Rhobat Wyn (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Rhobat Wyn (testun cyfansawdd)

gan Awena Rhun

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Rhobat Wyn

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader


RHOBAT WYN

GYDA

BRITHGLWM

gan

AWENA RHUN



GWASG GOMER

LLANDYSUL

1943


Adref mae'r Fordaith Olaf
I wynion borthladdoedd yr hedd;
Mae golau'r glannau dros frig y don
Yn flodau yn niwl y bedd.
—T. E. NICHOLAS.


RHAGAIR

CYHOEDDIR y llyfr hwn er cof am fy mrawd ieuengaf a aeth allan i'r môr mewn llong hwyliau cyn cyrraedd ohono ei bymtheg oed.

Fel cannoedd eraill o fechgyn Cymru, dringodd o ris i ris; bu'n gapten am yr un cwmni am lawer blwyddyn ar rai o longau'r Cunard.

Yn 1927 cafodd ei benodi gan yn brif oruchwyliwr y porthladd yn Lerpwl. Daliodd y swydd hon hyd ei farw ym Mai 1942. Teimlaf mai teilwng ydyw imi roddi ar gof a chadw y geiriau a sgrifennwyd gan gydweithwyr ar dorch o flodau : "A small Tribute to a great Chief."

Hefyd, bum yn awyddus ers tro i gael y gerdd dafodiaith: "Rhobat Wyn" mewn llyfryn hylaw, am fod amryw o'r adroddwyr, o dro i dro wedi gyrru atafi holi am gopi ohoni. Daeth y gerdd hon allan yn gydradd orau yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 1926, dan feirniadaeth Wil Ifan ac R. Williams-Parry. Tua 1930, cefais ganiatâd Cymdeithas yr Eisteddfod i'w chyhoeddi. Oedais hyd yn hyn. Y mae bron y cwbl o gynnwys y llyfr wedi ymddangos o'r blaen mewn rhyw bapur neu'i gilydd. Modd bynnag, drwy hel yr ychydig hyn at ei gilydd, gobeithiaf y gwnaf ryw fymryn o wasanaeth i werin eisteddfodau a chyngherddau cefn gwlad; ac iddynt hwy yn syml y cyflwynaf y llyfr.

A.R.

Cynnwys


RHOBAT WYN

WEL do, wel di, mi ddois o'r diwadd;
A welis i rotsiwn beth yrioed,—
Mi rydw i'n teimlo f'hun yn rhyfadd
A simsan ofnatsan ar y nhroed;
Ma'n chwith gin i feddwl am dana' f 'hun
Yn dringo'r hen lwybyr ma mor ddi—lun.

Ydi'n y wir, ma'n chwithig meddwl,
Ond dyna, wath heb a chadw sŵn,
Ac wrth gysidro wedi'r cwbwl,—
Yn tydw i'n hen ac felly fy nghŵn;
Ma'n rhaid imi ista am funud, Twm,
Ma'r gorifyny ma dipyn yn drwm.

Ydi'n y wir, a—chadal chditha,—
Cheith runoni fod yn sionc o hyd;
Rhyw drefn go ddyrys sy i yrfa
Ychdi a funna a phawb trw'r byd;
Estalwm, mi fydda'r blynydda'n hir;
Ma nhw'n mynd fel gwynt heddiw trw'r tir.

Ydw, mi rydw i wedi cal byw,
A hynny'n go hir mi dybia i;
A dylwn ddiolch llawar i Dduw
Am oes o iechyd cystal, wel-di;
Am help i ddiodda pob croes a phob craith;
Go dda fu hi arnai ar hyd y daith.


Ac er na fûm i rioed dros y dŵr
Yn gweld y byd ma run fath â chdi,
Ffeiriwn i mo mywyd hefo run gŵr
Pedasa'r cyfla'n dwad i mi;
Na, thrown i mo nghefn ar hen lwybra'r allt,
Lle cawn i le gwell? rydw i'n methu dallt.

Os ca i'r byd nesa'n debig i hwn,
Chŵyna i ddim ar fy lle;
Mi wn mod i wedi cal treulio f'oes
Yn y fan gosa i'r ne

O do, neno'r tad, mi ês i un tro
I Loegar yn llanc i gyd,
Ond nid on i'n licio'r bobol na'r gwaith;
Rodd Rhobat allan o'i fyd.

Rhyw ddeunaw ne lai oedd f'oed i'r pryd hyn;
Ond fachgan, wath iti prun,—
Mi griais fel babi lawar i dro
Pan ôn i ar ben fy hun.

Hirath? wel ia na fu rotsiwn beth;
Chwertha faint fynno ti, Twm;—
Rodd y crio weldi, yn fendith fawr
I galon odd fel y plwm.

A chyn pen y mis daeth Rhobat yn ôl,—
Yn ôl at i fam a'i dad;—
Yn ôl at y defaid a chwmni iach
Gnethod a bechgyn y wlad.


Yn ôl i'r mynydd ynghwmni'r hen gi,—
Pe gwela ti fel rodd o
Yn campio'n i afiath o nghwmpas i;
Mi roeddo fel peth o'i go.

Ac yn wir i ti, ron inna run fath,
Cyn bellad o ngho â'r ci;—
Ron i'n meddwl fod eithin, grug a brwyn
Yn groeso i gyd i mi.

Ac am wn i fod y defaid yn dallt
Mod i wedi bod i ffwrdd;
Ond croeso go sych ges i gynnu nhw,
Nenwedig ryw un hen hwrdd.

Mi sefodd o, fachgan, o mlaen i'n stond,
A drychodd arnai'n syn;
Run fath a dasa fo'n gofyn i mi,—
Be gyrrodd di'n ôl, Rhobat Wyn?

Ond wath iti prun, ron i wrth y modd,
Yn i gweld nhw'n hardd i gyd;
A phenderfynis nad odd na le gwell
I'w gal yn unlla'n y byd.

Odd gin i gariad? Wel ôdd debig iawn,
Mi faswn yn od heb run!
Heb honno mae gwagder ym mywyd llanc,
Mi wyddost hynny dy hun!


Wel wir, ma dipin o chwerthin fel hyn
Yn iechyd i galon dyn;
Wath ni heb a thynu rhyw wynab hir,
Os yda ni'n mynd yn hŷn.

Mi rydwi am fyw dipyn eto, Twm,
Er mod i'n unig heb Ann;
Ma hi wedi mynd es blwyddyn yn ôl
I orfadd ym mhridd y Llan.

Ma Wiliam y mab yn dwad ar dro
I edrach am dana i;
Ma Alis, y ferch, yn byw yn o bell,
A llond y tŷ gyni hi.

Ond yn y wir, ma'r hen ddeuar ma'n braf;
Mwy annwyl mae'n mynd o hyd;—
A biti garw fod amsar, ynte,
Yn gyrru pobol o'r byd.

Ond pan fydd y ngyrfa inna ar ben,
Mi wela'r hen ddeuar, Twm,
Yn fy lapio'n i chesal lydan, glyd
I gysgu a chysgu'n drwm.

Ma'r awal yn oeri rŵan, wel-di,
Rhaid mynd i'r tŷ at y tân;
Handi a Phero! mi awn ni'n tri bach
Am swpar, mygyn, a chân.

Ond drycha mewn difri, Twm, ar y lli;
Welist ti o'n gochach? ni welis i.

Y GÂN A GOLLWYD

WRTH fynd heibio'r dydd o'r blaen, sefais i sylwi ar nifer o wartheg yn pori'n braf mewn cae oedd am y clawdd â'r ffordd. Yr oedd yn ddiwrnod tawel o Ragfyr; ond fe daerech bron mai'r Hydref a'i swyn di-ail a lanwai'r tir drwyddo draw, a bod rhan o'r haf hefyd yn dal i loetran, fel petai'n methu â chefnu arnom.

Drwy'r tawelwch torrai swish-swish y pori ar fy nghlyw; a dyna hyfryd yw'r sŵn hwn ond inni ddechrau gwrando arno.

Hoffwn liw'r adlodd, a chredwn fod blas da arno i'r anifeiliaid. Yn sydyn, dyna lais merch yn torri allan i ganu o lofft un o'r tai cyfagos. Yr oedd y ffenestri yn agored, a hawdd oedd clywed y geiriau—hen eiriau hysbys o'r dyddiau gynt :

"Wedi teithio mynyddoedd, llechweddi a chymoedd, a llawer o diroedd blinderus, 'does unlle mor swynol, na man mor ddymunol â chartref bach siriol cysurus. Pan fo'r gwyntoedd yn chwythu, a'r storm yn taranu ei chorn i groesawu y gaeaf, mae nefoedd fy mynwes yn yr hen gornel gynnes, yng nghwmni fy nheulu anwylaf."

Deellais yn union bod y gwartheg yn gwrando ar y llais. Gwyddwn nad oedd â wnelo'r ferch honno ddim â'r fferm; a diau na wyddai hi ddim ychwaith, fod y cae gerllaw, deulu go ddeallus yn gwrando arni'n canu. Dalient i bori bob yn ail a pheidio,—yn union fel yr oedd tinc y llais yn eu swyno.

Dylwn ddweud nad yr alaw a geir ar y geiriau yn Ceinion y Gan a ganai, eithr alaw arall mwy diweddar, un â'r nodau uchaf yn soniarus odiaeth. Nid wyf yn cofio pwy yw awdur yr alaw dan sylw; ond fe wyddom bawb ohonom, ond odid, mai Mynyddog biau'r geiriau.

Dyna'r gytgan yn ymarllwys eto'n hyfryd dros y tir: "O, fel mae'n dda gen i 'nghartref, hen le bendigedig yw cartref; chwiliwch y byd drwyddo i gyd, 'does unman yn debig i gartref. . .

Sylwais bod un fuwch frith arbennig, yn fwy anesmwyth na'r lleill, ac yn sŵn y gytgan a'r nodau ffenestr uchaf, safodd, a throes ei phen i gyfeiriad y gan wrando'n astud.

Tawodd y llais, aeth hithau ymlaen â'r pori . . . "A phrin mae'r piseri heb siarad. . ." a delorai'r llais drachefn. Tebyg bod y ferch yn brysur gyda rhyw orchwyl neu'i gilydd, a'r gân hon a ddigwyddai ymdonni yn ei chalon ar y pryd, gan ail dorri allan bob yn ail a pheidio, drwy'r ffenestr yn rhyw genlli o fiwsig pur.

Cododd y fuwch frith ei phen drachefn, ac edrychodd y tro hwn i gyfeiriad y gorwel draw. Edrychais innau i'r un cyfeiriad â hi. Gresyn na chawswn wybod beth a redai drwy'i meddwl hi ar y pryd !

Tybed a ymlifai ryw ymsyniad melys drwy ei gwaed—rhywbeth a ddaeth iddi o'r gorffennol pell? Pwy a ŵyr na feddyliai hi ar y munud ei bod yn gweld morwyn lanwedd, piseri gloywon, stôl fach a dôl feillionog?

Peth naturiol a chyffredinol ym myd merched ffermydd yn yr hen amser fyddai canu wrth odro Mwynig, Seren, Brithen a Bronwen ac yn y blaen. Tybed a yw'r arferiad prydferth wedi llwyr ddarfod o'r tir?

Y mae lle i ofni nad oes neb heddiw a fedd galon ddigon hapus i fedru canu wrth odro ! A rhaid nad yw'r oes hon yn coelio bod mwy o laeth i'w gael gan fuwch wrth ganu iddi.

Fodd bynnag, peth amheuthun iawn ar ddydd o Ragfyr ydoedd clywed merch yn canu gydag arddeliad wrth ymdrin â gwaith ei thŷ. . . .

Ail-gychwynais yn araf i'm siwrnai, a sŵn y gân 'yn dal i'm dilyn: "Chwiliwch y byd drwyddo i gyd . . ." ac o gyfeiriad y gwrych aur-felyn ym mhen draw'r cae, diaspedai y "Mw" llawnaf a glywais erioed.

BRONFRAITH

Y LLYNEDD gwelais di ar frig y pren
Yn arllwys cân o'th fron uwch dylni'r awr;
Ni fynnwn iti dewi er bod llen
Ffarwel ar gyfaill,—newydd fynd i lawr.—
Y llen i guddio stori'r graith fach las
A welais ar ei rudd o'r talcen glo,
Ac ofer mwy oedd disgwyl moddion gras
Ar balmant stryd o'i hiwmor tawel o.
Fe gefnodd ar y llech a'r dillad gwaith,
A chludodd yn ei gorff swm drud o'u llwch
I orwedd draw o'r glo a'r chwarel laith,
A phridd ei gul ystâd sy drosto'n drwch.
Rhwydd hynt i'th fiwsig pêr, aderyn rhydd!
Er mwyn y gweithwyr sy ar drot bob dydd.


NOS DA

A'ı berffaith wedd o borffor,—oeda'r dydd
Ei dro dwys uwch goror;
A'i egwyl iddo'n agor
O liw'r maen i wely'r môr.


AR DDYDD O AWST

DOE, 'roedd iti lwyth o flodau gwyn,
A minnau'n meddwi'n lân o'u drachtiau;
Pêr oedd oedi tan y cangau hyn,
A hud y nant yn creu dyrïau.

Gynneu, oedais eilwaith wrth dy fôn,
A'th flodau gylch fy nhraed yn disgyn;
Am fwyneiddiach cawod ni cheir son,
Ni phlygwyd tani'r un glaswelltyn.

Heddiw, mae it' sypiau cochion llawn
A gudd holl chwerwedd oes mewn tlysni;
Gwledd i lygaid yw dy lwyth o rawn,—
Di, goeden dal yr allt a'r drysi.


GWAS Y NEIDR

UN dydd daeth ar ei hedfan heibio i'r tŷ
A gwelodd y rhosynnau uwch y drws;
Gafaelodd am un clwstwr pêr, yn hy,
Ond pwy a feiddiai rwystro'r pryf mawr, tlws?
Ac er im ddychryn beth o'i weled o,
O syllu arno swynwyd fi yn fwy;
Un dim mwy hardd ni allwn ddwyn i go'
Na'r pedair adain aur—yn ddwy a dwy—
Y gwineu-ddu a gwyn am gorff hir, main,
A'r ffluwch o ryfeddodau ar ei gefn.
Cyn imi fentro lladd y gelyn cain,
Edrychais arno'n sugno mêl, drachefn;
A chafodd lonydd yn ei hapus awr
Am fod y rhos ac yntau'n ffrindiau mawr.


CÂN

Mi wn ei bod yn crwydro ddydd a nos
Yn noeth—a hoff yw hi o flodau'r drain;
Ar dro caf gip ar liw ei gwedd mewn rhos,
Ac ar ei chysgod draw ar ambell lain.
Mi glywais dinc o'i thannau ysgafn hi
Yn siant y nennig loyw ar yr allt,
A theimlais rym ei hangerdd yn y lli
Pan ruthrai'r glaw a'r gwyntoedd drwy fy ngwallt;
Caf beth o iaith ei llygad rhwng yr hesg
Yn 'sgil y "Nad-fi'n-angof" teg ei wawr,
Ac er na ddaw yn ôl i'm calon lesg
Yr hyn a roes un tro ddyhead mawr,
Ni flinaf ddim ar boen y chwilio hir
Tra bo rhyw gysgod glwys ar lwybrau'r tir.


PRYDFERTHWCH

DARN o dir dan awel finiog Mawrth,
A rhes o bîn islaw yn siglo;
Haul yn gwenu ar y ddaear hen,
Agwanwyn ifanc yn ystwyro.

Llanc mewn siaced las yn gyrru'r wedd,
A chwysi union yn ei ddilyn;
Cawod hygar o wylanod teg
Ar gwysi coch y cae yn disgyn.


DEFAID

O'u gwylio'n pori'n y cae mawr gerllaw,
Ymglymai fy serch amdanynt bob un,
Yr oeddynt mor fodlon a theg eu llun,
Heb gi i'w hannos—na helynt na braw;
Rhyw nefoedd fach wen oedd y cae i'r rhain,
A llament i gwrdd â'r bugail a'i grwc,
Gan adael y blewyn glas pêr, i'w lwc,—
Ac ni warafunid i ieir na brain
Pan lenwid y cafnau â cheirch yn llawn;
Ymdyrrent yn glos i'r wledd mewn boddhad;
Nid hwy ond y fi a welai law brad
Yn rhywle o'r golwg yn brysur iawn
Yn hogi, yn hogi'r min ar ei lafn,
A'i lygad ar dangnefeddwyr y cafn.



CRIAFOL

AWST â'i wenau yn estyn—o'i gariad
Ei gyrains coch dillyn;
Rhyw doreth i'r aderyn,
Delw o'r haf rhwng dail yr ynn.


TYMER DDRWG

YSGYTIAI'R gwynt yr hen flwyddyn,
A hithau ar ben ei thaith,
Heb dannau tyn yn ei thelyn,
Heb gerpyn i guddio craith;
Ysgytiai'r gwynt yr hen flwyddyn—
A gwthiodd hi dros yr erchwyn
I gôl y gorffennol maith.

Ysgytiodd y flwyddyn newydd—
Yr oedd y rhod yn ddidrefn
Gan lygaid-dydd ar y gweunydd,
A baich o niwl ar eu cefn;
Ysgytiodd y flwyddyn newydd—
A rhuodd drwy frigau'r coedydd,
A sgytiodd y rhain drachefn.


Y BOTEL LAS[1]

HAF a'i sŵn sy'n dy rwnian—wybedyn,
Bydiwr o'r dom aflan;
Dwyn dy geg haint dan dy gân,
Was hyll,—o'r tŷ dos allan!


Y GORFOLEDD

RHYW un wreichionen fach o gochni'r mellt
A gludwyd tua'r allt gan chwythad chwiw;
Derbyniwyd hi i fynwes grin y gwellt,
A'r sypyn llwyd o'i chael a droes ei liw;
O gylch y mymryn gwres y mynnai'r chwyth
Ymdroi a throi hyd nes ei gynnau'n dân,
Ac ni bu'r tân yn hir cyn difa'r nyth
A thorri'n rhydd drwy'r gwylltir ar wahân.
Cryfhaodd ac ymledodd yn ei rwysg,
A'r grimpiog allt yn crecian dan y drefn,—
I'w chopa llamodd y gorchfygwr brwysg,
A nwyf awelon hyntoedd wrth ei gefn;
A gwelais yno wrid ei goncwest dlos
Yng nghoelcerth fflamau'r grug ar len y nos.


MAWRTH 1943

DAETH i'w renc yn fwyn o'i encil—'leni
Ac o'i lonydd jiwbil,
Cennad ar ford, os cynnil
Y ffawd o un daffodil.


RHEW

TEG oedd fy mro dan ei byclau
O wydrau disglair yr iâ;
Ei choedydd noeth yn ymhoywi
Fel petaent dan flodau'r ha'.

Hardd ar y drain fu'r ymdrwsio,
Pob pigyn mewn arian blisg;
A llwyni gardd fel rhyw ddelwau
Digyffro dan loywder gwisg.

Go oer oedd miwsig y crinsian.
Ar hyd y ffordd o dan draed,
Ac ni cheid o dincial coeden
Un nodyn i dwymo gwaed.

Safai fy mro yn ei thegwch,
Fel duwies o fyd yr iâ;
Ac er i'w gwychder fy synnu,
Hiraethwn am wisg yr ha'.


COELIO BLODYN[2]

RHYW eneth brudd ac unig
Sydd yma, flodeuyn bach;
Claf yw fy mron anniddig,
Ac ni fedraf fod yn
Mae'n wir i Dai ei hunan
Un hwyrnos ar lan y lli iach;
Wneud llw yng ngŵydd y lloergan,
Ei fod yn fy ngharu i.

A ydyw Dai yn fy ngharu?
Dywed y gwir i mi—
A ydyw Dai yn fy ngharu?
Ydi—nagydi—ydi— nagydi—
Ydi— nagydi—ydi—nagydi.

O gwae i mi o'th holi
A'th ddryllio fel hyn, fel hyn
I ddim—ddim ond i brofi
Peth chwerw, flodeuyn gwyn
Rhaid imi'n awr dy guddio
Yn dyner o dan y pridd, R
hyw ddiwrnod cei godi eto
I wenu'n dlws ar y ffridd.

Nid ydyw Dai yn fy ngharu!
Dywed y gwir i mi—
A ydyw Dai yn fy ngharu?
Ydi—nagydi—ydi—nagydi—
Ydi—nagydi—ydi—nagydi.


EI HEN GYNEFIN

PETAI o'n ffoi ar ddydd o haf,
Ac aros oriau hir
I grwydro'r llwybrau culion, braf
A geir ymhleth drwy'r tir.

Petai o'n troi at furiau'r bwth
Na ŵyr y byd mo'i oed—
Sy'n llechu dan y mwsog glwth
Gerllaw y bryn a'r coed.

Petai o'n mynd i godi dŵr
O'r ffynnon yn y ddôl,
I ddwfn ei drych dôi llun hen ŵr
A'i gyrrai'n brudd yn ôl.


Y LLWYBR GYNT

AR ei hyd i'r oed yr af,—a daw si
Doe a'i sawr pêr ataf;
Ei gyrrau gwyrdd a garaf,
A'i ros o hil drysi haf.


DIDDIGRWYDD

RHWYFO araf, araf rydd,
A'r môr las a thawel,
Pan fo gwres a gwrid y dydd
Yn cilio dros y gorwel.

Olion tywydd ar y bad,
A chreithiau'n dryfrith drosto,
Murmur tonnau yn fwynhad,
A serch yn sain y rhwyfo.

Rhwyfo araf—di-ystŵr,
A'r awel leddf yn felys;
Lleuad lawndeg uwch y dŵr,
A'i gwên yn dangnefeddus.


CLYCHAU PIWS A GWYN

Os mynni weld eu tegwch,
Dos draw i fin y môr,
Lle mae y tir a'r tywod
Yn cadw yr ystôr.

Os mynni gael eu miwsig
Yn rhan ohonot ti,
Dos, eistedd yno'n dawel
A thyrd â'r gân i mi.


DAFAD AC OEN

CLYWAIS ffermwr yn dweud rywdro mai sgolars ofnadwy yw defaid. Ac yn ddiamau, fe wyddai ef yn bur dda am beth y siaradai. Tebyg i'w clyfrwch fod yn drech nag ef drocon lawer, a'i wylltio allan o bob rheswm o'r herwydd.

Ymhlith y sgolars hyn, fel y digwydd hefyd, ymhlith dynion, fe geir rhai ohonynt yn dewis ffordd fawr yn hytrach na'r porfeydd gwelltog a fwriadwyd iddynt. Unwaith y cânt flas ar ryddid rhamantus a rhyfygus y dragwyddol heol ni fedrant ddygymod mwy â llonyddwch hyfryd y cae glas a'i arogl pêr. Ac y mae hynny'n beth i synnu ato.

Dolur llygad i bawb ystyriol ydyw dafad fedlemllyd yr olwg—a'i chnu gwlân yn hongian yn grybibion amdani—ar hyd y stryd yn ceisio osgoi rhyw berygl parhaus,—un ai'r cerbydau dirif a'u trwst aflafar, neu blant, a hoffant ei hannos i rywle, ni waeth i ba le.

Diddorol oedd sylwi ar un o'r crwydriaid hyn y dydd o'r blaen yn ceisio dianc rhag rhyw grwtyn bach a redai ar ei hôl â rhoden yn ei law. Hawdd gweld na faliai hi fawr yn yr erlidiwr bach. Croesodd уг heol dan ei drwyn i gael cno ar y dant-y-llew a ysmiciai arni allan o rigol carreg mewn talcen tŷ.

Y mae hi beunydd â'i llygad yn ei phen lle y bo tamaid blasus, ac y mae ei menter yn ddi-ben-draw. Chwaer i hon a aeth â'i hoen bach gwyn allan o'r cae un noson drwy fwlch pur gyfyng yn y gwrych. Gwyddai'n dda ei fod yn ddigon cryf erbyn hyn i'w dilyn hi i'r priffyrdd; ac ymaeth a hwy. Dilyn ei fam yn ufudd a wnai'r oen, wrth gwrs, ac ni chŵynodd, er iddo deimlo y rhywbeth caled hwnnw, sef y ffordd a'i cherrig a'i thar, yn bur gas i'w draed, rhagor y cac esmwyth, glân, a adawodd. Ond ni fedrai ofyn i'w fam i droi'n ôl. Rhaid oedd ei dilyn.

I ble'r oedd hi'n mynd? Ni wyddai ef ddim. Ond fe wyddai ei fam yn burion fod pobl yn byw yn y stryd fawr honno, a bod yna siawns ardderchog am dameidiau blasus o'u gerddi; hynny ydyw, os byddai'r llidiardau yn gil—agored. Ac yr oedd ambell wal rhwng yr ardd a'r ffordd y medrai hi roi naid drosti mor hawdd ag y medr bugail chwibanu.

Ni fedrai ddisgwyl i'r oen, y tro cyntaf fel hyn, ei dilyn dros y waliau; ond pan geid llidiart yn agored fe gai'r bychan yntau fynediad helaeth i mewn wrth ei hochr. A chafwyd gryn rwyddineb y noson hon i fynd i erddi'r stryd fawr i'w helpu eu hunain, cans 'roedd pawb yn eu gwlâu erbyn hyn.

Melys ryfeddol ydoedd blagur cynnar y coed rhosynnau i ddannedd y fam; a swcrodd yr oen i'w profi. Cydsyniodd yntau eu bod yn dda gan gnoi ei gil yn ddel. Ni adawyd gymaint ag un ddeilen a oedd o fewn cyrraedd, ar ôl. Croeso i bobl y tŷ o'r brigau a'r pigau.

Wedi diwallu eu blys â phob llysieuyn a ffansïent, aeth y fam yn ei blaen am heolydd cefn stryd ar ôl stryd. Rhoddai naid dros wal uchel ambell waith, ac ymdroai am gryn amser gan adael yr oen i ymdaro fel y mynnai. Fe âi yntau, druan, yn ei flaen, ac yna yn ei ôl i geiso dod o hyd iddi. Dechreuodd frefu'n dorcalonnus. Ar hynny, rhoes y fam naid ato i'r ffordd, gan ei swcro'n ddistaw bach: "Dilyn dy fam. Mi wn i am erddi eraill haws mynd iddynt; a phaid a brefu fel yna eto, da thi, neu mi godi bobol y tai 'ma ! Fel hyn y cefais i fy nysgu gan fy mam, wyddost, a gwna dithau fel 'rwyf innau'n gwneud."

Oedd, 'roedd llidiart y tŷ pellaf yn gil—agored. Rhywun diofal wedi bod trwyddi'n ddiweddar. Ceid yn yr ardd hon ddigon o laswellt, ond rhywbeth arall a geisiai'r fam. 'Roedd digon o laswellt a llygaid-y-dydd i'w cael yn y caeau. Nipiwyd ychydig ar y planhigyn hwn a'r llysieuyn arall a ddigwyddai fod yma a thraw i'w profi. Rhywfodd nid oedd y fam yn fodlon ar yr hyn a gawsai yn yr ardd hon.

Y broblem nesaf oedd sut i fynd i'r ardd am y terfyn. Gwelwyd fod y tir yn codi bron hyd uchter y wal yn y gongl yng ngwaelod yr ardd. A chydag ychydig o amynedd medrwyd mynd rhwng y wifren bigog a thrwy ddrysi'r mân—goed i'r ochr arall yn weddol hylaw.

Erbyn hyn yr oedd hi'n olau dydd; ac yn fore braf at hynny. Cododd gwraig y tŷ pellaf ond un o'i gwely ac aeth at y ffenestr i symud y llenni.

Rhoes waedd, a dechreuodd dafodi'n enbyd: "Hen ddafad—yr hen sopan—yn yr ardd yn nipio'r goeden falau hynny a fedr hi! Wel, yn wir, y mae peth fel hyn yn ddigon â thorri calon neb!" Llefarodd ribi-di-res o eiriau hallt am ei pherchennog, a sŵn crio yn ei llais.

Pan glywodd y gŵr bod yno ddafad yn gwneud hafog yn ei ardd ni bu yntau'n hir cyn dechrau ystwyrian, a deffro.

Ar hyn, syrthiodd llygad y wraig ar yr oen yn y bordor wrth ochr y llwybr.

"A be ddyliet ti, Dei?" ebr hi, wedi newid ei thôn, ac yn agor y ffenestr yn lletach, "Y mae yma oen bach hefyd, y cyntaf imi ei weld eleni, ac y mac yn cnoi ei gil yn fân ac yn fuan uwchben y llwyn briallu melyn. Y mae ei ben o tuag ataf, ac yn sbio i ngwyneb-i. Y mheth bach clws-i!"

Y MAES GWENITH

Pwy sy na châr ymborthi ar ei liw
Pan fo'n ymdonni'n wyrdd dan awel fwyth,
Pan ddelo Awst a Medi—fisoedd gwiw—
I ddangos gwaith yr haul a gwyrth y ffrwyth?
A phwy a ŵyr sawl mil a gafodd wledd—
Y rheini fedrodd aros ennyd fach
I sylwi ar y melyn fôr o hedd,
A drachtio'n helaeth o'i awelon iach?
Ac os yw hil y popi yno'n frith,
Na syrthied cuwch bydol—ddyn ar y rhain;
Cans hwythau sy gariadau haul a gwlith
Drwy ddyddiau braf cynefin hoff y brain;
Y Bywyd mawr sy'n rhodio yn y maes,
A fyn y chwyn o hyd i'w wisgoedd llaes.


GWELAIS

Y CAE braf yn ei hafog—ei lon dir
Dan ei lawn dwf rhywiog;
A'r llain â'i sglain is y glog
Yn tynnu ei swyn tonnog.


ARTHUR

(MAB Y PARCH. J. H. A MRS. WILLIAMS, STOCKPORT).

DAN gwmwl rhyfel hwyliais draw
Yn llon fy mryd i Singapôr;
Mewn antur nid oedd unryw fraw
I lanc a garodd longau'r môr.

Yn ôl i Loegr y cipiwyd fi
Un dydd o Singapôr drwy'r nen,
I geisio'r meddyg mwya'i fri
A fedrai wella briw fy mhen.

Os methodd llaw y meddyg hy,
A gorau cariad tad a mam,
Ces fêl o swcwr ffrindiau cu
Cyn rhoi fy nghorff i fynwes fflam.

Ar fynydd Môn y mae fy llwch,
Ymhell o awyr Singapôr;—
Bob haf bydd aur yr eithin fflwch
Ar wely hedd yng ngolwg môr.


FY NGHLOMEN FACH DDU

(CYFIEITHIAD O "CONGO LULLABY" A GENIR GAN PAUL ROBESON)

Fy nghlomen fach ddu,
Ymnytha'n fy nghariad cu;
Mae'r lloer yn llawn swyn
I'th gadw rhag cŵyn
Ynghwsg ar fy mron.

Mae'r sêr oll yn wyn
I'th wylio'r pryd hyn;
Daw cwsg fel dwfn li
Yn dyner ei si
I'th siglo mewn hedd.

O cwsg fy un fach
Nes â'r nos o'r nen;
Cwsg nes daw haul
Y bore uwchben.

Fy nghlomen fach ddu
Ymnytha'n fy nghariad cu;
Rho'th ben ar fy mron
Yn dawel a llon,
Fy nghlomen fach ddu.


"Arfon"

Gayton.

ROBERT D. JONES,
(y diweddar)

Y DRINGO'N ÔL


MEG bach, tyd a'r hen ddillad gwaith
At y tân yn awr i'w heirio;
Clywis fod isio rhai fel fi
Yn eu hôl i'r chwaral eto.

Ydi, ma'r byd o'i go, yn siwr;
Rwyt yn siarad synnwyr rŵan,—
Does dim ond blwyddyn gwta bron,
Ers pan ôn in bump a thrigian.

Y pryd hwnnw rôn i'n rhy hen
I weithio'n hwy ar y creigia;
Rydw i'n ifanc heddiw, Meg,
Am fod rhyfal isio'r hogia.

Lwc bod fy iechyd i mor dda,
Yn wir, rydw i'n bur sbringar;
Ond biti garw na fedrid rhoi
Ryw stop ar ryfal a'i gancar!

Tyd a'r dillad i'w heirio, Meg,—
Ma hi'n gletach ar yr hogia;
Caf inna a'm bath ddringo'n ôl
I fentar â hedd y creigia.

Rhaid codi'n fora foru, Meg!
Ac er gwaetha byd mor ddyrys,
Bydd dŵad adra bob min nos
I'r hen gornal eto'n felys.


Y DDRAENEN

UN min nos gweddol braf o fis Mawrth, daeth Nanws yn ôl o'r dref tua'i chartref newydd, â modrwy aur am ei bys. Oedd, yr oedd hi wedi priodi Ifan, ei chefnder, o'r diwedd, serch ei fod o tua thrigain oed, a hithau, rhaid cyfaddef, yn tynnu'n agos at yr un oedran.

Bu Ifan yn weddw am ysbaid o ugain mlynedd; a phetai o heb yr eneth fach a adawyd ar ei ddwylo o'i briodas gyntaf, buasai Nanws ac yntau wedi priodi ers llawer blwyddyn. Ond yr oedd hi'n rhy ofnus neu'n rhy onest i gymryd y ddau efo'i gilydd, ac fe'i hystyrrid gan bawb yn hen ferch gall a solat.

Cryn dipyn o boen a helbul a fu i Ifan oherwydd ei blentyn, Olwen. Ni fedrai gael yr un forwyn i aros yno'n hir. Yr oedd rhywbeth yn anian yr eneth hon a barai i'r merched hyn ei chashau.

Fodd bynnag, cawsai Olwen ddigon o foethau, a gormod yn wir, gan ei hewythr Dafydd, brawd ei thad, a drigai gyda hwy,—hen lanc crintachlyd yng ngolwg pawb, bron. Ond fel y digwydd, fe wirionodd yr hen lanc yn lân ar blentyn ffan, ei frawd; a phan fu farw, gadawodd tua mil o bunnoedd iddi hi ar ei ôl. Ni chafodd neb arall o'r teulu yr un ffyrling.

Wedi dyfod i'w hoed a chael yr eiddo hwn i'w llaw, priododd Olwen gyda llanc o Sais taclus a golygus, a arferai ddyfod i'r ardal bob haf ar ei wyliau, a dywedai pawb ei bod yn eneth lwcus dros ben.

Ac erbyn hyn, yr oedd Olwen a'i gŵr wedi cartrefu yn Llundain ers dros flwyddyn, ac yn hapus a llwyddiannus iawn eu byd yn ôl tyb pawb. A dyna sut y medrodd Ifan berswadio Nanws o'r diwedd i'w briodi.

Yr oedd ganddi hi geiniog reit ddel wrth gefn, wedi cynilo a hel am lawer blwyddyn; ac nid oedd yntau yn dlawd o bell ffordd. Sgwrsiai'r ddau yn ddifyr wrth bwrdd swper noson eu priodas, ac edrychent ymlaen yn obeithiol am lawer blwyddyn dawel a dedwydd efo'i gilydd.

"Bydd yn hen bryd imi fynd ati hi i spring clinio'r tŷ 'ma rŵan, rhag ofn iddynt ddod yma dros y Pasg," meddai Nanws wrth sôn am Olwen a'i gŵr. "Grym annwyl! paid â sôn am ddechrau tynnu'r tŷ 'maʼn dy ben ar ddechrau ein mis mêl, fel hyn !"— meddai Ifan.

"Hyh!" oedd yr ateb,—"mis mêl, yn wir !—'chefais i mo 'ngeni i lawer o fêl. . ."

Torrwyd ar y sgwrs. Pwy a ddaeth i'r tŷ fel ergyd o wn, ond Olwen, wedi ei gwisgo â gwychder Llundain o'i chorun i'w sawdl.

"Helo! modryb Nanws, pwy fuasai'n disgwyl eich gweld chi yma? Sut ydych chi?"

"'Rwyf yn burion, wir," oedd ateb y fodryb. "A sut ydych chi, Nhad?"

"Ond o ble y doist ti mor sydyn â hyn?" gofynnai'r tad.

"O, peidiwch a dechrau fy holi rŵan, 'rwyf bron disgyn eisiau cwpaned o de," meddai hithau.

Gwnaeth Nanws iddi eistedd wrth y bwrdd i gym- ryd tamaid; ac ni raid dweud ddarfod i Olwen wneud cyfiawnder â'r swper blasus, dan adrodd wrthynt ei helynt heb wrido na cholli deigryn. Ond yr oedd wyneb ei thad yn ddrych o dristwch.

Yr oedd ei gŵr wedi ei thwyllo drwy fedru cael ei harian i'w ddwylo'i hun, ac wedi ffoi, na wyddai neb i ble. Yr oedd hi wedi chwilio ofer amdano, a yn galwai ef yn bob enw gwaeth na'i gilydd. Nid oedd ganddi ddim i'w wneud ond dod adre'n ôl at ei thad. Ac wedi gorffen bwyta, tynnodd sigaren o'i blwch, goleuodd fatsen a smociodd. Eisteddai Nanws yn ddiymadferth a mud, a syllai'n syn ar y fodrwy aur a sgleiniau'n bryfoclyd am ei bys hi ei hun.

Nodiadau[golygu]

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.