Neidio i'r cynnwys

Gwroniaid y Ffydd (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Gwroniaid y Ffydd (testun cyfansawdd)

gan Robert David Rowland (Anthropos)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwroniaid y Ffydd
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Robert David Rowland (Anthropos)
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Gwroniaid y Ffydd (llyfr)
ar Wicipedia

GWRONIAID Y FFYDD:

A

BRWYDRAU RHYDDID,

GYDAG YSGRIFAU ERAILL.

GAN

R. D. ROWLAND (ANTHROPOS).

"CANYS I RYDDID Y'CH GALWYD CHWI."

"HE IS FREE WHOM THE TRUTH MAKES FREE."





CAERNARFON:

Argraphwyd a Chyhoeddwyd gan Gwmni'r Wasg Genedlaethol

Gymreig. Cyf.


1897



Dymunaf dalu diolch i Mr. O. M. Edwards, golygydd "CYMRU," am ei
garedigrwydd yn caniatau i mi ddefnyddio rhai o'r darlunian a geir yn y llyfr hwn.



CYNWYSIAD.

I. GWRONIAID Y FFYDD
II. BRWYDRAU RHYDDID
PENNOD, I. MAES Y FRWYDR
PENNOD II. Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD.
PENNOD III. CYFNOD Y MERTHYRON
PENNOD IV. "PAN OEDD BESS YN TEYRNASU"
PENNOD V. Y RHYFEL, CARTREFOL
PENNOD VI. "Y DYDD HWNW"
PENNOD VII, DYDDIAU CYMYSG
PENNOD VIII. CAMRAU RHYDDID
III. YN NYDDIAU EDMWNT PRYS
IV. RHYDDID BARN
PENNOD, I. BARN BERSONOL
PENNOD, II. SAFLE GYMDEITHASOL
V. YSBRYD RHYDDID
VI. GWILYM CAWRDAF
PENNOD I "AWENAWG WR O WYNEDD."
PENNOD II "Y MEUDWY."
PENNOD III BWTH Y BARDD.
PENNOD IV "Y DERWYDDON."
PENNOD V BARDD HIRAETH


GWRONIAID Y FFYDD.


"THE HISTORY OF THE WORLD IS THE BIOGRAPHY OF GREAT MEN."

YN y flwyddyn 1840 y cyhoeddodd Carlyle ei lyfr adnabyddus ar "Wroniaid, yn nghyda'r elfen wronaidd mewn Hanes." Y mae llawer o bethau yn y llyfr sydd yn agored i feirniadaeth, ond nid oes neb a wad fod ynddo nerth ac ynni dihafal. Y mae awelon ysbrydoliaeth yn anadlu drwyddo, ac y mae ei bortreadau o'r gwron fel Bardd, Proffwyd, Duwinydd, a Diwygiwr, yn byw byth yn y meddwl a'r cof.

Ac ar y cyfrif hwn, yr wyf yn cymeryd fy nghenad i ddefnyddio rhai o sylwadau "doethawr Chelsea" fel rhagarweiniad i'r hanes sydd yn canlyn am "Wroniaid y Ffydd." Nis gwn am ddim mor addas i barotoi meddwl y darllenydd ieuanc, ac i'w osod mewn cydymdeimlad â'r cymeriadau hyny sydd yn haeddu cael eu hanrhydeddu gan bob cenedlaeth ac oes. Dyma fel y mae Carlyle yn traethu ei len ar y pwnc:

"Yr wyf yn ymwybodol fod arwr-addoliaeth, neu y peth a alwaf fi yn arwr-addoliaeth, yn y dyddiau hyn, wedi diflanu. Y mae hon yn oes sydd yn gwadu bodolaeth dynion mawr,yn gwadu yr angenrheidrwydd am danynt. Dangoswch i'r beirniaid hyn ddyn mawr-dyn fel Luther, er esiampl, ac yna y maent yn dechreu rhoddi'cyfrif' am dano. Yr oedd yn greadur ei oes,' meddent; ei oes a'i galwodd allan, ei oes a wnaeth y cyfan, ac yntau ddim, ond yr hyn a allasai y beirniad bychan ei wneuthur yn ogystal! Y mae hyn yn ymddangos i mi yn waith pruddaidd. Ei oes a'i galwodd i fod, aie? Ha! yr ydym yn gwybod am oesau wedi galw yn uchel am y dyn mawr, ond yn methu ei gael! Nid oedd efe yno: nid oedd Rhagluniaeth, wedi ei anfon, ac er i'r oes lefain yn uchel am dano, nid ydoedd i'w gael. . . Yr wyf yn cyffelybu oesau difraw, dinod, gyda'u hanghredinaeth, eu helbulon, a'u haflwydd, i danwydd sych a marw, yn disgwyl am y mellt o'r nefoedd i'w gwneyd yn oddaith. Y dyn mawr, gyda'i rym wedi dod yn uniongyrchol oddiwrth Dduw, ydyw y fellten. Y mae pobpeth yn ffaglu o'i gwmpas, ac yn cyfranogi o'i fflam ef ei hun. Ac eto fe ddywedwn mai y brigwydd sychion sydd wedi rhoddi bod iddo. Yr oedd arnynt fawr anghen am dano, ond am roddi bod iddo!—Pobl o welediad cyfyng, cul, sydd yn crochlefain,—'Gwelwch, onid y brigau sydd wedi cyneu y tan!' Na, nid felly. Nis gallai dyffryn yr esgyrn sychion gynyrchu bywyd. Yr oedd hwnw yn ganlyniad yr anadl Ddwyfol. Creadigaeth felly ydyw dynion mawr. Ac nid ydyw hanes y byd yn ddim amgen na bywgraffiad y gwroniaid hyn."

Dyna ddysgeidiaeth Carlyle. Pregethai hi ai holl egni. Ar y cyntaf, nid ydoedd ond llef un yn llefain yn y diffaethwch; ond yn y man daeth llawer i lawenychu yn ei oleuni, ac i gyfranogi o'i frwdfrydedd. Daeth hanes y gorphenol i wisgo gwedd newydd a gwahanol. Nid cronicl sych o ffeithiau difywyd,―geni a marw brenhinoedd a thywysogion; amseriad brwydrau, a digwyddiadau arwynebol-nid yn y pethau hyn y mae hanfod Hanes; y mae hwnw, bellach, wedi ei grynhoi o gwmpas y cymeriadau hyny sydd wedi creu a llunio cyfnodau newyddion. Amwisg yw y ffeithiau, ac y mae eu dyddordeb yn gynwysedig yn y gwasanaeth a wneir ganddynt i daflu goleuni ar ddynion, ac ar eu gwaith.

Yn nghrym y weledigaeth hon yr ysgrifennodd Carlyle ei lyfr ar "Wroniaid," yn nghyda'r cyfrolau bywiol hyny ar "Oliver Cromwell" a'r "Chwyldroad Ffrengig." Llafuriodd, manwl-chwiliodd am bob tameidyn o ffaith oedd yn dal cysylltiad â gwrthrych ei efrydiaeth. Dygodd asgwrn at ei asgwrn; gwisgodd hwy â giau ac â chroen, ac yn goron ar y cyfan—anadlodd anadl einioes yn y defnyddiau, nes y maent yn aros bellach yn ddelweddau byw, anfarwol, yn oriel llenyddiaeth ein gwlad.

Ond y mae'n perthyn i wroniaeth ei raddau, yn ol fel y byddo cylch ac amcanion ei weithrediadau. Arall yw gwroniaeth y Cadfridog, ac arall yw gwroniaeth y Dyngarwr. Nid ydyw Wellington a John Howard yn perthyn i'r un dosbarth. Yn yr ystyr hwn gellir gofyn,—

Pwy yw yr arwr? Pwy ddylai gael
Llawryfon anrhydedd i harddu ei ael?
Mi wela'r Gorchfygwr yn ymdaith drwy waed,
Gan fathru teyrnasoedd yn llwch dan ei draed:
Ei folawd adseinir mewn dinas a thref,
A'r mynor tryloew a draetha'i glod ef;
Efe yw yr arwr,—efe sydd yn cael
Llawryfon anrhydedd i harddu ei ael.

Ond wele'r Dyngarwr yn dyfod o draw,
A chleddyf gwirionedd yn loew'n ei law:
Ymdeithio, ymdrechu dros Iawnder y mae,
A chodi'r adfydus o ddyfnder ei wae ;
O'i flaen mae Trueni,—ond beunydd o'i ol
Daw blodau i'r anial fel gwanwyn i'r ddol.

Ardderchog Ddyngarwr! pwy draetha ei oes?
A'i fynwes yn wenfflam gan gariad y Groes.
Mae llwybrau ei fywyd yn wyn a di-staen,
Ac erys ei enw pan dodda y maen!
Efe yw yr arwr, — efe sydd i gael
Llawryfon anrhydedd am byth ar ei ael.

Ond y mae Dyngarwch yn cyrhaedd ei bwynt uchaf pan wedi ei hydreiddio âg ysbryd crefydd, ac wedi ei wregysu â nerthoedd ffydd.

Ac at wroniaeth yn y ffurf ddyrchafedig hon y gwahoddir sylw y darllenydd—ac yn enwedig darllenwyr ieuainc Cymru—yn yr hanes sydd yn canlyn,—Gwroniaid y Ffydd. Y mae rheswm yn arbenig y dyddiau hyn dros gyffroi meddyliau ein gilydd i astudio ac i ddeall hanes rhag-redegwyr ein rhyddid crefyddol a'n breintiau cymdeithasol. A swm mawr o aberth a dioddef y cawsom ni y ddinas-fraint hon. Fel y dywed Iolo Carnarvon yn ei arwrgerdd gyfoethog—"Ardderchog Lu y Merthyri:"

Nid gwlad o ddydd, o ryddid, ac o freintiau,—
O fawl, Sabbothau tawel, ac o demlau,
Erioed oedd Cymru,—gwelodd hithau fflamau:
A phrofodd arswyd, newyn, ac arteithau!


Ymguddiodd sant bri wiedig yn ei chreigiau:
Teimlasant bwysau llethol ei chadwynau :
Bu meibion Duw yn ubain yn ei gwigoedd,
A bu eu gwaed yn cochi ei haberoedd ;
Trwy ingoedd tost credinwyr erlidiedig
Y daeth i ni yn frodir wynfydedig.

Ond os ydyw Cymru i barhau yn "frodir wynfydedig" y mae'n rhaid i'w meibion a'u merched gydnabyddu a hanes y gwroniaid fuont yn ymdrechu hyd at waed i bwrcasu ein rhyddid, ac i sicrhau ein cysuron. Rhaid i ni fawrhau eu gwaith, a chadw yr ymddiriedaeth o wirionedd ac egwyddorion ydym wedi eu derbyn oddiwrthynt,—ei derbyn, nid i'w mathru dan ein traed, ond i estyn ei therfynau, ac i'w throsglwyddo yn ddilwgr i'r dyfodol. Ni ddylai anwybodaeth na difaterwch gael taflu eu cysgodion tywyll ar y rhandir gysegredig hon. Yn ngeiriau y bardd yr ydym wedi cyfeirio ato o'r blaen:—

Pa beth i oes fel yma yw MERTHYRON
Yw gwyr a gwragedd, llanciau a gwyryfon,
Mewn daeargelloedd neu danllwythi mawrion,—
A ydynt hwy i ni yn awr yn ddynion,
Ai ymgyfuniad byw o wirioneddau,
O oddefgarwch, ac o bob rhinweddau,
Neu enwau ar oleuni, ar wroniaeth:
Neu ar gymylau llawn o ysbrydoliaeth?
Y ddau,—mae dynion dan yr hanesyddiaeth,
A meibion Duw o dan yr holl arwriaeth!

Ie, dyna sydd yn gwneyd yr hanes yn fyth-ddyddorol, ac yn ysbrydoliaeth newydd i bob oes. Mae "dynion byw o dan yr hanesyddiaeth,'—ac am hyny y mae yr hanes ei hunan yn aros yn iraidd a thirf,— gwirionedd, egwyddorion, ysbryd ffydd wedi ymgnawdoli, ydyw hanfod yr hanes ei hun. Ac os ydyw Cymru yn "frodir wynfydedig" mewn ystyr grefyddol, ar hyn o bryd, nid ydyw hyny ynddo ei hun yn cynwys sicrwydd am y dyfodol. Yr oedd yn perthyn i ardd gyntaf dynoliaeth ei hamodau. Gosodwyd dyn yno nid i segura ac i ymheulo fel anifail direswm, ond i'w "llafurio ac i'w chadw hi." Ac y mae pob paradwys ddaearol yn debyg yn yr ystyr hwn. Rhaid llafurio i'w chadw. Na fydded i hyn gael ei fwrw dros gof yn Nghymru freintiedig,—gwlad y diwygiadau a'r cymanfaoedd. Na chaffer ni yn ddiofal yn nghanol ein hetifeddiaeth deg. Na ddarostynger ein brodir i fod yn gyffelyb i wlad y Lotos—eaters,[1]

"A land where it was always afternoon"

—dim boreu, dim ynni, na dim gwaith.

Y mae arwyddion ar y terfyn-gylch fod cyfnewidiad hin heb fod yn mhell. Y mae yn fwy na thebyg y daw rhuthriadau cryfion i ymosod ar Gymru, i dori ar y tawelwch, ac i brofi nerth ein ffydd. Daw "amser cannu, diwrnod nithio," eto ar ein gwlad. Beth a wnawn yn nydd yr ymweliad? Un peth yn ddiau a allwn, ac a ddylem wneyd yn ddioedi ydyw—parotoi ar gyfer y rhyferthwy. Rhaid i'n bywyd crefyddol estyn ei wraidd i ddaear ddofn egwyddorion, ymglymu am hanes amddiffynwyr y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint. Ai yn ofer y llafuriodd y diwygwyr Protestanaidd? Ai penboethiaid oedd hen Anghydffurfwyr Cymru ? A ydyw rhyddid cydwybod a rhyddid barn yn llai gwerthfawr yn ein golwg ni nac oeddynt iddynt hwy? A ydyw yr arwyddair Protestanaidd mai "Gair Duw ydyw unig reol ffydd ac ymarweddiad" i gael ei osod o'r neilldu? Ac a ydyw defodaeth rwysgfawr i ddiorseddu gweinidogaeth yr Efengyl? Dyna rai o'r cwestiynau y gofynnir i ni eu hystyried ar fyrder, fel y caffom beth i'w ateb i'r cenhadau y mae y Pab a'i gardinaliaid yn gweled yn dda eu hanfon atom.

A chyda'r amcan o fod yn rhyw ychydig o gynorthwy yn y pethau hyn, y cyflwynir y llyfryn hwn i sylw ieuenctyd ein hanwyl wlad. Ac yr wyf yn distaw hyderu y bydd y darlleniad ohono yn symbyliad i ambell un astudio yr hanes yn llwyrach, ac i ymrestru fel gwirfoddolwr yn y fyddin anrhydeddus, anorchfygol, sydd wedi ei harwain, o oes i oes, gan Wroniaid y Ffydd.

Yr eiddoch yn wladgar,

R. D. ROWLAND.

CAERNARFON.

BRWYDRAU RHYDDID.


PENNOD I.

MAES Y FRWYDR.

PAN yn talu ymweliad â rhai o'r llanerchau hyny sydd wedi bod yn faes brwydrau celyd a chofiadwy, manteisiol ydyw dringo rhyw fryn neu uchel—dir cyfagos mewn trefn i gael syniad cyffredinol am gyd-berthynas y gweithrediadau.

Meddylier ein bod yn talu ymweliad a Morfa Rhuddlan. Byddai yn naturiol i ni gerdded drwy y gwastattir gwelltog, lle y gwelwyd[2]

"dull teryll y darian;"

lle y clybuwyd

"si, eirf heb ri' arni yn tincian,"

a mwy na'r oll, lle bu ein hynafiaid yn gwaedu dros ryddid a gwladgarwch. Ond mewn trefn i gael yr olygfa'n gyflawn i'r meddwl, dylid esgyn ar ysgwydd gref un o'r bryniau sydd yn gwarchod Dyffryn Clwyd:

Aros mae'r mynyddau mawr
Rhuo drostynt wna y gwynt.

Ein hamcan ar y dalennau hyn ydyw arwain darllenwyr ieuanc Cymru yn benaf—i olwg maes brwydr,—y frwydr hirfaith, rhwng rhyddid a gormes, rhwng gwirionedd a chyfeiliornad, rhwng nerthoedd unedig llysoedd eglwysig a gwladol, â nerthoedd barn bersonol wedi ei hysbrydoli gan egwyddorion gwirionedd Duw.

Y DEFFROAD.

Ac i'r amcan hwn ni a gymerwn ein safle am ychydig ar un o fryniau Hanes—yr ucheldir enwog hwnw a adwaenir fel y Diwygiad Protestanaidd. Yr oedd hyny yn

JOHN WICKLIFFE

("Seren foreu" y Diwygiad yn Lloegr).

nechreu yr 16eg ganrif,—un o'r cyfnodau rhyfeddaf yn hanes Europ. Yr adeg hono y deffrodd y meddwl dynol wedi hunllef hir yr Oesau Tywyll. Daeth bywyd ac ynni newydd i gerdded dros y gwledydd. Daeth llenyddiaeth glasurol a'r celfau cain o dir angof. Enynwyd ysbryd anturiaeth a dyfais. Yn eu mysg yr oedd yr argraff-wasg, llawforwyn ffyddlawn i achos rhyddid a chynydd. Y gwr a ddygodd y ddyfais hon drosodd i Loegr ydoedd William Caxton, a thrwy gydsyniad y brenhin Edward IV. gosodwyd y wasg gyntaf yn Westminster yn 1471. Bu y ddyfais hon, a'i chyffelyb, yn wasanaethgar i ysbryd y Diwygiad, y chwyldroad hwnw a ysgydwodd nerth y Babaeth hyd ei sail, ac a arweiniodd filoedd o feddyliau o dywyllwch ofergoeledd i oleuni dydd efengyl y tangnefedd.

SEREN Y BOREU.

Yr oedd llawer o ddefnyddiau y Diwygiad wedi eu casglu cyn i'r peth ei hun dori allan mewn nerth. "Eraill a lafuriasant," ar y Cyfandir, ac yn y deyrnas hon. Yn eu mysg yr oedd y gwr a adwaenir fel 'Seren foreu" y diwygiad yn Lloegr John Wickliffe, gweinidog yr Efengyl yn Lutterworth, swydd Leicester. Gorweddai ei fywyd a'i waith yn nghanol y 14eg ganrif. Efe oedd y blaenaf i gyfieithu Gair Duw i iaith ei wlad—gweithred haeddianol o anfarwoldeb. Ond nid efrydydd yn unig oedd Wickliffe: yr oedd, hefyd, yn ddiwygiwr aiddgar a thrwyadl. Coleddai syniadau rhyddfrydig mewn oes gul a rhagfarnllyd. Credai efe mai y Beibl, ac nid Cyngorau; y Beibl ac nid y Pab oedd yr awdurdod oruchaf mewn barn a chrêd. Ymosodai yn hallt ar lygredd a difrawder yr offeiriaid. Yr ydoedd yn elyn anghymodlawn i'r Trawsylweddiad, a chyfeiliornadau eraill eglwys Rhufain. Oherwydd ei ymroad i bregethu ac i ysgrifennu yn erbyn y pethau hyn, cafodd ei wysio i ymddangos o flaen y Cyngor, neu y Chwilys Pabaidd yn Lambeth, Llundain. Ac yno, yn nghanol gelynion yr egwyddorion a amddiffynid ganddo, yr ydoedd yn gorfod sefyll fel yr Apostol Paul o flaen Nero, yn unig a dinodded. Ond yn ystod y gweithrediadau siglwyd dinas Llundain gan ddaeargryn. Crynodd y Llys hyd ei sail, a meddianwyd y cardinaliaid gan ddychryn a braw. Gelwir y Cyngor hwnw yn "Gyngor y ddaeargryn" hyd y dydd hwn. Y mae'n fwy na thebyg i'r ddaeargryn effeithio ar ganlyniadau yr ymchwiliad. Cafodd Wickliffe ei ollwng yn rhydd. Dychwelodd i Lutterworth, ac yno y bu farw yn y flwyddyn 1384. Yn yr olwg ar y gwaith ardderchog a gyflawnodd yn ei fywyd, priodol fuasai dweyd—"Heddwch i'w lwch." Melus fyddo hûn y gweithiwr. Ond nid felly y bu. Yn mhen deugain mlynedd ar ol ei farw, aeth nifer o genhadon Pabaidd i eglwys Lutterworth liw nos. Codwyd esgyrn y diwygiwr o'r bedd, a llosgwyd hwy yn lludw. Cafodd y lludw ei daflu i afon gerllaw. Cludwyd ef i afon arall, ac yna i'r môr. Y pethau hyn sydd mewn alegori. Yr oedd hyn yn broffwydoliaeth o'r modd y caffai egwyddorion John Wickliffe, yn ol llaw, eu lledaenu a'u gwasgar dros wyneb y byd.

PENNOD II.

Y DIWYGIAD PROTESTANAIDD.

BELLACH, yr ydym yn dod i wyddfod arwr y Diwygiad Protestanaidd,―y mynach a ysgydwodd y byd:—

MARTIN LUTHER.

Ganwyd ef yn Eisleben, Gogledd Germani, yn y flwyddyn 1483. Mwnwr cyffredin oedd ei dad, ac un o ferched llafur oedd ei fam. Ond nid yw dynion mawr, na meddyliau mawr, i gael eu barnu yn ol maint y cryd fyddo yn eu siglo. Hanes pruddaidd ydyw hanes boreuddydd Luther. Oni bae am yr ystor o hoender oedd yn ei natur, buasai wedi ei lethu gan anfanteision ei sefyllfa. Ond yr oedd ei galon ef, fel ffynon mewn dôl, yn bwrlymu allan ddedwyddwch di-drai. Breuddwyd ei dad oedd gwneyd Martin yn gyfreithiwr. Ymwadodd â llawer o gysuron er mwyn ceisio dwyn ei fwriad i ben. Ond cafodd ei arfaeth ei chwalu gan arfaeth uwch. Rhoddwyd iddo y fraint o fagu gwaredydd i'w wlad, ond nid drwy borth y gyfraith yr oedd yr ymwared i ddod. Aeth Luther o'i wirfodd i fonachlog Erfürt. Ni fu neb yn gwisgo clôg mynach gydag amcan mwy pur. Yr ydoedd o ddifrif. Ceisiai dangnefedd i'w galon, mewn defodau a phenyd, ond yn gwbl ofer. Un dydd, daeth mynach oedranus heibio, a sibrydodd y gair hwnw yn ei glust:—"Y cyfiawn a fydd byw drwy ei ffydd." Disgynodd fel hedyn i ddaear fras. Yr oedd nerth bywyd ynddo; ie, yr oedd y Diwygiad Protestanaidd yn gorwedd yn yr hedyn a ddisgynodd megis ar ddamwain i ddaear meddwl Martin Luther.

MARTIN LUTHER

("Y mynach a ysgydwodd y byd").

JOHN TETZEL.

Yn mhen amser ar ol hyn, daeth John Tetzel ar ymdaith i Ogledd Germani i werthu maddeuant-lythyrau y Pab. Dynesodd at Wittenburg, lle y cartrefai Luther. Cynhyrfwyd ei ysbryd i'w waelodion. Ac ar y noson olaf o Hydref, 1517, wele y "mynach du," fel y gelwid Luther, yn mynd at ddrws eglwys gadeiriol Wittenburg; ac yno a'i law ei hun y mae yn hoelio gwrthdystiad cyhoeddus yn erbyn ffug-bardynnau y Pab. Darllenwyd y gwrth-dystiad gydag awch gan y bobl, ac ni chafodd yr arwerthydd cableddus roddi ei droed i lawr yn y dref. Profodd y papyr a hoeliwyd ar ddôr yr eglwys fel marworyn mewn pylor. Aeth y frwydr yn boethach o ddydd i ddydd. Anfonodd y Pab ei anathema i gondemnio Luther a'i syniadau. Cyrhaeddodd y wys i Wittenberg, ac ar y degfed o Ragfyr, 1520, rhoddodd Luther orchymyn am i goelcerth gael ei chyneu ar ganol marchnadfa Wittenburg. Daeth torf fawr yn nghyd, ac wedi egluro yr amgylchiadau i'r bobl, y mae y diwygiwr ieuanc yn ymaflyd yn "anathema" ysgrifenedig y Pab, ac yn ei fwrw i ganol y fflam. Dyna goelcerth anfarwol: goleuodd gyfandir.

LUTHER YN WORMS.

Yn mis Ebrill, y flwyddyn ganlynol, cafodd Luther ei wysio i ymddangos o flaen y Gyd-gyngorfa yn Worms. Yno yr oedd yr Ymherawdwr a'i osgordd urddasol; yno yr oedd llysgenadon anfonedig y Pab; yno yr oedd tywysogion yr Almaen; ac yno, heb neb yn meiddio dangos cydymdeimlad âg ef yr oedd y mynach o Wittenburg. Luther yn Worms! Dyna olygfa ag y mae darfelydd y bardd, pwyntel yr arlunydd, ac ysgrifell yr hanesydd wedi eu trethu hyd yr eithaf i geisio ei darlunio. Moment hanesyddol oedd hono pan gododd y llys-genad Pabaidd i roddi y cwestiwn terfynol. Yr oedd pob llygad wedi ei sefydlu ar Luther, pob clust wedi ei hoelio i wrando ei atebiad.

"Ai chwi a ysgrifennodd y llyfrau hyn ?"

"Ie."

"Yn awr, a ydych yn barod i alw yr oll yn ol, neu ynte a ydych am eu harddel? Atebwch yn glir, ac i'r pwynt." "Yr wyf yn sefyll wrth yr hyn a ysgrifennwyd. Nis gallaf wneyd yn amgen. Duw fyddo fy nawdd. Amen." Cafodd fynd o'r llys yn ddianaf, fel y llanciau o'r ffwrn dân, fel Daniel o ffau'r llewod. Bu yn nghudd am dymhor yn nghastell y Wartburg. Yno y cyfieithodd y Beibl i iaith gwerin yr Almaen.

Y mae ysbrydiaeth eon, ffyddiog, hyderus Luther wedi ei grynhoi yn yr emyn ardderchog sydd yn cael ei chanu hyd y dydd hwn—Emyn Luther. Dyma gyfieithiad rhagorol o honi a wnaed gan y diweddar Dr. Edwards o'r Bala::

EIN nerth a'n cadarn dŵr yw Duw,
Ein tarian a'n harfogaeth;
O ing a thrallod o bob rhyw
Rhydd gyflawn waredigaeth.
Gelyn dyn a Duw,
Llawn cynddaredd yw;
Gallu a dichell gref
Yw ei arfogaeth ef;
Digymar yw'r anturiaeth.
****
Pe'r byd yn ddieif! fel uffern ddofn
Yn gwylied i'n traflyncu,
Ni roddwn le i fraw ac ofn :
Mae'n rhaid i ni orchfygu,
Brenhin gau y byd
Er mor ddewr ei fryd,
Ni wna ddim i ni:
Fe'i barnwyd, er ei fri,
Un gair a'i gŷr i grynu.


Y gair a saif; a llwyddo raid
Er t'w'lled mae'n ymddangos:
Efe a'i Ysbryd sydd o'n plaid
A'r goncwest sydd yn agos:
Bywyd rho'wn yn rhydd,
Gwraig a phlant r'un dydd:
Ymaith os ânt hwy,
Ni a enillwn fwy,
Mae teyrnas Dduw yn aros


HARRI'R WYTHFED

(Y gŵr a gwerylodd â'r Pab, ac a ddinystriodd y mynachlogydd).

PENNOD III.

CYFNOD Y MERTHYRON.

DYCHWELWN i Loegr. Ar yr orsedd y mae Harri'r Wythfed. Pabydd zelog ydoedd efe yn nechreu ei deyrnasiad. Ysgrifennodd lyfryn yn erbyn Luther, dan

YR ESGOB HUGH LATIMER

(Uno bregethwyr enwocaf ei oes)

yr enw y "Saith Sacrament." Ar bwys y weithred hono, cafodd ei anrhydeddu gan y Pab gyda'r teitl cysegredig o Amddiffynydd y Ffydd. Ond daeth tro ar fyd. Aeth Harri i gweryla gyda'i Sancteiddrwydd yn nghylch deddf Ysgariaeth. Bu y cwestiwn yn cael ei drafod mewn llawer llys, ac o'r diwedd, y brenin a orfu. Difreiniodd ei wraig gyfreithlawn Catherine o Arragon; priododd Anne Boleyn ac eraill ar ei hol. Priodi a dad-briodi oedd ei hanes i ddiwedd ei oes. Nid oes gan Gymru un rheswm dros fawrhau coffadwriaeth Harri'r Wythfed. Gwnaeth yr oll oedd o fewn ei allu i lethu ein hiaith a'n cenedl.

YR ESGOB RIDLEY

(Cydymaith Latimer wrth y stanc).

Ar ei ol ef daeth y frenhines ddidostur a adwaenir wrth yr enw "Mari Waedlyd." Gyda hi daeth Pabyddiaeth yn ol fel llifeiriant i'r wlad. Dechreuodd cyfnod o erlid di-drugaredd. Arweiniwyd llu o oreugwyr Lloegr at a stanc a'r ffagodau.

LATIMER A RIDLEY.

Yn eu mysg yr oedd Latimer a Ridley. Yr oedd Latimer yn esgob, ac yn un o bregethwyr enwocaf yr oes. Codai ei lef fel udgorn yn erbyn anfoesoldeb a llygredigaeth mewn llan a llys. Ni esgynodd i bwlpud bregethwr gwrolach, mwy didderbyn-wyneb na Hugh Latimer.

HEOL YN RHYDYCHEN

(Mangre dienyddiad y ddau ferthyr).

Y mae y gair a ddwedodd o ganol y fflam yn cael ei gofio byth:-"Cymer gysur, fy mrawd; ymddwyn fel dyn yr ydym ni heddyw, drwy ras Duw, yn goleuo canwyll yn Lloegr na welir mohoni byth yn diffoddi." Y dystiolaeth hon oedd wir. Yr oedd esiamplau y merthyron hyn, ac eraill, megys canwyll yn llosgi ac yn goleuo mewn lle tywyll, ac yr ydym ninnau-wedi llawer o ddyddiau,yn llawenychu yn eu goleuni hwy. Y mae y llanerch lle y bu y gwŷr uchod yn dioddef merthyrdod, erbyn heddyw wedi ei gorchuddio gan gofadail ardderchog-"cofadail y merthyron" yn Rhydychen.

THOMAS CRANMER

"Aeth at y stanc i drengu, a hunodd yn y fflam")

Un arall o'r dioddefwyr ydoedd Thomas Cranmer. Llithiwyd ef mewn moment o wendid i arwyddo deiseb oedd yn gyfystyr a gwadiad o'i olygiadau. Ond adfeddianodd ei ffydd a'i wroldeb.

Aeth at y stanc i drengu
I huno yn y fflam.


Daliai ei ddeheulaw i fyny yn y tân, gan ddweyd :—"Y mae y llaw hon wedi troseddu: caiff ddioddef yn gyntaf."

Yn ystod teyrnasiad Mary, bernir i gynifer a phedwar cant o bersonau gael eu llosgi yn gyhoeddus am eu golygiadau crefyddol. Cafodd eraill eu dirdynnu ar yr arteithglwyd, a bu lluoedd feirw mewn carcharau heintus a llaith.

Y mae y llinellau canlynol yn grynhoad o olygfeydd mynych y cyfnod gorthrymus hwn yn Mhrydain :

Mewn cwm a dinas, ar bob dol a mynydd,
Ymlosgai gwyr arddunol ynddi beunydd :
Pa fodd wrth losgi meibion glân yr oesau,
Na losgodd hi ei hunan hyd ei chreigiau!
Bu diafl mewn benyw ar ei gorsedd firain,
Ac aeth ei holl garcharau yn rhy fychain,
I gynwys degwm ei dioddefwyr truain.
O wig ac ogof ymddyrchafai gruddfan,
A chlywid ar bob heol swn cyflafan ;
Newynai cariad ar ei holl fynyddoedd,
A gwaedai grâs yn nos ei daeargelloedd !


PENNOD IV.

PAN OEDD BESS YN TEYRNASU.

WEDI hyn daeth y Frenhines Elizabeth i'r orsedd. Teyrnasodd yn hir, ac y mae y cyfnod hwnw yn cael ei alw yn fynych yn 66 oes aur yn hanes Prydain. Yr oedd cewri ar ddaear ein gwlad yn y dyddiau hyny. Cynrychiolid gwleidyddiaeth gan Arglwydd Burleigh: gogoniant milwrol gan Syr Walter Raleigh: y Llynges gan Drake: llenyddiaeth a'r ddrama gan Spenser a Shakespeare.

Coleddid gobeithion uchel gan amddiffynwyr a charedigion rhyddid, -rhyddid cydwybod a barn-ar adeg esgyniad Elizabeth i'w gorsedd yn 1558. O ran proffes yr ydoedd yn Brotestant, ond Protestant ar lun a delw ei thad, Harri'r Wythfed.

DEDDFAU GORTHRWM.

Yn nechreu ei theyrnasiad pasiwyd deddfau oeddynt yn llawn o elfennau gorthrwm a thrais. Yn eu plith yr oedd

(1) Deddf Unbenaeth (Act of Supremacy). Gofynid i bawb oedd yn derbyn swydd gyhoeddus i ddatgan trwy lŵ mai y Frenhines oedd unig bennaeth yr Eglwys a'r Wladwriaeth, a hyny mewn pynciau gwladol ac ysbrydol. Yr oedd miloedd yn y deyrnas nas gallent blygu i Baal yn y peth hwn.

(2) Deddf Unffurfiaeth (Act of Conformity).—Yn ol y ddedf hon rhoddid gorfodaeth ar bob gweinidog i ddefnyddio y Llyfr Gweddi Gyffredin yn mhob gwasanaeth crefyddol. Yr oedd y sawl a ddywedai air yn erbyn y Llyfr hwnw i gael ei gospi. Gorchymynid i bob dyn a dynes roddi eu presenoldeb yn eglwys y plwy unwaith, o leiaf, bob Sabboth, neu dalu dirwy o ddeuddeg ceiniog am y trosedd. Arweiniodd hyn i erledigaeth boenus a maith. Yr oedd y Frenhines a'i chyngorwyr wedi gosod eu bryd ar Unffurfiaeth, ac ni arbedent neb na dim oedd yn sefyll ar ffordd eu hamcan. Oherwydd hyn cafodd y cyfnod oedd ar lawer cyfrif yn "oes euraidd" ei ddifwyno a'i hacru gan weithredoedd creulawn tuagat y sawl oedd yn credu mewn ufuddhau i Dduw yn hytrach nac i ddynion.

Yr oedd Uchel Lys Dirprwyaeth yn eistedd yn barhaus, a chafodd llu mawr o Anghydffurfwyr eu condemnio gan y Llys hwn, a'u rhoddi i farwolaeth. Yn eu mysg yr oedd dau wr sydd, bellach, yn enwau cysegredig yn y deyrnas—

GREENWOOD A BARROW.

Am ysgrifennu yr hyn oedd groes i syniadau yr Uchel Lys a'r "Star Chamber," cawsant eu dedfrydu i'r crogbren. Dioddefasant eithaf cyfraith anghyfiawn yn Tyburn, lle y dienyddid mwrddwyr a gwehilion cymdeithas.

JOHN PENRI.

Ond yn mysg llu y merthyron yn nyddiau y Frenhines Elizabeth yr un sydd yn cyffwrdd ddyfnaf â'n calonnau ydyw hanes John Penri. Ganwyd ef yn Cefnbrith ar fynyddoedd Eppynt yn y fl. 1559. Gadawodd Gymru yn gynar ar ei oes, a cheir ef yn efrydydd yn Nghaergrawnt. Pabydd zelog ydoedd yn nechreu ei fywyd, ond daeth dan. ddylanwad y Piwritaniaid. Mynychai eu cyfarfodydd : hoffodd eu hegwyddorion, a thorodd goleuni gwirionedd ar ei feddwl. Mewn canlyniad i'w argyhoeddiad personol ei hun, y mae'n dod i deimlo awyddfryd angherddol am weled Cymru yn mwynhau llewyrch a chysur Efengyl bur. Daeth y peth hwn i losgi fel tân yn ei esgyrn. Gwnaeth apeliadau taerion at y Frenhines a'r Senedd am iddynt wneyd rhywbeth dros efengyleiddiad Cymru,—rhywbeth i leihau yr anwybodaeth dygn oedd fel hunllef ar ein gwlad. Apeliai am bregethwyr Cymreig: rhai yn gallu meddwl a llefaru yn iaith y bobl; rhai yn byw gyda'r bobl, ac nid yn ffarmio bywiolaethau breision heb ddod un amser i'w golwg, heb son am wneyd unrhyw ddaioni ysbrydol i'r trigolion. Pwrcasodd Penri argraffwasg i'r amcan o ledaenu ei olygiadau, a thrwy gynorthwy hono gwasgarwyd amryw draethodau ar hyd a lled y wlad. Wrth weled yr awdurdodau yn para mor glust-fyddar, cafodd Penri ei demtio i ysgrifenu pethau lled chwerw am yr Uchelwyr a'r Esgobion. Mewn canlyniad i hyn, syrthiodd dan wg yr Archesgob Whitgift. Dygwyd ef gerbron yr Uchel-lys a bwriwyd ef i garchar. Cafodd ei ysbryd tyner ei glwyfo yn ddwfn, a phan ollyngwyd ef yn rhydd ysgrifennodd yn fwy chwerw am yr awdurdodau oeddynt yn anwybyddu pob cais i ddarpar ar gyfer angen ysbrydol Cymru. Wedi bod ar ffô yn yr Alban, daliwyd ef drachefn, a chafodd ei gollfarnu i farw yn mlodau ei ddyddiau. Y mae ei lythyrau diweddaf at ei briod a'i blant yn mysg y pethau mwyaf toddedig a ysgrifenwyd erioed.

Yn mis Mai, 1593, ar bwys gwarant wedi ei harwyddo gan yr Archesgob Whitgift, dienyddiwyd y gwladgar a'r seraphaidd John Penri, yn 34 mlwydd oed, ac nis gŵyr neb le y mae man fechan ei fedd."

Ond, fel y dywedai Mr. O. M. Edwards, pan yn ysgrifennu am dano, y mae wedi dyfod yn "fis Mai," bellach, ar yr achos y bu John Penri fyw a marw er ei fwyn. Heddyw pregethir efengyl y deyrnas drwy Gymru oll,—

O Lanandras i Dy-ddewi
O Gaergybi i Gaerdydd.


Cefn Brith

Y mae'r iaith Gymraeg yn fyw, ac i fyw. Y peth nesaf fydd codi colofn deilwng ar fynyddau Eppynt er coffadwriaeth ddidranc am y gwron ieuanc o'r Cefnbrith.

Gallesid lluosogi esiamplau lawer, ond gwell genym ymattal. Peth cyffredin yn y cyfnod hwn ydoedd i bobl. barchus, grefyddol, gael eu llwytho â heiyrn, eu taflu i garcharau gyda scum cymdeithas, a'u gadael yno i ddihoeni—weithiau am flynyddau—heb roddi un math o brawf arnynt. A phaham? A oeddynt yn euog o droseddau anfad? A oeddynt yn taflu diystyrwch ar gyfraith gwlad? Nac oeddynt ddim. Pe felly buasai eu tynged yn gyfiawn. Eu hunig gamwedd ydoedd eu bod yn methu derbyn y golygiadau a'r gwasanaeth a wthid arnynt gan y Frenhines a'i chyngorwyr. Dioddefasant oherwydd cydwybod, a thros egwyddor a gredir yn ddiameu yn ein plith, mai "rhydd i bob dyn ei farn, ac i bob barn ei llafar."

Y "SPANISH ARMADA."

Cymerodd amgylchiad le tua chanol teyrnasiad Elizabeth a liniarodd y sefyllfa adfydus hon am dymhor. Yr oedd y deyrnas yn yr adeg hon yn Brotestanaidd o ran proffes, er fod gweithredoedd cwbl groes i ysbryd Protestaniaeth yn cael eu cyflawni ynddi. Ond dyna oedd cyffes ffydd y Frenhines a'i Llys. Yn y cyfamser, gwnaed ymgais i ennill Prydain yn ol dan awdurdod y Pab. Blaenor yr ymgyrch hon ydoedd Phillip o Ysbaen,—erlidiwr dihafal. Ei ddrychfeddwl ef oedd y Llynges. anferth, herfeiddiol hono a adwaenir wrth yr enw "Armada." Yr amcan oedd glanio yn Lloegr, a goresgyn y wlad. Pan ddaeth y newydd i'r deyrnas hon ymunodd pob plaid, pob gradd, i wrthwynebu y gelyn. Ffurfiwyd arflynges Brydeinig ar y Dafwys. Aeth y Frenhines yn bersonol i Tilbury; ac yno, oddiar ei rhyfel-farch, traddod odd araeth wladgarol i'w byddin a'i deiliaid. Yna aed i gyfarfod y gelyn. A thrwy ddewrder ein môr-filwyr, yn nghyda chynorthwy werthfawr ystorm o wynt oedd yn

Y FRENHINES ELIZABETH

(Oes euraidd llenyddiaeth Seisnig),


chwythu i lawr y Sianel ar y pryd, gorchfygwyd llynges fostfawr Ysbaen. Ychydig o longau bregus a ddychwelasant i gludo hanes y methiant truenus hwn i'r ymherawdwr.

Y TADAU PERERINOL.

Cafodd llanw Pabyddiaeth ei droi yn ol, ond yr oedd rhyddid crefyddol yn parhau mewn stad isel ac amherffaith. Parheid i fino a charcharu yr Anghydffurfwyr. Ffodd lluaws ohonynt i Holland, lle y cawsant gysgod a nodded. Wedi bod yno am nifer o flynyddoedd meddyliasant am ymfudo; ffurfio trefedigaeth iddynt eu hunain dros y môr yn y Byd Newydd, lle y cawsent addoli Duw yn unol âg argyhoeddiadau eu cydwybod. Dyna'r Tadau Pererinol. Ymadawsant gyda'r llestr hanesyddol hono-y “Mayflower" yn 1621. Wedi mordaith faith a blin, glaniasant yn Lloegr Newydd. Blaenor y fintai oedd Roger Williams. Y mae dylanwad eu bywyd pur, a'u hannibyniaeth wronaidd yn aros hyd y dydd hwn. Defnyddiwyd hwy gan Ragluniaeth i buro ffynhonell y dyfroedd, ac i osod seiliau cedyrn i deml rhyddid a chydraddoldeb yn ngwlad fawr ymfudiaeth a chynydd.

CYNADLEDD HAMPTON COURT.

Awn rhagom i ddyddiau Iago'r Cyntaf, yr hwn a ennillodd iddo ei hun yr enw o "ynfyttyn dysgedig." Anfonodd y Piwritaniaid ddeiseb at y brenhin hwn yn erfyn am ddiwygiad mewn materion crefyddol. Arweiniodd hyn i'r Gynadledd a gynhaliwyd yn 1604, yr hon a adwaenir wrth yr enw "Cynadledd Hampton Court." Gwrthododd y brenhin gydsynio â'r hyn a ofynid ganddo, ond deilliodd un daioni o'r gynadledd siomedig hono. Yno y rhoddwyd cychwyn i'r gwaith ardderchog a wnaed yn y blynyddau dilynol,—y "Cyfieithiad Awdurdodedig o'r Beibl." Cyhoeddwyd hwnw yn y fl. 1611, ac y mae yn aros yn oruchaf hyd y dydd hwn.

OLIVER CROMWELL

(Daeth efe yn flaenor y Weriniaeth).

PENNOD V

Y RHYFEL CARTREFOL.

NA daeth Siarl I. a'i deyrnasiad cyffrous,—y gwrthdarawiad rhwng y Brenhin a'r Senedd, a'r Rhyfel Cartrefol. Wedi brwydro caled a maith, gorchfygwyd plaid y brenhin. Cymerwyd yntau i'r ddalfa, rhoddwyd ef ar ei brawf yn Westminster, ac ar ol ymchwiliad llym, cafodd ei ddedfrydu i golli ei goron a'i ben. Dienyddiwyd ef yn Whitehall yn 1649.

CROMWELL.

Un o ddynion mwyaf, hynotaf y cyfnod hwn ydoedd Cromwell. Efe oedd prif amddiffynydd rhyddid gwladol a chrefyddol yn erbyn gormes a thraha y brenhin a'i lys. Codwyd ef yn arweinydd pobl mewn argyfwng pwysig. Puritan manwl oedd Cromwell o ran ysbryd a moes, ac yr oedd ganddo fyddin o wŷr o gyffelyb feddwl. Gelwid hwy yn "Ironsides,"-yr "ochrau dur." Yr oeddynt yn anorchfygol. Daeth Cromwell yn flaenor y weriniaeth: ei ysgrifenydd cartrefol oedd John Milton, awdwr "Coll Gwynfa." Dyna ddau o arwyr rhyddid,-y naill yn gwasanaethu ei wlad gyda'r cledd, y llall gyda'r ysgrifell : y naill yn gwasanaethu ei oes, y llall yn gwasanaethu yr oesoedd oll. ******* Claddwyd Cromwell yn Westminster Abbey, ond taflwyd anfri ar ei weddillion. Codwyd ei esgyrn o'r bedd, a llosgwyd hwy ar yr heol. Yr oedd y weithred hono yn arwyddocaol o hanes ei goffadwriaeth am ddau can mlynedd. Gwarthnodid ei enw. Delweddid ef fel corphoriad o bobpeth isel a gwaradwyddus; pobpeth drwg a dieflig. Gelwid ef yn rhagrithiwr, yn garnfradwr, ac yn

JOHN MILTON

(Ysgrifenydd Cartrefol Cromwell, ac awdwr Coll Gwynfa").

elyn pob daioni. Taflai pob hanesydd o'r braidd gareg ar ei garn. Ond daeth amser i newid y ddedfryd. Yn ngeiriau grymus Hiraethog,-

Archangel o lenorydd, saif uwch ben
Y garnedd fawr o ddirmyg, dan yr hon

Gorwedda enw Cromwell, wrth ei fant
Y dyd ei udgorn mawr, gan sugno i mewn
Lond ei ysgyfaint gref o awyr, gan
Ei thywallt wedyn yn ei udgorn, nes
Dyrchafa udgorn floedd, gan sain yr hwn
Ysgydwai'r deyrnas drwyddi o gŵr i gŵr :-
"Ti, Cromwell, tyred allan!" fydd y floedd
Ac allan daw, gan chwalu carn ei fedd,
Ac ysgwyd ymaith yr holl lwch a llaid
A daflwyd arno, fel ysgydwa llew
Y gwlith oddiar ei fwng, a saif ger bron
Yr oesau ddeuant yn ei liw ei hun.

Bellach, y mae'r arch-lenorydd wedi ymddangos. Drwy ymchwiliad haneswyr fel Carlyle, Green, a Gardiner, y mae gwir gymeriad Cromwell wedi ei ddadlenu ger bron y byd. Nid ydoedd yn ddifai, ond yr oedd pellder anfesurol rhwng ei fywyd anhunangar ef a'r eiddo mwyafrif ei elynion. Yr oedd ystyriaethau crefyddol dwfn o dan ei holl weithredoedd; ond nid oedd ei olygiadau ar ryddid-er cymaint a wnaeth dros yr egwyddor-yn ddigon ehang ar bobadeg. Un prawf o'r diffyg hwn oedd ei ymddygiad tuagat y Crynwyr. Gwrthodent hwy gymeryd y llŵ cyfreithiol, a gwahaniaethent oddiwrth y Piwritaniaid mewn pynciau athrawiaethol. Cafodd llu ohonynt eu bwrw i garcharau, a'u fflangellu yn gyhoeddus. Dengys y pethau hyn na ddylai un gallu gwladol-pa mor dda bynag y byddogael rheoli barnau dynion mewn pwnc o grêd.

YR ANGHYDFFURFWYR CYMREIG.

Yn y blynyddau yr ydym wedi cyfeirio atynt-amseroedd Charles I. a Chromwell, yr oedd yn Nghymru amryw o wŷr oeddynt yn ymladd brwydrau rhyddid a gwirionedd..

WILLIAM WROTH.

Yn eu mysg yr oedd William Wroth. Derbyniodd efe ei addysg yn Rhydychen. Yn y fl. 1620, cafodd blwyfoliaeth Llanfaches, sir Fynwy. Yr oedd yn llawn haner cant oed cyn profi argyhoeddiadau crefyddol yn ei ysbryd ei hun. Daeth hyny oddiamgylch mewn modd hynod. Ymddengys fod Wroth yn dra hoff o'r delyn a'r crwth. Mynych y chwareuai yn mynwent y plwy er difyrru'r bobl ar y Sabboth. Ac un adeg yr oedd cyfaill iddo ar fedr ymweled â Llundain,—digwyddiad lled bwysig yn y dyddiau hyny. Cyn cychwyn oddicartref addawodd brynu telyn newydd i'r ficer yn y brif-ddinas. Aeth yr ymdeithydd i'w ffordd, a mawr oedd disgwyliad Wroth am y delyn newydd. Ond ni ddychwelodd yr ymwelydd i Lanfaches. Bu farw ar y daith. Troes y disgwyl yn siomedigaeth, ygorfoledd yn alar. Ond bu y brofedigaeth yn foddion gras i William Wroth. Taflwyd diflasdod ar y delyn a'r crwth, ac yn lle difyrru'r plwyfolion yn y fynwent, ymroddodd i bregethu o ddifrif yn yr eglwys.

Bendithiwyd ei ymdrechion. Argyhoeddwyd llawer, ac yn eu plith yr oedd gŵr ieuanc o'r enw Walter Cradoc..

Ond dechreuodd y gelyn gynhyrfu yn ei erbyn. Yr oedd pob croesaw i William Wroth chwareu'r delyn yn y fynwent ar y Sabboth, ond nis gellid goddef iddo godi ei lef yn yr eglwys yn erbyn halogi'r Sabboth, ac ymroi i oferedd. "Llyfr y Chwareuon" oedd y maen tramgwydd.. Dyna brif lyfr ficer Llanfaches am flynyddau; ond wedi agoryd ei lygaid i sylweddau ysbrydol, nis gallai edrych arno, chwaethach ei ddarllen i'w blwyfolion.

Cafodd ei fwrw allan o'r Eglwys Sefydledig. Casglodd gynulleidfa yn nghyd yn Llanfaches; ac yno, yn y fl.. 1639, y sefydlwyd yr Eglwys Anghydffurfiol gyntaf yn Nghymru.

WALTER CRADOC.

Syrthiodd mantell Wroth ar Walter Cradoc. Ganwyd ef yn y fl. 1600, yn Nhrefela, ger Llanfaches. Hanai o deulu cyfrifol. Addysgwyd yntau yn Rhydychen, a bwriedid iddo fod yn offeiriad. Aeth i wrando William Wroth, a phrofodd ddylanwad yr Efengyl ar ei galon. Daeth yn ddyn newydd, ac yn genad hedd i'w wlad. Bu am dymhor yn gurad yn Nghaerdydd, ond tynodd wg yr awdurdodau. Gwysiwyd ef i ymddangos o flaen yr archesgob Laud yn Lambeth, a chollodd guradiaeth Caerdydd.

Yn 1632, ceir ef yn Ngwrecsam. Bu yn dra llwyddianus yno fel efengylydd. Pregethai gyda gwres a grym. Dychwelwyd llawer o gyfeiliorni eu ffyrdd, ac yn eu plith yr oedd y gŵr hynod hwnw-Morgan Llwyd o Wynedd. Ond cododd ystorm yn ei erbyn. Blaenor y gad oedd bragwr o'r enw Timothy Middleton. Methai a gwerthu'r ddiod frag, a rhoddai y bai ar weinidogaeth Walter Cradoc. Penderfynodd y bragwr ei ymlid ymaith, a llwyddodd yn ei gais. Symudodd Cradoc i swydd Hereford, ac yno bu yn foddion i ddychwelyd Vavasor Powell i'r ffydd. Teithiodd Cradoc lawer ar hyd a lled y Dywysogaeth. Ar un o'r teithiau hyny y darfu i Morgan Howell, prydydd o sir Aberteifi, ei warthnodi gyda'r englyn anfarwol (?) a ganlyn:

Dyma fyd, trwm ofid, i'w drin,—nid pregeth
Ond bregiach heb wreiddyn;
Gan ryw Gradoc o grwydryn:
Cenhadwr d---l, swynhudawl ddyn.

Ond, yn mhen amser wedyn, aeth yr englyn a'r awdwr dan gyfnewidiad hynod. Yr oedd Walter Cradoc yn pregethu mewn mangre yn Aberteifi, a Morgan Howell, gydag eraill, yn chwareu'r bêl droed ar y cae lle y safai y pregethwr. Amcan Morgan oedd rhoddi hergwd i'r bêl fel ag i daro y pregethwr yn ei wyneb. Ond darfu i rywun ei dripio; torodd ei goes, a gorfu iddo orwedd gerllaw hyd ddiwedd yr oedfa. Aeth saethau y gwirionedd i'w galon, a throes ei elyniaeth yn gyfeillgarwch at y pregethwr a'r Efengyl a gyhoeddwyd ganddo. Rywbryd ar ol hyny, ceisiodd ddiwygio'r hen englyn, fel hyn,—

Gan Gradoc, gwr enwog, câr i'n—cawn bregeth,
Nid bregiach heb wreiddyn:
Y gair gwir, tyst cywir, yw'r testyn,-
Cenhadwr Duw, a hynod ddyn.

Yr oedd Walter Cradoc yn Mristol yn ystod y gwarchae, yn adeg y rhyfel rhwng y Brenhin a'r Senedd. Cafodd ddianc o'r dref drwy garedigrwydd milwr. Yn 1647, ceir ef yn Llundain, wedi ei bennodi yn bregethwr yn All Hallows, drwy orchymyn Cromwell. Bu farw yn Nghymru, ar ddydd Nadolig, 1659. Gelwid ei ddilynwyr yn Gradociaid, ac arhosodd yr enw yn ein gwlad hyd ddyddiau y Diwygiad Methodistaidd.

VAVASOR POWELL.

Brodor o Faesyfed oedd Vavasor Powell. Hana o hen deulu urddasol. Yr oedd yn foneddwr ac ysgolhaig gwych. Dychwelwyd ef drwy weinidogaeth Walter Cradoc. Ymroddodd i bregethu'r Efengyl. Teithiodd drwy Gymru a rhanau o Loegr. Profodd erledigaethau chwerw, a chafodd ddiangfeydd gwyrthiol. Yr oedd yn wr o gyfansoddiad cadarn, ac yr oedd ei wybodaeth Feiblaidd yn ddiarhebol. Cysegrodd ei hun a'i feddiannau i achos yr Efengyl. Yr oedd ei dŷ'n llety fforddolion, a dywedir ei fod yn rhoddi y bumed ran o'i holl dda ar allor crefydd. Ond llesteiriwyd ef yn ei waith bendithiol. Taflwyd ef o'r naill garchar i'r llall, ac o'r diwedd i garchar y Fleet yn Llundain. Dodwyd ef mewn cell afiach a drygsawrus, ac yno y bu'n dihoeni am un-mlynedd-ar-ddeg am ddim ond pregethu'r Efengyl i'w gydwladwyr. Yn y carchar hwnnw y bu farw yn y fl. 1670, pan nad ydoedd ond 53 mlwydd oed. Ond yr oedd wedi hau hâd gwerthfawr yn naear Cymru, ac efe a drodd lawer i gyfiawnder.

PENNOD VI.
"Y DYDD HWNNW."

DYCHWELWN i edrych ar ystad pethau yn Lloegr. Wedi marw Cromwell diflanodd ysbryd y Weriniaeth. Glaniodd Charles II. yn Dover yn 1660. Cyn croesi drosodd i'r wlad hon yr oedd Charles wedi arwyddo Cytundeb yn ymrwymo i ganiattau rhyddid cydwybod ar bynciau crefyddol. Ond yr oedd addewidion y gwr hwnw, fel ei gymeriad, yn ansefydlog fel dwfr. Cyfarfyddodd nifer o esgobion ac arweinwyr y Piwritaniaid ar gais y brenhin, yn mhalas Savoy, ond nid oedd y drafodaeth yn meddu unrhyw ddylanwad gwirioneddol. Yr oedd Charles yn fab i'w dad, ac yn elyn i'r Piwritaniaid. Yn y flwyddyn ganlynol cafodd Deddf Unffurfiaeth ei hadgyfodi, a'i rhoddi mewn llawn rym. Gosodid gorfodaeth ar bob gweinidog i ddefnyddio y Llyfr Gweddi Gyffredin, ac i ddarllen "Llyfr y Chwareuon i'w plwyfolion.

"Y DDWY FIL."

Daeth y ddeddf hono i rym Awst 24, 1662, a'r "Sabboth oedd y diwrnod hwnw." Dyna'r adeg y troes y "Ddwy Fil," o fendigaid gof, allan o Eglwys Loegr, gan adael eu cartrefi, eu cyflogau, eu pobpeth, yn hytrach na bradychu. eu hegwyddorion. Yn eu plith yr oedd John Howe, Dr. Owen, Thomas Goodwin, Richard Baxter, &c., meddylwyr, duwinyddion, a phregethwyr penaf yr oes.

DEDDF Y TY CWRDD.

Wedi hyn pasiwyd Deddf y Ty Cwrdd (Conventicle Act). Lle bynag y ceid pump o bersonau yn cyd-addoli mewn ty annedd, yr oedd pob un yn agored i ddirwy o £5, neu dri mis o garchar. Yr ail dro codai y ddirwy i £10, a'r trydd tro i £100, neu alldudiaeth am oes.

DEDDF Y PUM MILLDIR.

Ategwyd hon gan Ddeddf y Pum Milldir. Gwaherddidi'r gweinidogion oeddynt wedi gwrthod cyd-ffurfio, ddyfod o fewn pum milldir i'r fan y buont yn gwasanaethu yn flaenorol, nac o fewn pum milldir i unrhyw ddinas neu dref. Os troseddid y ddeddf hon, cosbid y cyfryw gyda dirwy o £40, neu chwe mis o garchar. Cyfrifir fod tua 60,000 o bersonau wedi dioddef yn herwydd y deddfau gormesol hyn, a bod dros bum mil ohonynt wedi meirw yn ngwahanol garcharau'r deyrnas.

JOHN BUNYAN.

Yn mysg y dioddefwyr hyn yr oedd John Bunyan. Treuliasai efe foreu ei oes mewn anystyriaeth, ond cafodd ei argyhoeddi, fel ei "Bererin" ei hun; gadawodd Ddinas Distryw a daeth yn ymdeithydd tua'r Ganaan nefol. Galwyd ef i'r swydd o bregethwr, a thra yn arwain gwasanaeth crefyddol, cymerwyd ef i'r ddalfa, a thaflwyd ef i garchar Bedford. Yno y bu am ddeuddeg mlynedd; yno yr ysgrifennodd ei freuddwyd anfarwol-"Taith y Pererin." Y mae y breuddwyd hwnw, bellach, wedi dod yn rhan o lenyddiaeth y byd, ac y mae y gwerinwr a'r ysgolor yn cyd-wledda ar y golygfeydd a linellwyd gan ddychymyg Bunyan yn nhy ei bererindod.

RICHARD BAXTER

(Awdwr Tragwyddol Orphwysfa'r Saint").

PENNOD VII.
DYDDIAU CYMYSG.

AWN rhagom i ddyddiau Iago II,—penboethyn Pabaidd. Cafodd y brenhin ŵr wrth fodd ei galon yn y dynsawd cigyddlyd hwnnw a adwaenir fel y Barnwr Jeffreys. Yr oedd ef yn ymloddestu mewn dirdynnu, a dienyddio Anghydffurfwyr. Yn mysg y sawl a wysiwyd gerbron y "barnwr anghyfiawn" yr oedd

RICHARD BAXTER,

awdwr y llyfr nawsaidd hwnnw "Tragwyddol Orphwysfa'r Saint."

Yr oedd Baxter yn un o saint gloewaf ei ddydd. Daeth tref Kidderminster, yn adeg ei weinidogaeth ef, yn Baradwys mewn crefydd a moes. Yr oedd Baxter, fel y sylwyd eisoes, yn un o'r Ddwy Fil. A phan yn hen wr, gorfu iddo ymddangos o flaen y Barnwr Jeffreys,—angel ac anghenfil wyneb-yn-wyneb; ac yn anffodus yr anghenfil oedd ar orsedd barn, ac anfonwyd yr angel-bregethwr i garchar. Yr oedd y gosb yn ysgafn o'i chydmaru â llawer dedfryd anynol o eiddo'r Barnwr Jeffreys. Y mae arwyddair Richard Baxter yn werth ei gofio, ac yn ddatguddiad o lydanrwydd ei feddwl a'i syniadau : "Mewn pethau hanfodol, undeb mewn pethau amheus, rhyddid: yn mhob peth cariad." Ymdaith at ysbryd arwyddair Baxter y mae goreugwyr y byd.

Arweiniodd penboethni Iago II. i chwyldroad yn y deyrnas, ac yn y fl. 1688 glaniodd William, Tywysog Orange, yn Torbay.

"DEDDF GODDEFIAD."

Yr oedd esgyniad William III., yn ddechreuad cyfnod newydd. Un o'r cyfreithiau cyntaf a basiwyd ydoedd Deddf Goddefiad (Toleration Act). Drwy ddarpariaeth yr act hon, cafodd egwyddor Anghydffurfiaeth ei chydnabod ar ddeddf-lyfrau Prydain. Nid ydoedd ond Goddefiad, ond yr oedd hyny'n gydnabyddiaeth o hawliau crefydd rydd a dilyfeithair i fodoli, a hyny dan nawdd ac amddiffyn cyfraith y tir. Nid ydoedd, ac nid ydyw Deddf Goddefiad, yn rhoddi safle gydbwys i Anghydffurfiaeth ag a roddir i'r Eglwys Sefydledig, ond yr ydoedd yn rhag-redegydd i ddiwrnod claer rhyddid a chydraddoldeb. Nid oedd dyddiau erlid a gormes ar ben. Gwelwyd yr ysbryd hagr hwnw ar waith yn nglŷn â'r diwygiad crefyddol yn Nghymru. Cafodd Howell Harris, Daniel Rowland, Peter Williams, &c., brofi nerth rhagfarn, cynddaredd, a chreulon deb offeiriaid a gwerin am flynyddau. Ond er gwaethaf llid y gelyn, yr oedd llanw Rhyddid yn codi, ac egwyddorion crefydd Crist yn lefeinio meddwl y wlad. Yr oedd yn y Diwygiad hwnw nerthoedd cuddiedig oeddynt yn llawer cryfach ac ehangach na'r diwygwyr eu hunain. Ar ambell awr, deuai ysbryd cul, ceidwadol i'w llywodraethu hwy, ac i dywyllu eu gweithredoedd ; ond yr oedd egwyddor fawr Rhyddid yn mynd rhagddi o hyd, gan orchfygu, ac i orchfygu.

PENNOD VIII.

CAMRAU RHYDDID.

DEUWN, bellach, i ddyddiau teyrnasiad ein Grasusaf Frenhines Victoria. Y mae, weithian, 60 mlynedd o'r bron er pan y mae yn gwisgo aur goron y byd ar ei phen." Yn ystod y blynyddau hyny, y mae Cyfrol Hanes wedi chwyddo'n aruthrol. Ehangwyd terfynau yr Ymherodraeth; chwanegwyd miliynau at rifedi deiliaid Prydain. Gwnaed darganfyddiadau pwysig, a dyfeisiau afrifed Cyfoethogwyd llenyddiaeth, a chafodd trysorau gwybodaeth eu dwyn i afael pob gradd.

Dyma oes y rheilffyrdd, y pellebyr, y goleuni trydanol a phelydrau Röntgen. Y mae ysbryd Dyngarwch wedi esmwythau adfyd, ac wedi diogelu bywyd miloedd rhag anffodion a thrueni. Y mae bywyd y gweithiwr wedi ei oleuo a'i gyfnerthu gan ymdrechion caredigion Rhyddid yn Senedd ein gwlad. Ac y mae rhyddid crefyddol wedi rhoddi camrau breision ymlaen yn ystod teyrnasiad Victoria. Nodwn rai o'r camrau hyn.

Y PRIF-YSGOLION.

Cafodd drysau y Prif-ysgolion eu hagor i feibion Ymneillduwyr. Mewn canlyniad y mae llu mawr o Ymneillduwyr ieuainc, heb orfod gwerthu eu genedigaeth-fraint, wedi mwynhau addysg, ac wedi ennill graddau uchaf yr athrofeydd. Erbyn heddyw, y maent yn mysg y darlithwyr a'r athrawon, ac y mae "Cymry Rhydychen" a Chaergrawnt yn arwain y mudiad i "godi'r hen wlad yn ei hol.'

YN YR YNYS WERDD.

Cam arall ar y llwybr ydoedd Dadgysylltiad yr Eglwys yn yr Iwerddon. Ni wnaeth Mr. Gladstone un gymwynas fwy i'r Eglwys Wladol na'i dadgysylltu yn yr Ynys Werdd. Y mae llwyddiant a chynydd wedi dilyn y gwaith.

Y DRETH EGLWYS.

Deddf oedd hon yn gorfodi pob trethdalwr i gyfranu. swm blynyddol at draul glanhau ac adgyweirio yr eglwysi plwyfol. Rhoddodd fod i lawer golygfa annymunol. Gwerthid eiddo Ymneillduwyr oeddynt oddiar argyhoeddiadau cydwybod, yn gwrthod talu y dreth. Proffwydid pethau difrifol os caffai y dreth eglwys ei diddymu. Haerid y byddai yr eglwysi plwyfol yn mynd yn adfeilion, a'r mynwentydd yn ddiffaethle anghyfaneddol. Ond ni ddaeth y broffwydoliaeth i ben.

DEDDF Y CLADDU.

A dyna'r Ddeddf Gladdu. Y mae hon yn estyn hawl i Ymneillduwyr i alw am wasanaeth eu gweinidogion eu hunain i gladdu eu hanwyliaid. Nid yw y Ddeddf yr hyn y dylai fod; y mae llawer rhyngddi a'r perffeithrwydd y daw iddo yn y man. Y mae rhan fawr o'r diffyg hwn yn gorwedd wrth ddrws Ymneillduwyr egwan a chlaiar.

ARWEINWYR Y BOBL.

Pwy oedd cymwynaswyr rhyddid crefyddol yn y cyfnod hwn? Pwy oedd yn arwain yn nydd y gad?

EDWARD MIALL.

Un ohonynt oedd Edward Miall, golygydd y "Nonconformist," ac apostol yr Eglwysi Rhyddion. Cysegrodd efe ei ysgrifell a'i ddoniau i wasanaethu y rhyfelgyrch hwn.

HENRY RICHARD.

A phwy all anghofio llafur Henry Richard? Y gŵr a amddiffynodd Wlad y Bryniau yn wyneb Brad y Llyfrau Gleision, ac a gysegrodd ei oes lafurus i achos heddwch a rhyddid crefyddol. Fel gwleidyddwr, gelwid ef yr "aelod dros Gymru." Bu ei ysgrifeniadau amddiffynol i foesau a chrefydd ei wlad yn agoriad llygaid i lawer, heblaw Mr. Gladstone, yn ol ei addefiad ei hun.

GLADSTONE.

Ar y rhestr hon yr ydym yn rhwym o ysgrifennu enw y gwron sydd, bellach, wedi ymneillduo oddiwrth fywyd cyhoeddus,—William Ewart Gladstone. Ymladdodd efe frwydrau rhyddid am haner canrif—a phan wedi pasio gorsaf y pedwar ugain mlynedd o ran oedran, nis gallai ymattal heb godi ei lef—udgorn-floedd y dyddiau gynt—o blaid dioddefwyr Armenia dan sawdl haiarnaidd y Twrc.

PA BETH SYDD WEDI EI ENNILL?

Pa beth sydd wedi ei ennill yn y frwydr yr ydym wedi bod yn dilyn ei chwrs drwy wahanol oesau, ac mewn gwahanol wledydd?

Pa ragoriaeth sydd i Gymry ieuanc y dydd hwn? Pa fudd sydd o ymdrechion y Tadau, hen a diweddar? Gellir ateb,—llawer yn mhob rhyw fodd. Oherwydd, yn gyntaf ac yn benaf, "ddarfod ymddiried iddynt am ymadroddion Duw——Gair y Gwirionedd. Dyna "Magna Charta" rhyddid a rhagorfreintiau dyn. Pan ddaeth y Beibl i iaith ac i gyrhaedd y bobl, yr oedd dyddiau caethiwed wedi eu rhifo.

Nis gellir codi y stanc a'r ffagodau mwy. Y mae Deddf Unffurfiaeth ac Unbennaeth ysbrydol wedi mynd yn llythyren farw am byth. Ond y mae tir lawer eto i'w feddiannu. Yr ydym wedi sangu ar Ganaan Rhyddid. Y mae caerau ambell i Jericho wedi eu bwrw i lawr, ond y mae Canaaneaid eto yn aros yn y tir. Awn a meddianwn y wlad.

BANER RHYDDID.

Yn y cyfamser, bydded i ni dynu nerth ac ysbrydiaeth o esiamplau—bywyd a gwaith—y gwŷr godidog sydd wedi ein rhagflaenu yn y gâd. Safwn yn y rhyddid a ennillasant hwy, a chyd-ymroddwn i estyn ei derfynau. I ryddid yr ydym wedi ein galw; na fyddwn anufudd i'r weledigaeth nefol. Na ddalier ni drachefn dan iau caethiwed. Cyd-drefnwn ein rhengau: suddwn ein mân-wahaniaethau, —close the ranks! Byddwn ffyddlawn i draddodiadau y gorphenol ymestynwn at addewidion y dyfodol. Parchwn, anwylwn yr hen faner sydd wedi bod yn cyhwfan mewn mil o frwydrau. Y mae ysbrydion gwroniaid yn hofran o'i deutu y mae wedi ei llychwino â gwaed y merthyron, ond y mae Buddugoliaeth yn dilyn ei cherddediad, a chysgodion y nos yn ffoi o'i blaen. A pha ryfedd? Ei harwyddairyw rhyddid, a "Gair Duw yn uchaf."



BANER RHYDDID.

I.


Boed baner wen Rhyddid yn chwyfio'n y gwynt,.
Diddymer caethiwed a gormes,
Ysbrydiaeth a glewder y Tadau dewr gynt
Fel llanw fo'n chwyddo pob mynwes;
Mae angel gwarcheidiol gwladgarwch yn awr,
Ar aelgerth y clogwyn yn gwylio,
A heddwch yn gwenu drwy ddorau y wawr
Tra baner wen Rhyddid yn chwyfio.

II.


Mae gweddi dynoliaeth yn esgyn i'r nef,
Ac adlais a leinw'r awelon,—
Teyrnasa cyfiawnder, ei gorsedd sy' gref,
Caiff Rhyddid deyrnwialen a choron.
Ymlidir cysgodion y fagddu o'r tir,
Mae Trais yn ei garchar yn crynu,—
Byw byth y bo Rhyddid, mawryger y gwir,—
A choder y faner i fyny.


III.


Cydchwyfiwn y faner yn entrych y nen,
Daw llwyddiant i wasgar ei wenau,
Mae cain dduwies addysg yn dyrchu ei phen,
A sobrwydd yn sychu ei dagrau;
Hen gestyll trueni ddymchwelir i gyd,
Daw purdeb a moes i flodeuo,
Ac ar ein mynyddau drwy oesau y byd,
Boed baner wen Rhyddid yn chwyfio!


YN NYDDIAU EDMWND PRYS.

"Gyda Hymnau Pantycelyn,
Canwn Salmau Edmwnd Prys."

Y MAE enw y gwr uchod yn taro'n naturiol ar glust y Cymro. Gellir ei ystyried yn air teuluaidd yn Nghwynedd. Ac eto y mae mesur o dywyllwch yn bod ar hanes y gwr a roddodd y fath fri ar yr enw fel nad ydyw treigliad canrifoedd wedi ei wisgo i ffwrdd oddiar gof ei wlad. Pa bryd yr ydoedd yn byw? Yn mha le yr oedd ei breswylfod? Pwy oedd ei gydoeswyr? Beth a wnaeth i beri i'w enw gael ei drosglwyddo i'r dyfodol?

Sylwn, yn mlaenaf, ar

Y CYFNOD.

yr oedd yn byw ynddo. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1541, a dirwynodd edef ei fywyd ymlaen hyd 1624;—83 o flynyddau. Gwelir fod y rhan fwyaf, a'r rhan bwysicaf o'i oes, yn gorwedd o fewn terfynau yr unfed-ganrif-ar- bymtheg. A chanrif gofiadwy oedd hono: y mae wedi gadael ei hol yn ddwfn ar hanes ein byd. Y mae ambell ganrif, fel ambell i flwyddyn, heb ynddi ddim hynod na chyffrous; dim cwestiynau bywydol yn cael eu trafod, dim antur na dyfais. Gwastadedd undonnog ydyw ambell ganrif yn hanes gwlad. Y mae un arall fel daeargryn yn ysgwyd colofnau teyrnasoedd, yn newid gwyneb cymdeithas. "Y gwŷr a wneir yn uniawn, a'r anwastad yn wastadedd." Adeg felly oedd yr unfed-ganrif-ar-bymtheg. Ysgytiwyd Ewrop gan nerthoedd cryfach nac eiddo y ddaeargryn a'r ystorm. Chwalwyd muriau hen garchar yr Oesoedd Tywyll, ac ar filoedd oeddynt yn eistedd mewn tywyllwch, cododd goleuni mawr. Torwyd gefynnau caethiwed a chyhoeddwyd efengyl rhyddid a gwirionedd.

Dyma y cyfnod yn mha un y disgynnodd llinynau bywyd Edmwnd Prys. Ac er iddo gael ei eni mewn cwrdd pellenig a di-nod, rhyw gongl enciliedig o'r byd, eto daeth dan

JOHN KNOX

(Apostol y Diwygiad yn Ysgotland).

gyffyrddiad y dylanwadau oeddynt fel gwefr yn awyrgylch Ewrop yn y cyfnod rhyfedd, byth-ddyddorol hwn. Mewn trefn i argraffu yr adeg ar y meddwl, dichon mai dyddorol fyddai crybwyll rhai ffeithiau hanesyddol, yn ol eu hagosrwydd at fywyd ac amserau Edmwnd Prys. Yn ystod ei yrfa ddaearol, bu pedwar penadur yn eistedd ar orsedd Prydain Fawr:—Edward VI; Mary; Elizabeth; ac Iago I. Yr ydoedd yn 18 oed pan esgynodd Elizabeth i'w gorsedd yn 1558. Yr ydoedd yn 26, pan gyhoeddwyd Testament William Salisbury yn 1567. Yr ydoedd yn 47, pan ymddangosodd Beibl Dr. Morgan yn 1588. Ac yr oedd yn 52, pan ddienyddiwyd John Penri yn 1593. Yr oedd yn cyd-oesi i fesur mwy neu lai â Chalfin a Melancthon; John Knox yn Ysgotland, ynghyda lluaws o ferthyron Protestanaidd Lloegr. Yn y dyddiau hyny, y blodeuodd awen ac athrylith Shakespeare. Nid oedd

TAN Y DIWYGIAD.

wedi dechreu goddeithio Cymru. Nid oedd "Canwyll y Cymry" wedi eu goleuo, ac yr oedd can' mlynedd yn gorwedd rhwng Edmwnd Prys a'r dyddiau hyny pan glybuwyd "llef Duw mewn llif o dân" yn ngweinidogaeth nerthol, anorchfygol Howell Harris a Daniel Rowland, Llangeitho.

Ond yn yr adeg hon, gwnaed gwaith mawr gan Gymry, a hyny dros Gymru: gwaith oedd i ddwyn ffrwyth toreithiog, yn mhen llawer o ddyddiau. Dyna'r pryd y rhoddwyd i'r Cymro Feibl yn ei iaith ei hun; dyna'r pryd y cafodd Salmau per-ganiedydd Israel eu dodi yn nhawdd-lestr yr awen Gymreig, a'u cymhwyso i fod yn gyfryngau moliant i drigolion Gwalia Wen.

Dywedir fod dynion mawr yn ymddangos yn drioedd, ac y mae hanes y byd yn dangos fod rhywbeth felly yn bod. Yr oedd llu o ryfelwyr dewr yn nyddiau Dafydd, brenhin Israel, ond yr oedd yno ryw dri chedyrn oedd yn rhagori mewn antur a gwroldeb—cedyrn Dafydd. Yn mysg y Tadau Eglwysig, yr oedd tri yn rhagori mewn dysg a dawn,—Origen, Awstin, ac Athanasius. Yn nglŷn â'r Diwygiad Protestanaidd yr oedd tri enw oeddynt yn meddu personoliaeth gryfach, a dylanwad dwysach na'r lleill,—

Luther, Melancthon, a Chalfin. Ac yr oedd gan Gymru, yn y cyfnod yr ydym yn son am dano, ei

THRI CHEDYRN.

Nid amgen, William Salisbury, William Morgan, ac Edmwnd Prys.

JOHN CALVIN

(Arweinydd y Diwygiad yu Geneva).

WILLIAM SALISBURY oedd fab ac etifedd y Plas-isa gerllaw Llanrwst. Symudodd i fyw i'r Cae-du ger Llansannan, yn nyffryn Hiraethog. Yehydig a wyddis o'i hanes personol. Yr oedd yn ysgolhaig gwych, yn wladgarwr brwd, ac iddo ef, a'i gynorthwywyr, yr ydym yn ddyledus,. yn gyntaf oll am ein Testament Cymraeg. Cyhoeddwyd hwnw yn y flwyddyn 1567.

Y PLAS ISA, LLANRWST

WILLIAM MORGAN oedd fab yr Ewybr-nant, amaethdy syml rhwng Penmachno a Dolyddelen. Cafodd ei ddwyn i fyny i weinidogaeth Eglwys Loegr. Wedi derbyn ei addysg yn Nhaergrawnt, pennodwyd ef i fywioliaeth Llanrhaiadr-yn-mochnant. Ac yn y fangre dawel, neillduedig hono yr ymaflodd yn y gorchwyl o gyfieithu'r Beibl i iaith ei wlad. Dygwyd achwyniadau yn ei erbyn gan rai o'i blwyfolion am anwybyddu defodau gosodedig yr Eglwys. Gwysiwyd ef i Lundain, o flaen yr archesgob Whitgift, yr hwn a'i holodd yn galed. Cafodd ei fod yn ysgolhaig clasurol, llawn cystal, os nad gwell, nac efe ei hun. Apeliodd William Morgan am ganiatad a nawdd yr esgob i ddwyn allan Feibl i'r Cymry.

"A ydych yn deall Cymraeg yn ogystal ag yr ydych yn medru Hebraeg?" ebai yr esgob. "Mi a obeithiaf,” oedd yr ateb, "y medraf iaith fy mam yn well nag unrhyw iaith arall."

Wedi hyn cafodd gefnogaeth yr archesgob i gyflawni y gwaith oedd yn ei galon. Dygwyd argraffiad o'r holl Feibl allan yn Gymraeg yn y flwyddyn 1588, ac adwaenir ef fel "Beibl Dr. Morgan." Cafodd mab yr Ewybr-nant ei ddyrchafu i fod yn esgob Llanelwy, ac y mae ei enw a'i waith yn eiddo cenedlaethol.

EDMWND PRYS, gwrthrych ein sylwadau, a anwyd yn y Tyddyn Du, amaethdy yn mhlwyf Maentwrog, yn y flwyddyn 1541. Y mae rhai yn cyfeirio at le arall fel mangre ei enedigaeth, sef y Gerddi Bluog, yn mhlwyf Llanfair, ger Harlech. Ond y traddodiad mwyaf credadwy ydyw mai mab ac etifedd y Tyddyn Du ydoedd Edmwnd Prys. Ymddengys fod ei deulu yn gefnog o ran eu hamgylchiadau. Eiddynt hwy oedd y rhan hono o blwyf Ffestiniog a elwir yn Rhiwbryfdir, a dywedir fod rhan o "chwarelau Oakley" yn sefyll ar yr ystad fu unwaith yn

Gerddi Bluog


eiddo teulu Edmwnd Prys. Y mae cofio hyn am sefyllfa ei deulu yn gynorthwy i ddeall ei hanes. Cafodd fanteision addysg uwchraddol; bu am ysbaid yn aelod o goleg Sant Ioan, Caergrawnt Yr amcan oedd ei osod yn yr offeiriadaeth, ac felly y bu. Syrthiodd ei goelbren yn y plwyf lle y ganed ef. Daeth yn offeiriad plwyf Ffestiniog a Maentwrog, ac ymsefydlodd yn y Tyddyn Du, ei hen gartref boreuol. Y mae

DYFFRYN MAENTWROG

yn cael ei gydnabod yn un o'r llanerchau mwyaf hudolus yn y Dywysogaeth. Awn yno ar ddiwrnod o haf. Wedi aros enyd yn mhentref Maentwrog, yr ydym yn troi ar y dde i gyfeiriad Maentwrog Uchaf. Ar ol dringo y rhiw, yr ydys yn dod i wlad uchel, agored, ac y mae y Tyddyn Du yn sefyll ychydig o'r neilldu i'r ffordd sydd yn arwain i Drawsfynydd. Cyffredin a diaddurn ydyw y lle yn awr, ac nid oes yno odid ddim yn aros fu yn eiddo awdwr y Salmau Cân. Ond y mae y golygfeydd o ddeutu'r Tyddyn Du yn ardderchog. Mynyddau Meirion-"clogwyni coleg anian "--oddiamgylch,-a Dyffryn Maentwrog fel darn o Baradwys, odditanodd. Os oes gan olygfeydd natur ddylanwad i ddeffro ac ysbrydoli awen, yr oedd Edmwnd Prys yn cyfaneddu mewn bro fanteisiol-yno y mae Anian yn ymestyn fel panorama ar dde ac aswy, yn disgwyl am lygad i'w gweled, a chalon i gydymdeimlo â hi. Ac yr oedd y pethau hyny wedi eu hymddiried iddo ef.

Ond ag eithrio y moelydd a'r ffrydiau gloewon, y mae braidd bobpeth wedi cyfnewid er dyddiau y bardd-offeiriad,—dri chan mlynedd yn ol. Y pryd hwnw nid oedd pesychiad y ceffyl tân yn tori ar ddystawrwydd y cymoedd, ac nid oedd son am chwarelau byd-enwog Ffestiniog. Ychydig a theneu oedd poblogaeth y plwy, ac yr oedd ymgeledd ysbrydol yr holl drigolion dan ofal un gwr,—offeiriad Maentwrog.

Ychydig a wyddis am dano fel pregethwr, ond bernir ei fod yn rhagori mewn dau beth o leiaf, ar lawer o'i frodyr clerigol yn y cyfnod hwnw. Yr ydoedd yn wr bucheddol, glân ei foes, a phur ei gymeriad. Hefyd, yr ydoedd yn ymroddedig i efrydiaeth a myfyrdod. Nid dilyn y cŵn hela, nid arwain yn y mabol-gampau oedd ei uchelgais, ond olrhain treigliad ieithoedd, a thri ceinion y cyn-oesau i'r Gymraeg. Yn mysg ei gyd-oeswyr, yn yr ardaloedd hyny, yr oedd

HUW LLWYD O GYNFAL.

Yr oedd yntau yn ysgolhaig rhagorol. Bu am ran o'i oes yn filwr, a gwelodd lawer mewn gwledydd estronol. Ymsefydlodd yn Cynfal, ac yr oedd cyfathrach agos rhyngddo ag Edmwnd Prys. Y mae darn o graig yn yr afon a adwaenir fel "Pwlpud Huw Llwyd." Bernir mai mab iddo ef ydoedd Morgan Llwyd o Wynedd. Bu farw Huw Llwyd mewn henaint teg, a chladdwyd ef yn mynwent Maentwrog. Cyfansoddodd Edmwnd Prys yr englyn canlynol i'w ddodi ar ei fedd:

Pencampwr doniau a dynwyd—o'n tir,
Maentwrog ysbeiliwyd:
Ni chleddir, ac ni chladdwyd
Fyth i'w llawr mo fath Huw Llwyd.

Gwr arall y dylid ei enwi yn y cysylltiad hwn ydoedd

GWILYM CYNFAL.

boneddwr a bardd o ardal Penmachno. Cymerodd gornest farddol le rhwng Cynwal a Phrys. Dechreuodd mewn ysmaldod. Ceisiwyd gan Edmwnd Prys lunio cywydd i ofyn i Cynwal am fwa saeth. Ond yn lle anfon y bwa, gyrrodd Cynwal gywydd yn beirniadu cyfansoddiad y bardd o Faentwrog. Yn y modd yna aethant i saethu at eu gilydd oddiar fwa y gynghanedd. Cydnabyddai Cynwal fod Prys yn ysgolhaig, ond nid yn fardd. Haerai Prys nad oedd Cynwal y naill na'r llall. Aeth y rhyfel yn chwerw, ac yr oedd saethau Prys mor finiog fel y dywedir i'r helynt effeithio ar iechyd ac ysbrydoedd y bardd o Benmachno. Dengys hyn nad diogel i feirdd, mwy na dynion eraill, ydyw ymgiprys gormod gyda bwa saeth.

Ond na thybier mai gwr pigog, cwerylgar, ydoedd Edmwnd Prys. Gwell oedd ganddo dangnefedd i ddilyn ei fyfyrdodau. A gwaith o'r nodwedd yna sydd wedi cadw ei enw mewn coffadwriaeth. Yn lled gynar ar ei oes bu yn cynorthwyo Dr. Morgan yn nglŷn â chyfieithu y Beibl Cymraeg, a phan wnaed y cyfieithydd yn esgob, cofiodd am ei gyfaill llengar yn Maentwrog. Pennodwyd ef yn archddiacon Meirionydd, ac un o ganoniaid Llanelwy. Ac wrth yr enw swyddol yna,

YR ARCHDDIACON PRYS.

yr adwaenir ef gan mwyaf, hyd y dydd hwn. Ond yn nglŷn â gwaith arall yr ennillodd anfarwoldeb, sef ei gyfieithiad godidog o'r Salmau ar fesur cerdd. Nis gellir dweyd hyd sicrwydd pa beth a'i tueddodd at y gorchwyl anhawdd a llafurfawr hwn. Dywed rhai mai gwr da o'r enw Morus Kyffin a ddygodd y peth i'w sylw, yn ogymaint ag nad oedd gan y Cymry nemawr ddim yn y ffurf o Emynyddiaeth gysegredig ar y pryd.

Modd bynag, ymaflodd yn y gwaith o ddifrif, a glynodd wrtho nes ei orphen. Dywedir mai ei ddull fyddai cyfansoddi Salm, neu ran o Salm, ar gyfer pob Saboth, ac yna cenid hi yn y gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Maentwrog. Os teimlid fod ynddi ddiffyg mewn ystyr gerddorol, gwneid y cyfnewidiad gofynnol, a rhoddid prawf arni drachefn. Yn y dull hwn cafodd y farddoniaeth ei rhoddi dan brawf ymarferol. Yr oedd yr awdwr ei hun yn gerddor; gwyddai beth ydoedd yn felodaidd a chanadwy. Dylid cofio hyn pan y clywir rhyw ddosbarth yn collfarnu Salmau Edmwnd Prys fel cyfansoddiadau clogyrnog ac anystwyth.

Yn y flwyddyn 1621, cafodd y gwaith ei argraffu dan y penawd Sallwyr Edmwnd Prys. Ac o hyny hyd yn awr, defnyddir y gwaith yn rhanol, neu yn gyflawn, yn holl lyfrau hymnau y Dywysogaeth. Cenir hwy gan Eglwyswyr ac Ymneillduwyr yn ddiwahan.

Yn 1674, yn yr oedran teg o 83, bu farw yr Archddiacon Prys. Claddwyd ef yn Eglwys Maentwrog, lle y buasai yn gweinidogaethu am 52 o flynyddau. Nid oes maen na cholofn yn dynodi man ei fedd, ond gellir dweyd am dano yntau:—

Gwnaeth ei farwnad yn ei fywyd.
Rhoes ei farble yn ei le.


Y mae ei orchest lenyddol yn nglŷn â'r Salmau Cân yn amgen coffadwriaeth i'w enw na'r maen mynor mwyaf caboledig.

Bellach, y mae yn bryd i ni ddweyd ychydig eiriau ar y gwaith cenedlaethol hwn. O ran ei ffurf, cyfansoddwyd y rhan fwyaf o hono yn y

MESUR SALM.

Mesur rhydd ydoedd hwn o'i gydmaru â'r caeth-fesurau oedd mewn bri yn yr adeg hono. Gallasai Edmwnd Prys gyfansoddi yn orchestol yn hualau y gynganedd, ond dewisodd yn hytrach ddefnyddio mesur ystwythach a llai cywrain. Yn ei lythyr at y "darllenydd ystyriol," y mae yn nodi y rhesymau oedd yn ei dueddu at y gynganedd rydd. Dewisodd ymado â'r gelfyddyd, meddai, er mwyn cywirdeb, defnyddioldeb, ac er mwyn dod a'r gwaith yn nes at ddeall a chalon pob gradd.

Nis gwyddom a ydoedd Prys yn awdwr y mesur Salm ai peidio. Ond efe a wnaeth y defnydd helaethaf o hono, ac onid efe sydd wedi dangos mwyaf o feistrolaeth arno? "Y mesur esmwyth hwn," ebai am dano. Felly yr ydoedd iddo ef, oherwydd

Nid oes faws na dwys fesur
O un baich i awen bur.

Mae'n wir iddo arfer un neu ddau o fesurau eraill, yma a thraw, ond y mydr mwyf cyffredinol ydyw y mesur Salm. Dyna un gŵyn a ddygir gan y beirniaid yn ei erbyn—gormod o unffurfiaeth. Mewn gwaith o'r maintioli hwn dylasai fod mwy o amrywiaeth yn y ffurf, yn yr amwisg farddonol. Gellid dweyd yr un peth am weithiau gorchestol eraill. Cyfansoddwyd Coll Gwynfa sydd dros ddeng mil o linellau, i gyd yn y mesur diodl. Ac y mae'r un peth yn wir am bryddest Eben Fardd ar yr Adgyfodiad. Ond yn nglŷn â gwaith Edmwnd Prys, gwaith oedd i gael ei ddefnyddio yn ngwasanaeth cyhoeddus y cysegr, rhaid addef fod grym yn y gŵyn,-gormod o unffurfiaeth. Er fod y mesur yn esmwyth, eto y mae gwrando ar yr un disgyniadau yn barhaus,—fel swn olwyn ddwr,—yn peri fod hyd yn nod y "darllenydd ystyriol" mewn perygl o gael ei gludo i dir cwsg a breuddwyd.

A chan i ni grybwyll y mesur, teg, hefyd, ydyw crybwyll un neu ddau o bethau eraill, a nodir fel brychau,—dim ond hyny, ar wyneb cyfanwaith dysglaer Edmwnd Prys.

(1). Fod yn y gwaith lawer o eiriau ansathredig, ac annealladwy i'r darllenydd cyffredin.

(2). Fod ynddo, hefyd, gryn nifer o linellau clogyrnog ac anystwyth, pur amddifad o felodedd a swyn. Dyna'r brychau, ac y mae y rhan fwyaf ohonynt bron yn fychain iawn mewn gwirionedd—bron yn anweladwy. Y mae rhagoriaethau y gwaith, o'r tu arall, yn brofedig a chlir. Nid oes angen gwneyd dim mwy na'u crybwyll.

(1). Y mae Salmau Edmwnd Prys yn cynwys cyfieithiad rhagorol o ystyr a sylwedd y testyn Hebraeg.

(2). Y mae yn yr emynau hyn, lawer pryd, esboniad ac eglurhad ar feddyliau y Salm. Gellir gweled yr elfen hon yn y cyfeiriadau canlynol:—

Ps. 17, 15—
Minnau mewn myfyr, fel mewn hun,
A welaf lun d'wynebpryd.

Ps. 19, 3—
Er nad oes ganddyat air na rhaith
Da dywed gwaith Duw Lywydd.

Ps. 34, 7:—
Angel ein Duw a dry yn gylch
O amgylch pawb a'i hofnant.

Ps. 65, 9:—
A'i rhoi yn mwyd mewn cawod wlith
I'w chawd rhoi fendith deilwng.


Ps. 65, 2:—
Ac atat ti y daw pob enawd
Er mwyn gollyngdawd llafur.

Ps. 72, 16:—
'Rhyd pen y mynydd yd a gân;
Fel brig coed Libun siglant.

Ps. 110, 7:—
O wir frys i'r gyflafan hon
Fe yf o'r afon nesaf:
A gaffo ar ei ffordd yn rhwydd.

Ps. 114, 5—
Ciliaist O for dywed paham?
Tithau, Iorddonen, lathraidd lam,
Pam y dadredaist dithau'n ol?

(3). Y mae y gwaith yn cynwys toraeth o benillion a llinellau llawn o dlysineb a melusder. Yn mysg y rhai'n yr ydym yn dethol yr engraifftiau a ganlyn, sydd eisoes yn adnabyddus ac arferedig:—

Ps. 1:—
Fel pren planedig ar lau dol
Ceir ffrwyth amserol arno;
Ni chrina'i ddalen, a'i holl waith
A lwydda'n berffaith iddo.

Ps. 5:—
Ti Arglwydd, a anfoni wlith
Dy fendith ar y cyfion;
A'th gywir serch fel tarian gref
Ro'i drosto ef yn goron.

Ps. 23—
Yr Arglwydd yw fy Mugail clau,
Ni ad byth eisiau arnaf:
Mi gaf orwedd mewn porfa fras,
Ar lan dwr gloewlas araf.


Ps. 30:—
Am enyd fechan saif ei ddig,
O gael ei fodd trig bywyd:
Heno brydnawn wylofain sydd,
Y boreu ddydd daw iechyd.

Ps. 37—
Cred ynddo ef, fe'th ddwg i'r lan,
Myn allan dy gyfiawnder:
Mor oleu a'r haul ar haner dydd
Fel hyny bydd d'eglurder.

Ps. 43:—
O gyr dy oleu, moes dy wir,
Ac felly t'wysir finnau;
Arweiniant fi i'th breswylfeydd,
I'th fynydd ac i'th demlau.

Ps. 48:—
Ewch, ewch oddiamgylch Seion sail,
A'i thyrau adail rhifweh:
Ei chadarn fur, a'i phlasau draw,
I'r oes a ddaw mynegwch.

Ps. 103 :—
Os pell yw'r dwyrain oleu hin
Oddiwrth orllewin fachlud:
Cyn belled ein holl bechod llym,
Oddiwrthym ef a'i symud.

Ps. 107—
Gwnaeth e'r ystorm yn dawel deg,
A'r tonau'n osteg gwastad:
Yn llawen, ddystaw d'oent i'r lan,
I'r man y bai'n dymuniad

Hawdd fuasai lluosogi emynau—cyffelyb—emynau eneiniedig, ac o ran perffeithrwydd eu saerniaeth yn gyffelyb i afalau aur mewn ymylwaith arian. Ond rhag y dichon ein bod yn ormod dan gyfaredd yr awdwr, yr ydym yn cilio i roddi lle i sylwadau beirniad pwyllog, dysgedig, ac un nas gellir ei gyhuddo i osod ei deimlad o flaen ei farn. Yr ydym yn cyfeirio at awdwr y "Geiriadur"—Mr. Charles o'r Bala. Dyma ei dystiolaeth ef ar y pwnc:—"Er fod rhai o'r llinellau yn anystwyth, a rhai geiriau yn annealladwy i'r cyffredin yn yr oes bresennol, yn nghyfieithiad yr Arch-ddiacon Prys, ar fesur cerdd, i'r iaith Gymraeg; eto, a'i olygu i gyd efo'i gilydd, rhaid i bawb deallus ei farnu yn rhagorol, ac yn rhoddi meddwl yr Ysbryd allan mor gywir ag a wnaed, neu a ellid ei wneuthur, mewn unrhyw gyfieithiad." ***** "A'r ddaear oedd afluniaidd a gwag, a thywyllwch oedd ar wyneb y dyfnder." Dyna, mewn ystyr foesol ac ysbrydol oedd sefyllfa y Dywysogaeth yn y dyddiau yr ydym wedi bod yn son am danynt. Ond yr oedd ysbryd Duw yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd. Cyffyrddwyd ag ambell feddwl yma a thraw, ac yn y modd hwnw y casglwyd defnyddiau creadigaeth newydd. Dyna oedd gwaith bywyd William Salisbury, Dr. Morgan, ac Edmwnd Prys. Drwy y naill cafwyd Gair Duw yn yr iaith Gymraeg drwy y llall cafodd Salmau Israel eu gwisgo ag urddas a harddwch yr awen Gymreig. Ac ymhen ysbaid ar ol hyn,-wedi darparu y defnyddiau: defnyddiau gweinidogaeth yn y Beibl, defnyddiau mawl yn y Salmau,—Duw a ddywedodd—"Goleuni," a goleuni a fu.

Cofiwn ninnau dan belydrau
Y goleuni sanctaidd cu,
Am hanesiaeth cymwynaswyr
Moes a chrefydd Cymru Fu:
A thra byddo pur gerddoriaeth
Yn adseinio llan a llys,
Gyda hymnau Pantycelyn,
Canwn Salmau Edmwnd Prys.


RHYDDID BARN.


PENNOD I.
BARN BERSONOL.

Y MAE rhyddid barn yn enedigaeth-fraint i ddyn. Yn yr ystyr hwn gall ddefnyddio geiriau yr Apostol: "Minau a anwyd yn freiniol." Ond os edrychir ar y pwnc mewn ystyr hanesyddol, y mae profiad dyn fel aelod o gymdeithas yn debycach i eiddo y canwriad: "A swm mawr y cefais y ddinasfraint hon." Rhyddid ydyw sydd wedi costio yn ddrud. Ac y mae yn parhau felly. Nid yw y drychfeddwl wedi ei sylweddoli eto yn ngwledydd Crêd; ond mae y goleuni yn llewyrchu yn gryfach yn barhaus, ac i gynyddu fwyfwy hyd haner dydd. Ond tra yn credu fod dyn yn etifedd rhyddid, ynfydrwydd fyddai dyweyd fod unrhyw ddyn yn dyfod i'r byd yn berchen barn. Genir ef yn y meddiant o ryddid, ond â swm mawr o lafur ac ymdrech y daw i feddu barn wirioneddol ar unrhyw bwnc neu gangen o wybodaeth. Gan hyny y mae yn dra phwysig i ni ddeall ystyr a therfynau y dywediad cyffredin, mai "rhydd i bawb ei farn."

Y GALLU I FARNU.

Y mae pob dyn ystyriol yn coleddu syniad uchel am y gallu i farnu. Yr ydym yn talu gwarogaeth i "ŵr o farn." Pan yn ymddyrysu gyda rhyw bwnc, y mae deall beth fydd barn dyn neu ddynion neillduol yn werthfawr yn ein golwg. Ond yr holiad naturiol ydyw, Beth sydd yn rhoddi bod i'r cyfryw farn? Pa fodd y mae ei ffurfio? Pa ddeffiniad a roddir o honi? Hwyrach mai y modd goreu i geisio ateb y cwestiwn fyddai dull yr hen bregethwyr: yn gyntaf, yn nacäol; yn ail, yn gadarnhäol.

OPINIWN.

Yr ydym yn gwahaniaethu rhwng barn ac opiniwn. "Ymhob pen y mae opiniwn;" ond gormod o garedigrwydd fyddai dyweyd, ymhob pen y mae barn. Nid ydyw opiniwn o angenrheidrwydd yn wrthwyneb i farn. Gall wasanaethu fel arweiniad i mewn, fel cyntedd allanol i deml Barn. Nid oes gan ddyn ond opiniwn ar unrhyw fater nes y byddo wedi ei chwilio a'i bwyso, hyd y mae yn ei allu i wneyd hyny. Rhaid i bawb foddloni ar opiniwn am lawer o bethau dros amser, ond y mae anwesu opiniwn yn beryglus yinhob ystyr. Nid yw y dyn "opiniyngar yn aelod defnyddiol na dymunol o unrhyw gymdeithas. Fel rhagredegydd barn, y mae opiniwn yn haeddu parch; ond pan ä yn atalfa ar ffordd barn, ac i sefyll rhwng y meddwl a goleuni rheswm a ffeithiau, y mae yn myned yn farn drom ar ddyn, ac nid yn farn ynddo. Fel rheol, peth yn cael ei drosglwyddo ydyw opiniwn; goddefol ydyw yr hwn sydd yn ei dderbyn. Ond peth yn cael ei ffurfio— yn ymffurfio yn y meddwl ydyw barn. Gall y gwas fod o'r un opiniwn â'i feistr, y plentyn o'r un opiniwn â'i dad; ond am farn bersonol gellir dyweyd am dani-not transferable. Dylai fod yn dyfiant naturiol o feddwl ei pherchen.

TEIMLAD.

Y mae gwahaniaeth, hefyd, rhwng barn a theimlad. Gall dyn deimlo yn gryf ar lawer pwnc heb feddu ond y nesaf peth i ddim o farn am dano. Ac y mae teimlad lawer pryd yn gwrthryfela yn erbyn barn, ac yn gosod rhagfarn ar yr orsedd yn ei le. Mewn teimlad y mae nerth rhagfarn. Y mae teimlad fel y llif-ddwr yn cario pobpeth o'i flaen, tra y mae barn fel y llif-ddor yn ei gadw o fewn terfynau uniondeb a gwirionedd. Nid yw barn yn anwybyddu teimlad, ond ceidw ef rhag arglwyddiaethu arnom. Unwaith y teflir y ffrwyn ar wàr y teimlad, y mae yn troi yn hunan-ddinistrydd. Dyna sydd wedi tywyllu gogoniant Dr. Johnson fel beirniad llenyddol. Gadawodd i'w deimlad tuag at Milton ddiffoddi goleuadau ei farn, ac mewn canlyniad y mae ysbryd rhagfarn yn llechu y tu cefn i'w frawddegau, ac yn peri iddo wlychu ei ysgrifell mewn wermod. Mae yr un peth, yn ol tystiolaeth Mr. Froude, wedi anafu clod Macaulay fel hanesydd. Dan ddylanwad

teimlad gwrthwynebus, yr hwn a ddirywiodd i fod yn rhagfarn, y mae ei sylwadau ar y cyfnod Puritanaidd a'i arweinwyr yn bradychu dibrisdod o ffeithiau, a gorbrysurdeb i dynu casgliadau oeddynt yn cydredeg â gogwydd ei feddwl ef ei hun.

TALENT.

Yr ydym yn gwahaniaethu eto rhwng barn a thalent. Y mae yn rhaid wrth allu i farnu, ond nid yw gallu meddyliol bob amser yn cydbreswylio â barn. Nid pob dyn o athrylith sydd yn ddyn o farn. Nid y beirdd goreu, yn fynych, ydyw y beirniaid goreu ar eu cyfansoddiadau eu hunain, neu ar yr eiddo eraill. Yr oedd Milton yn credu mai ei orchestwaith ef oedd y Paradise Regained, ond y mae beirniadaeth wedi penderfynu yn ffafr Paradise Lost. Nid ydyw John Ruskin yn cael ei restru fel arlunydd ymysg goreuon y Royal Academy, ac eto y mae barn Ruskin ar yr hyn a ddylai darlun fod yn gorbwyso yr oll gyda'u gilydd. Nis gallai awdwr Methodistiaeth Cymru gynyrchu un emynau Pantycelyn pe cawsai oes at y gwaith; ond fe ddywed ei fywgraffydd na wyddai efe am neb yn y cyfnod hwnw oedd yn meddu gwell barn ar emynau. Y mae y Saeson yn gwahaniaethu rhwng yr artist a'r critic. Y mae Mr. Matthew Arnold yn fardd ac yn llenor; ond fel beirniad, yn benaf, y mae iddo enw ac anrhydedd yn y byd llenyddol. Nid wyf yn deall fod Mr. Ebenezer Prout yn awdwr cynyrchiol; ond fel beirniad cerddorol y mae yn awdurdod o'r radd uchaf. Nid yw athrylith, neu allu i gyfansoddi, yn sicrwydd o farn ar gyfansoddiad. Gwyddɔm am gyfansoddwyr dysglaer yn Nghymru, ac y mae yn rhaid dyweyd fod eu hanes fel beirniaid yn dadguddio llawer o anmherffeithrwydd a methiant.

Ond y mae yn bryd i ni droi at yr ochr gadarnhaol, a dyweyd hyd y gallwn beth ydyw barn. Beth yw ei "nod angen?" Yr elfen gyntaf a nodwn yw

GWYBODAETH.

Barnwr anghyfiawn, bob amser, ydyw y barnwr anwybodus. Y mae gwybodaeth yn angenrheidiol i farnu, fel y mae goleuni yn angenrheidiol i weled. Nid ydys yn gosod y dall yn feirniad ar liwiau, na'r byddar ar gerddoriaeth; ac eithaf ffolineb fyddai gosod Anwybodaeth ymysg y barnwyr. Ac eto felly y mae yn aml ymysg dynion. "Wn i fawr am y pwnc-ond dyna 'marn i." Proffesa pobl feddu barn ar wleidyddiaeth, er nad ydynt erioed wedi rhoddi awr i astudio ei hegwyddorion. Ond y mae gwir farn yn seiliedig ar wir wybodaeth. Ni raid i ddyn fod yn hollwybodol i farnu, ac eto y mae gwerth ei farn yn dibynu i raddau mawr ar led a dyfnder ei wybodaeth.. Credwn mai yn yr ystyr hwn y mae deall llinellau adnabyddus Pope:

A little learning is a dangerous thing,
Drink deep, or taste not, the Pierian spring.

Ychydig ddysg—peryglus i ti yw,
Dwfn ŷf, neu paid archwaethu'r dyfroedd byw.


Gall rhywun ddadleu fod ychydig o wybodaeth yn well na dim; ond nid dyna feddwl y bardd. Dyweyd y mae efe nas gall barn fawr a gwybodaeth fechan gydsefyll. Os am farn gref, oleuedig, rhaid yfed yn helaethach hyd o ffynon fyw gwybodaeth. Un o wirebau y diweddar Mark Pattison ydoedd: "A man should not talk about what he does not know." Pe cedwid at y rheol euraidd hon gan gymdeithas, oni fyddai yn y byd gryn lawer mwy o ddistawrwydd?

CYDYMDEIMLAD.

Y mae efrydiaeth o unrhyw bwnc yn creu awyrgylch o gydymdeimlad yn y meddwl. Yr ydym wedi dyweyd fod teimlad, ar brydiau, yn niweidio barn. Ond y mae yr un mor wir fod cydymdeimlad yn anhebgorol i farnu unrhyw waith neu gyfansoddiad. Ofer ydyw gosod dyn heb gydymdeimlad â barddoniaeth i farnu penill neu englyn. Yr oedd gŵr mewn cyfarfod llenyddol lled bwysig yn dyweyd ei fod ef yn barnu y buasai yn well i'r pwyllgor roddi gwobr am olwyn berfa neu olwyn trol, nag am wneyd englyn,-fod y pethau blaenaf yn fwy defnyddiol. Ond erbyn edrych, mechanic oedd y dyn; yr oedd ganddo gydymdeimlad âg olwynion, ond yr oedd yn hollol o'i le pan yn cyffwrdd âg englyn. Dro yn ol gwelais ddarlun o awdwr yn darllen ei waith newydd i nifer o gyfeillion mewn ystafell. Yr oedd efe, hapus ŵr, wedi ymgolli yn ei ddrychfeddyliau; ond am danynt hwy, yr oedd un yn dylyfu gên, a'r llall yn astudio y darluniau ar y pared! Ond y mae yn eithaf posibl y byddai y ddau yn traethu barn ddiysgog ar y gwaith yn y diwedd. Eto yr oedd peth mawr yn absenol—cydymdeimlad. Hwn sydd yn dwyn y beirniad i gyffyrddiad byw âg ysbryd yr awdwr—yn ei godi i edrych ar y pwnc oddiar yr un saf-bwynt ag yntau, ac yn ei gadw rhag aros yn gwbl gyda'r mintys a'r annis—mân feïau y cyfansoddiad:—

A perfect judge will read each work of wit,
With the same spirit that its author writ;
Survey the whole, nor seek slight faults to find,
Where nature moves, and rapture warms the mind.

Darllena'r beirniad perffaith orchest-waith
Yn nghwmni'r ysbryd sydd o dan yr iaith;
Golyga'r oll,—ni chais y brychau mân,
Pan gaiff feddyliau llawn o ddwyfol dân.

Ond, atolwg, beth os na fydd y gân neu y traethawd yn cyffroi ac yn gwresogi 'y meddwl? Wel, dyma gynghor Pope, ac y mae yn gynghor da lawer adeg:—

But in such lays as neither ebb nor flow,
Correctly cold, and regularly low;
That shunning faults, one quiet tenor keep,
We cannot blame indeed, but—we may sleep!

Ond pan fo cerdd heb lanw a thrai'n un man,
Yn oeraidd gywir, ac yn gyson wan;
Heb unrhyw wall, fel unawd unsain iawn,
Nis gallwn feïo'n wir, ond—cysgu gawn.

PENDERFYNIAD.

Gan fod barn yn ffrwyth ymchwiliad manwl, yn gynyrch llafur ac ymdrech, y mae yn rhesymol disgwyl iddi feddu mesur helaeth o sefydlogrwydd. Dylai wneyd ei pherchen yn sicr a diymod. Am yr hwn a lywodraethir gan opiniwn, y mae yn agored i gael ei gylchdroi gan bob awel. Corsen yn ysgwyd gan wynt ydyw. Mae yn gwbl at drugaredd amgylchiadau. Ei farn ydyw yr hyn a welodd neu a glywodd ddiweddaf ar y pwnc.

Some praise at morning what they blame at night,
And always think the last opinion right.


Rhai folant yn y boreu'r hyn feïant y prydnawn,
A chredant mai'r opiniwn diweddaf fydd yn iawn.

Ond y mae barn yn cario gyda hi benderfyniad, a chyda'r penderfyniad, nerth. Fe lŷn y cyfryw wrth ei farn. Nis gall unrhyw orthrwm ei wahanu. Fe roddwyd. Galileo o ran ei gorff mewn cadwyn, ond nid oedd yn bosibl cadwyno ei farn fod y ddaear yn troi. O'r penderfyniad hwn y gwneir merthyron-merthyron crefydd a gwyddoniaeth. Mae defnydd gwron yn y dyn sydd yn berchen barn fel hyn. Yr ydym yn rhwym o barchu gwrthwynebydd pan argyhoeddir ni fod barn ddiysgog y tu cefn i'w ymadroddion. Mae nerth i nodweddu gwir farn. "Anwadal barn pob ehud."

CYDBWYSEDD.

Byddwn yn dyweyd am rai dynion fod pwysau yn eu barn; y mae hyny yn ganlyniad cydbwysedd yn eu meddyliau. Diffyg hyn, drachefn, ydyw y rheswm fod llawer dyn o dalent yn gwbl amddifad o farn. Mae un gyneddf neu allu yn y meddwl wedi tyfu ar draul y gweddill. Mewn cydbwysedd gellir disgwyl eglurder. Rhaid i lygad y meddwl fod yn glir i allu barnu yn iawn. Dyma un rhagoriaeth yn Macaulay fel hanesydd—y mae yn hollol glir. Ac y mae Dr. Edwards yn talu yr un warogaeth i De Quincey; mae ei iaith a'i feddyliau yn loew fel y grisial. Yn absenoldeb yr eglurder hwn y mae dyn yn canfod gwrthrychau megis "prenau yn rhodio," yn aflunaidd a diddeddf. Os na allwn weled ymhell, amcanwn weled yn glir. Peidiwn a gosod dim rhyngom â'r pwnc y byddom yn amcanu ffurfio barn am dano. Gwelsom blant yn dodi gwydr mewn mwg er mwyn edrych drwyddo pan fyddai diffyg ar yr haul. Gwydr myglyd fel hyn ydyw rhagfarn, ac y mae y sawl a'i defnyddia yn sicr o ganfod diffyg ymhob man—yn y nefoedd uchod ac yn y ddaear isod. Gwell yw y llygad noeth na dim cyfrwng o'r fath. Ac y mae yn rhaid wrth awyrgylch glir i farnu yn deg. Mae yn wir fod niwl a thywyllwch yn fantais i esgyn yn marn rhyw ddosbarth. Er engraifft, os bydd y bregeth yn hollol glir a dealladwy, creda y bobl hyn mai un syml a chyffredin ydyw; ond os bydd digon o'r tryblith ynddi, y mae yn ddofn a galluog. Camgymerir llwydni y dwfr am ei ddyfnder, a gwelir pethau yn fwy nag ydynt mewn gwirionedd am eu bod yn orchuddiedig gan niwl. Y mae yr eglurdeb hwn yn ein cynorthwyo i wahaniaethu rhwng y gwirioneddol a'r ymddangosiadol. "Na fernwch wrth y golwg," ebai y Dysgawdwr Dwyfol, "eithr bernwch farn gyfiawn." Mae y golwg, yr ymddangosiad, yn dra thwyllodrus. "Things are not what they seem." Anfonwyd cyfansoddiad, un tro, i Eben Fardd mewn amlen sidan, ac wedi ei addurno âg aur lythyrenau. Pe buasai y beirniad yn cymeryd yr ymddangosiadol yn safon i farnu, hwnw a gawsai y wobr. Ond nid oedd yr addurniadau yn pwyso dim yn nghlorian ddiwyrni y bardd o Glynnog. Dan ddylanwad yr hudoliaeth hwn y mae pobl yn camgymeryd swn am synwyr, llithrigrwydd parabliad am hyawdledd, a geiriau anghyf iaith am ddysg. Mewn trefn i feddu syniadau clir, ac felly i farnu yn deg, rhaid i wyneb yr enaid fod yn gyfeiriedig at y goleuni.

DIFRIFWCH.

Y mae hefyd eisieu Difrifwch. Nis gellir barn o feddwl ysgafn ac arwynebol. Mae y clown yn burion yn ei le, ond ni fuasem yn caru ei weled yn eistedd ar y fainc farnol. Teimlem yr ieuad yn rhy anghymharus i'w oddef. Mae sobrwydd yn eisiau at y fath orchwyl. Y mae as sober as a judge yn ymadrodd cyffredin, ac y mae mwy o wirionedd ynddo nag a feddylia llawer. Cynghorir ni gan Apostol i "synied i sobrwydd." Yr hyn a olygir ydyw agwedd y meddwl-difrifwch yn teyrnasu yn nyfnder yr ysbryd.

PWYLL.

Drachefn mae yn rhaid cael Pwyll. Pa bethau bynag sydd yn gofyn arafwch ac ystyriaeth, gall Barn ddywedyd, "Myfi yn fwy." Y mae barn fyrbwyll, fel rheol, yn gamarweiniol. Byddwn yn dyweyd am rai dynion fod ganddynt "farn addfed." Mae yr ymadrodd ar unwaith yn tybied dadblygiad a chynydd; canlyniad tŵf graddol a distaw ydyw y cyfryw addfedrwydd. Nid rhyfedd fod y diarebion Cymreig yn canmawl pwyll, ac yn cysylltu barn frysiog, anystyriol, âg ynfydrwydd. "Buan barn pob ehud." O'r tu arall, "Gwell pwyll nag aur; "Goreu canwyll, pwyll i ddyn; "Na farna ddyn hyd yn mhen y flwyddyn ; 66 Ar Ꭹ diwedd y mae barnu." Mae hyn yn tybied y dylai dyn fod yn nghymdeithas y gwrthddrych y byddo yn ei farnu am amser maith; y dylai ei weled mewn gwahanol agweddau cyn ffurfio barn derfynol am dano. A'r hwn sydd yn fwyaf profiadol o'r llafur a'r ymdrech i ddeall materion, fel rheol, ydyw y mwyaf gwyliadwrus pan yn traethu ei farn. Gwyddom am ddosbarth arall sydd yn medru barnu yn hollol ddifyfyr. Maent yn traethu barn derfynol ar berson heb ei weled ond unwaith; mae ganddynt eu barn ddigamsyniol am lyfr wedi darllen ychydig frawddegau o hono. Byddant wedi barnu, neu yn hytrach goll-farnu y bregeth ymhen pum' mynyd ar ol ei gwrandaw. Dichon i'r pregethwr fod bum' wythnos yn meddwl neu yn cyfansoddi, ond gwna y beirniad ei waith ef mewn pum' mynyd. Rhaid cydnabod fod y bobl hyn i eiddigeddu wrthynt ar ryw gyfrif, ond pell er hyny a fyddom oddiwrth geisio eu hefelychu. Nid planigyn o ddosbarth y cicaion ydyw barn; y mae tŵf y dderwen yn fwy nodweddiadol o honi. Cyfuna arafwch a nerth. Mewn awr o ddrwg-dymher yr ysgrifenodd Byron y frawddeg: "Critics are all ready made." Y mae awdurdod uwch a mwy diweddar wedi cywiro yr haeriad hwn. Fe ddywed Mark Pattison nad oes un gorchwyl sydd yn gofyn prentisiaeth mor faith â'r alwedigaeth o feirniad mewn unrhyw gangen o wybodaeth. Ac y mae y tri pheth hynpwyll, difrifwch, ac eglurder-yn cyfansoddi cydbwysedd, y glorian anweledig hono yn y meddwl sydd yn profi pob ffaith a syniad a osodir ynddi.

Yr ydym, bellach, wedi braslunio y pedair elfen a ystyriwn yn anhebgorol i ffurfio yr hyn a elwir yn farn,sef gwybodaeth o'r pynciau yr amcenir ffurfio barn am danynt, cydymdeimlad â'r cyfryw, penderfyniad yn yr ysbryd, a chydbwysedd yn y meddwl. Yn y wedd hon yr ydym yn deall y rhan olaf o'r dywediad—mai "rhydd i bawb ei farn."

PENNOD II.,
SAFLE GYMDEITHASOL.

YR ydym yn credu fod y rhyddid hwn yn eiddo i ddyn fel dyn, a hyny, yn un peth, annibynol ar safle gymdeithasol. Yr hyn sydd mewn dyn sydd yn ei gymhwyso i farnu, ac nid yr hyn sydd ganddo. Mae yn canlyn nad oes un dosbarth mewn cymdeithas wedi eu hordeinio i farnu dros y gweddill. Mae hawliau barn bersonol yn ymestyn o'r uchaf hyd yr isaf. Wrth gwrs, byddai yn ynfydrwydd dyweyd fod gan ddyn cyffredin gystal barn a'r dysgedig ar lawer o bethau. Ond mewn perthynas i'r materion hyny sydd yn dal cysylltiad â dyn fel dyn, nid yw rhyddid barn yn cydnabod terfynau dosbarth o gwbl. Ac un rheswm amlwg fod y llïaws heb allu dringo llawer hyd raddfa barn ydyw fod agoriad gwybodaeth wedi ei gadw oddiwrthynt am lawer oes. Gosodai mawrion byd eu hunain yn farnwyr ar ryddid y rhai oedd yn digwydd bod yn israddol iddynt o ran eu hamgylchiadau. "Y bobl hyn - melldigedig ydynt," oedd iaith y Phariseaid yn nyddiau yr Iachawdwr. A dyma gnewyllyn brwydrau rhyddid ymhob oes-dosbarth yn ceisio gorfaelu yr hyn sydd yn hawlfraint greadigol i ddyn fel y mae yn dwyn delw Duw. I'w Grewr yn unig y mae dyn yn gyfrifol am ei farn. Nid oes gan neb hawl i arglwyddiaethu ar gydwybod ond yr Hwn sydd yn Arglwydd arglwyddi, a Brenhin brenhinoedd. Dyma un o'r pethau penaf sydd yn cyfansoddi mawredd dyn: y mae yn fod rhydd ymhob cylch i ffurfio ac i feddu barn. Mae amddifadu y tlotaf yn y tir o'r rhyddid hwn yn gysegryspeiliad. Gall dyn fod yn dlawd, ond pe heb le i roddi ei ben i lawr, y mae yn ei feddiant un peth nas gall etifeddion daear ei brynu-rhyddid barn. Dylai geiriau yr Apostol suddo i ddyfnder calon pob dosbarth-"I ryddid y'ch galwyd chwi." Sefwch ynddo, na ddefnyddiwch ef yn achlysur i'r cnawd.

AWDURDOD A THRADDODIAD.

Y mae dyn yn meddu y rhyddid hwn hefyd yn annibynol ar awdurdod dynol neu draddodiad. Yr oedd traddodiad y tadau yn llyffetheirio yr Iuddewon i ffurfio barn drostynt eu hunain. Ac y mae awdurdod eglwysig wedi cyffio rhyddid barn yn y byd crefyddol am oesau maith. Dyma un o ddrygau y Babaeth. Y mae yn gosod awdurdod Cynghorau a Chynhadleddau yn wrthglawdd ar ffordd llanw barn a llafar. Mae y dyn unigol yn rhoddi ei farn i fyny, fel y gwnaeth Cardinal Newman, ac yn ymgrymu i farnau llwydion hen Gynghorau ar y pynciau pwysicaf i ddyn eu deall a'u credu. Ond wrth ymddwyn fel hyn, y mae yn aberthu y rhodd ddwyfol o ryddid ar allor traddodiad. Nis gellir gwadu nad ydyw "traddodiad" yn allu pwysig yn Nghymru. Ceir lluoedd yn coleddu syniadau gwleidyddol a chrefyddol ar gyfrif y ffaith fod eu henafiaid a'u perthynasau yn gwneyd yr un peth. Nid ydym yn dyweyd fod eisiau anmharchu awdurdod neu ddibrisio traddodiad; ond rhagorfraint y dylai pob dyn ei gwerthfawrogi ydyw—fod ganddo ryddid i ffurfio barn ar bynciau mawrion cred a buchedd, yn hollol fel pe mai efe fuasai y dyn cyntaf a anwyd i'r byd. Y mae un awdurdod ag yr ydym yn ystyried ei lleferydd yn oruchaf, ond y mae hono wedi deilliaw oddiwrth Ffynnon rhyddid a Thad y goleuni. Breinlen Fawr—Magna Charta—rhyddid ydyw y Beibl. Y mae yn werth cofio mai y llyfr hwn yr edrychir arno fel awdurdod derfynol gan ddyn sydd, hefyd, yn hawlio i ddyn y rhyddid mwyaf goruchel y gall ei feddu —rhyddid barn. Ond y mae i bob gwir ryddid ei derfynau, neu ei ddeddfau priodol, ac yr ydym yn credu hyny am ryddid barn. Y mae deffinio y terfynau hyn lawer pryd yn orchwyl anhawdd, ac yn aros yn gwestiwn agored hyd y dydd hwn.

YR "ORACL."

Ond nodwn ddau derfyn sydd eithaf amlwg:—Nid ydyw dyn i osod ei farn ei hun yn safon i eraill. "Rhydd i bawb ei farn." Gall barn y naill fod o wasanaeth i'r llall, ond ni ddylid ei gosod i fyny fel safon. Fe ddywedir am ambell i awdwr ei fod yn safon mewn chwaeth, neu mewn arddull; ond anfynych y sonir am ddyn fel safon mewn barn. Mae yn wir fod y gair judicious wedi ei gysylltu yn anwahanol â Hooker, awdwr yr Ecclesiastical Polity. Cysylltir dysg â Dr. Owen, cyfoeth arddull â John Howe; ond y "judicious Hooker" a ddywedir yn wastad. Eto y mae dynion yn gwahaniaethu oddiwrth Hooker. Dengys hyny nad ydyw yn safon derfynol, ac mae yn ddiau nad ydoedd yn ystyried ei hun felly. Safon barn ydyw gwirionedd ac egwyddor, ac y mae y rhai hyn yn bod yn annibynol ar farnau personol. Tra y bydd dyn yn feidrol, a gwirionedd, fel ei Awdwr, yn anfeidrol, nis gellir disgwyl unffurfiaeth mewn barn. Gan hyny yr ydym yn boddloni ar barchu barnau ein gilydd, ond ni fynem droi yn eilunaddolwyr. Dylai dyn ymladd dros ei farn, os bydd raid; ond ymgadwed rhag gwneyd ei hun yn oracl. Mae dyddiau y cyfryw wedi eu rhifo. Gwrthddrych tosturi i bob dyn call ydyw y cymeriad a ddesgrifir gan Shakespeare yn y Merchant of Venice::—

Dywedaf it', Antonio,
Dy garu'r wyf, a'm serch lefara hyn.—
Mae math o bobl i'w cael, a'u gwedd bob pryd
Yn sobr, difrifol, fel y llonydd lyn.

Ac yn fwriadol, cadw'n ddistaw wnant,
Er mwyn rhoi argraff ddofn ar feddwl byd
O bwyll, doethineb, synwyr di-ben-draw,
Ac fel yn dyweyd, "Syr Orael wyf,
A phan lefaraf na chyfarthed ci!"
O, fy Antonio, 'rwy'n eu hadwaen hwy,
Gyfrifir gan y byd yn hynod ddoeth
Am dd'wedyd dim!

BARNU AMCANION.

Nid yw y rhyddid hwn yn caniatau i ddyn farnu bwriadau neu amcanion ei gyd-ddynion. Barnwyr gweithredoedd ydym ni; i Un arall, y perthyn profi "bwriadau a meddyliau y galon." Yr ydym yn hynod barod i droseddu y ddeddf hon, ac i gamarfer ein rhyddid. Y duedd hon sydd yn rhoddi grym i'r anogaeth yn y bregeth ar y mynydd: "Na fernwch, fel na'ch barner." Y mae amcanion pobl yn private ground hyd nes y byddont wedi ymgnawdoli mewn actau gweledig. Nid ydym i fod yn "farnwyr meddyliau" da na drwg. Pan yn priodoli amcanion i eraill yr ydym yn croesi ffin rhyddid barn, ac yn sangu ar lanerch y mae yn ysgrifenedig ar ei therfynau eithaf, "Troseddwyr a gosbir."

Y DDAU GYFNOD.

Gellir rhanu bywyd dyn ynglŷn â'r pwne hwn i ddau gyfnod. Yn y cyntaf, y mae yn ffurfio ei farn, ac yn ceisio dadrys problems mawrion bywyd; wedi cyrhaedd yr ail, y mae ei farn ar bobpeth wedi ei sefydlu. Y mae ganddo ei farn, ac nid yw yn debyg o'i newid am un arall. Ychydig o ddynion, meddir, sydd yn newid eu barn wedi pasio 60 mlwydd oed. Yn awr, yr ydym yn cyfeirio at y rhai sydd yn y blaenaf, a'r pwysicaf mewn gwirionedd-cyfnod ffurfio barn. A thuag at hyny, meithriner y cariad dyfnaf at wirionedd. Sylwa doethawr Paganaidd fod Plato yn gyfaill iddo, a bod Socrates yn gyfaill, ond fod gwirionedd yn fwy o gyfaill iddo na'r ddau. Gall llu o oleuadau eraill fachlud, ond byth ni ddiffydd goleuni y gwir. Dilynwn hwnw i ba le bynag yr elo. Y mae dynion, wrth ganlyn y gwirionedd, wedi myned drwy y tân a'r dwfr; ond ni foddwyd eu hegwyddorion gan y dyfroedd, ac ni losgwyd eu crediniaeth gan y fflam. Yr oll a wnai tân merthyrdod oedd puro eu sothach, a'u gwneyd yn fwy o allu yn y byd fel amddiffynwyr gwirionedd. Cymerwn ninau Wirionedd yn golofn dân i'n harwain drwy anialwch amheuon i Ganaan sicrwydd cred a barn.

Y DDYLEDSWYDD O FEDDWL.

Meddyliwn drosom ein hunain. Gwendid mewn dyn ydyw meddwl llawer am dano ei hun; ond mawredd yn mhawb ydyw meddwl llawer drosto ei hun. Gochelwn fod yn Gibeoniaid meddyliol, gan dreulio ein hoes yn gymynwyr coed ac yn wehynwyr dwfr i eraill. Beiddiwn feddwl nes meddu ar syniadau y gellir dyweyd am danynt iddynt gael eu bôd “on the premises." "Ni raid i Arthur wrth ffyn baglau;" a rhagoriaeth meddyliwr ydyw medru cerdded drosto ei hun.

Nis gallwn derfynu heb grybwyll y ffaith fod yn bosibl, ac yn angenrheidiol i ddyn rai gweithiau newid ei farn. Yr oedd diweddar arweinydd Ty y Cyffredin yn hòni iddo ei hun yr hawlfraint hon, ac yn ymddangos yn benderfynol o'i hawlio mewn dull a gyfiawnhai sen ei gydlafurwr cariadus, Mr. Chaplin, fod rhai dynion yn newid eu barnau yn fuan iawn! Tra yn dadleu dros ddiysgogrwydd mewn barn, nid ydym am hòni iddi anffaeledigrwydd. Mae y dynion mwyaf wedi newid eu barn ar lawer pwnc. Fe ysgrifenodd Awstin gyfrol i alw yn ol sylwadau a wnaethai mewn blynyddau blaenorol ar faterion duwinyddol, am fod ei farn am danynt wedi cyfnewid. Ond ni ddylai hyn fod yn beth dibwys na byrbwyll ar unrhyw amgylchiad. Y mae barnau wedi cael eu cymharu i oriaduron. Nid oes dwy oriawr yn hollol yr un fath, ac eto y mae pawb, meddir, yn coelio ei oriawr ei hun. Yr un modd mewn perthynas i farnau a golygiadau. Ond gyda'r watch y mae dynion call yn myned â hi yn awr ac eilwaith i'w gosod yr un fath ag amser Greenwich, neu yn hytrach ag awrlais yr haul. Y mae eisiau gweithredu yr un fath gyda barn bersonol. Dylid ei dwyn yn fynych i "wyneb haul, llygad goleuni "-goleuni rheswm a goleuni ffeithiau. Y mae yr haul hwn yn codi yn uwch i'r làn o hyd. Un rheswm a roddid dros gael cyfieithiad diwygiedig o'r Beibl ydoedd fod llawysgrifau wedi eu darganfod oeddynt yn taflu goleuni pwysig ar y testun gwreiddiol. Ac fe ellir dyweyd fod rheswm tebyg yn bod dros i ddynion revisio eu barnau a'u syniadau. Dygir ffeithiau newyddion i oleuni, ac os na chydsaif y farn flaenorol â'r ffaith bresennol-dylid ei newid.

Y LLYS AGORED.

Llys agored ydyw llys barn bersonol i fod. Nid oes un dystiolaeth i gael ei gwrthod; ac, o'r tu arall, nid oes un syniad i gael ei gollfarnu cyn cael true bill yn ei erbyn. Ond y mae egwyddorion y llys yn aros yn ddigyfnewid. Yr un yw Gwirionedd ymhob oes. Y mae yn werth i ni gloddio a myned yn ddwfn i osod ein barn bersonol ar seiliau cedyrn egwyddorion, ac yna ni raid ofni unrhyw chwyldroad. Bydd pob cyfnewidiad yr awn drwyddo yn cydredeg â'r eiddo natur ei hun. Cyfnewid y byddwn fel y mae bywyd yn gwneyd,-o'r anmherffaith i'r perffaith, o'r rhan i'r oll, o'r wawr i'r dydd. Yn yr ystyr hwn gellir defnyddio geiriau prydferth y Salmydd, "Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a'th farn fel hanner dydd!"

CASTELL CAERNARFON.


YSBRYD RHYDDID.

MAE ysbryd yn y castell hwn:
Ac nid oes Gymro dan y nef,
Eill basio tan y muriau mawr,
Na sylla'r ysbryd arno ef;
O ben y tŵr a phen y mûr,
Fe laddodd filoedd yn ei wg;
Ond ysbryd da yw ef yn awr,
Er iddo fod yn ysbryd drwg.

—Ceiriog.


YDYW, y mae ysbryd Rhyddid a gwladgarwch ar ddihun. Ceir arwyddion ohono ar bob llaw. Dichon mai yn nghyfeiriad gwleidyddiaeth y mae'r ynni newydd hwn i'w weled gryfaf, ond y mae pob adran o'n bywyd cenedlaethol yn prysur deimlo ei bresenoldeb. Treiddia i bob congl o gymdeithas, ac y mae eisoes wedi rhoddi symbyliad grymus i lenyddiaeth ein gwlad. Ac nid yw yn gyfyngedig i derfynau y Dywysogaeth: ymleda yn gyflym i wahanol rannau o'r byd. Dan ei ddylanwad ymwasga y Cymry at eu gilydd. Y mae cymdeithasau Cymreig yn dod i fodolaeth mewn mannau pellenig. Gwelir Cymry ieuainc yn ymgodi o ganol y berw Seisnig i amddiffyn a chefnogi buddiannau ein gwlad gynhenid. Gwnant hynny dan ddylanwad yr ysbryd newydd sydd wedi deffro yn nghalon ein cenedl. Beth yw rhai o nodweddion yr ysbryd newydd? Pa beth a ddywed efe wrthym?

EIN DIFFYGION CENEDLAETHOL.

Y mae yr ysbryd yr ydym yn son am dano, yn ein harwain, yn un peth, i edrych yn myw llygaid ein diffygion. Ein tuedd yn yr amser a fu ydoedd rhedeg i un o ddau eithaf. Un ydoedd dibrisio pobpeth Cymreig. Dyna wendid llawer o Gymry ar ol iddynt ymgymysgu rhyw gymaint â'r hil Sacsonaidd. Yr oedd gwlad eu tadau yn mynd yn ddiddim yn eu golwg: ei phentrefi yn ddi-nod, ei phobl yn druain, dlodion, ac am ei llenyddiaeth hwy a ddywedent yn drwynsur—“ y manna gwael hwn.”

Yr eithaf arall ydoedd gor-foli pobpeth Cymreig am mai Cymreig ydoedd. Gwelwyd cryn lawer o hyn yn nglŷn â'n Heisteddfodau a'n cylch-wyliau llenyddol. Dywedwyd rai gweithiau, nad ydoedd Homer na Miltwn yn ogyfuwch a rhai o feirdd gorseddol ein gwlad. Proffwydwyd anfarwoldeb i lawer cyfansoddiad a fu farw yn ei febyd, a hynny er cryn niwaid i fynych wendid yr awdwyr. A phan fyddai gwŷr pwyllgor fel y diweddar Dr. Edwards, o'r Bala, yn ceisio cymedroli y fath ormodiaeth, mawr yr helynt a ddigwyddai ar feusydd y cylchgronau a'r newyddiaduron. Erbyn hyn, y mae caredigion ein cenedl yn credu fod y ddau eithaf a nodwyd yn feius, ac yn dra anfanteisiol i wir gynydd.

Ar un llaw, y mae yn anheilwng o Gymro i ddibrisio y wlad a'i magodd. Os yw yn teimlo fod yna lawer o bethau y dylid eu gwella, ei ddyledswydd fel gwladgarwr ydyw gwneyd ei oreu i symud y tramgwyddiadau, a dyrchafu cymeriad Cymru, yn ddeallol a moesol, i dir uwch. Ac y mae gan y Cymry ar wasgar, y rhai y mae eu llinynau wedi syrthio yn mysg cenedloedd eraill, gyfleusderau godidog yn y cyfeiriad hwn. A hyfryd ydyw meddwl fod gwaith rhagorol yn cael ei wneyd allan o Gymru, a hyny dros Gymru. Lefeinir meddyliau cenedloedd y byd gan ddylanwad iachus y Cymry gwladgarol hyny sydd yn ymladd brwydr bywyd ochr-yn-ochr à goreuon gwledydd eraill. Y mae Dic Shon Dafydd erbyn heddyw yn fod dirmygus i'r eithaf y mae ysbryd Rhyddid wedi ei wânu â'i gledd:

Ai tybed fod y cyfryw un,
Na dd'wedodd rywbryd wrtho'i hun,—
Hon yw fy ngenedigol wlad!

Yr hwn ni ŵyr am ysgafn fron,
Pan ddychwel eilwaith dros y dòn,
Yn ol i fro mabolaeth fâd:

Os oes fath un o dan y nef,
Ni ddyrcha beirdd ei glodydd ef,—
Er meddu swydd ac uchel sedd,
A llawnder byd o'r cryd i'r bedd,
Er maint ei gyfoeth, dwl yw'r dyn,
Sy'n byw yn hollol iddo ei hun.


O'r tu arall y mae yr ysbryd newydd yn ceryddu y rhagfarn a'r anwybodaeth fu yn arwain dynion i wenieithio lle y dylesid dysgu, ac i waeddi "Perffeithrwydd" uwchben yr hyn oedd yn eglur brofi y diffyg ohono. Ond y mae gwawr cyfnod gwell wedi tori. Yr ydym yn gallu goddef ein harweinwyr gyfeirio at ddiffygion ein gwlad a'n cenedl. Y mae hynny'n arwydd er daioni. Wrth gwrs,

nid edliw beiau ydyw yr amcan a'r nod, ond credwn fod yn rhaid cychwyn yn y modd hwn cyn y ceir sail gadarn a diogel i Gymru Fydd.

Y mae rhai o'r diffygion hyn yn cael eu dannod ini gan ein cym'dogion Seisnig. Dywedai Robert Burns mai rhodd y duwiau ydyw y ddawn i weled ein hunain megys y mae eraill yn ein gweled. Ond dylid cydnabod fod llawer yn dibynu ar ansawdd llygad a meddwl y sawl a fyddo yn edrych arnom. Y mae lliw-ddallineb yn bod mewn mwy nac un ystyr. Ni a wyddom fod rhai o'r Saeson wedi bod yn haeru am danom bethau chwerw,diffyg parch i eirwiredd, a diffyg gonestrwydd ymarferol. Y mae y rhai'n yn gwynion trymion, a chredwn nad ydynt wedi eu profi. Yr un pryd, y ffordd i'w gwrthbrofi ydyw dyblu diwydrwydd yn y rhinweddau a'u cyffelyb. Hyderwn fod y dydd yn agos pan fo yr enw Cymro yn gyfystyr â geirwiredd a gonestrwydd, ac od oes un rhinwedd arall heb ei feithrin yn ddyladwy,-meddyliwn am y pethau hyn.

Ond y mae un diffyg ag yr ydym ni ein hunain yn ymwybodol ohono, ac yn dioddef yn ddwys o'i herwydd. Adwaenir ef fel

DIFFYG DYFALBARHAD.

Yr ydym, fel cenedl, yn hynod frwdfrydig dros amser, ond pan ddel gorthrymder neu erlid, y mae sel llaweroedd yn oeri ac yn diffodd. Gynifer o bethau gawsant eu cychwyn yn Nghymru—eu cychwyn yn nghanol banllefau croch, ond y mae eu bywgraffiad yn cyd-daro ag eiddo y cicaion,—"Noswaith y bu, ac mewn noswaith y darfu." Yn y dyddiau diweddaf hyn fe gydnabyddir fod genym athrylith, ac mai nid y lleiaf o'r holl hadau ydyw athrylith y Celt. Ond, yn nglŷn â'r gallu hwnw, dywedir ein bod yn amddifad o'r gallu i bara, i lynu, ac i orchfygu. Y mae rhwystrau yn ein gwan-galoni. Nid ydym yn meithrin yr ystyfnigrwydd—y doggedness hwnw sydd yn nodweddu y Teutoniaid. Dyma guddiad cryfder y gwŷr hynny sydd wedi gwneuthur iddynt enw yn mysg y cedyrn. Rhyfedd oedd y darganfyddiadau a wnaeth Darwin yn nglŷn â chreaduriaid ac ymlusgiaid, ond ei brif arbenigrwydd fel gwyddonydd ydoedd ei allu i ddyfal-bara,―i roddi pobpeth dan archwiliad trwyadl. Nid oedd yn cymeryd dim yn ganiataol, os gallai drwy lafur a sylwadaeth bersonol roddi cyfrif am dano.

Lluosog ydyw dyfeisiau Edison, ond y mae hanes y gwr hwnw yn tystio mai nid gweledigaethau crebwyll bywiog ydoedd y gwahanol offerynau celfydd y mae efe wedi eu troi allan i'r byd. Dywed efe ei hun iddo fod am fisoedd yn perffeithio un o'i beirianau i swnio y llythyren S. Yr oedd y dasg yn un anhawdd, ond arhosodd yr athraw gyda'r disgybl nes y dysgodd y wers. A dyna un o'r gwersi pwysicaf sydd genym ninnau i'w dysgu yn y blynyddau hyn: glynu wrth ein hamcanion cenedlaethol nes dwyn barn i fuddugoliaeth. Dywedodd John Morley, ar ryw achlysur, ei fod yn cymeryd ugain mlynedd i ddrychfeddwl newydd wneyd ei ffordd drwy Dy y Cyffredin. Y mae genym ninnau yn Nghymru amryw ddrychfeddyliau gwiwdeg sydd wedi enill ein bryd, ond a fedrwn ni lynu wrthynt am ugain mlynedd, neu ychwaneg, os bydd raid, heb laesu dwylaw?

RHYDDID AC UNDEB

Arwyddair y cyfnod hwn ydyw—rhyddid ac undeb; Y mae rhyddid mewn undeb, ac undeb mewn rhyddid. gwir undeb yn rhag-dybied rhyddid. Nis gall caethiwed gynyrchu undeb. Y mae yn bosibl i gaethiwed roddi bod i unffurfiaeth. Gall wneyd hynny tra y byddo y gallu sydd yn caethiwo yn ddigon cryfi ddal rhyddid ac annibyniaeth ar lawr, ond nid oes yno undeb. A'r foment y mae y gallu sydd mewn caethiwed yn dechreu ymysgwyd, y mae unffurfiaeth—y dynwarediad hwnnw o undeb—yn cael ei aflonyddu yn y fan. Ond y mae gwir ryddid yn sicrhau gwir undeb. Y mae rhyddid i ddyn yn tybied amcan a nod. Beth ydyw caethiwed? Atalfa ormesol ar yrfa dyn neu genedl yn nghyfeiriad cynydd a daioni. Saif caethiwed, yn mhob oes, rhwng plant dynion a rhyw Ganaan y mae Duw wedi ei rhoddi iddynt mewn addewid. Beth ydyw rhyddid? -rhyddid cydwybod, - rhyddid barn a llafar? Dim amgen nac agoriad y môr, boddiad Pharaoh a'i lu, didoliad yr hyn sydd yn atal drwy anghyfiawnder. Nid ydyw rhyddid yn terfynnu ynddo ei hun. Moses ydyw,arweinydd drwy'r anialwch. Y mae rhyddid yn tybied amcan a nôd. Am hynny, y mae'n tywys dynion i rwymau undeb a chydweithrediad. Dyna sydd yn cyfrif am sefyllfa pethau yn Nghymru yn y blynyddau presennol. Y mae llanw rhyddid yn chwyddo'n uwch i'r lan, ac y mae ysbryd uno ac aduno yn ymledu ar bod llaw. Yr ydym yn awyddus i suddo y mân-wahaniaethau, ac i sicrhau undeb ysbryd yn nglŷn â'r pethau hynny ag y mae ein dyfodol fel cenedl yn gysylltiedig â hwy. Undeb mewn pethau hanfodol: rhyddid barn, undeb ysbryd.

SAFON TEILYNGDOD.

Y mae hwn yn ymburo ac yn ymddyrchafu. Ceir dynion ar y blaen yn Nghymru, yn y blynyddau hyn, nid oblegyd. yr hyn sydd o'u hamgylch, ond yn hytrach oblegid yr hyn sydd ynddynt. Yr ydym wedi bod ar lawer adeg yn gwasanaethu ac yn addoli duwiau gau. Nid oedd yr eilun yn deilwng o'r edmygedd a wastreffid arno. Yn mysg yr eilunod hyn yr oedd cyfoeth a safle gymdeithasol. Cenedl orchfygedig a fuom,—cenedl dlawd, ac yr oedd presenoldeb y bendefigaeth, yn ystyr ffasiynol y gair, yn rheibio ein golygon. Nid ydyw Mammon-addoliaeth, a chysegredigaeth gwr o "waed" neillduol, wedi darfod o'n gwlad, ond y mae yn rhywle ar y goriwaered.

Eilun arall y cawsom ein hud-ddenu ganddo ar lawer adeg, ydoedd athrylith a thalent wedi ei hysgaru oddiwrth rinwedd. Bu rhai o'n harweinwyr llenyddol a gwladol yn cadw eu safle yn unig yn ngrym eu galluoedd a'u doniau. Yr oedd y rhai hyny yn cuddio lluaws o bechodau. Ond erbyn hyn nid ydyw swyn-gyfaredd talent yn ddigonol heb fod yn ei pherchen warogaeth i gymeriad moesol. Dywedir fod gan y Rhufeiniaid ddwy deml,—un yn gysegredig i rinwedd, y llall i enwogrwydd. Ac yr oeddynt wedi eu hadeiladu yn y fath fodd fel nad oes yn bosibl mynd i deml clod ond drwy deml rhinwedd. Y mae ein cenedl ninnau, bellach, yn dod i gredu yr un gwirionedd. Y mae ysbryd rhyddid—ysbryd Cymru Fydd—yn gwylio pyrth temlenwogrwydd, ac nid yw yn caniatau mynediad i mewn ond i'r sawl fyddo yn dod yno drwy deml rhinwedd, ar sail cymeriad glan a difefl. Y drwydded i fywyd cyhoeddus yn y dyfodol fydd,—gallu a charictor. Dyma y safon,—yr unig wir safon, i bob swydd, wladol, lenyddol, a chrefyddol o fewn y tir.

Credwn mai y cyfnod euraidd yn hanes gwlad ydyw yr adeg honno pan fyddo ei harweinwyr, mewn meddwl a moes, yn gynyrch naturiol y wlad ei hun. Y mae hyn yn cael ei awgrymu gan un o'r proffwydi Hebreig. "Canys Arglwydd y lluoedd a ymwelodd a'i braidd, tŷ Judah, ac a'u gwnaeth fel ei harddfarch yn y rhyfel." Beth fydd y canlyniad ? "Y gongl a ddaw allan o hono, yr hoel o hono, y bwa rhyfel o hono. A byddant fel cawri yn sathru eu gelynion yn y rhyfel; a hwy a ymladdant, am fod yr Arglwydd gyda hwynt" (Zechariah x. 4, 5). Yr ystyr, meddir, ydyw, fod arweinwyr y genedl i godi ohoni ei hun, o ddyfnderoedd ei hysbryd a'i gwaith. Y "gongl' conglfaen yr adeilad, dyna y dosbarth blaenaf. Dynion a phwysau yn eu barn ac yn eu bywyd: cymeriadau wedi eu cyfaddasu i fod yn feini bywiol yn yr adeilad gymdeithasol,-"Y gongl a ddaw allan o hono." Yr "hoel" hefyd. Dynion a'u hargyhoeddiadau fel hoel mewn lle sicr. "Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa.' "Yr hoel a ddaw allan o hono." Yr un modd am y "bwa rhyfel." Yr ydym wedi bod yn sôn yn y rhannau blaenaf o'r llyfr hwn am frwydrau y gorphenol,—brwydrau rhyddid, a gwroniaid y ffydd. Ond na thybier fod cyfnod y brwydro wedi myn'd trosodd mewn llawer cyfeiriad, nid ydyw ond prin wedi dechreu. Y mae arnom anghen y sawl sydd yn berchen bwa, yn medru anelu gyda chywirdeb William Tell. Diolchgar ydym am gynorthwy gwŷr o fysg cenedloedd eraill i ymladd ein rhyfeloedd, ac i ddadleu drosom, ond yr ydym yn disgwyl yn y dyfodol wrth y gatrawd Gymreig, nid i ddefnyddio y fagnel a'r cledd, ond yr "arfau nad ydynt gnawdol," i godi'r hen wlad. Ac yn olaf a phenaf, y "rheolwr a ddaw allan o hono." Yr ydym yn edrych ymlaen yn awyddus at yr adeg pan y bydd Cymru, yn ei phethau hanfodol, yn cael ei rheoli gan Gymry pan y bydd ein llywodraethwyr yn ddadblygiad teg o fywyd ac adnoddau ein cenedl. Yr ydym yn disgwyl hyn am ein bod yn credu gwirionedd y broffwydoliaeth Hebreig, mai y cyfnod euraidd yn hanes gwlad ydyw yr adeg pan y byddo ei harweinwyr yn gynyrchion naturiol, deallol, a moesol y wlad ei hun.

Ac i'r amcan hwn, y mae ysbryd Rhyddid yn ysbryd sydd a'i fryd ar roddi chwareu teg i bob dosbarth a gradd, a mwy na hyny, y mae'n awyddus i roddi y fantais oreu i bawb i lanw y cylch y mae ei alluoedd a'i ymroddiad yn deilwng o hono. Yr amcan mawr ydyw cynyrchu cymeriadau addas i arwain cenedl, a hyny ar hyd llwybrau uniondeb.

YN EISIAU:-DYNION.

Nid ydyw o gymaint pwys o b'le y byddant wedi dod.. Y mae y bwthyn a'r palas ar yr un tir yn hollol. Yr hyn sydd bwysig ydyw eu cael, ac wedi eu cael, gwneyd defnydd dyladwy ohonynt.

Rhaid eu cael. Rhoddion ydynt, a'r rhoddion penaf sydd yn dod oddiwrth Dad yr Ysbrydoedd i'r byd hwn. Nis gellir eu llunio wrth reol: nis gellir eu harchebu fel nwyddau masnachol. Y maent fel yr hâd yn y ddaear tyfu, ac yn egino, y modd nis gwyddom ni,—yn gyntaf yr eginyn, ar ol hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. Ond y mae ar ein llaw ni ofalu am yr egin grawn, rhag i'r gelyn-ddyn ei ddinystrio, a rhag i'r un bwystfil ei fathru dan draed.

"God give us men. A time like this demands
Strong minds, great hearts, true faith and ready hands.
Men whom the lust of office does not kill,
Men whom the spoils of office cannot buy,
Men who possess opinions and a will,—
Men who have honour,-men who will not lie."


Y mae bwthyn a phalas ar yr un tir


I[3]


"A oes am dlodi, gonest bwn,
Yn gwyro'i ben, a hyn oll,
Y caethwas llwir, awn heibio hwn,
A meiddiwn fyw, er hyn oll,
Er hyn oll, a hyn oll,
Ein lludded cudd, a hyn oll,
Nid ydyw urdd ond argraph aur,
Y dyn yw'r pwnc, er hyn oll.

II.


Pa waeth, os cinio prin, yn flin,
A sinced lwyd, a hyn oll,
Caed ffol ei sidan, enâf ei win,
Mae dyn yn ddyn, er hyn oll;
Er hyn oll, a hyn oll,
Eu heurwé fain, a hyn oll,
Y gonest ddyn, waeth pa mor dlawd,
Yw brenhin pawb, er hyn oll,

III.


Chwi welwch draw'r ysgogyn balch,
Yn syth ei drem, a hyn oll,
Er crynn rhai wrth air y gwalch,
Nid yw ond coeg, er hyn oll;
Er hyn oll, er hyn oll,
Ysnoden aur, a hyn oll,
Y dyn ag annibynol fryd,
A ysgafn chwardd, ar hyn oll.

IV.


Gall brenhin wneuthur marchog llawn,
Ardalydd, duc, a hyn oll,
Ond gonest-ddyn, a chalon lawn,
Sy' fwy nas gall, er hyn oll;
Er hyn oll, er hyn oll,
Eu hurddas gwych, a hyn oll,
Y synwyr cryf, a'r meddwl teg,
Sy' raddau uwch, na hyn oll.


V.


Rhown lef ynghyd, am ddod y pryd,
A dod a wna, er hyn oll,
Bydd synwyr clyd, dros wyneb byd,
Yn dwyn y parch, a hyn oll;
Er hyn oll, a hyn oll,
Yn dod y mae, er hyn oll,
Pan dros y byd, bydd dyn a dyn,
Yn frawdol un, a hyn oll."

GWILYM CAWRDAF.
PENNOD I.
"AWENAWG WR O WYNEDD."

PENAWD nifer o ysgrifau sydd wedi ymddangos yn ddiweddar ydyw—"Enwogion Anghofiedig." Ofnwn fod yn rhaid i ni osod enw Gwilym Cawrdaf ar y rhestr. Hynod mor ebrwydd y mae plant dynion yn llwyddo i wneyd hyn! Priodol y gelwir y bedd yn "dir anghof." Unwaith yr elo dyn oddiar y chwareufwrdd, y mae eraill yn cymeryd ei le, ac yntau a anghofir. Eben Fardd yn ei henaint a ddywedai

Daw eraill feirdd awdurol
Yn fuan, fuan ar f'ol.

A'r beirdd "awdurol" hyny sydd yn cael sylw am dro, nes y daw actors newyddion ar y llwyfan. Mae anfarwoldeb yn air a ddefnyddir yn ddibrin am feirdd a llenorion, ond dylid cofio fod afon Anghof yn para i redeg rhwng ein byd ni a'r distaw dir lle yr arweinir dynion yn mhob oes. Ond nid yw hyny yn un rheswm dros beidio ymdrechu i gadw coffadwriaeth athrylith yn fytholwyrdd, a rhoddi i awdwyr y gorphenol eu lle cyfreithlawn yn ein llenyddiaeth. Dylem gofio Cymru Fu yn ei hawdwyr a'i thrysorau, tra yn mawrygu Cymru Sydd, ac yn disgwyl pethau gwych am Cymru Fydd. Hyn sydd genym mewn golwg wrth alw sylw at Gwilym Cawrdaf. Y mae wedi ei ddweyd am fardd Seisnig, fod mwy o ganmawl nag sydd o ddarllen arno. Onid yw yr un peth yn wir am Cawrdaf? Dyfynir rhai o'i linellau mor fynych, ond odid, a dim yn yr iaith, ond credwn fod naw o bob deg yn gwneyd hyny heb wybod ond ychydig am y cyfansoddiadau y mae y cyfryw linellau yn rhan o honynt. Ni ddylai y pethau hyn fod.. Gobeithiwn allu dangos fod Cawrdaf yn un o awdwyr clasurol ein hiaith, ac am hyny yn haeddu sylw pob un sydd yn ymgeisio am y cymeriad o lenor Cymreig.

Yn gyntaf oll, dodwn ger bron y darllenydd rai o brif ffeithiau ei fywyd. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Tyddyn Sion, Abererch, ger Pwllheli, Hydref 9, 1795—ychydig dros gan' mlynedd yn ol. Enwau ei rieni oedd Ellis a Catherine Jones, y rhai a symudasant i'r ardal hono o gyffiniau Bont-ddu, gerllaw Dolgellau. Bedyddiwyd y plentyn yn Eglwys Cawrdaf-yr ydym yn adrodd y ffaith er dangos o ba le y tarddodd ei ffugenw. Pan yn 13 mlwydd oed rhwymwyd ef yn brentis o argraffydd gyda Mr. Richard Jones, cefnder iddo, yn nhref Dolgellau. Yn y swyddfa hono yr argreffid gweithiau Dafydd Ionawr, a Dafydd Ddu, a darfu i ysbrydiaeth y gweithiau rhagorol hyny enyn y ddawn farddonol yn y llanc oedd yn eu cysodi̟ Tua'r un adeg dangosodd duedd gref at dynu darluniau, a daeth yn fuan yn artist gwych heb gymorth un athraw— prawf fod y dalent ynddo yn gynhenid. Ar derfyn ei brentisiaeth symudodd i Gaernarfon, a bu am ysbaid yn swyddfa Mr. L. E. Jones, yr hwn hefyd oedd gefnder iddo. Yn y swyddfa cyhoeddid cyfres o gyfrolau dan yr enw “Dyddanwch Teuluaidd "—yn cynwys gweithiau Goronwy Owain, Lewys Morus, ac ereill. Golygid yr oll gan Dafydd Ddu Eryri. Deallodd yr hen fardd y gellid gwneyd awenydd o'r llanc oedd yn y swyddfa; taenodd ei aden yn dyner drosto, a bu iddo yn athraw barddonol. Gwnaeth Dafydd Ddu lawer yn y ffordd hon. Efe oedd sefydlydd a prif oleuad "Cymdeithas Eryron," yr hon a gynelid yn y Bontnewydd. Tyfodd beirdd rhagorol o'r gymdeithas hon ; ac yma, ar Tachwedd 24, 1816, y derbyniodd gwrthrych ein sylwadau yr enw barddonol, Gwilym Cawrdaf. Yn 1817, symudodd i'r Brifddinas, ac yno ymaelododd â chymdeithas enwog y Gwyneddigion. Yr ydym wedi crybwyll am ei fedr mewn arlunio. Tra yn Llundain daeth boneddwr i wybod am dano yn y cymeriad hwn, a chymerodd ef yn gydymaith i'r Cyfandir, lle y bu yn teithio, gyda llawer o foddhad fel landscape painter. Bu yn y parthau mwyaf nodedig o Ffrainc ac Itali, ac y mae yr argraffiadau a wnaed ar ei feddwl pan yn dringo llethrau Vesuvius wedi eu hadgynyrchu ganddo yn hanes y "Meudwy Cymreig." Bu yn dilyn yr alwedigaeth o artist wedi dychwelyd i Lundain, ond pallodd ei iechyd. Daeth i Feirion i fod yn olygydd yn yr hen swyddfa lle y bu yn brentis, yn Nolgellau. O hyn allan ymroddodd yn fwy llwyr i lenyddiaeth a barddoniaeth. Graddiwyd ef yn fardd yn Eisteddfod Caernarfon, Medi, 1821. Enillodd gadair Gwent a Morganwg yn 1822. Y testyn oedd "Rhaglawiaeth Sior IV." Tra yn Nolgellau, bu yn egniol iawn i sefydlu a dwyn yn mlaen gymdeithas Gymroaidd i drafod gwahanol ganghenau llên. Yn 1824, symudodd i Gaerfyrddin, a mawr oedd cwyn llenorion Dolgellau ar ei ol. "Collwyd yr aelod callaf," ebe un o honynt. Yn y flwyddyn hon (1824) enillodd wobr wych yn Eisteddfod y Trallwm, am Gywydd ar "Oresgyniad Mon," dan feirniadaeth Gwallter Mechain. Yn 1832, enillodd wobr am Gywydd i "Dafydd yn canu y delyn o flaen Saul," yn Eisteddfod Freninol Beaumaris, pan y derbyniodd yr arian-dlws o law ein Grasusaf Frenines. Ond heblaw y pethau hyn, llafuriodd yn helaeth mewn cyfeiriadau eraill. Efe a gyfieithodd y "Byd a Ddaw" gan Dr. Wats, i'r Gymraeg. Gwnaeth yr un peth a hanes anturiaethau cenhadol John Williams, merthyr Eromanga. Cyfansoddodd waith helaeth hefyd, yn dwyn yr enw, "Hanes y Nef a'r Ddaear," ond bu farw pan oedd y llen olaf o hono yn y wasg. Cymerodd yr amgylchiad le Mawrth 27, 1847, ac efe yn 53 mlwydd oed.

Cyhoeddwyd casgliad o'i gyfansoddiadau yn nhref Caernarfon yn 1851, gan Ellis Jones, Heol y Capel. Yn nechreu y llyfr coffeir y sylw mai gwaith bardd yw y bywgraffiad goreu o hono. Eithaf gwir.

PENNOD II.
"Y MEUDWY."

Y CYFANSODDIAD rhyddiaethol o eiddo Gwilym Cawrdaf sydd wedi tynu mwyaf o sylw ydyw y "Bardd, neu y Meudwy Cymreig, yn cynwys teithiau difyr ac addysgiadol y Bardd gyda Rhagluniaeth." Derbyniodd y llyfr lawer o ganmoliaeth, a hyny gan wŷr o safle Caledfryn, ond ofnwn mai ychydig o ddarllen sydd arno yn ein dyddiau ni—dyddiau y penny dreadfuls a'r tit-bits. Ond ein barn onest ydyw fod chwedl dlos, chwaethus, Cawrdaf, yn werth tunell o'r chwedlau sensational a ddarllenir yn awr.

Amcan proffesedig yr ystori ydyw taflu goleuni ar rai o droion rhyfedd Rhagluniaeth yn eu perthynas a gwahanol ddosbarthiadau o ddynion, gan ddangos yr effeithiau amrywiol sydd yn dilyn ymweliadau llwyddiant neu adfyd y naill ddyn rhagor y llall. Arwr yr hanes ydyw y Meudwy, neu y bardd, fel y gelwir ef fynychaf—efe sydd yn adrodd ei helynt i awdwr y chwedl, ac efe ar y pryd yn ymwelydd â bwth y bardd.

Cychwyna yr awdwr gyda desgrifiad meistrolgar o longddrylliad ar lanau Cymru. Yr oedd efe, a llu eraill, yn dychwelyd i'r Hen Wlad, ond pan yn ngolwg ei bryniau cododd yn dymestl o'r fath ffyrnicaf, a hyrddiwyd y llestr yn erbyn traeth creigiog a pheryglus. Dyma fel y desgrifir eu sefyllfa: "Rhyfeddol oedd y gwahaniaeth a wnaethai un dydd ar y llong a'r dynion oedd arni! Y boreu ddoe yn llestr dlos, dal-gref, mor hardd, a galluog ag un yn Mor y Werydd—yn ei llawn hwyliau, a'i hwylbreni hirfeinion yn hollti y cymylau fry, a'i chorff megys castell cadarn ar y mor berwedig; a dynion yn llawenychu wrth agoshau at hoff wlad eu trigfan a'u cyfeillion, lle yr oedd gwrthrych serch ambell un yn ocheneidio yn hiraethus am dano; ambell fam yn disgwyl yn ddyfal gyda chalon frwd am ddychweliad unig fab ei mynwes, a gwragedd am eu priod a thad eu plant. Ond heddyw y castell cadarn wedi hollti drwyddo, a chymaint a allai ei breswylwyr wneyd oedd ei gadw rhag llwyr suddo; yr hwyliau wedi hollti fel gardysau, ac ambell ddernyn o honynt wedi glynu yn y rhaffau, ac yn chwyrnu yn nanedd cynddaredd y gwynt. Y dynion oedd yn llawenychu ddoe wrth yr olwg ar wlad eu genedigaeth, yn edrych arni heddyw fel ar wyneb marwolaeth."

Ond yr oedd ar lan y môr elynion mwy creulawn a didosturi na'r ystorm. Gwylid y llestr anffodus gan fintai o ladron y glanau; ac yn lle ceisio achub y bywydau gwerthfawr, maent yn prysuro marwolaeth lluaws o honynt, er mwyn yr aur a'r arian allai fod yn eu meddiant. Mae yr Hanesydd yn cael ei hyrddio i fynwes y don, ac yn colli pob ymwybyddiaeth. Y lle nesaf y mae yn cael ei hunan ynddo ydyw mewn ystafell-wely, mewn lle hollol ddieithr, ac amryw yn gweini yn garedig arno. Deallai, wedi holi, ei fod yn nhy ficer y plwyf, yr hwn oedd wedi ei wareduyr unig un o'r holl deithwyr-o safn marwolaeth. Mae desgrifiad y ficer o'r modd y gwaredwyd y llong-ddrylliedig, ac ymddygiadau annynol y môr-ladron, yn hynod o fywiog. Wedi iddo ef a'i wŷr lwyddo i dynu y corff— oblegid nid oedd yn ddim amgen ar y pryd-o safn don, ebai y ficer: Dyna hen wreigan haner gwlyb yn dyfod atom, a siwgr toddedig yn treiglo i lawr hyd ei gruddiau, a thros ei hysgwyddau, gan ei bod wedi llenwi ei het âg ef, ac yntau yn wlyb, a dywedodd wrthym:

GLAN Y MOR


"Teflwch yr ysgerbwd yna yn ol i'r môr, rhag ofn iddo ddyfod ato ei hun, oherwydd os daw yn fyw ni chawn ni un tipyn o'r broc a ddaeth i dir heddyw. Nyni a gawsom lawer yn lled-fyw, ond taflasom hwynt yn eu hol bob un o honynt; ac nid oes neb wedi ei adael i ddweyd chwedlau, am wn i; felly, teflwch chwithau y crwydr-gi yna yn ol i'r môr. Mi wrantaf mai rhyw hen chwiw-leidr ydyw, sydd wedi haeddu ei grogi ganwaith, ond fel y dywed yr hen air—‘Y neb a anwyd i'w foddi, ni chaiff byth mo’i grogi’ -ymaith ag ef. " Ond ni wrandawyd ar gais yr hen greadures galon-galed. Rhoddwyd iddi drochfa dda yn y tonau, a chludwyd y teithiwr anffodus i anedd y ficer, lle y derbyniodd ofal a thynerwch cyfartal i'r eiddo mam. Wedi treulio amryw ddyddiau yno i ymgryfhau, mae yr Hanesydd un bore yn myned i olwg y llanerch lle y digwyddodd y trychineb. Dyma ei eiriau: "Daethym yn union i'r lle, ac O! y fath wahaniaeth a welaf heddyw ar y corff dyfrllyd ehang-faith sydd o'm blaen; ei wyneb mor dawel a'r drych sydd yn y parlwr, yn un llen gyfan fel dôl o wydr gloew, ac ambell fad pysgota yma ac acw, a'u rhwyfau yn pelydru yn yr haul, megis brychau ar ei wyneb."

Yn ystod ei arosiad yn y ficerdy, parhai i fyned allan bob bore i chwilio am olygfeydd newyddion. Ar un o'r cyfryw deithiau y mae yn dyfod o hyd i'r hyn a gyfenwir ganddo yn Fwth y Bardd.

Mae ei ddarlun o'r fan yn nodedig o dlws. Dyma fel y dywed:- Ar fy llaw chwith yr oedd ceunant cul wedi ei amdoi â choed, a ffrwd fechan o ddwfr can loewed a'r grisial yn rhedeg drwy ei ganol, a chareg fechan yma ac acw, gyda cheulan wedi trysori baich o'r man-raian hyfrydaf, lle y gwelid y brithyll yn chwareu uwch wynebdisglaeriol ei balmant amryliw. Wrth ddilyn gyda y ffrwd sïog hon, cefais ambell eisteddle hyfrydlawn iawn, yr hon oedd fel myneg-bost, fod rhywun yn agos yno a fyddai yn mwynhau tawelwch ac unigrwydd, Dilynais y ffrwd nes i mi gael fy atal gan glawdd gardd, golwg yr hon a'm synodd yn fawr iawn. Aethym drwy y drws i'r ardd, a cheuais y ddor ar fy ol, ac os mawr oedd fy syndod wrth olygu y lle hwn oddiallan, mwy fyth wedi fy myned y tu fewn iddo. Yr oedd y ty bron yn nghanol yr ardd toasid ef â gwellt, yn dra chelfyddgar, a phendist bychan wrth y drws, lle yr oedd mainc bob ochr

gwinwydden ragorol oedd hefyd yn troi oddiamgylch i'r pendist, gan ledaenu ei changenau ar hyd mur y ty; ac wrth syllu ar yr adeilad, a rhyfeddu harddwch y lle, gwelwn aderyn bach yn ehedeg heibio i mi, ac i nyth oedd wedi ei wneyd dan y ffenestr ar du deheuol y ty. Wel, ebe fi, dyma arwydd amlwg mai gŵr heddychol sydd yn trigo yma, yr hwn ni niweidia hyd yn nod aderyn y to."

Dyna'r bwthyn. Beth am ei breswylydd? Mae y lle a'r olygfa yn parotoi y meddwl i ddisgwyl gweled rhywun yn meddu calon i deimlo anian, a llygad i'w gweled.

BWTH Y BARDD

PENNOD III.
BWTH Y BARDD.

Y MAE y Meudwy yn adrodd ei hanes. Yr ydoedd yn fab i rieni cyffredin eu hamgylchiadau, ond gwnaethant eu goreu i estyn iddo fanteision addysg, ac ar derfyn ei ysgol dodwyd ef yn brentis gyda masnachydd mewn tref gyfagos. Rywbryd yn ystod ei brentisiaeth digwyddodd iddo gael ei anfon i'r wlad, a thrwy ryw ffawd (neu anffawd, hwyrach) daliodd ysgyfarnog ar y ffordd. Cyn iddo ei rhoddi o'r golwg, fodd by nag, daeth yr ysgweier heibio, a chymerwyd hi oddiarno. Cafodd ei wysio i lys barn i ateb am ei drosedd. Yn y cyfwng lluniodd gân wawdus, duchanol, ac yn y llys gofynodd am ganiatad i'w darllen. Cydsyniwyd, a darllenodd hi gydag arddeliad diameuol. Tybed y caniateid y fath beth yn awr? Ond er donioled y gân cafodd ei ddirwyo yn drwm. Nid oedd ganddo fodd i dalu; ond yn yr awr gyfyng, fe gyfododd boneddwr yn y llys, a datganai ei barodrwydd i dalu dros y llanc anffodus. O'r dydd hwnw allan bu y boneddwr caredig yn noddwr-ac yn y diwedd yn rhywbeth mwy-i fardd y tuchangerddi. Elai y llanc beunydd i dŷ y boneddwr, yr hwn, wrth ganfod ei dueddiadau llenyddol, a roddodd iddo lawer o hyfforddiant.. Ond yn ychwanegol at drysorau ei lyfrgell, yr oedd gan y noddwr drysor gwerthfawrocach na'r perl a thlysach na'r lili-nid amgen, ei unig ferch. Ni chuddiwyd y trysor hwn o olwg y bardd; ac a ydyw yn angenrheidiol wrth ryddiaeth oer i hysbysu y canlyniad? Onid llygad i weled a chalon i deimlo sydd yn gwneyd bardd? Ac o'r foment

y gwelodd yr "arwr" Elen y Plas, yr oedd ei galon yn gysegr serch, ac yntau yn fardd y rhiangerddi. Ond sut yr oedd dweyd y ffaith wrth Elen, ie, mwy, pa fodd y gellid yngan y peth wrth ei thad? Buasai yn ddyddorol i ni ddilyn troion y daith, oblegid y mae serch yn mhob. amgylchiad, yn newydd a hen, ar yr un pryd.

For love is old,
Old as eternity; but not out-worn,
With each new born, or to be born.

Profodd yntau fod llwybr garw i'w dramwyo cyn cyraedd cylch y gwynfyd. Ond amser a ballai i ni olrhain ei helyntion-ei gymundeb ag Elen yn encilion yr ardd a'r llwyn, a'r fynyd fythgofiadwy pan fflachiodd y gwirionedd ar feddwl y tad fod yr un y taenasai ei aden drosto, yn bygwth ei ysbeilio o eilun ei aelwyd. Ond daeth tranoeth teg wedi yr ystorm, a gwelwn y bardd a'i gymar yn gadael hafan priodas, ac yn hwylio yn mlaen heb un don wgus ar for eu hamgylchiadau. Eithr byr fu parhad y gwynfyd. Yn mhen pum' mlynedd chwythodd awel ddeifiol dros yr anedd, a gwelodd y bardd wraig ei ieuenctid yn diflanu o'i wydd fel rhosyn yr haf. Aeth yn wallgof o'r bron dan bwys gofid a hiraeth. Collodd cartref-collodd pobpeth ei swyn yn ei olwg. Penderfynodd fyned i ryw fro bell i dreulio gweddill ei ddyddiau mewn unigedd. Cyn ei fyned, fodd bynag, y mae yn cael gweledigaeth ryfedd: Y mae Rhagluniaeth, ar ffurf ddynol, yn ymddangos iddo, ac yn ei wahodd i ddyfod ar daith, ac yntau yn cydsynio. Am fanylion y daith hynod, rhaid cyfeirio y darllenydd at yr hanes ei hun. Ei hamcan ydoedd dwyn y bardd gofidus i weled fod trefn ac iawnder wrth wraidd yr amgylchiadau sydd mor ddyrys i blant dynion yn bresenol. Wedi ei arwain yn mraich gweledigaeth i sylwi ar helynt dynolryw yn y bwthyn a'r palas, y mae ei gydymaith nefol yn ei adael, a hyny, gellid meddwl, yn well a doethach dyn. Dysgodd ddwy wers yn arbenig, (1) Fod gofidiau y ddaear yn cael eu rhanu yn hynod o gyfartal; (2) Mai diddyfnu dynion oddiwrth y daearol a'r darfodedig ydyw amcan aml i genad sydd yn dyfod atom yn ngwisg profedigaeth.

Yn ddilynol ceir y bardd yn cychwyn ar fordaith i fro bellenig, ac yn cyraedd Ynysoedd y Tawelfor. Mae y desgrifiad a roddir o losg-fynydd ac o ogof danllyd ar fin y môr, yn cynwys gair-ddarluniad ardderchog. Penderfynodd aros gyda boneddwr Prydeinig yn un o'r ynysoedd hyn, a bu agos i'r hanes derfynu yn y fan yna. Cafodd ei anfon gan y boneddwr caredig (?) i blanigfa gotwm oedd ganddo, lle y gorchymynwyd ef i weithio fel caethwas cyffredin. Ond yn ffodus, deallo dd cadben y llong am ei dynged, a bu yn foddion i'w waredu o afael marwolaeth araf, ond sicr. Mae y darluniad o'r amgylchiadau hyn, yn nghyda'r helfa ar ol y boneddwr, alias y caethfeistr creulawn, yn hynod o fyw a meistrolgar. Ond rhaid gadael yr oll, gyda dweyd fod y bardd wedi dychwel gyda mynwes ddiolchgar i'w "hen, hen wlad," ac wedi penderfynu treulio gweddill ei ddyddiau yn y bwth neillduedig ar lan y môr, lle y darganfyddwyd ef gan awdwr yr hanes yr ydym wedi bod yn ceisio rhoddi bras-linelliad o hono.

Y mae wedi cael ei ddweyd mai diffyg mawr y "Meudwy Cymreig," a'i barnu fel ffug-chwedl, ydyw ab senoldeb plot. Rhaid addef fod hyn i fesur yn wirionedd. Hefyd, dichon fod y cymysgedd sydd yn y gwaith o weledigaethau, a'r hyn y bwriedir i'r darllenydd ei ystyried fel hanes noeth, yn effeithio yn anfanteisiol ar gymeriad y gwaith. Mae rhan fawr o'r llyfr ar ddelw y Bardd Cusg, tra y mae y llall yn ddesgrifiad o bethau a allasent fod yn adlewyrchiad o hanes yr awdwr ei hun. Yr wyf yn lled-dybied fod y darlun o'r mynydd llosg yn grynhoad o argraffiadau a wnaed ar ei feddwl pan yn syllu ar Vesuvius, er ei fod wedi gosod yr olygfa yn y Tawelfor. Buasai toddi y meddyliau i un fold-bydded hono weledigaeth neu hanes yn sicr o beri i'r "Meudwy" raddio yn uwch fel cyfanwaith cymesur a gorphenedig. Ond fel y mae, perthyna iddo ragoriaethau diameuol:

I. Y mae wedi ei ysgrifenu mewn iaith loew a darluniadol. Yr oedd Cawrdaf yn artist wrth natur, ac y mae delw hyny yn amlwg ar y gwaith hwn. Ystyriwn ef yn werth ei ddarllen, er mwyn y Gymraeg dlos a dillyn sydd yn wisg i'w feddyliau.

II.—Y mae ei don foesol o radd uchel. Dysga wersi pwysig, a hyny mewn dull dyddorol. Fe ddichon fod ffugchwedlau diweddarach yn meddu mwy o'r elfen gyffrous, ond ymgoda y "Meudwy" yn uwch na llu o honynt yn yr elfen foesol ac addysgiadol.

III.-Dylid cofio fod Cawrdaf yn un o'r rhai blaenaf i geisio dwyn y ffurf hon ar gyfansoddi i lenyddiaeth Gymreig. Ar ol ei ddydd ef, gall y ffug-chwedl ateb gyda hwnw "Fy enw yw lleng." Yr ydym yn edrych ar Cawrdaf fel pioneer llenyddol yn y cyfeiriad hwn. Gwelodd eraill le i ragori ar ei gynllun, ond iddo ef y perthyn y clod o adael ol ei droed gyntaf ar y llwybr poblogaidd sydd bellach yn goch gan fforddolion.

PENNOD IV.
"Y DERWYDDON."

WEEDI ymdroi yn hwy nag y bwriadem ar y ffordd, amcanwn alw sylw at weithiau barddonol Cawrdaf, oblegid fel awenydd yr enillodd efe ei safle mewn llenyddiaeth Gymreig. Cyfansoddodd lawer ar gyfer Eisteddfodau, a llwyddodd i gipio amryw o'r prif wobrwyon. Ceir darnau gwych yn ei awdl ar "Dderwyddon Ynys Prydain." Am y trioedd Cymreig efe a ddywed:

"Hyn wnaf, troaf i'r trioedd,
Eu gair hwynt yn gywir oedd;
Ceir heddyw'u cywir addysg
Yn ffrwythau dyfnderau dysg.

A dyma ddarlun prydferth o Salisbury Plain-hen gynullfan y Derwyddon-ar foreu nawsaidd yn mis Mai:—

Daear werdd a cherdd a chwarddai—a thant
Môr a thir gyd-ganai;
Wyneb y prudd-glwyf wenai
Wel'd llwyn, a maes mwyn, mis Mai!

Y mae y ddwy linell ddiweddaf mor wir ag ydynt o dlws. Beth sydd yn debyg i haf-olygfeydd am iachau clwyfau yr ysbryd? Yn eu gwydd ffy y drychiolaethau hyny sydd yn tywyllu ystafelloedd y galon, ac yn cerfio prudd-der ar y wedd. Druan o'r bobl hyny sydd yn ceisio adfeddianu llawenydd yn mhalasau y gloddest, ac yn nghynyrfiadau delirious hap-chwareuaeth. Nid yw y wen a'r chwerthiniad a gynyrchir yn y manau hyny ond rhag-redegydd sicr tristwch a gwae. Ond am y wen a ddawsia ar y wynebpryd wrth wrando ar fiwsig y llwyn, ac edrych ar yr awel yn ysgafndroedio hyd y gwair yn mis hyfrydawl Mai -y mae y cyfryw wen yn gydymaith diniweidrwydd, ac yn ymlid hunllef y pruddglwyf i froydd hud a lledrith. Fel y dywed Ceiriog yn ei ddull hapus ei hun:

'Does neb yn rhy hen i wenu ar Anian,
Pob mynwes a wên ar rosyn yr haf.

Os mynem gadw y galon yn ieuanc, a'r wyneb yn llon, na fydded "llwyn" a "maes yn angof genym. Un ffordd anffaeledig i beidio gweled y pruddglwyf, na'i deimlo chwaith, ydyw defnyddio pob cyfleusdra a gawn i wel'd llwyn, a maes mwyn mis Mai! Ond rhaid myned rhagom. Gwyddis fod olion Derwyddol yn Stone-henge. Am y lle hwnw fe ddywedir ei fod wedi ei ffurfio gan law Natur mor gywrain fel y gall un dyn lefaru yn nghlywedigaeth dros gan' mil o bobl. Wrth syllu ar y meini mawrion sydd yn y llanerch, dyma iaith awen Cawrdaf:

Cre-edig greig hir ydynt—hywenaw!
Yn wyneb pob corwynt:
A chaerau'n gwaith ni chryn gwynt,
Na henoes un o honynt.
****
Ai cawr o angel cywraint—a gwnai,
Glogwyni gan gymaint,
Na finiai dur-lif henaint—
Yn gaerau, gorseddau saint

Nage ddim—eu gwedd yman
A fydd nes el dydd yn dan;
Arwydd nerth Derwyddon ynt—
Mesur oed amser ydynt!

Ond daw y Rhufeiniaid ar warthaf y Derwyddon heddychol yn Neheubarth Lloegr, ac y maent yn penderfynu ffoi i Wyllt Walia am nawdd. Dyma eu profiad:—

Y mae'n bod mewn hynod hwyl
Draw, ini frodyr anwyl,
Mewn tir nas gwelir galon,
Na nos fyth, yn Ynys Fon.

Cyrhaeddant yno yn ddiogel:

Wele'u drych ar dawel drai
Yn dra blin yn min Menai.

Melus oedd y cyfarfyddiad! Cafodd y Derwyddon ffoedig dderbyniad croesawus gan feirdd yr hen Ynys. Yr oeddynt yn iawn yn hyny, ond am y rhan arall-"tir nas gwelir gâlon"-troes yn siomiant chwerw. Daeth y gelynion Rhufeinaidd i Fon hefyd; llosgwyd y llwyni uchel-wydd, a merthyrwyd llu mawr o'r Derwyddon gwladgar. Am y trychineb hwn dywed y bardd yn deimladwy:

Arwyl oer hir alaru
Marwolaeth dysgeidiaeth gu!
A gwae Fon roi careg fedd
Ar wyneb y gwirionedd!
A chloi dysg uchel a dawn
Yn ngafael yr anghyfiawn.

A nos ddu, ddofn, a deyrnasodd ar ol hyn hyd doriad gwawr efengyl ar yr ynys:

Y diwrnod daeth "gair y deyrnas"—i lonwych
Ail uno cymdeithas ;
Wele harddwch hael urddas,
Haul a grym efengyl gras.

Mae gan ein bardd gywydd ag sydd yn desgrifio yr un amgylchiad" Dinystr Derwyddon Mon pan oresgynwyd yr Ynys gan luoedd Suetonius." Am y cyfansoddiad hwn dywedai Gwallter Mechain fod desgrifiad y bardd o olygfa y tir, a chymylau eurgnu yr awyr yn cael eu hadlewyrchu yn nyfroedd y Fenai, yn ei ddynodi yn fardd anian. Wele ddwy o'r cyfryw olygfeydd:—

Yn gyntaf, gwelaf i'm gwydd
Fon dirion, ac arch-derwydd
Mewn mwyniant yn min Menai
A'r drych yn dawel ar drai;
Haul euraidd-awel araf—
Llwyni heirdd o feillion haf—
Ac adar yn y goedwig
Eilient eu cerdd drwy'r werdd wig.
Llun gerddi'n llenau gwyrdd-wawr
Orchuddiai y Fenai fawr—
Gor-heulog awyr wiwlon
A welid hyd waelod hon.

Credwn fod llinellau uchod yn siarad drostynt eu hunain. Ni raid ond cerdded yn araf gyda glanau y Fenai yn nyddiau haf i deimlo eu gwirionedd a'u swyn. "Bardd Anian," ys dywedai Gwallter Mechain, a allai ad-ysgrifio golygfa fel hon mewn iaith mor dyner, esmwyth a phriodol. Wrth ddarllen y llinellau yn feddylgar, yr ydym ninau yn cael ein hunain yn nghwmni yr arch-dderwydd penllwyd—

Mewn mwyniant yn min Menai
A'r drych yn dawel ar drai.

Mae yr ail olygfa yn ddesgrifiad o'r ynys liw nos. Ymddengys fod ysbiwr Rhufeinig wedi bod yn llechu drwy y dydd yn nghysgod un o'r llwyni, ond pan ddaeth yr hwyr anturiodd allan o'i loches ::

Gwelai wrth fodd ei galon
Roi tywell fantell ar Fon,
Ar wyll anturiai allan
O'i ddirgelaidd fwynaidd fan;
Edrychai, gwelai liw gwan
Gwiw loer o'i gwely arian,
Yn ei gylch yn gwyn-galchu
Hynaws gorff yr ynys gu,
A'i haneddau di-nodded
Yn wynion, lwysion ar led;


Ni cheid na helwriaeth chwyrn
Yn ei choed gan ei chedyrn,
Na chywrain blant yn chwareu
Acw, o'r cood, ger y cae.
Holl Anian oedd yn llonydd
Ac anwyl yn disgwyl dydd.

Onid yw tawelwch nosawl yn nghanol gwlad i'w deimlo yn y darluniad hwn? Onid ydym yn canfod y spy Rhufeinig gyda chamrau gofalus, a llygad eryraidd, yn craffu yn ngoleu y "wiw loer" ar "hynaws gorff ar ynys gu?" Canfyddai ei haneddau dinodded yma a thraw, ac ymgysurai nad oedd un rhwystr gwerth ei enwi ar ffordd byddinoedd Suetonius. Ac yn y cyfamser, "holl anian oedd yn llonydd"-llonydd hefyd oedd y trigolion yn mreichiau cwsg. Ychydig a feddylient fod un yn rhodio o'u hamgylch yn nghanol y distawrwydd i gynllunio brad.

"Tannau euraidd tynerwch."

PENNOD V.
BARDD HIRAETH.

MEITHAF o holl gyfansoddiadau barddonol Cawrdaf ydyw ei awdl ar "Job." Gwyddys fod dau briffardd arall wedi cyfansoddi yn benigamp ar y testyn aruchel hwn. Gorchwyl dyddorol fuasai ceisio cydmaru y tri chyfansoddiad yn eu cynllun a'u gweithiad allan; hwyrach y gwneir hyny rywbryd. Ond ein hamcan yn awr ydyw galw sylw at rai o brydferthion cyfansoddiad Cawrdaf. Am farddoniaeth llyfr Job efe a ddywed :

Geiriau diddysg, rhaid addef
I'w dal wrth ei brif—awdl ef
Yw awdlon goreuon r'oes
Dylanwad anadl einioes,
Canai emyn cyn Homer,
Eiliai bwnc cyn Virgil ber.

Wedi bod yn darlunio y chwalfa chwyrn fu ar feddianau a chysuron Job, y mae yn ei ddesgrifio yn dweyd fel hyn:

O cefais uchder cyfoeth
Da yw nwyn yn dlawd a noeth;
I'w angen, annheilyngwr
Yw dyn o ddefnyn o ddwr!

Pan y mae ei wraig yn ei berswadio i felldithio Duw fe ddywed :

Go ryfedd yw gwarafun
I Dduw hael ei eiddo ei hun!

Darlunia ei boenau arteithiol fel y canlyn:—

Aelwydydd gwynias yw'r aelodau—gaf,
Gofid yn ffynonau;
Y pen sydd yn poenus wau,
Y gwenwyn drwy'r gewynau!

Wele un o'i gyfeillion yn nesau ato:

A bron o ffyddlon goffhad,
Yn deml o gydymdeimlad.

Cafodd y patriarch ar y domen oer, ar "laith nos a gwlith y nen,"

A'i llaw tros y fan lle trig,
Aethog iawn, noeth ac unig;
Y naill du mae'r fantell deg
Yn gorwedd ar ryw gareg.

Mae yr ymddyddanion rhyngddo a'i gyfeillion wedi eu cyd-osod yn dda; ymfoddlona y bardd ar gynghaneddu sylwedd yr hanes Beiblaidd. Ar y diwedd darlunir Job yn gweddio fel y canlyn:

Ystyriol Dad y tosturi—o nghur,
Fy nghwyn rwy'n gyfodi,
O'm holl ddrwg i d'olwg di,
Drag'wyddol wrandawr gweddi!

Edryched Ior uchel—ar ei wael un
Sydd ar lawr mor isel;
Tro y chwith felldith yn fel,
A'r diwedd yn wawr dawel!

Cafodd y weddi ei gwrando. Daeth y "wawr dawel" i chwalu yr hirnos ddu. Dilynwyd y cystudd trwm gan adferiad—adferiad iechyd, cyfoeth a dedwyddwch. Amgylchynir ei fwrdd gan gyfeillion na welsai eu hwyneb yn ystod ei gystudd—daethant yn ol fel gwenoliaid haf pan wybuant fod y rhod wedi troi:—

Cyfeillion ddigon ddygant—i'w lys ef
Tlysau aur ac ariant;
Yn ei wleddoedd a'i lwyddiant
Am un ac oedd y mae cant.

Rhyfedd mor debyg yw plant dynion drwy yr oesau ! A golygfa hapus oedd gweled y Caldeaid yn dwyn y defaid a ladratasant yn ol, a'r "Sabeaid hirion " gwneyd yr un fath gyda'r camelod:—

Camelod fel cymylau—ar feingorff
Y terfyngylch golau;
A'u blaen sydd yn blin nesau
I seibiant 'r hen bresebau.

Cyn pen hir y mae Job yn arlwyo gwledd ysblenydd—ymgyfarfyddai y gwahoddedigion mewn neuadd wych, ond yn ei nenfwd, mewn gwrthgyferbyniad hynod i harddwch yr ystafell, yr oedd cragen a swp o hen garpiau! Ystyriwn hon yn stroke gampus o eiddo y bardd. Nid gormod yw dweyd nad oes gan Eben na Hiraethog un tarawiad mwy naturiol yn eu caniadau gorchestol ar yr un testyn. Ar ganol y wledd y mae un o'r cwmni yn troi at Job ac yn gofyn:

Pa wedd y mae'r carpiau hyn,
Ar gyrau dy fur gorwyn,
A'r hen gragen a grogir
I wedd hardd dy neuadd hir?

Ateba y patriarch gyda goslef ddrylliog:

Deallwch mai dyna'r dillad—oeddynt
Ddyddiau'm darostyngiad;
Hyd foreu fy adferiad—gweddillion
Heddyw yn goron o ddawn ei gariad!

Y mae yn y darlun hwn wers bwysig: Pan fo llwyddiant yn gwenu, doder y "gragen"—adgof dyddiau darostyngiad—mewn rhyw le amlwg, rhag i falchder ddymchwelyd y llestr, a gwneyd y diwedd yn waeth na'r dechreuad.

Yr ydym yn fwriadol wedi ymatal rhag crybwyll y mwyaf adnabyddus, ac o bosibl, y goreu o weithiau ein bardd hyd yn awr, sef awdl "Hiraeth y Cymro." Gwir y sylwai Gwallter Mechain mai "awdl hiraeth yw hon o'r dechreu i'w diwedd." Credwn fod yn anmhosibl i alltud, beth bynag, ddarllen y llinellau heb i ffynonau y dyfnder yn ei galon ymagor i'w gwaelodion. Desgrifia ei hun mewn bro bell:

Yn ysig lawer noswaith,
A'm gorweddfa'n foddfa faith!
Gwely, gobenydd galed—o geryg,
I orwedd mewn syched,
'N wylaw a'r ddwy law ar led
Am gynes fro i'm ganed.
Ow! na chawn mewn llonach hwyl
Droedfedd o Wynedd anwyl!

A pha galon Gymreig nad ydyw yn dirgrynu dan ddylanwad y pathos dwfn sydd yn y llinellau terfynol:—

Os fy Ner a doethder da
A rydd i'm orwedd yma,
Im mynwes mor ddymunol
Uwch fy nghlai fyddai (ar f'ol)
Arwyddo'r lle gorweddwn
Y:n y llawr â'r penill hwn:

Awenawg wr o Wynedd—o hiraeth
A yrwyd i'r llygredd;
Ar arall dir i orwedd,
Dyma fan fechan ei fedd!"

Efallai deuai ar daith,
Damwain, rhyw hen gydymaith,
I ymdeithio heibio hon
Ag wylo ar ei galon ;
Darllenai'r pedair llinell
Yn iaith fad ei bur—wlad bell,
Gan och'neidio wylo'n waeth
O herwydd trymder hiraeth ;
Tanau euraidd tynerwch
Gyffry wrth fy llety llwch,
I eirio prudd arwyrain
A thrist wedd uwch fy medd main;
Minau a'm bron yn llonydd :
O! Dduw fry! ai felly fydd?

Dyma linellau nad ant byth yn hen. Darllenir a chofir hwy tra y bydd tant o dynerwch yn nghalon Cymro. Wel, ar ol treulio aml i awr hapus gyda chyfansoddiadau Cawrdaf, anturiwn gyflwyno y nodion canlynol arno fel bardd :

1.—Gorwedda ei brif nerth yn ei allu i ddesgrifio golygfeydd Natur. Meddai dalent wreiddiol at arluniaeth, ac y mae hyny yn wir am dano fel bardd. Landscape painting mewn geiriau ydyw rhan fawr o'i gynyrchion. Y mae yn fardd anian mewn modd neillduol. Fel Wordsworth, ymdroai mewn gorfwynhad gyda'i golygfeydd. Gallem dybied fod awel haf yn crwydro drwy ei weithiau.

"Dyma fan fechan ei fedd."

Ni cheir ganddo ef y nerth hwnw sydd yn nrychfeddyliau y bardd o Glynnog, na'r ysblander cyfoethog sydd yn nesgrifiadau Geirionydd. Y mae cynyrchion goreu Cawrdaf yn effeithio arnom fel diwrnod o haf—yn esmwyth a dymunol. Dylanwad tawel ydyw, ond erys yn hir ar y galon a'r cof.

2. Tynerwch a swyn sydd yn fwy nodweddiadol o hono fel bardd. Os cydmerir y galon i delyn, y tanau yr oedd efe yn feistr arnynt oedd—"tanau euraidd tynerwch.' Gallai chwareu ar y rhai'n i bwrpas, a pheri iddynt arllwys y miwsig mwyaf peraidd. Rhoddodd brawf ar ei awen mewn cyfeiriadau eraill. Y mae ganddo duchangerdd ar ffolineb "Swyngyfaredd;" ond teimlir yn union nad oedd ei awen gartref. Pluen sydd ganddo lle y dylid cael ellyn llym. Tra yn desgrifio yr ofergoelion yn dda, y mae y watwareg ddeifiol hono sydd yn ysu ffolinebau o'r fath yn absenol. Nid oedd tuchan yn naturiol i'w awen, rywfodd; gallai alaru, gallai wenu, ond nis gallai duchan.

3.—Fel y mwyafrif o feirdd y cyfnod hwnw, ei gyfansoddiadau cynganeddol sydd yn rhestru uwchaf o ran teilyngdod. Fe gyfansoddodd lawer yn y mesur rhydd. Y mae ei gân i "Nos Sadwrn y Gweithiwr" yn cynwys llinellau da a theimladwy. Gwnaeth y gerdd i "Ladron Glan y Mor" wasanaeth yn ei dydd. Mae y "Gofadail" yn cynwys syniad prydferth, a cheir llinellau grymus yn y gân a gyfenwir y "Prif Beth." Ond nid yn y cyfeiriadau hyn y mae sail ei ragoriaeth.

4.—I symio i fyny, dywedwn fod Gwilym Cawrdaf ar gyfrif tlysni ei feddyliau, purdeb ei iaith, dillynder ei chwaeth, ac yn arbenig, y dôn ddyrchafedig sydd yn nodweddu ei weithiau, yn werth ei ddarllen, ei astudio, ei efelychu. Mewn oes pan oedd safon chwaeth yn aneffiniol, a dweyd y lleiaf, cadwodd y bardd hwn wisg ei awen yn hynod o ddilychwin. Ni chyffyrddodd a dim aflan. Ni lygrodd neb. Credwn fod yr hyder gobeithiol a anadlai yn niwedd ei gân i'r bwthyn y ganed ef ynddo, wedi cael ei sylweddoli er ys llawer dydd:—

A chyda gwefus hardd y gwir
Caf ddod, trwy ddyfnder gra
O holl dymestloedd mor a thir,
I lanau'r frodir fras,
Heb dywydd llaith fy mhaith yn hwy—
Awenydd mewn can newydd mwy.





Argraffwyd yn Swyddfa'r Wasg Genedlaethol Gymreig, (Cyf.), Caernarfon

Nodiadau[golygu]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.