Neidio i'r cynnwys

Y Gelfyddyd Gwta (Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Y Gelfyddyd Gwta

gan Thomas Gwynn Jones

Y GYFRES DDEUNAW___________________________RHIF 1.

Y GELFYDDYD
GWTA

ENGLYNION A PHENILLION

CASGLWYD A GOLYGWYD

GAN

T. GWYNN JONES

GWASG ABERYSTWYTH
1929

—————————————

"Lle daw angall a dengair,
Llunier i gall hanner gair."


Cynnwys

Rhagair
Talfyriadau

Adran 1—Gwynfryd


Tudalen 12…Ael Fain—Dienw…Alts—Dienw…Annerch—Prydyddes Ddienw o Sir Ddinbych
Tudalen 13…Anwyldeb—Dienw...Anwylyd Rhywun—Dienw...Campau—Dienw...Caru Aur—Dienw
Tudalen 14...Y Cryfaf Peth—Dienw...Cyngor—D.W.G..Disgwyl—Prydyddes Ddienw o Sir Ddinbych Dydd Gwyl—Dienw
Tudalen 15...Elin—Edward Urien...Gair Mwys—Sion Tudur...Glendid—Dienw
Tudalen 16...Gwahan—Dienw...Gwen—Dienw...Gwychter Gwen—Rosier Cyffin
Tudalen 17...Gwynfyd—Dienw...Heb ei Hail—Ieuan Tew Brydydd... Hen Gariad—Dienw...Hen Ystori—Dienw
Tudalen 18…Hiraeth—Prydyddes Ddienw o Sir Ddinbych…Iddi Hi—Dienw…Lle Bo'r Galon—Dienw...Merch lan—Dienw.
Tudalen 19…Pellter—Prydyddes Ddienw o Sir Ddinbych...Rhwng Dau—Dienw...Traserch—Dienw...Unwaith—Elis ab Elis.
Tudalen 20…Wedi 'r Cwbl—Dienw...Ymado—Dienw...Yr Oed—Dienw...Y Wlad Uchaf—Owain Eutun.
Tudalen 21…Tegeingl—Tudur Aled...Di-deitl—Gruffydd Hiraethog...Cartref—William Phylip...Gresaw—Sypyn Cyfeiliog.
Tudalen 22...Llawenydd—Rhisiart Phylip...Cyfaill Marw—Wiliam Cynwal...Bedd Bardd—Dienw...Di-deitl—Wiliam Llyn.
Tudalen 23...Lle Mae Awen—William Cynwal, ...Ysgolhaig—Dienw...Celynllwyn—Rhys Cain...I'r Foelas—Rhys ap Rhobert
Tudalen 24...Gynt—Owain Gwynedd...Telyn—Tudur Aled...Cais Lle Bu—Lewys Morys...Colwyn Brith—Siôn Brwynog.
Tudalen 25...Draenllwyn—Syr Owain p Gwilym...Draenllwyn—Sion Brwynog...Eira—Gwerfyl Mechain...Gwenyn—Bleddyn Ddu.
Tudalen 26...Yr Eos—Dienw...Yr Eos—Wiliam Cynwal...Gwynt y Deheu—Tudur Aled...Gwynt y Deheu—Lewis Môn.
Tudalen 27...Haidd—Dienw...Hued—Dienw...Hwyaden—Dienw.
Tudalen 28...Milgi—Rhys Cain,...Oerfel—Dienw...Y Tymhorau—Dienw.
Tudalen 29...Y Tywydd—Dienw...Ychen Yn Pori—Dienw...Ysgyfarnog—Dienw

Adran 2— Brithfyd


Tudalen 32...Anghywirdeb—Dienw...Anobaith—Dienw...AR FOR...—Huw Llifon, Balchio—Dienw.
Tudalen 33...Bai Arall—Rhisiart Abram...Difai—Dienw...Balchter—Dienw...Barn—Dienw.
Tudalen 34...Bendith—Huw Llifon...Bendith—Dienw...Bodlondeb—Dienw...Blinder—Sion Phylip.
Tudalen 35...Boch A Llygad—Simwnt Vychan...Bonedd—Dienw...Brad—Raff ap Robert...Byd Fel y Bo—Dienw.
Tudalen 36...Byd Wrth Fodd—Dienw...BYW 'N LAN—Dienw...Cadarn Anghyfion—Sion Dafydd ap Sion...Caws Drwg—Tudur Aled.
Tudalen 37...Cegwm—Dienw ..Celwydd—Wiliam Llyn... Conach—Guto'r Glyn...Cyfeddach—Huw Morys.
Tudalen 38...Cyngor Da—Dienw...Cywirdeb—Dienw...Chwedleua—Dienw...Chwyrnwr—Guto'r Glyn,
Tudalen 39...Da Gan Eurych—Gruffydd Htraethog...Dadwrdd—Huw Llifon...Dial—Dienw...Dwst—Dienw.
Tudalen 40...Dyn—Dienw...Dyn ac Anifail—Dienw...Dyn ac Anifail—Syr Huw Roberts...Y Ddeufyd—Dienw.
Tudalen 41...Edifar—Dienw...Elusen—Ieuan Brydydd Hir Ieuaf...Erfyniad—Dienw...A Fynno Duw A Fydd—Dienw
Tudalen 42...Geni A Marw—Raff Ap Robert, ...Gofid—Dienw...Gogan—Dienw...GOLUD—DIENW.
Tudalen 43...Goreu Swydd, Cywirdeb—Tudur Aled...Gras—Dienw...Y Grog—Rhys Cain...
Tudalen 44...Gwedi Gwin—Dienw...Gwragedd—Ifan Tudur Owain...Gwreiddyn—Tudur Aled...Gwrol Trugarog—Tudur Aled.
Tudalen 45...Gwyn Ei Fyd—Dienw...Gwynfyd—Ellis Wynne ...Gwyr Mawr—Dienw...Iechyd—Huw Llifon.
Tudalen 46...Y Llo Aur—Ieuan Brydydd Hir Ieuaf...Meddwyn—Dienw...Methiant—Dienw...Y Mudo—Dienw.
Tudalen 47...Oes Gwr—Dienw...Oferedd—Dienw.x2...PAWB—Twm o'r Nant.
Tudalen 48...Pawb o'r Un Ach—Siôn Phylip...Pedwar Peth Diffaith—Sion Tudur...Pibgod—Dienw.
Tudalen 49...Prynu Tir—Ieuan Brydydd Hir Ieuaf...Rhaid—Dienw...Rhy—Tudur Aled...Rhyddid—Dienw.
Tudalen 50...Y Siawns—Dienw...Syched—Wiliam Cynwal...Synnwyr—Dafydd Ab Edmwnd...Tafod Da—Huw Llifon...
Tudalen 51...Tir Da—Elis ap Rhys ap Edwart...Y Tlawd—Simwnt Fychan..Y Tlawd—Twm Siôn Cati...Trethi—Robert Puw.
Tudalen 52...Trugaredd—Dienw...Trwsiad—Dienw...Twyll—Dienw...Tynged—Iorwerth Fynglwyd
Tudalen 53...Yfed—Peter Llwyd, Gwnnod...Ymddyrchaeu—Tudur Aled...Ymryson—Ieuan Tew Brydydd.


Adran 3—Difod.


Tudalen 56...ANGAU—HYWEL AP SYR MATHEU...Angau—John Davies...
Tudalen 57...Angof—Dienw...Y Bedd—Dienw...Y Byrfyd—Dienw...Darfod—Dienw.
Tudalen 58...Y Dewis—Huw Llifon...Dychwel—Raff ap Robert...Dymuniad—Dienw...Dymuniad Claf—Hywel ap Syr Matheu
Tudalen 59...Yr Englyn Olaf—Tudur Aled...Gwae'r Hen—Guto 'r Glyn...Henaint—Huw Llifon
Tudalen 60...Y Siwrnai—Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Vychan...Y Ty Olaf—Adda Fras
Nodiadau

RHAGAIR

Y MAE'N debig fod llenyddiaeth ein cyfnod ni, ar ei goreu, yn tueddu at grynoder a chynildeb ymhob gwlad. Diau fod a wnêl chwaeth rywbeth â hynny, a chwaen, efallai, lawn cymaint. Ni ddiainc dim rhag amgylchiadau a dyfeisiau mechanegol y cyfnod. Onid aeth Llundain i'r llundai, ac oni ddaw campau'r rhai a ŵyr o'r awyr? Pa faint fydd effaith y pethau hyn ar ieithoedd a llyfrau, ar y nofel a'r ddrama? Gall celfydd fel Charlie Chaplin adrodd ystori, a dodi ynddi "feirniadaeth ar fywyd," hyd yn oed, ag ystum ac ysgogiad, ac nid syndod fyddai glywed y Saeson—a'r Cymry o ganlyniad— cyn hir yn clarabowio drwy eu trwynau. Yn y dyddiau hynny, fel y dywedodd Gwenddydd gynt wrth Fyrddin, "Gwyn ei fyd y genau yn rhwydd gyfeistrin a lefaro trigair o'r iaith gysefin," bid honno yr iaith y bo. Eto, nid pethau cwbl newydd yw cynildeb a chrynoder chwaith.

Gwendid mawr prydyddiaeth ymhob iaith, ond odid, yw'r geiriau llanw a ddodir i mewn ynddi i gwpla'r mesur, i wneuthur cynghanedd neu i gadw odl. Mewn prydyddiaeth Gymraeg, y mae'r gwendid hwnnw 'n amlycach nac mewn odid iaith arall, oblegid bod y mesurau a'r gynghanedd mor gaeth a chywrain. Gynt hefyd, ystyrid mai yn y geiriau llanw yr oedd y farddoniaeth, ac y mae llawer o brydyddion eto fel pe baent yn credu 'r un peth. Nid bai'r mesurau a'r gynghanedd yn unig yw hyn, canys ni ddichon bod dim yn gwteuach a chynilach na gwaith goreu meistriaid pennaf y gynghanedd. O'r Pedwar Mesur ar Hugain, diau mai 'r Englyn yw'r rhyddaf oddiwrth eiriau na bo'u heisiau i fynegi 'r meddwl. Y rheswm am hynny yw na ellir bod yn anghryno iawn mewn deg sillaf ar hugain. Gwnaed llawer o englynion da yn y ganrif ddiweddaf, er bod agos bob peth a berthyn i grefft yr epigramwr yn groes i'w defod hi; ond eto, ni ddeil englynion goreu 'r ganrif i'w cymharu ag eiddo'r canrifoedd cynt. Ni cheir arnynt mo'r graen oedd ar waith ein tadau. Na 'r craffter. Na'r cywirdeb. Crefft Gymreig yw englyna, a bu agos iddi fynd i ganlyn yr hen grefftau gwych ereill, a giliodd o sŵn y peiriant. Nid heb achos y soniai "Syr Meurig Grynswth" am ei "beiriant englynu."

Nid rhaid yma ymdroi i holi ynghylch tarddiad yr Englyn. Fe wyddid cyn ein cyfnod ni fod rhyw gysylltiad rhyngddo ef, yn gystal a mesurau Cymraeg ereill, â mydryddiaeth Ladin. Prin y gallai fod yn amgen, yn wir. Pe ceid hanner dwsin o enghreifftiau tebig i'r pennill Lladin a gaed ar bared yn Pompei ("Balnea vina Venus, &c.[1]), odid na phrofai hynny darddiad yr Englyn, a hyd yn oed y Gynghanedd, yn weddol eglur. Ond o ba le bynnag y daeth yr Englyn, da fu ei ddyfod, canys dysgodd gynildeb i brydyddion lawer, ac ynddo ef y ceir rhai o'r pethau goreu yn Gymraeg.

Clywais ofyn yn ddiweddar, gan ddyn synhwyrol a meddylgar hefyd, pa gamp sydd ar bennill o un math, a phaham na wnâi iaith rydd gyffredin y tro i bob dyn at fynegi ei feddwl. Yn wyneb rhodres cymaint o'r hyn a sgrifennir am lenyddiaeth ym mhob iaith, y mae gennyf i lawer o gydymdeimlad â'm cyfaill a ofynnodd y cwestiwn i mi. Y mae 'n lled sicr fod beirdd a llenorion goreu'r gwledydd wedi gwneuthur eu gweithiau heb ddychmygu erioed am y pethau rhyfedd a ddywed yr esbonwyr a'r beirniaid amdanynt. Eto, pam y mynasant hwy arfer iaith fesuredig o gwbl? Ni wyddis, ond y mae'n fwy na thebig fod a wnelai hynny rywbeth â datblygiad iaith a thwf meddwl i ddechreu. Diau fod dyn yn eithaf crefftwr â'i ddwylaw cyn ystwytho o'i dafod i siarad erioed. Tybir yn wir mai datblygiad iaith a barodd iddo golli'r medr llaw a llygad a enillodd, nes gallu ohono mewn amseroedd cyn cof ysgythru lluniau mor gymesur â dim a geir heddiw tan law 'r lluniedyddion goreu. Pan ddaeth iaith hithau yn ei thro, nid anhebig i ddyn ei darostwng hithau i'w nwyd grefft. Sonia un o'r beirdd Groeg am hoelio geiriau 'n gadarn wrth ei gilydd, ac y mae termau crefft yn bethau cyffredin yn y sôn am gelfyddyd prydyddiaeth ym mhob iaith. Felly, y mae rhyw reidrwydd wrth wraidd mydr, yr un rheidrwydd ag y sydd tan fôn pob crefft. Fe ellir dywedyd mewn iaith rydd beth a ddywedir mewn mydr. Y mae 'n wir hefyd mai gwell fyddai pe na ddywedid yn y naill fodd na'r llall lawer iawn o'r hyn a ddywedir ym mhob un o'r ddau. Eto, y mae rhai pethau a ddywedwyd y byddai 'r rhan fwyaf o ddynion yn barod i gytuno mai iawn oedd eu dywedyd, mewn rhyw fodd neu gilydd. Ac am y modd. Pe dywedai dyn: "Y mae dynion y bo 'u tueddiadau yn cydfynd â'i gilydd yn naturiol yn ymgasglu at ei gilydd," ni allai neb ei gyhuddo o ddywedyd peth ofer, nac o'i ddywedyd yn wael iawn ychwaith; ond pan ddywedodd rhyw hen Gymro, ryw dro, "Adar o'r unlliw, hedant i'r unlle," fe wnaeth fwy na pheidio â dywedyd peth ofer; fe wnaeth hyd yn oed fwy na dywedyd peth gwir — fe wnaeth yr un peth â phe cawsai hyd i ddarn o faen gwerthfawr a'i lyfnhau a'i lathru a'i ddodi mewn amgant aur. Yr oedd yr hen Gymro hwnnw yn graffwr ac yn grefftwr. Dyna unig amddiffyniad mydryddiaeth dda. Ond, wrth gwrs, prin yw popeth da. Ac nid yn unig prin o ran swm, ond prin hefyd o ran sŵn, canys nid yw geiriau onid sŵn, ac ofer yw sŵn heb synnwyr. Felly, y mae gan y cenhedloedd sydd, fel y mae'r Iapaniaid a'r Sineaid, medd y rhai a ŵyr, yn credu mai cwta a chryno a ddylai prydyddiaeth fod, gryn lawer i'w ddywedyd trostynt eu hunain. Adroddais i'r cyfaill,

y soniais amdano eisoes, yr englyn hwn, o waith Tudur Aled:—

"Mae 'n wir y gwelir argoelyn difai
Wrth dyfiad y brigyn,
A hysbys y dengys dyn
O ba radd y bo 'i wreiddyn."

Cemist yw fy nghyfaill, a gofynnais iddo onid oedd englyn Tudur cystal darn o ddadansoddiad a chyfansoddiad ag a wnaed erioed. Atebodd yntau ei fod ac y buasai prydyddiaeth yn ddiddanwch iddo yntau pe buasai bob amser cystal ag englyn Tudur. Felly, dylai fod yr ansawdd hon ar brydyddiaeth dda bob amser, hyd yn oed pan ymosodo 'r bardd ar dasg hwy na gwneuthur epigram. Nid ar y beirdd y bydd y bai bob pryd fod eu darllenwyr yn darllen eu gweithiau ar ormod o garlam i weled eu doethineb. Cof gennyf hon weithwyr amaethyddol a chrefftwyr o Gymry gynt na byddent byth ar ôl am ddihareb neu bennill i gloi pob ystori neu hanes. I ba le'r aeth y gamp honno? Byddai llenyddiaeth yn ddiddanwch i'n teidiau, ac yn rhoi min ar eu meddyliau. Hynny a bair fod darllen gweithiau Thomas Edwards o'r Nant yn addysg i rai a syrffedwyd ar sothach gwasg ac ysgol. Pa sawl llyfr deg a chwech sy cystal â phennill Thomas Edwards ar natur dyn a'i droedigaeth?—

"Y garreg callestr, er y collo
Mewn dŵr neu ddaear, a'i darn dduo,
Fe ellir yn glir, drwy foddion glân,
Ennyn y tân o honno."

Neu ba faint o bregethau am y nefoedd a gynnwys gymaint o wir a'r ddwy linell hyn:—

"Pe câi dyn annuwiol fynd i'r ne,
Fe'i gwelai 'n rhyw le aflawen!"

Neu eto bwy a dwyllid gan ragrith cegymod y byd o'i fod yn gynefin a ffilosoffi fel hyn:—

"Mae gweniaith diawl yn gwneuthud eilun,
Clwt newydd a'i wnio i fritho 'r hen frethyn,
Un diawl Pharisead yn gweled gwall,
A diawl arall yn deiliwryn!"

Ceir y gelfyddyd gwta mewn prydyddiaeth gaeth a rhydd, gynnar a diweddar. Ychydig iawn a wyddis o hanes y penillion a elwir yn benillion telyn a glywir weithiau hyd heddiw ar dafod leferydd. Ni wyddis pwy a'u gwnaeth, ac ni ellir bod yn sicr iawn pa bryd y gwnaed ychwaith. Efallai — yn wir, gellir profi — i rai ohonynt fod unwaith yn rhan o gân, ond anghofiwyd y penillion i gyd ond rhyw un. Bu hwnnw fyw ar gof gwlad, nes i rywun o'r diwedd ei sgrifennu i lawr. Os ymofynnwn yn fanwl, fe welwn paham y cofiwyd y penillion hyn. Gwelwn hefyd fod nid ychydig o rinwedd ym meddwl y bobl a'u cadwodd ar gof. Atgofion yw 'r penillion bychain hyn, sudd profiad wedi ei wasgu i le bach, fel pe tynnid peraroglau rhosyn a'i botelu a'i gadw. Bydd darllen rhai ohonynt yn peri i chwi feddwl am hen gist a fu â chlo arni am flynyddoedd, a chwithau'n ei hagor ac edrych drwyddi—dyfod o hyd i fwndel o hen lythyrau, cudyn o wallt, neu flodyn wedi ei wasgu rhwng dwy ddalen.

"Fe ddaw 'r llong yn ôl i'r Foryd
A daw'r gwair a'r ŷd o'r gweryd,
Ond er maint y mynd a'r dyfod,
Ni ddaw Gwen o'i gwely tyfod."

Casgliad bychan yw'r llyfryn hwn o Englynion yn bennaf, a godwyd o dro i dro wrth chwilio llawysgrifau, ond ceir yma ambell bennill oddiar y cof fel na allaf, ysywaeth, nodi ymhale y cefais. Ni chynhwyswyd onid ychydig ddarnau ym Mesur Cywydd Deuair Hirion, am y bwriedid pan oedd bryd ar lafur felly gyhoeddi cyfrol fach arall o'r rheiny, rywdro. Gadawed allan y penillion telyn hefyd, am fod casgliad helaethach ac astudiaeth berffeithiach fy nghyd-lafurwr, Dr. Parry Williams, i ddyfod allan cyn bo hir.

Ysgrifennwyd corff y rhagymadrodd rai blynyddoedd yn ôl, ac ni ddeuthum yn y cyfamser ar draws dim a barai i mi gymedroli llawer ar y golygiadau sydd ynddo. Credaf y bydd yr englynion a'r penillion eraill yn ddiddanwch i'r sawl a garo ddawn a medr, a wêl fwy nag un ochr i bethau yn y byd difrif-digrif hwn, ac a fedro chwerthin hyd yn oed am ei ben ei hun, ambell dro.

Nid yw 'r gynghanedd bob amser yn ateb i safonau 'r ganrif ddiwethaf, a dygir ffurfiau'r iaith lafar i mewn i rai penillion weithiau. Nid gwaeth mo'r gwaith er hynny, canys y mae synnwyr ynddo, a gwiwdeb ymadrodd, min, cynildeb ac afiaith, lleferydd dynion nad oeddynt na di-gywilydd na digalon, ac na thywynnodd ar eu meddwl mai eu busnes yn y byd oedd

ymddiheuro tros fod ar ffordd rhywun arall.

TALFYRIADAU.

B.M....Llawysgrifau'r Amgueddfa Brydeinig.
C.M....Llawysgrifau Cwrt Mawr............ (N.L.W.)
G.M....Papurau Gwallter Mechain ......... (N.L.W.)
Ll.S..... Llawysgrifau Llan Stephan ......... (N.L.W.)
Ll.Y.A..... Llyfr Ystrad Alun
Most....Llawysgrifau Mostyn............ (N.L.W.)
N.L.W.....National Library of Wales Add. MSS.
P.M....Llyfr Pont y Meibion.
Pant....Llawysgrifau Panton............ (N.L.W.)
Pen..... Llawysgrifau Peniarth............ (N.L.TF.)
R.N.J....Llsgr. ym meddiant R. N. Jones, Ysw., Aberystwyth

O gopïau ym meddiant y golygydd y mae'r pethau a ddaeth o Ll.Y.A. a P.M.

GWYNFYD

AEL FAIN
(Pen. 84)

Myn Crist 'r wyf yn drist mewn drain yn gorwedd
O gariad fy rhiain;
Gwelir fi yn farw gelain
Ar ôl y ferch a'r ael fain.

—DIENW.


ALTS
(C.M. 14)

Alis fach, tegach[2] wyt ti, myn Seiriol,[3]
Na'r seren sy'n codi;
Gwn nad oes i gydoesi
Drychineb yn d' wyneb di.

—DIENW.


ANNERCH
(Most. 131)

Can' hawddamawr mawr o'm iaith a roddwn;
Ireiddwyn gydymaith
A chan' hawddfyd mebyd maith
I'r câr gwyn cywir, ganwaith.

Gwae fi, gwn weiddi, gan na wyddoch boen
Am benyd a roesoch;
Dilawen wy 'n dilyn och
A di stôr, ond a styrioch.

Cysgu mewn deudy, nid iach i'r galon,
Fo'm gwelir i'n bruddach;
Beth a wnai, gyfell, bellach,
Ai marw ai byw 'r enaid bach?

—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH;[4]


ANWYLDEB.
(Most. 131)

F'enaid, tro d'wyneb yn fynych ataf,
Tro eto, ddyn feinwych;
Tro, y fwyn, yma tra fych,
Tro, f 'enaid, im tra fynnych.

—DIENW.


ANWYLYD RHYWUN
(C.M. 14)

Dacw wen feinwen ar faenol, decaf,
A dacw fy hudol;[5]
Dacw 'nghariad gwastadol,
A dacw 'r ddyn deca ar ddôl!

—DIENW.


CAMPAU
(Most. 131)

Yn wen, yn llawen, yn lliwus, yn araf,
Yn irwen barablus,
Yn winwydden wen weddus,
Yn fain ei chorff, fwyn ei chus.[6]

—Dienw.


CARU AUR

Cerais aur, ac er rhoi sen, ba gerydd?
Bwy garai beth amgen?
Cywrain fal coron felen
Y troed y gwallt ar iâd Gwen!

—DIENW.


Y CRYFAF PETH
(N.L.W. Add. MS. 436,110)

Cryf yw cryfdwr dŵr ar doriad y môr,
Cryf ymherodr dengwlad,
Cryf yw 'r gwynt, rhyw helynt rhad,
Cryf yw cwrw, cryfa Cariad.

—DIENW


CYNGOR
(Pen. 123)

Pan fo 'r haf decaf o'r dydd i garu,
Goreu bod yn llonydd;
Na ddod dy law mewn awydd
Yn rhwym, rhag nas cei hi'n rhydd.

—D.W.G.


DISGWYL
(Most. 131)

Beunydd o newydd, a nos, i'm meddwl,
Fy maddeu 'r wyt, agos;
Minnau sydd wâr yn d' aros—
Od ei yn elyn im, dos!

—Prydyddes Ddienw o Sir Ddinbych.


DDYDD GŴYL

Gwyliwch na soniwch am Siân, na dwedyd
Nad ydyw 'n ferch groenlan,
Oedd gloewach, ddygwyl Ieuan,
Ei thrwsiad hi na thyrs[7] tân!

—DIENW.


ELIN
(G.M.)

Bendith tad, rhodiad mewn rhin, cyfiawn-deg
Fendith mam ddierwin;
A'm bendith i gwedi gwin,
O fawlair fo i Elin.

—EDWARD URIEN.


GAIR MWYS
(Pen. 99)

Anhawddgar feinwar, a'r faneg yn aur,
Yn arwain pryd rhydeg;
Anhapus, ddyn weddusdeg,
Anffortun i'r topyn[8] teg!

An-fwyn, anaddwyn, an-wych, anluniaidd,
Anlanaf, lle delych;
An lawen, ddyn oleuwych,
An lan iawn wyd o lun wych!

—SION TUDUR, i ferch a'i henw Ann.


GLENDID


Od ydwyd, fal y dywedan', yn ffôl
Ac yn ffals dy amcan,
Hynod i Dduw ei hunan
Fentro dy lunio mor lân!

—DIENW.


GWAHAN
(Most. 131)

Er sôn dynion gan dannau is irwydd,
Er siarad am gampau,
Meddyliaid am f' enaid fau,
Cadi fwyn, y ceid finnau.

Ond caeth, lloer odiaeth lliw 'r ôd, i minnau,
O mynnwn gyfarfod,
Lle 'dd wyf[9] na elli ddyfod,
Lle 'dd wyt ti ni cha-f i fod.

—DIENW


GWEN.
(Most. 131)

Wyneb Gwen burwen lle bo, a'i golwg,
Gwae galon a'u canffo,
A gwae 'r mab, dirwydd-dab dro,
Ysywaeth, a'i ffansïo.

—DIENW.


GWYCHTER GWEN
(G.M.)

Mi wn uchter ser nos hirwen i 'm gwers[10],
Mi wn gwrs yr wybren,
Gwn rif gwellt a phob mellten,—
Ni wn hanner gwychter Gwen.

—ROSIER CYFFIN


GWYNFYD
(Most. 131)

Weithion, gwnelont eu gwaetha', ar unwaith
O Arennig i'r Bala,
Nid wyf brudd, nid ymguddia'[11]
Os f' enaid gannaid a ga'.

—DIENW.


HEB EI HAIL
(C.M. 14)

Ni bu 'r Enid na Branwen
Na Chymraes â chwi mor wen.

—IEUAN TEW BRYDYDD.


HEN GARIAD
(Most. 131)

Cenais, ban ellais, benillion, y bore,
Bwriais fawr beryglon;
Ac nid hawdd im ganu tôn
Ac wylo yn y galon.

Chwiliwch, ystyriwch ddwys doriad calon
A 'ch coeliodd yn wastad;
Gwrandewch, cry gwirion Dad,
Achwyn gŵr, eich hen gariad!

—DIENW.


HEN YSTORI
(C.M. 24)

Dy geraint, mewn braint a bri, Gwen annwyl,
Gwenwynig yw 'r rheini,
Y sydd chwannog i 'm crogi,
F' enaid aur, er dy fwyn di!

—DIENW.


HIRAETH
(Most. 131)

Pob mwynder, ofer afiaith, pob meddwl,
Pob moddus gydymaith,
Popeth, yn wir, ond hiraeth,
Yn gynnar iawn oddi genni 'r aeth!

—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH.


IDDI HI
(Most. 131)

N' ato[12] Crist awr drist fynd drosti, na chlwyf,
Na chlefyd fyth arni,
Na digwyddaw dig iddi,
Na 'i chasáu o'm achos i.

—DIENW.


LLE BO'R GALON
(P.M.)

Lle bo cariad, brad mewn bron, yn llechu
Mewn lloches dirgelion,
Fe dry llusgiad llygad llon,[13]
Llwybr y goel, lle bo'r galon.

—DIENW.


MERCH LAN
(C.M. 23)

Os gwych Gwen feinwych, gwyn fanod,[14] nodedig
Nad ydyw heb wybod;
Od yw hon o dw[15] hynod,
Da 'i llun, fo ŵyr bun ei bod!

—DIENW.


PELLTER
(Most. 131)

Byd digllon i'm bron, heb wres, dy belled,
Dibwyllodd fy mynwes;
Byd rhyflin bod rhyw afles,
Byd da 'n wir be baut yn nes!

—PRYDYDDES DDIENW O SIR DDINBYCH.


RHWNG DAU
(P.M.)

"Amdanad mewn gwlad mae 'n gledi gwallus
Am golli dy gwmni;
Dwysach oedd na 'm dioesi,
Dwysa dim dy eisiau di."

"Cei fynwes gynnes genni, cu fwynwalch,
Cei f' einioes, os mynni;
Cei fy llaw yn dy law di,
Cei fy nerth cyfan wrthi."

—DIENW.


TRASERCH
(N.L.W. Add. 436)

Treiglo, trwm ddigio trwy ymddygiad traserch,
Nid rheswm mo 'i fagiad;
Trwm ydyw'r plwm a dur plâd[16]
Trwm awch cur, trymach cariad.

—DIENW.


UNWAITH
(C.M. 5)

Amser drwy fwynder a fu mai cynnes
Y cawn dy gusanu;
A digerydd, dy garu
Eto a gaf, wyt ti gu!

—ELIS AB ELIS.


WEDI 'R CWBL
(Most. 131)

Os bwriad cariad a'm curia dan f'ais
Er dwyn f' oes, ni chwyna';
Gwnaed hiraeth im ei waetha,
A'i bod Hi yn dwyn byd da!

—DIENW.


YMADO
(Most. 131)

Na herwr[17] yn siwr dan law siri,[18]
Yn myned i'w golli,[19]
Blinach i'm tyb eleni,
Mawd ach Huw, ymado â chwi.

—DIENW.


YR OED
(Pen. 52)

Glân yw meingan mewn mangoed a manwydd
A minnau sy sgafndroed;
Y bore y bu hiroed,
A phrynhawn yr awn i'r oed.

—DIENW.


Y WLAD UCHAF
(C.M. 23)

O daliaf i byth ar adeilad tŷ,
Tynnaf i'r uchelwlad;
Meddyliaf am y ddwywlad—
Ordraf fy nhŷ ar dref fy nhad.

—OWAIN EUTUN.


TEGEINGL
(Pen. 84, 243)

Rhodiais tra fymiais trwy fannau ar fyd,
Trwy hyfryd fryd frodiau,[20]
Truth gadarn, teg yw'r farn fau,
Tew gongl aur, Tegeingl orau.

—TUDUR ALED.


(Pen. 134)

Plae mae cael mor hael? mawr holi; pob llan
Pob llawenydd ynddi;
Pob da'n hon, pawb edwyn hi,
Pob dyn mewn pob daioni.

—GRUFFYDD HIRAETHOG.


CARTREF
(Pen. 115)

Plennais, da gwisgais dew gysgod o'th gylch
Wedi 'th gael yn barod;
Wele, yr Hendre Waelod,
Byddi di a m'fi heb fod!

WILLIAM PHYLIP, i'w gartref Hendre Waelod, 1593


GRESAW
(Pen 81)

Dyred pan fynnych, gresaw pan ddelych,
A gwedi delych, tra fynnych, trig.

—SYPYN CYFEILIOG.


LLAWENYDD
(C.M. 11)

Hiraeth sy helaeth am Siôn a Marged
A'u mawrgost a'u rhoddion,
Nid iach deutal fy nghalon,
Nid llawen byd lle ni bôn'.

—RHISIART PHYLIP.


CYFAILL MARW
(C.M. 11)

Od aethost, mae 'n dost, i dud; y gwyliau,
Gwelais y'm atebud,[21]
A heddiw, ni 'm gwahoddud,
Un wyt ai 'n falch, yntau 'n fud!

—WILIAM CYNWAL.


BEDD BARDD.
(N.L.W. Add M.S. 169, 65)

Cei ras hen Horas tan weryd Tudur
Tad yr holl gelfyddyd;
Ymadrodd dysg, a'i medryd,
Cais tan ben cist awen byd.

—DIENW, i Dudur Aled.


(C.M. 25)

Y maenddarn cadarn, lle cedwi ddawn oll,
Dduw, n' allwn dy godi!
Ar fedd gro fal to 'r wyt ti,
Ar warr Rys Goch Eryri.

—WILIAM LLYN.


LLE MAE AWEN
(C.M. 23)

Llyma fedd maswedd Moesen, wawd didwyll
Lle mae Tudur gymen,
Llyma 'r ro lle mae'r awen,
A llyma 'r pwll lle mae'r pen.

WILLIAM CYNWAL, wrth fedd Tudur Aled.


YSGOLHAIG

Er Cof am Edward Llwyd.[22]

Meini nadd a mynyddoedd, a gwaliau
Ac olion dinasoedd,
A dail, dy fyfyrdod oedd,
A hanesion hen oesoedd.


CELYNLLWYN
(C.M. 23)

Tŵr celyn uwch bryn a bro, tŵr a gardd,
Tŵr i gerdded ynddo,
Y tu fewn fal tŷ yw fo,
Tyner a'r Foelas tano.

—RHYS CAIN, i'r Foelas, Pentre Foelas


C.M. 23)

Bryn glas y Foelas a folon[23] i'n tasg
Hynt esgud y beirddion,
A siambrau, tyrau tirion,
Yr hafaidd dŷ fry ar fron.

—RHYS AP RHOBERT, i'r unlle.


GYNT
(C.M. 23)

Mi wela' yma lle bu amau[24] bod
Heb na beirdd na thannau,
Mi welais yma wyliau
A llawen gwrt, a llu 'n gwau.

—OWAIN GWYNEDD,
wrth fynd heibio i Fathafarn.


TELYN
(Most. 131, 526)

Hawddamawr bob awr, bybyriaith, dylwn
I'r delyn o'r henwaith,
Wrth glywed mwyned i'm iaith
Ei brenhingerdd brynhawngwaith.

—TUDUR ALED.


CAIS LLE BU
(C.M. 14)

Nid oes 'n awr, dirfawr y darfu, maswedd
Na musig[25] yng Nghymru;
Diau oedd fod dydd a fu
Telyn gan bob pen teulu!

—LEWYS MORYS O FON, 1726.


COLWYN[26] BRITH
(C.M. 23)

Gronyn ohonyn henwyd, eirionyn,
Gronyn a gywreiniwyd,
Gronyn, gonyn ag annwyd,
Gronyn yn gynrhonyn rhwyd.

—SIÔN BRWYNOG.


DRAENLLWYN
(Pen. 99)

Tew grys, to dyrys, tŷ ederyn gwyllt,
Heb nac allt na dyffryn,
Tlws gardd[27] gŵr, teils gwyrdd gorun,
Tlawd, heb un brawd, ar ben bryn.

—SYR OWAIN AP GWILYM.

Rhediad, rhyw doad, rhod ewybr rhadlon,
Rhydliw wisg arian-grwybr;[28]
Rhod wenllaes ar hyd unllwybr,
Rhyw grib fal pe 'n rhwygo 'r wybr.

—SION BRWYNOG.


EIRA
(C.M. 24)

Gwynflawd, daeargnawd, oergnu, ym mynydd,
Manod wybren oerddu;
Eira yn blât, oer iawn blu,
Mwthlan[29] a roed i'm methlu.[30]

Eira gwyn ar fryn oer fry a'm dallodd
A'm dillad yn gwlychu;
Myn Duw gwyn, nid oedd genny
Obaith y down byth i dŷ.

—GWERFYL MECHAIN.


GWENYN
(Pen. 77, 301)

Cwning, can' nwsing,[31] cywion isel cainc,
Cyrff ifainc craff afel,
Cnwd o wybed cnawd Abel,
Cario y maent cwyr a mêl.

—BLEDDYN DDU.


YR EOS
(C.M. 23)

Blaengar swn claear, clywais, win awen,
Sôn eos felyslais;
Bryd oslef baradwyslais,
Berw o goed lwyn, bragod[32] lais.

—DIENW.


(Most. 23)

Eos braint coednaint caeadnerth, gwiw bwnc[33]
Dda driphwnc ddidrafferth;
Clyw ei chwiban, cloch aberth,
Gwiw irgan pig, organ perth.

—WILIAM CYNWAL.


GWYNT Y DEHEU
(Most. 131, 252)

A gasglai y Mai, maith ddolef, o ddail
Ar ddolydd ucheldref,
Natur i wynt hynt Hydref
Fyned i gerdded ag ef.

—TUDUR ALED.

A gasglai y Mai, maith olwg, o ddail
Ar ddolydd Caerwidwg,
Cyd ymladd a'r coed amlwg,
Cafodau 'r deau a'i dwg.

—LEWIS MÔN.


HAIDD
(C.M. 14)

Da yw rhyg di wŷg, a di wagaidd geirch,
A gorchwyl hwsmonaidd;
Da fydd gwenith ffrith ffrwythaidd,
Ac oll, er hyn, gwell yw'r haidd.

—DIENW.


HUED
(P.M.)

Clywch lid ac ymlid Cad Gamlan, clywch gyrdd,
Clywch gerddwyr yn datgan;
Clywch dryblu coed, clywch drebl cân,
Clywch aerweilch y clych arian.

Cynyddion[34] gwylltion ag eilltiaid, clerwyr,
Cwncwerwyr cainc euraid;
Cyd liaws hardd, cydlais haid,
Croew beth yw cri bytheiaid!

—DIENW.


HWYADEN
(C.M. 24)

Rhociad, dynn seliad dan iselwydd, wlyb,
Oer lais grec foreddydd;
Chwilio mêr y goferydd
Yn fanwl am benbwl bydd.

—DIENW.


MILGI
(Most. 131)

Cyrch gwiber, hyder hedydd, melyn cawn,[35]
Ym mlaen cŵn y gwledydd;
Corff hir fain craff ar fynydd,
Ci perl, a ŵyr cipio hydd.

Cryfdwr llew hylew, lliw heulwen wybr frig,
Llithiedig, lle 'th adwen,
Cyflym wyllt, ci fal mellten,
Cei draw gylch aur, cadw 'r gloch wen.

—RHYS CAIN, Englynion a wnaed y 10fed dydd o vis Medi i filgi Dafydd Holand
a enillodd y gloch arian oddiar wyr Kilgwri. Anno dni
. 1590.


OERFEL
(Most. 131)

Tro draw, dyro law, daear las a guddiwyd,
Duw, gwyddom fyd atgas;
Tro 'r ia a'r eira oerias,
O Dduw, i'r glyn yn ddŵr glas.

—DIENW.


Y TYMHORAU
(C.M. 23)

Mwyn oedd gael Gwanwyn gwynnog,[36] a hefyd
Mwyn hafaidd hin wresog,
Cynhaeaf araf, eurog,
Gaeaf, i'm tyb, gwlyb ei glôg.

—DIENW.


Y TYWYDD
(P.M.)

Gŵyl Bawl wybodawl, llu bedydd a'i clyw,
Os claear fo 'r tywydd,
A'r hinon hyd y bronnydd,
Bid diau fo, byd da fydd.

—DIENW.


YCHEN YN PORI

Onid pêr clywed pori yr ychen?
Hir iechyd i'r rhieni;
Gwledd ni cheid i arglwyddi,
Na baich ŷd oni bâi chwi.

—DIENW


YSGYFARNOG
(C.M. 24)

Hwi bellen ruddwen ar ros, hwi eto,
Hwi atat gi 'n agos;
Hwi, hwi 'n dynn, hwi hai d' einioes,
Hai, onid ei, ffafr nid oes!

—DIENW


BRITHFYD

ANGHYWIRDEB
(C.M. 14)

A fo gwirion a geirwir,[37] a medrus,
Ei 'madrodd a goelir;
Ni cheir, myn Mair, un gair gwir
Yng nghawell dyn anghywir.

—DIENW.


ANOBAITH
(N.L.W. Add. 436)

Er na fynn Duw gwyn deg weniaith bechod
Am bob achos diffaith,
Ni fynn Duw gwyn gwedi 'r gwaith
Mynnu neb mewn anobaith.

—DIENW.


AR FOR[38]
(C.M. 24)

Ar for yr ydym, hwyr fradwyr truain
Yn treio[39] ein bywyd,
Mewn tonnau, poenau penyd,
Gwae ni ein boddi 'n y byd!

—HUW LLIFON, Clochydd Llannefydd


BALCHIO
(Most. 131)

Wrth edrych mewn drych mwyn dro ei dull,
A'i dillad yn mwstro,
Rhaid fydd, lle rho Duw efô,
Fawl a chywaeth, falchîo.

—DIENW.


BAI ARALL
(Most. 144)

Pobl y byd ennyd adwaenan', o fâr,
Fai arall yn fuan;
Ni wŷl neb yn ôl a wnân'
Hanner ei feiau 'i hunan.

—RHISIART ABRAM.


(Pen 66)

Gwirddyn ni ŵyr mo'i gerdded o'i flaen,
Aflonydd yw 'r dynged;
A fo difai na feied
Ai' y lleill a'u bai ar lled.

—DIENW.


BALCHTER
(N.L.W. Add. 436)

Fy ienctid trwy lid heb les, o falchedd
A fylchodd fy muches;
A'm opiniwn a'm poenes
Yn llwyr yn erbyn fy lles.

—DIENW.


BARN

Pob drwg o'r golwg a gela dynion
A dân y Gorucha';
Yn ei lys Ef, ni leshâ
Euro llaw[40] am air lleia'.

—DIENW.


BENDITH
(C.M. 24)

I garchar daear od wyf ar fyned,
A'r fonwent y caffwyf,
Yn fy medd cyn gorweddwyf,
Fy mendith ymhlith fy mhlwyf.

—HUW LLIFON.


(C.M. 23)

Fal blodau prennau ymhob rhith, fal ôd,
Fal adar ar wenith,
Fal y daw y glaw a'r gwlith,
Mae i undyn fy mendith.

—DIENW.


BODLONDEB
(C.M. 24)

Doed ôd a chafod o uchafion byd,
Rhaid yw bod yn fodlon;
E ddaw unwaith i ddynion
Gawod o haul gwedi hon!

—DIENW.


BLINDER
(C.M. 51)

Blin feddwl, drwbwl, blin foddion y byd,
Blin yw bod yn ddigllon;
Blin ymhêl a chatelion,[41]
Blinach yw byw lle ni bôn'!

—SION PHYLIP.


BOCH A LLYGAD
(Pen. 99)

Ymgais di, Ddafydd, yn amgen â Thwm,
Od aeth yma gynnen,
O'i foch, cais dynnu fflochen
I gau tolc dy lygad hen!

—SIMWNT VYCHAN, pan oedd ddychanu rhwng Tomos Grythor y Foch
a Dafydd ap Niclas, gwehydd un llygeidiog.[42]


BONEDD
(C.M. 24)

Doeder[43] a fynner am fonedd i ddyn,
Oni ddwg beth rhinwedd,
Fo a'r gŵr afrywiog wedd
Yn daeog yn y diwedd.

—DIENW


BRAD
(Pen. 72)

Suddas fradwr, gŵr a gai arian gwarth
Er gwerthu 'r Mab Drogan,
Tithau, mae 'r gair it weithian
Fwrw ohonot ti Fair yn tân.

—RAFF AP ROBERT.


BYD FEL Y BO
(C.M. 24)

Tra bo iraidd gwraidd 'ny gro, pêr ydywj
Prioded a'i caro;
Rhaid i'r ferch a orddercho
Gymryd y byd fal y bo.

—DIENW.


BYD WRTH FODD
(Llsgr. R.N.J.)

Ni chadd dyn ronyn ond a rannodd—Duw,
Ni cheir dim o'i anfodd;
Odid un a'i dymunodd
Yr aeth ei fyd wrth ei fodd.

—DIENW.


BYW 'N LAN.
(Most. 144)

Englyn a thelyn a thân, ac afal,
Ac yfwyr mwyn diddan,
A gwin melys a chusan,
Dyn fain, lwys,—dyna fyw 'n lân!

—DIENW.


CADARN ANGHYFION

Y cadarn a'i farn a fo anghyfion,
Anghofia Duw 'r eiddo;
A wnêl camwedd,[44] drygwedd dro,
E dry 'i epil ar dripio,.

—SION DAFYDD AP SION.


CAWS DRWG
(Pen. 77, 264)

Caws du Llan Bendu, mal hen badell grach,
A gwrych ar ei dafell;
Caws yr ast o Dre 'r Castell,
Caseg a wnai caws gwyn well!

—TUDUR ALED.


CEGWM

Edrydd y gwledydd dy glod oherwydd
Dihirwch dy dafod;
Derfydd y gwledydd a'th glod
Wedi dofi dy dafod.

—DIENW.


CELWYDD
(Most. 144)

A ddywed gelwydd heb weddïo Duw,
Ffordd y dêl i rodio,
O dywed wir drahir dro,
Gwylied na chaiff ei goelio.

—WILIAM LLYN.


CONACH
(B.M. 14892)

Darn sy ohonot o Edeirnion genedl,
O ganol twysogion,
Darn o grydd fal derwen gron,
Darn arall o durnorion.

—GUTO'R GLYN, i Ifan Gruffudd Leiaf, a wrthododd iddo gysgu gydag ef.


CYFEDDACH
(C.M. 11)

Gad feddwon dewrion i daeru, dadwrdd,
A dwedyd heb allu,
Dos ymaith, ŵr llaith, o'r llu,
Gad y diawl gyda 'i deulu.

—HUW MORYS.


CYNGOR DA
(Ll.S. 169, 23)

Cymer ddysg, dod ddysg, dywed dda, ŵr prudd,[45]
Ym mhob rhaid, gobeithia;
Llafur di a gweddía,
Medd Duw, llyna 'r moddau da.

—DIENW.


CYWIRDEB
(C.M. 14)

O'r swyddau goreu a gerir o'r byd,
Goreu bod yn gywir;
Ni freinia nef yr anwir,
Ni fynn Duw gwyn ond y gwir.

—DIENW.


CHWEDLEUA
(C.M. 24)

Meddwch, dywedwch ai da i'r hostwr
Eistedd i chwedleua
Ar hyd y dydd, hirddydd ha,
Tan nos yn y tŷ nesa'?

—DIENW.


CHWYRNWR
(C.M. 3)

Deffro, Dwm, gidwm gedym ei ddannedd,
Tyn oddiyna d' erddyrn,[46]
Dyn fal ci, dan weflau cyrn
Drwy 'i gwsg yn dragio esgyrn.

—GUTO'R GLYN, i was oedd yn ei gwsg yn
rhincian dannedd.


DA GAN EURYCH
(MOST, 131)

Tripheth mewn cantir[47] a hoff—a eurych[48]
Arwydd yfwr iawndda—
Gŵr geirwir a gwraig ara'
A bod y ddiod yn dda.

—GRUFFYDD HIRAETHOG.


DADWRDD
(C.M. 24)

Pwy bynnag, gorwag, a garo dadwrdd
A doedyd a fynno,
Fo wrendy 'n fflwch, trwch yw 'I tro,
Poeth naws min, peth nis mynno.

—HUW LLIFON.


DIAL

Y dyn da, nid yw 'n dial,
Dywed ef mai Duw a dâl;
Od yw wir y mynn Duw dâl,
Onid yw gyfion dial?

—DIENW.


DWST
(Most. 131, 828)

O ddwst a lludw, yn ddyn, â llawnwyd,[49]
Y lluniwyd pob rhyw ddyn;
O'r dwst y doeth pob noethyn,
I'r dwst y bwrir pob dyn.

—DIENW.


DYN
(C.M. 23)

Yn noeth lymyn, dyn, er d' eni i'r byd,
Er bod pawb i'th hoffi,
Duw gwyn, er ein digoni,
Un dydd, noeth yw 'n diwedd ni.

—DIENW.


DYN AC ANIFAIL[50]
(C.M. 14)

Defod 'nifeiliaid yw nad yfon' ddŵr
Nac o ddim ond digon;
Defod dyn ei hun yw hon—
Yfed er yfed afon!

—DIENW.



(C.M. 14)

Fe baid 'nifeiliaid pan fôn' diofal,
Nid yfant ond digon,
Ond rhyfedd, gresynedd sôn,
Ffut[51] annoeth, na phaid dynion.

Fe ŷf Siôn o Fôn, f' enaid, mwy nag ŷch,
Mae 'n ei gaul[52] gythreuliaid;
Fe ŷf Siôn fwy na 'i lonaid,
Nid ŷf yr ŷch ond ei raid.

—SYR HUW ROBERTS.
—DIENW.


Y DDEUFYD
(C.M. 23)

O gyweth[53] difeth mewn deufyd, Duw gwyn,
Digonedd sy gennyd;
Gyda rhoi im nef hefyd,
Trefna beth tra fwy 'n y byd

—DIENW.


EDIFAR
(Most. 131)

Trugaredd deg wedd. Duw gwyn, i'm buchedd—
Mi bechais yn d' erbyn;
Wylo 'r wyf i'w llwyr ofyn,
Dwfr hallt, mae 'n edifar hyn.

—DIENW.


ELUSEN
(B.M. 15030)

Dod gyfran i'r gwan pan gwyno ei ing,
O'i angen a'i portho;
Na bydd byth gybydd o'th go
Ac an-hael i gynhilo.

—IEUAN BRYDYDD HIR IEUAF.


ERFYNIAD
(C.M. 24)

Fy Arglwydd hylwydd a haela', trwy ffydd
Mae tri pheth a geisia'

Dy ras im drwy oes yma,
Trugaredd a diwedd da.

—DIENW.


A FYNNO DUW A FYDD
(C.M. 23)

Dur, haearn cadarn, coedydd, a thyrau,
A thiroedd a gwledydd,
A fynno Duw o fewn dydd
Ei ddarfod, ef a dderfydd.

—DIENW.

GENI A MARW
(C.M. 14)

Noeth, bychan a gwan y genir dyn byw,
Dyna beth syad eirwir;
A gwan a noeth, gwn yn wir,
A diddim y diweddir.

—RAFF AP ROBERT, yn ol Most. 131.


GOFID
(Most. 131)

Ydwyf brudd bob dydd, nid aeth o'm calon,
Coeliwch fi, fy hiraeth;
Ni chêl y grudd cystudd caeth
Y galon a ddwg alaeth.

—DIENW.


GOGAN
(Most. 131)

Annoeth iawn fy noethineb
O gwnawn i ogan i neb;
A wnêl gogan ac anair,
Am ogan, gogan a gair.

—DIENW.


GOLUD
(Most. 131)

Wrth weled mor galed gwylio cywaeth
Caeodd pawb eu dwylo;
Ni chlyw 'r llawn, gyflawn ei go',
Wich y gwan na chai ginio.

—DIENW.


GOREU SWYDD, CYWIRDEB
(Most. 131, 609)

O'r swyddau, diau, lle deuir i'r byd,
Goreu bod yn gywir;
Ni freinia nef yr enwir,
Ni fynn Duw gwyn ond y gwir.

—TUDUR ALED.


GRAS
(C.M. 23)

I fab diarab, diras yw'r moddau
Er meddu'r holl deyrnas;
Ofer oedd, nid ffafr addas,
Dda neu bryd[54] i ddyn heb ras.

—DIENW.


Y GROG

Yr annuwiol ffôl a ffy, poen alaeth,
Pan welo lun Iesu;
Llunied, os gwell yw hynny,
Llun diawl ymhob lle 'n ei dŷ.

—RHYS CAIN, pan feiwyd arno am beintio llun Crist ar y grog


GWAITH
(Pen. 159)

Llafuria, gweithia ym mysg gweithwyr byd,
Bid d' enaid yn deilwng;
Rhag ofn o fewn rhyw gyfnod
Dy farw ym mysg d' oferedd.

—"Hywel Bangor a'i gwnaeth, mewn tair
enaid cerdd, ac er hynny mae bai, oherwydd
nad yw'r odlau yn cyd-gordio.[55]


GWEDI GWIN
(Pen. 99)

Nid da cellwair, gair a wna gwarth, Dafydd,
Ail dyfiad Deheubarth;
Nid da awen, nid diwarth
Min, yn ôl gwin, a wnêl gwarth.

—DIENW.


GWRAGEDD
(Pen. 99)

Mae gwraig heb ddim gorwegi, ddiddig,
A ddioddef ei chosbi;
Y mae gwraig—neu ymgrogi,—
A fynn hyn a fynno hi.

—IFAN TUDUR OWAIN.


GWREIDDYN


Mae'n wir y gwelir argoelyn difai
Wrth dyfiad y brigyn,
Hysbys y dengys y dyn
O ba radd y bo 'i wreiddyn.

—TUDUR ALED


GWROL TRUGAROG
(Most. 131, 253)

Gwrol, tra gwrol, trugarog wrol,
Ni bu tragwrol na bai trugarog.[56]

—TUDUR ALED.


GWYN EI FYD
(C.M. 23)

Gwyn ei fyd, gweryd Duw'r gwirion, a gaiff
Un a gâr ei galon,
Iechyd hardd, a chyda hon,
Dŵr i'w yfed o'r afon.

—DIENW.


GWYNFYD

Gosodwyd, nodwyd i eneidie ffyddlon
Yn berffeiddlwys gartre
Aur blas, a gras yw'r grisie,
Disgleirwych yn entrych ne.

Nid gwynfyd a wnaed i genfaint anianol,
Mae 'n wynnach brenhinfraint.
Ni ddaw yno 'n ddi henaint
I lan y sêr lai na saint.

—ELLIS WYNNE O LASYNYS.[57]


GWYR MAWR
(N.L.W. Add. 436)

Pob llanc yn ifanc a fo yn ŵr ffres,
Ni phrisia gwmnïwr,
Pob bril yn mynd yn filwr,
A phob nag, a phawb yn ŵr.

—DIENW.


IECHYD
(C.M. 24)

Duw frenin, ddibrin ddiddybryd, da'i wyrthiau,
Diwartha fy mywyd,
Arglwydd ben arglwyddi byd
Drem uchel, dyro i'm iechyd.

—HUW LLIFON.


Y LLO AUR
(B.M. 15030)

Trengu er casglu wna'r call ariannog,
Ryw ennyd, fel arall,
A thraddodi gwedi 'r gwall
Ei lo aur i law arall.

—IEUAN BRYDYDD HIR IEUAF.


MEDDWYN
(Pen. 99)

Meddwi, mawr goegni, mae'r gŵr, a meddwi,
Nid moddau cwmnïwr;
Meddwi 'mhob man fal anwr,—
E feddwai ped yfai 'r dŵr!

—DIENW.


METHIANT
(Most. 131)

Ymadael yr wyf â mudo ganwaith
I gynnig ymendio,—
Oer yw a drud, ar ryw dro,
Na bai rywfan i brifio.

—DIENW.


Y MUDO

Mudwn o'n holl ormodedd, o'n tiroedd
A'n tyrau disgleirwedd,
Olynol i wael annedd
I dario bawb i dŷ 'r bedd.

—DIENW.


OES GWR
(C.M. 23)

Er goludoedd, er glewdwr,
Nid oes i'w crael ond oes gŵr.

—DIENW.


OFEREDD
(Ll.Y.A.)

Treuliais a gefais o gyfoeth, anfuddiol,
Heb feddwl am drannoeth;
Cefais am wario cyfoeth
Ddeulin a phenelin noeth.

—DIENW.

(Pant. 40)

Oferedd, gwagedd i gyd yn gyfan
A gefais i'm bywyd;
Gwae o'r anferth gur ynfyd,
Medd y bardd, sy 'n maeddu byd!

—DIENW.


PAWB

Holed dyn ei hun heno, a gwylied
I'w galon ei dwyllo,
Mae natur, mi wn, eto
A dull ei chwant yn dwyll o'i cho.

—THOMAS EDWARDS O'R NANT.


PAWB O'R UN ACH[58]
(C.M. 23)

O'r llescaf, coecaf gŵr caeth, dibarchus,
Hyd berchen brenhiniaeth,
Rhaid in' oll, ofergoll faeth,
Ymroi i weli marwolaeth.

Holl drawster nifer hynafion bydoedd,
Heb adael gweddillion,
Fe 'u dwg Duw, fendigaid iôn,
Ar warrau'r plant a'r wyrion.

Er balchedd bonedd y byd a'i ryfig
I rwyfo llawenfyd,
Ni ddaethom oll i'r hollfyd—
O Adda ac Efa i gyd.

—SIÔN PHYLIP.


PEDWAR PETH DIFFAITH
(Pen. 99)

Pedwar peth diô'eth mewn dôr, bâr ydynt
A bair ado ymogor,[59]
Mwg, dlêd, a chwain, myn Sain Siôr,
A gwraig druansaig, drwynsor!

—SION TUDUR.


PIBGOD
(Most. 31)

Mae gwyddau 'n bynnau neu beunod, i fewn
Neu fynn yn breferod,[60]
A lleisiau 'n ei genau, gôd
Naw gwaeth na mil o gathod.

—DIENW.


PRYNU TIR
(B.M. 15030)

Os rhaid yr enaid a rennir ar gam
Ar ryw gŵys anghywir,
Ni thâl frwynen i'r enwir
Y braint hwn o brynu tir.

—IEUAN BRYDYDD HIR IEUAF.


RHAID
(Most 131)

Oni bydd byd rhydd yn rhwyddo i ŵr,
Ni wiw iddo 'i geisio;
Ynddo rhaid iddo rodio,
A chymryd byd fal y bo.

—DIENW.


RHY
(Most. 131, 754)

Rhy uchel, pan êl, poen alaeth, a gwymp
Ddigampus naturiaeth;
Rhy dynn a dyrr, fyrr fariaeth,
Rhy lawn a gyll, rhy lew 'n gaeth.

—TUDUR ALED.


RHYDDID

Cerddais a rhedais yn rhydd o'm rhamant
I'm rhwymo 'n dragywydd;
Hedwn yn gynt na 'r hedydd
O 'r rhwym i fyned yn rhydd!

—DIENW.


Y SIAWNS
(Most. 131)

Tybiais gael er mael i mi gywely
A golud mawr iddi,
A dafad wedi dofi —
Gafr ar siawns a gerais i.

—DIENW.


SYCHED
(C.M. 23)

Er bod Rhys nwyfus yn yfed ar dasg[61]
Er y dydd y ganed,
Er cael bir y sir yn siêd,[62]
Os iach, nid llai ei syched.

—WILIAM CYNWAL.


SYNNWYR
(Pen. 77, 301)

Synnwyr sarff sy 'n oreu som,
Synnwyr merch sy un air a'i mam;
Synnwyr mab sy'n oreu mwm,
Synnwyr Duw sy 'n oreu dim.

—DAFYDD AB EDMWND.


TAFOD DA
(C.M. 24)

Hapus, ddawnus, ddiana' a medrus
Ymadrodd mewn tyrfa,
Cydnabod rhan tafod da
Rhag ateb yn rhy gwta.

—HUW LLIFON.


TIR DA
(Most. 131)

Er poeni 'r ychen a'r penna' i redeg,
A'r hadyd o'r teca',
Yr ysmoneth[63] a fetha
Oni chedwir ar dir da.

—ELIS AP RHYS AP EDWART.


Y TLAWD
(C.M. 23)

Dyro ddillad rhad angenrheidiol dro
I druan anghenol,
Dyro fwyd, dirwy fydol,
Di a gei nef deg yn ôl.
—SIMWNT FYCHAN


Most. 144)

Gwae henddyn gwydyn go oediawg, gwargul,
Gwirgas y cyfoethawg;
Gwae pan orffo rhodio rhawg
A'i ben gwyn heb un geiniawg.

—TWM SIÔN CATI, i Sion Dafydd Llwyd Hen.


TRETHI
(C.M. 14)

Treth faith, treth nawaith,[64] treth newydd, treth fawr,
Treth fory a thrennydd;
Trethau fil yn ei gilydd,
Treth ar dreth hyd feth a fydd.

Treth bell, treth gastell, treth ged, treth gadarn,
Treth i gadw dieithred;
Treth gario, treth gywiried,
Treth i ladron cryfion Cred!

—ROBERT PUW.


TRUGAREDD

Fy Nuw, gwêl finnau, Owen; trugarha
At ryw grydd aflawen,
Fel y gwnawn pe bawn i'n ben
Nef, a thi o fath Owen!

—DIENW.


TRWSIAD
(C.M. 23)

Ni charaf forwyn ry chwerwaidd ei gwên,
Ag wyneb hen-ddynaidd,
A phen hwch mewn ffa neu haidd,
A phais Iwyd a phâs wladaidd.

—DIENW.


TWYLL
(N.L.W. Ajdd. 436)

Hawdd draw yw twyllaw mewn tywyllwg ddyn,
Ni ddaw ffals i'r amlwg;
Diafol, ond o ran golwg,
Dan ei druth ydyw'r dyn drwg.

—DIENW.


TYNGED
(C.M. 11)

Ni odrig[65] meddig am a êl at Dduw,
Ni ddiainc o fatel;
Nêr a rifer i ryfel,
Nos na dydd ni wys nad ôl.

—IORWERTH FYNGLWYD


YFED
(Adroddwyd i'r Golygydd, gan wyr i frawd yr Awdur, wanwyn 1914).

Yfed a'm gwnaeth yn afiach yng Nghynwyd,
Anghenog wyf bellach;
'D oes unlle, o bentre bach,
O fôr i fôr, fawr oferach.

—PETER LLWYD, GWNNOD.


YMDDYRCHAEU
(Most. 131, 829)

Y bryd a gyfyd o'r gwellt
I wybren wen, fal brân wyllt,
Ymogel di, ddyn myglyd wallt,
O'r berth rhag dy drawo â bollt.

—TUDUR ALED.


YMRYSON
(C.M. 5)

Y byd a syrthiodd mewn bâr bwriadus,
A brodyr nid ymgar;
Am y golud mae galar,
Gelyn gan gerlyn ei gâr.

—IEUAN TEW BRYDYDD.


DIFOD.

ANGAU
(C.M. 24)

"Ni wn o'r byd hwn ble tynnaf i ffwrdd,
Na pha ffordd a gerddaf,
Na pha wlad rad a rodiaf,
Na phle gan yr Ange 'r af.

Beth wyd, Angau, ba fath dynged?
—och, ŵr,
Pam na cheir dy weled?
Ba fan neu gyfran o gred
Y'th henyw? Ble y'th aned? "

"Cleddau dur, Angau, dewr wyf, ni fynnaf
Onid dyn lle delwyf;
Cas y byd, a'u cosb ydwyf,
Cennad Duw dad atad wyf."

—HYWEL AP SYR MATHEU,
yn ol rhai copïau. Ym Most. 131 priodolir
yr englyn cyntaf uchod i Raff ap Robert



(Most. 144)

Er gwychter, gryfder a grym, a mawredd,
Rhaid yw marw yn gyflym;
Pan ddel angau, llwybrau llym,
Llai o chwedl na llwch ydym.

—JOHN DAVIES.


ANGOF
(C.M. 14)

Ba gerdd, goeg angerdd, ba gyngyd[66] wna dyn
Wedi dwyn ei fywyd?
Bwy a edrych lyfr brych brud,
Bwy ddarllen mewn bedd oerllyd?

—DIENW.


Y BEDD
(C.M. 24)

Y crys gwyn a'm tynn o'm tŷ, a llinin,
A llunio fy ngwely,
A'm gwasgu yma i gysgu
Yn fyddar i'r ddaear ddu.

—DIENW.


Y BYRFYD
(Most. 131)

Daethost drwy fawrfost i fyrfyd yn noeth
I wneuthur dy benyd,
Ag yna, er sy gennyd,
Ar awr bach yr ei o'r byd.

—DIENW.


DARFOD
(C.M. 23)

Pan elwyf drwy glwyf dan glo i waglawr
Yr eglwys mewn amdo,
Ni ddaw anadl oddiyno
I alw ar Grist o lawr gro.

—DIENW.


Y DEWIS
(C.M. 24)

Dan bren yr ywen yr af i'm diwedd,
A'm dewis orffwysfa;
Ac yn fy medd gorweddaf,
Fy hyd o'r gweryd a gaf.

—HUW LLIFON.


DYCHWEL
(Most. 131)

O'r ddaear gynnar y'm ganed yn noeth
I wneuthur fy nhynged,
Ac i'r ddaear glaear gled
I'r un man yr wy 'n myned.

—RAFF AP ROBERT, y dydd cyn ei farw.


DYMUNIAD
(C.M. 23)

Arglwydd gwyn, hylwydd gynheiliad[67] nefoedd,
Yn ufudd yn wastad,
Gras a dawn gwir Iesu, dad,
Yn y man yw 'nymuniad.

—DIENW.


DYMUNIAD CLAF
(N.L.W. Add. 436, 109)

Edryched, mynned im' oes drwy iechyd,
Edryched ar f' oerloes,
Oni fynn estyn f ' einioes,
Byrhaed yn rhwydd, f 'Arglwydd, f 'oes.

—HYWEL AP SYR MATHEU, ar ei glaf wely.


YR ENGLYN OLAF
(Pen. 72, 425. Most. 131, 457. N.L.W. Add. MS. 435, 72; 436, 71; 435; 436)

Er ffrydiau gwelïau gloywon yr Iesu,
Er ei ysig ddwyfron,
Er gwaed ei holl archollion,
Na bwy 'n hir yn y boen hon!

—TUDUR ALED,ar ei glaf wely, y diwethaf oll o'i waith.


GWAE'R HEN
(C.M. 3)

Gwae'r gwan da 'i oedran, nad edrych, nichwardd,
Ni cherdda led y rhych;
Gwae ni wŷl[68] yn gynhilwych,
Gwae ni chlyw organ na chlych.

—GUTO 'R GLYN, yr englyn diwethaf cyn ei
farw yn Llanegwestl, ynghylch 1450.


HENAINT
(C.M. 24)

Cau 'r drws, a madws ymwadu â'r byd
Er bod pawb i'm helpu;
Nesnes beunydd yw 'r dydd du,
A'r henaint a ŵyr hynny.

Cymdogion a dynion da i 'mwared
A 'morol am dana',
Nid oes wres a'm cynhesa,
A'r galon yw 'r gloyn iâ.

—HUW LLIFON.


Y SIWRNAI
(C.M. 23)

Ar awr, mi a wn yr a', a madws[69]
Ymadael oddiyma;
Ofn y siwrnai sy arna',
Am roi o Dduw im awr dda.

—GRUFFUDD AB IEUAN
AP LLYWELYN VYCHAN?


Y TY OLAF

Bendiged Duw'r tŷ newydd,
Heb ddail, heb wiail, heb wŷdd,
Heb nenbren, heb obennydd,
Heb le tân, heb weled dydd.
—ADDA FRAS?

  • 12 .tegach. Ni chaledai 'r g yn y radd gymharol.
  • Seiriol enw sant. Ar ei ôl ef yr enwir Ynys Seiriol, ar ymyl
  • Môn.
  • 12 .Ychydig brydyddiaeth o waith merched a geir yn y Llawysgrifau Cymraeg. Un o Ddyffryn Clwyd oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Efallai mai hi oedd y brydyddes ddienw.
  • 13 .hudol y swynwr. Enw yw, nid ansoddair.
  • 13 .cus, cusan.
  • 14 .tyrs, ffaglau. O'r Saes. torch.
  • 15 .topyn, cudyn gwallt. Gwelir mai chwarae ar enw 'r ferch y mae'r prydydd.
  • 16 .Lle 'dd wyf lle ydd wyf, lle yr wyf.
  • 16 .gwers, pennill.
  • 17 .nid ymguddia', ni phlygaf ben.
  • 18 .N' ato na adawed.
  • 18. Ymadrodd ardderchog yw llusgiad llygad llon.
  • 18. gwyn fanod ôd neu eira mân.
  • 18 .o dw, o dwf.
  • 19 .dur plâd, plât, o'r Saes. plate.
  • 20 .herwr, un wedi colli nawdd cyfraith, peth cyffredin pan oeddid yn lladrata tiroedd y Cymry annibynnol.
  • Siri, siryf, o'r Saes. Sheriff. Dealler main gyda herwr
  • 20 .i'w golli, i'w ddihenyddio.
  • 21 brodiau, ffurf luosog brawd, barn.
  • 21. a m'fi, a myfi.
  • 22. atebud, gwahoddud. Hen derfyniad yr ail pers. yn yr amser amherffaith oedd –ut, -ud. Aeth yn –it, fel yr ysgrifennir bellach, drwy ddylanwad i ar ei ôl —atebut ti atebit ti.
  • 23. Edward Lhuyd, pennaeth Cywreinfa Ashmole, Rhydychen, un o ysgolheigion pennaf ei oes.
  • 23. a folon, a folom. Tyfodd y ffurf (a glywir fyth ar lafar) drwy i'r n o'r rhagenw ni lyncu'r m. i'n tasg, fel dyletswydd.
  • 24. lle bu amau, lle bu amheus.
  • 24. musig. Seinier yr u Gymraeg, fel y gwneir eto yn y gair ar derfynau Sir Gaorfyrddin a Morgannwg.
  • 24. colwyn, ci bach. Tebig mai Gronyn oedd ei enw.
  • 25. Tlws gardd, dealler tlws fel enw, nid ansoddair. Sylwer ar fanylder "Rhydliw wisg arian-grwybr," gwisg o liw rhwd a chrwybr arian ar hyd-ddi.
  • 25. mwthlan, gorfeddal, mwythus, mursonnaidd, medd Dr. Davis. Clywir eto yn Sir Ddinbych, fel enw, am ryw fenyw gnodiog, feddal. Methlu, maglu, rhwystro.
  • 25. can nwsing, can' dwsin.
  • 26. bragod math ar ddiod. Soniai 'r telynorion hefyd am y bragod gywair.
  • 26. 2il Englyn. Yr oedd prydyddion y cyfnod hwn yn hoff iawn o eiriau cyfansawdd.
  • 27. cynyddion, meistriaid y cŵn hela, unigol cynydd.
  • 28. melyn cawn, o liw cawn melynion.
  • 28. gwynnog, gwyntog, a'r t yn troi 'n n yn rheolaidd.
  • 32. a fo gwirion a geirwir. Esgeulusid f yn y gynghanedd yn aml gynt.
  • 32. 3ydd Englyn. Gwelir nad odla 'r llinell gyntaf a'r lleill.
  • 32. treio, mynd ar drai, yn llai.
  • 33. euro lla
  • w, prynu ffafr, breibio.
  • 34. catelion, o'r Saes. chattels.
  • 35. Englyn 1af. Ergyd y pennill yw nad oedd gan y naill nemor le i achwyn ar y llall.
  • 35. doeder, ffurf lafar gyffredin gynt am dyweder.
  • 36. a wnel camwedd. Ni feddelid cytsain yn gyffredin gynt ar ol ffurfiau trydydd pers. unig y modd dibynnol.
  • 38. prudd, hen ystyr y gair oedd doeth, o'r Llad. prudens. Am fod dynion call yn fynych yn drist y cymerth y gair yr ystyr honno, ond odid.
  • 38. erddyrn, ffurf luosog arddwrn.
  • 39. cantir, can' tir. eurych, gof aur i ddechreu, yna tincer.
  • 39. a garo dadwrdd, gweler y nodiad ar 36.
  • 39. â llawnwyd, yn llawn gwŷd.
  • 40. "Dyn ac Anifail ": Ceir yr englyn cyntaf tan enw Huw Llifon, clochydd Llannefydd, Sir Ddinbych, yn C.M. 24, ond bod y drydedd llinell yn amgen —" Dyna waith diffaith i don."
  • 40. ffut, o'r Saes. feat, efallai.
  • 40. mae 'n ei gaul, yn ei grombil.
  • 40. o gyweth, ffurf lafar ar y gair cyfoeth.
  • 43. neu bryd, harddwch.
  • 43. 4ydd Englyn. Gwelir nad odla diben y llinellau, ac na chedwir rheol dibeniad anghytbwys yr esgyll.
  • 44. 4ydd Pennill. Toddaid Hir yw 'r pennill, ond am fod y Gair Cyrch yn odli â'r gwant, fe wnâ bennill Rhupunt Hir hefyd —

"Gwrol, tragwrol,
Trugarog wrol,
Ni bu tragwrol
Na bai trugarog."

  • 45. Gwelir fod Ellis Wynne yn arfer ffurfiau llafar.
  • 48. Englyn 1af. Dengys yr englynion hyn y byddai'r beirdd ar dro yn blino ar wenhieithio i'r gwŷr mawr
  • 48. ymogor, cysgodfa, annedd.
  • 48. breferod y ffurf gyffredin yw breferad, brefu, rhuo.
  • 50. yfed ar dasg, yfed a'i holl egni.
  • 50. yn siêd yn rhydd, faint a fynnai. O'r Saes. escheat.
  • 51. ysmoneth hwsmonaeth.
  • 51. nawaith naw gwaith.
  • 52. ni odrig, nid erys, nid oeda.
  • 57. cyngyd ymaros, oedi. Dengys y gynghanedd yma, megis gan feirdd eraill, mai cyn-gyd nid cyngyd, a ddywedid.
  • 58. cynheiliad cynhaliwr.
  • 59. ni wŷl ni wêl.
  • 60. madws, yn llawn bryd, yn hwyr glas.

—————————————

Gwnaethpwyd ac Argraffwyd yng Nghymru gan
J. D. Lewis Argraffwyr Gwasg Gomer Llandysul.


Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Gweler Blodau o Hen Ardd. H. J. Rose a T. Gwynn Jones. Gwrecsam, Hughes a'i Fab, 1927.
  2. tegach. Ni chaledai 'r g yn y radd gymharol.
  3. Seiriol enw sant. Ar ei ôl ef yr enwir Ynys Seiriol, ar ymyl Môn.
  4. Ychydig brydyddiaeth o waith merched a geir yn y Llawysgrifau Cymraeg. Un o Ddyffryn Clwyd oedd Alis ferch Gruffudd ab Ieuan ap Llywelyn Fychan. Efallai mai hi oedd y brydyddes ddienw.
  5. hudol swynwr. Enw yw, nid ansoddair
  6. cus, cusan
  7. tyrs, ffaglau. O'r Saes. torch
  8. topyn, cudyn gwallt. Gwelir mai chwarae ar enw'r ferch y mae'r prydydd
  9. Lle 'dd wyf lle ydd wyf, lle yr wyf.
  10. gwers, pennill.
  11. nid ymguddia', ni phlygaf ben.
  12. N' ato na adawed.
  13. Ymadrodd ardderchog yw llusgiad llygad llon.
  14. gwyn fanod ôd neu eira mân.
  15. o dw, o dwf
  16. dur plâd, plât, o'r Saes. plate.,
  17. herwr, un wedi colli nawdd cyfraith, peth cyffredin pan oeddid yn lladrata tiroedd y Cymry annibynnol.
  18. Siri, siryf, o'r Saes. Sheriff. Dealler main gyda herwr main,
  19. i'w golli, i'w ddihenyddio.
  20. brodiau, ffurf luosog brawd, barn.
  21. atebud, gwahoddud. Hen derfyniad yr ail pers. yn yr amser amherffaith oedd –ut, -ud. Aeth yn –it, fel yr ysgrifennir bellach, drwy ddylanwad i ar ei ôl —atebut ti atebit ti.
  22. Edward Lhuyd, pennaeth Cywreinfa Ashmole, Rhydychen, un o ysgolheigion pennaf ei oes.
  23. a folon, a folom. Tyfodd y ffurf (a glywir fyth ar lafar) drwy i'r n o'r rhagenw ni lyncu'r m. i'n tasg, fel dyletswydd. i'n tasg,
  24. lle bu amau, lle bu amheus.
  25. musig. Seinier yr u Gymraeg, fel y gwneir eto yn y gair ar derfynau Sir Gaorfyrddin a Morgannwg.
  26. colwyn, ci bach. Tebig mai Gronyn oedd ei enw.
  27. Tlws gardd, dealler tlws fel enw, nid ansoddair.
  28. Sylwer ar fanylder "Rhydliw wisg arian-grwybr," gwisg o liw rhwd a chrwybr arian ar hyd-ddi.
  29. mwthlan, gorfeddal, mwythus, mursonnaidd, medd Dr. Davis. Clywir eto yn Sir Ddinbych, fel enw, am ryw fenyw gnodiog, feddal
  30. Methlu, maglu, rhwystro.
  31. can nwsing, can' dwsin.
  32. bragod math ar ddiod. Soniai 'r telynorion hefyd am y bragod gywair.
  33. Yr oedd prydyddion y cyfnod hwn yn hoff iawn o eiriau cyfansawdd.
  34. cynyddion, meistriaid y cŵn hela, unigol cynydd.
  35. melyn cawn, o liw cawn melynion.
  36. gwynnog, gwyntog, a'r t yn troi 'n n yn rheolaidd.
  37. a fo gwirion a geirwir. Esgeulusid f yn y gynghanedd yn aml gynt.
  38. Gwelir nad odla 'r llinell gyntaf a'r lleill
  39. treio, mynd ar drai, yn llai.
  40. euro llaw, prynu ffafr, breibio.
  41. catelion, o'r Saes. chattels.
  42. Ergyd y pennill yw nad oedd gan y naill nemor le i achwyn ar y llall.
  43. doeder, ffurf lafar gyffredin gynt am dyweder.
  44. a wnel camwedd. Ni feddelid cytsain yn gyffredin gynt ar ol ffurfiau trydydd pers. unig y modd dibynnol.
  45. prudd, hen ystyr y gair oedd doeth, o'r Llad. prudens. Am fod dynion call yn fynych yn drist y cymerth y gair yr ystyr honno, ond odid.
  46. erddyrn, ffurf luosog arddwrn.
  47. cantir, can' tir
  48. eurych, gof aur i ddechreu, yna tincer
  49. â llawnwyd, yn llawn gwŷd.
  50. "Dyn ac Anifail ": Ceir yr englyn cyntaf tan enw Huw Llifon, clochydd Llannefydd, Sir Ddinbych, yn C.M. 24, ond bod y drydedd llinell yn amgen —" Dyna waith diffaith i don."
  51. ffut, o'r Saes. feat, efallai.
  52. mae 'n ei gaul, yn ei grombil.
  53. o gyweth, ffurf lafar ar y gair cyfoeth.
  54. neu bryd, harddwch.
  55. Gwelir nad odla diben y llinellau, ac na chedwir rheol dibeniad anghytbwys yr esgyll.
  56. Toddaid Hir yw 'r pennill, ond am fod y Gair Cyrch yn odli â'r gwant, fe wnâ bennill Rhupunt Hir hefyd —
    "Gwrol, tragwrol,
    Trugarog wrol,
    Ni bu tragwrol
    Na bai trugarog."
  57. Gwelir fod Ellis Wynne yn arfer ffurfiau llafar.
  58. Dengys yr englynion hyn y byddai'r beirdd ar dro yn blino ar wenhieithio i'r gwŷr mawr
  59. ymogor, cysgodfa, annedd.
  60. breferod y ffurf gyffredin yw breferad, brefu, rhuo.
  61. yfed ar dasg, yfed a'i holl egni.
  62. yn siêd yn rhydd, faint a fynnai. O'r Saes. escheat.
  63. ysmoneth hwsmonaeth.
  64. nawaith naw gwaith.
  65. ni odrig, nid erys, nid oeda
  66. cyngyd ymaros, oedi. Dengys y gynghanedd yma, megis gan feirdd eraill, mai cyn-gyd nid cyngyd, a ddywedid.
  67. cynheiliad cynhaliwr.
  68. ni wŷl ni wêl.
  69. madws, yn llawn bryd, yn hwyr glas