Capelulo (testun cyfansawdd)
← | Capelulo (testun cyfansawdd) gan Robert Owen Hughes (Elfyn) |
→ |
I'w ddarllen pennod wrth bennod gweler Capelulo |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
CAPELULO.
GAN
ELFYN.
CAERNARFON
CWMNI'R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.)
SWYDDFA CYMRU."
1907.
CYNHWYSIAD.
I. BORE OES
II. CRWYDRO'R BYD
III. TROI ADRE
IV. TROI DALEN
V. SEL TOMOS
VI. DYSGU DARLLEN
VII. "DYDD IAU"
VIII. BALCHDER A PHWDIN
IX. GWERTHU ALMANACIAU A CHERDDI
X. TRAETHU AR BRIODAS
XI. ANERCHIADAU A CHYNGHORION
XII. ARAETH DANLLYD
XIII. PREGETH I BERSON
XIV. CWESTIYNAU'R CYFRWYS
XV. DAFYDD EVANS Y PANDY
XVI. CYFARFOD GWYTHERIN
XVII. YN Y CYFARFOD GWEDDI
XVIII. TAGU PRYDYDD
XIX. DYWEDIADAU AC YMGOMIAU
XX. TOMOS AC I. D. FFRAID
XXI. Y GWEINIDOG O'R DE
XXII. O FLAEN YR "USTUS"
XXIII. RHYFEL A SATAN.
XXIV. DECHREU ODFA
XXV. YN Y SEIAT
XXVI. GALWAD ADREF
CAPELULO.
I. BORE OES.
TEG i mi ar y dechreu fel hyn, gael caniatad i ofyn i'r sawl a ddarllenno yr hanes hwn beidio ffurfio ei farn am holl hanes Tomos Williams oddiwrth y rhannau cyntaf o hono. Fel y mae waethaf, rhaid yw addef iddo dreulio y rhan fwyaf o lawer o'i oes ym mhyllau dyfnaf ac erchyllaf llygredigaeth. Ni bu gan y diafol ffyddlonach gwas yn Nyffryn Conwy, am ddarn helaeth o ganrif, na Thomos Williams. Ond pan oedd lliw ei wallt wedi newid, a'i gefn wedi crymu dan bwysau deg a thrigain o flwyddi, ei lygaid wedi pylu, a'i gam wedi byr- hau, penderfynodd newid ei feistr; ac ni chaf- odd le i edifarhau o'r herwydd. Megis yn swr torri ei fedd yr anturiodd Capelulo," druan, roddi ei ymddiswyddiad yn llaw y gŵr y bu yn gadben mor alluog ac adnabyddus ar faesydd ei frwydrau am gynifer o flynyddoedd. Nid oes amheuaeth nad oedd y diafol a'i angylion yn berffaith sicr yn eu meddyliau eu hunain y byddai Tomos Williams yn gwmpeini difyr iddynt; hynny yw, yn gwmpeini mor ddifyr ag y byddai yn bosibl i losgfeydd tragwyddol" ei wneyd. Gallwn feddwl fod cryn siomedigaeth yn rhigolau noethion ac hyd riwiau drycinog uffern, pan ddeallwyd fod yr hen Domos wedi mynd i "stesion rhad ras," fel y dywedai, a "chodi ticed "—y Meichiau wedi talu—am y Jerusalem nefol.
Goddefer i mi ddweyd, hefyd, nad oedd ar gychwyniad ei yrfa, o leiaf, nemawr ddim ysmaldod goddefol, neu droion chwithig carictor gwreiddiol, yn perthyn iddo fel i Shon Catrin, Robin Busnes, Bob Owen, Bilw Beech, &c. Yr oedd direidi Twm yn ddireidi pechadurus, ei ysmaldod yn ysmaldod peryglus, a'i chwithigrwydd yn un dieflig. Byddai pob gwrhydri a gyflawnai yn wrhydri a ddygai gysylltiad â phechod; ac os gwnai ddaioni ar ddamwain, byddai yn sicr o dalu iawn mawr i deyrnas y tywyllwch am hynny.
Mor agos ag y gwn, ganwyd Tomos Williams yn Llanrwst, rywbryd rhwng y blynyddoedd 1778 a 1782, a bu fyw hyd y flwyddyn 1855. Hannai ei deulu o le a elwir hyd y dydd heddyw Capelulo, yn agos i Ddwygyfylchi, ger Conwy, ac wrth yr enw hwnnw yr adwaenid ef ar hyd. a lled y wlad. Pan oedd Tomos yn fachgen, nid oedd gan y Methodistiaid yr un capel yn y dref, ond arferent ymgynnull mewn rhyw dy ym Mhen y Groesffordd. Nid oedd gan yr un enwad Ymneillduol arall gapel yn y dref, ychwaith. Cafodd ryw esgus o ysgol ddyddiol, ond gadawodd hi cyn dysgu na darllen, na rhifo, nac ysgrifennu. Meddai ceffylau a mulod ar fwy o atyniad i Domos nag ysgolion ac addoldai. A'r pryd yr oedd efe yn fachgen, ac yn wir ymron ar hyd ei oes, nid oedd son am dren i Lanrwst, felly yr oedd llawer iawn o geffylau a cherbydau yn myned yn ol a blaen drwy y dref bob dydd. Un o'r gorchwylion cyntaf a gyflawnwyd ganddo oedd dal pennau y ceffylau hyn, y rhai a safent o flaen y gwestai. Pan yn ddeuddeg oed, cafodd ei big i mewn i'r Eagles" i lanhau esgidiau a rhedeg negesau. Yr oedd yn y gwesty delynor o'r enw Wil Ellis, a phrif hyfrydwch Tomos oedd peri i'r hen frawd hwnnw golli ei dymer, a'i gân hefyd hwyrach, wrth ei boeni yn barhaus drwy ei ddynwared yn chwareu, a hynny gyda pheth mor ddiurddas ac ansanctaidd à choes brws. Byddai Tomos yn myned drwy y gamp hon bob dydd am un haf i ddieithriaid a arhosent yn y gwesty; a chan ei fod yn ddigon medrus i datlu ysbrydoliaeth hyd yn oed i goes brws, derbyniai ei giniaw a diod ganddynt bob dydd am yr haf hwnnw. Nid oedd ryfedd yn y byd fod y canwr telyn yn anfoddlon i fod mewn partneriaeth gyda choes brws-peth oedd yn dwyn cysylltiad mor agos a'r llawr.
O dipyn i beth, daeth Tomos i fod yn ostler
yn yr "Eagles." Yr oedd, bellach, wrth ei
fodd. Ystabl oedd ei blas, a'r ceffylau oedd
ei gyd-chwareuwyr. Ni fynnai sylweddoli fod
y gwahaniaeth lleiaf rhwng ei ymenydd ef ag
ymenydd march. Onid oedd y ceffyl yn gallu
cerdded, bwyta, yfed, a chysgu? A pha beth
yn fwy, yn ei feddwl ei hun, a fedrai Tomos
ei wneyd? Medrai y llanc, druan, chwyrnu gyda chymaint o rymuster ar wellt y stabl ag
a fedrai yr un cawr o yswain wedi gwin yn y
deyrnas ar ei wely manblu. Ar ol bod yn yr
"Eagles" am dymor lled dda, cafodd ddyrchafiad i yrru'r "Express" o Lanrwst i'r Cernioge Mawr, ger Cerrig y Drudion. Wedi
hynny cyflawnai swydd gyffelyb o'r Bull Inn,
Conwy. Treuliodd dipyn o flynyddoedd i
yrru cerbydau, ac yna, fel y mae yn naturiol
casglu, aeth i berthyn i Filisia Arfon. Dalier
mewn cof mai dyma adeg rhyfeloedd mawrion
Napoleon a Wellington. Wedi cael mynd yn
filwr rheolaidd, cawn ef yn Cape of Good
Hope, yn St. Helena, a pharthau o America
Ddeheuol.
II. CRWYDRO BYD.
PAN yn Buenos Ayres yn amser y rhyfel rhwng y Prydeiniaid a'r Sbaenwyr, cafodd Tomos ac un ar bymtheg o ddynion eraill, yn cynnwys swyddog, eu hanfon allan ar neges heddwch at gatrawd o Sbaenwyr oedd mewn rhan bell o'r wlad. Gorchymynnwyd iddynt gynnal eu hunain tra ar eu taith drwy ysbeilio tai y brodorion. Un dydd, pan yr oedd eisieu bwyd arnynt, mae'n debyg, torasant i dŷ oedd ar y ffordd. Diangodd hen wr oedd yn byw ynddo i lechu am ei fywyd i un o ystafelloedd y ty. Wrth ei weled tynnodd Gwyddel ei bicell allan, ac yr oedd ar fin ei drywanu, pryd y gwaeddodd Tomos Williams arno i gymeryd yn araf, gan na feddent awdurdod i ladd neb ond mewn hunan-amddiffyniad. Ar hynny, bygythiodd y Gwyddel gwaedwyllt roddi y bicell yng nghorpws Tomos, ond pan heriwyd ef i wneyd hynny yr oedd ganddo ormod o ofn y gyrrwr meirch a mulod o Lanrwst i gyffwrdd ynddo. Yn naturiol, yr oedd yr hen Sbaenwr yn dra diolchgar i'r dyn a'i gwaredodd o law y gelyn, ac aeth o dan y gwely gan ddwyn oddiyno botelaid o win. Yr oedd Tomos yn ddigon o hen ben i wneyd i'r Sbaenwr gymeryd dracht o honi gyntaf, rhag ofn fod gwenwyn ynddi. Nid oes eisieu dweyd y gweddill o hanes y gwin; oherwydd yr oedd gan Tomos chwant ddi-reol, corn gwddw hir, a chylla nad oedd erioed wedi dweyd na chlywed y gair "Digon." Boed hynny fel y bo, yn y Cymro, ac nid yn y Gwyddel yr oedd y ddynoliaeth. oreu y tro hwn. Gwell oedd gan Tomos bechu hefo'r botel nag hefo'r bicell. Am niweidio ei hun, ac nid arall, fel y Gwyddel, yr oedd efe.
Wedi i ryw gymaint o heddwch gael ei gyhoeddi rhwng Sbaen a Phrydain, cychwynai llong Tomos Williams am Benrhyn Gobaith Da, yng ngyfeiriad cartref. Tra yr oedd efe yn myned at y llong honno, trwy ryw anffawd, neu ddiffyg gwyliadwriaeth, syrthiodd ei wn i'r môr, yr hyn a ystyrrid yn drosedd mawr iawn. Archwyd i Tomos gael ei rwymo, ac i dderbyn tri chant o wialenodau gyda fflangell front. Ond, yn ffodus, fe ymlithrodd duwies Trugaredd i mewn i'r calonnau cerrig a'r cydwybodau haearn oedd yn llywodraethu byddin Prydain Fawr y dyddiau hynny, fel na roddwyd iddo ddim ond hanner cant o wialenodau, ac yr oedd hynny yn llawn ddigon. Fel hyn, y mae gan Drugaredd, yn gystal a Chyfiawnder a Barn, Llymder a Chreulondeb, Nerth a Gwrhydri, ei buddugoliaethau, y rhai a enillir ganddi yn ddistaw, heb ollwng yr un ergyd na chwifio yr un cleddyf. Mae Trugaredd yn ddigon parod a chyflym i ennill concwest tra y bydd Barn yn rhoddi min ar ei gledd a Chyfiawnder yn chwythu ei udgorn.
Wedi treulio misoedd yn y Cape, aeth y gatrawd y perthynai Tomos iddi i Alikan Bay. Yr oeddynt dan orchymyn i rwystro y Ffrancod i lanio yno. Mae'n debyg nad oedd yno nemawr ddim i'w wneyd, a rhag i'r milwyr gyrraedd perffeithrwydd mewn segurdod, anfonwyd. nifer o honynt, Tomos yn eu plith, i wneyd trefn ar dyddyn a berthynai i gadben y gatrawd. Yn y wlad yr oedd y lle hwnnw. Un diwrnod, pan oedd y dynion ym mhlas y swyddog, digwyddasant ddod o hyd i gryn swm o win, a bu gorfoledd mawr a gorohian lawer. Lle paradwysaidd i filwr sychedig oedd seler y cadben. Nid oedd eisieu cymhell yr un o honynt i wneyd rhuthr ar y potelau. Yfwyd o'r gwin gyda gwane angerddol, ond Tomos oedd yr unig un a feddwodd. Nid am fod ei ben yn wannach na phen unrhyw un arall o'r cwmni, gellir bod yn sicr, ond am mai efe a yfodd fwyaf o'r gwin. Daeth hanes yr ysbleddach danddaearol i glustiau y swyddog, yr hwn, ar unwaith, a orchymynodd i Domos gael ei fflangellu. Ond cafodd eiriolydd y tro hwn, a hynny ym mherson neb llai urddasol na gwraig y swyddog. Y rheswm dros iddi hi ymgymeryd â'r eiriolaeth ydoedd fod Tomos wedi peri llawer o ddifyrrwch iddi, o dro i dro, drwy adrodd straeon am y Cymry. Rhaid mai straeon dyddorol dros ben oedd y rhai hyn cyn y llwyddasent i gadw y "gath naw cynffon" yng nghwsg. Ac felly yr oeddynt yn ddi-ddadl; ac yr oedd Tomos yn adroddwr dihafal ar stori; ac yn y cyfnod hwn ar ei fywyd nid oedd yn rhy ofalus am chwaeth nac am wirionedd, ond synnwn i ddim nad oedd yn llawn cymaint felly a'r foneddiges a dderbyniai y fath fwynhad wrth wrando arno.
Wedi dychwelyd i Cape Town, rhoddid rhyw fath o ryddid i'r milwyr i fyned allan i grwydro hyd y dref, a chan fod eu pocedau bron yn hollol weigion y naill ddydd ar ol y llall, byddai gan Tomos gynllun bach gwreiddiol o'i eiddo ei hun i gael arian. Tra y gorfodid eraill i ddwyn bwyd a diod, byddai ef yn gwneyd rhyw lun o ennill y cyfryw. Ei gynllun oedd myned o ddeutu y tai mwyaf urddasol yn y dref a'r amgylchoedd i ganu hen gerddi Cymreig, gyda'r hyn yr oedd ganddo gryn lawer o ddawn, ac i ddynwared Wil Ellis, telynwr yr "Eagles." Yr oedd mynd rhyfeddol ar gampau Tomos yn y cyfeiriad yna. Amlwg oedd fod nwyddau Cymreig yn cymeryd yn Cape Town gan mlynedd yn ol, beth bynnag sydd yn dod o honynt yno heddyw. Derbyniai Tomos swm lled dda o arian, cyflawnder o fwyd, a gormod o ddiod.
Pan oedd y llong a'i cludai ef ac eraill
ynddi ar y fordaith o'r Cape i Bombay, canfyddwyd ei bod yn gollwng dŵr i mewn, ac
oherwydd hynny yn achosi cryn lawer o drafferth a phryder i'r swyddogion a'r dwylaw.
Un diwrnod-diwrnod o helbul mawr-galwodd
y cadben y dwylaw oll ar y bwrdd.
Ceid yn
en mysg rai yn cynrychioli naw neu ddeg o wahanol genhedloedd, ond Tomos oedd yr unig
Gymro o'r cyfan. Gofynnwyd i bob un a
oedd yn gallu nofio, ond gwadu a fynnai yr oll.
Wedi i Domos wadu, dywedodd y cadben wrtho
ei fod yn dweyd celwydd, ac mai efe oedd y
nofiwr goreu a welodd erioed. Ceisiodd ganddo
fynd i'r dŵr i chwilio ochrau a gwaelod y
llestr, er mwyn cael allan drwy ba ffordd yr
oedd y dŵr yn dod i mewn. Addefodd yntau,
o'r diwedd y medrai nofio, ond fod arno ofn
y morgwn (sharks), gan mai y lle yr oeddynt
yn digwydd bod ynddo oedd y gwaethaf yn y byd ar y môr am y creaduriaid peryglus hynny.
Modd bynnag, wedi ychydig ymbil a pheth
gwirod, i lawr i'r dyfnder à Thomos, morgwn
neu beidio. Chwiliodd y llestr yn fanwl. Daeth
o hyd i'r agen. Dychwelodd yn ddiogel i
fwrdd y llong, a mynegodd ganlyniad ei ymchwiliad i'r cadben. Cafwyd ei fod yn dweyd
y gwir yn berffaith onest, a chafodd y llanc
dewr y swm o un sofren am anturio ei fywyd
ei hun i achub bywydau eraill.
III. TROI ADRE.
ANFUDDIOL, ac efallai anyddorol, fyddai dilyn ychwaneg ar hanes Tomos yn Affrica ac Asia. Digon yw dweyd iddo, ar ol ymdroi gyda'r fyddin ar gyfandir Ewrop, lanio yn Plymouth, yn Lloegr, a hynny ar yr adeg yr oedd Napoleon yn garcharor mewn llong yn y porthladd, ryw ychydig ddyddiau ar ol brwydr Waterloo. Y pryd hwnnw cafodd Tomos ei ryddhau o'r fyddin. Gwariodd yn Plymouth bob dimai o'r arian oedd ganddo. Llwyddodd, ryw fodd, i gael dod mewn llong hyd Gasnewydd, ym Mynwy, ac oddiyno cardotodd ei holl ffordd i Lanrwst. Oherwydd ei ddeheurwydd gyda'i dafod medrai Tomos gael cryn lawer o fwyd ac arian i'w gynnal ar hyd y daith. Wrth gwrs, gwnai y defnydd goreu oedd yn bosibl tuagat hynny o'r ffaith iddo fod mewn ysgarmesoedd lluosog a gwaedlyd yn Sbaen, Holland, Belgium, yng nghydag yn Asia, Affrica, ac America; ac yr oedd yn ei amser ef, gryn lawer o gydymdeimlad, ymhlith bonedd gwerin, â milwyr a fyddent wedi cyflawni rhyw gymaint o wasanaeth dros eu gwlad yr oedd efe yn sylwedydd digon craff, ac yn Hefyd, meddu ar gof campus, fel y gallai, gyda'r rhwyddineb mwyaf, ateb unrhyw gwestiynau lled ddyrus ar yr hanesion dyddorol a rhyfedd a adroddid ganddo. Medrai Tomos, yn fynych iawn, gael pentref cyfan i wrando arno yn myned drwy hanes ei anturiaethau; ac nid hollol "goch a fyddai y casgliad yn yr het ar ol "odfa" effeithiol o'r fath.
Pan gyrhaeddodd i Lanrwst, gwnaeth hynny yn swn ymddatodiad yr hen wr ei dad, yr hwn, fel y dylaswn fod wedi dweyd yng nghynt, oedd yn ffeltiwr yn y dref, ac yn meddu ar gryn ddawn i ganu. Adnabyddodd ei dad ef, a bu farw ym mhen rhyw dridiau neu bedwar ar ol ei ddyfodiad i'r dref. Dau ddigwyddiad rhyfedd oedd y rhai yna-un yn dod adref a'r llall yn mynd adref. Cyrhaeddodd Tomos o daith bell, o Bombay, neu o Benrhyn Gobaith Da; ond cychwynai ei dad i daith bellach-i gyfeiriad y mynyddoedd "tywyll." Ynglyn a'i ddyfodiad adref, hwyrach y dylwn grybwyll fod Tomos, cyn ei fynediad i ffwrdd gyda'r fyddin, yn cadw cwmni, fel y dywedir, gyda rhyw ferch ieuanc o'r gymydogaeth. Diameu iddynt dyngu llw o ffyddlondeb y naill i'r llall, yn ol defod. ac arfer urdd y caru, cyn yr ymwahaniad maith a gymerodd le rhyngddynt. Collwyd dagrau. gollyngwyd ocheneidiau, gwasgwyd dwylaw, a gwastraffwyd addewidion. O yr oedd yno dynerwch. Llifeiriai serch ac aeth anwyldeb yn fflam, a throdd yr ymadawiad yn brydferth "fel drylliad paradwys." Ond, yn araf, ddarllennydd mwyn. Y mae barddoniaeth lednais y ffarwelio yn cael ei weddnewid i'r rhyddiaith mwyaf barbaraidd, pan ddywedwn fod y ferch ieuanc a adwaenid yn y dyddiau gynt gan Domos, erbyn iddo gyrraedd adref, yn wraig weddw a chwech o blant ganddi. Ond gwir yr hen air mai "hawdd cynneu tân ar hen aelwyd." Ymgymerodd Tomos ag anturiaeth bwysicach na'r un a ddaeth i'w ran ar y pedwar cyfandir y bu yn ymladd arnynt-priododd hi. Bu ei wraig farw ymhen oddeutu chwe blynedd ar ol hynny.
Am flynyddoedd wedi hyn, hanes Tomos yw ei hanes yn gyrru gwartheg a moch i Gaer, Gwrecsam, yr Amwythig, a phrif drefydd Lloegr. Hwn oedd y tymor mwyaf ofer ac anystyriol ar ei fywyd. Rhoddodd ei hun yn llaw tad y celwydd i gyflawni pob ffurf ar bechod. Ni byddai o nemawr bwrpas i ddilyn dim ym mhellach arno hyd y ffyrdd anuwiol a rodiodd yn oferedd ei galon am lawer o flynyddoedd. Dyna'r darllennydd, mi debygaf, wedi cael llawn ddigon o drem ar Domos Williams yn nyddiau ei wendid a'i ynfydrwydd. Ond nid mewn ffolineb ac afradlonedd y mae hanes yr hen frawd dyddorol hwn yn darfod o lawer iawn.
IV. TROI DALEN.
TUA'R flwyddyn 1840 yr oedd y Gymdeithas Lwyrymataliol mewn bri mawr yng Nghymru, a channoedd lawer yn ymuno â hi. Un bore, oddeutu'r adeg hon, yr oedd Tomos yn sal ryfeddol ar ol bod yn yfed diodydd meddwol am lawer o ddyddiau yn olynol. Dechreuodd fyfyrio yng nghylch oferedd ei ffyrdd. Gwelai ei fod yn dechreu myned yn hen ddyn, ac nad oedd wedi gwneyd dim ar hyd ei oes ond baeddu ei gorff ac esgeuluso ei enaid. Daeth i gredu fod anuwioldeb a rhyfyg ei fywyd yn ei ladd yn gyflym. Penderfynodd fyned yn ddirwestwr. Ond y diwrnod y gwnaeth y penderfyniad hwnnw, rhaid a fu iddo gael meddwi cymaint ag erioed o ffarwel Yfodd yr a'r hen ddioden," chwedl yntau hanner peint olaf yng Ngwesty y Bedol, Tal y Bont, ger Conwy. Nos y dydd hwnnw, cafodd ganiatad i fyned i gysgu i ysgubor y Farchwiel, ac yn y lle di-addurn hwnnw aeth Tomos Williams, yr hwn am flynyddau oedd y dyhiryn mwyaf beiddgar yn Nyffryn Conwy—un o'r cadfridogion mwyaf blaenllaw ym myddin y diafol—aeth Tomos, meddwn, ar ei liniau i geisio gweddio. Y tebyg yw mai dyma y tro cyntaf erioed iddo geisio gwneyd y fath beth. Bu yn chwifio ei gledd ac yn ergydio ei fagnel mewn rhyfeloedd blinion ar dir ac ar for heb i'w liniau blygu unwaith gan ofn na dyn na Duw. Melldithiodd rinwedd, a chwarddodd bob syniad am ddaioni a phurdeb ymaith o'r enaid. Yr oedd chwaeth bur a lledneisrwydd ymadrodd ac ymddygiad yn estroniaid iddo; buasai anwariaid yn ei groesawu fel eu brawd a'u brenin. Eto, yn hen ysgubor y Farchwiel, dyma'r hedyn olaf o'r angel oedd yn aros ynddo heb ei lofruddio, yn gwthio ei hun i'r golwg. Yn raddol enilla y fath ddylanwad arno nes y pletha ei ddwylaw, y plyga ei lin—" Wele y mae iau, ac yr ireiddia ei dafod; ac efe yn gweddio." Gofynnodd i Dduw y noson honno ei sobri, a'i nerthu i fod yn llwyrymwrthodwr, gan ei gadw rhag pob oferedd. Gweddiodd yn yr un cyfeiriad ar ol deffro fore drannoeth.
Wedi dychwelyd i Lanrwst, aeth at Mr. Griffith Williams, gŵr parchus a chyfrifol yn y dref, yr hwn oedd hefyd yn ddirwestwr selog. Dywedodd Tomos wrtho fod arno eisio "seinio titotal." Synwyd Mr. Williams yn fawr wrth glywed y fath garictor du a drylliog yn son am y fath beth a dirwest. Ond yr oedd efe yn wr doeth, ac yn un a garai weled unrhyw greadur yn ceisio cael goruchafiaeth ar ei chwantau. Rhoddodd dderbyniad caredig iddo, ac anogodd ef i roddi ei enw i ddechreu yn y llyfr bach." Llyfr ydoedd hwnnw ar gyfer y rhai yr ofnid yn gryf na fyddai iddynt gadw at eu hymrwymiad. Yn gyffredin, rhoddid eu henwau ynddo am fis. Y tebyg yw nad oedd neb a adwaenai Domos—ac adwaenid ef gan filoedd, a hynny oherwydd ei gampau drwg yn credu y buasai yn dal am ddiwrnod chwaithach mis. Modd bynnag, er syndod i bawb, a llawenydd i luaws, dal a wnaeth nes y bu yn rhaid symud ei enw i'r "llyfr mawr "—cronicl y cedyrn mewn dirwest.
Fel y gallesid disgwyl, dioddefodd cymeriad o'i fath ef demtasiynau lluosog a gwawd cyson oherwydd troi ohono yn ddirwestwr. Dechreuodd ennill tipyn o fywoliaeth trwy werthu almanaciau a cherddi, a chan fod cyflawnder o gwsmeriaid i'r lenyddiaeth yna i'w cael yn y tafarnau ar ddyddiau marchnadoedd a ffeiriau, byddai Tomos yn troi iddynt i'w gwerthu. Yr adeg honno-dros drigain mlynedd yn ol yr oedd Almanac, Cerdd, a Chwrw,. yn drindod gymhleth a'u gilydd. Yr oedd yr almanac yn oracl, yn broffwyd, ac yn sant, a'r gerdd yn troi yn farddoniaeth "ysbrydoledig " o dan ddylanwad y cwrw. Wrth ymweled a'r tafarnau byddai yn naturiol yn gosod ei hun yng nghyrraedd palf yr arth a chrafanc y llew. Pan mewn ty tafarn o'r enw Tan yr Ogof, yn— ymyl Abergele, talodd rhyw borthmon moch oedd yno am wydriad o ddiod feddwol iddo, ond dywedodd wrtho yn bendant na chymerai mohono, gan ei fod yn ddirwestwr. "Os na yfi di o, mi tafla i o am dy ben di," ebai y porthmon bras. Ond parhau i wrthod yn benderfynol a wnai Tomos, a thaflodd y dyn, yr hwn a ddygai gysylltiad mewn mwy nag un ystyr â moch, yr holl gwrw am ei ben. Da i'r gwr anifeilaidd hwn fod dirwest wedi cadwyno peth ar ddyrnau a llareiddio llawer ar dafod Tomos, neu buasai yn sicr o gael profi nerth y naill a min y llall. Pan wedi cyrraedd Abergele, lle y cynhelid ffair fawr, trodd i werthu ei lenyddiaeth i dafarndy neillduol. Adnabyddwyd ef yn y fan gan lu oedd yno, y rhai wedi deall ei fod wedi troi yn ddirwestwr a neidiasant ato. Cydiasant yn dynn yn ei freichiau, fel nas gallai symud fodfedd. Yna ceisiodd un o'r cwmni dywallt diod feddwol i lawr drwy ei enau; ond cauodd Tomos hwy yn berffaith glos, fel na lwyddasant i yrru yr un dafn i lawr. Daeth oddiyno gyda dwylaw glân a chydwybod dawel. Bu lawer gwaith mewn enbydrwydd cyffelyb i'r uchod oherwydd ei fod wedi troi yn ddirwestwr.
V. SEL TOMOS.
WEDI dal at ei ymrwymiad yn ffyddlon am rai misoedd, cynhelid cyfarfod dirwestol mawr yng nghapel Seion, Llanrwst, ac, ar anogaeth y llywydd, adroddodd Tomos dipyn o'i brofiad fel dirwestwr. Ni bu iddo ymollwng i ddweyd dim oedd yn ddigrif y tro hwn, ond daeth yn areithiwr doniol ryfeddol ar ol hynny. Byddai yn arswydus o ffyrnig wrth ymosod ar feddwdod a chyfeddach, ac ni byddai yn rhy ofalus am wneyd y detholiad priodol o eiriau wrth wneyd hynny. Ond byddid yn maddeu yn rhwydd iddo os âi, weithiau, ar draws y chwaeth oreu, ac os defnyddiai, wrth felldithio. ambell air nad oedd yn ddigon canonaidd i fod mewn geiriadur. Rai troion, mewn cyfarfod dirwest, rhaid fyddai i'r llywydd atal Tomos pan yn torri allan i'r hwyl fawr, ac yn taflu gormod o ffrwyn i'w dafod a'i sel. Dyma. engraifft.
Tomos (yn dweyd y drefn am y ddiod,. &c.).—Yr hen sopen ddrwg, yr hen feuden felldigedig, uffernol gyni hi! Fasa yna ddim jêl, na madows, na thransbort, oni bae am dani hi. Y c——l, yn siwr i chi, oedd y cynta un i ddyfeisio peth fel hyn. Y fo ffeindiodd y risêt i'r briwars mawr yma i gael gwybod sut i'w gwneyd hi. Ran hynny, y fo sy'n rho'i stwff at i gneyd hi hefyd. Mi rydw i'n cofio pan oeddwn i ar fy nherm yn y nos yn Bombay, ac yn methu ar faes medion y ddaear a mynd yn f'ol at y sowldiwrs erill, mi ddoth yna glompan o .ddynes
Y Llywydd:—Yn ara' deg, yrwan, Tomos Williams.
Tomos:—O, ie, diolch yn fawr i chi, syr. Mi fydda i bob amser yn colli arnaf fy hun pan ddechreua i son am Bombay, achos mi ddaru'r hen lafnes ddu, styfnig, ladronllyd, ddigwilydd
Y Llywydd :-Hidiwch befo hi heno, Tomos.
Tomos:—O'r gora, ynta, er mor anodd ydi o i mi phasio hi heb gael rhoi un hergwd i'r hen sopen aflawen. Ond rhoswch chi : lle mae 'f'araeth i wedi mynd? Ond waeth am dani hi damed, mi fedra i neud araeth newydd spon danlliw pan ar ganol deud hen un. O, ie, wrth gofio, deud yr o'n i mai'r diafol sy'n rhoi'r holl stwff i neud y ddiod arswydus yma. Mae o'n gyrru sacheidia o frwmstan i fyny o'r pwll di-waelod yn regilar bob dydd, ac erbyn iddo fo ddwad ar wyneb yr hen ddaear yma, mae'r myrtsiants mawr yna yn newid i enw fo. ar yn ei alw fo yn alcohol. Cofiwch chi, bobol, mai brwmstan mwya cynddeiriog uffern ei hunan ydi'r enw iawn ar y peth yna. Ac y mae dylanwad hwnnw yn ofnadwy. Rydw i'n cofio fod gan Elis y Cowpar gerdd dda, heb ei bath, ar yr Helynt garu ym Mlogan." Mi fum i, ryw dro, yn ei deud hi bob gair wrth y Marcwis of Anglesea. Chafodd o 'rioed ffasiwn sbort yn ei fywyd, medda fo. Mi rôth sofren felen yn fy llaw i am i deud hi. Dyma i chi bennill ne ddau o'r gerdd—
Y Llywydd:—Well gadael iddyn nhw heno, Tomos. Mae hi wedi mynd yn hwyr.
Wedi gair neu ddau ymhellach, eisteddai Tomos i lawr gan edrych mor foddlon, ac ar delerau mor ragorol ag ef ei hun, a phe buasai wedi areithio yn deilwng o un o brif siaradwyr y byd. Byddai y llywydd yn garedig ac yn ymarhous wrtho rhag ofn ei ddigio, a thrwy hynny beri i'w sel ddirwestol lwfrhau.
Wedi i Domos Williams gadw at ei ardystiad am beth amser, dechreuodd ennill ymddiriedaeth ei gydnabod. Cafodd gant o lyfrau dwy geiniog yr un ar goel gan Mr. John Jones (Pyll), yr argraffydd a'r llyfrwerthydd adnabyddus o Lanrwst, yr hwn oedd, hefyd, yn fardd celfydd, yn wr o enaid meddylgar ac o ysbryd caruaidd. Mae'n synn na fuasai rhywun wedi di-ddaearu ei hanes bellach. Bu John Jones yn gyfaill ac yn noddwr caredig i Domos hyd y diwedd. Aeth efe, sef Tomos, ar hyd y wlad i werthu y llyfrau, a chynhygid iddo ddiodydd meddwol yn barhaus yn gyfnewid am danynt. Ond gwrthod bargeinion o'r fath gyda phenderfyniad di-encil a wnai yr hen frawd. Gwerthodd yr oll o'r llyfrau mewn ychydig ddyddiau, a thalodd yn llawn am danynt i John Jones, yr hwn a synnai yn fawr am na buasai Tomos yn dod yn ol heb na cheiniog na llyfr. Calonogodd a chanmolodd ef yn wresog, a chynghorodd ef i ddal yn ddiysgog at ei ymrwymiad. O'r dydd hwnnw allan masnachodd Tomos yn hollol onest hyd ddiwedd ei oes gyda John Jones ac eraill o deulu caredig y "Printing."
Tybiai rhai pobl grefyddol (tybed?) nad oedd yn werth cymeryd sylw o Domos—dyn oedd wedi treulio hanner can mlynedd i ymgydnabyddu a ffosydd duaf uffern—ni chredent fod yn bosibl i'r cablwr ofnadwy hwn ddiwygio dim. Ond credai eraill—ac, efallai, Tomos ei hun—yn wahanol. Un diwrnod, pan gyda'i gerddi a'i almanaciau ym mhentref tawel Llangernyw, pwy ddaeth i gyfarfod ag ef ond y pregethwr a'r bardd enwog Caledfryn. Adwaenent eu gilydd ers blynyddau. Wedi deall ei fod yn ddirwestwr, anogodd Caledfryn ef i barhau yn gadarn felly, i ymroi i ddarllen y Beibl ac i fynychu moddion gras. Dywedodd Tomos nad oedd ganddo yr un Beibl, ac nad oedd yn medru darllen, ond fod ganddo awydd cryf am gael gwrando yr efengyl. Rhoddodd Caledfryn bum swllt iddo tuagat gael "Beibl bras;" ac, meddai y bardd a'r dyngarwr wrtho, "Os wyt ti yn addo o ddifrif mynd i'r capel, ac os oes arnat eisieu siwt o ddillad, neu het, neu esgidiau, neu'r cwbl hefo'u gilydd, dos di at John Jones, y Printar, a dywed wrtho am eu ceisio i ti, ac anfon y cyfri i mi, ac mi dalaf innau am danyn' nhw. Wyddost ti ddim na fedrwn ni gael yr hen Gapelulo i mewn i'r nefoedd eto. Mae yno rai llawn cyn waethed a thi wedi mynd." Fel y gellir casglu yn hawdd, calonogwyd Tomos yn fawr iawn gan eiriau tyner ac ymddygiad rhadlon Caledfryn—gŵr y mynnai rhai ddweyd am dano ei fod yn berchen enaid llym a gaua faidd. Trodd yn ol i Lanrwst ar ei union, heb gymaint a chynnyg diddanu trigolion Llangernyw gyda cherdd na'u goleuo gydag almanac. Aeth at ei noddwr, John Jones, yn ddiymdroi, a mynegodd iddo ei y neges oddiwrth Caledfryn. Pwrcaswyd "Beibl bras" ar unwaith, er nad oedd Tomos yn medru darllen yr un gair ohono. Bu raid i John Jones roddi câs o bapyr llwyd cryf am dano, a thorri ei enw mewn llythrennau cywrain ynddo. Rhoddai y Beibl o dan ei obenydd bob nos, a daliai efe ei fod yn gallu cysgu yn esmwythach byth ar ol dechreu gwneyd hynny.
VI. DYSGU DARLLEN.
NID nid oedd Tomos am foddloni ar ymgydnabyddu yn y dull yna yn unig a'r Llyfr dwyfol. Daeth awydd angerddol drosto am fedru ei ddarllen. Aeth i Ysgol Sul y Methodistiaid; ac er ei fod yn hen wr, cymerodd ei le yn rhwydd gyda'r plant lleiaf yn nosparth y Jac-yn-y-Bocs" (cymerai ormod o ofod i egluro yr enw rhyfedd hwn), lle y dysgid yr A, B, C, o dan arweiniad yr hen apostolion ffyddlon Moses Jones, y crydd, a Robert Evans, y llyfr." Wedi brwydr galetach na'r un y bu ynddi yn Affrica, Sbaen, nac America, daeth yn raddol yn hyddysg yn yr Abiec a'r llyfr sillebu. Ar ol hynny ni bu yn hir iawn cyn dod i fedru gosod ei Feibl ar y bwrdd ac i'w ddarllen yn weddol rwydd. Er na byddai yn deg honni iddo ddod i feddu nemawr syniad ynghylch pynciau athrawiaethol y Beibl, eto daeth i feddiant o lawer o wybodaeth am y rhannau hanesiol ohono, a byddai ei sylwadau ar y cyfryw yn nodedig o wreiddiol, ac, weithiau, yn ddigrifol dros ben. Rhaid oedd cael enaid cyn-oered a chaseg eira i fedru peidio ymdorri gan chwerthin wrth wrando Tomos yn esbonio ambell adnod neu yn cymhwyso ambell hanes. Ond yr oedd yn berffaith ddiniwed a gonest. gyda'r cyfan.
Wedi dal yn ffyddlon at ei ymrwymiad dirwestol, myned i wrando'r efengyl, a mynychu'r Ysgol Sul am rai blynyddau, ac hefyd, wedi tacluso llawer ar ei amgylchiadau a'i berson, cyflwynodd ei hun yn ymgeisydd am aelodaeth eglwysig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Synnodd llawer oedd yn y seiat y noson honno' fod Tomos Williams wedi anturio aros ar ol Modd bynnag, cafodd groesaw siriol gan y frawdoliaeth, a rhoddodd un neu ddau o'r blaenoriaid oedd yn hollol gydnabyddus ag ef—dynion yn medru myned yn agos at ddyn heb ei archolli—gynghorion wedi eu pwrpasu yn arbennig at garictor rhyfedd fel efe. Bu yn aelod ar brawf am bedwar mis, ac ar derfyn hynny o amser derbyniwyd ef yn aelod cyflawn i feddu holl freintiau yr eglwys.
Yn yr amser hwn arferai barhau i fyned o gwmpas y wlad gyda llyfrau, ac yr oedd drwy ei ddiwydrwydd a'i gynhildeb wedi casglu ychydig bunnoedd wrth ei gefn. Cyfarfyddodd ag amgylchiad a roddodd ei ddirwestiaeth a'i ras o dan brawf llym a ffyrnig. Digwyddai fod gyda'i lyfrau ym Mangor, lle y daeth i gydnabyddiaeth â gwraig weddw o sir Fon o'r enw Beti Morus, yr hon oedd, meddai hi wrtho, yn weddol daclus. Priododd gyda hi, a dechreuasant fyw ym Mangor. Arferai Tomos ddweyd fod y ddynes hon wedi ymaelodi gyda'r Wesleyaid er mwyn ei gael ef yn wr. Wedi byw gyda'u gilydd am ryw bum mis, rhaid a' fu i Domos fyned ar daith i Lanrwst, Pan ddychwelodd i Fangor yr oedd Beti Morus wedi dianc at deulu oedd ganddi yng Nghaernarfon, a chludo gyda hi holl ddodrefn y ty. a thros ddeg punt o arian yr hen Domos. Bu mewn helynt flin a phrofedigaeth fawr oherwydd hyn. Gan na wyddai ar y pryd i ba le yr oedd wedi myned dechreuodd grwydro drwy rannau o Fon ac Arfon i chwilio am dani. Ond cynghorwyd ef gan yr hen efengylwr, y Parch. Thomas Owen, Llangefni, a chan Arglwydd Newborough, i ymddwyn yn ddoeth, ac i adael llonydd i Beti os na ddeuai yn ol yn fuan. Ym mhen cryn amser daeth o hyd iddi, ond tafodi eu gilydd yng nghylch pwy oedd i fod yn feistr a fu canlyniad y cyfarfyddiad hwnnw. Diwedd y ddrama a fu i Domos benderfynu gadael llonydd i Beti; ac felly fu. Ni chyfarfyddodd y ddau mwyach.
Ar ol yr helynt yna dychwelodd Tomos i Lanrwst, ac ni adawodd ei hen gynefin ond i fyned ar ei deithiau ar ol hynny. Preswyliai wrtho ei hun mewn ty bychan, y tu cefn i siop y diweddar Mr. Griffith Owen, yn Stryd Ddinbych. Preswylio wrtho ei hun a ddywedais; ond nid yn hollol felly. Tomos, wrth gwrs, oedd y tenant, ond arferai letya dwy gath, y rhai a alwai efe yn Handy a Judy. Gan fod Tomos wedi arfer cymaint gyda disgyblaeth a seremoni, naturiol oedd i'r duedd at hynny barhau ynddo i gryn raddau hyd ei hen ddyddiau. Trindod ddoniol ryfeddol gyda'u gilydd oedd Capelulo, Handy, a Judy. Pwysig iawn yn ei olwg oedd cael gan y cathod i wneyd pob peth yn weddaidd ac mewn trefn. Pwrcasodd ddwy stol drithroed, un ar gyfer Handy a'r llall ar gyfer Judy, a threuliodd gryn lawer o amser i ddysgu y creaduriaid hyn i beidio trawsfeddiannu stol y naill a'r llall. O dan y silff uwchben tân cadwai wialen fedw fygythiol ei golwg a chwerw ei blas. Byddai galw am wasanaeth hon pan dorrai un o'r cathod rai o ddeddfau Llys Tomos. Os byddai plât wedi cael ei dorri, neu bennog wedi myned i lawr yr heol a elwir Ebargofiant, y broblem fawr fyddai penderfynu pa un o'r cathod oedd yn euog o'r trosedd. Estynnai Tomos y wialen fedw, eisteddai, gan fenthyca trem awdurdodol, yn ei gadair fraich, a gosodai y pechaduriaid ar eu stolion ger ei fron. Rhoddai y Beibl brâs ar y ford, ac agorai ef ar yr ugeinfed bennod o Exodus, yna an- erchai y cathod yn debyg i hyn:—
"Wel, y 'nghathod bach i, rhaid i mi gadw cwrt marshial arno chi unwaith eto. Mae yma bennog wedi ei ddwyn tra 'roeddwn i wedi mynd allan, ac mae'r Llyfr mawr sydd o mlaen i yn deyd 'Na ladrata'. Tydw i ddim yn meddwl fod y Deg Gorchymyn i gyd i gael ei gymhwyso at gathod wyt ti'n gwrando, Handy—tro ditha dy wep ffor' yma Judy—ie, meddaf, at gathod, achos dyna 'Na ladd' yn un ohonyn nhw, ac mi ryda chi o'ch dwy yn rêl mwrdrws ers talwm; ond ffêr plê, mwrdrws llygod yda chi, ac mae gen i hawl i harbro mwrdrwrs felly. Ond y mae Na ladrata' i fod ar gyfer cathod yn gystal a phobol. Yrwan, Judy, mae rhyw olwg fwy bethma arna ti nag sy ar Handy. Verdict of court, Guilty, Judy; Handy, acquitted. Sentence on Judy, twelve strokes with the rod."
Wedi yr anerchiad cath-olig yna, byddai adgofion am orchestion Judy mewn llawer Waterloo lygotol yn llifo i fynwes Tomos, a'r diwedd fyddai iddo ollwng y garchares yn rhydd, a dychwel y wialen heb ddryllio ei brig i'w safle gyntefig ar yr hoel dan y silff.
Arferai Tomos "gadw dyledswydd" yn rheolaidd yn ei dŷ. Darllennai y Beibl yn uchel, "dros bob man," fel y dywedir, a gweddiai yr un modd, mewn hwyl anarferol. Ac nid peth anghyffredin o gwbl a fyddai gweled tyrfa o blant, ac, weithiau, personau hynach, wedi ymgynnull oddiallan i wrando arno. Arferai wneyd rhyw fath o asides wrth ddarllen y Beibl. Nid esbonio a wnai, ond taflu rhyw sylw difyfyr allan yn awr ac yn y man. Rhan a ddarllennai yn fynych o'r Gyfrol Sanctaidd oedd Dameg y Mab Afradlon. Byddai "comments" Tomos Williams yn debyg i hyn "Ac efe a rannodd iddynt ei fywyd. "(Dyna un go dda am shario). Efe a wasgarodd ei dda gan fyw yn afradlon." ('Run fath a finna). Yntau a ddechreuodd fod mewn eisieu.' (Wel! wel!). "Ac efe a'i hanfonodd i borthi moch." (Eitha job iddo fo. Mi wn i lot am foch). "Efe a gododd, ac a aeth at ei dad." (Dyna fel 'ryda ni i gyd; mi fentrwn adra pan fydd pob drws arall wedi cael ei gau rhagom ni). A phan oedd efe eto yn mhell oddiwrtho, ei dad a'i canfu ef." (Dyna i chi, mi fedar cariad weld yn andros o bell heb na spectol na speing glas, na dim byd). "Dygwch allan y wisg oreu, a gwisgwch am dano ef." (Well done, yr hen father: mi gurswn i gefn o cawswn i afael arno fo). "A dygwch allan y llo pasgedig." (Welwch chi, vêl yn lle ciba, 'rwan). "Cynghanedd a dawnsio." (Diaist i, 'rydw i yn ameu'r dawnsio yma hefyd. Beth fasa'r Cwarfod Misol yn i ddeyd 'sgwn i?). "Ond efe a ddigiodd, ac nid âi i mewn." (Y lleban jelws!).
Dyna i'r darllennydd ddim ond un engraifft ar hyn o bryd o ddull yr hen bererin o sylwi ar yr hyn a ddarllennai o'r Beibl. gall hynyna ymddangos yn rhyfedd a dieithr i lawer, ond rhaid yw cofio ei fod yn hollol naturiol i Domos. Cydweddai ei sylwadau yn berffaith a hynny o amgyffredion a feddai ef; ac yr oedd yr ebychiadau o'i eiddo a roddwyd. rhwng cromfachau, yn hollol onest a diragrith.
VII. "DYDD IAU."
ARFERAI Tomos, pan yn myned allan o'r ty, adael y drws heb ei gloi, ac yn ddigon mynych heb ei gau; a chymerodd llawer tro dyddorol le mewn canlyniad i hynny. Un diwrnod, wedi iddo ddychwelyd o'i grwydriadau cafodd fod un o'r cathod wedi dod ag iau llo i'r ty, a'i osod heb arno na tholc na bwlch ar y ford drithroed. Beth oedd rheswm dros onestrwydd ac ympryd y gath, ni wyddis. Hwyrach ei bod yn flaenorol wedi gwneyd cyfiawnder a'r danteithion (fel y bydd gohebydd y te parti yn arfer dweyd) oedd mewn lladd-dy cyfagos, ac nas gallai ei chrombil dderbyn ychwaneg o'r llo. Bu Tomos yn petruso cryn dipyn pa beth i'w wneyd gyda'r iau; a chan ei fod yn hoff ryfeddol o'r adran hon o fab y fuwch (yn wir, byddai yn "ddydd Iau" arno yn fynych iawn), bu yn dyfeisio pob math o resymau dros roddi derbyniad i yspail y gath, ond gorfodid ef i droi y rhan fwyaf ohono heibio. Yn ei gyfyngder, ac, o ran hynny, yn ei awydd am yr iau, cofiodd am hanes Elias,— "Pan oedd o yn yr anialwch," meddai Tomos yn uchel wrtho ei hun, "mi 'roedd yna angel yn dwad a bwyd iddo fo. 'Sgwn i o ble'r oedd y gŵr bynheddig hwnnw yn cael y cacena i Elias? Fasa 'run o'i sort o byth yn ei dwyn. nhw. A ffid iawn gafodd y proffwyd hefyd, achos ar ol rhyw ddwy sbrêd, mi fedrodd gerdded ddeugan niwrnod a deugian nos. Fyth o'r fan 'ma, mi faswn i yn byw yn bur rad pe cawswn i angel i gwcio i mi. Ond wrth gwrs, mi ai yn ddrwg gynddeiriog ar y siopwrs yma. Mi fasan yn fancryps i gid cyn pen y flwyddyn. Mi wela i rwan sut yr oedd petha. 'Does dim perig fod yr angel wedi dwyn torth yrioed; ond mi fasa fo-un o Farcwisys mawr y byd a ddaw-yn medru mynd i'r siop ora yn Beerseba a phrynnu y dorth fwya oedd yno. Diaist i, dwn i ddim o ble basa fo'n cael pres chwaith; ond waeth befo, mi fasa dyn crand fel fo, yn uniform life guards yr Hollalluog, yn cael y peth fynsa fo ar dryst mewn unrhyw siop yn y dre, ac mi fasa'i Feistar yn gofalu am dalu'r bil, a rhoi log gwell wrth wneyd hynny na'r un banc yn y byd."
Methodd Thomas gymhwyso stori'r angel at ei amgylchiadau ei hun. Rhoddodd drem awchus drachefn ar yr iau, a daeth amryw wleddoedd a fwynhaodd yn y gorffennol i gynorthwyo ei ddychymyg i ddesgrifio y blas a roddasai wynwyn a thafell o gig moch ar yr iau oedd ar y bwrdd yn creu y fath chwyldroadau cynhyrfus tua godrau ei stumog. Pan ar fin meddwl fod yn rhaid iddo ildio y danteithfwyd i fyny, ac felly siomi "y dyn oddimewn" oedd yn dyheu am dano, gwaeddodd allan,—
"Hold on! dyma fi wedi dwad o hyd iddi hi. Mi fu Elias mewn scrêp arall heblaw honna. Pan oedd o ar lan afon Cerith, mi 'roedd yna frain yn dygyd (dyna fel mae'r Beibl yn deyd) bara a chig iddo ddwy waith bob dydd. 'Rwan, y cwestiwn ydi, o ble 'roedd y brain yma yn cael y bara a'r cig. Fedrai rheini ddim i prynnu nhw yn unlle, pres ne beidio. Ond tydw i ddim am i chiarjio nhw o ddwyn, er fod y Gair yn deyd yn blaen, a 'ddygent iddo fara.'"
Gwelir ar unwaith mai cwrs ymresymiad diniwed Tomos ydoedd, os oedd yn iawn i Elias gymeryd cig gan frain yr oedd yn iawn iddo yntau gymeryd cig gan gathod. Go lew, yr hen batriarch. Cafodd le i ddianc am y tro. Y funud y tawelodd ei gydwybod, yr oedd yr iau, y bacwn, a'r wynwyn, yn cadw terfysg difyrwel, efallai, yn gorfoleddu-ar y badell ffrio, a'r Epicuread dyddorol gan Domos yn porthi y gwasanaeth o gyfeiriad ei stumog.
Clywodd cyfaill neu ddau am stori'r iau llo, ac am y frwydr a gymerodd le rhwng yr hen frawd a'i gydwybod yng nghylch derbyn y cyfryw. Wedi deall i'r gydwybod gael y gwaethaf, aethant, mewn tipyn o ddireidi, i'w dy, a digwyddasant fyned pan oedd y trugareddau yn barod i'w mwynhau. "Wel," ebai un o honynt, gan wneyd golwg lem a difrifol arno'i hun, "yr yda ni wedi clywad, Tomos Williams, fod chi yn derbyn eiddo lladrad," ac yna adroddodd yr hanes gyda chryn lawer o seremoni. Amddiffynodd Tomos ei hun a'r gath gyda chigfrain Cerith, cyn ddonioled a thwrne. Ond chwalodd y ddau gyfaill yr amddiffyniad cywrain yn llwyr gyda geiriau mawr "na fuo nhw 'rioed mewn sbelin bwc," chwedl Tomos. Pan yn gweled ei hunan ar lawr, a'r iau yn oeri ar y bwrdd, "Rhoswch chi," meddai, "mi awn ni at y Deg Gorchymyn, ynta." Ac ar eiliad yr oedd yr ugeinfed bennod o Ecsodus yn agored o'u blaen. Dyma'r bennod oedd i setlo popeth gan Tomos. Dechreuodd, a chofier mai darllenwr lled ddiofal ac amherffaith oedd. Pan ddaeth at y geiriau, "Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na'i wasanaethwr, na'i wasanaeth ferch, na'i ŷch"
"Howld, rwan, Tomos," meddai un o'r ddau gyfaill, "ŷch, yntê, a dydi llo yn ddim ond o'r un dosbarth a'r ych, a dyma chwithau wedi derbyn iau y creadur hwnnw gan y gath.”
"O, nid fel yna chwaith, hogia," ebai yr hen wr, "peidio chwenychu'r ych, a hynny pan fydd o'n fyw, mae'r Gair yn ei feddwl. Dyna fo'n deud, Na chwenych wraig dy gymydog,' gwraig fyw, wrth reswm, mae o'n feddwl, a'r un fath hefo'r ŷch. Peth arall, iau y llo, ac nid y llo ei hun a gefais i, a thydi'r Ddeddf yn deyd dim yn erbyn cymyd sgram bach o'r cre- adur hwnnw." Erbyn hyn, tybiai Tomos ei hun yn fwy na choncwerwr, a'i fod wedi llwyr ddistewi ei ddau boenydiwr direidus.
"Dyda ni," ebai un o honynt, "ddim o'r un farn a chi, Tomos; pe dase chi'n gorffen yr adnod, mi welsech fod yna ymadrodd eang iawn, Na dim sydd eiddo dy gymydog.'"
"Wel," meddai Tomos, gan edrych yn ddigon trist, dawn i fyth o'r fan yma, dyna i mi gast. Mae y gair yna yn cymyd i fewn iau llo a phob peth arall. Ddylis i 'rioed fod y Deg Gorchymyn mor gysact a hynna." Ac ar amrantiad, yr oedd yr iau a achosodd iddo y fath boen, ac a loywodd gymaint ar ei obeith- ion, yn cael ei chwyrnellu allan drwy y drws.
Gonest iawn, yr hen Domos, a thro gwael ar ei ymwelwyr cellweirus, meddai rhywun. Wel ie, efallai; ond arhoswch funud. Wedi i'r iau llo gael ei daflu i fod yn achos rhyfel rhwng ewn a chathod y gymdogaeth, ac i'r ddau gyf- aill sicrhau dyspeidiau o chwerthin am wythnos, dywedasant wrth Tomos am ymgysuro, a chymerasant ef i'w ty ardrethol eu hunain, lle y cafodd ymddigoni ar "rost biff a phlwm pwdin" o'r fath oreu. Priodolai y wledd eithr iadol honno i Ragluniaeth y Brenin Mawr yn talu iddo ar ei ganfed am fod yn onest.
VIII. BALCHDER A PHWDIN.
FEL llawer o hen grefyddwyr Cymreig yn barchus yr wyf yn arfer yr ymadrodd—yr oedd Tomos yn dra gwrthwynebol i'r hyn a elwir "bod yn y ffasiwn," a byddai rhai o'i edmygwyr direidus yn ei helpu i fileinio mwy wrth y ffasiwn nag a weddai i'r amgylchiadau ar y pryd. Ymosodai yn ddoniol a deheuig dros ben ar falchder gwisg, ymddygiad, ac ymadrodd yn y ddau ryw. Arferai ef ei hun ymwisgo yn hollol syml, ond bob amser yn lân a thrwsiadus. Ni chredai mewn gormod o ofal gyda'i wallt. Gadawai iddo fargodi fel y mynnai i lawr ei dalcen, hyd at ei lygaid. Nid oedd y crib a'r brws dda i ddim ond i'w gynorthwyo i fod yn ostyngedig yn y cyfeiriad hwnnw.
Ym mhlith ei gydnabod lluosog, yr oedd dau ddyn ieuanc, o barch a deall a charedigrwydd, sef y diweddar Mr. Owen Evans-Jones a Mr. Evan Jones (yr oedd ef yn fyw yn ddiweddar ym Mhorthmadog), meibion y Printing Office, Llanrwst. Cymerai y ddau gryn lawer o ddyddordeb yn Nhomos Williams, ac arferent ymweled yn fynych âg ef, ac ni buont hwy a'u tad galluog a charedig yn fyrr o ddangos llawer o ofal am yr hen wr. Wedi iddynt ddod yn dipyn o lanciau, arferent, yn ol y ffasiwn, wneyd y peth a elwid yn "rhes wen," neu, fel y cyfieithid yr ymadrodd yn y dyddiau hynny, 'Q. P.," ar eu gwallt. Un diwrnod, digwyddasant ymweled a Thomas Williams gyda golwg lled ffasiynol arnynt, ac ar unwaith dechreuodd yr hen frawd ymosod gyda nerth a deheurwydd arbennig ar y gwahanol ffurfiau o falchder a rhodres, ac nid y lleiaf ym mhlith y cyfryw oedd y "Q. P.," a'r "pin brest." Agorodd ei Feibl yn ddioed a throdd i'r llythyr cyntaf at Timotheus, ac mewn hwyl, yn cael ei chynhyrchu gan oruchafiaeth dybiedig, darllennodd y geiriau,-" Nid â gwallt plethedig, neu aur, neu emau, neu ddillad gwerthfawr, &c." ofer y dadleuai y bechgyn mai cynghori gwragedd yr oedd Paul yn y geiriau yna; daliai Tomos yn ddawnus eu bod i'w cymhwyso at y ddau ryw. Parhaodd yr ymrafael yn hir; ond dyfeisiodd bechgyn y "Printing" ffordd dra dyddorol i ddod allan yn fuddugoliaethus. Un diwrnod, pan oedd Thomas Williams allan, a'r drws, fel arfer, heb ei gloi na'i gliciadu, aeth un o'r ddau wr ieuanc i mewn i'w dŷ. Cymerasant y Beibl bras allan oddiyno. Aed ag ef i'r swyddfa argraffu, ac yno, ar bapyr nodedig o deneu, cysodwyd ar ol y nawfed adnod yn yr ail bennod o'r llythyr cyntaf at Timotheus, y geiriau, "Ond Q. P.' sydd weddus i fab." Gosodwyd y tipyn papyr i mewn yn drefnus ym Meibl Tomos, a gadawyd ef ar y bwrdd yn ei dŷ heb iddo ef wybod ei fod wedi ei gymeryd oddiyno o gwbl. Pan ddaeth y mater ymlaen i'w ddadleu drachefn, cyfeiriodd y gwyr ieuainc at y Beibl, ac yn arbennig at yr adnod yn y llythyr cyntaf at Timotheus. Rhoddodd Tomos ei spectol yn dra seremoniol ar ei lygaid -nid oedd yn gallu gweled yn rhy dda hyd yn oed gyda chynorthwy felly. Yna, er ei syndod. darllennodd y geiriau, Ond Q. P.' sydd weddus i fab." Synnodd yn ddirfawr ar ol eu gweled, ac yna dywedodd, "Wel, diaist i, os ydi Paul yn deyd y ddwy ffordd, 'does gin i ddim cymin o feddwl o hono fo." Ac o'r awr honno allan cafodd bechgyn doniol a deallus y "Printing" heddwch i drefnu eu gwallt a'u gwisgoedd fel y mynnent. Yr oedd Tomos Williams yn cymeradwyo pob siwt a ffasiwn a fabwysiedid ganddynt.
Gan ei fod yn gymeriad mor adnabyddus yn y dref, ac ymhell y tu allan i hynny, yr oedd yn naturiol yn tynnu sylw y plant ymhob man, a byddent hwy yn ei ddilyn yn barhaus, ac, weithiau, yn aflonyddu arno. Ar ddydd Sadwrn, yn rheolaidd, byddai Tomos yn darparu pwdin reis at y Sul. Efe ei hun fyddai yn cario y ddysgl i'r pobty, a gwyddai y plant ei adeg i hynny yn eithaf da. Gan ei fod, yn yr adeg y cyfeirir ati yn awr, mewn gwth o oedran, yr oedd ei ddwylaw a'i freichiau yn crynnu wrth gludo y ddysgl. Y funud y gwelid Tomos yn cychwyn gyda'r pwdin ar hyd Stryd Dinbych, rhedai nifer o blant ar ei ol, a rhoddent ryw enwau anymunol ar yr hen wr, yr hyn a'i cynhyrfai yn enbyd, ac a'i digiai yn fawr. Gan fod y ddysgl yn ei law nis gallai redeg ar eu holau. Gwyddai y plant hynny, a byddent yn ymhyfhau, ac yn aflonyddu fwyfwy arno. Crychai yntau ei dalcen, gwgai ei aeliau, a churai ei draed yn y llawr, nes y byddai y pwdin yn ymgolli yn llif dros y ddysgl ac ar hyd dillad Tomos. Po fwyaf a gynhyrfid arno ef, mwyaf oll o'r pwdin a gollid; a dyma oedd y mwynhad a geisid yn bennaf gan y plant. Weithiau, pan wedi ei wylltio yn fawr iawn, llithrai gair go amheus—braidd yn ddu ei liw—dros ei wefusau, a pharai hynny gryn boen iddo pan wedi dofi. Gan wybod fod Tomos yn edifarhau oherwydd arfer "gair hyll," byddai y plant yn rhedeg ar ei ol ac yn edliw y cyf- ryw iddo, gan ychwanegu y byddai iddynt ddweyd wrth Mr. Jones, Bodunig, blaenor o fedr a dylanwad yn y Capel Mawr. Yr oedd gan Domos gryn ofn i Mr. Jones glywed am ei gampau ieithyddol, ac yn hytrach na hynny, galwai ar unrhyw fachgen a ddanodai iddo ei waith yn llithro ar air, a dywedai wrtho,- Wel di, paid ti a mynd i achwyn at Mr. Jones, a mi gei dithau damaid o bwdin ar ol dwad o'r capel bore foru." Wrth gwrs, yr oedd y plant yn dweyd yn bwrpasol yr achwynent wrth y blaenor hybarch, heb fod eu meddyliau yn cyrraedd hyd yn oed ronyn ymhellach na dysgl bwdin Tomos Williams. Canol dydd y Sul a ddeuai, a byddai tri neu bedwar o fechgyn selog a pharod i gyflafan bwdinyddol yn nhy Capelulo. Rhoddai yr hen wr lonnaid soser i bob un o honynt, a byddai y cyfan yn myned o'r golwg yn hapus mewn gwên a chellwair. Wedi gwaghau y soser, byddai y bechgyn yn dweyd fod Tomos wedi arfer mwy nag un gair hyll," a byddai yr hen greadur yn ddigon diniwed i roddi llonaid soser arall o bwdin reis i bob un o honynt fel math o iawn dros bob "gair mawr yr honnid y byddai efe wedi ei arfer. Y rhan fynychaf o lawer, ni byddai yn y ddysgl gymaint a thamaid wedi ei adael i Domos, druan. Gofalai y plant direidus am dynnu digon arno, drwy edliw iddo ei bechodau, nes ei gwaghau. Rhyfedd y cysylltiad cyfleus a ganfyddai Tomos Williams rhwng pechod a phwdin reis.
IX. GWERTHU ALMANACIAU A CHERDDI.
GAN mai rhyw dipyn o lyfrwerthwr teithiol oedd Tomos am ei flynyddau olaf, byddai, yn naturiol, yn crwydro cryn dipyn oddicartref; er mai anfynych, yn y blynyddau hynny, yr ai ym mhellach ar un llaw na Phenmachno neu Ddolyddelen, a Chonwy ar y llaw arall. Cymerai ei amser yn dra hamddenol i fyned o'r naill fan i'r llall. Yr oedd fel pe am gymhwyso yr ymadrodd "Ni frysia yr hwn a gredo," hyd yn oed at ei draed. Nid oedd yn cadw siop fawr, gan ei fod yn medru ei chario gydag ef i bob man. Gallai roddi y siop, weithiau, mewn ysgrepan, a phryd arall mewn poced anferth, a allasai fod yn ddisgynyddes barchus o ryw hen sach gynddiluwaidd. Hawdd iawn ydoedd agor a chau siop fel hyn ar riniog ty, neu fin y ffordd, pan y mynnid. Yr un fath a siopau "chwech a dimai" y dyddiau hyn, yr un bris oedd ar bopeth yn siop Tomos Williams. Y pris hwnnw ydoedd ceiniog. Fel yr awgrymwyd eisoes, yr hyn a werthid ganddo oedd cerddi ac almanaciau. Wrth gwrs, yr oedd cerdd, oni bai iddi fod wedi ei chyfansoddi ar bwnc y dydd, yn llenyddiaeth "up to date" unrhyw adeg, tra nad oedd almanac felly. O leiaf, dyna'r farn gyffredin yn ei gylch. Ond ni fynnai Tomos hynny. I bwrpas masnachol, yn ol ei dyb ef, yr oedd almanac blwyddyn fyddai wedi dod i ben yn gwneyd y tro yn eithaf gogyfer a'r flwyddyn fyddai yn dod i fewn. Wrth werthu almanaciau nid oedd Tomos yn rhy ofalus am edrych rhai am ba flwyddyn oeddynt; y prynnwr oedd i fod a'i lygad yn agored ar ryw fater cysetlyd o'r fath. Mewn ambell ffair, cymerai digwyddiad tebyg i hyn le. Byddai Tomos wedi gwerthu almanac i ddyn neillduol; ac ym mhen yr awr, efallai, deuai y dyn hwnnw ag ef yn ol gan ddweyd,—
Tomos Williams, wyddoch chi fod yr almanac ddaru chi werthu i mi yn hen?"
"Yn hen, wir," ddywedai Tomos, "bybê wyt ti 'n alw'n hen? Faint ydi oed o?"
"Mae hwn yn chwech oed," fyddai yr ateb. "Ac mi 'rwyt ti'n galw hynny'n hen! Faint ydi dy oed di?"
"Mi fydda'n ddeugian Wyl Andras nesa." Wyt ti'n hen am fod chdi'n ddeugian?" Gwarchod ni! nac ydw i."
"Dos adre, ynta, a phaid a dwad ata i i neud ffwl ohonat dy hun, ac i glebar fod yr almanac yn hen."
Gwelir ar unwaith mai nid "fel y mae rhai yn cyfrif oed" almanaciau yr oedd y marsiandwr athronyddol o Lanrwst yn gwneyd hynny. Mewn amgylchiadau dyddorol o'r fath ciliai y prynnwr ymaith yn ddistaw dan wenu a lled edmygu y cymysgedd o ddiniweidrwydd a chyfrwystra oedd yn yr hen wr, a gadael iddo fwynhau Buddugoliaeth yr Amseroni.'
Byddai Tomos yn llawn mor ddyddorol fel masnachwr cerddi. Cariai lawer math ohonynt. Tra nas gellir ei gyhuddo o fod yn gwerthu rhai anfoesol—ac yr oedd cyflawnder o'r cyfryw i'w cael yn ei amser ef—gwerthai rai gwirion, a rhai digon seilion o ran papyr a mater. Cymerai arno, o leiaf, fod yn lled ofalus, ac o geisio ymateb cydwybod dda wrth drafaelio gyda cherddi. Ar ben y sypyn a gariai byddai nifer lled dda o'r hyn a ellir eu galw yn gerddi duwiol "-math o farwnadau oer a sych, y buasai dyn yn ewyllysio cael marw yn ei fabandod yn hytrach na chael byw i fod yn wrthrych y fath glindarddach o rigymau gauafaidd a chrin.
Yn awr, golyger fod Tomos yn myned at dyddyn golygus yn y wlad a'i swp cerddi yn ei law. I'w gyfarfod, i'r drws, dyna wraig oedrannus, a pharchus, ond trist yr olwg arni, yn dod. Dealla efe yr amgylchiadau ar unwaith. Mae y wraig, yn ddiweddar iawn, wedi claddu ei gŵr. Wedi cyfarch gwell iddi, a chydymdeimlo â hi, tynn allan nifer o "gerddi o gysur â theulu y fan a'r fan, ar farwolaeth hwn a hwn." Rhydd air o ganmoliaeth effeithiol i'r "farddoniaeth odidog uchel" ac i'r bardd aruchel fu yn euog o gablu urddas llên a chrefydd drwy rygnu y fath ysbwrial iseldras. Nid oes eisieu gwastraffu ychwaneg o "sebon" ar y rhigwm na'i grewr; dyna werth swllt yn cael eu prynnu yn y fan, a phryd iawn o datws, cig hallt, a phwdin pys i'r "merchant" caredig a theimladwy. Cylyma Tomos y bwndel i fyny, ac wedi diolch i wraig y ty, cychwynna ymaith, a gofala am fyned drwy y buarth yn y cefn. Nid yw wedi myned nemawr lathenni ffordd honno cyn clywed rhywun yn galw arno, a phwy sydd yno ond dwy lodes hoenus, landeg, gyda gwrid y mynydd ar eu gruddiau, a direidi deniadol, a drechai fynach ac a brynnai sant, yn dawnsio'n beryglus o swynol yn eu llygaid. Merched, neu forwynion, y ty ydynt. Adwaena'r hen law ei gwsmeriaid, ac ail egyr ei bac yn ddiymdroi. Nid yw o ddiben yn y byd iddo ddangos y cerddi marwnadol iddynt. Ugain oed ydynt! Mae nerth ac iechyd yn eu holl ewynau. Llenwir eu llygaid â llawenydd, a'u calonnau à gobaith. Ni buont yn glaf am awr erioed, ac ni buasent yn gwybod am fodolaeth dagrau oni bai iddynt eu gweled ar ruddiau pobl eraill. Beth sydd a wnelynt hwy â Llenyddiaeth yr Amdo? Wedi troi heibio y marwnadau gyda diystyrrwch rhai wedi eu diogelu rhag drycin, gofynnant i'r hen frawd gyda math o ddiniweidrwydd, ar fin dysgu cellwair, yn brydferth yn eu llygaid,—"Oes gyno chi ddim cerddi caru, Tomos Williams?" "Wel," fyddai yr ateb, dipyn yn ochelgar, fe pe tae, dyma i ti hanes caru Hwsmon y Bryn hefo Morwyn y Ddôl, a dyma un arall ar—— ac yna tynnid cryn nifer o rai eraill allan gyda theitlau aruchel cyffelyb. Prynnid hwy yn ddiymdroi, gan nad pa faint fyddai ohonynt. Wrth daro'r fargen, gofynnai Tomos, "Rhoswch chi, yda chi'n 'nethod da'ch dwy?" "O, ydan, Tomos Williams, yr ydan ni'n perthyn i'r seiat yn y capel yng ngwaelod yr allt yna," fyddai yr ateb. Rhoddai hynyna ryw gymaint o olew ar gydwybod y marsiandwr dyddorol a chyfrwys; ac yna ai i'w daith yn llawen, wedi gwneyd masnach dda o ddagrau ffugiol a rhamant garu o'r degfed dosbarth wedi'r cant.
X. TRAETHU AR BRIODAS.
NIS gwn fod llawer o engreifftiau o'r hyn a eelir yn briodol ei alw yn ffracthineb i'w gael yn hanes Tomos Williams. Efallai nad teg a fyddai honni ei fod yn wr ffraeth. Yr oedd tafod yr hen wr yn hollol barod ar bob amser i siarad ar unrhyw fater neu achlysur, ond hwyrach mai llefaru yn ddigon di-bwynt a wnai yn fynych iawn. Er hynny i gyd, dichon y taflai i mewn, yn awr ac yn y man, lawer brawddeg bert a difyrrus, a gwerth ei chofio. Pan y byddai mewn tymer lled dda, a phlant y dre wedi esgeuluso "plagio' nemawr arno, chwedl yntau, ceid ganddo, weithiau, ychydig o'i hanes yma a thraw yn y byd, ac yn yr hanesion hynny, yn hollol ddiarwybod iddo ef, ceid esamplau mynych o rywbeth tebyg iawn, o leiaf, i ffraethineb; neu, efallai, mai gwell fu- asai ei alw yn bertrwydd ymadrodd.
Pan yn hogyn drwg yn yr India, yn nechreu y ganrif o'r blaen, adroddai ei fod yn ninas Calcutta un diwrnod; iddo gael ei droi allan o'r lle y lletyai ynddo am guro y gwr a'r wraig a phump o "lodgers" oedd yno. Aeth allan i'r prif-ffyrdd a'r caeau, heb fod ganddo yr un ddimai yn ei boced. Daeth eisieu bwyd a diod arno, a phan wedi dioddef y cyfryw eisieu yn hir iawn, daeth i gyfarfod â boneddiges hardd a lled rodresgar yr olwg arni. Yn ei gyfyngder gofynnodd iddi am dipyn o help. Aeth hithau mewn ymchwydd mawr a gogoneddus i'w phwrs, a thynnodd ddimai allan, gan ei hestyn iddo. Edrychodd Tomos yn lled ddifrifol, ac, efallai, yn sarhaus, ar y dernyn a roddwyd yn ei law; ac ebai wrth y foneddiges, sidanaidd, mewn mwy nag un ystyr, gan gapio yn nodweddiadol arni,—" Ydach chi'n siwr, m'm, y medrwch chi sbario cymin a hyn?" Wedi rhoddi y glec yna iddi, aeth Tomos yn ei flaen yn fyfyrgar ryfeddol.
Fel yr wyf, mae'n debyg, eisoes wedi awgrymu, nid oedd efe a'i wraig, Beti Morus, wedi byw ar y telerau goreu. Credai Beti nad oedd Tomos yn rhoddi digon o arian iddi i gadw'r ty—cynnyrch y ffortun ddychmygol oddiwrth yr almanaciau a'r cerddi. Meddai Beti ar dafod ryfeddol o barod, ac, ysywaeth, yr oedd gan Domos dafod llawn mor barod a hithau. Yr oedd donioldeb a hyawdledd eu ffrae, weithiau, yn destyn sylw a dyddordeb heol gyfan. Rhaid yw addef fod Tomos, hyd yn oed pan yn Gristion, yn ffraewr digyffelyb. Gallai gyda'r rhwyddineb mwyaf ddyfynnu adnodau o epistolau Paul i brofi yr hawl i'r priodoldeb o ffraeo. O ran hynny, medrai efe wneyd ambell adnod a'i chyfaddasu at ei weithredoedd a'i ymddygiadau ei hun, gan fod yn ddigon beiddgar i'w thadogi ar neb llai nag Apostol mawr y Cenedloedd ei hun.
Un diwrnod, pan oedd Beti ac yntau yn cweryla dan arddeliad neillduol o amlwg, cododd Tomos ei lais, ac, efallai, ei law, a llefodd â llef uchel,—
"Wel di, Beti, dydw i ddim yn mynd i gymryd fel hyn gen ti o hyd. Dydi'r Scrythyr 'i hun ddim yn disgwyl i mi neud hynny. Dyna'r 'Posol Paul, wyt ti'n gweld, pan oedd o'n correspondio hefo'r lodes-nage, y Lodeseaid-mi roedd yna fwy nag un-pan oedd o yn cadw cypeini i'r lêdis reiny, mi ddeudodd wrth un o honyn 'hw,-'Paid ti a mynd yn gocyn hitio i bawb nac i neb arall,' a dydw inna, Beti, ddim yn mynd i d'adael ditha i nhroi a nhrosi finna fel yr wyt ti'n leicio."
Wedi'r araeth awdurdodol yna, byddai Beti Morus yn dechreu arni, ac yn dweyd y drefn gyda chryn hyawdledd, ac ar derfyn ei hanerchiad dywedai,—" Cofiwch chi, Tomos Williams, fod chi wedi nghymryd i er gwell ac er gwaeth." "Do," oedd atebiad Tomos, "mi cymris i di, yr hen sopen anghynnes, er gwell o lawer nag yr wyt ti."
Byddai Tomos, yn bur fynych, yn athrawiaethu, neu yn doethinebu, beth a ddywedaf, ar fusnes y priodi. Naturiol iawn oedd iddo wneyd hynny, yn bennaf, oherwydd y profiad chwerw a gafodd ei hun o gylch y fodrwy. Digwyddai fod yn Llanfairtalhaiarn un diwrnod, ac yr oedd dwy briodas yn cymeryd lle yn eglwys y plwyf ar yr un bore, yr hyn oedd yn beth lled anghyffredin yn y pentref tlws a barddonol hwnnw. Clywodd Tomos am y priodasau, ac wedi amlygu cryn syndod o'r herwydd, meddai, yn dra difrifol,—" Druan ohonynhwy, yn mentro gneud ffasiwn beth! Mi fydd yn difar gan i clonna nhw cyn pen 'chydig wsnosau. Peth ofnadwy ydi priodi, tasa pobol yn dallt hynny. Wyddo nhw ddim yn iawn be mae nhw'n i neyd pan y byddan nhw'n priodi. Mi ddyla'r hogia yma gofio mai nid person y ddynes mae nhw'n briodi. Mi ddaru mi briodi hefo'r hen Feti Morus honno, Mi wyddoch chi, ond ar ol gneyd, mi welis i yn fuan iawn mod i wedi priodi ei thlodi hi, ei thempar hi, ei thwyll hi, a'r hen sgiams ofnadwy oedd yn perthyn iddi hi. Wyddoch chi beth, fechgyn, mi 'roedd yna ddynes ddall yn y dre acw, dro byd yn ol, yn mynd i briodi, ac mi ddeudais i, os basa rhwbath yn agor i llygid hi, mai priodi fasa'r peth tybyca o neud hynny; ac, yn siwr i chi, mae honno, rwan, yn gweld yn iawn heb na sbectols na dim."
Unwaith daeth pâr ifanc oedd wedi priodi ers blwyddyn neu ddwy, ato i ddweyd fod gan- ddynt fabi, ac yr oedd y baban ar freichiau ei fam ar y pryd, a danghoswyd ef gyda phob balchder goddefadwy a naturiol i Domos Wil- liams. Wrth weled yr hen sylwedydd mor ddi- gyffro, gofynnodd y gwr ifanc iddo,-
"Wel, Tomos Williams, beth yda chi'n feddwl o'r babi? Welsoch chi un clysach na fo yn rhywle ryw dro?"
"Wel," atebai yntau, "peth ofnadwy ydi babi, fel y cei di weled mewn deufis neu dri. Mi fu gen i fabi ryw dro, ac ni welis di 'rioed ffasiwn gampia a llanast fedra fo neyd mewn rhyw hanner awr. Wyddost ti, mi fedrai hwnnw waeddi am ddeng munud heb gymyd ei wynt o gwbwl. Mi fyddai'n tynnu digon o flew o marf a ngwallt i i stwffio gobennydd y dydd y mynnoch di. Mi fydda'n tynnu pob math o luniau ar bapyr y wal hefo'r pocer; ac .mi wnai hynny weithia pan fyddai hwnnw yn boeth. Mi fydda'r criadur bron yn sicir o fynd yn swp sal os na fedra fo dorri soser ne gwpan dê yn regilar bob pum munud. Mi fyddai yn gofalu am syrthio ar i wymad i'r lle cadw glo, ac ni ddoi y gwalch ddim oddi yno os nad awn i a'r pot jam iddo fo. Peth ofnadwy ydi babi, wel di! Paid ti a chanmol gormod arno fo, nac ymfalchio gormod yno fo ar y dechra 'ma.'
Llawer o sylwadau cyffelyb yn ddiameu a draddododd Tomos Williams ar y cwestiwn mawr a dyddorol o briodi a dechreu byw.
XI. ANERCHIADAU A CHYNGHORION.
PAN yn dweyd ei brofiad yn y seiat, neu yn dweyd gair mewn cyfarfod dirwest, arferai Tomos yn fynych iawn ddefnyddio ffugyrau a chymariaethau yn dwyn cysylltiad â'r bywyd milwrol; yr hyn oedd yn hollol naturiol i hen filwr i'w wneyd. Dyma fel y dywedai unwaith, mewn seiat, mae'n debyg,—
"Beth oedd Batl Waterlŵ yn ymyl Batl Calfaria? A beth oedd y Little Corporal (Napoleon) fel General yn ymyl Iesu Grist? Tydw ddim yn gwybod i Napoleon na Wellington ollwng yr un shot eu hunain yn Waterlw; y sowldiwrs, poor fellows, oedd yn gwneyd hynny. Ond am Iesu Grist, y General mawr sy gyno ni, mi aeth o i ffrynt y fatl ei hunan, ac mi ollyngodd hen ganans mawr cyfiawnder ar ben ei holl elynion. Pan oedd o'n gweld fod y fatl yn troi o'i blaid, dyma fo'n gwaeddi Gorffennwyd Dyna ichi parting shot; ac mae'r diafol a'i griw heb ddwad atyn eu hunain byth ar ei hol hi. Gneyd y cwbwl ei hun ddaru'r General mawr yma.
"Clirio llyfrau'r nef yn llawn,
Heb ofyn dim i mi."
Yn amser rhyfel y Crimea dywedai,—
"Pe baswn i yn cynnyg fy hun i Lord Raglan i fynd allan i'r Crimea, mi fasa'n deyd wrtha i yn union deg, Too old, Thomas ;' ond pan gynhygis i fy hun i army arall, soniodd y Commander mawr ddim am ffasiwn beth. Ddaru fo ddim cymin ag edrach a oedd 'y ngwallt i wedi llwydo, ne a oedd 'y nghefn i wedi camu. Y cwbwl ddaru fo oedd rhoi'r uniform am dana i hefo'i law ei hun, a deyd dan wenu'n eind yn y 'ngwymad i,-Fall in! Tomos Williams.' Mae'n wir mai rhyw fartshio dipyn yn drwsgwl yr ydw i, ond ches i'r un codwm eto; ac os byddai'n cwyno mod i'n wan, ac fod y baich yn drwm, mi fydd ys- gwydd y General mawr ei hun o dano fo mewn dau funud."
Eto,-
"Mi fyddwn yn clywad lliwiad yn amal iawn fod byddin Lloegar yn derbyn lladron, meddwon, a phob sort o hen straglers i mewn i'w gwasanaeth. Ond rhoswch chi dipyn bach. Mi ddaru Iesu Grist listio hen leidar du i'w serfis ynta, a phan oedd o'n marw ar y groes mi setlodd 'partments yn y drydedd nef iddo fo yn i flortiwn. Dyna i chi Mair Magdalen, wedyn honno wedi medru rhoi lojins i gymin a saith o gythreuliaid. Rhaid mai rhyw hen dacla yr oedd Satan yn meddwl y medrai fo fyw hebddynhw oedd y rheini, ac mi gawson discharge, ne, wyrach. i gollwng ar ffyrlo. Chafodd y enafon ddim llawer o groeso pan ddaru nhw gyrraedd adra yn i hola."
Mewn Cymdeithasfa Chwarterol yn y Gogledd, lawer o flynyddau yn ol, cwynid yng nghylch gwaith ieuenctyd, yn arbennig, yn arfer geiriau ysgafn ac ofer; nid rhegfeydd yn hollol, ond geiriau tebyg i regfeydd; a phen- derfynwyd anfon dau weinidog drwy bob Cyfarfod Misol i rybuddio a chynghori yr eglwysi yng nghylch arferiad o'r fath. Y ddau a benodwyd i ddod drwy sir Ddinbych oedd y Parchn. Moses Parry, Dinbych; a John Jones, Runcorn. Adnabyddid Moses Parry fel gwr o gryn awdurdod, deall, a medr, yr oedd yn ŵr call cyfrwysgall, os mynner—ac yn un a fedrai fwynhau ambell dro digrif, neu dro doniol, fel y dywedir. O'r ochr arall, yr oedd John Jones yn bregethwr rhagorol iawn, yn un a chryn lawer o ddiniweidrwydd ynddo, ac yr oedd yn hollol at alwad ac awgrym Moses Parry i wneyd unrhyw beth a fynnai ganddo. Yn eu tro, daeth y ddau wr parchedig i Lanrwst, ac ar ddechreu y seiat traddododd Moses Parry anerchiad ar yr ynfydrwydd o arfer geiriau segur, gan gondemnio hynny gyda chryn lawer o lymdra. Wedi i dri neu bedwar o'r swyddogion siarad, gofynnodd Moses Parry i John Jones fyned o gwmpas i ymddiddan â rhai o'r aelodau, a dywedodd wrtho yn ddistaw fod yna ddyn (gan bwyntio at Tomos, yr hwn a adwaenai yn dda) yr hwn a fuasai yn sicr o fedru dweyd tipyn ar y pwnc, ac y buasai, hwyrach, yn rhoddi esamplau o'r geiriau a gondemnid, fel na byddai neb yn camddeall yn eu cylch. Llyncodd John Jones yr abwyd, ac ym mhen ychydig daeth at Tomos, ac wedi agor yr ymddiddan ag ef, gofynnodd iddo beth oedd y geiriau tebyg i regu a arferid fynychaf yn Llanrwst a'r gymydogaeth.
"Ho," meddai Tomos yn hollol ddiymdroi, "dyma i chi rai ohonynhw,—gafr gwyllt, drapid las, gafr a'm cipio i, yr achlod fawr. myn diawst, gafr a'm sgubo, diwcs anwyl, myn cebyst, ac ar fengoch i."
Wrth gael y fath engraifft o eiriadur y gwyl segur, a hynny mor ddiseremoni, ac wrth weled John Jones yn edrych yn hollol ddychrynedig, fel dyn wedi derbyn llawer mwy nag yr oedd wedi bargeinio am dano, yr oedd Moses Parry ymron siglo gan chwerthin.
Yna aeth Tomos ymlaen yn debyg i hyn,—"Am dana i fy hun, fydda i byth yn arfer geiria fel yna ond ar sgawt rwan, yn enwedig pan fydd y cathod acw wedi dwyn cig, ne wedi gneud rhyw sbrêj debyg y tu fewn i'r cwpwr. Rhaid i mi gyfadde y bydd 'y nhafod i yn cymyd cryn leisans os bydd rhyw styrbans fel yna yn y ty. Wrth neud cymint o helynt hefo geiria fel hyn, dwn i ddim yda ni ar y reit lein ai peidio. Mi rydw i'n cofio pan oeddwn i yn y Sbaen hefo'r sowldiwrs, fod yna dipyn o sgyrmij un diwrnod hefo'r Ffrancod. Mi 'roedd yna lot o honynhw ar ddarn o wastad o'n blaen ni, a tu ol i'r rheini, uwch i penna, ar dipyn o godiad tir, yr oedd yna lot arall o Ffrancod; ond ar y rhai oedd ar y gwastad, wrth i bod nhw yn gosach ato ni, yr oedda ni'n saethu gan mwyaf. Ond dyma Wellington i'r lle ar gefn i geffyl, a dyma fo'n rhoi'r ordors, Aim higher up (Anelwch yn uwch i fyny'), gan bwyntio at y rhai oedd ar y codiad tir. Mi wnaethon ninna hynny, ac wedi i ni daflu tipyn o shots i ddychryn tipyn ar y rheini, welsoch chi 'rioed mor fuan y daru ni setlo y lot oedd ar y gwastad yn ymyl. 'Doedd y rheini yn ddim ond rhyw hen rabsgaliwns di-doriad oedd Napoleon wedi hel oddiar strydoedd Ffrainc, ond mi 'roedd y rhai oedd ar y top yn trained soldiers, yn hogia peryglus. Felly mae yna berig i ninna wastio'n shots ar ryw bechoda go fychin fel y geiria segur yma 'rydach chi'n son am danynhw, ac yn gadac! y pechod mawr-Alcohol-heb ei dwtsiad. Aim higher up, medda fi. Pe bae ni yn medru rhoi tipyn o shots effeithiol yn hwn—y trained soldier yma-welsoch chi 'rioed gynt y gwnae ni o'r gora a rhyw fân dacla o elynion fel rhegi, dwyn, a thorri'r Sabboth, a phetha felly. Rhoi bwlet drwy'r barila yna ddoi a'r byd i'w le."
Erbyn i'r hen frawd orffen, ac ynghynt o ran hynny, yr oedd gwên siriol o edmygedd, ac, efallai, o gydsyniad, yn ymdaenu dros wynebau Moses Parry a John Jones. Cafodd Tomos ei gwpwrdd yn berffaith lawn at y Sul ar ol yr araeth bert yna.
XII. ARAETH DANLLYD.
WEDI i Tomos Williams wneyd ei feddwl i fyny yn hollol gadarn i fod yn ddirwestwr ac yn Fethodist Calfinaidd, yr oedd yn selog dros ben gyda llwyr-ymwrthodiad, ac yn falch ryfeddol o'i enwad. Nid oedd derfyn ar ei ddiolchgarwch am i'r Methodistiaid gymeryd gafael ynddo a'i ymgeleddu, a gadael iddo sefyll ei dreial, fel y dywedai, am fywyd tragwyddol. "Taswn i ddim yn cael mynd i'r nefoedd yn y diwedd," meddai, "ar ol treio byw yn lled agos i'r Gair, ac yn cael 'y mwrw i'r llyn hwnnw mae'r Rhodd Mam' yn deyd am dano fo, fasa'r diafol a finna ddim yn medru gneyd rhyw lawer o fusnes nefo'n gilydd. Mi fasa'n firae gynddeiriog rhyngo i a fo bob dydd. Mi fasa gyno fo eisio i mi regi yno; wnawn inna ddim; ac, wrth gwrs, mi fasa'n treio'n meddwi fi; ond, no go; mi fynswn i gael bod yn ditotal tragwyddol, faint bynnag o syched fasa filamia uffern i hunan yn i godi arna i. Y fargen sala fasa'r hen ffelo gin y diafol yn i neud byth fasa mynd a Chapelulo i'w hen seler frwmstanllyd."
Gwelir mai syniadau lled ddyddorol a goleddai Tomos am uffern. Boed a fo am hynny, gwelir drwyddynt ar unwaith pa mor benderfynol ydoedd i wneyd ei hunan yn hollol anghymwys i fyned iddo, gan nad pa fath oedd "y llyn yn llosgi o dân a brwmstan."
Digwyddai fod ryw dro mewn ardal wledig. heb fod nepell o Lanrwst, ar fusnes y cerddi a'r almanaciau, a chan ei fod yn bwriadu aros dros nos, ac iddo ddeall fod seiat yn cael ei chynnal yn y capel y noson honno, penderfynodd fyned iddi. Mae'n iawn i mi egluro fod rhyw anghydfod blin wedi torri allan ers tro ymhlith swyddogion ac aelodau yr eglwys honno, ac fod Tomos yn eithaf hyspys o'r ymgecru ffol a'r enllibio cableddus oedd yn myned ymlaen rhyngddynt. Gwenai y ddwyblaid yn ddedwydd arno pan aeth i mewn, nes y buasai dyn yn tybio ar y funud honno "fod pawb o'r brodyr yno'n un, heb neb yn tynnu'n groes." Dichon fod ei silcan batriarchaidd dipyn yn dolciog, ac nas gallesid, mwyach, honni ei bod yn ddu; fod ei hances gwddw dipyn yn afler, a'r cwlwm, nad oedd ffasiwn yn perthynu iddo, wedi cael cyflawn ryddid i grwydro ar dde neu aswy; ac fod ysmotiau ar y gôt fu yn addurn ac yn gynhesrwydd i genedlaethau claddedig—dichon, meddaf, fod rhywbeth yn ymddanghosiad yr hen wr wedi achosi y sylw a'r gwenau a gafodd. Modd bynnag, efallai, cyn diwedd y seiat, nad oeddynt mor barod i wenu ar yr hen frawd hurt a di-doriad ei ber son. Wedi peth siarad mewn ffordd o agor y cyfarfod, dywedodd un o'r blaenoriaid,
Tomos Williams, mae'n dda gan ein clonna ni 'ch gweld chi wedi dwad ato ni; newch chi ddeud gair?" Ac, yn wir, dyna'r hen wr ar ei draed, a'r capel drwyddo yn un wên foddhaus o sêt i sêt, a phawb, yn gall ac yn ffol," yn gosod eu hunain yn yr ystum oreu i wrando arno, gan ddisgwyl am gyflawnder o ddigrifwch a hwyl. Ond buan iawn y gwelsant iddynt fargeinio yn rhy ddrud drwy ofyn i'r marsiandwr cerddi siarad. Gyda golwg lem a llais uchel, rhywbeth fel hyn a lefarodd yr hen wr,—"Mi rydw i wedi clywad nad yda chi ddim yn byw yn rhyw gytun iawn hefo'ch gilydd yn y fan yma ers cryn amser bellach, ond y'ch bod chi'n ffraeo ac yn tafodi fel Gwyddelod mewn ocsiwn, ne nigars mewn tent, yma. Cebyst o beth ydi hynny, hefyd. Yn eno'r anwyl, bybe sydd wedi codi yn y'ch penna chi, bobol? Mi fyddwn i a Beti Morus, estalwm, yn ffraeo'n gyrbibion a'n gilydd; ond yn ein ty ni'n hunain, ac nid yn Nhy Dduw, y bydda ni'n gneyd hynny. Pobol yn cymyd arnyn nhw fod yn perthyn i rijment Tywysog Tangnefedd—Commander mwya'r nefoedd a'r ddaear-yn cadw twrw! Rhag y'ch cwilydd chi, bobol! Mae gweled dynion yn heltar sgeltar mewn ty tafarn yn beth digon hyll; ond mae gweld nhw yn higldi-pigldi mewn capel yn beth saith gwaeth. Da chi, er mwyn y Gwr fu yn ddigon ffeind i farw drosto ni, a hynny heb i ni ofyn iddo fo, treiwch byhafio! Cofiwch pwy ydach chi'n gymyd arnoch ydach chi. Peth anffodus oedd i'r llongwrs rheini gysgu ar y voyage honno i Tarsis, estalwm; ond yr oedd i Jona gysgu yn gneyd y busnes yn waeth ganwaith. Wrth gwrs, mi dalodd Duw am 'partments iddo fo mewn drawing room oedd gen rhyw filionêr rispectabl o forfil; ond pe cawsech chi'ch taflu i fôr y byd, mi fydda holl sharks uffern wedi'ch gneyd chi'n sgyrion cyn pen dau funud. Mewn difri, ddynion, gweddiwch fwy a ffreuwch lai." Eisteddodd Tomos i lawr a golwg gynhyrfus Wedi y fath hyawdledd gwerinaidd a'r uchod—math o gyffredinedd wedi ei ysbrydoli —gorchuddiwyd pob wyneb gan gywilydd ac arswyd. arno. Diweddwyd y seiat yn swta, heb gyflwyno mawl na thraddodi bendith, a diangodd pawb i'w gartref heb yngan gair. Hwyrach y bu anerchiad plaen yr apostol beiddgar, ond di-addurn a di-awdurdod, o Lanrwst, o fwy o fendith i'r eglwys honno na hyd yn oed ymweliad cenhadon oddiwrth Gyfarfod Misol y sir. Fe arferir dweyd y ceir perl o enau llyffant, weithiau.
Tua hanner can mlynedd yn ol, yr oedd yn Llanrwst wr ieuanc a'i fryd ar fyned i'r weinidogaeth, ac, efallai, wedi dechreu pregethu. Rhywbryd, ar y ffordd, neu mewn ty, cyfarfyddodd Tomos Williams ag ef, a gofynnodd rhywun iddo roi gair o gyngor i'r dyn ieuanc. Ufuddhaodd yntau. Wedi rhagymadroddi mewn dull cyffredin, dywedodd wrtho,—
"Gofala di am ddwad allan yn bregethwr iawn; yn well pregethwr o'r hanner na ——.Eisio concro pechod sydd yn y byd yma, wel di. Mae'r arfau at neyd hynny yn ol reit, ac mae nhw gen ti yn lân ac yn finiog. Mi welis i lawer sawldiwr a chyno fo gledda nobl ofnatsan, ond pan ddoi hi'n binsh arno, fedra fo ddim i handlo. Rwan, gofala di am gael training iawn wrth orsedd gras, nes y medri di handlo cledda'r Ysbryd, fel na bydd yna'r un yn rijiment y Ciaptan mawr yn medru mynd a'r belt oddiarna ti. Ond pe dasa ti'n digwydd methu bod yn bregethwr mawr, mi fedri fod yn bregethwr duwiol. Fydd o fawr o gamp i ti fod yn fwy galluog na Charles Melus[1]. Ond mi fydd yn gamp fawr i ti fod yn fwy duwiol na fo. Beth bynnag nei di, cofia fod yn ffyddlon hyd angau. Yn amser y rhyfel ofnadwy rhwng Wellington a Napoleon, mi roedda ni wedi bod am un Wsnos yn batlo riw gymint yn ddi-stop, bron ddydd a nos, ar ochra Sbaen; ond un bora, dyma ni'n cael batl fawr am gwmpas saith o oria. Mi gafodd cannoedd o bobtu eu lladd. Am yr wsnos honno, mi roeddwn i wedi mhenodi hefo lot o rai erill, i fynd drwy'r maes i chwilio am y cyrff meirwon, ac i'w claddu nhw. Ac ar ol y fatl fawr yr ydw i yn son am dani hi, dyma ni yn dwad o hyd i gorff bachgen clws, gwmpas un ar bymtheg oed, bachgen o fiwglar yn perthyn i'r French—yng nghanol ein pobl ni. Mi 'roedd o wedi cael ergyd farwol yn ei dalcen; a dyna lle 'roedd y peth bach clws, yn gorwedd ar wastad i gefn, a'r biwgl wrth ei wefusau, a'i law bach, anwyl, yn cydio yn dynn am dano fo. Dyna i ti farw iawn! 'Rwan, John, pan ddaw dy dyrn ditha i farw, cofia di fod yr angylion fydd wedi cael ordors i ddwad yma i nol d'enaid di, yn cael hyd i dy gorff gydag Udgorn mawr yr Iechydwriaeth yn sownd wrth dy wefusa di."
XIII. PREGETH I BERSON.
YN Llanrwst, ers llawer o flynyddau yn ol, yr oedd gŵr ieuanc, yr hwn mewn cryn amser ar ol hynny a ddaeth i gael ei adnabod fel y Parch. Robert Jones, M.A., ficer Llanidloes, yr wyf yn meddwl. Mab ydoedd i wr bucheddol a pharchus o'r enw Evan Jones, y gof, Talybont—rhan o ben uchaf tref Llanrwst. Yr oedd Evan Jones mewn amgylchiadau eithaf cysurus, ac yr oedd efe a'i wraig yn aelodau cyson yn y Capel Mawr; ac yn seiat y capel hwnnw y dygwyd Robert, eu mab, yr hwn, fel y dylaswn fod wedi dweyd, a adwaenid wrth y ffugenw "Quellyn," i fyny. Dywedir i Robert dyfu i fyny yn wr ieuanc balch ac uchelfryd. Dechreuodd flino yn fuan ar hen frodyr a chwiorydd manwl a defosiynol y Capel Mawr. Yr oeddynt yn rhy grin a hen ffasiwn i wr ieuanc hardd o berson a thrwsiadus o wisg fel efe. Methodd a chadw y ffydd Fethodistaidd, ac yn lled ddidrafferth iddo ei hun, aeth drosodd i Eglwys Loegr, yr eglwys yr oedd "Titley the Tattler,' Boulger the Belgian," a "Davies the Diver," chwedl yntau, yn perthyn iddi. Hen bersoniaid parchus, caredig, a diniwed oedd y boneddigion hyn y chwareuai Quellyn mor ddoniol gyda'u henwau, sef y Parchn. Peter Titley, Penloyn; John Boulger, Pennant; a Davies, y Graig, Llanddoged. Aeth Quellyn i Rydychen, neu Gaer- grawnt, a daeth yn ysgolor o dan gamp. Disgleiriai yn arbennig o ran gallu i ddysgu ieithoedd; ac os oedd yn falch yn myned yno, daeth Nid oedd yn oddiyno yn ganwaith balchach. adnabod neb ymron yn ei hen dref enedigol; yn wir, dywedir mai prin yr adwaenai y fam a roddodd sugn iddo. Ymroddodd a'i holl enaid i gashau Methodistiaeth, ac o dipyn i beth aeth ei gariad yn eisieu at ei wlad a'i genedl ei hun. Ei duedd ydoedd gwneyd pob peth yn Saesneg. Dichon fod rhyw reswm dros yr oerfel-garwch hwn at yr Ymneillduwyr yn arbennig, ac at y Cymry yn gyffredinol; ond nid wyf yn sicr beth ydoedd. Wedi pasio i fod yn berson, ni bu iddo ymweled ond rhyw unwaith neu ddwy â Llanrwst, a rhag i'r darllennydd feddwl mai myned i geisio dweyd hanes Quellyn yn unig yr wyf, mae'n bryd i mi ddweyd mai at un o'r ymweliadau hynny mewn cysylltiad a Thomas Williams yr wyf yn bwriadu son am funud neu ddau, fel y bydd y pregethwyr yma yn dweyd pan yn bwriadu siarad am hanner awr.
Un diwrnod, yr oedd Tomos yn mynd i fyny'r dref, a llwyth o almanaciau a cherddi ar ei ysgwydd, ac yn ei basio yn ysgornllyd ryfeddol, wele wr boneddigaidd, gyda cherddediad gwisgi, a chôt ddu, a chadach gwyn. Gofynnodd rhywun i Domos Williams ai ni wyddai pwy ydoedd, ac wedi cael atebiad nacaol, dywedodd mai Robert, mab Evan Jones, Talybont, ydoedd, a'i fod yn berson yn rhywle, yng nghydag ychwaneg o fanylion, mae'n debyg. Synnodd Tomos yn ddirfawr; gwnaeth olwg ddigofus; ond heb ddweyd gair, ymaith ag ef cyn gyflymed ag y caniatai y lenyddiaeth fuddiol oedd yn bwysau ar ei gefn ac yn ei bocedau, iddo fyned. Wrth fyned, gwaeddai yn uchel,—
"Hai! Hai! Bob, hwda, aros."
Wedi dod at y siamber wenith—magwrfa llygod ac yspyty pryfaid genwair—a elwir yn "Hall," yr hon sydd yn ddolur llygad ar ganol y dref, daeth Tomos hyd i Quellyn. Nid oedd yn bosibl i'r diweddaf ei osgoi, bellach, a throdd ato gyda chryn lawer o ddigter yn ei drem a'i lais, a gofynnodd yn chwerw,—
"I beth yr wyt ti'n cerdded ar fy ol i, Twm? Wyddost ti hefo pwy 'rwyt ti'n siarad?"
Mae'n rhaid fod Quellyn wedi anghofio am dafod Tomos Williams, neu ni buasai byth yn ei gyfarch fel yna. Yr oedd pasio yr hen frawd heb gymeryd arno ei adnabod yn bechod mawr, ond yr oedd ei gyfarch gyda balchder brwnt yn ychwanegiad pwysig at y pechod hwnnw.
Rhoddodd Tomos yr ysgrepan oedd yn llawn o almanaciau i lawr, a dechreuodd dorsythu yn barod i frwydr, fel y bu yn gwneyd yn yr India, yn Belgium, ac yn Sbaen, yn ol ei adroddiadau ei hun. Yna dechreuodd dafodi,—
"Cerdded ar d'ol di, wir! Mae'n dda i ti gael rhywun i neyd hynny, os oes gin ti eglwys yn rhywla, y corgi balch! mi rydw i'n bur siwr mai 'chydig iawn sydd o gerddad ar d'ol di i'r fan honno, beth bynnag. Wn i hefo pwy rydw i'n siarad, wir! Gwn yn iawn, wel di: hefo Bob, mab Evan Jones, Talybont. Wyt ti'n meddwl, wyrach, mai rhywun arall wyt ti. Waeth i ti heb yr un mymryn; fedar dy giard wats di, fedar dy fodrwy aur di, fedar dy ddillad crand di, na'r trimins yna sy o gwmpas d'wddw di ddim dy neyd ti yn fab i neb arall. Mi fum i yn serfis Brenin Lloegar—George the Third-ond mi rydw i rwan yn serfis Brenin y Gogoniant—Iesu Grist. 'Sgwn i yn serfis pwy rwyt ti? Tydi fod dillad person am dana ti yn profi dim byd. Er saled ydi mrethyn i, wyrach y do i allan cystal a thitha pan fydd y roll call yn cael i galw ddydd y Farn. Wyddost ti, pan oeddwn i yn martsio hefo'r army' drwy un o strydoedd sala Brussels, yn Belgium, mi welson hogyn bach yn hanner noeth, a bron a starfio ar step drws ty rhywun, ac mi ddeudodd un o'r hogia oedd hefo fi fod hwnnw yn fab i Brins, ond i fod o heb ei wisgoedd. Cofia di, Rhobat, fod ambell un ohonom ninna sy'n gorfod trampio'r wlad, a hynny mewn carpia digon di-lun, yn feibion i'r 'Prince of Peace,' ond bod ni eto heb gael ein dillad. Mae nhw wedi cael eu gneyd, wel di, ac mi rôth y sawl oedd yn i gneyd nhw y finishing touch' a'i law ei hunan iddynhw ar Galfaria. [Erbyn hyn yr oedd Quellyn wedi ymroi i wrando mewn difrifwch a syndod, ac yr oedd tua dwsin o bobl wedi ymgasglu i wrando yr efengyl yn ol Tomos Williams o Gapelulo.] Ac er i bod nhw'n berffaith newydd, mi fynnodd gael i golchi nhw ar y Groes yn i waed ei hun, ac yrwan y mae o wedi taenu nhw allan ar gloddia'r nefoedd, ac mae Haul y Cyfiawnder yn i gwynnu nhw o flwyddyn i flwyddyn. Chdi pia hi am ddillad heddyw, Rhobat, ond tendia di rhag ofn fod yna ddiwrnod yn dwad y bydd yr hen Gapelulo yn dy owtsheinio di yngwydd can mil o angylion. Mae arna i ofn dy fod ti yn rhoi cymin o grefydd o gwmpas dy wddw fel nad oes gen ti ddim ar dy helw ohoni i'w roi yn dy galon. Paid ti a meddwl mai'r ffwl welis di flynyddau yn ol ydi Capelulo heddyw."
Wedi traddodi y wers hyawdl yna, estynnodd Tomos ei law at ysgrepan y cerddi, i fyned i gychwyn i ffordd, ond pan yn gwneyd hynny, yr oedd sarugrwydd Quellyn wedi cilio, ac edrychai yn siriol a thyner ar yr hen Domos ddawnus. Er syndod i bawb oedd yn ei adnabod, gofynnodd yn garedig i Domos faddeu iddo, ac wedi iddo yntau ddweyd,—"Pob peth yn iawn; gwnaf o waelod calon, Mr. Jones, achos mae Iesu Grist yn siwr o neud, a dan i faner o yr ydw i yn martsio ers blynyddoedd rwan," estynnodd Quellyn sofren felen iddo, ac wedi diolch yn ddoniol am dani, aeth Tomos Williams adref yn llawen i adrodd yr hanes wrth y cathod deallus, Handy a Judy.
XIV. CWESTIYNAU'R CYFRWYS.
GAN fod Tomos yn gymeriad mor ddyddorol a pharod ei dafod—yr un mor barod i gynghori ag a oedd i ddweyd y drefn—naturiol oedd i rai gwyr direidus, cyfarwydd a'i ragoriaethau a'i wendidau, geisio ei faglu a'i gynhyrfu drwy ofyn cwestiwn dyrus iddo. Llawer brwydr boeth a gymerodd le rhyngddo â gwŷr o'r fath, ac nid yn anfynych y deuai Tomos allan yn fwy na choncwerwr. Yn gyffredin, wedi penderfynu ar gwestiwn, byddai dau neu dri o ddynion ieuainc yn myned ato i'r ty gyda'r nos. Byddai yn rhaid iddynt ragymadroddi a churo'r cloddiau am beth amser cyn dod at eu neges,—am y pregethau y Sul, y seiat, y cyfarfod dirwest, masnach y cerddi, ac hyd yn oed am y cathod; a phan mewn hwyl, medrai Tomos Williams fod yn llawn mor hyawdl wrth drafod cerddi a chathod ag wrth drin pregethau a seiadau.
Digwyddodd y cwmni fod yn ei dŷ unwaith a'r shutter wedi ei rhoddi ar y ffenestr, a'r gorchudd wedi ei dynnu i lawr yn ofalus. Edrychai Tomos yn brudd iawn, ac yr oedd y Beibl mawr yn agored o'i flaen. Erbyn holi, cawsant allan fod Judy, un o'r cathod, wedi marw y diwrnod hwnnw. Estynnodd y bocs lle y gorweddai corff y gath ymadawedig ynddo, a chyda chryn lawer o seremoni ac o wastraff ar ocheneidiau, dechreuodd lefaru,—
"Wel, Judy bach, dwn i yn y byd mawr be ddoth atat ti i fynd a chdi odd'ma mor sydyn. Mi clywis i di'n mewian ganol nos, ac mi glywis Handy yn mewian hefyd; ond mi ddylis i yn ddigon diniwed mai cadw council of war' yr oedda chi ar achos y llygod yma sy wedi retreatio i'r ty nesa rhag y'ch palfa chi. Wyddwn i ddim mai sal oeddat ti. Taswn i'n dallt hynny, mi fasat yn cael dwyn y gnegwerth lefrith oedd yn y cwpwr, ac mi fasa i ti groeso o'r ddau benog picl oedd yn y pantri. Taswn i'n gwbod dy fod ti'n cwyno, mi faswn wedi mynd at Lewis Tomos, y druggist, berfadd nos, yn y nghrys, ac yn droed noeth. Mi fasa fo wedi gneud dôs o dingtur riwbob a spurut neitar i ti, ac wyrach y basa ti wedi mendio yn sbriws ar ol petha felly. Ond 'does mor help. Mi gest groesi'r borders heb golli yr un fatl erioed. Wrth gwrs, mae'n rhaid cyfadda nad oedda ti ddim yn rhyw onest iawn. 'Doedda ti ddim yn gysetlyd o gwbwl os byddai tipyn o gaws ne damed o gig yn digwydd bod yn d'ymy! di. Fyddai raid i neb fynd i'r drafferth i ddeyd wrtha ti am futa, ac am neyd dy hun fel pe dasa ti gartra. Hitia befo, mi bechaist beth ofnadwy; ond fuo raid iti 'rioed ofyn am faddeuant am neyd hynny. Fydda ti ddim yn ofni yr hyn oedd i ddwad, nac yn poeni o achos yr hyn oedd wedi bod. Dwn i ddim be neith Handy yma ar d'ol di. Ond wyrach ei bod hi'n ddigon balch dy fod di wedi mynd. Mi gaiff ddwyn y cwbwl ei hun, rwan; a phan fydd hi wedi mentro ar sgrag go lew, fydd dim eisio rhannu'r yspail. Sut bynnag, mi ro i ruban du am ei gwddw hi, er mwyn iddi hi fod mewn Druan ohonot ti, mowrning ar ol ei chwaer. Judy bach! Tasa hynny o lygod sydd yn y fan yma yn gwybod na wyddost ti ddim gwahaniaeth heddyw rhwng llygoden a thatws pinc eis, mi fasan yn dwad dan orfoleddu yn un rijment i dy gnebrwn di."
Wrth gwrs, rhaid oedd i'r cwmni wrando gydag ymddanghosiad o ddifrifwch, o leiaf, ar y bregeth angladdol yna uwch ben corpws y gath. Wedi cydymdeimlo â Thomos yn ei brofedigaeth, ac efallai, tanysgrifio yn anrhydeddus at gae l"mourning" i Handy, deuid, o dipyn i beth, at bwrpas yr ymweliad. Gofynnodd un o honynt yn araf a gwyliadwrus,-
"Fedrwch chwi ddweyd wrthym ni, Tomos Williams, o ble y cafodd Cain ei wraig?"
"Wel, aros di," oedd yr ateb "fedri di , ddeyd y geiria rheini, 'Gyda Duw pob peth sydd bosibl?'"
"Medraf, siwr," ebai y llanc.
"O'r gora," medda Tomos, "os medri di neyd hynny, raid i ti ddim dwad yma i nghateceisio fi ynghylch ple y ffeindiodd y mwrdrwr hwnnw wraig iddo ei hun."
"Mae'r Pabyddion, Tomos Williams," ebai un arall o'r cwmni, "yn arfer addoli Mair. Pam y maent yn arfer a gwneyd hynny?"
"Wel," meddai yr hen wr, gan sythu ei gefn, "ond am i bod nhw'n ffyliaid, fachgen. Wyt ti ddim yn cofio be mae'r Sgrythyr yn ddeyd am bobol gallach ddengwaith na nhw—Dyma nhw'r geiriau, y doethion o'r dwyrain? —Hwy a welsant y Mab bychan gyda Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a'i haddolasant Ef.' Addoli Iesu Grist ddaru sgolers mawr fel yna, ac nid addoli Mair. Dyna i ti glenshiar! Lle mae dy Babyddion di, rwan?" Yna daeth y trydydd ymlaen gyda'i gwestiwn, a dyna ydoedd,—
"Y mae Elias y Thesbiad yn deyd geiria felly, Ni bydd y blynyddoedd hyn na gwlith na gwlaw, ond yn ol fy ngair i.' Sut yr oedd Elias yn mentro deyd peth mor feiddgar ar ei gyfrifoldeb ei hun. Yn ol y geiriau yna y mae y proffwyd ei hun yn cloi y nefoedd."
"O," ebai'r hen Domos, "y mae pob peth yn eitha clir ond i ti gofio pwy ddaru roi'r 'goriad iddo fo."
Wedi ateb dau neu dri o gwestiynau yn ychwaneg, a hynny mewn dull hollol wreiddiol, trodd Tomos at ei gwestiynwyr gan ddywedyd,—
Welwch chi, mi ddyla fod gyno chi ryw amgenach gwaith i'w neyd ac yn galw am danoch chi na dwad yma i gateceisio hen greadur dwl fel fi. Ysgrifenyddion a'r Phariseaid ddaru ddechra'r job yna estalwm, bellach. Mi fydda nhw yn dwad at Iesu Grist i dreio'i faglu a'i rwydo fo. Ond toedd waeth iddynhw heb; mi roedd o yn fwy o sgolar ac o dwrna na neb arall a fu yn y byd yma erioed. 'Doedd yna neb yn yr un class a fo yng ngholej ei Dad. Mi roedd yna slegion mawr fel Gabriel a Michael mewn classes ymhell, bell ar i ol o. Fedrai Gabriel ddim gneyd y sum leia wnaeth Iesu Grist erioed; ond, welwch chi, Y mae efe yn rhifo rhifedi y ser.' Dyna i chi gownshiwr! Dydw i ddim yn meddwl fod Michael yn rhyw glyfar yn y byd mewn ieithoedd, ond gwrandewch beth sy'n cael ei ddeyd am ei Arglwydd o: 'Y cenawon llewod a ruant am ysglyfaeth, ac a geisiant eu bwyd gan Dduw.' Efe sydd yn rhoddi i'r anifail ei borthiant, ac i gywion y gigfran pan lefant.' Dyna i chi gamp! Mae Iesu Grist yn medru iaith cenawon llewod a chywion cigfrain. 'Doedd dim rhyfedd i'w Dad o, a hynny cyn i'r examination fawr orffen, dorri allan i ddweyd, Hwn yw fy anwyl Fab, yn yr hwn y'm boddlonwyd.' Os oes gyno chi gwestiyna i'w gofyn, hogia, ewch a nhw at Iesu Grist. Peidiwch a'i insyltio fo hefo holi yng nghylch gwraig Cain a physgodyn Jona, a rhyw betha bach, disylw fel yna. Ond dowch ar unwaith at fusnes eich eneidia, a gofynnwch iddo fo beth i'w wneyd fel y byddoch gadwedig, a beth i'w wneyd er mwyn etifeddu bywyd tragwyddol. Cwestiynau fel yna sydd i fod i lawr yng nghatecism pechadur."
XV. DAFYDD EVANS Y PANDY.
FEL yr wyf, yn ddiameu, wedi dweyd fwy nag unwaith, arferai Tomos Williams dynnu ymron yr oll o'i gymhariaethau oddiwrth y môr a'r maes, yn yr ystyr filwrol iddynt.
Gofynwyd iddo yng Ngwytherin, ar adeg o ddiwygiad dirwestol, i annerch y cynulliad. Llywydd y cyfarfod oedd y Parch. David Evans, Pandy Tudur. Saer maen a phregethwr oedd Dafydd Evans, ac yr oedd yn llawn mor lwyddiannus gyda cherrig ag a oedd gyda phregethu. Gwr syml, gwladaidd ydoedd, ac nid oes amheuaeth ym meddwl neb na lwyddodd i adeiladu iddo ei hun-neu i roddi cerrig yn yr adeilad, o leiaf,—dŷ, nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Yr hen Ddafydd Evans anwyl! Er mor ddiaddurn ac esgyrniog yr olwg arno ydoedd yr oedd pawb yn ei garu, ac yn credu yn ei onestrwydd a'i ddifrifoldeb. Byddaf fi yn meddwl, weithiau, fod ambell ddyn—dyn da, hefyd—yn rhyw gael mynd i'r nefoedd ar ei ben ei hun. Neb, mewn ffordd ddaiarol o siarad, yn ei ddisgwyl, na neb, hwyrach, heblaw ei Arglwydd, yn ei groesawu yno, ychwaith. Ond am Dafydd Evans ddiniwed a ffyddlon, yr oedd efe wedi dysgu digon o deyrnas nefoedd i lawer enaid oedd wedi croesi'r terfyn o'i flaen, fel y daethant "oll yn eu gynau gwynion" i'w groesawu pan aeth y newydd drwy gyfandir mawr anfarwoldeb a hyfrydwch fod Dafydd Evans o Bandy Tudur wedi cyrraedd yno. Yr hen Ddafydd dduwiol! Y mae arnaf hiraeth, a hwnnw yn hiraeth bachgen —a pha hiraeth gonestach?—am dano. Ni ofynnwyd erioed iddo bregethu mewn Sassiwn, ac efallai na ddyrchafwyd mohono i wneyd dim pwysicach mewn Cyfarfod Misol na dechreu odfa; ond yr oedd Dafydd Evans, er symled ydoedd, wedi rhoddi ei gyhoeddiad, nid i flaenor Methodistaidd, mewn dyddiadur deuddeng mlynedd," ond i'r "Rhagflaenor" mawr ei hun y deuai efe i'r nefoedd y funud y gelwid am dano i ganu am "y gwaed a redodd ar y groes." Gwn ei fod wedi marw ers yn agos i ddeugain mlynedd, ac mae'n sicr iddo fyned i'r nefoedd, a dyna sydd yn odidog am yr hen saer maen efengylaidd o Bandy Tudur, dal i fynd i'r nefoedd y mae efe hyd heddyw. Pan mae llawer dyn eithaf da, fe ddichon, yn marw, y mae yn cael nefoedd, mae'n wir; ond pe cynhygid iddo ymweled â dyffrynoedd prydferthach ac â pherllanau cyfoethocach yn y Baradwys fry, efallai y buasai ei enaid yn rhy lesg a gwan i ymlwybro nemawr hyd atynt. Ond am Dafydd Evans, yr oedd efe yn berchen ar fap manwl o'r byd ysbrydol yn ei galon ei hun. Yr oedd ei ffydd a'i obaith wedi tramwyo yr oll o hono ymhell cyn ei farw. Nid wyf yn gwybod fod yr hen frawd yn nemawr o ysgolor, heblaw i deyrnas nefoedd; ni wyddai nemawr am ddaearyddiaeth y byd hwn. Yr oedd holl geography Dafydd Evans yn gyfyngedig i ryw ugain milldir o gylch ei dy ei hun. Ond, cymerwch yn araf: fe wyddai yr hen bregethwr gwladaidd ac uniaith am fyd anweledig, ac yr oedd am flynyddau lawer wedi teithio peth ryfeddol o'r byd hwnnw. Peidied y darllennydd a meddwl mai yn ein byd bach ni yn unig y mae Bethlehem, Nazareth, a Chalfaría; dysged gofio a meddwl eu bod yn aros heddyw ac am byth yn y byd tragwyddol. Ni buasent wedi bodoli o gwbl yn y byd hwn oni bae am y cysylltiad oedd i fod rhyngddynt a'r byd arall. Ni welodd Dafydd Evans erioed mo'r Bethlehem sydd yng Nghanan, ond y mae wedi rhoddi ei aur, a'i thus, a'i fyrrh wrth breseb ei Waredwr ganwaith cyn heddyw. Mae y saer maen tlawd a diglod o Bandy Tudur a'r Saer Coed bendigedig a nefolo Nazareth wedi cyfarfod a'u gilydd, ac ysgwyd llaw yn serchog cyn heddyw. Nid oes neb yn y byd a ddaw yn fwy cyfarwydd à llethrau Bryn Calfaria na Dafydd Evans y Pandy. Yr hen greadur! Maddeued ei ysbryd i mi am ddweyd hynny. Fe wna, mi wn. Ni cherddodd neb fryniau sir Ddinbych gyda chalon onestach ac efengyl burach na'r hen Ddafydd. Boddlonodd yn dawel i bregethu am swllt, ac i gerdded pymtheg neu ugain milldir yn y dydd; ond mynnai gael myned ar ei liniau i ddiolch i Dduw, nid yn gymaint am y swllt, ond am y nerth a dderbyniai i gerdded y milldiroedd. Nid oes gennyf nemawr cydymdeimlad â'r bobl hynny sydd yn barhaus yn ymosod ar ein gweinidogion a'n pregethwyr. Nid awn ni, na neb arall, fyth yn uwch, fawd na sawdl, wrth daflu dirmyg brwnt arnynt. Y peth lleiaf a fedrwn ei wneyd ydyw eu parchu. Os byddwn yn anghydweled à hwy, mae yn eithaf posibl i ni gredu mai gwyr o ddifrif, mai gwyr gonest, ac yn meddu ar yr amcanion goreu ydynt. Yr oedd Dafydd Evans yn llawer llai dyn o ran enaid a mantais na channoedd o honynt hwy, ond er hynny, nid aeth neb i'r byd tragwyddol a gafodd gymaint o groeso yno ag efe. Yn gyffredin, hiraethu ar ol anwyliaid y byddwn ni yma; ond gyda golwg ar Dafydd Evans, yr wyf fi yn tueddu i feddwl fod y nefoedd yn hiraethu ymlaen llaw am dano ef. A dyna hiraeth gwerth byw am fil o flyn- yddau er ei fwyn. Hiraeth angel! Beth yw hwnnw? Awydd gogoneddus am roddi pluen Paradwys yn aden y dyn da. Mae yn ddiameu fod yna filoedd o angylion wedi eu creu er pan fu Dafydd Evans farw, ond hawdd yw credu iddynt, pan ddeallasant ei fod ef yn un o'r bro- dorion, redeg ato i holi a oedd llawer o rai tebyg iddo yn dilyn.
Wel, mae'r darllennydd am lefain, bellach, fy mod wedi anghofio Capelulo. Mae hynny yn ymyl bod yn wir, hwyrach. Cyffwrdd ag enw yr hen bregethwr fu yr achos o hynny. Nid wyf yn gwybod i neb dalu un math o'r peth hwnnw a elwir yn compliment iddo: os felly, maddeuer i mi, ynte, wrth basio fel hyn, am gynnyg, o leiaf, daflu " llygad y dydd" ar fedd Dafydd Evans y Pandy.
XVI. CYFARFOD GWYTHERIN.
FELY crybwyllais ar ddechreu y bennod cynt, digwyddai Tomos Williams fod yn bresennol mewn cyfarfod dirwest yng Ngwytherin, a'r Dafydd Evans y soniwyd am dano uchod yn llywyddu. Adwaenai y ddau eu gilydd yn dda. Gan fod y diwygiad dirwestol mor gryf ar y pryd, nid oedd brinder siaradwyr yn unman; ac nid oedd yn angenrheidiol pwyso ar neb, a chymell ddwywaith a theirgwaith i "ddweyd gair." Ni byddai neb yn ysgwyd ei ben ac yn dweyd nad oedd ganddo ef "ddim ar ei feddwl," ac ar ol y pedwerydd cymhelliad yn codi ar ei draed ac yn areithio am hanner awr.
Ar ddechreu y cyfarfod y sonir am dano, dywedodd Dafydd Evans air neu ddau yn fyrr, yn ol ei ddull doeth ei hun, a dywedodd nad oedd efe, y noson honno, am alw ar bawb yn y gynulleidfa oedd yn medru areithio; fod yn rhaid iddo ef roddi y mwsel arnynt am unwaith o leiaf. Yna cyfeiriodd at Tomos Williams, "un o'r dynion mwyaf gwreiddiol a doniol yn yr holl wlad," meddai. Trodd at yr hen wr, a chyfarchodd ef yn hollol gartrefol,—
"Tyrd ti ymlaen, yrwan, Tomos, ac areithia i ni fel y leici di dy hun, a chymer faint a fynot o amser."
Yna heb orfodi i'r llywydd ei gymell drachefn a thrachefn, dyna Tomos yn ei flaen i'r set fawr. Wrth ei weled yn sefyll i fyny yno yr oedd y dorf liosog yn un wên siriol a boddhaus o ben i ben.
"Wel, Dafydd," meddai—dim son am Mr. Cadeirydd "taswn i'n gwybod dy fod ti am y'ngalw i i'r fan yma o flaen cymin o bobol mor grand a sbriws yr olwg arnyn nhw, mi faswn wedi twtio tipyn chwaneg arna i fy hun. Mae gen i well côt na hon adra yn y siamber acw, wyddost (chwerthin); ac mae gen i well trowsus yno—na, fyth o'r fan i, yr oedd yna bo windos ymhena glinia hwnnw, ac mi rydw i wedi ei anfon o at Robat Elis y Teiliwr, er mwyn cael shettars arnyn hw (chwerthin anferth). Cyn i mi fynd yn ddirwestwr, mewn sgyffl â dyn y byddwn i yn cael tylla yn y mhenna glinia, ond yrwan mewn sgyfil a'r Brenin Mawr yr ydw i yn i cael nhw (cymeradwyaeth). Pan yn aros ynghymydogaeth Calcutta hefo'r armi am rai misoedd, mi gefais ganiatâd un diwrnod i gael mynd am dro i'r dre, a chyn gymin oedd fy awydd i am ddiod feddwol, be wnes i ond mynd a nghôt sowldiwr i'r pôn, gan feddwl y baswn i wedi cael pres gan rywun i'w thynnu hi allan at y nos. Ches i ddim. Mi es yn fy ol i'r camp yn llewys y'nghrys, ac ar unwaith dyna fi yn cael fy fflogio nes oedd y'nghefn noeth i yn un lli o waed. Wel, hogia anwyl Gwytherin, tendiwch chi fod yna rai o hona chi, drwy marfer efo'r hen feuden gin y ddiod yna, wedi mynd a'ch siwtia—ych cymeriada—i siop fawr Gehenna, ac wedi eu ponio nhw i'r diafol. Mae dydd y Farn yn dwad, ac mae arna i ofn y bydd yn rhaid i rai o hona chi fynd yno heb yr un gôt, ac y bydd y Judge mawr, wrth eich gweled chi yn meddwl rhyfygu mentro gaea ofnadwy tragwyddoldeb heb ddigon o ddillad, yn gofyn i chi sut y daethochi o'i flaen o heb yr un wisg. Mi wyddoch y risylt: cael eich curo â llawer ffonnod. Ond os yn y pôn y mae eich siwt chi heddyw, ac os nad oes gyno chi fodd i'w chael allan, ewch yn ditotals, ac ar ol hynny ewch at Iesu Grist, ac mi gewch gyno fo—nid benthyg—rhoi am ddim, a hynny am byth y bydd o sofrins mlynion o Fanc y Government fildiodd o'i hun ar Galfaria, a phan glyw Satan swn y rheini'n tincian oddiwrtho fo ar ych dwylo chi, mi ry'r hen was y siwt i fyny mewn un chwinciad (cymeradwyaeth anferth). Mae dim ond swn sofrins mawr yr Iawn yn tincian yn ddigon i brynnu'r creadur mwya aflan mewn bod. Dyma i chi'r hen Gapelulo, feddwodd cyhyd ag oes y rhan fwya sydd yma, yn dyst. (cymeradwyaeth hirfaith; rhai yn wylo, ac er- aill yn gwaeddi "Amen" a "Bendigedig yr hen Domos.")
"Wel, mi 'rydach chi yn rhoi canmolineth ddychrynllyd i mi; ac mae gormod o ganmoliaeth, wyddoch, fel gormod o gwrw, yn codi i'r pen yn fuan iawn (chwerthin). Felly, rhaid i mi edrach ati hi, achos mi rydw i mewn lle perig iawn. Wel di, Dafydd (gan droi at y cadeirydd), mi ydw i yn dy godi di i fod yn Gommander-in-Chief i edrach ar ol traed a dwylo, a chega pobol Gwtherin yma, nes y bydda i wedi ista i lawr. 'Rwan na i ddim deyd ond un gair eto. Mae arna i eisio i chi sydd yn ddirwestwrs yn barod, fod yn ddirwestwrs iawn; nid yn unig yn cadw yn glir rhag yfed y drwyth felldigedig, ond yn cadw yn ffâr ahed oddiwrth bob math o chwant am dani hi. Mi rydw i yn cofio bod yn mynd heibio yr Eil o Man mewn man-i-wâr ryw dro, ac mi 'roedd yn perthyn i ddwylo y llong hen blât o gwc—un melldigedig am licars—mi roedd i lygid o fel peli inja rybar, 'i glustia fo fel dail cabaits, ac mi 'roedd 'i drwyn o mor hir, Dafydd, fel y basa fo yn cymyd pum munud i dy basio di (chwerthin mawr). Wel, wrth i ni basio yr Eil o Man, mi ddeydodd yr hen ffelo y bu'r Werddon a Sgotland yn ffrauo riw dro yng nghylch perthyn i brun o honynhw yr oedd yr ynys. Mi ddoth yna Frenshman hir i ben ymlaen i dorri'r ddadl, a dyma fel y daru o oedd ceisio dwy neidar a rhoi un ym mhridd Sgotland a'r llall ymhridd y Werddon, ac yn mhrun bynnag ohonynhw (cofiwch chi fod nadroedd yn yr Eil o Man) y bydda i'r neidar fyw y wlad honno fydda pia'r ynys. Yn naear Sgotland y bu'r neidar fyw, ac felly mi setlwyd y cwestiwn. Wel, mhobol i, mae yna neidar y tu fewn i lawer o hono ninna. Tydi peidio cymyd cwrw a licars ddim yn ddigon, ond mae eisio i'r blys am danyn nhw beidio byw y tu fewn i ni (cymeradwyaeth). Os ydi dyn wedi rhoi i fyny yfed diod feddwol, ac eto yn para i fod mewn chwant am dani hi, mae o'n pechu; mae yna sarff yn ei enaid o. Wrth ddeyd peth fel yna, tydw i ddim yn dal mod i yn deyd dim byd newydd. Mae'r Pregethwr mwya fu yn y byd yma rioed—Iesu Grist-wedi ei ddeyd o o mlaen i. Darllennwch chi beth mae o'n i ddeyd ar y geiria Na wna odineb yn y Bregeth ar y Mynydd.
'Rwan, os yda chi am fod yn ddirwestwrs, byddwch felly hyd farw. Mi 'rydw i wedi penderfynu bod felly, 'doed a ddel. Fydda i ddim yn hir eto cyn y bydda i farw, ond pryd bynnag y cymer hynny le, mae arna i eisio marw yn ditotal (cymeradwyaeth). Mi glywis i am un o'r officers gafodd ergyd farwol ym matl y Neil, fod o wedi disgyn ar y dec, ac fod yna lot wedi rhedeg ato fo, i feddwl mynd a fo i lawr i'r caban, ac i fod ynta wedi deyd wrthynhw am beidio ei symud o. Mi 'rydw i am farw ar y dec,' medda fo. Dyna fel yr ydw inna yn deyd, bryd bynnag y daw fy nhro i farw, mi 'rydw i wedi penderfynu gneyd ynghanol y fatl; a phan fydd sowldiwrs mawr Brenin Dychryniadau wedi taflu fatal shot i fewn i 'nghalon i, mae'r hen Gapelulo yn bownd o fynnu cael marw ar y dec.'
Gyda dweyd hynyna eisteddodd yr areithiwr doniol a digrif i lawr yng nghanol cymeradwyaeth na bu ei hail i areithiwr dirwest yn unman. Yn gymysg a'r gwenau a'r chwerthin, fe gollwyd llawer deigryn yn y cyfarfod hwn wrth wrando yr hen filwr yn siarad.
XVII. YN Y CYFARFOD GWEDDI.
DIGWYDDAI Tomos Williams fod unwaith yn dechreu cyfarfod i weddio. Wrth wneyd hynny, byddai yn ddigon call, gan mai darllennwr lled drwsgl oedd, i ddewis cyfran o'r Beibl y byddai efe yn ddigon cyfarwydd â hi-efallai, yn ei medru yn hollol rwydd i'w darllen. Fel rheol, ychydig o adnodau a ddarllennai; salm, neu ddameg ferr, bron bob amser. Wedi darllen yr adnod gyntaf o ddameg priodas mab y brenin, aeth ymlaen,—
Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i ryw frenin a wnaeth briodas i'w fab." Yma meddai, "Dwn i ddim pa frenin oedd hwn, wyddoch chwitha ddim chwaith; felly dyna ni ar yr un lefel a'n gilydd am unwaith, beth bynnag. 'Dwn i ar y ddaear beth sydd i'w feddwl wrth' wneyd priodas.' Tasa fo'n deyd 'gneyd swper' mi faswn yn dallt. Ond waeth befo fo. Mi wnawn ni ei adael o fel y mae o; mae'r stori'n gwella wrth fynd yn ei blaen. Yr ydach chi'n gweld yn ol yr adnod nesa, fod y brenin yma yn gyrru gweision i nol y rhai oedd wedi cael gwadd i'r briodas, ac mi ddaru rheini gau dwad. Welsoch chi 'rioed ffashiwn beth! Y Brenin yn gyrru y royal carriage, a dau was lifra, a phâr o gyffyla crand, a dyna'r dynion yma yn ysgwyd eu penna wedi'r cwbwl. Yn y bedwerydd mae o'n gyrru second invitation' allan ac yn deyd, 'Wele, parotoais fy nghiniaw, fy ychain a'm pasgedigion a laddwyd, a phob peth sydd barod.' Dyna fo yn y fan yna yn deyd sut ginio oedd gyno fo, a pha sort o gigoedd oedd ar y bwrdd. Ond troi trwyna ddaru nhw ar y cwbwl i gyd. Rhaid fod yna riw ddiffyg treuliad ofnadwy ar y bobol yma, ne fasa nhw byth yn gwrthod sbrèd ardderchog fel hyn. Faswn i byth yn gwrthod rôst biff yn cael ei gynnyg gan frenin, beth bynnag. Ar amgylchiada fel yma, dwn i ddim a faswn i yn gwbod y gwahaniaeth rhwng f'enaid a fy stumog ai peidio. Ond dyma i chi bobol na fyne nhw ddim gwrando ar weision y brenin. Mynd i ffwr ddaru'r tacla sychion a hunanol yma, un i'w faes, ac arall i'w fasnach '—y ffarm a'r siop —swêj a mincieg oedd fwya ar feddwl y rhain. Taswn i yn cael gwadd oddiwrth frenin, hyd yn oed tasa'r indiagestion, y clwy melyn, y ddanodd, y crycymala, dolur gwddw, loc jo, ne'r cwbwl hefo'u gilydd, arna i, nes na laswn i ddim yn medryd profi 'run tamad o'i railings o, mi faswn i yn ufuddhau, tasa ddim ond er mwyn cael gweld ei blas o, gweld ei feibion a'i ferchaid crand o, gweld y diwcs a'r lords fydda. o gwmpas ei fwrdd o, a chael clywed y miwsig, a gweld y riolti mawr fydda yno. Cyn saffed a bod ni yma, bobol, mae'n werth i ni drio mynd i'r nefoedd tasa ni'n gneyd dim ond ista i dragwyddoldeb yno. Mewn difri, mae hi wedi dwad yn gwestiwn prun well gyno ni, y ffarm ynta'r drydydd nef—clorian y siop ynta clorian y Farn?"
Wedi dod at y nawfed adnod, "Ewch gan hynny i'r prifffyrdd, &c.," dywedodd,—" Wedi i'r ffyliaid yna wrthod, dyma fo'n gyrru gweision lifra allan i'r strydoedd, i wâdd y stelcars, a'r segurwrs penna, a phob math o rabscaliwns, i ddwad i mewn. Chawson nhw ddim ond prin amser i molchi a newid 'i dillad nad oedd cloch y cinio yn ringio yn 'i clustia. Dyna fel y mae hi dan drefn yr efengyl wyddoch chi, hen goblars duon a thincars racsiog o Gymru yma yn cael reidio drwy Lyn Cysgod Angau yng 'nghoach fawr y brenin ei hun! Dyna'r' 'goach' y bydd yr hen Gapelulo, druan, yn mynd iddi hi yn union deg, bellach; ond, hitiwch befo, mi fydd y dreifars glân, gwynion—byddigions mawr y byd ysbrydol yn capio ac yn bowio am y gora iddo fo, wrth ddeud, Take your seat, Thomas Williams.
"Hogia anwyl, sy yma 'n gwrando arna i, fydda ddim yn well i chi newid ych beat, a dwad i fewn i stafell y brenin? Mi wyddoch y bydd y doctors yma'n amal iawn, yn enwedig os bydd rhai yn diodda o dan wendid ne'r diciâu, yn pyrsgreibio iddynhw i fynd i awyr iach y mynyddoedd. Yr eisio fydd eisio change of air, medda nhw. Mae yna lawer ohono chwitha wedi pechu am flynyddoedd nes mynd yn bell i'r diciâu. Da chi, fechgyn, dowch allan o'r tafarna afiach, ac o'r cypeini drwg yna. Mae y Doctor mawr ei hunan, na chollodd o gase erioed, yn ricomendio change of air i chi. Esgynnwch i fynydd yr Arglwydd. Mae yno 'babell fydd yn gysgod rhag gwres, ac yn noddfa ac yn ddiddos rhag tymestl a rhag gwlaw.' Ewch am dro ambell waith hyd lan y môr o wydyr sydd yn debyg i grystal, ac mi ffeiai chi na ddowch chi ddim odd'no heb fod gyno chi ddigon o wrid ar ych gw'neba i neyd pob angel yn jelws. Hen sowldiwr ydi pechadur wedi cael ei glwyfo yn Waterlŵ fawr pechod. Yn y fatl yna y cafodd o dorri ei goes, fel na fedrodd o ddim cerdded yn hanner iawn byth ar ol hynny. Ond, bobol bach, raid i ni ddim byd ond mynd am change of air tua Chalfaria, na chawn ni goesa cyfa mewn dau funud. Nid rhiw batshio dyn i fyny hefo coesa pren a phetha felly, mae'r efengyl, wyddoch chi. Dim byd yn debyg! Welwch chi mor sionc ydi'r rhai gafodd eu mendio dani hi: 'Y rhai a obeithiant yn yr Arglwydd a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant! Dyna chi wedi cael mewn 'chydig iawn o le hanes y bobol y mae
Eu maglau wedi eu torri,
A'u traed yn gwbwl rydd.'
"O ddifri calon, pam na ddowch chi i mewn i'r swper-i mewn at fwrdd mawr yr efengyl. Mae yna son yn rhwla am gymell i ddwad i mewn. Mae gan drugaredd Duw hiraeth am weld pob sêt wrth y bwrdd wedi cael ei chymyd. Yn wir, mae brestia trugaredd mor llawn, nes y mae hi mewn poen os na bydd rhywun yn tynnu ynddynhw o hyd. Glywch chi hi yn cwyno yn rhywle,—Ond ni fynnwch chwi ddyfod ataf fi, fel y caffoch fywyd.'"
Mae'n dra thebyg y byddai Tomos Williams, weithiau, yn cael ei ryddid i dreulio yr oll o gyfarfod i weddio ei hun, ac iddo wneyd hynny o dan yr amgylchiadau a gofnodir uchod.
XVIII. TAGU PRYDYDD
R wyf yn awr am gymeryd rhyddid i arwain y darllennydd i gael golwg hollol wahanol ar Domos Williams.
Er y gellir honni fod llawer o ryw fath o ddiniweidrwydd yn perthyn iddo—diniweidrwydd ymddangosiadol weithiau, efallai-eto, nid gŵr i chware ag ef ar un cyfrif oedd Tomos. Yr oedd ymhell o fod yn barod i gymeryd ei ddiraddio, hyd yn oed pe buasai hynny yn dwyn llog mawr iddo. Byddai yn rhaid i bwy bynnag a roddai hergwd iddo ymfoddloni i dderbyn un yn ei lle. Nid oedd efe, os tarewid ef ar un rudd, yn foddlon i droi y llall hefyd i'w ymosodwr. Credai efe yn lled bell yn neddf ad-daliad, a dewisai fyw i gryn raddau o dan gyfraith Moses, gan ddewis yn arwydd-eiriau iddo ei hun, "Llygad am lygad, a dant am ddant." Gan nad oedd Tomos, druan, yn ddim perffeithiach na dyn, y tebyg yw nad oedd gras ei hunan wedi ysgubo ymaith yr oll o'r milwr oedd yn ei gorff a'i enaid ar ddechreu ei yrfa. Mae y darllennydd eisoes yn gyfarwydd a rhyw gymaint o'i ddawn i dafodi. Dichon y byddai yn dueddol i gario y ddawn beryglus hon yn rhy bell o dan rai amgylchiadau a ystyrid gennym ni, o hirbell fel hyn, yn rhai di-bwys. Ond ei reol oedd,-"Tafoda di fi, mi tafoda inna ditha." A phan fyddai ei "fwnci i fyny," chwedl yntau, ni byddai ronyn o bwys ganddo ar bwy yr arllwysai engreifftiau o hyawdledd bras a chwerw ei da fod. Dyhidlai wermod ar gwnstabl, gweinidog, ficer, neu ustus gyda'r un rhwyddineb ag y gwnai ar bedlar cornwydlyd.
Yr oedd unwaith yn myned ar hyd y brif stryd yn Ninbych, a'i ysgrepan yn ei law, neu ar ei gefn. Cynhelid yno ffair fawr y diwrnod hwnnw, a daethai Tomos yno i wneyd busnes gyda'r math o lenyddiaeth oedd yn talu llawn cystal a dim y pryd hwnnw. Daeth brawd o brydydd i'w gyfarfod, ac heb un math o rag- ymadrodd, meddai hwnnw wrtho yn hollol ddi- fyfyr,-
"Yn ei fag sy gynno fo.
Pa lol fedd Capelulo?"
Mae'n sicr fod y ddau yn adnabod eu gilydd. Pa un bynnag a oedd y bardd o ddifrif ai nad oedd, bu i'r cyfarchiad anghariadus dwymo ysbryd Tomos Williams ar unwaith. Cydiodd gyda llaw o haearn yngwddf y prydydd, a dechreuodd wasgu yn araf, ond yn sicr, fel nad oedd iddo y gobaith lleiaf am fedru dianc. Wedi sicrhau digon o gynhulliad o gwmpas, a chan barhau i dynhau ei afaelion ar wddf y creadur dychrynedig, dechreuodd Tomos roddi'r ffrwyn i'w dafod. Dyma'r unig ddyfyniadau gweddus i'w cyhoeddi o'r bregeth,-
"Ho, fel yna 'rwyt ti yn y nghyfarch i, y sglodyn diffaeth! Faint sy ers pen ddôth dy dad yn ol o'r transport am smyglo baco a whisci? 'Dwyt ti, y poacher uffernol, ddim wedi molchi dy wymad ers pan ddois ti o jêl y Wyddgrug."
Ar hynny gwaeddai'r prydydd,-"Tewch, Tomos Williams, anwyl; bendith y nefoedd arno chi, tewch." Ond, gan roddi tagfa fwy effeithiol nag erioed iddo, gwaeddai Tomos hyd yn oed yn uwch nag o'r blaen,—
"Aros di, faint o holides gest ti am ddwyn wya phesants o Fachymbyd 'stalwm? Y chdi'n brydydd, wir! Ond ran hynny, os medar dy sort felldith di ddwyn wya a phoachio am bob math o game, mi fedri ddwyn prydyddiaeth hefyd. Ond un o frid yr hen Robin Nanclyn yna wyt ti. Ond pe daet ti'n dwyn pob pennill wnaeth yr hen deiliwr honco hwnnw yrioed, fasa fo ddim ods yn y byd gan neb." Llefodd y prydydd drachefn am i Tomos beidio insyltio Rhobat Dafis (Nantglyn), ac yr âi efe adre yn ddistaw.
Ond wedi i Domos gymeryd anadl, ychwanegodd ei nerth, a llefodd ymlaen mewn hwyl,—"Chei di ddim mynd o macha i ar frys Can fod y bobol yma yn gwrando mor dda, ac yn leicio dy weld ti yn sound yn stocs home made Capelulo, mae gen i chwaneg o frwmstan i'w dywallt ar dy friwia di. Y chdi'n brydydd, wir! Wnes di'r un rhigwm y basa hyd yn oed y domen sala yn Ninbach yma yn falch o'i gael. 'Dwyt ti'n ddim byd ond ffalsiwr digwilydd a llyfwr gwyneb i William Owen, Segrwyd, a'r hen Johanna fawr, fudr, glwyddog honno."
Yn y geiriau olaf o eiddo Tomos, fel y gall y cyfarwydd gasglu, gwneir cyfeiriad at y Doctor William Owen Pughe, yr hwn a fu yn preswylio yn y Segrwyd, ger Dinbych, ac at y wrach ynfyd honno, Joanna Southcott, yr hon a honnai ei bod ar fin rhoddi genedigaeth i Waredwr y byd. Gofidus yw addef fod y Doctor, er ei holl dalent a'i wybodaeth, yn un o ddisgyblion y ffolog waradwyddus honno.
Tra yr oedd Tomos ar ganol arllwys ychwaneg o frwmstan a huddygl ar y prydydd di-amddiffyn, ac yn parhau i dynhau ei afael yn ei wddf nes oedd ei wyneb yn duo a'i holl gorff yn crynnu, pwy a ymwthiodd drwy y dorf ond Dr. Pierce, y meddyg enwog. Er ei waethaf, methai y doctor doniol a pheidio mwynhau yr olygfa i ryw raddau; ac er nad oedd bywyd y rhigymwr o nemawr werth i neb, eto, wrth weled ei fod mewn perygl, erfyniodd am drugaredd iddo. Rhoddodd Tomos amod ei ryddhad i lawr yn union, sef, fod iddo fyned ar ei liniau a gwneyd "pennill o brydyddiaeth risbectabl" iddo. Ufuddhaodd y pechadur yn ddioed, ac ar ei liniau ag ef. Wedi cael y fraint o dynnu ei anadl yn rhydd unwaith neu ddwy, llefodd allan,-
Rhoddwch, gefnog, enwog wr,
Ras addas i droseddwr."
Ond nid oedd hynyna yn ddigon gan Tomos, a dywedodd fod yn rhaid i'r prydydd dychrynedig barhau i aros ar ei liniau nes y gwnelai gwpled arall, ac oni byddai iddo wneyd y cyfryw yn fuan y byddai "y cyrtan yn codi ar ail act y tagu. Gyda gwyneb trist ac acen grynedig ail gynhygiodd y bardd fel hyn,-
"Pan y gwel ryw boen neu gam,
Twyma sel Tomos William."
"Dyna go lew, 'rwan, 'rhen Domos, ynte?" ebai Doctor Pirs; gadewch iddo fo gael mynd, mae bron a marw gan ofn."
"Wel, o'r gora," oedd ateb y disgyblwr llym a pheryglus; cymer di ofol, y rhigymwr pen ffor, sut y gnei di siarad hefo fi y tro nesa. Tasa Doctor Pirs heb ddwad yma riw funud ne ddau yn ol, mi fasa ti wedi cael dy gy- hoeddi yn un o'r tenantiaid mwya distaw aeth i'r fynwent yna 'rioed. Cymer gyngor Un mwy na fi, ac na Doctor Pirs, chwaith,-' Dos, ac na phecha mwyach."
Ac ar hynyna, ymaith a'r prydydd gyda hynny o weddillion o fywyd oedd ganddo, ynghanol chwerthin calonnog yr ugeiniau lawer oedd yn dystion o'r olygfa ddoniol a thrist.
XIX. DYWEDIADAU AC YMGOMIAU.
CYMERAF fy rhyddid yn y bennod hon i roddi ar lawr rai o ddywediadau Tomos Williams, heb drafferthu nemawr i eg- luro yr achos na'r achlysur o'u llefariad, gan obeithio y byddant yn eithaf hawdd i'r dar- llennydd eu deall.
"Mi glywis," meddai unwaith, "am ddyn yn yr India, ddaru osod trap yn ei ardd i ddal teigar, ddylsa fo, oedd yn dwad yno i ddwyn ffrwythydd bob nos; ac er syndod mawr iddo fo, pwy oedd y gynta i roi ei throed yn y trap ond ei wraig o'i hun. Fel yna, welwch chi, mae'n gelynion ni—y bobol fydd yn deud clwydda am dano ni, ac yn lladd arno ni—yn amal iawn yn ein hymyl. 'Does dim isio prynu teliscob i chwilio am danynhw, gan feddwl i bod nhw yn bell. Wyrach fod nhw'n byw yn yr un stryd a ni, yn y drws cosa i ni, ie, yn yr un ty a ni. Gelynion dyn, yn aml iawn, ydi i dylwyth o'i hun.'
Arferai Tomos am flynyddau lawer, fynychu ffair Llanbedr y Cenin, yr hon a gynhelid tua dechreu mis Hydref. Byddai ganddo "stondin" yno yn yr un lle, yn rheolaidd, bob blwyddyn. Ond ar ddiwrnod ffair un tro, cododd dyn o'r enw Abraham yn foreuach nag ef, a gosododd "stondin" o'i eiddo ei hun ar y llannerch oedd wedi ei gysegru i lenyddiaeth geiniog Tomos Williams. Pan gyrhaeddodd y diweddaf yno. gellir dychmygu yn weddol yr hyn a gymerodd le yno. Aeth yn ffrae benben, heb " arweiniad i mewn o gwbl. Gwelodd Tomos, cyn y gallasai gael gan Abraham symud ei babell, mai da fuasai braich, beth bynnag am "faen, gyda'r efengyl." Cydiodd yng ngwarr y goresgynydd beiddgar, a chan roddi hergwd iddo ar draws y tabernacl a godasai, gwaeddodd dros yr holl bentre, "Cyn bod Abraham yr wyf fi."
Meddai rywbryd,-"Mi clywis i nhw'n deud yn y gwledydd lle mae grapes yn tyfu allan, fod ogla da y gwinllanoedd yn foddion i gadw i ffwr bob math o nadroedd a chyduriaid gwenwynig o'r fath. Fel yna y dylai Eglwys Iesu Grist fod-ogla da carictor ei haeloda yn codi oddiwrthi hi, fel na bydd yna berig i'r un Judas na Demas gynnyg dwad yn agos ati hi i geisio gneyd dim drwg iddi hi."
Dro arall, wrth siarad â nifer o fechgyn, dywedai,—"Watsiwch chi, hogia anwyl, rhag mynd i gypeini drwg. Y gair gora fedrwch chi ddeud mewn cypeini felly ydi, Codwn, awn oddiyma.'
Ers llawer o flynyddoedd yn ol, yn y Belmont, ger Llanrwst, trigai hen berson o deulu urddasol a chyfoethog, o'r enw Mr. Nannau Wynn. Os nad oedd Mr. Wynn yn gofalu rhyw lawer am eneidiau plwyfolion Llanddoged, yr oedd yn garedig iawn wrth eu cyrff. Nid oedd pregethu ond rhyw ail, neu drydydd peth, yn ei olwg. Mynd ar ol—nid pechaduriaid—ond cwnhingod, oedd ei gamp a'i ddifyrrwch ef. Chwysodd fwy mewn un prydnawngwaith o hela nag a wnaeth yn ei oes mewn pulpud. Yr oedd ganddo damaid o fwyd a chornaid o gwrw i bawb a alwai heibio ei blas; ac os digwyddai i unrhyw un o'r cyfryw fedru canu cerdd a thelyn, cawsai groesaw tywysog am wythnos ganddo. Byddai Tomos ac yntau yn lled hyf ar eu gil- ydd; a gellid meddwl, weithiau, eu bod ar fin cweryla; ond ni byddai yr hen berson daearol byth yn digio wrth y llall, gan nad beth a lef- arai hwnnw wrtho.
"Tomos," meddai Mr. Wynn wrtho un diwrnod, "pryd chdi dwad i'r Heclws?"
"Pan fyddwch chi ddim yno, syr," oedd yr ateb a barodd i'r person boddlon chwerthin nes hanner ymddryllio.
Dro arall, cymerai ymddiddan tebyg i hyn. le rhwng y ddau garictor dyddorol,-
TOMOS."Mi ewch i. uffern ar eich pen ryw ddiwrnod, syr. Dyda chi'n meddwl am ddim byd ond am y cwn hela yma o hyd."
MR. WYNN.-"Beth! Ti meddwl, Tomos, mae hen person fel fi i cael llosgi byth, for ever?
TOMOS.-"Wel na ddim cweit felly, Mistar Wynn; ond pan ewch chi i uffern, rhyw gael eich deifio yn ara deg am dragwyddoldeb y byddwch chi. Ond pe dasa chi yn mynd a bwndel o'ch hen bregetha hefo chi, mae rheini yn ddigon sych a chrin, nes y basa chi a nhwtha yn fflamio yn golcath gaclwm ulw cyn pen tri munyd."
MR WYNN.-"Taw! Cwilydd mawr, Tomos. Chdi dwad i'r ty, a fi prynnu cerddi di i gyd, a ti dal dy dafod wedyn.'
Yna ai Tomos i mewn i'r ty, ac yn ychwanegol at brynnu cerddi a rhoddi iddo gyflawnder o fwyd, rhoddai yr hen berson caredig het, esgidiau, côt gynnes, &c., iddo; ac yna, wrth gydgerdded drwy y buarth, cymerai yr ymddiddan a ganlyn le,-
TOMOS. Rhaid i chi, yn wir, syr, ddechra meddwl o ddifri am fater enaid, ne dewch chi byth i'r nefoedd."
MR. WYNN.--Take time, Tomos; chdi meddwl i dyn dwl, anwypodus fel ti, helpu fi, scholar mawr a person plwy, i mynd i'r nefoedd ?"
TOMOS. 'Dydw i ddim yn siwr, syr; ond mi wyddoch y medar cwch bychan bach roi dyn ar lan gwlad fawr iawn."
MR. WYNN (gan wenu yn foddlon).--"Very good, Tomos, yes indeed; chdi cymid hanner coron yma i cael cinio first rate ddydd Sul, a brysio yma eto."
Gan nad beth am ffaeleddau yr hen berson, gwelir yn hawdd nad oedd yn arfer cysgu dan yr unto â rhag farn a rhagrith.
Llefarai Tomos Williams sylwadau fel hyn ar un achlysur,-
Pan oeddwn i yn yr India, mi ddois i ddallt am sgiam oedd gan rai o'r llwytha mwya gwyllt i ddal eliffantod. Dyna oedd hi, mi fyddan yn llifio coeden fawr yn ei bôn jest drwodd. Wedyn, ymhen tipyn, mi ddoi yna eliffant mawr o dan y goeden i mochel y gwres ne'r storm. Ond y funyd y rhoi o'i bwysa yn erbyn y pren, i lawr a hwnnw mewn chwinciad, nes i ladd o yn y fan. Yr un fath yn union y mae hi hefo ninna. Os yn y byd yma yn unig y gobeithiwn, os gorffwyswn ni'n cefna'n hollol arno fo, i lawr y daw o yn bendramwnwg ryw ddiwrnod ar ein penna ni, nes y byddwn ninna yn deilchion o dano fo. Meddyliwch chi am y dyn hwnnw oedd am dynnu i lawr ei sguboria, ac yn mynd i roi ordors i fildio rhai mwy; pan rôth angeu symans yn i law o i atendio Seisys mawr tragwyddoldeb—Y nos hon y gofynnant dy enaid oddiwrthyt,'—dyna bob sgubor, stabal, a chadlas oedd ar ei helw fo, i lawr yn blith drafflith gyrbibion am ei ben o. Bobol! os oes gyno chi eisio lle i mochel gwres, ne i lechu mewn storm, treiwch Graig yr Oesoedd. Mae yno le saff rhag gwres y ffifar a chenllysg y Farn!'
XX. TOMOS AC I. D. FFRAID.
FELY mae yn eithaf naturiol i rai cynefin â Dyffryn Conwy yn y dyddiau gynt, ddyfalu, yr oedd y Parch. John Evans (I. D. Ffraid)-cyfieithydd Milton—a Tomos Williams yn adnabyddus a'u gilydd am flynyddau. Meddyliai Tomos y byd o Mr. Evans, ac, wrth gwrs, yr oedd yr "Adda Jones" ddoniol o lannau Conwy, yn edmygydd hyd at afiaeth ymron, o'r siaradwr a'r sylwedydd gwreiddiol o Lanrwst. Pan fyddai Tomos yn Llansantffraid—a byddai yno droion mewn blwyddyn rhaid fyddai i'r llenor a'r pregethwr gael rhoddi croeso goreu ei dŷ ger ei fron. Treuliodd y nos lawer gwaith yn nhy I. D. Ffraid, ac ar adegau felly, os digwyddai fod rhyw foddion yn y capel, arferai Mr. Evans fyned a Thomos yno. Ofer fyddai i mi wadu nad oedd gŵr doniol, a chyrhaeddgar ei ymadrodd fel I. D. Ffraid, yn cael llawer iawn o ddifyrrwch yng nghwmni dyn o stamp Tomos Williams; ond gwyddai efe yn dda pa mor bell i gario y difyrrwch hwnnw ymlaen. Eto, nid oedd yn bosibl i'r sant perffeithiaf gadw gwyneb gwastad wrth sylwi ar ambell dro trwstan o eiddo yr hen Domos. Aeth Mr. Evans ag ef unwaith i'r capel ar noson cyfarfod i weddio dros y Genhadaeth, a galwodd arno i gymeryd rhan ynddo. Anfynych y defnyddiai yr hen wr y Llyfr Emynnau. Ni byddai yn rhaid iddo ond crafu ei ben na ddeuai o hyd i bennill cyfaddas, yn ei dyb ef, i bob amgylchiad. Ar yr achlysur dan sylw, rhoddodd allan yr hen emyn adnabyddus,-
"Daw miloedd ar ddarfod am danynt, &c."
Pan ddaeth at y llinell
"Preswylwyr yr Aifft ac Ethiopia,"
aeth i helbul. Preswylwyr yr Aifft," meddai, ac edrychai o'i gwmpas. "Preswylwyr yr Aifft,' a phwy arall, Mr. Evans?'
"Preswylwyr yr Aifft ac Ethiopia,"
ebai Mr. Evans. "Debyg iawn," meddai Tomos, yn hollol wybodus a hunanfeddiannol, "'doeddwn i ddim ond yn ych treio chi, dach i'n gweld,
"Preswylwyr yr Aifft hyd ei thopia."
Nid oedd yn bosibl dal hynyna, a thorrodd y rhan fwyaf o'r cynhulliad allan i chwerthin. Gwnaeth y dechreuwr canu ymdrech ddewr, fwy nag unwaith, i fyned ymlaen gyda'r emyn; ond yn gwbl ofer. Felly fu: a chyn pen tri munud yr oedd yr hen frawd wedi gweddio ei drwstaneiddiwch ymaith.
Digwyddodd dro arall fod yn Llansantffraid pan oedd moddion yn y capel. Aeth Mr. Evans ag ef i'r set fawr, a galwodd arno i "ddechreu," gan ei annog yn siriol i "ddeyd tipyn" ar y bennod. Dewisodd yntau ddameg y goludog a Lazarus i'w darllen. Dechreuodd fel hyn,—
"Yr oedd rhyw wr goludog " (un o brif sgweiars gwlad Canan oedd hwn), "ac a wisgid a phorffor a llian main" (mi ffeiai o fod o'n talu mwy i'r teiliwr nag i'r person); "ac yr oedd yn cymeryd byd da yn helaethwych beunydd" (cymeryd ei fyd da, yr oedd o, sylwch, ac nid ei gael o gan neb.. 'Doedd y dyn yma yn hidio dim fod cwpwr y wraig weddw yn wag, na fod yr hogyn amddifad heb yr un crys i'w newid. Cymeryd oedd i fusnes o o hyd. Mi fedra creadur fel hwn futa pentra ac yfed plwy mewn rhyw fis ne ddau). Yr oedd hefyd ryw gardotyn a'i enw Lazarus" (dydi'r Ysbryd Glân ddim wedi rhoi enw'r gŵr goludog i ni. Wyrach nad oedd o ddim yn delio rhyw lawer hefo sgweiars. Ond am enw'r cardotyn, mi gafodd hwnnw ei roi'd i lawr ar registers y nefoedd). "A bu i'r cardotyn farw, a'i ddwyn gan yr angylion i fynwes Abraham. A'r goludog hefyd a fu farw, ac a gladdwyd" ('does yma ddim son fod y cardotyn wedi cael ei gladdu. 'Dydw i yn ama dim na ddaru y leiving officer ddechra partoi at hynny drwy roi ordors am arch a bedd iddo fo; ond dyna droop o angylion yn dwad i lawr, ac yn drysu ei blania fo i gyd. Mae'n fwy na thebyg fod y saer a'r torrwr beddi yn ddigon dig wrthynhw am intraffirio hefyd. Mi gydiodd footmen y Goruchaf yno fo, rags a phopeth, ond mi ddarun ofalu am newid i siwt o pan oedd o yn yr act o groesi'r afon. Mi roison lian main y nefoed —y wisg ddisgleirwen oleu '-am dano fo. Pan rôth o'i droed i lawr ar lan Pacific Ocean tragwyddoldeb, 'doedd yna yr un gŵr bynheddig smartiach na fo yn ranks yr Hollalluog ei hun!) "Ac yn uffern efe a gododd ei olwg. (Dyna'r tro cyntaf iddo fo neyd hynny 'rioed. Edrach ar i lawr y bydda'r gŵr yma yn wastad o'r blaen; pawb a phopeth yn isel yn ei olwg o. 'Doedd dim byd ond crasiad ym mhobty'r diafol yn ddigon effeithiol i neyd i hwn edrach i fyny!). "Ac efe mewn poenau a ganfu Abraham o hir—bell a Lazarus yn ei fynwes." (Fedra i ddim sbonio i chi sut yr oedd o, a fynta yn uffern, yn gweld Abraham oedd yn y nefoedd; ond mi wn hyn, fod poen yn gweld ymhell ofnadwy! Pan fyddwn i ym mherfeddion yr India hefo'r armi, mi ddoi yna hiraeth dychrynllyd drosta i, weithia; cymin o hiraeth nes y byddwn i yn gweld yn reit blaen, dros filldiroedd filoedd o for, i dŷ nhad a mam yn Llanrwst. Dydi poen meddwl ddim yn delio mewn telisgops; sywaeth, mae o'n gweld llawn gormod hebddynhw.) "Ac efe a lefodd ac a ddywedodd,-Ŏ, dad Abraham, trugarha wrthyf." (Welwch chi, dyna fo yn dechra dwad at i strapia, 'rwan. Drychwch ar yr haearn yna; yn dydi o yn galed ac yn stiff; ond rhowch o yn y tân am dipyn, ac mi ddaw yn ddigon ystwyth i chi ei droi a'i drin o fel fynno chi. Creadur caled, styfnig, a syth ei warr oedd y gŵr goludog yma; ond wedi iddo fo fod yn nhân uffern am 'chydig, mi stwythodd i gymala fo'n riol. Mi ddaru gwres y fflam gynta ddôth i'w gwarfod o i blygu fo mewn dau funud. Mewn cawod o frwmstan y gweddiodd y dyn yma am y tro cynta rioed! A gweddio mae o hyd y dydd heddyw; a 'does yna ddim. argoel fod y weddi na'r storm yn darfod! Go- beithio, bobol anwyl, mai nid yn y pwll diwaelod yr ewch chi ar eich glinia am y tro cynta; os felly fydd hi, ar ych glinia y byddwch chi am dragwyddoldeb)."
Yn debyg i hynyna yr ai ymlaen, efallai, hyd ddiwedd y ddameg, ac nid oedd neb yn mwynhau ei sylwadau difyrrus a gwreiddiol yn fwy na'r caredig, y doniol, a'r anwyl I. D. Ffraid.
XXI. Y GWEINIDOG O'R DE.
LAWER o flynyddau yn ol, fel y gwyddis, peth cyffredin iawn i gryn nifer o weinidogion Methodistaidd, o'r De yn arbennig, oedd arfer teithio o fan i fan drwy wahanol Gyfarfodydd Misol y Gogledd. Deuai rhai ar feirch, ereill gyda meirch a cherbydau, tra y byddai ereill yn nosbarth "y gwyr traed." Gwneid y dosbarth diweddaf yma i fyny o rai heb ddysgu "ceffogaeth" na dreifio, neu, rhai rhy dlodion i brynnu ceffylau, nac i dalu am eu. benthyg, neu, yn rhy syml eu doniau pregethwrol i sicrhau eu benthyg yn rhad, "am ddim. ond eu bwyd," fel y dywedid.
Un tro, deuai un o ddosbarth diweddaf "y gwyr traed" yma ar daith drwy Gyfarfod Misol sir Ddinbych. Nid oedd yn dod i fyny. â nodweddion y pregethwr mawr, dwfn, doniol, a hyawdl, ond yr oedd ganddo eithaf "telyn," a byddai honno yn swyno y lliaws i'w ddilyn. Nid y tro y cyfeirir ato oedd yr un cyntaf iddo i ddod drwy sir Ddinbych, felly yr oedd rhai brodyr craff a pharod wedi cael man- tais i'w adnabod yn weddol y tu allan i'r pulpud. Ystyrrid ef, a hynny yn hollol gyfreithlon, yn wr crefyddol iawn, ac yn un nodedig o selog dros achos dirwest. Dywedir y cariai ei sel dros lwyr-ymwrthodiad i eithafion, weithiau. ychwanegol at hyn yr oedd yn un rhy dueddol i roddi ei ymddiried ymhob math o ddyn. Credai bopeth ymron a ddywedid wrtho. Nodwedd arall yn y gweinidog da hwn oedd ei barodrwydd i gynghori yn ddibaid. Byddai ganddo air o gyngor i bawb y deuai i gyffyrddiad â hwy. Cynghorai weision a morwynion, meistriaid a meistresi, blaenoriaid a phregethwyr ieuainc, yn y dull mwyaf defosiynol. Ac i orffen y gwir, mae yn rhaid addef y byddai llawer iawn yn diflasu ar ei gynghorion rhad a pharod, nes myned ohonynt yn gwbl ddieffaith. Dyweder fod morwyn yn corddi, neu was yn dyrnu, elai efe atynt pan y byddent ar ganol dyledswyddau o'r fath. Rhoddai res hirfaith o gynghorion iddynt, a dyfynnai adnodau pwysig a goludog wrth y dwsin; ond y gwir yw y byddai yr holl ymgais at bastynu crefydd i enaid o dan amgylchiadau o'r fath, yn cael yr un faint yn union o ddylanwad ar y forwyn neu y gwas ag a gai ar y fuddai neu y ffust. Nid oedd y gŵr yn adnabod yr amser na'r person cyfaddas i roi cyngor.
Dyna'r darllennydd yn awr, mi obeithiaf, yn deall rhyw gymaint am nodweddion cymeriad y gweinidog hwn. Wel, ar noson neillduol yn ystod ei daith, yr oedd i bregethu yn Llanrwst. Yn y bore yr oedd wedi pregethu yn Nhrefriw, ac yn ystod y prydnawn aeth gŵr adnabyddus, a alwaf fi yma yn John Jones, ymaith tua'r pentre dyddorol hwnnw i'w hebrwng i'r dre. Gyda golwg ar y John Jones hwn, rhaid i mi gymeryd anadl i ddweyd ei fod yn Fethodist o'r rywogaeth berffeithiaf; ond, yn wahanol i fwyafrif Methodistiaid y cyfnod hwnnw, yr oedd yn dipyn o'r hyn a elwir heddyw yn "wag." Caniatai crefydd John Jones iddo fod yn ddigrif, weithiau. Nid oedd ei "Gyffes Ffydd" ef yn dweyd wrtho y byddai yn golledig os digwyddai chwerthin. Rhoddai y parch dyladwy i genadwri adnod, ond nid oedd arno ofn prynnu papyr newydd. Byddai yn bresennol yn rheolaidd yn y cyfarfodydd eglwysig, ond rhoddai glec ar ei fawd os sonnid am ei ddisgyblu am siarad gyda bardd ar yr heol. Wrth gwrs, yr oedd ei grefydd yn credu mewn myned ar ei gliniau, ond credai hefyd mewn codi ar ei thraed, weithiau. Deallai fod athroniaeth yn y llinell,-
"Y dyn a'r Duwdod ynddo'n trigo."
Dyna, yn fyrr, ddesgrifiad o'r math o wr oedd yn myned i gyfarfod y gweinidog o'r De. Prin y mae eisieu ychwanegu fod John Jones yn hollol gydnabyddus â Tomos Williams. Adwaenai wendidau a rhagoriaethau yr hen frawd. Dichon ei fod yn dueddol i fanteisio ychydig yn fwy, weithiau, ar yr hyn oedd wan yn hytrach nag ar yr hyn oedd wych ynddo. Nid oedd neb yn y dre a fedrai dynnu Capelulo yn fwy allan, fel y dywedir, na John Jones. Y mae y castiau a'r triciau a chwareuodd ag ef, o bryd i bryd, yn lliosog iawn. Medrai gael gan Tomos Williams i esbonio y Beibl, i weddio, neu i adrodd cerdd yn y man ac ar y pryd y mynnai. Nid oedd, efallai, yn hollol ddieuog o gyfansoddi "emyn," gan ei dysgu i Tomos, yr hwn, yn ddiniwed hollol, a'i rhoddai allan mewn cyfarfod i weddio, nes peri'r chwyldroad mwyaf ofnadwy yn eneidiau y saint fyddai o gwmpas. Gan fy mod yn son am beth fel hyn, dyma esiampl o un "emyn" a roddodd Tomos allan unwaith, wedi ei hysprydoli, yn ddiameu, gan John Jones,-
"Bore heddyw, pan yn teithio
Ar hyd llwybrau'r Garreg Walch,
Credwn, deuwn, er fy nued,
Rywdro'n wyn fel carreg galch."
Enw ar y coed mawrion sy'n ymestyn ar ochr sir Gaernarfon i Lanrwst yw Carreg Walch, ac y mae yr hen ffordd i Fetws y Coed yn myned. drwyddynt.
Wedi i John Jones a'r gweinidog gyfarfod â'u gilydd, yr oeddynt yn cyd-drafaelio i Lanrwst ar hyd yr hen ffordd i gyfeiriad y Pren Gwyn. Cofier nad oedd "ffordd Gower" yn bod hyd yn oed mewn dychymyg y pryd hwnnw. Pan oedd y ddau yn dynesu at y lle a elwir yn Ysgubor Gerrig, yr oedd Tomos yn dod yn araf i'w cyfarfod gyda'i becyn yn ei law; ond, yn ol ei arfer weithiau, safodd yr hen frawd yn sydyn i ymddiddan âg ef ei hun, neu, efallai, â'r coed a'r cloddiau oedd o'i ddeutu. Cyfeiriodd John Jones sylw y gweinidog ato (cofier nad oedd y gŵr dieithr, yr hwn oedd ar un o'i deithiau cyntaf i sir Ddinbych, yn adnabod Capelulo eto), ac ar unwaith rhoddodd ffrwyn i'r ysfa am ddifyrrwch oedd ar brydiau yn llanw ei enaid. "Welwch chwi," meddai, "yr hen wr sydd yn y fan acw yn gwneyd y fath ystumiau gwrthun arno ei hun? Eu gwneyd y mae i dynnu eich sylw chwi, oherwydd gŵyr mai gweinidog ydych. Dyna un o'r rhagrithwyr pennaf sydd yn Nyffryn Conwy. Mae yn byw ar ddweyd celwyddau. Cafodd anwiredd ac yntau eu siglo yn yr un cryd. Mi fuasai yn prynnu anadl olaf ei fam i ddweyd celwydd. Cymer arno, gyda'r llwon mwyaf ofnadwy, ei fod yn ddirwestwr, ac yn aelod gyda'r Method- istiaid yn y Capel Mawr. Gwna hynny er mwyn cael gennych chwi a'ch tebyg brynnu rhyw hen sothach o gerddi di-ras a di-awen a werthir ar draws gwlad ganddo. Peidiwch coelio yr un gair a ddywed wrthych; ond, da chwi, trowch ato, a chynghorwch ef i roddi heibio ei ragrith a'i gelwydd anioddefol. Dyma fo yn ymyl; mi gadawa i chwi hefo'ch gilydd am funud, gan fod arnaf eisieu galw yn y 'Sgubor Gerrig yma.'
XXII. O FLAEN YR "USTUS."
AR hynny trodd John Jones ymaith, ac i gyfeiriad 'Sgubor Gerrig, chwedl yntau; ond y gwir yw nad aeth ond y tu ol i glawdd, neu fur, cyfagos, er mwyn cael bod yn edrychydd ac yn wrandawydd cyfleus ar y ddrama oedd ar ddyfod. Pan ddaeth Tomos i ymyl y gweini- dog, tynnodd ei silcan dolciog ac adfeiliedig oddiam ei ben yn araf a defosiynol, rhag ofn iddi, efallai, ddod oddiwrth ei gilydd yn llwyr. Yna dechreuodd drwy ddweyd, Begio'ch pardwn, syr, mae'n dda gynddeiriog gen i weld gweinidog
Ond cyn iddo gael rhoi gair ymhellach, dyma'r gŵr dieithr o'r De yn dechreu sythu ei gefn, ac yn troi ato gyda llym- der anarferol yn ei drem, ac yn ei gyfarch,- "Diar mi, mae'n ddrwg iawn gen i gwrdd â hen wr o'ch oed chwi yn ceisio ennill eich bywoliaeth drwy ragrithio a dweyd celwyddau o ddydd i ddydd. Onid ydyw, mewn difri, yn hen bryd i chwi feddwl am eich diwedd ac ystyried oferedd eich ffyrdd?"
Ho! Ho!" meddai Tomos, "be sy'n bod, yr hen ffrynd? O b'le yr ydach chi wedi dengid, 'sgwn i?"
Peidiwch chwi," ebai'r pregethwr, "a dechreu ar eich lol gyda fi. Mi rwyf fi wedi cael eich hanes yn rhy dda o lawer, fel na fynnaf ddim o'ch tafod na'ch rhagrith."
Ar hynyna rhoddodd Tomos ei becyn ar lawr, a dywedodd, "Wel oes, y mae gen i dafod, ond 'does gen i ddim gronyn o ragrith, ac os na wneiff fy nhafod i y tro i'ch setlo chi, 'dydw i ddim yn rhy hen i dreio rhywbeth mwy effeithiol."
"Pw, pw," oedd ateb y gweinidog, "peidiwch a meddwl y medrwch fy nharfu fi. Mae mwy o dwrw nac o daro yn perthyn i chwi. Pam, mewn difri, na chymerwch chwi gyngor i roi heibio dweyd anwireddau o ddydd i ddydd. Dyna chwi yn cymeryd arnoch fod wedi bod yn rhyfeloedd Napoleon a Wellington, tra na welsoch chwi ergyd ddifrifol yn mynd allan o wnn erioed."
Erbyn hyn yr oedd Tomos yn dechreu cynhyrfu a digiloni, ac meddai wrth ei edliwiwr,—"Wel, yr hen frawd, cymer di warning mewn pryd; dos di yn dy flaen am 'chydig ffor yna ac mi gei di ddyrnad o bowdwr Waterlŵ ar dy wymad. Dydi crefydd Iesu Grist-a 'dwyt ti ddim yn credu honno, ddyliwn—ddim yn gofyn i neb gymryd ei insyltio drwy gael ei alw yn ddyn celwyddog ac yn rhagrithiwr. Cymer di yn ara deg, ac mi ddanghosa i i ti fod mwy o grefydd yn fy nyrna i nag a fu yn dy galon di 'rioed, y cena diffaeth."
"Rhag c'wilydd i chwi, Tomos Williams," ebe y pregethwr, yn bwysleisiol iawn, ac yn dra defosiynol, yr wyf yn synnu at eich ymadrodd- ion; nid ydynt yn gwneyd dim ond profi yr hyn yr wyf fi wedi ei ddweyd am danoch yn barod. Da chwi, wr da, cymerwch fy nghyngor, a rhowch heibio eich dull pechadurus o fyw. Peidiwch byth ar ol hyn a honni eich bod yn didotal, a'ch bod yn aelod eglwysig gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Nid oes yr un enwad na chymdeithas mewn bod a fuasai yn foddlon derbyn meddwyn, twyllwr, a seguryn fel y chwi yn aelod o honi.'
Yr oedd hynyna yn llawer iawn gormod i natur fel yr eiddo Tomos Williams fedru ei ddal; ond ceisiodd lywodraethu rhyw gymaint arno ei hun, ac yng ngwydd y gweinidog synedig, wele ef yn tynnu ei got, ac yn ei gosod ar y clawdd gerllaw. Yna torchodd lewys ei grys i fyny, a chyda threm ac ystum filwraidd trodd at ei gyhuddwr, a dywedodd wrtho,—
"Yrwan, yr hen frawd, hanner dwsin o un a chwech o'r llall ydan ni. Mi dorrodd y Posol Pedr glust y dyn hwnnw wrth amddiffyn ei Fistar estalwm. Mi 'rydw inna yn perthyn i gypeini y Gŵr fu farw drosta ni, a fynna i ddim gen ti na neb arall alw enwa drwg ar yr un o sowldiwrs T'wysog Tangnefedd. Tendia dy hun, os nag oes gen ti eisieu decoratio dy drwyn a dy lygid, heb i neb anfon bil i ti am neyd y busnes.'" Gyda'r dywediad hwn, dyna law Tomos yn disgyn i gyfeiriad gwyneb y gweini- dog, yr hwn, mewn eiliad, a ddechreuodd syl- weddoli ei berygl. Llwyddodd i osgoi yr ergyd, ac ymaith âg ef, gan drosglwyddo braw ei galon i'w draed, nes yr oedd yn Llanrwst cyn pen ych- ydig funudau. Dychrynnodd gymaint nes yr aeth yn sal yno, a rhaid fu galw Doctor Hughes, Canol y Dre, i weinyddu arno cyn y gallodd bre- gethu y noson honno. A phregethu yn ddigon symol a wnaeth. Cyniweiriai ei lygaid yn ol a blaen drwy y gynulleidfa ac at ddrysau y capel, fel pe yn disgwyl bob eiliad gweled Tomos Wil- liams yn dod i mewn yn llewys ei grys, i wneyd ei esgyrn yn "snyff i sipsiwns, yn ol ei addewid.
Tra yr oedd y cweryl dyddorol yn myned ymlaen wrth yr Ysgubor Gerrig, yr oedd John Jones anturiaethus yn mwynhau y cyfan o fewn ychydig lathenni i faes yr ymryson. Ofer ceisio desgrifio yr hwyl a gafodd. Prysurodd i Lan- rwst at gyda'r nos. Eilliodd ei farf a'i fwstas golygus yn llwyr, a chafodd dorri ei wallt cyrl- iog a hir yn hollol fyr. Fore drannoeth, ym- wisgodd mewn ffroc côt ddu a newydd ymron, a gwasgod wenfrith, a throwsus yn cyfateb, gyda chadwen a seliau mawrion yn crogi allan o un o'r pocedau. Rhoddodd het silc raenus ar ei ben, modrwy aur ar un o'i fysedd, a phâr o fenyg a ffon yn ei law. Aeth i dŷ cyfaill, wrth yr hwn yr oedd wedi dweyd yr holl hanes, a chyrchwyd Capelulo a'r pregethwr yno ato erbyn tua deg o'r gloch. Gwnaeth olwg mor awdurdodol a mawreddog arno ei hun ag oedd yn bosibl, a cheisiodd ei oreu newid ei lais, am wneyd yr hyn yr oedd yn dra galluog. Nid oedd y gweinidog na Tomos Williams yn ei ad- nabod o gwbl. Dywedodd John Jones wrthynt heb argoel gwên ar ei wyneb, mai efe oedd prif ustus sir Gaernarfon, a'i fod wedi clywed am yr helynt y noson flaenorol ar ffordd Drefriw, ac mai ei neges oedd cael y pleidiau i gymodi â'u gilydd, neu y byddai yn rhaid codi gwarant i'w cymeryd i garchar yn ddioed. Dychrynnodd y ddau yn fawr, ac adroddodd y naill a'r llall ei stori am y ffrwgwd oedd newydd ddigwydd. Gwrandawai yr ustus hunan-etholedig gyda di- frifwch clochyddol, ac ar derfyn y gwahanol adroddiadau trodd at y gweinidog gyda graddau o lymder barnol, a dywedodd wrtho mai arno ef yr oedd y bai, ac mai gwell fyddai iddo fegian pardwn "yr hen sowldiwr," a thalu sofren o iawn iddo. Yn falch o'i galon o gael dianc o wyddfod gŵr mor beryglus, erfyniodd am fadd- euant Tomos, a thynnodd gudyn cotwm mawr o'i boced, a chyda llaw grynedig estynnodd y sofren iddo, yr hwn, heb yr un gair o ddiolch, a'i cy- merodd, ac yna aeth pawb i'w fan, heb feddu y ddirnadaeth leiaf mai John Jones oedd yr "ustus" a'r prif achos o'r helynt i gyd.
Y nos Sul dilynol yr oedd yn y Capel Mawr gasgliad at ryw achos da, a rhoddodd Tomos Williams sofren yr hen weinidog i mewn yn y ladel. Gweithredai hynny, mae'n debyg, fel olew ar ddyfroedd cynhyrfus ei gydwybod.
XXIII. RHYFEL A SATAN.
byddai Tomos Williams pan yn annerch gwahanol fathau o gyfarfodydd. Nid oedd o bwys yn y byd ganddo ef beth a fyddai nodwedd y cyfarfod, ai llenyddol, dirwestol, cre- fyddol, gwleidyddol, ai beth; byddai ganddo ef, wedi codi i fyny i siarad, gyflawnder i'w ddweyd. Chwalai yr India, Spaen, Ffrainc, a Gibraltar am hanesion a chymhariaethau. Medr- ai son am frwydrau Austerlitz, Wagram, Quatre Bras, Waterloo, neu y Nil a Thrafalgar, gyda chymaint o fanylwch a phe mai efe ei hun oedd yn cyfarwyddo pob catrawd, ac yn tanio pob magnel oedd ynddynt. Ymddanghos- ai mor gynefin â symudiadau Blucher, Welling- ton, Syr Thomas Picton, a Napoleon, a phe bu- asai wedi bwyta wrth yr un bwrdd, a chysgu yn yr un gwely a hwy holl ddyddiau ei fywyd. Ar ol Wellington, neu, efallai, o'i flaen, y "Little Corporal," oedd gwron Tomos Williams. Nid oedd glawdd na therfyn i'w edmygedd o'r dyn rhyfedd ac ofnadwy hwnnw; a gallai ad- rodd chwedlau wrth y cant am dano. Hoffai, weithiau, droi yn dipyn o gritig milwrol. Dy- wedai unwaith,—
Napoleon oedd y general mwya welodd y byd yma rioed ar ol Alexander Fawr. Secrad mawr ei lwyddiant o oedd na pheidiodd o ddim a bod yn sowldiwr ar ol cael ei wneyd yn general." Sylw go dda, ac un eithaf teilwng o ystyriaeth byddin Prydain yn y dyddiau hyn.
"Mi fedrai Napoleon," meddai, dro arall, "ymladd fel teigar hefo gelyn am ddiwrnod, ac os basa fo'n un dewr, mi fasa'n cysgu noson yn galonnog yn ei ymyl o."
Dyma sylw arall o'i eiddo,—" Fuo neb yrioed tebyg i Napoleon am drin dynion. Os basa fo'n meddwl y gwnelsai saethu dyn ryw faint o ddaioni iddo fo, fasa fo ddim yn mynd i'r drafferth i gyfri tri cyn gwneyd hynny."
Oddiwrth Napoleon at Grist, nid oedd i Domos, pan yn siarad, ond cam. "Mewn batl y mae'r Cristion," meddai unwaith, "ar hyd ei fywyd, ac y mae yna armi ofnadwy o fawr yn ei erbyn o. Ledar yr armi yma ydi'r diafol. Mae gyno fo lawer iawn o deitla, megis tywysog y byd hwn, tywysog llywodraeth yr awyr, y ddraig fawr, yr hen sarff, a lliaws o rai tebyg. Yr ydw i yn ddigon boddlon iddo fo gael rhyw enwa hyll fel yna; mae nhw'n gweddu'n riol i'r hen greadur; ond mi 'rydw i'n poeni fod o'n cael enw neis fel Mab y Wawrddydd; ond, wrth gofio, y mae Pennaeth y Cythreuliaid yn balansio hwnnw yn nobl, hefyd. Wel, fel y deudis i, mae gan y diafol armi fawr ryfeddol, ac, fel general call, mae o'n i rhannu hi i lot o fân rijments. Tywysogaethau, dyna i chi rijment nymbar 1; Awdurodau, dyna rijment nymbar 2; Bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, dyna rijment No. 3; Drygau ysbrydol, ne, yn hytrach, ysbrydion drwg, dyna rijment nymbar 4. Mae gynno fo chwaneg o rijments na hynyna, a rheini yn perthyn i'r regulars i gyd. Tasa hi'n mynd yn galed iawn arno fo, mae gyno fo filisia na wyr neb mo'u cyfri nhw, ac mi fedar alw y rheini i fyny pan leicia fo. Dyna i chi enwa rhai o rijments y milisia :-Yr hustung—ywr, yr athrodwyr, y ffrostwyr, y dychmygwyr drygioni, y torwyr amod, a dwsina o rai erill. Mae'r diafol yma yn hen sowldiwr, ac mi llaswn i feddwl oddiwrth Lyfr y Datguddiad yna mai yn y nefoedd y daru o listio. Mor fuan ag y cafodd o siwt sowldiwr am dano, ac y dysgodd o handlo cledda, 'roedd o'n ddigon digwilydd i anfon shalans i fatl at y General Michael, ac mi dderbyniodd y gŵr mawr hwnnw yr herr heb ddim lol. A bu rhyfel yn y nef.' Dydw i ddim yn siwr beth oedd yr achos o'r sgyffl: mae Llyfr y Datguddiad yna mor anodd i'w ddallt rywsut. Mi fum i, cyn heddyw, o dan law'r doctor ar ol darllen ambell un o'i adnoda mawr 0. Os oes gyno chi, y bobol yma sy'n arfer cysgu yn y capel, isio rhywbeth i'ch cadw chi'n effro, mae gen i ddwy neu dair o risêts ar ych cyfer chi. Treiwch Iwnc o'r mwg, llond llwy o'r brwmstan, pigiad gan y sgorpion, a brath- iad gan y ddraig, y mae Llyfr y Datguddiad yn son am danynhw, ac mi ffeia i chi nad oes yma'r un gwely yn y byd y medrwch chi gysgu arno fo wedyn.
Ond am y diafol a'i ffeit hefo Michael yr oeddwn i yn son-y Waterlŵ fawr gymrodd le yn y nefoedd cyn rhoi'r gogledd ar y gwagle. Colli'r fatl ddaru Satan, ac mi byndliwyd o a'i griw i lawr blith drafflith i'r pydew diwaelod. Jerc ofnadwy i greadur mawr a balch fel Liwsi- ffer oedd honyna. Ond 'doedd gyno fo ddim busnes i godi ei law yn erbyn yr Hollalluog. achos 'doedd gan y diafol ddim cysgod o siawns yn erbyn y fath bower. Mi faniwffactrodd y Duw mawr ddaeargryn, ac mi gafodd y General Michael ei fenthyg am hanner chwinciad, ac wedi cael contrôl iawn ar hwnnw, mi setlodd y diafol a'i gynffonwyr ar un slap.
"Wrth gwrs, mi 'roedd hi yn gryn dipyn o ddisgrâs i'r hen fachgen gael ei roi yn y pydew; a synnwn i ddim na chafodd o gryn lawer o gleisia o achos y codwm. 'Does dim dowt, welwch chi, nad oedd gyno fo batsh mawr ar ei lygad, ac nad oedd o'n gorfod cerddad wrth i fagla am oesa lawer ar ol y rownd gafodd o hefo Michael. Ond tendiwch chi, hogia anwyl, mae gen i ofn mod i'n gweld profion ers tipyn 'rwan fod o wedi mendio'n bur dda, bellach. Mae'r patsh oedd ar ei lygad o wedi ei dynnu ers tro, ac mae o'n medru gweld cystal, ac yn well, ran hynny na neb sydd yma. 'Does yma neb y mae o'n fwy ffond o sbio arnyn nhw na'r bobol ifanc. Pan y clywa fo fachgen yn deyd celwydd ac yn cymryd enw Duw yn ofer, ne pan y gwele o un yn torri'r Sabboth, yn dwyn, ac yn meddwi, mae o'n curo'i ddwylo wrth fodd i galon, ac fel pe bae o'n cael llonydd am ryw bum munud, o leia, gan y ffagla dychrynllyd sydd o'i gwmpas 0. Yn wir, wrth weld y llu mawr sydd yn y dyddia yma yn listio dan fflag ddu Angel y Pwll Diwaelod. mi fydda i'n meddwl fod o wedi dwad yn ei ol mor sionc ag y buo fo rioed. Mae o'n gneyd y tro heb ddim bagla 'rwan, ac mae gyno ni son am dano fo fod o'n tramwy hyd y ddaear ac yn ymrodio ar hyd-ddi. 'Dasa fo'n medru canu, ac yn gybyddus a'n llyfr hyms ni, mi faswn i yn dychmygu am dano fo yn dawnsio ar ludw uffern dan ddeud, "Da chi, bobol ifanc, tendiwch y diafol. Mae o'n bownd o dreio'ch ennill chi. Mae o ar y lwc owt bob munud. Y fo ydi'r creadur mwya prysur mewn bod. Dydi o ddim wedi cymryd yr un diwrnod o holides yrioed; achos mae o'n pechu o'r dechreuad. Gwrthwynebwch ddiafol ac fe ffy oddiwrthych. Ewch allan i'r rhyfel yn ei erbyn o. Mae gen i hanes uniform i chi, ac mae hi i'w chael am ddim. Dyma ddarna o honi,-gwregys gwirionedd, dwyfroneg cyfiawnder, ac esgidiau parotoad efengyl tangnefedd. Uwchlaw pob dim, ewch at Giaptan mawr ein hiechydwriaeth i nol yr arfau, a chyno fo mi gewch darian y ffydd, helm yr iechydwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd. Wedi i chi gael eich rigio i fyny fel yna, fydd Angel y Pwll Di- waelod yn ddim ond fel Robin y Gyrrwr yn eich erbyn.'
XXIV. DECHREU ODFA.
WRTH weled Tomos Williams yn mynd i seiat, neu gyfarfod i weddio, neu unrhyw foddion arall o ras, byddai rhai dynion, a rhai lled ddoeth yn ol eu cyfrif eu hunain, yn hoff iawn o geisio aflonyddu meddwl, ac o gynhesu tymer yr hen Gristion dyddorol. Nid yn anfynych y profai Tomos ei hun yn. fwy na choncwerwr ar y dosbarth hwnnw. Un noson, pan yr hwyliai i'r capel, ac heb fod ar y telerau goreu a'r "riwmatis,' oedd yn gwarchae ers misoedd ar ei goesau, daeth dyn na pherthynai i'r un enwad ag ef, i'w gyfarfod. Amlwg oedd ar olwg ymffrostgar a dedwydd y gŵr hwn ei fod yn arfer ag ysgwyd llaw yn bur fynych ag ef ei hun. Cyfarchwyd Tomos yn sydyn ganddo gyda'r cwestiwn,—
Tomos Williams, ydach chi'n credu mewn etholedigaeth?
"Ydw, debyg," oedd yr ateb.
"Wel," ychwanegai'r holwr, "sut y gwyddoch chi eich bod chi wedi'ch ethol?"
Sut y gwyddost ti nad ydw i ddim?" ebai Tomos yn eithaf cwta, gan adael ei boenydiwr dwylath ar ganol y stryd i gyfri'r ser a ffraeo'r lleuad.
Yr oedd mewn Cyfarfod Ysgol unwaith, a'r holwr oedd y diweddar Barch. John Jones, Pandy, Penmachno, yr hwn oedd wedi ei ddonio yn arbennig at gadw Cyfarfod Ysgol yn fywiog ac adeiliadol. Ar "gwymp dyn" yr holid. Toc dyma'r cwestiwn hwn yn dod," A oedd yr Ail Berson yn y Drindod wedi ei fwriadu i ymgnawdoli cyn i ddyn bechu?" Bu tawelwch mawr. Nid oedd neb yn cynnyg ateb. Efallai ei fod yn gwestiwn lled ddieithr mewn Cyfarfodydd Ysgol y pryd hwnnw.
"Dowch, Tomos Williams," meddai'r holwr, gan ail adrodd y gofyniad, "treiwch chwi ef."
"Mi 'rydw i yn credu fod o, John Jones," ebai Tomos, a dyma i chi 'Sgrythyr i brofi,—'Er tragwyddoldeb y'm heneiniwyd, er y dechreuad, cyn bod y ddaear." A ddaliai yr atebiad feirniadaeth fanol, sydd fater agored. Ond yr oedd ynddo bertrwydd nas gellid peidio ei edmygu. Boddhawyd John Jones yn fawr, ac fe'i derbyniodd fel atebiad terfynol i'r cwestiwn dyrus a ofynwyd ganddo. 'Does yna 'run esboniwr yn y wlad fedrai ateb yn well na hyn—yna," meddai. Safai Moses Jones, y crydd, yn ymyl Tomos, yr hwn, ar ol canmoliaeth yr holwr, a roddodd bwniad iddo, a chyda gwên onest o foddhad ar ei wyneb, dywedodd wrtho,—"Dyna i ti, Moses, be wyt ti'n feddwl, 'rwan?" Ond methai Moses Jones ddweyd dim gan fod rhyw ysfa chwerthin wedi dod drosto wrth weled Tomos yn edmygu cymaint arno ei hun. Ar ol y Cyfarfod Ysgol hwn ystyriai Tomos ei hun yn un o brif awdurdodau duwinyddol y dref a'r gymdogaeth, ac nid oedd neb yn gwarafun hynny iddo.
Yr oedd ar fore Sul ryw dro yn Abergele, neu, o leiaf, yn yr ardal honno. Aeth i'r capel. Y pregethwr oedd y diweddar Barch. John Roberts, Dinbych. Un o Lanrwst oedd ef, a dechreuodd bregethu tua'r un adeg a'r diweddar Barchn. David Davies, Henllan; a Hugh Jones, Llangollen, hwythau yn frodorion o'r un dref. Bu Mr. John Roberts yn golygu'r "Faner" gyda Mr. Gee am lawer o flynyddau. Er yn meddu ar gryn lawer o wybodaeth, pregethwr bychan, amhoblogaidd ydoedd. Byddai ei fater yn dda bob amser, ond yr oedd ei ddawn yn undonog a sych; ac wrth draddodi meddai ar ddull anffodus o sefyll ar ei led ochr yn y pulpud, a gwaeth na hynny, bron o'r eiliad y cymerai ei destyn fe gauai ei lygaid hyd ddiwedd y bregeth. Diau fod rhesymau dros hynny.
Nid oedd Tomos Williams ar y telerau goreu gyda Mr. John Roberts. Gŵr manwl iawn ei chwaeth a'i arferion ydoedd y diweddaf. Meddai ar ddeddf a rheol at bopeth, bydded fawr neu fychan. Nid oedd troion trwstan, digrifwch, nac hyd yn oed gwreiddiolder Tomos Williams yn derbyn yr un adsain o'i galon ef. Pan y gelwid Tomos i gymeryd rhan mewn cyfarfod crefyddol, mae'n ddiameu mai am y geiriau hynny y meddyliai Mr. John Roberts, "Gelwch am Samson i beri i ni chwerthin." Rhaid wrth y tipyn sylwadau yna er mwyn i'r anghynefin ddeall yr hyn sydd yn dilyn.
Wedi odfa y bore Sul y cyfeiriwyd ato, cyhoeddwyd Mr. John Roberts i bregethu yn y prydnawn yn y Ffynhonnau, capel yn y wlad yng nghyfeiriad Llannefydd, oddeutu pum milldir o Abergele, ac anturiodd y cyhoeddwr ychwanegu y byddai Tomos Williams, o Lanrwst, yno yn dechreu'r odfa. Erbyn dau o'r gloch, yr oedd capel y Ffynhonnau yn llawn i'w eithaf. Aeth y son y byddai Tomos Williams yno drwy yr holl ardaloedd yn ddioed. Methai y pregethwr a chredu fod y bobl mor ddichwaeth fel ag i redeg ar ol y "gwerthwr cerddi," ac eto adwaenai ei hun yn ddigon da i wybod mai nid ar ei ol ef yr oeddynt yn dod. Modd bynnag, gwahoddwyd Tomos i ddechreu. Ufuddhaodd yntau ar unwaith, ac mewn cywair uchel a gorfoleddus rhoddodd y pennill hwn allan,-
"Os ydwyf fel Mannasse,
Yn berffaith ddu fy lliw;
Mi ddof yn wyn ryw ddiwrnod
Drwy rinwedd gwaed fy Nuw.
Mae'r Iesu yn anfeidrol,
Fe gladda feiau f'oes;
Efe yw'r Hwn achubodd
Y lleidr ar y Groes."
Edyrchai y pregethwr a'r blaenoriaid yn lled syn a chwithig. Efallai eu bod yn ameu uniongrededd y pennill am nad oedd yn y Llyfr Emynnau. Gan nad beth am hynny, cafwyd cystal hwyl ar ei ganu a phe mai Awstin neu Calfin a fuasai wedi ei gyfansoddi. Darllennodd Tomos yn y chweched bennod o Efengyl Ioan—hanes porthi y pum mil. Gyda'r frawddeg,—"A thyrfa fawr a'i canlynodd ef," methodd anghofio y gŵr oedd yn y pulpud, a dywedodd,—
"Dwn i ddim a oedd Pedr-un go hafing oedd o, ac un wedi rhoi ei droed yni hi fwy nag unwaith—'dwn i ddim, meddaf, ai nid oedd Pedr yn meddwl mai ar ei ol o yr oedd y dyrfa fawr yma wedi dwad, fel y mae John yn meddwl mai ar ei ol o yr ydych chwi wedi dwad i'r Ffynhonna yma heddyw." Daeth awydd talu rhyw "hen chwech" hefyd i'r golwg yn ei weddi. Pan ar uchelfannau ei hwyl, llefai,—Fedar John "Anfon yr Ysbryd Glân yma. neud dim byd ohoni hi 'i hun, hyd yn oed pe dasa fo yn agor ei lygid. Anfon yr Ysbryd Glân Gad i ni gael dau bregethwr yn yma, wir. odfa'r pnawn yma. Os na ddaru Dafydd Ro- berts gyhoeddi dim ond un, mi fydda'n dda gan ein clonna ni weld Pregethwr mawr Sasiwn y Pentecost yn dwad i fewn ato ni. Mi fedar o ddwad heb fod isio trwblo neb am na cheffyl na charr i'w gario fo, a chawsa'r un o'r hen flaenoriaid yma ddim siawns i edliw pryd o fwyd iddo fo. O anfon yr Ysbryd Glân yma. Os na fydd yma neb ond John ei hun mi fydd yn sych ofnadwy arno ni er ein bod ni yn y Ffynhonna."
Cafodd Tomos dipyn o gerydd gan rai o brif weinidogion y Cyfarfod Misol am rai o'r brawddegau uchod, ac addefai yntau wrthynt ei fod "wedi myned dipyn dros y marc y tro yna," a rhoddodd y bai ar Beelzebub, y "Commander-in-Chief, down below," chwedl yntau.
XXV. YN Y SEIAT.
MEWN un seiat yn ei gartref yr oedd y gweithrediadau wedi myned yn lled farwaidd, pryd y gofynnodd un o'r blaenoriaid i Domos a fuasai efe yn dweyd gair; ac heb nemawr gymhelliad pellach, cododd ar ei draed, ac heb ymofyn help nac esgusawd gan y peswch hwnnw sydd ymron yn uniongred erbyn hyn, dechreuodd. Tipyn yn ddi-bwynt ydoedd am beth amser, ond yn araf deg daeth y geiriau hynny i'w gof,—"Mair a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni," ac ar unwaith dyma'r weledigaeth heibio iddo, a'i wyneb yntau yn ymddisgleirio wrth edrych arni.
"Mynnwch gael y rhan dda," meddai, "ac mi fyddwch yn saff wedyn. Mi fedar y tlota sy yma ei chael hi. Dydi hi ddim ar werth; 'ar osod y mae hi. Mae Iesu Grist wedi codi ei groes ar yr entrans i'r stât yma, ac wedi sgrifenu arni hi mewn llythrena digon bras i negros Affrica fedru gweld nhw,—To be let for nothing. Mae yn bosib mynd a thai, a thiroedd, ac anifeiliaid oddiarnom ni, ond fedar neb fynd a'r rhan dda oddiarno ni. Dyna i chi stât! Unwaith y dowch chi i feddiant o hon, dyna chi yn freeholders am dragwyddoldeb wedyn. Mi 'ryda ni'n agored i golli tad, a mam, a phlant, a phob math o berthnasa a ffrindia, ond ni cholla neb mo'r rhan dda. Mae'n rhaid i'r Hollalluog ei hun droi ei gôt, bobol, cyn y collwn ni hon! Mynnwch afael yn y rhan yma. Mi neiff bara am byth. Pan fydd dyn yn mynd i brynnu siwt o ddillad, os bydd o'n ddyn a rhywbeth yn ei ben, mae o'n sicr o brynnu'r un neiff bara hwya iddo fo. Yrwan, mae gen i hen Lyfr yn y ty acw sy'n adferteisio siwt neiff bara am dragwyddoldeb,— Gwisgwch amdanoch yr Arglwydd Iesu.' Dyna i chi siwt! Mi wna'r tro ymhob tywydd, a thydi hi byth yn mynd allan o'r ffasiwn. Fydd yna ddim rhych na blotyn arni hi ymhen can mil o flynyddoedd."
Oddiwrth hyn llithrodd ymlaen i son am un o'i bynciau mwyaf hoffus, sef y goncwest ar y Groes.' "Mi 'rydw i," meddai, "yn cofio yn amser battles mawr Napoleon a Wellington, fod yna gannoedd o hono ni, a Wellington hefo ni, yn gorffwys wedi blino'n arw, mewn rhyw ddyffryn bach, cul. Mi 'roedd Wellington wedi anfon un officer yn bell allan i edrach beth oedd yn dwad o sowldiwrs Napoleon. 'Roedda ni'n ddigalon iawn wrth ei weld o mor hir yn dwad yn ol. Ond toc dyna swn carnau ei geffyl, ac mewn un chwinciad dyna Wellington allan o'i dent, ac yn rhedeg i'w gwarfod dan waeddi nerth esgyrn ei ben,—What about the enemy?' (Beth am y gelyn?), a dyma'r llall yn lle fain yn ei ol hynny fedrai o, In full retreat!' (Ar lawn encil!). Chlywsoch chi rioed ffasiwn ganu a hwrê oedd yn ein plith ni wedyn. Dyna fel yr oedd hi tua'r nefodd, welwch chi, pan oedd batl fawr Calfaria fryn yn mynd ymlaen. Mi 'roedd Trugaredd wedi cael ei hanfon allan i edrach sut yr oedd petha yn mynd yng nghymdogaeth Jerusalem, ac wrth ei gweld hi yn hir yn dwad yn ei hol, yr oedd y Royal Family yn y nefoedd bron iawn a chredu fod y diafol yn ennill y dydd. Ond pan oedd Cyfiawnder—yr officer in charge—ar fin rhoi ordors i Gabriel i dynu'r blinds i lawr, dyna swn adenydd Trugaredd yn styrbio yr awyr, ac yn y fan dyma Gyfiawnder allan fel mellten; ac mi wela Drugaredd yn dwad hefo fflag wen yn ei law. Beth am y fatl?' gofynnai Cyfiawnder. Gorffennwyd meddai Trugaredd, nes yr oedd yr holl nefoedd yn siglo. A dyna hi'n ganu wedyn! Mi roedd hen fandiau ardderchog y Cystudd Mawr yn taro Iddo Ef, yr hwn a'n carodd,' a Teilwng yw'r Oen,' bob yn ail; a dyna i chi gonsyrt! Mi ddigwyddis i, unwaith ne ddwy, fedru mynd i gonsyrts mawr yn Naples, Vienna, a Paris, a rhywbryd tua'r canol mi fydda yna rywbeth oedda nhw'n alw yn interval—enw crand ar gyfleustra i'r cantwrs gael gwynt ac i'r llymeitiwrs gael diod. Ond be ddyliech chi o orchestra y Cystudd Mawr? Mae honno'n cael ei gneyd i fyny o bob cenedl, a llwythau, a phobloedd, ac ieithoedd, wedi eu gwisgo mewn gynau gwynion, a phalmwydd yn eu dwylo. Yn y consyrt crand yna dydi'r pyrfformars ddim wedi aros yr un eiliad i gymryd i gwynt ers tua dwy fil o flynyddoedd! Dydw i ddim yn deyd hynyna ar y fentar, cofiwch, ond mae gen i Sgrythyr wrth y'nghefn i brofi mhwnc, a dyma fo,—Maent gerbron gorsedd fainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml.'"XXVI. GALWAD ADREF.
ERBYN y flwyddyn 1855 yr oedd Tomos Williams wedi llesghau cryn lawer. Cynhyddai ei flinder-"y riwmatis"—yn raddol. Rhaid fu iddo, bob yn dipyn, aros yn y ty. Yr oedd hynny, iddo ef, oedd wedi arfer crwydro cymaint dros ei holl fywyd ar dir ac ar fôr, yn brofiad newydd iawn. Bu am beth amser yn lled ddigalon, ond wedi iddo, ebai ef, dderbyn sicrwydd fod ei Dad, drwy bob pang yn ei gymalau, yn ei alw adref yn araf deg, ciliodd ei dristwch calon ymaith yn weddol fuan. Ac er nad oedd arno frys mawr am adael y ddaear, deuai iasau o hiraeth drosto, yn awr ac yn y man, am gael mynd i'r nefoedd. Arferai ddweyd mai "peth mawr ar derfyn batl ar faes y gwaed oedd bod yn un o favourites General. Byddai siawns am anrhydedd felly." Yr un fath, ebai ef, "gyda'r fatl ysbrydol—y fatl, nid yn erbyn cig a gwaed "—os oedd ef yn un o favourites Tywysog y Bywyd, byddai yn sicr o gael honours-cael clywed y Capten mawr yn dweyd, "Da was, da a ffyddlon, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Derbyniai lawer o garedigrwydd oddiwrth hwn a'r llall, fel na bu arno eisieu dim, a siriolid ef yn fawr gan ymweliadau cyfeillion hen ac ieuainc beunydd âg ef. Gan nad oedd ei afiechyd wedi ei wneyd yn anymwybodol o gwbl, ymddiddanai yn llawn o ryw fath o afiaeth nefol a hwy.
Waeth heb aros yn hir gydag ef yn rhosydd Moab. Ceisiaf roi ychydig ddesgrifiad ohono y noson olaf y bu fyw. Dywedai yn fynych mai am farw fel sowldiwr, ac nid fel gwerthwr almanaciau a cherddi, yr oedd, a chafodd wneyd hynny, fel y ceisir dangos.
Dros ei nos olaf daeth John Jones, un o'i gyfeillion goreu, i aros gydag ef ac i weini arno. Yr oedd Tomos yn nodedig o siriol, a thuedd at fod yn dra pharablus ynddo. Bu ymddiddan tebyg i hyn rhwng y ddau.
J. J.-Sut yr ydach chi'n teimlo heno, Tomos Williams?
T. W.--O, yn grand, fachgan. Mae fy hegla i, wyddost, dipyn yn stiff; ond mae nhw'n shiapio'n ara deg. Mi fydd y bobol yma, sy fel fi'n cael eu trwblo gan y riwmatis, yn mynd i ffwr yn bell i ryw ffynhonna, ac yn cael rhwbio'u haeloda hefo'r dŵr, a thrwy hynny yn amal iawn yn mendio ac yn sionci'n riol wedyn. Ond tydw i ddim am fynd i'r un ffynnon na llyn. Mae'r Brenin mawr ei hun am gymhwyso dŵr yr Iorddonen honno y canodd Ifan Ifans[2] mor ardderchog am dani hi, at y' nghorpws i. Yn wir, mae O wedi dechreu ar y busnes ers mityn. Mae O 'n rhwbio, a finna'n canu-
"O golch fi beunydd, golch fi'n lân,
Golch fi yn gyfan, Arglwydd ;
Fy nwylaw, calon, pen, a'm traed,
Golch fi a'th waed yn ebrwydd."
Mi fydd wedi gorffen y job yn union deg, bellach, a be fydd hanes yr hen Gapelulo wedyn? Mi fydd wedi adnewyddu ei nerth; fe heda fel eryr; rheda, ac ni flina; rhodia, ac ni ddiffygia. Mi fydda i, 'mhen tipyn bach, yn ddigon sionc i redeg râs efo'r angel hwnnw, prun bynnag ydi o, 'nillodd y preis ar gae mawr tragwyddoldeb ei hun. Yn lle bydd dy rimatis di wedyn ?
"A phob gwahanglwyf ymaith;
Glân fuddugoliaeth mwy;
'Rwyn canu wrth gofio'r bore
Na welir arna'i glwy'."
'Tasa nhw'n arfer betio yn y nefoedd, mi roisa unrhyw archangel thousand to one i facio traed Capelulo yn erbyn y rhedwr gora sydd 'no."
J. J.-Ydi hi ddim yn dywyll arnoch chi, Tomos Williams?
T. W.-Paid a lolian. Choelia i fawr. Yn 'dydi Haul y Cyfiawnder yn twnnu drwy'r ffenast blwm yna bob munud. Mi glywist son am oleuni yn yr hwyr. Dyna fo, wyt ti'n gweld. Fachludodd hwn yrioed. Y command gafodd o er y dechreuad, cyn bod y byd, oedd, "O. Haul, aros!" Fedar yr Hollalluog ei hun ddim dyfeisio yr un stingwishiar i roi hwn allan. A dyma fi, hen sowldiwr—milwr da i Iesu Grist, gybeithio yn martsio i ogoniant dan i belydra fo.
J. J.-Yda chi'n teimlo'n unig. Tomos?
T. W.--Wel, mi 'rwyt ti'n gofyn cwestiyna rhyfedd. Yn 'tydi'r ty yma'n llawn o'r Royal Family ers dyrnodia. Mi ddaru'r Brenin gommandio Gabriel dro'n ol. Deudodd wrtho fo ei bod hi'n tynnu at yr amser i'r hen Gapelulo ddwad adre o'r rhyfel; y buo fo'n ffyddlon hyd angeu; a'i fod o wedi ennill digon o fedals, fod yn rhaid iddo fo gael promotion. "Rwan, Gabriel," medda fo, tipyn chwaneg o shein ar y goron yna; a dos i wardrôb nymbar 1, a dwg allan y wisg ora—y royal mantle grandia sydd 'no: mae'r hen warrior o Lanrwst yn mynd i gael ei osod gyda thywysogion ac i deyrnasu yn oes—oesoedd." Fyth o'r fan i, oedd Gabriel yn peidio bod dipyn yn jelws, dwad?
"'Rwan," medda fo, wedyn, wrth yr Archangel, "well i ti gael dy rijment yn barod dan marching ordersi fynd i lawr ato fo. Cymrwch chi ofol o'r sant fel na fydd i'w droed daro hyd yn oed wrth garreg."
Ac mewn chwinc, wel di, John, mi ganodd Gabriel ei gorn, a dyna Fusiliers Paradwys am y cynta yn bowio ac yn presentio arms ger ei fron o Mi ddarllennodd ynta y Royal Commissiwn iddynhw, fod Tomos Williams—un o saint y Duw Goruchaf—wedi dwad i'w oed, ac fod rhaid mynd i lawr i gefn yn Stryd Ddinbach, Llanrwst, i'w 'nol o, dan ganu a llawenychu, i gymryd meddiant o'i stât ddihalogedig a diddiflanedig, oedd wedi ei phrynnu iddo ar Galfaria hefo gwaed ei Frawd hynaf— Tywysog y Bywyd. A dyna nhw yma, fachgen. Napoleon yn son am ei grand army, wir! Pw, 'doedd honno yn ddim ond fel haflig ddirôl o Red Indians yn ymyl hon. A chyfadde'r gwir, mi rôn i yn i disgwil nhw'n ddistaw ers dyddia. Ond ddaru mi ddim breuddwydio y basa cymin yn dwad. Peth naturiol oedd i mi ddechra ofni nad oedd gen i ddim accommodation ar gyfer ffashiwn lot. Waeth i ti ar y ddaear p'run; yma doeso nhw, heb agor drws na ffenast na dim byd. Dwn i ddim faint oedd 'na. Gwmpas mil, wyrach; ond mi ddarun ffeindio lle i gyd. Fuo nhw ddim eiliad nad oedd pob rheno yn ei lle. "Strike up," ebai Gabriel. A dyna hi'n ganu! "Teilwng yw'r Oen," wrth gwrs, oedd y pisin. Mae nhw'n hen stejiars hefo'r gân honno. A gwasanaethu mewn, cân y mae'r oll o ngwmpas i fan yma ddydd a nos. Ran hynny, pan fydda i'n teimlo bron ffeintio, weithia, mi ddaw ambell angel ffeind o'r trŵp i ffanio nhalcen poeth i hefo'i aden. nes y bydda i'n clywad "Awel o Galfaria fryn" yn ei dymheru. Ar adeg felly, mi fydda inna yn i joinio nhw yn y gân.
'Roeddwn i'n cael sgwrs hefo clamp o seraff nobl bore ddoe, ac mi ddeudodd fod gen i lais da. Wyrach, meddwn inna, ond mae o wedi erygu llawer iawn drwy gael anwyd yn rhew ac eira byd pechod am gwmpas hanner can mlynedd; ond mi ddechreuodd glirio o'r diwrnod cynta y trois i ngwyneb at Eglwys Dduw— Gwlad yr Ha. "O," ebai'r seraff, "bydd i ogla per y ffrwytha sy'n tyfu ar Bren y Bywyd wneyd y llais yn berffaith glir am dragwyddoldeb."
J. J.—'Does arno chi ddim ofn marw, Tomos?
T. W. Wel, nac oes ddim ofn marw, John, ond mi fydd arna i, ambell waith, ofn mynd i'r nefoedd. Mi fyddwn i, droion, pan i ffwr ar y Continent, yn amser y rhyfel mawr. yn cael f'anfon ar neges i'r plasa y bydda'r Dukes a'r Lords oedd yn perthyn i'r armi yn aros ynddyn nhw. Ac mi fydda gen i ofn na wyddwn i ddim sut i ymddwyn yn iawn hefo pobol mor steilish, ac mewn llefydd mor grand. Ond mi ddown drwyddi hi'n eitha ddigon amal. Cawn rhyw fwtlar, weithia, yn ddigon ffeind i roi gair o gyngor neu wers i mi ar sut i byhafio. Felly, oni bai am yr angylion yma, sydd yn fechgyn hardd yn y Royal Service ers deng miliwn o oesoedd, mi fasa gen i yn sicir gryn ofn mynd i'r nefoedd. Ond mae nhw wedi deud lot o hanes y lle wrtha i, ac wedi dysgu manners y byd tragwyddol i mi dro ar ol tro; fel yr ydw i'n meddwl y mentra i yno wedi cael bodyguard mor saff i edrach ar f'ol i. Mae'r hen fyd hwn, yr yda ni wedi byw mor hir ynddo fo, yn fendigedig o glws, wyddost. Dydi hynny ryfedd yn y byd. Darn o ffyrnitshiar heb i orffen yn siop weithio'r Saer o Nazareth ydi o. "Y ddaear yw lleithig ei draed Ef." Ac os ydi ei stôl droed 0 mor grand, beth am ei Orsedd O, tybed? Yr Orsedd wen, fawr! Darllen di lyfr y Datguddiad, ac mi gei weld Ioan yn deyd am y trimmins ardderchog sy arni hi.
J. J.—Wel, mae'n dda iawn gen i, Tomos, eich gweld chi mor gysurus.
T. W.—Fum i 'rioed yn fwy dedwydd John. Lle ffeind ryfeddol sydd ar y walks yma gerllaw y dyfroedd tawel. 'Does dim byd mwy hapus mewn bod na chael mynd am walk hefo angylion. Wir, mae yma gymin ohonyn nhw fel nad wn i ar y ddaear sut i stwffio drwy canol nhw er mwyn landio'r ochor draw. Mae nhw'n canu, canu, o hyd, o hyd, hefo geiria a thelyna. Dydw i'n clywed dim o swn yr afon gan swn miwsig yr angylion.
Wir, John, dyma fi yn marw. Dyna'r night bugle yn galw pawb i'w dent. Rhaid i mi obey orders Nos dawch, 'rhen ffrind.
J. J. Wel, pleasant journey, Tomos Williams.
T. W. Ie, 'does dim dowt. Pleasant journey ydi hi am dragwyddoldeb i Capelulo rwan. Ust! Dyna'r Roll Call. Coming!—Here!—
"Dyma'r man dymunwn aros,
O fewn pabell bur fy Nuw,
Uwch terfysgoedd yspryd euog,
A themtasiwn o bob rhyw,
Dan awelon
Peraidd, hyfryd dir fy ngwlad."
CAERNARFON:
CWMNI'R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF).
SWYDDFA "CYMRU
Nodiadau
[golygu]- ↑ Charles Mellish, Llanfairtalhaiarn, hen bregethwr di-ddawn, ond nodedig o dduwiol, gyda'r Methodistiaid.
- ↑ Ieuan Glan Geirionnydd. Bu'r ddau farw o fewn ychydig wythnosau i'w gilydd.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.