Dyddgwaith (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Dyddgwaith

gan Thomas Gwynn Jones

Rhagair
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Dyddgwaith

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Thomas Gwynn Jones
ar Wicipedia





DYDDGWAITH

DYDDGWAITH

GAN

T. GWYNN JONES



WRECSAM

HUGHES A'I FAB

1937



Gwnaed ac argraffwyd yng Nghymru



I'm Cymheiriaid

WILLIAM A MYFANWY EAMES

"Difficile est proprie communia dicere."

RHAGAIR

AM gynnwys y llyfryn hwn, a sgrifennwyd o egwyl i egwyl yn ystod o leiaf ugain mlynedd, nid yw onid cais syml i gofnodi rhai o'r pethau a ddug y dyddgwaith i'w ganlyn, ac a adawodd ar ei ôl.

Medi, 1937.

T.G.J.

CYNNWYS



I

BORE





AMSER A LLE



AMSER A LLE

OFER i ddyn nad yw'n "fod cyfrifol," chwedl Daniel Owen gynt, geisio deall damcaniaethau rhifofyddion ein cyfnod ni am amser a lle. Pe dywedent wrthym nad yw amser ond lle ac nad yw lle ond dim, ni byddai i ni ond ceisio edrych yn ddoeth a llefaru pa derm bynnag y dywedid wrthym ei fod yn cyfleu'r gwirionedd hwnnw. Cof gennyf am fwy nag un cydnabod a fyddai, flynyddoedd yn ôl, tua'r adeg y cyhoedd wyd rhyw lyfr neu'i gilydd, yn sôn fyth a hefyd am" y pedwerydd dimensiwn." Nid oedd gennyf un syniad am ystyr y term. Wrth eu holi o dro i dro, cefais nad oedd ganddynt hwythau chwaith. Eto, pery amser a lle, fel y byddwn ni'n meddwl amdanynt, yn bethau diddorol a phwysig ym. mân gynlluniau dynion cyffredin a llygod bach, fel y sylwodd Robert Burns.

Boed y gwir am y ddeubeth fel y bo, cof gennyf eu cydio â'i gilydd pryd nad oedd fy mhrofiad o'r naill a'r llall ond bychan iawn. Yr oeddwn eisoes wedi deall na allwn i (nid oeddwn mor sicr am fy mam) ddim bod mewn dau le ar unwaith, ac wedi dysgu cyfrif hyd bump neu chwech, o leiaf. Ym muarth y cartref yr oedd Un; Dau ychydig ymlaen ar y lôn o'r buarth i'r ffordd fawr; Tri a Phedwar fwy fyth ymlaen, a Phump wrth y llidiard, rhwng y ddwy goeden ywen. Wedi hynny cymerth pob rhif o chwech hyd ddeuddeg ei le gydag ochr y ffordd fawr, ac yr oedd Deuddeg ei hun wrth y groesffordd, ddau led cae oddi wrth y lôn o'r ffordd fawr i'r buarth. Yn ymyl y groesffordd, trôi'r tri ar ddeg tua'r cae ar y dde, ac ymlaen i'r cae hwnnw ar ychydig o sgiw y rhedai'r rhifau hyd ugain. Trôi'r un ar hugain i'r un cyfeiriad â'r ffordd fawr eto, ac ymlaen â'r rhifau wedyn gan agosáu at y ffordd yn raddol a'i chroesi yn rhywle rhwng yr wyth a'r deg ar hugain a dal ymlaen i'r chwith. Yr oedd y tri deg ei hun ar fin nant fechan ym mhen draw'r cae pellaf oedd yn perthyn i ni. O'r tri deg hyd dri deg a naw, rhedai'r rhifau i lawr o ymyl y nant hyd ei gwaelod. Yna dechreuai deugain ar fin y nant eto, ychydig pellach na'r tri deg, a rhedai'r rhifau hyd naw a deugain i waelod y nant fel y lleill. Felly bob deg oddi yno hyd naw deg a naw. Yr oedd hwnnw ar waelod y nant wrth y terfyn rhwng y cae a'r coed oedd yno yn ymestyn i fyny, ni wyddwn i ba mor bell. Lle gwlyb tywyll oedd gan naw deg a naw, ar ymyl pwll bychan du, tan gysgod ysgawen a'i changhennau'n gwyro dros y dwfr du yn y pwll. Ar fin y nant eto, ond drosodd yn y coed, yr oedd y cant. Ac yna, yr anhysbys a'r di-gyfrif.

Yr un modd, yr oedd lle i bob llythyren o'r egwyddor, o'r A hyd yr Y, ond i'r cyfeiriad arall yr âi honno, i lawr gyda'r afon, yr A yn y buarth isaf a'r Y ar lan yr afon, lle'r oedd afon arall yn rhedeg iddi, a choed lawer yn tyfu. Nid oes, efallai, ryw gysylltiad pendant rhwng y pethau hyn ag amser, ond yr un llwybr a gymerth y meddwl ieuanc pan ddysgodd ryw faint am fis a blwyddyn. Rhwng y buarth a'r coed a dyfai o boptu i un o'r ddwy afon y soniwyd amdanynt, yr oedd cae agored a thipyn o lethr ynddo a'i ddisgyniad i lawr at yr afon ar y chwith ac ymlaen tua'r coed. O ben y llethr i lawr at y coed, yr oedd hen glawdd cnapiog. Gyda sawdl y clawdd hwnnw, tyfai briallu yn y gwanwyn, ac yr oedd yno afallen wyllt a choed cyll. Ar hyd gyda'r clawdd hwnnw yr oedd misoedd y flwyddyn, Ionawr yn y pen nesaf i'r buarth, Ebrill yn y lle y byddai'r briallu, Mai lle'r oedd yr afallen, Awst lle'r oedd y cyll, a Rhagfyr lle'r oedd y coed yn dechrau. A'r coed, fel tragwyddoldeb, lle'r oedd y blynyddoedd i gyd. yn darfod-y coed lle'r oedd llawer rhyfeddod a dirgelwch, lle y gallech golli'ch ffordd. Ond ystori arall yw'r ystori honno, a gasglodd bethau diweddarach iddi ei hun yng nghwrs y blynyddoedd.

Ymhen blynyddoedd lawer, pan ddigwyddodd i mi sôn am y peth, dywedodd fy nhad wrthyf y byddai ganddo yntau yn hogyn leoedd yma ac acw i'r adnodau a'r penillion a ddysgai. Ni byddai gennyf i le i adnodau na phenillion, ond cofiais y byddai gennyf le i'r Pader Lladin, a ddysgais flynyddoedd wedi'r cyfnod hwn, man ar ganol buarth y pedwerydd cartref, ei lle ei hun i bob brawddeg, a'r cwbl ar lun rhyw ffigur troeog.

O'm rhan fy hun, hyd heddiw, yn yr un lleoedd y mae pob rhif a llythyren a mis, ac yno yr ymgasgl popeth y gellir ei gyfrif gan ddyn cyffredin, pob sain y gellir ei seinio a phob mis y bo cof amdano o'r misoedd a fu. Yno y mae'r canrifoedd, yn ansicr o'r gyntaf hyd y chweched, yn gliriach oddi yno ymlaen, bob un wrth ei phriod rif—yr ŷm yn awr newydd droi o ganol y cae lle y mae'r ugain ac oddi yno yn cyrchu tuag at y ffordd ac i gyfeiriad y nant. Yr wyf innau eisoes wedi croesi'r nant o'i min i'w gwaelod am y trydydd tro. Draw, o hyd, y mae'r anhysbys, yn y coed . . .



CYSGU A DEFFRO



DYWEDODD cyfaill wrthyf unwaith na fynnai ef anfarwoldeb personol pe cawsai ei gynnig. Hyd y gallwn i ddeall, y peth oedd yn ei feddwl wrth sôn am "anfarwoldeb personol" oedd anfarwoldeb personoliaeth, a thybio'r oeddwn mai'r hyn y gellid synio amdano fel peth cyferbyn fyddai anfarwoldeb mater. Ni buasai gan fy nghyfaill, felly, ddim yn erbyn i ddeunydd ei gorff fod yn anfarwol. Y peth nad oedd arno awydd amdano oedd bod yn y deunydd hwnnw ryw elfen a fyddai'n ymwybod â'r anfarwoldeb. O'm rhan fy hun, ni allwn innau synio am anfarwoldeb heb yr elfen honno. Ni wn i ba le yr aethom cyn diwedd yr ymddiddan. Nid wyf yn meddwl bod gennym erbyn hynny syniad clir iawn am na mater na phersonoliaeth. Er hynny, parodd yr ymddiddan i mi gofio wedi hynny am syniad a fu gennyf yn hogyn bychan gynt. Rhwng chwech a saith oed oeddwn mi wn, canys yr wyf yn cofio'r fan a'r lle y daeth y syniad i'm meddwl, ac yr oeddwn yn y lle hwnnw ynglŷn â digwyddiad y gallaf ei amseru— marwolaeth perthynas.

Yr oeddis wedi fy nysgu y byddem fyw am byth yn y nefoedd. Ar y cyntaf yr oedd y syniad hwnnw yn un wrth fy modd. Yn enwedig gan fod cwlwm agos rhyngddo a'r sôn am y delyn aur a'r gwisgoedd gwynion. Ond yn araf deg, daeth newid dros fy meddwl. Clywais ganu emyn "Y Delyn Aur," ac nid llawen fyddwn wrth wrando arno. Oni bai mai gwendid oedd wylo yn ôl ffilosoffi'r teulu, buaswn yn gadael i ddagrau ddyfod i'm llygaid pan fyddid yn canu na ddôi byth ddiwedd ar sŵn y Delyn Aur.

Felly, ond odid, y dechreuais amau ai peth hyfryd i'w fawr ddymuno fyddai byw'n dragywydd. Oni flinem yn ofnadwy? O gam i gam euthum i led obeithio nad gwir mo'r gred y byddai raid i ni fyw am byth yn sŵn y Delyn Aur. Ni feiddiwn ddywedyd y pethau hyn wrth neb byw, dim ond holi ambell un am y byw'n dragywydd. Yn ôl pob ateb a gawn, nid oedd un amheuaeth ar y pen hwnnw. Ac yn y benbleth honno yr oeddwn pan ddaeth y syniad y soniais amdano i'm meddwl.

Diwrnod hyfryd o haf ydoedd hi, a phan euthum allan yn y bore, yn gynharach nag arfer, meddyliais na allai fod unpeth mor odidog â'r heulwen felen oedd yn tywynnu ar y coed yr ochr draw i'r afon a redai heibio'r buarth. Yr oedd y brain yno eisoes yn crawcian ac yn cychwyn ymaith ar eu taith am y dydd, ac ambell ysguthan gyflym a distaw yn codi o'r coed ar ei neges hithau. Yr oedd y llyn yn yr afon mor loyw, a'r briallu a dyfai ar ei dorlan mor annwyl. Daeth drosof ryw chwithdod wrth feddwl y byddai hi'n braf felly drwy'r dydd yno, a minnau wedi mynd ymaith, fel na byddai yno neb i wybod mor hyfryd oedd y lle hwnnw. A chyda hynny, dyma'r meddwl am y byw'n dragywydd, a'r drybini i'w ganlyn. Nid oedd fodd ei oddef ac ni wyddwn ba beth a wnawn. Ond yn sydyn, dyma'r syniad. Gallem fyw yn hir iawn, a blino. Yna, wedi'n blino, caem gysgu'n hir a deffro eilwaith. Gwelwn ryw fath o fynedfa hir (pasaij oedd y gair cyffredin a glywswn am y peth y pryd hwnnw), a drysau'n agor ohono ar bob llaw. Pan fyddai enaid wedi byw yn hir a blino yn arw iawn, dôi Duw ac agor un o'r drysau iddo. Ai yntau i mewn i ganol miloedd o eneidiau blinedig eraill a fyddai yno'n cysgu. Cysgai yntau am amseroedd maith. A phan fyddent wedi bwrw eu blinder, dôi Duw ac agor y drws iddynt. Doent allan, byddent wedi dadflino, a gallent fyw yn hir hir eilwaith. Ac felly o hyd, pan flinent, aent at Dduw a gofyn iddo a gaent gysgu. Agorai yntau'r drws iddynt. Aent i mewn. Cysgent. A phan ddeffroent o'r hun honno drachefn, agorai iddynt ddyfod allan wedyn. A byddent yn ddiolchgar i Dduw, ac yn hapus, ac felly gallent fyw'n dragywydd.

Pa fodd y daeth y syniad i'm pen, nis gwn i, onid mai cysgu y bydd hogyn bach wedi blino; a'r modd y cwsg, nis gŵyr efô. Na neb.

Bellach? Ni wn i ddim, ond pe caniateid i mi gysgu a deffro eilwaith, mi anturiwn.

Y BREUDDWYD EFFRO



Y MAE'N ddigon tebyg fod y breuddwyd effro, ymhlith plant a phobl ieuainc, ac efallai rai hŷn a freiniwyd â'r gynneddf a geidw ddôr y breuddwydfyd yn agored yn hwy na'r cyffredin, yn un o gyfryngau diymwybod datblygiad y meddwl. Yr wyf yn cofio un hen wraig fy meddwl i ar y pryd oedd ei bod yn hen iawn, beth bynnag-a fyddai'n edrych ar f'ôl pan oeddwn yn bur fychan, ac a fyddai, yn ôl fel yr ymddengys i mi bellach, yn breuddwydio'n effro pan fynnai. Pa faint o bethau yr oedd hi yn eu deall, ni wn i ddim, ond yr oedd hi yn deall plant. Efallai iddi hi adael arnaf innau ddylanwad na chofiais ddim amdano, heb sôn am ei ddeall, neu feddwl am geisio'i ddeall, am gyfnod sy'n edrych fel oesau ac nid fel rhyw res o Alynyddoedd a fydd, pan edrycher arnynt o gyfeiriad neu mewn meddylstad arall, yn debycach i ychydig ddyddiau.

I ddechrau, diau mai'n llwyr ddiarwybod i ni y daw'r breuddwyd dydd, fel y llall sy'n cerdded y nos, ac nid peth hawdd yw dyfod o hyd i brawf sicr pa mor gynnar y bydd plentyn yn gallu agor y ddôr pan fynno, hynny yw, yn medru cymryd arno drwy ymwybod ac o'i wir fodd. Dywedodd f'ŵyres fach wrthyf, pan oedd hi rhwng pedair a phump oed, y byddai hi weithiau'n cymryd arni fod pethau na byddant, a bûm yn ei gwylio cyn hynny heb yn wybod iddi, yn byw am yn agos i awr ar y cloc, gartref yng Nghymru, yng nghanol ieir a defaid a chŵn, yn galw wrth eu henwau ar bobl a chŵn nas gwelodd ers blwyddyn, a ninnau'n dau ar y pryd. mewn tŷ yn Llundain.

Gallaf gofio gwneuthur peth tebyg fy hun pan oeddwn rhwng pump a chwech, a chyfarfum â rhai o dro i dro a'i gwnâi yn fwy neu lai cyson. ar hyd eu hoes.

Un o'r atgofion cyntaf am freuddwydio felly o'm bodd yw hwn: Yr oedd fy nhad a minnau'n cerdded adref o ffair, ar hyd llwybr sy'n cyd-redeg. â godre craig am gryn bellter. Ffordd, draw ar y chwith. Ar y dde, craig yn ymgodi'n syth hyd gryn uchter-craig ag arni enw prydferth, "Craig y Forwyn." Y llwybr, rhwng y graig a'r ffordd, ar hyd llain o dir oedd gynt yn llawn eithin a rhedyn a chlychau'r bugail. Lle go anial, heb odid dŷ yn y golwg y pryd hwnnw. Efallai fod yno "bentref gardd" erbyn hyn, a phobl anghyweithas, yn siarad Saesneg mor annaturiol ag y medrant.

Fel y cerddem ar hyd y llwybr, gwelwn ddau ddyn a dau gi i'w canlyn, yn symud yn araf gyda godre'r graig, ryw led cae go lew oddi wrthym.

Yn sydyn yn fy meddwl i, dyma'r dynion a'r cŵn hynny yn mynd yn rhai a rhyw ryfeddod o'u cwmpas, rhai'n byw yn y lle anial hwnnw ers amseroedd maith, ac yn hela yno gyda'u cŵn o hyd. Ni allai pawb eu gweled. Tybed a welai fy nhad hwynt? Yr oeddwn ar ofyn iddo, ond peidiais. Hwyrach mai dywedyd a wnâi nad oedd yno neb, neu ynteu mai dynion cyffredin, yr un fath â rhywrai eraill oeddynt. Yr oedd yn well gennyf innau ddal i feddwl eu bod hwy yno erioed, yn byw yn y graig, ni wyddai neb ym mha le, ac yn hela gyda'u cŵn wrth odre 'r graig, bob dydd y byddai'r haul yn tywynnu a'r lle, fel yr oedd ar y pryd, yn edrych mor braf yn yr heulwen nes codi hiraeth ar rywun wrth ei weled y mae arnaf, o ran hynny, hiraeth hyd heddiw am y golau melyn hwnnw, a'r eiddew gwyrdd yn tyfu yma ac acw hyd wyneb y graig. Nid oedd dim ym maint na dillad y dynion i beri i mi feddwl nad oeddynt fel rhywrai eraill, ond yr oeddynt rywfodd fel pe buasent ymhell oddi wrthym ni, fel pe buasai hi'n heddiw arnom ni'n dau, ac yn ddoe neu echdoe neu ryw ddiwrnod pell yn ôl arnynt hwythau. Efallai nad oeddynt yn siarad yr un fath â ni; na byddent byth yn mynd i ffair nac yn blino wrth gerdded adref; na byddent byth yn myned i eglwys na chapel ar ddydd Sul, ac na buont erioed yn gorfod mynd i ysgol; na byddent yn gwneud dim ond hela pan fyddai'r haul yn tywynnu; na ddoent i'r golwg ar rew nac eira, na glaw, ond byw mewn ogof yn rhywle yn y graig, a chysgu ar wely o redyn coch esmwyth, a'u cŵn yn eu hymyl, lle na wyddai neb amdano, lle ni byddai ond golau coch, fel golau lleuad . . .

Ni chofiais fy mod wedi blino wedyn nes cyrraedd adref.

Wedi hynny, yn llanc deunaw oed, byddai'n hoff gennyf ymollwng o'm bodd i freuddwydio'n debyg, pan welwn graig blom ag iorwg yn tyfu arni a hithau'n huno megis mewn heulwen felen, heb na thŷ na thwlc na dyn byw yn y golwg, ac awel fach gyfeiliorn wrth lithro drwy redyn yn eich ymyl yn rhoi uchenaid neu chwerthiniad, fel pe buasai'n ceisio torri gair wrthych, a chwithau rhwng trist a llawen. A byddai'r teimlad am heddiw a'r diwrnod pell yn ôl yno bob amser, rhyw ymdeimlad mai'r byd hwnnw oedd bod mewn gwirionedd, bod tawel, parhaus, nid rhyw res o sbonciau darfodedig.

Adnabûm eraill a gyfaddefai'r gwendid hwn. Er y byddai gosodiad a manylion y breuddwydion yn amrywio, byddai'r ymollwng o wirfodd, a'r ymdeimlad o'r trychiad ar amser yn bethau cyffredin i'r rhan fwyaf ohonynt. Mynych y gofynnais i mi fy hun, neu y gofyn nodd un wedd arnaf i fy hun i'r wedd arall, onid coll amser fyddai rhyw wlana felly. "Drwy'r gwlana hwnnw," meddai'r Wedd Arall, "y dysgaist ti 'r iaith anhawsaf a wyddost, ar lawer llai o drafferth na'r lleill." Efallai, yn wir. "Get mad on" oedd y cyngor a gefais gan un, pan oeddwn yn dysgu'r iaith honno, a hithau'n dyfod i mi fel pe buaswn wedi bod yn ei medru ryw dro o'r blaen. Pan fynnem chwarae gynt, gofynnid, "Ai o ddifrif ai o fregedd?" Pa un bynnag fyddai'r dewis, ni welais i erioed nemor wahaniaeth yn y chwarae, ond y trewid y farblen lawn cyn amled pan fynnem fod o fregedd â phan ddewisem fod o ddifrif.

PELLTER



DIBRIS pob cynefin, medd hen air. A pha un bynnag ai gwir dilys yw hynny ai peidio, â'r hen air hwnnw, neu rywbeth tebyg, gan ei lefaru â'r dôn sech a'r olwg ddoeth honno sy'n gweddu at roi clo ar bopeth petrus, y bydd y rhan fwyaf ohonom yn troi at ryw chwedl arall.

Ond pam y dibrisiai dyn y peth cynefin? Cof gennyf glywed am wr o'r De a ddaethai i eistedd fod yng Nghaernarfon. Aethai am dro tua Llanbeblig a throi ar hyd y llwybr drwy'r Caeau Bach, ac yno gweled yr Eifl yn y pellter, mor araul a mawreddog yng ngogoniant heulwen yr hwyr, teilwng Barnasws i'r duwiau sydd eto yno, am ddim a wyddom ni.

Safodd y dyn mewn syndod i edrych ar y rhyfeddod balch hwnnw, a bu raid iddo gael dywedyd gair am y peth wrth y cyntaf a ddaeth heibio, rhyw frodor oedd yn ymlusgo tua chartref "o glun i glun," chwedl Dafis Castell Hywel. Tebyg ddeall o'r brodor wrth ei leferydd mai gŵr dieithr oedd yno.

"Ydi," meddai, â rhyw ysgydwad ar ei ben, "ydi, y mae hi yn o lew, ond ydi hi?"

Credodd y gŵr dieithr yn y fan mai pobl â phennau pylion a chalonnau oerion oedd yn byw yn nhre Gaernarfon. Nid gwir mo hynny, wrth gwrs. Onid yn ei gynefin ei hun yr oedd y gwladwr? Ac ni fynasai, efallai, ddangos balch ter anweddus oblegid y peth cartref, yn ôl arfer dynion wedi eu myned yn gynghorwyr tref neu geidwaid siopau a thai bwyta. Efallai yn wir mai cymryd y ffordd honno o falchio yr oedd y gwladwr, y ffordd a fydd naw balchach oherwydd ei lleferydd sych a didaro. Neu efallai ei fod wedi blino, a bod arno eisiau swper. A llonydd. Ac anghofio pethau cynefin . . .

Eto, er nad anwir mo'r dywediad mai dibris. pob cynefin, nid cwbl wir mono chwaith.

Littora nativos per se dant picta lapillos,
Et volucres nullâ dulcius arte canunt,

meddai un prydydd gynt. Diau. Ond rhaid myned i rywle arall, efallai, cyn y gwypo dyn hynny. Profiad felly, ond odid, a barodd i fardd arall cynilach na'r cyntaf ddywedyd:

"'Nôl blino'n treiglo pob tref,
Teg edrych tuag adref."


Eto, cyn bod un yn gwybod ond y nesaf peth i ddim hyd yn oed am yr hyn fo agos ato a chynefin iddo, fe ddysg rywfodd roi mawr bris ar y pell a'r anghynefin. Nid rhaid bod y pell hwnnw yn bell iawn i gychwyn, ond pellhau beunydd y bydd, a diau mai'r gwir am ddyn, pa le bynnag y bo, yw mai ei awydd tragywydd fydd bod yn rhywle arall.

Y mae, yn wir, ryw swyn yn y gair pell ei hun, yn enwedig o'i lefaru ag e hir, fel y gwneir yn y De, ac y mae ar bellter lawer mesur. Bellach nid oes ar yr hen ddaear hon un man pell iawn of unman arall efallai mai'r pellter rhyngom a'r dyn fydd a'i sawdl ar flaen ein troed yw'r mwyaf. Unwaith yr oedd Cil Erwain, nad oedd lawn dri lled cae o'm cartref, yn bell i mi. Tyfai yno erwain (neu frenhines y weirglodd) a rhedyn, cerddin, cyll a chelyn, banadl hefyd a bedw arian. Rhyngddynt yr oedd mân leiniau o borfa na welais i ddim mor fân, mor wastad, mor wyrdd byth wedyn.

Cof da gennyf fy nghael fy hun yno am y tro cyntaf. Dieithrwch a syndod. Daeth i'm pen nad oedd fodd bod yno ddim cas na dim drwg. Yr oedd hi'n ddistaw yno ac yn lân, yn brydferth, yn rhyfeddol. Nid oedd arnaf ddim ofn yno, dim ond rhyw wyleidd-dra synedig. Braidd na fyn sech dynnu'ch esgidiau cyn dodi troed ar borfa mor lân ac esmwyth. A golau'r haul ar y perthi draw, bron fel pe buasent ar dân. Ni wyddech pa beth a allai ddigwydd yno un funud. Gwiwer yn llithro heibio o fewn dwylath i chwi. Cwnhingen yn rhyw neidio o gwmpas, ac yna'n eistedd ac yn edrych arnoch â llygaid llawn of syndod, yna'n hopian yn ei hôl i'r llwyn. Bronrhuddyn, â phen cam, yn syllu ym myw eich llygaid. Pioden hyd yn oed yn edrych fel pe na buasai arni'ch ofn, nac awydd ehedeg ymaith gan eich rhegi. Rhyw awel fach wylaidd yn suo drwy'r dail braidd yn drist a hiraethus, fel pe byddai arni eisiau sisial rhywbeth yn eich clust, ond ei bod hi'n gwybod na ddeallech moni. Nid hynny'n unig. Rhywbeth nas gwelech ac nas clywech ddim, ond y gwyddech ei fod yno, yn rhywle, ym mhobman, bob amser. Ni wyddech ai ei galon ef ai 'ch calon eich hun a glywech yn curo. Gwyddech y byddai arnoch hiraeth am y lle ar ôl myned ymaith. Yr oedd popeth yno mor newydd, mor ddieithr, mor bell... A chwithau mor newydd, mor ddieithr,—tybed mai chwi oeddych chwi?

Ond fel y dôi Cil Erwain yn nes, âi'r lle pell yn bellach. Dyfod o hyd i leoedd eraill rhyfeddol, rhaeadr bychan, Pistyll Brido wrth ei enw; llain bach o raean ar ryw dro yn yr afon, lle'r oedd cerrig mân i'w cael a wnâi farciau prydferth o goch a melyn a glas ar lechen neu bapur; craig uchel yn ymgodi fel y gallech ei dringo o ris i ris hyd ben y marian, ac oddi yno ar y chwith weled y môr mawr glas yn y pellter, a llongau arno, yn hwylio i wledydd pell; a thraw ar y dde, llechweddau moelion, creigiog, a fyddai pan dywynnai'r haul arnynt yn edrych fel y gwelsoch liw mêl tenau mewn potel o wydr gloyw—ar rai o fryniau deheubarth Iwerddon yn unig y gwelais lewych tebyg.

Rywfodd, yr oedd gogoniant Cil Erwain fel pe buasai'n ymgolli yn y pethau hyn y naill ar ôl y llall, a'r pell yn mynd o hyd yn bellach. Dechreuodd gymryd enwau newyddion, dieithr, pell—India, Affrig, lle'r oedd main gwyrth yn disgleirio yn yr afonydd, meddai barddoniaeth Saesneg, a dirgelwch yn nofio drwy ei hun mewn fforestydd diddiwedd. Llawer enw, dim ond enw, na wyddid na'i ystyr na'i hanes, dim ond clywed ei sŵn ac araf lunio o'r seiniau hynny bethau a welid, nid â'r tu blaen i'r llygaid, ond megis â'r tu cefn iddynt, neu â rhywbeth yn eu canol. Paham yr oedd pob godidowgrwydd yn y lleoedd hynny, yn y gwledydd pell, yn eithafoedd byd, ac awydd anesmwyth yng nghalon dyn o hyd am fynd ar eu holau? Dau neu dri haf, a chymdeithion o wlad arall, wrth wraidd y cof, a gaeaf neu ddau, oerach nag arfer, yn ystod rhyw gyfnod byr, pum mlynedd ar y gorau, eira a rhew a niwl digysur?

Cil Erwain, Morocco, Travancôr; Estremadura, Vallombrosa, Eldorado, Elysium, Afallon, Tir na n-Og; Deffrobani, Broseliawnd, Celyddon; Ros Ailithir, Ros Aluinn, Cuan Dor— ble y mae'r godidowgrwydd pell? A yw dianc o le i le yn dragywydd, neu a yw ef fyth i'w gael pan fynner yn lleindir Cil Erwain, ai gaeaf oer ac eira digysur sydd yno mwy?

Pan euthum i edrych ar Gil Erwain am y tro olaf, yn gynnar un bore ym Mai, y diwrnod yr oeddym yn gadael yr hen gartref am byth, daeth ei holl ogoniant yn ôl fel y byddai gynt. Ac er bod pellter pellach nag erioed erbyn hyn yn disgwyl amdanaf, draw, nid hawdd oedd gadael Cil Erwain am byth. Troi ymaith yn syn, gan ddywedyd wrthyf fy hun y dychwelwn yno, ryw

dro. Nid euthum byth. Nid af mwy . . .

CRWYDRO

YSTYRID bod trafaelio rhywfaint a gweled tipyn o'r byd, fel y dywedid, yn gorffen addysg y rhai a fyddai ddigon lwcus i allu fforddio hynny gynt. Pan âi rhywun ffodus ar y daith honno, dywedai'r rhai fyddai'n gorfod treulio'u hoes yn yr un plwyf fod hwn a hwn wedi "mynd i rodio."

Yr argraff a gâi'r rhai y bu raid iddynt aros adref, am o leiaf rai o'r bobl a fu'n rhodio ar y perwyl hwnnw, oedd na welsant nemor ddim i'w fawrhau yn y gwledydd estron, er bod y daith yn gosod dyn ar safle uwch. Nid oedd trigolion y gwledydd hynny, ar y pryd, mae'n debyg, yn ddim ond pobl yn siarad ieithoedd dieithr ac yn ymddwyn fel tramoriaid—nid oeddynt ond brodorion, yr un fath â'r Cymry, na allent fforddio bod yn gymmrodorion. Eto, gellid ymffrostio bod unwaith yn eu plith. Cof gennyf am un y câi rhai pobl lawer o ddifyrrwch drwy awgrymu yn ei glyw mai ffŵl ydoedd, er mwyn ei glywed yntau'n gwadu'r honiad drwy rwbio'i ddwylaw yn ei gilydd yn fygythiol a thyngu ei fod ef yn gwybod ei achau ac wedi trafaelio.

Dôi ambell un ŷn ei ôl wedi dysgu rhai o arferion y tramoriaid hynny, meddid, megis hwnnw a ddaeth adref o'r Cyfandir wedi tyfu barf ac yn gwisgo dillad tra gwahanol i'r rhai cartref. Tynnai'r pethau hyn gymaint o sylw ato, yn enwedig ymhlith y plant, nes iddo dorri ei farf a newid ei ddillad yn fuan, ac am a wn i na bu'n fachgen eithaf synhwyrol o hynny allan.

Eto, chwarae teg i'r rhai fydd yn mynd i rodio. Diau yr âi llawer ohonom pe gallem, ac nid oes wybod pa bethau a ddysgem ninnau. Nid bob amser y bydd y daith yn ddigon hir a hamddenol i ni ddysgu rhyw lawer. Yn gyffredin bydd gan y neb a fu yn Rwsia, dyweder, am ryw bythefnos lawer rhagor i'w ddywedyd am y wlad a'r bro dorion a'u syniadau a'u harferion nag a fydd gan y sawl a dreuliodd flynyddoedd yno. Ac erbyn ystyried, rhaid addef bod yn haws iddo ef gofio pethau nag i'r llall.

Gall trafaeliwr brysiog felly gofio ar hyd ei oes fel y bu rywdro'n yfed tê yn Ffestiniog, dyweder; gwin yn rhywle yn Ffrainc, coffi neu fastig yn Cairo. Os digwydd bod y bwrdd dipyn yn ddi- drefn neu'r te yn oer neu wedi stiwio yn Ffestiniog, dyna dystiolaeth sicr na ŵyr y Cymry ddim sut i wneud bwyd na gosod bwrdd. Pe digwyddai fod y gwin yn sur yn Ffrainc neu'r coffi'n ddrwg yn Cairo (fel y byddant, weithiau) rhaid cofio y byddai dywedyd hynny'n beth mentrus, yn wyneb y sôn cyffredin, a dyna ddigon o reswm dros draethawd ar win Ffrainc neu goffi Cairo, yng nghywair profiad maith, a chwaeth ddisgybledig.

Os myn dyn ysgrifennu fel awdurdod ar y pethau hyn, diau mai peryglus iddo gwbl ym ddiried yn ei bythefnos. ei bythefnos. Gallech fentro ar Alwyddyn, efallai, ond y drwg yw, fel y deuthum fy hun i wybod, yn wir, bod parodrwydd i sgrifennu am wledydd estron yn mynd yn llai po hwyaf y trigo dyn ynddynt. Bydd perygl iddo gynefino â'i de, ei win a'i goffi cyn hir, a daw yn y man i wybod digon i wybod cyn lleied fydd ei wybodaeth wedi'r cwbl. Ac os cafodd rywdro gryn hwyl ar yfed te neu win neu goffi mewn lle oedd dieithr, wel, yr hwyl fydd y peth, nid y ddiod, o angenrheidrwydd.

Eto, nid yw hyn oll yn profi nad yw crwydro'n beth difyrrus, a buddiol, efallai—i'r crwydryn ei hun, o leiaf, hyd yn oed pan na chaffo fwy na phythefnos at ei amcan, canys diau y gwêl ambell un fwy mewn pythefnos nag a wêl llawer ohonom mewn dwy flynedd. Pwy a ŵyr beth a wêl y naill, a allai fod yn welwr da, gyferbyn â'r llall, a ddigwyddo fod yn ymadroddwr hwylus?

Cof gennyf glywed un Americanes dew, ar ôl bod yn edrych ar y Sphinx a'r pyramid mawr am y tro cyntaf, yn gofyn drwy ei thrwyn: "And what is there to be seen, after all?" ac yna'n troi gyda manyldeb digon greffig i fodloni'r beirniad llenyddol mwyaf synhwyrus, i ddisgrifio'r sidanau main oedd yn wardrob ei hannwyl gyfeilles y dduges Seisnig, rhai mor denau, mi dybiwn, â'r rhith niwl a fyddai, ar brydiau, yn gwisgo'r pyramidiau heb eu cuddio rhag golwg yr edrychwr. Beth pe gwelsai'r Americanes honno golofn unig o fwg glaswyn, bron cyn deneued â'r sidanau a wisgai'r dduges ar brydau neu mewn dawns, a'r golofn honno'n dringo'n araf o'r prysgwydd wrth odre llethr goediog ar lan gogledd. Affrig? Nid oes wybod na welsai hithau, nid y mwg, yn gymaint â rhyw ryfeddodau pendefig aidd a roesai daw am byth ar y barbariad o ddychmygwr a fuasai'n meddwl am hela yn y coed drwy'r dydd a chysgu allan wrth dân araf, ar ôl yfed mastig a gwrando ar ystori "Dwyn y Gaseg."

Wedi'r cwbl, "coelum, non animum, mutant qui trans mare currunt," ac ni ddygir dyn oddi ar ei dylwyth. Palmwydden neu ddwy yn y pellter tesog, a'r crwydryn yn cofio, nid yn gymaint am ramantuster masw Heine ag am ddawn gyfieithu ryfeddol John Morris-Jones. Colofn fwg y Bedawin ar ganol yr anialwch, neu haid o bererinion ar y ffordd adref o ddinas Mecca, a'r crwydryn yntau'n meddwl am Ann Gruffydd ac Emrys a'u hemynau, a luniwyd mewn gwlad brin o dywod ac awyrgylch dawel, gysglyd, ac nad oes ynddi mwy bererinion a chanddynt un syniad am odidowgrwydd troi amser yn was yn hytrach na'i gymryd yn feistr. Toriad gwawr ac ymachlud haul dros yr anialwch maith, ugain milltir i'r de o ddinas Cairo; cromennau a meindyrau'r ddinas honno o bell megis rhithiau yn nofio yn yr "awyr denau eglur a'r tes ysblennydd tawel" y daliodd Ellis Wynne gynt eu tebyg ar dro yn rhwyd ei Gymraeg ddigymar.

Ac eto, ni fynnai'r crwydryn golli mo'r llif newydd a ddôi mor ebrwydd o hyd i'r mân rigolau cynnar. Olion gwareiddiad ar wareiddiad, crefydd ar grefydd, athroniaeth ar athroniaeth, yn huno'n dawel gyda'i gilydd yn y tywod mân a'r haul disglair, cynnes. Dynion, fel rhyw bryfed aflonydd, naill ai'n gwibio yma ac acw yn ôl defod eu tiriogaethau, ar ôl pleser a maswedd, cyfoeth neu anrhydedd, ennyd awr ym mynwent yr oesoedd; neu ynteu yn null araf a dioglyd y brodor ion a'u hathroniaeth ddiofal, a fynegir mewn deuair neu dri, yn wyneb pob digwyddiad mewn bywyd—"Bukra" (yfory), "Ma lesh" (ni waeth).

A chydag ymachlud haul dros yr ehangder distaw breuddwydiol, draw, draw, o ddydd i ddydd, o fis i fis, bob tro yn debyg ac eto fyth yn newydd; llais y muezzin o ben y mosc yn disgyn i lawr fel llef o'r nef, a'r ffyddloniaid ufudd yn troi i'r dwyrain di-newid ac yn ymgrymu hyd lawr. Ni welir mwy ond gwrid yr haul a hwnnw'n pylu ac yn tywyllu yn y gorllewin pell. Awel fach oeraidd o'r gogledd, ennyd (beth yr oeddynt yn ei wneud yno, tybed, ar yr awr honno?). Yna tawelu o honi hithau, ac agor o'r mân ffenestri rhuddaur dinifer yng nghromen aruthr y nos.

Onid âi pethau'r gorllewin am ennyd ymhell ac yn ddibwys, fel darnau breuddwyd yn cilio, yno yn y tywod anorfod, yr haul tragywydd a'r nos ddilafar? Ac eto, onid pererin oedd yntau'r crwydryn o wlad bell: Yfory? Pwy a wyddai nac a faliai? Ni waeth! meddai'r tywod anorfod, yr haul tragywydd a'r nos ddilafar. Ac ni ddawr yntau'r crwydryn, mwy na hwythau. Ac ni ddôi oddi yno'n gymwys yr un fath ag yr aeth yno. Onid oeddis yno megis yn cael cysgu

a deffro . . .?

HEN GYNEFIN

TREULIO diwrnod o haf gyda chyfaill yn Ardudwy. Niwl ar fôr a mynydd. Rhyw rith heulwen megis ar wasgar trwyddo, fel y gwelwyd lawer tro yn yr hydref. Mwynder aeddfed yn yr awyr, oni theimlai dyn fel pe daethai adref i'w gynefin o grwydro'n hir. Eto, nid oedd Ardudwy ond rhan o Gymru i mi, nid hen gynefin fy hynafiaid, fel yr oedd hi i'm cyfaill.

Yn y mynydd-dir, na welid mono ond yn aneglur drwy'r niwl a orweddai fel hud ar y wlad, yr oedd cartref gŵr a dorrodd ei enw ar warant dihenyddio brenin. Tua'r môr, cartref yr hen Buritan hwnnw, â dim ond glas onnen yn ei law, a yrrodd ffo ar ddwsin o gabaliriaid a gamdrinodd ei was ar y ffordd am ei fod eto'n gwisgo hen lifrai'r Senedd. Ymhellach fyth, yr eglwys fechan unig yn y tywyn, lle cwsg y bardd a sgrifennodd mor wych-pan anghofiai grefydd wleidyddol ei gyfnod yn Lloegr -Weledigaethau'r Byd ac Angau ac Uffern. A thraw yn y môr, yr ynys fach lle trigai bardd arall, a welodd gynddaredd y tonnau ar ddydd ystorm o'r gorllewin yn torri ar y traeth, gan chwydu eu trochion i'r lan fel "gloes sarff yn gla' o syrffed." Nid oedd dŷ nac adfail a welid yno na wyddai fy nghyfaill rywbeth amdano. Yma, cartref ei hendaid. Acw, tŷ a gododd ei daid, lle ganed ei dad, lle ganed yntau. Cartrefi teulu ei fam yn y pellter. Traddodiadau amdanynt oll, yn gwlwm â hanes yr ardal am ganrifoedd. Nid rhyfedd ddywedyd o'm cyfaill y byddai'n fodlon pan ddôi yno o unman yn y byd, ac na byddai arno byth eisiau ymadael â'r lle, unwaith y dôi yno. Yno yr oedd ei wreiddiau. Adwaenai bob pren a maen yno. Ardudwy oedd Cymru iddo ef.

Minnau? Ni bûm hanner dwsin o weithiau erioed yn hen gynefin fy nhadau. Bedair cen hedlaeth a mwy yn ôl, dechreuasant hwy symud, ac aethant ar led y byd. Adroddid hanes rhai ohonynt ym mrwydr Waterloo; un arall a brynwyd o'r fyddin gan ei dad a'i fam, ond a oedd yn filwr yn ei ôl cyn pen y mis, ac a fu farw ar ei ffordd adref o Rwsia. Byddai llythyrau'n dyfod oddi wrth rai o'r crwydriaid weithiau oddi yma ac oddi acw. Cedwid a danfonid hwy o law i law i'w darllen. Clwyfwyd a lladdwyd rhai o'r hil yn America yn y rhyfel rhwng taleithiau'r De a'r Gogledd. Yr oedd rhyw ramant i ni gynt mewn llythyr a gadwyd, a sgrifennodd un ohonynt â'i law ei hun at ei chwaer, fy nain, yn adrodd hanes ei glwyfo yn y rhyfel hwnnw—ei saethu drwy ei law nes syrthio ohono oddi ar ei farch; carlamu ymaith o'r march; gorwedd o hono yntau lle syrthiasai, fel marw; tybio o'r gelyn mai marw ydoedd a gadael iddo; ymlusgo ohono yntau wedyn at lwyn gerllaw, a dodi ei law glwyfus yn nwfr ffynnon oedd yno i oeri; yna colli gwybod arno'i hun. O'r diwedd, dyfod o hyd iddo gan rai o'i blaid ei hun, yn ddiymwybod yno, a'r ffynnon yn goch gan ei waed. Hanes hynt eraill, a ymfudodd i'r Amerig, ac a fyddai'n methu deall pam yr oedd neb o'r tylwyth mor ffôl ag aros yn yr hen wlad i dalu rhenti a threthi at gadw ffyliaid a chnafon, meddynt hwy. O blaid mynd. ar eu holau y byddai'r gwaed ifanc, wrth gwrs— onid yn y pellter yr oedd rhyddid hefyd?

Nid cof gennyf am y tŷ y'm ganed ynddo. Llai na deng mlynedd fu cyfnod y cartref cyntaf i'w gofio. Trydydd a phedwerydd mewn ardaloedd digon pell i fod yn ddieithr. Yna, y byd mawr, trefi prysur, mwy nag un wlad, pobl o bob cenedl, crap ar eu harferion a rhai o'u ieithoedd. Nid un mo brofiad fy nghyfaill a minnau. Yr oedd Ardudwy yn feddiant iddo ef. Rhaid i minnau fodloni ar Gymru yn unig. A bûm o ran hynny lawn mor gartrefol yn Iwerddon neu Gernyw. Hyd yn oed ar y Cyfandir neu yn yr Aifft, nid am ryw fan lle byddwn un o'm tylwyth y byddai arnaf hiraeth, ac yng Nghymru ei hun nid oedd un man mwy na'i gilydd i mi.

Pan awn ar ddamwain i hen gynefin fy nhadau, gwir y byddwn innau'n teimlo y gallaswn aros yno, er bod dwy genhedlaeth rhyngof a'r rhai a fu fyw a marw yno, ac a fedrai, mi glywais, ddywedyd i'r funud pa awr o'r dydd fyddai hi wrth oleuni'r haul ar glogwyn neu lechwedd, ac a gysylltai ryw ddigwyddiad yn hanes y teulu â phob lle a welid yno. Pa beth well a welswn innau erioed yn unman na'r noswaith lawen ar hen aelwyd yn y Glasgwm neu Groesor, lle'r oedd yr ymborth wrth ddefod, a gwasanaeth y bwrdd wrth foes cenedlaethau a fu; yr adrodd ystraeon a'r canu penillion yn gelfyddus o hyd; curiad y gwaed eto'n gryf, a'r awyr a anadlem, hithau'n llawn o gyfaredd canrifoedd: Diau, un ohonynt fyth oeddwn innau, ac eto, rywfodd, ar led yn yr holl fro, megis, yr oedd y pethau hyn i mi, onid y tair hen Hafod a fu'n feddiant i genedlaethau o'm hynafiaid gynt. A rhyngof a hwythau, yr oedd cartrefi eraill yma ac acw, fel dolennau cadwyn wedi ei thorri.

Eiddig oeddwn wrth fy nghyfaill, am fod Ardudwy eto'n feddiant iddo ef, a minnau heb

ddim ond Cymru.

II

NAWN

DARLLEN

PRIN yr wyf yn cofio pa bryd yn union y dysgais ddarllen. Daw'r enw "John Halifax," a sôn am ryw "Josi" i'r cof o'r cyfnod hwnnw, dim ond yr enwau, a rhyw bang bach o chwithdod am rywbeth a fu ac a aeth heb adael ond enw ar ei ôl. Tebycaf yw mai rhywun arall fyddai'n darllen allan i mi'r pryd hwnnw. Sut bynnag, yr oedd hynny ryw ysbaid cyn y diwrnod yn nechrau haf, pryd yr oedd yn rhaid i mi aros yn fy ngwely, o achos rhyw anghaffael a fu'r diwrnod cynt, a'r pryd y teimlais fy mod eisoes wedi dysgu rhywbeth rhyfeddol, rhywbeth tebyg i ddyfod o hyd i fyd newydd.

Edrych yr oeddwn y tro hwnnw drwy gyfrolau o gylchgrawn bychan i blant—pethau prinion yr adeg honno. Yr oedd yno sôn am wŷr enwog a da nad oeddynt, am ryw reswm, yn fy nifyrru. Yr oedd lluniau rhai o'r gwŷr da hyn, eu golwg ddifrif a'u barfau helaeth, yn peri i mi ofni na allwn i byth fod yn dda fy hun. Un llun oedd yno a hoffwn—yr oedd hwnnw wedi tynnu fy sylw o'r blaen, a gwnaeth yr un peth y tro hwn eto. Llun "Y Cleddyfwr yn Marw" ydoedd. Nid oedd yno ddim o'i hanes, dim ond y llun. Trist oedd yr wyneb ond yr oedd yn hardd, pen crwn, gwallt crych, bron iawn fel gwallt fy mrawd bach, oedd fel goleuni'r haul "yn ddigon. o ryfeddod," meddai Mari Wiliam. Yr oeddwn yn sicr mai'r un lliw oedd modrwyau gwallt y cleddyfwr oedd yn marw. Trist oedd meddwl ei fod yn marw, ond yr oedd ef o leiaf wedi tyfu i'w faint, a gwyddwn fod yn rhaid i bobl wedi tyfu i'w maint farw. Byth er pan welswn yr oen bach wedi marw yn y coed, pan oeddwn yn bur fychan, byddai'n ddrwg iawn gennyf dros bob peth fyddai'n gorfod marw yn ieuanc. Byddai'r cylchgrawn yn rhoi hanes bechgyn a merched bach wedi marw yn ieuainc, a lluniau rhai ohonynt. Byddai golwg drist ar y rheiny, fel pe na buasent erioed wedi bod yn hapus. Byddwn yn meddwl eu bod yn gwybod, efallai, y byddai'n rhaid iddynt farw yn ieuainc, ac er eu bod bob amser wedi bod mor dda, rhaid bod ofn marw arnynt. Ond nid oedd wyneb y cleddyfwr yn peri i rywun feddwl na bu ef erioed yn hapus, na bod arno ofn marw.

Dywedid wrthyf weithiau y dylaswn innau geisio bod fel y plant bach da hyn. Yn wir, yr oeddwn wedi ceisio fwy nag unwaith, a methu bob tro bron, ac o achos y peth fyddai'n digwydd. yn gyffredin ar ôl i mi fethu, yr oedd gennyf ryw fath o gwyn yn erbyn plant bach da iawn, yn enwedig bechgyn bach. Ond ni byddwn yn teimlo'n gas at y rhai fu farw chwaith. Byddai eu lluniau'n peri i mi gofio am yr oen bach hwnnw, mor llonydd, mor oer, a byddai mor ddrwg gennyf drostynt fel y byddwn yn sicr bod yn well i mi beidio â darllen eu hanes.

Yn sydyn, wrth droi'r dail, a gwrando ar y ci lwcus oedd yn cyfarth oddi allan, dyma fi ar draws ystori am yr Indiaid Cochion. A dyma ddarllen. Hyd hynny, fy nheimlad fyddai mai dyletswydd heb fod bob amser yn bleserus fyddai darllen. Ond dyma ddarganfyddiad o'r radd flaenaf. Digwyddai fy mod eisoes wedi gweled Indiaid Cochion—o leiaf, dyna beth a ddywedai'r cymdogion amdanynt. Yr oeddynt yn byw heb fod ymhell o'm cartref. Edwin oedd ei enw ef, ac Angelina y gelwid ei wraig, pwy bynnag o edmygwyr Goldsmith a'u bedyddiodd—byddai fy nhad yn sôn yn aml am Goldsmith. Aent o gwmpas gan werthu pinnau a thrwsio ambareli, a dywedai pawb mai dau syml, gwbl ddiniwed, oeddynt. Nid tebyg fod neb yn gwybod llawer o'u hanes. Nid oedd ganddynt ddim Cymraeg ond "bore da" a "nos dawch," ac ni wyddent ond ychydig Saesneg, prin ddigon i fod yn ddealladwy i'w cymdogion, pobl heb lawer mwy na hwythau o'r iaith honno. Os dywedech rywbeth wrtho, byddai Edwin yn ail adrodd y geiriau wrtho'i hun cyn ceisio'ch ateb. Nid wyf erbyn hyn yn amau dim nad Indiaid Cochion oeddynt, wedi dyfod ar ddamwain o rywle ac aros yn yr ardal am ysbaid. Pan welais deitl yr ystori, meddyliais ar unwaith am Edwin ac Angelina.

Dyna ddechrau darllen, ac yn fuan iawn, o fod yn hogyn y byddai raid dywedyd wrtho am ddarllen, euthum yn un o'r hogiau y dywedid amdanynt eu bod "a'u trwyn mewn rhyw lyfr o hyd," neu y byddai raid dywedyd wrthynt lawer gwaith bod y cinio'n barod neu ei bod yn amser mynd i'r gwely. Felly bûm innau'n hela yn y coed, yn cysgu allan y nos ac yn ymladd ag Indiaid Cochion. Yr wyf yn cofio hyd heddiw ym mha fan yn union y digwyddai popeth yn yr ystori o'r dechrau i'r diwedd. Breuddwydiais unwaith fy mod wedi tynnu croen pen Edwin druan, a bûm yn euog ac anesmwyth nes ei weled ym mhen deuddydd neu dri a'i wallt gloywddu llaes yn dorch ar ei war, fel arfer.

Aruthr oedd balchter a rhyfeddod y darganfyddiad hwnnw—mwy na balchter medru dywedyd faint fyddai hi o'r gloch ar y cloc. Nid yn unig medru darllen, ond bod y fath bethau i'w darllen; bod pethau'n digwydd mewn llyfrau; bod y rhai fyddai'n ysgrifennu llyfrau yn gwybod ac yn gallu dywedyd wrthych beth y byddai pobl yn ei feddwl, hyd yn oed pan na byddai'r bobl hynny yn siarad, fel y bydd dynion, y naill â'r llall; bod llyfrau'n gallu dywedyd wrthych sut le oedd America, coed ac afonydd, fel y gallech eu gweled yn ymyl eich cartref eich hun, yn union fel y byddent yn y llyfr. Os byddai'r llyfr yn sôn am graig mewn lle na byddai ynddo'r un graig yn eich coed chwi, gallech ddywedyd wrthych eich hunan fod yno graig felly yn union yn y fan honno, a gallech ei gweled yno, er ei bod hi mewn gwirionedd yn digwydd bod filltir oddi yno, mewn lle nad oedd goed o gwbl. Os byddai'r llyfr yn sôn am aderyn yn gwneud sŵn tebyg i'r geiriau "whip-poor-will," gallech glywed y gri honno'n glir, gan aderyn a welsech lawer gwaith. Teimlech y gallech fod yn y fan a fynnech, clywed popeth, gweled popeth. Gallech wneud hyn oll pan ddewisech. Nid rhaid i chwi byth fod yn annifyr yn y tŷ pryd na chaech fynd allan. Gallech hyd yn oed weled y cwbl a'ch llygaid yn gaead, pan fyddech yn methu cysgu'r nos. Byddech fel pe baech bawb, fel pe baech ym mhobman, dim ond am eich bod wedi dysgu darllen. Ambell waith, byddech yn dyfod i wybod ystyr geiriau nad oeddych wedi eu clywed na'u gweled o'r blaen, a hynny heb ofyn i neb; a doech i ddeall mai'r un peth oedd meddwl geiriau fel "buaswn yno," a fyddai i'w cael mewn llyfr, a'r geiriau "yr oeddwn i wedi bod yno," fel y byddech yn dywedyd eich hun wrth siarad â rhywun. Rhown lawer am fedru darllen felly eto. Yr wyf yn cofio syndod a balchter teimlo na byddai raid i mi byth mwy, fel y dywedwn y pryd hwnnw, fod yn annifyr.

Cefais achos i newid y farn honno gryn lawer o weithiau wedyn, fel y mae'n ofidus meddwl, a bu raid i mi gytuno fwy nag unwaith â'r gŵr doeth a ddywedodd, "Nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen gormod, blinder yw i'r cnawd." Dim ond y buaswn yn awgrymu'n wylaidd y gallasai yntau chwanegu "ac i'r ysbryd." Eto, y mae darllen a darllen. Dywedir fod y wasg Saesneg yn unig yn bwrw allan ryw dair mil o nofelau bob blwyddyn. Heb sôn dim am y llenyddiaeth helaeth a sgrifennir i esbonio llawer ohonynt a dangos i fyd synedig sut y bydd meddyliau eu hawduron yn gweithio. Nid yw'r Cymry mor hoff o ddarllen nofelau—nofelau Cymraeg, o leiaf. Eu ffordd hwy yw eu beirnadu, ar ôl darllen adolygiadau arnynt, yn nodi'r gwallau yn yr orgraff.

Byddis yn dywedyd weithiau am ambell un ei fod "wedi peidio â darllen ers blynyddoedd," gan fwriadu i hynny olygu ei fod wedi peidio â meddwl hefyd. Ond prin y mae'n canlyn bod darllen a meddwl yn gyfystyr bob amser. Cydymdeimlodd rhywun â dyn a gollodd ei olwg yn ei ddegfed flwydd a thrigain, ag yntau, fel y gwyddid, yn "ddarllenwr mawr." "O," meddai yntau, "nid rhaid i chwi ddim cydymdeimlo â mi am hynny. Bûm wrthi mor brysur yn darllen ar hyd f'oes fel na chefais ddim amser i feddwl nes fy mynd yn ddall." Trueni o beth bod yn rhaid i ambell un golli ei lygaid. cyn eu hagor, megis.

"Pan fo pawb yn sôn am lyfr newydd, darllen dithau hen un," meddai rhyw ŵr doeth—ni wn i ddigon i allu ychwanegu ym mha le na pha bryd y ganed ein gwrthrych," na pha beth "oeddynt enwau ei rieni," na hyd yn oed pa goleg y bu ynddo, os bu erioed mewn lle o'r fath, peth amheus, efallai. Gellir casglu ei fod ef, sut bynnag, yn darllen—hen lyfrau. A chryn nifer ohonynt hefyd, os canlynai ei gyngor ef ei hun bob tro y byddai pawb yn sôn am lyfr newydd. Adwaenwn ddyn gynt â chanddo syniadau clir a rhesymol iawn am ddarbodaeth. Addawodd ysgrifennu llyfr ar y pwnc dymunol hwnnw, ond aeth ati i ddarllen llyfrau a sgrifennodd eraill. eisoes ar y pwnc. Nid ysgrifennodd ef byth mo'i lyfr ei hun. Mwy na hynny, nid oes ganddo bellach, meddai ef, ddim dirnadaeth pa fath gyfalaf y dylid galw buwch odro neu fuwch hesb, na pha beth a olygir wrth "werth y bunt," er y gall fynegi'n rhugl pa beth a synio—neu a sonio-pawb arall ar y pwnc. Dyna'r rheswm, y mae'n debyg, pam y gelwir y wybodaeth honno yn eco-nomeg gan Brifysgol Cymru. Clywais am un tramorwr galluog a dysgedig ymhob cyfeiriad, yn ôl y sôn fyddai amdano yn y papurau, a sgrifennodd ar y sut i ddarllen. Dechreuais ail obeithio pan glywais am y llyfr hwn, ond barn un gŵr a'i darllenasai eisoes oedd mai'r peth gorau o ddigon oedd cadw pris y llyfr hwnnw at brynu'r llyfrau y byddai raid i chwi eu darllen a'u deall cyn mynd i gynghori neb arall, beth bynnag.

Ni wn i ai gwir hynny, ond dywedodd meddyg wrthyf unwaith ar ei wir yntau mai clefyd yw darllen, ac mai'r unig feddyginiaeth rhagddo yw chwarae golff neu bysgota. Pan awgrymais iddo na ellid gwneuthur y naill na'r llall o'r ddeubeth hynny'n llwyddiannus iawn ond wrth olau dydd, dywedodd yntau wrthyf mai cysgu a ddylai dyn call wedi bo nos. Pan orfu arnaf innau gyfaddef wrtho mai'r unig beth a'm gyrrai'n fynych iawn i gysgu fyddai ceisio darllen pregethau neu fardd oniaeth, neu feirniadaeth lenyddol, dywedodd yntau'n sychlyd nad rhaid i mi byth ddioddef oddi wrth anhunedd.

Y drwg yw bod darllen, megis y mae mygu tybaco, yn beth na ellwch ymwrthod ag ef unwaith y dechreuoch arno. Ac eto, dyn ffodus y cyfrifir dyn heb ddysgu mygu tybaco.

PRYDYDDIAETH

YN fy hen wlad i gynt, prydydd oedd y term cyffredin am y neb a wnâi englynion neu benillion. Nid wyf yn amau na byddai'r prydyddion yn sôn amdanynt eu hunain fel" beirdd," heb ddychmygu i'r term hwnnw ystyr na pherthyn iddo mewn modd yn y byd, er hynny. Un o'r pethau cyntaf yr wyf yn eu cofio'n dda am brydyddiaeth yw y byddai plant, yn yr ail ysgol y bûm ynddi, yn gorfod darllen prydyddiaeth Saesneg ar osteg, er nad oedd ganddynt un syniad am ei hystyr y rhan amlaf. Y ffordd y gwnaent hynny oedd llusgo'r geiriau allan bob yn un ac un, a'r geiriau hwyaf, yn wir, bob yn llythyren a sillaf, rywbeth yn debyg i'r fel y bydd y dafnau dŵr yn dyfod allan trwy dap pan fo awyr yn y bibell. Credais innau ar y dechrau mai peth i'w ddarllen allan felly oedd prydyddiaeth Saesneg, ac felly y gwnawn am ysbaid. Yn araf deg, dechreuodd y dull hwnnw swnio'n ddigrif yn fy nghlustiau, canys yr oeddwn rywfodd wedi darganfod y gallwn ddarllen prydyddiaeth dipyn yn debycach i leferydd y tap dŵr pryd na bo awyr yn y bibell.

Un diwrnod, pan oedd bachgen bychan tew â golwg sobr iawn arno yn ceisio darllen allan hanes yr hogyn a safai ar fwrdd y llong honno oedd ar dân, wedi i bawb arall ei gadael, aeth yn ddrwg arnaf. Yr oedd y bychan yn ymdrechu'n ddewr. Enwai bob llythyren ar ei phen ei hun, braidd tan ei lais, yna dywedai'r gair neu'r darn gair cystal fyth ag y medrai, ond mewn cywair uwch na chywair y sbelio.

Yn sydyn y tro hwn, cofiais am y sŵn a wnâi Bronten, un o'r ieir gartref, pan fyddai'n clochdar wedi dodwy. Yr oedd sŵn y darllenwr bach yr un ffunud. Chwerddais yn uchel. Edrychodd y meistr yn ffyrnig arnaf, a chefais y gansen ar draws fy mhen. Nid oedd neb, meddai ef, i ddangos cymaint â hynny o ddiffyg dealltwriaeth, yn yr ysgol honno. Mewn gwirionedd, wedi cael pelydryn bach o ddealltwriaeth yr oeddwn—peth prin, yn yr ysgol honno. Yr oedd arnaf awydd dywedyd hynny, ond daeth i'm pen—oedd yn dal i frifo mai doethach i mi dewi, rhag ofn y byddai cael rhywfaint o ddealltwriaeth yn waeth trosedd na bod hebddo, yn yr ysgol honno. Felly cedwais y darganfyddiad i mi fy hun.

Fel y digwyddodd, bu'r darganfyddiad. hwnnw'n fath o dro yn fy mywyd. Nid wyf yn amau dim bellach na buasai deall sut i wybod yn weddol barod pa faint yw seithwaith naw ceiniog a thair ffyrling, dyweder, yn dro llawer mwy buddiol i mi. Sut bynnag, bob yn sillaf y darllenwn innau'r brydyddiaeth Saesneg allan o hyd-yn wir, cawn ddifyrrwch i mi fy hun wrth sbelio a thorri yn eu canol lawer o eiriau a adwaenwn eisoes ac y gallaswn eu dywedyd ar fy nghyfer heb eu sbelio o gwbl. Cyn ymadael â'r ysgol honno, yr oeddwn hefyd wedi darganfod y gallech, gyda gofal, dorri rhai geiriau ar eu canol, nes bod y meistr yn edrych yn graff arnoch, fel pe buasai'n amau bod rhyw ystyr yn y peth, ond o'r diwedd, penderfynu a wnâi, mae'n ddiau, nad oedd ystyr i ddim byd, yn yr ysgol honno, a chawn innau lonydd i ganlyn fy ffansi, dim ond i mi edrych yn sobr.

Ond yr oedd rhywbeth arall yn digwydd hefyd. Yr oedd yn syndod fel y cofiech ambell bennill telyn, weithiau pan fyddech yn llawen, yn amlach pan fyddech yn drist neu mewn trwbl. Yr wyf yn cofio syrthio i'r afon un tro a mynd adref a'm dillad yn wlyb diferol. Cefais yn fuan hamdden yn fy ngwely i feddwl am fy nghyflwr, a dyma hen bennill a gofiais:

"Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon',
Weithie i'r môr ac weithie i'r mynydd,
A dwad gartref yn ddigerydd."

Yr oedd rhyfeddod rhediad geiriau mewn prydyddiaeth hefyd yn cynyddu. Byddai ambell rediad, yn y peth hwn fel mewn eraill, mae'n wir, yn arwain i dolc, a'r glust ar dro yn disgwyl ateb lle ni byddai-ac weithiau'n awgrymu ateb heb fod lawn mor ddifrif ag y buasai weddus. Ond, er gwaethaf yr ysgol honno, daeth darllen pryd yddiaeth yn bleser, hyd yn oed pan fyddid mewn amheuaeth am yr ystyr, os byddai'r rhediad a'r ateb rhwng geiriau a'i gilydd yn plesio'r glust.

Dywedodd rhywun fod yn syn faint y pleser a gaiff rhai pobl o orffen dwy linell â geiriau'n swnio'r un fath â'i gilydd. Rhaid i mi gyfaddef i mi gael llawer o'r pleser hwnnw yn y dyddiau gwirion hynny, ond y drwg fu i mi glywed fy nhad yn dywedyd nad oedd pawb yn cydsynio mai'r cydswnio hwnnw yw prydyddiaeth wedi'r cwbl. Onid oedd gan y glust ryw hawl yn y mater, paham, tybed, y cymerai prydyddion y drafferth i beri i'w geiriau ateb ei gilydd? Soniais am rediad yn arwain i dolc. Darganfum beth newydd ynglŷn â hynny cyn hir, a thybiais mai'r peth newydd hwnnw oedd prydyddiaeth, efallai, sef nad oedd dolc o gwbl i'm clust i yn yr ateb rhwng diwedd dwy linell o gywydd Deuair Hirion, dyweder. Ni wyddwn i mo'r termau na dim am y rheolau, y pryd hwnnw, ond sylwais fod geiriau fel llwyn a gwanwyn, er enghraifft, yn ateb i'w gilydd, heb i ddyn orfod dywedyd gwan wyn, ac yr oedd hynny rywfodd yn plesio fy nghlust i o'r tro cyntaf y sylwais arno, er na wn i pam hyd y dydd hwn.

Yr oeddwn mewn ysgol arall erbyn hyn, ac nid oedd neb yn darllen prydyddiaeth Saesneg bob yn sillaf yn honno. Er nad oeddis ynddi hithau byth yn sôn am brydyddiaeth Gymraeg, dyma ddarganfod cyn hir nad yr ateb hwnnw ar ddi wedd llinellau oedd yr unig beth pleserus mewn prydyddiaeth Gymraeg, nad oedd i'w gael, hyd y gwyddwn i, mewn prydyddiaeth Saesneg. Nid diwedd llinellau yn unig oedd yn ateb yn Gymraeg yr oedd y geiriau'n clymu â'i gilydd mewn modd rhyfeddol.

Clywswn rai hŷn na mi, wrth sôn am waith Thomas Edwards o'r Nant, neu John Parri, Llanelian, yn dywedyd bod eu penillion hwy "yn clymu"—dyna air ein gwlad ni'r pryd hwnnw—ac o'r diwedd, dechreuais innau glywed y clymau, yn enwedig yng ngherddi John Parri, un y clywswn lawer o sôn amdano, gan mai un a fu gynt yn byw yn yr ardal ydoedd. Dysgu. adnabod y peth wrth y glust wedyn, cyn gwybod dim am y rheolau, a chael allan yn y man mai "cynghanedd" oedd y term dysgedig am y peth a alwai pobl gyffredin yn "gwlwm." Yna, daeth cyfnod o ddotio at gynghanedd, ac o ddarllen hen brydyddiaeth, lle bynnag y ceffid hyd iddi—chwilio am bethau newydd yng nghanol yr hen, am wn i.

Cyfnod rhyfeddol oedd hwnnw, yn ei bryd, er mai prydyddiaeth Saesneg a ddarllenwn yn bennaf erbyn hyn, am reswm da—yr oedd y llyfrau y gellid eu cael yn rhatach ac yn lluosocach. Caech waith Shakespeare am ryw ychydig geiniogau, mewn llythyren na pharai lawer o niwed i'r llygaid, y pryd hwnnw, o leiaf, er ei maned. Gallech hefyd brynu detholiadau o'r prifeirdd Seisnig am ryw hanner coron yr un, ac nid oedd nemor flas ar brydyddiaeth gyfamserol Gymraeg erbyn hyn. Aeth yr odl Gymraeg gyffredin (odli: gwegi, er enghraifft) yn beth tila, wrth odlau dwbl rhyfeddol rhywun fel Poe; a chynefinai un yn fuan â mesur heb odl o gwbl, yn Saesneg a'r ychydig Ladin a geid.

Effaith y darllen hwn oedd deall nad oedd y beirniaid ddim yn cytuno mai'r odli a'r clymu oedd prydyddiaeth chwaith. Nid oedd y feirniadaeth y gellid ei galw yn "feirniadaeth-yng-Nghymru" ddim wedi dechrau yn y dyddiau pell hynny, fel nad oedd fodd cael sicrwydd perffaith ar bob peth petrus, unwaith am byth. Eto, yr oedd dadlau yn Gymraeg ar ba beth yw prydyddiaeth, ac yn enwedig ar y mesurau caeth a rhydd. Dywedai rhai nad oedd dim yn brydyddiaeth heb odl. Taerai eraill na welodd Groeg na Rhufain, yn eu dydd, brydydd cystal â Dafydd ap Gwilym. Dyfeisiodd un beirniad beiriant i wneud englyn ion (er bod digon o beiriannau wrthi eisoes). Daliai eraill mai'r clymau oedd yr achos nad "ehedodd" un prydydd o Gymro erioed cyn uched â Milton, heb sôn am Homer. Byddai meddwl am brydyddion yn chedeg yn peri i ddyn ymofyn yn amharchus ai dyma'r rheswm fod cynifer o'r teulu yng Nghymru yn dewis enwau adar fel" ffugenwau"—Alarch, Dryw, Ehedydd, Eos, Eryr. Byddai rhai'n canmol y "mesur moel" fel y modd cymwys i ehedeg yn uchel a chyfansoddi barddoniaeth ddyrchafedig. Sonnid llawer am arucheledd, beiddgarwch, crebwyll, darfelydd, llawer am y wisg a'r enaid, yn enwedig yr enaid, ond er i rai o'r prydyddion Cymreig ehedeg i'r bydoedd uwch ben, y cwbl a gawsant yno oedd pethau y buasai haws eu cael gartref,— chwedl Ellis Wynne am ddosbarth arall gynt,— yr ymdderu rhwng pleidiau, y gynhadledd genedlaethol a'r areithiau hirion ymfflamychol.

Yr oedd yn digwydd bod yng ngwasanaeth fy nhad y pryd hwnnw wladwr deallus oedd yn medru cannoedd o englynion a phenillion telyn ar dafod leferydd, ac a fyddai bob amser yn cloi ei farn ar bethau digrif a difrif bywyd drwy adrodd englyn neu bennill. Wedi ei glywed yn gwneud. hynny mor daclus a rhesymol un tro, gofynnais iddo pa beth, yn ei feddwl ef, oedd prydyddiaeth.

"Wel," meddai, "ni wn i ddim, os na ddywedech mai ffordd fwy neu lai annaturiol o ddywedyd peth." Teimlo yr oeddwn, erbyn hyn, fod peth synnwyr o leiaf yn ei ddywediad, ond gan fod rhyw hanner gwên ar ei wyneb, ac iddo orffen y tro hwn trwy ddyfynnu'r geiriau "Nid yw pob peth a blethir o'r un waed a'r awen wir," nid oeddwn nemor haws. Pe buasai ef wedi edrych yn sobr, fel beirniad llenyddol, a llefaru fel dyn ag awdurdod ganddo, 'does wybod yn y byd na wnaethai gryn gymwynas â mi.

Ond yng nghwrs amser, daeth tro ar fyd, pan ddysgais adnabod y "gair llanw" yn well, a cheisio'i ddeall, hyd yn oed yng ngwaith Dafydd ap Gwilym ei hun, a rhai o gyfansoddiadau "arobryn" y cyfnod. Rhaid fu cydymdeimlo wedyn a'r beirniaid, nes mynd i chwilio am brydyddiaeth ar y dragwyddol heol, oedd heb un rheol ar ei chyfyl, meddid. Ond, a chyfaddef y gwir, nid haws oedd deall honno na deall y gair llanw. Pam na fodlonai prydyddion, tybed, ar iaith rydd? Pan ddyellais fod y Groegiaid gynt yn arfer sôn am brydydd fel dyn o'i gof, ni synnais mwy, er synnu eu bod hwythau'n rhoi cymaint o bwys ar fedru ymfflamychu a phendroni'r lliaws wrth areithio. Beth oedd i'w ddywedyd bellach onid mai rhyw fath o garreg ateb oedd odl, nad oedd cynghanedd ond morthwyl sinc (tegan cyffredin yn y cyfnod hwnnw), ac mai hen ddefod o amseroedd yr anwybodaeth oedd mydr? Naturiol wedi dyfod i'r fan hon oedd teimlo beth yn fodlonach ar y beirniaid, oddi allan ac oddi mewn, a ddysgodd i mi gymaint â hynny o ddoethineb, ond nid oedd fodd dianc cyn hir eto rhag y syniad haerllug mai pennaf gwasanaeth eu llafur hwythau oedd y gallech ddysgu oddi wrthynt res o dermau i brofi eich bod chwithau'n gyfarwydd â phrydyddiaeth gwledydd ac oesau, er nad oedd gennych na'r amser i ddysgu'r ieithoedd na'r moddion i brynu llyfrau'r beirdd yn yr ieithoedd hynny, pe gallasech eu darllen.

Ond try popeth mewn cylch, medd y dysgedigion, ac wedi cryn aros, a throi at ddarllen rhyddiaith a cheisio dysgu ieithoedd, caed bod hynny'n eithaf gwir, pan ddeallwyd fod y beirniaid bellach. yn dechrau darganfod mai peth i'w ddarllen allan a'i glywed oedd prydyddiaeth, hynny yw, bod y sŵn, hyd yn oed pan fo ddiystyr, yn cyfrif, a bod y rhediad (dim ond i chwi yn ddiarwybod ddibrisio Groeg a Chymraeg drwy ei alw yn riddm) yn beth godidog iawn. Taerai rhai beirniaid yn gywrain nad oedd yn y gelfyddyd ddim yn y byd onid chwarae â geiriau, rywbeth yn debyg, ond odid, i'r fel y bydd rhai dynion. mentrus yn chwarae â chyllyll drwy eu bwrw i'r awyr a'u dal yn glyfar ac yn amserol iawn rhwng eu bysedd fel y dont i lawr, neu fel y bydd eraill yn llyncu cleddyf hyd y carn, neu'n cnoi carth ac yn tynnu rhubanau o bob lliw o'u cegau, gan chwythu mwg allan fel peiriant. Dadleuai eraill. nad rhaid i brydydd ymboeni hyd yn oed i geisio deall ei eiriau ef ei hun, neu o leiaf nad rhaid i neb ond ef eu deall-gallai hyd yn oed ddyfeisio'i eiriau ei hun, neu sbelio rhai benthyg mewn dull mor farbaraidd fel nad hawdd i neb eu hadnabod-gallai felly beidio ag arfer gair a arferodd rhywun o'i flaen, neu osgoi dywedyd mor odiaeth oedd Eden, a ddywedwyd gynifer gwaith cyn ei eni ef. Dôi dyn yn y man hefyd. i wybod bod llunio pedair llinell o" farddoniaeth bur," hyd yn oed o sŵn heb ddim synnwyr,. yn ddigon o waith oes i wir brydydd, ac yn ddigon o wasanaeth ar ei ran i ddynoliaeth ddiwylliedig i roddi iddo hawl i'w fwyd a'i ddiod, ei ddillad a'i gysgod (heb sôn am ei wragedd a disgynyddion ei hen fodrybedd) hyd byth.

Felly y daeth prydyddiaeth yn ei hôl i'r man y cychwynnodd fy niddordeb ynddi, dim ond bod. enwau newydd ar y tap dŵr, y garreg ateb, y rhediad, y morthwyl sinc a'r gair llanw. Ac yn araf, gwawriodd y gwir ar y meddwl fod yn rhaid i bawb, wedi'r cwbl, fodloni ar ei chwaeth ef ei hun, fel y bydd y beirniaid yn gwneud, ond na byddant hwy byth yn cydnabod chwaeth neb arall. Y mae byd o brydyddiaeth i'w gael mewn pob math o ieithoedd, pob iaith â'i chelfyddyd ei hun, yn gytûn â'i natur ei hun, nas deall neb yn iawn onid a'i dysgodd yn ei febyd, fel na allai syniadau dyn am brydyddiaeth yn ei chrynswth fod yn ddim amgen na'i ffansi fach ef ei hun, wedi'r helynt i gyd. Ar eich gorau ni allech ond darllen rhai o'r meistriaid tybiedig, a chredu rhywun arall am y lleill, os byddech mor ofergoelus â hynny. Pa les darllen llyfrau lawer ar brydyddiaeth a theimlo wedi'r drafferth i gyd fod beth yn haws i ddyn cyffredin ddeall rhywfaint o'r brydyddiaeth cyn darllen y feirniadaeth nag ar ôl hynny? Ac wedi darllen llawer, byddai'n rhaid i chwi gyfaddef wrthych eich hun, o leiaf, mai'r peth a'ch plesiai neu a'ch blinai a'ch plesiai neu a'ch blinai yn niwedd y ffair, er na wyddech pam, mwy na'r prydydd hwnnw gynt a gyfaddefodd yn ddigon gonest wrth ryw gydnabod iddo:

Non amo te, Sabidi, nec possum dicere quare,
Hoc tantum possum dicere-non amo te.


CLASURON

UN o drychinebau addysg, o leiaf yng Nghymru, ryw hanner can mlynedd yn ôl oedd y dyb gyffredin nad oedd dim yn addysg ond a geffid mewn ysgolion. Yn yr ysgolion hynny, gan mwyaf, ni cheffid ond ychydig o Saesneg digon llymrig. Hyd yn oed yn yr ysgolion gramadeg a geid yma ac acw, er bwrw bod brith- ddysgu ychydig syniadau niwlog am reolau mydryddiaeth Ladin yn ddysg, ni chyfrifid gwybod rheolau mydryddiaeth Gymraeg, y fanylaf a'r gywreiniaf yn Ewrop efallai, yn ddysg o fath yn y byd.

A bwrw bod rhyw rinwedd arbennig ar fedru Groeg a Lladin, y mae'n eglur na thybiai'r Cymry a gafodd y cyfle i fod yn feistriaid arnynt ddim bod. y rhinwedd hwnnw yn werth ei ddwyn i gyrraedd pobl a ddibynnai ar y Gymraeg am eu diwylliant, canys ni wnaethant gymaint ag un llyfr Cymraeg at wasanaeth y rheiny. Dododd Charles o'r Bala lawer o eiriau Groeg (a Hebraeg o ran hynny) yn ei "Eiriadur," a thrawslythreniad ohonynt rhwng crymfachau. Drwy'r ddamwain honno y dysgodd un hogyn y llythrennau Groeg ac o leiaf ystyr rhai geiriau, cyn bod un cyfrwng arall at ei alwad—onid tlysion oedd y llyth rennau bychain Groeg, gyferbyn â'r traed brain Hebraeg! Bu'n edifar ganddo wedyn gymryd yn erbyn y traed brain hefyd, canys yr oedd, pe gwybuasai ef, o leiaf un llyfr Cymraeg a roesai iddo gymorth i ddeall y rheiny. Am Ladin, ni cheid cymorth hyd yn oed yn ysgil crefydd. Eto, rhaid bod yng Nghymru yr adeg honno nid ychydig a fedrai Roeg. Cafodd yr hogyn hwnnw'r fraint ddeng mlynedd yn ddiweddarach o'i dynnu i ddarllen y Testament Groeg mewn "Cyfarfod Darllen" lle'r oedd tri arall a wnâi hynny—hen ysgolfeistr, teiliwr, a garddwr, coffa da amdanynt.

Ni ellir amau na thraethwyd o dro i dro lawer o bethau rhyfedd am ragoriaeth Groeg a Lladin. "Nid gŵr bonheddig ni wypo Roeg" meddai rhywun gynt, peth a ddengys—a bwrw bod y wybodaeth yn ddilys—na ellir bod yn sicr mai'r un peth fyddai ei heffaith ar bawb. Ond a rhoi na ddichon hyd yn oed Roeg wneuthur gŵr bonheddig o bob math o stwff, y mae'n rhyfedd na feddyliodd rhai o'r dosbarth, a awgrymai ddarfod eu boneddigeiddio hwy, ddim am y dull mwyaf effeithiol, yng Nghymru o leiaf, at luosogi'r cwmni. Efallai yn wir mai un gynneddf ar ŵr bonheddig o'r fath oedd ofn. . . "Ni ellir iawn ysgrifennu Saesneg heb fedru Lladin," meddai un arall, ac yn ddiau, a barnu wrth eu hymdrechion, fe'i credodd llaweroedd o'i gydwladwyr llenyddol am gyfnod maith, er bod eraill ohonynt yn ddi weddarach wedi darganfod rhinwedd Anglo- Saxon at yr un pwrpas, a bod erbyn hyn nid ychydig ohonynt yn gwbl sicr nad oes gan hyd yn oed Esperanto ddim siawns yn erbyn Saesneg fel iaith wneud. Bellach hefyd, bu wiw gan rai prifysgolion droi Lladin a Groeg, nid yn unig o'r hen ogoniant oedd eiddynt unwaith, ond hefyd ddeddfu nad rhaid wrth Ladin hyd yn oed er mwyn trin y defnyddiau hanes sy'n digwydd bod yn yr iaith honno. Ac am Roeg, ymddengys bod yn beth dysgedig i feistr ar athroniaeth gymryd ei Blato'n ddibetrus oddi ar blât rhywun arall, megis.

Diau y gellid profi bod yr ysgolion gynt yn dodi ar Roeg a Lladin fwy o bwys nag oedd raid, ac nid rhyfedd, efallai, i rai ohonynt o'r diwedd fynd i'r eithaf arall. Eto, ni ellir amau na pherthyn i'r llenyddiaeth a geir yn y ddwy hen iaith hynny ansoddau sy'n haeddu pob rhyw barch a roed iddynt erioed. Ac er na chaiff neb oddi wrth unpeth a ddysgo onid meithrin y peth fydd ynddo wrth natur, y mae'r nodd cyfrin hwnnw, a geir, yn wir, yng nghlasuron pob iaith, y nodd fydd yn rhywiogi ac yn ffrwythloni pob anian gydnaws, i'w gael yn helaeth yn nhrysorau Groeg a Lladin.

Nid oes dim mwy diddorus, fel y cerdda'r blynyddoedd ymlaen, na darllen o dro i dro rai o'r pethau a ddarllenid gynt, cyn dyfod o'r dyddiau blin, pethau o ddewisiad hen athrawon a farnai nad oedd cyfnod dysgu Lladin i fechgyn ddim. yn adeg ry gynnar i wneuthur hynny drwy gyfrwng doethineb a phrofiad eraill. Nid hawdd anghofio'r pleser a ddôi pan ildiai'r gystrawen ddieithr ei hystyr, na'r lled syndod a ganlynai sylweddoli mor fynych y byddai meistriaid y gystrawen honno yn ymddwyn mor urddasol ac yn llefaru mor gynnil.

Ffortunus oedd yn gynnar daro ar hen lyfr o ryw gan tudalen, yn llawn o'r urddas a'r ddoeth ineb a'r cynildeb hwnnw, casgliad hen athro a fentrodd gredu nad yw hyd yn oed hogiau drygionus ac aflonydd ddigon lawn cyn ddyled ag y bydd llawer yn tybio eu bod. Mynych y methid dyfod yn rhwydd o hyd i gyfrinach y gystrawen anghynefin-amheuid weithiau a oedd raid iddi fod mor anodd !-ond fe ddôi drwy ofal, ac wedi dyfod felly, byddai'n debyg o aros. Tybiwyd, y mae'n ddiau, mai mewn llyfrau yn unig y ceid doethineb o'r fath, ac mai i Roegiaid a Rhufeiniaid yn unig y perthynai, ond fe geid ar dro y gallai hi dalu hefyd mewn bywyd cyffredin. Cof gennyf unwaith glywed ffrae wyllt rhwng dau hogyn, un distaw a'r llall yn tafodi'n ddi-baid. "Cau dy geg, gael i ti ddysgu pryd i'w hagor hi !" meddai dyn oedd yn digwydd mynd heibio ar y pryd. Ar drawiad, cofiais innau ddywediad o'm llyfr Lladin nad oeddwn hyd hynny wedi ei ddeall yn iawn-"Qui non novit tacere nescit loqui." Yr oeddwn mor falch o ganfod yr ystyr a'r tebygrwydd fel y mynaswn ddywedyd hynny wrth rywun, ond cofiais hefyd, y tro hwnnw, am y tewi. A thewais.

O hynny hyd heddiw bu'r hen lyfr yn gyd ymaith cyson. Mynych ddigon y bu gwahaniaeth rhwng y peth a ddywedai ef a'r peth a wnawn innau. Ond nid amheuais ef erioed, canys sicr fyddwn mai efô a wyddai.

Dysgais wedi hynny beth nis gwyddwn y pryd hwnnw, sef bod y gamp honno i'w chael hefyd ar waith meistriaid ieithoedd eraill, y Gymraeg yn eu plith, ac nas ceir ar bob rhyw beth a sgrifennwyd hyd yn oed yng Ngroeg a Lladin, nac ar rai o'r pethau a astudir ymhlith eu clasuron hwythau. Ond yn y dyddiau rhy brin hynny y cafwyd cip ar ffynnon glewder meddwl a gloywder ymadrodd, ffynnon a yrrodd ei goferau ymhell ac a fu'n fam i'r lleill. Pan ddêl egwyl ar dro i grwydro'n ôl o'r brys a'r sŵn a oddiweddodd bopeth, bydd y ffynnon honno'n dawel ac yn loyw o hyd, yn murmur profiad dilys, craffter a doethineb, hoffter at natur, cyfeillgarwch, caredig rwydd hyd yn oed at gaethion, edmygedd at symledd ac urddas dynion dewr dirodres, ai gwyllt ai gwâr. Honno yw ffynnon y Clasuron, "splendidior vitro" hithau.

HELA A CHLODDIO

Y DYDD o'r blaen trewais ar gopi o draethodau Emerson, a ddarllenwn yn gyson pan oeddwn o ddeunaw i ugain oed. Cof gennyf mai pan fyddwn bruddaf ac anfodlonaf y darllenwn ef, ac mai effaith ei arddull ddiarhebus a chyferbyndod chwim ei feddyliau fyddai clirio awyr cyfnod digalondid a gwrthryfel. Byddai'n gysur gwybod bod dynion i'w cael a allai fod mor sicr, a bod y rheiny'n gallu argyhoeddi bachgen deunaw oed, o leiaf, fod y sicrwydd hwnnw'n beth mor syml. "Who would be a man must be a nonconformist," er enghraifft. Gwlad lawn o rai'n anghydffurfio oedd Cymru yr adeg honno, ac yn gwneuthur hynny'n chwerw hefyd. A'r drwg oedd i minnau ganfod cyn hir fod Emerson yn peri i rywun anghydffurfio â'r holl anghydffurfwyr!

Dengys marciau ar ymyl dail y llyfr beth oedd yr elfen yn ysgrifau Emerson a apeliai fwyaf at un math o feddwl yn nhymor y peth y byddai awdurdodau go newydd yng Nghymru ychydig flynyddoedd yn ôl yn ei alw byth a hefyd yn gyfnod yr "adolesent." Yr elfen honno oedd ei bobmanrwydd hyderus. "There is one mind," meddai, "common to all individual men. Every man is an inlet to the same and to all of the same."

Yr oedd ef megis arweinydd a gymerai ddyn i'w ganlyn ar daith drwy'r oesoedd a'r gwledydd, ac a eglurai gyfrinach eu cymhlethdod, heb arlliw petruster ar gyfyl cyfosodiad afieithus ei feddyliau. Rhaid i ddyn, wrth gwrs, ddibynnu llawer ar air arweinydd o'r fath, canys pwy a allai, o'i wybod ei hun, roi barn ar fanylion y dystiolaeth ar faes mor eang? Gwir mai i'w reddf yr ymddiriedai'r arweinydd. Erbyn hyn, yr ydys, efallai, yn canlyn greddf cyn belled mewn rhai pethau fel y mae'n bosibl y buasai raid iddo yntau ail ddiffinio rhai o'i dermau.

Ond boed hynny fel y bo, arweinydd gwych oedd Emerson, ac ni allaf i, beth bynnag, beidio â theimlo peth chwithdod ar ambell awr am y dyddiau eang hynny, pryd yr oedd pobman yn agored, pryd y cai dyn fyned o faes i faes wrth ei fympwy a dewis y peth a fynnai, yn hytrach nag ymgadw oddi mewn i un maes a mynd ar ôl pob rhyw benchwibandod hanner llythrennog a allai fod yn y maes hwnnw, dewis neu beidio.

Perygl y pobmanrwydd hwnnw, y mae'n ddiau, oedd anfanyldeb, i rai heb reddf ardderchog a dysg helaeth Emerson ei hun. Perygl yr un maes, hyd yn oed ar ei orau, yw gorfanyldeb. Heliwr fydd y gŵr â nwyd pobman ynddo, ac anturio y bydd hwnnw. Cloddiwr yw gŵr yr un maes, turio y bydd yntau. Gwêl y cyntaf bethau pell, rhamantus, gorau oll os bydd ias o dragoedia ynddynt hefyd-corff Hector yn. ysgrialu drwy'r llwch o amgylch muriau Troea, ac Andromachê drist yn wynebu tua'r wlad estron; Dido yn torri ei chalon ar ôl rhyw drempyn ar ei dro; Paolo a Francesca fel y gwelodd Dante hwy; Werther a'i ofidiau. Ar ddamwain hefyd, fe gaiff efallai gip ar y taflwr coed hwnnw yn Homer, a'r hogiau a'r asyn, a'r cacwn, ond bydd raid iddo aros ennyd cyn colli ei ffordd yn y "Selva Oscura" gyda Dante, neu ddeall maint tosturi Werther ato ef ei hun. Pe ceid y pethau hyn a llawer eraill o bethau tebyg,. heb ofer-ddatblygu bwhwmanrwydd, da fyddai.. Ond ymlaen a'r anturiwr, o nerth ei farch, beth bynnag am ei farn, i feysydd eraill, nes cyrraedd y maes lle'r ydys bellach yn dotio at wneuthur trwy rysedd rai o'r pethau yr oedd dynion. cyntefig yn eu hosgoi trwy reswm.

Am y llall, daw yntau i'w faes a'i gaib a'i raw yn barod, y naill a'r llall yn loyw, a gwarant rhyw athrawon doeth arnynt. Ni ellir llai na pharchu ei ofal, ei fanyldeb a'i onestrwydd, a thosturio weled ei war yn crymu cymaint. Synnir at faint y domen aruthr a droes ef ac a chwiliodd bob yn ronyn, a'r mân ddarnau a achubodd rhag angof, a'i allu anfeidrol yntau i roi enwau ar bob un ohonynt, ac ysgrifennu mor helaeth a manwl a difrif-neu ddigrif-amdanynt oll. Weithiau, temtir dyn i ofyn a fydd ef byth yn clywed clec y fwyall glasurol honno ar y coed cyntefig, neu'n gweled ei faes ef ei hun yn debyg i'r coed tywyll hynny, lle'r oedd yr union lwybr wedi mynd yn ddisathr. Ni wyddis, canys ni faidd ef ddim cyfaddef, rhag ofn dywedyd o neb mai dyn gwyllt fydd yntau, rhy barod i godi ei olwg oddi ar ei un dasg, neu redeg ar ôl pob ysgyfarnog a lamo oddi tan ei droed, megis. Gallai un o'r ysgyfarnogod hynny ar ddamwain ei hudo i ganol glafoer ei gyfnod ei hun. Ac wrth feddwl am hynny o beth posibl, bydd dyn yn rhyw araf gydymdeimlo wedi'r cwbl a'i ddull o'i ddifyrru ei hun a'n diddori ninnau. Nid ymryson y meirw, o leiaf.

GWLADGARWCH

YR oeddym eto yng nghanol y dyddiau gogoneddus hynny pan oedd ymchwil o bob math i ddwyn trefn ar bopeth dyrys ac anodd. Ar ôl hwyr ddatblygu diddordeb, a wybu'r Groegiaid oesau lawer yn ôl, yr oedd Gorllewin Ewrop yntau yn ei dro yn brysur iawn yn chwilio hanes yr hen fyd. Wrth wneuthur hynny, diau ei fod yntau'n dangos llawer o osgo'r dyn fydd yn gwisgo het sidan am y tro cyntaf, gan ryw hanner cellwair o'i phlegid, er mwyn galw eich sylw ati a rhoi ar ddeall i chwi ar yr un pryd ei fod ef yn hen gynefin â hi. Ond yr oeddis yn gweithio'n galed, yn chwilio a chwalu, cymharu a dosbarthu, nes bod y peth, wrth i ddyn edrych yn ôl arno bellach, yn edrych fel pe buasai dysg Ewrop yn gwneud ei hewyllys olaf, cyn bod. plwc arall o'r dwymyn oesol yn torri allan ac yn ymosod arni i ddinistrio cymaint ag a ellid o weddillion diwylliant oesau cynt. Er gwaethaf llawer ymdrech a fu eisoes i ddistrywio pob tystiolaeth o'r fath, yr oedd eto yn y byd gryn domennydd wedi eu gadael, ac yr oedd cloddio o bob math yn beth difyrrus, heblaw ei fod am ysbaid yn y ffasiwn—erbyn heddiw, gwaith pennaf llawer o'r ymchwilwyr yw chwilio am wlad lle bo siawns am damaid o fwyd. Yr oeddis y pryd hwnnw yn cwestiyno pob peth, gyda phrysurdeb sydd erbyn hyn yn edrych fel pe buasai gan ddynion ryw fud ymwybod y byddai cwestiyno unpeth yn y man yn beth gwaharddedig.

Hyd yn oed yn y ddinas fwyaf gwlatgar yn Ewrop, gellid chwilio hanes a thwf gwladgarwch yn weddol ddiogel, a gallai dynion o wahanol wledydd gyd-weithio'n gyfeillgar.

Cwmni bychan oeddym o fyfyrwyr ieuainc a thanbaid, i gyd â'n bryd ar wahanol weddau i'r un pwnc, y dystiolaeth newydd a ddarganfuwyd am hanes gwareiddiad a gladdwyd, cofnodion gwladgarwch oedd â'i wreiddiau mewn hynafiaeth nad oedd na Groegaidd na Rhufeinig, mewn crefydd gyntefig, efallai mewn athroniaeth gyntefig, na cheid ond rhyw grybwylliad arwynebol amdani gan ambell lenor clasurol. Eto, yr oeddym yn byw yng nghanol gweithgarwch egnïol gwladgarwch ein cyfnod ein hunain, yng nghanol cofgolofnau ei fuddugoliaethau a'i orchfygiadau yng nghwrs ei ymdrech hir, ymdrech a fu'n ddigon trychinebus, ond na bu bwlch ynddi er hynny.

Yr oeddym ymhlith eneidiau dewr, prydyddion o feddyliau syml, megis rhai o arwyr yr henfyd, rhai a chanddynt weledigaeth, rhai heb ias o wag osgo bywyd y dinasoedd ar eu cyfyl; a'r rhai hynny, gan ddilyn yn ôl astudiaethau manwl y seinofyddion a'r ieithofyddion, unwaith eto'n traethu eu delfrydau tanbaid yng ngeiriau iaith a gadwyd yn fyw ar wefusau gwladwyr tlodion, ymhlith y rhai y cawsai'r prydyddion a'r meddylwyr hyd i'w hathrawon. Ac yr oeddym ninnau wedi dyfod ynghyd i astudio peth nad oedd yn debyg o dalu i ni mewn aur ac arian ar law.

Yr oedd berfau annibynnol, nas diffiniai'r termau cyffredin yn fanwl, rhagenwau mewnol, effeithiau ysgubol hen acen rymus a nodweddion priod-ddull ryfeddol, yn gofyn gweithio'n ddygn drwy'r bore, ac yr oedd darlithoedd y prynhawn yn brawf llym ar sylw a diwydrwydd. Yr oeddym yn byw megis mewn byd cyntefig, ond byd wedi ei drefnu'n fanwl, a cheid tystiolaeth helaeth am arferion a defodau a ddaethai i lawr o'r oesau cyn cof. I rai ohonom, o leiaf, yr oedd hyn oll yn rhywbeth mwy na'r ddysg, yr oedd yn brofiad na ellir na'i anghofio na'i ddisgrifio; dyfod i gyffyrddiad union â gorffennol didranc; cael gafael ar beth dir, nad oedd cyn hyn ond megis wedi cyffwrdd yn awr ac eilwaith â'r mud ymwybod ynom, gan gilio drachefn, megis breuddwyd. Yr oedd hud yn yr awyr o'n cwmpas; mil o afaelion yr amser a fu, fel dwylaw anweledig, yn ein dal a'n tynnu ym mhobman; peroriaeth hen iaith yn ein cario'n ôl i ieuenctid byd, megis. Ni bu dim erioed mor fyw a'r dyddiau hafaidd hynny. Nid hen mo'r bywyd hwnnw. Bob bore, deffroid dyn gan sŵn dynion a chŵn yn gyrru gwartheg tua'r lanfa lle'r oedd llongau'n eu disgwyl, ond drwy'r cwbl clywid darn o gytgerdd y "Byd Newydd" gan Dvorak, a ganai rhyw hen ŵr ar ei gorn pres, bron i'r funud am wyth o'r gloch. A genid y darn hwnnw yn y wlad lle'r oeddym, cyn i'w meibion ddechrau llifo wrth y miloedd tua'r "Byd Newydd," ai awen y cerddor a'i creodd, nis gwn. Ond cymwys oedd ei ganu o'r hen gornor yno i ni y boreau hynny, a ninnau eto'n ieuainc. Newydd oedd y byd, y newydd hwnnw sy'n cynnwys pob hen.

Eto, pan dorrai'r peth beunyddiol a chyfamserol ar ein traws, fel y gwnâi wrth raid ar dro, byddem ninnau'n feirniadus, a cheisiem fod megis ar wahân i bethau, nid effaith galwedig aeth yr ymchwiliwr yn unig, efallai, ond peth oedd hefyd yn ddyledus i nodwedd arall yn perthyn i'r ddinas ryfeddol honno-ei diofalwch ysgafn, ei hysbryd cellwair di-ildio, y peth y tybir, efallai'n gyfiawn, mai ef oedd yr esprit gaulois.

Diau fod dylanwad y ddwy nodwedd arnom. Mewn ysbaid o'n gweled ein hunain fel y gallai fod eraill yn ein gweled, troesom un hwyrddydd i sôn am wladgarwch. Aethom i ymholi am y pryd gyntaf y daethom i ymwybod â'r peth (onid ymchwilwyr oeddym?). Cyfaddefodd un o'r cwmni mai ar ôl colli ei gariad yr aeth ef yn wladgarwr.

"Yr oedd yn rhaid i mi garu rhywbeth," meddai. "Yr oedd rhyfel ar dro yn neheudir Affrica. Darganfum innau wladgarwch."

Darllenasem oll am y meibion dewrion hynny a fyddai, od oes goel ar brydyddion, yn y dyddiau rhamantus gynt, yn myned i chwilio ym mlaen y gad am ddihangfa, chwedl y beirniaid llenyddol, rhag eu tynged, ar ôl profiad tebyg. Ond nid oedd dim rhamantus yn ein cyfaill, erbyn hyn. Ystlen? Dim byd llawn mor syml, ni gredem. Cariad-efallai, ond nid ystlen mo hwnnw oll, er a ddywedai'r ystlenyddion. Cyffesodd un arall o'r cwmni mai byw yng ngwlad estron a chofio am Ebrill yn ei wlad ei hun fu deffroad cyntaf ei wladgarwch yntau. Felly o un i un gwnaethom bawb ei gyffes.

Yr oedd yno bedwar ohonom, bob un o wlad wahanol, yn olrhain y peth yn ôl at effaith ysgolion lle y ceisiwyd ein dysgu i ddibrisio'r wlad y'n ganed ynddi a phopeth a berthynai iddi. Cawsom na wybu'r ddau gyntaf mo'r profiad hwnnw yn yr ysgolion, ond yn hytrach y gwrthwyneb, a'u bod hwy wedi diflasu, mwy na pheidio, ar y sôn a glywsant am weithredoedd nerthol eu hynafiaid, a'u rhagoriaeth ddiamau ar hynafiaid pawb arall.

O'r pedwar a fu yn yr ysgolion gormes, yr oedd tri o waed cymysg, un ohonynt a mesur o waed y genedl ormes yn ei wythiennau. Cytunem oll fod hanes y pedwar a gafodd brofiad yr ysgolion yn hawdd i'w ddeall, ac nad pell oddi wrthynt oedd safle'r gŵr a aeth i wlad estron yn ieuanc. Ond beth am y gŵr a siomwyd yn ei gariad?

Chwarae teg iddo, cyfaddefodd mai merch o genedl arall oedd hi, ac mai gŵr o'r un genedl â hithau a'i dug oddi arno. Felly, daeth yntau i'r un cwch â'r gweddill ohonom, efallai—y peth cynharaf y gallem olrhain ein gwladgarwch iddo ydoedd cam, bwriadol neu ddifwriad, oddi ar law'r genedl arall. Nid ymddangosai fod modd dianc rhag y casgliad hwnnw. Eto, yng nghywair yr ymddiddan hwnnw, o leiaf, prin yr oedd un ohonom yn gwbl fodlon ar ganlyniad rhesymegol. y casgliad cyffredin. Pam yr oedd yn rhaid i ninnau wrth un esgus?

A oedd hynny'n meddwl mai casáu'r genedl arall yr oeddym, yn hytrach na charu'n cenedl ein hunain? Peth o'r naill a'r llall, efallai, meddem, er nad cas at y genedl arall fel cenedl, ond at dra-arglwyddiaeth estron. Nid oedd ein profiad ni bob yn un ond darganfod y profiad cyffredin. Yr oedd pob math o gymhlethdod yn y peth, fe wyddem. Pob math o ddiffiniadau o wladgarwch, o "Dulce et decorum est pro patria mori" hyd at "The last refuge of a scoundrel," a rhywfaint o wir ym mhob un ohonynt, ond odid. Ond pa beth oedd y patria? Rhywbeth heblaw tiriogaeth hynafiaid rhywun, weithiau'n feddiant, megis, i ddyn ei hun, bryd arall heb fod yn ddim ond enw? Wrth reswm, yr oedd pawb ohonom wedi adnabod dynion syml, gonest, a garai wlad eu genedigaeth yn gwbl gywir, ond nad oedd ganddynt un syniad am fod yn wladgarwyr yn ystyr ddiweddar y gair, dynion yr oedd eu profiad yn tueddu at eu gadael heb fod yn agored i'r apêl.

Cofiais mai Cymro o Leyn, John Owen wrth ei enw, gan roi adlais i linell a gofnodwyd neu a luniwyd gan Aristophanes, a ddywedodd yn un o'i epigramau:

Illa mihi patria est ubi pascor, non ubi nascor,
Illa ubi sum notus, non ubi natus eram.

Adrodd geiriau John Owen. Distawrwydd. Nid wyf yn meddwl bod neb ohonom eto'n gwbl barod i gymryd John Owen o ddifrif. Gellid cydnabod ei glyfrwch, wrth reswm, neu ddangos y dirmyg uwchraddol hwnnw at y gair mwys, yn ôl fel y digwyddai fod y chwaeth. Cydnabuom y gallasai'r peth a ddywedodd ef apelio at y dyn ion syml, gonest, a adnabuom ni, at ddynion o'r

'πατρὶς γάρ έστι πᾶς᾽ ίν άν πράττη τις εύ.

(" Plutus"). fath yn yr henfyd, yn yr oesau canol, yn nyddiau

Thomas Hardy yn Lloegr. Nid yr un peth, yn ddiau, oedd cariad naturiol at wlad â gwladgarwch. Chwarddwyd am ben epigram y Cymro. Cofiwyd a gwnaed eraill tebyg. Eto, pan chwarddo dyn, meddem, oni bydd ef ar y ffordd i weled ochr ddigrif i'w ddifrifwch ei hun? Ai gwir a ddywedodd Siôn Wawd Ysgafn, wedi'r cwbl: Pa beth a fynnem ni, ai'n porthi, ni waeth ym mha le, ai ynteu oddef adfyd gyda ———, gyda phwy? Cofiodd un o'r cwmni am y sôn am neges gwledydd i'r byd a phethau felly, ac ymrithiodd ffenestr siop y gwladgarwch dangos a gorchestion y cenhedloedd etholedig o flaen ei feddwl, nes bod arno las ofn nad oedd un wlad yn y byd a garai. Ond aeth yr ymddiddan yn ddwysach eilwaith.

Er chwerthin am ben rhai o'n gwendidau ein hunain, onid llawn mor ddigrif â'r eiddom oedd gwendidau'r lleill, er iddynt hwy eu galw yn rhywbeth amgen? Beth ddigrifach, gofynnai un, na'r syniad am Rufain gynt, yn ymladd ac yn ymlâdd gyda'r unig amcan dyrchafedig hwnnw—gwareiddio a dyrchafu barbariaid—rhai gonestach a glanach eu buchedd na'i thrigolion hi ei hun, yn ôl tystiolaeth un o'i phoëtau:

Campestres melius Scythae,
Quorum plaustra vagas rite trahunt domos,
Vivunt, et rigidi Getae.

Efallai, meddai arall, mai digrifach fyth meddwl am Brydain yn cadw byddinoedd a swyddogion yn yr India yn unswydd i ddysgu'r trigolion sut i wneud hebddynt.

"Drwy ddwyn eu tiroedd, eu tolli a'u newynu," meddai un o'r pedwar, braidd yn gas, megis pe clywsai sôn am bethau tebyg yn nes adref na'r India.

Diau fod i ninnau'r barbariaid, Scythiaid a Getiaid, hawl i chwerthin am ein pen ein hunain —a'r lleill. Rhaid wrth bob math o bobl i wneud byd," meddai rhywun.

"Rhaid!" meddai un arall, disgynnydd i genedlaethau o fôr—herwyr Llychlyn, "tynnu a gwrth-dynnu yw popeth. Cyn rheitied un anwes ag arall."

Ac ymlaen â ni bawb a'i ddihareb o ystôr profiad ei hynafiaid ei hun.

Eto, yn iaith un o'r cenhedloedd gormes yr ymddiddanem. Pa mor gas bynnag y gallai fod honno i rai ohonom, fel offeryn gorfod y dyddiau gynt ac eto, hi oedd cyfrwng ein cyd-ddealltwriaeth y tro hwn, er nad oedd hi yn famiaith un ohonom. Llawer camp arni, at fynegi meddwl—a'i guddio. Yn enwedig ei guddio. Ond rywfodd, ni charai neb ohonom hi, mwy nag y gallasem garu'r gloch drydan gerllaw, oedd mor hwylus i alw ar wasanaethwr wrth raid. Diau fod eraill a'i carai hi fel arglwyddes, ond ni buasai hynny'n rheswm yn y byd i un o'r ceraint hynny ddisgwyl i ni oll briodi'n morwyn, pob parch iddi, wrth gwrs. Diau bod y Viking yn ei le—cystal un anwes ag arall, a chyn rheitied hefyd. Felly y mynn Natur weithio, meddem. Nid unwaith na dwy y gorfu amrywiaeth bywyd ar ddiffrwythdra unrhywiaeth, ac yn yr ymdrech dragywydd honno, cyn rheitied un anwes ag arall.

Aethom allan. Cerddasom gyda glan y môr, ac eistedd ar y wal rhyngom a'r dwfr glaswyrdd gloyw. Llifai dilyw o heulwen felen dros dai bychain gwynion yr hen bentref a'r maes ar lan y môr, lle bu marwol ymdrech, fil o flynyddoedd cynt, rhwng hynafiaid rhai ohonom, a thros y ddinas draw, lle ni pheidiodd cyfrwysach dulliau ymdrech gyffelyb hyd y dydd hwnnw. Troes yr adeiladau yn y ddinas draw yn lliw fflam yn y goleuni, fel y dyfnhai. Nofiai tarth ysgafn uwchben, fel mwg, a thywyllodd hwnnw'n araf fel yr âi'r haul yn is. Edrychai'r ddinas fel pe buasai ar dân, fel y bu lawer gwaith yn ystod mil o flynyddoedd, fel y byddai eto, efallai, yn wir . . . Edrychai'r tai bychain gwynion ar y morfa yn hen iawn, yn gyntefig, yn ddiniwed, fel y bydd nyth aderyn yn edrych. Aeth cryndod tros yr hesg ar ymyl yr hen faes brwydr, nes eu bod yn gwneud rhyw sŵn bach trist, megis pe buasai'r awel ei hun yn crino yn eu mysg, nes ei bod hithau'n hen ac yn drist wrth ddwyn i ni megis adlais gwan o riddfan y gwŷr a drengodd yno, fil o flynyddoedd yn ôl, miloedd o wŷr, na wyddis enwau onid ychydig ohonynt. Yna distawrwydd dwys. Edrychai'r tai bychain yn hŷn fyth, yn druanach fyth, ond eto fel pe buasent hwy a daear y wlad yn un â'i gilydd, fel pethau oedd yno erioed, ac a fyddai yno wedi darfod am rai pethau a welem. Tawsom. Nid oedd fodd chwerthin yno.

Fel yr edrychem tua'r môr, crychodd wyneb y dŵr yn ein hymyl, megis ped aethai ferw drwyddo. Haid o bysgod, pob un fel etewyn, ac eraill, fel byllt gleision, yn gwanu ar eu holau drwy'r dŵr gloyw.

"Duw mawr!" meddai un o'r cwmni, disgynnydd môr-herwyr Scandinafia, "ai fel yna. y bydd hi byth?"

Ac ni ddywedodd neb air, mwy.

TRADDODIAD

GOFYNNODD cyfaill o Sais i mi unwaith, nid o ran dirmyg na sarhaed, mi wyddwn, a fedrwn i esbonio iddo pam y bydd cynifer o Gymry mor anhapus pan feddyliont fod eu gwlad fach yn troi'n Seisnig, neu o leiaf yn peidio â bod yn Gymreig.

Pan ofynnwyd y cwestiwn i mi felly yn groyw, gan ddyn y gwyddwn nad oedd ganddo un amcan onid deall peth nas deallai, teimlais innau nad peth hawdd fyddai i mi roi iddo ateb a fyddai'n rhesymol yn ei olwg. Tewais ennyd. Sefyll yr oeddym ar lethr mynydd o'r lle y gwelem Ddyffryn Clwyd yn ymagor o'n blaenau. Oddi tanom, Morfa a Chastell Rhuddlan. Draw yn y pellter, Castell Dinbych. Pen Parc y Meirch gyferbyn â ni. Cefn Ogof yn nes i'r môr, a llawer man arall lle bu ymdrech gynt. "Peth fel hyn," meddwn, gan gyfeirio at y wlad, "buom yn ymladd amdano gynt, ac fe'i collsom."

"Do," meddai fy nghyfaill, "'rwy'n deall peth felly. Ond y mae canrifoedd er hynny. Pa fodd yr ydych yn cofio cyhyd: Nid gelynion monoch chwi a minnau heddiw, na'ch pobl chwi a'm pobl innau chwaith o ran hynny. Daeth y Normaniaid i Loegr, a churo, ond ni byddwn ni ddim yn cofio o hyd am hynny."

"Na byddwch," meddwn, "a da i chwi nad rhaid i chwi. Ond tybiwch fod yr ymdrech honno'n dal i fynd ymlaen o hynny hyd heddiw."

"Ond, pa fodd y gallai?"

"Fel y gallodd yma."

"Ond nid oes ond un llywodraeth i'r ddwy wlad ers canrifoedd, ac y mae popeth sy'n agored i ni yn agored hefyd i chwithau."

"Diau. Ond beth pe bai'r llywodraeth Norman honno'n dal yn Lloegr, ac yn dal i siarad Ffrangeg———."

"Hi fu'n siarad Ffrangeg am amseroedd."

"Do. Ond fe beidiodd. Beth pe bai traddodiad Seisnig, arferion Seisnig, yr iaith Saesneg hyd yn oed, hyd heddiw fel y mae traddodiad ac arferion Cymreig a'r iaith Gymraeg yng Nghymru?'

"Ie. Mi fûm yn meddwl am hynny hefyd . . . Credu'r wyf y byddem ni oll yn Lloegr wedi newid ein traddodiad a'n harferion a'n iaith. Onid gwell ennill trwy hynny na hir gyndynnu a cholli yn y diwedd?"

"Fe ddichon hynny," meddwn. "Byddaf yn tybio felly fy hun weithiau, pan fyddaf ar led, a'r pethau sydd yma yn pylu yn y pellter, pan fo raid i mi chwerthin am fy mhen fy hun am ddywedyd yn gas nad Sais monof i, wrth estron na bu erioed yn Lloegr, ac a'm galwo'n Sais o anwybod digon naturiol; neu pan fwy'n meddwl, a minnau adref, os mynnwch, am rai o'r pethau y tybir eu bod yn draddodiadau Cymreig. Ond pan ddof yma, neu fynd i Eryri neu fro Morgannwg; pan ddisgwylir i mi yma gymryd arnaf nad Cymro monof, wrth eraill fydd yn cymryd arnynt nad Cymry monynt, a hynny ym mhob peth fo'n perthyn i faterion anhepgor bywyd gwareiddiedig— llywodraeth, cyfraith, addysg, masnach—byddaf yn cofio ac yn deall bod rhai pethau na all rhai dynion mo'u anghofio." Gwelwn nad oedd fy nghyfaill yn deall monof-gwyddwn, yn wir, nad oedd fodd iddo fy neall chwaith, canys nid un oedd baich ei draddodiad ef a'r eiddof innau. Teimlwn ei fod yn synnu'n ddigon gonest pam y mynnwn fod yn farbariad o Gymro, lle gallwn fod yn "Frython" cystal ag yntau ym mhobman, ond yr oedd yn ŵr rhy fonheddig i ddywedyd hynny yn fy wyneb. Yr oeddwn yn ddiolchgar iddo am dewi a throi'r ystori, ac fe wnaeth hynny'n fedrus—canys nid oedd arnaf eisiau sôn mwy am y peth nad oedd, fel y barnai ef, a hynny'n ddigon gonest, yn ddim onid mympwy ofer. Nid oedd arnaf eisiau cyfaddef wrtho pa sawl tro y blinais ar ysbryd ymryson y cenhedloedd, pa sawl gwaith y dywedais wrthyf fy hun mai baich oedd traddodiad, hyd yn oed os baich nas collid unwaith wedi ei etifeddu. Ni fynnwn sôn pa mor fynych, wedi ambell brofiad, y tyngais na luniwn i rai pethau byth mwy, na pha mor aml wedyn y'm cefais fy hun yn eu llunio heb gymaint â chofio unwaith am fy mwriadau eang a'm safonau nid-cenhedlig; pa sawl gwaith, yn wir, yr eiddigeddais wrth bobl fel y Saeson am na byddai'r clefyd a elwir gwladgarwch yn beth cyson yn eu plith hwy, er tosted fydd pan ddêl.

Ac felly, sôn a wnaethom am bethau eraill— mor hardd oedd Dyffryn Clwyd, mor fawreddog oedd mynyddoedd Eryri yn y pellter draw; am y bobl a ddôi i bysgota yn afon Glwyd ac i saethu ieir mynydd ar fawnogydd Hiraethog, neu a dyrrai i dref y Rhyl yn yr haf. Ymadawsom. Aeth ef i'r Rhyl a minnau i ddistawrwydd mynydd Hiraethog.

Daeth y syched gwaed ar Ewrop. Pan glywais oddi wrtho nesaf, yr oedd ef ar gychwyn i rywle yn Ffrainc. "Who lives if England dies?" meddai. Tybed a gofiodd unwaith am yr ymddiddan a fu fis Gorffennaf, 1914? Ni wn. Ni chlywais oddi wrtho wedyn, ac ni ddaeth ef byth yn ei ôl.

Barbariad fel finnau, wedi'r cwbl?

III

HWYR

TAWELWCH

RHYFEDD gennyf feddwl fy mod yn ei gofio ef yn ei rym yn ddyn cadarn o bymtheg ar hugain i ddeugain mlwydd oed, ac imi ei weled yn tynnu'r gŵys i'r pen yn saith a phedwar ugain. Amaethwr ydoedd, fel y bu to ar do o'i hynafiaid, ond cawsai well addysg na'r cyffredin o'i ddosbarth yn ei ieuenctid. Yr oedd yn athronydd wrth natur a rhifydd da—gweithiai broblem allan yn ei ben cyn y byddwn i wedi dyfod o hyd i'r ffordd i gynnig arni. Llefarai, darllenai ac ysgrifennai ddwy iaith ac enillodd grap ar drydedd. Clywais ei fod o dymer fywiog iawn yn hogyn, a bu a'i fryd ar grwydro'r byd gynt. Hyd yn oed yn ei ganol oed yr oedd ei waed yn boeth, ac anodd ganddo oddef rhai pethau. Gwelais ef yn cynhyrfu nes bod ei wyneb yn cochi lawer tro, ond tewi a wnâi. Pan lefarai byddai'n gwbl dawel. Hyd yn oed yn y cyfnod hwnnw, cyfrifai ei gymdogion ef yn ddyn pwyllog. Ymddiriedent iddo ganoli a thorri dadleuon rhyngddynt, yn hytrach na mynd i gyfraith. Yr oedd yn hoff o gwmpeini, ond ni bu arno erioed ofn distawrwydd ac unigedd.

Darllenodd lawer yn gyson ar hyd ei oes, ond gallai eistedd yn llonydd am oriau i feddwl drosto'i hun. Pan oedd yn bedwar ugain oed, ac eto'n sionc ar ei droed, dywedodd wrthyf ei fod ryw noswaith drymllyd yn yr haf, er blino mwy nag arfer yn ystod y dydd, wedi cerdded tair milltir i ryw wasanaeth. Ar gychwyn y daith yn ei ôl, teimlai mor flinedig fel na wyddai sut i roi'r naill droed heibio'r llall. Ond dechreuodd feddwl am y corff, oedd yn blino, a'r ysbryd na flinai ddim. Yr oedd wedi cyrraedd adref ac eistedd yn ei gadair heb gofio unwaith am ei flinder. Câi'r profiad hwnnw'n aml. Ni adawai'r argraff ar ddyn ei fod yn hen, canys yr oedd ei feddwl mor ddianwadal a chyn hoywed ag erioed. Agos hyd y diwedd, gallai amgyffred a chofio cynnwys pob llyfr a ddarllenai, a lluniodd iddo'i hun athroniaeth bywyd a roddes iddo fwy fwy o dawelwch rhywiog a llarieidd-dra aeddfed o ddydd i ddydd, er gwaethaf oes ddigon helbulus a thrallodus.

Eiddigeddwn wrtho am na byddai dim a'i cynhyrfai mwy. Araf oeri o'r gwaed a fu boeth gynt? Efallai, ond nid hynny'n unig chwaith, canys ni bydd ar hynny nemor rinwedd oni bydd hunan-ddisgyblaeth eisoes wedi achub y blaen arno. Gall y gwaed oeri heb rywiogi, a'r dymer arafhau heb warhau. Yn ei hanes ef, dechreuodd y ddisgyblaeth honno'n gynnar a pharhaodd ar hyd y daith. Nid ofnodd ddilyn ei ddealltwriaeth hyd yn oed yn ei henaint. Newidiodd ei feddwl ar lawer peth, mewn gwleidyddiaeth a chrefydd, yn ei ddydd, ond ni chlywais erioed mono'n dirmygu'r syniadau na allai ef mo'u derbyn mwy. "Yn dawel iawn y bydd popeth yn tyfu," meddai wrthyf unwaith, "ac ni waeth heb ddisgwyl unpeth lawer cyn ei bryd." Felly yn dawel yr aeddfedodd yntau, ac yr aeth ei dawelwch yn eidduned, o leiaf, i un arall.

Y tro diwethaf ond un i mi ei weled, ar ganol yr agonía olaf, ni'm hadnabu pan gyferchais ef. Atebodd yn Saesneg, gan esgusodi ei glyw a'i olwg. Adfail. Eto, yn y man daethom ar draws dirgelwch corff ac ysbryd. Daeth yr hen oleuni i'w lygaid. Nid oedd gryndod yn ei lais mwy. Am awr, llefarodd fel cynt. Yr oedd yr ysbryd mor fyw ag erioed, er mai blin iawn oedd y corff. Yna tawodd, dododd bwys ei ben ar ei law a bu'n edrych yn hir, megis pe ar rywbeth yn y pellter. Ofnwn ei darfu, ond aeth yr ysbaid mor hir fel yr anturiais ofyn a oedd dim a fynnai. "Na," meddai, "meddwl yr oeddwn." Yna sibrydodd:

"Ti a glywi ei sŵn ef, ond ni wyddost o ba le y mae'n dyfod nac i ba le y mae'n myned."

Nid hir fu'r ymdrech wedyn. Agorwyd y drws iddo o'r diwedd. Aeth trwodd yn dawel, gan sibrwd rhywbeth am " yr amseroedd i orffwys o olwg yr Arglwydd."

Perffeithiwyd y tawelwch.

HOLI

Ni welsai Hi eto ond rhyw bedwar haf. Ambell dro—efallai mai ar ganol rhyw chwarae bach diniwed y byddai—fe beidiai'n sydyn ac eisteddai i lawr. Wedi blino, mi dybiwn. Plygai ei phen bach ychydig ymlaen. Dodai ei phenelin ar ben ei glin a'i llaw dan ei gên. Crychai ei thalcen, dôi rhyw olwg bell i'w llygaid, ac edrychai yn syth o'i blaen, nid ar neb na dim a fyddai yn y golwg. Byddai felly yn gwbl lonydd ac yn syn am ysbaid, weithiau am ysbaid go hir-hir iawn yn wir, iddi Hi, a fyddai drwy'r dydd mor aflonydd a bywiog.

Dywedasech ei bod Hi fel rhyw hen wraig fach, yn ceisio atgofio rhywbeth y bu'n ei wybod ryw dro. Byddai arnaf ofn dywedyd un dim wrthi, na gwneuthur sŵn yn y byd i'w tharfu. Dim ond ei gwylio'n ddistaw, fel y gwyliai dyn doriad gwawr neu ymachlud haul, fel yr eisteddai dyn mewn hen eglwys a'i deimlo'i hun yn fychan bach ac yn ddibwys ac annheilwng, fel y gwnâi dyn y peth cysegredicaf a wnaeth erioed.

Ychydig eiliadau cynt, byddai Hi yn fy holi a minnau'n ceisio ateb. Yr un cwestiynau bach syml bron bob amser—"O ble?" "I ble?" "I be?" A'r un atebion, weithiau'n ffaith, ran amlaf yn gorfod bod yn ddim ond dychymyg noeth, canys byddai'r dirgelwch yn gymaint i ni'n dau.

Unwaith, wedi profiad felly, megis un a ofynno tan ei lais beth nis dylai, rhyfygais innau holi pa beth yr oedd Hi yn ei wneud. Cododd ei phen yn araf, gwenodd ryw wên fach wylaidd, fel y pelydryn lleiaf o heulwen yn dyfod yn sydyn ac yn mynd yn ebrwydd. "Melwl," meddai. Ac yn ddioed cyfododd ar ei thraed a mynd rhagddi gyda'i chwarae yn union fel o'r blaen. A minnau'n teimlo fel pechadur wedi torri ar fyfyrdod sant, mor drwsgl â phe na bai i mi na phwyll na pharch.

Ie, "melwl." Ac ond odid yn ddwysach ac unionach nag y bydd neb ohonom ninnau'n gwneuthur hynny byth er pan ddysgasom ddodi mil o ffurfiau ar yr un cwestiynau tragywydd, "O ble?" "I ble?" "I be?"

BYD YN EI LE

PAN fo hen gyfoedion a fu, ac a barhaodd hefyd drwy bob newid, yn gyfeillion, yn cyfarfod â'i gilydd ar dro yn rhywle ar ffordd fawr bywyd, dywedyd y byddant ei bod hi'n hen bryd iddynt gael y cyfle unwaith yn rhagor i "roi'r byd yn ei le." Llawer gwaith y gwnaethant hynny yn ystod y dyddgwaith, ac eto ni wybu'r byd y dim lleiaf oddi wrthynt, ac nid nes mono i'w le wedi'r tro olaf nag wedi'r cyntaf. A'r tebyg yw na bydd y byd-fydd-yn-ei-le byth i'w gael yn unman, onid yng nghytundeb cyfeillion.

Gofyniad cyffredin gan y naill o'r ddau hen gyfaill i'r llall fydd-"Wyt ti'n cofio mor wirion fyddem gynt, yn credu'r peth hwn neu'r peth arall?" Ac fe fydd y llall yn cofio ac yn cytuno. Onid peth felly, yn wir, fydd hanes y blynyddoedd, darganfod o dro i dro mor wirion fyddid cynt? Yr awydd am rywbeth amgen, rhywbeth na bydd ef lle bôm ni, onid hwnnw a'n tynnai o hyd at y peth-sydd-yn-ei-le? Ac ymlaen yn y pellter y byddai hwnnw o hyd. Onid ymguddiai ef y tu draw i bob tro yn y ffordd, a phan ddoem ninnau ryw ddiwrnod at y tro ac edrych yn swil heibio'r plygiad, oni byddai yntau eisoes yn ymguddio y tu draw i'r tro nesaf?

O dipyn i beth, dechreuem sylweddoli, nid yn unig ei fod ef yn newid ei guddfan o hyd, ond ei fod bellach wedi newid ei gyfeiriad hefyd. Ymlaen y byddai gynt. Yn ôl y bydd bellach. Gallem fod wedi mynd heibio iddo yn rhywle ar y ffordd a'i adael yno heb yn wybod i ni ein hunain. Tybed mai wrth freuddwydio amdano ef ei hun yr aethom heibio iddo heb ei adnabod? Syn fydd gennym hefyd deimlo bellach nad ymlaen y bydd rhyfeddodau'r pellter. Drwy ryw hudoliaeth, yn ôl y bydd yntau, draw yn yr heulwen araul, fydd yn tywynnu yno erbyn hyn; a syndod ei fod yntau weithian yn edrych mor debyg i'r peth y byddem yn ei geisio gynt, ymlaen.

Dechreuwn hefyd synio nad ei guddfan a'i gyfeiriad yn unig a newidiodd y byd hwnnw. Oni chwaraeodd ef ambell gast â ni yn ystod y dyddgwaith? Oni theimlwyd, nid yn unig ei fod ef yn chwarae mig â ni, ond ei fod yn newid ei wisg o dro i dro? Ai rhyw hudol oedd yntau, rhyw wehydd yn dieithro'i wisgiad yn gywrain, pan fyddai dynion yn cynefino â'r hen drwsiad, wrth gael cip ar y tu chwith, ac yn dechrau meddwl nad oedd hwnnw wedi'r cwbl lawn cyn wyched ag y bu unwaith yn edrych iddynt hwy? Er hynny, onid medrus oedd ef, a'i wisgiad newydd bob tro mor gymwys, mor ddeniadol â phe bai wedi ei lunio yn union wrth batrwm a mesur gorhoffedd dyn ei hun, wrth ddymuniad ei galon?

Pe deuid rywfodd o hyd i weithdy cudd y gwehydd hwnnw, a medru gwybod manylion ei grefft, oni byddai'r byd yn nes i'w le, onid yr ymchwil am y dirgelwch hwnnw yn wir oedd i wneuthur pethau yn eglur i ni a rhoi'r byd yn ei le? A diau mai difyr oedd yr ymchwil. Antur fawr a chloddio dwfn. Rhamant a dirni, yn gofyn byrbwyll a hirbwyll.

Ac eto, er a ddysgem oddi wrth ein cyfeillion sicraf o'u dysg, teimlem rywfodd, er mor ddifyrrus oedd yr ymchwil yn aml, nad oedd y gwehydd a'i grefft nemor nes i ddyfod i'r golwg. Eithaf y peth a allai'n penaethiaid rhywiocaf fyddai gwisgo rhyw olwg ddoeth, gwenu ambell waith, ysgwyd pen fel pe bai'n drwm gan ddoethineb profiad lawer, a throi at godi neu gadw ein diddordeb yn nhermau aml eu gwybodau hwy. Dangosai eraill, afrywiocach eu graen, ryw dosturi uwchraddol tuag atom, gan chwerthin weithiau am ein pen, pe pen hefyd, ac awgrymu na waeth heb wastraffu amser, na ŵyr neb beth yw, at oleuo'r rhai na roddwyd iddynt mo'r ddawn— ni ddywedid gan bwy—i weled pethau fel y maent, nid fel yr edrychont. Pe gofynsem ninnau sut y mae pethau, a gaem ychwaneg na rhes o dermau mawr mawr am bethau bach bach, mor fach weithiau fel y gellid amau a oeddynt yn bethau o gwbl, hyd yn oed er cael enw o Ladin bas arnynt yn gwarantu eu petholdeb? A ninnau yn ein penbleth, eto heb allu dirnad profiad hen bobl addfwyn nac ateb cwestiynau plant bach, yn chwennych ac eto'n ofni gofyn ai gyda hwy wedi'r cwbl y mae'r byd sydd yn ei le, y pellter a'r awen, y reddf sy'n sicrach na barn—ai eiddynt hwy yw holl ogoniant bod yn effro?

Un peth sydd sicr i ni bellach. Ni chawn ni ddim myned yn ôl. A thraw, ymlaen, y mae'r niwl a'r cysgod, yr anhysbys a'r di-gyfrif. Ac eto, cawn gysgu'n drwm wedi'r dyddgwaith. Ac a allem ni gynt, ai ynghwsg ai yn effro, ddychmygu am beth na allo'r Dirfod ei roddi i ni, o'r drugaredd sy dragywydd: Onid Efô a egyr y drws i bob un ohonom yn ei dro, ac a rydd i ni orffwys? Ac os cawn, fel plant wedi blino, ein gollwng drwy'r drws hwnnw, oblegid dyfod o'r amser i ddadflino o olwg yr Arglwydd, onid hyfryd fyddai'r deffro eilwaith a'r dyddgwaith arall?



ARGRAFFWYD GAN

HUGHES A'I FAB

WRECSAM

Nodiadau[golygu]


Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.