Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth (testun cyfansawdd)

gan John Evans, Abermeurig

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant y Parch Thomas Edwards, Cwmystwyth

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader




Bt. from widow of Bob Owen, Croesor.





COFIANT

Y

PARCH. THOMAS EDWARDS,

CWMYSTWYTH.




DAN OLYGIAETH Y

PARCH. JOHN EVANS,

ABERMEURIG.




DOLGELLAU:

ARGRAFFWYD GAN E. W. EVANS, SWYDDFA'R "GOLEUAD,"

SMITHFIELD LANE

AT Y DARLLENWYR.



ANWYL GYFEILLION,—

Dyma Gofiant ac Ysgrifeniadau eich anwyl-ddyn, y Parch. T. EDWARDS, o'r Cwm, wedi eu cyfansoddi ganddo ef ei hun. Nid wyf fi wedi gwneyd dim ond eu hail ysgrifenu a'u trefnu ar gyfer y wasg. Yn ei gystudd yr ysgrifenodd y "Cofiant" a "Hanes Crefydd yn Cwmystwyth," ac yr oedd llawer o nodau cystudd ar y ddau, er fod ganddo lawysgrif dda. Mae yn debyg nad oedd yn arfer ysgrifenu fawr o'i bregethau, ac na orphenodd gymaint ag un; felly nid oedd genym ond gwneyd y goreu o honynt, gan feddwl y byddech yn disgwyl cael gweled rhai o bregethau yr un y bu mor dda genych ei wrando. Am yr " Adgofion," dymunaf arnoch eu cymeryd yn garedig fel y maent, gan ryfeddu eu bod cystal wrth gofio pwy fu wrthynt. Gyda gweddi ar Dduw pob gras am wneyd y llyfryn yn gyfrwng bendith i chwi oll, y cyflwynaf ef i'ch sylw. A chan fod genych barch mawr i Mr. EDWARDS, a bod yr elw oddiwrth y gwerthiant yn myned i'w anwyl briod, yr wyf yn hyderu y prynir y Cofiant wrth y canoedd.

Y GOLYGYDD.

CYNWYSIAD.




YR HUNAN—GOFIANT.




Nantgwineu—Ei Rieni—Y Teulu—Y Shop—Gorbryder y rhieni—Hanesion digrif am y bachgen—Ofergoeledd yr oes.

Yn yr ysgol ddyddiol—Ysgol y Duke of Newcastle—Yn chwareu—Cynyg ar fyned i Loegr

Myned i'r seiat gyda'i fam—Temtasiynau yn dechreu—Dal yn ddirwestwr—Oedfa hynod—Ofn gweddio yn gyhoeddus—Gweled derbyn un i'r seiat— Blwyddyn o wrthgiliad

Oedfa hynod eto—Yn gweddio—Yn ymwasgu at y disgyblion—Yn cadw dyledswydd deuluaidd——Yn ymuno â'r eglwys—Yn priodi

Nodwedd y flwyddyn gyntaf—Profiad hyfryd—Amheuon yn cyfodi—Cymdeithasfa Aberystwyth—Oedfa y Parch. John Jones, Ysbyty—Yn gweddio—Anghrediniaeth a'r oruchafiaeth arno

...

Yn athraw—Yn arolygwr—Yn cyfansoddi areithiau—Mewn Cyfarfod Dau—fisol—Yn flaenor eglwysig—Ei dywydd gyda golwg ar bregethu—Yn myned trwy y dosbarth—Yn dechreu pregethu



ADGOFION AM DANO.


Yr addysg a gafodd ——Y cynydd a wnaeth—Yn cadw ysgol—Ei arafwch gyda'r pregethu

Ei ymddangosiad allanol—Ei ddylanwad —Yn Trefriw fawr—Earl Lisburne—Gallu i gydymdeimlo Yn arweinydd da

Ei dröedigaeth amlwg—Dirgelfanau—Mr. Thomas , Pentre—Yn ei deulu— Ymarweddiad cyffredinol

Ei ordeiniad — Maes ei lafur yn ymeangu—Ei nodwedd fel pregethwr— Fel gweithiwr—Fel bugail

Ei gystudd—Llythyr—Ei brofiad — Rhagfynegiadau —Yn marw—Ei feddrod—Ei deulu a'i berthynasau




EI BREGETHAU .

PREGETH I. " Cyn ei chlafychu yr esgorodd, cyn dyfod gwewyr arni y rhyddhawyd hi ar fab. Pwy a glybu y fath bethau a hyn? A wneir i'r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Seion, yr esgorodd hefyd ar ei meibion."—Esa. lxvi . 7 , 8

PREGETH II.—" Ac wele drallod ar brydnhawn, a chyn y boreu ni bydd."—Esaiah xvii. 14

PREGETH III. —Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, trwy ddwyn o honoch ffrwyth lawer, a disgyblion fyddwch i mi."—Ioan xv. 8

PREGETH IV.—" Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll ; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni iddo ef ei droi yn gysgod angau a'i wneuthur yn dywyllwch."—Jer. xiii. 16

PREGETH V.—"Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i, ám fy mod i yn dodi fy einioes fel y cymerwyf hi drachefn."— Ioan x. 17

PREGETH VI.—"Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym, efe a ddarostwng ein hanwireddau, a thi a defli ein holl bechodau i ddyfnderoedd y môr."—Micah vii. 11

PREGETH VII.—"O rhedaist ti gyda'r gwyr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdarewi â'r meirch ? Ac os blinaist di mewn tir heddychol, yn yr hwn yr ymddiriedaist ; yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen."—Jer. xii . 5

PREGETH VIII.—"Ac efe a'm dwg i drachefn i ddrws y tŷ, ac wele ddwfr yn dyfod allan o dan riniog y tŷ tua'r dwyrain," &c.—Eseciel xlvii. 1—12

PREGETH IX.—"Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir, i halen y rhoddir hwynt."—Eseciel xlvii. 2

PREGETH X.—"Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn, edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth." — Diar. vi. 1—11

YR HUNANGOFIANT.

PENOD I.

Tymor Mebyd.

NANTGWINEU—EI RIENI—Y TEULU—Y SIOP—GORBRYDER EI RIENI YN EI GYLCH—HANESION DIGRIF AM DANO—OFERGOELEDD YR OES.

FE'M ganwyd mewn lle a elwir Nantgwineu, Cwmystwyth, yr hwn a saif ar derfyn dwyreiniol ystad yr Hafoduchryd. Mab oeddwn i James a Sarah Edwards. Masnachwr oedd fy nhad; ac adwaenid fy rhieni fynychaf trwy eu galw yn James a Saly y Shop. Dyddiad fy ngenedigaeth oedd Mehefin y 30ain, neu Gorphenaf 1af, 1824. Ganwyd i fy rhieni naw o blant, chwech o ferched a thri o feibion. Bu fy nau frawd farw cyn fy ngeni; ac felly myfi oedd eu hunig fachgen oedd yn fyw. Achlysurodd hyn i'w serchiadau redeg arnaf yn rymus iawn, a gwneyd i'w gofal am fy niogelwch a'm cysur fod yn orofal a gorbryder. A gallaf ddweyd i hyny achosi iddynt brofedigaethau mawrion ar rai adegau. Yr oedd y cynlluniau a gymerent i fy nghadw rhag myned ymaith oddiwrth y tŷ, gyda chyfoedion i mi a ddeuent yn fynych i'r siop, yn ymylu ar fod yn annoeth, a gwnaeth ofid iddynt fwy nag unwaith. Yn yr adeg hono, yr oedd prif ffordd Aberystwyth a Rhaiadr yn rhedeg trwy Cwmystwyth, ac heibio ein tŷ ninau. A mynych iawn y byddai pob math o grwydriaid, ysgubwyr simneiau, a'r cyffelyb, yn dyfod heibio. Ac er mwyn fy rhoddi ar fy ngwyliadwriaeth i beidio myned oddiwrth y ty, dywedai fy rhieni, fy chwiorydd, ac eraill, y byddai rhai felly yn sicr o ddyfod a'm cymeryd ymaith, a'u bod yn tori penau plant bach, a chwedlau eraill tebyg, nes yr oeddynt wedi gyru eu harswyd trwy fy nghalon. A chostiodd yr ymddygiad beius iddynt rai profedigaethau chwerwon.

Dyma un esiamp! i ddangos hyny. Pan oeddwn ryw ddiwrnod yn difyru fy hunan gerllaw y ty, gwelwn sweep yn myned at y drws, ac felly yn tori y cymundeb rhyngof â'r teulu. Yr wyf yn meddwl nad oedd ond fy nwy chwaer gartref ar y pryd. Ac yn hytrach na myned i'r ty, gan faint fy ofn, aethum i chwilio am ddiogelwch yn y beudy neu yr ysgubor. A'r hyn a wneuthum oedd ymrythu tucefn i ddrws yr ysgubor, a dringo i fyny i ben un o farau y drws. Deallodd fy chwiorydd yn y fan fod perygl am danaf, a gwaeddasant nerth eu penau lawer gwaith. Yr oeddwn yn clywed y waedd gyntaf, ond yr oedd gormod o ddychryn arnaf i ateb. Yn y man, daeth un o'r teulu i'r ysgubor, gan waeddi "Thomas, Thomas," ond nid oedd llais na neb yn ateb. Ymdrechwn atal fy anadl, gan gymaint fy ofn, fel y gallaf ddweyd gyda phriodoldeb, "Tra bwy'f fyw mi gofia'r lle." Erbyn hyn, yr oedd llawer o bobl wedi dyfod yno, rhai wrth fyned heibio, ac eraill wedi dyfod ar ol clywed y newydd am fy absenoldeb. Gwaeddent yn gyntaf ar y rhai cyfagos, os oeddynt wedi fy ngweled, a "Naddo" oedd ateb pawb. Yna ymwasgarwyd i bob cyfeiriad, i chwilio at lynau yr afon a llochesau y mynyddoedd, yn gystal a'r ffyrdd. Aeth rhai filldiroedd o ffordd ar yr hynt bryderus. Ond ymhen rhyw awr neu ragor, dyma un i'r ysgubor eilwaith, gan waeddi yn ddolefus, "Thomas, Thomas." Atebais inau yn ddistaw bach, trwy ofyn "A aeth ef i ffwrdd?" gan feddwl y sweep, am mai gyda hwnw yr oedd fy meddwl o hyd. Yna udganwyd i alw yr ymchwilwyr adref, a mawr oedd y teimladau cymysg a'u meddianent wedi clywed pa fodd y bu. Yr wyf yn adrodd hyn fel gwers i rieni, i beidio defnyddio moddion anmhriodol tuag at ddiogelu eu plant.

Gallaf adrodd un ffaith ddigrif arall bron o'r un natur. Ar ryw ddiwrnod teg iawn yn yr haf, yr oeddwn yn digwydd bod yn y siop, pan oedd fy mam yn gwerthu i'r cwsmeriaid. Yr oeddwn y pryd hwnw oddeutu pedair neu bump oed. Erbyn i fy mam ddyfod i'r siop o'r tŷ, gwelodd nad oeddwn i yno. Dechreuodd holi fel arfer, "Pa le mae y bachgen bach?" Ond nid oedd neb wedi fy ngweled er's tro. Dechreuwyd holi os oedd rhai o'm cyfoedion wedi bod yno; ond wedi dyfod o hyd iddynt, nid oedd yr un wedi fy ngweled, a dyna oedd ateb yr holl gymydogion. Felly nid oedd un dychymyg gan neb ymha le yr oeddwn. Aeth yn hynt ymchwiliadol unwaith eto trwy y gymydogaeth. Ar y pryd yr oedd y miners yn dyfod allan o'r gwaith, ac aeth y rhai hyny i chwilio y pyllau a'r coedydd, ond y cwbl yn ofer. Yr oedd gwedd ddiflas ar bob wyneb, a llawer o wylo ymhob cyfeiriad. O'r diwedd cafwyd gafael yn y colledig y tro hwn eto. Ymhlith y nwyddau yr arferai fy rhieni fasnachu ynddynt, arferent fasnachu mewn lledr. Yr oedd yno groen crwn ar y pryd yn rhol fawr. Yr oeddwn o chwilfrydedd plentynaidd wedi myned i fewn i'r rhol ledr hono, a gorwedd nes i drwmgwsg fy ngoddiweddyd, ac felly fyned yn anymwybodol o bob peth o'm cwmpas. Ymhen llawer o oriau, digwyddodd i rywun ymaflyd yn y rhol, a'i theimlo yn hynod o drwm, ac wedi chwilio gwelwyd mai fi oedd yno wedi hen gysgu. Mawr fu y llawenydd; ond nid ychydig fu y drafferth i alw yn ol y torfeydd oedd allan yn chwilio am danaf. Ac nid ychydig ar ol hyny fu y digrifwch am y rhol ledr a'i lletywr.

Yr oedd pryder fy nhad am danaf wedi myned yn ddiareb trwy y gymydogaeth. Yr oedd yn arfer myned i'r farchnad i Aberystwyth bob dydd Llun, ac yn cychwyn tua phump o'r gloch y boreu, haf a gauaf. A byddai yn arferol bob amser, wedi myned rhyw 60 llathen oddiwrth y tŷ, o waeddi rywbeth oedd wedi ei anghofio; ond diwedd y story bob amser fyddai, "Meindiwch at y bachgen bach." Byddai nodi pob peth o'r cyffelyb bethau yn ddigon lenwi cyfrol. Ac O! mae cofio am bryder a serch fy rhieni yn peri i mi deimlo loesion y fynyd hon, oblegid i mi achosi cymaint o ofid iddynt.

Nis gallaf roddi heibio heb goffhau un peth oedd yn rhoddi argraff ryfedd ar fy meddwl i a'm cyfoedion y pryd hwnw, yr hwn y mae y plant presenol wedi cael ymwared oddiwrtho. Gan fod ein ty, oherwydd y fasnach, yn fath o gyrchfa pobloedd, byddai Ilawer o hen bobl yn troi i fewn i'r tŷ i eistedd, a siarad am oriau am helyntion y wlad a'r oes. Ond digwyddai weithiau y byddai y bwganod a'r canhwyllau cyrff, a phethau eraill cyffelyb, yn cael rhan o'r ymddiddan. Yr oedd pethau mor ryfedd yn cael eu hadrodd a'u sicrhau gan y bobl hyn, nes yr oeddwn bron a rhedeg yn fynych rhag fy nghysgod fy hun. Ond yr oedd y rhai hyny yn eu credu yn gadarn, fel yr oedd eu gwedd ofnus yn dangos pan yn eu hadrodd. Gan fod y dynion hyny mewn oedran, ac ar yr un pryd yn ymddangos mor bryderus, yr oedd yn myned ymhell i fagu yr un ysbryd ofergoelus yn y plant. Pan ddaethum i addfedrwydd oedran, ac i ddeall pethau yn well, penderfynais ddial ar athrawiaeth y gethern, y rheibio, a phob peth cyffelyb. A da genyf gael gweled y dyddiau pan y mae pethau felly wedi myned yn wawd.

PENOD II.

Tymor Diwylliant.

YN YR YSGOL—YSGOL Y DUC OF NEWCASTLE—YN CHWAREU—CYNYG AR FYNED I LOEGR.

Y CYFNOD nesaf yn fy hanes ydoedd yr adeg i'm rhoddi dan addysg. Nid oedd fy rhieni, mae'n debyg, wrth fy rhoddi mewn ysgol, yn meddwl ond i mi gael digon i fy nghymhwyso i fod yn siopwr fel fy nhad. Yr oedd ef yn gweled gwerth mewn addysg trwy ei amddifadrwydd ef ei hun o hono, fel yr oedd dan angenrheidrwydd i ymddiried llawer mwy nag a ddylasai i eraill o'r herwydd. Ac i'r perwyl hyny, cefais i fy anfon i'r ysgol yn ieuanc iawn, a hyny yn llaw fy chwaer Sarah, yr hon oedd bedair blynedd yn henach na mi. Cefais bob caredigrwydd gan fy meistr, sef Mr. Thomas Jones, yr Arch; oblegid nid oedd neb yn agos mor fychan ac ieuanc a mi yn yr holl ysgol. Ond ni bum ond ychydig amser cyn cael fy hun yn y first class. Yr oeddwn mor fychan mewn cymhariaeth i eraill oedd ynddo, fel yr oeddwn yn destyn sylw a chwerthin iddynt oll. A chredaf fod y meibion a'r merched oedd gymaint arall a mi o ran oedran a maint, yn hollol foddlon i mi fod yno. Oblegid gwn fod ambell un weithiau yn gwneyd mistake mewn darllen, neu sillebu, er mwyn i mi eu correcto, ac felly gael y pleser o fy ngweled yn myned o'u blaen. Ac y mae yn gofus genyf i mi gael fy hun yn first yn y first class ryw ddiwrnod, pan nad oeddwn ond rhyw damaid bychan iawn, nes yr oeddwn yn destyn chwerthin i'r holl ysgol, a fy meistr yn fy nghanmol, nes yr oeddwn yn llawn o falchder. Nis gwn pa un ai oddiar deilyngdod ai er difyrwch y bu hyny. Ond gwn hyn, mai o deilyngdod y bu hyny byth wedi hyny, neu i mi fod hebddo o gwbl. Ac yr wyf yn meddwl byth fod cael y lle blaenaf felly pan yn fychan, wedi bod yn foddion i gadw fy llygad ar y safle hono trwy holl adeg fy ysgolheigdod; a gallaf ddweyd na fethais fawr yn hyny. Nid oeddwn yn foddlon i fod yn third nac yn second, a thrwy ymdrech a dyfalbarhad, ni bu raid i mi fod. Un peth i rwystro cynydd mewn dysg y pryd hwnw oedd, na byddai yr ysgol yn cael ei chadw ond am ddau chwarter yn y gauaf.

Pan gyfodwyd ysgol gan Sais o Kent, o'r enw William Fowl, yn y gymydogaeth, drwy appwyntiad y Duke of Newcastle, cefais beth mantais i gynyddu mewn addysg, erbyn fy mod o 12eg i 14eg oed. Ond nid oedd yr ysgol hon ond un digon cyffredin wrth yr hyn a ddylasai fod. Yr oedd hefyd yn hynod o Eglwysyddol. Yr oedd yn rhaid myned trwy ffurf o weddiau foreu a hwyr, a dysgu llawer iawn o gatecismau. Treulid llawer o amser yr ysgol i ddysgu ac adrodd y rhai hyny. A'r peth oedd fwyaf gwrthwynebol o bob peth i mi, oedd yr orfodaeth i fyned i eglwys y plwyf ar y Sabbath; a phwy bynag a esgeulusai fyned yno, pa un bynag ai gwlyb ai sych, oer neu deg, fyddai y tywydd, byddai yn sicr o gael ei alw i gyfrif a'i gosbi. Ac ni chosbid am unrhyw drosedd mor greulon ag am beidio myned i'r eglwys ar y Sabbath. Bum bron a cholli dagrau lawer gwaith oherwydd y gorthrwm anynol hwn, ond rhaid oedd iddo fod.

Wedi i mi ddyfod i deimlo awydd i ddysgu o ddifrif, yr oedd yn rhaid fy nghadw gartref yn misoedd y gwanwyn a'r haf, i edrych ar ol y defaid a'r wyn bach, a'u settlo ar y mynydd. Parai eiddigedd mawr ynof weled fy nghyfoedion, gan mwyaf, yn cael bod yn yr ysgol trwy y flwyddyn, a minau yn gorfod bod ar y mynydd. Ond yr oedd fy eiddigedd yn gymaint, fel nad arbedwn ddim llafur nes dyfod i fyny â'r penaf o honynt erbyn canol y gauaf. Mae arnaf ofid wrth edrych yn ol ar yr amser hwnw, a gweled mor ychydig o home lessons a roddid i mi, ac felly fethu cyrhaedd tir uwch o lawer mewn dysg. Yr oedd fy awydd am chwareu hefyd yn fawr, ac am ragori yn hyny; ac o bob chwareu, cicio y bel droed. oedd a mwyaf o swyn ynddo i mi. A chymaint oedd fy egni gyda hyn fel yr aethum yn ddiareb yn y gymydogaeth o'i blegid. Ac odid fawr, pan y byddid yn tynu match, na chawn fy ngalw yn un o'r rhai cyntaf, hyd yn nod pan y byddai rhai llawer mwy eu maint a hynach na mi yn bresenol. A pharai yr ystyriaeth yna i mi fod yn egniol dros fy ochr, ac anaml y byddai fy ochr yn colli, fel yr ystyriai fy nghyfeillion fod ffawd yn fy ffafr. Maddeuer i mi am. gofnodi pethau plentynaidd fel yma.

Pan o 14eg i 15eg oed, nis gallai fy rhieni fforddio rhoddi ychwaneg o ysgol i mi, oherwydd fod eu hamgylchiadau yn cymylu yn gyflym, ac felly gorfu i mi roddi fyny. Yn y cyfamser, cof genyf fod cymydog hynaws i ni yn dyfod at fy nhad, ac yn cynyg benthyg arian iddo, i mi gael myned i ysgol yn Lloegr. Mr. Thomas, Pentre Brunant, oedd y person caredig gynygiodd yr arian a hyny heb eu ceisio. Bu fy rhieni a minau yn petruso yn fawr beth i wneyd o'r cynyg, ond yr oedd yn anhawdd iawn iddynt hwy fy hebgor, a theimlwn inau yn hwyrfrydig iawn i dderbyn y cynyg, oblegid y rhesymau canlynol:—Yr oeddwn yn teimlo cryn an wyldeb at grefydd ar y pryd, ac hefyd at y Methodistiaid, ac yn penderfynu ceisio duwioldeb rywbryd ; ac ofnwn yn fawr os awn i rywle i Loegr, na byddwn yn debyg o gael crefydd dda. Yr oedd lle neillduedig fel Cwmystwyth wedi bod yn anfanteisiol iawn i mi, fel llawer eraill a anwyd ag a fagwyd yno, i wybod nemawr am y byd o amgylch, yn ei arferion na'i grefydd. Nid oedd ynddo ond dau enwad crefyddol, sef y Methodistiaid ac Eglwys Loegr; ac yr oeddwn bron wedi myned i synied nad oedd dim crefydd dda ond gan y cyntaf. Yr oeddwn wedi cael lle i feddwl felly oblegid y gwahaniaeth mawr oedd y pryd hwnw rhwng y ddwy blaid. Am y rhai oedd yn grefyddol o'r Methodistiaid, yr oeddynt i gyd yn cymeryd crefydd i fyny yn ei holl ddyledswyddau; a bron i gyd yn gyfryw ag yr oedd arnaf ofn dweyd na gwneyd dim anweddus yn eu presenoldeb. Edrychwn arnynt oll fel angylion, yn enwedig eu pregethwyr. Ond am gynifer ag a adwaenwn o aelodau Eglwys Loegr, nid oeddynt yn gofyn bendith ar eu bwyd, nac yn cadw dyledswydd deuluaidd; ond gan mwyaf yn arfer iaith anweddus. Modd bynag, nid oeddynt ond ychydig o nifer. Ac am Ygol Sabbothol, cyfarfod gweddi, a seiat, nid oeddynt wedi cael bodolaeth yn eu plith yr amser hwnw. Yr oedd y gwahaniaeth dirfawr yna wedi cael argraff ddofn ar fy meddwl ieuanc, fel y credwn na byddai cystal cyfleusdra i mi am dduwioldeb, os awn oddicartref i un o drefi mawrion Lloegr. Rhyfedd mor blentynaidd oeddwn; ond barned pawb fel y mynont. Modd bynag, hyny yn benaf a barodd i mi aros gartref gyda fy rhieni, i ymladd å ffawd ac anffawd fel y deuent, a bod heb ychwaneg o ysgol.

PENOD III.

Argraffiadau Crefyddol.

MYNED I'R SEIAT GYDA'I FAM—TEMTASIYNAU YN DECHREU—DAL YN DDIRWESTWR—ODFA HYNOD—OFN GWEDDIO YN GYHOEDDUS—GWELED DERBYN UN I'R SEIAT—BLYNYDDOEDD O WRTHGILIAD.

PAN oeddwn tuag 16eg oed, teimlais ryw ddwysder crefyddol yn fy meddwl. Yr oedd fy rhieni yn gwneyd mwy o ymdrech i fyned a mi i'r seiat, na neb arall yn y gymydogaeth. Byddai fy mam yn myned a mi i'r seiat dan ei chlogyn, pan nad oeddwn ond ieuanc iawn, ac yn dweyd rhywbeth wrthyf am Iesu Grist yn aml. Ond fel yr oeddwn yn tyfu i fyny, yr oedd arnaf braidd gywilydd myned, gan na chawn gwmni neb o'm cyfoedion yn y fath gyfarfod. Yn fynych iawn gwnawn ryw esgusodion dros beidio myned, ac os gallwn gael cyfleusdra, absenolwn fy hun ar yr amser i fyned yno. Ac ar y pryd, teimlwn fod cymdeithas fy nghyfeillion yn dechreu fy ngwaethygu yn fawr, ac felly finau yn eu gwaethygu hwythau. Ond mewn un peth, ïe, yn wir, mewn dau beth, ni allent, er treio o ddifrif, fy nghael i gydymffurfio â hwy, sef tori yr ardystiad dirwestol ac ymarfer â tobacco. Ac yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar hyd heddyw am y nerth a gefais i orchfygu, nes gwneyd eu holl ymdrechion yn ofer. Yr wyf wedi cael nerth i fod yn ddirwestwr trwyadl bellach er's 48 mlynedd, ac hefyd wedi ymgadw dros fy holl oes oddiwrth yr arferiad afraid arall.

Pan oeddwn tuag 16eg oed, yr oedd yma adfywiad dymunol ar grefydd, a llawer yn gofyn y ffordd i Seion. A ryw nos Sabbath, pan oedd y brawd talentog, Mr. David Davies, Nantcwta, wedi bod yn holi yr ysgol ar "Gwymp Dyn," disgynodd rhyw ddylanwad rhyfedd ar ddiwedd yr odfa, nes yr oedd llawer yn molianu, eraill yn wylo yn hidl, a llawer o'r ieuenctyd gwylltaf yn ymddangos dan argyhoeddiad dwys. Ond yr hyn oedd yn ofid i mi ar y pryd oedd fy mod yn credu mai fi oedd y caletaf yn y lle. Modd bynag, gwasgodd hyny yn ddwys ar fy meddwl drwy y nos, a thranoeth hefyd; ac erbyn cyfarfod a'm cyfeillion nos dranoeth, deallais eu bod hwy wedi iachau, ac nad oedd y dylanwad hwnw iddynt ond fel gwlaw ar gareg. Ond ni allwn i deimlo y gallwn fod yn llawen a digrif gyda hwy megis cynt, er y gwnawn ymdrech orchestol i fod felly. Ac er myned gyda'm cyfeillion yn yr hwyr hwnt ac yma, dyfnhau yr oedd y peth yn fy meddwl; a byddwn yn ei deimlo yn ddisymwth weithiau mor ddwys, nes gorfod ffurfio rhyw esgus i ymadael oddiwrthynt. A phan elai yn nos, awn i ganol y cae i gysgod y stack llafur i weddio. Deallodd fy rhieni fod rhyw bryder arnaf, a thorwyd ataf am fy mater mawr. Nid oeddwn wedi llwyr adael y seiat, ond arhoswn yn ol weithiau rhag ofn fy rhieni. Ac aethum yno eto gyda hwynt ar yr amod na byddai iddynt adael i neb ymddiddan â mi. Yr oedd arnaf ofn nad oedd yn beth i bara; ac ofnwn hefyd os awn ymlaen, y byddai yn rhaid i mi weddio yn gyhoeddus. Yr oedd y meddwl am hyny bron a fy llethu. Nid oedd yr hen dadau y pryd hwnw yn caniatau i neb fyned i gymundeb heb ei fod yn cadw dyledswydd deuluaidd, pa mor ieuanc bynag fyddai. Ond y noson grybwylledig, yr oedd yno fachgen ieuanc yr un oed a minau, yn dyfod i ymofyn am le yn yr eglwys. Yr oedd wedi bod yn fachgen gwyllt iawn. Pan alwyd ef ymlaen i gael gwybod beth oedd wedi dal ar ei feddwl, methai a dweyd dim ar y cyntaf gan wylo. Ond ymhen enyd, pan oedd rhai o'r hen frodyr a chwiorydd yn trydar fel colomenod, a rhai fel ceiliogod y dydd yn canu, dywedodd mai darllen Dameg y Gwr Goludog a Lazarus oedd wedi dal ar ei feddwl. Yr oedd yn dweyd pethau mor ryfedd am ei brofiad, nes gwneyd yr holl eglwys yn foddfa o ddagrau.

Tra yr oedd ef a hwythau yn ymddiddan, ac wrth weled y teimlad oedd yn meddianu hwnw, yr oedd rhyw ysbryd yn dweyd wrthyf fi, "Dyna, ti weli nad oes dim byd teilwng o sylw arnat ti." Pa ysbryd ydoedd, gadawaf i'r darllenydd farnu; ond gwn iddo gael ei gredu yn ormod genyf fi, gan i mi mewn canlyniad wneyd pob ymdrech i ddiffodd y pryder oedd yn fy meddwl, ond yn methu cael llwyr waredigaeth er pob ymdrech. Yn un o'r wythnosau canlynol, yr oedd ffair yn y gymydogaeth gerllaw, i'r hon yr oedd yn hen arferiad i holl ieuenctyd yr ardal fyned. Arferai yr hen dadau crefyddol roddi anogaethau taer y Sabbath blaenorol, ar i'r bobl ieuainc beidio myned i'r fath leoedd niweidiol. Tra yr oeddynt yn cynghori, yr oedd ymrysonfa flin yn myned ymlaen yn fy meddwl ynghylch beth a wnawn. Ond pan ddaeth y dydd, a'r cyfeillion yn galw heibio, gan fy nghymell mor daer i fyned gyda hwy, a minau a'm tuedd i fyned gyda hwy mor gref, ildio a wnaethum i'r demtasiwn. Ond Ow! gallaf ddweyd, a gweddai i mi ddweyd mewn dagrau, i'r argraffiadau crefyddol bron gael eu llwyr ddileu y diwrnod hwnw, fel y teimlwn fy hun yr wythnosau canlynol yn ymryddhau oddiwrth bob iau grefyddol, ac wedi cael y ffrwyn yn rhydd ar fy ngwar. Yr wyf yn dywedyd hyn fel rhybudd i'r neb fyddo dan argraffiadau crefyddol, i wylio rhag myned i leoedd sydd a thuedd ynddynt i ddiffodd y cyfryw. Bum i am dair blynedd ar ol hyn heb deimlo nemawr o'r cyfryw argraffiadau. Ac yn nifyrwch a gwylltineb y blynyddoedd hyny, darfu i mi gyflawni rhyw bethau sydd yn peri i fy nghydwybod waedu wrth eu cofio. Buasai yn dda genyf allu croesi y blynyddoedd hyny allan o fodolaeth. Y mae eu cofio nid yn unig yn flin genyf, ac yn gwaedu fy nghydwybod, ond y maent hefyd wedi bod yn effeithiol i grebychu fy nefnyddiolddeb gyda'r gwaith gogoneddus ag y mae fy nghalon ynddo am y gweddill o'm hoes.

PENOD IV.

Dyfod yn Aelod.

ODFA HYNOD YN GWEDDIO—YN YMWASGU AT Y DISGYBLIONYN—DECHREU CADW DYLEDSWYDD DEULUAIDD—YN YMUNO A'R EGLWYS—YN PRIODI.

OND rhyfedd fu amynedd Duw yn fy ngoddef yn fy ngwrthgiliad! A mawr fu ei drugaredd tuag ataf yn fy nghofio yn fy iselradd ! Clod i'w ras. Ryw Sabbath, yn y flwyddyn 1844, pan oedd blaenor yn cyhoeddi y moddion am yr wythnos ganlynol, dywedai fod hwn i fod nos Fawrth yn pregethu, un arall nos Fercher, un arall nos Iau, a rhai eraill nos Wener. "Wel, wel," meddwn inau, "beth ddaw o'r holl bregethu yma, beth fydd y canlyniadau?" Modd bynag, yn yr odfa nos Fawrth, glynodd rhywbeth yn fy meddwl na fedrwn ymryddhau oddiwrtho. Nis gallwn beidio gweddio, a chwiliwn am le ar fy mhen fy hun i dywallt fy nghalon gerbron yr Arglwydd. A dyfnhau yr oedd yr argraffiadau ar fy meddwl yn. odfeuon y nosweithiau dilynol, nes yr oedd i raddau yn ddifrifol arnaf. Treiwn ymysgwyd oddiwrth y teimladau, a threiwn gredu nad oedd dim neillduol arnaf, ond yr oedd hyny yn anmhosibl.. Yn y trallod hwn y bum am rai wythnosau, ac ar yr un pryd yn ceisio ei guddio oddiwrth bawb eraill. Ond O! mor dda genyf oedd cael cyfleustra i ddadlwytho fy maich gerbron gorsedd gras mewn dirgel—fanau! Heb fod yn faith, deallodd fy rhieni a'm chwiorydd. fod rhywbeth mawr yn fy mlino; ond nid oeddynt yn synied yn. iawn ar y cyntaf beth oedd yr achos o hono. Yr oedd fy maich yn llawer trymach i'w ddwyn tra yn ymgadw rhag dweyd wrth neb am dano. Gwnawn ymdrech i nesau at grefyddwyr wrth fyned a dyfod gyda'm gwaith, i edrych a ddywedent ryw air wrthyf, ac i minau wed'yn gael adrodd fy nhywydd; ond fy siomi gefais yn ddieithriad. Credwn nad oeddynt yn meddwl fod ynof fi yr un duedd at grefydd. Bu cofio am fy nhrallod personol y pryd hwnw ac esgeulusdra crefyddwyr yn fy nghylch, yn symbyliad da i mi i dori at lawer yn ystod fy ngyrfa grefyddol, a chefais amryw hefyd yn yr un tywydd ag y bum inau ynddo.

Modd bynag, cario fy maich yr oeddwn i heb yngan gair wrth neb, na neb yn yngan gair wrthyf finau, am grefydd, na phechadur, na Cheidwad. Yr oeddwn yn gweithio ar y pryd gyda brawd crefyddol, a diau genyf ei fod yn ymbalfalu rhywbeth yn ei feddwl ynghylch fy nistawrwydd pruddaidd yr wythnosau hyn. Ond ryw brydnawn, aeth fy maich yn rhy drwm i'w gario yn mhellach, mynegais yr oll iddo, a rhyfedd fel y llawenychodd. Yn ganlynol, cefais fy nghyfarwyddo a'm diddanu ganddo, fel mamaeth dirion yn diddanu y plentyn. Yn y cyfamser, yr oedd fy rhieni yn gwneyd i mi ddarllen penod hwyr a boreu ar y ddyledswydd, pan y byddwn yn bresenol. A rhyw noson, ar ol darllen y benod, dywedasant wrthyf yn benderfynol am fyned i weddi hefyd. Teimlwn bwysau y greadigaeth yn dyfod ar fy mhen gyda'r gorchymyn. Diffoddwyd y ganwyll; a chan mor ddisymwth y daeth y peth arnaf, ni chefais amser i ymgynghori â chig a gwaed, aethum ar fy nglinau, a thrwy y gwasanaeth, ac nis gwn eto pa fodd. Ond wedi fy myned i'r gwely, cofiais y byddai fy nhad yn myned oddicartref yn blygeiniol iawn dranoeth; a chan nad oedd y ddyledswydd byth yn cael ei hesgeuluso, os byddai fy nhad gartref, gwyddwn y byddai fy mam yn gosod arnaf yr angenrhaid hwn; a dechreuais grynu gan ofn y byddai i rywrai ddyfod i'r siop ar y pryd, a gwrando arnaf. Ac wedi cael y boreufwyd, wele fy mam yn dyfod a'r Beibl i'r bwrdd, ac yn cloi y drws, fel na byddai i mi gael fy aflonyddu gan neb dynion; a chan nad oedd neb arall o'r teulu yn bresenol, teimlais dipyn o hamdden i fyned at y ddyledswydd. A chefais ychydig o bleser hefyd y boreu hwnw wrth ledu fy achos gerbron Duw fel pechadur.

Aeth y si trwy y gymydogaeth fy mod yn myned i'r seiat yr wythnos ganlynol. Ond yr oeddwn i yn pryderu yn fawr beth a wnawn, oblegid yr oeddwn ar y pryd mewn cyfeillach â merch ieuanc, yr hon oedd yn ddigrefydd, ac wedi myned yn rhy bell i dynu yn ol, yr hyn na ewyllysiwn chwaith. A gwyddwn fod llinyn yr hen flaenoriaid mor dyned ag oedd bosibl gyda hyn, fel pob peth arall, yn yr amser hwnw. Ond trwy fod lliaws o frodyr yn fy anog mor daer, a minau yn methu cael tawelwch, i'r cyfarfod eglwysig yr aethum. A nos Sadwrn y cynhelid y cyfarfod hwn bob amser yn yr adeg hono. Ac fel yr oeddwn wedi synied, cefais ar ddeall yn bur fuan wedi fy ngalw ymlaen, fod llinyn yr hen dadau yn llawn mor dỳn ag yr oeddwn wedi meddwl. Dywedent fod yn rhaid i mi newid fy sefyllfa cyn y gallent roddi i mi ddeheulaw cymdeithas. Yr oedd lliaws yr eglwys yn wahanol eu teimladau, os nad eu barn hefyd, a mynent adael ar fy addewid y gwnawn gadw at reolau yr eglwys yn yr amgylchiad. Teimlwn yn ddigon ystwyth ar y pryd i fyned dan eu traed, a gwneyd beth bynag a geisient genyf, ond yn unig i mi gael lle yn y ty. Noson ystormus a fu y nos Sadwrn hono i mi rhwng pob peth, ond cefais fy nerbyn, a cheriais inau allan gyfarwyddiadau yr eglwys yn fanwl, gan newid fy sefyllfa mor fuan ag y gellais. Ac heb fod yn faith, cafodd fy mhriod ei gogwyddo i ddwyn yr iau fel finau, ac yr ydym wedi cael y fraint o gael ein cynal dani hyd heddyw—" y deugain mlynedd hyn." Cefais fy nerbyn i gymundeb ymhen ychydig o wythnosau. Bu y frawdoliaeth oll, ond ychydig eithriadau, yn siriol iawn i mi, gan fy nghyfarwyddo a'm diddanu bob cyfleustra a gaent, ac am hyny teimlaf barch i'w llwch hyd yn awr. Dylaswn ddweyd mai adeg nosaidd ar grefydd ydoedd ar y pryd, a fy mod o'r herwydd fel aderyn y to, yn unig ymysg fy nghyfoedion.

PENOD V.

Ei helyntion fel crefyddwr.

NODWEDD Y FLWYDDYN GYNTAF—PROFIAD HYFRYD—AMHEUON YN CYFODI—CYMDEITHASFA ABERYSTWYTH—ODFA Y PARCH. JOHN JONES, YSBYTTY—PROFIAD YN GYRU I WEDDIO—GWEDD ARALL AR ANGRHEDINIAETH A'R ORUCHAFIAETH ARNO.

Rhyw adeg bur gymysglyd ar fy mhrofiad fu y flwyddyn gyntaf o'm taith grefyddol. Bum yn meddwl unwaith fy mod yn meddu y "llawenydd trwy gredu." Nis gallaf anghofio yr olwg a gefais a'r teimlad a fwynheais ryw noson, pan newydd fyned i'r gwely. Teimlwn i raddau dwys fy mod yn bechadur mawr; ond daeth rhyw fflachiad gogoneddus o oleuni ar fy meddwl, wrth fyfyrio ar drefn Duw i gadw pechadur, trwy ei gyfiawnhau yn rhad yn Nghrist Iesu. O'r olygfa ogoneddus a gefais ar y Person a osododd Duw yn Iawn! A thebygwn fy mod yn clywed llef yn dweyd, "Gollwng ef yn rhydd, mi a gefais iawn," a thebygwn i mi deimlo rhinwedd y gollyngdod. Teimlwn fel pe byddwn yn gorphwys ar Graig yr Oesoedd. Diolch am yr hyn a gefais ar y pryd, beth bynag ddaw o honof yn y diwedd. Nis gallaf ddatgan yr hyfrydwch a gefais yn y misoedd hyny mewn dirgel fanau. Ond nid hir y bu cyn i'r hin gyfnewid. Cododd ofnau ac amheuon yu gymylau yn fy meddwl, ac aeth fy mynwes yn faes rhyfel gwaedlyd rhwng ffydd ac anghrediniaeth. Parhaodd y terfysg hwn am fisoedd.

Yn y cyfamser, yr oedd Cymdeithasfa y gwanwyn yn Aberystwyth. Taer erfyniais ar yr un oedd yn cydweithio â mi i ddyfod yno gyda mi, a chydsyniodd â hyny. O! fel yr oeddwn yn dyheu am y dyddiau, gan gredu y cawn rywbryd yn ystod y Gymanfa ryw oleuni a chysur adnewyddol. Y cyntaf a glywais yn y Gymanfa am 6 y bore, oedd y diweddar Barch. Enoch Lewis, Abergwaun, ar y geiriau, "Bywha dy waith yn nghanol y blynyddoedd." Yn ei sylwadau, dygodd amryw brofion fod gwaith yr Arglwydd yn isel. Ac un o'r cyfryw brofion oedd, "Mai ychydig o arwyddion gwir argyhoeddiad oedd yn y rhai oedd yn dyfod at grefydd yn y dyddiau hyny." Teimlais ei eiriau fel brath cleddyf. Disgwyliwn yn bryderus am yr odfa 10, gan feddwl y byddai i ryw genad hedd gymhwyso balm at fy nghlwyfau dolurus. Yn hon pregethodd y Parch. Morgan Howells ar y geiriau, "A hyn yw y bywyd tragwyddol, iddynt dy adnabod di yr unig wir Dduw, a'r hwn a anfonaist ti, Iesu Grist." Wedi iddo yntau sylwi ar yr amrywiol bethau yr oedd dynion yn pwyso arnynt heblaw Crist croeshoeliedig, gwaeddodd allan gyda bloedd ofnadwy a difrifol, "O bobyl, cloddiwch yn ddigon dwfn am graig yn yr oes dywodlyd hon." Teimlwn inau mai un o bobl y tywod oeddwn. Ni chaniateid i mi y dydd hwnw gymeryd gafael mewn dim cysurus. Pethau pobl eraill yr ystyriwn y pethau hyny. Cefais brofiad gwirioneddol o'r hyn ddywed yr eglwys yn llyfr y Caniadau, "Y gwylwyr y rhai a aent o amgylch y ddinas a'm cawsant, a'm tarawsant, a'm harchollasant, gwylwyr y caerau a ddygasant fy ngorchudd oddiarnaf." Fy mhrofiad wrth droi adref oedd eu bod wedi fy stripio o bob edefyn o'm crefydd. O mor wangalon yr oeddwn wrth nesau at fy nghartref! Yr oeddwn yn dlawd ac yn hollol dlawd. Tebygwn fy mod wedi gweddio llawer, a hyny yn daer, am gael bendith yn y Sasiwn; ac ni ddymunwn roddi yn erbyn Gwrandawr gweddi ei fod wedi fy ngadael i'w geisio yn ofer, ond eisiau cael cysur a gorfoledd oedd arnaf. Yn lle hyny, fy ngosod i grynu ac ofni a wnaeth, nes i bryder a digalondid fod bron a fy llethu y dyddiau canlynol.

Ond y boreu Sabbath canlynol, digwyddodd fod y diweddar Barch. John Jones, Ysbytty, yn pregethu yn y capel, ar y geiriau, "Oherwydd paham, gan ein bod yn derbyn teyrnas ddisigl, bydded genym ras, trwy yr hwn y gwasanaethom Dduw wrth ei fodd, gyda gwylder a pharchedig ofn." Torodd gwawr cysur a gorfoledd arnaf yn yr odfa, a theimlwn fy mod yn cael fy ngorlenwi â hyfrydwch. A'r peth a ddisgwyliwn gael yn y Sasiwn, yr wyf yn meddwl byth i mi ei gael yn yr odfa hono. Parhaodd y teimlad dymunol ar fy meddwl am wythnosau, fel y cefais awydd ymgysegru i'r Arglwydd yn adnewyddol, yn y gobaith o gael bod yn un o ddeiliaid y fath deyrnas. Ond daethum i ddeall nad oedd awyrgylch grefyddol fy mhrofiad i fod yn glir felly yn faith, y tro hwn eto. Cododd cymylau gauaf ystormus yn fy meddyliau. Y cyntaf y waith hon ydoedd, rhyw haeriad fy mod yn bechadur mor fawr, fel mai anhawdd oedd gan Dduw faddeu fy mhechodau. Ac yr oedd fy ngweddiau ar y pryd hwnw yn gyfryw, fel y tybiwn mai trwy ddylanwad taerni fy ngweddiau yr oedd cael Duw i faddeu i mi. Bu fy meddwl am wythnosau yn y sefyllfa gythryblus hon. Ond un prydnhawn, pan yn dringo i fyny at fy ngwaith, ar le a elwir Llechwedd—ddyrus, troais i gilfach greigiog i dywallt fy myfyrdod gerbron Duw; a phan yn yr ymdrech, llewyrchodd goleuni, tebygwn mor ddisymwth a'r fellten, ar fy meddwl, trwy y gwirionedd fod Duw yn hoffi trugarhau, ac yn chwilio am le i dosturio, nes yr oeddwn mewn canlyniad bron ymdori gan lawenydd a diolchgarwch. Nid anghofiaf y teimlad hwn, na'r lle y cefais ef, tra byddaf ar y ddaear. Yn y seiat gyntaf ar ol hyn, gwnaeth y pregethwr y sylw, "Fod pechadur dan argyhoeddiad yn meddwl mai gwaith anhawdd ydyw tueddu meddwl Duw i drugarhau wrtho a maddeu, pan mewn gwirionedd y dylai ddeall mai gwaith hyfrydaf Duw ydyw maddeu, ei fod yn chwilio am y pechadur sydd yn ymofyn am hyny." Teimlwn fod y geiriau fel y diliau mel i'm henaid.

Ymhen rhyw gymaint wedi fy ymuniad â chrefydd, ymosododd angrhediniaeth arnaf mewn gwedd mwy haerllug nag erioed, trwy ymgais i wneyd i mi ameu y Bod o Dduw, dwyfoldeb y Beibl, a phob peth perthynol i grefydd yr Arglwydd Iesu. Bu y syniadau hyn yn poeni fy meddwl ddydd a nos am rai wythnosau. Ar yr un pryd, arswydwn rhag i neb ddyfod i wybod am fy syniadau annuwiol. Ond, ryw ddiwrnod, pan yn myfyrio ar y pethau hyn, troais fy ngolwg at yr haul a'r bydoedd uwchben, ac wedi hyny at y corff dynol, a meddyliais am reoleidd—dra ysgogiadau y rhai hyn yn cyflawni eu gwaith. Yn y myfyrdod, cefais oruchafiaeth yn y syniad fod yn rhaid fod rhyw Fod mawr, gallug, doeth, a da yn achos o bob peth. Ond, er cael llonydd gan hyn am ychydig, cefais fy mhoeni gan syniadau eraill llawn mor annymunol, megis yr un nad oedd y Beibl yn wir, mai rhyw fath o novel oedd hanes Iesu Grist, ac y gallai canlynwyr Hwnw gredu ynddo, fel canlynwyr Mahomet yn eu harweinydd hwythau. Brydiau eraill, poenid fi gan y syniad nad oedd y wir eglwys i'w chael ymysg y gwahanol enwadau crefyddol; neu os ydoedd, mai Eglwys Rufain oedd yr un iawn. O y fath feddyliau cableddus oedd fel yna yn gwau trwy fy nghalon, nes fy ngwneyd lawer diwrnod yn greadur truenus iawn. Eto yr oeddwn yn ceisio ocheneidio yn erbyn y fath feddyliau; ond er llefain felly am wythnosau, nid oeddwn yn cael goruchafiaeth. Modd bynag, pan oeddwn ryw ddydd yn myned at fy ngwaith i Copper Hill, wedi deall fod gweithwyr y boreu wedi ymadael, ac na ddeuai fy nghydymaith inau yn fuan, penderfynais ddefnyddio yr adeg, ddiberygl o gael fy affonyddu am un awr beth bynag, i dywallt fy myfyrdod o'i flaen Ef, a pheidio rhoddi fyny nes cael rhyw waredigaeth oddiwrth y meddyliau terfysglyd oedd yn fy mlino. Tra yn yr ymdrech, daeth y gair hwnw gyda rhyw nerth anorchfygol at fy meddwl, "At bwy yr awn ni, genyt ti y mae geiriau bywyd tragwyddol," fel y gorfu i mi waeddi, "Ar ei ol ef yr af, ac o derfydd am danaf, darfydded." Neb ond Iesu mwy, “Iesu ei hunan, oll o flaen y fainc i mi." Teimlwn bellach fy mod wedi cael fy ngelynion dan fy nhraed, a chefais y fath orlenwad o lawenydd, nes y teimlwn yn ddedwydd nad oedd neb yn agos i'm rhwystro i roddi ffordd i'm teimladau. Ni theimlais nemawr oddiwrth y syniadau dieflig uchod byth mwyach. Mae yr hen adnod a gofnodais wedi bod i mi byth wedi hyny fel yr Himalaya ymhlith y mynyddau.

Nid oes dim neillduol i'w gofnodi yn fy hanes, yn ystod y blynyddoedd oedd yn canlyn, dim ond mai i lawr ac i fyny y byddwn o ran fy mhrofiad crefyddol. Byddwn yn cael rhyw bleser rhyfedd, weithiau, wrth weddio a darllen y Beibl. Aml y teimlais y fath fwynhad yn y gymdeithas ddirgelaidd, nes y byddwn, gyda'r eglwys yn llyfr y Caniadau, yn barod i dynghedu pob peth i beidio fy aflonyddu.

PENOD VI.

Y gwaith gafodd i'w wneyd.

YN ATHRAW—YN ATHRAW YR ATHRAWON—YN AROLYGWR—YN CYFANSODDI AREITHIAU MEWN CYFARFOD DAUFISOL —DDEWIS YN FLAENOR—EI DYWYDD GYDA GOLWG AR BREGETHU —YN MYNED TRWY Y DOSBARTH—YN DECHREU PREGETHU.

CEFAIS fy adferu i'r swydd o athraw yn uniongyrchol wedi fy nerbyn yn aelod eglwysig. Ac helaw hyny, heb fod yn faith, dechreuodd y brodyr roddi gwaith i mi gyda'r peth hyn a'r peth arall, ac yr oedd arnaf ofn dangos yr anufudd-dod lleiaf i wneyd yr hyn a allwn. Pan oeddwn tua 23ain oed, gosodasant fi yn athraw ar y dosbarth o athrawon cynorthwyol. Dyma pa bryd y teimlais yr anhawsdra lleiaf i ufuddhau iddynt, a hyny yn benaf oherwydd fy mod yn ieuanc, a'r nifer fwyaf yn y dosbarth yn ddigon hen o dadau i mi. A gallaf ddweyd fy mod, oblegid hyny, a phethau pwysig eraill, wedi gorfod teimlo fy hun yn annheilwng i'w cynghori, a gwasgu addysgiadau atynt oddiwrth y gwirioneddau dwyfol dan sylw. Nid oedd bod yn athraw yn faich arnaf, gan y teimlwn hyfrydwch mawr bob amser yn holl waith yr Ysgol Sabbothol; ond yr oedd ymgymeryd a bod yn athraw i athrawon yn ormod genyf. Yr oeddwn yn methu ymwadu a mi fy hun i wneyd yr hyn a ddylaswn, ac yn teimlo cyhuddiadau cydwybod yn fynych, fel na allwn dori trwodd atynt o ddifrif. Teimlwn fod fy mrodyr wedi gwneyd camgymeriad wrth fy ngosod yn y fath le mor ieuanc. Buasai yn well genyf gael dosbarth yn iau na mi, fel y gallaswn fod yn rhydd oddiwrth y cadwynau uchod, i wasgu addysg at eu meddyliau.

Wedi bod am ryw ddwy flynedd yn y lle a nodwyd, syrthiodd y coelbren arnaf i fod yn gyd—arolygwr â Mr. Thomas Jenkins, Pencnwc; a buom yn cydweithio yn y swydd hono am bump neu chwe blynedd. Cefais bleser mawr wrth weithio gyda y rhan hon o waith yr Arglwydd, yn enwedig gan fy mod yn gweithio megis dan aden y fath henafgwr a T. Jenkins. Ac yr oedd yma ar y pryd staff o athrawon cyfrifol a gweithgar, y rhai na byddent nemawr byth yn esgeuluso yr ysgol. Yr oedd y capel, hefyd, yn orlawn o aelodau bob Sabbath bron yn ddieithriad. Darfu i'r brodyr, yn y cyfnod hwn, fod yn dra haelionus i bentyru gwaith arnaf, trwy fy ngosod i gyfansoddi areithiau ar gyfer y Cyfarfodydd Daufisol, a myned yno yn fynych i'w traddodi. Diolch a ddylwn am hyn, gan i'r fath feichiau, ar ol eu dwyn, chwanegu fy nerth.

Ond nis gallaf anghofio y brofedigaeth a gefais unwaith oddiwith nifer mawr o'r brodyr blaenaf. Yr oeddwn wedi llafurio yn fawr i wneyd araeth ar "Y pethau anghenrheidiol i adnewyddu yr Ysgol Sabbothol;" ond wedi i mi ei hadrodd mewn cyfarfod athrawon, y Sabbath o flaen y Cyfarfod Daufisol, yn ol yr arferiad ar y pryd, ni chafodd yr araeth yr un gymeradwyaeth ganddynt Pan ddaeth y Cyfarfod Daufisol, yr oedd areithiau wedi dyfod o bob lle yn y dosbarth, ac areithiau rhagorol oeddynt. Ond gadawyd areithiau Cwmystwyth a'r Trisant heb eu hadrodd, hyd gyfarfod cyhoeddus dau o'r gloch. A phasiwyd penderfyniad, bod i ddwy araeth felly gael eu cadw ar gyfer y cyfarfod cyhoeddus yn y Cyfarfodydd Daufisol yn y dyfodol. Gwasgodd hyn yn drwm ar fy meddwl, gan nad oeddwn wedi dyfalu am ei hadrodd yn gyhoeddus felly. Wedi myned allan o gyfarfod y boreu, ceisiais am ryw le cuddiedig i loewi ychydig ar fy meddwl, ac i ddweyd fy nhywydd hefyd wrth fy Nhad nefol. Pan yn dychwelyd at y capel, clywn dri neu bedwar o frodyr yn siarad am y mur â mi, yn lled uchel; a swm eu hymddiddan oedd, fod yn gywilydd ganddynt i fy araeth i gael ei hadrodd yn gyhoeddus, gan nad oedd yn deilwng i'w chymharu ag areithiau y boreu. 'Felly," meddai rhyw frawd oedd heb ei chlywed y Sabbath; "rhai da oedd y rhai a adroddwyd." Gall pawb ddeall fod hyn yn tueddu at fy llwfrhau yn ddirfawr. Modd bynag, pan y'm galwyd, anturiais ddweyd, ac nis gallaf lai na chydnabod i mi dderbyn nerth a goleuni o'r tu allan i mi fy hun. Yr oedd yr Hybarch. Evan Evans, Aberffrwd, yn gwaeddi “Amen,” a "Ho, ho," cyfuwch a minau, a lliaws yn ymddangos fel yn cael mwynhad mawr, rhai mewn dagrau, ac eraill yn llawen. Ac wedi dyfod allan o'r odfa, y peth cyntaf a glywais oedd yr hen frawd W. Morgan, Gwndwngwyn, yn danod i'r brodyr oeddynt wedi barnu fy araeth yn ddiwerth, ac yn dweyd na roddai ef yr un pwys ar eu barn ar ol hyny. Mynent hwythau haeru nad yr araeth a glywsant hwy y Sabbath ydoedd. Os oeddwn yn isel fy meddwl o'r blaen, cefais frwydr galed gyda Satan gwyn ar ol yr odfa. Beth bynag yr oedd y wallet yn gydbwys. Gallaf ddweyd i lawer haf a gauaf fyned dros fy mhen yn y blynyddoedd hyn eto. Rywbryd, pan oeddwn tua 27ain oed, syrthiodd y goelbren arnaf i fod yn flaenor. Gyda gwylder mawr yr ymgymerais â'r swydd hon, yn enwedig gan fod yno gynifer o hen dadau a brodyr eraill, oedd yn fwy addfed o ran oedran a phrofiad i'w chymeryd. Ond oherwydd eu bod wedi dangos mor rhydd oddiwrth eiddigedd tuag ataf, ac yn fwy na hyny, rhoddasant i mi ddeheulaw cymdeithas, nes fy ngwroli i wneyd fy ngoreu yn y cylch hwnw drachefn.

Nid oeddwn yn cael llonydd gan ryw ysfa yn awr a phryd arall ynghylch myned i bregethu. Teimlwn awydd mawr am weled fy nghymydogion yn cael eu hachub. Ond nid oeddwn yn credu y gallai pethau ddyfod byth i hyny, fel ag i mi gael gwneyd lles iddynt trwy bregethu. Wrth weled pwysigrwydd y gwaith, gofynwn yn fynych, "Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn ?" Ac arswydwn rhag i neb ddyfod i feddu yr un syniad am y cymhelliad at hyny oedd yn fy meddwl. Pan yn ymddiddan â mi fy hun ynghylch myned i bregethu, a chadw seiat gydag eglwysi eraill, dywedwn yn y fan, "Na, nid ynganaf air byth am hyny." Modd bynag, dyfnhau yr oedd y peth yn fy meddwl yn barhaus, ac eto yn ymgadw rhag dweyd gair wrth neb am dano. Cymerais y peth yn destyn gweddi feunyddiol, am i mi gael llonydd gan y cyfryw feddwl, ac atolygais lawer dengwaith ar iddo ymadael a mi. Pan oeddwn tua 29ain a 30ain oed, ciliodd fy nghwsg oddiwrthyf oblegid yr anesmwythdra hwn, ac nid oedd heb effeithio peth ar fy iechyd. Gofynai Elisa, fy mhriod, i mi yn fynych beth oedd arnaf, pan oeddwn yn methu cysgu felly; a dywedai bethau rhyfedd weithiau oedd yn dyfod i'w meddwl, er mwyn tynu allan y dirgelwch oddiwrthyf, ond i ddim diben. Ond pan ddeallais fod y peth yn peri blinder mawr iddi, mynegais iddi, ar yr amod na byddai iddi ar un cyfrif hysbysu y gyfrinach i neb. Ond nid yn hir y darfu iddi ymgadw, a blinai fi yn fawr ynghylch rhoddi y mater o flaen y blaenoriaid, yn enwedig o flaen fy hen athraw anwyl, Mr. W. Burrell; ond ni chaniatawn o gwbl. Yr oeddwn ar y pryd yn hynod o druenus fy meddwl, a fy nghwsg wedi llwyr gilio. Nis gallaf anghofio un boreu Sabbath, yn haf 1854, pan oeddwn wedi methu cysgu, ac wedi codi oddeutu tri o'r gloch, pan oedd pawb mewn gorphwysfaoedd. Yr wyf yn cofio bod rhyw olwg brydferth ar natur, a'r haul yn saethu ei belydrau ar y prydferthion. Yr oeddwn wedi darllen rhyw gyfran o'r Beibl cyn myned allan, a mynwn gredu ei fod yn dweyd wrthyf, "Nid oes i ti ran na chyfran yn y gorchwyl hwn." Ymneillduais i ddirgelfa, i dywallt fy holl galon gerbron Duw; a chan mai boreu Sabbath ydoedd, a'i bod mor foreu, nid oedd perygl i mi gael fy aflonyddu gan neb byw. Dechreuais trwy ddiolch bod yr adnodau a nodais wedi dyfod i fy meddwl, gan gredu fod ganddynt lais ataf ynghylch rhoddi fyny y meddwl am fyned yn bregethwr. Ond tra yn tywallt fy myfyrdod ger ei fron Ef yn y fan hono, ymsaethodd gair arall i fy meddwl, sef yr adnod hono, "Am hyny, dos yn awr, a mi a fyddaf gyda'th enau di, ac a ddysgaf i ti yr hyn a ddywedych." Teimlwn erbyn hyn fy mod megis rhwng dau forgyfarfod, ac aeth yn waeth arnaf nag o'r blaen. Ofnwn y byddai i mi ddigio yr Arglwydd trwy nacau. Yr oeddwn tua diwedd 1854 yn gweithio mewn lle peryglus iawn; a rhyw wythnos, pan oeddwn yn gweithio turn nos, braidd y credwn wrth adael fy nghartref yr un noswaith y dychwelwn yn fyw dranoeth. Pan y byddwn mewn rhyw le penodol, wrth fyned, yn ceisio rhoddi fy ngofal i'r Arglwydd, deuai y cymhelliad i bregethu i fy meddwl yn y fan, nes y byddai i mi, fel Jacob, addunedu, os cedwid fi yn fyw ar y daith, y cawsai yr Arglwydd fod yn Dduw i mi, ac ychwanegu gyda golwg ar y pregethu, "Mi af yn wir Arglwydd."

Wedi hyn cymerais y mater mewn ffurf arall o flaen Duw, sef os oedd y cymhelliad oddiwrtho Ef, am iddo ei ddatguddio i eraill, gan feddwl pobl flaenaf yr eglwys. Heb fod yn faith, gwnaeth Mr. W. Lloyd, ysgolfeistr, a phregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleyaid, daflu llawer awgrym ataf gyda golwg ar hyny, ac nis gallwn inau wadu nad oedd hyny ar fy meddwl. Pan oeddwn yn myned tua'r ysgol un boreu Sabbath, cyfarfyddais â Mr. John Morgan, Ty'nrhyd, a'r gair cyntaf a ddywedodd wrthyf oedd bod arno eisiau fy ngweled, i adrodd y breuddwyd oedd wedi gael neithiwr. "Gweled yr oeddwn," meddai," "dy fod di a minau wedi cael caniatad i dreio pregethu; ond gorfu i mi ildio wedi methu, ac aethost tithau trwyddi yn rhwydd." Dywedodd lawer o bethau eraill wrthyf: a chyn ein myned at y capel, tarawodd ei law ar fy ysgwydd, a gofynodd, "Pa bryd bellach yr wyt ti yn meddwl dechreu? Mae yn rhaid i ti fyn'd, cofia." Teimlais fy hun yn gwrido, ac ni ellais ateb gair iddo. Yn y cyfamser, yr oedd y diweddar Barch. Robert Roberts, Llangeitho, i fod yma ryw Sabbath, am ddau a chwech o'r gloch. Gan ei bod yn llawn amser arno yn dyfod, ceisiodd gan y blaenoriaid roddi ar rywun i ddechreu y cyfarfod, "Onid oes yma gyda chwi," meddai, "ryw fachgen bach a thuedd ynddo i bregethu ?" Darfu iddynt hwythau geisio gan frawd oedd ar y pryd yn ymgeisydd, ond nad aeth byth i bregethu. "Na, nid dyna yr enw," meddai Mr. Roberts. "Ai Thomas Edwards," gofynent hwythau. "Ië, dyna fe," oedd yr atebiad. Yr oeddwn yn y lle pan ddechreuodd y siarad, ond pan ddeallais i ba le y cyfeiriai Mr. Roberts, dechreuais weithio fy ffordd allan; ond gwaeddodd Mr. David Jones, Llaneithir, arnaf, bod yn rhaid i mi ddechreu y cyfarfod. Pe buaswn heb glywed yr ymddiddan, buaswn yn llawer rhyddach fy meddwl at y gwaith. Yn fuan wedi hyn, daeth y diweddar Barch. W. Davies, Rhymni, heibio ar gyhoeddiad, a chymerodd "Y gweision a'r talentau" yn destyn. Darfn i'w sylwadau fy nghornelu, fel nad oedd genyf yr un lle i gilio, ond rhoddi fy hun i'r brodyr i wneyd yr hyn a geisient genyf, deued arnaf fel y delo yn y canlyniad. Yn fuan daeth Mr. Roberts yma drachefn, a chlywais iddo roddi ychydig o sen i'r blaenoriaid am na fuasent wedi dwyn fy achos ymlaen. Eu hesgusawd oedd, eu bod yn disgwyl am i mi roddi fy achos iddynt. Yr oeddwn ar y pryd wedi pasio 30 oed.

Yr oedd genyf gymydog, Mr. Lewis Oliver, wedi dyfod i ddeall, trwy fy ngwraig, lawer o'r gyfrinach. Mynegodd hwnw y peth i'r blaenor, Mr. David Jones, Llaneithir. Wedi hyny cymerodd y blaenoriaid fy achos i fyny, a rhoddasant ef o flaen y Parch. Edward Hughes, Aberystwyth. Holodd hwnw fi yn y seiat am fy nghymhelliadau i'r gwaith, a gofynodd arwydd o gymeradwyaeth yr eglwys, yr hyn oedd yn unfrydol. Penderfynwyd myned a'r achos i Gyfarfod Misol Awst, 1855, yr hwn oedd i fod yn Rhydlwyd. Rhoddodd Mr. David Jones achos yr ymgeisydd o Gwmystwyth o flaen y frawdoliaeth yn y goleuni goreu. Apeliodd, hefyd, at swyddogion Dosbarth Cynon, y rhai oeddynt yn fy adnabod, ac wedi fy nghlywed yn areithio lawer gwaith yn y Cyfarfodydd Daufisol, a rhoddasant oll eu barn yn fy ffafr. Priodol dweyd yn y fan yma mai yn nechreu y flwyddyn hono y pasiwyd y ddeddf, fod yn rhaid i bob ymgeisydd fyned ar brawf trwy holl eglwysi dosbarth yr Ysgol Sabbothol i ba un y perthynai, a chael hefyd gymeradwyaeth y rhan fwyaf o honynt, cyn y cawsai fyned i bregethu. Gofynodd Mr. D. Jones am fy esgusodi i gael myned trwy y dosbarth; a chymerodd y Parch. Robert Roberts, Llangeitho, ei blaid, gan ddadleu fod hyny yn hollol afreidiol-fy mod yn awr dros 30 oed, fy mod wedi fy ngosod i lanw pob cylch yn eglwys Cwmystwyth, hyd at fyned i'r pulpud, &c. Ond dadleuai y Parch. Edward Jones, Aberystwyth, fod yn rhaid sefyll at y rheol (yr hyn yn ddiau oedd yn iawn), ac felly y pasiodd. Pan welodd yr hen frawd pybur, Mr. D. Jones, y modd y trodd y fantol, rhoddodd rybudd i holl flaenoriaid Dosbarth Cynon i fy ngalw i'w prawf yn ddioed. Yr wythnos ganlynol dyma dri neu bedwar o lythyrau, yn fy ngwahodd i wahanol leoedd y Sabbath canlynol; rhai a materion trymion i mi draethu arnynt, ac eraill heb yr un mater, pwnc i'w holi, na thestyn pregeth. Yr oedd y syniad gan rai mai ar y pryd yr oedd y testyn i gael ei roddi. Llethwyd fi i'r llawr gan yr holl faterion, a minau heb ddim amser i barotoi ar gyfer yr un o honynt. Daeth edifeirwch fel llifeiriant i fy meddwl, am i mi erioed roddi fy hun yn ymgeisydd. Penderfynais nad awn i un o'r lleoedd y Sabbath hwnw. Ond pan ddaeth y Sabbath, a minau gartref, a'r brodyr yn holi o un i un, "Paham yr wyt ti yma heddyw," aethum yn hynod o annedwydd. Wrth fyned adref o odfa y boreu, cenfigenwn wrth yr adar bach, a dywedwn, "O na buaswn yn aderyn, ac nid yn ddyn !" Ond trwy fod y brodyr yn nesau ataf, ac yn fy anog i ymwroli, trefnais i fyned i bob un o'r eglwysi; ac felly aethum trwy y prawf rywfodd mewn ychydig amser. Dangosodd pob lle serchawgrwydd mawr, a buont yn ddigon grasol i gyd i roddi eu cymeradwyaeth i mi. Wedi i'r llythyrau gael eu darllen i'r Cyfarfod Misol, trefnwyd i'r Parch. Edward Jones, Aberystwyth, a Thomas Edwards, Penllwyn, ddyfod i Gwmystwyth i fy holi fel arfer, yr hyn a fu Rhagfyr 18fed, 1855. Cefais gymeradwyaeth yr eglwys a'r ymwelwyr ; ac yn y Cyfarfod Misol dilynol rhoddwyd caniatad i mi ddechreu pregethu o fewn cylch y dosbarth.

Dyna beth anhawdd i'w sylweddoli, oedd fy mod i fyned i bregethu! Ond ar y 23ain o Ionawr, 1856, gosodwyd arnaf i roddi anerchiad mewn ffurf o bregeth am y waith gyntaf. Cymerais yn destyn, Act. iv. 12. Cefais nerth i fyned drwy y gwaith heb dori i lawr. Ac nis gallaf anghofio fel y cydymdeimlai yr holl gynulleidfa â mi, ac mor ffyddlon y bu yr hen frodyr a'r chwiorydd i gynal fy mreichiau gyda'u "Hamenau" gwlithog. Wele 30 o flynyddoedd wedi myned heibio oddiar hyny, ac y mae genyf achos i godi fy Ebenezer-" Hyd yma y cynorthwyodd yr Arglwydd fyfi." Yr oedd newydd-deb y gwaith odgodi pregethwyr yn Cwmystwyth yn peri i'r bobl wneyd mwy drosof. Myfi oedd yr ail ymgeisydd i fyned dan y rheol o basio trwy y dosbarth, ac yr oedd y ddau o'r lle hwn; ond ciliodd y cyntaf heb fyned trwy y prawf o gwbl, ac felly myfi oedd y cyntaf i ddechreu pregethu o'r lle. Nid anmhriodol i mi goffhau y peth a ddywedodd y Parch. E. Jones wrthyf, y noson y bu ef a'i gyfaill yma yn fy arholi. Wrth glywed y brodyr, y naill ar ol y llall, yn rhoddi eu tystiolaeth yn fy ffafr, dywedodd, "Anwyl frawd, os byddwch chwi yn onest dros Dduw yn eich swydd, cewch chwi weled gwedd wahanol i heno ar lawer o wynebau tuag atoch." Ac y mae yn rhaid i mi ddweyd fy mod wedi cael profi gwirionedd ei eiriau lawer gwaith yn ystod fy ngweinidogaeth.

[DIWEDD YR HUNANGOFIANT.]

ADGOFION AM DANO.

PENOD I.

Sylw ar yr Hunangofiant.

YR ADDYSG A GAFODD—Y CYNYDD A WNAETH YN CADW YSGOL—EI ARAFWCH GYDA'R PREGETHU—HYNY YN GWEDDU I BWYSIGRWYDD Y GWAITH—EI ONESTRWYDD TUAG ATO EI HUN.

BYDD yn dda gan laweroedd o gyfeillion Mr. Edwards ei fod wedi ysgrifenu cymaint o hanes ei fywyd. Pe byddai eraill yn gwneyd yr un peth, arbedai lawer o drafferth afreidiol i'w perthynasau a'u cyfeillion, ar ol eu dydd, wrth geisio gwneyd ychydig o goffadwriaeth am danynt. Arbedai lawer o gamgymeriadau a wneir yn fynych, wrth dderbyn hysbysiadau am frodyr ymadawedig o ben i ben. Mae Cofiant a ysgrifenir gan y dyn ei hun yn fath o goffadwriaeth ddyblyg am dano—mae ei hanes yno, a'r hanes hwnw yn ffurf y mynai ef ei hun iddo fod, ac felly ar ei ddelw ei hun mewn mwy nag un ystyr. Pe na buasai ond yr hyn a ysgrifenodd ef ei hun mewn ffurf o hanes personol, hanes crefydd yn Cwmystwyth, a'r pregethau, buasai genym lyfryn dyddorol i'w gymell i'r wlad, o goffadwriaeth am y Parch. Thomas Edwards, heb ddim ond ei weithiau ef ei hun. Ond, gan fod rhai y tu allan i'r gweinidogion eu hunain yn ffurfio barn am danynt, wrth eu gweled a’u clywed, disgwylir cael mewn cofiant ryw ychydig o sylwadau i gynrychioli barn y cyfryw hefyd.

Gyda golwg ar yr addysg a gafodd Mr. Edwards, gan ei fod yn byw yn amser y colegau, gall rhai edrych ar y diffyg o addysg athrofaol, fel diffyg ynddo ef ei hun-difaterwch gyda golwg ar bwysigrwydd hyny i weinidog, neu ddiogi i ymgymeryd â'r cwrs o efrydiaeth angenrheidiol tuag at ei gyrhaeddyd. Mae darllen yr hanes, pa fodd bynag, yn ein hargyhoeddi fod yr hyn y dylai pob pregethwr ieuanc ymgyraedd ato, bron allan o bosibilrwydd iddo ef, gan na ddechreuodd bregethu nes yn ddeg ar hugain oed, a'r pryd hwnw yn wr priod, gyda thwr o blant. Wedi'r cwbl, mae y pethau canlynol i'w hystyried gyda golwg ar addysg Mr. Edwards: 1. Cafodd fwy na'r cyffredin yn ei ardal o hono. 2. Yr oedd ganddo allu naturiol at ddysgu. Mae yr hyn a ddywed ef ei hun ar hyn yn cael ei gadarnhau gan ei holl gyd-ysgolheigion. 3. Yr oedd yn awyddus am ddysgeidiaeth. Gorfodaeth osodwyd arno i roddi fyny yr ysgol, yr hyn oedd iddo ef yn siomedigaeth fawr. 4. Gwnaeth fwy o ddefnydd o'r addysg a gafodd na'r rhan fwyaf yn ei oes, ac na llawer mewn unrhyw oes. Yr ydym yn galw sylw arbenig at hyn, gan ei fod yn agoriad i hanes ei fywyd. Edrycher arno yn blentyn yn yr ysgol, yn cadw ar y blaen ar ei gyfoedion, ac ar lawer o rai hynach nag ef, dyna y dyn ymhen blynyddoedd lawer ar ol hyny, a dyna yr esboniad ar ei lwyddiant yn y pethau yr ymgymerodd a'u cyflawni. Os gofynir bellach beth yw dirgelwch ei lwyddiant yn ffordd addysg, ac yntau heb gael ond ychydig ddysg? Yr atebiad cywir i'r cwestiwn yw, fod ganddo dalent naturiol at ddysgu, a digon o yni penderfyniad i wneyd y defnydd goreu o honi, yn ngwyneb pob anfanteision, i gyflawni pob gwaith y gelwid ef ato. Mae Mr. Charles, yn niwedd y Geiriadur Ysgrythyrol, yn dweyd, wedi gweled fod y llyfr wedi chwyddo mwy nag a feddyliodd,

"Wele, aeth fy nant yn afon, a'm hafon yn fôr."

Gellir dweyd bron yr un peth am addysg foreuol Mr. Edwards, yn y defnydd mawr wnaeth o hono, fod y nant fechan wedi myned yn afon bur gref.

Meddylier am dano, ar alwad daer, y brodyr, yn dechreu cadw ysgol ddyddiol yn ardal boblog Cwmystwyth, tua dechreu 1862, y flwyddyn y cafodd ei ordeinio i gyflawn waith y weinidogaeth. Yr oedd y Cyfarfod Misol, yn y blynyddoedd hyny, yn anog pob ardal i ofalu cael ysgol dyddiol dda ar gyfer plant y capeli Ymneillduol; a gwnaeth pobl dda y Cwm roddi ufudd-dod i'r cais trwy ei alw ef at y gwaith; a chadwodd yr ysgol ar y llofft a godwyd ar yr hen gapel am ysbaid 10 mlynedd, sef hyd ddechreuad addysg 'Deddf 1870" yn y gymydygaeth. Y fath anturiaeth i ddyn yn ei amgylchiadau ef! Ni chafodd awr o ysgol ar ol gadael ei bymtheg oed. Bu 15 mlynedd arall cyn dechreu pregethu, a bron yr oll o'r amser hwnw yn gweithio yn ngwaith plwm y gymydogaeth, tra yr oedd yr addysg a gafodd yn rhydu. Wedi dechreu pregethu, bu am bump neu chwe' blynedd arall yn gweithio yn yr un gwaith. Ac ar ol i'w addysg rydu am oddeutu 21 mlynedd, ymgymerodd a dysgu yr holl faterion a arferid eu dysgu yn y pentrefi a'r wlad y pryd hwnw. Nid am chwarter neu ragor yn y gauaf, cofier, ond trwy yr holl flwyddyn. Rhaid ei fod yn teimlo anmharodrwydd at y gwaith yn y cychwyn, ond yr oedd cyflymder dysgu y bachgen yn aros ynddo eto. Ac er i'r afon redeg dan y ddaear am ysbaid lled faith, ymddangosodd eilwaith yn ei nerth cyntefig i wasanaethu y wlad o'i deutu. Gwaith y dyn oedd wedi cael addysg oedd ei waith mewn cysylltiad â'r Cyfarfod Misol hefyd. Etholwyd ef yn ysgrifenydd y Drysorfa Sirol yn 1874, ac yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol yn fuan ar ol hyny. Ni fynai y brodyr ei newid, gan mor ddeheuig a ffyddlawn y cyflawnai ei waith. Wrth ystyried y peth hyn, rhaid i ni benderfynu iddo dreulio llawer o'i amser mewn hunan-addysgiant, a thrwy ddyfalbarhad; ond gwnelai y cwbl fel pe gyda'r rhwyddineb mwyaf. Os oedd ymdrech, yr oedd o'r golwg, nid oedd ond parodrwydd at y cwbl yn y golwg, fel na welai neb ond the right man in the right place.

Peth arall sydd yn ein taro wrth ddarllen y Cofiant, yw i'r pregethwr fod yn hir iawn yn ymddadblygu ynddo. Yr oedd y byd, yr eglwys, ac uffern, wedi bod ar eu goreu yn ceisio gwneyd offeryn cymwys o hono at lawer o bethau yn eu gwasanaeth hwy, cyn i'r pregethwr ymddangos. Ac, a dweyd y gwir, yr oedd yntau yn profi y gallai wneyd pob peth a gynygid iddo gan bob un, ond fod rhywbeth anweledig, ond anwrthwynebol, yn ei rwystro i fyned yn ei flaen. Meddyliodd y byd wneyd siopwr, bugail defaid, mwnwr, ac ysgolfeistr o hono. Meddyliodd yr eglwys am ei wneyd yn aelod cyffredin, yn athraw Ysgol Sabbothol, ac yn flaenor eglwysig. Meddyliodd uffern am ei wneyd yn chwareuwr, yn gablwr, yn anllad, ac yn amheuwr anffyddol. Rhaid dweyd mai methiant fu y cwbl, fel yr edrychir arnynt yn swyddau parhaus. Ond meiddiwn ddweyd dau beth. Yn gyntaf, yr oedd yr holl swyddau eglwysig a gafodd yn ei ragbarotoi i fod yn bregethwr, er na amcanwyd hwy felly. Yn ail, cafodd pob gwaith arall gynyg, iwyd iddo, eu goruwch—lywodraethu er bod yn rhyw gymhwysder iddo at y cylch uchaf y bu yn troi ynddo. Chwareu teg i eglwys y Cwm, gwnaeth hi ei goreu i foddloni yr anian grefyddol oedd ynddo, a'r awydd angerddol i ragori mewn defnyddioldeb. Gwnaeth fwy yn hyn nag y mae llawer eglwys wedi wneyd tuag at ei dynion ieuainc. Cafodd ei thalu yn dda, magodd dan ei dwylaw bregethwr defnyddiol iddi ei hun, ac i holl eglwysi y wlad.

Mae llawer ddarfu ragori mewn rhywbeth neillduol, wedi bod yn hir yn ymddadblygu cyn i'r brif ragoriaeth oedd ynddynt ddyfod i'r golwg. Bu Dr. John Kitto, y dyn byddar enwog, yn gwerthu carpiau, yn gweithio gwaith crydd, yn ymdrechu bod yn dentist, ac yn athraw mewn teuluoedd uchel, cyn iddo ymddangos fel awdwr y Beibl Darluniadol adnabyddus, a'r Cypclopedia of Biblical Literature. Bu Syr Walter Scott yn ymdrechu llawer i ragori fel bardd, fel barrister, ac fel llenor, cyn iddo ymddangos i'r byd yn ei brif ragoriaeth—fel nofelwr. Felly y bu gyda'r Parch. W. Caledfryn Williams, dysgu yr alwedigaeth o wehydd, fel ei dad, ac eraill o'i dylwyth; wedi hyny yn myned yn ysgolfeistr, ac yn fardd, cyn i'r pregethwr ymddangos. Nid oes neb ystyriol o bwysigrwydd gwaith y weinidogaeth, a ddywed nad yw yr arafwch a'r gochelgarwch hwn yn well na rhuthro i'r swydd yn ddifeddwl, yn ddiweddi, a diysbryd; ac yn llawer gwell, hefyd, na dysgu dyn i fyny o'i febyd ar gyfer y swydd, heb feddwl dim a yw yn gymwys iddi ai nad yw. Yr oedd yn rhaid i Mr. Edwards, fel yr hen bregethwyr, gael graddau o foddlonrwydd am feddwl Duw, ac am ysbryd y swydd, cyn amlygu ei fwriad i ymgymeryd â hi. Tebyg i'r iachawdwriaeth ei hun y mae hyn i fod,—"Nid o weithredoedd, eithr o'r Hwn sydd yn galw." Chwilio am yr alwad oddiwrth Dduw y mae pob dyn ieuanc cydwybodol, a hyny o flaen ac yn fwy na phob peth arall. Ac y mae rhai yn hwy nag eraill yn yr ymchwiliad pryderus a manwl hwn. Gobeithio na chollir yr ysbryd gonest a chydwybodol hwn o eglwysi ein gwlad.

Nid llai amlwg yw yr ysbryd gonest tuag ato ei hun a amlygir yn y Cofiant. Trueni i elyn dynoliaeth dynu y dyn rhagorol hwn trwy dipyn o laid; ond os gwnaeth hyny, ni allodd ei gadw rhag gweled y budreddi, na rhag addef ei anwiredd, a'i adael hefyd. Os creffir ar yr hanes, mae y gonestrwydd yn dyfod i'r golwg mewn mynegu y rhinweddau hefyd. Os gwneyd bywgraffiad, ni wnaethai chwareu teg âg ef ei hun heb wneyd hyny. Ond nid yw yn gwneyd hyny er canmol ei hun. Yn hytrach, ni allasai beidio gwneyd heb guddio prif linellau ei gymeriad; buasai felly yn anadnabyddu Thomas Edwards y wlad, wrth broffesu ei ddangos. Yr oedd ynddo ef ormod o ddidwylledd i wneyd hyny. Yr ydym yn ddiolchgar iddo am roddi cymaint o hanes, ac am ei roddi fel y mae, mor bell ag yr aeth. Trueni na buasai yn dweyd mwy am dano ei hun fel pregethwr. Yr oedd yn gweled ei fod yn y cymeriad hwnw mor adnabyddus, fel mai gwell oedd ganddo ei adael i farn y cyhoedd.

PENOD II.

Mr. Edwards fel Dyn.

EI YMDDANGOSIAD ALLANOL—EI DDYLANWAD—YN TRERIW FAWR—EARL LISBURNE—EI ALLU I GYDYMDEIMLO—YN ARWEINYDD DA.

PE byddem yn myned i roddi darluniad o'r dyn oddiallan i Mr. Edwards, dywedem ei fod o daldra cyffredin; yn deneu o gnawd, heb dueddu erioed at dewhau. Gwallt goleu oedd ganddo; a chafodd ei gadw hyd y diwedd heb i nemawr o flodau y bedd ymddangos arno. Taleen llydan ac uchel, a'r wyneb yn culhau, ond yn raddol iawn, hyd yr ên. Llygaid yn tueddu at fod yn fawr, y canol o liw llwyd—oleu, a'r cylch gwyn i raddau yn llydan. Pan edrychid ar ei wynebpryd mewn cynulleidfa, ymddangosai fel pe byddai dan wasgfa ynghylch y pethau fyddai dan sylw, pa un bynag ai siarad ai gwrando y byddai. Pan y byddai yn dyfod i'n cyfarfod allan yn rhywle, byddai yn dyfod gyda gwên siriol o draw; ond nid gwên chwerthingar fyddai, byddai yn well dweyd gwên ddifrifol. Ond chwarddai yn galonog pan gaffai destyn priodol. Pan gerddai, byddai yn hytrach yn gam, fel pe byddai yn ymwneyd am waith ac yn barod ato; a safai bron yr un fath yn y pulpud. Yr oedd ganddo lais clir a soniarus, a medrai waeddi yn hyfryd, ond ni chlywid ef ond yn anfynych yn bloeddio. Yr oedd o ymddangosiad boneddigaidd, ond eto syml a dirodres. Byddid yn barod i ddweyd ar unwaith wrth ei weled, "Dyna ddyn da, call, difrifol, teimladwy, a pharod i bob gweithred dda;" ac erbyn ei brofi ni chaffai neb ei siomi, oddieithr fod rhyw reswm digonol am hyny.

Yr oedd yn sylwedydd manwl a chraffus ar bron bob peth. Fer y canlyn yr ysgrifena Mr. Abraham Oliver, blaenor yn eglwys Cwmystwyth, am dano:—" Efe oedd arweinydd a chynghorydd ei gymydogion ar bob peth o bwys. Yr oedd yn astudiwr caled o ddeddfau natur, fel, wrth arfer sylwi, y gallai ddweyd bron bob amser pa fath hin a geid am y diwrnod. Yr oedd gan Mr. Thomas, y Pentre, y fath gred ynddo yn y cyfeiriad hwn, fel na wnelai ddim o bwys yn amser cynhauaf heb ymgynghori' âg ef. Ar dywydd gwlyb yn amser cynhauaf y gwair, edrychai yr holl ardal pa beth oedd Mr. Edwards yn wneyd, a pha beth bynag fyddai hyny, felly y gwnaent hwythau. Pan symudai efe symudent hwythau." Mae pob un sydd yn rhoddi ei hanes yn tystiolaethu am yr un ffaith. Gwel y darllenydd yn ei bregethau brofion o'r un peth. Adnabyddai wahanol gymeriadau o ddynion yr un fath, fel y gwyddai pa fodd i drin pawb. Dywedai un wrthym, yr hwn a fu yn byw am flynyddoedd yn yr ardal, ei fod ef wedi synu gymaint oedd dylanwad Mr. Edwards ar yr eglwys a'r gymydogaeth. "Yr oedd yn oracl yr ardal," meddai, "am bob peth crefyddol ac amgylchiadol." Yr oedd felly gyda'r boneddig yn gystal a'r gwreng. Yr oedd cadbeniaid y gwaith i gyd yn edrych arno fel un o brif ddynion y gymydogaeth, a mwyaf ei ddylanwad ar bob math mewn cymdeithas. Ysgrifena Mr. John Davies, Trefriw gynt, blaenor yn Capel Afan, gyda golwg ar y parch cyffredinol a delid iddo, a dywed, "Bob amser pan y byddai Mr. Edwards yn Capel Afan, yr oedd yn rhaid iddo fyned at fy mrawd i Trefriw Fawr i letya, os na byddai yn myned adref. Er mai aelod o'r Eglwys oedd Mr. Evan Davies, nid oedd hyny yn gwneyd un gwahaniaeth. Pe buasai Archesgob Canterbury yno, ni chawsai well derbyniad na Mr. Edwards. ei fod yn wr mor urddasol, ni roddai drafferth i neb, ond bod yno fel un o'r teulu, a phawb yn hoffi ei gwmni. Pan yn y gauaf, gan ei fod yn wr o farn am bron pob peth, byddai fy mrawd yn myned ag ef i weled yr anifeiliaid; ac os byddai ganddo geffyl da i'w werthu, neu eidion yn cael ei dewhau, rhaid oedd eu dangos iddoYr oedd yn sylwedydd manwl a chraffus ar bron bob peth. Fer y canlyn yr ysgrifena Mr. Abraham Oliver, blaenor yn eglwys Cwmystwyth, am dano :—" Efe oedd arweinydd a chynghorydd ei gymydogion ar bob peth o bwys. Yr oedd yn astudiwr caled o ddeddfau natur, fel, wrth arfer sylwi, y gallai ddweyd bron bob amser pa fath hin a geid am y diwrnod. Yr oedd gan Mr. Thomas, y Pentre, y fath gred ynddo yn y cyfeiriad hwn, fel na wnelai ddim o bwys yn amser cynhauaf heb ymgynghori' âg ef. Ar dywydd gwlyb yn amser cynhauaf y gwair, edrychai yr holl ardal pa beth oedd Mr. Edwards yn wneyd, a pha beth bynag fyddai hyny, felly y gwnaent hwythau. Pan symudai efe symudent hwythau." Mae pob un sydd yn rhoddi ei hanes yn tystiolaethu am yr un ffaith. Gwel y darllenydd yn ei bregethau brofion o'r un peth. Adnabyddai wahanol gymeriadau o ddynion yr un fath, fel y gwyddai pa fodd i drin pawb. Dywedai un wrthym, yr hwn a fu yn byw am flynyddoedd yn yr ardal, ei fod ef wedi synu gymaint oedd dylanwad Mr. Edwards ar yr eglwys a'r gymydogaeth. "Yr oedd yn oracl yr ardal," meddai, "am bob peth crefyddol ac amgylchiadol." Yr oedd felly gyda'r boneddig yn gystal a'r gwreng. Yr oedd cadbeniaid y gwaith i gyd yn edrych arno fel un o brif ddynion y gymydogaeth, a mwyaf ei ddylanwad ar bob math mewn cymdeithas. Ysgrifena Mr. John Davies, Trefriw gynt, blaenor yn Capel Afan, gyda golwg ar y parch cyffredinol a delid iddo, a dywed, "Bob amser pan y byddai Mr. Edwards yn Capel Afan, yr oedd yn rhaid iddo fyned at fy mrawd i Trefriw Fawr i letya, os na byddai yn myned adref. Er mai aelod o'r Eglwys oedd Mr. Evan Davies, nid oedd hyny yn gwneyd un gwahaniaeth. Pe buasai Archesgob Canterbury yno, ni chawsai well derbyniad na Mr. Edwards. ei fod yn wr mor urddasol, ni roddai drafferth i neb, ond bod yno fel un o'r teulu, a phawb yn hoffi ei gwmni. Pan yn y gauaf, gan ei fod yn wr o farn am bron pob peth, byddai fy mrawd yn myned ag ef i weled yr anifeiliaid; ac os byddai ganddo geffyl da i'w werthu, neu eidion yn cael ei dewhau, rhaid oedd eu dangos iddo ef, a chael ei farn am danynt. Yr oedd gan y teulu y fath barch iddo, fel na chlywid yr un o'r plant byth yn ei alw yn Thomas Edwards, yn ei gefn yn fwy nag yn ei wyneb, ond bob amser, 'Mr. Edwards, y Cwm,' fyddai ei enw.”

Rhydd Mr. Davies, hefyd, yr hanesyn canlynol am dano, yn ei gysylltiad âg Arglwydd Vaughan, y Trawsgoed: "Yr oedd yr hen Earl Lisburne yn arfer dweyd am dano,-' Yr wyf yn deall wrth olwg Mr. Edwards, Cwmystwyth, ei fod yn bregethwr da.' Nid rhyfedd i Earl of Lisburne ddweyd hyny am dano, gan ei fod yn barnu wrth olwg allanol pethau. Yr oedd Mr. Edwards yn farchogwr rhagorol yn nghyfrif pawb; a gwelodd yr Earl ef lawer gwaith ar gefn ei farch coch, mor fedrus a syth ag un o Horse Guards Victoria. Ond er y parch a delid gan yr Earl i Mr. Edwards, nid oedd ef yn myned yn rhy bell i ffordd yr Earl er mwyn ei foddloni, os na byddai pethau yn weddus, yn ol barn ei gydwybod ef. Pan oedd yr Earl presenol yn dyfod i'w oed, galwyd y tenantiaid i gyd i giniaw i'r Trawsgoed. Ac anfonodd yr Earl lythyr pendant at Mr. Edwards, i'w wahodd yntau yno. Ar y dydd apwyntiedig, cychwynodd i fyned yno; a phan o fewn ychydig bellder i'r lle, dywedwyd wrtho fod yno ryw bethau oedd yn groes i'w gydwybod dyner ef, trodd yn ei ol heb fyned un fodfedd yn mhellach."

Golwg ddifrif-ddwys fyddai golwg Mr. Edwards, eto ni ellid dweyd ei fod yn drymaidd. Yr oedd yn ddyn boneddigaidd a pharchus yr olwg, eto yn ddyn oedd yn sylwi ar bawb ac yn gosod gwerth ar bawb. Yr oedd yn hawdd i bawb nesau ato, eto yr oedd yno ryw derfyn anweledig, fel na ellid myned yn rhy agos Yr oedd yn llawn o gydymdeimlad, fel y cyfrifid ef yn ganolbwynt, lle y byddai bron bawb yn dyfod i adrodd eu tywydd, ac i gael cyfarwyddyd mewn dyryswch. Yr oedd yn un o feddwl cyflym ffurfio barn, a hono, gan amlaf, yn un bur gywir; yn meddu ar galon deimladwy i fyned i mewn i dywydd ei gymydog, ac yn gyfaill mor gywir i guddio cyfrinach. Dywed Mr. Oliver am dano: "Pan oddiweddid rhai gan ryw drallod, ato ef yr elai pawb, megis yn reddfol, i adrodd eu tywydd, am y ceid ynddo y cydymdeimlad llwyraf, a'r cynghorion goreu pa fodd i weithredu. Hwyr un dydd daeth Dafydd ——— ato, dan bwys ei drallod, i ffarwelio ag ef, gan ei fod yn myned i adael yr ardal dranoeth, am yr ystyriai ei fod yn cael cam gan gyfraith y wlad. Cafodd gydymdeimlad dwys yr holl deulu yn y Fron; a digwyddodd i amgylchiad gymeryd lle ar y pryd oedd, yn ein tyb ni, yn dangos hyny. Yr oedd yno lanc o was yn y teulu ar y pryd, yn gwrando yr ymddiddan. O'r diwedd, gorchfygwyd ef gan gwsg. Ond pan alwyd arno i ddweyd adnod yn yr addoliad teuluaidd, adroddodd yr adnod arwyddol hono o amgylchiad y dyn trallodedig, 'O Arglwydd, cofia Dafydd, a'i holl flinder.' Amgylchiadau felly fyddai yn fynych yn dyfod dan ei sylw ef, a rhedai ei gydymdeimlad yntau i weddiau drostynt, am eu cofio yn eu holl fiinder."

Yr oedd yn arweinydd yr ardal, hefyd, mewn achosiou gwladol. Etholwyd ef yn aelod o'r Bwrdd Ysgol cyntaf yn y district, yn niwedd 1871, a bu felly hyd ddiwedd ei oes. Yr oedd pawb yn ystyried na allent hebgor ei wasanaeth. Felly y byddai yn yr etholiadau Seneddol. Byddai ef bob amser yn gynghorwr, er yn "arwain ei galon mewn doethineb." Yn etholiad Mr. Evan Matthew Richards, yn 1868, cyn i'r ballot gael ei fabwysiadu, aeth ef, gyda'i gyfaill o'i gyfenw, y Parch. Thomas Edwards, Penllwyn, ar hyd y wlad o dy i dy i ddysgu y bobl, a'u harwain i'r iawn gyfeiriad. A dywedwyd llawer y pryd hwnw yn yr etholiad, ac ar ol yr etholiad, gan gyfeillion a gelynion, am y "Ddau Domos Edwards," a'u dylanwad rhyfeddol ar y dynion.

PENOD III.

Fel Cristion.

EI DROEDIGAETH AMLWG—DIRGEL-FANAU—MR. THOMAS, Y PENTREF—YN EI DEULU—YMARWEDDIAD CYFFREDINOL.

MAE i'r gair Cristion, fel yr arferwn ef yma, dri ystyr: 1. Cristion o ran proffes; 2. Un felly o ran cyflwr rhyngddo â Duw; 3. Un amlwg felly i bob dyn. Mae y cyfuniad o'r tri yn gwneyd Cristion cyflawn. Nid ydym yn myned i brofi fod Mr. Edwards felly; pe byddem yn gwneyd ymgais at hyny, byddai miloedd yn barod i ddweyd, "Dyna beth heb angen am dano." Yr oedd golwg Cristion yn ei wyneb, naws Cristion ar ei ysbryd, geiriau Cristion yn ei enau, a gweithredoedd Cristion yn ei ddwylaw. Gall llwch ymdaenu dros yr eira, ac ymgymysgu âg ef, ond nid oes neb oblegid hyny yn myned i brofi fod yr eira yn wyn. Gall yr afon ymdroelli ac ymddolenu wrth redeg trwy y dyffryn, ond nid yw neb oblegid hyny yn myned i brofi ei bod yn rhedeg tua'r môr. Yr oedd gwaeleddau yn perthyn i Mr. Edwards, ond yr oedd y rhinweddau a'r grasusau gymaint yn fwy prominent ynddo, fel yr oedd ei dduwioldeb uwchlaw amheuaeth. Yr oedd ei ymddangosiad dymunol, a'r doraeth dda o synwyr cyffredin oedd ynddo, yn gwneyd y Cristion yn fwy amlwg mewn cysylltiad âg ef, hyd yn nod na llawer o'i frodyr yn y weinidogaeth. Ac, i ganmol ei Gristionogaeth yn fwy, yr ydym yn gallu tystio i ni glywed rhai yn achwyn arno. "Gwae chwi," meddai Crist, "pan ddywedo pob dyn yn dda am danoch; canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i'r gau broffwydi." Rhai yn dweyd ei fod wedi bod yn rhy galed wrthynt mewn disgyblaeth oedd y rhai hyny. Pa fodd bynag, a barnu oddiwrth gymeriad cyffredinol Mr. Edwards, gallem feddwl mai y rhai a ddywedent ei fod yn rhy dyner wrth ddisgyblu, yw y rhai agosaf i'w lle. Ond, a chaniatau fod ynddo golliadau, yr ydym braidd yn sicr, yn ei holl ymwneyd â dynion, fod rhinweddau Cristion da yn rhy amlwg i'w gwadu ynddo, sef cymwynasgarwch, addfwynder, hirymaros, a chariad o galon bur. Yr oedd mor debyg a neb a adwaenem i fod yn un o'r "rhai ysbrydol," y dywed Paul wrthynt am "adgyweirio y rhai a oddiweddid ar ryw fai."

Byddai yn llawer o ameuthyn i grefyddwyr yr oes hon pe byddent yn aros yn fyfyrgar uwchben yr hanes a rydd Mr. Edwards am ei dröedigaeth, pan oedd oddeutu ugain oed. Mae yr hanes am rai yn cael tröedigaeth amlwg fel efe, yn beth prin iawn yn Nghymru er's blynyddoedd. Gwelir ei fod wedi cael dechreu teimlo nerthoedd y byd a ddaw," ac iddo allu myned i'w ffordd ei hun am ryw gymaint drachefn o ran y rhai hyny, nes i'r "llef ddistaw fain" ei gyrhaeddyd, yn yr wythnos o bregethu fu yn y Cwm, Gwelir yn amlwg ynddo ef y gall tröedigaeth gyflawn pechadur fod yn waith graddol. Mae yn cynwys y cyfiawnhau a'r aileni, y rhai sydd bob un o honynt yn weithred a gyflawnir ar unwaith; ond tröedigaeth, ac argyhoeddiad hefyd, yn fwy tebyg i'r sancteiddhad-yn waith graddol. Bu ef yn hir mewn ystorm, a chafodd ymdrechfa galed pan yn "gwingo yn erbyn y symbylau." Yr oedd fel nodwydd y morwr, yn hynod o sigledig gan ddylanwad y gwyntoedd, ac yn methu penderfynu y cyfeiriad. O'r diwedd, aeth attyniad y groes yn gryfach na phob dylanwad arall, a safodd a'i olwg ar Galfaria. O hyn allan yr ydym yn ei weled yn filwr, wedi gwisgo yr arfogaeth, a thyngu llw o ffyddlondeb i Grist, ac yn rhyfela yn wrol o dan ei faner. Bu mewn ymdrechfa ofnadwy â'r "cawr anghrediniaeth," nes bu iddo bron golli y dydd. Ond enill a wnaeth, a daeth allan i "gadarnhau ei frodyr yn fwy nag erioed."

Meddylier am y lleoedd dirgel oedd ganddo,-un yn ymyl y tŷ, y llall ar lan y nant heb fod ymhell o'r tŷ, a'r llall yn Llechwedddyrus, pan oedd yn gweithio yn y gwaith yn Copperhill. Mae Mr. Davies, y cyfeiriasom ato o'r blaen, yn rhoddi yr hanes canlynol:"Mae y Fron, preswylfod Mr. Edwards, yn ffinio â fferm Pentre Brunant. Byddai Mr. Thomas, y Pentre, yn arfer codi yn foreu iawn yn yr haf, i edrych am y defaid, rhag iddynt ddyfod i lawr o'r mynydd a gwneyd niwed i'r cnydau. Byddai yn codi ar foreu Sabbath, fel boreuau eraill, o gwmpas tri o'r gloch. Mae Cwm Cul rhwng y Fron a'r Pentre, a nant fechan yn rhedeg trwyddo. Ar un boreu Sabbath, gwelodd Mr. Thomas y gwr o'r Fron ar ei liniau yn y Cwm Cul hwn, ac arwyddion arno ei fod yn ymdrechu yn galed â Duw, pan oedd pawb eraill yn eu gwelyau. Byddai Mr. Thomas yn arfer dweyd, 'O'r fath golled fyddai ei golli!" Mae plentyn iachus a chryf am y fron yn fynych, ac yn sugno yn helaeth o honi. Ac wedi dyfod i redeg o amgylch ar ol ei bethau, rhaid iddo fyned i'r tŷ yn fynych i 'mofyn am damaid. Cristion iach a chryf oedd Mr. Edwards, a rhaid oedd iddo yn fynych wrth ddidwyll laeth y gair, a rhedeg am damaid i'r dirgel, a hyny rhwng y prydiau mawr fyddai yn gael gyda'i frodyr yn y cysegr yn gyhoeddus. Fel y mae gan y bugeiliaid ar y mynydd eu bwthynod neillduol, lle y maent yn ymgysgodi ar gawod, yn gorphwys ganol dydd, yn bwyta eu prydiau bychain, yn dadluddedu, ac yn ymgysuro, pryd na allent fod yn eu cartrefi cyhoeddus; felly yr oedd ganddo yntau ei luest bugail, a gwnelai ddefnydd da o hono.

Yr oedd ei ofal yn fawr hefyd am ordinhadau cyhoeddus crefydd. Dywed Mr. Morgan Morgans, blaenor yn Cwmystwyth, fel y canlyn: "Cryn gamp i neb gyraedd tir uwch nag ef mewn crefydd. Medrai ddweyd pan yn marw mai dau gyfarfod a esgeulusodd yn ystod ei holl oes grefyddol. Dywedai mai yn y cyfarfod gweddi yr oedd yn cael y cymorth mwyaf i wneyd ei bregethau. Gallwn ninau sicrhau fod ei bresenoldeb yn y cyfarfod gweddi a'r cyfarfod eglwysig, yn arwydd i ni bob amser na byddai y cyfryw gyfarfodydd yn amddifad o ysbryd crefydd."

Yr oedd yr un fath yn ei deulu. Caiff ei fab, Mr. M. Edwards, C.M., lefaru" Yr oedd yn ffyddlon i Dduw yn ei holl dy. Ni welsom ef yn esgeuluso y ddyledswydd deuluaidd yn ystod ei holl fywyd, hwyr na boreu, Sabbath nac wythnos; ac ni ddangosodd un math o anghyfleustra nac anhawstra i'w chyflawni, pa beth bynag fyddai yr amgylchiadau. Yr oedd pob peth i roddi ffordd i hon. A phan yn ei gystudd diweddaf, yn methu bron ag anadlu gan wendid, cyflawnai hi a'i bwys ar ben ei ffon, hyd yr wythnos olaf y bu fyw. Byddai raid cael yr holl deulu i amgylchu yr allor, a phob un i ddweyd adnod. Yna darllenai ychydig o adnodau, a byddai yn bur hoff o wneyd hyny o'r Salmau. Cawsom lawer iawn o hyfforddiadau crefyddol ganddo pan yn cyflawni y ddyledswydd hon, a chynghorai ni yn fynych, a dagrau ar ei ruddiau, fel y gadawai argraff ddofn ar ein meddyliau ei fod wrthi o ddifrif. Yr oedd yn hoff iawn o siarad wrthym fel plant am Grist a'i ddioddefiadau, nes meithrin teimladau tyner ynom at y Gwaredwr. Ymdrechai ein cael i bob moddion o ras, yn enwedig y cyfarfod eglwysig; a chymerai ofal mawr i'n hatal i bob math o leoedd. amheus, megis ffeiriau, &c. Yr oedd ganddo barch neillduol i'r Sabbath, a gosodai bwys mawr ar ei gadw yn sanctaidd, trwy beidio siarad dim ond a fyddai yn gweddu i waith y dydd. Teimlai i'r byw wrth weled dynion yn gwneyd gwas o'r dydd i wag rodiana ac ymweled â'u gilydd.

"Yr oedd yn amlwg arno bob amser ei fod yn teimlo yn ddwys oblegid pwysigrwydd y gwaith crefyddol. Nid oedd un amser yn myned i'r odfeuon cyhoeddus heb fyned i'r fangre ddirgel gerllaw y ty, lle y treuliai gryn lawer o'i amser. Pan gawsai odfa galed, byddai yn gruddfan yn uchel, ac yn myned i'r un lle i ddweyd ei dywydd yn ngeiriau y bardd,

'Beth yw'r achos bod fy Arglwydd
Hawddgar grasol yn pellhau?'

Brydiau eraill, byddai yn llawen iawn, ac yn diolch am yr odfeuon gwlithog."

Dyna ei gymeriad yn nghyfrif ei blant. Diameu fod y dwysder crefyddol fyddai yn ei hynodi bob amser, a'r anwyldeb anghyffredin a deimlai at bob math o foddion gras, wedi cael eu cynyrchu, nid yn unig gan ei dduwioldeb personol dwfn, ond hefyd, i raddau, gan ansawdd ysbrydol dda yr eglwys y perthynai iddi, yn enwedig ei sefydliad o gyfarfod gweddi, i ofyn am dywalltiad o'r Ysbryd Glan. Yr oedd hwn bob nos Lun, a chymerai yntau ran arbenig ynddo. A dywed Mr. Abraham Oliver fod y cyfarfod hwn wedi bod yn llesol iawn i fywyd ysbrydol yr eglwys trwy y blynyddoedd. Pethau fel yma a'i cododd i fod yn weithiwr mor galed dros grefydd, gartref ac ymhob lle arall. Yr oedd yn barod i bob gweithred dda. Dywedai y Parch. Dr. Edwards, Aberystwyth, yn ei gladdedigaeth, wedi dangos fod rhyw neillduolion amlwg yn perthyn i'r gweinidogion a fu farw bron yr un amser ag ef :—" Ond am y brawd hwn," meddai, "nid oedd dim neillduolrwydd yn perthyn iddo ef, Cristion cyfan ydoedd, llawn ymhob cylch. Yr oedd barchusach yn yn Sir Aberteifi nag unman arall, am mai pobl Sir Aberteifi oedd yn ei adnabod oreu. Onid yw peth fel yna yn gymhelliad i ni fod yn ddynion da a chysegredig i Iesu Grist? Yr oeddwn yn teimlo wrth glywed y blaenor, Mr. Morgans, yn adrodd hanes y brawd, pe buaswn yn dyfod yma yn anffyddiwr, y buaswn yn ymadael oddiyma yn Gristion. Yr wyf yn credu mewn Cristionogaeth. Gallasem dybied, pan y mae yr Arglwydd yn cymeryd dynion da fel hyn oddiarnom, bod Cristionogaeth yn myned i ddarfod o'r tir; ond tra y bydd y pulpud yn cael ei lanw gan ddynion da, os nad mawr, ni fedr y gelyn byth ein gorchfygu."

PENOD IV.

Fel Gweinidog.

EI ORDEINIAD—MAES EI LAFUR YN YMHEANGU—EI NODWEDD FEL PREGETHWR—FEL GWEITHIWR—FEL BUGAIL.

TRA yr oedd myned i bregethu yn aros gydag ef yn bersonol, bu yn hir yn meddwl, yn bwriadu, a phryderu; ond pan ddaeth ei achos i ddewisiad yr eglwysi, gwnaethant hwy fyr waith arno. Cafodd ddrws agored i ddechreu ar unwaith yn 1855, ac ordeiniwyd ef yn 1862, yn Nghymdeithasfa Llanbedr; pryd y traddodwyd araeth ar "Y moddion mwyaf effeithiol i adferyd dylanwad y weinidogaeth," gan y diweddar Barch. B. D. Thomas, Llandilo, ac y traddodwyd y Cyngor gan y diweddar Barch. D. Jones, Treborth. Yr oedd ef wedi pregethu llawer yn nghyfarfodydd yr eglwys gartref, ac yn nghyfarfodydd Ysgol Sabbothol Dosbarth Cynon, cyn iddo fyned yn bregethwr rheolaidd. Ac am ei fod mor rhagorol yn y cyfarfodydd hyny, yr oedd yr eglwysi am ei gael i'r pulpud. Nid oedd lawer gwell yn y pulpud nag yn y cyfarfodydd a nodasom, hyd ddiwygiad 1858 a 1859, pryd y cafodd ysbryd newydd, a symudiad mawr ymlaen. Nid ydym yn meddwl iddo golli fawr o'r ysbryd hwnw hyd ddiwedd ei oes; ond yr ydym yn sicr i'w faes llafur gynyddu yn fawr, a bod arno eisiau ysbryd newydd ar gyfer hyny. Yn fuan ar ol hyn rhoddodd i fyny weithio yn y gwaith, ac ymgymerodd â bod yn ysgolfeistr. Trwy hyn bu mewn caethiwed mawr am ddeng mlynedd, gan ei fod yn gorfod bod gartref erbyn naw o'r gloch boreu Llun o'r teithiau pellaf. Nid dyn oedd ef i ymgymeryd â gwaith, ac ymfoddloni i'w wneyd rywfodd. Mynych yr oeddym yn clywed am Mr. Edwards yn cychwyn oddeutu pedwar o'r gloch y boreu. Ond er mor galed y bu arno lawer gwaith, ni chafodd y naill swydd ddioddef oblegid y llall.

Dyn gwledig oedd, ac ni allodd esgyn fawr uwchlaw teimlad gwledig fel pregethwr. Bu ar daith mewn rhai lleoedd yn y De a'r Gogledd, ac yn pregethu yn y trefydd mwyaf a'r lleoedd goreu; ond clywsom ef yn dweyd fwy nag unwaith, "Capeli bach y wlad i mi," sef capeli gwledig Sir Aberteifi. Yr oedd yn gwybod llawer am nervousness ac ofn dyn, nes y byddai mewn caethiwed mawr o'u plegid yn fynych, yn enwedig mewn rhai lleoedd. Clywsom ef yn pregethu yn Hermon, Dowlais, nos gyntaf y Gymdeithasfa yno, ac yr oedd yn amlwg arno ei fod allan o'i elfen. Pregethodd yn dda, ond nid cystal ag yr arferai yn ei sir ei hun. Yr oeddym yn gofidio yno na chawsai gystal odfa a'r un a gafodd yn Nghyfarfod Misol Abermeurig, pan yn pregethu ar "Fwynder Ephraim yn ymado fel cwmwl, ac fel gwlith boreuol." Traddodai yn gyflym, gyda llais hyglyw o'r dechreu i'r diwedd, gan wasgu y gwirionedd at ystyriaeth y gynulleidfa wrth fyned ymlaen. Pregethai o ddifrif, ac yr oedd y wedd ddifrifol oedd ar ei wynebpryd yn help i'r gynulleidfa ddeall hyny. Ni amcanodd erioed fod yn bregethwr mawr, yn ol yr ystyr a rydd rhai pobl i hyny. Ond rhyfedd mor fawr yn yr ystyr oreu y daeth. Llwyddodd i ddyfod y mwyaf bron o bawb. yn y sır mewn dau beth: 1. I fod y pregethwr mwyaf anwyl gan y cynulleidfaoedd; rhaid felly ei fod yn llwyddianus i oleuo peth ar eu deall ynghylch y pethau mwyaf eu pwys er eu cadwedigaeth a'u dedwyddwch, i gynyrchu teimlad hyfryd ynddynt at yr efengyl, ac i ddeffro eu cydwybodau gyda golwg ar eu dyledswydd a'u cyfrifoldeb. 2. I fod y pregethwr mwyaf am eni yuddiried yr eglwysi, fel gweithiwr gonest ac ymroddgar; rhaid felly ei fod yn feddianol ar ysbryd rhagorol, ar ffyddlondeb diball, ac ar fesur helaeth o fedr uwchlaw'r cyffredin. Hyn oedd yr achos fod eglwys y Cwm yn ymddiried cymaint iddo, ei fod yn gadeirydd Cyfarfod Daufisol ei ddosbarth, ei fod yn ysgrifenydd y Drysorfa Sirol, ac yn ysgrifenydd y Cyfarfod Misol. Mae yr oll yn gofyn mesur helaeth o waith a gofal, a llwyddodd ef i enill cymaint o ymddiried fel y cafodd fod yn y gwahanol swyddau hyd ddiwedd ei yrfa.

Fel y canlyn yr ysgrifena y Parch. John Bowen, Pontrhydfendigaid, am dano :— "Gwaith mawr yr wyf fi yn ei wneuthur,' meddai Nehemiah gynt. Fe gyflawnodd Mr. Edwards yntau waith mawr yn ei ddiwrnod, a bu yn ffyddlawn yn holl dy Dduw megis gwas. Ac iddo ef yr oedd gwaith y ty yn fawr, a'r rhwymedigaethau yn lliosog. Heblaw y dyledswyddau oedd yn orphwysedig arno fel bugail eglwys Cwmystwyth, ac fel gweinidog i'r Cyfundeb yn gyffredinol, gwnaeth wasanaeth mawr fel cadeirydd Cyfarfod Daufisol dosbarth Cynon, fel ysgrifenydd y Drysorfa Sirol, ac fel ysgrifenydd Cyfarfod Misol Gogledd Aberteifi. Dan ei arolygiaeth ef a'r diweddar Mr. John Jones, Mynach, fe ddygwyd cyfarfod daufisol y dosbarth yn gyfryw o ran gallu, trefn, ac effeithiolrwydd, fel yr edrychid arno gan ddosbarthiadau eraill y sir yn gynllun teilwng i'w efelychu. Ac i'w ymdrechion ef yn benaf, ynghyd a ffyddlondeb y trysorydd, Mr. D. J. Davies, U.H., Aberystwyth, y rhaid priodoli llwyddiant y Drysorfa Sirol, yr hon sydd wedi profi yn allu mor rhagorol yn llaw y Cyfarfod Misol, i symud mynyddoedd o ddyledion oedd yn gorwedd fel hunllef parhaus ar yr eglwysi gweiniaid, cyflenwi eu puludau â gweinidogaeth gyson, a sicrhau mesur o arolygiaeth drostynt. Fel ysgrifenydd y Cyfarfod Misol, bu yn hynod ffyddlawn i holl ddyledswyddau ei swydd, trwy ddwyn penderfyniadau y Cymdeithasfaoedd gerbron yn brydlon i'w dadleu, a rhoddi holl bwysau ei ddylanwad o blaid y symudiadau hyny. Ffydd wan oedd ganddo ef yn nghymwysder annrhefn y gyfundrefn deithiol i gwrdd âg anghenion yr eglwysi a'r cynulleidfaoedd, yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Credai yn gryf y dylai pob eglwys fod o dan ofal bugeiliol, a gwnaeth ei oreu i enill barn a theimlad yr eglwysi i'r un golygiad ag ef ei hun ar y mater. O ran gallu meddyliol, nid oedd yn uwch na lliaws ei frodyr, nac wedi bod, fel Saul wrth draed unrhyw Gamaliel, mewn coleg, eto fe lwyddodd i wneyd diwrnod da o waith i'w Feistr. Nid oedd yn fawr mewn dim ond duwioldeb, gweddi, a gweithgarwch; eto, yr oedd ynddo gyfuniad hapus o alluoedd meddyliol, a chymwysderau gweinidogaethol. Meddai ar chwaeth bur, cof da, llais soniarus, goslef effeithiol, a gwresogrwydd ysbryd. Ond mewn cymundeb â Duw yr oedd cuddiad ei gryfder. Dywedir fod y llwybr o'r Fron i'r man neillduedig yn ymyl y ty wedi cael ei gadw yn goch trwy y blynyddoedd, gan gerddediad y gwr a ymneillduai yno i weddio. Yn ol dywediad un o flaenoriaid ffraeth y Cwm, yno yr oedd ei Sheffield, lle y tymherai ei arfau ysbrydol, i ymladd â'i elynion personol, ac i enill tyrau i Frenin Seion yn y byd. Astudiai lawer ar ddyn yn ei hanes ei hun, ac yn nghymeriad ei wrandawyr; a threuliai gryn lawer o'i amser yn ei lyfrgell, yn nghwmni yr hen Buritaniaid. Ond yn ei gymundeb agos â Duw yr enillai fwyaf o'i adnoddau."

Ni fu yn fugail ar eglwys y Cwm am flynyddoedd cyntaf ei weinidogaeth. Yr oedd ef wedi arfer gweithio yno gyda phob peth, ac ni feddylid am ei gydnabod fel gweinidog yn fwy nag o'r blaen. Ond tua'r blynyddoedd 1871 ac 1872, bu y Cyfarfod Misol yn gwasgu ar yr eglwysi i symud ymlaen gyda'r fugeiliaeth, trwy ddewis bugeiliaeth ddosbarthiadol, neu leol, a phenodwyd rhai i ymweled â'r eglwysi er mwyn eu cymell i hyny. Mae yn debyg mai tua'r amser hyny y meddyliodd brodyr y Cwm y dylent symud gyda'r achos. Fel y canlyn y dywed Mr. Abraham Oliver:-"Bu yn wir fugail i'r eglwys hon o'r dechreuad, ond ni chydnabyddwyd ef felly yn ffurfiol hyd 1875. Efe oedd yr ysgogydd a'r arweinydd gyda phob peth cyn hyny. Ië, arweinydd oedd ef, ni fyddai yn gorchymyn rhai at waith heb weithio ei hunan, ac ni cheisiai orfodi neb, ond eu denu. Yr oedd am gael y cwbl perthynol i grefydd yn y gymydogaeth hon yn y wedd oreu. Gweithiodd yn galed i symud y ddyled oedd yn aros ar yr hen gapel, ac i godi tŷ capel mwy teilwng na'r hen at letya pregethwyr. Rhaid wedi hyny oedd cyfnewid yr hen adeiladau at wneyd ysgoldy dyddiol; ac yn y diwedd codi y capel newydd presenol, a'r holl adeiladau perthynol iddo. Yr oedd yn gwneyd yr oll heb dâl, yn gystal ag y gwnaeth gyda'r tâl. Yr oedd ei ymlyniad mor llwyr hefyd wrth yr eglwys a'r gymydogaeth, fel y gwrthododd fyned i leoedd eraill, er cael gwahoddiad taer i hyny. Na, yma y mynai fod, er yr holl anfanteision i fyw yn y fath le anghysbell. O'r flwyddyn 1883, boddlonodd ar 5p. yn llai nag a benodwyd iddo yn y dechreu, oherwydd fod yr ardal wedi ei darostwng i dlodi, trwy fod y gweithiau mor wael a'r trigolion yn ymadael." Bu eglwys Capel Afan dan ei ofal fel bugail am ysbaid maith, a dyma fel y dywed Mr. John Davies am y cysylltiad hwn: "Bu yn fugail yma am amryw flynyddoedd, a mawr y lles a wnaeth, yn enwedig gyda'r plant. Mae effaith ei waith i'w weled hyd heddyw, trwy fod y plant yn dyfod i'r seiat wrth y degau. Treuliai lawer o amser gyda hwy, fel Ꭹ daethant i deimlo dyddordeb neillduol yn y cyfarfod."

"Dyn da ydoedd, yn byw mewn cymydogaeth dda.”—Parch. W. Jones, Pontsaeson. "Yr oedd fy mharch i Mr. Edwards yn cynyddu o hyd fel yr oedd fy adnabyddiaeth o hono yn cynyddu. Po fwyaf yr oedd yn byw, mwyaf i gyd oedd y parch a hawliai. Yr oedd felly yn y Cwm yn anad unman, am mai pobl y Cwm oedd yn ei adnabod oreu. Yr oedd yn meddu y fath ddylanwad ar gynulleidfaoedd y wlad, fel y gwnaeth fwy tuag at sicrhau Ilwyddiant y Drysorfa Sirol na phawb eraill ynghyd. Y wers wyf fi yn ddysgu yn mywyd Mr. Edwards yw, mai y bywyd goreu ar y ddaear yw bywyd llawn o waith, ac wedi ei gysegru i wasanaeth Mab Duw."-Mr. D. J. Davies, U.H. "Yr oedd Mr. Edwards, nid yn unig yn was da i Iesu Grist, ond hefyd yr oedd yn ddyn anwyl iawn. Yr oedd yn weinidog cymwys y Testament Newydd yn ei berson a'i ysbryd. Yr oedd ef yn llestr hardd, wedi ei gymhwyso gan Dduw i gario cenadwri yr efengyl, a chariad Duw yn llon'd ei lygaid a'i ysbryd, ac yr oedd ei genadwri yn cael ei derbyn gan y cynulleidfaoedd. Teimlir bwlch mawr ar ei ol yn eglwysi y wlad; yr oedd yn ddyn pawb yn y cymydogaethau."—Parch. D. Morgan,

Penllwyn. "Bum i yn chwilio am adnod ddisgrifiadol o'r ymadawedig, a chefais hi yn Iago iii. 17., 'Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hyny heddychlawn, bonedd▾ igaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd a diragrith.' Yr oedd Mr. Edwards yn cyfateb yn hollol i'r adnod yna. Nid yn unig fe wnaeth ei oreu yn ei fywyd, ond y mae yn myned i wneyd llawer o waith eto, yn y Cwm a'r cymoedd cyfagos, trwy ei ysbryd, ei gynghorion, a'i weddiau cynwysfawr, trwy y rhai y bydd wedi marw yn llefaru eto."-Parch. Thomas Levi, "Ni welais neb erioed yn fwy difrifol na Mr. Edwards, yr oedd in earnest gyda phob peth."—Parch. John Williams, Aberystwyth.

Fel un engraifft o lawer, i ddangos y modd yr oedd Mr. Edwards yn achub cyfleusderau i wneyd lles i ddynion, ac i achos crefydd, nodwn y ganlynol :-" Cefais fy magu yn grefyddol; ond wedi myned yn apprentice gof, ymgollais yn raddol i fod yn aberth i ddiodydd meddwol. Bum yn cadw tafarndy yn Aberystwyth, ac aethum trwy y cwbl. Arweiniodd rhagluniaeth fi i fyned i fyw i Cwmrheidiol, lle y dechreuais fyned i'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd y rhan fwyaf o'r brodyr yn cadw ymhell oddiwrthyf, gan ystyried y drygionus yn ddirmygus yn eu golwg. Aeth blaenor y gân i Lundain, fel nad oedd yno neb yn alluog i ddechreu canu. Pan yn y sefyllfa hono, daeth Mr. Edwards i'r lle; a phan welodd nad oedd yno neb i ddechreu canu, gwnaeth ef y gwaith ei hunan. Ar ol diwedd y cyfarfod, arosodd rhai o'r brodyr yn ol i ysgwyd dwylaw, ac i gwyno ar ol blaenor y gân. 'Paham na wnewch chwi geisio gan John Lewis i ddechreu canu?' gofynai Mr. Edwards. O dear me, nid yw yn b'longed i'r capel oedd yr ateb. 'Nid oes odds am hyny,' meddai yntau, 'rhoddwch chi waith iddo; mae yn resyn fod y diafol yn cael holl ddawn a thalent y dyn yna.' Bu un o'r brodyr mor ffyddlawn a dweyd wrthyf, rhwng difrif a chwareu braidd. Hawdd oedd gweled nad oedd yn meddwl y buaswn byth yn gwneyd. Yn ddamweiniol, cyfarfum a Mr. Edwards ei hun. Ymosododd arnaf o ddifrif i ymgymeryd â'r gwaith, mynychu y moddion, a 'throi a byw.' Daeth i'r ysgoldy eilwaith. Yr oeddwn erbyn wedi dechreu ar y gwaith. Daeth ataf i ysgwyd Ilaw ar ol yr odfa, gan wasgu fy llaw mewn modd nad anghofiaf byth, a gofyn, 'A ydych wedi joino â ni? O dowch gynted ag y galloch, mae yn rhaid i'r Athraw wrthych.' Aeth yr ymadroddion i eigion fy nghalon. Yr oeddwn yn teimlo fy mod wedi fy hen gladdu, ac yn meddwl fod llawer Martha yn barod i ddweyd "fy mod weithian yn drewi' mewn llygredigaeth. Teimlais rym y geiriau hyny rhyngddo ef a mi, 'Wele fel yr oedd yn fy ngharu.' Treiddiodd pelydrau o obaith i ystafell dywyll fy enaid, a gwnaeth y caredigrwydd hyny fwy o ddaioni i mi na holl hyawdledd y pulpud Methodistaidd. Pa beth bynag ddaw o honof, yr wyf yn awr wrth y gwaith o roddi fy hun yn adyn colledig i'r Hwn a ddichon yn gwbl iachau y rhai trwyddo Ef sydd yn dyfod at Dduw. O! y fath genad o ladmerydd a fu ef i mi!" Gadawn i'r hanes rhagorol yna y rhoddais ddyfyniadau o hono i lefaru drosto ei hun.

PENOD V.

Y Diwedd.

EI GYSTUDD—LLYTHYR—EI BROFIAD—RHAGFYNEGIADAU—YN MARW—EI FEDDROD—EI DEULU A'I BERTHYNAS.

Bu am amser maith yn gystuddiol, gan wanhau yn raddol hyd yr ymddatodiad. Gan fod y dioddefiadau yn ysgeifn, cafodd hamdden i ysgrifenu y Cofiant a Hanes Crefydd yn Cwmystwyth. Darfu i ni ysgrifenu ato am hyn, ond ni ddarfu iddo ein hysbysu ei fod yn gwneyd yr oll. Beth bynag, ysgrifenodd y llythyr caulynol atom ar y pryd :

Fron, Cwmystwyth
Tachwedd 5ed 1886

F' Anwyl Gyfaill—

Daeth eich llythyr caredig o gydymdeimlad â mi yn fy nghystudd i law yr wythnos o'r blaen, a dymunaf ddychwelyd fy niolchgarwch diffuant i chwi am dano. Oblegid gallaf ddweyd ei fod wedi lloni fy meddwl yn fawr, mewn gair, mae wedi bod yn foddion gras i mi, wrth ei ddarllen eilwaith ac eilwaith drosodd. Yr ydych wedi cyffwrdd ynddo â llawer iawn o danau fy nghalon a'm profiad. Fel y dywedasoch, bum yn y blynyddoedd diweddaf, braidd y cawn hamdden i feddwl am fy achos personol, gan amrywiaeth amgylchiadau, llafur i gael tipyn i ddweyd wrth eraill, yr amryw gyfarfodydd wythnosol yr oedd y pwys o'u cadw yn ddyddorol yn disgyn arnaf fi mewn rhan fawr ; ac, fel rheol, y teithiau Sabbothol pell o le mor anghysbell, ynghyd a llawer o ofal a llafur, fel y gwyddoch trwy brofiad, gydag amgylchiadau allanol crefydd. Mae yr hyn a ddywedasoch yn peri i mi frawychu weithiau, rhag fy mod yn anghofio fy achos fy hun yn nghanol man ddyledswyddau; er, trwy drugaredd, byddaf weithiau yn cael golwg arnaf fy hun hefyd.

"Ond wele fi er's deunaw mis bellach wedi fy ngosod mewn sefyllfa o seibiant oddiwrth yr helyntion a nodwyd i raddau mawr. Nis gall fy natur ddal i roddi i chwi fraslun o'm profiad yn y cystudd presenol. Mae llawer o bryder, ofnau ac amheuon pwysig, wedi myned drosof yn y cyfnod hwn. Ond gallaf ddweyd fod rhyw ddisgleirdeb, fel yr Urim a'r Thummim, wedi disgyn ar ryw adnodau yn yr hen Feibl, nes gyru pob ofn ac amheuaeth ymaith. Trwy ryw ymosodiad o eiddo anghrediniaeth yn y ffurf o amheuaeth, digalonais yn fawr, ond cefais nerth i orchfygu yr oll trwy ddarllen llythyrau Paul a hanes ei dröedigaeth. Bum yn aros uwchben y ffaith o adgyfodiad Crist, a gwelais wirionedd a chadernid y grefydd Gristionogol, nes mwynhau cysur cryf. O, fy nghyfaill, yr wyf wedi cael ambell i olwg ar gadernid y drefn, a'i chymhwysder i gyfarfod ein trueni, nes codi awydd arnaf i ddiolch, a graddau o hiraeth am gael cyfleusdra i ddweyd tipyn am dani wrth y cynulleidfaoedd. Oes, mae arnaf hiraeth am gael gweled y frawdoliaeth yr arferwn ymweled â hwynt, er ei bod yn bur debyg na chaf. Ar yr un pryd, mae arnaf rwymau i ddiolch ei bod hi arnaf fel y mae yn un peth, fy mod yn cael fy nghystuddio mor dyner, ac hefyd am y nerth wyf yn gael hyd yn hyn i ddioddef heb rwgnach, mewn ymostyngiad i ewyllys ein Tad nefol, er fod fy ewyllys fach i dipyn yn wahanol. Mae cofio am yr Hwn a ddywedodd uwchben y cwpan erchyll Dy ewyllys di a wneler,' yn nerth i mi dawelu i'r cwpan bach hwn. Yr oeddych yn awgrymu i mi y dymunoldeb o gofnodi rhyw ffeithiau hynod mewn cysylltiad â hanes Methodistiaeth yn Cwmystwyth. Ymgymerais y gauaf diweddaf â hyny, ac ysgrifenais ymlaen hyd adeiladu y capel presenol, pan y gorfu i mi adael gan wendid, gan obeithio y cawn ychydig adnewyddiad nerth i orphen. Rhaid i mi beidio bellach, mae natur a gofod yn cyd ddarfod. Gweddiwch drosof, am i mi gael nerth yn ol y dydd. Gyda chofion cynhesaf atoch chwi a'r teulu,

"Yr eiddoch yn ddiffuant,

"THOS. EDWARDS."

Dywedai wrth un o'r brodyr oedd yn ymweled ag ef yn ei gystudd: "Bum wrth wely marw llawer Cristion, a dywedent fod blychau yr addewidion yn tori yn braf; nid oeddwn yn eu deall y pryd hwnw yn dda; ond y mae yn dda genyf ddweyd yr un peth am danaf fy hun, a byddai yn dda genyf pe buasent yn rhoddi ychydig yn llai i mi yr wythnos ddiweddaf yma, mae y mwynhad yn llawn mwy nag y medraf ei ddal." Un arall a ddywed am dano: "Yn ei gystudd olaf, yr oedd holl goncern yr achos yn cael ei sylw, a llanw ystadegau yr eglwys oedd gyda'r gwaith olaf a wnaeth. Ac fel yr oedd ei ofal yn fawr am had yr eglwys trwy ei oes, dywedai yn ei gystudd fod 'swn tyrfa o had yr eglwys yn dyfod i gymundeb.' Yr oedd hyn yr wythnos olaf y bu fyw, a dywedodd ef lawer gwaith. Ac y mae yn rhyfedd meddwl, yr ail Sabbath ar ol ei gladdu, yr oedd rhes faith o had yr eglwys yn cofio angau y groes am y tro cyntaf. Mae hyn yn dangos ei fod wedi myned ag enwau y plant ar ei galon at Dduw lawer gwaith, ac i'w Dad nefol ei fendithio â rhyw ymwybyddiaeth sicr fod y pethau a ofynai yn cael eu caniatau.

Nid dyna y tro cyntaf i bethau rhyfedd gymeryd lle mewn canlyniad i'w weddiau ef. Mr. William Howells, blaenor yn y Cwm, a glywodd y dyn ei hun yn adrodd yr hanes canlynol, a bu Mr. Oliver mor garedig a'i anfon i ninau :—“ Yn llanc ieuanc, aeth un William Moses, o Cwmystwyth, i weithiau Morganwg, lle y lletyai gyda gwraig grefyddol o'r un lle ag yntau, yr hon a ymddygai ato fel mam, gan ei gynghori, a gweddio drosto yn gyhoeddus yn y weddi deuluaidd. Cymhellai ef yn daer i roddi ei hunan i Grist, a gwneyd proffes o hono. Ond cyn gwneyd hyny, daeth y diafol i gyfryngu. Amser diwygiad 1859 ydoedd ar y pryd, a chlywai y bachgen y gair diwygiad yn fynych, ond ni wyddai beth ydoedd. Ryw nos Sabbath, wrth gerdded o'r capel yn nghwmni rhai oedd yn canmol y diwygiad, digwyddodd fod gwraig elynol i'r diwygiad yn y cwmni, ac er mwyn dangos nad oedd dim sylwedd ynddo, gofynodd, 'A fuoch chwi yn nghyfarfod gweddi y bobl ieuainc boreu heddyw, ac a glywsoch chwi hwn a hwn yn gweddio? Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell.' Aeth yr ymadrodd yn ddwfn i feddwl y bachgen; a phan yn meddwl am ymuno a'r eglwys, yr oedd yr ymadrodd 'Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell' yn dyfod i'w feddwl yn y fan, gan ei rwystro i gyflawni ei fwriad. Ymfudodd i America, a bu yno yn ddifater am ei enaid, gan lwyr ymroddi i'r byd a'i amgylchiadau. Ryw ddiwrnod, yn ddisymwth fel fflachiad mellten, deffrowyd ei gydwybod, nes ei wneyd yn hollol anesmwyth am ei gyflwr. Ond, pan yn meddwl dyfod at grefydd, daeth hen air bustlaidd y wraig 'w feddwl o newydd, 'Nid oedd yn ei weddi fwy na llon'd pibell,' nes ei rwystro eto i gario allan argyhoeddiad ei gydwybod. Beth bynag, yr oedd y dyn yn methu deall y paham a'r pa fodd yr aflonyddwyd ar ei feddwl am grefydd, a hyny mor ddisymwth. Ymhen ysbaid o amser ar ol hyny, daeth yn ol i Gymru, ac i'w hen ardal. Yr oedd ei fam wedi marw pan oedd ef yn America. A pan oedd ei dad yn adrodd yr hanes wrtho am gladdedigaeth ei fam, dywedai, 'Wrth godi dy fam, gweddiodd Mr. Edwards yn ddwysa difrifol iawn drosot ti oedd ymhell o gartref.' 'Beth,' meddai y bachgen, 'pa ddydd oedd hyny, a pa adeg ar y dydd.' Ar ol cymharu, cafwyd allan mai yr adeg yr oedd Mr. Edwards yn gweddio yn y Cwm, yr aflonyddwyd ar ei feddwl ef yn America. Mae y person yn awr yn fyw, ac yn aelod gyda'r Wesleyaid mewn cymydogaeth arall."

Mae yn bosibl y bydd rhai yn ameu yr hanes uchod gyda golwg ar ddylanwad gweddi. Os credwn holl-bresenoldeb Gwrandawr gweddi, ni fydd yn anhawdd credu gwirionedd hanes fel hwn a'r cyffelyb. Yr ydym wedi ei roddi i fewn oblegid y cyflawnder o addysgiadau sydd ynddo. Cafodd Mr. Edwards hefyd fyned i fewn i gyfrinach Duw gyda golwg ar adeg ei farwolaeth. Nos Sadwrn cyn ei farwolaeth, dywedodd wrth un o aelodau yr eglwys y byddai y tren yn ei gyrchu adref dranoeth am bump o'r gloch, ac am bump boreu Sabbath yr ymadawodd, sef y 27ain o Chwefror, 1887, pan yn 62ain oed. Pwy all ddweyd na chafodd y gwr da hwn fynediad helaeth i mewn i'r dragwyddol deyrnas ? Cafodd ei gladdu y dydd Gwener canlynol, yn y fynwent newydd ar bwys y capel, mor anrhydeddus a thywysog. Dywedai y Parch. T. C. Edwards, D.D., wrth ei roddi yn y bedd, "Ychydig o Mr. Edwards sydd yn yr arch yma, ond y mae yr ychydig yna yn gysegredig, ac yn awr yr ydym yn cysegru y fynwent hon â gwir ' halen y ddaear,' ac ni bydd iddi byth fyned ar dân, hyd nes yr adgyfodir y gyfran gysegredig o'r brawd anwyl sydd yn cael ei roddi i orwedd yma."

Efe yw yr hedyn cyntaf, a diweddaf hefyd hyd yn hyn, sydd wedi ei gladdu yn y fynwent newydd, erbyn y cynhauaf mawr. Gwelir ei feddfaen, a railing hardd o'i amgylch, o dan y capel newydd, a diameu genym y gwna llawer o ddieithriaid ymofyn am dano ac edrych arno. Mae teulu Mr. Edwards, sydd yn fyw, fel y canlyn:-Mrs. Edwards, a dwy o'r merched yn y Fron, sef Sarah Anne, y drydedd ferch, awdures y Serch-goffa, yr hon sydd o feddwl galluog, ac yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Mae awydd mawr yn hon i fyned allan yn genhades, ond oblegid rhyw amgylchiadau yn methu cael ei hamcan hyd yn hyn. Mae Margaret Jane hefyd gartref ar hyn o bryd, ac wedi dysgu y gelfyddyd o milliner. Mae y ferch hynaf, Mary, yn briod â Mr. John Jones, B.Sc., ysgolfeistr yn Gaerwen, Sir Fon, a phregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid. Mae yr ail ferch, Lizzie, yn ysgolfeistres yn Alltwallis, Sir Gaerfyrddin. Mae Mr. Michael Edwards, C.M., yr unig fab sydd yn fyw, yn cadw ysgol yn New Inn, Pencader, yn agos i'w chwaer, ac yn ddyn ieuanc galluog, a defnyddiol iawn gyda chrefydd. Dyna yr oll o'r teulu sydd wedi eu gadael, a gellir dweyd am danynt eu bod oll yn ofni Duw, ac yn cilio oddiwrth ddrwg.

Mae amryw bregethwyr yn berthynasau i Mr. Edwards. Yr oedd y diweddar Barch. Joseph Jenkins, Ph.D., Builth, yn eu plith; y Parch. John Thomas, Rhydfelin, a Mr. Lewis Thomas ei frawd, yr hwn a fu farw yn ddyn ieuanc gobeithiol; Parch. Michael Williams, Blaenplwyf; Parch. T. Briwnant Evans, Llaugurig; Parchn. Thomas Morgan, Neyland, a D. Morgan, ei frawd, ficer, Treforris; Parch. John Morgan, Abercynffig; Parch. Thomas Jones, America; Parch. Joseph Jenkins, Caerphilly; Parch. T. M. Jones, Ysbytty, a Mr. John Thickens, Pentre Rhondda, sydd yn awr yn Nhrefecca. Daethant allan i gyd o Gwmystwyth, fel o ysgol enwog o broffwydi.

SERCHGOFFA.

Dydd adgofir er ein halaeth
'R olaf Sul o Chwefror fydd,
Dydd a'i nod o ingol hiraeth,
Sylweddoliad ofnau prudd;
Dydd o dristwch, llethol alar,
Dydd datodiad c'lymau lu,
Dydd ymado byth â'r ddaear
Un oedd anwyl genym ni.

Gydag ysgafn lif y wawrddydd,
Yn ngwawl-gerbyd dwyfol glaer,
Esgyn wnaeth i'r tawel froydd,
Y'nt o fewn y nefol gaer;
Cafodd ddechreu Sabbath yma,
Cyn ei ddiwedd fe aeth trwy
Byrth marwolaeth i'r deg wynfa,
Na wel ddiwedd Sabbath mwy.

Anian oedd fel pe am sychu
Dagrau ceraint yma lu,
Drwy haulwenau 'n portreadu
Croesaw hoff gyfeillion fry;
Pan dywyllai gwawr y ddaear,
Torai 'n glaer ar fryniau hedd,—
Heddyw 'n iach uwch gwae, uwch galar,
Draw i angau, draw i'r bedd.

Coron heddyw yn lle cystudd,
Nefol nwyfiant fyth heb boen,
Cadwedigol, canaid, ddedwydd,
Ger gorseddfainc Duw a'r Oen;.
Heddyw 'n iach uwch gwae, uwch galar,
Draw i angau, draw i'r bedd.

Chlywodd clust, ni welodd llygad,
Ac ni ddaeth i galon dyn,
Fythol rym atdynol gariad,
Person y Jehofa 'n ddyn.

Eto yma awel ddeifiol,
Chwyth o oror oerllyd fedd,
Draidd i'm mynwes yn ddirlethol,
Wywa 'n paradwysol hedd ;
Cofio'r dwyfol Un orweddodd
I'w chynhesu, bywiol trydd
Gobaith, trwyddo Ef orchfygodd,
Egyr dorau hon ryw ddydd.


Anwylaf un, os y'm dan friw yn gwaedu
O hiraeth am dy berson, am dy gwmni,
Am nad oes genym heddyw wedi ei ado,
Ond marwol ran, mewn gweryd yn adfeilio,
Fyth ni adfeilia 'r byw ddylanwad hwnw,
Na, erys hwn heb drai 'n adfywiol lanw,—
I leddfu rhwyg ein mynwes wnaed gan angau,
Yn fythol falm iachusol nefol riniau.

Prudd bleser yw, er hyny, llwyr orchfygol·
Fydd adolygu 'th fywyd mwyn, defnyddiol;
Nid am ei fod yn cynwys rhyw aruthredd,
Ond am fod ynddo gymaint cymhesuredd;
Nid arucheledd cadarn fynydd cribog
A fu ei nod, ond rhin y dyffryn cnydiog,
Yn îr o riniau nefol wlith eneiniol,
A'i arogl pêr a'i degwch yn edmygol;
Nid planed glaer, yn ngwawl y pell uwchafion,
Nas cenfydd ond seryddwr ei chyfrinion,
Ond lloer ddefnyddiol bur, angylaidd wenau,
I'n lloni 'n rhwydd â'i thirion fwyn belydrau,


Os nad oedd un o gewri yr areithfan,
Nac mewn athrylith y tanbeidiai allan,
Na threiddgar ddrychfeddyliau athronyddol,
Nad chwaith mewn ceinion iaith o urdd farddonol,.
Nad swyn ei ddawn yn gymaint a'i henwogodd,
Na choethedd dysg yn benaf a'i hamlygodd;
Ond symledd gwir, gwiw genad hedd o ddifri',
O lwyraf fryd o hyd am ogoneddu

Yr Un a'i prynodd, ac a'i galwodd allan,
Yn weithiwr dwys a diwyd yn ei winllan;
Ei wedd ddifrifddwys pan gyhoeddai'r cymod,,
A gariai ryw ddylanwad trylwyr hynod.
Ei dreiddgar O! pan argymhellai'r drefn,
Oedd adsain fel rhyw ddwyfol O! tucefn ;
Ei gawell oedd yn llawn o lymion saethau,
Yn loewglaer gan awch yr Ysgrythyrau ;
Arhôdd ei fwa 'n gryf heb ffaeledd ynddo,
Nes daeth y wŷs i roi'r filwriaeth heibio,
A hwylio i'r wlad na chlywir llais gorthrymydd,
Nas cyraedd saeth ei goror yn dragywydd ;
Gwlad fythol ddydd o fywiol wên ei Arglwydd,
Gorchfygol mwy mewn canaid wisg a phalmwydd.

Os collodd Seion wyliwr o'r ffyddlona,
Mae ganddi hi addewid y Jehofah,
Y cyfyd eto rai i lenwi 'r rhengau,
Adawodd cewri ddianghasant adrau ;
Ond ni adferir byth mo golied teulu,
Mae'r rhwyg y fath na ellir ei gyfanu ;
O golled in' fu colli ei weddiau,
Ei wenau mwyn, a'i ddifrif serchog eiriau,
Ei gylchoedd yma i ni sydd wag ddieithrol;
"A'i le nid edwyn mwy" yw'n cwyn hiraethol.—

Gobeithio eto cawn ryw ddydd ei gwrddyd,
Heb ysgar mwy, yn ngwlad y pur ddedwyddyd.
S. A. EDWARDS (ei ferch).



I'w lwch boed heddwch o hyd,—hyd adeg
Y dedwydd adferyd,
Pan fydd eto 'n gwisgo i gyd
Ei sanctaidd dlws ieuenctyd.

T. BRIWNANT EVANS.



PREGETHAU.

PREGETH I.

SEION YN CLAFYCHU.

Esaiah lxvi. 7, 8. "Cyn ei chlafychu, yr esgorodd, cyn dyfod gwewyr arni, y rhyddhawyd hi ar fab. Pwy a glybu y fath beth a hyn ? pwy a welodd y fath bethau a hyn? A wneir i'r ddaear dyfu mewn un dydd? a enir cenedl ar unwaith? Pan glafychodd Sion yr esgorodd hefyd ar ei meibion."

MAE y datguddiad dwyfol yn dangos y byd mewn sefyllfa druenus iawn, ac hefyd mewn sefyllfa ogoneddus, ar ol myned trwy gyfnewidiad priodol tuag at hyny. Aml y mae y cyfnewidiad hwn yn cael ei alw yn "greu," ac yn "eni," neu "aileni." Wrth Sion yma y meddylir eglwys yr Hen Destament, yr hon a elwir yn briod i Dduw. Gosodir hi allan yma trwy y gydmariaeth o wraig feichiog. Mae yn anhawdd deall meddwl y ddwy adnod, gan eu bod yn gwrthddweyd eu gilydd. Mae rhai yn darllen y geiriau fel gofyniadau. "Ai cyn ei chlafychu yr esgorodd ?" "Na, pwy a glybu y fath beth a hyn?" Gan roddi yn rheswm am y cwb!, "Pan glafychodd Seion?" Eraill yn meddwl bod y ddwy adnod yn cyfeirio at oruchwyliaethau gwahanol. Cawn alw eich sylw

I. AT BETHAU NEILLDUOL A WNA DUW ER LLIOSOGI EI EGLWYS. Mae yn gwneyd peth felly yn nechreuad pob goruchwyliaeth. Rhoddodd addewid werthfawr i'n rhieni cyntaf, pryd nad oeddynt yn gofyn nac yn disgwyl am yr un. Galwodd Abraham allan o Ur y Caldeaid pryd nad oedd yr un eglwys mewn gwewyr am hyny. Nid oedd awydd mawr chwaith ar y genedl i ddyfod allan o'r Aipht pan anfonodd Duw Moses i'w gwaredu; eto, gellid edrych ar y genedl wedi cael ei thraed i'r anialwch tu hwnt i'r mor, fel un wedi ei "geni ar unwaith." Ond digon tebyg mai at y lliosogiad a fu ar yr eglwys Gristionogol ar ol dydd y Pentecost y cyfeirir yn y geiriau, ac hefyd at ddyfodiad disymwth y cenhedloedd i fewn iddi, pryd nad oedd dim teimlad yn yr eglwys Iuddewig am hyn; ond yn hytrach teimlent duedd i'w gwrthod. Ond, bendigedig fyddo Duw, "galwodd y rhai nid oeddynt bobl yn bobl, a'r rhai nid oeddynt anwyl yn anwyl." Gwna Duw bethau rhyfedd a'i ben—arglwyddiaethol ras yn unig, ac y mae yn werth i ni feddwl am hyny yn y dyddiau hyn.

II. AT FFORDD GYFFREDINOL DUW O LIOSOGI EI EGLWYSSef yr un fath ag y mae plant yn cael eu geni, trwy i'r fam glafychu ac esgor. Mae y peth a all Duw wneyd yn gysur mawr i'w eglwys, ond wrth ei reol gyffredinol o weithredu y mae Seion i ddisgwyl. Gwna Duw yn fynych gipio pentewyn o deulu digon annuwiol, prydnad oedd eglwys na thad na mam yn meddwl fawr am ei enaid; ond nid yw hyny yn dangos y gall neb fod yn ddifater, gan mai rheol Duw yw achub mewn canlyniad i deimlad awyddus am hyny. A gwna di dad neu fam gofio, ei bod hi yn amheus iawn a wna Duw achub dy blant di, heb gael gwasgfa enaid ynot ti yn gyntaf am hyny.

Mae yn gysylltiedig â gwir deimlad ddefnyddio moddion o osodiad Duw. Yr eglwys yw yr offeryn sydd gan Dduw i achub y byd; eto, nid yn ol y moddion a wna hi arfer y gwna lwyddo i wneyd hyny, ond yn ol ei theimladau wrth arfer y moddion—pan glafychodd yr esgorodd. Mae llawer o foddion yn cael eu harferyd yn awr; ond gan nad oes arwyddion achub, rhaid nad oes digon o glafychu. Nid ydym yn disgwyl cynydd a ffrwyth os bydd ia yn gorchuddio y ddaear. Rhaid cael calon ddrylliog; "Crist gwaedlyd," meddai Morgan Howells, "heb galon waedlyd, sydd yn brawf nad yw y diweddaf yn ymwneyd â'r cyntaf." Cymdeithaswn fwy â'r Person a fu farw er mwyn achub, ac yna daw yr awydd yn fwy am hyny ynom ninau. Mae Ꭹ limner wrth graffu ar y canvas yn canfod y llinellau, craffwn ninau yn fwy ar Grist er cael gweled ei gariad a'i ras, nes cael profiad o honynt. Mynwch sylweddoli eich undeb â Christ a'ch hawl iddo, ac yna bydd pob addewid o'r cyfamod a hawl genych ynddynt at eich gwasanaeth.

Mae y byd mewn sefyllfa o dywyllwch a dideimladrwydd, heb weled y perygl: yr eglwys sydd wedi ei goleuo sydd i deimlo. A'u cysur yw, y "dichon Duw o'r meini hyn gyfodi plant i Abraham.' Ond disgwyliwn am y clafychu. Pan glafychodd Seion, nid pan gafodd hi gyfoethogion yn aelodau, nid pan gafodd bregethwyr talentog i bregethu, &c.

PREGETH II.

TRALLOD AR BRYDNHAWN.

"Ac wele drallod ar brydnhawn, a chyn y bore ni bydd.”—Esa. xvii. 14.

MAE yn ddiau fod y geiriau yn cyfeirio at y cyfyngder y bu Judah a Jerusalem ynddo, pan ddaeth byddin liosog yr Assyriaid i osod gwarchae yn erbyn y ddinas, a'r waredigaeth ryfedd a gawsant.

Chwi wyddoch fod dau ddosbarth o ddynion yn y byd, y rhai y mae y Beibl yn talu llawer o sylw iddynt, sef yr eglwys a'r byd, neu y duwiol a'r annuwiol, favorites Duw a'i elynion. Pan ystyr- iwn fod pob llywodraeth yn llaw Duw, fel na all yr un gelyn na phrofedigaeth gyfarfod a'i bobl heb ei ganiatad, ai ni buasai. synwyr dyn anianol yn barod i benderfynu ar unwaith, na chawsai. dim annymunol gwrdd a'i bobl Ef byth, na chawsai yr un awel groes chwythu arnynt; ond y byddai rhagluniaeth yn gwenu arnynt. trwy eu holl fywyd, ac y cawsant farw yn y diwedd yn eu nyth? Ond y ffaith gyda golwg ar hyn yw, "Na wyr dyn gariad neu gas wrth yr hyn a wneir dan haul," oblegid yr un peth a ddigwydd i bawb. Ac os oes gwahaniaeth, phiol y duwiol sydd lawnaf o drallodau lawer pryd.

Mae rhyw awydd neillduol mewn llaweroedd o blant y byd hwn am gael gwybod eu tynged (fortune) yn y dyfodol, ac y mae rhyw ddosbarth cythreulig i'w cael a haerant y gallant hwy fynegu hyn,, ond iddynt gael gwybod dydd ac awr genedigaeth pob dyn. Ac y mae rhyw ddosbarth yn credu y rhai hyn. Ond dyma hen lyfr sydd yn darllen ffortiwn i'r dim, yn onest ac yn rhad, ond i chwi wybod beth yw hoff bethau eich bywyd, "Os ydwyf annuwiol,. gwae fi. "Yr hwn sydd heb gredu i'r Mab, ni wel fywyd, eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef." Ond os ydwyt yn dduwiol,. os wyt yn gwir ddymuno myned i'r nefoedd, dywed dy ffortiwn yn: onest wrthyt tithau, mai "trwy lawer o orthrymderau y mae yn rhaid myned i mewn," bod "porth cyfyng" i fyned trwyddo, a "ffordd gul" i'w theithio, ac aml gerydd gan dy Dad nefol, er dy ddysgu i adnabod dy hun, a ffieiddio dy lwybrau, a dyfod i'w adnabod yntau yn well. Ond y mae wedi hyny yn rhoddi “heddychol ffrwyth cyfiawnder," ac yn sicrhau boreu teg, pryd y gellir dweyd am bob trallod, "Ni bydd." Sylwn,

I. FOD TRALLODAU YN RHAN I BOBL DDUW AR Y DDAEAR.—Wrth i ni ddarllen hanes yr eglwys dan yr hen oruchwyliaeth, ni a'i cawn yn fynych yn goddiweddyd trallodau, megis caethiwed y priddfeini, a'r 70 mlynedd yn Babilon. Yr oedd y rhai yna yn drallodau dros brydnhawn. Ond y mae genym hanes am drallodau eraill yn ei chyfarfod ar brydnhawn, rhyw drallod disymwth, neu brofedigaeth am amser byr. Dyna oedd cyfyngder Môr Coch; pan oeddynt yn meddwl eu bod wedi dianc o law eu gorthrymwr, wele hwy wedi cael eu goddiweddyd ganddo bron yn hollol wedi hyny, pryd nad oedd ganddynt le i ddianc rhagddo, a phryd nad oedd ganddynt arfau i'w wrthsefyll. Nid oedd dim yn ymddangos ond llwyr ddinystr neu ail gaethiwed. Ond medr Duw waredu o bob cyfyngder, ac felly yma, erbyn y bore, cafodd Israel ganu yr ochr draw, a'r gelyn yn yr eigion.

Mae ein testyn yn cyfeirio at siampl hynod arall o drallod ar brydnhawn, sef pan oedd brenin Assyria a'i luoedd wedi dyfod yn erbyn Jerusalem, ac yn herio pob gallu, hyd yn nod yr eiddo eu Duw i'w gwaredu o'i law ef. Nid oedd gallu na chalon gan neb yn Jerusalem i wrthsefyll y fath elyn, oblegid y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond heb rym i esgor." Dyna fel yr oedd y prydnhawn, ond erbyn y boreu, yr oedd grym y fyddin fawr wedi ei lladd, a'r gweddill wedi dianc, a thrigolion Jerusalem wedi colli eu dychryn.

Gallwn weled yr un peth yn hanes y tri llanc a fwriwyd i'r ffwrn dân, ac yn hanes Daniel a fwriwyd i ffau y llewod. Dyna drallod onide ? Ond trodd y ffwrn dân yn gyfleusdra iddynt gael gweled y pedwerydd, a ffau y llewod yn ystafell mil mwy cysurus na phalas y brenin, gwelwyd mai fel yna yr oedd erbyn y boreu. Carwn grybwyll un siampl neillduol arall o drallod ar brydnhawn, sef trallod y disgyblion ar brydnhawn y croeshoeliad, a'r pryd y bu Iesu yn gorwedd yn y bedd. Dyna ystorm ofnadwy, a thywyllwch a ellid ei deimlo i brofiad y disgyblion! Yr oeddynt mewn tristwch; ac nid rhyfedd, wedi colli cyfaill mor hoff, a'u siomi mewn cynifer o ddisgwyliadau; ond erbyn boreu y trydydd dydd "nid oedd."

"Daeth boreu teg a hyfryd
'Nol stormus ddu brydnhawn.”


Mae trallodau a thywyllwch yr oesoedd a aethant heibio wedi eu chwalu, a bywyd ac anllygredigaeth wedi eu dwyn i oleuni. Yr achos o drallod y disgyblion nid yw, gan fod yr hwn a fu farw yn fyw, a'u tristwch wedi troi yn llawenydd na all neb ei ddwyn oddi arnynt, gan ei fod i fyw yn oesoesoedd.

II. FOD TERFYN LLWYR I FOD I'W HOLL DRALLODAU.—Mae yr hanesion hyn wedi eu cofnodi gan ddwyfol ysbrydoliaeth, er mantais i bobl Dduw ymhob oes. Fel y mae byddin, neu ryw gwmni, wrth fyned i wlad anhygyrch, yn ceisio pioneers i weithio, a dysgu y ffordd iddynt trwy yr anialwch, fel y bu gyda'r fyddin Brydeinig yn ddiweddar yn Abyssinia, yn dyfod o fantais i oesoedd dyfodol wrth fyned yr un ffordd ; felly y mae y ffyrdd a deithiodd eglwys yr Hen Destament, yn fantais fawr i bob credadyn wedi hyny. Profant fod boreu i bob Cristion pan na bydd y trallodau presenol. Enwaf dri math o drallodau fydd yn sicr o ddarfod ar bobl Dduw.

1. Trallod yr argyhoeddiad.—Mae hwn yn cael ei ganlyn â theimlad dwys o euogrwydd ac edifeirwch. Yr wyf yn hyderus fod yma rai sydd yn gwybod am dano yn wirioneddol. Nid yw ond arwydd o dywyllwch fod rhai yn medru byw yn ddidrallod yn eu pechodau. Mae elfenau trallod yn y byw diweddi, ac yn y llawenydd pechadurus. Ond adeg o drallod rhyfedd yw adeg yr argyhoeddiad, tra fyddo llewyrch gobaith heb ei gael. Gwelir hyn yn y newyn gyfarfyddodd yr afradlon yn y wlad bell, pan oedd. ofnau marw wedi ei oddiweddyd. Yr oedd cofio y modd y gadawodd dŷ ei dad, ac y gwariodd ei eiddo bron a'i lethu. Ond goruchwyliaeth trugaredd a greodd duedd yn ei feddwl i droi adref. Ac wele ef yn cychwyn gyda chylla gwag, gwisg garpiog, ac euogrwydd dwys. "Wele drallod ar brydnhawn, ond erbyn y boreu nid oedd." A weli di ef wrth y bwrdd, yn y wisg oreu, ac yn gwledda ar y llo pasgedig, a'i dad yn edrych yn fwy llawen na neb arno?

Felly y mae pechadur pan yn teimlo ei drueni, mae gweled purdeb deddf Duw a chyfiawnder yr orsedd yn ei lethu. Ond enaid, os cei olwg felly arnat dy hun, a chael tuedd i ddychwelyd, gallaf anturio dweyd am dy drallod, "Erbyn y boreu ni bydd. Daw i dy feddwl ryw ddarnau o adnodau fel y rhai hyny, "Mi a gyfarfyddaf â thi yno." "Ha fab, cymer gysur, maddeuwyd i ti dy bechodau," nes y byddo "Euogrwydd fel mynyddau'r byd yn troi yn ganu wrth y groes."

2. Iselder crefydd a chaledwch y byd.—Mae yn peri trallod mawr iddynt fod enw Duw yn cael ei gablu, ordinhadau Duw yn cael eu dirmygu, a Seion yn ddiepiledd. Mae gweled caledwch ac anystyriaeth, a'r rhwystrau i'w gorchfygu, yn peri iddynt feddwl na welir effeithiau fel a fu byth mwy gyda'r efengyl. Ond pan ddaw y dylanwad, gwna i'r mynyddoedd doddi fel cwyr o'i flaen. Gwraig wrth esgor sydd mewn tristwch am ddyfod ei hawr," ond wedi geni y plentyn bydd yr oll drosodd. Felly y bydd tristwch

3. Trallodau teuluaidd ac amgylchiadol.—Mae aflwyddiant rhagluniaethol, a dyryswch yn yr amgylchiadau yn cyfarfod weithiau â theulu Duw. Ond aml yw y profion a allem eu dwyn fod Duw yn medru gwaredu o honynt. O! y newyn mawr oedd yn Samaria, ryw brydnhawn, "pan oedd pen asyn er 80 sicl o arian a phedwaredd ran cab o dom colomenod er 5 sicl o arian." Ond erbyn y boreu nid oedd. Mae digon o lawnder yn Samaria boreu dranoeth, a'r farchnad yn is nag y gwelwyd hi nemawr erioed. "Ni fyrhaodd llaw yr Arglwydd fel na allo achub eto, ac ni thrymhaodd ei glust fel na allo glywed." Mae colli perthynasau a chyfeillion, cario corff afiach am dymorau meithion, yn gystal a chyfyngderau eraill yn yr amgylchiadau, yn cael eu cynwys yn y trallodau ar brydnhawn. A mwy na'r cyfan o'r trallodau yw pla y galon. I'r teulu duwiol dros brydnhawn y mae, dros brydnhawn yr erys wylofain, ac erbyn y boreu y bydd gorfoledd. Nid yr un fath yr oedd Jacob yn esbonio Rhagluniaeth pan welodd y cerbydau o'r Aifft, na phan welodd y siaced fraith. Yn yr adgyfodiad, bydd "pob gwahanglwyf wedi myned ymaith,"—pla y galon, corff y farwolaeth, afiechyd a gwaeledd, pob temtasiwn a phrofedigaeth, ni cheir eu gweled byth ond hyny.

Mae rhyw gymeriad arall yn bod, y rhai y gellir troi y testun, wrth feddwl am eu llawenydd, dros brydnhawn y mae, erbyn y bore ni bydd. Felly y mae gyda gwledd Belsassar, yn y prydnhawn mewn hawddfyd a llawenydd, gyda'r mil tywysogion a'r gwragedd, yn yfed gwin o lestri'r deml; ond erbyn y boreu, yr oedd y llawenydd wedi troi yn dristwch tragwyddol. Yr un fath yn nameg y gwr y cnydiodd ei feusydd, ac a ddywedodd wrth ei enaid, "Y mae genyt dda lawer, wedi eu rhoddi i gadw dros lawer o flynyddoedd," ond cyn y boreu, yr oedd ef a hwythau yn ddigon pell oddiwrth eu gilydd.

Nid trallod i gyd yw rhan y duwiol yn y byd hwn, ac nid llawenydd i gyd yw rhan yr annuwiol, ond cymysg ydyw yma, a'r naill a'r llall yn tynu at ystad o berffeithrwydd. Fel yr oedd y greadigaeth yma ar y cyntaf yn un gymysgfa, y tir a'r dwfr yn un chaos, nes y daeth y dydd i gasglu y dyfroedd i'r un lle, a'r sychdir yntau i ymddangos ; felly y mae y duwiol a'r annuwiol yn gymysgedig yn awr, a graddau o lawenydd yn eiddo y ddau, ond ei fod yn wahanol o ran natur. Ond y mae Ysbryd Duw yn graddol symud yr annrhefn, ac erbyn y boreu ni bydd yr un gronyn o lawenydd yn eiddo yr annuwiol, na gronyn o drallod yn rhan i'r duwiol. A pha faint bynag o drallod gaiff yr annuwiol yn y byd hwn, nid yw ond megis dim at yr hyn sydd yn ei aros "erbyn y boreu."

PREGETH III.

GOGONEDDU DUW TRWY DDWYN FFRWYTH.

"Yn hyn y gogoneddwyd fy Nhad, trwy ddwyn o honoch ffrwyth lawer,. a disgyblion fyddwch i mi." ..IOAN XV. 8.

PAN y byddwch yn myned i mewn i'r gwahanol Museums yn y Brifddinas, neu ryw fanau cyffelyb, os bydd genych lygaid i weled, mae yno fanteision i chwi, trwy y cerfluniau a'r paintings, i ddal cysylltiad â phersonau, meddyliau, ac amgylchiadau yn yr oesoedd o'r blaen, y rhai y gellwch gael gwersi lawer oddiwrthynt. Ond, pe byddai ein deall yn gweithredu yn dda, ac yn gallu gweled deddfau natur yn briodol, gwelem ein bod mewn museum gogoneddus bob dydd ; a bod genym destynau i ryfeddu ac addoli, yn y gwersi a ddysgir i ni gan natur, am ddoethineb gallu a daioni y Creawdwr. Felly yr oedd holl natur i'r Person mawr a lefarodd ddameg y winwydden a'r canghenau; a diau genym fod y byd naturiol wedi ei amcanu i ddysgu i ni wersi am y byd ysbrydol. Gwelwn hyn yn amlwg oddiwrth y pregethwr goreu fu yn y byd erioed; hynod y fath wersi ysbrydol a ddysgai i'r byd trwy y pethau naturiol, yr oedd dynion yn fwyaf cyfarwydd â hwynt, megis yr hauwr, yr adeiladydd, y gwinllanydd, &c. A thrwy ddameg y winwydden yn y benod hon, mae yn dangos yr undeb agos sydd rhwng Crist a'i eiddo. Ac y mae adnod y testyn yn dangos yr angenrheidrwydd am ddwyn ffrwyth i'r diben i brofi yr undeb. Byddwn trwy hyny, yn gyntaf, yn gogoneddu Duw; yn ail, byddwn yn profi ein bod yn ddisgyblion i Grist. Edrychwn,

I. BETH YW Y FFRWYTH.—Mae y gymhariaeth yn gref, dangosir fod y pren yn y canghenau, a'r canghenau yn y pren, a bod y nôdd sydd yn cerdded trwyddynt yn dyfod yn fywyd tyfol a ffrwythlon. Felly y mae ei eiddo yn Nghrist trwy undeb ffydd, a Christ ynddynt hwythau drwy ei air a'i Ysbryd, yn allu i ddwyn ffrwyth ysbrydol er gogoniant i Dduw. Dangosir fod yn anmhosibl dwyn ffrwyth heb fod mewn undeb â Christ, "Hebof fi ni ellwch chwi wneuthur dim;" ond os mewn undeb âg ef, dangosir fod yr un ysbryd ag sydd ynddo ef, yn sicr o ddangos ei hun mewn ymdrech i fyw bywyd tebyg i Grist, trwy ddilyn esiampl Crist. Mae gwir undeb & Christ yn cynyrchu bywyd tebyg i Grist. Oddiwrth y winwydden y disgwylir grawnwin, ac oddiwrth yr hwn sydd yn Nghrist y disgwylir rhinweddau Cristionogol. Beth a ddisgwyliwch oddiwrth gangen fyddo mewn undeb bywiol â'r winwydden ond grapes yn bunches cyfatebol i'r nodd? a beth a ddisgwyliwch oddiwrth ddisgybl fyddo wedi ei ddwyn i fyny wrth draed ei athraw am gynifer o flynyddoedd, ond ei fod wedi yfed o'i ysbryd a'i ddysgeidiaeth, nes bod yn debyg iddo? Gwyddom mai un sanctaidd, diddrwg, dihalog, a didoledig oddiwrth bechaduriaid, oedd Crist; a bod ei hunanymwadiad y fath, nes gwneyd hunanaberthiad. Gwna pawb sydd mewn undeb ffydd âg ef dynu y nodd yma o hono er bod yn debyg iddo. Ac i ddangos hyn, edrycher ar yr apostolion, yn eu hymroddiad i bregethu yr efengyl, yn eu gwroldeb, eu hunanymwadiad, a'u hunanaberthiad, i fyned trwy bob rhwystrau yn ngwasanaeth Crist. Y ffrwyth a ddisgwylir gael ar bob disgybl i Grist eto, yw bywyd duwiol, sanctaidd, gonest, geirwir, hunanymwadol a hunanaberthol.

Mae llawer o honoch yn barod i ddweyd nad oes genych fawr o weithredoedd felly i'w dangos. Wel, "aroswch ynddo, megis na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden, felly ni ellwch chwithau, onid aroswch ynddo ef." Yr oedd yn nghynllun dwyfol yr iachawdwriaeth wneyd yr eglwys yn sanctaidd, ei chreu i weithredoedd da, er mawl gogoniant ei ras ef, yn gystal a gwneyd cyfiawnder i'w chyfiawnhau, gwneyd trefn i faddeu i'r troseddwr, a mabwysiadu yr estron i deulu Duw. Ond rhaid aros yn ngeiriau ac esiampl Crist tuag at fyw yn debyg iddo; a thrwy rinwedd yr undeb hwn yn unig y gellir dwyn y ffrwyth y dywed Crist am dano yma.

II. BETH YW AMCAN Y FFRWYTH.—Mae yma ddau beth yn yr amcan:

1. Gogoneddu y Tad.—Cynllun tragwyddol y Tad yw yr eglwys, iddo Ef y priodolir yr arfaethu, yr ethol, &c. Ac yn y cynllun hwn y mae wedi " rhaglunio" pa fath yw y rhai a wnant i fyny yr eglwys i fod, sef, yr un ffurf a delw ei Fab Ef." Yr oedd y gwaith o ddwyn haeddiant tuag at wneyd hyny wedi ei ymddiried i'r Mab. Yr oedd y Tad yn ewyllysio iddo farw er mwyn cael trefn i gyfiawnhau yr euog a golchi yr aflan. Ac O! fel yr ymhyfrydai y Mab yn hyny, fel y dywedodd, "Da genyf wneuthur dy ewyllys, o fy Nuw;" ac O! mor dda ganddo ar derfyn ei daith gael dywedyd, "Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear, mi a gwblheais y gwaith a roddaist i mi i'w wneuthur." Ac ar y groes dywedodd, "Gorphenwyd." Amcan Crist yn ei holl waith ef oedd gogoneddu y Tad; ac amcan yr holl gynllun yw cael pechaduriaid yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ger ei fron Ef mewn cariad."

Fel hyn y mae dyfeisiau yn dyfod i bob cynlluniwr. Wrth weled y train yn rhedeg ar y railway mor gyflym, a'r telegraph yn cludo y newyddion gyda'r fath frys, yr oedd y gwyr a'u cynlluniodd yn cael eu boddhau yn fawr, ac yn cael eu hedmygu hefyd gan eraill. Felly y mae gweled y pechadur yn aros yn Nghrist, ac yn ffrwytho, yn rhoddi boddlonrwydd mawr i'r Tad. A “phan adeilado yr Arglwydd Seion, y gwelir ef yn ei ogoniant," fel y mae yr adeiladaeth fawr, gadarn, wedi ei gorphen yn hardd, yn dyfod yn glod i'r cynllunydd. Os daw y winllan yn ffrwythlon, bydd hyny yn adlewyrchu gogoniant i'r gwinllanydd. Cynllun y Tad yw y cynllun, ac y mae dy weled yn byw yn sanctaidd yn adlewyrchu gogoniant iddo.

2. Profi ein bod yn ddisgyblion i Grist.—Mae y drychfeddwl o unoliaeth ac amrywiaeth mewn eglwys, yr un fath ag y mae mewn adeilad, ac mewn pren, gyda golwg ar y meini a'r canghenau ynddynt. Mae pob cangen unigol yn ffrwytho, ond nid o honi ei hun, mae yma undeb ac amrywiaeth. Pan welir y gangen yn tyfu, yn blodeuo, ac yn ffrwytho, mae hyny yn ddigon o sicrwydd ei bod mewn undeb bywiol â'r pren. Felly am fywyd y dyn duwiol. Ac y mae ffrwyth lawer yn rhoddi mwy o sicrwydd.

PREGETH IV.

Y MYNYDDOEDD TYWYLL.

"Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw, cyn iddo ef ddwyn tywyllwch, a chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll; a thra fyddoch yn disgwyl am oleuni, iddo ef ei droi yn gysgod angau, a'i wneuthur yn dywyllwch."—JER. XIII. 16.

PAN y mae yn digwydd bod yn ddiwrnod teg, a nodedig o dawel, yn enwedig yn nhymor y gauaf, darogenir fod drycin, a dyddiau ystormus gerllaw; ac felly y mae, yn ol fel y mae sylw a phrofiad yn cadarnhau. Mae y dosbarth hwnw o ddynion, sydd yn chwilio i fewn i ddeddfau natur, yn egluro beth yw yr achos o hyn,—sef fod rhyw elfenau yn yr awyrgylch, sydd yn ei ddal mewn gweithrediad cyffredinol, yn cael eu caethiwo yn amser tawelwch ; a phan dorir y rhwymau, mae y rhai hyny fel yn "rhuthro allan o'r groth," mewn gwynt ystormus, fel pe byddent yn penderfynu adenill y tir a gollasant. Mae deddf debyg yn llywodraeth foesol Duw ; a gwelir hi yn gweithredu yn fynych, mewn canlyniad i lwyddiant tymhorol a manteision crefyddol wedi eu camddefnyddio. Pan y mae dynion yn amlhau pechodau yn ngwyneb daioni a gras Duw, bydd cyfiawnder yn fynych yn gorfod llechu o'r golwg megis mewn caethiwed; ond pan dorir ei rwymau, rhuthra ar y cyfryw mewn ystorm ddinystriol, fel y ceir esiamplau yn hanes yr hen fyd a dinasoedd y gwastadedd.

Mae llawer o'r cyffelyb siamplau i'w cael yn hanes y genedl y cyfeirir ati yn y benod hon. Yr oedd tymhorau llwyddianus iawn wedi myned drosti yn amser Heseciah a Josiah ; ond beth bynag o ddaioni a wnelai yr Arglwydd iddynt, trais ac ysbail oedd yn aros yn y tir, fel erbyn dyddiau Jeremiah, yr oedd holl awyrgylch uchelfreintiog y genedl yn llawn o arwyddion dryghin,— y "ddeddf ar esgor, a'r dydd ar fyned heibio fel peiswyn." Ac nid oedd gan broffwydi yr Arglwydd ddim i wneyd ond proffwydo drwg iddynt. Yr oeddynt wedi myned yn hynod o feilchion ar bwys trugareddau Duw, er eu bygwth â barnau am hyny. Ac os deuai rhyw gyfyngder arnynt, yr oeddynt wedi myned i ymddiried yn eu cyngor eu hun am waredigaeth. A chyfarwyddir Jeremiah yma i ddefnyddio dau o arwyddluniau. Un oedd gwregys a guddiwyd yn yr Euphrates, ag oedd wedi pydru, er dangos y modd y difwynid eu balchder; a'r llall oedd y "costrelau a lenwid gan win," i ddangos y modd y diddymid eu cyngor.

Ond cyn eu taro, dyma anogaeth daer a grasol arnynt i ddychwelyd a throi. "Rhoddwch ogoniant i'r Arglwydd eich Duw" Mae hyn yn cydnabod ei lywodraeth, cyffesu eu pechodau ac edifarhau am danynt, a dychwelyd at yr Arglwydd. "Cyn iddo ef ddwyn tywyllwch." Mae tywyllwch mewn ystyr ffigyrol yn arwyddo trallodau a gofidiau. Yn y fan hon arwydda y cyfyngder a oddiweddai y genedl, pan ddeuai y Caldeaid gyda gallu anwrthwynebol i'r wlad, a llosgi eu dinas brydferth â than. "A chyn i chwi daro eich traed wrth y mynyddoedd tywyll." Mae rhai yn deall hyn mewn ystyr lythyrenol, am y mynyddoedd y deuai Israel i gyffyrddiad â hwynt pan ar eu taith i gaethiwed Babilon. Eraill a'u deallant am adeiladau mawrion Babilon, neu eilunod y Caldeaid. Mae Babilon yn cael ei galw yn "fynydd dinystriol" yn Jeremiah li. 25. Mynyddoedd tywyll iawn fu y llywodraeth Galdeaidd i Judea, pan ddygodd arnynt y fath ofid, dyryswch a chyfyngder.

Mae yn anhawdd i ni gael un adeg mewn unrhyw oes, hyd yn nod pan y byddo crefydd yn flodeuog, a dynion duwiol yn aml, ac yn para yn ffyddlon yn ngwasanaeth eu Duw, na byddo ymhob cynulleidfa ryw un, neu ragor, ag y byddo geiriau y testyn yn briodol iddynt. Ond ar adegau eraill, maent yn gymwys, nid yn unig i berson, neu deulu neillduol, ond i genedl a gwlad yn gyffredinol Ac os ydym yn deall arwyddion yr amseroedd, maent yn briodol genadwri at ein cenedl a'n teyrnas ni yn y dyddiau hyn.

I. MAE Y TESTYN YN CYNWYS FOD LLYWYDDIAETH DRYGFYD DYNION YN LLAW YR ARGLWYDD.—Nid oes un o bynciau sylfaenol gwir grefydd, sydd yn cael ymosod arno y dyddiau hyn gyda chymaint o haerllugrwydd a nerth, a llywodraeth Duw ar y byd. Mae yn cael ei wadu nid ar weithredoedd yn unig, ond mewn geiriau ac ysgrifeniadau. Y rhai sydd yn syrthio ddyfnaf i'r amryfusedd hwn, yw y rhai a dybiant eu bod wedi dringo ychydig uwchlaw y cyffredin mewn dealltwriaeth o wahanol ddeddfau natur, a phynciau gwybodaeth, ond yn amddifad o ffydd. Mae diffyg ffydd uwchben ail achosion, yn cadw dynion rhag myned at y gwreiddiol achos, ac ar yr un pryd yn eu llanw â balchder. Adeg beryglus i wneyd camsyniadau yw yr adeg rhwng tywyll a goleu. Gwna dynion weled gwrthddrychau, ond ni allant sicrhau beth ydynt; ac mewn adegau felly y mae cyfeiliornadau yn cael eu dechreuad, trwy fod dynion yn cymeryd yr hyfdra i ffurfio barn ar dybiaeth, ac yn ei mynegu fel sicrwydd.

Adeg rhwng y tywyll a'r goleu yw y dyddiau hyn mewn llawer ystyr; a gwelir llawer o rai eofn ac anochelgar yn syrthio i gyfeiliornadau pwysig gyda golwg ar bynciau sylfaenol crefydd. Da fyddai i ni ddal, mewn dyddiau fel hyn, ar dystiolaethau eglur y gwirionedd, hyd nes y gwawrio y dydd, pan na byddo eisiau dweyd wrth neb "Adnebydd yr Arglwydd," gan y bydd pawb yn ei adnabod, ac yn cydnabod ei lywodraeth. Mae yn wir fod "cymylau a thywyllwch o'i amgylch, a bod ei farnedigaethau yn ddyfnder mawr," ond gwyddom mai "Yr Arglwydd sydd yn teyrnasu," ac y gellir dweyd "dyn ac anifail a gedwi di Arglwydd. Tân a chenllysg, eira a tharth, y gwynt ystormus a'r dymhestl, sydd yn gwneuthur ei air ef; mae ef yn llunio goleuni ac yn creu tywyllwch, yn gwneuthur llwyddiant ac yn creu drygfyd. Myfi yr Arglwydd sydd yn gwneuthur hyn oll." Llechwch yn dawel yn nghysgod ei dystiolaethau am dano ei hun. Cyn iddo, Ef ddwyn tywyllwch.

1. Efe sydd yn dwyn trallodau tymhorol.—Gwna hyn weithiau â phersonau a theuluoedd, trwy anfon afiechyd hir neu glefyd heintus. Gall ddwyn tywyllwch trwy dynu yr amddiffyn oddiar ein synhwyrau, yr hyn fyddai yn dywyllwch mawr. Bobl, a ydym yn gweled gwerth ein synhwyrau ? Mae miloedd yn yr un byd a ni heddyw, fu yn meddu synhwyrau digon cryfion i lywodraethu achosion pwysig perthynol i deulu, cymdeithas, neu wladwriaeth, ond sydd yn awr yn faich ar gymdeithas a theuluoedd, ac yn berygl iddynt eu hunain ac eraill o'u hamgylch. Cofiwn fod y cysylltiadau dirgelaidd, ar ba rai y mae ein synhwyrau ninau oll yn crogi, yn dyner iawn, a phe byddai y rhai hyny yn tori, neu gael eu hanmharu, elem yn wallgofiaid ar unwaith.

Ond yr hyn yr amcanaf alw eich sylw ato yn benaf, yw y trallodion hyny, sydd yn y dyddiau hyn yn dechreu taenu eu cysgodion tywyll dros ein teyrnas yn gyffredinol, neu dros ranau helaeth o honi. Mae rhan o'n trugareddau wedi cael eu nodi â haint er's llawer o flynyddau; ac y mae hyny wedi achlysuro i laweroedd o deuluoedd ffurfio habit o fywiolaethu, sydd yn eu harwain i dlodi a chyfyngder. Ar ol hyny dyna ranau helaeth o'n gwlad wedi cael eu dwyn i drallodau gan haint yr anifeiliaid. Mae miloedd trwy hyn wedi cael eu dwyn o sefyllfa o oleuni a chysur, i sefyllfa o drallod a thywyllwch. Ond yn y pethau a nodwyd, nið yw yr ergydion ond yn cael eu gollwng dros ein penau, heb eu taflu i'r castell. Erbyn hyn, modd bynag, mae wedi dyfod yn nes atom trwy yr haint sydd yn ysgubo ei chanoedd a'i miloedd yn ddisymwth i fyd arall, mewn aml gwm o'r deyrnas. Er hyny, araf iawn, trwy drugaredd, y mae yn amlygu ei anfoddlonrwydd. Nid yw yn dywyll iawn eto, bendigedig fyddo ei enw am hyny. Beth yw y trallod mae wedi ei ddwyn arnom ni at yr hyn a ddygodd ar Juda; pan y gwarchaewyd ar Jerusalem nes treulio nerth y bobl gan y newyn, pan y llosgwyd y palasau â thân, pan y cafodd y wlad hyfryd ei throi yn anialwch, a'r trigolion eu caethgludo i wlad ddieithr? Beth yw y trallod y mae wedi ei ddwyn arnom ni at y tywyllwch sydd yn gorchuddio India'r dwyrain y flwyddyn hon (1866). Rhaid i ni gyfaddef nad yw yr adfyd sydd wedi ein goddiweddyd ni, yn deilwng o'i gymharu â'r hyn a welodd llawer cenhedlaeth; ond yr un pryd, y mae y pethau a nodwyd, yn dangos fod yr Arglwydd wedi dyfod allan o'i fangre i ymweled â ni yn ei anfoddlonrwydd.

2. Efe sydd yn dwyn tywyllwch moesol. Cawsom ni ein geni mewn gwlad lle yr oedd goleuni gwerthfawrocach na'r haul yn tywynu. O bob goleuni a gawsom, goleuni yr efengyl yw y gwerthfawrocaf. Mae miloedd o'r rhai a eisteddent yn mro a chysgod angau, trwyddi hi wedi gweled goleuni mawr. Beth feddyliech am golli yr efengyl o'n plith? Nid oes perygl y collir yr efengyl o'r ddaear mwy, hyd nes "rhoddi y deyrnas i fyny i Dduw a'r Tad;" ond gall gael ei chymeryd oddiar un genedl a'i rhoddi i un arall, yr hon a ddygo ffrwyth iddo yn ei amser. Gwnaeth hyny â'r Iuddewon, a gwnaeth hyny âg eglwysi Asia Leiaf. Nid yw dan rwymau i adael yr efengyl i ninau, os byddwn yn ddibris o'i goleuni. Hyn ddaethai a thywyllwch ar ein gwlad! Mae trallodau tymhorol yn dywyllwch blin, ond beth yw hyny at golli yr efengyl o'n gwlad? Mae llygru ein hawyrgylch naturiol gan heintiau afiachus yn ofid mawr, ond llawer mwy fyddai llygru ein hawyrgylch grefyddol gan gyfeiliornadau. Peth difrifol iawn fyddai "newyn am fara a syched am ddwfr," ac heb ddim i'w ddiwallu; ond llawer mwy fyddai "newyn am air yr Arglwydd." Mae wedi anfon newyn felly cyn hyn (Amos viii. 11, 12). Nid ar unwaith y mae yn myned yn dywyll; na, mae cysgodau yr hwyr yn ymestyn cyn y llwyr gilia y goleuni. Nid ar unwaith y mae Duw yn cymeryd yr efengyl o wlad—gadewir yr athrawiaeth i ddwylaw dynion heb ysbryd gweinidogaeth, a muriau Seion i wylwyr diofal am burdeb yr athrawiaeth a'r ddisgyblaeth. Ac â pethau ymlaen felly am amser maith, heb i'r cyfryw bryderu fawr am y dyfodol.

Mae lle i ofni fod canoedd mewn tywyllwch yn swn efengyl yn y dyddiau hyn, sef caledwch calon, yr hyn sydd yn rhagflaenu tywyllwch arall, sef symudiad yr efengyl ymaith. Gwel weledig. aeth y pedwar anifail, Dat. vi. 1—8. Rhoddodd Duw ddynion i "fyny i amryfusedd cadarn fel y credent gelwydd." Cosbi un pechod â phechod arall, "am na dderbyniasant gariad y gwirionedd, fel y byddent gadwedig." Maent yn myned i galedwch calon, ac yna yn taro eu traed wrth y mynyddoedd tywyll." Maent yn cael eu gollwng i ynfydu yn eu rhesymau cnawdol eu hunain. Crist yn ei Berson a'i efengyl yn myned yn "faen tramgwydd iddynt, ac yn graig rhwystr." Un o'r barnau trymaf a all oddiweddyd neb yw caledwch calon yn swn efengyl. Mae arnaf ofn fod gŵr y tŷ wedi digio wrth ddegau o ddynion, oherwydd iddynt ddirmygu ei ymrysoniadau â hwynt y blynyddoedd o'r blaen, a’i fod erbyn hyn wedi dwyn tywyllwch arnynt, a'u bod yn dechreu taro eu traed wrth y mynyddoedd tywyll, trwy ameu y Bôd o Dduw, gwirionedd crefydd, dwyfoldeb y Beibl, &c. Er cael efengyl, maent heb glust i'w chlywed yn ei hyfryd sain, ac heb lygad i weled ei phrydferthwch, na chalon chwaith i deimlo ei nerth. Ond gobeithiwn nad oes neb o honom yn y caddug ofnadwy hwn.

II. Y DYLAI YSTYRIAETH O HYNY EIN CYFFROI I EDIFEIRWCH PRYDLON A DIDWYLL.— —Gan fod pob llywodraeth yn llaw y Duw yr ydym yn pechu i'w erbyn, mae yn gweddu i ni roddi y gogoniant iddo, trwy edifarhau am ein beiau a dychwelyd ato Ef. Mae ganddo Ef filoedd o ffyrdd i oleuo ar ein llwybrau, a miloedd o ffyrdd i dywyllu arnynt hefyd. Gan ei fod Ef wedi dyfod allan i'n ceryddu, nid gwiw i ni ymgyndynu mewn un modd, gan mai Efe a orchfyga yn y diwedd. "Mae llawer o ddynion duwiol eto yn y wlad," meddai rhywrai. Oes, yn ddiameu. "Onid oes gan yr Arglwydd olwg fawr ar y rhai hyny a gofal mawr am danynt ?" Oes, mae'n wir. Ond dichon mai o achos y rhai hyn y mae yr adfyd yn benaf. Nid yw pechodau neb mor annioddefol gan Dduw a phechodau ei bobl; ac y mae yn debyg o arfer moddion chwerw er eu cael oddiwrthynt, fel na'u damnier gyda'r byd, ac er mwyn eu cael at eu dyledswydd. Yr ydych yn cofio hanes y llestr hono, pwy ddydd, oedd yn hwylio o Joppa i Tarsus, yr hon a gyfarfyddodd ag ystorm ofnadwy. "Pa ryfedd ?" meddai rhywrai, "onid crew o ddynion paganaidd oedd ar ei bwrdd ?" Ië, ond nid o achos yr un o honynt y daeth yr ystorm, ond o achos un teithiwr oedd ynddi; ac ni pheidiodd y môr a'i gyffro nes cael Jonah anufudd i'w geudod, am mai efe oedd mewn man ac agwedd na ddylai fod—yn cysgu mewn llong, yn lle bod yn Ninifeh yn traethu cenadwri Duw. O pa gynifer o giefyddwyr sydd mewn agweddau annheilwng, mewn manau na ddylent fod, yn y dyddiau hyn ? Gwelir Seion yn cysgu, a'r byd yn prysuro i ddamnio ei hun. Helyntion masnach ac amgylchiadau yn myned a meddwl yr eglwys yn llwyr, a'r byd yn marw o eisiau gwybodaeth. A welwch chwi y brawd yna sydd yn hollol ymroddedig i'r byd, a'r brawd acw yn y dafarn yn diota? Meddylier am y cydorwedd a'r anlladrwydd sydd yn myned ymlaen ! Pa ryfedd ei fod yn dwyn tywyllwch arnom. Dymunwn am ras i gofio ei lywodraeth, ac edifarhau yn brydlon a gwirioneddol.

Mae digon o Sabeaid a Chaldeaid eto gan Dduw i ruthro arnom, ac ysglyfaethu hyny o feddianau sydd genym; mae ganddo wyntoedd cryfion i fwrw pob adeilad a feddwn i lawr ar eiliad; ac y mae ganddo glefydau a'n rhoddai mewn un dydd mor anniddan a phoenus â Job. Hawdd y gall Efe ddyrysu masnach ar fôr a thir, a throi pob peth yn fethiant; ac, mewn canlyniad, y gweithwyr heb neb i'w cyflogi, &c. Beth a ganlynai ond tywyllwch? Mae wedi tywyllu ychydig yn barod mewn llawer cyfeiriad, trwy yr heintiau, y gwlybaniaeth, a panic yr ariandai. Dywedir y gwna "preswylwyr y byd ddysgu cyfiawnder, pan y byddai ei farnedigaethau ar y ddaear?" onid gwell dysgu cyn iddo Ef ddwyn tywyllwch Yr ydym wedi cael iechyd da, a synhwyrau yn eu lle am flynyddoedd; ond, atolwg, pwy gafodd eu gwasanaeth? Yr ydym wedi cael cynhauafau llawnion, mewn ansawdd dda, am flynyddoedd, a llwyddiant amgylchiadau ; ond, ai nid i droi olwynion llygredigaeth a gwastraff y cafodd y ffrydiau hyn eu cyfeirio?

Onid priodol yw galwad y testyn i gydnabod llaw Duw, ac edifarhau? Yr ydym yn gweled fod perygl os na wnawn. Mae y testyn yn agor drws gobaith, ac yn dangos fod yn bosibl i ni atal y tywyllwch tymhorol a moesol, trwy roddi y gogoniant i Dduw. Rhoddwn ein cyrff yn aberth byw iddo, cysegrwn ein hiechyd a'n synhwyrau i'w wasanaeth, a defnyddiwn lwyddiant amgylchiadau yn ffrydiau i droi olwynion achos Duw ar y ddaear.

Ond y mae tywyllwch anocheladwy o flaen pawb o honom, pryd y diffoddir pob goleuni naturiol, sef cyfyngder marwolaeth. Mae hwnw mor sicr a machludiad haul—"gosodwyd i ddynion farw unwaith." Dichon fod yma aml un a wna ddianc rhag llawer o gyfyngderau tymhorol, ond nid oes yma neb a all ddianc rhag marw. Ar yr un pryd, yr wyf yn ofni fod yma rai heb ei bod yn dda rhyngoch â Duw. Nid oes yma neb, mi feddyliwn, nad yw yn meddwl edifarhau a rhoddi gogoniant i Dduw, cyn y daw y nos, ond hwyrach fod y tywyllwch yn nes nag yr ydych wedi meddwl. O! gymaint o ffolineb yw gadael y pethau mwyaf pwysig i groni hyd yr hwyr. Feallai y bydd haul dy fywyd yn machlud yn nghanol "tymhestl nid bychan yn pwyso arnat," fel y bydd yn rhy dywyll i ganfod un gilfach a glan, na gweled un man i fwrw angor hyder am drugaredd. Bydd yn anhawdd y pryd hwnw gael un meddwl mawr am drugaredd Duw, ac am ei barodrwydd faddeu er mwyn Iesu Grist. Byddi yn taro y traed wrth y mynyddoedd tywyll, wrth gofio y breintiau a gamddefnyddiwyd, ac euogrwydd yn llanw y meddwl o'r herwydd, pan yn gwybod fod cyfiawnder yn ymddangos a thrugaredd yn ymguddio. Ni fydd cymaint a goleuni seren, sef adnod o'r Beibl, i'w chanfod trwy y niwl caddugawl fydd yn toi y glyn. Os äi ymlaen mor bell a hyn heb edifarhau, un o fil, os nad o filiwn, na bydd y tywyllwch, y dyryswch, a'r braw, y byddi yn eu teimlo, yn ddechreuad tywyllwch. eithaf y byddi ynddo byth, lle y byddi yn taro dy draed yn ddiderfyn wrth fynyddoedd tywyll euogrwydd ac anobaith, yn wyneb deddf, dan nawdd cyfiawnder dwyfol, fydd yno yn ei ddal.

O enaid gwerthfawr, dyro y gogoniant yn awr i'r hwn sydd yn dy alw yn raslawn i ddychwelyd ato. Mae y testyn yn llawn gras cyn iddo ddwyn tywyllwch." Nid oes dim yn well na bod ar delerau da â'r hwn sydd yn llywodraethu ar bob peth. Bydd yn hyfryd ar y cyfiawn hyd yn nod pan yn marw. Bydd chwerwder marwolaeth wedi myned ymaith. Bydd gweled Iesu yn hwylio i'w gyfarfod, trwy oleuni addewid, yn troi cysgod angau yn foreu ddydd ; ac yn y cyfwng, bydd yntau yn cael entrance i'r goleuni tragwyddol. Rhed i gysgod yr Hwn fu yn y tywyllwch ar Galfaria, yna bydd pob peth yn dda.

PREGETH V.

CRIST Y BUGAIL DA.

Am hyn, y mae y Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn."

WRTH ddarllen Dameg y Bugail Da yn ystyriol, yr ydych yn gweled fod gan Grist ei bobl neillduol yn y byd, a bod y cyfryw yn y fath sefyllfa, fel yr oedd yn rhaid iddo fel Bugail wneyd aberth mawr er mwyn eu hiachawdwriaeth. Ond er fod yr aberth mor fawr, yr ydym yn ei gael yn barod i'w wneyd.


Mae yn ein taro wrth ddarllen y Datguddiad Dwyfol ymhob man mai y peth mwyaf sydd wedi cael sylw y Duwdod yw prynedigaeth dyn, neu iachawdwriaeth yr eglwys. Odid fawr nad oes gan bawb o honom ei brif waith, mae hwnw hefyd gan Dduw.

"O holl weithredoedd nef yn un,
Y benaf oll oedd prynu dyn."

Dymunaf alw eich sylw yn

I. AT Y GWAITH MAWR YR YMGYMERODD Y MAB AG EF, sef prynu ei bobl, trwy roddi ei einioes drostynt. Mae yn rhaid fod rhywbeth mawr yn galw am hyny. Mae yn ffaith ddifrifol fod yr holl deulu dynol wedi myned yn gaethion gan ddiafol a phechod, gan ddeddf a chyfiawnder Duw, a than gollfarn driphlyg, "Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ol am ogoniant Duw. Yr ydym ni wrth naturiaeth yn blant digofaint megis eraill." A pha beth bynag a ddywedir yma am y praidd a roddwyd i Grist, nid oes dim gwell i ddweyd am danynt "wrth naturiaeth." Os oedd cadw i fod arnynt, yr oedd yn rhaid i hyny fod yn gyfiawn, yn gystal a thrwy allu; yr oedd yn rhaid iddo fod yn gyson âg anrhydedd y gyfraith oeddynt wedi droseddu, ac â chymeriad y Deddfroddwr. Nid oedd neb a allasai ymgymeryd â'r gwaith hwn, ond yr Un a wnaeth. Yr oedd yn ewyllys ac arfaeth y Tad achub, a dwyn meibion lawer i ogoniant." Ond pwy oedd i'w gwaredu? Pwy sydd ddigonol i'r pethau hyn? Pwy allasai agoryd y ffordd i waredigaeth, a rhyddhau y rhai a "garcharwyd yn gyfiawn"? Pwy allasai "ddinystrio yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo"? Yr oedd gan y Mab ddigon o allu i luchio bydoedd i fod â gair o'i enau; ac er fod ynddo ddigon o awydd gwaredu pechaduriaid, fel yr oedd yn Dduw, ond nid â gair y gallasai wneyd hyny.

Yr oedd yn rhaid i Waredwr pechaduriaid weithio teilyngdod digonol er bod yn alluog i'w gwaredu. Os oedd yn ymgymeryd â'r gwaith o ddileu euogrwydd, yr oedd yn rhaid bod ganddo yr hyn a offrymai. Gan hyny, nid "naturiaeth angylion a gymerodd efe, eithr had Abraham. Gan fod y plant yn gyfranogion o gig a gwaed, yntau hefyd yr un modd a fu gyfranog o'r un pethau, fel trwy farwolaeth y dinystriai efe yr hwn oedd a nerth marwolaeth ganddo, hyny yw diafol." Gan iddo gymeryd ein natur ni i undeb â'i Berson dwyfol, yr oedd mewn sefyllfa i ddweyd fod ganddo "einioes i'w dodi i lawr," dros y rhai oedd yn cael eu caru gan y Tad. Felly, gwelwn nad oedd yr un bôd creadigol yn alluog i gyflawni gwaith mawr prynedigaeth dyn, ac nad oedd Mab Duw ei hun yn abl i'w gyflawni fel yr oedd yn Dduw yn unig, Dim ond undeb y dwyfol â'r dynol allasai wneyd hyn; nis gallasai y Duwdod ddioddef a marw, na dyn roddi mwy o ufudd—dod na throsto ei hun, hyd yn nod pe byddai yn berffaith sanctaidd. Ond dyma wirionedd gogoneddus,—"Y Gair a wnaethpwyd yn gnawd." "Aberth ac offrwm nis mynaist, eithr corff a gymhwysaist i mi." Dyma un yn meddu ar einioes nad oes neb arall yn meddu ei chyffelyb. Ac nid marw yn unig sydd yn gynwysedig mewn dodi ei einioes i lawr: ond yr oedd ei holl fywyd yn fywyd o aberthiad; yr oedd ei fywyd o'r bru i'r groes yn fywyd o fyned i lawr, nes cyraedd gwaelodion dyffryn darostyngiad. A phan fu farw y cyflawnodd yr act olaf yn y "dodi i lawr," ac y "perffeithiwyd ef trwy ddioddefiadau."

Mae yn rhoddi ei einioes. Mae llawer yn ymgymeryd â gwaith dros eraill, na byddent byth yn ei wneyd, pe byddent yn gwybod y byddai y canlyniadau mor golledus a phoenus. Ond dyma un a wyddai y cwbl o'r dechreuad,—gwyddai am y preseb a'r tlodi, am yr Aifft a Nazareth, am y temtiad a'r erlid, am yr ardd a'r ing, am y gwerthu a'r bradychu, am y goron ddrain a'r fflangellu, am y groes a holl ddyfnderoedd ei ddioddefiadau. Eto, ymgymerodd â'r cyfan yn wirfoddol. A thrwy ddodi ei einioes i lawr felly, mae wedi enill digon o deilyngdod i waredu tyrfa nas gall neb ei rhifo, a'u codi i fod byth ar ei ddelw

II. FOD CRIST TRWY HYN WEDI DYFOD YN WRTHDDRYCH CARIAD NEILLDUOL EI DAD—" Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i."Mae llawer mab hynaf, trwy briodi morwyn dlawd, wedi colli ewyllys da ei dad, a'i dori allan hefyd o'r etifeddiaeth. Ond, bobl anwyl, dyma Fab Duw yn ymbriodi ag achos pechaduriaid y ddaear, ac yn dyfod yn wrthddrych cariad ei Dad trwy hyny. Y dirgelwch yw hyn, yr oedd ewyllys y Tad yn gymhelliad i'r Mab i ddodi ei einioes, a chan i'r Mab wneyd hyny trwy orchymyn y Tad, a chydag ymhyfrydiad yn y gwaith, cafodd y Tad megis rhyw gymhelliad newydd i'w garu.

Nid oes eisiau dweyd wrth neb o honoch fod y Mab yn wrthddrych cariad y Tad, ar gyfrif y berthynas sydd rhyngddo âg ef fel ei dragwyddol genhedledig Fab, ac yn meddu yr un perffeithiau ag ef. Nis gallai y Tad lai na'i garu gan mai ei ddelw ef ydoedd. Ond pwnc mawr yr adnod yw, iddo ddyfod yn wrthddrych cariad arbenig y Tad, am iddo fel Bugail Da roddi ei einioes dros y defaid. Mae y Tad yn ei garu am ei fod yn Gyfryngwr, a'r "dyn Crist Iesu." Nis gwn a yw yn ormod dweyd fod y natur ddynol wedi ei chyd-ddyrchafu a'r ddwyfol ar gyfrif y marw, i fod yn wrthddrych cariad ac ymhyfrydiad tragwyddol y Tad. Mae Crist, trwy ddodi ei einioes, wedi amlygu cariad y Tad ei hun, ac wedi gogoneddu cymeriad a llywodraeth ei Dad, fel y teimlai Crist ddedwyddwch mewn dweyd, "Mi a'th ogoneddais di ar y ddaear." Yr oedd cariad Abraham at Isaac ei fab yn deilwng o gariad tad bob amser; ond diau genym fod gwaith Isaac yn cymeryd ei rwymo mor dawel ar ben Moriah, wedi enyn cariad Abraham ato yn fwy nag erioed. Mae yr ufudd-dod hyd angau wedi gwneyd Crist yn debyg gan ei Dad. Nid oedd dim yn ormod gan Pharaoh ei roddi i Joseph wedi iddo ddeongli ei freuddwydion, ac nid oes dim yn ormod gan Dduw ei roddi i'w Fab, wedi iddo amlygu ei gariad tuag at y byd. Nis gallaf yn awr ond dwyn ychydig o eiriau y proffwydi a'r apostolion ymlaen er mwyn amlygu cymeradwyaeth y Tad o Grist, a'r anrhydedd mae yn osod arno am iddo farw. "Wele fy ngwas, yr hwn yr ydwyf yn ei gynal, fy etholedig i'r hwn y mae fy enaid yn foddlawn; rhoddais fy ysbryd arno, ac efe a ddwg allan farn i'r cenhedloedd. Am hyny y rhanaf iddo ran gyda llawer, ac efe a rana yr ysbail gyda'r cedyrn, am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth. Gofyn i mi, a rhoddaf y cenhedloedd yn etifeddiaeth i ti, a therfynau y ddaear i'th feddiant," &c.

Dangosodd y Tad ei gymeradwyaeth o hono pan oedd yma yn nyddiau ei gnawd. Ar ei enedigaeth, anfonodd angylion i'w addoli, ar ei fedydd canmolodd ef fel ei "Anwyl Fab," ar ei demtiad daeth angylion i weini arno. Ac fel yr oedd yn myned ymlaen gyda'r gwaith, amlhaodd y Tad ei dystiolaethau o'i gymeradwyaeth o hono yn y gweddnewidiad, a phan ddaeth y llef hono o'r nef "Mi a'i gogoneddais, ac a'i gogoneddaf drachefn." Ac wedi gorphen ei waith a'i ddodi yn y bedd, ni oddefwyd iddo weled llygredigaeth, ond yr oedd yn rhaid i'r nef frysio eto tua'r ddaear foreu y trydydd dydd, er mwyn amlygu cymeradwyaeth i'w holl waith, trwy ei ddyrchafu oddiwrth y meirw.

Nid oedd dim yn y Mab oedd yn boddloni y Tad yn fwy na'i fod yn marw dros bechadur, ac nid oes dim a'i boddlona yn fwy yn awr na gweled pechadur yn credu yn y Mab. Dim ond i chwi gusanu y Mab, caiff eich holl bechodau eu taflu o'r tu ol i'w gefn am byth.

PREGETH VI.

Y MODD Y GWNA DUW A PHECHODAU EI BOBL

"Efe a ddychwel, efe a drugarha wrthym: Efe a ddarostwng ein hanwireddau; a thi a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y mor." Micah vii. 19.

WRTH olrhain hanes goruchwyliaeth rhagluniaeth Duw tuag at ei eglwys, mewn gwahanol dymhorau, ni gawn mai cyfnewidiol iawn yw yr agwedd oedd arni. Fel y mae yr hinfesurydd yn codi ac yn cwympo yn ol hinsawdd yr awyrgylch, felly yr oedd gyda'r eglwys. Yr oedd pin ysbryd proffwydoliaeth yn disgyn ar raddfa rhagluniaeth, pan oedd drygfyd i ddyfod ar yr eglwys, ac yr oedd y pin yn esgyn pan yn addaw adferiad grasol iddi. Felly y mae yn y llyfr hwn, yn ei ddechreu yr ydym yn gweled fod awyrgylch foesol Israel a Judah wedi myned mor amddifaid o burdeb a gwirionedd, fel y mae barometer y broffwydoliaeth yn bygwth drycin. Ond cyn diwedd y llyfr, ni a'i cawn yn addaw gwell hin. Y Duw graslawn yn ymweled drachefn a'i bobl, nes y maent yn ei ganmol yn y geiriau hyn, "Pa Dduw fel tydi, yn maddeu anwiredd, yn myned heibio i anwiredd gweddill ei etifeddiaeth; ni ddeil efe ei ddig byth, am fod yn hoff ganddo drugaredd. Efe a ddychwel, efe a drugarha, efe a ddaroswng ein hanwireddau," &c.

Mae yn deilwng o'n sylw mor wahanol yw dull yr Arglwydd yn dyfod i gosbi i'r hyn ydyw pan yn dyfod i drugarhau, "Wele yr Arglwydd yn dyfod allan o'i fangre, i ymweled âg anwiredd preswylwyr y ddaear." Mor araf y mae Ezeciel yn dangos y gogoniant yn ymadael â'r deml! "Pa fodd y'th roddaf ymaith, Ephraim, y'th roddaf i fyny, Israel?" Dyma yr olwg a rydd Micah arno,-" Wele yr Arglwydd yn dyfod o'i le," &c. Uwchben y drugareddfa yr oedd ei le ef. Ond pan yn dyfod i drugarhau, mae yn hollol wahanol, "Wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, yn llamu ar y bryniau, &c. Mae yn hoff ganddo drugaredd. Yn llawenychu o'th blegid gan lawenydd." &c. Y darlun goreu o hyn yw y tad yn rhedeg i gyfarfod â'r afradlon.

Mae golwg ogoneddus iawn ar drefn gras o safle y testun. Sylwn ar hyn yn

I. YN EI GYSYLLTIAD A CHYFIAWNDER. "Ti a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y mor." Danghosir yma ddarpariaeth gras ar gyfer beiau pechaduriaid. Rhywbeth ofnadwy iawn yw y pechod a ddaeth i'n byd ni! Hwn ydyw yr achos o'r holl drueni sydd wedi ymledu trwy ranau eang o lywodraeth foesol y Duw mawr. Hwn hyrddiodd angylion o ganol dedwyddwch y nef i afael "cadwynau tragwyddol, dan dywyllwch, i farn y dydd mawr." Hwn daflodd ein rhieni o baradwys, a foddodd yr hen fyd, ac a ddamniodd ddinasoedd y gwastadedd a dymchweliad. Hwn fu yr achos o holl adfyd Israel ar wahanol amserau, ac hefyd o'r holl ddrygfyd a oddiweddai y cenhedloedd a'u gorthryment. Mae lluoedd o ymerodraethau a sefydliadau, yn gystal a myrdd o gymeriadau personol, wedi eu gwneyd yn wreck ganddo. Mae hen ruins pechod i'w gweled ymhob cyfeiriad. Ond os mynwn weled drwghaeddiant pechod, dringwn i Galfaria, i weled cleddyf cyfiawnder yn nghalon yr anwyl Fab.

"Pechod greodd yno'r poenau,
Pechod roddodd arno'r pwn," &c.

Yr oedd gan Israel a Judah doraeth o bechodau; a beth bynag ydych chwi a minau yn ddiffygiol o hono, gellir dweyd ein bod yn gyfoethog o bechodau. Nis gall neb o honom ni, yn fwy nag Israel gynt, ddadleu ein diniweidrwydd. Os dadleuai Israel hyny, gofynai Duw iddynt, "Pa le ni phuteiniaist?" Na, nid oedd eilun y clywsant hwy son am dano, nad oeddynt yn euog o syrthio o'i flaen. Heblaw i ninau fyned i son am y camwedd cyntaf, a'r anwiredd y lluniwyd ni ynddo, beth am liosogrwydd ein pechodau ninau o'r bru hyd heddyw? A thra byddo y person yn aros dan y condemniad, gwobr pob trosedd o flaen gorsedd cyfiawnder yw marwolaeth dragwyddol. Ac nis gall ein holl rinweddau haeddu maddeuant, ond gellir dweyd am danynt oll fel am Agar a'i phlant, pa faint bynag a genhedlai, i gaethiwed y byddai yn eu cenhedlu. Wrth i ni droi ein golwg yn ol, gwelwn dyrau mawrion uchel yn gorwedd ar wyneb holl flynyddoedd ein hoes; pentwr mawr o eiriau halogedig; pentwr mawr o weithredoedd gwaharddedig; cruglwyth anferth o feddyliau ofer; a'r holl dyrau hyn yn cyrhaeddyd megis hyd y nef, ac yn llanw awyrgylch foesol y byd a'u sawyr lygredig, a phob pechod unigol ynddynt yn meddu ar nerth "damniol floeddiad."


r Y cwestiwn bellach yw, Beth ddaw o'r holl bechodau hyn? a ddichon neb eu cuddio trwy ryw ddyfais, neu eu dileu, a thrwy hyny osgoi y gosb? Na, gwnaeth Cain ei oreu i guddio llofruddiaeth ei frawd; gwnaeth Achan ymdrech i guddio y diofryd-beth yn llawr ei babell; a gwnaeth Dafydd yr un peth gyda'i bechod yn erbyn Urias. Ond yr oedd gwaed Abel yn adsain i'r nefoedd, gwnaeth cyfiawnder i'r goelbren ddal Achan, a daeth pechod Dafydd i lygad goleuni i bawb gael ei weled. Mae miloedd o bechodau yn cael eu cyflawni bob dydd mewn dirgel-leɔedd, a miliynau yn cael eu claddu mewn anghof gyda ni yn barhaus; ond y maent i gyd wedi cael eu cofnodi yn office cyfiawnder, ac yn llefain, "Pa hyd y byddi heb ddial?" A dyma ni ymhlith y rhai ag y mae score fawr yn eu herbyn am feiau. Beth a wnawn, tybed? Mae yn rhaid cael rhyw eangder o le i guddio y fath liosogrwydd o feiau, os cuddir hwy byth.

Ond fe fedr Duw gyfarfod â ni yn ein trueni, yn ein dyled a'n heuogrwydd, gyda maddeuant. Mae ganddo drefn i faddeu yn llwyr ac am byth. Un o'r trugareddau mwyaf y mae yn bosibl i bechadur ei gael byth yw, cael ei ryddhau oddiwrth ddrwg-haeddiant ei bechod. A dyma drefn, bobl, sydd yn werth i chwi sefyll uwch ei phen i'w hastudio a'i rhyfeddu. Ceir golwg braf arni oddiar safle hen adnod y Salmydd, "Cyn belled ag yw y dwyrain oddiwrth y gorllewin, y pellhaodd efe ein camweddau oddiwrthym." Cewch olygfa ardderchog arni gyda Hezeciah, o binacl yr adnod hono, "Canys ti a deflaist fy holl bechodau o'r tu ol i'th gefn." A hèr i neb ddyfod o hyd i'r fan hono byth, "Yn y dyddiau hyny, a'r amser hwnw, y ceisir anwiredd Israel, ac ni bydd; a phechod Judah, ac nis ceir hwynt, canys mi a faddeuaf i'r rhai a weddilliwyf. Myfi, myfi yw yr hwn a ddileaf dy gamweddau, er fy mwyn fy hun, ac ni chofiaf dy bechodau."

Ond yma dangosir digonolrwydd trefn maddeuant drwy y gymhariaeth rymus hon, "Ti a defli eu holl bechodau i ddyfnderoedd y mor." Lle rhyfedd yw dyfnder y môr! Mae dyfnderoedd y môr naturiol yn beth nad yw neb eto, gyda sicrwydd penderfynol, wedi cael allan faint ydyw. Dywedir fod Syr] James Ross wedi ei gael mewn lle rhyw 900 milldir o St. Helena, yn 6 milldir. A dywedir fod y manau dyfnaf arno yn hollol farwol i bob bywyd, a'i fod yn hollol dawel a diderfysg bob amser. Ac os nad oes yno derfysg yn bod, gobaith gwan sydd y dygir yr hyn a deflir yno byth i'r golwg. Ond y mae môr y testyn yn annhraethol ddyfnach. Mae môr yr lawn mor ddwfn fel na all yr un Ross na neb arall ei blymio byth; ac nis gall yr un cythraul derfysgu ei waelod, i roddi nerth condemniad yn yr un o'r pechodau a deflir yno. O! Y fath doraeth y mae y môr naturiol wedi ei gymeryd i'w geudod—y miloedd llongau mawrion a bychain, a miliynau o wrthddrychau eraill; ac y mae wedi derbyn yr afonydd, gyda'u holl fudreddi, trwy yr oesoedd, ac ymddengys nad ydynt wedi llenwi dim arno, nac effeithio dim er ei lygru. Ond nid yw wedi y cwbl ond cysgod o for yr Iawn, lle y mae y Duw mawr yn taflu pethau y methodd pobpeth arall eu cuddio. Dyma ddigon o fôr i guddio pechodau a chwyddodd mor uchel a gorsedd yr Ior ei hun. Yma y taflwyd euogrwydd Adda, y patriarchiaid, a'r proffwydi, a'u cydoeswyr duwiol. Yma y taflwyd pechodau Israel a Judah wrthnysig trwy yr oesoedd. Yma y taflwyd anwiredd Manasseh, Zaccheus y publican, Mair Magdalen, y lleidr ar y groes, Saul o Tarsus, a phechodau y miloedd a achubwyd ar ddydd y Pentecost.

Mae trugaredd wedi dal i daflu beiau i'r môr hwn drwy yr oesoedd, ac felly gwna eto; taflodd bechodau miloedd o Gymry yr oes hon, ac y mae wrth y gwaith o hyd, er hyny nid yw haeddiant yr lawn ddim yn llai, na'i rinwedd wedi colli dim o'i effeithiau. Nid ydym yn deall fod y môr yn teimlo dim wrth gymeryd y Great Eastern yn fwy na'r canoe bach; felly nid yw trefn maddeuant yn dioddef dim wrth faddeu y pum' cant yn fwy na'r deg a deugain. Er fod genym ryw bentwr rhyfedd o bechodau, a baich anferth o euogrwydd, eto, wrth y rhai sydd yn teimlo y baich dywedaf, Peidiwch anobeithio, nid ydynt ddim i fôr yr iawn; pa faint bynag yw dy awydd di bechadur i gael maddeuant, mae Duw yn anfeidrol barotach i'w roddi; a pha faint bynag o bleser wyt yn gael wrth gredu dy fod wedi ei gael, mae Duw wedi cael anfeidrol mwy wrth daflu dy bechodau i ddyfnderoedd y môr. Mae yn canu wrth wneyd hyn, ac fe elli dithau ganu.

Collwyd megis môr o waed dan yr hen oruchwyliaeth, ond yr oedd pechod yn y golwg o hyd. Yr oedd cydwybod pechod gan y rhai a addolent o hyd.

"Ond gwaed yr Oen fu ar Galfaria
Haeddiant Iesu a'i farwol glwy'
Yw y mor lle caiff ei guddio
Fel na welir m'ono mwy."

Pan ddaw Satan ymlaen i ddanod y beiau, dangos dithau y môr iddo. Fel y boddodd Duw fyddin Pharaoh yn y Môr Coch heb adael yr un o honynt, felly y gwna â phechodau pawb y mae yn gyfiawnhau, fel na welir hwynt byth ond hyny. Ni fedr yr un gelyn dreiddio byth i'r man y mae Duw wedi eu cuddio. Clywodd y Parch. Joseph Thomas am un oedd wedi gweled llawer o dywydd garw, yn dweyd ei brofiad wrth ei wraig, "Mi fum," meddai, "yn yr ysbyty, ac yn yr asylum, ac nid yw yn annhebyg na allaf fyned eto ar yr union; ond dywedaf i chwi un peth yn rhagor, ni chaf byth fyned i uffern, mae fy holl bechodau wedi eu taflu i ddyfnderoedd y môr."

II. YN EI GYSYLLTIAD A SANCTEIDDHAD.—Mae hyn yn cael ei gynwys yn yr addewid, "Efe a ddarostwng ein hanwireddau." III. FFYNHONELL YR HOLL FENDITHION——"Efe a drugarha."

[Ni wyddom a oedd gan Mr. Edwards bregeth arall ar y geiriau, os oedd, nid yw i'w chael.—GOL.]

PREGETH VII.

Y GWYR TRAED A'R GWYR MEIRCH.

"O rhedaist ti gyda'r gwyr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ym. darewi a'r meirch? Ac os blinasant di mewn tir heddychlawn, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnei yn ymchwydd yr Iorddonen ?"—JER. XII. 5.

Yr ydym yn cael pob lle i gredu fod Jeremiah wedi cael ei hun mewn oes ddirywiedig iawn, pan oedd eilunaddoliaeth mewn rhwysg mawr yn y wlad, a'r arogldarth i Baal yn cael ei losgi dan bob pren deiliog, ac ar benau y bryniau a'r mynyddoedd uchel. Yr oedd hyn yn odineb ysbrydol, ac yn dangos anffyddlondeb Israel i gyfamod eu Duw. Pan oedd pethau yn yr agwedd yna, daeth gair yr Arglwydd at Jeremiah, mab Hilciah, yr hwn oedd offeiriad yn Anathoth, dinas Lefiaidd o fewn tir Benjamin. Nid oedd y proffwyd ar y pryd ond bachgenyn ieuanc tyner, eto anfonir ef gyda chenadwri ddifrifol at y genedl. Dywed un ysgrifenydd, "Yn hanes Jeremiah, dygir o'n blaen ddyn, a yrwyd megis o'i anfodd, o ddinodedd ac unigedd, i'r cyhoeddusrwydd a'r perygl cysylltiedig â'r swydd broffwydol." Yr oedd o natur fwyn a theimladwy, yn galaru llawer yn ddirgel am bechodau y bobl; er hyny, anhawdd oedd ganddo fyned a'r genadwri i'w gwyneb yn gyhoeddus, hyd nes iddi ddyfod fel "tân o fewn ei esgyrn, ac iddo flino yn ymatal."

Hwyrach eich bod wedi sylwi weithiau ar rywrai, pan yn anturio disgyn o leoedd uchel peryglus, eu bod yn rhwymo eu hunain â rhaffau fyddo wedi eu sicrhau wrth golofnau cedyrn a sefydlog, neu wedi ymddiried eu hunain i ddwylaw digon galluog i'w dai.

Felly y gwelir Jeremiah yma, yn disgyn i le peryglus, sef i ymddadleu â Duw ynghylch llwyddiant yr annuwiol, "Paham y llwydda ffordd yr anwir, ac y ffyna yr anffyddloniaid oll?" Ond cyn myned i lawr i'r dyryswch, yr oedd wedi cylymu ei hunan am golofn cyfiawnder dwyfol, "Cyfiawn wyt ti, O Arglwydd, pan ddadleuwyf â thi; er hyny ymrysonaf â thi am dy farnedigaethau." Methu cysoni llwyddiant y drygionus âg uniondeb Rhagluniaeth yr oedd, ac yn troi at Dduw am eglurhad. Yn atebiad i'w ddadl, llefara yr Arglwydd eiriau y testyn. Mae yn debyg mai dwy ddiareb ydyw y testyn, yn cael eu defnyddio er gosod allan anhawsderau bychain ac anhawsderau mwy.

Mae yn debyg fod preswylwyr Anathoth yn rhai drygionus iawn, a'u bod yn erlid Jeremiah oblegid ei fywyd sanctaidd, a'i broffwydoliaethau bygythiol; a meddylia rhai mai ystyr dihareb adnod y testyn i'r proffwyd yw, Os yw ymddygiadau dy gyfoedion marwol yn dy flino yn gymaint, pa fodd y gelli blymio i ddyfnderoedd barnedigaethau y Duw anfeidrol ddoeth? Eraill a feddyliant mai yr ymresymiad yw, Os yw erlidiau a bygythion dy gydwladwyr yn dy flino mor fawr, pa fodd yr ymdarewi wrth wynebu byddinoedd cedyrn y Caldeaid sydd yn dyfod i'r wlad? Nid oedd y rhai cyntaf ond "gwyr traed," o'u cymharu a lluoedd Babilon. Gallai mai y "gwyr meirch" yw gwyr mawr Jerusalem, y rhai y byddai yn sefyll o'u blaen yn fuan, o'u cymharu â gwyr Anathoth; ac nad oedd y dref hon, er ei holl ddrygioni, ond "tir heddychlon," wrth ei chymharu â Jerusalem, lle yr oedd "ymchwydd yr Iorddonen " yn bod, ac i fod eto yn llawer mwy, trwy ddyfodiad lluoedd y Caldeaid.

Afon nodedig yw yr Iorddonen, prif afon, ac afon derfyn gwlad Canaan. Mae yn tarddu yn mynyddoedd Libanus, ac a red oddiyno am 160 milltir, hyd y Môr Marw. Mae iddi ddau wely, neu geulenydd dwbl. Yn misoedd Mawrth ac Ebrill, bydd yr eira yn toddi ar fynyddoedd Libanus a Hebron, nes chwyddo yr afon yn aruthrol, pan y bydd y gwely isaf yn cael ei orlifo hyd at y ceulenydd pellaf. Yn y ceulenydd pellaf, y mae llawer o brysglwyni ac anialwch, yn y rhai y cartrefa lliaws o lewod, pan y byddo yr afon ar drai; ond pan lifo dros y glanau, gwna y rhai hyny ddianc o'u llochesau, nes cynyrchu llawer o ddychryn a niwed i'r trigolion. Felly y mae grym yn y gymhariaeth i osod allan allu anwrthwynebol lluoedd Babilon,—byddant mor anwrthwynebol ag ymchwydd yr Iorddonen.

Athrawiaeth y geiriau yw, "Os nad oes genym ddigon o nerth i ddal treialon bychain, mae sail i ofni na allwn ddal treialon mwy.' Neu, "Mae methu gorchfygu anhawsderau bychain yn brawf ein bod yn anghymwys i gyfarfod â rhai mwy." Os nad allwn ddal i gerdded gyda'r gwyr traed, nid yw ond ofer meddwl dal ati gyda'r gwyr meirch. Feallai mai nid anmhriodol cymhwyso athrawiaeth y geiriau at ddau ddosbarth o ddynion sydd yn yr odfa.

I. Y RHAI SYDD YN PROFFESU CREFYDD.

—Yr hyn sydd yn ffaith gyffredinol yn ein hanes ni blant dynion yw, ein bod yn agored i dreialon ac anhawsderau yn y fuchedd hon; ac y mae hyny yn wir am y rhai sydd yn proffesu eu hunain yn ganlynwyr i Fab Duw. Mae rhai o'r cyfryw wedi cael eu profi trwy redeg gyda'r gwyr meirch; a'r rhai a gawsant eu profi trwy rwystrau a phrofedigaethau mawrion oedd y cymeriadau goreu y cawn hanes am danynt yn oesoedd boreuaf y byd. Dyma y "cwmwl tystion" y rhoddir hanes eu gorchestion yn Hebreaid xi., rhedasant hwy gyda'r gwyr meirch heb flino. A dyma y fath rai oedd y dyrfa waredol a welodd Ioan yn sefyll gyda'r Oen ar fynydd Seion,—" rhai a ddaethant allan o'r cystudd mawr." A beth yw yr hyn y gelwir ni i'w wneyd, at yr hyn y gorfu arnynt hwy ei wneyd.

Mae yn perthyn i grefydd eto ddyledswyddau sydd yn gofyn am ymdrech i'w cyflawni. Ond y mae amrywiaeth y dyledswyddau yn cael ei nodweddu gan amrywiaeth tymhorau ar grefydd. Bu rhai adegau yn hanes yr eglwys pan oedd yn haf llwyddianus a thawel, ac mae adegau felly eto. A'r pryd hwnw, gelwir ar yr eglwys i weithio; a'r gwaith ydyw, aberthu ychydig o amser a meddianau tuag at ddwyn ymlaen deyrnas Dduw yn y byd. Brydiau eraill, gelwir ar yr eglwys i weithio allan ei hegwyddorion, yn erbyn dylanwad a gallu gormesol cyfreithiau daearol, dioddef carcharau, a merthyrdod.

Meddylier yn awr am ddyledswyddau y dyddiau presenol. Oni cheir fod llawer yn cwyno oblegid anhawsderau bychain, ac yn eu cymeryd yn esgusodion dros eu hesgeulusdra. Gelwir sylw at grefydd deuluaidd, at ffyddlondeb i'r cyfamod eglwysig, at ymdrech cydwybodol, a sel weithgar gyda'r achos mawr yn ei holl ranau. Qnd ai nid oes esgeulusdra tra mawr? A phe ymofynid am y rheswm, cwyna rhai ar yr amgylchiadau, eraill ar wendid a blinder corff, eraill ar bellder y ffordd, eraill ar dywyllwch y nos, ac eraill ar wlybaniaeth yr hin.

Mae rhwystrau i deimlad cnawdol, hyd yn nod yn yr amser mwyaf hafaidd ar grefydd. Yn lle ymwroli i'w gorchfygu, tuedd i ymollwng a welir yn y rhan fwyaf. Ychydig a welir yn rhedeg yn deilwng i bwysigrwydd y gwirioneddau a broffesir ganddynt. Paham na byddai pob un yn ymresymu âg ef ei hun? Os yw yn anrhydedd i'w grefydd ef fy mod i yn gydwybodol gyda'm dyledswyddau personol, teuluaidd, a chymdeithasol, ni chaiff pethau bychain fy rhwystro i fod felly. Os ydyw ei deyrnas ef yn debyg o gael rhyw fantais i ymledu, trwy i mi wneyd a allaf er ei hyrwyddo mewn gweddio a chyfranu, dweyd a gwneyd, nid ychydig gaiff fy rhwystro i wneyd hyny. Dyna beth yw rhedeg, ac nid yw hyna ond rhedeg gyda'r gwyr traed. Ond O! gymaint o esgeulusdra, a chymaint o gwyno sydd gyda phethau digon hawdd lle byddo ewyllys. Beth yw ychydig o anhwyldeb corfforol ond methu rhedeg ? Beth yw achwyn ar bellder ffordd ond methu rhedeg? Meddylier am hen ffyddloniaid y Diwygiad Methodistaidd yn dyfod Langeitho. Beth pe gelwid arnom i redeg gydag "ardderchog lu y merthyri," megis Latimer, Cranmer, a Ridley, y rhai na "charasant eu heinioes hyd angau." Os nad oedd ganddynt hwy ormod o grefydd, ai nid oes genym le i ofni fod ein crefydd ni yn rhy fach?

II. Y RHAI NAD YNT YN PROFFESU.— —Mae y geiriau yn awgrymu rhywbeth teilwng o sylw mwyaf difrifol y rhai hyn, y rhai sydd heb redeg dim eto gyda'r gwyr traed. Ceir y rhan fwyaf o honoch yn ymrwystro yn ngwyneb anhawsderau bychain, cariad at ryw chwant neu ofn cyflawni dyledswyddau crefydd. Onid gwell

fyddai i chwi ddechreu rhedeg yn ddioedi, tra y byddo bywyd ac iechyd yn cael eu mwynhau, nag ymesgusodi oblegid rhwystrau bychain. Dylit gofio ei bod yn fil gwell arnat na'r rhai a aeth ar ol Crist drwy yr ystormydd garwaf. Daw ymchwydd yr Iorddonen i dy stripio o'th holl feddianau, dy iechyd, a'th fywyd. Er mwyn cymhelliad digon cryf i wneyd dyledswydd gofyn, "Beth a wnei yn ymchwydd yr Iorddonen ?

PREGETH VIII.

DYFROEDD Y CYSEGR.

"Ac efe a'm dug i drachefn i ddrws y tŷ, ac wele ddwfr yn dyfod allan odditan riniog y tŷ tua'r dwyrain," &c. Ezec. xlvii. 1—12.

Un o'r proffwydi a godwyd gan Dduw i'r genedl Iuddewig, pan yn y caethiwed yn Babilon, oedd yr Ezeciel hwn. Yr oedd yn fab i offeiriad, ac wedi derbyn ei addysg fel Lefiad. Cafodd ei anrhydeddu â llawer iawn o weledigaethau arwyddluniol yn ngwlad ei alltudiaeth, ac y maent, gan mwyaf oll, yn dal rhyw berthynas â'r deml, fel y mae y weledigaeth hon. Ac onid oedd hyny yn fantais fawr i roddi argraffiadau dyfnach ar ei feddwl, gan ei fod mor gyfarwydd âg adeiladaeth y deml, ac â threfn ei gwasanaeth? A diau genym fod ei gyfarwyddyd â'r deml, wedi bod yn fantais fawr iddo gymeryd i'w feddwl gynllun a mesurau y deml weledig aethol, y rhoddir ei hanes yn niwedd y llyfr hwn.

Yn y benod hon cawn weledigaeth y dyfroedd sanctaidd, y rhai y mae y proffwyd yn weled yn tarddu o dan riniog y tŷ. Mae dwfr ac afon yn arwyddluniau Beiblaidd am yr iachawdwriaeth sydd yn Nghrist. Mae yma dri pheth yn cael ei gyflwyno i'n sylw : I. TARDDIAD Y DYFROEDD— o dan riniog y tŷ," sef y deml yn Jerusalem, lle preswylfa y gogoniant dwyfol. Nid oes neb mor ynfyd a meddwl y bydd i'r olygfa yma gael ei chyflawni yn llythyrenol byth, ond yn ysbrydol. Crist yw Sylwedd y deml a'r gwasanaeth, ac felly y mae holl ddrychfeddyliau y cysgodau yn cael eu sylweddoli ynddo ef. Mae yn anhawdd peidio gwneyd hyny yma, a dilyn y dyfroedd at y tarddiad, yn yr hen feddyliau tragwyddol o hedd. Yr oedd y dyfroedd yn tarddu o dan yr allor, sef allor yr aberth, a'r allor oedd yn rhoddi rhinwedd iddynt. Daethant i olwg ein daear ni yn yr ymgnawdoliad, a'r dioddefiadau iawnol.

"Hi darddodd o'r nefoedd yn gyson,
Hi ffrydiodd ar Galfari fryn."

Y dyfroedd hyn yw yr "afon bur o ddwfr y bywyd" a welodd Ioan, "tarddu o dan orseddfainc Duw a'r Oen." Yr afon yw afon iachawdwriaeth, sydd i'w gweled yn yr Eglwys Gristionogol trwy yr oesoedd, a rhinwedd yr oll yn dyfod o Grist a'i aberth. Ond diau y gellir ystyried y tarddiad yma hefyd yn ddechreuad pregethu yr efengyl yn Jerusalem, ac oddiyno yn myned allan at y cenhedloedd. "Y gyfraith a ä allan, a gair yr Arglwydd o Jerusalem. Oddiwrthych chwi y seiniodd gair yr Arglwydd," &c.

II. EU CYNYDD.—Mae yma ddisgrifiad prydferth iawn o gynydd y dyfroedd. Rhyw ffrwd fechan fain a welodd Ezeciel gyntaf, yn tarddu o dan riniog y tŷ. Ond y mae y gwr a'r llinyn, yn mesur mil o gyfuddau, ac yn ei dywys trwy y dyfroedd, ac erbyn hyny yr oeddynt hyd y fferau. Mil wedi hyny a'r dyfroedd hyd y gliniau; a mil arall a'r dyfroedd hyd y lwynau. Ond wedi mesur drachefn, yr oedd y dyfroedd yn afon yr hon ni allai y proffwyd fyned trwyddi. "Canys codasai y dyfroedd yn ddyfroedd nofiadwy, yn afon ni ellid myned trwyddi." Mae yr efengyl i lwyddo. Mae hyny wedi ei fwriadu yn y cyngor boreu, wedi ei ragfynegu yn y proffwydoliaethau, a'i bortreadu yn y cysgodau. Gan fod y ffynhonell yn ddihysbydd, mae yn rhaid iddi darddu; ac os tarddu, rhaid gorlenwi a llifo. Yr oedd hyn yn cael ei bortreadu yn brydferth iawn yn y môr tawdd oedd wedi ei osod ar ddeuddeg o ychain, y rhai oedd yn edrych tua phedwar ban y byd. Felly y gareg fechan a welodd Daniel, a dorwyd nid â llaw, a'r hon a dreiglodd ac a faluriodd y delwau, ac a aeth yn fynydd mawr, nes llenwi yr holl ddaear. Felly yr hedyn mwstard a'r surdoes.

O mor fychan a distadl oedd yr olwg ar Gristionogaeth, pan ddechreuodd yr apostolion anllythyrenog bregethu Iesu yn Arglwydd ac yn Grist. Nid oedd y dyfroedd i'w gweled ond yn ffrwd fechan iawn y pryd hwnw. A gellid meddwl y byddai i wres yr erledigaeth danllyd a gododd yr Iuddewon yn ei herbyn, ei sychu i fyny yn fuan, ac y byddai i'r gwrthgloddiau a gododd y Rhufeiniaid atal ei rhediad. Ond rhagddi yr aeth, nes y methodd holl nerth Rhufain baganaidd, mwy nag Iuddewiaeth, ei rhwystro, aeth yn ddyfroedd nofiadwy, y fath nad allai neb fyned trwyddynt.

III. EU HEFFEITHIAU.—Cyfeiriad y dyfroedd oedd tua bro y dwyrain, i'r Môr Marw, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn eu natur yn farwol i'r bob creadur, a'i gyffiniau yn difwyno pob prydferthwch. Ond y mae y proffwyd yn gweled y caiff y dyfroedd hyn effaith ryfeddol arno, er cyfnewid ansawdd ei ddyfroedd, a rhoddi bywyd i bob creadur a ddelai yn agos atynt. Rhyw fôr marw yw yr oll o'n byd ni wrth natur. Yn mro a chysgod angau y mae pawb yn gorwedd. Ond wele yr afon bur o ddwfr y bywyd, hen afon iachawdwriaeth gras, yn myned allan o dan orseddfainc Duw a'r Oen, ac yn gwynebu ar fyd o golledigion, a'i rhinwedd yn ddigon effeithiol i roddi bywyd i bawb ddelo i gyffyrddiad â hi. Mae y dyfroedd yn gallu glanhau pob aflendid, ïe, "pe byddai eu pechodau fel ysgarlad, ant cyn wyned a'r eira, pe cochent fel porphor," gan fywyd o 60 mlynedd o bechu, mae gras yn ddigon effeithiol i'w gwneyd fel y gwlan. Gwna gras, nid yn unig roddi bywyd, ond gwna bawb yn iach. Ac oblegid fod y dyfroedd mor iach, bydd ynddynt bysgod lawer; ac oblegid hyny, bydd llawer o bysgodwyr. A bydd i'r pysgodwyr sefyll arni, o Engedi hyd Eneglaim, dau le un o bob tu i'r Môr Marw, yn dangos y bydd pysgodwyr yn sefyll ar hyd y mor i gyd,——" Yr efengyl hon am y deyrnas a bregethir trwy yr holl fyd."

Dywedir hefyd am rinweddau y dyfroedd, y byddant yn effeithiol i ffrwythloni a phrydferthu pa le bynag yr ant,—" Wele ar fin yr afon goed lawer iawn, o'r tu yma ac o'r tu acw. Ac wrth yr afon y cyfyd, ar ei min o'r deutu, bob pren ymborth; ei ddalen ni syrth a'i ffrwyth ni dderfydd yn ei fisoedd y dwg ffrwyth newydd, oherwydd ei ddyfroedd a ddaethant allan o'r cysegr: am hyny —y bydd ei ffrwyth yn ymborth, a'i ddalen yn feddyginiaeth." Nid yn unig bydd cadwedigion lawer iawn yn y lleoedd y bydd y dyfroedd hyn ynddynt, ond bydd y dyfroedd yn dylanwadu ar holl gylchoedd cymdeithas, o'r senedd—dai i lawr i'r cylchoedd iselaf. Gwelir heddyw nad oes sefydliadau dyngarol tebyg i rai ein gwlad ni. Mae yr efengyl yn adferu heddwch a rhyddid. A'r rheswm am y cwbl yw, fod Ysbryd Crist yn myned i bob man lle caffo yr efengyl dderbyniad.

PREGETH IX.

Y LLEOEDD LLEIDIOG.

"Ei lleoedd lleidiog a'i chorsydd ni iacheir, i halen y rhoddir hwynt."EZEC. XLVII. 11.

ER holl effeithiau daionus dyfroedd y cysegr, mae y proffwyd yn gweled fod rhyw fanau yn aros heb eu cyfnewid, sef y lleoedd lleidiog a'r corsydd Sylwn yn

I. FOD YN BOSIBL AC YN DEBYG Y BYDD RHAI YN AROS YN EU CYFLWR NATUR ER POB MANTEISION CREFYDDOL· "Lleoedd lleidiog a chorsydd ni iacheir."

1. Golygir wrth y rhai hyn, y gwledydd a'r bobl sydd yn gwrthod Athrawiaeth yr efengyl. Erys y rhai hyn yn anobeithiol. Un ffordd i gadw mae Duw wedi ddarparu, a chyhoeddiad y drefn hono ydyw yr efengyl. Dywed yr efengyl am wisg i guddio yr euog, am y ffynon i olchi yr aflan, am y meddyg i gleifion, a'r noddfa i lofruddion ymguddio ynddi. Hi yn unig sydd yn "rhoddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'r bobl trwy faddeuant o'u pechodau." Ni fedd Duw yr un moddion arall at wella pechadur, ac nid yw yn meddwl trefnu yr un chwaith. O ganlyniad, mae pob gwlad, cenedl, a pherson fyddo yn gwrthod yr efengyl, yn aros yn y cymeriad o fod yn lleoedd lleidiog a chorsydd. Dim ond i ni edrych ar y gwledydd a'r cenhedloedd sydd yn amddifad o athrawiaeth yr efengyl, rhyw "drigfanau trawsder" ydynt oll.

2. Y rhai sydd heb roddi ufudd-dod i'r efengyl, er gwybod yr athrawiaeth a'r dyledswyddau. Mae lle i ofni y gellir cyfrif llawer o wrandawyr efengyl heddyw, y dynion sydd a'u calonau heb deimlo oddiwrth ei chenadwri, ac o ganlyniad eu bucheddau yn groes iddi, ymysg y lleoedd lleidiog a'r corsydd. Ni chafodd neb dan haul fwy o fanteision i fod yn gadwedig na chenedl y Cymry yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Llais durtur, fwyn yr efengyl yw y peth cyntaf a glywsoch, ac a dynodd eich sylw yn eich mebyd, gweled ein rhieni ac eraill yn cyrchu at ei hordinhadau, ac yn gorfoleddu yn y mwynhad o'r dyfroedd grisialaidd, roddodd y meddwl mawr a thyner cyntaf ynom am dani. Mae llawer o honynt hwy wedi myned adref yn wyn ac yn iach trwy rinwedd ei dyfroedd; ond diolch,

"Er cymaint ag a olchwyd,
Sydd yn y nef yn awr,
Mae'r afon fel y grisial
Yn ngwlad y cystudd mawr."

Ac y mae ei dyfroedd wedi dyfod yn agos iawn atoch chwi, ac y mae galwad daer arnoch i ddyfod iddynt, "O! deuwch i'r dyfroedd." Beth ydyw yr holl freintiau crefyddol, yr holl bregethu am Geidwad, yr holl gyfarfodydd gweddiau, a'r holl ddysgu yn yr Ysgol Sabbothol? Onid gorlifiad dyfroedd y cysegr ydynt, sydd yn amgylchu ac yn rhedeg o'ch cwmpas ? Maent wedi cyrhaeddyd i mewn i'ch deall, ac wedi ymlenwi i'ch cof. Pa gynifer o honoch na all adrodd gyda pharodrwydd yr adnodau mwyaf cymhelliadol ?" O deuwch i'r dyfroedd," "Deuwch ataf fi bawb a'r sydd yn flinderog ac yn llwythog, a mi a esmwythaf arnoch," "Yr ydym yn erfyn dros Grist, Cymoder chwi â Duw."

Ond wedi y cwbl, a oes dim lle i ddweyd, "Eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyddymheru â ffydd yn y rhai a'i clywsant." Mae yna ryw bechod anwyl yn aros rhyngddynt â chredu, yn aros yn wrthglawdd rhyngddynt å dylanwad y gwirionedd. Oblegid hyny, y mae yn well gan y dyn redeg y risk gyda golwg ar ei fywyd tragywyddol, nag ymwadu â'r gwrthddrych gwaharddedig hwnw, neu groeshoelio y chwant llygredig hwnw. O dymunwn am i Ysbryd Duw ddangos y perygl, a thori bylchau yn y gwrthgloddiau sydd yn atal dynion i'w weled.

3. Y rhai rhagrithiol gyda chrefydd.—Clywaf un yn dweyd, "Ië, dylech ddeall fy mod i yn aelod eglwysig." Wel, digon priodol. Ond a ydyw yr efengyl wedi dy fywhau? A ydwyt yn byw bywyd o ffydd yn Mab Duw? A ydyw yr efengyl wedi dy iachau oddiwrth dy hen arferion? Yr oedd yr Ysgrifenyddion a'r Phariseaid yn grefyddol iawn, ond "beddau wedi eu gwyngalchu" oeddynt ar y goreu.

II. TRUENUS GYFLWR Y RHAI A DDIBRISIANT AC A WRTHODANT YR EFENGYL.— "I halen y rhoddir hwynt." Mae hyn yn cynwys eu rhoddi i fyny i farn, fel y mae tir sydd a halen ynddo yn dir diffrwyth, ac o ganlyniad yn anghymeradwy. Dywedir yr arferir yn yr iaith wreiddiol ddweyd tir hallt am dir diffrwyth. Hauodd Abimelech halen ar Sichem yn arwydd o felldith. Mewn "tir hallt anghyfaneddol" y mae y rhai sydd dan felldith yn preswylio. Cyflawnwyd hyn ar lawer o genhedloedd a gwledydd am ddiystyru ac anghredu yr efengyl. Edrychwch ar wlad yr addewid, lle y bu cenedl liosog o had Abraham yn preswylio, a chysegr Duw wedi ei adeiladu fel llys uchel yn eu mysg; ac i chwanegu at fawredd eu breintiau, y wlad lle bu Duw yn y cnawd yn llefaru geiriau, ac yn cyflawni gwyrthiau, mae hono er's canrifoedd wedi ei rhoddi i halen. Gwlad anghyfanedd ydyw, y dinasoedd wedi eu "hanrheitho fel pe dymchwelai estroniaid" hwynt, a'r preswylwyr yn wibiaid a chrwydriaid ar hyd holl wledydd y ddaear.

Mae pob pechod yn haeddu tragwyddol gosb'; ond o bob pechod a gyflawnodd Israel, ac a gyflawnir eto gan eraill, gwrthod Mab Duw, ac anghredu yr efengyl sydd yn haeddu y gosbedigaeth drymaf. Onid oedd yr Iuddewon yn euog o bechodau ysgeler eraill yn amser Iesu Grist? Oeddynt, yn euog o orthrymu, o drais ac annuwioldeb, o ragrith a chelwydd ; ond i ychwanegu at yr oll darfu iddynt groeshoelio Arglwydd y gogoniant. Ond fe gawsent eu harbed wedi y cwbl pe buasent yn derbyn cenadwri yr efengyl am Grist, gan i Grist roddi y gorchymyn am ddechreu yn Jerusalem," sef rhoddi y cynyg cyntaf am iachawdwriaeth i'r genedl a groeshoeliodd Grist. Fel pe dywedai Crist, "Er iddynt fy nghroeshoelio, gwnaf wedi y cwbl eu harbed, a rhoddaf fy ngwaed i’w golchi os derbyniant yr efengyl. Ond gan iddynt wrthod, rhaid oedd troi at y cenhedloedd, a'u rhoddi hwythau i fyny i ddinystr. Dyna "ŵr y ty," wedi myned i draul fawr i arlwyo gwledd, ac anfon gweision allan i wahodd, yn cael ei yru i ddigio, am iddynt yn unfryd ymesgusodi ;" ac felly tyngodd na chawsai yr un o'r gwyr hyny a wahoddwyd brofi o'r swper. Pwy amynedd allai oddef y fath ddiystyrwch? Ond O! gyfeillion, pa fodd yr ydych chwi yn gwneyd a'r gweision yn awr. Gochelwch rhag i ŵr y ty ddigio a'ch gollwng i afael "meddwl anghymeradwy."

Gallwn weled y perygl o ddiystyru galwad yr efengyl a breintiau crefydd yn eglwysi Asia Leiaf. Bu y rhai hyny unwaith yn tynu sylw y byd oblegid eu crefydd a'u llwyddiant; ond trwy syrthio i arferion llygredig, er eu holl freintiau, symudwyd y canhwyllbren o'u plith, ac aethant yn sathrfa i farnau dinystriol, fel nad oes bellach ond bwthynod gwael lle bu palasau ardderchog, tlodi yn lle cyfoeth, a gwarth yn lle clod—"i halen y rhoddwyd hwynt." Yr oedd y cenhedloedd gynt yn dweyd mai Cristionogaeth oedd y felldith fwyaf i bob gwlad, oblegid eu bod yn gweled y barnau tostaf yn cael eu tywallt ar y gwledydd a'i gwrthodent. Mae cymaint o ddaioni a thiriondeb Duw, cynyrch ei gariad tragwyddol, yn cael eu datguddio yn yr efengyl, fel na all anfeidrol amynedd ddal yn hir heb ddigio, wrth y rhai fydd yn dal yn gyndyn i'w camddefnyddio a'u diystyru. Onid yw yn beth rhyfedd na byddai wedi digio wrth y Cymry, ac wedi symud y canhwyllbren o'n plith? O! fechgyn a merched, cymerwch rybudd mewn pryd. Nid oes dim yn pwyso mor drwm ar anfeidrol amynedd ei hun na gwrthod y Mab.

Mae lle i ofni fod llawer yn myned a dyfod gyda moddion gras, heb feddwl am y cyfrif manwl fydd raid iddynt ei roddi am hyny. Peth sobr fydd dyfod i gysylltiad â'r efengyl heb ei chredu. "Hon yw y ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i'r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na'r goleuni, canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg." Bydd yn drwm ar y pagan druan, "ond hon yw y ddamnedigaeth!" O! bobl, yr ydych wedi eich taflu i sefyllfa ag sydd yn gwneyd eich cyfrifoldeb yn ofnadwy yn eich cysylltiad a'r efengyl. Ped arhosech gartref heb ddyfod i'r moddion, byddech yn casglu cynud wrth wneyd hyny. Nid oes dim yn well i chwi wneyd na chwympo i mewn â thelerau yr efengyl ar frys. Oblegid os parhewch i fyned ymlaen heb fod dan ymgeledd iachawdwriaeth, byddwch fel y ddaear sydd yn derbyn gwlaw, ond yn dwyn drain a mieri, ac nid llysiau cymwys, yn cael eich rhoddi fyny i felldith, —"diwedd yr hon yw ei llosgi."

PREGETH X.

PAROTOI ERBYN Y DYFODOL.

"Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth," &c.—DIAR. VI. 6—11.

CREODD Duw ddyn yn uniawn, ar ei ddelw, mewn gwybodaeth, cyfiawnder, a gwir sancteiddrwydd. Nid oedd ei gyffelyb ar y ddaear, yr oedd yn "uchder llwch y byd." Yr oedd yn harddach na'r holl greaduriaid daearol o ran ei gorff, ond ei enaid oedd ei ragoriaeth fawr. O ran ei gorff, gallasai y pryf distadlaf ddweyd wrtho, "Fy mrawd wyt, canys o'r clai y torwyd dithau fel finau." Ond o ran ei enaid, gall ef honi perthynas â'r angel uchaf; canys os gall yr angel ddweyd, crewyd fi "trwy Ysbryd ei enau ef," gall yntau ddweyd, “Anadl yr Hollalluog a'm bywiocaodd i." Yr oedd dyn y pryd hwnw yn greadur ardderchog iawn, yn arglwydd ar yr holl greaduriaid "Gwnaethost iddo arglwyddiaethu ar weithredoedd dy ddwylaw, gosodais bob peth dan ei draed ef." Ond rhyfedd y cyfnewidiad pan aeth dyn yn bechadur! Yn lle bod yn arglwydd ardderchog, aeth pob peth yn ddychryn iddo, ac yntau yn îs na'r holl greaduriaid o'i gwmpas o ran amcan bywyd. Felly y mae yn aros i raddau byth; mae yn cael ei alw yma at un o'r creaduriaid distadlaf, i gael gwers ar beth mwyaf pwysig ei fywyd, -parotoi ar gyfer y dyfodol. Yr ydym oll wedi syrthio; ac fel y mae y gwynt yn chwythu y dail, un yma a'r llall draw, felly yr ydym ninau trwy yr anian bechadurus, wedi "troi bawb i'w ffordd ei hun," un yn afradlon, diog, ac esgeulus, y llall yn gybydd llawn o ragofalon, pob un a'i ffordd ei hun.

Wrth ddarllen y Beibl, yr ydym yn gweled rhai adnodau fel yn gwrthddweyd rhai eraill, "Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear" "Na ofalwch ;" "Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd," meddai Iesu Grist. A dywed yr Apostol Paul, "Od oes neb heb ddarbod dros ei eiddo, yn enwedig ei deulu, efe a wadodd y ffydd, a gwaeth yw na'r di ffydd." "Gan weithio a'u dwylaw yr hyn sydd dda, fel y byddo ganddynt beth i'w gyfranu i'r hwn y mae angen arno." Gellid meddwl fod Iesu Grist yn pregethu yn erbyn un o brif ddibenion ein cymdeithas,[1] yn erbyn ein testyn, ac yn erbyn lliaws o adnodau cyffelyb. Ond yr hyn a orchymyna Efe yw, peidio pryderu a rhagofalu am bethau y ddaear, fel ag i esgeuluso y pethau penaf; peidio llwytho ein hunain ag awydd anghymedrol, a rhoddi ein holl amser a'n llafur at olud anwadal. Wrth rai felly dylid dweyd, "Ceisiwch yn gyntaf deyrnas Dduw, a'i gyfiawnder ef, a'r holl bethau hyn a roddir i chwi yn ychwaneg." Ond o'r tu arall, os bydd rhywrai yn esgeuluso eu dyledswyddau tymhorol, ac yn ddiog yn eu gwaith, mae priodoldeb yn ngeiriau Paul a'r testyn, am iddynt "ddarbod dros yr eiddo, a gweithio a'u dwylaw eu hunain," a myned at y morgrugyn am wers ar y mater. Yr hyn a ddysgir yma

I. YW DYLEDSWYDD DYN I FOD YN DDIWYD A DARBODUS.— Gelwir ni yma at greaduriaid bychain iawn i ddysgu hyn. Mae pawb o honom wedi bod yn sylwi mor ddiwyd yw y morgrugyn yn casglu, a hyny yn y tymor manteisiol. Mae gwahanol ddywediadau am y creaduriaid hyn. Dywed rhai mai nid ar gyfer y gauaf y maent yn parotoi, gan nad oes ganddynt ddim yn eu celloedd y pryd hwnw, a'u bod yn cysgu neu yn marw y gauaf fel llawer o greaduriaid eraill. Barna eraill fod rhai rhywogaethau o honynt yn byw yn y gauaf, a'u bod yn ymborthi ar eu darpariaeth. Ond y mae geiriad y testyn yn dangos eu bod yn mwynhau y gauaf y pethau oeddynt wedi "barotoi a chasglu yn yr haf a'r cynhauaf.” Y peth a ddysgir i ni yma yw, mai ein dyledswydd yw bod yn ddiwyd a darbodus yn yr adeg fanteisiol i wneyd hyny, sef adeg o iechyd a llwyddiant. Mae y Beibl yma yn llefaru llawer iawn wrth y dyn diofal a diog. Ni chreodd Duw ddyn i fod yn segur. Yr oedd Adda yn ei sefyllfa o ddiniweidrwydd i lafurio a chadw yr ardd; ond y mae y diog yn disgwyl cael peth na chaniatawyd i Adda yn mharadwys, sef cynhaliaeth heb weithio. Ac wrth ddyn fel pechadur dywedodd, "Trwy chwys dy wyneb y bwytai fara." Ond y mae yma drugaredd, "bara" ydyw, nid careg ac nid melldith.

Mae holl ddysgeidiaeth y Beibl yn profi yr un peth. Dangosodd yr Arglwydd ofal mawr am y tlawd wrth roddi cyfreithiau i genedl Israel. Nid oedd y cyfoethog i lwyr gasglu unrhyw gnwd o'i eiddo, ond yr oedd yn rhaid iddo adael rhan o hono i'r tlawd; er hyny, yr oedd yn rhaid i'r tlawd, yntau, i godi yn foreu a dilyn yn hwyr i loffa y gweddillion, a hyny yn yr amser priodol. Yr oedd yr Iuddewon yn hynod ofalus i ddysgu rhyw gelfyddyd i'w plant, er mwyn eu dysgu i fod yn onest a gweithgar. Nid oes dim yn fwy niweidiol i foesau gwlad na segurdod; ac os bydd llawer o segurwyr mewn ardal, mwyaf i gyd fydd am fod yn segur, a llawnaf fydd yr ardal o ddefnyddiau cynen a melldith. Nid oes gan y cyfryw yr un sail i ofyn bendith yr Arglwydd arnynt, gan mai llafur y mae efe bob amser yn fendithio. Mae yn wir i Grist wneyd gwyrthiau i borthi miloedd, ond yn ngwyneb angen y gwnaeth hyny. Meddyliodd rhyw liaws o'r tyrfaoedd mai felly yr oedd i fod mwy, a thebygaf eu clywed yn dweyd y naill wrth y llall, "Dyma hi wedi dyfod arnom, fechgyn, dewch i ni gael gwneyd hwn yn frenin, mae gobaith i ni gael byw heb weithio gyda hwn." Aethant felly ar ei ol. Ond nid hir y buout heb ddeall mai nid dynion diog oedd i fod yn ganlynwyr Iesu o Nazareth. Gweithiwr caled oedd ef ei hun, i wneyd "gwaith yr hwn a'i hanfonodd, tra yr oedd yn ddydd."

Mae yr apóstolion yn dysgu yr un pethau. Dyma fel y dywed Paul wrth y Thessaloniaid, "A rhoddi o honoch eich bryd ar fod yn llonydd, a gwneuthur eich gorchwylion eich hunain, a gweithio a'ch dwylaw eich hunain, megis y gorchymynasom i chwi. Fel y rhodioch yn weddaidd tuag at y rhai sydd allan, ac na byddo arnoch eisiau dim." Ac yn ychwanegol at fod yn ddiwyd, dylem fod yn ddarbodus. Mae llawer yn dra diwyd, ond heb fod yn ddarbodus mewn un modd. Ond y mae Paul yn gosod pwys mawr ar y darbod, gan ddangos fod anrhydedd crefydd yr efengyl yn galw am dano, a bod yr hwn nad yw yn gwneyd yn "waeth na'r di ffydd." Gallwn weled bellach fod amcanion ein cymdeithas a'u rheolau wedi eu nyddu allan o Air Duw ; ac wrth sefyll atynt y gallwn ddisgwyl bendith yr Arglwydd arni er ein cysur tymhorol, a'i amddiffyn drosti. "Os yr Arglwydd nid adeilada'r ty, ofer y llafuria'r adeiladwyr wrtho "

II. Y CANLYNIADAU PWYSIG A DDAW O ESGEULUSO HYN."Felly y daw tlodi arnat fel ymdeithydd, a'th angen fel gwr arfog." Mae y diog yn yr haf a'r cynhauaf yn caru gorwedd a chysgu, a dywed, "Ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw i gysgu." "Mae y diog yn ei waith yn frawd i'r treulgar. Na châr gysgu rhag dy fyned yn dlawd. Felly y daw dy dlodi megis ymdeithydd," yn ddisymwth ac annisgwyliadwy; "a'th angen fel gwr arfog,"—yn anwrthwynebol. Nid gwaith hawdd i'r gwr heb arfau droi y gwr arfog yn ei ol,—" ond enaid y diog a ddeisyf ac ni chaiff ddim." Yr oedd Solomon wedi sylwi yn graff ar faes y dyn diog a gwinllan yr anghall, ond ni welodd yno ddefnydd ymborth o gwbl,—" Wele, codasai drain ar hyd—ddo oll, danadl a guddiasai ei wyneb ef, a'i fagwyr gerig a syrthiasai i lawr." Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad.

Mae bod yn ddiddarbod, neu yn afradus, yn arwain i'r un canlyniadau. Brawd i'r treulgar yw y diog. Mae rhoddi at y peth afreidiol hyn, a'r peth afreidiol arall, er diwallu blys y genau, neu falchder y bywyd, yn debyg o arwain yn y diwedd i dlodi, newyn, a dinystr anocheladwy. Meddyliwn beth pe byddai miloedd yn esgeuluso eu dyledswyddau yn yr haf a'r cynhauaf, beth a ddaethai o'r wlad? Mae pawb yn gwybod. Mae pwys mawr, hefyd, mewn darbodi ar gyfer henaint a methiant, heblaw ar gyfer cystudd ac angau. Carai llawer mewn cyfyngder dderbyn cymorth oddiwrth ryw gymdeithas fel hon, ond heb wneyd ymdrech i gasglu mewn cryfder, iechyd, a llwyddiant.

III. YR ALWAD DDIFRIFOL SYDD YMA I BEIDIO ESGEULUSO YR ADEG FANTEISIOL AR GYFER Y DYFODOL.— Edrych, Pa hyd? Bydd ddoeth." Mae hyn yn bwysig iawn mewn ystyr naturiol; ond y mae yr ystyr hwnw, i raddau, yn afreidiol ei gymeryd mewn lle fel hwn, gan mai pobl ystyriol o hyny ydych gan mwyaf oll. Mae ymuno â chymdeithas fel hon, a dal ati, yn profi hyny i raddau pell, trwy eich bod yn parotoi ar gyfer damweiniau, cystuddiau, henaint, a phrofedigaethau eraill. A buasai yn fwy buddiol, o bosibl, eich anerch heddyw ar ryw eiriau tebyg i'r rhai hyny, “Na thrysorwch i chwi drysorau ar y ddaear;" oblegid pe cyferchid neb o honoch yn bersonol fel dyn diog, diau y teimlech yn ddwys. Ond, gyfeillion, goddefwch i mi ddweyd, mae yma ddegau, os nad ugeiniau o honoch, sydd yn dal cymeriad y testyn gerbron Duw. Er profi hyn, meddyliwch am y dyn y cnydiodd ei feusydd mor dda, nes y gorfu arno adeiladu ysguboriau mwy. Yr oedd hwnw yn ddyn digon call yn trin y byd, ac yn deall pa fodd i barotoi ar ei gyfer, ac i wneyd hyny mewn pryd. Ond "ynfyd" y galwai Duw ef, am ei fod yn ddiofal am ei enaid. Mae y rhai a esgeulusant ddydd iachawdwriaeth, i barotoi ar gyfer tragwyddoldeb, yr un mor ynfyd a hwnw yn ngolwg Duw. Ac nid gormod hyfdra fyddai dweyd wrth bob un yn bersonol, "Cerdda at y morgrugyn, tydi ddiogyn; ac edrych ar ei ffyrdd ef, a bydd ddoeth."

Rhyw oes ryfeddol yw yr oes hon am ddarparu ar gyfer amgylchiadau blinion a cholledus yn y bywyd hwn. Mae dynion yn insurio eu tai, eu meddianau, a'u bywydau, er sicrhau rhyw eiddo ar ol eu colli. Yr ydym yn ystyriol o'r hyn all ddigwydd i ni, ac felly yn sicrhau gallu cymdeithas o'n plaid, tra y mae iechyd a llwyddiant yn gwenu. Mae yn beth pur ryfedd fod dynion mor ofalus i ddarparu ar gyfer mân amgylchiadau y byd hwn, i roddi pob peth yn barod yr haf ar gyfer y gauaf, ac eto, yr un dynion mor ddiofal i barotoi ar gyfer tragwyddoldeb. Gall y bydd angau yn eu hamddifadu rhag mwynhau llawer o'u rhagddarpariadau tymhorol, fel y gellir dweyd mai i ychydig y mae ymarfer corfforol yn fuddiol; ond eto, gwnant eu goreu gyda'r rhai hyn. Ond rhyfedd mor ddifater ydynt i "drysori sail dda erbyn yr amser sydd ar ddyfod," a "thrysori trysor yn y nef." Mae llawer yma heddyw, mewn ystyr foesol, yn caru cysgu, ac yn caru hepian," a'r haf a'r cynhauaf yn myned heibio heb ddarparu ar gyfer byd arall. Yr ydych yn meddwl am grefydd, ond rhaid aros tipyn bach, mae rhyw rwystrau yn awr ar y ffordd, gan fod "ffordd y diog fel cae drain," yn llawn o rwystrau. Mae pob dyledswydd yn anhawdd ei chyflawni, mae "llew mawr ar y ffordd " ymhob man; ond esgusodion creadur ofer yw y cwbl.

Gochelwch, gyfeillion, gellwair â pheth o gymaint pwys. Mae canlyniad i'r "ychydig gysgu ac ychydig hepian." Mae swn traed tlodi ac angen yn canlyn o hirbell i'r segurdod. Bobl, peth ofnadwy yw cysgu mewn cyflwr drwg; bu yn ddigon trafferthus ar y morwynion call pan ddaeth y priodfab ar haner nos, er bod yr olew ganddynt ; ond bu o annrhaethol golled i'r rhai ffol, gan eu bød heb ddarparu olew i'r daith. O! gyfeillion, pwy a wyr pa nifer o honom ni a wyneba y daith hirfaith ddidroi yn ol, cyn y gwelir y Gymdeithas Gyfeillgar hon byth mwy yn ymgynull fel heddyw. A ydych yn meddwl fod darpariaeth i'r daith? Os awn i gystudd cyn hyny, yr ydym wedi darparu rhyw gymaint rhag dioddef eisiau; ond a oes genym ddarpariaeth ar gyfer tragwyddoldeb? Mae yn dyfod i fy nghof am un Jonathan Barker, yr hwn oedd yn ddyn poenus o'i febyd am bryder a gofal am y dyfodol, fel na allai siarad yn obeithiol am ddim. Felly yr oedd ei gymeriad yn ngolwg pawb a'i hadwaenai wedi iddo dyfu i oedran gwr. Pan y byddai yn planu ac yn hau, byddai yn darogan gwres i ddistrywio y blodau a'r egin. Pan yn medi, byddai yn darogan cawodydd yn barhaus, a dinystr y cnwd. Yr oedd y nefoedd yn bendithio ei lafur bob blwyddyn â chynyrch, nes o'r diwedd iddo orfod adeiladu ysguboriau, nad oedd eu cyffelyb mewn maint yn yr holl wlad. Ond dywedai ei fod yn marw heb ddim ond tlodi o'i flaen. Cafodd o'r diwedd sail i'w bryder am y dyfodol.

Ewch ati i barotoi i fyned i'r nefoedd. Mae llawer wedi myned trwy yr holl rwystrau, heibio y llewod a'r cwbl, a hyny gyda hyfrydwch. Ewch chwithau yr un fath, ond penderfynu ymdrechu yn nerth gras.

HANES CREFYDD YN NGHWMYSTWYTH.

SAIF yr ardal hon bron yn nherfyn dwyreiniol Sir Aberteifi. Mae Pentre Briwnant, canolbwynt yr ardal, 15 milldir ar y dwyrain o Aberystwyth, 15 i'r gogledd-ddwyrain o Tregaron, 15 i'r deorllewin o Lanidloes, a 15 i'r gogledd-orllewin o Rhaiadr. Ac oblegid ei bod mor ganolog, syniad yr ysgrifenydd yn moreu ei oes oedd, mai Cwmystwyth a Pentre Briwnant oedd canolbwynt y belen ddaearol. Mae yr ardal, er fod llawer o bethau dyddorol yn perthyn iddi, yn bur debyg i'r Lais hono y sonir am dani yn Llyfr y Barnwyr, yn cael ei thori allan o fanteision cymundeb âg ardaloedd eraill, oblegid ei sefyllfa ddaearyddol. Ar y gorllewin cauir hi allan o ardaloedd y sir gan goedwigoedd eang ystad yr Hafoduchryd, ar ein dyfodiad allan o ba rai y mae yr ardal yn ymagor o'n blaen ar ffurf padell, am ryw filldir a haner, ac yn cael ei hamgylchu gan fynyddoedd; yna crynhoa yn gwm cul, a'r afon Ystwyth yn rhedeg drwyddo, a'r brif-ffordd ar hyd yr hon gynt y rhedai y Mail Coach o Aberystwyth i Henffordd, hyd nes myned ryw bum' milldir ymlaen, lle y mae terfyn y sir. Tua milldir a haner o'r Pentre y mae un o hen weithiau mwn plwm, a ystyrir yr hynaf yn y sir, os nid yn Nghymru; gweithir ef, meddant, er's yn agos i 2000 o flynyddoedd. Mae y Graig Fawr, a elwid gan y Saeson Gibraltar Rock, wedi ildio rhyw doraeth o'r mwn o oes i oes, ac yn parhau i roddi. Ni buasai yn yr ardal hon ond ychydig o luestai bugeiliaid, a rhyw haner dwsin o ffermydd oni bai am yr alwedigaeth fwnawl.

Ni buasai yr uchod yn werth y papyr a'r inc i'w ysgrifenu oni bai fod rhywbeth gwell i'w ddweyd am yr ardal. Wrth ystyried anwybodaeth y dyddiau gynt, a bod tynu mawr i'r ardal oblegid y gwaith, rhaid ei bod yn ardal hynod am ei llygredigaeth, ei meddwdod, a'i champau annuwiol o bob math. Profir hyn trwy fod gweddillion y rhai hyny wedi bwrw yn rymus ymlaen wedi i oleuni y Diwygiad Methodistaidd dywynu ar y lle, a thrwy ymdrech mawr o eiddo y tadau crefyddol y gyrwyd yr adar nosawl hyny yw llochesau.

Dygwyd pregethu i'r ardal hon drwy offerynoliaeth rhyw wragedd da a arferent fyned i wrando y diwygwyr i Bengwernydd, lle gerllaw gwaith Frongoch, lle yr oedd un Mr. Edward Jones yn byw. Pregethwyd yn gyntaf yn Nghefnyresgair, ffermdy rhwng Cwmystwyth a'r Eglwys Newydd, lle y magwyd yr offeiriad duwiol, y Parch. Thomas Jones, Creaton, yr hwn fu yn llafurio llawer gyda Mr. Charles y Bala, i ffurfio y Feibl Gymdeithas. Yr oedd gwasanaeth crefyddol yn yr Eglwys Newydd, gerllaw yr Hafod, er y flwyddyn 1620, pan godwyd yr eglwys, a bu ynddi rai offeiriaid da yn gwasanaethu. Nid oedd yr achos Methodistaidd yn sefydlog, ond yn myned o dy i dy. Cafodd nodded yn hir gan un Mr. R. Jenkins, Ty'nddol, lle bychan rhwng y Cwm a Blaenycwm, a chan Mr. David Jenkins, ei frawd, yn Gilfachyrhew, yr ochr arall i'r afon Ystwyth. Cedwid y seiat yn Ty'nddol, a phregethid yno yn aml. Bu yma beth erlid ar y cynghorwyr a'r crefyddwyr, ac oblegid hyny, pan fyddai cynghorwr yn dyfod i Ty'nddol, byddai un o'r teulu yn taenu rhyw ddilledyn o liw neillduol ar lwyn neillduol, er rhoddi ar ddeall i'r caredigion fod yno odfa i fod. Yr oedd y lle yn ngolwg y gwaith, a chan fod yr arwydd yn wybyddus i'r cyfeillion, elent i'r odfa pan yn gadael y gwaith. Ond er fod yma gynal moddion am 50 mlynedd, dywedir nad oedd yn niwedd byny ond o 10 i 16 o aelodau; er hyny cadwodd y llin i fygu nes yr aeth yn fflam, a'r gorsen fach i dyfu nes myned yn gedrwydden gref. Rywbryd tua diwedd y ganrif o'r blaen, cymerwyd lle a elwid yr Efailfach, yn mhentref Briwnant, at gael pregethu cyson ynddo, a dechreuwyd cadw Ysgol Sabbothol ynddo tua'r flwyddyn 1802. Cafwyd odfaon bythgofiadwy yn y lle bychan hwn gan yr hen Ishmael Jones ac eraill. Yr oedd yr hen bregethwr poethlyd hwnw yn adrodd am un odfa hynod pan ddechreuodd un Wil Herbert bach y cyfarfod, ac y tynodd y nefoedd yn gawodydd i lawr.

Mae yn debyg i'r eglwys fechan gael adnewyddiad nerth tua'r flwyddyn 1804, trwy ychwanegiad o amryw benau teuluoedd ieuainc ati, nes iddi fyned i ddweyd, "Cyfyng yw y lle hwn i mi." Y pryd hwnw hefyd y gwnaed y ffordd goach at balas yr Hafod. Codwyd[2] y capel cyntaf yn 1805, yn 30t. wrth 19t., a thŷ capel yr un lled âg ef, ond bychan ei hyd, wrth ei dalcen. Towyd yr adeiladau â llechau. Yr oedd ffenestri i'r capel yn yr ochr, y tucefn i'r pulpud, ac un arall yn y talcen deheuol. Yr oedd iddo ddau o ddrysau, a dwy eisteddle, y rhai a elwid y "côr bach" a'r "côr mawr." Llawr o bridd, a meinciau, rhai a chefn ac eraill hebddo. Yr offerynau oeddynt yn blaenori y pryd hwnw oeddynt, Mr. Abraham Oliver, Ty'nglog, taid y Parchn. David Oliver, Twrgwyn, a'r diweddar Abraham Oliver, Llanddewibrefi, a Mr. Abraham Oliver, y blaenor presenol; Mr. William Herbert, Ty'nffordd; a Mr. Thomas Rees, Bwlchgwallter, a gwyr a gwragedd da eraill oeddynt yn seconds iddynt. Nid oedd yr eglwys eto ond rhyw 30 mewn nifer, er hyny nerthwyd hwy o wendid i gynal yr achos, er fod yno lawer o bregethwyr teithiol yn dyfod heibio, a'r gwaith mwn yn dlawd arno yn fynych. Ond yn y flwyddyn 1820, daeth saith i ymofyn am le yn yr eglwys, o ba rai yr oedd tri yn feibion i'r Abraham Oliver uchod. A gelwir y diwygiad hwnw "Diwygiad y Saith." Rywbryd yn y cyfnod yma y dewiswyd blaenoriaid rheolaidd gyntaf, y rhai oeddynt, Mri. Isaac James, o'r Diluw, rhwng y Cwm a Rhaiadr, a John Jones, Botcoll, ffermdy yn agos i Mynach. Yr oedd i bob un ei hynodion. Yr oedd gan y cyntaf bum' milldir o ffordd fynyddig i ddyfod i'r capel, eto byddai yno yn brydlon a chyson yn yr holl gyfarfodydd. Yr oedd yn rhaid myned i'r Cyfarfod Misol y pryd hwnw bob mis, er cael cyhoeddiadau pregethwyr am y mis arall; ac er nad oedd ef ond mwnwr tlawd, elai iddynt yn gyson, a hyny mor bell a Thwrgwyn, Penmorfa, a Cheinewydd, ryw 40 milldir o ffordd, a mwy, 80 rhwng myned a dyfod. Ond byddai ei gydweithwyr yn rhoddi ei gyfran iddo yn llawn fel hwythau, o barch i grefydd. Yr oedd J. Jones, hefyd, yn nodedig am fwyneidd-dra ei dymer a'i dduwioldeb amlwg. Bu farw yn ieuanc o'r cancer.

Gwnaeth y Bedyddwyr ymdrech i godi achos yma tua dechreu y ganrif hon, a bu eu henwogion yma yn pregethu ; ond ni ddarfu iddynt fedyddio ond un, Richard Barkley, a gelwir y pwll lle y bedyddiwyd ef hyd heddyw," Pwll Dic Barkley." Tua'r flwyddyn 1843, gwnaeth y Wesleyaid brawf ar y gymydogaeth, gan gael gweinidogion o Ystumtuen, Pontrhydygroes, a Llangurig i gynal cyfarfodydd. Aethant mor bell a thori lle i gapel yn Blaenycwm, mewn man lle codwyd tai anedd wedi hyny, a elwir Nantwatkin. Enillasant o 8 i 10 o aelodau : ond wedi gweled eu bod yn myned i gynal achos, cilio wnaeth y bobl. Felly, lle anffafriol i gynydd pob enwad yw yr ardal hon ond y Methodistiaid, ac y mae ein cyfrifoldeb ni yn fawr oblegid hyny am ei thrigolion.

Wedi codi y capel cyntaf, yr oedd ansawdd caniadaeth y cysegr yn wael iawn. Yr hwn oedd yn arwain gan amlaf oedd un Lewis Thomas, o'r Garallt; ond gan ei fod yn glochydd yn yr Eglwys Newydd, yr oedd yn gorfod ymadael yn fynych cyn y canu ar y diwedd d; ac anffodus fyddai tynged llawer hen benill melus o'r herwydd. Ond y mae angen yn creu darpariaeth. Wedi dioddef llawer, galwyd un Mr. Thomas Edwards, Erwtome, o ardal Aberffrwd, yma i ddysgu yr oes ieuanc i ganu a deall notes, fel y dywedent. Bu yma am un gauaf. Ymhlith y rhai a gyrchent i'r ysgol ar y pryd, yr oedd un nodedig, sef Mr. Thomas Oliver, mab Mr. John Oliver, y blaenor. Yr oedd ef yn meddu ar un o'r lleisiau mwyaf swynol a ddisgynodd ar ein clustiau erioed. Ymgymerodd ef a dysgu elfenau cerddoriaeth, a daeth yn arweinydd galluog. Cafodd Mr. John Howells, tad Mr. William Howells, yr arweinydd presenol, ei fedyddio â'r un ysbryd. Arweiniai T. Oliver y tenor a'r treble, a J. Howells y bass, fel eu gelwid y pryd hwnw. Codwyd dwy oes o gantorion trwy lafur T. Oliver, yn feibion ac yn ferched, nad oedd eu cyffelyb yn yr amgylchoedd yn y dyddiau hyny. Dywedir fod ei gôr yn nechreuad y gwyliau dirwestol yn destyn sylw a son i'r holl wlad. Ymfudodd i America yn 1846, ac yr oedd ei ymadawiad yn golled fawr.

Dychwelwn, bellach, i roddi hanes adfywiad crefyddol a gymerodd le yn 1825 a 1826. Yr oedd y praidd bychan oedd yma mewn teimlad yr adeg yma am gael genedigion yn Seion. A chymerodd dwy ffaith bur hynod le, y rhai oedd yn rhagflaenu, neu yn ddechreuad y diwygiad hwnw. Y gyntaf ydyw yr hyn a gymerodd le mewn cysylltiad â merch ieuanc, o'r enw Mary Morris, merch i Daniel a Sarah Morris, Galmast, fferm rhwng Pontarfynach a'r Cwm. Dywedir fod ei thad yn berthynas i'r Parch. James Hughes, Llundain. Yr oedd y ferch ieuanc yn ddiarhebol am ei hanystyriaeth a'i balchder. Ond bu digwyddiad hynod yn foddion tröedigaeth iddi. Pan oedd yn myned i Aberystwyth, ar gefn merlen a arferai fod yn ddiareb am ei harafwch a'i diogi, i brynu gwisgoedd ar gyfer rhyw briodas rwysgfawr oedd i fod yn y gymydogaeth, gwelodd y gaseg rywbeth ar le uchel ac eglur a wnaeth iddi dasgu a rhedeg yn ol tua'i chartref, gan adael y ferch ar ol ar ganol y ffordd. Wedi gweled y ferlen heb y farchoges, rhedwyd i chwilio am dani, a chafwyd hi mewn llewyg yn y fan lle cwympodd. Wedi ei dwyn adref, ac iddi ddyfod ati ei hun, gwelwyd fod achos ei chyflwr yn gwasgu arni yn drwm. Galwyd am frodyr i gadw cyfarfod gweddi gyda hi; ac wedi cael ymddiddan ychydig â hi ar ol y cyfarfod, dywedodd yn benderfynol, "Frodyr anwyl, waeth beth a ddywedo neb am yr hyn a welais, y Gwr ei hun a welais i." Beth bynag oedd hanfod y weledigaeth, bu yn fendith iddi hi am ei hoes; ac wedi ei hadferu, dangosodd hyny trwy gyflwyno ei hun i bobl yr Arglwydd, a phrofodd am y gweddill o'i gyrfa ei bod yn greadur newydd. Daeth amryw eraill at grefydd yn y misoedd. dyfodol.

Y ffaith arall a fu fel yn ddechreuad i'r diwygiad oedd yr hyn a gymerodd le mewn cyfarfod gweddi ar foreu Sabbath. Yr oedd y cynhyrfiad oedd yn y Cwm yn peri fod cryn gyrchu yma o ardaloedd eraill i'w weled. Yn eu plith yr oedd Shôn, Cwmffrwd, taid y pregethwr nodedig hwnw, Mr. John Jones, Ysbyty, yr hwn a fu farw yn bur ieuanc, yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Yr oedd. arogl esmwyth yn yr holl gyfarfod gweddi hwnw ; ond wedi i'r gynulleidfa ymwahanu, arosodd rhai ar ol. Ymhlith y rhai hyn, yr oedd yno wraig o gymeriad disglaer iawn mewn crefydd, wedi yfed yn lled helaeth o'r "gwin sydd yn gwneyd i wefusau y rhai fyddai yn cysgu lefaru," ac yn dechreu canu y penill hwnw, Gras, gras, eginyn byw eginyn bras," &c. Yna ymlaen at y penill, "Daeth. trwy, ein Iesu glan a'i farwol glwy," &c. Yr oedd y mawl yn chwyddo bob llinell. Pan yn canu, "Beth am yr awr cawn fyn'd i'r môr," gwaeddodd Shôn Cwmffrwd allan, "Wel, dos i'r môr ynte, Pally Fach." Gyda hyny dechreuodd ef ac amryw eraill orfoleddu. Wedi clywed y swn, daeth llawer o'r rhai a aethant allan yn ol, a dyna olygfa ogoneddus a gawsant, gweled teulu Seion yn gwledda ar ryfeddodau cariad a gras yr Iesu. Yr oedd hyn yn ngwanwyn 1826. Cynyddodd y teimladau crefyddol yn fawr, fel yr oedd dynion yn dyfod i'r cyfarfodydd wedi eu trallodi am eu cyflwr, a'r meibion a'r merched bychain yn dechreu proffwydo. Mewn cyfarfod gweddi arall ar foreu Sabbath, torodd cynwys mawr y cwmwl. Yr oedd yno rai o'r hen famau, a rhai o'r plant ieuainc wedi tori allan i orfoleddu yn ystod y cyfarfod. Ond wedi i lawer fyned allan, clywyd rhyw waedd aruthro!, o eiddo gwrywiaid cryfion, fel y dychwelodd pawb yn ol i'r capel. Ymhlith y rhai oedd yn gwaeddi, yr oedd gwr ieuanc corffol, o'r enw Joseph Hughes, yr hwn oedd wedi tynu sylw llawer yn y cyfarfod, gan ei fod wedi myned can ddued bron a'r glo wrth atal ei deimladau. O'r diwedd, gwaeddodd gyda nerth rhyfedd, "Fy mywyd i mi,” a dyna y floedd a glywodd y rhai oedd wedi myned allan, a rhai wedi myned chwarter milldir o ffordd. Sonir am yr odfa byth fel yr odfa y gwaeddodd Jo ynddi. Ymunodd rhai ugeiniau â'r eglwys ar ol hyn. Cafwyd odfa ryfedd hefyd pan oedd y Parch. John Williams, Lledrod, mewn hwyl nefolaidd, yn holi plant ieuainc wrth eu derbyn i gymundeb. Holodd hwy yn galed, a dywedodd dan wylo, "Wel, wel, mae y plant yma wedi fy nhrechu yn deg." Gwrthgiliodd llawer ar ol hyn, ond, trwy drugaredd, darfu iddynt ddychwelyd bob yn un ac un, fel mai ychydig o honynt a fu farw ar dir gwrthgiliad.

Cafodd yr eglwys adgyfnerthiad rhyfeddol yn y diwygiad a nodwyd, yn neillduol yn ei chysylltiad â'r Ysgol Sabbothol. Rywbryd yn yr adeg yma, trwy anogaeth y Parch. Ebenezer Richard, Tregaron, dechreuwyd cynal cyfarfod neillduol, er rhoddi mantais i athrawon ac eraill i roddi cynghorion cyffredinol i ddeiliaid yr ysgol. Mae y cyfarfod hwn yn cael ei gynal bob dau fis yn y lle hwn hyd heddyw, ac y mae wedi bod yn fendithiol iawn. Cofir yma yn dda am un o'r cyfarfodydd, yn yr hwn yr oedd Mr. Richard ei hun yn bresenol, ar nos Sabbath. Yr oedd yno ar y pryd ryw lanc tal, cryf, a gwisgi, tua 18 oed, wedi dyfod o gymydogaeth Ffair Rhos i wasanaethu i'r gymydogaeth hon. Yr oedd yn hynod am ei regfeydd, y rhai oedd yn dispedain trwy y gymydogaeth Sul, gwyl, a gwaith, fel y gwnaeth gynydd mawr ar lygredigaeth yr ardal-gellir dweyd i'r ychwanegiad at annuwioldeb fod yn 50 y cant. Ond rhyfedd yw dirgelwch ffyrdd yr Ior, tynodd rhai o'i gyfoedion ef i'r cyfarfod crybwylledig, yn yr hwn yr oedd y fath ddylanwad, nes oedd y bobl ieuainc yn wylo ac yn gwaeddi trwy yr holl le, ac yn eu plith y llanc hwnw. Yr oedd wedi ei hollol syfrdanu, fel yr aeth adref heb ei het. Ond er cymaint y clwyfau a gafodd, ni ddaeth at grefydd ar y pryd; ond daeth ymhen blynyddoedd ar ol hyny, a bu yn frawd defnyddiol, ac yn un o'r athrawon goreu yn yr Ysgol Sabbothol, hyd nes yr aeth i America, lle y gorphenodd ei yrfa.

Cynyddodd y gynulleidfa a'r Ysgol Sul yn rhyfedd ar y pryd, fel yr aeth y capel a'r ty capel yn rhy fychain yw cynwys. Cymerai ieuenctyd ddyddordeb mawr mewn dysgu y Beibl a'i adrodd yn gyhoeddus, a dysgu pynciau a'u hadrodd, a chafwyd cyfarfodydd hynod o lewyrchus gyda hyny yn fynych. Aeth y capel yn anghysurus o lawn, ac adeiladwyd un arall yn 1835, yn 13 llath wrth 10 a dwy droedfedd, ac yn cynwys tua 40 o eisteddleoedd. Traul yr adeiladaeth yn 240p., heblaw llafur a gwaith gwirfoddol y trigolion. Casglwyd 150p., erbyn yr agoriad, yr hyn a gymerodd le Mehefin 1836, pryd y pregethodd y Parch. Ebenezer Richards ddwywaith oddiar Exodus xxxiii. 16, a Salm xxvi. 8; David Jenkins, Llanilar, oddiar 1 Tim. iv. 9, a Dr. Edwards, Bala, ddwy waith oddiar 2 Chron. vi. 18, a Mat. xiv. 23. Yr oedd pryder mawr yn rhai o'r brodyr cyn dechreu adeiladu, a phan adawyd dyled o 80p., dywedent na welai neb mo'r capel wedi ei lenwi na thalu am dano; ond mae yr ysgrifenydd yn dyst fod rhai o'r cyfryw wedi ei weled yn fuan yn rhy gyfyng, a thalwyd y ddyled, gyda symiau llawer mwy, mewn 22 mlynedd.

Yn y flwyddyn 1836 hefyd y dewiswyd Mri. David Davies, Nantcwta, a Thomas Oliver, Tynfron, y canwr enwog, yn flaenoriaid. Yr un flwyddyn, hefyd, cynhaliwyd y Cyfarfod Misol hwnw yma, sydd yn hynod fyth fel yr un y dygwyd y Gymdeithas Ddirwestol iddo yn fater ymdriniaeth. Credai Mr. Richard, a rhai swyddogion eraill, yn naioni y symudiad, ac eraill a edrychent arno fel gwegi. Yr oedd traul fawr y pryd hwnw i ddarllaw diodydd ar gyfer y Cyfarfod Misol. Traddododd Mr. Richard bregeth ar ddirwest dranoeth, oddiar Act. xxiv. 25, ac un hynod o effeithiol ydoedd. Cyn diwedd y flwyddyn hon, daeth yr Hybarch Evan Evans, Aberffrwd, a Thomas Edwards, Penllwyn, yma i sefydlu y gymdeithas, pryd yr ardystiodd ugeiniau. Cododd llawer garden goch cymedroldeb, ond y rhan fwyaf garden wen llwyrymwrthodiad. Yr oedd sel y swyddogion yn gymaint fel yr enillwyd yr holl aelodau yn fuan yn ddirwestwyr, ac ni dderbynid neb yn aelod heb arwyddo yr ardystiad. Enillodd dirwest y maes yn y gymydogaeth. Yr oedd dau dafarndy yma o'r blaen, un yn Pentrebrunant a'r llall yn Tyllwyd. Ond pan ymadawodd y teulu oedd yn y cyntaf, ni chadwyd ynddo ddiod feddwol byth wedi hyny. Gwnaed ymgais i godi mân dafarnau yn yr ardal wedi hyny, ond yn hollol aflwyddianus. Gwelwyd yr ieuenctyd am beth amser yn tori yr ardystiad, ond yr oedd ymdrech y dirwestwyr yn gymaint, fel yr enillwyd hwynt yn ol yn fuan. Y pryd hwnw yr oedd Mr. Evans, Aberffrwd, yn llywyddu Cyfarfod Daufisol Dosbarth Cynon, a gosodai ar y cynrychiolwyr i gynal cyfarfodydd dirwestol yn eu cartrefi, fel yr enillwyd yr eglwys hon yn llwyr at hyny, trwy fod yma swyddogion loyal i'w dyledswyddau. Pa fodd bynag, gwelwyd amser ar ol hyny, pan gyhoeddid cyfarfod dirwestol, braidd y deuai neb o'r gwrth ddirwestwyr iddo. Yn ngwyneb hyn, penderfynodd y brodyr gynal cyfarfod ar nos Sabbath, a rhoddi yr athrawon i areithio, os na fyddai pregethwr. Felly y mae y terfyn a osododd y tadau yn cael ei gadw yma o hyd-sef cynal cyfarfodydd, a bod holl aelodau crefyddol yn ddirwestwyr; ac ni chafwyd ond rhyw dri neu bedwar o gwynion am yfed yn ystod y 50 mlynedd Jiweddaf. Nid oes yr un dafarn yn y gymydogaeth chwaith er's 40 mlynedd.

Wedi myned i'r capel newydd, araf fu cynydd yr eglwys yn y blynyddoedd cyntaf. Ond yn 1841, cafwyd diwygiad grymus. Yr hyn fu yn foddion i barotoi meddwl yr eglwys ato oedd haf sych, pryd yr oedd yr anifeiliaid yn methu gan syched, a'r gwaith wedi sefyll o ddiffyg dwfr, fel yr oedd pawb yn edrych yn bryderus ar y dyfodol. Ryw nos Sabbath, yn y ty capel, awgrymodd un o'r brodyr y priodoldeb o gynal cyfarfod ymostyngiad i ofyn am wlaw. Dywedodd un arall fod yn rheitiach cynal cyfarfod gweddi i ofyn am "dywalltiad o'r Ysbryd Glan i achub y bobl." Cymerwyd awgrym yr olaf i fyny, cynhaliwyd y cyfarfod y nos Lun canlynol. Cafwyd cyfarfod hyfryd, fel y penderfynwyd cael un o'r fath drachefn. Ac felly yn methu rhoddi fyny nes cael yr hyn y gofynid am dano. Nid oedd neb ond yr aelodau crefyddol yn y cyfarfodydd hyn. Treulid y rhan fwyaf o'r amser mewn mawl a gweddi, a rhyw 20 mynyd i gydymddiddan ar fater y cyfarfod; a byddai llawer oedd yn fudan yn y cyfarfodydd gynt, yn llefaru pethau rhyfedd yn y rhai hyn. Yn misoedd y gauaf canlynol, dechreuodd dychweledigion ddylifo i'r eglwys, nes bod yn 50 neu 60. Wedi yr ychwanegiad, nid oedd yn bosibl rhoddi y cyfarfod nos Lun i fyny, gan ei fod yn fanteisiol iawn yn awr i gael y dychweledigion i ymarfer â'r dyledswyddau. Cynhaliwyd ef ymlaen am 30 mlynedd, wedi meddwl sawl gwaith am ei roddi i fyny; ond wedi meddwl felly, ymddangosai y gogoniant ynddo, fel y rhoddid i fyny y cyfryw feddwl drachefn. Y rhai cyntaf a ddychwelwyd fel blaenffrwyth oedd dwy hen chwaer, o'r enw Pally Burrell, Penffynon, a Pally Howell, Tycoch, y ddwy oddeutu 80 oed, trwy weinidogaeth y tanllyd John Morgans, Drefnewydd. Wedi hyny daeth tri neu bedwar o benau teuluoedd o le a elwid Penybryn, fel y galwyd y diwygiad o'r herwydd "Diwygiad Penybryn," lle yr oedd rhes o dai diweddi, ond yn awr a ddaethant yn dai gweddi. Codwyd colofnau i'r achos yr adeg hon, ac eithriadau oedd y rhai a wrthgiliasant.

Cafwyd gauaf oer ar ol hyn. O'r flwyddyn 1842 hyd 1849 a 50, nid oedd nemawr neb yn ceisio Seion; ond lliaws o'r bobl ieuainc yn ymgaledu mewn drygioni, ac yn tori eu hardystiad dirwestol. Ond nid oedd yr eglwys yn llaesu dim yn ei gofal am y ddisgyblaeth; ac y mae yn rhaid dweyd ei bod yn eiddigeddu cymaint dros gyfiawnder a glendid, nes y byddai trugaredd weithiau yn cael ei chymylu. Os byddai un am ddyfod i'r eglwys, ymofynent yn fanwl a fyddai arwyddion edifeirwch ynddo; ac ni chawsai un ei dderbyn i gymundeb heb gael tystiolaeth ei fod yn cadw y ddyledswydd deuluaidd yn gyntaf. A diau genyf fod gwybod hyny wedi bod yn foddion i dramgwyddo llawer meddwl ieuanc, a pheri iddynt gadw draw. Heblaw hyny, ystyriai yr hen dadau fod rhanu y gwallt a chodi qupee, fel ei gel wid, yn arwydd o feddwl balch. Erbyn y flwyddyn 1849, wrth weled fod annuwioldeb wedi ym. byfhau, lliaws o benau tenluoedd diweddi yn yr ardal, a lliaws yn yr eglwys wedi myned i ymdrybaeddu yn y llaid, daeth teimlad dwys yn yr eglwys o'r herwydd, a daeth arwyddion fod Duw yn trugarhau wrth Seion unwaith eto. Un arwydd fod yr argyhoeddiadau yn dechreu oedd bod rhai yn dyfod yn ddistaw ac o'u bodd i ardystio yr ymrwymiad dirwestol; arwydd arall oedd eu bod yn anfon rhyw gymaint yn fisol at gynal y weinidogaeth; ac arwydd arall oedd fod llawer yn tori y qupee. Byddai llawer o siarad am rai yn awr eu bod yn sicr o ddyfod i'r seiat, am fod yr arwyddion yna i'w gweled arnynt, ac yn ddieithriad felly y byddai, rhai wedi darfod am danynt yn y tir pell oeddynt, ac eisiau ymwasgu at y disgyblion. Daeth llawer at grefydd yn 1850, oud tua chalanmai 1851, y bu y cynhyrfiad gryfaf. Daeth amryw o lanciau o 15 i 17 oed i'r eglwys, a dechreuasant dyru at eu gilydd ar awr hwyrol i gadw cyfarfodydd gweddiau. Aeth son am hyny allan, a daeth lliaws ynghyd at y capel i'w clywed. Wedi i'r cwrdd gweddi bach," fel ei gelwid, gael ei aflonyddu fel hyn, cymerai y bechgyn ofal na ymgasglent ynghyd nes i'r bobl fyned i'w gwelyau. Ond ryw noson disgynodd rhyw awel nerthol ar y rhai oedd oddifewn, nes y daeth lliaws i fewn atynt, gan gael eu synu yn fawr wrth weled y fath gymeriadau oedd wrth y gwaith.

Pa fodd bynag, parodd y cyhoeddusrwydd hwn i'r bobl ieuainc roddi fyny y cyfarfodydd am rai nosweithiau. Ond ymhen ychydig dechreuwyd hwynt eilwaith, a hyny ar awr fwy hwyrol. Ni bu eu hymgais ond ofer, gan fod y bobl yn loitran o gwmpas i'w gwylio; a phan ddygid y newydd eu bod wedi myned i'r capel, byddai yr ugeiniau, weithiau ganoedd, yn myned ar eu hol nes y byddai y lle yn orlawn. Yr oedd rhyw eneiniad rhyfedd ar y gweddïwyr ieuainc; a byddai y fath fwynhad mewn ambell gyfarfod, fel mai toriad gwawr y bore fyddai yr achos i'w roddi i fyny. Byddai y mwnwyr a adawent y gwaith am 10 y nos yn prysuro yno i gael rhan cyn yr ymadawent. Yr oedd graddau o ragfarn yn erbyn y bobl ieuaino, gan feddwl eu bod yn hyfion iawn, ac nid oeddwn i fy hun heb deimlo peth o'r fever, ond pan ddywedid "Tyred a gwel," cael ein hunain ymysg y proffwydi fyddai y canlyniad. Ni pharhaodd y gwynt nerthol ond am ychydig fisoedd; ond yr oedd y llef ddistaw fain wedi cyraedd llawer o galonau, fel y daethant yn ddau ac yn dri i'r eglwys ar ol hyn, fel y cafodd yr eglwys adgyfnerthiad mawr, trwy gael llawer o wragedd o brofiad gwir grefyddol, a brodyr lawer oeddynt dywysogion mewn gweddi. A da oedd hyn ar y pryd, gan fod bylchau lawer wedi eu gwneyd y blynyddoedd blaenorol, trwy ymadawiad llawer o deuluoedd i America, ac yn eu plith y blaenor a'r canwr Thomas Oliver. Ymadawodd llawer hefyd i weithfeydd y Deheudir. Bu feirw llawer o'r hen bobl dda, ac yn eu plith y ddau hen flaenor Isaac James a John Oliver. Yn y cyfamser hefyd, symudodd Mr. David Jones, yr hwn oedd flaenor yn Llanilar, i Llaneithir i fyw, a chymeradwyodd yr eglwys yma ei fod i barhau yn ei swydd. Yr oedd yma fintai dda o flaenoriaid eto, fel nad oedd raid pryderu am bregethwr i gadw seiat-byddai David Jones yn agor y cyfarfod yn fyr ac i bwrpas, yna yn galw am rai i ddweyd eu profiad. Yna codai David Davies i athrawiaethu yn fedrus, ac adrodd rhai o sylwadau yr hen Buritaniaid, a'r rhai hyny bob amser yn ffitio fel "afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig." Tueddai weithiau i fod yn rough wrth ambell un, ac weithiau yn gynhyrfus; ond pan fyddai felly, codai Mr. William Burrell i fyny, gan dywallt olew a gwin yn y briwiau. Ac os byddai Mr. Thomas Howells yn bresenol, aroglai larieidd-dra drwy yr holl le.

Tua dechreu y diwygiad, yn 1850, cymerodd amgylchiad le a deif oleuni ar ansawdd y byd a'r eglwys ar y pryd. Yr amser hwnw daeth rhyw nifer o lanciau o Fynwy a Morganwg drosodd yma, ac ni ddarfu i'w dyfodiad ychwanegu dim at foesoldeb y lle. Gwnaethant godi seindorf bres (brass band) o'r bechgyn gwaethaf yn yr ardal. Wedi dyfod yn fedrus, deallwyd eu bod wedi trefnu cynulliad lliosog mewn tafarndy o'r enw Tyllwyd; math o ball a dance oedd i fod, ac i fod ar nos hen Nadolig, sef Ionawr 6ed, 1851. Teimlai yr eglwys yn ddwys, gan yr ystyriai y byddai y cyfarfod yn effeithiol i gynydd llygredigaeth yr ardal, a gwneyd bwlch mawr yn rhengau y dirwestwyr. Yn y teimlad hwnw cynlluniodd yr eglwys hithau gyfarfodydd gweddiau i fod yr un noson, un yn y Cwm a'r llall yn Penybryn. Pan ddaeth y noswaith, gwelid nad oedd pryder y brodyr heb sail-heidiai y llanciau o 12 i 18 oed tua'r tafarndy yn gynar, a llawer hefyd o rai hynach. Cynullodd yr eglwys hithau i'r ddau le a nodwyd, ac nis gall y rhai oedd yno byth anghofio y nerth a deimlid gyda'r brodyr oedd yn cyfarch yr orsedd. Dadleuent gyda thaerni ac awdurdod am i Dduw atal rhwysg annuwioldeb oedd yn cymeryd lle yn y gymydogaeth. Dadleuent yn gryfach gan fod had yr eglwys yn brif golofnau yn y cyfarfod llygredig. Yr oedd rhyw nerth gorchfygol gyda gwaith brawd yn y Cwm ar ddiwedd y cyfarfod, yn gofyn am ataliad y rhwysg annuwiol, pan ddywedodd, "Ië, gosod, Arglwydd, ofn arnynt, fel y gwybyddont mai dynion ydynt." Mae yn rhyfedd i'r brawd oedd yn diweddu y cyfarfod yn Penybryn ddefnyddio yr un geiriau, gyda'r un dylanwad. Dyna ochr crefydd. Cymerodd ffeithiau rhyfedd le yn y cyfarfod llawen bron yr un pryd, os nad i'r fynyd. Pan oedd y seindorf yn barod i'w gwaith hwy, ac eraill yn barod at y dance, a'r ty yn orlawn, a llawer yn barod i wrando, dyna swn gwynt nerthol yn dyfod ar unwaith, ac yn taflu yr holl ddrysau yn agored. Yna daeth gwaedd fod merch hynaf y ty mewn llewyg (bu farw mewn dau fis wedi cystudd difrifol). Rhoddwyd terfyn mewn mynydyn ar yr oll o'r chwareu. Rhedodd y llanciau ieuaine allan mewn dychryn; ac er mawr syndod, yr oeddynt wedi cyraedd y Pentref, 3 milldir o bellder, erbyn bod y bobl yn dyfod allan o'r capel. Yr oedd hamdden yn y capel, a dychryn a brys yn y cwmni llawen. Clywais frawd credadwy yn dweyd, yn mlynyddoedd olaf ei oes, ei fod ef yn y cyfarfod llawen, a'i fod wedi gweled a chlywed pethau mor rhyfedd nes gwneyd i'w wallt sefyll ar ei ben, ac i'w chwys ddiferu yn gyflym i lawr.

Wedi yr adfywiad a nodwyd, barnodd yr eglwys mai buddiol fyddai ychwanegu at y blaenoriaid. Ebrill 8fed, 1853, daeth y Parch. Evan Evans, Aberffrwd, a Thomas Edwards, Penllwyn, yma i'r gorchwyl, a syrthiodd y goelbren ar Mri. John Howells, Galmast; John Davies, Cnwcbarcut, a minau. Ni oedd y bedwaredd set o flaenoriaid. Yr ydym wedi nodi y cyntaf a ddewiswyd yn rheolaidd. David Davies a Thomas Oliver oedd yr ail; a William Burrell a Thomas Howells, Tygwyn, oedd y drydedd. Y pryd hwn y daeth David Jones, Llaneithir, a bu yma nes y codwyd capel Mynach, pryd yr aeth yno. Y 5ed set oedd Mri. John Howells, Blaenmilwyn, a Morgan Morgans, Tynewydd, yr hwn sydd eto yn aros. Y 6ed oedd Mri. Lewis Oliver, Penygraig; John Thomas, Ysguborfach, a Charles Burrell, Pencnwch, y tri wedi marw. Yr oedd John Thomas yn dad i'r ddau bregethwr, y Parchn. John Thomas, Gosen, a Lewis Thomas, a fu farw yn ieuanc. Y 7fed yw, Mri. Abraham Oliver; Shop; William Howells, Cwmglas, a John Davies, Ty'r Capel.

Ond i ddychwelyd. Wedi cael y fath adfywiad, naturiol oedd disgwyl mai nid mwynhau a gwledda oedd i fod yn barhaus. Yr oedd yma waith i gael ei wneyd. Un peth oedd symud y ddyled oedd ar yr hen gapel, y llall oedd cael tŷ capel newydd teilwng o'r achos, a darparu i roddi cydnabyddiaeth well am y weinidogaeth. Gwnaed yr olaf, a bu yn fendith i'r eglwys, gan y byddai yr hen frawd David Jones yn llwyddo i gael goreuon y sir yma i bregethu. Mewn rhyw gyfarfod, wedi bod yn edrych dros amgylchiadau yr achos, rhoddwyd ar Mr. Lewis Oliver a minau fyned i dalu 2p. o log oedd ar y 40p. dyled oedd ar y capel, i Mr. Thomas Edwards, Lluestdedwydd. Ac wrth dori yr interest ar gefn y note, gwelwyd ein bod wedi talu 40p. o log ar y 40p. Wrth ddyfod adref, darfu i ni siarad am yr afresymoldeb o dalu arian mor afreidiol. Penderfynwyd cynhyrfu y gwersyll, ac wedi rhoddi yr achos gerbron, dywedai yr hen bobl, "Ni ddaeth yr amser eto," bod yr enillion yn fach, a'r angenrheidiau cyffredin yn ddrud. Dadleuai eraill mai wrth fod ar lwybr dyledswydd yr oedd llwyddo, a dygent hanes Israel i brofi hyny. Yn y diwedd, penderfynwyd gwneyd casgliad yn yr Ysgol Sabbothol unwaith bob mis, penodwyd rhai i fyned o amgylch yr ardal i 'mofyn addunedau, a dosbarthwyd hier mantais y casglwyr. Hyn a wnaed, a gwelwyd y byddai digon mewn llaw yn ddioed. Yn y cyfamser, aed o ddifrif i adeiladu tŷ capel, yr hwn yr oedd y 40p. yn fwgan rhag myned ato trwy y blynyddoedd. Y ffaith fu i amgylchiadau y gymydogaeth wellhau yn gyflym mewn enillion; a barned y darllenydd pa un ai damwain oedd hyn, ai ynte y Penllywodraethwr mawr oedd yn dangos ei fod yn un a'i air. Costiodd y tŷ capel 100p., ond trwy fyned ymlaen gyda'r casglu, cliriwyd yr oll erbyn Mawrth, 1854. Yr oedd y Parch. Robert Evans, Llanidloes, yma yn pregethu rywbryd yn Gorphenaf, pan oedd y casglwyr yn dyfod a'r cyfrif i fewn, a gwelwyd fod 20p. yn aros o ddyled. Diolchodd Mr. Evans i'r gynulleidfa am ei haelfrydedd, a dywedodd ei fod ef yn myned i ben isaf y sir, a bod ganddo un cais iddynt erbyn y daethai yn ei ol. Ni ddywedodd beth oedd nes cael addewid bendant y gwnaethent y cais. Yna dywedodd, "Dyma y cais, bod i chwi gasglu yr 20p. yna erbyn y deuaf yn fy ol yma, i ni gael yr achos fel y gadawodd Mab Duw ben Calfaria wedi dweyd Gorphenwyd 'Nawr dim heb dalu, rhoddwyd lawn, nes clirio llyfrau'r nef yn llawn.'" Addawyd y gwnaem ein goreu. "Wel, chwi lwyddwch," meddai yntau. A llwyddwyd i gasglu yr 20p., a 5p. dros ben, fel y teimlai pawb yn llawen.

Gyda hyn dechreuodd y cyfeillion crefyddol yn Blaenycwm fyned yn aflonydd eisiau cael ysgoldy, gan eu bod yn cadw Ysgol Sabbothol yno o dŷ i dŷ er's dros ugain mlynedd. Wrth siarad am ysgoldy aeth yn gapel, a rhaid oedd cael eglwys ynddo ar ei phen el hun. Adeiladwyd capel 9 llath wrth 7 o fewn i'r muriau, am y draul o 160p. Llwyddwyd i gasglu digon at hwn eto hyd at 20p., y rhai sydd yn aros hyd heddyw. Agorwyd ef Hydref 1, 1856, pan y pregethodd y Parchn. Edward Jones, Aberystwyth; Thomas Edwards, Penllwyn; Daniel Jones, Rhaiadr, a Lewis Davies, Llanwrtyd, y rhai sydd oll wedi meirw. Yr oedd gwedd lewyrchus ar yr achos yma pan gychwynodd. Dewiswyd pedwar yn flaenoriaid, sef Mri. Moses James, Esgairwen; Thomas Davies, Blaencwm; Benjamin Jonathan, Tymawr, a William Howells, yr Arddlas. Bu y tri olaf farw yn ystod yr un dwy flynedd, a Moses James heb fod yn faith ar eu hol. Collodd y fechan lawer o frodyr a chwiorydd eraill hefyd o fewn ychydig flynyddoedd i'w gilydd. Cafodd yr eglwys adfywiad grymus yn 1858 a 1859, pryd y cipiwyd rhai cymeriadau rhyfedd o'r gyneuedig dân. Wedi marw y brodyr uchod, dewiswyd Mr. Richard Howells, Cwmdu, yn flaenor. Ond byr fu ei ddyddiau yntau i wasanaethu ei swydd. Yna dewiswyd Mri. John Howells, Dolbwle, a John B. Morgans, Penybryn, yn flaenoriaid.

Nodaf yma un engraifft mewn cysylltiad â'r cynllun doeth o gadw mis, i ofalu am y pregethwyr. Y cynllun o'r dechreuad yw cymeryd cynifer o ewyllysgaryddion at hyny ag a geid, ac yr oedd y rhai hyny yn lliaws, a hyny dan amgylchiadau pur anffafriol yn fynych. Mewn ffermdy o'r enw Dolyrychcefnog, yr oedd un o'r enw John Jenkins, yn byw, sef taid y diweddar Barch. Joseph Jenkins, Ph.D., Llanfairmuallt. Adnabyddid ef a'i briod mewn siarad cyffredin dan yr enwau Jack Shencyn a Bety. Yr oedd y ddau yn grefyddol iawn, ac yn llawn teimlad caredig at yr achos. Darfu iddynt fagu amryw o blant, a hyny pan yn gyfyng arnynt yn aml. Ar y pryd yr oeddynt i gadw mis, nid oedd ganddynt unwaith ond un fuwch, ac yntau fel miner wedi bod yn anffodus er's talm o amser, fel nad oedd ganddynt ddim i brynu y pethau angenrheidiol at y mis. Yr oeddynt yn bryderus iawn, a methasant gysgu un noswaith drwy y nos wrth feddwl beth a wnaent. Ar ol codi boreu dranoeth, beth welsant ond yr unig fuwch oedd ganddynt wedi treiglo dros graig beryglus oedd yn ymyl, ac wedi trengú yn y fan. Aeth y gwr a'r croen i Lanidloes i'w werthu, a phrynodd ei werth o'r pethau angenrheidiol at gadw y mis. Agorodd ffawd drysorau y mynydd iddo, fel yr oedd ganddo, gyda chynal teulu a chadw mis, ddigon wedi enill i brynu tair neu bedair o wartheg blithion cyn pen tri mis. Ffaith arall mewn cysylltiad â'r un teulu yw y ganlynol:-Ryw dro, pan oedd Jack a Bety yn cadw mis, digwyddodd i gyhoeddiad Mr. Richards, Tregaron, fod yn y Cwm, pan oedd ar ei ffordd i Rhaiadr, lle y byddai arferol o fyned. Nid oedd modd na chyfleusdra i gael darpariaeth briodol iddo dranoeth i ginio. Yr oedd gofid bron llethu Bety. Ond rhyfedd yw cariad am ddyfeisio. Dywedodd wrth Thomas, tad y Parch. J. Jenkins, ei mab hynaf, yr hwn oedd yn arfer bod yn ffodus am bysgota, am iddo dreio dal ychydig bysgod, gan obeithio y byddent yn boddloni Mr. Richards. Aeth yn y fan at lyn y Fyrdden, lle yr arferai ddal. Ond y tro hwn nid oedd un pysgodyn yn gwneyd attempt at yr abwyd o gwbl. Gorfu arno ymadael heb ddal yr un. Wylodd yn hidl wrth feddwl am deimlad ei fam, ac yntau ei hun yn meddwl y llwyddai yn awr yn anad un amser, gan fod ganddo y fath amcan. Ond wedi dyfod ryw gan' llath oddiwrth y llyn, cododd hwyaden wyllt o'i flaen, a gollyngodd yntau y line bysgota yn ei hyd ar ei hol, a rywfodd aeth am wddf y creadur fel y daliodd hi, er ei fawr lawenydd. Darparwyd hi i giniaw, a dywedai Mr. Richards na chafodd erioed bryd mwy blasus.

Ond i ddychwelyd eto at agwedd ysbrydol yr achos ar ol diwygiad 1850-1851. Profwyd nad oedd yr had oll wedi cael tir da, canys gwrthgiliodd rhai o'r llanciau trwy gellwair âg arferion sydd yn cwympo cedyrn. Yr oedd yr eglwys hefyd wedi gwrthgilio, fel erbyn 1855, ychydig fyddai yn cyrchu i'r moddion wythnosol. Ond nid oedd y gelyn yn hepian, gan fod annuwioldeb ar gynydd dirfawr. Cofus gan yr ysgrifenydd ei fod yn myned adref o gyfarfod gweddi, yn yr hwn nid oedd ond ychydig ynghyd. Ymddiddanai Mri. John Morgans, Ty'nrhyd; John Davies, Cnwcybarcut; a minau, ynghylch iselder crefydd ac annuwioldeb y gymydogaeth, ac nad oedd a wnai y tro heb gael yr Ysbryd i weithio, fod Iesu Grist wedi dweyd "Os mi a af mi a'i hanfonaf ef atoch." "Os cydsynia dau o honoch am ddim oll efe a wneir i chwi." Yr oedd yr ymddiddan yn hyfryd, a braidd na ddywedwn fod yr hyn a deimlwyd ar y ffordd i Emmaus yn cael ei deimlo hefyd genym ninau. Methwyd ag ymadael yn hir, a chyn gwneyd hyny, aethom i gyfamod â'n gilydd i geisio yr Arglwydd o ddifrif. Pan gyfarfu y brodyr yr wythnos ganlynol, yr oedd arwyddion fod yr Arglwydd yn eu plith. Ar y pryd daeth Mr. Thomas Probert, a'r Parch. Ebenezer Williams, Sir Frycheiniog, heibio wrth ddyfod o Gymanfa y Gogledd. Cymerodd yr olaf Mal. iii. 16 yn destyn. Yr oedd eneiniad ar y bregeth. Ac wrth fyned ymlaen, disgrifiai yr ymddiddan oedd rhwng pobl Dduw wrth feddwl am ei enw, bron yn y geiriau a arferwyd genym ninau y dyddiau cyn hyny. Yn y diwedd, dywedodd y pregethwr, "Yr wyf yn methu rhoddi fyny, mae yma rywbeth i fod mhobol i.” Darfu i'r bregeth chwanegu yn fawr at ein hyder. Y Sabbath canlynol, pan fethodd rhyw bregethwr ddyfod at ei gyhoeddiad, yr oedd y capel wedi ei orlenwi, a galwyd ar y brawd John Davies, a enwyd o'r blaen, i ddechreu y cyfarfod. Darllenai y benod gan sychu ei ddagrau yn fynych; a phan yn gweddio, hawdd oedd deall ei fod, fel Jacob, yn dweyd, "Ni'th ollyngaf oni'm bendithi." Yr oedd eraill yr un deimlad âg ef, fel y teimlid mor hyderus am ddiwygiad a phe byddem wedi ei gael. Gwelwyd yn fuan fod yr ansawdd grefyddol wedi newid, a bod y lliaws digrefydd dan ddylanwad argyhoeddiad. Nid oedd yn arferiad y pryd hwnw i gyhoeddi cyfarfod eglwysig ar ol yr odfa, na rhoddi anerchiadau, er mwyn enill rhai digrefydd i aros ar ol. Nis gwn a oedd hyn yn fai yn y tadau anwyl. A phriodol crybwyll yn y fan yma, nad oeddynt yn rhyw daer iawn chwaith wrth anog had yr eglwys i ddyfod i gymundeb, heb arwyddion digonol fod trallod am eu pechod yn eu meddianu. Tueddent yn fwy at gael ymweliadau diwygiadol i wneyd y cwbl, a dwysbigo y bobl.

Ond tua Hydref y flwyddyn a nodwyd, sef 1855, yr oedd yr eglwys wedi deffroi, a llawer dan argyhoeddiadau dwysion yn ymofyn am le yn yr eglwys. Cofir am ryw odfa hynod y pryd hwnw, pan oedd y Parch. Robert Roberts, Llangeitho, yma ar foreu Sabbath yn pregethu ar y geiriau, "Yr wyt o fewn ychydig i̇'m henill i fod yn Gristion." Yr oedd y fath nerthoedd gyda'r weinidogaeth, nes yr oedd yr holl gynulleidfa wedi codi ar eu traed heb wybod iddynt eu hunain, a'r dagrau yn llifo dros lu o wynebau, eto heb dori allan i orfoleddu. Bu yr odfa hono yn fendithiol i lawer i'w nerthu i dori y ddadl, fel yr oeddynt yn dyfod i'r eglwys bob wythnos hyd ddiwedd y flwyddyn, a'r flwyddyn ganlynol hefyd. Blynyddoedd llewyrchus a chynyddol iawn o ran hyny fu yr holl flynyddoedd hyd ddiwedd 1857, fel yr oedd rhai yn dyfod i geisio crefydd o hyd, nes yr ychwanegwyd oddeutu 60 at yr eglwys. Araf a dwys oedd nodwedd argyhoeddiad y dychweledigion, fel y gallem gredu eu bod oll wedi bwrw y draul. Maent wedi glynu bron yn ddieithriad hyd heddyw, a rhai wedi gorphen eu gyrfa mewn ffydd. Mae eraill wedi eu gwasgaru i wahanol barthau o'r ddaear, ac yn golofnau fel blaenoriaid, rai o honynt.

Cymhwyso i waith y mae diwygiadau, ac felly y gwnaeth y diwygiad i'r eglwys hon. Yr oedd y gymydogaeth wedi ei gadael heb ysgol ddyddiol er's dros flwyddyn, ac heb un lle cyfleus i'w chynal, gan fod y gwr bonheddig oedd yn yr Hafod wedi nacau yr ysgoldy, lle y cynhelid yr ysgol er's 25 mlynedd. Gan nas gellid dygymod a'r syniad o fod heb ysgol, penderfynwyd codi yr hen gapel cyntaf yn ddigon uchel i roddi llofft arno at gynal yr ysgol; ac addawodd cwmpeini y gwaith y byddai iddynt roddi cynorthwy misol at gynal yr ysgolfeistr. Ymaflwyd yn y gwaith o ddifrif, a gorphenwyd yr adeilad gyda'r draul o 120p. Parhawyd i guro yn araf ar y ddyled hon eto, fel, erbyn 1870, nid oedd ond 10p. ar ol. Cadwyd ysgol yn y lle am tua 10 mlynedd.

Ond i adael yr amgylchiadol. Fe gofia y darllenydd fod y flwyddyn a nodasom, sef 1857, wedi ein dwyn i ymyl y diwygiad mawr cyffredinol, sef diwygiad y Parchn. Humphrey Jones a David Morgans, Ysbytty. Dechreuodd hwnw yn haf 1858, tua Treddol ac Ystumtuen, trwy weinidogaeth y blaenaf a nodwyd, yr hwn oedd weinidog Wesleyaidd.

[Hyd yma y mae Mr. Edwards wedi myned â'r hanes. Clywsom ef yn dweyd iddynt hwy yn y Cwm gael y diwygiad cyn Diwygiad mawr 1859, ac na chawsant hwy gymaint a llawer o eglwysi o'r olaf oblegid hyny. Codwyd y capel hardd sydd yno yn awr tua'r flwyddyn 1870. Mae yno hefyd dŷ capel a vestry room hynod o gyfleus at wasanaeth yr achos, heblaw y fynwent fawr sydd rhwng hyny a'r afon Ystwyth. Mae ar y rhai hyn ryw gymaint o ddyled, ond y mae sefyllfa yr achos yn ddymunol iawn. ]

DOLGELLAU:

Argraffwyd gan E. W. Evans, Smithfield Lane.

Nodiadau[golygu]

  1. Cymdeithas Gyfeillgar oedd yn y gymydogaeth, i'r hon y pregethai.
  2. Cyfrifir yr Efailfach yn gapel, ond na chodwyd ef i fod yn gapel, felly hwn oedd y ty cyntaf a godwyd i fod yn dy addoliad.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 

[[Categori:Llyfrau 1888]]