Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price (testun cyfansawdd)
← | Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price (testun cyfansawdd) gan Benjamin Evans (Telynfab) |
→ |
'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
BYWGRAFFIAD DR. PRICE.
Digitized by the Internet Archive
in 2010 with funding from
University of Toronto
Internet Archive Bywgraffiad y diweddar barchedig T. Price
BYWGRAFFIAD
Y DIWEDDAR BARCHEDIG
T. PRICE, M.A., PH.D.
ABERDAR.
GAN Y
PARCH. BENJAMIN EVANS (TELYNFAB),
GADLYS, ABERDAR.
Aberdar:
ARGRAFFWYD GAN JENKIN HOWELL, 16, COMMERCIAL PLACE.
1891.
AT Y DARLLENYDD.
WELE Fywgraffiad y diweddar Hybarch Ddr. Price wedi ei orphen. Ysgrifenwyd ef yn frysiog iawn, a hyny yn benaf am ei fod yn destyn cystadleuol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberhonddu yn y flwyddyn 1889. Yr oedd yn rhaid ei orphen erbyn dyddiad neillduol yn ol rheol Pwyllgor yr Eisteddfod. Oedasom yn hir cyn dechreu ar y gorchwyl, gan yr ofnem y buasai mawredd y gwaith a phrinder amser yn gwneyd ein hymgais yn ofer. Ysgrifenasom, nid yn gymmaint er mwyn y wobr, er ei bod yn 25 gini a bathodyn aur, ag i geisio rhoddi portread cyflawn o'r gwrthddrych, a chodi iddo golofn goffadwriaethol am ei lafur diflino dros ei wlad a'i genedl yn llenyddol, cymdeithasol, moesol, a chrefyddol. Dichon y teimla rhai fod llawer o bethau wedi eu gadael allan ag y dysgwylient hwy iddynt fod i fewn; ond ymdrech. wyd casglu pobpeth i'r gwaith fuasai yn help i osod y gwrthddrych allan yn ngwir deithi ei gymmeriad.
Cawsom lawer o fwynhad wrth ysgrifenu y Bywgraffiad er caleted y llafur; ac y mae yn dda genym erbyn hyn ein bod wedi ymroddi yn egniol at y gwaith, er yn ngwyneb llawer o anfanteision. Cyflwynwn yn y modd gwresocaf ein diolchgarwch i'r brodyr anwyl a'r cyfeillion hoff a'n cynnorthwyasant, enwau y rhai a ymddangosant yn ngwahanol ranau y gyfrol, yn nghyd ag amryw ereill rhy luosog i'w henwi.
Cyhoeddwn feirniadaeth y boneddigion parchus a galluog, John Evans, Ysw., Aberhonddu; y Parchn. Ddr. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; a'r Proff. W. Edwards, Pontypwl; er i'r darllenydd gael mantais i wybod rhywbeth am deilyngdod llenyddol a bywgraffyddol y cyfansoddiad. Derbyniasom yn ddiolchgar eu nodiadau caredig, a gwnaethom ein goreu i gario allan eu hawgrymiadau, a chywiro y gwallau mor llwyr ag y medrem. Diau genym y gwel y llygadgraff ddiffygion etto yn y Bywgraffiad. Erfyniwn arno edrych heibio iddynt, a derbyn yr hyn a geir ynddo yn deilwng.
Gydag hyfrydwch mawr yr ydym yn awr yn cyflwyno y gyfrol i sylw ein cydwladwyr, yn gwbl hyderus y derbynir hi ganddynt mewn teim. lad cyffelyb, gan ddymuno ar iddi fod o fudd ac adeiladaeth iddynt, a gobeithio yn neillduol y bydd darllen hanes un a weithiodd ei ffordd mor llwyddiannus o'r fath ddinodedd trwy gynnifer o anhawsderau i safleoedd mor anrhydeddus a dylanwad mor fawr, fod yn symbyliad i gannoedd o ddynion ieuainc ei efelychu."LIFE AND LABOURS OF THE LATE REV. DR. PRICE, ABERDARE."
ADJUDICATION ON THE ESSAY.
Prize given by Miss Emily Price, £26 5s. and a gold medal. Adjudicators, John Evans, Esq., Brecon; Rev. Dr. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelly; and Prof. W. Edwards, Pontypool.
Only one composition had been sent in. In giving the adjudication, Mr. John Evans, Brecon, said that the author had evinced great care and diligence, and he had evidently spared no effort to produce a complete Biography, and in their opinion he had been very successful. The early history, as well as the later life of the subject, had been delineated with much skill and fulness, and after a careful perusal of the huge manuscript, they adjudged the essay quite worthy of the valuable prize. There were however certain blemishes that should be removed before publication, and there were certain errors and misstatements that should be corrected. There were some paragraphs which should be modified, and in parts there was a fulsomeness that should be boiled down to a correct literary point of historic accuracy. Those blemishes the adjudicators were prepared to point out. On the whole, the essay was an admirable biography, and although it was the only composition sent in, yet, in all probability, it would take a prize among many."
CYNNWYSIAD.
PENNOD I.
Ei enedigaeth—Lle ei enedigaeth—Ei rieni—Ei linach—Ymweliad â'i ardal enedigol—Dylanwad golygfeydd ar gymmeriad—Barn Cynddelw am hyn—Burns, Coleridge, &c.—Dechreu ei fywyd cyhoeddus —Y Cliftons—Ysgol Sabbothol Fontestyll—Ysgol Sabbothol y Cliftons—Teithio gyda'r teulu—Y Cyfandir—Rhufain—Glanau y mor—Marwolaeth ei feistr—Ymadael i Aberhonddu—Ymbrentisio—Ymroddgar i ddysgu—Ennill parch—Ymweled â'r teulu megys mab.
PENNOD II.
Heb dueddiad crefyddol hyd ei brentisiaeth—Ysgol y Methodistiaid— Gwahoddiad i weled bedydd—Y Parch. B. Williams—Argraffiadau cyntaf ar feddwl Price—John Stuart Mill—Bedydd yn ddyeithr i Price—Bedyddio ei fam—Ei feistr yn Wesley—Ei feistres yn Fedyddwraig—Williamsiaid Ship Street—John Evans— Dylanwad gwragedd—Ennill Price at y Bedyddwyr—Price yn y gyfeillach—Ei fedyddiad—Dygwyddiad hynod—Bedyddio pedwar pregethwr—Cymdeithasfa Lenyddol Gristionogol—Price yn dechreu llefaru yn gyhoeddus —Methu—Grym penderfyniad—Cyfarfodydd gweddio—Yn ei ardal enedigol—Anerchiadau—Arferion daionus—Dyledswydd aelodau crefyddol.
PENNOD III.
Gorpheniad ei brentisiaeth—Anrheg gan ei feistr iddo—Ei onestrwydd —Cerdded i Lundain—David Jones, Caerdydd—Mathetes—Cyrhaedd y Brifddinas—Dick Whittington—Cael Gwaith—Awydd ym— berffeithio yn ei grefft—Ymuno â sefydliadau celfyddydol—Mynychu llyfrgelloedd—Darllenwr mawr—Cymro pur—Ymaelodi yn Moorfields—Dechreu pregethu—Ei destyn cyntaf—Myned at y Saeson— Cael derbyniad i'r coleg—Gorchwyl diweddaf cyn myned i'r coleg— Talu yn rhanol am ei addysg—Ymhyfrydu adrodd helyntion ei fywyd —Y myfyrwyr yn ei dderbyn yn llawen.
PENNOD IV.
Price mewn cylch newydd—Cyfnod pwysig—Myned i'r coleg—Dysgu —Barn Spinther am addysg—Gibbon—Syr Walter Scott—Hunanymroad—Ennill parch fel myfyriwr—Ei fywyd athrofaol, gan Dr. Roberts—Ei gydfyfyrwyr—Barddoniaeth—Ei draethodau colegawl —Manylrwydd ei lafur—Y pynciau fyfyriodd—Meddwl parod—Ei boblogrwydd fel pregethwr—Ei gydfyfyrwyr yn ddynion o nod ac enw.
PENNOD V.
Dyddordeb myfyrwyr yn eu gilydd—Y Parch. B. Evans, Hirwaun, a'i ddiacon—Amgylchiadau yr alwad i Benypound—Y Dr. a Mr. Thomas Joseph—Ei urddiad–Ei hanes gan Lleurwg—Dechreu ei waith yn egniol—Anfanteision—Yr hen weinidog—Talu y weinidogaeth—Barn Cynddelw—Dyfyniad o lythyr—Hen arferion Eglwys Penypound—Y Plygain—Y Luther ieuanc—Barn y diweddar Barch. W. R. Davies, gynt Dowlais, am dano—Llythyr W. Davies, Ysw., Kansas—Shakespeare—Dal ar y cyfleusdra—Manteision er anfanteision.
PENNOD VI.
Prydferthwch Dyffryn Aberdar—Aberdar yn bentref bychan—Aberdar yn ymddadblygu—Gweithiau glo yn cael eu hagor— Gweithfeydd haiarn—Y boblogaeth yn cynnyddu—Y gwahanol fyrddau—Adeiladau cyhoeddus at wasanaeth y dref—Y gwahanol gymdeithasau cyfeillgar—Achos crefydd yn llwyddo—Price yn cymmeryd rhan flaenllaw yn mhrif symmudiadau y dref—Dynion o fri wedi bod yn Aberdar—Barn Tegai–Ei arwyddeiriau, &c.
PENNOD VII.
Price ac Aberdar—Yn cydymddadblygu—Ymladd yn erbyn y Dreth Eglwys—Amddiffyn merched a gwragedd Cymru—Cableddau y Llyfrau Gleision—Tystiolaeth anwireddus y ficer—Cyfarfod cyhoeddus i ymdrin â'r mater—Ei araeth yn y cyfarfod—Ymosod ar y Rustic Sports—Derbyn tysteb—Pryddest o glod iddo—Y ficer yn gwrthod claddu plentyn Mr. John Lewis—Areithio y tu allan i'r fynwent—Claddu y plentyn —Gorfodi y ficer i gynnal gwasanaeth boreuol yn yr Eglwys—Ymdrech o blaid addysg—Ei ysgrif yn Seren Cymru ar bwnc y Reform Bill—Yn derbyn diolchgarwch Derby a Bright—Ei gyssylltiad agos â'r glowyr a'r gweithwyr tân—Ei ysgrifau, &c.—Yn aelod o'r gwahanol fyrddau—Aberdar yn wahanol i'r hyn ydoedd ar ddyfodiad Price yno.
PENNOD VIII.
Calfaria hyd 1866—Hanes decreuad yr Achos Bedyddiedig yn Aberdar —Adeiladu y capel cyntaf—Y gweinidogion cyntaf—Galwad Price—Ei derbyn—Yn llwyddianus—Ei briodas—Gras a Rhagluniaeth yn cydweithio—Marwolaeth ei briod—Ei ymroad gyda'r gwaith—Yr eglwys dan ei ofal yn llwyddo—Yn dyfod yn enwog—Ei allu i drefnu a chynllunio—Ei yspryd rhyddfrydol—Eangu yr achos—Ei adroddiad o ddosparthiad y cylch—Trem 1885—Sefydlu gwahanol eglwysi —Y Bedyddwyr yn cynnyddu—Adgyfnerthion yr eglwys—Undeb Cristionogol—Undeb Dorcas, &c, &c.—Price yn gyfundrefnol—Cael cydweithrediad y diaconiaid—Ei gyssylltiad â'r Ysgol Sabbothol— Ei gynlluniau yn nglyn â hi—Price a Shem Davies—Price a'r ysgol ganu—Evan Jones—Yn y Gadlys—Arweinwyr y canu—Y_Côr— Llechres aelodiaeth yr eglwys—Ei fanylwch—Sefyllfa Calfaria ar ben yr ugain mlynedd o'i weinidogaeth—Y Juwbili gweithio egniol wedi bod—Anhawsderau yn diflanu—Crefydd yn llwyddo.
PENNOD IX.
Cyfnod olaf hanes gweinidogaethol Dr. Price—Adolgu y gorphenol yn ddymunol—Y Trem am waith yr eglwys—Adnewyddu y capel ac adeiladu yr Hall—Ystafelloedd y diaconiaid—Y menywod—Y gweinidog—Calfaria Hall—Cyfarfodydd Agoriadol yr Hall.
PENNOD X.
Y Trem a'r Jubili—Bethania, Cwmbach—Mountain Ash, dechreuad yr achos yno—Yr hen bobl—Adeiladu capel—Agoriad yn 1841—Annghydfod—Effeithio yn niweidiol ar yr achos yno—yn dechreu gweithio yno—Y cerbyd wedi aros ar 11 o aelodau—Siams y garddwr a Price—Cyrddau gweddi—Price a'r chwiorydd—Paentio'r capel—Y cerbyd yn ail gychwyn—Yr ail gapel—Ei agoriad—Sefydlu diaconiaid—Ymadawiad Price a sefydliad Williams—Gwawr—Storm gynnarol—Dyfyniad o Seren Cymru—Ffrwgwd Dewi Elfed a'r saint —Lladrata y capel—Cyfraith—Gwroldeb Dr. Price Bwrw allan gythreuliaid—Case for assault—Adferiad y capel—Ail agoriad—Y gweinidogion—Yr achos Saesneg—Jas Cooper—Y ganwyll yn diffodd —Ail gychwyn yr achos—Yr achos yn llwyddo—Bethel, Abernant—Yr Ynyslwyd—Mynychu cyrddau wythnosol y cangenau—Adeiladu ysgoldai Bethel ac Ynyslwyd—Testyn tarawiadol—Bedyddio yn yr Ynyslwyd–Ei gweinidogion–Y Gadlys—Cyw gwaelod y nyth—Sefydlu ysgol yn 1858—Adeiladu—Methu cael tir—Mynu cael cyn cysgu—Y seithfed capel—Y cangenau yn ymadael mewn heddwch—Nodion 1865 ar gofnodlyfr y Gadlys—Yr eglwysi godwyd gan Galfaria—Barn gohebydd.
PENNOD XI.
Golwg gyffredinol ar Fedyddwyr Aberdar—Meddylgarwch a charedigrwydd Price yn ennill iddo barch—Undeb Ysgolion—Cymmanfaoedd Ysgolion—T. ab Ieuan yn canu—Eisteddfodau Blynyddol yr Undeb —Price yn haul a bywyd y cylch—Y cangenau a'r bedydd—Dirmygu y bedydd a'r bedyddiwr—Chwedlau am Price wrth fedyddio—Egwyddorion y Bedyddwyr yn ddyogel yn ei law—Ei ddefnyddioldeb cyffredinol—Cydweithio yn hwylus â'i frodyr—Ei barch atynt—Cael ei barch ganddynt.
PENNOD XII.
Cylchoedd bychain—Dynion yn ymfoddloni ynddynt—Price yn llanw cylchoedd eang—Bedyddwyr y sir yn lluosogi—Cewri y rhengau blaenaf—Price yn un—Man of business—Elfenau ei lwyddiant—Ei sefyllfa fydol—Ei wybodaeth gyfreithiol—Yn awdurdod ar ddysgyblaeth eglwysig—Cyflymdra ei feddwl—Ei yspryd anturiaethus—Deall o barthed "gweithredoedd capeli" yn dda—Arwain mewn achosion pwysig—Achos gwael—Cynnadleddwr enwog—Gwleidiadaeth yr enwad—Dawn cymmodi pleidiau—Pregethu yn aml—Price yn fawr yn y gymmanfa—Undeb Bedyddwyr Cymru—Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon—Yn y pwyllgorau—Ar lwyfanau prif drefi Lloegr—Yn Exeter Hall—Gohebydd Llundain—Barn y Christian World am dano.
PENNOD XIII.
Ei ragfwriad i fyned—Gwahoddiadau taerion—Gwahoddiad golygydd Y Seren Orllewinol—Atebiad y Dr.—Ei olygiad am y rhyfel—Ei ymweliad â'r America—Ei ragbarotoadau ar gyfer y daith—Ei ymweliad â'r Iwerddon—Ei daith yno a'r gwaith a gyflawnodd—Dychwelyd adref—Cyfarfod ymadawol yn Nghalfaria—Cychwyn—Cwrdd Lerpwl —Ar fwrdd y llong—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei diriad a'i roesawiad Cwrdd Hyde Park—Hanes y daith gan y Parch. Ddr. Fred. Evans—Etto, Lewisburgh, gan L. M. Roberts, M.A., Glyn Ebbwy—Ei nodion gwasgaredig—Anerchiad croesawus Bedyddwyr Cymreig Dychwelyd adref—Welcome Home Aberdar—Anerchiad croesawus gan fasnachwyr y dref—Eglwys Calfaria—Y gweinidogion—Y cor canu—Ciniaw cyhoeddus i'w anrhydeddu—Parch yn ddyledus iddo.
PENNOD XIV.
Amgylchiadau yn dangos dyn—Y "Ffwrn Dân" a'r "Ffau"—Cynffoni a bradychu yn y cylch gwleidyddol—Y Dr. yn egwyddorol—Y Dr. a'r Dreth Eglwys—Yn gefnogwr Cymdeithas Rhyddhad Crefydd–Yn allu mawr mewn brwydrau etholiadol—Areithiodd ac ysgrifenodd lawer ar wleidyddiaeth—Ymosodiadau llechwraidd arno—Y Dr. a H A. Bruce, Ysw.—Y Tugel—Pryddest i'r Dr.—Etholiad Merthyr ac Aberdar yn 1869—Barn Baner ac Amserau Cymru am dano—Y Dr. yn cael ei gablu—Yn amddiffyn ei hun—Y Dr. yn ymgeisydd Seneddol Aberhonddu—Ei anerchiad—Barn Cefni a Kilsby Jones am dani—Y Dr. yn encilio ar ol gwasanaeth mawr i Ymneillduaeth—Cyfarfod Cyhoeddus yn Aberhonddu—Tysteb ac Anerchiad yn cael eu cyflwyno iddo.
PENNOD XV.
Cymdeithasau yn hawlio sylw a chefnogaeth—Y Dr. yn gymdeithaswr di-ail—Odydd, Ifor. Alffrediad, a Choedwigwr—Llafurio yn helaethach gydag Odyddiaeth ac Iforiaeth—Yn deall peirianwaith y cyfundebau dyngarol—Ei wybodaeth a'i brofiad o werth mawr i'r cymdeithasau—Yn ysgrifenu ac yn darlithio o'u plaid—Yn llenwi swyddi pwysig—Y Dr. a Romeo ar giniaw—Yn is-lywydd yr Odyddion—Yn uwch lywydd—Y Cymro cyntaf ga'dd yr anrhydedd—Cyflwyno ffon iddo—Gwledd iddo yn Ngwrecsam—Anerchiad etto—Ciniaw i'w anrhydeddu yn Abertawe—Anerchiad etto—Anrhydeddau gan wahanol gyfrinfaoedd—Cyflwyno saf addurnen ac anerchiad iddo gan Odyddion Cymru—Ei lafur gyda'r Iforiaid—Iforiaeth mewn perygl—Yn gweithio o'i phlaid——Adfer ei meddiannau—Cofrestru y rheolau—Uwch-lywydd yr Undeb Iforaidd ddwy flynedd yn olynol—Anerchiad a thysteb Iforaidd—Tysteb arall—Englynion iddo—Gwerthfawr gyda'r cymdeithasau—Penderfyniadau o gydymdeimlad, &c.
PENNOD XVI.
Y Llenor, Darlithiwr a'r Pregethwr—Y Dr.fel Saul yn mhlith y proffwydi Yn rhagori mewn amryw bethau—Ei ddiwydrwydd a'i benderfyniad—Rhestr o ysgrifau y Dr. Ei gyssylltiad â'r Wasg—Ei ysgrifau yn 1864—Ei Nodion Gwasgarog—Mawredd ei waith llenyddol— Wedi ysgrifenu yn helaeth fel golygydd—Cynnorthwyo ei gydgenedl— Enghraifft—Ei gydlenorion—Darlithiwr poblogaidd—Gwahanol farnau am y ddarlith—Darlithwyr enwog—Y Dr. ar y blaen—Gystal darlithiwr a phregethwr—Gwella i bregethu—Defnyddio darlunleni—Ffraeth—Ei bynciau—Cynnwysdremau—"George Muller a'r amddifaid"—"War in the East "—America—Darlithio yn Saesneg fel y Gymraeg—Barn am dano fel darlithiwr—Chwedlau digrif— Hyspysiad—Talu £4,000 o ddyledion capeli trwy ei ddarlithiau—Yn boblogaidd fel pregethwr pan yn ieuanc—Er nid yn un o'r pregethwyr mwyaf, etto yn boblogaidd—Pregethwr syml—Y telegraph–Ei nerth yn yr hanesyddol—Cymmeriadau Beiblaidd—Dammegion—Pregethu cyfres o bregethau yn fynych—Y Beibl yn enghraifft Rhai o'i sylwadau doniol—Ei ofal am ei bregethau.
PENNOD XVII.
Arrangement—Platt—Gofal am y pethau lleiaf—Irving a Wellington—Y bancer a'r hatlingau—Adeg dechreuad ei gofresau—Note—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei daith yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro—Cyfeiriad Myfyr Emlyn—Cyfansymiau ei ymrwymiadau blynyddol a'i nodion—1857—1863—1864—1867—1870—1873–1874– Afiechyd y Dr.—36 o Sabbothau heb bregethu—Nodiad eglurhaol—1880—Bedyddio dau fyfyriwr o Drefecca—Diwedd yr ail lyfr—Cyfres pregethau y plant—Eu pynciau—Y Nadolig cyntaf gartref am 35 mlynedd—Dyddiad olaf ei gronicliad—Y geiriau olaf ar y cofnodlyfr—Olion cryndod ei law yn ei ysgrifen yn y blynyddau 1885 ac 1886—Manylder a threfnusrwydd yn deilwng o efelychiad.
PENNOD XVIII.
Naturiol ffraeth—Myned yn mhell, etto o fewn terfynau—Myfyr Emlyn ar ei ffraethineb—Gwaith angylion—Myfyr etto—Pregeth y Corn Bach—Levi Thomas—T. ab Ieuan—Rustic Sports yr Ynys—Y Dr. a Spurgeon.
PENNOD XIX.
Gan y Parchn. W. Harris—Dl. Davies—W. Williams, Rhos—J. George —Y diweddar Rufus Williams—Y diweddar J. Morgan, Cwmbach—Dr. Thomas, L'erpwl—W. Morris, Treorci—Mynegiad Coleg Pontypwl—Proffeswr Edwards—Dr. Todd—R. E. Williams (Twrfab), Ynyslwyd—Mr. D. R. Lewis, Aberdar.
PENNOD XX.
Y dyn—Edrych arno o wahanol gyfeiriadau—Wedi ymddadblygu—Y dderwen—Price yn ei gyflawn faintioli—Ei ddyn oddiallan—Darluniadau Myfyr a Lleurwg o hono—Dyn caredig—Evan Thomas, Casnewydd—Ei farn—Dyngarwr—Cholera 1849—Cydymdeimlo â'r trallodus—Police Court—Barn Rhys Hopkin Rhys—Tynu sylw yn mhob man—Ei ddiffygion i'w hannghofio—Dyn cyflawn a thrwyadl —Cristion trwyadl—Dylanwad Yspryd Duw ar ei galon—Anhunangar, gostyngedig, a dirodres—Barn Dr. Morgan arno fel Cristion— Bugail diwyd, llafurus, a thyner—Llawn cydymdeimlad—Sylw neillduol i'w bobl—Dysgu business habits i'w eglwys—Gofalus am y pwlpud —Caredig i'r gweddwon—Er mor fawr a gofalus, suddo yn yr angeu fel haul Mehefin—Ei lewyrchiadau yn aros ar ol—Claddedigaeth dywysogaidd—Trefniadau—Mynegiad o'r angladd o Seren Cymru— Ei bregeth angladdol—Argraff addas ar ei gofadael.
PENNOD XXI.
Araeth yn Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr —Araeth yn Exeter Hall—Araeth ar y Genadaeth Dramor—Araeth wleidyddol yn Aberhonddu.
PENNOD XXII.
Y Tabernacl—Y Corn Bychan—Geiriau Crist—Joseph—Angladd Jacob.
BYWGRAFFIAD
Y
PARCH. T. PRICE, M.A., PH.D.
PENNOD I.
EI HANES BOREUOL.
Ei enedigaeth Lle ei enedigaeth—Ei rieni—Ei linach—Ymweliad ag ardal ei enedigaeth Dylanwad golygfeydd, &c., ar gymmeriad Barn Cynddelw—Enghreifftiau: Burns, Coleridge, &c. Dechreu ei fywyd cyhoeddus—Y Cliftons—Ysgol Sabbothol Pontestyll—Ysgol Sabbothol y Cliftons—Teithio gyda'r teulu Y Cyfandir—Rhufain—Glanau y môr—Marwolaeth ei feistr—Ymadael i Aberhonddu—Ymbrentisio—Ymroddgar i ddysgu—Ennill parch—Ymweled a'r teulu megys mab.
GANWYD y diweddar Hybarch Thomas Price, M.A., Ph.D., Aberdar, mewn lle or enw Maesycwper, yn agos i bentref bychan Ysgethrog yn Mhlwyf Llanamlwch, neu, fel y gelwir ef gan rai, Llanammwlch, yr hwn sydd yn gorwedd yn nyffryn prydferth a ffrwythlon yr Wysg tua thair milldir islaw Tref Aberhonddu, ar yr 17eg o Ebrill, yn y flwyddyn 1820. Ei rieni oeddynt John a Mary Price (Prys). Ganwyd iddynt chwech o blant, sef John, Thomas, Ann, Alice, Mary, a Sarah. Thomas a Sarah oeddynt y ddau ieuangaf. Ganwyd John, ei dad, yn Mherthybala, yn ymyl Tref Aberhonddu. Nid oedd ei rieni ond pobl gyffredin yn eu hamgylchiadau, ond yn ddiwyd a gonest. Nid oedd dim yn wahanol ynddynt i'r lluaws tadau a mamau oeddynt, fel hwythau, yn ymdrechu dwyn eu teuluoedd i fyny goreu y medrent yn ngwyneb llawer o anfanteision; ac oni fuasai eu cyssylltiad â'u mab, nid yw yn debyg y buasai neb yn gwybod eu henwau y tu allan i gylch cyfyng eu cymmydogaeth. Y mae yn ffaith nodedig fod y nifer lluosocaf o'r dynion mwyaf galluog ac enwog mewn gwahanol foddau wedi codi or lleoedd annhebycaf, ac yn fynych o'r teuluoedd mwyaf dinod. Gweithiai John Price fel llafurwr, a bu am un-ar-bymtheg-a-deugain o flynyddoedd yn ngwasanaeth y Williamsiaid or Manest Court. Cafodd ei wneyd yn farm bailiff iddynt, ac mewn oedran teg bu farw yn eu gwasanaeth yn wir barchus fel gwas diwyd a gonest.
Eglwyswyr oeddynt rieni Thomas Price. Nid oedd yr adeg hono un capel, nac ysgoldy, nac ysgol ddyddiol, ynperthyn i'r Annghydffurfwyr yn y plwyf. Felly, yn ystod blynyddau boreuol Price, yn neillduol yn ei ardal enedigol ef, yr oedd manteision addysg yn isel a phrin, er y dywedir iddo gael ychydig addysg elfenol gan hen wreigen a gadwai ysgol ddyddiol yn Mhentref Pengelli. Yn ddiweddar ymwelodd yr ysgrifenydd ag ardal enedigol y Dr., a chafodd hyd i hen foneddiges barchus or enw Elizabeth Davies, Villia, yn Mhentref Llanamlwch, yr hon oedd dros 78 mlwydd oed, wedi byw yn y pentref hwn dros 65 mlynedd, ac felly, adwaenwn (meddai hi) yn dda rieni Thomas Price, pan oeddynt yn ddynion ieuainc. Pobl barchus iawn oedd John a Mary. Yr oeddynt yn Eglwyswyr selog, a gweithiasant yn ddiwyd i godi eu teulu. Buont yn byw yn Mhentref Llechfaen, ac yn hir iawn yn y Cwrt. Cyfeiriodd yr ysgrifenydd at y Cwrt, yr hwn oedd ychydig y tu hwnt i Bentref Llanamlwch, ar Ffordd y Fenni. Nid oedd i'w weled ond olion dau hen dy bychan mewn culffordd oedd yn arwain dros y bryniau i Dalyllyn, â'r gerddi y tu cefn yn ffinio â chae y Manest Farm, yr hwn a ddelir yn bresenol gan Mr. David Jones, New Inn.
Teimlasom ddyddordeb mawr pan yn edrych ar yr hen adfeilion, wrth feddwl am yr enaid mawr a'r yspryd byw, nerthol, a rhagorol fu yn preswylio yn y lle dinod hwnw; ac er nad oedd yr ysmotyn yn cael sylw y cymmydogion ar gyfrif eu dyeithrwch i'r Doctor enwog gafodd ei godi yno, teimlwn fod argraff annileadwy wedi ei gwneyd ar ein meddwl, ac y mae y lle a'r gymmydogaeth wedi dyfod yn gyssegredig i'n teimlad ac yn anwyl gan ein calon. Credai Mrs. Davies fod Tom Price, fel y galwai hi ef (ac am hyn gwnaeth ymddiheuriad), wedi bod pan yn ieuanc iawn dan ofal un athraw o'r enw Davies, yr hwn a gadwai ysgol mewn hen ysgubor yn y pentref, ac a oedd hefyd yn dollydd (exciseman) ac yn ysgolhaig gwych. Yr oedd y tollydd, ychwanegai yr hen foneddiges yn hyfforddus a charedig neillduol, a thynai y plant a'r bechgyn ieuainc ar ei ol yn lluosog; ond nid oes sicrwydd gyda golwg ar hyn, oblegyd ni chrybwyllai y Dr. byth am hyny pan yn son am ddyddiau ei faboed. Cwynai yn fynych am ei anfanteision boreuol i gael addysg ac i gyrhaedd gwybodaeth; arferai ddweyd fod hyny wedi bod yn anfanteisiol iddo drwy ei oes, er mor ddysglaer y bu.
Treuliodd Thomas Price ei ddyddiau bachgenaidd yn ei fro a'i ardal enedigol, sef dyffryn prydferth a ffrwythlawn yr Wysg. Ac fel y dywed gwyddonwyr wrthym, mae dau allu cryf ar waith yn ffurfiad cymmeriad a nodwedd pob person unigol, sef rhienyddiaeth, golygfeydd allanol, ac amgylchedd. Y mae dylanwad golygfeydd allanol, yn mhlith y rhai y treulir dyddiau boreuol, yn gryfach ar y meddwl nag y tybir yn fynych. Y meddwl yw sylfaen y cymmeriad, ac fel y mae y meddwl yn cael ei feithrin, y mae y cymmeriad yn araf, ond etto yn sicr, yn cael ei ffurfio, ac y mae gan argraffiadau allanol y dylanwad mwyaf ar y rhan foreuol o'r bywyd. Dywed y Parch. J. Spinther James, A.C., yn ei draethawd bywgraffyddol galluog i'r anfarwol Cynddelw, am hyn fel y canlyn:"Credai Čynddelw yr athrawiaeth hon, ac ystyriai ei hun yn ddysgybl Mynydd Berwyn, a gwelir yn y dysgybl debygolrwydd neillduol i'w athraw, mewn cryfder, amrywiaeth, ac agwedd wasgaredig." Dichon mai y rheswm am fod caniadau y bardd Albanaidd, Robert Burns mor llawn o ansoddebau a desgrifiadau bugeiliol yw, iddo fod yn blentyn natur. Y fodd y meddylddrychau ar fryniau rhamantus ac yn nyffrynoedd prydferthion ei wlad. Gwelir hefyd yr un dylanwad ar gymmeriadau y tri wyr enwog, Coleridge, Wordsworth, a Southey. Dygwyd hwy i fyny yn mhlith prydferthion natur, ac y maent, fel plant natur, wedi rhagori mewn naturioldeb a phrydferthwch eu cymmeriadau a u cynnyrchion dihafal. Fel y cyferbyna rhai haneswyr fel hyn sefyllfan genedigaeth rhai dynion o enwogrwydd â bywyd neu gymmeriad can- lyniadol y cyfryw, felly, gyda phriodoldeb arbenig, y gallwn ninau ar y naill law gyferbynu brasder tir dyffryn prydferth a rhadlonrwydd a chyflawnder afon fawr yr Wysg i haelionusrwydd calon gariadlawn a chymmeriad haelionus y bachgen gruddgoch a gafodd enedigaeth a chodiad ar ei glanau; ac ar y llaw arall amrywiaeth golygfeydd a ffrwythlondeb neillduol yr ardal hon, yn nghyd â mawrfrydigrwydd y Banau (mynyddau uchaf y Dehau), y rhai a ymylant y dyffryn hwn, yn arddangosiad o amrywiaeth cynnyrchion doniau ein pregethwr, ein dysgawdwr, ein darlithiwr, ein hawdwr, a'n golygydd diguro, y Parch. Thomas Price. Dechreuodd ei "fywyd cyhoeddus," fel y galwai y Dr. ef mewn amaethdy or enw Greenway, oedd yn agos i Bontestyll, yn ngwasanaeth amaethwr parchus or enw Parry. Cyflogid ef fel gwas bach i yru ceffylau i aredig, &c. Nid oedd y pryd hwnw ond braidd tair-ar-ddeg oed, ond ni fu yn hir yn y " sefyllfa gyhoeddus 'hon: tynodd sylw teulu cyfrifol ac uchel o'r enw Clifton oedd yn y Ty Mawr, Llanfrynach, ac felly, cafodd ei ddyrchafu i fod yn wesyn (page) bach i weinyddu ar y boneddigesau yn y teulu hwn. Cafodd yr hyfrydwch y pryd hwnw o deithio llawer gyda'r teulu. Dyfyrus dros ben oedd ei glywed yn adrodd yr amgylchiadau hyn. Gwnai hyny yn ei ffordd ddoniol a naturiol ei hun hyd y collai ddagrau gan lawenydd a diolchgarwch am y gofal a'r tynerwch a dderbyniasai yn neillduol gan y boneddigesau ieuainc, y Misses Clifton. Tra yn Mherthybala yr oedd yn cyrchu i'r Ysgol Sabbothol yn Mhontestyll, lle y dysgodd ddarllen Cymraeg drwy offerynoliaeth "Charles y Gof," sef y brawd Charles Thomas, yr hwn oedd yn weithiwr diwyd a chysson gyda'r achos da yn y lle hwnw, a thra yn nheulu y Cliftons dysgodd ddarllen Saesneg. Yr oedd y boneddigesau ieuainc yn rhai tra rhinweddol ac yn ymhyfrydu mewn gwneuthur daioni. Cadwent Ysgol Sabbothol yn eu teulu eu hunain; teimlent ddyddordeb mawr yn eu gwesyn ieuanc, Tom Price; ac yr oeddynt am feithrin a thynu allan y talentau dysglaer a gredent fod yn y llanc tyner a charedig; felly, rhoddent iddo wersi dyddiol mewn darllen, ysgrifenu, a rhifyddiaeth, nes iddo yn y diwedd ddyfod yn dipyn o athraw ei hun. Fel hyn y gosodwyd sylfeini llydain a chedyrn bywyd defnyddiol a gwerthfawr y Dr. i lawr.
Gallwn ddychymygu am dano erbyn hyn yn fachgenyn tra thlws, ei wyneb crwn, gwridgoch, yn ddengar neillduol, a'i gorffyn bach wedi ei wisgo yn lifrai y teulu, a'r boneddigesau yn dra hoff o hono, yn cribo ei wallt du, modrwyog, ac yn gwrteithio ei feddwl bachgenaidd a bywiog, yn ddigon diarwybod iddo ei hun, ac heb fawr meddwl o'u tu hwythau am y ddarpariaeth tuag at y defnyddioldeb mawr y buont yn offerynol i'w hwylusu ar y pryd hwnw.
Tra yn ngwasanaeth y teulu hwn cafodd fyned i'r Cyfandir. Bu gyda'i feistr ieuanc am dro yn Rhufain, ond ychydig iawn gofiai am y "ddinas dragwyddol." Adroddai am y teithiau hyn wrth ei hen gyfaill, Jenkin Howell, Aberdar, pan gyda'u gilydd yn treulio prydnawn ar greigiau ysgythrog y Mumbles. Cafodd Price fyned gyda'r teulu un tro i lanau y môr tua'r Mumbles ger Abertawy, ac yn y ty lle yr oeddynt yn aros yr oedd hen argraffiad mawr a darluniadol o Daith y Peverin. Tynodd y llyfr hwn ei sylw ef, a darllenodd yntau ef gyda blas a melusder anarferol, trwy yr hyn y daeth i ddechreu teimlo awydd darllen a meddwl ychydig drosto ei hun. Pwy all ddweyd pa nifer o filoedd y mae y dychymyg rhyfeddol hwnw wedi bod yn foddion i roddi y cyffroad cyntaf i'w meddyliau?
Yn ystod y blynyddau y bu Price yn nheulu y Cliftons, sicrhaodd barch a theimlad da y rhai oeddynt fel yntau yn ngwasanaeth y teulu. Hoffai, yn mhen blynyddau wedi ymsefydlu yn y weinidogaeth, gyfarfod â hwynt, a theimlai ddyddordeb mawr mewn adrodd helyntion yr hen amseroedd pan oeddynt gyda'u gilydd. Cyfarfyddai yn achlysurol â Mr. Joseph Bryant, yr hwn oedd yn goachman gyda'r Cliftons yr amser yr oedd efe yn wesyn yn y teulu, ac ysgydwent ddwylaw yn wresog rhyfeddol o bob tu, gan arddangos y dyddordeb mwyaf yn eu gilydd a'r parch dyfnaf y naill at y llall. Clywodd y Dr. unwaith fod yr hen fwtler oedd yn y Ty Mawr, yr hwn a alwai yn Joe Bromwich, yn byw yn Aberhonddu. Y cyfle cyntaf a gafodd i fyned i'r dref, gwelid ef yn ymholi yn daer ac yn chwilio yn fanwl am Joe, gan fyned o heol i heol ac o ddrws i ddrws nes o'r diwedd yn cael clywed ei fod wedi myned o'r dref i fyw yn herwydd tlodi. Teimlai y Dr. ddyddordeb mawr yn yr hen fwtler, oblegyd i ddysgyblaeth dadol, ond llem, yr hwn y dywedai ei fod mewn dyled fawr. Er nad oedd ond dyn hollol annuwiol, yr oedd ynddo y fath onestrwydd a pharch i wirionedd a dynoliaeth, fel y bu yn athraw gwerthfawr iddo. Yn ffodus, cyfarfu â r hen gyfaill yn y dref dranoeth, a phrydferth iawn oedd gweled y dagrau yn llygaid y naill a'r llall o honynt wrth gofio y cyflwr gynt a'r cyfnewidiadau mawrion oeddynt yn nghyflwr a sefyllfa pob un yn awr. Yr oedd yr hen fwtler yn falch iawn i weled Tom bach wedi myned yn Ddoctor mawr.
Yn ystod yr amser yr oedd Price yn ngwasanaeth y Cliftons bu ei feistr farw o'r ddarfodedigaeth. Hyn, mae yn debyg, fu yn achlysur iddo ymadael â'r teulu. Symmudodd i Dref Aberhonddu, lle yr ymrwymodd yn brentis gydag un o'r enw Thomas Watkins o'r Struet, yn baentiwr, gwydrwr, a phlymiwr. Pan yn nheulu parchus y Ty Mawr darfu i'r bachgen gofalus a chynnil, Tom, er nad oedd ei gyflog ond bechan, trwy ei chadw a chael ambell anrheg, gasglu yn nghyd y swm o £21, yr hon a dalodd am ei brentisiaeth i'w feistr Watkins. Dengys hyn pa beth all bechgyn ei wneyd drwy gynnildeb a gofal. Yn ystod tymhor ei brentisiaeth roddodd i ddysgu ei grefft gyda'r egni a'r diwydrwydd mwyaf; ac nid hir y bu cyn profi fod ynddo alluoedd y tu hwnt i'r cyffredin i ddysgu a meddiannu gwybodaeth o'i alwedigaeth. Yn fuan hefyd daeth yn ffafrddyn gan y teulu a'i gydweithwyr, ac ennillai barch ac edmygedd pawb y deuai i gyssylltiad â hwy.
Arferai y Dr. alw gyda'i hen feistr pan yn myned i Dref Aberhonddu, a golygfa angylaidd a thra dymunol oedd gweled ei hen feistres yn estyn cusan iddo fel mam dyner i'w mab gofalus a ffyddlawn, a'r hen feistr yn gafaelyd yn llaw y bachgen â'i ddwylaw, gan grechwenu wrth weled y paentiwr a'r gwydrwr wedi myned yn enwog. Yr oedd hyn yn brawf da hefyd fod Thomas Price wedi bod yn was da ac yn ffyddlawn yn ei wasanaeth.
PENNOD II.
DECHREUAD EI FYWYD CREFYDDOL.
Heb dueddiad crefyddol hyd ei brentisiaeth—Ysgol y Methodistiaid—Gwahoddiad i weled bedydd—Y Parch. B. Williams—Argraffiadau cyntaf ar feddwl Price—John Stuart Mill—Bedydd yn ddieithr i Price—Bedyddio ei fam—Ei feistr yn Wesley—Ei feistres yn Fedyddwraig—Williamsiaid Ship Street—John Evans—Dylanwad gwragedd—Ennill Price at y Bedyddwyr—Price yn y gyfeillach—Ei fedyddiad—Dygwyddiad hynod—Bedyddio pedwar pregethwr Cymdeithasfa Lenyddol Gristionogol—Price yn dechreu llefaru yn gyhoeddus—Methu—Grym penderfydiad—Cyfarfodydd gweddio—Yn ei ardal enedigol Anerchiadau—Arferion daionus—Dyledswydd aelodau crefyddol.
HYD amser ei brentisiaeth, mae yn debyg nad oedd Thomas Price wedi dadblygu un tueddiad i geisio crefydd, er ei fod yn ymhyfrydu mewn darllen a mynychu yr Ysgol Sabbothol. I ysgol y Methodistiaid yr oedd yn myned yn amser cyntaf ei brentisiaeth; ond ar ryw dro, cafodd wahoddiad gan gyfaill iddo ag oedd yn aelod yn Mhorthydwr, i fyned i weled yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu yn Maesyberllan. Y cyfaill hwnw oedd Mr. James Williams, Cashier, gynt o Gwmdar, yn awr o Taylorstown, yr hwn sydd yn aelod ffyddlawn a diacon parchus yn eglwys y Bedyddwyr yn Mhontygwaith. Sylwer pa galyniadau dymunol sydd yn tarddu o wahoddiadau caredig i weled a chlywed yr hyn sydd dda. Cydsyniodd Price, ac aethant gyda'u gilydd heb fawr o feddwl ganddo ef am gael ei ddal gan yr olygfa. Y Parch. B. Williams oedd yn gweinidogaethu yr adeg hono yn Maesyberllan, ac efe oedd yn pregethu yno y diwrnod hwnw. Yr oedd y dyrfa mor fawr fel mai ofer oedd meddwl am ei chynnwys yn yr addoldy. Yma," meddai y Dr., pan yn adrodd yr hanes gyda theimladau dwys, "safai Mr. Williams dan yr ywen a ymgangenai yn llydan dros y fynwent, a'i destyn oedd, 'Y gwyliedydd, beth am y nos?" Gall y rhai a glywsant Mr. Williams ar ei uchel fanau ddychymygu yn dra hawdd pa brydferthwch ysprydol lewyrchai ar
ei wynebpryd hardd, y modd nerthol y dyrchafai ei lais
seingar fel udgorn Brenin Seion, fel y llifeiriai geiriau
gwirionedd Duw dros ei wefusau, yn enwedig yn amser
diwygiad mawr Maesyberllan, fel y fflamiai argyhoeddiadau
megys o bob brawddeg i galonau ugeiniau o bechaduriaid.
Nid oedd Thomas Price yn meddwl am ddim ar y dechreu
ond cael dyfyrwch gyda y bedydd, a gwneyd gwawd o'r
bedyddedigion; ond fel yr oedd doniau y pregethwr yn
gwresogi, ac yn cryfhau fel llifeiriant dyfroedd cryfion,
collodd Thomas ei draed odditano, ac fel y dywedai Thos.
Williams, Blaenybrynach, “mi a'i gwelwn yn myned
gyda'r llifeiriant, y galon yn cael ei thoddi, a'r llygaid yn
llawn o ddagrau." Dyna yr argraffidau crefyddol cyntaf
ar feddwl Thomas bach. Addefai John Stuart Mill iddo
yntau un adeg deimlo cynhyrfiadau a chymhellion cryfion
i ymaflyd mewn crefydd, ond esgeulusodd ei hun yr adeg
hono. Ni wreiddiodd yr had da ynddo am iddo gael craig
yn lle daear. Gall dyn dderbyn yr had goreu a gadael iddo
bydru. Dichon dderbyn y dylanwadau mwyaf maethlon, ac
etto fod yn amddifiad o ffrwythau bywyd sanctaidd. Nid
felly y bu yn hanes gwrthddrych ein cofiant. Cadwodd yr
argraffiadau cyntaf yn fyw yn ei galon, a meithrinodd ei
deimladau crefyddol nes cael ei fywhau yn ysprydol ganddynt.
Hyd yma, yr oedd Bedydd a'r Bedyddwyr i raddau mawr yn ddyeithr iddo, oblegyd, fel y nodasom, nid oedd ei rieni mewn cydymdeimlad â'r Bedyddwyr, gan mai Eglwyswyr oeddynt, a dyna ydoedd teulu parchus y Cliftons. Wedi claddu ei dad, daeth ei fam at y Bedyddwyr, a chafodd ei bedyddio ar broffes gyhoeddus o'i ffydd yn y Gwaredwr pan oedd tua 60 oed, yn Llanfrynach, gan y diweddar Barch. J. Jerman, yr hwn fu yn weinidog am flynyddau yn Eglwys y Deri, Morganwg. Yr oedd ei feistr, Mr. Thomas Watkins, o'r Struet, yn aelod ffyddlawn a selog, mae yn debyg, gyda y Wesleyaid yn y dref, ac yn ewyllysio i Tom Price, yn o gystal ag ereill o'i weithwyr, fyned gydag ef at y Wesleyaid ar y Sabbothau; ond yr oedd ei feistres, Mrs. Watkins, yn Fedyddwraig egwyddorol a selog: yr oedd yn aelod ffyddlawn a dichlynaidd yn Mhorthydwr. Arferai Mrs. Watkins alw yn fynych yn nhy James Williams, grocer, Ship Street, sef tad Mr. James Williams, Tylorstown, y crybwyllasom am dano yn flaenorol. Yr oedd Mrs. Watkins a Mrs. Williams o'r Shop yn gyfeillesau trwyadl, a theimlent ddyddordeb neillduol yn llwyddiant yr achos yn Mhorthydwr. Yr oedd y Williamsiaid yn ddiarebol am eu llettygarwch i weinidogion y Bedyddwyr, ac yno y byddent bob amser yn cartrefu pan yn ymweled â'r dref. Arferai Thomas Price fynychu y tŷ hwn hefyd, at y meibion, a derbyniai bob sirioldeb a charedigrwydd ganddynt. Hefyd, yr oedd dyn ieuanc parchus arall yn y dref yn arfer llawer â'r Williamsiaid, ac hefyd yn gwneyd cyfeillach â Price, o'r enw John Evans, yr hwn, wedi hyny, a gyrhaeddodd sefyllfa anrhydeddus yn y dref fel cyfreithiwr llwyddiannus, ac am yr hwn y cawn ddweyd gair etto yn mhellach yn mlaen.
Yr oedd Price yn awr yn codi yn fachgen ieuanc bywiog a phrydferth, ac yn addawol o ddyfodol dysglaer fel paentiwr hyfedr, ac fel y cyfryw, ofnai ei feistres iddo fyned yn rhydd a digrefydd, ac nid oedd hefyd yn teimlo yn ddedwydd nad allai lwyddo i'w gael gyda hi i fynychu yr Ysgol Sabbothol a'r cyfarfodydd yn Mhorthydwr. Yr oedd Mrs. Watkins yn berchen ar gynneddfau meddyliol cryfion, ac yr oedd yn hynod o benderfynol. Un diwrnod, dywedodd wrth y dyn ieuanc John Evans y carai yn fawr weled Tom yn dyfod gyda hi i Ysgol Sabbothol Porthydwr, a gofynodd iddo wneyd ei oreu i'w gael i ddyfod, "oblegyd," meddai, "yr wyf yn credu yn ddiysgog, os y ceisiwch chwi, y gellwch lwyddo." "O'r goreu, meddai Evans, "ymdrechaf," a llwyddodd yn ei ymdrech. Daeth Price i'r Ysgol a'r cyfarfodydd—at y Bedyddwyr, ac nid hir y bu cyn dangos awydd i ymaelodi gyda'r cyfenwad y gwnaeth gymmaint o waith iddo a throsto yn ystod ei fywyd gwerthfawr.
Gwelwn yma beth a allai gwragedd da ei wneyd drwy ymdrechion egwyddorol a phenderfynol, nid yn unig i ddwyn plant eu hunain at achos Mab Duw, ond hefyd eu gweision a'u morwynion, eu hadnabyddion a'u cymmydogion. Yr oedd y foneddiges hon wedi penderfynu gwneyd Bedyddiwr o Price, a'i gael, os gallai mewn unrhyw fodd, at y Gwaredwr, a choronwyd ei sêl a'i phenderfyniad clodus yn fendigedig, drwy iddi yn rhanol fod yn gyfrwng i ddwyn y Dr. enwog at y Ceidwad yn ei ddyddiau boreuol. Fel yr awgrymasom, nid hir wedi dyfod i fynychu Capel Porthydwr, y bu cyn myned i'r gyfeillach grefyddol, wedi penderfynu dylyn Crist yn y Bedydd, yn ol y dull apostolaidd, fel yr arferai ddweyd yn fynych pan yn gweinyddu yr ordinhad ei hunan yn ystod ei weinidogaeth. Nid oedd bedyddio wedi bod yn y dref yn flaenorol er ys dwy flynedd. Yr oedd chwant mawr ar Thomas Price i gael ei fedyddio yn yr afon, eithr y penderfyniad oedd i fedyddio yn y bedyddfan yn y capel. Yr oedd y gweinidog ychydig yn erbyn bedyddio yn yr afon, a theimlai y prif ddiacon, Mr. Phillips, yn selog dros weinyddu yr ordinhad yn y bedyddfan, yn gymmaint ag fod yr eglwys wedi myned i'r draul o'i darparu. Yr oedd pump i'w bedyddio yr adeg hono, sef pedwar o frodyr ieuainc, ac un chwaer. Dangosai y brodyr o hyd awydd cryf i gael eu trochi yn yr Wysg, a dadleuent am gael hyny o fraint. Teimlai yr hen ddiacon parchus fod Thomas Price a'i gyfoedion yn cymmeryd gormod hyfdra arnynt fel hen frodyr, a rhoddodd anerchiad llym iddynt ar eu dyledswydd i ymostwng i'w blaenoriaid, ac ychwanegai ei fod yn ofni eu bod yn ofergoelus. Gobeithiai nad oeddynt yn credu fod rhinwedd neillduol yn nyfroedd yr Wysg. Gwyddai fod yr Indiaid yn credu yn gryf fod rhinwedd mawr yn afon y Ganges, ac ofnai eu bod hwythau yn debyg iddynt. Gyda golwg am eu barn am yr Wysg, dywedai y bachgen Price nad oeddynt fel yr Indiaid, "ac nid ydym," meddai, yn hygoelus gyda golwg ar rinwedd yr Wysg, ond yno y teimlaf y carwn gael fy medyddio." Daeth y dydd a'r adeg i gladdu y pump ymgeisydd yn y Bedydd, a pharotowyd gan yr eglwys i'r ordinhad gael ei gweinyddu yn y bedyddfan; ond cyn disgyn o'r gweinyddwr iddo, deallwyd fod ynddo ormod o ddwfr i'r bobl ieuainc oeddynt i'w bedyddio, a chododd yr hen ddiacon soniedig yr ystopell (plug) i fyny, er gollwng ychydig o'r dwfr allan, ac er ei fawr syndod, methodd ei ail-osod, oblegyd yn ddamweiniol, aeth carreg fechan i'r twll, a rhedodd y dwfr allan i gyd o'r bedyddfan. Felly, dan yr amgylchiadau, nid oedd dim i'w wneyd ond myned â'r bedyddiedigion, yn ol eu dymuniad, i'r Wysg, ac yno y cydgladdwyd hwy a Christ yn y Bedydd. Gweinyddwyd yr ordinhad gan y gweinidog, y Parch. John Evans, brawd i'r adnabyddus David Evans, Pontrhydyrun, a mab i'r enwog Evans o Maesyberllan. Trodd y pedwar bachgen allan yn bregethwyr, sef John Evans, Aberhonddu; y Parch. J. Williams, Llundain; y diweddar Barch. D. Evans, Dudley; a gwrthddrych y cofiant hwn.
Yn mhen ychydig amser wedi y bedydd hwn, cynnygiwyd cynnal cyfarfodydd gweddi yn y Fenni Fach, Llanddw, a'r ardaloedd cylchynol. Gyda hyn cododd rhyw ychydig awydd siarad yn y bechgyn, ond nid oedd drws agoredd iddynt. Yr hen dad parchus o Borthydwr, yn ddiau, yn ofni i'r ebolion efallai dori dros y terfynau, pe buasai yn rhyfeddod. Ond llonyddwyd tipyn ar yr anian hon yn Thomas Price yn mhen ychydig. Yr oedd efe yn awr yn codi, a bu yn athraw da a ffyddlon yn yr Ysgol Sabbothol. Yr adeg hono yr oedd dosparth i ddynion ieuainc yn cael ei ddwyn yn mlaen yn Kengsington, capel y Bedyddwyr Saesneg, gan y Mri. Jones y druggists, er diwyllio meddyliau a chynyddu gwybodaeth y bobl ieuainc yn y lle. Yr oeddynt hefyd i gael mantais i lefaru ar wahanol bynciau, a thrwy hyny ddangos eu doniau. Ymunodd y bechgyn ieuainc o Borthydwr â hon, ac yn eu plith daeth Price yn ymlynydd cysson a selog wrthi. Yn nghyfarfodydd y gymdeithasfa hon y dadblygodd Price gyntaf ei alluoedd i siarad yn gyhoeddus, yr hyn a'i gwasanaethodd ef a'r enwad Bedyddiedig mor effeithiol drwy ystod ei fywyd llwyddiannus. Myfyriai yn galed hefyd lenyddiaeth Feiblaidd a gweithiau llenyddol gwerthfawr ereill, a galluogodd ei dreiddgarwch a'i alluoedd naturiol digyffelyb ef i feistroli yn drylwyr ddyrus bynciau duwinyddol oeddynt yn aros yn dywyll i oleuadau llai. Nid oedd ei weinidog, modd bynag, yn rhoddi ond ychydig gefnogaeth ir myfyriwr ieuanc caled, oblegyd edrychai gyda drwgdybiaeth ar ei ymdrechion llenyddol cysson a di-ildio. Fel llawer o weinidogion y dyddiau hyny, tueddai i gredu nad oedd un llyfr yn werth i'w ddarllen a i fyfyrio ond y Beibl. Yr oedd Price i lefaru un noswaith yn y Gymdeithas Gristioncgol, a'r pwnc oedd Breniniaeth Crist. Aeth Thomas i fyny i'r pwlpud i siarad, fel y tybid, a chan fod y gair brenin yn ei bwnc, darllenodd yn destyn, Minau a osodais fy Mrenin ar Seion, fy mynydd sanctaidd." Eithr methodd ddweyd gair yn ychwaneg, yr oedd tywyllwch dudew wedi toi y cwbl, fel o'r braidd yr oedd yn gweled y ffordd i ddysgyn o'r areithfa. Dyna ddechreuad llefaru yn gyhoeddus Dr. Price, Aberdar, ond nid dyma ei ddiwedd. Er i Price dori lawr y tro hwn, etto ni ddigaloncdd; eithr ymdrechodd yn fwy egniol a phenderfynol, a bu yn llwyddiannus. Teimlai ddyddordeb mawr yn nghymdeithas y dynion ieuainc, a bu yn dra gweithgar ynddi cyhyd ag yr arosodd yn y dref.
Ymhyfrydai Price bob amser fyned i'r cyfarfodydd gweddi a gynnelid yn yr annedd-dai yn y dref a'r ardaloedd cylchynol. Arferai efe a'r bechgyn ieuainc a ddechreuasant grefydda yr un adeg ag ef siarad bob yn ail yn y cyfarfodydd gweddi crybwylledig. Tebyg eu bod weithiau yn myned allan mor bell i'r wlad à Llanamlwch, plwyf genedigol y Dr., oblegyd dywedai yr hen foneddiges y crybwyllasom am dani yn flaenorol, Mrs. Davies, ei bod yn cofio amser dymunol ar grefydd bron ar yr adeg y bedyddiwyd Thomas Price. Arferai efe a rhai bechgyn ieuainc ddyfod allan i gynnal cyfarfodydd gweddi yn y pentref, a phregethent neu anerchent yn y cyfarfodydd hyny yn achlysurol. Cynnalient y cyfarfodydd mewn hen ystordy oedd uwchben siop saer oedd yn y pentref, yr hon a feddiennid gan un Nellie Jones, hen ferch weddw, a merch i un William Jones, pregethwr cynnorthwyol gyda'r Annybynwyr. Ond yr oedd ei ferch, Nellie, yn Fedyddwraig selog, ac yn gwneyd ei goreu i ledaenu yr egwyddorion Bedyddiedig yn y gymmydogaeth. Yr oedd y cyfarfodydd hyn yn rhai llewyrchus a llwyddiannus iawn. Dywedai Mrs. Davies nad oedd yr adeg hono dy yn y wlad braidd heb aelod crefyddol ynddo, ac yr oedd pawb bron yn ymdrechu gwneyd rhywbeth gyda chrefydd. Teimlid parch mawr at Thomas Price, ac ymgynnullai nifer lluosog i'r cyfarfodydd hyn bob tro y byddai efe yn dyfod allan i Lanamlwch. Heblaw yr ymarferiad, yr oedd Price a'i gyfoedion yn ei gael yn y cyfarfodydd a nodwn, yr oeddynt yn fynych yn ymneillduo i'r maes a'r coedwigoedd cylchynol i gynnal cyfarfodydd gweddi. Clywsom y Ďr. yn dweyd droion ei fod ef wedi magu llawer o nerth, ac wedi ymgryfhau fel gweddiwr drwy ymarferyd llawer wrtho ei hun mewn coedwig oedd yr adeg hono heb fod yn neppell oddiwrth Gapel Porthydwr. Flynyddau yn ol yr oedd llawer o hyn yn cael ei wneyd hyd y nod gan y bobl ieuainc a ymunent à chrefydd yr Arglwydd Iesu; ond ofnwn yn bresenol nad yw yr arferiad yn cael ei fabwysiadu o gwbl gan y to sydd yn codi, a hyny am nad ydynt yn meddu yr un yspryd, ac nad yw yr un dylanwadau nerthol yn gweithio ynddynt. Buasai yn dda i'r Eglwys yn fynych yn bresenol ped arafai ei haelodau hi ychydig, gan ystyried a meddwl am eu dyledswyddau a'u rhwymedigaethau crefyddol, ac ymneillduo yn fynych i'r maes agored, y goedwig dewfrig, neu y mynydd tawel, i ddal cymdeithas a'r Yspryd Tragwyddol, fel y gwnai Crist gynt, a miloedd o'i ffyddlawn ganlynwyr yn yr oesoedd a aethant heibio.
PENNOD III.
EI FYNEDIAD I LUNDAIN AC YN OL.
Gorpheniad ei brentisiaeth—Anrheg gan ei feistr iddo– Ei onest— rwydd — Cerdded i Lundain— David Jones, Caerdydd—Ma— thetes—Cyrhaedd y Brifddinas—Dick Whittington—Cael gwaith Awydd ymberffeithio yn ei grefft—Ymuno à sefydliadau celf— yddydol — Mynychu llyfygelloedd—Darllenwr mawr Cymro pur—Ymaelodi yn Moorfields—Dechreu pregethu—Ei destyn cyntaf—Myned at y Saeson—Cael derbyniad i'r coleg—Gorchwyl diweddaf cyn myned i'r coleg—Talu yn rhanol am ei addysg—Ymhyfrydu adrodd helyntion ei fywyd—Y myfyrwyr yn ei dderbyn yn llawen.
AR derfyniad ei brentisiaeth, anrhegodd ei feistr ef â phum' punt, fel arwydd fechan o'i barch tuag ato, am ei ymdrechion egniol i ddysgu ei grefft, ei ffyddlondeb iddo, a'i ymddygiadau da a theilwng tra yn ei wasanaeth. A'r swm bychan hwn penderfynodd Price ddechreu yn y byd drosto ei hunan. Ni adawodd i'r glaswellt dyfu dan ei droed. Dododd ei benderfyniad ar waith, ac ni wnelai un lle y tro ond Llundain i'r llencyn Cymreig un ar hugain oed, modrwyog ei wallt, a gwridgoch ei wedd. Wedi prynu ychydig ddillad, y rhai, meddai Price pan yn adrodd yr amgylchiadau hyn ei hunan, oedd eu hangen arno; ac fel bachgen egwyddorol a gonest, wedi talu pob gofynion arno yn y dref, yr hyn a lyncodd y swm oll o fewn ychydig sylltau, efe a gyfeiriodd ei gamrau tua'r Brifddinas; a dywedir iddo gerdded bob cam o'r ffordd o Aberhonddu i Lundain, 160 milldir, a chyrhaeddodd mewn tri diwrnod. Gorfu arno, yn ddiau, alw yn sychedig wrth lawer drws, fel y diweddar David Jones, Caerdydd, wrth ddyfod o Sir Gaerfyddrin "bant i'r gweithiau," neu yr enwog Mathetes yn teithio bob cam o Gastell-Newydd-Emlyn i Ddowlais heb ddim ond hanner coron yn ei logell, pan yn ymadael ag ardal brydferth ei enedigaeth, am gwpanaid o ddwfr, ac eistedd efallai dan wylo mewn llawer clawdd i dynu ei esgid ag oedd yn dolurio ei droed. Ac yn aml pan fyddai ei feddwl yn cynllunio trefniadau ei fywyd wedi cyrhaedd y ddinas fawr, byddai yr ychydig arian oedd yn ei logell wedi twymo gan wres ei law yn eu rhifo, eu trafod, a'u troi. O'r diwedd, pan mor flinedig, heb wybod pa fodd i roi un droed o flaen y llall, daeth dwndwr tragwyddol y modern Babylon i'w glustiau, ac mewn ychydig, yr oedd yn rhodio ar hyd pelmynt ei hystrydoedd. Bu y Dr. yn Cheltenham, Bath, a chylchoedd ffasiynol ereill, yn ymweled â hwynt gyda chylchdeithwyr (tourists), tra yn ngwasanaeth y Cliftons; ond dyma y cyflwyniad cyntaf i gyflawn lanw bywyd Seisnigaidd poblogaidd. Y fath deimladau cymmysglyd y rhaid fod yn ei feddiannu pan yn agoshau, fel Dick Whittington arall, at brif ddinas y Saeson; ond er yr holl bryderon dwys allai fod yn codi yn ei feddwl am ei ddyfodol, bu yn dra ffodus i gael gwaith yn union deg wedi ei chyrhaedd. Nid oedd ef, hyd yn hyn, ond yn baentiwr tai; ond rhagorai yn hyn ar y cyff- redin. Wedi cyrhaedd Llundain, teimlodd Thomas Price awydd i feistroli rhanau mwy celfyddydgar ei grefft, a threuliodd ei oriau hamddenol i gyrhaedd hyn. Cofrestrodd ei enw ar gyfres un o'r sefydliadau celfyddydol, a dysgyblodd ei alluoedd yno trwy fyfyrdod dwys. Yn yr amser hwn y dysgodd ei wersi cyntaf mewn grammadeg, hanesiaeth, araethyddiaeth, a phortreadu.
Arosodd Price yn Llundain am bedair blynedd yn ngwasanaeth Peto a Gazelle, ac yr oedd y cyfnod iddo ef yn un o gynnydd meddyliol a moesol. Yn fuan, daeth yn aelod o gymdeithas y dynion ieuainc yn y Red Lion Square, a mynychai y Mechanics' Institute yn y South Brampton Buildings, a sefydlwyd yn Plymouth Road gan yr athronydd naturiol enwog, Dr. Birbeck. Yr oedd llyfrgell ardderchog yn gyssylltiedig â'r sefydliad, o'r hon, yn nghyd ag ystafell y newyddiaduron, y gwnaethai Price ddefnydd mynych. Ymhyfrydai yn fawr hefyd mewn darllen a myfyrio Duwinyddiaeth Dwight. Pan fyddai ereill yn ceisio y gweithiau gwerthfawr hyn, cawsid hwy yn fynych yn nwylaw y myfyriwr ieuanc, Thomas Price. Er fod y paentiwr ieuanc o Frycheiniog yn awr wedi dyfod i feddiant o fanteision mawrion a chyfleusderau lluosog i gasglu gwybodaeth fuddiol, ac i ddysgu yr iaith Saesneg drwy droi yn mhlith ac ymgymmysgu â Saeson y brif ddinas; etto, ni ddarfu iddo ef gael ei drawsnewid yn dalp o Sais, fel llawer o blant Gwalia a aethant yno, ac ni chollodd ronyn o'i gydymdeimlad â'i wlad nac â'i gydwladwyr, megys y gwna llawer. Wedi bod yn Llundain flynyddau, gallai seinio pob gair yn iaith fendigaid ei fam mor Gymroaidd a chroew a neb. Yr oedd ein gwron yn ormod o ddyn i annghofio ei hunan yn y cyfeiriad hwnw.
Ar ymadawiad Price o eglwys Porthydwr, Aberhonddu, ymunodd, trwy lythyr parchus o ollyngdod a gafodd, ar unwaith â'r eglwys Fedyddiedig fechan Gymreig yn Moorfields, ar yr hon y pryd hwnw yr oedd y Parch. D. R. Jones, diweddar America, yn weinidog. Tra yno yr oedd Price yn un o athrawon goreu yr Ysgol Sul. Yn fuan wedi ymaelodi yma, dadblygodd y paentiwr ieuanc awydd i bregethu, a chafodd gymhelliad gan y frawdoliaeth. Ei destyn cyntaf oedd, "Wele Oen Duw, yr Hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd," Ioan i. 29. Profodd ei anerchiad cyntaf yn dra derbyniol gan yr eglwys a'r gynnulleidfa. Cymmerodd hyn le tua'r flwyddyn 1838. Er y boddlonrwydd a roddodd y pregethwr ieuanc ar ei gychwyniad yn y gwaith pwysig o gyhoeddi Crist yn Geidwad, nid oedd y gefnogaeth a roddid iddo gan yr eglwys yn fawr iawn. Felly tueddwyd ef i ymuno â'r eglwys Seisnig yn Eagle Street; ond er ei fod wedi myned at y Saeson, yr oedd yn pregethu ac yn siarad yn gyhoeddus yn awr ac eilwaith wrth ei gydwladwyr mewn gwahanol barthau o'r ddinas. Yr oedd yn llwyddiannus iawn. Cydnabyddai pawb a’i hadwaenai fod iddo ddyfodol dysglaer; ac y mae bywyd defnyddiol a gwerthfawr y Dr. enwog wedi profi fod eu barnau a'u syniadau yr adeg hono yn gywir am dano. Ar gais taer yr eglwys (ac nid fel un yn neidio o'r clawdd i'r pwlpud ac heb ei alw), gadawodd ei grefft, ac ymgyssegrodd yn drwyadl i waith mawr y weinidogaeth. Wedi gwneyd apeliad rheolaidd yn y dull arferol, derbyniwyd ef yn fyfyriwr yn y flwyddyn 1842, yn Athrofa y Bedyddwyr yn Mhontypwl, lle y bu yn llwyddiannus am dair blynedd a hanner. Dr. Thomas oedd y llywydd yr amser hwnw, a'r Parch. George Thomas, A.C., yn gydathraw ag ef. Rhif y myfyrwyr yr adeg hono oedd 21. Derbyniwyd Price i'r coleg yn ol mynegiad y llywydd y flwyddyn hono o eglwys Eagle Street, Llundain, ar ei draul ei hun; ac fel y gwelir yn Hanes Athrofeydd Cymru, gan Rufus, yr oedd y draul hono yn £30 iddo.
Cyn myned i'r Coleg, treuliodd Price ychydig amser yn Aberhonddu, ac ardal ei enedigaeth, ac yn brawf o barch ei hen feistr ato a'i ymddiriedaeth ynddo, rhoddodd iddo y gorchwyl o baentio ball-room y Castle yn Aberhonddu. Cofus genym ei glywed yn adrodd am hyn wrth ei hen gyfaill, Jenkin Howell, Aberdar, mewn banquet a gynnelid yn yr ystafell er anrhydedd i Syr William Thomas Lewis, Mardy, Aberdar, yr adeg y gwnaed ef yn Uch Sirydd, ac nid tŷ cyffredin oedd y Castle. Hwnw, meddai y Dr., oedd y gorchwyl cyflogedig diweddaf gyda'i grefft.
Yr oedd ymdeithiad Thomas Price yn y byd Seisnigaidd, ac yn neillduol ei ddyfodiad o'r brif ddinas, yn rhoddi iddo safle a phoblogrwydd yn mhlith y myfyrwyr, oblegyd yr oedd Llundain mor ddyeithr a Kamschatka iddynt hwy. Teimlai Price ddyddordeb neillduol pan yn y Coleg i ad- rodd wrth ei gydfyfyrwyr, fel Columbus arall, hanes ei deithiau, y rhyfeddodau mawrion a'r golygfeydd gogonedd- us yr oedd wedi eu gweled mewn gwahanol fanau, a gwran- dawai y bechgyn gyda'r astudrwydd a'r mwynhad mwyaf arno.
PENNOD IV.
BYWYD ATHROFAOL Y DR.
Price mewn cylch newydd Cyfnod pwysig-Myned i'r coleg-Dysgu-Barn Spinther am addysg—Gibbon—Syr Walter Scott—Hunan-ymroad-Ennill parch fel myfyriwr-Ei fywyd athrofaol, gan Dr. Roberts-Ei gydfyfyrwyr-Barddoniaeth-Ei draethodau colegawl-Manylrwydd ei lafur-Y pynciau fyfyriodd-Meddwl parod-Ei boblogrwydd fel pregethwr-Ei gyd-fyfyrwyr yn ddynion o nod ac enw.
BELLACH yr ydym yn cael Price mewn cylch newydd, ac yn dechreu ar gyfnod pwysig iawn yn hanes ei fywyd. Er ei fod wedi troi fel y nodasom yn mhlith pobl efrydol yn llyfrgelloedd y Brif Ddinas, nid oedd y cylchoedd y bu ynddynt o'r blaen, fe ddichon, mor newydd a dyeithr iol iddo â'r bywyd colegawl; ac er ei fod fel gwenynen wedi ymroddi yn ddiwyd i gasglu ychydig wybodaeth tra y caniatäai manteision ac amgylchiadau iddo; etto, yn yr ystyr hwn, dyma'r cyfnod pwysicaf yn ei hanes, oblegyd credwn fod cyfnod addysg mewn ysgol neu athrofa o ganlyniad tra phwysig i fywyd dyfodol, ac yn gyffredin yn rhoi cyfeiriad priodol iddo a symbyliad i feddylgarwch, arsylwad, a phrofiad, yn ystod gyrfa y cyfryw fywyd. Gellir yn briodol ddweyd mai "Y plentyn yw tad y dyn," ac addysg sydd yn ffurfio y plentyn. Felly yn gywir y gellir dweyd fod dylanwad nerthol gan y wybodaeth a gasgla a'r hyfforddiant a dderbynia yr efrydydd ieuanc yn ystod ei yrfa golegawl, oblegyd yn gyffredin yr hyn ydyw yn, ac yn gadael yr athrofa a ellir dysgwyl ei gael drwy ei holl fywyd.
Fel y sylwyd yn flaenorol, nid oedd Price pan yn myned i'r coleg wedi cael ond ychydig addysg, am fod ei fanteision i hyny yn brin, ac nid oes genym hanes ei fod wedi cael, fel y mwynheir yn aml y blynyddau hyn gan ein hymgeiswyr i'r colegau, ysgol ragbarotoawl, ac nid oedd wedi cael neb yn neillduol i'w roddi, fel y dywedir, ar ben y ffordd; ond chwiliodd am dani drwy ymroad egniol i ddiwyllio ei feddwl ei hunan, a chafodd dderbyniad croesawus i un o hen sefydliadau addysgol mwyaf buddiol ac anrhydeddus y Bedyddwyr, nid yn unig yn y Dywysogaeth, ond hefyd yn y deyrnas.
Aeth Price i'r Athrofa fel y dylai pob dyn ieuanc fyned—I DDYSGU. Er na fu tymhor ei arosiad yn faith ynddi, gadawodd y ddysgyblaeth gafodd tra yno ei hol arno am ei oes. Dywed Spinther mai "dysgu meddwl a deall" yw amcan uchaf dysgyblaeth feddyliol, ac os na chyrhaeddir hyn, nid yw wahaniaeth pa faint o amser gaiff yr efrydydd ieuanc yn yr athrofa, neu beth fyddo safle yr athrofa y byddo ynddi. Nid yw yr athrofa yn gwneyd nemawr mwy i neb nâ'i ddysgu i drin yr arfau, fel y gellir etto ymladd y frwydr. Amser ydyw i osod y sylfaen i lawr fel y gellir etto adeiladu. Ymdrech bersonol drwy gydol oes sydd yn dysgyblu'r galluoedd ac yn cyfoethogi'r meddwl. Heb hyny, nid yw yr hyfforddiad gaiff y dyn yn ei ieuenctid, bydded hir neu fyr, ddim amgen golch aur ar efydd. Mae gan bob dyn, meddai Gibbon, "ddwy ddysgeidiaeth—un a dderbynia oddiwrth ereill ac un fwy pwysig a rydd iddo ei hun." "Y rhan oraf o ddysgeidiaeth pob dyn," meddai Syr Walter Scott, "yw yr hon a rydd iddo ei hun." Nid yw y ddysgeidiaeth a dderbynir yn yr ysgolion gwahanol ond dechreuad, ac y mae yn werthfawr yn benaf am ei bod yn hyfforddi y meddwl ac yn ei arferyd i ymroad ac astudiaeth barhaus. Y mae y wybodaeth gasgla y dyn drwy lafur caled ac hunan—ymroad yn eiddo mwy gwirioneddol iddo nà dim a roddir ynddo gan ereill. Mae hon yn tynu allan ei alluoedd goraf ac yn magu ynddo nerth anorchfygol. Yr oedd wybodaeth werthfawr hon wedi dyfod yn etifeddiaeth foreuol i Price, ac ychwanegai gufydd at gufydd, maes at faes, yn gysson nes yr oedd wedi myned yn gyffredinol a llydan. Ond ei osodiad ar ben yr iawn ffordd yn yr athrofa a wnaeth iddo allu cerdded mor nerthol, a gorchfygu anhawsderau mor fawrion yn ystod ei fywyd defnyddiol a gwir werthfawr. Ni chamdreuliodd ei amser fel efrydydd. Defnyddiodd ef i bwrpas. Ymosododd yn egniol i gasglu gwybodaeth. Gwnaeth gynnydd canmoladwy yn ei efrydiaeth, a gosododd i lawr sylfeini cedyrn ar gyfer llafur personol yn y dyfodol. Ennillodd iddo ei hun air da gan ei athrawon dysgedig a'i gydfyfyrwyr parchus fel gwr ieuanc caredig, ymroddgar, a chrefyddol. Profir hyn i raddau gan y ffaith groniclir yn Mynegiad y Llywydd am Orphenaf y 30ain, 1845, i'r perwyl fod Mri. N. Thomas, Thos. Price, a Thos. Evans, wedi appelio am estyniad o'u hamser yn y coleg ac i'r pwyllgor, ar gymmeradwyaeth yr athrawon o'u hymddygiadau, galluoedd, a'u cyrhaeddiadau, ganiatau y ffafr o flwyddyn arall iddynt yn y ty, gan y credent yn drwyadl y troent allan yn weinidogion neillduol gymhwys o'r Testament Newydd. Ac ni siomwyd hwynt yn un o honynt.
Ysgrifena ei hen gydfyfyriwr talentog, yr enwog Barch. John W. Todd, D.D., Sydenham, yn ddyddorol ychydig o hanes bywyd colegawl Price. Dyma fel y dywed yn y Saesneg:— "Ffurfiwyd fy adnabyddiaeth foreuaf â Dr. Price yn y flwyddyn 1842 neu 1843, pan y dechreuodd ar ei fyfyrdodau yn Ngholeg Pontypwl. Yn flaenorol i'w ddyfodiad i'r athrofa yr oedd wedi enwogi ei hun fel gweithiwr egniol yn Eglwys Eldon Street, Llundain, ac fel dyn ieuanc o yspryd cyhoeddus, yr oedd wedi ennill sylw drwy wrthwynebu amddiffynwyr Cydfrodoriaeth (Socialism), heb ofni ymosod ar eu harweinydd, yr enwog Owen, yr hwn a yrodd i ddyryswch drwy roddi iddo gyfres o ofyniadau pwysig. Yr oedd yr argraff a wnaeth ar ei gydfyfyrwyr, ychydig o'r cyfryw sydd yn aros hyd heddyw, yn dra ffafriol; ac edrychem arno fel dyn o addewid ddiamheuol, yn llawn o egnion diflino, ac wedi ei fwriadu i safle uchel, nid yn unig fel gweinidog, ond hefyd fel arweinydd mewn bywyd cyhoeddus. Yn herwydd fod y coleg yn dra llawn yn ystod ein harosiad yno, rhoddodd ein hanwyl athraw, Dr. Thomas, yr hwn yn llythyrenol a addolem, un o'i ystafelloedd yn ei dy ei hun at ein gwasanaeth, ac am resymau gwybyddus iddo ei hun yn unig, dewisodd Dr. Price a minau ei defnyddio. Dygodd hyn ni yn naturiol i berthynas agosach nâ'r cyffredin, ac achosodd ffurfiad cyfeillgarwch rhyngom sydd wedi aros yn ddidor am dros ddeugain mlynedd. Yn naturiol, yn y rhan fwyaf o'n harferion a'n chwaeth yr oeddem yn dra gwahanol; ond yr oedd yn rhaid fod elfenau yn cynnyrchu rhyw debygrwydd rhyngom a'n tynai i gydymdeimlad cymdeithasol â'n gilydd, y rhai gobeithiaf ydynt wedi eu hadnewyddu yn y cylch dibechod hwnw sydd yn ddatguddiedig yn unig i'n ffydd."
Dywed Dr. Roberts, Pontypridd, fel hyn am Dr. Price yn yr athrofa:—
"Adeg bwysig a phryderus yn hanes gweinidog yw amser ei fynediad i'r athrofa. Mae yr amgylchiad hwn yn fy hanes mor fyw yn fy nghof a phe doe y cymmerodd le, er fod mwy na phum' mlynedd a deugain wedi myned heibio er hyny. Yn hwyr dydd gauafol yn gynnar yn mis Ionawr, 1844, cyrhaeddais Bontypwl yn nghwmni Mr. Lot Lee; ac yn naturiol, aethom yn gyntaf oll i dy fy hen gyfaill caredig, y diweddar Hybarch Edward Evans, diweddar o Ddowlais, yr hwn oedd y pryd hwnw yn weinidog y Tabernacl, Pontypwl, ac yn byw uwchlaw yr Athrofa ar Benygarn. Yno cwrddasom â Mr. Thomas Evans, o'r Hafod Boeth, Pandy'rcapel, yr hwn oedd ar y pryd yn fyfyriwr, ac a fu farw yno ryw flwyddyn a hanner ar ol hyny, o'r typhus fever, ac a gladdwyd wrth hen gapel Penygarn. Yr oedd efe yn gyfaill calon i Dr. Price, ac yn yr un dosparth ag ef. Aeth Mr. Lee a minau gyda Mr. T. Evans dan grynu i'r Athrofa yn lled hwyr y nos hono: a bu peth ymryson pa un o honom oedd y myfyriwr hynaf—y senior. Ond cafwyd mai Mr. Lee gamodd gyntaf dros drothwy y colegdy, ac felly rhoddwyd y flaenoriaeth gyntaf iddo ef. Ar ol myned i mewn, eisteddasom yn yr ystafell giniawa, a'n calonau yn curo yn gyflymach nag arferol, a gadawodd y brawd T. Evans i ofalu am ryw orchwylion oedd ganddo. Pwy ddaeth i fewn gyntaf ond Mr. Evan Meredydd (Ieuan Grug), yn ymddangos yn frysiog, a golwg wyllt ac annybynol arno. Cyfarchodd ni, mae'n wir; ond yr oedd ei gyfarchiad yn oer, ei ymddangosiad yn annybynol, a'r drem a daflodd arnom yn dangos ei fod ar delerau da ag ef ei hun, ac yn lled ddisylw, os nad diystyrllyd, o ereill. Yr oedd yr olwg arno a thuedd i beru braw, tra y safai a'i gefn at y tân, ei ddwylaw o'r tu ol iddo, ei wallt trwchus wedi ei droi fel dau gorn hwrdd uwchlaw ei glustiau, heb sylwi dim arnom, gan mor llwyr yr ymddangosai wedi ei lyncu gan ryw fyfyrdodau a allasent fod yn ymwthio yn ei feddwl. Rhyw argraff anffafriol gafodd ei ymddangosiad ar fy meddwl, ac ni lwyddodd adnabyddiaeth pellach i symmud yr argraff a gododd o'i bresenoldeb y pryd hwnw ar fy meddwl. Yn nesaf ar ei ol ef daeth Mr. Evan Thomas, wedi hyny y Parch Evan Thomas, Casnewydd, Sir Fynwy i fewn, a lled fyr a sych oedd ei gyfarchiad yntau; ond yr oedd rhywbeth yn ei gyfarchiad a'i wynebpryd siriol ef yn peru i mi farnu yn well am dano nag am ei flaenorydd. Pa fodd y bu ar ol hyny y nos hono, nid yw fy nghof yn rhyw frysiog iawn, gan fod pryder ac ofn wedi fy meddiannu i'r fath raddau fel nas gallwn braidd feddwl am dani na thalu nemawr o sylw i neb.
"Yn ffodus neu anffodus i ni fel dau ddyfodiad newydd, daethom y nos hono neu yn gynnar dranoeth i gyffyrddiad ag un Mr. D. Davies, un o Landyssul os wyf yn cofio yn dda, yr hwn, am ryw drosedd neu gilydd ar rai o ddeddfau y ty, oedd wedi ei osod o'r neilldu mewn dystawrwydd ac unigedd gan ei gydfyfyrwyr, heb neb yn meiddio siarad gair ag ef; ac efe oedd yr unig un a ddangosodd serch neillduol tuag atom, a hyny, fel y cawsom ar ddeall wedi hyny, er mwyn cael rhywun i gymdeithasu gydag ef, oblegyd hyd hyny nid oedd Mr. Lee a minau dan y ddeddf, eithr dan ras. Ryw nos Lun yn lled fuan daeth y dirgelwch i'r golwg; cynnaliwyd brawdlys ar y cyhuddedig; dyfarnwyd fod yr hyn oedd efe wedi ei ddyoddef yn ddigon o gosp am y trosedd; derbyniwyd ef yn ol i'r frawdoliaeth efrydol; ac ni chawsom ni, y dyfodiaid newydd, nemawr mwy o'i sylw. Yn y prawf hwn cymmerodd y brawd T. P. Price (Thomas Protheroe Price), oblegyd felly y gelwid ef y pryd hwnw, ran flaenllaw, ond nid wyf yn cofio pa ochr. O'r amser hwnw allan daeth Dr. Price yn wrthddrych neillduol fy sylw ar gyfrif ei ffraethineb, ei arabedd, ei wroldeb, ei symmudiadau gwenolaidd, ei garedigrwydd gwresog, ei fywiogrwydd rhyfedd, a'i feddwl amryddonol (versatile). Ar gyfrif y nodwedd olaf a ganfum yn ei gymmeriad, fy marn am dano yw, y gallasai enwogi ei hun mewn llawer maes heblaw yn y weinidogaeth. Gallasai wneuthur ystadegydd a chofrestrydd enwog, dadleuydd neu gyfreithiwr o fri, neu hanesydd neu wladweinydd o bwys a defnyddioldeb; ond y weinidogaeth Efengylaidd a ddewisodd efe, ac nid oes angen am dystiolaethau pa mor fawr yr enwogodd ei hun yn y maes hwn; y mae ei hanes a'r gwaith mawr a gyflawnodd yn Nghwm Aberdar, a'r enwogrwydd a ennillodd drwy Gymru benbaladr, a gwledydd ereill hefyd, yn brawfion digonol o hyny.
"Yr oedd un peth yn ei nodweddu yn arbenig, sef ei graffder meddyliol, a'r cyflymder gyda'r hwn y deallai unrhyw fater a ddygid ger ei fron, a chywirdeb y farn a ffurfiai am dano. Yr oedd y craffder hwn ynddo yn dwyn delw (intuition) y rhyw deg, y rhai, lawer o honynt, a welant drwy achos ar unwaith, heb drafferthu i fesur a phwyso, ac a ffurfiant farn gywirach yn fynych nag a wna y rhyw arall ar ol troi y peth yn eu meddwl am amser. Ni chymmerai Dr. Price ond ychydig funydau, ac yn aml ond ychydig eiliadau, i ffurfio barn ar achos dyrus, ac fynychaf, mewn naw achos o ddeg, yr oedd ei farn yn gywir Arweiniai y cyflymder hwn ef, er hyny, weithiau i wrthuni. Cof genyf am ddyfodiad y gair Saesneg telegram i arferiad cyffredin yn hanes rhyfel y Crimea. Yr oedd amryw o weinidogion Morganwg yn ei gwmni, ac un o honynt yn darllen hanes y rhyfel yn un o'r newyddiaduron, yn yr hwn yr arferid y gair crybwylledig. Gan fod ystyr y gair yn anadnabyddus, gofynodd rhywun beth oedd ei feddwl. Atebai Dr. Price, gyda'i barodrwydd arferol, mai newydd neu hyspysiad ydoedd yn cael ei drosglwyddo trwy arwyddion gweledig mewn manau cyhoeddus rhwng yr anfonydd a'r derbynydd, tebyg i'r pellebyr arddwyddonol (Semaphore Telegraph) oedd flynyddau yn ol ar Bengogarth ger Llandudno, a manau ereill ar arfordir Gogledd Cymru rhwng Caergybi a L'erpwl. Awgrymodd rhywun yn y cwmni fod ffurf y gair telegram (pellysgrif) yn arwyddo y genadwri ei hunan (telegraphic message), yn hytrach na'r modd y trosglwyddid hi; ond mynai y brawd yn ei frwdfrydedd arferol, mai efe oedd yn iawn, a bu pawb ereill yn ddystaw rhag bod cynhwrf yn eu plith. Yn ol yr hen ddiareb, "Y neb sydd heb ei fai sydd heb ei eni " Bai penaf y brawd anwyl Price oedd ei gyndynrwydd i lynu yn ei olygiadau wedi iddo unwaith roddi mynegiad iddynt. Glynai ynddynt fel y gele, pa mor gryfion bynag fyddai y rhesymau a ddygid yn eu herbyn. Cafwyd amryw brawfion o hyny yn nghynnadleddau Cymmanfa Morganwg, yr hyn fyddai yn achlysur weithiau i ddwyn brodyr gledd yn nghledd ag ef.
"Er hyny, yr oedd yn gwbl ddiddrwg a diddichell. Ni ch'ai dialgarwch le i ymnythu yn ei enaid, na dim adgof o'r frwydr i aros ar ei feddwl; maddeuai i'r ymosodwr cyn i'r haul fachlud, a hyny hyd y nod pan y gwnaethid cam ag ef. Gwyr yr ysgrifenydd yn dda am y nodwedd hon ynddo. Mor bell ag yr wyf yn cofio, gydag ef y cefais y ffrae gyntaf yn ystod fy ngyrfa athrofaol, a ffrae nwydwyllt oedd hi. Yr oedd ef yn lled ffyrnig, ac yn arfer geiriau miniog; a minau, yn ol fy nhymheredd boeth arferol y pryd hwnw, wedi gwylltio yn eithafol, ac yn mhoethder y frwydr wedi gwneuthur ymosodiad creulon arno, a defnyddio enwau arno, gan ei alw yn ieithwedd y Gogledd yn hen glep gerryg, yn mhlith enwau ereill. Ond mor fuan ag yr aeth yr ymrafael drosodd, ymddengys i bob rhith o adgof o honi ddiflanu o'i fynwes. Daethom yn nes at ein gilydd, a ffynodd cyfeillgarwch agosach rhyngom nag o'r blaen tra y buom gyda'n gilydd yn yr athrofa. Daeth yr un peth i'r golwg yn ein hanes yn fuan ar ol i mi sefydlu yn Mhontypridd. Mewn cynnadledd lle yr ymddangosai arwyddion o bleidgarwch, gwneuthum ymosodiad lled finiog ar y brodyr a ymddangosent i mi yn bleidgar, ac yn enwedig ar Dr. Price, cadeirydd y gymmanfa y flwyddyn hono. Nid oes angen am fyned i'r manylion, ond mor bell ag y dangosant y nodwedd a grybwyllwyd yn nghymmeriad Dr. Price. Yr wyf yn cofio, fel pe buasai wedi cymmeryd lle ddoe, fod ofn ar fy enaid gwrdd â Dr. Price wrtho ei hunan ar ol y gynnadledd, rhag y buasai yn cyfeirio cyflegrau tanllyd ei lid ar ei ymosodwr crynedig. Cwrddais ag ef yn fuan ar yr heol; ond yn lle gwg, gwen oedd ar ei wyneb serchog ac agored. Estynodd ei law i mi, yr hon a ddangosai yn ei hysgydwad cynhes fod ei holl galon ynddi.
Peth arall a nodais ynddo yn dra boreu yn yr athrofa, oedd ei sel a'i ffyddlondeb o blaid gwirioneddau athrawiaethol Cristionogaeth. Daeth dyn ieuanc i Bontypwl, yr hwn a broffesai ei hun yn anffyddiwr, os nad yn atheist, a thynai amryw i'w wrando ar betryal marchnad y dref i wrando arno yn gwawdio yr Ysgrythyrau, ac yn diystyru yr Iawn ac athrawiaethau Efengylaidd ereill. Methodd brwdfrydedd Cristionogol Dr. Price a dal yr ymosodiad; rhoddodd her i'r ymosodwr, a bu gornest frwd rhyngddynt am amser lled hir un hwyrddydd haf. Beth bynag am ddoethineb y mudiad, profodd Dr. Price ei fod yn meddu ar nodweddion angenrheidiol dadleuydd llwyddiannus; ac nid hir y bu y gwr dyeithr cyn gadael y dref, heb ddychwelyd yno mwy tra y bum I yn yr athrofa; pa fodd y bu hi ar ol hyny nis gwn. Tueddai Dr. Price i fod yn Galfin lled uchel, fel y dengys ei awydd pender. fynol i gadw y braslun o gyffes ffydd a ymddengys o flwyddyn i flwyddyn ar ddechreu Cylchlythyr Cymmanfa Morganwg. Am a wn I, credai am "brynedigaeth neillduol;" nad oedd a fyno Aberth y Groes â neb ond â'r etholedigion. Er hyny, pregethai Efengyl mor llydan â'r byd oll; ac yr oedd ei appeliadau a'i gymhellion at y gwrandawyr mor uniongyrchol a thaer â neb o honom. Gall hyn ymddangos i rai o honom yn annghyssonadwy; ond yr oedd efe yn hyn yn debyg i bregethwr mawr a llwyddiannus y Brif Ddinas, Mr. Spurgeon.
"Daeth y nodwedd Galfinaidd ynddo i'r golwg pan oedd yn yr athrofa. Rai blynyddoedd yn gynnarach nâ hyny, ymgyfathrachodd brodyr enwog yn y weinidogaeth yn Siroedd Mynwy a Morganwg, mhlith y rhai yr oedd y pregethwr enwog a meddylgar, y diweddar Barch. James Richards, Pontypridd. Nid oedd un amcan amheus gan y brodyr hyn, ond cododd eu hunoliaeth o debygrwydd meddwl a chwaeth; ond cynnyrchodd yr undeb amheuaeth yn meddyliau brodyr da ereill fod yma amcan i'w diystyru hwy; ac o dipyn i beth aeth yr amheuaeth hon yn deimlad byw, a bu yn achos o ymryson mawr. Achosodd bellder teimlad rhwng brodyr da, a gelwid y dosparth cyntaf yn "Wyr y Clwb," a rhengid ereill yn mhlith eu gwrthwynebwyr. Edrychid ar y cyntaf fel Fulleriaid anuniongred, os nad yn rhyw bethau gwaeth nâ hyny; ac edrychai eu pleidwyr ar y dosparth arall fel rhai yn dal yr hen athrawiaeth iachus. Yr oedd dylanwad yr ymraniad hwn wedi gweithio ei hun i blith y myfyrwyr cyn i mi fyned i'r athrofa, a'r myfyrwyr, amryw o honynt, yn Glubmen, ereill yn Anti-Clubmen, ac ereill heb ogwyddo y naill ffordd na'r llall. Dr. Price oedd y prif ddyn yn mhlith yr ail ddosparth crybwylledig; a mawr oedd y sêl a ddangosai wrth wrthwynebu Gwyr y Clwb" ac amddiffyn eu gwrthwynebwyr. Gan fod yr ychydig fyfyrwyr o'r Gogledd oeddynt yn yr athrofa ar y pryd yn perthyn i'r dosparth cyntaf, i hwnw y bwriais i fy nghoelbren mor bell ag y cymmerais ran o gwbl yn yr ymryson. Er mor fach ac anaml ei thrigolion yw Cymru, erys rhyw glannishness rhyfedd i ffynu yn ein plith er cywilydd a cholled i ni. Yr wyf yn credu y byddai yn fanteisiol i ni, fel cenedl, pe byddai modd i ni annghofio fod Dehau a Gogledd yn bodoli. Mae gormod o duedd ynom i farnu nad oes dim daioni ond yn ein rhanbarth ein hunain. Y mae peth daioni yn y byd oll, a'r Bettws hefyd; a chredu yr wyf fod daionusrwydd a diffygion y Dehau a'r Gogledd rywbeth yn gyfartal.
"Mor bell ag yr wyf yn cofio ar hyn o bryd, dyma y prif bethau a nodweddent fywyd Dr. Price; ond dylwn ychwanegu ei fod yn fyfyriwr diwyd ac ymroddgar, yn myned trwy ei waith mewn modd derbyniol gan yr athrawon, yn gwneyd defnydd priodol o'i amser heb ofera dim o hono, yn achos o lawer o ddyfyrwch i'w gyd-fyfyrwyr, yn gymdeithaswr rhagorol a derbyniol yn derbyn ceisiadau parhaus am ei wasanaeth ar y Sabbothau, ac yn cadw y drws yn agored i fyned eilwaith i'r manau yr elai. O'r diwedd, cyn terfyn ei yrfa athrofaol, derbyniodd alwad gynhes o Aberdar; ac felly, pan ddaeth yr amser iddo adael yr athrofa, yr oedd y drws yn agored i'w dderbyn yno. Yr oedd y lle hwn yn ei daro i'r dim, ac yntau yn taro y lle fel yr allwedd i'r clo. Aethum i'r cwrdd ordeinio yn Aberdar, yr hwn a gynnelid yr wythnos ar ol y Nadolig, 1845 Yn y cwrdd hwnw y cefais y fraint o glywed y diweddar bregethwr enwog, y Parch. James Richards, Pontypridd, am y waith gyntaf erioed. Er mai y gwaith arferol sych o ddysgu dyledswyddau yr eglwys at ei gweinidog oedd ganddo braidd na chodai gwrid yn fy ngwyneb o herwydd fy mod erioed wedi cynnyg ar y gwaith o bregethu, gan mor swynol, medrus, gafaelgar, galluog, a dyddorol yr oedd yn pregethu. Ychydig feddyliais y pryd hwnw y buaswn byth yn olynydd iddo yn Mhontypridd.
"Nid oedd Aberdar yn ddim y pryd hwnw o'i chymharu â'r hyn ydyw yn awr. Yr adeg hono yr oeddynt yn gwneyd y gledrffordd o'r Bason i Aberdar: ac wrth y gwaith yn gwneyd pont goed i gario y gledrffordd dros ryw nant gerllaw lle y saif marchnadfa Aberdar, y cwrddais y waith gyntaf, i'w adnabod â'r Parch. W. Lewis, cyn-weinidog yr eglwys yr oedd Dr. Price ar gael ei ordeinio yn fugail arni. Nid oedd nemawr o dai y pryd hwnw rhwng y bont grybwylledig hyd at y capel yn yr hwn y cynnelid y cwrdd ordeinio; a rhyw hen adeilad annhrefnus a llwydaidd, hynafol yr olwg arno oedd y capel. Ond cafwyd y right man in the right place yn Dr. Price. Yr oedd y lle i gynnyddu, a chymmerodd hyny le yn fuan; ac yr oedd angen am ddyn o'i dalent a'i egni ef i ddeffroi a thynu sylw, magu a meithrin, arwain a chyfarwyddo, y dyfodiaid oedd yn dyfod i'r lle; a gwnaeth hyny er anrhydedd iddo ei hun, lles yr ardal, a chynnydd crefydd.
"Wedi nodi rhai pethau yn ei hanes athrofaol am y ddwy flynedd y bum yn gydfyfyriwr ag ef, a'i arwain fel hyn i Aberdar, yr wyf yn gadael y gwaith o ddarlunio ei lafur yno i rai a ŵyr yn well am dano nâ mi, oblegyd collais I olwg arno i fesur pell o amser ei sefydliad yn niwedd 1845 hyd ddechreu 1859, pan y symmudais i Bontypridd. Cefais ynddo o hyny hyd yn awr yr hyn a ddysgwyliais gael oddiwrth fy adnabyddiaeth o hono yn yr athrofa, sef gweithiwr difefl, cyfaill gwresog, cynghorwr doeth, a chynnadleddwr medrus."
Fel y crybwyllasom yn barod, yr oedd yn y coleg yr adeg y derbyniwyd Thomas Price iddo un-ar-ugain o fyfyrwyr; mhlith y cyfryw yr oedd Mr. John Evans, yn awr yn cyfreithiwr yn Aberhonddu, yr hwn hefyd a fedyddiwyd yr un adeg â Price, fel y nodasom o'r blaen; Dr. B. Evans, Castellnedd; W. Hughes, Glanymor, Llanelli; W. Price, America; James H. Evans, Aberhonddu; John Jones; John W. Todd, D.D., Sydenham; Evan Thomas, Casnewydd; Nathaniel Thomas, Caerdydd; Dr. J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; Rees Davies, Penyfai; Dr. Edward Roberts, Pontypridd; T. Lewis, Risca; Daniel Morgan, Blaenafon, &c. Cyfododd bron yr oll o honynt i enwogrwydd a bri mawr, a gwnaethant wasanaeth annhraethadwy i achos y Gwaredwr. Mewn pryddest goffadwriaethol naturiol a phrydferth ar ol ei hen gyfaill a'i gydfyfyriwr hoff, Thomas Price, cana yr enwog a'r athrylithgar fardd-bregethwr, Ddr. Morgan (Lleurwg), fel y canlyn am ei dymhor colegawl:—
"Chwech a deugain o flynyddau |
Ond yr un-ar-ugain gawsant |
Yr oedd Dr. Price yn nodedig am ei fanylrwydd a'i drefnusrwydd gyda'i holl waith yn ystod ei fywyd, fel y cawn ddangos etto yn helaethach wrth fyned yn mlaen. Yr oedd, ni a gredwn, wedi mabwysiadu cynlluniau effeithiol, ac wedi arfer ei hun i hyn yn nechreuad ei fywyd cyhoeddus. Llafuriodd yn galed mewn darllen, myfyrio, a phregethu cyn myned i'r athrofa, bu yn ddiwyd iawn tra yno, a pharhaodd yn ei efrydiaethau a'i lafur yn egniol a diflino hyd ei fedd. Wrth edrych dros ei lyfrau, y rhai a gynnwysant ei draethodau a'i ysgrifau efrydol tra yn y coleg, dwy gyfrol o'r cyfryw a ddynodir gan y Dr. enwog ar yr amlen, The College Essays, a ymddiriedwyd i ni gan ei hoffus ferch, Miss Emily Price, cawn olwg led gyflawn arno, yr hon a'n galluoga i ffurfio barn deg am dano fel myfyriwr yn ei drefnusrwydd, ei fanylrwydd, a'i ymlyniad diysgog wrth y pynciau yr ymdriniai â hwynt.
Dywedai arlunydd enwog unwaith wrth wneyd nodiad am ei fanylrwydd a'i ofal neillduol gydag un o'i ddarluniau, "I paint for eternity." Rhywbeth yn debyg, gallwn feddwl, y teimlai Thomas Price gyda'i lafur fel efrydydd yn Ngholeg Pontypwl. Yr oedd yn fanwl, trefnus, a dyhyspyddol gyda'i waith, yn neillduol pan yn ysgrifenu ei draethodau ar brif bynciau duwinyddiaeth. Llafuriai fel pe y teimlai ei fod yn gwneyd gwaith am fywyd, ac fod cyssylltiad rhwng y gwaith am fywyd hwnw â thragwyddoldeb, ac felly yr oedd. Cynnwysa y cyfrolau a nodwn ysgrifau cyflawn ar "Y Sectau Iuddewaidd," "Y Samariaid," "Y Cyfammod Newydd," "Y Messiah," "Cristionogaeth yn ei gwahanol arweddion," " Yr Ymgnawdoliad,” Adgyfodiad y Meirw," "Cyfiawnhad," "Dylanwad yr Yspryd Glân," "Eglwys Dduw: ei hanes a'i swyddogaethau," "Yr Ysgrythyrau Sanctaidd," "Y Gwyrthiau," yn nghyd â llawer o bynciau buddiol a phwysig ereill. Gwir fod y pynciau hyn yn brif feusydd llafur yr efrydwyr yn yr athrofeydd gwahanol, ac yn hanfodol i fyfyrwyr Cristionogol ydynt yn ymbarotoi i waith pwysig y weinidogaeth Efengylaidd; etto, nid yn aml y gwelir olion cymmaint o lafur gonest ac egnion diflino ag a welir yn ysgrifau yr efrydydd ieuanc, Thomas Price. Hefyd, gallwn gredu ei fod yn gosod pris uchel arnynt, gan ei fod wedi eu cadw yn ei feddiant mor ofalus am dros ddeugain mlynedd.
Hefyd, meddai Price feddwl cyflym a pharod iawn. Nid oedd efrydu yn orchwyl anhawdd iddo. Gallai ddadrys llawer o'r dyrysbynciau mwyaf gyda rhwyddineb mawr. Gosodai ei gydfyfyrwyr ef ar brawf yn fynych gyda'u gwersi yn y coleg. Clywsom un o honynt yn adrodd fod Lleurwg unwaith, er ei osod ar brawf, a chael, fel y meddyliai, ychydig ddyfyrwch, wedi ysgrifenu gofyniad caled iddo, a'i yru drwy ddwylaw y myfyrwyr o un i un yn y dosparth hyd y cyrhaeddodd Price. Edrychodd arno, ymaflodd yn ei ysgrifell, ac ysgrifenodd atebiad cyflawn a boddhaol iddo, fel pe buasai wedi myfyrio y mater yn drylwyr am amser maith. Yr oedd y gallu rhagorol hwn yn fanteisiol iawn iddo yn y coleg, a phrofodd felly iddo drwy ei oes.
Yn ystod ei dymhor athrofaol ennillodd Thomas Price serch diffuant ac ymddiriedaeth drylwyr ei gydfyfyrwyr. Perchid ef yn fawr gan ei athrawon dysgedig, ac edrychent arno fel un fuasai yn debyg o droi allan yn addurn a chlod i'r athrofa, gan y credent fod ynddo alluoedd neillduol i wneyd gwaith mawr, a'i fod yn llawn o elfenau gwir boblogrwydd. Cafodd yr athrawon parchus a'r myfyrwyr brofion buan wedi ymsefydliad Price yn y weinidogaeth mai nid un cyffredin ydoedd. Yr oedd hefyd yn ystod ei fywyd athrofaol wedi codi i sylw yr eglwysi fel bachgen da ac efrydydd teilwng. Edrychent arno fel pregethwr bywiog a phoblogaidd. Caffai wahoddiadau mynych i bregethu mewn eglwysi pwysig, ac i ba le bynag yr elai yr oedd ei yspryd caredig, ei deimladau da, a'i sirioldeb naturiol, nid yn unig yn sicrhau iddo barch amserol, ond hefyd yn ennill iddo gyfeillion mynwesol a pharhaus. Cadwai ei olwg ar y dyfodol drwy y presenol. Nichymmerai fantais ychwaith ar ei gydfyfyrwyr na neb arall yn herwydd ei fod yn ffafrddyn gan yr eglwysi, ac yn ennill poblogrwydd. Yr oedd gormod o'r gwir ddyn ynddo i ymchwyddo ac ymgolli mewn hunanoldeb. Yr oedd Price yn Sais da iawn yn myned i fewn i'r coleg. Pregethai Saesneg gyda rhwyddineb mawr. Rhagorai yn hyn ar ei gydfyfyrwyr yn gyffredin. Diau fod llawer gan londer ei yspryd a'i serchawgrwydd i wneyd â'i boblogrwydd yn ystod ei yrfa golegawl, oblegyd yr oedd y rhan luosocaf o'i gydfyfyrwyr yn nodedig am eu gallu a'u dawn i bregethu. Graddiodd pump o honynt yn Ddoctoriaid, a llanwasant yr urddeb yn anrhydeddus. Nid ydym yn gwybod am un cyfnod yn hanes colegau y Cyfundeb Bedyddiedig yn y Dywysogaeth pan y bu gyda'u gilydd gynnifer o ddynion ieuainc yn yr un coleg wedi codi mor uchel fel pregethwyr a gweinidogion y Gair, wedi llanw cylchoedd pwysig yn anrhydeddus yn eu cyfenwad, ac hefyd wedi gwneyd gwasanaeth anmhrisiadwy mewn gwahanol gylchoedd i'w gwlad a'u cenedl. Ni raid i ni er profi hyn ond nodi enwau yr Efengylydd sylweddol, y Parch. W. Hughes, Glanymor, Llanelli; y diweddar anwyl Hybarch Ddr. Benjamin Evans, Castellnedd, yr hwn fu am gynnifer o flynyddoedd yn ysgrifenydd manwl a gofalus Cymmanfa y Bedyddwyr yn Morganwg, ac hefyd a ysgydwodd drwy ei hyawdledd a'i ddoniau Gymru yn ei bregethau; y Cristion dysglaer a'r pregethwr poblogaidd, y diweddar Barch. Nathaniel Thomas, Caerdydd; y diweddar alluog Barch. Daniel Morgan, Blaenafon; yr enwog Ddr. Todd; yr hynafiaethydd medrus, y Parch. Thomas Lewis, gynt o Risca, ac awdwr Esponiad y Teulu; y llenor aeddfed a'r ysgrifenwr enwog, y Parch. Ddr. Roberts, Pontypridd; yr hyawdl fardd-bregethwr, yr Hybarch Ddr. Morgan (Lleurwg), Llanelli; a thywysog pregethwyr Cymru, yr enwog Hybarch Evan Thomas, Casnewydd; ac ereill o gyffelyb ddefnyddioldeb ac enwogrwydd a ellid eu nodi. Bu y rhai hyn oll yn gewri o bregethwyr, ac y mae y rhai sydd yn aros o honynt felly etto, ond safai yr enwog Ddr. Price yn fawr yn y coleg ac yn mhob lle arall yn mhlith y mawrion hyn: yr oedd fel tywysog yn mhlith y tywysogion. Cadwodd y safle hwn, yn neillduol fel gweithiwr diwyd ac mewn defnyddioldeb cyffredinol, hyd ei fedd.
PENNOD V.
DECHREUAD EI WEINIDOGAETH.
Dyddordeb myfyrwyr yn eu gilydd—Y Parch. B. Evans, Hirwaun, a'i ddiacon—Amgylchiadau yr alwad i Benypound—Y Dr. a Mr. Thomas Joseph—Ei urddiad—Ei hanes gan Lleurwg—Dechreu ei waith yn egniol—Anfanteision—Yr hen weinidog—Talu y weinidogaeth—Barn Cynddelw—Dyfyniad o lythyr— Hen arferion Eglwys Penypound—Y Plygain—Y Luther ieuanc—Barn y diweddar Barch. W. R. Davies, gynt Dowlais, amdano—Llythyr W. Davies, Ysw., Kansas—Shakespeare—Dal ar y cyfleusdra—Manteision er anfanteision.
YNN y flwyddyn 1843, ymsefydlodd un o gyd-lafurwyr Thomas Price, sef y Parch. Benjamin Evans, yn weinidog yn eglwys y Bedyddwyr yn Ramoth, Hirwaen, yn yr hwn le y cafodd ffafr yn ngolwg y bobl, ac y llafuriodd gyda llwyddiant mawr hyd ei symmudiad i Heolyfelin, Trecynon, Aberdar.
Yn y flwyddyn 1845, rhoddodd y Parch. W. Lewis ei ofal gweinidogaethol yn eglwys Penypound (yn awr Calfaria, Aberdar), i fyny, gan gymmeryd bugeiliaeth yr eglwys yn y Tongwynlas. Erbyn hyn yr oedd y Parch. B. Evans, Hirwaen, yn cael gwahoddiadau mynych i bregethu yn Aberdar, Cwmbach, a manau ereill, ac yn dechreu ennill dylanwad yn mhlith yr eglwysi y pregethai iddynt.
Fel y mae yn naturiol i weinidogion ieuainc deimlo a gweithredu yn garedig tuag at eu cyd-lafurwyr, felly yn gywir yr oedd yn hanes Mr. Evans. Yn gyffredin meddylia y myfyrwyr wrth sefydlu yn y weinidogaeth yn uchel am eu Alma Mater, a chredant lawer yn eu cyd-lafurwyr. Gwnant eu goreu yn aml i'w cynnorthwyo i gael lleoedd cyfaddas a chysurlawn. Yr oedd yn naturiol, gan fod hen eglwys barchus Penypound yn myned yn wag, fel y dywedir, i weinidog ieuanc Hirwaen wneyd ei oreu i geisio gweithio un o'i gyd-fyfyrwyr i fewn i'r gwagle, ac felly y gwnaeth. Yr oedd gan y Parch. B. Evans fantais fawr i wneyd hyny, gan fod un o'i ddiaconiaid, sef Mr. Evan Davies, gof, tad-yn-nghyfraith Mr. Walter Leyshon, wedi symmud o Hirwaen i Aberdar, ac wedi ymaelodi yn Mhenpound. Gyda Mr. Evan Davies, hefyd, yr adeg hono yr oedd y pregethwyr yn aros. Gweithiai Evans, Hirwaen, ychydig gyda'i hen ddiacon dros Price, ac ni bu ei lafur yn ofer. Un tro pan yr oedd Price yn supplyo yn Mhenypound, arosodd yno dros y Llun, ac yn yr hwyr gofynodd Evan Davies iddo a ddeuai efe gydag ef i'r cwrdd gweddi, a gynnelid y noson hono yn nhŷ un o'r aelodau. Atebodd Price ar unwaith y deuai gyda phleser mawr, ac aeth. Yr oedd y bobl yn falch i'w weled ynddo. Pan ddaeth yn adeg dechreu, ymaflodd Price yn y Beibl, darllenodd bennod, a threfnodd y cyfarfod mor ddeheuig a naturiol a phe ba'i y gweinidog. Ar ol y cwrdd, dywedodd yr hen frawd Thomas Dyke wrth Evan Davies, "Dyma'r dyn i ni, fachgen; y mae y dyn iawn wedi d'od o'r diwedd." "Yr ydych yn gywir yr un farn a minau," meddai Evan Davies, ac aeth yn garu brwd ar unwaith rhwng y llanc a'r eglwys, ac hapus fu y briodas a'r bywyd maith a ganlynodd.
Adroddai yr anfarwol Ddr. Price helyntion ei ddyfodiad cyntaf i Aberdar wrth y brawd caruaidd a thyner Thomas Joseph, Ysw., Gwydr Gardens, Abertawe, gynt Tydraw, Blaenycwm, yn y flwyddyn 1885. Yr oedd Mr. Joseph wedi dyfod i'r Eisteddfod Genedlaethol gynnelid y flwyddyn hono yn Aberdar, ac arosai gyda ei anwyl ferch, Mrs. Dr. Hutchinson, Glanynys, am tua phythefnos. Yn ystod y cyfryw amser, gwahoddwyd y Dr. i dreulio prydnawn gyda y boneddwr parchus, Mr. Joseph, a dyna fu gan mwyaf yn bwnc eu hymgomiad, "Hanes boreuol Aberdar a dyfodiad yr hybeirch Ddr. B. Evans a Dr. T. Price i'r dyffryn.' Addefai Dr. Price mai trwy ddylanwad y Dr. Benjamin Evans yr oedd efe wedi ei gyflwyno i sylw yr Eglwys yn Mhenypound gyntaf. Bu Price yn pregethu fel supply o'r coleg amryw weithiau yn y dyffryn, ac ystyrid ef gan yr eglwysi yn bregethwr poblogaidd, ac yn ddyn ieuanc yn llawn o addewid. Yn yr un flwyddyn ag y rhoddodd y Parch. W. Lewis ei ofal gweinidogaethol i fyny yn Aberdar, rhoddwyd galwad unfrydol a charuaidd i Thomas Price, yr hon a dderbyniodd yn galonog a ffyddiog, wedi ystyriaeth ddwys ac ymgynghoriad dyladwy â'i gyfeillion ac â'i athrawon parchus. Ymadawodd trwy ganiatad cyn terfyniad y flwyddyn ychwanegol estynwyd iddo. Yn mynegiad y Coleg am Gorphenaf, 1844, cawn a ganlyn:—"Mr. Thomas Price sought and obtained the consent of the Committee to leave at Christmas, about six months before the expiration of his fourth year, in order to take the charge of a destitute church at Aberdare, Glamorganshire, where a rapidly increasing population invited the labours of an active and devoted minister." Dechreuodd ar ei waith yn 1845, a neillduwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1846. Yn y Bedyddiwr am Chwefror, 1846, cawn hanes Cyfarfodydd y Sefydliad wedi ei ysgrfenu gan ei hen gyfaill mynwesol Lleurwg, yr hwn sydd fel y canlyn:
URDDIAD
Mr. T. P. Price, diweddar fyfyriwr yn Athrofa Pontypwl, wedi derbyn galwad unfrydol oddiwrth yr eglwys Fedyddiedig yn Aberdar, Swydd Forganwg, a gydnabyddwyd yn weinidog arni dydd Iau, Ionawr 1af, 1846. Y myfyrwyr a'r gweinidogion a weinyddasant ar yr achlysur dyddorawl oeddynt y canlynolion:—Yr hwyr blaenorol, darllenodd a gweddiodd Mr. J. P. Jones, myfyriwr, a Mr. D. Davies, Wauntrodau, a B. Williams, Tabernacl, Merthyr, a bregethasant.
Dydd Iau, am 10, dechreuwyd y cyfarfod gan Mr. Evans, Hirwaen; Mr. William Jones, Caerdydd, a draddododd araeth ar Natur Eglwys Crist; yna Mr. Price a draddododd gyffes ei ffydd, yr hon oedd fer, cynnwysfawr, ac orthodox; a dyrchafodd Mr. Jones yr urdd weddi. Mr. Thomas Thomas, A.D., Coleg Pontypwl, a bregethodd i'r gweinidog ieuanc, a Mr. J. Richards, Pontypridd, a areithiodd ar ddyledswyddau yr eglwys tuag at y gweinidog.
Am 2 darllenodd a gweddiodd Mr. Thomas Evans, myfyriwr; a Meistri JJ. Saunders, Pontypwl, T. Thomas, Pontypwl (yn Saesneg), a J. Jones, Seion, Merthyr, a bregethasant.
Am 6, darllenodd a gweddiodd Mr. Edward Roberts, myfyriwr; a Meistri D. Jones, Caerdydd, a W. R. Davies, Dowlais, a bregethasant. Yr oedd hefyd y myfyrwyr canlynol yn bresenol yn yr urddiad o Athrofa Pontypwl, gyda y rhai a enwyd uchod, sef Mri. Thomas Williams, John Morris, J. R. Morgan (Lleurwg), a Lot Lee. Pan ddywedaf i ni gael arwyddion eglur fod Arglwydd Dduw byddinoedd Israel yn gwenu ar ein cyfarfod, ac wedi gweled fod genym brif ddoniau a galluoedd Bedyddwyr Cymru yn pregethu, hawdd gan y darllenydd gredu i ni gael cwrdd da. Y mae Mr. Price wedi ymsefydlu yn Aberdar o dan amgylchiadau cysurus iawn, y mae gwaith mawr o'i flaen, a gwyddom fod ganddo yntau galon i weithio. Nis gallaf roddi heibio heb anerch fy anwyl gyfaill yn bersonol.
"Poed ffawd i ti, frawd cywir fron,—heddwch
A dyddiau iach, hirion;
Byd hawdd o dan nawdd ein Ion,
Ag elwch lon'd dy galon.
Dy waith mawr, da, gwna'n egniawl—a llon,
Wrth draith y Llyfr Dwyfawl;
Heb dderbyn wyneb swynawl
Heb ofn y gelyn—dyn na diawl.
"Gwyddost am aml agweddion—beiau du
Y byd hwn a'i droion;
Os cei lawer briwder bron,
Neu daith o'th gur, cadw'th goron.
"Y cyfaill anwyl, cofia—y cynghor hyn
Hyd derfyn dy yrfa,
Cadw y rheol Ddwyfol, dda,
A dawn iach Duw'n ucha'.
"Yna ni luddias ein Ion ei lwyddiant
Ar dy lwyswaith, a sicrheir dy lesiant;
Dy bobl arialus a felus folant
Dduw haelionus, a'i eirchion ddylynant,
A'th ddiwedd fydd cael sedd sant—gyda'r llu
Nefawl, i ganu Dwyfol ogoniant."
Y mae yr holl weinidogion a gymmerasant ran yn
ngwasanaeth yr urddiad wedi myned i ffordd yr holl
ddaear; ond y mae rhai o'r myfyrwyr oeddynt yn bresenol
yn aros hyd heddyw, ac yn sefyll yn uchel ac amlwg ar
furiau Seion. Y mae yr hybarch Ddr. Morgan, Llanelli,
megys cedrwydden henafig, wedi dal yr holl ystormydd, ac
yn parhau i flodeuo fel y llawryf gwyrdd. Y mae y Parch.
Ddr. Edward Roberts, Pontypridd, erbyn hyn wedi cyrhaedd oedran teg, etto, y mae yn dal yn gryf, ac y mae ei
galon mor gynhes a'i yspryd mor selog ag erioed gyda
gwaith ei Dduw. O'r pymtheg a nodwn oeddynt yn bresedol yn urddiad Price, nid oes, mor bell ag y gwyddom,
ond y ddau hyn yn aros. O! y fath gyfnewidiadau y mae
angeu yn wneyd mewn deugain mlynedd. Yn fuan iawn,
byddwn oll wedi ein hysgubo ymaith, a chenedlaeth arall
yn gofalu am Arch Duw. Mae yn briodol fod yr ystyriaeth
o hyn yn peru i ni fod yn ddiwyd i weithio gwaith yr hwn
a'n danfonodd tra y mae hi yn ddydd: y mae y nos yn
dyfod pan na ddichon neb weithio.
Wedi i'r urddiad fyned heibio, ymaflodd Price yn ei waith pwysfawr â'i holl egni. Yr oedd gwaith mawr yn ei aros yn yr eglwys, a gwaith mawr yn ei aros yn ei lyfrgell. Nid oedd yr eglwys yn Mhenypound yn awr ond gwanaidd, a'r gynnulleidfa yn gymharol fechan. Rhif ei haelodau ydoedd 91, rhwng y gangen yn Mountain Ash. Yr oedd angen gweinidogaeth rymus yn Aberdar, yn ogystal a Mountain Ash, i ddeffro y preswylwyr, a galw eu sylw at yr Efengyl. Am yr ychydig flynyddau cyntaf o'i weinidogaeth, blinwyd yspryd y gweinidog ieuanc gan gwerylon personol ychydig deuluoedd; ond yn fuan, darfu i ddylanwad ei weinidogaeth, ei fedrusrwydd i gyfarfod a thrin materion o'r fath, yn nghyd â'i benderfyniad diysgog, ladd pob ymryson, diarfogi pob gelyn, tangnefeddu pob terfysgwr, a dysgu yr eglwys i fod yn “ddyfal i gadw undeb yr yspryd yn nghwlwm tangnefedd." Nid ydym yn cofio ei glywed yn achwyn llawer ar ddiffyg tangnefedd a chydweithrediad yn Nghalfaria; ond gwyddom fod ei holl siarad am danynt yn gadael argraff ar ein meddwl ei fod yn eu caru â chariad dwfn a diffuant.
Er fod gan Price lawer o fanteision yn ei gylch newydd, gan fod yr ardal yn cyflym gynnyddu, a gwawr goleu masnachaeth megys yn tori ar y dyffryn, yr hwn wedi hyny a ymagorodd yn un o'r lleoedd mwyaf poblogaidd a phwysig yn y Dywysogaeth, etto, yr oedd ganddo, fel mae yn rhy aml gan weinidogion ieuainc yn dechreu ar eu gyrfa bwysig, anfanteision mawrion i'w gwynebu, a rhwystrau anocheladwy i'w gorchfygu.
Yr oedd ei gynweinidog wedi cael gafael ddofn yn meddyliau yr eglwys, ac wedi ymgartrefu yn serch y gynnulleidfa, yn neillduol yr hen bobl, ac nid hawdd oedd ganddynt ollwng eu gafael ynddo. Ymddangosai rhai o'r hen frodyr fel pe yn wrthwynebol a chroes i'w gweinidog newydd, ac ni ddangosent tuag ato y cydymdeimlad a allai efe ddysgwyl ei gael ganddynt. Codai y teimlad hwn ychydig oddiar y ffaith fod y gweinidog newydd yn cael ac yn hawlio cyflog sefydlog, er nad oedd yn fawr, tra nad oedd yr hen yn cael ond yr hyn allai yr eglwys wneyd neu a ewyllysiai roddi iddo. Yr oedd oes y cyflogau heb ddyfod etto; ond nid oeddynt yn ystyried y gwahaniaeth rhwng amgylchiadau y naill a'r llall. Yr oedd y Parch. W. Lewis,y cyn-weinidog, yn arch-adeiladydd (architect) celfydd. Bu hefyd, yn amser ei weinidogaeth yn Aberdar, yn flaenor y seiri yn Ngweithiau Dowlais. Derbyniai gyflog gysson am ei wasanaeth yno. "Efe," adroddai Mr. Thomas Joseph, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, "a dynodd gynlluniau Capelau High Street a Sion, Merthyr; Twynyrodyn, Wenvoe, Caerdydd; capel cyntaf y Bedyddwyr yn y Cwmbach, Aberdar, a llu ereill mewn gwahanol fanau "-fel, rhwng y cwbl, gallai Lewis fforddio byw heb ond ychydig neu ddim oddiwrth yr eglwys, tra nad oedd gan Price yr adeg hono ddim ond ei gyflog at ei gynnaliaeth. Yr oedd yr hen frodyr yn Mhenypound wedi eu dysgu yn ddrwg, ac wedi eu harfer i annghredu yn eu gallu i gyfranu at yr achos, ac yn neillduol at y weinidogaeth, o herwydd hyn.
Ofnwn fod llawer o eglwysi etto yn cael eu drygu yn y cyfeiriad a nodwn. Gwyddom am rai brodyr da wedi gorfod dyoddef am flynyddau, ac wedi cael gofid a thrafterth i ddysgu y bobl i gyfranu at achos crefydd, a hyny am fod brodyr cyfoethog, amaethwyr cefnog, neu fasnachwyr cyfrifol, wedi bod yn gweinidogaethu ar yr eglwysi o'u blaen, y rhai ni ddybynent ar y cyflogau gaent am eu llafur. Dylasai yr eglwysi ddangos yn ol eu gallu eu serch a'u teimladau da at eu gweinidogion drwy eu cynnal yn deilwng o'r Efengyl. Dysgwylia llawer o honynt wasanaeth mawr a phregethu da am dal isel. Adroddai yr enwog Hybarch Robert Ellis (Cynddelw) unwaith mewn cwrdd urddo gweinidog yn y Gogledd hanes hen frawd, un o'i aelodau yn Nglynceiriog, yn dyfod ato ac yn dywedyd wrtho, "Nid ydych chwi, Robert Ellis, yn pregethu yn ddigon da i ni yn y Glyn." "Dichon nad ydwyf," atebai Cynddelw, "ond gwrandaw hyn, yr ydych chwi am gael cig eidion wedi ei rostio bob Sabboth a phwdin, tra nad ydych yn talu ond am datws a llaeth, ie, tatws a llaeth.' Tebyg ydoedd yn Aberdar pan gychwynodd y Dr. yno, a chafodd ddyoddef ychydig yn herwydd y cyfnewidiad yn y cyfeiriad a nodwn. Ond ni pharhaodd pethau yn faith felly, oblegyd yr oedd aelodau newyddion yn dyfod o fanau ereill. Cynnyddodd yr achos, a daeth yr eglwys yn alluog i roi cyflog deilwng i'w gweinidog llafurus. Am hyn ysgrifena Mr. Wm. Davies, Laurence, Kansas, yn ei lythyr o'r hwn y dyfynasom yn flaenorol:—"Cofiaf hefyd eich llafur caled am ychydig dal arianol dros flynyddau—misoedd lawer yn olynol heb gael ond tua hanner yr hyn oedd wedi ei addaw i chwi. Digon digalon oedd hyn, a buasai llawer un wedi gosod ei ffidl yn y to,' neu geisio ennill cynnulleifa fuasai yn talu yn well. Ond wedi hyny trodd y rhod, dylifai yr arian i fewn, a gallasai pobl feddwl y buasech wrth eich bodd pa fwyaf; ond pwy ond y chwi oedd y cyntaf i waeddi, Halt, dyna ormod, nid wyf am gael cymmaint.' Nid yw y nodwedd ddiariangar i'w chanfod yn gyffredin, a thrwy hyny y mae eich ymddygiad wedi gadael argraff ar fy meddwl na ddileir." Yr oedd hefyd rai hen arferion wedi eu mabwysiadu yn yr eglwys, yn erbyn y rhai y gosododd y gweinidog ieuanc ei wyneb, nid yn fyrbwyll, eithr gydag ystyriaeth a gofal mawr, etto gyda phenderfyniad diysgog i'w symmud yn llwyr. Gwna un enghraifft yn unig y tro i'n gwasanaethu yma, gan ei bod yn ddigonol i ddangos nodweddiad y dyn ieuanc oedd wedi ymsefydlu yno. Cyn dyfodiad Price i Aberdar, arferid ar foreuau dydd Nadolig gadw plygain yn Mhenypound bob blwyddyn, pryd y traddodid pregeth ar yr achlysur. Ymgynnullai y gwahanol enwadau yno, a theimlent fawr sel drosti. Boreu dydd Nadolig, 1845, sef wythnos cyn sefydliad Price yn y lle, efe oedd i wasanaethu yn y plygain, ac yr oedd dysgwyliad mawr wrtho fel gweinidog dyfodol yr eglwys. Daeth y boreu; yr oedd tyrfa fawr wedi ymgynnull yn nghyd. Ymddangosodd y dyn ieuanc yn y pwlpud yn amserol, a thraddododd bregeth alluog, yn yr hon y cymmerodd olwg eang ar y Nadolig—ei hanes yn nghyd â thraddodiadau cyssylltiedig ag ef. Condemniodd y plygain fel hen arferiad Babyddol, a chyhoeddodd ddydd ei chladdedgaeth yn y lle. Terfynodd y cyfarfod. Dychwelodd llawer o'r gwrandawyr, yn arbenig yr hen bobl, i'w cartrefi yn siomedig a chlwyfedig. Triniai yr enwadau gwahanol y "Luther" ieuanc oedd wedi dyfod i'r lle, a chondemnient ef am ei ymosodiad beiddgar ar yr hen ddefod a ystyrient yn dra chyssegredig; ond ni thyciodd dim ar Price. Hono oedd y plygain olaf a gynnaliwyd yno, a dywedir mai hi ydoedd y diweddaf a gynnaliwyd mewn capel Ymneillduol yn Aberdar. Dyma osodiad cyntaf y fwyell ar wreiddyn gwyrgam cyfeiliornad gan Price; ond llwyddodd i syrthio llawer o honynt wedi hyny heb dramgwyddo ei gyfeillion goraf, fel y gwnaeth yn yr amgylchiad a nodwn.
Yn mhen ychydig amser wedi dyfodiad Price i Benypound, adroddai y diweddar Barch. W. R. Davies, Caersalem, Dowlais, wrth amryw o'r brodyr un boreu Sabboth, yn nhŷ un o'i aelodau, rhwng ysgol y boreu a'r cwrdd un- ar-ddeg, "fod yn y weinidogaeth lawer o fechgyn fine iawn —yr oeddynt yn rhy fine i godi eu llef yn erbyn cyfeiliornadau, a'u bod, yn herwydd hyny, yn cael eu cyfrif gan y bobl yn ddynion nice iawn. Yr oeddynt yn cerdded trwy y byd yn eu hyslopanau (slippers.) Nid oedd swn eu cerddediad i'w glywed, ac nid oedd llawer yn gwybod am eu bodolaeth; felly, yr oeddynt yn cael pob tawelwch a thangnefedd. Ond am fechgyn gwrol a gonest oeddynt yn codi eu lleisiau yn uchel yn erbyn cyfeiliornadau yr oes, yr oeddynt yn gorfod dyoddef llawer, ac mewn stormydd parhaus. Yr oedd bachgen bach wedi dyfod i Benypound o'r nodweddiad hwn, a Duw a'i helpo," meddai; "nid oedd dim ond stormydd a thywydd garw o'i flaen, oblegyd ni allai na ddywedai yn erbyn pob cyfeiliornad."
Ar adeg dathliad deugeinfed flwyddyn o lafur gweinidogaethol Dr. Price yn Nghalfaria, derbyniodd lythyr caredig, buddiol, a phwrpasol oddiwrth un o'i hen aelodau, William Davies, Ysw., Lawrence, Kansas, a chan ei fod yn taflu goleu ar amgylchiadau yr eglwys yn adeg sefydliad y Dr. yn weinidog arni, credwn mai nid anfuddiol fydd dyfynu rhanau o hono yma. Hoffwn allu ei osod yn gyf- lawn; ond ofnwn ei fod yn rhy faith i wneyd felly ag ef. Darllena fel y canlyn:—
ANWYL FRAWD PRICE,—
Goddefwch i hen gyfaill eich llongyfarch chwi ar ben deugain mlynedd o'ch llafur gweinidogaethol yn Aberdar. I mi y mae yn rhywbeth swynol i edrych ar adeg deugain mlynedd' yn ol a'r amgylchiadau cyssylltiedig. Daethoch chwi i Aberdar yn nghyflawnder nerth eich ieuenctyd, eich arfau yn finiog, a'ch braich yn gadarn. Yr oedd ar yr eglwys a'r ardal eisieu gweithiwr; chwithau yn barod, ewyllysgar, ac awyddus i waith. Yr oeddwn i y pryd hwnw yn llanc tua 17eg oed, wedi bod yn ddigon hir yn athrofa yr Ysgol Sabbothol yn eglwys fach weithgar Hirwaun, i ddysgu gwerthfawrogi talent a llafur, ac wedi treulio blwyddyn yn Aberdar cyn eich dyfodiad chwi yno, a myfi oedd yr unig ddyn ieuanc yn yr eglwys y pryd hwn. Nid oedd un bugail i arwain y praidd, ond yn unig mewn enw. Nid oedd neb i drefnu na chynllunio pa fodd i ymosod ar gestyll y gelyn, na neb i arwain y fyddin; ond dyma Ionawr 1af, 1846, yn dwyn i fewn gyfnewidiad ar bethau. Yr oedd y dyn priodol yn meddu y cymhwysderau i gynllunio, y medr i arwain, y nerth a'r ewyllys i dori trwy rwystrau, wedi ei gael, ac wele ef ar Ddydd Calan yn cael ei urddo yn weinidog ar yr eglwys—y calenig goreu allasai hyd y nod yr Arglwydd ei Hun roddi iddi. Deugain mlynedd! Ymddengys y dydd hwnw megys doe yn fy nghof, a thyma chwi wedi eich gadael bron yn unig yn yr eglwys o'r oll oeddynt yn teimlo dyddordeb yn y gwasanaeth yr adeg hono.
"Nid annghofiaf byth eich llafur a'ch pryder y blynyddau cyntaf o'ch gweinidogaeth—chwilio am aelodau sylweddol yn cyfateb i'r enwau ar y llyfr; cael gafael mewn amryw mwy tebyg i feirw na byw; y moddion a arferech: y rhwbio a'r symbylu er ceisio gweled arwyddion bywyd; yr ymdrech gyda'r Ysgol Sul; yr annogaeth i'r ieuenctyd, &c. Yna, dyna ddechreu cynllunio i dori aden y gelyn trwy ymosod arno o'r gogledd, y dwyrain, a'r de, tra yr oedd corff y fyddin fechan a'i safle yn Mhenypound. Nid pob cadfridog feiddiai ranu ei fyddin fel hyn; ac nid heb lawer o bryder, ymgynghori, a gweddi daer, y darfu i chwi wneyd. Gwelsoch amserau ystormus, a rhai cyfarfodydd fuasai wedi lladd un llai gwrol; aelodau anfucheddol a grwgnachlyd a fynent gadw ar Enw Mab Duw a gwasanaethu Belial, y rhai, er hyny, a draddodwyd i Satan a dinystr y cnawd; ond nid heb ymladd cyndyn y gorchfygwyd hwy. Brodyr da, ond camsyniol eu barn a'u teimladau, fuont hefyd yn ddraenen yn eich ystlys dros amser, nes gorfod arfer moddion chwerw tuag atynt, er lles iddynt hwy a'r eglwys. Nid oedd neb yn fwy blin na chwi fod angenrhaid am y fath foddion, ac wedi blynyddau lawer o ystyriaeth, nid wyf wedi gallu gweled un llwybr gwell nag a gymmerwyd; etto, teimlad blin oedd yr eiddoch chwi yr adeg hono, ac oni bai eich gwroldeb anarferol a nerth Duw, buasech wedi rhoddi fyny yr ymdrech, a gadael yr eglwys i ddychwelyd i'w chysgadrwydd cyntefig; ond trwy drugaredd, cawsoch nerth i sefyll rhuthriadau yr holl ystormydd, a dwyn yr achos allan i fuddugoliaeth. Daeth llwyddiant ar y llafur, sain cân a moliant yn Seion, cannoedd yn treisio teyrnas nefoedd. Yn lle ymladd, daeth gwaith magu a meithrin y genedigion newydd, a chyn hir, daeth heddwch fel yr afon."
Y mae yr uchod, ni a dybiwn, yn ddigon i godi ychydig ar gwr llen amser i'n galluogi i edrych yn ol i ddechreuad y deugain mlynedd y sonia yr ysgrifenydd am danynt, a chael cipdrem ar amgylchiadau hen eglwys barchus Penypound pan gychwynodd Price ei yrfa weinidogaethol yno. Dechreuodd ei weinidogaeth yn yr eglwys, fel y dengys y dyddiad, yn nyfnder y Gauaf; ac yr oedd yn ychydig o Auaf ar yr eglwys pan y cafodd hi. "Sonia Mr. Davies am gysgadrwydd cyntefig," "amserau ystormus," am "aelodau grwgnachllyd," a "drain yn ystlys" y gweinidog. Arwyddion Gauafol ydynt y rhai hyn. Ni fu erioed galedach gauaf, ia ac eira oeraidd sydd yma, swn gwyntoedd ac ystormydd dinystriol. Ond er mor dywyll, nid oedd y Gwanwyn yn mhell. Yr oedd y dydd cyntaf o Ionawr, feddyliwn, yn broffwydoliaethol o agoriad gwell amser, a chyfnewidiad hapus i fod yn yr amgylchiadau. Yr oedd y dydd yn ymestyn; goleuni yn myned ar gynnydd. Yr oedd y Gwanwyn mwyn oedd yn dynesu yn dyfod a dylif o fywyd yn ei gol; yr oedd yr haul i wenu a gwresogi; anian i'w gwisgo yn ogoneddus yn ei mantell werdd, a'r Haf toreithiog fel brenin coronog y flwyddyn i wneyd ei ymddangosiad yn y man. Felly yr oedd ac y bu yn hanes Penypound yn ei chyssylltiad â'i gweinidog, Thomas Price. Oeraidd ydoedd ansawdd yr eglwys pan y cafodd hi. Ia rhynllyd difaterwch a chysgadrwydd wedi ei meddiannu, grwgnachrwydd a chwerylon teuluol mal chwäon gauafol yn deifio egni a pherlysiau gardd yr Arglwydd. Ond yr oedd dyfodiad Price ati, dan fendith Duw, i fod yn droad y dydd iddi; goleuni ysprydol i fyned ar gynnydd; Gwanwyn moesol i ymagor arni, a'r Arglwydd i "ollwng ei Yspryd i'w hadnewyddu fel gwyneb y ddaear," ac haul diwygiad a llwyddiant crefyddol i goroni ei lafur ef a'r eglwys. Am bwysigrwydd arbenig y cyfnod hwnw, ysgrifena y Dr. ei hun yn Juwbili Eglwys Calfaria:—"Ni fu eglwys erioed mewn sefyllfa mwy cyfyng i roddi galwad i weinidog nag oedd eglwys Aberdar yn y flwyddyn 1845. Gallasai camsynied y pryd hwnw fod yn andwyol i achos y Bedyddwyr am oes gyfan. Yr oedd eisiau cael y dyn iawn i'r lle priodol. Yr oedd Aberdar fel ardal yn myned i gynnyddu yn gyflym iawn—y trigolion yn amlhau—cymmydogaethau newyddion yn cyfodi—dyeithriad lawer yn tyru i'r lle—y llanw moesol yn dyfod i mewn yn donau mawrion—adeg bwysig i eglwys a gweinidog—naill ai cymmeryd gafael gref ar yr adeg, neu golli y cyfle am byth." Dywed Shakespeare:—
"There is a tide in the affairs of men,
Which, taken at the flood. leads on to fortune;
Omitted, all the voyage of their life
Is bound in shallows and in miseries."
Ni esgeulusodd y gweinidog ieuanc ei adeg, yr oedd yn barod i'r llanw mawr. Yr oedd yn gyfartal i'r amgylchiadau; ac fel cadfridog doeth a medrus, arweiniai y fyddin fechan oedd wedi ei hymddiried gan yr Arglwydd i'w ofal yn llwyddiannus. "Yn awr" yw yr arwyddair sydd yn argraffedig ar faner y doeth. "Yn awr" oedd arwyddair Price, a llwyddodd yn fendigedig gyda'i eglwys ac yn mhob cylch arall y troai ynddo drwy hyny. Er fod gan Price ei anfanteision i ddechreu ei fywyd gweinidogaethol, etto yr oedd ganddo lawer o fanteision, fel yr awgrymir ganddo ef ei hunan. Gellir dweyd fod ei ragoriaethau, ar y cyfan, yn dra dysglaer. Yr oedd ei ddyfodol yn feichiog o addewidion. Yr oedd Aberdar yr adeg hono, fel y cawn nodi yn helaethach yn y man, mewn ystyr yn yr esgoreddfa, yn cael ei geni i fodolaeth odidog. Dechreu ymagor yr oedd, ac yn fuan daeth yn gyrchfan pobloedd lawer—yn ganolbwynt masnach lo y Deheudir. Ac i ddangos hyn yn fwy effeithiol, cymmerwn olwg fanylach yn ein pennod nesaf ar Aberdar fel yr oedd ac fel y mae; yna dychwelwn at yr eglwys a'i gweinidog i'w gweled mewn amgylchiadau uwch a mwy ffafriol.
PENNOD VI.
ABERDAR FEL YR OEDD AC Y MAE.
Prydferthwch Dyffryn Aberdar—Aberdar yn bentref bychan— Aberdar yn ymddadblygu—Gweithiau glo yn cael eu hagor— Gweithfeydd haiarn—Y boblogaeth yn cynnyddu Y gwahanol fyrddau–Adeiladau cyhoeddus at wasanaeth y dref—Y gwahanol gymdeithasau cyfeillgar—Achos crefydd yn llwyddo—Price yn cymmeryd rhan flaenllaw yn mhrif symmudiadau y dref—Dynion o fri wedi bod yn Aberdar—Barn Tegai—Ei arwyddeiriau, &c.
FEL yr awgrymasom yn niwedd y bennod ddiweddaf, barnwn, gan fod yr enwog Ddr. Price wedi gwneyd cymmaint o waith, yn lleol, gwladol, cymdeithasol, a chrefyddol, yn nyffryn poblog Aberdar yn ystod ei fywyd, mai nid anfuddiol i ni yma yw rhoddi ychydig o hanes y dref a'r cylchoedd, er cael ber olwg ar wrthddrych ein cofiant yn ei gyssylltiad â chyfodiad Aberdar a chynnydd y dyffryn mewn modd neillduol. Y mae amser, fel y nodasom mewn cyssylltiad arall, yn gwneuthur cyfnewidiadau mawrion. Ni chawn weled hyny yn fwy eglur nag yn nghynnydd rhyfeddol gyflym rhai o'n trefi, a chyfodiad sydyn pentrefi newyddion yn ngwahanol barthau ein gwlad. Felly y bu unwaith yn hanes dyffryn poblog Aberdar. Triugain mlynedd yn ol, ychydig amser cyn i Thomas Price wneyd ei ymddangosiad yma, gwisgai y dyffryn wedd hollol wahanol i'r hyn a wna yn bresenol. Yr adeg hono gwelid yr afon fechan risialaidd Cynon yn cymmeryd ei gyrfa ogledd—orllewinol i'r de-ddwyreiniol, i waered tuag afon Taf, trwy ganol dyffryn gwastad a ffrwythlawn. Ar ei glenydd ac yn ymestyn yn ol hyd wadnau y bryniau a'r mynyddoedd uchel o bob tu iddi, yr oedd eang feusydd a dolydd breision a thoreithiog—ïe, miloedd o erwau o dir gwrteithiedig, er fod yn fynych i'w gweled yma a thraw elltydd mawrion, coedydd amrywiol, a derw calongaled, yn estyn eu breichiau preiffion a nerthol, ac weithiau megys yn ymaflyd y naill yn y llall nes yr oeddynt, pan eu hysgydwid gan yr ystormydd brochus, fel cynnifer o filwyr cawraidd mewn ymgyrch â'u gilydd. Y rhai hyn oll oeddynt yn ychwanegu at amrywiaeth, ac felly yn mwyhau tlysni a gogoniant, y dyffryn. Gwelid ambell balasdy gorwych yma a thraw, yn ymddangos yn urddasol fel brenin anneddau gwasgarog y cwm. Yr amaethdai mawrion a welid yn gyffredin wrth wadnau y mynyddau a thraed y bryniau yn ngwahanol gyfeiriadau y dyffryn. Prydferth oedd yr olygfa ar y bythynod gwyngalchedig welid ar lechwedd y bryn, y pant, a'r uchelfan. Cestyll y gweithwyr oeddynt, ac er eu bod yn is eu penau ac yn llai eu maint nâ'r tyddynod a'r palasdai, etto, hoffent hwy, a chanai llawer un mewn alaw bêr iddynt yn ngeiriau y bardd:—
"Mae 'mwthyn fel yr eira gan fynych liwiad calch,
A'i gylchion oll yn daclus; wyf fyth o'i drefnu'n falch,
Mae o'r tu fewn yn gynhes, yn syber, glân, a syw,
Yn annedd hardd gysurus, gall brenin ynddo fyw."
Yn yr adeg hono yr oedd Aberdar yn bentref cymharol fychan, a thrysorau anmhrisiadwy y dyffryn a'r mynyddoedd i raddau yn guddiedig; llawer o'r trigolion yn amaethwyr bychain ond cyfrifol—amryw o honynt yn preswylio ar eu tiroedd eu hunain, tra yr oedd ereill yn dal rhwymysgrifau dros fywyd ar ardreth fechan—y peth nesaf i ddim. Ond yn fuan daeth cyfnewidiad ar bethau; mewn gwirionedd, yr oedd y cyfnewidiad wedi dechreu cymmeryd lle. Yr oedd Aberdar eisoes mewn cyflwr o draws—symmudiad. Yr oedd amryw weithiau glo wedi dechreu cael eu hagor. Er na chynnyddodd y gweithiau hyn fawr yn y plwyf oddieithr ychydig leflau a nifer bychan o byllau i ddiwallu angenrheidiau gweithfeydd haiarn Hirwaun hyd y flwyddyn 1837, pryd y dechreuodd T. a W. Wayne, Ysweiniaid, agor gwaith mawr yn Nghwm Nantygroes, yr hwn oedd y gwaith glo môr cyntaf yn y plwyf. Hyd yr adeg hono ni weithid y glo yn y cwm ond at wasanaeth y gweithiau haiarn. Y blynyddau canlynol agorodd Mr. Powell ei byllau ar ystâd y Dyffryn; ac ar ol hyny agorodd Mr. D. Davis, Ysw., Hirwaun y pryd hwnw, wedi hyny Blaengwawr, waith glo môr rhagorol ar dir Blaengwawr, a dechreuwyd anfon glo ymaith yn mis Hydref, 1844. Yn ganlynol i hyny agorodd Mr. Thomas, Waunwyllt, waith glo ar dir Lletty Siencyn; wedi hyny agorodd Nixon ei waith glo ar dir y Werfa, yn cael ei ddylyn gan Mr. D. Williams, Ynyscynon, gydag agoriad ei waith glo ar dir Ynyscynon: Mri. Sheppard, Evans, a Morris, yn Nghwmaman; a Mr. Thomas J. Joseph yn rhandir Llwydcoed. Yn Rhagfyr, 1844, dechreuwyd pwll glo arall gan Mr. Powell heb fod yn mhell oddiwrth weithiau y Gadlys, a daeth y glo cyntaf i fyny yn 1846. Ar y 15fed o Fawrth, 1845, dechreuodd Mr. Crawshay Bailey, Ysw. (A.S. dros y Casnewydd, Mynwy, y pryd hwnw), suddo pwll glo yn agos i'r lle y bwriedid codi gweithfeydd haiarn Aberaman. Gyda'r gweithiau glo mawrion a lluosog oeddynt yn cael eu hagor yn y dyffryn yn y cyfnod a nodwn, yr oedd hefyd weithiau tân ac alcan wedi ac yn cael eu codi. Yr oedd gweithiau haiarn Abernant a'r Llwydcoed wedi eu prynu gan Mr. Richard Fothergill a'i Gyf., y rhai a eangwyd yn raddol y naill flwyddyn ar ol y llall, hyd o'r diwedd y daeth y cwmni yn alluog i gyflogi dros 4,000 o weithwyr. Yr oedd gweithiau haiarn y Gadlys yn cael eu cario yn mlaen gan Mri. Wayne a'i Gyf., ac yn 1850 cychwynasom y gwaith Alcan, yn yr hwn y cyflogid nifer luosog o weithwyr. Mawrth y 14eg, 1845, dechreuwyd gwaith haiarn ar dir Aberaman gan Mr. Crawshay Bailey.
Gan fod Aberdar ar gynnydd mor ddirfawr yn masnach y glo môr, aeth y gamlas, yr unig gyfrwng trosglwyddiad nwyddau o Aberdar i Gaerdydd, y porthladd agosaf, yn rhy fach i wneyd y cludiad; ac yn y flwyddyn 1845 dechreuwyd gwneyd Cledrffordd Dyffryn Aderdar, ac ar y dydd cyntaf o Awst, 1846, yr agorwyd hi i drafnidiaeth. Cyrhaeddai hon o Heol Melin, Llwydcoed, hyd y Basin Isaf, tuag wyth milldir, lle y cyssylltai â'r llinell a redai o Gaerdydd i Ferthyr. Creodd y gledrffordd hon adfywiad mawr yn masnach y plwyf, ac yr oedd yn gyfleusdra rhagorol i deithwyr. Ar yr 28ain o Awst, 1847, dechreuwyd gwneyd Cledrffordd Cwm Nedd, yr hon a elwid yn Gledrffordd Dyffryn Nedd; a phrofodd wedi ei hagor, yn gystal a Chledrffordd y Taff, o ddefnyddioldeb a mantais annhraethadwy i'r cylchoedd yn gyffredinol, fel y gwelir oddiwrth y ffigyrau canlynol, y rhai a ddangosant yn eglur gynnydd enfawr trafnidiaeth yn y dyffryn. Yn y flwyddyn 1815, gwnaed o haiarn yn y plwyf i gyd 20,800 o dynelii; yn y Åwyddyn 1853, gwnaed gan yr Aberdare Works yn unig, 35,202 o dynelli; gwneuthuriad o haiarn yn yr holl blwyf yn y flwyddyn 1841 oedd, 25,000 o dynelli; yn y flwyddyn 1852, 82,000 o dynelli. Anfonwyd allan o lo yn 1841, 12,000 o dynelli; yn 1852, 500,000; cyfanswm 1860, 1,745,813 o. dynelli; yn 1866, 2,188,571. Codwyd yn Mhlwyf Aberdar o lo yn y blynyddau o 1870 hyd 1884 dros un filiwn ar ddeg ar hugain o dynelli, yn gwneyd ar gyfartaledd dros 2,000,000 yn flynyddol. Tra yn ymwneyd ag ystadegaeth, dichon na fydd ffigyrau yn dangos cynnydd poblogaeth Aberdar ddim yn annyddorol yma.
Blynyddau | Poblogaeth | |
---|---|---|
1841 | . . . . . . . . | 6,471 |
1851 | . . . . . . . . | 14,998 |
1861 | . . . . . . . . | 32,299 |
1871 | . . . . . . . . | 37,704 |
1881 | . . . . . . . . | 35,513 |
Oddiar y dyddiad diweddaf y mae y boblogaeth wedi cynnyddu amryw filoedd.
Y mae y ffeithiau a'r ffigyrau uchod yn ddigon, ni a gredwn, i ddangos y cynnydd rhyfeddol y rhaid fod wedi cymmeryd lle yn Aberdar a'r cylchoedd am y blynyddau cyntaf wedi dyfodiad y Dr. i'r dyffryn; ac o ran hyny ni fu ond cynnyddu yn hanes y cwm hyd yr ychydig flynyddau olaf yn ei fywyd. Hefyd, gellir casglu oddiwrth y ffeithiau a nodasom am agoriad cynnifer o weithfeydd mawrion gyda'u gilydd bron yn nghylch y cyfnod y daeth y Dr. i'r lle, pa mor gyflym y rhaid fod y cynnydd hwnw, ac nid yw yn rhyfedd i'r Dr. ysgrifenu y brawddegau arwyddocaol a chynnwysfawr, "Aberdar fel ardal yn myned i gynnyddu yn gyflym iawn—y trigolion yn amlhau—cymmydogaethau newyddion yn cyfodi—dieithriaid lawer yn tyru i'r lle," &c. Yn fuan aeth y pentref cymharol fychan yn dref fawr, a'r twyni meillionog y soniasom am danynt a gladdwyd dan bentrefi mawrion o anneddau gorwych, yn mhlith y rhai y gwelid capelau lluosog ac eglwysi yn dyrchu eu penau fel tyrau cyssegredig, yn brawfion o'r yspryd crefyddol oedd yn bodoli ac yn myned ar gynnydd gyda chynnydd y trigolion yn y pentrefi hyn. I fyny oedd cyfeiriad pob peth yn Aberdar, nid yn unig yn fasnachol ac mewn poblogaeth, ond hefyd mewn ystyron ereill,—i fyny yn ddinesol, cymdeithasol, gwleidyddol, ac yn grefyddol. Sefydlwyd yma Fwrdd Iechyd Lleol, a Bwrdd y Gwarcheidwaid yn gyssylltiedig ag Undeb Merthyr. Talwyd sylw neillduol i addysg, ac agorwyd yma Ysgolion Brutanaidd a Chenedlaethol, hyd syfydliad ysgolion y Bwrdd Addysg yn 1870. Adeiladwyd neuadd gyfleus at wasanaeth cyhoeddus y dref yn High Street, yr hon, yn herwydd cynnydd rhyfeddol gyflym y lle, a aeth yn rhy fychan, ac adeiladwyd un eangach yn Canon Street, a elwir yn Neuadd Ddirwestol. Yn 1853 adeiladwyd Marchnad-dy rhagorol yn nghanol y dref, yr hwn sydd lawer mwy o faintioli na'r hen Farchnaddy. Gellir dweyd am dano fel y dywedodd Athan Fardd:—
"Tŷ mawrwych, tô a muriau—osodwyd
Ar sywdeg golofnau
I ddynion drin meddiannau
O'r ych hyd y bresych brau."
Fel yr oedd y dref yn ymgynnyddu, yr oedd y Bwrdd Lleol yn ofalus gyda'r cynlluniau, fel y mae y lle wedi ei adeiladu, ar y cyfan, yn dra chyfundrefnol, a gellir dweyd fod Aberdar yn un o'r trefydd gweithfaol prydferthaf a glanaf yn y Dywysogaeth. Goleuir hi â nwy rhagorol, a chyflenwir y dref a'r dyffryn braidd gan ddyfroedd iachusol o'r dwfr-weithfaoedd mawrion perthynol i'r plwyf. Ceir yma hefyd Gladdfa Gyhoeddus eang a chyfleus; ac yn y flwyddyn 1869, agorwyd Parc Cyhoeddus Aberdar, yr hwn, dywedir, sydd un o'r rhai mwyaf godidog a phrydferth yn y Dywysogaeth. Mesura tua 49 o erwau o dir. Sefydlwyd yma hefyd nifer lluosog o gymdeithasau cyfeillgar a budd-gymdeithasau annybynol, yn mhlith y rhai y ceid yr Odyddion, Iforiaid, Derwyddon, Alffrediaid, Coedwigwyr, yn nghyd â llawer o glybiau arian, fel eu gelwir, y rhai ydynt wedi profi yn dda iawn i laweroedd o bryd i bryd. Cafodd achos crefydd, yn yr un modd, sylw boreuol a dyladwy yma. Mynodd yr Eglwys Sefydledig, fel arfer, le bras yn y pentref yn gynnar. Cawn yr Undodiaid, y Methodistiaid, y Bedyddwyr, yr Annybynwyr, y Wesleyaid, y Presbyteriaid, Mormoniaid a Phabyddion yn codi eu hallorau—yr oll yn egniol i ennill i'w rhengau, ac ychwanegu beunydd at eu nifer a'u nerth.
Yr ydym wedi codi y llen i gael cipdrem ar faes llafur y dyn ieuanc y dywedasom ei fod wedi dechreu ei weinidogaeth yn Aberdar. Yr ydym, mewn ystyr, wedi agor y porth, ac yn gwahodd y sylwgar i edrych ar y prif olygfeydd a gyfodant y naill ar ol y llall yn y cemmaes y bu un o feibion dewraf Cymru yn cyflawnu gorchestion clodus ynddo; ond wrth wneyd hyn, dymunwn eu hadgofio na allwn fynegu "dim o'r hanner," nac ychwaith gyfeirio ond at ychydig o'r gweithredoedd daionas a dyrchafol a gyflawnodd efe yn y cylchoedd hyn yn ystod ei lafur diflino a difwlch am ddeugain mlynedd. Teimlwn nad ydyw yn feiddgarwch ynom i ddywedyd na weithiodd neb yn Aberdar, a thros Aberdar a'r dyffryn yn mhob cylch, a chyda phob symmudiad, yn debyg iddo ef. Nid yn unig y cyflawnai ei waith yn onest ac effeithiol fel gweinidog yr Efengyl—yn ffyddlawn i'w swydd, i'w Feistr, i'w eglwys, ac i'w gyfenwad crefyddol—ond gwnaeth fwy na hyny: cafwyd ef yn ddinesydd godidog, yn gymdeithaswr rhagorol, yn arweinydd cywir, a phob amser yn amddiffynwr y gwirionedd yn mhob cylch y troai ynddo.
Cafodd Aberdar o bryd i bryd ddynion o nôd a dylanwad yn perthyn i bob dosparth. Cafodd berchenogion gweithfaol goludog ac urddasol, marsiandwyr a masnachwyr llwyddiannus a chyfoethog, dysgedigion gwych, beirdd a llenorion addfed, cerddorion enwog, pregethwyr poblogaidd a gweinidogion diwyd a gofalus oll yn cydlafurio i godi y dref yn gymdeithasol, gwleidyddol, moesol, a chrefyddol; ond gwyr y rhai a adwaenent yr enwog Ddr. yn anterth ei nerth, nad ydym yn gorddweyd wrth fynegu ei fod "wedi rhagori arnynt oll. Edrychai pawb ato ef. Cafodd yr arweinyddiaeth un adeg yn hollol yn ei law ei hun braidd yn mhob cyfeiriad, ac ystyrid ef, fel y dywedai y diweddar enwog Hugh Tegai mewn llythyr at ei hen gyfaill talentog Hwfa Môn, gan bawb braidd fel " brenin Aberdar." Ennillodd y safle hon drwy ei fod bob amser â'i lygad yn agored, ac yn gwylio symmudiadau pob peth braidd o bwys yn y dref a'r wlad. Pwy bynag fyddai yn ol, yr oedd efe yn sicr o fod yn mlaen, ac yn cymmeryd y rhan fwyaf blaenllaw gyda gwahanol symmudiadau. Nis gallai fod yn segur. Ffieiddiai ddiogi a musgrellni mewn unrhyw gyssylltiad. Yr oedd "Ymdrech" yn air mawr yn ngeirlyfr ei fywyd. Yr oedd "Llwyddiant" gyda phob achos yn un o'i brif arwyddeiriau; gwelid hwn bob amser yn amlwg ar faner ei weithrediad, ac i'w sicrhau, nid oedd bod yn ngrym y tân mewn brwydrau poethion yn ddim iddo ef. Brwydrodd lawer yn Aberdar a thros Aberdar.
Cafodd y dref ynddo ddyn bob amser yn gyfartal i'r dirangenion alwent am ei wasanaeth; cafodd y tlodion ynddo gyfaill tyner a charedig; cafodd y cymdeithasau cyfeillgar ef yn arweinydd cywir a ffyddlawn; cafodd Ymneillduaeth ynddo ef amddiffynydd diledryw. Lliwiodd yn ddiau wleidyddiaeth y dref a'r dyffryn yn uchel â rhyddfrydiaeth bur, yr hon a gafodd ynddo ef arwr diguro, bob amser a'i lef yn nerthol o'i phlaid, a holl bwysau dylanwad ei fywyd godidog drosti yn barhaus. Rhag meddwl a chredu o'r annghynnefin â hanes bywyd yr enwog Ddr. ein bod yn eithafol, ac yn priodoli iddo yr hyn na ddylem, galwn i'r bwrdd dystiolaethau diamwys niferi o'i weithredoedd clodwiw mewn ffordd o frwydrau tanllyd dros iawnderau gwahanol ddosparthiadau o fodolion yn Aberdar a'r cyffiniau, a chaiff
hyny ffurfio rhan bwysig yn ein pennod ddylynol.PENNOD VII.
PARHAD ABERDAR.
Price ac Aberdar—Yn cydymddadblygu—Ymladd yn erbyn y Dreth Eglwys—Amddiffyn merched a gwragedd Cymru—Cableddau y Llyfrau Gleision—Tystiolaeth anwireddus y ficer—Cyfarfod cyhoeddus i ymdrin â'r mater—Ei araeth yn y cyfarfod—Ymosod ar y Rustic Sports—Derbyn tysteb—Pryddest o glod iddo—Y ficer yn gwrthod claddu plentyn Mr. John Lewis—Areithio tu allan i'r fynwent—Claddu y plentyn—Gorfodi y ficer i gynnal gwasanaeth boreuol yn yr Eglwys—Ymdrech o blaid addysg—Ei ysgrif yn "Seren Cymru" ar bwnc y Reform Bill—Yn derbyn diolchgarwch Derby a Bright—Ei gyssylltiad agos a'r glowyr a'r gweithwyr tân—Ei ysgrifau, &c.—Yn aelod o'r gwahanol fyrddau—Aberdar yn wahanol i'r hyn ydoedd ar ddyfodiad Price yno.
FEL y dangosasom yn barod yn y bennod flaenorol, yr oedd Aberdar yn ymagor, ac ar ei hesgynfa yn mhob ystyr pan ddaeth Price i'r dyffryn. Yr oedd yntau fel person yr un fath. Yr oedd ynddo blygion ar blygion i ymagor, a meddai allu diamheuol i gerdded yn gyfochrog ag amgylchiadau lleol, yn gystal a nerth a chyflymdra i redeg yn mlaen gyda diwygiadau yr oes. Un o'i ragoriaethau penaf ydoedd ei fod yn ymgyssylltu bob amser, fel yr awgrymasom yn barod, â materion cyhoeddus y dref a'r gymmydogaeth, a phrofai ei hun yn feistr yr amgylchiadau pan yn gwneuthur felly. Ond yr oedd, yn fynych, drwy hyny, yn gosod ei hun yn agored i erlidiau gelynion, a chyfeillion weithiau. Gallai ddweyd mewn rhai brwydrau y bu ynddynt, fel Paul, ei fod " Mewn blinderau yn helaethach, ac mewn gwialenodiau dros fesur;" ond gallai ddyoddef y cwbl yn amyneddgar, ac anwybyddu llawer o wrthwynebiadau er mwyn yr egwyddor neu yr egwyddorion y brwydrai drostynt. Meddai lawer iawn o annybyniaeth a phenderfynolrwydd di-ildio. Ei frwydr gyntaf oedd yn erbyn y Dreth Eglwys, yn yr hon ni fwriodd efe arfau hyd nes y cafodd y Parch. John Griffiths, M.A., ficer y plwyf, i benderfynu ei "chladdu am byth." Rhywbeth felly oedd ei addewid i'r Dr.
Wedi hyny, pan gyhoeddwyd cableddau y Llyfrau Gleision ar ferched a gwragedd Cymru, yn nghyd â chyflwr addysg a moesolrwydd Aberdar, daeth allan fel cawr i'w hamddiffyn gyda Ieuan Gwynedd ac ereill. Am hyn dywed un awdwr pan yn ysgrifenu ar Aberdar:—
"It should not be forgotten that here was cradled that spirit of national protest against misrepresentation of Welsh character which resulted in such complete refutation of the slight put upon Wales by that strolling company of Commissioners who were sent by the Government of the day to see what defects were socially visible in Wales, and who complacently reported upon which they did not see. Aberdare, with Dr. Price and Ieuan Gwynedd to the forefront, came to the rescue, and, with flinchless vigour, flung back the stigmas with which these Commissioners (called gentlemen) unjustly bespattered us as a nation. Ieuan Gwynedd sleeps at Groeswen; Dr. Price is yet a felt force in Welsh circles; the men and women whom they relieved of odium are grateful to them."
Rhoddwyd y wybodaeth gamddarluniol a chamarweiniol y cyfeirir ati uchod gan y Parch. J. Griffiths, Ficer y Plwyf, i Mr. Lingen, un o ddirprwyaeth y Llywodraeth. Nid anfuddiol fyddai i ni osod adroddiad y ficer yma, a rhoddi byr olwg ar y cwrs gymmerodd Price yn ei wyneb.
"My Parish, in its present uneducated condition, is certainly retrogading. Nothing can be lower, I would say more degrading, than the character in which the women stand relative to the men. The men and the women, married as well as single, live in the same house, and sleep in the same room. The men do not hesitate to wash themselves naked before the women; on the other hand, the women do not hesitate to change their under-garments before the men. Promiscuous intercourse is most common—is thought of as nothing and the women do not lose caste by it. Generally speaking, there is very little sobriety. The men drink in beershops, and are occasionally joined by the women; but on the whole, the women drink at home. Saturday night and Monday night, and also Sunday morning, are always spent in drinking if the times are good. If it be after pay the carousal is generally extended till Tuesday or even Wednesday. Nothing can be more improvident than the miners or colliers. These religious feelings are peculiar to the temperament of the Welsh. They are very excitable—have nothing like what is considered elsewhere a disciplined religious mind. They go to the meeting at six, come out at eight, and spend the remainder of the evening in the beershop. There is no religion whatever in my parish, at least, I have not yet found it.
Yn ngwyneb y fath gyhuddiadau pwysig, penderfynodd Price roddi hèr i'r ficer i'w profi. Yn y Principality, papyr ein hen gyfaill, Mr. Tudor Evans, yn awr o Gaerdydd, am Mawrth y 7fed, 1848, cawn hanes y cyfarfod mawr a gynnaliwyd mewn perthynas i'r drafodaeth, yr hwn, yn ol yr adroddiad, oedd y cyfarfod mwyaf brwdfrydig a lluosog a gynnaliwyd yn Aberdar erioed cyn hyny. Bernid fod ynddo tua 2,500 o bobl. Yr oedd y cyfarfod wedi ei alw drwy ei hyspysu yn y modd mwyaf cyhoeddus possibl. Dywedir yn y mynegiad fod y Parch. Thomas Price wedi gwahodd y ficer i ddadleu yr achos yn gyhoeddus; ac ymgymmerodd â gwrthbrofi holl adroddiadau Griffith i'r Ddirprwyaeth. Ar noson y 23ain o Chwefror, 1848, y cynnaliwyd y cyfarfod dywededig. Derbyniodd hèr Price yr atebiad byreiriog canlynol oddiwrth y ficer:—"I will never give you that honour." Yn gweled fod y ficer yn osgoi y gorchwyl anhawdd iddo amddiffyn ei gyhuddiadau, awd yn mlaen â'r cyfarfod dan lywyddiaeth yr enwog D. Williams (Alaw Goch), Ysw., yr hwn wrth gymmeryd y gadair a sylwodd fod y ficer yn berson hollol anaddas i roddi tystiolaeth ar Aberdar, gan ei fod yn gymharol ddyeithr i'r lle. Yna aeth Price, arwr y cwrdd, yn fanwl ar ol y cyhuddiadau wnaed gan y ficer, ac a'u gwrthbrofodd un ac oll. Gan fod eu nodiadau i raddau yn ddarluniadol o hono, gosodwn ychydig o honynt yma:—
"Nid wyf yn gwadu nad oes gormod o feddwdod yn Aberdar; y mae llawer, mae yn wir, yn hoff o yfed yn ormodol, ond nid oedd meddwdod yn nodweddiadol o weithwyr Aberdar (clywch). Nid oedd y Sabbath yn cael ei dreulio i yfed; nid oedd un o 800 yn mynychu y tafarndai. Gyda golwg ar y merched a'r gwragedd yn yfed, galwa am dystiolaeth Sais o'r enw Samuel Garret ar y mater. Gwada Garrett yr adroddiad disail fod y gwragedd i gyd yn dueddol i ymyfed. Nid oedd meddwdod yn nodweddiadol o wragedd a merched Cymru. I gyfarfod â'r cyhuddiad o wastraff ein mwnwyr a'n glowyr, dywedaf fod pobl Aberdar wedi sefydlu yn y 40 mlynedd diweddaf ddim llai nag o 40 i 45 o gymdeithasau oedd a'u hamcan arbenig i ddarparu ar gyfer cystudd ac angeu. Yr oedd eu cyfraniadau i'r cymdeithasau hyn yn £200 yn fisol, ac yn £2,400 yn flynyddol. Hoffwn gael arwain Mr. Griffiths o Hirwaen i Aberdar, mewn trefn i ddangos iddo o 1,500 i 1,800 o dai ydynt wedi eu codi gan y gweithwyr yn unig yn yr ychydig flynyddau diweddaf. Nid oedd y ffaith hon yn siarad llawer yn erbyn arferion darbodus y dosrarth gweithgar. Yr oedd pobl Aberdar at eu rhyddid i addoli Duw yn ol eu tueddiadau a chyfarwyddiadau eu cydwybodau eu hunain. Yr oedd yn rheol sefydlog gan yr eglwysi Ymneillduol i ddiarddelu pawb elent o'r cymundeb i'r dafarn. 46 mlynedd yn ol, nid oedd ond un capel yn y lle, ond yn awr yr oedd 15. 40 mlynedd yn ol 1 Ysgol Sabbothol oedd yn y lle, ond yn awr yr oedd ganddynt o 20 i 25. Am foesolrwydd, daliai efe y safai gwragedd a merched Aberdar mor uchel gyda golwg ar burdeb moesol ag unrhyw ddosparth o wragedd a merched yn y deyrnas. Cyfeiriai y gynnulleidfa er prawf o hyny at y ffigyrau gyhoeddwyd ar y mater gan ei gyfaill, Mr. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar."
Wedi sylwi yn fanwl ar holl gyhuddiadau y Ficer (nid ydym yn gosod ond talfyriad o honynt yma), a'u gwrthbrofi bob yn un ac un, gosodwyd gerbron y cyfarfod amryw benderfyniadau pwysig, y rhai, er rhoddi mantais i'r darllenydd i ffurfio rhyw syniad am y teimladau gynhyrfwyd yn nhrigolion Aberdar am ymddygiad annheilwng y Ficer, a osodwn yma yn yr iaith Saesneg:— — "The Rev. Thomas Price moved, and D Davis. Esq., seconded:—
"I. That this meeting, having read the evidence of the Rev. John Griffiths, Vicar, contained in the Report of the Commissioners on Education in Wales respecting the state of education and morals in the Parish of Aberdare, feels surprised that he, being then a stranger, having resided but a few days amongst us, should have deemed himself competent to furnish the information requested by the Commissioners; while at the same time it begs most distinctly to deny the whole of his statements, if they are intended as a description of the character, position, knowledge, habits. and general deportment of the inhabitants of this place, they being as general statements utterly void of truth. And this meeting begs to express its decided disapproval of his conduct. "Moved by the Rev. W. Edwards, seconded by Mr. W. Lewis, miner:—
"II. That this meeting, while anxious for a better system of education in the place, still considers the report of Mr. Lingen incorrect, unfair. and sectarian, it being founded on the evidence of persons adverse to the feeling and wishes of the vast majority of the inhabitants of the Parish, and strongly prejudiced in favour of one particular church, while statements made by others have been entirely suppressed.
"Moved by Mr. W Thomas, seconded by the Rev. D. Price, Siloa:—
"III. That should the contents of these reports be brought under the notice of Parliament, this meeting respectfully but earnestly desires that Sir John Guest, the worthy representative of this place, in his place in the House of Commons, give a direct contradiction to the statements made therein concerning the people of Aberdare.
"Moved by W. Williams, seconded by E. Richards:—
"IV. That this meeting is of the opinion that the evidence of the Rev. John Griffith, together with that of Thomas W. Booker, Esq, Melingriffith, should be printed in the Welsh Language, and circulated in the Parish, it being but fair that Mr. Griffith should tell his parishioners in their own language what he has already told the Government respecting their state of morals, and it being but fair that Welshmen should know of the excellent character given them by Mr. Booker, he being an Englishman, and an extensive employer of labour in the County
"Moved by Rev. B Evans, seconded by Mr. David Williams:—
V. That a copy of these Resolutions be sent to the Committee of the Council on Education, to Lord John Russell, to the Principality, to the Cardiff and Merthyr Guardian, and to the Times."
Gwasanaetha yr uchod i ddangos cyfeiriad meddwl a thueddiadau naturiol Thomas Price; ond nid yw hyn amgen swn awchlymiad ei gleddyf. Y mae gyda y fyddin yr ymhyfrydai fod gyda hi ac yr ymddiriedai iddi, sef y dosparth gweithgar. Eisteddai pob peth yn bur naturiol ond cael Price i'r gweithwyr, a'r gweithwyr i Price.
Brwydr arall a ymladdodd yn ddewr yn Aberdar oedd brwydr y "Rustic Sports," fel ei gelwid hi. Yn y Gwron, papyr a gyhoeddid yn Aberdar (yr hwn a olygid gan y Dr.), am Ionawr y 30ain, 1858, cawn hanes cyflawn o honi mewn erthygl ddoniol gan Price, dan y pennawd, "Y Briodas Freninol a Ffolinebau Aberdar." Cynnaliwyd y Sports i ddathlu dydd priodas Victoria Adelaide Maria Louisa, merch hynaf ein Brenines dirion Victoria. Gwnaed hyn gan ychydig bersonau a ffurfient, a defnyddio iaith Price, Clique bychan, crebachlyd, ceintachlyd, hunan- grëedig," ac er ateb eu dybenion, oeddynt yn chwyddedig iawn yn galw eu hunain "The Trade of Aberdare," dan nawdd grefyddol y Ficer a'i churchwarden, fel y dengys yr hyspyslen a gynnwysai y prwygraifft, yr hon oedd fel y canlyn:—
RUSTIC SPORTS.
Suported by the Vicar, Churchwarden, Curates, Gentry. Patrons: The Trade of Aberdare.
Wedi rhoddi enwau y swyddogion a'r pwyllgor cawn y programme, yr hwn a osodwn yma, yn nghyd ag ychydig o nodiadau Price ar yr ymdrafodaeth.
RUSTIC SPORTS, cynwysedig o redegfeydd o amryw gymeriadau. Mae y Trade' wedi gyru allan ddwy hysbyslen bwysig iawn—y naill yn galw ar y masnachwyr oll i gau eu masnachdai am un o'r gloch. gan eu bod hwy, y 'Trade,' yn myned i gael rhedegfeydd ar Heol Caerdydd, o dan nawdd y Trade. Mae yr ail hysbyslen yn cynwys y Programme Mae hwn yn wir deilwng o'r 'Trade;' ac y mae yn ddyogel genym nad oes yr un dosbarth arall yn mhlwyf Aberdar yn feddianol ar dalent a dwlni digonol i gyfansoddi Programme fel hwn. Hysbysir ni fod y 'Trade' yn myned i wobrwyo y buddugoliaethus yn y gorchestion pwysig canlynol: Gyrfa Asynod—yr asyn diweddaf i mewn i enill y wobr.' Talentog dros ben. Gyrfa Asynod, a'r marchogwr i fod a'i ben at gynffon yr asyn—y cyntaf i mewn i enill.' Doniol ac asynaidd iawn. 'Gyrfa o ddynion mewn ffetanau.' Buasai yn fendith fawr pe buasai Superintendent Wrenn yn gosod y 'Trade' mewn ffetan, a'u danfon i Lansawel. Gyrfa o fechgyn o dan 15 oed.' Cynllun y Trade' i ddysgu 'The young idea.' 'Gyrfa o wyr.' Dyma ddull y 'Trade' i wella moesau eu cyd-ddynion. Mewn ffordd o newid—Darn o gig mochyn am ddringo i fyny i drostan wedi ei seimio, er i'r 'Trade' gael testun i chwerthin. Gyrfa o asynod mewn wageni.' Mae hwn yn ddrychfeddwl campus iawn o eiddo y 'Trade,' cael gyrfa o'r natur hyn mewn heol gul, yn cynwys rhyw ddwy fil a haner o ffoliaid wedi eu tynu yno gan y 'Trade.' 'Gyrfa gan ddynion a'u llygaid wedi eu rhwymo, yn gyru o'u blaen ferfa drol.' Prawf o dalent neillduol yma eto. 'Gyrfa rhwng merched o dan 15 oed.' Gyrfa rhwng menywod uwchlaw 15 oed.
'O ddifrif, ddarllenydd, nis gallwn ddilyn y Programme yn mhellach. Onid ydyw peth fel hyn yn ddigon i beri i dy waed di ferwi,—meddwl fod nifer o ddynion yn galw eu hunain y 'Trade of Aberdare,' yn ymdrechu cael gan fenywod y lle i redeg gyrfa er boddio teimlad anifeilaidd y creaduriaid distadl hyn. Yr oedd y fath gynyg yn warth ac yn ddirmyg iw awdwyr. Beth? A oedd eisieu testun newydd ar ein Vicar i ysgrifenu eto yn erbyn ein merched a'n gwragedd? Mae yn ofid genym feddwl fod Vicar Aberdar, a'i Churchwarden, a'i Guardiaid, yn gallu ymddarostwng i gefnogi y fath gynyg gwarthus i ddiraddio ein merched a'n gwragedd. Mae yn wir na chafwyd gan yr un ferch na'r un wraig i redeg, ond beth am hyny? Nid oes achos i ni ddiolch i'r 'Trade' am hyny; yr oedd eu hamcan hwy yr un; ac nis gellir condemnio y fath gynyg bwystfilaidd mewn iaith rhy lem na syniadau rhy gedyrn.
Yr ydym hefyd yn tystio yn enw llawer o ddynion da, sydd yn dymuno yn dda i Aberdar, nad yw y dyrnaid yna erioed wedi bod, nid ydynt yn awr, ac nid ydynt byth yn debyg o gynrychioli masnachwyr Aberdar. Mae dynion yn mhlith masnachwyr Aberdar, ag sydd yn meddwl yn uwch am eu cymeriadau, na gwneyd y fath asynod o honynt eu hunain ag a wnaeth y 'Trade' dydd Llun diweddaf. Llwyddodd y 'Trade' i gael lluoedd mawr o ffyliaid fel eu hunain yno, a buont yn difyru eu gilydd am ryw oriau, ond cafodd y 'Trade' eu siomi yn niffyg chwaeth y menywod yn peidio rhedeg yn ol y Programme. Mawr barch i'r menywod! Nid ydynt cynddrwg ag y myn rhai i ni gredu eu bod. Paham na fuasai y 'Trade' yn dwyn allan eu gwragedd eu hunain er difyru y dorf. Diddad y buasai yn chwerthingar iawn i weled Mrs. Gawn a Mrs. Nicholas yn ymdrechu am y dorch; a Mrs. Larke a Mrs Samuel. The proof of the pudding is in the eating.' meddai y Sais, a charem ninau i'r 'Trade,' cyn dirmygu gwragedd dynion ereill, dreio'r experiment ar eu gwragedd eu hunain. Ac os yw y fath beth yn rhy isel i'w gwragedd hwy, mae hefyd yn ddirmygedig i wragedd ein gweithwyr gonest. Wedi i'r 'Trade' fod yn chwerthin o glust i glust, ac yn gwhyru fel ceffylau Sir Aberteifi, ac wedi i lawer gael eu hanafu yn druenus a pheryglus, dygwyd y 'Rustic Sports' i derfyniad tua brig yr hwyr, ac aeth y 'Trade' tua thre, i eilliaw eu barfau, ac i lanhau eu danedd, fel rhagymadrodd i'r BALL, a gynelid yn y nos gan y 'Trade' a'u gwragedd a'u merched, am yr hwn bydd genym rywbeth i'w ddywedyd dro ar ol hyn.
"Mae yn ddrwg genym orfod ysgrifenu fel hyn am neb o'n cymydogion; ond gan fod rhyw ddosbarth o ddynion yn honi peth nad yw yn perthyn iddynt, ac yn dewis gwneyd eu hunain yn destun gwawd a dirmyg, rhaid iddynt ddysgwyl y canlyniadau. A pha un a fydd y 'Trade' yn digio neu beidio, tra bydd genym lais i'w ddyrchafu. a phin i ysgrifenu, bydd i ni arfer ein dylanwad yn erbyn y fath weithredoedd a'r rhai a gyflawnwyd dydd Llun diweddaf. Pan fydd y 'Trade' am fyned yn mlaen a gwneyd daioni, bydd yn hoff genym eu cynorthwyo; ond pan geisiant ein llusgo yn ol gan mlynedd, bydd i ni geisio gosod y Sprag yn yr olwyn, gan ymestyn at adael Aberdar yn well nag y cawsom ef; o leiaf, peidiwn er dim a'i wneyd yn waeth.
Yn y brwydrau godidog hyn, ennillodd Price sylw a pharch mawr, nid yn unig drigolion Aberdar a'r cylchoedd, ond hefyd ei gydwladwyr yn dra chyffredinol; oblegyd edrychid arnynt nid fel brwydrau lleol, eithr fel ymdrechion clodwiw i amddiffyn cymmeriad y genedl, cadw a dyogelu urddas y rhyw fenywaidd, a dyrchafu'r wlad yn ngwyneb yr ymgais fwyaf waradwyddus i'w darostwng. Gwelid ynddo y dyngarwr twymgalon, a'r gwladgarwr anwyl a diffuant. Cafodd drwy ei wroldeb le cynhes yn serch y dosparth gweithgar, a sedd urddasol yn nghalonau tyner a serchgarol merched a gwragedd Aberdar, am ei ddewrder yn eu hamddiffyn. Ac er rhoddi prawf ymarferol o'u serch a'u teimladau da ato, gwnaethant dysteb werthfawr iddo, yr hon a gyflwynasant iddo mewn cyfarfod cyhoeddus yn Ebrill, 1848. Yn y Gweithiwr, newyddiadur a gyhoeddid y pryd hwnw gan y Parch. J. T. Jones, am Ebrill 16eg, 1859, daethom o hyd i bryddest odidog o glod i'r Parch. Thomas Price, Rose Cottage, Aberdar, am ei amddiffyniad i ferched Aberdar, buddugol yn eisteddfod flynyddol Llanelli. Carwn allu ei gosod yn gyflawn i mewn yma, ond nis gallwn yn herwydd ei meithder; eithr dyfynwn ddarnau o honi, gan ei bod mor ddesgrifiadol o'r amgylchiadau ac mor nodweddiadol o'r gwrthddrych. Am Price fel gwladgarwr dywed:—
"Ei enaid mewn digter a ga ei gynhyrfu, |
Daeth Gwynedd dwymgalon a Price mawr ei ddoniau |
"Nis gallasai'n gwron oddef |
[PEN. VII.
"Coder enw Price i fyny, |
Llanelli
Ein hunig ymddiheurad am osod cymmaint o'r bryddest yma yw ei bod, fel y nodasom, yn gyflawn o'r gwrthddrych. Nid ydym yn gwybod pwy oedd Cymro Du, Llanelli, ei hawdwr; ond ymddengys i ni ei fod ef yn gwybod pwy oedd y Parch. Thomas Price, a llwyddodd i dynu darlun tra chywir o hono. Gwnaed ymosodiadau llechwraidd gan rai o'r "Trade" ar y Dr. am eu gwrthwynebu, a chyhoeddasant bapyrau dienw i'w ddiraddio. Cynnaliwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghalfaria i wrthdystio yn erbyn yr ymddygiadau gwarthus hyny, pan y rhoddwyd anerchiad i'r Dr., ac i'r Parch. J. Davies, Aberaman, yr hwn oedd yn gydolygydd ag ef ar y Gwron, a dystawodd y "Trade" am byth. Y mae yr anerchiad hwnw wedi ei gadw yn Rose Cottage, mor barchus ag unrhyw un a gafodd erioed.
Cymmerodd brwydrau lawer le rhwng offeiriaid a ficeriaid Aberdar a Thomas Price o bryd i'w gilydd. Dichon eu bod hwy, yn herwydd ei ymosodiadau beiddgar a dynol ef arnynt yn yr amgylchiadau a nodasom, yn teimlo yn eiddigeddus wrtho, yn ei wylio ac yn ei dalu yn ol pan gaffent gyfle; ond yr oedd efe yn mhob achos yn dyfod allan yn fuddugoliaethus arnynt.
Gwrthodai yr offeiriaid weithiau gladdu Ymneillduwr, yn enwedig plant, os meddylient eu bod heb eu bedyddio, fel y dywedent. Ond yr oedd efe yn gallu eu trin yn lew, ac yn fynych yn dysgu gwersi pwysig iddynt yn yr ymrysonau hyn. Yn ei ddyddiadur am dydd Mawrth, y 17eg o Ionawr, 1860, cawn hanes un o'r amgylchiadau a nodwn wedi ei gofnodi ganddo, yr hwn fydd yn ddigon i ni ddyfynu i ddangos cwrs Price yn ei wyneb. Darllena fel y canlyn:—
"Dydd rhyfedd oedd hwn. Mae y Parch. Evan Lewis wedi dyfod yn ficer i Aberdar. Yr oedd mewn angladd heddyw am y waith gyntaf. Mab i John Lewis oedd yn cael ei gladdu. Gwrthododd y ficer; ond claddwyd y plentyn, ac areithiwyd genyf oddifaes i'r fynwent. Mae yma deimlad iawn. Pregethu y nos yn nhy Nancy Parry, Rhestr Fawr."
Dywedir fod Price yn amser y ficer blaenorol, y Parch. J. Griffith, wedi bod mewn ffrwgwd gyffelyb amryw droion, a'i fod wedi dweyd wrth y Ficer y dangosai iddo mai gwas y plwyfolion ydoedd, ac nid eu meistr. Hefyd, y dangosai iddo nad oedd yn cyflawnu ei ddyledswyddau megys y dylasai, ond y buasai efe o hyny allan yn mynu gweled y gwaith yn cael ei gyflawnu yn llwyrach, ac felly y bu. Yr oedd Price yn hyn, fel yn mhob peth arall braidd, wedi chwilio dirgelion allan a mynu gweled pethau i'w gwaelodion. Tebyg ei fod wedi cael o hyd i hen weithredoedd eglwys y plwyf, y rhai a ddangosant fod yn rhaid cynnal gwasanaeth ynddi bob dydd o'r flwyddyn. Galwodd sylw y ficer at hyn, a mynodd ei weled yn cael ei gario allan yn llythyrenol. Y mae y gwasanaeth, yn ol y weithred, mae yn debyg, wedi ei barhau yn gysson a rheolaidd, dywedir, o'r adeg hono hyd yn bresenol. Cynnelir y gwasanaeth yn awr ynddi bob boreu am 7.30, er fod yma ddwy Eglwys arall i'w cael yn y dref yn fwy cyfleus. Fel hyn y cawn Price yn brwydro yn galed a dewr â'r Eglwyswyr dros Ymneillduaeth ac hawliau Ymneillduwyr hyd y sicrhaodd lawer o'u hiawnderau iddynt, a thrwy wneuthur felly cerid ef gan y bobl, ac aeth yn boblogaidd iawn yn mhlith trigolion y plwyf, a'r wlad yn gyffredinol.
Price oedd yr yspryd symmudol cyntaf gydag addysg rydd yn Aberdar. Costiodd sefydlu ysgol yma lawer o lafur, amser, ac arian iddo ef. Yn ol y mynegiadau sydd yn ein meddiant, yn nghyd â'r llyfrau a gynnwysant (yn llawysgrif Price), gofnodion ac hanes cyflawn o weithrediadau y pwyllgor, cawn ei fod yn gweithio yn galed ac yn egniol iawn. Cafodd gydweithiwr rhagorol yn mherson y Parch. W. Edwards, Ebenezer, Trecynon. Yr oedd efe o galon yn gefnogydd mawr i addysg, a gwnaeth lawer drosti yn Aberdar; ond nid oedd cymmaint o fyn'd yn Edwards ag oedd yn Price. Felly efe yn gyffredin oedd yn arwain, ac ar ei ysgwydd ef y gosodid y baich trymaf bob amser. Dichon mai nid annyddorol yma fyddai i ni ganiatau i Price roddi, yn ei ddull doniol ei hun, hanes byr o gychwyniad addysg rydd yn Aberdar. Mewn ysgrif ganddo yn Seren Cymru am Tachwedd y 4ydd, 1864, edrydd a ganlyn, dan y penawd—
"ABERDAR AC ADDYSG RYDD.
"Llawer tro ar fyd sydd wedi cymeryd lle er pan y cynnaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf yn Carmel, capel y Methodistiaid Calfinaidd ar odre'r commin, fel y dywedid gynt, o dan lywyddiaeth yr hybarch E. Griffith, tywysog crefyddwyr Aberdar y pryd hwnw, er ceisio esponio beth oedd Ysgol Frytanaidd. Yr oedd yno gyfarfod llawn wedi dyfod at eu gilydd er gweled yr anifail newydd, oedd Edwards a Price wedi ei ddwyn i'r lle, o dan yr enw British School; yr oedd awydd mawr am weled sut greadur oedd y British School. Yr oeddem wedi llwyddo i gael gwr boneddig haelfrydig o le pellenig —mae bron cywilydd arnom nodi y ffaith i ni ei gael o Talgarth, Sir Frycheiniog—a dau neu dri o fechgyn bach ieuainc gydag ef, er mwyn dangos i drigolion Aberdar beth oedd British School Daethom i adnabod y creadur newydd trwy ganfod ei ddull o gyfranu addysg i blant y gweithwyr; ac erbyn diwedd y cyfarfod cyhoeddus, deallasom mai math o beiriant addysgol oedd y British School. Yr oedd hyn, cofied y darllenydd, tua dwy flynedd ar bymtheg yn ol; yr ydym yn gallach yn awr. Mae ysgol y Commin a'r British School erbyn hyn fel geiriau teuluaidd gan gannoedd o honom. Yn y flwyddyn 1846 yr oedd Ysgol Frytanaidd i Aberdar yn gorwedd yn meddyliau y Parch. W. Edwards, Ebenezer, a'r Parch. Thomas Price. Llawer gwaith y bu y ddau hyn yn siarad, yn cynllunio, ac os nad ydym yn camsynied, yn gweddio uwchben y pwnc o gael ysgol dda i Aberdar, mewn lle cyfleus i'r trigolion, yn y "pentref," fel y dywedid, a Heolyfelin. Daeth yr adeg i'r ddau frawd deimlo pulse ereill; ac awd ati yn araf bach, nes ennill blaenoriaid y cynnulleidfaoedd yn lled gyffredin. Derbyniasant gynnorthwy parod y Parch. David Price, Siloa; y Parch. Josuah Thomas, o Saron y pryd hwnw; ac yn absenoldeb gweinidog trigiannol gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, cafwyd pob cefnogaeth gan y diweddar Mr. Evan Griffiths, yr hwn oedd yn llu ynddo ei hun, ac a fu gyda ni tra y bu byw; a diolch i'r Arglwydd, y mae ei blant parchus gyda'r ysgol hon law a chalon o ddyddiau eu tad patriarchaidd hyd yn awr. Yn nesaf, ennillwyd y diweddar Alaw Goch, a'r teulu oll, Mrs. Williams, Gwilym, Gomer, a Gwladys, oll yn gyfeillion calon i addysg rydd. Bu Alaw Goch yn gadeirydd i ni o sefydliad yr ysgol hyd ei fedd, a gadawodd i ni y swm o £100 ar ei ol at wasanaeth yr ysgol; a da genym allu dweyd fod y plant fel y tad, yn gyfeillion anwyl i'r sefydliad.
"Wel, ar ol llawer iawn o bryder, traul, a thrafferth, gwelsom yr ysgoldy hardd, hardd y pryd hwnw cofier, a thy i'r meistr wedi ei orphen; ac ar y nawfed dydd o Hydref, 1848, agorwyd yr ysgoldy drwy i'r pwyllgor wahodd ychydig o'u cyfeillion i ddyfod i gyduno â hwy i yfed cwpanaid o dê ar brydnawn dydd gwaith. Daeth y cyfeillion yn nghyd i'r nifer o 2,614. a thalodd pob un ei swllt yn serchus, gan mai math o gyflwyno y plentyn newydd oedd genym mewn golwg y pryd hwnw. Trwy hyn, wedi talu pob treulion, cliriwyd yn mhell dros gant punt o ddyled yr adeilad. Buom ychydig yn anffortunus am rai blynyddau yn yr athrawon fuont genym, ond yn awr er ys blynyddoedd mae yr ysgol o dan ofal Mr. D. Isaac Davies, B.S., yr hwn sydd un o'r ysgolfeistri goreu oddiyma i wlad yr Aifft; nid oes yno ei well i'w gael. O dan ei ofal ef, y mae yr ysgol wedi myned ar gynnydd mewn rhif, dylanwad, a chyfoeth Mae genym hefyd bwyllgor rhagorol, sef Mri. Phillip John, John Lewis, Lewis Griffiths, Lewis, Draper, a Pardoe. Hefyd, mae y ddau frawd anwyl Thomas a John Williams a'u holl galon yn y gwaith.
Mae Mr. John Jones, Fferyllydd, ein cadeirydd presenol, yn un o'r cyfeillion cyntaf a ffyddlonaf. Mae genym yn awr tua phedwar cant o blant dan ddysgeidiaeth, ond y mae y lle yn llawer rhy fach. Mae y pwyllgor yn ffyddiog yn cyfarfod â'r angen cynnyddol drwy godi adeilad mawreddog, digon i gynnal 600 yn ychwanegol o blant, ar draul o ryw £1,300 Mae swm mawr o'r arian mewn llaw genym. Mae eisieu £300 i orphen talu y cwbl oll ar unwaith; a da genym ddeall fod amryw o gynnulleidfaoedd yn Aberdar wedi penderfynu rhoddi gwyl Nadolig eleni at gynnorthwyo y pwyllgor yn yr amcan daionus hwn. Mae yr Independiaid, y Methodistiaid, yr Undodiaid, a'r Bedyddwyr wedi rhoddi heibio bobpeth er mwyn helpu am unwaith. Mae y pwyllgor o'u tu hwy wedi argraffu 8,000 o gardiau er gwahodd cyfeillion i dê atom dydd Llun. Rhag. 26, 1864 Dyna i chwi family party fyddwn, pan gydgyferfydd y pwyllgor a'r 8,000 ymwelwyr! Gwatwar yr ydych. Gwatwar! Nage, yn wir; fuom ni erioed yn fwy difrifol. Diolchwn i'r corau ydynt wedi addaw bod gyda ni y prydnawn a'r hwyr i roddi i ni gyngherdd na chafwyd ei bath yn Aberdar.
Bydd genym ar ol y Nadolig le i naw cant o blant yn gysurus, a staff o ddysgawdwyr nad oes eu gwell o fewn terfynau Victoria. O blant Aberdar! braf yw eich byd chwi!"
Teimlai Price yn ddedwydd, a llawenychai yn ddirfawr wrth weled manteision addysg yn cynnyddu i blant Aberdar, yn y rhai y teimlai ddyddordeb neillduol bob amser; ond nid oedd yr hyn a roddir uchod ond toriad gwawr at a gafodd weled cyn gorphen ei yrfa ar y ddaear. Ni orphwysodd yn segur (ni allai wneyd hyn), eithr gweithiodd yn galed dros ac o blaid addysg yn Aberdar a manau ereill. Y fath oedd ei ymdrechion a'i sel gyda phwnc addysg, fel yr ystyriwyd ef yn addas i'w benodi i ddadlu ei hawliau yn Siroedd Morganwg a Mynwy. Tua'r flwyddyn 1848, pennodwyd ef gyda yr enwog Hybarch John Thomas, D.D., L'erpwl, i fyned am daith am fis trwy y siroedd a nodwn, er cynnal cyfarfodydd ar "Addysg," a chasglu at sefydlu Coleg Normalaidd yn Nghymru. Cymmerwn fantais i gyfeirio at y daith hon etto yn mhellach yn mlaen.
Cymmerodd Price ran flaenllaw iawn gyda y dosparth gweithgar yn Aberdar, gan eu harwain yn mrwydr fawr Reform Bill y diweddar enwog John Bright, yn y flwyddyn 1859, ac ysgrifenodd lawer atynt yn y Gweithiwr ar y mater. Mynychai eu cyfarfodydd, taflai ei enaid mawr a'i yspryd tanllyd i'w areithiau pan siaradai am y diwygiadau a hawlient fel gweithwyr, yn gystal a'r breintiau oedd yn ddyledus iddynt. Gweithiodd i fyny ddeisebau i'w hanfon i'r Senedd, ac ysgrifenodd ar y materion at Arglwydd Derby a John Bright, y rhai a ddiolchent iddo am y dyddordeb a'r rhan flaenllaw a gymmerai yn mhrif bynciau y dydd. Bu hefyd mewn llawer gornest galed a thanllyd dros y glowyr. Efe oedd bob amser yn cymmeryd eu plaid, ac yn dadleu eu hawliau. Gwnaethai hyny drwy siarad ac ysgrifenu. Yr oedd yn hynod o lygadgraff, ac yn deall cwrs trafnidiaeth yn hynod o dda. Proffwydai weithiau gyda llawer o gywirdeb am ddynesiad dyddiau celyd, tywydd garw, ac ystormydd blin i'r "gweithiwr gonest", fel y galwai ef; a chyhoeddai bryd arall â llais clir o bell, "The good times coming, boys." Ysgrifenodd lawer ar bynciau perthynol i'r glowyr, a gwnai hyny yn gyffredin, fel pe buasai yn lowr profiadol ac ymarferol. Yr oedd fel pe gartref gyda phob dosparth. Dywedai ei feddwl yn eglur a difloesgni. Ni ofalai am dramgwyddo meistr mwy na gweithiwr. Mewn gair, byddai yn fwy dibwys ganddo i ddigio y blaenaf na'r olaf; oblegyd meddai barch neillduol at y gweithiwr. Ac er ei fod yn fynych, drwy y rhan flaenllaw a gymmerai yn symmudiadau gweithwyr Aberdar, yn gwrthdaro yn erbyn y meistriaid; etto, edmygid a pherchid ef yn fawr ganddynt, oblegyd teimlent a gwyddent fod ganddynt ddyn gonest yn Price. Dywedai y Dr. yn gryf yn erbyn y gweithiwr heb ofni ei wg pan fyddai amgylchiadau yn galw am hyny; ond camddeallid a chamfernid ef yn fynych ganddynt, a rhoddent iddo y wialen yn drom; etto, ni allent oddef i neb arall ei rhoddi iddo. Ni allent oddef i neb ddweyd na gwneyd dim yn ei erbyn. Mewn amgylchiadau croes a chynhyrfus weithiau yn gyssylltiedig â'r gweithfeydd, suddai y Dr. fel llong yn rhyferthwy yr ystorm o dan donau mynyddig o anmhoblogrwydd. Bryd arall gwelid ef yn ddyrchafedig yn eu plith, ei lestr yn ei lawn hwyliau. Gosodid ef nid yn yr ail gerbyd, fel Joseph gynt, eithr c'ai ganddynt y cerbyd blaenaf, a llefent o'i flaen ef, "Abrec." Ysgrifenodd lu mawr o ysgrifau galluog ar wahanol bynciau dyddorol a phwysig yn dwyn perthynas â'r gweithwyr ac â'r gweithfeydd yn ystod ei fywyd yn Aderdar, yn neillduol yr ugain mlynedd cyntaf o'i fywyd yno. Ysgrifenodd yn alluog ar y pynciau canlynol, y rhai yn unig a nodwn yn enghraifftiol o'r cyfeiriadau gymmerai yn ei berthynas olygyddol â'r gweithwyr:— "Glowyr Aberdar eu sefyllfa a'u hawliau;" "Richard Fothergill, Ysw., a'r Puddlers;" "Y Glowyr;" "Strikes;" "Glowyr Aberdar a'r Meistri;" "Y Gweithwyr Tân a'u Cyflogau;" "Moesoldeb y Truck System;" "Sefyllfa y Gweithwyr yn y Blaenau;" " Ymddygiad Cynghorfa Genedlaethol y Mwnwyr; "Beth am yr Undeb (y gweithwyr);" "Ein Gweithwyr: eu barn am natur yr Undeb ddylai fod;" "Trecha treisied, ond trech gwlad nag arglwydd;" "Undeb y Glowyr yn Aberdar;" "Glowyr Aberdar a'r Cyfyngiad (restriction);" "Sefyllfa Masnach y Gweithiau Cotwm;" "Beth am y Dyfodol?" "Y Gweithiau Cotwm: Beth ydyw y Dysgwyliad?" "Y Double Shift;" yn nghyd â lluaws ereill o'r un natur allem eu nodi. Gellir dweyd ei fod yn awdurdod ar y materion hyn, ac yn dra dyogel i'w ddylyn, er ei fod weithiau yn gwneyd rhai camsyniadau, ac felly yn cael ei feirniadu yn dra llym, a gorfodid ef mewn rhai achosion i groesi cleddyf, hyd y nod â'r dosparth gweithiol, y rhai a garai mor fawr, ac yr ymladdai gymmaint drostynt. Weithiau derbyniai gam oddiar eu dwylaw, yn herwydd eu bod yn ei farnu yn rhy frysiog. Gwelai ef yn mhell yn mlaen. Deallai droad amgylchiadau, a gallai ragfynegu gyda gradd helaeth o gywirdeb ganlyniadau naturiol yr amgylchiadau hyny. Ond yn aml codai cwmmwl uwch ei ben, hyd y cyflawnid ei broffwydoliaethau, yna gwasgarai y tew gymmylau, a chodai y Dr. yn uwch yn marn a theimlad y bobl. Cafodd fantais droion i egluro iddynt am eu hwyrfrydigrwydd i'w gredu, ac amddiffynai ei hun yn wrol yn ngwneb eu hymosodiadau annheg arno. Dywedai ei feddwl yn eglur a di-dderbyn-wyneb wrthynt, fel y cawn enghraifft yn a ganlyn. Ysgrifena dan y penawd awd "Y Glowyr," i Seren Cymru, am Mehefin 10fed, 1864, a dywed:—
"Nid ydym yn gwneyd ymddiheurad am gyflwyno ysgrif yn awr a phryd arall i sylw ein gweithwyr ar faterion ag ydynt yn dwyn cysylltiad arbenig â hwynt eu hunain. Yr ydym bellach yn gwybod trwy brofiad, mai gorchwyl anhyfryd yw hyn, gan ein bod wedi derbyn triniaeth arw—ac i'n tyb ni anhaeddiannol—am wneyd hyn. Mae yn wir fod storm yr Hydref wedi myned heibio: ond y mae yn ffaith alarus i feddwl, ei fod yn anhawdd i gyffwrdd â phwnc y gweithiwr a'r gwaith heb ir ysgrifenydd gael ei ddrwgdybio, a chael rhai i ddywedyd mai ochr y meistr sydd genym. Ond yn y cyffredin y mae yr hen esboniwr, Amser, yn dyfod a phethau yn iawn, ac yn dangos nad ydym wedi bob yn mhell o'n lle pan yn cynghori ein gweithwyr. Yr ydym ni yn gallu dywedyd yn ddigon eglur nad yw ein meistri yn ein dyled ni o ddim. ac nad ydym ninau yn nyled ein meistri o ddim. Yr ydym yn byw er lles a gwasanaeth y cyhoedd, ac yr ydym yn cael ein cynnal yn benaf gan y gweithiwr. Gyda y gweithwyr y byddwn yn llafurio gyda chrefydd, addysg, a'r cymdeithasau dyngarol. Os bydd rhagfarn yn ein meddwl, y mae o angenrheidrwydd i fod o du y gweithiwr. Yna pan fyddom yn ysgrifenu pethau croes i olygiadau y gweithwyr, yr ydym yn gwneyd hyny yn onest yr ydym yn credu, ac am hyny yr ydym yn llefaru. Mae yn wir y gallem fyw bywyd mwy tawel pe na byddai i ni gyffwrdd â materion ein gweithwyr; ond a fyddem ni yn gwneyd yn onest drwy ymddwyn felly? Na, credwn mai ein dyledswydd yw gosod ein barn o flaen ein gweithwyr, gan nas gall fod unrhyw niwed yn hyn, am y rheswm digonol y gall pob gweithiwr daflu ein barn a'n dywediadau oll i'r gwynt pan y myno."
Gyda hyn o arweiniad i'w ysgrif, ymafla y Dr. yn egniol yn y mater oedd ganddo ef dan sylw, sef "Cyfyngiad swm y gwaith gyflawnir gan bob glowr." Yn Seren Cymru am Rhagfyr y 16eg, 1864, cawn enghraifft arall i'r un cyfeiriad dan y penawd, "Seren Cymru a'r Glowyr":—
"Y mae dros flwyddyn wedi myned heibio er pan ddarfu i ni dynu gwg llawer o'r glowyr, yn herwydd i ni yn mis Medi, 1863, roddi ein Gair o Ocheliad' o berthynas i flaenoriaid y mudiad o sefydlu Cymdeithas Genedlaethol i lowyr Prydain Fawr. Darfu i ni, mewn iaith eglur a digamsyniol, gondemnio y blaenoriaid fel dynion anaddas i arwain corff mawr ein gweithwyr. Am hyn cawsom ein trin yn arw ac anfoneddigaidd gan ddynion nad oeddym erioed wedi gwneyd un niwed iddynt. Gofynasom am i'n gweithwyr i aros deng mlynedd, ac yna i'n condemnio ni neu ein plant y pryd hwnw, os nad oeddem wedi llefaru y gwirionedd yn 1863, o berthynas i'r mudiad ag oedd y pryd hwnw ar droed. Yn lle hyn, dywedwyd anwiredd arnom, ysgrifenwyd anwiredd am danom, a chyhoeddwyd anwiredd arnom; a daethom, trwy rai o lowyr Cymru, yn destyn gwawd a dirmyg ar faes y Miner and the Workman's Advocate. Cawsom yr anrhydedd o fod yn destyn ysgrifau arweiniol golygydd y papyr hwnw am ein gonestrwydd yn gosod y glowyr ar eu gocheliad trwy ddarlunio gyda chywirdeb ddynion dichellgar a drwg, aeth y glowyr yn elynion i ni. Gallasem ddefnyddio geiriau Paul at y Galatiaid, 'Aethum yn elyn i chwi trwy ddywedyd i chwi y gwir.' Wel, mae blwyddyn wedi myned heibio— un o'r deg y buom yn gofyn am danynt. Mae y flwyddyn hon wedi mwy na gwireddu pob gair a ysgrifenwyd genym yn Seren Cymru; ac er prawf o hyn, caiff ein gelynion fod yn farnwyr, ïe, y dynion fuont mor ddiwyd yn ein cablu flwyddyn yn ol, y rhai hyn yn awr a gant lefaru am y dynion a gondemniwyd genym ni cyn iddynt hwy agor eu llygaid."
Ymddangosodd yr ysgrif yn y Miner and Workman's Advocate, am dydd Sadwrn, Rhagfyr 3ydd, 1864; y teitl oedd, "Y diweddar gasbeth cenedlaethol y glowyr. ' Gellid ychwanegu llawer yn y cyfeiriadau hyn, ac i bob enghraifft a ddyfynem fod yn dra darluniadol o'r Dr. yn ei frwydrau gyda a thros weithwyr Aberdar a'r cylchoedd; ond ymataliwn, gan gredu y gwasanaetha yr uchod i ddangos ei wroldeb digyffelyb, ei benderfyniad diysgog, a'i allu i ddeall "arwyddion yr amserau,” ac i adnabod yn drwyadl y dynion oeddynt am fod yn arweinwyr y dosparth gweithgar, ac yn proffesu cyfeillgarwch atynt tra nad oeddynt ond bleiddiaid yn nghrwyn defaid."
Nid yn y cyfeiriadau a nodasom yn unig y gweithiodd Price yn Aberdar, eithr gyda sefydliadau gwahanol yn y dref a'r gymmydogaeth, a chyda phob symmudiad dueddai at ddyrchafu y dosparth gweithgar, a chodi dynion yn foesol, cymdeithasol, a chrefyddol. Dywedai un o hen drigolion y plwyf (Aberdar) wrthym yn ddiweddar nad oedd dim o bwys wedi cymmeryd lle yn Aberdar, nac un sefydliad wedi cael ei fodolaeth yno, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, heb fod Price a'r llaw flaenaf wrtho, a'r baich trymaf yn gyffredin yn cael ei gario ganddo, er fod dynion rhagorol wedi bod yn cydweithredu ag ef yn y dref a'r cylchoedd. Bu ef nid yn unig yn arwain gyda sefydliad yr Ysgol Frytanaidd, fel y cyfeiriasom yn barod; eithr bu yn ddiwyd gyda sefydliad y Bwrdd Lleol, a bu yn aelod gweithgar a ffyddlon o hono am flynyddau meithion. Cymmerodd ran flaenllaw yn nygiad y nwy i oleuo y dref a'r dyffryn. Fel aelod o'r Bwrdd Lleol bu yn wasanaethgar gyda gweithiad allan gynlluniau a gorpheniad y dwfr-weithfeydd mawrion perthynol i'r plwyf. Bu yn ymarferol ei gynghorion a doeth ei gyfarwyddiadau yn sefydliad y Bwrdd Addysg, a chafodd yr anrhydedd o fod yn aelod o hono am flynyddau, ac o ran hyny hyd ei ymddiswyddiad yn herwydd henaint a dihoeniad ei iechyd. Bu yn boblogaidd iawn am lawer o flynyddau fel aelod ar Fwrdd y Gwarcheidwaid, ac ni chafodd y tlodion erioed burach a gwell cyfaill nâ'r Dr. Cymmerodd ran bwysig hefyd yn ffurfiad a sefydliad Bwrdd Claddu Aberdar, a bu yn aelod o hono hyd ei farw.
Dywedai y Parch. W. Morris (Rhosynog), Treorci, dydd claddedigaeth Dr. Price, yn ei anerchiad pwrpasol o flaen y Rose Cottage, cyn cychwyn o'r cynhebrwng: "Ni ellir byth (meddai) ysgrifenu hanes Aberdar a'r cylchoedd heb hefyd ysgrifenu hanes bywyd Dr. Price. Yr oedd ei fywyd a'i enw yn gydwëedig â chynnydd a thyfiant Aberdar. Nid oedd monument wedi ei godi i Syr Christopher Wren, os am weled hwnw rhaid edrych ar ei waith yn adeilad ardderchog St. Paul. Gyda llawer o briodoldeb y gellid dweyd, os am gael golwg ar fywyd gweithgar a llafur diflino Dr. Price, nid oedd eisieu ond edrych o gwmpas Aberdar a'r dyffryn. Yr oedd wedi bod yn flaenllaw gyda holl symmudiadau cyhoeddus y dref, ac wedi argraffu ei enw yn ddwfn ar bob peth braidd o bwys yn y lle." Y mae llawer o deithi godidog i'w cael etto yn nghymmeriad y dyn mawr hwn, nad ydym hyd yma wedi eu cyffwrdd, ddeuant i'r golwg yn ei gyssylltiad ag Aberdar, y rhai a geisiwn eu harddangos etto o safbwyntiau ereill. Yr ydym yn gadael Aberdar yn awr yn hollol wahanol i'r hyn yr edrychem arno yr adeg y daeth Price i'r dyffryn. Felly, wrth ddychwelyd at ei eglwys a'i gyssylltiadau crefyddol yn y dref a'r dyffryn, gallwn ddysgwyl cael golwg dra gwahanol arnynt i'r hyn a ymddangosent i ni pan gymmerasom ein cenad i edrych ar a thraethu am gyfodiad a chynnydd Aberdar mewn gwahanol foddau yn ystod bywyd llafur-fawr Dr. Price. Teimlwn fod y maes yn eang a'r tir yn gyssegredig. Ni feiddiwn fyned iddo na'i dramwyo wrthym ein hunain; eithr anturiwn yn wylaidd yn mraich garedig y Dr., oblegyd bydd yn rhaid i ni, gyda rhan luosog o'r ffeithiau cyssylltiedig â'r eglwys barchus yn Nghalfaria a'i changenau lluosog, ymgynghori â'r Dr. yn ei Jubili a'i Drem ar eglwys Calfaria. Cymmerwn fras olwg yn ein pennodau nesaf ar Dr. Price yn ei berthynas neillduol â'i eglwys yn Nghalfaria, a gwnawn hyny drwy ystyried dau gyfnod o'i hanes, fel y gwna efe yn y Jubili, sef yr ugain mlynedd cyntaf o'i weinidogaeth hyd 1866, ac yna hyd ei farwolaeth. Wedi hyny cymmerwn ein cenad i ddychwelyd at y cangenau, gan ddangos ei berthynas â'r enwad yn y dyffryn.
PENNOD VIII.
EGLWYS CALFARIA A'I CHANGENAU HYD 1866.
Calfaria hyd 1866—Hanes dechreuad yr Achos Bedyddiedig yn Aberdar—Adeiladu y capel cyntaf—Y gweinidogion cyntaf—Galwad Price—Ei derbyn—Yn llwyddiannus—Ei briodas—Gras a Rhagluniaeth yn cydweithio—Marwolaeth ei briod—Ei ymroad gyda'r gwaith—Yr eglwys dan ei ofal yn llwyddo—Yn dyfod yn enwog—Ei allu i drefnu a chynllunio—Ei yspryd rhyddfrydol—Eangu yr achos—Ei adroddiad o ddosparthiad y cylch—Trem 1885—Sefydlu gwahanol eglwysi—Y Bedyddwyr yn cynnyddu—Adgyfnerthion yr eglwys—Undeb Cristionogol—Undeb Dorcas, &c., &c.—Price yn gyfundrefnol—Cael cydweithrediad y diaconiaid—Ei gyssylltiad â'r Ysgol Sabbothol—Ei gynlluniau yn nglyn â hi—Price a Shem Davies—Price a'r ysgol ganu—Evan Jones—Yn y Gadlys—Arweinwyr y canu—Y Cor—Llechres aelodaeth yr eglwys—Ei fanylwch—Sefyllfa Calfaria ar ben yr ugain mlynedd o'i weinidogaeth—Y Juwbili gweithio egniol wedi bod—Anhawsderau yn diflanu Crefydd yn llwyddo.
YN ol Juwbili Eglwys Calfaria, llyfr bychan a gyhoeddwyd gan Dr. Price yn y flwyddyn 1863, cawn fod hanes dechreuad yr achos Bedyddiedig yn cyrhaedd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1790, pryd yr oedd Mr. David Oliver o Ystradyfodwg yn dyfod drosodd yn achlysurol i bregethu yno. Bendithiodd yr Arglwydd ei ymdrechion ef ac ereill i ddychwelyd eneidiau at y Gwaredwr; ac yn y flwyddyn 1791, bedyddiwyd pedwar o bersonau, y rhai a dderbyniwyd yn aelodau yn yr Ynysfach, Ystradyfodwg, ac nid oes genym wybodaeth bellach am danynt, nac ychwaith am achos yn Aberdar hyd y flwyddyn 1806. Yr adeg hono daeth dau frawd i'r lle o'r enwau Lewis Richards, yr hwn a fu am hir flynyddau yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr yn Mhenyrheol, a Howell Evans. Yr oedd y ddau hyn yn Fedyddwyr. Cynnalient gyfarfodydd gweddio mewn tŷ annedd, yr hwn a adnabyddwyd am flynyddau wedi hyny wrth yr enw "Capel Bach." Cydaddolai y Bedyddwyr a'r Independiaid am dymhor ynddo; ond yn fuan, barnwyd mai gwell oedd i'r ddau enwad fod ar wahan. Mewn canlyniad i hyn, ymneillduwyd i breswylfa Lewis Richards, yn yr hwn le y cynnelid yr achos. Nid oedd ond y ddau frawd a enwyd yn aelodau yma hyd ddyfodiad brawd arall atynt o Gastellnedd o'r enw David Davies, yr hwn a elwid gan bobl Aberdar yn "Dafydd bach o'r nef." Yr oedd hwn yn wr o gymmeriad da a duwiol y tu hwnt i'r cyffredin. Yn y flwyddyn 1807, dechreuwyd yr Ysgol Sabbothol yn Aberdar gan nifer o ddynion ieuainc oeddynt yn aelodau yn Seion, Merthyr Tydfil, mewn ystafell berthynol i'r Farmers' Arms, yn nghanol y pentref. Yn fuan, symmudwyd yr achos o dŷ Lewis Richards i'r hen Town Hall, ac oddiyno drachefn, yn 1809, i ddau dŷ wedi eu rhentu gan Richards, y rhai a wnaed yn un er cynnal y gwasanaeth ynddo. Yn 1811, dechreuwyd meddwl am adeiladu capel newydd, a chychwynwyd y gwaith yn ddiymaros yn y man y saif Carmel, y capel Seisnig, yn bresenol, ac agorwyd ef yn 1812, hanner can' mlynedd i'r flwyddyn yr ysgrifenodd y Dr. Juwbili yr eglwys.
Yn y flwyddyn 1813, cafodd Mr. W. Lewis ei ordeinio yn weinidog ar yr eglwys; ond yn fuan, yn herwydd helbulon anffortunus y meistr a llwyr ymattaliad gwaith Abernant, ymadawodd Mr. Lewis, a rhoddodd i fyny ofal yr eglwys. Cawn fod Mr. Richard Hopkins yn cael ei ordeinio i'r weinidogaeth yn 1820. O'r flwyddyn 1823 hyd 1826, bu yr eglwys yn cael ei bugeilio gan y diweddar William Williams o'r Paran. Yn y flwyddyn 1826, dychwelodd Lewis drachefn i Aberdar, ac ail-gymmerodd ofal yr eglwys hyd y flwyddyn 1845, pryd y symmudodd i gymmeryd gofal gweinidogaethol Eglwys Tongwynlas. Yn y flwyddyn hono, fel y nodasom o'r blaen, rhoddwyd galwad unfrydol i Thomas Price; ymsefydlodd yma, a bu yn weinidog iddi hyd ei ddyrchafiad i'w orsedd a gwisgiad ei goron yn ngwlad yr aur delynau. Yn y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth yn Mhenypound, dywedai y Dr. mai araf iawn oedd symmudiad y gweinidog a'r eglwys. Ychydig dir newydd a ennillwyd ganddynt, er fod y gwrandawyr yn cynnyddu a'r Ysgol Sul yn bywiocau. Yn ystod y flwyddyn hon, cafodd y gweinidog ieuanc y fraint a'r anrhydedd o fedyddio pedwar—dau o'r cyfryw oeddent yn aros pan ysgrifenodd y Dr. yr hanes yn ei Juwbili, sef Mr. David Hughes, Goruchwyliwr Glofeydd Abernant, a Margaret ei wraig; ac y mae yn llawen gan yr ysgrifenydd nodi eu bod yn aros hyd heddyw, ac er eu bod wedi methu bron gan henaint a gwendid, y maent yn garedig i'r achos, a buont yn gyfeillion mynwesol i'r Dr. hyd ei fedd.[1] Cafodd Price yr hyfrydwch o fedyddio amryw o'u plant, y rhai a ddygwyd i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.
Yn y flwyddyn 1847, yr oedd Price wedi cael ychydig o amser i adnabod ei hun, ei eglwys, a'i gymmydogaeth, ac yr oedd yn awr yn dechreu ymbarotoi i dori allan waith i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Mewn trefn i'w alluogi i wneyd mwy ei hunan, a chael safle uwch i ddylanwadu ar ei bobl a'i gymmydogion yn gyffredinol, penderfynodd ymsefydlu yn y byd, fel y dywedir, ac yn gynnar yn 1847, priododd â boneddiges gyfoethog o ddisgyniad a llinach yr hen deuluoedd parchusaf a mwyaf cyfrifol y dyffryn. Cawn hanes y briodas wedi ei groniclo yn gyflawn gan yr enwog Lleurwg yn ei ysgrif ragorol ar Dr. Price yn y Geninen am Gorphenaf, 1888, yr hwn a edrydd fel y canlyn:—
Yn mhen ychydig gyda blwyddyn ar ol ei ordeinio, sef ar yr 16eg o Fawrth, 1847, ymunodd mewn priodas ag un o'r boneddigesau mwyaf goleuedig a pharchus, nid yn unig yn Aberdar, ond hefyd yn yr holl wlad. sef Mrs. Ann Gilbert, merch ieuengaf Thomas David, Ysw., Abernantygroes. Cymmerodd y briodas le yn Nghapel Carmel, Pontypridd; a'r gweinyddwr oedd yr enwog a'r athrylithgar Barch. James Richards, gweinidog yr eglwys yn Ngharmel. Ganwyd iddynt ddau o blant, sef mab, yr hwn a fu farw yn ei fabandod, a merch, yr hon a enwyd Emily, yr hon a adawyd iddo gan Ragluniaeth ddoeth a charedig i'w gysuro yn ei fywyd, ac i alaru ar ei ol. Yn fuan ar ol hyn, sef yn 1849, bu farw y ddoeth a'r addfwyn Mrs. Price; a chafodd yntau ei adael gyda ei ferch fechan yn ngwaelodion glyn unigrwydd, hiraeth, a galar. Ni fu son am ail briodas iddo ; ond o ddydd claddedigaeth ei mam daeth ei anwyl Emily yn ganolbwnc ei ofal a'i serch teuluaidd. Cafodd y cysur a'r fendith anmhrisiadwy o weled ei anwyl blentyn yn tyfu i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd, gan gynnyddu mewn rhinwedd a phob gras a dawn naturiol ac ysprydol, nes y daeth yn addurn i gymdeithas, ac yn anrhydedd i'r Eglwys Gristionogol. Duw, o'i fawr ddaioni, a fyddo iddi yn bob peth angenrheidiol yn ei hunigrwydd, ei hymddifadrwydd, a'i galar mawr presenol. Arweinied bi trwy y byd hwn a'i gynghor, ac wedi hyny cymmered hi i ogoniant.
Gwelir yn eglur fod Price, pan oedd yn dechreu tynu allan a mabwysiadu mesurau a gyfiawnhawyd gan amgylchiadau dylynol i gyflawnu ei waith fel Efengylwr, gweinidog, a duwinydd, a llafurio yn helaeth yn ngwinllan yr Arglwydd, yn gystal ag mewn cylchoedd pwysig ereill, a phan yr oedd haul dysglaer a thanbeidiol ei fywyd fel codiad haul y boreu, yn dechreu gwasgar ei oleuni claer i gyfeiriad yr Eglwys Gristionogol a'r byd yn wleidyddol a chymdeithasol, wedi cael saeth wenwynig i frathu ei deimladau tyner. Cododd cymmylau duon aeth ac helbul yn herwydd angeu drosto; ymruthrodd tymhestl erwin arno; disgynodd dalen chwerw i'w gwpan a redai drosto o fwyniant a hoenusrwydd ieuengaidd; ac ofnid y digalonai ac y diffygiai ei yspryd bywiog yn y brofedigaeth lem gafodd yn marwolaeth ei anwyl briod; ond cynnaliwyd ef i fyny gan yr Arglwydd. Ac yn herwydd bywiogrwydd naturiol ei feddwl, ymadnewyddodd yn fuan drachefn, ymaflodd yn holl ranau ei waith megys cynt, ac aeth yn mlaen ag ef yn egniol a phenderfynol. Er fod Price wedi cael colled fawr yn marwolaeth Mrs. Price, oblegyd yr oedd yn foneddiges oedd yn llawn o rinweddau fyddent yn dra chynnorthwyol iddo ef fel gweinidog ieuanc, ac yn fanteisiol iawn i'r eglwys a'r achos yn y lle; etto, bu priodas Mr. Price yn neillduol o fanteisiol iddo drwy ei oes. Er mai amser byr iawn y buont fyw gyda'u gilydd, yr oedd ei hyspryd caredig digyffelyb hi, ei synwyr cyffredin cryf, ei haddysg foreuol a'i diwylliant meddyliol, yn nghyd â'i gwylder a'i lledneisrwydd, wedi dylanwadu yn fawr ar ei feddwl, ac yr oedd teithi rhagorol ei chymmeriad pur wedi eu hargraffu yn ddwfn yn ei yspryd a'i deimlad, a diau genym fod hyn wedi llywio ei fywyd i raddau helaeth iawn. Hefyd, cafodd Price drwy ei briodas gyfoeth mawr, a gwyr pawb nad yw cyfoeth, ond ei iawn ddefnyddio, yn anfanteisiol yn y weinidogaeth. Yr ydym yn gwybod am rai gweinidogion wedi bod yn ffodus i gael cryn lawer o " dda y byd hwn," y rhai, er nad oeddynt yn sefyll yn neillduol o uchel yn eu dysg, eu talent, a'u dawn i bregethu, oeddynt yn boblogaidd, ac yn meddu ar ddylanwad mawr, a hyny yn benaf am fod y fodrwy aur yn eu meddiant. Ond nid felly gyda Price. Bu ei gyfoeth yn fanteisiol iddo yn ei wahanol gylchoedd a'i gyssylltiadau, er y gallasai drwy ei ddysg, ei dalent, a'i alluoedd naturiol braidd digyffelyb, fod wedi gwneyd ei farc yn ac ar y byd hebddo; ond y mae yn ddyogel genym Calfaria a'i changenau hyd 1866. ei fod am y pum' mlynedd ar ugain cyntaf o'i weinidogaeth wedi gallu gosod ei farc yn eglurach a llawer uwch drwy ei gyfoeth nag a allasai pe heb ei gael.
Yn fuan iawn, er gwendid dechreuol yr achos, a dygwyddiadau croes ac adfydus, aeth enw a gweithrediadau yr eglwys yn Mhenypound, fel eiddo ffydd yr Eglwys Gristionogol gynt yn Rhufain, yn “gyhoeddus yn yr holl fyd" braidd. Nid ydym yn gwybod am un eglwys gyda y Bedyddwyr, nac un cyfenwad arall yn y Dywysogaeth, wedi gwneyd mwy o waith sylweddol, ac wedi bod am gynnifer o flynyddoedd mor llwyddiannus. Dichon fod dirgelwch y llwyddiant i'w briodoli, i fesur helaeth, i'r gweinidog llafurus, Thomas Price. Yr oedd ynddo allu annghydmarol i drefnu a chynllunio. Y mae llawer iawn gan gynlluniau effeithiol i'w wneyd â llwyddiant unrhyw achos. Ystyrid Price gan bawb a'i hadwaenai yn dda yn un o'r trefnwyr goreu. Dywediad cyffredin gan bobl Aberdar, wrth son am y Dr. fel gweithiwr caled yn ei eglwys, ac o'r tu allan o ran hyny, yw, "Hen manager rhagorol yw y Dr., mae ei gynlluniau oll yn ystwyth ac effeithiol iawn." Dim ond iddo ef gael y defnyddiau gwnelai y gwasanaeth goreu o honynt. Yr oedd yn gadfridog diguro, a gallai wneyd difrod ar rengau y gelyn â byddin gyffredin; oblegyd yr oedd yn llu ynddo ei hun.Yr oedd efe yn beiriannydd godidog, a gwnaethai waith mawr yn fynych, er i'r peiriant fyddai dan ei ofal fod i raddau yn ddiffygiol. Un o'r rhagoriaethau cyntaf ddadblygodd Price yn ei gyssylltiad â'i eglwys oedd y gallu i gynllunio, a'r medr i iawndrefnu ac arwain i lwyddiant hyd y nod yn ngwyneb yr anhawsderau mwyaf. Yr oedd hefyd yn meddu ar ddawn ragorol arall, sef y gallu i weled y defnyddiau goraf i ateb ei bwrpas i gyrhaedd ei amcanion a sicrhau llwyddiant gyda phob symmudiad. Fel hyn cawn ef yn dewis yn ei eglwys y dynion cyfaddasaf i'r cylchoedd oedd i'w llanw ac i'r gwaith oedd i'w gyflawni. Amgylchynid ef gan ei ddiaconiaid gofalus, y rhai bob amser oeddynt yn barod at ei alwad; ond os y gwelai efe fod yn ei eglwys aelod cyffredin yn gyfaddasach i'r gorchwyl, elai heibio y diaconiaid yn foesgar at hwnw, gosodai ei law ar ei ysgwydd neu ar ei ben, cyfarchai ef yn siriol a charedig, a chyfeiriai allan y gwaith iddo. Gosodai y drefn o'i flaen, ac fel cadfridog penderfynol ac awdurdodol, dysgwyliai i'w orchymynion gael eu cyflawni, ac yn gyffredin gwneid hyny yn ddirwgnach ac ewyllysgar. Fel cadlywydd hyfedr, yn deall ei faes a'i safle, tynai allan ei gynlluniau yn ofalus ac effeithiol, i gadw nid yn unig y tir oedd yn ei feddiant yn barod, ond hefyd i ennill meusydd newyddion. Nid oedd Price yn geidwadol ei yspryd mewn dim braidd, ond i'r gwrthwyneb. Yr oedd yn neillduol o rydd yn ei holl gyssylltiadau crefyddol. Yr oedd efe yn dra rhyddfrydig ei yspryd gyda golwg ar ledaenu yr achos a sefydlu eglwysi newyddion. Nid oedd efe, fel llawer o frodyr da a welsom yn y weinidogaeth Efengylaidd, yn hunangar (selfish), am ddenu, ennill, a chadw pawb yn ei Jerusalem eu hunain, ac heb ofalu dim yn mhellach am yr achos nag oedd yn angenrheidiol i gadw eu temlau hwy yn weddol gysurus. Na, tra yr ydoedd efe yn ofalus am ei Jerusalem, ac yn gwneyd ei oreu i gadw ei deml ei hun yn llawn, yr oedd hefyd yn ymegnio i wasgaru yr achos yn mhob cyfeiriad. Credai fod cymmaint o eisieu Efengyl ac achos yn "Samaria " a “Judea” ag oedd yn Jerusalem, ac yr oedd Price o'r un yspryd a'r Apostol Paul, am lanw Efengyl Crist hyd Illyricum, ei gylch, a phlanu yn helaethach ynddo eglwysi y Duw byw. Gweithiai ei oreu i gadw canolbwynt ei gatrawd yn gryf, etto nid esgeulusai esgyll ei fyddin. Yr oedd pob rhan o'r maes mawr oedd yn agored iddo yn cael ei sylw a'i ofal manylaf. Un o'r pethau cyntaf wnaeth wedi i'r achos godi ychydig, ac i'r eglwys gynnyddu, oedd ei rhanu yn bedwar dosparth, er dwyn yr ardal yn fwy cyffredinol dan ei dylanwad. Edrydd Price yn naturiol hanes rhaniad y tir a dosparthiad y gwaith, yn nghyd â'r canlyniadau dymunol o hyny fel y canlyn yn ei Jubili:
Dechreuwyd Ysgol Sul yn Abernant, lle y penodwyd ar frodyr o ymddiried i ofalu am arolygu yr ysgol, ysgrifenu i'r ysgol, ymweled dros yr ysgol, un arall i ofalu am y canu, un arall i drefnu y cyfarfodydd gweddio, a'r cwbl o dan arolygiaeth gyffredinol ein hanwyl frawd John Thomas. Ffurfiwyd dosparth arall yn gynwysedig o Heolyfelin, Llwydcoed, Tregibbwn, a Thai Penywaen. Rhoddwyd yma swydd i bob brawd, a phob brawd ei swydd, a'r cwbl o dan arolygiaeth ein hanwyl frawd Thomas Dyke. Ffurfiwyd trydydd dosbarth yn Aberaman. Yma yr oeddym yn ffodus iawn i gael gwasanaeth gwerthfawr ein brodyr hoff John Davies, John Protheroe, Rees Jones, Thomas Evans, Grocer, ac ereill, yn gyfundrefnol yn ol y rhanbarthau y byddai yr aelodau yn byw ynddynt. Hwn, yr adeg hon, oedd y dosparth goreu o lawer, yn fwy lluosog, ac i'n golwg ni yn fwy addawol nag un o'r lleill. Yr oedd y rhan ganol o'r eglwys yn para yn y capel fel o'r blaen. Fel hyn daethom i gael pedwar cwrdd gweddi wythnosol, a'r rhai hyny ar yr un pryd, a phedair Ysgol Sul mewn llawn weithrediad. Teimlasom yo fuan fod yr egwyddor hon o ranu y gwaith yn un dda iawn. Yr oedd pob aelod o'r eglwys yn cael ei ddwyn i gylch o ddefnyddioldeb, yr oedd pob un yn cael cyfle i wneyd daioni, tra nad oedd gan neb o honom amser i wneyd drwg, pe byddem yn dewis gwneyd hyny. Trwy hyn hefyd yr oedd egwyddorion y Testament Newydd yn cael eu dwyn i sylw cannoedd o ddynion yn y gwahanol ddosbarthiadau na fuasem ni byth yn eu gweled yn y capel. Wedi hyny yr ydym wedi bod yn medi ffrwyth toreithiog fel canlyniad i'r had da a hauwyd yn y meusydd newyddion yn y blynyddau hyn ar grefydd yn y dosparthiadau. Peth arall, yr oedd yn cadw y gweinidog ieuanc mewn llawn waith ac ymarferiad. Nid oedd amser ganddo i dreulio dyddiau yn segur i wrandaw chwedlau diles a drygionus o dy i dy; ond yr oedd agor meusydd newyddion, planu a chynllunio i'r dosbarthiadau yn cadw ei feddwl mewn llawn waith. Yr oedd mynych ymweliadau â'r dosparthiadau i fod yn eu cyfarfodydd ar gylch yn cadw ei gorff mewn ymarferiad, tra yr oedd y profiad a enillodd trwy hyn yn ei wneyd yn llawer mwy cymhwys i lywyddu yn eglwys Dduw nag y buasai heb hyny. Mae blynyddau o brofiad wedi ein dysgu bellach fod gweithgarwch eglwysig yn elfen bwysig er ychwanegu dedwyddwch mewnol yr eglwys, tra y bydd yn cryfhau ei dylanwad moesol ar y byd."
Nid oedd y rhaniad a'r dosparthiad uchod ond dechreuad. Nid oedd amgen gosodiad i lawr sylfaen yr adeiladwaith oedd i'w ddwyn yn mlaen gan y gweinidog ieuanc a'i eglwys yn y dyfodol. Amlinelliad ydoedd yn dangos beth amcenid gan Price, ac yr ymestynid ato ganddo fel y byddai amgylchiadau yn galw ac yn caniatau. Cafodd y drefn hon ei pharhau yn yr eglwys tra y bu y gweithiwr difefl yn weinidog arni; oblegyd fel y gwelir yn y Trem a gyhoeddwyd gan y Dr. yn y flwyddyn 1885, cawn fod yr eglwys yr adeg hono wedi ei rhanu i un-ar-ddeg o ddosparthiadau, yn gyfundrefnol yn ol y rhanbarthau y byddai yr aelodau yn byw ynddynt, a phob dosparth dan ofal" ymwelydd neillduol a gofalus, yr hyn, yn ddiau, sydd wedi profi yn fanteisiol i'r eglwys drwy yr holl flynyddau, ac sydd hefyd yn cyfrif i raddau mawr am dangnefedd mewnol yr eglwys, a'r llwyddiant mewn niferi a nerth moesol ac ysprydol. A chyhyd ag y byddai y cangenau dan nawdd y fam eglwys a gofal gweinidogaethol Price, cyflwynid y drefn hon iddynt a mynai ef weled ei bod yn cael ei chario allan yn effeithiol ganddynt.
Yn y flwyddyn 1849 mae yr eglwys wedi dyfod i gyflwr gweithio, ac er rhoddi pob mantais i'w wneyd yn egniol, ychwanegwyd at nifer y diaconiaid y brodyr Phillip John, David Hughes, William Davies, John Thomas, Thomas Dyke, a John Davies. Y mae dau o honynt, sef D. Hughes a W. Davies, yn aros hyd heddyw, ac er mewn gwth o oedran, llanwant y swydd yn deilwng ac anrhydeddus. Yn y flwyddyn hono gollyngwyd amryw frodyr yn nosparth Aberaman i ffurfio Eglwys Gwawr, a chorffolwyd hwy mewn pryd i'w derbyn yn eglwys i'r gymmanfa y flwyddyn hono. Yn y flwyddyn ddylynol, sef yn 1850, er gollyngiad y brodyr hyni Aberaman, teimlodd y frawdoliaeth angen capel eangach nag oedd ganddynt ar y pryd. Wedi ychydig o bryderu o du yr eglwys, cafodd Price hwy, trwy ei yspryd ymroddgar a phenderfynol, i hwyl codi capel newydd, a dechreuwyd ar y gwaith yn y flwyddyn 1851, a daeth yn barod erbyn dechreu 1852. Yr oeddynt wedi bod yn addoli yn yr hen gapel am ddeugain mlynedd, a chyn ymadael ar foreu dydd yr Arglwydd, Chwefror yr 8fed, 1852, cynnaliodd yr eglwys gyfarfod gweddi i gydnabod llaw ddaionus yr Arglwydd at yr eglwys yn ystod y blynyddau meithion hyn; ac yn yr hwyr y dydd hwnw symmudwyd yr arch o Benypound i gapel newydd Calfaria, ac yn y mis Mai canlynol cafodd ei agor, pan y cynnaliwyd rhes o gyfarfodydd cyhoeddus ar yr achlysur.
Yn y flwyddyn 1855, fel y cawn sylwi etto yn helaethach, corffolwyd y gangen yn Mountain Ash, yr hon gafodd ei derbyn i'r Gymmanfa yr un flwyddyn. Yn y flwyddyn hono hefyd y corffolwyd Eglwys Heolyfelin dan nawdd Eglwys Hirwaun, ond fod amryw o aelodau Aberdar oeddynt yn byw ar Heolyfelin wedi ymuno â hi ar ei chorffoliad. Yn y flwyddyn 1856, gollyngwyd pedwar ugain o aelodau er ffurfio yr Eglwys Seisnig, yr hon hyd hyny oedd gangen o'r Eglwys Gymreig. Yn yr un flwyddyn hefyd y dechreuwyd adeiladu Bethel, Abernant, ac agorwyd ef dydd Sul, Ionawr 25, 1857. Mesurai yr ystafell 44 troedfedd wrth 28 troedfedd, ac yr oedd (rhwng y tŷ annedd) yn werth £344 18s. 3c.
Yn y flwyddyn 1858, cawn fod yr eglwys wedi penderfynu helaethu ei therfynau trwy adeiladu ysgoldai cyfleus yn yr Ynyslwyd a'r Gadlys. Mesurai ysgoldy yr Ynyslwyd 44 troedfedd wrth 28, gyda thy annedd da, y cwbl yn werth £254 17s. 8c. Gyda bod hwn wedi ei agor o du deheu i Galfaria, dechreuwyd adeiladu ysgoldy o'r un maintioli yn y Gadlys, yn nghyd a thri o dai annedd, y cwbl yn werth £372 3s. 4½c.
Yn yr un flwyddyn penderfynodd yr eglwys yn Nghalfaria wneyd cyfnewidiadau pwysig yn y capel oddifewn ac oddiallan, yr hyn a gostiodd iddi y swm o £350. Ail-agorwyd y capel, yn ol Mynegiad yn y Gweithiwr am Mehefin yr 11eg, 1859, ar y dyddiau Mawrth a Mercher blaenorol, sef y 7fed a'r 8fed. Dywed y Mynegydd, "Mae Calfaria yn awr yn un o'r capelau goreu yn Sir Forganwg, ac er ei fod yn fawr, etto yn rhy fach i ddal y rhai a garant ddyfod yno i wrando." Wedi manylu ar y cyfarfodydd, yn y rhai y neillduwyd unarddeg o ddiaconiaid i'r swydd gan Mr. Price, y gweinidog, trwy weddi ac arddodiad dwylaw, dywed fod y casgliadau wedi cyrhaedd y swm o £177 7s.4½c. Yr oedd £50 o hono wedi ei anfon gan C. R. M. Talbot, Ysw., A.S.[2] Y gweddill yn rhoddion yr eglwys, yn cael ei chynnorthwyo gan y gwrandawyr parchus—ar ddydd yr ail-agoriad. "Yr ydym (meddai yn mhellach) fel eglwys wedi talu yn agos i £1,400 yn ystod y deg mlynedd diweddaf, ac yr ydym yn awr ar orphen ysgoldai eang yn Ynyslwyd a'r Gadlys, ac helethiad y tŷ cwrdd yn cychwyn mewn dyled o £1,420 18s. 3c., yr hyn a dalwn dan ganu o hyn i bum' mlynedd i yn awr, os bydd i Dduw y nefoedd wenu arnom fel y gwnaeth yn y deg mlynedd diweddaf." Am gyfnewidiadau pwysig a chynnydd rhyfeddol yr enwad yn y Dyffryn, ysgrifena Dr. Price yn ei Juwbili fel y canlyn:—
"Yn ystod yr un mlynedd ar bymtheg diweddaf y mae cyfnewidiadau pwysig iawn wedi cymmeryd lle yn Aberdar. Mae y trigolion wedi cynnyddu yn fawr iawn, felly dylasai yn ol natur pethau fod cynnydd yn rhif yr aelodau yn yr eglwys er cadw ei safle yn unig, heb fod unrhyw wir gynnydd yn cymeryd lle, ac ystyried agwedd gynnyddfawr Aberdar a'i phoblogaeth. Ond y mae genym ni achos diolch i Dduw fod cynnydd y Bedyddwyr yn Aberdar am y pymtheg mlynedd diweddaf yn llawer mwy mewn cyfartaledd nâ chynnydd y boblogaeth. A rhoddi 91 o Fedyddwyr yn y flwyddyn 1846 ar gyfer trigolion Llwydcoed, Tai Penywaen, Heolyfelin. Abernant, Aberdar, Aberaman, Cwmaman, Abercwmboye, a Mountain Ash, byddai 650 o Fedyddwyr yn awr yn y lleoedd yna yn ateb i 91 yn 1846. Ond y mae eglwys Calfaria ei hun yn 1,031 o gymunwyr heddyw, tra y mae eglwysi Llwydcoed, Cwmdar, Heolyfelin, Carmel, Aberdar, Gwawr, Aberaman, Cwmaman, Abercwmboye, a'r Mountain Ash yn rhifo yn ychwanegol. Fel hyn y gwelir fod y Bedyddwyr wedi cynnyddu yn mhell iawn tu hwnt i gynnydd y boblogaeth yn Aberdar yn y pymtheg mlynedd diweddaf."
Rhydd y ffeithiau uchod i ni olwg ffafriol ar ffyddlondeb dihafal ac ymdrechion diflino y Bedyddwyr yn y dyffryn, yn o gystal ag enghreifftiau o weithgarwch a gofal annhraethol tywysog llu y Bedyddwyr yn y cwm—y Parch. Thomas Price. Ond nid yw yr hyn sydd wedi ei nodi allan genym etto ond rhan fechan iawn o'r gwaith mawr gyflawnwyd ganddo yn ei gyssylltiad ag achos y Gwaredwr yn Aberdar a'r cylchoedd. I sicrhau y llwyddiant enfawr a noda y Dr., gosododd efe ei holl alluoedd i gynllunio, trefnu, ac arwain yn gysson, mewn gweithrediad. Nid ydym yn gwybod am un eglwys Gymreig yn y Dywysogaeth wedi cael mwy o waith wedi ei dori allan iddi gan ei bugail, ac wedi ei chynnorthwyo yn helaethach ganddo, i'w gyflawnu yn llwyr ac effeithiol. Sefydlodd y Dr. yn gyssylltiedig â'r eglwys amryw gymdeithasau buddiol, yr oll o honynt yn hyrwyddol i'w llwyddiant a'i chysur parhaus yn mhob ystyr. Bu y sefydliadau hyn yn cael eu cario yn mlaen am flynyddau yn gyfundrefnol a gofalus, ac y mae rhai o honynt mewn bod ac yn llewyrchus hyd heddyw. Gan eu bod yn arddangos mewn graddau helaeth business tact y Dr., ac y gallent fod yn fanteisiol i weinidogion ac eglwysi ereill i fabwysiadu rhai tebyg, gosodwn rai o honynt yma, fel y gwelodd y Dr. yn dda eu hargraffu yn ei Juwbili:—
CYMDEITHASAU CYNNORTHWYOL YR EGLWYS.
"Y mae yn perthyn i'r eglwys amryw gymdeithasau cynnorthwyol, y rhai ydynt yn fath o adgyfnerthion i Seion i gael y byd i ufudd-dod Crist. Y mae y rhai hyn yn gweithio er daioni gyda ni, a charem weled cymdeithasau cyffelyb mewn ymarferiad yn ein heglwysi yn fwy cyffredinol nag ydynt yn awr. Y cyntaf a gawn nodi yw—
YR UNDEB CRISTIONOGOL.[3]
"Budd-Gymdeithas yw yr Undeb Cristionogol er lles yn benaf i aelodau y gynnulleidfa, ond yn agored i unrhyw ddyn ieuanc sobr a gweithgar a ddymunai ymuno â hi yn ol y Rheolau. Sefydlwyd hon yn y flwyddyn 1861. Y mae wedi para i gynnyddu a chryfhau o hyny hyd yn awr. Y mae pwysigrwydd ei gweithrediadau i'w canfod yn y ffaith fod ei derbyniadau arianol o'r dechreu hyd Ragfyr, 1861, yn cyrhaedd y swm o £1,197 15s. 4½/c., tra yr oedd y taliadau allan am yr un cyfnod yn cyrhaedd y swm o £878 10s. 1oC. Yr oedd ei Thrysorfa Gadw (Reserve Fund) ar ddiwedd y flwyddyn ddiweddaf yn £300, tra yr oedd yn llaw y trysorydd £19 4s. 6½c. er cyfarfod â galwadau y cleifion. Y mae hwn yn un o'r clybiau rhataf a mwyaf llwyddiannus yn yr holl ardal. Mae ei weithrediadau yn cael eu dwyn yn mlaen yn hollol ddidwrw ac heb, hyd yma, un ffyrling o gamsynied arianol. Ar ol mwy na deng mlynedd o brofiad, yr ydym ni yn cymmeradwyo yr Undeb Cristionogol, neu ryw undeb cyffelyb, i sylw yr eglwysi trwy Gymru.
UNDEB DORCAS.
MAMMAETH MEIBION Y PROFFWYDI.
Cymdeithas yw hon wedi ei sefydlu i'r dyben da o gynnorthwyo y brodyr ieuainc a ddichon fod yn yr athrofeydd o'r eglwys hon. Y mae sefyllfa llawer o'n brodyr ieuainc da a duwiol tra yn yr athrofa yn gyfryw ag a ddylai gael mwy o sylw yr eglwysi sydd yn eu danfon hwy yno. Ni ddylent fod mewn cyfyngder am ddillad priodol tra yn yr athrofa; ond rhaid i lawer fod felly neu gael eu cynnorthwyo, neu yr hyn a fydd yn llawer gwaeth, myned i ddyled tra yn fyfyrwyr. Y mae y gymdeithas hon wedi ei sefydlu i'r dyben o gynnorthwyo ein brodyr ieuainc ydynt yn yr athrofeydd. Y mae y gymdeithas yn cael ei gwneyd i fyny o wragedd a merched yr eglwys, yn cael eu cynnorthwyo gan danysgrifiadau y brodyr. Eu cynllun fydd casglu trysorfa trwy roddion y gwirfoddiaid hyny a fyddant foddlon i'w cynnorthwyo; yna, prynu nwyddau; yn nesaf, rhoddi eu hamser a'u harian i weithio y nwyddau hyn yn ddillad yn ol natur yr alwad am danynt. Y mae gweithrediadau y gymdeithas hon yn ymddybynu llawer ar amgylchiadau ein myfyrwyr ar y pryd.
CYMDEITHAS LENYDDOL YR EGLWYS.
"Y mae y gymdeithas hon o agwedd wahanol iawn i'r rhai ag ydym wedi eu nodi yn barod. Y mae hon o nodwedd lenyddol hollol. Yr amcan mewn golwg yw gwrteithio talentau ein gwyr ieuainc, a chael allan y perlau a ddichon fod yn gorwedd yn llwch meddyliau rhai o aelodau ieuainc yr eglwys, ond etto, o ddiffyg cyfle, yn cadw o olwg y gweinidog a'r eglwys. Y mae hon genym yn fath o safon i brofi galluoedd, diwydrwydd, ac ufudd-dod ein pregethwyr ieuainc; trwy hyn, y mae y gweinidog a'r blaenoriaid yn cael cyfle i'w hadnabod cyn eu cymmeradwyo i'r athrofeydd. Y mae rhai yn ffyddlon iawn gyda hon. Y mae yn hon yn awr gymmeriadau a fyddant yn rhai o wyr enwog Israel yn y blynyddau dyfodol.
"Y mae maes y gymdeithas hon yn un helaeth iawn; mae yn ymdrin â dysgeidiaeth Feiblaidd yn ei hamrywiol gangenau—Athronyddiaeth Naturiol a Meddyliol, Darllenyddiaeth, Gwersi Grammadegol Cymraeg, Saesonaeg, Lladin, Groeg, a Hebraeg; Cyfansoddiadau, Dadleuon, Areithio, gyda phob cangen arall o ddysgeidiaeth o duedd i dynu allan dalentau ein haelodau ieuainc, gwrteithio y cyfryw wedi eu cael allan, a gwneyd yr aelodau yn y gymdeithas i fod yn mhob ystyr yn well aelodau yn yr eglwys.
YR ARIANDY CEINIOG.
Yr oedd hwn yn un o sefydliadau yr Eglwys hyd ddiwedd y flwyddyn 1861, pan roddwyd ef i fyny yn herwydd sefydliad yr Ariandy Cyffredinol yn y Llythyrfa. Yn y ddwy flynedd diweddaf darfu i ni, trwy yr Ariandy Ceiniog, gasglu mewn symiau mor fychain ag o geiniog i fyny yn wythnosol y swm o £687 14s. 2g. Mae y symiau hyn oll wedi eu talu yn ol i'r rhanfeddiannwyr bychain heb gymmaint a ffyrling o gamsyniad. Bu bodolaeth a gweithrediadau yr Ariandy Ceiniog yn foddion i brofi i ni fod gan eglwys Calfaria frodyr o fedr, dawn a thalent—o onestrwydd a chywirdeb dihafal—rhai ag y gall y gweinidog ymddibynu arnynt i ddwyn oddiamgylch unrhyw fudiad a fyddo yn gofyn am ffyddlondeb, amynedd, cywirdeb, manylwch, gweithgarwch, anrhydedd yr eglwys, a lles y genedl ienanc yo Aberdar. Yr ydym yn edrych yn ol ar weithrediadau yr Ariandy Ceiniog gyda hoffder a boddlonrwydd calon; ac yr ydym yn cofnodi y ffaith er mwyn dangos y fath ddaioni fedr ychydig o frodyr da wneyd yn eglwys Dduw.
"Y mae y cymdeithasau hyn o fwy pwys i'r eglwys nag a feddylir yn gyffredin. Yr ydym ni o'r farn y dylai yr eglwys gymmeryd gafael ar bob mudiad yn yr ardal a'r gymmydogaeth er eu cael i dalu gwarogaeth i Seion, a thalu teyrnged i'r achos mawr sydd wedi ei fwriadu gan Dduw i adferyd y byd. Dylai gweinidogion yr efengyl a'r eglwysi dan eu gofal edrych yn fanwl ar symmudiadau y gymdeithas ddynol Dylent ymdrechu i arwain a rhoddi cyfeiriad priodol i'r Clybiau, Budd Gymdeithasau, Sefydliadau Dyngarol, Cymdeithasau Llenyddol, Eisteddfodau, Cyngherddau, a phob rhyw fudiad cyffelyb. Os na fydd i grefyddwyr yr oes orbwyso yn, ac arwain y mudiadau hyn, bydd iddynt hwy yn fuan ymlygru, ac yn eu llygredd a'u bydolrwydd arwain i ddinystr gannoedd o aelodau ieuainc ein heglwysi. Yr ydym ni fel eglwys wedi gwneyd prawf ar amryw o'r pethau hyn, ac yn awr oddiar flynyddau o brofiad, yn gallu eu cymmeradwyo i sylw ereill yn y wlad."
Galwai y Dr. y cymdeithasau hyn yn Adgyfnerthion yr Eglwys, a chafodd eu bod yn dra chynnorthwyol iddi. Ond y fagwrfa benaf i'r eglwys yn ei olwg ef oedd yr Ysglo Sabbothol, yr hon a gymmerai y lle blaenaf yn mhlith y sefydliadau oeddynt yn gyssylltiedig â'r eglwys a than ei arolygiaeth ef. Credai yn fawr yn yr Ysgol Sul, ac yr oedd yn talu y sylw mwyaf iddi, a phob amser yn gwneyd ei oreu drosti.
Mewn defnyddioldeb a gwir wasanaeth i'r eglwys ystyrid y Gymdeithas Lenyddol yn nesaf at yr Ysgol Sabbothol, a dywed un cyfaill a fu yn aelod o honi am dymhor, fod y gymdeithas fuddiol hon wedi gwneyd gwaith rhagorol, ac wedi bod o wasanaeth enfawr i'r eglwys am flynyddau. Codwyd ynddi a thrwyddi fechgyn galluog i'r areithfa, ac y mae wedi magu llu mawr o lenorion addfed a gwych ydynt wedi cymmeryd eu safleoedd yn anrhydeddus yn mhlith beirdd a llenorion ein gwlad. Ni wyddom am ddim yn fwy effeithiol i ddangos eangder meddwl y Dr., yn nghyd â'i feddylddrych am gyflawnder o waith i'r "bobl ieuainc," fel y dywedai, yn nghyd â'i chwaeth uchel yn nosraniad y gwaith, nâ chynllun neu ragdrefn y Gymdeithas Lenyddol, yr hon, er mantais i'r darllenydd gael golwg weddol gywir ar Price yn ei berthynas â phobl ieuainc ei eglwys a'i gynnulleidfa, a osodwn yma:—
CYFANSODDIAD CYMDEITHAS LENYDDOL CALFARIA, ABERDAR.
'Llywydd Y Parch. Thomas Price, M.A., PH.D. Trysorydd—E. G. Price, Yswain. Ysgrifenydd—Mr. Benjamin Hinton. Is-Lywydd. ion—Mri. Henry Davies a Henry Jones. Gramadegau—E. G. Price, Ysw., Mri. J. Jones a J. Rees. Daearyddiaeth—Mr. Benjamin Hinton. Arferiadau yr Iuddewon, ac Athroniaeth—E. G. Price, Ysw. Darllenyddiaeth, Traethodau, Cyfieithiadau, Areithiau, Dadleuon, Amseryddiaeth, &c.—Y Llywydd a'r Is—Lywyddion. Pwyllgor—Mri.W. Davies, W Evans, D. Adams, D. Evans, E. Jones, Yr Is-Lywyddion, a'r Athrawon.
TALIADAU.
"Aelod cyffredin i fwynhau pob rhan ond y Gramadegau, Tair Ceiniog y Chwarter; aelodau yn dysgu Gramadeg, Chwe Cheiniog bob tri mis.
"Mae yr ysgol hon yn rhydd i bawb, pa un a fyddant yn perthyn i gynnulleidfa Calfaria ai peidio; ond taer ddymunir ar ieuenctyd ein hysgolion i wneyd y defnydd goreu o honi.
"Bydd gwers mewn darllen Saesneg yn cael ei rhoddi bob nos cyfarfod; hefyd, bydd gwers mewn Gramadeg Saesneg bob nos, yn dechreu am 7 o'r gloch. Y pethau ereill yn ol y Rhagdrefn.
Ymofyner am aelodiaeth â Mr. B. Hinton, Ysg. Myg.
RHEOLAU.
"I. Fod y gymdeithas hon i gael ei galw wrth yr enw 'Cymdeithas Lenyddol Calfaria, Aberdar,' a bod ei chyfarfodydd i gael eu cynnal yn Vestry Capel Calfaria.
"II. Fod y gymdeithas i gael ei rheoleiddio gan lywydd, tri neu ragor o is—lywyddion, trysorydd, ysgrifenydd, gyda phwyllgor o chwech o bersonau—yr oll i feddu hawl i siarad a phleidleisio yn holl gyfarfodydd y pwyllgor, a'r oll i gael eu dewis trwy bleidlais o blith yr holl aelodau, a'r oll i fyned allan o swydd ar ben y flwyddyn, ond bod yr oll yn gymhwys i gael eu hail ethol, os bydd yr aelodau yn dewis gwneyd hyny.
III. "Fod holl aelodau yr eglwys yn Nghalfaria, a gwrandawyr y cynnulleidfaoedd yn Nghalfaria, Bethel, Gadlys, a'r Ynyslwyd, hefyd holl athrawon a dysgyblion yr Ysgolion Sabbothol yn y lleoedd uchod, gydag unrhyw berson arall a gymmeradwyir fel un o gymmeriad da—yn gymhwys i fod yn aelodau o'r gymdeithas, os bydd iddynt ymrwymo i dalu y gyfran chwarterol yn unol â Rheol IV., ac hefyd gydymffurfio â'r holl reolau hyn.
"IV. Dyben y Gymdeithas fydd diwyllio meddyliau yr aelodau, trwy gyfranu gwybodaeth yn y cangenau canlynol o ddysgeidiaeth:
1. Beiblaidd.—(a) Hanesiaeth Ysgrythyrol; (b) Amseryddiaeth y Beibl; (c) Cysgodau yr Hen Destament; (d) Seremoniau yr Hen Destament; (dd) Arferiadau yr Iuddewon; (e) Proffwydoliaethau a'u Cyflawniadau; (f) Daearyddiaeth Gyssegredig; (ff) Partheg (Topography) Gwlad Canaan; (g) Bywgraffiadau Beiblaidd; (ng) Bywyd Crist ar y ddaear; (h) Swyddau Cyfryngol Crist; (i) Cyfansoddiad yr Eglwys; (m) Athrawiaethau yr Ysgrythyrau; (n) Hanesiaeth Eglwysig.
2. Ieithyddol.—(a) Grammadeg Cymraeg, Saesneg, Lladin, Groeg, a Hebraeg: (b) Cyfieithu o iaith i iaith; (c) Sillebiaeth; (d) Darllenyddiaeth.
3. Cyfansoddiad.—(a) Cyfansoddiad Traethodau; (b) Cyfansoddiad Areithiau.
4. Areithyddiaeth.—(a) Areithiau ar y testynau uchod; (b) Dadleuon ar bynciau neillduol.
5. Athroniaeth.—(a) Athroniaeth Naturiol; (b) Athroniaeth Feddyliol.
6. Cynniledd—(a) Cynniledd Teuluaidd.
Gydag unrhyw destun neu destunau ereill a ddichon gael eu cynnyg gan aelodau y gymdeithas o bryd i bryd, ac a fernir yn ddyddorol gan y pwyllgor.
V. Fod dewisiad y testunau, a'r dull cyffredin o'u trafod, yn cael eu hymddiried i'r pwyllgor—tra y gall unrhyw aelod, ar unrhyw bryd gynnyg testun neu destunau i sylw y pwyllgor.
VI. Fod pob person wrth ddyfod yn aelod o'r gymdeithas i dalu y swm o dair ceiniog, a'r un swm yn chwarterol. Bydd i chwarter y gymdeithas ddechreu ar y nos cyfarfod cyntaf yn mis Ionawr, Ebrill, Gorphenaf a Hydref, yn mhob blwyddyn.
VII. Bydd i'r Llywydd, os yn wyddfodol, lywyddu holl gyfarfodydd y gymdeithas yn ei absenoldeb, un o'r is lywyddion; ond os na fydd un o'r is—lywyddion yn bresenol, unrhyw aelod a etholir ar y pryd i fod yn Llywydd am y cyfarfod hwnw.
VIII. Fod dysgu Grammadeg i gael ei ystyried yn ran neillduol o weithrediadau y gymdeithas, ac fod i bob un a ddewiso ymuno â'r Dosparthiadau Grammadegol dalu tair ceiniog yn y chwarter yn ychwanegol at y swm o dair ceiniog a delir ganddynt at dreulion cyffredin y gymdeithas.
IX. Ni chaniateir mygu na siarad ofer yn ystod oriau y cyfarfod; a bydd yn rhaid i bob un ufuddhau i alwad y Llywydd am ddystawrwydd a threfn pan alwo am hyny, neu fod yn agored i ddiaelodiad o'r gymdeithas.
X. Pan fyddo testyn yn cael ei ddadleu, arferir rheolau Tŷ y Cyffredin, gyda y gwahaniaeth na fydd un bleidlais i'w chymmeryd ar ddiwedd ymdriniad â'r pwnc mewn dadl.
XI. Ni chaniateir i un aelod wneyd unrhyw gyfeiriad personol ac anfoneddigaidd o duedd i ddolurio teimlad un o'i gyd-aelodau.
XII. Bydd i gyfarfodydd y gymdeithas ddechreu am 7 o'r gloch, a diweddu am 9 o'r gloch yr hwyr.
XIII. Hyd ag y gellir, bydd i gyfarfodydd y gymdeithas gael eu cynnal o leiaf unwaith bob wythnos, ac os bydd modd, ar nos Fawrth yn mhob wythnos.
XIV. Bydd arholiad cyhoeddus yn chwarterol, hanner-blynyddol, neu yn flynyddol, i gymmeryd lle, er gweled gweithrediadau y gymdeithas a chynnydd yr aelodau mewn gwybodaeth. Amser a threfn yr arholiadau i'w gadael i'r pwyllgor.
"Ac er mwyn rhoddi golwg ar y gweithrediadau, rhoddwn yma y cynllun o weithredu am yr hanner blwyddyn. Y mae hwn fel cynllun yn siampl o'r hyn sydd yn barhaus, ond fod y pynciau yn cael eu newid a'u hamrywio:—
Rhagdrefn am y Chwe' mis yn dechreu Hydref 6ed, 1863, ac yn diweddu
Mawrth 25ain, 1864.
YR WYTHFED A'R NAWFED CHWARTER.
Hydref 6, 1863—Adolygiad cyffredinol ar weithrediadau y tri mis blaenorol—Awgrymiadau—Siarad rhydd—Derbyn aelodau.
Hydref 13—Gwladlywiaeth yr oruchwyliaeth Foesenaidd, Rhan I —Siarad rhydd ar y pwnc uchod—Darllen Saesneg.
Hydref 20—Daearyddiaeth—Teithiau Crist—Y daith o Bethlehem i'r Aifft ac yn ol i Galilea—Butler's Analogy—Siarad rhydd—Areithiau ar Beth yw addysg y ddiareb 'Heb Dduw heb ddim.'
"Hydref 27—Gwladlywiaeth yr oruchwyliaeth Foesenaidd, Rhan II. —Siarad rhydd—Areithiau ar Ysgol Jacob, yr hanes a'r addysgiadau.
Tachwedd 3—Athroniaeth Naturiol—Darllen Traethawd gan Mr. Henry Jones, yn Saesneg, ar 'Lle y mae ewyllys mae ffordd '——Siarad rhydd.
Tachwedd 10—Arferiadau yr Iuddewon—Y trigfanau, Rhan I.— Siarad rhydd—Areithiau ar ystyr y ddiareb, 'Duw a digon.'
Tachwedd 17—Daearyddiaeth—Taith Crist o Nazareth i Jerusalem ar amser yr wyl—Analogy Butler—Darllen Saesneg.
Tachwedd 24—Arferiadau yr Iuddewon—Eu trigfanau, Rhan II.— Areithiau ar Jacob yn nhŷ ei ewythr Laban–Crynodeb o'r hanes a'r addysgiadau.
Rhagfyr 1—Athroniaeth Naturiol— Beirniadaeth ar y Traethodau ar gymmeriad Moses, Rhan I.—Cymmerir golwg ar ei rieni, ei enedigaeth, ei fabwysiad, ei ddygiad i lŷs yr Aifft, a'i sefyllfa yno—Siarad rhydd ar y pwnc hwn—Darllen Saesneg.
Rhagfyr 8—Daearyddiaeth—Taith gyntaf Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Arferiadau yr Iuddewon—Y gwib—deuluoedd. Rhan I.—Analogy Butler—Siarad rhydd.
Rhagfyr 15—Hanesiaeth Ysgrythyrol—Galwad ac ufudd—dod Abraham, Genesis xi. 27—32; Genesis xii. 1—5, ac Actau vii. 2—4—Darllen Saesneg.
"Rhagfyr 22—Arferiadau yr Iuddewon—Y gwib deuluoedd, Rhan II.—Darllen papyr Saesneg gan Mr. John Rees ar 'Hanes, cymmeriad, ac addysgiadau bywyd Abraham'—Siarad rhydd.
Rhogfyr 29—Daearyddiaeth—Ail daith Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Analogy Butler—Beirniadaeth ar y Traethodau ar Fywyd Moses, Rhan II.—Ei ymadawiad â llys yr Aifft—Lladd y dyn —Ffoedigaeth i Midian—Ei briodas a'i arosiad yno am 40 mlynedd— Siarad rhydd ar y pwnc hwn.
Ionawr 5, 1864—Arferiadau yr Iuddewon—Eu gwisgoedd, Rhan I. Dadl—'A ellir cyfiawnhau ymddygiad Jacob yn ei ddull o godi ei gyflog pan yn ngwasanaeth ei ewythr?'—Hefyd, ' Ei ddull o ymadael â gwasanaeth ei ewythr?'
Ionawr 12—Athroniaeth Naturiol—Darllen papyr Saesneg gan y Parch. James Jones ar Nodweddau ac addysgiadau bywyd Isaac'—Siarad rhydd.
Ionawr 19—Daearyddiaeth—Trydedd daith Crist yn ystod ei weinidogaeth gyhoeddus—Hanesiaeth Ysgrythyrol—Ymadawiad Abraham a Lot, Genesis xiii.—Siarad rhydd ar addysgiadau yr hanes.
Ionawr 26—Yr Iuddewon—Eu gwisgoedd, Rhan II.—Darllen papyr yn Saesneg gan y Parch. David Adams ar Hanes, cymmeriad ac addysgiadau bywyd Jacob'—Siarad rhydd ar y pwnc hwn. "Chwefror 2—Areithiau ar Ymweliad y doethion á'r Mab bychan a'i fam–O ba le y daethant ?—Beth oedd yn eu cynhyrfu ?—Natur eu parch?— Nodwedd eu rhoddion ?—a'r addysgiadau i ni?—Darllen Saesneg.
Chwefror 9——Yr Iuddewon—Eu bwydydd, Rhan I.—Darllen papyr Saesneg gan Mr. Humphrey James ar' Hanes, nodweddau, a disgynyddion Esau, mab Jacob'—Siarad rhydd ar y testyn uchod.
Chwefror 16—Athroniaeth Naturiol—Butler's Analogy—Siarad Rhydd—Beirniadaeth y Traethodau ar Moses, Rhan III—Y deugain mlynedd olaf o'i fywyd—Siarad rhydd ar y pwnc hwn.
Chwefror 23—Daearyddiaeth—gwlad Canaan yn ei maintioli, hyd a lled, yn gymharol ac yn gyferbyniol i Gymru—Darllen papyr yn Saesneg gan Mr. David Jones, ar 'Hanes bywyd a nodweddion Ishmael a'i ddisgynyddion '— Siarad rhydd ar y testun hwn.
Mawrth 2—Yr Iuddewon—Eu bwydydd, Rhan II.—Areithiau— Cwymp Jericho—Rhan y bobl, a llaw Duw yn y gwaith—Darllen Saesneg.
Mawrth 9—Athroniaeth Naturiol—Darllen papyr yn Saesneg gan Mr. Jeremiah James, ar 'Broffwydoliaethau Jacob am Reuben, Simeon, a Juda'—Darluniad o nodweddau y meibion, a chymmeriad y llwythau yn ol llaw—Siarad rhydd.
Mawrth 19—Yr Iuddewon—Ansawdd eu cymdeithas deuluaidd, Rhan I.—Butler's Analogy—Siarad rhydd—Darllen Saesneg.
Mawrth 23—Areithiau ar y Gibeoniaid—Eu dyfodiad at Joshua, eu twyll, eu haniad, eu bwydydd, a'u hesgidiau—Y cyfammod a'i ganlyniadau—Joshua ix.—Darllen papyr yn Saesneg gan David Williams, ar Proffwydoliaethau Jacob am Zabulon, Issacar, Dan, Gad, Aser, a Naphthali, gan nodi allan nodwedd bersonol y meibion gyda hanes y llwythau '— Siarad rhydd ar hyn.
Mawrth 30—Yr Iuddewon—Ansawdd eu cymdeithas deuluaidd, Rhan II.—Beirniadaeth y traethodau ar hanes, cymmeriad, ac addysg bywyd Joseph—Siarad rhydd—Dadl—A oes rhyw reswm i gredu fod Ioan Fedyddiwr yn gweinidogaethu dan yr Hen Oruchwyliaeth?
☞Mae y Traethodau at eu beirniadu i fod yn llaw y llywydd wythnos cyn y cyfarfod, yn yr hwn y byddant yn dyfod i sylw.
"☞Os bydd i un o'r aelodau ymwrthod â darllen papyr Saesneg, wedi addaw, bydd yn ofynol iddo roddi pythefnos o rybudd o hyny, fel y gellir darparu arall yn ei le."
Yr oedd y Dr yr un mor gyfundrefnol gyda y cymdeithasau ereill, ac yn llawn mor ofalus ar ol eu gweithrediadau. Teimlai ddyddordeb neillduol ynddynt, gan eu bod, mewn ystyr, yn blant ei feddwl ac yn gynnyrchion ei ddarfelydd ei hun, ac yn profi, fel y nodai, yn dra gwasanaethgar a buddiol i'r eglwys a'r gynnulleidfa. Mae yn wir ei fod yn cael llawer iawn o gynnorthwy brodyr da a charedig gyda y gwaith mawr oedd yn cael ei gyflawnu gan y cymdeithasau hyn oeddynt yn gyssylltiedig â'r eglwys. Nid ydym yn gwybod am lawer, os am neb, wedi bod bob amser yn fwy ffodus yn ei ddiaconiaid nâ'r Dr., ac yr oeddynt hwy yn cymmeryd rhan dra blaenllaw gyda phob symmudiad o bwys yn holl gyssylltiadau yr eglwys. Hefyd, cododd yn yr eglwys nifer lluosog o ddynion ieuainc o dalent a chymmeriad, y rhai fuont ar eu heithaf yn cydlafurio yn heddychol â'r Dr. enwog, megys ei lysfab, Mr. Edward Gilbert Price; y Parch. James Jones, Abercwmboye, wedi hyny, Tonyrefail (yr oedd efe yn ddiau yn genius, a phe cawsai fyw, y mae yn ddyogel genym y buasai wedi rhoddi prawfion diamheuol o hyn); Gwerfyl James, a'i frawd James Spinther James, yr hwn erbyn heddyw sydd yn un o hynafieithwyr ac ysgrifenwyr goreu Cymru, yn llenor o nod ac enw, ac wedi graddio yn Athraw Celfyddydol; David Griffith, yn awr o Aberafon; a'r diweddar Barch. George Thomas, Porth. Yr oedd y rhai hyn ac ereill yn cael gwneyd eu rhan gan y Dr. yn nygiad yn mlaen waith amrywiol yr eglwys, yn neillduol yn y Dosparth Llenyddol a'r Ysgol Sul. Etto, enaid y gwaith—yr yspryd mawr symmudol yn yr holl weithrediadau—oedd y Dr. ei hun. Efe oedd yr ager yn y peiriant—yr haul yn y cyfundrefnau. Cawsai gan ei fedr i lywodraethu ac i arwain bob olwyn yn y peiriant i droi yn naturiol a thra ystwyth. Taflai oleuni ar holl gyssylltiadau y cyfundrefnau y perthynai iddynt, a thynai allan fywyd ac egnion pawb oedd yn perthyn iddynt. Trwy hyn, galluogwyd ef i wneyd toraeth o waith yn ei eglwys yn Aberdar a'r cylchoedd fydd yn glod i'w enw ac yn anrhydedd i'w ben a'i galon am oesau lawer i ddod.
Yr oedd Price hefyd yn neillduol weithgar a ffyddlawn gyda'r Ysgol Sabbothol. Mynychai hi yn y boreu hyd y blynyddau olaf o'i fywyd, ac yr oedd yn dra chysson yn mhrydnawn y Sul pan fyddai gartref. Bu dosparth dan ei ofal drwy y blynyddau yn rheolaidd yn yr Ysgol bob prydnawn y Sabboth. Yr oedd hefyd yn gweithredu fel athraw yn Ysgol y boreu, er fod gofal y dosparth yn cael ei gymmeryd gan un neu ddau o'r diaconiaid. Yr oedd ganddo amryw o frodyr galluog yn ei ddosparth, a theimlent ddyddordeb mawr yn yr Ysgol ar gyfrif y wybodaeth gyffredinol a dderbynient gan yr enwog Ddr. Defnyddiai yn gyffredin ddarlunlen (map) at wasanaeth ei ddosparth, a byddai bob amser yn awdurdod ar bwyntiau o ddaearyddiaeth, hanesiaeth, ac amseryddiaeth Feiblaidd. Yn fynych, clywid rhai yn yr Ysgol yn dweyd, "Onid yw y Dr. yn ddoniol? Y mae efe fel encyclopædia yn mhob pwnc." Yr oedd ei wybodaeth gyffredinol yn ddiarebol, a'i arabedd pan yn esponio yn ei ddosparth mal rhaiadr yn disgyn ar glustiau y dysgyblion. Yr oedd yn nodedig am ei ofal am y plant a'r bobl ieuainc yn ei Ysgol a'i eglwys. Torai bob amser ddigon o waith allan iddynt, ac ymhyfrydai siarad â'r plant a'u cefnogi yn mhob modd. Nid oedd y lleiaf a'r dystadlaf o honynt islaw ei sylw. Byddai bob amser yn siriol-ar ei wên yn myned oddiamgylch y dosparthiadau ychydig amser cyn eu diweddu, ac yr oedd yn dra charedig a moesgar i bawb. Yr oedd y plant yn hoff iawn o hono; gwaeddent allan pan welent ef yn dod, "Mr. Price,” "Price Penpound." Yr oedd hyn yn ei foddhau yn fawr, ac yr oedd gydag ef air caredig i'w ddweyd wrth bob un o honynt. Cyfrifai hyn o bossibl i raddau helaeth am ei lwyddiant gyda'r Ysgol Sabbothol. Yr oedd yr Ysgol Sul yn llewyrchus yn Mhenypound er yn foreu, a llwyddodd Price i gadw bywyd ynddi drwy y blynyddau, ac nid yn unig hyn, ond i greu a throsglwyddo yspryd y fam-eglwys yn y cangenau.
Gosodai y Dr., er mwyn cadw y dyddordeb i fyny, wahanol bynciau Ysgrythyrol i'w myfyrio gan yr Ysgol, a newidiai y cynlluniau yn fynych, rhag y byddai gormod o unffurfiaeth mewn dull ac unrhywiaeth mewn gwaith a llafur yn eu lladd, fel y goddefir yn fynych yn ein Hysgolion Sabbothol. Holai yr ysgol yn fynych ei hun, a gosodai ereill i wneyd brydiau ereill. Yr oedd yn hynod eiddigeddus gyda golwg ar iachusrwydd yr athrawiaethau. Yr oedd bod yn orthodox yn beth mawr yn ei olwg ef. Pan welai rai yn tueddu myned ar gyfeiliorn, arweiniai hwynt yn ol yn ofalus, fel bugail tyner yn dychwel ei wyn crwydredig; ac os buasent yn ben-galed a chyndyn i gymmeryd eu harwain, rhoddai ergydion trymion iddynt nes y teimlent mai gwell oedd peidio ymgyndynu ag ef. Rhoddwn yn unig yma un enghraifft o hyn, yr hon, gan ei bod yn lled nodweddiadol o hono, a ystyriwn yn ddigon i'n gwasanaethu yn y mater dan sylw. Yr oedd yn perthyn i'r Ysgol Sul un adeg hen frawd da o Sir Benfro, o'r enw Shem Davies. Yr oedd Shem yn Uchel-Galfinwr. Arferid yr adeg a nodwn i'r dosparthiadau roddi adnodau dyrus y naill i'r llall i'w hesponio a'u hegluro. Yr oedd Shem a'i ddosparth wedi cael, yn ei dro, adnod i'w hesponio, yna yr oedd ganddo hawl i roddi adnod yn ol a chael esponiad arni. Rhoddwyd esponiad cyflawn ac eglur, fel y tybid, i Shem a'i ddosparth. Yna cododd y Dr., a gofynodd, Ydych chwi wedi cael eich boddloni, Shem, ar yr esponiad hwna?" Gyda golwg anfoddog, cododd Shem, a dywedodd "fod rhywbeth yn nglyn ag etholedigaeth ddiammodol a pharhad mewn gras yn peru iddo edrych ar yr adnod mewn goleuni hollol wahanol." Ond cyn agor y ddadl ar y mater, oblegyd i hyn yr oedd pethau yn arwain, cododd y Dr., a dywedodd yn hyf, fel yr arferai mewn amgylchiadau o'r fath, “Er mwyn Duw, Shem, eisteddwch i lawr, a thewch a son, y mae eich pen chwi wedi ei lanw â chymmaint o hooks a bachau crochan hen Galfiniaeth, nes y mae y tipyn synwyr a gawsoch wedi ei golli yn llwyr." Eisteddodd Shem i lawr yn eithaf tawel, a therfynwyd yr ysgol. Ymadawodd pawb wedi eu lloneiddio ychydig gan atebiad doniol y Dr. Byddai efe yn gyffredin yn gwybod, nid yn unig yn pa le i daro, ond hefyd yr adeg briodol i wneyd hyny; a phan yn ergydio gwnelai hyny, fel y dywedir, i dref. Yna cymmerai pobpeth ei gwrs yn llyfndeg am amser maith. Dyoddefai y bobl ganddo i ddweyd weithiau yn llym a chaled wrthynt, oblegyd gwelent bob amser ynddo ddyn gonest a gwynebagored, a theimlent fod ganddo galon ac yspryd rhagorol; felly nis gallai hyd y nod y rhai a fuasent yn awr ac eilwaith yn cael teimlo pwysau ei ordd lai na'i garu a'i barchu, wedi'r cwbl. Nid yn unig yr oedd y Dr. yn fynychydd cysson o'r Ysgol Sabbothol, ond yr oedd hefyd yn teimlo dyddordeb neillduol yn yr ysgol ganu, ac yn talu sylw neillduol i'r ddau gôr, sef y cor mawr a'r côr bach oedd yn ei eglwys. Gwelwn oddiwrth ddyddiaduron y Dr., ac y mae tystiolaethau aelodau y corau yn profi yr un peth, ei fod i'w weled yn aml yn yr ysgol gân. Yr oedd, ac y mae, bob amser, ddau gôr yn Nghalfaria-y côr mawr a'r côr bach, fel eu gelwir, ac y mae y ddau gor wedi gwneyd gwaith rhagorol yn yr eglwys hon erioed. Cofnoda y Dr. ei ymweliadau i'r ysgol gân mor ofalus ag y gwna groniclo ei fynychiadau yn y cwrdd gweddi neu'r gyfeillach. Ystyriai y corau yn deilwng o bob cefnogaeth, a chanu y cyssegr mor bwysig ag unrhyw ran o'r gwasanaeth Dwyfol. Cadwodd ei bresenoldeb yn yr ysgol ganu, yn ddiau, "gythraul y canu" oddiwrth y cor lawer gwaith, oblegyd byddai yn arw iawn rhwng Price a'r cantorion pan ddeuai Mr. Pwd i fewn i'r cor. Dywedai ei feddwl wrthynt yn weddol lym weithiau, ac wrth wneyd hyn byddai yn debyg o ddweyd rai pethau lled ddoniol. Yr oedd aelod o'r cor unwaith, o'r enw Evan Jones, wedi tramgwyddo, ac yn y gyfeillach un tro pallai Evan wneyd yr hyn a geisiai y diaconiaid ganddo, a bu ychydig ddiflasdod yno o'r herwydd. Cododd y Dr. ar ei draed, a gofynodd, "Paham na wnewch fel y ceisia y diaconiaid, Evan? Wel, wn I ddim, yn enw Duw, beth sydd y mater ar y bachgen, y mae fel pe yn gwisgo spectols gleision bob amser, ac yn byw ar wynt a chrafion erfin y cythraul trwy y flwyddyn." Chwerthinodd pawb, a darfu y cwbl yn y man.
Dro arall yr oedd Evan wedi pwdu, ac wedi gadael y cor a'r capel am ychydig. Yn y cyfamser cyrchai i'r Gadlys, a phan yno ymunai â'r cor. Yr oedd y Dr. yn pregethu un Sabboth yn y Gadlys, ac yn meddwl ei fod yn gweled Evan ar front y gallery, cododd ei spectol i fyny, ac edrychodd yn graff ar y cantorion, a dywedodd, "Evan, ti sydd yna? Os oes gormod o'r diawl ynot ti i ganu gyda'r cor yn Nghalfaria, nid wyt i ganu yma heddyw. Symmud i'r ochr, wnei di." Gwnaeth Evan ei gais yn uniongyrchol, a bu hyn, mae yn debyg, yn foddion nid i yru Evan yn mhellach, ond i'w wella i raddau o'r yspryd pwdu. Triniai Price y bechgyn a'r merched yr un fath fel hyn weithiau. Dywedai y drefn wrthynt yn ddidderbyn-wyneb, ac yn aml yn arw iawn; ac etto, yr oedd yn garedig iddynt ac yn hoff iawn o honynt, a hwythau, er pob croesdynu, yn ei garu ef yn fawr. Dywedai un o aelodau hynaf a mwyaf sefydlog y cor, yr hwn sydd hefyd yn ddiacon parchus yn yr eglwys, sef Mr. Walter Leyston, fod y Dr. yn un neillduol dda yn yr ysgol ganu, ac yn hynod garedig iddynt fel cantorion. Credai fod y Dr. wedi rhoddi gwerth ugeiniau o bunnoedd o lyfrau i'r corau o'i logell ei hun. Pan oddicartref prynai bob llyfr a welai o werth i'r corau, a mynai iddynt gael y llyfrau goreu at eu gwasanaeth. Calonogai hyn y cantorion yn fawr, felly ymegnient i gael canu da bob amser. Cynnorthwyai hyny y weinidogaeth i ennill a chadw cynnulleidfa dda. Cafodd Calfaria ei bendithio nid yn unig â gweinidog da yn y pwlpud, ond hefyd, yn gyffredin, ag arweinwyr da o flaen y corau. Bechgyn da oedd John a Shem, dilladyddion fuont yn arwain yn yr hen Benypound, bron yr adeg gyntaf y daeth Price yno. Wedi hyny cafwyd gwasanaeth John, mab Henry Moore; Thomas, neu, fel eu gelwid ef yn gyffredin, Twmi Parry; Bili Shon Morgan, o Rymney gynt; John Roberts, awdwr y dôn, "Alexander;" Jenkin Howell, ac yn ei ganlyn y ddau frawd o ardaloedd y Groesgoch a'r Mathry, ger Llangloffan, Swydd Benfro, George a William Griffiths. Yna dychwelodd y cor eilwaith i ofal Jenkin Howell. Dilynwyd ef drachefn gan y brawd talentog Evan Leyshon, yn awr argraffydd, Porth; y medrus Theophilus Jenkins, ysgolfeistr Abernant; ac wedi hyny gan yr arweinydd presenol, Daniel Griffiths. Mae corau Calfaria, am dymhor maith, wedi bod yn cynnal budd-gyngherddau blynyddol i glirio dyledion yr eglwys yn y lle, ac y maent wedi sylweddoli symiau mawrion o arian bob tro, yn neillduol gan eu bod yn gweithio'r cyngherddau i fyny ar ychydig draul. Nid oedd un aelod o'r cor yn gweithio yn fwy egniol a ffyddlawn i gael y cyngherddau hyn i fyny na'r Dr. Yr oedd yn sicrhau nawdd- ogaeth prif deuluoedd y dref a'r gymmydogaeth. Nid yn unig sicrheid cynnalleidfa a orlenwai y capel ar noson y gyngherdd; eithr byddai yn un dra pharchus ac anrhydeddus. Byddai y Dr. gyda'r cantorion fel un o honynt, a gofalai am danynt fel tad tyner a gofalus. Wrth ddiolch ar ddiwedd y cyngherddau am y gefnogaeth oeddynt wedi ei gael, dywedai eiriau caredig am y cor a'i weithgarwch. Ymffrostiai ynddynt fel ei blant ei hun. Dywedai mor ddoniol, fel y taflai braidd ddigon o yspryd ynddynt i fyned yn mlaen gyda'u gwaith am flwyddyn gyfan. Yr oedd yn hynod fforddus yn hyn. Llwyddai i gadw y corau yn dda dan law, a phob amser mewn hwyl ac yspryd gweithio.
Yr oedd y Dr. yn enwog am ei ofal o lechres aelodiaeth yr eglwys. Rhoddai gerdynau aelodiaeth, yn cynnwys dyddiad eu derbyniad i'r eglwys, wedi eu llawnodi ganddo ef ei hun, y rhai yn gyffredin a gedwid yn barchus a gofalus gan y cyfryw aelodau drwy y blynyddau. Coflyfrai y manylion am danynt, megys lle a dyddiad eu genedigaeth, dyddiad eu bedyddiad a'u derbyniad i'r eglwys. Gwnai hyn hefyd â'r rhai a dderbynid i'w eglwys drwy lythyrau. Ni welsom neb erioed yn fwy cyfundrefnol gyda hyn nag ef. Yr oedd yn gredwr mawr yn yr adnod bwysig hono o eiddo yr apostol, "Gwneler pob peth yn weddus ac mewn trefn." Perai syndod edmygol i lawer i edrych ar y modd y mae efe wedi cadw llechres-lyfr yr eglwys trwy y blynyddau meithion y bu yn weinidog arni.
Arferai hefyd y gofal a'r manylwch mwyaf gyda chyfrif- on amrywiol a gwahanol yr eglwys. Er fod gydag ef bob amser ysgrifenydd manwl a llu o ddiaconiaid gofalus, a thrysorydd galluog a ffyddlon, etto mynai ef weled fod y gwaith yn cael ei wneyd gyda'r llwyredd mwyaf. Cyhoeddai fantol-len a chyfrifon arianol yr eglwys bob blwyddyn, ac yr oedd hyn yn gynnorthwyol i gadw tangnefedd yn yr eglwys, ac i'w symbylu i fwy o gydweithred- iad, gweithgarwch, ac ymddiriedaeth. Pan gyflwynai y swyddogion eu mynegiadau o weithrediadau yr eglwys am y flwyddyn, yn nghyd â chyfrifon arianol pob trysorfa, rhoddai yntau ei anerchiad iddynt. Cawn amryw o'i anerchiadau i'r eglwys, a'r cyfrifon arianol wedi eu hargraffu yn fân bamphledau, ac ereill wedi eu cyhoeddi yn Seren Cymru. Fel hyn, gwelwn fod y manylwch a'r llwyrder mwyaf yn cael eu harfer ganddo i weled nad ydoedd un adran o'r fyddin ysprydol oedd wedi ei hymddiried i'w ofal yn esgeuluso ei gwaith. Nid oedd yn caniatau gwywder yn un rhan o'r cyfansoddiad. Yr oedd "cyfander a llwyredd ' gwaith yn bwysig yn ei olwg ef, ac y mae hyn i raddau helaeth, yn ddiddadl, yn cyfrif am gyflwr iachus a dymunol, yn o gystal ag am sefyllfa ragorol yr eglwys yn Nghalfaria yn mhen deunaw mlynedd o'i weinidogaeth, sef yr adeg y cyhoeddodd ei Jubili i'r eglwys. Yno dengys
sefyllfa yr eglwys fel y canlyn:—SEFYLLFA BRESENOL EGLWYS CALFARIA.
Mae yr eglwys hon wedi cael y fraint o fod yn llawen fam plant. Y mae wedi gwneyd ei rhan i fagu a meithrin ei merched, ond mae hi fel eglwys yn para yn gryf a nerthol; mae yn lluosog a gweithgar. Y mae yn awr mewn cyflwr i wneyd cymmaint o ddaioni ag y bu ar unrhyw adeg flaenorol. Nid yw ei phlant wedi difa eu nerth, ac nid yw hithau wedi myned yn hen yn ngwasanaeth ei Harglwydd. Y mae yr eglwys hon o'r flwyddyn 1845 wedi gollwng aelodau er ffurfio y gwahanol gangenau, y nifer o 484; er hyn oll, mae ei rhif hi yn para yn fawr, a'i nerth heb wanhau, gan na fu yr eglwys erioed mewn cystal cyflwr ag y mae yn awr.
Ni a roddwn yma enwau swyddogion yr eglwys, rhif ei haelodau, cyflwr ei hysgolion, ei gwerth meddiannol, gyda y ddyled arosol ar feddiant yr eglwys.
Gweinidog—Y Parch. Thomas Price. Gweinidogion Cynnorthwyol —Y Parchn. David Hopkins, David Adams, Ebenezer Morgans[4] Pregethwyr Cynnorthwyol—Y brodyr James Jones, Humphrey James, David Jones, Jeremiah James, David Williams, George Thomas. David Morgan. Diaconiaid—Benjamin Lewis, Philip John, David Hughes, John Thomas, 1af, William Davies, 1af, Henry Davies, John Roberts, William Richards, Moses Saunders, Stephen Phillips, Benjamin Wheeler, William Davies, 2il, Bethuel Williams, William Miles, William Davies, 3ydd, William Jones, 1af, David Davies, Benjamin Phillips, William Evans, Edw Gilbert Price, Dan James, John Moore, Abraham Davies, William Jones, 2il, John Francis, Richard Dowton. John Thomas, 2il, Rees Rees, Thomas Roberts. Trysorydd—Philip John. Ysgrifenydd—William Davies.
Rhif yr aelodau mewn cyflawn gymundeb ar Awst 3, 1863, oedd 1031
Rhif yr ysgolion Sabbothol perthynol i'r eglwys. 4
Rhif yr athrawon yn yr ysgolion 131
Rhif yr ysgolheigion yn y pedair ysgol 1214
Cyfanswm gwerth yr eiddo perthynol i eglwys Calfaria, yn cynnwys capel Calfaria, ysgoldy Bethel, Ynyslwyd, y Gadlys, dau dŷ annedd yn un a chapel Calfaria, un tŷ annedd yn perthyn i Bethel, un tŷ yn ymyl Ynyslwyd, a thri ty annedd yn ymyl y Gadlys, yw... £2,900 15 11
Mae ein dyled o'r tu arall ar gapel Calfaria, Bethel, Ynyslwyd, y Gadlys, a'r tai annedd, yn cyrhaedd y swm o...£1,000 0 0
Mae hyn yn dangos fod yr eglwys er y flwyddyn 1852, pan adeiladwyd capel Calfaria, wedi talu o gorff y ddyled heblaw y llog blynyddol, y swm mawr o... £1,900 15 11
Ond wedi gorphen y ddau dŷ helaeth a hardd sydd genym yn awr ar waith yn Ynyslwyd ac Abernant, bydd ein dyled wedi chwyddo £1,300 arall; felly, bydd ein dyled erbyn y Nadolig nesaf yn... £2,300 0 0
Ond erbyn hyn, bydd ein gwerth mewn eiddo wedi ei sicrhau i'r enwad yn cyrhaedd y swm o ... £4,200 15 11
Goddefwch gyda mi am un foment etto tra y rhoddwn olwg ar sef- yllfa bresenol eglwys Calfaria, gyda yr eglwysi hyny sydd wedi ym- gangenu o honi, a rhoi rhif eu haelodau, cyflwr yr ysgoliod Sul, gwerth eu meddiannau, a'r ddyled sydd yn aros ar yr eiddo perthynol iddynt. Ni a gymmerwn y cyfrif am 1862.
Rhif yr eglwysi a'u canghenau ... 17
Rhif y capeli a'r gorsafoedd ... 17
Rhif yr aelodau mewn cyflawn gymundeb...3096
Rhif y gweinidogion... 7
Rhif y gweinidogion a'r pregethwyr cynnorthwyol ... 18
Rhif yr ysgolion Sabbothol ... 17
Rhif yr Athrawon ... 419
Rhif yr ysgolheigion ... 3272
Cyfanswm gwerth y capeli, tai, &c ... £16,850 15 11
Dyled arosol ar yr eiddo ... £7,362 11 4½
Dyna ni wedi myned mor fyr ag oedd modd dros hanes eglwys gyntaf y Bedyddwyr yn Aberdar, gyda y rhai a hanasant o honi yn ystod yr hanner can' mlynedd diweddaf. Mae y fechan wedi myned yn FILOEDD, a'r wael yn GENEDLOEDD cryfion. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen. Mae adolygiad y gorphenol yn ein cysuro yn y presenol, ac yn ein cryfhau erbyn y dyfodol. O'r Arglwydd y mae hyn oll, ac iddo ef yn Dad, Mab, ac Ys- pryd Glán, y byddo yr holl ogoniant yn awr ac yn oes oesoedd. Amen.
"ATTODIAD. JUBILI EGLWYS CALFARIA, ABERDAR.[5]
"Hanner can mlynedd i'r haf hwn, agorwyd y capel cyntaf gan y Bedyddwyr yn mhlwyf Aberdar. Adgofiwyd am y tro trwy i eglwys Calfaria gynnal Jubili ar y Sul a'r Llun, Awst 3ydd a'r 4ydd. Cawsom yno tu hwnt i bob dadl res o'r cyfarfodydd mwyaf dymunol a gwlithog a dreuliwyd gan yr eglwys yn ystod yr hanner canrif diweddaf. Dechreuwyd trwy gynnal cwrdd gweddi am 9 boreu dydd Sul. Yna, am ddeg, pregethodd y brodyr Williams, Hengoed, a Morgan, Llanelli, gyda dylanwad anarferol. Am 12 o'r gloch, gweinyddwyd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd. Yr oedd yr olygfa a gafwyd, a'r teimlad a brofwyd yn fath nas annghofir byth. Yr oedd y capel ëang i lawr ac i fyny, gyda y vestry, yn llawn o blant Duw, yn cofio am gariad Iesu. Gweinyddwyd yr ordinhad gan y brawd Price, y gweinidog, yn cael ei gynnorthwyo gan y brodyr Roberts, Trosnant; Morgan, Llanelli; Williams, Hengoed; ac Adams a Hopkins, Aberdar. Ni chafwyd yn ol pob tebygolrwydd, y fath olygfa yn Nghymmru erioed. Yr oedd eglwys Calfaria ei hun yn rhifo y boreu hwnw 1031 o aelodau, heblaw ugeiniau o'i phlant ag oeddynt wedi dyfod o bellder ffordd i ymweled â hi ar ddydd ei Jubili. Yn y prydnawn, gorfuwyd ni i fyned allan i'r awyr agored, gan faint y dyrfa. Yn ffodus iawn, cawsom dŷ ein hanwyl frawd Evans, Draper, yn agored i ni, a'r balcawd o'i flaen yn lle hollol gyfleus i'r gweinidogion, a digon o le i'r miloedd i wrandaw yn gysurus. Yn y nos, rhanwyd y gynnulleidfa yn dair, a chafwyd cyfarfodydd a'u llon'd o Dduw.
"Dydd Llun, dechreuwyd mewn cwrdd gweddi am 9 o'r gloch; a dyma y cwrdd gweddi rhyfeddaf y buom ynddo yn ein bywyd. Y fath weddio, y fath wrando, a'r fath fendithio. Am 10, darllenwyd Hanes yr Eglwys gan Mr Price, a phregethodd Mr. Evans, Castellnedd, bregeth y Jubili. Yr oedd hon yn bregeth o'r radd flaenaf, yn cael ei thraddodi mewn nerth mawr. Mae yr hen bobl dda yn dweyd nad annghofiant byth mo honi. Am ddau, pregethwyd gan y brodyr Lloyd a Roberts, Merthyr. Yn yr hwyr, anerchiadau byrion, bywiog, nefolaidd, yn gymmysgedig â chanu a gweddio, gan y Parchn. James. Llanfairtalhaiarn; Phillips, Trefforest; Nicholas, Aberaman; Williams, Mountain Ash; Lloyd, Ebenezer; Roberts, Tabernacl; Llewellyn Jenkins, Ysw., Hengoed; Evans, Castellnedd; Roberts, Trosnant; a'r gweinidog. Cymmerwyd rhan hefyd yn y cyfarfodydd gan Adams, Aberdar; Harris, Heolyfelin; Griffiths a Thomas, Athrofa Pontypwl. Gyda y gweddio taer, y pregethau dylanwadol, a'r annerchiadau cynnes, cawsom y canu cynnulleidfaol mwyaf nerthol a nefolaidd.
"Mae eglwys Calfaria, yn ystod y tymhor byr o hanner can mlynedd, wedi cael y fraint fawr o fod yn FAM i dyrfa fawr o blant. Er gweled hyn, digon yw nodi bod eglwys Calfaria, gyda'r eglwysi a'r cangenau sydd wedi hanu o honi, yn 17, yn cynnwys yn awr 3,096 o aelodau; 25 o weinidogion a phregethwyr cynnorthwyol; a 17 o ysgol. ion Sabbothol yn cynnwys 3,691 o ddeiliaid. Mae yr eglwysi hyn yn meddu eiddo gwerth £16,850 15s. 11c., ond bod eu dyled yn £7.362 11s. 4c. Ond er magu y fath nifer o blant, a gollwng y fath nifer i ffurfio eglwysi newyddion, mae y fam yn para yn gryf, ac yn awr mor iach ag erioed. Mae ei haelodau yn rhifo 1031, a deiliaid yr Ysgol Sul yn rhifo 1345. Diolch i Dduw am yr hanner can mlynedd a aethant heibio; a'i wenau fyddo ar eglwysi Aberdar am yr hanner cant nesaf.
Gwelir yn eglur, oddiwrth y ffeithiau blaenorol, fod gweithio egniol a chysson wedi bod gan Fedyddwyr y dyffryn, ac yn neillduol gan y fam-eglwys yn Nghalfaria a'i gweinidog, cyn y buasai yr eglwys yn gallu cyrhaedd y fath allu nerthol, a dyfod i'r fath gyflwr cysurus mewn amser mor fyr. Gwelsom y gweinidog ieuanc yn dechreu ar ei weinidogaeth yn nghanol yr anfanteision mwyaf, ond y mae anfanteision yn rhoddi cyfleusdra i ragoriaethau ddyfod i'r golwg. Felly y bu yn yr amgylchiad hwn. Cyflawnai Price ei waith yn onest a phenderfynol, gan adael y canlyniadau i Dduw. Chwarddai, mewn ystyr, yn ddiystyrllyd ar anhawsderau. Dywedai am y rhwystrau godent ar ei ffordd bob cam o'r daith, "Y mynydd mawr, pwy wyt ti, gerbron gwaredydd Israel y byddi yn wastad. Ac felly y bu yn ei holl hanes. Gosodwyd meini lawer gan elynion iddo ar ddrws llwyddiant yr achos yn ei eglwys a'r dyffryn, ac wrth edrych yn mlaen arnynt yn ymddangos yn y pellder, gofynai Price, "Pwy a dreigla i mi y maen?" Ond yn ngrym penderfyniad a ffydd yn ei Waredwr, aeth yn mlaen, a chafodd y maen yn gyffredin wedi ei dreiglo, ac achos mawr y Bedyddwyr yn Nghalfaria ac yn y dyffryn yn gyffredinol yn codi ei ben, ac yn dyfod yn fwy rhydd yn barhaus.
PENNOD IX.
CALFARIA O 1866 HYD 1888.
Cyfnod olaf hanes gweinidogaethol Dr. Price-Adolygu y gorphenol yn ddymunol-Y Trem am waith yr eglwys—Adnewyddu y capel ac adeiladu yr Hall-Ystafelloedd y diaconiaid-Y menywod-Y gweinidog-Calfaria Hall -Cyfarfodydd Agoriadol yr Hall.
WELE ni bellach a'n golwg ar y cyfnod olaf yn hanes gweinidogaethol Dr. Price. O ran hydred, y mae ychydig yn fwy nâ'r cyfnod maith, toreithiog o ffrwythau a gweithredoedd da yr ydym eisoes wedi sylwi yn frysiog arno; ond er ei fod yn faithach o ryw gymmaint, etto nid yw mor gynnyrchiol o ddaioni, ac mor llewyrchus gan lwyddiant a'r tymhor cyntaf. Ond y mae y gwahaniaeth dirfawr oedd rhwng amgylchiadau y ddau gyfnod yn cyfrif i raddau pell iawn am hyn. Cyfnod braenaru, trin y tir, a hau, yn fwyaf neillduol, oedd y cyntaf; ond tymhor medi a mwynhau ffrwyth y llafur, mewn ystyr, oedd yr olaf. Tori y tir, gosod sylfeini, ac adeiladu oedd y cyntaf; ond edrych yn edmygol ar y deml mewn cyflwr gorphenedig, ac ymlonyddu i gyflwyno ar allor Ior aberthau mwy byw, sancteiddiach, a mwy cymmeradwy, ac i fwynhau yn helaethach a mwy sylweddol bresenoldeb Duw a'i fendithion cyfoethog o ras a daioni ysprydol, oedd y cyfnod olaf, er fod gwaith gofalu am amgylchiadau allanol a mewnol yr achos yn ofynol o hyd. Cyflawnwyd llawer o waith garw, megys codi ysgoldai ac adeiladu capeli, yn y cyfnod cyntaf, ac yr oedd toraeth y gwaith amgylchiadol allanol yn yr ystyr hwnw erbyn hyn ar ben; etto, yr oedd y gwaith mawr o adeiladu yr eglwys a'r achos yn y lle yn y yn y "sancteiddiaf ffydd" i'w ddwyn yn mlaen yn egniol fel cynt, a chafodd ei wneyd yn ffyddlawn a diflino dan arolygiaeth fanylgraff y Dr. parchus hyd ei fedd. Cafodd efe weled yr eglwys yn "gwreiddio mewn cariad," yn lledu ei gwraidd fel Libanus, ei cheinciau yn cerdded, yn addfedu ei ffrwythau, ac yn ymddangos yn deg fel yr olewydden, a'i harogl yn ber fel Libanus; ac yr oedd hyn yn hyfrydwch i'w enaid, ac yn daliad iddo am ei lafur dihafal gyda phob adran o'r gwaith da.
Yn y Trem ar weithrediadau eglwys Calfaria, a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1885, dywed y Dr. fel y canlyn:
"Nid ydym yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf yn gallu son am dori tir newydd er helaethu teyrnas y Brenin Mawr, am fod hyny wedi ei wneyd gan eglwys Calfaria a'i gweinidog yn ystod y cyfnod or flwyddyn 1845 hyd ddydd cyntaf y flwyddyn 1866. Ac ar ddechreu cyfnod hwn yr oedd dyffryn Aberdar yn llawn o eglwysi, neu gangenau eglwysi, fel nad oedd galw am ragor. Ac er nad ydym yn cyfrif ein bedyddedigion mor lluosog ag yn y blynyddau gynt. etto y mae genym achos mawr i fod yn ddiolchgar iawn i Dduw, a chymeryd cysur. "Yn ystod yr ugain mlynedd cyntaf dan sylw, cafodd yr eglwys yn Nghalfaria y fraint o dderbyn y nifer mawr o 1.090 trwy fedydd; ac yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, sef o'r flwyddyn 1866 hyd 1885, y mae wedi derbyn 504 o aelodau trwy fedydd y crediniol. Yna os gosodwn y ddau gyfrifiad at eu gilydd, ni a gawn fod wedi eu bedyddio yn yr eglwys y nifer o 1,594.
"Mae yn deilwng o sylw mai dyma yr oll a dderbyniwyd gan eglwys Calfaria yn y tymhor o o ddeugain mlynedd, yn ol llyfr yr eglwys. yr hwn sydd wedi ei gadw yn ofalus, gyda manylwch teilwng o efelychiad.
"Yn ol yr hyn a welir ar lyfr yr eglwys, y mae Calfaria wedi derbyn trwy fedydd, adferiad, a llythyron o eglwysi ereill, o Nadolig 1845 hyd Nadolig 1885, y nifer o 3,847, tra yn ystod yr un tymhor, y mae, er y flwyddyn 1846, wedi gollwng amryw gannoedd er ffurfio eglwysi yn Aberman, Cap Coch, Carmel, Bethel, Ynyslwyd a'r Gadlys.
"Mae yn dda genym fod y fam eglwys yn dal ei thir o dan fendith Duw ac arweiniaid yr Yspryd Sanctaidd "
Yn y flwyddyn 1869, rhoddodd yr eglwys ganiatad i'r Dr. fyned am dro i'r America, fel y cawn sylwi etto yn mhellach yn mlaen, ac nid hir wedi ei ddychweliad y bu cyn cyffroi meddwl a theimlad ei eglwys a'i gynnulleidfa yn Nghalfaria at y priodoldeb o adnewyddu y capel, adeiladu neuadd eang a chyfleus, yr hon a elwir yn awr Calfaria Hall, yn nghyd â threfnu a dyogelu y fynwent oedd yn perthyn i'r capel. Yr oedd y Dr. wedi dychwelyd â llawer o gynlluniau a diwygiadau America ganddo, ac os oedd modd, yr oedd wedi ei lanw yn fwy o yspryd yr Ianci, a elwir y “go” arno, nag o'r blaen. Gan fod ei ben a'i galon yn llawn o'r Yankee improvements, yr oedd yn awyddus iawn i'w cyflwyno i sylw ac ymarferiad ei eglwys. Y mae llawer o ddynion da i'w cael, ac hyd y nod weinidogion yn teithio llawer, eithr nid ydynt yn gallu gweled ond ychydig wedi y cyfan, neu, o'r hyn lleiaf, nid ydynt yn dangos ya wahanol i hyny; ond nid felly Price. Yr oedd efe bob amser â'i lygad yn agored a'i feddwl ar waith. Gwelai lawer yn mhob man, ac yn gyffredin gwelai ef bethau pwysig lle y methai rhai a chanfod dim, a phob amser, cai ei eglwys a'i gynnulleidfa y fantais o'r hyn a welai ac a glywai ag a fyddai o werth iddynt. Er fod y tir ar yr hwn y saif Calfaria i raddau yn gyfyngedig, gallodd y Dr., drwy ei fedr a'i gywreinrwydd, gynllunio, trefnu, a chodi'r Hall, gan osod ynddi nwyddau a seddau o gynllun ac arddull Americanaidd.
Yn ystod dygiad y gwaith o adnewyddu y capel ac adeiladu yr Hall yn mlaen, yr oedd Price, fel arfer, wedi ymgymmeryd ag arolygu y gwaith ei hun. Ni allai fod yn Ilonydd; yr oedd yn rhaid iddo fod â'i law gyda phob gorchwyl. Tra yn codi'r Hall, yr oedd braidd yn ddieithriad bob boreu i'w weled ar furiau yr adeilad o hanner awr wedi pump i chwech o'r gloch yn dysgwyl y gweithwyr at eu gorchwylion, er fod gydag ef lawer iawn o waith arall i'w gyflawnu mewn gwahanol gylchoedd. Tra yn eithaf caredig i'r gweithwyr, oblegyd ni allai ei yspryd caredig a'i natur dda ganiatau iddo fod yn amgen, etto yr oedd yn eithaf llym ar eu hol, ac ni phrisiai ddim gael ambell ffrae â hwy, os na fyddent yn cyflawnu eu dyledswyddau yn foddhaol. Ond er cael ambell i ffrwgwd, a gyru un yn awr ac eilwaith i'r d-l, yr oedd yn hynod o faddeugar ei yspryd, a byddai yn eithaf cyfeillgar i'r cyfryw wedi i'r pang fyned drosodd. Cerid ef yn fawr gan y gweithwyr a phawb, am yr ystyrient ef yn good meaning, ac yn jolly fellow, ac felly yr oedd. Ystyrid yr adgyweiriadau ar y capel ac o gwmpas iddo yn welliantau pwysig, a'r Hall yn ychwanegiad gwerthfawr i'r eglwys.
Mynodd Price weled cyfleusderau ereill yn cael eu sicrhau at wasanaeth yr eglwys, y rhai a ddesgrifia yn y Trem fel y canlyn:—
YSTAFELLOEDD CAPEL CALFARIA.
Yn Nghapel Calfaria, y mae amryw ystafelloedd eang a chysurus. Y gyntaf a nodwn yw— "Ystafell y Diaconiaid. — Yma y bydd y diaconiaid yn cwrdd â'u gilydd i ymdrin ag unrhyw faterion pwysig cyn dechreu y gwasanaeth cyhoeddus ar y Sabboth. Yma hefyd y bydd materion arianol ac eglwysig yn cael eu trafod; ac yma y cynnelir cyfarfodydd misol yr Undeb Cristionogol ac Undeb Dorcas Yma y cynnelid y Dosparth Beiblaidd. Cyfarfodydd Llenyddol y bobl ieuainc, ar Gyfeillach Fach.' Y mae yr ystafell hon yn wir bwysig. ac yn un gyfleus dros ben. Y nesaf a gawn nod yw —
Ystafell y Menywod—Mae hon yn cael ei defnyddio ar yr adegau pan y byddys yn bedyddio, a defnyddir hi y prydiau hyny fel gwisgle neu robing room i'r merched a'r gwragedd Y nesaf yw—
Ystafell y Gweinidog. Mae hon yn hollol at wasanaeth y gweinidog, ac yn meddu pob darpariaeth ag a duedda i'w wneyd yn gysurus. Mae yn deilwng o sylw fod yr holl ddodrefn sydd yn yr ystafell hon wedi eu rhoddi i'r gweinidog gan rai o wir gyfeillion Calfaria.
Calfaria Hall.–Mae ugeiniau a channoedd o ddyeithriaid yn dyfod i weled Calfaria Hall, a thystiolaeth pawb yw mai hon yw y neuadd eangaf a'r mwyaf cyfleus yn Nghymru. Heblaw y brif ystafell, mae yn perthyn i'r neuadd ddwy oriel at wasanaeth y plant. class—room i ferched ieuainc, ystafell hollol gyfleus at gadw llyfrau yr Ysgol Sul, yn nghyd â lle digon mawr i gadw yr holl lestri perthynol i'r eglwys. Mae cyssylltiad rhwng yr ystafell fawr hefyd â'r dwfr a'r tân, ac felly yn hynod gyfleus ar adegau ein gwleddoedd tê, ac amgylchiadau ereill; ac y mae cyssylltiad rhwng Calfaria Hall â phob rhan o'r capel. Mae yn anhawdd cael capel mor gyfleus ag ydyw capel Calfaria."
Yn Seren Cymru am Tachwedd y 24ain, a Rhagfyr 1af, 1871, ceir hanes cyflawn a manwl am y cyfarfodydd agoriadol, y rhai a gynnaliwyd am ddau Sabboth yn olynol, a chafwyd cyfarfodydd gweddio yn y nosweithiau cydrhyngddynt. Pregethwyd yn rymus yn ystod y cyrddau gan rai o brif weinidogion yr enwad yr adeg hono.
TRYDYDD AGORIAD CALFARIA AC AGORIAD CYNTAF NEUADD CALFARIA.
"Mewn cyssylltiad â'r agoriadau hyn, bwriedir cynnal cyfres o gyfarfodydd yn y drefn ganlynol:— Dydd Sul, Tachwedd 12, 1871. am 11, cyfarfod gweddi a Swpper yr Arglwydd; am 2, cyfarfod gweddi yn Neuadd Calfaria; am 6, cyfarfod gweddi yn Nghalfaria. Nos Lun, Mawrth, Mercher, Iau, Gwener, a Sadwrn, Tachwedd 13, 14, 15, 16, 17, a 18, bydd cyfarfodydd gweddi, pan y mae gweinidogion cymmydogaethol, a brodyr o eglwysi ereill, wedi addaw eu presenoldeb, eu cydymdeimlad, a'u cynnorthwy. Dydd Sul, Tachwedd 19, am 11 a 6, pregethir gan Dr. Price, y gweinidog, a chynnelir yr Ysgol am naw a dau o'r gloch yn Calfaria Hall.
"Dydd Mawrth, Tachwedd 21, cynnelir gwyl de flynyddol plant yr Ysgol yn y neuadd newydd.
"Nos Fercher, Tachwedd 22, pregethir gan y Parch. R. Hughes, Maesteg (Cadeirydd Cymmanfa Morganwg); Parch J. Thomas, Bassaleg; a'r Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy.
"Dydd Iau, Tachwedd 23, am 10 o'r gloch y boreu, pregethir gan y Parch. Thomas Thomas, D.D., Pontypwl, a'r Parch. Richard Hughes. Am ddau o'r gloch, gan y Parch. J. W. Todd, D.D., F.R.G.S., Forest Hill, Llundain, a'r Parch. John Thomas. Am 6, gan y Parch. James Owen, Abertawy; a'r Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy. (Dr. Thomas, Dr. Todd, a'r Parch. J. Owen yn Saesneg). Dydd Sul, Tachwedd 26, pregethir am 11 a 6 gan y Parch. J. R. Morgan (Lleurwg). Nos Lun, Tachwedd 27, pregethir gan y Parchn. W. Williams, Mountain Ash, a J. R. Morgan. Dydd Sul, Rhagfyr 3, am 11 a 6. pregethir gan y Parch. Richard John, Llanwenarth. Nos Lun, Rhagfyr 4, pregethir gan y Parchn. W. Harris, Heolyfelin, ac R. John.
"Yn ychwanegol at y gweinidogion a enwir, mae genym yr hyfrydwch hyspysu y bydd gweinidogion yr enwad trwy y dyffryn yn cymmeryd rhanau yn y cyfarfodydd agoriadol.
"Mae capel Calfaria wedi ei gyfnewid yn fawr, wedi ei addurno yn dlws, a'i wneyd yn hynod o gyfleus i'r gynnulleidfa i addoli y Duw byw, tra y mae y fynwent wedi ei dyogelu ag amgau cryf a hardd, ac wedi ei phlanu â choed bythwyrddion; ac yn olaf, mae Calfaria Hall yn ystafell eang a hynod gyfleus at wasanaeth yr Ysgol Sul, y Corau Canu, ein Cymdeithasau Dyngarol, &c. Mae y gost, o angenrheidrwydd, yn fawr, a byddis yn casglu yn y Cyfarfodydd Cyhoeddus. uchod at y draul. Mae y gweinidog a'r eglwys yn taer wahodd eu cymmydogion i ymweled â hwy yn rhai, os nid yr oll, o'r CYFARFODYDD AGORIADOL."
PENNOD X.
Y DR. A CHANGENAU EGLWYS CALFARIA.
Y "Trem" a'r "Jubili"-Bethania, Cwmbach-Mountain Ash, dechreuad yr achos yno-Yr hen bobl-Adeiladu capel-Agoriad yn 1841-Annghydfod Effeithio yn niweidiol ar yr achos yno-Price yn dechreu gweithio yno-Y cerbyd wedi aros ar II o aelodau-Siams y garddwr a Price-Cyrddau gweddi-Price a'r chwiorydd-Paentio'r capel Y cerbyd yn ail gychwyn-Yr ail gapel-Ei agoriad-Sefydlu diaconiaid-Ymadawiad Price a sefydliad Williams-Gwawr-Storm gynnarol-Dyfyniad o "Seren Cymru"- Ffrwgwd Dewi Elfed a'r saint Lladrata y capel-Cyfraith-Gwroldeb Dr. Price Bwrw allan gythreuliaid Case for assault-Adferiad y capel-Ail agoriad -Y gweinidogion-Yr achos Saesneg-Jas. Cooper-Y ganwyll yn diffodd-Ail gychwyn yr achos-Yr achos yn llwyddo-Bethel, Abernant-Yr Ynyslwyd-Mynychu cyrddau wythnosol y cangenau-Adeiladu ysgoldai Bethel ac Ynyslwyd-Testyn tarawiadol-Bedyddio yn yr Ynyslwyd-Ei gweinidogion—Y Gadlys Cyw gwaelod y nyth-Sefydlu ysgol yn 1858-Adeiladu-Methu cael tir-Mynu ei gael cyn cysgu-Y seitfed capel-Y cangenau yn ymadael mewn heddwch-Nodion 1865 ar gofnodlyfr y Gadlys—Yr eglwysi godwyd gan Galfaria-Barn gohebydd.
Yol y Drem gan Dr. Price ar yr eglwysi a godwyd gan Galfaria, gwelir ei fod yn hawlio perthynas â rhyw un-ar-hugain o eglwysi, y rhai a ystyriai fel plant, wyrion, ac mewn rhai achosion gorwyrion. Yr oedd perthynas yn bodoli rhwng Calfaria â hwynt oll; ond y mae y ddisgynyddiaeth uniongyrchol mewn rhai achosion yn cael ei hamheu gan rai. Pa fodd bynag, ni pherthyna i ni fyned i fewn i'r achosion hyny yn bresenol. Y mae rhai eglwysi wedi ymgangenu allan o Galfaria nad oedd gan y Dr. lawer i'w wneyd â hwy, tra y mae ereill o'r plant, fel eu galwai, ag y bu efe yn gwneyd gwaith llafurfawr gyda hwynt. Gan fod nifer y cangenau mor lluosog, dichon mai annoethineb ynom fydd manylu ar yr oll, gan y gwna ychydig o honynt wasanaethu i ddangos y dyn.
Oddiwrth y Jubili gwelwn fod yr eglwysi ar Hirwaun ac yn y Tabernacl, Merthyr, wedi hanu allan o hen Eglwys Penypound, Aberdar. Cwmbach wedi hyny a gychwynwyd yn foreu, a chorffolwyd a derbyniwyd hi i'r gymmanfa yn y flwyddyn 1845, sef y flwyddyn y cafodd y Dr. alwad i ddyfod i Aberdar. Pregethodd Price lawer yma, a bu yn ofalus am dani pan dan ei weinidogaeth. Fel hyn y dywed am dani yn y Jubili:—"Bu yr eglwys yn y Cwmbach ar y dechreu yn un o'r eglwysi mwyaf addawol yn y sir. Yr oedd wedi cael y blaen ar bob cynnulleidfa arall yn y gymmydogaeth; perthynai iddi amryw o'r teuluoedd mwyaf cyfoethog a dylanwadol yn yr ardal; ond yn ol ein barn ni, hi a ymadawodd â'i mam-eglwys yn rhy gynnar."
Nid oedd Price yn anfoddlon i'r merched ymadael â'u mam, ac nid oedd ychwaith yn anfoddlon i'r merched briodi; ond yr oedd yn fawr am i'r cangenau aros yn ddigon hir dan nawdd y fam-eglwys hyd y gallent weled y ffordd yn glir i allu byw arnynt eu hunain yn weddol gysurus. Gwelwyd llawer pâr ieuanc yn tori i fyny, wedi methu byw yn ddedwydd ar ol priodi, ac yn gyffredin dychwelai y ferch adref at ei mam am dymhor, a dyna ddywedid yn aml am dani yn yr amgylchiad, "Buasai yn well ei bod wedi aros gartref gyda'i mam am ychydig flynyddau yn hwy." Bu rhywbeth tebyg feddyliwn yn hanes dechreuol yr eglwys yn y Cwmbach. Yn ei anerchiad ar ddydd ordeiniad y gweinidog presenol (y Parch. D. Thomas) yn Methania, Cwmbach, olreiniodd y Dr. ychydig ar hanes yr eglwys, yn nghyd â'r gweinidogion fuont yn gweinidogaethu yno o bryd i'w gilydd, ac wedi gwneyd hyny yn ofalus, fel yr arferai efe gyda materion o'r fath, dywedodd, "Yn awr, chwi a welwch fy mod I wedi cael y fraint a'r anrhydedd o fod yn weinidog ar ac i'r eglwys yn Methania dair gwaith, oblegyd bu yn ol dan aden ei mam yn Nghalfaria gynnifer â hyny o weithiau oddiar ei chorffoliad yn y flwyddyn 1845. Tebyg mai dyma'r tro olaf i'r Dr. fod mewn cyfarfod yn y Cwmbach, oblegyd nid hir y bu cyn cael ei analluogi gan wendid a chystudd i fyned yn mhell o'r ty. Yr oedd yn wanaidd yr adeg hono, a phawb braidd yn sylwi ei fod yn tori i fyny yn gyflym. Edrydd y Dr. fel y canlyn yn ei Jubili (1862) am Bethania, Cwmbach:— "Mae yn awr etto am dymhor o dan nawdd ei mam-eglwys, yr hon sydd wedi addaw ei chynnorthwyo am flwyddyn.' Eglwys dda oedd ac ydyw Bethania, Cwmbach, wedi y cwbl, a llafuriodd Price yn galed gyda hi o bryd i bryd. Teimlai ddyddordeb neillduol ynddi, oblegyd yn un peth, mai un oddiyno oedd ei anwyl briod, Mrs. Price, ac y mae ei theulu yn aros yno hyd heddyw. Gellir dweyd fod Bethania erbyn heddyw yn un o'r eglwysi goreu yn y cwm.
Cangen arall o Galfaria ag y teimlai y Dr. ddyddordeb neillduol ynddi oedd Mountain Ash. Y mae i'r eglwys hon hanes hynafol ac o ddyddordeb mawr; a chan fod Price, fel y dywedai ei hun yn y Jubili, "yn edrych arni gyda y teimladau mwyaf cysurus," dichon y maddeuir i ni am roddi ychydig o'i hanes wrth fyned yn mlaen. Yn ol erthygl alluog y diweddar anwyl frawd a'r diacon ffyddlon, Mr. Thomas Richard (Gwyno), Glyngwyn, tad y Parch. Richard Richard, gynt Pembroke Chapel, L'erpwl, yn awr Cotham, Bryste, yn Seven Gomer am Hydref, 1883, cawn fod Bedyddwyr yn byw yn Mountain Ash mor bell yn ol â'r flwyddyn 1786, ond ni fuont amgen i Nicodemus a Joseph o Arimathea, i raddau yn guddiedig oeddynt hyd y flwyddyn 1809, pryd y symmudodd gwr a gwraig o Lysfaen i'r lle, sef, Robert a Mary Frederick-aelodau oeddynt o Lysfaen. Rhoddasant eu hunain, yn nghyd â'r teulu Bedyddiedig arall oedd yn y Mount o'u blaen, yn aelodau yn Mhenypound, Aberdar, a thrwy eu dylanwad hwy byddai rhai o'u cymmydogion yn myned yn aml gyda hwy i Aberdar i wrandaw yr Efengyl, er fod y pellder dros bedair milldir. Yn y flwyddyn 1827, cawsant yr hyfrydwch o weled dau o'u cymmydogion yn ufuddhau i'r ordinhad o fedydd, sef Evan Morgan (yn ei 50 flwyddyn o'i oedran), Basin Isaf, a James Williams, neu fel y gelwid ef gan yr hen breswylwyr o gylch Mountain Ash, "Siams y Dyffryn," neu, "Siams y Garddwr." Efe oedd garddwr yr anrhydeddus H. A. Bruce, yn awr Arglwydd Aberdar, ac i'w dad cyn hyny. Yn 1829, bedyddiwyd dwy ereill, sef Hannah Davies a Margaret Morgan, gwraig y rhagddywedig Evan Morgan. Gelwid hi gydag anwyldeb mawr gan bobl y Mount yn Modryb Magws. Yr oedd ganddi hi a'i phriod, yn ogystal â'r brodyr ereill, dros bedair milldir i gerdded i Aberdar, etto, byddent yno yn gysson a phob amser yn brydlon. Ac wedi i Evan a Modryb Magws symmud i'r Basin Isaf, yr oedd ganddynt oddiyno dros bedair milldir i ddyfod i'r Mount, etto, nid oedd neb yn fwy cysson nâ hwy yn y moddion a'r cyrddau. Yn y flwyddyn 1832, bedyddiwyd dau ereill, sef Richard Richards a Gwenllian Thomas. Tyddynwr oedd Richard Richards, yn cadw tyddyn o'r enw Glyngwyn," yn ymyl Mountain Ash, a byddai ei ddrws bob amser yn agored i Arch Duw i ddyfod i fewn. Tua'r amser hwn dechreuwyd cadw cyfarfodydd sefydlog bob pythefnos ar brydnawn Sabboth, a byddai pregethu y rhan fynychaf yn y cyrddau hyn, a byddent yn cael eu cynnal yn gyffredin yn nhai y brodyr Evan Morgan a Richard Richards, a nodasom yn barod. "Yn y flwyddyn 1843," meddai y Dr. yn y Jubili, "Adeiladodd yr eglwys yn Aberdar dy cwrdd bychan yno, a thŷ annedd mewn cyssylltiad ag ef." Dyma'r ty cwrdd cyntaf gan y Bedyddwyr yn Mountain Ash, ond ymddengys, er mor gywir yr arferai y Dr. fod mewn cyssylltiad â dyddiadau a ffigyrau, ei fod wedi gwneyd ychydig gamsyniad yma, oblegyd dywed Gwyno yn Seren Gomer am Hydref, 1883, fel y canlyn:—
'Yn y flwyddyn 1840. dechreuwyd ar y gorchwyl o adeiladu capel. Mesurai y ty cwrdd newydd 24 troedfedd wrth 20 troedfedd rhwng y muriau. Adeiladwyd hefyd dy annedd mewn cyssylltiad â'r addoldy, a gorphenwyd y cwbl, yn nghyd â'r muriau oddiamgylch y lle, am y swm o £154 12S. 8c. Agorwyd y capel y dydd cyntaf o fis Gorphenaf, 1841. Y pregethwyr yn y cyfarfodydd agoriadol oeddynt y Parchn. D. Davies, Abertawe; W. Jones, Caerdydd; W. R. Davies, Dowlais; T. Davies, High Street, Merthyr, yn Saesneg; T. Morris, Casnewydd; R. Williams, Llancarfan, a Dr Jenkins. Hengoed. Cafwyd cyrddau hynod o effeithiol trwy y dydd, fel yr oedd hyd y nod yr Undodiaid yn gorfod cyfaddef na chlywsant erioed well pregethu. Casgliadau y dydd, yn nghyd â'r hyn oeddynt wedi gasglu yn flaenorol, oedd £27 16s. 2g: ac yn ystod y flwyddyn ddyfodol casglwyd £26 16s. 6c. gan adael £100 o ddyled ar yr addoldy."
Bu yr achos yr adeg hon yn lled lewyrchus, ac yn y flwyddyn 1842 bedyddiwyd deuddeg o bersonau, ac erbyn hyn yr oeddynt yn gwneyd ugain o bersonau mewn cymundeb, a phob peth yn ymddangos yn ffafriol iawn. Ond yn herwydd annghydfod rhwng y Parch. W. Lewis, cynweinidog Penypound, â Jonathan Jones yn nghylch rhai pynciau crefyddol ac amgylchiadau ereill, cafodd yr eglwys ddyoddef yn erwin. Ysgrifenodd Gwyno yn mhellach:—
Effeithiodd y drafodaeth hon mor ddrwg, fel na fedyddiwyd cymmaint ag un yn y lle hwn yn ystod y saith mlynedd dyfodol. Fel llin yn mygu oedd yr achos trwy y blynyddoedd hyn Dibrisiwyd yr Ysgol Sabbothol ac o dipyn i beth aeth yr ysgol i'r dim yn hollol. Tua diwedd y flwyddyn 1845 rhoddodd Mr W. Lewis ei lafur gweinidogaethol i fyny. a symmudodd i Dongwyrddlas: ac yn y mis Awst canlynol, daeth Mr T. Price, gweinidog presenol Aberdar, i ofalu am yr eglwys, yn nghyd a'r gangen yn Mountain Ash er na chafodd ei ordeinio yn weinidog hyd y dydd cyntaf yn y flwyddyn 1846. Llafuriodd Mr. Price yma yn ddiwyd a diflino am yn agos i bedair blynedd, heb ychwanegu cymmaint ag un at yr eglwys. Byddai yn pregethu yma un Sabboth o bob mis, ac yn aml yn fynychach na hyny, am ychydig iawn o gydnabyddiaeth am ei lafur Teimlai yn ddwys, fel y byddai yn arfer dweyd, wrth weled ei lafur mor aflwyddiannus yn methu ychwanegu dim un at yr eglwys; ond yn hyn, meddai efe, yr ymgysurai, nad oeddynt yn myned yn llai. Deuddeg oeddynt pan ddechreuodd lafurio yn eu plith, ac ni fuont oll yn llai na deuddeg. sef pedwar brawd ac wyth chwaer "
Arferai y Dr. pan yn myned i Mountain Ash i bregethu, a byddai hyny flynyddau yn ol yn dygwydd yn aml, adrodd hanes yr eglwys fach yn y Mount, fel y galwai hi. "Buom am hir amser (meddai), yn cadw, fel yr Apostolion, o hyd yn 12, oddigerth yn amser ffair y Mount, pryd yr oedd Shon Ty'n y Gelli yn meddwi, felly yn cael ei ddiarddelu a'i. adferyd unwaith bob blwyddyn. Fel yma, gwelwch nad oedd yr Yspryd Glân yn ein gwneyd yn fwy nâ 12, ac yr oedd y d-lyn methu ein gwneyd un amser yn llai nag 11. Clywsom ef yn adrodd yr hanes droion yn y geiriau uchod mor agos ag ydym yn gallu cofio. Dywedai yr hanes mor fyw a chyda y fath deimlad fel y gyrai yr hen bobl i wylo y dagrau yn lli`, a'r bobl ieuainc i grechwen a chwerthin. Mawr oedd ei allu i ddarlunio a'r dylanwad gai pan yn gwneyd hyny. Yn y cyfnod marwaidd ar grefydd y soniwn am dano, yr oedd Price yn egniol iawn gyda'i gyflawniadau gweinidogaethol. Nid esgeulusai y praidd bychan; mynychai yn gysson y cyfeillachau a'r cyrddau gweddi, er fod pedair milldir o ffordd o Aberdar i Mountain Ash, a dychwelai yn ol i Aberdar ar ol y cyrddau ar hyd y ffordd drymaidd, a thra unigol y pryd hwnw. Adroddai hen bobl y Mount ei hanes yn y cyfarfodydd hyn gyda blas a hwyl; a buom yn siarad â'r Dr. ei hun ar hyn, ac yr oedd ei adroddiadau yn cydgordio yn gywir â'r hyn a glywsom. Bu ef a Siams y garddwr, ac ychydig o chwiorydd, yn cynnal llawer o gyfarfodydd gweddio anwyl gyda'u gilydd. Nid oedd Siams yn gallu canu llawer, ac nid oedd y Dr. wedi ei fendithio â'r ddawn hyn yn helaeth. Felly darllen Salm neu ddarn o bennod wnelent yn lle canu. Darllenai Price i ddechreu, yna elai Siams i weddi. Darllenai Price drachefn, ac yna elai efe i weddi; wedi hyny darllenid rhan o air Duw, ac äi Siams eilwaith i weddi, a therfynid y cwrdd gan y gweinidog. Fel yna byddai y brodyr yn gweddio dwy a thair gwaith yn yr un cyfarfod. Pan yn pregethu neu yn siarad mewn cyfarfodydd cyhoeddus yn Mountain Ash, adroddai y Dr., er mwyn dangos y gwahaniaeth yn sefyllfa yr achos, gyda theimladau dwys, yr hanes hwn. Weithiau byddai yn eu hadgofio o waith y chwiorydd bach ac yntau yn glanhau ac yn paentio yr hen gapel. Paentiwr rhagorol, fel y nodasom yn barod, oedd Price, a rhoddodd brawfion ymarferol o hyn fwy nag unwaith ar gapeli yn Aberdar a Mountain Ash. Adroddai mewn cwrdd mawr unwaith yn Nghapel y Rhos am dano ef a'r hen chwiorydd, (ac yn ei ffordd ddoniol ei hun, enwai hwynt megys Mary Siams y garddwr, Rachel Williams o'r Lock, Shan Davies, a Marged Penybanc, &c.) yn glanhau y tŷ cwrdd. “ Yr oedd y chwiorydd bach," meddai, "a'r dw'r a'r sebon, a'r brwsh scrwbio, yn mynu cael y cwbl yn lân, a minau yn eu dylyn, a'r brwsh a'r paent, ac yr oedd yno weithio, chwythu, a chwysu, a phob un yn cael hwyl a blas wrth feddwl am ei waith ei hun."
Ar ol y cyfnod marwaidd y cyfeiriwn ato, tua diwedd yr Haf yn y flwyddyn 1849, agorodd drws gobaith ar grefydd yn y lle. Clywyd trwst yn mrig y morwydd; cafwyd arwyddion er daioni - daeth dau i'r gyfeillach, sef John a Chatherine Thomas, neu fel eu gelwid hwy yn gyffredin, Shon Benybanc a'i wraig.[6] Dyma y ddau gyntaf a fedyddiodd Mr. Price yn y lle hwn: ac yn ystod y tri mis dylynol bedyddiodd bymtheg ereill, a'r rhan fwyaf o honynt yn hen wrandawyr astud, yn gwybod eu gwaith, a buont o ddefnydd mawr i godi pen yr achos yn yn y lle. Ail gychwynwyd yr Ysgol Sul gydag egni. Sefydlwyd swyddogion, sef arolygydd ac ysgrifenydd, peth na fu mewn cyssylltiad ag Ysgol Sul Mountain Ash o'r blaen. Tua'r un amser sefydlwyd ysgol gân, o dan arweiniad y brawd David Evans, yr hwn fu yn ddiwyd a gweithgar gyda y rhan hon o'r gwasanaeth am flynyddau. Fel hyn aeth pethau yn y blaen yn gysurus. Amlhaodd y gwrandawyr, agorwyd amryw weithiau glo newydd yn y gymmydogaeth, daeth amryw ddyeithriaid i'r lle, ac yn eu plith rai oedd yn ofni Duw ac yn cilio oddiwrth ddrygioni; ac ambell un yn cael ei fedyddio. Yn fuan aeth y capel bach yn rhy fychan, teimlai yr eglwys angen am "helaethu lle ei phabell, ac estyn cortynau ei phreswylfeydd." Ac felly yn y flwyddyn 1853 cawn hi yn ystyried y mater o gael capel newydd, ac wedi trefnu i gasglu ar ei gyfer. Cytunwyd ar y 17eg o Fehefin, 1854, â Mr. Richard Mathias i adeiladu y capel am y swm o £487. Erbyn Tachwedd y 4ydd, yn yr un flwyddyn, yr oedd y capel wedi ei gwbl orphen, bythefnos cyn i amser yr ammod (contract) ddyfod i ben. Pregethwyd am y waith gyntaf yn y capel newydd yr ail Sabboth o'r un mis gan Mr. Price, ac ar yr 22ain o'r mis hwnw agorwyd y capel, pryd y pregethodd y Parchn. John Jones a John Lloyd, Merthyr; Robert Owen, Berthlwyd; William Williams, Llysfaen; J. D. Williams, Cwmbach; D. Davies, Waentrodau; B. Evans, Heolyfelin, a T. Davies, Merthyr. Wedi cael capel newydd, a lle cyfleus i addoli, a chael bendith ar lafur y gweision, trwy fod yr eglwys yn lluosogi a'r gwrandawyr yn amlhau, barnwyd yn angenrheidiol i ymgorffoli yr eglwys ar ei phen ei hun a chael gweinidog i fyw yn y gymmydogaeth. Hyspyswyd hyny i Price, y gweinidog. Rhoddwyd galwad wresog ac unfrydol i Mr. William Williams, Llysfaen, a derbyniodd yntau yr alwad. Dechreuodd ar ei weinidogaeth y Sabboth olaf yn mis Ebrill, 1855. Cynnaliwyd Cwrdd Chwarterol Morganwg yno ar y dydd diweddaf o Ebrill a'r dydd cyntaf yn Mai, yr un flwyddyn. Defnyddiwyd un o'r cyfarfodydd hyn i gorffoli yr eglwys ar ei phen ei hun a sefydlu y gweinidog. Ar yr achlysur pregethodd y Parchn. J. Davies, Merthyr, ar Natur Eglwys Iesu Grist; B. Evans, Heolyfelin, ar ddyledswydd y diaconiaid; J. Evans, Abercanaid, ar ddyledswydd y gweinidog; ac Ě. Evans, Dowlais, ar ddyledswydd yr eglwys. Y pump diacon a neillduwyd yn y cwrdd hwn trwy weddi ac arddodiad dwylaw y gweinidogion oeddynt, James Williams, David Jenkins, Thomas Richard, David Davies, a Richard John; ac yr oedd brawd arall, sef Evan Jenkins, neu fel y gelwid ef yn gyffredin, Ifan Shenkin, wedi symmud ychydig cyn hyn o'r Berthlwyd, ac wedi gwasanaethu yn y swydd yno am flynyddau. Cafodd yntau ei ddewis i wasanaethu yma (gwel Seren Gomer am Hydref, 1883).
Er fod cyssylltiad uniongyrchol Price a'r eglwys yn awr wedi darfod, etto teimlai yr eglwys a'r gymmydogaeth yn gyffredinol barch neillduol ato, a dangosent bob amser y dyddordeb mwyaf ynddo. Yr oedd fel tywysog yn y lle bob tro y deuai i lawr, ac yr oedd hyny am lawer o flynyddau, fel y nodasom yn barod, yn bur aml. Yr oedd wedi cael cyfeillion trwyadl yn hen deuluoedd parchus y Glyngwyn, Penybanc, y Darran Las, &c. Byddai Ambrose, Shon, Evan a Thwmi Glyngwyn, yn llythyrenol yn ei addoli. Credai Shon a Thwmi Penybanc nad oedd ei ail i'w gael, ac nis gallai fod yn uwch yn marn y Morganiaid, Modryb Magws, a Mrs. Mary Thomas o'r Bruce Arms, lle yr arferai gael ei giniaw a'i dê braidd bob Sabboth yn ystod y deg mlynedd y bu yn gofalu am yr eglwys, ac nid y lleiaf o'i edmygwyr oedd yr hen frawd doniol ac hwyliog, Richard Shon. Hefyd, teimlai Price ei hun ymlyniad serchgarol wrth hen bobl barchus y Mount. Gwnaeth eu serch ato yn nghyd â'r parch mawr ddangosasant iddo argraff ddofn ar ei galon a'i deimlad. Yn ei Jubili dywed eiriau a brofant hyn yn eglur: "Nid annghofia y rhai ag oedd ar y cymundeb hwnw[7] y telmladau ddangoswyd at Mr. Price ar ei ymadawiad, wedi bod yn eu gwasanaethu fel eu gweinidog am y deng mlynedd blaenorol." "Yr oedd yno," meddai yn mhellach, "ychydig o oreuon y ddaear yn byw, a thrachefn, tra y byddom byw, bydd genym adgofion parchus iawn an aelodau boreuol Mountain Ash. Y maent gan mwyaf wedi ymadael; ond cawn etto gwrdd yn y nef er adolygu llawer cyfarfod cysurus a gawsom gyda'n gilydd ar y ddaear."
Y mae yr eglwys hon wedi parhau oddiar sefydliad Mr. Williams, yr hwn sydd yn aros hyd heddyw, ac yn un o gymmeriadau puraf y pwlpud yn Nghymru, yn ei gweith garwch, mae ei llwyddiant wedi bod yn dra helaeth, ac y mae mor flodeuog a llewyrchus heddyw ag erioed. Gwawr, Aberaman, hefyd sydd gangen arall o hen Eglwys Penypound. Credaf y cawn ddelweddiad mor gywir o Price yn ei gallder ymarferol, a'i fedrusrwydd digyffelyb i gwrdd ag achosion helbulus yn ei gyssylltiad a'i berthynas ag eglwys Gwawr ag a gawn mewn unrhyw gyfeiriad y bu ynddo. Bu yr eglwys hon yn ei dyddiau boreuol mewn trallodion lu, fe ddichon yn herwydd toriad cynnarol ei chyssylltiad â'r fam—eglwys Camsyniad sydd yn cael ei wneyd yn rhy gyffredin gan gangenau ydyw hwn, ac y maent yn fynych yn gorfod dyoddef canlyniadau chwerwon yn ei herwydd. Dywed gohebydd yn Seren Cymru am Ionawr y 4ydd, 1867, pan yn ysgrifenu ar achlysur jubili dyled yr eglwys yn Ngwawr, fel y canlyn:
Mae y ffaith fod yr eglwys wedi talu y ddyled oll yn achos o syndod ac yn destyn diolchgarwch Mae y syndod yn fwy. gan fod yr Eglwys yn Gwawr, Aberaman. wedi dyoddef mwy o dywydd garw, ac we li cael mwy o gam—chwareu nâ nemawr eglwys yn Nghymru. Yr ydym ni sydd yn ei hadnabod o i genedigaeth hyd yn awr yn synu mwy, ac yn diolch i Dduw yn fwy difrifol nag a wyr neb ond yr ychydig frodyr da sydd wedi bod gyda ni yn y tywydd chwerw ag y bu yr eglwys hon ynddo "
Mewn trefn i ddangos yr helbulon y cyfeiria y gohebydd hwn atynt, a chan eu bod yn dwyn perthynas agos â Price, fel un yn benaf a aeth drwyddynt, gosodwn yma fraslinelliad o'i hanes fel yr adroddir ef gan Price yn ei Jubili. Dywed yn debyg i hyn:—
"Dechreuodd Eglwys Aberdar lafurio yn Aberaman yn niwedd y flwyddyn 1846. Wedi i Arch yr Arglwydd fod yn ymsymmud o dỷ i dy am dymhor hir. ardrethwyd ystafell eang yn ymyl y King William.' yn yr hon y dygwyd y gwasanaeth yn mlaen ar y Sabbothau ac yn yr wythnos. Yn 1848, penderfynwyd codi capel cyfaddas i sefyllfa gynnyddol y lle. Erbyn Mehefin, 1849, yr oedd y ddalysgrif (lease) wedi ei chymmeryd ar adeiladu ar gael ei gychwyn. Ar y Sul o flaen y Gymmanfa y flwyddyn hono, yn ddisymmwth gwnaeth y gangen gais at y fam eglwys am ei chorffoli, er bod yn eglwys ar ei phen ei hun." Yn groes i feddwl aelodau goreu Aberdar, ac i farn a theimlad Price, caniatawyd eu cais, ac er hyrwyddo y ffordd iddynt gael derbyniad dioed i'r gymmanfa, corffolwyd hwy gan Price, yn cael ei gynnorthwyo gan y Parch. B. Evans, Hirwaun, y pryd hwnw, ar y nos Lun cyn y gymmanfa, a gollyngwyd 121 o aelodau i'w ffurfio. Derbyniwyd hi i'r gymmanfa yn y flwyddyn 1849.
Yn ddioedi wedi hyn, rhoddasant alwad i ddyn drwg o'r enw David Jones (Dewi Elfed) i ddyfod i'w bugeilio, a chymmerwyd arolygiaeth y capel yn hollol o law Eglwys Aberdar; ac er tori y cyssylltiad yn ddigon llwyr, tynwyd enwau Price a John Davies o'r ddalysgrif, a gosodwyd enwau David Jones a David Richards yn eu lle. Gwnawd hyn yn ddiau yn fwriadol gan Dewi Elfed er cyrhaedd ei amcan ystrywgar o fyned â'r capel oddiwrth y Bedyddwyr. Codwyd muriau y capel, a gosodwyd tô arno, a phwlpud ac un sedd ynddo, ac awd iddo yn y cyflwr anorphenedig hwnw; ac felly y bu hyd amser dinystriad yr eglwys. Nid hir y bu y dyn hwn cyn dangos ei ddrygioni. Yn y flwyddyn 1850, diarddelwyd yr eglwys a'i gweinidog o'r Gymmanfa yn herwydd cyfeiliornadau dinystriol y gweinidog. Ond er holl ddrygioni a chyfeiliornadau Dewi, cafodd rai Bedyddwyr i'w bleidio, a chan iddo gael ei gefnogi gan ychydig deuluoedd camsyniol, bu fel cancr yn difa pob rhinwedd a phob yspryd crefyddol yn yr ardal, ac yn planu chwyn gwenwynllyd, y rhai a adawsant eu heffeithiau yn Aberaman am flynyddau amryw. Wedi i'r dyn hwn wneyd a allasai i ddifodi achos y Bedyddwyr yn y lle, aeth ef ei hun—ac amcanodd fyned â'r capel a'r eglwys—drosodd at yr haid crefyddwyr a elwid yn y gymmydogaeth yn "Seintiau y Dyddiau Diweddaf." Llwyddodd, trwy ei dwyll yn newid y lease, i fyned â'r capel, a dylynwyd ef gan rai o'r aelodau; ac felly, llwyr ddinystriwyd yr eglwys yn Aberaman, ac ni achubwyd o'r drygfyd hwn ond ychydig a ddychwelasant i Aberdar. Collwyd y capel i'r eglwys am yn agos i flwyddyn; ond cymmerwyd y mater mewn llaw gan Price a'i eglwys er adennill y capel i'r Bedyddwyr o grafangau yr yspeilwyr oeddynt wedi ei drawsfediannu. Cafwyd, fel y gellid dysgwyl, bob gwrthwynebiad gan Dewi a'i blaid; ond er syndod a gwarth tragwyddol, cafwyd pob gwrthwynebiad gan ychydig Fedyddwyr oeddynt â llaw yn y mater. Perodd yr achos hwn bryder a thrafferth mawr i Price, a degau o bunnau o gost i'r eglwys yn Nghalfaria. Ond er pob gwrthwynebiad, yn Mrawdlys Haf 1851, adennillwyd y capel trwy y gyfraith, a chafwyd ailfeddiant o hono gan Uchel Sirydd Morganwg. Ar Tachwedd y 4ydd, 1851, daeth tua dwy fil o ddynion at eu gilydd i weled y capel yn cael ei adfeddiannu gan y Bedyddwyr; ond yr oedd y dyn drygionus, David Jones, yn nghyd â rhyw apostol gau, wedi cloi eu hunain o fewn y capel, a chan nad oedd hawl gan y Sirydd i dori y drws, yr oedd yn ymddangos fod y Seintiau yn debyg o gadw y capel, er fod y gyfraith yn eu herbyn. Ond nid oedd Price, wedi ymladd ei frwydr hyd yn hyn yn fuddugoliaethus, yn myned i gael ei orchfygu gan y ddau saint-gythraul oeddynt yn cadw gafael yn y capel.
Clywsom ef yn ei flynyddau olaf yn adrodd yr helynt gyda blas a hwyl, a cheisiwn osod yr hanes mor agos ger bron ag y cawsom ef ganddo, yn cael ei attegu gan ereill oeddynt yn llygaid-dystion o'r cwbl. Yr oedd Dewi a'r apostol wedi cloi a bolltio drws y capel gan ei osod mor ddyogel ag oedd yn bossibl. Hefyd, yr oeddynt wedi hoelio yn sicr bob un o'r ffenestri, y rhai oeddynt ychydig yn anhawdd eu cyrhaedd o'r tu allan. Yr oedd y bobl yn aros yn ddysgwylgar am olygfa, ac yn teimlo i raddau yn gas at y trawsfeddiannwyr oeddynt yn y deml. Dacw Price yn dyfod, yn wyllt yr olwg, cerddai yn gyflym, edrychai yn benderfynol, ac yr oedd pob ysgogiad o'i eiddo yn dweyd capel i'r Bedyddwyr ac nid i'r Seintiau oedd Gwawr i fod yn y man. Yn nghanol cynhyrfiad y bobl wele ef yn treio y drws, ond i ddim pwrpas. Ar hyn, y mae yn gwaeddi mewn modd awdurdodol ar un o'i ddiaconiaid, Mr. Phillip John, ac ar David Grier, saer, yr hwn oedd ag ychydig offer gweithio yn ei logell ar y pryd. "Agorwch y ffenestr yma, Grier," gwaeddai yn wyllt, "ac af i fewn at y d——liaid." Gwnawd hyn yn ddioedi, a chynnorthwywyd Price i fewn trwy y ffenestr gan Phillip John a Grier, a chanlynasant ef ar unwaith. Yr olygfa gyntaf gawsant oedd gweled Price yn cwrsio ar ol Dewi a'r apostol o amgylch y capel, i fyny i'r pwlpud ac i lawr drachefn, ac wedi myned o amgylch ddwy neu dair gwaith daethant i'r ddalfa yn y lobby. Cydiai Price ynddynt gyda gafaeliad cawr. Dywedodd wrth Grier a John am agor y drws, yr hyn a wnaethant drwy gryn drafferth. Ar hyn troediwyd yn llythyrenol y ddau ddyhiryn y naill ar ol y llall o'r capel gan Price, nes yr oeddynt yn disgyn yn y pellder draw yn nghanol llongyfarchiadau y dorf fawr ag oedd yn lygad-dystion o'r weithred. 'Dyna i chwi,' meddai, enghraifft bur dda o'r hyn yw 'bwrw allan gythreuliaid yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg." Diangodd y ddau sant am eu bywyd, er nad oedd yno genfaint o foch i fyned iddynt. Y dydd hwnw gofalwyd gosod y capel yn ddyogel mewn ymddiriedolaeth i'r Bedyddwyr.
Er fod y capel erbyn hyn wedi ei adfeddiannu i'r Bed- yddwyr drwy ymdrech egniol Price, nid oedd yr helynt ar ben etto. Yr oedd Dewi a'r Seintiau wedi gosod yr achos yn llaw Mr. Owen, Cyfreithiwr, Pontypwl, yr hwn a elwid yr adeg hono "the workmen's friend," oblegyd efe yn gyffredin gai ei bennodi i ddadleu achosion y dospaath gweithgar; ac yr oedd bob amser yn bur arwraidd a llwyddiannus yn ei frwydrau drostynt. Credai y Saint fod eu hachos hwythau yn ddyogel yn ei law; ond nid oeddynt wedi cyfrif gallu a medr cyfreithiol y gwr bach gwridgoch a phengrych oedd yn weinidog yn Mhenypound, Aberdar. Yr oedd yr achos o du y Bedyddwyr wedi ei ymddiried i Mr. Frank James, Merthyr, gan Price. Ymgeisiodd cyfreithiwr y Saint gael gan Price dalu treuliau oedd ddyledus iddo, ond methodd, a gorfu i Dewi Elfed eu rhoddi iddo y y dydd y bwriwyd ef allan o'r capel. Ar ol hyn gwysiwyd y Dr. gan Dewi Elfed, drwy ei gyfreithiwr Owen, am assault, a gofynai iawn am y niwed oedd wedi ei dderbyn drwy y troediad. Anfonodd y Dr. yn ol ato, a dywedodd fod perffaith roesaw iddo fyned yn mlaen a'r case, y buasai yn ei gyfarfod ef a Dewi Elfed yn y llys, ond ei fod yn hyspysu mai y peth cyntaf fynai yn ei erlyniad oedd dynoethi Dewi yn y llys er gweled y fan oedd wedi derbyn y niwed a'i archwilio yn llwyr, er gweled faint o niwed oedd wedi ei dderbyn. Rhoddodd hyn derfyn ar y cwbl, ac ni chlywodd Price ddim mwyach am dano. Wedi i Price a'i eglwys yn Aberdar ad-feddiannu y capel i'r Bedyddwyr, ail-agorwyd ef ganddynt yn ddioed. Am hyn edrydd Price yn ei Jubili.
'Y dydd Sul canlynol, Tachwedd, 1851, ail agorwyd y capel gan Eglwys Calfaria ac Eglwys y Cwmbach, a gosodwyd yr achos o dan nawdd y Parch. J. D. Williams ac Eglwys y Cwmbach. Fel yna terfynodd y frwydr hon. Ond arosodd effeithiau cythreuleiddiwch David Jones, a chamsyniad ffol a phengamrwydd rhai Bedyddwyr yn fawr ar Aberaman, ac yn wir nid yw yr effeithiau weli llwyr ymadael hyd y dydd hwn."
Ond er cymmaint oedd y stormydd a'r helbulon yr aeth yr eglwys hon drwyddynt, cafodd ei bendithio à dynion da yn weinidogion arni, megys y Parchedigion W. Jones, yn awr Philadelphia, Abertawe; T. Abertawe; T. Nicholas; Morgan Phillips, yn nghyd a i gweinidog da a gweithgar presenol y Parch. T. Davies.
Bu Price yn llafurus a diwyd iawn yn dechreu achos Seisnig yn Aberdar. Yr oedd ganddo lygad craft i weled angenion y gymmydogaeth, a gallu arbenig i ddarparu ar eu cyfer, yn neillduol yn ei gylch a'i gyssylltiadau crefyddol. Dechreuodd efe yr eglwys hon, fel y gwneir yn gyffredin wrth gychwyn achosion newyddion, trwy fyned a'r cyfarfodydd o dy i dy. Cyflogodd ystafell fawr berthynol i'r Horse and Groom am dymhor byr; yna, cafodd un mwy cyfleus yn ymyl y Black Lion. Bu y frawdoliaeth yno hyd symmudiad yr eglwys Gymreig i Gapel Calfaria, pryd y rhoddwyd yr hen gapel i'r Saeson, a chorffolwyd hwynt yn eglwys reolaidd gan Price ar y 15fed o Chwefror, 1852. Dewiswyd y Parch. James Cooper yn weinidog; ond ni fu ei arosiad yn hir yn Aberdar, er ei fod yn yn ddyn rhagorol, ac yn weinidog da. Yn mhen tair blynedd wedi corffoliad cyntaf yr eglwys, diflanodd yn llwyr, a chauwyd y capel i fyny yn mis Mawrth, 1855. Ar y dydd Sabboth, Mai y 13eg, yn yr un flwyddyn, agorwyd y capel drachefn gan Price, yn cael ei gynnorthwyo gan Mr. Edward Gilbert Price i ofalu am yr Ysgol, Mr. William Davies i ofalu am y canu, a Mr. John Lewis i ofalu am y ddiaconiaeth. Dyma y cwbl," adroddai Price, "oedd genym i ymddybynu arnynt i ddechreu yr achos newydd. achos newydd." Ond ymdrechodd Price yn egniol gyda'r brodyr da hyn, a chynnyddodd yr achos yn raddol. Yn y flwyddyn 1856, gollyngwyd 81 o aelodau Calfaria er ffurfio eglwys yma etto, yr hon a gorffolwyd yn rheolaidd, ac a dderbyniwyd i'r Gymmanfa y flwyddyn hono. Tynwyd yr hen gapel i lawr, ac adeiladwyd un newydd a hardd yn yr un man â'r hen dy. Agorwyd ef Mawrth yr 8fed, 1857, gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch. G. P. Evans, York Place, Abertawe, (gweler Gwron Mawrth 14, 1857). Bu yr eglwys, fel cangen o Galfaria, dan arolygiaeth a gofal Price hyd sefydliad Mr. James Owen, yn awr o Mount Pleasant, Abertawe, yn weinidog arni yn y flwyddyn 1860, a fu yn llwyddiannus i godi achos llewyrchus yn y lle.
Bron yn yr un adeg codai yr eglwysi yn Methel, Abernant, a'r Ynyslwyd; ac arferai y Dr. yr un diwydrwydd ac egni gyda hwynt ag a ddangosasai gyda r cangenau ereill. Mynychai pobl Abernant y cyfarfodydd crefyddol yn Nghalfaria, oddigerth yr Ysgol Sul a'r cyfarfodydd gweddio, y rhai a gynnelid, fel y dywedir, ar hyd y tai yn eu cymmydogaeth. Ceisiai Price drefnu y cyfarfodydd yn y cangenau i beidio bod ar yr un nosweithiau, ac felly, yn gyffredin, yr oedd yn gallu bod yn bresenol ynddynt. Nodweddid ef yn neillduol gan ffyddlondeb a chyssondeb yn ei fynychiadau i'r cyfarfodydd wythnosol yn y cangenau, ac yr oedd dylanwad mawr gan ei bresenoldeb ar yr aelodau gan y gwelent ei fod yn teimlo y fath ddyddordeb ynddynt. Yr oedd hyn yn effeithio yn ddaionus hefyd ar y cymmydogion a'r gwrandawyr, gan ei fod yn eu tynu i'r cyfarfodydd hyn. Yn gweled fod yr achos yn llwyddo yn gyflym yn Abernant, penderfynwyd yn y flwyddyn 1856 adeiladu ysgoldy eang yno, yr hyn a wnawd yn ddioedi; oblegyd cawn ei fod yn cael ei agor ar y 25ain o Ionawr, 1857, a phregethwyd ynddo am y waith gyntaf gan Dr. Price ar nos Sul, y dyddiad crybwylledig. I gyfarfod y ddyled drom o £374 12s. oedd yn awr ar Bethel, mabwysiadodd y Dr. gynllun rhagorol, yr hwn a wnaeth y baich yn hawdd i'w ddwyn gan y bobl. Sefydlodd yn yr eglwys yr hyn a alwai yn Gymdeithas Ceiniog yr Wythnos. Cyfranai pob aelod ei geiniog bob wythnos, ac felly cyd-ddygent y baich yn ogoneddus. Yn fuan, aeth yr ysgoldy yn rhy fychan, felly rhaid oedd codi capel newydd yn llawer eangach: ac ar yr 20fed o Fai, 1862, fel y cawn hanes, gosodwyd y garreg sylfaen, neu goffadwriaethol, gan Mrs. Hosgood, Rose Cottage, Abernant. Rhoddwyd an- erchiad pwrpasol ar yr achlysur gan y Dr., yn cael ei gynnorthwyo gan y Parchn. W. Williams, Mountain Ash; W. Harris, Heolyfelin; Dr. John Emlyn Jones, Caerdydd; a T. E. James, Glynnedd, yr hwn a wnaeth gân odidog ar "Bethel fach yn myn'd yn Bethel fawr." Bu y Dr. drwy y blynyddau yn dra charedig i eglwys Bethel; teimlai ddyddordeb neillduol yn newisiad y gweinidogion fuont yn gweinidogaethu arni o bryd i bryd. Cawn ei fod wedi traddodi amryw ddarlithiau yn rhad i'r eglwys hon er dileu ei dyledion. Bu yn enwog yn ei weithgarwch a'i ffyddlondeb yn gyssylltiedig â hi, yn neillduol tra fu dan ei ofal neillduol ef ac ar adegau y byddai heb weinidog. Da genym nodi er lleied a gwaned oedd Bethel, pan broffwyd- ai y caredig frawd T. ab Ieuan am dani, ei bod bellach wedi dyfod yn Bethel fawr dan weinidogaeth lwyddiannus ei gweinidog presenol y Parch. John Mills, yr hwn hefyd sydd yn aelod gwreiddiol o Bethel.
Derbyniodd yr Ynyslwyd yr un gofal a charedigrwydd gan y Dr. a'r fam-eglwys yn Nghalfaria ag a wnaeth Abernant, ond yn unig ei fod wedi pregethu yn amlach yn Methel nag a wnaeth yn yr Ynyslwyd. Y tro cyntaf y cawn iddo bregethu yn yr Ynyslwyd, yn ol ei ddyddiadur, yw ar y 29ain o Ragfyr, 1858. Ei destyn oedd Esay liv. "Helaetha le dy babell." Traddododd araeth yn y gyfeillach y noson hono hefyd ar "Ddiwedd y flwyddyn;' ond tebyg ei fod wedi pregethu yno yn flaenorol: fodd bynag, cawn ei hanes yn rhoddi anerchiadau yn yr Ysgol Sabbothol yno cyn hyn. Cymmerodd y Dr. lawer iawn o ddyddordeb gydag adeiladu yr ysgoldy a'r ty annedd yn y flwyddyn 1858, y rhai oeddynt yn werth £254 17s. 8c.; ac yn y flwyddyn 1862 adeiladwyd y capel eang a phrydferth presenol, yr holl waith yn cael ei arolygu gan y Dr. ei hun. Agorwyd ef yn gyhoeddus ar y dyddiau Mercher ac Iau, y 4ydd a'r 5ed o Chwefror, 1863. Ond yr oedd Price wedi pregethu ynddo y nos Sul blaenorol. "Holl gynghor Duw" oedd y pwnc, ac wedi y bregeth bedyddiodd saith o gredinwyr proffesedig yn y fedyddfa newydd. Y cyntaf o'r saith oedd Mr. David Davies, yr hwn oedd wedi treulio dros bymtheg mlynedd ar hugain yn aelod gyda y Methodistiaid. Hyd yma yr oedd yr eglwys yn aros yn gangen dan nawdd a gofal y fam-eglwys, ac wedi ei hymadawiad bu yn llwyddiannus iawn dan ofal gweinidogaethol y Parch. Thomas John, yn awr o Ffynnonhenry. Olynwyd ef gan y Parch. R. E. Williams (Twrfab), y gweinidog presenol, ac y mae yr eglwys yn parhau yn llewyrchus a blodeuog dan ei weinidogaeth.
Yr oedd golwg fawr gan y Dr. ar y Gadlys, y gangen olaf a godwyd gan Calfaria. Arferai Price, pan yn siarad yn gyhoeddus am hanes yr eglwysi Bedyddiedig yn y dyffryn (a gwnai hyny yn aml yn ei flynyddau olaf), ei galw yn gyw gwaelod y nyth. Sefydlwyd Ysgol Sul yn y Gadlys yn y flwyddyn 1858. Cynnaliwyd yr ysgol gyntaf yn nhŷ Dan James, yr hwn a fu yn llafurus iawn ynddi, ac yn ddiacon ffyddlon a gweithgar yn yr eglwys am flynyddau, ond gwnaeth longddrylliad yn y ffydd a chafwyd colled enfawr ar ei ol. Cawn a ganlyn ar goflyfr y Gadlys am yr Ysgol Sul:-" Rhif yr ysgol gyntaf oedd 113, o ba rai yr oedd 39 yn aelodau. Yr oedd Dr. Price, ein hanwyl weinidog, yn bresenol, a'i holl enaid yn y gorchwyl o sefydlu achos yn y lle." Wedi bod yn ymdreiglo o dy i dy â'r ysgol am rai misoedd, penderfynwyd ar godi ysgoldy. Ymgymmerodd Price, yn ol ei barodrwydd arferol, at sicrhau tir, a chafodd addewid am lecyn cyfleus gan Mr. Thomas Wayne ar ystâd y Gadlys, ond pan ar fedr tynu allan y cytundeb, trodd allan na ellid ei gael, am fod lease y cwmni yn gwahardd rhoddi tir i adeiladu capelau i'r Ymneillduwyr arno, ond cyn gynted ag y cafodd Price y nacâd, dywedodd yn ei ddull meistrolgar a phenderfynol, "Land for building my chapel I will get ere I sleep to-night," ac felly y bu: aeth yn uniongyrchol at foneddwr o gyfaill iddo, sef J. L. Roberts, Ysw., meddyg, Gadlys Uchaf, ac wedi gosod ei gais o flaen Dr. Roberts, llwyddodd yn y man. Cafodd ddewis ei le, a phenderfynodd ar y darn y saif Capel y Gadlys arno yn bresenol. Awd yn mlaen â'r gwaith o adeiladu yn ddioed, ac nid hir y bu yr ysgoldy a'r annedd-dai perthynol iddo cyn bod yn barod. Cynnaliwyd yr ysgol gyntaf yn y lle newydd Chwefror y 6ed, 1859. Cynnyddodd yr ysgol yn gyflym, ac mewn ychydig amser rhifai 180 o ysgolheigion, 56 o'r cyfryw oeddynt yn aelodau o'r fam-eglwys yn Nghalfaria. Yn gweled fod yn y Gadlys lawer iawn o bobl ieuainc, bywiog, ac yn meddu ar hoffder i ganu ac adrodd, cyfansoddodd y Dr. bwnc, fel y dywed ysgrifenydd y Gadlys yn ei gronicliad o hanes boreuol yr eglwys, "at wasanaeth yr ysgol hon; y testyn oedd 'Yr Efengyl a'i llwyddiant.' Yr oedd i fod wedi ei ddysgu ganddynt erbyn dechreu 1860. Yr elw oddiwrtho i fyned at genadaeth China." Cynnyddodd yr ysgol a'r eglwys hon yn gyflym, fel yr oedd yn 189 o aelodau pan yn cael ei derbyn yn aelod o'r gymmanfa yn Nowlais yn Mehefin, 1865. Yn y flwyddyn hono yr agorwyd y capel. Rhoddwyd y contract o'i adeiladu allan i Mr. Thomas Roberts dydd Llun, Mai yr 8fed, 1864, am y swm o £675. Yn ei fynegiad o hanes cyfarfodydd agoriadol y Gadlys yn Seren Cymru am Mehefin y 30ain, 1865, dywed y gohebydd,
"Mae yn deilwng o sylw mai hwn yw y seithfed capel ag y mae Eglwys Calfaria wedi ei godi er sefydliad y Dr. Price yn weinidog yn Aberdar, yn agos i 20 mlynedd yn ol; a hon yw y chwechfed eglwys a gorffolwyd o aelodau yn cael eu gollwng yn rheolaidd ac yn gariadlawn o Eglwys Calfaria, yn ystod y blynyddau diweddaf. Ac y mae pob un o'r eglwysi hyn yn alluog i, ac yn cynnal gweinidogion eu hunain. A bydd yn dda gan ein cyfeillion wybod fod y fam-eglwys yn para yn gryf ac iachus, ac yn cynnal ei gweinidog ei hun mewn cysur ac anrhydedd. Mae yn ffaith deilwng o sylw fod pob un o'r eglwysi hyn wedi ymadael â'r fam-eglwys mewn heddwch, cariad, a brawdgarwch. Nid oes cymmaint â gair croes wedi bod rhwng y gweinidog a'r fam-eglwys o'r naill du, a'r eglwysi newydd o'r tu arall. Mae perffaith unoliaeth a brawdgarwch wedi ac yn parhau i lywodraethu pawb o honom o'r henaf hyd yr ieuengaf."
Bedyddiodd y Dr. am y waith gyntaf yn nosparth y Gadlys prydnawn dydd Sul, Ebrill y 5ed, 1863, a rhoddodd y cymundeb cyntaf yn y Gadlys nos Sul, Ionawr 24, 1864. Nos Sul cymundeb, Mai yr 21ain, 1865, yn yr hwn yr oedd y Dr. yn bresenol, rhoddwyd galwad unfrydol i'r doniol bregethwr, Mr. D. Davies (Dewi Dyfan), myfyriwr o Bontypwl; cyflwynwyd hi iddo ar y 23ain. Derbyniodd hi gyda boddlonrwydd. Rhoddodd Price y cymundeb am y tro olaf yn y Gadlys fel eglwys dan ei ofal nos Sul, Rhagfyr y 24ain, 1865. Ymsefydlodd Dewi Dyfan yma, a chynnaliwyd cyfarfodydd ei urddiad ar y dyddiau Sul a Llun, Ionawr y 14eg a'r 15fed, 1866. Bu yn dra llwyddiannus hyd ei ymadawiad i Aberteifi yn 1875. Olynwyd ef gan y gweinidog presenol, y Parch. B. Evans, gynt o Dy Ddewi, yr hwn, yn ngwyneb llawer o anfanteision achoswyd trwy lwyr attaliad gweithfeydd haiarn ac alcan y Gadlys, sydd wedi cael ffafr yn ngolwg Duw a dynion.
Dengys y nodion geir yn nghofnodlyfr y Gadlys am 1865 fawr ofal Dr. Price am yr eglwys hon. Mae y manylion am ei fynychiadau a'i ymrwymiadau i'r eglwys yn ystod y flwyddyn yn rhy luosog i'w croniclo yn llawn yma. Ceir ef yn pregethu ar foreu neu nos Sul yn fynych, yn tori bara bob mis, yn yr Ysgol Sul yn aml, yn lled gysson yn y cyrddau gweddïo a'r cyfeillachau, ac hefyd yn bedyddio â threfnu amgylchiadau allanol yr eglwys.
Credwn fod y braslinelliad ydym wedi ei dynu o gyssylltiad Price â changenau ei eglwys yn ddigon i ddangos ei weithgarwch difefl, ei egnïon parhaol, ei benderfyniad diysgog, ei ofal diflin, ei serch ymlynol, a'i fawredd dihafal. Hoffa yr hen bobl siarad yn fynych am yr amser hwnw, a chredant nad oedd tebyg y Dr. i'w gael i weithio a chodi eglwysi newyddion. Dywedodd un o honynt wrthyf yn ddiweddar, "Gellwch ddweyd yn dda am y Dr., poor fellow, ac wedi i chwi ddweyd neu ysgrifenu eich goreu am dano, bydd ei waith yn llawer mwy wed'yn. Ni fedr neb ddweyd gormod am dano yn ei berthynas â Bedyddwyr Aberdar." Yr ydym o'r un farn â'r hen frawd hwnw, oblegyd y mae codi cynnifer o ysgoldai a chapelau newyddion mewn tymhor mor fyr yn golygu gwaith a llafur anarferol, heblaw fod ganddo amryfath ddyledswyddau pwysig ereill yn galw am ei amser a'i wasanaeth; ac er fod ganddo gynnorthwywyr effeithiol yn ei ddiaconiaid gweithgar a brodyr da ereill oeddynt yn aelodau yn y cangenau hyn, mynai Price gyda phobpeth i'r baich trymaf bwyso ar ei ysgwyddau ei hun; ac felly yma.
Yn ei Drem, fel y crybwyllasom yn barod, noda y Dr. allan 21 o'r eglwysi ydynt wedi hanu o Galfaria. Fel hyn yr ysgrifena:—
EGLWYSI A GODWYD GAN EGLWYS CALFARIA.
"Yr wyf am osod yr eglwysi hyn i lawr yn ddaearyddol, yn hytrach nag yn ol eu hoedran:—Pontbrenllwyd; Ramoth, Hirwaen; Bethel, Glynnedd; Heolyfelin, Resolfen. Llwydcoed, Gadlys, Tabernacl, Merthyr Tydfil; Carmel (Seisnig); Bethel, Abernant; Gwawr, Aberaman; Bethania, Cwmbach; Aberaman (Seisnig); Cwmaman; Abercwmboye; Rhos, Mountain Ash; Nazareth, Ferndale; Penrhiwceibr; Penrhiwceibr (Seisnig)."
Ond gwelir nad yw y rhai hyn yn gangenau uniongyrchol o Galfaria. Mae rhai o honynt yn blant y plant: maent yn ŵyrion, os nad gorŵyrion, rai o honynt. Felly, nid ateba lawer o ddyben i ni eu dylyn yn fanwl, ac ni wnawn amgen nodi eu bod wedi cael llawer o sylw a chynnorthwy ymarferol y Dr. mewn gwahanol amgylchiadau o bryd i'w gilydd.
Bellach, yr ydym yn cael yr achos Bedyddiedig wedi lledu ei esgyll drwy yr holl ddyffryn, ac y mae y gwaith o adeiladu capelau, &c., ar ben. Fel hyn y dywed gohebydd yn ei adroddiad o gyfarfodydd ordeiniad Dewi Dyfan yn Seren Cymru am Ionawr y 26ain, 1866:—
"Mae Dr. Price mewn fix, yn methu yn deg a gwybod b'le y ca le i godi capel etto. Mae wedi codi capeli yn mhob man ag oedd galw am danynt, ac os na wna rhywle newydd agor yn fuan, bydd yn sicr o fyned allan tua'r Iwerddon neu rywle, oblegyd helaethu terfynau teyrnas Emanuel yw ei fwyd a'i ddiod. Mae wedi llanw dyffryn Aberdar ag egwyddorion y Bedyddwyr; ac y mae fel tad parchus a thyner yn nghanol yr eglwysi sydd wedi myned allan o'i eglwys, a'u gweinidogion."
Nid anmhriodol, credwn, fyddai i ni yn awr edrych yn fyr ar y modd hwylus y gweithia yr eglwysi hyn, a dyferu gair am eu teimladau tuag at y Dr. fel eu tad mewn ystyr, neu fel yr ystyrid ef yn gyffredin, tywysog y Bedyddwyr yn y cwm. Cawn weled hyn yn ngoleuni yr undebau gwahanol
berthynent i eglwysi ac Ysgolion Sul Dyffryn Aberdar.PENNOD XI.
GOLWG GYFFREDINOL AR FEDYDDWYR ABERDAR A PRICE.
Golwg gyffredinol ar Fedyddwyr Aberdar—Meddylgarwch a charedigrwydd Price yn ennill iddo barch—Undeb Ysgolion— Cymmanfaoedd Ysgolion—T. ab Ieuan yn canu—Eisteddfodau Blynyddol yr Undeb—Price yn haul a bywyd y cylch—Y cangenau a'r bedydd—Dirmygu y bedydd a'r bedyddiwr— Chwedlau am Price wrth fedyddio—Egwyddorion y Bedyddwyr yn ddyogel yn ei law—Ei ddefnyddioldeb cyffredinol—Cydweithio yn hwylus a'i frodyr—Ei barch atynt—Cael ei barchu ganddynt.
BRON yn yr adeg yr ymsefydlodd y cangenau diweddaf yn eglwysi annybynol, yr oedd Price yn ei ogoniant. Bu mor llygadgraff, meddylgar, a charedig gyda phob symmudiad o'i eiddo, fel yr oedd, nid yn unig wedi ennill sylw, ond edmygedd cyffredinol yr eglwysi, y rhai oeddynt yn cyflym godi i sefyllfaoedd uchel a dylanwad mawr. Yn ymwybodol o lafuriadau Price, edrychent arno gyda pharch a mawrhad anarferol—braidd nad addolent ef drwy y dyffryn; ac nid yn unig yn mhlith y Bedyddwyr y ffynai y teimlad da hwn, eithr hefyd yn mhlith yr holl enwadau crefyddol ereill. Wedi ennill y teimladau hyn, ymdrechai Price eu cadw, a llwyddodd i raddau pell am flynyddau meithion. Bu ffurfiad yr Undeb Ysgolion yn gynnorthwyol iawn i hyn, oblegyd cedwid yr eglwysi yn agos at eu gilydd, a'r Ysgolion Sabbothol gyda'u gilydd yn bur effeithiol drwyddo. Er fod yr eglwysi ar wahan ac yn annybynol, etto byddent fel un gynnulleidfa pan gwrddent â'u gilydd, a chymmerai hyny le yn aml am flynyddau, yn neillduol yn nghylchran y dref. Wrth edrych dros yr hen newyddiaduron, megys y Gwron a'r Gweithiwr (papyrau a gyhoeddid yn Aberdar gan Mr. J. T. Jones, ac a olygid gan y Dr. yn eu blynyddau olaf); Seren Cymru, yn nghyd â chylchgronau cofnodol yr enwad, cawn hanesion mynych am gyfarfodydd undebol Ysgolion y Bedyddwyr yn Aberdar, a'r Dr. yn cael ei gydnabod yn brif yspryd symmudol, yn arweinydd, ac yn llywydd y cyfryw braidd yn ddieithriad.
Yn y Bedyddiwr am Ragfyr, 1854, cawn hanes cymmanfa flynyddol gyntaf Ysgolion Sabbothol y Bedyddwyr yn Mhlwyf Aberdar a'r cymmydogaethau. Yr oedd yn perthyn i'r undeb cynnulleidfaol hwn, yr adeg hono, saith o ysgolion, sef Pontbrenllwyd, Hirwaun, Heolyfelin, Aberdar, y Cymry, etto y Saeson, Aberaman, a'r Cwmbach. Cyfarfuant â'u gilydd y waith hon yn Heolyfelin ar yr 16eg o Ragfyr, 1854, ac anrhegwyd y plant â thê am eu ffyddlondeb gyda'r Ysgol Sabbothol. Canwyd ac Canwyd ac adroddwyd amryw ddarnau yn ystod y tê, a chafwyd anerchiadau gan Mr. Williams, Cwmbach, a Price, ac edrydd y gohebydd fel hyn am danynt:—"Yn ganlynol i hyn, cafwyd araeth hollol bwrpasol i'r amgylchiad gan Mr. Williams, Cwmbach, ac yn olaf, areithiodd Mr. Price, Aberdar, nes oedd ein calon yn gwresogi ynom, a'r oll o honom mewn hwyl a theimlad cysurus."
Yn y flwyddyn ddylynol, yr oedd Ysgol Mountain Ash wedi ymuno â'r undeb, ac ar eu gwyl flynyddol, cawsant eu hanrhegu â thê gan Thomas Joseph, Ysw., a'i briod hawddgar, ar drum Mynydd yr Ysguborwen. Cawsant wledd foddhaol, a threuliasant ddiwrnod dedwydd yn nghyd. Darllenwyd cerdd—anerchiad i Ysgolion Aberdar gan T. ab Ieuan ar yr achlysur, yr hon a gyhoeddwyd yn y Bedyddiwr am Hydref, 1855, dau bennill o honi a ddyfynwn yma:—
"Penpound, Aberdar, a'r Saeson yn canlyn,
Cwmbach, Aberaman, Mountain Ash, Heolyfelin.
A Hirwaun a'r Bontbren sy'n cydgwrdd yr awrhon,
A Joseph a'i briod yn lloni eich calon :
Rhowch iddynt y parch sydd 'nawr yn ddyledus,
Am iddynt ddarparu i'ch gwneyd mor gysurus.
"Hir oes i'r boneddwr a'i hardd foneddiges,
A'u plant bach serchiadol, dymunaf yn gynhes;
Boed gwenau Rhagluniaeth a gras yn eu noddi
Ac iddynt wledd fythol fry, fry, gyda'r Iesu;
Hyn hefyd ddymunaf i chwithau, ysgolion,
Cael cydgwrdd â Joseph yn ngwlad Mynydd Seion."
Ymunodd ysgolion High Street (Merthyr) a Throedyrhiw ag ysgolion Aberdar y tro hwn: ond yr oedd y bardd wedi cyfansoddi ei gân cyn eu gweled yn dyfod. Parhaodd yr Undeb hwn am flynyddau meithion. Cyflwynwyd y merched ieuengaf,—Bethel, Ynyslwyd, a'r Gadlys, i'r cylch anrhydeddus gan Father Price, a chyfranogasant yn helaeth o'r un yspryd undebol â'r fam—eglwys a'r chwiorydd hynaf. Dan nawdd yr Undeb anwyl hwn cyfarfyddai nifer o ysgolion yn chwarterol yn nghyd i gynnal cyfarfodydd adrodd a chanu. Rhoddwn yma yn enghreifftiol adroddiad byr am un o'r cyfryw a ymddangosodd yn Seren Cymru am Ragfyr 8, 1871. Gelwid ef gan y gohebydd yn "Gwrdd Modrwyog," a chynnaliwyd ef yn Nghalfaria Tachwedd 28, 1871.
"Yr oedd yno bump o Ysgolion Sabbothol wedi cyfarfod mewn modrwy undeb a chariad. Dyna gwrdd! Yr oedd Ysgol Calfaria yno yn serchog a lluosog; Ysgol y Gadlys fel llu banerog; Ysgol Bethel fel byddin Duw; Ysgol Ynyslwyd fel duwies addysg, a'i thorf ysgolheigion; ac Ysgol Carmel fel teulu nefol. Taflai angel heddwch fodrwy cariad am danynt, gan eu gwneyd fel un am awr a hanner o gwrdd. Cafwyd adroddiadau, areithiau, barddoniaethau, a cherddoriaeth o'r fath oreu. Yr oedd y capel yn gysurus o lawn, a phawb yn teimlo dyddordeb yn ngweithrediadau y cyfarfod. Bydd cyfarfod arall etto yn mhen rhyw dri mis yn yr Ynyslwyd, a gobeithio y bydd cystal a'r diweddaf. Frodyr, dewch i'r rhengau. Codwch arf yn erbyn brenin y nos. Boed pawb yn perthyn i gatrodau yr Ysgol Sul."
Hefyd, cynnelid eisteddfodau blynyddol o fri ac enw ganddynt: torid allan waith i bob dosparth o'r bobl ieuainc,—yn draethodwyr, beirdd, adroddwyr, a chantorion, a cheid cystadleuaethau tỳn a phwysig. A ganlyn ydynt rai o ddosranau y testynau gwahanol,—traethodau, barddoniaeth, ieithyddiaeth, grammadegiaeth, daearyddiaeth, darllenyddiaeth, cerddoriaeth, &c.
Yn y Gwron a'r Gweithiwr ceir mynegiadau helaeth o'u gweithrediadau, y rhai a ddangosant fod bywyd helaeth yn meddiannu eglwysi ac ysgolion y Bedyddwyr yn y dyffryn yn y cyfnodau hyny. Troai yr oll o amgylch Price, yr hwn oedd fel haul mawr yn nghyssawd Bedyddiedig y cylch; taflai fywyd i'r holl gorff, a chadwai wres cariad a brawdgarwch yn yr holl gyfansoddiad. Ni fyddai yr yspryd unol a nodwn yn fwy amlwg un amser na phan y byddai yr ordinhad o fedydd yn cael ei gweinyddu. Troai y fam-eglwys a'i phlant, yn neillduol y tair ieuengaf, allan yn dorf gariadus yr adeg hon, ac arweinid hwy gan Price i lan yr afon pan fuasai yn bedyddio allan, neu cyfarfyddent yn nghyd yn y capel os mai yno y gweinyddid yr ordinhad. I ddangos hyn yn llawnach, dyfynwn etto o goflyfr y Gadlys, a chawn gipdrem ar bethau fel yr oeddynt pan oedd y gangen dan ofal Price:—
Heblaw hyny (meddai yr ysgrifenydd), yr oedd yn arferiad gan y pedair ysgol i gyfarfod â'u gilydd pan y byddai Dr. Price yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd yr Arglwydd. Prydnawn dydd Sul, Hydref y 7fed, 1860, aethom gyda'n gilydd i'r lan tua Bethel, Abernant, i weled Mr. Price yn bedyddio pedwar ar broffes o'u ffydd yn y Gwaredwr. Hwn oedd y tro cyntaf yn Bethel.[8] Drachefn, Sul, Mai y 5ed, 1861, aethpwyd i fyny gyda'n gilydd i Bethel, pryd y bedyddiwyd deg gan Mr. Price. Dydd Sul, Ionawr y 5ed, 1862, gweinyddwyd yr ordinhad o fedydd am y waith gyntaf yn Nosbarth y Gadlys ar Gomin Hirwain, pryd yr ymgyfarfyddodd y pedair ysgol i weled y Dr. yn bedyddio pedwar o bersonau. Pregethodd Mr. Price ar y rhan olaf o'r 26 adnod, yn y xii. bennod o Exodus, Pa wasanaeth yw hwn genych?' Prydnawn dydd Sul, Ebrill 5ed, 1863, cyfarfyddodd yr ysgolion o flaen yr ysgoldy mewn trefn i fyned i weled pump o'r Gadlys yn ufuddhau i fedydd, a weinyddid gan Mr. Price yn afon Cynon, ger hen Brewery Trecynon. Aethpwyd i fyny dan ganu, ac yr oedd yr olygfa yn hardd iawn. Dyma y tro cyntaf i'r ordinhad gael ei gweinyddu yn yr afon uchod gan Ddosbarth y Gadlys."
Rhydd y ffeithiau uchod i ni olwg glir ar y modd y byddai Price yn arfer ac yn hyfforddi y cangenau ac yn eu cadw mewn cyssylltiad parchus â'r fam-eglwys o hyd. Parhaodd yr undeb agos ac anwyl hwn yn hir wedi i'r eglwysi fyned dan ofal gweinidogaethol ereill. Byddai yn olygfa gyffredin iawn flynyddau yn ol, pan oedd y Dr. yn ei ogoniant, i weled y pedair ysgol, drwy ragdrefniant, yn troi allan ar brydnawn Sul i gwrdd â'u gilydd yn nghanol y dref, ac yna ymdeithio dan ganu i un o'r capelau i gynnal cyfarfodydd adroddiadol, a byddai y Dr. yn eu plith fel brenin, yn cael sylw a pharch pawb, ac yn yr adeg hono yr oedd ei air braidd yn ddeddf yn mhob peth. Bu adeg yn hanes y Bedyddwyr yn Aberdar pryd yr edrychid arnynt yn ddirmygedig, ac y diystyrid hwy yn fawr, yn neillduol pan fedyddient yn yr afon. Dirmygid llawer ar Price pan yn bedyddio, ond yr oedd digon o'r arwr ynddo i wrthsefyll pob ymosodiad, ac i allu ymddwyn tuag at lawer wawdient yr ordinhad gyda dystawrwydd dirmygol, tra ar brydiau ereill rhoddai ergydion trymion i'r gwrthwynebwyr, a boddlonai hyn y Bedyddwyr yn fawr; ac, yn wir, yr oedd llawer o'r gelynion yn edmygu ei wroldeb, ac yn mwynhau ei ddonioldeb a'i ffraeth-atebion i lawer, er fod rhai o honynt weithiau yn gwrs ac yn myned yn mhell. Yr oedd dirgelwch mawr mewn myned a'r pedair ysgol dan ganu at lan yr afon. Yr oedd hyn yn gwneyd y bedydd yn boblogaidd, yn tynu torfeydd mawrion i weled, a chlywed lleferydd dystaw, etto effeithiol, y bedydd Cristionogol a'r bedyddiedigion, yn gystal a'r anerchiadau grymus geid gan Price, a brodyr da ereill a'i cynnorthwyent yn achlysurol. Hefyd, yr oedd hyn yn dylanwadu yn dda ar y Bedyddwyr eu hunain, gan eu bod yn uno eu nerth a'u dylanwad ar adegau o'r fath i ddal allan egwyddorion gwahaniaethol y Bedyddwyr o flaen y byd, ac i roddi tystiolaeth eglur a digamsyniol o blaid y "gwirionedd fel y mae yn yr Iesu.' Fel y nodwn, cafodd Price lawer o'i boeni pan yn yr afon yn bedyddio, ond ni thyciai dim, beth bynag a wneid iddo. Yr oedd gan fedydd a Bedyddwyr amddiffynydd cadarn ynddo.
Y mae llawer o ystoriau doniol yn cael eu hadrodd am Price yn gyssylltiedig â'r bedyddio yn afon Cynon a manau ereill, y rhai sydd, yn wir, yn dra nodweddiadol o hono. Yr oedd, un tro, yn bedyddio yn afon Cynon, yn ymyl y Bont Haiarn, ac yr oedd, fel arferol, dyrfa aruthrol wedi dyfod yn nghyd, ac yn eu plith lawer o wawdwyr. Y tro hwn, yr oedd dau Sais-fasnachwr cyfrifol yn y dref yn siarad yn uchel â'u gilydd er aflonyddu ar Price. Edrychai yntau arnynt yn awr ac eilwaith, ac äi yn mlaen â'i anerchiad; ond o'r diwedd, symmudodd gam neu ddau yn mlaen i wynebau yr aflonyddwyr, a dywedodd gydag awdurdod, "I thought it was the devil or some Englishmen!" Gosododd hyn glo ar eu geneuau, a chafodd Price lonydd am y tro hwnw.
Dro arall, yr oedd yn bedyddio yn yr un lle, ac yn mhlith y dyrfa enfawr oedd wedi dyfod i'r bedydd, yr oedd llawer o dirgloddwyr (navvies) y rhai oeddynt yn lluosog yn Aberdar yr adeg hono, yn gwneyd y cledrffyrdd newyddion—wedi dyfod i weled y bedydd. Taflent dyweirch i'r dwfr er aflonyddu y bedyddiwr, a phan "aeth i waered i'r dwfr," taflasant gi neu ddau i fewn i'r afon. Edrychodd y Dr. arnynt—cyfeiriodd ei fys atynt, a dywedodd yn Saesneg, "Dacw nhw! Saeson ydynt. Mae mwy o synwyr yn mhenau ceffylau Cymru nag sydd yn mhenau y Saeson!" Profodd hyn yn effeithiol i'r gweilch, a rhoddwyd llonyddwch i'r Bedyddiwr gyflawni ei waith pwysig ac anrhydeddus.
Unwaith, pan yn bedyddio yn ymyl Pont Haiarn Trecynon, cododd rhyw fachgenyn yn ei erbyn, ac aflonyddai yn fawr arno. Pan oedd Price ar fedr myned ato, gwaeddodd un o'i ddiaconiaid (yr hen frawd da, William Davies), allan, "Mr. Price, peidiwch gwneyd sylw o hwna! Under value, under value!" "O'r goreu, William," atebai y Dr., "gwnaf eich cynghor. Gwyddoch chwi i'r eithaf faint yw gwerth taclau o'r fath." Bu "under value" yn cael ei arferyd yn gyffredin am hir amser wedi hyny yn y gymmydogaeth.
Yr oedd dau aelod cyfrifol gyda r Annybynwyr, dro arall, wedi dyfod i weled y bedydd, a safent yn ymyl yr afon. Pan oedd Price yn arwain brawd i'r dwfr i'w fedyddio, clywodd un o'r Annybynwyr yn dweyd wrth y llall, "Edrych ar y diawl yn arwain y diawl hwna i'r dw'r." Cododd Price ei olwg ato, a dywedodd, "Ai y diawl ddywedodd wrthyt ti, y diawl, fy mod yn arwain y diawl i'r dw'r? Dylasai fod cywilydd ar dy wyneb." Trodd y ddau Annybynwr ymaith dan gwmmwl o warth a chywilydd, a chrechwenai y dyrfa gyda boddlonrwydd am wroldeb Price yn ngwyneb y fath ddirmyg ar un oedd yn rhoi ufudd-dod i orchymynion Crist.
Yr oedd yr enwad a'r egwyddorion Bedyddiedig yn bur ddyogel yn llaw Price, a theimlai Bedyddwyr y dyffryn hyny, ac felly, ymddiriedent lawer iawn iddo, a meddylient bob amser yn uchel am dano.
Yr oedd Price yn bur flaenllaw gyda phob achos pwysig ddaliai berthynas â'r enwad yn y cwm. Anfoddlonai yn fawr i'r brodyr gadwent draw mewn taro, fel y dywedir. Yr oedd efe bob amser yn nghanol y fflam, os byddai tân yn bod. Os chwythai storom heibio unrhyw eglwys yn y dyffryn, byddai efe yn ei dannedd, mewn trefn, os gallai mewn unrhyw fodd, ddyogelu yr achos, a chadw y "defaid rhag y bleiddiaid." Gwelai berygl o draw. Yr oedd ei rybuddion yn brydlon, a'i gynghorion yn bwrpasol a dyogel. Bu yn gyfarwyddwr cywir a diwyro i'r holl eglwysi drwy y dyffryn mewn achosion o gyfyngder a thrallod. Yr oedd hefyd yn ddiarebol am ei gyssondeb gyda phob peth, ac yn enwog am ei brydlondeb yn ei holl gyflawniadau. Mewn cyfarfodydd mawrion, cyrddau misol, neu bwyllgorau nid oedd byth eisieu aros i'r Dr. Byddai efe yn ei le yn brydlon, ac yn barod i waith. Rhoddai ei bresenoldeb yn mhob man foddlonrwydd cyffredinol i bawb a'i hadwaenent.
Cydlafuriodd y Dr. yn llwyddiannus â'i frodyr yn y weinidogaeth drwy y dyffryn. Bu efe fel tad tyner i'r gweinidogion ieuainc, ac yn gyfaill a brawd caredig ac anwyl i'r rhai hynaf. Cydweithiodd yn dda â'r diweddar anwyl frawd, yr Hybarch Ddoctor B. Evans, Castellnedd, pan oedd efe yn gweinidogaethu yn Hirwaen ac Heolyfelin. Buont mewn llawer brwydr galed gyda'u gilydd dros yr achos goreu, a dalient ati fel y dur hyd fuddugoliaeth bob tro. Ffynodd a pharhaodd y teimladau goreu rhyngddo ef a'r awenydd athrylithgar, ´y Parch. W. Williams (Gwrhir), Mountain Ash, ac er fod Mr. Williams yn hynach nâ'r Dr., etto talai warogaeth bob amser iddo, yn herwydd ei allu dihafal a'i ddefnyddioldeb cyffredinol. Cafodd y galluog gerddor a'r doniol bregethwr, y Parch. W. Harris, Heolyfelin, ef yn gyfaill cywir a charedig, a chydweithient bob amser yn hwylus gyda phob mudiad o bwys yn y dref a'r gymmydogaeth. Teimlai ddyddordeb neillduol yn ngweinidogion yr holl eglwysi, a chymmerai hwy yn anwyl i'w fynwes. Galwai yn achlysurol i'w gweled er gwybod eu helynt ac ansawdd yr eglwysi dan eu gofal. Derbyniai y brodyr yn siriol a charedig pan alwent i'w weled yn ei gartref ei hun yn Rose Cottage. Dyfyrai hwynt â'i chwedleuon doniol, a chyfnerthai hwynt â'i gynghorion dwys ac a'i gyfarwyddiadau buddiol. Yr oedd yn rhy fawr ac uchel i neb deimlo yn eiddigeddus wrtho; ac yr oedd wedi ennill y fath safleoedd a dylanwad yn mhob cylch braidd fel nad oedd neb a ewyllysiai ymgystadlu ag ef. Felly bu fyw hyd ei fedd yn heddychol â'i frodyr, a theimlent yn ddieithriad y parch dyfnaf ato. Bu ei syrthiad yn angeu yn golled gyffredinol i achos y Bedyddwyr yn nyffryn poblog Aberdar, ac yn achos o alar mawr i'w frodyr yn y weinidogaeth.
PENNOD XII.
PRICE YN EI BERTHYNAS A'R BEDYDDWYR YN Y SIR AC YN GYFFREDINOL.
Cylchoedd bychain—Dynion yn ymfoddloni ynddynt—Price yn llanw cylchoedd eang—Bedyddwyr y sir yn lluosogi—Cewri y rhengau blaenaf—Price yn un—Man of business—Elfenau ei lwyddiant—Ei sefyllfa fydol—Ei wybodaeth gyfreithiol—Yn awdurdod ar ddysgyblaeth eglwysig—cyflymdra ei feddwl—Ei yspryd anturiaethus—Deall o barthed "gweithredoedd capeli yn dda—Arwain mewn achosion pwysig—Achos gwael—Cynnadleddwr enwog—Gwleidiadaeth yr enwad—Dawn cymmodi pleidiau—Pregethu yn aml—Price yn fawr yn y gymmanfa—Undeb Bedyddwyr Cymru—Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon—Yn y pwyllgorau—Ar lwyfanau prif drefi Lloegr—Yn Exeter Hall—Gohebydd Llundain—Barn y "Christian World" amdano.
SYRTHIA rhai dynion i gylchoedd cymharol fychain a dibwys, ac arosant ynddynt drwy oes hirfaith, heb deimlo dim anesmwythder na gwasgfa. Erys y lleoedd yn agos yr un fath mewn ffurf a maintioli, ac arosant hwythau yn agos yr un modd: nid oes tyfiant ac ymeangiad yn eu hanes. Nid un felly oedd Price, fel yr awgrymasom yn flaenorol,—aeth Aberhonddu yn rhy fechan i'r llanc ieuanc o blwyf Llanamlwch, ac ni wnelai ei dro lai nâ myned i'r Brif Ddinas. Ymsefydlodd yn ddyn ieuanc yn nyffryn prydferth Aberdar, yr hwn a gynnyddai, fel y nodasom, gyda'r cyflymdra mwyaf: ond yr oedd elfenau tyfiant a blaenfynediant yn gryfion yn Price hefyd. Tyfai Aberdar yn gyflym, ond Price yn gyflymach: cynnyddodd Aberdar yn fawr, ond aeth Thomas Price yn fwy. Yr oedd efe fel y bachgenyn gwledig iach, yn tyfu allan yn fuan o'i ddillad, ac felly, yn galw am wisg arall eangach. Felly Price, tyfai allan dros gyffiniau lleol Aberdar, yn gymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol.
Yr oedd Sir Forganwg yn ymagor, ac yn cyflym gynnyddu bron yn y cyfnod y daeth y Dr. i Aberdar; felly, yr oedd yr enwad Bedyddiedig yn naturiol yn cynnyddu, ac yn fuan iawn, daeth y Gymmanfa yn y Sir, a'r cyfundeb yn y Dywysogaeth yn fawr a phwysig. Er fod bechgyn cryfion yn weinidogion a lleygwyr ar y maes gan yr enwad yr adeg hono, ac am yspaid maith ei fywyd, megys y Parch. Thomas Davies, Merthyr (yn awr Dr. Davies, Llywydd parchus Coleg Hwlffordd); Dr. J. Emlyn Jones; Dr. B. Evans, Castellnedd; y Parch. N. Thomas, Caerdydd; Lleurwg, E. Evans, Caersalem, Dowlais; Cornelius Griffiths, Seion, Merthyr, gynt, Bryste yn bresenol; Mathetes, Rufus Williams, Ystrad; Rowlands, Cwmafon, yn awr Dr. Rowlands, Llanelli; Dr. Roberts, Pontypridd; Harris, Heolyfelin; R. H. Jones, Abertawe; Thomas Joseph, Ysw., Blaenycwm; Mri. Phillip John, Aberdar; Thomas Edwards, Mountain Ash; Thomas Richards (Gwyno), Mountain Ash; David Davies, Merthyr, a llu ereill ellid nodi; etto, nid hir y bu Price cyn tynu sylw ac ymweithio i'r rhengau blaenaf mewn gallu a defnyddioldeb ymarferol a chyffredinol, a chadwodd ei boblogrwydd yn lew hyd y diwedd. Yr oedd ei wybodaeth eang a chyffredinol yn ei gymmeradwyo i sylw fel un cyfaddas i wneyd gwaith yn yr enwad a thros yr achos. Yr oedd ei fywiogrwydd, ei yni, a'i benderfynolrwydd yn elfenau a edmygid yn fawr, ac o'u herwydd cai ffafr yn ngolwg dynion goreu a blaenaf yr enwad yn Nghymru. Etholid ef bob amser ar bwyllgorau pwysig, a rhoddid iddo yn gyffredin drymwaith i'w wneyd, a cheid ef bob amser yn ewyllysgar a pharod i'w roesawu a'i gyflawnu. Yr oedd efe yn ngwir ystyr y gair yn un o'r business men goreu feddai yr enwad. Dywedai Thos. Joseph, Ysw., Gwydr Gardens, Abertawe, wrthym un tro am dano fel hyn:—"Yr oedd Dr. Price yn naturiol yn business man rhagorol. Gwelai a gwnelai beth cyhyd ag y byddai ereill yn meddwl am dano." Yr oedd hyny, yn nghyd â phethau ereill, yn rhoddi iddo flaenoriaeth ar lawer o frodyr da a gwir deilwng. Gallwn nodi yn fyr rai pethau, ni a gredwn, a brofasant yn dra manteisiol iddo yn ei berthynas â'r enwad yn y sir, ac yn gyffredinol drwy y Dywysogaeth, Yn—
1. Ei sefyllfa fydol.—Y mae hyn, fel y nodasom o'r blaen, wedi bod yn fanteisiol iawn i lawer o frodyr, ac ni fu ei gyfoeth yn anfanteisiol i Price: eithr i'r gwrthwyneb. Ennillai lawer am ei wasanaeth amryfal, ac yr oedd yn derbyn royalty blynyddol am dir oedd wedi ei gael gan ei anwyl briod. Dywedir iddo fod unwaith yn werth o'r pedair i'r pum mil o bunnau, ac yr oedd hyn yn gynnorthwyol iddo ennill safle yn yr enwad.
2. Yr oedd ei wybodaeth gyfreithiol eang, hefyd, yn ei gyfaddasu yn fawr i lanw cylchoedd pwysig yn yr enwad, ac i wneyd gwaith mawr drosto. Nid oedd o fewn cylch Cymmanfa y Bedyddwyr yn Morganwg, ac eithrio cyfreithwyr proffesedig, well cyfreithiwr nâ'r Dr., fel y cawn o bossibl fantais i ddangos etto yn nes yn mlaen.
3. Yr oedd yn awdurdod ar drefnusrwydd a dysgyblaeth eglwysig.— Rhoddodd brofion digonol o hyn yn ei swydd fel golygydd. Cyfeirid ato ofyniadau parhaus ar faterion eglwysig pwysig, y rhai a atebid ganddo yn gysson yn ei fwrdd golygyddol. Heblaw y rhai hyny a gyfeirid ato i'r newddiaduron, derbyniai gannoedd o lythyrau cyfrinachol bob blwyddyn ar faterion o'r un natur, y rhai a gaent ei sylw manylaf. Hefyd, y mae o fewn cylch ein gwybodaeth bersonol ni fod ugeiniau o ddiaconiaid ac aelodau cyfrifol mewn eglwysi, ac yn wir lawer iawn o weinidogion perthynol i'r gwahanol enwadau, yn galw gydag ef yn aml i ymgynghori ag ef ar wahanol faterion pwysig perthynol i'w heglwysi; ac yn gyffredin caent ei gyfarwyddiadau oll yn gywir ac yn profi yn effeithiol.
4. Ei gyflymdra i weled ffyrdd boddhaol i symmud rhwystrau, ac i gymmodi pleidiau gwrthwynebol a'u gilydd.—Yn aml iawn, mewn pwyllgorau a chynnadleddau, codai i fyny bwyntiau anhawdd i'w penderfynu; ond yn fynych yn nghanol y caddug tywyll, a'r brwd—ddadleu, nes braidd y byddai pawb wedi myned yn ben—ben, gwelid Price yn codi ar ei draed, gyda'r bywiogrwydd a'r awdurdod mwyaf, a byddai pawb braidd yn glust a llygad i gyd yn dal ar ei eiriau. Gwelai y ffordd yn glir o'r dyryswch, ac arweiniai ar hyd llwybr dyogel ac esmwyth gyda'r rhwyddineb mwyaf. Yr oedd yn conference man heb ei ail. Arferai yn awr ac eilwaith eiriau doniol, weithiau yn ffinio ar y cwrs, etto bob amser yn effeithiol i ddatgan ei feddwl ac i egluro ei bwyntiau; ac os byddai achosion yn dwyn perthynas â chyfraith, yn gyffredin adroddai adranau y gyfraith yn gyssylltiedig â hwynt, a rhoddai y chapter and verse am danynt.
5. Ei yspryd anturiaethus.—Yr oedd yn hynod am hyn. Yn mlaen yr elai er pob perygl, ac yn fynych troai trwy ei wroldeb a'i yspryd penderfynol lawer o feini trymion oddiar ffordd cerbyd yr achos, a llawenychid yn gyffredinol yn ei lwyddiant. Pennodid ef braidd yn ddieithriad ar bwyllgorau adeiladu ysgoldai a chapeli; oblegyd yr oedd yn nodedig am ei wybodaeth o barthed i ddalysgrifau (leases), gweithredoedd capelau, yn nghyd ag ammodrwymau (contracts), ac mewn achosion o'r natur hyn yr oedd yn hynod ymarferol. Nid yn hawdd yr elid heibio iddo. Hefyd, arweiniai mewn achosion cyfreithiol pan fuasai rhai o'r fath yn codi. Yr oedd ei gynghor bob amser yn ddoeth a phwrpasol, a gellid gweithredu yn ddyogel yn ol ei gyfarwyddiadau. Cafwyd prawfion pur eglur o hyn yn erlyniad Gravel gynt a Chymmanfa Morganwg. Y prif symmudydd yn yr achos amddiffynol oedd Price, a bu o gynnorthwy mawr i bwyllgor y Gymmanfa yn yr achos poenus hwnw. Costiodd y gyfraith hono lawer o arian i'r Gymmanfa, a phoen a blinder mawr i Price, a'r brodyr anwyl ereill oeddynt wedi eu dewis yn bwyllgor dros y Gynımanfa yn yr helynt. Wrth fyned i bwyllgor yn nglyn â'r achos hwn un tro, cwrddodd Mr. Price â hen frawd a adwaenai yn dda (Mr. Morgans, Ystradfawr) mewn gorsaf reilffordd, yn ymddangos ychydig yn ofidus. Gofynodd Price iddo, fel hen gyfaill, yn siriol, fel yr arferai, "Wel, ———, sut yr ydych chwi yn teimlo heddyw?" "Yn wir, Mr. Price," oedd yr ateb, "eithaf tlawd, Syr; yr wyf yn dyoddef ac yn cael fy mlino yn ddrwg iawn gan y gravel." "Wel, Duw a'n helpio ni, frawd bach, meddai Price, "dyna sydd yn fy mlino inau er's llawer dydd." Ond nid oedd y ddau gravel o'r un natur, er eu bod yn ddau eithaf poenus. Bu y Dr. fel cynnadleddwr yn ei holl berthynas â'r enwad yn y sir, yn dra gwasanaethgar mewn ystyr gwleidyddol. Yr oedd yn wleidyddwr goleuedig a blaenllaw, fel y cawn fantais i ddangos etto yn helaethach. Yr oedd ei gyssylltiad â'r wasg am gynnifer o flynyddau fel golygydd, yn ei gyfaddasu i hyn, ac yn ei wneyd yn neillduol o ryddfrydig ei yspryd a'i deimlad. Yr oedd gwleidyddiaeth yr enwad yn y cynnadleddau yn ddieithriad braidd yn codi o gyfeiriad Dr. Price, ac yn gyffredin efe fuasai yn ysgrifenu y penderfyniadau ddalient gyssylltiad â phrif bynciau y dydd. Wrth eu cynnyg siaradai yn eglur, hyawdl, a phwrpasol. Ymferwai ei yspryd brwdfrydig ynddynt, ac nid yn aml y gwrthwynebid ei bwyntiau yn nglyn â phynciau llosgedig y dydd. Codai cewri i'w attegu. Ceid yr enwog Ddr. Roberts, Pontypridd; y Parch. Nathaniel Thomas, Caerdydd, Ysgrifenydd manwl y Gymmanfa, y Parch. Ddr. B. Evans, Castellnedd, a brodyr da ereill, yn weinidogion a lleygwyr, yn barod i gynnorthwyo gyda y gwaith. Arferid ystyried Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg yn un o'r rhai mwyaf Radicalaidd yn y Dywysogaeth. Yr oedd dawn neillduol gan Price i ddwyn pleidiau mewn eglwysi yn nghyd, ac i ymgymmodi. Nid yn fynych y methai efe gael ffordd arnynt. Byddai ei bresenoldeb yn fynych yn myned yn mhell i symmud y drwg. Yr oedd mor gwrs weithiau fel yr ofnai y rhai llwfr ef. Bryd arall ennillai yn hawdd y pleidiau yn nghyd. Ond pan fethai a chael trefn wedi ceisio trwy bob moddion teg a rhesymol, tebyg y torai y llechau ac y melldithiai y lle cyn ymadael. Gallai efe wneyd hyn heb gael ei alw i gyfrif, ac heb fod nemawr neb yn rhyfeddu at hyny. Price, Aberdar! Gallai efe un adeg wneyd braidd beth a fynai a dweyd yr hyn a ewyllysiai. Yr oedd un amser yn hanes ei fywyd wedi codi uwchlaw cael ei feirniadu.
Yr oedd un tro wedi cael ei bennodi yn un i edrych i fewn i annghydfod oedd wedi cymmeryd lle tuag ardal Maesteg. Yr oedd split wedi dygwydd yno. Wedi treulio y rhan oraf o'r dydd gyda'r helynt, methwyd a'u cael at eu gilydd er pob ymgais o eiddo Price a'r brodyr ereill. O'r diwedd dywedodd y Dr., "Wn I yn y byd mawr beth i wneyd o honoch bellach, os na osoda'I gasgen o bylor danoch, a'ch chwythu i Gwmogwy, i dd——l." Yr oedd Cwmogwy yr adeg hono yn newydd, a llawer iawn o aflerwder yno. Yr oedd hyn yn ymddygiad cwrs iawn, ni a gyfaddefwn, yn y Dr.; etto, y mae yn angenrheidiol cael weithiau yr elfen hon mewn achosion o'r fath. Gallai Price fod yn dyner, caredig, ac yn llawn o gydymdeimlad, ac yn wir nid oedd neb gwell i'w gael o fewn cylch y Gymmanfa yn yr ystyr hwnw; etto, gallai fyned i'r eithafion o'r tu arall.
Yr oedd Price, hefyd, er ei holl alwadau gyda goruchwylion a dyledswyddau pwysig ereill yn pregethu yn aml yn mhrif gyfarfodydd y Gymmanfa a'r enwad yn y sir. Wrth edrych dros hen gyfnodolion yr enwad, yn gystal a phapyrau ereill, rhai o'r cyfryw a enwasom yn barod, cawn fod Price yn dra phoblogaidd, ac yn sefyll yn uchel fel pregethwr yn ei enwad. Dechreuodd ei boblogrwydd yn foreu, a pharhaodd hyd derfyn dydd ei fywyd heb gwmmwl arno, amgen methiant gan wendid a henaint y ddwy flynedd olaf o'i oes lafurfawr. Yr hyn oedd Price yn ei gartref fyddai yn nghylch ei Gymmanfa, a'r hyn fyddai yn nghylch pwysig Cymmanfa fawr y Bedyddwyr yn Morganwg, yr hon cyn ei rhanu oedd y fwyaf a'r bwysicaf yn y Dywysogaeth, dyna oedd ef mewn cylchoedd eangach a phwysicach. Yr oedd Price yn fawr yn Undeb Bedyddwyr Cymru, ac yn fawr hefyd hyd y nod yn Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon. Yn y flwyddyn 1863 llanwodd yn anrhydeddus gadair Cymmanfa Bedyddwyr Morganwg, yr hon a gynnaliwyd yn Seion, Merthyr, pan y traddododd un o'r areithiau mwyaf ymarferol a phwysig, yr hon a gyhoeddwyd yn Seren Cymru am Mehefin 26, 1863.[9] Ac yn y flwyddyn 1865, yr oedd yn Llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru. Bu am flynyddau yn aelod ar Bwyllgor Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, y Gymdeithas Genadol Dramor, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, y Gymdeithas Genadol Wyddelig, Bwrdd Addysg y Bedyddwyr, y Gymdeithas Gyfieithadol, Colegau Pontypwl, Hwlffordd, a Llangollen, ac ysgrifena y Parch. B. Thomas (Myfyr Emlyn), yn ei erthygl ragorol yn y Geninen am Gorphenaf, 1888:—
"Ac yr oedd yn aelod braidd o holl bwyllgorau yr enwad; ac nid aelod cysglyd ydoedd, ond y mwyaf blaenllaw ac effro; ac yr oedd Cymru yn rhy fach iddo * * * Yr oedd ei allu, ei ffyddlondeb, a'i wasanaeth pwyllgorawl, yn gyfryw fel nas gellid yn unrhyw fodd fod hebddo. Gwnai ei hun yn angenrheidrwydd, ac ni phasiai braidd gyfarfod Gwanwynol o'r Undeb yn y Brifddinas na chyfarfod Hydrefol mewn manau ereill, na fyddai efe yn cymmeryd rhan gyhoeddus, gan swyno, difyru, ac adeiladu y torfeydd yn ei ffordd wreiddiol a Chymroaidd ei hun." Gwnaeth ei ymddangosiad ar lwyfan Exeter Hall, Llundain, a phrif esgynloriau trefydd mawrion Lloegr, megys L'erpwl, Plymouth, Manchester, a Birmingham, yn gyssylltiedig â'r cyfarfodydd hyn. Ac mewn trefn i ddangos syniadau uchel y Saeson am dano, nodwn y ffaith iddo, ychydig ddiwrnodau cyn cyfarfod mawr Cambridge, dderbyn telegram yn ei hyspysu fod Mr. Birrell, L'erpwl, yn methu dyfod i'r cyfarfod, ac yn taer erfyn arno i gymmeryd ei le ef yn y cyfarfod mawr cenadol. Felly y bu. Traddododd araeth ardderchog ar y Genadaeth Dramor. Cyhoeddwyd ei anerchiad yn y Cambridge Independent Press, yn llawn, yn rhifyn Sadwrn, Medi 24ain, 1870, ac ymddangosodd cyfieithad o honi yn Seren Cymru am Hydref y 7fed, 1870.
Yn Seren Cymru am Mai 22, 1868, cawn fynegiad mewn Llythyr o Lundain," gan yr anwyl ymadawedig Myrddinfab, hen ohebydd parchus Llundain i'r Seren, am y Dr. dro arall yn Exeter Hall, fel y canlyn:—
DR. PRICE YN EXETER HALL.
"Nos Iau, Ebrill 30ain, set cyfarfod marw cyhoeddus y gymdeithas―y prif gyfarfod, ac i'r hwn y cyrcha pawb braidd a deimla ddyddordeb yn y genadaeth. Yma ymdrechir fynychaf i gael prif siaradwyr yr enwad i lefaru ynddo, ac y mae yn rhaid eu cael yn y fath le a hwn. Mae y neuadd mor fawr fel na fuasai ond ffolineb perffaith i osod neb i anerch y gynnulleidfa aruthrol ond y great guns; ac nid ydym yn credu ein bod yn cyfeiliorni wrth ddywedyd mai y greatest of the great eleni oedd Golygydd Seren Cymru. Os buom erioed yn falch mai Cymro oeddem, y noson fythgofiadwy hono ydoedd, wrth wrandaw a gweled Cymro gwladgarol yn myned drwy ei waith mor greditable ar blatform y neuadd fwyaf enwog, mewn ystyr grefyddol, yn y byd. Yr oedd tri wedi siarad o'i flaen, Kerry, y cenadwr; Clark, Broadmead, Caerodor, yn hyawdi iawn; a D. Wassal, Bath. Pan oedd y diweddaf yn siarad yr oedd y gynnulleidfa yn teimlo yn lled anesmwyth, ac yn myned allan yn gyflym; ond dyna ef yn terfynu, a Dr. Price, Aberdar, yn cael ei alw yn nesaf. Mae yn naw o'r gloch, ond dacw ef yn ymsaethu i'r fron drwy wmbredd o ddynion blaenaf yr enwad, yn weinidogion a lleygwyr—y Barnwr Lush yn unionsyth tu cefn iddo, ao yn cael derbyniad gwresog gan y dorf. Nid cynt yr agorodd ei enau nag y gwelid pob un yn eistedd yn ei le, yn llygadrythu ac yn gwrando fel pe am fywyd. Yr oedd y dylanwad megys yn wefreiddiol, a'r mynych gymmeradwyaethau brwdfrydig oedd yn gael yn gwir deilyngu hyny: Gan y bydd ei araeth yn ymddangos yn y Seren, ni wnawn ond sylwi i'r dyfyniad Cymreig o Dewi Wyn greu bywyd rhyfedd drwy y lle, ac nid ychydig o ddifyrwch, yn enwedig pan ddymunodd y Dr. am i'r gynnulleidfa oll gael ei bedyddio ag yspryd y bardd hwnw, gan nad oedd gan y mwyafrif un dychymyg pa yspryd oedd yn y geiriau. Pan derfynodd, yr oedd y curo yn anferthol a diderfyn, y cyfryw nas gwelwn yn fynych ei gyffelyb; ac ni thewid hyd oni ddaeth y Dr. yn mlaen eilwaith i ddweyd y byddai iddo ddyfod yno y flwyddyn nesaf etto, os caniataai Duw. Ar ei ol siaradodd Charles Reed, Ysw., Cadeirydd Cymdeithas Genadol Llundain, a therfynwyd y cyfarfod trwy weddi. Wrth daflu cipolwg dros y cyfarfodydd, y mae y Christian World yn gwneyd y nodiad canlynol am y Dr. Wedi sylwi yn gymmeradwyol am araeth a dull y Parch. C. Clark, Caerodor, dywed: The other speech of the evening was that of the fervid and famous Welsh orator, Dr. Price, of Aberdare, who, in a series of rapid and vivid sketches, recalled, for the benefit of the young among his hearers, the remarkable history of the Baptist Missionary Society. It was far from easy to keep up the excitement produced by Dr. Price's glowing pictures; but Mr. Charles Reed, representing the London Missionary Society, gained the ear of the meeting, and rendered good services to the mission cause.'"
Pregethodd y Dr. hefyd lawer yn rhai o bwlpudau Lloegr, Ysgotland, a'r Iwerddon, ac yr oedd yn ddieithriad yn gwneyd argraffiadau dwfn a daionus ar feddyliau ei wrandawyr, ac edrychid i fyny ato fel un o gewri y pwlpud Cymreig. Dywedai Myfyr Emlyn yn Y Geninen, "Ac yr oedd Cymru yn rhy fach iddo." Braidd na ddywedwn, Felly hefyd Lloegr," oblegyd yr oedd "Dr. Price Aberdare" wedi dyfod yn eiriau teuluaidd yno, yn neillduol yn y cyfenwad Bedyddiedig. Hefyd, daeth ei enw yn adnabyddus a pheraroglus yn yr Iwerddon a'r America. Torodd ei lafuriadau a'i ddylanwad dros ben terfynau Cymru, ei wlad, a'i gydgenedl hawddgarol. Talodd ymweliad â'r Iwerddon, ac wedi hyny a'r America, yn nglyn ag hyrwyddiant achos y Gwaredwr Mawr, yr hwn oedd mor agos at ei galon ac mor anwyl gan ei enaid. Felly, caiff y teithiau hyn ein sylw yn nesaf, gan eu bod yn barhad mewn ystyr o'i gyssylltiad â'r enwad parchus y cafodd yr anrhydedd o fod yn aelod o hono a gwneyd cymmaint o waith sylweddol a gwir werthfawr drosto.
PENNOD XIII.
EI YMWELIAD A'R IWERDDON AC AMERICA.
Ei ragfwriad i fyned—Gwahoddiadau taerion—Gwahoddiad Golygydd "Y Seren Orllewinol"— Atebiad y Dr.—Ei olygiad am y Rhyfel—Ei ymweliad a'r America—Ei ragbarotoadau ar gyfer y daith—Ei ymweliad â'r Iwerddon—Ei daith yno a'r gwaith a gyflawnodd—Dychwelyd adref—Cyfarfod ymadawol yn Nghalfaria—Cychwyn—Cwrdd Lerpwl—Ar fwrdd y llong—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei diriad a'i roesawiad— Cwrdd Hyde Park—Hanes y daith gan y Parch. Ddr. Fred Evans—Etto, Lewisburgh, gan L. M. Roberts, M.A., Glyn Ebbwy—Ei nodion gwasgaredig—Anerchiad croesawus Bedyddwyr Cymreig America—Dychwelyd adref—Welcome Home Aberdar—Anerchiad croesawus gan fasnachwyr y dref—Eglwys Calfaria—Y gweinidogion—Y côr canu—Ciniaw gyhoeeddus i'w anrhydeddu—Parch yn ddyledus iddo.
YR oedd y Dr. wedi hen arfaethu ymweled â gwlad YR eang a chyfoethog y Gorllewin, ac wedi cael gwahoddiadau mynych a thaerion oddiwrth Gymry America, yn ogystal ag oddiwrth gyfeillion personol o nod a bri; ond bu am hir amser yn methu cael ei ffordd yn glir i hyny. Gwnaethai addewidion sicr, ac edrychai yn mlaen am gyfnod ffafriol i'w gyflawnu. Yn y Seren Orllewinol am Medi, 1864, ysgrifena y golygydd, y Parch. Richard Edwards, Pottsville, America, fel hyn:—
"Yn ddiweddar, ysgrifenasom lythyr personol at y gweinidog enwog. llafurus, a pharchus, T. Price, M.A., Ph.D., Aberdar. Y dyben penaf oedd dymuno arno, dros luoedd o'i gyfeillion y tu yma i'r Werydd, ymweled â'r wlad hon ; ac hefyd, cyflwyno iddo Mr. Harry H. Davies, yr hwn a aethai drosodd yno er arddangos ei arluniau, panorama o'r rhyfel, &c. Y mae y Dr. yn cydnabod derbyniad ein llythyr, y darluniau, a'r llyfrau yn garedig a diolchgar drosto ei hun a'r lleill o'r teulu, sef ei fab dysgedig. Edward Gilbert Price, yr anwyl Emily, a Sarah siriol (ei chwaer), y rhai, fel y clywsom, ydynt yn fwy na dim arall yn swyno y Rose Cottage, gan wneyd pawb fyddo yn agos iddynt yn gysurus."
Yn Seren Cymru am Orphenaf 24, 1864, cawn atebiad y Dr. i'r llythyr crybwylledig, a chan ei fod yn dal perthynas agos â'r mater dan sylw, ac yn nodweddiadol iawn o'r Dr., dyfynwn ranau o hono yma. Ysgrifena:—
ANWYL FRAWD EDWARDS,
"Yr hwn, er nas gwelais, a garaf gyda chalon gywir a dirodres—mae eich bywyd dichlynaidd, eich gweithgarwch parhaus gyda y Wasg a'r pwlpud, a'ch ymlyniad diysgog gyda phob peth Cymreig, yn adnabyddus i mi er ys blynyddau; ac er fod Môr y Werydd rhyngom, gallaf eich cofleidio mewn serch Cristionogol, er mwyn eich llafur cariad, er gogoniant y Duw Mawr sydd uwchlaw pawb oll yn fendigedig yn oes oesoedd, lles eich cyd—ddynion yn gyffredin, a lles neillduol eich cydwlad. wyr mewn gwlad bell." * * *
Eich llythyr caredig.—Diolch am hwn. Mae ei gynnwysiad wedi rhoddi llawer o gysur i mi, a charwn fanylu arno oni bai ei fod yn rhy bersonol, ac mor barchus i mi fy hun. Er hyny, nodaf bedwar peth sydd ynddo:—Ymweliad Mr. H. H. Davis.—Fod eich gair chwi, a'r cymmeriad uchel a roddwch iddo, yn ddigon er iddo gael derbyniad calonog yn Nghymru; ac hyderaf y ca dderbyniad croesawgar yn Lloegr a pharthau ereill o Ewrop. Credwyf y gall ei ymweliad fod o fawr les. Mae yn Lloegr, yn mhlith llongwyr a dosparth o'r marsiand. wyr deimlad dros y Dehau, meddant hwy; ond nid gwir hyn. Nid oes dim gwir deimlad dros y Dehau, hyd y nod yn mhlith y fath ddynion ag adeiladwyr yr Alabama, perchenogion y llongau sydd yn rhedeg y blockade, a gwerthwyr arfau rhyfel a phylor, cig moch a saltpetre, a phethau ereill o'r natur yna; na, y ‘teimlad ' sydd am yr aur a'r arian, a'r elw dychrynllyd sydd ar y nwyddau hyn. Aur ac arian, elw a chyfoeth, yw duwiau y dynion hyn: dyma y delwau o flaen y rhai y plygant, gan nad b'le y ceir y pethau hyn, pa un ai yn y Dehau ai yn y Gogledd maent yn foddlon i beryglu pob peth er cael gafael arnynt. Mae y dynion hyn yr un mor barod i werthu arfau tân a phylor i'r Caffrariaid ac anwariaid Zealand Newydd, i ymladd yn erbyn coron Prydain. Yn wir, y maent wedi gwneyd hyn yn barod; a byddent yr un mor ewyllysgar i werthu y nwyddau hyn i'r cythraul, dim ond iddo agor marchnad ar gyffiniau Gehena. Dyma wraidd y ffug—deimlad sydd yma dros y Dehau. O'r tu arall, gallaf eich sicrhau fod gwir deimlad gorcuon y wlad, o Victoria ar ei gorsedd hyd modryb Magws yn Elusendy Aberdar, dros y Gogledd a rhyddid, o blaid Duw a Lincoln, ac o blaid Undeb Americanaidd heb gaeth was o'i fewn. Dyma ein teimlad a dyma ein gweddi. Mae ein teimlad ni fel gweinidogion ac eglwysi yn ddwys drosoch yn eich dydd hwn o drallod a gofid. Cymmerwch galon, mae dydliau gwell yn eich aros. Mae y cyfnewidiad tramor wedi myned yn ddychrynllyd o uchel—dros gant per cent—yn awr. Mae hyn o gwrs yn anfanteisiol iawn i chwi ar hyn o bryd; ond nis gall bara yn hir. Yr wyf fi yn gobeithio y bydd i chwi ail ethol Mr. Lincoln i'r gadair lywyddol. Os gwnewch felly, yr wyf yn credu y daw y rhyfel i derfynia buan. Dyna fy nghred I, o leiaf. Bydd i'r rhyfel gael ei chadw yn mlaen hyd nes byddo yr etholiadau drosodd, ond wedi hyny mae yn debyg i mi y daw y pleidiau i ryw ddealldwriaeth am heddwch
"Mae yn dda genyf glywed am farn y Cymry yn America am danaf. Diolch yn fawr iddynt am eu teimladau da, a diolch yn fawr i chwithau am gyfleu syniadau caredig y Cymry i mi. Dyma ddigon ar hyn, neu aiff yr hen ddyn yn rhy falch: mae yn rhaid ei gadw i lawr.
"Ymweliad ag America.—Derbyniwch chwi, a derbynied y lluoedd Cymry sydd drwyddoch chwi yn rhoddi i mi wahoddiad mor galonog i ymweled ag America, fy niolchgarwch gwresocaf. Os byw ac iach, yr wyf yn gobeithio cael derbyn y gwahoddiad calonog a charedig hwn. Yn mhen llai nâ dwy flynedd etto byddaf wedi treulio ugain mlynedd yn weinidog yn Aberdar, ac am y tymhor hwnw wedi bod yn lled gysson a difwlch yn y tresi. Erbyn hyny hefyd bydd Eglwys y Gadlys—yr olaf o ferched Calfaria—wedi ei chorffoli, ac o dan ofal ei gweinidog ei hun, a minau a dim ond Calfaria i ofalu am dani; ac erbyn tair blynedd i yn awr, byddaf wedi cyflawnu fy addewid i'r Cyfundeb Odyddol, trwy basio trwy y cadeiriau llywyddol, ac y mae yn fy mryd i ofyn am hamdden i ddyfod drosodd i'ch gweled. os yr Arglwydd a i myn. Mae eich cynnyg chwi. mewn ystyr arianol. yn bob peth a ddymunwyf; a'm gweddi yw, am ichwi a minau gael ein harbed i mi ei dderbyn yn galonog.
"Eich sefyllfa grefyddol. Nid wyf yn synu dim am y marweidd—dra ysprydol a deimlwch yn y tymhor cynhyrfus presenol. Yn wir, mae rhyfel America yn effeithio ar grefydd yn y wlad hon i lawer mwy o raddau nag y mae llawer yn feddwl. O! am weled yr adeg pan y byddo trais a gormes wedi gadael y tir, heddwch a thangnefedd yn teyrnasu, cariad yn rhwymo holl deulu dyn yn un frawdoliaeth, a Seion Duw yn mwynhau heddwch fel yr afon, a chyfiawnder fel tonau y môr.
"Can' diolch i chwi, ac i Gymry America, am eich teimlad caruadd tuag ataf.
"Mae Edward, Emily, a Sarah yn uno â mi mewn serch a chariad Cristionogol atoch chwi, at Mrs. Edwards, ac at y plant oll.
Duw, ein Tad ni oll, a'ch arweinio i bob daioni yn y byd sydd yr awr hon, ac a'ch derbynio i'r trigfanau dedwydd yn y byd sydd etto yn ol.
Aberdar, Gorph 15, 1864.
Yr oedd cyssylltiadau ac ymrwymiadau lluosog ac amrywiol Price yn ei gwneyd yn anhawdd iddo ymryddhau, a chael amser i fyned am daith mor bell. Yr oedd ei gyssylltiadau â chynnifer o gymdeithasau cyfeillgar ac yswiriol fel trysorydd, ymddiriedolwr, a swyddi pwysig ereill—ei gyssylltiadau a'r Wasg Gymreig, yn neillduol fel golygydd Seren Cymru, yn nghyd a'i ofal gweinidogaethol am ei eglwys luosog yn Nghalfaria, fel y noda, yn rhwystrau mawrion ar y ffordd; ond trwy lawer o ragddarparu a threfnu, daeth yn alluog i fyned. Pennodwyd i ofalu am olygiaeth Seren Cymru, yn ei absenoldeb, y Parch. B. John (Periander). Neillduwyd ei fab, Mr. E. G. Price, i gyflawn waith y weinidogaeth, ac i ofalu am Galfaria yn y cyfamser, ac urddwyd ef gan ei dad trwy weddi ac arddodiad dwylaw, nos Fawrth, Chwefror 16eg, 1869, yr hwn hefyd a bennodwyd i gario yn mlaen lawer o'i orchwylion, a bod yn gyfrifol am ei holl drafodaethau arianol i'r gwahanol gymdeithasau, oblegyd yr oedd Price yn fanwl a gofalus iawn mewn materion o'r fath, fel y gwelir oddiwrth ei ol-nodiad i'w ysgrif yn Seren Cymru, Ebrill 9, 1869:
"D.S—Fel yr awgrymais o'r blaen, dymunaf etto ar i'r cyfeillion ddanfon pob arian, yn y drefn arferol, ddichon ddyfod i mi at Edward Gilbert Price Yr wyf wedi llawnodi gweithred reolaidd, yn rhoddi iddo bob gallu ac awdurdod i weithredu droswyf, ac yn ymrwymo hefyd i fod yn gyfrifol am yr oll a fydd iddo ef wneyd yn fy enw yn ystod fy absenoldeb. Y mae achosion y cymdeithasau oll yn eglur a rhwydd, fel na fydd i neb gael trafferth trwy fy absenoldeb.
Nid myned i'r America, fel llawer yn y blynyddau hyn, i weled a mwynhau ei hun yr oedd y Dr. Bu y daith yn bleserus iddo, ac ennillodd lawer o wybodaeth a phrofiad drwyddi; ond ei brif neges oedd myned ar gais taer a difrifol Pwyllgor y Gymdeithas Genadol yn Llundain dros Gymdeithas Genadol Wyddelig y Bedyddwyr, er ceisio ychwanegu at ei thrysorfa, yn ngwyneb y cyfnewidiadau pwysig oeddynt yn debyg o gymmeryd lle yn yr Iwerddon yn y ddwy flynedd ddylynol. Ond er mai hyna oedd ei brif neges, yr oedd wedi gwneyd ammod â'r Pwyllgor i gael misoedd Mai, Mehefin, a Gorphenaf iddo ei hun, i ymweled â'r sefydliadau Cymreig yn ngwlad y Gorllewin. Cyn ei ymadawiad i'r America, bu dair wythnos yn yr Iwerddon, er gweled maes llafur ein cenadon yno, a chynnal cynnadleddau brawdol gyda hwynt.
Boreu dydd Llun, Mawrth y 1af, 1869, cychwynodd i'r daith hon, ac yn ol ei ddyddiadur, cyrhaeddodd Gaergybi y noson hono. Cawn y crybwyllion canlynol yn ei "Nodion Gwasgaredig" yn Seren Cymru am Ebrill yr 2il, 1869, am y noson hon:—
"Cefais y fraint o dreulio noswaith o dan gronglwyd y Frondeg, lle yr oedd Mrs. Lewis wedi newydd anrhegu ei phriod anwyl â thlws hardd gwerthfawr, i fod yn ychwanegiad at y teulu gwerthfawr a dedwydd hwn. Yn y boreu cefais y fraint o dreulio ychydig amser ar ymweliad â'r Hybarch Ddr. Morgan. Mae ef yn wanaidd ei iechyd, ond yn para yn serchus a llon ei galon, a boddlon ei yspryd. Mae eglwys barchus Caergybi yn gofalu yn anrhydeddus am dano yn ei ddyddiau diweddaf."
Gan nad yw y daith i'r Iwerddon yn un faith, dichon mai nid annyddorol fydd cael gwybod am ei threfn, yn nghyd â'r gwaith a gyflawnodd y Dr. ar hyd—ddi. Wele yn canlyn ei hanes fel yr ysgrifenwyd ef ganddo ei hun yn ei ddyddiadur. Mae yn cychwyn yn awr wrth gwrs o Gaergybi:—
1869—Mawrth | 2 | Dublin | |
3 | Agoriad Dafydd | Dublin | |
4 | Little Maid | Bambridge | |
5 | Address to hearers | Do | |
" | Address to the School | Do | |
6 | Mission | Tandragee | |
7 | Address | Belfast | |
8 | Great Commission | Do | |
" | Key of David | Whiteabbey | |
" | Little Maid | Carrickfergus | |
9 | Little Maid | Portadown | |
10 | Address to School | Do | |
" | The Widow | Donoughmore |
1869—Mawrth | 11 | Address on Mission | Ballymena |
" | Address to School | Do | |
12 | Little Maid | Coleraine | |
13 | Address | Grant Causeway | |
14 | Address | Magherfelt | |
15 | Dry Bones | Tubbermore | |
16 | Going to | Dublin | |
17 | Crossing | for home | |
18 | Cyfeillach | Calfaria |
Gwelir na fu y Dr. enwog yn segur yn ngwlad y Gwyddel. Teithiodd lawer, a gweithiodd yn galed tra yno. Yn y Seren, a grybwyllasom, cawn erthygl ragorol wedi ei chyhoeddi ganddo, yn cynnwys hanes manwl o'r daith hon, a rhydd ynddi lawer o wybodaeth am y wlad a'i thrigolion, ac yn neillduol felly am yr achos Bedyddiedig yno, a'r teuluoedd parchus y daeth i gyssylltiad â hwy. Bu hyn yn ddiau yn fantais fawr iddo osod achos y Genadaeth Wyddelig yn effeithiol o flaen yr Americaniaid. Wedi cael ychydig ddyddiau gartref—bum bron â dweyd i orphwys—ar ol y daith hon, yr hyn a fuasai yn gamsyniad mawr, oblegyd nid oedd gorphwys llawer yn hanes y Dr., cychwynodd am Wlad y Gorllewin. Meddiannwyd eglwys Calfaria, ac yn wir tref Aberdar, â theimladau rhyfedd yr adeg hono. Nid annghofia y rhai oeddynt yn bresenol yn y "cwrdd gweddi hynod hwnw" (fel y gelwid ef gan yr hen batriarch o Langefni), a gynnaliwyd yn Nghalfaria, y teimladau dwys a hiraethus a godent, fel llanw y môr, yn eu calonau. Teimlent yn falch am yr anrhydedd a osodid ar eu gweinidog enwog, ond yn dra phryderus am dano ef a'i anwyl blentyn yn gwynebu ar y fath daith. Cyflwynasant ef yn anwyl mewn gweddiau gwresog ac mewn dagrau pur, i ofal yr Hwn a wnaeth nef a daear. I ddangos eu parch i'r Dr. a'u cydymdeimlad â'r eglwys, yr oedd tyrfa o frodyr parchus yn y weinidogaeth, a nifer mawr o leygwyr pwysig yr enwad, wedi dyfod yn nghyd o wahanol gyfeiriadau y sir. Yn mhlith ereill, yr oedd y rhai canlynol yn bresenol:—J. T. Jones (A.), Aberdar; J. Rees (W.), etto; W. Samuel, Cwmbach; R. A. Jones, Abertawy; H. C. Howells, Clydach; J. R. Morgan (Lleurwg), Llanelli; N. Thomas, Caerdydd; J. Lloyd, Merthyr; W. Harries, Heolyfelin; D. Davies, Hirwain; T. Phillips, Blaenllechau; D. Davies (Dewi Dyfan), Gadlys; J. Roberts, Mumbles; W. Williams, Cendl; T. Humphreys, Cwmaman; T. John, Ynyslwyd; J. Jones, Abercwmboye; W. Williams, Mountain Ash; J. Williams (S.), etto; J. Lewis, Troedyrhiw; O. John, Treuddyn; Lewis ac Edwards, Llangollen; John Bowen, Ysw., Treforris; John Jones, Ysw., Clydach. Derbyniwyd llythyrau yn gofidio o herwydd eu hanallu i fod yn bresenol oddiwrth y Parchn. John Jones (Mathetes), J. G. Phillips, Builth; R. Prichard, Dinbych; E. Roberts, Pontypridd; J. Rufus Williams, Ystrad Rhondda; R. Williams, Hengoed; T. E. James, Glyn Nedd; D. Edwards, Pontardawe, yn nghyd ag Asaph Glyn Ebwy, a Henry Bowen, Ysw., Treforris. Cymmerwyd y gadair yn y cwrdd hwn gan y Parch. T. John, Ynyslwyd, a bu y gwasanaeth yn amrywiol mewn darllen, canu, ac anerchiadau. Gweddiwyd gan y brodyr y Parchn. W. Williams, Cendl; T. Humphreys, Dewi Dyfan, H. C. Howells, Clydach, a D. Davies, Hirwaun. Traddodwyd anerchiadau gan y Parchn. T. Phillips, Blaenllechau; Lloyd, Merthyr; Harris, Heolyfelin; Williams, Rhos; Samuel, Cwmbach; Jones, Abercwmboye; Gwerfyl James, Treforris; J. T. Jones (A.), W. Rees (W.), R. A. Jones, Abertawy. Gan fod y ddau siaradwr diweddaf yn y cyfarfod hwn yn gydfyfyrwyr â'r Dr. gosodwn ddyfyniad byr o'u hanerchiadau, yn nghyd ag araeth bwrpasol y Dr. i ddiweddu:—
"Anerchiad gan y Parch J. R. Morgan (Lleurwg). Adwaenai ef y Dr. er's 25 mlynedd, ac yr oeddynt yn gyfeillion cywir o'r munyd cyntaf y gwelsant eu gilydd hyd yn awr. Yr oedd yn bresenol yn sefydliad y Dr, ac wedi bod yn ei gapel bron yn mhob cyfarfod o bwys o hyny hyd yn awr. Yr oedd capeli i'r Bedyddwyr wedi neidio i fodolaeth fel mushrooms trwy holl gwm Aberdar, a hyny yn benaf trwy offerynoliaeth y Dr., ac yr oeddynt oll yn llawnion erbyn heddyw. Nad oedd ef yn galaru, eithr yn hytrach yn llawenhau am fod Dr. Price yn myned dros y mor, ac y carai yn ei galon fyned gydag ef. Celai weled llawer o ryfeddodau Duw ar y mor ar ei daith, nes ei wneyd yn fardd heb yn wybod iddo ei hun, ac y dysgwyliai ei glywed Yr oedd etto yn darlithio ar yr hyn a welai ar ei daith hirfaith hon ei ddewisiad ar y fath neges bwysig yn anrhydedd mawr iddo ef, ei eglwys, a'r enwad yo Nghymru.
"Anerchiad maith a galluog gan y Parch. N. Thomas, Caerdydd, ar bwysigrwydd yr Iwerddon fel maes cenadol i'r Bedyddwyr. Sylwai fod yr iau ar gael ei thori, ac y dylai fod darpariaeth genym ni ar gyfer angenrheidiau ysprydol y boblogaeth. Yr oedd Dr. Price the right man in the right place yn bresenol, a dymunai iddo ef a'i unig blentyn daith gysurus a llwyddiannus iawn.
“Yn awr, ar gais y Cadeirydd, a dymuniad y dorf fawr, daeth Dr. Price yn mlaen. Dywedai fod yn dda ganddo am yr idea o gwrdd gweddi ar ei ymadawiad, iddi gael ei bodolaeth tu allan i'r eglwys, ac fod yn dda gan ei enaid weled y fath dorf yn gwerthfawrogi a mwyn. hau cyfarfod gweddi. Diolchai i bawb am eu dymuniadau da ar ei ran. Ofnasai y byddai'r cyfarfod yn tueddbenu i wanychu ei yspryd; ond fod yn dda ganddo mai adgyfnerthiad yspryd y bu iddo. Yr oedd yr adeg bresenol yn un bwysig iawn yn hanes Iwerddon; yr Iwerddon oedd maes brwydr fawr y Dadgyssylltiad, lle yr oedd rhyddid i ennill y llawryf, a thrais i farw; ac y byddai y fuddugoliaeth hon yn cynnyrchu buddugoliaeth debyg etto yn Lloegr a Chymru. Dywedai fod gan y Bedyddwyr 100 o orsafoedd pregethu eisioes yn yr Iwerddon; ond fod yn rhaid cael 300 neu 400 yno ; ac fod y lleoedd i'w cael, ond fod eisieu arian i'w pwrcasu, a'u defnyddio, ac mai dyna oedd ei amcan ef a'i gyfaill yn myned i America. Yr oedd y Presbyteriaid wedi casglu £10,000 yn America, a'r Wesleyaid £12,000, er codi athrofa newydd yn Belfast. Dywedai iddo ef gael ei wahodd i'r America dair gwaith o'r blaen gan yr eglwysi Cymreig, gan gynnyg talu ei dreulion, a thalu am bregethwyr yn ei le gartref; ond wedi cael y cynnyg newydd hwn, nad allai ymattal yn hwy rhag myned. Dywedai fod ganddo lythyrau o gymmeradwyaeth oddiwrth gorff y Wesleyaid, yr Annibynwyr, y Presbyteriaid, oddiwrth Dr. Brook, Dr. Landels, y Barwn Falconer, &c.; felly y byddai pob pwlpud yn America yn agored iddo. Hefyd, fod ganddo lythyrau cymmeradwyol oddiwrth Gymmanfaoedd y Bedyddwyr yn y De a'r Gogledd, ac hefyd oddiwrth athrawon ein colegau; ac fod digon o waith wedi ei dori allan iddo gan ei gyfeillion yn America am 100 mlynedd! Dywedai hefyd fod y brodyr anwyl yn myned i gael cyfarfodydd gweddi ymadawol iddo yn Liverpool. Yna diolchodd i bawb am eu teimladau da tuag ato, gan ddymuno arnynt weddio drosto tra yn America. Cyflwynodd ei fab anwyl, y Parch. E. Gilbert Price, i nodded a chydymdeimlad yr eglwys tra y byddai ef yn absenol.
"Bydded Duw yn dyner o hono ef a'i blentyn, nes dyfod yn ol atom etto.
H. GWERFYL James.'[10]
"Treforris, Ebrill 8, 1869.
Boreu dydd Llun, Ebrill 5, 1869, cawn y Dr. a'i anwyl Emily yn cychwyn yn foreu o'r Rose Cottage. Mae torf aruthrol yn eu cyfarfod yn yr orsaf, wedi dyfod yno i ganu yn iach iddynt. Dyma y gerbydres yn ageru i fewn i'r orsaf, ac y mae calonau cyfeillion a chyfeillesau y Dr. a'i blentyn yn curo yn gyflymach, a'r cyffro yn myned yn fwy byw. Dacw'r Dr. yn cymmeryd ei sedd, a'i wyneb gwridgoch yn dysgleirio gan sirioldeb. Y mae ei ddwy law allan, ac yn cael eu hysgwyd braidd yn ddidrugaredd, a phob ysgydwad yn dynodi calonau pur yn llawn o serch a dymuniadau da ato. Dyna'r chwibanogl yn myned, a'r gerbydres yn cychwyn, ac wele y cadachau o bob lliw a llun yn cael eu hysgwyd fel baneri, a'r oll yn brofion fod person nodedig yn ymadael o Aberdar y diwrnod hwnw. Yn gynnar yn mhrydnawn yr un dydd wele Fedyddwyr Lerpwl ar eu dysgwyliad, a rhai o flaenoriaid yr enwad yn y ddinas yn awyddus edrych am y South Wales train yn dyfod i fewn, ac ar ei ddyfodiad i'r orsaf, wele y Dr. allan yn fywyd i gyd, ac yn derbyn gyda y sirioldeb mwyaf longyfarchiadau a groesawiad ei frodyr yn y ffydd ac ereill o'i hen gydnabyddion yn eu plith. Cychwynodd o Lerpwl dydd Mercher, y 7fed, ar fwrdd yr agerddlong, City of Antwerp. Cynnaliwyd cyfarfod gan eglwysi Bedyddiedig Lerpwl i ddymuno yn dda iddo ef ac Emily y nos Fawrth cyn hyny yn Great Cross Hall Street. Am yr arwydd hon o barch teimlai y Dr. yn dra diolchgar, fel y gwelwn oddiwrth y nodiad a ganlyn:—"
Mae rhwymau mawr arnaf yn mlaenllaw i ddiolch i'r Parch. A. J. Parry a chyfeillion anwyl Lerpwl am eu teimladau da, caruaidd, a hyfryd. Mae y pethau hyn oll yn fwy nag a allaswn byth freuddwydio am eu cael; ac am hyny, maent yn galw am uwch cydnabyddiaeth nag a allaf ei roddi. Ond yn wir, yn wir, yr wyf yn teimlo yn ddwys, ac yn annhraethol ddiolchgar i'r Arglwydd ac i ddynion." (Gweler Seren Cymru am Ebrill y 9fed, 1869.) Aeth amryw o gyfeillion Lerpwl i'w hebrwng i lan y dw'r, a rhai i fwrdd y llong. Yr oedd y Dr. yn forwr da, fel y dywedir. Teimlai efe a'i ferch yn nodedig o siriol a chalonog, a buont yn bur iach yr holl fordaith oddigerth y dyddiau cyntaf o honi. Cadwasant eu harchwaeth at ymborth, ac felly, bu y daith yn fwyniant perffaith iddynt. Cymmerai y Dr. ddyddordeb mawr, fel y mae yn naturiol i ni feddwl, yn mhobpeth a welai. Meddai ar lygad craff a meddwl parod, a gallai droi pob peth i ddefnydd da yn ddidrafferth, a thrwy hyny, y mae yn fuan yn tynu sylw pawb ar y bwrdd ato fel dyn nodedig ac uwchlaw y cyffredin, er ei fod yn gwneyd ei hun yn gyffredin gyda'i gyd-deithwyr er eu dyfyru, ac hefyd eu hadeiladu mewn pethau buddiol. Efe o ddigon mewn amser byr oedd y person mwyaf poblogaidd ar y bwrdd. Ffurfiodd adnabyddiaeth fuan a'r rhan fwyaf oedd ar y llestr, a daeth yn ffafrddyn gyda hwynt. Dywedai y cadben am dano un o'r dyddiau cyntaf, "That reverend gentleman is a wonderful man, he draws all to himself, and can do just as he likes with them;" ac wedi cael ei adnabod yn dda, cafodd sylw a pharch neillduol gan y cadben, John Mirehouse. A ganlyn yn unig ydynt ei nodion yn ei ddyddlyfr am ei fordaith i'r Americ:—
April | 7 | Sailed from Liverpool in the 'City of Antwerp' |
8 | Prayer meeting on board 'City of Antwerp' | |
9 | ......do ....... do...... | |
11 | The Church Service read, with Welsh singing | |
" | Short service on deck of the steamer | |
12 | At sea, with a short prayer meeting nightly | |
13 to 17 | The same as the 12th | |
18 | Captive maid (Welsh) in the saloon of steamer | |
" | English Service in the evening | |
19 | A public prayer meeting in the steerage | |
20 | ......do ....... do...... | |
" | This day, at 2 o'clock in the morning, got to New York, and landed all well at 9 o'clock a.m. | |
21 to 24 | At W. B. Jones' in the City of Brooklyn |
Bellach, Dr. Price yn America a welir, a dyna'r swn a glywir yn mhob cyfeiriad. Bu cyffro mawr mewn rhai parthau o Gymru ar ei ymadawiad. Mae cyffro mawr mewn parthau o'r Americ ar ei diriad. Yr oedd pobl Aberdar yn hiraethus ar ei ol. Mae miloedd yn ngwlad y Ianci yn falch cael ei fenthyg, megys, am ychydig fisoedd. Bu yn aros ychydig ddyddiau yn nghartref clyd W. B. Jones, Ysw., Brooklyn, a phregethodd deirgwaith y Sabboth cyntaf yn yr eglwysi mwyaf a phwysicaf yn New York, fel y gwelir etto. Yn mhen ychydig ddiwrnodau cawn ef yn Hyde Park, yn cael ei roesawi yno mewn cyfarfod cyhoeddus, adroddiad byr o'r hwn a osodwn yma:—
"CYFARFOD CROESAWOL Y PARCH. DDR. PRICE YN HYDE PARK.
Cynnaliwyd cyfarfod i'r dyben uchod yn nghapel y Bedyddwyr Hyde Park, nos Iau, Ebrill 29ain.
Dechreuwyd y cyfarfod trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. P. Harris, Cattaraugus, a chanwyd pennill Etholwyd Ednyfed yn llywydd. Anerchwyd y Dr. a'r gwyddfodolion gan y Parchn J. W. James, Pittston, ar lwyddiant gweinidogaeth y Dr. yn Aberdar, o'r dechreuad—24 mlynedd yn ol; Thos. Jones, Mahony City, ar Gysyllt— iad y Dr. â Chymry America; R. Edwards, Pottsville, ar Gyssylltiad Cymry y ddwy wlad â'u gilydd; B. D. Thomas, Pittston, ar Gyssylltiad y Dr. a'r eglwysi Seisnig; M. A. Ellis, Hyde Park, ar Gyssylltiad y Dr. a'r Wasg Gymreig; W. Morgans, Plymouth, ar Wleidyddiaeth; y Dr. E. B. Evans, Hyde Park, Anerchiad Cyffredinol; J. Moses, Newark, Ohio, ar Ddylanwad y Dr. yn yr Hen Wlad, ac yn debyg o fod felly yn y wlad hon; J. P. Harris, Cattaraugus, y Dr. fel Cynnrychiolydd Bedyddwyr Cymru; J. Beavan, Scranton, ar Gyssylltiad y Dr. â'r Bedyddwyr Seisnig; J. Evans, Providence, ar Gyssylltiad y Dr. â'r Odyddion, yr Iforiaid, yr Alfrediaid, &c.; W. Morgans, Pottsville, â Bedyddwyr Cymreig America; P. L. Davies, Camden, ar Gyssylltiad y Dr. â Chymdeithas y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. "Yna darllenwyd rhes o gymmeradwyaethau i'r Dr. oddiwrth enwogion Cymru a Lloegr. Mae ganddo faich asyn o honynt. Yna cawsom y Dr. yn ei hwyl i dalu diolchgarwch gwresog am y derbyniad croesawus a gafodd efe a'i anwyl Emily yn Hyde Park. Dyna ddigon o gyssylltiadau, feddyliwn I.—Yr eiddoch, &c.,
"D. P. ROSSER."[11]
Gan i'r Dr. fod dros saith mis yn ngwlad fawreddog machludiad haul, ac wedi teithio a gweithio mor aruthrol, fel y gallai ac yr arferai efe wneyd am gyhyd o amser, teimlwn nas gallwn ei ganlyn yn fanwl i bob lle, nac ychwaith groniclo yr hanner a gyflawnodd. Yr ydym wedi ein gosod dan rwymau i deimlo byth yn ddiolchgar i ddau o frodyr da ac enwog oeddynt yn America yn yr adeg yr oedd y Dr. yno, ac wedi treulio cryn amser gydag ef, yn neillduol y blaenaf, sef y Parchn. Ddr. Fred Evans, Phil— adelphia, ac L. M. Roberts, M.A., Glyn Ebbwy, Mynwy, am eu hysgrifau galluog ar y Dr. yn America. Teithiodd y Dr. Fred Evans lawer iawn gydag ef drwy wahanol barthau o'r wlad; felly, meddai fantais neillduol i adrodd ei hanes yn ffyddlawn a dyddorol, megys y gwna. Yn awr, teimlwn hyfrydwch mewn cael yr anrhydedd o gyflwyno eu hysgrifau dyddorol, y rhai ydynt fel y canlyn:—
YMWELIAD Y PARCH. T. PRICE, M.A., PH.D., O ABERDAR, A'R TALAETHAU UNEDIG.
GAN Y PARCH. DDr. FRED EVANS, PHILADELPHIA.
Ymadawodd Dr. Price ag Aberdar ar y 5ed o Ebrill, 1869. a chychwynodd o Lerpwl yn y City of Antwerp ar y 7fed, a glaniodd yn iach a dyogel ar yr 20fed yn Efrog Newydd. Ei gwmni oedd ei anwyl ferch Emily, yr hon a deithiodd gydag ef rai miloedd o filldiroedd, a'r hon a fu o gysur a chefnogaeth iddo yn y wlad. Gydag ef hefyd y daeth y Parch. Mr. Henry o Belfast, Iwerddon. Gwaith y ddau oedd cynnrychioli Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. Y prif gynnrychiolydd oedd y Dr. Price, a disgynodd y rhan drymaf o'r gwaith arno ef. Ni fu yn Efrog Newydd ond ychydig oriau cyn iddo ddechreu yn ddifrifol ar ei waith: galwodd gyda swyddogion yr American Bible Union, y Gymdeithas Genadol Gartrefol, a'r Gymdeithas Gyhoeddiadol. Yma cyfarfu â'r enwog Dr. Armitage, un o gewri y Pwlpud Bedyddiedig yn America, a buont yn gyfeillion mynwesol hyd angeu y Dr. Y Sul wedi iddo lanio pregethodd yn Saesneg yn nghapel Dr. Sarles, yn Brooklyn yn y boreu, yn nghapel y Trefnyddion Calfinaidd yn Efrog Newydd am ddau, ac yn nghapel eang H. M. Gallegher, Ll.D., yn yr hwyr.[12] Cafodd amser gogoneddus, a'r bobl yn hoeliedig wrth ei wefusau. Yr oedd Dr Gallagher yn un o'r gweinidogion mwyaf poblogaidd yn Brooklyn—y nesaf at Henry Ward Beecher. Yr oedd yn llawn arabedd a thân, a gwelai y gynnulleidfa enfawr debygrwydd neillduol rhwng y Doctor o Aberdar a'r Doctor o Brooklyn. Aeth y si am dano drwy y dinasoedd mewn amser byr, a mawr fel y ceisient ganddo bregethu yn y prif bwlpudau. Yn ystod yr wythnos hon gwelodd rai o brif ddynion New York, a gwnaeth argraff dda ar bob un o honynt.
Ar y 27ain cychwynodd am Hyde Park, Pennsylvania, a bu yma byd y 3ydd o Fai. Yr oedd ei gyfaill, y Parch. Fred Evans (Ednyfed), yn weinidog y pryd hwnw ar yr eglwys Gymreig yn y lle. Yr oedd y capel eang yn newydd, a chynnaliwyd y cyfarfodydd agoriadol ar yr adeg hon. Yr oedd yn bresenol fel pregethwyr y Parchn. William Morgan, Pottsville; Theophilus Jones, Wilkesbarre; John P. Harris (Ieuan Ddu), Cattaraugus; John James, Pittston; Richard Edwards, Pottsville; John Evans. Providence; a P. L. Davies, Camden, N.J. Mae tri o'r brodyr hyn wedi cyfarfod cyn hyn â Dr. Price yn ngwlad yr aur delynau. Pregethodd gyda hwyliau neillduol yn Hyde Park i gynnulleidfaoedd hynod o luosog. Nid annghofir am y tro hwn. Cychwynodd o Hyde Park a Scranton ar y 3ydd, a chawn ef o flaen cyfarfod y gweinidogion yn Efrog Newydd. Trwy ei sirioldeb naturiol, ei arabedd anwrthwynebol, a'i genadwri odidog, gwnaeth argraff annileadwy ar y gweinidogion, ac agorasant ddrysau eu pwlpudau iddo o led y pen. Wedi talu ymweliad â Philadelphia ac ymgomio â'r awdurdodau yno parthed ei waith, aeth i Boston i gyfarfodydd yr Undeb, ac yma gosododd gerbron y gwahanol gymdeithasau hawliau y Bedyddwyr yn yr Iwerddon. Gwyddent wrth ei dân mai Cymro oedd, ond parod oeddent i gredu oddiwrth ei arabedd mai Gwyddel oedd. Nid gwaith hawdd yw i ddyeithrddyn gael caniatad i osod gerbron y cyfarfodydd blynyddol hyn bwnc na pherthyn yn uniongyrchol iddynt hwy, ond y fath oedd taerni a phenderfyniad Dr. Price fel y llwyddodd.
Ar y 1af a'r 2il o Fehefin, cawn ef yn Nghymmanfa Ddwyreiniol New Jersey. Efe a'r anfarwol Dr. Richard Fuller, o Baltimore, oeddynt y ddau ymwelydd, a phregethasant gyda dylanwad ac arddeliad neillduol; yn wir, yr oedd yn beth anhawdd cael gafael mewn dau bregethwr yn yr un cyfarfod o ddoniau y brodyr hyn.
"Aeth oddiyma i Richmond yn Virginia, ac yma gwelodd bethau a'u boddlonent ac a'u llanwent â digllonedd. Yr oedd teimlad y de yn gryf yn erbyn y gogledd, a chynddeiriogrwydd pobl y de yn fawr oblegyd diddymiad y gaethfasnach. Yr oedd Dr. Price yn elyn llym i'r gaethfasnach, a chas oedd ganddo yr enw caethiwed. Nid oedd hyn ond pedair blynedd wedi terfyniad y rhyfel a llofruddiad Lincoln. Mae yn Richmond, prifddinas y de, filoedd lawer o bobl yn dduon, ac yr oedd ei gydymdeimlad gyda hwy, a phregethodd iddynt. Cafodd filoedd i'w wrandaw, ac ni chafodd fwy o hwyl erioed yn Nghymru nag a gafodd yma. Wylent, chwerthinent, neidient a bloeddient, tra y pregethai efe iddynt, ac weithiau cymmaint oedd eu hwyl fel y gorfu iddo ddystewi am ychydig. Pregethodd yn nghapel eang y Parch. John Jasper, eglwys o bobl dduon o fwy na phedair mil o aelodau. Yr oedd yn wledd i wrando ar y Dr. yn adrodd hanes ei arosiad yn Rich- mond. Trodd ei gefn ar y de, a chawn ef yn Upland, Swydd Delaware, Pensylvania, ar y gfed o Fehefin. Yn Upland y mae Crozer Theological Seminary. Sylfaenwyd y coleg hwn trwy haelioni y boneddwyr Samuel, Lewis, George, a Robert Crozer—pedwar brawd. Dyma y cyfarfod blynyddol cyntaf, ac yn mhlith y myfyrwyr cyntaf a raddiwyd yma cawn Mr. J. T. Griffiths, un o fechgyn y Pyle a Mountain Ash. Mae yn awr yn weinidog yn Mhensylvania. Yr oedd yr enwog ysgolhaig, William R. Williams, D.D, o Efrog Newydd, i draddodi anerchiad yn y cyfarfod hwn; ond lluddiwyd ef oblegyd afiechyd, a chymmerodd y Parch. George Dane Braidman, llysfab yr enwog Judson, ei le. Traddododd Dr. Price amryw o anerchiadau yno, a chafodd hwyl uchel bob tro. Treuliodd beth amser yn Philadelphia, ac iechyd i'w galon oedd gweled olion yr hen Gymry gynt ar y ddinas enwog hon. Elai ar dân wrth weled enwau Cymreig rai o'r gorsafau ar y rheilffyrdd yn agos i Philadelphia, megys Brynmawr, Penllyn, Bala, Cynwyd, Berwyn, &c., &c.
Yn yr haf hwn ordeiniwyd y brawd serchog Mr. Llewelyn Llewelyn yn weinidog ar yr eglwys yn Frostburg, Maryland. Y ddau bregethwr oeddynt Dr. Price ac Ednyfed. Pregethodd y brodyr amryw droion yn Saesneg a Chymraeg, a thraddodasant ddwy ddarlith. Testyn darlith Dr. Price oedd "Y Beibl," a thestyn Ednyfed oedd "Garibaldi." Yr oedd y pryd hwn yn boeth iawn, a dyoddefodd y Dr. yn erwin ar brydiau oblegyd y gwres.
Cyrhaeddodd Pittston ar y 23ain o Orphenaf, a llettyodd yn nhy ei hen gyfaill mynwesol y Parch. B. D. Thomas, gynt o Gastellnedd, ac yn awr o Toronto, Canada. Ar y 24ain cawn ef yn nghyfarfodydd blynyddol Prif Ysgol Lewisburgh. Pregethodd yno foreu y Sul, ac fel hyn y dywed y National Baptist, papyr wythnosol yr enwad yn Mhennsylvania, "The sermon is highly spoken of, and will strengthen the impression already made by Dr. Price as a genial man and earnest Christian." Y dydd Llun canlynol traddodwyd anerchiad galluog iawn gan Theodore Tilton, hen elyn Beecher. Wedi bwyta y giniaw flynyddol, galwyd ar amryw i draddodi anerchiadau byrion, ond ni chafodd un gymmaint o hwyl â Dr. Price. Anhawdd oedd cael unrhyw un yn fwy hapus ar y fath achlysur nâ Price Penpound.
"Treuliodd ychydig o amser yn Utica, a mwynhaodd ei hun yn dda yno gyda'r cannoedd Cymry a'r Ianciod hefyd. Taflodd Dr. Corey ddrws ei gapel yn agored iddo, a chafodd dderbyniad tywysogaidd gan hil Gomer ac hil Jonathan. Ymwelodd ag Albany, Saratoga, ar ei ffordd tuag Utica, ac aeth o Utica i Hamilton, lle y mae Madison University. Cafwyd cyfarfod hynod o bwysig yma, a bu o ddaioni mawr i'w waith ef dros y Gwyddelod. Yn awr, teimlai yn lled galonog. Yr oedd yn awyddus iawn i weled Rhaiadrau Niagara; a mawr fel y dymunai Emily gael golwg ar y rhyfeddodau hyn; ac ar y 9fed o Awst edrychent yn syn ar y dyfroedd yn disgyn a'r berw i waered. Tynodd ei het ffwrdd pan y gwelodd y fath amlygiad o allu Jehovah. Ni flinai adrodd ei brofiad pan y syllodd gyntaf ar y Rhaiadrau, ac ar y dyfroedd berwedig a'r chwyrnbyllau cynddeiriog. Oddiyma aeth i Canada, ac ymwelodd â Hamilton, Toronto, Brookfield, Montreal, Quebec, ac amryw leoedd ereill. Treuliodd yn Canada dros ddwy wythnos, a siaradodd a phregethodd yn y prif leoedd, a theimlai i raddau yn gartrefol yno. Croesodd y St. Lawrence, ac ymwelodd â rhanau o Dalaethau Maine a Massachusetts. Yr oedd yn awyddus iawn i weled y ddaear a sangwyd gan yr anfarwol Roger Williams: cafodd ei ddymuniad, canys treuliodd beth amser yn Providence, Rhode Island, ac ymwelodd â Phrif Ysgol Brown. Er fod yr athrawon a'r myfyrwyr oddi yno ar y pryd, iechyd i'w galon oedd gweled yr adeiladau gwychion, a syllu ar ambell lyfr Cymreig. Yn mhen ychydig ddyddiau cawn ef etto yn Mhrif Ysgol Brown yn y cyfarfod blynyddol. Clywid ei lais yn fynych yn Massachusetts. Yn nghymmanfa Boston pregethodd gyda yr enwog Ddr. Weston, llywydd Coleg Crozer. Daeth yn ol i New York erbyn y dydd bythgofiadwy yr hwn a elwir Black Friday. Dyma eiriau y Doctor ei hun gyda golwg ar y dydd tywyll hwn: "Dydd Gwener cawsom New York yn y cynhwrf mwyaf a fu ynddi erioed. Yr oedd ar fin trancedigaeth fasnachol. Nid oedd neb yn fyw yn cofio y fath ddiwrnod yma â dydd Gwener diweddaf. Bu y byd masnachol yma ar fin dinystr hollol." Yn ddiau, dydd rhyfedd oedd. Methodd y banciau, aeth y masnachwyr yn wallgof, a du oedd y cyfan. Yn ddiau, dygwyd hyn oddiamgylch gan gamblers diegwyddor, a speculators creulawn. Y Sul ar ol hyn, pregethodd yn Eglwys Dr. Thomas Armitage Credai Armitage mai Thomas Jones, Dreforris gynt, wedi hyny o Lundain, Melbourne, ac Abertawe, oedd y pregethwr goreu yn y byd, ac mai Tom Price, Aberdar, oedd yr ail. Iechyd i'w galon oedd gwrandaw ar y Dr. yn pregethu. Pregethodd hefyd yn Brooklyn a Williamsburg.
"Dechreu mis Hydref glaniodd ei gyfaill mynwesol Dr. Todd yn Efrog Newydd, ac fel hyn y dywed y National Baptist am hyny:— 'Rev. J. W. Todd, Pastor of the Baptist Congregation at Sydenham, London, has just arrived in the United States. He comes for recreation and to cultivate the acquaintanceship of his American brethren, and to do something incidentally as the coadjutor of our excellent friends Price and Henry in behalf of Irish Baptist Missions."
“Tua diwedd mis Hydref, ymwelodd â Cincinnati, Ohio, a Louisville, Kentucky. Yn Cincinnati daeth i gysswllt ag amryw Gymry; yn wir, nis gwn am neb a gasglodd gymmaint o wybodaeth am y Cymry yn America mewn amser mor fyr. Ni phetrusodd i ddweyd lawer gwaith wrth yr Americaniaid eu bod yn fwy dyledus i'r Cymry nag i un genedl arall. Yr oedd yn berffaith gartrefol yn hanes y Cymry a ffurfiasant yr Eglwysi Bedyddiedig cyntaf yn Mhennsylvania. Soniai am yr hen frodyr o Rydwilym, Llanfyrnach, Dolau, &c., y rhai a ffurfiasant yr eglwysi yn Penypec, Dyffryn Mawr, Welsh Tract, &c., fel pe yn gyfarwydd â hwynt yn bersonol. Ar yr 2il a'r 4ydd o Dachwedd cawn ef yn St. Louis, prif ddinas Missouri: mae yno gyda y fath gewri â'r Doctoriaid Henson, Boardman, Manly, Spalding ac ereill. Y cyfarfod mawr hwn yw Cyfarfod Cenedlaethol yr Ysgol Sul; mae yma genadon o bob parth, ac un o'r anerchiadau mwyaf hyawdl, ffraeth a nerthol a draddodwyd ydoedd eiddo Dr. Price ar "Yr Ysgol Sul yn Nghymru." Argraffwyd yr anerchiad yn lled lawn yn amryw o'n papyrau, a chyfieithwyd yr adroddiad cyflawnaf o hono gan y Parch. J. T. Griffiths, Lansdale, Pa., ac ymddangosodd yn Y Wawr am fis Mai, 1888. Yn yr anerchiad rhagorol hwn rhoddodd lawer o'i brofiad ei hun. Wrth gefnogi athrawon yr Ysgol, dywedodd, 'Rhoddaf un enghraifft o ddosparth mewn cyssylltiad â'r eglwys yn yr hon y llafuriaf: allan o'r dosparth hwn o ddynion ieuainc, y mae saith yn awr yn weinidogion ac mewn sefyllfaoedd pwysig yn yr eglwysi. Gwelais un yn ddiweddar yn Nhalaeth Michigan, un arall yn Ohio, ac o'r lleill, y mae dau yn Lloegr, un yn Twrci, tra y mae yr wythfed yn Athrofa Crozer yn agos i Philadelphia, Pa.' Cafodd ei anerchiad y derbyniad mwyaf brwdfrydig.
"Treuliodd ychydig o ddyddiau yn Chicago, ac yma, fel yn y lleoedd ereill, gwnaeth ei neges yn hyspys. Yn awr, dychwela o'i daith Orllewinol, a geilw yn Cleveland a Pittsburgh ar y ffordd. Cafodd wledd yn nghwmpeini yr Hybarch William Owen, yr hwn oedd ar y pryd yn weinidog Eglwys Chatham St. Genedigol oedd William Owen o Landebie, Sir Gaer. Ni chafodd nemawr ysgol, ond yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf galluog; yr oedd yn enwog am ei arabedd, a mwyniant i bawb oedd gwrandaw ar y wit o Aberdar a'r wit arall o Pittsburgh yn ymddyddan â'u gilydd.
"Cyrhaeddodd New York erbyn rhan olaf Tachwedd, a phregethodd yn eglwysi Dr. Armitage a Dr. Evans (Ednyfed): ymadawodd Ednyfed â Hyde Park yn mis Tachwedd, a threuliodd y ddau frawd a chyfaill amser dyddan gyda'u gilydd. Ar yr adeg hon, ymwelodd Llew Llwyfo a'i barti ag Efrog Newydd, a chynnaliasant gyngherdd yn un o'r capeli Cymreig. Cadeiriwyd gan Ednyfed; ac ar ddiwedd y gyngherdd ragorol, galwyd ar Dr. Price i ddweyd gair. Dywedodd, 'Mae yn dda genyf weled cymmaint o bobl yn nghyngherdd y Llew: yr wyf yn ei adwaen er ys blynyddoedd, a gallaf eich sicrhau o un peth-nid oes wahaniaeth pa faint o arian a roddwch i'r Llew, y mae yn sicr o'u gadael ar ei ol yma i gyd.' Wrth bregethu am y tro cyntaf yn nghapel Armitage, defnyddiodd iaith goeth a chlasurol, a thebyg nad oedd yn meddu y rhyddid arferol. Ar ddiwedd yr oedfa aeth Dr. Armitage, a dywedodd wrtho, 'Don't they call you Tom Price, Aberdar, in Wales? Yes.' And you preach like Tom Price there?' 'Yes.' 'Now, friend Price, you tried to preach like Dr. Price this morning, and you did not enjoy the usual freedom, did you?' 'No, indeed.' 'Now, Dr. Price, let me give you a word of advice. While in this country be yourself, be Tom Price, Aberdar, and you'll carry everything before you.' Diolchodd Dr. Price iddo, a gwnaeth ei gynghor, a llwyddodd yn mhob man.
"Dywed yr American Baptist am dano yn Nghymmanfa East New Jersey, fel hyn: The other preacher was imported from beyond the Atlantic Rev. Dr. Price of Wales—who was listened to with the deepest interest on Wednesday evening, while he discoursed to us burning truths from Ezekiel's vision of the dry bones. Dr. Price made a telling address in advocacy of the cause he represents.' Gallem luosogi dyfyniadau fel yr uchod pe yn angenrheidiol. Cododd y Dr. genedl y Cymry yn ngolwg yr Americaniaid. Yn Brooklyn, yn nghyfarfod y gweinidogion. rhoddodd sketch o'r bregeth a draddododd y Sul blaenorol, ac wedi iddo derfynu, cododd yr enwog Dr. Wayland Hoyt ar ei draed a dywedodd, 'After all, it takes a Welshman to preach the Gospel.
"Daeth galwadau am ei lafur o wahanol fanau. Gweithiodd yn galed tra yn America, a gwnaeth argraffiadau ar feddyliau y bobl y bydd yn anmhossibl i amser eu dileu. Treuliodd oddicartref yn agos i ddwy ran o dair o'r flwyddyn 1869; teithiodd yn agos i dair mil ar ugain o filldiroedd; a phregethodd, darlithiodd, siaradodd dros dri chant a hanner o droion. Gwnaeth les dirfawr tra yma, a galarai y bobl oblegyd na arosasai yn barhaus yn eu gwlad. Bu arosiad ei anwyl Emily yn fwyniant mawr iddi hi ac i gannoedd o gyfeillion,—mae enwau y tad a'r ferch yn perarogli yno yn awr.
"Yr oedd dydd ei ymadawiad yn agoshau, a phenderfynodd ychydig o'i gyfeillion gael cyfarfod ymadawol iddo yn nhŷ yr enwog ysgolhaig a'r boneddwr pur W. B. Jones (Ap P. A. Mon), yn Livingston Street, Brooklyn. Cafwyd cyfarfod ardderchog,—llawn o hwyl, arabedd, a theimlad. A ganlyn yw hanes y cyfarfod fel yr ymddangosodd yn y New York Tribune, dydd Sadwrn, Rhagfyr 4ydd, 1869,—y mae yn amlygu natur y cyfarfod.
"The Rev. Dr. Price's Return to Wales.
""A very pleasant affair took place on Thursday Evening at the residence of Mr. William B. Jones, 150, Livingston Street, Brooklyn, on the occasion of the leave—taking of the Rev. Dr. Price. Addresses were made by the Rev. Mr. Thomas, Pa.; the Rev. R. Edwards, Pottsville, Pa. (both of whom had come from their homes to bid Dr. Price farewell); the Rev. Fred E. Evans, late of Hyde Park, Pa., recently appointed pastor of the Laight Street Baptist Church of this City; Messrs. John T. Davies, Henry Lussey, and William B. Jones. Dr. Price returns in the City of Brussels to day, after a sojourn of several months in this Country, during which time he has travelled through most of the States, South and West. His letters to his Paper in Wales—The Star of Wales—have been full of interest, giving his impression of matters and things in America; and he returns with enlarged views and more comprehensive knowledge of the greatness and future prosperity of this Country. Dr. Price, in the course of his remarks, condemned severely the judiciary system, but expressed his belief that this, as well as some other undesirable things, will gradually be rectified. He especially censured the apathy with which the better class of citizens allow political and municipal affairs to be regulated by too many inefficient and unworthy persons. But upon the whole he felt convinced that these things, which he regards as inevitable in a young country, will gradually pass away."
"Mae Ap P. A. Mon a Dr. Price wedi cyfarfod â'u gilydd yn awr yn ngwlad y gân. Daeth amryw i'w weled yn yr agerlong ar y 4ydd o Ragfyr, 1869. Dymunwyd iddo ef ac Emily fordaith gysurus a dyogel, a chawsant hi. Cyrhaeddasant Liverpool ar y 13eg ac Aberdar ar y 15fed, a chafodd dderbyniad tywysogaidd i'w hen gartref: yr oedd Aberdar i gyd yn fyw o roesaw iddo, ac aeth fel brenin yn cael ei foli gan y miloedd i'r Rose Cottage.
"Yr oedd ganddo barch mawr i America, a meddyliai yn uchel am ei hysgolion, ei hathrofeydd, a'i heglwysi. Hauodd had da yn yr Unol Dalaethau, ac ni hauodd yn ofer."
"DR. PRICE YN LEWISBURG, UNION CO., PENNA.
"GAN Y PARCH. L. M. ROBERTS, M.A., GLYN EBBWY, MYNWY.
"Yn mis Mehefin yn y flwyddyn 1869, yr oedd Dr. Price yn Lewisburg. Ei amcan yn dyfod yno yr amser hwnw ydoedd cael golwg ar symmudiadau pethau yn Ngholeg Lewisburg yn ystod y Commencement Week, ac hefyd i gael gweled llu mawr iawn o bob rhan o'r wlad, er ffurfio adnabyddiaeth â hwynt, a gwneyd amcan ei ymweliad â'r wlad yn adnabyddus iddynt. Yr oedd yr amcan hwnw ganddo yn mhob man yr ymwelai ag ef; a dywedodd wrthyf ei fod wedi llwyddo i raddau digonol i roddi boddlonrwydd iddo ei hun.
"Yr oedd yno hefyd amryw o'u hen gydnabod, brodyr a chyfeillion, rhai a barasant yn gyfeillion hoff ac anwyl hyd y diwedd, ac ydynt heddyw yn parchu ei goffadwriaeth. Cofus genyf weled yn eu plith y Parchedigion B. D. Thomas, Philadelphia, yn awr Dr. Thomas, Toronto, Canada; F. Evans, Franklin, yn awr Dr. Evans, Philadelphia; a F. L. Davies, M.A., ac eraill.
Da iawn oedd gan Dr. Price weled myfyrwyr Cymreig, neu yn hytrach Cymry yn fyfyrwyr yn y Coleg. Yr oedd y rhai canlynol yno yr adeg hono:-Charles Jones, Thomas Roger Evans, Jonathan James Nicholas, David Rhoslyn Davies, David John Williams, a William David Thomas.
Yr oeddwn I yn Lewisburg yr amser hwnw i wneyd ymgais am gael bod yn beneficiary, i gael addysg yn Ngholeg Lewisburg, dan nawdd y Pennsylvania Baptist Board of Education. Nid oedd y Board hwn yo gwneyd amgen cynnorthwyo myfyriwr; ond yr oedd ychydig gynnorthwy o werth mawr mewn awr gyfyng. Llawen iawn oedd genyf weled Dr. Price a'i hoffus ferch, Miss Emily Price; llawen hefyd oedd ganddynt hwythau fy ngweled inau, a da oedd ganddo fy ngweled yn gwneyd ymgais am fynediad i'r Coleg.
Yn yr wythnos hono, dydd pwysig ydyw y Commencement Sunday, a'r Sabbath hwnw, yr oedd Dr. Price yn pregethu; ei destyn oedd Eseciel xxxvii. 1-10, sef pregeth fythgofiadwy Yr Esgyrn Sychion.' Yr oedd yn ei wrandaw y pryd hwnw lawer o ddysgedigion, a chawsant eu llwyr foddloni a mawr oedd eu canmoliaeth i'r bregeth. Yr oedd yr Hybarch Dr Shadrach wrth ei fodd; ond i ba beth yr enwaf, yr oeddynt oll ar eu huchelfanau.
Boreu dydd Llun, yr oedd y Board of Education yn cydgyfarfod yn y capel a berthynai i'r Coleg, ac yr oedd ysgrifenydd hyn o linellau yn un o'r rhai oedd yn crynu wrth feddwl am ordeal yr arholiad. Cofus genyf fod amryw o'r cyfeillion wedi ceisio gan Dr. Price ddyfod am bleserdaith ar yr afon Susquehanna; ond dywedodd yn hyglyw na fuasai yr un bleserdaith wrth ei fodd hyd nes gweled un arall o feibion Calfaria, Aberdar, yn cael ei osod ar y ffordd i gael manteision addysg. Mawr oedd y cymhell fu arno; ond safodd yn benderfynol. Dywedodd wrthyf am fod yno mewn pryd y buasai yntau yno hefyd. Dywedodd hefyd y buasai yn rhaid iddo ofyn am ganiatad i fod yn bresenol, ond yr oedd hanner gair yn ddigon—yr atebiad uniongyrchol oedd Yes, certainly.
"Dr. Griffiths, Philadelphia, oedd cadeirydd y Bwrdd, a Dr. Spratt ydoedd yr ysgrifenydd gohebol. Yr oedd amryw o ymgeiswyr i fyned dan arholiad y dydd hwnw, ond yr oeddynt oll, ond fy hunan, yn Americaniaid. Yr oedd rhai ohonynt wedi pasio yr arholiad yn llwyddiannus, ac o'r diwedd wele fy enw inau yn cael ei alw, a Dr. Spratt yn darllen fy llythyr, neu yn hytrach lythyr oddiwrth y gweinidog yn appelio ar ran yr eglwys droswyf. Ond er fy mawr ofid, nid oedd yr appeliad ar fy rhan yn unol â'r hyn oedd llythyren eu cyfraith hwy yn ei ofyn. Dywedodd Dr. Griffiths ei fod yn ddrwg ganddo am y dyn ieuanc, ond eu bod hwy yn 'bound to the letter of the law.' 'The application must include the necessary words, and I am sorry that is not the case with the application of this young man.' Nid oedd dim i'w wneyd ond rhoddi lle i'r ymgeisydd nesaf. Buasai yn rhaid cael ail application, a than yr amgylchiadau yr oeddwn I ynddynt, gwyddwn yn dda pa anhawsderau oedd o fy mlaen. Yn y man goreu, buaswn allan o'r coleg am flwyddyn. Eisteddais ar un or seddau, trom oedd fy nghalon, trist oedd fy nhremwedd. Nid oedd ond diffyg yn ngeiriad yr application, ond yr cedd yn ddigon i mi gael fy nhroi o'r neilldu. Yr oedd Dr. Price yn eistedd a'i gefn ar y ffenestr, a Dr Spratt yn eistedd yn agos iddo. Gosododd Dr. Spratt fy llythyr i lawr yn ymyl sypyn mawr o bapyrau oedd ganddo, a chododd i ddarllen llythyr yr ymgeisydd nesaf. Ar ol y darlleniad hwn, ac i'r cadeirydd holi amryw ofyniadau fel y gwelai yn ofynol, yr oedd hawl gan unrhyw aelod o'r Bwrdd i roddi gofyniad i'r ymgeisydd; a gallaf eich sicrhau mai digrif a ffol oedd gofyniadau rhai o honynt.
"Yn awr, wele Dr. Price ar ei draed, a dywedodd, 'Dr. Spratt, I think that this letter is all right; it seems to me that the very words you were speaking of are here Will you, Sir, please read for yourself?" Cymmerodd Dr. Spratt y llythyr o'i law, darllenodd ef yr ail waith, a dywedodd mewn syndod, 'So they are, but really, Dr. Price, I did not see them before.' Yna dywedodd Dr. Griffiths, 'If the words are there, it is all right; call the young man up.' Ac felly y bu: cefais fy arholi gan y cadeirydd a chan yr aelodau; aethum drwy yr oll oedd ofynol yn llwyddiannus, a chefais fy rhestru yn mhlith y rhai oeddynt i ddechreu eu tymhor athrofaol yn y mis Medi canlynol.
"Wedi myned allan o'r coleg i'r Campus Grounds, safasom dan un o'r coed sydd o flaen yr adeilad eang, ac yn y fan hono bu ychydig ym. ddyddan rhyngom. Gofynais, 'Dr., beth wnaethoch chwi i'r llythyr? Atebodd gyda gwên ar ei wyneb hawddgar, 'Paid â blino dy ben; yr wyt ti i fewn—boddlona ar hyny.' Cynghorodd fi i aros yn y coleg am chwech mlynedd, ac felly y gwnaethum.
"Yr oedd yn arferiad gan Dr. Price alw y rhai a fedyddiwyd ganddo yn 'my boys,' neu 'one of my boys.' I amryw o Americaniaid y pryd hwnw yn y ceremony of introduction, dywedai, 'he is my boy,' neu 'he is one of my boys,' a throion wedi hyny gofynai rhai Americaniaid i mi, 'When is your father going to pay us another visit?"
"Aml dro y gwelais ef y dyddiau hyny yn eistedd dan un o'r coed ar lan yr afon Susquehanna, i ysgrifenu erthyglau i Seren Cymru. Ymddangosai fel pe yn mwynhau y golygfeydd ardderchog oedd o'i amgylch, ac hefyd ymddiddan â'r cyfeillion oedd o'i gylch, ac ar yr un pryd ysgrifenai yn ddiymaros ei erthyglau llithrig a darllenadwy oeddynt yn addurn y Seren, ac yn allu mor fawr yn y wlad hon.
"Yr oedd Dr. Price yn mwynhau ei hun yn holl gyfarfodydd y Commencement Week. Cymmaint oedd parch yr Americaniaid iddo fel yr ymddangosent fel pe yn ymgystadlu am dalu gwarogaeth iddo, ac yn nghanol yr oll yr oedd efe mor ddiymhongar ag erioed. Y nosweithiau hyn yr oedd Commencement Hall, adeilad eang perthynol i'r coleg, wedi ei orlenwi. Nos Lun yr oedd cyfarfod gan aelodau un o'r dosparthiadau ag oedd wedi graddio flynyddoedd yn ol. Buasai un yn rhoddi anerchiad ar ryw destyn dewisedig, ac arall yn darllen pryddest, ac fel rheol yr oedd y cyfarfodydd hyn yn rhai uwchraddol, gwir ddyddorol, buddiol ac adeiladol. Yr oedd Dr. Price yn mwynhau ei hun yn rhagorol ynddynt, a dywedai fod pethau felly yn intellectual treat.
'Dydd Mawrth yr oedd dosparth o ferched o'r Seminary Female Institute yn cael ei raddio. Mawr fwynhaodd Dr. Price ei hun yn y cyfarfod hwn, a sylwai fod dyfodol rhagorol o flaen y wlad oedd yn talu cymmaint o sylw i addysg uwchraddol y rhyw fenywaidd. Dywedai yn aml, 'Yn ddiau America yw gwlad y dyfodol.' Hefyd, dywedai y carai weled meibion a merched Cymru yn mwynhau manteision tebyg. Nos Fawrth yr oedd yr enwog Theodore Tilton yn traddodi darlith i'r College Literary Societies—hyny yw, y cymdeithasau hyn oeddynt yn ei ddewis, yn anfon am dano, ac yn talu iddo, ond yr oedd y mynediad i fewn yn rhad. Y testyn ydoedd, 'The Human Brain, and how to use it ;' ac yr oedd meddyliau beiddgar y darlithydd yn cael eu gollwng fel saethau mellt at hwn ac arall yn y gynnulleidfa. Ar ryw sylw neillduol o eiddo y darlithydd dywedodd Dr. Price, 'Hear, hear. Trodd Tilton ato yn y fan a dywedodd, 'Yes, friend, and everywhere, everywhere.' Dywedai Dr. Price wrthyf ar ol hyny fod sylw felly yn dangos genuine mother wit.
"Dydd Mercher, yr oedd y Class of 1869 yn cael ei raddio. Mawr y boddhad a gafodd yr hybarch Ddr. wrth glywed areithiau y graddedigion. Credwyf ei fod yn beth newydd iddo wrandaw ar araeth yn cael ei thraddodi yn y Lladinaeg. Araeth yn yr iaith hono ydyw y cyntaf a draddodir pan fyddo dosparth yn cael ei raddio. "Ymdrechodd yn fawr iawn i agor ffordd i rai o fechgyn Cymru gael eu haddysg yn Ngholegau America. Ni lwyddodd yn ei amcan yn hyn, er iddo greu cryn dipyn o dân yn Lewisburg yr adeg hono. Ni chafodd weled ond dau yn unig yn gadael Cymru am Goleg Lewisburg, sef Owen James, aelod y pryd hwnw yn eglwys Heolyfelin, a Iago W. James, aelod etto yn eglwys y Gadlys. Mae Owen James wedi cyrhaedd safle uchel yn America, a saif ei enw yn uchel ar roll of honour Coleg Lewisburg.
"Ni arosodd Iago W. James ond amser byr yn Ngholeg Lewisburg; derbyniodd alwad gan un o eglwysi Ohio, ac ymadawodd. "Nos Fercher, yr oedd y levee yn cael ei chynnal yn nhŷ Dr. Loomis, Llywodraethydd y Coleg. Yr oedd Dr. Price a Miss Emily yo wahoddedig iddo. Rhywfath o gyfarfod ymadawol i'r graddedigion ydoedd hwn. Boreu dydd Iau, yr oedd pawb yn gwynebu i'w cartrefloedd. Dr. Price yn gwynebu ar ei waith mawr a phwysig mewn gwahanol ardaloedd. Yr oedd y gwahoddiadau am dano yn aml a lluosog; ni fedrai gydsynio â'u hanner hwynt.
"Yn mis Tachwedd, 1869, gwelais fod Dr. Price yn St. Louis, Missouri. Yr adeg hono, ac yn y lle a nodwyd y cynnaliwyd 'The First National Baptist Sunday School Convention.' Yr oedd yn gyfarfod pwysig iawn; ac er cymmaint o Sunday School man oedd Dr. Price, cafodd well golwg ar yr hyn sydd alluadwy drwy yr Ysgol Sul yn y convention nag a gafodd erioed o'r blaen. Gwyr pobl Cymru yn dda pa fath weithiwr ydoedd Dr. Price wedi bod gyda'r Ysgol Sul, gwyddant hefyd pa beth a amcanodd gyda yr un pwnc pwysig ar ol ei ddyfodiad ya ol i'r wlad hon o America. Gwyddai Dr. Price fod dyfodol eglwys Iesu Grist i raddau mawr iawn yn gorphwys ar yr Ysgol Sul, a'r neb sydd am gael prawf o hyn, edryched i nifer a llwyddiant y Bedyddwyr ac enwadau ereill yn America. Cafodd Dr. Price ei alw i roddi anerchiad yn y cyfarfod hwn. Synwyd yr Americaniaid yn fawr iawn gan nifer yr eglwysi oeddynt wedi hanu o eglwys Calfaria, a'r nifer mawr iawn yr oedd efe wedi eu bedyddio."
Teimlwn nad oes eisieu i ni ddywedyd dim mewn ffordd o ganmoliaeth i'r llythyrau hyn, gan y dygant ynddynt eu hunain gymmeradwyaeth uchel i'w hawduron parchus. Yn ystod ei ymdaith yn yr America, ysgrifenodd y Dr. lawer iawn ar yr hyn a welodd, ac a glywodd, ac a deimlodd yn yr America. Anrhegodd hefyd ei ddarllenwyr yn Seren Cymru a'r llythyrau hyny, y rhai oeddynt yn cael eu dysgwyl yn aiddgar ganddynt, ac yn cael eu darllen gyda blas mawr. Cymmerasom y drafferth o gyfrif y llythyrau yn nghyd a nifer y colofnau a gynnwysent, er rhoddi enghraifft o'r hyn allai y Dr. wneyd o waith yn yr hyn a ystyriai efe ei "oriau hamddenol." O'r llythyr cyntaf sydd yn dwyn y dyddiad Mawrth 1af, 1869, a ysgrifenwyd ganddo pan yn cychwyn o Aberdar, hyd yr olaf, sydd yn dwyn y dyddiad Rhagfyr 24, 1869 (a ysgrifenodd wedi ei gyrhaeddiad gartref), cawn 27 o lythyrau, yn gwneyd gyda'u gilydd 71 colofn o Seren Cymru. Cymmerant i fewn nifer lluosog o wahanol ac amrywiol faterion, megys “Hanes dinasoedd mawrion y wlad," "Sefydliadau cyhoeddus,' Eglwysi a Chapeli," Golygfeydd natur—y mynyddoedd, yr afonydd, llynoedd, rhosdiroedd a choedydd," "Sefyllfa foesol a chrefyddol y wlad,” “Hen aelodau crefyddol a chyfeillion gyfarfyddai o Gymru yno, eu cyssylltiadau gwahanol yn yr hen wlad,” yn nghyd â llu ereill o bynciau allem nodi. Dyma gyfrol dda iawn, onite? Ie, gallwn anturio dweyd, gwerthfawr iawn, hefyd; oblegyd, yr ydym wrth eu darllen yn frysiog yn nglyn â'r gwaith hwn (er wedi cael mwynhad mawr wrth eu darllen pan gyhoeddwyd hwynt gyntaf) wedi cael ein taraw â syndod wrth feddwl gymmaint o wybodaeth hanesyddol, gyffredinol, a thra buddiol a gynnwysant. Yr ydym wedi ein temptio fwy nag unwaith i osod rhai o honynt i fewn yn enghraifft o allu mawr ac amrywiol eu hawdwr, ond yr ydym yn ymattal, yn y gobaith y cyhoeddir hwynt etto yn nglyn â gweithiau ereill o eiddo y Dr.
Tra yn yr America derbyniodd yr hybarch Ddr. yr anerchiad canlynol yn arwydd o serch a pharch ei frodyr ato:—
ANERCHIAD CROESAWUS
Cyflwynedig i'r Parch. Thomas Price, M.A., Ph D, Aberdar, Deheudir Cymru, gan bwyllgor neillduol o Fedyddwyr Cymreig, cynnulledig yn Youngstown, Ohio, Gogledd America.
BARCHEDIG SYR,—Yn gymmaint â chaniatau o'r Arglwydd yn ol ei radlawn diriondeb i chwi gael ymweled â ni, Genedl y Cymry yn y wlad hon:
1af, Penderfynwyd, Yn ol ein hadnabyddiaeth a'n gwybodaeth hanesyddol o honoch, eich groesawu a'ch derbyn fel prif gynnrychiolydd ein cenedl yn Nghymru, yn gymmaint â'ch bod bob amser yn amddiffynydd dewr i'n hiawnderau, yn wladgarwr trwyadl a didwyll, ac fel Rhyddfrydwr wedi treulio eich oes, a gwario llawer o feddiannau i ymladd brwydrau rhyddid yn erbyn cadarn ormes a thrawsarglwyddiaeth wladol; ac fel un na bu uchel swyddogaeth, cyfoeth, na gallu mawreddog y bendefigaeth yn Mhrydain Fawr, yn effeithiol i'ch gwangaloni na'ch attal rhag cyflawnu eich amcanion er lles a budd y genedl.
2il. Penderfynwyd, Eich cydnabod fel cynnrychiolydd neillduol o'r Cyfundeb parchus Cristionogol a elwir y Bedyddwyr Neillduol yn Nghymru, o herwydd eich bod bob amser wedi defnyddio eich gallu a'ch medrusrwydd diail er amddiffyn a lledaenu egwyddorion pur gwir Grefydd, yn ei gwahanol ddosparthiadau. Nid oes neb wedi rhagori arnoch mewn diwydrwydd a gweithgarwch gyda'r Cymdeithasau Cenadol a Chyfieithadol, yn Gartrefol a Thramor; ac y mae agwedd lewyrchus y Bedyddwyr yn Morganwg, yn neillduol Dosparth Aberdar, yn nhrefnusrwydd eu llywodraeth, yn amlder eu haddoliadau, yn lluosogrwydd eu haelodau, yn nghyd â nifer yr Ysgolion Sabbothol, &c., megys colofnau uchel ac eglur, a'ch enw chwi arnynt y blaenaf mewn gwaith da.
3ydd. Penderfynwyd, Dychwelyd i chwi y diolchgarwch mwyaf gwresog a chalonog am eich caredigrwydd hynaws yn ymweled â ni yn ein gwlad fabwysiedig, ac ymdrechwn wneyd ein rhan er eich cysur tra yn ein plith.
"Gweddiwn am i'r Duw a'ch llwyddodd yn Nghymru etto i goroni eich ymdrechion a'ch amcanion o blaid enw'r Iesu, a llwyddiant Teyrnas Nefoedd tra yn America.
Dymunwn hefyd i'r Ior, yn nhrefn ddoeth ei Ragluniaeth, noddi a chadw eich personau chwi a'ch anwyl ferch, Miss Emily Price, yn nghysgod ei law yma, ac ar eich dychweliad i Gymru.
A hyderwn y bydd yr ymweliad hwn o'r eiddoch â ni gynnyddu yr Undeb, a chreu mwy o gydweithrediad rhyngom ni a'n cydgenedl anwyl y tu draw i'r môr er ein llesoli a'n llwyddo yn dymhorol ac ysprydol.
Amen.
Yr eiddoch mewn undeb ffydd,
Tachwedd 12, 1869.
Ni ddygwyddodd dim o bwys ar ei daith gartref hyd ei ddyfodiad i Aberdar, ac nid oes un nodiad neillduol wedi ei ysgrifenu ganddo yn ei ddyddiadur ond a ganlyn:—
"Dec. 4th, 1869, sailed from New York for home. 4th to Dec. 13th is almost a religious blank.[13] Arrived in Liverpool early on Monday morning, the 13th."
Dydd Mercher, y 15fed, cyrhaeddodd Aberdar yn iach a dyogel, a chafodd dderbyniad tywysogaidd. Daeth miloedd i'r orsaf i'w gyfarfod a'i roesawu, ac i amlygu eu parch a'u teimladau da tuag ato. Yn ei fynegiad yn Seven Cymru am Ragfyr y 24ain, 1869, o'r amgylchiad hapus, dywed Dewi Dyfan fel hyn :" Tua hanner awr wedi dau o'r gloch, gwelid y bobl o bob cwr o'r dref yn tynu tua'r orsaf. Yn mhen ychydig, daeth Cor y Plant perthynol i Galfaria yno. Chwyddai y dorf yn barhaus, nes, o'r diwedd, yr oedd y dernyn tir helaeth wrth yr orsaf yn orlawn. 'Beth sydd yn bod?' gofynai ambell i bassenger mewn syndod. ' A oes rhyw dywysog yn cael ei ddysgwyl, dywedwch?' Am ychydig funydau i dri o'r gloch, daeth y train i mewn, ac mewn ychydig daeth gwyneb crwn, llon, ac iachus y Dr. i'r golwg yn mhlith y dyrfa, yn nghyd â Miss Emily, mor loyw ag y bu erioed. Edrychai y ddau yn rhagorol. Wedi cael pethau i drefn, darllenwyd dau anerchiad i'r Dr. wrth yr orsaf; y cyntaf gan T. Davies, Ysw., West of England Bank, yr hwn oedd oddiwrth drigolion tref Aberdar. Yr oedd yn anerchiad cariadus, destlus, a chaboledig. Darllenwyd y llall gan D. Davies, Ysw., Bryngolwg, dros yr Urdd Odyddol yn Aberdar. Wedi cael araeth wreichionllyd gan y Dr., ffurfiwyd yn orymdaith. Masnachwyr y dref yn flaenaf, y gweinidogion yn canlyn, a'r ysgol ar ol hyny, ac yna Dr. Price a'i gyfeillion mewn cerbyd yn dylyn. Chwareuai llumanau o amryw ffenestri, yn arwydd o'r croesaw roddai y bobl iddo ar ei ddychweliad. Gerllaw i Rose Cottage crogai bwa gwyrdd gyda llumanau, yn cynnwys yr arwyddair— Welcome Home to Dr. and Miss Emily Price.' Mewn gair, yr oedd y derbyniad yn deilwng o dywysog bob rhan o hono. Rhwng y dorf fawr, y saethu bywiog, y baneri chwifiedig, a'r anerchiadau canmoladwy, buom bron credu fod rhyw second Garibaldi neu Wellington wedi ymweled ag Aberdar. Bernid fod yn y man lleiaf chwech neu saith mil yn ei gyfarfod wrth yr orsaf. Teimlai pawb yn falch wrth weled Dr. Price unwaith etto yn Aberdar. Y nos Iau ganlynol, cafwyd cyfarfod cyhoeddus yn Nghalfaria, er croesawu y Dr. ar ei ddychweliad. Yr oedd 27 o weinidogion yn y cwrdd, yn nghyd â llawer o fasnachwyr cyfrifol a lleygwyr blaenaf a pharchusaf yr enwad yn y dyffryn a'r sir. Darllenwyd anerchiad caredig gan Mr. Jenkin Howell, arweinydd y cor, i Miss Emily Price, ar ran y cor; a chyflwynwyd work table iddi gan Mr. John Roberts, arweinydd y cor bach, dros y plant. Cyflwynodd Miss Jones iddi hefyd Feibl addurnedig oddiwrth ddosparth o wragedd da. Cyflwynwyd hefyd anerchiadau oddiwrth yr eglwys a'r gweinidogion i'r hybarch Ddr., ac yr oedd yr holl roddion a'r anerchiadau yn tystio fod yn dda gan yr eglwys yn Nghalfaria eu gweled wedi dychwelyd o'u teithiau meithion. Rhagfyr 22ain, 1869, cafodd Dr. Price ei anrhydeddu â chiniaw cyhoeddus, yn Music Hall y Cardiff Castle Hotel. Yr oedd y cwmpeini cynnulledig o'r fath fwyaf anrhydeddus, ac yn cynnwys rhai o brif foneddigion y lle. Addurnwyd yr ystafell yn ddestlus ar yr achlysur, ac o bob tu i'r gadair crogai llumanau Americanaidd a Brytanaidd. Llanwyd y gadair gan I. D. Rees, Ysw., yr is-gadair gan Dr. Davies, Bryngolwg. Ar yr ochr dde i'r cadeirydd eisteddai y Parchus Ddr. Price, guest y prydnawn, ac ar y tu arall yr eisteddai Richard Fothergill, Ysw., yn nghyd â Colonel H. Davies, yr American Consul. Cafwyd cyfarfod bywiog a dyddorol, ac anerchiadau tanllyd gan amryw o foneddigion parchus Aberdar a'r cylch, a'r oll yn llwythog o deimladau a dymuniadau da i arwr y cwrdd yr enwog. Ddr. Price." Dichon y bydd yr adroddiadau hyn am yr arwyddion o barch a wnaed i'r Dr. anwyl yn creu amheuaeth yn meddyliau y rhai nid adwaenent ef, a gallant dybio fy mod yn defnyddio gormodiaeth; ond nid felly, canys gwyr y rhai gawsant adnabyddiaeth bersonol o hono nad ydym ond yn rhoddi adroddiad syml o'r hyn a gymmerodd le yn mywyd y gwr enwog. Nid ydym yn gwybod am un gweinidog yn y Dywysogaeth gafodd anrhydeddau a pharch mwy na'r Dr., fel y cawn ddangos yn mhellach mewn cyssylltiadau ereill. Y mae y rheswm am hyn oll i'w gael yn y llafur a'r gwaith rhyfeddol gyflawnodd, a hyny gyda'r amcanion uchelaf, ac yn yr yspryd a'r teimladau mwyaf hunanymwadol. Dywedwn, nad oedd yr oll, wedi y cwbl, ond gweithiad allan gynghor yr apostol, "Talu parch i'r hwn yr oedd parch yn ddyledus iddo."
PENNOD XIV.
Y DR. FEL GWLEIDYDDWR.
Amgylchiadau yn dangos dyn—Y "Ffwrn Dân" a'r "Ffau—Cynffoni a bradychu yn y cylch gwleidyddol—Y Dr. yn egwyddorol —Y Dr. a'r Dreth Eglwys—Yn gefnogwr Cymdeithas Rhyddhad Crefydd—Yn allu mawr mewn brwydrau etholiadol—Areithiodd ac ysgrifenodd lawer ar wleidyddiaeth—Ymosodiadau llechwraidd arno—Y Dr. a H. A. Bruce, Ysw.—Y Tugel–Pryddest i̇'r Dr.—Etholiad Merthyr ac Aberdar yn 1869—Barn "Baner ac Amserau Cymru" am dano—Y Dr. yn cael ei gablu—Yn amddiffyn ei hun—Y Dr. yn ymgeisydd Seneddol yn Aberhonddu—Ei anerchiad—Barn Cefni a Kilsby Jones am dani—Y Dr. yn encilio ar ol gwasanaeth gwerthfawr i Ymneillduaeth—Cyfarfod Cyhoeddus yn Aberhonddu—Tysteb ac Anerchiad yn cael eu cyflwyno iddo.
MAE dynion egwyddorol yn fwy prin yn y byd nag y meddylir yn aml. Tra y mae pobpeth mewn cymdeithas yn myned yn mlaen yn esmwyth, braidd y gellir gwybod y gwahaniaeth rhwng dynion a'u gilydd. Y MAE digon o wahaniaeth yn bod, ond ni welir ef yn eglur hyd yr eglurir ef gan amgylchiadau. Y mae llawer yn cael eu hystyried yn egwyddorol a chysson tra y mae pob peth yn rhedeg yn ei gwrs yn llyfndeg, ond pan gymmer tro mewn amgylchiadau le, deuant i'r golwg, a cheir gweled eu hegwyddorion, a'u hymddygiadau yn gyssylltiedig â hwynt. Nid oes dim fel amgylchiadau i ddadblygu egwyddorion ac i brofi gonestrwydd neu anonestrwydd dynion gyda hwynt. Oni b'ai y ffwrn dân cyfrifid o bossibl y tri llanc yn Dura gyda yr "holl bobl,” ac ni allai byth fod camsyniad mwy, canys ni chafwyd erioed well enghraifft o annghydffurfwyr nâ'r rhai hyn. Esponiodd y ffwrn dân gymmeriadau cynffonwyr y brenin paganaidd a'u hegwyddorion, a dygodd i'r golwg yn eglur egwyddorion annghydffurfiol y llanciau, a'u hymlyniad diysgog wrthynt. Tebyg fu amgylchiadau y ffau yn hanes y llanc egwyddorol Daniel.
Nid ydym yn gwybod am lawer o gyssylltiadau y bywyd dynol ag yr arferir ac y cyflawnir mwy o dwyll a hoced ynddynt nag yn y cylch gwleidyddol. Mawr yw y prynu a'r gwerthu, y cynffoni a'r bradychu, sydd wedi bod yn y byd gwleidyddol erioed; ac ymddengys, yn ol arwyddion diweddar, fod dynion yn myned yn fwy corsenaidd fyth: chwythir hwy i unrhyw a phob rhyw gyfeiriad ond y cyfeiriad y dylent ymsefydlu yn ddiysgog ynddo. Y mae yr anwadal, y cyfnewidiol, a'r ansicr i'w cael o hyd—"y cyrs yn cael eu hysgwyd gan wynt." Y mae yr hunangeisiol yn lluosog yn y byd, ac yn caru esmwythyd: y "dorth a'r cosyn" a'r "dillad esmwyth" yw y cwbl a'u llywodraethant. Rhaid cael egwyddor y proffwyd i wneyd dyn gonest, sefydlog—un a saif hyd bod yn ferthyr dros egwyddor a gwirionedd.
Dichon fod y profedigaethau osodir o flaen dynion yn y byd gwleidyddol yn fwy nerthol ac effeithiol i'w gwneyd yn llechwraidd a bradwrus nag mewn cylchoedd ereill. Gellir rhoddi y cusan bradwrus yn fwy dirgel yn y Tugel na "cherbron y dyrfa," ac y mae yn bossibl y bydd y weithred gythreulig wedi codi i bris uwch na deg-ar-ugain o arian." Ond tra y mae llawer o gymmeriadau isel a diegwyddor i'w cael—rhai a fradychant eu hegwyddorion ac a werthent eu holl hawlfreintiau am lai o werth nag a wnaeth Esau—gallwn ymffrostio mewn llawer o ddynion egwyddorol, gonest, sefydlog, a diysgog yn eu hymlyniadau gwleidyddol. Un o'r cyfryw oedd yr hybarch Ddr. Price. Yr oedd yn Rhyddfrydwr o argyhoeddiad ac egwyddor. Nis gallasai fod yn ddim arall. Cafodd ei osod ar brawf yn fynych. Gofynwyd iddo lawer tro ymgrymu yn wleidyddol gerbron y ddelw aur, ond nid oedd dim swyn ynddi iddo ef. Gwell fuasai ganddo dori na phlygu ger ei bron. Yr oedd ei galon yn rhy bur, ei feddwl yn rhy oleuedig, a'i argyhoeddiadau yn rhy ddyfnion a dwys, iddo ef gusanu yn fradwrus Ymneillduaeth ac Annghydffurfiaeth, ac felly eu gwerthu i'w gelynion. Rhoddodd brawfion boreuol o hyn; oblegyd cawn ef pan yn ddyn ieuanc yn gosod ei fwyall ar wreiddyn pren Toriaeth, ac yn ergydio yn effeithiol ar ei thrais a'i gormes; ac nid ymataliodd ei defnyddio hyd ei fedd. Yn ei ysgrif alluog ar Dr. Price yn y Geninen am Orphenaf, 1888, dywed Dr. Morgan (Lleurwg):—
"Ar ddechreuad ei weinidogaeth yr oedd Rhyddfrydwyr Aberdar, fel llawer o blwyfau ereill yn y Deyrnas, yn teimlo yn bur anesmwyth o dan ormes y Dreth Eglwys. Ar gychwyniad yr ymdrech i daflu ymaith y baich, taflodd y Dr. Price ei hunan i'r ymdrech â'i holl galon, â'i holl enaid, â'i holl nerth; ac nid hir y bu cyn taro gwrthddrych ei ddygasedd â dyrnod angeuol. fel y cyfaddefai y Ficer Griffiths, wedi hyny Periglor poblogaidd Merthyr Tydfil, fod yr angenfil wedi trengu, a bod yn rhaid claddu yr ysgerbwd. Wedi hyny, yn 1847, cymmerodd ran blaenor yn yr ymgyrch genedlaethol o blaid merched a gwragedd Cymru yn ngwyneb camgyhuddiadau offeiriadon Eglwys Loegr wrth yr yspïwyr estronol hyny a ddanfonwyd gan y Llywodraeth i'n gwlad i edrych ansawdd foesol y Dywysogaeth. Mewn gair. tra y bu y Dr. yn ein mysg, yr oedd bob amser yn barod i ddyfod allan i wrthwynebu ymdrechion gelynion estronol, yn nghyd ag eiddo bradwyr cartrefol, yn erbyn ein hiaith, ein gwlad, ein cenedl, a'n crefydd."
Yr amgylchiad y cyfeiria yr hybarch Ddr. Morgan ato ydyw mater cael claddfa gyhoeddus i Aberdar. Wedi dyfodiad Deddf Cau y Mynwentydd mewn grym, symmudwyd gan brif ddynion Aberdar i gael claddfa gyhoeddus i'r lle: cyhoeddwyd festri yn yr Hen Neuadd Drefol, a gweithiodd Blaid Eglwysig yn dda i gario allan eu cynlluniau a chyrhaedd eu hamcanion i gael y cwbl dan eu rheolaeth. Cymmerwyd y gadair gan Mr. H. A. Bruce, a rhan yn y cyfarfod gan Mri. Crawshay Bailey, Thomas Wayne (Gadlys), R. Fothergill, y Parch. J. Griffiths (y Ficer), ac ereill; ond yr oedd yr Ymneillduwyr wedi dechreu dihuno ac wedi dyfod yno yn lluosog ar gymhelliad y Parch, Thos. Price, Penypound, Mr. Thomas Joseph, ac ereill. Cynnygiwyd gan Mr. Crawshay Bailey ac eiliwyd gan Mr. Thomas Wayne, (1) Fod claddfa gyhoeddus i fod, ac fod y tir i gael ei drainio a'i furio o gwmpas. (2) Fody gladdfa gyhoeddus i fod dan ofal ac awdurdod Ficer y plwyf. (3) Fod Treth Eglwys i'w chodi ar y plwyf i gyfarfod yr holl dreuliau cyssylltiedig â hi. Cyn gosod yr uchod i'r cyfarfod wele Mr. Thomas Joseph ar ei draed, ac yn cynnyg gwelliant, a Price ar unwaith yn myned yn mlaen i'r flaensedd, yn gwynebu y gynnulleidfa, ac yn eilio y gwelliant mewn araeth hyawdl, danllyd, ac anatebadwy, yn y Saesneg am tua hanner awr. Trodd y byrddau yn llwyr ar y rhai oeddynt wedi bwriadu a chynllunio cael pobpeth i'w dwylaw eu hunain. Cariodd y gwelliant gyda mwyafrif mawr, ac i gefnogi Price am ei wroldeb, cododd Mr. R. Fothergill i ddweyd ei fod yn hollol o'r un farn â'r dyn ieuanc Price gyda golwg ar yr egwyddor rydd ewyllysiol, ac hefyd ar y tegwch, gan fod yr Ymneillduwyr gymmaint yn lluosocach na hwy, yr Eglwyswyr, iddynt gael llais ac awdurdod ar y gladdfa gyhoeddus fwriedid ei chael i Aberdar, ac i brofi ei fod yn ddifrifol yn y mater, rhoddodd archeb am £100 ati ar unwaith. Terfynwyd y cwrdd wedi dyrysu cynlluniau y Ficer a'i blaid, ac ni fu son mwyach am y Dreth Eglwys yn Aberdar. Cododd hyn Price yn uchel yn ngolwg Annghydffurfwyr y dref a'r dyffryn, ond bu yn nod i saethau am amser gan y blaid wrthwynebol.
Arweiniodd yr amgylchiadau crybwylledig ef i gymmeryd cam mwy penderfynol yn erbyn Toriaeth yn ei gwahanol arweddion, ac yn neillduol gyssylltiad eglwys â gwladwriaeth, nag a gymmerasai efe erioed o'r blaen. Dywedai yn ei herbyn, a rhoddai ergydion trymion iddi yn aml o'r pwlpud a thrwy y wasg, ac ymdrechai yn egniol dros egwyddorion Rhyddfrydig yn amser etholiadau ac ar bob adeg y cai gyfleusdra.
Yn fuan drwy hyn cododd i safle uchel fel gwleidyddwr, ac yn wir, cydnabyddid ef yn awdurdod ar y pwnc. Yr oedd o'r dechreuad yn un o gefnogwyr mwyaf diffuant Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Darllenai yn awyddus ei holl lenyddiaeth boliticaidd, a myfyriai hi yn drylwyr, a bu hyn, yn ddiddadl, yn foddion i angerddoli ei deimladau, a'i wneyd yn fwy penderfynol a beiddgar yn ei ymdrechion o blaid rhyddid gwladol a chrefyddol. Cymmerodd ran flaenllaw yn mhob etholiad o bwys—lleol a sirol—o'i sefydliad yn y weinidogaeth hyd derfyn ei oes. Bu yn gynnorthwywr effeithiol i C. R. M. Talbot, Ysw., Margam; H. H. Vivian, Ysw.; H. A. Bruce, Ysw., yn awr Arglwydd Aberdar; L. L. Dillwyn, Ysw., Abertawe; Richard Fothergill; a llu ereill a ellid eu nodi, yn eu brwydrau etholiadol. Pan fuasai brwydr etholiadol yn ymddangos megys yn y pellder, ceid gweled yn gyffredin yr Aelodau Seneddol a'u swyddogion yn cyfeirio eu camrau tua'r Rose Cottage, ac yn ceisio sicrhau cynnorthwy a dylanwad yr enwog Ddr. Pan yn ddyn ieuanc, yn anterth ei nerth a'i ogoniant, nid yn aml y deuai i'r un esgynlawr ag ef neb i'w guro fel areithiwr gwleidyddol. Yr oedd bob amser yn sicr o'r hwyl fwyaf, a chariai y cwbl o'i flaen megys llifeiriant. Yr oedd cuddiad ei gryfder yn hyn, fel mewn cyfeiriadau ereill, yn ei allu digyffelyb i alw i fyny at ei wasanaeth ystadegau a ffeithiau o'r gorphenol, yn nghyd â'i fedrusrwydd dihafal i wneyd y defnydd goreu o honynt ar y pryd. Areithiodd lawer ar wleidyddiaeth gyda grym a dylanwad anwrthwynebol. Ysgrifenodd fwy yn y gwahanol newyddiaduron a fuont dan ei ofal golygyddol, megys y Gweithiwr, y Gwron, Seren Cymru, a chyhoeddiadau wythnosol a misol ereill. Yr oedd myned i gyfarfodydd politicaidd yn foddhad i'w enaid, ac yno yn gyffredin y gwelid ef yn ei ogoniant penaf, o herwydd yr oedd yn llwyfanwr ardderchog.
Yr oedd ynddo lawer iawn o wroldeb yspryd, yr hwn a'i gweithiodd yn mlaen aml dro yn ngwyneb y llifeiriant gwrthwynebol, ac a'i cariodd i fuddugoliaeth drwy lawer brwydr danllyd. Ymosodid yn greulawn arno ar lawer adeg gan Doriaid penboeth ac Eglwyswyr defodol. Rhuthrwyd arno yn llechwraidd mewn papyrau dyddiol, wythnosol, a misol, yn aml, mewn ysgrifau bryntion dan ffugenwau anadnabyddus. Arllwysid arno ganddynt holl felldithion Eglwys Rhufain a'i merch, yr Eglwys Sefydledig; ond nid oedd digon o allu ganddynt i'w ladd na digon o ddylanwad gan eu herlidigaeth i'w darfu na'i ddychrynu. Yn mlaen yr elai er pob dirmyg, heb brisio dim a ddywedai neb yn ei erbyn. Ymlynu wrth egwyddor a gwirionedd wnelai pe y gorfodid iddo dderbyn yr un dynghed â'r Bedyddiwr gynt. Nid amddiffyn yr egwyddorion Rhyddfrydig ac Ymneillduol yn unig yr oedd; eithr cymmerai yr ochr ymosodol (aggressive). Nid oedd yn credu mewn bod yn llonydd ac esmwyth, fel llawer, tra y cai lonyddwch; eithr teimlai ei bod yn ddyledswydd orphwysedig arno, er mwyn crefydd, dyn, a Duw, i dori ar draws pob rhith o ormes ac annghyfiawnder yn y byd politicaidd a chrefyddol, yn gystal ag amddiffyn cyfiawnder ac uniondeb cymdeithasol.
Dywedai efe ei feddwl yn ddifloesgni wrth yr Aelod Seneddol ar yr esgynlawr o flaen ei wyneb os gwelai yr aelod yn rhy araf ei gerddediad gyda brasgamau Rhyddfrydiaeth. Cawn ef yn ddynol a gwrol yn croesi cleddyf â'r enwog H. A. Bruce, yr Aelod dros Ferthyr yr adeg hono, yn y cyfarfod gogoneddus a gynnaliwyd yn gyssylltiedig â'r giniaw anrhydeddus a roddwyd gan Bwyllgor Rhyddfrydig Mri. Talbot a Vivian yn yr Assembly Room yn Aberdar dydd Mawrth, Ebrill 21, 1857, pryd yr oedd pump aelod y sir yn bresenol. Gwrthodai Mr. Bruce yr adeg hono addaw pleidleisio dros y tugel,[14] a chymmerodd Price ef i fyny am hyny, a dangosodd iddo fod yn rhaid i'r tugel ddyfod yn ddeddf y wlad, a dymunai arno gofio nad oedd efe (Mr. Bruce) ond gwas mewn ystyr, yn agored i gael ei droi o'r neilldu a chael arall yn ei le. Cyfeiriodd Price yn ei araeth alluog yn y cyfarfod hwnw at amryw o fesurau pwysig ydynt erbyn heddyw yn ddeddfau y deyrnas. Dangosai hyn y gwleidyddwr ieuanc llygadgraff oedd y pryd hwnw yn cael ei alw yn "Price Penypound." Yr oedd Price yn un o brif arwyr y cwrdd soniedig, oblegyd bu yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw gyda'r etholiad y flwyddyn hono. Edrychid arno, a siaredid am dano, yr adeg hono fel un o'r etholiaduron mwyaf effeithiol a phoblogaidd. Gweithiodd mor dda, brwydrodd mor lew, fel yr ennillodd barch ac edmygedd holl Ryddfrydwyr y sir, a dangosodd rhai eu syniadau ffafriol am dano fel y gosodasant ef yn destyn pryddest mewn eisteddfod o gryn fri ac Yn y Gwron am Hydref 31, 1857, ymddangosodd y bryddest fuddugol, awdwr yr hon oedd yr enwog Lew Llwyfo. Wele y pennawd:—"Pryddest i'r Parch. Thomas Price, Aberdar, am ei ymdrechion clodwiw yn yr etholiad diweddar yn Morganwg. Buddugol yn Eisteddfod Ystradyfodwg ar y 14eg o Fedi, 1857." Mae y bryddest brydferth a godidog hon yn rhy faith i'w gosod i fewn yma, er mor fawr y carem allu gwneuthur hyny; etto, anturiwn osod ambell adran fechan lle y gwelwn ddarlun o Price, ac y teimlwn megys guriadau ei galon wrol. Dywed y bardd,
"Pan oedd cyffro drwy yr holl wladwriaeth, |
Rhai a ymrestrant o dan faner Rhyddid— |
Terfyna fel y canlyn:—
Ar frwydr faes Etholiad Cyffredinol, |
Un o'r brwydrau gwleidyddol poethaf y bu y Dr. ynddi erioed oedd etholiad Merthyr ac Aberdar yn nechreu y flwyddyn 1868. Cymmerodd amgylchiadau dro rhyfedd yr adeg hono, a chafodd y Dr. ei hun mewn sefyllfa gyfyng, ac i raddau yn anhapus, er iddo ymddwyn yn eithaf cysson yn yr ornest o'r dechreu i'r diwedd. Yn yr etholiad soniedig yr oedd aelod ychwanegol, neu ail aelod, yn cael ei roddi am y tro cyntaf yn Merthyr ac Aberdar. Cyflwynodd pum' boneddwr parchus eu hunain i sylw y fwrdeisdref, gan geisio yr anrhydedd o'i chynnrychioli yn y Senedd; ond enciliodd dau o honynt, sef B. T. Williams a W. M. James o'r maes cyn yr etholiad. Yr oedd y Dr. a'r hen aelod, y Gwir Anrhydeddus H. A. Bruce, yn hen gyfeillion, ac wedi ymladd llawer brwydr wleidyddol galed gyda'u gilydd, er nad oedd Mr. Bruce mor Rhyddfrydol ag y carai y Dr. iddo fod, yn neillduol mewn cyssylltiad â'r tugel, y Dadgyssylltiad a'r Dadwaddoliad. Yr oedd yn naturiol iddo barhau yn ffyddlon i'r hen aelod oedd wedi rhoddi gwasanaeth gwerthfawr iddynt am ryw bymtheg mlynedd, hyd y caffai resymau digonol i'w daflu dros y bwrdd. Ni chollodd Richard Fothergill amser na chyfleusdra i wneyd ei fwriad i ddyfod allan yn ymgeisydd yn wybyddus i'r etholwyr; ac fel un fu yn cydweithio mewn llawer o gyssylltiadau â'r Dr. i godi sefyllfa gymdeithasol, wleidyddol, a chrefyddol Aberdar, yr oedd yn naturiol iddo geisio dylanwad a chynnorthwy ei hen gyfaill Dr. Price. Llwyddodd i sicrhau ei addewid, ac ymbarotodd yn ebrwydd i'r frwydr. Yn y cyfamser, cymhellwyd y diweddar barchus ac anrhydeddus aelod, Mr. Henry Richard, i ddyfod allan, a chydsyniodd yntau â'r cais, a hyn a wnaeth i'r Dr. gael ei wthio i gyfyngder, oblegyd yr oedd efe ei hun wedi bod yn galw flynyddau cyn hyny sylw Merthyr ac Aberdar a Chymru o ran hyny at Mr. Henry Richard fel un cymhwys i gynnrychioli rhyw ran o Gymru yn Senedd Prydain Fawr. Ysgrifenwyd llawer o lythyrau o bob tu yn yr ymgyrch etholiadol hon, a chyhoeddid anathema o wahanol gyfeiriadau ar y Dr. am ei fod, fel y camddarlunid ef, i niweidio achos y rhai a bleidiai, yn ymddwyn yn annghysson; ond bu y Dr. yn alluog i amddiffyn ei hun, ac i roddi rhesymau digonol i'r diragfarn am y cwrs a gymmerodd. Er fod llawer o guro arno y pryd hwnw o wahanol gyfeiriadau, etto, amddiffynid ef gan wleidyddwyr goleuedig a phrofiadol, fel y cawn enghraifft yn y dyfyniad canlynol:—
"Ni a gymmerwn y cyfle yn y fan yma i ddiolch i ohebydd a chyhoeddwr Baner ac Amserau Cymru am y dull boneddigaidd a pharchus y maent yn ysgrifenu am Dr. Price, mewn ysgrif arweiniol, yn cynnwys yn agos i naw colofn o'r Faner, am Hydref 30, 1867. Dyma y ffordd i ni ddeall ein dyledswydd, deall ein gilydd, a chyrhaedd yr amcan pwysig o wneyd y goreu dros Gymru yn yr ymdrech a gymer le yn 1869. Mae Dr. Price wedi cael digon o'i gablu bellach, ac y mae yn iechyd i ddyn ddarllen yr ysgrif faith sydd yn y Faner. Mae yn llym mewn rhai manau—mae fymryn yn gamsyniol mewn manau ereill; ond beth am hyny, mae yn ddynol, yn onest a gwyneb-agored, ac yn hynod o barchus i'r dyn sydd dan y wialen fedw. Oni bai y gras o ostyngeiddrwydd sydd ynom, byddem yn teimlo awydd i godi yr ysgrif bob llinell o'r Faner i'r Seren; ond y mae yn rhy dda i ni yn wir ; nid ydym yn haeddu yr holl glod a roddir i Dr. Price yn yr ysgrif dan sylw; ond etto, diolchwn am bob llinell sydd yn yr ysgrif faith hon."
Gweler Seren Cymru am Tachwedd 8, 1867.
Yn Seren Cymru am Ragfyr 13, 1867, cawn lythyr galluog a maith gan y diweddar hybarch Daniel Morgan, Blaenafon, at y Dr. ar y mater, mewn atebiad i'r hwn mae y Dr. yn yr un Seren, ac yn y colofnau dylynol, wedi ysgrif— enu llythyr maith yn egluro ei sefyllfa, ac yn rhoddi rhesymau am y llwybr a gymmerai. Byddai yn dda genym allu rhoddi ei lythyr yma, ond gan ei fod mor faith, ni osodwn ond yn unig ei ragymadrodd i'r pwyntiau gânt ei sylw yn y llythyr, a bydd hyny, ni a gredwn, yn ddigon i ddangos y sylw dderbyniai yr achos, a'i deimlad a'i benderfyniad yntau yn yr helynt. Dywed,
"Diolch yn fawr i chwi, frawd anwyl, am eich llythyr caredig, a chymmeraf y cyfle presenol i ddiolch hefyd i T. Minchell, Ysw., Wrexham; C. Darley, Ysw., Brymbo; Dr. Prichard, Llangollen; Parch. H. S. Brown, Lerpwl; T. E. Minchell, Ysw.; Dr. Thomas, Pontypool; W. H. Darby, Ysw.; Thomas Gee, Ysw. ; Henry Richard, Ysw. ; C. H. James, Ysw., a lluaws ereill o foneddigion na welais hwynt erioed ac oll ar yr un testyn â chwithau, a'r oll fel y chwithau yn ymddwyn yn foneddigaidd a brawdol—mor wahanol i'r cableddau anwireddus sydd wedi eu lluchio ataf wythnos ar ol wythnos o dan fantell ffugenwau, oddiwrth y rhai a broffesant eu hunain yn gyfeillion i Mr H. Richard; ond, mewn gwirionedd, y gelynion penaf a fedd efe a'r achos a bleidia; am hyny, crefaf eich hynawsedd, tra yn gwneyd sylw neu ddau mewn atebiad i'ch cais caredig a boneddigaidd. Gwnaf hyny nid fel un o olygwyr Seren Cymru, nac fel gweinidog yn Nghymmanfa Morganwg, ond fel dinesydd ac etholwr yn Mwrdeisdref Merthyr ac Aberdar. Nid oes neb i fod yn gyfrifol am yr hyn a wnaf yn y cymmeriad o ddinesydd ac etholwr, ond myfi fy hun. Yr wyf yn teimlo gorfodiad i ddweyd hyn, gan fy mod wedi profi rhyddid llawer o'r rhai a broffesant eu hunain yn rhyddgarwyr yn greulon i mi; nid oes unrhyw erledigaeth yn rhy isel a gwael iddynt."
Yna rhydd y Dr. ei resymau yn gyflawn ac eglur, a chredwn eu bod yn ddigonol i'w gyfiawnhau am ei ymddygiad a'i weithrediadau. Terfyna ei lythyr drwy ddweyd,
Gwn, anwyl frawd, y rhoddwch chwi i mi gredit o fod yn onest a chydwybodol. Nid yw Fothergill, na Bruce, na Richard, yn ddim i mi, nid wyf yn nyled un o honynt; ni ddarfu i mi ofyn am werth hatling erioed o ffafr bersonol oddiar law un o'r tri. Felly, yr wyf yn ymddwyn yn gwbl annibynol, ac oddiar argyhoeddiad fy mod yn gwneyd y peth goreu i'r trefydd pwysig sydd yn ffurfio y fwrdeisdref; tra ar yr un pryd yn sicrhau aelod hollol ryddgarol yn ystyr oreu y gair."
Tebyg fod llawer iawn o'r teimladau chwerwon a godent ac a ddangosid tuag at y Dr. yr adeg hono yn tarddu oddiar deimlad enwadol yn fwy nâ dim arall, yr hyn sydd yn rhy aml yn cael ei arddangos i raddau gormodol mewn etholiadau; ond er llymder yr erlidigaeth i gyd a'r stormydd chwerwon yr aeth drwyddynt, gweithiodd Price yn egniol a phenderfynol drwy yr ornest, ac er i'r hen aelod gael ei ddiseddu, ni chollodd Rhyddfrydiaeth ddim, oblegyd dychwelwyd dau Ryddfrydwr trwyadl, a chydweithiasant yn hwylus am amryw flynyddau.
Yn y flwyddyn 1865 cawn y Dr. Price yn ymgeisydd Seneddol yn ei hen sir enedigol, Brycheiniog. Trwy farwolaeth y Milwriad Watkins daeth y gynnrychiolaeth yn rhydd, ac yr oedd dau foneddwr, Mr. Gwyn o'r Dyffryn ac Iarll Aberhonddu, yn ymgeisio am fod yn olynydd iddo. O'r ddau hyn, Iarll Aberhonddu oedd y mwyaf Rhyddfrydol, er nad oedd efe o bell ffordd yn dyfod i fyny â'r hyn y carai Rhyddfrydwyr goleuedig ac egwyddorol Aberhonddu iddo fod. Gan nad oedd syniadau politicaidd y ddau ddyn hyn yn rhoddi cyflawn foddhad i gorff mawr Rhyddfrydwyr y fwrdeisdref hon, anfonasant gais taer at y Dr. Price i sefyll fel ymgeisydd, ac anfon anerchiad yn ddiymaros at yr etholwyr. Mewn atebiad i hyn dywedai y Dr. "mai ei ddymuniad gwirioneddol a chalonog ef fuasai gweled boneddwr o ddylanwad lleol ac o olygiadau goleu a digamsyniol yn cynnrychioli Aberhonddu; pe byddai i Iarll Aberhonddu osod o flaen yr etholwyr gyffes wleidyddol eglur a dealladwy, gan ddatgan ei barodrwydd i fyned yn mlaen gyda'r oes i ddiwygio y Cyfansoddiad Prydeinig, i roddi ei le priodol yn yr etholres i'r gweithiwr diwyd a gofalus, ac i ryddhau crefydd oddiwrth ei chyssylltiad ansanctaidd â'r wladwriaeth, y byddai yn dda ganddo ef ei weled yn cynnrychioli y dref henafol sydd yn rhoddi iddo ei deitl." Ond gan nad oedd y naill gynnrychiolydd na'r llall yn dyfod i fyny â hyn, credai mai dyledswydd yr etholwyr oedd ymwrthod â'r ddau. Yn methu cael cynnrychiolydd Rhyddfrydol addas a theilwng i'w boddloni, y mae etholwyr Rhyddfrydol Brycheiniog yn parhau i ddal eu gafael yn y Dr., er ei fod ef yn flaenorol wedi nacau, gan eu cyfeirio at foneddion o addasrwydd mawr ac urddas, ac yn eu plith Mr. Henry Richard, Llundain; ond drwy barhad dirgymhellion llawer o'r etholwyr, a phersonau o allu a dylanwad, penderfynodd ymladd y frwydr, neu i'r Iarll dderbyn yn llawn y prwygraifft Rhyddfrydol. Mewn nodiad golygyddol o'i eiddo yn Seren Cymru am Tachwedd 17, 1865, dywed,
"Etholiad Aberhonddu. Mae Dr. Price yn dymuno diolch o galon i'r Parch. Daniel Morgan, a nifer luosog ereill o ddynion da a sylwgar, am eu dymuniadau da, a'r awydd a ddangosant am iddo sefyll dros Aberhonddu. Mae hyn oll wedi peru iddo ymholi, ac agos penderfynu, os na fydd i'r ymgeisydd rhyddgarol lefaru yn fwy croew ac eglur nag yn ei anerchiad cyntaf; ac os na fydd i neb arall ddyfod allan, o blaid rhyddid gwladol a chrefyddol, y bydd i Dr. Price roddi cyfle i'w hen gyfeillion yn Aberhonddu ddadgan eu barn ar brif bynciau y dydd, yn gystal â rhoddi eu pleidleisiau o blaid y cyfryw egwyddorion a ddylent hynodi etholwyr rhyddfrydig prif dref gwlad Brychan."
Yn Seren Cymru am Rhagfyr 22, 1865, cawn anerchiadau yn awr y tri ymgeisydd, sef Iarll Aberhonddu, Howell Gwyn, a Thomas Price, ac y mae y gwahaniaeth rhyngddynt braidd yn annghredadwy. Dywed Cefni am anerchiad y Dr., "Y mae yn gredit i Dr. Price ei fod wedi cyfansoddi y fath anerchiad galluog, yr hwn o ran iaith a chyfansoddiad sydd yn tra rhagori ar eiddo y ddau ymgeisydd arall, ac annhraethol fwy politicaidd a didactic. "On the other hand, Dr. Price's address is simple, expressive, comprehensive, ably written the very thing—quite a credit to himself, to Nonconformists in general, and to the Baptists particularly." Dyna ddywedodd Kilsby Jones am dani. Yr oedd cynnwysiad yr anerchiad mor orlawn o fater, ei chyfansoddiad mor syml, a'i geiriad mor eglur, fel nad oedd eisieu treulio amser i'w hegluro. Rhwymai y Dr. ei hun ynddi i bleidio pob mesur diwygiadol er lles y wlad—diwygiad Seneddol, addysg y bobl, y tugel, dyddimiad y Dreth Eglwys, cymdeithasau cyfeillgar, agoriad y prif ysgolion i'r Annghydffurfwyr, yn nghyd â phob mesur da arall. Yn gweled anerchiad godidog y Dr., dychrynwyd yr Iarll, ac aeth efe a'i gyfeillion yn ebrwydd i ystyried y mater, a phenderfynasant gyhoeddi ar unwaith ail anerchiad, a gwnaeth yr Iarll addewidion pwysig i'r etholwyr Rhyddfrydol, a chymmerodd i fewn i'w anerchiad yr hyn a geisiai y Dr.
Yn gweled ei fod wedi cyrhaedd ei amcan i sicrhau cynnrychiolydd yn addaw cymmeryd holl blanks y plat- form Rhyddfrydig i fyny, enciliodd y Dr. o'r maes, wedi gwneyd gwasanaeth gwerthfawr, nid yn unig i wlad Brych- an, ond hefyd i'r Dywysogaeth yn gyffredinol, trwy gyffroi teimlad y werin, a'r dosparth gweithgar yn neillduol, i hawlio eu hiawnderau fel gweithwyr, ac i'w llais gael ei glywed yn Nhy y Cyffredin. Cafodd y Dr. yr adeg hono lawer o lythyrau oddiwrth bersonau o ddylanwad ac urddas; ac oddiwrth berchenogion a golygyddion gwahanol newyddiaduron yn Nghymru a Lloegr yn addaw eu cefnogaeth ac yn cynnyg eu cynnorthwy iddo. Yn mhlith ereill derbyniodd lythyrau caredig oddiwrth berchenogion y National Reform Union, The Illustrated hristian Times, Daily Press (Bristol), The Merthyr Telegraph, The Merthyr Express, Baner ac Amserau Cymru, &c., &c. Derbyniodd hefyd lawer o lythyrau o Gymru a Lloegr, yn taer ddymuno arno beidio rhoddi i fyny ei weinidogaeth a chylchoedd pwysig ereill o wasanaeth a defnyddioldeb er mwyn y Senedd, gan yr ofnent y byddai y golled yn y gwahanol gylchoedd pwysig a lanwai yn fwy nâ'r ennill wrth iddo gael sedd yn Nhy y Cyffredin.
Nos Fercher, Ionawr 24, 1866, cyfarfu y Dr. yr etholwyr ac ereill yn Neuadd Tref Aberhonddu, i'r dyben o egluro iddynt ei olygiadau gwleidyddol. Daeth yn nghyd un o'r cynnulliadau mwyaf lluosog a welwyd erioed yn yr hen dref barchus i ddyben gwleidyddol, yr hyn oedd yn llefaru yn uchel iawn am barch ac anrhydedd y Dr. yn ei hen gartref. Yn mhlith boneddigion o safle a dylanwad yn y dref ag oeddynt yn bresenol yr oedd John Prothero, Ysw., Maer y dref; G. Gansick, Ysw., cyn-Faer; John Williams, Ysw., trengholwr; J. Joseph, Ysw.; T. C. Perks; H. Lloyd, Ysw.; Mr. Davies, gemydd; Mr. Bright, fferyllydd; Mr. Walton, y Parch. D. B. Edwards, &c. Hefyd, yr oedd amryw o gyfeillion pellenig y Dr. yn bresenol, sef y Parchn. W. Roberts (Nefydd), Blaenau; M. Phillips, Brynmawr; James, Pontestyll; Evans, Llangynnidr; Llewelyn, Erwood; John, Aberdar; Harris, Heolyfelin, &c., &c.
Cymmerwyd y gadair gan Mr. Jones, fferyllydd, yr hwn, wedi agor y cyfarfod mewn anerchiad byr a phwrpasol, a alwodd ar y Dr. i anerch y cyfarfod. Ar ei waith yn codi derbyniwyd ef gyda chymmeradwyaeth uchel. Traddododd iddynt un o'r areithiau mwyaf meddylgar, manwl, a galluog. Yr oedd yn gyflawn o wybodaeth a ffeithiau gwleidyddol, a'r traddodiad o honi, er yn y Saesneg, yn ystwyth, hyawdl, a meistrolgar. Er fod yno lawer o wrthwynebwyr iddo yn y neuadd ar y cychwyn, etto, llwyr argyhoeddwyd hwynt yn fuan fod y Tom Price a gablent yn flaenorol yn anrhydedd i'w gwlad fod y fath un wedi codi ynddi. Cyhoeddwyd yr araeth odidog hon yn rhai o brif newyddiaduron y deyrnas yn Gymraeg a Saesneg. Tynodd lawer o sylw, a chafodd gymmeradwyaethau uchel gan wleidyddwyr goleuedig a phrofiadol. Y mae yr araeth i'w gweled yn argraffedig yn Seren Cymru am Chwefror 9, 1866.
Ar ddiwedd y cyfarfod, wedi ateb nifer lluosog o ofyniadau, a derbyn llongyfarchiadau a chymmeradwyaeth y boneddigion a siaradent yn y cyfarfod a'r dorf, hyspysodd hwynt ei fod wedi cyrhaedd ei amcan drwy wasgu ychydig ar Doriaeth allan o galon yr Iarll, a lledu tipyn ar ei feddwl yn gyssylltiedig â gwleidiadaeth ei wlad; felly, ei fod yn encilio o'r maes yn yr hyder y buasent yn uno eu galluoedd i ddychwelyd yn anrhydeddus yr ymgeisydd Rhyddfrydol. Diolchwyd yn wresog iddo am ei deimlad da a'i wasanaeth gwerthfawr dros ei wlad a'i genedl. Derbyniodd hefyd gymmeradwyaeth gyffredinol am y gwasanaeth mawr a wnaeth i'r achos Rhyddfrydig yn Aberhonddu. Pasiwyd pleidleisiau o ddiolchgarwch iddo mewn pwyllgorau a chynnadleddau gwahanol, a chafodd ei anrhegu â thysteb ac anerchiad hardd gan gyfeillion yn Aberdar. Silver inkstand werthfawr oedd y rhodd, ar yr hwn yr oedd yn gerfiedig y llinellau canlynol:" Presented together with an Address to the Rev. Thomas Price, M.A., Ph.D., in recognition of the services rendered by him to religious and political freedom in connection with the election of the Borough of Brecon, 1866." Yr oedd yr anerchiad wedi ei argraffu mewn llythyren euraidd ar sidan lliwiedig, ac mewn frame ardderchog. Cyflwynwyd hwy iddo mewn ciniaw gyhoeddus wnaed er ei anrhydedd yn y Cardiff Castle Hotel, Aberdar, nos Lun, Ebrill 8, 1867.
Gwnelai holl anerchiadau ac areithiau godidog y Dr. ar bynciau gwleidyddol, ar wahanol achosion ac mewn gwahanol leoedd o bryd i bryd, gyfrol ddyddorol a gwir werthfawr pe cyhoeddid hwynt. Cymmerwn ein cenad bellach i adael y gwleidyddwr er cael golwg fer ar yr un person yn ymddangos fel cymdeithaswr.
PENNOD XV.
Y DR. FEL CYMDEITHASWR.
Cymdeithasau yn hawlio sylw a chefnogaeth—y Dr. yn gymdeithaswr di ail—Odydd, Ifor, Alffrediad, a Choedwigwr—Llafurio yn helaethach gan Odyddiaeth ac Iforiaeth—Yn deall peirianwaith y cyfundebau dyngarol—Ei wybodaeth a'i brofiad o werth mawr i'r cymdeithasau—Yn ysgrifenu ac yn darlithio o'u plaid Yn llenwi swyddi pwysig—Y Dr. a Romeo ar giniaw—Yn is—lywydd yr Odyddion—Yn uwch—lywydd Y Cymro cyntaf ga'dd yr anrhydedd—Cyflwyno ffon iddo—Gwledd iddo yn Ngwrecsam—Anerchiad etto–Ciniaw i'w anrhydeddu yn Abertawe—Anerchiad etto—Anrhydeddau gan wahanol gyfrinfaoedd—Cyflwyno saf-addurnen ac anerchiad iddo gan Odyddion Cymru—Ei lafur gyda'r Iforiaid—Iforiaeth mewn perygl—Yn gweithio o'i phlaid—Adfer ei meddiannau—Cofrestru y rheolau—Uwch—lywydd yr Undeb Iforaidd ddwy flynedd yn olynol—Anerchiad a thysteb Iforaidd—Tysteb arall—Englynion iddo—Gwerthfawr gyda'r cymdeithasau—Penderfyniadau o gydymdeimlad, &c.
YR oedd Price yn ddyn mawr yn mha gylch bynag yr ymddangosai ynddo. Yr oedd disgwyliadau wrtho gyda phob gorchwyl yr ymgymmerai ag ef; ond yn gyffredin yr oedd yn fwy nag yr ymddangosai, a gwnelai fwy nâ llanw y dysgwyliadau wrtho. Safai mor uchel gyda y cymdeithasau cyfeillgar ag a wnelai mewn unrhyw gylch o ddefnyddioldeb y bu ynddo erioed, ac ni phetruswn ddweyd ei fod yn gweithio mor galed, ac yn cyflawnu cymmaint o ddaioni sylweddol ac amrywiol yn y cyfeiriad hwn ag a wnaeth mewn unrhyw gyssylltiad arall yn ei fywyd gwerthfawr. Yr oedd yn ystyr uchaf y gair yn ddyngarwr, a chydnabyddid ef yn gymdeithaswr di-ail.
Y mae cymdeithasau cyfeillgar ac yswiriol y wlad wedi dyfod yn allu mawr, ac y mae eu pwysigrwydd wedi dyfod y fath, fel yr hawliant sylw difrifol y gweithiwr, y masnachwr, y gwreng a'r boneddwr. Y maent wedi cael sylw mynych dynion o dalent ac athrylith yn eu hareithiau gorchestol—y Wasg mewn ysgrifau galluog, a'r Senedd mewn deddfwriaeth gyfaddas ac effeithiol, er fod gwelliantau i'w dymuno a'u dysgwyl etto. Dylai y cymdeithasau hyn gael cydymdeimlad dwbl pan yr ystyriom yr amcan mewn golwg a'r dosparth lluosog sydd i'w llesoli drwyddynt. Darparu erbyn dydd blin ac adfyd y byw yn herwydd angen ydynt ddybenion penaf eu bodolaeth, a'r dosparth gweithgar yn fwyaf cyffredin a'u cyfansoddant. Felly, gan fod gweithwyr diwyd a gonest, yn eu hymornest ag amgylchiadau y byd ac â brwydrau celyd bywyd, yn eu cyfansoddi yn benaf, dylent gael sylw manylaf y doethawr, y cyfoethog, a'r urddasol, a chydymdeimlad dwys ac ymarferol pawb â'u hamcanion aruchel. Nid ydym yn gwybod am neb yn y Dywysogaeth a wnaeth gymmaint gyda a thros y cymdeithasau dyngarol a'r hybarch Ddr. Price. Gellid meddwl, wrth ei weled yn gweithio yn ei gyssylltiad crefyddol gyda'i eglwys barchus yn Nghalfaria a'i enwad anrhydeddus, ei fod yn canoli ei holl nerth a'i egnion yno, ac nad oedd ganddo allu nac amser i ddim arall. Wrth edrych arno a meddwl am ei weithgarwch dros a'i ymdrechion gyda gwleidiadaeth, gallem feddwl nad oedd ganddo allu nac ychwaith amser i ddim arall. Ond wrth edrych arno yn ei berthynas â'r cymdeithasau dyngarol wed'yn, gellid tybied nad oedd yn talu sylw i ddim ond iddynt hwy, oblegyd gwyddai bob peth am danynt; cymmerai safle a rhan blaenor gyda phob mudiad o bwys perthynol iddynt; yr oedd yn barod i waith bob amser, ac yn brydlon a deheuig yn ei gyflawnu. Deuai yn fynych dan farn condemniad rhai pobl gali (?) a gorgrefyddol o herwydd ei fod yn ymgyssylltu yn ormodol â'r clybiau; ond gellir bod yn sicr o hyn, iddo ef wneyd mwy o wir les yn ei berthynas â'r cymdeithasau i'w gyd-ddynion nag a wnaeth y clybiau o ddrwg iddo ef. Credwn pe cymmerai gweinidogion fwy o ddyddordeb ac arweiniad yn y cymdeithasau cyfeillgar, y byddai y cymdeithasau mewn cyflyrau gwell nag ydynt yn bresenol, ac y mae yn bossibl y caffent gyfleusdra i wneyd mwy o ddaioni moesol i'w cydddynion. Bu y Dr. yn alluog i wneyd daioni annhraethol i gymdeithas yn ei gyssylltiad â'r cymdeithasau dyngarol. Yr oedd ganddo allu mawr, gwnaeth waith mawr, ac ennillodd drwy hyn anrhydedd a chlod mawr iddo ei hun. Perthynai efe braidd i bob urdd o bwys, a gwnaeth waith rhagorol gyda hwynt oll. Yr oedd er yn gynnar yn Odydd, Ifor, Alffrediad, a Choedwigwr, ac yn aelod o ryw chwech o wahanol gyfrinfaoedd, yn yr oll o'r rhai yr oedd yn ddef- nyddiol a phoblogaidd. Efe fyddai yn arwain mewn unrhyw achos o bwys ganddynt bob amser, ac os byddai unrhyw un o'r cyfrinfaoedd mewn cyfyngder, Price oedd yr unig waredwr i redeg ato. Llafuriodd yn galed gyda'r urddau oll, a gwnaeth ddaioni mawr iddynt; ond gyda'r Odyddion a'r Iforiaid y llafuriodd helaethaf. Credwn mai gyda'r urddau hyn y myfyriodd efe y cyfansoddiadau ac y mynodd ddeall peirianwaith y cyfundebau dyngarol a chyfeillgar; a chan fod yr urddau ereill yn sylfaenedig yn agos ar yr un seiliau, ac yn cael eu llywodraethu gan ddeddfau cyffelyb, yr oeddynt yn cael mantais o'i wybodaeth eang a'i brofiad aeddfed, ac nid oedd hyny yn costio llawer iddo, gan ei fod wedi gallu amgyffred y cyfansoddiadau Odyddol ac Iforawl yn dda. Yr oedd y gwaith a gyflawnodd yn gyssylltiedig â'r holl gymdeithasau yn debyg o'r un natur ag a gyflawnai gyda'r Odyddion a'r Iforiaid. Felly, wrth ei ddangos gyda'r undebau anrhydeddus hyn, byddwn hefyd yn ei ddangos yn yr oll. Teimlodd ddigon o ddyddordeb ynddynt i gyd, a llafuriodd yn ddigon caled gyda phob urdd, a gallasem gael digon o ddefnyddiau i wneyd pennod ar ei gyssylltiad â phob un o honynt ar wahan, ond ymattaliwn am y rheswm a nodwyd gyda sylwi ar ei berthynas â'r ddau urdd uchod. Mae yr Undeb Odyddol yn ddiau yn un o'r urddau eangaf ei gylch, lluosocaf ei aelodau, a chyfoethocaf ei drysorfeydd o'r holl undebau, ac y mae terfynau Iforiaeth yn eang a chylch ei gweithrediadau yn llydan a phwysig. Mae deall natur y budd-gymdeithasau hyn, amgyffred eu rheolau, a'u gosod mewn gweithrediad ymarferol, yn golygu cryn allu a medr. Yn ystod y blynyddau meithion y bu y Dr. yn gyssylltiedig â hwynt, nid oedd neb wedi deall eu natur yn well nag ef, ac ni chafwyd un erioed allai esponio eu deddfau a'u rheolau yn debyg iddo. Nid oedd hyn i'w ryfeddu yn gymmaint, oblegyd efe yn gyffredin fyddai yn tynu i fyny eu rheolau, eu diwygio, neu eu cyfieithu o hyd; felly, byddai y cwbl ar flaenau ei fysedd a'i dafod. Gwyddai hefyd Gyfraith Seneddol y Cymdeithasau Cyf- eillgar yn dda, ac yr oedd hyn yn rhoddi mantais an- nhraethol iddo ar lawer. Bu o wasanaeth ugeiniau o weithiau mewn cyfrinfaoedd, pwyllgorau, cyfarfodydd chwarterol, a chynnadleddau blynyddol, mewn pender- fynu dadleuon godid gan rai ar reolau allent fod mewn rhai amgylchiadau yn aneglur, neu mewn pwynt o gyfraith. Cofus genym, pan yn ieuanc iawn, i ni fod yn cynnrychioli ein cyfrinfa mewn cwrdd chwarterol gyda yr Iforiaid, ac yr oedd rhai o'r penboethiaid Iforaidd yn dadleu yn gyndyn ar fater yno, ac yn hytrach na goleuo, ymddangosai pethau fel pe yn myned yn fwy tywyll. Ond wele guriad awdurdodol wrth y drws, a thrwyddair yn cael ei roddi, ac yn y man, wele y Dr. yn dyfod i fewn yn llawn bywyd a sirioldeb. Torodd y wawr ar y cwrdd—newidiodd agweddiad y cwbl, ac eisteddai y crach-ddoctoriaid Iforaidd yn dawel. Cyfeiriwyd achos y ddadleuaeth i sylw y Dr., ac ar unwaith, atebodd fod y mater fel a'r fel. Adroddodd gyda rhwyddineb mawr ranau o'r gyfraith, a chyfeiriodd at y bennod a'r adnod. Yna, tynodd lyfr bychan wedi ei rwymo yn dlos allan o'i logell, a darllenodd y gyfraith yn llawn ar yr achos o hono, fel yr oedd wedi dweyd yn flaenorol. Rhoddodd hyny derfyn ar y ddadl, ac aeth y gwaith yn mlaen yn hwylus. Cawsom ddyfyrwch mawr yn ei gwmni drwy y dydd, a buom byth â golwg fawr arno wedi y tro hwnw. Ni chyfeiliornwn wrth ddywedyd mai fel hyna y gwnaeth y Dr. gannoedd o weithiau yn yr undebau dyngarol ereill, a phwy a wyr werth dyn o'r fath?
Yr oedd y gwaith a wnaeth gyda hwynt a throstynt yn amrywiol iawn yn ei natur. Ysgrifenodd ugeiniau o erthyglau galluog i'r gwahanol newyddiaduron o'i gadair olygyddol, yn galw sylw at faterion pwysig ac amrywiol perthynol iddynt, gan roddi iddynt bob amser y cynghorion a'r cyfarwyddiadau goraf. Bu yn darlithio iddynt ar bynciau perthynol i'r cymdeithasau, bryd arall ar destynau mwy cyffredin, er budd y cyfrinfaoedd gweinion fuasent yn isel eu trysorfeydd, neu i gynnorthwyo yn elusengar frodyr angenus fuasent wedi methu gan afiechyd neu drwy ddamweiniau. Gwnaeth lawer iawn o hyn, ac yn gyffredin yn ddidâl. Pan na fyddai yn darlithio ei hun, cymmerai ran yn eu cyfarfodydd gwahanol, megys llywyddu mewn darlithiau, budd—gyngherddau, cyfarfodydd llenyddol, eisteddfodau, &c. Hoffent bob amser gael Price yn y gadair, oblegyd yr oedd yn dra deheuig a hapus yn gosod eu cyflwr a'u hawliau o flaen y cyhoedd, ac hefyd, gosodai ei bresenoldeb fri ar y cyfarfodydd. Llanwai hefyd swyddau pwysig yn y cyfrinfaoedd, yr adranoedd, ac yn yr undebau. Yr oedd yn ymddiriedolwr i lawer o honynt. Yr oedd yn drysorydd ac yn is—drysorydd gyda'r Odyddion, yr Iforiaid, a'r Alffrediaid, ac yr oedd llanw y swyddi hyn fel y gwnaeth efe, yn golygu llafur a gofal mawr. Gosodai presenoldeb y Dr. fri bob amser ar y cyfarfodydd perthynol i'r urddau gwahanol, a gwnai iddynt edrych yn llawn a chysurus. Yr oedd yn ddyfyrus pan fuasai amser ac amgylchiadau yn caniatau, ac yn ddifrifol a phenderfynol pan fuasai galw am ei wasanaeth. Ar wleddoedd a chiniawau pleidleisid ef i'r uwch-gadair yn ddieithriad braidd, a phennodid ef yn fwyttorydd (carver), a gallwn sicrhau ei bod yn wledd i'w glywed yn adrodd ystorïau digrif ac yn ffraethebu nes cadw y lle yn fyw gan grechwen a chwerthin.
Pan oedd y Dr. yn ei ogoniant, nid oedd cwrdd chwarter nac unrhyw gwrdd o bwys gan yr urddau yn Aberdar nad oedd efe yn bresenol ynddo. Yr oedd bob amser yn myned â'i gi bach, Romeo (yr hwn a laddwyd, am yr hwn y bu cymmaint o alaru gan deulu y Rose Cottage), gydag ef i'r cyrddau hyn. Yr oedd Romeo, meddai y Dr., yn gystal Odydd, Ifor, neu Alffrediad, â neb, oblegyd yr oedd bob amser yn mynychu y cyrddau pwysicaf, ac yn sicr o fod yn bresenol pan fuasai ciniaw dda yn y cwestiwn. Pan fuasai y Dr. yn carvio, yr oedd yn rhoddi y slice gyntaf a dorai i Romeo bach, "rhag iddo," meddai efe, "chwyrnu a dangos ei ddannedd arnynt." Cafwyd llawer o ddyfyrwch gydag ef a'i ddonioldeb yn desgrifio y bechgyn glythion fyddent yn cwrdd weithiau yn y gwleddoedd. "Meddylient lawer," meddai, "am fwyd y clwb. Darparent eu ffetanau amser hir cyn ciniaw y clwb, a byddai cyfiawnder helaethach nag arferol yn cael ei wneyd â hi ganddynt yn gyffredin." Yr oedd y Dr. yn mhob ystyr o'r gair yn Yr oedd yn dra phoblogaidd, ac yn ffafrddyn gan bawb a'i hadwaenent yn nghylch y cymdeithasau cyfeillgar. Mae hyn yn ddïos yn cyfrif i raddau helaeth am ei ddylanwad, ac hefyd am y safleoedd pwysig a gyr- haeddodd yn gyssylltiedig â hwynt: llanwodd yn eu plith y swyddi uchaf, a chafodd ganddynt yr anrhydeddau mwyaf allent roddi i neb.
Gormod gorchwyl fyddai i ni ddylyn camrau y Dr. enwog gartref ac oddicartref yn ei waith pwysig a'i lwyddiannau rhyfeddol gyda'r Urdd Odyddol. Wedi myned drwy y cadeiriau gartref, a derbyn yr anrhydeddau mwyaf gan ei genedl ei hun, cododd ei olwg ar y safle a'r anrhydedd uchaf perthynol i'r urdd, ac y mae drwy ei egnion diflino yn mynu eu cyrhaedd. Nid peth bach a dibwys oedd cael bod yn arweinydd, ac yn wir, yn cael ei ystyried a'i gydnabod yn dywysog megys ar o 16,000 i 18,000 o aelodau Odyddol yn Neheudir Cymru; ond nid oedd hyny yn ddim o'i gymharu â'r anrhydedd o eistedd yn y gadair lywyddol i ysgwyd mewn ystyr ei deyrnwialen dros tua 400,000 o aelodau yr urdd.
Yn mis Mai, 1864, yn Nghyfarfodydd Blynyddol yr Undeb, cawn y Dr. yn ymgystadlu ag wyth o foneddion teilwng am yr is-gadair, a safai y pleidleisiau fel hyn:—
John Harris, Ysw., Llundain, 2; W. N. Waldraw, Ysw., Leicester, 4; John Deprose, Ysw., Llundain, 7; John Houghton, Ysw., Warrington, 9; David Jack, Ysw., Durham, 10; James Curtis, Ysw., Brighton, 24; John Geves, Ysw., Leeds, 45; Dr. Price, Aberdar, 83. Felly, etholwyd ef i fod yn is—lywydd y cyfundeb. Yr oedd hwn yn anrhydedd na dderbyniwyd gan un Cymro erioed o'r blaen. Hefyd, yr oedd y mwyafrif mawr pleidleisiau a gafodd yn llefaru yn uchel am syniadau parchus y Saeson am dano a'r parch mawr a deimlent ato.
Dydd Gwener, Mehefin y 9fed, 1865, dyrchafwyd y Dr. o'r is-gadair i'r uwch-gadair heb unrhyw wrthwynebiad. Nid oedd neb wedi ei gynnyg yn ei erbyn. Yr oedd hyn yn garedigrwydd yn ei frodyr y Saeson, ac yr oedd y dewisiad unfrydol hwn y nod uchaf o barch a allasent, fel Odyddion, byth ei ddangos i ni, y Cymry——gwneyd hyn yn mherson un a berchid gan yn agos i BEDWAR CAN' MIL o Odyddion drwy y byd. Gyda bod y Dr. yn y gadair lywyddol, daeth Mr. Curtis, y boneddwr oedd wedi ei ethol i'r is-gadair ac yn olynydd i'r Dr., yn mlaen, a dywedodd ei fod ef, yn absenoldeb Mr. Phillip John, o Aberdar, yr hwn oedd wedi gorfod ymadael er dal y trên, yn cyflwyno i'r Cymro cyntaf fu yn y gadair hono ffon hardd a thlos, gyda ferrule arian, ar yr hon yr oedd yn gerfiedig y geiriau, "Dr. Price, Aberdare—See the Conquering Hero comes— Worcester A.M.C., 1865." Dywedai Mr. Curtis fod Mr. John wedi dymuno arno i hyspysu y cyfarfod i Garibaldi fyned i fewn i Naples â ffon yn ei law yn lle cleddyf, ac fod y Dr. yn dyfod i fewn i'r gadair uchaf yn yr undeb heb unrhyw wrthwynebiad, ac fod y Cymry am gofnodi y ffaith drwy ei anrhegu â'r ffon hon. Cyflwynwyd y ffon yn nghanol cymmeradwyaeth y dorf.
Yn ystod blwyddyn ei swyddogaeth fel Uwch-Lywydd yr Undeb, cynnaliwyd llawer o gyfarfodydd groesawol a llongyfarchiadol i'r Dr. enwog yn ngwahanol barthau Cymru—De a Gogledd, ac mewn rhai manau yn Lloegr, a chafodd giniawau cyhoeddus mewn anrhydedd iddo. Hefyd, cyflwynwyd iddo nifer lluosog o anerchiadau priodol ac anrhegwyd ef â rhoddion gwerthfawr—yr oll yn fynegiant o'r teimladau goraf ato a'r syniadau uchaf am dano.
Tachwedd y 10fed, 1865, gwnawd gwledd ardderchog i'r Dr. yn Ngwrecsam, a chyflwynwyd iddo anerchiad destlus. Wrth ei dderbyn dywedai "nas gallai gael geiriau priodol i gydnabod y cyfeillion. Edrychai ar yr anerchiad fel campwaith celfyddyd; ond pan y cofiai am y teimladau a ddadblygai, nis gallasai feddwl yn rhy uchel am dano. Caffai y lle goreu yn ei Rose Cottage, a throsglwyddai ef i'w berthynasau ar ei ol fel un o'r trysorau goreu feddai."
Rhagfyr yr 8fed, 1865, yn y Music Hall, Abertawe, etto, darparwyd ciniaw er anrhydedd iddo, pryd yr oedd tua thri chant o gylch y bwrdd yn cydwledda ac yn cydlawenhau am lwyddiant ac anrhydedd y Dr. Cafodd yma etto anerchiad wedi ei ysgrifenu yn ddestlus iawn ar vellum. Wrth ei dderbyn diolchodd y Dr. am dano yn foesgar, a thraddododd un o'r areithiau mwyaf hyawdl ac addysgiadol.
Chwefror 8fed, 1866, cyflwynodd Cyfrinfa Odyddol, o Undeb Manceinion, Rhosllanerchrugog, dressing case hardd gwerth £10 i Miss Emily Price, o barch i'w thad. Cerfiwyd ar yr anrheg y geiriau canlynol i fod yn goffadwriaeth arosol o barch ac edmygedd brodyr Cyfrinfa Cadwgan i'w thad a hithau: "Presented to Miss Emily Price, Rose Cottage, Aberdare, by the Cadwgan Lodge, I.O.O., M.U., Rhosllanerchrugog, as a token of respect to her esteemed father, the Rev. T. Price, M.A., Ph.D., and G.M. of the Order, Feb. 8th, 1866." Nos Fawrth, Mawrth 13eg, 1866, yn Ystafell Cyfrinfa Lady Charlotte, Globe Inn, Merthyr, cyflwynodd brodyr Odyddawl Merthyr anerchiad, wedi ei argraffu yn hardd ar satin a'i osod mewn frame odidog iddo, yr hwn a gydnabyddwyd yn ddiolchgar mewn araeth benigamp gan y Dr. Wele eileb o'r anerchiad:—
Congratulatory Address presented to the Rev. Dr. Thomas Price, Grand Master of the Order, by the Merthyr District of the Independent Order of Oddfellows, Manchester Unity.
"Respected SIR,—The Members of this large and populous District hailed with a great deal of pride your accession to the Highest Seat which it is possible for any man to attain in our Society, namely,
GRAND MASTER OF THE ORDER,
and we have watched with a large amount of anxiety your carrying out the wishes of the Order, and more especially the wishes of your Welsh Brethren. The time will soon arrive when you will give up the government of this immense machinery into some other hands. but with what feelings of pleasure do we welcome you, being the only Welshman who ever had the honor of filling the Presidential Chair of the Largest Friendly Society in the World, and justly may we say, 'Well done, thou good and faithful servant.'
"How gratifying it must be to your fellow-countrymen to hear of the distinguished honors you have had, and of being an instrument in spreading the wings of this Society, and of wafting its beneficent winds where no other Societies have as yet unstrung their influence; of sending the aid so often desired to sick and distressed brethren, but more of being, as it were, a father to the fatherless and a husband to the widow-cheering them in their wilderness of despair, drying their tears with the hand of charity, consoling them with the tongue of truth, and guiding them in the way they should go; these traits, we are happy to say, are fully exemplified in you. It is men of such sterling worth as it is our happy lot to have amongst us, that will cause this and all other kindred societies to shine more brilliant, and be crowned with a complete success.
Hoping that God in His Providence will spare you for a very long time that you may go on working, firstly, in His vineyard, and, secondly, in the great cause of Oddfellowship, may your family cluster around you as the ivy clings to the oak, assisting you to enable you to assist others, giving you strength when weakness may come, and when this mortal coil shall be shaken off, may your reward be eternal bliss and a happy Lodge, where no tears will be shed, and where there are no distressed to be relieved.
"We subscribe ourselves on behalf of the District,
- Dated Merthyr, March 13th, 1866
Dydd Llun, Hydref 29ain, 1866, cynnaliwyd cyfarfod arbenig i dalu parch i Dr. Price yn Aberdar, pan yr ymgasglodd nifer o foneddigion o Gaerdydd, Merthyr, a Chastellnedd, &c., i gynnrychioli teimlad y frawdoliaeth Gymreig. Cymmerwyd y gadair gan lywydd y dosparth am y flwyddyn, Mr. Phillip John, yr hwn a ddywedai—
"Fod y cyfarfod yn ddadblygiad o deimlad Odyddion Cymreig yn unig at Dr. Price fel Cymro, am y modd boneddigaidd a galluog y cyflawnodd ei swydd fel Llywydd yr Undeb yn 1865, 1866, a thrwy hyn wedi dyrchafu y Cymry yn ngolwg yr Odyddion drwy y byd." Cydsyniodd Dr. Price i dderbyn dadblygiad o barch ei frodyr yn unig ar y tir fod y mater yn hollol gyfyngedig i Odyddion Cymru—cauwyd allan Sir Fynwy; ac nad oeddid i ofyn gan, na derbyn oddiwrth, neb fwy na cheiniog. Y canlyniad fu i ychydig dros 15,000 anfon eu ceiniogau i Gaerdydd yn ddiymaros ac yn ddigymhelliad: ni wnawd rhagor na dweyd fod y mater ar droed. Yr anrheg ardderchog a thlws oedd yn gynnwysedig o safaddurnen (epergne), neu centrepiece and candelabra, neu ganol—ddarn a chanwyllur o arian, mewn rhan yn llyfn a dysglaer ac mewn rhan yn rhewgaenedig (frosted silver). Mae y sylfaen (base) yn ffurfio tair wyneb, yn cael eu gwahanu gan geninen. Ar y wyneb gyntaf y mae darlun ardderchog o Dr. Price wedi ei suddo yn yr arian; ac uwchben y darlun mae yn gerfiedig y geiriau canlynol:—" The Welsh Oddfellows' testimonials to the Rev. Thomas Price, M.A., Ph.D., the first Welshman elected to the office of Grand Master of the I.O. of O.F., M.U. Presented by the Welsh Districts as a tribute of their high esteem and appreciation of the efficient and admirable manner in which he discharged the arduous duties of the chief office of the Institution during 1865—6; and, also, for the active and zealous interest he has for many years taken in the welfare and prosperity of the Unity." Ar y wyneb arall y mae arwyddluniau yr Undeb Odyddol, gydag eiddo y Gweddwon a'r Amddifaid, yn nghyd ag arfbais genedlaethol y Deyrnas Gyfunol. Ar y drydedd wyneb y mae arfbais yr Hen Gymry yn yr amser y cwympodd y Tywysog Llewelyn. Uwchben y sylfaen mae tri darlun hardd mewn arian rhewgaenedig o ffydd, gobaith, a chariad yn cofleidio plentyn amddifad. Yna, tuag i fyny ac ar led, y mae y canwyllur yn ymledu ar lun y winwydden yn ymdaenu ei changau, o'r rhai y coda lle i osod chwech o ganwyllau, ac odditano y mae basgedi bychain yn dal y ffrwythau. Uwchlaw hyn etto y mae dysgl yn llawn o flodau a ffrwythau; ac yn uchaf oll y mae cafn o aur pur, yn cymmeryd golwg hynod foddhaol ar y cwbl oll. Mae y cwbl yn mesur tair troedfedd o hyd wrth ddwy o led yn y man lletaf; ac yn ol barn pawb a'i gwelodd, y mae yn ddarn hollol wreiddiol o ran cynllun a dull, ac o wneuthuriad yn ardderchog dros ben, ac yn llawer mwy felly am ei fod yn ffrwyth teimlad cariadlawn dros bymtheng mil o ddynion ag oeddynt yn cydlafurio â Dr. Price i wneyd y byd yn well. Darllenwyd a chyflwynwyd anerchiad wedi ei ddarparu a'i engrosso yn dlws a hardd iddo ar yr amgylchiad. Rhoddodd y Dr. un o'r areithiau mwyaf galluog a chyfaddas ag a draddodwyd erioed o gadair yr Undeb Odyddol ar y dydd Llun, Mai 21ain, 1866, yn Burton-on-Trent. Derbyniodd y gymmeradwyaeth uchaf; cyhoeddwyd hi yn dra chyflym yn mhrif newyddiaduron Cymreig a Seisnig y deyrnas, a gwnaeth y Cymro dewrfrydig enw iddo ei hun, ac anrhydeddwyd ei wlad a'i genedl.
Ni fu llafur ac egnion y Dr. yn llai effeithiol gyda'r Urdd Iforaidd. Er fod terfynau y cylch Iforaidd yn gyfyngach nâ'r Undeb Odyddol, etto pan ymunodd y Dr. â'r Iforiaid, gwelodd fod gwaith mawr ag eisieu ei gyflawnu. Ymunodd y Dr. â'r Urdd Iforaidd yn fuan iawn wedi ei ddyfodiad i Aberdar. Y pryd hwnw yr oedd agwedd wahanol ar ei adran ei hun i'r peth ydyw yn bresenol, wedi bod dan ofal manwl a chyfeiriad doeth brodyr da fel y diweddar frawd Thomas Williams, cyn-ysgrifenydd yr adran; David R. Lewis, ysgrifenydd presenol yr adran; yn gystal â blynyddau meithion o lafur difefl y parchus Ddr. ei hun. Ac am yr Urdd yr adeg hono, yr oedd yn nwylaw un dyn yn agos oll. Cynnrychiolodd y Dr. ei adran ei hun yn Nghynnadledd Flynyddol Aberdar yn 1857. Yno, oddiwrth yr hyn a welodd ac a deimlodd, penderfynodd wneyd un o ddau beth ar unwaith, naill ai gadael Iforiaeth fel dyn yn gadael llong ar fyned yn chwilfriw, neu wneyd ei oreu gyda dynion da ereill i achub y llestr cyn taro y graig, a syrthio yn ysglyfaeth rhwng y tonau. Yr olaf a wnaeth.
Yn 1859 cawn ef yn genadwr dros Aberdar yn Nghynnadledd Llandeilo, lle y bu yn ystorom ofnadwy. Methwyd llwyddo yn y gynnadledd o herwydd y dull o bleidleisio, ond llwyddwyd i osod lefain yn y blawd; a chyn gadael y dref y noson hono cafwyd allan fod gweithrediadau y gynnadledd yn annghyfiawn, trwy fod y pleidleisiau yn afreolaidd. Mewn canlyniad i hyn, bu cwrdd pwysig yn Merthyr; yna, cynnadledd gyffredinol arbenig yn Abertawe, pan lwyddwyd i newid y cyfansoddiad i gymmaint graddau fel ag i gael swyddogion yr Undeb a Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn debyg i'w ffurf bresenol. Gwnawd y Bank yn Aberdar yn drysorydd, ond nid oedd dimai yn y drysorfa. Ar gais y Dr., caniataodd banker i roddi arian i fyned yn mlaen. Felly y bu am y ddwy flynedd gyntaf, byw fel y gellid a'r banker rhwng yr Undeb a'r gwaethaf. Dyoddefodd y Dr. yn yr helyntion hyny lawer iawn o dafod drwg, amheuaeth, a pheth cabledd; ond yn mhen ychydig bach o amser gwelai pawb mai efe oedd iawn, a thrwy ei benderfyniad diysgog, ei bwyll a'i ddoethineb, achubodd Iforiaeth o balfau dinystr. Yn fuan ar ol hyn ymchwiliodd am eiddo yr Undeb, y llafnau (plates), y drwydded, a phethau ereill. Yr oedd y rhai hyn ar goll, ac ni wyddai neb lle yr oeddynt; ond llwyddodd y Dr. i'w cael allan. Yr oeddynt yn y pawn shop yn Manchester, a'r dyn a'u dododd yno fel crwydryn tlawd, heb ddim ond ei gorff, a hwnw yn lled deneu. Cydiodd y Dr. ynddo, ac awd ag ef o flaen ei well; ond diangodd, am nad oedd yr Undeb Iforaidd wedi ei gofrestru dan y gyfraith. Cadwodd y Dr. y peth yn ddystaw. Aeth i Gynnadledd Rhymni yn Ngorphenaf y flwyddyn hono, ac yno darbwyllodd y gynnadledd i fyny y rheolau wedi eu cofrestru. Caniataodd y gynnadledd iddo ail drefnu y rheolau, a gwnaeth hyny gyda chynnildeb a gofal mawr. Yna dodwyd yr Undeb dan y gyfraith yn Medi, 1859, ac yn mis Tachwedd wele y Dr. etto a'i law yn ngwar y dyn yn Manchester, yr hwn oedd wedi gwystlo y plates gwerthfawr.[15] Yn mhen ychydig cafodd y cwbl yn ol yn ddyogel, gwerth dros £120, na welsid byth mo honynt oni buasai ei ymdrechion ef. Etto gwnaeth hyn heb geiniog o dâl gan neb, ond boddlonrwydd cydwybod ei fod yn gwneyd yn iawn.
Yn y blynyddau 1860 a 1861, y mae y Dr. yn llanw y swydd bwysig o Uwch Lywydd yr Undeb.[16] Yn 1862 y mae yn cael ei bennodi yn Is-drysorydd yr Undeb, yr hon swydd a lanwodd yn ofalus ac anrhydeddus hyd ei fedd, a hyny yn ddidâl hyd y flwyddyn 1881. Yn mhenderfyniadau y gynnadledd am Gorphenaf 6ed, 1881, ceir—
Fod yr Is drysorydd i gael £10 yn y flwyddyn am ei wasanaeth i'r Undeb fel is drysorydd Teg yw nodi fod y Dr wedi gwrthod derbyn dim tâl am ei wasanaeth am yr holl flynyddoedd y mae wedi gwasaaethu yr Undeb, a hyny gyda'r boddlonrwydd a'r parodrwydd mwyaf"
Yn 1865 mae y Dr. yn darpar draft o reolau newyddion i'r Undeb. Yn 1878, mae yn gwneyd gwaith pwysig gyda brodyr da ereill yn nglyn â'r rheolau newyddion, er eu cofrestru dan ddeddf 1875—1876. Gorphenaf 2il, 1875, penderfynwyd, Fod Dr. Price i gyfieithu y rheolau Saesneg i'r Gymraeg. Y Dr. hefyd oedd bob amser yn cael ei bennodi mewn achosion cyfreithiol i amddiffyn y cyfrinfaoedd neu yr Undeb, fel y byddai yr achos yn gofyn, ac yn gyffredin byddai yr achos yn ddyogel yn ei law. Yr ydym yn gwybod am amryw o achosion cyfreithiol yn gyssylltiedig â'r cymdeithasau cyfeillgar, y byddai hyd y nod y cyfreithwyr eu hunain yn ymgynghori â'r Dr. Yr oedd yn well dadleuydd yn helyntion y cymdeithasau yn ei ddydd na'r un cyfreithiwr a adwaenom. Yn y pethau hyn oll nid ydym ond yn rhoddi enghreifftiau o'r dirfawr waith a gyflawnodd Price fel dyngarwr ac fel aelod o'r cymdeithasau cyfeillgar. Yr ydym lawer gwaith wedi synu wrth feddwl am y trwch mawr o waith y bu efe yn alluog i'w wneyd. Yr ydym wedi gofyn i ni ein hunain droion sut y gallai efe wneyd cymmaint. O ba le yr oedd yn cael amser i gwrdd â phob ymrwymiad? Ac etto, y mae y ffaith yn aros. Yr oedd yn ei le yn barod i gwrdd â'i waith, a hyny yn ddieithriad yn brydlon.
Fel yr Urdd Odyddol, mynodd yr Iforiaid osod coronau ar ei ben a rhoddi iddo ei bendithion. Yn y Bwrdd a gynnaliwyd Ionawr yr 17eg a'r 18fed, 1865, pasiwyd y penderfyniad a ganlyn:—
7. Fod y Bwrdd yn dymuno galw sylw yr Undeb Iforaidd at dysteb i Dr. Price, ac ar yr un pryd yn dymuno hyspysu mai nid oddiwrthym ni fel Bwrdd y tarddodd allan y cynnygiad, ond gan amryw o'r cyhoeddiadau Cymreig.
8 Fod y Bwrdd yn dymuno ar bob aelod i wneyd ei oreu er cael casgliadau da, ac felly, ddangos fod yr Undeb Iforaidd yn cydnabod y dirfawr les y mae wedi ei wneyd i'r Undeb yn gyffredinol.
Hydref y 18fed, 1865, yn y Bwrdd penderfynwyd,
"Fod y Bwrdd yn unfrydol yn awdurdodi swyddogion yr Undeb, yn nghyd â D. Griffith, Aberafon, a D. Lewis, Abertawe, aelodau y Bwrdd, i gael y pethau canlynol wedi eu parotoi er gwobrwyo y Dr. Price:—
Anerchiad wedi ei ysgrifenu ar groen yn Gymraeg a Saesneg, oriawr a chadwen aur, yn nghyd â llestri tê arian o'r fath oreu ag a ellir gael am yr arian, ac fod y cyfarfod i drosglwyddo y cyfryw i'r Dr. i'w gynnal yn Nghastellnedd."
Dydd Llun y Pasc, 1866, cyflwynwyd y dysteb i'r Dr., a chafwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf ardderchog i wneyd hyn. Am hanner awr wedi dau ffurfiwyd gorymdaith yn gynnwysedig o luaws o frodyr Iforaidd, amryw o weinidogion o wahanol enwadau, a boneddigion y dref a'r gymmydogaeth, yn cael eu blaenori gan Seindorf yr 17eg Gatrawd o Wirfoddolwyr Morganwg. Pasiodd yr orymdaith drwy brif heolydd y dref, ac yna dychwelodd i Gapel y Bedyddwyr Cymreig, o herwydd fod Neuadd y Dref yn rhy fechan i gynnwys y dorf. Gorlanwyd y capel eang yn ddioed. Cymmerwyd y gadair gan Mr. Pendrill Charles, cyn-faer y dref, yr hwn a agorodd y cwrdd mewn araeth fer, pwrpasol, a thra chlodus i'r enwog Ddr. Wedi i amryw frodyr siarad, canwyd yn ardderchog ganig oedd wedi ei chyfansoddi gogyfer â'r amgylchiad gan Jenkin Howell, Aberdar, gan Gor Calfaria, dan arweiniad yr awdwr. Awdwr y geiriau oedd yr hybarch Ddr. B. Evans, Castellnedd. Yna, darllenwyd yr anerchiad canlynol i'r Dr. Gan ei fod yn cynnwys manylion am lafuriadau Price gyda'r urdd, a'i fod yntau pan yn fyw yn meddwl mwy braidd am dano nag am lawer o anerchiadau ereill a gafodd, gosodwn ef i fewn yma :—
Anerchiad i'r Parch. Thomas Price, C.L.U., oddiwrth Urdd y Gwir Iforiaid.
"Syr a Brawd,—Trwy eich caniatad, yr ydym ni, swyddogion yr Urdd, ac Aelodau Bwrdd y Cyfarwyddwyr, yn dymuno eich anerch yn enw ac ar ran pedair ar hugain o Adranoedd, a dau cant a dau ar bymtheg ar hugain o Gyfrinfaoedd, yn cynnwys pymtheg mil, saith cant a thri ugain a phymtheg o aelodau, ac yn taer ddymuno arnoch i dderbyn oddiwrth yr Urdd, y dysteb ag y mae genym y pleser o'i chynnyg i chwi.
"Am lawer o flynyddau yr ydych wedi treulio rhan fawr o'ch amser gwerthfawr er gwella sefyllfa y gwahanol urddau a'r cymdeithasau dyngarol. Mae eich ffyddlondeb mawr mewn cyssylltiad â'r Odyddion, Coedwigwyr, Alffrediaid, Undebau Cristionogol, a'r Iforiaid, wedi rhoddi i chwi fantais i ddangos eich caredigrwydd, eich ffyddlondeb, a'ch teimlad da dros lesiant cannoedd o filoedd o'ch cyd-ddynion; ac nid yw yr hyn a gyflawnwn i chwi yn awr ond arddangosiad bychan o'n parch tuag atoch.
"Wedi uno â'n Hurdd yn Nghyfrinfa Teml Ifor Hael, Adran Aberdar, Hirwaun, a Chwmnedd, bedair blynedd ar bymtheg yn ol, cawn eich bod yn cynnrychioli eich Adran yn y Gynnadledd Flynyddol a gynnaliwyd yn Aberdar yn 1857; ac o hyny hyd yn bresenol, yr ydym wedi mwynhau buddioldeb eich presenoldeb a'ch hyfforddiadau yn ein holl gynnadleddau blynyddol. I chwi y mae yr urdd yn ddyledus am y mesurau effeithiol er ail ffurfio Bwrdd y Cyfarwyddwyr yn 1858, yr hwn, oddiar hyny, sydd wedi bod o wir wasanaeth i'r Urdd. Yn 1859, cawsoch yr anrhydedd o'ch ethol yn Llywydd yr Undeb, ac fel prawf o'ch gwir deilyngdod, yn y flwyddyn ganlynol, fe'ch ail etholwyd gyda'r parodrwydd mwyaf. Yn ystod eich llywyddiaeth, darfu i chwi fendithio yr Urdd â mawr wasanaeth yn nygiad oddiamgylch welliantau pwysig yn y Deddfau Cyffredinol, yn nghyd â chael yr Urdd wedi ei chofrestru dan weithred Seneddol, yr hon sydd wedi ei ffurfio er dyogelu cymdeithasau dyngarol yn Nghymru a Lloegr. Yr ydym yn teimlo llawer o bleser wrth nodi eich ymdrech diflino a'ch ymlyniad dibaid i ddarganfod ac adferyd Gwasgnodau, Llafnau Copr, a Llafnau Dur gwerthfawr yr Urdd. Yr ydym yn ddyledus i chwi am ail flurtiad a chyfieithad y Rheolau Cyffredinol, ac yr ydym dan rwymedigaeth neillduol i chwi am arolygu argraffiad ugain mil o'r cyfryw, y rhai sydd yn rhoddi y boddlonrwydd mwyaf i'r Bwrdd Llywyddol, ac er mantais yr Urdd yn gyffredinol.
"Mae yn gysur nid bychan i chwi wybod eich bod yn gwasanaethu cymdeithas sydd yn cynnyddu yn raddol, ond sicr, mewn nerth, pwysigrwydd, dylanwad, cyfoeth, a defnyddioldeb. Yn bresenol, y mae ein cymdeithas yn rhifo dim llai na phedair ar hugain o Adranoedd, yn cynnwys dau cant a dau ar bymtheg ar hugain o Gyfrinfa- oedd, y rhai, ar y laf o Ionawr, 1865, a rifent ddim llai na phymtheg mil, saith cant a saith deg a phump o aelodau. Yn ystod y flwyddyn 1864, talwyd i gleifion y swm o £10,681, ac ar farwolaethau y swm o £2,770; tra trwy eich ymdrechion chwi, mewn undeb ag ymdrechiadau aelodau da ereill, mae genym yn awr yn ein cyfrinfaoedd y swm o £61 800, tra mae Trysorfa yr Undeb yn cynnwys yn bresenol £1,000, ac yn arddangos cynnydd mawr.
"Syr a Brawd, yn herwydd y parch mawr a deimlwn tuag atoch, dymunwn am i chwi dderbyn, nid fel tâl am eich gwasanaeth anmhrisiadwy, ond fel arddangosiad bychan o'n teimlad tuag atoch, y rhoddion canlynol, sef Oriawr Aur, yr hon gafodd ei gwneuthur er eich mwyn chwi yn unig; arwyddlun yr Urdd yn gerfiedig ar ei deial, gyda set o lestri tê arian, yn werth chwech ugain a deg gini.
Ein gwir ddymuniad ydyw ar i chwi gael einioes hir i fwynhau y rhoddion hyn a gyflwynwyd i chwi ar ran a thros eich brodyr, fel arwydd o'u cyfeillgarwch a'u gwir barch tuag atoch; a boed i'r Llywydd Mawr sydd yn llywodraethu dros bob peth ganiatau i chwi etto lawer o flynyddau o ddefnyddioldeb, fel ag y byddo i chwi fyned rhagoch, ochr yn ochr, yn rhes y dynion mawrion a theilwng, heb sefyll ond pan yn brwydro dros eich cyd—ddynion er eu llesiant. Ar ddiwedd eich gyrfa, hyderwn na fydd y rhodd hon, yr hon yr ydym yn gyflwyno i chwi, i fod er coffa am ein serch a'n hundeb, i gael ei hannghofio, a bod i'r anerchiad hwn fod yn etifeddiaeth i'r teulu; ac ar ol eich dydd, bydded i'r oriawr fod yn eiddo eich mwyn ragorol fab, Mr. Edward Gilbert Price, a'r Llestri yn gyfryw ag a fyddo yn addurno cartref dyfodol eich teilwng a'ch clodwiw ferch, Miss Emily Price; a boed y naill a'r llall o honynt fod yn deilwng i etifeddu yr etifeddiaeth fawr o barch a fydd eu tad yn sicr o roddi iddynt gyda y pethau hyn. Derbyniwch felly, Syr a Brawd, y gydnabyddiaeth ddidwyll yma o'n mawr serch a'n parch atoch. Maent yn rhoddion rhydd ewyllys miloedd o'ch cyd—ddynion, y rhai a weddiant ar y Duw Mawr i'ch bendithio â bywyd hir a defnyddiol, gyda chyflawnder bendithion nefol, ac yn y diwedd ogoniant tragwyddol mewn dedwyddwch diderfyn.
Arwyddwyd dros yr Urdd, gan
"DAVID EDWARDS, WALTER LEYSHON, DANIEL LEWIS, EDWARD GRIFFITHS, LEWIS DAVIES, BENJAMIN ROSSER, DAVID GRIFFITHS,
Cyfarwyddwyr.
Yr oedd yr anerchiad wedi ei ystramio (framed) yn hardd a chadarn o ruddyn derwen—derwen a dyfodd yn ymyl cartref yr hen Ifor Hael—dangoseg teg o nerth a chadernid yr Urdd Iforaidd. Ysgrifenwyd hi gan Mr. Evan Jones, yn awr Swyddfa y Gwaith Nwy, Aberdar, yr hwn sydd yn un o'r ysgrifenwyr penaf yn y deyrnas. Wrth dderbyn yr anerchiad a'r anrhegion, diolchodd y Dr. mewn teimladau toddedig a dwysion am y serch a'r parch mawr a ddangosid tuag ato, a rhoddodd araeth alluog ar yr holl Urdd Iforaidd a'i gweithrediadau.
Yn y Gynnadledd Ffynyddol a gynnaliwyd yn festri capel Rehoboth, Brynmawr, Gorphenaf 4ydd, 1882, cyflwynwyd tysteb arall, yn cynnwys anerchiad rhagorol yn nghyd â £48 19s. 2g. o arian, i'r Dr. Ar ol y cyflwyniad, dychwelodd y Dr. ei ddiolchgarwch mewn modd parchus a thoddedig, ac yna cafwyd anerchiad grymus gan y brodyr Mr. David Powell, Tredegar, a'r Parch. B. Evans, Gadlys, Aberdare" (gweler hyspysiad y Bwrdd, Gorphenaf 4ydd, 1882). Cydweithiodd y Dr. yn hwylus gyda'r Bwrdd, ac yn neillduol gydag ysgrifenydd manwl a pharchus yr Undeb, W. George, Ysw., Llanelli, a'i anwyl fab John George wedi hyny, o'i gyssylltiad cyntaf â'r Bwrdd hyd ei symmudiad gan angeu. Cafodd yr Undeb golled fawr yn ei farwolaeth, oblegyd yr oedd yn gyfarwydd â holl weithredau yr Undeb, ac felly yn gyfarwyddwr cywir a ffyddlawn. Ar ei farwolaeth, canodd T. Williams, Ysw. (Brynfab), Trefforest, fel hyn:—
Iforiaeth! uwch dy feirwon—wyla fyth,
Clywaf ing dy galon;
I roi briw i lawer bron
Daw hiraeth am y dewrion.
Ar deg oror frawdgarol—pwy ar ol
Dr. Price wladgarol
A rydd ei gyfareddol
Nawdd i ni? 'Ddaw un o'i ol?
'Oes arall Is Drysorydd—leinw'i le
Yn y wlad mor gelfydd?
Y da was fu'n dywysydd
I'w urdd hoff hyd hwyr ei ddydd."
Yr hyn ydoedd y Dr. gyda'r Undebau anrhydeddus hyn, felly y cafodd yr urddau parchus ereill ef. Cyflawnodd y gwasanaethau gwerthfawroccaf iddynt, llanwodd yn anrhydeddus y swyddau pwysicaf ac anrhydeddusaf yn eu plith, ac ni buont yn ol o'i wobrwyo yn deilwng, a'i anrhydeddu yn addas fel y cyfundebau ereill. Cafodd y cymdeithasau cyfeillgar oll golled anadferadwy yn ei farwolaeth; oblegyd bu iddynt yn gynghorydd profiadol, yn arweinydd dyogel, yn amddiffynydd cadarn, ac yn ffyddlawn a chywir yn ei holl gyssylltiadau â hwynt.
Wedi ei gladdedigaeth, pasiwyd penderfyniadau parchus o gydymdeimlad â'i anwyl ferch, Miss Emily Price, ac â Sarah Price, hoffus chwaer y Dr. yr hon fu drwy y blynyddau yn cadw ei dy, ac yn gwneyd ei gartref yn gyssurus a dedwydd iddo. Yn mhlith penderfyniadau Cyfarfod Chwarterol yr Iforiaid, Adran Aberdar, Hirwaen, a Chwmnedd, am Llun, Mawrth y 5ed, 1888, cawn a ganlyn:—
12. Cynnygiwyd gan D. P. Davies, Ysw., Ynyslwyd, y penderfyniad canlynol fel arwydd o'n cydymdeimlad dyfnaf â Miss Emily Price, ar yr achlysur o golli ei hanwyl dad, Dr. Price:—'Fod y swyddogion a'r cynnrychiolwyr gwyddfodol yn dymuno gosod i lawr ar y cofnodion eu teimladau dwfn a'u gwerthfawrogiad o'r aml wasanaeth gwerthfawr mewn gwahanol foddau a wnaeth y Dr. Price i Gymdeithas Gyfeillgar y Gwir Iforiaid ac ereill yn y dosparth; ac yn dymuno ar i'r ysgrifenydd gario i'w deulu fynegiad o'u cydymdeimlad dwysaf â hwynt yn eu galar.
Etto, gyda'r Alffrediaid,
"Ar gynnygiad y Parch. B. Evans, Gadlys, Aberdar, pasiwyd mewn teimladau dwys, 'Ein bod, fel cyfarfod dosparthol, yn dymuno datgan ein cydymdeimlad â theulu parchus y diweddar frawd, yr hybarch Thomas Price, M.A, Ph D., yn eu galar a'u colled drwy ei farwolaeth sydyn ac i raddau annysgwyliadwy. Teimlwn, fel adran, yn hiraethus ar ei ol, ac yn neillduol felly pan gofiom cyhyd o amser y bu yn aelod o'n hurdd anrhydeddus, ac am y gwaith mawr a phwysig a wnaeth dros Alffrediaeth yn y dosparth hwn yn gystal ag yn yr Undeb yn gyffredinol. Cedwir ei enw mewn coffadwriaeth gariadus a diolchgar genym, a bydded i'w ferch a'i chwaer drallodus gael yn neillduol yn y cyfnod presenol bresenoldeb ac ymgeledd y Gwaredwr Dwyfol.
Gweler Hyspysiad Cyfarfod Chwarterol Alffrediaid Dosparth Merthyr am Ebrill yr 2il, 1888. Darllena yr 28ain benderfyniad o eiddo Cynnadledd Flynyddol yr Iforiaid, a gynnaliwyd yn Festri Hebron, Clydach, ger Abertawe, Gorphenaf y 3ydd, 1888, fel hyn:—
"Ein bod yn cydymdeimlo yn y modd mwyaf dwys â Miss Emily Price ar farwolaeth ei hanwyl dad, yr hwn a wasanaethodd yr Undeb am gynnifer o flynyddoedd gyda ffyddlondeb anmhrisiadwy. Mae yr ymwybyddiaeth o'r daioni mawr y mae y Dr. wedi ei gyflawnu o blaid Iforiaeth, yn nghyd â'i ymdrechion bythgofiadwy y tu hwn a'r tu draw i'r Werydd yn ein cymhell i ddiolch o galon i'r Hwn a'i nerthodd am gynnifer o flynyddoedd."
Gweler Mynegiad y Gynnadledd am 1888.
Dengys y penderfyniadau uchod deimlad dwfn a hiraeth dwys yr undebau ar ol y Dr. parchus a wnaeth gymmaint drostynt yn ei fywyd, a gwasanaethant hefyd i brofi i dywysog mawr y cyfundebau dyngarol syrthio pan fu farw Thomas Price, Aberdar.
PENNOD XVI.
Y LLENOR, Y DARLITHIWR, A'R PREGETHWR.
Y Llenor, Darlithiwr, a'r Pregethwr—Y Dr. fel Saul yn mhlith y proffwydi—Y'n rhagori mewn amryw bethau—Ei ddiwydrwydd a'i benderfyniad—Rhestr o ysgrifau y Dr.—Ei gyssylltiad a'r Wasg — Ei ysgrifau yn 1864—Ei "Nodion Gwasgaredig"—Mawredd ei waith llenyddol — Wedi ysgrifenu yn helaeth fel Golygydd—Cynnorthwyo ei gydgenedl—Enghraifft —Ei gyd—lenorion—Darlithiwr poblogaidd—Gwahanol farnau am y ddarlith—Darlithwyr enwog—Dr. ar y blaen—Gystal darlithiwr a phregethwr—Gwella i bregethu—Defnyddio darlunleni—Ffraeth—Ei bynciau—cynnwysdremiau—"George Muller a'r amddifaid"—"War in the East"— America—Darlithio yn Saesneg fel y Gymraeg—Barn am dano fel darlithiwr—Chwedlau digrif—Hyspysiad—Talu £4,000 o ddyledion capeli trwy ei ddarlithiau—Yn boblogaidd fel pregethwr pan yn ieuanc—Er nid yn un o'r pregethwyr mwyaf, etto yn boblogaidd—Pregethwr syml—Y Telegraph—Ei nerth yn yr hanesyddol—Cymmeriadau Beiblaidd—Dammegion— Pregethu cyfres o bregethau yn fynych—Y Beibl yn enghraifft—Rhai o'i sylwadau doniol—Ei ofal am ei bregethau.
N mha gyfeiriad bynag yr edrychwn ar wrthddrych YN ein Cofiant, ymddengys fel pe yn tyfu ac yn myned yn fwy yn barhaus. Yn y cyssylltiadau a nodasom yn flaenorol gwelwn ef yn ei fawredd dihafal, fel yn ymgodi uwchlaw pawb. Ymddangosai yn mhlith ei gydlafurwyr fel Saul yn mhlith y proffwydi. Fel llenor, darlithiwr, a phregethwr etto, gellir dweyd am dano mai nid y lleiaf ydoedd yn mhlith hyd y nod dynion o dalent ac athrylith. Nid yn fynych y ceir dynion hyd y nod y rhai mwyaf yn rhagori mewn llawer o bethau. Eithriadau yn y byd meddyliol ydynt y rhai a ragorant mewn mwy nag un peth. Rhaid hyd y nod i'r eithriadau wrth ganolfaniad y galluoedd ac ymlyniad mewn llafur ac ymdrechion. Y mae anhawsderau ar bob llwybr dyrchafiad, ac os am gyrhaedd y pinacl, rhaid cyn cychwyn benderfynu myned drostynt, heibio iddynt (yr hyn nid yw yn hawdd ei wneyd), neu, fyned drwyddynt. Ac os am ragori mewn mwy nag un cyfeiriad, rhaid dyblu y diwydrwydd a grymusu y penderfyniad, oblegyd bydd yr anhawsderau yn naturiol yn fwy, ac yn sicr, yn amlach. Dyn yn rhagori mewn llawer o bethau oedd y Dr., ac y mae y ffaith ei fod wedi gallu gwneyd hyn, yn profi yn eglur pa fath un ydoedd. Nodwedd amlwg ynddo oedd diwydrwydd; hebddi, nis gallasai fod wedi gwneyd cymmaint o waith yn mhob cylch. Elfen gref arall a'i nodweddai oedd Penderfyniad. Heb hyn etto nis gallasai fod wedi gorchfygu cymmaint a chynnifer o rwystrau ar bob llwybr a deithiodd. Meddiannai feddwl uwchraddol, onide nis gallasai fod wedi gosod ei nod mor uchel ag y gwnaeth mewn cynnifer o gyfeiriadau pwysig. Arnododd yn uchel fel gweithiwr yn mhlith ei bobl, ei eglwys, a'i enwad. Gwnaeth yr un modd fel gwleidyddwr a chymdeithaswr, a bu yn llwyddiannus i argraffu ei enw yn ddwfn, ac mewn llythyrenau breision yn y byd llenyddol. Yr oedd ei lafur yn yr ystyr hwn yn enfawr. Synir ni gan luosogrwydd ac helaethder ei gynnyrchion llenyddol, yn neillduol pan ystyriwn y gwaith aruthrol gyflawnid ganddo mewn cylchoedd pwysig ereill. Nid oedd yn esgeuluso ei ddyledswyddau fel pregethwr a gweinidog er ymroddi at lenyddiaeth. Cadwodd y pwlpud yn uchel, a'i eglwys yn ofalus hyd y diwedd, er cymmaint a wnai gydag ysgrifenu ar wahanol bynciau i wahanol newyddiaduron, cyhoeddiadau, a chofnodolion y wlad, ac yn neill- duol i'r papyrau oeddynt dan ei ofal golygyddol. Nis gellir dweyd fod y Dr. yn awdwr enwog, oblegyd nid yw y llyfr mwyaf a gyhoeddodd erioed yn uwch ei bris nâ rhyw swllt neu ddeunaw ceiniog. Credwn mai y llyfr mwyaf a gyhoedd ydoedd yr un ar Fedydd, yr hwn a ddygodd allan mewn atebiad i'r diweddar Barch. W. Edwards, Heolyfelin, yn y ddadl fawr a bythgofiadwy a fu rhyngddo a'r Dr. ar yr Ordinhad o Fedydd. Hefyd, cyhoeddodd lyfryn bychan tlws ar Hanes Eglwys Calfaria yn 1862, yr hwn a vai yn Juwbili Eglwys Calfaria, Aberdar, at yr hwn yr ydym wedi gwneyd cyfeiriadau mynych yn y gwaith hwn, ac wedi dyfynu yn helaeth o hono yn gyssylltiedig ag hanes Calfaria a'r Enwad yn y Dyffryn. Cyhoeddodd hefyd hanes gweithrediadau Eglwys Calfaria hyd y flwyddyn 1886, yr hwn a eilw yn Trem. Cyhoeddodd hefyd anerchiad byr at Eglwys Calfaria, a chofres gyflawn o holl aelodau a swyddogion yr eglwys dan ei ofal yn 1887. Hwn ydoedd ei anerchiad olaf i'w eglwys barchus fu dan ei ofal tyner am dros ddeugain o flynyddoedd, a chredwn mai cyhoeddi hwn ydoedd y gorchwyl diweddaf iddo yn ei berthynas â'r eglwys. Hefyd, y mae y Dr. wedi cyhoeddi amryw holwyddoregau, pamphledau, a phynciau ar destynau Ysgrythyrol a duwinyddol, megys y "Beibl," "Llwyddiant yr Efengyl," "Cyfiawnhad," &c., at wasanaeth yr Ysgol Sabbothol.
Ysgrifenodd y Dr. lawer iawn o anerchiadau galluog ar gyfer Cyfarfodydd Gwanwynol ac Hydrefol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr a'r Iwerddon, megys "The Strict Baptists in Wales," "Annghydffurfiaeth ac Addysg Gyhoeddus yn Nghymru," "Hanes y Bedyddwyr" (yn L'erpwl, Hydref, 1866), "Hanes y Gymdeithas Genadol," "Y Genadaeth Dramor," "Y Gymdeithas Gyfieithadol," "Y Gymdeithas Grefyddol a Thraethodol," &c., &c. Ysgrifenodd hefyd erthyglau galluog ar brif bynciau y dydd perthynol i'n gwlad a'n cenedl, yn gystal ag ysgrifau achlysurol ar bynciau cyssylltiedig â gwledydd ereill, i'r papyrau a olygai efe. Pe cesglid at eu gilydd ei holl weithiau llenyddol, ei ysgrifau yn y gwahanol gyfnodolion misol a chwarterol, ei anerchiadau a i bamphledau cyhoeddedig, ei erthyglau i'r gwahanol newyddiaduron Cymreig a Seisnig, gwnelent gyfrolau mawrion a thra gwerthfawr; oblegyd yr oeddynt oll yn orlawn o fater sylweddol a gwybodaethau buddiol. Dechreuodd ei gyssylltiad â'r wasg fel golygydd yn y flwyddyn 1855; cyd—eisteddai yn y gadair olygyddol yr adeg hono â'r anfarwol Caledfryn, yn nghyd â'r galluog ddiweddar Hybarch John Davies, Aberaman, wedi hyny Caerdydd. Efe, yn ol fel y gallwn weled oddiwrth ei goflyfr perthynol i'r Gwron, oedd yn ysgrifenu dan y pennawd Crynodeb yr wythnos am flynyddau, a chymmerai olwg eang ar faterion yn gymdeithasol a gwleidyddol yn yr ysgrifau hyny. Heb fanylu yn y cyfeiriad hwn, oblegyd eangder aruthrol y maes, rhoddwn yma yn enghrefftiol hanes ysgrifau un flwyddyn, sef 1864, a ysgrifenodd yn gyssylltiedig âr Eglwys Sefydledig yn Seren Cymru yn unig. Y cyntaf a gawn yn y Seren am Ionawr iaf, 1864:"Yr Eglwys Wladol: Yr esgobion a'u cyflogau—Palasau yr esgobion—Yr archddiaconiaid a'u cyflogau—Cyflogau yr offeiriaid gweithgar—Cwyn y curad—Yr eglwysi cadeiriol a'u costau—Yr Ecclesiastical Commission a'i weithrediadau— Yr arwerthfa ysprydol, eneidiau dan y morthwyl—Y farchnad ysprydol—Y canonau—Ei meistr—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Casglu y briwfwyd—Cydraddoldeb crefyddol yn hanfodol i ryddid gwladol—Chwech ysgrif etto ar yr un pwnc—Y gyfraith—Y fam yn trin y plant—Y Parch. Sydney Smith â swyddogion yr eglwys—Tair ysgrif ar yr un pwnc—Yr offeiriaid mewn cadwynau—Y dull o drafod y cyfoeth—Pedair ysgrif ar yr un pwnc—Yr eglwys yn yspeilio y plant—Profiad Eglwyswyr—Adgyfnerthion yr eglwys Y Parch. J. Dudson, Ficer Cockerham—Aberth er mwyn y gwir—Ei nerth a'i gwendid—Barn y bobl am bethau—Dwy ysgrif ar yr un pwnc—Ffordd newydd i lanw yr eglwys—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Y dreth eglwys—Yr Eglwys Wladol yn Nghymru." Dyna i ni ddigon o eglwys, ond wedi y cwbl gwasanaetha y penawdau hyn i ddangos y sylw mawr yr oedd Price yn ei dalu i'r Eglwys Sefydledig, a dangosant yn eithaf eglur ei allu digyffelyb i ysgrifenu yn gyson ar bynciau o'r fath, a pha mor frwdfrydig y teimlai dros Ymneillduaeth ac Anghydffurfiaeth. Nid ydym wrth hyn wedi dangos yr holl erthyglau a ysgrifenodd yn y flwyddyn dan sylw, ond yn unig y rhai a ysgrifenodd mewn ystyr ar yr un pwnc, ond yn ei wahanol arweddion. Meddylier am yr ysgrifau hyn, ac adgofier etto am ei ysgrifau a'i "Nodion Gwasgaredig" am y flwyddyn a nodasom yn flaenorol, yn yr hon bu yn America, y rhai gyda'u gilydd, fel y crybwyllasom, a wnaethant dros 70 o golofnau yn y Seren, a chawn feddylddrych egwan am waith llenyddol Price. Ysgrifenodd rywbeth yn debyg i hyn yn gysson o'r flwyddyn 1855 hyd y flwyddyn 1876—dros 20 mlynedd—pryd y rhoddodd i fyny olygiaeth Seren Cymru yn herwydd anmhariad ei iechyd.
Heblaw hyny, y mae wedi ysgrifenu yn helaeth a thalentog yn ei sylwadau yn mwrdd golygydd y gwahanol bapyrau y bu yn eu golygu. Y mae y wybodaeth eang a chyffredinol ar wahanol faterion, teuluol, cymdeithasol, gwleidyddol, a chrefyddol yno yn synfawr. Cynnorthwyodd filoedd o'i gydgenedl yn ei nodiadau golygyddol, a rhoddodd gannoedd o gynghorion a chyfarwyddiadau cyfreithiol ar faterion pwysig yn rhad, heb gymmaint a gofyn na dysgwyl y 6/8. Fel hyn gwelwn i'r Dr. ddal cyssylltiad agos iawn â'r wasg ac â llenyddiaeth bron drwy ei oes, a bu yn alluog i wneyd daioni mawr yn y cylch pwysig hwnw. Oddiwrth ei ledger, yr hwn sydd yn ein meddiant, gwelwn iddo fod yn ysgrifenydd arianol Seren Gomer o'r flwyddyn 1853 hyd ddiwedd y flwyddyn 1859, ac y mae gyda'i gyfrifon, fel pob peth arall, yn gryno, destlus, a chyfundrefnol. Bu flynyddau, fel y dywedasom o'r blaen, yn olygydd y Gwron a'r Gweithiwr, papyrau a gyhoeddid yn Aberdar. Cawn ef etto yr un mor gyfundrefnol yma. Cadwai lyfr mawr, yn yr hwn yr oedd yn cofrestru yr holl erthyglau a dderbyniai yn y drefn a ganlyn:—
Yr ydym yn rhoi enghreiff'tiau am dair blynedd, er dangos fod yr un drefn yn cael ei chario yn mlaen ganddo o hyd. Byddai yn ddyddorol ail-gyhoeddi llawer o'r ysgrifau ysgrifenwyd gan y Dr. i'r Gwron a'r Gweithiwr. Gwehr nad ydoedd y Dr. yn ysgrifenu ei enw yn llawn, eithr yn unig ei gyn-lytherenau (initials). Bu y Dr. yn troi llawer yn mhhth lluaws o ddysgedigion, a Uenorion o nod ac urddas, a phob amser cydnabyddid ef ganddynt fel un a safai yn uchel fel flenor gwych ac ysgrifenwr galluog ac addfed. Yn mhhth ereill, cydlafuriodd â'r enwogion a ganlyn:— Caledfryn, John Davies, Caerdydd; ei gydolygyddion Cynddelw, Eben Fardd, Brutus, Dr. Emlyn Jones, Ieuan Gwynedd, Athan Fardd, Lleurwg, Nefydd, Mathetes, Spinther, Dr. Jones, Llangollen ; Dr. B. Evans, Castellnedd; Dr. Rowlands, Llanelh ; Hugh Tegai, a llu ereill o gyffelyb urddas ac enwogrwydd, fuont yn cyd-lafurio ag ef gyda llwyddiant mawr yn a thros lenyddiaeth ein gwlad a'n cenedl.
Ni fu llafuriadau Price yn gyfyngedig i hyn etto; eithr rhagorai fel darhthiwr a phregethwr. Yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yr oedd y cythrawd darlithyddol wedi gafaelyd yn gryf yn meddwl y wlad, a bu darlithio yn boblogaidd am hir amser; ac yr oedd hyn yn fanteisiol iawn, gan fod amryw o brif ddynion y Dywysogaeth yn cymmeryd mantais o'r adeg i gyfranu llawer o wybodaeth fuddiol, ac i oleuo y werin ar bynciau buddiol a thra phwysig. Y mae gwahanol farnau wedi ac yn bod parthed darlithiau a darlithio. Teimla llawer yn groes a gwrthwynebol iddynt, tra y ceir ereill yn eu cefnogi yn y modd mwyaf selog. O ran ein hunain, yr ydym yn ffafriol i'r ddarlith ar bynciau teilwng a gweddus, am y rheswm y gellir dweyd llawer o wirioneddau oddiar y llwyfan nad ellir eu dweyd gydag anrhydedd o'r pwlpud. Tybia rhai mai ychydig o ddarlithwyr o fri a mawredd sydd wedi codi yn Nghymru erioed, er fod niferi y darlithwyr yn lleng. Addefwn yn rhwydd fod rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant yn ffurfafen y byd darlithyddol; etto, y mae llu mawr o ddarlithwyr enwog wedi bod yn mhlith a chyda y gwahanol gyfenwadau crefyddol yn Nghymru. Yn mhlith ereill, gallwn enwi Cynddelw, Dr. Emlyn Jones, Caledfryn, Hiraethog, Lleurwg, Kilsby Jones, Hwfa Mon, Matthews, Eweny; Myfyr Emlyn, a llu ereill o gyffelyb allu a dawn; a gellir bod yn sicr ddarfod i'r enwogion hyn wneyd lles dirfawr i'w cydwladwyr drwy eu darlithiau dyddorol a phoblogaidd. Gallwn, ni a gredwn, heb dynu dim oddiwrth anrhydedd y persouau parchus a enwasom, na chymmylu dim ar eu gogoniant fel arwyr dihafal y llwyfan, osod Price gyda'r uchaf a'r blaenaf o honynt fel darlithiwr; a gwn y byddai y rhan luosocaf o honynt yn barod i dynu eu hatiau yn foesgar iddo, gan ei gydnabod felly. Yr oedd y Dr. braidd yn enwocach fel darlithiwr na phregethwr, er cystal ydoedd yn y pwlpud. Dywedai Mr. Thomas Joseph wrthym unwaith ei fod ef yn credu fod y Dr. yn well darlithiwr o'r ddau na phregethwr, yn neillduol yn y blynyddau cynnarol o'i fywyd, er y teimlai fod y Dr. yn y blynyddau diweddaf yr oedd efe wedi ei glywed yn pregethu, wedi gwella llawer iawn—wedi dyfod yn fwy byw i'r teimlad, ac yn agosach at y dyn—y profiad, meddai, wedi addfedu, yr hyn sydd yn help mawr i bregethu yr Efengyl. Yr oedd hyn yn ffaith; wedi ei ddychweliad o'r Ysgotland ar ol ei gystudd maith pregethai gyda dylanwad neillduol. Yr oedd y bobl yn synu ato. Rhoddai y teimlad a'r yspryd crefyddol a feddiannai y Dr. yr adeg hono foddhad a dedwyddwch mawr iddo. Wedi clywed fod y Dr. wedi dychwelyd ac yn alluog i bregethu, gofynodd y Parch. R. J. Jones, A.C., Trecynon, i J.H., un o aelodau Calfaria, a oedd hyny yn wirionedd. "Ydyw yn eithaf gwir," atebai J.H., "ac yr oedd yn pregethu yn well nag erioed." Yn mhen diwrnod neu ddau ar ol hyn, cwrddodd Mr. Jones â'r Dr. a'i ferch, Miss Emily, yn Mharc Cyhoeddus Aberdar. Yn falch i'w weled, llongyfarchodd ef ar ei adferiad i'w iechyd a'i ddychweliad gartref, ac ychwanegai, “Yr oedd J.H. yn dweyd wrthyf nos Lun eich bod yn pregethu y Sabboth diweddaf yn well nag erioed." Yn wir,' atebai y Dr., ac edrychodd yn siriol yn ngwyneb Emily, "I am so glad, I thought he was looking rather diflas; J.H. is a good judge of a sermon. Darlithiodd y Dr. lawer iawn, ac yr oedd yn meddiannu y cymhwysderau gofynol er bod yn ddarlithiwr cymmeradwy a phoblogaidd. Yr oedd yn ddynwaredwr (mimic) da iawn; ac yr oedd digon o fywyd a myn'd ynddo. Tynai ei arabedd a'i hyawdledd dyrfaoedd i'w wrandaw yn mhob lle yr elai iddo, a chadwai hwynt drwy ei ffraethineb a'i chwedlau dyfyrus yn fyw gan deimlad o'r dechreu i'r diwedd. Medrai ddarlunio gyda r perffeithrwydd mwyaf, ac yn gyffredin defnyddiai ddarlunlenau (maps) i egluro ei ddarlithiau. Meddai hefyd feddwl parod, ac yr oedd mor witty braidd a Gwyddel. Gallai wneyd a dweyd beth a fynai; ond cadwai yn gyffredin o fewn terfynau. Gellir dweyd, yn sicr, ei fod wedi cyrhaedd enwogrwydd mawr iawn. Nid yn fuan yr annghofia y wlad ei ddarlithiau penigamp ar Ryfel Rwsia yn 1854-Rhyfel y Crimea, Gwrthryfel India, Garibaldi, Y Beibl, John Bunyan, Muller o Fristau, Y Glowr, Tywysog Albert, Tywysog Cymru, ac America. Siaradai braidd yn ddiderfyn, a hyny gyda y dyddordeb mwyaf. Clywsom rai yn dweyd a u gwrandawsant droion pan yn ei ogoniant ei fod yn aml yn darlithio am ddwy awr a hanner, ac weithiau dair awr, yn gryf a diflino, ac ni flinai y bobl ychwaith. Gosodwn yma ddwy neu dair cynnwysdrem (syllabus), y rhai yn gyffredin a wasgerid cyn ei ddyfodiad yn yr ardaloedd y byddai yn darlithio ynddynt:—
GEORGE MULLER A'R AMDDIFAID.
Syllabus o'r Ddarlith.
"Cymmeriadau annghyffredin—George Muller yn un o'r cyfryw—Mae y rhai hyn yn gadael gwersi i ni—Dyddiau boreuol George Muller yn Prwsia, ei le genedigol—Ei ddyfodiad i Loegr—Ei fwriad i fyned yn genadwr—Ei symmudiad i Swydd Devon—Ei gyssylltiad â'r Farch. Henry Clark—Symmudiad y ddau i Gaerodor—Eu dull o weithio—Eu dull o fyw—Sefydliad y Gymdeithas—Dechreuad y gwaith o ofalu am yr amddifaid—Cymmeryd ty yn Wilson Street—Cymmeryd ail dy— Yna y trydydd—Y cwbl yn rhy fach—Codi y ty newydd cyntaf ar Ashley Down—Dull yr arian yn dyfod i fewn—Y draul yr awd iddo— Ei orpheniad yn hollol ddiddyled—Cyfodiad yr ail dy newydd—Felly y trydydd, ac yn olaf oll y pedwerydd a'r pumed—Ymweliad â'r Sefydliad—Yr olygfa o fewn—Dull y plant o fyw yno—Y gofal a gymmerir am y plant yn ol llaw—Golwg ar y treulion o'r dechreu, a'r draul flynyddol yn awr—Y gwersi oddiwrth yr hanes i ni. "Mae Cyfrinfa y "Gwron" yn rhoddi gwahoddiad calonog a gwresog i'w holl gyfeillion i ddyfod i gefnogi yr amcan daionus sydd mewn golwg wrth gael y ddarlith.
☞Bydd y ddarlith yn cael ei hegluro trwy ddarluniau mawrion o'r pump ty ar Ashley Down, wedi eu darparu yn arbenig i'r perwyl hwn."
The War!!
A LECTURE ON THE WAR IN THE EAST,
Will be delivered in the Welsh Baptist Chapel, Aberdare, by the Rev. Thos.
Price, on Wednesday evening, September 12th, 1855. The chair will
be taken at at 8 o'clock precisely, by David Davis, Jun., Esq.
Syllabus:—
"The nations engaged in the present war geographically considered —The great extent of the Russian Empire—Its rapid increase southward, from the time of Peter the Great until the death of Nicholas—The causes of the present struggle—The professed reason as given by Russia, and the true reason as transpired through the Secret Correspondence—That Great Britain is justified in taking part in the present war—The progress of the war——The battles of the Danube, the Alma, Balaklava, Inkerman—The siege works before Sebastopol—The naval operations in the Sea of Assof and the Baltic—The probable consequence of the war to Russia, Turkey, England, and to the European States generally—The duty of the English nation not to accept a peace that will not secure the RIGHTS OF THE PEOPLE.
"The Lecture will be illustrated by very large maps and diagrams, including the Seat of War, at one view; the position of the army before Sebastopol; large map of the Crimea and the Sea of Assof, the Battle of the Alma, the Baltic, &c.
Tickets of admission, One Shilling each. to be had of Mr. J. Lewis, Mr. Dance, sen., Mr. Dance, Jun., Mr. Phillip John, Mr. John Johns, Mr. Davies, Carpenter; and Mr. Evans, Aberdare; Mr. Lewis John, Aberaman; Mr. D. Jones, Grocer, Mill Street, and at the door the evening of the Lecture.
The entire profits accruing from the Lecture to be devoted to the purchasing of an Harmonium for the use of the English Baptist Chapel, Aberdare."
DARLITH AR AMERICA,
Gan Dr. Price, Aberdar.
Crynodeb:—
Y Wlad.—Sefyllfa ddaearyddol—Dosraniadau—Eangder a mawredd yn brif nodweddion—Ei Harwynebedd—Mynyddoedd—Afonydd—Llynoedd—Rhosdiroedd—Coedydd.
Argraffiadau personol am New York—Brooklyn—Philadelphia—Boston—Camden, N.J.—Washington—Y Llywydd Grant a'i Weinyddiaeth—Y Senedd—dai a r Ty Gwyn—Yr Afon Potomac—Virginia—Richmond —a meusydd y brwydrau mawrion.
Yn mhlith y Cymru yn Maryland—Virginia—Pennsylvania, a'r Rhanau Gorllewinol—Y Gweithfeydd—y Meistr a'r Gweithiwr Cyflwr masnach—Y Cyflogau, yn awr ac yn y dyfodol—Sefyllfa y Cymry yn America—yr hyn a fu, yr hyn yw, a'r hyn a ddylai fod.
Taith i'r Gorllewin.—Ohio, Kentucky—Tennessee—Indiana—Missouri—Illinois—Dinasoedd Cincinati—Louisville—St. Louis—Chicago—Cleveland—Pittsburg.
Sefyllfa—Crefydd—Addysg—Moesoldeb—Sobrwydd a Boneddigeiddrwydd—Lletygarwch ac Haelionusrwydd.
Diffygion i'w symmud—Modd i wneyd hyn—a'r dyfodol yn hollol addawol
Ymfudiaeth i America.—Pwy ddylai ymfudo—Pa fodd i gyrhaedd yr amcan—I ba le i fyned—Y ffordd i ymlwybro—A pha lwyddiant a ellir ei ddysgwyl.
America yn Wlad Newydd.—Agwedd anorphenedig—Digon o le i dderbyn holl weddill ein poblogaeth o'r hen fyd—a'r dyfodol yn addawol i'r Gonest, y Da, y Diwyd, a'r Sobr.
☞Bydd i'r Ddarlith gael ei hegluro gan Ddarlunlen ddarparedig at y pwrpas neillduol hwn."
LECTURE ON AMERICA,
By the Rev. T. Price, M.A., Ph.D, of Aberdare.
Syllabus:—
The Country.—Geographical situation—Districts—Extent and magnificence chief characteristics—Its Surface—Mountains—Rivers—Lakes—Valleys—Woods.
Personal Impressions—of New York—Brooklyn—Philadelphia—Boston—Camden, NJ.—Washington—President Grant and his Ministry—The Senate Houses and the White House—The River Potomac— Virginia, Richmond, and the great Battle Fields
Among the Welsh—In Maryland—Virginia—Pennsylvania—and the Western parts—The Works—Master and Workman—State of Trade—Wages at Present and in the Future—Condition of the Welsh—What it has been—What it is—and What it ought to be.
Journey to the West——Ohio—Kentucky—Tennessee—Indiana—Missouri—Illinois—The Cities of Cincinnati—Lousville—St. Louis—Chicago—Cleveland—Pittsburg.
State of Religion—of Education—Morals—Sobriety and Politeness—Hospitality and Liberality.
Defects to be remedied—Ways and Means—The Future full of hope.
Emigration to America—Who should emigrate—How to attain the object—Where to go—Mode of proceeding—and what success may be expected.
America a New Country—Incomplete aspects—Enough room to receive the superfluous population of the Old World—And the Future promising to the Honest, the Good, the Diligent, and the Sober.
The Lecture will be Illustrated by a Large Map prepared for this special purpose.
Gwelir oddiwrth yr enghreifftiau hyn fod y Dr. yn darlithio yn Saesneg yn gystal ag yn Gymraeg. Gwnai hyny yn fynych, a dywedir ei fod yn llawn mor rhwydd, ystwyth, a naturiol yn yr iaith fain, fel y gelwir hi, ag ydoedd yn yr hen Omeraeg anwyl. Dywedai Mr. Tudor Evans, Caerdydd, gynt perchenog y Principality:—"Yr oedd y Dr. Price yn ddarlithiwr godidog. Yr oedd yn wahanol braidd i unrhyw Gymro. Nid oedd arno ofn y Sais mewn dim, oblegyd yr oedd yn gystal Sais ag oedd o Gymro." Clywsom yn ddiweddar am ddyn o allu a chymmeriad yn adrodd ei deimlad wedi bod yn gwrandaw ar y Dr. yn darlithio. "Trueni," dywedai, "fod y Dr. yn myned yn hen, bydd yn rhaid iddo ef farw rywbryd; ond byddai yn werth ei gadw, a rhoddi oes Methuselah iddo i ddarlithio, oblegyd y mae yn gwneyd hyny mor ardderchog."
Yr oedd yn myned dipyn yn arw weithiau wrth ddarlithio. Un tro darlithiai yn ei gapel ei hun yn Nghalfaria ar un o'r rhyfeloedd y cyfeiriasoni atynt. Crogai y darlunleni o amgylch y llwyfan, ac yr oedd gydag ef arfau rhyfel yn ei ymyl. Defnyddiai gleddyf pren, a gwnai dipyn o hono yma a thraw yn y ddarlith. Yr oedd y Parch. William Edwards, Heolyfelin, ar y llwyfan y noson hono, ac ysgydwai Price y cleddyf yn o drwsgl o amgylch ei ben, ac yn ofni y gwaethaf, dywedodd, "Peidiwch tori fy mhen, Mr. Price." Atebodd yntau, "Ond mae nhw yn tori penau yn y rhyfel," a chyda hyn tynodd y cleddyf heibio copa pen Mr. Edwards mor agos fel y credai y bobl ei fod yn myned i ffwrdd. Yn ei ddarlith ar America desgrifiai y boss (gaffer) yn ceisio dynion i weithio ar nos Sadwrn neillduol, a hyny mewn ardal y byddai llawer o'r preswylwyr yn cael y cryd, yr hyn a alwent yn "siglo;" ond ni wyddai y Dr. hyny ar y pryd. Yr oedd y bobl, mae yn debyg, yn gwybod yr adeg y buasent yn myned i'r cryd, oblegyd yr oedd yn dyfod drostynt yn gyfnodol. "John," meddai y boss (fel yr adroddai y Dr yn ei ddarlith), weithi di nos Sadwrn?"
Na," atebai John, "byddaf yn siglo." Wnei di, Dafydd?" "Na," meddai hwnw, "byddaf yn siglo;" ac felly ryw hanner dwsin arall, a'r ateb oedd gan bob un, meddai Price, "byddaf yn siglo," ac yr oeddwn yn methu dyfalu beth yn enw pobpeth a feddylient wrth siglo." Yn yr un ddarlith, dywedai, "Gwlad fawr yw America, mewn gair, y mae pob peth yn fawr yno. Mynyddoedd mawrion, llynoedd mawrion, afonydd mawrion, pobpeth yn fawr o'r mynydd mawr i'r jo dybacco yn mhen yr Ianci, yr hon sydd bob amser gymmaint a dwrn dyn." Dywedai hefyd am dani, "Gwlad eithafol iawn ydyw. Os twym, twym iawn; os oer, oer iawn. Dynion tew, tew iawn; dynion teneu, teneu iawn—bydd y cwn bob amser yn eu dylyn gan feddwl mai esgyrn fydd yn myned. Yr oedd y moch tewion mor dew nes y methent wybod lle yr oedd eu penau nes gwneyd iddynt rochian." Cyfranai lawer o addysg gyda dyfyrwch yn ei ddarlithiau. Arddangosai bob amser ynddynt ffrwyth ymchwiliad diflin a sylwadaeth fanol; ac er rhoddi enghraifft o'i boblogrwydd fel darlithiwr wedi ei ddychweliad o'r America, gosodwn yma lechres sydd yn dangos iddo ddarlithio ar America mewn gwahanol barthau o Gymru 36 o weithiau mewn llai na thri mis o amser. Wele hi:—
AMERICA.
Traddodir Darlithiau gan Dr. Price, Aberdar, yn y lleoedd canlynol, ar y dyddiau a nodir:—Liverpool, Ebrill 16; Llundain, o Ebrill 22 hyd Ebrill 29; Caerfyrddin, Mai 2; Ebenezer, Dyfed, Mai 3; Llandyssul, Mai 4; Aberteifi, Mai 5; Glynnedd, Mai 6; Bethesda, Abertawy, Mai 10; Clydach, Mai 11; Ystalyfera, Mai 12; Treorci, Mai 16; Nebo, Ystrad, Mai 17; Treherbert, Mai 18; Caerdydd, Mai 19; Tongwynlas, Mai 20; Nantyglo, Mai 23, Penycae, Mai 24; Tredegar, Mai 25; Rhymni, Mai 26; Pisga, Talywaen, Mai 28; Hengoed, Mai 30; Pontestyll, Mai 31; Llandilo, Mehefin 1; Saron, Llandybie, Mehefin 2; Bassaleg, Mehefin 7; Llaneurwg, Mehefin 8; Horeb, Blaenafon, Mehefin 9; Casnewydd, Mehefin 29; Ravenhill, Mehefin 13; Llwynhendy, Mehefin 14; Hwlffordd, Mehefin 15; Salem, Meidrim, Mehefin 16; Maesycwmwr (Seisnig), Mehefin 27; Caernarfon, Gorph. 5; Pontllyfni, Gorph. 6; Garn, Gorph. 7.
Fel darlithiwr yr oedd efe yn llawn o wahanfodaeth (individuality). Nid oedd yn debyg i neb ond iddo ei hun. Trwy ei ddarlithiau gwnaeth dros bedair mil o bunnau tuag at achosion gweinion ac er talu dyledion capeli yn mhob man.
Fel pregethwr, yr oedd Dr. Price, megys y dywedasom mewn pennod flaenorol, yn boblogaidd pan yn fyfyriwr yn Ngholeg Pontypwl, ac er ei fod, fel y dywedai Paul mewn achos arall, wedi "llafurio yn helaethach" nâ'r rhan fwyaf o'i frodyr yn y weinidogaeth mewn cylchoedd gwahanol, ac wedi cyflawnu gwaith sydd braidd yn annesgrifiadwy gan ei fawredd a'i amrywiaeth, etto, parhaodd yn dderbyniol a chymmeradwy fel pregethwr. Mae yn wir nad oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf nac ychwaith yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd; etto, gellir dweyd ei fod fel pregethwr yn wir fawr, yn lled boblogaidd, ac yn gymmeradwy dros ben. Yr oedd yn cael galwadau mynych i gyfarfodydd mawrion, a gwasanaethai yn aml yn mhrif wyliau yr enwad. Yn ei erthygl alluog yn Y Geninen dywed yr enwog Lleurwg, yr hwn a'i hadwaenai yn dda, am dano fel hyn:—
"Fel pregethwr, yr oedd yn eglur, syml, Efengylaidd, ac Ysgrythyrol. Bob amser cymmerai olwg eang, naturiol, a phriodol ar y pwnc yr ymdriniai ag ef, nes ei wneyd yn beth dealladwy, dyddorol, a buddiol, i'r gwrandawyr yn gyffredin. Nid ydoedd fel llawer yn gorlwytho ei bregeth â hanesynan (anecdotes) diddefnydd, ac, yn fynych, disail, fel ag i dagu cymmaint o Efengyl ag a allasai fod ynddi, a thramgwyddo pob gwrandawr o chwaeth a synwyr. Er ei fod yn bregethwr grymus a chadarn, yn athraw athrawiaethau mawrion a sylfaenol, ac yn ordinhadau y Grefydd Gristionogol, etto, yr oedd weithiau yn hoffi cymmeryd i fyny bynciau mwy dyeithr ac annghyffredin."
Dywedai gohebydd galluog yn y Merthyr Telegraph am Mai 31, 1878, am dano,
"Dr. Price's forte as a preacher lies in his treatment of the historic; he is great in Biblical narrative, and there is coherence, beauty, and logical precision in the most of his pulpit daguerrotypes. Several of the eminent Welsh preachers have excelled in the same direction; the Welsh appear to have special aptitude for the rhetorically pictorial."
Yr oedd, fel yr awgrymir uchod, ei brif nerth fel pregethwr yn yr hanesyddol. Adroddai hanesion Beiblaidd mor naturiol ac effeithiol nes y gwefreiddiai y gynnulleidfa fawr a ymdyrai i'w wrando, ac ymddangosai pawb fel pe yn ymgolli gan fedr a gallu desgrifiadol y pregethwr. Yr oedd yn fath o Raphael Cymreig ac yn Filton ei oes. Pregethai yn aml iawn ar destynau yn yr Hen Destament, ond fynychaf rhedai ar y llinell hanesyddol. Byddai yn hoff iawn o bregethu ar gymmeriadau, a thynai i fyny wersi buddiol a phwysig hyd y nod o'r manau a'r amgylchiadau mwyaf annhebyg. Wrth edrych dros ei ddyddiaduron, yn y rhai y croniclai ei holl destynau, yn nghyd â'r dyddiadau y pregethai hwynt yn mhob man, cawn yn y llyfr cyntaf, yr hwn sydd yn cyrhaedd y tu ol i'r flwyddyn 1858, nifer lluosog o bynciau, fel y canlyn :—Abraham, Jacob, Enoch, Moses, Melchisedec, Senacherib a Hezeciah, Joseph, Daniel, Dafydd, Elias yn Horeb, Mordecai, Esther, Jonah, Abiah Bach, Haaman, Nehemiah, Sorobabel, y Tri Llanc, a'r Llances Fach," &c. Nid ydym wedi codi ond nifer fechan o honynt cofier. Gyda chymmeryd cymmeriadau Ysgrythyrol i fyny yn ei bregethau, pregethodd ar ddefodau a seremonïau Iuddewig, yn nghyd â'r hen gyfundrefn yn ei gwahanol agweddau, yn dra chyflawn. Hoffai ddarlunio y Tabernacl, ei lestri, a'r defodau cyssylltiedig ag ef. Pregethodd lawer o bryd i'w gilydd ar y Deml, ei hoffeiriaid, ei harchoffeiriaid, a'r gwahanol ddodrefn a'r gwasanaeth gyflawnid ynddi. Yr oedd yn lled hyddysg yn hanesiaeth henafol yr Iuddewon. Yr un modd gyda'r Testament Newydd; ymhyfrydai fod gyda'r hanesyddol. Teimlai yn ddedwydd yn Llyfr yr Actau yn darlunio yr apostolion a'u teithiau, ac hoffai feusydd hanesyddol a phroffwydoliaethol yr Hen Destament; dammegion Crist a'i wyrthiau, hefyd, oeddynt feusydd y treuliai lawer o'i amser ynddynt. Codai o honynt egwyddorion mawrion a thragwyddol teyrnas Crist i'w dangos yn eglur a syml i'w wrandawyr. Byddai y gwersi a dynai oddiwrthynt yn naturiol a phrydferth, a gwasgai hwynt yn ddifrifol at galonau a chydwybodau y bobl. Cymmerai yn aml wahanol ranau o'r gwirionedd, rhyw wedd neillduol arnynt, a chyhoeddai gyfres yn olynol o bregethau galluog a dyddorol ar y cyfryw adranau, a theimlai y gwrandawyr ddyddordeb mawr ynddynt. Nodwn er enghraifft ei bregethau ar y saith eglwys yn Asia, y rhai a elwir gan bobl Aberdar hyd heddyw yn bregethau y Dadguddiad." Darluniai yr eglwysi hyn yn eu gwahanol gyflyrau ac arweddion yn y modd mwyaf byw i'r bobl. "Y Beibl" ydoedd bwnc arall, ar yr hwn y pregethodd ddeg o bregethau hanesyddol a gwir alluog i bobl ieuainc ei gynnulleidfa. Cyhoeddai ei bynciau a'i destynau yn mlaen llaw, a dirgymhellai ei wrandawyr, yn neillduol y dosparth ieuengaf o'i gynnulleidfa, i ddarllen y testynau a chymmaint ag a allent arnynt, gan y teimai fod cael y bobl i efrydu y pynciau cyn ei fod yn pregethu arnynt yn fanteisiol iddo ef a hwythau. Gosodwn yma enghraifft o'r man-leni (slips) a wasgarai i'r bobl pan yn myned i bregethu cyfres o bregethau ar ryw bwnc neillduol. O blith ereill, gosodwn y Beibl yn enghrefftiol, yr hwn sydd fel y canlyn:—
‘Y BEIBL.'
"Er mwyn ieuenctyd cynnulleidfa Calfaria, Aberdar, bwriada Dr. Price draddodi cyfres o bregethau ar y Beibl fel dadguddiad Duw o'i ewyllys i ddynion; unig reol bywyd yn y byd presenol; a'r unig hyfforddwr am ein dedwyddwch yn y byd a ddaw.
"Traddodir y pregethau hyn ar nos Suliau, yn Nghapel Calfaria, gan ddechreu nos Sul, Tachwedd y 27ain, 1870; ac hyd y gellir bob nos Sul yn olynol hyd ddiwedd y gyfres.
"Ymdrechir ymdrin â'r pwnc yn y drefn ganlynol :-Pregeth I. Y Beibl yn Llyfr Duw, Psalm cxxxviii. 2, 'Oblegyd ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll.' Pregeth II. Y byd heb y Beibl. Ephesiaid ii. 12, 'Heb obaith genych ac heb Dduw yn y byd.' Pregeth III, Y Beibl yn cwrdd ag angen dyn. Psalm cxix. 9, 'Pa fodd y glanha llanc ei lwybr ? Wrth ymgadw yn ol dy air di.' Pregeth IV. Dylanwad y Beibl ar ddynolryw. Esiah lv. 11, 'Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o'm genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o'i blegyd.' Pregeth V. Dyogeliad y Beibl. Matthew xxiv. 35. ' Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau I nid ânt heibio ddim.' Pregeth VI. Cyssondeb ac unoliaeth y Beibl. Actau iii. 18, ‘Eithr y pethau a ragfynegodd Duw trwy enau ei holl broffwydi, y dyoddefai Crist, a gyflawnodd efe fel hyn.' Pregeth VII. Y Beibl yw unig safon crefydd. Esiah viii. 20, 'At y gyfraith, ac at y dystiolaeth; oni ddywedant yn ol y gair hwn, hyny sydd am nad oes oleuni ynddynt.' Pregeth VIII. Ein dyledswydd i ddarllen y Beibl. Ioan v. 39, 'Chwiliwch yr Ysgrythyrau, canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol; a hwynthwy yw y rhai sy'n tystiolaethu am danaf fi. Pregeth IX. Crist yn ganolbwnc y Beibl. 1 Corinthiaid ii 2. Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio.' Pregeth X. Y Beibl yn y dyfodol. Esiah xi. 9, Canys y ddaear a fydd lawn o wybodaeth yr Arglwydd, megys y mae y dyfroedd yn toi y môr.'"
Nid yw yr enghraifft uchod ond un o lawer.
Yr oedd yn gwybod daearyddiaeth Gwlad Canaan yn neillduol o dda. Gellid meddwl fod y cwbl wedi ei argraffu ar ei gof. Pan yn siarad am dani i egluro ei faterion, gallai un farnu ei fod wedi byw ynddi erioed. Cyfeiriai ati a desgrifiai hi mor naturiol nes o'r braidd nad oedd y bobl yn gweled y lleoedd a'r trigolion, ac yn teimlo eu bod yn nghanol yr amgylchiadau. Nid annghofiwn yn rhwydd ei bregeth ragorol a elwir gan y bobl, "Pregeth yr asyn bach." Darluniai y ddinas, Bethphage, Bethania, a'r wlad o gwmpas, yn nghyd â'r dyrfa, yn y modd mwyaf tarawiadol. Actiai Petr ac Ioan yn myned i bentref Bethphage i ymofyn yr asen a'r ebol, ac adroddai yr hyn a ddychymygai efe a siaradent â'u gilydd ar y ffordd. "Ofnai Petr," ebai efe, fwy nâ Ioan. Yr oedd confidence mawr gan Ioan yn ei feistr. Nid oes dim fel dyn yn meddu cariad mawr i'w wneyd yn ymddiriedwr mawr yn ngwrthddrych ei gariad. Yr oedd sefydlawgrwydd ac ymddiriedaeth gref yn Ioan; ond nid felly Petr: yr oedd efe yn fwy wit-wat—dim cymmaint o ddal arno, ac mewn cyfyngder yr oedd yn ofnus ac yn llwfr. Dacw'r ddau frawd yn myn'd, ac yn codi dros y breast draw, ac meddai Petr, 'Ioan, byddwn ein dau yn y jail cyn dod yn ol heddyw. Mae y Meistr yn arfer bod yn llygad ei le, ac yn iawn bob amser, ond y mae yn colli tipyn heddyw.' ‘Dere 'mlaen,' meddai Ioan, 'bydd ef yn sicr o fod yn ei le heddyw etto.' Dyw e' ddim wedi dweyd am ofyn benthyg y creadur bach, nac wedi dweyd y caffai ei berchenog ef yn ol-dim ond 'Gollyngwch a dygwch.' Mae Duw yn gwybod, Ioan bach, byddwn yn llaw y policeman ar unwaith.' 'Pob peth yn iawn, Petr,' dywedai Ioan, 'y mae wedi ein dysgu i ddweyd 'Rhaid i'r Arglwydd wrtho,' ac y mae 'Rhaid' y Meistr yn clirio y ffordd at y cwbl ac yn ateb am yr oll." Cai Dr. Price hwyl fawr yn gyffredin pan yn traddodi pregeth yr asyn bach.
Pregeth fawr gan y Dr. oedd pregeth yr esgyrn sychion. Byddai yn ddoniol yn darlunio y dyffryn, y proffwyd, a'r esgyrn. Braidd na osodai yr esgyrn i siarad pan y darluniai y naill asgwrn yn chwilio am ac yn dyfod "at ei asgwrn."
Un tro, pan yn pregethu ar daith plant Israel yn yr an- ialwch, yr oedd gydag ef grydd a theiliwr (brodyr da) yn ddiaconiaid, a dywedai ar ei bregeth, "Ie, yr oedd eu dillad yn para o hyd o ddechreu y daith i'w diwedd. Lle gwael fyddai yno i Henry Dafis: 'chai e' ddim mesur troed na gwneyd pâr o'sgidiau o'r naill flwyddyn i'r llall; ac am Thomas Morgan, 'chai yntau byth fesur am bâr o ddillad, ac ni fuasai yn cael gwaith i wneyd mourning ar ddydd Sul." Wedi bywiogi ei gynnulleidfa, a'i chodi i grechwen, dychwelai at y difrifol a'r dwys, ac y mae yn bossibl y gwelid y bobl yn colli dagrau mewn ychydig funydau. Byddid yn sicr o gofio hanesion Ysgrythyrol wedi eu clywed ganddo ef.
Yr oedd ganddo allu mawr i gymhwyso ei bregethau at leoedd, ac amgylchiadau yn y lleoedd hyny. Un o'i ddewis-bregethau oedd pregeth y "Llances Fach." Yn mha le bynag y pregethai hono, gwnai ddefnydd da o honi. Gellid meddwl iddo ei darparu ar gyfer y lle hwnw yn unig. Ar ei daith yn America, cai y llances ddangos ei gwyneb siriol yn fynych. Gwnai iddi edrych yn dlos, gwisgai hi yn ei dillad goreu; ac wedi ei chael yn ei haddurniadau goreu, dywedai, "Dyma fel mae merched bach prydferth Cymru sydd wedi eu codi yn yr Ysgol Sabbothol ac ar aelwydydd crefyddol. Gawn ni ddweyd fod merched bach America yn debyg iddi hefyd?" Dywedai gyda y fath nerth a dylanwad weithiau nes peri i bawb deimlo yn awyddus bod fel y "Llances Fach." Traddodai bregeth y "Llances" unwaith mewn dyffryn poblogaidd, yn yr hwn y mae gweinidog, yn awr canol oed, yn enwog am ei ddiwydrwydd a'i weithgarwch gyda gwahanol achosion cymdeithasol, ac mewn gwahanol gyfeiriadau yn nheyrnas yr Arglwydd Iesu Grist. Cymhwysai ei nodiadau at ofal am y plant a llafur gyda hwy. Dywedai y gwyddai am weinidog yn awr yn anterth ei nerth, wedi ac yn gweithio yn galed fel aelod ar wahanol fyrddau lleol ac addysgol, a gyda gwahanol gymdeithasau buddiol. Yr oedd hefyd yn llanw amryw swyddau pwysig yn yr enwad, ac yn aelod gweithgar ar bob pwyllgor braidd yn y cyfenwad; ond meddyliai ef fod y gwaith a wnelai gyda'r plant bach yn ei Ysgol Sul a'i eglwys yn fwy na'r cwbl. Y brawd, meddai, a ddarluniaf yw gweinidog parchus ac anwyl yr eglwys fedyddiedig yn Nhreorci. Yr oedd y Dr. yn pregethu mewn cwrdd mawr yn Nghwmparc, cangen o eglwys Treorci, ac heb fod yn neppell oddiyno. Y mae amryw o'i bregethau ereill, megys y "Corn Bach," "Y Garreg Fach," Garreg Fach," "Y Talentau,' "Y Jubili," "Elias ar Carmel," "Y Deml," (pregeth fawr y casgliad) "Cyfiawnhad," &c., y carem gyfeirio yn helaeth atynt; ond rhaid ymatal, gan fod yn bossibl y cyhoeddir cyfrol o'i ddewis bregethau gan ei anwyl ferch, Miss Emily Price. Y mae miloedd o'i bregethau ar gael, wedi eu cadw yn ofalus ganddo, ac y mae wedi eu cofnodi oll yn ei ddyddlyfrau, fel y gellir gwybod pa bryd ac yn mha le y pregethwyd hwynt ganddo. Arweinia hyn ni yn naturiol at ei ddyddiaduron a'i goflyfrau, y rhai a gant ein sylw yn fyr yn y bennod nesaf.
PENNOD XVII.
EI DDYDDLYFRAU.
Arrangement—Platt—Gofal am y pethau lleiaf—Irving a Wellington—Y bancer a'r hatlingau—Adeg dechreuad ei gofresau—Note—Enghraifft o'i ddyddlyfr—Ei daith yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro—Cyfeiriad Myfyr Emlyn—Cyfansymiau ei ymrwymiadau blynyddol a'i nodion—1857—1863—1864—1867—1870—1873—1874—Afiechyd y Dr. 36 o Sabbothau heb bregethu—Nodiad eglurhaol—1880—Bedyddio dau fyfyriwr o Drefecca—Diwedd yr ail lyfr—Cyfres pregethau y plant—Eu pynciau—Y Nadolig cyntaf gartref am 35 mlynedd—Dyddiad olaf ei gronicliad—Y geiriau olaf ar y cofnodlyfr—Olion cryndod ei law yn ei ysgrifen yn y blynyddau 1885 ac 1886—Manylder a threfnusrwydd yn deilwng o efelychiad.
Arrangement or order, Nature's first law, digests the matter that industry collects. It means doing things methodically, a habit of saving time to all, and without which no business of any size could be carried on.—J. Platt.
MEWN trefnusrwydd rhagorai y Dr. yn fawr. Yr oedd ganddo ef ei gynlluniau gyda phob peth yr ymgymmerai efe â'i weithio allan—y pethau lleiaf yn gystal â'r pethau mwyaf. Cymmer Irving sylw neillduol, yn ei hanes o fywyd Wellington, o fanylder rhyfeddol ei arwr gyda phethau bychain. Yr oedd ei gyfriflyfrau a'i ddyddiaduron yn dangos pa mor ofalus ydoedd o bethau bychain. Gallai esiampl Wellington yn yr ystyr hwn roddi gwersi buddiol i'r rhai hyny a ddirmygant yr hyn a alwant yn petty details. Mae miloedd o'r fath fodau i'w cael yn mhob gwlad. Nid oes dim yn deilwng o sylw yn eu barn hwy os na fydd yn cael ei ddwyn yn mlaen ar raddfa eang. Nid ymostyngant at y ceiniogau—dim ond y punnoedd sydd yn werth eu sylw hwy; ond y dyogelaf yn ei waith, a'r mwyaf llwyddiannus bob amser yn ei ymgymmeriadau, ydyw yr hwn sydd yn "ffyddlawn yn y lleiaf." Dywedai bancer (Mr. Green, Cymro pur ac aelod ffyddlon yn eglwys y Bedyddwyr yn Castle Street) wrthym yn Llundain yn ddiweddar, "You would be surprised, Sir, to know how careful my grandfather was of the farthings, and what good use he was able to make of them."
Wrth edrych dros ddyddlyfrau Dr. Price o ddiwedd 1850 (oblegyd dyna'r adeg feddyliwn y dechreuodd gadw cofnodion o'i bregethau, ei gyflawniadau, a'i ymrwymiadau) hyd ganol 1886, pryd y methodd gan afiechyd, yr ydym wedi ein taro â syndod gan ei fanylder gyda ei gofnodion parthed ei destynau, ei deithiau a'i ymrwymiadau yn mhob cylch. Bydd yn ormod gorchwyl i ni, gan fod ei groniclau yn cyrhaedd dros gyfnod mor faith, a'i helyntion mor lluosog. wneyd llawer yn fwy na rhoddi enghreifftiau mewn dyfyniadau gerbron y darllenydd, gan adael i'r cyfryw lefaru drostynt eu hunain a dirgymhell eu gwersi i'w ystyriaeth. Yn nechreu y cofnod-lyfr cyntaf o'i eiddo, cawn y nodiad eglurhaol canlynol:— -
EXPLANATORY NOTE.
It will be seen that the entries in this register only begins with November, 1850. There are about 720 sermons on Cards, in Books, and on Manuscripts, preached previously to this date, that will be found in the lower left hand drawer in the desk in my study. All those entries with the dash under them are sermons preached from home, or upon some extraordinary occasion.
Abbreviations— | M | The sermon is in Manuscript. |
C | The sermon is on Card | |
B | The sermon will be found in a Book. | |
G | Thought to be a good one. |
Y mae y llyfr y cyfeiriwn ato yn gofreslyfr pregethau priodol, a chynnwysa bump o golofnau darparedig, y rhai a lenwir yn gyfundrefnol a gofalus gan y Dr. Rhoddwn yma enghraifft neu ddwy:—
Ar waelod pob tudalen gesyd y Dr. nifer y pregethau a bregethodd yn ystod ei ddyddiadau i lawr, ac yna dyga y cyfryw yn mlaen i'r nesaf, ac felly yn y blaen am y flwyddyn, pan y gwna sylwadau neillduol am ei ymrwymiadau a'i waith. 21 sydd ar odreu y tudalen perthynol i'r uchod, a bydd yr 21 ar ben y tudalen nesaf ati i ddechreu, a charia y drefn hon yn mlaen gyda'r gofal mwyaf hyd Mai 16eg, 1886. Ar ddiwedd y flwyddyn 1851, cawn nifer y pregethau yn 189; ac i ddechreu 1852, cawn:—
"Brought forward 189 from Nov. 10, 1850" Ar ddiwedd 1852, cawn rif y pregethau yn 379, a'r nodiad canlynol:—
"Preached 357 times during the year 1852."
Gwelwn mai y rheswm fod niferi y "pregethu" mor uchel yw iddo fod ar daith bregethwrol y flwyddyn hono yn Siroedd Caerfyrddin a Phenfro; a chan ein bod wedi clywed llawer o siarad am y daith hon, a chyfeiriadau mynych wedi eu gwneyd ati gan ddynion o nod yn yr enwad o bryd i'w gilydd, gosodwn ei gofnodiad o'i daith yma:—
Y blaenorol sydd enghraifft deg o'r modd y mae y Dr. wedi cadw cofnodion oi holl deithiau, yn gystal a'i gyflawniadau gartref. Yr hyn sydd yn rhyfedd yw nad oes toriad am gymmaint ag wythnos na diwrnod yn yr holl flynyddau, os bydd wedi cyflawnu gwasanaeth cyhoeddus mewn unrhyw gylch neu gyfeiriad. Gwnaeth golygydd parchus Seren Cymru, y Parch. B. Thomas, Narberth, gyfeiriad neillduol at y daith hon yn ei nodiad at farwolaeth yr anfarwol Ddr. yn Seren Cymru am Mawrth y 9fed, 1888, yn y geiriau canlynol:
"Dyddorol fyddai i ni, ac efallai nad annyddorol i'n darllenwyr, fyddai cofnodi y tro cyntaf y gwelsom ac y clywsom ef, sef yn Nghymmanfa Bethabara, Swydd Benfro. Nid ydym yn cofio dyddiad y gymmanfa hono, ond yr oeddem yn dra ieuanc. Cynnelid hi yn nghae Penyrallt, ar lan yr afon lle y bedyddiodd yr anwyl John Morris lawer, a lle y bedyddiodd 'Shon Morgan, Blaenyffos,' fwy. Yr oedd yno lawer iawn yn pregethu, ond prif arwyr y dydd oeddynt Evans, Hirwaun (Dr. Evans, Castellnedd, wedi hyny), a Price, Aberdar. Credwn fod John Morris, Bethabara, yn Mhontypwl, ar yr un adeg â hwy, ac ymddang. osai ei yspryd angylaidd a diniwed wrth ei fodd i gael dau o'i hen gydfyfyrwyr enwog i chwifio'r faner mor llwyddiannus ar ddydd yr uchel wyl. Cof genym am Evans, Hirwaun, yn trin yr arfau nad ydynt gnawdol' gyda medrusrwydd a manylwch cogleisiol, a'i lais main soniarus yn cynniwair drwy galonau ac yn diaspedain rhwng y cymydd, a'r dyn bach cadarn, bywiog, parablus, ffraeth, pengrych, a phenddu o Aberdar yn gwneyd i esgyrn sychion Ezeciel gyffro a chodi ar eu traed yn llu mawr. O! yr oedd yno hwyl! Yr oedd y ffaith eu bod o'r 'Gweithfeydd' yr adeg hono, ynddi ei hun, yn fwy cynhyrfus na phe ymwelai yn awr ddau o America, Awstralia, neu yn wir o'r byd arall."
Tra yn gadael llawer iawn o gofnodion dyddorol sydd ganddo yn nghorff y blynyddau, ni wnawn bellach ond rhoddi ei gyfansymiau ar ddiwedd y blynyddoedd, y rhai a enghreifftiant yn effeithiol lwyredd y Dr. gyda'i waith, yn nghyd a mawredd y gwaith a gyflawnai. Hefyd, cawn olwg ar ei yspryd a'i deimlad yn ngwyneb daioni mawr ac amrywiol yr Arglwydd tuag ato. Cawn, mor gynnar a'r flwyddyn 1857, ei fod yn dra phoblogaidd, ac yn gwneyd gwaith mawr, oddiwrth a ganlyn:—
SUMMARY FOR 1857.
"Sermons, 195; Addresses, 32; Lectures, 34; Total, 261—5 times weekly on an average. Y gogoniant i Dduw."
Erbyn hyn, y mae y Dr. yn cofnodi ei ddarlithiau, ei areithiau mewn gwahanol fanau, ac ar wahanol bynciau, yn nghyd a'i anerchiadau a'i ymrwymiadau gwahanol, gyda'r manylder mwyaf, a symia hwynt i fyny ar odreu pob tudalen, gan eu symmud yn gyfundrefnol i ben y nesaf. Dechreua 1858 gyda'r nifer 2,420 o rwymedigaethau wedi eu cyflawnu. Yn niwedd 1858, cawn 2,710 a'r nodiad isod yn canlyn:—
SUMMARY FOR 1858.
Engaged in delivering Sermons, Lectures, or Addresses. 290 times, giving an average of 5½ every week. or 5 times and 30 over. I bless God for the health and strength which He has given me to do His work." Yn niwedd y flwyddyn 1863, cawn fod cyfanswm ei ymrwymiadau o'r dechreu wedi cyrhaedd y swm o 4,548.
Etto :—
Total number of public engagements during the last year was 477. Mae genyf i ddiolch llawer i Dduw am nerth a iechyd i allu cadw pob ymrwymiad trwy y flwyddyn. I Dduw y byddo yr holl ogoniant.
Etto, ar ddiwedd 1864, ceir 4,986—
"Total number of Public Engagements during the year is 438. Mae yr Arglwydd o'i fawr ddaioni wedi rhoddi i mi iechyd a nerth i gadw pob ymrwymiad cyhoeddus heb i neb gael ei siomi. O pa mor ddiolchgar y dylaswn fod i Ti, O Dad, am dy holl ddaioni i mi, Rhag. 31, 1864!
Yn mhen ei ugeinfed flwyddyn yn Nghalfaria, gwna nodiad neillduol:—
"The total number of Public Engagements in the year just closed is 460. Mae yr Arglwydd yn ei fawr ddaioni wedi estyn nerth a gras i mi ddal mewn iechyd corff a bywiawgrwydd meddwl gyda'i waith drwy y flwyddyn heb un bwlch. Mae y flwyddyn hon sydd wedi ei gorphen wedi terfynu yr ugain mlynedd yn Aberdar. Yn yr ugain mlynedd hyn yr wyf trwy nerth Duw wedi cymmeryd rhan mewn 6,167 o gyfarfodydd cyhoeddus mewn pregethu, darlithio, &c. I Ti, O Dad, y byddo yr holl ogoniant. Amen."
Yn niwedd ei goflyfr cyntaf, cawn dudalenau lle y cofnoda ei bregethau yn y cwrdd misol, ac hefyd y rhai a draddododd yn y cangenau, y rhai sydd fel y canlyn:—
"Cwrdd Misol, 20 o bregethau ar wahanol destynau; Ynyslwyd, 21; Gadlys, 45; Bethel, 145; yr oll ar wahanol bynciau yn yr un eglwysi."
Yn yr ail gofnod—lyfr, cawn:—
"NOTE.—The sermons and public engagements in this Book are in continuation of a book already filled. I had preached previous to my commencing to enter in the other register from Jan. 1, 1849, to Dec. 31, 1850, 945 times. Recorded in the other Register 5,904 times, making a total of 6,859. Hence I had the privilege of attending some public engagements up to Dec. 31, 1866, 6,859. I bless God for health and ability to do this. To his name be all the glory."
Yn 1867, cyflawnodd 506 o ymrwymiadau cyhoeddus. Yn niwedd 1868, cawn y nodiad a ganlyn:—
Mae y flwyddyn ddiweddaf wedi bod yn un hynod am ei marweidddra crefyddol trwy yr holl wledydd. Ychydig iawn, iawn, o grefydd sydd wedi ei brofi yn unrhyw fan. Yr ydym ni wedi bedyddio llai nag arfer—dim ond 16 trwy y flwydddyn. Mae genym i ddiolch i'r Arglwydd am heddwch, cariad, a thangnefedd yn yr eglwys. Mae y gynnulleidfa yn dda iawn, ond ychydig yw y cynnydd. I'r Arglwydd y byddo y clod am bob daioni. Yr ydwyf wedi cael nerth a iechyd i gymmeryd rhan mewn 521 o gyfarfodydd gartref ac oddicartref yn ystod y flwyddyn. Yr Arglwydd a fyddo gyda ni yn y dyfodol. Amen.
Yn y flwyddyn nesaf, 1869, yr ymwelodd â'r Iwerddon a'r America, ac y mae yr holl fanau yr ymwelodd â hwynt wedi eu croniclo yn ofalus dydd yn ei ddydd; felly, gellir unrhyw bryd ddweyd, oddiwrth ei gofnod—lyfr, p'le ydoedd bob dydd, a'r gwaith cyhoeddus a gyflawnodd. Yn niwedd y flwyddyn 1870, mae ei ymrwymiadau cyhoeddus wedi cyrhaedd o'r dechreuad i 8,843, a dywed:—
Heddyw, dydd Sadwrn, Rhagfyr 31, 1870, yr wyf yn y modd mwyaf dwys a difrifol yn cydnabod llaw ddaionus yr Arglwydd tuag ataf am y flwyddyn hon. Diolch am nerth a iechyd i weithio yn y winllan. Mae y cyflawniadau cyhoeddus am y flwyddyn yn 508. O am fwy o yspryd gras a gweddi, yspryd caru ac yspryd gweithio, fel y byddo i'r Enw Mawr gael ei ogoneddu, ac eneidiau lawer gael eu cadw. I Ti, O Dad, boed y gogoniant oll. Amen.
"Rhag. 31, 1870.
Ar ddiwedd 1873, ceir:—
"Gallaf etto godi yma fy Ebenezer, diolch i Dduw, a chymmeryd cysur. Cefais y fraint o fod mewn 873 o gyfarfodydd heb fethu unwaith trwy afiechyd nac unrhyw achos arall. Y clod yn gryno ar ben y Duw da trwy Iesu Grist fy Arglwydd. Rhag. 31, 1873.
Bu ei ymrwymiadau am 1874 yn 737, a chydnebydd yn yr un modd ddaioni ei Dduw.
Yn y flwyddyn 1875, cawn, gyda nodiadau tebyg i'r rhai a nodasom, yr hyn a ganlyn:—
"Yn ystod y flwyddyn nid wyf wedi darlithio o gwbl nac wedi bod ar y Board of Guardians, ond wedi talu mwy o sylw i'r achos da gartref. I Dduw pob gras y rhoddaf yr holl glod yn enw ei anwyl Fab. Amen.
Diolch am iechyd corfforol a bywiogrwydd meddwl, y mae y Dr. wedi ei wneyd hyd yn hyn, a chydnabod Duw yn ddaionus am nerth a gallu i weithio a chwrdd â channoedd o ymrwymiadau a dyledswyddau pwysig; ond drwg genym am y cyfnewidiad a gymmerodd le yn 1876. Nid yw wedi cofnodi dim o Mai 28, 1876, hyd Ionawr iaf, 1877. Ond rhydd nodiad cyffredinol am y cyfnod y bu mewn cystudd, yr hwn sydd fel y canlyn:—
NODIAD EGLURHAOL.—Ar y Sul, Mai 28, 1876, yr oedd dyn ieuanc o Heolyfelin yn pregethu yn Nghalfaria boreu y Sul, ac yr oeddwn i bregethu yn Nghwmdar yn y prydnawn. Pregethu a thori bara gyda y Saeson yn y nos. Yr oeddwn yn wael iawn y pryd hwn. Aethum i Lundain dydd Llun, Mai 29, 1876, a gwelais Dr. Canton, a dranoeth cwppiwyd fi yn drwm iawn. Bum yn Llundain dan gyfarwyddiadau y meddygon Dr. Canton, Dr. Muchison, a Dr. Beddles. Bum yn Llundain o Mai 29 hyd Mehefin 8. Ar Mehefin 7, 1876, daeth Emily i Lundain, ac aeth â mi i ffwrdd ar Mehefin 8 i'r Mumbles. Bum yn y Mumbles o Meh. hyd Gorphenaf y 4ydd. Yna ar Gorphenaf 4 cymmerwyd fi o'r Mumbles i Lundain. Gorphenaf 8, cymmerasom ein lle i fyny yn Forest Hill. Buom yno hyd Awst 9, 1876: y dydd hwn ym. adawsom er myned i Scotland. Cyrhaeddasom Edinburgh dydd Gwener, yr 11eg. Aethom oddiyno i Melrose, yn Scotland, dydd Sadwrn, Awst 12. Bu Emily a minau yn Melrose hyd ddydd Mercher, Medi 27, 1876. Aethom o Melrose i Newcastle—on—Tyne, York, ac i Birmingham. Buom yn Birmingham wythnos yn mwynhau Cyfarfodydd Hydrefol Undeb y Bedyddwyr. Ar Hydref 6, 1876, aethom o Birmingham i Rhyl. Arosasom yno hyd Tachwedd y 6, 1876. Y dydd hwn y daethom i Aberdar gyda chalonau diolchgar i Dduw am y fraint. Bum 36 o Suliau heb bregethu dim. Diolch i Dduw am adferiad."
Bu y Dr. mewn ychydig ddyryswch gyda'i amgylchiadau bron yn y cyfnod hwn, a llawer oedd y barnau a ddadgenid gan rai am ei absenoldeb o Aberdar. Gwyr y rhan luosocaf o'i hen gydnabod ei fod wedi ei arwain i'r dyryswch hwn gan ereill yn gyssylltiedig a'r Factory yn Aberdar. Cafodd y Dr. ddyoddef yn erwin o herwydd hyn hyd ddiwedd ei oes, ac er symmud drwg dybiaethau a rhoddi ychydig oleuni ar y cyfnod hwnw, yr ydym wedi dyfynu y nodiad eglurhaol o ddyddlyfr y Dr. yn llawn. Teimlwn ei bod yn iawn ynom gyfeirio at y pethau hyn, gan iddynt fod yn ddygwyddiadau pwysig yn ei fywyd. Diau i'r trafferthion a gafodd a'r gofid yr aeth drwyddo effeithio llawer iawn ar ei iechyd, a gallwn, oddiar wybodaeth ac adnabyddiaeth bersonol, ddweyd na fu y Dr. byth yr un fath ar ol hyny. Collodd ei yspryd a'i wroldeb i raddau helaeth iawn.
Hydref 11eg, 1880, cymmerodd amgylchiad hapus le yn Nghalfaria. Gyda y Dr. am y dyddiad hwnw cawn fel hyn:—
Bedyddio dau fyfyriwr ieuainc o Athrofa Trefecca, y rhai oeddynt wedi cyfnewid eu golygiadau am fedydd, ac yn dewis cael en bedyddio gan Dr. Price yn Nghalfaria. Enwau y brodyr ieuainc ydynt David Evans, gynt o'r Bettws, Sir Gaerfyrddin, a Thomas Valentine Evans, gynt o Landyfaen.
Y brodyr anwyl a galluog D. Evans, Llangefni, Môn, a Valentine Evans, Clydach yn bresenol, oeddynt y brodyr hyn. Y maent wedi profi yn gaffaeliad i'r Bedyddwyr, ac y maent wedi ennill safle a chymmeriadau uchel yn eu plith. Ar ddiwedd y llyfr hwn etto, sef yr ail, cawn ganddo lechres o'i bregethau i'r plant, y rhai ydynt 23 mewn nifer. Yn mhlith pynciau ereill, cawn—" Dafydd pan y fachgen, "Y Bachgen Iesu," "Timotheus," "Samuel," "Bywyd Joseph," "Moses pan yn blentyn," &c., &c. Y mae wedi croniclo y cwbl yn fanwl am danynt, gan nodi y lleoedd gwahanol y pregethwyd hwynt ganddo. Cynnwysa y llyfr hwn gofnodion am dros 13 mlynedd, sef o Ionawr iaf, 1867, hyd Tachwedd 27ain, 1880. Rhif ei ymrwymiadau cyhoeddus, fel y nodasom, Ionawr iaf, 1867, oeddynt 6,859; ond gwelwn eu bod wedi cyrhaedd, erbyn Rhagfyr 31, 1880, i'r swm aruthrol o 16,701. Mae ei nodiad ar ddechreu ei drydydd dyddlyfr, fel y canlyn:—
This book is a continuation of a book similar in shape and size as this. Therefore, the two Books have chronicled 16,589 sermons or Public Addresses.
Cofier nad yw y 16,589 yn cyrhaedd yn mhellach nâ Thachwedd y 27ain, tra y mae y 16,701 yn cyrhaedd hyd ddiwedd y flwyddyn.
Am Nadolig, 1880, cawn a ganlyn:—
Rhag 25. Dydd Nadolig, gartref am y tro cyntaf am 35 mlynedd, heb fod yn rhwym mewn unrhyw drafodaeth gyhoeddus."
Ei nodiad ar ddiwedd y flwyddyn a ddarllenir fel hyn:—
"I Dduw a'r Tad y byddo'r holl ddiolch. Trwy ei nerth Ef a'i diriondeb Ef yr wyf wedi cael y fraint o gymmeryd rhan mewn 1,082 0 wahanol gyfarfodydd gartref ac oddicartref, am yr hyn y teimlaf yn wir ddiolchgar.
Ion. 1af, 1881.
Y dyddiad olaf y mae wedi croniclo ei weithrediadau arno yw Mai 16eg, 1886. Y ddau beth olaf ar ei lyfr yw "Cyfeillach Calfaria," "Cor Bach." Y mae ei holl gyflawniadau cyhoeddus wedi cyrhaedd dros yr 20,000. gwrs, y maent yn amrywiol iawn, fel y gwelir oddiwrth ei nodion, oblegyd gosodai bob peth i lawr yn eglur. Hyd y flwyddyn 1884 ysgrifenai y Dr. yn eglur, sefydlog, a digryn; ond y mae yn gwaethu yn fawr yn 1885 ac yn 1886: mae olion cryndod rhyfeddol. Hefyd, y mae y meddwl yn colli, oblegyd ceir llawer o eiriau aneglur a brawddegau anorphenedig; ond pa ryfedd pan gofiom fod ei feddwl mawr
wedi bod mor llafurus, a'i law wedi ysgrifenu cymmaint! Pe na fuasai ei law wedi gwneyd dim arall ond ysgrifenu, byddai yn waith aruthrol, ond gwnaeth lawer gyda hyny. Dengys y llyfrau hyn yn eglur iawn fod ymroddiad, penderfyniad, a dyfalbarhad yn elfenau cryfion neillduol yn y Dr., cyn y gallasai, gyda chymmaint o waith a gyflawnodd, a theithio fel y gwnaeth yn mhell ac yn agos, fod wedi eu cadw i fyny mor ddifwlch, cryno, a gofalus; ond nid yw hyn yn eithriad ynddo mewn trefnusrwydd, oblegyd gwelwn y "dyn trefnus" yn amlwg yn y cwbl a wnai. Y mae y wedd hon yn ei gymmeriad yn un dra phwysig a gwerthfawr, ac yn deilwng o'i mabwysiadu a'i hefelychu gan bawb, yn neillduol dynion ieuainc sydd â'u gwynebau ar fasnach neu swyddi pwysig. Y mae cannoedd o gofnodion gwerthfawr gan y Dr. enwog yn ei lyfrau nad ydynt o ddyddordeb
cyffredinol; etto, y maent yn fath o fynegfysedd, yn cyfeirio at y dyn, ac yn egluro yn bur amlwg pa fath ddyn ydoedd.PENNOD XVIII.
EI FFRAETHEIRIAU.
Naturiol ffraeth—Myned yn mhell, etto o fewn terfynau—Myfyr Emlyn ar ei ffraethineb—Gwaith angylion—Myfyr etto—Pregeth y Corn Bach—Levi Thomas—T. ab Ieuan—Rustic Sports yr Ynys—Y Dr. a Spurgeon.
YR oedd y Dr. yn naturiol ffraeth (witty), ac yn llawn o'r doniol a'r digrifol; etto, cadwai yn lew iawn y tu fewn i derfynau gweddeidd—dra a moesgarwch. Yr oedd yn cymmeryd, ac mewn gwirionedd yn cael, mwy o ryddid i ddweyd yr hyn a fynai na neb ag a adnabuom erioed. Byddai ei ffraetheiriau a'i chwedlau yn myned yn mhell weithiau, ond ymesgusodid trwy ddywedyd, "Dr. Price yw ef—y mae fel efe ei hunan." Yr oedd llawer iawn o'i wits, fel y byddant yn gyffredin, yn ymddybynu ar amgylchiadau, atebent yn eu lle yn dda; ond wrth eu hailadrodd collant lawer o'u gogoniant. Y mae Myfyr Emlyn yn ddarluniadol a chywir o hono yn ei ysgrif y cyfeiriasom ati droion yn flaenorol ar y mater hwn; ac er ein bod wedi cylymu traed yr un ergydion yn ein braslinellau o'r bennod hon, etto teimlwn nas gallwn wneyd yn well na gadael i Myfyr eu hadrodd yma. Dywed:—
"Yr oedd y Dr. yn hynod o ffraeth, ac yr oedd ei ffraethineb yn aml iddo yn brofedigaeth, a chariai ef weithiau i arddull a ystyrid gan rai yn amheus. Ond cymmaint oedd ei ysprydiaeth, ei naturioldeb a'i ddifrifoledd, fel y medrai ddweyd a gwneyd gyda boddhad i gynnulleidfa, yr hyn a gyfrifid mewn ereill yn annyoddefol. Pan yn gadeirydd i Mr————[17] a areithiai mewn cyssylltiad â Chymdeithas Heddwch, yn amser Rhyfel Rwsia, clywais iddo ddweyd ar y diwedd, 'Er fy mod gymmaint dros heddwch a neb, etto, pe cawn fy nymuniad, rhoddwn gasgen o bylor dan Nicholas, a chwythwn ef i ddiawl.' Paid gwrido, ddarllenydd hoff, pe clywet Price yn dweyd hyn buaset yn chwerthin yn iachus, pa un a fuaset yn cyduno â'r syniadau ai peidio. Clywais ef yn dweyd wrth gynnulleidfa o Saeson yn Llundain un tro, 'Yr ydych chwi, y Saeson, yn barod i feddwl pob drwg am danom ni y Cymry. Dywedwch fod Sir Fynwy yn perthyn i Loegr, ond pan y crogir rhywun yno, yna dywedwch ei bod yn Nghymru; ond cofiwch, pan y crogir rhywun yn Sir Fynwy, Sais ydyw.' Gwyr y darllenydd fod yr Ianciod yn dra anarddangosiadol a digyffro eu hagwedd pan yn gwrando pregeth neu ddarlith, fel mai anhawdd i ddyn dyeithr yw gwybod pa le y saif mewn cyssylltiad â hwy. Yr oedd Dr. Price yn pregethu un tro i gynnulleidfa yn America ar Weledigaeth yr esgyrn sychion,' ac wrth ddarlunio eu sychder a'u marwoldeb, dywedodd yn sydyn, 'Yr oedd. ynt mor sych a marw a chynnulleidfa Ianciaidd.' Yn awr, beiddiaf ddweyd mai un o gant o Gymru neu Loegr a ddywedai hyn heb i'r gynnulleidfa hono osod y diffoddydd arno, a thaflu arno y diystyrwch mwyaf; ond fel arall yn hollol y bu—y gynnulleidfa a orchfygwyd yn llwyr, a daeth yn gyffelyb i un Gymreig, mewn hwyl, neu i'r esgyrn sychion ar ol taflu iddynt anadl bywyd ; a chofir gydag edmygedd a brwdaniaeth am y dyn bach cadarn, ffraeth, a dwys—eneidiol o Gymru hyd y dydd heddyw. Cangen o'i eglwys ydyw Gwawr, Aberaman, a phan oedd y gangen yn ieuanc, trodd y gweinidog ac amryw o'r aelodau at y Mormoniaid, a cheisient feddiannu y capel: cadwent gyfarfodydd a'r drysau yn nghlo, ac ofnid y gorchfygent. Ond ar un o'r adegau hyn aeth ein gwron, gydag ychydig gyfeillion, a thorodd i fewn trwy y ffenestr; ac fel cadfridog dewr, efe oedd arweinydd y gad. Ymarferodd dipyn o Gristionogaeth ewynol trwy ymaflyd yn y gweinidog gwrthgiliedig, gan ei fwrw allan yn gorfforol o'r synagog; ac ni fwriwyd allan gythraul erioed yn fwy llwyr ac effeithiol, a chafodd efe a'i ganlynwyr gymmaint o fraw, fel na bu arnynt chwant byth mwy yspeilio eiddo arall."'—Gweler Y Geninen Gorphenaf, 1888, tud. 177.
Yr oedd y Dr. yn pregethu mewn eglwys unwaith oedd dipyn yn drymaidd ei hyspryd ac yn gwrandaw yn bur sych arno. Desgrifiai waith yr angylion. Dywedai,
"Mae y nefoedd yn drefnus gyda phob peth, ac mae gan bob angel ei waith, a gallaf eich sicrhau fod pob un o honynt yn meindio ei fusnes. Y mae rhai o honynt yn cario newyddion o'r ddaear, ac yn adrodd sut y mae pethau yn myned yn mlaen yma. Nid yw ereill o honynt yn gwneyd dim ond costrelu y dagrau mae saint Duw yn eu colli yn myd y cystudd mawr. Mae un arall yn cofrestru amenau y plant; ond Duw sy'n gwybod! gall sychu ei ysgrifbin o ran dim gwaith mae yn gael gan yr eglwys hon, ac yr wyf yn ofni y gall roi i fyny ei waith yn eithaf rhwydd o ran a gaiff y dyddiau hyn o Gymru."
Deffrodd y nodiad hwn ychydig ar y gynnulleidfa, a gwrandawsant yn fywiocach o hyny yn mlaen. Gallai y Dr. anturio i ddweyd pethau felly, oblegyd yr oedd yn wrandawr bywiog ei hunan. Dywed Myfyr Emlyn yn mhellach am dano,
"Yr oedd yn wrandawr hynod o hwylus ar ereill. Adnabyddais ac adnabyddaf amryw o frodyr poblogaidd, y rhai a garant gael arddangosiadau o' hwyl' gan eu gwrandawyr; ond ni roddant 'Amen,' ochenaid, nac edrychiad serchus i'w cydwas pan yn ymdrechu dros Dduw a'r bobl, ond eisteddant fel delwau, plygant ben, gan wneyd gwepau fel pe b'ai gas ganddynt yr Efengyl ond pan yn cael ei thraddodi ganddynt hwy. Ond un hollol wahanol oedd ein gwrthddrych: gwrandawai yn wastad yn y modd mwyaf bywiog ac arddangosiadol oddieithr fod cwsg am funyd yn ei orchfygu. Cysgai a dihunai yn gyflym, ond braidd na ddywedai Amen' dan y bregeth rhwng defnynau cawod cwsg. Gwrandawai ar y gwan yn gystal â'r cryf—y naill o gydymdeimlad a'r llall o edmygedd; a'r gwan a g'ai fwyaf o'i hwyliau. Ni edrychai yr ŵyn arno fel ar lwdn tarw neu hwrdd afrywiog a gelyniaethus, ond fel ar oen cydryw a chydnaws yn ymbrancio ac yn ymbleseru ar lechweddau iachus a thoreithiog Mynydd Seion. Un o'r cofion cyntaf sydd genyf am dano oedd mewn cyfarfod poblogaidd ar brydnawn trwm yn Nyffryn Aberdar, pan oedd 'canwr pibell poblogaidd' yn pregethu, yr hwn yn sydyn a ganodd, ' Yr wyf wedi colli fy mhregeth—'wn I ddim beth i dde'yd.' Bloeddiodd Price allan, 'All right, cer' y' mlaen,―mae yr hen don genyt.' Adfywiodd y gynnulleidfa, a bu dawnsio rhyfeddol cyn y diwedd. Medrai daflu tânbeleni i'r dorf nes ei hadfywio, ei lloni, a'i dwyn i gywair priodol."
Yr oedd y Dr. yn pregethu yn Nghymmanfa Bassaleg yn y flwyddyn 1851, a'i destyn oedd y "Corn Bach." Yr oedd y bregeth hono yn broffwydoliaethol ganddo. Dywedai y byddai i'r Pab golli ei awdurdod yn y flwyddyn 1870, a throdd ei broffwydoliaeth allan yn wirionedd. Yn y flwyddyn y pregethai yn y gymmanfa a nodasom, yr oedd y wlad yn cael ei rhanu yn esgobaethau gan y Pab. Wedi codi y bobl i hwyl fawr, gwaeddodd y Dr. allan â llef uchel, " Bobl! cedwch y plant a'r Beibl gyda'u gilydd, yna rhoddwn hèr i'r Pab a'r diawl!"
Byddai yn ddoniol weithiau gyda'r brodyr mewn arabedd ac ysmaldod. Yr oedd Dr. Levi Thomas, Castellnedd, un tro yn pregethu yn Nghalfaria, ac fel y gwyr y rhai a'i hadwaenent ef, yr oedd wedi ei freintio à chorporation pur lew, a'i ddonio à llais nodedig o nerthol. Achwynai Levi dipyn ar y dechreu ei fod yn anhwylus yn herwydd afiechyd, a dymunai am gydymdeimlad y gynnulleidfa; ond cyn terfynu, yr oedd y pregethwr wedi annghofio ei anhwylder, ac wedi myned i waeddu yn annghyffredin, fel y gallai efe. Wedi iddo orphen, cododd Price, a dywedodd yn ei ffordd ddigrif, "Diolch i Dduw fod Levi Thomas yn dost: pe byddai yn iach, clywid ef yn Abertawy!"
Pan oedd y Parch. T. James (T. ab Ieuan), Glynnedd, yn olygydd Dyddiadur y Bedyddwyr, aeth rhyw siarad rhwng rhai o'r brodyr yn nghylch amser a'r gwahaniaeth yn hyd y misoedd. Dywedodd y Dr. yn sydyn, "Yr wyf yn deall y misoedd pedair i gyd yn rhwydd, ond yr wyf yn gadael y misoedd pump i gyd i'r brawd o Glynnedd." Cogleisiodd yr atebiad deimlad T. ab Ieuan, a chafodd ei foddhau yn chwerthiniad calonog y brodyr, oblegyd yr oedd yn falch o gael compliment yn nghylch ei waith a'i gyssylltiad â'r dyddiadur.
Ychydig flynyddau yn ol, cynnaliwyd Cymmanfa Gerddorol Ynyslwyd, ar y Llungwyn. Y flwyddyn hono, David Hughes, un o ddiaconiaid y Dr., oedd y cadeirydd. Y diwrnod hwnw hefyd, yr oedd Rustic Sports yn cael eu cynnal ar Gae yr Ynys, yr ochr arall i'r afon o Gapel yr Ynyslwyd; ond gellid clywed swn eu rhialtwch pan floeddient yn gymmeradwyol am ryw orchest-gampau. Triniai y cadeirydd y sports, y chwareuwyr, a'r rhedegwyr, &c., a'i meistr yn arw iawn, pryd y gwaeddodd Price o'r sedd fawr odditano, Eithaf right, Dafydd Hughes; rhowch hi iddo, oblegyd hen dd--l yw e' o hyd." Rhoddodd hyn fwy o nerth yn mraich Hughes i fflangellu hen "chap," ys dywed Harris o Heolyfelin.
Un tro, yr oedd y Dr. yn darllen papyr, yr hwn a gynnwysai lawer iawn o ffigyrau, yn Nghyfarfodydd Hydrefol Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr, a gynnelid y flwyddyn hono yn L'erpwl. Yn nghanol ei araeth, pan yn tynu y tŷ lawr bron, ac wedi gyru y gynnulleidfa braidd yn fflam, gwelodd y Dr. Mr. Spurgeon yn dyfod i fewn, a dywedodd, yn ol ei arabedd arferol, yn y modd mwyaf tarawiadol, Rhaid i'r sér fyned o'r golwg pan mae yr haul yn gwneyd ei ymddangosiad;" a gwaeddodd Spurgeon mewn atebiad, "Go on, brother Price; go on, brother Price." "All right," meddai Price; "I shall not be long," ac yn mlaen â'i ffigyrau yr aeth nes oedd y gynnulleidfa fawr mewn hwyl ac yn synu a rhyfeddu at ei allu digyffelyb. Gellid ychwanegu nifer lluosog o bethau tebyg am ein gwrthddrych; ond credwn y gwasanaetha yr uchod i daflu golwg arno yn yr ystyr a nodwn. Felly, symmudwn yn mhellach yn mlaen, a chyn cael yr olwg ddiweddaf arno, gwahoddwn amryw frodyr a'i hadwaenent ef yn dda i wneyd ychydig nodiadau ar y Dr., a dyna fydd ein pennod nesaf.
PENNOD XIX.
NODIADAU AR Y DOCTOR.
Gan y Parchn. W. Harris—Dl. Davies—W. Williams, Rhos—J. George—Y diweddar Rufus Williams—Y diweddar F. Morgan, Cwmbach—Dr. Thomas, L'erpwl—W. Morris, Treorci—Mynegiad Coleg Pontypwl—Proffeswr Edwards—Dr. Todd—R. E. Williams (Twrfab), Ynyslwyd—Mr. D. R. Lewis, Aberdar.
MEDDYLIASOM mai nid anmhriodol oedd gwahodd nifer o hen gyfeillion y Dr., y rhai a gawsant lawer o gyfleusderau i gymdeithasu ag ef, ac i'w adnabod yn dda, i ysgrifenu ychydig o'u hadgofion am dano; ac er ein bod wedi derbyn addewid oddiwrth amryw y buasai yn dda genym fod wedi cael eu hysgrifau, am y rhoddai hyny olwg gyflawnach ar wahanol agweddau cymmeriad Price, rhaid i ni foddloni ar a theimlo yn ddiolchgar am adgofion dyddorol y brodyr canlynol, yn nghyd â'r nodiadau buddiol gawsom o gyfeiriadau ereill. Gan fod cyfeiriadau yr ysgrifenwyr at y manau y daethant i gyssylltiad â'r Dr., yn nghyd â'r amgylchiadau neillduol a gymmerasant le, yr ydym yn eu rhoddi i mewn yn agos yn gywir fel y derbyniasom hwy. Bydd fod pob un yn dywedyd yr hanes yn ei ffordd ei hun yn ei wneyd yn llawer mwy dyddorol a swynol i'r darllenydd. Rhoddwn y llythyrau fel y daethant i'n llaw gan nad oes genym reol neillduol i'w dylyn:—
GAN Y PARCH. W. HARRIS, HEOLYFELIN.
"Y cof cyntaf genyf fi am Dr. Price, pan oeddwn yn lled ieuanc, yw iddo ef ac Evan Thomas, Casnewydd, gael galwad i ddyfod yn gydweinidogion i Nebo, Penycae, a'r cylch. Perthynai i Nebo y pryd hwnw amryw gangenau eglwysi ar hyd y dyffryn, megys Cendl, Brynhyfryd, (Cymraeg a Saesneg), a Victoria; golygai y frawdoliaeth yn Nebo gymmeryd y Cwm rhag blaen, a'r brodyr hyn i gydweinidogaethu a chyd-lafurio yn a thrwy y gwahanol leoedd. Yr oedd amcan yr eglwys yn dda, ond ni fuont lwyddiannus i'w gyrhaedd. Dywedwyd y pryd hwnw fod y Dr. yn foddlawn derbyn yr alwad, ond nad oedd Mr. Thomas yn cydweled yn hollol yn y peth, ac felly syrthiodd y cynllun i'r llawr. Mr. Thomas, yn ddiamheuol, oedd yn barnu yn iawn ac yn gweled y mater oreu. Llawer gwell oedd iddynt hwy ill dau gael bob un ei faes ei hun i lafurio ynddo, ac felly y bu. Yr oedd y brodyr mor wahanol i'w gilydd, fel nad oedd yn debyg y gallasent gydlafurio yn ddedwydd yn hir yn yr un eglwysi; felly, yn ol trefn ddoeth Rhagluniaeth Ddwyf. ol, ymwanhasant i gylchoedd gwahanol. Ymsefydlodd Evan Thomas yn weinidog ar Nebo yn unig, ac aeth y Dr. drosodd ac ymsefydlodd yn Aberdar. Yr oedd Nebo, Pencae, yn ateb Mr. Thomas yn dda, ac yntau yn ateb Nebo, a gwnaeth waith yno ag y cofir am dano ddyddiau lawer. Yr oedd Aberdar, hefyd, yn ateb Dr. Price, ac yntau yn ateb Aberdar yn rhagorol, ac yma y bu hyd derfyn ei daith. Wedi i'r Dr. fyned i Aberdar aeth blynyddoedd heibio heb i mi wybod ond ychydig am dano; ond yn Mawrth, 1858, pan aethum o Bantycelyn i'r Cwmbach, daethum yn gymmydog agos iawn iddo ; ac yn Chwefror, 1862, pan ddaethum i Heolyfelin, yr oeddwn yn agosach drachefn. Buom yn gymmydogion dedwydd iawn am 29 o flynyddau, a chefais ddigon o gyfleusderau a manteision i'w adnabod yn dda. Yr oedd yn hynod ddymunol, dyfyr, ffraeth, a doniol; byddai yn fywyd a llawenydd yn mhob cylch; ac nid oedd un amser yn honi rhyw fawredd ac uwchafiaeth ar ei frodyr. Bydd rhai felly weithiau, gwaethaf y modd, edrychant i lawr gyda dirmyg ar rai annhraethol amgenach na hwy eu hunain; nis gellir myned yn agos atynt, a dysgwyliant i'w brodyr deimlo rhyw gryndod a gwyleidd-dra wrth agoshau atynt. Nid oedd y Dr. yn perthyn o'r nawfed âch i'r tylwyth hyn-teimlai pawb yn gartrefol yn ei gyfeillach, ac yr oedd yntau yn gartrefol gyda phawb. Yr oedd yn wastad fel brawd yn mysg ei frodyr, ac ymddygai yn aml fel pe bua sai yn llai nâ'r lleiaf o honynt. Yr oedd ei siarad siriol, ei ffraethebion digrif, a'i nodiadau doniol, yn gwneyd ei gymdeithas yn ddymunol, dedwydd a llawen. Pan ddaethum i Ddyffryn Aberdar yr oedd y Dr. yn ei fan uchelaf mewn defnyddioldeb a phoblogrwydd; ond nid oedd hyny yn peri iddo annghofio ei hunan na diystyru ei frodyr. Y mae ambell frawd na all ddal ond ychydig o anrhydedd, clod, a phoblogrwydd, heb iddo ymchwyddo a myned yn fawr, gwyntog, a hunanol; ond yr oedd y Dr. yn dra gwahanol. Byddai ef bob amser yn ostyngedig, diymongar, a hunanymwadol. Yr oedd y Dr. yn llawn bywyd a gweithgarwch. Barna llawer iddo weithio gormod, ac y buasai yn dda iddo weithio llai, er iddo allu byw yn hwy. Pa fodd bynag am hyny, efe a weithiodd lawer 'mewn amser ac allan o amser.' Gallai wneyd llawer o waith, a hyny mewn gwahanol gylchoedd. Cafodd gyfansoddiad cadarn, bywiog, ac iach; ond gormod gwaith a'i niweidiodd yn fawr. Gwelid hyny yn amlwg yn ei flynyddau olaf. Gweithiodd ei hun allan yn llwyr o ran nerth corff, meddwl, a defnyddioldeb, cyn iddo farw. Bydd rhai farw yn nghanol eu nerth, bywiogrwydd, a defnyddioldeb—cymmerir hwynt ymaith megys â llifeiriant; ond ereill ydynt yn byw ar ol i'w gallu a'u defnyddioldeb ddarfod. Llafuriodd y Dr. yn fawr gydag achos crefydd.
Pan ddaeth efe i Aberdar yr oedd y dyffryn yn ymagor ac yn ym. ddadblygu yn mhob cyfeiriad—gweithfeydd newyddion yn cychwyn drwy y cwm, a'r bobl wrth y cannoedd o bob man yn dylifo i'r lle. Yn eu mysg yr oedd torfeydd o ddynion crefyddol, fel yr oedd yr achosion crefyddol yn cynnyddu ac yn myned rhagddynt gyda chyflymdra rhyfeddol: yr oedd y fechan yn myned yn fil a'r wael yn genedl gref,' megys ar unwaith. Yr oedd yr amgylchiadau hyn yn Rhagluniaeth Duw yn peru llwyddiant mawr yr achosion crefyddol, fel yr oedd galw mawr am gapeli a lleoedd newyddion i addoli Duw; a'r Dr., yntau, yn llawn bywyd a gwaith, yn cyfateb y lle a'r amgylchiadau yn rhagorol; ac felly, aeth y gwaith rhagddo yn fawr.
Yr oedd y Dr o dymher boeth, wyllt, danllyd, a bu hyny yn ddiau yn achos gofid iddo mewn rhai amgylchiadau; ond er yn boeth a gwyllt, deuai i'w le yn fuan: byddai yn ystorom sydyn ac enbyd weithiau, ond buan y byddai tawelwch mawr. Gwnai gamsyniadau pwysig ambell waith, fel Pedr: torai glust a gofynai dân, ond buan y gwelai y bai, a gofidiai am dano. Yr oedd o yspryd maddeugar: ni chadwai deimlad câs ac annymunol yn ei fynwes; ni roddai ‘le i ddiafol,' ac ni fachludai yr haul ar ei ddigofaint. Rhoddai driniaeth enbyd weithiau, wedi hyny byddai y cwbl drosodd; pan gyfarfyddai â'r cyfaill hwnw dranoeth, gellid meddwl na fu erioed ddim rhyngddynt. Yr oedd yn gyfryw ddyn ag nas gallai neb teilwng deimlo yn anngharedig tuag ato. Yr oedd yn rhagori yn mhell, yn ei ddiffygion, ar lawer iawn yn eu rhagoriaethau. Yr oedd yn hynod barod ac ewyllysgar i wneyd daioni, a daioni mewn llawer ffordd. Nid oedd eisieu ei gymhell i ddaioni—yr oedd yn awyddus iddo: gwnai yn rhwydd, llawen, heb rwgnach na dannod. Yr oedd y nodwedd hon yn un neillduol ac amlwg iawn ynddo. "Yr oedd yn un o barch a dylanwad mawr unwaith yn Nghymmanfa Morganwg, ac yn un o werth mawr a gwasanaeth neillduol yn ei chynnadleddau. Byddai ei ddylanwad weithiau yn dra pheryglus, ac yn agored i wneyd cam dirfawr ag ambell frawd neu achos, pan na fyddai efe wedi ei ddeall yn iawn, neu wedi ei gamarwain gyda golwg arno. Ond y rhan amlaf byddai ei ddylanwad er daioni, a phob amser felly, os byddai efe yn deall y mater yn briodol. Os teimlodd rhai ei ddylanwad weithiau yn anffafriol, teimlodd rhai ei ddylanwad yn fendithiol. Ni waaeth niwed o fwriad i neb; ond gwnaeth ddaioni i luoedd o galon iach. Bellach, y mae wedi ein gadael. Teimlwyd yn chwithig ar ei ol, a theimlir gan lawer etto. Huned mewn heddwch hyd yr adgyfod. iad mawr. Nawdd ac amddiffyniad Dwyfol fyddo ar ei anwyl ferch a'i chwaer alarus.
BY THE REV. DANIEL DAVIES.
I was very pleased when I heard that you were about to write a memoir of the late Dr. Price. My recollections of him go so far back as the time when he settled in the ministry at the old Penypound Chapel, Aberdare. My impressions of him are that he was a very remarkable man in every position he occupied. He was so as a preacher, eloquent and powerful; and as such his fort was the historical. He pictured the narratives of the Bible very vividly to his audience. Once he was preaching on Christ feeding the five thousand men with the five loaves and two fishes; in the midst of the sermon he said, 'I imagine I see the disciples with their baskets going among the multitude. Peter, when he saw the miraculous manner the bread was being multiplied, called out loudly, 'John, how are you getting on? my basket is as full as ever.' What a grand master we have.' Once, he was preaching on the limitation of Satan's knowledge. He said that some people say that Satan cannot see further than his nose, 'But,' said the Dr., 'that nose is rather long sometimes.' He was a most successful preacher, and may be designated the 'Spurgeon of Wales,' for the first 25 years of his ministry especially. This may be seen in the Aberdare Valley in the many memorials of his life. There are other evidences, viz., the noble band of men he rose to the Christian ministry, who are popular and useful at home and abroad. He was also a wise disciplinarian; he showed this in the manner he managed the churches. One time, when the English church (Carmel) was without a pastor, there was a difficult case to deal with in the church meeting there was one unruly member who would partake of the communion against the will of the church. The members felt they could not proceed with the case. I was asked by the deacons to go over to the society at Calvaria, to request Dr. Price to come over and help us. I went, and told him my message. He stood on his feet and said, 'Please go on with the meeting for a short time; I will be back soon. The devil is in the English church, and they want me to cast him out.' He came, and asked the unruly man, who was lame, if he did partake of the bread and wine against the will of the church He replied in the affirmative. Then,' the Dr. said, 'the devil must be in you.' He pointed to the door, and said, 'Please to go out.' He was reluctant to go. Now go,' said the Dr., 'or I'll use my foot to you.' Then the man went limping out. After he had closed the door, the Dr. rose to his feet and said to those at the meeting, 'There, now, the devil is gone: you will have peace,' and he went back to his own people at Calvaria."
GAN Y PARCH. W. WILLIAMS, RHOS, MOUNTIAN ASH.
"Yn yr Haf, 1845, y cwrddais â'r enwog Ddr. Price gyntaf erioed. Yr oedd yn pregethu a chasglu yn Llysfaen ar noswaith tuag at Athrofa Pontypwl, lle yr oedd yn fyfyriwr ar yr adeg hono. Brawd ieuanc gwyneb agored, gwresog ei galon, serchog a hawddgar ei gyfeillach, y cefais ef, ac felly y parhaodd i mi hyd derfyn ei oes. Cyfarfuom ar ol hyny mewn cyrddau a chymmanfaoedd lawer tro ar hyd y blynyddoedd wedi ei urddo ef yn weinidog yn Aberdar yn nechreu 1846.
"Nid hir y bu cyn dyfod yn boblogaidd gartref ac oddicartref fel pregethwr, cynnadleddwr, a gwleidyddwr. Rhedodd ei glod fel mellten drwy yr holl eglwysi a'r wlad. Edmygid ef yn fawr fel pregethwr eglur, hawdd i bawb ei ddeall, gwresog iawn ei yspryd, ac ymarferol nodedig ei syniadau. Yr oedd ar ei ben ei hun, a byddai dysgwyliad am dano yn nghyrddau mawrion y sir, ac yr oedd yn ffyddlon iawn i gyrchu iddynt. Yr oedd yn gynnadleddwr medrus a deheuig, yn meddu gwybodaeth a deall clir o'r materion a drinid. Yr oedd fel gwr gartref yn y gynnadledd am beri ac i gwmpasu gwaith. Rhaid cydnabod ei fod yn feistrolgar yma fel rheol, ond byddai gwres ei yspryd weithiau yn ei gario yn rhy bell, res bod yn ormod o feistr a tharo lle yr oedd eisieu olew. Pwy nad yw yn agored i roddi ergydion camsyniol? Cynlluniwr hynod o fedrus ydoedd mewn llawer o amgylchiadau, fel y mae olion ei law yn aros i brofi hyny.
"Yr oedd yn wleidyddwr o ran medr a gwroldeb penderfynol, Y swn cyntaf a glywais am dano braidd wedi iddo gael ei urddo yn Aberdar, ydoedd ei ornest â'r offeiriad yn y lle o herwydd celwyddau y Llyfrau Gleision, yn iselu cymmeriad gweithwyr a menywod yr ardal. Gwnaeth yr ymgiprys hwnw, trwy wroldeb hyfaidd a medrusrwydd Dr. Price, les dirfawr i ddofi tafodau ensyniadol yr Eglwyswyr hunandybus, a deffroi y wlad i droi anwireddau melldigedig Toriaid beilchion yn ol mewn hunan-amddiffyniad croew, clir, a gonest. Amser hynod ydoedd hwnw am dduo yr Ymneillduwyr Cymreig yn ngolwg yr yspïwyr Seisnig rhagfarnllyd gan haid o offeiriaid diffydd, rhagrithiol, a'u cwsmeriaid cynffonol. Er hyny, cododd Rhagluniaeth Ddwyfol ddynion enwog hynod i gyfarfod â'r adeg hynod hono, yn mhersonau Dr. Price a Ieuan Gwynedd, a gwyr dewrion a gonest ereill, fel amddiffynwyr yr Ymneillduwyr a'r werin Gymreig, yn ngwyneb ffrydiau o gyhuddiadau maleisus a bradychus can dywylled â'r dyfroedd a lifant allan o weithfaoedd y Stroud. Yr oedd Dr. Price yn ddarn o fur cadarn fel amddiffynwr ei wlad yn ei chymmeriad ac yn ei hiawnderau. Saif ei enw yn uchel am oesau ar groniclau Cymru fel un o'i hamddiffynwyr dewraf yn ei ddydd. "Yr oedd y Dr. hefyd yn wr o wybodaeth gyffredinol helaeth iawn, a deallai gryn swm o gyfraith y wlad. Bu fel cyfarwyddwr a chynghor. wr i luaws mawr ar lawer amgylchiad go ddyrus.
"Yr oedd yn neillduol o fedrus i fywiogi, trefnu, a hyfforddi'r Ysgol Sabbothol, a'i pherffeithio mewn gwybodaeth a threfn. Ei ddyfais ef ydoedd cael holl Ysgolion Sabbothol Bedyddwyr Dyffryn Aberdar—o Hirwaun i lawr i Mountain Ash—i gyfarfod ar ddydd Nadolig yn un o'r capeli ar yn ail mewn eisteddfod. Byddai gwaith i gyfansoddwyr, cantorion, ac adroddwyr. Bu yr un gyntaf yn Hirwaun, Nadolig, 1856. Parhaodd y sefydliad hwn am flynyddoedd ac er lles. Yr oedd hefyd yn hynod am ei yni a'i weithgarwch i sefydlu ysgolion ac eglwysi yn ardal Aberdar, ac hefyd i fagu a chodi pregethwyr, y rhai a ddaethant gan mwyaf yn weinidogion defnyddiol enwog.
Yr oedd Dr. Price yn athronydd go dda: gwelai drwy fater dyrus yn lled glir ar unwaith, a medrai ei ddadansoddi mewn byr eiriau i eglurdeb digamsynied y rhan fynychaf.
"Yr oedd hefyd yn wr mawr am garedigrwydd ac yspryd tadol. Yr oedd yn gymmwynaswr parodlaw iawn gyda'r pleser mwyaf. Bu yn gweini yn ffyddlon iawn i'w gangen—eglwys wan yn Mountain Ash, am tua deg mlynedd wedi ei sefydlu yn Aberdar. Cyrchai yn fisol i dori bara, ac i'w chyfarfodydd, a bu o ddefnydd a llwyddiant yno i luosogi a chadarnhau yr eglwys yn y ffydd. Yn Ionawr, 1855, ysgrifenodd alwad caredig eithaf, dros y gangen hono, i mi ddyfod yn weinidog iddi. Rhoddai y cymhelliad taeraf a'r annogaeth gryfaf a mwyaf brawdol i mi ddyfod. Ar ei gais taer ef a'r eglwys yma y derbyniais yr alwad, ac ni chefais achos i edifarhau. Cefais ef yn gymmydog anwyl, ffyddlon, a diddichell, ac ymddygodd ataf yn frawdol a thadol iawn hyd ddiwedd ei oes. Credaf iddo fyned i dangnefedd; hiraethaf ar ei ol."
BY THE REV. J. GEORGE, UNITARIAN MINISTER, ABERDARE.
"By a terrible calamity, a heavy cloud was thrown over the County of Glamorgan, in November, 1867. Scores of human lives were lost and hundreds of women and children were deprived of their breadwinners by the disastrous explosion at Ferndale Colliery. The heart of the community was moved with horror and stirred with pity. Public meetings were held and a relief fund was established. To distribute this fund according to certain regulations, a committee was appointed, of which the Rev. Dr. Thomas Price, pastor of Calvaria Baptist Church, was appointed Chairman, and the writer, succeeding the Rev. D. M. Jenkins, Secretary. The duties were for years arduous. In this connexion Dr. Price and the writer were brought into close and friendly contact. With pleasure does the latter bear witness to the generosity, sympathy, and tenderheartedness, manifested by the former in alleviating the sorrows and distress of the unfortunate sufferers. Notwithstanding his manifold engagements, Dr. Price was punctually at his post of duty, unless unavoidably from home. The claims of applicants necessitated great caution and patient inquiry to avoid imposition, but neither he nor his associates ever wearied in listening to the sorrowful appeals of the widow and orphan. His sympathies were deep and broad. He seemed to yearn for opportunities for comforting the distressed. Words of consolation, of hope, and of encouragement he had for all, and often succeeded in calming the troubled spirit. While cautious in action, he preferred to err, if error there was, on the side of leniency. Often has it been the privilege of the writer to hear the outpourings of grateful hearts for the genial, tender compassion exhibited in voice and manner in cases of special affliction. Yet, he did not hesitate to rebuke sternly the few who attempted to impose upon or to deceive himself and his associates. Happily, such incidents were few. (He held strongly the opinion that the fund had been collected for a special purpose and for particular persons, and ought to be used for that purpose and those persons, and no other. Greatly was he grieved when the fund was partly diverted into other channels). The writer may add that he has evidence of Dr. Price's liberality of soul towards his neighbours and others with whom he came in contact. This however is outside the purpose with which he began this notice."
GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. RUFUS WILLIAMS, YSTRAD.
Y Parch. Thomas Price, A.M., Ph.D., Calfaria, Aberdar.—Dyma frawd sydd yn adnabyddus drwy yr oll o'r Dywysogaeth, ac ni chyfeiliornem pe y dywedem ei fod yn fwy adnabyddus mewn gwledydd ereill nâ neb yn Nghymru. Mae yr enw, Price Aberdare,' yn household word. Y mae wedi enwogi ei hun mewn llawer dull a modd—gyda chymdeithasau dyngarol a chrefyddol, yn yr areithfa ac ar yr esgynlawr, yn y gadair lywyddol a'r un olygyddol. Mae wedi enwogi ei hun fel amddiffynydd moesau, cymmeriadau, o iawnderau y gweithwyr a'r tlodion, pan y byddai ymosodiadau annheg a maleisus yn cael eu gwneyd arnynt. Y mae o feddwl cyflym a pharod tu hwnt i'r cyffredin, o barabl rhwydd a derbyniol hynod, ac o galon ddewr a gwresog. Mae wedi derbyn ar. wyddion amryw weithiau o barch a chydnabyddiaeth mewn ffordd o roddion ac anrhegion am ei lafur mawr a diflin, gan ei eglwys ei hun ac eglwysi ereill yn y dref y mae yn byw ynddi. Y mae yn gwneyd cymmaint o waith, a chymmeryd pob peth gyda'u gilydd ag un deg yn y Dywysogaeth. Diolch i Dduw am gymmaint o nerth a iechyd iddo.
* * Graddiwyd ef yn ddiweddar yn A.M., Ph.D., gan un o brif Athro— feydd Germani, sef yr University yn Leipsic, Saxony." (Gweler Hanes Athrofeydd y Bedyddwyr, &c., yn y flwyddyn 1863, tudalen 70—71.)
GAN Y DIWEDDAR BARCH. J. MORGAN, CWMBACH.
Marwolaeth Dr. Price, Aberdar.—Hwn oedd ddyn a gerid gan bawb yn y lle. Dyn a wnaeth lawer o ddaioni yn Aberdar oedd y Parch. Ddr. Price, gweinidog enwog gyda'r Bedyddwyr yn Nghalfaria, ac yn adnabyddus drwy holl Gymru, Lloegr, a llawer o'r America. Er y gwroldeb oedd ynddo, a'r egni di-ildio i gario ei amcanion i ben, darfu iddo yntau ildio i angeu hwyr ddydd Mercher, Chwefror 29ain diweddaf, yn ei dy ei hun, Rose Cottage, yn y dref hon. Nid oes neb yn gallu cofio nifer y brwydrau ymladdodd o blaid Ymneillduaeth yn y lle hwn flynyddoedd yn ol. Nid enwad, ond cyfiawnder, cydraddoldeb, a chwareu teg i bawb, oedd ei brif nod drwy ei oes. Gosodir yntau dydd Mawrth nesaf, y 6ed cyfisol, yn ei fedd—y ty rhagderfynedig i bob dyn byw. Heddwch i lwch ein hanwyl frawd."
Bu Mr. Morgan yn gymmydog agos i'r Dr. am flynyddau meithion, ac felly, yr ydym yn gosod pwys ar ei farn uchel ef am dano. Ymddangosodd yr uchod yn mhlith pethau ereill yn ngohebiaeth Mr. Morgan yn y Tyst a'r Dydd am Mawrth y 8fed, 1888.
Yn y Tyst am yr wythnos ganlynol ysgrifenodd y Parch. Ddr. J. Thomas, L'erpwl, yn ei nodion, "Ymylon y Ffordd," am y Dr. fel y canlyn :—
"Yr oedd yn chwith genyf weled yn y Tyst am yr wythnos hon, gan fy hen gyfaill dyddan Gohebydd Aberdar, y grybwylliad am
FARWOLAETH DR. PRICE, ABERDAR.
Gwyddwn ei fod wedi gwaelu yn fawr y blynyddau diweddaf; ond pan welais ei fod wedi marw, daeth tòn o hiraeth drosof. Deugain mlynedd yn ol, bu ef a minau ar daith am fis trwy Forganwg a rhan o Fynwy yn cynnal cyfarfodydd ar addysg, ac yn casglu at sefydlu Coleg Normalaidd yn Nghymru. Ysgrifenais hanes y daith i'r Diwygiwr ar y pryd, a gallwn yn hawdd yn awr ysgrifenu fy adgofion o honi. Yr oedd Dr. Price ar y pryd yn ddyn ieuanc iach a chryf, o dymher fywiog a llawen, ac yn un o'r cymdeithion mwyaf hapus. cywir, a diwenwyn y daethum erioed i gyffyrddiad ag ef. Llettyem yn nghyd mewn teuluoedd o wahanol enwadau, ac ni bu digter na dadl rhyngom yr holl amser. Yr oedd yn lled rydd a mentrus yn yr hyn a ddywedai; ond cefais ef yn nodedig o gywir a dihoced. Ar ol hyny y cyssylltodd ei hun ag achosion gwleidyddol a chyhoeddus, ac y daeth i ddylanwad yn ei enwad; ond yr oedd yn eglur y pryd hwnw fod ynddo gymhwysder at bethau o'r fath, er fod yn bossibl nad oedd y cyssylltiadau hyny ddim y mwyaf ffafriol iddo fel gweinidog yr Efengyl. Ychydig iawn, os oes neb, yn wir, a all gymmeryd rhan amlwg mewn cwestiynau cyhoeddus heb i hyny effeithio er gwanychdod iddynt fel gweinidogion a phregethwyr; ac etto, llwyddodd Dr. Price, tra y daliodd ei nerth a'i iechyd, i gadw yn nghyd gynnulleidfa fawr. Nid yn aml y ceid gweinidog yn fwy yn serch pobl ei ofal, ac nid ä yn annghof gan y genedlaeth bresenol y gwasanaeth cyhoeddus a wnaeth i Aberdar ar y gwahanol fyrddau.
GAN Y PARCH. W. MORRIS, TREORCI
"Nid ydym yn gwneyd un ymddiheurad am ddwyn i fewn i'n cyhoeddiad cenadol fywyd a llafur y diweddar Barch. Thomas Price, M.A., Ph.D., Aberdar. Haedda le yma fel un o'n cenadon mwyaf gweithgar yn nhre', ac fel un o gyfeillion ffyddlonaf y Genadaeth Dramor. Mewn modd neillduol, cenadwr Cristionogol ydoedd. Cymhellid ef gan yspryd cenadol brwdfrydig, a llwyddai i daflu ysprydiaeth genadol i'w eglwys ac i bawb ddelent i gyffyrddiad ag ef. Am ei fod yn genadwr mor selog a gweithgar yn nhre' yr oedd mor selog a gweithgar dros y Genadaeth Dramor: ac am fod ei galon ef yn llosgi o ymawydd am weled yr Efengyl yn lledu a llwyddo mewn gwledydd tramor yr oedd mor ymdrechgar i helaethu terfynau ei achos yn ei gylch cartrefol. Safai Dr. Price ar y gwrthbwynt pellaf oddiwrth yr yspryd a'r ymarferiad ceidwadol mewn cyssylltiad â'r achos crefyddol. Mewn un ystyr, yr oedd yn Geidwadwr di-ildio: mynai gadw holl egwyddorion a gwirioneddau y Grefydd Gristionogol. Nid oedd efe yn mhlith y rhai a ymffurfient mewn rhyddfrydigrwydd beiddgar fel ag i chwareu â sylfeini yr Efengyl. Nid dyn ar y ddisgynradd beryglus mewn pethau crefyddol oedd. O na: un o gredwyr mwyaf diffuant ein gwlad oedd; teyrngarwr yn nheyrnas nefoedd ydoedd; ymorweddai ar ei hyd ar Graig yr Oesoedd; iaith ei enaid ac argyhoeddiad dyfnaf ei fodolaeth oedd, Mi a wn i bwy y credais.' Er hyny, nid oedd am gadw yr Efengyl y tu fewn i furiau culion capel; nid oedd am gyfyngu ei bendithion i Jerusalem. Teimlodd nerth anwrthwynebol yr 'Ewch' awdurdodol, ac hyd y gallodd. aeth â'r Efengyl i lawer lle nad enwid Crist
"Ennillodd safle enwog yn Nghymru fel planwr eglwysi. Nid ydym yn gwybod am un yn Nghymru a wnaeth gymmaint ag ef yn y modd hwn. Gwyddom am amryw a weithiasant yn ardderchog yn y cyfeiriad hwn, ond saif ef yn dywysog yn eu plith. 'Llawer un a weithiodd yn rymus, ond efe a ragorodd arnynt oll.' Bendith fawr i Aberdar oedd cael Dr Price yno yn ngwawr ei ddydd. Y person amlycaf yno am ddeugain mlynedd oedd. Bu yno ser, ond dyma'r haul; bu yno gor. nentydd, ond dyma'r afon; bu yno weithwyr, ond hwn oedd 'y gweithiwr' Efe fu y gallu symmudol yn mhob mudiad yn Aberdar. Yn mhob bwrdd a sefydlwyd yno. bu ef yn aelod ac yn amlwg ynddynt. Nis gallai efe fod yn guddiedig mwy nâ'i Feistr
Yn nghylch mawr ei enwad hoff yn Nghymru, llanwodd ef y lle amlycaf yn mhob cangenwaith. Yn ei gymmanfa, undeb, colegau, cym- deithasau. a llengoedd symmudiadau yr enwad yn Nghymru, gellir bod yn sicr iddo ef am 30 mlynedd gario pen trymaf y gwaith. Gweithiwr oedd, a gweithiwr annghymharol-gweithiwr yn mhob cyfeiriad possibl. Fel trefnwr, dinesydd, gwleidyddwr, llenor, cymdeithaswr, cynnadleddwr, darlithiwr, gweinidog. pregethwr, ac ochrau ereill ei gymmeriad, nid ydym yn gwybod am un dyn yn hanes y Genedl Gymreig yn yr hwn y cydgyfarfyddai cynnifer o ragoriaethau a Dr. Price.
Bu am flynyddoedd lawer yn unig gynnrychiolydd Cymreig ar bwyllgorau ein Cymdeithas Geñadol, y Gymdeithas Genadol Gartrefol a Gwyddelig, y Gymdeithas Gyfieithadol, Bwrdd Addysg y Bedyddwyr, Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, &c.; ac yn ddiddadl, nis gallesid cael un mwy cymhwys i'n cynnrychioli nag ef. Yr oedd ei barodrwydd llafar, ei graffder darganfyddol, ei ddoethineb naturiol, ei ymarferolrwydd meddyliol, yn ei gymhwyso mewn modd uchraddol i fod yn gynnorthwy mawr i'r genadaeth a'r pwyllgorau hyn. Safai yn uchel iawn yn marn pawb o'i gydweithwyr yn y cyfryw gylchoedd. Enghraifft o hyny oedd y rhan a gymmerodd yn nghyfarfodydd cy. hoeddus Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon. Mae areithiau Dr Price yn amryw o'r cyfarfodydd hyn yn Llundain, Liverpool, Bristol, &c., yn sefyll yn mhlith y pethau ardderchocaf ynddynt yn nghof pawb gawsant y fraint o fod yn bresenol.
Ac nid oedd ei areithiau tanbaid ond cynnrychioliad amlwg o'i yspryd a'i waith yn nhre'. Dengys adroddiadau deng mlynedd ar hugain cyntaf hanes Dr. Price a'r eglwys yn Nghalfaria, Aberdar, na wnaeth un eglwys yn well, os cystal, yn y Dywysogaeth at y Genadaeth Dramor. Saif yn arwireb mai yr eglwysi sydd yn gwneyd oreu at y genadaeth ydynt yr eglwysi mwyaf byw a gweithgar eu hunain. Eglwys fyw fu Calfaria. Aberdar, tra yno y bu Dr. Price. Teimlai cylch eang y dyffryn ei nerth Taenwyd ei hyspryd hi yn mhell ac yn agos. fel y mae un o'r groups gogoneddusaf o eglwysi yn y dyffryn hwn. O honi hi, dan arweiniad y gweinidog enwog, y tarddodd eglwysi ar bob llaw yn Aberaman, Capcoch, Carmel, Abernant, Ynyslwyd, a'r Gadlys. Rhydd y rhifnodau canlynol syniad am lwyddiant y Dr : Yn ystod y cyfnod o 1845 hyd Nadolig, 1885, derbyniodd trwy fedydd, llythyron, ac adferiad, 3,847, a chafodd y fraint o fedyddio yn yr un tymhor, 1,596.
Ganwyd ef yn Llanamlwch. Brycheiniog, Ebrill 19, 1820, a bu farw yn ei Rose Cottage, yn Aberdar, dydd Mercher, Chwefror 29, 1888. Rhwng y rhifnodau hyn y gorwedda rhagymadrodd bywyd Dr. Price. Mae yn rhagymadrodd ysplenydd mewn llawer ystyr i'w dragwyddoldeb mawr. Ei destyn cyntaf erioed oedd 'Wele Oen Duw, yr hwn sydd yn tynu ymaith bechodau y byd.' Hwn oedd ei sylfaen pan yn marw. Ni fu yn ddibechod; ond credodd mewn Ceidwad allodd dynu ymaith ei holl bechodau. Ni fu heb bechod, ond breichiodd Waredwr a allai wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. Wrth roddi yr ysgrif—bin o'n llaw y waith hon, ein gobaith ydyw y cyfyd yr Arglwydd weithwyr tebyg iddo etto yn Nghymru. Angen y dydd yw gweithwyr; am hyny, atolyged yr eglwysi am i Arglwydd y cynauaf anfon gweithwyr i'w gynauaf. Pan y mae amddiffynwyr glewion hawliau y Genadaeth yn syrthio, coded yr Arglwydd ereill i lanw eu lle, a phan y mae cyfranwyr haelionus yn myned, a gweithwyr ffyddiog yn dystewi, na chaed y Genadaeth Dramor na Chartrefol fod heb eu gwroniaid."—Or Herald Cenadol am Ebrill 1af, 1888.
GAN FYNEGIAD COLEG PONTYPWL.
During the year some of the old Students have fallen on sleep One of the foremost men in the Principality for the last 40 years, one who possessed unbounded energy, burning zeal, undaunted courage, and who at the same time was characterised by a most kind and generous disposition, tender nature, and affectionate heart—such a man was Dr. Price, of Aberdare, whose recent departure we still acutely feel and mourn. He was a giant amongst the mighty men that this College was hoooured in training ; and his altna inater had no truer friend, no more loyal and generous supporter, or more regular and welcome attendant at its gatherings than he. For a long time to come, his business tact and knowledge, his wise counsels, his social qualities, his kind encouraging words, and his ready practical sym- pathy and help will be missed in this place. At the same time, we cannot forget his invaluable services to the denomination, the noble self-sacrifice he always displayed, and the uncompromising attitude he ever assumed in the face of injustice, oppression, and wrong. May the Lord comfort his family and care for his church.
(Gweler Mynegiad 1888, tudalen 12).
GAN Y PROFFESSWR EDWARDS, PONTYPWL.
" Aberdare. — The funeral of the late Rev. T. Price, M.A., Ph.D., of Calvaria Chapel, took place on Thursday, the 8th inst. A large number of ministers took part in the successive services which were held. Professor Edwards, of Pontypool College, delivered the funeral address. He said, amongst other things, ' We have lost an extraordinary man— a very chief leading the army of the Lord of hosts. He was a born leader of men, one who took the fìrst rank in virtue of his inherent worth and undoubted capacity. He did not push his way to the high position he occupied, but his all-consuming energy and brilliant talent secured it for him without an eöort or a show. It i sdifficult to describe him in a few words. He was. a many-sided and an all-round man, possessing so many qualifications for serving the secular community and the religious world that we are afraid that in Wales for some time we shall not soon see his like again. These stars of the first magnitude are not ofteu seen in our lower sky. Look we at him in his work as a citÌ2en, in his services as a philanthropist, in his labours as an educationalist, in his achievements as a minister of the Gospel, there is much on every hand at which we must marvel. His was the philosopher's stone which turned everything to gold. Everything seemed to burst into new life and flourish under his magic touch. We cannot begin to enumerate the services he rendered to the denomination. In raany respedts he was our archbishop, yea, in some respeéts a very apostle. Nothing less than a calamitous earthquake would obliterate the outward signs of his energy and power in the Aberdare Yalley, and on account of the work he has done, his name is a household word throughout the Principality. The English Baptist Union felt his power, and in wide America he was well-known. He was about the worthiest representa- tive of Wales and Welshmen we ever had.""—O'r Freeman am Mawrth 16, 1888.
GAN DR. TODD.
"No one who knew our departed friend could fail to discover in him pecularities that pointed in the direction of peril, and he was not unconscious of their existence and force. Against their sway there is every reason to believe he set up the energy of a divinely renewed will, and 'warred a good warfare. Had he not done so, they must have 'swept him away as with a flood.' Intermingled with them, however, and contravening them were noble attributes, for lack of which many a lauded character is poor; and amongst them were prominent his unselfish interest in the welfare of others, his generous readiness to render help when needed and not deserved, his detestation of all that he deemed unjust or unfair, and his unaffected joy in the success of righteousness and truth. A man of larger and warmer sympathies I have never known. To me it will ever be a grateful reflection to look back upon the distant days we spent together-to think of the bright promise then given and since grandly redeemed-to trace his public life, which was simply the outcome of our early anticipations-to think of his untiring toil for the benefit of man and the glory of God-to realize the position which he won and the power that he wielded in England and Wales and on the Western shores of the Atlantic, and in my poor way to sing,
Servant of God, well done;
Rest from thy loved employ:
The battle's fought, the victory won,
Share now thy Master's joy.
GAN Y PARCH. R. E. WILLIAMS (TWRFAB), YNYSLWYD.
"Wrth gyflwyno i chwi draethiad o'm hadgofion am y diweddar enwog Ddr. Price, o edmygol a pharchus goffadwriaeth, dygir fi yn ol i ddyddiau boreu oes, pan yr arferwn fynychu hen addoldy cyssegredig Great Cross, L'erpwl. Y cof cyntaf sydd genyf am y Dr. ydyw yn un o Gymmanfaoedd y Pasg, yn pregethu yn nghapel Great Cross ar y 'Widw Fach o Sarepta,' fel y cyfenwai efe hi yn fynych yn nghwrs y bregeth. Yr wyf fel pe byddwn y fynud hon yn ei ei weled yn mhwlpud yr hen gapel, ac yn adgofio llithrigrwydd ei barabl, naturioldeb ei eglurebau, nwyfusrwydd ei ddesgrifiadaeth, gogleisrwydd ei ffraethineb, a'i ddylanwad gwefreiddiol ar y gynnulleidfa. Cofiwn iddo ddywedyd yn nghwrs ei bregeth fod ganddo olwg fawr ar wragedd gweddwon, iddo briodi gwidw, ac os byth y priodai drachefn, mai gwidw a fynai eilwaith; a pharodd y sylw i'r bobl wenu yn siriol.
"Dro arall gwasanaethai y Dr. yn nghyfarfod blynyddol Capel Hall Lane, ar y Sabbath, ac ar brydnawn y dydd canlynol cynnaliwyd gwyl dê yn festri Capel Birrell, Pembroke Place, yr hon a fenthyciasid i'r frawdoliaeth yn Hall Lane ar yr achlysur a nodir. Yn gymmaint a bod y plant yn lled aflonydd, ceisiodd y gweinidog ieuanc, y Parch. David Howells, i mi fyned gyda hwynt i un o anti-rooms y festri i'w cadw yn dawel. Gwnaethum fel y ceisiodd, ac ymaith a ni i un o'r ystafelloedd; ac wedi cau y drws, dechreuais eu holi parthed pwy a sylfaenodd yr Ysgol Sabbothol yn Lloegr ac yn Nghymru. Pan yn yr act o hyspysu y plant mai Charles o'r Bala a'i sylfaenodd yn Nghymru, cafodd drws yr ystafell ei agoryd yn sydyn gan y Dr., a chan edrych yn gynhyrfus gwaeddodd yn hyglyw, 'Taw a dy gelwydd, y d—-l bach!' ac yn mlaen ag ef, gan hyspysu y plant fy mod yn cyfeiliorni yn enbyd, ac mai Bedyddiwr o'r enw Morgan John Rhys, o Hengoed, oedd sylfaenydd yr Ysgol Sabbothol yn Nghymru, ac nid Charles o'r Bala. Hawddach ydyw i ddarllenwyr yr adgofion hyn ddychymygu fy nheimladau nag i mi allu eu desgrifio. Caraswn allu ffoi o wydd fy ngheryddwr llym. Un noswaith, dygwyddodd y Dr. fod yn bresenol yn festri Capel Great Cross ar adeg cyfarfod, a chofiaf yn dda i amgylchiad neillduol gymmeryd lle, yr hwn a achosodd i mi ac ereill lygadrythu yn siomedig. Wedi gorphen y gwasanaeth, aeth y Dr. yn mlaen at foneddiges a adwaenai yn dda, ac yn ngwydd pawb rhoddodd iddi gusan serchus a chalonog oedd yn swnio dros y lle.
"Yn y flwyddyn 1866, cynnaliwyd cyfarfodydd blynyddol Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon yn Llynlleifiad, yn nghapel yr anfarwol Hugh Stowell Brown. Er fod y capel yn un eang, yr oedd yn rhy fychan ar yr achlysur y soniwn am dano i gynnwys y bobl a ddaethant yn nghyd, ac felly, cynnaliwyd overflow meeting yn y Philharmonic Hall, yr ochr arall i'r heol, i'r hwn yr aeth C. H. Spurgeon, ac ereill, i anerch y gynnulleidfa; ond yr oedd yn ddealledig fod Mr. Spurgeon i anerch y bobl yn Nghapel Brown cyn fod y cyfarfod yn dybenu. Credwn nas annghofiwn byth hyawdledd annghyffredin a thanbaid y Dr. ar yr achlysur hwn. Ei bwnc oedd cynnydd enwad y Bedyddwyr o ddechreu y ganrif hyd at y flwyddyn hono. Ein hargraff ar y pryd ydoedd fod dawn ac hyawdledd Dr. Price wedi hyd y nod llwyr lyncu yr adgof fod y bydenwog Spurgeon i anerch y cyfarfod. Ni chlywsom neb erioed yn llawio ystadegaeth gyda'r fath ddeheurwydd ac eneiniad. Anadlai fywyd i esgyrn sychion ystadegaeth, ac ymddangosai yn ddedwyddolach gydag amsereg a rhifnodau nag a wna llaweroedd gydag adnodau y Beibl. Pan yr oedd yn tynu tua therfyn ei araeth, ymddangosodd Spurgeon ar un o rodleoedd y capel ; canfydd- odd y Dr. ef, a gwaeddodd mewn llais clir a chlochaidd, 'The great sun has made his appearance; the star must go into the shade.' Gwaeddodd Spurgeon yn ol, fel yr oedd yn gweithio ei ffordd tua'r pwlpud, ' Go on, go on, brother Price.' 'I am with brother Oncken at Hamburg; I shall not be long before I fìnish,' meddai y Dr. mewn atebiad. 'Go on, go on, brother,' atebai Spurgeon eilwaith, a chan belled ag yr oeddem yn gallu deall, nid oedd 'Go on' Mr. Spurgeon ond adlais o deimlad cyffredinol y dorf fawr.
Tro hynod arall adgofir genym ydyw un a gymmerodd le yn un o gynnadleddau cyfarfodydd blynyddol Undeb Prydain Fawr a'r Iwerddon, a gynnahwyd yn Nghapel Dr. Maclaren yn Manchester, yn 1872. Siaradodd amryw o brif bregethwyr yr enwad yn y gynnadledd hon, megys Nathaniel Haycroft a Chown; ond pan oeddynt yn llefaru, yr oedd cryn lawer o sisial yn myned yn mlaen. Pan gododd y Dr. ar ei draed, llonyddodd y cwbl, a gallesid, ys y dywedir, glywed pin bach yn disgyn, ac yr oedd pawb megys wedi cael eu hoeho wrth ei wefusau. Y pwnc dan sylw ar y pryd oedd hawliau y Baptist Union Education Fund ar gyfraniadau helaethach oddiwrth yr eglwysi yn gyfifredinol, ac yr oedd rhai o'r siaradwyr wedi achwyn ar gan lleied a gyfrenid at y drysorfa o Gymru, ac wedi awgrymu na ddylasai Cymru gael cymmaint o gynnorthwy, os dim, yn ngwyneb ei chyfraniadau bychain. Twymodd gwaed Cymreig y Dr. gymmaint wrth glywed y pethau a ddywedwyd am Gymru, nes iddo draddodi un o'r areithiau mwyaf angerddol a boddus i galon Cymro ag oedd yn bossibl i gael ei gwrando, ac un a effeithiodd i ennill cydymdeimlad sylweddol i 'Little Wales.' Gwnaeth y Dr. lawer yn ei oes yn y cyfeiriad hwn, a llwyddodd i gael cynnorthwy i laweroedd o'r drysorfa uchod i'w cynnorthwyo i roi addysg i'w plant.
"I Dduw y byddo'r clod am godi y Dr. ddinodedd cymharol i'r fath enwogrwydd, ac am ei wneuthur o gymmaint gwasanaeth i Aberdar, i'w enwad, ei gi.ned!, a'i wlad."
GAN MR. D. R. LEWIS, ABERDAR.
Llawer ac amrywiol yw yr adgofìon sydd genyf am fy niweddar hoffus frawd a chyfaill, Dr. Price. Gan y deallaf fod amryw foneddigion yn ysgrifenu nodiadau arno o wahanol gyfeiriadau, cyfyngaf fy hun yn fwyaf neillduol i ychydig sylwadau arno fel cymdeithaswr neu aelod o'r gwahanol gymdeithasau cyfeillgar. Cefais gyfleusderau lawer i'w adnabod yn dda yn y cyfeiriad hwn, a theimlaf yn ddedwydd i ddwyn tystiolaeth ei fod yn un o'r aelodau mwyaf galluog a pharchus a fuont yn dal perthynas â'r cymdeithasau cyfeillgar yn ein gwlad erioed. Nis gwn am neb a wnaeth fwy iddynt a throstynt. Yr oedd bob amser yn arwain, yn neillduol gyda materion pwysig, y gwahanol urddau y perthynai iddynt, ac yn cymmeryd y rhan drymaf o'r gwaith fyddai â'i amcan at ddiwygio a llesoli ein hurddau anrhydeddus. Yr oedd ganddo lygad craff i weled peryglon yn ymddangos megys o bell, a meddai gymhwysder neillduol a medr dihafal i fyned drwy a gorchfygu anhawsderau. Rhedai pawb ato am gyfarwyddiadau, ac yn gyffredin byddai pob achos yn ddyogel yn ei law. Ystyrid ef yn rhagori fel cyfreithiwr yn nglyn ag achosion y cymdeithasau cyfeillgar. Ymgynghorai cyfreithwyr ymarferol ag ef yn nghylch y rheolau, ac ar rai pwyntiau dyrus a phwysig, a byddai yn alluog braidd yn ddieithriad i gyfeirio allan y llwybr priodol i'w ddylyn.
Gallem yn hawdd nodi amryw enghreifftiau o'i weithrediadau yn y cyfeiriadau a nodwn. Cofus genym am gyfrinfa unwaith ag iddi wraig y gwestty (gweddw) yn drysoryddes, ac yn ei llaw £42 o arian y gyfrinfa. Aeth y drysoryddes i anhawsderau, a 'thorodd,' fel y dywedir. Yn ffodus i'r gyfrinfa, yr oedd dau foneddwr yn rhwymedig fel meichnïon iddi am £20; ond sut i sicrhau y £42 oedd y cwestiwn. Aeth dau frawd o'r gyfrinfa at Mr. Davies, Maesyffynnon, i ofyn ei gyfarwyddyd. Atebodd yntau na allai eu helpu yn yr achos, ac na wyddai am neb allai eu cyfarwyddo yn ddyogel yn y mater ond Dr. Price, Aberdar. Aethant at y Dr., ac wedi adrodd yr helynt wrtho, ysgrifenodd nodyn i'w gymmeryd i gyfreithiwr enwog yn Merthyr, Mr. Frank James. Gweithredodd hwnw yn ol cyfarwyddyd Price, a llwyddwyd i gael yr holl arian i'r gyfrinfa.
Yr oedd cyfrinfa arall mewn amgylchiadau cyffelyb—y gwesttywr wedi myned yn fethdalwr, ac yn cael ei werthu allan. Ymgynghorwyd â Price yn nghylch arian y gyfrinfa oedd yn meddiant y gwesttywr fel ei thrysorydd. Rhoddodd y Dr. ei farn a'i gyfarwyddyd, ond gwrthodai y trysorydd dalu am, meddai efe, nad oedd y gyfrinfa wedi ei chofrestru. Aeth Price ar unwaith i'w fyfyrgell, cafodd hyd i reol y dosparth, a dangosodd ynddi mewn llythyrenau breision enw ac ardystiad J. Tidd Pratt. Dangoswch yr enw hwn i'r trysorydd,' meddai Price, 'ac os na thâl, rhaid iddo ddyoddef y canlyniadau. Gwnawd fel y cyfarwyddai y Dr., a thalwyd yr arian yn ddioedi.
"Yr oedd dau foneddwr yn Aberdar wedi myned yn feichnion i drysorydd cyfrinfa, yr hwn a ddygwyddodd yn yr un modd fyned yn fethdalwr. Yn eu gofid am eu perygl o golli yn agos i £20, aethant at Dr. Price fel yr unig berson tebyg i'w cynnorthwyo yn yr amgylchiad. Gosodasant eu hachos yn eglur o'i flaen, ac hyspysasant ef fod dodrefn y gwesttywr yn cael eu gwerthu y diwrnod hwnw. Anfonodd Price hwynt at yr arwerthydd i ofyn am arian y gyfrinfa cyn dechreu gwerthu. Rhegodd yr arwerthydd, a gofynodd yn wawdus, 'Pwy yw Dr. Price, mi garwn wybod?' er ei fod yn ei adwaen yn dda) Gwrthododd dalu. Awd eilwaith at y Dr., ac adroddwyd yr hanes iddo. Ysgrifenodd Price nodyn at yr arwerthydd, yn ei hyspysu y buasai efe ac heddgeidwad yn cydio ynddo ac yn ei osod yn y carchar can gynted ag y dechreuai werthu, os gwnelai hyny cyn talu yr arian dyledus i'r gyfrinfa. Dychrynwyd yr arwerthydd, a thalodd yr arian yn y man.
"Mewn achos arall yr oedd cyfrinfa yn gwrthod talu gofynion y chwarter arni yn y dosparth. Gwrthodai ar y ddadl nad oedd wedi ei chofrestru. Aeth yn gyfraith rhwng y dosparth a'r gyfrinfa. Ymddiriedwyd achos yr adran i ofal Dr. Price. Fodd bynag, aeth y ddedfryd yn yr helynt yn erbyn yr adran, a chollodd y Dr. y dydd. Wedi myned allan o'r llys, gwelid Dr. Price yn edrych yn dra diflas a siomedig; ond pan oedd efe ac ychydig frodyr oeddynt gydag ef yn yr achos yn cym. meryd ychydig luniaeth, neidiodd y Dr. yn sydyn ar ei draed, fflamiai ei lygaid treiddgar, a gwisgai ei wyneb, oedd ychydig cyn hyny yn arddangos y pryder mwyaf, y sirioldeb a'r bywiogrwydd a'i nodweddent yn gyffredin, a dywedodd. 'Fechgyn, gwelaf hi yn awr: rhaid ail-godi yr achos hwn; y mae pob peth yn iawn etto.' Gwnaeth hyny ar egwyddor wahanol i'r tro cyntaf; a phan yn y llys gofynodd ganiatad y barnwr i arwain ei achos ei hun. Caniatawyd y ffafr iddo. Yr oedd y gyfrinfa wedi cyflogi Mr. Simons, un o'r cyfreithwyr galluocaf yn Merthyr, yn ei erbyn. Dygid yr achos yn mlaen gerbron y Barnwr Faulkner, ac wrth godi i amddiffyn y gyfrinfa, dywedodd Mr. Simons, 'I must admit, your honour, that I am now going to argue with the Solicitor-General of the Friendly Societies: he knows all about them.' Ennillodd y Dr. yr achos, a chafodd glod ac enw am ei wrhydri.
"Nid yw yr enghreifftiau hyn ond ychydig o lawer allem nodi am dano fel un galluog a medrus fel cyfreithiwr y cymdeithasau cyfeillgar. Mewn gwirionedd, pan oedd Price yn anterth ei nerth ac yn nghanol ei bobl. ogrwydd, nid ystyrid y pwyllgorau, y cyfarfodydd chwarterol, a'r cynnadleddau blynyddol, yn llawnion os na fyddai yr enwog Ddr. yn bresenol. Trwy ei gyssylltiad â'r cymdeithasau cyfeillgar, ennillodd lawer o brofiad a dylanwad. Teimlid parch cyffredinol ato, a cherid ef yn fawr gan ei frodyr yn y gwahanol urddau. Pan syrthiodd yn angeu, teimlid fod un o'r cedyrn wedi cwympo yn rhengau y cymdeithasau cyfeillgar, ac nad hawdd oedd cael neb i lanw ei le. Gweithiodd yn galed arn flynyddoedd lawer. Cafodd anrhydeddau uwch a lluosocach nag un Cymro fel aelod o'r cymdeithasau cyfeillgar, a bydd ei enw yn perarogli yn eu plith am flynyddau lawer i ddod."
PENNOD XX.
FEL DYN, CRISTION, A BUGAIL.
Y dyn-Edrych arno o wahanol gyfeiriadau-Wedi ymddadblygu Y dderwen-Price yn ei gyflawn faintioli-Ei ddyn oddiallan Darluniadau Myfyr a Lleurwg o hono- Dyn cavedig Evan Thomas, Casnewydd-Ei farn-Dyngarwr- Cholera 1849-Cydymdeimlo a'r trallodus-Police Court-Barn Rhys Hopkin Rhys-Tynu sylw yn mhob man Ei ddiffygion i'w hannghofio-Dyn cyflawn a thrwyadl - Cristion trwyadl-Dylanwad Yspryd Duw ar ei galon-Anhunangar, gostyngedig, a dirodres Barn Dr. Morgan arno fel Cristion-Bugail diwyd, llafurus, a thyner-Llawn cydymdeimlad—Sylw neillduol i'w bobl - Dysgu "business habits" i'w eglwys-Gofalus am y pwlpud-Caredig i'r gweddwon-Er mor fawr a gofalus, suddo yn yr angeu fel haul Mehefin-Ei lewyrchiadau yn aros ar ol-Claddedigaeth dywysogaidd - Trefniadau-Mynegiad o'r angladd o "Seren Cymru"-Ei bregeth angladdol- Argraff addas ar ei gofadael.
ER mwyn cael adnabyddiaeth drylwyr o gymmeriad unrhyw ddyn, y mae yn ofynol edrych arno dan amrywiol amgylchiadau, ac yn mhob agweddiad, ac o bob ochr. Y mae y darlunydd yn gyffredin, pan y mae yn tynu ei fraslun at bortread, yn tremio ar ei wrthddrych o bob sefyllfa-o'r ochr ac o'r lled-ochr, yn gystal a chyferbyn â'r wyneb: myn adnabod y profile, y three quarter, a'r enfront, cyn yr ystyria ei hun yn barod at waith. Nis gellir cyflwyno ardeb cywir o Dr. Price heb syllu arno o wahanol fanau, a than amrywiol amgylchiadau. Yr ydym wedi tremio arno o rai manau neillduol yn barod. Ni a'i gwelsom yn llanc, yn dechreu ei fywyd cyhoeddus; yn fyfyriwr; yn llanw cylchoedd pwysig yn ei enwad ac mewn cymdeithas yn gyffredinol. Edrychasom arno fel gwleidyddwr, llenor, darlithiwr, a phregethwr; eithr nid oedd y rhai hyn amgen ystyllweddau (profiles) ei ardeb-rhanau cyfansawdd ei gymmeriad. Ond er mwyn cael golwg deg arno, rhaid edrych i'w wyneb fel dyn, Cristion, a bugail, oblegyd er mor fawr ydoedd yn y cyfeiriadau lluosog a grybwyllasom am dano, yr oedd yn fwy yn yr arweddion hyn. Y mae gwahaniaeth dirfawr yn nghynlluniau a dullweddion bywgraffwyr gyda'r gwrthddrychau a bortreiadant. Darlunia rhai, yn flaenaf oll, y dyn, ac yna dywedant bob peth buddiol am dano ragllaw, tra y mae ereill yn ei ardebu yn ol cwrs amgylchiadau, wedi iddo gyrhaedd cyflawn oed; ond yr ydym ni wedi dewis gadael y dyn hyd iddo ymddadblygu yn llawn, fel y gallem wahodd pawb i edrych arno, ac iddynt ar unwaith weled y dyn. Nis gellir yn briodol ddarlunio y dderwen yn y fesen; ond wedi i'r dderwen dyfu yn dalfrig, lledu ei breichiau preiffion, bwrw dail, a gwrthsefyll ystormydd brochus gauafau lawer, y mae yn ddyogel dweyd am dani, a rhoddi darluniadau o honi. Dr. Price yn ei gyflawn faintioli sydd genym yn y dyn; dyn wedi tyfu yn dalach na'r dynion talaf braidd yn yr un dosparth ac amgylchiadau ag ef ei hunan; un wedi lledu yn ei ddylanwad i bob cylch a chyfeiriad, a phawb braidd yn synu at ei fawredd. Gallem fanylu llawer arno fel dyn; ond gan fod ei hanfodion wedi cael ein sylw mor helaeth, a gwahanol elfenau cyfansawdd ei gymmeriad godidog yn flaenorol wedi eu cyfeirio allan, teimlwn nad oes eisieu, bellach, ond dweyd, Wele y dyn yn gyflawn—edrycher arno. O ran corff, yr oedd hytrach yn fyr, wedi ei adeiladu yn gadarn a nerthol. Yn ei ddyddiau boreuol, ac hyd y nod yn anterth ei nerth, yr oedd ei wallt can ddued a'r frân: yr oedd yn ngwir ystyr y gair yn bengrych a phengrwn. Meddai lygaid bywiog, llawnion, yn fflachio gan drydaniaeth eneidiol, ac yr oedd ei wyneb yn agored, serchus, ac arddangosiadol, fel y dywed Myfyr Emlyn—"yn llefaru cyn bod y tafod wedi symmud, ac yn awgrymu dawn cyn iddo ddweyd dim. Yr oedd yn fywiog ei yspryd a'i symmudiadau, ac yn meddu ar gymmaint o fywyd ac yni ag a amlygir gan hanner dwsin o ddynion cyffredin."
Rhydd Dr. Morgan (Lleurwg), yr hwn a'i hadwaenai yn dda er pan oeddynt yn gydfyfyrwyr, ddesgrifiad pur gywir o hono yn y brawddegau a ganlyn:—
"O ran ei gorff nid oedd Dr. Price ond gwr o faintioli cyffredin; ond yn ei amser goreu yr oedd pob ystum a symmudiad o'i eiddo yn llawn yni a bywiogrwydd, ac yr oedd ei holl synwyrau corfforol mor gryfion a chraffus, fel nad oedd neb na dim braidd yn dianc heb iddo ef sylwi arno. Cerddai yn gyflym a digryn, ac i berson dyeithr gallasai ymddangos fel yn hytrach yn fwdanus (fussy). Yn mlodau ei ddyddiau yr oedd ei wallt yn ddu; ond yn y blynyddau diweddaf yr oedd wedi britho [a myned yn hollol wyn]. Yr oedd ei ruddiau yn llawn a gwridog, ei lygaid fel eiddo'r eryr, ei barabl yn groew a soniarus, ei gyfarchiad yn wresog a chalonog, ac wrth edrych ar ei
Dalcen mawr ysplenydd,
A'i wen deg fel huan dydd,
yr oedd yn anmhossibl peidio teimlo fod calon ddidwyll, wrol, dyner, ryddfrydig yn curo yn ei fynwes. Mewn gair, mewn cynneddfau a theithi meddyliol, ar y cyfan yr oedd Dr. Frice yn ddyn mawr iawnyr oedd yn ei ddydd yn un o brif gewri y genedl, ac yn un o brif arweinwyr y bobl."
Cydgyfarfyddai ynddo, i raddau tra arbenig, yr anhebgorion i wneyd dyn da a chymmydog hynaws a charedig. Yr oedd bob amser yn gall, cariadus, parod, galluog, a chymmwynasgar. Fel dyn," meddai ei hen gydfyfyriwr enwog, y Parch. Evan Thomas, Casnewydd, "yr oedd Dr. Price yn un true iawn, ac mewn gair meddai fwy o individuality nag un dyn yn Nghymru." Nid oedd terfyn ar ei garedigrwydd. Rhoddodd lawer o help i ddynion ieuainc Aberdar, a llawer o fanau ereill, i sicrhau swyddi pwysig a safleoedd uchel yn y byd. Bu yn garedig i bawb, a gweithiodd yn galed ac yn anhunangar (unselfish) dros gannoedd mewn gwahanol ffyrdd. Llafuriodd yn neillduol o galed a bu o gynnorthwy sylweddol yn amser y cholera yn 1849; mewn ystyr, peryglai ei fywyd, gweithiai ddydd a nos, a gwariodd lawer o arian yn y cyfnod twymynol hwnw i gysuro pobl ac i leddfu trueni y dyoddefwyr. Cafodd allan gyffeiriau at y geri marwol. Hyspysodd hwnw yn y gwahanol newyddiaduron, a rhoddodd werth llawer o aur o hono yn rhad i deuluoedd isel eu hamgylchiadau. Bu yn help gannoedd o weithiau i deuloedd a fuasent, o bryd i'w gilydd, mewn trafferthion cyfreithiol yn Aberdar a manau ereill. Yr oedd yn gyfreithiwr enwog, fel yr ydym wedi lled awgrymu. Mynychai Lys yr Heddgeidwaid braidd bob wythnos yn Aberdar, yr hwn a eisteddai bob dydd Mawrth. Yn foreu dydd Llun gwelid degau weithiau o bobl yn cyfeirio at y Rose Cottage ar wahanol negesau, ac yr oedd yn ddigon o waith i Emily a Sarah Price ateb y drws. Byddai appeliadau am gynnorthwy cyfreithiol mor aml a dim, ac yn aml yr oedd gan y Dr. gynnifer o glients yn y Police Court ag un cyfreithiwr, er nad oedd yn gyfreithiwr trwyddedig. Meddai ddylanwad mawr gyda yr hedd— ynadon, yn neillduol Mr. Rhys Hopkin Rhys. "Allow me, Mr. Rhys, to say one word respecting the client or prisoner," oedd hi yn aml gan y Dr., ac yr oedd bob amser yn cael sylw a gwrandawiad. Daeth un person oedd wedi lladrata at y Dr. i ymofyn ei ddylanwad. Beth wyt ti yn ymofyn?" gofynai y Dr. iddo. "Eich help yfory yn y Police Court, Syr." Beth wyt ti wedi ei wneyd?" "Lladrata, Syr," meddai y person. "Fachgen y d——l,” meddai Price, "'oes arnat ti ddim cywilydd d'od at weinidog yr Efengyl i ofyn iddo dd'od i'r court i roi character i leidr?" "Yr oeddwn yn meddwl, Syr," meddai y bachgen, “eich bod yn rhy garedig i ballu, ac os deuwch chwi byddaf yn sicr o gael dod yn rhydd." Barn Mr. Rhys Hopkin Rhys am y Dr. yw hyn:— "Dr. Price is too kind by half. He always gives a kind helping hand to all in trouble, and all are his friends, and should any of them appear before us in court, they are with the Dr. all jolly good fellows, or rela— tives to some of his members, or attendants of his chapel. He has always a kind word to say for all."
Dywedai Mr. Thomas Joseph am dano:—
"Yr oedd Dr. Price yn ddyn da iawn—dyngarol iawn. Nid oedd byth yn gofyn pwy na pheth oedd neb, ond gwneyd yn ewyllysgar i bawb yn ddiwahaniaeth. Yr oedd yn garedig iawn i fyfyrwyr y colegau pan fuasent yn dyfod heibio i gasglu neu yn galw i'w weled. Rhoddodd lawer 2s. 6ch. yn nwrn y myfyriwr, yn neillduol pe buasai wedi cael allan ei fod yn fachgen da ac mewn amgylchiadau cyfyng. Elai yn gyffredin â'r myfyriwr allan gydag ef, a phan ymadawai yr oedd braidd bob amser yn ei hebrwng yn garedig. Yr oedd hefyd yn garedig iawn i'r plant; rhoddodd gannoedd o geiniogau i'r plant, ac ennillai eu sylw a'u parch yn fawr iawn. Yr oedd yn ddyn oedd yn tynu sylw yn mhob man. Pe buasai dyn hollol ddyeithr gydag ef am ychydig amser buasai yn sicr o ddweyd ar ol ymadael, mai rhyw ddyn annghyffredin ydoedd."
Dywedai y Parch. W. Jones, Philadelphia:—
"Nid oedd y Dr. braidd yn myned i unrhyw le heb ei fod yn cael sylw a pharch neillduol. Fel hen gymmydog, yr wyf wedi meddwl llawer am hyn, ac wedi cadw llygad arno yn yr ystyr hwn. Cofus genyf fod yn Mrawdlys Abertawe un tro, ac yr oedd Justice Lush ar y fainc. Yn sydyn daeth Price Aberdar i'r llys, ac eisteddai ar yr oriel bron yn y pen pellaf iddi Yn fuan gwelodd Lush ef, a gofynodd i'r dadleuydd aros—ei fod yn gweled person yn y neuadd y carai gael yr anrhydedd o'i gael i eistedd yn ei ochr. Galwodd ar y Dr, ac aeth yntau yn mlaen i'r gadair nesaf at y barnwr. Tynodd hyn sylw mawr yn y llys, y dref, a'r wlad yn gyffredinol. Yr un modd pan ymddangosai mewn pwlpud neu ar lwyfan, yr oedd yn cael sylw uniongyrchol, oblegyd yr oedd rhywbeth tra chommanding yn ei ymddangosiad a'i ystum. Yr oedd wedi dysgu parchu ei hun, ac felly, perchid ef gan bawb a'i had waenent. A phan y perchid ef, nid annghofiai y caredigrwydd. Yr oedd yn neillduol o ymlynol wrth ei hen gyfeillion. Nid oedd gwneyd cyfeillion newyddion yn peru iddo annghofio a gadael yr hen rai. Cymmerai drafferth i alw heibio iddynt os buasai yn myned i le y byddai hen gyfeillion yn byw ynddo, a derbynid ef yn llawen, siriol, a charedig ganddynt bob amser."
Wele ni yn frysiog wedi nodi allan rai o'i riniau a'i ragorion fel dyn; ond hyd yma, nid oes gair wedi ei ddweyd neu ei ysgrifenu am ei ddiffygion, a dychymygwn glywed y darllenydd yn gofyn, A oedd Price yn ddyn perffaith? A oedd ef mewn rhagoriaethau moesol uwchlaw i ddynion yn gyffredin? Atebwn, Nac ydoedd. Yr oedd yn yr ystyr hon mor gyffredin a neb, oblegyd meddai yntau ar ei ddiffygion, ac yn wir, gwnaeth gamsyniadau pwysig, fel pawb ereill, yn ystod ei fywyd gwerthfawr. Ond gofynwn ein cenad, bellach, i gladdu ei holl ddiffygion a'i feiau, gan ei fod ef wedi ei osod o ran ei gorff yn myd y meirw. Dywedai y Parch. W. Williams, Rhos, Mountain Ash, wrth gladdu hen ddiacon parchus, ar ol siarad llawer am ei ddaioni a'i ragoriaethau:—"Yr oedd llawer o ddiffygion yn y brawd, er cystal ydoedd. Nid oes neb ond un wedi ei eni yn ddifai. Gwnaeth y brawd hoff gleddir heddyw lawer o ddrwg: nis gallesid dysgwyl yn wahanol," meddai, oblegyd wedi y cwymp y ganwyd ef." Felly y gallwn ddweyd am Price; gan iddo gael ei eni wedi y cwymp, ni allesid dysgwyl perffeithrwydd ynddo.
Un tro, yr oedd yr athronydd Cristionogol, y Parch. R. Hughes, Maesteg, yn claddu brawd da o'i eglwys, ac wedi dweyd llawer am ei ddaioni a'i rinweddau Cristionogol, dywedodd yn ei ffordd naturiol ei hun, Wel, mae Mr. Hughes (meddai rhywun) wedi dweyd llawer am rinweddau y brawd ymadawedig, ond nid ydyw wedi son un gair am ei feiau." "Eithaf gwir," meddai Mr. Hughes; "mae arnaf ofn dweyd dim am ei feiau, rhag ofn fod Duw wedi eu maddeu, ac os yw Duw wedi eu maddeu, ofnwn y digiai Efe wrthym pe soniem am danynt yma." Felly y dywedwn ninau am ein gwrthddrych; beth bynag a faint bynag oedd ei ddiffygion, credwn fod Duw wedi eu maddeu oll. Felly, gwell gadael llonydd iddynt, a chodi a galw sylw y byw at ei ragoriaethau.
Y rhai, credwn yn ddiamheu,
Yn ddiadfail golofn fydd.
Treuliodd fywyd llafurus, gweithgar, a defnyddiol iawn, a theimlir parch arosol i'w enw a'i goffadwriaeth. Yr oedd yn ngwir ystyr, a phob ystyr o'r gair, yn ddyn cyflawn a thrwyadl.
Gellir hefyd ddweyd gyda sicrwydd mawr ei fod mor drwyadl yn Gristion ag ydoedd yn ddyn, oblegyd meddai ar yspryd teilwng o un yn ofni Duw, a gweithredai bob amser fel un yn teimlo dylanwad yr Yspryd Tragwyddol yn gryf ar ei galon. Cadwai bob amser ogoniant Duw a lles dynion o flaen ei lygaid, ac ni welid ef byth yn arfer un math o dwyll na hoced i geisio dyrchafu ei hun. Nid hunan oedd ganddo mewn golwg ond gogoniant Duw. Yr oedd yn foddlon dwyn ei holl gofnodau goruchafiaeth (trophies) at droed y Groes, i gyssegru pob dawn a dylanwad a feddai at ogoniant ei Feistr. Yr oedd yn hawdd ei drin; nid oedd yr holl godiad a'r dyrchafiad gafodd gan ddynion ac mewn cymdeithas yn effeithio arno er niwed, ond yr oedd efe yn gydostyngedig â'r rhai iselradd. Nid ydoedd efe byth yn ymdrafferthu i gael y werin dybied ei fod yn dduwiolach nag oedd mewn gwirionedd; yr oedd yn berffaith rydd oddiwrth rodres (affectation) a hoced. Gwr dysyml ydoedd. Am dano fel Cristion, dywed yr enwog Ddr. Morgan, Llanelli:—
"Yr oedd yn hynod syml, naturiol, ac anymhongar. Nid oedd dim o'r anesmwytho, a'r ymffunio, a'r anffurfio, sydd i'w ganfod mor fynych hyd y nod yn ein dyddiau goleuedig ni yn perthyn iddo ef. Credai ef y gallesid bod yn saint a bod yr un pryd yn bobl mor naturiol ag y crewyd ni gan Dduw. Ond O! y dinystr sydd, o amser y Phariseaid gynt hyd y lluaws Phariseaid presenol, wedi ei achosi gan bobl, drwy ragrith, a chymmeryd arnynt, a hirwynebu, sydd wedi bod yo ceisio camarwain eu cyd—ddynion a thwyllo yr Hollwybodol. Nid yn unig yr oedd Dr. Price yn Gristion o'r iawn ryw, ond yr oedd hefyd yn un o'r Cristionogion mwyaf serchog a haelionus yn yr holl wlad; ac yn ei gyfeillach ac mewn cydymddyddaniad ag ef yn bersonol yr oedd yn un o'r rhai mwyaf hawddgar, dirodres, dyddan, a chariadus y gallesid byth ei gyfarfod."
Fel bugail, yr oedd yn ddiwyd, llafurus, ymdrechgar, a manwl iawn. Yr oedd yn onest a di-dderbyn-wyneb. Cydymdeimlai â'r trallodus, a chydlawenhäai â'r dedwydd a'r llwyddiannus. Llanwai ei holl gylchoedd personol, teuluaidd, a chyhoeddus yn anrhydeddus a difwlch. Coleddai farn uchel iawn bob amser am bobl ei ofal, a golygai nad oedd y fath eglwys a Chalfaria mewn bod. Yr oedd yn neillduol o ofalus am y cleifion. Ymwelai à hwy yn gysson a chyfundrefnol, a gwnai sylw arbenig o'r hen bobl yn ei eglwys a'i gynnulleidfa. Ni welsom erioed neb Gwnai ei yn fwy llwyr ei ofal am y bobl ieuainc. hun yn blentyn gyda'r plant, ac yr oedd yn ddedwyddwch mawr i'w enaid allu gwneyd rhywbeth i helpu y dynion ieuainc, yn neillduol y rhai fuasent yn pregethu tipyn. Yr oedd ganddo drefn a chyssondeb yn holl weithrediadau ei eglwys. Yr oedd wedi ei dysgu, fel efe ei hun, yn llawn o business habits. Ni fu gwell eglwys erioed am accommodation i ddyeithriaid mewn pwyllgorau neu gyrddau neillduol na Chalfaria, a'r oll yn herwydd yr hyfforddiant oedd wedi ei gael ganddo ef. Nid oedd byth yn esgeuluso y pwlpud, er yr holl waith a gyflawnai. Mynai yn gyffredin ddyddiau Gwener a Sadwrn i barotoi at y pwlpud. Gofynid iddo weithiau pan yn myned gydag angladd i'r gladdfa ar brydnawn Sadwrn, i aros gyda chyfeillion i gael cwpanaid o dê, ond gwrthodai yn ddieithriad, a dywedai fod arno frys dychwelyd gartref—fod rhyw fater gan Daniel, Zachariah, neu un o'r proffwydi, ag eisieu ei setlo erbyn y Sabboth; a phan fyddai efe yn talu ymweliad â'i bobl, nid cedd yn aros yn hir gyda hwynt yn eu tai. Yr oedd yn neillduol o garedig i'r hen widwod yn ei eglwys, ac yn ofalus iawn am danynt. Gwahoddai hwy weithiau gydag ef i'r Rose Cottage i dreulio prydnawn, a chaent wledd yn iawn o dê a theisen. Gofalai yn hynod felly am gofrestr yr eglwys, a mynai weled fod pob peth yn gweithio gyda'r ystwythder mwyaf. Profir hyn yn amlwg gan y ffaith ei fod wedi cadw y peiriant i fyned yn hwylus a llwyddiannus am dros ddeugain mlynedd. Ond, ond, er cystal dyn ydoedd, er mor dryloew fel Cristion, a ffyddlawn a gofalus fel bugail, collwyd y dyn yn niwl y glyn, ymddangosodd y Cristion yn ogoneddus yn ngwawl y gogoniant, ac aeth y bugail i orphwys wedi oes faith o lafur caled a lludded mawr. Yn briodol y gellir dweyd am dano, "Oni wyddoch chwi i dywysog ac i wr mawr syrthio yn Israel?" Syrthiodd, nid dan gwmmwl, nid dan draed gelynion, ond yn angeu. Hunodd yn yr Arglwydd; machludodd yn ogoneddus fel haul Mehefin, wedi bod am ddeugain mlynedd yn adlewyrchu o'r areithfa, ac mewn bywyd o ddefnyddioldeb, oleuni Haul y Cyfiawnder; ac er ei fod ef wedi suddo dros y gorwel, erys llewyrchiadau ei fywyd gogoneddus yn hir ar ol. Hunodd yn yr Iesu ar y nawfed dydd ar hugain o Chwefror, 1888, a chladdwyd ef yn mynwent Calfaria, y dydd Mawrth canlynol. Gwnaeth yr eglwys drefniadau deheuig a hwylus erbyn yr angladd, a dyfynwn fyr fynegiad o honi o Seren Cymru am Mawrth 16, 1888:—
"Yn gynnar dydd Mawrth, Chwefror 6ed, gwelid gweinidogion a lleygwyr parchus yn dyfod i'r dref o bob cyfeiriad gyda phob trên, a thua 1.30 yr oedd Cardiff Road, yn agos i'r Rose Cottage, yn llanw yn gyflym gan bobl barchus o wahanol fanau yn Nghymru, wedi dyfod i dalu y parch olaf i un mor hoff ganddynt. Wrth y ty darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. Bazzet Thomas, Caerdydd, gweddiwyd gan y Parch. T. Jones, Carmel, Aberdar, a chafwyd anerchiad tra phwrpasol gan y Parch. W. Morris, Treorci. Wedi canu cychwynwyd yn araf am fynwent Calfaria yn y drefn yr oedd y pwyllgor yn ddoeth wedi ei thynu allan:—Y gweinidogion o bob enwad yn flaenaf, yn cael eu dylyn gan y Rhydd Faswniaid, y Cymdeithasau Cyfeillgar, Aelodau y gwahanol Fyrddau, masnachwyr, y cyhoedd, cynnrychiolwyr y gwahanol Eglwysi Bedyddiedig, arolygwyr yr Ysgolion Sabbothol, aelodau, cynnulleidfa, ac Ysgol Sul Calfaria, y côr, yr arch (cludwyr—diaconiaid Calfaria), galarwyr.
"Cynnrychiolid y gwahanol fyrddau a sefydliadau yn y rhai oedd y Dr. wedi bod yr flaenllaw yn eu ffurfiad, ac yn aelod defnyddiol o honynt am flynyddau. Hefyd, yr oedd nifer luosog o brif fasnachwyr y dref a'r dyffryn yn bresenol, yn dangos eu parch i'r teulu a'r Dr. ymadawedig.
"Yr oedd eglwysi y Bedyddwyr yn y dyffryn yn cael eu cynnrychioli yn yr angladd gan eu diaconiaid, arolygwyr eu Hysgolion Sabbothol, a'r cantorion, yr olaf oeddynt wedi ymuno â chôr Calfaria, dan arweiniad medrus Mr. Theo. Jenkins, A.C., Calfaria. Yr oedd y côr yn blaenori y corff, bob ochr i'r hwn y cerddai diaconiaid y Dr., oddiwrth y ty hyd y capel. Hwynthwy oeddynt yn codi y corff wrth y ty. Yna cariwyd gan aelodau y cymdeithasau cyfeillgar, a chafodd y diaconiaid ofal y corff o'r capel hyd y gosodasant ef i orphwys yn vault y teulu.
"Yn fuan gorlanwyd capel Calfaria, ac yr oedd miloedd allan wedi hyny. Agorwyd Carmel, y capel Saesneg, a llanwyd hwnw drachefn, a gorfu i gannoedd lawer aros allan dros y gwasanaeth angladdol a gynnaliwyd yn y ddau gapel.
"Yn Nghalfaria, darllenwyd gan y Parch. P.Williams (Pedr Hir), Tredegar; gweddiwyd gan y Parch. W. Williams, Rhos, Mountain Ash; anerchwyd y gynnulleidfa gan y Parchn. W. Harris, Heolyfelin (gyda'r hwn yr oedd trefniadau yr angladd); J. Roberts, Rhydfelen; Nathaniel Thomas, Caerdydd; Dr. Todd, Llundain (yn Saesneg); J. Davies (A.), Soar, Aberdar; W. James (M.C.), Aberdar, a E. Thomas, Casnewydd. Terfynwyd trwy weddi gan Jones, Philadelphia. Siaradwyd yn Carmel gan y Parchn. J. R. Jones, Llwynpia; Proff. Edwards, a Dr. Rowlands, Llanelli.
Siaradwyd ar lan y bedd gan y Parch. J. Lewis, Belle Vue, Abertawe, a therfynwyd trwy weddi gan Dr. Williams, Pontlottyn. Ymddiriedwyd trefniadau yr angladd i bwyllgor o weinidogion y cylch. Bernir fod tua phum' mil yn yr angladd, a thros bum' mil arall o edrychwyr, y rhai a ymddygent yn hynod deilwng o'r amgylchiad pruddaidd. Cafwyd cynnorthwy sylweddol gan yr heddgeidwaid i gario allan y trefniadau yn effeithiol a gweddaidd, ac y mae clod mawr yn ddyledus i'r Arolygydd Thorney am ei garedigrwydd.
"Teimla trigolion Aberdar yn chwithig heb un Dr. Price. Y mae y dref yn teimlo hiraeth a cholled ar ei ol. Yr Arglwydd a fyddo yn nodded i'w deulu galarus, ac a fendithio eglwys barchus Calfaria yn yr amgylchiad."
Pregethwyd ei bregeth angladdol gan ei hen gydfyfyriwr parchus, yr Hybarch E. Thomas, Casnewydd, y nos Sul yn mhen yr wythnos, pryd yr ymgynnullodd tyrfa aruthrol i'w gwrandaw, mewn teimladau dwys a galar mawr ar ol yr anwyl Ddr.
Aeth yr eglwys i'r holl dreuliau claddu, a gosodwyd y beddrod i fyny yn daclus, a cherfiwyd yr adgof canlynol ar
farmor gwyn yn y gofadail uwch ben y bedd:—"ER COF AM
Y DIWEDDAR BARCH. THOMAS PRICE, M.A., PH.D.,
Yr hwn a fu farw Chwefror 29ain, 1888, yn 67 mlwydd oed,
"Bu yn weinidog ffyddlawn, gweithgar, ac ymdrechol, i Eglwys Calfaria am 42 mlynedd. Bu yn arweinydd llwyddiannus gyda phob mudiad daionus yn Nyffryn Aberdar, ei wlad ei hun, ac mewn gwledydd ereill. Llanwodd y cylchoedd pwysicaf yn gymdeithasol a chrefyddol er anrhydedd iddo ei hun a'i genedl. Rhagorai fel dinesydd, gwleidyddwr, llenor, darlithiwr, gweinidog, a phregethwr. Yr oedd yn gymmwynaswr dïail, carai bawb, a pherchid ef yn gyffredinol.
'Ei ddiwedd oedd tangnefedd.'
"Mi a ymdrechais ymdręch deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a
gedwais y ffydd.'—2 TIM. 4—7."
PENNOD XXI.
ENGHREIFFTIAU O'I AREITHIAU.
Araeth Yn Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr—Araeth yn Exeter Hall—Araeth ar y Genadaeth Dramor—Araeth Wleidyddol yn Aberhonddu
ARAETH YN NGHYFARFOD BLYNYDDOL CYMDEITHAS TRAETHODAU Y BEDYDDWYR
(Allan o'r "Primitive Church Magazine.)
CYNNALIWYD Cyfarfod Blynyddol y Gymdeithas uchod dydd Iau, Ebrill y 27ain, 1865, yn un o Ystafelloedd Exeter Hall, Llundain, dan lywyddiaeth Dr. Price, Aberdar. Am hanner awr wedi pump dechreuwyd y cyfarfod cyhoeddus drwy ganu mawl i Dduw; ac wedi i Mr. Stock, o Devonport, anerch gorsedd gras, cyfododd y cadeirydd i draddodi ei araeth arweiniol. Dywedai,
"Y mae y Gymdeithas hon wedi cyhoeddi 3,636,525 o draethodau, yn cynnwys pedair miliwn ar bymtheg o dudalenau. Gwasgarwyd y rhai hyn yn ngwahanol barthau y wlad, ac yn mhob man hauasant egwyddorion yr Efengyl. Oddiwrth erthygl bwysig iawn a gyhoeddwyd yn y Freeman allan o'r Spectator, gellid meddwl fod cyfenwad y Bedyddwyr ar gael ei lyncu gan yr enwad Annybynol. Cynnwysai yr erthygl dan sylw lawer iawn o synwyr a gwirionedd, ac hefyd lawer o gamsyniadau. Yr oedd yn gywir pan yn dywedyd nad oeddym yn llwyddo megys y dylasem; ond nid ydyw yn wirionedd ein bod ar gael ein llyncu i fyny gan yr Annybynwyr. Yr ydym yn gorff rhy fawr i gael ein llyncu. Daw gwrthweithiad etto, ac yn y diwedd perchir Cymdeithas Traethodau y Bedyddwyr am sefyll fel y gwna o blaid yr Efengyl. Oddiwrth erthygl a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Baptist Magazine, canfyddwn mor hawdd y syrthia rhai i'r cyfeiliornad o dybied y dylem ni adeiladu capeli i bawb sydd yn cael eu cynhyrfu gan gariad brawdol. Tra fyddo un lleidr yn y plwyf, bydd yn rhaid cael cloion i'w gadw ef allan; a thra fyddo personau yn ein mysg yn barod i drosglwyddo meddiant y Bedyddwyr i ereill, bydd yn rhaid i ni gael gweithredoedd ymddiriedol (trust deeds). Wrth gyhoeddi y ddwy erthygl uchod, dywedai y Patriot fod ganddynt yr hyfrydwch mawr o gyhoeddi fod y Freeman a'r Baptist Magazine am gael gweithredoedd ymddiriedol, heb un gair o son ynddynt am fedydd na Bedyddwyr. Cynnygiai, ond i ni fynu gwared o'r gair Bedyddiwr,' y buasai yr Annybynwyr yn barod i roddi fyny eu henw hwythau. Ond atolwg, pa beth sydd gan yr Annybynwyr i'w roddi fyny? Dim ond bretyn bychan halogedig, wedi ei fenthyca oddiwrth Eglwys Rhufain, tra yr annogir ni i roddi fyny ordinhad a sylfaenwyd gan y Gwaredwr, ac a arferwyd gan yr apostolion. Ac etto i gyd, y mae llawer o weinidogion y Bedyddwyr, a gwyr arweiniol hefyd, yn barod i eilio a gweithredu yn ol golygiadau y Patriot. Yn ystod y cyfarfodydd eleni, dywedai un o'n prif ddynion, ei fod ef wedi cymmeryd ystafell mewn tref yn unig i bregethu yr Efengyl, ac nid i ffurfio eglwys, gan adael y personau a argyhoeddid i ymuno â'r eglwys a fynent. Pe buasai un o amaethwyr y wlad yn braenaru ei dir, yn hau ei had, yn medi y cnwd yn amser y cynauaf, ac wedi hyny yn gwahodd ei gymmyd- ogion i ddyfod a chludo yr ysgubau ymaith iddynt eu hun- ain, buasem oll yn galw y dyn hwnw yn ffwl; a chredaf fi fod y neb a gasglo eneidiau at Grist yn y dull uchod, heb ffurfio eglwys, yn ffwl hefyd. Yr ydym ni i alw ar ddynion i edifarhau, a chredu, cymmeryd eu bedyddio i enw y Drindod, ac i ymuno â phobl yr Arglwydd. Pa fodd y darfu i chwi yn Llundain fethu derbyn cynnyg Syr Morton Peto, i adeiladu nifer neillduol o gapeli ar yr ammod i'r enwad wneyd ei ran? Credaf mai am fod ein cyfeillion wedi gwasgu i feddyliau eu pobl y grediniaeth nad oes eisieu capeli i'r Bedyddwyr, am y gallant fyned i addoli i gapeli yr Annybynwyr. Nid wyf, gan hyny, yn synu dim at y canlyniad. Yr ydych yn gwneyd eich goreu i ddysgu eich pobl fod un enwad yn llawn cystal â'r llall, ac ychydig yn well hefyd. Wrth edrych i'r dyfodol, â llygad dynol yn unig, os eir yn miaen fel yr ydys yn awr yn myned, gellir dysgwyl y bydd deg neu bymtheg mlynedd ar hugain yn ddigon i ddifodi y Bedyddwyr fel cyfenwad o grefyddwyr. Am Loegr yn unig yr wyf yn llefaru. Nid ydyw pethau fel hyn yn Nghymru, nac yn Ewrop, nac yn America, nac yn y meusydd cenadol. Ond yn Lloegr bydd y cyfryw ganlyniad yn sicr o gymmeryd lle, os nad attelir ef gan Fedyddwyr Caeth Lloegr. Gobeithiaf, gan hyny, y bydd iddynt gael eu bendithio â modd. A gaf fi lefaru gair neu ddau wrth y Bedyddwyr Caeth? Yr wyf yn Gaeth Gymunwr trwyadl, ac yn hyn yr wyf yn hollol gyduno â'm brodyr Cymreig. Credaf y dylech chwi gymmeryd eich lleoedd priodol yn y cyfenwad. Ystyriaf nad ydych chwi, fel Bedyddwyr Caeth, yn gyffredin wedi gwneuthur hyny. Nid ydych wedi peru i chwi gael eich clywed a'ch teimlo yn ddigionol. Nid ydych yn dwyn eich dylanwad i weithredu i raddau digonol ar y cyhoedd. Nid oes genych yn Llundain gymmaint ag un gymmanfa o fath y rhai sydd genym ni yn Nghymru. Carwn yn fawr weled yr holl Fedyddwyr Caeth yn uno gyda'u gilydd i gynnal achos Duw. Credaf fod cynnifer o eglwysi o Fedyddwyr Caeth yn Llundain yn y blynyddoedd a aethant heibio ag sydd heddyw. Dylem ni, Fedyddwyr Caeth Cymru a Lloegr, fod yn fwy unol. Hir y cofir am araeth gynhyrfus Mr. Norton yn Nghymmanfa olaf Swydd Forganwg. Anfonwch ef, neu eich trysorydd, etto, fel y byddo i chwi gael ychydig yn ychwaneg o'r tân Cymreig. Bydded i ni gael mwy o undeb. Y mae genym yn y Dywysogaeth boblogaeth, mewn llawn rifedi, o filiwn o eneidiau, o'r rhai y mae 65,000 yn aelodau yn yr eglwysi Bedyddiedig. Nid oes genym ond pedair neu bump o eglwysi o Rydd Gymunwyr, ac y mae y rhai hyny oll yn Saeson. Yr ydym ni Gymry o waed pur. Nis gwyddom ddim am gymmysgedd. Pa ragoroldeb sydd mewn cymundeb cymmysg, nis gallaf fi ddirnad; ond gwn beth yw dwfr a llaeth wedi eu cymmysgu. Pan oedd Andrew Fuller ar ymweliad â Scotland, gofynwyd iddo fabwysiadu eu gofygiadau hwy; ond gwrthododd wneyd hyny hyd oni chaffai weled eu ffrwythau. Y mae gan ddynion hawl i ofyn beth all y Bedyddwyr Caeth ei wneyd, a gallant ddysgu rhywbeth ar y pwnc hwn oddiwrthym ni yn Nghymru. Yr ydys mewn rhai manau yn condemnio y Bedyddwyr Cymreig, fel rhai cul mewn barn ac ymarferiad, oblegyd nad ydynt yn derbyn neb at fwrdd yr Arglwydd ond rhai wedi eu bedyddio ar broffes o'u ffydd. Ond yr ydym ni yn ymogoneddu yn y ffaith fod yr holl eglwysi Cymreig yn ymlynu yn y ffurf hon o athrawiaeth, Eglur yw fod Duw yn gwenu arnom tra yn canlyn y llwybr hwn. Mae genym hawl i farnu y pren wrth ei ffrwyth, a byddwn yn fwy galluog i wneuthur hyny drwy gymharu cyflwr Cyfenwad y Bedyddwyr yn Nghymru â'i gyflwr mewn rhyw ran o Loegr, lle mae y boblogaeth yn gyffelyb. Y mae poblogaeth Yorkshire yn fwy. Cynnwysa 2,033,610, tra nad yw poblogaeth yr oll o Gymru, yn nghyd â Swydd Fynwy, ond 1,286,413; felly, mae poblogaeth Cymru yn llai nag eiddo Yorkshire o fwy nâ 700,000 o eneidiau. Yr oedd yn Yorkshire—
Yn 1790 | 1861 | |
---|---|---|
Eglwysi y Bedyddwyr | 24 | 100 |
Gweinidogion y Bedyddwyr | 22 | 72 |
Aelodau eglwysig | 11,434 | |
Ysgoleigion Sul | 18,433 |
Yn Nghymru—
Yn 1790 | 1861 | |
---|---|---|
Eglwysi y Bedyddwyr | 48 | 545 |
Gweinidogion y Bedyddwyr | 61 | 351 |
Aelodau eglwysig | 64,650 | |
Ysgoleigion Sul | 67,651 |
Yn 1861, yr oedd yn Yorkshire un Bedyddiwr ar gyfer pob 178 o'r boblogaeth, ond yn Nghymru a Swydd Fynwy yr oedd un Bedyddiwr ar gyfer pob ugain o'r trigolion. Mae tuedd y Gymdeithas hon at attal yr hyn a gredir genyf fi sydd yn ddrwg mawr; a hyderaf y bydd i ni yn Nghymru gael cydgyfranogi o'r bendithion y mae ein brodyr Seisnig wedi eu derbyn oddiwrthi."
ARAETH YN EXETER HALL, EBRILL, 1868.
Mr. Cadeirydd,—Ar yr awr hwyr hon, ac un boneddwr arall i'ch anerch etto, nid ydwyf yn gwybod braidd pa lwybr i'w gymmeryd. Fodd bynag, goddefwch i mi grybwyll un o'r ffyrdd drwy ba un y credaf y gellid cario allan yr amcanion a ddymunir yn y penderfyniad ag sydd newydd gael ei gynnyg mor alluog gan Mr. Wassal, a hwnw ydyw, Ymdrechu cael ein pobl ieuainc i deimlo dyddordeb yn hanesiaeth derfynol, gweithgarwch personol, a gobeithion dyfodol Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr. Y mae gan y Gymdeithas hon enw, ac O! na fuasai a lle helaeth yn nghalonau pawb o'n pobl ieuainc. Yr wyf wedi meddwl ac ofni lawer gwaith ein bod ni fel gweinidogion, athrawon yr Ysgol Sul, a phenaethiaid ar yr aelwyd gartref, heb wneyd cwbl gyfiawnder â'r Gymdeithas hon yn ein hymwneyd â'n plant, â deiliaid yr Ysgol Sul, ac â phobl ieuainc ein cynnulleidfaoedd. Mae yn perthyn iddi ffeithiau ag y byddai o les annhraethol iddynt hwy fod yn gynnefin â hwynt, ïe, ffeithiau ag a wna i galonau pawb sydd yn caru gwir wroldeb Cristionogol lamu wrth feddwl am danynt. Pedwar ugain mlynedd yn ol bodolai y Gymdeithas hon yn meddwl, cartrefai yn nghalon, ac anadlai yn ngweddiau un dyn duwiol. Saith deg chwech o flwyddi yn ol daeth yn Gymdeithas weledig, yn cael ei galw i fodolaeth gan y brodyr difrifol hyny a gwrddasant â'u gilydd yn nhy y weddw hono yn Kettering, pryd y tanysgrifiasant cydrhyngddynt y swm o £13 18s. 6ch.; ond gall fentro dweyd fod y swm hwnw, yn gymharol felly, yn fwy nâ'r swm a gasglwyd yma heno, gan ei fod yn £1 os. 10c. yr un o'r cyfarfod bychan hwnw. I'r doeth a'r bydol, i'r anturiaethwr a'r athronydd, ymddangosai y swm hwn yn gwbl annigonol er cychwyn anturiaeth oedd a'i hamcan i argyhoeddi miliynau y byd paganaidd; ond nid felly i'r brodyr da a duwiol hyny yn Kettering. Cyflwynasant hwy y swm hwnw ar allor Duw, a derbyniodd yr Arglwydd ef fel blaenffrwyth o swm o £1,172,342, 7s. Ic. ag sydd wedi ei gyfranu hyd y 31ain o Fawrth yn y flwyddyn bresenol, a phob symiau ychwanegol ag a fydd yn angenrheidiol i gwblhau y gwaith gogoneddus a ddechreuwyd mewn cwbl ymddiried yn Nuw y pryd hwnw (cymmeradwyaeth). Y mae yr ychydig frodyr hyny a gynnullasant yn Kettering, yn anwyl iawn i ni, a gweddiwn yn ddifrifol ar i'w henwau fod megys perarogl yn nghalonau ein plant (clywch, clywch).
Gydag ymddiriedaeth gref yn Nuw, dechreuodd y Gymdeithas weithio mor fuan ag oedd yn bossibl, gan y cawn iddi yn yr Haf dylynol, ar y 13eg o Fehefin, 1793, ddanfon allan William Carey a John Thomas, ar fwrdd llong Ellmynig, ar eu ffordd i India, pryd yr oedd Andrew Fuller a'i frodyr gartref yn cyflwyno yr anturiaeth i nawdd Duw ac haelioni yr eglwysi. Y rhai hyn oeddynt ragredegwyr rhyw 230 o filwyr ffyddlon i Grist, sydd wedi eu danfon allan gan y Gymdeithas hon yn unig, 74 neu 75 o ba rai sydd yr awr hon ar faes y frwydr, yn ymladd yn wrol dros ein Harglwydd (cymmeradwyaeth). Byddai yn anmhossibl i'n pobl ieuainc deallus ddarllen hanes, ac ystyried hunanymwadiad, aberth, sel, a difrifoldeb y llu gwrol sydd wedi bod am saith deg pump o flynyddau yn dal cyssylltiad mor agos â'r Gymdeithas hon, heb blygu i lawr a bendithio Duw am godi y fath gymmeriadau, ac erfyn am gymhorth i ddylyn eu hol mewn ffydd a gweithredoedd. O!'r fath wersi a gawsid wrth fyfyrio bywydau tebyg i Fuller, Sutcliffe, Ryland, Pearse, ac ereill a ddylynasant fel cynnorthwywyr y Gymdeithas; neu ddylyn bywydau, llafur, lludded, a llwyddiant Carey, Marshman, Ward, Chamberlain, Yates, a'u brodyr yn y Dwyrain, a Knibb a Burchell, yn y Gorllewin. Mae hanes dynion o'r fath hyn yn llawn o wersi addysgiadol i ieuenctyd ein cynnulleidfaoedd (cymmeradwyaeth).
Y mae cynnydd ein Cymdeithas hefyd yn llawn o ddyddordeb i'n pobl ieuainc. O! fel y bu ein Tad nefol yn profi ffydd sylfaenwyr y Gymdeithas hon yn ystod y saith mlynedd cyntaf o'i bodolaeth. Yn ystod yr adeg hirfaith hon, bu gweithgarwch a chaledi y cenadon heb un llwyddiant ymddangosiadol, mor bell ag yr oedd argyhoeddiad eneidiau yn myned; etto, aethant yn y blaen gyda dyfalbarhad ffyddiog yn Nuw, gan adael y canlyniadau yn ei law gwbl—alluog Ef. Er na fu neb dychweledigion am saith mlynedd, yr oedd y Gymdeithas wedi helaethu ei therfynau i raddau mawr, gan ei bod wedi danfon allan amryw genadon Ewropeaidd yn ychwanegol, rhai o ba rai a adawsant y fuchedd bresenol yn bur fuan. Ond yn y flwyddyn 1800—y cyntaf yn y ganrif bresenol—yr oedd genym yn India 4 cenadwr Ewropeaidd, 1 capel bychan, 1 eglwys fechan, 1 Ysgol Sabbothol, ac 1 ysgol ddyddiol—oll yn gyfyngedig i'r cenadon a'u teuluoedd. Profodd y flwyddyn hon yn un fythgofiadwy yn hanesiaeth y Genadaeth, yn gymmaint ag mai ar y 17eg o Fawrth, 1800, y tynwyd y llen gyntaf o'r Beibl Bengaelaeg drwy y wasg. O!'r fath olygfa darawiadol oedd gweled y teulu bychan wedi cydgwrdd yn eu capel, a William Carey yn gosod y llen oedd newydd ei gorphen yn wlyb o'r wasg ar fwrdd y cymundeb, gan ei chyflwyno i'r Arglwydd, fel rhan o'r hyn oedd i ganlyn, a diolch iddo am yr holl drugareddau oedd wedi gael, a gweddio am ei gymhorth a'i arweiniad yn y dyfodol. Yr ydym yn gwybod heddyw i ba raddau y mae y weddi hono wedi ei hateb. Mae ein cenadon wedi cael y fraint o fod yn alluog i roddi Gair Duw i'r pagan mewn hanner cant o ieithoedd a thafod—leferydd. Mae hyn ar ei ben ei hun yn synfawr i'n golwg, ac yn galw am ein diolchgarwch mwyaf trylwyr i Dduw, a'n gwerthfawredd twymgalon o'r dynion fuont yn offerynau yn ei law i ddwyn y fath waith godidog oddiamgylch (cymmeradwyaeth). Oddiar hyny mae ein cenadon wedi bod yn abl i drosglwyddo i'r pagan dros filiwn o gyfrolau o Air Duw, ac yr ydym yn awr yn danfon i ffwrdd o wasg y Gymdeithas tua 45,000 o gyfrolau o'r Beibl yn flynyddol. Wrth edrych dros y ffeithiau hyn, pwy all ddiystyru dydd y pethau bychain? (cymmeradwyaeth). Tri diwrnod cyn terfyniad y flwyddyn 1800, dygwyddodd amgylchiad pwysig arall, yr hwn a lawenhaodd galonau ein dynion da. Rhagfyr 28ain, 1800, sancteiddiodd William Carey ddyfroedd y Ganges drwy drochi ynddi y cyntaf a ddychwelwyd i'r ffydd Gristionogol, sef Christnu Paul; a phan yr oedd y bedyddiedig yn dyfod i fyny o'r dwfr, llefarodd un o'r cenadon ar y lan y geiriau canlynol: "To-day is broken the first link in the chain of caste, and there is no power on earth or in hell that can reunite it." Yr oedd y dywediad hwna yn ffaith, ac yn fath o broffwydoliaeth—y naill y dydd hwnw, a'r llall wedi ei wireddu hyd y dydd hwn, gan nad ydyw caste yn India byth wedi hyny wedi cyrhaedd ei sefyllfa gyntefig (cymmeradwyaeth). Wedi hyny, mae ein cenadon wedi derbyn miloedd i Eglwys y Duw byw, llawer o'r rhai sydd wedi myned at eu gwobr, tra y mae eu rhifedi ar y ddaear yn cyflym gynnyddu o hyd. Beth raid fod llafur y brodyr ffyddlon a anfonwyd allan i ddwyn oddiamgylch ganlyniadau dedwydd y dydd heddyw? Gadewch i ni gymmeryd un gipolwg ar agwedd y maes y foment bresenol. Mae genym yno 74 o genadon Ewropeaidd, 300 o oruchwylwyr brodorol, 20 o weinidogion brodorol yn Jamaica, trysorfa y Calabar Institution, a 4 o sefydliadau er addysgu dynion ieuainc i waith yr Arglwydd. Ac wrth son am Jamaica, yr hon sydd yn blentyn anwyl i'r Gymdeithas hon, gallwn grybwyll fod genym yno gannoedd o eglwysi yn cael eu cario yn mlaen yn drefnus a rheolaidd, yn cynnwys cyfanswm aelodol o 30,000, gydag ysgolion a lle ynddynt i 12,000 neu 15,000 o blant. Y mae y Gymdeithas yn awr yn llanw sefyllfaoedd pwysig yn India, Ceylon, China, Affrica, Jamaica, Hayti, Trinidaad, Bahamas, Ffrainc, a Norway, tra y mae drysau newyddion yn parhau i agor, y rhai y dylasai gymmeryd meddiant o honynt, ond metha o herwydd angen haelioni mwy oddiwrth yr eglwysi.
Gallasem etto gyfeirio sylw ein pobl ieuainc at amgylchiadau pennodol o ofal Duw, am ei ddaioni tuag at y Gymdeithas hon. Cymmerer y flwyddyn 1812 er enghraifft, pryd yr oedd y Gymdeithas yn ugain mlwydd oed. Dinystriwyd yn hollol y swyddfa argraffu berthynol iddi yn India, pryd y collwyd adeilad yn mesur 100 wrth 42 troedfedd, amryw dunelli o bapyr, 5,450 pwys o dype Seisnig, tair tunell o argraft-nodau wedi eu gwneuthur yn bwrpasol i un-ar-bymtheg o lafar-ieithoedd Indiaidd, yr oll o'r cases a'r stock-in-trade, a chrynhofa helaeth o lyfrau, yn mhlith y rhai yr oedd Geiriadur y Sanscrit, yn bum' cyfrol, ac yn barod i'r wasg-oll yn chwyddo i'r golled arianol o £7,000! Yr oedd hon yn golled aruthrol. Etto, ni a welwn ddaioni Duw hyd y nod yn yr adeg gyfyng hon, canys y boreu canlynol, wrth daflu golwg dros adfeilion yr adeiladaeth, deuwyd o hyd i dair tunell a hanner o fetal (yr hyn oedd yn gynnorthwy mawr iddynt er ail-ffurfio yr argraff-nodau), a chafwyd y matrices a'r punches dur perthynol i'r ieithoedd Indiaidd heb eu hanafu mewn un modd, yr hyn oedd o fantais fawr mewn arian ac amser, a thrwy yr hyn yr oeddent yn alluog i ddechreu argraffu eilwaith mewn deng niwrnod, ac mewn llawn waith yn mhen chwech mis! Yna yr ydym yn canfod llaw Duw yn dal i fyny ein dynion da yn ngwyneb ergyd mor drwm, fel yr oeddynt yn alluog i roddi eu hymddiried ynddo Ef am y dyfodol. Wedi i'r newydd galarus am y golled fawr gyrhaedd y wlad hon, gwnawd appeliad grymus at bawb Cristionogion, ac atebwyd ef yn gwbl foddhaol, gan fod cyfraniadau wedi dyfod i law cyn pen tri-ugain niwrnod yn cyrhaedd y swm o £7,000. Heblaw hyn, gwnaeth y golosgiad yn Serampore i'r Genadaeth fod yn fwy hyspys, ac o'r dydd hwnw allan bu derbyniadau parhaol y Gymdeithas yn llawer helaethach (cymmeradwyaeth).
Yr oedd y flwyddyn 1829 hefyd yn gyfnod nodedig yn hanes y Gymdeithas hon, pryd yr oedd mewn dyled o £4,000; ond cyfarfu y cyfeillion mewn ffydd a dybyniaeth ar Dduw, a gwnaethant appeliad etto at haelfrydedd Cristionogol, ac mewn un cyfarfod yn y neuadd hon, llwyddwyd i gael £4,798 6s. 4c., y ddyled yn cael ei dileu, a gweddill mewn llaw o £788 6s. 4c. Y mae y flwyddyn 1832 yn gofus ar feddyliau llawer o'r brodyr a'r henafwyr a welaf o'm deutu. Yn y flwyddyn hono dinystriodd gelynion y Genadaeth ein capeli a'n hysgolion yn Jamaica, lle y collasom eiddo yn werth amryw filoedd; ond mewn atebiad i appeliad William Knibb (clywch, clywch,) a theimlad cyfiawn Ty y Cyffredin, ail-adeiladwyd y capeli a'r ysgolion mewn modd rhagorach, a gwelodd y diafol pan yn rhy ddiweddar ei fod wedi gwneuthur camsyniad dirfawr wrth losgi capeli y Bedyddwyr yn Jamaica (uchel gymmeradwyaeth). Ni annghofir byth y flwyddyn 1840 gan lawer o honom, pryd y cymmerodd Knibb-apostol mawr y Gorllewin-un-ar-bymtheg o genadon newyddion drosodd i Jamaica. O! y fath olwg ogoneddus oedd hono i ni pan yn ffarwelio â hwynt yma ar yr afon, ac yn edrych am y tro diweddaf ar wynebpryd gwrol Knibb, yr hwn oedd yn ddychryn i ormeswyr, ond yn gyfaill calon i'r caethion truenus. Dywedaf etto fy mod yn ofni yn ddirfawr ein bod yn ol o wneuthur ein dyledswydd tuag at ein pobl ieuainc, trwy esgeuluso eu gwneuthur yn gynnefin â ffeithiau o'r natur hyn, perthynol i sefydliad, cynnydd rhyfeddol, a'r llwyddiant bendigedig (dan fendith Duw) sydd wedi dylyn Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr (cymmeradwyaeth).
Un gair arall o barth yr hyn yr ydym ni yn Nghymru yn ei wneyd mewn ffordd o gynnorthwy i'r Gymdeithas. Mae yn bleser genyf ddywedyd fod ein heglwysi yn gyffredinol yn teimlo dyddordeb dwfn yn y Gymdeithas hon, er mae yn wir fod rhai yn ei hesgeuluso, ond y mae y mwyafrif yn gwneuthur yr hyn a allant er dwyn y gwaith da i ben. În ystod yr un flynedd ar ddeg yn cynnwys o 1857 i 1867, mae yr eglwysi Cymreig wedi cynnyddu yn fawr yn eu cyfraniadau (clywch, clywch). Yn 1857, cyfanswm y cyfraniadau oddiyno (heblaw legacies) oedd £1,312 15s. 5¼c., ac y mae y swm hwn wedi cynnyddu mor raddol yn ystod yr un flynedd ar ddeg, fel y cyfranasant yn 1867 £2,360 4s. 10½c., yr hwn swm, o'i gymharu â'r unrhyw yn 1857, sydd yn dangos cynnydd o £1,047 19s. 5½c., neu 80 y cant; neu yn gwneuthur cyfanswm yn ystod yr un flynedd ar ddeg oddiwrth eglwysi na allant ymffrostio yn eu cyfoeth, ond sydd yn ddiarebol dlawd, o £20,998 17s. 8¾c. At hyn, goddefer i mi ychwanegu yr ychydig legacies sydd wedi eu rhoddi yn yr un cyfnod, yn cyrhaedd £209 8s. 5c., yr hyn a wna y cyfanswm o Gymru dlawd yn £21,308 6s. 1¾c. Yn awr, dywedir wrthym ei bod yn angenrheidiol i'r eglwysi gynnyddu 12 y cant at eu cyfraniadau presenol cyn y gall y Gymdeithas dalu ugain swllt yn y bunt, a dymunem dalu hyny. Wel, bydd i mi a'm brodyr yma gymmeryd arnom i gymmeradwyo i'r eglwysi Cymreig—a diolch i Dduw, hwy wnant unpeth a gymmeradwywn iddynt yn Nghymru (clywch, clywch)—i gynnyddu eu cyfraniadau i 20 y cant, yn lle 12½. A wna'r Saeson gynnyddu yr eiddynt hwy i 25 y cant? (uchel gymmeradwyaeth). Yna bydd genym £15,000 neu £18,000 yn flynyddol yn fwy nag sydd genym y dydd heddyw, a gallem yn rhwydd gymmeryd meddiant o'r sefyllfaoedd a gynnygir i ni yn India, o Cape Comorin yn y dehau hyd at Lahore yn y gogledd, ac o Burmah yn y dwyrain hyd Bombay yn y gorllewin. Fe ddaw y cyfandir hwn, a'i 200,000,000 eneidiau, i fod yn berl yn nghoron y Gwaredwr, ac yr ydym yn barod i gymmeryd gafael yn y gwaith, ond yn dysgwyl wrth yr eglwysi am eu cymhorth at hyny. Yr ydym yn credu y gwireddir syniadau proffwydoliaethol Dewi Wyn, bardd Cymreig, pan y canodd flynyddau yn ol fel y canlyn:—
"Od aeth y fendith hyd eithaf India,
O'i da ewyllys hi a'i diwalla;
Llwybr i'w chynniwair lle bu arch Noa,
Aed o'r Ararat i dir Aurora,
O'r ynys moried i'r hen Samaria,
Dychwel hi'n dawel i hen Judea,
Cyn hir pregethir ar ben Golgotha,
Neu mewn mawr awydd yn mhen Moria,
Yr Olewydd a Mynydd Amana?
Pwy? Hen eglwysydd penigol Asia;
Cwymp Babel uchel dan bla—yn ei hawr
Wele oleuwawr! Wi! wi! haleliwia!!
Ansawdd oer Ynysoedd Ia,—cynhesed
Eich tir, O! caned, a choed Hercynia!
Dawn Duw'n dwyn newyddion da—i'w hoffdir,
Hermon a Senir. Amen! hosanna!
Daw'r genedl adre i Ganaan—daw ail
Adeiliaw coed Liban,
Daw mil myrdd o demlau mân—mewn purdeb
O odreu Horeb draw i Haran;
Ac hefyd y byd cyfan—a fyn hi
Yn glau goroni, ac ail greu anian!
Nid boddi enaid byddant,
Byd ddaw'n well—bedyddio wnant,
Un buch â'r eunuch yr ânt,—i Grist mwy
O fodd hwy ufuddhant."
Bydded i ni un ac oll gael ein bedyddio ag yspryd yr awdl hon (chwerthin mawr), fel y byddo i ni gael ein deffroi i wneyd yr hyn a allom i ddwyn y byd wrth draed yr Iesu (uchel gymmeradwyaeth).
ARAETH AR Y GENADAETH DRAMOR.[18]
Yn nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Genadol y Bedyddwyr, yn Exeter Hall, y llynedd, yr oedd y Pwyllgor yn alluog i fynegu:— "Nid yn aml y mae y Pwyllgor wedi bod yn alluog i gyflwyno balance-sheet mor gefnogol a boddhaol a'r un am y flwyddyn hon. Y mae ganddynt i hyspysu yr incwm mwyaf a dderbyniwyd erioed, gyda'r eithriad o flwyddyn y Jubili." Fel hyn, yr oedd y Pwyllgor yn alluog i dalu pob gofynion yn erbyn y Gymdeithas, a dechreu y flwyddyn gyda swm bychan mewn llaw. Nis gallaf alw i gof unrhyw gyfnod yn hanes y Gymdeithas, oddiar ddyddimiad Caethwasanaeth Jamaica, pan y safai mewn gwell sefyllfa nag y gwna yn bresenol. Yn fasnachol, yr ydym yn alluog i gwrdd â phob hawl yn erbyn y Gymdeithas. Yn gartrefol, yr ydym yn awr yn byw yn ein ty ein hunain—buom un amser fel yr Apostol Paul, yn byw mewn "ty ardrethol" (chwerthiniad); ond yr ydym wedi symmud o'r ty ardrethol yn John Street i'n palas ein hunain yn Castle Street (chwerthiniad). Er nad oes genym ryw gyfnewidiadau mawrion i'w mynegu, nac unrhyw newyddion pwysig i'w gosod ger eich bron; etto, wrth daflu golwg dros yr holl faes a feddiennir gan oruchwylwyr y Gymdeithas hon, y mae genym reswm da dros fendithio Duw, a chymmeryd cysur. Yn China, yr ydym wedi colli dyn da a ffyddlon, yn nghanol ei ddyddiau; ond yr ydym yn diolch i Dduw fod genym un arall i gymmeryd i fyny ei le, yn mherson fy nghydwladwr ieuanc, Mr. T. Richard. Y mae angeu hefyd wedi bod ar waith yn India, ac wedi sym- mud yr anrhydeddus a'r duwiol Mr. Leslie, Calcutta, a'r enwog Mrs. Martin, Serampore; etto y mae gwaith yr Arglwydd yn myned rhag ei flaen yn India. Dydd Gwener diweddaf, derbyniais lythyr hir oddiwrth y brawd Evans, o Allahabad, yn mha un y rhoddai hanes dyddorol o weithrediadau Duw yn y Talaethau Gogledd-Orllewin, a'r tebygolrwydd wedi y flwyddyn hon, i rai o'r eglwysi gynnal eu hunain, heb dderbyn rhagor o gymhorth o Ewrop. Y mae ein gwahanol genadaethau yn yr India Orllewinol mewn llawn gwaith; ac oddiwrth fynegiad galluog Dr. Underhill, gallem feddwl fod cyfnod llwyddiannus yn aros ein cenadaeth yn Affrica, pan y mae pob peth o'n hamgylch yn lled arwyddo y dylem gynnyddu ein hymdrechion ugain gwaith yr hyn ydynt yn Ewrop. Gan ein bod yn y sefyllfa ffafriol hon, ni fydd allan o lei gyfeirio at sefyllfa wirioneddol eglwysi y Bedyddwyr yn y Deyrnas Gyfunol yn eu cyssylltiad â Chymdeithas Genadol y Bedyddwyr. Nid ydym yn awr yn myned i achwyn.
Nid yw y Pwyllgor yn anfon allan apeliadau torcalonus am gynnorthwy i ddyrchafu y Gymdeithas o ddyfroedd dyfnion. Na, yr ydym yn awr mewn sefyllfa dda. Gallwn edrych yn ddigywilydd yn ngwyneb pawb, a thalu u gain swllt yn y bunt; ac yn awr, heb achwyn, gadewch i ni nodi allan rai colliadau, ac awgrymu gwelliant i'r drwg; canys er fod y Gymdeithas heddyw, gydag incwm y flwyddyn ddiweddaf, yn alluog i gwrdd â phob ymrwymiadau, rhaid i ni gofio fod y maes yn barhaus yn eangu; ac nid gwiw i ni freuddwydio am eiliad i ymfoddloni ar gadw ein sefyllfa bresenol yn unig. Bydd genym yn fuan ddau genadwr yn China—Mr. Richard a Dr. Brown—ïe, dau, a dim ond dau, i faes mor eang. Edrychwch wedi hyny ar y maes newydd a phwysig a egyr drwy agoriad ffordd fawr y Dwyrain. Agora hon yr holl wlad rhwng Caercystenyn a Gogledd India. Yna edrychwch yn nes gartref—i Ffrainc, Yspaen, ac Itali. Y mae ein brodyr yno, fel y Macedoniaid gynt, yn gwaeddi o waelodion eu heneidiau, "Deuwch drosodd, a chynnorthwywch ni." Gwn y gall fod rhwystrau ar ein ffordd i agor meusydd newyddion yn Ewrop; ond gadewer i'r eglwysi roddi y moddion wrth law y Gymdeithas, a chilia y rhwystrau fel gwlith y boreu. Onid yw'r amser wedi dyfod, pan mae Arglwydd y lluoedd ar "siglo y nefoedd, a'r ddaear, a'r môr, a'r tir sych," gan chwyrndaflu oddiar eu gorseddau drawsfeddiannwyr iawnder a rhyddid, fel y byddo i Efengyl ei Fab gael ffordd rydd, a chael ei gogoneddu. Bydded i'r penau coronog uchelfrydig ag ydynt yn aros gymmeryd gwers oddiwrth yr hyn sydd wedi dygwydd i Ferdinand o Naples, Theodore o Abyssinia, Lopez yn Nehaubarth America, Maximilian yn Mexico, Isabella yn Yspaen, ac yn ddiweddaf oll, Napoleon ac Eugenie, y cyntaf yn llettywr anfoddog yn Germani (cymmeradwyaeth), a'r olaf mewn annedd huriedig yn y wlad hon—yr hon sydd yn ddinas noddfa i freninoedd a breninesau, ymherawdwyr a thywysogesau, ag ydynt yn dygwydd colli eu sefyllfaoedd. Ac edrychwch ar yr hen ddyn crynedig yna yn Rhufain—dyna ddyn hen a methedig yn cael ei gyhoeddi yn anffaeledig—dyna fe, yn methu penderfynu pa beth i'w wneyd na pha le i fyned—pa un a â efe mewn agerlong i Malta, ac yno i fod yn dywysog ysprydol i arolygu yr Eglwys Rufeinig, neu ynte i gymmeryd ychydig ystafelloedd huriedig yn Belgium; neu ynte a fydd iddo eistedd i lawr a marw yn y Vatican, ac i gael ei amddiffyn yno gan filwyr Itali. Gan mai dyma sefyllfa pethau yn Ewrop, byddai yn bechod ynom — yn bechod o'r fath waethaf yn erbyn Duw a dyn, i beidio cymmeryd mantais o arwyddion yr amserau, ac i fyned yn mlaen, a chymmeryd meddiant o'r tir yn enw ein Harglwydd a'n Meistr mawr. Ond i wneyd hyn, rhaid i ni gael rhagor o arian. A pha fodd y gallwn ni ychwanegu ein trysorfa? Y mae yn ngallu ein heglwysi i ychwanegu derbyniadau y Gymdeitnas, heb feichio y rhai ag ydynt yn awr yn gwneyd yn dda, a hyny drwy wneyd y casgliadau blynyddol yn gyffredinol, ac nid yn rhanol fel yn bresenol. Wrth gymmeryd i fyny y Llawlyfr a Mynegiad y Gymdeithas Genadol am y flwyddyn hon, cawn y canlyniadau canlynol. Rhoddir cyfrif o eglwysi, heblaw 757 o gangenau a gorsafoedd pentrefol; bydd i ni adael allan y cangenau, gan ymwneyd yn unig ag eglwysi corffoledig. Cyfanswm yr eglwysi yn y Deyrnas Gyfunol yw 2,335; o'r rhai hyn y mae genym yn Lloegr, 1,716; yn Nghymru, 501; yn Scotland, 87; yn yr Iwerddon, 31; ac o'r 2,335 eglwysi yn y Llawlyfr, cawn yn Mynegiad y Gymdeithas fod 1,297 wedi casglu at y Genadaeth yn y flwyddyn oedd yn diweddu Mawrth 31ain, 1870—a gwahaniaetha y tanysgrifiadau a'r casgliadau o 3s. 4c. a gasglwyd gan yr eglwys fechan yn Lixwm, Swydd Fflint, i'r swm tywysogaidd o £254 1s. 9c., a gasglwyd gan yr eglwys sydd dan weinidogaeth alluog Dr. Brock. Gadawa hyn 1,038 o eglwysi na wnaethant gasglu yn ystod y flwyddyn. O'r eglwysi na wnaethant gasgliad, y mae 834 o honynt yn Lloegr, 141 yn Nghymru, 46 yn Scotland, a 17 yn yr Iwerddon. Cawn fel hyn fod 5½ y cant o'r eglwysi yn Lloegr yn gwneyd casgliad, a 48½ y cant na wnaethant gasgliad yn ystod y flwyddyn ddiweddaf; yn Nghymru, cawn 71¾ y cant o'r eglwysi yn gwneyd casgliadau, a 28¼, y cant heb wneyd hyny; yn Scotland casglodd 47⅛ y cant o'r eglwysi, a 57⅞ y cant a esgeulusasant wneyd hyny; ac yn yr Iwerddon casglodd 45⅙ y cant, ac ni wnaeth 54⅝ y cant ddim. Wrth gymmeryd yr holl eglwysi yn y Deyrnas Gyfunol, cawn fod 55½ y cant wedi casglu, a 44½ y cant heb wneyd hyny y flwyddyn ddiweddaf. Nid wyf yn gwybod a fyddai i mi bechu wrth deimlo yn falch o Gymru dlawd wedi y cwbl: tlawd fel yr ydym, ymddangoswn yn ffafriol er hyny, wrth ein cymharu â rhanau ereill o'r deyrnas. Yn awr,tybier fod y 1,038 eglwysi na wnaethant gasgliad yn gwneyd yn ol cymhariaeth yr hyn a wneir gan eglwysi tlodion Cymru, byddai genym y canlyniad canlynol:—Casgla 360 o eglwysi yn Nghymru y swm o £2,125 15s. 2g.; yna, byddai i'r 1,038 eglwysi, os byddai iddynt roddi o gwbl, gasglu y cyfanswm o £6,129 5s. 4¾c. Yn awr, y mae colli y swm yna yn golled fawr mewn ystyr arianol, ond y mae y golled foesol i'r eglwysi yn llawer mwy: collant y pleser a'r anrhydedd o fod yn gydweithwyr â Duw; amddifadant eu plant o'r pleser o gynnorthwyo yn y gwaith da o achub eneidiau; mewn gwirionedd, dygir plant yr eglwysi hyn i fyny fel paganiaid. Dywedai yr enwog Andrew Fuller unwaith ei fod ef a'r eglwys wedi eu darostwng i'r fath raddau, fel yr oedd pob mwynhad crefyddol wedi eu gadael; ond dechreuasant ar y gwaith cenadol, a daeth cyfnewidiad llwyr dros yr eglwys a'r gweinidog; gweithient yn galonog dros y paganiaid yn ngwledydd pellenig y byd, a bendithiai Duw eu heneidiau yn helaeth gartref. Y mae angen ymdrech unol arnom yn yr anturiaeth hon, yn gystal a chydweithrediad holl eglwysi—oll i wneyd rhywbeth yn flynyddol dros y Gymdeithas. Ofnaf fod rhai o'n brodyr henaf wedi annghofio, a gall fod rhai o'n brodyr ieuangaf heb glywed na darllen hanes cyfarfod cenadol a gynnaliwyd yn Jamaica gan gynnulleidfa o negroaid. Gwnawd y cyfarfod i fyny yn gyfangwbl o ddynion duon; a chan ei fod wedi ei alw yn nghyd yn rheolaidd ac amserol, dygid pobpeth yn mlaen mewn trefn a gweddeidd-dra. Er nad oedd ganddynt ryw benderfyniadau llafur-fawr a hir—eiriog, etto yr oeddynt yn hollol uniongred; canys pasiwyd ganddynt y tri phenderfyniad canlynol:—1. Bydd i ni oll roddi rhywbeth. 2. Bydd i ni oll roddi fel y galluogwyd ni gan Dduw. 3. Bydd i ni oll roddi yn llawen. Wedi pasio y tri phenderfyniadau hyn, dechreuasant yn y man eu gosod mewn gweithrediad. Cymmerodd negro henafol ei le wrth y bwrdd, gyda'i lyfr yn ei law, er gosod i lawr y symiau a gyfrenid. Daeth lluaws yn mlaen, a chyfranent i'r drysorfa symiau bychain yn ol eu hamgylchiadau cyfyng. Yn mhlith ereill, daeth hen negro cyfoethog yn mlaen, yr hwn a osododd i lawr ddernyn bychan o arian. Cymmerwch hwn yn ol," ebe yr hen ddyn wrth y bwrdd. Gall fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ond nid yn ol yr ail; cymmerwch ef yn ol." Gwnaeth y gŵr cyfoethog felly, a brysiodd yn ol i'w eisteddle. Daeth un ar ol y llall o'r bobl dlodion yn mlaen; a chan fod y rhan amlaf o honynt yn rhoddi rhagor nag a gynnygiodd y negro cyfoethog, teimlai yn gywilyddus o hono ei hun. Daeth yn mlaen drachefn, a bwriodd ar y bwrdd ddernyn gwerthfawr o aur, gan ddweyd mewn llais digofus, "Dyna, cymmerwch hwna." Ond dywedodd y gŵr da wrth y bwrdd, "Na, ni wnaf hyny ychwaith; gall fod yn ol y penderfyniad cyntaf, ac yn ol yr ail, ond nid yw yn ol y penderfyniad diweddaf." A gorfu i'r hen ddyn fyned yn ol drachefn. Eisteddodd i lawr, ac wedi myned dros y mater yn ei feddwl, teimlodd ei fod yn feius, a thrwy gymhorth gras Duw, y byddai iddo wneyd yn iawn. Yna aeth yn mlaen at y bwrdd gyda gwên ar ei wyneb, yr hyn a arwyddai fod ei galon wedi ei chyfnewid, a chyflwynodd swm mawr i'r drysorfa. "Da iawn," ebe y trysorydd negroaidd, "gwna hyn y tro,—mae hyn yn ol yr oll o'r penderfyniadau." Tarawyd fi yn hynod gan dair ffaith yn ystod fy ymweliad ag America y llynedd. Gofynwyd i mi fwy nag unwaith i roddi anerchiad gerbron aelodau y "Gymdeithas Ymofynol" yn ein Prifysgolion yno. Yr oedd teitl y gymdeithas yn newydd i mi; ond cefais allan yn fuan fod ein myfyrwyr gweinidogaethol yn ein Prifysgolion a'n Colegau yn yr America yn ffurfio eu hunain yn gymdeithas, i'r dyben o osod eu hunain mewn gohebiaeth uniongyrchol â'r cenadon mewn gwledydd tramor. Cadwant yn mlaen ohebiaeth barhaus â'r holl oruchwylwyr mewn gwledydd pell, a thrwy hyny deuant yn gydnabyddus â dyledswyddau, treialon, dyoddefiadau, peryglon, a llawenydd y cenadon. Meithrinant yspryd cenadol yn ystod eu cwrs athrofaol, a deuant yn barod i gynnyg eu hunain at wasanaeth cenadol mewn gwledydd tramor. Cefais fod sefydliad duwinyddol Prifysgol Madison yn unig wedi anfon allan dros driugain o'i gwyr goreu i China, Siam, Burmah, ac India. Trwy y moddion hyn, nid yw Undeb Cenadol y Bedyddwyr yn America yn fyr o ddynion i'r meusydd cenadol. Y mae'r Ysgolion Sabbothol yn America yn gwneyd gwaith da yn y cyfeiriad hwn hefyd. Y mae llawer o'r ysgolion yn argymmeryd i gynnal cenadwr, neu athraw, mewn lleoedd neillduol; a chant fynegiadau parhaus o'r maes gyda golwg ar y defnydd a wneir o'u tanysgrifiadau. Fel hyn, y mae yr Ysgolion Sabbothol yn America yn dyfod yn fath o sefydliadau cenadol, gan gydweithredu â bwrdd gweithredol yr Undeb; a cha y plant eu meithrin mewn yspryd cenadol o'u mabandod i fyny. Dysgir hwy fel hyn yn foreu i gyfranu—ac y maent yn cyfranu—cyfranant oll, a hyny yn llawen. A chymmeryd y ddwy ffaith a nodwyd, cyfrifant braidd yn hollol am y canlyniadau a geir yn Mynegiad diweddaf Undeb Cenadol Bedyddwyr America. Y mae ganddynt yn awr 1,919 o orsafoedd, 630 o eglwysi, 957 o oruchwylwyr, a bedyddiwyd yn ystod y flwyddyn 4,600. Cynnydd ar y flwyddyn ddiweddaf:—169 o orsafoedd, 12 o eglwysi, 110 o oruchwylwyr, 1,050 trwy fedydd, a 1,345 o aelodau. Cyfrifa eu trefn reolaidd o weithio wedi hyny am ffaith arall, sef fod y tanysgrifiadau wedi cynnyddu yn ystod y 25 mlynedd diweddaf i'r swm o 384 y cant. Credaf y gellid dilyn 'siampl y myfyrwyr ieuainc yn ngholegau America gan bobl ieuainc yn ein colegau yn y wlad hon; a phe efelychai ein Hysgolion Sabbothol yn Mhrydain Fawr Ysgolion Sabbothol America, ennillai y Gymdeithas o leiaf £5,000 y flwyddyn mewn arian, pan y byddai y dylanwad moesol ar y genedl bresenol, a chenedloedd ag ydynt etto heb eu geni, tuhwnt i ddim a allwn gyfrif yn bresenol.
ARAETH WLEIDYDDOL YN ABERHONDDU.
Ar ol ateb rhai gofyniadau am dano ei hun, dywedodd Dr. Price,
"O barthed i'm hawl i ddyfod i geisio eich pleidleisiau, yr oeddwn yn meddwl fod genyf gystal hawl ag unrhyw berson, os yn barod i wneyd yr aberthau gofynol i wasanaethu eich lles chwi. Yr wyf yn Gymro ganedig a magedig, yn Gymro mewn calon a theimladau. Yr wyf yn Annghydffurfiwr oddiar argyhoeddiad. Ganwyd fi yn nghymmydogaeth Aberhonddu, magwyd fi yn eich plith chwi, dechreuais fy ngyrfa grefyddol yn eich plith, ac er pan wyf wedi gadael eich tref, nid wyf wedi gwneyd dim i'w gwarthruddo. Meddyliais, ar ol saith mlynedd ar hugain o absenoldeb, y gallwn dd'od yn ol yn anrhydeddus i ofyn i chwi fy nychwelyd fel eich cynnrychiolydd i'r Senedd. (Cymmeradwyaeth.) Yr wyf fi, a llawer ereill, wedi teimlo er's amser bellach ei bod yn warth ar Gymru, am nad yw, o'r 32 aelodau y mae wedi ddanfon i'r Ty Cyffredin, wedi danfon un Annghydffurfiwr Cymreig erioed. (Cywilydd). Nid oes genym yn awr yn y Ty Cyffredin un aelod, yr hwn yn deg sydd yn cynnrychioli teimladau crefyddol wyth rhan o naw o bobl Cymru. (Bloeddiadau, 'Cywilydd,' 'Yr ydych yn iawn.') Yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, danfonodd Lloegr ac Ysgotland 40 o aelodau Ymneillduol i'r Ty, tra y danfonodd yr Iwerddon 40 o Babyddion i gynnrychioli teimladau y bobl Wyddelig i'r Senedd; ond Cymru, er ei gwarth oesol, ni ddanfonodd un Annghydffurfiwr i'r Senedd newydd. Onid yw yn amser i ni ddeffroi, a symmud ymaith y gwarthnod sydd yn gorphwys ar Gymru fel gwlad Ymneillduaeth? (Cymmeradwyaeth.) Wel, yr wyf wedi dyfod i roddi cyfle i etholwyr Aberhonddu wneyd felly, wedi methu eich darbwyllo i wahodd arall a gwell dyn. Yr wyf yn cynnyg fy hun fel y dirprwywr goreu allwn gael. (Cymmeradwyaeth a chwerthiniad.) Wedi i mi glywed am farwolaeth eich diweddar barchus aelod, gwyliais eich amgylchiadau gyda phryder mawr, gan obeithio y byddai i ryw foneddwr o ddylanwad lleol, a golygiadau haelfrydig a rhyddgarol, megys eich maer, ddyfod allan; ond cefais fy siomi yn hyn. Danfonodd dau foneddwr eu hanerchiadau allan, ond nid oedd un o honynt, feddyliaf, yn adlewyrchu golygiadau rhan fawr o etholwyr annybynol y fwrdeisdref hon. Gadewch i ni am funyd edrych ar yr anerchiadau sydd wedi eu dwyn allan ganddynt. Cymmerwn anerchiad Iarll Aberhonddu. Mae y paragraph cyntaf yn deilwng o deimlad caredig ei Arglwyddiaeth tuag at y diweddar aelod; yr ail a'r trydydd ydynt yn unig hen ymadroddion ystrydebol (stereotyped) sydd wedi eu defnyddio ganwaith mewn anerchiadau o'r blaen; ac y maent mor ddiystyr ag ydynt o gyffredin i bob dyn sydd yn darllen y papyrau. Sylwedd yr anerchiad yw, y bydd iddo roddi cymhorth diysgog ac annybynol i lywodraeth a theimlad Arglwydd Palmerston. Yr oedd gwladlywiaeth dramor llywodraeth Arglwydd Palmerston yn dda, am yr hyn yr oeddem yn ddyledus i Iarll Russell; ac am ei yswirdeb argyllidol yr oeddem yn ddyledus i Mr. Gladstone. Gyda'r ddau eithriad hyn, yr oedd gwladlywiaeth Palmerston yn ddidrefn, gwastraffus, anwadal, ac anfoddhaol. (Clywch, clywch.) Yr oedd yn Rhyddfrydwr mewn enw, ond mewn gwirionedd, yn gwneyd archiadau y Toriaid. Ac etto, dyma yr oll mewn sylwedd a addawyd gan yr urddasol ymgeisydd yn ei anerchiad cyntaf.
"Yr oedd anerchiad Mr. Gwyn yr oll a allech ddysgwyl oddiwrth Geidwadwr proffesedig a chysson. Yr ydym yn cael yn aml ddarluniad o'r gwarchodion a'u pruning knife, fel pe bai y Ceidwadwyr erioed mewn cariad â'r gyllell docio. (Cymmeradwyaeth.) Mae pob un sydd wedi darllen hanesyddiaeth yn gwybod fod Ceidwadaeth wedi bod yn bwysau marwol i bob cynnydd, diwygiad, a gwelliant. (Cymmeradwyaeth.) Yna, mae yr Ymneillduwyr cydwybodol' yn dod, fel pe na f'ai Mr. Gwyn erioed wedi cyfarfod ag Ymneillduwr cydwybodol. Beth! Yr oedd hyd y nod William Hopkins, y crydd, Ystradgynlais, yn dal fod ganddo gydwybod, er fod yr ynadon yn rhyfeddu am y fath ddrychfeddwl, ac yn cymmeryd lledr y dyn, a'i werthu i'r heddgeidwaid am hanner ei werth marchnadol, er talu y dreth eglwys. Nid oes un cweryl rhyngof a'r boneddigion hyn y mae ganddynt hawl i feddu eu golygiadau; ond rhoddaf y gofyniad hwn i chwi, A ydyw yr egwyddorion a osodir allan yn yr anerchiadau hyn yn arddangos golygiadau y mwyafrif o etholwyr Aberhonddu? Credaf nad ydynt, a hyn oedd fy rheswm yn dyfod allan i'ch cynnorthwyo chwi, neu rai o honoch, i argymmeryd eich gwrthdystiad yn y cyfarfodydd, ac ar lyfr yr etholres, yn erbyn y cyhoeddiadau (manifestoes) hyn. Daethum allan er gwneyd prawf—gosod wrth y test y galwadau uchel a wnawd mewn rhai lleoedd a chynnulliadau o barthed yr angenrheidrwydd o ethol Cymro ac Annghydffurfiwr Cymreig i gynnrychioli o leiaf un o'r 32 o'r cynnrychiolaethau (constituencies) Cymreig, ac yr oeddwn am weled pa help allasai dyn ymarferol gael i fyned i'r Senedd, heb ei orfodi i ymgyduno â hanner cyfreithwyr y fwrdeisdref, a sicrhau hanner y tafarnwyr (uchel gymmeradwyaeth), ac a allai dyn gael ei ddychwelyd ar lai traul na phunnoedd bathawl yn cael eu cyfrif wrth y miloedd? Yr ateb wyf wedi ddysgu yw, fy mod ychydig o flaen yr amser. Ond, foneddigion, fe ddaw yr amser pryd y gwneir hyn, a gallesid meddwl fod Aberhonddu yn faes teg er gwneyd y fath brawf (clywch, clywch), gan fod yma yn y fwrdeisdref hon ddim llai nag wyth cynnulleidfa o Annghydffurfwyr, ac hefyd Goleg pwysig, lle y mae ein gweinidogion dyfodol yn cael eu dysgu yn yr egwyddorion dros y rhai y darfu ein tadau Puritanaidd waedu a marw. (Cymmeradwyaeth.) Mae y cwestiwn o Ddiwygiad Seneddol yn sicr o gael sylw y deddfwyr yn yr eisteddiad nesaf, a dylech chwi fod yn barod i edrych y gofyniad yn deg yn ei wyneb. Credaf fod tri phwynt i ymwneyd â hwy cyn y gall y gofyniad hwn gael ei ystyried a'i benderfynu-yr etholfraint, dyogeliad y pleidleisiwr, ac ail-ddosparthiad eisteddleoedd Seneddol. Gadewch i ni edrych ar yr etholfraint fel y mae yn awr yn meddiant y corff etholiadol yn y wlad hon. Mae Ty y Cyffredin presenol yn gyfansoddedig o 656 o aelodau, 466 o honynt wedi eu dychwelyd i gynnrychioli siroedd a bwrdeisdrefi yn Lloegr; 105 dros yr Iwerddon; 53 dros Ysgotland; a 32 dros Gymru. Mae y rhai hyn yn cael eu hethol yn ol darpariadau Ysgrif Ddiwygiadol 1832, gan ryw nifer o bersonau sydd â chymhwysder rhoddedig ganddynt i arfer yr hawl hon. Mewn siroedd dan ryw drefniadau, gall y rhydd-ddeiliad, nawdd-feddiannwr, prydleswr, a thir-ddeiliad, os bydd ei rent yn £50 y flwyddyn, bleidleisio dros gynnrychiolydd i'r Senedd; tra mewn bwrdeisdrefi, mae gan ddaliedydd tai a thir gwerth £10 y flwyddyn hawl i fod yn nghofres y pleidleiswyr. Cafodd hyn ei benderfynu yn y flwyddyn 1832-34 mlynedd yn ol, ac nid oes un cyfnewidiad wedi cymmeryd lle er hyny, mor bell ag y mae a fyno â Lloegr, Ysgotland, a Chymru; ond yn yr Iwerddon, mae yr etholfraint wedi cael ei hiselhau gryn lawer. Trwy Act 1850, cafodd ei darostwng i £12 o ardreth-dâl yn y siroedd, ac i £8 yn y bwrdeisdrefi. Yn y flwyddyn 1864, cyfanrif y pleidleiswyr ar holl lechresau y Deyrnas Gyfunol oedd 1,333,690. Byddai y nifer anferth hwn i roddi canolrif o 2,033 o bleidleiswyr i bob un o'r 656 aelodau, a chaniatau eu bod yn cael eu dosparthu yn gyfartal. Ond pan yn tynu allan o'r llechres yr holl ddychweliadau deublyg, cymmeryd i ystyriaeth yr holl farwolaethau, y symmudiadau, a'r annghymhwysderau ereill, byddem yn lleihau llawer iawn ar lechres y pleidleiswyr gweithredol, ac yn eu cael yn rhifo i'r eithaf tua 1,100,000, allan o'r boblogaeth anferth o rhwng 29 a 30 miliwn, fel nad oes genym yn y wlad hon ond un person allan o bob 29 o eneidiau â hawl ganddo i bleidleisio dros aelod i Dy y Cyffredin. Gadewch i ni geisio gwneyd hyn yn hollol eglur i bob un o honoch. Meddyliwch pe bai yn bossibl i ni gasglu at eu gilydd holl drigolion y Deyrnas Gyfunol, byddai iddynt gyda'u gilydd orchuddio arwynebedd o 1,567 o erwau o dir. Yn awr, byddai i 1,500 o erwau osod allan yn gywir y rhan hono o bobl y wlad hon nad oes hawl ganddynt i bleidleisio, tra y byddai y 67 erw fyddai ar ol yn dangos y rhan sydd â llais ganddynt yn bresenol yn etholiad aelodau i'r Senedd i wneyd ein cyfreithiau. (Cymmeradwyaeth.) A ydyw yn iawn i feddwl am fynud fod hyn yn gynnrychioliad teg o'r bobl? Onid yw yn annghysson, annghyfiawn, a chreulawn? Yn ddiau, mae enwi y cyntaf yn ddigon i argyhoeddi yr ystyriol. (Uchel gymmeradwyaeth.) A ydyw yn deg a chyfiawn i gyfyngu yr etholfraint i lai na 4 per cent. o boblogaeth y deyrnas hon? Etto, pe meddyliem fod un o'r 1,100,000, y rhai ydynt ar y rhestr, yn benau teuluoedd yr hyn nid ydynt mewn gwirionedd—ond tybiwn hyny am funyd; yna, gallwn osod i lawr y byddai iddynt hwy gynnrychioli eu hunain, eu gwragedd, eu plant, a'u gweision teuluol, pan yn defnyddio yr hawl i bleidleisio; ond hyd y nod wed'yn, byddem yn gadael 5,000,000 o deuluoedd heb eu cynnrychioli o gwbl. Neu, dywedwch y byddai i'r 1,100,000 etholwyr hyn i gynnrychioli 5,500,000 o eneidiau mewn etholiad pennodedig, etto y mae genym y ffaith bwysig y byddai 25,500,000 wedi eu cau allan yn hollol oddiwrth ragorfreintiau yr etholfraint. Credaf, fonoddigion, fod chwareu teg, gonestrwydd cyffredinol, a chyfiawnder noeth yn galw am helaethiad yr etholfraint. (Cymmeradwyaeth.) Heb fyned yn bresenol i ymresymu dros nac yn erbyn platform Llundain am etholfraint i bob dyn mewn oedran, neu dros gyhoeddiad Manchester am etholfraint bleidleisiol eglur, neu dros y cynllun cynnygiedig gan ryw gyfeillion yn Birmingham neu Newcastle-upon-Tyne, mae yn amlwg fod yn rhaid i gryn helaethiad gymmeryd lle. Yr wyf yn ystyried na wna dim yn fyr o £10 rentdâl yn y siroedd, a £5 yn y bwrdeisdrefi, gyfarfod â galwadau yr achos. (Cymmeradwyaeth.) O'm rhan fy hun, awn yn mhellach, a dywedwn y dylai pob dyn sydd â'i enw ar y treth-lyfrau, wedi byw 12 mis yn yr un district etholiadol, ac yn gwbl rydd oddiwrth drosedd, gael pleidlais. Byddai hyn yn gyfiawn a gonest i'r gweithiwr sydd yn talu ei ran er cynnal anrhydedd ac urddas ei wlad. Ond mae y gofyniad yn dod, A ddylai y cyfoeth hwn a'r anwybodaeth hon fod yn sylfaen cynnrychioliad? Hyd y nod ar y cyfrif hwn, ni ddylai y dyn gweithgar gael ei gau allan oddiwrth y fraint o gael pleidlais.
Gyda golwg ar gyfoeth y wlad, cymmerwn Dŷ yr Arglwyddi. (Gosododd Mr. Bowden ofyniad i fewn yn y fan hon, yr hwn a foddwyd gan dwrf mawr y gynnulleidfa.) Efallai mai yn hwn y mae y corff mwyaf cyfoethog yn yr holl fyd. Mae un o awdurdod digonol, ar ol ymchwiliad manwl, wedi gosod i lawr gyllid blynyddol Tŷ yr Arglwyddi yn £11,000,000; ond i fod yn gwbl sicr, gadewch i ni ddyblu y swm uchod, ac i osod swm anferthol Tŷ yr Arglwyddi yn £22,000,000; yna, cymmerwch ochr arall y gofyniad. Mae yr un awdurdod wedi gosod swm cyllid blynyddol dosparth gweithiol y wlad hon yn £250,000,000; ond i fod yn gwbl sicr ar y pen hwn etto, ni a'i tynwn i lawr i'r hanner, a'i ystyried yn £125,000,000; felly, mae cyllid y dosparth gweithiol yn y man lleiaf yn ddeg cymmaint ag eiddo Tŷ yr Arglwyddi. (Uchel gymmeradwyaeth.) Felly, os mai eiddo neu gyfoeth sydd i fod yn sail etholfraint, y dosparth gweithiol, sydd yn dal mwyaf o eiddo ddylai ei chael. Edrychwch ar y trethi a delir trethi a delir gan wahanol ddosparthiadau yn y wlad hon, a chawn weled mai y gweithiwr, o bawb dynion, sydd yn talu y trethi trymaf. Mae yn talu allan o bob punt a ennilla drwy chwys ei wyneb bum swllt yn drethi. Felly, mae yn cael ei drethu yn ol £25 y cant ar ei holl enillion; o ganlyniad, nid yw ond gwir onestrwydd a chyfiawnder i roddi iddo lais yn ffurfiad y deddfau hyny a wasgant gymmaint arno (cymmeradwyaeth). Os cymmerwn ddysgeidiaeth yn sail i gyfreithloni hyn, yr ydym yn dweyd fod gan y gweithiwr hawl ar y tir hwn hefyd. Mae cynnydd mawr wedi bod yn mhlith y dosparth gweithiol er pan basiwyd y Reform Bill yn 1832; ac os oedd sefyllfa addysg yr adeg hono yn cyfreithloni y Llywodraeth i helaethu yr etholfraint—yn Mwrdeisdref Aberhonddu, er enghraifft, o 15 i 242: cyn y Reform Bill yn 1832, rhif y pleidleiswyr oedd 15 yn unig; ond ar ol iddo basio ychwanegwyd hwynt i 242—yr ydym yn sicr ddigon fod sefyllfa pethau ar hyn o bryd yn gofyn am helaethiad ychwanegol arni. Yn awr, gadewch i ni gymmeryd cipolwg am fynyd ar rai pethau, fel prawf o ddealltwriaeth, doethineb, a sefydlogrwydd y dosparth gweithiol yn y Deyrnas Gyfunol. Yn y flwyddyn 1831—blwyddyn cyn pasiad y Reform Bill—yr oedd 1,276,747 o blant yn y gwahanol ysgolion, sef trwy ystyried un ysgolor am bob 11 o'r holl boblogaeth. Yn 1861, pryd y gwnawd y cyfrif ddiweddaf, yr ydym yn cael fod 2,750,000 o blant dan addysgiaeth, ag ystyried un am bob saith o'r boblogaeth. Mae hyn yn gynnydd ardderchog mewn 30 o flynyddau, ac y mae y rhif o hyd ar ei gynnydd. Yn 1831, yr ydym yn cael yn yr holl wlad 55 o sefydliadau celfyddydol (Mechanics' Institutes), yn cynnwys ynddynt oll 7,000 o aelodau; ond yn 1861, yr ydym yn cael dim llai na 800 o'r sefydliadau hyn, yn cynnwys tua 140,000 o aelodau. Yn 1831, yr oedd yn y wlad 429,503 o bersonau ag arian yn y Savings' Bank, symiau y rhai yn nghyd oeddynt yn £13,000,000; ond yn 1861, yr ydym yn cael dim llai na 1,500,000 yn ei ddefnyddio, a chanddynt, er anrhydedd iddynt, y swm mawr o £40,000,000 yn y sefydliadau hyn (clywch, clywch). Edrychwch etto ar y cymdeithasau dyngarol, aelodau pa rai a rifir wrth y cannoedd o filoedd, a'u heiddo yn werth rhwng 12 a 15 miliwn o bunnau. Mae genym yn bresenol un o bob pedwar o rai mewn oed yn aelodau yn y sefydliadau hyn yn ein gwlad, pan y cewch ar Gyfandir Ewrop ddim ond un allan o bob 70 yn aelod yn unrhyw sefydliad dyngarol o gwbl. Mae genym yn ein cymdeithasau adeiladu 100,000 o aelodau, a swm eu tanysgrifiadau yn £1,790,000 yn flynyddol (cymmeradwyaeth). Cymerwch un ffaith arall. Yn 1831, yr oedd yn y wlad hon 295 o bapyrau newyddion; ond yn awr, mae genym 1,270, ac y mae eu rhif yn cynnyddu o hyd, tra y mae y cynnydd wedi bod yn fawr yn y rhai chwarterol, misol, ac wythnosol. Yr wyf yn nodi y pethau hyn er dangos fod gan bobl weithgar ein gwlad hawl deilwng i'r etholfraint (clywch, a chymmeradwyaeth).
"Yna bydd ail ddosparthiad eisteddleoedd seneddol yn ffurfio rhan bwysig yn unrhyw reform bill er boddlonrwydd i'r wlad, trwy fod cymmaint o gyfnewidiadau wedi cymmeryd lle er y flwyddyn 1831. Wrth gymmeryd y gofrestr etholiadol am 1864, a rhanu y pleidleiswyr yn gyfartal rhwng y 656 aelodau sydd yn Nhy y Cyffredin, gwelwn y bydd y canolrif yn gosod 2,033 o bleidleiswyr ar gyfer pob un o'r 656 aelodau. Byddai y canolrif sydd ar gyfer 466 sydd yn Lloegr yn cynnwys 2,073 pleidleisiwr i bob aelod; i'r 105 sydd yn yr Iwerddon byddai 1,958 ar gyfer pob un o'r aelodau; ar gyfer pob un o'r 53 sydd yn Ysgotland byddai 1,919; a'r 32 a aelodau sydd dros Gymru, byddai 1,860 o bleidleiswyr ar eu cyfer. Ond y mae yr annghyfartalwch rhyngddynt yn bresenol y tu hwnt i bob crediniaeth. Gwnawn egluro hyn gydag un ar ddeg o fwrdeisdrefi mawrion, ag sydd yn dychwelyd rhyngddynt 24 o aelodau i'r Ty, a deuddeg o fwrdeisdrefi bychain sydd yn dychwelyd 24 o aelodau i'r Senedd. Yn mlaenaf, ni gymmerwn Bristol, Finsbury, Lambeth, Liverpool, Manchester, Dinas Llundain, Marylebone, Tower Hamlets, Westminster, Glasgow, a Dublin. Y rhai hyn yn nghyd a gynnwysant 3,758,668 o eneidiau. Rhif y pleidleiswyr ar y cofrestr ydyw 212,329; gwerth blynyddol y berchenogaeth yw £29,164,664; maent yn talu o ardreth y swm o £3,433,635; ac yn dychwelyd 24 o aelodau i'r Senedd. Wrth gymmeryd y deuddeg bwrdeisdref canlynol, sef Andover, Buckingham, Chippenham, Thetford, Cockermouth, Harwick, Devizes, Honiton, Leamington, Great Marlow, Marlborough, a Richmond, ni a gawn fod eu poblogaeth yn 68,106, etholwyr yn 3,858, a gwerth blynyddol eu perchenogaeth yn £314,202, yr ardreth yn £22,679; ac etto, y maent yn anfon 24 o aelodau i'r Senedd. Dangosa hyn o hono ei hun yr annghyfartalwch a'r anghyssondeb mawr o eiddo ein cynnrychiolaeth. Os cymmerwn fwrdeisdref fechan Portarlington dan sylw, gyda ei 106 etholwyr, yr ydym yn cael fod un etholwr yn Portarlington yn gyfartal i 48 yn Salford, yn gyfartal i 151 yn Swydd Cork, ac yn gyfartal i 290 o etholwyr yn Tower Hamlets. Mae yr afresymoldeb yn un rheidiol o fod yn amlwg i bawb. Edrychwch ar Bristau a Thetfordy blaenaf yn werth 13,829 o etholwyr, a'r olaf ddim ond 223; etto anfonant yr un nifer o aelodau, sef dau, i'r Senedd; ac yn ol fel y mae pethau yn aros yn awr, y mae Thetford, gyda ei 223, yn gyfartal i Bristau, gyda ei 13,829, mewn aelodau Seneddol. Pe cawsai bwrdeisdrefi Thetford, Marlborough, Andover, Honiton, Knaresborough, Calne, Arundel, Tewkesbury, a Leominster, eu gwneuthur yn un fwrdeisdref, byddai rhif eu pleidleiswyr yn llawn 2,001, yr hyn a roddai hawl iddynt ddychwelyd un aelod rhyngddynt; ac ar sail rhif, cyfoeth, a gwybodaeth, dylai Bristau gael anfon wyth aelod i'r Ty (clywch, clywch, a chymmeradwyaeth). Trwy archwiliad manwl yn y cofrestr, canfyddir fod un hanner o'r aelodau presenol yn cael eu hanfon i fewn wrth lai nâ 14 y cant, pan y mae yr hanner arall yn cael eu dychwelyd yn ol 86 y cant. Felly, yn Nhy y Cyffredin, ar unrhyw raniad, y mae yr aelodau yn ol 14 y cant yr un mor bwysig, ac o'r un dylanwad, a'r rhai yn ol 86 y cant. Yr ydym felly yn meddwl y dylai ailffurfiad gael ei ddwyn oddiamgylch (clywch, (clywch). Carem ni weled Crughywel, Gelli, Glasbury, a Llanfairynmuallt, yn gystal a Threfcastell, wedi eu hychwanegu at Aberhonddu (cymmeradwyaeth uchel), fel ag i ffurfio un fwrdeisdref (cynimeradwyaeth barhaol). A chredwch fi, foneddigion, byddai yn ddoethineb mawr ynoch i ddwyn hyn oddiamgylch yn ddioed, onide chwi gewch weled rhyw foreu teg y caiff Aberhonddu ei hysgubo oddiar y cofrestr yn gyfangwbl (clywch, clywch).
"Y pwynt nesaf yn unrhyw reform bill ddylai fod dyogelwch y pleidleisiwr wrth bleidleisio. Rhoddi cyfle i'r gweithiwr i bleidleisio heb y dyogelwch priodol ar ei gyfer wrth ymwneyd â hyn, fyddai ddim amgen na thwyll, neu siom a magl. (Clywch, clywch.) Credaf fod y Tugel yn ffordd a gynnwys y dyogelwch priodol (bravo, a chymmeradwyaeth); ac felly, byddwn yn llawen i weled y tugel yn rhan o gyfraith y tir. (Cymmeradwyaeth adnewyddol).
Carwn yn annghyffredin, pe buasai amser yn caniatau (Ewch yn mlaen am wythnos, os mynwch '), i gyfeirio eich sylw at faterion eglwysig. Yn fy anerchiad i chwi fel pleidleiswyr, ar y 19eg o'r mis diweddaf, nodais fy ngolygiadau yn agored a gonest ar y cyssylltiad, neu yr annghyssylltiad, yn hytrach, a ddylai fodoli rhwng crefydd a'r Wladwriaeth. (Clywch, clywch). Rheda y nodiad fel hyn:— Mewn materion eglwysig, yr wyf yn Annghydffurfwr. Credaf nad yw crefydd Crist wedi cael ei bwriadu gan ei Sylfaenydd dwyfol i fod yn fath o beiriant neu offeryn i'r Wladwriaeth, ac y byddai yn llesiant mawr i wir grefydd gael ei rhyddhau oddiwrth bob nawdd a rheolaeth wladwriaethol. Felly, tra yn sefyll yn gadarn dros iawnderau, ac yn caru llesiant pawb dynion, a meithrin y teimladau mwyaf o barch a chariad tuag at yr Eglwys Esgobaidd, fel un o gymdeithasau Cristionogol ein gwlad, mi a gefnogwn yn llawen fesur er perffaith ddadgyssylltiad yr Eglwys oddiwrth y wladwriaeth, gan gredu yn gadarn y profai hyny yn weithred o fendith i'r Eglwys ei hunan, yn gystal a mesur syml o gyfiawnder tuag at gynnulleidfaoedd crefyddol ereill ag sydd o fewn i'r deyrnas hon.' (Cymmeradwyaeth). Nid wyf wrthyf fy hun ar y pen hwn. Mae rhai o'r dynion goreu yn yr Eglwys Sefydledig o'r un fath opiniwn. Er profi hyn, ni wnaf ond cyfeirio eich sylw at bregeth alluog a bregethwyd yn ddiweddar o flaen Prifysgol Cambridge, gan y Parch. John Ingle, o Trinity College, lle y noda:—'Nid yw yr amser yn mhell, pryd yr amddifadir yr Eglwys o bob rhyw oruchafiaeth (predomination), yn gymdeithasol neu wleidyddol, a feddiennir ganddi yn bresenol, ac y bydd i'r gwahanol sectau a'i hamgylchyna i gael eu gosod, gyda golwg ar yr holl freintiau a'r iawnderau cyhoeddus, ar yr un tir o gydraddoldeb a hithau.' (Cymmeradwyaeth). Cofiwch nad fy ngeiriau I ydoedd y rhai hyna, ond geiriau a draddodwyd o flaen Prifysgol Cambridge ychydig ddyddiau yn ol. (Cymmeradwyaeth.) Gallaswn eich arwain hefyd at achos Colenso, a'r effaith uniongyrchol ar weithrediadau pum' esgob New Zealand, y rhai ddychwelasant, mewn modd parchus, eu breint—lythyrau fel esgobion i'r Goron, gan ddymuno o hyny allan, yn hytrach, i fyw yn gydradd â'r sectau crefyddol ereill yn y lle hwnw. (Clywch, clywch). Cyfeiriaf chwi at nodiad arall yn fy anerchiad a gyhoeddwyd mewn cyssylltiad â nawdd yr Eglwys, sef:— Gwnawn fy ngoreu dros gael pwyllgor ymchwiliadol, er chwilio i mewn i waith yr Eglwys Sefydledig a'r Ysgolion Gwaddoledig, er cael allan gyfanswm y ddarpariaeth a wnawd, ac a wneir ar gyfer angenrheidiau ysprydol y bobl, ac addysg plant tlodion, yn nghyd â'r effaith o osod mewn swyddau uchel rai nad ydynt yn deall iaith y bobl; y drwg mawr o fyned a chyfraniadau y Llywodraeth at eglwysi tlodion Cymru er mwyn gwaddoli eglwysi cyfoethog mewn manau ereill; a pha un a yw y Sefydliad yn Nghymru wedi ateb dyben ei fodolaeth, ac a ydyw wedi dwyn ffrwyth cyfartal i'r symiau mawrion a gymmerir ganddo o drethi y wlad. Credaf nad oes un wlad ag y mae Eglwys Sefydledig ynddi a`i nawdd yn cael ei gam—arfer yn fwy nag yn Nghymru y tri chan' mlynedd diweddaf. (Clywch, clywch). Cyfyngaf fy hun yn gwbl i ffeithiau— ffeithiau ag sydd yn gwbl awdurdodedig. Yn Johnes Essay on the causes of Dissent in Wales,' yr ydym yn cael y gosodiad canlynol:— Pan ymgymmerodd Harri VIII. a'r gwaith o reoli y Sefydliad, cwympodd y mynachdai yn Nghymru, yn gystal ag yn Lloegr, yn nghyd a thai crefyddol ereill; ond nid dyma yr unig ddystryw. Dihatrwyd Swydd Feirionydd o'r degwm yn gyfartal i un hanner o swm holl elw yr offeiriaid a drigai ynddi, a hyny er adeiladu esgobaeth newydd Litchfield. Sir Gaernarfon a drethwyd yr un fath er mwyn Caerlleon Gawr, tra esgobaethau newyddion ereill a gyfoethogwyd ar draul Deheudir Cymru. Yn y Gogledd, gosodwyd degymau amryw o'r plwyfi cyfoethocaf er cynnal colegau Seisnigaidd; yn y Deheudir, gosodwyd degymau y rhan amlaf i'r lleygwyr. Mae yn Swydd Forganwg yn unig ddim llai na deg plwyf yn rhodd Deon a Chapter Gloucester.' Rhaid i ni gofio hefyd y ffaith mai y personau pennodedig i'r esgobaethau Cymreig ydynt Saeson (cywilydd), a'r esgobion Saxonaidd hyn nid ydynt byth yn annghofio eu cyssylltiadau teuluaidd pan yn gwneuthur pennodiadau i'r bywoliaethau goreu yn y Dywysogaeth. Yna y mae yn canlyn fod swm mawreddog o'r nawdd gwladwriaethol y tri chan' mlynedd diweddaf wedi cael ei roddi i'r Saeson, ac felly yn amddifadu trigolion Cymru o'u teg a'u teilwng ran o gyfoeth yr Eglwys yn eu gwlad eu hunain. (Llais: 'Yr wyf yn rhyfeddu nad ydynt yn aros gartref'). Pan y gallant gael digon o hufen yn Nghymru, ni wnant yfed llaeth dihufen gartref. (Bloedd o chwerthin, a tharan o guriadau)."
Yna aeth y Dr. yn mlaen i ddangos pa fodd yr oedd y nawdd (patronage) hwn yn cael ei ranu rhwng Esgobion St. Asaph, Bangor, St. David's, Llandaf, Deoniaid a Chapters y tair esgobaeth, Archddiaconiaid Aberhonddu a Llandaf, Provost a Fellows Coleg Eton, Coleg yr Iesu (Rhydychain), Coleg Crist, Esgobion Lincoln, Chester, Lichfield, Gloucester, a Brystau, yn nghyd a Deoniaid a Chapters Gloucester a Brystau. Heblaw y swyddau cadeiriol, yr oedd 400 o fywoliaethau at eu llaw, 330 o'r rhai oedd yn rhodd pedair o esgobaethau Cymreig. Yna dywedodd:— "A wna rhyw gyfreithiwr Philadelphaidd yn yr ystafell hon ddywedyd wrthyf pa sawl Cymro sydd yn mhlith y llu a enwyd? (Mr. Bowden: 'You aint going into none of 'em, are you?' Llefau: 'Trowch ef allan '). Nid yw ein hysgolion gwaddoledig mewn gwell sefyllfa (yr wyf yn cyfeirio yn awr at ryw ddwy neu dair blynedd yn ol). Tystiai Syr Thomas Phillips, ryw gymmaint o amser yn ol, fod Coleg Crist yn Aberhonddu, 'o'i sefydliad i lawr hyd at ein hamser ni, wedi bod yn warthrudd i'r Eglwys, yn gystal a'r Wladwriaeth.' Yr un fath y gellir dweyd am ysgolion Bangor a Llanrwst; i'r cyntaf or cyfryw y mae swm blynyddol o £500, ac i'r olaf y y swm bob blwyddyn yn cael ei roddi o £600, y rhai, ar y dechreu, a sefydlwyd er lles plant dynion tlawd;' ond cafodd plant y dynion tlawd eu hyspeilio o'u hiawnderau, ac y mae yr eiddo tuag atynt wedi myned i gyfoethogi sefydliadau Eglwysaidd nad ydynt yn meddu un cydymdeimlad tuag at Gymru na'i dynion tlawd. Felly, yr wyf yn credu fod eisieu, ac y dylai pennodiad Seneddol gael ei wneuthur, er edrych i mewn i'r camdriniaethau hyn—ymchwiliad manwl a didwyll, a brofai yn fendith i'r Eglwys, ac a fyddai yn weithred o gyfiawnder tuag at offeiriaid gweithgar Cymru.
"Ond etto, gan gyfeirio at y Reform Bill, credaf mai dau brif beth y Bill nesaf fydd helaethu sail y gynnrychiolaeth, ac ail drefniad eisteddleoedd Seneddol. Y rhai hyn, wrth bob tebyg, fydd prif gynnwysiad y Bill; ac yr wyf yn falch i glywed fod y Llywodraeth yn barod i sefyll neu syrthio yn ol y Bill.
"Caniatewch i mi, wrth derfynu, eich rhybuddio i wylied pob symmudiad o eiddo y rhai sydd yn promoto y Bill newydd. Byddwch yn effro, onite, ar ryw foreu braf, chwi ellwch ddeffro, a chael allan fod bwrdeisdref Aberhonddu wedi ei hamddifadu o'i braint bresenol o anfon aelod i'r Senedd. Rhaid i un o dri pheth, yn fy nhyb I, ddyfod i ben. Rhaid i drefydd Crughywel, Llanfair-yn-muallt, Glasbury, a Threcastell, gael eu huno, a'u hychwanegu at Aberhonddu, neu bydd tref Aberhonddu yn sicr o gael ei huno â'r wlad, ac yna chwi gewch anfon un aelod, yn lle dau, fel yn awr; neu, y mae yn bossibl i Aberhonddu gael ei gadael allan o'r gyfres, er rhoddi lle i'r trefydd mawrion a chynnyddol (yr un fath a Staleybridge), yn ngwahanol ranau o'r deyrnas. Byddwch yn mhob achos ar eich gwyliadwriaeth, a gofalwch am lesiant eich tref; chwiliwch yn fanwl bob rhan (draft) o'r Reform Bill; anfonwch ddeiseb er uno y trefydd a enwyd, a gofalwch gael y dyn goreu er eich cynnrychioli yn Nhy y Cyffredin."
PENNOD XXII.
ENGHREIFFTIAU O'I BREGETHAU.
Y Tabernacl—Y Corn Bychan—Geiriau Crist—Joseph—Angladd Jacob.
RHODDWN yma tua hanner dwsin o frasluniau o bregethau y Dr. fel yr ysgrifenwyd hwynt ganddo.
Gwyr pawb a'i hadwaenent yn dda am ei allu neillduol i lanw fyny ei amlinellau, ac am ei fedr digyffelyb i droi pob peth at ei wasanaeth ar y pryd. Cyfrifai hyny, yn ddiau, i raddau helaeth am ei boblogrwydd fel pregethwr. Nid ydym yn rhoddi y pregethau hyn yma am y credwn eu bod yn rhagori dim ar gannoedd o bregethau oedd gan y Dr., ond am y meddyliwn eu bod yn rhoddi syniad mor deg i'r darllenydd pa mor lleied oedd y parotoad angenrheidiol arno i bregethu braidd ar unrhyw fater. Gallasem roddi rhai pregethau o'i eiddo yn gyflawnach, ond ni fuasent mor nodweddiadol o hono.
Y TABERNACL.
Exodus xxxvi. 2—7.
Ein hamcan yw galw sylw at y Tabernacl, a gododd y bobl i'r Arglwydd yn yr anialwch.
Mae yn angenrheidiol i ni gadw mewn cof fod tri tha. bernacl wedi eu codi, ac y mae y Beibl yn son am y tri gwahanol hyn; ac mae o bwys i ni wylied am ba un o'r tri y byddys yn siarad.
1. Y Tabernacl a godwyd gan Moses wrth odreu Mynydd Sinai (Ex. xxxiii. 7—11). Gelwir hwn yn "Babell y Cyfarfod." Yr oedd yn dy lle yr oedd Moses yn cyflawnu ei waith swyddogol fel prif weinidog yr Eglwys fawr. Yma y byddai Duw yn cyfarfod Moses, ac yma y byddai Moses yn cyfarfod y bobl.
2. Y Tabernacl a godwyd gan y bobl i'r Arglwydd yn yr anialwch.—Daw hwn dan ein sylw heddyw.
3. Tabernacl Dafydd.—Darparodd Dafydd dabernacl i'r arch pan symmudwyd hi o dy Obededom i Ddinas Dafydd (2 Samuel vi. 17). Mae yn ffaith bwysig i ni ei chofio na fu yr arch ddim yn ol yn y Tabernacl wedi iddi gael ei chymmeryd allan gan feibion Eli, a'i dygiad hi gan y Philistiaid i dŷ Dagon. Yr oedd y Tabernacl yn aros yn Uchelfa Gibeon; a phan gymmerwyd yr arch i Jerusalem, trefnodd Dafydd fod nifer o offeiriaid i gyflawnu gwasanaeth crefyddol yn y lle neu y babell newydd; ac fe bennodwyd nifer arall o offeiriaid i gadw y gwasanaeth yn y blaen yn yr hen Dabernacl yn Gibeon (gweler a darllener i Chron. xvi. 37—40; hefyd, 2 Chron. i. 3—6).
Yr un a godwyd yn yr anialwch sydd i gael ein sylw heddyw. Mae yma dri neu bedwar o bethau rhagarweiniol:
1. Ty i Dduw oedd hwn (Ex. xxv. 8).—Mae yr Arglwydd mewn modd arbenig am gael tý iddo ei Hun: "Gwnant i mi gyssegr.
2. Yr oedd hyn yn cyfateb i amgylchiadau y bobl.—Byw mewn pebyll yr oeddynt hwy, ac mae Duw yn dyfod i'w plith, ac yn myned i fyw mewn pabell. Pan ddaeth Israel yn sefydlog yn Nghanaan a byw mewn tai, cafodd Duw ei dŷ hefyd—ei Deml sefydlog.
3. Yr oedd i fod yn deilwng o'r Jehofa Mawr.—Ty i'r Arglwydd oedd. Dyma yr unig ffordd y gallwn gyfrif am a chyfiawnhau y draul fawr yr awd iddo wrth godi y Tabernacl. Duw a dynodd y cynllun, yr hwn a roddwyd i Moses ar y Mynydd (pen. xxv). Duw, hefyd, a roddodd ddoethineb i Bezaleel a Ahaliab. Maentioli y Tabernacl a benderfynwyd gan Dduw. Yn annybynol ar y cyntedd allanol agored, nid oedd y Tabernacl ond bychan. Mae yr enwog Jahu yn ei roddi yn 45 troedfedd wrth 15, neu 675 o droedfeddi ysgwar. Bydd hyn yn llai o 1,005 troedfedd ysgwar nag yw Hall Calfaria, yr hon sydd yn 84 wrth 20 heb y gallery, ac 1,439 llai na'r Ynyslwyd. Yr oedd y bobl i gael y fraint o roddi yr holl ddefnyddiau; ac at y rhoddion hyn y bwriadwn alw eich sylw.
I. YR OEDD Y RHODDION YN AMRYWIOL IAWN.
Mae yr Arglwydd yn fanwl iawn yn nodi yr hyn fydd yn eisieu, ac yn gadael ar y mechanics a'r artisans i nodi allan swm o bob peth oedd yn ofynol i gario allan gynllun Duw. Dyma y gyfres (Ex. xxv. 1—8):—Aur, arian, pres, sidan glas, sidan porphor, sidan ysgarlad, llian main, blew geifr, crwyn hyrddod, crwyn daearfoch, coed sittim, olew, llysiau, maen onix, sardius, thophas, smaragdus, carbuncl, saphir, adamant, lygur, aceat, amethyst, beryl, a jaspis. Dyma gyfres o 26 o nwyddau (gweler Ex. xxv. 1—7; a pen. xxiii. 17–19).
II. RHODDION COSTFAWR IAWN.
Dyma yr adeilad, yn ol ei faintioli, mwyaf costfawr ar wyneb y ddaear. Cofier mai bach oedd, ond yr oedd y draul yn fawr iawn; ond daeth rhoddion y bobl i fyny â'r angen. Fel enghraifft, cymmerwn un darn o'r dodrefn, sef y canwyllbren aur. Yn ol Deon Prideaux, yr oedd hwn, heb y gwaith, yn werth £7,013. Mae yr holl ddefnyddiau yn sefyll fel hyn:—Aur yn 4245 pwys, yn werth £198,347 12s. 6ch.; arian, yn 16,602 pwys, yn werth £45,266 5s.; pres yn 10,277 pwys, yn werth £513 17s.; defnyddiau ereill, £80,000; cyfanswm, 324,112 14s. 6ch. Ty i Dduw oedd hwn.
III. YR OEDD Y RHODDION YN GYFFREDINOL IAWN.
Yr oedd pob dosparth yn y gwersyll yn rhoddi, fel y dengys Ex. xXXV. 20—29. Dyma ddysgwyliad mewnol hynod o galonog. Darllen.
IV. MAE Y CWBL YN WIRFODDOL.
Darllen pen. xxxv. 5, 21, a 29. Calon ewyllysgar.
V. RHODDION PRYDLON.
Y cwbl yn mlaen llaw.
VI. YN FWY NA DIGON.
Danfonwyd allan orchymyn i atal rhoddion y bobl.
APPEL.—A gawn ni efelychu y bobl hyn:— 1. Yn nghyffredinolrwydd y cyfranu.
2. Yn y parodrwydd i weithio.
3. Yn eu haelionusrwydd i Dduw.
Amen.
Y CORN BYCHAN.
Daniel vii. 24– 27.
Mae y bennod hon yn cynnwys un o'r proffwydoliaethau mwyaf pwysig ag sydd i'w chael yn yr Hen Destament. Ni a gawn yma hanes cyfodiad a dinystr y pedair breniniaeth fawr ag oedd wedi bod, ac yn bod, ac i fod yn ben ar yr holl fyd adnabyddus o ddyddiau Nimrod hyd gwymp Pabyddiaeth, tra y mae yma ddarluniad bywiog o deyrnasiad y saint ar y ddaear yn y dyddiau diweddaf.
Mae y proffwyd yn gweled pedwar o anifeiliaid yn codi i fyny o'r môr. Mae y cyntaf ar lun llew, yr ail yn debyg i arth, y trydydd yn ymdebygoli i lewpart, tra yr oedd y pedwerydd yn gyfryw nad oedd y proffwyd yn gallu rhoddi enw arno; yr oedd mor wahanol i bob bwystfil ag yr oedd ef wedi ei weled o'r blaen. Mae yn amlwg fod yma ddarluniad yn 1. O Ynherodraeth Babilon. 2. Ymherodraeth Media-Persia. 3. Ymherodraeth Macedonia. 4. Ymherodraeth fawr Rhufain. Mae y deg corn ar ben y bwystfil ag oedd yn cynnrychioli Rhufain, yn dangos y deg breniniaeth i ba rai y rhanwyd yr ymherodraeth fawr hon. Mor bell ag y deallaf, y rhai hyn ydynt,—1. Senedd a phobl Rhufain. 2. Y Groegiaid yn Ravena. 3. Y Lombardiaid. 4. Yr Hungariaid. 5. Yr Almaeniaid. 6. Y Ffrancod. 7. Y Byrganiaid. 8. Y Saraseniaid, yn Yspaen. 9. Y Gothiaid yn y rhan arall o Yspaen. 10. Y Saxoniaid yn Lloegr. Yr oedd yr ymraniad hwn wedi cymmeryd lle cyn diwedd y bummed ganrif o'r cyfnod Cristionogol.
Tra yn sylwi ar, ac yn rhyfeddu gweled y fath nifer o gyrn yn cyfodi ar ben yr un bwystfil, gwelodd y proffwyd gorn arall yn cyfodi—un bychan oedd hwn. Cyfodai ar ol y deg ereill, ac yn mysg y deg oedd o'i flaen. Mae hwn yn gwahaniaethu llawer oddiwrth y rhai ereill; ac er ei fychandra dechreuol, mae yn darostwng tri o'r cyrn ereill, ac yn myned a'u teyrnasoedd. Mae hwn yn gwneyd rhyfel yn erbyn saint Duw ar y ddaear; ond, y mae ei dymhor yn bennodedig—mae ei gwymp yn cael ei sicrhau, ac Eglwys y Duw byw yn dyfod i feddiant llywodraeth gyffredinol ar y ddaear.
Cymmerwn ddau beth dan ein sylw.
I. Y DARLUNIAD A RODDIR YMA O'R CORN BYCHAN.
II. Y FENDITH FAWR A DDAW I RAN EGLWYS DDUW AR DDINYSTR Y CORN BYCHAN.
I. Y DARLUNIAD A RODDIR YMA O'R CORN BYCHAN.
Mae yn ymddangos yn dra eglur i mi mai yr un gwrthddrych sydd mewn golwg gan Daniel yma ag sydd gan Paul yn 2 Thes. ii. 3—10, dan yr enwau, y Dyn Pechod," a'r "anwir hwnw"; ac mai yr un gwrthddrych a elwir gan Ioan yn "annghrist." Mae y gwrthddrychau hyn yn cynnrychioli ac yn dadblygu cyfundraeth o grefydd gau a sefydlwyd yn y byd, ac sydd yn awr yn cael ei phleidio gan Babyddion y ddaear. Nid yw y desgrifiad yn gyfyngedig i berson, brenin, na Phab; ond y mae yn darlunio y gyfundraeth Babyddol, fel y mae wedi ei hegluro yn mhersonau a gweithrediadau y Pabau o ddyddiau y Pab Gregory I. hyd yn awr. Sylwn:—
1. Cyfodiad y Corn Bychan.—Mae dau beth yn cael eu llefaru am ei gyfodiad.
(1) Yr oedd wedi codi yn mhlith y deg corn ereill. Yna mae yn rhaid edrych am gyfodiad y gyfundraeth Babyddol yn mhlith y teyrnasoedd i'r rhai y rhanwyd Ymherodraeth Rhufain. Mae y rhan hon o'r broffwydoliaeth wedi ei wirioneddoli i'r llythyren, gan y gwyddis i'r Babaeth ddyfod i'r amlwg fel corn yn Rhufain ei hun, canolbwynt y deg brenhiniaeth dan sylw.
(2) Yr oedd i godi ar ol y deg corn ereill. Yma y mae yn iawn i nodi fod y corn yn golygu gallu gwladol y Pabau, ac nid eu hegwyddorion, yn eu hagwedd ysprydol. Yr oedd yspryd y Babaeth yn fyw er yn foreu iawn; ond fel gallu gwleidyddol, ni ddaeth i'r amlwg nes i'r deg corn ereill wneyd eu hymddangosiad. Yr oedd Yr oedd y deg corn cyntaf wedi eu sefydlu ar y bwystfil Rhufeinig cyn diwedd y bymthegfed ganrif; felly, o leiaf, gan' mlynedd cyn cyfodiad y corn bychan. Yna gwir yw iddo gyfodi yn eu plith, ac ar eu hol.
2. Nodweddau y Corn Bychan. Mae yma dri o bethau yn nodweddu y corn bychan.
(1) Yr oedd yn anırywio oddiwrth y deg ereill. Yr oedd gan y deg ereill awdurdod dymhorol yn unig; ond mae gan y corn bychan awdurdod dymhorol ac ysprydol—ar gyrff ac eneidiau—ar feddiannau a chydwybodau yn y byd hwn, ac yn y purdan draw. Heblaw hyn, efe yw brenin y deg brenin ereill yn yr holl faterion eglyswig ac ysprydol. Fel hyn y mae yn amrywio.
(2) Yr oedd iddo lygaid fel llygaid dyn. Mae hyn yn dangos treiddgarwch, rhagwelediad, ac yn aml, gyfrwystra y Pabau; trwy hyn y maent wedi gorfaelu y fath ddylan- wad ag y maent wedi ei gael yn y byd.
(3) Yr olwg arno yn arwach na'r deg corn ereill. Mae y gwreiddiol yn golygu ei fod yn edrych yn “fwy cryf,” yn fwy nerthol, ac yn fwy ei impudence na'r lleill o'r cyrn. Mae hyn yn syn, ac yntau ond bychan. Ond mae hyn etto wedi ei lwyr gyflawni gan y Pabau yn eu hyspryd balch, hunanol, a thraws-arglwyddiaethol. Mae y Pab yn honi goruchafiaeth ar ei frodyr crefyddol—ar holl blant Duw, ac ar benau coronog y ddaear. Dysgwylia i bawb blygu iddo ef.
3. Gwaith y Corn Bychan.
(1) Darostwng tri o'r cyrn ereill. Yn y flwyddyn 715 mae Gregory II. yn diarddelu yr Ymherawdwr Leo Isaurieus, ac yn cymmeryd meddiant o'r awdurdod dymhorol. Yn y flwyddyn 741, mae Zachary yn diarddelu Chideric, ac yn cymmeryd meddiant o Ravena, ac yn dyfod yn frenin ar y wlad. Yn y flwyddyn 754, mae Stephen III., yn y gynghorfa yn Caercystenyn, yn cael ei gyhoeddi yn frenin. Dyma yn awr dri o'r cyrn, neu dri o'r deg brenin, wedi eu darostwng o flaen a chan y corn bychan, sef Ravena, Lombardy, a Senedd a Llywodraeth Rhufain. Golygfa ryfedd i Daniel oedd gweled un corn bychan yn diwreiddio tri chorn mwy; ond etto, mae hyn wedi ei gyflawni i'r llythyren.
(2) Traethu geiriau mawrion yn erbyn (neu fel) y Goruchaf. Mae fel y Goruchaf yn fwy cydnaws â'r gwreiddiol, ac yn ateb yn well i'r hyn a ddywed Paul yn 2 Thes. ii. 4. Mae y Pabau, o ddyddiau Gregory hyd yn awr, yn honi hawl i faddeu pechodau; agor a chau dorau y nefoedd ; rhwymo dynion i ufuddhau iddynt hwy yn hytrach nag i Dduw; cyhoeddi eu hanathema yn erbyn teyrnasoedd cyfain; ysgymuno tywysogion, a chollfarnu breninoedd y ddaear. Hona'r Pab oruchafiaeth ar bawb o'i gyd-ddynion; gwisga deitlau anaddas i'r un bôd meidrol, megys ei "Sancteiddrwydd," "Anffaeledig," "Ficer Duw," "Ar- glwydd Dduw y Pab," &c. Fel hyn, hona weithredoedd Duw, eistedda yn nheml Duw, a dengys mai Duw ydyw.
(3) Gwrthryfela yn erbyn saint Duw. Dyma etto ydyw yspryd Pabyddiaeth yn mhob oes o'r byd. Mae hyn wedi cael ei wneyd drwy gyfreithiau gormesol, anathemau, y cleddyf, yr ystanc, y tân a'r ffagodau, y chwil-lysoedd damniol—mewn gair, trwy ladd a difa yn nihob modd bawb na fuasent yn plygu y lin i'r gyfundrefn Babyddol. Pwy a all feddwl heb deimlo y gwaed yn berwi am y Waldensiaid a'r Albigensiaid yn Piedmont, yr hen Gymry yn y dyddiau gynt, a'r afonydd o waed a dywalltwyd gan y Pabau er attegu y gyfundrefn a rag-ddangoswyd gan y corn bychan. Yspryd y grefydd Babaidd yw lladd a difa saint y Goruchaf; dyna oedd, dyna yw, a dyna fydd.
(4) Cyfnewid amseroedd a chyfreithiau. Gellir yn hawdd grynhoi hanes y Babaeth i'r dywediad, "Cyfnewid amseroedd a chyfreithiau." Nid oes un deyrnas yn Ewrop nad yw bys y Babaeth wedi bod yn ei chyfreithiau; a thrwy ei dylanwad mae cyfreithiau teyrnasoedd y byd wedi eu cyfnewid. Mae yn newid amseroedd, trwy neillduo a ffugsancteiddio dyddiau i'r sanct hwn a'r sanct arall. Mae hefyd wedi newid holl drefn y Beibl o addoli Duw; yn rhoddi pynciau newyddion i'w credu, a mil a mwy o orchymynion i'w cyflawnu.
4. Amser teyrnasiad y corn bychan.—Dywedir yma mai am amser, amseroedd, a rhan amser," y byddai iddo fodoli fel corn; hyny yw, fel un yn arfer gallu tymhorol a gwleidyddol. Mae hyn yn golygu blwyddyn, dwy flynedd, a hanner blwyddyn; mewn geiriau eglur, mae hyn yn golygu tair blynedd a hanner, yn ol cyfrif y proffwyd; sef cyfrif diwrnod am flwyddyn; yna bydd y cyfnod yn 1,260 o ddyddiau, neu yn ol ein cyfrif cyffredin ni, yn 1,260 o flynyddau. Mae hyn yn cyduno ag oed y bwystfil yn Llyfr y Datguddiad; tymhor y wraig i fod yn yr anialwch; ac amser y tystion i fod mewn sachlian a lludw. Yna mae yn amlwg mai tymhor breninol Pabyddiaeth ar y ddaear yw 1,260 o flynyddau.
5. Dinystr y corn bychan. (1) Amser ei ddinystr. Y pwnc y carem ei benderfynu yma yw, Y pryd y darfu i'r Babaeth hawlio ei gallu tymhorol a gwleidyddol; canys dyna adeg cyfodiad y corn bychan. Ffrwyth yr ymchwiliad mwyaf gonest a manwl o fy eiddo yw hyn :—Yn y flwyddyn 590 daeth Gregory I. i'r Gadair Babyddol yn Rhufain. Bu yn Yn y y swydd am bedair blynedd ar ddeg, ac yn ystod y tymhor hwn gwnaeth fwy na neb arall i barotoi y ffordd i godiad y corn bychan; ond bu farw cyn cyrhaedd yr amser. Yn y flwyddyn 606 daeth Boniface III. i'r gadair, a chyhoeddwyd ef gan Phocas yn ben cyffredinol yr holl Eglwys ar y ddaear. Dyna gam tuag at godiad y corn bychan. Yn y flwyddyn 608 daeth Boniface IV. i'r gadair; ac yn y flwyddyn 610, darfu iddo ef yspeilio senedd a phobl Rhufain o'r Pantheon, a'i chyssegru i'r holl saint. Dyna y weithred orphenodd, i'm tyb I, roddi bodolaeth i'r corn bychan. Yr oedd ei ben erbyn hyn yn ddigon uchel i Daniel ei weled yn mhlith y deg corn ereill. Un bach oedd ef, ond yr oedd yn y golwg, a buan y daeth yn ddigon cryf i ddiwreiddio tri o'r deg cyrn mawrion ag oeddynt yn bodoli o'i flaen. Yn ystod y pum' mlynedd nesaf mae y corn bychan yn dyfod yn amlwg iawn. Yna, yr wyf yn mentro dywedyd, ni chyfododd y corn bychan cyn y flwyddyn 610, ac nid oedd ei ymddangosiad yn ddiweddarach na'r flwyddyn 615; ond credaf yn hollol ei fod i'w ganfod yn mherson a gweithred Boniface IV, yn y flwyddyn 610. Yna, os ychwanegwn 1,260 o flynyddau at 610, cawn y bydd ei gwymp fel corn, neu allu tymhorol a gwleidyddol, i gymmeryd lle yn y flwyddyn 1870. Dyna adeg cwymp (2) Yr y corn bychan, yn ol fel y deallaf y broffwydoliaeth, a hanes yr Eglwys Babaidd yn y 5ed, 6ed, a'r 7fed ganrif. achos o'i ddinystr. Achosir ei ddinystr gan ei eiriau cableddus ei hun (adnod 11). (3) Natur ei ddinystr. Bydd ei ddinystr yn llwyr a chyflawn (adnodau 11, 12). Mae dinystr y corn bychan yn arwyddo dinystr y bwystfil hefyd. Mae y galluoedd hyn wedi bod yn cydfyw-yn uno i erlid a lladd plant Jehofa; ond yma dangosir y bydd i honiadau a geiriau cabledd y corn bychan fod yn ddinystr iddo ef, ac hefyd i'r bwystfil o ben yr hwn y daeth ar y cyntaf.
II. Y fendith FAWR A DDAW I RAN EGLWYS DDUW AR GWYMP Y CORN.
Mae saint Duw, am gannoedd o flynyddoedd, wedi cael eu hyspeilio o'u hiawnderau. Mae y corn bychan wedi bod, ac yn awr yn erlid y saint, ac yn eistedd yn nheml Dduw; mae yr Eglwys wedi bod dan draed y bwysfil hwn am hir dymhor; ond daw y boreu i ben pan y ceir tro ar yr olwyn fawr, fe gwymp y corn, fe leddir y bwystfil, ac fe fydd i blant Duw gymmeryd eu safle priodol yn y byd. "Y freniniaeth a'r llywodraeth dan yr holl nefoedd a roddir i blant saint y Goruchaf." Ië, y saint fydd yn teyrnasu, plant Duw fydd a'r llywodraeth dan yr holl nefoedd."
Mae yma ddau beth,—y llywodraeth yn ei heangder, ac yn ei pharhad.
1. Eangder llywodraeth y saint.—Mae yn gyffredinol: "dan yr holl nefoedd." Bydd hon yn fwy nag un a fu o'i blaen. Cymmerwn olwg ar ddarlunlen o arwynebedd y ddaear, er gweled terfynau llywodraeth y saint. Mesurwn y Deyrnas Gyfunol, o Dyddewi i greigiau Dover, ac o John o'Groat's i Land's End—dyma ddernyn da iawn; ond mae yn rhy fach. Caiff yr Eglwys yr oll o Ewrop, o Iceland i Fôr y Dwyrain, o Lapland i Greigiau Gibralter. Daw Asia fras i fewn, o Ogledd America i For yr India, ac o Holland Newydd i Gaergystenyn. Mae Affrica dywell ar y map gan Fab Duw; daw yr oll i fewn, o Ynysoedd y Gorllewin i Madagasgar, o Gogendor Persia i Benrhyn Gobaith Da. Ië, daw America eang i fewn, yn y Gogledd o Greeland i Mexico, ac o Afon Coke i Ynys Trinidad. Daw America Ddeheuol, o For y Werydd Gogleddol i'r Mor Tawel Deheuol, ac o For y Werydd Deheuol i'r Mor Tawel Gogleddol. O! olygfa fendigedig, pan ddaw y byd crwn o fewn i Eglwys y Duw byw. Fe a ddaw. Y mae y llywodraeth i fod "o for hyd for, ac o'r afon hyd eithaf y ddaear." Mae yn d'od; mae yn gwneyd ei ffordd. Gallwn yn awr ganu gyda'r enwog Ddewi Wyn o Arfon:—
"Od aeth y fendith hyd eithaf India," &c.
Ond er cymmaint sydd wedi ei wneyd, ac yn cael ei wneyd,
"Nid yw etto ond dechreu gwawrio,
Fe gwyd yr haul yn uwch i'r lan ;
Teyrnas annghrist gaiff ei dryllio,
Iesu'n Frenin yn mhob man."
2. Parhad y llywodraeth.—Bydd yn dragwyddol ei pharhad. Nid oes un deyrnas arall wedi bod, nac yn bod, a all honi hyn. Mae cyfnewidioldeb a darfod yn perthyn i bob teyrnas arall; ond "para byth yw arwyddair teyrnas plant Duw. Bydd iddynt deyrnasu o gwymp y corn, a dinystr y bwystfil, hyd y mil blynyddau; yna teyrnasant ar y ddaear am dymhor y mil flwyddiant, a chyda Crist yn y nef am dragwyddoldeb. Na ddigalonwn. Duw a baro i ni gael gweled cwymp y corn, a gweled Crist yn ben trwy'r nef a'r llawr. Amen.
GEIRIAU CRIST.
Matt. xxiv. 35.
Mae Crist wedi ymadael â'r Deml am byth! wedi rhoddi ei bregeth gyhoeddus olaf! Mae yn awr ar Fynydd yr Olew—wydd, yn cael golwg ar y Deml a'r ddinas. Mae yn tynu darlun o (1) dinystr y Deml, (2) dinystr Jerusalem, ac yn (3) dinystr y Gyfundraeth Iuddewig. Mae yma ddarluniau byw o farnedigaethau trymion, tra mae yma ofal mawr yn cael ei ragfynegu—gofal Duw am ei eiddo. Mae y darluniau bron yn annghredadwy, a'r dysgyblion o'r braidd yn gallu eu cymmeryd i fewn. Yna mae Mab Duw yn llefaru geiriau y testyn, er dysgu i'w ddysgyblion ddau wirionedd mawr,—
I. CYFNEWIDIOLDEB Y BYD HWN.
II. CADERNID GAIR DUW.
I. CYFNEWIDIOLDEB Y BYD HWN.
"Y nef a'r ddaear a ânt heibio." Mae Mab Duw yn cymmeryd y pethau cadarnaf yn y byd hwn—y pethau mwyaf digyffro a disigl, er dangos pa mor gyfnewidiol yw y cwbl sydd yma. Dyma y nef! y ddaear!
1. Mae Duw wedi eu sylfaenu. Duw greodd y nef a'u llu hwynt. Gwaith dwylaw Duw yw y nefoedd, gwaith ei fysedd yw y sêr. Duw greodd y ddaear. "Efe a seliodd y ddaear ar ei sylfeini," Salm civ. 5—9. Er hyn, darfyddant!
2. Maent wedi para yn hir. Mae y nefoedd yn awr fel cynt, yr haul gystal ag oedd ar ddydd ei greadigaeth, y lloer fel yn nyddiau Adda, y sêr fel yn moreu y byd. Mae y ddaear yn sefyll yn ddigryn. Er yr holl gyfnewidiadau, mae hi yn aros. Mae Assyria, Syria, Babilon, Persia, Groeg, a Rhufain, wedi myned, ond mae yr hen ddaear yn aros. Ond mae hi i ddarfod!
3. Mae yn ymddangos mor gadarn ag erioed. Ni fu y nefoedd erioed yn well. Ni fu y ddaear erioed yn gadarnach. Ond hwy a ddarfyddant!
II. CADERNID GAIR Duw. Nid gallu, mawredd, doethineb, a nerth Duw; na, Gair Duw. Dyma y peth mawr sydd yn perthyn i ni—Gair Duw. Mae ei allu, ei ddoethineb, a'i ddaioni, i'w canfod yn mhob rhan o'r cread. Dyn bïa y Gair. Dyma sydd yn aros. Mae Gair Crist yn gadarn—
1. Yn ei dystiolaeth (1) am a fu, (2) y sydd, (3) ac am a fydd.
2. Yn ei rybuddion.
3. Yn ei addewidion.
Mae cadernid a dyogelwch yn perthyn i'r Gair. Mae y geiriau hyn—
1. Yn fawreddog—sublime: "Fy ngeiriau I." (Cymharer Gen. i. I â'r testyn.)
2. Yn wir—dim os yma.
3. Yn bwysig i'r annuwiol.
4. Yn llawn cysur i'r duwiol.
O! parchwn ei Air Ef. Amen.
JOSEPH.
Gen. xli. 39—45.
Mae cymmeriad Joseph wedi bod dan sylw genym o'r blaen, ond nis gallwn lanw y gadwyn o dduwiolion yr Hen Destament sydd genym yn awr dan ein sylw heb gael Joseph o flaen ein pobl ieuainc.
I. JOSEPH YN FACHGEN.
Mab hynaf Rahel, ond y plentyn ieuengaf ond un. Nodweddau dyddiau boreuol—
1. Parch i'w rieni. Mae hyn yn amlwg. Parhaodd hyd y diwedd.
2. Gonestrwydd. Dynoethodd fai y brodyr.
3. Gwrthddrych sylw Duw.
Mae Joseph yn esiampl dda i'n pobl ieuainc.
II. JOSEPH YN NHY PUTIPHAR.
Daeth yma drwy greulondeb ei frodyr.
1. Mae yn gaethwas.
2. Mae yn ffyddlon i'w feistr.
3. Mae yn ofni Duw.
III. JOSEPH YN Y CARCHAR.
1. Mae yn garcharor diniwed.
2. Carcharor yn ennill ymddiried.
3. Carcharor ag y mae Duw gydag ef.
IV. JOSEPH MEWN DYRCHAFIAD.
1. Dengys ddoethineb mawr.
2. Dengys ofal mawr. 3. Bu yn llwyddiannus iawn—(1) I gadw bywydau y bobl, (2) I gryfhau dylanwad y brenin, (3) I wneyd cartref i'r Eglwys.
Addysgiadau-
1. Crefydd foreu o werth mawr.
2. Gall y da a'r duwiol ddyoddef.
3. Ond daw y fuddugoliaeth. Amen.
ANGLADD JACOB.
Gen. 1. 7-9.
I. PERAROGLI CORFF JACOB.
I. Y dull.
2. Y gost, £250; £60-swm llai.
3. Yr amser, 40 a 70 niwrnod.
II. Cais JOSEPH.
Gofyn caniatad i Pharaoh.
III. Y CWMPEINI.
1. Yn urddasol iawn.
2. Yn lluosog iawn.
3. Yr angladd fwyaf yn y byd.
IV. Y FFORDD.
300 milldir.
V. YR ADDYSG.
1. Dangos ffydd Jacob.
2. Parch Joseph i'w dad.
3. Argraff ddofn ar feddwl yr Aifftiaid am ddyfodol Israel.
Amen.
JENKIN HOWELL, ARGAFFYDD, &c., ABERDAR.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Wedi ysgrifenu yr uchod, bu farw Mrs. Hughes.
- ↑ Yr oedd y Dr ychydig cyn hyn wedi bod yn cymmeryd rhan bwysig a thra blaenllaw gydag etholiad gwleidyddol y Sir, ac felly wedi bod o gynnorthwy mawr i ddychwelyd yn llwyddiannus y boneddwr parchus ac haeddglodus o Fargam. ac yr oedd yntau, fel y gwelir, yn cofio yn garedig am y Dr. drwy gyfranu yn dywysogaidd at yr eglwys oedd dan ei ofal.
- ↑ Y mae y gymdeithas ragorol hon mewn bod yn bresenol, ac yn llewyrchus; ond nid ydyw yn dal cyssylltiad neillduol â'r eglwys yn Nghalfaria, yn amgen na'i bod yn cael ei chynnal yn Nghalfaria Hall.
- ↑ Er ein Jubili mae y brawd Dd. Hopkins wedi sefydlu yn America; y brawd David Adams wedi sefydlu yn weinidog ar eglwys y Brithdir; y brawd Ebenezer Morgans wedi cymmeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys yn y Twyngwyn; y brawd James Jones wedi ei ordeinio yn fugail ar yr eglwys yn Abercwmboye; y brawd David Lewis wedi sefydlu yn weinidog ar yr eglwys Gymraeg yn Witton Park, swydd Durham; a'r brawd David Griffith wedi cymmeryd gofal eglwys Ebenezer, Dyfed.
- ↑ Cymmerwyd yr hanes canlynol allan o "Seren Cymru," am Awst 15fed, 1862.
- ↑ Wedi claddu Shon, priododd Kate, fel ei gelwid hi, â John Griffiths, yn awr y Parch John T. Griffiths. Lonsdale, Pensylvannia, America, ac y maent wedi byw yn ddedwydd gyda'u gilydd.
- ↑ Sef y Sul o flaen y cwrdd sefydliad. Yr oedd Price i fedyddio y Sul hwnw, ond collodd y tren yn Aberdar. felly gorfu iddo gerdded lawr i'r Mount. Yr oedd Mr. Williams wedi gwisgo yn barod i fed voldio ei hunan, wedi gweled na ddaeth Price gyda y tren, ond pan oedd Mr. Williams bron yn barod i arwain y bedyddiedigion i'r dwfr, gwelent Price yn dyfod wedi cerdded bob cam ac yn llaca mawr hyd ei benlin iau. Yn mlaen yr aeth yn benderfynol i wneyd y gwaith y dysgwylid iddo ei gyflawnu. ond gwrthodwyd iddo gan y brodyr, gan ei fod wedi poethi yn ormodol ac yn llawn chwys.
- ↑ "Yr oedd Dr. Price," adrodda y Parch. J. W. Moore (Darfab) yn ei Draethawd ar Hanes Eglwys Bethel, Abernant, "wedi cael y fraint of fedyddio llawer o ymgeiswyr am fedydd o'r gangen hon yn afon Cynon, gerllaw y Trap [yn flaenorol i'r uchod]. Bedyddiodd hefyd amryw yn y nant uwchlaw yr ysgoldy, mewn man cyfleus a wnaethpwyd at y pwrpas trwy garedigrwydd Mr. Fothergill."
- ↑ Tua'r adeg hono graddiwyd ef yn M.A, Ph.D. gan Brifysgol Leipsic, yn Saxony, sef Athraw y Celfyddydau a Doethawr Athroniaeth. Ychydig flynyddau cyn hyn y cynnaliwyd cynnadledd i drafod y pwnc o ystadegaeth fywydol (Vital Statistics). Cawn iddo gymmeryd rhan egniol yn ngweithrediadau y gynnadledd hono; gosododd o'i blaen bapyrau pwysig ar y pwnc dan ystyriaeth; ac fel math o gydnabyddiaeth am ei lafur yn y cyfeiriad hwnw yr anrhegwyd ef â'r graddau colegawl a nodwyd. Am hyny y canodd Aneurin Fardd:
"Yn nglyn â chred a bedydd,—ceir trawon,
Cywir, trwyadl celfydd;
A thrwy'i henwog athronydd
Aberdar a bia'r dydd." - ↑ Gwel Seren Cymru Ebrill 16, 1869.
- ↑ Gwel Seren Cymru am Mai 21, 1869.
- ↑ Yn Seren Cymru am Mai yr 21ain, 1869, cawn y nodiad canlynol:— Yn yr hwyr yr oedd eglwys fawr y Parch. Mr. Galegher, Brooklyn, wedi ei llenwi, ac yr oedd yno amryw Gymry parchus hefyd yn mhlith y gynnulleidfa. Cyflwynwyd y Dr gan weinidog y lle yn ei ddull arabaidd ei hun: dywedai y byddai y doethion yn dyfod yn y cynoesoedd o'r Dwyrain, ac fod ymweliad Dr Price o Gymru i America yn profi nad oedd eu hiliogaeth wedi llwyr ddarfod etto."
- ↑ Yr oedd Cadben Kennedy, dan ofal yr hwn y dychwelodd, yn dra gwahanol ei gymmeriad i'r Cadben Morehouse: yr oedd yr olaf yn ddyn crefyddol iawn, tra yr oedd y blaenaf yn mhell oddiwrth hyny.
- ↑ pleidlais gudd
- ↑ Ceir a ganlyn ar goflyfr yr Undeb o weithrediadau y gynnadledd yn 1859:- Penderfyniad 2, Fod y Parch. Thomas Price, Aberdar, i gael ei awdurdodi i fynu y llafnau (plates) oddiwrth Mr. Woods Man- chester, gan nas gellir cael dim oddiwrtho yn brydlawn." Etto. Ionawr 6ed, 1862, Cyfarfod y Bwrdd, Y Parch. T. Price wedi cael yr arluniau a'r llafnau."
- ↑ Un flwyddyn yn gyffredin yw y tymhor a wasanaetha llywyddion yr Undeb Iforaidd ; ond fel prawf o wir deilyngdod Price, a'i gyfaddasder neillduol i'r swydd, yn y flwyddyn ganlynol cafodd ei ail ethol i'r swydd gyda'r parodrwydd mwyaf.
- ↑ Caledfryn ydoedd hwnw. Yn nghapel y Methodistiaid, Aberdar, y traddodid y ddarlith. ac ofnai y rhai mwyaf sanctaidd o'r Corff yr halogai y Dr. eu teml.
- ↑ Ychydig ddiwrnodau cyn cyfarfod mawr Cambridge, derbyniodd y Dr. delegram, yn ei hyspysu fod Mr. Birrell, Liverpool, yn methu dyfod i'r cyfarfod, ac yn taer erfyn arno ef i gymmeryd ei le yn y cyfarfod mawr cenadol. Felly y bu; traddododd yr anerchiad hwn; ac yr ydym yn cyhoeddi cyfieithad o hono o'r Cambridge Independent Press, lle yr ym. ddangosodd yn llawn Sadwrn, Medi 24ain, 1870.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.