Gwaith ap Vychan (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwaith ap Vychan (testun cyfansawdd)

gan Robert Thomas (Ap Vychan)


golygwyd gan Owen Morgan Edwards
I'w ddarllen pennod wrth bennod gweler Gwaith ap Vychan

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Robert Thomas (Ap Vychan)
ar Wicipedia



AP VYCHAN

GWAITH
AP VYCHAN

*

Llanuwchllyn,
AB OWEN.



ARGRAFFWYD, I AB OWEN, GAN W. HUGHES A'I FAB,.

DOLGELLAU.



𝕽𝖍𝖆𝖌𝖞𝖒𝖆𝖉𝖗𝖔𝖉𝖉.

——————

 GANWYD Ap Vychan yn y Ty Coch, Llanuwchllyn, Awst 11, 1809, yn drydydd plentyn i lafurwr tlawd, ond gwir ddiwylliedig; bu farw Ebrill 23, 1880, yn Athraw Duwinyddiaeth yng ngholeg yr Anibynwyr yn y Bala, ac yn un o dywysogion pulpud Cymru.

Gadawodd ardal ei febyd yn weddol fore, ond yr oedd ei hiraeth yn gryf ani dani ar hyd ei fywyd, ac wrth dalcen ei heglwys blwyfol y claddwyd ef. Nid rhyfedd fod natur mor serchog a barddonol yn hoffi ymdroi mewn adgof am fro mor brydferth. Ar oriau hirion tawel haf, yn nyddiau teyrnasiad brenhines y weirglodd, a phan fo cloch y bugail yn galw addolwyr y mawreddog i gymoedd y mynyddoedd mawr, nid oes odid dlysach bro na Phenanlliw yng Nghymru i gyd. Yma y bu Ap Vychan yn hogyn cadw defaid, ac yma yr hoffai ddod, ar hyd ei fywyd, i weled hen gartref, hen ffynnon, a hen lwybrau ei febyd.

Gadawodd Ap Vychan lawer o waith gorchestol ar ei ol. Y mae ei bregethau, i'r rhai y rhoddodd nerth ei fywyd, ar gael mi a obeithiaf. Y mae ei ddarlithiau wedi eu eyhoeddi yn y Cofiant campus olygwyd gan ei fab D. Vychan Thomas, a'i gyd- athraw, Michael D. Jones. Cyhoeddwyd ei awdl ar "Y Diluw," enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl yn 1863, yng nghyfrol cyfansoddiadau yr Eisteddfod honno. Cyhoeddwyd ei awdl ar "Y Môr,' enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol Caerlleon yn 1866, yn y Genhinen Eisteddfodol, Awst 1893. Cy- hoeddwyd 'Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau," gyda darluniadau swynol Ap Vychan o fro ei febyd ef a'r Hen Olygydd araf-bwyll hwnnw, yn 1870. Y mae eto lawer yn aros heb ei gyhoeddi, megis yr awdl ddigadair ar "Paul," a'r hanes y ddadl dduwinyddol rhwng yr uchel a'r cymedrol Galfin, dadl anrheithiodd yr "Hen Gapel,” fel yr anrheithiasai lawer gwlad cyn hynny. Ond nid fy mwriad yw rhoddi i'r darllenydd ddim o'r pethau gorchestol hyn.

Yn y gyfrol hon ni cheir yn unig ond llais hiraeth Ap Vychan am fro febyd, am ddyddiau bore oes, ac am ambell hen gyfaill. Gadewir iddo adrodd ei hanes ei hun; a bydd yr hanes hwn, mi gredaf, yn ffynhonnell ynni newydd i bawb a'i darlleno. Plentyn natur oedd Ap Vychan, a llais plentyn natur sydd yn yr adgofion hyn, mewn rhyddiaith a chân.

Cadwodd Ap Vychan, hyd ei fedd, sel danbaid ac ysol yr ardal grefyddol y, dygwyd ef i fyny ynddi. yn Anibynnwr o'r Anibynwyr. Y tro cyntaf i mi ei gofio yw ei weled yng Nghyfarfod Mawr Llenyddol Methodistiaid y Bala, yn cyhoeddi darlith yn ei gapel ei hun ar Oliver Cromweil. "Dowch yno, mhobol i," meddai, a swn brwydr yn ei lais, "i glywed beth all Anibynnwr wneyd, a'i gleddyf yn ei law."Esbonia hyn ambell gernod roddir yn yr adgofion hyn i'w frodyr y Bedyddwyr a'r Methodistiaid.

Na ddigied neb wrtho; nid oes neb mor barod i ddangos ei edmygedd o wyr meddylgar a chrefyddol yr enwadau eraill. Gwelir yn yr adgofion hyn ddarlun byw o gyni'r tlawd yn adeg rhyfeloedd Napoleon, Clywyd am fri buddugoliaethau'r gelyn yn Austerlitz a Jena, a buddugoliaeth arno yntau yn Waterloo; a gwariodd ein gwlad tuag wyth can' miliwn o bunnau,-y maent eto'n ddyled arnom,– ar ryfeloedd afreidiol. Ond nid y bri'a'r gwario welir ym Mhenantlliw, ond dioddef y tlawd. Gwelir gwrhydri'r tlawd hefyd. Nis gwn am wrhydri yn y fyddin a'r llynges sy'n fwy na gwrhydri'r wraig gollodd ei bywyd trwy weini ar blant bach tylodion mewn clefyd a dioddef. Cefais gymorth caredig gan laweroedd wrth gasglu cynnwys y gyfrol fechan hon. Yn eu plith y mae Iolo Caernarvon ac Elfed; Mr. a Mrs. R. Griffith, o Fanceinion; y Parch. Ivan T. Davies, o Landrillo, a Lewis J. Davies, U. H., Llanuwchllyn, -dau fab y Ty Mawr; y diweddar John Edwards, Glynllifon; R. Edwards, Glyn Llifon; Mrs. Davies, Bryn Caled; Evan Edwards, Pant Clyd; Thomas Roberts, Ty Mawr; J. Pugh, Blaen Lliw,-yr oll ond y pedwar cyntaf o Lanuwchllyn. Dymunwn ddiolch hefyd i'r cyhoeddwyr hynaws o Ddolgellau am adael i mi ddefnyddio'r Cofiant, a'r rhifynnau o'r Dysgedydd fu Ap Vychan yn olygu. Gobeithiaf yr ennyn y gyfrol hon awydd mewn llawer am feddiannu'r Cofiant.

OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen, Mai 15, 1903.

Y DARLUNIAU.

AP VYCHAN—Wyneb-ddarlun
Oddiwrth Wawl-arlun gan J. Thomas.

FFORDD PENANLLIW. S. M. Jones. Wyneb-ddalen

Y TY Coch. Cyn tynnu'r hen dŷ i lawr. 25
Oddiwrth Wawl-arlun gan, O .M. Edwards.

TAN Y CASTELL, a Charn Dochan
Oddiwrth Wawl-arlun gan O. M. Edwards.

RHOS Y FEDWEN. Hen Gapel Dr. Lewis
Oddiwrth Wawl-arlun gan J. Hughes.

EFAIL Y LON, lle y bu Ap Vychan yn Brentis
Oddiwrth Wawl-arlun gan J. M. Edwards, M.A., Rhyl.

Y TY Mawr, lle y bu Ap Vychan yn was
Yr Arennig yn y pellder.
Oddiwrth Wawl-arlun gan O. M. Edwards.

YR AFON LIW, ger cartref Ap Vychan
Oddiwrth Wawl-arlun gan O. M. Edwards.


CYNHWYSIAD.

I. LLANUWCHLLYN YN ADEG Y TYLODI MAWR.

Adeg y rhyfeloedd, y cyflogwu bychain, a'r prisiau uchel.


II. YR OLYGFA'N EHANGU.

Dan ddylanwad, y duwinydd, y bardd, a'r crefftwr.


III. RHAI ODDIAR YR UN AELWYD.[1]


IV. RHAI O GYFEILLION BYWYD.


V. LLOFFION YMA AC ACW.


AP VYCHAN.

——————

'COFNODION BYRION AM RAI O'R AMGYLCHIADAU YN HANES FY MYWYD SYDD YN FWY ADNABYDDUS I MI FY HUNAN NAG YDYNT I BOBL ERAILL.

 AB ydwyf fi i Dafydd Thomas, gynt o Ty'n y Gwynt, Llangower, swydd Feirionnydd, a Mary Roberts o'r Ty Coch, Pennantlliw Bach, Llanuwchllyn, y ddau yn frodorion o Benllyn. Rhieni fy nhad oedd Thomas a Margaret Roberts o Ty'n y Gwynt. Nid oes nemawr i'w goffau am danynt ond eu bod yn trin tyddyn bychan, eu bod yn aelodau yn Hen Gapel Llanuwchllyn, ac yn bobl dduwiol. Yr oeddynt yn dra gofalus am gynnal i fyny addoliad teuluaidd. Arferent ganu emyn yn eu gwasanaeth crefyddol. Fy nain fyddai yn dechreu y gân. Bu iddynt saith o blant heblaw fy nhad. Mae dwy chwaer ì fy nhad eto yn fyw; un o'r enw Susannah Thomas, sydd yn preswylio, hi a'i gwr, yn nhy capel y Methodistiaid ym Moel y Garnedd, gerllaw y Bala; a'r llall, Margaret Thomas, yn byw yng Nghendl, swydd Fynwy, ac yn adnabyddus i lawer wrth yr enw "Begws o'r Bala."

Rhieni fy mam oedd Robert Oliver, a Margaret ei wraig, o'r Ty Coch, Pennantlliw Bach, fel y nodwyd uchod. Yr oeddynt hwythau yn aelodau yn Hen Gapel Llanuwchllyn, ac yn addoli Duw yn eu ty yn gystal ag yn y capel. Trin tyddyn bychan yr oeddynt hwythau. Ganwyd fy nhad Rhagfyr 29ain, 1782, a fy mam Ionawr 2, 1785. Ychydig iawn o fanteision addysg a gawsant yn eu hieuenctyd; ond dysgwyd hwy i ddarllen Cymraeg yn dda. Tair wythnos o ysgol ddyddiol a gafodd fy nhad, ond troes allan yn hunan-ddysgydd rhagorol. Deallai ramadeg iaith ei fam, rheolau barddoniaeth ei wlad, a chasglodd lawer o wybodaeth gyffredinol; ond rhagorai yn fawr fel duwinydd. Ysgrifennai law deg a gwastadlefn, sillebai yn gywir, a chyfansoddodd aml ddernyn barddonol, caeth a rhydd, yn ei dymor, a chyhoeddwyd amryw o honynt.

Dynes gref, iachus, galonnog, siriol dros ben, weithgar, a gofalus am ei theulu, ydoedd fy mam. Rhagorai fy nhad arni mewn amryw bethau, ond rhagorai hithau arno yntau mewn pethau eraill, yn enwedig mewn gwroldeb meddyliol, a medrusrwydd i osod ei meddwl allan mewn ymadroddion cryfion a hylithr. Priodwyd fy rhieni yn y flwyddyn 1805, a buont fyw gyda eu gilydd yn ddedwydd iawn, er gwaethaf caledfyd a thlodi, a llawer o amrywiol wasgfeuon, am y tymor maith o ddeunaw mlynedd a deugain. Ganwyd iddynt ddeg o blant—pump o feibion a phump o ferched,—ond bu feirw tair o'u merched a dau o'u meibion tra yr oedd y rhieni eto yn fyw. Mae y pump eraill, wedi cael help gan Dduw, yn aros hyd y dydd hwn, dau yn America, a thri yn Nghymru. Mae fy mrawd Ellis Thomas yn ddiacon defnyddiol gyda Dr. Gwesyn Jones yn Utica, talaeth New York, ac yn meddu gradd eang o'r ddawn farddonol; ac y mae fy mrawd Evan Thomas yn grefyddwr da yn Meifod, swydd Drefaldwyn. Mae yntau wedi astudio rheolau Simwnt Vychan, ac yn gallu cyfansoddi yn rhwydd yn ol eu deddfwriaeth. Ganwyd fi, trydydd plentyn fy rhieni, yn y Ty Coch, Penantlliw Bach, Llanuwchllyn, ar yr unfed dydd ar ddeg o Awst 1809, ac yno y magwyd fi nes oeddwn yn agos i saith mlwydd oed. Dysgais ddarllen yn bur ieuanc. Nid wyf yn cofio fy hunan yn dysgu darllen o gwbl. Rhaid fod rhywrai wedi cymeryd trafferth i'm dysgu yn gynnar iawn, oblegid yn medru darllen yr wyf yn cofio fy hun gyntaf. Darllennais y Beibl unwaith drosto i gyd, yr Hen Destament a'r Newydd, cyn fy mod yn wyth oed: ac yr oeddwn wedi dysgu llawer o benodau a Salmau ar dafod-leferydd, fel y dywedir, yn y cyfnod plentynaidd a nodwyd. Yr oeddym ni yn byw yn y ty agosaf i'r mynydd, ac felly yr oedd ein chwareuon plentynaidd yn gyffredin yn dal perthynas â phethau pob dydd amaethwyr a bugeiliaid. Daeth yr efengyl yn ei phurdeb, drwy offerynoliaeth y Parch. Lewis Rees o Lanbrynmair, yn bennaf, i ardal Llanuwchllyn oddeutu 1740, ac adeiladwyd capel yr Ymneillduwyr yno yn y flwyddyn 1746. Bu llawer o weinidogion goleuedig a thalentog yn llafurio yn y lle. Y diweddar Dr. George Lewis oedd yn gweinidogaethu yno pan anwyd fi, ac efe a'm bedyddiodd; a bu yn hyfryd gennyf feddwl lawer gwaith fod dyn mor dda a'r gŵr hwnnw wedi bod yn gweddio drosof fi yn bersonol unwaith, o leiaf, ar ddechreu fy nhaith drwy y byd. Yr wyf yn ei gofio yn pregethu am un Sabbath yn yr Hen Gapel; ond yn anffodus i mi, myfi oedd i fod y Sabbath hwnnw yn cadw caeau y lle yr oeddym yn treulio yr haf ynddo, ac nid oedd neb a wnai hynny yn fy lle; felly, bu raid i mi fod gartref, a thrwy hynny collais yr unig gyfle a ddaeth yn fy ffordd i glywed y gwr hynod hwnnw.

Yr oedd crefydd wedi darostwng yr ardal y magwyd fi ynddi yn rhyfedd o dan ei dylanwad. Perchid dydd yr Arglwydd yn bur gyffredin. Ychydig iawn o feddwi oedd yn y fro. Yr oedd llwon a rhegfeydd wedi eu hymlid ymaith o'n terfynau ni. Ni wyddem ni fel plant beth oedd tyngu a rhegi. Ni fyddai neb, am a wni, yn glanhau esgidiau, na thorri gwair i anifeiliaid, ar y Sabbath. Yr oedd torri barf, a golchi cloron, a'r cyffelyb, allan o'r cwestiwn yn ein plith ar y dydd hwnnw. Sylwais eisoes, na chlywsem ni neb yn tyngu ac yn rhegi pan oeddym yn fychain ar aelwyd ein rhieni. Clywsem fod rhai yn gwneuthur hynny; ond ni wyddem ni yn y byd pa beth ydoedd. Un noswaith yn y gauaf, yr oedd hen aelod yn y capel yn aros am rai oriau gyda ni a'n rhieni wrth y tân, ac mewn profedigaeth fechan, dywedodd air hollol ddieithr i ni, ac yr oeddym yn ofni ei fod wedi tyngu. Drannoeth, daeth gwr ieuanc oedd, yntau, yn aelod yn yr Hen Gapel heibio i ni, a gofynasom iddo, "Beth ydyw tyngu," gan ychwanegu fod arnom eisieu cael gwybod y peth yn gywir. Atebodd yntau yn bur gali, "Nid wyf yn ewyllysio dweyd i chwi, rhag i chwi ddysgu tyngu." "Wnawn ni ddim dysgu, yn sicr," meddem ninnau. "Wel," ebai ein cymydog ieuanc, "dweyd rhyw eiriau hyllion, y byddwch chwi yn cael drwg gan eich mam am eu dywedyd, ydyw tyngu." "A ydyw —— yn dyngu?" meddem ninnau. "Ydyw," ebai yntau, "peidiwch a dweyd y gair hwnnw." "Wel, y mae Harri o'r Graig wedi dywedyd y gair yn ein ty ni neithiwr, ac y mae o yn perthyn i'r capel. Rhaid ei dorri fo allan yn union deg," meddem ni. Dechreuodd ein cymydog William amddiffyn tipyn erbyn hynny ar ei frawd Harri. Dywedai nad oedd hwnnw yn air drwg iawn, a bod geiriau gwaeth nag ef o lawer, ac mewn byrbwylldra y dywedodd yr hynafgwr y gair; ond nid oedd yr amddiffyniad yn ein boddhau ni, ac ni a ddiarddelasom Harri ar ben y garreg fawr oedd yn y clawdd terfyn rhwng ein caeau ni a chaeau Ty'n y Bryn. Mae Harri, wedi y cyfan, yr wyf yn credu, yn y nefoedd er's llawer dydd. Yr oeddwn i o bump i chwech oed, feddyliwn, pan ddygwyd Harri dan ddisgyblaeth pen y garreg gan blant y Ty Coch.

Yr oedd amryw o ddynion neillduol yn byw gerllaw ini. Un o honynt oedd Edward o Dan y Castell. Bugail defaid ydoedd ar hyd ei oes. Perthynai i'r eglwys oedd yn yr Hen Gapel. Meddai lais mwy cryf a soniarus na neb a ddigwyddodd i mi glywed erioed. Pe cawsai addysg dda mewn peroriaeth, prin y buasai Sims Reeves yn gymhwys i ymgystadlu âg ef. Yr oedd yn ei gyflawn nerth pan oeddwn i yn blentyn, a'i lais, fel udgorn y jiwbili, yn boddi lleisiau pawb mewn cynulleidfa. Yr oedd yn byw gerllaw i ni hynafgwr iach o fugail defaid, yr hwn a. gyrhaeddodd yr oedran teg o 102. Byddai gwr arall o'r gymydogaeth, o'r enw Cadwaladr Williams, Wern Ddu, yn myned heibio i'n ty ni yn aml, yn yr haf, i'r mynydd i fugeilio, a bu yn aml yn cyfeillachu â ni fel plant. Gofynnodd i mi, un diwrnod, i ba le yr oeddwn yn meddwl myned wedi marw. Atebais innau mai i'r nefoedd os cawn i fyned yno. "Chei di ddim," ebai yntau. "Paham?" meddwn innau. Ei ateb oedd, "Am fod gennyt ti lygaid gleision, ac nid oes neb â llygaid felly i gael mynd i'r nefoedd; gofyn di heno i dy dad, a dywed i mi beth a fydd efe yn ei ddywedyd pan ddelwyf heibio eto yfory." Wedi dychrynnu braidd, gofynnais i fy nhad a oedd Cadwaladr, Wern Ddu, yn dywedyd y gwir, pan haerai na chai plant â llygaid gleision ganddynt fyned i'r nefoedd. Dywedodd yntau,—"Dywed wrtho ef yfory y caiff plant a llygaid gleision ganddynt fyned i'r nefoedd, os byddant yn blant da; ond na chaiff hen bobl â dannedd duon ganddynt fyned yno sut yn y byd." Pan ddaeth yr hynafgwr serchog heibio drannoeth, gofynnodd i mi beth a ddywedasai fy nhad, a thraethais innau y genadwri. Siriol wenai yr hen wr, a chwarddodd yn hyfryd bob yn dipyn, er syndod i'mi. Nid oeddwn i yn deall ergyd sylw fy nhad o gwbl. Cnoi myglys yr oedd Cadwaladr, nes oedd ei ddannedd yn dduon; ond nid oedd fy nhad yn ymarfer âg ef fodd yn y byd ar hyd ei oes.

Ar ddydd tesog ryw haf pan oeddym yn y Ty Coch, a’n rhieni oddicartref, duodd y ffurfafen yn y prydnawn, fflamiodd y, mellt, rhuodd y taranau, a disgynnodd y braswlaw yn llifeiriant. Ceisiasom ninnau, y plant, fyned i'r marchdy i ochel y gwlaw; ond yr oedd ein bysedd yn rhy fyrion i gyrhaeddyd y glicied drwy y twll oedd yn y drws, ac nid oedd gennym ond sefyll ar y rhiniog, bedwar o honom, yn dŷn ochr yn ochr, er mwyn cael cysgod y garreg hir oedd uwchben drws y marchdy, oblegid yr oedd drws y ty wedi ei gloi i fyny, a'r agoriad gan ein mam, a honno oddicartref. Yr oedd arnom ofn y taranau, ac wylem am yr uchaf. Cyn hir, dyma Cadwaladr Williams, Wern Ddu, yn rhedeg atom drwy y rhuthrwlaw; agorodd ddrws y marchdy, ac aeth efe a ninnau i mewn gyda ein gilydd. Wedi i ni ddywedyd fod arnom ofn y taranau, ac nad oedd ein rhieni gartref, dechreuodd efe ein cysuro a'n llonni. "I beth yr ydych yn crio, fy mhlant i?" meddai. "Ofn y taranau sydd arnom ni." "P'le mae eich tad a'ch mam?" "Oddicartref." "O, peidiwch a chrio; nid oes ar neb sydd yn ei sense ofn taranau." "Oes arnoch chwi ddim o'u hofn nhw?" "Nac oes: a wyddoch chwi ddim beth ydyw y taranau?" "Na wyddom ni'n wir." "Wel, fy mhlant i, chwi a welsoch yr awyr las fawr sy tudraw i'r cymylau yna." "Do, lawer gwaith." "A wyddoch chwi beth ydyw yr awyr honno?" "Na wyddom." "Tin ydyw hi, fel y tin sydd ganddoch chwi yn cario dŵr i'ch mam, ond ei fod o yn tin mawr, gwastad, ac yn llofft dros yr holl wlad. "O'r anwyl!" "A ddarfu chwi ddim sylwi fod y llofft tin honno yn pwyso ar ben Llangower a Moel y Graig, a'r holl fryniau uchel?" "Do." "Wel, fy mhlant i, pan fo hi yn daranau, Deio'r Graig fydd yn myned i ben y foel, ac olwyn trol ganddo, ac wedi rhoi tair carreg dan ei draed, yn myned a'r olwyn o'r tu fewn i'r tin, ac yn ei bowlio hi ar hyd y tin, nes y bo yn cadw swn dros yr holl wlad. Peidiwch ag ofni; gwaith Deio'r Graig ydyw y cwbl." Anghofiasom ofyn iddo beth oedd y mellt. Pe gwnaethem hynny, pur debyg y dywedasai mai rhyw gastiau o eiddo Deio gyda phylor oedd y rhai hynny hefyd. Pa fodd bynnag, llwyr dawelwyd ein hofnau ni. Dywedasom esboniad Cadwaladr, Wern Ddu, ar y taranau wrth ein tad pan ddaeth adref. Gwenu a wnaeth efe, ond ni ddywedodd ddim yn erbyn eglurhad y gwr o'r Wern Ddu. Dyna fy syniad cyntaf i am y taran. Bu Deio'r Graig yn wr mawr yn ein golwg, ni am beth amser. Tebygol i Deio glywed esboniad. Cadwaladr, oblegid pan welsom ni ef oddidraw, gwaeddasom arno, a gofynasom iddo,—"Deio, ai ti oedd yn gwneud y taranau y dydd o'r blaen?" "Ie," ebai Deio; "tendiwch chwi eich hunain, os byddwch. chwi yn blant drwg.” Daeth adeg wedi hynny y gallem ni dderbyn athrawiaeth wahanol ar bwnc. y taranau a'r mellt, ond dysgeidiaeth Cadwaladr o'r Wern Ddu oedd oreu i dawelu ein hofnau ar ddydd y dymhestl honno.

Yr wyf yn cofio un cyffro teuluaidd mawr iawn yn ein ty ni. Aeth fy nhaid, Robert Oliver, a Margaret fy chwaer gydag ef (geneth oddeutu chwech oed pryd hwnnw), ar ryw ddydd teg yn niwedd mis. Medi, feddyliwn, i'r mynydd a elwir Ffridd Helyg y Moch i edrych am y gwartheg hesbion oedd yno dros. yr haf. Wedi cerdded cryn lawer yn y mynydd, a'r hen wr heb gael hyd i'r gwartheg, a Margaret bach yn blino cerdded drwy y grug, dywedodd ei thaid wrthi am eistedd yn llonydd mewn rhyw fan neillduol, tra y byddai ef yn myned ychydig ymhellach, ac y dychwelai efe ati yn ol cyn bo hir, fel y caent fyned adref ill dau gyda'u gilydd cyn y nos. Felly arosodd hi yno, ac aeth yntau ymlaen i edrych am yr anifeiliaid. Pan ddychwelodd i'r lle y gadawsai yr eneth, yr oedd hi wedi myned ymaith. Llwyr flinasai hi yn disgwyl am dano ef, ac aethai i grwydro, gan chwilio am ei thaid. Bu yntau yn chwilio yn hir am dani hithau, ac er iddo waeddi nid oedd neb yn ateb. Tybiodd efe y gallasai fod wedi dychwelyd adref, a throes yntau ei wyneb tua'r un man. Cyrhaeddodd i'r Ty Coch ar fin nos, a dechreuodd holi a ddaethai Margaret adref. “Naddo," meddai fy mam, "pa le y gadawsoch chwi hi?" Dywedodd yntau yr holl hanes. Cyffro mawr fu y canlyniad. Aeth y newydd drwg o dy i dy fel ar edyn y trydan. Cododd yr holl gwm allan, ac i'r mynydd a hwy, a mam gyda hwy, i chwilio am y lodes fechan. Nid oedd ganddynt ddim i wneud ond ymrannu yn wahanol ddosbarthiadau, cerdded ymlaen, a gwaeddi, cydwaeddi, i edrych a barai eu cydlef i'r fechan glywed eu lleferydd. Wedi i'r dosbarth yr oedd fy mam gydag ef gydwaeddi llawer, gwaeddodd fy mam ei hunan ei goreu, a dyna yr eneth fechan yn ateb llais ei mam. Rhuthrodd pawb ymlaen, a chyn hir dacw y ferch golledig ym mreichiau ei mam, er mawr lawenydd y ddwy. Crwydrasai Margaret, a gwaeddasai, ac wylasai nes pallu o'i nerth, a daliwyd hi gan y nos. Yna, mewn bryncyn teg, aeth dan ryw garreg gysgodol, gorweddodd, a chysgodd yn dawel. Ymdyrrodd defaid y lle yno ati, ac yr oedd yn hollol gynnes yn eu mysg. Oddeutu tri o'r gloch y bore, os wyf yn cofio yn gywir, y cafwyd hi. Noswaith sobr oedd honno i fy nain, fy mrawd Evan, a minnau, gartref, ond yr oeddwn i ar y pryd yn rhy fychan i amgyffred y trychineb, ond i raddau bychain. Ond diweddodd y cyfan mewn llawenydd teuluaidd, a chymydogaethol hefyd. Ychydig iawn wyf yn gofio am y rhyfel rhwng Prydain a Ffraine, oddieithr brwydr Waterloo yn unig. Yr wyf yn cofio yr ymladdfa honno yn burion. Yr oedd enw "Boniparti," fel y gelwid ef, yn air teuluaidd yng nghymoedd mynyddig Meirion driugain mlynedd yn ol. Gwyddid ei fod wedi dianc o Elba, wedi glanio yn Ffrainc, a chymeryd gafael yn awenau llywodraeth y wlad honno, ac ofnid gan y werinos anwybodus y deuai efe drosodd i Brydain. Ymysg eraill, yr oeddym ninnau yn ofni y deuai heibio i'n ty ni, ac y lladdai ni i gyd. Bu fy mrawd Evan, yr hwn sydd yn hynach na mi, a minnau yn dyfalu pa le y diangem i ymguddio pan ddeuai i Bennantlliw Bach. Meddyliodd un o honom mai myned i ddaear llwynog oedd yng Nghraig y Llestri oedd y peth goreu i ni. Ofnai y llall y gallai y llwynog fod i mewn pan aem ni yno; ac felly, rhwng bod y llwynog i fewn, a "Boniparti" o'r tu allan a'i gleddyf yn ei law, y byddem ni mewn cyflwr peryglus rhwng y ddau. Pan oedd y mater dan ystyriaeth gennym, daeth y newydd fod brwydr fawr wedi ei hymladd, a'r penrhyfelwr wedi cael ei lwyr orchfygu, ac wedi rhoddi ei hun i fyny i'r Saeson yn rhywle ar y môr. Yr oedd y wlad yn llawn o ysbryd rhyfela y pryd hwnnw. Ymunasai dau frawd i fy mam â'r gwirfoddlu, ac yr wyf yn eu cofio yn dyfod adref unwaith yn eu gwisgoedd milwraidd i edrych am eu perthynasau. Bu llawer o ryfeloedd ar ol hynny rhwng gwahanol genedloedd yn Ewrop, a pharthau eraill o'r byd, ond y mae arwyddion yr amserau presennol yn awgrymu y bydd diwedd'ar ryfel yn y man. Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni, yr hwn oedd wrth dalcen y Ty Coch, yn rhy gyfyng i'r teulu cynyddol a gyfaneddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatad gan oruchwyliwr Syr Watkin i ail adeiladu hen dy adfeiliedig yn yr ardal o'r enw Tan y Castell. Costiodd hynny i'm rhieni dipyn o arian, a chollasant y pryd hwnnw bedair punt ar ddeg a roddasent yn fenthyg; a chyda hynny oll, dechreuodd y byd caled ac enbyd a ddilynodd ryfeloedd mawrion dechreuad y ganrif bresennol, wasgu yn drwm ar bob graddau, a darostyngwyd ninnau, fel llaweroedd, i afaelion tlodi a chyfyngderau dirfawr. Yr wyf yn cofio mai ty newydd tlawd iawn oedd ein ty newydd ni. Yr oeddym erbyn hyn yn deulu lluosog, a swllt yn y dvdd, ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad yn yr hanner gauafol o'r flwyddyn, ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a chwe cheiniog; felly, prin y gallem gael bara, heb son am enllyn, gan y drudaniaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws, ymenyn, cig, na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a'u rhoddai i ni i'w bwyta gyda y dwfr y berwasid hwynt ynddo, ac nid oedd ganddi ddim oedd well iddi ei hun, er fod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd. Yr wyf yn eofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor wael. Gwelais hi yn prynnu rhuddion i'w wneud yn fara i ni. Gwingem ein goreu rhag tlodi, ond y cwbl yn ofer. Y prif beth a feddem i ymddibynnu arno oedd cyflog fy nhad; ond bob yn ychydig, dysgasom ni, y plant, wau hosanau i'w gwerthu, ac enillem drwy hynny ryw ychydig. O'r diwedd, cymerwyd fy nhad a'm mam, a'r teulu oll, yn afiach gan glefyd trwm. Buom felly yn hir iawn, a bu raid i ni gael cymorth plwyfol y pryd hwnnw. Bu brodyr a chwiorydd crefyddol yn dda iawn wrthym yn yr amgylchiad cyfyng. Yr oedd yn anhawdd iawn cael neb i'n hymgeleddu. Daeth fy nain o Ty'n y Gwynt atom; ond tarawyd hi gan y clefyd, dychwelodd adref, a bu farw yn fuan iawn. Un Ann Jones, chwaer y Parch. Ellis Evans, D.D., o'r Cefnmawr, a fu yn ffyddlon iawn i ddyfod atom. Deuai i'n gwylio y nos, a gweithiai yn ein lle y dydd. Bu wedi hynny yn wraig i un Evan Jones, Ty'n y Braich, Dinas Mawddwy, ond bu farw flynyddoedd yn ol.

Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely plyf da; ond gan ein bod ar y pryd yn cael cymhorth plwyfol, daeth Overseer y plwyf, a'i fab gydag ef, i'n ty ni, a thynasant y gwely odditan fy nhad, yr hwn oedd i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a'i synwyrau yn dyrysu yn fawr, gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o'r ardal oedd ar gychwyn i America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar weilt. Yr oeddwn i yn dechreu gwellâu y pryd hwnnw, ac yr wyf yn cofio gweled yr Overseer hwnnw, gyda pherffaith ddideimladrwydd, yn myned a'r gwely ymaith. Mae gan ei fab blant, a chan un o'r rhai hynny blant hefyd. Na ddened un o honynt byth i amgylchiadau mor gyfyng a'r rhai yr oeddym ni fel teulu tlawd ac afiach ynddynt y pryd hwnnw; a phe deuent,na fydded iddynt gael ymddwyn tuag atynt mor galed a didosturi ag y cafodd fy rhieni ymddwyn tuag atynt yn yr amgylchiad dan sylw. Gwellhaodd pob un o honom yn raddol; ail ymaflodd fy nhad yn ei waith, dechreuasom ninnau wau hosanau, hel cen cerrig, yr hwn a werthem am geiniog a dimai y pwys, mwy neu lai, ac felly, cynorthwyem dipyn ar ein rhieni. Nid oedd braidd garreg, o ychydig faintioli, yn yr holl fynyddau o gylch ein cartref nad oeddym yn ei hadnabod fel adnabod ein cymydogion, oblegid ein bod wedi bod mor fynych yn cenna yn eu plith. Buom lawer gwaith mewn perygl am ein heinioes wrth ddringo i chwilio am y cen; yn enwedig Margaret a minnau, unwaith mewn craig a elwir Clogwyn yr Eglwys, yn Mhennantlliw Bach. Aethom rywfodd i le y buom am oriau lawer yn methu yn lân a dyfod allan o hono; ond wedi bod yn garcharorion ar hyd y prydnawn, ni a lwyddasom i ddyfod oddiyno gyda y nos, dan grynnu, uwchben dyfnder mawr a dychrynllyd, a'n bywydau yn ddiogel gennym.

Yn haf y flwyddyn 1817, debygaf, gadawsom Dan y Castell, ac aethom i'r Adwy Wynt, gerllaw Blaenlliw Isaf, i gadw hafod dros fisoedd yr haf. Yr oedd fy nhad yn gweithio ar y tyddyn, a ninnau yn hannos ac yn cenna. Beudy oedd yr Adwy Wynt, a'r tân yn y naill ben iddo, a'r mwg yn myned allan drwy dwll yn ei dalcen, a wnaethid i fwrw gwair drwyddo i'r adeilad. Dychwelasom galangauaf i Dan y Castell, lle yr oedd ein hychydig ddodrefn yn cael eu cadw drwy yr haf. Wedi dychwelyd yn ol, gwau, pabwyra, a chenna oedd fy ngorchwyl i a'r plant eraill yn y gauaf dilynol; ac weithiau aem ar daith i gardota o fangre i fangre. Bu Margaret a minnau yn cardota drwy rannau uchaf Meirion. Cysgem weithiau mewn tai, ac weithiau mewn ysguboriau, a dychrynwyd ni yn fawr unwaith mewn ysgubor lle y troisem i gysgu. Rhyw swn sisial a'n dychrynnodd ni. Rhywrai tebyg i ninnau oedd wedi troi i mewn, ond odid, am gysgod. Codasom ni, pa fodd bynnag, ac aethom allan mor ddistaw ag y gallem, ac ymaith a ni, ac ni orffwysasom nes cyrraedd ein cartref, er fod i ni filldiroedd lawer o ffordd, naw o leiaf. Bu Evan, sydd yn awr yn Meifod, a minnau mor bell ag Aberystwyth ar daith gardotawl. Yr oedd gennym Feibl bychan a llyfr hymnau i'w darllen, ac i ddysgu allan o honynt, yn ein hysgrepan. Heblaw hynny, yr oedd gennym ledr, hoelion, mynawyd, edau grydd, a morthwyl bychan, tuag at drwsio ein clocs, ac edau a nodwydd tuag at drwsio ein dillad, pan fyddent mewn angen am hynny. Nid oedd fy mrawd ar y pryd ond wedi gadael ei ddegfed flwydd, na ninnau ond wedi gadael fy wythfed flwyddyn, ac yn gyrru ar fy nawfed. Go ieuainc oeddym i fyned ymhell oddícartref. Wrth ddychwelyd o Aberystwyth tua Towyn, Meirionnydd, deallasom y costiai i ni ddwy geiniog bob un am groesi yr afon i Aberdyfi. Nid oedd gennyin ni yr un ddimai o arian; gan hynny, bu raid i ni werthu yr ychydig yd oedd gennym i gael pedair ceiniog i dalu i'r cwch. Gwerthasom y cwbl am bedair ceiniog. Cafodd rhywun fargen dda. Yr oedd yr yd yn werth hanner coron o leiaf, feddyliwn. Daethom i draeth yr afon Dyfi, ond bu raid i ni aros am gryn ddwy awr am y cwch o'r ochr arall. Yr oedd yn drai; ond cyn i'r ewch ddyfod, yr oedd y llanw yn dyfod i mewn. Daeth boneddwr tirion atom. Bob yn dipyn holodd ni. Dywedasom ninnau ein holl hanes, a phwy oedd gweinidog Llanuwchllyn. Gwnaeth i ni ddarllen o'r Beibl oedd gennym, ac adrodd pethau a ddysgasem. Wedi croesi yr afon, dywedodd wrth y cychwyr,—"Yr wyf fi yn talu dros y plant bach." Ni ddeallasom ni ef ar y cyntaf, a phan oeddym a'r pres yn ein dwylaw yn eu cynnyg i'r cychwr, dywedodd hwnnw fod y boneddwr wedi talu drosom. Pwy ydoedd, ni wyddem ni; dyna yr olwg olaf a welsom ni arno; ond fe wnaeth weithred dda, pwy bynnag ydoedd, gweithred a goffeir yn nydd y farn ddiweddaf.

Daethom i Dowyn, a chawsom le i gysgu mewn taflod wair yn nghwr y dref. Addawodd y dyn a'n harweiniodd ni yno ddyfod a thamaid i ni, ond anghofiodd. Mewn taflod o wair, ac heb swper, y buom ni ein dau y noson honno. Cawsom lety cysurus nos drannoeth yn y ty sydd wrth bont Dysyni, yn ochr Llanegryn i'r bont. Cawsom le i fwrw y Sabbath yn nhy'r Gawen, a chroeso calon hefyd. Cawsom waredigaeth fawr yn Nhowyn. Wrth godi y bore o'r daflod wair, syrthiasom ein dau drwyddi i'r gwaelod. Syrthiais i ar flaen dant ôg, ond ni chefais nemawr o niwed. Cafodd fy mrawd fwy o niwed na myfi, a bu efe yn wylo yn hidl am beth amser. Yr oeddwn innau yn hongian ar y dant ôg, ac ni allwn. mewn un modd ymryddhau. Fy mrawd a'm tynnodd oddiyno. Cyrhaeddasom adref yn iach, a dyna y daith gardotawl olaf i mi. Gyda dyddordeb yr edrychais yn wastad wedyn ar y tai y lletyasom ynddynt. Ni ellais byth, ar fy nheithiau pregethwrol, fyned heibio y tai a'm lletyasant, heb deimlo diolchgarwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y tiriondeb a dderbyniais yn nyddiau plentynrwydd a thlodi. A pha fodd y gallaswn?

Ar y 25ain o Ebrill, 1819, cefais le gyda y diweddar Evan Davies, Ty Mawr, Pennantlliw Bach, i gadw caeau Craig y Tân. Yr oedd rhyngof rai misoedd a chyrhaeddyd pen fy negfed flwydd pan aethum yno. Arosais yno yn agos i saith mlynedd, sef hyd nes yr aethum yn egwyddorwas. Yr oedd gennyf gyfle mynych i fod dan addysg fy nhad yn y blynyddoedd hynny oll, gan ei fod yn byw yn y gymydogaeth, ac yn fynych yn gweithio yn y Ty Mawr. Yr oedd teulu y Ty Mawr yn bobl wir grefyddol, ac yn aelodau gyda y Parch. Michael Jones yn yr Hen Gapel. Cefais yno lawer o fanteision crefyddol. Yr oedd addoliad teuluaidd yn cael ei gynnal yn rheolaidd yno, a llywodraeth gref, gariadlawn, yn cael ei dal i fyny yn ddiysgog dros bawb a berthynent i'r teulu. Gwraig y Ty Mawr oedd y ddynes fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth a welais i erioed, ac nid wyf yn disgwyl cyfarfod ei chyffelyb byth mwyach. Yr oedd fel oracl ar holl bynciau crefydd. Cefais yno gyfle i ddarllen llawer o wahanol lyfrau, a chynyddais mewn gwybodaeth o bob math. Barnai y Parch. M. Jones mai dyledswydd plant yr eglwys oedd dyfod i'r cyfeillachau crefyddol i adrodd adnodau, ac i gael eu holi ynddynt. Byddwn innau yn myned, gydag eraill, a chefais lawer o fudd drwy hynny. Dysgodd fy nhad fi i ysgrifennu a rhifo, egwyddorion peroriaeth, a rheolau Barddoniaeth Gymreig, a gallwn gyfansoddi englynion lled ddifai pan oeddwn oddeutu pedair ar ddeg oed. Gwr arall a fu yn addysgydd parod i mi yn rheolau barddoniaeth gaeth oedd Mr. John Parry, Deildref Isaf. Bardd rhagorol oedd y gwr ardderchog hwnnw, llawn o athrylith a thân awenyddol; ond bu farw o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau. Pan oeddwn yn hogyn cadw yn y Ty Mawr derbyniwyd fi yn aelod o Gymdeithas y Cymreigyddion yn Llanuwchllyn. Yr oedd swm bychan o arian i'w dalu gan aelodau ar eu derbyniad, ond ni feddwn i yr un geiniog; gan hynny, yn ol cynghor John Parry o'r Deildref, cyfansoddais englyn i ofyn am gael fy nerbyn yn rhad. Adroddais ef yn y cyfarfod Cymrodorol, a llwyddais i gael derbyniad heb dalu dim. Parheais yn aelod tra yr arosais yn yr ardal honno. Enillais wobr am chwe' englyn o farwnad i Evan Davies, brawd gwraig y dafarn lle y cynhelid ein cyfarfodydd. Y wobr oedd ciniaw ar ddydd Gwyl Dewi, a pheint o gwrw gydag ef. Dyna y tro cyntaf i mi brofi cwrw; ofnwn iddo fy meddwi. Bum am rai oriau yn ei yfed, ond gadewais dipyn o hono heb ei gyffwrdd, rhag ofn iddo feistroli fy ymennydd. Cefais i lawer o addysg drwy feirniadaethau R. ab Dewi a John Humphreys ar gyfansoddiadau ymgeiswyr yng nghyfarfodydd y gymdeithas. Wedi treulio chwe' blynedd a deng mis yn ddedwydd iawn yn y Ty Mawr, aethum yn egwyddorwas at Mr. Simon Jones, Lôn, Llanuwchllyn, tad y diweddar Simon Jones, Bala. Dechreuais fy egwyddorwasiaeth Mawrth 1, 1826. Dwy flynedd ac wyth mis oedd y tymor i mi ddysgu fy nghelfyddyd. Yr oedd fy meistr yn of gwlad pur dda; ond yr oedd ei fab, Thomas Jones, yn grefftwr rhagorol, ac yn fardd gwych hefyd. Cyfansoddodd ef a minnau lawer dernyn gyda ein gilydd, a dysgais lawer o gywreinion fy nghelfyddyd oddiwrtho ef.

—————————————

Y TY COCH

Nid oedd Thomas Jones gyda chrefydd; ond yr oedd ei dad a'i fam, a thair chwaer iddo, yn aelodau ffyddlon gyda y Methodistiaid, a'i frawd Simon Jones, yn perthyn i'r Annibynwyr. Simon oedd yr unig un o'r meibion oedd gyda chrefydd. Teulu dedwydd iawn, hawddgar dros ben, oedd teulu y Lôn, a bum yn nodedig o gysurus gyda hwy. Y modd y cefais i fyned yn egwyddorwas oedd, drwy i'r diweddar Barchedig Michael Jones, gweinidog yr Hen Gapel, roddi i mi y flwyddyn honno arian prentisiaeth plant tlodion rhieni crefyddol, oedd wedi eu gadael yn ewyllys Dr. Daniel Williams, mewn cysylltiad ag Ysgol Rad y Dr. yr hon oedd dan ofal y Parch. M. Jones. Gyda llaw, Mr. Jones, yn ddiau, oedd y dyn cryfaf ei feddwl a pherffeithiaf ei fuchedd a gyfarfum i erioed. Nid oedd bwlch yn ei nodweddiad; ond cafodd driniaeth chwerw yn Llanuwchllyn. Mae hanes yr ymraniad a fu yno i'w gael yn "Hanes Eglwysi Anibynnol Cymru," fel na raid i mi ychwanegu.

Pan ddaeth fy amser i fyny yn y Lôn, aethum i weithio at Mr. Robert Roberts, Ty'n y Cefn, ger Corwen. Bum yno am chwe mis. Dyn medrus fel celfyddydwr oedd fy meistr. Yr oedd hefyd yn gryn ddarllennwr, a chanddo lawer o lyfrau pur dda. Ond y pryd yr oeddwn i yno, yr oedd yn arfer meddwi yn fynych iawn; ond tyngodd y ddiod feddwol, a bu yn llwyrymwrthodwr â hi tra y bu byw. Yr oedd hynny flynyddau cyn i lwyrymataliad ddyfod i Gymru.

Gadewais Dy'n y Cefn, yn nechreu Mai, 1829, ac aethum i weithfaoedd Deheudir Cymru i weithio am rai misoedd. Bum yn Nhredegar a Dowlais, a dysgais gryn lawer yn y misoedd hynny. Pan yn Dowlais, cefais barchi a charedigrwydd mawr gan feistr y gwaith, a'm cydweithwyr hefyd. Pan yn Nhredegar, gwelais 25 o bobl yn cael en bedyddio trwy drochiad. Yr oedd Mr. Davies, y gweinidog, yn rhy wael ei iechyd i fyned i'r dwfr gyda hwy. Dyn arall oedd yn eu trochi; ond rhoddodd Mr. Davies anerchiad ar lan y dwfr. Yr oedd fy mrawd Evan gyda mi yn gwrando yr anerchiad, ac yn edrych ar y trochiad. Wrth weled y merched yn myned i'r dwfr, ac yn dyfod allan o hono, daethom ni ein dan i'r penderfyniad, nas gallasai dull felly o fedyddio ddim bod o ordeiniad y llednais Iesu o Nazareth, ac ni ddileuwyd yr argraff anffafriol i drochyddiaeth a wnaed ar fy meddwl y pryd hwnnw hyd y dydd heddyw; ac wrth chwilio yn fanwl i'r mater mewn amser diweddarach, gwelais yn eglur mai nid bedydd y crediniol yn unig, a hwnnw trwy drochiad, ydyw y bedydd Cristionogol, ond fod plant mor gymwys i fod yn ddeiliaid bedydd ag ydyw pobl mewn oedran. Er gwahaniaethu o honof felly oddiwrth yr Hybarch Philip Davies (mab Dewi Ddu, dadl fawr yr Iawn yn Seren Gomer gynt), yr oeddwn i a'm brawd yn hoff iawn o'i glywed yn pregethu. Cynilais bum' punt yn Ty'n y Cefn, a rhoddais hwynt ar log. Cychwynais i Ferthyr gyda saith swllt a chwecheiniog yn fy llogell. Cysgais mewn gwesty bob nos. Cerddais yr holl ffordd, a phrynnais fwyd ar hyd y daith, ac yr oedd genyf oddeutu tri swllt yn weddill erbyn cyrhaeddyd Tredegar. Cerddais yn ol drachefn bob cam yng nghwympiad y flwyddyn, a gweithiais y gauaf a'r gwanwyn drachefn gyda fy hen gyfeillion yn y Lôn, Llanuwchllyn, lle oedd yn gartref da i mi bob amser.

Yn Mai, 1830, aethum i Groesoswallt at Mr. Edward Price o Garreg y Big, Llangwm gynt, a bum gydag ef hyd ddiwedd Mai. 1831, pryd yr ymadewais oblegid gwaeledd fy iechyd, ac ymwelais â glan y môr, yn Sir Gaernarfon, a chefais waith am dri mis gyda Mr. William Jones, yng Nghonwy, ac adferwyd fy iechyd yn hollol.

Yn nechreu Medi, 1830, pan oeddwn gyda Mr. Price, yng Nghroesoswallt, y daethum yn benderfynol i ymuno âg eglwys Dduw. Nid oedd yr un gynulleidfa Gymreig y pryd hwnnw yn perthyn i'r Anibynwyr yn y dref i mi ymuno â hi, ac nid oeddwn innau yn medru ond ychydig iawn o Saesonaeg. Yr unig gynulleidfa Gymreig yn y lle oedd un y Methodistiaid Calfinaidd, a chyda hwy y byddwn i yn gwrandaw yr efengyl. Anibynnwr oeddwn i o farn a theimlad; ond pa beth a wnawn dan yr amgylchiadau oedd y cwestiwn. Aethum i'r Main, Meifod, i ymgynghori â fy nhad beth oedd oreu i'w wneuthur. Yr oeddwn i yn meddwl mai gwell oedd i mi gael fy nerbyn yn aelod yno, os oedd modd, ond barnai fy nhad, gan na allwn i fod yno yn y society, y byddai fy nerbyn felly yn beth dyeithr braidd, a hollol anarferol yn y Main; a chynghorodd fi, yn hytrach nag oedi dim, rhag i'r argraffiadau ar fy meddwl wanhau, i ymuno a'r gynulleidfa Gymreig yn Nghroesoswallt fel aelod achlysurol, a phan ddysgwn yr iaith Saesonaeg, y cawn lythyr cymeradwyol ganddynt hwy i'm trosglwyddo i'r gynulleidfa Seisonig oedd dan ofal Mr. Jenkyn (Dr. Jenkyn, wedi hynny.) Dilynais ei gyngor, a derbyniwyd fi yn aelod yn y gynulleidfa Gymreig. Gwnaeth rhai beth gwrthwynebiad, oblegid y gwahaniaeth barn oedd rhyngof fi a'r Methodistiaid. Ond dywedodd Mr. Ffowc Parry nad oedd efe yn gweled un rhwystr yn y mater, oblegid os oeddwn i yn bwriadu aros yn y dref honno, ac yn byw yn addas i'r efengyl, y gallent hwy roddi llythyr cymeradwyol i mi i fyned at y Saeson, pan ddysgwn ddigon o Saesonaeg i allu cydaddoli â hwy; ac felly derbyniwyd fi. Cefais lawer iawn o ymgeledd ac adeiladaeth yn y gynulleidfa Gymreig. Diflannodd fy rhagfarn yn erbyn y Methodistiaid, a chymerais innau ofal am beidio eu blino hwy yn yr Ysgol Sul, a'r cyfeillachau neillduol, a'm golygiadau neillduol fy hun am Natur Eglwys, Iawn Crist, Prynedigaeth, gwaith yr Ysbryd Glan yn nychweliad pechaduriaid, a phynciau cyffelyb. Bum yn y gyfeillach o ddechren Medi, 1830, hyd ddechreu Mawrth, 1831, cyn cael fy nerbyn yn gyflawn aelod. Daeth William Vaughan, yn ddiweddar o'r Waun, i'r society yr un noswaith a mi, ac os nad wyf yn camgofio, derbyniwyd ni yn aelodau yr un pryd. Parhaodd ein parch tuag at ein gilydd tra y bu efe byw. Cyfansoddais innau englynion coffadwriaethol am dano, ac yr wyf yn meddwl eu bod wedi eu cyhoeddi.

Tra y bum yn gweithio gydag Edward Price, ymroddais i ddysgu Saesonaeg. Arferwn godi yn foreu iawn yn yr haf, ac ysgrifennwn restr o eiriau Saesonaeg, a'u harwyddocâd yn Gymraeg wrthynt, a hoeliwn hwy ar y fantell uwchben y tân lle yr oeddwn yn gweithio, a dysgwn hwy allan ar hyd y dydd; yna, darllennwn lyfr Seisonig ar ol noswylio, ac yn achlysurol, cyfarfyddwn â rhai o'r geiriau a fuasent dan hoelion gennyf, a thaflent gryn oleuni ar y brawddegau y digwyddent fod ynddynt. Yr oedd yn anfantais i mi i ddysgu Saesonaeg ein bod yn wastad yn siarad Cymraeg gyda ein gilydd ar yr aelwyd gartref, ond cymerais i Ramadeg Seisonig, ac astudiais ef. Yr oeddwn yn deall y Gramadeg Cymraeg yn weddol dda o'r blaen, ac felly, drwy ddiwydrwydd ac ymadrech, daethum yn raddol yn alluog i weddio ac i annerch Ysgol Sabbathol Seisonig a gynaliai y Methodistiaid y pryd hwnnw yn Mhorth y Waun, i'r hon y gadewid i mi fyned, er mwyn i mi ymarfer tipyn â'r iaith Seisonig, gyda gwr ieuanc arall o'r enw John Davies, yr hwn oedd yn Sais da iawn, a dysgodd hwnnw lawer arnaf fi. Wedi i mi adael Conwy, ac ros rhyw ychydig yn Llanuwchllyn, dychwelais at Mr. Edward Price i Groesoswallt, a bu fy mrawd Evan a minnau yn gweithio yno am ran o'r flwyddyn 1832. Bum i yn gweithio am dro hefyd gyda Mr. William Evans, Lawnt, yn nghymydogaeth Croesoswallt, yr hwn oedd yn cadw gefail a thafarn. Lle direol dros ben oedd hwnnw.

Y nos gyntaf yr aethum yno, noson o ganu a dawnsio yn y ty gan ynfydion a ddaethent yno o redegfeydd meirch ar Gyrn y Bwch, cefais i freuddwyd rhyfedd iawn, ac a wnaeth effaith ddofn ar fy meddwl, a phenderfynais yn y fan na chyffyrddwn â dafn o ddiod feddwol tra y byddwn yn y lle, ac ni wneuthum ychwaith, a chefais ddiolch gan wraig y ty wrth ymadael am hynny, er ei bod yn dafarnwraig, oblegid, meddai hi, fod y gweithwyr a arferent yfed yno yn colli eu hamser, ac yn esgeuluso eu gwaith, fel yr oedd eu colled hwy oddiwrth eu hesgeulusdod yn llawer mwy na'u hennill oddiwrth y cwrw a yfent. Wedi gadael y Lawnt, bum am fis gyda gwraig weddw bur gas yn gweithio; ond ni allwn ei dioddef yn hwy na mis. Ymadewais, ac aethum yn bartner â Mr. Thomas Letsom, Morda, ger Croesoswallt, mewn foundry fechan. Gweithiais. yn galed iawn ddydd a nos, ac er fod fy mhartner, Thomas Letsom, yn meddwi llawer, talasom ein ffordd i bawb, ac enillasom swi go wych o arian heblaw hynny.

Ar ddydd Nadolig, 1833, cynaliwyd cyfeillach yn y capel Methodistaidd yn Nghroesoswalli, a darllenwyd llythyr gollyngdod i mi o flaen y frawdoliaeth i fyned at y Saeson, gan fy mod bellach wedi dysgu Saesonaeg yn weddol dda. Ymddygodd y Methodistiaid ataf yn hynod o dirion a charedig yn fy ymadawiad, ac y mae gennyf barch dwfn iddynt byth ar ol fy arosiad yn eu plith. Cymerais y llythyr, ac ymunais yn hollol ddirwystr a'r gynulleidfa Saisonig oedd dan ofal Mr. Jenkyn. Bu yn fanteisiol iawn i mi gael bod yn aelod gyda y Saeson. 1. Yr oedd Mr. Jenkyn yn bregethwr rhagorol. Llefarai yn Saesonaeg yn eglurach na neb a glywswn i erioed o'r blaen. 2. Cefais ymarfer ag areithio yn yr iaith Seisonig fy hunan mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn amgylchoedd Croesoswallt, mewn cysylltiad a'r Ysgol Sabbathol, a daeth hynny yn raddol yn esmwyth i mi. 3. Cefais lawer o gyfeillion newyddion, y rhai a fuont yn ffyddlon i mi bob amser wedi hynny. Mynnai y cyfreithiwr Mr. Minshull i mi roddi fy ngwaith heibio a myned i bregethu yr efengyl; a phan oeddwn, rai blynyddoedd wedi hynny, yn pregethu i'r Saeson yn yr Hen Gapel, ysgydwodd law yn gynnes â mi, a dywedodd wrthyf mor dda oedd ganddo fy mod wedi cydymffurfio a'i gyngor. Efe oedd y cyntaf erioed a soniodd wrthyf am fyned yn bregethwr. 4. Y pryd hwnnw y daethum yn gydnabyddus ag "Equity and Sovereignty" Dr. Edward Williams. Cefais fenthyg argraffiad 1809 gan Mr. Edward Davies o Lwynymapsi, yr hwn oedd yn dduwinydd rhagorol, ac yn fuan wedi hynny, prynnais y trydydd argraffiad o'r gwaith; ac wedi ei ddarllen yn fanwl, rhyfeddais fod cynifer o ddynion yn condemnio y traethawd—dynion na fuont erioed yn deilwng i ddatod careiau ei esgidiau ef. Prynnais hefyd waith Jonathan Edwards ar "Ryddid yr Ewyllys," a bu y llyfr hwnnw, mewn cysylltiad a gwaith Dr. Williams, yn foddion effeithiol i sefydlu fy marn ar amryw o bynciau pwysicaf crefydd. Darllennais amryw o lyfrau da eraill ar wahanol bynciau, a daethum yn raddol i ddechreu agor fy llygaid, a deall rhyw ychydig.

Yn niwedd Ionawr, 1835, gadewais Groesoswallt, ac aethum i weithio at fy hen feistr i Gonwy, yr hwn oedd erbyn hyn yn cadw tawdd—dy, tebyg i'r hwn oedd gan Letsom a minnau yn Morda. Bum yno hyd wanwyn y flwyddyn 1840. Lle caled, ond pur ddedwydd i mi, oedd hwnnw. Yr oedd achos newydd wedi cael ei ddechreu gan yr Anibynwyr yng Nghonwy, a chapel newydd yn cael ei adeiladu, yr hwn a agorwyd ar ddydd Iau Dyrchafael, 1835. Parch. Richard Rowlands oedd y gweinidog yng Nghonwy ac yn Henryd y pryd hwnnw. Ymunais i a'r gynulleidfa fechan honno, ac ymdrechais fod yn ddefnyddiol yn eu mysg.

Ar y 12fed o Awst, 1836, priodwyd fi âg Isabella, merch hynaf fy meistr, a buom ein dau fyw yn ddedwydd a diangen, nes y torrwyd hi i lawr gan angeu, yn nechreu y flwyddyn 1847.

Yn haf y flwyddyn 1835, yr oedd y gweinidog, y Parch. R. Rowlands, yn gwaelu o ran ei iechyd; ac er iddo fyned dan ddwylaw amryw o feddygon, nid oedd yn cael dim llesâd. Yn mis Hydref y flwyddyn honno, cynghorwyd fi gan lawer i bregethu yn achlysurol, er cynorthwyo Mr. Rowlands yn ei wendid; ac wedi tipyn o hwyrfrydigrwydd, ufuddheais i'w cais; ac wedi dywedyd ychydig yn y gyfeillach neill— duol, a chael cymeradwyaeth yr eglwys fechan honno, dechreuais bregethu yn gyhoeddus, yn gyntaf oll yn Henryd, yna yng Nghonwy. Wedi ymaflyd felly yn y gorchwyl mawr o bregethu yr efengyl, ymroddais yn egniol i gyfansoddi pregethau, a theithiais lawer, ar fy nhraed yn wastad, i'w traddodi yn yr holl gapeli oedd o bob ochr i afon Conwy. Fy nheithiau pellaf oeddynt i Dolyddelen, Pentre y Foelas, Moelfro, swydd Ddinbych; Bethesda, Arfon; Bangor, Beaumaris, a Chaergybi. Cychwynnwn nos Sadwrn, wedi noswylio, gan amlaf, a dychwelwn yn foreu iawn ddydd Llun at fy ngorchwylion yng Nghonwy, a phareais i lafurio felly—pregethu a gweithio bob yn ail, am dair blynedd a hanner. Cyn hir, ar ol i mi ddechreu pregethu, aeth Mr. Rowlands yn rhy wael i lafurio mwyach. Clywais ef yn traddodi ei bregeth olaf. Y testun oedd Phil. iii. 18: "Canys y mae llawer yn rhodio, am y rhai y dywedais i chwi yn fynych, ac yr ydwyf yr awr hon hefyd dan wylo yn dywedyd, mai gelynion croes Crist ydynt." Yr oedd efe a'r gynulleidfa yn ymwybodol mai y tro diweddaf iddo ef esgyn i'r areithfa yn Nghonwy ydoedd, ac oedfa ddifrifol iawn a gawsom. Bu yno wylo yn yr areithfa, ac yn yr eisteddleoedd hefyd. Aeth Mr. Rowlands i Feddyg-dy Dinbych, ac yno y bu farw Rhagfyr 10fed, 1836, ddeunaw mlynedd ar hugain i'r dydd yr wyf fi yn ysgrifenm y geiriau hyn, sef Rhagfyr 10fed, 1874. Dyn da a hawddgar iawn oedd Mr. Rowlands. Wedi ei farwolaeth ef, dechreuodd mân—brofedigaethau pregethwyr fy nghylchynu innau. Yr oedd yn yr eglwys yn Nghonwy rai dynion anhywaith a drygionus, yn mysg dynion da a ffyddlawn iawn, a chefais beth poen oddiwrth y dosbarth gwael hwnnw am dymor; sef, hyd nes y daeth y Parch. Richard Parry i ymsefydlu yno ac yn Henryd, yn weinidog. Pregethwr rhagorol oedd Mr. Parry (Gwalchmai), a chefais lawer o les dan ei weinidogaeth tra yr arosais yng Nghonwy.

Yr oedd Cymdeithas Cymedroldeb yn ein plith er's tro, ond yr oedd yfed a meddwi yn myned yn mlaen er hynny. Wrth weled mor aneffeithiol oedd Cymdeithas Cymedroldeb i atal y diota a'r meddwi ymffurfiodd luaws o honom yn Gymdeithas Lwyrymataliol oddiwrth ddiodydd meddwol, dan arweiniad y diweddar Hybarch Evan Richardson. Llafuriasom yn egniol o blaid dirwest, a llwyddasom yn ddirfawr. Yr oedd yr holl dafarnwyr yn ein herbyn; ond yr oedd Duw gyda ni. Cawsom wawd a dirmyg, ond cawsom ben y gelyn meddwdod i lawr i raddau helaeth iawn. Diolch i Dduw. Yr wyf y dydd heddyw mor sefydlog fy marn am y diodydd syfrdanol ag oeddwn y pryd hwnnw, a rhoddais yn wastad ar hyd fy oes weinidogaethol y dylanwad bychan oedd gennyf yn erbyn eu hyfed fel diodydd cyffredin, ac o blaid llwyrymwrthodiad â hwynt.

Yr oedd yng nghymydogaeth Conwy a dyffryn Llanrwst amryw o ddynion hynod yr amser hwnnw, megys John Owen, Cyffin, yr hwn oedd ar y pryd yn bregethwr gyda'r Wesleyaid, ac yn ddyn go neillduol; William Bridge, blaenor gyda'r un blaid, a dyn teilwng a dylanwadol; Owen Owens, Tyddyn Cynal, hen bererin rhyfedd iawn; David Jones, Salem, oedd yn ddyn da, diniwaid, llawn o arabedd; William Jones, hen weinidog Dwygyfylchi, Cristion rhagorol, a pherchen synwyr cyffredin cryf iawn, ac eraill a allwn enwi; ond nid oes gennyf amser i wneud sylwadau arnynt. Y maent oll ond Mr. Bridge wedi eu claddu. Heddwch i'w gweddillion yn eu beddrodau.

Yn nechreu y flwyddyn 1840, aethum i supplyo am ddun Sabbath i Dinas Mawddwy, a'r eglwysi cysylltiedig â'r Dinas, a derbyniais alwad unfrydol oddiwrth yr eglwysi ym Mawddwy i ddyfod atynt i lafurio yn eu plith. Wedi ymgynghori â Duw (gobeithiaf), ac â llawer o'i bobl fwyaf defnyddiol, symudais yno ddechreu yr haf, ac ar yr 19eg o Fehefin, urddwyd fi i'm swydd bwysig yn nghapel y Dinas. Yr oedd y gweinidogion canlynol yn cymeryd rhan yn y cyfarfod a'r neillduad:—Cadwaladr Jones, Dolgellau; Michael Jones, Llanuwchllyn; Edward Davies, Trawsfynydd; Hugh Lloyd, Towyn:Samuel Roberts, Llanbrynmair: Hugh Morgans, Sammah; Evan Evans, 'Bermo; Evan Griffith, Llanegryn: Hugh Hughes, y Foel: John Parry, Machynlleth; Hugh James, Brithdir; Ellis Hughes, Treffynnon. Y Parch. Samuel Roberts a draddododd yr anerchiad ar "Natur Eglwys:" y Parch. Cadwaladr Jones a ofynodd y gofyniadau, ac a alwodd am arwydd o'u dewisiad o honof fi oddiwrth yr eglwysi, ac o'm derbyniad o'r alwad oddiwrthyf finnau; y Parch. Michael Jones a bregethodd i mi, oddiwrth Actau xx. 20; Evan Evans, 'Bermo, a bregethodd i'r eglwysi a'r gwrandawyr, oddiwrth 1 Thes. v. 12, 13. Dylaswn ddywedyd yn gynt, mai yr Hybarch Edward Davies, Trawsfynydd, a weddiodd yr urddweddi, fel ei gelwir hi. Yr oedd efe yn gâr pellenig i mi, a chyflawnodd ei ran yn y neillduad y'n deimladol a phriodol dros ben. Yr un modd y gwnaeth yr Hybarch Michael Jones ei ran yntau.

Ymdrechais lafurio yn galed a diarbed yn y Dinas a'r holl amgylchoedd. Yr oedd yn adeg adfywiad grymus ar grefydd, a bu llwyddiant dymunol ar fy lafur. Derbyniais lawer iawn o aelodau newyddion. Dychwelodd llawer o wrthgilwyr yn ol, a chynydd. odd y cynulleidfaoedd. Yr oedd dirwest yn blodeuo, a haelfrydedd Cristionogol ar gynnydd yn ein mysg. Gelwid am fy ngwasanaeth yn yr eglwysi cymydogaethol, a bum yn ddedwydd yn fy holl gysylltiadau. Ni arosais ond ychydig dros ddwy flynedd yn y Dinas. Yn gynnar yn 1842, derbyniais alwad unfrydol oddiwrth yr eglwys newydd oedd yn nghapel Salem, Liverpool. Yr oedd amrywiol bethau yn ymddangos i mi ar y pryd yn ffafriol i'm symudiad yno, a gwnaethum hynny yn nechreu Medi 1842. Bum lawer gwaith yn amheu wedi hynny a wnaethum yn ddoeth ac yn dda i adael pobl oedd yn fy ngharu mor fawr, ac yn mawrygu fy enw mor drylwyr, a'r eglwysi oedd dan fy ngofal ym Meirion. Prin yr wyf wedi cael boddlonrwydd ddarfod i mi wneuthur yn iawn yn fy ymadawiad â hwynt. Pa fodd bynnag, yr oedd llawer o brif ddynion ein henwad yn fy annog i fyned i Liverpool, ac, ar y cyfan, bu fy ngweinidogaeth yn gymeradwy ac yn llwyddiannus yno. Y diweddar Barch. T. Pierce oedd yr unig weinidog oedd gyda yr Anibynwyr pan y sefydlais i yno. Yn mhen naw mis ar ol i mi gymeryd gofal yr eglwys yn Salem, symudodd y Parch. W. Rees o Ddinbych i Liverpool, i gymeryd arolygiaeth yr eglwys yn y Tabernacl. Bu Mr. Pierce, a Mr. Rees (yn awr Dr. Rees), a minnau yn cydlafurio yn unol a dedwydd iawn dros y tymor yr arosais i yn Liverpool, a chefais lawer iawn o addysg yn eu cwmniaeth. Brodyr anwyl iawn oeddynt, ac yr oedd yr eglwysi mewn undeb hyfryd a'n gilydd dan ein gweinidogaeth, a phob un o'r cynulleidfaoedd yn cael mwynhau ein gweinidogaeth ni ein trioedd yn rheolaidd, oblegid arferem newid pulpudau bob Sabbath. Y pryd hwnnw hefyd y dechreuasom yr achos yn Birkenhead. Bychan iawn oedd hwnnw yn y dechreuad, ond y mae yn gallu cynnal gweinidog ei hunan er's llawer o flynyddoedd bellach.

Cyfarfum i a'r plant a phrofedigaeth lem a cholled fawr yn Liverpool. Ar y 29ain o Ionawr, 1847, bu farw fy anwyl wraig ar enedigaeth merch, a bu farw y ferch hefyd yr un pryd, a chladdwyd y ddwy yn yr un arch, Chwefror laf, yng nghladdfa Low Hill. Parodd marwolaeth Mrs. Thomas mor ddisymwth, a chyn cyrhaeddyd pen ei thrydedd flwydd ar ddeg ar hugain, gyffro a galar cyffredinol ymysg eglwysi Anibynnol Cymreig Liverpool, oblegid mawr berchid hi gan bawb o'i chydnabyddion yn y gwahanol eglwysi. Ni chawsai hi na'r plant iechyd da yno o gwbl, ond yr oeddwn i fy hunan yn weddol iach bob amser.

Wedi fy ngadael gyda thri o blant amddifaid afiach i gadw ty gyda morwynion, aeth bywyd yn Liverpool yn fwy o flinder nag o gysur i mi. Felly mi a symudais i'r wlad, a chymerais ofal yr eglwysi Anibynnol ym mhlwyf Rhiwabon, sef yn Rhosllanerchrugog, Rhosymedre, a Rhiwabon. Pan yno, bu farw fy merch ienangaf o'r clefyd coch, a chladdwyd hi ym mynwent y Wern, pan nad oedd ond tri mis dros. saith mlwydd oed. Bu hynny yn ergyd trwm i mi, oblegid yr oedd yn fy ngolwg yn wastad yr anwylaf o'r teulu. Bum yn y Rhos oddeutu saith mlynedd. Llafuriais yno dan amryw o anfanteision, ond ymroddais i waith y weinidogaeth, ac ni adawodd yr Arglwydd fi yn hollol ychwaith. Cefais y fraint o dderbyn cryn nifer o aelodau yn y gwahanol leoedd oedd dan fy ngofal, a chadwodd y gynulleidfa yn ei lluosogrwydd, a chynyddodd hefyd yn y gwahanol fannau. Y mae gennyf barch calon i lowyr plwyf Rhiwabon, a bum ar y cyfan yn ddedwydd iawn yn eu mysg.

Yn y flwyddyn 1855, derbyniais alwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Anibynnol ym Mangor, Arfon. Buasai yno ddwy gynulleidfa, ond rhai bychain oedd y ddwy; a gwaeth na hynny, yr oedd teimladau annedwydd rhyngddynt a'u gilydd. Yr oedd y diweddar Dr. Arthur Jones wedi gadael Bangor er's tro, ond yr ydoedd yn awyddus iawn am i mi ddyfod yn olynydd iddo ef yn Mangor. Penderfynodd y ddwy gynulleidfa hefyd ymuno â'u gilydd os deuwn i i'w plith i weinidogaethu; ac yr oeddwn innau yn hoff o Fangor bob amser, oblegid cymerasai y gynulleidfa fechan oedd dan ofal y Dr. Jones sylw serchog iawn o honof pan oeddwn yn dechreu pregethu, ac yn wastadol ar ol hynny hefyd. Yn fuan ar ol fy sefydliad ym Mangor, priodwyd fi â Miss Mary Vaughan, merch ieuangaf y diweddar Rowland Vaughan o Lanuwchllyn. Priodwyd ni yn Craven Chapel, Llundain, Ionawr 10fed, 1856, a buom fyw yn ddedwydd iawn hyd Mehefin 10fed, 1877, pryd y gadawodd fi, gan fyned i'r wlad well.

Bum yn agos i ddeunaw mlynedd yn Mangor, yn ddedwydd a defnyddiol. Cefais alwad i fyned i'r Bala yn 1873, i fod yn Athraw mewn Duwinyddiaeth yn yr Athrofa Anibynnol yno. Cefais lawer o ofid yn y Bala, nid oddiwrth yr eglwys na'r gynulleidfa, y myfyrwyr na'r athrawon. Yr oedd gwir gydgordiad rhwng y rhai hyn oll â mi; ond daeth y gofidiau oddiwrth ryw Gothiaid a Vandaliaid cythryblus o fân-weinidogion a lleygwyr, y rhai a sychedent am waed y Prifathraw, dyn na fu yr un o honynt hwy erioed yn deilwng i ddatod careiau ei esgidiau.

Tra fum yn Mangor, disgynnodd ysbryd barddoniaeth arnaf, ac enillais gadair Rhyl a chadair Caerlleon. Ni anfonais byth linell i Eisteddfod ar ol yr ymdrechfa ar wastadedd Caer.

BORE'R DYDD BYRRAF.

1878.

𝕯EUODD barrug y dydd byrraf,—a niwl
Llwydwyn, oer y gaeaf
I bob parth, ar ein gwarthaí,
Dyma fedd rhyfedd yr haf.

Rhaid i eira a rhew durol—ddyfod
I ddifa gormesol
Bryfetach tra difaol
O fron deg, o fryn, a dôl.

Ond daw gwanwyn teg ei wyneb,—eto
Natur wisg dlysineb,
A llaw Naf i'n llonni heb
Ryndod, na dim gerwindeb.


FY CHWAER

[Yn yr Hunangofiant gwelir hanes colli Margaret ar y mynydd, a hanes y brawd a'r chwaer mewn perygl am eu bywyd. Bu Margaret farw Rhag. 24ain, 1842, a chladdwyd hi yn Llanecil, ar fin Llyn Tegid. Aeth Ap Vychan i weled ei bedd, yr oedd yn anwyl iawn ganddo, a daeth adgofion mebyd yn llu i'w feddwl. Ac fe y dilyn y canodd.]

𝕯aethum yma wrth fynd heibio
I chwilio am dy fedd, fy chwaer;
Ynnof, er dy ymadawiad,
Bu dymuniad, teimlad taer,
Am gael gweld y fan gorweddi,
Ac yr huni di mewn hedd;
Ac fe allwn, wrth alaru,
Hoff gusanu llwch dy fedd.

Gwelaf natur yn adfywio,
Ac yn gwisgo rhywiog wên,
Clywai adar fil yn pyncio,
Pawb yn eilio'i anthem hen;
Blodau'n agor, coed yn deilio,
Awel haf yn suo sydd;
Tithau'n gorwedd yn dy stafell
Dywell, heb oleuni dydd.

Mae fy meddwl yn ehedeg
'Nol i adeg bore oes;
Buost ganwaith im'n siglo,
Minnau'n crio'n faban croes;
Cyd-chwareuem gyda'n gilydd
Ar hyd llonydd ael y llwyn;
Felly treuliem, mewn dedwyddyd,
Ddyddiau hyfryd mebyd mwyn.

Rhedwn dros y nant i chware
Gyda godre Gwaen y Garn:
Ofni camu—yna mentro—
Mentro a syrthio dros y sarn;
Codi'n gilydd, sychu'n dillad,
Yn nhywyniad heulwen haf;
Casglu llus, briallu, a blodau,
Ar hyd ochrau bryniau braf.

Rhedeg am y cynta i'r gwaelod,
I gael gweled pysgod gant,
Ar y tesog ddydd yn gwibio,
Nofio, a neidio yn y nant;
Sefit ti ar ben y dorlan
I wylio pan ddiangai'r pysg,
Minnau'n ceisio gwneuthur anrhaith,
Rhuthr, a mawrwaith yn eu mysg.

Gofiaf am dy wallt modrwyog,
Yn chware ar dy rywiog rudd,
A'th wynepryd bywiog, hardd—deg,
Bron mor deg a hanner dydd;
Cenit inni, fel y fronfraith,
Gerdd yn berffaith heb un bai,
Pan fai angen yn y teulu
Am lonyddu'r plant oedd lai.

Cawsom ni oll ein gwasgaru,
A'n taflu 'mhell o dy ein tad;
Cefaist ti er hynny lonydd
Ar aelwydydd d' anwyl wlad;
Rhodiaist hyd ei huchel fannau,
Glynau, bryniau mawr eu bri,
A chest fedd, ar ddydd dy arwyl,
Yn ei hanwyl fynwes hi.




TAN Y CASTELL




Mud yw'r aelwyd lle chwareuaist,
Ac y plethaist gyda'r plant
Dy ganiadau mwynion, seinber,
Taro pob rhyw dyner dant;
Mae dy delyn wedi rhydu
Yma, yn y llety llaith,
Lle nad oes it gyfran mwyach
O gyfeillach, gwobr, na gwaith.

Cefaist enw yn nhy'r Arglwydd,
O fewn ei lân fagwyrydd fe;
Ond ehedaist ffwrdd ar fyrder
At y nifer sy yn y Ne;
Yr oedd nodau ffydd a chariad
Yn dy holl nodweddiad di;
Ac ymddiried d'enaid uniawn
Ar yr Iawn fu ar Galfari.

Ffarwel iti! Rwy'n dy alael
Yma, yn dy dawel dy;
Charles a'i frodyr sy'n gym'dogion
Iti yn y ddaear ddu;
Esmwyth hunwch yn y beddrod,
Islaw dyrnod trallod trist;
Cewch o'r dyfnder adgyfodi,
Yn nyfodiad Iesu Grist.

Yn wir, tyred, Arglwydd Iesu,
D'achos fo'n ymdedu 'mlaen;
Casgla 'nghyd rifedi d'eiddo,
Yna dyro'r byd ar dân:
Marchog ar y cerub—tyred
Mewn buddugol rwysgfawr wedd;
Barna'r bydoedd wrth y llyfrau,
A bydd angau i angau a'r bedd

DIENGAIST.

[Pan yno, ebe Ap Vychan am y Rhos, "bu farw fy merch ieuengaf o'r clefyd coch, a chladdwyd hi yn y Wern, pan nad oedd ond tri mis dros seithmlwydd oed. Ba,hynny yn erged trwm i mi, oblegid yr oedd yn fy ngolwg yn wastad yr anwylaf o'r teulau" Bu'r enethig farw Gorffennaf 6. 1852.]

𝕮YN nabod y byd a gwên hudoliaethau,
Cyn profi effeithiau ei wg dan dy fron:
Cyn gwybod am lymder ei siomedigaethan,
Diengaist, f'anwylyd, o gyrraedd pob ton.
A'th ddeall yn agor i dderbyn gwybodaeth,
Cydwybod yn dyner, a thân lond dy serch,
Newidiaist dy agwedd, ar frys hedaist ymaith,
Yng nglyn cysgod angan mi'th gollais, fy merch.

Pan ddeuwn i adre ar ol blinion deithiau,
Disgwylit fi i'r buarth ar riniog y ty:
Chwareuit o'm hamgylch, a dringit fy ngliniau,
Ymglymit am danaf, cusenit fi'n gu:
Dy bethau newyddion, a'th hoffus deganau,
A ddygit ar fyrder i gyd ger fy mron,
A phob peth o'r newydd ddysgasit o'th lyfrau,
Adroddit i mi, mor ddiniwed a llon.

O'r meddwl plentynaidd! Mor hawdd ei foddloni,
Mae tegan fel teyrnas—blodeuyn fel byd;
Ac wrth eu mwynhau mae wedi ei ddigoni,
Fel pe byddai'n meddu'r greadigaeth i gyd;
Mor onest yw'r wên a lewyrcha o'r wyneb,
A'r deigryn a ddisgyn pan gwrddir â chroes,
Mae'r galon yn gywir mewn serch a ffyddlondeb,
Ac O na bai miloedd yn blant drwy eu hoes

Ond, O gyfnewidiad! Mor brudd a dibleser
Yw'r aelwyd oedd orlawn o gysur a hedd;
Mae'r swn oedd yn denu fy sylw bob amser
Oll drosodd, a phobman mor ddistaw a'r bedd;
Rwy'n disgwyl bob bore, ond nid wyt ti'n dyfod
O'r gwely'n ol d'arfer, na byth at y bwrdd;
Er disgwyl dy weled yng nghôr yr addoldy,
Rwy'n disgwyl yn ofer, diengaist i ffwrdd.

Dy fam a fu farw pan oeddit yn faban,
Ac wedyn myfi oedd dy fam a dy dad:
Ond wedi dy fagu hyd saith mlwydd o oedran,
Daeth clefyd i'r teulu i wneuthur dy frad;
Mor lem yw yr awel oddiar afon angau!
O dan ei heffeithiau rwy'n oer ac yn wyw:
Paham y byrhawyd, fy merch, dy flynyddau?
Paham nad oedd bosibl dy gadw di'n fyw?

Mi welais farwolaeth yn ysgar rhieni,
A'r plant heb en magu yn sefyll gerllaw,
Mi welais amddifaid yn cael eu gwasgaru
Fel adar o'r nythle, rhai yma, rhai draw;
Ond gwelais yr awrhon amgylchiad mwy chwerw,-
'Ramddifad, wrth farw, heb nawdd dan y nen,
Yn llefain "Mam anwyl," a'r fam wedi marw,
Yn lle bod yn ymyl i gynnal ei phen.

Ond ust! Fe fu raid i'r holl genhedlaethau
Oedd hoffns gyfeillion, perthnasau fel ni,
Ffarwelio a'u gilydd drwy ing ac ochneidiau,
A'n bronnau'n rhwygedig, a'u llygaid yn lli.
A pham y disgwyliem ni gwmni ein gilydd
Am ryw dymor hirach na holl ddynol ryw?
Gwell ydyw boddloni i ewyllys yr Arglwydd,
A thawel ymollwng i freichiau fy Nuw.

}

Daeth pechod i'r ddaear, teyrnasodd marwolaeth,
Fel effaith y codwm, ar bawb ddaeth i'r byd,
A'r rhai ni phechasant yn ol cyffelybiaeth
Y camwedd yn Eden, sy'n meirw o hyd;
Ond eto mae bywyd yn gryfach nag angau,
Er gwaethaf clefydau, y tanau, a'r llif,
Mae'r teulu ddaeth allan o'r arch ar fynyddau
Ararat, yn fil o filiynau mewn rhif."

Mae hyn yn arwyddo daw adeg o gwmpas
Y torrir teyrnwialen marwolaeth yn ddwy,
Y cwympir el orsedd, y dryllir ei deyrnas,
Ac ni raid i'n ofni ei gleddyf byth mwy;
Ond wele! Mae'n dyfod ar danllyd gymylau
Y Gwr sydd yn angau i angau a'r bedd,
Dinistria farwolaeth ag anadl ei enau,
Ac yna cawn oesoedd tragwyddol o hedd.

Nos da, fy merch anwyl, cei lonydd i huno
Dan lenni marwolaeth yng nglyn angan du;
Dof finnau i'th ddilyn cyn hir yna i orffwys,
A chysgwn ein deuoedd fel oesau a fu;
A terfysg y ddaear fel treigliad yr awel,
Dros le ein tawelwch, heb beri i ni boen;
A'r bore sy'n dyfod, wrth lef yr archangel,
Cyfodwn i fyny mewn iechyd a hoen.

PENNANTLLIW.

𝖄N Uwchllyn mae'r glyn glanaf—yn mro wen
Meirionnydd hawddgaraf:
Pennantlliw Bach yw'r iachaf
O'r cymoedd dan nefoedd Naf.

Bro anwyl doldir a bryniau,—a cheir
Ei choed yn heirdd Iwynan;
Para'n hir wnant heb brinhau,
A chuddiant ei llechweddan.

Hi a noddir gan fynyddau—iachus,
Uchel yw ei chreigiau:
A'i gwyn neint lifynt, gan wan,
Llithrynt ar draws ei llethrau.

Tua'r llyn trwy'r tir, y Lliw—o gylch dry,
Golcha droed Pennantlliw:
I lawr rhed, dros lawer rhiw,
A'i hymroliad amryliw.

Ei dyfodiad sydd o'r Defeidiog—garw,
Ac o Erwent niwliog:
Dros ddannedd creig mawreddog,
A llawn grym, mae fel llen grôg.

O aeliau y cwm, wele, cant—o bur
Aberoedd a frysiant:
A mwy eu pwys, am y pant
Afonydd ymofynnant.

Un a ddaw o waen y Dduallt,—a'r lleill
I'r Lliw sy'n ymdywallt;
Berwa hon heibio'r Wenallt,
A'i gerwin ru grynna'r allt.

Y rhaiadr erychwyn rhaol.—— Rhaiadr Mwy,
Ry dwrw mawr parhaol;
Saif ei hir dôn syfrdanol
I oesau res sy ar ol.

Ef a'i swn oedd yn fy synnu,—yn nydd
A nos, wrth raiadru;
Twrw hwn yn taranu,
Yn fy mhen, yn fachgen, fu.

Credais, arswydais y son—a daenid,
Fod yno ysbrydion,
Fwy na rhif, yn yr afon
Yn gwneud twrf, gan ganu tôn.

Iach wylfod ar uchelfan—fu castell
Cryf, costus, Carn Dochan,
Heria lu i ddod i'r lan
Hyd ei greigfawr lwyd grogfan.

I'r Uwchlawnt bu'n rhoi achles—a nodded
Gynt, yn nyddiau gormes,
Dyddiau o lid oedd ddi—les,
Gwrhydri gwag, a rhodres.

Pa ddewin, pwy a ddywed—ei hanes?
Honno ni amgyffred
Gwyr deallus, craffus, cred,
Na'r un llenor a aned.

Dwyn fy myd ar hyd rhedyn,—a grugoedd,
A'r graig i'm hamddiffyn,
Yn y fro ges, fore gwyn
Fy einioes, fy nhirf wanwyn.

A diau, esgud y dysgodd—fy nhad
Fi'n hir, ac ni flinodd;
Eithr ef fu athraw o'i fodd,
I'm hyrwyddaw ymroddodd.

I mi, yno, fy mam anwyl—fu'n dda,
Fu'n ddoeth ar bob egwyl:
Gwarchod, a gwneud ei gorchwyl,
A fynnai hi, fenyw wyl.

Llon oedd, llawen o hyd,—eon wenai
Yn wyneb caledfyd;
Canai hi, heb ofni'r byd,
Yn oedfa gerwin adfyd.

Michael Jones fawr, fawr, yno fu,—manwl
Y mynnodd ein dysgu:
A thrwy yewm, athraw cu—i bawb oedd,
A di—ail ydoedd i'n hadeiladu.

Yr oes honno o fawr wasanaeth—bawb
Aent i byrth marwolaeth;
Du ogof llygredigaeth,
Lawn o gyrff, a'u deil yn gaeth.

Yn adnabod pryd wynebau—y bobl
Sy'n byw'n yr hoff fannau
Nid ydwyf, a'm cyndadau
Ni cheir byth ar ochr y bau.

I'r fynwent yr af finnau,— i'r un daith,
A'r un dull, a hwythau;
Ond hedd, pur hedd, fo'n parhau,
Yn mro anwyl fy mrynian.

MIS MAI.

𝕸AE dydd gogoniant anian yn neshau.
Ymdrwsio yn ei gwisgoedd gwychaf mae
O flaen toddedig ddrych y wybren hardd,
Ac yn amrywiaeth ei phrydferthion chwardd.


Mor ŵyl y sylla llygaid hoff y dydd
Ar bethau uwch a chryfach na hwynt hwy,
A'r rhosyn diymhongar prydferth sydd
Yn moes-ymgrymn i lysiau llai a mwy:
Mae'r ŵyn yn difyr chwarae ar y fron,
Mae adar fyrdd yn seinio pob rhyw gerdd,
Pob nodyn yn ei le mewn cywair llon,
Un anthem fawr sydd drwy y goedwig werdd.


Mae Gwen, wrth odro yn y borfa fras,
Yn pyncio'r "Gwenith Gwyn" a'r "Frwynen Las,"


Mae'r môr yn cysgu'n dawel,
A thyner iawn yw'r awel;
Mae bywyd yn ymestyn
Mewn dŵr, a dol, a bryncyn;
Ni lwyda wyneb neb gan nych,
O'r palas gwych i'r bwthyn.


Mae'r plant yn chware ar y llechwedd draw,
Ymroliant o'r pen neha i droed y bryn;
A rhai o'r hen frodorion yno ddaw'
I ail fwynhau ieuenctid wrth eu ffyn.

O hyfryd Fai! O na bai'n Fai o hyd,
A'r misoedd eraill yn fis Mai i gyd.

Bangor, yn ngwanwyn 1872,


ARDAL MEBYD.

"𝕹ES penelin nag arddwrn," medd hen air adabyddus yn mhlith ein cydwladwyr felly hefyd, nes yw yr ardal lle y ganwyd ac y magwyd ef at feddwl a serch ysgrifenydd y llinellau hyn nag un arall o fewn Cymru benbaladr;. a naturiol yw iddo, yn gyntaf oll, ysgrifennu ychydig o gofnodion am ardaloedd ei fro gysefin.

Mae llawer o hynodion ac amrywion yn perthyn i'r rhandir a elwir Penllyn. Yn ei chanol y mae y llyn mawr, môr canoldir Meirion, yr hwn, weithiau, a wisga wên hawddgar a deniadol iawn, ond sydd heddyw yn noethi ei ddannedd, ac yn rhuo megys bwystfil ysglyfaethus, fel pe byddai am falu a llyncu pob peth sydd yn agos i'w derfynau. Ond er ei fawredd a'i rwysg, mae yn rhy fychan i foddloni ei ddyfroedd, ant allan o hono i chwilio am gartref mwy cydnaws a'u naturiaeth ym mynwes y môr: rhywbeth yn debyg i ysbryd anfarwol dyn, yr hwn nis gall ymgartrefu ond am dymor byr yn unlle, nes y cyrhaeddo fynwes y Duw a'i gwnaeth. Mae yn y llyn doraeth mawr o amrywiol bysg, ac felly y mae yn yr afonydd a ymarllwysant iddo. Dywedwyd yn fynych fod y brif afon sydd yn ymdywallt iddo yn rhedeg drwyddo heb ymgymysgu a'i ddyfroedd, ond nid yw hynny ddim ond un o freuddwydion y trigolion gynt, pan oedd nos anwybodaeth yn gordoi y wlad.

Mae ym Mhenllyn lwyni prydferth o amryw goedydd, dolydd breision, porfaoedd meillionog, eithinoedd llymion, ucheldiroedd corsiog, marwddyfroedd cysglyd, rhaiadrau trochionog, brysiog, a thrystiog, mawnogydd dyfnion, gwastadeddau grugog, rhosydd grugwelltog, a llechweddau caregog a diffrwyth, lawer iawn. Mae rhannan uchaf y rhandir yn nodedig o fynyddog. Mae y creigiau daneddog, ysgythrog, yn lluosog iawn: ar y rhai y mae mellt, gwlawogydd, eiraoedd, rhewogydd, a gwres, wedi bod yn diwyd weithio, nes datod rhannau dirif o honynt, nes y mae y rhannau hynny megys plant o amgylch traed eu rhiaint, ac yn gwireddu y ddiareb,"Odid fab cystal a'i dad." Ymysg y cerrig hynotaf yn yr ardal y mae carreg y lluniau," ar yr hon y ceir lluniau o amryw ffurfiau, a rhai o honynt yn dwyn llawer o debygrwydd i waith llaw dyn, neu sangiad troed anifail, cyn i'r garreg galedu fel y mae yn bresennol. Bu llawer o bobl feddylgar yn myfyrio uwchben "carreg y lluniau." ac yn methu deall y dirgelwch sydd yn perthyn iddi. Ymysg eraill, bu y daearegydd cyfarwydd, y diweddar Ioan Pedr, yn ei hastudio, a sicrhai efe i ni mai gwaith natur yw y cyfan, ac na fu gan law dyn, na throed anifail, ran yn y byd yn ffurfiad y lluniau; ac yr oedd efe yn awdurdod led uchel ar y fath bynciau, fel yr addefir yn gyffredinol.

Mae yma hefyd domenau pridd a cherrig, wedi eu furfio yn agos yn grynion, i'w cael mewn amryw fannau. Gwaith dwylaw dynion yw y rhai hyn, yn ddiau. Creda rhai mai claddfeydd i'r meirw oeddynt, ond tybia eraill mai yn orsafoedd arwyddion y bwriadwyd hwynt, er trosglwyddo newyddion o'r naill ardal i'r llall. Tyb-osodiadau, heb nemawr o sierwydd yn perthyn iddynt yw llawer o bethau a ddywedir am danynt. Mae un o honynt yng Nglyn Dyfrdwy, ar yr unig lcyn, o ben Bwlch yr Ysgog i Gorwen, lle y canfyddir Castell Dinas Bran. Mae yn lled debyg mai derbyn arwydd o'r castell y byddai gwyliedydd y domen honno, a'i drosglwyddo ymlaen gan wneud defnydd o domen arall sydd gerllaw, ac y mae honno yng ngolwg tomen sy' gerllaw palas Rug. Parodd hyn, a phethau cyfatebol iddynt, i amryw feddwl yn gryf mai un o brif amcanion y tomenau oedd gwasanaethu fel lleoedd i osod arwyddion arnynt, banerau neu dân, i rybuddio gwahanol ardaloedd pan fyddai perygl oddiwrth elynion yn dynesu atynt. Ymddengys en bod i'w cael yn India, ac yn wir, yn y rhan amlaf o wledydd y byd. Nid yw chwaith yn amhosibl nad oedd amcanion coelgrefyddol hefyd, yn perthyn iddynt, a'u bod yn dal cysylltiad â Derwyddiaeth y dyddiau gynt. Mae amryw bethau yn peri i ddyn meddylgar dybio hynny.

Mae amryw leoedd ym Mhenllyn yn dwyn yr enw o gaer, a chastell, megys y Caerau, Caer Gai, Castell Carn Dochan, &c. Yr oedd Caer Gai yn wersyllfa i adran o filwyr Rhufain, yn yr hen amseroedd, fel y mae gweddillion eu gwaith yn y lle yn profi yn eglur: ac yr oedd ffordd Rufeinig yn arwain o Gaer Gai i Gwm Prysor, a Thomen y Mur, gweddillion yr hon a ganfyddir mewn amryw fannau yn y cyfeiriad hwnnw hyd y dydd heddyw. Mor anturiaethus raid fod gwyr Rhufain yn eu dydd, pan y sefydlent eu gwersylloedd yng nghanol mynyddoedd Cymru, ac y gweithient en ffyrdd drwy y cymoedd, a thros fynyddoedd Gwylit Walia, o'r naill wersyllfa i'r llall. Ond clywsom y diweddar Dr. O. O. Roberts, o Fangor yn dywedyd eu bod wedi cymeryd mantais ar ffyrdd yr hen Gymry yng ngwneuthuriad eu ffyrdd eu hunain yn mhob man y gallent, ac mai nid hwy a biau yr holl glod yn y mater dyddorol hwn. "Yr oedd gan yr hen Gynry gerbydau," meddai Dr. Roberts, "a chan hynny, rhaid fod ganddynt ffyrdd i'w dwyn o ardal i ardal. Mae cerbydau heb ffyrdd, nid yn unig yn anhebygol, ond yn amhosibl."

Cafodd yr ysgrifennydd ei eni a'i fagu wrth droed Castell Carn Dochan. Adeiladwyd y castell ar ben craig serth, uchel, ac mewn lle anlygyrch a thymhestlog dros ben. Nid oes yn awr olion ffyrdd yn arwain ato o unrhyw gyfeiriad: ond diau fod rhai yn yr hen oesoedd. Mae yn adeilad cadarn: y muriau o drwch dirfawr, ac wedi eu gweithio drwy yr hyn a elwir "morter poeth." Mae cregyn o'r môr, yn gystal a graian, yn gymysg a'r cymrwd, ac yr oedd yn amhosibl cael cregyn y môr yn nes na'r Traeth Bach, neu afon yr Abermaw, ac yr oedd yn rhaid eu cario yn bynnau, mae yn debyg, ar gefnau anifeiliaid. Mae y castell braidd yn hirgul, yn betryalawg yn y pen dwyreiniol, ac yn fwaog yn y pen gorllewinol. Mae ffos ddofn, sych, wedi ei thorri yn y graig, a ffos arall, lawn o ddwfr, ychydig o lathenni ym mhellach i'r gorllewin na'r ffos a dorrwyd yn y graig, er amddiffyn y pen hwnnw i'r castell a dyna yr unig ben iddo y gallai gelynion nesâu ato i geisio gwneud niwaid iddo. Mae y murian cedyrn wedi eu chwalu er ys oesoedd, a'r cerrig yn hanner lenwi gweddillion yr adeilad, ae wedi treiglo i'r ochrau, ar bob llaw. Trueni na chymerai pobl yr ardal y gorchwyl o lwyr lanhan yr hen adeilad, fel y gellid gweled y llawr drosto oll. Yr oedd yn y pen dwyreiniol, gynt, adeiladau eraill, heb fod o'r un wneuthuriad cadarn a'r castell ei hunan—adeiladau oeddynt, mae yn ddiau, i gynnwys pethau angenrheidiol at wasanaeth teulu y castell. Y mae llannerch deg o gryn faintioli ar yr ochr ddeheuol i'r amddiffynfa. Dyna lle yr oedd yr ardd a berthynai i'r lle, feallai: neu gwnai fan cyfleus i ddysgu y milwyr a amddiffynent y lle i drin en harfau, ac i ymsymud yn rhengoedd rheolaidd. Tebygol yw mai ar y gwastadedd, yng ngwaelod y cwmn, yr oedd perchenogion y castell yn arfer cartrefu, ac y mae yno hyd heddyw le a elwir "lle'r llys," ac mai cilio y byddent yn nydd rhyfel a therfysg i amddiffynfa Carn Dochan, lle y gallent herfeiddio unrhyw allu gelynol i'w gorchfygu. Tyb-osodiad ydyw hyn; ond y mae y goreu a all yr ysgrifennydd ffurfio.

Yr oedd yr ardaloedd hyn yn y dyddiau gynt, yn dryfrith o fân uchellwyr, y rhai oeddynt bob un yn perchenogi tyddyn, neu ddau, neu dri, ac yn byw yn lân ar eu moddion. Yr oedd ym mhlwyf Llanuwchllyn, yn unig, lawer o'r cyfryw fân uchelwyr; megys yn y Llwyn Gwern, y Prys, Plas Deon, Plas yn Nghynllwyd, Plas Madog, Glan Llyn, a Chaer Gai, yn nghyda mannau eraill; ond drwy briodasau, gwerthiadau, a gwastraff yr hen deuluoedd, y mae y tiroedd yn bresennol wedi myned i ychydig o ddwylaw, mewn cymhariaeth, er colled drom i anibyniaeth y wlad, mewn unrhyw faterion o bwys cyffredinol i'r trigolion. Pe buasem yn alluog i nodi allan pwy oedd sylfaenwyr hen deuluoedd yr ardal, a phwy oedd perchennog cyntaf Castell Carn Dochan, ai Riryd Flaidd, Arglwydd Penllyn, neu rywun arall (yr hyn nis gallwn), ni fuasai hynny o nemawr fudd i'n darllenwyr, er y buasai yn ddigon difyrrus i hoffwyr hynafiaeth; ond rhaid i ni adael y pethau hyn fel y cawsom hwynt, dan len gudd ebargofiant. Bu o bryd i bryd, amryw o wyr enwog, fel beirdd a llenorion, yn preswylio yn yr ardal hon, ac y mae enwau rhai o honynt wedi disgyn i lawr i'n dyddiau ni. Gallwn nodi y rhai canlynol.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Llywarch Hen
ar Wicipedia

LLYWARCH HEN. Efe yw y mwyaf ei athrylith o'r cynfeirdd. Collodd ei feddiannau yn y Gogledd, collodd ei feibion mewn rhyfeloedd, ffodd i lys Cyn ddylan am nodded, ond cwympodd ei noddwr, llosgwyd ei lys yn Pengwern, neu yr Amwythig, a goresgynwyd yr holl wlad o amgylch gan y Saeson; ffodd y bardd i Abercuawg, ond symudodd oddiyno i Benllyn, lle y bu farw, yn 150 oed, meddir, a chladdwyd ef, mae yn dra thebygol, yn Llanfor. Mae darnau o'i waith yn y Myvyrian Archaiology, ac y maent yn brofion diymwad o'i athrylith.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Gwerful Fychan
ar Wicipedia

GWERFIL VYCHAN. Un o deulu Caer Gai oedd y farddones awenyddol hon. Blodeuodd, debygid, oddentu diwedd y bymthegfed ganrif. Mae ei chywydd i'r March Glas, neu yn hytrach y darnau ohono sydd ar gael, yn profi ei bod yn feddiannol ar athrylith gref, a medrusrwydd mawr, ac y mae rhai ergydion rhagorol yn ei chywydd ar Ddioddefaint Crist. Dywedir ei bod, yn amser llyfnu, yn tosturio wrth ryw hen geffyl blinedig oedd wedi llwyr ddiffygio yn ei waith, ac yn dywedyd wrth ei thad,—

Hen geffyl, gogul, digigog,—sypyn,
Swper brain a phiog;
Ceisio'r wyf, mae'n casâu'r ôg,
Wair i'r Iddew gorweiddiog.

Mae amryw o'i dywediadau, ar ffurf cynghanedd, wedi nofio i lawr ar lif llafar gwlad, hyd ein dyddiau ni.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Rowland Vaughan
ar Wicipedia

ROWLAND VYCHAN o Gaer Gai, oedd yn ei flodau oddeutu canol yr unfed ganrif ar bymtheg. Yr oedd yn dirfeddiannwr helaeth a pharchus; ac felly yr oedd ei hynafiaid, er ys canrifoedd cyn ei ddyddian ef. Cyfieithodd yr "Ymarfer o Dduwioldeb," a chryn nifer o lyfrau buddiol eraill. Yr oedd Rowland Vychan yn freninoliad aiddgar, a dioddefodd lawer o herwydd hynny. Llosgwyd ei dy hyd y llawr gan fyddin y Senedd, adran o ba un fu yn aros am ychydig, y pryd hwnnw, yn y Bala, a throsglwyddwyd ei etifeddiaeth, neu o leiaf, ran fawr y honi, i gâr iddo, fel y dengys yr englyn canlynol a gyfansoddodd yr adeg honno:—

Caer Gai nid difai fu gwaith tân—arnad;
Oernych wyd yrwan,
Caer aethost i'm câr weithian,
Caer Gai, lle bu cywir gan.

Bu raid i Rowland Vychan droi o'r ardal yn ffoadur am dro, rhag dialedd gwyr y Senedd. Dengys y pennill canlynol ei fod yn eu casau â chas cyflawn

"Pe cawn i'r pengrynion
Rhwng ceulan ac afon,
Ac yn fy llaw goed-ffon o linon ar li—
Mi a gurwn yn erwin
Yng nghweryl fy mrenin,
Mi a'u gyrrwn yn un byddin i'w boddi."

Drwy lawer o drafferth, wedi adferiad yr aniolchgar Charles II, y cafodd ei etifeddiaeth yn ol. Ail adeiladodd Caer Gai, megys y mae yn bresennol, a chanodd yr englyn canlynol i'r adeilad newydd,—

Llawer caer yn daer i'w dydd,—a losgwyd,
Lesgwaith gwyr digrefydd;
Y Gaer hon i gywir rhydd.
Caer gain yw—Caer Gai newydd."

Dywedir ei fod yn ymladd o biaid y brenin ym mrwydr Naseby; ond diangodd yn ddiogel adref o'r trychineb a oddiweddodd blaid y brenin yn yr ornest honno. Mae adeg ei farwolaeth a'i gladdedigaeth yn anhysbys; er hynny, dir yw i seren ddisglaer fachludo pan y bu efe farw. Gwelsom waith barddonesau o deulu Caer Gai yn y Blodeugerdd rai blwyddi yn ol; ond nid ydym yn cofio eu henwau, nac yn gwybod eu cysylltiadau ar hyn o bryd; ond hannu o'r un teulu a Rowland Fychan yr oeddynt. Un o'r teulu hwnnw hefyd a adeiladodd yr elusendai sydd ym Mhennantlliw, ac a'u gwaddolodd, hyd y dydd hwn. Aeth yr etifeddiaeth i feddiant Wynniaid Wynnstay, trwy briodas, os na chamhysbyswyd ni am hynny.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Siôn Dafydd Las
ar Wicipedia

SION DAFYDD LAS, yr hwn a flodeuodd rhwng 1650 a 1690, oedd frodor o Lanuwchllyn. Yr oedd yn gerddor tafod a thant i deulu Nannau, ac yn gyfansoddwr tra rhagorol. Pan glywodd am farwolaeth ei gyfaill, Edward Morris o'r Perthi Llwydion, yr hwn oedd borthmon wrth ei alwedigaeth, a bu farw yn Essecs, dywedodd Sion Dafydd Las,—

"I'r bedd, lle oeraidd yn llan,—cul feddiant!
Aeth celfyddyd weithian;
A'r hen iaith, ni a'i rho'wn weithian,
A'r awen fyth i'r un fan."

Gwendid mawr a pharhaus Siôn Dafydd Las oedd yfed i ormodedd. Bu ei gyfeillion yn ymliw gydag ef ar y mater yn fynych, ond y cwbl yn ofer. Ryw dro, pan dan eu cerydd a'n cynghorion, teimlai awydd cryf i ddiwygio, a dywedai,—

"At fy Nhad, fwriad edifeirwch, —ai
I ofyn ei heddwch,
Dan grynu, llechu'n y llwch,
A darostwng i dristwch.


—————————————

RHOS Y FEDWEN



"Wrth fy Naf glynaf yn glan,—a'i gyfarch,
A gofyn ar liniau,
Am ras im', wiw resymau,
A mwy llwydd i mi wellhau."

Ond syrthio beunydd i'r un bai yr oedd efe, a dywedai am dano ei hunan fel y canlyn—

"Ofer, pan hanner hunwyf,—a hefyd,
Ofer pan ddeffrowyf;
Afradus, ofer ydwyf,
Fe wyr Duw ofered wyf."

Parodd y boen a'r gwaew oedd yn ei ben ar ol yfed i ormodedd yn Nghorsygedol, iddo ddywedyd bore drannoeth—

"Pen brol, pen lledffol, pen llaith,—pen dadwrdd,
Pen dwedyd yn helaeth:
Pen croch alw, pen crych eilwaith,
Pen a swn fel pennau saith.

"Pen chwyrn, pen terfyn wyt ti,—pen brenlwnc,
Pen barilo meddwi:
Pen rhydd, di 'menydd i mi,
Pen ffwdan—pa' na pheidi?"

Bu farw fel y bu fyw, dipyn yn anystyriol. Yr oedd yn berchen awen o'r iawn ryw. Trueni na ddefnyddiasid hi i well diben. Nid oes neb, ar a wyddom, a edwyn "fan fechan ei fedd." Prin y gellir disgwyl i wr cyffredin, fel oedd efe, fod yn feistr ar ddeddfau y gynghanedd; ond er ei holl fan feiau cynghaneddol, rhaid addef fod gwir athrylith yn berwi ynddo; a than amgylchiadau eraill mwy manteisiol, gallasai fod cystal cyfansoddwr barddoniaeth a William Lleyn.

Yr oedd hen gyfansoddwr barddoniaeth pur wych, meddir, yn byw yn yr ardal hon oddeutu 400 mlynedd yn ol, o'r enw Tudur Penllyn; a dywedir fod peth o'i waith eto ar gael, ond ni ddygwyddodd i ni weled dim o hono. Hefyd, yr oedd gwr o'r enw William Penllyn, dros dri chan' mlynedd yn ol, yn fardd a cherddor. Yr oedd yn hannu, meddir, o'r fan hon; ac urddwyd ef yn Eisteddfod Caerwys, yn 1566, yn brif-fardd, ac yn ddysgawdwr cerdd. Yr oedd Morys ap Rhobert o'r Bala wedi hannu yn wreiddiol o Lanuwchllyn, ac yn meddu traws-amcan go lew at gyfansoddi barddoniaeth. Yr oedd yn ddyn pur grefyddol, ac yn awyddus am droi pob peth y canai arno, hyd yn nod Llyn Tegid, i wneud rhyw wasanneth i grefydd. Gwel ei gywydd i'r Llyn. Digon heddyw. Dychwelir at y mater eto pan geir hamdden.

GWEN BACH.

Er cof am Gwen Hughes, Bont Lafar, Llanuwchllyn, yr hon a fu farw yn y Bala, yn bymtheg oed.

𝕲WEN HUGHES, er golygu'n iach,—ai o'r byd
I'r bedd digyfeillach;
Caiff wlad well i fyw bellach,
O hyd gwyn ei byd Gwen bach.

Mwy gonest ac amgenach—morwynig
Yn Meirionnydd mwyach
Ni welir, na'i hanwylach;
Mor gu, gwn, y bu Gwen bach.


ADGOFION MABOED.

"Mae y pethau hyn yn hen."

𝖄N nechreu haf y flwyddyn 1818, yr oedd gwr a gwraig, a thyaid o blant nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgythrog, ac mewn ty bychan, a'i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac nid oedd yr haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gauaf. Yr oedd yn cael ei gysgodi yn dda rhag gwyntoedd o'r Gorllewin, ac o'r Deheu; ond yr oedd awelon oerion y Gogledd. a'r Dwyrain yn ymosod arno yn ddidrugaredd. Mynnai y mŵg hefyd ymgartrefn yn y ty a'r to rhedyn, gyda y teulu, ac nid ai allan o'i fodd, os na fyddai y gwynt yn chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef. Yr oedd megys un o'r teulu.

Ond yr oedd amryw o bethau manteisiol a dymunol yn y fangre wladaidd honno wedi y ewbl. Yr oedd y teulu, wedi iddynt ddyfod drwy un bangfa galed o waeledd, yn cael iechyd pur dda ar y cyfan. Yr ydoedd ffynnon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn union wrth dalcen y ty. Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y mynydd uwchlaw y ty, yr hyn a barai fod yr aelwyd ar nosweithiau hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus. Eisteddai y tad yn un gornel, a'r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a'r plant yn hanner cylch o flaen y tân, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan mor gyflym ag y gallai, fel y gallai y fam fyned a hanner dwsin o barau i'r farchnad ar y Sadwrn, a'u cyfnewid yno am angenrheidiau teuluaidd.

Nid oedd yn hawdd peidio a chysgu yng ngwres y tân. Teimlai y plant hynny yn fynych, ac anfonai y fam hwynt allan am dro i edrych beth a welent rhwng y ty a Moel Llyfnant; yna dychwelent i'r ty yn ol i drin y gweill, fel o'r blaen, hyd amser swper, a'r addoliad teuluaidd a'i dilynai, ac yna pawb i orffwys, ac mor felus oedd cwsg yn y dyddiau hynny. Ac mor hoenus a diflinder oedd y cyfansoddiad pan ddeffroid yn y bore, wedi cysgu drwy y nos.

Nid llawer o lyfrau oedd ym meddiant y teulu; ond yr oedd yr ychydig a feddiannent yn rhai hynod o sylweddol ac adeiladol. Dysgwyd i'r rhai hynaf o'r plant ddarllen ac ysgrifennu, a rhifyddu rhyw ychydig, a darllen peroriaeth yn ol yr Hen Nodiant, sef yr unig nodiant oedd yn adnabyddus y pryd hwnnw ar aelwyd eu rhieni, cyn troi o honynt allan i'r byd i ymladd drostynt eu hunain. Eu gwaith ar ddyddiau gwlawog fyddai cordeddu a gwau; ond ar ddyddiau teg, agorodd Rhagluniaeth ddrws iddynt i ddilyn gorchwyl mwy enillfawr na gwau.

Ar ol terfynu o'r rhyfel mawr rhwng y wlad hon a Napoleon Bonaparte, daeth amser caled iawn ar weithwyr amaethyddol, crefft wyr, a man amaethwyr Cymru. Yr ydym yn cofio blwyddyn o falldod cyff- redinol ar yr yd, ac yr oedd bara iach yn beth di- eithr yn y wlad. Bychan iawn oedd cyflog gwr y ty a'r to rhedyn; ac er pob ymdrech o eiddo y fam a'r plant er ychwanegu tipyn at gyflog gwr y ty hwnnw, byd cyfyng a chaled oedd arnynt fel teulu dros amryw flynyddau. Ond fel yr awgrymwyd uchod, agorodd Rhaglun. iaeth dirion y nef iddynt ddrws o ymwared, i ryw raddau. Daeth y cen gwyn sydd yn tyfu ar gerrig yn nwydd i fasnachu ynddo. Cesglid ef oddiar y cerrig, a gwerthid ef i fasnachwr am geiniog y pwys, ceiniog a ffyrling, ceiniog a dimai, ac ychwaneg na hynny, pan y byddai galwad nehel am dano. Yr oedd tri o blant y teulu sydd dan ein sylw yn ei gasglu bob dydd, sych a theg. Casglai y tri rhyngddynt oddeutu deunaw pwys, yr hyn oedd yn gryn gymorth i'r rhieni a'r plant allu byw, a thalu eu ffordd. Troes lluoedd allan i'r ffriddoedd a'r mynyddoedd i'w gasglu, ac yr oedd y casglwyr gyda eu cynion yn hel y cen yn llawer cynt nag y tyfai ar y cerrig; ac felly, aeth y nwydd yn brin yn yr holl leoedd oeddynt yn gyfleus i gyrchu iddynt; a rhaid oedd myned yn bellach, bellach, yn barhaus. Yr oedd dau o fechgyn y ty a'r to rhedyn yn myned mor bell a'r Arennig i hel y cen. Cychwynnent gyda chodiad yr haul, a'u tamaid bwyd gyda hwynt— gweithient yn ddiwyd a chaled, bwytaent eu tamaid lluniaeth wrth ffynnon oedd yn berffaith adnabyddus iddynt hwy, a dychwelent adref gyda'r nos—taith, rhwng myned a dyfod, o ddeuddeg milldir o ffordd. Parhausant i deithio felly ar hyd mis Mai, a hanner Mehefin. Ond aeth y teithio hwnnw, bob yn tipyn, yn flin ganddynt; a rhyw fore teg yng nghanol Mehefin, 1818, cymerasant gyda hwy ddigon o luniaeth i barhau dros ddau ddydd, ac aethant ymaith i gefn yr Arennig, lle y buont yn cenna nes aeth yn hwyr. Yna aethant at dy o'r enw Amnoedd Wen, a gofynasant a allent gael llety am noswaith. Holwyd hwy pwy oeddynt, a pha beth a'u dygasai yno. Wedi cael eglurhad perffaith foddlawn gan wraig y ty, cawsant lety a chroesaw mawr gan y wraig, yr hon oedd yn weddw ar y pryd, a chanddi un plentyn amddifad, naw mlwydd oed. Bore drannoeth, deisyfodd y wraig ar y ddau fachgen aros gyda hi, i helpu am fis yn y cynhauaf gwair, ac i wneud y peth a allent—taenu ystodiau, tywys y ceffylau, a'r cyffelyb, a chymerodd arni ei hunan i roddi hysbysrwydd i'w rhieni pa le yr oedd y bechgyn. Bu y ddau fachgenyn yno yn ddedwydd dros ben nes y daeth y mis i fyny. Byddai yn burion dywedyd ychydig yma am wraig y ty a dull y teulu hwnnw o fyw. Yr oedd y wraig yn ddynes brydweddol a theg iawn yr olwg arni. Yr oedd yn proffesu crefydd gyda y Methodistiaid Calfinaidd. Buasai yn America gyda ei gwr cyntaf; ond dychwelodd adref i'w hen drigfan, Amnoedd Wen. Daeth dros y môr ei hunan; ond dychwelodd ei gwr, Mr. Griffiths, yn fuan ar ei hol, a bu farw cyn hir wedi dyfod i'w hen wlad. Yr oedd llawer o bobl yn yr Amnoedd Wen tra y parhai y cynhanaf gwair; ond nid oedd yno yr un dyn yn proffesu crefydd y pryd hwnnw. Yr oedd Ysgol Sabbathol yn y ty, ac felly nid oedd prinder Beiblau a Thestamentau at wasanaeth pob un a allai ddarllen. Byddai yno ddyledswydd deuluaidd bob bore, a phob hwyr, pa mor brysur bynnag y byddid gyda'r cynhauaf. Byddai pob un a allai ddarllen, yn darllen ar gylch bob yn ail adnod, a dysgwylid i bawb gofio, ac adrodd rhyw air a ddarllenasid. Mrs. Griffiths ei hun fyddai yn gweddio, a gwnai hynny yn berffaith weddus ac urddasol.

Ar ddyddiau teg iawn, parotoid siot llaeth enwyn i'r dynion, am ei fod yn fwyd oer a dymunol ar y tywydd tesog. Mewn dysgl ddofn y gwneid yr arlwy honno. Yna cymerai pob un ei lwy, ac estynai hi i'r ddysgl, a chodai ei llonaid i'w safn; ond yr oedd y ddau fachgen yn fyrion, a'r ddysgl yn ddofn, ac wyth neu ddeg o lwyau i mewn ynddi ar unwaith, a mynych y byddai llwythi eu llwyau hwy wedi eu dadymchwelyd cyn gallu o honynt eu cael yn agos i'w safnau. Gwelai Mrs. Griffiths eu hanfantais, a pharai iddynt aros ar ol, a chaent fwyd wrthynt eu hunain, wedi i'r lleill fyned at y gwair i'r maes. Yr oedd gwir diriondeb yn y wraig honno. Gwnaeth y fath argraff ddofn ar feddwl yr ieuangaf o'r bechgyn, fel yr aeth, un mlynedd ar hugain wedi hynny, gryn dipyn o'i ffordd, yn unig er mwyn cael ei gweled, a siglo llaw à hi. Cafodd hynny; ond yn anffodus, nis gallodd beri iddi ei gofio. Y mae wedi marw bellach. er ys blynyddoedd lawer. Heddwch i'w llwch, i aros adgyfodiad y cyfiawnion. Sylwn:—

1. Tra yn aros dan gronglwyd y wraig ragorol honno, dyfnhawyd yr argraff o werth gwir grefydd yn fawr ar feddwl y bachgen ieuengaf o'r ddau, ac nid yw yr argraffiadau a wnaed y pryd hwnnw wedi eu gwisgo allan hyd heddyw.

2. Fod crefydd deuluaidd yn help neillduol i gael llywodraeth dda, gariadlawn, a chref mewn teulu. Nid oedd geiriau cas a bryntion i'w clywed rhwng y gweithwyr a'u gilydd, ar adeg yn y byd, pan oedd y bechgyn yn Amnoedd Wen. Yr oedd y dynion digrefydd oeddynt yn gweithio y cynhauaf yno, yn ymddwyn yn barchus hollol at eu gilydd, ar y meusydd ac yn y ty. Ni roddent sarhad i neb. Nid yw rhifedi mawr o ysgrifenwyr ffugenwol ein papyrau Cymreig, yn y dyddiau hyn, yn gymhwys i ddatod careiau esgidian gweithwyr dibroffes Amnoedd Wen. Yn sicr, nis gall fod proffeswyr crefydd sydd yn ymhyfrydn mewn pardduo ac enllibio dynion diniwaid a difeddwl-ddrwg, yn credu yn "adgyfodiad y meirw, a'r farn dragwyddol."

3. Mor ddedwydd a hardd fyddai y byd hwn pe dygid ef dan lywodraeth crefydd bur a dihalogedig gerbron Duw a'r Tad. Crefydd bersonol yn meithrin crefydd deuluaidd—crefydd deuluaidd yn meithrin crefydd gynulleidfaol—teuluoedd yn tywallt poblogaeth pob aelwyd i dŷ Dduw ar y Sabbathau— pechod wedi gwywo a dihoeni, a sancteiddrwydd i'r Arglwydd yn argraffedig ar bob peth,—beth pe ceid y byd hwn am un ganrif dan lywodraeth cariad, cyfiawnder, a phurdeb? Byddai cael peth felly yma yn nefoedd ar y ddaear, yn lle y genfigen, y falais, a'r ddrwg ewyllys sydd yn ei anurddo, ac yn ei andwyo yn bresennol.

Mae y ddau fachgen fu gynt yn taenu ystodiau yn Amnoedd, ac yn dringo, fel mwnciod, ar hyd llorpiau y ceir cefnau, er mwyn marchogaeth y ceffylau, wrth gario y cnwd i'r weirlan, eto ill dau yn fyw ac yn iach. Trwy gael llawer o help gan Dduw, y maent yn aros hyd y dydd hwn; ond ni bu yr un o'r ddau, debygwyf, byth wedi hynny dros riniog y ty lle y treuliassnt bedair wythnos gynt mor ddedwydd. Pobl newyddion sydd yn byw hefyd yn y cwm, ac nid oes dim yn aros lieddyw fel yr oedd y pryd hwnnw ond yr Arennig a Moel Llyfnant.

AR FEDD GWR IEUANC

YM MYNWENT PLWYF LLANUWCHLLYN.

𝕯YN ieuanc i'w dy newydd—a ddygwyd,
Cadd ddigon o dywydd;
Ger y llan cysgwr llonydd
Hyd y farn ofnadwy fydd.


YR AMNOEDDAU.

Y MYNYDDOEDD i'r Amnoeddau—godwyd
Yn gedyrn ragfuriau;
A main di-goll myn Duw gau,—rhag stormydd
A hyll dywydd, yr holl adwyau.

Dan gysgod llaes fargodion—a nodded.
Y mynyddau meithion
Y llech y bugeiliaid llon,—yn dawel,
O fewn tai isel, heb fawr fanteision.

Nid oes restr o ffenestri i'r annedd,
Na'r un porth cerf-feini,
Yn ddarn hardd, er addurn i
Wyth sir, yng ngwaith y seiri.

A gwael iawn yw y goleuni—a geir
Gan y fath ffenestri;
Pob ystafell, hell yw hi,
A hirnos oesoedd arni.

Mawn duon mewn du auaf— a mynych
Bren mawnog o'r duaf,
Dry yr oerflin hin yn fwyn haf
A'r aelwyd y man siriolaf.

Ymennyn a wna pren mawnog—ar hyd
Yr alch fo'n fawn-lwythog:
Gwneir mawr dân nes y cân côg,
Drwy waenydd, ei mydr enwog.

Wele, cwn y bugail cu—orweddant
Yn rhwydd iawn i gysgu.
Yn y gwres, gan ymgrasu;
A throell, gyda ei maith ru,


Yn eu siriol groesawu—heb arswyd
I hwylio at aelwyd hael y teulu.

Y mae'r uwd mewn mawrhydi—ar y bwrdd.
Er i bawb gael torri
Ei angen; a fferf frwynen o fri—'n rhad,
Un o hardd luniad, inwn rydd oleuni.

Yn y barth, ar ol ymborthi—eu gwaith
I gyd fydd addoli;
Egwyddor mawl a gweddi—a welwyd
Ar eu haelwyd yn eu hir reoli.

Gyrwynt, ar rew ac eira—ar y ty
Ac ar y tir ruthra;
Y defaid gânt eu difa
O dan luwch cadwynol ia.

Yna, drwy ganol andwyol dywydd,
Yr a bugeiliaid, o gwrr bwygilydd,
O awch, i fywiog chwilio lluwchfeydd,
Yn lleoedd pantiog agenog gwennydd,
Er rhoi y caethion yn rhydd—drwy'r holl bau,
Torlannau a mannau dyinion mynydd.

Yn y nos ceir hanesion—gwaith y dydd,
Gweithio dan luwchfaon,
A gwared defaid gwirion,
Nes bai'r lle yn asbri llon.

Ond nefoedd i'r Amnoeddan—ydyw'r haf
Wedi'r holl ddryghinau;
Ba wlad rydd harddach blodau,
Neu fan hoff i'w llawn fwynhan!


Cofio'r wyf wraig gyfrifol—yn y lle,
Yn llawn sel grefyddol;
Drosof finnau, flynyddau'n ol,
Y gweddiai y wraig dduwiol.

Cadw Ysgol Sabbathol bu,
At alwad pawb o'r teulu.

Moddion gras addas oeddynt—yn dra phell
Draw, a ffyrdd drwg iddynt:
Eto, cyrchai hi atynt,
Er golwg oer, gwlaw a gwynt.

Ireiddlawn fo ei gorweddle,
A heddwch i'w llwch yn y lle.

HEN GRISTION.

(JOHN ROBERTS, Y BALA. BU FARW MAWRTH, 1879).

𝕲WR hen yn rhagori oedd——yr hybarch
John Roberts ar filoedd;
A dylai holl ardaloedd
Penllyn ei ganlyn ar goedd.

Ar bob hin yn ddiflino—y cerddodd
I'r cyrddau gweddio;
A gwnai'r hyn allai o,
O'i wir aidd, i'w hyrwyddo.

Un fedrai annerch yr Anfeidrol——oedd,
A'i weddi'n brofiadol;
A oes brawd mor ysbrydol,
Mor wych, yma ar ei ol?


Adwaenai ddoeth, goeth bregethu,—mwynhai
Mewn hwyl wir addysgu;
I'r Ysgol Sabbathol bu
Yn Arthur i'w chyfnerthu.

Ac fel un a fu'n cyflawni—y swydd
Sech o gasglu trethi;
Ein hen frawd gai yn honno fri:
A rhagor, ei werthfawrogi.

Ef o'i ardal ar fyrder—a ddygwyd,
Par i ddegau flinder:
Ond da i ni fod Duw Ner
Wrth y llyw, pan syrth llawer.

Ef nis ceir od eir i'w dy—mae wedi
Ymadael â'i lety:
Yr oedd i'w wel'd yn'r addoldy—'n wastad,
Ond gadawai'i enwad gwedi hynny.

I'r eglwys sydd yn gorffwyso—yr aeth,
Ar ol hir lafurio:
I'r nefol, freiniol, loew fro,—ac yn ddir
Ni adwaenir enwadau yno.

Y cyfiawn yn llawn llawenydd,—a'i bwys
Ar ei bur Waredydd,
Aeth i wyl dda bythol ddydd,
O dir gwae yn dragywydd.

Ei gorff yn Llanfor gaiff orwedd—trwy nos.
Teyrnasiad dihoenedd:
Yna daw, yn y diwedd,
Yn fyw a chadarn o'i fedd.


Y GOF.

𝕸AE gwaith y gof yn gelfyddyd hen iawn. Mae agos mor hen a gwaith yr amaethwr; ac fel amaethyddiaeth, yn un o anhebgorion cymdeithas wareiddiedig. Mae llawer o'r celfyddydau sydd yn ein plith yn addurniadau prydferthion i wlad; ond, ar yr un pryd, prin y gellir dywedyd eu bod mor angenrheidiol i fywyd cymdeithasol ag ydyw gwaith yr amaethwr, y saer, y gof, y crydd, a'r teiliwr. Ceir fod rhai pethau yn dyfod yn raddol i'r fath bwysigrwydd, megys yr agerdd a'r trydan yn ein dyddian ni, fel bron na theimlem nas gellid gwneuthur hebddynt, mewn modd yn y byd, gan mor werthfawr, effeithiol, ac amrywiol yw eu gwasanaeth i wladwriaeth. Pe darfyddai am danynt mewn un noswaith, byddai bore y dydd canlynol yn un rhyfedd iawn; eto, pan gofiom ddarfod i'r byd allu gwneuthur heb eu gwasanaeth presennol am yn agos i chwe' mil o flynyddoedd, ni fyddai raid i ddynolryw syrthio i iselder anobaith pe y diflannent yn ddisymwth allan o'r ddaear. Ond y gof ydyw pwnc yr ysgrif hon: ac nid y gof ychwaith yn yr holl amrywiaethau a berthyn i ddefnyddiad yr enw; megys, gof du, gof gwyn, gof copr, gof arian, gof aur, ond y gof fel yr adnabyddir ef a'r gelfyddyd yn ein gwlad, ac yn ein dyddiau ni.

Gorwedda tywyllwch ar ddechreuad celfyddyd y gofaint, fel ar ddechreuad llawer o gelfyddydau eraill; ond y peth tebycaf i fod yn gywir ydyw, fod gan y Brenin mawr ei hunan law uniongyrchol mewn dysgu a chyfarwyddo dynion i ddarparu meteloedd at waith, ac i'w gweithio, ar ol eu darparu, at wasanaeth cymdeithas yn gyffredinol. Nid yw hyn yn gwneud y Goruchaf yn of, mwy nag ydyw ei waith yn gwneud peisiau crwyn i'n rhieni cyntaf yn ei wneud yn ddilledydd. Y mae dysgu y gof mor addas iddo ef ag ydyw dysgu yr amaethwr; ac y mae gennym dystiolaeth bendant yn y Beibl ei fod yn gwneuthur hynny, yn gystal a'i fod yn dysgu y celfyddydwr yn yr anialwch i weithio cywreinion y tabernacl. Nid ydym yn dywedyd dim am y dull a'r modd y dysgodd efe y gof cyntaf, na'r crefftwyr yn yr anialwch. Gadawn bethau felly yn ei law ef ei hun. Digon yw i ni ei fod ef yn gwneuthur pethau o'r fath a nodwyd, a bod hynny yn gweddu iddo.

Myn rhai mai Tubal Cain yw tad y gofaint; ond ni ddywed y Beibl hynny. Pan yr ystyriom mai yr wythfed o Adda, a chyfrif Adda ei hun ar ben y rhestr, oedd Tubal Cain, mae yn anhawdd gennym dderbyn y syniad hwnnw. Yr oedd ar ddynion angen am waith y gof, debygem, oesoedd maith cyn dyddiau Tubal Cain, yn gystal ag am waith y saer, ac nis gellir cael saer heb y gof, i ddarparu arfau iddo. Ni a ddarllennwn am adeiladu dinas cyn dyddiau Tubal, ac, ond odid fawr, nad oedd peth o waith y gof a'r saer yn adeiladaeth y ddinas honno. Heblaw hyn, ymddengys fod Tubal Cain yn gelfyddydwr rhy berffaith i fod yn ddechreuydd gwaith y gofaint. Yr oedd efe yn "weithydd pob CYWREINWAITH pres a haiarn." Yr oedd y gelfyddyd yn lled bell yn mlaen, debygid, erbyn ei ddyddiau ef.

Cawn rai cyfeiriadau at y gof yn yr ysgrythyrau, hyd yn nod yn yr ystyr gyfyng y defnyddir y gair gennym ni yn yr ysgrif hon, heblaw yr hyn a ddywed y Beibl am Tubal Cain. Mor anhraethol o brydferth yw darluniad yr ysgrifennydd santaidd o sefyllfa pobl Israel dan orthrymder y Philistiaid, "Ac ni cheid gof drwy holl wlad Israel:—canys dywedasai y Philistiaid, Rhag gwneuthur o'r Hebreaid gleddyfau neu waewffyn. Ond holl Israel a aent i waered at y Philistiaid i flaenllymu bob un ei swch, a'i gwlltwr, a'i fwyell, a'i gaib. Ond yr oedd llif-ddur i wneuthur min ar y ceibiau, ac ar y cylltyrau, ac ar y pigffyrch, ac ar y bwyeill, ac i flaenllymu y symbylau. Felly yn nydd y rhyfel, ni chaed na chleddyf na gwaewffon yn llaw yr un o'r bobl oedd gyda Saul a Jonathan, ond a gaed gyda Saul a Jonathan ei fab." "Y gof â'r efail a weithia yn y glo, ac a'i llunia â morthwylion, ac â nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a'i nerth a balla; nid yf ddwfr, ac y mae yn diffygio." Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i'w waith; myfi hefyd a greais y dinystrydd i ddistrywio." Caethgludodd brenin Babilon fil o seiri a gofaint. o Jerusalem i'r un amcan, yn ddiau, ag y gwnaethai y Philistiaid yn gyffelyb, gannoedd o flynyddau cyn hynny. Nid oes a fynnom ni â gofaint arian Llyfr yr Actau, nac ag Alexander y gof copr, yr hwn, chwedl y diweddar Barch. D. Price, Dinbych, a ddysgodd luoedd o brentisiaid, y rhai a ddysgasant eraill, fel y maent hyd heddyw yn cadw business eu hunain ymhob ardal, ac yn gofalu na roddant ond copr ymhob casgliad.

Dywedir y byddai gofaint, yn yr hen amseroedd, yn darparu y metel eu hunain, yn gystal ag yn ei ddefnyddio i wneuthur pob math o offerynau haiarn a dur at wasanaeth amaethwyr a chielfyddydwyr; ond er ys hir o amser bellach, mae y gwaith wedi ei rannu rhwng gwahanol ddosbarthiadau. Gosodir gweithfa haiarn a dur i fyny gan ryw foneddwr cyfoethog, neu ymuna dynion a'n gilydd yn gwmni i'r amcan hwnnw. Cyflogir cannoedd neu filoedd o weithwyr ganddynt. Tiria un dosbarth i'r ddaear i godi mŵn haiarn; cyfyd dosbarth arall lo i'w doddi; adeiledir ffwrneisiau mawrion, a thoddir y cerrig ynddynt, a gollyngir ef allan yn yr adeg briodol yn ffrwd lifeiriol, i rigolau wedi eu gwneud mewn tywod o flaen y doddfa. Pan oero, torrir ef i fyny i gael ei drin a'i gyfaddasu mewn man ffwrneisiau i fyned dan forthwyl mawr a thrwm—morthwyl a ysigai benglog y mwyaf pendew ym Maelor Seisonig ar un dyrnod. Yna danfonir yr haiarn drwy felinau, a gwneir ef yn bob math o fariau at wasanaeth y gofaint mewn tref a gwlad. Wedi i of ddysgu ei grefft yn weddol fel egwyddorwas, a, ond odid, i'r tramp, fel y dywedir, am dymor, fel y caffo gyfle i weled gwaith yn cael ei wneyd gan ddieithriaid, fel y meistrolo wahanol ddulliau i wneuthur pethau. Daw i gyffyrddiad â llawer o wahanol nodweddiadau, ac arferion dieithr iddo yma a thraw. Gwyddom am un nen ddau a gawsant gryn brofedigaeth, am na chydymffurfient âg arferion y rhai y trigent yn eu plith. Ond dychwelyd a wna y trampiwr bob yn dipyn, ac wedi edrych o'i amgylch, ymdrecha gael mangre i godi gefail, fel y gallo gario gwaith ymlaen ar ei gyfrifoldeb ei hun. Os yw yn ddyn iach, sobr, a diwyd, bydd wedi ennill a chynilo ychydig o arian tuag at gael megin, eingion, gwasgyddes, morthwylion, gordd neu ddwy, llifiau dur, cynion, a llu o bethau nas gellir eu henwi yma. Dechreua ar ei waith—enfyn fwg drwy y mwg-dwll am y tro cyntaf; cafodd orchwyl i'w wneud—y cyntaf oll, ac y mae ganddo addewidion am waith oddiwrth hwn a'r llall. Noswylia, a ar ei liniau i weddio, a rhydd ei ben i lawr

i huno mewn gobaith am iechyd, gwaith, bywioliaeth,


EFAIL Y LON




a modd i dalu ei ffordd i bawb oll. Mae yr efail mewn gwlad, a rhaid iddo yntau wneyd ynddi bob peth sydd ar wlad eisieu—pedoli meirch a mulod, gwisgo olwynion, a gwneyd echelau, ffyrch, pigffyrch, ceibiau, trwsio cloion dorau, cloion gynnan, a gwneyd llawer o begiau moch am ddim—pob peth. Drwy godi yn fore, gweithio yn galed, bod yn ufudd a diolchgar i'w gwsmeriaid, a gofalus am wneyd pob gwaith erbyn yr adeg apwyntiedig, cynydda y gwaith yn raddol, ac enilla yntau hyder ei holl gymydogion. Ond caiff amryw brofedigaethau. Dydd y pethau bychain fydd hi arno am flwyddyn neu ddwy. Caiff ambell un i weithio iddo pur ddrwg am dalu. Caiff ambell geffyl i'w bedoli a ysgytia ei gnawd a'r esgyrn. Caiff aml droediad gan asynod, a rhwygir ei gnawd weithiau gan hoelion wedi eu gyrru, a'r anifail yn gwingo cyn i'r gof gael hamdden i dorri eu blaenau ymaith gyda rhigol ei forthwyl. Caiff allan wirionedd englyn Pedr Fardd yn fynych:—

Un a gnoa'n egnïol—yw asyn
Wrth osod ei bedol;
Try ei d'n, ac a'r traed ol,
Tyr f'esgyrn, ddelff terfysgol."

Ond er cael briwiau, nid a byth, braidd, at feddyg.

Eli Treffynnon
A'i gwella fo'n union."

Bydd arno eisieu help, yn fuan, i gario ei waith ymlaen. Egwyddorwas cryf, a swm gweddol o'i flaen am ei ddysgu, yw y peth iddo ef. Daw o hyd iddo, ond odid. Ond caiff fod hwnnw, am dymor, yn gwneud pob peth o chwith. Yn lle taro yr haiarn poeth a meddal, tery yr eingion oer a chaled, nes y bo yr ordd, trwy rym gwrthneidiad, yn ei daro yntau ei hunan yn ol yn ei dalcen, nes y bo, gan synnu, yn rhoi gruddfaniad, ac yn barod, pan ddel ato ei hunan, i roddi y bai i gyd ar yr ordd. Llosga gryn lawer o haiarn, yn lle ei wyniasu. Try ddau ben i fodrwy, yna ceisia ei chydio yn ei chanol. Wrth asio dau haiarn, rhydd yr hwn fo yn ei ddeheulaw yn uchaf ar yr eingion, a thra y byddo ef yn ceisio cael gafael yn y morthwyl, bydd hwnnw wedi syrthio ymaith, a'r holl lafur yn ofer. Gyr lawer o hoelion i'r byw wrth bedoli, nes y bo aml geffyl llonydd, a hen, fel pe byddai ar ei oren yn ceisio tyngu tipyn. Ond yn raddol, daw y gwalch ieuanc i ddysgu tipyn, a dechreua ymlonni pan allo wneud S yn iawn.

Bydd cwmni difyr yn yr Efail, yn fynych. Adroddir yn hyawdl fel y cymerodd merlen flewog, fer, y Ty Draw yn ei phen redeg nerth ei charnau, pan oedd Sionyn Sion yn ei marchogaeth, a'r truan gan Sionyn yn ceisio amddiffyn ei einioes goreu y gallai, trwy ymailyd ag un llaw yn ei chynffon, ac a'r llaw arall yn ei mwng, gan lefain yn groch, a'r ferlen yn ceisio troedio yr awyr, yr hon nis gallai ei chyrhaeddyd, a'r olygia yn parhau, nes y cafodd Sionyn ei hunan o'r diwedd, er ei fawr lawenydd, yn ffos clawdd, heb arno niwaid yn y byd mwy na phe buasai bren mawnog. Traethir yn hylithr hanes ymladdía rhwng Twm William a Deio Llwyd—beth oedd testun yr ymrafael rhwng y ddau, a phwy a gurodd, a pha fodd y bu hynny. Sicrheir fod Sion Parry wedi gweled ysbryd yng nghoed y Glyn, a bod yr ysbryd wedi ymddangos, i ddechreu, fel ei anferth, yna fel eidion mawr, wedyn fel milgi main—ac yna, iddo yn y diwedd fyned ymaith fel olwyn o dân, ac iddi, ar ol hynny, fyned mor dywyll a'r pyg.

Chwerddir am ben un, gwatwerir y llall, tosturir wrth y trydydd, a chanmolir y pedwerydd yn fawr dros ben. Yng nghyfarfodydd yr efail, ceid clywed pwy oedd y darllennwr goreu yn yr ardal, pwy oedd yr ysgrifennydd tecaf ei law, pwy oedd yn deall y gyfraith wladol berffeithiaf, a phwy oedd y cyfoethocaf yn y plwy, a pha fodd y gwnaeth ei arian, pwy oedd y callaf, a phwy oedd y ffolaf yn y wlad. Trinid cyflwr pob ceffyl o fri, pob llwynog a ddiangasai rhag y cwn, pob ysgyfarnog a dwyllasai y milgwn, pob ffwlbart a phob dyfrgi y cawsid trafferth a helbul yn eu dal. Ar ol cyfarfodydd pregethu, trinid achosion y pregethu—beiid rhai, canmolid eraill. Safai John Elias yn wastad ar ben y rhestr, a Williams o'r Wern yn rhywle gerllaw iddo, ac, yn ol barn amryw, yn uwch nag ef. Ceid clywed yn y cyfeillachau hyn pa un oedd y ferch ieuanc falchaf, a'r llanc ieuane mwyaf ffroenuchel a thordyn; y wraig fwyaf diwyd yn yr ardal, a'r gwr mwyaf diles.

Yn gyffredin, bydd y gof a'i lygaid yn ei ben yn ystod cyfeillachau yr efail—bydd ganddo, ond odid, ryw haiarn trwm yn ei dân, a tharawid iddo ddau dwymniad neu dri, gan wyr cedyrn nerthol yn olynol, er boddlonrwydd mawr iddo ef ei hun, ac yn enwedig i'r herlod a fyddai yn chwythu y tân, yr hwn a deimlai ei hunan yn dra ysgafn i beri i haiarn cryf felly ymestyn nemawr dan ei ordd ef. Chwalai y cwmni; ond y mae y gwaith eto heb ei orffen—rhaid ei adael bellach hyd ryw adeg y ceir tararwr cryf arall i'r efail. Dygwyddai drannoeth neu dradwy, feallai, fod gwr cryf yn dyfod gyda deuben o geffylau i'r efail. Canfyddid ef yn dyfod oddidraw. Rhoddid yr haiarn cryf yn y tân yn union gan y gof; a cheid help yn hwylus gan y gwr tra y gosodir pedol neu ddwy dan draed y meirch; ond mae y gwaith ar yr haiarn heb ei orffen, ac y mae y ceffylau yn barod i droi tuag adref. Pa fodd y cedwir arweinydd y meirch yn yr efail am dipyn eto yw y cwestiwn yn awr, er mwyn ei gael i daro twymniad arall neu ddau. Rhaid i'r gof ddyfod a'i holl fedrusrwydd allan i sicrhau hynny. Gofyna i'w gymydog am reswm am ryw ymddygiad o'i eiddo fo wedi dyfod yn destun beirniadaeth ar y pryd; a thra y byddo yntau yn egluro, bydd twymniad yn barod, a gyrrir ef allan cyn i'r eglurhad gael ei orffen. Rhoddir yr haiarn yn y tan unwaith eto; a dywedir yn lled ddistaw wrth yr egwyddorwas am chwythu yn gryfach dipyn; ae arweinia y gof y tarawr at rywbeth arall y gwyr am dano, yn yr hwn ni all y tarawydd lai na theimlo cryn ddyddordeb; a bydd yr haiarn yn barod unwaith eto, a cheir help y gwr dieithr i'w yrru allan am y tro diweddaf. Prysura y cymydog ymaith; a gall y gof wneuthur y gweddill yn burion bellach gyda yr herlod sydd yn chwythu y tân. Ond, "Ofer yw taenu rhwyd yn ngolwg pob perchen aden." Byddai ambell lanc cryf yn deall cyfeiriad y cyfan, ac nid oedd modd cadw hwnnw yn y lle wedi iddo gael pethau yn barod. Yr unig ffordd gyda ambell un fyddai gofyn yn dringar iddo a wnai efe aros am yehydig i daro twymniad, er mwyn gwneud cymwynas a'r gof, a'i hogyn ysgafn, a byddai hynny yn debyg o fod yn llwyddiannus yn gyffredin; ond nid peth hyfryd gan feistr yr efail fyddai gofyn cymwynas, os gellid cael yr un peth ryw ffordd naturiol arall.

Os byddai y gof wedi dysgu ei grefft yn dda, yn ddyn ynwyrol, yn sobr, ac yn ddiwyd, mae ei fywyd ef a'r eiddo ei deulu yn un digon dedwydd, ar y cyfan. Os bydd yn ddarllennwr dyfal yn ei oriau hamddenol, yn feddyliwr treiddgar, ac yn llenor coeth, ychwanegir cryn lawer at ei urddas ef ei hunan, a'i efail hefyd. Ond y peth a gorona y cwbl ydyw, ei fod yn grefyddwr da, yn ffyddlon gyda'r Ysgolion Sabbathol, ac heb esgeuluso unrhyw foddion o ras a allo gyrhaeddyd. Os, o'r ochr arall, mai holerwr mewn tafarnau a fydd, yn yfed gormod mewn ffair a marchnad, yn dyfod adref o ddiotai yn hwyr i derfysgu ei deulu, na ddisgwylied y dyn hwnnw lwyddiant iddo ei hunan, na neb a berthyn iddo.

Nid oes neb a ddaw yn feistr ar gelfyddyd heb fod ganddo hyfrydwch mawr yn y gelfyddyd honno. Os na fydd gan ddyn hyfrydwch mewn gweled llif yn brathu ei ffordd drwy goed ac esgyll, ni ddaw byth yn saer da. Yr un modd, os na fydd swn y morthwyl a'r eingion mewn pentref yn fiwsig hyfryd yng nghlust dyn wrth fyned drwodd, ni wna hwnnw byth of da. Mae hyfrydwch yn y gwaith y bo dyn yn ei gyflawni yn brif amod llwyddiant bob amser. Mae gwaith pen a llaw y gof i'w weled yn mhob cyfeiriad, ac ni all gwlad na thref fyned yn mlaen a'i goruchwylion hebddo. Dywedir fod ei fraich ddeau yn ennill nerth wrth arfer ymegnio, ac y mae hynny yn eithaf cywir; ond pan ddywedir fod ei gi wedi cynefino a'r gwreichion, fel nad yw yn eu hofni, camgymerir. Ni welsom ni gi gof erioed a ddeuai yn agos atynt wedi iddo gael prawf o'u gallu un. waith ar ei groen.

Gallasem enwi llawer o ddynion a fuont fyw yn ddedwydd a pharchus yn yr efail wrth ddilyn eu galwedigaeth: a llawer hefyd a ddringasant oddiwrth yr eingion i sefyllfaoedd o enwogrwydd a defnyddioldeb mewn gwlad ac eglwys; ond ni oddef nac amser na gofod i ni wneuthur hynny.

Dymuniad yr ysgrifennydd wrth derfynu ydyw, am i'r gofaint, fel dosbarth defnyddiol, fod yn sobr, yn ddiwyd, yn ddarllengar, myfyrgar, a phwyllog, ac yn ofalus am grefydd bersonol, crefydd deuluaidd, a chrefydd gymdeithasol; neu, mewn gair arall, yn dduwiol a defnyddiol mewn pethau pwysicach na phethan y fuchedd hon.

RHYS THOMAS.

Beddargraff a fwriadwyd i'r diweddar Barch. Rhys M. Thomas, Rhes y Cae.

𝕽𝕳YS Thomas oedd was i ddwy—eglwys dda;
Gloes ddofn fu ei ofwy,
A'u pobl ffyddlon haelion hwy
Roes y maen ar Rys Mynwy.

Gweinidog enwog ac anwyl—i Dduw
Oedd ef hyd ei arwyl;
Cafodd a mwynhaodd hwyl,
Hyd ei arch, gyda'i orchwyl.


CYWYDD Y TRWNC MAWR.[2]

Sef hen gychwr o'r Abermaw, a elwid yn gyfredin Sionyn Rhobert Wiliam, B.A. 1826.

𝕮YWYDD y Trwnc, coeg-bwnc cam,
Alias Sion Rhobert Wiliam.

Dyn anuwiol, ffol, di-ffydd
Crafanc yn gwawdio crefydd;
Mulfran o lafan di-les,
Bastard mul, erthyl arthes;
Sawdl cryd enbyd yw,
Aden a chamog ydyw;
Llew chwyrn o hyll awch ornaidd,
O naws flwng, a'r nesa i flaidd;
Anifel o gamel neu gi,
Serwb cam, gwargam gorgi:
Coegyn brych, eldrych aeldrwm,
A bastardyn crencyn erwin;
Yn ei safn holl-gafn hyll-gerth,
Myn dyn, mae colyn certh;
Rhegi a phob gwegi gwaeth,
Bytheirio ei boeth araeth.

Dychmygaf gwelaf ei gilwg,
Garw ei drem, fel y gŵr drwg:

Yr un ben a gordd pannwr,
Yr un d'n a deryn dŵr:
Yr un aeliau, a'r un olwg,
A'r un drem, a'r gwr drwg.

Mae gan y blaidd ysgoewedd sgil
O ymarfer a bwyta morfil;
Mawr felwch y mor filod,
Lluniwch gawl, llenwch ei god;
I gael digon i'r hen deigar,
O floneg, a thrieg, a tharr.

Ciw diawl o'r uffermawl ffwrnes,
Cythraul mnd ar enbyd wres:
Ai cythraul o'r ufel yw?
'N ddilediaith y diawl ydyw;
Ei achan sydd, garw yw son,
Yn ogof uffern eigion:
Holl ddiawlied afrifed y fro
Anoddyn sy'n perthyn iddo;
Carnau y cythraul corniog
Ydyw anfad dad y dog:
A ffibles o ddiawles ddall
Yw ei engir fam anghall;
Lucifer orsyber sydd
Yn bywdwr o dad bedydd.
I'r ciw, aflan, llydan, llaith,
Bwrs uffern bras ei effaith;
Hen salter claear di-glod
A llaw aswy'r lle isod;
A'i napsac a'i bae a'i bwn
Anenwog ddaeth o annwn,

Rhaid yw dal a rhwydo'r dyn
A'i gario'n ol i'r gerwyn.

Oes neb o'r mwg drwg ei drem
'Rydd chwildro i'w ucheldrem?
Ceisiwch a mynnwch mewn munud
Ddiafol a holl bobl byd:
Meindiwch, dyma salamander,
Joci tew fel Jac y tarr:
Ymaflwch, cydiwch y ci,
Symbylwch e, Sion bwm baili;
A gyrrer ef o'r gorawr
I ffwrn nen fyd uffern fawr:
Gael ei fflangellu yn ddigolliant,
Garwa nych, a'i guro i'r nant.

Dyma gywydd y Trwnc a'i bwnc ar ben,
Wedi dulio dau dudalen.

CYWYDD YR HEN DAILIWR.

Wrth gyflwyno tysteb i Huw Davies, Bangor, 1877.

𝕳UW Davies hoew dyfal
Yn awr sydd yn henwr sal,
Dyddiau ei febyd oeddynt.
Yn llawn gwaith, ac yn llon gynt.
Dysgodd grefft yn lled wisgi,
Meistrolodd, a hoffodd hi.

Dilynodd drwy dawel einioes,
Yn eich gwydd yr wŷdd, am hir oes:
Ei nodwydd a chwim neidiai,
Yn ei chwrs sefyll ni chai:
Pwythodd, tynnodd hyd henaint,
Pwy fedr ddywedyd pa faint

O wyr mad a ddilladodd
Yn ei ddestlus, fedrus fodd?

Pan yn llanc ieuanc hoew-wedd,
Mynnodd gael menyw dda'i gwedd;
Prid oedd fel priod iddo,
Un o fil a fynnai fo.
Magodd ei blant, ac megys
Glew wron yn ei lon lys,
Hyn ddygai'i ben a'i ddeg bys
Yn ddiangen, ymddengys;
Heb help hefyd, hyd yr awr hon,
O byrsau y plwyf na'i berson.

Fe ddysgai ef ddewisgerdd,
Blaenorai pan ganai gerdd;
Bu'n was yn Ebenezer,
Gweini bu gyda'i gân bêr:
A noddodd faith flynyddau,
Ddawn iawn gerdd oedd yno'n gwan;
Cyn i'w lais, a'i acen lon.
Waethu, fel y mae weithion.

Aelod ffyddlon, union oedd,
Yn addurn am flynyddoedd
Yn nhy Dduw, bu'n annedd Ion
Yn ben gwr i'r Bangorion;
Bellach, 'rol iddo ballu,
Dewch gym'dogion llon yn llu:
Y dydd i'w anrhydeddu
A ddaeth, cyn ei hirnos ddu;
Rhoddwch yn hael o'ch rhuddaur
I wr gwych—anrheg o aur.


FY MRAWD ELLIS.

Llinellau codladwriaethol am Ellis Thomas, Utica, Talaith New York, yr hwn a fu farw Hyd, 3,
1878. Yr oedd yr ymadawedig yn frawd i'r awdwr, ac yn fardd o athrylith goeth a chref.

𝕸OR deilwng oedd fy mrawd Ellis—ag un
Gwr o barchi uchel-bris;
Ofn ei Dduw fynnai ddewis,
Ni fu ei nod ef yn is.

Arweiniwyd ef gan rieni—doethion
A daeth pawb i'w hoffi;
Dyna frawd—dyn o fri—da o'i faloed,
Iddo erioed yr ymddiriedid.

O ran o swydd Feirionnydd—yr hannodd.
Y gwr hwn o brydydd;
Oddiyno cadd awenydd,
A mawr ddawn ym more'i ddydd.

Dan wiw addysg dyn a wyddai—el Feibl,
Ef a fawr gynyddai:
Hynny allodd enillai
O nerth, a rhagori wnai.

O Faldwyn y cychwynnodd—o'n goror,
A'i geraint adawodd:
Yn bur ddistaw draw fe drodd, —
I Amerig y moriodd.

(Gyrru llu i'r Gorllewin—a welwyd
O Walia, ac Erin:
Wedi i gaws, uwd, ac eisin.
A blawd haidd fynd braidd yn brin.)


Cynlluniodd, gweithiodd, ac aeth—yn brifwr
Drwy brawf o'i ragoriaeth;
Ennill nod yn y lle wnaeth,
Elai'n wir i'r flaenoriaeth.

Yn yr eglwys cymhwyswyd—ef i swydd
A'i faes a benodwyd;
Dyn heb anhydyn nwyd—oedd o'i faboed,
Iddo erioed yr ymddiriedwyd.

Diacon ffyddlon hoff oedd—a'i enw da,
Yn dwr cadarn ydoedd;
Athraw i adwaen gweithredoedd—gwyr beilch,
I drin y gweilch, wrth droi'n ei gylchoedd.

Magodd ei blant megys—y gwnai'i riaint,
Wrth gynreol ddilys:
Gair Duw—y gair i dywys
Dyn i wlad Duw Ion a'i lys.

Wedi hyn y dihoenodd—yn raddol,
A'i ireiddiwch giliodd;
Ei ffun ddiweddaf a ffôdd,
Gloes wan—ac Ellis hunodd.

Duw a geidw y weddw'n ddiwad—a'i meibion,
Yn mhob du amgylchiad:
Golenni ry rhagluniad,
A threfn iachawdwriaeth rad.

CHWAREU TEG I'R LLUAWS.

𝕸AE pob un yn hoffi cael chwareu teg iddo ei hunan; ond nid pob un a ganiata yr un tegwch i'w gymydogion. Mae rhai personau unigol yn fwy aiddgar gyda golwg ar eu hawliau personol a theuluaidd nag eraill, a rhai cymydogaethau yn fwy parod i honni eu hawliau, ac i'w mynnu, na chymydogaethau eraill. Mae amgylchiadau, weithiau, yn tueddu i lenwi ardaloedd â llwfrdra a gwaseidd-dra, fel na cheir odid neb a gyfyd ei lais a'i law dros degwch a hawliau cydwybod mewn achosion o gryn bwys—rhai gwladol a chrefyddol.

Y mae un peth yn tueddu yn gryf i waseiddio ardal, sef fod yr holl dyddynod o'i mewn, neu yn agos yr oll o honynt, wedi dyfod i feddiant rhyw un tirfeddiannwr cadarn a chyfoethog, a hwnnw yn dwyn mawr eiddigedd dros Doriaeth, Whigiaeth, Llanyddiaeth, neu ryw aeth arall, ac yn barod i wgu ar ei ddeiliaid a farnont ac a weithredont yn groes i'w fympwyon ef ei hun, nes codi ofn ar boblach weiniaid i honni mai eu heiddo hwy yw eu heneidian eu hunain. Mae hanesyn ar fy nghof a esyd allan yr ynni oedd mewn ardal ym Mhenllyn, flynyddau yn ol, a'r eiddigedd oedd ym mysg y trigolion dros eu hawliau cymdeithasol. Yr wyf yn anfoddlon i'r hanesyn hwnnw fyned i dir anghof, a hynny yn fwy, oblegid y cyhuddir yr ardal honno yn bresennol, weithiau, o dipyn o waseidd-dra; ond er hynny, prin yr wyf yn credu fod y cyhuddiad yn un teg a sylweddol. Gwyddys fod rhyfel mawr a gwaedlyd wedi torri allan rhwng Lloegr a Ffrainc yn 1793, ac i'r rhyfel hwnnw barhau heb onid ychydig iawn o seibiant am 22 o flynyddau. Ymladdwyd brwydrau llofruddiog lawer ar dir a môr: ac amcan mawr Prydain yn y dechreu oedd rhoddi i lawr ysbryd gwerinol y Ffrancod, darostwng Napoleon wedi hynny, ond yn bennaf oll, llethu tueddiadau Rhyddfrydol ym mhlith trigolion y wlad hon. Heblaw rhestru dynion fel. gwirfoddolwyr, yr oedd codi meiwyr (militia) yn beth tra chyffredin. Ychydig o wyr ieuainc, a mân dyddynwyr, mewn ardaloedd gwledig, fyddent yn foddlon i wasanaethu yn rhengau y meiwyr drostynt eu hanain. Gan hynny, yr oedd yn rhaid i'r rhai a godid trwy y tugel, os yn anfoddlon i wasanaethu yn bersonol, gael eraill i sefyll yn eu lleoedd. Ni ellid cael hynny heb symian go fawrion o arian i wobrwyo a boddloni y cynrychiolwyr. Y ffordd a gymerid fyddai clubio, fel y dywedid, sef i bob un y byddai ei enw i lawr fel un cymwys i wasanaethu ym mysg y meiwyr, dalu swm penodol, ac i'r arian gael eu defnyddio i wobrwyo y rhai a safent drostynt eu hunein, ac i gyflogi cynrychiolwyr. Yr oedd peth felly yn dreth drom ar y werin mewn amser pryd yr oedd cyflogau yn fychain, ae yr oedd y wlad hon yn llawn o anfoddlonrwydd o'i herwydd. Os byddai rhywun yn gwrthod talu ei gyfran i'r clwb, nid oedd hwnnw i gael dim o'r arian iddo ei hun, nac i bwrcasu cynrychiolwr!

Bob yn dipyn, sylwyd nad oedd meibion pobl gyfoethog byth, braidd, yn cael eu codi trwy y tugel, a dechreuwyd amheu a oedd eu henwan hwy ar y llyfrau o gwbl. Cryfhaodd yr amheuaeth fwyfwy, a phenderfynwyd chwilio i'r peth, a mynnu cael gwybod a oedd eu henwau i lawr, ac ym mysg y rhai oeddynt i gael eu codi at y meiwyr. Daeth pobl Llanuwchllyn yn lluoedd i'r Bala i ymofyn ynghylch y cwestiwn. hwnnw, ond ni chaniateid iddynt gael gweled y llyfrau, na chwilio i'r mater. Cauwyd drws y swyddfa yn eu herbyn. Yna, rhuthrodd Joseph Jones o Hafod yr Wyn, Pennantlliw Fawr, a Dafydd Owen o Hafod y Bibell, Pennantlliw Bach, a'u hysgwyddau yn erbyn drws y swyddfa, a thorasant ef yn yfflon, a mynasant weled y llyfrau, yng nghanol banllefau y dorf, yna dychwelasant i'w cartrefi. Yn mha sefyllfa y cawsant hwy y llyfrau a'r enwau nid wyf yn cofio; ond nid yw hynny nac yma na thraw yn ei gysylltiad à gwrhydri y ddau wr o Lanuwchllyn.

Cythruddodd y fath hyfder awdurdodau y Bala yn ddirfawr, a danfonasant am fintai o feirchfilwyr i ddal Joseph Jones a Dafydd Owen. Clywsant hwythau fod y meirchfilwyr yn dyfod, ac yr oeddynt ar eu llawn wyliadwriaeth. Yr oedd Dafydd Owen, ar y pryd, yn gwasanaethu yn y Deildref Uchaf, gyda thad a mam yr hybarch Cadwaladr Jones, Dolgellau. Daeth y meirchfilwyr yn fore iawn at y Deildref. Amgylchasant y ty o bob parth, gan feddwl dal Dafydd Owen yn ei wely. Chwiliasant bob congl o'r ty, y cypyrdddan, a than y gwelyau. Gyrasant eu cleddyfau drwy y gwelyau plyf, ac nid oedd y cistiau blawd yn dianc rhag eu harchwiliad, ond y cwbl yn ofer. Yr oedd y pryf y ceisient hwy ei ddal wedi codi o'u blaen, ac wrth y beudy uchaf, yn edrych arnynt yn carlamu at y Deildref. Cymerodd Dafydd Owen y goes yn union, a llechodd mewn gallt goediog a elwir Coed y Graig. Arosai yn ei guddfan y dydd, a denai i'r Graig, Tyddyn yr Onnen, Ty Coch, a'r Ty'n y Bryn, yn y nos, i gael ymborth, ac yr oedd pawb yn barod i roddi nodded iddo, ac ni fynasent, er llawer, iddo syrthio i ddwylaw y milwyr. Aeth y meirchfilwyr i Hafod yr Wyn, ond yr oedd Joseph Jones wedi dianc o'u cyrraedd; ac ar ol carlamu i fyny ac i waered ar hyd y ddwy Bennantlliw, dychwelasant i Loegr, dan chwerthin yn eu llewys, heb ddal neb, er iddynt fod, am rai dyddiau, ar hyd y Pennant lliwiau. Cafodd y werin fwy o "chwareu teg" wedi yr ysgarmes a ddarluniwyd.

Parodd y meirchfilwyr eu harswyd yn nhir y rhai byw. Bu dychryn yn lletya ym mynwes Dafydd Owen, i raddau, tra bu fyw, a chyrhaeddodd 90 o oedran, neu drosodd. Rywbryd wedi i'r milwyr ddychwelyd, fel yr oedd Dafydd Owen yn palu gydag un arall ar gae, daeth cymydog a wyddai yn dda am ei sefyllfa, yn ddistaw o'r tu ol iddo, tarawodd ei law ar ei ysgwydd, a dywedodd,— "Yr wyf fi yn eich cymeryd chwi, gwalch. Dychrynnodd y palwr, taflodd ef o'i hyd gyhyd ar y ddaear—trodd y bal o amgylch ei ben, a phlannodd hi yn y pridd o fewn tair modfedd i wddf y cellweiriwr; ond trwy drugaredd, ni niweidiodd ef. Gwawried y dydd y gwneir chwareu teg â phawb, heb i neb ddefnyddio moddion treisiol i'w gael.

ANN MORRIS.

𝕬DWEINAI drefn cadw dynion—a gwyddai
Guddiad cryfder Cristion;
Tynnai ras y tyner Ion,
Lonnaid ei henaid union.

Ei phrofiad,—a pha ryfedd?—oedd lawen,
Oedd loew hyd y diwedd;
Trwy y Gwr llawn trugaredd,
Nid ofnai na'r bai na'r bedd.


Y TY MAWR

YMWELIAD A GLAN Y MOR.

Oddeutu hanner can' mlynedd yn ol.

𝖄N y flwyddyn 1830, aeth gwr ieuanc o fynydddir Cymru i weithio ei gelfyddyd i blith Saeson y Mers, a threuliodd yr haf a'r gauaf dilynol yn eu plith. Fel yr oedd y gwanwyn yn ymwthio ymlaen i ddiorseddu y gauaf, teimlai fod rhyw wendid dieithrol iddo ef wedi ymallyd yn ei gyfansoddiad. ac ymofynnodd â meddyg beth a fyddai oreu iddo ei wneuthur. Cynghorodd hwnnw ef i dalu ymweliad am rai wythnosau, neu fisoedd, os gallai, â glan y mor; ac wedi trefnu pethau i foddlonrwydd gyda y bobl y gweithiai ei gelfyddyd yn eu plith, efe a ymbarotodd tuag at gychwyn i'w daith. Yr oedd yn gydnabyddus ag arfordiroedd Aberteifi, a Meirionnydd hefyd: ond yr oedd glannau môr yn Arfon a Mon, Dinbych a Filint, yn hollol ddieithr iddo; gan hynny, penderfynodd fyned i'r lleoedd nad ymwelsai â hwynt erioed o'r blaen. Penderfynodd yr ai i Fangor i ddechreu, ac oddi yno i leoedd eraill wedi hynny. Ffordd hwylus iawn i gyrhaeddyd Bangor fuasai cymeryd ei le ar y llythyr-gerbyd oedd yn rhedeg o Lundain i Gaergybi; ond yr oedd rheswm cryf ac effeithiol iawn yn erbyn hynny yn ei logell ef. Gwelodd mai y ffordd esmwythaf a diogelaf iddo oedd ceisio cyflawni y daith ar ei draed, yn araf, fel y gallai.

Meddai y gwr ieuanc amryw fanteision i ymgymeryd a'r daith a fwriadai gyflawni. Yr oedd yn gerddwr da—yr oedd yn gydnabyddus a phob pregethwr, pob bardd, a phob llenor oeddynt wedi bod, neu a oeddynt yn bod y pryd hwnnw, yn agos i linell ei lwybr ef, hyd derfyn ei daith. Gwyddai am balasau y mawrion a'u hynodion, meusydd brwydrau y dyddiau gynt, rheieidr a llynnoedd, cestyll ac amddiffynfeydd, a hanesion ei wlad yn gyffredinol. Ar fore teg a hyfryd, o fewn rhyw wythnos cyn diwedd mis Mai, 1831, wedi iddo wneud ei sypyn dillad yn barod, cyfeiriodd y gwr ieuanc tua'r Berwyn. Aeth yn fore iawn dros Gyrn y Bwch, lle y preswyliai Edward Benyon, y meddyg, yr hwn, ynghyda. Richard ei frawd, yn ol llafar gwlad, a fedrent nid yn unig godi cythreuliaid, ond eu rhoddi i lawr hefyd, yr hyn ni all eu dynwaredwyr yn y gelfyddyd ddu mo'i wneuthur. Bydd yn hwylusach i ni gael enw ar y gwr ieuanc o hyn allan. Yr oedd tri enw arno ef yn wreiddiol. Gelwid ef yn Robert Oliver Davies; ond efe, wedi tyfu i fyny, a ymwrthododd â'r ddau enw olaí, ac a ddewisodd un arall yn eu lle. Yr oedd efe yn hannu o Olifairiaid Meirionnydd; gan hynny, ni a'i galwn ef yn Robert Oliver yn yr hanes hwn. Aeth ef yn mlaen heibio i Ryd y Croesau, lle y ganesid Charles Edwards, awdwr enwog "Hanes y Ffydd Ddiffuant," ac o'r neilldu i breswylfod Hugh Morus (Eos Ceiriog), a chyrhaeddodd Lanarmon Dyffryn Ceiriog. Yr oedd dau beth yn peri fod Llanarmon yn lle o gryn ddyddordeb iddo ef. Buasai un o gewri y pulpud Cymreig yn preswylio yno am rai blynyddoedd, sef y diweddar Morris Roberts, Bryn Llin gynt, ac wedi hynny o Remsen, yn Nhalaeth New York, Gogledd America. Oddeutu mis. cyn dyfodiad Robert Oliver i'r lle yr ymadawsai Mr. Roberts a'i deulu i'r Gorllewin.[3]

Yr oedd gwr enwog arall wedi bod, yn ddiweddar, yn dal bywoliaeth Eglwysig Llanarmon. Ei enw oedd Peter Roberts. Yr oedd yn ysgolhaig trwyadl, yn hynafiaethydd manylgraff, yn dduwinydd galluog, ac yn seryddwr campus. Pan ofynnodd rhyw wr i Horsley, Esgob Llanelwy, a oedd efe yn adnabod un Peter Roberts, atebodd, "Diau fy mod, nid oes. ond un Peter Roberts yn y byd." Yr oedd ei dad, John Roberts, yn awrleisydd yn Rhiwabon, a symudodd oddiyno i Wrecsam. Pan oedd yno, ceisiodd. gwrthwynebydd rhwysgfawr a gwyntog iddo ei ddychrynnu a'i ddigalonni, drwy argraffu ar ei arwyddfwrdd ei fod ef yn "awrleisydd o Lundain." I'r diben o ollwng ychydig o'r gwynt allan o hono, argraffodd John Roberts ar ei arwyddfwrdd yntau, ei fod yn awrleisydd o Riwabon;" ac atebodd hynny yr amcan mewn golwg. Yn 1818, cafodd Peter Roberts fywoliaeth Halein mewn cyfnewid am. Lanarmon; ac yno, pan ar y weithred o roddi cardod i ddyn tlawd yn nrws ei dy, tarawyd ef gan y parlys mud, a bu farw y bore canlynol. Cwbl wagedd yw pob dyn pan fo ar y goreu," fel y tystiolaetha geiriau y Beibl.

Wedi cael ymborth yn Llanarmon, cyfeiriodd Robert Oliver i fyny i Ferwyn, a bob yn dipyn, wele ef yn sefyll ar ben Moel Fferna, lle y cafodd olygfa ogoneddus ar rannau helaeth o Gymru, a Lloegr hefyd. Disgynnodd wrth ei bwys i waered o Foel Fferna i Gorwen, lle y prynnodd ddau lyfr. Yn un o honynt, yr oedd cannoedd lawer o ymadroddion Cymreig wedi eu troi i Saesonaeg priodol, yr hyn a ystyriai Robert Oliver yn dra manteisiol iddo ef ar y pryd. Y llyfr arall ydoedd Gramadeg Dwyieithawg, neu Ramadeg o'r iaith Saesonaeg yn Gymraeg a Saesonaeg ar gyfer eu gilydd, o waith John Williams, wedi hynny o Lansilin, Rhosllanerchrugog, y Drefnewydd, a'r Rhos eilwaith yn niwedd ei oes. Gweinidog dysgedig, meddylgar, a gwir ragorol, yn perthyn i'r Bedyddwyr, oedd John Williams—dyn gwirioneddol fawr—y mwyaf a fagodd Gogledd Cymru yn yr oes honno oedd John Williams. Bu y llyfr hwnnw o ddefnydd mawr i Robert Oliver wedi hynny. Yr oedd taith o swydd yr Amwythig, a thros Ferwyn i Gorwen, yn llawn digon o waith diwrnod i Robert Oliver. Gan hynny efe a letyodd yng nghymydogaeth Corwen y noswaith honno.

Bore drannoeth, "cyn codi cwn Caer," yr oedd Robert Oliver ar y ffordd yn cyfeirio tua Bangor. Aeth heibio i Rug, lle yr oedd heliwr cadarn yn preswylio y pryd hwnnw. Dringodd i ardal Llangwm, lle yr oedd hen weinidog perthynol i'r Anibynwyr, o'r enw Thomas Ellis, yn preswylio. Gwr oedd efe "yn ofni Duw yn fwy na llawer," ac yn wir lafurus yn y weinidogaeth. Yn yr ardal honno. hefyd yr oedd John Roberts, brawd i'r enwog Robert Roberts o Glynog, yn cyfaneddu. A honno oedd gwlad. y pastynfardd, Hugh Jones o Langwm. Nid oedd a fynna! Hugh Jones â gwrandaw yr Ymneillduwyr. Gofynnwyd iddo unwaith a ddeuai efe i wrandaw un Sion Moses, pregethwr perthynol i'r Methodistiaid, oedd yn byw yn y Bala, ond ei ateb oedd yn nacaol. Ebai ef—

"Mi gymra i nhywys gan fugail yr eglwys,
Rhag ofn fod Sion Moses yn misio."

Cyn bo hir, yr oedd Robert Oliver ar gyfer hen gartref John Jones, Glan y Gors, awdwr y traethodau, "Seren dan Gwmwl, a Thoriad y Dydd," a chyfansoddwr llawer o ganeuon, megys "Dic Sion Dafydd," a "Sesiwn yng Nghymru," &c, Daeth Robert Oliver cyn hir i gymydogaeth Pentre y Foelas. Yno yr oedd Plas Iolyn, cartref y Dr. Coch, un o reolwyr yr Eisteddfod a gynaliwyd yng Nghaerwys yn 1568, drwy awdurdod y Frenhines Elizabeth. Yr oedd Thomas Price, mab y Dr. Coch, yn fardd rhagorol yn ei ddydd. Yn y Foelas y preswyliai y Wyniaid dros oesoedd lawer. Rhwng Pentre y Foelas a Betws y Coed y trigai yr erlidiwr mawr o Rydlanfair, yr hwn a wnaeth ymosodiad beiddgar ar y Dr. Lewis, Robert Roberts Tyddyn y Felin, Azariah Sadrach, ac eraill. Wedi i Robert Oliver gyrhaeddyd Betws y Coed, yr hwn nid oedd y pryd hwnnw ond lle bychan iawn, gan nad oedd eto ond cynnar yn y prydnawn, penderfynodd yr ai mor bell a Chapel Curig i orffwys. y noson honno.

Cychwynnodd, a dringodd heibio i Raiadr y Wennol, lle y dywedir ddarfod offrymu ysbryd un o Wyniaid Gwydir, a'r lle, meddir, y mae efe, a'r rhaiadr yn ewynu drosto er ys yn agos i 300 mlynedd bellach. Ond rhaid cael ffydd wahanol i ffydd y dyddiau presennol i dderbyn peth fel yna fel gwirionedd. Aeth y teithiwr ymlaen gan ddarllen, a chroesodd yr afon wrth y Ty Hyll: ond cyn pen hir, dyrchafodd ei olwg oddiar ei lyfr, a gwelai mewn caegerllaw y ffordd ffynnon o ddwfr gloewlas, a llawer iawn o ferw y dwr yn tyfu yn ei gofer. Yr oedd ganddo fara a chaws yn ei logell, a chan ei bod yn adeg prydnawnfwyd, efe a ddringodd dros y clawdd. ac a roddes ei sypyn dillad a'i lyfr ar lawr, ac a ddechreuodd fwyta o ddifrif. Wedi i'r wledd derfynu, ac i ferw y dwr gael eu trethu yn bur drwm, cododd ac aeth ymaith; ond, yn anffodus, ni chofiodd ddim am y llyfr nes ydoedd yng Nghapel Curig; ac erbyn hynny yr oedd yn rhy flin i fyned yn ol i'w ymofyn. Fel yr oedd goren y modd, nid y Gramadeg Dwyieithawg a adawyd ar ol, ond y llyfr Ymadroddion Cymreig wedi eu troi i'r Saesonaeg. Mae y Gramadeg gan R. Oliver hyd heddyw. Fel yr oedd R. Oliver yn dringo o Fetws y Coed i Gapel Curig, yr oedd yn myned am ryw gefnen o fynydd â rhosdiroedd Dolyddelen, lle y preswylai amryw o bregethwyr nodedig o dalentog a efengylaidd; megys John Jones, Tan y Castell; a David Jones, ei frawd; Cadwaladr Owen, a John Williams yr ieuengaf, a John Williams yr hynaf hefyd, yr hwn a ddefnyddiodd yr Arglwydd i ddychwelyd mam yr enwog Williams o'r Wern. Yno hefyd. yr oedd y castell lle y ganesid Llywelyn Fawr, un o dywysogion enwocaf y Cymry, a'r hwn â orchfygodd. y Saeson mewn llawer o frwydrau llofruddiog. Oddeutu naw mlynedd cyn ymweliad Robert Oliver â Chapel Curig, yr oedd gwr o'r enw William Thomas, ewythr frawd ei dad i'r diweddar Barch. William Thomas o Beaumaris, yn cadw tollborth Capel Curig. Yr oedd swyddog perthynol i'r gyllidiaeth yn byw, ar y pryd, yn Llanrwst, ac yn arfer myned, yn fynych, ar ei farch drwy y tollborth a gadwai William Thomas yng Nghapel Curig. Enw y cyllidydd oedd Sturdy, ac yr oedd ef a'r ceffyl a farchogai yn berffaith adnabyddus i'r tollwr. Gwelodd William Thomas ef un bore yn myned drwodd tua Bethesda a Bangor, ac ym mhrydnawn yr un dydd gwelai farch Mr. Sturdy, a marchogwr dyeithr ar ei gefn, yn dyfod at y Tollborth ac yn myned drwodd heb dalu. Cyn hir, dyma erlidwyr o ardal Bethesda yn dyfod ar ol Lewis Owen, ac yn dywedyd ei fod wedi saethu Mr. Sturdy yn ei fraich, ac wedi ceisio ei saethu drwy ei ben, ond wedi methu y tro hwnnw, ae wedi lladrata ei farch, a dianc ymaith. Ymwasgarodd yr erlidwyr, rhai bob ffordd. Cafodd William Thomas fenthyg ceffyl, heb na chyfrwy na ffrwyn yn perthyn iddo. Aeth ef dros Hiraethog, a goddiweddodd y llofrudd ar y mynydd. Gofynnodd y llofrudd pwy ydoedd, ac i ba le y cyfeiriai. Atebwyd ef, a thwyllwyd ef yn hollol. Ymadawsant a'u gilydd ar gyfer Nantglyn; ond aeth Willim Thomas ar ei ledol i Ddinbych, a llwyddodd i'w ddal yn y dref honno. Anfonwyd ef i garchar Rhuthyn; symudwyd ef i Gaernarfon i gael ei brofi. Cafwyd ef yn euog o'r cyhuddiad, a dienyddiwyd ef ar Forfa Seiont, Medi 4, 1822.

Wedi gorffwyso noswaith yng Nghapel Curig, cychwynnodd Robert Oliver yn fore iawn tua Bangor. Cafodd gipdrem ar amryw o leoedd o hynodrwydd, ac ni welsai efe y fath leoedd gwylltion, creigiog, a elaregog, hyd y diwrnod hwnnw. Cafodd hamdden i gael golwg ar Chwarel Cae braich y Cafn, a chyrhaeddodd Fangor ymhell cyn y nos, Île y lletyodd y noswaith honno. Wedi cyrhaeddyd prif ffordd Caergybi yng Nghorwen, cafodd y troed-deithiwr y ffordd oreu yn y byd, ond odid, i'w cherdded, nes y cyrhaeddodd Fangor Fawr yng Ngwynedd.

ETHOLEDIGAETH.

𝕹ID yw etholedigaeth yn gwneyd drwg i neb, ond gwna dda i rif y gwlith. Nid yw yn rhwystro neb at Grist, ond y mae yn tynnu rhif y ser ato. Nid yw yn gwrthod neb, nid yw yn bygwth neb, nid yw yn condemnio neb; ond y mae, trwy ddwyfol ragluniaeth, gair Duw, a dylanwad yr Ysbryd Glân, yn ymgeleddu dynion rifedi tywod y môr.

BEDD GWR DUW.[4]

𝕭OED heddwch i lwch anwyl, was—yr Ion,
Gŵr o rym ac urddas,
A dyn doeth, coeth, cyweithas;
Fu nemawr un mwy ei ras.

Wrth ei swydd bu lawer blwyddyn—ar lym
Oer le Porth y Penrhyn,
Heb un twrf, hyd ben terfyn
Ei fywyd, yn ddiwyd ddyn.

O'r gwaith yr ai i bregethu—angau
Ac efengyl Iesu:
Cynnes y gwnai amcanu;
Ond cais dan anfantais fu.

Dirwystr fel Dirwestwr fu,—a selog
Am foesoli Cymru;
Trwy weithiwr sobr yn traethu,
Rheol ddaeth ar Hirael ddu.

Ffyddlon ar finion y Fenai,—a'r môr,
Oedd i'r mân addoldai;
Yr hyn oll i'r rhai'n allai,
O galon yn union wnai.

Yn ei dref gartref, ar g'oedd,—cyfaill pur,
Henadur in' ydoedd:
Cennad fu'n dysgu cannoedd,
Astud iawn yn wastad oedd.

Sain ei ddawn yn Seion ddinas—glywid,
Gloewai chwaeth cymdeithas;

Am lith lefn ar drefn rhad ras
Parod oedd, bob pryd addas.

A thoraeth o'r ysgrythyrau—dwyfol,
Difeth ddifyniadau,
Arllwysai hwn, er lleshau
Ei wledig gydaelodau.

Bu'n dod i'r cyfarfodydd—eglwysig,
Esgeuluso crefydd
Ni wnai, daliai bwys y dydd,
Ias ei boen, a'i wres beunydd.

Yn nhy Dduw daeth hwn i ddiwedd—ei oes,
Iesu a'i drugaredd
Fu ei olaf lawnaf wledd,—yna ai,
Diangai, nofiai i dangnefedd.

Hir y cofir y Cymro cyfiawn,—dir,
Bu'n was "da a ffyddlawn:"
Efe oedd wr ufudd iawn,—hyd ei fedd,
Idd y gwirionedd—ddyn hawddgar, uniawn.
"
Bedd Gwr Duw!" Bydd agoriad— ar ei ddôr,
Fe ddaw'n brawd digymar
Trwy ei Dduw eto o'r ddaear—uwchlaw
Ing ac wylaw, angan, a galar.


PREGETHWYR AFLWYDDIANNUS.

𝕲ALLAI Noah neu Jeremiah fod yn dra aflwyddiannus fel pregethwyr; ond nid oeddynt hwy yn gyfrifol ond am ddefnyddio y moddion oedd ganddynt yn gyflawn a gonest.

GWYR DINORWIG.[5]

𝕯AWN Ner a fedd gwŷr Dinorwig—a'u plant,
Yn eu plwyf mynyddig;
Yma trwy y cwm y trig,
Am oesoedd, sain eu miwsig.

Llanberis allan y bwria—'r odlau
A'r hyawdledd pura,
Mewn trefn, o blith meini, tra
Bo'r drumog, yddfog Wyddfa.

Meithrinwyr dinam Athroniaeth—ceiswyr
Cyson Dduwinyddiaeth,
Urddedig bendefigaeth
O ddysg, i Ddinorwig ddaeth.

Tra'n rheieidr fel teirw'n rhuo—tra niwloedd
Y nefoedd yn nofio,
Tra môr yn taer ymwrio.
Rhes o feirdd yn Mheris fo.

Oni cheir yn y chwarel,—yn union.
Yn nannedd pob awel,
Wyr hoff yn caru hel —gwybodaethau,
A gwyr o achau campwyr goruchel?

Er hired tymhorau oerion,—er twrw
Mawr toriad ergydion,
Gwledd fo hyd y gloddfa hon—i'n hawdwyr,
A llu o noddwyr fo i'n llenyddion.

Dyma wlad wrth ddymuniadau—llenwyr,
Mae'n llawn rhyfeddodau;

Gwlad beirdd yw yr hyglod bau,
Man iddynt rhwng mynyddau.

Gwlad Gutyn, oedd ddyn o ddoniau,—ein meistr
Ym mhob barddas ddeddfau;
Gwyr y fro hon geir i fawrhau—purdeb
Y ddoethineb a ddaeth o'i enau.

Yma y parod Wilym Peris—roes
Gerdd o ryw uchelbris;
Ac er bod ei nod yn is,
Deuodd y wlad i'w dewis.

Dyma wlad Gwilym Padarn,
Gwr a fu o gywir farn;
Molodd Dduw, a gwnaeth aml ddarn—a'i syniad
A'i gydiad yn gadarn.

A beroedd, llynnoedd, a llwyni,—a rhu
Rheieidr a geir ynddi;
Ei hochrau certh, a'i chreig hi,
Geir yn nawdd digryn iddi.

Trwy yr awyr a'r tir y rhua—twrf
Terfysg mawr y gloddfa;
Ar ruthr drwy'r creig yr a—ym mhob agen
O! clyw ei acen, a'r modd y clecia;
I'r glyn oll treiglo wna,—a hwnnw'n fedrus,
A dawn wir wawdus, a'i dynwareda.

Tan gystudd dygwyd hen gastell—Padarn,
Pwy wêd am ystafell
Owain Goch, pan yn ei gell—bu'n aros,
Er rhybudd, o achos rhaib ei ddichell.

Darfu y brwydro dirfawr,
Gwedi mynd mae'r gwaedu mawr;
Darfu y earcharu chwith,
Heb ond, caed hedd a bendith,
Yn awr, mae ein llenorion
Trwy'n cymoedd, yn lluoedd llon,
Yn ymryson am reswm;
Dyna yw camp, a dawn ewm
Dinorwig, a dwyn arian
I'r cylch i wobrwyo cân,
A thraethawd coeth yr ieithydd,
Y gŵr dewr gario y dydd.
A diben llên-undebau,
Pawb a'i gŵyr, yw llwyr wellhau
Moes, ac iaith, a miwsig cu,
A brwd aidd at brydyddu.

PLANT Y DDOL FAWR, LLANUWCHLLYN.

'R ty troes Robert Owen—i dawel
Dywod Rhos y Fadwen;
Gwae'r rhieni golli gwên
Eu boddus hoff fab addien.

A'i chwaer ef a hunodd hefyd,—er loes,
Ar lasiad dydd bywyd,
I:'r Ddol Fawr daeth rhyw ddwl fyd,
A dwy oedfa du adfyd.

Ond credwch, o'r llwch a'r llaid,—yn y dydd
Hwnnw daw'ch anwyliaid;
Ac i'r nen 'r ai'r ddau enaid
At yr Oen,—tewi a raid.

HENFFYCH I'N COR.[6]

𝕳ENFFYCH i'n côr o lenorion—awchus,
Uchel eu hamcanion,
Glew dorf sy'n glod i Arfon,
Wele hwy yn yr wyl hon.

Hawddamor! Bangor ni bydd—mwy'n isel
Mewn oes o'r fath gynnydd;
Daw gwell ffawd i'r traethawd rhydd,
A gwen wiw ar gan newydd.

Gwyr hyawdl, a goreuon—y rhyw deg,
Rhai doeth pur o galon,
Sy'n cystadlu yn llu lon,
Llawn o aidd, fel llenyddion.

Un galluog yw y llywydd,—Savage,
Geir yn sefyll beunydd
Yn ei ran fel arweinydd,
A gwir hael yw y gwr rhydd.

Stephan yrr y gân ar gynnydd,—mae pawb
Am y pen perorydd;
Deunaw swyn yn ei dôn sydd,—gwr o foes
A Handel ei oes yw ein da leisydd.

A chystal ei orchestion—yw'n prif-fardd,
Fel y profwyd droion;
Hen nyddwr cynghaneddion
I fyw mwy, yw Hwfa Mon.


Gweithiai'r bardd er gwaetha'r byd—a mynnodd
Yn y man gyrhaeddyd
Safle na ellir syflyd;
Hwfa fydd Hwfa o hyd.

Mae y wir ddawn ym marddoniaeth—glodus
Gwlad ein genedigaeth;
Melus uwchlaw canmoliaeth
I ni yw ein cerddi caeth.

Y ddyri wan ddirinwedd,—y bryddest.
Fel breuddwyd heb ddiwedd,
Rhimyn maith, a'i waith, a'i wedd—yn garpiog,
Diwyg anghenog, a digynghanedd.

Ond mwynhad i enaid, mewn hedd—ddeillia
O ddull y gynghanedd;
Hi a arlwya wir wledd,—
Yrr filiwn i orfoledd.

Diguro ydyw Gweirydd,— pen y gamp
Yw ein gwych Gymreigydd,
Meistr perffaith ar iaith rydd,—a deddfau cân,
Gwr yw, o anian, a gâr awenydd.

I gadw gwyl gyda'u gilydd,—heb loddest,
Pan ddaw blwyddyn newydd,
Llu unant mewn llawenydd,
Tra Bangor yn Fangor fydd.

Ateb y diben, eto, —yw y pwnc,
A'r peth i'w ddymuno:
Llesiant wy'n ewyllysio—i'r lluaws,
Y diwyd luaws sy'n cystadleuo.


A thrwyadl les i'r athrawon,—a lles
Llawn i'r ysgolheigion;
Gwir afael i'n gwyryfon—a'n llanciau
Ar Dduw a'i ddoniau'n fil myrdd i ddynion.

Athrofa wna waith rhyfedd—yw'r ysgol,
Heb na rhwysg na mawredd,
Drwy hon y pelydra hedd—o'r nefar
Deulu daear, nes delo y diwedd.

Chwi sydd ar wasgar, i'r ysgol,—da chwi!
Deuwch oll yn unol;
Eniller iddi'n hollol
Bob un, heb yr un ar ol.

Y WRAIG RAGOROL.

Mrs. Jane Edmunds, Ucheldref, ger Corwen.

𝕸AE hi'r wraig ragorawl
Wedi mynd i wlad y mawl,
Uwch hauldro, o'r Ucheldref,
I'w phalas yn nheyrnas nef.
Ein chwaer weddw uwchraddol,
Yn nyddiau neb ni ddaw'n ol;
Ond yn ei theg, loewdeg lys,
Nid gweddw ydyw, gwyddys.
Wedi i'r corff gwelw orffen
Teithio'r byd,—pob taith ar ben,
Yr enaid yr awr honno
Elai i fraint y nefol fro.
Ei diwyd blant adawodd,
A phell oddiwrthynt y ffodd,
Eto cofia'u gyrfa gynt,
Hanes pob un ohonynt,

A gwena o'r gogoniant
Ar gartref, hoff le ei phlant,

A'dywed wrthynt—"Deuwch—i'r nefoedd,
Adre o'r niwloedd drwy'r anialwch;
Ar hyd eich byrddydd rhedwch,—heb aros,
Ac yn y cyfnos, gwae nac ofnwch.

Tra byddwch yn trybaeddu
Mewn llaid ar y ddaear ddu,
Wrth raid, o'ch plaid yn eich plith,
Y bo undeb a bendith."

Uwch awyr faith mae'n chwaer fwyn
Heb na phall, na bai, na phoen,
Yn bur, heb na chur na chwyn,
Wrth orsedd ryfedd yr Oen.


Aeth i wlad maith oludoedd,—at Iesu
Tywysog y nefoodd;
I blethu mawl i blith miloedd,
Yn llon o'i flaen a llawen floedd.


Cadd eto yno annerch
Ei gwr syml mewn goreu serch,
Wedi dod yn glyd eu dau
Drwy ingoedd brwydyr angau;
Mor lawen y crechwenu,
A'r oian fawr, yno fu.


Minnau a wir ddymunwn
Gael y gwynfyd hyfryd hwn,
Ar fy wyneb erfyniaf
Yn galed am nodded Nef,

A cheisio'n effro wnaf—am fod yn rhydd,
Ym more y dydd mawr diweddaf.

HEN GYMYDOG.

Ychydig o Adgofion am y Diweddar Barchedig Morris Roberts, Remsen, yn Nhalaeth New York.

𝕻RIN hefyd y mae y gair Parchedig yn angenrheidiol o flaen enw Morris Roberts. Gall y gair hwnnw fod o ryw wasanaeth i ambell un, ddangos i eraill i ba ddosbarth o ddynolryw y perthyna; ond ni all roddi nemawr o bwys nac o urddas ar enw y brawd o Remsen. Gall dynion o'i fath ef sefyll yn ddiysgog ym mharch a sylw eu cydwladwyr, ar sail yr hynodion perthynol iddynt, a'r rhai a'u gwahaniaethant oddiwrth bawb eraill a restrir yn yr un dosbarth a hwynt. Yr oedd Morris Roberts yn cael ei barchu a'i anwylo yn ein teulu ni, er dechreuad ei fywyd cyhoeddus fel pregethwr yr efengyl. Yr oedd amryw bethau yn peri hynny. Yr oedd dynoliaeth yn ei hurddas a'i gogoniant ynddo. Meddai ar athrylith gref a gloew, a dawn gwreiddiol, yn perthyn yn neillduol iddo ef ei hunan; ac heblaw hynny, yr oedd yn berthynas agos i ni yn ol y cnawd. Yr oedd ei dad ef, a'n nain ninnau, o ochr ein tad, yn frawd a chwaer; felly, yr ydoedd yn ewythr i ni o gefnder ein tad.

Y cof cyntaf sydd gennyf fi am Morris Roberts ydyw ei fod yn gwasanaethu gydag un Thomas Cadwaladr, o'r Wern, Pennantlliw Fawr, Llanuwchllyn. Pan yn aros yn y Wern, anfonwyd ef ar fore Sabbath i hebrwng ceffyl i'r mynydd a elwir Ffridd Helyg y Moch. Tebygol yw ei fod yn myned i edrych beth oedd helynt anifeiliaid eraill oeddynt eisioes wedi eu hanfon i'r mynydd hwnnw; oblegid anhawdd gennyf gredu y buasai yr hen frawd o'r Wern yn anfon ei was ar y Sabbath, yn unewydd, i hebrwng y march i'r mynydd. Yr oedd yn rhaid i Morris Roberts groesi yr afon Liw, drwy ryd oedd ychydig uwchlaw yr Elusendy, ac yr oedd llifeiriant cryf yn yr afon y bore hwnnw. Gorchfygodd y llif y march, a chariodd ef i sarn oedd yn croesi yr afon yn gyfochrog â'r rhyd, nes y dadymchwelwyd yr anifail a'i farchog i'r rhyferthwy. Rhoddodd Morris Roberts waedd ofnadwy pan yn myned i'r llifeiriant—gwaedd a glybuwyd gan yr holl bobl oedd yn byw yn y tai agosaf at y lle. Brysiodd llawer i lawr at yr afon; ond erbyn eu dyfod i'r fan, yr oedd y march a'r marehogwr wedi dyfod yn ddiogel i dir. Cludasid Morris Roberts gan y rhyferthwy am gryn dipyn o ffordd, tua'r llyn dwfn a pheryglus a elwir y Llyn Du; ond digwyddodd, pe digwydd hefyd, fod helyg yn tyfu ar fin yr afon, ac yn ymestyn am ychydig dros y dwfr. Cafodd y llanc dychrynedig afael mewn cangen o'r coed gwydnion hynny. Daliodd y gangen bwysau y llanc, a gallodd ddyfod i'r lan drwy hongian wrthi, ac ymweithio nes nes at y tir, nes ei gyrhaeddyd. Dyna waredigaeth hynod o ragluniaethol i ddyn a ddaeth, wedi hynny, yn un o brif bregethwyr Cymru, yn gyntaf oll, ac wedi iddo ymfudo i America, a fu am dymor hir yno yn ddefnyddiol dros ben. Gadawodd Morris Roberts Lanuwchllyn, ac a aeth i wasanaethu i Fryn Llin, yr hwn sydd dyddyndy yn ochr Cwm yr Allt Lwyd. Lle mynyddig a gwyllt iawn yw Bryn Llin; pan oedd yno yr ymunodd â chrefydd, y dechreuodd bregethu, ac y priododd fam ei blant. Yr oedd ysbryd gweddi yn dechreu defnynu o'r nefoedd ar lawer yn yr ardaloedd cysylltiedig â Bryn Llin; ond ni ddisgynnai nemawr o hono, eto, ar Morris Roberts. Dywedodd wrthyf fod ei gydwybod yn ei gyhuddo yn aml am nad oedd yn gweddio ond ychydig iawn, a bod argyhoeddiad yn ei feddwl y dylasai weddio yn llawer amlach, ac yn llawer taerach hefyd. Ar ddechreu un haf, ac yntau mewn gweirlan, efe a blygodd ar ei liniau wrth ochr eileyn o wair rhos oedd yno yn aros, wedi i'r gwartheg gael eu troi allan i'r borfa, i geisio cyflawni y ddyledswydd o weddio, er mwyn tawelu ei gydwybod, ac i gael gwybod beth yw y da hwnnw i feibion dynion a gynhwysir yn y gorchwyl o weddio. Deddfo iawn, mi debygwn, oedd yr ymgais hwn o'i eiddo i weddio Duw. Wedi cyfodi oddiar ei liniau, teimlai mai dyna y gorchwyl diflasaf yr ymatlasai ynddo erioed, ac na fuasai waeth ganddo geisio bwyta y eilcyn gweddill hwnnw o'r gwair rhos, na myned i gyflawni y gorchwyl o weddio drosodd drachefn. Ond tywalltwyd arno ef yn helaeth, cyn hir, ysbryd gras a gweddiau; yna daeth y gorchwyl o weddio mor hawdd a naturiol iddo ag anadlu. Cyn hir, daeth y newydd dros y Defeidiog, gyda yr awel, fod Morris Roberts ymysg plant y diwygiad, yn gorfoleddu llawer, yn annerch y cyfarfodydd gweddio, a'i fod yn dechreu pregethu yr efengyl.

Yr oedd pobl Llanuwchllyn yn llawenychu o herwydd y pethau hyn; ond buasai ef yn uwch yng ngolwg llawer o bobl y ddwy Bennantlliw, pe buasai wedi ymuno â'r Eglwys Anibynnol ym Mhen y Stryd, yn hytrach na chyda y Methodistiaid Calfinaidd oddeutu Abergeirw, a Buarth yr E. Maddeuer i'r hen bobl symlion a selog dros neillduolion eu henwad, hyn o gyfyngder yn eu hysbryd crefyddol, gan gofio fod y rhan luosocaf o honom ninnau yn teimlo hefyd, yn y dyddiau rhydd a diragfarn presenol, neu fel y gelwir hi "yr oes oleu hon," wedi y cyfan, mai "nes penelin nag arddwn."

Saer meini, wrth ei gelfyddyd, oedd Edward Roberts, tad gwrthddrych y nodiadau adgoffaol hyn, a gweithiwr difefl a da iawn ydoedd yn ei alwedigaeth, heblaw ei fod yn ddyn deallus, ac yn aelod ffyddlawn gyda yr Anibynwyr. Yn yr amseroedd enbyd a ddilynasant y rhyfel a Ffrainc, yr oedd gwaith yn brin, y cyflog am ei wneuthur yn fychan, a'r ymborth yn ddrud ac yn wael, nes y gwasgwyd lluaws o deuluoedd diwyd a gonest i gyfyngderau dirfawr; ac yn eu mysg yr oedd teulu Edward Roberts yn gorfod goddef oddiwrth galedi yr amseroedd. Dan yr amgylchiadau hynny gwnaeth ef ei feddwl i fyny i ymfudo i America, a gadael ei wraig a'i blant dros ychydig ar ei ol yn Llanuwchllyn, gan benderfynu, pan enillai ddigon o arian i dalu eu cludiad dros y môr, anfon yr arian i ofal yr Hybarch Michael Jones, gweinidog yr Anibynwyr yn yr ardal lle y preswyliai ei wraig a'i blant; ac felly fu. Daeth Morris Roberts drosodd o Drawsfynydd i gychwyn ei fam a'r plant, y rhai oeddynt yn llaws mewn rhifedi, i'w taith bell a dieithr; a gwyr pawb mai nid yr un peth oedd i wraig arwain tylwyth o Feirion i America driugain mlynedd yn ol, ag a fyddai i wraig wneuthur hynny y dyddiau hyn. Digwyddodd i mi fod yn myned heibio eu bwthyn pan oeddynt yn cychwyn; a gwelais y fam a'r plant yn troi allan i fyned i'r "waggon fawr," i gael eu cludo i Gaerlleon. Pa fodd y bu arnynt ar ol gadael Caer, nid wyf yn gwybod; ond cyrhaeddasant ben eu taith yn llwyddiannus, a bu y teulu yn byw yn gysurus gyda'u gilydd yn Utica am lawer o flynyddoedd. Yr oedd y fam a'r plant yn gadael ty tlodaidd iawn yn Llanuwchllyn; er hynny, plygai y fam ei phen a thy walltai ddagrau wrth droi ei chefn ar ei thy a'i hardal. Mae yr olygfa mor fyw ar fy nghof heddyw, a phe buasai y peth wedi cymeryd lle bore ddoe.

Deuai Morris Roberts o Drawsfynydd, yn achlysurol, i bregethu i'w hen gymydogion a'i gydnabyddion yn ardaloedd Llanuwchllyn, ac yr oedd pawb yn awyddus am ei glywed. Bu yn pregethu yn y Bryn Gwyn ac yn y Wern Ddu, yn y flwyddyn 1823, os nad wyf yn camgofio. Yr oedd hynodrwydd ei ddawn yn tynnu sylw cyffredinol.

Yn mhen ysbaid, symudodd ef a'i deulu i fyw i gymydogaeth Llanarmon Dyffryn Ceiriog, lle yr oedd yn fawr ei barch gan bob dosbarth o'r ardalwyr. Cefais i rywdro y pryd hwnnw wneuthur gwasanaeth bychan iddo; sef, pedoli yr anifail ar ba un y marchogai. Yng Nghroesoswallt y bu hynny; un o ferlod y mynydd-dir oedd yr anifail. Dywedai fy meistr, Edward Price, yr hwn oedd, yntau, yn bregethwr rhagorol gyda y Methodistiaid, wrth ei frawd Morris Roberts, mai merlyn hyll iawn oedd ganddo. "Merlen ydyw hi," meddai Roberts. "Pa un bynnag," ebai Price, "un hynod o hyll ydyw hi." "Beth sydd arni hi?" gofynnai ei pherchennog. "Troi ei thraed allan yn wrthun iawn y mae hi," atebai y llall. "O, lady yw fy merlen i, troi eu traed allan wrth gerdded y mae y ladies i gyd yrwan," meddai Roberts, er mawr ddifyrrwch i fy meistr a minnau.

Yr oedd dosbarth lluosog o'r Methodistiaid oddeutu y pryd hwnnw yn condemnio Morris Roberts fel cyfeiliornwr. Barnent fod ei olygiadau ar athrawiaeth yr Iawn, ac athrawiaeth prynedigaeth, yn gwyro oddiwrth y gwirionedd. Yr oedd gallu ac anallu dyn yn bwnc o ddadl rhyngddynt hefyd, mi debygwn. Yr oeddwn i ar y pryd yn rhy ieuanc ac anwybodus i roddi barn deg ar y pynciau pwysig hynny; ond yr wyf yn cofio fod fy nhad, yr amser hwnnw, yn credu fod Morris Roberts yn nes i'r Beibl o ran ei syniadau nag oedd ei gondemnwyr. Yr wyf finnau heddyw yn barnu felly; ond ar yr un pryd, yr wyf yn golygu nad oedd Morris Roberts, ar y naill law, na'i wrthwynebwyr ar y llaw arall, yn deall y pynciau y dadleuent yn eu cylch mor drwyadl ag y dylasent eu deall, cyn dechreu cynhyrfu enwad crefyddol gyda'u dadleuon.

Ymadawodd Morris Roberts â Llanarmon, ac ymfudodd i America; ac yr oedd galar mawr gan lawer yn yr ardaloedd lle y llafuriasai oblegid ei ymadawiad, a derbyniodd garedigrwydd mawr oddiwrth amryw o'i gyfeillion yn yr amgylchiad hwnnw. Y mae yn fy meddiant rai llythyrau a ysgrifenodd ataf o America; ond nid ydynt o ddyddordeb digonol i'r cyhoedd i'w rhoddi yn y Wasg.

Pan ddaeth y brawd o Remsen drosodd, gyda'i gyfaill Mr. Davies, o Waterville, ar ymweliad â Chymru flynyddoedd yn ol, cefais i amryw o gyfleusderau i ymgydnabyddu ag ef. Bu yn aros yn fy nhy am rai dyddiau. Sylwais ei fod yn Werinwr trwyadl o ran ei olygiadau gwleidyddol, fel ei gynathraw, y Doctor Lewis. Nid oedd cyfansoddiad ein gwlad ni o werth dim yn ei olwg, mewn cymhariaeth i gyfansoddiad yr Unol Daleithiau. Yr oedd tuedd ynddo, weithiau, i fod braidd yn fyrbwyll mewn rhoddi barn ar bersonau a phethau. Yr oedd yn ddirwestwr trwyadl, ac yn gryn wrthwynebwr i ysmygu. Cyfodai yn fore iawn; ychydig o gwsg oedd yn angenrheidiol iddo; ac ni chai neb a fyddai yn cysgu gydag ef ddim cau ei amrantau ond anfynych, pryd y mynnai. Yr oedd yn gwybod cynifer o hanesion am hen frodyr a chwiorydd crefyddol fel y difyrrai ei gyfeillion trwy gydol y dydd a'i adrodiadau am danynt. Ni rusai ddadleu yn egniol dros ei olygiadau neillduol, ond prin yr oedd yn ddigon o athronydd i wneud dadleuwr llwyddiannus, oddieithr ar bethau eglur yr Ysgrythyrau. Cof gennyf iddo, yn ein ty ni, gael y gwaethaf mewn dadl â'i gyfaill Edward Davies; mynnai ef fod Duw yn dwyn daioni allan o ddrygioni, ond mynnai ei gyfaill nad oes dim ond drwg i ddyfod allan o ddrwg, ac y rhaid i ddaioni darddu o ryw ffynnon arall, er y gall drygioni fod yn achlysur i amlygu daioni, ond na all fod yn ffynnon darddol y da o gwbl.

Yr oedd yn ddiau yn bregethwr ymarferol rhagorol iawn. Planhigyn ydoedd wedi tyfu ar ei ben ei hun yng Nghwm yr Allt Lwyd. Clywais ef yn pregethu ar y gair hwnnw, "Efe a lwnc angeu mewn buddugoliaeth;" darluniai angen fel rhyw wylltfil ysglyfaethus, a'i safn yn agored er dechreu y byd, ac yn llyncu yr holl oesoedd, ac nid oedd ei fol yn hanner llawn wedi y cwbl; ond pan aeth i geisio llyncu yr Arglwydd Iesu ar Galfaria, iddo gael allan ei fod yn ormod o damaid iddo, ac yn lle i angeu lyncu yr Iesu fe lyncodd yr Iesu angeu mewn buddugoliaeth. Cof gennyf ei fod yn pregethu ar y geiriau,—"Mi a dywalitaf fy Ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hiliogaeth." Beiai rieni am eu bod yn cwyno yn aml fod ganddynt lawer o blant, yn lle diolch yn fawr i Dduw am danynt. "Gofynnwech," meddai, "i'r ffermwr yma faint o wartheg sy ganddo ar ei dyddyn. "O, dim ond o ddeugain i hanner cant i gyd." Faint o blant sydd gennych chwi? "O, mae gennyf BUMP o blant. Gofynnwch i un arall, Faint sydd gennych chwi o ddefaid ar y fferm yma? "O, dim ond rhyw saith gant i gyd." Faint sydd gennych chwi o blant? "Mae gennyf CHWECH o blant!" Wel, diolch yn fawr am danynt, ni thywallt yr Arglwydd byth mo'i Ysbryd ar dy fustych ac ar dy hyrddod di, ond fe dywallt ei Ysbryd ar dy blant di, a hwy yw yr unig wrthddrychau ar dy elw di y medr Duw dywallt ei Ysbryd arnynt." Clywais bregeth rymus ganddo ar nos cyfarfod ym Mangor, ar Num. xix. 12,—"Ymlanhaed trwy y dwfr hwnnw, y trydydd dydd." Yr oedd y dorf fawr wedi ymdoddi mewn dagrau, fel y cŵyr yn ngwres y tân. Yr oedd dynion cedyrn, na wybu dagran erioed am y ffordd i ddyfod allan o'u llygaid, a'u pennau yn ddyfroedd yn yr oedfa honno. Yr oedd yr olygfa yn anarluniadwy, felly ni cheisiaf ei phortreiadu. Ei ddarluniad o Naaman yn cael ei anfon gan Eliseus i'r Iorddonen i ymlanhau, "trwy y dwfr hwnnw," oedd un o'r pethau goreu a wrandewais i erioed. Gwelais effeithiau cyffelyb dan yr un bregeth yng nghymanfa y Wern. Ni ychwanegaf ond yn unig dywedyd fod yr olaf o berchenogion y dawn neillduol hwnnw wedi ewympo ym marwolaeth MORRIS ROBERTS.

——————♦——————

DIHANGODD.

(Ar farwolaeth ei briod.)

𝕾ANGODD draethell yr Iorddonen,
Syllodd ar eirwynder hon
Rhoes ei throed ar wddf yr angau,
Neidiodd o grafangau'r don;
Ac yng ngherbyd anfarwoldeb,
Gyda gosgordd purdeb gwawr,
Trwy ororau'r eangderau
Aeth i fannau'r anthem fawr.


Nodiadau[golygu]

  1. Y mae un o chwiorydd Ap Vychan,—Mrs. Davies, Ty'r Capel, Pen y Cae, Rhiwabon,— eto'n aros. Yr oedd yn cyrraedd pen ei phedwar ugain oed yn Ebrill diweddaf, ac yn darllen "Coll Gwynfa" an y drydedd waith. Y mae amryw o'r teulu o ddeall cryf ac awen barod.
  2. Rhoddir y cywydd hwn ymysg darlunialau Ap Vychan o fro a phobl ei febvd i ddangos engraifft o'i waith cyn i'w feddwl ddwyseiddio. Darluniad o hen gychwr tafod-lym ydyw. Canwyd ef gan Ap Vychan a, Thomas Simon, pan yn brentisiaid yn efail y Lon, Llanuwchllyn.
  3. Bu y gwr hwnnw dan gryn erledigaeth yng Nghymru, ac yn America drachefn, oblegid rhyw rai o'i ddaliadau crefyddol; ond cafodd amddiffyniad rhagorol yn y cofiant a ysgrifenwyd iddo gan y Parch. Edward Davies, Waterville.
  4. Er cof am John Parry, Hirael, Bangor, fu farw Rhag. 4, 1876.
  5. Cyfarfod Llenyddol Dinorwig a Llanberis, Tach, 18, 1871.
  6. Darllenwyd yng Nghyfarfod Llenyddol Ysgol Sabbathol Ebenezer Bangor, Chwef. 25, 1864.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.