Rhigymau'r Ffordd Fawr (testun cyfansawdd)
← | Rhigymau'r Ffordd Fawr (testun cyfansawdd) gan Dewi Emrys |
→ |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Rhigymau'r Ffordd Fawr |
RHIGYMAU'R
FFORDD FAWR
EDWARD JAMES
(DEWI EMRYS)
Y casgliad hwn, gan "Y Crythor Crwydrad," a enillodd y Goron a'r wobr, £25, yn Eisteddfod Genedlaethol Frenhinol Cymru, 1926, Abertawe, dan feirniadaeth yr Athro W. J. Gruffydd, yr Athro T. Gwynn Jones ac Elfed.
Cyhoeddir dros Bwyllgor yr Eisteddfod gan y Mri. Morgan a Higgs, Abertawe.
CYNNWYS:
Y FILLTIR GYNTAF.
A weli di'r ffordd yn dechreu
Ynghanol y tryblith mawr,
Heb arni na llewych seren
Na llewych goleuni'r wawr?
A weli di'r ffordd yn rhannu
Heb fencydd o niwloedd maith,
Heb arni na chysgod angau
Na chysgod pererin chwaith?
A weli di'r ffordd yn dilyn
I ganol y llus a'r coed,
Heb arni na rhigol olwyn
Nac argraff ewin na throed?
A weli di'r ffordd agored
Yn barod yng ngoleu'r wawr?
A weli di'r perthi mudion?
A weli di'r disgwyl mawr?
A glywi di sŵn y cerdded
Allan i'r bore clir?
A glywi di'r gân a'r trydar
Wedi'r distawrwydd hir?
A weli di un yn sefyll,
A'i lygad fel fflam y nef?
A weli di bob creadur
Yn plygu o'i amgylch ef?
A weli di hwn yn ymdaith
Ymlaen at arfogaeth well,
A'r niwl dros ei gamre cyntaf
Yn cau mewn anoddun pell?
Y FFORDD FAWR.
Edrych arni yn dirwyn ymaith
Fel rhuban arian ymhell o'th ddôr!
Ymdeifl am yddfau'r mynyddoedd uchel,
A gwingo i lawr hyd ymylon môr.
Am f'enaid innau try'r llinyn gwyn,
A phwy a ddetyd y cwlwm tyn?
Edrych arni yn cyrchu'r gorwel!
Ba les dy gyngor? Rho im dy law!
Cans gwell na syrffed yw'r blys anniwall
A'm deil i'w chanlyn i'r pellter draw.
Dichon na theimlodd dy enaid di
Daerni annirnad ei gafael hi.
Edrych arni yn dianc ymaith.
I'r glesni eang yn dorchau byw!
Blinodd enaid ar ffin a therfyn,
A delw o'i eisiau tragywydd yw;
Ac ni bydd aros nac esmwythau
I'r nwyd anorffwys sydd drwyddi'n gwau.
Edrych amni yn troi o'r golwg
A ffugio darfod, er denu 'mryd!
Eithr pan ddilynwyf bydd tro cyfrwysach
A llecyn glasach ymlaen o hyd.
Felly y'm hudir o awr i awr
Ar daith anorffen yr ymbil mawr.
Dichon y'm gelwi yn wrthryfelwr,
Eithr mwy na therfyn yw dyn o hyd.
Bwriodd ffordd dros y cefnfor llydan,
Plannodd ei droed yn eithafoedd byd;
Ac ni cheir dewin tan haul y nef
A ddwed lle derfydd ei siwrnai ef.
Eithr pwy a ddilyn ei ymdaith heddiw
Na ddaw i fangre'r didostur hedd?
Collir ei gamre mewn niwl anghyffred,
A'r tyst agosaf fydd carreg fedd.
Yno bu'r holi mawr erioed,
A'r chwilio ofer am ôl ei droed.
FY YMDEITHGAN.
Ffarwel, Ddinas, gyda'th garchar!
Dyma'r heol dan fy nhroed,
Hwythau'r pibau aur yn cathlu
Cerddi rhyddid yn y coed.
Dyma hen gacynen swnllyd
Wedi meddwi yn y berth,
Minnau'n canu am fod blodau
Yn prydferthu'r filltir serth.
Ffarwel, Ddefod hen, anhydwyth,
Gyda'th ffin a'th undon fawr?
Oni weli'r eangderau?
Oni chlywi salmau'r wawr?
Cwyd dy ben! Mae'r plant yn llamu.
Beunydd dros dy gloddiau crin.
Paid â'm beio am i minnau
Hoffi blas y newydd win.
Ffarwel, Dlodi, gyda'th hofel,
Gyda'th haint a'th gynnar fedd!
Gwn am gyfoeth sydd yn cynnal
Gwrid ieuenctid ar fy ngwedd.
Gwn fod aur ar fryn a chlogwyn
Pan fo'r wawr yn tanio'r nen;
Gwn fod arian ymhob gofer
Pan fo'r lleuad uwch fy mhen.
Ffarwel, Falen, gyda'th gwmwl.
Gyda'th wep a'th wyneb hir!
Dyma'r coed yn curo'u dwylaw
Gan orfoledd mawr y tir.
Dyma win o gawg Mehefin,—
Hwt i'th guwch a'th sobrwydd di!
Dyma'r berth a minnau'n chwerthin,—
Ha ha ha! Hi! hi! hi! hi!
AR Y TRAETH.
Bum yma gynt, a gwrid yr hwyr
Yn lliwio'r môr a'r marian;
A llanc dibryder oeddwn i
Lle canai'r clychau arian.
Cyn hir, a charol ar ei min,
Daeth heibio forwyn lawen;
A gwn na welwyd pertach llun
Erioed ar lenni'r awen.
Hi droes i ffwrdd, a'i threm a'i thrawd
Yn wawd ar aros gweddus,
A'i gwallt fel nos ar wddf fel dydd
Yn ddryswch gorfoleddus!
A gwn na ddwed yr awel ffraeth,
Na'r waneg wen a'i suon
Y pethau mawr a welais i
Yn nwfn ei llygaid duon.
Diflannodd fel y mwynllais hud
A ddianc rhag y delyn;
A golchwyd ymaith ôl ei throed
Ar lain y tywod melyn.
Trois innau draw mewn penbleth syn,
A'r dydd yn marw'n dawel;
A mwyach lleddf oedd clychau'r môr,
A lleddf oedd pibau'r awel.
Eisteddais orig ar y graig
Lle torrai'r llanw'n flodau,
Heb wybod mai fy nghalon i
Roes gywair lleddf i'r nodau.
Gwn heddiw pam y trof o hyd
Yn weddw fab i'r marian;—
Mae sain yn eisiau yn y côr
Lle cân y clychau arian.
YN YR YDLAN.
Mi drois i'r ydlan gyda'r nos,
Yn oer a thlawd fy myd;
A chollais mewn anghofrwydd llwyr
Hen daith fu'n gŵyn i gyd.
Mi gefais ogofeydd o berl
A gwychter gwledd a chân;
Ac ar fy ngwddf hongianai bun,
A'i chnawd mor wyn â'r gwlân.
O'i thresi aur dôi persawr myrr
A gwreichion llawer gem;
Ond taerach oedd y medd-dod mwyn
A bylai dân ei threm.
Yn ddengar wrth fy ngwefus dwym,
Hi ddaliai ffiol win;
A minnau'n gweld uwch gwrid y grawn
Mor addfed oedd ei min.
Nid yfais ddim. Taranodd teyrn
Im sarnu'r gwair a'r yd;
A throis o'r ydlan gyda'r wawr
Yn oer a thlawd fy myd.
Y BWTHYN.
Cefais yma ddrws agored
Yn y dyddiau gynt.
O! na chawn ei gaead heno
Rhag y glaw a'r gwynt!
Dyma'r lloer yn lamp i'r aelwyd
Lle bu'r gannwyll frwyn;
Ond ni roir ei llewych heno
I'r hen fugail mwyn.
Yma yr atebodd droeon
Lef o nos y ffridd;
Yma yr ymbiliodd yntau
Ar yr henllawr pridd.
Dros ei olaf wely heno,
Chwŷth yr awel gref;
Ac mor hy yw'r drain a'r danad
Lle penliniodd ef!
Y GARREG.
Mi ddeuthum heddiw ar fy nhaith
At hendre ddistaw'r gorffwys maith.
Gorffwysais innau ennyd awr
Mewn man lle tariai tyrfa fawr;
Ond nid oedd yno gâr na brawd
A ddôi i'm canlyn ar fy rhawd;
Cans troisant oll o ffordd y plwy
I orwedd heb drafaelu mwy.
Tesog a thrymllyd oedd yr hin,
A minnau yn bererin blin;
A da oedd troi o'r heol wen
I gysgod claear deiliog bren.
Eisteddais ar hen garn o fawn,
A'm golwg ar y fynwent lawn;
A gwelwn yno dorf o feini,
Pob un wrth olaf wely'n gweini.
Safent fel hen forynion syw
I gadw enwau'r meirw'n fyw,
Pob un yn stumio'n ôl y bri
A ddug y sawl a wyliai hi;
A lle gorweddai'r bach a'r mawr
Yn gydradd mwy â llwch y llawr,
Gwelwn na fedrodd angau'i hun,
Gymodi'r rhain a'u gwneud yn un.
'Roedd yno ambell faen o fynor
Yn sôn am orchest cun a chynor;
Ac ambell garreg lwyd, ddi—raen
Yn ffaelu'n lân â dweud yn blaen.
Eithr tystion hyawdl oeddynt hwy
I rai na fedrent siarad mwy.
Hwy safent yno'n syth a sobr,
Pob un yn sôn am waith a gwobr,
A minnau'n wyliwr swrth a syn
Yn gwrando'u traith tan lesni'r ynn.
Cyn hir, rhyw gynnull distaw iawn
A welwn yn y fynwent lawn.
Mud safai'r meini'n dorf gytun,
Oll yn unionsyth NAMYN UN,—
Honno yn oedfa'r sobraf fil
Ar ogwydd fel hen grwydren chwil;
A gwelwn ryw ysmaldod bron
Yn nhrem ac osgo'r garreg hon.
Disgwyliwn iddi syrthio'n llorf,
A gyrru arswyd drwy y dorf;
Ac yn fy myw ni fedrwn i
Osgoi ei hystum ddibris hi.
Ond odid, hen werinwr bro
Orweddai dani yn y gro,
A gwellt y gors yn twmlo'n drwch
O anystyriaeth ar ei lwch.
Gogwyddai hithau uwch ei fedd
A chen blynyddoedd ar ei gwedd,
A'r cen yn gramen werdd fel crach
Ar wyneb megis wyneb gwrach;
A lle bu'r enw a'r adnod gynt,
Nid oedd ond sgrifen glaw a gwynt,
A hithau'n hyll ei threm yn awr
Yn gŵyro'n bendrwm tua'r llawr;
A'r foment honno ger fy mron,
Rhoed hacrach drych i'r garreg hon.
Hi droes yn wrachan groengyrch, hen,
A gwawd ellyllaidd yn ei gwên.
Dau smotyn oedd ei llygaid hi,
Y naill yn wincio arnaf fi,
A'r llall yn llawn o wawd ofnadwy,
Yn llawn o ddannod anwadadwy;
Ac yn fy myw ni fedrwn i
Osgoi ei threm gellweirus hi.
Ni synnwn ddim ei gweld yn rhocian,
A'i chlywed hefyd yn fy mocian.
Eisoes yr oedd yn hanner llamu
A smicio arnaf a mingamu;
Ac yn fy mraw, mi fentrais siawnsio
Y gwelwn yr hen wrach yn dawnsio,
A chlywed esgyrn sych y meirwon
Yn clecian yn ei dwylo geirwon.
Neidiais i fyny'n ddiymdroi,
A thremio draw ar fedr ffoi;
Eithr symud gam ni allwn i
Rhag taered ei dewiniaeth hi;
Ac yn y man, a mi 'n rhyfeddu,
Dechreuodd glebran a chordeddu
Rhyw odlau oer fel odlau'r gwynt
A glywswn yn y fynwent gynt.
Hi droes i fydru'n hanner llon,
A'i mydr mor gam â hithau bron;
A dyma'r truth, os cofiaf fi,
A stwythai'i gweflau sychlyd hi:—
Gwych ydyw sefyll, fy machgen clên,
A minnau'n gwyro'n nychlyd a hen.
Sefyll, torsythu am dipyn bach,—
Paid â malio smaldod hen wrach.
Safasant hwythau, rai er cyn co',
Ond gwych yw'r medelwr.Ho! ho! Ho! ho!
Casglodd fawrion byd i'w gofl,
Gwnaeth y balch yn is na'r sofl.
Dos i'r fan a fynnych, weithian,
Yno bydd ei law a'i gryman.
Gwelais gedyrn yn y plwy,—
Dyma lwch eu mawredd hwy,
Sefyll, torsythu am dipyn bach,—
Paid â malio rhigwm hen wrach.
"Gwn it synnu a rhyfeddu
It fy ngweld fel hyn yn crymu.
Onid fel hyn y dylwn sefyll
Ynghanol dy gymdeithion serfyll?
Diau, rhyw chwidryn dwl ysmala
A godai 'i ben yn uchel yma,
A'i amgenach ef, o dipyn mawr,
O'i amgylch yn gydradd â llwch y llawr.
Ond nid yw'r gŵr a orwedd danaf
Yn prisio dim pa fodd y safaf.
Caf ŵyro fel hen dderi'r fro,
Union fydd ei enw o.
Druan o'r hwn a ofyn faen
I gadw'i enw'n ddiystaen!
"A weli di'r golofn uchel, syth
Acw fel twr nas cwympir byth?
Edrych arni yn ymunioni
Er mwyn y gŵr sy'n llechu dani!
A weli di'r farnais wen a'r sglein?—
Rhyw dipyn bach o gelwydd ffein!
A chofia di fod hynny'n eitha,—
Nid dyma'r fan i ddweud y gwaetha.
"Ho! Pwy wyf fi i godi 'mhen
A sythu'n ddiwael hyd y nen?
A wasanaethais am ganrif bron
Heb adnabod fy lle ar yr aelwyd hon?
Dyma dre'r Archgwympwr Mawr
Nad yw'n ddiorchest am ennyd awr,—
Cwympwr cewri a'u miraglau,
Cwympwr teyrnedd a'u gorseddau.
Pa sawl bwriad dan y nef
Deimlodd fin ei bladur ef?
Pa sawl breuddwyd gyda'r wawr
Gasglwyd i'w gynhaeaf mawr?
Rhyw anhyful forwyn fyddwn
Yn ei dŷ ped ymunionwn.
"Dichon y carit gael fy hanes,
A deall nychtod mwrl druanes:
Bu i minnau raenus wedd
Fry uwch cyrraedd llwydni'r bedd;
Ac ni fedrai oedran chwaith
Osod arnaf grych na chraith.
Taflai'r mynydd, haf a gaeaf,
Ei gadernid mawr am danaf;
A chawn fantell werddlas, dlos
Imi'n gwriid ddydd a nos.
Heddiw yn y gwynt a'r glaw,
Gwasanaethaf Frenin Braw.
Oni weli yn fy nhro
Ei ffraethineb rhyfedd o?
Cludwyd fi o'r fan hawddgaraf,
Rhoddes yntau'i fysedd arnaf.
Dyma finnau'n gaethferch iddo,—
Pwy a ddichon ddianc rhagddo?
Yma gyda'r llys a'r beddau,
Aeth fy nrych mor hyll ag yntau.
Cadwodd fi yn niwl y glyn,
Gwthiodd fi ar dro fel hyn.
Oni ddylai'i gennad o
Wyro'n bendrwm tua'r gro?
Och! Mae mynas oer y bedd
Yn ystumio yn fy ngwedd!".—
Aeth oerni'r wawch ofnadwy hon
Fel picell angau drwy fy mron;
Ac er i'r wrach am ennyd dewi
Mi deimlwn waed fy ngwythi'n rhewi;
A theimlwn ddafnau oer o chwys
Yn treiglo dros fy nhâl fel pys;
Ac ebr y wrach: "Mae'r dydd yn darfod,
A gwn im eisoes glebran gormod.
Dos! Mae'r heol yn dy alw
Draw o ŵydd hen wrachan salw.
Tro dy gefn yn gwmwl arni,
Paid â chofio'i threm na'i stori.
Ie, dos i chwarae dro,—
Ti ddeui'n ol. Ho! ho! Ho! ho!"
Daeth niwlen weithian dros ei gwedd—
Rhyw niwlen laith o dir y bedd;
A gwelais innau'n ddiymdroi
Fod imi gyfle braf i ffoi;
Ond—ow!—rhag cymaint oedd fy mrys
A'm corff yn swp o rew a chwŷs,
Mi lithrais ar hen fencyn serth
A rholio yn fy hyd i'r berth;
A dyna'r syndod mwyaf wedyn
Fan honno yn y brwyn a'r rhedyn;
A dyna lle bu'r gwylltio mawr
A syllu i fyny ac i lawr.
Fe garai llawer gael fy llun
O'm gweld lle'm cefais i fy hun:
Yn grug wrth odre'r pentwr mawn
Yn methu deall pethau'n iawn.
Rhwbiais fy llygaid lawer gwaith
Hyd oni fedrwn weled ffaith—
Y dydd yn duo uwch fy mhen
A'r sêr yn dechreu gemu'r nen.
Esgud y codais i drachefn,
A'm rhoi fy hun mewn taclus drefn;
A da oedd gennyf ado'r fan
A throi fy nghefn ar furiau'r llan.
Diolchais am yr heol wen,
Am awyr las a sêr uwchben;
Ac ni bu miwsig gwell erioed
Na rhwdl y cerrig dan fy nhroed;
Cans pan arafwn ennyd awr,
A goddef y distawrwydd mawr,
Dilynai llais o bellter bro,—
"Ti ddeui'n ol. Ho! ho! Ho! ho!
CHWILIO GEM A CHAEL GWMON.
Llon y chwibanai ar lethr y mynydd
Heb syllu'n ôl ar y llygaid taer.
Dringai a'i galon yn llawn breuddwydion,
A'i waled arni yn llawn o aur.
Dringai a'i fryd ar ryw deg ystâd,
A'i gefn yn gwmwl ar dŷ ei dad.
Uchel y chwarddai ym merw'r loddest
Lle mwrdrir cwsg tan bileri'r dref,
A ffalster pethau a fu'n forynion
Yn cadw'n effro ei drachwant ef.
Hawsed yno ymhell o'i wlad,
Oedd prynu traserch ag aur ei dad!
Gwelais ef neithiwr ar fainc ddiargel
Yn crynu'n nychlyd mewn carpiau oer.
Ni chaffai mwyach nac aur nac arian
Namyn yr arian a gollai'r lloer.
Drud fu machnaty rhinweddau rhad,—
Prynodd ei dlodi ag aur ei dad.
FFOS Y CLAWDD.
Pwy yw hon sydd ymhlyg fan yma,
A'i hwyneb weithiau fel marmor gwyn?
A weli di'r crinddail yn disgyn arni,
A'i gwallt fel anialwch tan lwydrew'r glyn?
A weli di'r nych lle bu gorne'r gwyddfid,
A staen y gwin lle bu gwrid y rhos?
Yn anhrefn ei thresi cei ddelw'r dibristod
A'i gyrrodd yn ieuanc i noddfa'r ffos.
Yn ieuanc? Pwy fu'n panylu'r gruddiau?
Ba fysedd oerion fu'n gwasgu'r ên?—
Distaw, fy mrawd, rhag it darfu'r breuddwyd;—
Nid y blynyddoedd a'i gwnaeth yn hen.
Edrych arni, ond paid â'i deffro,—
Tirionach ei chwsg na'th drugaredd di;
Gad i'r druanes anghofio ennyd
Mai Magdalen yw ei henw hi.
Os oer yw'r chwa ar y gruddiau llwydion,
Rhy fuan y derfydd y trymgwsg gwin.
Na, paid â'i deffro. Bydd pang ei sobrwydd
Yn fil creulonach nag oerni'r hin.
A weli di'r wên sy'n goleuo'i hwyneb,—
Y wên na ddiffydd tan farrug nos?
Ai'r perl a gollwyd sydd yma'n lleueru,
Yma'n lleueru yn llaid y ffos?
Gad iddi chwerthin yn nefoedd mebyd,
A phaid â son am y rhew a'r gwynt;
Gad iddi goledd yn nos ei thlodi
Y trysor amhris fu iddi gynt.
Gad iddi ddianc o'r gwter ennyd,—
Rhy fuan y dychwel i'r boen a'r baw.
Sang ar y glaswellt rhag it ei deffro
A'i galw'n ôl o'i pharadwys draw.
Gad iddi brofi'r llawenydd cynnar
A'r diniweidrwydd na wybu nam.
Gad iddi ddawnsio ym maes lilïod,
A thaflu ei blinder i freichiau mam.
Edrych ami, ond paid â'i deffro,—
Mae'r rhewynt yn curo'r amrannau cau.
Rhy fuan y derfydd yr oriau melys,—
Mae'r wawr annhirion yn agoshau.
Tyred, fy nghymrawd, mae'r sêr yn dianc,
A'r nos garedig yn gado'r tir.
Mae'r fwyalch yn chwythu'r gwlith o'i heurbib
Cyn deffro'r meysydd â'i chwiban clir.
Cyn deffro'r meysydd? A'i deffro hithau,
A'i galw'n ôl o'i pharadwys draw,
Pe medrwn, mi fynnwn ddistawrwydd heddiw,
Ac ni ddôi trydar o'r llwyn gerllaw.
O, tyred! Diffoddodd y wên angylaidd,
A darfu gwynfyd morwynig wen.
Mae'r fwyalch ynfyd yn chwiban eisoes,—
Druan o honi—Magdalen!
YR OEDFA.
Yno nid oedd na phorth na changell,
Na su paderau na chainc na chôr,
Eithr cysgodion yr hwyr ar lechwedd,
A'r dydd yn marw ar wely'r môr.
Gwelwn y llan yn y dyffryn obry,
A'i thŵr yn esgyn uwch glesni coed;
A minnau'n gwybod, ar foel ysgymun,
Fod daear sanctaidd o dan fy nhroed.
Gwelwn y bannau ar fin y dyfroedd
Yn fflamio'n goelcerth hyd entrych nen,
A'r praidd yn dirwyn is tanlliw'r wybren
Ar ffordd brydferthach na'r heol wen.
Addefaf na thoddais yng ngwres y diolch
Am Un sydd yn cofio llwch y llawr.
Peidiwch â gofyn paham y plygais
Yng nghymun distaw y machlud mawr.
Beth am y dafnau heillt a lifodd
Yno'n felysach na ffrwd o gân?
A olchodd rheini fy ngruddiau llychlyd
Heb olchi f'enaid a'i wneud yn lân?
Rhyfedd oedd cofio am ffosydd gwaedlyd,
A gweled danaf gysgodau'r yw,—
Gweled y dydd ar y môr yn marw,
A theimlo bod goreu dyn yn fyw.
DI DDEDDF!
Taeraist y dryllit TI fy nerth gwrthnysig,
A gyrru trwy fy ngwythi fraw;
Tyngaist y'm plygit megis brwynen ysig,
A'm troi fel pabwyr yn dy law.
Mi wn it daflu cadwyn drom am danaf,
A'm llusgo'n friw dros lwch y llawr;
Mi wn it lawenychu yn fy anaf,
A'i alw'n fuddugoliaeth fawr.
Eithr cyn it ddwyn fy rhyddid a'm carcharu
A dannod imi faint fy mhall,
Dynesodd ataf rywun fentrodd garu
Y truan gwael heb gyfri'r gwall.
Ni fedrodd eirio geiryn; eto gliried
Oedd cenadwri'r edrych mawr!
Cans yn ei threm llefarodd rhyw ymddiried
Na fu ar wefus ennyd awr.
Hir, hir y syllodd, a chan fawr dynerwch,
Hi roddes lili wen i mi.
Ond odid gwelodd ynof drwy'r aflerwch
Ryw fymryn gwyn nas gwelaist di.
Ar ôl it droi fy wyneb at y pared
A'm cloi o olwg popeth gwell,
Disgwylit imi weled dydd ymwared
Lle nad oedd im ond nos fy nghell.
Disgwylit imi ganfod llun fy ffaeledd
Lle nad oedd im ond gwaetha'r byd.
Disgwylit i droseddwr weld ei waeledd.
A'i lygaid ar y gwael o hyd.
Noethaist fy nghefn i dderbyn grym dy fflangell,
A dieflig oedd dy ddial di.
Ni wyddit pan ddadebrais yn dy gangell
Nad oedd ffyrnicach diawl na mi.
Mae'n wir na fentrais godi fy lleferydd,—
Gwyddwn it roddi clust i'r mur;
Ond cronnodd ynof wenwyn berw dy gerydd;—
A dyna ffrwyth dy ddwrn o ddur!
Disgwylit imi doddi'n edifeiriol
A gwasgu'r ffrewyll at fy min.
A welaist di'r clogwyni rhew yn meiriol
Pan wawdio Ionor noethni'r pîn?
Torrodd dy forthwyl haearn cyn fy malu,
Eithr sernaist lawer dernyn da.
Ni ddysgaist mai tynerwch haf sy'n chwalu
Cadernid y mynyddoedd ia.
Eithr lle caledais dan y llaw a'm clymodd,
Hynny, O Ddeddf, a ddysgais i.
Mi gwrddais ag addfwynder a ddirymodd
Y nerth oedd drech na'th waethaf di.
Ymffrostia di it dorri grym fy mrwydro,
Adnabu f'enaid goncwest well;
A gŵyr o hyd i'm bysedd nerfus grwydro
At lili wen ar lawr fy nghell.
Addefaf imi waedu dan dy ddwylo,
Eithr gwaedais heb na chŵyn na chri.
Diau y synnit i'th garcharor wylo
O fethu dal ei mwynder hi.
Ba les im edliw bellach im d'orchfygu?
Onid yw'r brwydro hir ar ben?
Lle methaist di â'th ddwrn o ddur fy mhlygu,
Toddais dan gerydd lili wen.
Y LLOER AR Y MOR.
Eisteddwn neithiwr yn fy nghwrcwd
Ar lethr, a'm dwylo'n gafn i'm gên.
O'm gwelodd neb, rhyw ddelw oeddwn
A blannwyd ar y mynydd hen.
Fe'm daliwyd gan ryw Nymff a fedrodd
Ddileu pob gwg, pob barus nwyd.
Gorffwysai yntau'r bae o danaf
Ail glasem rhwng y creigiau llwyd.
Hir syllwn dros ei lesni tawel,
Mal un yn gweled bro sydd well;
A'm henaid draw ar bererindod
Yn dilyn hud rhamantau pell.
Rhyw heol wen dros lain o saffir
Oedd goleu'r ganlloer ar y môr;
A minnau, rhag mor dlws y noswaith,
Yn erfyn cathl rhyw anwel gôr.
Ni allai fod na meddwl amur,
Na briw na throsedd dan y sêr,
Na chyffro namyn su Afallon
Yn chwythu dros delynau pêr.
Mi welwn aruthr fanc o dduwch
Draw lle terfynai'r heol wen.
Dichon mai pentir uchel ydoedd
Yn cyrraedd fry hyd asur nen.
Eithr yn ei ddull anhygryn, tywyll,
Hen gastell cadr a welwn i,
A'i fylchog dŵr, o lesni'r wybren,
Yn bwrw'i lun ar lesni'r lli.
Dichon mai seren euraid ydoedd,—
Eithr gwelwn ffenestr yn y tŵr,
A rheffyn cochliw, igam—ogam,
Yn pefrio dani yn y dŵr.
Ni synnwn ddim pe syllai morwyn
O'r ffenestr yn yr uchel gaer,
A dyfod marchog hardd o'r gorwel
I'w chyrchu dros y glasfor claer.
Ni synnwn ddim pe llithrai eurllong
Is muriau'r castell ger y lli,
A gosgordd wen o golomennod
Yn troi o gylch ei hwylbren hi.
Ni synnwn ddim pe tynnai ataf
A bwrw angor ennyd awr,
A minnau'n gweld dyneddon mirain
A ffoes rhag oerni'r anghred fawr.
Nid felly y bu. Cei dithau smalio,
Ac edliw im wallgofrwydd bardd.
Diolchaf imi fedru dianc
Am ennyd awr i fyd mor hardd.
GWANWYN.
(Wrth y Tloty).
Dwg allan yr hynafgwr crwm o'i gell,—
Rho iddo fwynach help na help ei ffon;
Gad iddo weled ernes dyddiau gwell
Yn gwenu arno mewn briallen lon;
Gad iddo weld yr had fel cad yn codi
I'w dilyn, seren y dadeni mawr;
Gad iddo ado'i gongl a nos ei dlodi,
A chlywed utgyrn aur y newydd awr.
Edrych! Mae'r wennol eisoes uwch y ddôl
Yn chwilio am yr hen ysgubor gynt;
Mae yntau hefyd ar ei daith yn ôl
At ryw hen nyth a chwalwyd gan y gwynt;
Ac ond it ddal i'w ddilyn, druan hen,
Cei weled gwawr plentyndod yn ei wên.
HAF.
Mae'r crwydryn heddiw'n hepian yn yr hesg,
A thrymder mwrn yn gorffwys ar bob twyn;
Mae llysiau'r maes gan syched hir yn llesg,
A'r dail fel clych au mudion ar bob llwyn;
Rhy boeth i droed yw meini'r heol fawr,
A saif y gwartheg yn y gors fwsoglyd;
Ceir yntau'r tarw tew a'i ben i lawr,
A'r clêr yn glwstwr gylch ei lygad dioglyd.
Arafodd hithau'r nant fel plentyn ffri
A flinodd wedi nwyf y chwarae maith;
Eithr tyner odiaeth yw ei deisyf hi
Am gawod fach i'w helpu ar ei thaith;
A mwynach heddiw i mi na chrwth a thelyn
Yw'r mwmian cysglyd yn yr eithin melyn.
Mae'r llwch fel haen o flawd ar ffordd y ddôl,
A'm gelyn heddiw yw'r modurwr balch
A edy'r perthi'n wynion ar ei ol,
A minnau'n gablwr bloesg mewn chwiff o galch;
Ond dacw'r awyr borffor yn trymhau,—
Dyna daranfollt uwch y fawnog draw;
A dyma fedydd hyfryd i'm iachau,
A'r coed a'r blodau'n chwerthin yn y giaw.
Ha! Wele'r enfys uwch yr heol wen,
A'r gawod yn gwreichionni ar y dail;
Yntau'r aderyn du ar frig y pren
Yn chwiban croeso'r maes i wenau'r haul,
A'r mil diferion yn y goedwig werdd
Obry'n cyfeilio i'r ddihafal gerdd.
HYDREF.
I'r neb a heuodd a oes heddiw alar,
Er i'w ewinedd deimlo min y rhew?
Mae cân medelwyr llawen ar y dalar,
A'r aur yn cronni yn ydlannau'r glew;
Lle ieuwyd gwaith a gweddi, daeth cynhaeaf,
Daeth amser i anghofio'r briw a'r graith;
A hawdd yw troi o'r maes i gwrdd â'r gaeaf
Pan fyddo'r ysgub olaf ar ei thaith.
Hoi, ati, lanciau! Cenwch grwth a thelyn!
Dawnsiwch, lancesi, oni chlywo'r bau!
Profwch y gwin a'r medd a'r afal melyn,
A theflwch ambell winc wrth dorri'r cnau!
A heno boed cusanau dirifedi
Wrth glwyd a chamfa dan y lleuad fedi!
A syllaf weithian ar anhygoel wyrth?
Mae'r berth yn llosgi gan ogoniant mawr,
Yn llosgi heb ei difa! Eto syrth
Rhuddemau fyrdd yn bentwr coch i'r llawr;
Goddaith o liwiau fflam yw'r goedlan hir,
A'r gwres o bell yn rhuddo'r rhedyn mân;
Ai'r gaeaf eisoes sy'n gorddwyo'r tir,
A'r haf, cyn ffoi, yn rhoi ei dŷ ar dân?
Pasiant marwolaeth yw, a'i wawdus rith
Mal llu banerog yn mynd heibio i'r ddôl;
Gedy'r llumanau'n gandryll dan y gwlith,
A'r fforest hardd yn furddun ar ei ôl;
Ac ni bydd mwy i lonni'r galon glaf
Ond swn y gwynt yn chwythu carpiau'r haf.
GAEAF.
Hyrddir y crinddail heno'n dorf ddireol
O droell y gyrwynt chwil hyd lawr y cwm;
A thros y gweundir noeth dirwyna'r heol
Heb arni nebun ond hen grwydryn llwm
Yn cyrchu llety'r plwy. Wrth ambell lwyn
Glŷn carpiau'r haf o hyd ar fin y ddôl,
Megys rhubanau drud rhyw Forfudd fwyn
A ffoes a gado rhan o'i gwisg ar ôl.
Hwtia'r dylluan fry yn hollt y tŵr
Fel ysbryd y dadfeilio trwm a'r nych;
A theifl y lleuad wachul dros y dŵr
Gysgodion hen golfenni oer eu drych;
A dyma bluen wen o'r wybr i lawr,—
Brysied y crwydryn dros y mynydd mawr!
Syn yr edrychaf allan gyda'r wawr,—
Nid oes na llwybr na heol yn y byd
Namyn anghyffin fro'r tawelwch mawr,
A gwynder eira dros ei chreithiau i gyd;
Mor ddistaw weithian â thelynau'r ha'
Yw'r ffrwd garolai neithiwr dan y lloer;
Canys daeth Ionor, efo'i ddwrn o ia,
I daro'r dyfroedd â mudandod oer.
Druan o'r crwydryn hwnnw ar y rhos,—
Ni chafodd gyrraedd porth hen dloty'r fro;
Fe'i claddwyd yn yr ôd yn nyfnder nos,
A'r lloer a'r sêr oedd torf ei angladd o;
Ac ni bu coffa'i wall na'i fryntni chwaith;—
Daeth yntau'n ddigon gwyn i ben ei daith!
Y FILLTIR OLAF.
Haul a chawod, glesni a chwmwl,
Milltir wastad, milltir serth;
Wedyn henaint a'i benllwydni,
Fel yr ôd ar frig y berth.
Dyna stori fer ein gyrfa
Cyn i'r niwl orchuddio'r llawr,
Cyn yr elom ac ni byddom
Mwyach ar yr heol fawr.
Gwn im golli'r ffordd a chrwydro
Rhos a mynydd lawer gwaith.
Ond a ddrysodd hen bererin
Na bu rhywun wyddai'r daith?
Bellach trof i'r glyn lle collir
Camre'r call a chamre'r ffôl;
Ac ni ddaw na châr nac estron
O'r dieithrwch mawr yn ol.
Heddiw'n llesg, tan faich blynyddoedd,
Pwysaf ar yr olaf faen;
Troes y ffordd yn niwl diheol,
Ac ni welaf gam ymlaen.
Dyma'r fan y methais ganlyn
Un a gerais i erioed.
Mae ei lais? Nis clywaf mwyach,
Ac ni welaf ôl ei droed.
Aeth o'm blaen, a phennod euraid
Ar ei hanner yn ei law;
Mynnai y câi orffen honno
Mewn gorffwysfa brydferth draw.
A ddaw ef i'm cwrdd tan chwerthin
Imi ameu ennyd awr?
Gwn mor felys fyddai'n cymun
Hwnt i sŵn y cystudd mawr.
Dros hen fagwyr werdd, fwsoglyd,
Gwelaf erw'r bythol hedd;
Ac ar len o niwl anniflan,
Gwelaf gysgod carreg fedd.
Eithr os mynnwch fod fy ngyrfa
Yn ymestyn hwnt i'r llen,
Cleddwch fi ar fin yr heol,
A charreg filltir uwch fy mhen.
ARGRAFFWYD YN ABERTAWE
YNG NGWASG Y
SOUTH WALES POST NEWSPAPER CO.LTD.
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.