ar ei ffordd. . . . Ym mhob man, gyda phob peth, yr oedd 'Deio' ar y ffordd o hyd. Gwyddai pawb yn dda pwy oedd 'Deio. Ond. . . . yr oedd sicrwydd yn eu meddyliau nad oedd y fflangell yn effeithio dim ar groen crocodeilaidd' Deio.'"

Sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol yn 1877, y gweinidog yn llywydd, yr hyn y parhaodd i fod dros dymor yr hanes hwn. Rhif y Gymdeithas yn 1880, 62; yn 1887, ar ol derbyn y chwiorydd iddi, 99. Yn 1894, anrhegodd y Gymdeithas y llywydd â'i lun, o waith Mr. Leonard Hughes, ac âg anerchiad o waith Mr. S. Maurice Jones.

Hydref 5, 1878, bu farw Evan Williams yn 62 oed, yn pregethu ers tua 30 mlynedd. Brodor o Ledrod gerllaw Aberystwyth. Bu'n gwasanaethu fel cenhadwr ymhlith Cymry Llundain am 4 blynedd. Dechreuodd bregethu yn y Wyddgrug. Daeth i Gaernarvon yn 1851. Yr ydoedd yn lluniedydd personau a golygfeydd. Tynnodd luniau Eben Fardd, Edward Morgan a Dafydd Jones yn llwyddiannus, er na pherthynai iddo ragoriaeth uchel yn y gelfyddyd. Ystyrrid gan rai y meddai ar ragoriaeth amlwg mewn tynnu llun dwfr mewn golygfa. Rhoes unwaith lun golygfa heb fod yn fawr mewn arddangosfa, a gofynnodd £100 am dano, a chafodd hwy. Fe ddywed R. O. Bethesda yn y Goleuad (1875, Hydref 19, t. 10) fod lluniau o'i eiddo yn arddangosfa Wrexham yn tynnu sylw, sef o Gastell Bu Cidwm, Llyn Cwellyn a'r Wyddfa o Nant Gwynant. ganddo 14 o ysgrifau yn y Traethodydd, 5 ar y gelfyddyd o arlunio, 1848-9. Dywed R. O. mai ar ei anogaeth ef yr ysgrifennodd y Dr. Lewis Edwards ar Gyfnewidwyr Hymnau. Fe ddywedid y byddai erthyglau o'i eiddo yn ymddangos weithiau yn rhai o'r papurau dyddiol Seisnig. Fe bregethai yn achlysurol yn y Saesneg, a dichon ei fod yn fwy o feistr ar arddull Saesneg na Chymraeg. Pregethodd yn Saesneg yn yr awyr agored yn y Maes ar un achlysur gyda gwir ddwyster teimlad, oddiar y geiriau, Oni edifarhewch, chwi a ddifethir oll yn yr un modd. Siarad braidd yn gyflym y byddai, heb deimlad yn gyffredin. Mater llawn synnwyr, ond nid bob amser wedi ei nyddu yn glos, neu'n gelfyddgar, ac heb swyn mewn mater nac arddull. Bu'n cynnal cyfarfodydd darllen gyda'r dynion ieuainc ar hyd y blynyddoedd, ers 20 mlynedd o leiaf, a gwerthfawrogid ei lafur cariad ganddynt. Aeth amryw o'r rhai fu gydag ef yn ei ddosbarth yn bregethwyr ar ol hynny. Un cymhwyster iddo. yn y dosbarth hwnnw ydoedd ei gyfarwydd-der cymharol yng Ngroeg y Testament Newydd. Fe adroddir fod William Roberts Amlwch unwaith wedi taro arno yn darllen ei Desta- ment Groeg, a dechreu ei holi. Synnodd Evan Williams at y cwestiynau, gan ddiharffu braidd, er y dywedid fod ei wybod- aeth o'r iaith y pryd hwnnw yn fwy nag eiddo William Roberts. Ystyria Mr. Morris Roberts ef yr athro goreu y bu gydag ef, a thýb ei fod gydag ef pan gychwynnodd gynnal y dosbarth. Os felly, tebyg mai dyna'r dosbarth darllen canol wythnos cyntaf ym Moriah. Yr oedd tua deuddeg yn y dosbarth, sef, ymhlith eraill, John Richardson, William Davies y rhaffwr, Thomas Morris, cystal a Mr. Morris Roberts ei hun. Byddai rhyw bwnc penodol gerbron bob tro. Y Bod o Dduw y pwnc cyntaf i gyd; pwnc arall, Ysbrydoliaeth y Beibl, pru'n ai'r meddyliau ai y geiriau yn ysbrydoledig; cyfran o ryw bennod ar dro arall. Fymryn yn dynn ydoedd o ran ei ardymer naturiol, ac heb nemor humour, mae'n debyg, ac oherwydd y tyndra hwnnw heb fedru disgyn ar y geiriau cyfaddas bob amser, yn enwedig gyda dieithriaid. Yr oedd arlunydd unwaith yn tynnu llun muriau y dref yn y cei, ac fel y deuai Evan Williams ato i edrych ei waith, disgynnai ychydig ddiferion o wlaw. "I must put my picture up," ebe'r arlunydd. "Don't grudge and grumble because of the rain," ebe Evan Williams. Agorai yr arlunydd ei lygaid mewn syndod. "I don't grudge and grumble," ebe fe, er yn lled addfwyn, canys fe welai fod y gwr a'i cyfarchai o ddull boneddig a go urddasol. Ei fuchedd fu'n wastad a diar- gyhoedd, heb achos beio arno. Ar ymweliad â'r Parch. Thomas Hughes yn ei waeledd maith, gofynnodd Thomas Hughes, Prun ohonom gaiff fynd i'r nefoedd gyntaf, tybed?" "Nid yw fawr o wahaniaeth am hynny; cael mynd yno yw'r pwnc mawr," ebe yntau, heb feddwl nemor, fe ddichon, mai ef ei hun a elai gyntaf. (Adroddiad yr Eglwys.)

Bu Thomas Hughes farw, Mawrth 13, 1879, yn 71 oed, wedi bod yn pregethu am 47 mlynedd, ac yn preswylio yn y dref er 1843. Efe oedd yr hynaf yn y swydd o weinidog yng Nghyfarfod Misol Arfon, wedi ei ordeinio yn 1841. Eglwyswyr oedd y teulu ar y cychwyn, ac aeth nai iddo yn offeiriad yn eglwys Rufain. Fe dybir mai efe oedd y pregethwr cyntaf a aeth i athrofa'r Bala, ac yr oedd gradd o wresogrwydd yn nheimlad y Dr. Lewis Edwards tuag ato, oherwydd y cysylltiad boreuol hwnnw, ac yn ei dy ef y lletyai'r Dr. pan yn pregethu yn y dref. Ni wyddis a oedd arddull arafaidd a phwyllog y Dr. o lefaru wedi dylanwadu arno, ond os felly aeth tuhwnt i'w athro. Y mae'n sicr, pa ddelw bynnag, fod y dull hwnnw yn eithaf naturiol iddo ef. Eithr, er bod yn naturiol iddo ef, yr oedd yn feichus i'w wrandawyr. Fe gymerodd bum munud wrth y gloch, ar un adeg, i ddarllen ei destyn ddwywaith drosodd, sef dwy adnod o Lyfr Deuteronomium. Seinid pob sill yn bwysleisiol, gyda gwagle rhyngddi a'r sill nesaf, yn Deu-ter-on-om-ium. Bu'r dull hwn yn fwy neu lai nodweddiadol o'r Corff, ond y mae bellach wedi myned heibio, neu ar fyned. Nid oedd y meddyliau chwaith, fel eiddo'i athro, yn drymion. Mewn tôn hirllaes a thrymaidd y traddodai ei genadwri, a phregethai yn lled faith. Eglur, syml, diaddurn oedd y mater. Fe ddywedodd y Dr. Owen Thomas, mewn sylwadau coffadwriaethol arno yn y Gymdeithasfa, gan ddyfynnu ymadrodd Joseph Thomas, y byddai'n cymeryd gafael yn asgwrn cefn ei destyn. Eithr ni feddai yn hollol mo'r treiddgarwch meddwl a awgrymir yn y dywediad yma. Fe grynhoai ynghyd bob amser faterion perthynasol i'w destyn, ac wrth fod ei amcan yn syml ni wyrai oddiwrth hynny; a diau y disgynnai weithiau ar wythien ddedwydd. Ond ni feddai y gafael meddwl a gydiai ym mhrif egwyddor y testyn, gan wneud popeth yn y bregeth yn gwbl ddarostyngedig i'r eglurhad ar ystyr yr egwyddor honno. Eithr yr oedd y presenoldeb corfforol braidd yn urddasol. Yr oedd yn wr oddeutu chwe troedfedd o uchder, ond yr ysgwyddau yn llithro i lawr ac yn gulion; y pen heb hyd na lled ond yn uchel; y talcen yn uchel iawn ond yn gul; y trwyn yn lled fawr ac yn codi ar y canol; y wyneb gyda gwrid arno. Fe safai yn syth, ac fe gerddai ar yr heol ar bob pryd yn araf, araf, ond gydag urddas tawel, diymhongar, difrif. Wrth i'r Dr. Edwards ddod i'w wyddfod unwaith, fe gyfarchai y Dr. fel—y Dr! "Yr ydych chwi yn debycach i Ddr. na mi," ebe'r Dr. yn ol, ac, yn wir, nid ymddanghosai hynny yn ddywediad diystyr i'r edrychydd, fel y safai'r ddau wyneb yn wyneb â'i gilydd. Eithr ni feddai ef ar ddirgelwch presenoldeb y Dr. chwaith. Ac fel ei ymddanghosiad, a'i arddull o draddodi a meddwl, felly yr oedd cymeriad y dyn: syml, unplyg, culfarn braidd, gwastad ei rodiad, egwyddorol, pwyllog; nid heb urddas tawel yn y pulpud, ar yr heol, yn ei dŷ; heb droadau cylchynol, heb gonglau igam-ogam, heb gyrlio'n gywreinddoeth, elai ymlaen yn unionsyth, yn arafdrwm, yn gymesur ei gamau. Nis gallesid dweyd, "Fel gloew seren yn y ffurfafen," fel y mae yng nghyfieithiad y Dr. Lewis Edwards; ond gallesid dweyd, fel y mae yng ngwreiddiol Goethe, "Fel y seren yn y ffurfafen," ac yna gallesid myned ymlaen,— {{center block|

Heb brysuro, ac heb orffwyso,
Nes cyflawn orffen y gwaith rowd iddo.

|} Yr oedd yn ddealledig rhwng Evan Williams ac yntau, fod y naill i gymeryd dosbarth y dynion ieuainc, a'r llall y cynhebryngau, ac nis gallasai fod rhaniad mwy cymesur. Yr oedd yr arafwch difrif yn gweddu i dy galar. Ac heb dderbyn unrhyw gydnabyddiaeth ei hun, heblaw y tâl arferol am ei Sul unwaith y flwyddyn, fe ofalai ef am roi ei swllt yn gyson lle byddai offrwm yn y tŷ. Fe ymwelodd lawer, hefyd, â chleifion. Yr oedd yn wr caredig, serchog ar ddull tawel, lletygar, a chafwyd enghreifftiau o haelioni arbennig ynddo rai gweithiau. Fe ddywedir iddo gyfranogi yn helaeth o dân diwygiad 1859, a than y cyffroad hwnnw fe fyddai ar brydiau yn nerthol yn ei gyflawniadau cyhoeddus, a bu felly yn achlysurol ar hyd ei oes, canys fe dynnai ei adnoddau dirgelaidd o ffynonnau iachawdwriaeth. Analluogwyd ef ar gyfer gwaith cyhoeddus dros y pedair blynedd diweddaf o'i oes. Rywbryd o flaen y cyfnod hwnnw fe ddarllenai yn barhaus Spurgeon ar y Salmau gyda blas mawr, a'r pryd hynny fe ddarllenai Salm ferr yn gyhoeddus, yn arafaidd iawn, ond gyda dylanwad trydanol, cofiadwy. Y pnawn Sul olaf iddo ar y ddaear, cododd ei law, gwenodd, a thorrodd i ganu oreu a allai,-Amser cannu, diwrnod nithio, Eto'n dawel heb ddim braw. (Drysorfa, 1881, t. 273 ac ymlaen.) Yn 1878 talwyd am railings o flaen y capel, paentio, cyfnewidiadau yn y vestry, £367 1s. 11g. Yn 1879 prynwyd hen dai yn Glan y môr am £300 gydag amcan i adeiladu ysgol yno. Mehefin 4, 1907, cauwyd y tai. Rhowd, hefyd, y colofnau sydd o flaen y capel yn 1879, a rhowd i lawr beipiau i'w dwymno. Bu'r treuliau yn y ffordd o atgyweirio'r capel yn ystod 1876-90 yn £1,400 o gwbl. Nid oedd dyled yn 1890 ar y capel ei hunan. Yn 1891 penderfynwyd cael ysgoldy yng nghefn y capel ac organ. Tra'n adeiladu, buwyd yn cynnal gwasanaeth yn y Victoria Hall. Dychwelwyd i'r capel, Chwefror 29, 1892, pryd y cafwyd gwasanaeth yr organ am y tro cyntaf yn y seiat, a drowyd ar y pryd yn gyfarfod gweddi. Agorwyd y capel y Sul cyntaf o Fawrth, pryd y gwasanaethodd W. Jones Treforris, ac yn y pnawn Dr. Herber Evans. Yr oedd traul y gwaith i gyd yn £4,460, yr organ yn unig yn £1,217. Rhowd chwanegiadau ati ar ol hynny a wnelai'r draul i gyd yn £1,400. Wrth godi'r ysgoldy dilewyd yr hen dai o dani, a rhowd warehouses yn eu lle. Cyfrannwyd at y draul, £1,625; ac yr oedd elw bazaar 1895 yn £1,201. Y ddyled yn 1900 ar yr holl adeiladau, £1,942. 175. 2g.

Yn nosbarth darllen y chwiorydd, gyda'r gweinidog yn athro, fe benderfynwyd gwneud cais at y Feibl Gymdeithas am argraffiad o Feibl bychan gyda chyfeiriadau. Erbyn 1881 fe gyhoeddwyd gan y Gymdeithas y Beibl Cymraeg, diamond 24 mo., gyda chyfeiriadau, yn ateb uniongyrchol i'r cais. Yr oedd traul yr argraffiad i'r Feibl Gymdeithas yn £1,200.

Daeth William Evans yma o Frynrodyn, wedi dechre pregethu yno yn 1879. Gwnaeth waith fel cenhadwr trefol yma, er heb ei gydnabod fel y cyfryw; ac ystyrrir ddarfod iddo wneud y gwaith hwnnw mewn modd cymeradwy a bendithiol. Symudodd oddiyma i Millom, lle bu farw, 1892.

Tachwedd 29 hyd Ragfyr 2, 1883, bu'r Misses Rosina Davies a Phillips yma yn cynnal cyfarfodydd efengylaidd, y tro cyntaf i ferched fod yn cyfarch yma yn y ffordd o bregethu. Cywreinrwydd mawr, ac effeithiau dwys. Tybir na bu'r capel erioed mor llawn. Yn 1876 dechreuwyd argraffu'r adroddiad eglwysig. Bu bwlch yn eu cyhoeddi yn ystod 1880-2. Awst 21, 1883, dewiswyd yn flaenoriaid, R. Norman Davies a Robert Humphreys. Awst 20, 1889, dewiswyd William Davies. Mai 3, 1892, John Griffiths, David Pierce a Thomas Thomas. Symudodd Thomas Thomas ym mhen amser i Castle Square. Medi 27, 1899, dewiswyd Thomas Hughes a S. Maurice Jones. Bu farw (Dr.) Morris Davies Rhagfyr 30, 1888, yn 70 oed, ac wedi dechre pregethu ers 50 mlynedd. Yr ydoedd yma ers 38 mlynedd. Ni bu yn pregethu ers amser maith cyn y diwedd. Fel y cynyddai galwadau ei alwedigaeth arno, fe ddodai'r pregethu o'r neilltu. Cyn rhoi pregethu yn gyfangwbl o'r neilltu, fe fu am flynyddoedd yn myned yn achlysurol at yr hwyr, neu bnawn a hwyr, i leoedd cyfagos i'r dref, pan fyddai y lleoedd hynny wedi eu siomi am bregethwr. Tebygir ei fod yn y blynyddoedd hynny yn fwy derbyniol fel darllenydd yr ysgrythyr nag fel pregethwr. Dyn dipyn bach is ei law na'r cyffredin o ran taldra corff, a gweddol lyfndew, gyda phrydwedd cymesur, a gwên. Fel y boneddig ieuanc yn y Bardd Cwsc, gallai y Dr. fod yn llaes ei foes, ac yn deg ei wên, nid "i bawb a'i cyrfyddei," fel y boneddig ieuanc, ond i bawb y teimlai efe hynny'n angenrheidiol a buddiol. Fel dynion eraill o daldra cymharol fychan, yr oedd y Dr. yn hoff o het silc dalach na'r cyffredin, a gwisgai honno am yn hir o amser, ac wrth ei fod yn wr o arferion glanwedd, fe allesid gweled yr het yn disgleinio yn yr heulwen oherwydd ei mynych olchi. Yr ydoedd yn siaradwr rhydd a rhwydd yn y Saesneg a'r Gymraeg, er mai anfynych y clywid ef oddigerth yn y capel. Gallai eneinio ei ymadroddion mewn olew pan fyddai galw, er na wnae efe mo hynny i ryngu bodd pob rhyw ddyn. Ar adegau go neilltuol, megys pan siaradai yn y seiat undebol, fe fyddai ei lais yn ymddyrchafu yn raddol i'r nenfwd, a byddai'n taflu math ar orchwyledd dros ei ymadroddion ei hun. Llefarai yn y dull hwnnw unwaith wrth eilio diolchgarwch i Granogwen am ei darlith, gan gymeryd y cyfleustra i adrodd hanesyn oddiwrth ryw bwnc yn y ddarlith. Wrth gydnabod y diolchgarwch, fe soniai y ddarlithwraig, mewn cyfeiriad amlwg at eilydd y diolchgarwch, am " gymeryd deng munud o amser cyfarfod i adrodd stori fach." Ymdaenai gwawr goch ysgafn dros wyneb y Dr. Yr ydoedd wedi cymeryd nifer o shares yn y North and South Wales Bank ar y cychwyn. Lliosogodd y rheiny eu gwerth amryw weithiau drosodd, a dododd hynny i lawr sylfaen cyfoeth go fawr. Eithr nid ymhelaethai y Dr. mewn haelioni gyda chynnydd ei gyfoeth, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, oddigerth ar ryw dro neu ddau, megys pan y rhoes ddeugain gini ynglyn âg atgyweiriad y capel yn 1867. Y mae gan Mr. Evan Jones syniad uchel am ei ddoniau naturiol a'i grefyddolder, ac fel hyn. y dywed: "Unwaith erioed y clywais Dr. Davies yn pregethu, pan oeddwn yma yn 1856, ryw nos Saboth yn Siloh bach. Yr oedd ei lond o ddawn pregethu ped ymroddasai i hynny. Ond nid hawdd yw i'r mwyaf amryddawn wasanaethu dau arglwydd. Nis gellid cymodi y meddyg a'r pregethwr, a'r meddyg a orfu. Deuai yn gyson i'r cyfarfod eglwysig, a meddai brofiad uchel o wirioneddau'r Efengyl." Dyma sylw W. P. Williams: "Wedi myned yn llwyddiannus drwy'r arholiadau, ymsefydlodd yng Nghaernarvon. Yr oedd y pryd hynny yn ddyn cymharol ieuanc ac addawol, a disgwylid cryn lawer oddiwrtho. Pregeth- odd amryw weithiau gyda chryn lawer o gymeradwyaeth, a dilynai'r cyfarfodydd eglwysig a'r cyfarfodydd gweddi yn gyson iawn; ond fel y cynyddai'r alwad arno fel meddyg, yr oedd yntau'n methu dilyn y cyfarfodydd, ac fe aeth y Dr., yr ydym yn ofni, i raddau gormodol dan ddylanwad ysbryd y byd." Yn y seiat olaf iddo, adroddodd y sylw am ddynion yn gallu byw ar log eu harian, heb i'r cyfanswm fyned yn ddim llai, ond ymherthynas âg amser, yr ydys yn treulio'r cyfanswm o hyd, a chyn hir byddis wedi treulio'r cwbl. Mewn cyfarfod misol ym. Moriah unwaith, wrth gyfeirio at y "bobl fawr" oedd wedi bod yno, fe ddaeth Mr. Evan Jones ar draws enw'r Dr., a chrynhodd ei gymeriad yn yr ymadrodd, "Yr oedd yn grefyddol tuhwnt, ac yn medru cadw ei arian cystal a dim biwrô."

Bu Robert Griffith farw Rhagfyr 18, 1889, yn 83 oed, ac yn flaenor ers 27 mlynedd. Yr ydoedd ef yn fab i'r hynod Sian Ellis Clynnog. Yn ddyn o ymddiried. Gallai ddweyd gair yn ei bryd. Cadwai gyfrifon manwl fel trysorydd casgl y weinidogaeth. Gwnaeth lawer gyda phethau amgylchiadol yr achos. Tystiai y gwyddai i bwy yr oedd wedi ymddiried.

Bu Lewis Lewis farw, Gorffennaf 1, 1889, yn 69 oed, wedi ei ddewis yn flaenor yn 1860. Nodwedd y masnachwr oedd amlycaf ynddo ef. Yr oedd yn ddiwyd, gofalus, ymroddgar gyda'i orchwyl, ond, fe ddichon, heb estyn ei sylw a'i ofal i holl gysylltiadau ei fasnach. Bu am dymor go faith yn un o'r tri neu bedwar prif fasnachwyr yn y dref. Aeth ei sylw yn o lwyr ar y myned a'r dod yn ei fasnach brysur, a methu ganddo gael y seibiant gofynnol i hunan-ddiwylliant. Bu'n faer y dref dair gwaith, a gelwid arno i ddyledswyddau cyhoeddus, yr hyn nad oedd yn gynefin iddo, er bod yn flaenor. Gydag amser, fe ymgyfaddasai fwyfwy i'w orchwylion, a deuai'r iaith fân, doredig, yn llyfnach a llawnach. Yn goffadwriaeth am ei swydd fel maer, fe roes £500 tuag at Lyfrgell y dref. Fe deimlai wir ddyddordeb yn holl helynt y capel, ac yr oedd yn wr dymunol. ym mhob cylch, ac yn un ag y buasai'n anhawdd ewyllysio dim drwg iddo. Arno ef, yn bennaf, y bu'r gofal am y tlodion, a bu'n ddiwyd gyda hynny. Bu'n arolygwr effeithiol yn yr ysgol, a dygodd i mewn liaws o fân-gynlluniau. Efe a W. P. Williams ydoedd y ddau arolygwr mwyaf llwyddiannus a welodd Mr. Morris Roberts.

Bu Richard Griffith farw Medi 28, 1890, yn 77 oed, ac wedi bod yn flaenor er 1860. Yr ydoedd yntau ar un tymor yn un o brif fasnachwyr y dref. Gwr â golwg grâff ganddo, a rhywbeth yn null ei gerddediad yn arwyddo ystwythter corfforol, a chryn benderfyniad. Pan siaradai yn gyhoeddus, mater amgylchiadol fyddai ganddo, a dywedai ei feddwl yn rhwydd a threfnus, gan ddisgyn yn ddiymdroi ar y pethau perthynasol. Dyma sylw Mr. Morris Roberts arno: "Gwr masnach, wedi ei yrru i'r sêt fawr braidd yn erbyn ei ewyllys. Cof gennyf am seiat heb neb ond Richard Griffith yn y sêt fawr. Wedi i rywun ddechre, dywedodd yntau fod rhywbeth go anghyffredin wedi digwydd y tro hwnnw. Fel rheol,' meddai, bydd y sêt yma yn o lawn, a'r rheiny yn gyffredin yn o barod i siarad; ond heno ddim ond un, a hwnnw heb awydd i siarad. Y rhan amlaf, bydd yma fwy o siarad o'r sêt fawr nag o'r llawr; ond fieno fel arall y bydd hi. Mi rof, gan hynny, gyfle i chwi i siarad; ac os na siaradwch ohonoch eich hunain, mi fyddaf yn rhwym o alw arnoch.' Ar hynny, dyma frawd na byddai'n arfer dweyd llawer yn codi, yna chwaer, a rhywun neu gilydd ymlaen i'r diwedd. Dywedodd yntau ei hun air yn fyrr, a galwodd ar rywun i derfynu. Wrth fyned allan, dywedai Mr. O'Brien Owen wrthyf, ' Dyma'r seiat ryfeddaf fu'm i ynddi hi erioed. 'Roedd ynof ryw awydd i ddweyd rhywbeth o hyd, ond yn methu hefyd.' Yr oedd yr hen chwiorydd, wrth fyned allan, yn canmol y seiat fel un anarferol o dda." Elai Richard Griffith yn ystod ei flynyddoedd olaf i gynorthwyo yn ysgol Glanymor.

Yn 1892, R. H. Richards yn dechre pregethu, wedi hynny yn athro yn y Bala. Medi 23, 1892, J. W. Jones yn dechre, wedi hynny yn fugail yn Nant Llithfaen. Symudodd Mr. Owen Jones (Glanbeuno) yma o'r Felinheli, ac erys yn aelod yma o hyd. Ionawr 2, 1894, Mr. T. Gwynedd Roberts yn symud yma o Rostryfan. Tachwedd 13, 1895, Mr. Roberts yn symud i Gonwy fel bugail. Yn 1896, daeth Mr. D. E. Davies yma o Bwllheli.

Mawrth 13, 1892, bu farw Robert Humphreys, yn 42 oed, yn flaenor ers naw mlynedd. Efe oedd ysgrifennydd yr eglwys, a bu'n ymroddedig iawn ynglyn â chodi'r ysgoldy a chael yr organ. Efe a ddygai allan yr adroddiad eglwysig o 1883 ymlaen. Dyma sylw Mr. Evan Jones arno: "Dyn ardderchog oedd Mr. Humphreys. Nid oedd dim amheuaeth am ei grefydd. Yr oedd ei swydd [swyddog y cyllid] yn ei ddyrchafu goruwch pob amheuaeth am ei allu a'i gywirdeb fel cyfrifydd. Nid oedd dim yn ei dymer yn afrywiog fel ag i gythruddo neb, tra'r oedd ei ymroddiad i'w waith, pa beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo, yn wystl am ei gyflawniad. Y perygl oedd iddo fod yn rhy ymroddedig. Cae fythefnos neu ragor o seibiant bob blwyddyn. Ond yn lle eu cymeryd, fel y dylasai, i fwynhau ei hun, ac i ofalu am ei iechyd, treuliai hwynt yn rhy fynych i ddwyn allan yr adroddiad." Mae'n ddiau y teimlid y golled a'r chwithdod ar ei ol yn fawr.

Bu Cornelius Davies farw Ionawr 10, 1895, yn 84 oed. Daeth i Gaernarvon o Fostyn, lle'r ydoedd yn flaenor er 1851, ar yr 28 o Fedi, 1860, a bu'n flaenor yma am 26 blynedd. Yr oedd ei holl ddull yn arwyddo ei fod yn wr cynefin â manylder yn ei orchwylion. Cerddai â chamau byrion, lled brysur, bob pryd yn yr un dull; a gwisgai yr un modd yn ofalus bob amser, yn dwtnais, ond nid mewn dull i dynnu sylw ato'i hun; a llefarai yn fyrr, ar y pwnc, gan dorri ei eiriau yn gwta. Trefnus, gofalus, deheuig yn ei orchwyl. Ni allai oddef diogi a syrthni: cymhellai'r ymarfer à rhyw orchwyl, rhag bod yn "blank in creation," chwedl yntau. Argraff dyn yn hytrach yn drwmfrydig oedd ar ei brydwedd tywyll: dim gwamalrwydd, dim gogan eiriau! Yr oedd yr un pryd yn hoff o blant, a bu'n arwain gryn lawer yn eu cyfarfodydd, a dywedir y byddai'n hael mewn gwobrau, er eu cymell i ymroi i wahanol wersi. Adeiladodd ei dy, nid yn unig o ran cynysgaeth fydol, ond mewn llafurwaith ysbrydol, a gwelir ei blant yn dilyn yn ol ei droed. Nid oes un gair a ddefnyddir yn amlach ynglyn âg ef na'r gair boneddwr: yr oedd yr argraff oddiwrth ei bersonoliaeth felly, yn enwedig wedi myned ohono ymlaen mewn dyddiau, pan y daeth penwyni yn goron anrhydedd iddo; ac yr oedd ei ymddygiadau yn cyfateb. Ceid ganddo ar dro ambell air yn dangos craffter sylw. Pan y gwneid coffa unwaith am frawd ymadawedig, ac y sylwid ei fod wedi marw yn orfoleddus, gan ei fod yn gorffwys ar y drydedd salm arhugain, fel chwanegodd yntau fod yn hawdd ganddo gredu i'r brawd hwnnw farw gan orffwys ar y drydedd salm arhugain, oblegid ei fod wedi arfer byw yn ol y bymthegfed salm. Mab iddo ef ydyw Mr. R. Norman Davies.

Ar ddiwedd yr oedfa gyntaf yng Nghyfarfod Misol Moriah, Ionawr 13, 1896, cyflwynwyd tysteb i'r Henadur W. P. Williams, ar derfyn gwasanaeth o dros hanner can mlynedd fel blaenor yr eglwys. Yr oedd y dysteb yn £77 ynghydag anerchiad. Rhagfyr 4, 1899, ar derfyn 50 mlynedd o wasanaeth fel blaenor, cyflwynwyd anerchiad a dysgl arian i Henry Jonathan.

Tebyg y gellir dweyd y bu gradd o arbenigrwydd ar yr eglwys hon ymhlith holl eglwysi y Cyfarfod Misol, ac hyd yn oed Ogledd Cymru i gyd. Yr oedd cynnydd cyflym yr achos yn ei flynyddoedd boreuol yn beth heb ond ychydig enghreifftiau i'w cystadlu âg ef. Pan agorwyd y capel presennol yn 1826, fe ddywedir nad oedd gan yr ymneilltuwyr Cymreig ddim cyffelyb o ran maint yn unlle. Yr oedd eofndra'r eglwys yn ymgymeryd â'r fath anturiaeth yn gwneud argraff aruthrol braidd ar y pryd. Yr oedd Henry Rees, ar yr ailagoriad yn 1867, yn adrodd am John Elias yn rhyw sasiwn, yn cyfeirio at yr agoriad cyntaf, a chan "estyn ei fraich hir allan," yn rhoi mynegiad mewn geiriau hirllaes, pwysleisiol, i'w synedigaeth ei hun uwchben maintioli'r adeilad. Ar y pryd, mae'n ddiau fod y peth yn fath o arwydd i elyn a chyfaill, canys cof gan liaws am erlid brwnt ar ymneilltuwyr, ac yr oedd nid ychydig o'r erlidwyr eu hunain yn fyw. Rhoid urddas ar yr eglwys gan bresenoldeb Evan Richardson, ac, ar ol hynny, Dafydd Jones, y blaenaf wedi bod yma am 37, a'r diweddaf am 27 mlynedd, y ddau yma dros awr anterth. Yma, hefyd, y cyrhaeddodd y gweinidog oedd yma yn niwedd cyfnod yr hanes presennol ei awr anterth yntau. O ran rhif, hefyd, yr eglwys hon oedd y fwyaf yng Ngogledd Cymru ar rai adegau o leiaf. Ni chyrhaeddodd mo'r blaenoriaid yma at ei gilydd enwogrwydd cyfartal i'r pregethwyr. Yr oedd Dafydd Jones y cwper, er hynny, am gyfnod maith, yn deilwng a chyflawn wr yn ei swydd; ac yna, ar ei ol ef, fe gynrychiolwyd y swydd yn fwyaf amlwg gan ddau wr yr ymestynnodd eu gyrfa faith ryw gymaint dros gyfnod yr hanes yma, sef W. P. Williams a Henry Jonathan.

Heblaw'r pregethwyr fu'n aros yma, y mae'n sicr fod gan y pregethwyr teithiol lawer i'w wneud â chodi ac adeiladu'r eglwys. Tra'r oedd hynny'n wir am yr eglwysi yn gyffredinol, gan yr ymwelai'r pregethwyr yn eu tro â phob lle, eto, oblegid maint yr eglwys hon, hi gawsai ymweliadau oddiwrth y rhai hynotaf o'r pregethwyr yn amlach na nemor eglwys arall. Ac yr oedd rhyw nifer o bregethwyr yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a hanner blaenaf y ganrif ddiweddaf, yn meddu'r fath swyn i'r werin, a'r fath awdurdod a nerth yn eu pregethu, fel yr oedd ymweliadau mynych oddiwrthynt yn elfen bwysig iawn. yn llwyddiant unrhyw eglwys. Fe freintiwyd yr eglwys hon yn arbennig yn y ffordd honno. Y flwyddyn y cychwynnwyd. eglwys yng Nghaernarvon y dechreuodd Robert Roberts Clynnog bregethu, a phru'n bynnag a fu efe yma'n amlach nag mewn lleoedd eraill ai peidio, eto yr oedd yn cael mantais yma, ym mhoblogaeth y dref, uwchlaw lleoedd eraill yn gyffredin. Yr oedd ei bregethu angerddol ef, ac ymateb angerddol y bobl, y peth mwyaf cyfaddas i gyffroi sylw y dref. Craffer i'r amcan hwn ar yr hyn a ddywed Bingley am yr hyn a welodd yng nghapel y Methodistiaid yng Nghaernarvon ar ei ymweliadau â'r dref yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a'r flwyddyn gyntaf o'r ganrif ddiweddaf, sef fod ymdrechfeydd a dychlamiadau y bobl. y fath, fel mai prin y gallai eu cyrff eu cynnal wrth adael y lle. Cerdd sylwadau Hutton, teithydd arall, i'r un cyfeiriad, ymherthynas â'r un cyfnod. Yng nghyflwr meddyliol y nifer mawr y pryd hwnnw, yr oedd y cyfryw effeithiau y mwyaf cyfaddas i atynnu'r bobl. Pregethwyr o ddylanwad anrhaethol yn eu hamser goreu oedd John Jones Edeyrn a Michael Roberts, a gwelwyd yr ymwelent â'r dref yn lled fynych. Deuai John Elias, fel y gwelwyd, yn fynychach eto, ac yr oedd iddo ddylanwad cyffroadol mawr yn rhan gyntaf ei oes, ac awdurdod ar bob dosbarth yn y wlad yn y rhan olaf. Dywedir mai ym Moriah y traddododd ei bregeth olaf. Yr oedd Thomas Hobley yn gwrando arno yma yn 14 oed, sef blwyddyn olaf John Elias, a'i oedfa olaf, debygir. Arferai ef adrodd am dano yn cerdded yn arafaidd i fyny risiau'r pulpud, ac yna yn wynebu'r gynulleidfa lawn, ac yn edrych megys ym myw ei llygaid, i fyny ac i lawr, ar y naill ochr a'r llall, a chyda'r fath drem dreiddgar, awdurdodol, fel y teimlid fod y gynulleidfa i gyd yn ei law cyn dywedyd ohono un gair. Yr oedd yr argraff ar y bachgen y fath, fel y difrifolai wrth gyfeirio at y peth ymhen deugain mlynedd, a dywedai mai John Elias oedd "y pregethwr—y pregethwr—mwyaf a welodd Cymru." Ar ryw nos Fawrth yr oedd Robyn Ddu yn hogyn yn gwrando ar John Elias ym Moriah, ar, Gadawed y drygionus ei ffordd. Nos Iau wedi hynny, danfonwyd ef gan R. M. Preece, ei feistr, sef tad Syr William Preece, i hysbysu y Wesleyaid yng nghapel Llandwrog nad allai efe ddod yno i bregethu y noswaith honno. Cymhellwyd Robyn Ddu a'r rhai ddaeth gydag ef i gymeryd rhyw ran yn y cyfarfod. "Cyfodais innau, yn yr eisteddle dan yr areithfa, ac fel yr wyf byw, dyna bregeth Mr. John Elias yn dyfod allan yn ei grym; yr oeddwn yn chwysu wrth fy modd, a'r bobl yn gweiddi o lawenydd, wrth glywed yr hogyn yn ei bloeddio, 'Efe a arbed—efe a arbed yn helaeth—efe a amlha arbed—efe wedi arbed a arbed drachefn,' ac ymlaen. Dydd Sadwrn a ddaeth, ac ymwelodd rhai o'r bobl à Mr. Preece i ganmol y bregeth . . . ." (Teithiau Robyn Ddu, t. 17.) Diau fod dylanwad mynych ymweliadau y fath bregethwr yn fawr ar feddyliau y bobl, y bechgyn go ieuainc a phawb. Hanner can mlynedd yn ol, a llai na hynny, fe glywid ei enw yn cael ei seinio gan ei hen wrandawyr yng Nghaernarvon gyda thrydan yn nhôn y llais,—"Mi fyddai Elias . . . ." "John Jones Talsarn a fu'n dod i Foriah yn fynych ar Suliau a nosweithiau'r wythnos ar hyd y blynyddoedd, deirgwaith neu bedair ar y Suliau, a bu ar un adeg yn dod yn o fynych ar nosweithiau eraill. Byddai'r capel yn llawn gydag ef bob tro. Fel yr ae un teulu i mewn drwy ddrws y tŷ ar noson waith wedi bod yn gwrando arno, yr oedd cloch y dref yn taro un arddeg, wedi bod ohono yn pregethu, debygir, y tro hwnnw, am dair awr neu ragor. Elai ambell i fachgen â'i fara a chaws gydag ef i'w fwyta'n lladradaidd rywbryd yng nghanol y bregeth. Yr oedd George Williams, y blaenor o Siloh wedi hynny, yn gwrando arno ar noson waith un tro yn fachgen ieuanc, fel yr arferai ddweyd, ac yn dweyd wrtho'i hun ar y pryd, y byddai'n hollol foddlon yn y nefoedd ei hun ar y fath ddedwyddwch a hwnnw. Dyma atgof Mr. Evan Jones am dano: "Yma, nos Saboth, Mawrth 22, 1857, y gwrandewais y Parch. John Jones Talysarn yn pregethu ei bregeth olaf. . . . Testyn Mr. John Jones oedd I loan iii. 2: Anwylyd, yr awrhon meibion i Dduw ydym, ac nid amlygwyd eto beth a fyddwn; eithr ni a wyddom, pan ymddangoso efe, y byddwn gyffelyb iddo; oblegid ni a gawn ei weled ef megys ag y mae. Nid wyf yn cofio dim o'r bregeth. Yr oedd yno gynulleidfa fawr, ac yntau yn cael un o'i odfeuon rhagorol, a phawb wrth eu bodd. Ar ol yr oedfa, gweinyddid yr ordinhad o Swper yr Arglwydd ganddo. Nid wyf yn cofio dim neilltuol am hynny chwaith, heblaw fy syndod at y dorf fawr o aelodau a lanwent lawr y capel yn llawn, ac yn neilltuol gwaith Mr. Jones yn rhoi allan i ganu y pennill canlynol:—

Mi gana'm waed yr Oen,
Er maint yw mhoen a'm mhla;
'Does genny'n ngwyneb calon ddig
Ond Iesu'r meddyg da;
Fy mlino ges gan hon,
A'i throion chwerwon chwith;
Fy unig sail i am y wlad
Yw'r cariad bery byth.

Yr wyf yn ei weled yn awr, gyda'i gorff hardd a thywysogaidd, yn estyn y gwpan o law i law, ac yn canu â'i holl galon, gan ddyblu a threblu y llinellau, Fy mlino ges gan hon, etc., nes yr oedd yr holl le yn llawn o ddagrau dwys a gorfoleddus, ac yntau ei hunan yn ymollwng i fwynhau." Fe fu'n foddion i eangu syniadau lliaws, ac i roddi i liaws y syniad mwyaf dyrchafedig oedd ganddynt am hyawdledd sanctaidd.

Ni wyddys pa bryd y cychwynnwyd gyda'r Ysgol Sul. Diau. iddi gychwyn yma yn 1794, neu'n union ar ol hynny, sef yn union ar ol ei chychwyn yn y Capel Uchaf. (Edrycher y Capel Uchaf a Llanllyfni). Y mae llyfr yr ysgol am 1813 ac ymlaen ar gael. Yn ol W. P. Williams, Richard Owen, tad Robert Baugh Owen, oedd yr ysgrifennydd, a thŷb ei fod yn y swydd ers blynyddoedd. Dywed fod Richard Owen yn wr o urddas a dylanwad yn y dref. Dodir enwau'r ysgolheigion i lawr, gyda'u rhif, y merched yn flaenaf, ac yna y meibion. Ar ol yr enw, rhoir yr oed, yna enw y tad neu'r fam, yna'r preswylfod, yna'r graddau. Cyrraedd y graddau o un i chwech. Awd ymlaen gyda'r cynllun am flynyddoedd, ond ni wahaniaethwyd rhwng y naill flwyddyn a'r llall. Y mae ysgolheigion newydd yn cael eu hychwanegu, ond ni ddangosir pan fu farw neu y symudodd neu'r esgeulusodd neb. Y mae'r holl enwau a rowd i lawr yn 944, sef 495 o feibion a 449 o ferched. Y mae 51 o athrawon dros ben hyn, tair o'r nifer yn ferched. Yr ieuengaf o'r ysgolheigion yw William Williams, 3 oed, bachgen Owen Williams Penrallt uchaf. Yr hynaf ydyw Lettice Thomas, 63, Pentrenewydd, gradd 6. Ymddengys rhif tebyg i 73 gyferbyn â Jane Williams, Hole in the Wall. Tebyg mai marc yr inc sydd yma oddiwrth y ddalen gyferbyn, gan y rhoir John Williams fel rhiant, a nodir 2 fel ei gradd, ac ymddengys yr enw ynghanol rhai ieuainc eraill, ac nid yw'r rhif 7 yn debyg iawn i'r un rhif mewn mannau eraill. Rhif yr ysgolheigion sydd wedi cyrraedd dros 20 oed, 55. Ni roir oedran yr athrawon. Gwnawd defnydd pellach o'r llyfr hwn yn 1836. Rhoir i lawr enw'r athro, a nodir mewn gwahanol golofnau prun ai'r Beibl ynte'r Testament a ddefnyddid, a'r "graddau" a'r "egwyddori," ac y mae colofn i nodiadau. Rhoi'r i lawr gerbron yma bob dosbarth y mae nodiad ar ei gyfer. H. Robt., Bible, 5, Da, dim, 2 Blentyn. R. Rob., Bibl, 4, Da, Hyfforddwr, 1 Plentyn. W. Jones, Test., 1, Llesg, Hyfforddwr, 1 Plentyn. [?] Hughes, Test., 3, llesg, R Mam, I Dyn 2 blentyn. S. Hobley, Bible, 3, G. dda, Hyfforddwr, Ei blant ei hun. R. Williams, Bible, 4, da, Hyfforddwr, Oll yn debyg. John Williams, Test., 4, llesg, dim, anwastad. Dd. Jones, Bibl, 4. Canolig, Hyfforddwr, I Egwan. W. Davies, Bibl, 4, Canolig, [dim enw], Cymysg. W. Owen, Test., 7, Canolig, Hyfforddwr, Gwastad. Craffer ar y rhestr yna, ac fe welir fod yna safoni gofalus yn 1836, ac, fe ddichon, mor ofalus yn 1813, sef yn gynarach nag y tybir weithiau, fel y digwydd, hefyd, gyda rhai dyfeisiau eraill. Yr oedd Robyn Ddu yn 9 oed yn 1813. Y mae dau Robert Parry ar y rhestr, ond nid yw ef yma. Efe a ddywed yn ei Deithiau (t. 15) fod ei fam yn aelod ffyddlon gyda'r Trefn— yddion Calfinaidd, ac mai i'w capel hwy y danfonid ef i'r ysgol Sul, ac i wrando pregethau, ac y dysgodd yno ugeiniau o benodau, salmau a hymnau, ynghydag Holwyddoreg y Parch. Thomas Charles o'r Bala, a darfod iddo eu hadrodd ar gyhoedd yn yr ysgol. Eithr fe ddywed, hefyd, y mynych deithiai i gapel yr Anibynwyr, Pendref, i'r ysgol, ac yna, wedi myned yn brentis crydd at William Parry, aeth gyda'i feistr i ysgol y Wesleyaid. Fe ddywed na tharawyd mono erioed gan athro na meistr, na chan ei dad onid unwaith.

Rhydd Mr. Morris Roberts ei atgofion am yr ysgol. Dosbarth o ddynion ieuainc oedd gan Richard Davies. Gofalwr am y capel oedd William Roberts, a chanddo ddosbarth A B C. Yr oedd ganddo strap lledr at wastrodedd y plantos. Gwr deheuig oedd ef, gan y rhoe bedair canwyll y pulpud allan yn unig gan gau ei fys a'i fawd. Athro llafurus, yn darpar yn fanwl, oedd Evan Richardson Owen. Bu Mr. Roberts yn nosbarth Henry Jonathan, gyda Walter Hughes, goruchwyliwr y banc a William Williams athro yr ysgol Frytanaidd. Darllen y bennod gyntaf yn Efengyl Ioan. Pwysleisio oedd dawn arbennig Walter Hughes. Yr athro yn benderfynol iawn dros ei olygiad ei hun. Arferai ddyfynnu gwahanol awduron, yn enwedig Chalmers. Hoff o godi cwestiwn ar sylw a ddyfynnid ganddo. A'r tebycaf ei farn i'r awdwr fyddai'r gwr cymeradwy gan yr athro bob amser. Bu W. P. Williams yn holi'r ysgol. am fisoedd cyn adeg diwygiad 1859. Holai bob dosbarth. drwy'r ysgol ar ei ben ei hun, feallai ddau neu dri dosbarth bob Sul. Un o'r pynciau,—Y profion o ddwyfoldeb y Beibl, (1) profion allanol, (2) profion mewnol. Rhoes ddau gwestiwn i ddosbarth Evan Richardson Owen, a dyna un ohonynt, A wnaeth Crist a'i apostolion wyrthiau? Rhoid y cwestiynau wythnosau o flaen llaw. Sonia Mr. Roberts am ddau hen frawd yn cael eu penodi gan y Cyfarfod Athrawon i ymweled âg esgeuluswyr, sef John Parry siop, Stryd llynn, ac un arall o'r enw Jones. Yn ddiweddar yr oedd John Parry ei hun wedi dod at grefydd. Bu'r ddau wrthi am fisoedd, a llwyddasant i gael rhwng 50 a 60 i'r ysgol, a nifer ohonynt i ymroi i grefydd ar ol hynny. Sylwa W. P. Williams mai chwaer William Roberts, y gofalwr am y capel, a fu'n wraig i Mr. Lloyd. Bu ef ei hun yn athro plant am 60 mlynedd, fel mai ffrwyth maith brofiad oedd y defnydd o'r strap lledr, neu o leiaf ei gadw yn y golwg. Clywodd W. P. Williams ef yn dweyd na chollodd ond tri Sul o'r ysgol mewn 60 mlynedd.

Dyma sylw Mr. Evan Jones ar yr ysgol yn 1856: "Yr oedd yr ysgol Sabothol ym Moriah mewn cyflwr hynod lewyrchus, yn llawn y llawr a'r llofft... Un o'r arolygwyr oedd Mr. Richard Williams, yr ironmonger, gwr bychan gwynebgoch, yn cerdded yn fân ac yn fuan. . . . Byddai, unwaith yn y flwyddyn, o leiaf, yn myned i'r pulpud brynhawn Saboth, yn yr ysgol, i rybuddio plant rhag torri gerddi a thynnu nythod adar . . . . Yr oeddwn yn aelod o ddosbarth a gedwid yng nghongl uchaf yr oriel, uwchben y drws, ar y llaw dde wrth fyned i mewn. Yr athraw oedd Mr. William Williams Coed- bolyn. . . . Ar ein cyfer, yn ongl arall i'r oriel, yr oedd dos- barth Mr. Jonathan-hen ddosbarth f'ewyrth Richard Jones, wedi hynny o Chatham Street, Liverpool, a thad Mr. R. W. Jones (Diogenes) a'r Parch. Richard Jones Mancott."

Bu amryw ganghennau i ysgol Moriah. Ysgol Lôn Glai oedd cychwyn yr achos yn Nazareth; ysgol Isalun oedd cychwyn yr achos ym Mhenygraig; ysgol Tanrallt a arweiniodd i ysgol Siloh bach, a hynny, drachefn, oedd cychwyn Siloh, ond yno yr oedd Engedi yn rhannog yn y gwaith. Bu ysgol yn cael ei chynnal yng Nghowrt y boot, lle bu William Davies, y blaenor wedi hynny, ynghydag eraill, yn ffyddlon. Oddiyno yr awd i Glan y môr, tua'r un adeg, y mae W. P. Williams yn meddwl, ag y dechreuwyd yn Siloh bach, sef 1856. A dywed mai mewn llofft isel y dechreuwyd yng Nglan y môr, gyda grisiau cerryg oddiallan i fyned iddi. Cedwid mul neu ddau ar y llawr o dan y llofft, a phan elai'r mul i nadu, neu'r ddau gyda'i gilydd, rhuthrai nifer o'r plant allan yn eu dychryn. Bu Robert Davies Bodlondeb, Treborth, yn athro yn y llofft yma. Daeth Joe Llanrwst yno unwaith mewn diod. "Tyn dy het, Joe," ebe Robert Davies. "Na wna ddim," ebe yntau. "Cofia mai addoli Duw yr ydan ni." Eithr ni thyciai hynny chwaith. "Gwna o barch i'r Brenin Mawr." "Na wna ddim," ebe Joe. "Gwna o barch i mi." "O, gwna, syr, o barch i chwi," ebe Joe, a thynnodd ei het. Fe gafwyd lle mwy cyfleus yn y man yn uwch i fyny, a buwyd yno am rai blynyddoedd. Bu raid symud oddiyno, a'r lle nesaf ydoedd y man y cychwynnwyd y capel Seisnig, a'r lle y cychwynnodd Byddin Iachawdwriaeth yn y dref, ac a ddefnyddir fel ysgol a lle cenhadol o hyd. Ond dyma atgofion Mr. Morris Roberts am yr ysgol: "Ryw bnawn, dyma Joseph Hobley, arolygwr ysgol Glan y môr, i fewn i Foriah, yn chwilio am ddau athro. Syrthiodd ei feddwl ar John Richardson a minnau. Gwnaethom oreu a allem o'r ruffians. Bum yn cwyno yn y cyfarfod athrawon, ond cymhellwyd fi i aros, ac arosais am rai blynyddoedd. Bum yn dysgu dosbarth o ddynion ieuainc i ddarllen yno. Eifioneilydd a Robert Owen y glo yn dod yno un Sul. Ymhen rhai Suliau, gwr dieithr yn dod gyda hwy, a hwnnw yn chwareu'r amheuwr. Deallais wedyn mai is-olygydd yr Herald ydoedd, wedi bod yn weinidog eglwys fawr gyda'r Anibynwyr yn y Deheudir, ac wedi colli ei draed gyda'r ddïod. Ni ddaethant yn ychwaneg. Yr oedd John Lloyd, cabinet maker, yn fy nosbarth, yn fachgen direidus, ac wedi dechre myned dipyn yn ofer. Daeth ar ol hynny yn aelod o eglwys Moriah. Yr oeddwn yno yn y seiat wedi i Mr. Evan Jones ddod yno. Galwai John Lloyd ef ato, fod arno eisieu dweyd gair wrtho. 'Hen athraw a disgybl sydd wedi digwydd cyfarfod yma heno," meddai. Yr ydwi'n cofio fy hun yn hogyn direidus, drwg, yn yr hen ysgol yng Nglanymôr. Ryw bnawn Sul aeth dau neu dri ohonom i'r ysgol yn hwyr. Gofynnodd yr athraw, Pam na fuasech yn dod yn brydlon? Dywedais innau mai yn y fan a'r fan yr oeddym, a ninnau wedi bod mewn lle na fynnem iddo fo wybod. Ond mi feddyliais arno ei fod yn fy ameu. Edrychais ym myw ei lygaid, er mwyn gwybod hynny, a gwelwn ddeigryn yno. Os achubwyd fi o gwbl, y mae fy achubiaeth yn ddyledus i weled y deigryn hwnnw yn llygad fy hen athraw.'"

Dyma atgofion y Parch. Edward Owen Gilfachgoch, Morgannwg, am Lanymor. "Y rhai cyntaf aeth i ofalu am y lle oedd Robert Williams (Robert and Jane), Griffith Jones cigydd, Richard Rowlands, a fu gyda Mr. John Owen Tŷ coch, W. Jones Glanymôr, a ddiweddodd ei ddyddiau yn Llundain, a Thomas Hughes, arweinydd y canu. Daeth eraill wedyn, megys William Davies y rhaffwr, John Richardson, Mr. Morris Penrallt. Byddem yn cael pregeth yn aml am hanner awr wedi pedwar. Cof gennyf am John Owen Bwlan yn cael odfeuon grymus iawn yno." Mewn blynyddoedd diweddarach, bu Hugh Pugh Llys Meirion yn dra ffyddlon yma.

Dyma adroddiad ymwelwyr y Canmlwyddiant (1885): "Hon yw ysgol luosocaf y dosbarth, yn rhifo yn agos i 500. Y mae'r ysgol wedi mabwysiadu'r cynllun safonol, ac ar y cyfan profa'n fanteisiol. Y mae'r ystafell dan y capel i'r plant ieuengaf. Yr oedd yma ddau ddosbarth mawr yn y wyddor dan ofal brawd a chwaer. Tybiem y buasai pedwar athraw yn well na dau. Yn y capel, yn y dosbarthiadau hynaf y mae rhai darllenwyr da, yn medru nid yn unig ddarllen yn gywir o ran sain ac acen, ond gosod allan y synnwyr wrth ddarllen. Y mae lliaws yn mynnu. cloddio a myned yn ddwfn wrth ddarllen. Fe gymerai pob dosbarth ei faes ei hun, a chymerai pob athro ei drefn ei hun. O bosibl y byddai cadw at ryw drefn neilltuol, yn enwedig yn nosbarthiadau y bobl ieuainc, yn fanteisiol. Byddai mwy o sylw i brydlondeb yn brydferthwch. Gormod anghyfartaledd rhwng y gynulleidfa a'r ysgol. Eisieu ysbryd cenhadol i fyned at y gwrandawyr. Peth arall angenrheidiol yw mwy o ymgysegriad i gymeryd dosbarthiadau, nid am dymor ond am oes. Ysgol genhadol ydyw Glanymôr. Rhydd un o flaenoriaid Moriah ei bresenoldeb yma yn gyson, gan gymeryd gofal dosbarth. Dangosir ffyddlondeb a hunanymwadiad mewn ymgymeryd â bod yn athrawon. Plant gan mwyaf sydd yn yr ysgol, a'r mwyafrif yn esgeuluswyr ar foddion eraill. Y mae'r plant hyn. yn dra aflywodraethus, a cheir trafferth blin gyda hwy, ond fe wneir yma waith bendithiol; ac y mae gan y rhai a lafuriant yma le i ddisgwyl nad yw eu llafur yn ofer. Yr oedd dros gant yn bresennol. Dywedid y gallesid cael ychwaneg i'r ysgol ped ymgymerid â myned i chwilio am danynt, ond fe deimlir anhawster i gael digon o athrawon i ofalu am y rhai a ddeuant. Dylid mabwysiadu byrddau gyda'r wyddor arnynt. Ystafell eang. Holi bywiog yn y Rhodd Mam. Ysgrifennydd medrus, athrawon gwybodus. Ychydig welliant yn y cynlluniau a wnae ysgol wir dda."

Richard Owen, gwr y Mari Hughes a ofalai am y tŷ capel, o'r cychwyn feallai, a arferai fynychaf arwain y canu. Yr oedd y ddeuddyn hyn yn wir wasanaethgar i'r achos yn eu gwahanol ffordd. Bu Mari Hughes yn cadw'r tŷ capel am 40 mlynedd. Clompen dew, rywiog, oedd Mari, a arferai dynnu yn ei chetyn cwta o flaen y tân. Dywed W. P. Williams mai'r cyntaf a neilltuwyd i arwain y canu oedd Edward Meredith. "Yr oedd yn deall rhyw gymaint am nodau canu, ac yr oedd ganddo lais rhagorol, llais mawr, llawn o fiwsig. Yr oedd yn gydnabyddus iawn â'r tonau a arferid y pryd hynny. Fe ddywedir, pan y byddid yn cynnal y Sasiwn yn y cae o dan y Twtil, y byddai llais Edward Meredith, yr hwn a arweiniai y canu, i'w glywed o ben y Twtil, dros y gynulleidfa fawr o ddeg i bymtheng mil. Yr oedd ganddo bulpud bychan wrth ochr y pulpud y byddai'r pregethwr ynddo, ac yn hwnnw y byddai'n arwain y canu. Yr oedd yn ddyn gwir grefyddol, ac yn gymeradwy iawn gan ei holl frodyr. Yn 1819 ymadawodd o Gaernarvon i Gaergybi." Yna bu Richard Jones y Traian yn arwain am rai blynyddoedd, gyda llais gweddol dda, a chydnabyddiaeth â'r hen donau. William Jones Twtil bach oedd yr arweinydd nesaf. Anaml y methodd ganddo daro ar y cywair priodol. Cyfeirir at y canu gan Mr. Evan Jones, fel yr ydoedd yn 1856-7: "Safai'r pulpud y tuallan i ochr yr oriel ar y tu deheu, ar golofnau, ar ei ben ei hun, ond yn gysylltiedig â'r oriel, yn union gyferbyn a drws y capel, fel yn awr. Yn yr oriel hon, y tu ol i'r pulpud, yr eisteddai'r cantorion. Arweinid y canu gan Mr. William Jones Twtil bach, yr hwn oedd yn awr yn tynnu i fyny mewn oedran, a Mr. William Griffith, yr hwn a ddaeth mor adnabyddus ac enwog fel cerddor ac arweinydd canu ym Moriah am dros hanner can mlynedd. . . . Perthyn i'r hen ysgol yr oedd William Jones, yr arweinydd hynaf. Yr oedd Mr. William Griffith yn irder ei nerth, yn deall canu yn dda, yn hyddysg yng ngweithiau'r prif gerddorion, yn arweinydd galluog, yn llawn ynni a brwdfrydedd." Dywed Mr. Henry Owen y byddai William Jones, ar ol y casgl, yn rhoi'r penillion allan i'w canu mewn llais tenor clws, gan arwain gyda'r hen donau yn sicr iawn wrth y glust. Dywed W. P. Williams mai pan fu farw William Jones y dewiswyd William Griffith yn arweinydd, er mai efe yn ymarferol oedd yr arweinydd ers rhai blynyddoedd cyn hynny. "Heblaw ei fod yn feddiannol ar lais hyfryd, yr oedd hefyd yn deall emynyddiaeth yn drwyadl, . . . . ac yr oedd yn gallu cymhwyso tonau priodol at yr emynau a roddid allan i'w canu. . . . Yr oedd eglwys Moriah a'r gynulleidfa yn gwerthfawrogi gwasanaeth Mr. Griffith fel arweinydd y gân, ac yn 1866 anrhegwyd ef â'i ddarlun. . . . Eto, yn 1891, anrhegwyd ef âg awrlais. . . ." (Cerddor, 1907, Mai.) Dilynwyd William Griffith gan Mr. Ben Jones yn 1891. Cyflwynwyd anrheg iddo, fel gwerthfawrogiad o'i lafur, Ebrill, 1898. Yn absenoldeb y prif arweinyddion, y mae Mr. Henry Owen, ers llawer blwyddyn, yn arwain yng nghyfarfodydd canol yr wythnos. Arweinir gyda'r organ er y cychwyn gan Mr. Orwig Williams. Y mae Moriah wedi cyflawn ateb i'r llinell:

Capel mawr enwog a chanu lluosog.

Bu amrywiol ymdrechion yn cael eu gwneud o bryd i bryd i ennill pobl yn wrandawyr, neu'n aelodau o'r ysgol. Ymwelid hefyd â chleifion yr un pryd. Y mae cyfeiriad wedi ei wneud dro neu ddau at ymdrechion felly. Bu lliaws ohonynt. Bu'r Parch. Thomas Hughes a Mr. Morris Roberts ar un tro yn myned gyda'i gilydd, ac elai eraill yn ddau a dau. Parhaodd hynny am fisoedd, a bu'n foddion adeiladaeth yr eglwys. Dro arall, pan y rhannwyd y dref yn ddosbarthiadau, elai merch ieuanc a gwraig mewn oed gyda'i gilydd i bob dosbarth. Mewn eglwys o'r fath faint, ynghanol tref bwysig, y mae lliaws o bobl o bryd i bryd, yn bobl o gryn ragoriaethau, yn wyr a gwragedd, wedi bod yn aros am ysbeidiau o amser, ysbeidiau byrion weithiau a meithion weithiau eraill, ac eto heb ddod i amlygrwydd neilltuol yma. Bu yma rai felly mewn cysylltiad â'r wasg, neu'n athrawon ysgol, neu gyda gorchwylion eraill. Buasai'r cyfryw mewn eglwysi llai, ac ynghanol gwlad, yn llenwi lle mwy yn llygaid pawb, ac yn fynych yn cael eu tynnu allan i wasanaeth mwy amlwg. Wrth sylwi ar rai o gymeriadau'r eglwys, gan hynny, rhaid myned heibio i liaws o'r cyfryw. Ac hyd yn oed ymhlith y rhai fu'n fwy amlwg yma, nis gellir ond disgyn megys drwy ddamwain ar rai ohonynt fel esamplau o'r lleill. Tad y Dr. Griffith Parry oedd Edmund Parry, ac fel hyn y traetha efe am dano: "Ni bu erioed briod a thad mwy serchog a gofalus. Yr oedd efe yn wr o synnwyr cryf, meddwl craff, yn perchen llawer o wybodaeth ysgrythyrol, ac yn meddu ar fwy o ddawn na'r cyffredin i ddweyd ei feddwl yn eglur ac effeithiol. Meddai hefyd wythïen wreiddiol iawn o arabedd ac humour. Cyfrifid ei gymdeithas ... yn hynod o ddiddan . . . . ac adeiladol. . . . Byddai ei sylwadau ar neilltuolion ambell i gymeriad yn hynod wreiddiol a difyrus. . . . A gallaf dystio na welais neb erioed o ysbryd mwy duwiolfrydig. . . . Yr oedd rhyw naws ac eneiniad rhyfeddol ar ei weddïau, teuluaidd a chyhoeddus. Yr wyf fel yn clywed eu hadsain yn fy nghlustiau hyd heddyw. Eto yr oedd ei grefydd yn berffaith rydd oddiwrth gulni hunanol, gorfanylwch, a phob math o ffug—sancteiddrwydd Phariseaidd. Gwisgai wedd hynod o naturiol a dymunol. Yr oedd efe ac Eryron yn gyfeillion mawr er yn fechgyn a chafodd y ddau eu bedyddio yn ddwfn i ysbryd diwygiad 1818. Eto yr oedd fy nhad yn nodedig o rydd oddiwrth bob rhagfarn henafol: cymerai olwg eang ar bethau, yr oedd ei feddwl yn ieuengaidd, ac yn llawn ysbryd diwygio, a myned ymlaen gyda'r oes ym. mhob peth da hyd y diwedd. . . . Bu farw mewn tangnefedd heddychol, Awst 6, 1865, yn 62 mlwydd oed. Pan daenwyd y newydd am ei farwolaeth yn y dref, yr oedd rhai o anuwiolion pennaf y dref yn wylo, gan ofyn, 'Pwy a gawn ni i'n rhybuddio a'n cynghori bellach."" (Cofiant Eryron, t. 258.) Mab sydd yma yn llefaru am ei dad; ond yr oedd y traddodiad am Edmund Parry fel gwr o gynneddf gref a chymeriad uchel. Robert Roberts, Penrallt Ogleddol, a fu farw yn 24 oed. Hyddysg yn yr ysgrythyr, ac yn ddiwyd yn hel gwybodaeth ar gyfer ei ddosbarth. Magwyd ef yn yr eglwys hon, a mawrhae ei fraint. Adnod y pwysleisiai arni yn fwyfwy hyd y diwedd oedd honno, Da yw i wr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. Gwr ieuanc a ymserchodd yn fawr yn ei ddosbarth ydoedd, a'i ddosbarth ynddo yntau. (m. Rhagfyr 5. 1846. Drysorfa, 1847, t. 63.) Ebe Mr. Griffith Parry (Llanrug) am Richard Prichard: "Hynod dduwiol a neilltuol o afaelgar mewn gweddi. Ei hoff bennill, Daeth trwy ein Iesu glan a'i farwol glwy." Ac am Griffith Pritchard: "Cymeriad hynod, heb fod fel y cyffredin ohonom, ond yn hynod o afaelgar ar weddi,—ei lais yn wefreiddiol iawn, ac yn llenwi'r capel. Ei bennill, O am nerth i dreulio'm dyddiau. Byddai'n cael argraff neilltuol arnaf." Canys lle byddo'r wreichionen fyw hi el o'r naill i'r llall. Ac am Elias Williams: "Dyn duwiol iawn. Galwyd arno un tro i gymeryd rhan mewn cyfarfod gweddi, a rhoes allan y pennill, Ymddyrcha Dduw y nef uwchlaw. Gan mor effeithiol yr adroddid y pennill, yr oeddwn yn teimlo fy ngwallt yn sefyll ar fy mhen." Ac eto am Thomas Parry y cwper: "Hen gymeriad hynod o ffyddlon. Athro ar blant bychain yn yr ysgol. Defnyddiai y geiriau yma ar weddi, 'O, am gael ei adnabod ef, a grym ei atgyfodiad ef, a chymdeithas ei ddioddefiadau ef.' Yr oedd yn byw ar ei ben ei hun, a bu farw heb i neb ei weled; ond fe allwn fod yn sicr fod Un yno." Dyma atgofion Mr. Morris Roberts: "Nid oedd Griffith Pritchard o Leyn yn llawn mesur ym mhob ystyr, ac ymddanghosai fel heb lewyrch arno. Gwerthai'r Herald nos Wener, a byddai'r hogiau yn tynnu yn ei gôt wrth fyned heibio. Ond wrth gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi yr oedd yn ddyn arall. Nid Griffith Pritchard, hawker yr Herald Cymraeg ydoedd y pryd hwnnw, ond rhywun arall o rywle. Teimlid yn ei weddi y cymundeb agosaf â'r Arglwydd. Rhoe y llinell gyntaf o'r pennill allan dan dynnu ei law dros ei wyneb, a gwnelai'r un peth drwy'r pennill bob yn ail llinell. Ei hoff bennill:

Baban bach anwyd draw
Ym Methlem Juda,
Aeth a'm mywyd yn ei law
Tua chartref;
Dyma bilot eglwys Dduw
Ar y tonna',
Dyma'r gwr a'm ceidw'n fyw
Haleluia!

Evan Jones, saer maen, oedd tad Ioan Glan Menai. Byddai'r fath afael ganddo mewn gweddi weithiau, a'r fath arddeliad, fel y torrai allan i ofyn am i'w Dad Nefol atal ei law, a pheidio datguddio gormod. Par, O Arglwydd! ein bod afael yngafael â threfn iachawdwriaeth: y drefn yngafael â ni, a ninnau yngafael â'r drefn.' Cofiai am yr hen genedl: Nis gallwn. fyned i unman ar wyneb daear na welwn yr hen Iddew a'i fox bach ar ei gefn.' John Evans Rhos bodrual oedd hen gymeriad Cymreig tarawiadol. Fe godai ar ei draed i ddweyd ei brofiad, gan bwyso ar ei ffon. Ei nodwedd ef ydoedd, y byddai bob amser wedi bod yn ymgodymu âg adnodau dyrus, megys honno. Os dy lygad a'th rwystra. Wedi traethu arnynt ei hunan, fe fyddai eisieu chwaneg o oleu arnynt." Evan, mab Mr. Lloyd, a fu farw Awst 5, 1851, yn 22 oed. Ceir ar garreg ei fedd:

Evan Lloyd oedd fwyn ei lef—yn nawn cân,
Pan yn y corff gartref;
Byw ei raslon bôr oslef
O'n mysg ni yn miwsig nef.—(Eben Fardd.)


Cyfaill mwy serchog hefyd.
Haeddai barch ni feddai byd,
Ofni Duw yn fwy na dyn
Heb wrando ar glebr undyn
Bywyd hoff iawn mewn byd ffol,
Diddichell, da, heddychol,
A arweiniai o rinwedd
Hyd awr fud a duoer fedd.—(G. Cawrdaf.)

Gwr go arw ei ymadrodd oedd Elias Williams. Pan ofynnid. iddo fyned i wylnos i'r fan a'r fan, gofynnai yn ol, "A oes yno garped?" gan awgrymu na ofynnid iddo ef fyned ond i'r lleoedd tlotaf. Ar ol dodi carped ar y sêt fawr nid elai yno o'i fodd i weddïo. Pan bwysid arno gan Lewis Lewis i ddod ymlaen i'r sêt fawr i gymeryd rhan yn y cyfarfod gweddi, fe atebai yntau yn ol, "'Dydw'i ddim wedi arfer gweddïo ar garped, Mr. Lewis." Fe arferai eistedd ar y sêt agored ar ymyl y passage, fel gwrthdystiad mae'n debyg, yn erbyn yr arfer o eistedd mewn seti caëedig. Dywed Mr. W. O. Williams ei fod mewn gweddi fel dyn yn siarad yn ei lais naturiol gyda'r Brenin Mawr. Yr ydoedd yn frawd i gymeriad arall, sef Thomas Williams, porthor y tloty (Engedi). Cof gan Miss Dora Davies am Griffith Jones Cae'rmur, gyda'r cap melfed du am ei ben, a dywed, gan fod ganddo bellter ffordd i fyned adref o'r moddion nosweithiau'r gaeaf, ac yntau yn hen wr, y gofynnid iddo weithiau, onid oedd arno ddim ofn? ac mai ei ateb fyddai na byddai efe byth ei hunan,—fod ei Dad Nefol gydag ef ddydd a nos. Dyma sylw Mr. Henry Owen arno: "Efe fyddai'n arfer diweddu y cyfarfod diolchgarwch. Yr oedd yn hynod mewn gweddi. Ei nodwedd ydoedd cariad at Iesu Grist. Yr ydoedd yn dduwiolfrydig, yn syml iawn, ac megys plentyn. Canmolai'r Gwaredwr yn ei weddi, gan arfer geiriau serch—ein hanwyl Arglwydd': yr ydoedd wedi cael gafael gref ar yr ochr honno i Grist. Siaradai â Duw fel plentyn â'i Dad—'ein Tad nefol.'" Thomas Williams Stryd llyn, a ddaeth yma o Benygraig tuag 1880. Dywed Mr. Henry Owen fod nodau hynod yn ei lais, y dechreuai weddio yn araf, ac y codai i gywair uchel, mewn llais clws, gydag iaith goeth pan ar ei liniau, er heb ddangos gwybodaeth ar bynciau athrawiaethol i'r graddau a debygasid. Gofalwr am y capel oedd Thomas Parry y cwper. Dyn braf, diniwed, syml, ebe Mr. Henry Owen, a'r geiriau, "Achub ni wrth y cannoedd a'r miloedd" yn faich ei weddi. Dywed Mr. W. O. Williams y distawai efe ffrae yn y fan yng Nglanymor, a bod ei ddylanwad ar eraill, o fewn ei gylch priodol ei hun, yn rhywbeth nodedig. Yr oedd William Morris, ebe Mr. Williams, yn weddiwr hynod ac yn gristion trwyadl. Ei breswylfod ydoedd Cowrt yr ieir yn Stryd llyn (Baptist Court). Yr oedd prif bobl Moriah yn ei gynhebrwng, ac yn eu plith un o ynadon y sir, yr unig un yn y swydd y pryd hwnnw ymhlith ymneilltuwyr y sir, debygir; a chludid ei gorff ganddynt o Gowrt yr ieir i fynwent Llanbeblig, tra'r oedd ei enaid ymhell uwch eu llaw hwy i gyd. Sylw Mr. Williams ar Edward Jones y cigydd, Hole in the Wall, ydyw, ei fod yn weddiwr hynod—"fedrechi yn eich byw beidio teimlo fod y gwir beth ganddo." Robert Jones yr Ant oedd yn ddyn cywir, gyda gweddïau nodedig am eu cyfeiriad uniongyrchol. Sonia Mr. Williams am John Lloyd fel ceidwad y drws ym Moriah, ac fel gwr selog a gweddiwr hwyliog. Bu'n feddwyn cyhoeddus amlwg. Pan fyddai'n anhawdd cael neb i ddechreu'r ysgol, nid oedd eisieu ond apelio at John Lloyd. Yr oedd yr atgof am ei sefyllfa flaenorol fel meddwyn yn boen iddo. Aeth trwy gyfnewidiad trwyadl. Owen Barlow ydoedd. engraifft o wr a addfedodd yn niwedd oes. Meddai ar allu meddwl a chraffter sylw, a danghosai aiddgarwch gyda'r gwaith o ddysgu ieuenctid. Byddai Capten Prichard, ebe Mr. Williams, yn gweu cymhariaethau morwrol i'w weddïau—"tonnau temtasiynau y byd." Robert Griffith, tad W. Griffith yr arweinydd canu, a gyhoeddodd yr adargraffiad o Destament Salesbury. Yr oedd yn wr urddasol yr olwg arno, ac yn meddu ar ddawn siarad neilltuol. Gwr a llais go fain ganddo oedd Ioan Glan Cledr, a byddai ei sylwadau yn torri i'r byw mewn achos o ddisgyblaeth. Yr oedd yn ddarllenwr trwm, ac yn fardd coeth. Sylwa Mr. Henry Owen fod gan Richard Davies, mab Mali Griffith, allu dadleuol anarferol. Yn yr wrthblaid i blaid y blaenoriaid y byddai yn gyffredin. Siaradwr ymresymiadol, yn codi i danbeidrwydd ar brydiau, ac yn y tanbeidrwydd hwnnw yn cael ei gario i eithafion weithiau. Yn wr gonest, cywir, er hynny. Yr oedd yn ysgrifennydd medrus: gwnaeth ymosodiad ar Addysg Chambers yn yr Herald Cymraeg. Efe ydoedd adeiladydd y Neuadd Sirol. Geilw Mr. Evan Jones ef yn ddyn galluog, ac yn arweinydd dynion galluog ym Moriah. William Davies y rhaffwr ydoedd un o'i brif ddilynwyr. Yr oedd ef yn wr prydweddol, glandeg, gyda dawn ymadrodd naturiol, a dull ac iaith a materion chwaethus, ac yn siaradwr campus ar ddirwest. Symudodd i Nerpwl. Cymerir rhai cyfeiriadau at bersonau allan o Adroddiad yr Eglwys.— Ffoulkes Eleanor St., yr hwn er nad oedd ond ychydig amser er pan symudasai i'r dref hon o Earlestown, lle y dewisasid ef yn flaenor, a enillodd y fath radd dda ymhlith ei holl frodyr fel gwr addfwyn, iselfryd, gweithgar a duwiol, nes y teimlid fod ei farwolaeth yn golled gyffredinol, a'i goffadwriaeth yn fendigedig (m. 1877). Un hynod iawn oedd Griffith Jones Cae'rmur. Job arall oedd. Bu unwaith yn amaethwr cyfrifol; ond cymerodd yr Arglwydd y cwbl oddiarno. A phan ofynnwyd iddo a garai i'w ewyllyswyr da wneud ei golled i fyny, atebodd na fynnai, am y credai mai ewyllys ei Dad Nefol oedd cymeryd y cwbl oddiarno er mwyn iddo gael mwy o chware teg i fyfyrio am bethau mwy. Yr oedd yn ddyn mawr ym mhob ffordd—mawr o gorff, mawr o feddwl, mawr mewn profiad, a mawr iawn mewn gweddi. Bu farw mewn henaint teg yn 92 mlwydd oed (m. 1884). Walter Hughes, goruchwyliwr banc y maes, oedd wr haelionus, a chafodd y tlodion golled ddirfawr ar ei ol. Yn wir grefyddol o ran deall a theimlad. Yn Ynad Heddwch dros y fwrdeisdref (m. Medi 12, 1890).

Fe grybwyllwyd peth eisoes am Elizabeth, gwraig gyntaf Evan Richardson, ac am Esther eu merch, ac am Mari Hughes. y tŷ capel. Ann Williams, y sonir am dani fel Elinor Williams yn y Methodistiaeth, oedd ail wraig Evan Richardson, megys ag yr oedd yntau yn ail wr iddi hithau. Peter Ellis oedd ei gwr cyntaf, ac yr oedd hi yn ail wraig iddo yntau. Owen Ellis, a fu'n flaenor ym Moriah, oedd fab iddo ef o'i wraig gyntaf, a Peter Ellis y masnachydd oedd fab iddo o Ann Williams. Y mae cymaint a hyn o eglurhad yn gryn help i ddadrys cysylltiadau amryw o hen deuluoedd y dref. Nid yw hyd yn oed W. P. Williams wedi dadrys y dirgelwch, gan y tybia fod Owen Ellis yn fab i Peter Ellis o Ann Williams. Am dani hi y dywed y Methodistiaeth: "Soniai yr hen bobl lawer am Elinor [Ann] Williams, y modd y torrai allan yn yr odfeuon yn llofft Tanrallt, gan lawned oedd ei llestr o orfoledd yr iachawdwriaeth, a'r modd y baeddid hi gan yr erlidwyr drwy ei llusgo drwy afon Saint; ac onibae i rywrai sefyll drosti a'i hamddiffyn nid oes wybod pa draha a wnaethid." Chwanega W. P. Williams: "Yr wyf yn cofio am Ann Williams yn dda, ond yr oedd y pryd hynny mewn gwth o oedran. Yr oedd yn wraig dduwiol iawn, o feddwl cryf, o wybodaeth ysgrythyrol helaeth, ac o deimladau crefyddol bywiog iawn. Yr wyf yn cofio Owen Thomas yn pregethu ar fawr amryw ddoethineb Duw, a hithau, er mewn gwth o oedran, yn torri allan dros y capel mewn ysbryd gorfoleddus. Un o stamp Ann Griffiths yr emynyddes oedd hon." Y mae'r Dr. Griffith Parry, mewn sylwadau coffadwriaethol am Owen Thomas, yn gwneud cyfeiriad at yr un oedfa. Dywed fod gan Owen Thomas, yn ystod y blynyddoedd cyntaf wedi ei ddychweliad o Edinburgh, gyfres o bregethau o rymuster a disgleirdeb meddyliol y tuhwnt feallai i'r un adeg wedi hynny. El ymlaen: "Cofus gennym ei glywed y pryd hwn yng nghapel Moriah, Caernarvon, ar fore Saboth, ar y testyn, Fel y byddai yr awron yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau, yn y nefolion leoedd, drwy yr eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw.' Yr oedd y bregeth hon yn llawn o newydd-deb a disgleirdeb, a gogoniant trefn iachawdwriaeth yn tywynnu i'r golwg trwyddi y bore hwnnw, fel yr ydym yn credu, yng ngoleuni Ysbryd Duw. Cofiwn yn dda fod un peth hynod wedi digwydd yn yr oedfa. Yr oedd Mrs. Richardson yn y capel . . . . gwraig bwyllog, ddeallus a chrefyddol iawn. Ni byddai yn arfer gwaeddi allan [erbyn hynny], ond torrodd y fath oleuni ar ei meddwl wrth wrando y bore hwnnw, fel nas gallai ymatal rhag torri allan i foliannu. Ac yr oedd hyn oddiwrth wraig o'i duwioldeb diamheuol hi, ac ar yr un pryd un mor goeth a boneddigaidd, yn effeithio yn hynod ar y gynulleidfa fawr drwyddi." (Drysorfa, 1891, t. 324.) Bu Hugh Hughes yr arlunydd yn trigiannu am ysbaid yng Nghaernarvon, ac yr oedd ei wraig yn ferch i Charles o Gaerfyrddin. Ae ef i gapel Pen- dref yn amser Caledfryn. Deuai hi i Foriah, ar brydiau o leiaf, os nad yn gyson. Yr ydoedd yn arfer ganddi fyned ar ei gliniau yn y sêt wrth ddod i mewn i'r gwasanaeth, a byddai ei holl agwedd a'i dull yn y gwasanaeth yn ennyn parchedigaeth. Brodores o blwyf Llanbeblig oedd Margaret, priod John Hughes y crydd, a chwaer Jinny Thomas (Engedi). Dwy chwaer hynod. Yng ngwasanaeth William Williams Hafod y rhisgl, daeth dan ddylanwad diwygiad Beddgelert, a phan yn cadw tŷ capel Carneddi daeth dan ddylanwad diwygiad 1830-2. Yr oedd yn nodedig yn ei llafur gyda'r ysgol Sul, a chyda dirwest. Yr ydoedd yn un o'r rhai cyntaf i ymuno â dirwest, a byddai'n cadw cyfarfod dirwestol yn ei thŷ i egwyddori bechgyn ieuainc per- thynol i'r gymdeithas ddirwestol. Pan sefydlwyd cymdeithas mamau a merched ieuainc yng Nghaernarvon yn 1838, yr ydoedd hi yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw. Ystyrrid ei bod yn feddiannol ar ddoniau helaeth, ac yr oedd ei theimladau yn fywiog gyda chrefydd. Bu am dymor maith yn cynnal cyfarfodydd gyda merched ieuainc am ddau o'r gloch pnawn Mercher, i'r amcan o rybuddio a chynghori. Unwaith, mewn oedfa neilltuol i Owen Thomas ym Moriah, ebe Mrs. Jane Owen Stryd Garnons, fe adroddodd y llinellau

Fy nhelyn fach mi gana'n awr,
Nes caf fi ganu nhelyn fawr.

Ar hynny fe dorrodd yn orfoledd ymhlith y chwiorydd, ac adroddai ac ail-adroddai Margaret Hughes y geiriau. Dan lawn hwyl yr aeth i mewn i'r Porthladdoedd Prydferth, gyda mynegiad hiraethlon, Y mae arnaf chwant i'm datod, a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw. (Drysorfa, 1842, t. II.) Gwraig John Rowlands y blaenor oedd Sian Parry, ac un hynod am hwyliau gorfoleddus. Bu bron neidio dros ymyl y galeri mewn perlewygfeydd ysbrydol, wrth wrando Robert Roberts Clynnog ac Evan Richardson, yn ol W. P. Williams. Merch ieuengaf Evan Richardson oedd Anna, a fu farw, Mawrth 29, 1846, yn 29 oed. Dyma sylw Dafydd Williams, y pregethwr, arni: "Bu'r ferch ieuanc dduwiol a phrydferth hon farw yn hynod anisgwyliadwy. Braidd nad oeddym yn meddwl fod angeu wedi camgymeryd ei wrthrych. Ciliodd o'r golwg pan nad ydoedd ond yn dechre pelydru. Bu fyw dan lygad gwyliadwrus mam dduwiol, a bu farw yno hefyd. Collodd ei hanwyl fam blentyn hoff ac ymgeledd gymwys yn ei hen ddyddiau. Ond yn y tro chwerw hwn eto, da iddi fod gwr yn ymguddfa.

Cyd-byncio mae â'i hanwyl dad,
Mewn nefol wlad "

Ann Owen oedd mam Eryron Gwyllt Walia, ac yr oedd Dafydd Jones y cwper yn ail wr iddi. Bu farw Chwefror 25, 1835, yn 60 oed. Dyma fel y dywed y Dr. Griffith Parry am dani: "Yr oedd yn wraig o ragoriaethau anghyffredin, a nerth mawr yn perthyn i'w chymeriad. Yr ydoedd yn hynod am ei duwioldeb. Ac yr oedd yn llawn mor hynod am nerth ei synnwyr, am ei phwyll a'i doethineb, tra'r oedd yr un pryd yn meddu ar serch— iadau naturiol cryfion iawn. Ymddengys ei bod yn cyfranogi. i raddau helaeth o amgyffredion cryfion ei brodyr enwog, Robert Roberts [Clynnog] a John Roberts, yng ngwirioneddau yr Efengyl. Yr oedd ganddi hoffder mawr at ddarllen. Heblaw y Beibl ei phrif lyfr—derbyniai brif weithiau crefyddol Cymreig y blynyddoedd hynny.... Wedi bod yn brysur trwy y dydd... arferai ym mlynyddoedd ei gweddwdod aros i fyny y nos am oriau i ddarllen y Beibl a'i hoff lyfrau. . . Yr oedd . . . . ei phrofiad yn gyfryw o ran blas a sylwedd na chlywid ei fath yn gyffredin. . . . Yr oedd parch a serch ei phlant tuag ati yn ymylu ar addoliad. . . . Yr oedd braidd yn dal o ferch; ei gwynepryd yn feddylgar—ddifrifol, a doethineb yn ei lewyrchu; ei gwedd yn urddasol a phrydferth, yn gorchymyn parch ac yn ennill serch ar unwaith." (Cofiant Eryron, t. 15.) {{center block| <poem> Hardd fu'th rodiad trwy dy fywyd, Pob rhyw rinwedd ynot gaed; Deddf dy Dduw oedd yn dy galon Yn unioni llwybrau'th draed.—(Eryron Gwyllt Walia.)

Merch i Ann Owen, a gwraig Edmund Parry, a mam y Dr. Griffith Parry, oedd Catherine Owen. Dyma fel y dywed ei mab am dani: "Yr oedd fy mam yn wraig a berchid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai, ar gyfrif ei synnwyr cryf, a'i duwioldeb dwfn, ond distaw a hynod ddiymhongar. Yr oedd ei medr yn ei holl ddyledswyddau teuluaidd, a'i gofal ffyddlon i'w gyflawni, yn nodedig. . . . Er nad oedd neb yn y cyffredin yn fwy siriol, tuedd naturiol ei meddwl oedd i edrych ar yr ochr bruddaidd. . . . Bu fy anwyl fam farw yn llawn o'r tangnefedd sydd trwy gredu, mewn hyder tawel a diysgog ar yr hwn a osododd Duw yn iawn. Dywedai wrthyf ychydig oriau cyn marw, 'Paid a wylo, Griffith bach, ni a gawn gyfarfod eto yn un teulu gogoneddus.' Dywedai hefyd, Fy anwylyd sydd i mi yn bwysi myrr, rhwng fy mronnau yr erys dros nos. Un o'r geiriau diweddaf a ddywedodd oedd, A thalwn i ti loi ein gwefusau. A'r gair diweddaf oll, bron wrth roddi yr anadliad olaf, oedd,—Yn yr Iesu. Bu farw Gorffennaf 22, 1856, yn 59 mlwydd oed." (Cofiant Eryron, t. 257.)

Mewn newydd iaith, mwyn "Iddo Ef"—a ddyrch,
Bydd ardderchog gydlef!
"Gwefusau loi" 'n gofus lef
A leinw deml y wiwnef.—(Eryron Gwyllt Walia.)

Fe welir fod yma glwstwr o ddoniau yn y teulu hwn. Gwelwyd hynny o'r blaen yn hanes yr un teulu yng Nghlynnog. Bernir gan rai mai dyma'r teulu hynotaf mewn talent yn sir Gaernarvon neu yng Nghymru. Dyma sylw Mr. Griffith Parry (Llanrug) ar Kitty Jones: "Yr oedd hi'n gymeriad hynod a duwiol. Mi fyddai'n orfoleddus iawn ar adegau, yn neilltuol yn y cymundeb. Byddai'n gweiddi allan am i'r Iesu mawr faddeu ini ein calonnau oerion. Bum yn ymweled â hi ar ei gwely angeu, ac yr oedd yn cael mwynhad mawr yn y pennill hwnnw, Rwyf yn dechreu teimlo eisoes Beraroglau'r gwledydd draw; a phan yn dweyd y llinellau, Tyrd y tir dymunol hyfryd, Tyrd yr ardal sydd heb drai, pwysleisiai y geiriau ac edrychai i fyny, gan wir awyddfryd am eu sylweddoli. Adroddai, hefyd, y pennill hwnw, Anghrediniaeth, gad fi'n llonydd. Bu farw yn orfoleddus iawn." Y mae gan Mr. Morris Roberts atgof am rai hen chwiorydd: "Marged Barlow, mam Owen Barlow, oedd wlithog ei phrofiad yn wastad. Catherine Jones, gwraig William Jones yr arweinydd canu, fyddai'n gorfoleddu wrth wrando pregethau. Ar ymyl y galeri, wrth wrando ar John Jones, Dafydd Jones, John Phillips, byddai'n ysgwyd fel baloon, yn sefyll ar ei thraed, ac yn chwifio'r cadach coch. Hyn. yw'm hangor ar y cefnfor, Na chyfnewid meddwl Duw,—a chyda'r geiriau elai trydan drwy'r gynulleidfa, a hithau yn torri allan gyda'i Diolch! Bendigedig! Yn fuan ar ol ei sefydlu ym Moriah, aeth Mr. Evan Jones at hen chwaer oedrannus, anllythrennog, o 85 i 90 oed,—Emma Parry. Ac meddai hi wrtho, 'Wel, Mr. Jones, pan mae'r pregethwyr yma yn trin yr ysgrythyr, 'dydwi'n deall dim arnyn nhw; ond pan y mae nhw'n mynd i rywle i gymdogaeth y Groes, yr ydwi'n gallu i dilyn nhw.' Sylwodd Mr. Jones y buasai'n dda ganddo, pe buasai yno gannoedd o bregethwyr yn y lle yn gwrando, er mwyn iddynt ddeall pa fodd i bregethu'r Efengyl i bechaduriaid." Yr oedd Mali Griffith, mam Richard Davies yr adeiladydd, yn wraig o gynneddf gref ac o brofiad ysbrydol. Yr oedd Jane a Mary Roberts, merched ynghyfraith i Dafydd Rowland y blaenor, yn ferched hynod am eu duwioldeb. Yr oedd Jane ac Elin Williams, chwiorydd Dafydd Williams y pregethwr, yn aelodau ym Moriah ers blynyddoedd, wedi bod cyn hynny yn Engedi. Meddent ar ryw ddifrifwch arbennig. Yr oedd Jane Williams yn dra thebyg yr olwg arni i'r lluniau a welir o hen santesau Pabaidd, yn ddwys-ddifrif, a chyda'r llygaid yn troi tuag i fyny. Tra manwl eu ffordd. Yn eu tlodi deuai cymdoges a chinio iddynt ar y Sul. "A ydych yn sicr nad ydych ddim. wedi ei wneud heddyw," ebe hwythau. Yr oedd eu hymddiddan yn adeiladol ac yn gyfoethog o hanesion. Canodd Jane i Joseph, llywodraethwr yr Aifft, a phethau eraill; ond gan Elin yr oedd y meddwl mwyaf hoew a'r cyffyrddiadau mwyaf neilltuol mewn ymddiddan. Yng nghynhebrwng Jinnie Parry (m. Ionawr 2, 1854, yn 68 oed), gwraig Robert Griffith y cyhoeddwr llyfrau, a mam William Griffith yr arweinydd canu, fe ddywedai Dafydd Jones ei bod hi wedi cael mynediad helaeth. i ogoniant. "Pam yr wyti'n dweyd hynny? O! ei bywyd addas hi." Harriet, priod Thomas Hughes y pregethwr, a ymroes i fasnach er mwyn rhyddhau ei gwr i wasanaeth crefyddol, a meddai ar ddawn arbennig yn hynny, cystal a'i bod mewn cydymdeimlad llwyr â'r gwr yn ei ymroddiad i wasanaethu'r eglwysi yn y dref. Bu Jane Hughes Pontrobert yn trigiannu yn y dref am ysbaid, a deuai i'r moddion yma. Meddai hi ar ddawn ymadrodd helaeth, ac ni fynnai i neb gyfyngu arni o ran amser. Pan geisiai Walter Hughes wneud hynny ar un tro, torrodd. allan, "Taw di'r, bachgen main!" Heblaw dawn ymadrodd, yr oedd ganddi hefyd wybodaeth ysgrythyrol ac athrawiaethol helaeth. Yr oedd (Mrs.) Griffith, priod W. Griffith, arweinydd y gân, yn gefn i'w gwr, gan ofalu am iddo fedru bod yn brydlon yn y gwasanaeth y Sul. Yr oedd ei hunan yn gyson yn y moddion. Arferai ofal mam am bobl ieuainc a letyai gyda hi. (m. Mawrth 4, 1898, yn 75 oed. Y Gymraes, 1898, t. 105.) Golchwraig wrth ei galwedigaeth oedd Kitty Owen, ond tywysoges o ran haelioni ysbryd. Rhoes sofren felen yn nwrn. Mr. Norman Davies ar un tro fel yr elai o amgylch yr ysgol gyda chasgl y ddyled. Gan ystyried y buasai swllt yn rhodd hael oddiwrthi hi, fe dybiodd yntau fod yna gamgymeriad, nes ei sicrhau i'r gwrthwyneb. Preswyliai gyda hi lodes ieuanc, yn berthynas iddi. Pan aeth hon oddiwrthi i wasanaeth fe dalodd hithau am ei heisteddle am ddwy flynedd ymlaen, rhag pan ddeuai adref y byddai heb sêt i fyned iddi. Gadawodd £10 gyda Mrs. Wynne Williams ar gyfer traul ei chynhebrwng rhag myned ohoni yn faich ar y plwyf. Ac yr oedd ei buchedd a'i phrofiad ysbrydol yn cyfateb i'w haelioni. Yr oedd (Mrs. John) Owen Tŷ coch, (Mrs. Cornelius) Davies, a lliaws eraill, yn wragedd boneddig, cymwynasgar, ac o ysbryd crefyddol. Y mae'r cyfeiriad at y rhai yma yn Adroddiad yr Eglwys: Yr oedd Ellen Jones yn meddu ar gyneddfau anghyffredin, a chrefydd ddiamheuol. Ni chynysgaeddwyd hi'n helaeth â da y byd hwn, ond yr oedd yn ddiamheuol am ei chymwynasgarwch i bawb a fyddai mewn unrhyw drallod neu gyfyngder. Byddai ei thŷ yn fynych fel ysbyty i gleifion ac eraill i droi i mewn iddo, ac nid oedd terfyn ar ei medr a'i charedigrwydd i weini arnynt. Yr oedd yn hynod ar gyfrif ei threfn gyda phopeth, yn neilltuol pethau crefydd. Cyfranai wrth reol, a chyfranai yn fynych yn helaeth, ie o'i hangen. Yr oedd ei diwedd yn wir dangnefedd (m. Mawrth, 1889, yn 88 oed). Ellen Trevor a ddarllenai lawer, a fyfyriai lawer, ac a gyfansoddodd lawer o benillion yn Gymraeg a Saesneg na fuasai raid i feirdd o fri gywilyddio'u harddel (m. Medi 12, 1890). Mrs. R. R. Roberts a gyfunai i raddau helaeth gymeriad Mair a Martha (m. Hydref 3, 1892).

Eglura'r gwahanol enghreifftiau o fuchedd sanctaidd a nodwyd ystyr geiriau'r bardd:

Ond yn y galon, mewn dawn gwiwlwys,
Y mae'r eglwys, gardd Paradwys.

Rhif yr eglwys yn 1901, 595. Y ddyled yn 1900,

£1,942. 17s. 2g. £108. 0s. 3c. oedd swm casgl dydd diolchgarwch yr un flwyddyn.

Y BONTNEWYDD.[4]

Y MAE'R Bontnewydd ychydig lai na dwy filltir o Gaernarvon, ar y briffordd i Bwllheli. Rhed yr afon Wyrfai drwy'r lle. Dywed Mr. R. R. Jones, gan ysgrifennu yn 1893, mai rywbryd yn nechreu'r ganrif o'r blaen, sef yn nechreu'r ddeunawfed ganrif, yr adeiladwyd y bont gyntaf; ac mai troed—bont oedd yma cyn hynny, sef cerryg hirion wedi eu dodi ar gerryg a osodwyd i lawr yn yr afon. Ae'r anifeiliaid a'r cerbydau drwy'r rhyd gerllaw. Rhoid yr enw Pont arni'r pryd hwnnw. Yr oedd sarn ryw dri chwarter milltir is ei llaw. Pan adeiladwyd pont yma oddeutu dwy ganrif yn ol fe'i gelwid yn Bontnewydd, ac aeth yr enw yn enw ar y lle. Canwyd iddi fel yma:

Pont newydd ddiogel ddigon—gadarn,
A godwyd yn Arfon,
A wnaeth Harri o waith purion
Rhag y lli, â meini Môn.

Harri oedd y pensaer, brodor o ardal Felinheli.

Yr oedd y cyffion cyhoeddus yn y pen deheuol i'r bont, lle sicrheid y meddw a'r afreolus. Adeiladwyd y bont bresennol yn 1840.

Yr oedd yma rai crefyddwyr Methodistaidd cyn diwedd y ddeunawfed ganrif, ac ae y rhai'n i'r gwasanaeth yn y Waenfawr neu Frynrodyn neu Gaernarvon. Fe gyrchai nain John Griffith (Bethesda), sef Modryb Sioned Cefnwerthyd i'r Waenfawr. Yr oedd y ffordd, heblaw bod yn bell, mewn mannau yn anhawdd hefyd. Un tro, ar noson dywell yn y gaeaf, hi syrthiodd i bwll mawnog. "Wel," ebe hi, "os caf fynd i'r nefoedd, bydd yn lled ddrud i mi." Y mae cofiannydd ei hŵyr, sef John Owen Ty'nllwyn, yn sylwi ar hynny, os y llithrodd hi dipyn ar air y tro hwnnw, yn gystal ag ar weithred, ei bod, er hynny, yn un nodedig mewn crefydd, ac iddi ddangos hynny mewn oes faith. (Cofiant a Phregethau, t. vii.) Ni wyddis pa bryd y dechreuwyd cynnal gwasanaeth crefyddol yn y lle. Bu nifer o wragedd yn dod at ei gilydd i gynnal cyfarfod gweddi, y rhan amlaf mewn tŷ wrth gefn Glanbeuno, lle'r adeiladwyd y capel yn ddiweddarach.

Yn nechre y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ebe Mr. Francis Roberts, y dechreuwyd cynnal ysgol yn y tý hwnnw, gyda chynorthwy rhai o'r dref. Yn hanes Casgl Dimai'r Cyfarfod Misol, gyferbyn â Chwefror 6, 1801, ceir y nodiad: "I dalu am dŷ'r Bontnewydd, £1 Is." Deuai Doli Evans Pont y cyrnol, mam Eliseus Evans, i'r ysgol, cystal a'r Sioned William y crybwyllwyd am dani. Edrydd Mr. Francis Roberts fod Robert Jones, y gof, Caernarvon, yn siarad un nos Sadwrn yn y dref gyda thaid a nain Mr. William Jones Caemawr, a dywedai ei fod ef ac eraill yn bwriadu cychwyn ysgol Sul yn y Bont, a gofynnai iddynt ddanfon eu plant yno. Anfonwyd Elen, mam Mr. Jones, gyda'r plant eraill. Bu hi farw, Mehefin, 1894, yn 96 oed. Os nad oedd Elen ond yng ngofal y lleill, gallasai'r ysgol fod wedi cychwyn yn nechreu'r ganrif; ond os cymeryd gofal y lleill yr ydoedd, rhaid rhoi'r amser rai blynyddoedd ymlaen.

Adeiladwyd y capel yn 1807, a gelwid ef yn Gapel Cefnwerthyd, tystiolaeth i ddylanwad Modryb Sioned yn ddiau, gan mai ar dir Glanbeuno yr oedd y capel. Nodid y flwyddyn y codwyd y capel ar garreg uwchben y drws. Yr oedd y tŷ capel yn y pen agosaf i'r dref. Yr Hen Gapel yw'r enw a erys o hyd ar y tai yn y lle. Yr oedd drws o'r tŷ i'r capel; ac yr oedd y pulpud yn y talcen agosaf i'r tŷ. Dodwyd ychydig feinciau ar ganol y llawr; ac ar hyd y naill ochr a'r llall yr oedd boncyff coeden wedi ei gosod gyda cherryg yn ei gynnal. Yr oedd y drws yn y pen isaf o'r ochr agosaf i'r ffordd, gyda gris o tano. Pan atgyweiriwyd y capel ymhen rhai blynyddoedd, fe symudwyd y drws yn nes i'r pen arall, a rhoddwyd seti yn y capel, a sêt ganu yn ymyl y sêt fawr. Fe dybir mai dyma'r pryd yr adeiladwyd y tŷ capel. Am flynyddoedd ni byddai'r capel ond rhyw hanner llawn, er na chynwysai ond oddeutu 80.

Bu'r Parch. Robert Owen (Apostol y Plant) yn gweithio yma mewn ffactri oddeutu'r flwyddyn 1815. Dywed y deuai i'r ysgol bob Sul ac i'r oedfa ddau, ac i Benrallt yr hwyr. Diau mai o Benrallt y deuai'r pregethwr i'r oedfa brynhawn. Dymai lle hollol ddigrefydd oedd y Bont y pryd hwnnw. (Cofiant, t. 25). Bu John Elias a Thomas Charles yn pregethu yn yr hen gapel. Y cyntaf i weithredu fel blaenor oedd William Griffith Cefnwerthyd. Bu ef farw Gorffennaf 20, 1819, yn 60 oed. Ni adroddir chwaneg am dano na'i fod y gwr mwyaf blaenllaw gyda'r achos ar y cychwyn. Ei wraig ef oedd Sioned William. Bu hi farw Mawrth 15, 1840. Edrydd John Owen am Morris Jones yr Hen Broffwyd yn ymddiddan â hi mewn seiat. "Pa faint a gymeri di am dy grefydd gael iti dewi cadw swn efo hi?" Edrychodd yr hen wraig yn hanner digllon, hanner dychrynedig, ac atebodd yn swta, "Ni chreodd y Brenin Mawr ddim digon i brynnu fy nghrefydd i," ateb a el i ddangos ei bod yn berchen meddwl allan o'r cyffredin.

Fe ddichon mai'r rhai cyntaf a alwyd yn ffurfiol fel blaenoriaid oedd Hugh Jones, Ellis Griffith ac Owen Williams. Yr oedd Hugh Jones mewn gwasanaeth yn y Dinas. Ymhen ysbaid ymsefydlodd yng Nghaernarvon fel masnachydd glo, ond parhaodd i ddilyn yr achos yma yn dra ffyddlon hyd henaint, ac yna ymsefydlodd yn Engedi, a galwyd ef yn flaenor yno. (Edrycher Engedi.)

Y mae Edward William, yr hen flaenor o Dalsarn, yn rhoi ei atgofion am yr hen gapel. Bu yma mewn gwasanaeth am ystod o bedair blynedd ar ddau dro gwahanol, y tro cyntaf o 1811 hyd 1814. Fel hyn y dywed: "Yn y blynyddoedd hyn nid oedd digon o broffeswyr i gadw ysgol Sabothol yn y Bontnewydd. Deuent o'r dref i'w cynorthwyo, bedwar neu bump bob Saboth, pa rai a gyfrifem fel angylion, yn llawn sel a bywiogrwydd. Un o honynt oedd Rees Jones. Cadwai fasnachdy yn y brif heol yng Nghaernarvon. Brodor o Bwllheli ydoedd debygid. Gwelwyd ef amryw droion yn dibennu'r ysgol ar ben ei ddeulin ar lawr pridd hen gapel y Bontnewydd, a'i ddagrau'n disgyn yn ffrydlif i lawr ei ruddiau. Un arall oedd Robert Jones gof Penymaes [Tre'rgof]. Byddai yntau â'i holl egni gyda'r gwaith da, yn holwyddori yn fywiog, a'r plant fel cywion adar a'u pennau i fyny. Un arall oedd gweithiwr iddo, a brodor o Eifionnydd, o deulu Bach y saint, o'r enw Griffith Roberts: llanc oedd efe y pryd hwnnw. . . . Ymfudodd [o ardal Brynengan] i'r America. . . . Pe buasai i'r gwr hwn syrthio i wrthgiliad, braidd na fuasem yn credu cwymp oddiwrth ras. Un arall oedd Richard Owen, gwr cyntaf i wraig y Parch. David Jones Treborth. Un arall oedd Robert Evans . . . . Heol y Llyn." (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 20.) Yn chwanegol at y rhai a nodir yma, fel yn dod o Gaernarvon i gynorthwyo gyda'r achos, fe enwir hefyd John Humphreys a John Wynne, y ddau yn bregethwyr, a Richard Evans y saer. Byddai Rees Jones, ar un bore Sul o bob blwyddyn, yn dod a'i brentisiaid gydag ef o'r dref. Cof gan Mr. Francis Roberts glywed Griffith Roberts y post yn dweyd iddo ef fod yno gyda Rees Jones ar dri thro yn y dull hwnnw.

Enwir, hefyd, Dafydd Jones Tyddyn Sais (Bodwyn yn awr) a Richard Morris Ty cnap, fel rhai fu'n flaenllaw gyda'r achos yn yr hen gapel.

Dywedir yn ei gofiant i John Griffith ddechre pregethu tua diwedd 1840, a dywedir mai yn "hen gapel gwael Bontnewydd" y bu hynny. Eithr fe godwyd Siloam, y capel presennol, yn ystod 1840, a thybir gan hynny y rhaid ei fod wedi dechre ryw gymaint yn gynt. (Edrycher Jerusalem, Bethesda.) Yr oedd Rhostryfan ac yma yn daith yn 1838. Yn 1857 trefnwyd yma yn daith gyda Chaeathro. Ar ol agor capel Penygraig yn 1863, aeth yn daith gyda'r Bontnewydd, yr oedfa 10 ym Mhenygraig.

Gorffennaf 1, 1839, cytunwyd â'r Arlwydd Niwbro am dir y capel newydd am rent o £4 y flwyddyn gyda deg swllt i lawr, ar lease o 99 mlynedd. Yr un flwyddyn gosodwyd carreg sylfaen y capel newydd. Y seiri meini oedd Meyrick Griffith Brynrodyn a John Ellis, y Sign wedi hynny. Y saer coed oedd Hugh Roberts, mab Nansi Griffith y Niwbro. Adnabyddid y capel fel un o gapelau Meyrick Griffith. Yr oedd yn gadarngryf yr olwg arno, ac yn cyfateb i'r olwg. Yr oedd meini ardderchog ynddo ymlaen. Ei ddiffyg ydoedd bod heb fargod da ac heb borth yn y fynedfa. Y draul,—£700. Agorwyd yn 1840 gan John Elias. Yr oedd cylch y gynulleidfa yr adeg yma yn cyrraedd o Blas Llanfaglan i Blas Glanrafon, ac o Blas Llanwnda i'r Hendy. Pan ymadawodd William Griffith a'i deulu o Blas Llanwnda yr oedd teimlad dwys yn yr eglwys, a chynhaliwyd cyfarfod gweddi yno y noswaith cyn iddynt fudo. Yn 1855 neu'n fuan wedyn chwanegwyd seti yn y lleoedd gweigion. yn y capel.

Yn 1846 daeth William Williams y pregethwr yma o Garneddi.

Yn 1847 fe wnawd casgl o ewyllys da tuag at gynorthwyo'r achos. Y swm,—£25 11S. Medi, 1850, dewiswyd yn flaenoriaid, Richard Humphreys Llanfaglan ac Eliseus Evans. Yn ol Ystadegau 1893 yr oedd Eliseus Evans yn flaenor er 1844. Y mae Mr. William Williams yn sicrhau, oddiar ei atgof ei hun am yr amgylchiad, fod hynny'n gamgymeriad; a dywed ei fod tua'r adeg a nodwyd, sef amseriad a gafwyd yn anibynnol arno ef. Tebyg mai rywbryd cyn hynny y bu farw Robert Jones. Daeth ef yma o'r Wrach ddu, Môn, lle'r oedd yn flaenor. Galwyd ef i'r swydd yma. Bu'n byw yn Nhy'nrallt, ac yr oedd yn stiwart Coed Alun. Yn 1855 symudodd (Mr.) Williams i Glanbeuno o Bentraeth, Môn, a galwyd ef yn flaenor yma.

Bore Mercher, Tachwedd 9, 1859, diwrnod ffair Caernarvon, y pregethodd Dafydd Morgan yma. Yn y seiat daeth merch ieuanc ymlaen mewn dagrau, Elen Hughes Tanydderwen. Dywedodd y diwygiwr wrthi am weddio dros ei rhieni ac y deuent hwythau. Nid oedd y tad yn oedfa'r bore, ond fe aeth i oedfa'r hwyr i Rostryfan. "Beth yw eich enw?" gofynnai'r diwygiwr i'r gwr ar ben y fainc ymhlith y rhes o ddychweledigion. Richard Hughes, oedd yr ateb. "Ydych i'n dad i Elin bach?" "Ydwyf." "Ydi hi yma?" "Ydi." "'Roedd hi'n dweyd y gweddïai hi drosochi. Ddaru chi wneud, Elin?" "Do, syr, bob cam o'r ffordd adref." "Gweddïwch eto, merch i. Fe ddaw eich mam eto." A daeth y fam y nos Sul dilynol yn y Bontnewydd. Dyma bennill a genid yma'r adeg honno:

O Arglwydd Dduw Jehofa, Tro yma'th wyneb llon,
Ac edrych ar dy bobl, Sy'n sefyll ger dy fron;
Rho ras i'r bobl ieuainc, A nerth i'r canol oed,
A chymorth i'r hen bobl I gyrchu at y nôd."

(Cofiant D. Morgan, t. 478.)

Yn 1857 daeth y Parch. Dafydd Morris yma o Drefriw.

Yn 1860 daeth Capten Griffiths yma o Leyn, a galwyd ef yn flaenor.

Yn 1863 dechreuodd David Hughes bregethu yma. Yr ydoedd ar y pryd yn aros yn Glanbeuno, a symudodd oddiyma i Fachynlleth yn 1863 gyda'i feistr. Bu'n weinidog yn Llan- fechain ger Croesoswallt.

Yn 1863 yr adeiladwyd capel Penygraig. Aeth Richard Humphreys a Capten Griffiths Cefnysoedd, y ddau flaenor, yno. Symudodd (Mr.) Williams Glanbeuno oddiyma i Fachynlleth yn 1863. Dywed Mr. Francis Roberts fod crefydd yn isel pan ddaeth ef yma, ac iddo fod yn foddion i greu peth cyffro yma gyda'r achos, ac iddo sefydlu cangen ysgol yn Gellachfain, lle saif Brymer Terrace. Bu'n arolygwr yr ysgol am flynyddoedd, a symbylodd liaws i ddysgu'r Hyfforddwr. Cychwynnodd glwb dilladu yn y lle, a byddai'n gwneud casgl ato; a thrwy hynny fe ddenodd liaws o blant tlodion i'r ysgol. Parhaodd y clwb i wneud ei waith am rai blynyddoedd wedi iddo ef fyned oddiyma. Canmolir ef am ei garedigrwydd at yr achos. mewn gwahanol gysylltiadau gan Mr. R. R. Jones, ond fe ddywed nad oedd efe'n cyd—dynnu yn esmwyth â'i gydswyddogion, ac yr haerid ei fod yn feddiannol ar lawn digon o ysbryd unbenaethol. Y mae gan J. Ff. J. ysgrif faith arno yn y Drysorfa am 1868 (t. 271, 394, 429). Yr oedd y Parch. John Ffoulkes Jones yn nai i'w wraig ef, a diau mai efe yw awdwr yr ysgrif. Yr ydoedd ei fodryb a'i fam yn wragedd yn arddangos prydferthwch sancteiddrwydd. Rhaid bod presenoldeb gwraig Glanbeuno cystal a'r gwr o werth dirfawr yn y lle yma, canys yr oedd awyrgylch o sancteiddrwydd yn ei hamgylchynu, ac yr oedd hi yn llawn gweithredoded da, yn ddiduedd ac yn ddiragrith. Yr ydoedd ei chymwynasau nid yn unig yn lluosog, ond wedi eu heneinio â gras, a'i hwynepryd yn pelydru tynerwch yr Efengyl. Atgof cysegredig yw eiddo'r pregethwyr, pa un ai hen ai ieuainc, a gafodd y fraint o letya yn ei thý. Rhoi'r yma rai dyfyniadau o ysgrif John Ffoulkes Jones: Derbyniodd Mr. Williams argyhoeddiad amlwg a dwfn. Aeth drwy'r bwlch yma ar ei hyd. . . . Bu am amser, fel y tystiai wrthym un tro, ar fin anobaith. . . . Daeth i'r society ar ol oedfa i'r hen frawd, Mr. John Huxley o Gaernarvon. . . . Gellid meddwl, fel y sylwa'r Parch. Robert Hughes Gaerwen, fod dyfodiad Mr. Williams at grefydd wedi cynyrchu gryn lawer o sylw, nid yn unig yn y cylchoedd agosaf, eithr hefyd drwy'r sir. Canys yr oedd efe'n aelod mewn teulu uchel. . . . Clywais mai efe oedd y cyntaf o'r teulu a ymunodd â'r Methodistiaid yn sir Fon. . . . Ymrodd lawer i ddarllen a myfyrio; a thrwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad . . . . a thrwy ymbiliau a gweddïau lawer, darfu iddo yntau gynyddu llawer.... Yr oedd ef yn awyddus am i eraill gael mwynhau yr un rhagorfreintiau. . . . Ac felly drwy ei lafur, ei ffyddlondeb a'i weithgarwch, ynghyda'i ddoethineb a'i hynawsedd, ond yn enwedig ei ymarweddiad sanctaidd a'i ysbryd gwylaidd, gos- tyngedig, oedd fel enaint tywalltedig ar ei holl fywyd i gyd, profodd ei hun yn ddyn gwerthfawr a defnyddiol iawn. . . . Dewiswyd ef yn swyddog eglwysig . . . pan nad ydoedd eto ond dyn ieuanc naw arhugain oed. Dyma'r amser y daeth i gydnabyddiaeth a . . . John Elias. . . Perthynent i'r un eglwys, a byddent ill dau yn un ysbryd ac yn un enaid. . . . Efe oedd ei safon a'i gynllun mawr. . . . Bu dyfodiad Mr. Williams i Glanbeuno . . . . yn gaffaeliad nid bychan i'r achos yn y Bontnewydd. . . . Lled isel a marwaidd oedd yr achos. yn y lle hwn; ac effeithiai hyn i fesur mawr ar feddwl Mr. Williams. . . . Cafodd fod llawer yn y gymdogaeth nad arferent fyned i un lle o addoliad ar y Saboth. Yr oedd un ardal yn neilltuol felly, lle'r oedd y trigolion yn isel ac anwybodus iawn. . . . Ymwelodd â'r teuluoedd ei hun eilwaith a thrachefn; ond bu ei holl ymdrechiadau yn hollol aneffeithiol er eu cael i wrando'r Efengyl. "Wel," meddai Mr. Williams o'r diwedd, "os na ddeuwch i atom ni, a gawn ni ddyfod atoch chwi?" "Cewch," meddai un ohonynt; ac felly fu. Y Saboth canlynol aeth Mr. Williams i sefydlu ysgol Sul yno; a pharhaodd i fyned iddi am rai blynyddoedd; a gwnaeth yr ysgol hon er mai bechan a dirodres ydoedd, drwy fendith yr Arglwydd, ddirfawr les; canys bu'n foddion i ddwyn llawer i swn gweinidogaeth yr Efengyl; ac yr ydym hefyd yn deall i rai ohonynt ymuno â'r eglwys. Gallem feddwl fod arhosiad Mr. Williams yn Glanbeuno wedi bod yn fendith i ardal y Bontnewydd yn gyffredinol; canys drwy ei ymweliadau a'i ymddiddanion syml, bu'n foddion i beri graddau o gynnwrf a deffroad drwy'r holl gymdogaeth. Chwanegodd yr ysgol Sabothol a'r gynulleidfa. fel yr ydym yn deall, i fesur mawr; a daeth yr achos . . . i ymddiosg o'r iselder a'r llesgedd a'i nychai o'r blaen, ac i ddangos ynni ac ysbryd newydd yn ei holl gysylltiadau. Yr oedd llawer o'r ysbryd yna yn nodweddu bywyd a chymeriad Mr. Williams. . . Ei hoff arferiad ef oedd darllen y Beibl o'i gwrr, a darllenodd ef lawer gwaith drosto. . . Yr oedd yn ddyn o benderfyniad, o farn ac ewyllys gref, ac yn meddu ar lawer o ynni a gweithgarwch. . . . Ni fynegai ond ychydig o'i deimladau personol. . . Nid dyn tymerog, nwydog oedd . . . . ond dyn o ymarweddiad gwastad, ac yn meddu ar lawer o hunanfeddiant a phwyll. . . . Yr oedd y ddyledswydd yn great fact yn ei deulu ef; ac er y mynych ymarfer â hi, byddai bob amser ryw freshness a newydd-deb ar y gwasanaeth, a chedwid y fath urddas a mawredd ar yr amgylchiad na welir yn aml ei gyffelyb. Nid ydym yn cofio,' meddai'r Parch. R. Hughes Gaerwen, gweled crefydd deuluaidd yn ei holl gysylltiadau wedi ei dyrchafu i raddau uwch nag yn nheulu Mr. a Mrs. Williams.'"

Fel rhyw gymaint o gadarnhad i'r sylwadau ar gyflwr yr achos ac ar ddylanwad Williams Glanbeuno ar y lle, cymerer y cyfrifon yma o dafleni'r Cyfarfod Misol: Rhif yr eglwys yn 1853, 95; y ddyled, £330; pris eisteddle, o 6ch. i 9c.; casgl y weinidogaeth, dim cyfrif. Rhif yr eglwys yn 1856, 100; y ddyled, £228 5s.; casgl y weinidogaeth, £25. Rhif yn 1858, 103; y ddyled, £190; y casgl at y weinidogaeth, £23. Rhif yn 1860, 151; y ddyled, £150; y casgl at y weinidogaeth, £34 4s. Rhif yn 1862, 173; y ddyled, £100; casgl at y weinidogaeth, £31 10s.

Yn 1864 symudodd y Parch. Dafydd Morris oddiyma i Gaeathro, wedi bod yma am saith mlynedd. Ei gartref yma ydoedd Plas Llanwnda. Parhae i ddod yma i gadw'r seiat o Gaeathro hyd nes y cafwyd bugail yma. Gwerthfawrogid ei lafur yma fel mewn mannau eraill. Yn 1865 fe dderbyniwyd yn flaenoriaid yn y Cyfarfod Misol: Thomas Owens, Griffith Roberts, Thomas Roberts. Tebyg mai yn y flwyddyn flaenorol y dewiswyd hwy gan yr eglwys, gan y nodir y flwyddyn honno fel blwyddyn etholiad Griffith Roberts yn Ystadegau 1893.

Yn 1866 symudodd y Parch. David Davies yr exciseman oddiyma i Bentrefelin ger Tremadoc. Bu ef a Dafydd Morris yma gyda'i gilydd am rai blynyddoedd, a dywedir eu bod yn cydweithio'n ddymunol a'i gilydd. "Dyn da, pwyllog, arafaidd," ebe Mr. Francis Roberts, "a phregethwr da a hoffus gan bawb; a gadawodd argraff ddymunol ar y gymdogaeth fel gwr Duw mewn modd amlwg." Sylwa Mr. William Williams. y Groeslon, Waenfawr, fod ganddo feddyliau cofiadwy ym mhob pregeth, a bod teimlad toddedig yn nhôn ei lais, a chwanegai yn fawr at ei effeithiolrwydd. A dywed ef nad oedd tuedd ynddo i wthio ei hun i sylw, ac yr arferai ddweyd,—"Yr ydwyf fi yn cael cymaint o barch ag yr wyf fi yn ei haeddu."

Tebyg mai yn 1868 yr ymadawodd Owen Williams Tyddyn wrach oddiyma i Gaeathro, yn gymaint ag mai efe oedd trysorydd yr eglwys ac y dilynwyd ef yn y swydd honno gan John Roberts. Gwnawd ef yn flaenor yma yn 25 oed. Heblaw bod yn drysorydd cyntaf yr eglwys, yr ydoedd hefyd yn gyhoeddwr y moddion. Dywed Mr. R. R. Jones na chwynasai pe buasai raid iddo wneud y cwbl ei hunan gyda'r achos. Yr ydoedd yn selog a pharod a chywir fel Petr, blaenor y disgyblion; ac fel yntau yn llefarwr rhwydd, twymngalon. (Edrycher Caeathro.) Yn 1868 daeth John Roberts yma o Gaeathro a galwyd ef yn flaenor. Tua 1870 y symudodd Richard Morris Glanrafon oddiyma i Dyddyn ffridd, Bangor. Daeth yma o Bentrefoelas tuag 1864. Brawd oedd ef i'r Parch. Dafydd Morris. Yr ydoedd yn wr ffyddlon ac ystyrrid ef yn ddiwinydd da. Dywed Mr. Francis Roberts fod ei ol i'w weled o hyd (1899) ar rai o'i ddisgyblion. Dywedir y bu'n cynnal cyfarfod ar bnawn Sul am un ar y gloch i efrydu'r gramadeg Cymraeg. Rhaid, fe debygasid, ei fod yn rhoi rhyw ffurf ysgrythyrol ar y drafodaeth, neu nad cymeradwy fuasai ei waith yn y dyddiau manwl hynny.

Rhowd galwad i Richard Humphreys fel bugail, Ionawr 1, 1872.

Hydref 6, 1872, bu farw Thomas Owens Hendy. Fel amaethwr cyfrifol meddai ar radd o awdurdod, ac arferai eistedd yn y gadair freichiau o dan y pulpud. Ni chymerai ran gyhoeddus ond anfynych iawn. Yr ydoedd, yr un pryd, yn ddi-argyhoedd fel dyn, ac yn ffyddlon fel proffeswr crefydd a blaenor, gan ddwyn sel dros yr achos a chael ei barchu gan y byd. Canfuwyd ef yn farw yn ei gerbyd wrth fyned adref o'r capel ar bnawn Sul.

Gorffennaf 26, 1873, bu farw William Williams y pregethwr yn 83 oed. Dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr yn 1819, a chyda'r Methodistiaid yn 1826. Dyma sylw Llechidon arno fel pregethwr: "Byddai ei bregethau bob amser yn drefnus, cryno ac egwyddorol; a thraddodai hwynt gyda dawn rhwydd a naturiol." (Drysorfa, 1883, t. 417.) Dywed Mr. William Williams y y Groeslon, Waenfawr, a oedd yn dra chydnabyddus ag ef, ei fod, er yn eithaf rhwydd, eto o dymer oeraidd fel llefarwr cyhoeddus. Dilynai yr arfer o fyned ar deithiau pregethwrol drwy y gwahanol siroedd. Yr ydoedd wedi ysgrifennu lliaws o bregethau ar y dalennau cydrwymedig â'i Destament bychan. Rhoddir yr amlinelliad gyda nifer o sylwadau dan bob pen ynghyda chymwysiadau. Lleolir pennau'r bregeth a'r gwahanol sylwadau a chymwysiadau bob amser mewn trefn naturiol, ac mae'r geiriad yn ddieithriad yn ystwyth a chlir. Ni welir yma unrhyw sylw disglair; ond y mae'r cwbl yn briodol, yn chwaethus, yn naturiol, a rhed drwy'r pregethau i gyd allu dadelfennol amlwg. Dywed Mr. Francis Roberts mai "gwr llym a bygythiol iawn ydoedd yn ei holl anerchiadau," ac mai "anfynych iawn y deuai'r Efengyl fel hyfrydlais oddiwrtho." Tebyg mai dyna'i ddawn naturiol. Priododd Betsan Williams Tŷ capel, a chadwai siop gerllaw y post. Wrth fod y tŷ yn ymyl y ffordd fawr a'r siop hefyd yn agored, fe glywid ar dro gryn ymdrafod rhyngddo ef a Betsan, sef mwy nag oedd yn gwbl weddus yn nhŷ pregethwr. Elai'r ymdrafod ol a blaen yn gyndyn ymgecru; ac eid o ymdaeru i'r nesaf peth at ymdaro, gan y teflid ambell waith y peth agosaf at law gan y naill at y llall. Wrth fod dull William Williams yn naturiol yn llym a bygythiol," dedwydd gyfarfyddiad fuasai dull mwyn a meddal—lais yn Betsan; ond nid dyna'r digwydd y tro yma. Aeth y si allan am y mynych ymgeintach; a bu raid atal William Williams oddiwrth bregethu flynyddoedd cyn y diwedd, yn gwbl o ddiffyg dedwydd fantoli ar garreg yr aelwyd.

Tua'r flwyddyn 1874 y daeth John Lloyd Jones, mab hynaf John Jones Talsarn, yma o'r Baladeulyn, a galwyd ef yn flaenor. Ymroes i waith yma am beth amser; ond pan awd i son am atgyweirio'r capel, ni chytunai â chymaint traul, a llaesodd ei ddwylo. Yn fuan wedi hynny fe ddechreuodd lesghau mewn corff a meddwl, ac ni allasai ddilyn y gwasanaeth cyhoeddus bellach. Bu farw Mawrth 12, 1893. (Edrycher Baladeulyn). Oddeutu'r un amser y daeth William Williams (Glynafon a Sardis) Hendai yma o'r Waenfawr. Yr ydoedd yntau, fel John Lloyd Jones, yn wr o dalent naturiol tuhwnt i gyffredin. Yr ydoedd y naill a'r llall yn gyforiog o ddawn mewn gweddi gyhoeddus. Fe ddanghosai William Williams barodrwydd i waith, a bu mewn amryw swyddi yn yr eglwys. Dyna fu ei hanes ar hyd ei oes hyd nes y collodd ei fantoliad cywir, ac yr ymollyngodd gyda'r brofedigaeth i ormodedd gyda'r diodydd meddwol.

Mawrth 19, 1876, y bu farw Ellis Griffith Cefnywerthyd, yn 88 oed, ac yn un o'r tri blaenor cyntaf a alwyd yn ffurfiol i'r swydd. Yr ydoedd efe'n wr o gryn awdurdod ac urddas dull. Sylw Mr. R. R. Jones arno ydyw ei fod yn wr pwyllog a grymus uwchlaw'r cyffredin, ac y medrai gyrraedd ymhell a tharo'n drwm." Bu Mr. William Williams y Groeslon, Waenfawr, yn y Bontnewydd hyd yn ddeg arhugain oed, a dywed ef fod Ellis Griffith yn siaradwr cryf a goleu, gyda dawn rhwydd; ac mai efe yn ddiamheuol oedd y dyn galluocaf yn yr eglwys. A gellir chwanegu yma yr hyn a ddywed Mr. Williams am Griffith, mab Ellis Griffith, sef ei fod yn alluocach dyn hyd yn oed na'i frawd John, y pregethwr, a phan y byddai'r ddau yn dadleu â'i gilydd ar ryw bwnc ond odid nad Griffith a ddeuai allan o'r ymdrechfa'n fuddugoliaethus. Ond ni chymerodd Griffith mo'r un cyfeiriad uchel a'i frawd. Mab i frawd Ellis Griffith oedd John Griffith, blaenor ym Moriah, a'r siaradwr llawnaf, fe ddichon, ar bynciau ymarferol crefydd ymhlith holl flaenoriaid Moriah o fewn hanner diweddaf y ganrif, oddieithr Henry Jonathan. Brawd iddo yntau yw Mr. Owen Griffith, y blaenor yn y Bontnewydd. Yr ydoedd Ellis Griffith yn fab i William Griffith, y gwr a flaenorai gyda'r achos ar y cychwyn, a Sioned William hynod; ac, fel y sylwyd, yr ydoedd yn dad i'r Parch. John Griffith cystal ag yn daid i'r Parch. W. Griffith (Disgwylfa), y naill a'r llall yn ddynion o feddwl cryf, gafaelgar.

Yn 1876 dewiswyd Thomas Jones y Cefn yn flaenor. Gwnawd ef yn gyhoeddwr yn 1896.

Yn 1877 atgyweiriwyd y capel ar draul o £1,213 11s. 5c. Yr oedd dyled flaenorol ar y lle o £100. Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd y ddyled yn £855 4s. 11g. Traddodwyd y bregeth gyntaf ar ol yr atgyweirio nos Sadwrn, Gorffennaf 21, gan y gweinidog, y Parch. R. Humphreys, oddiar Actau xiv. 3. Ar ei ol, yr un noswaith, pregethodd y Parch. Lewis Williams, gweinidog yr Annibynwyr, oddiar Haggai ii. 3, 4.

Cynhaliwyd cyfarfod pregethu ynglyn â'r agoriad, Awst 10, 1877, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Griffith Roberts Carneddi, J. Wyndham Lewis a David Davies Abermaw. Yn 1877 ymgymerodd y gweinidog â gofal eglwys Penygraig. Yn 1879 y dechreuwyd cynnal dosbarthiadau canol wythnos. Ymgymerai'r gweinidog â gofal dau ddosbarth, ac efrydid y Gymraeg yn y naill ohonynt a'r Saesneg yn y llall.

Yn 1882 daeth John Davies yma o'r Betws Garmon a galwyd ef yn flaenor.

Bu farw Thomas Roberts, Mai 24, 1888, yn 77 oed, ac yn flaenor ers 23 blynedd. Dywedir iddo fyned i'r chwarel yn 8 oed, ac iddo fod yn gweithio yn Llanberis hyd o fewn ychydig fisoedd i'r diwedd. Arhosodd yn y seiat gyda phregeth i Owen Thomas; ond pan awd ato i ymddiddan ni allai ddweyd gair. Awgrymodd y pregethwr adael heibio ei holi hyd y seiat ddilynol. Bu'n cadw'r tŷ capel am 12 mlynedd. Gwr o gorff heinif, o ysbryd cynes, siriol ei ddull, parod i bob gwaith da. Fe debygir ei fod yn wr a arferai weddi: gwelid ef ar foreuau Sul ymhlith y coed o flaen y tŷ a chesglid mai mewn myfyrdod a gweddi y byddai. Yr ydoedd wedi ei fantoli yn eithaf dedwydd, heb fod o faintioli i dynnu sylw, ac yn un yr oedd ei le yn wag ar ei ol, er nad oedd arno eisieu rhyw le mawr iddo'i hun.

Yn 1889 daeth Robert Jones Dinas yma o'r Capel Uchaf a galwyd ef yn flaenor. Yn 1896 fe'i penodwyd yn drysorydd yr eglwys.

Mai 31, 1890, anrhegwyd y gweinidog â'r Encyclopædia Britannica, yn 25 cyfrol, fel cydnabyddiaeth o'i lafur yn y lle am dros 18 mlynedd.

Hydref, 1890, daeth R. B. Ellis yma o Disgwylfa a galwyd ef yn flaenor. Yn niwedd 1891 fe ddilynodd Griffith Roberts yn y swydd o ysgrifennydd. Gan i Griffith Roberts oroesi cyfnod yr hanes hwn, gan gyrraedd ei 93 oed, yn wr heinif, byw, agos hyd y diwedd, ni sylwir arno ef yn arbennig, ymhellach nag i nodi iddo roi hir wasanaeth medrus a manwl i'r eglwys fel ysgrifennydd am gyfnod maith. Nis gellir meddwl am y Bontnewydd ar wahan iddo ef, nac am yr eglwys, na'r gweinidog diweddar, y Parch. R. Humphreys. Y nhwy ill dau oedd y droell ddirgel a weithiau'r peiriant i gyd, hyd nes y cymerodd R. B. Ellis yr un lle.

Yn 1892 daeth J. W. Jones yma o Holloway, Llundain, a galwyd ef yn flaenor. Gorffennaf, 1893, daeth W. Hobley yma o Buckley.

Bu John Davies farw Mai 5, 1894, yn 86 oed, wedi bod yn flaenor yma am 12 mlynedd. Yr ydoedd ef yn wr o adnoddau, a chafodd gyfleustra yn Betws Garmon, fel arweinydd yr achos yno, i'w dwyn allan i'r eithaf. Yr oedd arddull y seiat yma yn gwbl wahanol i'r hyn ydoedd ef wedi ymarfer âg ef o'r blaen, ac nis gallai ddygymod yn rhyw dda iawn â'r gwahaniaeth. Er hynny, fe ddilynai y moddion yn ffyddlon. Pan lefarai yn achlysurol fe'i ceid yn gyflawn o fater, ac ar brydiau yn darawiadol. (Edrycher Salem, Betws Garmon.)

Mawrth 25, 1895, fe brynnwyd yr hawl i'r tir gyda 302 llath ysgwar yn ychwanegol, am y swm o £150. Adeiladwyd yr ysgoldy yng nghefn y capel ynghyda chegin ac ystafell fechan. Yr oedd math ar ysgoldy fechan o'r blaen wedi ei chau i mewn ar lawr y capel o dan yr oriel wrth y drysau. Cymerwyd hon i fewn at lawr y capel, a rhowd 8 o seti yn ei lle. Yr oedd traul y gwaith yma i gyd yn £600. Adeiladwyd tŷ gweinidog yn 1896 ar draul o £600. Gwnawd rhyw gymaint o atgyweirio o flaen y capel yn bennaf. Y draul i gyd,—£1,500.

Gorffennaf 21, 1896, bu J. W. Jones farw yn 57 oed, wedi bod yn flaenor yma am 4 blynedd. Gwr rhadlon â gwedd agored, siriol arno: hawdd ydoedd dynesu ato a bod yn rhydd. gydag ef. Ni fuasid yn meddwl ar y cyntaf wrth ei ddull llawen,—er heb ddim cellweirus na thrystiog ynddo—ei fod yn ddyn mor ddwys grefyddol. Wrth ymgynefino ychydig âg ef fe deimlid fod y plentyn yn aros ynddo o hyd, y plentyn heb. ei ddifetha. Nid oedd nemor ddyfnder ynddo oddieithr y dyfnder hwnnw sy'n briodol i blentyn. Fe dreuliodd fwy na hanner ei oes yn Llundain, ond arhosodd y plentyn ynddo: a'r plentyn ynddo y darfu i'r Arglwydd Iesu ei gymeryd ato a'i fendithio. Daeth dan ddylanwad diwygiad 1859 ym Moriah. Tebyg mai'r diwygiad hwnnw â'i lluniodd. Fe gymerai ei grefydd y ffurf o deimlad yn hytrach na meddwl; ond fe'i hachubwyd ef rhag peryglon cynhyrfiadau teimlad drwy roi cyfeiriad ymarferol i'w grefydd. Yn brentis yn Llundain fe safodd yn wyneb gwawdiaith bechgyn eraill, er iddo deimlo'r brofedigaeth yn un danllyd. Casglodd gryn gyfoeth; ond gwnaeth ef a'i wraig gyntaf, merch y Parch. Ddafydd Jones Treborth, ddefnydd da ohono mewn cysylltiad â'r achos yn Holloway, a thrwy gadw tŷ agored i bregethwyr a bechgyn ieuainc yr eglwys. Diau iddo gael ganddi hi gynorthwy gwerthfawr yn ffurfiad ei gymeriad, ac mewn arweiniad iddo yn y ffordd o ddefnyddioldeb crefyddol. Fe dorrai'r defnyddioldeb hwnnw allan nid yn unig mewn ffyddlondeb yn y capel a lletygarwch yn ei gartref, ond hefyd mewn ymweliadau â thlodion a chleifion ac esgeuluswyr. Merch John Lloyd Jones, nith ei wraig gyntaf, oedd ei ail wraig. Yr oedd ei ddefnyddioldeb crefyddol ar wedd fwy cyfyngedig yma nag yn Llundain, er yn dwyn i fesur yr un ddelw. Dioddefai oddiwrth anhwyldeb corff yn ystod ei flynyddoedd diweddaf. (Drysorfa, 1896, t. 475. Llusern, 1896, Awst.)

Chwefror 25, 1896, bu farw Eliseus Evans Pont cyrnol, yn 94 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 46 blynedd. Gwr tal, lled deneu, tawel a dymunol ei ffordd, ac à golwg sirioldawel arno. Yr oedd yn ei ddull yn gyhoeddus yn gymeradwy gan bawb. Nid byrr yn unig a fyddai ond cryno cystal a hynny: fe grynhoai rywbeth gwerth ei glywed i'r ysbaid ferr. Dau funud ar yr eithaf fyddai hyd ei gyfarchiad yn y seiat: yn yr ysbaid hwnnw dodai ynghyd ddwy neu dair o wersi, yn aml wedi eu tynnu oddiwrth y materion a fu yn y seiat neu bregethau y Sul. Fe orweddai'r gwersi yn deg ar y pwnc; ac fe alwai'r gweinidog ar Eliseus Evans yn dra mynych i roi diweddglo i'r ymddiddan. Fe siaradai John Davies am o ddeng munud i chwarter awr a John Roberts am o wyth i ddeng munud; ac am hynny yn achlysurol yn unig y gelwid arnynt hwy; ond Eliseus Evans y rhan amlaf. Ei weddi yr un modd fyddai'n gryno a gafaelgar. Holi o'r Hyfforddwr a wnae, a Charles ydoedd ei safon. Megys mai Charles oedd ei ddiwinydd, John Elias oedd ei bregethwr. Adroddai am John Elias yn sasiwn y Bala yn codi i fyny i bregethu, gyda writ yn ei logell, fel y dywedai ef, ac yn rhoi allan i ganu, "O distewch gynddeiriog donnau, tra fwy'n gwrando llais y nef," gydag effaith wefreiddiol. Morgan Howels a safai yn uchel iawn yn ei olwg; ac adroddai am Dafydd Elias, brawd John Elias, yn dweyd am dano, fod angel yn myned drwy'r wlad i bregethu. Dirodres yn ei ffordd oedd Eliseus Evans, dilwgr yn ei gwmni, diwenwyn tuag at bawb, ac o ddylanwad tawel a thyner a thlws. Efe, ar ol Owen Williams, fyddai'n cyhoeddi'r moddion.

Cynhaliwyd bazaar yn ystod Medi 9—11, 1897, tuag at ddi-ddyledu'r capel. Swm yr elw, ar ol talu pob treuliau, £400. Talwyd £450 o'r ddyled yn ystod y flwyddyn, gan adael £880 19s. 1lc. yng ngweddill o ddyled.

Daeth O. Roberts yma o sir Ddinbych yn ystod 1898, pan ar ei brawf fel pregethwr, ond heb adael ei Gyfarfod Misol. Yn y man fe ymadawodd at yr Annibynwyr. Yr un flwyddyn fe symudodd Mr. Owen Jones o'r dref i Glanbeuno, ond heb symud mo'i aelodaeth o Foriah. Daw i'r ysgol yma, ac i'r moddion eraill ar y Sul gan amlaf. Bu Robert Lewis y pre- gethwr yma am ysbaid a bu o ddefnydd gyda'r canu. (Edrycher Engedi.)

Bu John Roberts y Felin farw yn 1900 yn 89 oed, wedi bod yn flaenor yma am 32 mlynedd, ac yng Nghaeathro cyn hynny am 9 mlynedd. Ganwyd ef yn y Felin bach, Caeathro; ac yno y daeth at grefydd. Bu'n cadw ysgol yng Nghwmyglo am ysbaid, ac yng Nghaeathro yn yr hen gapel. Dilynodd Owen Williams fel trysorydd yr eglwys, a llanwodd y swydd hyd 1892, pryd y dilynwyd yntau gan J. W. Jones. Yn 1837 yr oedd swper yn y Niwbro, Bontnewydd, er budd gwr y tŷ. Yr oedd cyfarfod dirwestol yng Nghaeathro ar y pryd, ond aeth John Roberts i'r Niwbro. Talodd ei hanner coron i lawr, ac eisteddodd o flaen y wledd a'r cwrw ger ei fron. Ar fin ei yfed fe deimlai gynnwrf mewnol, a rhyw lais yn dweyd wrtho na ddylai fod yno, ond yn hytrach yn y cyfarfod yng Nghaeathro. Ar hynny, rhoes y cwrw oedd yn ei law i lawr ar y bwrdd heb ei brofi, ac aeth ymaith tua Chaeathro. Fel y cyrhaeddai yno, yr oedd y bobl yn dod allan o'r cyfarfod. Fe aeth John Roberts, pa ddelw bynnag, ymlaen at yr ysgrifennydd, Humphrey Llwyd, a rhoes ei enw fel llwyrymwrthodwr. Gofynnai yntau am ba hyd. "Hyd nes y dof atoch i dynnu fy enw i ffwrdd; ac mi ddof atoch i ddweyd pa bryd y byddaf am yfed y tro nesaf." Parhaodd yn ddirwestwr i'r diwedd. Ar ol arwyddnodi'r ardystiad daeth at grefydd. Bu'n ysgrifennydd y Cyfarfod Ysgolion am 15 mlynedd, fel olynydd Humphrey Llwyd Prysgol. Fe gafodd Mr. Francis Roberts y ffeithiau a nodir yma gan John Roberts ei hun. Yn y coffa am dano yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr fe wnawd y sylw yma: "Gwr cadarn, pwyllog, clir ei syniadau, coeth ei ymadrodd. Bu farw fel tywysog." Yr ydoedd yng nghyflawnder ei amser yn wr gweddol dal, pum troedfedd a deng mod- fedd feallai, ac o gorff cymesur a llawn a chryf. Yn ei flynyddoedd olaf yr ydoedd wedi ymgrebachu peth, ac yn fodfedd neu ragor yn llai o daldra. Hyd ei ddiwedd agos fe ddeuai at bob pryd gydag awch, er mai bwytäwr eithaf cymedrol ydoedd. Chwarter canrif cyn y diwedd yr oedd golwg dyn cryfach na chyffredin arno, a rhywbeth yn wrol yn ei ddull. Fe deimlid hynny yn neilltuol ynddo, y pryd hwnnw, fel siaradwr cyhoeddus. Edrychai'n ddyn cryf, gwrol, cyn codi ar ei draed; ond wrth siarad fe'i teimlid yn gryfach a gwrolach dyn na'i olwg. Yr oedd y llais yn gryf a llawn, a rhyw droad gwrol ynddo; a llefarai yn rhydd a rhwydd ac awdurdodol, ac ar ambell gyffyrddiad gyda rhywbeth braidd yn orthrechol ynddo. Heblaw dawn ymadrodd cryf, meddai hefyd ar gryfder meddwl, digon i sicrhau trefn a dosbarth ar ei faterion, a chyflead eglur, argyhoeddiadol ar bob pwnc. Ac yr oedd yno nid yn unig ymresymiad argyhoeddiadol, ond argyhoeddiad yn ei feddwl ef ei hun; a rhwng y meddwl argyhoeddiadol a'r teimlad argyhoeddiadol, a grym y traddodiad, a grym y bersonoliaeth, yr oedd dylanwad neilltuol iddo fel siaradwr. Ar ol ei wrando'n siarad ar ddirwest un tro, fe ddywedodd John Owen Ty'n Llwyn wrtho mai pregethwr a ddylasai fod. Mae'n ddiau y meddai ar gyfuniad lled helaeth o'r cymhwysterau angenrheidiol ar lefarwr cyhoeddus poblogaidd. Diwylliodd ei feddwl i fesur da: yr oedd ei iaith yn gywir a gweddol helaeth o ran geiriad; a chasglodd ynghyd gryn wybodaeth am bethau cyffredinol, ysgrythyrol a diwinyddol; ac ni cheid fyth ddim anghoethder ynddo o ran iaith na dull na mater nac ysbryd. Yr oedd yn wr llednais o ysbryd ac ymarweddiad. Ni ddeuai'r awdurdod a ymddanghosai yn ei ddull yn gyhoeddus i'w ddull yn gyfrinachol, oddieithr yn awr ac yn y man yn rhyw dro a roddai i'w lais. Yn ei holl ymddygiad cyffredin yr oedd yn dawel a thyner a llednais. Ymddanghosai ynddo radd o anghysondeb dull ac ymddygiad: y dyn gwrol cyhoeddus a elai'n ddyn tyner yn gyfrinachol. Tywynnai'r tynerwch hwn yn ei lygaid lledfawrion, lledleision, ond cwbl loewon. Gallesid fod wedi disgwyl oddiwrth ei ddull gwrol fel llefarwr, iddo gymeryd arweiniad mwy amlwg a phendant gyda'r achos. Fe ymddanghosai yn hytrach yn cilio'n ol oddiwrth hynny, gan adael yr awenau yn nwylo eraill. Yr ydoedd braidd yn hawdd ei dramgwyddo, er na choleddai ddig. Fe'i gwelwyd ef ar dro wrth holi'r ysgol, a phan atebid ef yn gwta, yn rhoi pen yn y fan ar yr holi. Areithiwr ydoedd, gan hynny, yn fwy nac arweinydd. O ran ei fuchedd yr oedd yn gyson a glan; ac o ran cymeradwyaeth yr ardal fe safai yn uchel gyda phawb. Fel cynrychiolydd y gymdeithasfa fe alwyd arno un tro yn y Wyddgrug i ddibennu'r cyfarfod drwy weddi; a dywedai'r Parch. Robert Owen Tydraw ar y pryd fod y weddi honno yn ei ddangos yn ddyn cynefin â'r ffordd at Orsedd Gras. Gyda phob cymhwyster i fod yn wr amlwg yn y Cyfarfod Misol, ni ddaeth i nemor ddim sylw yno; a chyda phob cyfaddaster mewn dawn gyhoeddus ni eangodd nemor yn hynny ar ei gylch cynefin yn yr ardal. Tebyg fod ei orchwyl fel melinydd yn ei gadw adref; a dichon na roes mo'i fryd ar fod yn gyhoeddus iawn; er y gallesid meddwl am dano yn ei nawnddydd mai dyn ydoedd fuasai wrth ei fodd mewn cylchoedd eang a chyhoeddus. Er yr awdurdod dull fel llefarwr cyhoeddus, yr oedd lledneisrwydd yn rhoi ei ffrwyn ym mhen pob meddwl uchelgeisiol. Fe lanwodd nid yn unig yn ddibrofedigaeth i bawb, ond hyd yn oed gyda chymeradwyaeth gyffredinol, y cylch y gwelodd yn iawn gyfyngu ei hunan iddo. Rhoe ryw gymaint o gynorthwy i'w fab ar y tir hyd y diwedd. A phan ydoedd gyda rhyw fymryn o lafur neu gilydd, fe deimlodd fod y wys oddiuchod wedi ei gyrraedd. Aeth i fewn i'r tŷ, a dywedodd wrth ei ferch ynghyfraith,—"Yr wyf yn cael fy ngalw adref." Yna fe ddiolchodd iddi mewn modd tyner am ei charedigrwydd iddo a'i gofal am dano, ac yn y fan ehedodd ei ysbryd ymaith i'r tawelwch claer ger gwydd Duw. A gwnaeth y sôn am ddull ei ymadawiad argraff neilltuol iawn ar y pryd ar bawb yn y gymdogaeth.

Bu cyfarfod pregethu y Pasc yn cael ei gynnal cyd-rhwng yma a Brynrodyn a Rhostryfan am rai blynyddoedd. Yr ydoedd hynny yn amser John Jones Talsarn, gan y bu efe yn gwasanaethu yn Rhostryfan yn y cyfarfod, ar ol dod yno o Dalsarn gyda throed dolurus gan losgiad, a mynnodd ddod yma drachefn. Wedi i'r undeb hwnnw beidio buwyd heb y cyfarfod yma ysbaid rhai blynyddoedd, yna fe'i cychwynnwyd drachefn. Buwyd hebddo wedi hynny ar ol 1875.

Bu rai o'r Bontnewydd yn cynorthwyo gyda'r gangen-ysgol yn Glanrafon o bryd i bryd, er mai cangen o ysgol Waenfawr ydoedd honno yn briodol. Cangen o ysgol Moriah, hefyd, ydoedd Isalun, er i eglwys Penygraig a darddodd ohoni fod yn gangen o eglwys Bontnewydd. Bu adegau pan fyddid yn myned i chwilio am esgeuluswyr o'r ysgol ar foreuau Sul. Bu gweinidog yr eglwys hon yn hir yn arholwr y Cyfarfod Ysgolion. Dyma adroddiad ymwelwyr 1885: "Cynhelir yr ysgol hon yn y bore. Ar gyfer hwyrfrydigrwydd y gynulleidfa yr oeddid wedi arafu y cloc, fel na chafodd yr ysgol ei dechre yn brydlon. Yr oedd hyn yn taro yn chwithig ar ol bod yn ysgol Penygraig y Saboth blaenorol. Wedi rhoddi'r ysgol mewn trefn yr oedd golwg hynod dda arni. Yr oedd ystafell i'r plant lleiaf ar wahan. Dosbarthiadau'r plant yn rhy luosog, er fod y plant yn darllen yn dda. Llawer o rai mewn oed mewn cymhariaeth i rif yr ysgol. Fe fuasid yn disgwyl i'r ysgol fod yn lluosocach. Yn y dosbarthiadau mewn oed, ar y mwyaf o sylw yn cael ei roi i'r darllen ei hun. Yn yr holl ddosbarthiadau, gofynnai bob un yn ei dro ei gwestiwn, ac yna yr athro ar eu hol. Hyn yn fwy priodol i fechgyn o 10 i 15 oed nag i wyr wedi cyrraedd cyflawn synnwyr. Maent yn ateb yn y papur amgaëedig nad oes ganddynt ddosbarth Beiblaidd; ond y maent newydd sefydlu un dan ofal y Parch. R. Humphreys. Henry Edwards, John Jones."

John Pritchard Lôn groes, Brynhyfryd wedi hynny, oedd y cyntaf a benodwyd i arwain y canu. Canwr o rywogaeth gyffredin, ond ffyddlon yn ol ei allu. Bu farw yn 1855 yn 44 oed. Yn aml byddai Jane Roberts Tŷ capel yn arwain ganol wythnos yn absen eraill. Pan na byddai John Pritchard Lôn groes yn gallu cofio'r dôn f'ei tarewid i'r dim mewn dull eithaf digynnwrf gan John Pritchard y crydd, pobydd wedi hynny. Byddai John Pritchard y crydd yn yslyrio yn hir ac yn hamddenol. Ar ol John Pritchard Lôn groes fe ddewiswyd Robert. Roberts y gof yn arweinydd. Yr oedd ef yn ddechreuwr da ac yn meddu ar lais peraidd, ebe Mr. R. R. Jones, ond fod y gynulleidfa yn hwyrfrydig i ganu. Yr oedd Owen Jones Ty cnap yn faswr dihafal y pryd hwnnw, ei lais yn llanw'r holl gornelau. Bu William Owen Prysgol yn dod yma rai prydiau am 5 ar y gloch pnawn Sul, a phan na byddai yma bregeth yn treulio'r hwyr i gyd gyda'r canu. Bu Hugh Ellis, a oedd yn gweithio yn Llanberis, yn cynnal cyfarfodydd yma ar nos Sadyrnau i ddysgu'r Solffa. Byddai plant a phobl ieuainc of gylch go fawr, o Saron i Gaeathro, yn dod i'r cyfarfodydd hyn. Yn 1869 dewiswyd John Williams yn arweinydd. Cydnabyddwyd ei lafur drwy ei anrhegu â'i lun, Gorffennaf 14, 1882. Yn 1884 trefnwyd i gael harmonium i gynorthwyo'r canu. Trwy ymroad a diwydrwydd yr arweinydd, yn cael ei gynorthwyo gan amryw gerddorion da yn y gynulleidfa, fe wellhäodd y canu gryn lawer.

Bu yma gyfarfod llenyddol, Mehefin 29, 1861, gyda'r Parch. Dafydd Morris yn feirniad. Yn 1868 y cafwyd y cyfarfod nesaf. Cynhaliwyd y cyfarfod yn ddilynol i hynny ar y Groglith. Bu John Williams yr arweinydd canu a'r ddau frawd, Owen a W. O. Pritchard yn amlwg gyda'r cyfarfod. hwn yn ei ddechreuad. Ffrwyth y cyfarfod llenyddol oedd sefydlu'r llyfrgell, ac yr oedd hynny wedi ei wneud cyn diwedd y ganrif.

Sefydlwyd y Gymdeithas Lenyddol yn 1896. Y gweinidog ydoedd y llywydd parhaus. R. B. Ellis, fel y dywedid ar y pryd, oedd wrth wraidd yr ysgogiad hwn.

Sefydlwyd Cyfrinfa Beuno dan nawdd Temlyddiaeth Dda yn yr ardal yn 1872. Yr oedd rhif yr aelodau erbyn Tachwedd, 1873, yn 126. Yn 1873 fe sefydlwyd Cyfrinfa'r Plant. Erbyn Tachwedd yr oedd y rhif yn 88. Ymhlith eraill, fe siaredid yn ddawnus yn y Beuno gan John Roberts y Felin, R. R. Jones ac Eos Beuno (Annibynwr). Parhaodd cyfrinfa Beuno hyd 1892.

Sefydlodd Hugh Ellis y Gobeithlu yma. Gyda dyfodiad R. B. Ellis yma daeth llewyrch newydd arno.

Sefydlwyd Cymdeithas Grefyddol y Bobl Ieuainc, Ionawr 8, 1897.

Yn ystod 1895—9 fe dalwyd £700 o'r ddyled. Fe fu adeg yma pan fyddai gorfoledd yn rhan o'r gwasanaeth, er fod hynny wedi hen gilio. Enwir gan Mr. Francis Roberts y rhai fu'n gorfoleddu a phorthi y gwasanaeth, sef Nani Hughes Pentreucha, Marged Thomas Tŷ calch, Pegi Pritchard Pentreucha, Jane Roberts Tŷ capel. Bu'r rhai hyn, hefyd, yn cadw cyfarfod gweddi yn eu plith eu hunain, ac yn cynnal y gwasanaeth teuluaidd yn eu tai eu hunain. Y ddeuddyn cyntaf a briodwyd yma oedd Griffith Jones a Mary Davies, merch y Parch. David Davies.

Un peth hynod yma, yn yr hyn, debygir, yr oedd yr eglwys yn hynotach na neb eglwys yn Arfon, ydoedd oedran mawr ei blaenoriaid. Yr oedd lliaws ohonynt wedi addfedu gyda'i gilydd ym mlynyddoedd olaf y ganrif, ac yn hongian megys wrth odreu'r pulpud fel afalau melynion. Ychydig dros bum mlynedd oedd rhwng Eliseus Evans a chyrraedd y can mlynedd. Ni chelai efe ei obaith am weled y bennod honno, y dywed y proffwyd am dani na bydd yr hwn a'i gwel yn nyddiau'r Messiah ond bachgen. Ni welodd efe mo'i bennod y tu yma i'r llen ond y tu arall. Yr oedd Eliseus Evans a John Roberts y Felin yn ddiau yn myned yn fwy ieuangaidd wrth heneiddio, sef yr oeddynt yn dilyn rheol angylion Swedenborg ac yn myned yn iau po hynaf y byddent. Aml waith y mynegodd John Roberts yn ystod y flwyddyn neu ddwy olaf ei fod ef bellach ar yr erchwyn. Griffith Roberts yn olaf o'r gwŷr hynafol hynny a gwympodd dros erchwyn amser i'r Mawr Ddir— gelwch. Eithr arddull synnwyr y cnawd yw "cwympo dros yr erchwyn": nid cwympo y maent hwy mewn gwirionedd, ond rhyw gilio'n ol i'w gwreiddyn a'u ffynnon, i darddu i'r lan yn Nuw drachefn ac i daflu allan eto,—nid ar unwaith wrth farw, ond yn yr atgyfodiad oddiwrth y meirw, sef yng nghyflawnder yr amser,—flodau godidowgrwydd awen nefol, a pheraidd arogl y fro honno y mae'r Brawd Hynaf yn Frenin ynddi. a godre ei wisg yn ei llenwi, ac yn peri fod y wlad yn llawn o gyfoeth.

Peth arall yn yr hyn yr oedd yr eglwys lawn cyn hynoted ynddo ag yn y peth blaenorol, oedd fod y nifer mawr o'i blaenoriaid wedi dod yma o eglwysi eraill lle'r oeddynt yn flaenoriaid cyn dod yma. Ni bu'r eglwys yn fagwrfa blaenoriaid ond i fesur bychan, a rhaid cyfrif hynny i'w herbyn. Ond os na fu'n fagwrfa blaenoriaid, fe fu'n dderbynfa blaenoriaid, a'r rhai hynny yn fynych yn wir flaenoriaid. Trawsblannwyd. hwy yma, ac ni phrofodd mo'r oruchwyliaeth lem yn niweidiol i'r nifer mawr ohonynt, ond yn hytrach yn lles, a bendithiwyd yr eglwys drwyddynt.

Rhif yr eglwys yn 1900, 203.

CAEATHRO.[5]

YSTYR yr enw, fe debygir, yw Cae-adraw, sef cae yn ymestyn draw, a elwid felly oherwydd ei ffurf naillochrog. Y cae. ydoedd hwnnw y mae'r capel arno a'r tai rhwng y capel a'r groesffordd.

Y mae'r pentre ryw filltir a chwarter o Gaernarvon, rhan ohono ar ffordd Beddgelert a rhan ar y ffordd rhwng yma a'r Bontnewydd.

Dywed Cathrine Jones fod ysgol Sul yn cael ei chynnal yma yn 1797 mewn ffermdy o'r enw Penrhos, a safai yr ochr arall i'r ffordd oddiwrth y Penrhos presennol; ac y deuai Morris Griffith, ysgolfeistr yn Llanrug ac eglwyswr, yma i'w chadw. Hen lanc duwiol, fe ddywedir, oedd Morris Griffith. Ei weddi yn yr ysgol ddyddiol a barhae weithiau am awr gyfan, rhan ohoni yn y Gymraeg a'r rhan arall yn y Saesneg. Dywedir hyn ar dystiolaeth un fu gydag ef yn yr ysgol yn Llanllechid. Ni eglurir a oedd y weddi yn yr ysgol Sul o'r un hyd. Nid anhebyg nad ydoedd. Fe ddywedir y deuai John Gibson hefyd i ysgol Penrhos, sef ydoedd ef un o Fethodistiaid cyntaf Caernarvon, a'i breswylfod yn Henwalia. Byddai Richard Jones Treuan yn fachgen 11 oed yn dechre canu yn yr ysgol honno.

Fe symudodd yr ysgol o Benrhos i'r Wern, plasdy henafol, y tybir fod ei furiau o'r un oedran a chastell Caernarvon. Ni wyddis mo'r amser y symudwyd. Bu'r ysgol yma am rai blynyddoedd. Cynhelid dosbarth ym mhob ystafell, ac ae rhywun o amgylch i hel llafur. Gwrandewid ar lafur pob un, sef pennod neu Salm, mewn stafell o'r neilltu. Arferid adrodd. pennod ar ddechreu'r gwasanaeth. Fe ddysgodd lliaws ddarllen yma, ac yn eu plith un hen wr dros ei drigain a ddaeth yn ddarllenwr medrus. Ni chynhelid dim moddion cyson yn y Wern ar y Sul, heblaw'r ysgol yn unig. Enwir fel rhai a fu o wasanaeth neilltuol yma: John Hughes Ty'n twll, Waenfawr; ei frawd Griffith Hughes Tyddyn wiscin; William Griffith Penycefn a Griffith Evans Dolgynfydd. Un o flaenoriaid y Waenfawr oedd John Hughes. Dengys tocyn aelodaeth yng nghadw ym Moriah yn ei lawysgrifen ef ei fod yn arfer â'r gwaith o ysgrifennu, a bod ganddo law gelfydd, ysgafn. (Edrycher y Waenfawr.) Ae Griffith Evans ac amryw eraill i'r bregeth fore Sul yn y Bontnewydd, i'r Wern i'r ysgol y prynhawn, ac yn yr hwyr i Foriah.

Mae gerbron lyfr cofnodion Cyfarfod Ysgolion y dosbarth dros ystod Hydref 17, 1819-Ionawr 28, 1821. Yn chwech- wythnosol y cynhelid y cyfarfod. Nodir rhif yr aelodau a rhif y penodau. Dyma'r ffigyrau ar gyfer y Wern: 62, 63; 61, 59; 68, 124; 71, 112; 70, 71; 76, 112; 69, 65; 76, 84; (dim cyfrif); 76, 98; 77, 101, 105 (ni eglurir ystyr y trydydd rhif: adnodau feallai); 73, 83. Sef y cyfanswm am y chwech wythnos. Fe geid pregeth ar dro yn y Wern, ac hefyd yn Nhŷ'n lon, yn ymyl llidiart Tyddyn wiscin. Ar ol pregeth yn Nhŷ'n lon gan John Humphreys Caernarvon, fe alwyd seiat ar ol, ac arosodd Humphrey Llwyd Prysgol a Catherine Jones Glangwna bach am y tro cyntaf. I Lanrug yr ae Humphrey Llwyd. i wrando pregeth ac i Lônglai (cychwyn yr achos yn Nazareth) i'r ysgol.

Cynhelid cyfarfod gweddi misol ar ganol wythnos yn y Wern, ac ar dro mewn tai eraill heblaw hynny, sef Prysgol, Dolgynfydd, Tyrpeg, Prysgol isaf, Glangwna bach. Richard Jones (Treuan) Prysgol isaf fyddai'n dechreu'r canu yn y cyfarfodydd hyn, ac am flynyddoedd wedyn yn y capel. Yr oedd Henry Thomas, gwr y bu ganddo lawer i'w wneud â chychwyn yr achos yn ardal Beddgelert, wedi symud i'r Waenfawr, ac oddiyno i gadw Tyrpeg Glangwna, sef y tyrpeg ar y groesffordd wrth y pentref yma. Yr oedd hynny ymhell cyn diwygiad Beddgelert. Symudodd oddiyma i dyrpeg Dolydd byrion ger Llanwnda. Er fod rhywbeth nodedig ynddo gyda chrefydd, fe'i difethid ar ysbeidiau yn ei gysylltiadau crefyddol gan bruddglwyfni, ac ni wyddis ddim am fesur ei ddefnyddioldeb yma.

Edrydd Edward William. yr hen flaenor o Dalsarn, hanesyn ar ol Griffith Roberts y meddyg esgyrn. Yr oedd cawr o ddyn, yn ymladdwr a heliwr, wedi ymuno â chrefydd yn Llanllyfni cyn torri allan ddiwygiad Beddgelert. Gwyddai y byddai hen gyfeillion iddo, pobl wedi dod dan ddylanwad y diwygiad, yn dod i Sasiwn Caernarvon yn 1818. Yn ei awydd i'w gweled, fe aeth drwy'r Bontnewydd i Gaeathro, ac yna ymlaen yn araf i'w cyfarfod. Yr oeddynt hwythau yn dod yn finteioedd gyda'i gilydd, ac wedi bod yn cynnal cyfarfod gweddi ar y gwastadedd ar y ffordd fawr ar gyfer Tyddyn wiscin, ac yn cerdded gan foliannu, fel tyrfa yn cadw gŵyl. Wrth eu clywed fe deimlai'r hen ymladdwr ei waed yn berwi yn ei wythiennau, a'i gynnwrf mewnol oedd yn gyfryw nas gallai roi syniad i eraill am dano. Aeth ymlaen i'w canol, a thorrodd allan mewn moliant gyda hwy. Fe gedwid tollborth Glangwna y pryd hwnnw gan Richard Thomas y gwehydd. Fel yr oedd y dorf yn myned drwy'r dollborth, wele Richard Thomas yn dodi ei wenol heibio, yn ymuno â'r dorf, ac yn moliannu gyda'r lleill yr holl ffordd i'r dref. Bu Richard Thomas wedi hynny yn flaenor yma hyd ddiwedd ei oes. (Cofiant Eryron Gwyllt Walia, t. 21.)

Fe raddol gynyddai'r cyfarfodydd gweddi, er y dywedir na ddeuai neb iddynt ond proffeswyr crefydd; a dechreuwyd teimlo awydd am gapel neu ysgoldy. Dichon fod cynnydd yn yr ysgol hefyd. Penodwyd, gan hynny, Humphrey Llwyd i ymofyn a Thomas Lloyd, yswain Glangwna, am le i adeiladu. A thrwy gyfryngiad Rumsey Williams, yswain Penrhos, fe ganiatawyd tir, ar yr amod mai ysgoldy yn unig fyddai, a'i fod yng nghwrr pellaf y stad fel y byddai o olwg y palas, a bod £1 y flwyddyn o rent arno. Yr oedd yr amod mai ysgoldy fyddai yn cynnwys nad oedd pregethu i fod ynddo. Pan ddeallodd Rumsey Williams yr heliwr nerthol fod yr amod hon yn gysylltiedig a'r tir fe ymyrrodd drachefn. "Faint waeth a fyddai," ebe fe, "pe caent ambell bregeth ynddo." A hynny a orfu.

Yr oedd y bobl yn ewyllysgar i weithio; a gwnaeth pawb eu rhan, y ffermwyr yn cario yn rhad. Dywed Cathrine Jones ddarfod adeiladu'r capel "60 mlynedd yn ol," sef yn 1823. Yr ydoedd yn werth £400, ond ni wyddis a gyfrifir y gwaith a wnawd yn rhad yn y gwerth. Os na chyfrifir y gwaith hwnnw, fe ymddengys y swm yn fawr am gapel bychan ac heb brynnu'r tir. Bu dyled arno am ysbaid maith. Penderfynwyd cael cynllun i symud y ddyled: ffurfiwyd cymdeithas a chyfrannai pob aelod swm penodol bob mis. Ac yna ni bu'r ddyled mor hir nad ydoedd fel caseg eira yng ngwres yr haul yn toddi ymaith. yn weladwy i bob edrychydd. Nid yw ystadegau'r Cyfarfod Misol yn cerdded ymhellach nag 1853, ac nid oedd yma ddim. dyled erbyn hynny.

Dyma enwau'r blaenoriaid cyntaf: Griffith Evans Dolgynfydd, Humphrey Llwyd Prysgol, Richard Thomas Tyrpeg, John Daniel Garth, William Owen Hendai, Humphrey Owen Llety. Nid yw'n debyg, pa ddelw bynnag, fod y rhai hyn i gyd yn flaenoriaid o'r cychwyn cyntaf, neu ynte yr oedd syniad pobl Caeathro y pryd hwnnw yn eangfrydig iawn ymherthynas â'r flaenoriaeth. Canys ni byddai namyn un blaenor yn fynych mewn eglwys fechan ar ei chychwyniad yn y dyddiau boreuol hynny, ac yr oedd dau yn eithafnod y crebwyll y rhan amlaf. Deuai Thomas Evans o'r Longlai ac Edward Meredith o Gaernarvon i gynorthwyo gyda'r canu ac i roi gwersi yn y gelfyddyd. Y mae llyfr y casgl eglwys gerbron. Nid yw'r llyfr yn myned ymhellach yn ol nag 1826. Ni hysbysir pa bryd y ffurfiwyd eglwys yma, na pha bryd yr agorwyd y capel. Dichon. mai ysgoldy yn unig ydoedd ar y cychwyn; ac mai ymhen encyd o amser ar ol yr agoriad y cafwyd gan Rumsey Williams ymyryd ac arfer ei ddawn i bledio dros gael pregeth yma, ac mai gyda hynny y ffurfiwyd eglwys yn y lle. Y mae fod y llyfr eglwys yn dechre yn 1826 yn rhoi arlliw o reswm dros dybio hynny. Y mae'r dalennau cyntaf wedi colli o'r llyfr. Rhif yr eglwys yn 1827 ydyw 30. Gallasai fod casgl eglwys. cyn cael y llyfr hwn; ac y mae rhif yr aelodau braidd yn fawr i eglwys ar ei chychwyniad, mewn poblogaeth fechan, fel ag yr oedd yma y pryd hwnnw, a phan nad oedd ond y lleiafrif o'r gwrandawyr yn y rhan fwyaf o leoedd yn proffesu. Yn niffyg gwybodaeth well, gan hynny, fe roir 1825 i lawr fel amser cychwyn yr eglwys. Yn y pen arall i'r llyfr y mae cofnod casgl y plant, hwnnw hefyd yn dechre yn 1826. A oedd yn beth cyffredin mor gynnar a hynny fod casgl plant yn yr eglwysi? Hyd y gwyddis peth eithriadol ydoedd. Rhoi'r llun y dudalen gyntaf o'r casgl plant yn yr eglwys hon yn nechreu'r gyfrol; ond gan fod enwau'r plant yn cyrraedd i'r dudalen nesaf fe'u rhoir yn gyflawn yma ar ol enwau'r cyflawn aelodau. Er nad oes ond yr enwau diweddaf i lawr am 1826 yn rhestr yr aelodau, eto y maent wedi eu rhifnodi, a 26 yw'r rhifnod diweddaf. Ond dyma'r enwau ar gyfer 1827: John Williams, Griffith Evans Dolgynfydd, Ann Evans eto, Richard Thomas Turnpike, Cathrine Thomas eto, John Daniel y Garth, Jane Daniel eto, Humphrey Lloyd Prysgol, Humphrey Owens Castellmai, Elizabeth Owens eto, William Griffith Penycefn, Elinor Griffith eto, Margaret Jones Tyddyn wisgin, William Jones Llangwnabach, Cathrine Jones eto, Richard Jones Prysgol isa, Cathrine Jones eto, David Williams Efail bach, Ann Jones Tyddyn wisgin, John Williams Prysgol, Ann Jones Castellmai, Ann Davies Prysgol, Jane Evans Tre Llanbeblig, Marget Williams, Elizabeth Jones Tre Llanbeblig, Margaret Prichard, John Williams Rerw, Jane Owens, Cathrine Williams, John Parry Rhyddallt. Y mae enw John Huxley ar ben y rhestr. Yna ysgrifennwyd John Williams ar ei ol. Dichon y bu John Huxley yn aelod yma am ysbaid cyn 1827. Ar yr ail fis y mae cyfraniad cyntaf John Williams, ac y mae hynny yn arwyddo mai dyna'r pryd y daeth yma, pan y cymerir hynny ynglyn â'r ffaith nad oedd ei enw ar y rhestr fel y gwnawd hi gyntaf. Y mae'n amlwg ar yr ysgrifen ei bod wedi ei llunio yn ddiweddarach na'r gweddill o'r enwau.

Y mae rhestr enwau'r plant yn y pen arall i'r llyfr, ac wedi ei hamseru, Chwefror 16. Gallesid tybio oddiwrth y llyfr nad oedd rhestr o flaen hon, ac y mae'r amseriad yn arwyddo'r un peth, gan y buasai yn debyg o ddechre yn Ionawr os oedd casgl plant yn flaenorol. Y mae rhestr y plant yn dibennu gyda diwedd 1828. Nid oes rhestr am 1827. Fe roir y ddwy restri yma yn gyflawn. Y rhan amlaf fe gollir yr achau wedi'r drydedd genhedlaeth yn ol. Bydd y rhestrau hyn yn foddion i'w diogelu yn ddiau, mewn rhai teuluoedd, am lawer cenhedlaeth, ac mewn cysylltiad â'r Cysegr. Rhestr 1826: Henry Owens, Jane Owens, Elizabeth Lloyd, Ellianor Lloyd, John Evans, Evan Evans, Margret Lloyd, Hannah Thomas, Jane Hughes, Margret Hughes, Griffith Hughes, John Hughes Castellmai, Elinor Hughes eto, Margret Jones, David Jones, Lowry Jones, Samuel Jones, William Jones, Elizabeth Roberts, John Prichard, Ann Prichards, Ann Jones, David Griffith Penycefn, John Griffith eto, Hannah Prichard, Cathrine Williams Tyddyn bach, Cathrine Owens. Cyfanrif 27. Rhestr 1828: John Evans Dolgynfydd, Evan Evans eto, Henry Owens Llety, Jane Owens eto, Robert Owens eto, Elizabeth Lloyd Prysgol, Elinor Lloyd eto, Meary Lloyd eto, Margaret Lloyd eto, David Jones Prysgol isa, Lowri Jones eto, Samuel Jones eto, William Jones eto, Cathrine Deavis eto, Hanna Thomas Turnpike, David Griffith Penycefn, John Griffith eto, Margaret Morgans Tyddyn wisgin, Jane Hughes eto, Margaret Hughes eto, John Jones Castellmai, Elinor Jones eto, Elizabeth Roberts Felin bach, Hannah Prichard Capel athro, Cathrine Williams Tyddyn bach, Cathrine Owens Rhyddallt, John Daniel Garth, Jane Hughes, Robert Williams Castellmai, Jane Evans, Elisabeth Hughes Tre Llanbeblig, Jane Hughes eto. Cyfanrif, 32. Nid oes llawer o fylchau yn y taliadau yn y rhestrau hyn o eiddo'r bobl mewn oed na'r plant. . Yr oedd John Williams yn bregethwr ac yn ysgolfeistr. Daeth yma o'r Fourcrosses. Cadwai'r tŷ capel yma, a bu'n cadw ysgol ddyddiol yma. Gelwir ef yn un o bregethwyr boreuol sir Gaernarvon yn y Biographical Dictionary gan Joseph Evans; ond nid oedd yn ddigon cynarol i'w alw felly. Dyna'r unig sylw arno yn y llyfr hwnnw. Aeth oddiyma i Gaernarvon i gadw'r ysgol a gedwid gan Evan Richardson, ond y rhoddwyd ei gofal heibio ganddo ar ol ei daro gan y parlys, debygir. Dilynwyd ef gan y Parch. William Lloyd, ac yntau gan John Williams. Yn ol Cathrine Jones, fe fu farw yn y dref. Gwr cwbl ddiniwed yr ymddengys ei fod, heb nemor ddisgyblaeth ganddo ar y bechgyn dan ei ofal. A dyma swm yr hyn a wyddis am dano. Ei enw ef yn ddiau yw'r John Williams a saif yn gyntaf yn rhestr yr eglwys am 1827. Os oedd yn trigiannu yn y dref yn niwedd ei oes, rhaid ei fod yn cadw ei aelodaeth yma. Paid ei gyfraniad ar ol Tachwedd. Tebygir iddo roi'r ysgol heibio beth cyn ei farw. Yr oedd Caeathro yn daith gyda Moriah yn 1838, ac yn daith gyda Bontnewydd yn 1857. Newidiwyd y cysylltiad â Moriah yn 1842 pan y sefydlwyd Engedi.

Y mae Cathrine Jones yn enwi'r rhai fu'n cadw ysgol yma heblaw John Williams, sef Evan Evans y Roe ac Evan Evans arall, John Roberts, John Wynne, Mrs. Owens o Gaernarvon a'r Parch. John Williams (Siloh). Yr oedd y rhai yma cyn dyddiau'r Bwrdd Ysgol.

Symudodd Griffith Evans i Rostryfan (Edrycher Rhostryfan), John Daniel a William Owen Hendai i'r America. Bu farw Richard Jones Prysgol isa a Richard Thomas y Tyrpeg yma. Dywed Cathrine Jones y bu y rhai hyn i gyd yn ffydd- lon iawn gyda'r achos.

Daeth Richard Jones, Treuan gynt, i fyw i Gastellmai o'r dref. Gwelwyd iddo fod yn ddefnyddiol gyda'r canu yn yr ysgol gyntaf yma. Bu felly wedi hynny ym Mhenrallt, Caer- narvon. Yna bu'n flaenor galluog a defnyddiol yma am faith flynyddoedd, ac yn ei hen ddyddiau fe aeth i fyw i'r dref. Dywed Mr. William Jones, y blaenor yn Nazareth, mai Richard Jones oedd y prif flaenor yma yn ei amser ef yma. Fe berthyn parchedigaeth i'w goffadwriaeth. (Edrycher Engedi).

Gwna Cathrine Jones y sylw yma ar Humphrey Llwyd: "Tua'r adeg yma [sef adeg y diwygiad] bu farw Humphrey Llwyd Prysgol, wedi bod yn ffyddlon iawn ym mhob peth yn perthyn i grefydd, yn ysgrifennydd, blaenor ac athro am flynyddoedd. Ei weddi bob amser wrth ddyfod i'r ysgol Sul fyddai ar iddo fod o les i'r plant a gogoniant i Dduw. Cafodd yr achos crefyddol yng Nghaeathro golled fawr ar ei ol. Yr oedd yn hynod am ei ffyddlondeb." Yr oedd ei gynhebrwng ar y Sulgwyn, 1859, yn ol atgof ei ŵyres, Mrs. O'Brien Owen. Nis gellid bod yn yr eglwys hon nemor, yn enwedig flynydd- oedd yn ol, heb ddeall fod Humphrey Llwyd yn ddylanwad personol neilltuol yn y lle. Heb glywed dim pendant iawn yn ei gylch, fe deimlid yn swn ei enw iddo fod yn ddylanwad pwysig iawn, a bod ei goffadwriaeth yn fendigedig. Efe oedd ysgrifennydd y Gymanfa Ysgolion gyntaf yng Nghaernarvon, sef yn 1813; a bu'n ysgrifennydd y cyfarfod ysgolion am flynyddoedd. Mae'r llyfr cyfrif a gedwid ganddo, y cyfeiriwyd ato ynglyn â hanes yr ysgol yn y Wern, mewn llawysgrifen dwt a manwl, ac y mae'r cyfrifon felly. Rhoe bopeth heibio er mwyn y capel. Rywbryd ar gefn cynhaeaf, pan oeddid yn rhoir yd i fewn, gelwid ei sylw gan William Jones y gwas, wedi hynny y blaenor yn Nazareth, fod oedfa yn y capel.. Yntau ar y funud honno yn rhoi'r gwaith heibio ac yn myned yno. Ni feddai ar ddawn gyhoeddus neilltuol. Yr oedd gan William Jones, fel hen was iddo, syniad uchel am ei gymeriad fel dyn a christion.

Dewiswyd y rhai yma yn flaenoriaid yn 1859: William Owen Prysgol, John Jones Prysgol isaf, Hugh Williams Tyddyn bach, John Roberts y Felin bach. Dywed Cathrine Jones mai 39 oedd rhif yr eglwys yr adeg honno. Ac os felly, yr ydoedd y dewisiad cyn y diwygiad. Tebyg, hefyd, mai ar ol marw Humphrey Llwyd.

Fe godir yr hanes am ddiwygiad 1859, fel y mae yng Nghofiant Dafydd Morgan (t. 473): "Prynhawn dydd Iau, Hydref 13, 1859, pregethodd Dafydd Morgan yng Nghaeathro. Nid oedd yr awyrgylch yn deneu iawn yno. Dywedodd wrthynt,—'Yr ydych chwi yng Nghaeathro yma heb deimlo'r diwygiad eto.' Ryw nos Sul yn fuan wedi hynny y disgynnodd y gawod, pan oedd Hugh Williams Tyddyn yn gweddio, gan ddal ar y gair hwnnw, Ac y'm cair ynddo ef. Dechreuasid y cyfarfod gan Robert Williams, yr hwn a lediodd y pennill a ganlyn gydag awdurdod a goleuni mawr,—

Awn unwaith eto i roi tro
O amgylch caerau Jericho;
Pwy wyr nad dyma'r ddedwydd awr,
Y daw rhyw ran o'r mur i lawr?

Arhosodd 14 ar ol yn y seiat y noson honno yn ol ernes yr emyn, canys yr Arglwydd a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur. Yr oedd yno wenol neu ddwy wedi ymddangos fel rhagfynegiad o'r haf ysbrydol tua mis Awst. Yr oedd un ohonynt, Mrs. Elin Williams Rhosbach, yn mynd tua Chymanfa Bangor yn niwedd Medi, pan y safodd y trên yn y twnel sydd yn ymyl y ddinas honno. Cafodd pawb eu hunain mewn tywyllwch dudew, a syrthiodd braw ar lawer, rhag ofn bod damwain wedi goddiweddyd y gerbydres; ond dechreuodd Mrs. Williams orfoleddu gan ddywedyd,— Yr wyfi mewn trên na stopith hi byth yn y tywyllwch. Yr hwn sydd yn credu yn y Mab ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.' Yr henafgwr Griffith Jones a adroddai wrthym mai dibroffes oedd ef yr adeg honno, er ei fod yn athro yn yr ysgol Sul, a hynny o flaenoriaid oedd yng Nghaeathro yn ddisgyblion iddo. Cyfodasai i ffenestr ei ystafell wely tua hanner nos ryw noson llawn lleuad, a gwelai lanc o'r enw Robert Jones, hwsmon yn y Llety, yn nesau ar ei ffordd adref o gyfarfod gweddi. Yr oedd ganddo lodrau o rib claerwyn am dano. Pan ddaeth gyferbyn a Chefnygof, cofiodd am y meistr digrefydd, a syrthiodd ar ei liniau lle'r ydoedd—mewn pwll o ddwfr y penliniodd fel y digwyddodd—ac offrymodd daer—weddi am achubiaeth gwr y tŷ. Cyffesai hwnnw [sef Griffith Jones] wrthym nad ymwelodd cwsg â'i amrantau y noson honno. Aeth gwr a gwraig Tyddyn cae allan fel arfer o flaen y seiat un noson, ond trodd hi'n ol o gowrt y capel, syrthiodd ar ei glin— iau ar y grisiau o flaen y drws gan waeddi à llef anobaith, · Chymer yr Arglwydd mo hona i,' ddwywaith neu dair. Yr hen flaenor Humphrey Llwyd a'i cymerodd hi gerfydd ei llaw ac a'i harweiniodd i'r Tŷ. O'r tuallan y gwr a'i clywai yn llefain mewn acenion ingol. Anesmwythodd yn fawr ond ni feiddiai ddychwelyd. 'Wn i ddim be' mae nhw'n wneud iddi,' meddai, os nad ydyn nhw yn i lladd hi.' Mewn cyfarfod gweddi hwyliog, Humphrey Owen Prysgol a geryddai un hen frawd, Richard Jones y Wern, a ganai yn ddidrefn. 'Taw,' meddai, dydi'r mesur iawn ddim gen ti.' Na hidia befo'r mesur,' meddai yntau, 'nid wrth y mesur rydwi'n mynd heno ond wrth y pwysau.' Cyhuddid Hugh Williams Tyddyn bach am flynyddoedd o dorri llawr y sêt fawr yn gandryll drwy neidio mewn gorfoledd. Y dystiolaeth hon oedd wir. Teimlai John Roberts Caecrin ryw noson y dylai fugeilio nifer o fechgyn a grwydrasent i goedwig i weddio Duw. Hwythau a erfynient am ysbaid feithach dan y dail. Un ohonynt, Robert Jones Glangwna, a blediai i'r Israeliaid fod yn yr anialwch ddeugain mlynedd. Chewch chi ddim bod yma cyd a hynny,' ebe John Roberts. 'Adref a chwi.' 'Diwygiad 1859 roddodd fod i'r achos yng Nghaeathro fel y mae.'

Lle i 114 oedd yn y capel cyntaf. Gosodid lleoedd i 80 yn 1853. Cyfartaledd pris eisteddle, 7g. y 'chwarter. Swm y derbyniadau yn flynyddol am y seti, £9 6s. Rhif yr eglwys, 41. Casgl at y weinidogaeth, £7 15s. Rhoi'r y sylw" chwanegol yma ar y flwyddyn,—"Repario'r capel a'r tŷ, £3 12s. 9½c." Yn 1858 gosodid lleoedd i 100. Rhif yr eglwys, 30. Y casgl at y weinidogaeth,—"Nis gwyddom." Fe sylwir fod yr eglwys wedi disgyn yn ei rhif er 1853 o 41 i 30. Swnia hyn. ynglyn â'r Nis gwyddom yn argoelus. Yn 1860 y mae lle i 134 yn y capel. Naill ai seti wedi eu dodi i fewn neu ynte ddull newydd o gyfrif. Pa ddelw bynnag, dir eu bod yno, canys fe osodid 130 ohonynt, a thelid, yn ol 6ch. yr eisteddle y chwarter, £13 am danynt, yr hyn sy'n dâl cyflawn i'r geiniog. Ffrwyth dyladwy i'r diwygiad. Rhif yr eglwys, 80. Casgl y weinidogaeth, £21 6s. Yn 1866 yr oedd rhif yr eglwys yn 88. Casgl y weinidogaeth, £29 11S.

Yn 1862 fe brynnwyd llecyn o dir gyda bwriad i adeiladu capel newydd arno. Mesur y tir ar wahanol gyrrau, 44 troedfedd, 86 troedfedd, 64 troedfedd. Y gwerth, £28 11s. 8g. Adeiladwyd y capel yn union. Ei werth, £1,100, heb sôn am y gwaith a rowd arno yn rhad gan y ffermwyr. Y cyntaf i bregethu ynddo oedd y Parch. Thomas Owen Porthmadoc. Agorwyd yn ffurfiol gyda chyfarfod pregethu. Cesglid bob dydd diolchgarwch at y ddyled nes ei chlirio. Dengys yr Ystadegau fod y ddyled yn £200 yn 1878, ac iddi gael ei chlirio yn 1879. Yn 1865 fe brynnwyd dros hanner acr o dir wrth y capel am £100, sef tir y fynwent. Yn 1879 yr oeddid yn gofyn caniatad y Cyfarfod Misol i werthu'r hen gapel. Tebyg, gan hynny, fod gwerth yr hen gapel yn rhan o'r £200, sef gweddill y ddyled, a dalwyd y flwyddyn honno.

Bu Humphrey Owen Llety farw yn 1866. Bu'n flaenor ffyddlon yn yr hen gapel a'r newydd.

Yn 1868 fe symudodd John Roberts y Felin bach oddiyma i'r Bontnewydd, wedi bod yn flaenor yma am 9 mlynedd. Ymagorodd i'w ddawn a'i ddylanwad yma. (Edrycher Bontnewydd.)

Daeth John Williams yma ar y cyntaf i gadw ysgol. Derbyniodd alwad i fugeilio Siloh yn 1875. John Jones Llainfeddygon a fu'n flaenor ffyddlon a diwyd, ac yn ddefnyddiol ym mhob cylch.

Ymddengys Caeathro ynglyn wrth enw Dafydd Morris yn y dyddiadur am y tro cyntaf yn 1865. Daeth yma o'r Bontnewydd, yn y flwyddyn flaenorol yn ddiau. A chan mai yn 1878 yr ymddengys ei enw gyntaf yn Bwlan diau iddo fyned yno yn 1877. Estynnodd ei arosiad yma, gan hynny, dros 13 blynedd. Newidiodd ef ei drigias yn dra mynych; ac yma, mae'n debyg, yr arhosodd fwyaf, ac wrth enw'r lle yma yr adwaenir ef oreu. Fe deimlid ei ymadawiad yn golled drom, y drymaf a gafodd yr eglwys hon. (Am sylwadau ar ei nodweddiad a'i ddull yn cadw seiat edrycher Engedi a Bwlan.)

Yn haf 1880 daeth W. Hobley yma o Engedi. Symudodd oddiyma ym mis Mai, 1881, i gymeryd gofal eglwys Seisnig Buckley.

Symudodd David Roberts y Felin oddiyma cyn bo hir ar ol y symuiad diweddaf i Benmaenmawr, wedi bod yn flaenor yma am rai blynyddoedd. Nodwedd geidwadol oedd i'r swyddogaeth yma yn ei amser ef, a dug efe'r nodwedd werinol i fewn iddi. Fe ystyrrid ei ddylanwad ef yn un iachus gan gorff y gynulleidfa. Fe lwyddodd ef i gael yr eglwys i roi ei llais mewn symudiadau o bwys. Cychwynnodd ddosbarth Beiblaidd yma ganol wythnos. Natur fywiog, aiddgar oedd yr eiddo ef. Fe ymserchai mewn gwaith, Yr ydoedd yn ddyn a chraffter yn ei feddwl: craff ei ddirnadaeth o bwnc a chraff ei adnabyddiaeth o ddynion. Fe ddarllenodd yn lled helaeth; a rhwng ei ysbryd gweithio a'i ddeall mewn pynciau diwinyddol, yr ydoedd yn wr defnyddiol yn yr eglwys, a bu colled ar ei ol yn y lle.

Ionawr 30, 1885, bu farw Owen Williams yn 85 oed. Daeth yma o'r Bontnewydd yn 1868, lle bu'n flaenor am 43 blynedd. Bu'n flaenor yma, drachefn, am 17 flynedd. Yn y coffhâd am dano yn y Cyfarfod misol fe sylwid mai efe, yn debygol, oedd yr hynaf yn ei swydd o flaenoriaid Arfon, ac iddo fod yn ffyddlon a selog yn ei swydd. Mae pob lle i gredu iddo fod felly ar hyd ei dymor maith, megys yr oedd yn amlwg felly yn ei flynyddoedd olaf i gyd. Yn hen wr dros 80 oed fe ddeuai i'r moddion ganol wythnos drwy bob tywydd braidd: diau y daethai drwy bob tywydd pe caniatesid hynny iddo. Gan ei fod yn trigiannu yma gyda'i fab ynghyfraith, Hugh Williams Tyddyn bach, yr ydoedd dan y ddeddf yno yn y cyfryw bethau. Yr ydoedd yn hen wr siriol, agored, difeddwl-ddrwg; ac ar yr un pryd yn meddu ar synnwyr a chraffter, a deall da yn yr ysgrythyrau ac mewn pynciau diwinyddol. Fel siaradwr yr oedd yn rhydd a rhwydd. Ei ddiffyg yn ei hen ddyddiau, ac i fesur nid hwyrach, mewn dyddiau boreuach, oedd symud o'r naill fater i'r llall, yn lle gorffen gyda rhyw un mater. Ar ol traethu am hanner awr, fe dynnai ei fab ynghyfraith yng nghwt ei gôt, ac eisteddai yntau i lawr yn y fan. Eithr ni byddai fyth yn fyrr o sylwedd a phrofiad.

Yn 1884 yr oedd ————— Bryan wedi dod yma o sir Fflint, a galwyd ef yn flaenor. Bu farw mis Mawrth, 1886. Yr ydoedd ef yn wr ardderchog o ran dirnadaeth, gwybodaeth a phrofiad crefyddol. Heblaw bod yn ffyddlon iawn, yr ydoedd hefyd yn fanwl iawn ei ffordd gyda phob gwasanaeth, fel ag i beri ei fod yn dra defnyddiol yn yr eglwys yma dros ei dymor byrr yn y lle. Meibion iddo ef yw'r Meistri Bryan o'r Aifft a Chaernarvon.

Yn 1888 fe ddewiswyd yn flaenoriaid, Richard Jones Cefn y gof a John Hugh Jones Tyddyn wiscin.

Yn 1889 atgyweiriwyd y capel ar draul o £115. Talwyd â'r gweddill oedd mewn llaw o adeg gwerthu'r hen gapel. Yn 1895 cychwynnwyd ar y gwaith o dynnu i lawr yr hen dy capel ac adeiladu un newydd, ynghyda'r ysgoldy gerllaw. Swm y ddyled yn 1900, £700. Rhif yr eglwys, 125.

Medi, 1890, bu farw Hugh Williams Tyddyn bach, yn flaenor ers 21 mlynedd. Bu'n ffyddlon ac ymdrechgar gyda'r gwaith, a pharhaodd i'r diwedd yn ieuengaidd ei ysbryd. Cymhwysir ato gan y swyddogion yn eu nodiadau yr ymadrodd,—"yn llawn digrifwch a'i lond o grefydd," a dywedir ei fod yn golofn gref i'r achos a bod chwithdod ar ei ol. Yr oedd yn wr a mesur o urddas yn perthyn i'w ymddanghosiad a'i ddull, ac yn credu mewn arfer gradd o wyliadwriaeth gyda newydd-ddyfodiaid, a dal ei law yn o dynn yn yr awenau. Ynglyn â hynny, fe ddanghosai barodrwydd i roddi rhyw le go amlwg i rai y disgwyliai oddiwrthynt unrhyw gynorthwy neilltuol gyda dwyn y gwaith ymlaen. Medrai roi lle a gofalu am gadw'r awenau hefyd. Yr ydoedd yn graff ar y wyneb heb dreiddgarwch neilltuol. Fe ddywedir y nodweddid ef gan hynawsedd a charedigrwydd, ac y gwnelai gyfeillion ar bob llaw. Yn 1890 ymadawodd Hugh Owen Cae Philip, wedi bod yn flaenor yma am 9 mlynedd. Yr oedd yn flaenor yn Aber cyn dod yma, a galwyd ef i'r swydd gan yr eglwys hon, a gwerthfawrogid ei wasanaeth.

Mehefin 20, 1893, bu farw William Owen Prysgol, yn 79 oed, ac yn flaenor yma ers 34 blynedd. Y mae ef yn dra adnabyddus o ran ei enw lle bynnag y ceir Cymry ar wyneb y ddaear fel awdwr y tonau Bryn Calfaria, Deemster, Gwledd yr Eglwys ac eraill, ond yn arbennig y flaenaf. Dyn o ymddanghosiad yn hytrach yn eiddil ydoedd, a chyda chyffyrddiad amlwg dynerwch ac ieuangrwydd yng ngwedd ei wyneb. Er wedi hen golli gwrid ieuenctid, eto ni chollodd mo ffurf ieuengaidd y wyneb na gwên ieuenctid na thôn ieuengaidd y llais nac ysbrydiaeth a nwyf ieuenctid. Yr un pryd nid dyn ar y wyneb mo hono, ond yr oedd rhywbeth ynddo yn ymguddio ac yn ymgadw iddo'i hun. Gwelid arwyddlun hynny yn ei ddull yn dal ei wyneb megys y naill du. Fel swyddog yr oedd yn hytrach yn geidwadol: ni thynnai rai gymaint ymlaen a Hugh Williams. ac ni roddai atalfa chwaith. Danghosai gryn synnwyr yn ei ddull o drin dynion, ac yr oedd ei deimladrwydd a'i dynerwch naturiol yn help iddo. Ond er bod yn dyner medrai fod yn frathog hefyd; a medrai fod yn frathog mewn dull chwareus, fel mai anfynych, debygir, y briwiai neu y digiai neb. Ond er rhagori ar Hugh Williams o ran rhyw fedr mewn trin dynion, ac o ran dull teimladol, eto Hugh Williams, debygir, oedd y mwyaf cymwynasgar a charedig fel cymydog a chyfaill. Dywedai Anthropos am dano ar ddiwrnod dadleniad ei gofadail ei fod yn hoff o flodau, a hawdd credu hynny. Ei deimladrwydd oedd sail ei ddawn fel canwr ac fel cyfansoddwr. Yn ffurf y wyneb a'r talcen, cystal ag yn nheimladrwydd ei ddull, fe ddygai debygrwydd i wyr o dalent neilltuol mewn gwahanol ganghennau. Nid wyneb a dull y gweithredydd oedd ganddo, ond wyneb a dull y mynegydd. A llwyddodd yn ei donau i roi mynegiant arhosol i ryw wedd ar deimlad crefyddol. Yr un nodwedd oedd yn ei ddull fel arweinydd y gân. Yr hen ddull iraidd, teimladol, oedd ei ddull ef. Yn niffygiol mewn urddas a mawreddusrwydd yr oedd yn gyforiog o deimlad nwyfus. Ac yn hynny yr oedd canu Caeathro yn ei amser ef ar ei ben ei hun. Yn nyddiau y sel mawr gyda dirwest, yr oedd ei anthemau dirwestol yn dra phoblogaidd. Yr oedd yr achos dirwestol yng Nghymru y pryd hwnnw mor ddyledus iddo ef ag i neb pwy bynnag, o fewn cylch Arfon o leiaf. Y pryd hwnnw yr ydoedd yn ei anterth, a'i ddull yn llawn swyn a hoewder naturioldeb. Gwerthfawrogid canu ei gor ef gan Eben Fardd yn nyddiau ei gyfarfodydd llenyddol yng Nghlynnog. (Edrycher Ebenezer, Clynnog). Yr oedd gwrthwynebrwydd rhyngddo ef ac Ieuan Gwyllt. Ei syniad ef ydoedd fod Ieuan Gwyllt yn colli natur mewn celfyddyd, ac yn colli'r arddull Gymreig yn yr Ellmynnig. Yr oedd ei lewyrch mwyaf ef yng nghanolddydd bywyd. (Goleuad, 1893, Awst 4, t. 6.)

Yn 1893 dewiswyd yn flaenoriaid, William Jones Llwyn celyn a Richard Williams garddwr. Yn 1897 fe ddarfu J. Hugh Jones Tyddyn wiscin ymddiswyddo. Yn 1898 dewiswyd yn flaenoriaid, John Jones Bodrual, Robert Lloyd Owen, David Jones Frondeg.

Y Sul cyntaf yn Awst, 1893, cychwynnodd Robert Williams Nant Gwrtheyrn ar ei waith yma fel bugail. Yn haf 1898 fe dderbyniodd alwad o'r Graig. Efe oedd y bugail cyntaf i'w alw i'r swydd. Llafuriodd yn enwedig gyda'r bobl ieuainc. Yn 1899 derbyniodd Mr. W. O. Jones alwad fel bugail. Daeth. yma o Beaumaris.

Yn yr ysgol yn araf y cymerwyd mewn llaw wersi paratoedig y Cyfundeb, canys awyrgylch geidwadol braidd a fu yma. Megys ag yr oedd y canu, felly y bu'r gwersi yn yr ysgol a phethau eraill, sef ar yr hen gynllun gwreiddiol da. Adroddid yn nhymor William Owen y Deg Gorchymyn gan bob dosbarth yn ei dro, canys felly yr arferid gynt. Y pryd hwnnw ni chaniateid adrodd yr un hen adnodau drosodd a throsodd. Rhaid ydoedd aros ysbaid deufis o leiaf cyn y cyfrifid adnod i neb ar ol adroddiad blaenorol; ac hyd yn oed wedi hynny fel ail-adroddiad y cyfrifid hi. Er y rhoid bri ar yr hen ni roid dim bri ar lwydni. Fe berthynai i'r ysgol hon hyd ddiwedd y ganrif ddiweddaf, os nad o hyd, ddeuddeg o reolau sefydlog. Un ydoedd y rhaid dod i'r ysgol yn lanwaith ac at yr adeg briodol; ac un arall, na chaniateid yn ddigerydd rhyw uchel-chwerthin ar y ffordd allan. Os clywid am drosedd o unrhyw reol, fe roid sylw arbennig i'r rheol honno ar ben mis.

Dyma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Y mae yma rai dosbarthiadau rhagorol; ond byddai'n ddymunol talu mwy o sylw i'r gyfundrefn o raddoli. Gwnelai les mawr yma pe sefydlid cyfarfod darllen yn ystod yr wythnos i'r athrawon. Anogem i fwy o ffyddlondeb gyda golwg ar gael y gynulleidfa a'r eglwys yn fwy cyffredinol i'r ysgol, a thynnu allan gyn- lluniau o duedd i lesoli'r sefydliad. John Davies, Thomas Jones."

Arweinwyr y gân yn ddilynol i William Owen ydoedd. Robert Lloyd Owen a Hugh William Morris.

Y mae hanes gwasanaeth William Owen gyda chanu'r cysegr a dylanwad ei donau yn rhan o hanes Methodistiaeth Arfon, a gellir cyfleu rhywbeth am danynt yma cystal ag yn unlle. Yn ddyn ieuanc gartref yn Cilmelyn ym mhlwyf Bangor y dechreuodd gyfansoddi tonau. Wrth ddychwelyd oddiwrth ei orchwyl yn y chwarel yn y prynhawn, ymhen rhyw encyd o amser ar ol gwaeledd, ac yn flinedig o gorff, y cyfansoddodd y dôn Deemster ar y geiriau, "Mi nesaf atat eto'n nes." Yn ei lety yn Glanygors, yn nes i'r chwarel na'i gartref, y canwyd Deemster ganddo ef a'i gyd-letywr. Erys y dôn yn ei blas a hoffir hi gan blant bychain. Fe gyfansoddodd nifer o donau cyfaddas i'w canu mewn cyfarfodydd dirwestol, a bu ganddo gör undebol pwysig dan ei arweiniad oddeutu'r flwyddyn 1850. Dros ei ieuenctid a chanol oed yr oedd ei lais ef ei hun yn groew a seinber a threiddiol. Ei dôn Bryn Calfaria ar yr emyn, Gwaed y Groes, sydd wedi rhoi arbenigrwydd arno ymhlith cyfansoddwyr tonau. Y mae rhyw ffurf ar fywyd crefyddol. Cymru yn cael mynegiant yn y dôn yma fel na cheir feallai mor llwyr yn yr un dôn arall: gwna'r dôn yma ei hapêl at y profiad cyffredin. Yr oedd canu'r emyn ar y dôn yma gan y Parch. Hugh Roberts y cenhadwr, mewn cyfarfod cenhadol ym Moriah oddeutu 35 mlynedd yn ol, yn gorchfygu teimlad y lliaws yn y gynulleidfa fawr. Dywed Mr. Hugh Roberts. mewn llythyr: "Pe buasai William Owen yn gwybod y dylanwad y mae ei dôn wedi ei gael drwy gyfryngiad yr Ysbryd yn denu ac yn swyno cynhulliadau enfawr o baganiaid i wrando cenadwri y Bywyd ym Mryniau Cassia a Jaintia, ychwanegasai at ei nefol ddedwyddwch. Cyhoeddwyd y Llyfr Tonau Cynulleidfaol Cassiaeg cyntaf ugain mlynedd yn ol [o 1913]; ac enw'r hen dôn yn y llyfr yw Lum Kalbari." Mr. John Griffiths, Bee Hive, Bangor, a ddywed: "Oddeutu 40 mlynedd. yn ol [o 1913] yr oedd tri neu bedwar o ymfudwyr yn teithio'r anialwch yn Awstralia a'u gwynebau ar y meusydd aur. Digwyddai fod un ohonynt yn fachgen o sir Fon. Un noswaith cyrhaeddasant dŷ log mwy na'r cyffredin. Curasant y drws amryw weithiau. Curasant unwaith eto, pryd y rhoes benyw ei phen allan o ffenestr y llofft, gan ddweyd nad oedd derbyniad iddynt y noswaith honno, fod ei gwr oddicartref. Yr oedd y trueiniaid ar hyn ar droi ymaith yn siomedig. 'Wait a minute, boys,' meddai'r Cymro, a thrawodd yr hen dôn, Bryn Calfaria; a chyn ei fod wedi gorffen y pennill yr oedd y drws yn agored led y pen, a'r croesaw mwyaf yn cael ei estyn i'r trueiniaid." Nid yw hon ond enghraifft deg o ddylanwad cyffredinol y dón ar galon y Cymro. I bobl o'r tuallan bri mawr Caeathro ydyw ei mynwent. Y mae bri William Owen Prysgol yn ddiau yn ymestyn ymhellach; a phery Caeathro o hyd i roi disgleirdeb ar enw Dafydd Morris. Drwy'r cwbl, o fewn Arfon ac am gryn bellter o'r tuallan, y fynwent a rydd fri ar y lle. Macpelah y Methodistiaid ydyw o fewn rhyw gylch, a mangre gorweddfa enwogion y ffydd o fewn cyfnod go ddiweddar. Y gyntaf a hebryngwyd yma oedd priod William Owen. John Jones Mochdre, fel y gelwir ef o hyd, gan nodi'r man y dechreuodd gyntaf ddihuno'r wlad â'i utgorn arian a orwedd yma; a'i fab John Maurice Jones, cannwyll ei lygad,—llwyd ei wedd, gloew ei olygon, ac un y bu ei goffadwriaeth ef a'i chwaer yn ennyn. teimlad a dawn y tad yn seiat Engedi a mannau eraill; Evan Williams y limner, a luniodd ar y gynfas Eben Fardd a Dafydd Jones ac Edward Morgan, a erys yma hyd nes tynner ei lun yntau ar ddeunydd anniflant gan limner difeth; Thomas Hughes. araf araf, a'i dafod yn gwbl glöedig hyd nes yr enynner ei ddawn o newydd; Thomas Williams Rhyd—ddu, gyda'r hwyl lydan a'r balast bach, yn chwyrlio ar wyneb y tonnau brigwyn; John Williams Siloh syml ei nôd, taer ei lef ar annuwiolion Tanrallt; Ieuan Gwyllt, a impiodd gelfyddyd yr Ellmyn ar gân y Cymry, gan ei choethi a'i hurddasoli; William Owen Prysgol, a ganodd o'i big ei hun yn yr hwyrnos heb ddim i'w gymell ond y ddraenen yn ei fron; Dafydd Morris, a eglurai ryw ffansi gen i," ac a'i cymhwysai gyda bloedd hamddenol; William Griffith, arweinydd y gân ym Moriah a'r Sasiwn, llawn ysbryd ac asbri; Robert Lewis dyner ei wên, medrus ei gerdd, eang ei wasanaeth gyda chanu eglwysi'r cylch; William Evans y cenhadwr cywirnod o Millom; Goleufryn oleubryd oleulawn; Henry Edwards, y dywedwyd yn ei gynhebrwng y byddai Siloh yn argraffedig ar ei galon byth; John Edmunds gyfrwysgall, llawn adnoddau; John Owen "y glo," serchog yn ysgydwad ei law; Evan Hughes golomenaidd ei belydriad; John Jones y blaenor, yn byw, yn symud a bod er mwyn Engedi; Hugh Williams y Tyddyn a orfoleddodd nes dryllio'r byrddau coed; John Jones Llainmeddygon, ffyddlon i'w nôd; Rowland Jones Tygwyn, onest, ddefnyddiol; John Davies yr Ystrad, cyflawn wr yn eglwys y Betws; John Jones Beulah, ochelgar, cydnabyddus â'r gyfraith, craff ei edrychiad; ac nid yw hyn yn cyrraedd ond hyd o fewn dwy flynedd i ddiwedd y ganrif o'r blaen. Na, nid yma y maent ychwaith! Gellir cysylltu yr atgof am danynt â'r lle, am mai yma y bwriwyd eu plisgyn; ond dyna'r cwbl. Ym mynwent Eglwys Wen ger Dinbych y mae carreg las ac arni'n gerfiedig, "Llyma y gorwedd —," dim rhagor. Cerfiwyd y geiriau gan Twm o'r Nant, gan fwriadu torri ei fedd—argraff ei hun. Ataliwyd ei law gan ryw deimlad neu ryw reddf, ac arhosodd y garreg fel yna yn gofgolofn iddo, ac nid oedd eisieu ychwaneg. Nid yw'r gwir ddyn dan y garreg las honno: nid yw'r gwir gorff yno na'r hedyn ohono, namyn yn unig y plisgyn yr ymddihatrwyd oddiwrtho, ac a erys bellach yn yr allanol. Fe giliodd y dyn yn ol i'w wreiddyn, ac yno yn y dirgelwch yr erys, gan ymestyn yn ddisgwylgar hyd wanwyn siriol. "Llyma y gorwedd —," nid y gwir ddyn; y mae efe'n wr arallwladog, chwedl Jacob Behmen yng nghyfieithiad Morgan Llwyd. Nid "llyma y gorwedd," ond acw yr ymegyr. Nid gwneud eu bedd ym Mynwent Caeathro y maent; ond gwneud eu nyth yn y Mawr Ddirgelwch. Nid torri beddrodau Caeathro a wnant ar swn yr utgorn diweddaf; ond hedeg allan o'r nyth yn y Mawr Ddirgelwch, lle maent yn disgwyl y mabwysiad, sef prynedigaeth y corff, pryd y bydd yr holl greadigaeth gyda hwy "yn rhoi bloedd na chlywodd clustiau Duw erioed mo'i bath," ys dywedai Robert Jones Llanllyfni. Yn y Mawr Ddirgelwch, nid ym Mynwent Caeathro, y gorwedd eu corff goleu, hedyn corff yr atgyfodiad, ac allan o'r cyflwr goleu hwnnw, ac nid o'r pridd cleilyd, llaith,—oddieithr fel arwyddlun—yr ymagorant yn yr Adenedigaeth, gan hedeg allan i'r Rhyddid a'r Claerder ger gŵydd Wyneb Duw. Amen.

"O ynfyd! . . . . nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau. . . . . Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun."

ENGEDI.[6]

YR ysbryd cenhadol achosodd adeiladu Engedi, ebe Dafydd Williams. Gallasai hynny fod yn wir mewn rhan. Olrheinir cychwyniad yr ysgogiad am dano i'r flwyddyn 1837. Yr oedd yr achos ym Moriah y pryd hwnnw wedi cyrraedd awr anterth. Dywedai'r Capten Evan Roberts, oddiar ei atgof ei hun, y byddai'r capel yn llawn dan sang ar nos Sul pryd bynnag y pregethai Mr. Lloyd yno. A dywed Dafydd Williams, oddiar ei atgof yntau, y byddai llawr y capel yn rhwydd lawn yn y gyfeillach eglwysig. Yn wyneb hyn, fe ddichon mai nid anghywir dweyd mai'r achos i'r haid godi ydoedd i'r hen gwch orlenwi. A chydnabyddir nad oedd pawb o'r swyddogion yn addfed iawn i eangu'r terfynau, oddiar ofn niweidio'r achos ym Moriah yn ormodol. A mynnai rhai selog yn Engedi mai cam â'r achos yno oedd peidio âg adeiladu ddwy neu dair blynedd yn gynt.

Y prif offeryn yn yr ysgogiad am gapel newydd oedd Robert Evans, un o flaenoriaid Moriah. "Trwy graffineb a sel a dyfalwch Robert Evans, yn bennaf, y prynnwyd y tir ac y dechreuwyd adeiladu," ebe Dafydd Williams. Cefnogid Robert Evans gan Joseph Elias, blaenor arall. Yr oedd y gweinidogion, Dafydd Jones a Thomas Hughes yn anogol i'r symudiad, ac yn ei gefnogi ym mhob modd. Ystyrrid fod y tir a ddewiswyd gyda'r mwyaf manteisiol allesid fod wedi gael, ac mewn rhan o'r dref ag yr oeddid yn adeiladu tai yno ar y pryd. Mynnai rhai brodyr, gan gymaint eu sel, gael capel o'r un maint a Moriah. Dadleuai'r Parch. Dafydd Jones dros gapel canolig, a Robert Evans am gapel cystadl a Moriah. Ebe Robert Roberts stryd y capel, gan gefnogi Robert Evans, a dyfynnu Esai y proffwyd, "Yr Arglwydd a grea ar bob trigfa o Fynydd Seion." "O," ebe'r gweinidog, " os yw'r Arglwydd yn mynd i greu, mi ildiaf i ar unwaith." Yn y cyfamser, ni ildiodd Dafydd Jones, ac efe a orfu.

Dechre adeiladu, Gorffennaf 12, 1841. Arolygid yr adeiladwaith gan Hugh Hughes Segontium Terrace. Mesur y capel, 18 llath wrth 17, ebe Dafydd Williams; 16 llath ysgwar, ebe Mr. David Jones. Tebyg fod y mesur olaf am y tufewn. Adeilad cadarn, gyda dwy ystafell helaeth odditano. Yr oedd y pulpud yn y ffrynt rhwng y ddau ddrws, a'r oriel ar y ddwy ochr a chyferbyn â'r set fawr. Yr oedd wyneb y capel 11 llath o'r heol, ac esgynnid amryw risiau i fyned iddo. Yr holl draul, £2,360 4s. 8½g.

Agorwyd, Mehefin 19, 20, 1842. Pregethwyd yn y ddau gapel y Sul, ac yn Engedi yn unig y Llun. Bore Sul yn Engedi, Dafydd Jones, Salm ix. 20; William Roberts Amlwch, I Cor. i. 30. Am 2, Richard Humphreys Dyffryn, Rhuf. xii. 1. Am 6, John Jones Tremadoc, Esai. liii. 11; R. Humphreys, Ioan i. 14. Am 6, fore Llun, cyfarfod gweddi; am 8, cyfarfod eglwysig; am 10, Owen Thomas, 2 Bren. v. 13; W. Roberts, Heb. xii. 24. Am 2, John Owen Gwyndy, Eph. ii. 16; R. Humphreys, Salm xxvii. 4. Am 6, John Jones Talsarn, Ecsodus xx. 24.

Dywed Dafydd Williams (Drysorfa, 1842, t. 285) y cyfan- soddwyd y penillion yma gan Eben Fardd ar gyfer yr agoriad, ac yr oedd y bardd ei hun yn bresennol yn clywed eu canu:

Preswylia, O Arglwydd y lluoedd!
Ynghanol dy bobl'n y byd;
Mae'n wir nad all nefoedd y nefoedd
Na'i chylchoedd dy gynnwys i gyd;
Ond eto o fewn y Tŷ yma,
Pelydra, pelydra i lawr;
Ym mawredd dy nerth ymddisgleiria,
A'r dyrfa a'th fola yn fawr.

Na fydd fel pererin yn brysio,
I droi ac ymado o'n mysg;
Dy wyneb mae'r eglwys yn geisio,
O! aros a dyro bob dysg;
Tro afon dy ras yma'n union,
Ond iti wneud hynny, O Iôr!
Bydd pechod deng mil o blant dynion.
Mewn angof yn eigion y môr.


Pan gwyno dy bobl yn dy wyddfod,
Fan yma gan drallod yn drist;
O gwrando o fangre'th breswylfod
Eu hochain dan gryndod am Grist;
Dilea y gorchudd ar unwaith,
Datguddia holl frasder dy Dŷ;
Dod iddynt gip olwg ar ymdaith,
O fraint y gogoniant sydd fry.

Os Satan a feiddia droi heibio
Ei gryfach a'i dalio'n ei dwyll,
Gan wared trueiniaid fu'n reibio,
A'u dwyn yn rhai bywiol i bwyll;
Rhy gyfyng fo'r lle i'w breswylwyr,
Boed Seion mewn gwewyr i gyd,
Nes esgor ar fechgyn wnant filwyr,
I gario ei baner drwy'r byd.

Daeth 120 o aelodau Moriah i gychwyn yr achos yn Engedi, sef yr un nifer, ebe Dafydd Williams, a gychwynnodd yr eglwys Gristnogol. Yr ydoedd ef ei hun a'i deulu yn eu plith. Hefyd, heblaw'r ddau flaenor, William Evans Cilfechydd, a oedd yn flaenor yn y Waenfawr cyn hynny, ac yn dra thebyg wedi ei alw yn flaenor ym Moriah, ac yma. Ac ymhlith eraill y rhai yma: William Owen y llwythwr, Heol y capel, Owen Thomas Henwalia, Richard Humphreys clerc, Rice Jones asiedydd, John Edwards,—tad Henry Edwards, y blaenor yn Siloh— William Williams Maesincla, Capten Evan Williams, Capten William Evans, Owen Jones Stryd llyn, William Williams pobydd, Robert Roberts paentiwr, Capten Owen Owens yr Unicorn, Hugh Jones cariwr,—ceidwad y Guild Hall ar ol hynny, David Roberts Penmorfa, Hugh Jones teiliwr, John Thomas cigydd, Hugh Williams asiedydd, John Ethall y rhaffwr, Owen Lewis y ffeltiwr, John Brereton. Ac ymhlith y chwiorydd, Ellen Prichard Penygraig (neu Penybryn), Ann Prichard y Feisdon, Dros yr Aber, Hannah Llwyd a'i merch, Mary Edwards, Mary,—gwraig Daniel Jones (Llanllechid), Ann Roberts, a ddaeth yma o Manchester, Margaret, gwraig William Thomas y blaenor, Jane, gwraig Dafydd Williams, Ann Pritchard Gallt y sil, Susannah, gwraig y Capten Evan Roberts, Mary, gwraig y Capten Henry Williams, Jane Jones, mam Richard Jones y blockmaker, Elizabeth Roberts, Elizabeth Davies, Gwen Griffith, Ann Jones Tyddyn llwydyn, Mary Thomas, Catherine Price, Mary, gwraig y Capten John Jones, Elizabeth, gwraig Owen Griffith y cyfrwywr, Dorothy Williams, Ellen Jones Cefn mwysoglan, Mary, gwraig Evan Jones y blaenor, Ann Price, Jane, gwraig y Capten John Thomas, Catherine Jones Heol y capel, Ellen Jones Lôn fudr, Laura Robinson, Mary Brereton, Margaret Gibson, Jane Edwards.

Dywedir na ddarfu i eglwys Moriah, fel y cyfryw, gynorthwyo gyda dyled Engedi, er na chwynir na bu aelodau Moriah yn gynorthwyol yn hynny. Cwynid, hefyd, pan ddeuai gwr dieithr o'r deheudir heibio gyda'i gyfaill, y cedwid y gwr dierth gan Moriah, gan adael y cyfaill yn unig i Engedi. Ymhen amser, pa ddelw bynnag, medrodd Engedi honni ei hawl i'r gwr dierth ei hun yn ei thro; ond dim diolch i Foriah am hynny.

Derbyniwyd fel blaenoriaid o leoedd eraill, Capten Henry Williams y Chieftain a'r Capten Richard Hughes yr Hindoo, y blaenaf o Bwllheli. Dywed Mr. John Jones fod y ddau hyn yn ddynion da iawn, yn garedig a siriol, ac y cyfrifid hwy yn dduwiol ddiamheuol. Y blaenoriaid cyntaf i gael eu dewis gan yr eglwys ei hun oedd Owen Griffith a William Thomas. Symudodd yr olaf oddiyma i'r Ceunant. Gwr tawel, duwiol, y cyfrifid ef. Yn 1849 dewiswyd y Capten Evan Roberts ac Evan Jones.

Yn 1844, symudodd Daniel Jones yma o Garneddi; ac yn 1846 symudodd Dafydd Morris yma o Garneddi, ac oddiyma i Drefriw yn 1852, wedi bod o gynorthwy gwirioneddol i'r achos yma.

Bu farw William Evans (Cilfechydd) ym Mai 9, 1846, yn 86 oed, yn flaenor yn y Waenfawr er 1828, ac ym Moriah er 1840, ac, mae'n debyg, wedi ei alw i'r swydd yno, fel y galwyd ef yma ar gychwyn yr achos. Dyma sylw Dafydd Williams arno: "Cymeriad hynod oedd i William Evans. Gweddiai yn wahanol i bawb, a siaradai yn wahanol i bawb. Yr oedd yn dra derbyniol gan yr eglwys." Mab iddo ef oedd Robert Evans. (Edrycher Brynmenai a Waenfawr.)

Yn 1849 daeth David Davies yr exciseman yma, gan symud oddiyma yn 1854. Yr oedd y tri gweinidog, yn eu gwahanol ffordd, yn ddynion o ddawn go arbennig, a bu eu presenoldeb yn gyfnerthiad i'r achos. Deuai Dafydd Jones a Thomas Hughes, hefyd, yma i'r seiadau yn dra mynych, a rhoid mawr werth ar bresenoldeb y blaenaf o'r ddau yn enwedig. Yma y daeth Evan Williams yr arlunydd yn gyntaf, pan ymsefydlodd yn y dref yn 1851, ond yn y man fe symudodd ei babell i Foriah.

Sylw Dafydd Williams ar Joseph Elias ydyw: "Yr oedd yn frawd i'r enwog John Elias, ond yn bur anhebyg iddo oddieithr yn ei gorff; ac odid y cawsai ei ddewis i'r swydd onibae am ei berthynas clodfawr. Eithr yr oedd efe yn wr duwiol, a bu farw mewn heddwch â'i Dduw." Yr oedd yr ymdeimlad ei fod yn frawd i John Elias, yr areithiwr mawr, yn peri iddo yntau fod mewn cryn lafur wrth gyfarch, fel y dywedir, ac yn naturiol yn peri iddo dybied fod rhyw ddisgwyliad wrtho yntau hefyd. Pan oedd William Roberts Clynnog mewn seiat ymweliad ym Moriah unwaith, gofynnodd i'r blaenoriaid fyned o'r neilltu, a Joseph Elias y pryd hwnnw yn eu plith, er mwyn cymell y brodyr i draethu eu meddyliau yn fwy rhydd. Yna fe gymhellodd yr ymwelwr y brodyr i draethu eu barn am y blaenoriaid. Cododd un ar ei draed ar unwaith, a dywedodd y dewisai ef i Robert Evans a William Swaine ddweyd mwy yn y seiat, ac i Joseph Elias ddweyd llai. "Ho!" ebe William Roberts, a galwodd y blaenoriaid i fewn, a thraethodd y genadwri yn wyneb-agored iddynt.

Bu Thomas Griffith o'r Waenfawr yma am ysbaid, pryd y dychwelodd yn ol i'r Waenfawr. Galwyd ef yn flaenor yma. Mawrth 16, 1852, y bu farw Daniel Jones (Llanllechid), ar ol trigiannu yn y dref am wyth mlynedd. Daeth yma ar ei briodas à Mary Gibson ei ail wraig. Croesawyd ei ddyfodiad yn fawr, a gwerthfawrogid ei bresenoldeb a'i lafur yn y lle. Fel gwr cyhoedus, yr oedd tymor ei fawr nerth i fesur drosodd, a Daniel Jones Llandegai a Llanllechid y parhaodd efe i fod, er ei drigias o wyth mlynedd yng Nghaernarvon. Ac yn ei gyfarchiad yn y cyhoedd yr oedd ei briodoldeb arbennig yntau. Dilewyd yr argraff oddiwrtho yn ei drigias yma, hyd yn oed i breswylwyr y dref, yn yr argraff oddiwrtho fel Daniel Jones Llanllechid; ond fel y cyfryw fe erys ei argraff a'i ddelw yn hir eto. Er hynny, yn eglwys ieuanc Engedi, fe fu ei arosiad yn werthfawr, oblegid ei ddifrifwch a'i symledd (Edrycher Carneddi.)

Yn 1852 y dewiswyd yn flaenoriaid, Dafydd Williams, y pregethwr wedi hynny, a Hugh Hughes.

Hydref 12, 1856, y bu farw Robert Evans, yn 66 oed, yn flaenor yma o'r cychwyn, a chyn hynny ym Moriah er 1828. Brodor o Dan y maes, Felinheli, a daeth yn aelod eglwysig yno pan nad oedd ond tuag wyth oed. Symudodd yn ieuanc gyda'i dad i'r Cilfechydd, ac ymagorodd yn llanc yn y Waenfawr. Bu yn yr ysgol gyda Dafydd Ddu Eryri. Mewn masnachdy yng Nghaerlleon, fe gafodd gyfleustra i ddysgu'r iaith Saesneg yn dda. Yn 21 oed fe ddaeth i gadw masnachdy yng Nghaernarvon. Ystyrrid ef yn wr ieuanc o nodwedd wylaidd, mwy tueddol i gadw o'r golwg na'r cyffredin. Er hynny, yn 27 oed fe'i gwnawd ef yn arolygwr ysgol Moriah. Dewiswyd ef yn flaenor dair blynedd yn gynt nag y derbyniwyd y swydd ganddo. Ail-ddewiswyd ef, ac hyd yn oed y pryd hwnnw drwy arfer taerni y cafwyd ganddo gydsynio. Bu am ysbaid wedi ei ddewis yn flaenor, ac yntau erbyn hynny yn wr 38 oed, nad ellid ond gydag anhawster ei gael i gyfarch y seiat, a thawedog ydoedd ym mhwyllgorau y blaenoriaid. Er hynny, pan geid ef i draethu barn, byddai'r farn honno yn fynych yn dirwyn y dyryswch i ben. Bu gwaith William Roberts Clynnog yn rhoi cyfleustra i'r frawdoliaeth draethu ei barn am y blaenoriaid, fel y crybwyllwyd ynglyn â Joseph Elias, yn foddion i ysgwyd peth ar Robert Evans, ac ymaflodd yng ngwaith ei swydd yn fwy egnïol. Er hynny, nid ymagorodd ei ddawn yn gyflawn tra fu ym Moriah, er ei fod yn 52 oed yn dod oddiyno. Dywedir yr eisteddai yng nghwrr pellaf y sêt fawr, wrth golofn. bellaf y pulpud a safai ar bedair colofn, ac allan o olwg y rhan. fwyaf. Disgrifir ef gan Mr. John Jones fel o "gorff cryf a lluniaidd, pen mawr, pâr o lygaid fel barcut, yn edrych drwy ddyn; ond er fod golwg llym arno, yr oedd ganddo ryw gilllygad cynes." Eithr ni bu yn ei flynyddoedd olaf ym Moriah mor dawedog ag y dywedid weithiau ar ol hynny. Fe ddywed Owen Jones (Manchester y pryd hwnnw), yn ei gofiant bychan iddo, mai ym Moriah, wedi derbyn cymhelliad William Roberts Clynnog ar yr achlysur a nodwyd, y cyfnewidiwyd ef yn drwyadl. Eithr nid yw hynny yn gytun yn hollol â thystiolaethau eraill, er y rhaid fod, debygir, lawer o wir yn y dywediad. Fe wyddys fod Robert Evans o gychwyn y mudiad dir- westol yn ymdywallt allan fel ufel berwedig o rombil llosgfynydd, ac yr oedd y mudiad hwnnw wedi cychwyn chwe blynedd cyn iddo ymadael â Moriah. Ond dichon, er bod ohono mor gyhoeddus gyda dirwest, ei fod yn gymharol dawel o hyd fel blaenor. A dyna'r dystiolaeth gyffredin. Ac y mae lle i gredu, er holl ddull gwylaidd Robert Evans, a'i duedd i gadw o'r golwg, nad oedd mewn un modd yn amddifad o uchelgais, nac o'r ddawn i lywodraethu ac awdurdodi pan unwaith y caffai'r awenau yn deg i'w law. Y mae ambell natur a amgaea ynddi ei hun, os na chaiff hi gyflawn rwysg i ymagor yn y modd y mynn hi ei hunan, ac yn gwbl wrth ei chymelliad ei hun. Fe gafodd Robert Evans ei gyfleustra gyda'r mudiad dirwestol, canys fe ddaeth ar unwaith yn arweinydd iddo yn y dref; a chafodd ei gyfleustra drachefn yn yr eglwys ieuanc yn Engedi. Gyda dirwest, fe ddaeth yn arweinydd haid o ddynion. gorselog, liaws ohonynt wedi bod yn ymdrybaeddu yn y ffos ac i ymdrybaeddu ynddi drachefn, ond yng nghynnwrf eu tymerau ac yn nieithrwch eu profiad newydd, yn cyhoeddi eu hanathema mewn tân a mwg ar ddynion da heb eu hennill i gofleidio'r egwyddor ddirwestol. Ymdaflodd Robert Evans i'r ymdrech gyda dirwest â'i holl ynni. A'r un elfen ordeimladol, a barai iddo gynt gilio i mewn iddo'i hun yn wyneb pwys y gwaith, a barai iddo, hefyd, wedi unwaith ei gyffroi drwyddo, daflu heibio bob rhwystr, a chan godi'r fflodiart ar ddyfroedd fu'n croni cyhyd, eu gollwng allan bellach gyda rhuthr rhyferthwy. Fe lefarai y pryd hwnnw, ac am flynyddoedd gweddill ei oes, yn yr awyr agored ar y maes neu ar y pendist dan gyffroadau angerddol. Fe fyddai ei gorff yn ymnyddu, ei wyneb yn ymliwio yn gochddu, yr ewyn yn sefyll ar ei wefus, a'i lais yn darstain yr heolydd. A byddai ei ymadroddion yn cyfateb. Defnyddiai'r iaith gryfaf, halltaf, grasaf. Fe fyddai, fel y dywedir am rai creaduriaid, yn codi'r croen i ffwrdd â'i dafod. Fe adroddir y byddai'r Parch. Dafydd Jones yn cael ei flino gan segurwyr yn sefyll yn un rhes yn y pendist: byddai'n clywed eu swn o'i stafell. Gyda'i gyfrwystra arferol fe achwynodd wrth Robert Evans. Y tro nesaf y daeth yntau i'r pendist i gyfarch, fe gymerodd ei ddameg oddiwrth gyffeithio crwyn, a chymharai'r yfwyr yn y tafarnau i'r crwyn. yn socian yn y cyffaith. Enwai'r tafarnau yn y gymdogaeth lle byddai'r cythraul yn rhoi ei grwyn i socian, " ac yna," ebe fe, "y mae yn dod â hwy i'r pendist i sychu. Chwi a'u gwelwch yn un rhes wedi eu dodi yma i sychu. Crwyn y cythraul ydyn nhw wedi eu dodi i fyny i sychu yn y pendist." Daliodd ar grwyn y cythraul wedi eu dodi i fyny i sychu yn y pendist" yn ddigon hir i'r peth fyned adref, ac fe aeth y dywediad am gryn ysbaid yn fath ar ddihareb yn y dref. Peidiodd yr arfer i gryn fesur, a chafodd Dafydd Jones lonydd i efrydu. Ond os gwelid ambell rai hyfach na'i gilydd o'r yfwyr yn rhyw lercian yn y pendist, fe ddywedid gan y rhai elai heibio, "Dacw nhw, crwyn y cythraul yn sychu!" Disgrifiai yn ddifloesgni yn eu clyw yn yr awyr agored ddrwg arferion llymeitwyr a meddwon, nes codi gradd o gywilydd ac arswyd ar liaws. I'r sawl a glywodd y disgrifiadau hyn ohono yn ieuanc, yr oedd clywed yn ddiweddarach mai blaenor gwylaidd, tawedog ydoedd unwaith ym Moriah yn swnio yn beth anhygoel. Fe ddywedir y bu darllen Finney ar ddiwygiadau yn foddion i gyffroi ei feddwl, ac i'w ddeffro i'r teimlad o gyfrifoldeb dros ei gyd-ddynion, a chafodd gyfleustra gyda dirwest ym mlynyddoedd cyntaf y mudiad i weithio'i argyhoeddiadau allan i ymarferiad. Yn Engedi, fe gymerodd ei le ar unwaith fel arweinydd, ac yr oedd ei ofal, mewn gwirionedd, dros bob rhan o'r gwaith. Yr ydoedd yn wr hoew, llawn ynni, ac ymdaflai yn hollol i'w waith fel blaenor yr eglwys. A chymerodd yr awenau yn o lwyr i'w ddwylo'i hunan. Erbyn hyn fe deimlid awdurdod ym mhob ystum o'i eiddo ac ym mhob ymddygiad. Medrai'r gwr oedd braidd yn rhy wylaidd i draethu ei feddwl ym mhwyllgor y blaenoriaid ym Moriah ddangos ei hun yn arweinydd cryf wedi i'r awenau ddod yn deg i'w ddwylo. Ac os oedd rhai yn gwrthddywedyd, yr oedd iddo ymlynwyr hefyd. Anfynych y bu gan neb bleidwyr mor selog. Edmygid ef oblegid. ei sel ddiflino gan liaws, ond tyngid iddo yn gwbl gan liaws eraill. Yr oedd gair Robert Evans yn ddeddf i ambell un, ac ni ymholid ymhellach na chael sicrwydd mai fel a'r fel y dywedodd efe. Un peth a roddai'r awdurdod hon iddo ydoedd ei gymeriad dilychwin a'i gyfiawnder ymarferol. Fe aeth yn ddihareb am onestrwydd yn ei fasnach, ac yr oedd ei fasnach yn un go helaeth. Ac yr ydoedd dros ben hynny yn wr caredig, cymwynasgar, haelionus gyda phob gwaith da, elusengar i'r tlawd. Fe aeth yn ddihareb am hynny hefyd. Gorfod oedd ar bawb, pleidiol iddo neu amhleidiol, edrych arno fel gwr of ysbryd hunanymwadol. Rhoddai hyn iddo ddylanwad dibendraw ar rai pobl, a llareiddiai yn fawr unrhyw wrthwynebiad a allasai eraill deimlo iddo. A rhaid cofio am ei sel or-danbaid gyda dirwest, mai sel gwr goleuedig ei feddwl ydoedd. Y dull unbenaethol ydoedd y dull cyffredin yn ei amser ef, ond bod ganddo ef fwy o rym cymeriad na chyffredin yn peri i'r peth fod yn fwy amlwg ynddo. Er ei sel deyrngarol i'w eglwys a'i gyfundeb, yr oedd yr un pryd yn eang ei gydymdeimlad ag enwadau eraill. Ac er ei ymroddiad i ddirwest a chrefydd, yr oedd ganddo ofal am fuddiannau y dref. Etholwyd ef yn 1850 yn henadur y fwrdeisdref. Bu'n llywydd amryw gymdeithasau yn y dref, ac yr oedd yn drysorydd y Cyfarfod Misol. O'i gymharu âg eraill, fe allesid dweyd y bu rhai o flaenoriaid Engedi tuhwnt iddo mewn meddylgarwch, a bu rhai o flaenoriaid eraill y dref yn rhoi argraff o ysbrydolrwydd meddwl amlycach, ond ni bu un ohonynt a gyrhaeddodd ddylanwad mor eang. Fe gyflwynwyd ei lun iddo, wedi ei dynnu gan J. C. Rowlands, yn y Gymanfa Ddirwestol a gynhaliwyd yn y castell ym Mehefin, 1856. Dyma nodiadau ei gyfaill, Dafydd Williams, arno: "Gweithiwr heb ei ragorach yn yr holl wlad ydoedd. Darllenai lawer: yr oedd yn deall cyfreithiau'r tir yn rhagorol, a rhoddai gynghorion doeth i rai mewn penbleth. Areithiodd ar ddirwest gyda brwdfrydedd digymar, a gwnaeth argraff dda ar fyd ac eglwys drwy hynny. Gwelsom pan nad oedd ond rhyw ddau neu dri yn Engedi heb fod yn ddirwestwyr. Ceidwadwr selog fu am ran fawr o'i oes; ond yr oedd yn rhyddfrydwr da ers rhai blynyddoedd, a chondemniai y degwm a defodaeth yn ddiarbed. Gweddiwr anghyffredin yn ei flynyddoedd olaf. Holwr plant gwresog. Yn wir, pa beth bynnag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur fe'i gwnae â'i holl egni. Rhoddai lawer o'i arian at achos y Gwaredwr. Astudiodd lawer ar Lyfr Daniel a'r Datguddiad. Yr ydoedd fel Obadiah yn ofni Duw o'i febyd. Bu am tua 14 blynedd yn golofn gadarn i'r achos yn Engedi. Cafodd lawer o helbul a thrafferth gyda rhai y rhoes ormod o le iddynt. Cafodd gystudd blin. 'Dyna air anwyl,' meddai wrthym un tro y pryd hwnnw,—Ac efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd a'u carodd hwynt hyd y diwedd. Bu farw mewn tangnefedd. Cafodd gladdedigaeth tywysogaidd. O'r cyfaill cywir a diblygion! Ni chawsom yr un ar ei ol tebyg iddo. Cawn gydgwrdd eto, ni a hyderwn, yn y wlad well." (Cofiant Alderman Evans, Owen Jones, 1857. Drysorfa, 1856, t. 390.)

Dirwestwr oedd i gyd drosto;—dirwest
Auraidd oedd ei fotto;
Dirwest! nid ofnai daro;
Beiddiai fyd, lle byddai fo.


Corniai wirfoedd Caernarfon . . .

Henadur cymwys eglwysig—ydoedd,
Henadur dinesig;
Gwr oedd o fraint gwyrdd ei frig,
Beunyddiol wr boneddig.

. . . Dyna'i enw, Dyn uniawn. (Eben Fardd).

Y flwyddyn y bu farw Robert Evans y daeth John Jones yma o Fethesda. Yr oedd yn flaenor yn Jerusalem, a galwyd ef i'r swydd yma. Yn Awst, 1857, gwnawd Engedi a Thanrallt yn daith Sabothol. Yn 1859 y symudodd Robert Lewis y pregethwr yma o Manchester. Yn 1859 y daeth Richard Jones y Treuan yma o Gaeathro; yn 1860 Hugh Owen o Birkenhead; ac yn 1861 y Parch. William Griffith o Bwllheli.

Fe ddywed Mr. David Jones fod dychweledigion diwygiad 1859 wedi glynu yn dda wrth yr achos, rai ohonynt yn ffyddlon gyda gwaith allan o olwg dynion. Dywed fod dylanwad neilltuol gyda Dafydd Morgan ar ei ymweliad yma, ac y pregethai weithiau yn y pulpud weithiau yn y sêt fawr. Byddai Marged Williams Heol y llyn a Catrin Edwards yn gyffredin yn arwain y gorfoledd. Byddai gorfoledd a chân yng nghyfarfodydd y bobl ieuainc weithiau am oriau. Nos Fawrth, Tachwedd 8, y daeth Dafydd Morgan yma. Gweddiai am ddracht o'r afon yr oedd ei ffrydiau yn llawenhau dinas Duw, a thorodd yn orfoledd. Dyma'r adeg y daeth Griffith y Clogwyn gwyn at grefydd, hen feddwyn o'r blaen, a glynodd i'r diwedd. Esgeuluswr oedd Sion Ffowc, ond dyn o ddawn a gwybodaeth. "Y diafol," meddai, "yw'r gwiriona a welis i erioed. 'Does gen ti ddim crefydd,' meddai wrthyf, 'does gen ti ddim.' Gyrr hynny fi bob amser ar fy ngliniau. A dyna lle y bydda'i yn i weld o'n wirion, y dywed o'r un peth wrtha'i drachefn a thrachefn, ac yntau yn gorfod gweld mai unig effaith hynny arna'i fydd fy ngyrru i at orsedd gras." Daeth Moses y Potiwr at grefydd y pryd hwn, er dod ohono i'r oedfa yn feddw. Dyma'r gwr fu'n cadw'r half-way-house ar y Wyddfa. Bu gan grefydd ryw afael arno yntau o hynny ymlaen. Dengys dyddlyfr Dafydd Morgan fod 47 o ddychweledigion yn Engedi yr oedfa honno. Ni wyddys ai ym Moriah ai yn Engedi yr oedd Dafydd Morgan yn gweddïo dros y morwyr. Ym mhen ysbaid mordwyodd llong o Quebec i'r Fenai gyda llwyth o goed. Elsby oedd y capten, gwr o Gymro, a arferai gynnal gwasanaeth crefyddol beunydd ar fwrdd y llong. Un diwrnod galwyd y dwylo i gyd ond dau i'r caban i gyfarfod gweddi. Disgynnodd rhyw ddylanwad dieithr arnynt, a thorrodd yn orfoledd yn eu mysg. Galwodd y capten seiat, ac arosodd pawb ar ol, rhai am y tro cyntaf. Erbyn cyrraedd adref, deallasant fod y dylanwad dieithr wedi disgyn arnynt yn lled agos i'r amser yr oedd Dafydd Morgan yn gweddio dros y morwyr. (Cofiant Dafydd Morgan, t. 470).

Rhif yr eglwys yn 1853, 323; yn 1858, 345; yn 1860, 450; yn 1862, 450; yn 1866, 507. Swm y ddyled yn nechre 1853, £1,805; yn nechre 1854, £1,720 5s. 3c. Cyfartaledd pris eisteddle y chwarter, 1s. Swm y derbyniadau am y seti y flwyddyn, £121 13s. Casgl y weinidogaeth, £65 12s. Talwyd £50 am baentio'r capel yn 1853.

Mawrth, 1862, dechreuodd Robert Evans, mab y blaenor, bregethu. Awst, 1864, dechreuodd John Maurice Jones bregethu. Ebrill, 1865, dechreuodd Dafydd Williams bregethu. Yn 1865 daeth William Williams yma o Gapel Coch, Llanberis, newydd ddechre pregethu. Yn 1865 penderfynwyd, gyda chydsyniad y Cyfarfod Misol, helaethu'r capel. Yn 1866 bu farw Hugh Owen, yn 50 oed, yn flaenor yma er 1860 neu'n fuan wedi, ac yn Birkenhead er 1859. Galwyd ef yn flaenor yma yn fuan wedi ymsefydlu ohono yn y dref. Ystyrrid ef yn ddyn o synnwyr cryf ac o gryn allu meddwl. Darllenai'r cyfieithiadau o'r esboniadau Ellmynnig a ddeuai allan yn ei amser ef, ynghyd a llyfrau o nodwedd athronyddol. Yr oedd yn wleidyddwr aiddgar a goleuedig. Rhoddai amser i baratoi ar gyfer ei ddosbarth. Llafuriodd gydag ail-adeiladu'r capel, ac efe oedd y trysorydd ar y pryd. Annhueddol ydoedd, yn hytrach, i siarad yn gyhoeddus, ond pan wnae hynny, yr oedd yr hyn ddywedai yn ffrwyth paratoad meddwl. Yn wr pwyllog, arafaidd, gochelgar, nid oedd wedi ymagor yng ngwaith ei swydd fel ag i gyfateb i'w adnoddau, a disgwylid llawer oddiwrtho yn y dyfodol. Yr oedd ei dŷ yn llety pregethwyr. (Drysorfa, 1869, t. 236). Nodir gan Dafydd Williams yr anhawsterau ar ffordd helaethu'r capel. Yr oedd perchennog tri o dai—dau meddai Mr. John Jones—o flaen y capel yn dal yn gyndyn yn erbyn eu gwerthu. Yr oedd rhai o'r blaenoriaid, yn enwedig Owen Griffith, yn erbyn. Yr oedd yr hen adeilad, hefyd, yn waith cadarn. A dadl fawr y Cyfarfod Misol yn erbyn oedd y ddyled o £1,400. Gorfuwyd ar yr anhawsterau; ac nid oedd dyled yn aros yn niwedd 1865. Tynnwyd y cynllun gan Richard Owen. Nerpwl, a rhowd yr adeilwaith i Mr. Evan Jones y Dolydd. Yr oedd traul yr adeiladu, gan gynnwys gwerth y tai o flaen. y capel, tua £4,579. Yr oedd y capel wedi ei helaethu yn mesur o'r tufewn 70 troedfedd 1 fodfedd wrth 54 troedfedd 6 modfedd. Cynhelid y moddion yn ystod yr adeiladu yn yr ysgol Frytanaidd.

Cynhaliwyd cyfarfod yr agoriad, Ionawr 22-3, 1867. Pregethwyd gan Dafydd Jones, John Owen Ty'n llwyn, David Saunders, Richard Lumley. Rhif yr eglwys ar yr agoriad, 510. Erbyn fod yr agoriad drosodd yr oedd £810 mewn llaw tuag at y ddyled. Erbyn diwedd 1868 yr oedd y ddyled wedi ei thynnu i lawr i £3,450. (Drysorja, 1867, t. 145.)

Yn 1867 fe ddewiswyd yn flaenoriaid Robert Roberts, Thomas Hobley, Owen Evans, Thomas Owen, Owen Roberts, Yr oedd Owen Roberts yn ysgrifennydd yr eglwys er y flwyddyn flaenorol. Bu yn y swydd honno am dros 30 mlynedd, ac yna fe'i gwnawd yn drysorydd. Aeth ef yn hynafgwr yng ngwasanaeth yr eglwys, gan gynyddu mewn parchedigaeth i'r diwedd; ond gan iddo oroesi cyfnod yr hanes hwn rhaid tewi a son.

Rhagfyr 9, 1868, bu farw Owen Griffith, yn 70 oed, ac yn un o'r ddau flaenor cyntaf a ddewiswyd gan yr eglwys ei hun. Siaredir am dano bob amser gyda gradd o barchedigaeth. "Teidi, pert, gwisgo'n hynod o nêt," ebe Mr. David Jones. Y gwallt yn disgyn i lawr ar y talcen, ac wedi ei dorri ar y talcen, mewn llinell union berffaith, ebe Mr. William Ethall. Dyn bychan o gorffolaeth," ebe Mr. John Jones, wyneb glandeg a siriol. Botwm gwr ifanc' fyddai ei deitl gennym ni y plant. Ystyrrid ef yn bisin o beth bach del, wrth ben ei draed." Yr oedd ef a Griffith Jones Cefn faesoglen yn gydathrawon plant yn y sêt ganu. Owen Griffith yn holi'r plant yn gyhoeddus yn ei goler a chêt a chôt coler felfed. Y pwnc, arwyddion balchter. "Beth ydyw un o arwyddion balchter, fy mhlant i?" Griffith Jones yn sisial,—"Coler felfet." Y plant yn torri allan,—"Coler felfet." "Gweddiwn, gweddiwn,' ebe Owen Griffith. Brodor o Bwllheli ydoedd, mab y "dafarn loew," a gafodd grefydd yn ieuanc yn Rhuddlan. Yr ydoedd yng Nghaernarvon er 1822, a daeth i Engedi ar gychwyn yr achos. Yr oedd ef a Robert Evans yn gyfeillion mawr: Robert Evans yn arwain, Owen Griffith yn dilyn. Nid dilyn yn wasaidd, gan y meddai ar ewyllys anhyblyg. Manwl ei ffordd, ac yn rhoi ei fryd ar yr achos. Cyfiawn mewn masnach, boneddig mewn moes. Ystyrrid ef yn athro plant medrus. Edrychid ato ef yn fwy nag at Robert Evans am arwain profiad ysbrydol. Gofal ganddo, yr un pryd, am drefn a disgyblaeth. Dyma fel y dywedir am dano yng Ngofnodion y Gymdeithas Lenyddol: "Am Owen Griffith, rhaid dweyd mai nid yn aml y ceir tebyg iddo. Yr oedd yn ddyn bob modfedd, ac yn sefydlog fel y graig. Waeth pwy a newidiai, ni wnae ef. Hynod o ddidderbyn wyneb, ac y mae ei goffadwriaeth yn annwyl." Efe oedd y cyhoeddwr ers rhai blynyddoedd, a gwnelai hynny fel ef ei hun, yn dwt a threfnus. Arferai ddarllen rheolau yr ysgol yn gyhoeddus yn yr ysgol bob chwarter blwyddyn, a'r rheolau disgyblaethol yn y seiat yr un mor aml. Yr oedd yn ddirwestwr selog. Un tro, fe safai'r (Parch.) Ezra Jones, Edward Hughes, tad Menaifardd, ac yntau gyda'i gilydd, pryd y daeth Owen Williams y Waunfawr heibio. Owen Griffith yn holi am iechyd Owen Williams, ac Owen Williams yn cwyno; ac yna Owen Griffith yn rhoi awgrym nad oedd gormod o gwrw ddim yn dda i'r iechyd. "'Dwn i ddim," ebe Owen Williams, "fe fyddai'r hen bregethwyr yn cymeryd eu gwydraid o gwrw cyn mynd i'w gwelyau, a'u gwydraid drachefn cyn mynd i'r pulpud, ac yr oedden nhw'n ddynion cadarn nerthol, y fath y byddai cesyg goreu'r wlad yn sigo danyn nhw; ond am bregethwyr y dyddiau yma, y gwaherddir cwrw iddyn nhw, y mae nhw'n greaduriaid mor eiddil, pe dodasid hanner dwsin o honyn nhw ar gefn bwch gafr, ni sigai i gefn o ddim danyn nhw. Dydd da!"—ac ymaith ag ef, gan adael Owen Griffith i ryfeddu ar ei ol.

Yn 1868 daeth John Edmunds yma o Dwrgwyn, Bangor, ac Owen Jones o'r Betws Garmon. Mai 25, 1868, bu farw'r Capten Owen Evans yn 57 oed, wedi bod yn flaenor prin flwyddyn. Dywedir mai gair Mr. Lloyd am dano ydoedd.—" Owen was a nice boy when at school." Gwr hoffus, serchog, tawel, haelionus. Yr oedd yn gryn ddarllenwr, a chanddo gasgl da o lyfrau. Fel capten fe arferai gadw'r ysgol ar y Sul yn y llong pan ganiatae y tywydd. (Drysorfa, 1870, t. 74.)

Yn 1869 bu farw John Maurice Jones, yn 24 oed, ac wedi bod yn pregethu am 5 mlynedd. Mab ydoedd ef i'r Parch. John Jones, ac yn meddu mesur o'r un ddawn a'i dad, ond heb ei rym corfforol. Difrif ei ddull fel dyn a phregethwr. Yr ydoedd yn yr un dosbarth yn y Bala a Daniel Owen, a dywedai ef ond i John Maurice fod yn yr arholiad y teimlai ef ei hun yn gwbl dawel am y result,—y cedwid ef rhag y sun-stroke! Ar garreg ei fedd ceir y llinellau yma :

Ti fwriadaist efrydu—hirfaith ddydd.
Arfaeth Ior a'i thraethu;
Ond ti alwyd i deulu—y nefoedd,
I fyw'n oesoesoedd ar fynwes Iesu.

Medi 6, 1870, bu farw y Parch. William Griffith, yn 60 oed, ac wedi trigiannu yn y dref 9 mlynedd. Daeth yma o Dalsarn. Bu yn pregethu gyda'r Bedyddwyr, ond newidiodd ei olygiad. ar fedydd. Bu'n gwbl ffyddlon gyda'r achos yma. Meddai ar ddawn fuddiol yn y seiat. Yr oedd yn ddyn gostyngedig o ysbryd, ac yn byw mewn cymdeithas â gwrthrychau ysbrydol. Y mae yn fwy adnabyddus yn y wlad fel William Griffith Pwllheli, am y rheswm, fe ddichon, mai yno yr ydoedd yn ei nerth mwyaf. Fe ddywedir y byddai ar brydiau yn cael odfeuon nerthol ac effeithiol. Yr oedd yn rhwydd ei ddawn, ac yn arfer disgyn ar faterion buddiol. Byddai ganddo ambell gymhariaeth a gyffroai sylw ac a lynai yn y cof, megys honno am dragwyddoldeb yn gyffelyb i'r dwfr ar olwyn melin, yn cael ei daflu oddiar y naill astell i'r llall yn ei rod, gan beri i'r olwyn droi yn ei hunfan a gwneuthur ei gwaith, tra'r oedd amser fel y ffrwd is ei law yn symud ymlaen heb ddal arni, ond yn unig fel y gallai wasanaethu i amcanion bywyd tragwyddol. Ei air olaf,—"Y Baradwys Nefol!"

Credadyn llawn cariad ydoedd,—o reddf
Gwr addfed i'r nefoedd;
Athraw od ei weithredoedd
A Gwr Duw, iach ei gred oedd.

Yn 1871 dechreuodd Ezra Jones bregethu. Symudodd i'r Lodge, Chirk, yn 1876. Daeth John Griffith yma gyda'i dad, Parch. W. Griffith. Yr oedd wedi dechre pregethu yn Nhalsarn. Aeth oddiyma i Mancott, lle'r ydoedd yn weinidog Bu wedi hynny yn Southport.

Yn 1872 bu farw Hugh Jones, yn 88 oed. Yr oedd yn flaenor yn y Bontnewydd cyn dod yma wedi heneiddio ohono, a galwyd ef i'r swydd yma. Dyma ddisgrifiad Mr. John Jones ohono: "Hen lanc oedd Hugh Jones. Golwg braidd yn sarug arno; ateb swta; gair garwa ymlaen; ond y ffeindia'n fyw wrth blant, a phawb o ran hynny. Meddwl cryf, darllenwr mawr, cadarn yn yr ysgrythyrau. Llais cras oedd ganddo, a pheswch. trwm, poenus; ond er hynny, efe oedd y gweddiwr melysaf o bawb yr oedd rhyw felodi nefol yn chware ar dant calon dyn wrth ei wrando. Gwesgid allan o'i enaid mawr ryw brofiadau bendithiol." Brodor o Fôn. Bu dan argyhoeddiad dwys am ei gyflwr, ac ymloewodd fwyfwy o ran ei grefydd. Yn ei flwyddyn olaf i gyd fe ddysgai adnod newydd bob dydd, ac ad— roddai y saith gyda'i gilydd yn yr ysgol. Yn ddifwlch yn y gwasanaeth teuluaidd cystal ag yn weddiwr mawr yn gyhoeddus. Bu'n gweddio bob dydd am saith mlynedd am i'r Hispaen gael ei hagor i'r cenhadon Protestanaidd, a gwelodd gyflawni ei ddeisyfiad. (D. Jones.) Dyma sylw Dafydd Williams arno: "Pa swm a rowch?' meddai Mr. Morgan wrth gasglu at goleg y Bala [yn y Bontnewydd, debygir]. Dwy bunt,' meddai yntau. 'Ie, dwy bob blwyddyn,' meddai Mr. Morgan. 'Ië, waeth gen i,' meddai yntau. Dysgodd adnod bob dydd ers blynyddoedd. Mor iraidd y dywedai ei brofiad! Daliai unwaith yn y dull hwnnw ar y geiriau,—Af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus. Cadwodd dicet ei aelodaeth eglwysig a gafodd yn hen gapel Lon y popty am dros 60 mlynedd. [Gerllaw Bangor, pan yn was fferm, y cafodd argyhoeddiad.] Heddwch i'w lwch." (Edrycher Bontnewydd.)

Gorffennaf 21, 1873, y bu farw Evan Jones, yn 67 oed, ac wedi gwasanaethu fel blaenor ers 24 blynedd. Yr oedd ei wraig yn ferch i Joseph Elias. Mwy peth ydoedd iddo fod yn dra ffyddlon fel athro plant am yn agos i hanner can mlynedd. Cyn belled ag y gallesid barnu wrth edrych, fe ymddanghosai yn athro tyner iawn, ac eto gofalus ac ymroddgar. Fe ymddanghosai, hefyd, yn wrandawr astud, yn y cyffredin yn sefydlu ei olwg ar y pregethwr. O dan bregeth iraidd iawn gwr o'r Deheudir yn oedfa 6 y bore yn Sasiwn 1872, ar y geiriau, Pan glafychodd Seion, hi a esgorodd hefyd ar ei meibion, fe ymddanghosai yn teimlo'n ddwys: siglai ei gorff a thorrai allan gyda'i "Ho! ho!" "Diniwed perffaith," ebe Mrs. Jane Owen am dano. Cyffredin ym mhob ystyr y bernid ef ond am ei gywirdeb a'i ddiffuantrwydd a'i ffyddlondeb gyda phob rhan o'r gwaith. Ac oherwydd hynny, nid aeth ymaith heb deimlad o chwithdod ar ei ol. Bu farw mewn tangnefedd. (Goleuad, 1873, Awst 2, marwrestr.)

Symudodd Dafydd Williams oddiyma i Fangor yn 1874, wedi bod yma er cychwyniad yr eglwys, wedi ei wneud yn flaenor yn 1852, ac wedi dechre pregethu yn 1865. Yr oedd chwant pregethu ynddo ers talm. Wele gofnod Cyfarfod Misol Mehefin 7, 1858: Derbyniwyd cais Mr. David Williams Caernarvon am ganiatad i bregethu eto. Pasiwyd penderfyniad i dderbyn pleidlais yr eglwysi o'r neilltu, pryd y cafwyd II o blaid a 26 yn erbyn, ac yn dymuno iddo aros fel y mae. Penderfynwyd, hefyd, i'r ysgrifennydd ddanfon y penderfyniad hwn i'r brawd David Williams." Eithr ni bu neb erioed mwy taer am bregethu, ac o'r diwedd ymhen 7 mlynedd ar ol y penderfyniad diweddaf yma, ei daerni ef a orfu. Y farn gyffredinol, hyd y gwyddys, ydoedd fod y syniad a ffynnai yn yr eglwys ac yn yr eglwysi na ddylai fyned yn bregethwr yn gywir, canys dyna oedd y syniad er i'r naill a'r llall ildio. Canys pa beth na ildia o flaen penderfyniad meddwl? Nid oes lle i dybio yr amheuid y gwnelai gystal pregethwr ag ambell un a godid o bryd i bryd; ond y gred ydoedd ei fod eisoes yn gwneud gwaith da fel blaenor, ac nad oedd dim lle i ddisgwyl y gwnelai bellach, ac yntau yng nghanol oed gwr, gystal gwaith fel pregethwr. Eithr fe ellir dweyd ddarfod iddo barhau i wneuthur gwaith blaenor, oddieithr fel y cymerid ef oddicartref ar y Sul. Dilynai y moddion canol wythnos yn gyson, gan gynorthwyo'r blaenoriaid gyda phethau amgylchiadol, ac ymwelai lawer â'r claf, ac ae i gynhebryngau. Meddai ar ddawn i gadw seiat. Siaradwr arafaidd a thrymaidd oedd. Yr oedd ganddo bresenoldeb da, yn ddyn yn tynnu at chwe troedfedd o uchter, gyda wynepryd hir, a gwallt goleu, plethog. Wynepryd da ond yn unig ei fod yn dra thrymaidd; llais clywadwy, trymaidd. Pethau cyfaddas, ond fel olwynion cerbydau Pharaoh gynt yn gyrru yn drwm. Ond ni waeth prun, yr oedd yn meddu ar ddawn seiat. Yr oedd iddo hunan-feddiant perffaith: ni theflid ef fyth oddiar ei echel, fel y digwyddws gyda cherbydau Pharaoh. Fe wyddai pa fodd i gyfarch pawb: nid elai fyth yn hyf ar hen nac ieuanc. Yr oedd mor ystyriol o'r tlawd ag ydoedd o'r cyfoethog, o'r diwybod ag o'r gwybodus. Elai'n araf a thyner o amgylch pobl ofnus, a phobl mewn profedigaeth. Ni adawai i anwybodaeth neb na diffyg synnwyr neb ymddangos o'i ran ef. Ni fethid ganddo fyth. Meddai ar gallineb mawr a chyfrwystra mawr. Ac yr oedd ganddo ddigon o gyfrwystra i guddio'i gyfrwystra. Rhoe anerchiad ar y gwaith cenhadol yng nghyfarfod gweddi ddydd Llun cyntaf y mis, a byddai'n wastad wedi paratoi, fel y ceid ganddo bob amser rywbeth a gymhellai sylw oherwydd ei ddyddordeb fel hanes. Yn y pulpud yr oedd yn arafach nag oedd raid. Yn naturiol araf, fel pregethwr fe arafai fwy na natur. Fe ddengys y nodiadau o'i eiddo a ddyfynnwyd y medrai gyfleu pethau heb ryw gwmpas mawr. Dengys ei nodiadau ar bregethwyr ar waelodion y dalennau yn y Gofadail Fethodistaidd yr un peth. Nid y mater oedd yn gwmpasog, ond y llefaru oedd yn hwyrdrwm. Gwnaeth waith buddiol â'i Lampau y Deml, ac i fesur â'i Gofadail, ac fel blaenor a bugail, er heb ei gydnabod o ran tâl ariannol fel bugail. Nid yw ei ysgrif ar gychwyniad yr achos yn y dref, a'i barhad yn Engedi, a gafwyd drwy law ei weddw, namyn nodiadau lled fyrion, wedi eu cyfleu eisoes yn o lwyr, heb amseriadau braidd, ac am bethau yma ac acw, ond gwerthfawr er hynny; er fod lliaws o honynt wedi ymddangos o bryd i bryd yn y Drysorfa, wedi eu danfon yno ganddo ef ei hun. Ionawr, 1875, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu'r Parch. Evan Roberts, a ddaeth yma o Birmingham. Hwn oedd y cyfarfod sefydlu cyntaf gan y Methodistiaid yn y dref.

Yn 1875 cyflwynwyd tysteb a hanner can gini i'r Parch. John Jones. Ym Mai fe ymadawodd, gan dderbyn galwad o Rosllanerchrugog. Yr ydoedd wedi bod yn y Rhos yn cynnal cyfarfodydd diwygiadol am fis o amser yn gynnar yn y flwyddyn, a gwelwyd yno 198 yn ymgyflwyno i'r eglwysi. Yr ydoedd ef yn wr poblogaidd fel pregethwr drwy gydol ei oes. Eithr fe ddichon fod y llewyrch mwyaf arno rhwng diwygiad 1859 a'i fynediad i'r Rhos. Cyffrowyd ef yn fawr yn nhymor y diwygiad hwnnw, a delw'r diwygiad oedd ar ei bregethu o hynny ymlaen. Yr ydoedd yn wr tal, yn chwe troedfedd feallai o uchter, ac yn gymesur. Wedi ei weu ynghyd gan natur ar ddull rhydd, rhwydd, ar gynllun eang, llawn, o ran corff a meddwl a chymeriad. Yn fachgen ieuanc fe roddai argraff braidd o ddiniweidrwydd; ond gyda phrofiad o'r byd fe dynnodd ei hun i fewn yn fwy iddo'i hun, er y bu ar hyd ei oes yn agored yn achlysurol i adael i ambell sylw go anwyliadwrus lithro dros ymyl y wefus. Heb daflu allan ymhell, fe nofiai'r llygaid yn rhydd ar dorr y croen, gan ymsefydlu beth pan gyffroid ef ryw gymaint gan ddywediad neu gymhariaeth. Yr oedd y genau yn pontio yn o uchel ar y canol, ac yn ymestyn yn o bell oddiyno, ail i enau Daniel Rowland Llangeitho. Dawn a thymer y siaradwr oedd yr eiddo ef. Yn wir, fe ddywedir i David Charles Davies sylwi ar ol rhyw oedfa o'r eiddo ef, na chlywodd efe mo neb yn gallu dweyd cystal, gan bwysleisio'r dweyd. Heblaw rhwyddineb esmwyth a hunan—feddiant tawel, yr oedd ganddo lais clochaidd, soniarus. Yn ei hwyliau goreu, a chyda rhyw faterion, fe fyddai ei lais yn mwyneiddio, ac fel y byddai ei ysbryd yn ymdoddi fe doddai'r lais, a delid y gynulleidfa gan rym swyn, a llifai'r dagrau oddiar lawer o ruddiau. Fel y gallesid disgwyl oddiwrth un a gyffrowyd yn amser diwygiad, fe ddisgynnai yn ei bregethau ar y materion mwyaf cyfaddas i aredig y teimladau. Yr Efengyl fel trefn rasol i achub pechaduriaid, a phechaduriaid mawr, oedd ei bwnc ef, a chymhwyso'r pwnc hwnnw drwy gymhelliadau a rhybuddion oedd ei amcan gwastadol. Fe gadwai ei hunan yn o lwyr i'r amcan yma heb egluro athrawiaeth nac ysgrythyr yn gymaint, heb olrhain llawer ar brofiadau amrywiol y saint,—er y ceid ef yn cyfleu rhai o'r profiadau mwyaf cynefin yn dra effeithiol weithiau,—ac heb gymhwyso rhyw lawer ar yr Efengyl fel trefn i buro moes, ac i ddyrchafu neu addurno cymeriad. Yr oedd ei apêl at y teimlad yn fwy na'r gydwybod. Yn y dull hwnnw fe fu'n cael ar brydiau odfeuon grymus ac effeithiol, odfeuon fyddai'n aros yn nheimlad lliaws fel rhai o bethau mwyaf cofiadwy eu hoes. Fe gafodd laweroedd o weithiau odfeuon a dylanwad mawr gyda hwy ar Manaseh, ar y Lleidr ar y Groes, ar y Ffigysbren Ddiffrwyth. Fe fu ei ddolef,—"Mi achubwyd Manaseh! Mi achubwyd Manaseh!" yn aros yng nghlustiau rhai am dymorau meithion. Yr oedd swyn yn enw John Jones Caernarvon i lawer, yn enwedig mewn rhai cyrrau o'r wlad. Bu ef ei hun yn adrodd am wr yn y Deheudir yn ei ddilyn o oedfa i oedfa, deirgwaith y dydd, dair arddeg o weithiau. Ei ddawn yn y seiat oedd ar yr un llinellau ag yn ei bregethau. Yr oedd yno, hefyd, yn gwbl rydd, a'i ddull yn gymhelliadol i rai draethu eu meddwl. Rhoe gyfle teg i bawb ddweyd yr hyn oedd ganddo, ac ni olrheiniai y pwnc yn rhy bell, ni arweiniai yng nghyfeiriad dyrus-bynciau, ni sugnai i drobwll, ni chludai yn erbyn creigiau. Anfynych iawn y gwelid deufor-gyfarfod, ond os digwyddai hynny ar dro yn achlysurol, nid eiddo ef mo'r dymer a dawelai'r mymryn cythrwfl, ac a welai'r fantais yn y gwrthwynebiad, gan hwylio ymlaen i'r môr tawel, heb gymeryd arno fod dim ond yr hyn oedd gynefin i ddyn wedi digwydd. Er hynny ni welid mono yn amhwyllo, a thra anfynych y digwyddai dim ond hwylio llyfn ar dywydd teg. Fe'i ceid ef yn ddedwydd ar ol sasiwn. Wrth i hwn a'r llall adrodd yr hyn a lynodd yn ei feddwl, ceid gweled ei fod yntau bob amser wedi dal ar y sylw, ac ail-adroddai ef y rhan amlaf, er mwyn i bawb glywed, yn llawn fel y dywedwyd ef. A byddai ganddo'i ffordd ei hun o alw sylw at gyfaddaster neu brydferthwch yr hyn a adroddwyd. Yr oedd ganddo gof da, ac yr oedd greddf y siaradwr ynddo yn ei alluogi i werthfawrogi ystyr pob cyffyrddiad tebyg o apelio at y galon. "Pwy fuasai'n meddwl am wneud defnydd o gymhariaeth fel yna ond hwn a hwn?" "Pa bryd y clywsoch chwi yr apel yna yn cael ei chyfleu mewn dull mor ddeheuig?" "Pwy glywsoch chwi erioed yn diweddu pregeth yn y dull yna?" sef Robert Ellis Ysgoldy mewn Cyfarfod Misol yn gofyn cwestiwn ar ddiwedd pregeth, ac yna yn sefyll yn fud yn wyneb y gynulleidfa am rai eiliadau, ac ar hynny yn eistedd i lawr yn ddisymwth. Mewn ambell i seiat fe godai ei lais yn araf deg, yn uwch uwch, gan fwyneiddio wrth ymgodi, a byddai rhyw deimlad yn y lle megys oddiwrth awel esmwyth yn chwythu. Rhaid fod y pryd hwnnw yn Engedi ddeunydd seiat fwy effeithiol na chyffredin. Yr oedd Robert Ellis Ysgoldy adref yn gwrando ar John Jones, Llanllechid y pryd hwnnw, y Sul, Tachwedd 19, 1854. A dyma ei sylw arno: "Ychydig fwy o lafur a gwell manteision wnaethai y gwr hwn yn ben y gamp." Fe greffir fod y Sul hwnnw cyn diwygiad 1859, pan y cyffrowyd, mae'n ddiau, ddyfnder newydd o deimlad yn y pregethwr. Er hynny, fe arosai'r sylw yn wir am hyd oes. John Jones. Yr oedd ef y pregethwr mwyaf poblogaidd yn sir Gaernarvon ar ol symud Dafydd Jones. Ae lawer i siroedd eraill ac i'r Deheudir, ac nid yn anfynych am deithiau o fis neu chwech wythnos. Ac yr oedd wedi symud i sir Fflint yr 11 mlynedd olaf o'i oes. Nid teg, gan hynny, fuasai ceisio cymharu ei ddylanwad ef ar Arfon â phregethwr mor gartrefol a Dafydd Morris, dyweder, ac un a gafodd oes mor faith. Sicr ydyw fod yr argraff oddiwrth Dafydd Morris. ar Arfon, heb ddoniau swynol a phoblogaidd yn hollol, yn gryn lawer dwysach nag oddiwrth John Jones; ond o'r ochr arall, tra nad oedd cylch Dafydd Morris nemor fwy na hanner sir, oddieithr yn achlysurol, yr oedd cylch John Jones yn cynnwys tair sir arddeg Cymru a lliaws o drefi Lloegr. Eithr i bob hedyn ei gorff ei hun.

Am faddeuant y pregethai;
Am faddeuant llawn a hael,—
Fod maddeuant i'r pechadur
Gwaethaf, duaf, heddyw i'w gael.
"O, mae'n maddeu hyd yr eithar,"
Llefai,"O, mae'n maddeu'n awr." (Glaslyn).

Fe drefnwyd ymweliadau yn y dref yn ystod Awst a Medi, 1867. Y mae'r Parch. John Jones wedi cadw dyddlyfr o'i ymweliad ef. Ni roir amseriadau yn gyson. Rhoir yma rai enghreifftiau: "1867, Awst 1. Bum yn Nhanrallt [Siloh] yn cadw seiat. Penderfynwyd yn y seiat gael cyfarfod gyda'r plant bob wythnos. . . . Pregethais yn Glanymôr. Penderfynwyd yng Nglanymor, hefyd, gael cyfarfod gyda'r plant bob wythnos. . . . Bum drwy'r workhouse, a'r nos bum yn cadw cyfarfod gyda'r plant yng Nglanymôr. Ymwelais âg amryw deuluoedd ym Mountpleasant a arferai wrando yn Siloh, rai ohonynt yn ymyl gwrthgilio. Addawsant ddychwelyd. . . . Ymwelais â'r carchar. Yr oedd un carcharor wedi bod yn proffesu gyda'r Methodistiaid. Cefais ymddiddan âg ef am oddeutu hanner awr. Dangosai lawer o edifeirwch. . . . Teimlaf pe cawn fod yn foddion i adfer ond un at Dduw y byddai o werth annhraethol. Awst 16. Cyfarfod darllen gyda rhai mewn oed hyd 10 o'r gloch y nos. Awst 29. Yn yr Ysgol Frytanaidd. Yr athraw a'r athrawes yn foddlon i gymeryd plant gwir dlodion am geiniog yr wythnos. Awst 30. Ar hyd Mountpleasant yn eu hannog i ddan— fon eu plant i Siloh at gyfarfod y nos. Daeth 60 ohonynt ynghyd. Stryd Waterloo. Un yn darllen y Beibl ond yn hynod lesg o gorff. Dymunai gael gwneud coffa o farwolaeth. yr Arglwydd, oblegid tybiai nas gallai fyned i Engedi byth mwy. Yr ydoedd yn profi yn amlwg ei bod mewn cymdeithas aml â'i Harglwydd. . . . Ymddiddan ag un arall a addawai ddychwelyd ar yr amod i ni beidio â dweyd dim wrthi y noson gyntaf; ac felly y daeth. . . . Ymddiddan âg un arall hynod wael ers llawer blwyddyn. Perthynai i'r Anibynwyr. Adroddai'r geiriau,— Anghofiwyd fi fel un marw allan o olwg.' Teimlai nes wylo. Teimlai nes wylo.... Ymweled âg aelod o Foriah. Y mwyaf annuwiol a'r mwyaf meddw yn y dref yma oeddwn i, ond o drugaredd gwelais fy ffolineb. . . . Mae dyn yn greadur gwael, ond os caiff o Iesu Grist yn second wrth ei gefn fe'i gwneiff hi'n bur dda.' Tybiwn wrtho mai hen ymladdwr ydoedd. Bum yn ymddiddan â thri wedi eu diarddel o Siloh am feddwdod. Dywedai un,—' Yr wyf wedi bod yn crwydro o le i le fel colomen Noah, ond heb gartref: nis gallaf fod yn dawel nes dychwelyd yn ol.' Dywedai'r llall, Yr oeddwn yn teimlo fy ngliniau yn fy ngollwng wrth fynd allan nos Sul, ac os gwel Duw yn dda mi ddof yn ol.' Ac felly fu. Trwy'r workhouse. Cefais ymddiddan â'r hen chwaer, Catherine Williams. Dywedai ei bod yn cael popeth angenrheidiol er ei mantais i gael yr un peth angenrheidiol. . . . Ymweled â lodes wael yn y Bank, oedd mewn pryder am ei mater tragwyddol. Nid oedd erioed wedi bod yn proffesu crefydd. . . Ymweled â lliaws o gleifion yn perthyn i Benrallt, Tanrallt ac Engedi."

Cyflwyno tysteb i William Williams, sef anerchiad ac £16. (Drysorfa, 1875, t. 432.) Yn 1876 dechreuodd W. Hobley bregethu. Y flwyddyn hon fe gasglwyd at y ddyled £1,070, gan adael gweddill o £1,688.

Tachwedd 22, 1877, bu farw Richard Jones, yn 86 oed, yn flaenor yma er 1859, a chyn hynny yng Nghaeathro a Moriah. Gorchwyl bychan ganddo, ebe Dafydd Williams, oedd myned i Aberdaron, 40 milltir o ffordd, ar gefn ei farch, erbyn dechreu'r Cyfarfod Misol. Yr oedd ganddo atgofion am bregethwyr y rhan gyntaf o'r ganrif, ac arweiniai'r canu pan oedd Ebenezer Morris yn sasiwn Caernarvon. Soniai am yr oedfa honno ar hyd ei oes, megys pe bae yn fyw o flaen ei lygaid. Yn ysgrythyrwr campus. Byddai ganddo sylwadau pwysig yn ei gyfarchiadau, a byddai ei weddiau a'i gynghorion yn cael eu gwerthfawrogi yn y Cyfarfod Misol yr adeg yr arferai efe eu dilyn. Bu'n arwain y gân mewn lliaws o sasiynau yng Nghaernarvon. Deallai'r hen nodiant yn dda, ac yn ei amser goreu yr oedd yn lleisiwr rhagorol. Yn un o'r dirwestwyr cyntaf yn y wlad, a dioddefodd yn ei fasnach oherwydd ei bybyrwch gyda hi. Parhaodd yn athro ysgol hyd nes myned dros ei 83 oed, a dilynai bob moddion yn gyson, er mai ar ei ddwy ffon bagl yr ymlwybrai iddynt, gan gymeryd awr gron weithiau yn ei flynyddoedd olaf i wneud hynny. Paratoai yn ofalus ar gyfer ei ddosbarth hyd y diwedd. Byddai ef a John Jones y blaenor yn troi at ei gilydd, megys wrth reddf, gydag ambell sylw a'u gogleisiai mewn pregeth. Yr un pryd, fe fwynhae bob pregethwr o'r braidd, a chlywid pethau goreu y pregethau ganddo yn ei ymddiddan, neu ei weddi, neu ei gyngor yn y seiat. Byddai pethau go anarferol yn fflachio allan ohono weithiau ar weddi. Unwaith fe goffhae yr adnod, "Ac yntau a gymerth arno ei fod yn myned ymhellach," a thorrai allan, "Ië, Iesu mawr, cymeryd arnat yr wyt, er mwyn ein clywed ni'n gwaeddi, 'Aros gyda ni." " A phan ddigwyddai sylw felly, byddai eneiniad oddiuchod arno. (Goleuad, 1877, Rhagfyr 15, t. 5. Edrycher Caeathro.)

Yn 1877 dewiswyd yn flaenoriaid, John Davies (Gwyneddon) a Griffith Williams. Yn 1878 daeth Abraham Bywater yma o Jewin, Llundain, lle'r ydoedd yn flaenor, a galwyd ef i'r swydd yma.

Awst 11, 1879, bu farw Owen Jones yn 77 oed, yn flaenor yma er 1868. Bu'n flaenor yn Eifionnydd, Fflint a Môn. Gwr siriol, synhwyrol, o dymer dda, ac o argyhoeddiad crefyddol. Byddai'n llym wrth ddrwg, yn dyner wrth y person. Yn credu mewn cynnal disgyblaeth: wrth godi ei law wrth ddiarddel fe'i codai gyn uched ag y gallai, a dodai ei law chwith wrth fôn ei fraich dde i'w dal i fyny, ac yr ydoedd gyda'r olaf i'w gollwng i lawr. Os na wnae efe hynny bob tro, fe'i gwnelai weithiau. Diysgogrwydd ei syniad am angenrheidrwydd disgyblaeth a barai hynny. Dywedai yn gryf yn erbyn y regatta flynyddol yng Nghaernarvon. Yr ydoedd wedi byw ei hun gan mwyaf ynghanol gwlad, ac yn edrych ar y cyfryw bethau megys o bell; neu, yn naturiol, yr oedd yn rhydd oddiwrth surni a meddwl crebach. Wedi treulio ei oes fel amaethwr, fe gymerai ei ddameg yn awr ac eilwaith oddiwrth bethau gwlad. Siarad yn fyrr y byddai ac yn synhwyrol, ond pan ddisgynnai ar dro ar gymhariaeth wledig fe geid ganddo fyw- iogrwydd arabus, megys wrth ddisgrifio'r cywion bach yn nyth y robyn goch, yn agor eu pigau gyn lleted fyth ag y gallent, nes ymddangos megys fel na baent yn ddim ond pigau agored i gyd, lonaid nyth ohonynt, ar ddynesiad y tad neu'r fam aderyn gyda'r bwyd. Ni thraethai brofiad uchel: "y mae y gelynion yn fyw o hyd." Eithr fe gredid ynddo fel dyn da; ac ni byddai ei rybuddion yn pellhau nemor neb, canys fe wyddid fod ei amcan yn gywir, a'i fod yn ddyn diragrith. Sylwa Mr. William Roberts iddo ef ei gael bob amser â'i fryd ar lesau dyn ieuanc wrth gyfarfod âg ef. (Goleuad, 1879, Awst 23, t. 12. Edrycher Salem, Betws Garmon.)

Awst 1, 1880, yn 55 oed, bu farw Robert Roberts y Cross, blaenor er 1867. Brodor o'r dref. Pan yn gwneud sylw coffadwriaethol ar John Jones y blaenor yn y Cyfarfod Misol, fe ddarfu Mr. Evan Roberts ei gyferbynu â'r blaenor fu farw ddiweddaf o'i flaen, sef Robert Roberts, gan alw Robert Roberts y blaenor galluog a John Jones y blaenor da. Yr oedd Robert Roberts yn ddiau yn berchen meddwl naturiol grâff, cystal a'i fod wedi ei ddiwyllio yn ol ei fanteision. Yr oedd ganddo wyneb â chyffyrddiad o debygrwydd rhyngddo a Pascal, heb fod y bochgernau mor amlwg, ac heb fod y llygaid mor fawrion a goleu. Tuedd i ymesgusodi rhag siarad yn y seiat oedd ynddo, ac am hynny ni ofynnid iddo'n aml; ond pan wnae, fe deimlid ar unwaith ei fod yn olrhain ei bwnc fel bytheuad yn olrhain carw. Fe deimlid hynny yr un fath pan fyddai amgylchiadau wedi codi rhyw fater i sylw yn annisgwyliadwy. Sylwa Mr. William Roberts ar ei ddull cyson o godi pob pwnc i'r clawr ysbrydol, a nodir ganddo mai ei ddau air mawr fyddai "yr ysbrydol" a'r "tragwyddol." Metha gan Mr. Roberts ddeall pa fodd yr oedd mor dawedog yn y seiat. Olrhain mater y byddai fel athro ysgol. Ni ddangosodd ymroddiad neilltuol gydag unrhyw beth perthynol i'r achos hyd y gwyddys, er ei fod yn dangos gradd o ffyddlondeb gyda phob rhan o'r gwaith, yn neilltuol yr ysgol. Nid oedd yn ddyn cryf, nac yn feddiannol ar hoewder ac ynni, a thebyg fod hynny wedi llesteirio ei ddefnyddioldeb i fesur. Byddai'n wastad o bum munud i chwarter awr yn hwyr yn yr oedfa fore Sul; ond elai i'w le yn eithaf hamddenol ar bob pryd. Gwr tawel ydoedd, a hunanfeddiannol, ac anibynnol ei dymer, ac heb adael i'w deimlad redeg i ffwrdd gydag ef; ond er hynny yn llochesu gradd o dymer a nwyd allan o'r golwg, a ddeuai ar dro i'r golwg gyda phrofedigaeth go annisgwyliadwy. Edrydd Mr. Hugh Hughes (Beulah) fymryn o hanesyn am dano, a ddengys ei ddull cyffredin o gymeryd pethau. Digwyddodd iddo ar un tro gael ei ddewis i ddwy swydd ar unwaith, sef yn gynrychiolydd i'r cyfarfod ysgolion ac yn arolygwr yr ysgol. Nid oedd modd cyflawni'r ddwy, a gwrthododd yntau y swydd o gynrychiolydd. Yn y cyfarfod athrawon, dyna frawd â dawn bigog yn gwneud ymholiad,-Yr hoffai efe wybod pam yr oedd Robert Roberts yn derbyn y swydd o arolygwr yn hytrach na'r swydd o gynrychiolydd? Cododd yntau yn ei ddull mwyaf hamddenol, a thraethai yn ei ddull mwyaf tawel, mai am fod y naill swydd yn fwy anrhydeddus na'r llall. Yr oedd y dull yma oedd yn eiddo iddo, yn ei ffordd ef o fyned drwy'r peth, yn un tra effeithiol. Nid oedd teimlad yn eraill, neu hwyl mewn pregethwr, yn ymddangos yn cael nemor graff arno; ond yr oedd yn edmygydd trwyadl ar dreiddgarwch a disgleirni meddwl. Cerddodd i Frynrodyn i glywed darlith David Charles Davies ar y Beibl a Natur, a dywedai ei brofiad wrth ei gwrando ar ol hynny, sef ei fod ar y pryd braidd yn meddwl mai gwrando ar y duwiau yn rhith dynion yr ydoedd. Edrydd Mrs. Jane Owen (Stryd Garnons) am dano yn dweyd ei brofiad yn ddyn go ieuanc, sef y caffai efe ei hun weithiau wrth ddarllen yr Efengylau yn teithio gwlad Canaan gyda'r Iesu a'r disgyblion yn gynefin megys pe yn ei wlad ei hun. Gallai ddweyd sylw o'r fath gan roi arbenigrwydd ar y peth.

Mehefin 12, 1880, y bu farw Robert Lewis, heb fod yn llawn 61 oed, wedi bod yn aelod yma er 1859, ac yn pregethu hyd o fewn rhyw flwyddyn neu ddwy i'r diwedd. Bu yn lletya am rai blynyddoedd gyda Robert Thomas (Llidiardau), pan y preswyliai efe yn Ffestiniog, a chafodd cofiannydd Robert Thomas gryn lawer o'r defnyddiau ganddo ef. Yr oedd yn wr dymunol, tyner dros ben, gyda gwên garedig, lac, heb ddigon o'r gwenithfaen yn ei natur. Fel y tynnai at ei derfyn yr oedd yn achos o ofid iddo na wnaeth nemor mewn cymhariaeth gyda chrefydd y blynyddoedd diweddaf o'i oes. Ni feddai ar ddawn pregethu, er yr ystyrrid fod ganddo eithaf mater. Cerddor ydoedd o ran tymer a dawn a diwylliant, ac y mae iddo le pwysfawr ynglyn â chaniadaeth ei oes, ac yn enwedig yn Engedi, fel y ceir crybwyll eto.

Yn 1881 gwnawd yr ystafell dan y capel yn fwy cyfleus ac atgyweiriwyd y capel ar draul o £340 10s. Yn y cyfamser fe gynhelid y moddion yn y Guild Hall. Mehefin 14, 1882, penderfynu codi achos yn Henwalia.

Medi 16, 1883, bu John Jones y blaenor farw, yn 66 oed, ac yn y swydd yma er 1856, a chyn hynny yn Jerusalem (Bethesda). Brodor o Daliesin, sir Aberteifi. Arhosodd cydymdeimlad dirgelaidd rhyngddo â'r Deheudir a phobl y Deheudir am weddill ei oes. Daeth i Gaernarvon ynglyn â'i alwedigaeth o ffeltiwr yn 17 oed, a theimlodd bethau dwys dan weinidogaeth Dafydd Jones. Fe fywiogai dan bob cyfeiriad at enw Dafydd Jones byth wedi hynny, a byddai ar adegau yn adrodd ei ddywediadau. Symudodd i Engedi ar ei agoriad yn 1842, ond bu ym Methesda yn ystod 1845-56. Bu i Morris Jones "yr hen broffwyd," a'i frawd, John Jones y blaenor, le mawr a chynes yn ei feddwl fyth ar ol hynny. Ystyriai efe John Jones yn fwy a choethach dyn na Morris Jones, ac yr oedd ganddo edmygedd diderfyn braidd tuag ato. Fe lanwodd le mawr yn Engedi am dros chwarter canrif. Daeth yma y flwyddyn y bu farw Robert Evans, ac i fesur mawr fe gymerodd ei le ef yn yr eglwys. Nid oedd ei gylch o'r tuallan i'r eglwys mor eang â'r eiddo Robert Evans, na dim yn debyg; ond o fewn yr eglwys fe allesid ei gymharu âg ef ar rai ystyriaethau. Yr oedd dylanwad Robert Evans yn fwy llethol, a chanddo lawer o bleidwyr wedi ymddiofrydu i'w ddilyn, yr hyn nad oedd gan John Jones yr un fath yn hollol. Arweinydd oedd Robert Evans yn fwy, ond yr oedd John Jones yn ddylanwad mewn ffordd briodol iddo'i hun yn ddim llai nag yntau. Heblaw y daeth yn ben blaenor am rai blynyddoedd, efe oedd y cyhoeddwr ac arweinydd y gân am flynyddoedd eraill. Ond nid yw dywedyd hynny yn egluro natur ei ddylanwad ef ychwaith. Dylanwad oedd hwnnw yn treiddio drwy bob cylch ac i'w deimlo ar bob pryd a chan bawb, er yn ddiau gan rai yn fwy na'i gilydd. Nid damwain ydoedd iddo fod yn Ddeheuwr. Fe newidiodd acen y Deheudir yn o lwyr am eiddo'r Gogledd, ond cadwodd nodwedd y Deheudir yn o lwyr. Dyn agored, brwd, siriol ydoedd, yn agored weithiau i ddywedyd rhywbeth yn rhy fyrbwyll, ond yn wastad braidd yn gwasgar dylanwad iachusol, mwynhaol. Ar dro weithiau, gyda rhyw bwnc yn dwyn perthynas ag amgylchiadau allanol, neu drefniadau, fe godai i siarad gymaint a theirgwaith mewn seiat fawr, fel ag yr ydoedd Engedi y pryd hwnnw. Eithr y brwdaniaeth hwn, wedi'r cwbl, oedd sail ei ragoriaeth arbennig ef. Mewn erthygl goffadwriaethol iddo yn y Goleuad, fe ddywedir iddo gael ei eni yn y gwanwyn, ac mai tymor gwanwyn fu ei fywyd. Fel arweinydd y gân medrai ddeffro ysbryd canu, ond yr oedd yn fwy fel cyhoeddwr na chanwr, a medrai dynnu sylw pawb at y pethau y mynnai ef roi pwys arnynt, heb ymdroi gyda hwy, ond drwy edrychiad agored, siriol, ac awch ar y llais gyda'r pethau hynny. Deuai hynny i'r amlwg ynddo yn bennaf dim wrth gyhoeddi y ddau wr dieithr o'r Deheudir," a ddeuai drwy'r wlad y pryd hwnnw bob yn awr ac eilwaith. Fe deimlid eu bod hwy'n ddau, ac hefyd, yn arbennig, mai dau o'r Deheudir oeddynt. Wrth wneud yr hysbysiad hwnnw fe edrychai i lawr ac i fyny, fel un a wyddai y mwynheid clywed y peth gan y gynulleidfa yn gymaint ag y mwynheid ei ddweyd ganddo yntau. A safai rai eiliadau ar ol dweyd, i fwynhau sirioldeb yr holl gynulleidfa. Eithaf tebyg fod yno feirniaid oerion yn gwrando, ond ni wyddai mo'r ieuainc a'r sawl oedd hoff o'r newydd a'r dieithr ddim byd am danynt hwy. A'r hyn ydoedd efe wrth gyhoeddi'r "ddau wr dieithr o'r Deheudir," dyna ydoedd efe i fesur helaeth gyda phob gorchwyl, ac yn enwedig gyda holl waith yr eglwys. Dywed yr ysgrifennydd y cyfeiriwyd ato, pe wedi rhoi ei fryd ar hynny y gallasai, fe ddichon, fod wedi casglu cyfoeth, ond mai ei fryd ef yn hytrach oedd bod yn ddefnyddiol. Ac, mewn gwirionedd, yr eglwys oedd ei weithdy. Ni esgeulusodd ofalu am ei dylwyth, ond fe deimlai yn pwyso arno ymddiriedaeth uwch ac eangach. Yr eglwys oedd ei deulu, a'i deulu yn rhan o'r eglwys. Bu'n ffyddlon yn yr holl dŷ, llanwodd bob cylch, a hynny gydag ymroddiad llwyr a chysondeb difwlch. Ei briodoledd ydoedd y tynnai ei bresenoldeb sylw. Gwyddid ei fod ef yno. Gwylid ef yn gwrando, a gwrandawr awchus ydoedd agos bob tro. Yn ei flynyddoedd olaf, fe fyddai rhywbeth yn ymddangos fel yn pwyso ar ei feddwl weithiau, ac yn atal y gwrando awchus, disgwylgar. Ac yr oedd iddo ef fod felly yn rhwystr i eraill wrando fel y mynasent. Rhyngddo ef a'r pregethwr y rhennid. y sylw. Rhoe ebwch gyda sylw pwysig, codai ei ben yn uwch, neu troai gyda gwên foddhaus at yr hen Richard Jones, neu at Richard, Owen ac Evan Jones gyda'i gilydd ar ei ochr dde; ac yna fe fyddai'r sylw wedi cael ei lawn effaith rhwng y pregethwr ac yntau. Diau fod yno rai na sylwent hyd yn oed ar John Jones y blaenor, ond pwy gymerai sylw ohonynt hwy? Yn y seiat, os byddai yn y cynhulliad o gant a hanner neu ragor fachgen ieuanc adref am dro, ym mha gongl bynnag o lawr y capel y digwyddai fod, byddai John Jones wedi ei lygadu, a rhoe gyfle iddo i ddiweddu'r seiat. Y mae Mr. Hugh Hughes yn coffa sylw Mr. William Jones y blaenor, wrth adael Engedi am ysbaid yn ddiweddar, sef nad anghofiai efe byth mo'r noson y daeth gyntaf i Engedi, pryd y rhoes John Jones ei law iddo. Gwyddai John Jones sut i ysgwyd llaw, mewn amgylchiad o'r fath, yn well nag un o gant. A pha bryd bynnag y cyfarfu â gwrandawr heb fod yn aelod, os ceid peth ymddiddan go rydd, fe fyddai yno gymell cyn y diwedd i wneud proffes, a delid at hynny hyd nes llwyddid, neu i angeu oddiweddyd y cymhellydd neu'r hwn a gymhellid. Dywed yr ysgrifennydd crybwylledig am dano nad yw'n honni ei fod ef yn fawr, ac mai ei nodwedd oedd nid y mawr, ond y da. Feallai hynny, ac feallai, hefyd, nad oedd efe ym mhob ystyr yn nheimlad pawb yr hyn ydoedd yn nheimlad rhai, a'r rhan fwyaf, a'r rhan fwyaf o lawer. Pan anwyd plentyn John Foster, ei ddywediad ef ydoedd nad eiddunai iddo fod yn fawr, ond yn unig yn dda, ac mai o ddiffyg y da yr oedd y byd yn dioddef a than felltith. Ac yn amser John Jones nid oedd Engedi heb ddyn da yn yr ystyr a fuasai'n boddloni eidduniad John Foster i'w gyntaf-anedig. Nid rhyw gyffyrddiad o ysbrydolrwydd aruchel oedd ei nodwedd, a hwnnw, fel y gwelir ef weithiau, yn dod i'r golwg yn awr a phryd arall mewn modd a syfrdanai bob teimlad; ond daioni cyson, cartrefol, agos atom, hawdd nesu ato, bob amser i ddibynnu arno, a hwnnw'n ymwthio'n ddiymdrech, ond hyd eithaf ei allu, i bob cilfach ar lannau bywyd. (Goleuad, 1883, Medi 29, t. 9.)

Yn 1884 dewiswyd yn flaenoriaid, John Jones y fferyllydd a David Jones. Ym Mai, 1886, fe ymgymerodd John Thomas â gofal eglwys yr Aberffraw, wedi bod yma ychydig fisoedd, ar ol dychwelyd o Khassia.

Chwefror 10, 1886, bu farw'r Capten Evan Roberts, yn 77 oed, yn flaenor yma er 1849. Yr ydoedd wedi ei fagu yn hen gapel Penrallt. Y Capten ydoedd efe ym mhob man, yn yr eglwys yma fel ymhob man arall. Pan fyddid wedi penderfynu ymgymeryd â rhyw waith, ac y rhoid cymhelliad i'w gyflawni, fe geid ei anogiad cartrefol,—"'Rwan, boys bach, cydiwch ynddi." Byddai ganddo ar dro gymhariaeth forwrol, neu eiriau morwrol i gyfleu ei feddwl. Sonia Mr. Hugh Hughes (Beulah) am dano ynglyn â chasgl dydd diolchgarwch, yn cymharu Engedi dan ei ddyled i long ar lawr, yn aros am y spring teid, pryd y gwneid ymdrech arbennig i'w chael i ffloatio. "Yr ydan ninnau ar lawr—gadewch i ni wneud un effort gyda'n gilydd." Byddai yn ennill ei bwnc gyda'i symledd, ei gywirdeb, ei naturioldeb. Eithr talent i weithio gyda'r achos oedd ganddo ef, ac nid talent i siarad. Ac er iddo gyrraedd safle uchel fel capten, ac ennill ymddiried mawr, eto yn eglwys Engedi yr oedd ei galon. Llong marsiandwr y nef oedd Engedi iddo ef, a bu'n loyal i commands y Pen Capten.

Mawrth 10, 1886, bu farw John Edmunds yn 71 oed, ac yn flaenor yma er 1868, flwyddyn ar ol dod ohono i'r dref, ac yn Nhwrgwyn, Bangor, er 1855. Gwrthod ymgymeryd â'r swydd a ddarfu yn Engedi heb ei ddewis drwy bleidlais yr eglwys. Brodor o Dyddewi, Penfro, ydoedd, a dawn nodweddiadol Penfro oedd yr eiddo. Efe a John Jones yn eu tymor oedd y ddau flaenor amlwg yma, a rhoddai hynny rywbeth o naws y Deheudir ar Engedi yn y cyfnod hwnnw. Ceid rhai o bregethwyr y Deheudir, neu rai a fagwyd yn y Deheudir, yn amlach o'r herwydd, megys oeddynt hwy, Richard Lumley, Phillips Abertawe, (Dr.) Thomas Rees, David Charles Davies, Dr. Lewis Edwards, a lliaws eraill. Haws oedd cael y Dr. a enwyd ddiweddaf i Engedi nag i Foriah. Bu'r Parch. Morris Morgan a Homo Ddu (Wyndham Lewis) yn dod yma ac i Foriah am ddau Sul gyda'i gilydd am rai blynyddoedd, a mawr y gwerthfawrogid eu doniau amrywiol gan y ddau flaenor yn Engedi, cystal ag eraill. Ysgolfeistr oedd John Edmunds, ond daeth i Gaernarvon fel melinydd. Yr oedd naws yr ysgolfeistr ynddo o hyd, eithr nid mewn natur grebach y digwyddodd hynny gydag ef, ond mewn natur eang, lawn, ac mewn meddwl craff, llawn synnwyr, er rywfaint yn gyfrwys. Cafodd well manteision addysg na'r cyffredin o ysgolfeistriaid ei gyfnod ef, a dringodd yn uwch yn ei swydd. Meddai ar bob cymhwyster i'w wneud yn llwyddiant fel ysgolfeistr, a gwelid yr un cymhwysterau ynddo fel blaenor, gyda'r un llwyddiant. Meddai ar gynneddf fawr. Yr oedd yn awdwr amryw erthyglau yn y Gwyddoniadur, ac efe oedd awdwr yr Athrawes o Ddifrif, sef cofiant ei wraig gyntaf. Efe oedd cyhoeddwr y Cenhadon Hedd, sef y lluniau o brif bregethwyr y Corff yn 1857, y cyntaf o'r fath a'r goreu. Dengys y llen-lluniau hynny yn eithaf deg ei feddwl trefnus, ei chwaeth, ei graffter, ei gyfrwystra. Efe oedd yr arweinydd naturiol ym mhwyllgor y blaenoriaid. Ni fu yr un yn Engedi na'r dref i'w gystadlu âg ef ar bob golwg fel gwr pwyllgor. Meddai ar bob cymhwyster fel arweinydd yn y cylch yma, craffter mewn pethau amgylchiadol, craffter i adnabod dynion, dawn i draethu ei feddwl, pwyll, gochelgarwch, callineb, cyfrwystra. Y mae'r farn hon am dano fel gwr pwyllgor yn ffrwyth ym- ddiddan yn ei gylch yn y cysylltiad hwnnw à John Jones y fferyllydd. Yr oedd ei ddawn fel siaradwr yn ei amser goreu yn ogyfartal â'i ddawn fel arweinydd pwyllgor y blaenoriaid. Yn ystod ei flynyddoedd cyntaf yma yr oedd ei gyfarchiadau yn seiat nos Sul yn enwedig â swyn odiaeth ynddynt. Meddai ar bresenoldeb da, yn ddyn lled dal, llawn, gyda wyneb llawn â gwrid iach arno y pryd hwnnw, prydwedd cymesur, mynegiant deallus, synhwyrol, dymunol. Safai y pryd hwnnw yn syth yn ei le, gyda hunan-feddiant perffaith, a rhwyddineb dawn, ac ystwythter a pherseinedd yn ei lais clochaidd. Dawn y Deheudir: dawn Penfro oedd yma. Yr oedd yn hyfryd gwrando ar y llais ei hun, un funud yn toncio fel cloch arian, a'r funud nesaf, wrth orffen gyda'r pwnc hwnnw, a chyn dechre codi at y pwnc arall, yn meddalu ac yn ymlithro fel swyn hyd droadau dirgelaidd y glust. Yr oedd, dros ben hynny, ryw oslef yn y llais yn amlygiad o nodweddiad uwchraddol. Ac yn ben ar y cwbl yr oedd yno ireidd-dra ysbryd. Bu am ryw ysbaid yn arfer dyfynnu o ryw gylchgrawn Saesneg ag yr oedd yn amlwg ei fod yn cael maeth ysbrydol ynddo. Aeth ar ol hyn yn llai bywiog ei ysbryd, er yn meddu ar yr un profiad, ond eto mewn modd llai amlwg. Ac yn ei flynyddoedd olaf i gyd yr oedd anhwylder yn llesteirio bywiogrwydd ei ysbryd, er parhau ohono yn ffyddlon a defnyddiol a dylanwadol. Fe grybwyllir eto am ei waith pwysig ynglyn â'r ysgol i'r tlodion yn yr ysgoldy dan y capel. Nid oedd efe yn gyfartal â Robert Roberts mewn treiddgarwch meddwl, nac â John Jones mewn brwdaniaeth serchog, nac â Robert Evans mewn sel ymroddgar. Eto meddai ar radd dda o'r pethau oedd ym mhob un ohonynt hwy, ac ar radd helaethach o rai pethau na feddiannid gan neb un ohonynt hwy. Ar y cyfan, fel allesid meddwl am ei ddylanwad wedi bod yn fwy nag ydoedd, ac yn fwy nag eiddo neb arall yn yr eglwys. Er ei fod yn flaenor ffyddlon a gweithgar, yn meddu ar amrywiaeth o ddoniau a chyrhaeddiadau, yn wr o urddas a dylanwad, ac o gymeriad dilychwin, eto rhywbeth oedd yn Robert Evans yr oedd ganddo ef leiaf o hono, sef ryw ynni tanbaid neu sel ysol, llwyr ymroddedig, a hynny a barodd na chymerodd efe mo'r lle blaenaf i gyd ymhlith holl flaenoriaid y dref. (Goleuad, 1886 Mawrth 20, t. 12, gan David Jones. Edrycher Twrgwyn.)

Hydref 5, 1886, penodi Evan Jones, Nath Roberts, Owen Jones, John Williams i ofalu am yr achos yn Beulah. Gorffennaf, 1887, penderfynu sefydlu eglwys yn Beulah, ac i Engedi gymeryd £373 6s. 3c. o'r ddyled. Yng nghofnodion Cyfarfod Misol Rhagfyr 14, fe ddywedir fod Engedi yn ymgymeryd â bod yn gyfrifol am £400. Dyna'r penderfyniad diweddarach. Yr un flwyddyn, penderfynu cynnal seiat blant ar wahan.

Mehefin 6, 1888, y Parch. Evan Roberts yn rhoi gofal yr eglwys i fyny, wedi bod y bugail cydnabyddedig cyntaf arni am 13 o flynyddoedd, gan dderbyn galwad oddiyma i Ddyffryn. Ardudwy. Cyn iddo ef ddod yma amheuid gan liaws a allasai gweinidog sefydlog ddal ei dir fel pregethwr. Cyflawnodd efe'r disgwyliadau uchaf. Yn ei amser ef, yn 1878, fe ail-gychwynnwyd y gymdeithas lenyddol. Arweiniodd gyda chlirio'r ddyled, gan fod ei hun yr haelaf o bawb. Rhoes ynni newydd yn rhai o ddosbarthiadau canol yr wythnos. Ar ei ymadawiad, cyflwynwyd iddo amryw anrhegion mewn cyfarfod lluosog iawn, Mehefin 11.

Medi 16, 1888, rhoi galwad i'r Dr. John Hughes. Ionawr 14, 1889, cynhaliwyd y cyfarfod croesawu, pryd yr oedd ymhlith eraill Owen Thomas a Herber Evans yn bresennol. (Goleuad, 1889, Ionawr 24, t. 4.)

Chwefror 14, 1889, bu farw Abraham Bywater, yn flaenor yma er 1878. Yr ydoedd mewn oedran yn dod yma. Gwr tawel ymhob ystyr. Y gair am dano yng nghofnodion y Cyfarfod Misol ydyw: "Ffyddlon am nifer maith o flynyddoedd, a nodedig am ei dduwioldeb."

Yn 1890 atgyweiriwyd y capel a rhowd organ ynddo. Gwnawd addurnwaith anarferol ar y nenfwd, fel y cydnabyddid, ebe Mr. David Jones, ei fod y capel harddaf o'r tu fewn a feddai'r Corff. Awyrwyd y capel ar gynllun newydd. Rhowd rails haearn newydd o'i flaen oddiallan. Gwnawd gwelliantau yn yr ystafelloedd dan y capel. Tachwedd 20 cafwyd yr agoriad ynglyn â'r organ. Penodwyd Miss Thomas (Bryngwyn) yn chwareuydd. Traul yr organ, £620. Yr holl dreuliau, £2,315.

Yn 1892 dewiswyd yn flaenoriaid Robert Williams a William Jones. Y flwyddyn hon cynhaliwyd cyfarfod y Jiwbili, Gorffennaf 24-5. Sul a Llun pregethwyd gan y Prifathro Prys a'r Dr. Hugh Jones Nerpwl. Nos Lun rhowd hanes dechreuad yr achos yng Nghaernarvon gan W. P. Williams a'r hanes yn Engedi gan Owen Roberts. Rhowd, hefyd, bregeth gan y Prifathro. (Goleuad, 1892, Awst 11, t. 12.).

Yn 1893 bu farw Griffith Williams, yn flaenor er 1877. Yn wr o barch ac ymddiried. Yn siaradwr rhydd, synhwyrol. Gwasanaethodd yr achos yn ffyddlon ac effeithiol. Gwnawd coffa am dano yng Nghyfarfod Misol Awst 14. Yn 1893 y dechreuodd John Garnons Owen bregethu. Yn 1899 symudodd i Lanarmon yn Iâl.

Hydref 23, 1893, bu farw'r Dr. John Hughes yn 66 oed, ac wedi bod yn fugail yr eglwys prin bum mlynedd. Ceir y sylw yma yng nghofnodion y Cyfarfod Misol: "Cyfarfod o brudd-der mawr oedd y cyfarfod hwn, am fod Dr. Hughes wedi ymadaw â ni er y Cyfarfod Misol diweddaf. . . . . Cymerai ei le fel tywysog yn ein plith. Edrychem i fyny ato fel gwr o gyngor, fel arweinydd medrus, doeth a diogel, fel perchen meddwl cryf, gwybodaeth eang, a dawn neilltuol i gyfleu ei feddwl mewn ysgrifeniadau, ac fel un a fyddai drwy ei weinidogaeth gref a disglair yn rhoddi urddas nid yn unig ar bulpud y cyfundeb yn Arfon, ond ar bulpud Cymru oll." Fe roes argraff nodedig ar Gymru yn ei amser. Yr oedd yn pregethu yng Nghymdeithasfa Llangeitho yn 1859, pryd y gwrandewid arno gan Vicar Hughes Tregaron, un o brif ddynion yr Eglwys yng Nghymru yn y ganrif. Nodwyd ef allan y pryd hwnnw gan y Vicar fel prif bregethwr Cymru, barn y dywedir iddo ei choledd hyd y diwedd. (Lladmerydd, 1893, t. 360.) Adroddai ef ei hun wrth Alafon fod y Dr. Lewis Edwards yn rhyw ymddiddan yn ei nodi ef allan fel pregethwr mwyaf barddonol Cymru y pryd hwnnw. "Mi synnwch glywed," ebe fe wrth adrodd y peth. Diau y swnia y farn honno yn ddierth i ddarllenwyr yn unig o'i bregethau, ond ni swniai mor ddierth i rai o'i wrandawyr. Mewn sylw coffadwriaethol arno galwai Thomas Charles Edwards ef y gwr blaenaf yn y cyfundeb mewn amseroedd diweddar. Mewn rhai mannau yn unig y mae ei ysgrifeniadau yn cynnal i fyny y syniad uchel cyffredinol am ei alluoedd, canys fe edrychid arno nid yn unig yn berchen meddwl cryf, a diwylliant, ond yn feistr, hefyd, ar iaith lawn, ddisgrifiadol, ardderchog. Yn ei ddisgrifiad o Gyfarfod Misol Môn yng nghofiant William Roberts Amlwch, fe'i gwelir ar ei oreu fel ysgrifennydd. Pe buasai ei bregethau wedi eu cymeryd o'i enau ef ei hun ar ol iddynt lawn addfedu yn ei feddwl hwy darllenasent yn well o gryn lawer yn ddiau. Eithr, wrth ystyried, fe ganfyddir fod ei ragoriaeth arbennig yntau yn gorwedd yn gymaint a dim mewn presenoldeb, pwyslais, ireidd-dra ysbryd, urddas mewn ysgogiad ac yn nhôn y llais ac yn netholiad y materion a'r geiriau. Fe gyfrifid ei ddyfodiad yma gan yr eglwys ei hun yn anrhydedd arni, a llanwodd yntau y disgwyliadau uchel. Fe gafodd gyfleustra go deg i roi ei gallineb mawr mewn llawn arferiad, a rhwng ei gallineb a'i urddas personol, fe hwyliodd ymlaen rhwng trobwll a chreigiau yn ddiogel, dan lawn hwyliau, a chyda llawenydd ar fwrdd y llong. Eithr Dr. Hughes Nerpwl y pery efe i fod yn bennaf, er cyrraedd o'i rawd i'r pen rhwng hen gastell Caernarvon a hen eglwys Llanbeblig.

Mai 13, 1894, rhoi galwad i W. R. Jones (Goleufryn). Dechreuodd yntau ar ei waith yma heb gyfarfod croesawu, y Sul, Tachwedd 1. Hydref 22, 1895, dewis yn flaenoriaid W. J. Williams, J. J. Williams. Galwyd yn flaenor, H. J. Hughes, a ddaeth yma o'r Ceunant. Yn 1894 derbyniwyd Evan Evans i'r Cyfarfod Misol fel pregethwr. Symudodd oddiyma yn 1896 i Weston, Trefaldwyn. Yn 1899 symudodd y Parch. D. R. Griffith yma o Ryl.

Bu William Williams farw Tachwedd 12, 1896, yn 59 oed, wedi bod yn pregethu er Mai, 1865. Mae ei enw i lawr yn llyfr cofnodion y Cyfarfod Misol, ymhlith y gwyr ieuainc oedd yn y Bala (yng ngholeg Bangor y bu ef), a gelwir ef yn William Williams Caernarvon. Tebyg, gan hynny, mai yn 1865 y daeth yma o Lanberis, a rhaid mai yno y dechreuodd bregethu. Ysgolfeistr ydoedd yno, ac yn 1866 yr oedd yn ail-feistr yn ysgol ramadegol John Evans, M.A., wedi hynny o Groesoswallt. Fel ysgolfeistr yr oedd yn dyner a gofalus, gyda gwên dyner ar ei wyneb pan wneid camgymeriadau go ddigrifol gan y bechgynnos dan ei ofal. Ar ol hynny gweithredai fel clarc. Ni pherthynai iddo mo ddull nodweddiadol yr ysgolfeistr, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb, a cheid ef bob amser yn wr tyner, yn hytrach yn encilgar, heb wneud yr ymddanghosiad lleiaf o hynny chwaith, ac heb amcanu at y gradd lleiaf o awdurdod dull. Ond er yn wr tawel, diymhongar, nid elai neb fyth yn hyf arno. Nid ymyrrai à mater neb, a thebyg na chymerodd neb arno ymyrryd â'i fater yntau. Yr oedd gradd o ddirgelwch ynddo yn hynny: yn gwbl ddiymhongar a thawel a thyner a pharod i ymwrando â phawb, yr oedd o'i ddeutu yr un pryd ryw awyrgylch a'i diogelai rhag tramgwydd oddiwrth yr hyf a'r gor-siaradus. Feallai, wedi'r cwbl, mai naws yr ysgolfeistr ydoedd hynny ynddo. Gwr dan yr uchter cyffredin ond yn fwy o gwmpas na chyffredin, gyda wyneb llawn, cymesur, tawel-feddylgar. Ni lywodraethid mono gan dymerau ac anwydau, ac ni welid ynddo fympwyon na nwythigrwydd. Gwr gwastad ydoedd: cerddai yn wastad, mewn llinell union, nid fyth yn gyflym, nid fyth yn araf, oddigerth fel yr arafodd yn ei flynyddoedd olaf. Ni thramgwyddai fyth ar air na gweithred. Yn y seiat nid elai ef i'r llawr i ymgomio â'r cyfeillion yno; tebyg na feddyliwyd erioed am ofyn hynny iddo, neu o leiaf am bwyso hynny arno. Eithr fe siaradai pa bryd bynnag y gofynnid iddo, a gofynnid iddo yn amlach amlach fel y cerddai'r blynyddoedd; ac yn ddieithriad fe roddai ffrwyth meddwl wrth lefaru. Fe gymerai ei amser i draethu, ond ni fyddai yn rhy faith mwy nag y byddai'n rhy fyrr. Byddai'r ysglyfaeth dan ei ewin bob amser. Heb arabedd na ffansi na chrynoder diarhebion, fe olrheiniai'r pwnc yn ddeheuig, yn fanwl, yn ymresymiadol, gyda chwaeth ddifeth, ac i amcan ymarferol buddiol, er yn fwy athrawiaethol ei duedd nac ymarferol. Yn y seiat yr oedd yn siaradwr eithaf rhwydd, heb ddim yn tynnu oddiwrtho, ond yn y pulpud nid ymddanghosail mor ddilyffethair. Yno yr oedd pwys y bregeth ei hun, a phwys y gwaith, yn hytrach yn llesteirio'r rhyddid angenrheidiol i feistr y gynulleidfa. Eithr fe fyddai'r bregeth yn wastad yn gyfansoddiad gofalus, ac fel y dywedai Henry Rees am Charles o Gaerfyrddin a John Thomas Aberteifi, y gallesid dywedyd am dano yntau, sef fod ei bregethau yn ebran pur wedi eu nithio â gwyntyll ac â gogr. Bu ganddo ddosbarth meibion ganol wythnos am flynyddoedd, a dosbarth merched wedi dyfod y Parch. Evan Roberts yma, y mwyaf llwyddiannus, debygir, ar y cyfan, a fu yma unrhyw adeg. Tystia Mr. William Roberts i ragoriaeth y dosbarth meibion hefyd. Fe geid yr ymdriniaeth bob amser yn drwyadl, erbyn y byddai'r athro wedi dwyn y drafodaeth i ben; a sicrheid llwyddiant y dosbarth gan bwyll, arafwch, deheurwydd a thrylwyredd yr athro ei hun. Bu'n efrydydd diwyd ar hyd ei oes. Athroniaeth oedd ei brif faes, ac yr oedd ganddo gasgl anarferol dda o lyfrau yn y gangen honno. Darllenai lyfrau o nodwedd De Quincey mewn llenyddiaeth gyffredin.

Bu farw W. R. Jones (Goleufryn), Gorffennaf 11, 1898, yn 58 oed, wedi bod yn weinidog yma ychydig dros dair blynedd ac wyth mis. Daeth yma gydag enw fel pregethwr, ac enw mwy fel llenor. Yr oedd ei brif waith fel llenor eisoes wedi ei gyflawni. Rhoe fynegiad mynych, tra bu yma, i'w ddyhead am fod yn rhydd oddiwrth ofal eglwys, mewn rhan er mwyn ei iechyd, ac mewn rhan, debygid, er mwyn ymroi yn fwy i waith llenyddol. Yr oedd ol ei ymroddiad i lenyddiaeth yn amlwg ar ei bregethau, mewn iaith lawn, ddisgrifiadol, ac yn neheurwydd ei gyflead o'i fater. Traddodai yn rhwydd a chyflym, heb nemor bwyslais; ond fe weuai ei fater ynghyd cyn esmwythed a we pryf gop, ac â llawer o'r un cywreinrwydd. trefnus, gyda'r llygad oll-chwiliol yn syllu allan o'r ddirgelddôr. Yr un oedd ei ddawn fel llenor, ond dichon fod glud y wê yn amlach yn dal y pryfed asgellog yn yr ysgrif nag yn y bregeth. Rhoes ei fryd ar ragori fel llenor cystal ag fel pregethwr, a llwyddodd yn y ddau gyfeiriad, gan wneud y llenor yn wasanaethgar i'r pregethwr, a'r pregethwr i'r llenor. O'r ddau yr oedd yn ddiau yn fwy amlwg fel llenor. Nid oedd ei deimlad mewn pwyllgor yn gymaint dan ei reolaeth ag eiddo'i ragflaenydd, ond llwyddai i wneud ei waith fel bugail yn effeithiol; ac yn y cymeriad yma yr oedd megys dau, gan fod ei briod. yn ddyfal a medrus tuhwnt i'r cyffredin mewn ymweliadau â'r gwahanol ddosbarthiadau yn y gynulleidfa, ac mewn rhai cylchoedd cyhoeddus, megys gyda dirwest. Ond megys y dywedwyd am eraill yn yr eglwys hon, felly am dano yntau, fe erys ei goffadwriaeth yn fwy arbennig ynglyn âg eglwysi eraill, a Chyfarfodydd Misol eraill. (Goleuad, 1898, Gorffennaf 20, t. 9, 10. Drysorfa, 1898, t. 363, 529; 1899, t. 92. Cymru, xv. 184.)

Mor hyfryd esgyn Pisgah oes—
A'r Bryn yn wyn dan wawl y Groes! (J. T. Job).

Yn 1899 rhowd galwad i'r Parch. Ellis James Jones, M.A., a chadarnhawyd yr alwad yng Nghyfarfod Misol Hydref. Daeth yma o Manchester.

Yn y bore y cynhelid yr ysgol ar y cyntaf. Dywed Dafydd Williams fod yr ysgol, ar ol ei chael yn y prynhawn, wedi cyn— yddu yn ddirfawr, a bod pob rhan o'r gwaith o hynny ymlaen wedi myned i wisgo gwedd gynyddol a hapus. Parhaodd dosbarth John Roberts y paentiwr o ddechreu'r achos hyd ddiwedd ei oes ef yn 1890, a bu am gyfnod o rai blynyddoedd, o leiaf, yn ddosbarth lluosog a phwysig o ddynion. Bu gwedd lewyrchus ar yr ysgol am gyfnod maith. Yr oedd y rhif y Sul olaf o 1873, gan gynnwys ysgol y seler, yn 622. Agorwyd ysgol Sul yn y seler i dlodion y gymdogaeth yn fuan ar ol agoriad y capel. Bu cangen fechan ohoni mewn ty yn Wesley Street am beth amser. Ar ddyfodiad John Edmunds i'r dref yn 1867 fe ddechreuodd weithio gyda'r ysgol hon, a gwnawd ef yn fuan yn arolygwr, a pharhaodd yn y swydd honno hyd. derfyn oes yn 1886, ac i'w arweiniad a'i ymdrechion ef yn bennaf y priodolir llwyddiant yr ysgol o'r pryd hwnnw ymlaen. Ionawr 1, 1886, cyflwynwyd iddo anerchiad yn cydnabod ei lafur diball gyda'r ysgol. (Goleuad, 1886, Ionawr 9, t. 10.) Dywed Mr. Hugh Hughes fod ol gwaith John Edmunds ar liaws yn y dref heddyw. Clywodd ef fechgyn yn y milisia, llongwyr, ac eraill yn cydnabod eu rhwymedigaeth iddo. Cyfnerthid ymdrechion John Edmunds yn fawr gan un fu'n ysgrifennydd yr ysgol am gryn ysbaid, sef J. D. Bryan, un o'r Brodyr Bryan yr Aifft. Yr ydoedd ef yn wr gweithgar a defnyddiol, a dangosodd yr ysbryd hwnnw'n arbennig ynglyn â'r ysgol hon.

Rhagfyr 13, 1893, penderfynwyd symud ysgol y seler i Marc Lane. Yr oeddid wedi dechre gwaith cenhadol ym Marc Lane cyn hynny. Dyma ddywed Mr. John Jones ar hynny: "Thos. Williams y saer, Hugh Jones a Robert Barma (Moriah) a gychwynnodd ym Marc Lane, mi gredaf mai yn 1857. Cynhelid ysgol yn yr awyr agored yn y cowrt o flaen. y tai. Yn y man cymerwyd ty i gynnal yr ysgol ynddo. Pan dorrodd diwygiad 1859 allan, fe gymerwyd y rhes tai, a thynwyd y gwahan-furiau i lawr, fel yr oedd yn ystafell hirfain. Credaf mai Hugh Pugh y Bank a Robert Williams Brunswick. Buildings, aelodau yn Castle Square, a drefnodd adeiladu ysgoldy yn 1877. Credaf yn sicr iddynt golli'r arian. Engedi oedd yn danfon "cyfeillion y bore" yno. Gweithiodd Mr. Pugh yn egniol iawn am lawer o flynyddoedd gyda'r achos ym Marc Lane. Deuai Robert Barma, Owen Williams Ty'n-llan a Mrs. Williams Penllyn o Foriah." Codwyd ysgoldy Siloh bach gan Moriah yn 1856, ond aelodau o Engedi wnelai fwyaf yno, a hwy yn bennaf fu'n sefydlu'r eglwys yn 1859. Bu Robert Evans, Capten Evan Roberts, Griffith Williams yr asiedydd, Thomas Williams Heol y Capel, yn ymroddgar gyda chychwyniad yr ysgol yn Siloh bach a Marc Lane. Brodyr o Engedi, ebe Mr. John Jones, a sefydlodd yr ysgol Sul yn y tloty.

Dyma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Tachwedd 1. Ysgol drefnus a gweithgar, yn meddu swyddogion diwyd ac effro. Heb ond un arolygwr, gafaelai yr holl ysgol fawr hon yn ei gwaith mewn byrr amser. Yr athrawon i gyd. yn bresennol namyn un. Dosbarthiadau y plant yn rhy luosog, oddieithr i gynllun yr ysgol ddyddiol gael ei fabwysiadu. Darllen deallus ac atebion parod gan yr ieuenctid. Y rhai mewn oed yn gwneud ymdrech i gloddio i gyfoeth y gair. Y dosbarthiadau o rai mewn oed yn addurn i'r ysgol. Cyfrifon trefnus. Canu effeithiol. Seler Engedi. Hydref 25. Rhif, 109, tua 90 o'r nifer yn blant tlodion, amddifad o bob manteision crefyddol eraill. Addysg o'r fwyaf effeithiol. Yr ysgol i gyd yn ei lle cyn amser dechre. Yr ymddygiad yn ystod y gwasanaeth dechreuol yn ganmoladwy. Gafaelid ar unwaith yn y gwaith heb golli munud i'r diwedd. Arolygiad medrus, ac athrawon â'u holl enaid yn y gwaith. Y plant lleiaf mewn ystafell ar wahân, a dysgir hwy ar gynllun yr ysgol ddyddiol. Dosbarthiadau darllen da. Canu swynol. Mantais ar yr ysgolion eraill mewn offeryn. S. R. Williams, John Hughes." "Marc Lane. Ysgol genhadol, gyda brodyr a chwiorydd o Foriah ac Engedi yn cynorthwyo, ac yn gweithio'n ddifefl. Aelodau'r ysgol o bob plaid grefyddol, a rhai heb fod o unrhyw blaid. Dros gant yn bresennol. Rhai yn darllen yn lled dda. Y dosbarthiadau eisieu eu graddoli'n well. Mwy nag arfer o'r athrawon yn absennol y Sul yr oeddem ni yma. Nid yw'r ysgol wedi mabwysiadu'r cynllun safonol, ac nid hawdd gwneud gan gyfyngdra lle. Gweithrediadau trefnus. Llafur gyda dysgu allan. Mae yma lais at Engedi a Moriah, Deuwch drosodd a chynorthwywch ni. John Owen (Nazareth), William Davies (Llanrug)."

Fel arweinwyr y gân fe enwir Richard Humphreys, Owen Griffith y cyfrwywr, Rhys Jones yr asiedydd, Cadwaladr Williams, John Jones, John Jones (Druid), Evan Jones (Beulah wedi hynny), W. J. Williams. Bu canu campus, a chôr rhagorol, yma am flynyddoedd dan arweiniad Richard Humphreys. Dywedir yng Nghofnodion y Gymdeithas Lenyddol fod y canu wedi myned yn isel ac anhrefnus yma cyn dyfodiad Robert Lewis i'r dref yn 1857 [1859], a'i fod ef wedi achosi diwygiad trwyadl ynddo, ac y magodd liaws o gerddorion medrus yn y gynulleidfa, fel yr enillodd y canu sylw cyffredinol. Sylwir, hefyd, gan Mr. David Jones y bu iddo sefydlu dosbarthiadau canu ar ganol wythnos yn 1861. El Mr. Jones ymlaen: Cychwynnodd gyda dysgu'r Hen Nodiant, ond yn y misoedd hynny daeth cyfundrefn y Sol-fa i sylw yn Lloegr, a gwelodd yntau ei symlrwydd, ac ymroddodd i'w hastudio; a buan iawn y darfu iddo ei meistroli yn y wedd oedd arni y pryd hwnnw; ac iddo ef y perthyn yr anrhydedd o ddwyn y nodiant yma i sylw gyntaf yng Ngogledd Cymru; ac yng nghapel Engedi y cymerodd hynny le yn y blynyddoedd 1861-2. Ymunodd lliaws o'r bobl ieuainc â'r dosbarthiadau. Y ddau a lwyddodd gyntaf i ennill y dystysgrif elfennol oedd John Jones, mab Owen Jones Tyddyn llwydyn, a John P. Jones, mab J. P. Jones paentiwr, a phenodwyd y ddau hyn yn is-athrawon, i ofalu am y dosbarth ieuengaf. Y rhai cyntaf mewn trefn i ennill y dystysgrif ganolradd oedd, Stephen Jones, Evan Jones, John Jones (Druid), David Jones (Llys Arfon). Gadawodd y llafur hwn gyda'r canu ei ol ar y canu cynulleidfaol, a pharhaodd yr unrhyw lafur am flynyddoedd." Dewiswyd W. J. Williams yn arweinydd am bum mlynedd yn 1881, ail-ddewiswyd yn 1886, a pharhaodd yn y swydd dros ystod tymor yr hanes hwn. Sylw Mr. David Jones arno ydyw mai efe oedd y galluocaf fel cerddor a fu yn y dref.

Bu seiadau nodedig yn cael eu cynnal yn Engedi. Mynn Mr. John Jones (Druid) fod pobl dduwiolaf Moriah yn o lwyr wedi dod yma yn 1842, a dywed y byddai John Owen y marsiandwr coed, ac yntau'n aelod ym Moriah, heblaw cymeryd sêt yma, yn dod yn aml i'r seiat er mwyn y wledd a gaffai yma. Dywed Mr. John Jones y byddai Dafydd Jones yn od- iaethol gyda'r hen saint hyn. Am rai blynyddoedd, fel y crybwyllwyd, rhowd gwasanaeth gwerthfawr yn y ffordd hon gan Daniel Jones, Dafydd Davies yr exciseman a Dafydd Morris. A gwŷr yn meddu ar ddawn neilltuol yn y seiat oedd John Jones y pregethwr a Dafydd Williams. Feallai nad yw'n ormod dweyd fod arbenigrwydd neilltuol yn perthyn i seiadau. Engedi yn ystod, dyweder, y chwarter canrif cyntaf o'i hanes. Fe ysgrifennwyd cofnodion helaeth o'r seiadau hyn dros ysbaid, feallai, 30 mlynedd, gan Ellis Jones yr argraffydd, mab i'r geiriadurwr o'r un enw; ond fe'u llosgwyd gan berthynas, neu fe fuasent nid hwyrach yn gofnodiad cwbl arbennig o'r seiat yng Nghymru. Y mae gan Mr. David Jones rai briwsion o atgof. Yn yr hen gapel tuag 1865 yr oedd John Roberts Tai-hen yn pregethu ar y lleidr ar y groes, a chafodd oedfa effeithiol. Yn y seiat ddilynol yr oedd Dafydd Williams yn holi prof- iad. Aeth at y Capten John Evans St. Helen. "Wel, John Evans, be' sy ganddoch 'i?" "Wel," ebe'r Capten, "mi fuaswn yn leicio cael mwy o amser i wneud fy mhac na gafodd y lleidr ar y groes." Yr oedd yr ateb yn disgyn yn annisgwyliadwy, ac yn fwy effeithiol oddiwrth gapten llong, a chan y dywedwyd ef gyda theimlad, fe gynyrchodd argraff gofiadwy. Ymesgusodai Mr. David Jones am adrodd yn ei gylch ei hun. Eithr fe ddywed fod y Dr. Hughes yn pregethu yn oedfa'r bore yn y Sasiwn yng Nghae'r Friars ar yr awydd yn Nuw am achub pechadur gyda dylanwad neilltuol iawn. Danghosai fel nad oedd yr awydd ingol mewn proffwydi ac apostolion a gweision Duw drwy'r oesau am achubiaeth eu cyd-ddynion yn ddim ond dafn yn ymyl y môr oedd yn Nuw. Ac yna fe dorrai y pregethwr allan ei hun yn yr olwg ar fawredd awydd y Duw mawr a chyndynrwydd mawr pechaduriaid, "O na redai'r Iorddonen i fy mhen-mi wylwn hi bob dafn!" Ac ebe fe ymhellach, "Gwell ganddo wneud pob peth gyda thi na'th ddamnio." Dyna oedfa fawr bywyd Mr. David Jones. Adroddai am dani yn y seiat, a'i brofiad ei hun wrth wrando, a dywed y torrodd John Jones y pregethwr allan i wylo. Bu son am y seiat honno. Dywed Mr. Jones yr aeth efe o'r pryd hwnnw allan i brofiad o ddealltwriaeth gwell nag o'r blaen ai' Dad Nefol.

Y mae gan Mr. John Jones engreifftiau o seiat brofiad. Dafydd Morris yn gofyn profiad Catrin Jones Chapel Street. "Be' sy gynoch chi heno, Catrin Jones." "Meddwl yr ydw'i ers dyddiau bellach am y wraig honno yn dweyd ynddi ei hun, Os caf yn unig gyffwrdd â'i wisg ef, iach fyddaf." "O, felly'n wir, rhyfeddu yr ydachi yn ddiameu, fel finnau o'ch blaen chi ddegau o weithiau, at fawredd ei ffydd hi yntê?" "Nage wir, dotio ato fo yn tynnu ydw'i." "Be' 'dachi'n ddeud, Catrin Jones?" "Dotio ato fo yn tynnu. 'Doedd fawr o gamp i'w ffydd hi-cael honno yn y tynnu roedd hi." Dafydd Morris wedi cael y touch, ac yn dechre gwaeddi, "Glywchi, mhobol anwyl i? Y mae Catrin Jones wedi cael gafael ar rywbeth gwerth cnoi cil arno heno,-ydi reit siwr ichi. 'Does rhywbeth nobl yn yr hen grefydd yma,- Dotio ato fo yn tynnu!' Tynnwr heb ei fath ydyw hwn-'a dynnaf bawb ataf fy hun.' Y mae'r Pabyddion, druain, yn cadw rhyw lain o frethyn mewn glass case yn Rhufain yna, ac yn taeru mai darn o fantell sanctaidd y Gwaredwr ydyw. Nonsans i gyd! Cadwch 'i'ch hen regsyn bregus i chwi'ch hunain, y ffyliaid gwirion! Dyma odreu'r fantell yn llenwi'r lle yma heno yn ddi-ddowt i chi'dotio ato fo'n tynnu!' Closiwn ato, mhobol anwyl i!—mi wranta i y daw rhinwedd allan ohono ond inni gyffwrdd yn unig â'i hem hi. Mentrwch ato, mi fendiwn i gyd fel yr ydan ni yma!" Yr oedd Dafydd Jones ers meityn wedi codi ar ei draed, ac yn sefyll wrth y ddesc fach yn y sêt fawr, ac yn chwerthin ac yn wylo yr un pryd. Dro arall, Dafydd Jones yn holi Jinny Thomas. "Wel, Jinny Thomas, be' sy gynochi heno ar eich meddwl?" "Synnu a rhyfeddu rydw'i at yr Hen Lyfr yma, yn deud fy hanes mor dda wrtha'i." "Fydd o'n deud wrthachi y'ch bod chi'n waeth na phobl eraill?" "Fydd o byth yn sôn wrtha'i am bobol eraill; neb ond y fo a finnau." "Fyddwchi'n digio wrtho fo am hynny, Jinny Thomas?" Digio! na fyddai'n wir, ond yr ydw'i rywsut yn myned yn ffondiach ohono fo bob dydd, welwchi." "Beth wedyn?" "O! yr ydwi'n methu'n lân a dygymod â'r marw yma." "Ofn sy arnochi?" "O! nagi'n wir, 'does arna'i ddim ofn; ddemnir mona'i'n siwr. Y mae o wedi cymeryd gormod o drafferth hefo mi—y mae o yn siwr o fy nghadw i. Ond methu dygymod â'r marw yna drwy'r cwbwl 'rydw'i." "Cymerwch gysur, Jinny Thomas:

Nid marw yw marw'r mâd,
Ond huno'n mhen dihoeniad,
Newid yw ar ben y daith,
I orffwys mewn gwlad berffaith.
Pa mor flin fydd brenin braw,
Addolaf dan ei ddwylaw
Y boen ferr ar ben a fydd
Yn awel y byd newydd.
O ryfedd, ar yr afon!
Wrth y Groes nid oes un donn.

O diolch! Dafydd Jones anwyl! y mae wedi troi yn oleu clir o dan y cwmwl. Ydi'n wir! diolch am hynny." Dro arall, Dafydd Jones yn holi Sian Huws, hen nain y Parch. J. E. Hughes. "'Does gen i ddim neilltuol ar fy meddwl heno; lled dywyll ydi hi arna'i heno." "Faint sydd er pan yr ydych gyda'r grefydd yma?" "Y mae dros drigain mlynedd." "Y mae'n debyg ei fod wedi deud wrthochi erbyn hyn be' mae of am wneud efo chi?" "Nag ydi, ddim wedi deud, ond yr ydw'i'n trustio ynddo y bydd o cystal a'i addewidion, reit siwr." "Wel, wedi bod yn i wasanaeth o am drigian mlynedd, ac heb ddweyd dim eto wrthochi—un gwael iawn ydi o!" Yr hen wreigan ar hynny yn neidio ar ei thraed, ac yn sefyll yn syth o flaen Dafydd Jones, gan edrych ym myw ei lygaid—Rhedeg ar fy Iesu anwyl i,—fedra'i mo'ch diodde chi! Dafydd Jones bach, wyddochi beth, fydda'i wiw iddo ddangos i wyneb i'w Dad hebddo'n ni!—a fedrai o ddim o ran hynny: Wele fi a'r plant ydi hi, onite?" "O! mi wela i y'ch bod chi'n meddwl cael mynd ato fo." "Na, nid meddwl yr ydw'i, yn reit siwr i chi." "Sut felly, Sian Huws?" "Wel, lle arall yr a i, Dafydd Jones anwyl. 'Dydw'i ddim ffit i fynd i unlle arall. 'Tasw nhw'n nhaflud i i waelod uffern, mi camolwn o ynghanol cythreuliaid! Deudwch air am dano, da chi. Mi fyddwchi'n deud yn dda am dano,—dowch, y mae o'n werth i chi i gamol o, ydi'n wir!" Dafydd Jones, wedi ei gyffwrdd i'r byw, yn cilio yn ol yn y sêt fawr, gyda gwên nefol ar ei wyneb, ac yn sychu'r gwlith oddiar ei lygaid â'i fys:—

Dyn dedwydd, dyn Duw ydyw;
A doed a ddel dedwydd yw,
Dedwydd ar gynnydd yw'r gwr
A gredo i'r Gwaredwr.

Dyma sylwadau Mr. John Jones ar y Gymdeithas Lenyddol: "Sefydlwyd hi yn fuan ar ol agor y capel. Yr oedd yma gymdeithas lewyrchus yn 1850—7, i mi fod yn gwybod. 'Y Famog' y gelwid y gymdeithas a'r bookies' y gelwid yr aelodau Byddai'r hen flaenoriaid yn rhoi pob cefnogaeth iddynt. Rhai o'r enwau yr wyf fi yn ei gofio: Evan Lloyd, Richard Davies, Henry Edwards, William Williams, Ellis Jones, John Roberts, John Thomas, William Owen, Lewis Jones, Richard Humphreys ieu., Robert Evans ieu. George Williams, y blaenor yn Siloh wedi hynny, oedd 'bardd y gymdeithas. Yr oedd y Parch. Evan Jones yn aelod ohoni yn 1856, y pryd hwnnw yn gysodydd yn swyddfa'r Herald. Yr oedd y gymdeithas yn llewyrchus iawn yn 1861, ar ol y diwygiad. Bu am flynyddoedd dan ofal Mr. Robert Lewis. Yr oedd yn dair adran, yn ddiwinyddol, yn llenyddol, yn gerddorol, fel y cynhelid hi ar dair noswaith yr wythnos. Cymerai Mr. William Williams y pregethwr ofal yr adran ddiwinyddol a'r lenyddol ar ol ei ddyfodiad yma yn 1865." Ar ol ail-gychwyn y gymdeithas yn 1878, bu presenoldeb Gwyneddon yn dra gwerthfawr yno, a deuai iddi yn rheolaidd.

Enwir fel ceidwaid y capel: Rhys Jones, Richard Jones, Richard Hughes, Thomas Edwards, John Parry.

Fe grynhoi'r yma sylwadau Mr. David Jones ar rai o'r brodyr a gofir ganddo. Gwnaeth Thomas Edwards y barbwr lawer o wasanaeth. Fe fu am rai blynyddoedd yn un o wylwyr y drysau yn yr hen gapel. Bu'n athro o'r fath ffyddlonaf, ac yn gynrychiolydd i'r Cyfarfod Ysgolion am flynyddoedd. Ni adawai i gyfle fyned heibio heb argymell dirwest. Yr oedd yn gymeriad crefyddol iawn. [Yr oedd rhywbeth anarferol yn ei ymddanghosiad. Ei brydwedd, ei lygaid, ei wallt, ei gôb fawr o liw gwineu. Wyneb go lawn a chrwn, a golwg sefydlog, heb wên fyth arno. Rhoddai'r adroddiad o'r Cyfarfod Ysgol yn llawn iawn, gyda'r rhwyddineb mwyaf. Wrth siarad neu weddïo ni byddai arwydd o unrhyw gyffroad teimlad arno. Siaradai a gweddiai mewn iaith dda ac mewn modd trefnus. Elai o amgylch y maes ar y Sadyrnau i werthu'r papur newydd, ond ni chollai funud o amser mewn ymddiddan, ac ni chlywid oddiwrtho ddim cellwair. Elai ymlaen gyda'i orchwyl fel gwr difrif. Amhosibl atgofio am dano heb ryw argraff ar y meddwl o rywbeth heb fod yn rhyw gyffredin iawn.] Dau a gerddodd lawer gyda'i gilydd i'r moddion oedd William ac Owen Jones Tyddyn llwydyn. Er meithed eu ffordd, buont ymhlith y ffyddlonaf. Dau weddiwr cyhoeddus o'r hen stamp, a'r ddau yn rhoi lle mawr yn eu gweddiau i'r achos yn Engedi. Elai'r ddau i'r ysgol yn y tloty, a gwnaeth y ddau waith mawr yno. [Gwr tal, cymesur, oedd Owen Jones, a gwr byrr, cymesur oedd William Jones, ac fel y cerddai'r ddau ochr yn ochr tua'r morfa ar eu ffordd adref o'r capel, Sul a gwyl a gwaith, fe roddent ddelwedd ohonynt eu hunain ar y meddwl cynefin a'u gwylio nad el fyth yn angof. Ac y mae awyrgylch deneuedig o gysegredigaeth o amgylch y ddelwedd. William Jones fach oedd y doniolaf; Owen Jones fawr oedd y boneddigeiddiaf. Rhyw dôn ddoniol oedd gan William Jones yn ei sgwrs, yn ei brofiad, yn ei weddi. "Y mae o'n werth ei bwysau o aur, "ebe fe am y llyfr swllt mewn amlen ar y bwrdd o'i flaen, wrth y gwr dierth oedd newydd ddod i mewn i'r tŷ. Tôn y llais oedd yn gwneud y sylw yn darawiadol ac yn gofiadwy i fachgen deuddeg oed. Yn y seiat gyntaf ar ol gwaeledd maith, dacw Owen Jones, gyda'i benelin yn pwyso ar ddôr y sêt yn dweyd ei brofiad yn dawel, yn hyglyw i bawb oddiar ei eistedd, a chyda phawb yn astud, ddau gant o bobl feallai. Sonia am Vincent y person, a'r ymgom a gafas gydag ef yn y "Yr ydwi'n credu, yn wir, fod Mr. Vincent yn ddyn duwiol." John Jones y blaenor yn ymysgwyd ac yn gwenu, a'r gwirion ieuanc yn synnu wrth glywed y fath ganmol ar berson eglwys. Ah! beth sy'n gwneud profiad Owen Jones, er nad yw ond niwlen lwyd mewn atgof, yn beth cysegredig?] Thomas Williams, porthor y tloty, oedd gymeriad arbennig. Rhoe argraff ar rai prydiau nad oedd yn yr ysbryd goreu, er y credai pawb yn ei gywirdeb. Dywedai bethau mor blaen weithiau, nes y disgynnent fel tân ar groen ambell un. Cartrefol wrth orsedd gras. [John Jones y gweinidog yn ei holi, a Thomas Williams yn rhoi ar ddeall nad oedd adrodd profiad ddim i ymddiried ynddo, bod gormod twyll ar bob llaw i gredu beth ddywedid: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim, a drwg ddiobaith ydyw; pwy a'i hedwyn?" John Jones yn ceisio llareiddio'r ystyr. Ni fynnai Thomas Williams ddim: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim—pwy a'i hedwyn." John Jones yn teimlo'n aflonydd: "A ydach'i, Thomas Williams, yn dweyd wrthon'i, ych bod chwi wedi mynd i'r oed yma, ac heb adwaen y'ch calon?" Thomas Williams yn myned dros yr adnod eto: "Y galon sydd fwy ei thwyll na dim." Bu raid. ei adael. Rhywbeth yn nhôn ei lais yn arwyddo amcan yn y cwbl. John Jones y blaenor drwy funudiau a gwenau, a lliaws eraill, yn ymddangos yn deall y dirgelwch. Rhoes y Parch. Ezra Jones ei bregeth gyntaf yn y tloty, a mynnodd Thomas Williams ganddo gymeryd hanner coron yn ddegwm, a ddodasid heibio ganddo ar gyfer ryw amcan crefyddol a ddeuai i'w sylw.] Capten Owen Owens yr Unicorn a ddangosodd y gall morwyr fyw yn grefyddol. Cyson yn y ddyledswydd deuluaidd nos a bore pa le bynnag y byddai'r llong, a phwy bynnag y dwylo. Nid cysurus fyddai'r annuwiol yn ei gwmni. [Ae i Dublin yn fynych, a byddai'n adrodd yn fynych y pethau neilltuol a glywodd mewn pregethau yn Dublin, ac yn y seiat yn Dublin. Cynesach oedd aelwyd Dublin nid hwyrach am fod cymaint o forwyr yno'r pryd hwnnw. Ni fethai goffa ar weddi helynt y morwyr yn y tywydd mawr, pan fyddai eu holl ddoethineb yn pallu, gan bwysleisio'n drwm ar yr holl.] Capten John Evans St. Helen elai ymhellach oddicartref nag Owen Owens, ond a adawai'r argraff oreu ym mhob man. Pan adref ni chymerai lawer am golli un moddion. Ei hoff bennill, —'Rwyn edrych dros y bryniau pell Am danat Iesu mawr. Capten David Roberts yr Eagle oedd yn gyson ym mhob moddion ac yn hael ei roddion. Nid yn fuan yr anghofir ei weddïau taer a'i ysbryd drylliedig. Ceid ganddo brofiadau melys. Hen gymeriad anwyl oedd William Owen y llwythwr. Un o'r rhai ddaeth o Foriah i gychwyn yr achos yma, ac un o heddychol ffyddloniaid Israel. Hynodid ei weddiau cyhoeddus â rhyw daerineb neilltuol. Ei hoff erfyniad, "Achub Arglwydd, achub," a'i hoff bennill, "Rhad ras, y newydd gan bereiddia'i blas." [Byddai ei hunan weithiau yn llunio'r cerryg ar y cei dan Dwr yr Eryr. Yn rhyw fodd neu gilydd erys y fangre honno'n gysegredig: yn rhyw fodd neu gilydd erys ei ddelwedd yno o hyd—ei wyneb bochgoch, ei wên gariadusol. Ac yn y sêt fawr ar weddi fe erys gyda'i lais llon, gonest, a'i wedd ddiragrith.] Owen Thomas Henwalia yr un modd ddaeth o Foriah i Engedi ar y cychwyn, ac a barhaodd hyd y diwedd yn un o addurniadau pennaf yr eglwys. Talai'r gweithwyr eraill yn y ffowndri barch neilltuol iddo i gyd, oblegid ei grefyddolder. Gweddiwr mawr yn y dirgel ac ar gyhoedd, a mynych y tynnodd y nefoedd i lawr yn y cyfarfod gweddi. [Gwên fewnol yn tywynnu allan o'i wynepryd. Dawn mewn gweddi, er fod ganddo ryw ddull gwneud o leisio perthynol i liaws ar un cyfnod.] Ellis Jones Heol y capel oedd un o'r cymeriadau goreu fagwyd yng Nghaernarvon. Ei fam, Catherine Jones, yn un o'r rhai ddaeth gyntaf o Foriah yma. Yn ieuanc fe'i penodwyd yn is—olygydd dan Ieuan Gwyllt i'r Amseroedd. Bu farw yn Rhydychen, Rhagfyr 12, 1891, yn 55 oed. [Llais merch. Yn adeg rhyw helynt fe ddanfonwyd Robert Ellis Ysgoldy yma. Cododd Ellis Jones ar ei draed o rywle yn y cefn, dan ddechre bwrw allan ei hyawdledd main. Neidiodd Robert Ellis ar ei draed, a chan daflu ei law yng nghyfeiriad y llefarwr, torrodd allan, "Tawed y gwragedd yn yr eglwysi." Er fod llais Ellis Jones yn fain, yr oedd ei ddull yn hyawdl. Gwr o argyhoeddiadau pendant a dirwestwr pybyr.] Chwanega Mr. David Jones, ar ymddiddan, am Thomas Williams y saer a ddanfonid i Gorris gyda'i waith, ac a gymerai (y Parch.) Griffith Ellis gydag ef i areithio ar Ddirwest, pan yr ydoedd yn anhysbys i'r byd. Ac am Llewelyn Edmunds, mab John Edmunds, a droes allan yn ddyn da, yn ddechreuwr canu yn Wilton Square, Llundain, ac yn arweinydd a cherddor medrus. Dyma sylwadau Mr. John Jones ar ddau hen gymeriad. "Thomas Williams, taid y Capten Richard Jones, [porthor y tloty] oedd y goreu o ddigon am ergyd lân. Pan fyddai rhywun, tlawd neu gyfoethog yr un wedd, yn lledu ei adenydd. ar y mwyaf, ac yn hofran yn uwch nag a fyddai'n ddiogel iddo, rhoddai yr hen frawd small bore neisia welsochi erioed o dan ei aden, a bull's eye bob tro, nes ei gael i lawr yn ddiogel. Damhegol oedd ei shots, a byddai ei law ar y trigger yn handi bob amser. Fel expert specialist yr oedd yn medru clwyfo er cael y drwg allan, ac ni byddai un amser yn camgymeryd yr aderyn. Richard Morgan y teiliwr oedd yn em nefol, yn loew lân yn llwch y llawr; ar hyd ei oes mewn tlodi, ond yn annwyl gan bawb. Byddai ei areithiau dirwestol yn ddawnus a thanbaid, ac yr oedd yn wir ogoneddus rai gweithiau ar ei liniau." Dyna syniad Mr. John Jones am dano. Bychan ac eiddil o gorff oedd Richard Morgan, gyda golwg ddiniwed arno, ond eto golwg gwr o deimlad coeth, gyda'i lygaid llwydion, lled fawrion, goleu, heb fod yn dreiddgar. Cerddai yn ysgafn gyda mymryn o ysbonc, ac yr oedd yr un peth yn ei lafar "Yr ydan—ni fel plantos yn bwhamon—," canys fe wnelai ambell gamgymeriad go ddigrifol gyda gair. Cof gan Mr. W. O. Williams am dano yn areithio ar ddirwest. "Dyn," ebe fe,—"dyn," yr ail dro yn bwysleisiol iawn, " ydi mantel piece y greadigaeth." Tebyg i Richard Morgan glywed y gair masterpiece o'r pulpud yn y cysylltiad hwn, a'i drawsnewid yn anfwriadol i mantelpiece. Joseph Thomas oedd ei bregethwr mawr; ni ddarfu i Owen Thomas ei "lyncu" ef erioed, fe ddwedai.

Gwr tawel, difrif yr olwg arno, oedd Edward Hughes, tad Menaifardd. Ei weddi yn ddwys-feddylgar. Adroddid yn y seiat y dywedai ei gydweithwyr ar y fainc ddydd ei gynhebrwng y cleddid dyn duwiol yng Nghaernarvon y diwrnod hwnnw. Cyfunid yng ngweddi John Parry y calchiwr deimlad dwys a dagrau gyda meddylgarwch. Bu Robert Williams Siop y maes farw yn ddyn lled ieuanc. Yr oedd yn wr parod, rhwydd a chyflym ei ymadrodd, craff o feddwl, ac yn un y disgwylid pethau go wych oddiwrtho. Efe oedd tad yr Athro Hudson. Williams (Bangor). Yn brentis gydag ef yr oedd ei frawd (y Parch.) O. E. Williams, Ffestiniog wedi hynny. Yr oedd wyneb Isalun yn arwyddo dyn o feddwl tyner, coeth, llednais; ac yr oedd ei ddarnau barddonol yn dangos yr un nodweddion, ynghyd â chyffyrddiadau llawn meddwl wedi eu cyfleu yn gryno. Yr oedd hefyd yn athro rhagorol a llwyddiannus yn yr ysgol. Fe gyfeiriwyd at John Roberts y paentiwr ynglyn â dirwest a'i ddosbarth yn yr ysgol. Gwr cyflawn, selog. Fe fuasai wedi gwneud ei nôd fel blaenor. Beirniad go bigog yd— oedd ar weithrediadau y blaenoriaid. Er hynny, yn wr cyson: cyson yn ei le, cyson yn ei fuchedd. Aelod o'r eglwys hon. oedd Andronicus. Gwr gweithgar. Y gwr gŵyl ydoedd mewn gweddi gyhoeddus. Rhoes esampl dlos o oddef cystudd maith yn amyneddgar. Gweler cyfeiriad ato yn yr Arweiniol gan Anthropos.

Y mae gan Mr. David Jones nodiadau ar rai o'r chwiorydd. hefyd. Ellen Jones Lôn fudr, y bu ei chartref yn Lleyn yn llety i bregethwyr, ac y cafodd hithau drwy hynny fanteision arbennig. Profodd bethau mawrion yn yr hen ddiwygiadau. Yn ei blynyddoedd olaf fe ddarllenai lawer ar y Beibl, a gweddïai lawer gwaith yn y dydd. Yr oedd hi a'i theulu o'i blaen wedi rhoi llawer i weision yr Arglwydd, a chredai yn ei blynyddoedd olaf mai cyflawni ei Air tuag ati yr oedd yr Arglwydd wrth gyflawni ei hanghenion. Ei chyngor yn wastad fyddai, Yr hwn sydd yn tybied ei fod yn sefyll, edryched na syrthio. Catrin Edwards, priod Thomas Edwards y barbwr, oedd ffyddlon ym mhob moddion, ac yn amser y diwygiad yn un o'r rhai parotaf i roi amlygiad i'w theimlad mewn gorfoledd. Yn danllyd ei theimlad dros y Gwaredwr. Yn athrawes ffyddlon a diwyd bron i'r diwedd. [Arferai hi yn amlach na'i gwr werthu'r papur newydd ar yr heol. Teimlo braidd, os dywedid gair yn erbyn y papur newydd yn y seiat. Y Parch. Evan Roberts oedd y cyntaf i bleidio'r papur newydd yn y seiat: dalen o lyfr Rhagluniaeth" y galwai ef. Hyn yn plesio Catrin Edwards. Selog, fel ei gwr, dros ddirwest. Adroddai ddywediad William Roberts Amlwch, fod "dirwest yn un â'r Efengyl." "Mi dwedodd o," ebe hi.] Priod y Capten Evan Roberts oedd un o'r chwiorydd haelaf tuag at yr achos ym mhob cylch. Bu ei gofal yn fawr am Gymdeithas Dorcas, ac yr oedd yn elusengar i'r tlawd. Cyfranodd fwy na neb i roi tretiau i'r plant. Wrth ei bodd yn lletya pregethwyr. Yr achos yn Engedi yn achos iddi hi ei hun. Jinny Thomas a fu'n aelod o hen gapel Penrallt cyn adeiladu Moriah. Yn ffyddlon ddidor yn y moddion. Yn llawer uwch na chyffredin o ran deall a gwybodaeth. Tynnai sylw pob pregethwr wrth ei dull yn gwrando. Torrodd allan mewn gorfoledd. lawer gwaith. Bu'n athrawes fedrus am fiynyddoedd ar ddosbarth o chwiorydd, ac erys ei hol o hyd [1896] ar liaws o ddisgyblion. [Adroddai ddarnau helaeth iawn o bregeth i John Jones Talsarn oddeutu deng mlynedd ar ol ei farw, gyda phawb yn gwrando yn awchus iawn. Cyn gorffen ohoni rhoes John. Jones y gweinidog ben ar yr adroddiad, gan ei bod bellach yn ymyl amser terfynu, a dywedai, "'Dydwi'n ameu dim nad allai Jinny Thomas fynd ymlaen am ugain munud arall." A dealler nad gor-helaethu oedd yma, ond adroddiad oedd yn amlwg yn ardderchog wrth y dull y derbynid ef gan bawb, gyda phrofiad yn gymysg mae'n ddiau. Yr oedd golwg dynes feddylgar arni, a thynnai sylw nid wrth ei dull o wrando yn unig ond wrth ei hymddangosiad hefyd. Y hi oedd yr hynotaf am adrodd profiad yn Engedi, ebe Mrs. Jane Owen—"profiad byw yn bachu ynochi."] (Mrs.) Jones y Friendship oedd un o gymeriadau hawddgaraf Engedi. Yn ferch i un o wragedd duwiol Ynys Fon. Priod y Capten William Jones. Symudodd o Foriah yng nghychwyniad yr achos yma. Ni bu neb ffyddlonach gyda phob rhan o waith yr Arglwydd; yr ydoedd ei bywyd yn llawn o weithgarwch crefyddol. Ar ei therfyn fe ddywedai,—"Wedi trigain mlynedd gallaf godi fy Ebenezer i fyny a dywedyd, Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd fi." Bu farw yn 1887 yn 77 oed. Mewn ymddiddan, edrydd Mr. David Jones am Marged Williams, mam Mr. John Jones (Druid), a goffhawyd ynglyn â diwygiad 1859. Parhaodd hi a Chatrin Edwards i orfoleddu yn achlysurol am flynyddoedd ar ol y diwygiad, un yn y naill ben i'r capel a'r llall yn y pen arall, a rhwng y ddwy byddai yno weithiau le twym. Mewn seiat ar nos Sadwrn, fel yr elai Morris Jones yr Hen Broffwyd o amgylch, gwelai briod Hughes y plumber gyda fêl dros ei hwyneb. Cydiodd yr Hen Broffwyd yng nghwrr y fêl, gan ei chodi dros y bonet, ac ebe fe, "Be' sy gen til i ddweyd heno?" Aeth hithau ymlaen i adrodd ei phrofiad heb gymeryd arni ddim. Grace Jones Heol y llyn fedrai adrodd pregethau yn ardderchog. Cynhaliai ddosbarth paratoi merched ieuainc ar gyfer eu derbyn,—dosbarth rhagorol. Medrai gadw meistrolaeth lwyr ar ei dosbarth. Hi ddarllenai yn helaeth. [Mewn cyfarfod llenyddol ym Moriah ddwy flynedd a deugain yn ol, mawr ganmolai y Dr. Hughes un o'r traethodau, gyda merched ieuainc dan 25 feallai yn gystadleuwyr. A phen ar y cwbl a ddywedai ydoedd,—"A gwyn ei fyd y gwr ieuanc a'i caffo hi!" Ac yn y man, wele Grace Jones yn dod ymlaen am y wobr, yn ddynes dal dros ben, gydag ysgogiad penderfynol, meistrolgar. Nid bychan oedd mwynhad John Jones y blaenor, cystal ag eraill, wrth ei gweled yn dod ymlaen.]

Rhoi'r crynodeb yma o ysgrif yn y Drysorfa (1853, t. 347), ar Elizabeth Davies, merch David Davies yr exciseman, a chwaer Eifioneilydd, a fu farw Medi 22, 1852, yn 20 oed, a phan drigiannai ei thad yn y dref. Yr oedd hi yn lân o bryd a theg yr olwg, a hynod siriol ei thymer, a ffraeth ei hymadrodd er yn blentyn, ac o synnwyr cryf. Medrus â'r edef a'r nodwydd, ac mewn gweu pob math ar rwydwaith. Swynodd y Beibl ei hysbryd yn fore. Trysorodd yn ei chof ac adroddodd allan yn y teulu neu ar gyhoedd y rhan helaethaf ohono. Gallai droi at unrhyw adnod a fynnai o fewn y Beibl. Dysgodd allan yr Hyfforddwr, y Gyffes Ffydd, Oriau Olaf Iesu Grist, Grawnsypiau Canaan. Yr oedd yn gyfarwydd yn y Drysorfa, y Traethodydd, y Geiniogwerth, y Cronicl, y Gymraes, o gychwyn pob un. Dioddefodd flynyddoedd o gystudd caled yn amyneddgar. Rhoes dystiolaeth liaws o weithiau am ddiogelwch ei chyflwr. Tua'r terfyn fe ddywedai y teimlai hi undeb agos â'r bedd y diwrnod hwnnw am fod yr Iesu anwyl wedi bod yno o'i blaen.

Yr oedd Marged Williams, mam Mr. W. O. Williams, yn ddynes o gynneddf gref. Darllenai Athrawiaeth yr Iawn Lewis Edwards, Gurnal, Pregethau Charles Caerfyrddin, Lampau'r Deml. Meddai ar ddisgyblaeth lem yn y tŷ gyda chadwraeth y Saboth, a dysgu allan o'r ysgrythyr. Safai yn eofn ar dro yn yr eglwys dros ddisgyblaeth. Pan oedd rhywrai go gyhoeddus wedi troseddu mewn pwnc a gyfrifid yn bwysig y pryd hwnnw, fe lefarodd dros burdeb buchedd am chwarter awr o amser gyda threfn a rhwyddineb a grym. Dynes o gynneddf gref oedd (Mrs.) Rees, mam Griffith R. Rees, yr Hen Fanc, a Mr. John Rees. Blasusfwyd iddi hi oedd llyfr o nodwedd William Roberts Clynnog ar Fedydd. Gwrandawai ar bregeth feddylgar gyda chraffter sylw. Traethai ei phrofiad gyda hyder tawel, heb deimlad amlwg, ond yn drefnus a meddylgar ac addysgiadol i eraill. Edrydd Mr. Hugh Hughes am Jinny Thomas yn coffa sylw John Owen Ty'n llwyn. "Chwychwi yw y rhai a arosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau "-beth wnaethon nhw? Dim ond aros! Adroddodd hyn droiau o bryd i bryd. Sonia Mr. Hughes am G. Tecwyn Parry yn holi'r ysgol, ac yn gofyn, A ddarfu i'r Iesu roi poen i'w rieni ryw dro? Swniai y cwestiwn yn ddieithr i'r plant, ac nid oedd neb yn ateb. Ar hynny, torrodd. Catherine Jones allan, priod John Jones y blaenor,—" Do, ond poen duwiol oedd o." Dywedodd hynny gyda theimlad a gyffroes feddwl Tecwyn Parry, a chafodd gryn hwyl gyda'r syniad.

Un nodwedd ar Engedi oedd lluosowgrwydd o ferched profiadol am gyfnod go faith. Nodwedd arall oedd sel ddirwestol gyffredinol am dymor helaeth, ac i fesur hyd derfyn cyfnod yr hanes hwn. Nodwedd arall oedd lluosowgrwydd y pregethwyr a fu mewn cysylltiad â'r eglwys, a chryn nifer ohonynt yn ddynion o ddoniau anarferol. Peth hynod yn ei hanes oedd ei chynnydd, wrth ystyried ddarfod i'r eglwys y tarddodd ohoni barhau yn ei lluosowgrwydd.

Rhif yr eglwys yn 1900, 534; y gynulleidfa, 733; yr ysgol, 626; cyfartaledd presenoldeb yr ysgol, 363; eisteddleoedd a osodir, 596; ardreth yr eisteddleoedd, £98 10s. 2g.; casgl y weinidogaeth, £240 16s. 11g.; casgl at y ddyled yn yr ysgol a'r cyfarfod diolchgarwch, £131 0s. 10c.; y ddyled, £614 0s. 8g.

"Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti."

SILOH.[7]

FE ddarllenwyd crynhodeb o hanes yr achos yn Siloh gan Henry Edwards yn y Cyfarfod Misol cyntaf a gynhaliwyd yno, sef yn Rhagfyr 18 a 19, 1882. Ym mharatoad y crynhodeb. hwnnw fe gynorthwywyd Henry Edwards gan George Williams, yn ol fel y dywedai'r olaf. Braslinelliad o'r crynhodeb hwnnw a ymddanghosodd yn yr Amseroedd. Dywedir yn hwnnw i nifer o frodyr o Foriah yn 1840 gymeryd llofft yn lôn Cadnant er cynnal ysgol ar bnawn Sul a chyfarfod gweddi am hanner awr wedi pedwar. Yr oedd yr ardal yn un hynod isel y pryd hwnnw, ac am flynyddoedd wedi hynny. Er fod pobl foesol eu buchedd yn trigiannu yno, a lliaws o grefyddwyr, eto yr oedd y doreth o'r preswylwyr yn anystyriol o rwymedigaethau crefydd a moes. Yr oedd yno lawer o feddwi, llawer o dlodi anesgusodol, llawer o chwareuon cyhoeddus ar y Suliau. Gwaith araf-deg, araf-deg iawn, a fu dofi'r bwystfil an- ystyriaeth a phenrhyddid yn yr ardal i'r mesur y gwelir heddyw. Bu'r Wesleyaid yma am ryw ysbaid yn cynnyg ar hynny, ond yr oeddynt hwy wedi cefnu cyn cychwyn o'r Methodistiaid yma yr ail waith hon; canys yn yr un ardal y cychwynasant hwythau gyntaf, mewn llofft y tro hwnnw hefyd, ond ar allt arall. John Richardson, mab Evan Richardson, oedd un o'r rhai a ddaeth yma o Foriah, a Henry Jonathan, a Robert Roberts, wedi hynny o ardal Dinorwig, yn ol adroddiad Henry Edwards. Yn ei ysgrif ar Foriah, y mae W. P. Williams yn chwanegu rhai sylwadau ar Siloh. Y rhai a enwir ganddo ef fel wedi llafurio yn Nhanrallt o'r cychwyn cyntaf ydyw John Wynne, Robert Roberts Treflan Llanbeblig, ac Owen Williams. Fe gafodd Mr. Wynne Parry ymddiddan âg un oedd yn cofio cychwyn yr ysgol, ac yn ol yr adroddiad hwnnw, John Wynne oedd pen y fintai a ddaeth o Foriah, a dyma'r lleill a enwid,—Enoch Davies teiliwr. Penrallt ogleddol; William Thomas, Uxbridge Street; Owen Owens Tanrallt; Grace Ellis, mam Owen Ellis yr eilliwr; ynghydag Owen Thomas y Buarth, aelod gyda'r Wesleyaid. Erbyn y trydydd Sul, yn ol yr adroddiad yma, aeth y lle yn rhy gyfyng, a gwnawd y ddwy lofft yn un drwy dynnu i lawr yr estyll coed a'u gwahanai. Yn ddiweddarach, fe ddywedid, y daeth John Richardson; a Mrs. Hughes, mam y Parch. J. E. Hughes, a wasanaethai gydag ef; a Rhys Jones saer coed, o Engedi, i arwain y canu. Dywed W. P. Williams fod yn ei feddiant ysgrif wedi ei hamseru, Chwefror 10, 1841, ac arni'r geiriau yma: "List of the furniture belonging to Penrallt chapel in the Tanrallt Schoolroom, 10 benches, 2 nog nails for hats, 4 schones." Cof ganddo hefyd, weled cofnodlyfr ysgol Foriah, a gollwyd yn ystod yr atgyweirio ar y capel, yn cynnwys penderfyniad a eiliwyd gan Richard Williams yr ironmonger, i'r perwyl fod yr ysgol i gael ei sefydlu yn Nhanrallt a Glanymor a Stryd Waterloo.

Yr oedd Robert Roberts yn llafurio yma o hyd yn 1852, pan ddaeth Henry Edwards a George Williams, y ddau o Engedi, yma i'w gynorthwyo, ynghyda merch ieuanc, priod John Rowlands y paentiwr wedi hynny. Pan aeth y llofft yn rhy fechan drachefn, cymerwyd llofft yr ochr arall i'r ffordd i'r dosbarth darllen; ond ae aelodau'r dosbarth hwn at y plant yn y llofft arall i ddiweddu'r ysgol. Athro'r dosbarth darllen oedd yr Owen Williams a enwyd o'r blaen, sef ffermwr ger Llanbeblig. Bu Owen Williams Tywyn yn pregethu oddiar risiau'r hen lofft oddiar y geiriau, A phwy bynnag a ddel ataf fi nis bwriaf ef allan ddim.

Mewn cyfarfod undebol o frodyr Moriah ac Engedi fe benderfynwyd codi ysgoldy yma. Sicrhawyd tir, sef gardd, am £25; a chodwyd yr ysgoldy yn 1856, yr holl draul yn £300, ac yn cael ei ddwyn gan Moriah. Dydd Sul, Hydref 26, ydoedd dydd yr agoriad, pryd y pregethwyd gan Robert Owen Rhyl. Yn y pnawn fe holodd yr ysgol oddiar hanes Joseph. Dywedir fod y cyfarfodydd yn siriol a chysurus iawn. (Drysorfa, 1856, t. 420). Trefnwyd yn y Cyfarfod Misol i Siloh fod yn y daith gydag Engedi o Awst, 1857, Siloh yn cael yr oedfa 10 am tua 10 mlynedd a'r oedfa 2 am ddeng mlynedd arall. Dygid traul yr oedfa yn Siloh am yr ystod hynny o flynyddoedd gan Engedi. Yr oedd rhif yr ysgol yn 130 ar y cychwyn. Daeth amryw yma o Foriah ac Engedi i gynorthwyo er dwyn y gwaith ymlaen. Yn eu plith yr oedd y rhai yma: John Owen, Evan Hughes, William Parry, William Williams, John Row- lands, Lewis Jones (Patagonia ar ol hynny), Evan Jones (gweinidog Moriah wedi hynny), John Lloyd (gweinidog yn Awstralia wedi hynny), Richard Humphreys (yn flaenor yn Beaumaris wedi hynny).

Yn Nhachwedd 24, 1859, y sefydlwyd yr eglwys gan y Parch. Thomas Hughes a W. P. Williams. Rywbryd cyn hynny yn ystod y flwyddyn fe ddigwyddodd tro nodedig i John Richardson mewn gweddi ar nos Sul. Ei deimlad a'i hataliai wrth fyned ymlaen; ond torrodd allan mewn gwaedd gofiadwy, "Achub, Arglwydd!" ac yr oedd y dylanwad mor fawr, gan beri gwaeddi a gorfoleddu yn y gynulleidfa, fel y rhuthrodd cryn liaws o bobl i fewn i'r capel. Galwyd seiat ar ol ac arhosodd amryw, i barhau wedi hynny. O hynny ymlaen fe barheid i alw seiat, fel y daeth yn fath o orfodaeth i sefydlu eg- lwys yma. Dywedir mai 25 oedd y nifer ar y cyntaf. Fe welir fod yr eglwys wedi ei sefydlu yn nhymor y diwygiad: yn yr elfen dân y ganwyd hi; ac y mae wedi bod yn ffyddlon i'r ddelw a'r argraff a dderbyniodd y pryd hwnnw. Fe ddywedir y bu yma gyfarfodydd nodedig yr adeg honno. Fe fyddai George Williams yn arfer adrodd am Henry Edwards mewn rhyw gyfarfod gweddi ar ei liniau, yn un o liaws debygir, ac yn torri allan gyda'r geiriau, "Ddemnir mohonof byth! Ddemnir mohonof byth!" a hynny mewn dull oedd yn amlwg wedi gadael argraff neilltuol ar feddwl George Williams.

Mawrth 15, 1860, y cafwyd y cymun cyntaf, y Parch. Thomas. Hughes yn gweinyddu dan deimlad neilltuol a chydag effeith- iolrwydd cofiadwy.

Dywed William Williams mai ymhen blwyddyn a hanner ar ol sefydlu'r eglwys y dewiswyd Henry Edwards a George Williams yn flaenoriaid; ac felly yn 1861. Aeth y capel yn rhy fychan i gynnwys y gynulleidfa. Methodd gan y brodyr sicrhau tir yn y fan y saif y capel cyntaf, i'r amcan o godi capel mwy. Sicrhawyd tir yn y fan y saif y capel presennol.

Gosodwyd carreg sylfaen y capel newydd i lawr gan y Parch. Thomas Hughes, Medi 16, 1868. Agorwyd ef Mehefin 14 a 15, 1869, pryd y gweinidogaethwyd gan y Parchn. John Ogwen Jones, Thomas Charles Edwards, a'r Dr. Charles (Aberystwyth). Traul y capel hwn ydoedd £1,800. Bu Thomas Hughes yn dra ffyddlon i Siloh ar hyd y blynyddoedd hyd nes galw bugail yma, ac yn enwedig yn y blynyddoedd cyntaf i gyd. Gwnaeth lawer o waith bugail yma; a gwerthfawrogid ei lafur yn Siloh yn arbennig. Byddai Henry Edwards a George Williams ar brydiau mewn ymddiddan yn coffau am ei wasanaeth gydag edmygedd o'i ymroddiad a'i ysbryd hunan-aberthol.

Yn 1870 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: John Owen, John Rowlands, William Williams, Evan Hughes.

Byddai'r pregethwr o Engedi yn dod yma y prynhawn am o 6 i 7 mlynedd ar ol agor y capel hwn. Ceid pregeth pan ellid at yr hwyr. Fe gafwyd gwasanaeth John Morris a Robert Owen y Mount, dau o bregethwyr y Wesleyaid, yn o aml y pryd hwnnw. Cynddelw, hefyd, fu yma droion yn y cyfnod hwnnw, yn y pnawn yn ddiau.

Helynt fawr ydoedd helynt y "seithfed reol" yn Siloh yn 1873, a son am dani drwy'r dref i gyd, a phellach na hynny, ond odid. Seithfed reol y Gyffes Ffydd ydoedd honno, sef nad oedd i neb aelod briodi "un digred," sef un heb fod yn aelod. Yr oedd y Gymdeithasfa, pa ddelw bynnag, wedi penderfynu ysbaid cyn hynny fod rhyddid i'r eglwysi weithredu yn y pwnc yma yn ol eu barn leol eu hunain, sef i dorri o aelodaeth neu beidio pan weithredid yn groes i'r rheol. Yr oedd chwaer wedi priodi un o'r byd yn yr eglwys y pryd y crybwyllwyd. Eithr fe gafwyd nad oedd y blaenoriaid eu hunain yn cytuno â'i gilydd i'w thorri o'r eglwys, ac yr oedd llawer o'r aelodau yn erbyn. Mawr y cynnwrf! Bu rai brodyr o'r eglwysi eraill yn y dref yn ceisio cynorthwyo yn yr achos; ond nid llai y tanllwyth am y procio hwnnw. Darfu i fwyafrif y blaenoriaid, ag oedd yn erbyn bod yn llym ym mhwnc y rheol, ddwyn barn i fuddugoliaeth, gan gludo mwyafrif yr eglwys gyda hwy. Ar hynny, wele amryw o aelodau mwyaf blaenllaw yr eglwys yn ymadael Foriah ac Engedi, gan wrthdystio yn erbyn llacrwydd mewn disgyblaeth. Tynnodd hynny gryn sylw. Ni thawelodd pethau eto, canys wele ohebu ar y pwnc am wythnosau bwygilydd yn y Goleuad a'r Herald Cymraeg, a'r corgwn yn cyfarth y lleuad. Rhwng dadwrdd byd ac eglwys, a'r ymladdfeydd ar feusydd y papurau newydd, yr oedd malltod yn ymdaenu ar waith yr eglwys, a'r olwynion yn cerdded yn drwm fel olwynion cerbydau Pharaoh yn y Môr Coch. Pa beth oedd i'w wneud? Y wraig druan, wrth weled ei hun a'i gwr yn wrthrychau y fath gyffro a chynen tafodau, a ddaeth ymlaen i hysbysu y dioddefai hi ei diarddel am y pryd, er mwyn llesiant yr achos. Ac felly fu. Daeth rhai o'r gwyr a sorrodd. yn eu holau, ond ymadawodd eraill yn eu lle. Ac yna fe ddaeth yr helynt fawr i'w phennod; ac ni chododd mo'r unrhyw anhawster drachefn; a mynnodd synnwyr a gras eu lle.

Dechreuodd Richard Rowlands bregethu tua 1874; symudodd i Drefin, Penfro, 1877, fel gweinidog, ac wedi hynny i Glynceiriog. Bu farw Chwefror 13, 1894, a dodwyd ei gorff i orwedd ym mynwent Llanbeblig.

Rhagfyr 18, 1875, hysbyswyd yn y Cyfarfod Misol alwad John Williams yn fugail, ac ymhen deuddydd fe ymsefydlodd yma fel y cyfryw. Daeth i'r dref o Gaeathro ddwy neu dair blynedd cyn hynny.

Yn 1879-80 cynhaliwyd cyfarfodydd diwygiadol llwyddianus. Bu James Donne, John Richard Hughes a William. Jones Niwbwrch yma gyda'r gwaith. Fe gafodd James Donne, yn enwedig, ddylanwad neilltuol, a gelwid y diwygiad ar ei enw, sef diwygiad James Donne. Daeth amryw o af- radloniaid yr ardal at grefydd dan ei bregethu ef, ac arhosodd rhai ohonynt yn ffyddlon ac yn ddefnyddiol. Bu pregeth i'r Parch. William Jones Felinheli dan arddeliad nodedig y pryd hwnnw. Ei bwnc ydoedd,-Beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i Efengyl Duw? Arhosodd 14 yn y seiat ar ol.

Mehefin 10, 1879, codi T. Morris Jones yn bregethwr. Symudodd i Fagillt yn 1885.

Tachwedd 29, 1880, yn 39 oed, bu farw y Parch. John Williams, wedi bod yn fugail yma am bum mlynedd o fewn tair wythnos. Am ryw ennyd o amser wedi ei alw'n fugail fe ddilynai ei alwedigaeth fel clerc yn offis yr Herald. Pan gafwyd cynorthwy i'w gynnal o drysorfa'r lleoedd gweiniaid fe ymgysegrodd yntau'n gyfangwbl i'r gwaith. Ei nôd arbennig ef fel gweinidog ydoedd ei ymroddiad i fyned allan i'r heolydd a chymell pobl i'r wledd. Cynorthwyid ef yn hynny gan bresenoldeb a gwasanaeth pobl ieuainc yr eglwys. Meddai ef ei hunan, hefyd, ddawn arbennig at bregethu yn yr awyr agored. Yr oedd yn llefarwr rhwydd a hyglyw a dymunol, a chyflwynai yr Efengyl mewn modd agos at amgyffredion pobl go anghynefin â'i gwrando, a hynny gyda theimlad yn nhôn y llais.. Dywedir ei fod yn gymeradwy gan y bobl eu hunain: gwneid yn fawr ohono gan Sipsiwn a Gwyddelod. Un tro, pan yn siarad allan dan wlithlaw fe ddaeth dyn o gymeriad go ryfygus. ymlaen gydag ambarelo i'w dal drosto. Fe debygir iddo roi sylfaen i lawr i fesur o gynnydd dilynol yr egiwys yn ei waith yn cynefino meddyliau'r bobl â'r Efengyl, o ran ei hathrawiaeth a'i hysbryd. Y nos Lun olaf y bu ar y ddaear yr oedd yn holi'r plant yn y seiat ar ddameg y Mab Afradlon. "I ba wlad yr aeth o, mhlant i?" "I'r wlad bell." "Nid aeth o ddim i'r wlad bellaf, ai do?" "Naddo." "Naddo, o drugaredd." Ar hynny, fe ddywedai fod rhywbeth yn myned dros ei galon, ac yr ydoedd yn union wedi ehedeg ymaith. Rhoes. Henry Edwards fynegiad i'w deimlad fod nef a daear yn agos. iawn i'w gilydd y funud honno. Fe'i rhoid yn lled aml i ddechreu'r oedfa o flaen pregethwr dieithr ar ganol wythnos. Un emyn heb fod yn faith a roddai efe allan i'w ganu, a chyda gwers ferr o'r ysgrythyr a gweddi ferr, wresog, fe fyddai'r gwasanaeth agoriadol drosodd mewn deg neu ddeuddeng munud, a hynny heb unrhyw arwydd yn y byd o frys. Mewn sylw coffa arno yn y Cyfarfod Misol, fe sylwai'r Parch. Evan Roberts nad oedd neb yn y dref mwy cymeradwy nag ef yn hynny o wasanaeth.

Hydref, 1881, fe ymsefydlodd Mr. R. R. Morris Rhyd-ddu yma fel bugail yr eglwys. Daeth Anthropos yma tua'r un pryd o Gorwen, ac arhosodd yma hyd nes y derbyniodd alwad yn 1890 oddiwrth eglwys Beulah.

Bu farw John Owen, Hydref 2, 1882, yn 55 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 12 mlynedd. Daeth yma o Foriah, ac yr oedd yn aelod o'r eglwys agos o'r dechre. Bu'n arwain y canu yma am rai blynyddoedd yn ei dro. Gwr llawn o gorff, glandeg a serchog yr olwg arno, yn ysgwyd llaw mewn dulf cynhesol a chofiadwy, a hynny heb orwneud y peth. Calonogol ei ddull gyda phregethwr ieuanc, gan ddal ar y peth goreu a berthynai iddo, a gadael iddo wybod ei fod ef yn canfod hwnnw ac yn ei werthfawrogi. Fe fawr edmygai wr yn meddu ar ddawn y weinidogaeth: "dyna ddyn wedi ei dorri i bregethu," ebe fe am y Dr. Hugh Jones Nerpwl. Dyma fel y dywed Mr. J. Henry Lloyd am dano: "Gwr yn meddu ar dynerwch nodedig. Un iawn am ysgwyd llaw: byddech yn teimlo fod ei galon yn ei ysgydwad. Yr wyf megys yn ei weled o'm blaen y funud hon ar noson yr ordinhad, yn eistedd ar yr ochr agosaf i'r buarth, a'i ddau lygad ynghaead, a'i ddagrau mawr gloewon yn treiglo'i lawr ei ruddiau rhosynaidd, ac mewn hwyl orfoleddus yn canu, Iddo ef yr hwn a'n golchodd yn ei waed." Mae Mr. Wynne Parry yn dyfynnu sylw Anthropos arno, mewn ysgrif ar feddau mynwent Caeathro: "Un o flaenoriaid Siloh. Gwr ffyddlon, cydwybodol a gwir garedig. Yr oedd yn un o'r gwŷr hynny ag yr ydym yn caru eu gweled mewn sêt fawr, dynion siriol, calonogol, a heulwen yn eu llygaid. Ac fel y dywed Rhisiart ab Gwilym yn ei feddargraff:

Gwirionedd oedd Gair ei enau,—a gras
Oedd grym ei feddyliau."

Yn ystod 1882—3 buwyd yn gwella'r fynedfa at y capel ac yn ei atgyweirio mewn mannau ar draul o £500. Cynhelid moddion bore Sul yn Siloh bach, fel y gelwid wedi adeiladu'r capel newydd; ac yn yr hwyr yn yr ysgol Frytanaidd.

Yn 1884 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: William Parry, Henry Jones, John Jones Treffynnon.

Oddeutu 1885 y dechreuodd Thomas Davies bregethu. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1889. Aeth yn fugail i Nant Gwrtheyrn ac oddiyno i'r Deheudir. Yn 1887 dechreuodd R. Matthew Jones bregethu. Aeth oddiyma yn fugail i eglwys Llanfachreth. Yn 1891 dewiswyd J. E. Hughes, B.A., yn flaenor. Yng Nghyfarfod Misol Ionawr 21, 1892, fe'i cyflwynwyd ef i'r Cyfarfod Misol gan Gyfarfod Dosbarth Caernarvon fel ymgeisydd am y weinidogaeth, heb angen arno am fyned drwy'r prawf arferol; a derbyniwyd ef fel y cyfryw.

Ionawr 24, 1892, bu farw Henry Edwards, yn 61 oed, ac wedi bod yn flaenor yma am 31 mlynedd. Efe, ynghyda George Williams, oedd y ddau flaenor cyntaf yn yr eglwys, a'r ddau amlycaf yn hanes yr eglwys. Cymherir hwy yn y naill a'r llall o'r ddwy lawysgrif ar hanes yr achos i Ddafydd a Jonathan yn eu hymlyniad wrth ei gilydd. A dywed Mr. J. Henry Lloyd y byddai'n teimlo'n wastad wrth wrando ar fynych gyfeiriadau George Williams at Henry Edwards, y mynasai yntau fod ganddo gyfaill cyffelyb i'w adael ar ei ol. Gwelid hwy weithiau yn rhodio gyda'i gilydd ar lan y môr dros yr aber. Nad dod yno i rodianna yr oeddynt, hawdd oedd gweled wrth eu hagwedd; ond dod yno er mwyn llonyddwch uwchben ryw bwnc neu gilydd yn dwyn perthynas â'r eglwys yn Siloh, ag yr oedd yn bwysig myned drwyddo'n llwyddiannus. Wedi gair o gyfarchiad eithaf serchog o'u tu hwy, rhaid ydoedd eu gadael i'w gilydd; canys nid oedd eisieu dim treiddgarwch i wybod mai felly y mynnent fod. Elent yn o bell o ffordd a deuent yn ol drachefn, drosodd a throsodd, ac o hyd yn dynn yn ei gilydd. Pa faint bynnag o serch oedd yma, nid serch er ei fwyn ei hun ydoedd, ond serch er mwyn yr achos. Cwbl wahanol oeddynt o ran dawn ac ardymer; ac oherwydd hynny, mae'n debyg, yn ymglymu yn fwy wrth ei gilydd. Goleubryd oedd Henry Edwards à nwyd angerddol ganddo; tywyll ei bryd oedd George Williams, a thawel ac ysgafn ei dymer: nid yn ddigrifol yn hollol, ond eto'n chwareus, ac yn llawn fwynhau digrifwch tawel. Henry Edwards oedd y mwyaf treiddgar, a George Williams y mwyaf dawnus: Henry Edwards yn tynnu'r peth oddiwrth ei gilydd er mwyn gweled beth oedd ynddo, a George Williams yn chware gydag ef gyda chwerthiniad ysgafn yn ei wddf. Pwys y pwnc a orweddai'n drwm ar feddwl Henry Edwards, a'i holl fryd oedd am argraffu'r pwys oedd iddo ar feddyliau eraill; galw sylw difyr pawb ato y byddai George Williams, fel consuriwr gyda'i belennau euraidd, gan eu taflu i fyny i'r awyr y naill ar ol y llall a'u dal fel y deuent tuag i lawr. Edrydd Mr. Lloyd am Henry Edwards yn cynghori dynion ieuainc: "Byddwch fel pileri ynghanol yr afon, ac nid fel ysglodion yn cael eich dal yn yr edi." Dywed y Parch. Edward Owen Gilfachgoch, gan sgrifennu am y cyfnod oddeutu diwygiad 1859, fod ganddo ffordd i ddod o hyd i fechgyn ieuainc o naws grefyddol yn y dref, a'u tynnu allan i weithio; a dywed na buasai ef ei hun na rhai eraill wedi gadael y rhwyd a'r pysgod onibae am Henry Edwards. Yr oedd Mr. Evan Jones ar un adeg mewn ymddiddan yn nodi allan y fantais arbennig oedd gan Engedi a Siloh er eu cynnydd yn y ffaith fod John Jones y blaenor yn y naill eglwys a Henry Edwards yn y llall: y naill a'r llall yn byw cyn lwyred i'w eglwys ei hun, yn gwylio eu cyfle i ddylanwadu er daioni ar ddynion ieuainc y dref, ac yn meddu'r gallu i sugno eraill i'w cylch eu hunain. Brodor o'r dref oedd Henry Edwards, a magwyd ef wrth draed Robert Evans yn Engedi; ac efe yn anad un blaenor arall yn y dref oedd y tebycaf i'r gwr hwnnw o ran dawn ac ardymer a natur ei ddylanwad. Yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati o'r blaen, fe sylwa Anthropos: "Dyn galluog iawn oedd Henry Edwards; ac, ar adegau, fe fyddai ei feddyliau yn rymus a'i barabl yn hyawdl. Cysegrodd ei oes i Siloh, a gwelodd y myrtwydd yn y pant wedi dod yn goedwig hardd." Yn agoriad capel Beulah yn 1886, yn ol yr adroddiad yn y Goleuad (1886, Rhagfyr 11, t. 11), yr oedd efe ac eraill yn cyfarch y cyfarfod, a dywedodd yno rai pethau yn amlwg o'i brofiad ei hun. Wrth gymell i sel gyda'r gwaith, fe ddywedodd fod eisieu deunydd gwydn i ddal ati gydag achos newydd. A chwanegai y gallai ddweyd oddiar brofiad fod rhyw lawenydd nas gŵyr y byd ddim am dano wrth lafurio gydag achos yr Arglwydd Iesu. Bu yn y blynyddoedd cyntaf yn gyd-arweinydd y gân â John Owen; bu'n ysgrifennydd yr eglwys am flynyddoedd; ac efe oedd y cyhoeddwr.

Fel blaenor yn yr eglwys,
Fe wisgai nerth a grym,
A gallai ar amserau,
Ddefnyddio cerydd llym.
Tynerai wrth addfedu,
A throai grym ei nerth
Yn felys, megys ffrwythau haf
Yn Hydref, ar y berth. . . .

Ymwelai â'r amddifaid
A llaw agored, gudd,
Bu'n ffynnon o sirioldeb
I lawer gweddw brudd; . . .

Bu'n dyner yn ei deulu,
Fel haul ar lesni'r bryn,
A'i gariad atynt lifai
Yn gylch o fwynder gwyn; . . .

Wrth gyfaill byddai'n dyner,
Ac iddo byddai'n bur,
Nawddogai'i garedigion
Yn ffyddlon fel y dur.
Os gallai estyn dyrnod
Heb ynddi fawr o ras,
Fe allai faddeu hefyd,
I lawer gelyn cas.


Tynerwch a gwroldeb
Gyd-drigent yn ei fron-
Llarieidd-dra lleni'r wybren
A nerth y nawfed don. . . .

Ac os caiff ganiatad
Y bore gwyn a ddaw,
Cyn mynd i Dŷ ei Dad,
I edrych yma a thraw,
I weled Siloh'r aiff efe
Cyn cychwyn heibio'r Farn i'r Ne.
 —(R. R. Morris).

Yn 1892 fe ddewiswyd Evan Lloyd Williams yn flaenor. Cyn bo hir fe'i dewiswyd yn ysgrifennydd yr eglwys.

Gorffennaf, 1893, fe ymadawodd y gweinidog, y Parch. R. R. Morris, gan dderbyn galwad i'r Tabernacl, Blaenau Ffes- tiniog, wedi bod yn fugail yr eglwys am 13 blynedd o fewn tri mis. Cyflwynwyd iddo anrhegion mewn cyfarfod ymadawol a gynhaliwyd iddo ef a'r Mri. Thomas Davies a R. M. Jones.

Chwefror 12, 1894, sefydlu J. E. Hughes, M.A., yn fugail yr eglwys. Rhagfyr 16, 1894, bu farw Evan Hughes, tad y Parch. J. E. Hughes yn 63 mlwydd oed, ac yn flaenor yma er 24 blynedd, ac yn drysorydd yr eglwys am gyfnod. Yn y sylwadau coffa arno yn y Cyfarfod Misol, fe ddywedwyd ei fod wedi gweithio gyda'r achos o'r cychwyniad; a bod rhan fawr o bwysau'r achos wedi bod bob amser ar ei ysgwyddau ef; ac iddo fod yn flaenor ffyddlon; ac y teimlid bellach nad oedd angen ond cyfrwng y dyrchafiad iddo, a'i fod ef gyda phendefigion, ie, pendefigion ei bobl ef. Feallai mai tynerwch oedd ei nôd amlycaf; ond meddai'r un pryd ar graffter y gwr tyner. Pelydrai ryw dynerwch yn wastad yng nghanwyll ei lygad. Yr ydoedd yn frodor o'r dref, ac yr oedd ei nain, Sian Hughes, yn hynod am ei chrefydd. Gwnaeth William Prytherch yr hynaf argraff ddwys ar ei feddwl oddiwrth y geiriau, Pridd wyt ti ac i'r pridd y dychweli. Ymgryfhaodd yng ngrym unplygrwydd ac mewn synnwyr ac mewn adnabyddiaeth o ddynion ac mewn penderfyniad meddwl. Yn ei flynyddoedd diweddaf fe siaradai yn y seiat dan deimlad amlwg. Pan alwodd George Williams gydag ef ar un o'r dyddiau diweddaf, ac y gofynnodd iddo pa fodd yr oedd arno, ei ateb ydoedd: "Wel, frawd, mae'r llong yn y porthladd yn barod i gychwyn ac o dan lawn hwyl- iau, ond cael gwynt teg."

Ar ddwyn ymlaen yr eglwys
Yn Siloh rhoes ei fryd,
Ei galon ef a'r achos
Oedd wedi'u toddi'n nghyd.
Galarai'n drist os gwelai
Argoelion cilio'n ol;
Ond yn ei lwydd siriolai
Fel gwanwyn ar y ddol...
O lwybrau prysur masnach aeth
I hafod werdd ei dref;
A ffoi o swn y byd a wnaeth
I rodfa swn y nef.


Cyfododd gwynt teg, aeth y llestr i ffwrdd,
Ac yntau yn canu'n iach ar ei bwrdd. (R. R. Morris).

1895 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: John Williams, Richard Williams. Dewiswyd Richard Williams yn drysorydd yn ddiweddarach.

Chwefror 25, 1899, bu farw William Parry, yn 66 mlwydd oed, yn flaenor yma ers 15 mlynedd, ac yn drysorydd yr eglwys ar ol Evan Hughes. Pan benderfynwyd agor Siloh bach fel lle cenhadol, yr ydoedd efe yn un o'r rhai cyntaf yno, a gweithiodd gyda'r achos cenhadol hwnnw yn dra ffyddlon hyd ei ddiwedd. Un enw arno ydoedd William Parry'r gof; ac enw. arall William Parry Siloh bach. Yr ydoedd yn gefnder i'r Dr. Griffith Parry Carno; ond ni thorrodd lwybr cyffelyb i'r Dr. iddo'i hun. Tra'r oedd y Dr. Parry yn efrydydd eang a manwl, heb ymroi nemor i waith o'r tuallan i'w efrydu, ni ddarfu William Parry, o'r ochr arall, efrydu llawer, tra'r oedd gweithio gyda'r achos crefyddol wrth ei fodd. Prun ddewis- odd y rhan oreu sy'n bwnc arall. Siaradai'n ddyddorol ar ddirwest, a hoffai wneud hynny o flaen tafarn neilltuol yn ardal Tanrallt ag oedd yn gyrchfa lliaws o bobl. yn gyrchfa lliaws o bobl. Ystyrrid ef yn athro da yn yr ysgol. Dywedai'r Parch. T. Morris Jones, mewn llythyr at Mr. Wynne Parry, mai William Parry, ei dad, oedd yr athro goreu y bu efe gydag ef. Yr oedd ganddo ystôr o hanesion am hen bregethwyr a dawn i'w hadrodd. Meddai ar ryw ddawn nwyfus fel siaradwr a chyda phlant. Yr oedd mwy o hynny yn y Dr. Griffith Parry na fuasid yn tybied, o dan ryw drymder dull; yr ydoedd nwyfiant yn amlycach yn William Parry. Fe dorrai ei nwyfiant allan mewn dagrau cydymdeimlad cystal ag mewn digrif ddywediadau.

Medi 27, 1899, bu farw Henry Jones, yn 50 oed, ac yn flaenor yma ers 15 mlynedd, ac yn arweinydd y gân ymhell cyn hynny. Daeth o Engedi yn nechre 1869 i Siloh bach i weithio yno gyda'r Gobeithlu. Fe barhaodd gyda'r gwaith hwnnw i'r diwedd bron, a meddai ar ddawn arbennig gyda phlant. Meddai ar dymer plentyn ei hun: yr oedd yn nwyfus, yn chwareus, yn gyffrous. Cludid ef gan ei deimlad fel plentyn: mwynhae fel plentyn, digiai fel plentyn: dangosai ei fwyniant mewn chwerthin uchel, trystiog, calonnog; dangosai ei ddigter, pan ddigiai, yr hyn ni wnae ond anaml, mewn düwch wynepryd argoelus. Bod yn blentyn oedd ei nerth a'i wendid. Yr oedd iddo farn, yr un pryd, cystal a thymer nwydiog; a chraffter; a gallu i werthfawrogi meddyliau hedegog a dawn brydferth mewn llefarwr. Mewn cwmni, yn enwedig yn ddyn lled. ieuanc, yr oedd yn nwyfus, yn ddigrifol, yn ddoniol, yn hedegog. Gyda'i ddawn fel cerddor, yr oedd y doniau eraill hyn yn gymhwyster arbennig iddo fel arweinydd yng nghyfarfodydd y plant. Yr oedd yn blentyn gyda phlant, er y gallai fod yn wr gyda gwŷr. Meddai ar ddawn rwydd a pharod a dawnus. mewn cyflawniadau cyhoeddus yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Fel arweinydd y gân yr oedd yn fedrus a hwylus. Bu'n ffyddlon gyda phob rhan o'r gwaith. Ni ymroes gymaint i efrydiaeth. Buasai disgyblaeth lem arno'i hun mewn efrydiaeth ddwys o'i ieuenctid wedi bod o werth mawr iddo; eithr fe roes efe ei amser yn hytrach i weithgarwch allanol gyda'r achos. Meddai ar ddawn briodol iddo'i hun yn hynny. Mab ydoedd ef i John Jones, blaenor Engedi, ac yn dwyn llawer o debygrwydd i'w dad. Ceir cryn eglurhad ar nodwedd Henry Jones yn yr ystyriaeth mai deheuwr oedd ei dad. Yr oedd y tad, er yn ddeheuwr, yn debycach i ogleddwr na'r mab: tywynnai a thanbeidiai dawn y de yn Henry Jones. Nid oedd y tad yn ddoniol; ond yr oedd y mab felly. Nid oedd gan Henry Jones nemor bethau cofiadwy chwaith; ond mewn dull ysgafn a rhwydd fe befriai ei ymddiddanion gan ergydion dawnus, pan yn ymollwng mewn cwmni difyr gyda hwyl y funud. Yn llai dawnus, yr oedd y tad yn gryfach cymeriad: yr oedd yn gryfach personoliaeth, wedi myned drwy brofiadau dwysach, a'i deimlad yn fwy dan lywodraeth ei farn. Eithr fe fu Henry Jones yn addurn i'r eglwys yn Siloh.

Yn 1897 fe brynwyd 587 llathen ysgwar o dir chwanegol am £70 ar gyfer capel newydd yn y man y safai yr ail gapel. Agorwyd y capel newydd Rhagfyr 2, 1900. Yr holl draul, £5,000. Buwyd yn addoli yn y Guild Hall o Fedi, 1898, hyd Dachwedd, 1900. Traddodwyd y bregeth gyntaf gan y gweinidog, y Parch. J. E. Hughes,-Y mae tir lawer eto i'w feddiannu. Pregethwyd y Sul, hefyd, gan y Prifathro Prys a'r Parch. S. T. Jones Rhyl; nos Lun gan y Parch. T. Charles Williams; nos Fercher gan y Parch. Wynn Davies Nerpwl; nos Fercher gan y Parch. John Williams Nerpwl.

Fe rydd y ffigyrau yma allan o Ystadegau y Cyfarfod Misol syniad am gynnydd yr achos: Nid oes cyfrif am 1860, am nad oedd blaenoriaid wedi eu dewis eto, mae'n debyg. 1862. Eisteddleoedd, 120. Cyfartaledd pris eisteddle y chwarter, 6ch. Derbyniwyd am eisteddleoedd am y flwyddyn, £6. Rhif yr eglwys, 52. Casgl at y weinidogaeth, £12 13s. 1869. Eisteddleoedd, 530. Gosodir, 250. Cyfartaledd pris eisteddle, Is. Rhif yr eglwys, 110. Casgl at y weinidogaeth, £28. Y ddyled, £1455. 1900. Eisteddleoedd, 850. Gosodir, 622. Rhif yr eglwys, 522. Casgl y weinidogaeth, £168 11s. 4c. Talwyd at ddyled y capel, £665.

Un nodwedd amlwg ar Siloh fu ei hysbryd gwerinol, ac yn hynny yr ydoedd i'w chyferbynu i fesur â'r eglwysi eraill yn y dref; a diau i hynny fod yn un o seiliau ei chynnydd nodedig. Fe gawsai yr ysbryd hwn gyfle i amlygu ei hun yn yr ysgol, yn enwedig yn y pwyllgorau. Byddai ysbryd rhyddid yn teyrnasu yno; a mwynheid yr olwg ar ddadleuwyr ieuainc yn amlygu eu doniau a'u sel. Nid gwrthddywediad ydyw dweyd ddarfod i Henry Edwards a Henry Jones fod yn y swydd o arolygwr am flynyddoedd, y naill a'r llall ohonynt. Yn herwydd eu cydymdeimlad eang y cadwasant eu swydd. Cof gan Mr. J. Henry Lloyd am Harri Parry yn y dosbarth A B C, gyda'i ddarn hir o gutta percha, a ddefnyddid ganddo fel pastwn disgyblaeth. lawn cyn amled ag y byddai eisieu. Ffyddlon fel athro ac yn y Gobeithlu fu William Davies, wedi hynny y blaenor o Foriah. John Parry, mab Harri Parry y gutta percha, oedd athro tra llwyddiannus ar ddosbarth o ddynion yn y gongl yn yr hen gapel. Athro selog arall oedd John Parry y teiliwr, a llawn cynghorion i'r bechgyn. Betsan Griffith a dywysodd Thomas Jeffreys i'r seiat, gwr o wybodaeth a diwinydd cryf, a wnaeth athro cymwys yn yr ysgol. William, mab John Owen y blaenor, oedd un y disgwylid llawer oddiwrtho mewn gwahanol gylchoedd cystal ag yn yr ysgol.

Pan symudwyd i'r ail gapel yn 1869 fe werthwyd y capel cyntaf, sef Siloh bach, am £200. Prynnwyd Siloh bach yn ol gan Foriah, a bu Moriah a Siloh yn cydweithio yno am ysbaid, ac yna fe drosglwyddodd Moriah y lle yn ol i Siloh. Yn ystod yr amser y bu'r ddwy eglwys yn cydweithio yno, yr oedd William Parry a Mr. R. Norman Davies yn gyd-arolygwyr. Byddai dau yn arwain cyfarfod yr hwyr, y naill o Foriah a'r llall o Siloh. Enwir Miss Davies (Tŷ fry) fel un a wnaeth waith arbennig ynglyn a'r ysgol. Wedi i'r cysylltiad â Moriah orffen, gofelid am yr achos gan chwech o frodyr ynghyda'r blaenoriaid. Ymhen dwy flynedd terfynai gwasanaeth dau o'r chwech, ac yna dau arall bob blwyddyn, ac etholid rhai yn eu lle, os na ail-etholid y rhai cyntaf. Y mae sel mawr wedi ei ddangos gan liaws, ond yn arbennig gan rai yn nygiad gwaith hwn ymlaen, ac yn eu plith fe enwir y rhai yma: Richard Pritchard Coed y marion, John Jones; a chyda'r canu Morris H. Edwards, J. Lloyd Roberts; a chyda'r offeryn cerdd, Gwilym Edwards, Hugh Williams, T. C. Dowell, William Williams.

Fe gyfleir yma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Siloh. Ymwelsom â'r ysgol hon Hydref 18. Rhif yn bresennol, 212. Ieuainc ar y cyfan yw aelodau'r ysgol yma, ac ychydig iawn mewn cymhariaeth yw nifer y rhai mewn oed, ac eithrio'r athrawon ac athrawesau. Arddanghosir sel a gweithgarwch mawr, a dygir y cwbl ymlaen yn fywiog a threfnus. Ni fabwysiedir cynllun yr ysgolion dyddiol yn addysgiant y plant yma eto, a theimlem eu bod ar eu colled yn fawr o'r herwydd, am fod yn yr ysgol gynifer o blant a phrinder athrawon. Yn ol eu dull presennol o gyfranu addysg ystyriem fod rhai o'r dosbarthiadau yn rhy luosog. Yn y dos- barthiadau hynaf amcenir at gymhwyso'r gwirionedd at y gydwybod yn gystal a'r deall. Ar ddiwedd y darllen cymerir tua 10 munud i ganu, ac yr oedd yma ganu da a gafaelgar. Yr oedd yn Siloh, ac mewn rhai ysgolion eraill y buom ynddynt, un peth y dymunem ei argymell i sylw yr ysgolion yn gyffredinol, sef presenoldeb yr athrawesau yn y cyfarfod athrawon. A chymeryd popeth i ystyriaeth, y mae yn Siloh ysgol dra llewyrchus. Siloh bach. Hydref 11. Yn bresennol ar y pryd, 139. Dywedid wrthym fod 115 o'r plant oedd yno, a adewir gan eu rhieni fel cywion yr estrys, yn cael gweinyddu iddynt addysg bur effeithiol. Bydd raid i'r ddisgyblaeth weithiau fod yn bur lem. Y mae yma rai dosbarthiadau wedi cyrraedd gradd dda fel darllenwyr. Y Rhodd Mam yw'r unig holwyddoreg a ddefnyddir yma. Mewn rhai dosbarthiadau ceir board; eithr ni wneir y defnydd priodol ohono, ond rhoir gwers o un i un. Ni ymgymerir â maes y Cyfarfod Misol am nas gallant gystadlu â rhai mwy eu manteision. Ni chynrychiolir yn y cyfarfod ysgolion. Ar y cyfan gwneir gwaith da. Samuel Rees Williams, John Hughes."

Y mae'r cyfarfod pregethu wedi bod yn sefydliad pwysig yma. Cynhelid ef ar y Nadolig yn y blynyddoedd cyntaf, a chynhaliwyd y cyfarfod yn ddifwlch, neu'n agos felly, o adeg agoriad y capel cyntaf. Wedi symud i'r ail gapel cynhaliwyd y cyfarfod yn goffadwriaeth o'r agoriad, sef ym mis Mehefin. Bu'r casgliadau yn y cyfarfodydd hyn o gryn gynorthwy tuag at leihau'r ddyled. Sonir am rai odfeuon anarferol, megys eiddo'r Dr. William Roberts (America) yn 1873 am yr annuwiol yn cael ei yrru ymaith yn ei ddrygioni, pan y torrodd allan yn orfoledd cyn diwedd y bregeth; ac oedfa'r Dr. Hugh Jones, Ond y mae gyda thi faddeuant fel y'th ofner, pan yr oedd tramynychiad pwysleisiol y gair ond yn effeithiol iawn; a phre- geth fawr y Dr. Lewis Edwards ar yr ymwaghad-y bregeth fwyaf a draddodwyd er dyddiau'r Apostol Paul, ebe Henry Jonathan, prun bynnag a gytunir â hynny ai peidio. Ar ol dyddiau'r hen oruchwyliaeth gyda'r canu, bu'r arweiniad gyda Henry Jones. Dysgai ef donau newydd i'r gynulleidfa; ond nid mewn celfyddyd y rhagorai yntau ond mewn ysbrydiaeth, a chytunai ei arddull fel arweinydd âg ysbrydiaeth y lle. Ymhen amser penodwyd dau mwy hyddysg yn y gelfyddyd i'w gynorthwyo, sef John Davies a Henry Edwards ieuengaf. Cafwyd côr canu yn 1882. Dan arweiniad John. Davies fe wellhaodd y canu yn araf deg. Wedi ymadael o John Davies i Nerpwl bu eraill yn wasanaethgar gyda'r canu, sef W. Hughes, Robert Rogers, Owen Robinson, T. C. Dowell, M. H. Edwards. Yn amser y capel cyntaf bu John Jones (Druid) a'i frawd Stephen Jones yn cynorthwyo gydag addysgu'r plant gyda chanu.

Y meibion yn unig a ddeuai i'r Gymdeithas Lenyddol ar y cychwyn. Wedi agor y Gymdeithas i'r merched, fe eisteddai y merched yn y sêt fawr a'r meibion ar y llawr, hyd nes y tywynnodd goruchwyliaeh fwy eangfryd. Y gweinidog, sef y Parch. John Williams, fyddai'n gadeirydd. Bu dyfodiad y gweinidog newydd, y Parch. R. R. Morris, ac Anthropos yn gaffaeliad i'r Gymdeithas, a bu llewyrch neilltuol arni yn ystod gweinidogaeth Mr. Morris, pryd y byddai efe yn llywydd ac Anthropos yn is-lywydd. Bu gan Mr. Morris, hefyd, ddosbarth mewn gramadeg Cymraeg ac yng Nghyfatebiaeth Butler. Erbyn diwedd cyfnod yr hanes yma yr oedd gan Mr. J. E. Hughes ddosbarth diwinyddol llewyrchus.

Cynhaliwyd y cyfarfod llenyddol cyntaf yn 1877 neu'r flwyddyn ddilynol, y Parch. John Williams yn arwain. Cyfododd y cyfarfod hwn, drachefn, i fri mwy gyda'r un gwŷr ag y soniwyd am danynt mewn cysylltiad â'r Gymdeithas Lenyddol.

Tybia Mr. Wynne Parry y dechreuwyd cynnal cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc yma yn y blynyddoedd cyntaf i gyd, ond y bu pall arno am ysbaid.

Yr oedd y Gobeithlu yma er yn gynnar yn amser y capel cyntaf, a Henry Edwards yn llywydd. Yna Henry Jones gyda llwyddiant nodedig; yna y Parch. R. R. Morris, Anthropos a John Parry y teiliwr, bob un ohonynt yn meddu ar neilltuolrwydd dawn gyda'r plant.

Fe grynhoir yma sylwadau Mr. Wynne Parry ar rai brodyr a chwiorydd. Gwr ieuanc galluog oedd Hugh Price. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, a phan yn gweithio gyda'r troed pren byddai'r Beibl a'r Hyfforddwr o'i flaen. Fe bregethai yn achlysurol yn yr awyr agored. Bu'n selog yn y capel cyntaf. Brawd i William Parry y gof oedd John Parry y teiliwr, ac felly yn gefnder i'r Dr. Griffith Parry. Daeth i Siloh bach o Foriah. Gwr tawel, siriol, heb hoffi cyhoeddusrwydd, neu gallesid disgwyl iddo fod yn flaenor. Yr oedd ganddo ddosbarth lluosog o ddynion ieuainc, a llafuriai yn galed gogyfer â hwy. Yr oedd yn gryn ddarllenwr, a mwynheid ei ddull difyr yn y Gymdeithas Lenyddol. Yr oedd yn ddihafal am adrodd hanesyn yn y Gobeithlu, ac yma y disgleiriai fwyaf. [Gyda thuedd enciliedig yr oedd rhyw elfen nwyfus neilltuol ym meddwl y gwr yma, ac ym mhresenoldeb plant y deuai ei ddawn arbennig i'r golwg. Yr oedd awch nad anghofid ar ei sylwadau pan droai i'r dull duchanllyd.] Yr oedd Hugh Owen Rhosbodrual yn flaenor cyn dod i Siloh, er na alwyd mono i'r swydd yma. Gwr anaml ei eiriau, eto siriol ei ysbryd, ac yn ddiamheuol dduwiol. Melys ei brofiad yn y seiat. Daeth Thomas Lewis Twtil yma o Nazareth. Gwr ieuengaidd ei ysbryd a nodedig mewn gweddi. Llawn afiaeth yn y Gymdeithas Lenyddol, ac yn elyn anghymodlon i'r "Inglis Cós" ac i Ddic Sion Dafydd. Hoffid ef gan yr ieuainc.

Ond aeth y gweddïwr o'r diwedd ei hun
Ar ol yr aneirif weddïau, fel un
A wyddai y ffordd i'r ardaloedd di-bla—
'Roedd wedi ei dysgu i'w theithio yn dda.

Deuai Ellen Jones Lôn fudr i Siloh bach, a gorfoleddai yno yn barhaus. [Edrycher Engedi.] Catsen Owen oedd un arall a orfoleddai'n barhaus, a Jane Hughes Hen ardd a Margaret a Jane Parry ac Elin Jones Cae Annws, a ddeuai i'r capel yn ei dwy facsen lân â'r Beibl mawr o dan ei chesail. Yr oedd y rhai'n i gyd yn y capel cyntaf, a'u henwau'n perarogli sydd. Y mae gan Mr. J. Henry Lloyd gyfeiriad at frawd a chwaer o gyfnod y capel cyntaf, y brawd yr un a soniwyd am dano eisoes. "Un o athrawesau'r hen gapel oedd Miss Williams, wedi hynny Mrs. Williams Stryd Llyn. Addfwynder oedd yn ei nodweddu. Byddai rhyw wên siriol ar ei hwyneb. Meddai ar allu mawr a sel danbaid dros yr achos. Mawr y golled a'r hiraeth ar ei hol. Yr wyf yn tybied fod Hugh Price wedi ei fagu yn yr ysgol yn yr hen lofft. Gwr ieuanc rhagorol iawn. ac o wasanaeth mawr. Disgwylid pethau mawr oddiwrtho; ond gartref y bu gorfod arno fyned."

Cyn terfynu cyfnod yr hanes hwn fe gyflwynwyd i George Williams anerchiad a phwrs fel gwerthfawrogiad o'i lafur. Dyma atgofion y Parch. T. Morris Jones, gan adael allan ychydig bethau y bu cyfeiriad atynt o'r blaen. "Y mae pob carreg yn hen gapel Tanrallt yn gysegredig iawn yn fy ngolwg. Dyma fy nghrud. Ynddo y clywais y gorfoleddu cyntaf. Yr oedd yno hen chwaer, Jane Williams, y byddai cyfeiriad tyner at Galfaria yn ei chyffwrdd ar unwaith, a chofiaf yn dda am dani yn lluchio ei breichiau i fyny ac yn gweiddi dros y lle. Y blaenoriaid cyntaf wyf yn gofio oedd y Mri. Henry Edwards a George Williams, a deallaf fod Mr. George Williams yn parhau eto gyda'r achos yn dirf ac yn iraidd, a hir y parhao ei fwa yn gryf. [Ac felly y gwnaeth nes ei alw ymaith wedi ysgrifennu hyn.] Un o'r amgylchiadau a gafodd argraff arnaf yn yr hen gapel ydoedd i'r Parch. Richard Owen Llangristiolus, y diwygiwr wedi hynny, wrth wrando ar y plant yn dweyd eu hadnodau, ofyn i mi,—Faint yw eich oed, machgen i?' Saith,' meddwn ninnau. Wel,' meddai yntau, 'penderfynwch ddysgu darllen cyn bod yn wyth.' Gwnes felly, ac yr wyf yn sicr i'w air suddo i'm meddwl. Symudiad mawr oedd symud o'r hen gapel i adeiladu capel newydd, ac yr wyf yn cofio'n dda y dyddordeb angerddol a gymerwn yn y capel newydd—myned i'w weled bob dydd; ac y mae llawer o fy atgofion crefyddol boreuol eto yn gymhlethedig â'r capel hwn. Y bugail cyntaf a alwyd gan yr eglwys oedd y Parch. John Williams. Bu Mr. Williams yn dra ymdrechgar, yn athro llafurus a llwyddiannus gyda'r ieuenctid. Yr wyf yn ddyledus iddo yn yr ystyr hwn. Teimlaf yn ddiolchgar am gyfleustra i roddi blodeuyn ar fedd y gwas da hwn i Grist. Cyn i'r eglwys alw bugail, gwasanaethid yr eglwys gan amryw o hen weinidogion y dref, megys y Parchn. Thomas Hughes (bu ef bob amser yn ewyllysgar i wasanaethu'r achos hwn), William Griffith, John Jones, Evan Williams, David Williams, Robert Lewis, William Williams a Dr. Morris Davies; a byddent oll, er yn aelodau ym Moriah neu Engedi, yn barod iawn i roddi unrhyw gynorthwy o dro i dro. Y bugail dilynol oedd y Parch. R. R. Morris. Bu Mr. Morris eto'n hynod lwyddiannus, ac yn sicr cyflawnodd waith mawr dros y Meistr yn y lle. Credaf mail blynyddoedd o lwyddiant cyson oedd y blynyddoedd y bu ef yn gweinidogaethu yma, a cholled drom oedd ei ymadawiad. Dynion rhagorol oedd y blaenoriaid i gyd; ond i mi, pan yn fachgennyn, y brenin oedd Mr. Henry Edwards. O'm mebyd edrychwn arno ef fel tad ac arweinydd, ac iddo ef yn gyntaf yr hysbysais fy awydd i ddechre pregethu; ac yn y blynyddoedd hynny credaf mai ato ef yr aethai unrhyw un o Siloh yn gyntaf i hysbysu neu i ymgynghori ynghylch unrhyw beth o bwys. Edrychid arno fel dyn o allu meddyliol cryf, cyflym, a siaradwr grymus, a'i enaid yn glymedig â'r achos yn Siloh; ac i mi y mae Siloh a Henry Edwards yn anwahanadwy. Diau fod yn hysbys am y nifer o bregethwyr a gychwynasant yn Siloh. . . . Yr oedd Mr. Richard Hughes, a hunodd yn yr angeu cyn myned i'r weinidogaeth, yn meddu dawn helaeth, ac yn un o'r dynion ieuainc mwyaf gweithgar a fu mewn unrhyw eglwys erioed. Amser a ballai i mi enwi eraill—brodyr annwyl iawn, yn hen ac ieuanc—a berthynent i'r eglwys hon, ac oedd yn weithwyr difefl yn y winllan."

PENYGRAIG.[8]

YN y Trysor i'r Ieuenctid am 1826 (t. 89), fe ddywedir fod un o'r athrawesau yn yr ysgol a gynhelid yn Is-Helen [Isalun] wedi gofyn i eneth 12 oed, oedd ar ymadael oddicartref i wlad arall beth a gae hi ganddi yn rhodd o ffarwel, pryd yr atebodd yr eneth nad oedd ganddi hi ddim ond y penodau a ddysgasai; ac yna fe adroddodd "rifedi lluosog iawn." Cangen ysgol o Foriah ydoedd hon; ond yr ydoedd yn gychwyniad yr achos ym Mhenygraig. Y mae taflen berthynol i ysgolion y dosbarth yn dangos fod yma ysgol yn 1819, ond pa faint cyn hynny ni wyddis. Cyfartaledd y presenoldeb y pryd hwnnw ydoedd 11 neu 12

Yn ddiweddarach fe gedwid Isalun gan Ann Pritchard a'i gwr. Yr ydoedd hi'n wraig o brofiad crefyddol. Fe'u trowyd hwy o'r lle, ac fel y deallid ganddynt hwy yn bendant am gadw'r ysgol yno. Awd oddiyno i'r Brynglas.

Fe gyfleir yma atgofion y Dr. Griffith Griffiths o'r ysgol yn y Brynglas ac o'r eglwys ym Mhenygraig: "Dechreuais fynychu ysgol Brynglas [ardal Isalun] yn 1860, sef y flwyddyn y daethom i fyw i Gefnysoedd. Cynhelid yr ysgol ar fore Saboth yn y ddau dy sydd dan untô. Yr oedd hen wraig a elwid Betsan Elias yn byw yn un a'i merch (Mrs. Williams) yn byw yn y llall. Lle digon anghyfleus oedd yno am fod y tail mor fychain. Cynhelid dau ddosbarth yn yr ystafelloedd gwelyau, sef un yn ystafell wely pob tŷ. Yr oedd dau wely ym mhob un o'r ystafelloedd hynny, a dim ond rhyw bum troedfedd rhyngddynt; ac eisteddem yn ddwy res ar y gwelyau, gan wynebu ein gilydd. [Un gwely yn y tŷ pellaf o'r dref, ebe gwr arall fu'n myned yno.] Fe osodai'r dosbarthiadau eraill eu hunain, oreu y medrent, ar ystolion, cadeiriau a meinciau mewn gwahanol leoedd yn y tai. Pan orffennid darllen, deuai'r holl ddosbarthiadau i un tŷ, sef yr agosaf i'r dref, i gael eu holi. Gwesgid ni yn dynn yn ein gilydd, fel mail sefyll oedd raid i bron bawb drwy'r rhan hon o'r gwasanaeth. Ym misoedd poethion yr haf fe symudid i'r Ysgubor isaf, sef adeiladau yn perthyn i Blas Llanfaglan yn ymyl Porthlleidiog.

"Yr athrawon a'r athrawesau yn yr ysgol hon, mor bell ag yr wyf yn cofio, oedd: Mri. R. Humphreys Plas Llanfaglan, Richard Hughes Tŷ eiddew, Griffith Jones (hwsmon Plas Llanfaglan), Griffith Williams, saer o'r dref a diwinydd galluog oedd wedi darllen llawer, Thomas (?) Thomas Isalun, brawd yr wyf yn meddwl i'r Parch. Robert Thomas Garston, fy nhad [Capten Griffiths], a'r Misses Humphreys Plas Llanfaglan. Heblaw Mr. G. Williams, deuai amryw eraill o'r dref i gynorthwyo. Yn eu plith yr oedd Mr. William Griffiths, nai i Mr. Williams Glanbeuno, wedi hynny o Fachynlleth. Hen lanc ydoedd ef a gymerai ddyddordeb mawr mewn achosion cenhadol yn y dref, Glanymor a Mark Lane, yn gystal a Brynglas. Rhoddai Feibl yn wobr i bob un a ddysgai'r Salm fawr-Beibl ymylon gilt a bwcl melyn, yr un fath i bob un. Symbylodd lawer i drysori rhannau helaeth o'r Beibl yn eu cof. Mawr y son pan fyddai un o'r ysgolheigion wedi adrodd y Salm fawr yn yr ysgol i Mr. Griffiths, a derbyn y wobr.

"Yn y prynhawn a'r hwyr ae aelodau'r ysgol naill ai i'r dref ai i'r Bontnewydd. Yr oedd Bontnewydd y pryd hynny yn daith Saboth gyda Chaeathro. [Adeiladwyd Penygraig yn 1863.] Yr wyf yn cofio fod tipyn o ddadleu pa le y dylai y capel fod. Yr oedd Mr. Humphreys Plas Llanfaglan yn gryf o'r farn mai ar y groeslon yn ymyl yr efail, lle mae'r eglwys newydd yn awr. Meddyliai fy nhad mai yn ymyl Porthlleidiog y byddai oreu. Yr hyn oedd ganddo ef mewn golwg oedd. cyfleustra'r morwyr a lechent yno yn llu mawr yr adeg honno. Credaf mai rhyw gytundeb rhwng y ddwy farn yw'r safle presennol.

"Yr wyf yn meddwl mai'r cyntaf i bregethu yn y capel oedd y Parch. Thomas Jones [Eisteddfa, Criccieth], gweinidog gyda'r Anibynwyr, a pherthynas i Mrs. Jones Cefncoed plas. Y ddau eraill i bregethu ar yr agoriad oedd, y Parchn. David Jones Treborth a Robert Thomas Garston. Yr oedd Mr. David Jones a Mr. Humphreys yn gyfeillion mawr, a pharai hynny i Mr. David Jones ddod i Benygraig yn lled aml. Paratoi i ddod yno at y Saboth yr oedd pan gafodd yr ergyd o'r parlys brofodd yn angeuol iddo.

"Y ddau swyddog cyntaf yn yr eglwys oedd Mr. Richard Humphreys a fy nhad, y rhai oedd yn swyddogion yn flaenorol yn y Bontnewydd. Eithr fe eisteddai Mr. R. Hughes Ty eiddew yn y sêt fawr bob amser, ac efe fyddai'n cyhoeddi. Eisteddai John Jones Penybryn, hefyd, yn y sêt fawr,—hen frawd ffyddlon. Ni ddewiswyd John Jones erioed yn flaenor, ond dewiswyd R. Hughes ymhen ychydig flynyddoedd. Yr argraff ar fy meddwl ydyw yr ymgynghorai'r ddau flaenor lawer â hwy ynglyn â'r achos. Cyn pen hir ar ol agor y capel daeth Mr. Methusalem Griffith i fyw i'r tŷ capel. Eisteddai yntau yn y sêt fawr, a derbyniwyd ef i mewn i'r cylch cyfrinachol gan y ddau flaenor a'r ddau frawd arall, cyn ei ddewis yn flaenor.

"Yr oedd Methu Griffith, fel y gelwid ef, yn un o'r dynion ffyddlonaf gyda'r achos a welais erioed. Er nad oedd ei alluoedd naturiol yn fawr, na chylch ei ddarlleniad yn eang, gwnaeth ei ffyddlondeb a'i sel ef yn ddyn defnyddiol dros ben gyda'r capel, yn enwedig gyda'r ysgol Sabothol a chyfarfodydd y plant. Cynhelid y cyfarfod eglwysig ar nos Wener, a byddai ef yn bresennol bron bob amser wedi cerdded yr holl ffordd o Lanberis [o'r chwarel].

"Deuai Mr. Richard Morris Glanyrafon, brawd i'r Parch. David Morris Bwlan, i'r cyfarfod eglwysig yn lled reolaidd, er mai yn y Bontnewydd yr oedd yn swyddog. Gan ei fod yn wr o allu mawr ac wedi darllen llawer, fe lanwai le mawr pan. yn bresennol. Deuai amryw frodyr o'r dref, hefyd, i gynorthwyo gyda'r cyfarfod eglwysig a'r ysgol Sabothol. Un oedd Mr. David Williams y pregethwr, un o'r rhai goreu am arwain mewn cyfarfod eglwysig a welais erioed. Yr oedd Mr. R. Hughes Tŷ eiddew yn ddarllenwr mawr ac wedi gwrando llawer ar Mr. John Elias a'r Charlesiaid o Walchmai, a byddai ganddo rywbeth a ddarllenodd neu ryw atgofion am bregethau'r gwŷr enwog hyn, a greai ddyddordeb mawr yn aml. Nid oedd Mr. Humphreys yn hoff o siarad yn gyhoeddus, ac ni wnae hynny ond anaml iawn, os byddai eraill i wneud. Pan wnae byddai ganddo atgofion difyr ac adeiladol am ddywediadau hen bregethwyr ac eraill a gofid ganddo. Y llyfrau y darllenodd fy nhad fwyaf arnynt oedd Diwinyddiaeth Thomas Watson a Llyfr Gurnal, a byddai ganddo ryw sylw o eiddo un o'r ddau awdwr yna bron ar bopeth a fyddai dan sylw.

"Deuai'r Mri. Griffith Williams a William Griffiths i'r ysgol ar ol symud i Benygraig, a pharhae Mr. Griffiths i ennyn. sel gyda dysgu'r Salm fawr. Un arall o gynorthwy mawr gyda'r ysgol, er nad oedd yn aelod eglwysig, ac a ddeuai'n rheolaidd iddi o'r dref, oedd Eifioneilydd.

"Un a wnaeth lawer iawn o ddaioni gyda dysgu cerddor iaeth oedd Mr. Hugh Ellis. Nid oedd yntau'n aelod, ond bu'n arwain y gân am amser lled faith, ac yn selog iawn gyda chyfarfodydd i ddysgu cerddoriaeth i'r ieuenctid. Meddai ar ddawn arbennig i wneud cyfeillion â phobl ieuainc, ond ni pharhae y gyfeillgarwch yn hir. Yr oedd iddo ryw wendid rhyfedd a barai iddo eu digio a digio wrthynt, ac elai ef a'r bechgyn i gymaint eithafion yn y cyfeiriad hwnnw ag a elent gynt fel cyfeillion. Wedi i hyn ddigwydd fe symudai i gapel arall, a chymerai pethau yr un cwrs yno drachefn. Goruwchreolwyd hyn fel ag i beri fod Hugh Ellis wedi gallu gwneud lles dirfawr i ganiadaeth y cysegr mewn lliaws o gapelau yn perthyn i'r gwahanol enwadau, a hynny dros gylch go eang. Gan mai ychydig iawn a ddeallai'r Tonic-Sol-Fa yr adeg hon yn y cymdogaethau yma, y nodwedd hon yng nghymeriad yr hen frawd a ddeuai o blaid yn hytrach nag yn erbyn yr achos. Cafodd Penygraig les mawr oddiwrtho gyda'r canu, ac yr wyf yn meddwl iddo ddal ati yn hwy yma nag yn unlle arall, yn bennaf am fod yma ddau neu dri ymhlith y bobl ieuainc mwy medrus nag eraill i'w gadw mewn tymer dda.

"Ni ddylid ychwaith anghofio gwasanaeth gwerthfawr y Parch. Robert Lewis tra y bu yn lletya yng Nghaesamol. Yr oedd yntau'n gerddor da a chynorthwyai lawer yn y cyfarfodydd canu a'r seiat.

"Yn 1869 y daeth Ieuan Gwyllt i fyw i'r Fron o Lanberis. Er nad oedd yn weinidog rheolaidd ar yr eglwys, gofalodd am dani yn y modd mwyaf cydwybodol. Bu ei bresenoldeb yn y gymdogaeth a'i weithgarwch yn yr eglwys o werth anmhrisiadwy i'r 'achos bach,' fel y byddai Mr. R. Humphreys Plas Llanfaglan yn ei alw. Wedi iddo ef ddod atom, nid oedd. cymaint angen ag o'r blaen am gynorthwy oddiallan; ac yn raddol fe giliodd y cyfeillion caredig a ddeuai atom o'r dref i'r cyfarfodydd eglwysig, er y parhae amryw ohonynt i ddod i'r ysgol.

"O'r dechre cyntaf fe geid cyfarfod plant ar nos Sadwrn a wnaeth lawer o les yn y ffordd o ddeffro meddylgarwch ynom fel plant. Yr oedd dau reswm dros ei gael nos Sadwrn. Yn un peth am ei bod yn gyfleus i Mr. Methu Griffith. Peth arall, fe geid y pregethwr i gynorthwyo, pan ddeuai i Lanfaglan nos Sadwrn ar gyfer oedfa'r bore. Ni fu'r cyfarfodydd hyn yn ddifwlch; ond pan gynhelid hwynt yr oeddynt yn bur boblogaidd, ac yn creu llawer o weithgarwch gyda'r plant."

Hyd yma y cyrraedd nodiadau y Dr. Griffiths. Rhaid chwanegu eto rai pethau. Bu ryw gymaint o gynhyrfu am ysgoldy yn hir cyn ei chael, canys y mae'r cofnod hwn ar gadw ar gyfer Awst 10, 1857: "Achos adeiladu ysgoldy yn Isalun i'w gyflwyno i'r ysgolion Sabothol yn Arfon." Ymhen chwe blynedd, pa ddelw bynnag, fe gafwyd capel. Prynnwyd y tir ar brydles o 99 mlynedd, am ddeg swllt y flwyddyn.

Yn 1875 fe gyflwynwyd y Dr. Griffith Griffiths i sylw fel ymgeisydd am y maes cenhadol. Ni wyddis mo'r amseriad ar gyfer dewis William Humphreys a Methusalem Griffiths yn flaenoriaid.

Mai 14, 1877, bu farw Ieuan Gwyllt yn 54 oed. Daeth yma o Gapel Coch, Llanberis, lle'r ydoedd yn fugail, a gwnaeth waith efengylwr yma yn ystod wyth mlynedd ei drigias. Daeth dan ddylanwad Moody a Sankey yn ystod eu hymweliad cyntaf â'r wlad hon oddeutu tair blynedd cyn ei farw, a deffrodd hynny ysbrydiaeth newydd ynddo fel pregethwr. O hynny ymlaen yr oedd yn symlach ac angerddolach; a dywedid ar y pryd fod. ei bregeth olaf, a rowd yma, ar Y gelyn diweddaf a ddinistrir yw yr angeu, yn un nodedig, yn llawn trydan byw. Yr un modd yr ymddiddan yn y seiat y nos Lun dilynol. Wrth sôn am hen grefyddwyr oedd wedi myned i'r nefoedd, fe dorrodd yntau allan,—"Yn wir, braidd nad wyf y funud hon yn teimlo hiraeth am gael bod gyda hwy." Ymhen rhyw wythnos ac awr i'r funud honno, yr ydoedd yn cymeryd ei aden tuag yno. Y mae'r cofnodiad o'r sylwadau coffhaol yn y Cyfarfod Misol ymherthynas iddo ef yn anarferol o lawn. Dodir hwy yma: Sylwai'r Mri. W. Humphreys Llanfaglan a Methusalem. Griffith Penygraig, ar y golled a gawsant ym Mhenygraig. Teimlent fel plant amddifaid wedi colli eu tad. Yr oeddynt wedi colli eu cefn. Gwnaeth lawer iawn yno gyda phob peth; ond o bopeth a wnaeth, y cyfarfod a arferai gynnal am ddau neu dri mis o bob blwyddyn gyda rhai ar fedr cael eu derbyn. yn gyflawn aelodau oedd y mwyaf effeithiol. Ni welwyd y cyfarfod hwnnw yn fwy na naw o ran nifer, a bu cyn lleied a phedwar. Tybid ar yr olwg gyntaf fod rhyw bellter mawr yn Mr. Roberts; ond yn y cyfarfodydd hynny ceid ef y mwyaf agos, y mwyaf tyner, y mwyaf hawdd myned ato. Sylwodd un o'r brodyr mai yn y cyfarfodydd hynny y cafodd efe fwyaf o bleser a gafodd erioed. 'Y cyfarfodydd â mwyaf o ddifrifwch ynddynt a welais erioed; y cyfarfodydd a mwyaf o Dduw ynddynt a welais erioed. Er mai cyfarfod bach o ran nifer, arferai ddechre a diweddu fel cyfarfodydd eraill. Yr oedd ei waith yn diweddu rhai ohonynt yn beth nad aiff byth oddiar fy nghof. Credaf fod y cyfarfodydd hynny wedi ateb diben. Ni welais eto ddiarddel yr un a ddygwyd i fyny yn y cyfarfodydd hynny. Yr oedd ei holl lafur acw yn fawr ac yr oedd yn llafur cariad.' Sylwai'r Parch. T. Roberts Jerusalem ar y golled a gawsom fel colled gyffredinol—colled cenedl, ac eto yn golled neilltuol. Collwyd llawer o'n gwlad ac o Gymru, ag y byddai'r wlad fel y cyfryw yn teimlo'r golled, ond na byddid tua chartref, hwyrach, yn teimlo nemor golled; ond dyma golled sydd yn un gyffredinol, ac, ar yr un pryd, yn un neilltuol iawn. Rywfodd y mae Mr. Roberts wedi iddo fyned. oddiyma yn ymddangos yn llawer mwy na phan yma gyda ni. Nid yn fwy defnyddiol; ond yn fwy dyn. Y mae'n werth meddwl am ei hyder yn yr Efengyl—yng ngwirionedd syml a phlaen yr Efengyl. Ac y mae meddwl am dano yn ei waith, yn ei drefn gyda'i waith, yn ei ymroddiad i'w waith—meddwl mor ddiesgeulus i'w orchwyl oedd-yn gerydd miniog ar ddyn sydd heb fod felly. Cyfeiriodd Mr. E. Roberts Engedi ato yn ei ddyddiau boreuol. Yr oedd yn nodedig o lafurus, ac wedi rhoddi ei fryd ar feistroli cerddoriaeth yn enwedig. Yr oedd ei ymroddiad i lafur ar un adeg mor fawr fel na chysgai fwy na rhyw bedair awr yn y diwrnod. Astudiai y German, y Lladin a'r Roeg y pryd hwnnw. Yr oedd yn ddyn y gellid ei godi i fyny i fod yn esampl i ddynion ieuainc Arfon. Dylasai Arfon fod wedi gwneud mwy ohono gyda chaniadaeth y cysegr. Y mae caniadaeth yn Arfon yn is nag y dylasai fod. Dywedai'r Parch. D. Rowlands fod colled y Cyfarfod Misol yn fawr am dano fel dyn pur, gonest, ffyddlon, a ffyddlon i'r Iesu. Er fod anhyblygrwydd mawr ynddo ar ryw gyfrifon, eto yr oedd ei galon fel calon plentyn. Yr oedd lledneisrwydd a charedigrwydd mawr ynddo. Yr oedd at wasanaeth Penygraig ym. mhob peth. Pe buasai yn weinidog cyflogedig ganddynt am ddau can punt y flwyddyn, nis gallesid disgwyl iddo fod yn fwy ymroddedig i'w gwasanaethu. Ac yr oedd yn fwy cymeradwy a phoblogaidd fel pregethwr na neb a ddeuai i'r lle. Crybwyllai Mr. Rowlands am ymddiddan oedd wedi bod rhwng Mrs. Roberts a'i hanwyl briod ychydig cyn iddo'i gadael, pryd y dywedai pe cawsai fyw am ryw ddeng mlynedd, ei fod yn meddwl y buasai wedi gorffen ei waith yn lled lwyr erbyn hynny, ac wedi gwneud diwrnod lled dda o waith. Ond ynghanol ei waith y cymerwyd ef ymaith; ac nid oes gennym ddim i'w wneud ond myned a'r bwlch mawr at yr Iesu. Sylwodd Mr. Ellis James Ty'nllwyn, hefyd, fod Mr. Roberts wedi bod yn amlwg iawn gyda llenyddiaeth a gwahanol ganghennau, ond mai gyda'r canu yr oedd yn frenin. Yr oedd John Ellis o Lanrwst, flynyddoedd lawer yn ol, wedi gwneud llawer gyda'r canu, a rhai eraill ar ei ol yntau, ond ni wnaeth neb ddim i'w gymharu a'r hyn wnaeth ein diweddar frawd." Y mae'r adroddiad o'r ymddiddan hwn yn y Cyfarfod Misol yn eithriadol faith; ond dichon ei fod yn werth i'w ddodi i fewn, nid yn unig er ei fwyn ei hun, ond yn ychwanegol at hynny, fel enghraifft o'r sylwadau coffäol yn y Cyfarfod Misol. O ddiffyg lle, ni roir yn gyffredin ond brawddeg ferr, a honno'n fynych. yn gwasanaethu dros ddau neu dri; ac yn aml ni roi'r adrodd- iad o gwbl. Am y rheswm hwnnw, nis gellir gwneud ond defnydd achlysurol o'r cofnodion yn y ffordd neilltuol yma yn hyn o waith. (Edrycher Capel Coch, Llanberis).

Yn 1877, ar ol ymadawiad Ieuan Gwyllt, ymgymerodd y Parch. Richard Humphreys â bugeiliaeth yr eglwys yn chwanegol at y Bontnewydd. Yn 1878 cychwynnodd Dr. Griffiths allan i'r maes cenhadol. Yn 1880 derbyniwyd yn flaenoriaid yn y Cyfarfod Misol,-Thomas Humphreys a Thomas Williams y Fron.

Yr oedd ar Thomas Williams y Fron fawr awydd i atgyweirio y capel a'i helaethu. Ar ol talu'r gweddill o'r ddyled gan yr eglwys, gyda'i gynorthwy haelionus ef, fe hwyliwyd at hynny yn ddiymdroi, a thalodd yntau dros £300 at yr amcan. Agorwyd y capel yn 1881. Ond gan iddo ef ei hun symud yn y man i'r Bwlan, fe adawyd yr eglwys dan faich go drwm o ddyled. Ar ol gwneud pob ymdrech yr oedd £230 yn aros yn niwedd 1881. Fe'i cliriwyd yn llwyr erbyn 1898.

Chwefror 27, 1885, bu Richard Humphreys Plas Llanfaglan. farw yn 87 oed, yn flaenor yma o'r dechre, a chyn hynny yn y Bontnewydd er 1850. Gwr o ymddanghosiad anarferol, yn chwe troedfedd neu ragor o daldra ac yn llydan yn gyfatebol ac yn gydnerth. Pen hir heb fod yn gul, wyneb hir heb fod yn gul, clust gyn hired ag eiddo Hiraethog ac yn lletach na honno ac yn is i lawr y pen. Croen rhychiog. Llygaid craff, heb fod yn loewon nac yn dreiddgar; ond yn sefydlog graff ar yr hyn a ddeuai o fewn cylch eu gwelediad. Y symudiadau corfforol yn araf a phwyllog, yn arwyddo cryfder yn fwy na hoewder. Rhyw gyffyrddiad o urddas tawel, naturiol, dros y cwbl: yr urddas hwnnw i'w deimlo yn y capel, yn y teulu. Cyferchid ef gan ei feibion fel Syr, a gweddai hynny iddynt hwy ac iddo yntau. Y glust go isel yn arwyddo gallu bratheiriog, yn yr hyn yr oedd yn nodedig pan fynnai ddangos y gallu hwnnw: y gair brathog yn dod yn dawel a phwyllog a llym ac oeraidd, yn cyrraedd yr amcan i'r dim, ar y pryd o leiaf. Yr oedd ynddo ymwybodolrwydd tawel o nerth, y fath a barai nad oedd ynddo ddim rhithyn o gais i ymddangos fel hyn neu fel arall. Fe gymerai ei hun yn gwbl yr hyn ydoedd, heb amcan i fod ddim yn fwy na dim yn wahanol. Amhosibl bod yn ei ŵydd heb deimlo ei rym tawel. Gwell ganddo i eraill siarad yn y capel, ond medrai ddweyd gair yn gryno a phwrpasol. Ei gylch, debygid, oedd yr ymarferol. Yng Nghofiant Dafydd Morgan y diwygiwr, fe ddywedir am ei gyfarfod ef yn y Bontnewydd ar fore Mercher, pan yr oedd ffair yn y dref, fod amaethwr cyfoethog a llewaidd o flaenor wedi awgrymu rhoi pen ar y seiat, gan ei bod yn myned yn hwyr. Nid cwbl foddhaol yr awgrym gan y diwygiwr. Diau mai Richard Humphreys oedd y gwr llewaidd hwnnw. Fe edrychai ef o'i amgylch yn dawel a phwyllog, gan gymeryd y naill hanner o'r olygfa i fewn yn gystal a'r hanner arall. Bu'n ffyddlon gyda'r achos ar hyd ei oes; ac yr ydoedd yn wr dichlynaidd ei foes, cymwynasgar yn ei ardal, ac urddasol ei agweddiad o ran corff a meddwl ac ymarweddiad. Medrai wneud cyfeillion o wŷr fel Dafydd Jones Treborth a John Owen Ty'n. llwyn. Ac yn ei deulu yr oedd yn frenin, a'r teulu lluosog hwnnw yn ei holl aelodau yn hyfrydwch iddo ac yn addurn arno. Y cofnod yn y Cyfarfod Misol am y coffa a fu am dano yno ydyw,-Un o ragorolion y ddaear.

Yn 1885 dewiswyd John Jones Plas Llanfaglan yn flaenor. Yn 1889 yr oeddid yn derbyn W. Morris Jones yn bregethwr yn y Cyfarfod Misol. Yn 1893 fe symudodd i'r Diserth, gan dderbyn galwad i fugeilio'r eglwys. Yn 1890 fe dderbyn- iwyd W. D. Williams yn flaenor yn y Cyfarfod Misol. Yn 1892 fe dderbyniwyd W. Williams yn flaenor.

Yn 1893, fe wnaed coffa yn y Cyfarfod Misol am Ebrill 10 am R. Hughes Tŷ eiddew, i'r perwyl ei fod yn dra chydnabyddus â'r Beibl a Gurnal. Fe arferai'r Parch. Richard Humphreys ddweyd am dano na welodd efe mo neb fedrai gloi seiat yn well drwy grynhoi ynghyd wersi yr ymddiddan. Yr oedd yn wrandawr craffus ar bregeth. Bu'n llawer o gyn- orthwy mewn rhai cyfeiriadau i'r achos yma. Yn 1893 neu oddeutu hynny y symudodd Methusalem Griffiths i Beulah. Fe gadwai'r tŷ capel yma, ac yr oedd ei gwmni yno yn sirioldeb i bregethwr. Bu'n wr gwerthfawr yn y lle yma. (Edrycher Beulah).

Fe gyfleir yma atgofion Mr. W. Morris Jones: "Am ryw ddwy flynedd neu dair y bum yn yr ardal hon [neu ynte aelod yn Siloh oedd Mr. W. Morris Jones fel ei frawd, y Parch. T. Morris Jones, Gronant]. Son yr oedd y bobl am y blynyddoedd o'r blaen fel rhai lled lewyrchus ar yr eglwys, sef cyfnod adeiladu'r capel newydd. Sonient lawer am Mr. Humphreys Llanfaglan, Ieuan Gwyllt a Mr. Williams y Fron. Mi fuaswn yn tybied mai dyn o awdurdod a nerth oedd Mr. Humphreys: pawb yn edrych i fyny ato ac yn ei ofni a'i barchu. O ran ei ymddanghosiad, swn ei lais, a grym ei gymeriad fe hawliai barch. Canmolid llafur Ieuan Gwyllt, ac yr oedd ei ol ar liaws o fechgyn a genethod ieuainc yno. Yr oedd rhai o honynt yn gyfansoddwyr gwych. Dygai Ieuan Gwyllt fawr sel dros y rhannau dechreuol o'r gwasanaeth. Pan welai rhywun yn dod i fewn wrth ledio pennill neu ddarllen y bennod, fe safai'n stond. gan ddilyn â'i lygad llym y diweddarion o'r drws i'w seti. Nid anfynych y rhoddai orchymyn cyn dechreu'r bennod i ddal y rhai diweddar wrth y drws hyd nes gorffen darllen. Dyn rhadlon, braf, oedd Mr. Williams y Fron. Nid oedd pall ar ei garedigrwydd i'r eglwys. Yr oedd yn eilun yr ardal. Deuai ag un o brif bregethwyr Nerpwl gydag ef i fwrw Sul yn y Fron, gan drefnu iddo bregethu ddwywaith y Sul hwnnw. Llawer gwledd fel hyn a gafodd yr eglwys yng nghysgod y Fron. Dyn byrr, lysdi oedd Richard Hughes Tŷ eiddew. Athro da ac ysgrythyrwr medrus. Nid oedd ganddo nemor ddawn gweddi, er yn eithaf rhwydd. Yr oedd yr achos yn bur agos at ei galon. Credaf y cawsai gam weithiau, oblegid fod cryn lawer o ddireidi bachgennaidd yn ei nodweddu hyd ei henaint. Ei brif gynorthwy oedd Mrs. Jones Llanfaglan. Ni ŵyr neb y gwasanaeth a fu hi i'r achos. Yr oedd ganddi galon fawr, ac yr ydoedd yn hael a pharod ei chymwynas i'r achos. Y Parch. Richard Humphreys oedd y gweinidog pan ddechreuais i bregethu yn y lle, ein dau ugain mlynedd wedi hynny yn weinidogion yr eglwysi agosaf yn Nerpwl. Un noson yr oeddwn yn dweyd ychydig ar brawf o'i flaen yn y seiat yn bur grynedig, canys fe gadwai ef gryn bellter rhyngddo'i hun a'r aelodau. Digwyddai fod gennyf ddalen o bapur o'm blaen ar y Beibl rhag i mi syrthio i brofedigaeth. Eisteddai Mr. Humphreys yn agos i'r lle yr oeddwn i'n sefyll, ei benelin ar y bwrdd, a'i ben yn pwyso ar ei law. Yn amryfus syrthiodd y ddalen i lawr. Yr oedd arnaf flys ei chodi, a thonn o chwys oer wedi dod drosof; ond pan yn gogwyddo at hynny, beth welwn i ond Mr. Humphreys yn rhoi ei droed ar y papur. Wel,' meddwn wrthyf fy hun, 'does gan y gweinidog ddim meddwl o'm tipyn pregeth, gan ei fod yn ei rhoi dan ei droed.' Wedi i mi gyrraedd y pen ryw lun, meddai Mr. Humphreys wrthyf, Rhoddais fy nhroed ar y papur yn fwriadol rhag i chwi ei godi, ac i geisio'ch diddyfnu oddiwrth yr hen arferiad ffol o ddarllen pregethau.' Da gennyf ddweyd i'r wers brofi'n fendithiol i mi, ac ni fu gennyf bapur o'm blaen fyth ond hynny. Y gweinidog fyddai'n gwneud popeth bron o swydd blaenor, a braidd nad oedd yn hoffi'r gwaith. Credai ef y dylai fod cryn lawer o waith a dirgelion eglwys yn llaw y bugail. Efe fyddai'n galw ar rai ymlaen i gymeryd rhan yn y cyfarfodydd. Clywais ef yn dechre ac yn diweddu ugeiniau o seiadau ei hun. Ei ddull o gadw seiat fyddai gofyn am adnodau. Ni phwysai ar neb am ddim. Os cae adnod, fe siaradai rai prydiau yn odidog arni; brydiau eraill yn hwylio dipyn ar led, fel bydd pawb yn eu tro. Efe fyddai'n gofalu am lyfr casgliad mis ac yn galw enwau, a llithrai dros yr enwau fel mellten, ac ambell un yma ac acw yn gweiddi 'croeswch.' Mr. Humphreys welais i am dymor yn gofalu am y dyddiadur yn y daith. Yr oedd ganddo ei idea ei hun am waith bugail, ac ni wyrodd oddiwrthi hyd y diwedd. Eglwys dawel, heddychol oedd Penygraig, lled ddifywyd, a dim llawer o organeisio yn myned ymlaen ar y pryd; fel nad oedd y bobl fyth yn dod wyneb yn wyneb â mater dyrus. Fel mai anhawdd gwybod beth fuasai hanes yr aelodau pe wedi cael eu hunain mewn dyryswch."

Y mae gan olygydd y Llusern (1889, Chwefror), sef y Parch. R. Humphreys, nodiad ar John Evans, un o gymeriadau y lle. Dyma grynhoad ohono: "Yr oedd John Evans yn un o ddynion goreu y gymdogaeth. Cyflawnodd waith diacon er na ddewiswyd ef erioed i'r swydd. Bu'n foddion i gael gan amryw o drigolion yr ardal brynnu a darllen llyfrau na fuasent yn gwybod dim am danynt onibae am dano ef. Yr oedd yn blaenori yn yr holl gylchoedd crefyddol. Gwnaeth y goreu o'r dalent a ymddiriedwyd iddo. Cafodd well manteision addysg na'r cyffredin, a defnyddiodd ei addysg a'i grefydd foreuol i wneud hynny o ddaioni a allai. Nis gwyddom am neb ag y gellid dweyd y geiriau, Da, was da a ffyddlawn, yn fwy priodol am dano."

Dyma adroddiad ymwelwyr 1885 â'r ysgol: "Yr oedd y pnawn Saboth yr aethom yno yn digwydd bod yn un gwlyb iawn, ac felly yn fanteisiol i gael golwg ar ffyddloniaid yr ysgol yn y lle. Yr oedd pawb yno yn brydlon erbyn dau, er fod gan lawer ffordd faith i'w theithio ar ddiwrnod gwlawog. Ysgol drefnus iawn yr olwg arni. Ae y gwaith ymlaen megys ohono'i hun. Y plant yn darllen yn dda, ac ymdrech yn cael ei wneud i'w dwyn i ddeall yr ysgrythyrau. Darllen lled dda ar y cyfan yn y dosbarthiadau hynach. Yr athrawon heb gymell digon ar aelodau y dosbarth i ofyn cwestiynau, ac weith- iau y cwestiynau yn rhy fân i rai mewn oed. Henry Edwards, John Jones."

Ar ben y graig y gosodwyd y capel. Y mae'r awel yno yn iachus a'r olygfa yn fwyn. Ar ddiwrnod braf o haf, y mae'r olygfa o'r tucefn i'r capel yn glaer, yn amrywiol, yn dawel. Pan yno ar ddiwrnod felly, fe gyfyd gerbron ysbryd un a elai yno weithiau er mwyn y tawelwch a'r claerder a'r mwynder sanctaidd. Fe ddewisodd Ieuan Gwyllt lecyn gerllaw er mwyn y tawelwch a'r agoriad i olygfa eang ar for a thir. Wedi eu gwasgaru bellach y mae teuluoedd lluosog fu'n cyrchu yma ar bob tywydd, y teuluoedd yn lluosog, er mai ychydig oedd ohonynt, ond nid yw eu lle er hynny heb eu hadnabod.

Rhif yr eglwys yn 1900, 53.

NAZARETH.[9]

YN ardal Pontrug y mae capel Nazareth. Saif yr ardal yn rhan isaf plwyf Llanrug, oddeutu dwy filltir o Gaernarvon, ar ffordd Llanberis. Y mae'r Bont yn croesi'r afon Saint ar y briffordd. Ymddolenna'r Saint drwy ddyffryn tlws dros ben ger llaw yma: ymddolenna yma fel yn methu ganddi wneud ei meddwl ar ymadael oddiyma. Adeiladwyd y bont bresen- nol yn 1770. Rhydd Mr. E. W. Evans rif y boblogaeth yn 150 yn 1891.

Fe gyfrifid yr ardal hon cyn sefydlu ysgol Sul yma yn un fwy anystyriol na chyffredin. Yn y gaeaf fe ymgesglid ynghyd ar y Sulian i hel chwedlau a chwarae cardiau, ac ar dymorau eraill i chwarenon ar wahanol fath. Fe geid eraill yn ymroi i herwhela. Y prif fannau y cyrchid iddynt oedd Hafod y rhug isaf a Nant ael gwyn.

Yr oedd yn gwasanaethu yn y Cent yn 1816, John Williams, ar ol hynny o dyrpeg Bodrual; Robert Jones, wedi hynny y Groeslon, Dinorwig; Owen Jones, wedi hynny Tyddyn llwydyn, Morfa Saint; Hugh Jones, a fu'n trigiannu yn y dref wedi hynny; a dechreuodd y rhai hyn ymgasglu at ei gilydd ar feini wrth Bontrug er mwyn darllen y Beibl. Adroddiad arall a rydd 1814 fel yr amser. Pa ddelw bynnag, cyn bod 1816 allan. yr oeddis yn ymgynnull yn y Felin Snisin, a adnabyddid wedi hynny fel y Felin Wen, trigle John Williams, y blaenaf o'r gwŷr a enwyd. Yn y man fe ymgynhullid yn y Felin flawd; yna aethpwyd i'r Odyn; ac yna i'r Cefn neu Gefn y craswr. Ffermdy ydoedd yr olaf sy'n furddyn ers talm bellach, a'r tir wedi ei gysylltu â'r Cefn. Bu'r ysgol yn y lleoedd hyn am oddeutu pum mlynedd. Dau o'r pedwar gwŷr hynny oedd yn proffesu ar y pryd, eithr fe lwyddai'r ysgol yn eu dwylo. Nid yw Cefn y craswr yn sefyll bellach, ond ei safle gynt oedd ar yr un maes ag eiddo'r capel presennol.

Yn 1817 yr oeddid yn symud drachefn i ysgubor Lon glai. Ymhen rhyw flwyddyn o amser fe symudwyd o'r ysgubor i'r tŷ, lle'r arosodd yn ol hynny ysbaid 21 mlynedd. Nodir rhif yr ysgol pan yn cychwyn yn Lon glai fel rhwng 20 a 30. Ond ni ddeuai'r nifer yma'n nghyd gyda'i gilydd. Dyma'r rhifedi o lyfr cofnodion y Cyfarfod Ysgol am Hydref 17, 1819, hyd Ionawr 28, 1821. Rhoir rhif aelodau'r ysgol am y chwech wythnos, yna rhif y penodau fel yma: 64, 112; 58, 118; 59, 131; 69, 132 (a 65 adnod); 49, 162; 62, 103; 58, 50; 57, 42; 49, 87 (a 20 adnod); 59, 54; 58, 134; 58, 40. Yr arolygydd cyntaf y clywodd Mr. E. W. Evans am dano oedd Griffith Evans, Dolgynfydd a'i gynorthwy gyda holi'r ysgol oedd Humphrey Llwyd Prysgol. Deuai'r ddau hyn yma o ysgol y Wern, Caeathro. Methu gan Mr. Evans gael enwau'r ddau y dywedid y deuent i gynorthwyo o'r Ceunant. John Williams. y Felin snisin oedd yr arolygwr nesaf. Gwr cadarn yn yr ysgrythyrau a chrefyddol ei ysbryd. Hugh Williams Rhydygalan oedd yr arholydd. Gwr hynod ei ddywediadau. Yn ei weddi ar ddydd Diolchgarwch fe ddiolchai am fendithion tymhorol. "Ond gwared ni rhag gwneud ein nyth ynddynt: rho nerth i ni wneud ein nyth yng nghangau Pren y Bywyd, lle ni ddaw un barcut of uffern i'w chwalu am dragwyddoldeb." Ei wasanaeth ef ful addysgu'r naill do ar ol y llall o fechgyn am 26 blynedd, a phrofodd ei hun yn dra defnyddiol yn ei gylch. Athro arall oedd Rees Hughes y Fron gyda'i ddosbarth o fechgyn yn y Testament; a John Jones Isallt wedyn gyda'i ddosbarth meibion yn y Beibl. Dau athro oedd y rhai'n yn berchen gwybodaeth eang yn yr ysgrythyr, a bu'r naill a'r llall o wasanaeth dirfawr, er nad oeddynt yn proffesu crefydd. Thomas Evans, tenant Lôn glai, oedd iddo ddosbarth gyda'r merched yn y Beibl, a pharhaodd yn ffyddlon iddo am y deng mlynedd y bu byw ar ol i'r ysgol ddod i'w dy. Eglwyswr selog oedd William, brawd Thomas Evans; ond ar farw Thomas fe gymerodd ofal ei ddosbarth ef. Daeth hefyd yn arweinydd y gân hyd ddyfodiad William Jones Cae rhydau yma o Gaeathro. Pan glafychodd Thomas Evans bu'r ysgol am ystod chwech wythnos yng Nghae'rbleddyn; yna dychwelodd yn ol i Lôn glai. Mary, gwraig Thomas Evans, fu'r unig athrawes yn Lôn Glai yn ystod yr 21 mlynedd y bu'r ysgol yn ei thŷ. Dysgodd ferched yr ardal. i ddarllen. Ni byddai ball ar glodforedd Jane Williams y tyrpeg a Martha Jones Isallt iddi, gan eu bod hwy ill dwy wedi myned heibio'r 35 cyn dysgu'r wyddor; ond ni orffwysai teyrnged eu clod ar hynny, canys fe broffesent fod wedi cael golwg drwyddi hi ar ogoniant trefn yr Efengyl. Pan elai dosbarth Mary Evans weithiau yn rhy luosog, ei chynorthwy fyddai Margared Williams Cefn y craswr; a pharhaodd y ddwy yn ffyddlon i'w gwaith yn yr ysgol ar ol symud i'r capel. Sion Ifan Rhosbodrual a ddysgai sillebu i ddosbarth o fechgyn. Fe dynnai Sion Ifan yng nghlustiau'r bechgyn pan na fyddent esgud i wrando. Geilw Mr. Evans Sion Ifan yn ddernyn of risial clir, a phriodola iddo arabedd, a dywed fod gan y Parch. Dafydd Jones feddwl uchel o'i synnwyr.

Adroddid y Deg Gorchymyn gan bob dosbarth yn ei dro ar y Sul. Wedi i'r dosbarth gyda'i gilydd adrodd y Deg Gorchymyn, fe fyddai rhyw un ohonynt yn adrodd y gweddill o'r bennod. Ni oddefid ail-adrodd yr un wers am o leiaf chwech wythnos, ac fel ail-adroddiad y cyfrifid pan wneid hynny. Yr oedd yr un deuddeg rheol ganddynt ag y cyfeirir atynt yn hanes' ysgol Caeathro. Ysgrifennid ar le amlwg y materion yr oeddid i holi arnynt am amser penodedig. Y mae Mr. Evans yn nodi un mater, sef, "Y diafol: beth a feddylir wrth y diafol? Ysbryd aflan syrthiedig yw yn gwrthryfela yn erbyn Duw. Gwel Judas i. 6." Dafydd Robins Pengelli, hen gymeriad yn ei ffordd, a ofalai am y materion.

Yn ystod cyfnod Lôn glai fe ae'r cyfarfod gweddi wythnosol ar gylch, ond y gofelid am i'r cyfarfod gweddi misol fod yn sefydlog yn y Lôn glai. Ymhen encyd o amser fe ddechreuwyd cael ambell bregeth yn y prynhawn yma. Yn y modd yma fe geid gwasanaeth John Humphreys y nailer, John Wynne, Mr. Lloyd, Dafydd Pritchard Pentir.

Yr oeddid yn arfer rhannu'r ardal yn ddosbarthiadau a phenodi rhai i fyned drwyddynt gan wahodd esgeuluswyr. Cychwynnwyd casgl yn yr ysgol i'r amcan o godi ysgoldy. Gyda pheth ymdrech y cafwyd tir i adeiladu gan y Faenol. Fe ddywedid mai'r ymresymiad a yrrodd yr hoel adref ydoedd eiddo Roberts y Crug, sef fod eisieu rhywle i gymeryd y plant drwg a chwalai'r cloddiau ac a laddai'r cwningod ar y Suliau.

Sicrhawyd prydles y tir yn 1840 am 99 mlynedd ar rent o bum swllt y flwyddyn. Dechreuwyd adeiladu yn 1839 yn y fan y saif y capel presennol. Yr oedd y bobl yn ewyllysgar i weithio o'r plentyn hyd yr henwr. Fe gynhwysid lle yn yr ysgoldy i 128. Rhoddwyd y bregeth gyntaf yno gan Daniel Jones Llanllechid; ac efe, hefyd, a roes yr enw Nazareth arni. Byddai ganddo ef ryw air yn ei bregeth fel bwrdwn, a'r bwrdwn y tro yma ydoedd, A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Tebyg fod rhyw gyfeiriad ganddo at anystyriaeth y lle gynt, anystyriaeth fe ddichon yn parhau i fesur hyd y pryd hwnnw. Edward Owen Cefn y craswr oedd yr arolygwr cyntaf. Un ar y blaen mewn gallu a ffyddlondeb gyda'r ysgol oedd Thomas Evans y Sarn.

I Foriah yr ae y nifer mwyaf ar nos Sul, ac yno hefyd yr aent i'r seiat ganol wythnos. Tua 1856 fe ddechreuwyd cael y pregethwr o Foriah ar brynhawn Sul. Fe ddeuai yma yng nghwmni y blaenor Dafydd Rowland. Ac fe ddywedir y byddai esgeuluswyr yn gyffredin yn ffoi o'i ŵydd ef a'r pregethwr ar y ffordd. Fe fanteisiodd Nazareth ar y cysylltiad â Moriah, a bu lliaws o bregethwyr yma o bryd i bryd na fuasid yn disgwyl fyth eu gweled ond am y cysylltiad hwnnw. Bu Dafydd Rowland yn dod yma ar ganol yr wythnos, hefyd, i gynorthwyo gyda chynnal y gwaith ymlaen. Fe barhaodd ei enw yn hir yn barchedig yn y lle hwn. Y mae gan Mr. Robert Roberts New Street rai atgofion. am ddiwygiad 1859 yma. Dywed ef fod yr ardal yn llawn tân y pryd hwnnw. Darfu i liaws ymuno â chrefydd ar y pryd, ond yn colli gafael ar ol hynny. Dywed fod troedigaeth Rowland. Jones yn un hynod. Dyn go feddw yr arferai ef fod, anheilwng ei iaith, ac heb ddilyn moddion gras. Fe'i cymhellwyd i fyned. i wrando ar ryw wr poblogaidd. Gwaeth ei dymer ydoedd ar ol yr oedfa, ond distawach ei ddull yr un pryd. Myned i ffair y gaeaf yn y dref. Cael ei hun ar drothwy yr hen Grown isaf, -adnabyddus fel y cyfryw y pryd hwnnw, nid y Crown isaf di- weddarach. Agor y drws-y stafell yn llawn o ferched isel y dref. Cau y drws yn y fan mewn gradd o ddychryn, a myned adref ar ei union, a phan ddaeth noson seiat myned yno. Tebyg fod seiadau yn Nazareth ynglyn â chyfarfodydd y diwygiad. Nis gallai Rowland Jones ddarllen fawr o drefn y pryd hwnnw, ac ni ragorodd yn hynny wedi hynny; ac ni feddai ddawn siarad chwaith. Er hynny fe wnaeth fwy o waith, ebe Mr. Roberts, na neb a fu yn y lle. Ond er heb fod yn siaradwr, yr oedd yn weddiwr; ac yr oedd ynddo ffyddlondeb heb fyth ball arno. Yn niwedd Tachwedd neu yn nechre Rhagfyr, 1864, y ffurfiwyd eglwys yma. Edward Roberts y Ceunant a roes y bregeth gyntaf ar ol sefydlu'r eglwys, sef ar y Sul, Rhagfyr 4, 1864. Y blaenoriaid cyntaf,—Rowland Jones Tyddyn hen, Tŷ gwyn wedi hynny, a Richard Evans Cae garw. Ymadawodd yr olaf â'r gymdogaeth am ysbaid i ddychwelyd yn ol yn 1891. Y rhai fu yma yn ffurfio'r eglwys ac yn galw swyddogion, Y Parchn. Dafydd Morris a William Herbert ynghyda Dafydd. Rowland. Yr aelodau yn y seiat gyntaf: Richard Evans Caegarw (Pengelli wedi hynny), William Evans eto, Rowland Jones, Catherine Jones ei wraig, John Peters Glanrafon, Mary Evans Lôn glai, Ellen Edwards tŷ capel, Ellen Jones Tyddyn pisla, Margaret Griffiths Erw pwll y glo, Jane Williams Pengelli, Catherine Jones Radan.

Trefnwyd Nazareth yn daith â Chaeathro, a phery y cysylltiad o hyd.

Yn niwedd 1866 daeth William Jones Caerhydau yma o Gaeathro. Daeth yma yn bennaf er mwyn bod o gynorthwy i'r canu.

Yn 1870 fe sefydlwyd y Gobeithlu a'r Cyfarfod Llenyddol. Yn 1875 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: William Jones Caerhydau a John Owen Penycock. Yn fuan wedyn daeth John Humphreys a John Owen yma o Fetws Garmon. Yr oeddynt ill dau yn swyddogion yno a galwyd hwy i'r swydd yma. Yr un flwyddyn y sefydlwyd cyfarfod gweddi'r bobl ieuainc.

Yn nechre 1880 y dechreuodd W. Jones-Williams Cae Darby bregethu. Symudodd oddiyma i fugeilio eglwys Peniel, Beddgelert, yn 1889.

Yn nechre 1881 tynnwyd yr hen gapel i lawr ac adeiladwyd un mwy yn ei le. Yn ystod yr adeg yma cynhaliwyd y gwasanaeth yn Ysgoldy'r Bwrdd. Traul yr adeiladau, £550. Cynhwysa le i 212. Agorwyd y capel ym Medi. Gwasanaethwyd ar yr agoriad gan Francis Jones, Owen Edwards, B.A. (Caernarvon), Robert Thomas (Llanllyfni), Evan Jones Moriah, Griffith Roberts Carneddi, Evan Roberts Engedi. Talwyd y ddyled yn gyflawn erbyn 1886, gyda chynorthwy arbennig (Miss) Jones yr Erw. Bu ei chynorthwy hi'n dra gwerthfawr yma ar hyd y blynyddoedd, ac yn ei hewyllys fe adawodd £200 i'r lle. Er na fu hi'n aelod eglwysig, fe goleddid syniad uchel ymherthynas â hi gan bawb.

Yn 1886 fe deimlid rhyw ddylanwad neilltuol am ysbaid amser yng nghyfarfod gweddi'r bobl ieuainc. Ffrwyth y cyfarfodydd hyn oedd i Michael R. Owen a John W. Jones ddechre pregethu. Dechreuodd y blaenaf yn 1886; fe dderbynid yr olaf yn aelod o'r Cyfarfod Misol yn 1889, ac yn 1895 symudodd i fugeilio eglwys Llanfairtalhaearn.

Yn Hydref, 1887, bu farw John Humphreys, yn flaenor rhwng yma a Betws Garmon ers dros 28 mlynedd. Dywed Mr. Evans am dano ei fod yn wr caredig, a chymhwysa ato eiriau un bardd am y llall, sef ei fod yn llawn digrifwch a'i lond o grefydd." Dywed ei fod yn ieuengaidd a thirf o ran ei ysbryd hyd y diwedd; a'i fod yn ganwr, yn ol yr hen ddull, lled dda; ac yn wasanaethgar gyda hynny; yn athro llwyddiannus; yn hynaws gyda'i gyfeillion; yn gwir ofalu am yr achos. Ar ol marw John Humphreys dewiswyd yn flaenor William W. Jones Caerhydau. Yn 1891 derbyniwyd i'r Cyfarfod Misol fel blaenoriaid: Robert Edwards, Richard Evans. Ionawr 31, 1896, bu farw Rowland Jones Tŷ gwyn, yn flaenor yma er 1864. Yn 1899 derbyniwyd yn flaenoriaid yn y Cyfarfod Misol: John Jones, Robert Jones, H. J. Humphreys. Yn 1899 rhowd galwad i Mr. W. O. Jones fel gweinidog, yr un pryd ag yng Nghaeathro.

Fe gyfleir yma atgofion Mr. W. Jones-Williams: "Yr oeddwn yn llafn tua deg neu ddeuddeg oed pan ddechreuais fyned i gapel Nazareth oddeutu'r flwyddyn 1870. Cof gennyf am fy nhad cyn hynny yn myned o Ben y gelli wen i glywed ambell un o'r cewri a ddeuai i Foriah, gan gerdded o ddwy i dair milltir o ffordd. Er nad oedd ef yn grefyddwr, nid oedd neb mwy awyddus i glywed pregethwr da nac yn cofio pregeth yn well. Yr oedd hynny o tua 1866 ymlaen. Pan symudasom i Gae Darby tua 1869, bum yn myned am ysbaid drachefn i Foriah; ond yn lled fuan mi ddechreuais fyned gyda phlant ac eraill o gymdogaeth Rhosbodrual i Nazareth. Aethum yno i'r ysgol i gychwyn, ac wedi hynny yn gyfangwbl, er i'm rhieni a rhai eraill o'r teulu ddal i fyned i Foriah. Fy nghof cyntaf am Nazareth yw myned yno i'r ysgol gyda phlant Bodrual, y fferm nesaf, ac yn deulu lluosog. Cof gennyf mai i ddosbarth Owen Owens y Felin wen yr aethum, gyda'm cyfaill a'm cyd-chwareuydd, Griffith Elwyn Jones, a adnabyddid ar ol hynny fel Elwyn, gwr ieuanc talentog, adnabyddus iawn yng Nghaernarvon, ac a ddaearwyd yn rhy gynnar. Ysgol fechan oedd yno, tua 50 neu 60 ar gyfartaledd, mi allwn feddwl; ond ysgol fyw a gweithgar. Cof gennyf am Rowland Jones y Rhydau yn dysgu A B i'r plant bach; Owen Owens yn eu dysgu i sillebu a darllen; Richard Jones y Rhydau yn dysgu darllen y Testament; Richard Evans Caegarw, Harry Griffith Brynrhug, John Owen Penycock, William Jones Caerhydau yn ochr y merched. Nid oes yn aros yn awr ohonynt ond yr olaf a nodais. Mi ddechreuais i bregethu yn yr hen gapel yn 1880. Hen adeilad ysgwar, y pulpud rhwng y ddau ddrws, sêt fawr gul iawn, a chodiad ar y llawr, fel yn yr hen gapelau; yn cael ei oleuo à chanwyllau. Y blaenoriaid cyntaf oedd Rowland Jones a Richard Evans. Y dechreuwr canu oedd. William Jones Caerhydau, swydd a gyflawnodd yn ffyddlon am flynyddoedd lawer. Yn y cyfarfod gweddi bob yn ail nos Sul byddai'r un rhai hyn yn cymeryd rhan yn o fynych. Mae gennyf atgof byw am amryw ohonynt; a rhai hynod mewn gweddi oeddynt, bob un yn ei drefn ei hun. Hen frawd hynod ar fwy nag un cyfrif oedd Rowland Jones: yr oedd iddo hanes hynod. Brodor o Fón ydoedd, o ardal Gwalchmai mi gredaf. Credaf mai at y diweddar Mr. John Rea, a gadwai ar y pryd westy'r Sportsman, ac amryw ffermydd yng nghymdogaeth y dref, y daeth i wasanaethu. Bu Mr. Rea yn dal tollborth y Bont Saint am beth amser, a bu Rowland Jones a'i briod yn ei gadw iddo; yr hyn a ddengys, er nad oedd efe y pryd hynny yn grefyddwr, yr ymddiriedaeth oedd gan ei feistr ynddo. Ni fedrai y pryd hwnnw prin lythyren ar lyfr, a lled ofer ei fuchedd ydoedd. Cedwid y cyfrifon gan ei briod. Cof gennyf glywed fy nhad, a oedd yn feili ar y pryd i Mr. Rea, yn adrodd hanes troedigaeth Rowland Jones. Ar un noson, ac efe ynghydag eraill yn dychwelyd o dafarn yn y dref, ceisiwyd ei lithio gan ddynes ddigymeriad adnabyddus yn y dref, ac yntau yn wr priod ac yn dad i blant. Penderfynodd y pryd hwnnw na welid mohono yn myned dros drothwy tafarn ond hynny. [Gall yr hanes hwn yn hawdd fod yn wir cystal a'r un arall a roddwyd o'r blaen am yr un gwr.] Felly fu. A buan iawn yr ymunodd â'r eglwys ym Moriah. Gyda chynorthwy ei briod fe ymdrechodd yn awr ddysgu darllen. Mi glywais fy mam yn son fel y byddai efe, ar ol dychwelyd oddiwrth ei waith ar hwyrddydd haf, â'i lyfr bach yn ei law yn dysgu sillebu ar step y drws, a'i wraig yn ei gynorthwyo ar yr un pryd ag yr ae ymlaen gyda gwaith y tŷ. Symudodd yn fuan i fyw i'r Rhydau, lle unig iawn ar lan afon Cadnant, rhwng tir Pengelli Lloyd a thir Tŷ slaters; a lle i gadw buwch neu ddwy. Tra yma aeth i weithio i'r chwarel; a magodd yma lond tŷ o blant. Bu un o'r plant, Richard Jones, yn aelod gwerthfawr am flynyddoedd yn Nazareth ac yn athro yn yr ysgol. Yr oedd Rowland Jones yn weddiwr anghyffredin iawn, yn nodedig o afaelgar ar adegau. Nid oedd yn ysgrythyrwr cadarn, ond yr oedd ganddo ymadroddion o'r ysgrythyr yn ei weddïau, megys 'cilfach a glan iddi,' 'caned preswylwyr y graig,' 'fy nhrugaredd ni chilia oddiwrthyt a chyfamod fy hedd ni syfl,' 'ni ryglyddais y leiaf o'th drugareddau,' ac eraill. Ganddo ef y clywais i hwy yn fachgen cyn i mi wybod am yr adnodau lle ceir hwy. A chofio ei anfanteision, yr oedd yn rhagorol am gadw seiat: byddai'n bur sicr o gael gafael ym mhrif fater pregeth y Sul blaenorol a gallai wneud defnydd da ohono. Am Mr. Richard Evans, brodor o Fon ydoedd yntau, wedi ei ddewis yn flaenor yn wr lled ieuanc. Ganger ydoedd ar y plate-layers rhwng Caernarvon a Griffith's Crossing. Dyn dymunol yd- oedd, lled ddeallgar yn yr ysgrythyrau, o synnwyr cyffredin cryf a barn dda. Symudodd ef i fyw i Gae'r mur ar ffordd Bethel, ac ymaelododd am rai blynyddoedd yn Siloh; symudodd drachefn i Bengelli 'Rasmws, gan ymaelodi yn Nazareth dra chefn. [Edrycher Siloh.] Ystyrrid Mr. William Jones y Rhydau yn arweinydd diogel gyda'r canu; ac y mae efe'n englynwr ac yn llenor Cymraeg lled addfed. Bu'n gaffaeliad mawr i'r achos. Iddo ef gynt, y rhan fynychaf, yr ymddiriedid dechreu'r moddion. Gwnae hynny'n dda a synwyrlawn. Yr oedd yn ddarllenwr deallus a llithrig; ac yn athro goleuedig yn yr ysgol. Y mae'n haeddu parch oherwydd ei waith. Caffed hwyrddydd tawel! Daeth y Mri. Humphreys ac Owen o Fetws Garmon i gadw'r gwaith cerryg sgrifennu. Buont yn adgyfnerthiad mawr i'r achos. Dyma'r blaenoriaid oedd yn Nazareth yn fy amser i, ac y mae gennyf lond fy nghalon o barch i'w coffadwriaeth.

"Yr oedd gennym nifer dda o hen frodyr, heb fod mor ryw amlwg, ond yn gymeriadau gwreiddiol a nodedig. Nid y lleiaf oedd Dafydd Jones Glanrafon. Yr oedd ef yn amaethwr parchus ac yn meddu ar safle fydol glyd. Nid oedd yn aelod eglwysig, ond eto â llaw go amlwg ganddo, mi gredaf, yn adeiladu'r capel cyntaf; yn aelod selog o'r ysgol yng nghwrr y sêt fawr; ac yn y gadair dan y pulpud yn gwrando'r bregeth; ac i ni'r plant, Dafydd Jones Glanrafon oedd archesgob Lôn glai. Ni fynnem gellwair yn ei bresenoldeb, a bu'n gryn gefn, fel y deallaf, i'r achos yn ei gychwyn. Y mae gennyf gof byw am Sion Ifan yr iard. Yn iard Rhosbodrual y trigai ef a Jinni Ifans ei wraig. Brodor o Fon oedd Sion Ifan yntau hefyd. Cyrhaeddodd rai o'i feibion safleoedd pwysig. Capten David Evans Nefyn sydd mewn safle forwrol bwysig; Mr. Hugh Evans yn flaenor gwerthfawr yn Pendleton; Mr. Evan Evans Penymaes yn flaenor rhagorol yn Llwyndyrus. Ym Moriah yr oedd Sion Ifan yn aelod, ond y rhoddai lawer o'i amser yn Nazareth. Cododd do ar ol to o blant i ddysgu darllen yma. Byddai ym mhob cyfarfod gweddi yn Nazareth. Sych ydoedd fel gweddiwr, ond cyflawn ac ysgrythyrol. Soniai am y cwningod ac am gywion yr estrys ac am Gog a Magog ac am lawer o bethau nas gwyddwn i eu bod yn y Beibl. Yr oedd ganddo stôr o benillion yn ei gof. Anaml y lediai yr un pennill fwy nag unwaith. Efe a glywais i gyntaf erioed yn ledio'r penillion, Mae'r Efengyl ar farch gwyn, Plant caethion Babilon, Teg wawriodd arnom ddydd, Henffych i'r bore hyfryd, a lliaws mawr eraill. Byddai'r hydau anghyffredin yn brawf llym ar William Jones, ond ni welais mono ef erioed na ddeuai o hyd i'r dôn briodol. Harry Griffith Brynrhug a eisteddai bob amser yng nghornel y sêt fawr er nad oedd yn flaenor. Yswiliem ni'r plant rhag ei ofn, am y golygem ef yn wr mor dduwiol. Nid oes cof gennyf i mi ei weled erioed mewn gweddi na byddai ei ddagrau yn rhedeg yn ffosydd ar hyd ei rudd'au; ac y mae'r dagrau hynny i mi yn gysegredig y funud hon. Taerineb oedd nodwedd ei weddïau ef. Ail a thrydydd adroddai adnodau mawrion y Testament Newydd: Bywyd wedi ei guddio, Dim damnedigaeth, Gwaed Iesu Grist ei Fab ef yn glanhau, ac eraill. Mynych adroddai hwy nes cynhesu pawb o'i amgylch. Yn syniad pawb ohonom, sant oedd Harry Griffith. Gwr arall cwbl wahanol oedd Sion Peter Glanrafon. Gwasanaethu yr oedd ef yn Glanrafon, Llanrug, cartref y Parch. Michael R. Owen, Brymbo erbyn hyn. Hen lanc o ardal Dolgelley neu Drawsfynydd a'i leferydd yn ei gyhuddo, gyda'r cia yn amlwg ganddo. Nid oes cof gennyf am dano yn darllen yn gyhoeddus ond o'r Salmau; a Salmau cân Edmwnd Prys a roddai allan fynychaf i'w canu, a medrai eu hadrodd yn ystyrlawn. Y gwr ni rodia, Dywed i mi pa ddyn a drig, Yr Arglwydd yw fy mugail clau, ac eraill y dysgais eu hadrodd wrth wrando arno ef yn eu ledio. Cymeriad nodedig oedd Sion William y Sarn, chwarelwr wrth ei alwedigaeth, ffyddlon yn yr ysgol, yn dipyn o wleidyddwr, diwinydd a cherddor. Ei fab hynaf ef, William, lafuriodd fwyaf gyda'r plant o neb yn fy amser i. Dysgai i ni gerddoriaeth yn bennaf. Llyfr Eleazar Roberts, Hymnau a Thonau i blant—fyddai gennym, ac mae'n debyg nad oes ei hafal. Gwnaeth lawer yn y cyfeiriad hwn a dichon na chafodd y gefnogaeth a haeddai. Ymadawodd â'r ardal tra'r oeddem yn blant, ond erys ei enw'n annwyl gennym ni a fu dan ei addysg. Ellen Edwards y tŷ capel, un o ferched Lôn glai, oedd wraig ragorol arall, gall, tra chrefyddol, uchel ei pharch gan bawb. Thomas Lewis y tŷ capel, gwresog yn ei ysbryd, porthwr aiddgar yn y gwasanaeth, parod i bob gwaith. Efe oedd y cyntaf a glywais i yn gorfoleddu â'i ddwylo i fyny, ac yn rhwystr i'r pregethwr druan. Aelod yn Siloh ydoedd yn niwedd ei oes, a mab iddo ydyw Mr. William Lewis, sydd yn swyddog gwerthfawr yn Siloh. Mae gennyf gof am William Evans Lôn glai. Heb fod yn aelod bu'n wasanaethgar gyda'r canu yn yr ysgol yn Lôn glai ac am ysbaid yn y capel. Eglwyswr oedd am ran o'r Sul. Heb fod yn aelod, yr oedd William Owen y ffactri yn athro diwyd yn yr ysgol ac yn gefn lled dda i'r achos. Y fwyaf nodedig o bawb ynglyn â'r achos oedd Miss Jones yr Erw. Yn gyfoethog o bethau'r byd bu'n gefn mawr i'r achos, er heb fod, hithau chwaith, yn aelod eglwysig. Hi groesawai weision yr Arglwydd yn llawen i'w thy; yr oedd ei dyddordeb ym mhethau crefydd yn fawr; ac ni amheuodd neb ei chrefydd a'i hadnabu. Pan oeddwn yn dechre pregethu, hi deimlai ddyddordeb mawr ynof. Cawn wahoddiadau mynych ati, ac ni chawn ddychwelyd yn waglaw. Y mae ei choffadwriaeth yn fendigedig.

"Dylaswn fod wedi cyfeirio at wasanaeth y Parch. John Williams Siloh, pan ydoedd yng Nghaeathro yn cadw ysgol. Deuai yn o gyson atom i gadw seiat. Yr oedd yn rhagorol am gadw seiat. Ni chlywais ond un gwell, sef David Morris: yr oedd ef yn ardderchog; ond anfynych y caem ni ef." Peth hynod yn hanes Nazareth ydyw'r lliaws a fu yn wasanaethgar i'r achos yma heb fod yn aelodau eglwysig. Fe arferai Thomas Roberts Bethesda ddweyd yn gynnil, yn y ffordd oedd ganddo ef o awgrymu peth, nad allem ni ddim dweyd yn briodol am y dosbarth hwn o bobl nad oeddynt hwy ddim yn broffeswyr crefydd. Fe awgrymai fod eu hymlyniad wrth achos crefydd a'u gwasanaethgarwch ynddo'i hun yn broffes. Gresyn yr un pryd i'r cyflawn broffes beidio â bod yn eu hanes. Dyma sylw ymwelwyr 1885 ar yr ysgol: "Y mae yma ffyddlondeb mawr yn wyneb llawer iawn o anfanteision. Gellid gwella'r gyfundrefn o weinyddu addysg i'r plant, ac, o bosibl, drefnu lle iddynt mewn congl o'r capel, i ddysgu'r wyddor gyda'i gilydd. Gyda golwg ar yr arholiadau y gŵyn yma ydyw fod y naill arholiad yn dyfod ar draws y llall. John Davies, Thomas Jones."

Rhif yr eglwys yn 1900, 62.

A ddichon dim da ddyfod o Nazareth? Tyred a gwel.

CASTLE SQUARE.[10]

FE hysbysir yn y Goleuad am Ragfyr 17, 1870, y daethpwyd i'r penderfyniad ychydig amser cyn hynny i adeiladu capel Saesneg yn y dref, a dywedir fod £300 eisoes wedi eu haddaw tuag at yr amcan. Bu oediad gyda'r gwaith, pa wedd bynnag. Y Sul, Tachwedd 9, 1873, y cynhaliwyd y gwasanaeth Saesneg cyntaf yn ysgoldy Turf Square gan y Parch. Owen Edwards, B.A. Adeiladwyd yr ysgoldy gan Moriah, a throsglwyddwyd yr hawl iddi i'r eglwys Seisnig. Traul yr adeilad, £800; talwyd £550 am y tir. Pan adeiladwyd y capel yn Castle Square, prynnwyd yr ysgoldy yn ol gan Foriah am £800.

Bu W. P. Williams a Lewis Lewis, blaenoriaid o Foriah, yn cynorthwyo gyda'r gwaith am rai misoedd ar ol ei sefydlu. Awst 2, 1874, y cynhaliwyd yr ysgol gyntaf yma. Daeth 31 ynghyd. Awst 28, 1874, y dewiswyd y blaenoriaid cyntaf, sef, Hugh Pugh Llysmeirion; Walter Hughes, goruchwyliwr banc y maes; James Evans yr Herald. Ymadawodd Walter Hughes ym mhen ysbaid yn ol i Foriah, ond nid cyn bod o wir wasanaeth yma. Yr ydoedd ef yn wr o allu a chraffter naturiol pell uwchlaw y cyffredin, ac o gyrhaeddiadau amrywiol, heblaw ei fod wrth ei alwedigaeth wedi ei ddisgyblu mewn cyfeiriadau neilltuol; a manteisiodd yr achos ar ei adnoddau helaeth. Ar ddiwedd 1874 yr oedd rhif yr eglwys yn 48; y plant, 20; y gynulleidfa, 100; yr ysgol, 80; ac yr oedd yr holl gasgliadau yn £206 11S. 3c.

Y bugail cyntaf oedd y Parch. Hugh Josua Hughes o Lacharn sir Gaerfyrddin. Penderfynwyd ei alw, Ebrill 28. 1875. Ymadawodd Mai, 1877. Yr ydoedd ef yn nai i'r Esgob Josua Hughes Llanelwy. Nid ydoedd o gwbl yn anhebyg i'w ewythr o ran ei berson a'i ddawn a'i ysbryd. Dyn yn hytrach yn fychan, yn llai na'r esgob; o brydwedd tywyll fel yntau; a chyda rhyw debygrwydd go amlwg ym mynegiant pryderus y wyneb. Yr oedd dawn siarad y ddau nid yn anhebyg, ond bod yr esgob yn hytrach yn gryfach ac yn ddifrifolach. Yr oedd arddull Saesneg y nai yn rhwydd a llawn, fymryn bach. yn flodeuog a mursenaidd; ac yn y nodweddion olaf yma yn ymadael oddiwrth gynllun ei ewythr. Nid oedd gyn gryfed cymeriad a'i ewythr yn hollol, ond eto yn ddyn dymunol a da a diniwed. Ysgrifennodd gofiant Saesneg i Howel Harris ar gais Cymdeithasfa'r De.

Rhagfyr 2, 1877, dewiswyd yn flaenoriaid: T. W. Fergus, y post, T. O. Jones, W. B. Jeffrey, David Thomas Bryngwyn, John Thomas y county surveyor. Ymadawodd W. B. Jeffrey i'r America. Yr ydoedd ef yn wr siriol, boneddig, goleu ei feddwl. Ymddiswyddodd John Thomas yn 1883. Fel y gallesid disgwyl oddiwrth y swydd a ddaliai, yr ydoedd yn wr o beth diwylliant mewn amrywiol gyfeiriadau, a bu o wasanaeth gyda'r achos. Albanwr ydoedd T. W. Fergus, ac yr ydoedd yn wr serchog, tyner, gwybodus, a bu am ysbaid o ddefnydd yn y lle.

Rhagfyr 16, 1879, daeth y Parch. Owen Edwards, B.A., yma o eglwys Seisnig Llanelli fel bugail.

Yr oeddid wedi prynnu'r tir y saif y capel presennol arno rai blynyddoedd cyn adeiladu. Rhowd £1,400 am dano. Agorwyd capel Castle Square, Gorffennaf, 1883. Traul yr adeilad,. gan gynnwys manion, £2,809 2s. 2g. Cyfarfod gweddi y teimlid presenoldeb y meistr ynddo ydoedd y cyfarfod gweddi olaf yn Turf Square. Cyfarfod gweddi ar fore Sul ydoedd y cyfarfod cyntaf yn Castle Square. Rhowd y bregeth gyntaf yma, megys yn yr hen adeilad gan y gweinidog erbyn hyn, sef Owen Edwards, oddiar I Petr ii. 4, 5. Y pnawn a'r hwyr pregethodd y Prifathro T. C. Edwards oddiar Hebreaid iv. 9 a I Cor. xv. 57. Pregethodd y Prifathro nos Lun ar I Cor. xv. II, ac yn Gymraeg ym Moriah oddiar I Cor. vii. 29-31. Nos Wener pregethwyd yn Castle Square gan D. Charles Davies. Cynhwysa'r capel le i 390. Y mae'r oriel gyf- erbyn a'r pulpud yn rhydd i bawb, a llwyddwyd o bryd i bryd i gael esgeuluswyr i ddod yno. Y mae'r capel ei hun yn un hardd a da, ac yn addurn i'r maes lle saif. Ysgrifennydd yr adeiladu ydoedd M. T. Morris. (Goleuad, 1883, Gorffennaf 21, t. 12).

Dechreuodd J. Glyn Davies bregethu yma, a derbyniwyd ef i'r Cyfarfod Misol yn 1885. Ymadawodd yn weinidog i'r capel Saesneg, Aberystwyth, yn 1887.

Mai 5, 1886, ymadawodd y gweinidog, Owen Edwards, gan fyned i Awstralia er mwyn ei iechyd. Ymgymerodd yno â gofal eglwys bwysig ym Melbourne. Bu farw yno Mai 23, 1893. Yr ydoedd yn hanu o hen gyff Methodistiadd da yn Llanuwchllyn, ac yn gefnder i Mr. O. M. Edwards. Yr oedd cryn debygrwydd, hefyd, rhwng y ddau o ran ymddanghosiad, o ran mynegiant y wynepryd, ac o ran y galluoedd meddyliol a'r nodweddion ysbrydol. Nid oedd efe mor dal a Mr. O. M. Edwards; ac yn ei ddull fel siaradwr yr oedd yn fwy cyffrous. Yn y prydwedd a'r llygaid duon, gloewon yr oeddynt yn dra thebyg; a'r un modd yn eu dull nawsaidd, eu cyflymdra meddyliol, eu hoenusrwydd mewn corff a meddwl, a'u dyhead ysbrydol. Ni ymroes y gweinidog i lenora; ond yr hyn ydyw'r llenor o Lanuwchllyn o ran ei arddull, hynny ydoedd y gweinidog yn ei bregethau o ran ei ddull: pelydrai ryw athrylith nwyfus ac ysbrydolrwydd ysgafn yn null y naill cystal ag yn arddull y llall. Ymroes Owen Edwards i lafur fel gweinidog. Yn ei amser ef yr adeiladwyd y capel presennol, a gweithiodd yn ddifrif gyda hynny. Aeth yn ddwfn i serchiadau'r eglwys, a thrwy ei ddull serchog, ei gymeriad uchel, a'i ddawn fel pregethwr fe ddylanwadodd er daioni ar liaws o bobl ei ofal ymhlith yr ieuainc ac ymhlith rhai hyn. Yr ydoedd yn Llundain. ym mis Chwefror, 1883. Medrai fod yn rhydd a brawdol, pan gyfarfyddent â'i gilydd, gyda gweinidog cryn lawer yn iau nag ef, ac heb gymeryd arno y gronyn lleiaf o uchafiaeth. Bu'n gwrando mewn odfeuon canol dydd ar Joseph Parker a Baldwin Brown. Gogleisid ef gryn dipyn gan ergydion doniolwych y blaenaf. Mawr y blas a gaffai wrth adrodd yr ergyd honno, —"There was a time when I was an advanced thinker!" Ond er y blas a gawsai ar y blaenaf fe edmygai'n fwy goethder hunan-ataliol yr olaf; a rhoe fynegiad i'r farn fod y coethder uchelddisgybledig hwnnw wedi'r cwbl yn myned ymhellach o ran gwir ddylanwad na'r campau ymadrodd doniol-ddigrif yn y llall.

Yn nechre 1887 daeth y Parch. J. Varteg Jones yma fel bugail. Yn Everton Brow, Nerpwl, yr ydoedd ychydig cyn hynny. Yn fuan wedi i'r gweinidog ddod yma, a thrwy ei ymdrech ef yn bennaf, dygwyd organ gwerth £272 i'r gwasanaeth, sef y gyntaf o'i rhywogaeth mewn capel Methodist yn y dref, os nad yng Ngogledd Cymru. O ddiffyg iechyd bu raid iddo yntau ymadael am ei gartref genedigol, sef Varteg, sir Fynwy, lle bu farw, Chwefror 16, 1888, yn y 47 flwydd o'i oedran. Ceir y sylwadau yma arno yng nghofnodion y Cyfarfod Misol am Mawrth 19, 1888: "Yr oedd yn bregethwr grymus, ac yn weinidog cymwys y Testament Newydd. Yr oedd y gwaith a wnaed ganddo yng Nghaernarvon gydag eglwys Castle Square yn waith y mae, ac y bydd eto yn ddiau ffrwyth iddo. Yr oedd ei dduwioldeb yn ddwfn ac yn amlwg. Ymneilltuai bob dydd i ddarllen, myfyrio a gweddio—i fyned, fel y dywedai ef ei hunan, drwy y process o farw." Meddai ar ddawn siarad anarferol a geiriadaeth eang, er fod yr arddull yn orreithegol. (Drysorfa, 1888, t. 149.)

Yn 1887 dewiswyd yn flaenoriaid: Cadwaladr Williams, William Skenfield, John Williams a Niel Macmilan. Symudodd W. Skenfield i Gaerlleon a N. Macmilan i Glasgow. Mai 16, 1887, bu farw Hugh Pugh, yn flaenor yma ers 13 blynedd. Daeth i'r dref o Bwllheli, a bu'n aelod ym Moriah am o 6 i 7 mlynedd. Gan ei fod yn wr cyfoethog, fe'i galluogwyd ef i fod o gynorthwy ariannol i'r eglwys. Ei nôd mwyaf arbennig ydoedd ei ffyddlondeb gyda'r ysgolion cenhadol yn y dref, sef Glanymor ac yn enwedig Mark Lane. Bu'n arolygwr yn yr olaf am lawer o flynyddoedd. Fe ddanghosai gydymdeimlad neilltuol â'r ysgolion eraill o'r un rhyw yn y dref. Yr oedd yn rhyddfrydwr selog, ac yn arweinydd y blaid yn y dref a'r sir. Efe ydoedd yr un a lwyddodd gan Jones-Parry Madryn i ddod allan fel ymgeisydd yn etholiad 1868. Merch i Syr Hugh Owen ydoedd ei briod, ac yr ydoedd hi yn gefn iddo yn ei gynorthwy i'r achos. Gyda'i gynneddf ymarferol gref, ei ysbryd cenhadol a'i gyfoeth, bu o gryn wasanaeth i'r achos yma mewn cyfeiriadau neilltuol. (Goleuad, 1887, Mai 28, t. 13.)

Ymsefydlodd y Parch. Henry Jones yma fel bugail, Tachwedd 21, 1889, gan ddod yma o Garston. Ymadawodd i Awstralia er mwyn ei iechyd, Mai, 1891. Enillodd ei iechyd yno, ac ymsefydlodd fel gweinidog eglwys Bresbyteraidd Launceston. Yr ydoedd yn wr lled dal, a gallesid fod wedi ei gymeryd yn wr lled gryf. Oherwydd torri ei iechyd i lawr ni wnaeth mo'r argraff ar yr eglwys a'r dref y gallesid fod wedi ei ddisgwyl oddiwrtho; ond yr ydoedd yn wr o gymhwysterau naturiol a chyrhaeddedig cyfaddas i'w ymddiriedaeth.

Medi 18, 1892, y penderfynwyd galw'r Parch. David Hughes, M.A., yn fugail.

Cyflwynwyd i bwyllgor yr adeiladu yn y Cyfarfod Misol gynlluniau yr adeiladau ynglyn wrth y capel, Gorffennaf, 1896. Prynnwyd tŷ yn Chapel Street, er mwyn adeiladu ysgoldy yn y lle, am £190. Traul yr ysgoldy ei hun, £500. Yn 1897 bu farw Cadwaladr Williams, yn flaenor yma ers 10 mlynedd. Yn y coffa am dano yn y Cyfarfod Misol, Mawrth 8, fe ddywedir ei fod yn nodedig oblegid ei ofal a'i ffyddlondeb gyda'r achos. O gynneddf ymarferol gref, bu'n dra ymroddgar i'w fasnach; a bu'r un gallu at wasanaeth yr achos yma. Yn 1898 fe ddewiswyd yn flaenoriaid: Thomas Williams, J. Trevor Owen meistr yr ysgol sirol, Dr. Fraser. "Heblaw y rhai a enwyd mewn cysylltiadau eraill," ebe James Evans, "bu y rhai hyn yn dra ffyddlon gyda'r ysgol Sabothol yn Turf Square: Henry Owen Stryd llyn, William Jones Ty'n y cei (yn awr yn Llundain) a Thomas Williams yr Afr aur." Y mae Mr. William Jones yn pregethu yn Llundain, er na wyddis gyda pha enwad. Sylwyd yn yr Arweiniol y bu Eifioneilydd yn aelod o'r eglwys hon. Rhoddai gynorth- wy, hefyd, yn yr ysgol Sul. Er na bu'r ysgol hon yn lluosog o ran rhif y bobl mewn oed, eto bu yma o bryd i bryd fwy na chyffredin o lawer o nerth meddwl a helaethrwydd gwybodaeth yn y sawl a ddeuai ynghyd.

Gadawodd Hugh Pugh £100 yn ei ewyllys tuag at ffurfio llyfrgell yma.

Gwna James Evans y sylw yma: "Ym mysg y rhai a fu o ddefnyddioldeb neilltuol ynglyn â'r achos dylid nodi'r Parch. Maurice J. Evans, B.A., yr hwn oedd enedigol o sir Drefaldwyn, ac a fu farw ym Mhenmaenmawr. . . . Bu'n gweinidogaethu gyda'r Annibynwyr Seisnig yn Lloegr. Yr oedd efe'n ddyn tra dysgedig, a chyfieithodd i'r Saesneg o ieithoedd tramor rai llyfrau diwinyddol gwerthfawr, ymysg y rhai y gellir enwi Bywyd Crist gan Caspari. Bu ef yn dra ffyddlon gyda'r achos yn Turf Square, a hynny heb unrhyw. gydnabyddiaeth ariannol, heblaw'r hyn a dderbyniai am wasanaethu yn achlysurol ar y Saboth." Ymhlith y llyfrau a gyfieithodd yr oedd, hefyd, Dogmatic van Oosterzee. Bu'r awdwr ar ymweliad âg ef yng Nghaernarvon, ac yn rhoi anerchiad yn y seiat undebol yn ei iaith ei hun, sef y Fflemineg, gyda M. J. Evans yn cyfieithu fel yr elai ymlaen. Nid oedd M. J. Evans wedi ei lunio i fod yn bregethwr nac yn fugail eglwys. Ei leferydd oedd anghroew a'i dymer heb fod bob pryd dan ei lywodraeth. Oddieithr hynny, yr ydoedd yn ddyn tyner, boneddig, crefyddol ei ysbryd, ac yn ddiau yn cwbl deilyngu'r ganmoliaeth a roddir iddo uchod.

Bu y rhai yma yn arwain y canu: W. Williams, David Edwards, W. J. Williams (a fu wedi hynny yn arwain canu Engedi), Robert Lewis y pregethwr, Mrs. Jones diweddar briod Mr. T. O. Jones, J. H. Roberts, Mus. Bac., W. H. Parry. Gofelid am y Gobeithlu gan y Capten Richard Jones.

Un peth yn hanes yr eglwys hon a wnaeth argraff go neilltuol ar y pryd oedd byrdra tymor gweinidogaethol tri gwr, y naill ar ol y llall, a'r tymor byrr hwnnw yn dibennu mewn gwaeledd iechyd, y fath a orfu i ddau ohonynt fyned i'r Awstralia, ac i'r llall fyned i'w hen aelwyd, i ddibennu ei yrfa yno ar fyrder. Y mae James Evans yn cyfeirio at hyn, a dywed ddarfod i rai eu cyhuddo—" mewn ysmaldod feallai" o "ladd y proffwydi." Nid rhyw gryf iawn ychwaith, debygir, ydoedd gweinidog cyntaf yr eglwys yn myned oddiyma, ar ol tymor byrr o wasanaeth. Pa ddelw bynnag, y mae'r gweinidog presennol yn medru aros yn ei le, ac nis gall ef gymeryd cwyn y brenin Dafydd ar ei wefus, a datgan fod meibion Serfiah yn rhy gryfion iddo. Ac heblaw hynny, mynn James Evans "nad oedd achos afiechyd yr un ohonynt i'w briodoli i'w gysylltiad à Chaernarvon." A chan ei fod yn gyfarwydd â'r holl amgylchiadau, ac yn wr o farn, diogelaf fydd derbyn ei eglurhad ef.

Cyhuddiad a roir yn erbyn yr eglwysi Saesneg ydyw nad ydynt yn gweini i anghenion ond nifer bychan o Saeson. Y mae James Evans yn cyfarfod y ddadl: "Y mae 68 o'r aelodau eglwysig yn Saeson unieithog [yn 1902], 25 o blant ein haelodau yr un modd, a 42 o'r gwrandawyr [sydd heb fod yn aelodau]. Y mae 16 o'n haelodau yn blant i dad neu fam Seisnig; y mae 43 o'r plant sydd heb fod yn gyflawn aelodau yn blant tad neu fam Seisnig; ac y mae 18 o'r gwrandawyr yr un modd. Y Cymry yn ein mysg a wneir i fyny fel hyn: 67 yn aelodau eglwysig, 14 yn blant i aelodau; II yn wrandawyr." Sylwir gan James Evans, hefyd, fod cyfangorff mawr yr aelodau a'r gwrandawyr wedi eu magu gyda'r Methodistiaid, ond fod amryw yn y naill ddosbarth a'r llall wedi eu magu gydag enwadau eraill. Sylwir ganddo ymhellach, mai ar wahan i'r gwaith mawr o ddwyn pechaduriaid at y Gwaredwr ac adeiladu a chysuro'r saint, y nôd amlycaf yn yr eglwys a'r gweinidog ydyw gofalu am y plant a'r bobl ieuainc a'r cleifion.

Yn 1900 penderfynwyd dwyn allan gylchgrawn at wasanaeth yr eglwys, yr hyn oedd y pryd hwnnw yn symudiad newydd yn y rhan yma o'r wlad.

Rhif yr eglwys yn 1900, 129; y plant, 74; y gynulleidfa, 290;

yr ysgol, 169.

BEULAH.[11]

YN haf 1882 fe ddechreuodd ryw symudiad yng ngwersyll Engedi o blaid ysgol Sul ar gyfer esgeuluswyr yn Henwalia. Yn ystod yr un haf fe brynnwyd 528 llathen ysgwar o dir am £150, gan olygu ar y pryd fod yma ddigonedd ar gyfer yr amcan mewn golwg; er, ar ol hynny, y teimlwyd mai cul oedd y cwrlid i ymdroi ynddo. Yr oedd y tir mewn lle canolog a chwbl gyfleus o ran y pellter, ond nid mewn lle cyfaddas i adeilad arno dynnu dim sylw ato'i hun.

Ar ol y cychwyniad yma, yn o araf y symudid ymlaen. Nid cwbl foddlon, wedi'r cyfan, oedd pawb yn yr eglwys i gychwyn moddion ar wahan yn y lle yma. Yn nechre haf 1885 y dechreuwyd hwylio at godi ysgoldy neu gapel. Trefnwyd iddo gynnwys eisteddleoedd i 300, ac i fod o ran ei fesuriad yn 42 troedfedd wrth 39. Gosodwyd y gwaith am £520.

Yn 1886 y dechreuwyd adeiladu. Rhowd carreg yn wyneb y capel yn dwyn yr argraff yma: "Can mlynedd yn ol y sef- ydlwyd achos y Methodistiaid Calvinaidd yn y dref hon." (Ar amseriad cychwyn yr achos yn y dref edrycher Moriah). Pen- odwyd 4 brawd a blaenor i gymeryd gofal yr achos yn Beulah, canys dyna'r enw ar yr adeilad. Dyma'r enwau: Evan Jones i ofalu am y canu, Owen Jones yr Eryri, John Williams, Nath Roberts. Ni enwi'r mo'r blaenor.

Agorwyd y lle fel ysgoldy, Hydref 14, 1886, drwy bregeth gan weinidog Engedi, sef y Parch. Evan Roberts. Cynhelid ysgol y bore, pregeth y pnawn, cyfarfod gweddi yr hwyr. Yn achlysurol fe geid pregeth yn yr hwyr. Rhaid ydoedd chwanegu, hefyd, at y brodyr a nodwyd, er dwyn y gwaith ymlaen yn effeithiol.

Rhagfyr 2, 1886, fe gynhaliwyd yma gyfarfod mewn coffadwriaeth o sefydliad Methodistiaeth yn y dref. Cymerwyd y gadair gan Owen Roberts, blaenor Engedi. Rhoes W. P. Williams grynhodeb o hanes Methodistiaeth yn y dref. Yn ystod ei araeth, fe ddywedodd ei fod yn cofio y tir y safai Beulah arno yn ardd, a pherchen yr ardd honno oedd John Gibson, sef un o aelodau cyntaf y Methodistiaid yn y dref, ac ewythr Gibson y cerflunydd. Cof gan W. P. Williams am dano ar ei liniau yn chwynnu'r ardd ac yn gweddio bob yn ail. Nid annichon fod John Gibson heddyw yn gweled mwy o ffrwyth ar ei ardd na ddisgwyliodd y pryd hwnnw, er cymysgu ohono ei lafur gyda'i weddiau. Cyfarchwyd y cyfarfod gan R. R. Roberts, Henry Edwards a'r Parch. Evan Jones. (Gweler gyfeiriad at sylwadau Henry Edwards yn yr hyn a ddywedir arno ynglyn à hanes Siloh). (Goleuad, 1886, Rhagfyr 11, t. II.)

Yr oedd awydd bellach yn y rhai a ddaeth i ofalu am y gwaith am sefydlu eglwys yma. Yn erbyn hynny yr oedd plaid gref yn Engedi. Wedi cryn ymdrafod gorfu'r blaid oedd dros eglwys yma. Bu dadleu brwd drachefn ynghylch swm y gynysgaeth i Beulah. Fe gyrhaeddai'r holl dreuliau i £800. Penderfynwyd fod y fam-eglwys i ddwyn y naill hanner a'r gangen-eglwys yr hanner arall, er y teimlid yma fod hynny yn faich trwm.

Yn ddilynol i hyn fe wnawd rhai atgyweiriadau ar y capel. Gwnawd pulpud mwy cyfaddas; rhoddwyd nenfwd cryfach a harddach; y naill a'r llall ynghyd agos yn £100 o draul. Rhowd ystafell yn y cefn i gynnal cyfarfodydd canol wythnos ar draul o £120. Erbyn diwedd 1900 yr oedd y ddyled wedi ei thynnu i lawr i £150.

Gorffennaf, 1887, penderfynu sefydlu eglwys yn Beulah. Yng Nghyfarfod Misol Awst 1, penodi'r Parchn. R. Humphreys a W. Jones Felinheli ynghyda Henry Edwards (Siloh) i sefydlu'r eglwys. Yng Nghyfarfod Misol Medi 5, cadarnhawyd adroddiad y sefydlu. Dywedir yn y cofnodion yn y Goleuad mai 43 oedd rhif yr eglwys ar y sefydliad; gan Mr. Moses Evans y mae'r rhif yn 45. Fe sylwir na nodi'r y diwrnod y sefydlwyd yr eglwys.

Yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr 14, 1887, yr oeddid yn derbyn blaenoriaid yma o Beulah: William Jones, Evan Jones, Griffith Owen, John Williams. Yn 1889 galwyd John Jones yn flaenor, a ddaeth yma o Glawddnewydd. Ionawr 27, 1890, cynhaliwyd cyfarfod sefydlu Mr. R. D. Rowland (Anthropos). Aelod o Siloh ydoedd cyn ei alw yma.

Yng Nghyfarfod Misol Ebrill 20, 1891, fe hysbyswyd am farwolaeth John Williams, yn un o'r blaenoriaid cyntaf yma. Dywedir yn y cofnod y gwnawd coffhad serchog am dano, ac iddo fod yn dra ffyddlon fel blaenor yma. Hysbysir, ymhellach, ddarfod iddo ddangos gwir ofal calon am yr achos, yn gymaint a gadael ohono £100 yn ei ewyllys tuag ato. Yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr 11, 1893, yr oeddid yn derbyn fel blaenoriaid: Owen Jones yr Eryri, Hugh Hughes, R. D. Roberts. Yr un flwyddyn fe alwyd Methusalem. Griffith i'r swydd, a ddaeth yma o Benygraig.

Yng Nghyfarfod Misol Rhagfyr 6, 1897, fe wnawd coffhad am John Jones, yn flaenor yma ers 8 mlynedd. Yr oedd ef yn wr crâff mewn amrywiol ffyrdd. Fe sefydlai ei olwg ar ddyn neu ar beth megys gyda bwriad i edrych cryn ffordd drwyddynt; ac os na welai efe'n deg drwy ddyn neu beth, ond odid na welai beth o ffordd drwyddynt, o leiaf, ac yn fynych fwy na pheth. Yr oedd llinellau craffineb yn ymestyn ymlaen o gonglau ei lygaid. Meddai ar gryn lawer o wybodaeth gyffredinol, yn enwedig yn y gyfraith; ac nid oedd ychwaith yn ol mewn. gwybodaeth ysgrythyrol a diwinyddol. Hunan-ddiwylliant, fe ddichon, oedd ei brif nôd, yn hytrach na diwyllio eraill. Eithr gyda'r ymdrech i ddiwyllio'i hun mewn gwahanol gang- hennau, fe gyfunodd, hefyd, gysondeb canmoladwy mewn dilyn. ordinhadau yr eglwys.

Bu farw Methusalem Griffith, Rhagfyr 17, 1897, yn 66 oed, yn flaenor yma ers tua 4 blynedd ac ym Mhenygraig cyn hynny. Daeth yn ieuanc, yn chwarel Dinorwig, i gyffyrddiad â rhai dynion o gymeriad cryf, duwiolfrydig; a gadawsant eu hol arno byth. Bu'n ffyddlon i'r ddyledswydd deuluaidd. Adnabyddid ef ymhob cylch fel dyn cywir, siriol, cymdeithasgar a gwir grefyddol. Y Sul diweddaf iddo ar y ddaear methu ganddo fyned i'r ysgol, pryd y galwodd cydflaenor iddo gydag ef. "Cofia," ebe'r gwr hwnnw wrtho, "y rhaid i ti ymdrechu dod i'r ysgol y Sul nesaf, gan fod dy ddosbarth yn disgwyl wrthyt." "Na," ebe yntau, "mi fydda'i ynghanol y nefoedd erbyn hynny." Yn ystod yr wythnos honno fe aeth i wrando darlith y Parch. Edward Lloyd Gatehouse ar y Tabernacl yn yr yn yr An- ialwch. Mawr fwynhaodd y ddarlith, a chyn un ar y gloch brynhawn drannoeth yr ydoedd yn y cyflwr paratoawl i'r gwir dabernacl neu gorff yr atgyfodiad. (Drysorfa, 1899, t. 187. Edrycher Penygraig.)

Yn 1899 daeth Mr. Moses Evans yma o'r Gerlan, lle'r ydoedd yn flaenor, a galwyd ef i'r swydd yma. Yng Nghyfarfod Misol Ebrill 23, 1900, fe wnawd coffhad am William Jones, yn flaenor yma ers 13 blynedd. Dyma'r sylw: Hefyd, am Mr. William Jones Beulah, yntau'n wr tra chrefyddol, o gymeriad pur, ffyddlon yng ngwahanol ran- nau'r gwaith, yn enwedig fel athro yn yr ysgol Sul. Bu am 20 mlynedd heb golli ond 3 neu 4 o weithiau o'r ysgol. Er yr amhariaeth a fu ar ei feddwl yn ei flynyddoedd diweddaf, rhoes. argraff ddofn ar feddyliau y rhai o'i gwmpas ei fod yn ddyn. duwiol, a duwiol iawn." Mab iddo ef ydyw Mr. Ben Jones, arweinydd y canu ym Moriah. Y mae llewyrch ar y dosbarth darllen, ar y Gobeithlu, ac ar y Gymdeithas Lenyddol. Er fod Beulah yr eglwys leiaf of ran nifer gan y Methodistiaid yn y dref, megys ag mai hi, hefyd, yw'r ieuengaf, eto y mae iddi rym a hoewder. Bellach y mae'r gweinidog yn cyflawni'r swydd bwysicaf yn y Corff, sef fel golygydd Trysorfa'r Plant; ac o'r twr gwylio hwnnw y mae'n cyrchu newyddion o bell i blant Beulah. Yn nhir Beulah y clywodd Cristion a Gobeithiol ganiadau'r adar, y gwelsant y blodau ar y ddaear, y clywsant lais y durtur yn y wlad.

Rhif yr eglwys yn 1900, 110.


CAERNARFON

Argraffwyd gan Gwmni y Cyhoeddwyr Cymreig Cyf.

Swyddfa "Cymru."

Nodiadau[golygu]

  1. Caernarvon, P. B. Williams, 1821. Sir a thre Caernarvon, John Wynne, 1861. Old Karnarvon, W. H. Jones. Topographical Dictionary of Wales, S. Lewis, ail arg., 1842. Geirlyfr Owen Williams y Waunfawr. Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu, 1857. Y Nelson, 1890-7, cylchgrawn a ddygid allan gan M. T. Morris mewn cysylltiad â'i fasnach. Papurau trefol yng ngofal Mr. R. O. Roberts. Dyddlyfr David Griffiths, athro yn ysgol gen- edlaethol y Bontnewydd, am 1857-60. Tref Caernarvon tua 1800, Traeth- odydd, 1905, t. 226. Caernarvon Lenyddol Gynt, Alafon, Geninen Gwyl Dewi, 1904, t. 47. Caernarvon y ddeunawfed ganrif, Anthropos, Geninen, 1905, t. 12. Oriel Atgof, Anthropos, Geninen Gwyl Dewi, 1914, t. 18.
  2. Melin y dref gynt ar y Cadnant.
  3. Ysgrif ar Evan Richardson gan Griffith Solomon, Drysorja, 1833, t. 161, 193. Dyddlyfrau Thomas Lewis. Abstract of Title, 1828, ynghadwraeth Mr. R. D. Williams, cyfreithiwr. Copïau o weithredoedd heb fod yng nghist y Cyfarfod Misol, ym meddiant Mr. R. Norman Davies, ynghyda nodiadau o'i eiddo ar hanes yr achos. Atgofion y Parch. Evan Jones yn y Genedl, 1913. Ymddiddanion. Nodiadau ar yr ysgrif gan Mr. Norman Davies.
  4. Ysgrif gan (y Parch.) D. Francis Roberts (B.D.). Ysgrif ar y Bontnewydd, ei phobl a'i phethau, gan Mr. R. R. Jones (Penygroes). Ymddiddan & Mr. W. Williams Groeslon, Waenfawr.
  5. Ysgrif gan Cathrine Jones (Lodge), yn dwyn yr hanes i lawr hyd 1884. Nodiadau gan y swyddogion ar 1884-98. Y llyfr casgl eglwys, 1826-39. Cuttings o bapurau newydd yn dwyn perthynas â chofadail W. Owen Prysgol, drwy law Mr. T. Gwynedd Roberts.
  6. Ysgrif Mr. David Jones (Llys Arfon). Ysgrif Dafydd Williams (Conwy). Copi Mr. R. O. Roberts o Gofnodion Cymdeithas Lenyddol Engedi, 1879, yn cynnwys atgofion am y symudiad o Foriah, a chynnydd. yr achos yn Engedi. Atgofion Mr. John Jones (y Druid) ynghyda nodiadau o'i eiddo ar yr ysgrif hon. Ymddiddanion. Nodiadau Mr. William Roberts Bod Gwilym.
  7. Ysgrifau'r Mri. John Henry Lloyd a John Wynne Parry. Hanes y Methodistiaid yng Nghaernarvon, W. Williams, Drysorja, 1904, t. 216. Amlinelliad o hanes yr achos yn Siloh, Amseroedd, 1882, Rhagfyr 30, t. 2. Atgofion y Parch. T. Morris Jones (Gronant). Nodiadau Mr. George Williams.
  8. Atgofion y Dr. Griffith Griffiths, y cenhadwr gynt. Atgofion y Parch. W. Morris Jones (Birkenhead).
  9. Ysgrif o'r lle. Capel Nazareth, E. W. Evans, 1892. Ymddiddan â Mr. R. Roberts, New Street. Atgofion y Parch. W. Jones-Williams, Llanfairpwllgwyngyll.
  10. Ysgrif James Evans yr Herald. Nodiadau y Parch. David Hughes, M.A.
  11. Ysgrif Mr. Moses Evans.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.