Neidio i'r cynnwys

Bywyd a Gwaith Henry Richard AS (Testun Cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Bywyd a Gwaith Henry Richard AS

gan Eleazar Roberts


—————————————

MR. HENRY RICHARD, A.S.

—————————————

BYWYD A GWAITH

Y DIWEDDAR

HENRY RICHARD, A.S

ELEAZAR ROBERTS,

HOYLAKE.


"A hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a'u 'gwaywffyn yn bladuriau.
ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach."
—ESAIAH II. 4.



GWRECSAM
CYHOEDDEDIG GAN HUGHES A'I FAB

"Chwythu'i dân dan chwibianu
Ei fyw dôn wna y gof du;
Un llaw fegina, a'r llall
Faluria'r glo fel arall :
Wedi trefnu taclu'r tân,
Arbwynt allor ei bentan,
Yn hyi mewn hen gleddyf glas,
Luniai lawer galanas,
Gafaela y gof eilwaith,
Chwery âg ef cyn dechreu gwaith ;
Rhed ei fawd ar hyd ei fin
Dewrfodd i brofi'r durfin;
Ffugia'r gŵr yn filwr fod,
Neu yn hen gadben hynod :
Areithia, bygythia'n gâs
I'w elynion alanas;
Yna try, tery e'n y tân,
A chwyth yn gryfach weithian;
A gwreichion filamgochion gant
Drwy dorchau mwg draw dyrchant;
E dyn allan o dân dig
Ei ffwrn. dan ffrio'n ffyrnig;
Yr hen gledd mawr iawn ei glod,
Yn y maes mewn ymosod;
A dwg ef yr aileg bon
Yn wynias ar ei einion:
Ac mewn hwyl â'r morthwyl mawr,
Esgud, a nerth grymusgawr,
Fe'i cura nes â yn swch,
Gywrain ei gwas'naethgarwch,
I aru'r ddaiar iraidd,
A thy o hon wenith a haida."

Allan o Awdl Gwylym Hiraethog ar "Heddwch."


TRANSLATION

(From Herald of Peace, 1871, p. 287)

“The blacksmith at his forgefire blows,
And whistles gaily as it glows;
One hand the bellows work controls,
The other trims the burning coals.
His fiery altar ready made,
He boldly takes a polished blade,
Of ancient shape that vengeance sought
In many scenes of slaughter wrought;
In playful mood, its edge to feel,
He runs his thumb along the steel;
Then acts he like a soldier bold,
Or as a captain famed of old,
He gives his charge to armed hosts,
And hurls defiance mixed with boasts;
Then of a sudden twirls his hand,
And in the fire he thrusts the brand,
Driving with double force the blast,
Red flaming sparks fly thick and fast
From out the teeming curly be
Of darkling smoke, which now ascends;
Then from the angry fire restora,
Frying and hissing comes the sword;
The sword which won its glory of yore,
On fields of battle, steeped in gore;
Now, white with heat, and pliant made,
Upon the blacksmith's anvil laid;
Who with high glee, and giant's strength,
His sinewy arms outstretched at length,
His heavy hammer on it plies,
Until a ploughshare greets his eyes,
The husbandman the ploughshare takes
And tills the earth, and thus he makes
It reproduce and smile again
Luxuriantly with fruitful grain.

AT Y DARLLENNYDD

WRTH feddwl am enwogrwydd ein cydwladwr, y diweddar Henry Richard, A.S., a'r gwaith mawr a gyflawnodd yn ei oes, bum yn gresynu yn fynych na buasai gennym Fywgraffiad cyflawn o hono yn yr iaith Gymraeg; a theimlais awydd ar brydiau i anturio cyflenwi y diffyg hwn fy hunan, a gwnaethum rai darpariadau ar gyfer hynny. Pan welais fod "Bywyd a Gwaith y diweddar Henry Richard, A.S.," i fod yn destyn "Traethawd" yn Eisteddfod Merthyr, 1901, ymeflais yu y gorchwyl o ddifrif; cwblheais y gwaith, ac, oddiar awydd am feirniadaeth flaenorol, danfonais ef i'r gystadleuaeth o dan y ffug-enw Eirenopoios. Gan fy mod yn llwyr fwriadu cyhoeddi y gwaith, pa beth bynnag fyddai ei dynged yn yr Eisteddfod, ysgrifennais, nid "Traethawd" noeth, ond Cofiant cyflawn o fywyd a gwaith Mr. Richard. Nid oeda yn syn gennyf, gan hynny, ddeall fod y wobr wedi ei rhannu rhwng y ddau gyfansoddiad ag oeddent ar ffurf Traethawd. Ni welais y feirniadaeth a ddanfonwyd i'r Eisteddfod, ond caniataer i mi roddi y dyfyniadau canlynol o lythyrau a dderbyniais oddiwrth un o'r beirniaid, sef y Parch. Griffith Ellis, M A., Bootle.

Ysgrifenna,

"Ni chroesodd fy meddwl o gwbl fod fy hen gyfaill, Meddyliwr, yn y gystadleuaeth, a dieithr i mi ydyw y syniad fy mod yn eistedd i farnu cyfansoddiad o'i eiddo ef."

Mewn llythyr arall dywed,— "Y mae cyfansoddiad Eirenopoios yn un tra rhagorol, ond nid oeddwn yn gweled fy ffordd yn glir i roddi y wobr iddo, am ei fod yn Fywgraffiad yn hytrach na Thraethawd Rhydd Eirenopoios hanes cyflawn am Mr. Richard, o'i febyd i'w fedd. Nid yw wedi arbed un drafferth i chwilio am ddefnyddiau, ac y mae yu helaeth ar ei waith mawr—yn wir, ei waith mwyaf—fel Apostol Heddwch. Ysgrifenna mewn arddull rwydd a dyddorol. Credaf y byddai y Bywgraffiad, pe cyhoeddid ef, yn gaffaeliad i ddarllenwyr Cymreig." Hysbysir fi gan y beirniad arall, sef y Parch. J. Bowen Jones, B.A., LI.D., Brecon, y dywedwyd wrtho gan ysgrifennydd yr Eisteddfod mai nid Bywgraffiad, ond Traethawd a geisiai y pwyllgor; a chan nad oedd yn cydweled â'i gyd feirniad, Mr Ellis, am deilyngdod cymhariaethol y ddau "Draethawd," rhannwyd y wobr rhyngddynt. Dymuna yntau hefyd i mi gyhoeddi fy Mywgraffiad ar bob cyfrif.

Bellach, dyma'r llyfr yn nwylaw y darllenydd. Ysgrifennais ef am fy mod yn mawr edmygu cymeriad disglair y gwrthrych, ac yn cydymdeimlo yn ddwfn â'r egwyddorion hynny y treuliodd ei oes i'w hamddiffyn. Credwyf nad oes neb a ddadleuodd fwy dros gymeriad a hawliau gwladwriaethol a chrefyddol y Cymry, yn y Senedd a thrwy y Wasg, nag a wnaeth Mr Richard; ac yr wyf wedi ceisio rhoi hanes mor fanwl a helaeth ag y goddefai fy nherfynau o'i lafur di-ball yn y cyfeiriadau hyn. Ond rhoddais le arbennig i'w syniadau a'i ymdrechion yn achos Heddwch am fy mod yn credu mai dyma waith pwysicaf ei fywyd, a bod ei syniadau ar y mater hwn heb gael y cyfryw sylw gan fy nghydgenedl ag a haeddant. Gan fod Mr Richard wedi astudio y pwnc hwn yn drwyadl, a'i fod yn teimlo yn ddwys mewn perthynas iddo, credwyf y carasai iddo gael lle arbennig yn hanes ei fywyd. Heblaw hynny, mae yr ysbryd rhyfelgar sydd wedi meddiannu ein gwlad yn ddiweddar yn galw yn uchel ar fod syniadau neilltuol Mr. Richard ar y pwnc o Heddwch yn cael ystyriaeth ddifrifolaf gwladweinwyr a Christionogion yn gyffredinol. Os â theyrnas Prydain ymlaen gyda'i darpariadau milwrol yn y dyfodol, gyda'r un cyflymdra ag yn y gorffennol, bydd ei ffyniant mewn perygl.

I'r graddau y bydd cyhoeddiad y llyfr hwn yn effeithio i argraffu ar feddwl fy nghydgenedl yr egwyddorion mawrion bu Mr. Richard mor ddiwyd a dewr yn dadleu drostynt, bydd wedi cyrraedd ei amcan. Dymuniad fy nghalon yw y tuedda i ryw fesur i hyrwyddo dyfodiad y dyddiau hynny pan y gwna Efe i "ryfeloedd beidio hyd eithaf ddaear," ac y "dryllia'r bwa ac y tyr y waywffon," ac y Llysg y cerbydau â thân." Pe deffroid holl eglwysi Cred i synied a gweithio fel y gwnaeth Mr. Richard, buan y gwelid y dyddiau dedwydd hynny yn gwawrio. ELEAZAR ROBERTS.

Hoylake, Medi, 1902.

Cynwys

—————————————

Rhagarweiniad—Rhieni Mr Richard—Ei Febyd—Dylanwad crefydd Cymru arno—Yr addysg a gafodd gartref, ac yn ysgol John Evans, Aberystwyth.

Mr. Richard yn gadael cartref—Yn myned at frethynnwr i Gaerfyrddin—Yn meddwl am bregethu—Yn myned i'r Athrofa yn Highbury—Ei fywyd yno am bedair blynedd.

Mr. Richard yn weinidog capel Marlborough—Ei lafur gweinidogaethol—Ei gariad at Gymru—Ei ddarlith yn ei hamddiffyn yn erbyn cam—gyhuddiadau y dirprwywyr ar Addysg.

Mr. Richard yn cael ei benodi i fod yn Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei lafur dros y Gymdeithas—Cynhadleddau Brussels, Paris, Frankfort, a Llundain—Yn rhoi i fyny ei Swydd Weinidogaethol—Arglwydd Palmerston a'r Gymdeithas Heddwch—Cynhadleddau Manchester ac Edinburgh.

Rhyfel y Crimea-Cynhadledd Paris—Yr adran ar gyflafareddiad yn y Gytundeb—Rhyfel â China—Y Morning Star—Gweithydd Amddiffynnol—Yr Arddanghosfa—Yr ymdrech o blaid heddwch cyffredinol—Rhyfel Cartrefol yr America—Achos y Trent—Yn ysgrifennu Bywgraffiad Joseph Sturge a Mr. Cobden.

Mr. Richard yn ceisio deffro Etholwyr Cymru,—Llythyrau a Thraethodau ar Gymru—Ei etholiad yn Aelod Seneddol—Ei Briodas.

Yn dod yn Aelod Seneddol—Ysgriw y tir-feddianwyr –Ei araeth gyntaf yn y Senedd a'i heffeithiau—y gronfa i gynhorthwyo y tenantiaid—Ei areithiau ar y pwnc o Addysg yn y Senedd.

Y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia—Areithiau ac Ysgrifeniadau Mr. Richard arno—Rwsia yn cymeryd mantais ar yr amgylchiadau.

Y ddadl Seneddol ar Ddatgysylltiad, ac ar Addysg—Y Tugel—Achos yr Alabama—Araeth Mr. Richard yn erbyn cynhygiad Mr. Cardwell ar luestai milwrol—Y cyffro a ddilynodd—Ei daith yn yr Iwerddon, a'i araeth ym Merthyr Tydfil.

Cyflafareddiad—Araeth Mr. Richard yn y Senedd arno—Ei Deithiau ar y Cyfandir yn yr achos.

Taith Mr. Richard ar y Cyfandir yn achos Heddwch—Ei dderbyniad croesawgar yn Paris–Ei araeth ef, ac araeth M. Frederic Passy yno.

Datgorfforiad y Senedd—Mr. Richard yn cael ei ethol drachefn dros Ferthyr—Y Senedd-dymor Eglwysig—Cyfarfod llongyfarchiadol i Mr. Richard–Ei daith eto i'r Cyfandir—Ei lafur amrywiol a'i areithiau—Ei ymweliad a'r Hague—Ei areithiau yn y Senedd–Yn Gadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol—Ei areithiau.

Yr Achos Dwyreiniol eto—Erchyllderau Bulgaria,—Y Gynhadledd Fawr yn St. James's Hall ar yr achos—Dirprwyaeth at Arglwydd Derby—Areithiau ar Heddwch gan Mr. Richard—Rhyfel Rwsia a Thwrci—Cytundeb Berlin, a barn Mr. Richard arno—Ei ymdrech i ddwyn Cyflafareddiad iddo—cynhadledd Heddwch yn Paris—Rhyfel y Zuluiaid.

Mr. Gladstone yn Brif Weinidog—Etholiad Mr. Richard—Ei Areithiau, a'i amddiffyniad i'r Cymry—Y Mesur Claddu—Ei Areithiau yn y Senedd—Ei ymgais gael lleihad yn ein Darpariadau Milwrol—Helynt y Transvaal.— Barn Mr. Richard arno—Anerchiad iddo yn Leicester a Merthyr.

Mr. Richard yn Aelod o'r Departmental Committee ar Addysg yng Nghymru—Erthygl Esgob Llandaff ac atebiad Mr. Richard—Ei Araeth yn y Senedd ar Achos Borneo.

Yr helynt yn yr Aifft—Areithiau Mr. Richard yn y Senedd ar y cwestiwn—Ymddistwyddiad Mr. Bright—Ei araeth yn erbyn blwydd-dal Arglwydd Wolseley a'r Llyngesydd Seymour—Y rhyfel yn y Soudan—Araeth Mr. Richard arno—Yr ymgais i Waredu Gordon.

Colegau Gogledd a Deheudir Cymru—Ei Lafur Seneddol—Arwyddion Henaint—Ei Daith ar y Cyfandir—Ei Ysgrifau i'r Newyddiaduron, a'i Lafur yn y Senedd—Ei Ymddiswyddiad fel Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei Anrhegu â 4,000g—Rhyfeloedd heb gydsyniad y Senedd—Datgorfforiad y Senedd—Etholiad Mr. Richard am y Bedwaredd Waith.

Mr. Richard yn cael ei bennodi yn aelod o'r Pwyllgor Brenhinol ar Addysg—Ei lafur mawr arno, er ei afiechyd —Ei erthygl nodweddiadol ar Gymru yn y Daily News.

Iechyd Mr. Richard yn datfeilio—Ei gariad at Gymru—Yn myned i Dreborth—Ei fwynhad yno—Ei farwolaeth sydyn—Ei gladdedigaeth yn Llundain—Anerchiad Dr. Dale—Teyrnged Mr. Gladstone i'w gymeriad—Sylwadau y Wasg ar ei fywyd a'i waith.

Adolygiad ar brif waith bywyd Mr. Richard—Ei safle ar y pwnc o Heddwch—Sylwedd ei brif ysgrifeniadau arno.

Y dadleuon yn erbyn Cyflafareddiad—Yn beth mewn gweithrediad eisoes—Dros ddau cant o engreifftiau rhwng 1815 a 1901—Llwyddiant llafur Mr. Richard.

Yn cynnwys rhai o syniadau neilltuol Mr. Richard ar y cwestiwn o Ryfel a Heddwch.

BYWYD A GWAITH
Y DIWEDDAR
HENRY RICHARD, A.S.

—————————————

PENNOD I.

Rhagarweiniad—Rhieni Mr Richard—Ei Febyd—Dylanwad crefydd Cymru arno—Yr addysg a gafodd gartref, ac yn ysgol John Evans, Aberystwyth.


O ba gyfeiriad bynnag yr edrychwn ar fywyd a gwaith y diweddar Mr. Henry Richard, nid ydym yn canfod dim ond yr hyn sydd yn cynhyrchu ynom barch ac edmygedd: parch at ei gymeriad personol dihafal, ac edmygedd oherwydd y gwaith pwysig a gyflawnodd yn ei fywyd. Treuliodd fywyd llafurus, anrhydeddus, a phur; bywyd y gellir cyfeirio ato fel esiampl a symbyliad i bob gŵr ieuanc ar ddechreu ei yrfa yn y byd; a chyflawnodd waith ag sydd a'i bwysigrwydd a'i effeithiau daionus ar y dyfodol mor fawr, nad oes ond ychydig mewn cymhariaeth yn gallu yn awr ei werthfawrogi yn ddyladwy. Fel gweinidog yr efengyl, yr oedd yn cael ei hoffi a'i barchu; fel "apostol heddwch" llafuriodd yn mwy na neb yn ei ddydd, a gwnaeth argraff annileadwy er daioni ar y deyrnas hon, ac ar wahanol deyrnasoedd Ewrob, ie, a'r byd; ac fel gwleidyddwr dadleuodd dros fesurau sydd, ac a fyddant, o anhraethol werth i'w genedl a'r deyrnas yn gyffredinol. Carai ei wlad—hen wlad ei dadau—yn angerddol, ond carai gyfiawnder yn fwy. Er cryfed ei wladgarwch, ni pheidiai a nodi beiau ei gydgenedl, ac nid anghofiai hawliau teg cenhedloedd ereill. Yr oedd ei ymlyniad wrth egwyddor, ei ymgysegriad i ddyledswydd, ei ymroddiad i wasanaethu achos dynoliaeth, gwareiddiad, ac iawnder cyffredinol, yn cyfansoddi neilltuolion pennaf ei fywyd. A'r hyn sydd yn adlewyrchu anrhydedd mwy na'r cyfan ar ei enw da yw, ei fod wedi arwain bywyd mor bur a dilychwin, fel nad allai ei elyn, os oedd ganddo un, gyfeirio at ddim a wnaeth, nad oedd yn gydweddol â chymeriad disgybl cywir i'r "Cyfiawn a'r Santaidd" hwnnw y bu mor ffyddlon yn ei ddilyn.

Bywyd a gwaith y gŵr enwog hwn yr ydym am geisio ei ddesgrifio. Anturiwn ar y gorchwyl oddi ar deimlad o hoffter o honno, a pharch tuag ato. Dymunem drwytho ein hysbryd ein hunain o'r newydd â'i esiampl a'i egwyddorion a hyderwn y bydd darllen hanes y fath gymeriad

—————————————

Y PARCH. EBENEZER RICHARD.

—————————————

rhagorol yn symbyliad i'n darllenwyr—y rhai ieuanc ohonynt yn arbennig—i arwain yr un bywyd pur a llafurus.

Ganwyd Mr. Henry Richard yn Nhregaron, swydd Aberteifi, ar y 3ydd o Ebrill, 1812. Yr oedd ei dad, Ebenezer Richard, a'i ewythr, Thomas Richard, yn ddau o'r pregethwyr mwyaf enwog ymysg y Methodistiaid Calfinaidd. Mae eu henwau yn perarogli yn hyfryd yng Nghymru hyd y dydd hwn. Nid oes neb a ddarllenodd Hanes Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion, E. W. Richard a Henry Richard, gwrthrych yr hanes hwn; Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch. John Hughes, Lerpwl; y bennod ddoniol ar "Hen Bregethwyr Cymru," gan y diweddar Dr. Owen Thomas, yng Nghofiant John Jones, Talsarn, a'r Tadau Methodistaidd, gan y Parch. J. Morgan Jones, nad yw yn gwybod am enwogrwydd y cyff yr hanodd Mr. Henry Richard o honno. Bu ei daid, Henry Richard, yn cadw ysgol, ac yr oedd hefyd yn bregethwr cymeradwy gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Am Ebenezer Richard, ei dad, ni fendithiwyd unrhyw gyfundeb â gweinidog mwy ffyddlon a defnyddiol nag ef. Fel pregethwr, yr oedd ymysg y rhai enwocaf yn ei ddydd. Meddai fedrusrwydd dihafal gyda'r Ysgol Sabothol, ac ac yn arbennig fel holwr pwnc. Yr oedd hefyd yn drefnydd gwych, y goreu, meddir, a gafwyd yn y De er amser Howell Harris a Charles o'r Bala. "Meddai lygad craff, ewyllys benderfynol, medr arbennig, ac ynni diderfyn."[1] Yr un ydyw tystiolaeth Dr. Rees am dano.[2] " Yr oedd," meddai," yn un o'r gweinidogion mwyaf defnyddiol a dylanwadol yn y Dywysogaeth; yn addfwyn, ond eto yn benderfynnol; yn dra duwiol, ond heb ddim rhith santeiddrwydd; bob amser yn effeithiol fel pregethwr, ac ar brydiau yn anorchfygol; yn dra doeth a medrus fel trefnydd achosion y cyfundeb, ac yn llafurio yn ddi-baid yng nghyflawniad ei ddyledswyddau." Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf, ac yn brif offeryn, i sefydlu Ysgolion Sabothol Neheudir Cymru, ac y mae yr holl enwadau yn awr yn medi ffrwyth ei lafur. Llafuriai tu hwnt i'r cyffredin. Dywed ei feibion, yn hanes ei fywyd, ei fod yn ystod y ddwy flynedd ar hugain olaf o'i oes wedi pregethu 7,048 o weithiau, wedi gweinyddu y Cymun Santaidd 1,360 o weithiau, wedi bedyddio 824 o blant, wedi cymeryd rhan mewn 651 o gyfarfodydd cyhoeddus, ac wedi teithio 59,092 o filltiroedd, sef mwy na dwy waith amgylchedd y byd.

Yr oedd Ebenezer Richard hefyd yn ysgolhaig da, cyfarwydd yn y ddwy iaith, ac yn meddu rhyw gymaint o wybodaeth am yr ieithoedd clasurol. Bu yn ysgrifennydd y Gymanfa, yn y De, o'r flwyddyn 1813 hyd ei farwolaeth, a chyflawnodd ei waith yn y modd mwyaf medrus a ffyddlon.

Dywedir y gwnaed cais arbennig unwaith i'w demtio i adael y Methodistiaid ac ymuno â'r Eglwys Sefydledig, ond gwrthododd yn bendant, gan ddweud ei fod yn Ymneilltuwr oddiar argyhoeddiad. Hawdd credu hynny, oblegid dywedodd unwaith gyda digllonedd wrth son am y Ddeddf Goddefiad, " Dim ond ein tolerato ni y maent hwy eto. Ffei, ffei, goddef dynion i addoli Duw yn ôl eu cydwybod."[3] Nid rhyfedd fod yr un teimlad yn gorwedd yn ddwfn yng nghalon ei fab, Henry Richard.

Er fod Ebenezer Richard yn teithio llawer, ni fyddai byth yn esgyn i'r pulpud heb fod ganddo bregeth wedi ei pharatoi. Treuliai ei holl amser, pan fyddai gartref, yn ei fyfyrgell, mewn cyfarfodydd crefyddol, neu yn ymweled â'r claf. Mewn gair, a defnyddio ei eiriau ei hun, arhosai gartref yn cyweirio ei rwyd, ac yna elai allan i'r môr drachefn gyda'r llanw cyntaf Cafodd Mr. Henry Richard ei fendithio hefyd â mam ragorol, un o sefyllfa dda, wyres i un o hen gynghorwyr y Methodistiaid. Dywedir y byddai yn cyflawni swydd bugail yn ystod absenoldeb ei gwr. Yr oedd yn hynod fel heddychydd rhwng pleidiau cynhennus, yn gymaint felly, fel y gelwid hi yn Ustus Heddwch; teitl priodol iawn i fam "Apostol Heddwch."

Nid rhyfedd fod Mr. Henry Richard, yn ei ddyddiau olaf, yn arbennig, yn teimlo yn falch, ac yn datgan mor groew, ei "fod wedi hanu o gyff da, cyff ag oedd wedi gwasanaethu Cymru yn y dyddiau gynt." Ar ôl bod yn troi ymysg mawrion byd, ar ôl blynyddau lawer o lafur yn y Senedd, yr oedd adgofion am hen bregethwyr Cymru, a'r dylanwadau grymus oedd yn cyd—fyned â'u pregethau, yn anwyl mewn cof ganddo. Hyd yn oed yn ei ddyddiau olaf, pan ar ymweliad â Mr. Richard Davies, Treborth, aeth i Gymanfa Caernarfon, pryd y torrodd "gorfoledd" allan o dan bregeth rymus y diweddar Dr. Owen Thomas. Llawenychai Mr. Richard yn fawr, a theimlai yn ddwys, a dywedai ar ôl dychwelyd i'r tŷ, fod yn dda ganddo ei fod wedi myned i Gaernarfon y dydd hwnnw. "Clywais orfoledd," meddai, "lawer gwaith pan yn fachgen, ond ni thybiais y cawswn ei glywed mwy." Yn ei Letters and Essays on Wales, am y rhai y cawn sylwi eto, rhydd Mr. Richard ddesgrifiad byw iawn o neilltuolion a rhagoriaethau pregethwyr Cymru. Drwg gennym nas gallwn ei ddodi yma yn llawn, ac ni fyddai ei dalfyrru ond yn gwneud cam â'r fath ddernyn prydferth o gyfansoddiad. Pan oedd Mr. Richard yn byw yn Llundain, ni fyddai byth yn fwy hapus na phan yn cael cyfleustra i ymddifyrru yn yr adgofion am danynt. Ein profiad yw, y gall dyn droi ymysg Saeson a mawrion byd am flynyddau lawer, ond y cyfryw ydyw rhagoroldeb pregethau Cymraeg fel y mae eu hargraff ar y meddwl bron yn anileadwy.

Do, fe gafodd Mr. Richard ei eni a'i fagu yng nghanol y bywyd crefyddol grymus ag oedd yn creu Cymru o'r newydd ar y pryd. Carai y capel a phethau y capel hyd y diwedd. Nid oedd dim yn ormod ganddo ei wneud, na dim gorchwyl yn rhy isel ganddo ei gyflawni, os byddai yn wasanaeth i grefydd. Dywedir y byddai yn aml, pan yn fachgen yn Nhregaron, yn dringo yr ysgolion, ac yn glanhau ffenestri y capel.

Am addysg fydol Mr. Richard, pan yn ieuanc, nid oes nemawr i'w ddweud. Gan y bu ei dad yn cadw ysgol, a'i fod yn ysgolhaig gweddol dda ei hunan, bu yn ofalus i roddi yr addysg oreu a allai i'w blant, er nad oedd ganddo lawer o dda y byd hwn. Yr oedd ganddo dri o blant ereill, sef Edward, y meddyg yr hynaf, a'r hwn a fu farw yn 1866; a dwy ferch, Mary (Mrs. Morris), yr hon a fu farw yn 1882; a Hannah (Mrs. Evans), yr hon a fu farw yn 1884. Bu Henry (gwrthrych ein Cofiant) yn yr ysgol Ramadegol yn Llangeitho; ac hefyd yn ysgol Mr. John Evans, y mesuronydd enwog, yn Aberystwyth, lle y bu amryw o enwogion ereill Cymru o dan addysg, megys Dr. Lewis Edwards, y Bala, a'r Parch. David Charles Davies, " triawd o ŵyr rhagorol o feddwl a deall uchelryw, yn cynrychioli Cymru fechan yn ei diwinyddiaeth, ei gwleidyddiaeth, a'i gwyddoniaeth." Oddiwrth yr hanes a rydd Dr. Lewis Edwards yn y Goleuad am Medi 11, 1875, a Mr. Samuel yn yr ail gyfrol o'r Cymru, am y John Evans hwn, amlwg yw ei fod yn ysgolfeistr campus. Yr oedd, nid yn unig yn fesuronydd da, ond hefyd yn ddiwinydd rhagorol, ac yn ysgrythyrwr di—ail; a di—os yw, fod addysg y fath un a Mr. Evans—yr hwn oedd hefyd yn flaenor yng nghapel y Tabernacl yn Aberystwyth—wedi cael ei fawr werthfawrogi gan un o gyneddfau cryfion Henry Richard ieuanc, ac wedi creu ynddo awydd cryf am ychwaneg o wybodaeth. Mae y chwant am ddysg, pan enynnir ef, yn dod yn angherddol.

—————————————

TY GENEDIGOL MR. RICHARD, A.S.

—————————————

PENNOD II

Mr. Richard yn gadael cartref—Yn myned at frethynnwr i Gaerfyrddin—Yn meddwl am bregethu—Yn myned i'r Athrofa yn Highbury—Ei fywyd yno am bedair blynedd.


(1826) Wedi bod fel hyn o dan addysg fydol dda, ac wedi anadlu yr awyrgylch grefyddol fwyaf pur, cawn fod ddau frawd, Edward a Henry, yn y flwyddyn 1826, wedi myned i fyw i Gaerfyrddin, lle y buont am dair blynedd. Aeth Edward, yr hynaf, at feddyg yno, a Henry i wasanaethu ym masnachdy Mr. Lewis, brethynnwr. Mae'n ddigon tebyg fod Henry, fel y diweddar Barch. Herber Evans, yr hwn a fu mewn sefyllfa gyffelyb yn Lerpwl, yn teimlo yn fynych fod ynddo gymwysterau at waith llawer rhagorach na sefyll tu ol i'r bwrdd i werthu brethynnau. Pa fodd bynnag, cawn ei fod, ymhen tair blynedd, yn dychwelyd adref, ond nid heb brawf ei fod wedi gwasanaethu ei feistr yn ffyddlon, ac wedi rhoddi llwyr foddlonrwydd iddo ef ac i'w rieni. Mae yng Nghofiant Parch. Ebenezer Richard, a ysgrifennwyd gan ei feibion, fel y crybwyllwyd, liaws o lythyrau oddiwrth y tad parchedig at y meibion, yn dangos y gofal a'r pryder mawr oedd yn ei feddiannu mewn perthynas i'w crefydd a'u buchedd tua'r pryd hwn. Diau y bu y llythyrau hyn yn galondid mawr i'r ddau fab, yn help i'w cadw ar lwybrau rhinwedd, ac i ddyfnhau eu teimladau crefyddol. Tra yr ydoedd Mr. Henry Richard gartref, yr adeg hon, cawn ei fod wedi ei dderbyn yn "gyflawn aelod " ymysg y Methodistiaid Calfinaidd, yr hyn a ystyriai yn gam pwysig iawn yn ei fywyd.

(1830) Pan oedd Mr. Richard yn dynesu at fod yn ddeunaw oed, a phan yn byw yn Aberystwyth, danfonodd lythyr at ei dad, dyddiedig Ebrill 24, 1830, yn datgan ei awydd i ymroddi i waith y weinidogaeth,—awydd y bu yn ei ddirgel goleddu am amser cyn hynny. Mae y llythyr yn dangos teimlad gwylaidd a dwys, ac yn datgan llwyr benderfyniad i ymostwng i farn ei dad. "Bydd eich gair chwi," meddai, i mi yn ddeddf;"—geiriau ag y mae yn anhawdd gwybod pa un ai ar y mab ynte tad y maent yn adlewyrchu mwyaf o anrhydedd.

Ymddengys nad oedd cynhwysiad y llythyr hwn yn synnu dim ar y teulu. Danfonodd y tad atebiad iddo yn ei gynghori yn ddifrifol i ledu mater ger bron Duw mewn gweddi, ac addawai gymeryd "pob cam angenrheidiol yn yr achos pwysig hwn, heb un oediad pechadurus ar y naill law, nac, yr wy'n gobeithio, un byrbwylldra gwyllt ar y llaw arall," Ymawyddai y llanc i gael mwy o addysg, a chan nad oedd gan y Methodistiaid un Athrofa ar y pryd, penderfynodd fyned i Athrofa Anibynnol Highbury yn Llundain. Gosododd y tad y mater ger bron y Cyfarfod Misol, ac ni chafodd un gwrthwynebiad. Mae yn fwy na thebyg fod y parch a goleddid at Mr. Ebenezer Richard, a'r dylanwad a feddai mewn canlyniad, yn atal ymddangosiad y culni hwnnw a ddangoswyd yn achos y diweddar Dr. Lewis Edwards mewn amgylchiad cyffelyb. Cafodd Mr. Richard dderbyniad i Highbury ym mis Medi, 1830. Mae pryder a theimlad ei dad, pan glywodd am dderbyniad ei fab i'r athrofa, yn cael ei ddesgrifio yn fywiog iawn mewn llythyr a ysgrifennodd at ei "anwyl Henry," Medi 13, 1830.

"O mor fynych," meddai, "y canlynais chwi at Dr. Henderson a Mr. Halley at Mr. Wilson, ac o flaen y Cyfeisteddiad! O mor bryderus y bum yn eistedd wrth eich penelin pan oeddech yn ysgrifennu eich ateb i'w gofyniadau, a chyda'r fath gerddediad crynedig y bum yn cyd-fyned â chwi i gyfarfod a'r Cyfeisteddiad y prydnawn hwnnw ! Fel y bum yn eistedd yn eich ymyl dros y pedair awr hirfaith o ddisgwyliad pryderus, ac fel yr aethum gyda chwi, â chalon grynedig, pan eich gwysiwyd i'w presenoldeb! Mor fynych y bum yn gofyn—Pwy ydyw y bachgennyn gwridgoch acw sydd yn sefyll o flaen doctoriaid dysgedig Llundain ? Ai fy anwyl Henry ydyw? Ie, efe yw. Nid yw bosibl! Os efe yw, pa le y mae ei gyfeillion a'i gynorthwywyr? Pa le y mae ei gynghorwyr a'i gyfarwyddwyr? Os oes ganddo y cyfryw, y maent yn hollol anwybodus o'i sefyllfa bresennol; gall ddywedyd gyda'r Salmydd, Car a chyfaill a yrraist ym mhell oddi wrthyf.' A oes ganddo neb i ateb drosto? Pa le y mae ei dad, a'i fam,—yr hon a'i hymddug? Y maent ragor na dau gant o filltiroedd oddi wrtho, yng nghanol mynyddoedd Cymru. A oes ganddo neb cydnabod yn Llundain ag y geill droi atynt? Nac oes; neb yn y byd! Wel, yn wir, y mae e' yn unig iawn—wedi ei adael gan yr holl fyd! Ond, boed felly; mi allaf fi ganfod nad ydyw yn unig—yr oedd Duw hwnnw oedd gyda Joseph o flaen Pharoah, gyda Henry o flaen y Cyfeisteddiad, yn dadleu ei achos ac yn ateb drosto—Duw hwnnw a arweiniodd ei rieni y deugain mlynedd hyn yn yr anialwch, a fu yn gynghorwr ac yn gynhorthwy iddo. Bydded yr holl fawl iddo ef !"

Pwy fedr ddesgrifio y fath galondid i'r gŵr ieuanc, yng ngwyneb ei anfanteision ar y pryd, oedd cael y fath lythyr a hwn oddiwrth dad oedd mor lawn o gydymdeimlad ag ef?

Pan yn Highbury daeth i gydnabyddiaeth â gŵyr ieuainc o gyffelyb feddwl ag ef ei hun, ac yn eu mysg, Syr Hugh Owen, y Parch. David Thomas, ac ereill. Bu yn Highbury am bedair blynedd. Yn y Congregationalist, am y flwyddyn 1876, fe ysgrifennodd Mr. Richard ddwy erthygl o'i Adgofion am ei gyfaill, y Parch. David Thomas, ar gais golygydd y cyhoeddiad hwnnw; a chan fod yr erthyglau yn cynnwys hanes o'r modd y cafodd Mr. Richard dderbyniad i Highbury, ac o'i fywyd colegawl am y tymor y bu yno, a'u bod wedi eu hysgrifennu mewn arddull mor ddyddorol, gwnawn rai dyfyniadau ohonynt.

Ar ol desgrifio bywyd boreuol Mr. Thomas, ei ddygiad i fyny gyda'r Methodistiaid, a mantais y Seiat" fel moddion amaethiad crefyddol, dywed:

"Dyma'r pryd y daethum i gydnabyddiaeth ag ef. Yr oeddwn innau wedi penderfynu cysegru fy hun i'r weinidogaeth. Fel Mr. Thomas, yr oeddwn yn Fethodist Calfinaidd, yn fab i weinidog enwog a phoblogaidd perthynol i'r enwad hwnnw. Ond nid oedd gan y Methodistiaid Cymreig un Athrofa nac ysgol i roddi addysg i ŵyr ieuainc ar gyfer y weinidogaeth. Mae ganddynt yn awr ddau o sefydliadau o'r fath, un yn y Bala, ac un arall yn Nhrefecca. Yr oeddwn i wedi penderfynu peidio bod yn weinidog heb addysg athrofaol, ac felly daethum i Lundain heb un cynllun penodol, ond gyda phwrpas penderfynol i weithio fy ffordd, os oedd modd, i ryw sefydliad a roddai i mi ddymuniad fy nghalon. Yr oedd yr anturiaeth yn un wyllt. Nid adwaenwn neb; ni ddygaswn gyda mi unrhyw lythyrau cyflwyniad, oblegid yr oedd Llundain, y dyddiau hynny, ymhell iawn o Gymru, a chyfleusterau trafodaeth rhwng y ddau le yn anaml ac anghyfleus. Yn ffodus aethum i letya i dŷ'r capel, a phan ddywedais wrth rai o'r cyfeillion fy amcan, hysbyswyd fod gŵr ieuanc o Ferthyr o'r enw David Thomas yn lletya yn y tŷ, a'i fod ar fedr myned i Athrofa Highbury. Ymgyfarfuasom. Yr oedd David Thomas yn llanc tal a theneu, ysgwyddau llydain ganddo, a thoraeth o wallt melynaidd heb fawr o drefn arno. Adwaenai fy nhad yn dda, yr hwn, and odid, a dderbyniasid i dŷ ei fam ym Merthyr yn ystod rhai o'i ymweliadau â sir Forgannwg, oblegid yr oedd llafur fy nhad yn cyrraedd dros bob parth o'r Dywysogaeth. Clywsai ef yn pregethu lawer gwaith, a choleddai y parch dwfn hwnnw tuag ato, ag oedd yn ymylu bron ar addoliad,—sydd yn cael ei deimlo gan y Cymry, ac yn enwedig y Cymry Methodistaidd at eu pregethwyr mawr.

Derbyniodd fi, gan hynny, yn garedig, ac aeth a fi at Thomas Wilson. Nid af i adrodd hanes fy nerbyniad i Highbury, er ei fod i mi yn ddigon difyrrus. Y cwbl a ddisgwyliwn oedd cael fy nanfon ar brawf am dymor i Rowell, fel yntau. Ond rhywfodd, llwyddais i basio gyda'r ychydig wybodaeth a feddwn, ac ar ol myned trwy y prawf arswydus o bregethu o flaen y pwyllgor, a'r arholiad a ddilynodd, cefais fyned ar unwaith i'r Athrofa."

Ar ol son am y cyfeillgarwch cynnes a dyfodd rhyngddo â Mr. Thomas, y mynych ymddiddanion a'r dadleuon rhyngddynt ar bob math o bynciau; a dylanwad daionus ei gyfaill arno, dywed ei fod ef a Mr. Thomas o dan yr anfantais o fod yn gorfod ymarfer yn gyhoeddus mewn iaith ag oedd iddynt hwy yn un ddieithr, ac mewn dull nad oeddent hwy wedi cynefino ag ef, ac "fel hyn," meddai, "er ei fod ef a minnau wedi ein dwyn i fyny mewn awyrgylch pregethwrol, nid aethom i mewn gydag un sêl arbennig i'r cydymgais areithyddol ag oedd yn cyfansoddi y symbyliad mwyaf i lafur yn Highbury y pryd hwnnw." Rhydd Mr. Richard ddesgrifiad doniol o'r helbul y byddai efe a Mr. Thomas ynddo oherwydd eu hoffter o bregethau Cymraeg. Tynnent wg Dr. Halley arnynt, am y byddent yn hwyr, yn fynych, yn dychwelyd i'r Athrofa ar nos Sabothau. Ceuid y pyrth am ddeg, ac ar ol hynny cenid y gloch, a chymerid enwau yr hwyrddyfodiaid i'w rhoi i'r athraw.

"Ond," meddai, "yr oedd y gwasanaeth yn y capel Cymraeg yn fynych yn gynwysedig o ddwy bregeth, a chyfarfod eglwysig ar ol hynny, yr hwn a barhâi am amser maith. Yr oedd cerdded o Jewin Crescent i Highbury yn cymeryd awr gron. Nid oedd Omnibuses ond yn dechreu dod i arferiad, ac nid oedd ystâd ein llogellau ni yn caniatáu i ni logi ceir. Nid oedd dim i'w wneud ond ei throedio hi; David Thomas gyda'i goesau hirion a'i gamrau breision, a minnau gyda'm coesau byrion a'm camrau bychain, yn prysuro adref â'n holl egni; gan yspio i bob siop y ceid golwg ar gloc, ac yn llawn pryder gyda golwg ar y posibilrwydd o fedru cyrraedd y pyrth cyn deg, ac felly osgoi aeliau gwgus Dr. Halley, fyddai yn ein haros, os methem. Yr oedd yn y pulpudau Ymneilltuol y pryd hwnnw bregethwyr enwog megis Dr. Fletcher, Dr. Bennett, Dr. Leifchild, Dr. Vaughan, Dr. Reed, Mr. Burnet, Mr. Blackburn, ac ereill; a Mr. Binney, yn arbennig, ac yr oeddwn wedi eu clywed i gyd; ond, fel rheol, byddai Mr. Thomas a minnau, am y ddwy flynedd gyntaf o'n bywyd Athrofaol, cyn i gyhoeddiadau Sabothol dorri ar ein traws, yn myned i'r capelau Cymraeg yn amlach nag i un arall, oblegid i ni, yr oedd y weinidogaeth Seisnig yn cael ei theimlo yn oer a ffurfiol, o'i chydmaru â hyawdledd gwresog ein cyd-wladwyr. Yn y dyddiau hynny, hefyd, llenwid pulpud Jewin Crescent gan rai o brif bregethwyr y Dywysogaeth,—John Elias, Ebenezer Richard (fy nhad), Henry Rees, ac ereill, y rhai a dybiwn i, y pryd hwnnw, ac a dybiaf eto, yn feistriaid digymar hyawdledd cysegredig."

Rhoddasom y desgrifiad hwn gan Mr. Richard ei hun o'i fywyd yn Highbury, er dangos, unwaith eto, mor ddofn oedd yr argraff a wnaed ar ei feddwl gan yr hen bregethwyr Cymreig, yr hyn a rydd gyfrif am y teimladau cynnes a goleddai bob amser tuag at bopeth Cymreig, ac am y digllonedd cyfiawn a'i meddiannai pan wneid ymosodiad annheg ar gymeriad ei genedl.

Yr oedd Proffeswr Godwin a Dr. Stoughton hefyd yn gyd-efrydwyr â Mr. Richard, ac y mae yr olaf yn tystio ei fod ef a David Thomas yn ddynion o alluoedd rhagorol, yn efrydwyr diwyd, ac ymroddedig i'r gwaith y galwyd hwynt iddo. Yr oedd eu cyfeillgarwch yn gyfryw, fel y gelwid hwynt yn Dafydd a Jonathan. Dywed y Parch. D. Rowlands, M.A., yn y Traethodydd am 1888, t.d. 448, ar dystiolaeth y Parch. J. Jones, Ceinewydd, yr arferai Mr. Richard bregethu yng nghapelau y Methodistiaid pan ddeuai i'r wlad ar y gwyliau, a'r un modd wedi iddo ymsefydlu yn weinidog yn Llundain; ei fod wedi pregethu mewn Cymdeithasfa yn Nhwrgwyn yn 1835, am ddeg o'r gloch yn Saesneg, a Mr. Evans, Llwynfortun, o'i flaen yn Gymraeg, a Mr. Henry Rees ar ei ol. Dywedir ei fod yn pregethu mewn capel yn Sir Aberteifi ar un o'i ymweliadau, a bod hen flaenor, wrth sylwi ei fod yn 'troi ei wallt," wedi myned ato pan ydoedd ar esgyn i'r pulpud, ac wedi tynnu ei law hyd ei ben dros ei dalcen, a dweud, "Fy machgen anwyl, bydd weddus yn y pulpud!"

Ar ol pedair blynedd o addysg athrofaol mewn Coleg Anibynnol, "yr oedd yn naturiol iddo gymeryd yn garedig at y lle," ac mor naturiol wedi hynny iddo ymsefydlu fel gweinidog ymysg y bobl a osodent gymaint gwerth ar ei lafur.

PENNOD III

Mr. Richard yn weinidog capel Marlborough—Ei lafur gweinidogaethol—Ei gariad at Gymru—Ei ddarlith yn ei hamddiffyn yn erbyn cam—gyhuddiadau y dirprwywyr ar Addysg.


(1835) Bu Mr. Richard gartref yn Nhregaron yn glaf, yng Ngwanwyn 1835, am rai misoedd, ond yn Hydref yr un flwyddyn penodwyd ef yn weinidog Capel Marlborough yn Old Kent Road, Llundain. "Gweinyddwyd ar achlysur y penodiad gan y Parch. John Burnet, Dr. Henderson, Mr. Binney ac ereill." Yr oedd ei dad, ei fam, a'i frawd, yn bresennol ar yr achlysur, ac y mae ei dad yn rhoi y desgrifiad byw canlynol o'r amgylchiad mewn llythyr a ysgrifennodd at Mr. a Mrs. Jones, Llanbedr, Rhagfyr 11, 1835,—

"Y Saboth diweddaf ydoedd Sul Cymundeb cyntaf ein hanwyl Henry ar ôl ei urddiad; aeth ei fam a'i frawd a minnau i'w gapel i fod yn bresennol ar yr achlysur difrifol. Ond beth fydd eich syndod pan ddeallwch i'ch hen gyfaill, E. Richard o Dregaron, sefyll i fyny a phregethu pregeth Saesneg i gynulleidfa gyfrifol iawn yn y brif ddinas. Mi wn y chwardd Mrs. Jones yn iach am ben hyn, ac y dywed ond odid, — Yr hen ŵr gwirion, druan, y mae ei benwendid (dotage) yn dyfod arno; y mae yn dechreu myned yn hen.' Ar ôl y bregeth, cawsom y mawr hyfrydwch o eistedd i lawr wrth Fwrdd yr Arglwydd, a'n hanwyl Henry yn gweinyddu. Yr oedd bron yn ormod i'n teimladau ddal, ac mewn gwirionedd, yr oedd fel rhyw nefoedd fechan i ni ar y lawr."

Cyn hir wedi hyn, dechreuodd y Parch. Ebenezer Richard ymglafychu, a bu farw ym mis Mawrth, 1837; er dirfawr dristwch i'w fab tyner—galon, yr hwn a'i carai ac a'i hedmygai mor fawr, a cholled anhraethol i Gymru.

Pan gymerodd Mr. Richard ofal yr eglwys yn Old Kent Road, nid oedd ei ragolygon yn addawol iawn. Er fod ei gynulleidfa yn fawr, nid oedd yr eglwys ond bechan mewn rhif, a'i haelodau heb fod yn rhy unedig ychwaith, fel yr oedd yn gofyn doethineb mawr ar ran gŵr ieuanc 23ain oed i gyflawni y gwaith pwysig y galwyd ef iddo. Nid rhyfedd oedd i'w dad ei gynghori i gofio yr hen ddihareb Gymreig —

"Gwel a chêl a chlyw,
A chei heddwch yn dy fyw,"

cyngor y byddai yn dda i lawer gweinidog, hen ac ieuanc, ei gymeryd y dyddiau hyn. Arbedid felly lawer o anghysur.

O dan ofal doeth Mr. Richard, cynyddodd yr eglwys mewn rhif, ymadfywiodd y gwahanol sefydliadau perthynol iddi, a'r Ysgol Sul yn arbennig Bu Mr. Richard yn weinidog yng nghapel Marlborough am dros bymtheg mlynedd.

(1843) Yn 1843, cafodd y gweinidog ieuanc gyfleustra i ddangos yr eiddigedd hwnnw a nodweddai ei fywyd dros gymeriad ei genedl, trwy ysgrifennu i'r Daily News, a hefyd trwy bapur a ddarllenodd o flaen yr Undeb Cynulleidfaol yn achos y rhai a alwent eu hunain yn blant Rebeccah yn Neheudir Cymru y pryd hwnnw yr oedd y toll-byrthi yn faich trwm ar warrau y ffermwyr. Troent allan yn y nos, ac ymffurfient yn finteioedd o bum cant mewn nifer, a'u harweinwyr wedi eu gwisgo mewn dillad merched, a dinistrient y tollbyrth, ac yna ymwasgarent. Galwent eu hunain yn " blant Rebeccah," mewn cyfeiriad at yr addewid (Gen. xxiv. 60) y byddai i had Rebeccah etifeddu porth ei gaseion (possess the gate of those which hate them). Rhoddai y newyddiaduron ddesgrifiad ofnadwy o'r terfysgoedd hyn, a chymerid achlysur i ddifrïo y Cymry yn gyffredinol. Er nad oedd Mr. Richard, fel y gallesid disgwyl i'r hwn a ddaeth wedi hynny, mewn modd neilltuol, yn "Apostol Heddwch," yn cyfreithloni y terfysgoedd hyn, eto dangosodd yn ei ysgrifau nad oedd din amcan politicaidd mewn golwg, ond fod y cwbl yn codi oddiar orthrwm annioddefol, Y canlyniad fu penodi dirprwywyr i wneud ymchwiliad ; dangoswyd fod Cymru yn wlad heddychol ymhob modd arall, a phasiwyd mesur ag oedd yn gwella llawer ar sefyllfa pethau, a chafodd Mr. Richard ddiolchgarwch cynhes ei gydwladwyr am yr hyn a wnaeth.

Nid oedd gweinidog capel Marlborough mor ffôl a meddwl ei fod yn llychwino ei gymeriad trwy gymeryd rhan mewn materion gwladwriaethol, yn enwedig y materion hynny ag oedd yn dwyn cysylltiad ag addysg y bobl. Ymunodd â'i frodyr Ymneilltuol i wrthwynebu mesur Syr James Graham ar Addysg yn y Llaw-weithfeydd, ac, yn ddilynol, yn ffurfiad yr Anti-State Church Association, neu "Cymdeithas Rhyddhad Crefydd."

(1844) Yn 1844 hefyd fe'i penodwyd gan yr Undeb Cynulleidfaol i ymweled ag Eglwysi Anibynnol Cymru gyda'r Parch. John Blackburn, a chafwyd Adroddiad ganddynt ar Sefyllfa Crefydd ac Addysg yng Nghymru.

(1847) Gwnaeth Mr. Richard wasanaeth neilltuol i'w genedl yn 1847, yn amser yr hyn a ddaeth ar ôl hynny, i gael ei alw yn "Frad y Llyfrau Gleision." Nid oes un Cymro cenedl-garol nad yw naill a'i wedi darllen am, neu yn cofio y cyffro a godwyd ymysg y Cymry tua'r adeg yma. Yr oedd y cwestiwn o nifer cymhariaethol Ymneilltuwyr ac Eglwyswyr yng Nghymru wedi bod yn tynnu sylw cyffredinol, ac yn 1846 darfu i Weinyddiaeth Arglwydd John Russell ymgymeryd â'r gorchwyl o chwilio i mewn i "sefyllfa addysg yn Nhywysogaeth Cymru, ac yn enwedig y moddion oedd yng nghyrraedd y dosbarth gweithiol i feddu gwybodaeth o'r iaith Saesneg." Er mor dda y gallasai yr amcan fod, troes allan yn dra aflwyddiannus. Gyda'r dylni, neu'r difaterwch hwnnw, sydd yn rhy fynych wedi nodweddu ymddygiad y Llywodraeth at Gymru, penodwyd tri o fargyfreithwyr hollol anghymwys i'r gwaith, sef Mr. Lingen, Mr. Vaughan Johnson, a Mr. Symons. Yr oedd y tri yn Eglwyswyr; yr olaf yn elyn pendant i Ymneilltuaeth Gymreig. Nid oedd un ohonynt yn deall Cymraeg, a chamarweiniwyd hwynt yn druenus gan y rhai y daethant i gysylltiad â hwynt. Ymgynghorasant yn bennaf ag esgobion a chlerigwyr; yr oedd y rhai a alwyd ganddynt i roddi tystiolaeth bron i gyd yn Eglwyswyr, ac o'r Eglwyswyr hynny yr oedd tri o bob pedwar yn glerigwyr. Beth oedd i'w ddisgwyl oddiwrth y fath ddirprwyaeth ond Adroddiad unochrog ac annheg? Nid rhyfedd i Ieuan Gwynedd ganu fel hyn am waith y Weinyddiaeth:—

Anfonodd dri yspiwr,
Pob un yn llwm gyfreithiwr,
A'r tri yn Saeson uchel ben,
I Gymru wen mewn ffwndwr.

Y tri wŷr awdurdodol
A aent mewn brys ryfeddol
I gasglu pob budreddi cas
Yn llyfrau glas anferthol.

Ar ôl eu cael yn gryno,
Hwy aethant oll i lunio
Rhyw dri o lyfrau gleision, hyll,
Wnant ym mhob dull ein beio.

Tynnwyd darlun o'r Cymry yn y llyfrau gleision trwchus hyn ag oedd yn synnu Saeson a Chymry fel eu gilydd. Codai y Wasg Seisnig ei dwylaw mewn syndod fod pobl mor farbaraidd yn cyfansoddi rhan o deyrnas Prydain wareiddiedig. Yr oedd Cymru, yn ôl desgrifiad un papur, wedi suddo i ddyfnder anwybodaeth, ac i gors aflendid a llygredigaeth; yr oedd ei harferion mor anifeilaidd fel na oddefent ddesgrifiad.

Fel y gellid disgwyl, tarawyd y Cymry â syndod a digofaint. Nid y desgrifiad a roddai y Dirprwywyr o sefyllfa addysg oedd yn tynnu sylw gymaint. Gwyddai y Cymry am eu diffygion yn y wedd honno ar y pryd, ac nid oedd neb yn fwy awyddus i wella pethau na hwy, fel y mae hanes y Dywysogaeth yn y blynyddoedd dilynol wedi profi. Ac yn yr ystyr yma hwyrach fod Adroddiad y Dirprwywyr wedi gwneud lles i ni fel cenedl. Ond am y desgrifiad o agwedd foesol y genedl, cynhyrfodd y Cymry ym mhob man. Mae yn anhawdd i'r rhai nad ydynt yn ddigon hen i gofio y dyddiau hynny ffurfio barn, fel y gall yr ysgrifennydd, am y modd y cyffrôdd y Cymry yng ngwyneb y gwaradwydd a daflwyd arnom fel cenedl ar y pryd. Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus, traddodwyd areithiau grymus, ysgrifennwyd erthyglau i'r newyddiaduron, a chyhoeddwyd pamphledau lawer. Gwnaeth y diweddar Dr. Lewis Edwards, Ieuan Gwynedd, ac ereill, wasanaeth mawr trwy amddiffyn ein cymeriad fel cenedl. Yr oedd erthyglau Dr. Edwards yn y Traethodydd yn eiriasboeth a miniog dros ben, a'i ymosodiad ar y man glerigwyr celwyddog a fwriasant eu llysnafedd arnom wrth y Dirprwywyr yn dra nerthol. Chwipiodd hwynt fel y gwnelai tad digofus chwipio bachigen drwg a boerodd i wyneb ei fam. Do, cystwyodd hwynt fel yr haeddent. Mae'n wir fod y Dr., wrth gyhoeddi ei Draethodau Llenyddol yn llyfr yn ysgrifennu mewn nodiad ei fod yn ystyried bu yn "rhy chwerw o lawer" yn yr erthygl yn y Traethodydd, ond nid yw hynny ond dangos tymer garedig y Dr., a'i fod wedi oeri llawer ymhen blynyddau wedi i'r cyffro ddarfod. Ond pan gofiwn yr holl amgylchiadau, a'r teimladau oedd wedi eu codi, nis gallwn lai na meddwl fod y rhai yr ymosoda y Dr. arnynt yn cyfiawn haeddu y fflangell, oddigerth, hwyrach, mai gwell fuasai peidio priodoli gau ddibenion i neb. Pan gofiom y cyhuddiadau, nid rhyfedd fod pob Cymro yn teimlo i'r byw dros gymeriad ei genedl, ac yr oedd yn anhawdd cael neb a allasai ddefnyddio y fflangell yn fwy effeithiol na'r doctor dysgedig o'r Bala.

Ond nid oedd y Saeson, er hyn i gyd, yn gwybod nemawr am ein digofaint fel cenedl hyd nes y daeth Mr. Henry Richard allan i'n hamddiffyn. Yr oedd cwrs o ddarlithoedd yn cael eu traddodi y pryd hwn ar "Addysg," o dan nawdd y Bwrdd Cynulleidfaol. Gofynnwyd i Mr. Richard draddodi un ar "Gynnydd ac effeithiolrwydd addysg wirfoddol yng Nghymru." Ond methodd teimlad cenedlgarol Mr. Richard a pheidio troi holl gwrs ei ddarlith i amddiffyn cymeriad y Cymry yn erbyn camgyhuddiadau y Dirprwywyr. Dygodd ffeithiau diymwad, trefnodd hwynt mewn modd meistrolgar, curodd hwynt ar eingion ei hyawdledd nes oeddent yn wynias, a daliodd hwynt o flaen cynulleidfa astud, do, am ddwy awr a hanner! Cyhoeddwyd y ddarlith yn y British Banner, ac wedi hynny ymysg y Crosby Hall Lectures. Nid oes un Cymro a ddarlleno y ddarlith hon na theimla ei galon yn cynhesu mewn diolchgarwch i'r gweinidog cymharol ieuanc hwn oedd fel hyn yn sefyll yn ddewr yn y brif ddinas i droi yn ôl, gyda'r fath rym, y picellau gwenwynig a anelwyd gan y Dirprwywyr at galon Cymru. Cof gan yr ysgrifennydd ddarllen y ddarlith ar y pryd yn y British Banner, ac wrth ei darllen yr oedd ei galon Gymreig yn curo, a' i waed yn cyflymu trwy ei wythiennau. Cynghorem y darllenydd i astudio y ddarlith hon os caiff afael arni. Goddefer i ni ddyfynnu yr ychydig eiriau olaf o honni. Ar ol condemnio y Dirprwywyr am gasglu pob budreddi a allent fel esiamplau o gymeriad y Cymry, y mae yn gofyn pa le, yn y llyfrau gleision, yr oedd dim i'w gael am eu rhinweddau, ac yna y mae, gyda hyawdledd, yn eu nodi, a therfyna gyda'r geiriau canlynol : —

"Pa le mae'r hanes am gymeriadau a rhinweddau y dynion hyn? Y mae cannoedd a miloedd ohonynt i'w cael yr wyf yn gwybod. Onid wyf wedi bod yn sefyll o dan eu cronglwydydd llwydaidd, lle yr oedd y tylathau noethion wedi eu caboli a'u duo gan fwg mawn y mynyddoedd? Onid wyf wedi eistedd wrth eu byrddau ffawydd, noeth, i gyfranogi o'u bara ceirch a'u llaeth enwyn, bwyd, er mor gyffredin ydoedd, y teimlent yn falch cael ei gynnyg yn groesawus? Onid wyf wedi penlinio ar y llawr pridd wrth erchwyn y gwelyau gwael yr oeddynt yn gorwedd arnynt, ac wedi clywed gwersi yn disgyn oddiar wefusau oeddent yn welw gan ddynesiad angeu, yn dangos ymostyngiad Cristionogol ac ymddiried santaidd a gorfoleddus yn Nuw, y fath na chlywais yn un man arall? Pa le, meddaf, y mae y dynion hyn, y rhai a wasgarasant oleu eu duwioldeb gostyngedig dros fryniau a dyffrynnoedd gwlad fy ngenedigaeth? Nid wyf yn canfod dim son am danynt yn y llyfrau gleision hyn, a hyd nes y gwnaf ganfod hynny, yr wyf yn gwrthod derbyn eu cynhwysiad fel darluniad teg o gymeriad fy nghydwladwyr."

Parodd traddodiad yr araeth ardderchog hon i enw Mr. Richard gael ei barchu yn fawr gan Gymru. Teimlai fod un o'i phlant ei hun wedi anturio sefyll i fyny yn ddewr i'w hamddiffyn yng nghanol ei gelynion, a gwnaeth fwy i ddyrchafu ei chymeriad nag, ond odid, a wnaeth y Dirprwywyr i'w darostwng.

Yn ystod yr amser hwn yr oedd Mr. Richard yn ymgysegru i'w waith gweinidogaethol yng nghanol ei lyfrau, yn debyg iawn fel y dychmygai ei dad, cyn hynny, am dano wrth ysgrifennu ato, sef ei fod "yn awr yn y parlwr, maes law yn y pulpud, weithiau yn eich ystafell, pryd arall yn nhŷ'r capel, yn awr yn parottoi eich pregethau, yn fuan ar ol hynny yn eu traddodi, weithiau yn eich ystafell yn ymdrechu gyda Duw, ac ymhen ychydig drachefn, yn y deml yn cynghori, yn gwahodd, ac yn ymresymu â phechaduriaid." Dyna yn hollol oedd bywyd gweinidogaethol Mr. Richard, er ei fod yn ychwanegu, at hynny, gyfansoddi a thraddodi areithiau ar faterion ereill y tu allan i'r pulpud. Fel Dr. Chalmers, darllen ei bregethau y byddai Mr. Richard bron bob amser, ond, fel y Dr., darllenai hwynt yn y fath fodd fel nad oeddid yn colli dim bron o'r dylanwad hwnnw ag sydd yn gwneud traddodiad rhydd mor effeithiol. Clywodd yr ysgrifennydd ef yn traddodi darlith, yr hon a ddarllenai, gyda'r fath nerth fel ag i gyffroi yr holl gynulleidfa i'r brwdfrydedd mwyaf.

Yn y Traethodydd am y flwyddyn 1848 cawn erthygl ddysgedig o'i eiddo ar "Athroniaeth y meddwl," sef adolygiad ar lyfr Morell ar "Athroniaeth Ewrob yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg;" erthygl ag sydd yn dangos fod Mr. Richard yn wir etrydydd, ac yn gallu ysgrifennu Cymraeg da ar bwnc dyrus mewn athroniaeth. Fel hyn yr oedd Mr. Richard, trwy astudiaeth ddwys a llafur diflino, yn cymhwyso ei hun i'r gwaith mawr a phwysig a gyflawnodd yn ei oes. Gweithiwr, ac nid segurwr, ydoedd.

PENNOD IV

Mr. Richard yn cael ei benodi i fod yn Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei lafur dros y Gymdeithas—Cynhadleddau Brussels, Paris, Frankfort, a Llundain—Yn rhoi i fyny ei Swydd Weinidogaethol—Arglwydd Palmerston a'r Gymdeithas Heddwch—Cynhadleddau Manchester ac Edinburgh.


(1848) Yn y flwyddyn 1848, ymgymerodd Mr. Richard â gorchwyl a droes allan wedi hynny yn brif waith ei fywyd, gwaith a'i dygodd i gysylltiad â rhai o brif enwogion y deyrnas a Chyfandir Ewrob ac America, ac a wnaeth ei enw yn adnabyddus ym mhob man fel prif "Apostol Heddwch." Cyfeiriwn at ei benodiad, ym mis Mai y flwyddyn uchod, i fod yn ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch yn lle y Parch. John Jefferson, yr hwn a ymddiswyddodd oherwydd afiechyd. Profwyd, yn ystod y blynyddoedd dyfodol, mai gwir oedd datganiad pwyllgor y Gymdeithas eu bod yn cael yn Mr. Richard "olynydd galluog ac effeithiol."

Bu y Gymdeithas Heddwch yn ymlwybro ymlaen er dechreu y ganrif. Yr oedd y wlad y pryd hwnnw wedi syrffedu ar y rhyfeloedd, y rhai a derfynasant yng Nghynhadledd Heddwch Paris ym mis Tachwedd, 1815, a theimlai Cristionogion yn arbennig, fod yn llawn bryd meddwl o ddifrif am ryw lwybr i derfynu cwerylon rhwng teyrnasoedd, heblaw yr un barbaraidd o osod dynion i ladd eu gilydd. Mor fuan a'r flwyddyn 1814, galwodd un Mr. William Allen, F.R.S., aelod o Gymdeithas y Cyfeillion (Crynwyr), nifer o fonheddwyr i'w dŷ i geisio sefydlu cymdeithas i'r amcan hwnnw; ond ni wnaed hynny hyd y flwyddyn 1816, pan y darfu i Mr. Allen, a'i gyfaill, Joseph Tregelles Price o Sir Forgannwg, yntau yn Grynwr, alw nifer o gyfeillion a sefydlu Cymdeithas Heddwch. Yr oedd mwyafrif yr aelodau yn Grynwyr, ond nid yr oll. Egwyddor y gymdeithas oedd "fod rhyfel yn groes i ysbryd Cristionogaeth a gwir les dynolryw." Nid oedd, ac nid yw, y gymdeithas yn cau allan neb sydd "yn awyddus i ymuno i ddwyn oddi amgylch dangnefedd ar y ddaear, ac ewyllys da i ddynion."

Ffurfiwyd canghennau ar y cyfandir, a pharhawyd i gadw yr egwyddor o flaen y byd trwy y Wasg a thrwy foddion ereill yn ystod yr holl flynyddoedd. "Am flynyddau lawer," medd Mr. Richard ei hun mewn erthygl yn y Traethodydd am 1849, t.d. 239," taflwyd arnynt hwy a'u hymdrechion bob dirmyg; nid yn unig gan ein pendefigion a'n llywodraethwyr a'r gad filwraidd o bob gradd, y rhai oeddent, 'oddiwrth yr elw hwn, yn derbyn eu golud, ond gan y rhan amlaf o lawer o Gristionogion ein gwlad, ac hyd yn oed gan lawer o weinidogion yr Efengyl."

Blwyddyn hynod oedd 1848, y flwyddyn y penodwyd Mr. Richard i'r swydd; blwyddyn drylliad gorseddau, syrthiad coronau, chwaliad hen sefydliadau a ffoad brenhinoedd. Ym Mhrydain yr oedd cyffro ymysg y Chartiaid, ac yn yr Iwerddon ymysg y Gwyddelod; ar y cyfandir fe gyhoeddwyd rhyfel rhwng Awstria ag Itali, a rhwng Germani a Denmarc. Yr oedd yr Unol Dalaethau a Mexico hefyd yn ymladd brwydrau creulon a'u gilydd. Yn Switzerland yr oedd rhyfel cartrefol rhwng y gwahanol randiroedd (cantons) yn ysu y wlad; a Ffrainc, fel y gwyddys, fel crochan berwedig ar y pryd. Bu raid i Louis Phillippe, brenin Ffrainge, ddianc i Loegr o dan yr enw Mr. Smith, a chyhoeddwyd y Weriniaeth. Tybiodd rhai fod dydd dymchweliad pob trais a gormes wrth y drws, ac aeth llawer i astudio y seliau a'r phiolau, ac esponio y proffwydoliaethau. Bu un o brif feirdd a darlithwyr Cymru yn prysur esbonio y dirgeledigaethau ac yn dyfalu am y dyfodol.

Aeth Mr. Richard, pa fodd bynnag, nid i ddychymygu, ond i weithio. Credai fod y "dirgeledigaethau yn eiddo yr Arglwydd," a bod llafurio mewn achos da yn un o'r "pethau amlwg" a roddwyd iddo ef. Taflodd ei hunan o ddifrif i'r gwaith a gymerasai mewn llaw, a theimlai mai dyma'r pryd i gyfeillion heddwch godi eu llef o blaid eu hegwyddorion. Rhoes fywyd newydd yn y gymdeithas. Ymysg pethau ereill, perswadiodd ei phwyllgor i annerch gwahanol lywyddion y teyrnasoedd mewn ymrafael i geisio eu perswadio i wrando ar lais rheswm; a phan godwyd y cri yn Lloegr, fel y gwneir bob amser gan y blaid filwrol pan welant gyfleustra, fod y wlad hon hefyd mewn perygl, defnyddiodd Mr. Richard ei ysgrifell a'i lais i wneud a allai, mewn cydweithrediad a'i gyfeillion, Cobden a Bright, i dawelu yr ystorm, ac nid oes neb a all fesur y lles a wnaeth y gwŷr da hyn ar y pryd. Pan ddaeth ei gyfaill, Elihu Burritt, y gof dysgedig, drosodd o'r America i'r wlad hon gyda'i gynllun i gynnal nifer o Gynhadleddau rhyngwladwriaethol, cafodd groesaw calon gan Mr. Richard, a chan yr hen Grynwr gwrol, Joseph Sturge o Birmingham. Y mae Mr. Richard ei hun yn y rhifyn a nodwyd eisoes o'r Traethodydd, o dan y pennawd "Heddwch," yn rhoi hanes y Gynhadledd gyntaf yn Brussels; ond gyda'i ledneisrwydd arferol ceidw ei hun o'r golwg, er mewn gwirionedd, mai efe a Mr. Burritt oedd enaid y gynhadledd bwysig hon. Yr oedd ymgymeryd â'r fath waith, ar y fath adeg gyffrous yn hanes Ewrob, yn gofyn doethineb a gwroldeb digyffelyb. Dyma'r tro cyntaf i'r fath ymgynulliad gymeryd lle o blaid heddwch, ac yr oedd yr anawsterau ar y ffordd yn ymddangos ar y pryd yn anorfod. Yr oedd y bobl—er wedi blino ar ryfel—eisieu eu deffroi a'u codi i weithio ymhlaid egwyddorion heddwch, ac ymaflodd Mr. Richard yn y gorchwyl hwn gydag ynni a llafur dihafal.

Aeth efe a Mr. Burritt i Brussels i wneud y trefniadau; ymwelsant â phrif ŵyr Llywodraeth Belgium, a dadleuasant eu hachos gyda sêl a doethineb nid bychan. Gorchymynnodd M. Rogier, y Prif Weinidog, i'w ysgrifennydd roddi iddynt lythyrau at amryw o brif ddinasyddion Brussels, ac ymysg ereill at M. Visschers, yr hwn oedd ei hun yn aelod o'r Llywodraeth, a'r hwn a etholwyd mewn canlyniad i fod yn Llywydd y Gynhadledd. Ar ol gwneud yr holl drefniadau, aeth 200 o Ddirprwywyr Prydeinig ac Americanaidd ar y 19eg o Fedi i Ostend, ac aethant mewn cerbydres arbennig, wedi ei danfon ar draul y Llywodraeth, oddiyno i Brussels.

Cynhaliwyd y Gynhadledd yn neuadd ardderchog yr Harmonic Society, yr hon oedd wedi ei haddurno â banerau y gwahanol deyrnasoedd; parhaodd am dridiau, a chymerwyd rhan yn y cyfarfodydd gan rai o wŷr enwocaf Ffraingc, Holland, Itali, America a Phrydain. Yr oedd yno hefyd gynrychiolwyr o Loegr, Ysgotland a Chymru.

Er fod y Cynhadleddau hyn bellach yn rhai blynyddol, yr oedd yr un gyntaf fel hyn yn Brussels yn tynnu sylw yr holl fyd gwareiddiedig ymron. Fel y dywed Mr. Richard ei hun, "Peth newydd yn hanes y byd oedd gweled trigolion saith neu wyth o wahanol wledydd Ewrob, y rhai a fuont am lawer o ganrifoedd yn cashau, yn rhwygo, ac yn traflyncu eu gilydd, yn awr yn eistedd ochr yn ochr i ystyried y dull goreu i uno holl genhedloedd y ddaear yn rhwymyn tangnefedd."

Ar ddiwedd y Gynhadledd, dywedodd y Llywydd,—"Y mae presenoldeb Apostolion, Heddwch (Mr. Richard a Mr. Burritt) yn ddigwyddiad ag y mae ein pobl ni yn cymeryd dyddordeb mawr ynddo, a da gennyf ddweud fod carreg gyntaf Teml Heddwch wedi ei gosod yn Brussels." Fel hyn y coronwyd llafur y gof dysgedig o'r America, a'r pregethwr ymneilltuol o Loegr y Cymro o Dregaron—â llwyddiant annisgwyliadwy, a phenderfynwyd cynnal Cynhadledd gyffelyb y flwyddyn ddyfodol yn Paris.

Byrdwn araeth Mr. Richard oedd, fod rhyfel yn hollol anghyson â holl ysbryd Cristionogaeth. Teimlai fel cynrychiolydd y Gymdeithas Heddwch, fod eisieu rhoi arbenigrwydd i'r wedd hon ar y pwnc,—

"Er y gellid" meddai, "gael rhesymau anwrthwynebol yn erbyn rhyfel oddiwrth egwyddorion cyfiawnder, dyngarwch, rhyddid, gwareiddiad, a masnach, eto nid oedd condemniad rhyfel yn dod o un man gyda chymaint o awdurdod a phwyslais, a phan y dygid ef at faen prawf Cristionogaeth. Pan ystyrid beth oedd rhyfel, ei ddrygau, ei greulonderau, ei erchyllderau, yr egwyddorion drygionus, sef uchelgais, trachwant, a dialedd, oedd yn rhoi bod iddo; fel yr oedd yn dwyn allan holl nwydau mwyaf drygionus ein natur, dig, cenfigen, casineb anghymodlawn a nwydau anifeilaidd; pan gofid beth oedd rhyfel wedi ei wneud ym mhob oes, y dinistr ac ing a ddygasai i anheddau y ddynoliaeth, fel yr oedd wedi gorchuddio y ddaear â gwaed goreu ei meibion, wedi herio honiadau iawnder ac wedi dirdreisio ysbryd dynoliaeth; y modd yr oedd wedi hyrddio miliynau o ddynion i bresenoldeb ofnadwy y Barnwr tragwyddol a'u dwylaw wedi eu trybaeddu yng ngwaed eu brodyr, a'u hysbrydoedd wedi eu llyrgunio gan y nwydau mwyaf creulon a gorwyllt; pan ystyrid yr holl bethau hyn, yr oedd, mewn gwirionedd, yn ymddangos yn beth hynod fod yn rhaid i neb sefyll i fyny yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg o oes Crist, yng nghanol gwledydd Cristionogol, i geisio profi fod y fath gyfundrefn a hon o angenrheidrwydd yn hollol anghydweddol, ac mewn gwrthdarawiad tragwyddol â holl ysbryd a naws crefydd Crist."

Aeth Mr. Richard ymlaen fel hyn gyda hyawdledd ag oedd yn cario dylanwad anghyffredin ar y dorf o ŵyr enwog oedd o'i flaen, a diweddodd ei araeth yn y geiriau a ganlyn,—

"Uwchlaw popeth rhaid i ni ddangos rhyfel yn ei liw ei hun. Rhaid i ni feddu digon o wroldeb i rwygo'r gorchudd oddiar ei wyneb; ac heb falio dim am y pomp a'r gwychder sydd ynglŷn ag ef, a'r ymadroddion chwyddedig am anrhydedd, gwladgarwch, a gogoniant, â pha rai y mae yn arfer cuddio a lliwio ei wir gymeriad, rhaid i ni ei ddangos o flaen llygad y byd fel y mae mewn gwirionedd; yn llofrudd cawraidd wedi meddwi ar chwant ac uchelgais, ac wedi ei drybaeddu yn arswydus gan waed ei fyrddiwn aberthau."

Nid ydym yn gwneud un esgusawd dros roddi ychydig ddarnau fel hyn o araeth gyntaf Mr. Richard yn y Gynhadledd yn Brussels. Dangosant ei fod wedi ei drwytho â'r un ysbryd o atgasrwydd at ryfel, a'i fod yn defnyddio yr un rhesymau yn ei erbyn, sef ei wrthdarawiad uniongyrchol yn erbyn Cristionogaeth, ag a fu yn ei lywodraethu trwy ei oes.

Rhoes y Gynhadledd hon symbyliad neilltuol i achos heddwch. Casglwyd cronfa o bum mil o bunnau, a helaethwyd yr Herald of Peace, yr hwn a olygid ac yr ysgrifennid iddo yn helaeth gan Mr. Richard ei hun. Tynnwyd sylw at gwestiwn Heddwch hefyd trwy fod Mr. Cobden wedi dwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Senedd ar y 14eg o fis Mehefin, 1849, pryd y cafwyd 79 allan o 176 o'i blaid.

Gwnaeth Mr. Richard lawer o blaid y cynygiad hwn, a bu hefyd yn gynhorthwy mawr i Mr. Cobden yn ei lafur yn achos heddwch; oblegid erbyn hyn, ystyrrid ef yn un o'r awdurdodau uchaf ar gwestiynau yn dwyn cysylltiad â'r achos. Cynhaliodd Elihu Burritt ac yntau, gydag ereill, ym mhrif drefydd y deyrnas, o ddeugain i hanner cant o gyfarfodydd o blaid egwyddorion heddwch ; a diau fod y llwyddiant a gyfarfu Mr. Cobden pan ddygodd y pwnc o flaen y Tŷ fel hyn am y waith gyntaf, i'w briodoli, i fesur mawr iawn, i lafur Ysgrifennydd brwdfrydig y Gymdeithas Heddwch. Mewn llythyr at Mr. Sturge, dywed Mr. Cobden fod y deisebau cyntaf o blaid Cyflafareddiad yn cael eu derbyn gan aelodau y Tŷ gyda gwawd a dirmyg cyffredinol ; ond pan ddygodd ei gynhygiad ymlaen, cafodd y gwrandawiad mwyaf astud. Ac y mae yn cynghori Mr. Sturge, fel y cynghorodd Mr. Richard ar ol hynny, i lynu wrth yr egwyddor fod rhyfel yn anghristionogol, tra y byddai ef ac ereill yn dadleu y wedd boliticaidd ac ymarferol ar y cwestiwn. Daliodd Mr. Richard hyd y diwedd, fel Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch i gymeryd y safle hwn yn ol cyngor Mr. Cobden. Ar yr un pryd, byddai yn aml iawn yn yr Herald of Peace, a phob amser yn y Senedd, yn condemnio rhyfel oddiar yr un safle ymarferol ag a gymhellid gan Mr. Cobden ei hun.

(1849) Ym mis Ebrill, 1849, aeth Mr. Richard ac Elihu Burritt i Paris i wneud trefniadau ar gyfer Cynhadledd Heddwch yno. Yr oedd y gwaith yr ymgymerasant âg ef yn fawr, Ymwelasant âg aelodau Senedd Ffraingc, aelodau y Weinyddiaeth, awdwyr enwog, a golygwyr newyddiaduron; ac o'r diwedd cawsant dderbyniad hyd yn oed i dŷ yr enwog Lamartine fwy nag unwaith, yr hwn a ddatganai ei barodrwydd i wneud a allai o blaid eu hamcan. Mae y desgrifiad a rydd Mr. Richard yn ei ddyddlyfr o'r derbyniad a gawsant, ac o'u hymweliad â rhai o enwogion ereill Paris yn dra dyddorol. Mawr gymeradwyent yr amcan oedd gan y ddau gennad hyn mewn golwg, a dymunent bob llwyddiant iddynt; ond prin yr oedd neb o honynt yn edrych ar yr ymgais i roddi terfyn ar ryfel yn beth tebyg i lwyddo. Wrth gwrs, yr oedd yn gofyn gwroldeb, doethineb, a gochelgarwch mwy na chyffredin wrth ymddiddan fel hyn â gwŷr enwog Ffrainc, ond nid oedd yn hawdd cael neb oedd yn meddu y cymwysterau hyn i raddau mwy helaeth na Mr. Richard a'i gyfaill, Mr. Burritt.

Cynhaliwyd Cynhadledd Paris yn Awst, 1849, Victor Hugo yn llywydd. Yr oedd yna ŵyr enwog yn cynrychioli Prydain, America, Ffrainc, Germani, Itali, a mannau ereill. Tynnai Mr. Cobden sylw neilltuol. Siaradai yn Ffrancaeg. Yr oedd yr areithiau a draddododd yn wir ardderchog. Yr ydym yn teimlo wrth eu darllen yn awr fod yn resyn na ddarllenid hwynt eto yn y dyddiau hyn gan gyfangorff ein pobl. Yr oedd yr adroddiadau yn y newyddiaduron ar y cyfan yn ffafriol. Anghofiodd eu golygwyr gymysgu eu diferynnau arferol o wermod â'u beirniadaethau, oblegid yr oedd y syniad o blaid heddwch yn dechreu gafael, ac nid hawdd oedd ei wawdio o fod; a theimlai Mr. Richard lawenydd nid bychan wrth ganfod hynny. Ac nid tâl i'w fynwes yn unig a gafodd, ond derbyniodd dâl sylweddol yn y ffurf o Archeb am 1,000p., a Beibl Teuluaidd ardderchog, fel arwydd o barch ychydig o gyfeillion am ei lafur yn achos heddwch. Ymysg y tanysgrifwyr yr oedd enwau Cobden, Bright, Morley, a Sturge, yr hyn oedd yn dangos y pris uchel a roddai y gwŷr da hyn ar lafur Mr. Richard.

Cynhaliwyd cyfarfodydd mawrion hefyd fel math o Ategiad i'r Gynhadledd yn Llundain, Manchester, a Birmingham, yn y rhai y darllenwyd llythyrau oddiwrth y fath wŷr enwog a Victor Hugo, Lamartine, ac ereill. Yr oedd areithiau Cobden a Bright yn frwdfrydig, yn gryfion ac argyhoeddiadol iawn, ac yn cario dylanwad mawr.

Codai y cwestiwn bellach ai nid dyledswydd Mr. Richard oedd rhoi i fyny ei swydd weinidogaethol fel y gallai ymgysegru yn fwy llwyr i'r gwaith mawr a phwysig yr oedd Rhagluniaeth yn ei dorri allan iddo. Gwnaeth y pwnc yn fater gweddi ddwys ac ystyriaeth ddifrifol, a daeth i'r penderfyniad mai dyna oedd ei ddyledswydd; fod dadleu o blaid "tangnefedd ar y ddaear" yn rhan o'r " Newyddion da o lawenydd mawr" y daeth y "llu nefol" i'w cyhoeddi uwch ben meusydd Bethlehem i'r byd, a'i fod yn waith mor gysegredig ymhob ystyr a'r gwaith yr oedd yn ei gario ymlaen yng Nghapel Marlborough.

(1850) Yn 1850, gan hynny, rhoes i fyny ei gysylltiad â'i eglwys, a danghosodd yr eglwys ei pharch iddo trwy ei anrhegu mewn cyfarfod cyhoeddus â phwrs o aur, a chopi cyflawn o'r Encyclopaedia Metropolitana. Wedi ei ryddhau fel hyn, ymdaflodd Mr. Richard yn llwyr i'r gwaith mawr yr ymgymerasai âg ef, a'r hwn oedd bellach yn cymeryd bron ei holl amser, ac i fod o hyn allan yn brif waith ei fywyd. Aeth efe ac Elihu Burritt i Germani i wneud darpariadau ar gyfer Cynhadledd Heddwch yn Frankfort. Mae Mr. Richard, mewn llythyr a ysgrifennodd at Mr. Stokes, Ysgrifennydd Cynhorthwyol y Gymdeithas Heddwch, dyddiedig Halle, Gorffennaf 16, 1850, yn rhoi hanes y daith i Frankfort; hanes ag sydd yn dangos gallu desgrifiadol o radd uchel. Buasai yn ddifyr gennym roddi difyniadau helaeth o honno, ond elai hynny a gormod o le.

Cawsant dderbyniad tywysogaidd ar y ffordd, yn Paris, yn Flanders, a mannau ereill, a gwnaethant a allent i gyffroi meddyliau gwŷr mwyaf dylanwadol y parthau hynny, a'u codi i roddi cynhorthwy i'r achos mawr yr oeddent yn ceisio ei hyrwyddo. Wedi cyrraedd Frankfort, y ddinas lle y coronid Ymerawdwyr Germani, ac y pregethodd Luther ynddi ar ol dychwelyd o'r Diet of Worms, ymwelwyd â rhai o ŵyr pennaf y lle. Cafwyd caniatâd y Senedd i gynnal y Gynhadledd, a gwnaed trefniadau i gynnal y cyfarfodydd yn Eglwys St. Paul. Nid gorchwyl hawdd oedd symud y rhwystrau oedd ar eu ffordd, anewyllysgarwch rhai, eiddigedd ereill, a gwrthwynebiad y lleill, ond darfu i "heddychlawn ddyfodiad" y gwŷr hyn orchfygu pob anhawster. Ymwelodd Mr. Richard â dynion enwog, megis Dr. Tholuck, Dr. Hengstenberg, Dr. Dollinger, Baron Von Humboldt, ac ereill, a rhydd ddesgrifiad dyddorol iawn yn ei ddyddlyfr o'u personau a'u hymddyddanion. Amrywiant yn fawr yn eu syniadau am eu neges. Cafodd fod yr esboniwr enwog, Hengstenberg, yn credu yn gryf mewn rhyfel.

Yr oedd y Gynhadledd hon yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus, yn gymaint felly, fel y buasai yn dda gennym, pe buasai gofod yn caniatáu, roddi hanes cyflawn o honi. Daeth tua 500 o garedigion yr achos o Lundain yno, ac yr oedd Mr. Richard a Mr. Burritt wedi trefnu gyda llywodraethau Belgium a Phrwsia iddynt gael pasio trwodd heb drwyddedau teithio, ac wedi gwneud trefniadau ar gyfer lletya'r dieithriaid. Dywed Mr. C. S. Miall, ei fod ef yn un o'r teithwyr, ac nad anghofia yn fuan y bloeddiadau llongyfarchiadol gyda pha rai y derbyniwyd Mr. Richard a Mr. Burritt, pan ddaethant ar fwrdd y llestr i'w croesawu, ac y rhanasant y papurau angenrheidiol iddynt.

Yr oedd yr eglwys lle y cynhelid y Gynhadledd ynddi wedi ei haddurno yn brydferth, ac yn un mor fawr fel y cynhaliai tua 3,000 o bersonau. Llenwid y llawr gan y gwahanol gynrychiolwyr, a'r llofftydd gan wrandawyr. Dyddorol ydyw darllen fod y Cadfridog Haynau yno, y "Cigydd Awstraidd" fel y gelwid ef, fflangellydd merched Hungari, a'r hwn, ar y bydd o Fedi, 1850, a chwipiwyd gan y gweithwyr yn Narllawdy Barclay a Perkins pan ar ymweliad â Llundain. Hyderwn y cafodd fendith yn y gynhadledd, ac y cyffyrddwyd a'i gydwybod er daioni. Danghoswyd y brwdfrydedd mwyaf yn y cyfarfodydd, ac yr oedd areithiau y gwyr enwog ynddynt yn dra effeithiol. Bu raid i Mr. Cobden siarad fwy nag unwaith, a derbyniwyd ef bob tro gyda'r banllefau mwyaf byddarol. Nid peth bychan oedd fod y fath gynhadledd wedi pasio, yn ddiwrthwynebiad, benderfyniad yn condemnio byddinoedd sefydlog, ac yn galw ar y gwahanol deyrnasoedd i wneud ymgais i leihau eu byddinoedd.

Y siaradwyr yn y cyfarfodydd oeddent y gwŷr enwog canlynol:—Y Llywydd, Herr Jaup, diweddar Brif Weinidog Hesse Darmstadt, y Parch. J. Burnet, M. Coguerel (ieu.), y Parch M. Bounett, M. de Cormenin, y Parch. Henry Garnet, Dr. Creiznach, M. Emile de Girardin, Mr. L. A. Chamerozvou, M. Visichers, Herr Beck, Proffeswr Cleveland, o Philadelphia, Mr. R. Cobden, Charles Hindley, Ysw., A.S., y Parch. Rabbi Stein, M. Joseph Garnier o Paris, y Parch. Dr. Bullard, George Dawson o Birmingham, Dr. Hitchcock, Prif Athraw Coleg Amersham, yr Unol Daleithiau, y Parch. E. B. Hall, M. Drucker o Amsterdam, Ka-Ge-Gah-Bowh (Parch. G. Copway wedi hynny), un o benaethiaid yr Indiaid Coch, Dr. Weel, Dr. Bodurstedt, Edward Miall, Dr. Madonao, Elihu Burritt, Lawrence Heywood, A.S., y Parch. E. H. Chappin o Efrog Newydd, y Parch. Andrew Reid, B.A., Mr. Saeckhart o Frankfort, M. Corminin, a Henry Richard. Fe welir oddiwrth y rhestr uchod o enwau mai nid cyfarfodydd oedd y rhai y siaradai y fath ŵyr ynddynt y gellid eu dibrisio neu eu gwawdio. Yr oedd araeth Mr. Richard, wrth gynnyg diolchgarwch i Senedd Frankfort ac ereill, wrth adolygu y Gynhadledd a'i gwaith, yn un odidog. Desgrifia yn ddoniol iawn ddyfodiad cyntaf Mr. Burritt ac yntau i'r ddinas. Nid oeddent yn adnabod un dyn byw ynddi ond Dr. Varrentrapp. Yr oedd yr olwg am lwyddiant yn anobeithiol bron, ond ar ol danfon eu cais i'r Senedd cawsant atebiad cymeradwyol yn ddi—oed. Pe buasai gofod yn caniatáu, carasem gyfieithu yr oll o araeth ragorol Mr. Richard. Yr oedd pob brawddeg o honni yn derbyn cymeradwyaeth, ac y mae yn amlwg wrth ei darllen, fel y mae yn awr o'm blaen, fod ei waed Cymreig wedi cynhesu, a'i fod yn cael "hwyl" wrth ei thraddodi. Mae y dernyn canlynol yn rhy dda i'w adael allan —

"Rhybuddiwyd ni drachefn a thrachefn y derbynnid amcan ein Cynhadledd gyda chwerthiniad. Bydded felly. Byddem yn hollol annheilwng o fod yn amddiffynwyr achos mor ddyrchafedig a chysegredig pe na buasem wedi cymeryd i mewn i'r cyfrif y gallasem gyfarfod â gwawd y coegyn a'r hunan—geisiol, y rhai sydd yn awr, ac a fuont bob amser, yn gwrthwynebu pob meddylddrych mawr a haelfrydig pan gyflwynir ef gyntaf i'r byd. (cym.) Fy atebiad i i'r dirmygwr yw hwn,— Os oes rhyw un yn tybied mai peth rhesymol ydyw i fodau deallgar geisio sefydlu cyfiawnder trwy drais, chwardded y cyfryw ! (cym.) Os oes rhyw rai yn tybied mai peth hyfryd yw fod tadau yn cael eu lusgo o ganol mynwes eu teuluoedd, a meibion o freichiau eu rhieni, a'u danfon ymaith i'w lladd a'u saethu fel cwn, a'u gadael i ymdrybaeddu yn eu gwaed, a threngu yn ddiymgeledd ar faes y frwydr, chwardded y cyfryw! (cym.) Os oes rhai yn tybied mai peth doeth a synhwyrol i genhedloedd ydyw sefyll o flaen eu gilydd, ac er mwyn dal i fyny eu hanrhydedd, gymeryd eu llethu gan fyddinoedd sefydlog anferth, y rhai sydd yn ysu eu hadnoddau yn fwy na phla o locustiaid, chwardded y cyfryw ! (cym.) Os oes rhai yn tybied mai anrhydedd i athroniaeth a dealltwriaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg ydyw fod eu holl gyfundrefn o wareiddiad yn gorffwys, nid ar wybodaeth, nid ar ryddid, nid ar grefydd, ond ar allu anifeilaidd, chwardded y cyfryw! (cym.) Os oes rhai yn meddwl mai peth santaidd a chrefyddol i'r cenhedloedd hynny sydd mewn modd arbennig yn galw eu hunain yn Gristionogion, ydyw cael eu gweled gan baganiaid, a barbariaid yn rhwygo eu gilydd fel bleiddiaid; os oes rhywrai, meddaf, yn meddwl yr holl bethau hyn, chwardded y cyfryw." (uchel gym.)

Brawddegau fel hyn sydd yn britho araeth Mr. Richard. Un o'i ddarnau mwyaf prydferth ydyw ei ddatganiad o'i obaith o lwyddiant achos Heddwch trwy ddefnyddio cymhariaeth o'r môr yn codi llong fawr oedd ar y traeth, fel y gwelsai "yng ngwlad ei enedigaeth, sef Cymru," ac yn nofio yn ardderchog tua'r eigion mawr.

Dichon y bydd rhai yn barod i ofyn yn y fan hon pa les a ddeilliodd o'r holl lafur gyda'r Cynhadleddau hyn? Nid ydym am ateb y cwestiwn hwn yn awr; cawn wneud hynny pan ddeuwn i sylwi yn fwy neilltuol ar "waith" Mr. Richard. Ond caniatäer i ni yn y fan hon ddifynnu ei eiriau ei hunan mewn araeth a draddododd yn Leicester yn 1881, i ddangos beth oedd y cymelliadau uchel ac anrhydeddus a'i cynhyrfai wrth gario ymlaen y gwaith pwysig hwn,—

"Bum" meddai, "yn siarad ym Mharis, Brussels, Antwerp, yr Hague, Berlin, Dresden, Munich, Vienna, Geneva, Bremen, Cologne, Rhufain, Venice a mannau ereill. Hwyrach y gofynnwch i mi beth ydyw'r effeithiau? Wel, nis gallaf ddweud. Ein gwaith ni yw gweithio o blaid gwirionedd, ac nid ceisio gogoniant. Yr wyf yn berffaith argyhoeddiadol nad yw lledaeniad gwirionedd ac ymgysegriad syml a difrifol iddo byth yn myned yn ofer. Yr wyf yn anturio dweud fod yr arddangosiad amlwg a gymerodd le yn yr Etholiad diweddaf (1880) yr atgasrwydd a ddangoswyd gan y wlad at wladlywiaeth ryfelgar, a'r awydd i droi yn ol at wladlywiaeth fwy heddychol, mewn rhan yn effaith dysgeidiaeth cyfeillion heddwch, yn ystod yr hanner can mlynedd diweddaf. Bu adegau pan fyddai dynion ag oedd yn gweithio i amcanion cyhoeddus, ac nid rhai personol ynglŷn â bywyd gwladwriaethol, yn teimlo yn ddigalon; yn teimlo fel y dywedodd y mwyaf o'r holl ddiwygwyr, mai yn 'ofer y llafuriodd, ac am ddım y treuliodd ei nerth;' ond yr oedd yr hyn a gyflwynent iddo ef y noswaith honno[4] yn brawf nad oedd eu llafur wedi bod yn ofer. Aent yn ol, gan hynny, at eu gwaith, wedi eu cyfnerthu a'u calonogi i lafurio hyd angeu." Er mwyn canfod effaith y cyfarfodydd hyn, gallwn nodi mai sylw un Prif Athraw Germanaidd ar ei ddychweliad o Frankfort oedd, — Aethum i Eglwys St. Paul yn Saul, a daethum allan yn Paul."

1851 Yn ystod yr Arddangosfa fawr yn y Palas Grisial, yn 1851, pryd yr oedd ymwelwyr wedi dod i Lundain o bob parth o'r byd, cynhaliwyd Cynhadledd Heddwch yn y brif ddinas. Ymddanghosai egwyddorion Heddwch fel yn cymeryd gafael ar feddyliau pobl. Yr oedd yr Herald of Peace wedi helaethu ei gylchrediad yn ddirfawr; casglwyd mil o bunnau yn ychwanegol at y pum mil at y Gronfa Gynhadleddol, ac yr oedd pob peth yn dra ffafriol i lwyddiant y Gynhadledd, yr hon a ddechreuodd yn Exeter Hall ar yr 22ain o fis Gorffennaf, Syr David Brewster yn y gadair. Yr oedd yno gynrychiolwyr o brif drefydd Ewrob. Anhawster Mr. Richard oedd gwneud dewisiad o siaradwyr o fysg y lluaws enwogion oedd yn bresennol.

Yr oedd John Bright yn absennol, oherwydd marwolaeth ei wraig; ond yr oedd Richard Cobden yn fwy effeithiol nag arferol. Ysgrifennodd Carlyle lythyr—fel efe ei hun—i ddweud "pa beth bynnag a ddywedid am y natur ddynol, ei fod yn eglur mai goreu po leiaf o dorri gyddfau a gymerai le yn y byd." Traddodwyd areithiau yn y cyfarfodydd gan y Cadeirydd, gan y Parch. J. Angel James, Mr. Cobden, Edward Miall, a thua phedwar ar hugain o wŷr enwog ereill. Wrth gwrs, yr oedd y Times a'r Morning Chronicle, fel arferol, yn gwatwar yr ymdrechion hyn, ond yr oedd nifer fawr o'r papurau wythnosol yn ffafriol. Ceisiodd y Gymdeithas Heddwch gan Ddirprwywyr yr Arddangosfa gau allan o honi bob offer rhyfelgar, ond yn aflwyddiannus; er hynny llwyddodd i atal pob gwobrwyon am danynt.

Ond er yr holl ymdrechion hyn, a'r disgwyliadau y buasai yr Arddangosfa yn creu teimladau brawdgarol ymysg cenhedloedd, siomwyd hwynt yn bur fuan. Troes teimladau y wlad megis i'r cyfeiriad gwrthwynebol, fel y maent yn dueddol, yn fynych, i wneud; ac yr oedd rhai, oddiwrth hynny, yn cymeryd achlysur i wawdio holl ymdrechion pleidwyr heddwch, gan waeddi allan, "Edrychwch ar y cyfandir." Cymerodd Mr. Richard y cri i fyny yn yr Herald of Peace, a throes y byrddau arnynt. Danghosodd fod yr hyn oedd yn cymeryd lle ar y cyfandir yn llefaru yn uchel o blaid egwyddorion Heddwch, ond darllen "arwyddion yr amserau" yn briodol.

Ymhen tua deufis dymchwelodd Louis Napoleon ryddid y Weriniaeth, gyda'i coup d'etat, ac yn fuan wedi hynny darfu i Arglwydd Palmerston, o'i ben ei hun, roddi cymeradwyaeth y wlad hon i'r hyn a wnaeth. Bu ffrwgwd rhyngddo âg Arglwydd John Russell mewn canlyniad, a llwyddodd yntau drachefn i ddymchwelyd y Weinyddiaeth. Gwelodd swyddogion ac ysgrifenwyr milwrol fod cyfleustra yn bod i chwythu tân rhyfel ac i fygu y teimladau oedd wedi eu codi o blaid heddwch. Dechreuasant gymeryd mantais ar sefyllfa gyffrous pethau yn Ffrainc, a defnyddiasant y Wasg i ddychrynu y bobl, trwy ddweud fod Prydain mewn sefyllfa ddiamddiffyn, ac y gallai Louis Napoleon ein goresgyn pan y mynnai. (1852) Ac nid oedd y Duc Wellington heb gefnogi y syniad. Parhaodd y deyrnas mewn cyflwr cyffrous, taflwyd hi yn ol a blaen gan bob awel teimlad aflywodraethus, dymchwelwyd Gweinyddiaeth Arglwydd Derby, a ffurfiwyd Gweinyddiaeth Gymysg, o dan arweiniad Arglwydd Aberdeen ym mis Rhagfyr, 1852; "Gweinyddiaeth Gyfuniadol," fel y gelwid hi, a disgwylid llawer oddiwrthi. Arglwydd John Russell oedd y Gweinidog Tramor, ac Arglwydd Palmerston yr un Cartrefol.

Tuedd yr holl gynyrfiadau hyn oedd byddaru, i fesur mawr, sŵn gweithrediadau Cymdeithas Heddwch; ond nid un i ddigalonni oedd ei hysgrifennydd diflino, ond ymroddodd i lafurio yn fwy egnïol. Ysgrifenodd erthyglau rhagorol i'r papurau, ac i'r Herald of Peace—erthyglau y buasai yn dda pe darllenasid hwynt y tair blynedd diweddaf gan y wlad hon. Ysgrifennodd Mr. Cobden hefyd bamffled o dan y teitl "1793 ac 1853," yr hwn a dynnodd sylw mawr ar y pryd; ond y mae yn deg dweud mai Mr. Richard fu yn casglu llawer o'r defnyddiau i Mr. Cobden; oblegid yr oedd Mr. Richard yn astudiwr "Llyfrau Gleision" heb ei ail. Yr un modd pan ysgrifennodd John Bright lythyr at Mr. Absalom Watkins, yn erbyn rhyfel y Crimea, cyhoeddwyd ef gan y Gymdeithas Heddwch, gyda Nodiadau wedi eu cymeryd allan o'r " Llyfrau Gleision" ac areithiau seneddwyr, a'r oll wedi eu casglu gan Mr. Richard. Yr oedd pobeth a gymerai mewn llaw yn dangos ôl llafur ac ymchwiliad trwyadl.

Yn niwedd 1852, daeth y Gymdeithas Heddwch i dipyn o helbul, ac y mae yn werth nodi yr amgylchiadau, gan eu bod yn dangos gwroldeb Mr. Richard. Cododd yr helbul yn achos Mesur y Cartreflu (Militia Bill) a ddygwyd i mewn i'r Tŷ o dan Weinyddiaeth Arglwydd Aberdeen. Penderfynodd y Gymdeithas Heddwch wrthwynebu y mesur, a danfonodd allan law—lenni wrth y miloedd, yn egluro i'n dynion ieuainc natur y mesur, gan ei bod yn ystyried eu bod yn cael eu camarwain. Cymerwyd un neu ychwaneg o'r rhai oedd yn gwasgaru y llaw—lenni hyn i'r ddalfa. Dygwyd y mater o flaen y Senedd. Gwnaeth 64ain o bleidwyr y Gymdeithas Heddwch addefiad cyhoeddus mai hwy oedd yn gyfrifol am anfon allan llaw—lenni, a danfonasant eu henwau, gyda deiseb, at yr Ysgrifennydd Cartrefol, Mr. Walpole, ar yr achos. Mae y ddeiseb yn gyfansoddiad yr ysgrifennydd, ac yn gampwaith mewn ymresymiad penderfynol ac eglurder iaith. Dadleua hawl pob dyn i esponio i arall beth yw y gyfraith; bod llaw—lenni cyffelyb wedi eu caniatau yn flaenorol; nad oedd dim ynddynt ond gwirionedd; ac y byddai gweinyddu cosb am eu lledaeniad yn ddim amgen nag ymgais i fygu y gwir trwy orfodaeth; bod ereill yn cael hud—ddennu dynion ieuainc, trwy ddiodydd meddwol a chelwydd, i ymuno â'r fyddin; a'i fod yn rhyfedd o beth na chaffai dynion Cristionogol roddi ein gwŷr ieuainc anwybodus ar eu gwyliadwriaeth trwy ddweud y gwir wrthynt.

Canlyniad danfon y ddeiseb gref hon oedd peidio erlyn y gwŷr am ledaenu y llaw—lenni; ac hysbysodd Arglwydd Palmerston yn ymffrostgar, yn y Senedd, fod yn dda ganddo ddweud eu bod wedi cael y nifer gofynedig o wyr i ymuno â'r cartreflu er gwaethaf pob rhwystr. Mae Mr. Richard, yn yr Herald of Peace, yn datgan yn difloesgni fod hyn yn groes i'r gwirionedd, ac nid yn unig hynny, ond y gwyddai Arglwydd Palmerston ei fod yn dweud yr hyn nad oedd wir. Yna y mae yn defnyddio y geiriau miniog a ganlyn,—

"Mae Arglwydd Palmerston wedi bod mor garedig a rhoddi cyngor bach i'r Gymdeithas Heddwch. Fel cydnabyddiaeth ddiolchgar am hynny, nis gallwn ond dychwelyd ei garedigrwydd yn ol trwy roddi cyngor iddo yntau. Ein cyngor i'w Arlwyddiaeth ydyw hwn,—ar fod iddo geisio llywodraethu ei dafod, a pheidio bod mor barod i daflu ei ddirmyg ar bersonau sydd o leiaf gystal ag yntau yn y pethau sydd yn hawlio parch ac ymddiried ein cyd—ddinasyddion. Y mae yn awr yn hen ŵr, a dylai fod ganddo ddigon o lywodraeth arno ei hun fel ag i beidio cyffroi dygasedd a rhagfarn tuag ato ei hun, a'r rhai sydd gydag ef yn y Weinyddiaeth, trwy ei anfoes— garwch a'i dafod rhydd."

Yr oedd Mr. Richard yn amddiffyn ei gyfeillion, cofier, ac fe welir mai nid gŵr i gellwair ag ef ydoedd pan wedi twymno, er ei fod yn "Apostol Heddwch."

(1853) Yng ngwyneb teimlad y wlad ar y pryd, tybiodd y Gymdeithas Heddwch mai dymunol fyddai cael Cynhadledd yn 1853, y tro hwn yn Manchester. Ymroddodd Mr. Richard i'r gwaith gyda'i ynni arferol. Penderfynwyd casglu deng mil o bunnau. Casglwyd pedair mil mewn hanner awr o amser mewn un cyfarfod. Arwyddwyd y cylchlythyr, yn galw y Gynhadledd ynghyd, gan ddau gant o wŷr dylanwadol, pedwar ar bymtheg ohonynt yn aelodau Seneddol. Areithiwyd yn y cyfarfodydd gan y cadeirydd, Mr. George Wilson (cadeirydd enwog y Corn Law League), a lluaws mawr o wŷr enwog ereill, megys Cobden, Bright, Dr. Davidson, &c. Rhoes Mr. Richard, yn un o'r cyfarfodydd, hanes ein rhyfel â Burmah, wedi ei seilio ar bapurau swyddogol y llywodraeth. Afreidiol ydyw dweud fod areithiau Cobden a Bright yn rhai rhagorol, ac iddynt dynnu sylw yr holl wlad. Yr oedd Punch yn gwawdio, a'r Chronicle yn bytheirio, ond yr oedd yr had da a hauwyd yn siŵr o ddwyn ffrwyth. Tystiolaeth Mr. Richard ei hun am y cyfarfodydd ydoedd, na bu areithiau erioed mwy difrifol ac effeithiol ar y cwestiwn o Heddwch.

Tua'r amser hwn barnwyd yn ddoeth i Mr. Richard dreulio ychydig o fisoedd o'r flwyddyn yn Manchester. Nid oedd efe ei hun yn mawr hoffi y drefn, ond credai, er hynny, mai dyna' oedd ei ddyledswydd, a thua'r un amser fe beidiodd a galw ei hun yn "Barchedig," a hynny, meddir, ar awgrym Mr. Cobden. Dechreuai hefyd gadw cofnodion o ffeithiau a syniadau ar wahanol faterion, ac yn enwedig ar gwestiwn mawr ei fywyd, sef Heddwch, oblegid yr oedd cylch ei ddarlleniad yn eang iawn. Y mae, yn wir, yn syndod ei fod yn gallu ysgrifennu ar gynifer o faterion, ac yn medru dyfynnu o weithiau cynifer o wahanol awduron ar bob gwedd ar y materion yr ymdrinnir â hwy. Dywedir hefyd ei fod ar brydiau yn agored i bruddglwyfni, yr hyn oedd yn ddigon naturiol wrth ystyried mor ddiwyd y byddai yn efrydu. Ond yr oedd y gwaith mawr a gyflawnai yn rhwystro, fe ellid meddwl, i'r pruddglwyf ei flino yn hir. Yn ychwanegol at ei lafur ynglŷn â'i swydd, byddai hefyd yn pregethu weithiau mewn pulpudau Ymneilltuol. Tua diwedd y flwyddyn hon cafodd wahoddiad ddod yn athraw Coleg Aberhonddu, a bu yn hir, oherwydd sefyllfa ei iechyd, yn petruso beth oedd ei ddyledswydd; ond ar ol ystyriaeth ddwys ac ymgynghoriad â Dr. Campbell, penderfynodd lynnu yn ei swydd, ac ymaflodd yn ei waith gydag ymroad adnewyddol.

Ym mis Hydref y flwyddyn hon, cynhaliwyd Cynhadledd Heddwch yn Edinburgh. Yr oedd y "cwestiwn Dwyreiniol" yn dechreu codi, a chymerodd Mr. Richard a'i gyfeillion achlysur i rybuddio y wlad o'r perygl yr oedd ynddo gyda golwg arno, a'r ysbryd rhyfelgar ac ymffrostgar oedd yn ffynnu. Ysgrifennodd erthyglau yn yr Herald of Peace, yn gynnar yn y flwyddyn, yn egluro gwir natur y cwestiwn, a gresyn na fuasai pobl ein teyrnas wedi ei ddeall yn gynt nag y darfu iddynt, oblegyd—fel y mae yn anffodus yn digwydd yn fynych gyda golwg ar ryfeloedd—ni phelydrodd y gwirionedd ar eu meddyliau nes oedd yn rhy ddiweddar. Danghosai Mr. Richard y ffolineb o wag ymffrostio mewn erthygl rymus o dan y teitl, "Is National boasting good?" ac ni ddarfu neb rybuddio y deyrnas yn fwy ffyddlon o'i pherygl a'r tebygolrwydd iddi "lithrio" i ryfel nag y darfu ef. Ond fel y gorfu i Arglwydd Aberdeen gyfaddef ar ol hynny, "llithro" a wnaed wedi y cyfan.

Yr oedd y gynhadledd yn Edinburgh yn un dra llwyddiannus. Parhaodd am ddau ddiwrnod, a chynhaliwyd pedwar o gyfarfodydd mawr. Siaradwyd yno gan liaws o wŷr enwog, megis Mri. Cobden, Bright, Miall, ac ereill. Byrdwn araeth Mr. Cobden oedd y cwestiwn, "A ddylem fyned i ryfel i ddal i fyny annibyniaeth Twrci?" Un o hynodion y cyfarfod oedd fod Syr Charles Napier, y llyngesydd enwog, yr hwn a wnaeth ei hun mor hynod yn y rhyfel yn erbyn Rwsia ar ol hynny, wedi codi i siarad ar ol Mr. Cobden. Ymddengys iddo ymffrostio yn y London Tavern, yn y brif ddinas, y buasai yn myned i'r cyfarfod i wrthwynebu y rhesymau a ddygid ymlaen yno; ond wedi codi ar ei draed, yr oedd yn amlwg y teimlai fod rhesymau Cobden yn rhai nad allesid eu chwalu â bwledi ei fagnelau ef, a phan ofynnwyd iddo a oedd am gynnyg gwelliant gwrthododd, a dywedodd fod yn well ganddo gefnogi y cynygiad! Gwrandawyd ar ei siarad dibwynt yn amyneddgar, ond yr oedd yn dda ganddo gael eistedd i lawr. Gwynfyd na ddeuai mwy o lyngeswyr a chadfridogion o fewn cylch dylanwad cyfarfodydd fel hyn.

Yr oedd araeth Mr. Bright, ar ol y llyngesydd, yn un o'r rhai mwyaf hyawdl o'i eiddo. Ysgydwai y dorf anferth o'i flaen fel y môr ar wynt nerthol. Chwalodd ddadleuon y llyngesydd, ac yna gwnaeth apêl difrifol at ddysgawdwyr crefydd.

"O fewn terfynau y wlad hon," meddai, "y mae mwy na 20,000 o demlau yn cael eu taflu yn agored bob Saboth, yn y rhai y mae meibion a merched duwiolfrydig yn ymgynnull i addoli' Tywysog Heddwch.' Ai peth gwirioneddol ydyw hyn gennych, ynte a ydyw eich Cristionogaeth yn beth rhamantus, a'ch proffes yn freuddwyd? Na, yr wyf yn siwr mai nid rhamant ydyw eich Cristionogaeth, ac mai nid breuddwyd yw eich proffes, ac am hynny yr ydwyf yn apelio atoch gyda hyder, ac y mae gennyf obaith a ffydd yn y dyfodol."

Da fuasai gennym pe gallesid gosod yr araeth i lawr yn ei chrynswth yn y fan hon, er mwyn i'n darllenwyr gael eu trwytho â'i hysbryd yn y dyddiau hyn.

PENNOD V.

Rhyfel y Crimea-Cynhadledd Paris—Yr adran ar gyflafareddiad yn y Gytundeb—Rhyfel â China—Y Morning Star—Gweithydd Amddiffynnol—Yr Arddanghosfa—Yr ymdrech o blaid heddwch cyffredinol—Rhyfel Cartrefol yr America—Achos y Trent—Yn ysgrifennu Bywgraffiad Joseph Sturge a Mr. Cobden.


(1854) Ysmotyn du ar hanes Prydain ydyw rhyfel y Crimea. Nid oes bron neb yn awr nad yw yn barod i addef ei fod, o leiaf, yn gamgymeriad ofnadwy, os nad oedd yn bechod arswydus.[5] Mae Ceidwadwyr a Rhyddfrydwyr yn cytuno i'w gondemnio. Addefodd Arglwydd Salisbury ei hun yn Nhy yr Arglwyddi amser yn ol, ein bod, trwy y rhyfel hwn, wedi rhoi ein harian ar y "wrong horse." Ond costiodd y camgymeriad hwn tua miliwn o fywydau dynol, a chan miliwn o bunnau i'r wlad hon yn unig. Taflodd gynnydd gwareiddiad flynyddau lawer yn ol, bu yn foddion i osod Twrci—y gallu mwyaf creulon a fu erioed—ar ei thraed, creodd deimlad drwg rhyngom â Rwsia, yr hyn, drachefn, a fu yn rhwystr i unrhyw un o'r galluoedd mawr ymyrryd yn achos y creulonderau a arferwyd tuag at yr Armeniaid yn y blynyddau diweddaf; arweiniodd, fel y profa Mr. Richard, i'r gwrthryfel yn India, ac y mae ei effeithiau niweidiol yn aros hyd y dydd hwn. Ac eto, ni fu erioed ryfel mwy poblogaidd. Yr oedd teimlad y wlad mor angherddol o'i blaid fel nad oedd modd ei wrthsefyll. Ychydig o amser cyn hynny gwaeddai y bobl am i ni osod y wlad mewn sefyllfa o ddiogelwch rhag y trahaus—ddyn Louis Napoleon; ond yn awr ymunent âg ef yn galonnog mewn rhyfel gwaedlyd yn erbyn Rwsia, a mawrygent ef gan ei alw "ein cynghreiriad dewr a theyrngarol." Llusgwyd y wlad i'r rhyfel hwn, yn ddiau, gan y Wasg, yr hon oedd yn porthi nwydau gwaedwyllt y bobl, ac fel march, a'r ffrwyn ar ei war, rhuthrodd ymlaen heb falio am y canlyniadau. Gwnaeth Mr. Cobden, Mr. Bright, a Mr. Richard eu goreu i atal rhywfaint ar y gwallgofrwydd, ond yr oedd fel llifeiriant yn ysgubo popeth o'i flaen. Gomeddwyd gwrando ar Mr. Sturge, hyd yn oed yn Birmingham, lle yr oedd, oherwydd ei garedigrwydd a'i haelioni mor boblogaidd cyn hynny. Llosgwyd gwawd-ddelw o John Bright ar yr heol yn Manchester, ac yn y diwedd collodd ef a Cobden eu seddau. Ond er hynny ni pheidiodd y gwŷr hyn a llefaru yn groew yn erbyn y rhyfel, a gwnaethant bob ymgais i wrthweithio y llifeiriant. Ond yr oedd y cwbl yn ofer. Fel y dwedai Cobden unwaith, yr oedd ceisio dadleu â John Bull, wedi unwaith i'r fagnel gyntaf gael ei thanio, yr un peth a cheisio ymresymu â chi cynddeiriog.

Pe gofynnid yn awr beth oedd gwir achos rhyfel y Crimea, byddai yn anhawdd ateb. Cododd y cweryl ar y dechreu rhwng Eglwys Rhufain ac Eglwys Groeg mewn perthynas i gael allweddau y "lleoedd santaidd" yn Jerusalem. Amddiffynnai Rwsia y naill, a Ffrainc y llall, ac ymyrrai Lloegr yn y cweryl, er mwyn dal i fyny "gyfanrwydd Twrci," ac i amddiffyn yr hyn y sonnid llawer am dano y pryd hwnnw, er mai ychydig a allai ddweud beth ydoedd, sef "mantoliad, neu gydbwysedd gallu."[6] Nid oedd y wlad yn gyffredinol yn deall llawer, ac yr oedd yn malio llai, am wir achos y cweryl. Yr hyn a deimlai hi oedd fod Rwsia yn Allu mawr gormesol, a'i bod yn helaethu ei therfynnau ar bob llaw. Cyhoeddid mapiau lliwiedig yn dangos hynny, ac nid oedd neb yn aros i ystyried fod y wlad hon wedi gwneud mwy na Rwsia bedair gwaith yn y cyfeiriad hwnnw yn yr un amser. Yr oedd Rwsia wedi llyncu Poland, wedi cymeryd rhan yng nghorchfygiad Hungari, ac yr oedd yn awr yn bygwth gormesu ar Twrci. Yr oedd pobl y wlad hon mewn cydymdeimlad dall â'r deyrnas a ystyriai yn wan, ac yn penderfynnu cymeryd ei phlaid. Ond y peth mwyaf gofidus oedd, fod y Wasg grefyddol a gweinidogion yr Efengyl, dynion fuont yn bleidiol i achos heddwch ychydig amser cyn hynny, megys Dr. Campbell, ac ereill, a lluaws yng Nghymru, fel mae gwaetha'r modd, wedi cael eu cymeryd ymaith gyda'r rhyferthwy.

Nid ein gorchwyl yma ydyw myned i mewn i fanylion y rhyfel ofnadwy hwn. Dywedasom fod Mr. Richard, ymysg ychydig ereill, wedi gwneud gwaith mawr yn ceisio gwrthweithio y llifeiriant. Do, fe wnaeth waith mwy o lawer nag oedd yn y golwg. Traddododd lawer iawn o areithiau, lle y caffai wrandawiad, ar hyd a lled y wlad; ond yr oedd ei lafur yn bennaf gyda'i ysgrifell. Pwy bynnag a garai wybod am y modd medrus yr oedd Mr. Richard yn gwrthwynebu y rhyfel, darllenned ei erthyglau campus yn yr Herald of Peace, yr areithiau a draddododd, a'r traethodau a ysgrifennodd, os gall gael gafael arnynt. Buom yn eu darllen drosodd drachefn yn ddiweddar, ac y mae y modd y mae Mr. Richard yn cyfarfod â phob dadl o blaid rhyfel—a rhyfel y Crimea yn arbennig—y modd y mae yn ateb ymresymiadau areithwyr Seneddol ac ereill, a hynny mewn iaith gref ond coeth, wedi ein taro â syndod ac edmygedd adnewyddol.

Ysgrifennodd Mr. Richard hanes y cweryl, wedi ei gymeryd allan o'r "Llyfrau Gleision," a lledaenwyd ei Draethawd wrth y miloedd gan y Gymdeithas Heddwch. Ceir yma hanes dechreuad yr helynt, ac i'r neb sydd yn awyddus i gael y gwir ar y cwestiwn nis gall wneud yn well na darllen y Traethawd hwnnw. Y mae yn ddiameu, am y nifer amlaf o lawer o bobl y dyddiau hyn, na wyddant nemawr am wir achos y cweryl, mwy nag y gwyddai yr hen Kasper beth oedd gwir achos rhyfel Blenheim. Gofynnai Wilhelmina iddo,—

"Now, tell us all about the war
And what they killed each other for ?"

Ond y cwbl a allai yr hen filwr ddweud, yn ol Southey, oedd,—

"It was the English," Kasper cried,
That put the French to rout,
But what they killed each other for
I could not well make out;


"But every body said," quoth he,
"That was a famous victory!"[7]

Ar ol bod yn rhyfela am ddwy flynedd llawn, ac i Brydain ei hun golli tros ugain mil o fywydau, pedwar o bob pump o honynt, nid ar faes y gwaed, ond yn yr yspytai, gwnaed Cytundeb Heddwch yn Paris, ym mis Mawrth, 1856. Ynglŷn â'r Cytundeb hwnnw, fe wnaeth Mr. Richard waith ag sydd yn haeddu cael ei groniclo yn lled fanwl, gwaith ag y mae un awdwr, nad yw yn ffafriol iawn i amcanion y Gymdeithas Heddwch, yn ei alw y "gwaith mwyaf Cristionogol a wnaeth y Gymdeithas erioed."

Tybiodd Mr. Richard fod y wlad wedi cael digon ar ryfela, ac y gallai fod yn amser ffafriol i geisio cael adran yn y Gytundeb Heddwch o blaid Cyflafareddiad yn y dyfodol. Dygodd sylw Pwyllgor Cymdeithas Heddwch at y mater, a ffurfiwyd dirprwyaeth gref a dylanwadol— ugain o honynt yn Aelodau Seneddol—ac aed â'r mater o flaen Arglwydd Palmerston, yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd. Cawsant dderbyniad digon oeraidd, fel y gallesid disgwyl gan y fath un. Ond nid oedd Mr. Richard yn un i'w ddigaloni gyda'r fath amcan clodwiw. Cynhygiai ar fod dirprwyaeth yn myned i Paris ac yn dwyn y mater o flaen teyrn-genhadon y gwahanol wledydd. Yr oedd rhai o'i gydweithwyr yn teimlo yn rhy lwfr i ymgymeryd â'r fath waith. Aeth Mr. Richard at ei hen gyfaill, Mr. Sturge, un oedd wedi anturio at Ymherawdwr Rwsia ei hunan gyda'i ddau gyfaill yn nechreu y rhyfel, a dywedodd y Crynwr dewr wrtho,—"Yr wyt yn iawn, Richard, os nad a neb arall gyda thi i Paris, mi af fi." Felly fu. Aethant i Paris, ac ymunwyd â hwynt yno gan Mr. Charles Hindley. Tynwyd allan ddeiseb at y gwahanol Alluoedd a gynrychiolid yn y Gynhadledd, a danfonwyd copiau o honynt at y teyrn-genhadon yn Paris. Cawsant dderbyniad gwell na’u disgwyliad. Ond yr anhawster oedd sut i osod y ddeiseb o flaen y Gynhadledd. Aethant at Arglwydd Clarendon. Derbyniodd hwynt yn foesgar—y tri chennad heddwch hyn—a dadleuasant eu hachos ger ei fron. Ceisiodd ef godi yr hen gwestiwn o anrhydedd cenedl a'r anhawster i gario allan yr hyn a geisid. Danghosai Mr. Richard mor fanteisiol fyddai fod cytundeb mewn bod i gyflwyno materion mewn dadl i gyflafareddwyr, cyn i nwydau pobl gael eu cyffroi, ac yn arbennig cyn i'r newyddiaduron gael cyfleustra i gythruddo y bobl. "Cododd Arglwydd Clarendon ei ysgwyddau," meddai Mr. Richard, wrth adrodd yr hanes, "taflodd ei ddwylaw allan, a chododd ei aeliau, yn dangos ei fod yn teimlo min y sylw, oblegid gwyddai y fath ddylanwad niweidiol a fu y newyddiaduron yn y rhyfel." O'r diwedd dywedodd,—"Mi wnaf fy ngoreu." A chwareu teg iddo, y mae yn ymddangos iddo wneud. Er nad oedd gan y tri wŷr hyn ond gobaith gwan y llwyddent yn eu hamcan, eto yr oedd yn dda ganddynt ddeall wedi hynny fod y Gynhadledd wedi pasio yr adran ganlynol,—

"Nid yw y teyrn-genhadon yn petruso datgan, yn enw eu gwahanol lywodraethau, y dymuniad ar fod teyrnasoedd, rhwng y rhai y gall camddealltwriaeth godi, cyn apelïo at arfau milwrol, yn gwneud defnydd, mor bell ag y bo amgylchiadau yn caniatau, o wasanaeth caredig ryw Allu cyfeillgar."

Nid oedd y penderfyniad hwn mor gryf ag y buasai cyfeillion Heddwch yn dymuno; ond yr oedd yn llawn mor gryf a'u disgwyliadau, a digon cryf i dynnu allan o'r hen Mr. Sturge lythyr diolchgar at Arglwydd Clarendon, am yr hyn a alwai ei Arglwyddiaeth "y newydd-beth hapus hwn," ac i beri i Mr. Gladstone ddweud yn y Senedd, ar ol hynny, ei fod yn "datgan math o anghymeradwyaeth o ryfel, ac yn dal i fyny uwchafiaeth rheswm, cyfiawnder, dyngarwch, a chrefydd." Gwnaeth Arglwydd Derby ac Arglwydd Malmesbury sylwadau i'r un perwyl; ac nid oes un amheuaeth fod cael fath adran mewn Cytundeb mor bwysig rhwng teyrnasoedd mawrion fel y rhai a gynrychiolid yn Paris, yn gam pwysig yng nghyfeiriad Cyflafareddiad, a'i fod hefyd yn adlewyrchu clod i lafur, ynni, a phenderfyniad Mr. Richard, yr hwn a fu yn offeryn i ddwyn hyn oddiamgylch. Mae'n wir nad yw y gwahanol Alluoedd wedi dangos nemawr o barodrwydd i gario allan yr adran bwysig hon, mwy na phenderfyniadau Cynhadledd yr Hague ar ol hynny, ond y mae yr Adran yn y Cytundeb er hynny, a bydd yn rhag-gynllun i gyfeirio ato yn y dyfodol.

(1857) Yn y flwyddyn 1857, torrodd rhyfel allan rhwng y wlad hon a China, ac, fel arferol, yr oedd yr achos dechreuol o hono yn un bychan iawn. Gwnaeth Mr. Richard, fel bob amser, ymchwiliad manwl i'r amgylchiadau oddiwrth y papurau Seneddol, a chafwyd mai fel hyn yr oedd pethau yn bod,—Yn Hydref, 1856, byrddiwyd a chymerwyd llong o'r enw Arrow gan yr awdurdodau Chineaidd. Yr oedd y Cadben yn Sais, a honnid mai llong Brydeinig ydoedd, gan ei bod yn chwifio baner y wlad hon. Ar unwaith y mae ein Consul ni yn Canton yn gofyn am i'r llong gael ei rhoi i fyny, onite y tan-belennid Canton ymben wyth awr a deugain. Profwyd wedi hynny mai math o forladron oedd y dwylaw arni, ac nad oedd ganddi un hawl i godi baner Lloegr. Mae Mr. Richard, mewn erthygl gadarn, yn dangos nad oedd y bygythiad ond esgus i geisio cael porthladd Canton yn un rhydd, a hynny, nid er mwyn masnach onest, ond masnach mewn opium yn groes i gyfraith China. Ymosodwyd ar Canton gan ein llongau rhyfel, llosgwyd y ddinas, a chollodd lluaws o wŷr, gwragedd, a phlant eu bywydau. Defnyddiodd Mr. Richard ei ysgrifell i bwrpas, cyffrodd y wlad hon drwyddi, cymerwyd y mater i fyny gan y papurau, dygwyd ef ger bron Tŷ yr Arglwyddi gan Arglwydd Derby, a chan Mr. Cobden yn Nhŷ y Cyffredin, yr hwn a siaradodd am ddwy awr a hanner arno. Gwefreiddiwyd y Tŷ hefyd gan Mr. Gladstone ar yr un ochr. Wrth gwrs, yr oedd Arglwydd Palmerston, y Prif Weinidog, yn amddiffyn yr hyn a wnaed, ond ar raniad y Tŷ cafwyd mwyafrif o 16 yn ei erbyn. Datgorfforwyd y Senedd, ond—fel yn gyffredin, pan fydd nwydau dynion wedi codi o blaid yr hyn a elwir yn Wladweinyddiaeth Dramor benderfynnol—trodd y y wlad yn erbyn barn a chyfiawnder, a chafodd Arglwydd Palmerston fwyafrif o tua 30 o'i blaid. Collodd Cobden a Bright eu seddau. Prawf eto oedd hyn mai ofer ymresymu â gwlad o'i phwyll. Yr oedd y cri am anrhydedd y faner Brydeinig yn byddaru pob cri o blaid tegwch ac iawnder. Heblaw ysgrifau lawer ereill ar y mater, ysgrifennodd Mr. Richard erthygl i'r Morning Star, yn datgan ei ofid fod papurau a ystyrrid yn rhai crefyddol ymysg y rhai mwyaf aiddgar yn amddiffyn yr ymosodiad creulon a barbaraidd hwn ar Canton, pryd y dinistriwyd saith mil o dai, ac y gwnaed deng mil ar hugain yn ddigartref, heb son am y rhai a laddwyd. Amddiffyniad y papurau hyn ydoedd yr agorid drysau i'r Efengyl, ond gofynna Mr. Richard, gyda difrifwch, a ydyw y dynion hyn yn tybied y "derbynia y Chineaid y Beibl o'u dwylaw gyda mwy o lawenydd a diolchgarwch am ei fod wedi ei lychwino â gwaed eu hanwyliaid."

Tua'r amser yma y daeth Mr. Richard i gysylltiad â'r newyddiadur dyddiol, y Morning and Evening Star, yr hwn a gychwynwyd yn 1855. Yr oedd llawer o gyfeillion Heddwch yn tybied y dylesid cael newyddiadur a fyddai yn fwy rhyddfrydig, a llai rhyfelgar ac eglwysyddol na'r rhai a gyhoeddid ar y pryd ; a bu Mr. Sturge, gyda'i ddylanwad a'i bwrs, yn ymdrechgar iawn i ddwyn hyn oddiamgylch. Penodwyd Mr. Richard yn gydolygydd ag un Mr. Hamilton. Ysgrifennodd Mr. Cobden ato i ddatgan ei obaith y byddai ganddo arolygiaeth llawn ar yr erthyglau arweiniol yn y papur. Gweithiodd Mr. Richard yn egniol ynglŷn â'r papur, ac ysgrifennodd lawer iddo, canys, fel y dywed ef ei hun, yr oedd ei galon yn y gwaith. Ond cyn pen hir daeth y cwestiwn o elw i gymeryd lle moesoldeb i'r gofalaeth; methodd Mr. Richard a chadw yr arolygiaeth a ddisgwyliasai ar gynnwys y papur, ac er mwyn cadw ei gydwybod yn ddilychwin, rhoes i fyny ei gysylltiad ag ef. Nid dyma'r waith gyntaf, fel y profwyd gyda rhyfel y Crimea a rhyfel y Transvaal, a rhyfeloedd ereill o ran hynny, yr aberthwyd egwyddor ar allor elw. Bu y papur yn cael ei olygu ar ol hyn gan Mr. Justin McCarthy am bedair blynedd, ac wedi hynny gan Mr. John Morley, ac ymysg y gwŷr enwog a ysgrifennent iddo yr oedd Mr. Washington Wilks, awdwr The Half Century; Syr Edward Russell, golygydd presennol y Liverpool Daily Post; Syr John Gorrie; Mr. W. Black, y ffug-hanesydd enwog, ac ereill.

(1860) Ym mis Gorffennaf, 1860, dygodd Arglwydd Palmerston fesur i'r Tŷ o blaid cael gweithydd amddiffynnol o gwmpas y dockyards, a'r ystordai arfau, a phorthladdoedd Dover a Portland, ac yr oedd am wario un filiwn ar ddeg o bunnau arnynt. Cymerodd yn ei ben fod perygl y buasai Louis Napoleon yn ceisio glanio milwyr ar yr ynys hon. Yr oedd, meddai, mewn llythyr at Arglwydd John Russell, yn ei ddrwgdybio, er mai efe oedd y cyntaf i fyned allan o'i ffordd i'w dderbyn â breichiau agored pan, wedi hynny, y trawsfeddiannodd lywodraeth Ffrainc. Byddai Mr. Richard yn gwawdio yr "hen gri" hwn am ddisgyniad sydyn Ffrainc arnom, cri a godwyd lawer gwaith cyn, ac wedi hynny, a gwnaeth ei oreu i geisio ei wrthweithio. Areithiodd ac ysgrifennodd yn erbyn y cri ynfyd a disail. Galwodd sylw at y treuliadau anferth ar y fyddin a'r llynges, a bod y wlad, er hynny, byth a hefyd yn gwaeddi ei bod yn ddiamddiffyn; danghosodd mai cri ydoedd ag oedd wedi codi oddiwrth y swyddogion milwrol, ac mai mwy rhesymol o lawer fuasai defnyddio rhyw foddion i geisio gan wahanol Alluoedd Ewrob leihau, yn hytrach nag ychwanegu, eu harfau milwrol. Yr oedd ganddo sail i gredu, meddai, nad oedd y cyffro ond ymgais y blaid filwrol a'r diffyndollwyr i wrthweithio ymdrech Mr. Cobden i uno Ffrainc a Lloegr trwy y Cytundeb Masnachol yr ydoedd yn ceisio ei ddwyn oddiamgylch. Heblaw ysgrifennu fel hyn, traddododd Mr. Richard areithiau mhrif drefydd Lloegr ar y cwestiwn.

(1861) Yn Ebrill, 1861, aeth gyda Mr. Joseph Cooper, fel dirprwyaeth dros y Gymdeithas Heddwch, gydag anerchiad at bobl Ffrainc ar yr achos. Derbyniwyd y "cenhadon hedd" hyn yn groesawus yn Paris, ac argraffwyd yr anerchiad ym mhrif bapurau Ffrainc a gwledydd ereill y Cyfandir. Ymhen blwyddyn wedi hyn cynhaliwyd yr Arddanghosfa fawr yn Llundain; daeth y Ffrancod ac ereill drosodd, nid i oresgyn Prydain, ond i'r Arddangosfa Cymerodd Mr. Richard fantais ar yr achlysur i gyhoeddi anerchiadau i'r dieithriaid mewn gwahanol ieithoedd, gwahoddwyd hwynt i gyfarfod mawr, lle y cyflwynwyd anerchiad cyfeillgar iddynt, ac arwyddwyd yr anerchiad gan Mr. Joseph Pease, llywydd Cymdeithas Heddwch, a Mr. Richard, yr ysgrifennydd. Anogwyd hwynt i gyffroi eu gilydd i ffurfio barn gref o blaid lleihau nifer milwyr ac arfau milwrol eu gwahanol wledydd. Ar ol hyn traddododd Louis Napoleon araeth dra heddychol, a chynhygiodd ar fod Cynghrair Heddwch i gael ei gynnal yn Paris i osod Ewrob, os oedd modd, ar sail gadarnach nag erioed. Hyd yn oed yn y flwyddyn 1860, yng nghanol yr holl gyffroadau mewn perthynas i ymosodiad ar Loegr gan Louis Napoleon, ysgrifennodd yr Ymherawdwr hwnnw at gennad Ffrainc yn Llundain ar iddo ddweud wrth Arglwydd Palmerston mai ei amcan mawr oedd bod yn heddychol â'i gymdogion, ac yn enwedig Lloegr. Gallwn grybwyll yn y cysylltiad hwn fod yr Ymherawdwr yn 1863 wedi gwneud cynhygiad ffurfiol at wahanol benaduriaid Ewrob i alw Cynghrair rhyng-wladwriaethol yn Paris i'r diben o ystyried a phenderfynnu cwestiynau mewn dadl, a diogelu heddwch Ewrob. Cydsyniodd Rwsia a Phrwsia, Itali, Denmarc, Belgium, Yspaen, Sweden, Norway, Portugal, Groeg, a'r galluoedd ereill â'r cynhygiad. Ond, y mae yn ofidus dweud, y gwrthododd Lloegr, trwy law Arglwydd John Russell, yr Ysgrifennydd Tramor, ar y tir na fyddai dim grym y tu ol i benderfyniadau y Cynghrair i'w cario allan! Buasid yn meddwl y buasem yn cofleidio pob cynhygiad o'r fath. Ond yr oedd yn eglur nad oedd gennym ar y pryd ddim ffydd mewn nerth moesol. Dadleuodd Mr. Richard dros y cynhygiad yn gryf, a thynnodd allan anerchiad oddiwrth y Gymdeithas Heddwch at yr Ymherawdwr, yn yr hwn y dywedai, os llwyddai yn ei amcan o arwain Galluoedd Ewrob yn llwybrau cyflafareddiad a diarfogiad, yr enillai fwy o ogoniant nag y gallai byth ennill oddiwrth fuddugoliaethau milwrol. Danfonodd yr Ymherawdwr atebiad caredig yn ol, yn datgan cymeradwyaeth o'r syniadau yn yr anerchiad, a'i awydd am gadw heddwch yn Ewrob. Onid yw yn resyn, mewn difrif, na wnai penaduriaid Ewrob gydymgais mwy yn y cyfeiriad hwn yn lle yng nghyfeiriad buddugoliaethau milwrol? Ond i ddychwelyd, cymerodd Mr. Richard ran arbennig ac anibynnol yn helynt y rhyfel cartrefol yn America y flwyddyn hon (1861). Gwyr y rhan fwyaf o'n darllenwyr, yn ddiau, y modd yr arweiniwyd i'r rhyfel ofnadwy hwnnw. Bod etholiad Abraham Lincoln, yn 1860, wedi tynnu llinnell glir rhwng Gogledd a De Unol Dalaethau yr America, a bod y gaethfasnach wrth wraidd y drwg-deimlad rhyngddynt sydd eglur, er bod rhai cwestiynau masnachol yn eu gwahannu hefyd. Penderfynnodd y De ymwahannu, ac ar y 9fed o Ionawr taniwyd y belen gyntaf ganddi; ond penderfynnodd Lincoln na cheid torri yr Undeb, a phenderfynwyd ei gadw trwy nerth milwrol. Yr oedd Mr. Richard, er cymaint ei gasineb at y gaethfasnach, yn erbyn gwaith y Gogledd yn penderfynnu cadw yr Undeb trwy rym arfau. Dadleuai nad oedd yn iawn ceisio rhoddi un drwg i lawr trwy gyflawni drwg arall; a mwy, profai trwy dystiolaeth Lincoln a'r Gogleddwyr eu hunain mai nid diddymu caethwasiaeth oedd eu hamcan, ond cadw yr Undeb. Dadleuai Mr. Gladstone yn yr un modd. Yr oedd y rhan fwyaf o'r rhai a ddadleuent dros fyned i ryfel â'r De yn cashau y dyn du gymaint a'r Deheuwyr, os nad yn fwy. Gofidiai Mr. Richard fod cynifer o bleidwyr Heddwch yn America wedi ymollwng gyda'r llifeiriant rhyfelgar, ac ysgrifennodd lythyr maith atynt—caredig, ond cryf—yn dadleu yr holl gwestiwn. Ysgrifennodd un yn benodol at Mrs. H. B. Stowe, llythyr sydd yn dangos medr ymresymiadol tu hwnt i'r cyffredin, ond llythyr sydd yn llawn o gydymdeimlad âg ysbryd Mrs. Stowe er hynny. Hyd yn oed, a chaniatau fod gwŷr y Gogledd yn ymladd dros ddiddymiad caethwasiaeth—yr hyn nad oedd yn amcan uniongyrchol ganddynt—ac er fod y gyfundrefn honno yn un mor felldigedig, eto yr oedd Mr. Richard yn haeru fod rhyfel yr un mor felldigedig. "A ydyw yn bosibl," gofynnai, "y gallwn edrych gyda phleser ar ddynion yr ydym yn eu parchu gymaint, pan welwn hwynt, gyda breichiau agored, yn rhedeg i gofleidio drwg arall sydd yr un mor echryslon?" Yr oedd Mr. Richard yn pleidio gwaith y wlad hon yn edrych ar y De fel yn meddu hawliau cenedl, a'r rhyfel, o ganlyniad, fel rhyfel rhwng dwy genedl wahannol, a dadleuai, gyda nerth a dysgeidiaeth anghyffredin, yr un wedd ar y cwestiwn a Mr. Gladstone ac Arglwydd John Russell. Nid ydym am geisio penderfynnu y cwestiwn dyrus hwn, ond os darllennir ysgrifau Mr. Richard ar y mater, credwn y canfyddir fod yn haws eu hwtio na'u hateb.

Yng nghanol y cythrwfl ofnadwy rhwng y De a'r Gogledd, torrodd achos y Trent allan. Mae'n ymddangos fod y De wedi danfon dau Seneddwr, Mri. Sliddell a Mason, fel cenhadon i Loegr a Ffrainc. Pan yn y llong Brydeinig, y Trent, cymerwyd hwy i'r ddalfa gan y San Jacinto, llong yn perthyn i'r Gogledd, a chariwyd hwynt i Fort Warren. Yr oedd Lloegr ar ei thraed ar unwaith yn gofyn am eu rhyddhad neu ryfel. Danfonwyd milwyr i Canada, hyd yn oed cyn cael amser i gael atebiad mewn perthynas i ryddhad y ddau genad. Tra yr oedd yr ystorm o deimladau brwd fel hyn yn rhuo, cyhoeddodd Mr. Richard anerchiad at y gwahannol enwadau crefyddol i erfyn arnynt arfer eu dylanwad i "sefyll i fyny yng nghanol yr ystorm, ac yn enw eu Meistr Dwyfol, i geryddu y dygyfor ofnadwy o nwydau dynol." Yr oedd yr anerchiad hwn yn un cryf dros ben. Heblaw hynny, aeth Mr. Pease ac yntau yn genhadon at Arglwydd Palmerston i erfyn arno, os methid cytuno, i gyfeirio y mater i farn cyflafareddwyr. Yn ffodus, yn y cyfwng hwn, cyfryngodd Louis Napoleon yn ffafr Lloegr, a rhyddhawyd y ddau gennad.

Parhaodd y rhyfel rhwng y De a'r Gogledd, fel y gwyddis, am bedair blynedd. Daliai Mr. Richard o'r farn o hyd mai unig amcan y Gogledd oedd cadw yr Undeb. Dyfynnai eiriau y Llywydd Lincoln, yr hwn a ddywedai,—"Fy amcan uwchaf yn yr ymdrech ydyw cadw yr Undeb, ac nid i gadw na dinistrio y gaethfasnach. Pe gallwn gadw yr Undeb, heb ryddhau un caethwas, mi wnawn; a phe gallwn ei wneud trwy ryddhau yr holl gaethion, mi wnawn hynny hefyd. Yr hyn yr wyf yn ei wneud gyda golwg ar y gaethfasnach, yr wyf yn ei wneud i gadw yr Undeb, a'r hyn yr wyf yn ymatal rhag ei wneud, yr wyf yn ymatal er cadw yr Undeb."

Nid peth ysgafn oedd gan Mr. Richard wahaniaethu oddiwrth ei gyfeillion mynwesol, Mri Cobden a Bright, ar y modd y dylasai Prydain edrych ar sefyllfa y De a'r Gogledd yn eu perthynas â'r wlad hon, ond meddai ar ddigon o benderfyniad i lynnu wrth yr hyn a ystyriai yn egwyddor, hyd yn oed i wneud hynny. Pan ddaeth y Parch. Henry Ward Beecher drosodd i'r wlad hon i ddadleu achos y Gogledd, ac y datganodd ei benderfyniad i ymladd hyd y diwedd, costied a gostio, yr oedd Mr. Richard yn ddigon dewr i'w geryddu mewn iaith gref.

"Ymha le yn efengyl Duw" gofynnai, "y mae gennym warant i gefnogi dynion yn eu penderfyniad addefedig i ddinistrio pum miliwn o ddynion, oni ymostyugant i'w hewyllys hwy, neu gael eu dinistrio eu hunain yn yr ymdrech? Mae bod y rhai sydd yn proffesu eu hunain yn ddisgyblion i'r Hwn a ddaeth i'r byd, nid i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw, yn tybied eu bod yn gwasanaethu Duw wrth ymgymeryd â'r gwaith creulawn hwn, o'u hewyllys eu hunain, i ddal i fyny ffurf neilltuol o lywodraeth, neu—yr hyn sydd yn fwy gwrthun fyth—i hyrwyddo achos dyngarwch a Christionogaeth ar y ddaear, yn un o'r engreifftiau mwyaf hynod o hunan-dwyll, trwy yr hwn y mae duw y byd hwn yn dallu meddyliau dynion, ag a gofnodir yn hanes yr hil ddynol."

Beth bynnag a ddywedir am yr ymgyrch ofnadwy hwnnw, a'r modd y darfu i'r Gogledd gyhoeddi rhyddhad y caethion tua chanol y rhyfel, fel moddion goruchafiaeth, nid oes un amheuaeth na ddarfu i Mr. Richard ymlynnu yn bybyr wrth ei egwyddorion gwrth-ryfelgar; ac y mae llawer yn tybied y buasai moddion gwahanol, a llawer llai costus mewn arian a bywydau, a llawer llai dinistriol i foesau a gwareiddiad Cristionogol, wedi gwneud y gwaith yn llawer iawn mwy effeithiol. Nid yw fod Rhagluniaeth wedi dwyn da o'r ymgyrch yn profi ei fod yn un uniawn. Yn wir, y mae cryn nifer o wŷr doeth yn teimlo fod cwestiwn y dyn du yn yr America ymhell o fod wedi ei benderfynnu eto. Pa fodd bynnag, gadewch i ni droi i weled sut yr oedd Mr. Richard yn edrych arno ar derfyniad y rhyfel. Mae y brawddegau canlynol allan o adroddiad blynyddol y Gymdeithas Heddwch yn 1865, yn werth eu dyfynnu, gan eu bod yn eiriau Mr. Richard ei hun,—

"Boddhad anhraethadwy i ni ydyw fod y rhyfel cartrefol, dinistriol ac ofnadwy hwn, yn tynnu at ei ddiwedd. Nid oes dim dychymyg a all ddyfalu, dim iaith a all yn ddigonol draethu, paint y niwed a wnaeth i'r wlad honno i'r byd. Mae'n debyg nad oes dim llai na miliwn o wyr ieuainc wedi trengu cyn eu hamser, ac ym mhob ffurf o ing a phoen, trwy'r cleddyf, newyn, a haint. Ac am y gost, byddem yn sicr o fewn y marc pe dywedem fod, ar y ddwy ochr, fil o filiynnau o bunnau, wedi eu tyunu oddiwrth wasanaeth gwareiddiad i'w hafradu mewn celanedd a gwaed."

Ar ol nodi y dinistr ar eiddo, yr ing meddyliol mewn miloedd o deuluoedd trwy'r gweledydd, dylanwad niweidiol y rhyfel mewn ystyr foesol, dywed,—

"Y mae un ysmotyn disglaer, pa fodd bynnag, yn aros…Nid oes, mae'n wir, un canlyniad all gyfiawnhau defnyddio moddion anghyfreithlon, ond fe ellir caniatau, hyd yn oed i'r rhai hynny oeddent yn anghymeradwyo y rhyfel fwyaf, lawenhau oherwydd y ffaith, neu yr hyn a hyderant a fydd yn ffaith, mai un canlyniad fydd, derfydd y peth ffiaidd hwnnw, caethwasiaeth, o'r tir am byth. Credai y pwyllgor, fod moddion ereill, a mwy effeithiol, er, fe allai, nid mor gyflym, o ddwyn hyn oddiamgylch. Byddai dweud nad oes un modd i ddymchwel drygioni, ond yr un y mae Cristionogaeth yn ei gondemnio, yn wadiad ymarferol o'i effeithioldeb. Yr ydys yn llawenhau, er hynny, fod y caeth i gael ei wneud yn rhydd; ond buasai y llawenydd yn fwy pe buasai llawryf buddugoliaeth am y waredigaeth fawr hon yn cael ei osod ar ben Brenin Heddwch yn lle ar ben

"Moloch, horrid King! besmeared with blood,"

i ychwanegu at ei ogoniant, ac estyn ei lywodraeth anifeilaidd ar feddyliau a chalonnau plant dynion."

(1863) Gwnaeth Mr. Richard ei oreu gyda chyfeillion Heddwch i rwystro ein rhyfel diangenrhaid â Japan. Yr oedd llynges Prydain yn myned ymlaen i fynnu iawn am ryw ymosodiad a wnaed ar Saeson yn Yokohama; ac ar y 14eg o Awst, 1863, tan-belennwyd Kagosima, gyda'i phoblogaeth o 180,000, a llosgwyd yr holl dref mewn ychydig iawn o amser. Nid rhyfedd i Mr. Cobden, wrth ddesgrifio yr hafog ofnadwy, ofyn pa drosedd oedd y trueiniaid hyn wedi ei gyflawni i alw am y fath ymosodiad creulon. Mewn canlyniad i ymdrechion y Gymdeithas Heddwch, trwy ei hysgrifennydd, yn gosod y mater ger bron, a llafur eu cyfeillion, llwyddwyd i gael gan Arglwydd Clarendon ddanfon at y prif-lyngeswyr nad oeddent o hyn allan i ymgymeryd â than-belennu trefydd heb ganiatad! Mor dyner y cerydd am y fath gamwri ofnadwy!

(1864) Yn nechreu 1864 gwnaeth Mr. Richard a phlaid Heddwch waith da, yn ceisio atal Prydain rhag ymyryd i wneud rhyfel yn erbyn Prwsia ac Awstria ar ran Denmarc; Heb fyned i mewn i achos yr helynt, digon yw dweud fod Arglwydd John Russell ac Arglwydd Palmerston yn awyddus i roddi eu bys yn y cawl hwnnw, ond arferodd Mr. Cobden yn y Tŷ, a Mr. Richard y tu allan iddo, bob moddion a allent i wrthweithio yr ymyriad. Yr oedd Prydain yn dibynnu hefyd i fesur ar yr hyn a wnai Ffraingc, a darfu iddi hi, ar y diwedd, betruso; a thrwy y cyfan, llwyddwyd i atal y gyflafan ofnadwy a fuasai yn canlyn y fath ymyriad annoeth, ac i roddi un esiampl arall o'r hen athrawiaeth ryddfrydig o beidio ymyryd â chwerylon gwledydd tramor.

Pan dorrodd gwrthryfel allan yn Poland, yn y flwyddyn 1864, yr oedd Mr. Richard yr un mor wrthwynebol i ymyryd y pryd hwnnw, nid yn unig oddiar egwyddorion heddwch, ond am ei fod yn credu nad oedd y blaid wrthryfelgar yn codi i amddiffyn rhyddid, ac mai y dosbarth pendefigaidd oedd yn llawn o ddallbleidiaeth Babaidd. Danghosodd ynfydrwydd y fath ymyriad, er fod rhai yn dadleu fod gennym hawl i wneud hynny yn ol hen gytundeb Vienna!

Ebai y Manchester Examiner and Times y pryd hwnnw,—"Y nefoedd fawr a'n gwaredo rhag cael ein gorfodi i ymladd dros bob hawl sydd gennym. Mae gan bob teithiwr hawl i ochr dde y ffordd, ond byddai yn ddoeth i ddyn gwan, teneu, beidio mynnu ei hawl yn erbyn cawr o lafurwr ymladdgar."

Yr oedd Mr. Richard yn gyfaill calon, fel y gwelwyd, i'r hen Grynwr dewr a haelfrydig, Joseph Sturge o Birmingham, gŵr yr oedd ei enw yn hysbys trwy yr holl fyd gwareiddiedig ymron. Nid oedd un symudiad dyngarol na diwygiadol heb fod Mr. Sturge yn barod i'w gynhorthwyo â'i arian ac â'i lafur personol. Pan fu Mr. Sturge farw, dymunai y teulu i Mr. Richard ysgrifennu Cofiant iddo. Nis gallai nacau, er fod ei ddwylaw yn llawn o waith eisoes. Nid oedd un cyfaill mwy haelionnus at y Gymdeithas Heddwch na Mr. Sturge, nac un a wnaeth fwy drosti. Ymgymerodd Mr. Richard, gan hynny, a'r gwaith o ysgrifennu ei Fywgraffiad. Bu farw Mr. Sturge yn 1859, ond oherwydd nad oedd gan Mr. Richard ond ei oriau hamddenol, megys, i ysgrifennu y bywgraffiad, ni chyhoeddwyd ef hyd 1864. Yr oedd y llafur yn fawr iawn. Mae y gyfrol yn un fawr, drwchus, o 622 o dudalennau. Mae darllen y llyfr hwn, a syllu ar wynebpryd hardd yr hen wron yn ei ddechreu—yr hwn, ynddo ei hun, sydd yn fath o ysbrydoliaeth i'r neb a'i gwelodd—a nodi arddull brydferth a choeth Mr. Richard o ysgrifennu, a'r syniadau goruchel a chrefyddol sydd yn gymhlethedig â'r cyfan trwy yr holl gyfrol, yn gadael argraff ddofn a daionus ar bob meddwl ystyriol. Ac nid oes dim yn yr holl gyfrol yn fwy hynod na'r gwyleidd-dra gyda pha un y mae Mr. Richard yn gallu anghofio ei hun yn y Cofiant, a hynny pan yn croniclo digwyddiadau y rhai yr oedd ganddo ef law mwy arbennig ynddynt nag oedd gan Mr. Sturge ei hun.

Fel y gwyddys, yr oedd Mr. Richard hefyd yn gyfaill mynwesol i Mr. Cobden a Mr. Bright. Iddo ef yr ydys i fesur yn ddyledus am y cysylltiad agos rhwng y ddau wr enwog hyn a'r Gynhadledd Heddwch.

Yr oedd gwybodaeth hanesyddol Mr. Richard mor fawr, a'i gydnabyddiaeth helaeth, fel y dywedwyd, â'r "Llyfrau Gleision" a gyhoeddid mewn perthynas i ryfeloedd Prydain, yn ei wneud yn wasanaethgar iawn i'r ddau wleidyddwr enwog pan mewn angen cyfnerthu eu hareithiau â ffeithiau o'r fath. Tua diwedd 1868, gwahoddwyd Mr. Richard i dreulio rhai dyddiau gyda Mr. Cobden yn ei dŷ yn Midhurst. Buasai yn ddifyr myned dros yr hanes fel y mae i'w gael yn nyddlyfr Mr. Richard, ei ymddiddanion a Mr. Cobden am Mr. Gladstone a Mr. Bright, y pwnc o heddwch, a phynciau gwladwriaethol yn gyffredinol, ond rhaid myned heibio. Nis gallwn eu talfyrru heb wneud cam â hwynt.

(1865) Pan fu farw Mr. Cobden yn 1865, gofynnodd ei weddw i Mr. Richard ysgrifennu Bywgraffiad iddo, yr hyn sydd yn dangos y parch oedd ganddi iddo, a'r ymddiried llwyr a feddai yn ei alluoedd, a'i gymhwysder i gyflawni gwaith mor bwysig. Pan ar ymweliad a Switzerland, ac yn ei unigrwydd tawel, dechreuodd Mr. Richard drefnu llythyrau Mr. Cobden ar gyfer y Bywgraffiad; ac yr oedd ei ddyddordeb ynddynt yn fawr iawn. Ond yr oedd ei orchwylion mor lluosog fel y methodd ag ymgymeryd a chwblhau y gwaith, ac yn y diwedd cyflwynwyd ef i ofal Mr. John Morley, yr hwn, fel y gwyr ein darllenwyr, a ysgrifennodd ddwy gyfrol o Fywgraffiad i'r Rhyddfrydwr hyglod hwn. Ond er nad ysgrifennodd Dr. Richard Gofiant Mr. Cobden yn gyfrolau, ysgrifennodd erthygl gampus arno i'r Enclyclopædia Britannica, ac y mae ei darllen, medd un awdwr, braidd yn peri i ni ofidio na fuasai wedi gwneud y gwaith a ymddiriedwyd i Mr. Morley, er cystal ydyw y Cofiant hwnnw.

Mae yn demtasiwn i ni yn y fan hon i roddi geiriau Mr. Richard yn y Gynhadledd Heddwch a gynhaliwyd yn Newcastle-on-Tyne yn 1865, mewn cyfeiriad at Mr. Cobden.

"Dydd Gwener diweddaf," meddai, "sefais uwchben bedd Mr. Cobden, ac i gyfaddef fy ngwendid wrthych, pan yn edrych i'r gell, a gweled yr arch yno, a galw i gof mor hir y bu y dyn hwnnw yn dir o gadernid i mi, ar yr hwn y gallwn bwyso bob amser; ei ddoethineb mewn cyngor, a'i wroldeb anbyblig mewn gweithredoedd, tuedd gyntaf fy ngwendid oedd penderfynnu mai gwell fyddai i mi encilio oddiwrth bob rhan o lafur cyhoeddus, a rhoi y cyfan i fyny mewn anobaith a digalondid. Ychydig o fisoedd yn ol, yr oeddwn wedi bod yn cydgerdded ag ef ar hyd yr un ffordd ag yr aeth yr orymdaith angladdol ddydd Gwener, a gallwn gofio y sylwadau a wnai ar fannau neilltuol o'r ffordd; a'm teimlad, fel y dywedais, oedd, ar ol colli y fath golofn o nerth, i roddi popeth i fyny, Ond fy ail feddwl oedd, mai nid dyna'r wers yr oedd bywyd ac esiampl Mr. Cobden wedi eu dysgu i'w gyfeillion ar ei ol; y dyn hwnnw, yr hwn, bum mlynedd ar hugain yn ol, a gododd ei lais ymysg ei genedl o blaid masnach rydd a heddwch rhwng cenhedloedd, a'r hwn a barhaodd hyd ddydd olaf ei fywyd yn ffyddlon a di-ildio i ymlynnu wrth egwyddorion ei ddyddiau boreuol. Ai iawn, gan hynny, oedd i mi gilio oddiwrth y gwaith a roddasai Rhagluniaeth i mi i'w gyflawni? Na, fel Cadfridog Carthaginia, yr hwn gymerodd ei fachgen at yr allor i dyngu gelyniaeth anghymodlawn yn erbyn Rhufain, felly y teimlais innau yn barod, wrth sefyll ar lan bedd fy nghyfaill, cyfeillgarwch yr hwn am bymtheng mlynedd oedd fy rhagorfraint a’m hymffrost, i gymeryd llw o ffyddlondeb i achos Heddwch, achos yr oedd efe wedi gwneud mwy drosto nag un dyn yn ei amser; a phe buasai yn fy ngallu, cymeraswn gannoedd o wŷr ieuainc Lloegr yno, ac uwchben bedd y gŵr heddychlawn hwn, tyngaswn hwy i gyffelyb ffyddlondeb diymarbed i'r un achos."

Pe cymerasai Mr. Richard ei ddigaloni wrth weled ei gyfaill, Mr. Cobden, yn cwympo wrth ei ochr, dios y buasai gwedd dra gwahanol ar achos Heddwch yn awr. Ond nid felly y bu. Neidiodd i'r adwy, ac ymladdodd hyd angeu, a gwnaeth wrhydri digyffelyb. Coded y nefoedd luaws eto o wŷr ieuainc yng Nghymru o'r un ysbryd dewr a Mr. Cobden a Mr. Richard, rhai a benderfynant ymladd yn erbyn y gelyn Rhyfel, yr hwn a wnaeth gymaint i anrheithio gwledydd y ddaear. Collodd Prydain yn unig yn y rhyfel diweddaf yn Affrica 22,450 trwy farwolaeth, clwyfwyd 22,829, a danfonwyd 75,430 adref wedi colli eu hiechyd! Onid yw ffeithiau noeth fel hyn yn ddigon i'w symbylu? A chofier mai nid y bywydau a gollir, a'r arian a dreulir, ydyw drygau penaf rhyfel. Mae y drygau ereill yn annisgrifiadwy.

PENNOD VI

Mr. Richard yn ceisio deffro Etholwyr Cymru,—Llythyrau a Thraethodau ar Gymru—Ei etholiad yn Aelod Seneddol—Ei Briodas.


(1862) Yn ystod yr holl amser hwn yr oedd Cymru a'i helyntion yn agos iawn at galon Mr. Richard. Parod ydoedd unrhyw amser i ymffrostio ei fod yn Gymro. Ymwelai â rhyw barth o'r Dywysogaeth yn fynych. Ym mis Medi, 1862, aeth ef a Mr. Edward Miall, a Mr J. Carvell Williams—tri o ddewrion Anghydffurfiaeth—i Abertawe, ar ran Cymdeithas Rhyddhad Crefydd. Cynhaliwyd Cynhadledd, yn yr hon yr oedd tua dau gant o wŷr cyfrifol Yr oedd y Gynhadledd yn un bwysig, yn gymaint ag y pasiwyd penderfyniad mewn cyfarfod mawr cyhoeddus o dan lywyddiaeth Mr. E. M. Richards, yn datgan nad oedd Anghydffurfiaeth Cymru yn cael ei chynrychioli yn deg yn y Senedd, a dygwyd ffeithiau amlwg i ddangos hynny. Nid oedd ond 16 allan o 32 o'r aelodau Cymreig wedi pleidleisio dros ddiddymiad y Dreth Eglwys, a dim ond dau wedi pleidleisio dros ddadwaddoliad yr Eglwys Wyddelig. Ac eto, yn ol cyfrifeb 1851, yr oedd 79 allan o bob 100 o'r Cymry yn Anghydffurfwyr. Gwnaeth Mr. Richard apêl yn y cyfarfod ar fod i'r Cymry ddod i deimlo eu rhwymedigaethau gwladwriaethol.

"Yr oeddent," meddai, "wedi gwneud gwaith ardderchog yn y gorffennol yn efengyleiddiad y wlad—y gwaith pwysicaf yn gyntaf—ond yr oedd ganddynt ddyledswyddau gwladwriaethol i'w cyflawni, a dylent godi o ddifrif atynt. Dylent fyned i gyfarfodydd y plwyf i wrthwynebu y Dreth Eglwys, a dylent ofalu ar fod eu henwau ar restr yr etholwyr, fel y gellid danfon dynion cymhwys i'w cynrychioli yn y Senedd. Yr oedd amser carcharu a dirwyo am fod yn Anghydffurfwyr drosodd; ond yr oedd, er hynny, demtasiynau i'w gwrthsefyll, ac aberthau i'w gwneud yn yr oes hon. A oeddem (gofynnai) yn barod i wrthsefyll yr hudoliaethau cymdeithasol hynny, y rhai, trwy wennau a geiriau teg, a ddefnyddid er ceisio gennym liniaru rhyw gymaint ar ein hegwyddorion? A oeddem yn barod i gyfarfod gwg y Pendefig hwn neu y Bendefiges Haelionus arall? A oeddem yn barod i gymeryd ein troi allan o'n ffermydd yn hytrach nag aberthu ein hegwyddorion? A oeddem yn penderfynnu, er pob perygl, na chaffai Cymru ei cham-gynrychioli yn Nhŷ y Cyffredin?"

Ar ol rhai sylwadau cryfion ereill, gofynnai,— "Pam na wnewch chwi ethol dynion o'r eiddoch eich hunain, y rhai a allent siarad drosoch yn Nhŷ y Cyffredin?" Pan gofiom fod Adroddiad o'r Gynhadledd hon wedi ei hargraffu a'i gwasgaru trwy y Dywysogaeth, ac wrth ddarllen drachefn apêl ddifrifol Mr. Richard, y mae yn amhosibl llai na chydnabod fod y geiriau hyn wedi dwyn ffrwyth sydd i'w weled yn amlwg yn sefyllfa ein cynrychiolaeth Seneddol yn y dyddiau hyn; ac yn yr ysbryd pybyr a amlygwyd gan luaws o ffermwyr, y rhai a erlidwyd mor greulon, ar ol hyn, am sefyll dros eu hegwyddorion wrth yr Etholfa. Ac y mae Cymru, ar y cyfan, wedi parhau yn ffyddlon i wneud hynny hyd yn awr. Cafodd Mr. Richard ei hun ei ddanfon i'r Senedd ar ol hynny—yr "Aelod dros Gymru," fel y gelwid ef—a gwelwyd gan Gymru 28 o wir gynrychiolwyr ei hegwyddorion arbennig. Dyma ddechreuad "codi'r hen wlad yn ei hol" mewn gwirionedd.

Mae yn anhawdd i'r rhai sydd yn ieuainc feddu syniad am yr anwybodaeth oedd ymysg y Saeson am y Cymry a'u hynodion, a'r cam ddarluniadau o honynt a ymddanghosai yn y papurau, o bryd i bryd, flynyddau yn ol. Derbynnid Adroddiadau y Dirprwywyr fel gwirionedd gan ryw rai, er mor lwyr oedd yr atebion i'r cyhuddiadau a ddygid yn ein herbyn. Yr oeddem, meddent, yn baldordd iaith aflafar nad oedd modd ei siarad heb beryglu y peiriant llafar; ac y mae rhyw syniad yn gorwedd yn ddwfn yng nghalon y Sais fod pawb nad yw yn gallu siarad Saesneg yn hanner barbariaid.

(1866) Yr oedd teimlad gwladgarol Mr. Richard mor gryf ynddo fel y penderfynnodd wrthweithio y syniad cyfeiliornus hwn am danom fel cenedl, ac, yn 1866, ysgrifennodd gyfres o lythyrau ar sefyllfa gymdeithasol a gwleidyddol y Cymry i'r Morning and Evening Star. Ysgrifenwyd y llythyr cyntaf ym mis Chwefrol, a'r olaf ym mis Mai. Tynasant sylw ar unwaith. Dyfynwyd o honynt i wahanol bapurau, cyfieithwyd hwynt i'r papurau Cymraeg, pasiwyd penderfyniadau gan y gwahanol gyfundebau Cymreig yn diolch i Mr. Richard am danynt, a buont yn agoriad llygad i luaws o Saeson diragfarn, a chodwyd cymeriad y Cymry raddau lawer yn uwch yng ngolwg y deyrnas mewn canlyniad i'w hymddanghosiad. Ymysg y cyfryw yr oedd yr enwog Mr. W. E. Gladstone ei hun. Yn Eisteddfod y Wyddgrug, yn 1873, dygodd Mr. Gladstone y dystiolaeth a ganlyn i'r effaith a gawsant arno ef,—

"Yr wyf," meddai, "yn cyfaddef yn onest i chwi fy mod, amser yn ol, a chyn i mi ymgydnabyddu â'r mater, wedi cyfranogi o'r rhagfarnau oeddent yn ffynnu i fesur yn Lloegr, ac ymysg y Saeson, mewn perthynas i iaith a hanesiaeth henafol y Cymry; ac yr wyf wedi dod yma i ddweud i chwi paham a pha fodd yr wyf wedi newid fy marn. Nid yw ond teg i mi ddweud mai cydwladwr i chwi, Cymro tra rhagorol, sef Mr. Richard, A.S., a wnaeth gryn lawer i agor fy llygaid i wir seyllfa y ffeithiau, trwy gyfres o lythyrau, y rhai, flynyddau yn ol, a ymddangosasant mewn newyddiadur boreuol, a'r rhai, wedi hynny, a gyhoeddwyd mewn cyfrol fechan, yr hon yr wyf yn ei hargymhell i sylw pawb sydd yn teimlo dyddordeb yn y mater."

Yn 1884, daeth argraffiad newydd allan o'r Gyfrol hon, ac ychwanegwyd yn ei diwedd rai Traethodau ar yr un mater. Yr oedd y Llythyrau a'r Traethodau wedi eu hysgrifennu mewn iaith goeth a chlir, fel y medrai Mr. Richard wneud, ac eto mewn iaith gref a phendant, ac weithiau gyda chryn dipyn o watwareg; ond bob amser yn llawn o ffeithiau cadarn a diysgog yn cael eu gwasgu adref gyda nerth anwrthwynebol. Mae yr holl gopiau o'r llyfr bellach wedi eu gwerthu, ac y mae yn anhawdd cyfarfod â chopi yn un man. Gresyn nad ail argreffid y llyfr, fel y gwelo Cymry y dyddiau hyn mor rwymedig ydynt i Mr. Richard am eu hamddiffyn mor effeithiol pan oedd gwir angen am hynny. Nid yw gofod yn caniatau i ni roddi dyfyniadau helaeth o'r llythyrau meistrolgar hyn, ond nis gallwn ymatal rhag ceisio rhoi crynodeb o'u cynhwysiad. Credwn y bydd hynny yn well na phigo darnau anghysylltiol yma ac acw fel esiamplau.

Yn y llythyr cyntaf cawn hanes sefyllfa foesol a chrefyddol Cymru yn yr amser a fu. Datgennir yn groew mai cenedl o Ymneillduwyr ydyw y Cymry, a rhydd Mr. Richard yr hanes pa fodd y daethant i fod felly. Yr oedd yr Eglwys Sefydledig wedi cael y maes bron yn gwbl iddi ei hun. Ond sut y darfu iddi drin y maes? Rhoddir dyfyniadau o lyfrau yr Eglwyswyr eu hunain i ddangos y cyflwr isel, o ran gwybodaeth a moes, yr oedd y Cymry wedi syrthio iddo o dan eu dwylaw. Dengys yn yr ail lythyr fod yr Eglwys, nid yn unig wedi esgeuluso ei dyledswydd, ond fod ei chlerigwyr wedi gwrthweithio pob ymgais ar ran ereill i wella sefyllfa pethau. Felly y gwnaethant gyda'r Puritaniaid, yr Anghydffurfwyr, a'r Methodistiaid. Dygir ymlaen brofion diymwad o hyn, sef o erledigaethau y clerigwyr, profion nad oes un Cymro darllengar heb wybod am danynt, er na wyr y Saeson nemawr am y pethau hyn yn ein hanes. Ie, dywed Mr. Richard nad ydoedd yr ysbryd erlidgar wedi llwyr ddarfod eto, ond ei fod yn cymeryd ffurf arall; a noda engraifft o wraig foneddig, rhyw ddeng mlynedd cyn hynny, yn troi tenantiaid allan o'u ffermydd am nad oeddent yn Eglwyswyr. Ac eto, y mae clerigwyr yn awr, meddai, yn galaru na wnai y Cymry ddychwelyd yn ol i "fynwes eu mam ysbrydol!" Na, ni fu yr Eglwys erioed yn ddim amgen na llysfam i'r Cymry. O'u hanfodd y gadawodd y Methodistiaid yr Eglwys ar y dechreu, ond bellach y maent yn Anghydffurfwyr egwyddorol a phenderfynnol.

Yn y trydydd llythyr y mae Mr. Richard yn myned i mewn i'r cwestiwn o gryfder cymhariaethol yr Eglwys ac Anghydffurfiaeth. Gwyddai y Cymry yn burion sut yr oedd pethau yn bod, ond ceisiai y clerigwyr, yn y papurau Seisnig, argyhoeddi y Saeson anwybodus mai yr Eglwys oedd gryfaf. Mae Mr. Richard, yn y llythyr hwn, yn profi trwy ystadegau diymwad nad oedd nerth cyfartal yr Eglwys i Ymneilltuaeth ond megis 21 i 79; mai nid yr Eglwys Sefydledig oedd gwir Eglwys Cymru, ac oni buasai am lafur yr Ymneillduwyr y buasai mewn cyflwr truenus, neu, yng ngeiriau y Parch. William Howells, o Long Acre, y gallasai y diafol honni mai ei blwyf ef oedd Cymru. Yr oedd yr Ymneillduwyr wedi gorchuddio y Dywysogaeth â 3,000 o Addoldai. A pha fodd y dygwyd hynny oddiamgylch? Mae Mr. Richard yn ateb y cwestiwn, mai trwy ddylanwad gallu anghydmarol y pulpud Cymreig, trwy y Cyfarfodydd Eglwysig—y "Seiadau"—a dylanwad yr Ysgol Sul. Mae'r teyrnged o barch a delir gan Mr. Richard i ddylanwad pregethwyr Cymru yn werthfawr iawn. Mae yn cyfaddef y gall fod ei dystiolaeth ef yn orffafriol, ond dywed, ar ol caniatau popeth o'r fath, mai ei farn ef ydoedd fod y pregethwyr a glywsai efe yn ei ddyddiau boreuol yn "feistriaid anghydmarol mewn hyawdledd pregethwrol," ac ychwanegai, megis rhwng cromfachau, nad oedd eu rhywogaeth wedi darfod eto. Er gwrando, meddai, ar rai o wŷr pennaf y pulpud Seisnig, nid oedd yn credu eu bod yn dod yn agos at y gwŷr a enwai mewn gallu i ddeffro, ysgogi, a lleddfu cynulleidfa boblogaidd. Mae ei ddesgrifiad o'r pregethwyr Cymreig yn rhagorol, ac y mae yn hawdd deall y buasai ei ddarllen, gan un fel Mr. Gladstone, a dynion cyffelyb, ac wedi ei ysgrifennu gan un o allu a barn bwyllog Mr. Richard, yn meddu dylanwad mawr ar eu meddyliau yn ffafr pregethwyr Cymru. Mae ei ddesgrifiad hefyd o ddylanwad daionus y Seiadau Cymreig a'r Ysgol Sul yn dra effeithiol.

Yn ei pumed lythyr y mae yn trin sefyllfa ddeallol y Cymry fel canlyniad y llafur hwn ar ran yr Ymneillduwyr. Dywed nas gŵyr am well danghosiad o sefyllfa ddeallol y Cymry na'r llenyddiaeth a ddefnyddiant. Yr oedd y syniad mwyaf ynfyd yn ffynnu ymysg y Saeson am lenyddiaeth Gymraeg y Dywysogaeth. Prin y credent fod gan y Cymry lenyddiaeth o gwbl. Dengys Mr. Richard fod y pryd hwnnw 25 o fisolion ac wyth o wythnosolion yn yr iaith Gymraeg, a'u cylchrediad yn 120,000 o gopiau. Nodai yr Esboniadau a'r llyfrau ereill a ddeuent allan o'r Wasg yn ein hiaith, a'r llyfrau cerddorol a barddonol; a dengys, trwy gyfrifon manwl, fod y Cymry yn tra rhagori ar y Saeson, o'r un dosbarth, yn nifer y llyfrau buddiol a ddarllennent.

Mae dylanwad daionus yr Eisteddfod hefyd yn cael ei drin yn y chweched llythyr. Yr oedd Matthew Arnold wedi dweud mai "math o gyfarfod Olympaidd oedd yr Eisteddfod;" ac yr oedd y ffaith fod y Cymry yn cymeryd dyddordeb ynddynt yn profi fod rhywbeth Groegaidd yn eu cyfansoddiad.

Ond yr hyn y ceisid cyhuddo y Cymry yn rhy fynych o hono oedd eu hanfoesoldeb, ac y mae Mr. Richard, yn ei seithfed lythyr, yn chwalu y cyhuddiad hwn i'r pedwar gwynt. Dengys eu bod yn fwy rhydd oddi wrth droseddau o bob math na'r Saeson; dwg dystiolaethau a ffigyrau di-os i brofi ei fater, ac, yn ei wythfed lythyr, y mae yn myned i mewn yn fanwl i'r cwestiwn o aniweirdeb Cymru, a phrofa ei bod yn sefyll yn is, o gryn dipyn, na chyfartaledd Lloegr, hyd yn oed yn y peth hwnnw ag y mae y Saeson wedi bod, ac ydynt eto, yn rhy barod i daflu i'n gwynebau. Dywed, gydag effaith arbennig, mai arf beryglus i'w harfer ydyw y cyhuddiad yn erbyn Ymneillduaeth Cymru fod aniweirdeb yn ffynnu yn fawr yn eu mysg; oblegid, dengys, os ydyw yn ffaith fod 6-9 y cant o'r genedigaethau yn rhai anghyfreithlawn yn profi fod dysgeidiaeth yr Ymneillduwyr yn cynhyrchu anfoesoldeb, yna y mae y ffaith fod yn Cumberland, lle y mae yr Eglwys fwyaf blodeuog, 12 y cant o'r genedigaethau yn rhai anghyfreithlawn, yn profi fod dysgeidiaeth yr Eglwys gymaint arall yn fwy anfoesol.

Cymerir y nawfed llythyr i fyny i drin y cwestiwn o haelioni y Cymry. Yn y mater hwn y mae Cymru Ymneillduol yn sefyll yn uchel iawn. Yr oeddent wedi codi 3,000 o Addoldai, ac os rhoddid dim ond 500p. fel cost pob un, yr oedd yn dod i fwy na miliwn a hanner o bunnau. Cyfrifai fod yr Ymneillduwyr yn cyfrannu at draul eu Capelau, ac achosion ereill; ddim llai na 300,000p. yn y flwyddyn. A dylid cofio fod y boneddwyr cyfoethog, oll o'r bron, yn Eglwyswyr. Mewn gwirionedd, yr oedd yr Ymneillduwyr cymharol dlawd yn cyfrannu yn wirfoddol yn agos gymaint ag yr oedd holl gyllidau yr Eglwys Wladol yn ei osod arnynt trwy orfodaeth; er nad oeddent yn dewis mynychu ei gwasanaeth. Yr oedd eu cyfraniadau at y Feibl Gymdeithas, yn ol yr herwydd, yn fwy nag mewn un rhan arall o'r deyrnas. Yr oeddent yn cynnal Cenhadaethau Tramor hefyd, ac yr oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd Genhadaethau Tramor o'r eiddynt eu hunain. Buasai yn dda gennym allu dwyn sylw at y rhan o'r llythyr hwn sydd yn dwyn cysylltiad âg Ysgolion Dyddiol Cymru, a'r anhegwch dybryd fod awydd aniwall y bobl am addysg i'w plant yn eu gorfodi i'w danfon i ysgolion lle y mae egwyddorion cyfeiliornus, yn ol eu tyb hwy, yn cael eu dysgu i'w plant ynddynt, am nad oedd ysgolion ereill i'w cael yn eu cymdogaeth. O ran hynny, fe wyr ein darllenwyr yn dda am y camwri hwn; ond fe ddylid cofio fod Mr. Richard wedi ei ddynoethi yngwydd y Saeson mewn modd clir, ac mewn iaith bendant, bymtheng mlynedd ar hugain yn ol.

Ond beth am sefyllfa boliticaidd y Dywysogaeth ? Mae Mr. Richard yn ei ddegfed lythyr yn ei drin yn drwyadl. Dyfynna eiriau nerthol Milton a Burke i ddangos mai nid trwy rym arfau y gellid darostwng ewyllys pobl, a bod y Cymry, pan beidiwyd eu gormesu, yn cyfansoddi y rhan fwyaf teyrngarol o'r Ymerodraeth. Yr oeddent yn dawel a heddychol. Yn sicr, yr oedd pobl fel hyn yn haeddu cael eu cyfran deg o lywodraeth y wlad i'w dwylaw trwy gyfrwng y Senedd. Sut yr oedd pethau yn sefyll? Yr oedd yr Eglwyswyr yn 21 y cant o'r boblogaeth, a'r Ymneillduwyr yn 79 y cant, ond nid oedd cymaint ag un Ymneillduwr yn cynrychioli Cymru y pryd hwnnw yn y Senedd; yr oedd yn agos i hanner y cynrychiolwyr (14 allan o 32) yn Doriaid o'r fath fwyaf eithafol, a'r rhai oedd yn proffesu bod yn Rhyddfrydwyr yn unig felly oherwydd traddodiad teuluaidd. Yr oedd pob Ymneillduwr egwyddorol yn rhwym o fod yn Rhyddfrydwr. Ond ni chaed ond dau i bleidleisio dros ddadgysylltiad yr Eglwys Wyddelig; a'r un modd gyda chwestiynau Rhyddfrydol ereill. Yn swydd Dinbych, cyfartaledd yr Eglwyswyr i'r Ymneillduwyr ydoedd 9,130 i 29,153, ac eto yr oedd cynrychiolydd y parth hwnnw o'r Dywysogaeth yn Dori o'r "sect fanylaf," a gofynna Mr. Richard onid gwawd ar gynrychiolaeth deg oedd peth fel hyn?

Ar ol rhoi ffigyrau a phrofion ereill, y mae Mr. Richard yn gofyn paham yr oedd pethau mewn sefyllfa mor anfoddhaol. Mae yn ateb y cwestiwn yn yr unfed llythyr ar ddeg. Yn y lle cyntaf, nid oedd y Cymry, ond yn gymharol ddiweddar, wedi dechreu cymeryd dyddordeb mewn gwleidyddiaeth. Diwygiadau crefyddol oedd, cyn hynny, wedi cymeryd eu bryd; ond yr oedd adfywiad bywyd cenhedlaethol a gwladwriaethol yn rhwym o ddilyn, fel yr oedd wedi dilyn y Diwygiad yn Lloegr. Bu llawer o arweinwyr cenedl y Cymry yn tybied fod math o lygredigaeth ynglŷn â phethau politicaidd. Yr oedd yr iaith hefyd wedi dieithrio meddwl y Cymry oddiwrth lenyddiaeth boliticaidd Lloegr. Crefyddol hollol ymron ydoedd llenyddiaeth Cymru wedi bod. Ond daeth tymor y newyddiaduron, yn fwyaf arbennig yr Amserau. Ceisiodd y clerigwyr ei lindagu. Pan aed ag ef i Ynys Manaw i osgoi y dreth, cynhaliasant gyfarfod, a dygwyd y mater o flaen y llywodraeth, a bu raid dwyn yr Amserau yn ol i Lerpwl i'w gyhoeddi. Ond methwyd lladd y papur, yn hytrach fe gynhyddodd ei gylchrediad. Yr oedd addysg wedi ymledu, a deffrodd meddwl y Cymry at bethau gwladwriaethol.

Mae Mr. Richard yn ei ddeuddegfed lythyr yn nodi arwyddion deffroad ein cenedl, ac yn ei rhybuddio y byddai raid iddi wneud aberthau mawrion cyn ennill ei rhyddid, gan fod mawrion y tir yn tybied mai eiddynt hwy oedd gallu politicaidd ein gwlad. Mae yn enwi yr aberthau hynny gyda llygad proffwyd, wrth ystyried fel y cawsant eu gwirio. Noda Mr. Richard y dosbarthiadau yng Nghymru oeddent wedi arfer gwrthweithio llais Rhyddfrydol y lluaws, sef y clerigwyr, y tirfeddianwyr, a'r stiwardiaid. Tra yn cydnabod y mawr les y mae llawer o'r clerigwyr dysgedig wedi ei wneud i Gymru, yr oedd yn rhaid addef fod dosbarth o glerigwyr yn bod, dynion wedi troi oddiwrth yr Ymneillduwyr gan mwyaf oeddent, yn dwyn mawr sel yn erlid y rhai a adawsant ar ol. Nid oedd un dosbarth ag yr oedd efe yn onest yn gresynnu mwy drostynt na'r dosbarth hwn. Mewn enw, hwy oeddent i fod yn brif ddysgawdwyr y bobl, eto yr oeddent yn cael eu dibrisio ganddynt, a'u gadael megys yn unig. A chan eu bod wedi codi o fysg y werin, yr oedd y boneddwyr, ar y llaw arall, yn eu hesgeuluso. Nid rhyfedd fod eu hysbrydoedd yn chwerwi. Ar adegau o etholiad yr oeddent yn cael cyfleustra i ddial trwy ein dilorni wrth fawrion y tir. Dyna'r pryd y caent y pleser o weled yr etholwyr, lawer o honynt, yn gorfod ymwingo o dan iau y gwyr mawr hyn. Er bod llawer o Ryddfrydwyr da ymysg yr Eglwyswyr, yr oedd Eglwys Loegr, fel y cyfryw, wedi bod, yn ol tystiolaeth Arglwydd Macaulay, yn elyn rhyddid am dros gant a hanner o flynyddoedd, ac nid oedd un amheuaeth nad oedd y clerigwyr yn onest yn eu cefnogaeth i'r Eglwys yr oeddent mewn cysylltiad â hi. Ond er hyn i gyd, gweithient mewn llinnell hollol wrthgyferbyniol i argyhoeddiadau a dyheuadau y bobl, a diau mai sefyllfa anedwydd ydoedd byw yng nghanol pobl heb nemawr o gydnawsedd rhyngddynt, a chael eu gwthio i fod yn fath o ysbiwyr arnynt, er mwyn eu bradychu i'w huwchafiaid. Gofynna Mr. Richard ai fel hyn yr oeddent am adennill serch eu praidd?

Mae dylanwad y tirfeddianwyr a'r mawrion yn cael ei drin yn y llythyr olaf ond un. Yr oedd boneddwyr Cymru i gyd ymron yn Doriaid trylwyr, y rhai a ystyrient mai eu diogelwch oedd dirwasgu pob rhyddid, pa un ai rhyddid llafar, cydwybod, addoliad, masnach, neu etholiad. Yr oedd rhai teuluoedd, mae'n wir, yn Rhyddfrydwyr, am fod y teulu wedi bod felly erioed. Ond cafwyd profion fod yn well gan lawer o'r cyfryw aberthu eu hegwyddorion politicaidd na gadael i gynrychiolaeth y wlad fyned allan o ddwylaw eu dosbarth hwy.[8]

Wrth gwrs, yr oedd Mr. Richard yn ofalus i ddweud fod eithriadau canmoladwy yn bod, ond eithriadau oeddent. Yr oedd y gwallgofrwydd helwriaethol hefyd yn ddinistr i ffermydd, ac yn rhwym o greu teimladau chwerwon ym mynwesau amaethwyr y tir. Peth arall oedd yn peri dieithrwch oedd, fod y boneddwyr yn hollol anhyddysg yn iaith y bobl, ac yn hytrach yn ymffrostio yn hynny. Yr oedd tuedd ynddynt hefyd i aflonyddu a phoeni y bobl mewn perthynas i'w capelau a'u hysgolion. Gomeddai rhai tirfeddianwyr werthu tir i adeiladu capelau neu ysgoldai arno. Dywedai Mr. Richard fod ganddo restr o'r cyfryw os mynnid cael eu henwau. Yr oedd ereill yn gwerthu tir i'r cyfryw ddiben, ond ar delerau gorthrymus. Yr hyn a wnelai y cyfan yn anioddefol oedd, fod y bobl, gan mwyaf, yn Ymneillduwyr, ac mai i ddysgawdwyr a chapelau Ymneillduol yr oeddid yn ddyledus am y tawelwch oddiwrth derfysgoedd yng Nghymru, ac, yn wir, am ddiogelwch y tirfeddianwyr eu hunain.

Pa hawl, gofynna Mr. Richard yn ei lythyr olaf, oedd gan unrhyw feistr tir i ymyryd â materion cydwybod ei denant? Ac edrych yn ol am gan mlynedd a hanner, yr oedd yn rhaid cydnabod mai nid y boneddwyr hyn ydoedd wedi bod yn arweinwyr y bobl mewn crefydd, moes, dysg, na llenyddiaeth, nac mewn unrhyw ffurf o wareiddiad a chynnydd. Nid yn eu rhengoedd hwy yr oedd gwroniaid Cymru i'w cael. Yr oeddent yn ddieithr i'r hyn oedd wedi dyrchafu y genedl. Ac eto, dyma'r dynion oeddent yn honni yr hawl i, ac yn cael eu danfon i'r Senedd. Yn y llythyr hwn y mae Mr. Richard yn rhoi hanes yr ymdrech etholiadol yn sir Feirionnydd, gormes Syr Watkin a Mr. Price, Rhiwlas, at y rhai y dygodd sylw y Senedd ar ol hynny. Terfynna'r llythyr trwy wneud apêl ddifrifol at y tirfeddianwyr; dywed mai ofer ceisio dwyn i mewn y gyfundrefn wriogaethol i wlad rydd, ac os ceisient, y caent mai "trech gwlad nag arglwydd." Yr oedd yn bryd i'r gwŷr hyn sylweddoli y ffaith mai Ymneillduwyr, gan mwyaf, oedd y Cymry, ac mai gwell oedd iddynt beidio ymyryd â'u crefydd. Gesyd yn llym ar y stiwardiaid, y rhai sydd yn gyfrwng rhwng y meistriaid tir a'r amaethwyr, ac yn gwneud mawr ddrwg, a therfynna trwy ddweud “gair wrth ei gydwladwyr." Dywed wrthynt fod yn rhaid iddynt ymwregysu ar gyfer y frwydr. Dylent fod yn barod i ddioddef, hwy a'u plant, ond odid, am eu hegwyddorion; ac ond iddynt fod yn ffyddlon yr oedd y fuddugoliaeth yn sicr iddynt. Ychwanegodd Mr. Richard yr ol-ysgrif ganlynol i'r llythyrau, dyddiedig 1883, pan ail gyhoedd- wyd hwynt yn llyfr yn 1884,-

"Fe welir, yn un o frawddegau olaf y llythyr diweddaf, fy mod wedi gwneud apêl ddifrifol at fy nghydwladwyr i hawlio eu hiawnderau politicaidd, hyd yn oed, fel yr oedd yn bosibl ac yn debygol, pe byddai raid iddynt ddioddef am eu ffyddlondeb. Atebasant yr apeliad hwnnw yn ardderchog yn etholiad 1868. Ac ni pheidiodd y blinderau a ragfynegwyd eu goddiweddyd. Trowyd ugeiniau o honynt o'u ffermydd a'u tai, a blinwyd a chospwyd hwynt am feiddio pleidleisio yn ol eu cydwybodau. Cefais y boddhad, pa fodd bynnag, o lusgo eu herlidwyr o flaen Tŷ y Cyffredin a'r wlad, a chydag ereill, o gasglu cronfa helaeth i liniaru eu gofidiau. Darfu i etholiad 1880 gwblhau y fuddugoliaeth a ddechreuwyd yn 1868, ac nid oes ond ychydig ymhellach i'w wneud yng Nghymru, heblaw dal y tir yr ydys wedi ei ennill eisoes."

Ni fuasem wedi myned i mewn mor helaeth i gynhwysiad y llythyrau penigamp hyn—y rhai, yn wir, y dylid eu darllen fel y cyfansoddwyd hwynt i weled eu gwir ragoroldeb—onibai eu bod bellach, fel y dywedwyd, yn anhawdd cael gafael arnynt, a hefyd eu bod yn rhan o waith Mr. Richard, yn ei fywyd, ag a gynhyrchodd gyfnod pwysig yn hanes codiad ein cenedl i'r sefyllfa wladwriaethol y mae ynddi yn awr.

Y mae yn deg cydnabod yma fod llawer o'r Eglwyswyr goreu yn ystod y blynyddau diweddaf yn barod iawn i gydnabod diffygion eu tadau, a'r mawr les a wnaeth yr Ymneillduwyr i Gymru, a hefyd fod gwelliant mawr wedi cymeryd lle yn yr Eglwys Sefydledig yn ddiweddar. Nid oedd neb yn fwy parod i gydnabod hynny na Mr. Richard. Mae yn gwneud hynny yn anrhydeddus yn yr araeth a draddododd yng Nghaernarfon ac Aberdar yn 1883.

Ar yr 20fed o Ragfyr, 1866, priododd Mr. Richard gydag Augusta Matilda, trydedd ferch John Farley, o Kennington, a hynny pan yn 54 mlwydd oed. Yr oedd yn ei hadnabod ers blynyddau, ac yr oedd hi yn un a feddai gydymdeimlad trwyadl a'i waith. Buont yn briod am ddwy flynedd ar hugain, a chysegrodd hi ei hun yn gyfangwbl i weini arno, ac i hyrwyddo y gwaith mawr yr oedd efe wedi cysegru ei fywyd iddo. “Elai gydag ef i'w holl deithiau yng Nghymru ac ar y Cyfandir, a phan ddechreuodd ei iechyd wanychu ymhen blynyddoedd wedi hynny, dyblodd ei gofal, a phrin y caniatâi iddo fyned allan heb fyned gydag ef. Yn ol pob tebyg, darfu i'w gofal parhaus fod yn foddion i estyn ei oes. Nid rhyfedd fod y fath gydmar bywyd wedi cyfranogi llawer o boblogrwydd ei gŵr yn y Dywysogaeth. 'Yr oedd ei gwyneb llon,' ebe un ysgrifennydd, 'mor adnabyddus bron i gynulleidfaoedd Cymru ag eiddo Mr. Richard ei hun, a thra y cofir un, nid anghofir y llall.' [9] Mae Mrs. Richard eto yn fyw, yn trigo yn 22, Bolton Gardens, Llundain, ac—fe oddefir i fi ychwanegu—yn cymeryd dyddordeb sylweddol yn y Cofiant Cymraeg

hwn am ei diweddar anwyl briod.

PENNOD VII

Yn dod yn Aelod Seneddol—Ysgriw y tir-feddianwyr –Ei araeth gyntaf yn y Senedd a'i heffeithiau—y gronfa i gynhorthwyo y tenantiaid—Ei areithiau ar y pwnc o Addysg yn y Senedd.

(1868) Yr oedd llawer o gydwladwyr Mr. Richard wedi teimlo ers talm y dylasai fod yn Aelod Seneddol dros ryw barth o Gymru: Meddai gymhwysterau arbennig at y gwaith, ac yr oedd yn "caru ein cenedl ni." Ysgrifenwyd awgrymiadau i'r Amserau dro ar ol tro, yn galw sylw at hyn, gan ysgrifennydd y llinellau hyn, a chan ereill. Mewn cyfarfod yn Aberaeron, lle yr oedd Mr. Richard yn bresennol, wrth gynghori y Cymry i ddanfon dynion iawn i'r Senedd, troes Mr. Miall at Mr. Richard, gan ddweud, "Dyma eich dyn." Yn 1865, cynhygiodd Mr. Richard ei hun i'w sir enedigol, ac y mae pob lle i gredu, pe na buasai wedi tynnu yn ol, o dan yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn y Traethodydd am 1865, at y rhai yr ydym, mewn nodyn blaenorol, wedi cyfeirio (t.d. 100), y cawsai ei ddewis. Pa fodd bynnag, yn etholiad 1868, pan roddwyd aelod ychwanegol i Ferthyr, etholwyd ef trwy fwyafrif mawr. Yr aelod blaenorol oedd yr Anrhydeddus H. A. Bruce, Rhyddfrydwr cymhedrol, a dyn rhagorol. Tybiodd meistriaid y gweithfeydd y gallasent gario y ddwy sedd, ond gwnaethant ymgais o blaid Mr. Fothergill yn bennaf, er mwyn cau allan Mr. Richard, tybient hwy. Ond yr oedd Mr. Richard yn anwyl gan y bobl, safasai o'u plaid yng ngwydd y Saeson pan warthruddwyd hwynt, ac yr oedd ei egwyddorion yr un yn hollol ag eiddo y mwyafrif mawr o honynt. Nid rhyfedd, gan hynny, i ffrwd o frwdfrydedd godi o'i blaid ag oedd yn cario popeth o'i flaen. Fel hyn yr ysgrifennid yn y Nonconformist ar y pryd,-

"Mae ymgyrch Mr. Richard yn ymgyrch buddugwr. Mae brwdfrydedd y bobl o'i blaid yn fawr dros ben. Llenwir yr adeiladau mwyaf y gellir eu cael. Derbynnir anerchiadau Mr. Richard, y rhai sydd mewn rhan yn y Saesneg, ac mewn rhan yn y Gymraeg, yn galonnog, ac y mae y penderfyniad i'w ddychwelyd yn unfrydol. Mewn pedwar o'r cyfarfodydd, mynnai y bobl dynnu s ceffylau o'r cerbyd, a hynny er gwaethaf gwrthwynebiad, a llusgo Mr. a Mrs. Richard ynddo, trwy'r heolydd, i dŷ Mr. a Mrs. Davies, Maes y Ffynnon, lle yr oeddent yn aros. Nos Wener, ar y ffordd i Hirwaen, cyfarfu torf fawr â hwynt tua thri chwarter milltir o'r dref, gyda banerau a seindorf, a llusywyd y cerbyd i'r dref gyda banllefau uchel. Yn anffodus, nid oedd un adeilad yn y lle a gynhaliai y drydedd ran o'r bobl, a bu raid i Mr. Richard eu hannerch yn fyr yn Gymraeg, yn yr awyr agored, ac yna aeth cynifer ag a allai i'r capel Anibynnol. Un peth dyddorol iawn ynglŷn â'r cyfarfodydd hyn oedd nifer y gweithwyr cyffredin a gymerent ran ynddynt. Traddododd llawer o honynt areithiau ag oedd yn dangos gwybodaeth boliticaidd, a difrifoldeb llawn o arabedd, a hyawdledd cenhedlaethol, ag oedd yn taflu y cyfarfodydd i'r hwyliau mwyaf cyffrous."


Nid rhyfedd, gan hynny, fod y cyfrif ar ddydd yr etholiad fel y canlyn,-

Mr. Henry Richard . . . . . . . . 11,667
Mr. Richard Fothergill . . . . . . 7,613
Yr Anrhydeddus H. A. Bruce . . 5,797

Parhaodd Mr. Richard i gynrychioli Merthyr yn Senedd am ugain mlynedd.

Er bod 23 o aelodau Rhyddfrydig wedi eu dewis dros Gymru ymysg mwyafrif mawr Mr. Gladstone, sef 120, buan y daethpwyd i edrych ar Mr. Richard, ac y galwyd ef mewn modd arbennig, "yr aelod dros Gymru.” Yr oedd ei areithiau ar adeg ei etholiad yn rhai ardderchog. Ni chelodd un o'i egwyddorion, ac, fel y gellid tybied, cafodd cydraddoldeb crefyddol, ac yn neilltuol ei hoff bwnc, Heddwch, le arbennig ynddynt. Ceisiodd rhai ei ddiystyrru am ei fod yn bregethwr, ond ymffrostiai efe yn y ffaith, ac nid oedd un amser, hyd ddiwedd ei oes, yn anghofio datgan gyda llawenydd ei fod yn fab i un o “hen bregethwyr enwog Methodistiaid Cymru."

Ar agoriad y Senedd, yn Chwefrol, 1869, ar achlysur ciniaw llongyfarchiadol gan yr aelodau Cymreig, pryd yr oedd lluaws o wyr enwog yn bresennol, megys Mr. Knatchbull-Hugesson, Arglwydd Grosvenor, Mr. Morley, Mr. Edward Miall, ac ereill, cymerodd Mr. Richard achlysur i gyfeirio at "ysgriw” y tirfeddianwyr yng Nghymru, a chyda dig cyfiawn at waith clerigwr yn nacau i un o weinidogion Ymneillduol Cymru ddweud gair yn y fynwent ar achlysur claddedigaeth yr hybarch a'r enwog Barchedig Henry Rees.

Gwnaeth Mr. Richard enw iddo ei hun yn y Senedd yn bur fuan. Siaradai gyda phwyll, nerth, a choethder anghyffredin, er yr ofnai rhai y buasai y dôn bregethwrol, yr hon a gasheid gymaint gan y Tŷ, yn ei erbyn. Ond yr oedd Mr. Richard bron yn gwbl rydd oddiwrthi. Siaradai yn berffaith naturiol, a phan dwymnai yn ei bwnc, gyda nerth argyhoeddiadol. Ei araeth gyntaf yn y Tý oedd ar yr 22ain o fis Mawrth, 1869, ar ail ddarlleniad mesur dadsefydliad yr Eglwys Wyddelig. Wrth gwrs, yr oedd esiampl Cymru ganddo i'w gefnogi, a danghosodd ar unwaith ei fod yn un a wnai argraff ar y Tŷ, ac y mynnai wrandawiad. Gyda phresenoldeb y fath un a Mr. Richard yn y Tŷ, yr oedd dyddiau camddarlunio Ymneillduaeth yn terfynnu.

Ar yr wythfed o fis Gorffennaf yr un flwyddyn, cafodd Mr. Richard gyfleustra neilltuol i ddwyn achos Cymru a gorthrwm y tirfeddianwyr o flaen y Senedd. Cymaint oedd digofaint y boneddwyr hyn oherwydd buddugoliaeth y Rhyddfrydwyr yn yr etholiad fel y rhoisant rybudd i oddeutu dau gant o'u tenantiaid. Cododd hynny ystorm trwy yr holl Dywysogaeth. Yn ffodus, pa fodd bynnag, yr oedd gan Gymru, bellach, wr galluog a chymwys i ddadleu ei hachos yn y Senedd. Pan gododd yr aelod dewr dros Ferthyr i fwrw ei hyawdledd llym ar ben rhai o'r gwŷr hyn, yn eu gwydd, yr oedd yr olygfa yn un ddyddorol dros ben. Mewn perffaith hunan-feddiant, ac mewn iaith finiog, ond coeth, dadleuodd yr achos o flaen y Tŷ am dros awr. Mae adroddiad Hansard o'r araeth ragorol hon o'n blaen, ac nis gallwn ymatal rhag rhoddi talfyriad byr o'i chynhwysiad,—

Dywedai ar y dechreu nad peth hyfryd ganddo oedd dwyn cyhuddiad fel hyn o flaen y Tŷ yn erbyn dosbarth o'i gydwladwyr, ond yr oedd pethau wedi eu dwyn i'r fath sefyllfa fel yr oedd cyfiawnder, rhyddid etholiadol, a threfn, a thangnefedd yn galw am roi terfyn arnynt. Hawliai eu sylw oblegid nid oedd achosion Cymreig wedi bod o flaen y Tŷ er cyn cof. Yr oedd y Cymry yn Rhyddfrydwyr fel cenedl. Nid oedd eisieu un prawf arall o hyn na'r ffaith eu bod yn Ymneillduwyr o ran crefydd, a galw sylw at eu llenyddiaeth. Ar ol ymhelaethu ar y ddau bwynt hyn, dywedodd fod rhai Saeson mor ffol a thybied fod y Cymry yn meddu math o ymlyniad caeth wrth berchenogion y tir, ac y dilynent hwy mewn unrhyw gyfeiriad. Ni fu erioed fwy o gamgymeriad. Er fod addysg wedi ymledu ymysg y bobl, nid oedd y tirfeddianwyr wedi sylweddoli hyn. Dylent gofio nad arglwyddi ar gaethion oeddent mwyach, ond dynion ymysg eu cyd-ddynion. Canfyddid y cynnydd hwn mewn gwybodaeth yn bur eglur yn yr etholiad diweddaf. Yr oedd cydymdrech wedi cymeryd lle rhwng arglwyddi ac Eglwyswyr yn erbyn Rhyddfrydiaeth ac Ymneillduaeth. Y drwg oedd fod rhai—nid pawb, ond rhai—tirfeddianwyr wedi myned i dybied fod y bleidlais yn perthyn i'r tir, fel yr ysgyfarnogod neu'r coedieir, ac os meiddia neb heblaw hwy ofyn am bleidlais y tenant, ei fod yn fath o heliwr anghyfreithlon. Yna, darllennodd Mr. Richard, er mwyn profi ei bwnc, lythyr yn dangos fel y darfu i'r Milwriad Powell, yr aelod dros sir Aberteifi, ddirwasgu ei denantiaid; un arall oddiwrth W. Cottrell, mewn perthynas i denantiaid "Derry Ormond,"[10] at Mr. Rees Jones, Voelallt Factory, Llanddewibrefi, Yr oedd y gŵr hwn wedi meiddio pleidleisio yn groes i ewyllys y meistr, ac wedi cael rhybudd i adael ei ddaliad; ond dywedid wrtho y cawsai aros os talai 10 punt ychwaneg o ardreth, a phleidleisio dros ei feistr o hynny allan. Darllennodd Mr. Richard, fel hyn, lythyr ar ol llythyr, ac adroddodd ffeithiau diymwad, y naill ar ol y llall, i ddangos fel y gorthrymid y tenantiaid. Yr oedd yr holl fanylion o'i flaen ganddo ar bapur, yn rhoi hanes ugeiniau lawer o denantiaid wedi cael rhybudd fel hyn am bleidleisio yn ol eu cydwybodau, a phentyrrai hwynt ar ben y tirfeddianwyr yn ddiarbed, a danghosai y fath greulondeb oedd hynny mewn lluaws o amgylchiadau. Nid oedd dim deddf yn rhoi hawl i'r tenant i gael yn ol yr arian a wariasai ar ei fferm, ac yr oedd troi dynion allan o'u ffermydd, o dan y fath amgylchiadau, nid yn unig yn ormes, ond yn lladrad cywilyddus. Yna aeth ymlaen i ddangos mor ffol oedd ym- ddygiadau fel hyn, a defnyddiodd am y waith gyntaf, meddir, yn y Senedd, yr hen ddiareb,— "Trech gwlad nag arglwydd." Wedi hynny, aeth ymlaen i ddangos mor rydd oddiwrth droseddau ydoedd Cymru, a dywedai nad oedd ymddygiad y tirfeddianwyr ond temtio'r bobl i fod yn droseddwyr y gyfraith. Danghosodd hefyd mai celwydd oedd y cyhuddiad a wneid fod y gweinidogion Ymneillduol yn arfer dylanwad anheg ar y bobl, a heriodd brawf o'r cyhuddiad. Yna, apeliai Mr. Richard am gyfiawnder a thegwch tuag at y ffermwyr diamddiffyn hyn. Yr oedd yn adnabod llawer o honynt yn dda,—

"A chan" (meddai wrth derfynnu), "fy mod yn eu hadnabod mor dda, y mae fy mynwes yn chwyddo mewn gofid a digllonnedd wrth weled y cyfryw ddynion yn cael eu mathru dan draed gan ryw fân dirfeddianwyr fel hyn. Yr wyf yn galw am gydymdeimlad ac amddiffyniad y Tŷ hwn ar eu rhan. Nid yw hynny yn llawer i'w ofyn oddiar eich llaw. Nid ydynt yn gofyn ond am i chwi beidio gadael i'r etholfraint a ymddiriedasoch iddynt gael ei droi yn offeryn poenydiad ar eu cydwybodau, a bod yn foddion gorthrwm a difrod ar eu hamgylchiadau. Mewn gair y maent yn gofyn, gyda golwg ar yr hawliau yr ydych wedi eu rhoddi iddynt, neu yn hytrach y ddyledswydd a osodasoch arnynt—pwysigrwydd a chyfrifoldeb yr hon a deinilant—eu bod i gael caniatad i gyflawni y ddyledswydd honno yn ddi-ofn ac yn anibynnol, fel rhydd-ddinasyddion gwlad rydd."

Hawdd y gellir dychmygu fod yr araeth hon wedi creu cyft'ro mawr ymysg tirfeddianwyr y Tŷ. Dyma'r tro cyntaf iddynt gael eu galw fel hyn " o flaen eu gwell " i ateb am eu traha. Y mae Mr. Edward Miall, yr hwn oedd yn y Tŷ ar y pryd, yn dweud fod desgrifiad Mr. Richard o'r Cymry, eu gwybod- aeth am wleidyddiaeth, a'u teimladau dwfn, wedi peri syndod mawr. Fel y nodai engraifft ar ol engraifft o orthrwm y tirfeistriaid, yr oedd teimlad digofus yn eglur godi. Pan y desgrifiai, gyda theimlad dwys, ymadawiad ffermwyr o'u hen gartrefi, ceisiodd rhai wawdio, ond buont yn aflwyddiannus, oblegid yr oedd Mr. Richard wedi ennill "clust y Tŷ."

Dywedai y diweddar Syr George Osborne Morgan, yr hwn a draddododd araeth ardderchog yn cefnogi cynhygiad Mr. Richard, fod effaith yr araeth, nid yn unig ar ei gefnogwyr, ond ar ei wrthwynebwyr, yn wir aruthrol; a bod edrych ar wynebau y rhai yr ymosodai arnynt yn olygfa gwerth ei gweled; a bod y gair ar led am un cyniychiolydd tra pharchus, ei fod bron wedi llyncu ei gadach poced. Pan eisteddodd Mr. Richard i lawr y noson honno, yr oedd dau beth yn amlwg, sef fod Cymru o'r diwedd wedi cael gwir gynrychiolydd, a bod Mr. Richard wedi sicrhau ei enwogrwydd Seneddol. Mae yn ddiau fod yr hyn a ddygwyd i'r goleu y pryd hwnnw wedi gwneud llawer er paratoi y íFordd i ddygiad mesur i mewn i ddiogelu yr etholwyr trwy foddion y tugel, yr hwn, ar ol hir frwydro, a basiodd yn 1871.

Fel y noda Mr. Richard yn yr Ol-ysgrif i'r Llythyrau y cyfeiriasom atynt, t.d. 103, ffurfiwyd, yn niwedd 1869, gronfa i gynorthwyo y rhai a drowyd allan o'u ffermydd, a gwnaeth Mr. Richard ei ran ymhob modd i hyrwyddo y symudiad, trwy gynnal cyfarfodydd mewn gwahanol barthau o Gymru a threfydd Lloegr. Yr oedd ei areithiau yn y cyfarfodydd hyn yn frwdfrydig iawn. Nid yn fuan yr anghofiwn ef mewn cyfarfod yn Lerpwl, pan yn desgrifo y gwahaniaeth rhwng y Cymry a'r Gwyddelod yng ngwyneb gorthrwm y meistr tir, ac yn pwysleisio y geiriau,—We don't tumble our landlords. Casglwyd rhai miloedd o bunnau fel hyn i gynorthwyo y tenantiaid gorthrymedig.

Nid oedd dim diwedd bron ar y galwadau oedd am wasanaeth Mr. Richard ar ol iddo sefydlu ei enwogrwydd mewn modd mor arbennig. Dadleuai o blaid addysg, rhyddid crefyddol, yr achos cenhadol, ac achosion cyffelyb, oddiar lwyfannau lawer. Ond ni fyddai byth, er hynny, yn anghofio prif waith ei fywyd, sef achos Heddwch. Yr oedd y rhyfel rhwng Ffrainc a Germani yn ymyl, a thalodd Mr. Richard a'i wraig ymweliad â'r Cyfandir wedi i'r Tŷ gael ei ohirio. Aeth i Ffrainc, Belgium, Holland, Prwsia, Bavaria, Awstria, ac Itali, i geisio perswadio aelodau y gwahanol Seneddau i wneud rhywbeth effeithiol ynddynt o blaid Cyflafareddiad. Llwyddodd y tu hwnt i'w ddisgwyliad. Cafodd penderfyniad o blaid Cyfalareddiad yn Senedd Berlin 90 o bleidleisiau, pasiwyd un cyffelyb yn Dresden trwy fwyafrif mawr; ac yn Awstria cafwyd 53 yn erbyn 64 o blaid. Derbyniwyd Mr. Richard ymhob man fel Apostol Heddwch, a chynhaliwyd cyfarfodydd mawr i'w groesawu. Cawn rai erthyglau rhagorol yn yr Herald of Peace ganddo tua'r amser hwn ar y pwnc o Heddwch yn ei wahanol agweddau. Nid segura y byddai Mr. Richard pan ddadgorfforid y Senedd, ond gorffwyso trwy newid gwaith.

(1870) Pasiwyd lluaws o fesurau pwysig yn Senedd- dymor 1870. Ym mis Mai, dygodd Mr. Watkin Williams benderfyniad ymlaen ar fod gwaddoliadau Eglwysig Cymru i gael eu defnyddio at achos Addysg, a bwriadai Mr. Richard ei gefnogi, ond collold y cyfleustra. Treuliwyd rhan fawr o'r Senedd-dymor gyda chwestiwn Mesur Addysg Mr. Forster. Cymerodd Mr. Richard ran neilltuol yn y ddadl, gan wrthwynebu yr ymgais i dreulio arian y wlad ar ysgolion yn dysgu crefydd enwadol. Amrywiai hyd yn oed y Rhyddfrydwyr yn eu barnau ar wahanol agweddau y cwestiwn hwn. Yr oedd areithiau Mr. Richard ar yr achlysur yn gryf a galluog, ac eto yn gymodol. Nid y cwestiwn ydoedd a oedd crefydd i gael ei dysgu, ond gan bwy? Ni feddai fawr o ymddiried y byddai dylanwad y clerigwyr a'r tirfeddianwyr yn yr iawn gyfeiriad. Cariodd y Llywodraeth y mesur, gyda chynhorthwy y Toriaid, trwy fwyafrif mawr. Gwrthdystiai Mr. Richard yn erbyn y wedd enwadol oedd arno, a gwnaeth Mr. Miall ac yntau rai sylwadau llym, y rhai a allesid dybied a fuasent yn chwerwi ysbryd Mr. Gladstone tuag atynt. Ond nid felly y bu. Gwyddai y Prif Weinidog yn dda mai gwŷr pybyr yn dadleu dros eu hegwyddorion mawr oeddent, ac ni wnaeth hynny ond ychwanegu ei barch tuag atynt, er ei fod ar un adeg, ar ol hynny, wedi ffromi yn fawr wrth Mr. Miall, tymher yr hwn oedd yn fwy chwerw nag eiddo Mr. Richard. Yr oedd un newyddiadur yn sylwi ar y pryd fod Mr. Gladstone ar fwrdd llestr gyda'r Cobden Club yn myned i Greenwich, a phan welodd Mr. Richard yn eistedd yn wylaidd ymhen ol y llestr, ei fod wedi myned ato ac ysgwyd llaw âg ef, ac eistedd wrth ei ochr, ac ymgomio yn hir ac yn hamddenol âg ef. Dyna fel y gall gwŷr bob amser ymddwyn. Meddai Mr. Gladstone, yn ddiau, barch dwfn i onestrwydd a chydwybodolrwydd Mr. Richard. Yr oedd gwybodaeth drwyadl Mr. Richard o'r holl ffeithiau ynglŷn â phob pwnc a ddygai ymlaen yn y Senedd, ei allu ymresymiadol clir, ei barch i egwyddorion Cristionogaeth, unplygrwydd ei amcan, a'i ymlyniad diwyro wrth ei argyhoeddiadau, yn rhwym o ennill cymeradwyaeth gŵr o gymeriad Mr. Gladstone. Anaml y codai i siarad ar ol Mr. Richard heb dalu teyrnged o barch iddo, hyd yn oed pan yn trin y pwnc o Heddwch. Yn wir, nid ydym heb feddwl fod

ganddo lawer iawn o gydymdeimlad â'i syniadau.

PENNOD VIII

Y rhyfel rhwng Ffrainc a Phrwsia—Areithiau ac Ysgrifeniadau Mr. Richard arno—Rwsia yn cymeryd mantais ar yr amgylchiadau.

(1870) "Yn nechreu y flwyddyn 1870, gallesid meddwl fod egwyddorion Heddwch wedi ymluchio dros gyfandir Ewrob fel tôn gref. Taenid y gair yn y newyddiaduron, fod Ffrainc yn barod i symud yng nghyfeiriad diarfogiad helaeth. Pa fodd bynnag, codwyd y pwnc i'r gwynt trwy ymweliad Mr. Richard â'r Cyfandir ar ei neges dangnefeddus, a dadleuid ef yn fynych yn y papurau. "Yn yr holl wledydd o'n cwmpas (ebe M. Convreue, yn Senedd Belgium) mae y bobl yn gwaeddi allan am Heddwch, ac yn gwrthdystio yn erbyn yr ynfydrwydd milwraidd presennol." Mewn araeth a draddododd y Gwir Anrhydeddus Mr. Forster yn Bradford, dywedai wrth daflu ei olwg dros wledydd Ewrob, fod golwg obeithiol iawn ar bethau gyda golwg ar y cwestiwn o Heddwch rhwng gwledydd. Yr oedd Ffrainc yn gwneud gostyngiadau milwrol, a Phrydain yr un modd. Cynhygiai Gweinyddiaeth Mr. Gladstone wneud gostyngiad yn y treuliadau ar y fyddin o 1,136,000p., a 12,308 yn nifer y milwyr, ac yn y llynges ostyngiad o 746,111p., yn gwneud o gwbl 1,883,000p. yn llai na'r flwyddyn flaenorol.[11] Cyfeiriai y Frenhines hefyd, gyda llawenydd, yn yr Araeth ar agoriad y Senedd at yr arferiad oedd yn ymddangos, fel ar gynydd, o gyflwyno cwestiynau dyrus rhwng gwledydd i benderfyniad cyflafareddwyr.

Ond yn amser heddwch, nid oes nemawr o sylw yn cael ei wneud o Ymherawdwyr a Brenhinoedd, ac y mae y byddinoedd a'r llyngesoedd, y rhai ydynt eu tegannau chwareu, yn colli eu dylanwad. Yn anisgwyliadwy, ar ryw gyfrif, er fod y teimladau drwg yn croni, ac yn bygwth torri allan, tarawyd Ewrob â syndod cyn i Senedd-dymor y flwyddyn hon ddod i ben, trwy i ryfel dorri allan rhwng Ffrainc a Ger- mani. Mae Mr. Richard, yn y papur a olygai, yn desgrifio yr amgylchiad yn y geiriau a ganlyn,—

"Nid oes eisieu i ni ddweud wrth ein darllenwyr fod ein calon yn ddrylliedig wrth edrych ar sefyllfa ddifrifddwys Ewrob. Hawdd fyddai ysgrifennu cyfrol ar y pwnc, ond fel amddiffynwyr heddwch, gwell i ni fod yn gynnil gyda'n geiriau, rhag i ddim a ddywedwn gyffroi teimladau cynhyrfus y pleidiau ymladdgar, y rhai a allant yn hawdd beri cynnwrf rhwng y wlad hon ac un o'r Galluoedd. Eglur yw i bawb a ddarllenno y papurau Seneddol, fel yr ydym ni wedi gwneud, fod gwreiddyn y drwg yn gorwedd yn ddyfnach na dewisiad y Tywysog Hohenzollern i orsedd Yspaen. Mae pob rhyfel, fel y dywed Kant, yn cenhedlu rhyfel arall. Mae y rhyfel presennol yn profi hyn. Nid oes ynnom un awydd i ddweud gair a duedda i esgusodi ymddygiad llywodraeth Ffrainc ar yr amgylchiad presennol. Ni fynnem, er holl olud a gallu y byd, fod o dan y baich o waed ar ein heneidiau sydd yn rhwym o orwedd ar enaid yr Ymherawdwr a'i gynghorwyr. Nid oedd yr hyn a roddir allan fel achos y rhyfel yn ddiau ond esgus; o leiaf yr oedd yr achos hwnnw wedi ei symud oddiar y ffordd cyn penderfynnu myned i ryfel. Wrth eu drws hwy, yn ddiau, y gorffwys y cyfrifoldeb o fod wedi gollwng cwn rhyfel yn rhydd. Yr ydym yn dweud yn bendant ac yn glir mai wrth ddrws llywodraeth ac nid pobl Ffrainc y gorwedd."

Ar ol dwyn profion o hyn, y mae yn troi at Prwsia, ac yn dweud ei bod mewn ysbryd anystyriol wedi dechreu teithio ar hyd llwybr rhyfel tua phedair blynedd cyn hynny. Pan oedd Ewrob yn heddychol, taflodd ei byddinoedd arni, ac heb hawl, ond hawl nerth cleddyf, trawsfeddianodd diriogaethau mawrion, a hynny yn groes i farn ei deiliaid ei hun. Ped aroshasai, syrthiasai y tiriogaethau hyn yn naturiol i'w dwylaw. Daeth Prwsia fel hyn yn allu cryf yn Ewrob, ac yr oedd ar Ffrainc ryw gymaint o'i hofn. Hyderai Mr. Richard, pa fodd bynnag, na wnai y wlad hon ymyryd mewn un modd yn y cweryl, os nad ymyrai i geisio atal tywallt gwaed. Yr oedd dosbarth o bobl yn y wlad hon, yn manteisio ar ryfel; ond meddai bob ymddiried yn Mr. Gladstone ac Arglwydd Granville. Ein perygl ydoedd oddiwrth ein swyddogion milwrol, y rhai, o dan yr esgus o osod y wlad mewn sefyllfa amddiffynnol, a waeddant am ychwanegiad at ein harfau rhyfel.

Mewn erthygl arall yn yr un cyhoeddiad, y mae Mr. Richard yn dychwelyd at y cwestiwn hwn. Gwawdia y syniad ffol, yn ol ei farn ef, o ymarfogi er mwyn cadw heddwch. Yr oedd byddinoedd anferth Ewrob yn ei gwasgu i'r llawr. Yr oeddent yn gwneud yr un peth a phe dyblid rhenti pob teulu. Elai naw ceiniog o bob swllt o'r trethi a godid oddiar bobl y wlad hon i dalu costau milwrol y dyddiau presennol neu y rhai a fu. Dywedid fod hynny yn angenrheidiol er mwyn diogelu heddwch. Ond fel arall yn hollol yr oedd pethau yn bod. Yr oedd pob blwyddyn o ychwanegiad at y moddion milwrol yn ychwanegu y perygl o ryfel yn y pen draw. Dywedai Ymherawdwr Ffrainc, yn ei gyhoeddiad o ryfel (Gorffennaf 23, 1870), fod yr "arfogiadau eithafol hyn wedi gwneud Ewrob yn wersyllfa, lle nad oedd yn aros ond ansicrwydd ac ofn am yfory." Dyna ganlyniad naturiol pethau. A oedd rhyw un mor ffol a meddwl, pe na buasai yr ystorfeydd o ynnau ac offer rhyfel o bob math yn bod, y buasai Ffrainc a Phrwsia wedi myned i ryfel? Ychwanegu perygl yr oedd y pethau hyn, ac nid diogelwch. A oedd y ddwy wlad yn agos mor gryf i gyfarfod â'u gilydd ag y buasent, pe heb dlodi eu hunain trwy drethoedd beichus am flynyddau?

Llwyddodd y wlad hon i gadw allan o'r trybini; ond bu raid ychwanegu dwy filiwn o bun- nau at ddyled y deyrnas, ac ugain mil o wŷr at nifer ein milwyr.

Tra bu y ddwy deyrnas fawr fel hyn yn ym- ladd, nid oedd Mr. Richard yn segur. Gwnaeth ei oreu, ar yr esgynlawr, yn y Senedd, a thrwy y Wasg, i ddadleu yn erbyn i'r wlad hon gymeryd ei llusgo i'r rhyferthwy ofnadwy oedd yn ymferwi ar y Cyfandir. I'r diben hwn gofalai gadw o flaen darllenwyr yr Herald of Peace ddifyniadau o'r gohebiaethau o faes y gwaed, er mwyn iddynt sylweddoli erchyllderau rhyfel Traddododd areithiau grymus yma a thraw yn ystod y tymor hwn, ac un bwysig iawn yn y Senedd ar y laf o Awst, yr hon y rhaid i ni gyfeirio ati. Canfyddir ei hamcan oddiwrth y crynhodeb canlynol,—

"Ofnai," meddai, "nad oedd y blaid a gynrychiolai efe yn boblogaidd iawn ar y pryd, sef plaid heddwch; a chyhuddai Mr. Disraeli o fod wedi traddodi araeth anoeth, un llawn o ysbryd rhyfel. Yn wir, tybiai efe fod y cwrs a gymerid gan y boneddwyr ar yr ochr arall i'r Tŷ, ymhell o fod yn un ag oedd yn dangos gwir wladgarwch. Beth oedd bwrdwn eu hareithiau? Cyhoeddent gyda phwyslais arbennig fod y wlad hon yn berffaith ddiamddiffyn; nad oedd gennym na byddin na llynges o ddim gwerth. O ran hynny, dyna eu cri bob amser. Yr oedd efe wedi cymeryd dyddordeb yn y materion hyn ers pum mlynedd ar hugain, ac yn ol y boneddigion hyn, ni fu gennym erioed arfau amddiffynnol o ddim gwerth. Mor fuan ag y caniateid yr arfau a geisient, dwedid wrthym nad oeddent dda i ddim. Os oedd ein sefyllfa mor ddiamddiffyn, yr oedd gennym yn sicr hawl i ofyu beth oedd wedi dod o'n harian, y miliynnau ar filiynnau oeddem wedi bod yn eu tywallt i'w trysorfa. Ond hyderai na wnai y Weinyddiaeth gymeryd ei dychrynnu i wastraffu mwy o arian y wlad, tra yr oedd, yn ol tystiolaeth y gwŷr a enwyd, mor ddifudd. Na, yr oedd gan y ddau Allu ymladdgar ddigon ar eu dwylaw heb gweryla â'r wlad hon. A oedd yr holl baratoadau rhyfelgar a wnaed ganddynt wedi sicrhau heddwch? Yn hytrach, fel arall yn hollol."

Yna aeth Mr. Richard ymlaen i roddi cyngor difrifol i wŷr y Wasg, o ba un yr oedd efe yn aelod gostyngedig Cyfeiriodd at eiriau Arglwydd John Russell ac Arglwydd Derby i ddangos fel yr enynwyd ysbryd rhyfel rhwng gwledydd trwy ymadroddion annoeth a chythruddol, a dywedai nad oedd ganddo ef un gronyn o dosturi i'w hebgor tuag at y ddwy lywodraeth oedd yn ymladd a'u gilydd,—

"Rhaid i mi," meddai, "gadw fy nosturi i'r miliynnau deiliaid o'u heiddynt oedd yn dioddef cymaint oherwydd eu cynghorau balch hwy. Yr wyf yn meddwl am y degau o filoedd o wyr ieuainc Ewrob a hyrddir i'w beddau cyn eu hanser; am y myrddiyunau o gartrefi, oedd hyd yma yn ddedwydd, a len wir â thristwch ac anghyfanedd-dra; am y lluaws pobloedd ar bobtu y Rhine oedd yn foddlawn i aros yn dawel a chymydogol gyda'u gilydd pe gadawsid iddynt, ond y rhai y cyffroir eu calonnau bellach gan nwydau gwenwynig, digofus, ac anghristionogol."

Credai fod dosbarth gweithiol y wlad hon o blaid anymyriad, a diolchai yn gynnes i Mr. Gladstone am ei benderfyniad i gadw y wlad hon yn glir o'r helynt

Cadwai Mr. Richard y cwestiwn fel hyn o flaen y bobl yn barhaus, a gwasgai adref, trwy y Wasg, y gwersi y dylesid eu dysgu oddiwrth y rhyfel. Gan fod yn ffyddlon i bwysigrwydd yr ystyriaeth, ni adawai i'w ddarllenwyr anghofio mai y darpariadau milwrol oedd wedi dwyn y rhyfel oddiamgylch, ac nad oedd y cwestiwn rhwng Ffrainc a Phrwsia, a defnyddio geiriau paffwyr pen-ffordd, ond yr hen gwestiwn pwy oedd y dyn goreu (the best man). Ac nid cwestiwn oedd hwn rhwng pobl y ddwy wlad, ond rhwng eu harweinwyr milwrol.

"Dyma," meddai yn un o'i erthyglau, "ddernyn allan o un o'r newyddiaduron. Ar y 12fed o fis Gorffennaf, cynhaliwyd cynghor pwysig yn y Tuileries, a phan oedd yr holl weinidogion ereill o blaid heddwch, tarawodd y Cadlywydd Lebouf ei ddwrn ar y bwrdd, a dywedodd y rhoddai ei swydd i fyny os na chyhoeddid rhyfel.' 'A ydych yn barod,' oedd gofyniad y Cyfrin-gyngor, 'i fyned i ryfel yn erbyn y gallu cryfaf yn Ewrob Ni fuom erioed yn fwy parod,' oedd yr ateb; ac yna dywedai yr Ymherawdwr,— Rhaid i ni, o ganlyniad, fynnu ymrwymiadau gan Prwsia; dyna ben ar y mater.'"

Cynlluniau i oresgyn Prwsia oedd gorchwyl swyddogion milwrol Ffrainc yn eu horiau hamddenol. Ar y llaw arall, pan gyfarfyddai swyddogion milwrol y Tywysog Frederick Charles ar giniaw, eu gwaith fyddai i un osod i lawr gynllun i oresgyn Ffrainc, ac i'r lleill ei feirniadu. Gwasgai Mr. Richard y gwirionedd adref fod yr un dosbarth yn fyw i'r un gwaith yu y wlad hon, a nodai ffeithiau i brofi hynny. Ewyllysiai y dosbarth hwn i ni efelychu y Galluoedd mawrion oedd yng ngyddfau eu gilydd, a dymunent wneud pob dyn ieuanc yn filwr. Ac y mae yn hawdd credu hynny, oblegid onid dyna oedd y cri a godwyd yn y deyrnas hon, yn ddiweddar, yn ein hymdrechfa â'r Transvaal? Gwyn fyd na fyddai ysgrifeniadau Mr. Richard ar y mater yn cael eu gwasgaru led-led y wlad.

Yr ydym yn cael fod Mr. Richard, ar y 24ain o Fedi, yn areithio mewn cyfarfod mawr yn Newcastle. Yr oedd y rhyfel yn peri fod rhai yn gofyn yn ddiystyrllyd yn y papurau,— "Beth y mae y Gymdeithas Heddwch yn ei ddweud bellach?" Mae Mr. Richard yn ateb y buasai yn well i'r byd erbyn hynny pe talasai fwy o sylw i'r hyn a ddwedid gan y Gymdeithas honno,—

"Chwi welwch," meddai, gan droi ar y cyhuddwyr, beth y mae Cymdeithas Rhyfel yn gallu ei wneud, yn y 250,000 o wyr sydd, yn ol y papurau, yn gorwedd yn gelaneddau ar y ddaear, neu wedi eu hanafu am eu hoes. Chwi welwch waith y Gymdeithas Rhyfel yn y "milltiroedd o ing"—ymadrodd tarawiadol a fathwyd gan y Dr. Russell, gohebydd y Times —sydd yn gorwedd yn yr yspyttai â'r tai ar lannau y Rhine a'r Moselle, yn y tai anrheithiedig a thruenus yn Ffrainc a Germani, lle y mae gwragedd torcalonnus yn disgwyl yn ofer am tadau, y gwŷr, y meibion, y brodyr, y rhai a dorrwyd i lawr yng nghanol eu cryfder, nid gan law natur, na barn Duw, ond gan law ddrygionus ac ynfyd eu cyd-ddyn. Chwi welwch waith y Gymdeithas Rhyfel yn y meusydd a ddifrodwyd, yn y pentrefi a losgwyd, ac a ddrylliwyd ar du dwyreiniol a gogleddol Ffrainc, lle y gwelir y trigolion anffodus yn ymlwybro mewn dychryn yng nghanol adfeilion eu tai, ac yn danfon cri o ing, ac apel at genhedloedd Ewrob i ddod i'w cynhorthwyo, am fod pob moddion cynhaliaeth wedi eu dinistrio, rhag iddynt drengu o newyn a haint. Dyma fuddugoliaethau y Gymdeithas Rhyfel, ac yng nghanol y fath amgylchiadau a hyn, hwyrach y gwrandewch ar lais Cymdeithas Heddwch gyda rhyw gymaint o barch. A pha beth a ddywed y Gymdeithas honno? Dywed fod moddion gwell, doethach, mwy rhesymol, mwy dyngarol, mwy Cristionogol, i derfynnu cwerylon rhwng cenhedloedd na'r drefn hon o osod dynion i lofruddio eu gilydd; oblegid, dwedwch yr hyn a fynnoch, nid ydyw rhyfel yn ddim amgen na llofruddiaeth ar raddfa eang. Dywed nad yw y byddinoedd hyn yn ddim amgen na'r ffolineb mwyaf, gan nad ydynt yn diogelu heddwch. Yr oedd pum miliwn o filwyr yn Ewrob, ac yr oedd efe (Mr. Richard) yn gwrthdystio yn eu herbyn am eu bod yn peryglu heddwch Ewrob."

Yn ystod yr araeth hon danghosodd Mr. Richard ynfydrwydd y cydymgais rhwng gwahanol wledydd mewn darpar arfau milwrol trwy gymhariaeth syml, ac y mae yn werth ei dodi i lawr yma,—

"Tybier," meddai, "fod dau ddyn yn Newcastle, un yn bobydd, a'r llall yn gigydd, yn byw gyferbyn a'u gilydd yn yr un heol. Mae rhywun yn myned at un o'r dynion hyn—y pobydd dyweder—ac yn ei berswadio fod y cigydd bwriadu gwneud rhyw niwed iddo. Mae y pobydd yn dweud wrtho ei hun, "Wel, nid wyf am osod fy hun yn agored i gynddeiriogrwydd y dyn yna," ac y mae ar unwaith yn hurio dyn, ac yn rhoi dryll iddo, ac yn peri iddo gerdded i fyny ac i lawr yr heol, a'i bwyntio at ei gymydog y tro cyntaf y gwel fod hynny yn angenrheidiol. Dyna beth mae y pobydd yn ei wneud. Yna y mae y cigydd yn dweud, "Oh, wel, fe all mwy nag un chwareu y gamp yna;" ac y mae yntau yn llogi dyn, ac yn rhoi dryll yn ei law, ac yn peri iddo gerdded i fyny ac i lawr yr heol ar yr ochr aralı. Yna y mae y pobydd yn dweud, "Mi fynnaf fi ddau o ddynion," a'r cigydd yn dweud, "Mi fynnaf finnau ddau." "Mi fynnaf dri," medd y pobydd. "Os felly, ini fynnaf finnau dri," ebe y cigydd; ac felly y mae y ddau ynfytyn yn gwario eu harian i logi dynion, ac i brynnu llaw-ddrylliau. A'r hyn sydd yn hynod ydyw fod y ddau, yn ystod yr holl amser yma, yn masnachu â'u gilydd; y cigydd yn prynnu torthau y pobydd, a'r pobydd yn prynnu cig y cigydd. Dyna'n gymhwys yr hyn yr ydym ni yn ei wneud. Mae Ffrainc a Lloegr yn gwneud masnach helaeth â'u gilydd—diolch i Mr. Cobden am hynny—ac eto, tra yr newid nwyddau fel hyn, dywed ein llywodraethwyr fod yn rhaid iddynt gael degau o filoedd o ddynion, a threulio miliynnau lawer o arian, er mwyn rhwystro i'r Ffrancod a'r Saeson ruthro i yddfau eu gilydd."

Ond tra yr oedd y Cyfandir yn ferw drwyddo gan ryfel ofnadwy, dyma'r wlad hon yn cael ei gosod mewn perygl o gael ei chyffroi drwyddi gan ysbryd rhyfel. Yr oedd rhyfel y Crimea wedi gorfodi Rwsia i ymostwng i delerau gyda golwg ar longau rhyfel yn y Môr Du nad oedd yn teimlo yn esmwyth danynt; nac yn eu hystyried yn deg. A phan y mae unrhyw Allu yn cael ei orfodi i wneud peth, nid yw yn debyg y pery i wneud y peth hwnnw yn hwy nag y gwel y cyfleustra i ymwingo allan o'r ymrwymiad. Pan welodd Rwsia fod gan Ffrainc ddigon o waith ar ei llaw ei hun, ac nad oedd yn bosibl iddi geisio helpu Prydain, fel yn amser rhyfel y Crimea, danfonodd rybudd at y Galluoedd oedd wedi llaw-nodi Cytundeb Paris, nad oedd am ymostwng yn hwy i'r gorthrwm. Nis gellir cyfiawnhau Rwsia yn yr achos hwn ar dir tegwch a chyfiawnder. Cytundeb ydyw cytundeb, a dylai gwledydd, fel personnau unigol, gadw ato. Ond y gwir yw, fod y Galluoedd yn fynych yn barod i dorri cytundeb heb gywilyddio dim, os bydd hynny yn fantais iddynt. Mae yn resyn dweud fod Lloegr wedi gwneud hynny lawer gwaith. Nid oedd y wlad hon yn malio nemawr, mae'n wir, am delerau Cytundeb Paris ynddynt eu hunain. Yr oedd wedi dod i weled mai yn ofer ac am ddim yr ymladdwyd brwydrau gwaedlyd y Crimea. Eto, yr oedd y dull y tynnai Rwsia allan o'i hymrwymiad yn anioddefol gan lawer yn y wlad hon. Nid gofyn am gyfnewidiad yn y telerau yr oedd, ond datgan ei phenderfyniad. Ac felly, er nad oedd y peth yn werth bywyd un dyn, er na fuasai un o'r pleidiau yn y Cytundeb yn barod i'n cynorthwyo i orfodi Rwsia i gadw ato, a bod perygl i ni ar bob llaw, er bod ein cweryl yn achos yr Alabama heb ei benderfynnu rhyngom ag America, er y rhagolygon truenus oedd fel hyn o'n blaen, a'r esiampl ofnadwy o echryslonrwydd rhyfel yn cael ei weithio allan yng ngwydd y byd ar y Cyfandir, yr oedd y Wasg, a phlaid gref yn y deyrnas hon, yn gwaeddi yn uchel am i ni fynnu gorfodi Rwsia i gadw at y Cytundeb! Gwnaeth Mr. Richard ei oreu, trwy'r Wasg, ac ar yr esgynlawr, i wrthweithio yr ysbryd rhyfelgar oedd yn ffynnu, a danghosodd mor ynfyd ydoedd. Dywedodd fod rhai o oreugwyr y wlad yn erbyn y fath ynfydrwydd, a bod yn ofidus meddwl fel yr oedd y Wasg, megys y Saturday Review a'r Pall Mall Gazette yn chwythu fflam rhyfel. Ie, yn wir, yr oedd dynion oedd yn proffesu bod yn ddyngarwyr a Christionogion, megys Arglwydd Shaftesbury ac Esgob Carlisle, o blaid rhyfel. Ond yr oedd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn rhy gall i gymeryd ei harwain gan y blaid ryfelgar hon. Yr oedd wedi dysgu erbyn hyn nad oedd yr hyn yr ymladdwyd cymaint o'i blaid yn 1854—5 yn werth tywallt diferyn o waed er ei fwyn. Cafodd Rwsia ei ffordd, i fesur; oblegid cyfarfu y Galluoedd yn Llundain, a gwnaed Cytundeb ar y mater. Fel hyn, dyma un o'r pethau a ystyriem yn hanfodol yn ein cweryl â Rwsia, ac yr ymladdasom mor ffyrnig er ei gyrhaeddyd, yn cael ei ysgubo ymaith gyda'r difrawder mwyaf. Mae Mr. Richard, mewn erthygl a ysgrifennodd yn 1872,[12] yn cyfeirio at y modd yr erlidiwyd pleidwyr Heddwch am wrthwynebu y rhyfel ynfyd hwn. Pan aeth efe, meddai, i Gaerdydd, i areithio yn ei erbyn, cyhuddid ef, mewn mur-lenni, o fod yn "Gennad Rwsia," a bu am awr a hanner yn ymdrechu â rhai a ddanfonwyd i'r cyfarfod i geisio boddi swn ei lais. "Ond pwy," gofynna, "sydd yn awr yn barod i amddiffyn y rhyfel hwnnw? Mae yr holl bethau yr ymladdwyd drostynt bellach wedi eu caniatau gan y Galluoedd hynny a ddygodd y rhyfel oddiamgylch." Pa ryfedd i Mr. Richard roddi y geiriau, "Pwy oedd yn iawn?" yn benawd i'w erthygl?

PENNOD IX

Y ddadl Seneddol ar Ddatgysylltiad, ac ar Addysg—Y Tugel—Achos yr Alabama—Araeth Mr. Richard yn erbyn cynhygiad Mr. Cardwell ar luestai milwrol—Y cyffro a ddilynodd—Ei daith yn yr Iwerddon, a'i araeth ym Merthyr Tydfil.

(1871) Ar y nawfed o fis Mai, 1871, cafodd Mr. Richard gyfleustra i draddodi un o'i areithiau nerthol ar un arall o’i hoff bynciau. Dygodd Mr. Edward Miall ei gynhygiad o flaen y Tŷ o blaid datgysylltiad yr Eglwys oddiwrth y Wladwriaeth, a chefnogwyd ef gan Mr. Richard. Noswaith hynod oedd honno pan meiddiodd y ddau wron hyn yn achos Anghydffurfiaeth, ddadleu ar lawr Tŷ y Cyffredin am y waith gyntaf erioed o blaid datgysylltu a dadwaddoli yr Eglwys Sefydledig. Yr oedd yn gofyn gwroldeb anghyffredin; ond pwy oedd yn fwy dewr na'r hynaws Mr. Miall pan oedd egwyddor a gwirionedd mewn cwestiwn, a phwy a geid a ymladdai yn fwy di-ildio yn achos rhyddid crefyddol nag Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch? Wrth gwrs, yr oedd yr "Aelod dros Gymru” yn seilio ei ddadl ar y modd yr oedd yr Eglwys Sefydledig wedi troi yn fethiant mor druenus yng ngwlad ei enedigaeth. Ac nid oedd modd cael gwell sail i adeiladu dadl arni. Danghosodd Mr. Richard fod esgobion Cymru wedi eu penodi yn 1563 i ofalu fod yr Ysgrythyrau i gael eu cyfieithu i'r Gymraeg erbyn 1566, ond ni wnaethant; ac am y cyfieithiad a gyhoeddwyd yn 1588, yr oeddem yn ddyledus i Dr. Morgan am dano. Ni chyhoeddodd yr Eglwys yn yr hanner can mlynedd dilynol ond un argraffiad; ond cyhoeddodd yr Anghydffurfwyr yn ystod yr amser hwnnw 30,000 o gopiau o'r Beibl cyflawn, a 40,000 o'r Testament Newydd. Am 160 mlynedd cyn 1718, ni ddarparodd yr Eglwys ond tri argraffiad o 2,600 O gopiau o'r Ysgrythyrau, a'r rhai hynny ar gyfer yr Eglwysydd; ac am 145 mlynedd ar ol deddf y Frenhines Elizabeth, ni wnaeth yr Eglwys ddim tuag at roddi Beiblau i bobl Cymru. A'r un mor ddiffrwyth fu yr Eglwys mewn ystyriaethau ereill. Yn ol Dr. Morgan, nifer yr Eglwysydd yn Esgobaeth Bangor a Llanelwy yn 1560 ydoedd 318, yn 1855 nid ydoedd y nifer ond 360, sef ychwanegiad o ddim ond 42 mewn 295 o flynyddau. 0 1715 i 1855—ysbaid o 140 o flynyddoedd—nid yn unig ni fu dim cynnydd, ond yr oedd un yn llai! Troer drachefn a chymharer yr hyn a wnaed gan yr Eglwys a chan yr Ymneillduwyr. Nifer yr eisteddleoedd yn Eglwys Loegr yng Ngogledd Cymru yn 1801, ydoedd 99,216; gan yr enwadau Ymneilltuol, 32,664. Yn yr hanner can mlynedd dilynol, cynhyddodd y boblogaeth o 352,765 i 412,114, sef tua 63 y cant. I gadw y cyfartaledd a enwyd, dylasai yr Eglwys fod wedi darparu 62,505 o eisteddleoedd newyddion; ond ni ddarparodd ond 16,614. Dylasai yr Ymneillduwyr fod wedi darparu 20,576, ond mewn gwirionedd darparodd 217,903. Hynny yw, fe syrthiodd yr Eglwys 73 y cant islaw yr hyn a ddylasai wneud, tra y darfu i'r enwadau ereill wneud 960 y cant uwchlaw eu dyledswydd. Yn y Deheudir, yn 1801, nifer yr eisteddleoedd yn yr Eglwys ydoedd 133,514; ac eiddo yr Ymneillduwyr oedd 82,443. Cynhyddodd y boblogaeth erbyn 1851, o 288,892 i 593,607, neu 105 y cant. Dylasai cynnydd eisteddleoedd yr Eglwys, yn ol y cyfryw gyfartaledd, fod yn 140,854, ond nid oedd ond 15,204. Ni ddylasai cynnydd yr Ymneillduwyr, yn ol yr un cyfartaledd, fod yn fwy na 86,975, ond yr ydoedd yn 270,516. Felly, fe syrthiodd Eglwys Loegr 89 y cant islaw, a chododd yr Ymneillduwyr 211 y cant uwchlaw y nod. Yr oedd Esgob Llandaff yn ei Gyngor diweddaf yn ymffrostio fod 39 o Eglwysydd newyddion wedi eu codi yn ei Esgobaeth er 1850, a 36 wedi eu helaethu. Ond yn yr un amser yr oedd yr Anibynwyr wedi codi 68 o gapelau, ac wedi ail- adeiladu a helaethu 46; y Bedyddwyr wedi adeiladu 67, ac ail-adeiladu a helaethu 40; y Methodistiaid Calfìnaidd wedi adeiladu 55, ac ail-adeiladu a helaethu 40. Hynny yw, yr oedd yr Anghydfíurfwyr o fewn yr Esgobaeth honno, er y flwyddyn 1850, wedi adeiladu 186 o addoldai newyddion ar gyfer 39 gan yr Eglwys; ac wedi ail-adeiladu a helaethu 127 ar gyfer 36 gan yr Eglwys. Ac nid oedd un amheuaeth nad allesid dweud pethau cyffelyb am Esgobaethau ereill.

Nid oes un amheuaeth nad oedd croniclo ffeithiau fel hyn, a'r rhai sydd eto yn werth eu gosod i lawr, er eu cadw mewn cof, yn peri mawr syndod i'r Seneddwyr—y rhai sydd bob amser mor anwybodus am sefyllfa pethau yng Nghymru—ac yn dangos tu hwnt i bob dadl, nad oedd Eglwys Sefydledig wedi bod yn llwyddiant yng Nghymru, pa fodd bynnag. A'r syndod yw, fod yn rhaid ail-nodi ffeithiau fel hyn o bryd i bryd, hyd yn oed yn awr, ac nad ydynt eto yn cael yr effaith a ddylent. Mae y ffeithiau, er hynny, yn anhyblyg, ac yn rhwym o "ddweud" yn y pen draw.

Collodd Mr. Miall ei gynhygiad trwy fwyafrif o 374 yn erbyn 89. Ymysg y lleiafrif yr oedd deg o'r aelodau Cymreig.

Yn y flwyddyn hon (1871), y dygodd Mr. Forster Fesur y Tugel[13] i mewn. Ymladdodd y Toriaid yn ffyrnig yn erbyn y Mesur, ond pasiodd Dŷ y Cyffredin. Gwrthodwyd ef gan Dŷ yr Arglwyddi; ond yn y flwyddyn ganlynol, pa fodd bynnag, ni feiddiodd yr uchelwyr hyn ei wrthod. Profodd y wlad yn fwy trech na'r arglwyddi. Traddododd Mr. Richard araeth ragorol pan oedd y Mesur o flaen Ty y Cyffredin, a chymerodd achlysur i enwi esiamplau o orthrwm y meistri tir, yn ychwanegol at y rhai a ddygasai o flaen y Tŷ ar yr achlysur blaenorol. Crybwyllodd am wyth o denantiaid yn sir Aberteifi-Rhyddfrydwyr dewr-a drowyd o'u ffermydd; ac nid oedd hynny ond rhai, allan o'r llawer, a dioddefasant mewn amryw ffyrdd, oherwydd eu hegwyddorion politicaidd.

Yr oedd Mr. Richard yn gwneud ei hun yn ddefnyddiol mewn amryw ffyrdd heblaw yn y Senedd tua'r amser hwn. Yr oeddid yn galw am ei wasanaeth ar bob math o achlysuron bron. Yr ydym yn ei gael yn niwedd 1871 yn cadeirio yng nghyfarfod ymadawol y cerddor enwog, Mr. Joseph Parry, Mus. Bac., pan ar fyned i'r America; hefyd mewn cyfarfod i longyfarch y Côr Cymreig oedd wedi cario y brif wobr yn y Palas Grisial. Yr ydym yn ei gael hefyd yn nechreu 1872 yn Gadeirydd Cynhadledd fawr o Ymneillduwyr yn y Free Trade Hall, yn Manchester, yn achos Mesur Addysg Mr. Forster, lle yr oedd tua dwy fil o ddirprwywyr o gannoedd o fannau wedi cyfarfod i wrthwynebu rhannau o'r Mesur hwnnw. Penderfynwyd yn y cyfarfod y dylai y cyfrifoldeb o gyfrannu addysg grefyddol orffwys ar ymdrechion gwirfoddol. Yr oedd y diweddar Dr. Dale a Mr. Chamberlain yn siarad yn y cyfarfod o blaid y cynhygiad. Teimlai yr Anghydffurfwyr yn gryf iawn y pryd hwnnw ar y cwestiwn, a chawsant gyflestra i'w ddwyn o flaen y Tŷ ym mis Mawrth, pan gynhygiwyd cyfres o benderfyniadau gan Mr. George Dixon yn condemnio y Mesur Addysg, am ei fod yn caniatau talu arian o'r trethi i ysgolion enwadol, ar y rhai nad oedd gan y trethdalwyr un math o lywodraeth; a bod addysg grefyddol sectol yn cael ei chyfrannu mewn ysgolion yn perthyn i'r Byrddau. Traddododd Mr. Richard araeth rymus, yn ystod y ddadl, yn dangos natur yr addysg enwadol a ddysgid gan y clerigwyr. Addawodd y Weinyddiaeth gymeryd gwrthwynebiadau yr Anghydffurfwyr i ddwys ystyriaeth, ac o ganlyniad, pasiodd y Mesur trwy fwyafrif o 355 yn erbyn 94. HENRY RICHARD, A.S. 139

(1872) Yn y flwyddyn 1872 y terfynwyd achos yr Alabama mewn modd ag oedd yn llawenydd calon i gyfeillion Heddwch. Gŵyr pawb, bellach mai llong oedd yr Alabama, a adeiladwyd yn Birkenhead gan y Mri. Laird yn amser y rhyfel rhwng De a Gogledd yr Unol Daleithiau. Adeiladwyd hi at wasanaeth y De. Danfonodd y Taleithiau Gogleddol at y wlad hon rybudd i'w hatal i fyned allan, neu ynte y delid ni yn gyfrifol am y difrod a wnai. Ond allan yr aeth, a gwnaeth ddinistr ofnadwy ar longau masnachol y Taleithìau Gogleddol. Daliodd a dinistriodd o gwbl 65 o longau. Ond dinistriwyd hithau o'r diwedd gan un o longau rhyfel y Gogledd. Yn 1862—3 cododd yr Unol Daleithiau y cwestiwn, a gofynasant am iawn am y dinistr a wnaeth yr Alabama a llongau ereill. Parodd hyn gyffro nid bychan yn y wlad hon. Gwadai Prydain ei chyfrifoldeb, a chrewyd teimladau chwerwon. Bu y peth o flaen y Tŷ, o dro i dro, am amser maith, a'r teimladau yn myned yn waeth-waeth. Heb i ni fanylu gyda golwg ar y gwahanol agweddau ar y ddadl ddyrus hon, digon yw dweud y bu Mr. Gladstone o'r diwedd yn ddigon doeth i gyflwyno y cwestiwn i gael ei benderfynnu gan Gyflafareddwyr. Cyfarfu y dirprwywyr dros y ddwy lywodraeth yn Geneva, a'r canlyniad fu, dyfarnu fod Prydain ar fai, a bod iddi dalu 3,229,166p. o iawn.

Nid heb lawer iawn o helbul yr aeth y symudiad pwysig hwn drwodd. Yr oedd cynifer o gwestiynau dyrus ynglŷn âg ef, y teimladau yn uchel yn y ddwy wlad, y Wasg weithiau yn cyffroi y teimladau yn fwy, nes oedd ar rai eisieu taflu y cwbl i fyny, a gwrthod talu dim, gwnaed yr Unol Daleithiau eu gwaethaf. Nid nes eisieu dweud fod Mr. Richard yn bur bryderus, oblegid yr oedd ar fedr dwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Tŷ y Senedd-dymor hwnnw, ond yn petruso hyd nes y terfynid achos pwysig yr Alabama. Teimlodd efe a'i gyfeillion mai gwell oedd oedi y cwestiwn hyd nes y byddai yr achos hwnnw wedi ei lwyr benderfynnu.

Ym mis Awst y flwyddyn hon (1872), traddododd Mr. Richard araeth yn y Tŷ yn erbyn cynllun Mr. Cardwell o sefydlu tua 60 neu 70 o ganol-fanau milwrol ar hyd y wlad, ac adeiladu lluestai iddynt, y rhai oeddent i gostio tua thair miliwn a hanner o bunnau. Gwrthwynebodd Mr. Richard y cynhygiad, nid yn unig ar gyfrif y gost, ac y tueddai i'n gwneud yn genedl o filwyr, ond yn bennaf oherwydd dylanwad anfoesol milwyr ym mhob lle y byddont. Dygodd brofion diymwad o'r modd yr oedd milwyr yn llygru cymdogaethau lle yr ymsefydlent. Parodd araeth onest Mr. Richard gyfFro mawr ymysg y blaid íìlwrol, a cheisiodd rhai o honynt ei hateb, ond ni ddygasent un prawf yn erbyn fFeithiau Mr. Richard. Ymddanghosodd nifer o lythyrau yn y Times, a phapurau ereill, mewn canlyniad i'r araeth hon ; ond nid oedd un o honynt yn dymchwel y fFeithiau. Dywedai Mr. Richard mai y gwir ydoedd, fod y syniad milwrol am foesoldeb yn isel iawn. Addefai Syr Henry Storkes, swyddog yn Adran y Fyddin yn 1865, fod yn hawdd gwybod wrth edrych ar íilwyr fod lluaws o honynt yn dioddef o dan anhwylder arbennig, ac â ymlaen i ddweud,—"Fy marn i yw, na ddaw dim lles oddiwrth unrhyw foddion a ddyfeisir, hyd nes y bydd puteindra yn cael ei gydnabod fel peth o angenrheidrwydd." Ymddangosodd llythyr maith yn y Nonconformist ag oedd yn dadlennu gwir sefyllfa pethau, a chredwn y buasai yn well gan y swyddogion milwrol pe buasent wedi gadael haeriad cymhedrol Mr. Richard yn llonydd.

Ym mis Awst y flwyddyn hon,[14] cawn Mr. Richard a'i wraig yn teithio trwy'r Iwerddon er mwyn ei iechyd ef, a hefyd yn achos y Gymdeithas Heddwch. Cynhaliodd gyfarfodydd mawrion yn Dublin, Limerick, Belfast a mannau ereill. Yr oedd y cyfarfodydd yn rhai dylanwadol a brwdfrydig, a chyflwynid ef yng ngeiriau Mr. McClure, A.S., fel un "hollol adnabyddus yn Nhŷ y Cyffredin, a dadleuydd galluog a hyawdl dros bob mesur dyngarol." Ffurfiwyd pwyllgor i geisio cario allan yr amcan oedd gan Mr. Richard mewn golwg.

Ym mis Rhagfyr, talodd ymweliad â Merthyr Tydfil, pryd y traddododd anerchiad tra effeithiol ar y tugel, masnach y ddiod feddwol, addysg, ac wrth gwrs, y pwnc o Gyflafareddiad. Dywedai nad oedd y cynnwrf a godid gan y dosbarth milwrol am ein perygl, ond ymgais i gael ychwanegiad yn y fyddin a'r llynges. Ffrainc oedd y bwgan blaenorol; ond gan ei bod hi y pryd hwnnw yn gorwedd megys yn glwyfedig ar y llawr, codid cri mai ein perygl oedd oddiwrth Germani. Ie, yr oedd dynion ag oeddent heb fod yng ngwallgofdy Bedlam yn ceisio ein dychrynnu y byddai y wlad honno yn gwneud pont o gychod i groesi y mein-for i oresgyn Lloegr! Cyfeiriai at un lles oedd wedi deilliaw oddiwrth ei araeth yn y Tŷ, mewn perthynas i anfoesoldeb milwyr. Yr oedd y ddeddf hyd hynny, yn gwneud yn amhosibl tadogi plentyn anghyfreithlon ar filwr. Wedi iddo alw sylw at y peth yn ei araeth, cododd Syr John Pakington i ddweud fod y gyfraith yn un waradwyddus i'r deyrnas, ac fe'i diddymwyd mewn canlyniad.

Ar y 15 o Hydref, 1872,[15] yr ydym yn cael Mr. Richard yn bresennol ar agoriad Coleg Aberystwyth, ac yn traddodi araeth yno. Dywedai mai eu cam nesaf fyddai cael rhodd oddiwrth y llywodraeth. "Byddent," meddai, "yn foddlon pe caent bris dau o gyflegrau mawrion Armstrong."

Ond gwaith mawr Mr. Richard y tymor hwn oedd parotoi ar gyfer y cynhygiad a fwriadai ei ddwyn ger bron y Tŷ yn y mis Gorffennaf dyfodol. Mae y darn mawr hwn o waith bywyd Mr. Richard mor bwysig, ac wedi cynhyrchu y fath effeithiau yn y wlad hon ac ar y Cyfandir,

fel yr ydym yn rhoi pennod gyflawn iddo.

PENNOD X.

Cyflafareddiad—Araeth Mr. Richard yn y Senedd arno—Ei Deithiau ar y Cyfandir yn yr achos.

(1873) Yn y flwyddyn 1873, cafodd Mr. Richard y cyfleustra o ddwyn y cwestiwn o Gyflafareddiad o flaen y Tŷ—cwestiwn ag oedd trwy ei oes wedi bod yn destyn ei efrydiaeth a'i bryder. Gosodasai ei gynhygiad ar lyfrau y Tŷ mor foreu a'r 11eg o fis Awst, 1871, ond o'r pryd hwnnw hyd yr 8fed o fis Gorffennaf , 1873, ni chafodd gyfleustra i'w ddwyn gerbron. Ond defnyddiodd yr amser rhwng y ddau ddyddiad i gyffroi y wlad ar y mater, drwy y Wasg, a thrwy foddion ereill.

Er mwyn dangos y teimlad a'r pryder gyda pha un y dygai Mr. Richard ei gynhygiad ymlaen, goddefer i ni gyfeirio at rai o'i eiriau pan yn annerch yr Undeb Cynulleidfaol yn niwedd y flwyddyn 1871, pan y pasiwyd penderfyniad yn datgan llawenydd oherwydd ei fod am ddwyn y cynhygiad ymlaen. Cyfeiriodd Mr. Richard at yr anhawster oedd i gael sylw y Tŷ at y fath gwestiwn, yn gymaint a bod tua hanner yr aelodau yn dal rhyw gysylltiad neu gilydd â chefnogiad y gyfundrefn filwrol. Yna dywedai,—

"Yr wyf yn cofio fod Mr. Cobden, pan y dygodd benderfyniad cyffelyb tuag ugain mlynedd yn ol, yn dweud wrthyf, pan roddodd rybudd o'i gynhygiad, fod y peth mor newydd, ac yn ymddangos i fwyafrif o aelodau y Tŷ mor ffol, fel yr oedd chwerthiniad distaw trwy'r Tŷ. Ond darfu i ni, y tu allan i'r Senedd, pa fodd bynnag, wneud a allem i greu cyffro o blaid y cynhygiad. Teithiais i, y pryd hwnnw, drwy bob parth o Loegr ac Ysgotland, i gynnal cyfarfodydd ac i ddeffro teimlad y wlad at y pwnc. Y canlyniad fu, fod llawer o ddeisebau wedi eu danfon i fyny, a llythyrau lawer hefyd at aelodau Seneddol yn bersonol—ffordd effeithiol iawn o ddylanwadu ar yr aelodau—ac o'r diwedd, meddai Mr. Cobden wrthyf, 'Nis gellwch feddwl am cyfnewidiad sydd wedi dyfod dros y dynion hyn. Maent yn awr yn dod ataf i'r lobby, y naill ar ol y llall, ac yn dweud,— Dwedwch i mi, Mr. Cobden, beth ydyw'r cynhygiad hwn mewn perthynas i Gyflafareddiad yr ydych am ei ddwyn ymlaen? Yr ydych wedi peri i bob Crynwr yn fy mwrdeisdref i ysgrifennu ataf mewn perthynas iddo' (chwerthin), a'r canlyniad oedd—pan ddygwyd y cwestymlaen, dadleuwyd ef gyda difrifoldeb a phwyll? Wel, mi garwn i fod, nid yn unig pob Crynwr, ond pob Anghydffurfiwr yng Nghymru a Lloegr yn ysgrifennu at eu Haelodau ar y mater hwn (chwerthin). Yr wyf yn sicr fod hwn yn gwestiwn y gallwn ni, fel corff o grefyddwyr, ei gymeryd i fyny, fel un mewn cydgordiad perffaith â'r amcan mawr sydd yn ein huno â'n gilydd. …Yn fuan Wedi i mi ddod i gysylltiad a'r Gymdeithas Heddwch, ymwelais a hen weinidog o Gymro, a dywedai wrthyf,—Wel, Mr. Richard, mae hyn yn beth newydd i mi—cwestiwn y Gymdeithas Heddwch yma—phan glywais gyntaf eich bod wedi ymgysylltu â hi, yr oeddwn yn ameu doethineb a phriodoldeb y peth. Ond y mae gennyf un ffordd i brofi pob mater o fath hwn, a hwnnw ydyw,—A allaf ei gymeryd i fy ystafell ger bron Duw, a gweddio drosto (cym.). Ac yr wyf yn teimlo fod y gwaith yr ydych yn ceisio ei wneud, yn waith y gallaf weddio ar Dduw am lwyddiant arno, ac felly yr wyf yn dymuno Duw yn rhwydd i chwi. Yr wyf yn meddwl fod hwn yn gwestiwn y gallwn weddio o'i blaid, ac o ganlyniad, y gallwn weithio o'i blaid; ac yr wyf yn gobeithio y byddwch mor garedig a gweithio drosof, fel y gallaf gael fy nghefnogi gan lais cryf y wlad pan ddygaf y mater o flaen Tŷ y Cyffredin."

O dan y teimlad dwys a chrefyddol hwn yr edrychai Mr. Richard ymlaen at ei gynhygiad, yr hwn, o'r diwedd, y cafodd gyfleustra i'w ddwyn ger bron Tŷ y Cyffredin, ar yr 8fed[16] o fis Gorffennaf, 1873.

Ni chafodd Mr. Richard ddechreu ei araeth hyd nes ydoedd yn naw o'r gloch. Eisteddai ar yr un fainc ag yr eisteddai Mr. Cobden arni yn 1849 i wneud cynhygiad cyffelyb. Yr oedd yno Dŷ lled lawn, o tua 250 o aelodau, ac yr oedd bod orielau'r dieithriaid, hyd yn oed oriel y merched, yn llawn, yn dangos y dyddordeb mawr a deimlid yng nghynygiad Mr. Richard. Y cynhygiad oedd,—fod Anerchiad gostyngedig yn cael ei gyflwyno i'w Mawrhydi, yn erfyn ar fod iddi orchymyn i'w Phrif Weinidog Tramor i ymgynghori a'r Galluoedd Tramor gyda'r amcan o wella y gyfraith Ryngwladwriaethol, a sefydlu cyfundrefn o Gyflafareddiad. Siaradodd Mr. Richard am awr a deng munud, a chafodd wrandawiad parchus ac astud. Daeth Mr. Bright i mewn pan oedd yn dechreu ei araeth. Ni chymerodd ran ynddi. Yr oedd y ffaith ei fod wedi cymeryd swydd yn y Weinyddiaeth, yn fuan ar ol hynny, yn ddiau yn rhoi cyfrif am hyn. Bod ei galon o blaid Mr. Richard, nid oes un amheuaeth, ac nid yw yn anhebyg fod hyn wedi peri fod araeth Mr. Gladstone, mewn atebiad i Mr. Richard—pan gofiom mai Mr. Gladstone ydoedd yn ei thraddodi—dipyn yn amhenderfynnol ac amwys.

Ond gadewch i ni droi at araeth Mr. Richard, yr hon sydd yn awr o'n blaen. Wrth ystyried ei rhagoroldeb, a phwysigrwydd y testyn—prif destyn llafur ei fywyd—buasai yn dda gennym allu rhoddi dyfyniadau helaeth o honi, air yn air; ond byddai ei darnio felly yn ei handwyo. Ceisiwn, pa fodd bynnag, roi syniad am ei chynhwysiad.

Ar ol gwneud sylwadau arweiniol, danghosodd fod y mater yn un tra phwysig, yn un uwch law pob cwestiwn plaid, yn un ag oedd yn seiliedig ar gyfiawnder, dyngarwch, a chrefydd; a bod dyddordeb mawr yn cael ei gymeryd ynddo gan bob dosbarth. Edrychai rhai arno ef fel yn perthyn i'r dosbarth o bobl oedd yn pleidio "heddwch am unrhyw bris," beth bynnag oedd hynny yn ei feddwl. Os y meddwl oedd fod y blaid honno yn cashau rhyfel, ac yn caru heddwch yn ormodol, yr oedd y cyhuddiad yn gorwedd yn esmwyth iawn ar ei gydwyhod. Yr oedd teyrnasoedd Cristionogol a gwareiddiedig, pan fyddai cweryl yn codi rhyngddynt, yn rhuthro i yddfau eu gilydd mewn modd barbaraidd, am nad oedd dim arall ond gallu anianyddol wedi ei ddarparu i derfynnu eu cwerylon. Casglent, gan hynny, yn naturiol, mai eu dyledswydd oedd darparu cymaint o'r gallu hwnnw, ag oedd modd, er cyrraedd eu hamcan. Y canlyniad ydoedd fod rhyw bedair neu bum miliwn o wŷr goreu Ewrob o dan arfau, ac felly gwesgid y gwahanol genhedloedd i'r llawr gan drethi trymion. Danghosodd, gyda manylder, fod y golled i Ewrob trwy hyn tua 550 o filiynnau o bunnau bob blwyddyn. Yna rhoddodd ddesgrifiad byw ac effeithiol iawn o'r dosbarth gweithiol yn gorfod llafurio yn galed, ar ac o dan y ddaear, er ennill arian, ac eto fod rhyfel yn dod heibio bob blwyddyn ac yn ysgubo dros bum can miliwn o'r enillion hynny o'u dwylaw. A gwaeth na hynny drachefn oedd yr orfodaeth a arferid ymhob man yn Ewrob, oddigerth yn y wlad hon, i gael dynion i'r fyddin. Nododd yn fanwl y trueni oedd ynglŷn â hynny. Ac er yr holl symiau a gymerid fel hyn o logellau y bobl, yr oedd teyrnasoedd Ewrob wedi suddo mewn dyled. Yr oedd ei restr o'r dyledion hyn o eiddo y gwahanol deyrnasoedd yn rhwym o beri syndod mawr. Cyfrifai Mr. Baxter fod 88p. o bob cant o drethoedd Ewrob yn myned at gostau rhyfel. Honnai rhai mai y llwybr goreu i osgoi rhyfel oedd ymarfogi, a dadleuant hen ddihareb Lladinaidd, Si vis precem para bellum. Ni fu erioed, meddai, syniad mwy unfyd. Nid oedd ond yr un peth a phe llenwid selerydd ein tai â phylor, a phob math o elfennau dinistriol, a gadael i'r plant chwareu eu pranciau yno, gyda thân yn eu dwylaw, a honni mai dyna'r moddion goreu i atal i'r tŷ fyned yn goelcerth, Yr oedd y sefyllfa yma ar bethau yn ddiau yn alaethus. Cofier nad oedd dim terfyn ar y dull presennol o gario pethau ymlaen. Yr oedd costau milwrol Ewrob wedi dyblu yn ystod y deng mlynedd ar hugain blaenorol, a byddai yn dyblu yn ystod y 30 mlynedd dyfodol. Yna aeth Mr. Richard ymlaen i ofyn a oedd dim modd osgoi hyn? Oni feddai ein Gwladweinwyr ryw ffordd amgenach na hyn i derfynnu eu hanghydfyddiaethau? Nodai engreifftiau lle yr oedd Cyflafareddiad wedi bod yn effeithiol i osgoi rhyfeloedd. Os dywedid mai mewn pethau bychain yr oeddid wedi cyflafareddu, gofynnai, gyda gwawd, a oedd modd cael pethau llai na'r pethau fuont yn achlysur rhai o'r rhyfeloedd mwyaf gwaedlyd. Dyfynodd eiriau Arglwydd John Russell, yr hwn a ddywedodd unwaith fod holl ryfeloedd y ganrif ddiweddaf yn rhai y gallesid, gyda doethineb, eu hosgoi. Ar ol gwneud cyfeiriad helaeth at yr Adran yng Nghytundeb Paris, ar ol y rhyfel yn y Crimea, a'r Cyflafareddiad yn achos yr Alabama, danghosodd mor bwysig oedd fod pob trefniad i gyflafareddu yn cael ei wneud cyn i'r cweryl godi, a chyn fod teimladau y bobl wedi eu cyffroi, a nododd eiriau pwysfawr Arglwydd Derby, mai yr hyn oedd yn eisieu oedd rhyw lys y gellid cyfleu dadleuon rhwng teyrnasoedd iddo. Ar ol ymdriniaeth fanwl ar natur ei gynhygiad, a'r posiblrwydd o'i gario allan, gofidiai na fuasai un o'r pleidiau Seneddol yn meddu digon o wroldeb i ymgymeryd â'r gwaith ardderchog hwn. Yr oedd y byd yn dechreu blino ar ryfel; yr oedd y bobl yn gruddfan dan ei feichiau trymion. Crybwyllodd am lythyr a dderbyniasai oddiwrth wr enwog yn Ffrainc yn cyfeirio at yr anrhydedd a fuasai i Loegr ddechreu y gwaith hwn, a therfynodd gyda'r diweddglo hyawdl a ganlyn, diweddglo sydd yn dwyn i'n meddwl rai cyffelyb o eiddo John Bright,—

"Yr wyf, Syr, yn ymawyddu am geisio sicrhau yr anrhydedd o ddechreu y gwaith hwn i fy ngwlad fy hun. Mae rhai pobl yn ein cyhuddo ni, plaid Heddwch, o fod yn ddiofal, neu yn esgeulus am anrhydedd Lloegr. Yr wyf yn taflu y cyhuddiad yn ol, ac yn ei wrthod. Pa reswm posibl sydd gan y rhai sydd yn gwneud y cyhuddiad, ac sydd yn honni iddynt eu hunain y clod arbennig o fod yn wladgarwyr, dros garu Lloegr, ei hurddas, a'i gogoniant, nad ydym ninnau yn ei feddu i'r un graddau? Ai nid ydyw Lloegr yn wlad i ninnau hefyd, cartref ein llawenydd pan yn blant, lle beddrod ein tadau? Onid yw ei henw hi, a'i chymeriad, a'i mawredd hi, wedi eu cydwau â'n serchiadau tyneraf yn yr adgofion am y gorffennol, a'r dynmiadau am y dyfodol? Onid ydym ninnau hefyd yn teimlo ein bod yn cael ein dyrchafu gyda'i henwogrwydd, a'n darostwng gyda'i diraddiad P Wrth gwrs, gall fod gwahaniaeth barn mewn perthynas i'r hyn sydd yn cyfansoddi anrhydedd gwlad. Nid wyf fi yn credu mai anrhydedd gwlad ydyw ei bod yn hynod mewn gweithredoedd o drais a thywallt gwaed, er, pe buasai felly, yr ydym wedi cael digon o hynny yn yr amser a fu i foddloni y chwant mwyaf anniwalladwy am ogoniant milwrol. Ond yn fy meddwl i, dyma yw gogoniant Prydain—ei bod yn lle genedigol a chartref rhyddid, ei bod wedi medru dysgu cenhedloedd, trwy ei hesiampl, sut i uno trefn a rhyddid yn ei bywyd politicaidd; ei bod yn fam trefedigaethau rhydd, y rhai sydd yn cario allan ei syniadau a'i sefydliadau ym mhob parth o'r byd; mai hi oedd y gyntaf i ddryllio iau y caethwas, ac i orchymyn iddo ddod yn rhydd; ei bod yn estyn allan ei llaw i wasgar bendithion gwareiddiad a Christionogaeth ymysg y Cenhedloedd i bellderau eithaf y byd. Dyma'r pethau, yn ol fy marn i, sydd yn anrhydeddu Prydain; a bydd yn anrhydedd ychwanegol, os yn bosibl—yn goron ardderchog ar ei hanrhydedd—os daw yn rhagredegydd Heddwch i'r byd, os cymer y cam cyntaf mewn trefnu yr Heddwch hwnnw ar seiliau oadarn a diysgog, fel ag i wneud rhywbeth i sylweddoli gweledigaethau gogoneddus ein Prifardd,—

When the war drum throbs no longer,
And the battle flag is furled,
In the Parliament of men,
The federation of the world;
When the common sense of most
Shall find a fretful realm in awe,
And the kindly earth shall slumber
In universal law.”

Ar ol i Mr. Mundella gefnogi y cynhygiad, cododd Mr. Gladstone ar unwaith, a siaradodd am dri chwarter awr. Canmolai araeth Mr. Richard, ac aeth ymlaen i gefnogi llawer o'r pethau a ddywedodd. Cydymdeimlai yn hollol â'r amcan oedd ganddo mewn golwg. Yn wir, yr oedd yn amhosibl peidio teimlo pleser wrth wrando ar y Prif Weinidog yn traddodi araeth mor lawn o syniadau heddychol. Credwn ei fod yn y sefyllfa anghysurus honno o fod yn argyhoeddedig fod Mr. Richard yn ei le, ond nad oedd efe yn barod i geisio cario ei gynhygiad allan i weithrediad. Pan oedd Mr. Richard yn Rhufain, ar ol hyn, yn diolch am y derbyniad a dderbyniasai yn y cyfarfod o enwogion i'w longyfarch, fel hyn y siaradodd am araeth Mr. Gladstone ar yr achlysur hwn, —

"Nis gellir gwneud camgymeriad mwy na thybied fod ein Prif Weinidog, Mr. Gladstoue, oherwydd ei fod wedi gomedd, ar y pryd, dderbyn y cynhygiad a wnaethum yn y Senedd, yn erbyn y cynhygiad o Gyflafareddiad. Y mae yn gymaint fel arall, fel nad yw ers blynyddau wedi colli un cyfleustra i ddefnyddio ei hyawdledd digymar i gondemnio barbareidd-dra rhyfel, ac argymhell ar ddynion ffordd well a doethach i derfynnu cwerylon. Yn wir, ar yr achlysur y cyfeiriais ato, pan yn ateb fy nghynygiad i, yr oedd ganddo lawer mwy i'w ddweud o'i blaid nag yn ei erbyn; yn gymaint felly, fel yr wyf yn cofio fod un newyddiadur, nad oedd yni hoff iawn o'm golygiadau i, yn ei feio yn fawr, ac yn dweud y dylasai, ar ol y fath araeth, bleidleisio dros fy nghynygiad. Ond credai Mr. Gladstone fod y cynhygiad heb aeddfedu digon, a thra yr oedd efe ei hun yn cymeradwyo yr egwyddor o Gyflafareddiad, amheuai a oedd llais y bobl yn ddigon cryf i'w gario. Yr amheuaeth yma a barodd i mi ddod allan ar fath o bererindod yn Ewrob er mwyn gweled ai nid allwn gasglu prawf digonol i'w argyhoeddi nad oedd digon o sail i'w amheuon."

Dyna farn Mr. Richard ei hun ar araeth Mr. Gladstone. Pa fodd bynnag, cynhygiodd Mr. Gladstone y "cwestiwn blaenorol," a diau iddo gymeryd yn ganiataol y cymerasid ei gyngor gan Mr. Richard, ac y tynasai ei gynhygiad yn ol, gan ymfoddloni ar yr araeth ragorol a draddodasai, ac ar y ganmoliaeth a roddasai efe iddi, a dywedai fod Mr. Cobden wedi gwneud camgymeriad dybryd pan yn gwrthod cyngor Arglwydd Palmerston i'r perwyl hwnnw. Ond yr oedd Mr. Richard wedi gwneud y fath ddarpariadau yn y wlad ym mhob man, ac yn meddu y fath hyder yn llwyddiant ei achos, fel y gomeddodd gymeryd cyngor Mr. Gladstone. Profodd y canlyniad ei fod yn ei le. Er mawr lawenydd iddo ef a'i gyfeillion, a rhyw fesur o syndod hefyd, pan ranwyd y Tŷ, cafwyd nad oedd ond 88 o blaid y "cwestiwn blaenorol," a bod 98 yn erbyn. Rhoddwyd cynhygiad Mr. Richard wedi hynny o flaen y Tŷ, a chariwyd ef yn ddiwrthwynebiad.

Yr oedd yr oruchafiaeth hon o eiddo Mr. Richard yn llawenydd mawr i gyfeillion heddwch ym mhob man, nid yn unig yn y wlad hon, ond ar Gyfandir Ewrob ac yn America; a chredwn fod Mr. Gladstone ei hun, yn nirgeloedd ei galon, yr un mor lawen. Derbyniodd Mr. Richard lythyrau oddiwrth rai o wŷr pennaf y Cyfandir yn ei longyfarch ar lwyddiant ei Gynhygiad. Ysgrifennai yr Anrhydeddus Charles Summer, Seneddwr yn yr Unol Daleithiau at Mr. Richard, a dywedai, ymysg pethau ereill, fod ei araeth yn creu cyfnod yn hanes achos mawr Cyflafareddiad,—

"Gwn," meddai, "na orffwyewch ar ol hyn, ond y bydd yr araeth hon o'ch eiddo, a'r canlyniad o honni, yn gwneud eich bywyd Seneddol yn un hanesyddol."

Siaradai y rhan fwyaf o'r papurau Seisnig yn uchel am araeth Mr. Richard, ac nid oedd ond ychydig, ar y cyfan, yn tueddu i wawdio. Pasiwyd penderfyniad o ddiolchgarwch i Mr. Richard gan Bwyllgor y Gymdeithas Heddwch, fel y gellid disgwyl. Cyfieithiwyd yr holl ddadl yn y Senedd i'r iaith Ffrengig a Germanaidd, a gwasgarwyd copiau ar y Cyfandir ym mhob man. Penderfynwyd hefyd danfon Mr. Richard ar daith i'r Cyfandir i ymweled â'r prif Aelodau Seneddol er hyrwyddo achos Heddwch.

Wedi talu rhai ymweliadau, a threfnu materion teuluaidd, cychwynodd Mr. a Mrs. Richard ar eu taith. Cawn hanes prif ddigwyddiadau y daith gan Mr. Miall, ac mewn erthyglau a llythyrau yn yr Herald of Peace; ond ni chaniata gofod i ni fod yn rhy fanwl, ac am hynny dodwn yr hanes, neu grynhodeb o hono, fel y mae yn y cyhoeddiad a nodwyd mewn erthygl olygyddol, wedi ei hysgrifennu—a barnu oddiwrth ei dull anhunanol, yn y trydydd person ganddo ef ei hun. Mae yn amlwg oddiwrth hanes y daith hon fod canlyniad cynhygiad Mr. Richard yn Senedd Prydain wedi peri cyffro mawr ymysg rhai o'r gwŷr mwyaf dylanwadol ar Gyfandir Ewrob, a bod hadau egwyddorion

Heddwch wedi eu hau mewn tir da.

PENNOD XI

Taith Mr. Richard ar y Cyfandir yn achos Heddwch—Ei dderbyniad croesawgar yn Paris–Ei araeth ef, ac araeth M. Frederic Passy yno.

(1873) Parhaodd y daith ar y Cyfandir o'r 18fed o Fedi hyd y 23ain o Ragfyr, 1873. Aeth Mr. Richard yng nghyntaf i Brussels, lle y cafodd y pleser o adnewyddu ei gyfeillgarwch â'i hen gyfaill yn achos Heddwch, sef M. Visschers. Cafodd ef yn paratoi ar gyfer y Gynhadledd ynglŷn â Chyfraith Ryngwladwriaethol oedd i'w gynnal yn Brussels ym mis Medi. Cyfarfu yno â Mr. Dudley Field a'r Parch. J. B. Miles o'r Unol Daleithiau, y rhai oeddent yn gweithio yn yr un achos. Cyfarfu hefyd à M. Convreur, aelod parchus o Dŷ y Cynrychiolwyr, yr hwn a ddatganai ei benderfyniad i ddwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Senedd mor fuan ag y byddai modd. Aeth oddi yno i'r Hague, Lle y derbyniwyd ef yn dra chroesawgar. Cludwyd ef a'i wraig mewn cerbyd gwych i gyfarfod mawr a gynhaliwyd mewn ystafell dra addurnedig, lle yr oedd ei lun yn grogedig ar y mur. Traddodwyd yno areithiau llongyfarchiadol, a difyrwyd hwynt â cherddoriaeth. Addawodd dau Aelod Seneddol ddwyn y pwnc o Gyflafareddiad o flaen y Senedd. Aeth o'r Hague i Berlin. Gan nad oedd Senedd Germani na Phrwsia yn eistedd, ni fu yn ffodus i gyfarfod â llawer o'r rhai yr oedd yn awyddus i'w gweled, gan eu bod yn absennol o'r ddinas. Ond cyfarfu â rhai dynion enwog a dylanwadol yn y byd politicaidd, megys Dr Loueive, un o arweinwyr y blaid Ddiwygiadol, Herr Duncker, arweinydd y dosbarth gweithiol yn Prwsia, Proffeswr Heffter, cyfreithiwr enwog, hen ŵr pedwar ugain oed, ond mewn llawn feddiant o’i alluoedd meddyliol; ac yr oedd pob un o honynt mewn cydymdeimlad hollol âg amcan dyfodiad Mr. Richard. Aeth i Dresden, ac oddi yno i Vienna. Pan yno, cafodd wahoddiad taer i ddychwelyd i Brussels i'r Gynhadledd Gyfreithiol. Aeth yno, er y bu raid iddo deithio am 36 o oriau yn ddidor, Cyfarfu â rhai o oreugwyr y lle, yn ddoctoriaid, proffeswyr a seneddwyr, a chafodd gyfleustra i ddadleu ei achos ger eu bron. Nid oedd pawb yn unfryd unfarn ar y pwnc o Heddwch; ond pasiwyd penderfyniad o blaid yr egwyddor o Gyflafareddiad, er nad mewn geiriau mor gryf ag y buasai Mr. Richard ei hun yn dymuno Parhaodd y Gynhadledd am dri diwrnod, a sefydlwyd Cymdeithas i ddiwygio a deddflyfru Cyfraith cenhedloedd. Cyflwynwyd Anerchiad i Mr. Richard am ei wasanaeth i achos Heddwch, a gwnaed gwledd fawr, yn yr hon yr oedd banerau pob gwlad yn chwifio. Ar ol hyn, dychwelodd Mr. Richard i Vienna. Cyfarfu yno â lluaws o gyfeiilion yr achos, ac yn eu mysg yr Anrhydeddus John Jay, y Llysgenhadwr Americanaidd yn Vienna, yr hwn, ar unwaith, a agorodd ei dŷ a'i galon i "Apostol Heddwch," ac a'i cynhorthwyodd ym mhob modd yn ei amcan. Dywed Mr. Richard nas gall byth anghofio caredigrwydd a chynhorthwy Dr. Leopold Neumann, aelod o'r Tŷ uchaf, Proffeswr Cyfraith yn yr Athrofa, Dr. F. X. Neumann a Baron de Rubeck, a lluaws ereill o ddynion dysgedig. Yn Pesth, cyfarfu â Dr. Deak, yr hwn a feddai ddylanwad mawr, a chafodd bob lle i gredu y byddai y pwnc o Gyflafareddiad yn cael ei ddwyn o flaen y Senedd yn Hungari ac Awstria.

Aethant oddiyno i Venice, lle y cynhaliwyd gwledd fawr er eu croesawu, ac wedi hynny i Milan, gan feddwl cael ychydig o orffwys wrth y y llynnoedd Italaidd; ond ar ol bod yno ychydig o oriau, cafodd Mr. Richard delegram oddiwrth Signor Mancini yn Rhufain, yn dweud ei fod ymhen deuddydd am ddwyn penderfyniad o blaid Cyflafareddiad yn y Senedd Italaidd. Yr oedd y demtasiwn yn rhy fawr i Mr. Richard, a chychwynodd ar unwaith i Milan, a thrwy deithio ddydd a nos cyrhaeddodd i Rufain mewn pryd i fod yn dyst, ac mewn rhyw ystyr i gyfranogi o fuddugoliaeth M. Mancini, cynhygiad yr hwn a dderbyniwyd gan y Llywodraeth, a bleidleisiwyd drosto gan y Senedd yn unfrydol. Yr oedd Mr. Richard yn bresennol yn gwrando ar M. Mancini, a chyfieithai ei fab yng nghyfraith yr araeth i'r Ffrancaeg, yr hon iaith a ddeallai Mr. Richard ac a siaradai yn dda, er fod gorfod traddodi areithiau yn yr iaith honno ar achlysuron yn peri pryder mawr iddo. Cynhaliwyd gwledd fawr i'w groesawu hefyd, a thraddodwyd areithiau llongyfarchiadol iddo, a dywedwyd fod mantell Mr. Cobden wedi syrthio arno.

Dychwelodd Mr. Richard i Milan, lle y cyfarfu â lluaws o wŷr dylanwadol, ac y gwnaed gwledd ardderchog iddo, ac aeth drachefn i Turin. Ei amcan yn myned yno oedd cael gweled Count Selopis, Llywydd y Cyflafareddwyr a eisteddodd ar achos yr Alabama o fythol goffadwriaeth. Derbyniasant y croesaw mwyaf ganddo, a buont y rhan fwyaf o dridiau yn ei dý, a chyfarfuasant â boneddwyr a boneddigesau o ddylanwad mawr. Yr oedd yn Turin foneddwyr ag oeddent yn awyddus i wneud gwledd i Mr. Richard, fel yn y mannau ereill; ond yr oedd wedi addaw treulio ychydig o ddyddiau yn Paris gyda'i gyfaill, M. Frederic Passy, ac o ganlyniad ymadawodd, a chyrhaeddodd brif-ddinas Ffrainc ar y 19eg o Ragfyr; ac ar yr 22ain cynhaliwyd gwledd ardderchog i'w groesawu, chyflwynwyd anerchiad tra phrydferth iddo. Fel hyn yr ysgrifenna gohebydd y Daily Telegraph, Rhagfyr 22ain, am y cyfarfod dyddorol hwn,—-

"Cymerodd un o'r digwyddiadau hynny le yn Paris heddyw ag sydd bob amser yn tynnu sylw. Mae bod Aelod Seneddol Seisnig yn gwneud araeth mewn gwledd gyhoeddus, ac yn tynnu areithiau ar ol y wledd allan o gynrychiolwyr Ffrengig, yn beth mor newydd yn y ddinas hon, fel y wae yn rhwym o fod mewn blas. Yr oedd cyfeillion Heddwch yn gwybod rai dyddiau cynt am ymweliad Mr. Henry Richard, gwron Heddwch trwy Gyflafareddiad, oherwydd y gwahoddiadau lawer a ddanfonwyd allan at enwogion dinas Paris. Felly cyfarfu tua deg a thriugain o lenorion a gwleidyddwyr yn y Grand Hotel i anrhydeddu Apostol Heddwch, yr hwn sydd mor adnabyddus. Yr oedd banerau Lloegr, Ffrainc, America, ac Itali, wedi eu gosod o amgylch tarian yn dwyn y geiriau,—Gorffennaf 8, 1873,' sef y dydd yr enillodd Mr. Richard y fuddugoliaeth hynod yn Nhŷ y Cyffredin. Y Cadeirydd oedd M. Renouard, Procurator General of the Court of Cassation. Ar ol cynnyg iechyd da Mr. Henry Richard, galwai ar M. Frederic Passy i siarad, yr hwn, mewn ymadroddion gwresog, a ganmolai y gwaith dyngarol yr oedd Mr. Richard yn ei ddwyn ymlaen. Cyfeiriai at ei gyfeillgarwch â Mr. Cobden, a'i waith yn teithio trwy Ewrob i ddadleu dros ddiarfogiad. Cyfeiriai hefyd at Mr. Gladstone, yr hwn, er y gallai ei fod yn gwahaniaethu gyda golwg ar y moddion, oedd yn ddiau, fel Mr. Richard, yn haeddu cael ei restru ymysg gwroniaid Heddwch yn Ewrob. Yna cododd Mr. Richard i ddiolch iddynt. Ar ol ychydig o eiriau yn Ffrancaeg, mewn ffordd o esgusawd am ei anhyddysgedd yn eu hiaith, traddododd araeth rymus ac effeithiol iawn yn Saesneg. Dywedai fod rhai o honynt, hwyrach, wedi dyfod yno i weled y dyn gorphwyllog oedd yn rhedeg ar draws byd i awgrymu moddion cyfreithiol i gadw Heddwch pan oedd y gwahanol genhedloedd yn ychwanegu at eu byddinoedd, ac yn hogi eu harfau. Ond yr oedd y rhai a dybient fod ei amcan yn un anymarferol yn anghofio nad oedd efe yn disgwyl ffrwyth ar unwaith, a'i fod yn gwybod yn dda am yr anhawsterau ynglŷn â'i gynllun. Eu gwaith cyntaf oedd gwneud y syniad yn un poblogaidd; a llawenychai fod ei gyfeillion mewn gwahanol wledydd yn ei gynorthwyo i wneud hynny. Yr oedd y cyflawniad yn waith amser, ac nid oedd yn debyg y gwelai efe y dydd y cymerai le. Ond tra y gwyddai fod rhagfarn a nwydau i gael eu dymchwel gan reswm, credai fod y rhai a siaradent an ei waith fel un Utopiaidd yn ymguddio tu ol i air nad oeddent yn gwybod ei wir ystyr. Eu Lamartine hwy, onite, oedd wedi dweud nad oedd Utopia ond gwirionedd o bell. Bu amser ag yr oedd diddymiad y gaethfasnach yn Utopiaidd, ac felly am ddiddymiad y Deddfau Yd. Galwyd yr olaf unwaith yn fesur gwallgof, ond yr oedd efe wedi byw i weled ei gyfaill, Richard Cobden, yn troi y syniad Utopiaidd yn ffaith. Gyda golwg ar yr amcan oedd ganddo ef mewn golwg, gofynnai beth a feddylient o sefyllfa pethau pe na byddai dim cyfraith i benderfynnu anghydfyddiaethau rhwng personau unigol mewn un deyrnas. Onid oedd cynnydd gwareiddiad wedi gwneud i ffwrdd â'r dull o derfynnu cwerylon trwy rym a thrais? Ac os cedd 5 person unigol wedi cyrraedd y sefyllfa hon o berffeithrwydd, paham y dylai teyrnasoedd aros mewn cyflwr o farbareidd-dra? Ar ol talu gwarogaeth galonnog i Mr. Gladstone, a nodi y derbyniad croesawus a gawsai efe ym mhob man ar y Cyfandir fel cennad Heddwch, terfynnai yn y geiriau a ganlyn,—'Mor bell ag y mae fy rhan i o'r gwaith yn myned, os na chaf fyw i'w weled yn cael ei wobrwyo â llwyddiant, nid anobeithiaf; oblegid y mae rhai anturiaethau yn bod ag y mae yn fwy o ogoniant syrthio wrth geisio eu cyflawni, nag a fyddai bod yn fuddugoliaethus mewn rhai ereill.' Derbyniwyd y geiriau hyn gyda banllefau ar ol banllefau. Mynych y gwaeddid ar ganol yr araeth, Tres bien, ac y danghoswyd mawr gymeradwyaeth; ac yr oedd y rhan fwyaf yn dilyn yr hyn a ddywedid gyda'r un brwdfrydedd a phe buasid wedi siarad yn eu hiaith eu hunain."

Mae yn hawdd gennym gredu hyn, hyd yn oed pe na buasent yn deall Mr. Richard yn dda. Mae Elihu Burritt, wrth roddi hanes Cynhadledd Heddwch cyn hyn yn Paris, yn crybwyll ei fod yn sylwi ar y dagrau yn treiglo i lawr gruddiau un dyn yn ei ymyl pan oedd Sais (y Parch. J. Burnett) yn siarad yn llawn brwdfrydedd, a'i fod, gan wybod mai Ffrancwr ydoedd, wedi gofyn iddo yn Ffrancaeg a oedd yn deall y siaradwr. "Nac ydwyf," meddai, gan daro ei fron, "ond yr wyf yn ei ddeall yma." Ydyw, y mae yn haws deall iaith calon na iaith tafod yn aml. Buasai yn dda gennym, yn ychwanegol at y, desgrifiad uchod, roddi cyfran o araeth hyawdl M. Frederic Passy, cyfieithiad cyflawn o'r hon sydd yn awr o'n blaen, er dangos y brwdfrydedd gyda'r hwn y derbyniwyd Mr. Richard. Ymfoddlonwn ar roddi y diweddglo hyawdl, pan y trodd at Mr. Richard, ac y dywedodd,—

"Anwyl gyfaill anrhydeddus,—Mae yn ddrwg gennym nad yw'r croesaw yr ydym yn ei roddi i chwi yn gyfryw ag y dymunem, ac wrth gymharu derbyniad hwn â'r clodydd a dderbyniasoch mewn mannau ereill, chwi ellwch edrych ar hwn fel un bychan iawn. Nid oes o'ch blaen, fel yn Rhufain, fanllefau holl Itali a Neuaddau y Capitol. Nid ydym yn dod ger eich bron, fel yn yr Hague, gyda chaniadau a chydganau unedig i'ch arwain yn fuddugoliaethus at balmwydden Heddwch. Pa fodd y gallwn fod yn llawen ein calon yn y cyflwr difrifol y mae y rhyfel wedi ein gadael? Pa lawenydd a allem ei ddangos heb ei fod yn gymysg â thristwch a gofid am a fu? Heblaw hynny, nid yw yr amser presennol y mwyaf ffafriol i gynnal ein cyfarfod, ac y mae llawer o amgylchiadau yn rhwystro i lawer fod yn bresennol, y rhai y buasai yn dda ganddynt eich gweled a'ch clywed. Prin y cawsom amser i drefnu y croesawiad hwn cyn eich dychweliad i Loegr, ac yr ydym yng nghanol ein darpariadau ar gyfer y Nadolig.… Y mae gennyf bentwr o lythyrau yn cynnwys datganiadau o ofid nas gallai yr ysgrifenwyr fod yn bresennol. Y maent oddiwrth rai o wŷr mwyaf dylanwadol pob dosbarth yn ein mysg. Ond, er hyn oll, chwi welwch y nifer o honom sydd yn bresennol, a chwi welwch ein bod yn cynrychioli Ynadon, Institute Ffrainc, Cymdeithasau Dysgeidiaeth, Trafnidaeth, a Gwyddoreg. Y mae bron bob un o'r newyddiaduron yma, trwy foneddwyr sydd yn disgwyl clywed eich geiriau, a'u danfon at y rhai nad allasent fod yn bresennol. Siaradwch, gan hynny, canys y mae ein clustiau a'n calonnau yn agored. Yn enw pawb sydd yn bresennol, a chyn i ni roddi i chwi ein llongyfarchiadau, yr wyf yn eich cyfarch ar ran y lleill. Caniatewch i mi ddyweud unwaith eto eich bod wedi ennill ein cydymdeimlad a'n parch."

Ar ol yr araeth ganmoliaethol a gwresog hon, bu raid i Mr. Richard wneud yr araeth y mae gohebydd y Daily Telegraph yn rhoi crynhodeb o honni fel y nodwyd.

Ni raid dweud fod Mr. Richard yn ystod y daith hynod hon wedi defnyddio ei holl funudau hamddennol i weled y gwahanol olygfeydd ar y Cyfandir, ac y mae ei ddyddlyfr yn cynnwys desgrifiad manwl о rai o honynt, ac o'r gwŷr enwog a gyfarfu. Ond nid oedd ganddo lawer o oriau segur; oblegid yr oedd ei holl fryd ar gyflawni y gwaith mawr yr oedd ei fywyd mor gysegredig iddo.

Dylid crybwyll hefyd fod holl dôn y Wasg tua'r amser yma fel wedi ei tharo yng nghywair Heddwch, a gallesid tybied fod Gweinyddiaeth Mr. Gladstone am fod yn foddion i ddwyn tangnefedd ar y ddaear. Yr oedd erchyllderau rhyfel wedi eu portreadu o flaen llygad y byd yn y rhyfel ofnadwy rhwng Ffrainc a Germani. Ac yn arbennig yr oedd yr anghydfod a ofnid a fuasai yn terfynnu mewn rhyfel rhwng Lloegr a'r Unol Daleithiau, yn achos yr Alabama, wedi

ei benderfynnu yn heddychol trwy Gyflafareddiad.

PENNOD XII

Datgorfforiad y Senedd–Mr. Richard yn cael ei ethol drachefn dros Ferthyr–Y Senedd-dymor Eglwysig–Cyfarfod llongyfarchiadol i Mr. Richard–Ei daith eto i'r Cyfandir–Ei lafur amrywiol a'i areithiau–Ei ymweliad a'r Hague–Ei areithiau yn y Senedd–Yn Gadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol–Ei areithiau.

Y mae G. Barnett Smith, yn ei Fywgraffiad o Mr. Gladstone, yn rhoi dwy bennod o hanes ei Weinyddiaeth o dan y pen,—"Oes euraidd Rhyddfrydiaeth," ac y mae y Parch. Griffith Ellis, M.A., yn ei lyfr, Bywyd a Gwaith W. E. Gladstone, yn defnyddio y geiriau canlynol,—

Pa Ryddfrydwr a all edrych ar y pedair blynedd hyn, 1869, 1870, 1871 a 1872, heb deimlo mai blynyddoedd gogoneddus oeddent." Pan ddaeth Mr. Richard adref oddiar y Cyfandir canfu, er hyn oll, fod Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn dechreu adfeilio, ac wedi y cyfan, mai "gwaith di-ddiolch ydyw dwyn i mewn ddiwygiadau ag y llefa y wlad am danynt."

(1874) Ar y 23ain o Ionawr, 1874, ac yn hollol anisgwyliadwy, datgorfforwyd y Senedd. Tybiai Mr. Gladstone y gallasai apelio at y wlad gyda hyder, oblegid yr oedd ganddo ddiwygiadau pwysig i'w dwyn ymlaen. Ond un araf gyda diwygiadau ydyw y Sais, a chafodd y Toriaid eu hunain, ar ol yr Etholiad, gyda mwyafrif o 46. Ymddiswyddodd Mr. Gladstone, a daeth Gweinyddiaeth Mr. Disraeli i mewn. Ond yr oedd sedd Mr. Richard yn ddiogel. Ail-etholwyd ef gyda mwyafrif o 2,694; er fod pawb ag oedd yn gweithio drosto yn gwneud hynny yn ddi-dâl.

Teimlai Mr. Richard golled dirfawr ar ol rhai o'i gyfeillion a'i gyd-weithwyr yn y Senedd; ac yn enwedig ar ol ei gyfaill, Mr. E. M. Richards, yr hwn a gollodd ei sedd yn swydd Aberteifi, a Mr. Edward Miall, yr hwn a roes ei sedd i fyny o herwydd gwaeledd ei iechyd. Gomeddai Mr. Gladstone arwain Wrth-blaid, gan ei fod yn teimlo awydd am fwy o seibiant. Wedi tipyn o helbul, syrthiwyd ar Arglwydd Hartington i gymeryd ei le.

Dechreuodd y Weinyddiaeth Doriaidd ar un- waith wastraffu yr arian mawr a adewsid iddi gan Mr. Gladstone; a buan cododd y cri yn y papurau nad oedd ein llynges yn werth dim— cri ag y byddai Mr. Richard yn arfer dweud a wreiddiai bob amser ymysg y swyddogion milwrol. Ond llwyddwyd i ochel chwanegu mwy na chan mil o arian at gostau y llynges y tro hwn.

Senedd-dymor Eglwysig oedd un cyntaf y Weinyddiaeth hon. Dygwyd cynifer a deunaw o fesurau i mewn i reoleiddio materion Eglwysig. Dywedai Mr. Richard mai math o Gynhadledd Eglwysig oedd Tŷ y Cyffredin, na fu y Seneddwyr yn gwneud nemawr ddim ond dadleu ar Gredoau, Catecismau, Henaduriaethau, Cymanfaoedd, Defodau Crefyddol a materion o'r fath, ie, y Llyfr Gweddi Cyffredin; a'u bod wedi apelio at bob llyfr bron yn eu dadleuon, ond y Beibl! Un o'r mesurau a ddygwyd i Dŷ yr Arglwyddi oedd un i "buro yr Eglwys oddiwrth ddefodaeth," o dan yr enw "Rheoleiddiad Addoliad Cyhoeddus." Hawdd gwybod y modd y teimlai Mr. Richard mewn Tŷ yn gynwysedig o ddynion o bob math o gredo, a rhai heb gredo yn y byd, yn trin mater o'r fath. Traddododd araeth rymus ar y mesur, a danghosai mai yr yr unig "reoleiddiad" llwyddianus fyddai Datgysylltiad.

Ar y 25ain o Fai y flwyddyn hon, cynhaliwyd cyfarfod yn Llundain, i longyfarch Mr. Richard ar lwyddiant ei deithiau yn achos Heddwch ar y Cyfandir, o dan lywyddiaeth Mr. Mundella, yr hwn oedd wedi cefnogi ei gynhygiad ar yr 8fed o Orffennaf blaenorol. Yr oedd y cyfarfod yn gyfansoddedig o wŷr dylanwadol iawn. Dywedai y Cadeirydd, ymysg pethau ereill, fod dwy fil o weithwyr ar wastadeddau Lombardy wedi cyflwyno i Mr. Richard Anerchiad o ddiolchgarwch a llongyfarchiad; ac yr oedd yn weddus, meddai, fod y cyfryw arwydd o ddiolchgarwch yn dod o Lombardy, gan fod ei meusydd wedi eu mwydo â gwaed goreu Ewrob.

Yn y cyfarfod taflodd Mr. Richard fras olwg ar helyntion ei daith, a'r wedd obeithiol oedd ar achos Heddwch. Nid oedd mor ffol a dychmygu fod y mil blynyddoedd ar wawrio, ond credai, ar yr un pryd, fod ei Gynhygiad yn y Senedd, a'i daith ar y Cyfandir wedi gwneud rhywfaint tuag at hyrwyddo dyfodiad y blynyddoedd dedwydd hynny. Llawenychai fod cynifer o'r dosbarth gweithiol ar y Cyfandir yn bleidiol i'r symudiad. Cyfeiriai hefyd at bleidwyr Heddwch ymysg dosbarth gweithiol y wlad hon, fel peth priodol iawn. Eu gwaed a'u hesgyrn hwy oedd yn gorchuddio meusydd rhyfel; hwy a'u teuluoedd oedd yn dioddef, ond ereill oedd yn cael y tâl a'r anrhydedd. Cymerodd Mr. Richard hefyd yr achlysur i ddweud mai nid gwir oedd yr haeriad a wnaed gan rai fod ei Gynhygiad yn Nhŷ y Cyffredin wedi ei basio ar yr awr giniaw. I'r gwrthwyneb, ni chymerodd y rhaniad arno le hyd yn agos i hanner nos, pan oedd pawb, hyd yn oed yn yr amseroedd hynny o giniawa yn hwyr, wedi cael amser i fwyta eu ciniaw, ac i'w dreulio hefyd.

Yn y mis Mehefin canlynol, gwnaeth Mr. Richard ymgais egniol yn y Tŷ i ddiddymu yr adran gaeth ym Mesur Mr. Foster ar Addysg, sef y 25ain. Traddododd araeth gref, ond bu yn aflwyddiannus. Nid oedd gwaith ail Senedddymor y Weinyddiaeth hon ond rhywbeth tebyg i'r un flaenorol, ac ar ei derfyn aeth Mr. Richard, a Mrs. Richard gydag ef, ar ymweliad drachefn a'r Cyfandir, yn achos Heddwch. Ar ol bod yn Paris, aeth i bentref Aigle, yn Switzerland, lle y bu yn trefnu a darllen llythyrau Mr. Cobden gyda'r bwriad, y pryd hwnnw, o ysgrifennu ei Fywgraffiad.

Ar ol dychwelyd o'r Cyfandir, cafodd Mr. Richard, fel pob gŵr sydd wedi cyrraedd enwogrwydd, fod y galwadau arno i bob math o waith, cyfarfodydd, areithiau, darllen papurau, a gwaith ynglŷn â'r Gymdeithas Heddwch, yn ddi-ben-draw, ymron. Un o'r cyfarfodydd arbennig hynny ydoedd yr un ar agoriad Neuadd Goffadwriaethol yr Anibynwyr a'r Llyfrgell yn Farrington Street, Llundain, yn 1875.

(1875) Traddododd Mr. Richard araeth ar "Ymdrech Anghydffurfwyr diweddar am Gydraddololdeb Crefyddol." Ymhen ychydig iawn, penodwyd ef yn Gadeirydd Dirprwywyr y Tri Enwad. Cymdeithas oedd hon a ffurfiwyd mor bell yn ol a'r flwyddyn 1735, ac yn gynwysedig o Ymneillduwyr Llundain o'r tri enwad, sef Henaduriaethwyr, Anibynwyr a Bedyddwyr, gyda'r amcan o amddiffyn eu hawliau gwladwriaethol. Yr oedd dewisiad unfrydol Mr. Richard i lenwi y swydd o Lywydd, yn dangos y parch mawr oedd gan y Dirprwywyr tuag ato. Traddododd araeth agoriadol, yn yr hon y datganai ymlyniad wrth Mr. Gladstone; ond dywedai ar yr un pryd, fod yn rhaid i'r Ymneillduwyr bellach ymsythu a sefyll ar eu traed yn ddewr. Parhaodd Mr. Richard i fyned yn ffyddlon i holl gyfarfodydd a phwyllgorau y Dirprwywyr, ac enillodd barch cyffredinol, a therfynodd y llafur hwn o'i eiddo yn y flwyddyn 1887, gydag araeth rymus ar y cynnydd yr oedd rhyddid crefyddol weli ei wneud o flwyddyn gyntaf teyrnasiad Victoria hyd y flwyddyn honno, sef blwyddyn y Jiwbili.

Traddododd Mr. Richard araeth yn Nhŷ y Cyffredin yn y flwyddyn 1875 o blaid Mesur Claddu Syr G. Osborne Morgan, pryd y taflwyd y Mesur allan trwy fwyafrif o 14 yn unig (sef 248 yn erbyn 234), er mai y Toriaid oedd mewn awdurdod. Traddododd araeth alluog a chynhwysfawr hefyd ar Fesur Esgobol St. Albans.

Mor fuan ag yr oedd y Senedd-dymor hwn drosodd, aeth Mr. Richard a'i wraig i'r Hague, lle yr oedd y ddwy Gymdeithas Gyfreithiol yn cynnal eu heisteddiadau. Cyrhaeddodd yno ar yr 31ain o Awst, a chafodd fod Cymdeithas Cyfraith Rhyngwladwriaethol wedi terfynnu ei heisteddiadau, a hysbyswyd Mr. Richard fod Brenhines y Netherlands wedi dymuno cyfarfod aelodau y ddwy Gymdeithas. Gwahoddwyd Mr. Richard a'i wraig gyda hwynt. Mae Mr. Richard yn ei Ddyddlyfr, yn rhoi adroddiad o'i ymweliad, Cyflwynwyd Mr. Richard i'r Frenhines fel "awdwr y Cynhygiad nodedig ar Gyflafareddiad yn Nhŷ y Cyffredin." "Mae yn dda gennyf gael y cyfleusdra i'ch adnabod, Mr. Richard," ebe'r Frenhines, mae eich enw yn dra adnabyddus i mi, fel y mae trwy'r byd.” Ac yna aeth yn ymddiddan rhydd rhyngddynt. Dengys hyn fod y Cynhygiad crybwylledig, a'r ymraniad arno, wedi tynnu sylw neilltuol ar y Cyfandir, pa effaith bynnag a gynhyrchodd yn y wlad hon.

Fe welir fel hyn fod llafur Mr. Richard, tua'r anser hwn, yn cael ei rannu rhwng Tŷ y Cyffredin a dadleu achos rhyddid a Heddwch yno, a gwasanaethu yr un achosion gartref; rhwng areithiau ac ysgrifeniadau a myned i "orffwys" mewn llafur ar y Cyfandir yn achos Cyflafareddiad. Yr oedd Disraeli yn dechreu dadlennu tueddiadau uchelfrydig-tueddiadau “Ymherodraethol," fel y gelwir hwynt—fel y mae Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury yn awr. Yn ystod y ddwy flynedd y bu Arglwydd Beaconsfield mewn awdurdod, cynhyddodd y costau milwrol dros ddwy filiwn o bunnau, a phob golwg mai cynhyddu fwy-fwy a wnaent.

(1876) Yn Senedd-dymor 1876, gwnaeth Mr. Richard ei oreu i wrthweithio y cynnydd hwn. Cynhygiodd Syr Wilfrid Lawson, pan gyflwynwyd yr amcan-gyfrifon o flaen y Tŷ, welliant yn datgan nad oedd gwir angen am ychwanegiad at gostau milwrol y deyrnas, mewn araeth hapus iawn, a chefnogwyd ef gan Mr. Richard mewn araeth gyrhaeddgar. Ni phetrusodd gyhuddo y dosbarth milwrol, yn y wlad hon, ac ar y Cyfandir, o geisio dal i fyny y gyfundrefn ddrygionus o gydymgais rhwng teyrnasoedd mewn arfau milwrol, er mantais eu crefft. Collwyd y Cynhygiad, pa fodd bynnag, trwy fwyafrif o 192 yn erbyn 93. Ond parhau i weithio yn yr un cyfeiriad a wnai Mr. Richard. Ar y 15fed o Fai, 1876, cododd ei lef yn groew yn erbyn codiad yn y dreth Incwm. Danghosodd fod hyd yn oed y blaid Ryddfrydig yn rhy barod i anghofio cynhildeb, er maint oedd ei phroffes. Dywedai nad oedd dim digoni ar y ddwy adran filwrol, y fyddin a'r llynges; yr oeddent fel gelen y meirch yn gwaeddi “moes, moes,” yn ddiddiwedd, a pha faint bynnag a roddid, yr oedd fel tywallt dŵr i ogor; nid oedd dim yn aros i'w ddangos am yr oll a roddwyd i mewn. Yr oeddid yn ystod yr ugain mlynedd blaenorol wedi gwario 550 o filiynnau o bunnau ar ein harfau milwrol, ac eto dywedai ein hawdurdodau milwrol fod y wlad yn hollol ddiamddiffyn!

Ym mis Mehefin, dygodd Mr. Richard achos China ger bron y Tŷ, a'r un mis cynhygiodd benderfyniad i'r perwyl y byddai arfer gorfodaeth yn achos Addysg yn anghyfiawn, oni wneid darpariaeth i osod yr Ysgolion Cyhoeddus o dan reolaeth y wlad. Cymerodd ran arbennig yn nadleuaeth y Mesur hwn, a phan basiodd ar y 5ed o Awst, gwnaeth wrthdystiad yn ei erbyn, gan ei fod yn gosod Addysg y wlad yn nwylaw Eglwys Loegr. Danghosai fel yr oedd yr Eglwys yn defnyddio yr Ysgolion Cyhoeddus hyn i ddibenion proselytaidd. Yn wir, ni fu Mr. Richard erioed yn gyfaill calon i Addysg orfodol o gwbl, oblegid yr oedd ganddo ymlyniad tyn yn yr egwyddor o ryddid oddiwrth bob ymyriad â meddwl ar ran unrhyw lywodraeth wladol. Nid oedd yn edrych ar yr ysgolion a elwid yn Ysgolion Gwirfoddol yn deilwng o'r enw; oblegid yr oedd yr Eglwys Sefydledig, yn yr un-mlynedd-ar-bymtheg blaenorol, wedi derbyn oddiwrth y Llywodraeth dros ddeng miliwn o bunnau at eu hysgolion, tra nad oedd ei chyfraniadau gwirfoddol ond tua chwe chan mil yn y flwyddyn.

Ar derfyn y Senedd-dymor, yr hwn a fu yn un blin a llafurus iawn i Mr. Richard, aeth ef a'i wraig ar y Cyfandir, er mwyn bod yn bresennol yn y Gynhadledd a gynhaliwyd ym mis Medi yn Bremen, ar y cwestiwn o Gyfraith Ryngwladwriaethol. Cyfarfu yno â lluaws o gynrychiolwyr o Germani, Ffrainc, Awstria, Denmarc, Norway a Sweden. Traddododd araeth faith yn y Gynhadledd ar yr egwyddorion a ddylent lywodraethu gwledydd Cristionogol yn eu hymwneud â gwledydd barbaraidd neu anghristionogol, a siaradodd ar faterion ereill, a derbynid ei sylwadau bob amser gyda'r parch mwyaf.

Yng ngwanwyn y flwyddyn hon, dewiswyd Mr. Richard yn Gadeirydd yr Undeb Cynulleidfaol am y flwyddyn ganlynol; y tro cyntaf y gosodwyd y fath anrhydedd ar un oedd erbyn hyn yn ei ystyried ei hun yn lleygwr. Pan yn traddodi ei araeth agoriadol y flwyddyn ganlynol, cyraerodd yn destun "Perthynas y gallu tymhorol ac ysbrydol mewn gwahanol wledydd." Nid oedd pawb yn y fath gynhulliad dysgedig, fel y gallesid disgwyl, yn cydsynio ym mhob peth â'r hyn a ddywedai, a cheisiodd Dr. Dale o Birmingham, ddwyn y "Cwestiwn Dwyreiniol i mewn," er mwyn dangos cydymdeimlad â'r cwrs a gynghorai Mr. Gladstone, er arfer gorfodaeth ar Twrci, at yr hyn y cawn alw sylw eto. Siaradodd Dr. Allon, Dr. Raleigh, y Parch. J. G. Rogers, y Parch. Newman Hall a Dr. White o blaid Cynhygion Mr. Gladstone yn Nhŷ y Cyffredin.[17] Yr oedd y siaradwyr yn awyddus i orfodi Twrci i gario allan orchymyn y Galluoedd Ewropeaidd. Teimlai Mr. Richard fod "gorfodi" yn golygu, yn y pen draw, myned i ryfel, ac nid oedd efe, fel "Apostol Heddwch," yn bleidiol i hynny; a theimlai ei sefyllfa fel Cadeirydd yn un gaeth, gan fod ei gydymdeimlad mor fawr o blaid y gorthrymedig ar y naill law, a'i atgasrwydd at ryfel yr un mor fawr ar y llaw arall. Gyda'i ddeheurwydd a'i benderfyniad arferol, cefnogodd benderfyniad Dr. Dale, yr hwn oedd yn datgan gwerthfawrogiad o lafur Mr. Gladstone o blaid rhyddid, ac yn llawenhau oherwydd ei waith yn gomedd rhoddi unrhyw gefnogaeth foesol na materol ar ran Lloegr i Twrci.

(1877) Ar achlysur arall, Hydref 18, 1877, pan yn Gadeirydd yr Undeb, traddododd araeth ar "Gymhwysiad Cristionogaeth at Boliticiaeth." Ar derfyn y flwyddyn, pasiwyd penderfyniad gwresog a chryf o ddiolchgarwch i Mr. Richard, a dymuniad ar iddo gael hir oes ac iechyd i gyflawni gwasanaeth yn Nadleuon Eglwysyddol y dydd. Dywedodd Dr. Allon, cynhygydd y penderfyniad, ei fod yn y mis Mai blaenorol yn methu yn hollol a chytuno â Mr. Richard gyda golwg ar gwestiwn y rhyfel; ond yr oedd, er hynny, wedi gosod egwyddorion mawrion i lawr, ac yr oedd yn ddiau, yn ddyledswydd arnynt oll, fel gweinidogion yr Efengyl, wneud a allent yn erbyn rhyfel. Wrth ddiolch iddynt, dywedai Mr. Richard, hwyrach y byddai yn dda ganddynt glywed fod ei araeth ym mis Mai wedi peri cyffro mewn amryw barthau o Ewrob. Cyhoeddwyd hi yn Paris, yn y Revue Politique, a chyfieithwyd hi i'r iaith Isellmynaeg ac ieithoedd ereill, a hyderai y byddai yr hâd a hauwyd yn dwyn ffrwyth. Yr oedd yn ddrwg ganddo fod Gweinidogion yr Efengyl yn pregethu mor anfynych ar Heddwch, ac erfyniai arnynt gymeryd y cwestiwn i fyny, ac i bregethu o leiaf un bregeth yn y flwyddyn ar y mater pwysig hwn.

Cwynai Mr. Richard ar achlysuron ereill oherwydd hyn. Ac nid heb achos. Pa nifer o ryfeloedd Prydain a wrthwynebwyd gan y fainc esgobol? Ni chafwyd ond dau esgob i wrthwynebu y rhyfel anghyfiawn yn erbyn yr America gynt! Mor lleied o weinidogion yr efengyl a godasant eu llef yn erbyn rhyfel diangenrhaid y Crimea, a'r un modd gyda'r rhyfel presennol yn Affrica. Gwyddom mai nid y pulpud ydyw y lle i drin materion politicaidd, ond credwn y dylid ei ddefnyddio i gondemnio ysbryd rhyfelgar, dialgar, a chreulon y bobl pan y cymer feddiant o honynt. Yr oedd y proffwydi yn ddigon eofn i godi eu llef yn erbyn pechodau llywodraethwyr y tir. Pan y mae Arglwydd Wolseley, er engraifft, yn ei Soldiers Pocket Book yn gwawdio gonestrwydd a geirwiredd, tybed na ddylai fod gan y pulpud air

i'w ddweud ar y mater?

PENNOD XIII

Yr Achos Dwyreiniol eto—Erchyllderau Bulgaria,— Y Gynhadledd Fawr yn St. James's Hall ar yr achos— Dirprwyaeth at Arglwydd Derby-Areithiau ar Heddwch gan Mr. Richard - Rhyfel Rwsia a Thwrci—Cytundeb Berlin, a barn Mr. Richard arno—Ei ymdrech i ddwyn Cyflafareddiad iddo—Cynhadledd Heddwch yn Paris—Rhyfel y Zuluiaid.

(1876) Yn y flwyddyn 1876—am y bumed waith mewn can mlynedd-cododd y "Cwestiwn Dwyreiniol" drachefn i aflonyddu ar heddwch Ewrob. Yn y flwyddyn flaenorol, fe dorrodd gwrthryfel allan yn un o daleithiau Ymherodraeth y Twrc, Herzegovina, oherwydd gormes tirfeddianwyr Mahometanaidd. Enillodd y gwrthryfelwyr fuddugoliaeth ar y Tyrciaid. Cyfryngodd Awstria er mwyn diogelu rhai diwygiadau y galwent am danynt. Wedi hynny, torrodd rhyfel allan yn Bulgaria, ac wrth roddi y gwrthryfel i lawr, cyflawnwyd erchyllderau ofnadwy gan filwyr Twrci, y rhai a dynasant sylw y byd o dan yr enw Bulgarian Atrocities. Yr oedd yr hanes a roddid am danynt yn y Daily News yn cyffroi yr holl deyrnas. Ceisiodd Disraeli wawdio y cwbl, oblegid yr oedd efe yn bleidiol i Twrci. Ceisiai wadu y ffeithiau; ond profwyd hwynt tu hwynt i bob dadl. Lledodd y gwrthryfel i Servia a Montenegro. Ym mis Medi, 1876, cyhoeddodd Mr. Gladstone ei bamphlet byth-gofiadwy ar y Bulgarian Horrors a Chwestiwn y Dwyrain. Cyffrodd y wlad drwyddi. Yr oedd Mr. Disraeli—yr hwn tua'r amser yma a godwyd i Dŷ yr Arglwyddi o dan y teitl Arglwydd Beaconsfield—yn gwneud a allai i chwythu y fflam, yn hytrach o blaid nag yn erbyn Twrci. Nid oedd dim cefnogaeth i'w gael ganddo ef o blaid y gorthrymedig. Cododd teimladau "Jingoaidd"—dyma'r adeg, yn wir, y cawsant hwy, y blaid ryfelgar, yr enw—traddododd Mr. Disraeli araeth yn Aylesbury, ag oedd yn eglur ddangos ei dueddiadau; ac yr oedd hefyd yn creu dychryn ym meddyliau goreugwyr y deyrnas, rhag y byddai iddo lusgo y wlad hon i roddi ei chynhorthwy yn hytrach o blaid Twrci. Condemniai y blaid Ryddfrydig, dywedai fod ei hymddygiadau yn waeth na'r erchyllderau honedig. Ar yr 8fed o Ragfyr, 1876, cynhaliwyd Cynhadledd fawr yn St. James's Hall, Llundain, i wrthwynebu Gwladweiniaeth Dr. Disraeli ar y cwestiwn. Yr oedd y Gynhadledd hon, medd un ysgrifennydd, "yn un o Gynhadleddau mwyaf ardderchog yr oes." Cynhaliwyd cyfarfod yn y prynhawn ac yn yr hwyr. Llywydd cyfarfod y prynhawn oedd Duc Westminster, ac un yr hwyr ydoedd Iarll Shaftesbury. Ymysg y prif siaradwyr yr oedd Mr. Gladstone, Esgob Rhydychain, Esgob Argyll, Henry Richard, Mr. Trevelyan, Mr. Fawcett, Mr. Freeman ac ereill. Ni raid dweud y traddodwyd areithiau galluog dros ben, teilwng o enwogrwydd yr areithwyr, ac o bwysigrwydd yr achos. Codwyd y cyfarfod i deimladau angherddol gan Mr. Gladstone a Mr. Freeman. Yr oedd araeth Mr. Richard, er nad yn un faith, yn un afaelgar dros ben. Cyfyngai ei hunar-er mwyn arbed amserar-i un wedd ar y pwnc yn unig, sef cyfrifoldeb Prydain gyda golwg ar Gwestiwn y Dwyrain. Yr oedd ei chyfrifoldeb, meddai, yn codi oddiar ei bod wedi cefnogi Twrci yn fwy nag un Gallu arall yn Ewrob, hi oedd wedi dyfeisio yr ym- adrodd soniarus, "Cyfanrwydd ac anibyniaeth Twrci," yr hyn oedd wedi bod wrth wraidd ein policy am gynnifer o flynyddoedd. Dyma oedd gwir achos rhyfel y Crimea. Lloegr oedd wedi peri y rhyfel hwnnw. Yr oedd yr holl bleidiau yn yr achos hwnnw yn barod i derfynnu y cweryl heb apelio at y cleddyf, oni buasai ymyriad y wlad hon. Ac ar derfyniad y rhyfel, yr oeddem wedi dwyn i mewn i'r Cytundeb yn Paris, nad oedd un Gallu i gyfryngu mewn un modd rhwng y Sultan â'i ddeiliaid. Ie, yr oeddem wedi cefnogi Twrci i ddod i farchnad Lloegr, a benthyca yn agos i ddau can miliwn o arianar-arian a wariasai yn y modd gwaradwyddus y cwynid yn awr o'i herwydd. Yr oeddem yn 1860 wedi arfer ein dylanwad i geisio celu creulonderau Twrci yn Jedda, Damascus a Syria, ac yn parhau i geisio dal i fyny y Twrc.

"Gyda'r amcan hwn," meddai, "mae pob hysbysrwydd wedi ei fygu, wedi ei gadw draw, wedi ei newid, er mwyn tynnu gorchudd dros yr erchyllderau a gyflawnwyd yng nghanol-barthau Twrci—(uchel gym.) er mwyn mygu gruddfanau y gorthrymedig fel na chyrhaeddent glustiau pobl y wlad hon; a phan, o'r diwedd, y llusgwyd i'r goleuni weithredoedd ag oedd yn llenwi y byd â digofaint a dychryn, gwnaed pob ymgais i esgusodi y gweithredoedd drygionus a chreulon hyn, ac yn wir i geisio eu cyfiawnhau." Ond nid oedd efe, er hynny, am fyned i ryfel i geisio gwella pethau; nid oedd hynny ond ceisio bwrw allan gythreuliaid, trwy Beelzebub, pennaeth y cythreuliaid. Yr oedd efe, fel y gwyddent, yn dra anuniongred ar y cwestiwn o ryfel." "Ond er," meddai, "y gall fod gwahaniaeth barn rhyngom ar lawer pwynt, yr wyf yn hyderu ar yr un pwynt hwn ein bod yn unfarn, ac yr â allan o'r cyfarfod hwn lais nid aneglur, a hwnnw ydyw hwn,—Gan ein bod ni yn y cyfarfod hwn yn meddu mwy o hawl i gynrychioli teimlad ac ewyllys y wlad, y danfonwn y llais hwnnw allan fel ein penderfyniad diysgog yn enw rhyddid, yn enw cyfiawnder, yn enw dynoliaeth, yn enw hen gymeriad gogoneddus Lloegr fel cyfaill y gorthrymedig, ac—yr wyf yn ei ddyweud gyda difrifoldeb a pharch—yn enw yr Hwn sydd yn caru cyfiawnder, ac yn cashau an wiredd, na chaiff un geiniog o arian Prydain, nac un dafn o waed Prydain ei roddi mwy i gynnal y gyfundrefn honno o farbareidd-dra a elwir yn Ymerodraeth Ottomanaidd."

Mae'n amlwg fod Mr. Richard wedi taro ar dant ag oedd yn cyffwrdd â chalonnau y dorf, oblegid neidiodd pawb ar eu traed ar unwaith, a danghoswyd cymeradwyaeth mawr a hirfaith. Traddododd Mr. Richard luaws o areithiau nerthol, ac ysgrifennodd lawer tua'r amser hwn, a buasai yn dda gennym allu dyfynnu o honynt, gan eu bod yn llawn o addysg, hyd yn oed ar gyfer y dyddiau yr ydym yn awr yn ysgrifennu ynddynt. Yr oedd ganddo hawl neilltuol i wrthwynebu pob ymgais i lusgo y wlad hon i ryfel o blaid Twrci, gan ei fod mewn modd arbennig wedi gwrthwynebu hynny yn amser rhyfel y Crimea. Wrth sôn am ymdrechion Mri. Cobden a Bright y pryd hwnnw, y mae yn dweud yn un o'i areithiau,—"Ac yr oeddem ninnau yn yr ymgyrch." Oedd; a chan iddo ymladd yn ddewr yn erbyn y rhyfel ffol ac ofnadwy hwanw, trwy ysgrifennu, areithio, a gweithio yn ddidor, meddai hawl arbennig, meddwn, i ofyn yn 1876,—

Ai nid oedd sefyllfa pethau bellach yn cyfiawnhau ei ymddygiad ef a'i gyd-lafurwyr y pryd hwnnw? Cyhoeddodd Mr. Richard y pryd hwn Apêl difrifol, o dan ei enw ei hun, yn datgan canlyniadau arswydus y rhyfel o'r blaen o blaid Twrci, sef rhyfel y Crimea, gyda'r amcan o wrthweithio y teimlad oedd yn cael ei gyffroi yn y wlad o blaid amddiffyn y Twrc, er ei draha. Danghosodd mor wir oedd geiriau y Times, “na fu ymdrech erioed mor fawr i amcan mor isel- wael a'r pryd hwnnw.” Ysgrifennodd Mr. Richard hefyd erthyglau i'r wasg o dan yr enw "Tystiolaethau am gam-reolaeth Twrci;" ac er ei fod wedi ysgrifennu rhai cyffelyb yn amser rhyfel y Crimea, yr oedd enw Mr. Richard erbyn hyn yn fwy dylanwadol, a'r wlad wedi dysgu gwers am ei ffolineb yn myned i'r rhyfel hwnnw.

(1877) Ym mis Medi, 1877, cyflwynodd dirprwyaeth o weithwyr cyffredin, perthynol i Gymdeithas Heddwch Leicester, Anerchiad 'hardd i Mr. Richard am ei lafur a'i wasanaeth mawr yn achos Heddwch. Wrth ddatgan ei ddiolchgarwch, dywedodd Mr. Richard ei fod wedi llafurio am 35 mlynedd o blaid yr achos hwnnw, a hynny er gwaethaf gwg y lluaws yn fynych, yn enwedig yn amser rhyfel y Crimea. Yr oedd yn cofio myned i Newport unwaith tua'r amser hwnnw, a'r peth cyntaf a welai oedd papur ar y muriau yn galw am i'r bobl ymosod arno pan ddeuai i'r dref. Ond yr oedd pawb bellach yn gweled ynfydrwydd y rhyfel hwnnw. Ar ddiwedd ei araeth, adroddodd y llinellau canlynol,—

Whene's contending parties fight
For private pique or public right,
Armies are formed and Navies manned;
They combat both by sea and land;
When, after many battles past,
Both tired of blows, make peace at last.
What is it, after all, the people get?
Why—Widows, taxes, wooden legs, and debt."

Ym mis Rhagfyr, talodd Mr. Richard ei ymweliad blynyddol â'i etholwyr, a thraddododd, ym Merthyr Tydfil, araeth ragorol, yn bennaf ar y rhyfel rhwng Rwsia a Thwrci. Dywedai ei fod ef yn y Senedd megys rhwng dau dân. Yr oedd yn y Tŷ, fel oddiallan iddo, un blaid yn dadleu dros fyned i ryfel i amddiffyn Rwsia, a phlaid arall eisieu amddiffyn Twrci. Yr oedd John Bull bob amser yn tybied, os byddai cweryl yn rhyw barth o'r byd, y byddai efe ar ei golled, neu yn cael ei ddianrhydeddu os na fyddai ganddo law yn yr helynt; ac yr oedd ar unwaith yn dechreu chwilio am ei ffon. Neu yr oedd, fel y desgrifiai Washington Irving ef, fel pryf-copyn mawr yn lledu ei deimlyddion hirion dros bob man, ac ni allai y gwybedyn lleiaf ddod yn agos, na fyddai yn cyffwrdd â rhai o honynt, ac yn ei gyffroi. Yr oedd un blaid, fel y dywedai, am ymladd yn erbyn y Tyrciaid. Cyffrodd eu creulonderau yn Bulgaria eu teimladau tyner a dyngarol; ond eu camgymeriad oedd tybied mai y ffordd i atal creulonderau oedd cyflawni rhai ereill, a hwyrach rhai gwaeth. Yr oedd plaid arall—â'r hon yr oedd ganddo lawer llai o gydymdeimlad—am fyned i ryfel yn erbyn Rwsia. Ond credai efe ein bod wedi cael digon o helbul a gwaradwydd yn ein rhyfel diweddaf â'r wlad honno, heb i ni wneud yr un camgymeriad trychinebus drachefn. Yr oedd Mr. Gladstone wedi gwneud gwasanaeth anrhaethol werthfawr i'w wlad wrth ddyrchafu ei lais mor glir yn erbyn y cynhygiad gwallgof hwn. Yr oedd rhai yn canmol y Twrc, ac yn dweud ei fod yn ymladdwr gwych. Oedd; ac yr oedd y gwaed-gi, y dylaf o gŵn, yn gwffiwr di-ail. Yr oedd creulonderau y Tyrciaid yn ddiarhebol. Dywedai dau feddyg parchus eu bod wedi gadael 400 o glwyfedigion Rwsiaidd i ddihoeni a marw ar y maes, ac am y rhai a gymerent yn garcharorion clwyfedig, torrid eu gwefusau a'u trwynau ymaith. Am eu clwyfedigion eu hunain, dywedai Gohebydd y Times eu bod yn cael eu gadael i wella neu drengu, heb un gofal am danynt. A dyma'r dynion yr oedd rhai pobl yn y wlad hon yn bloeddio am i ni fyned allan i ymladd drostynt! A'r drwg ydoedd, nad oedd un o'r gwŷr hyn oedd yn eistedd yn eu parlyrau gwychion, a'u traed mewn esgidiau esmwyth, ac yn ysmocio yn gysurus, yn meddwl am funud am fyned allan eu hunain i faes y frwydr. Yr oedd efe (Mr. Richard) wedi gwylied y dynion hyn yn bur fanwl yn amser rhyfel y Crimea—dynion a allent ysgrifennu erthyglau i erlid Cobden a Bright—gan eu galw yn wladgarwyr bastarddol, ac yn uchel eu cri am i ni gario y rhyfel ymlaen yn fwy egniol, ac yn areithio mewn cyfarfodydd i gyffroi y lluaws, ac eto ni chlywodd un- waith am un o honynt yn cynnyg myned allan ei hunan. A oedd eu heisieu? Oedd. Dywedai Arglwydd Grey fod nifer y dynion a ymrestrodd yn y fyddin rhwng 40,000 a 50,000 yn llai na'r nifer a basiwyd yn y Senedd, a hynny ym mhoethder y rhyfel. Nid oedd efe (Mr. Richard) yn bleidiol i orfodi dynion i fyned allan i ryfel; ond o'i ran ef, ni fuasai yn gresynnu llawer, pe gallesid danfon y gwŷr hyn i sefyll yn rhengau blaenaf y milwyr yn nydd y frwydr. Gwyn fyd na welid y dydd y dywedai y bobl wrth eu llywodraethwyr,—"Os ydych am ryfel, ewch eich hunain. Nid oes gennym ni gweryl yn erbyn na Ffrancwr na Rwsiad—brodyr o'r un gwaed ydym, wedi ein prynnu gan yr un Ceidwad, ac nid ydym am drochi ein dwylaw yng ngwaed ein gilydd."

Ie, gwyn fyd hefyd; a phe byddai syniadau pob aelod Seneddol mor iachus ag eiddo Mr. Richard ar y cwestiwn hwn, nid hir fyddai yr amser cyn i'r dydd dedwydd hwnnw wawrio.

(1878) Ar y 9fed o Ebrill, 1878, traddododd Mr. Richard araeth yn y Senedd yn erbyn galw allan yr Ad-fyddin (Reserves). Gwawdiodd y ffitiau o ddychryn oedd yn dod dros y wlad ar dymhorau, rhag yr ymosodiad arnom gan ryw genedl neu gilyıld; ie, clywodd pobl yr Unol Daleithiau yn cael eu desgrifio fel ysgum y ddaear, a'n gelynion pennaf. Ac yn awr, Rwsia oedd ar ddisgyn arnom! A phaham? Am ei bod wedi darostwng y gwrthryfel yn Poland. Nid oedd un amheuaeth nad oedd Rwsia wedi ymddwyn yn greulon. Yr oeddem ni yn y wlad hon yn bobl rhyfedd yn wir. Codem ein dwylaw mewn arswyd oherwydd creulonderau gwlad arall, ac eto, nid oeddem yn meddwl dim am ein hymddygiad ein hunain yn yr Iwerddon, yn Ceylon, yn India a Jamaica. Yr oedd ei gyfaill, yr aelod dros Newcastle, wedi ei gyfarfod y dydd o'r blaen, a dywedai, gyda digllonedd, fod Rwsia wedi cyrraedd y pwynt uchaf o orthrwm, gan ei bod wedi gorfodi pobl Poland i ddefnyddio yr iaith Rwsiaidd yn eu llysoedd cyfreithiol. "Dywedais wrtho," meddai Mr. Richard, "mai dyma yn union yr hyn y mae llywodraeth Prydain yn ei wneud yn y dyddiau hyn yng Nghymru. Y mae pob Cymro, druan, yn agored i gael ei brofi am ei fywyd, ac y mae cannoedd wedi cael eu profi am eu bywyd, mewn iaith ag yr oeddent yn hollol anhyddysg ynddi. Ond nid oedd fy nghyfaill yn gweled dim allan o le yn hyn pan wneid ef gan y Sais yn erbyn y Cymro; ond yr oedd yn beth ofnadwy pan wneid ef gan Rwsia yn erbyn Poland. ... Ond, meddid, yr oedd Rwsia yn allu mawr ymosodol. Ond beth am Brydain? Nid oedd am gyfreithloni y naill na'r llall; ond yr oeddem ni, fel y wraig honno yn Llyfr y Diarhebion, 'Hi a sych ei safn, ac a ddywed, Ni wnaethum i anwiredd.'”

Mae y darllennydd, yn ddiau, yn gwybod am y modd y terfynodd y rhyfel ofnadwy rhwng Rwsia a Thwrci. Nis gellir edrych yn ol ar y cyfnod hwn, heb deimlo fod cymeriad y Weinyddiaeth Doriaidd wedi ei darostwng yn dra isel. Ym mis Ebrill, 1877, y cyhoeddodd Rwsia ryfel yn erbyn Twrci. Buwyd yn ymladd am bymtheg mis, a chollwyd miloedd o fywydau. Yn y diwedd, cynhaliwyd Cynhadledd yn Berlin, pryd y gwnaethpwyd y Cytundeb a alwai Mr. Gladstone yn "Gyfamod Gwallgof," ac o'r hon y daeth Arglwydd Beaconsfield ac Arglwydd Salisbury i Lundain fel dau fuddugoliaethwr, gan ddwyn gyda hwynt, meddent hwy, "Heddwch ac Anrhydedd!" Erioed ni ddallwyd y wlad gan rith mwy disylwedd na'r pryd hwnnw.

Ysgrifennodd Mr. Richard erthyglau cryfion iawn yn erbyn Cytundeb Berlin. "Nis gallwn," meddai mewn un erthygl, "anturio dweud ein meddwl am natur ffol y fath Gytundeb;" a dywed fod ei delerau yn ein rhwymo i amddiffyn Twrci mewn amgylchiadau mor amrywiol yn ein cysylltiad â Cyprus, fel nad oedd ganddo un amheuaeth, pan elwid arnom i gyflawni ein hymrwymiadau, nad ymwingem allan o honynt mewn rhyw fodd iselwael neu gilydd. Ac onid felly y gwnaed yn 1896 ? Darllener yr araeth olaf a draddododd Mr. Gladstone yn Hengler's Circus yn Liverpool, a meddylier am yr hyn a gymerodd le wedi hynny, a cheir profion diymwad fod Mr. Richard yn ei le. Ynglŷn â'r Gynhadledd yn Berlin, aeth Mr. Richard a Henry Pease, a Leoni Levi i Berlin ar ran y Gymdeithas Heddwch i gyflwyno Deiseb o blaid yr egwyddor o Gyflafareddiad. Cyrhaeddasant y ddinas ym mis Gorffennaf, 1878. Yr oedd y Ddeiseb yn cynnwys y penderfyniadau yr oedd Seneddau Prydain, Itali, yr Unol Daleithiau, Holland, Belgium, Sweden, a Ffrainc, eisioes wedi eu pasio o blaid Cyflafareddiad. Yr oedd gan y cenhadon hyn lythyr hefyd at Bismark, yn gofyn iddo gyflwyno y Ddeiseb i'r Gynhadledd. Danfonwyd copi i bob un o'r Llawn-alluogion (Plenipotentiaries), gyda dymuniad at rai o honynt am gael ymddyddan â hwynt. Mae hanes holl ymdrafodaeth y tri wŷr hyn yn dra dyddorol, fel y mae yn nyddlyfr Mr. Richard, ond nis gallwn ond rhoi crynhodeb byr o honi. Ar y 5ed dydd o fis Gorffennaf, cawsant siarad â Count Corti, y cynrychiolydd o Itali. Dywedai y gŵr hwnnw ei fod wedi clywed am enw Mr. Richard lawer gwaith. Yr oedd yn bur foesgar a charedig, a dywedai, gyda golwg ar Gytundeb Paris yn 1856, y parhai mewn grym tra heb ei newid gan Gytundeb Berlin. Dywedai Mr. Richard fod arnynt eisieu newid y gair "wish"[18] i air cryfach. Ofnai yntau nas gallai gael hynny, a dywedai,—"Y mae yn bur ddrwg gennyf; byddai yn dda gennyf fi pe gwnaent i ffwrdd â'n byddinoedd sefydlog, a phenderfynnu pob cwestiwn trwy Gyflafareddiad." Methasant gael gweled y Tywysog Bismarck nac Arglwydd Beaconsfield. Cawsant weled Herr Bucher, Arolygydd Cofnodfa'r Gynhadledd, a Herr Von Bülow, Ysgrifennydd Tramor Germani. Dywedodd yr olaf fod ganddo barch mawr i ddynion oedd mor llafurus mewn achos mor deilwng. Ofnai na phasient erthygl yn eu rhwymo i fabwysiadu Cyflafareddiad. Nid oedd ganddynt ond dymuno am amseroedd gwell, ac ysgydwodd law â hwynt gan ddweud,—"Duw a'ch bendithio yn eich gwaith."

Talodd y tri wŷr hyn ymweliad â'r Proffeswr Lepsius, yr ysgolhaig Aifftaidd enwog. Dywedodd wrthynt fod Ewrob i gyd o'u plaid, ond y diplomyddion, ac nid oeddent hwy gymaint yn erbyn, ond eu bod yn methu deall gwir ystyr eu neges. Cawsant hefyd ymddiddan a'r "Crown Princess" (Tywysoges Frenhinol Lloegr). Ar ol clywed eu neges, dywedodd,—"Mae eich amcan, pa un bynnag a lwyddwch ai peidio, yn un tra chanmoladwy. A ydych yn dymuno i mi osod hwn (sef copi o'r Ddeiseb oedd yn ei llaw) o flaen fy ngŵr?" Pan atebwyd yn gadarnhaol, dywedai,—"Mi wnaf, gyda phleser." Pan ddywedwyd yr hyderent y gwnai ei Huchelder arfer ei dylanwad o'u plaid, codai ei hysgwyddau dan wennu, dywedai "fod arni ofn nad oedd ganddi fawr o ddylanwad yn y fath faterion." Ond ni fu eu hymweliad yn ofer er hynny, oblegid pasiwyd erthygl i'r perwyl a ganlyn,—"Fod Cytundeb Paris yn 1856, ac un Llundain, 1871, yn cael eu cadarnhau yn yr holl bethau hynny nad yw Cytundeb Berlin yn eu newid neu yn eu diddymu."

Darfu i Gyngor Cymdeithas Heddwch Ffrainc gymeryd mantais oddiwrth Arddanghosfa Fawr Paris yn 1878 i gynual Cynhadledd Heddwch yn niwedd mis Medi. Yr oedd yno gynrychiolwyr o Ffrainc, Germani, Prydain, Itali, Yspaen, Belgium, Holland, Switzerland, yr Unol Daleithiau, a gwledydd ereill. Yr oedd llywydd y Gymdeithas yno, a'r ysgrifennydd, Mr. Richard. Parhaodd y Gynhadledd am bum diwrnod. Siaradwyd yno gan lawer o wyr enwocaf Ewrob—ac, wrth gwrs, Mr. Richard yn eu mysg. Yr oedd yn hyfryd gweled dynion o bob cenedl a chredo yn gweithio yn gytun gyda'r un amcan mawr o bleidio yr egwyddor fod plant dynion yn frodyr i'r un Tad, ac yn gwneud eu goreu i roddi terfyn ar un o felldithion pennaf dynolryw. Un o'r pethau y penderfynwyd arno oedd tynnu allan reolau i geisio uno Cymdeithasau Heddwch y byd yn un frawdoliaeth fawr, a phenodwyd pwyllgor i gario hynny allan. Teimlwyd anhawsterau, pa fodd bynnag, i gario y peth i ymarferiad ar y pryd, ond dywed Adroddiad Cymdeithas Heddwch nad oedd dim amheuaeth nad ellid, cyn hir, gario y cynllun allan.

Fel y mae hanes Prydain, yn ystod y rhan fwyaf o'r ganrif ddiweddaf, wedi bod yn hanes o derfynnu un rhyfel a dechreu un arall mewn rhyw barth neu gilydd o'r byd, felly yr oedd llafur Mr. Richard yn gynwysedig mewn dangos mor ddianghenraid—ie, mor ddrygionus—oedd y rhyfeloedd hyn. Nid oedd un Aelod Seneddol, yr ydym yn lled sicr, yn ei wneud yn bwynt i astudio dechreuad y rhyfeloedd hyn gyda'r un manylder a dyfalwch ag y byddai ef Ym mis Medi, 1878, ofnai y byddai yr helynt rhwng Prydain ac Afghanistan yn terfynnu mewn rhyfel. Tynnodd allan apêl at gyfeillion Heddwch ym mhob man i wneud a allent i rwystro hynny. Cynhaliwyd cyfarfodydd mawrion ym mhrif drefi y deyrnas, ac areithiai Mr. Richard ynddynt. Yn yr areithiau hyn nid ymfoddlonnai ar ymosod yn ddiarbed ar ryfel, ond rhoddai hanes manwl o'r helynt, fel y datlennid ef yn y "Llyfrau Gleision," fel y caffai ei wrandawyr wybod y ffeithiau yn gywir. Heblaw hynny, fe ysgrifennodd gyfres o lythyrau doniol a chlir ar y cwestiwn i'r Christian World, y rhai wedi hynny a gyhoeddwyd yn bamphled. Os dymuna neb gael adroddiad manwl о wir natur yr helynt hwnnw, nis gall wneud yn well na darllen y llythyrau hyn. Yn yr un flwyddyn hefyd, fe hyrddiwyd y wlad hon i ryfel yn erbyn y Zuluiaid, a gwnaeth Mr. Richard yr un gwasanaeth i'w wlad yn erbyn y rhyfel hwnnw. Cyhoeddodd bamphledyn i egluro yr holl gwestiwn, a danghosodd mor ddianghenraid ydoedd, fel y danghogwyd hefyd, wedi hynny, gan Mr. Gladstone yn ei areithiau digyffelyb ym Mid- lothian.

(1879) Gŵyr ein darllenwyr, yn ddiau, am drychineb Isandula, pan, ar y 29ain o Ionawr, 1879, y daeth 18,000 o'r Zuluiaid ar warthaf y milwyr Prydeinig yn anisgwyliadwy ac y lladdwyd yr oll o honynt, bron, sef tua 800; ac o'r Zuluiaid tua 2,000. Yr oedd yr holl bapurau trwy'r deyrnas yn galw yr ymosodiad hwn yn "gyflafan" a "llofruddiaeth." Ond dywedai Syr Wilfred Lawson nad oeddent yn gwneud dim ond amddiffyn eu gwlad yng ngwyneb ymosodiad, a phe buasai y Zuluiaid yn byw yn Poland, ac yn ymladd yn erbyn y Rwsiaid, buasai holl newyddiaduron y deyrnas yn seinio eu clodydd ac yn eu galw yn wladgarwyr ac yn wroniaid. Pa fodd bynnag, cafodd y Zuluiaid hyn deimlo dialedd Prydain. Lladdwyd o honynt, wedi hynny, tua 20,000! Yn y rhyfel hwn y collodd Napoleon ieuanc ei fywyd. Siaradodd Mr. Richard yn rymus yn y Senedd yn erbyn y rhyfeloedd hyn. Yr oedd ei araeth ar y 24ain o Ebrill, 1879, yn finiog iawn. Gwawdiai ddadleuon disail Syr Bartle Frere o blaid y rhyfel. Pwy, gofynnai, fuasai yn dychmygu mai un o honynt oedd fod y Zuluiaid yn cadw byddin sefydlog o ddynion dibriod, y rhai oeddent o ganlyniad yn beryglus ini! Ac, oherwydd hynny, yr oeddem ninnau yn danfon allan fyddin sefydlog cyffelyb i'w rhoi i lawr! Dywedid wrthym, meddai Mr. Richard, gan rai yn y Tŷ, mai y rhai a ddadleuant o blaid Heddwch "am unrhyw bris" oedd perygl mwyaf y deyrnas. Nid oedd neb o'r cyfryw i'w cael ond y "Cyfeillion,” y rhai a honnent fod rhyfel yn groes i Gristionogaeth, a heriai efe yr holl Fainc Esgobol i wrthbrofi eu gosodiad. Y deymas mewn perygl oddiwrth y cyfryw blaid, yn wir! Meddylier am ein gwahanol ryfeloedd er y flwyddyn 1816. Yr oeddent yn 73 mewn 63 o flynyddau; ac eto fe ddywedid fod y wlad mewn perygl o gael ei llygru gan blaid oedd, meddid, yn dadleu dros Heddwch!

Gofynnodd Mr. Richard gwestiynau lawer, yn ystod y rhyfel yn Zululand, ond nid oedd dim ond atebion cwta i'w cael, ac weithiau atebion nad oeddid yn siwr y gellid ymddiried ynddynt. Yr oedd Gweinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield yn un ag oedd wedi dwyn cymeriad ein gwlad i lawr raddau lawer. Nid rhyfedd i Mr. Richard ddweud, mewn araeth yn Leeds, ym mis Ionawr, y flwyddyn hon, fod amser wedi bod pan y gellid ymddiried i air Gwladweinydd Prydeinig, "Ond," meddai, "y mae gennym Brif Weinidog yn ben ar y wlad ag y mae yn anichonadwy ei binio i lawr wrth unrhyw air a ddywed, ac y mae wedi heintio ei gydswyddogion â'r un anghywirdeb." Cyhuddiad pwysig ydoedd hwn, ond yr oedd yn rhy wir, ac y mae lle i ofni fod rhywbeth tebyg yn bod yn awr pan ydym yn ysgrifennu?

Na thybied neb fod y rhyfeloedd Prydeinig o angenrheidrwydd yn cael eu cario ymlaen bob amser yn unol â rheolau gwareiddiad, fel y gwelwn oddiwrth y dyfyniad canlynol allan o'r Natal Mercury, dyddiedig Ebrill 3lain, o eiriau un Captain D'Arcy,—

"Drannoeth, daeth ein brodyr duon ymlaen, ac ymosodasant ar y gwersyll i'r nifer o 20,000 i 23,000, ac ar ol ymladd am chwe awr cymerasaut y traed. Lladdasom dros 2,300, ac yna aeth y gwŷr meirch ar eu holau am wyth milltir, gan gigyddio y bwystfilod (butchering the brutes) ym mhob man. Dywedais wrth y dynion,— 'Dim arbed, fechgyn; cofiwch ddoe!' Ac fe ddarfu iddynt eu curo o gwmpas, gan eu lladd yn ddiarbed."

Darllenwyd y dyfyniad hwn gan Mr. Justin McCarthy yn y Senedd, ac nis gellid gwadu y ffaith; ond y cwbl a ddywedai Syr Michael Hicks-Beach oedd, fod Cadben D'Arcy yn gyfrifol i'r Swyddog oedd drosto! Pa bryd y daw y bobl i sylweddoli y ffaith mai peth barbaraidd yw rhyfel bob amser, ac mai ofer son am ei ddwyn ymlaen yn unol âg

egwyddorion gwareiddiad?[19]

PENNOD XIV

Mr. Gladstone yn Brif Weinidog—Etholiad Mr. Richard—Ei Areithiau, a'i amddiffyniad i'r Cymry—Y Mesur Claddu—Ei Areithiau yn y Senedd—Ei ymgais gael lleihad yn ein Darpariadau Milwrol—Helynt y Transvaal.— Barn Mr. Richard arno—Anerchiad iddo yn Leicester a Merthyr.

(1880) Ar ddechreu y flwyddyn 1880, yr oedd yn amlwg fod cwymp Gweinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield gerllaw. Nid oedd modd iddi ddal ymosodiadau Mr. Gladstone yn Midlothian. Blinodd y wlad ar yr Imperialism hwnnw y sonnid cymaint am dano y pryd hwnnw, fel yn awr. Yr oedd yr Etholiadau achlysurol yn troi yn ei herbyn, masnach ac amaethyddiaeth yn isel, y cyllid yn isel, y costau wedi cynhyddu, a'r wleidyddiaeth dramor yn blino teimladau a chydwybodau dynion goreu y deyrnas. Datgorfforwyd y Senedd ar y 24ain o Fawrth, 1880. Cymerodd Etholiad Cyffredinol le, a dychwelwyd y blaid Ryddfrydig gyda mwyafrif mawr. Etholwyd Mr. Richard drachefn dros Ferthyr Tydfil ar yr

ail o Ebrill, a gosodwyd ef ar ben y rhestr fel y gwelir isod,

Richard………………8,035
James ………………7,526
Lewis…………………4,415

Yr oedd yn naturiol i Mr. Richard deimlo yn llawen fod ei gydweithiwr aiddgar, Mr. James, wedi ei ddychwelyd trwy fwyafrif mor fawr. Am Mr. Lewis, ymgeisydd anibynnol ydoedd mewn enw; ond yr oedd yn dibynnu, er hynny, yn bennaf ar bleidleisiau perchenogion y Cloddfeydd Glo a'u goruchwylwyr. Yn anerchiad clir a gonest Mr. Richard at yr etholwyr, dywedai ei fod wedi eu cynrychioli am ddeu- ddeng mlynedd, ac felly, fod ei egwyddorion yn berffaith hysbys iddynt,—sef, Cydraddoldeb Crefyddol, Cyflafareddiad, Helaethiad yr Etholfraint, Diwygiad yn ein Cyfreithiau Tirol a'n Cyfreithiau Trwyddedol, Symleiddiad Deddfau Troseddau, Symud Cwynion rhesymol y Gwyddelod, Uniawni Trethiad India, ac, wrth gwrs, Heddwch.

Nid oedd yn credu fod llwyddiant Prydain yn debyg o gael ei sicrhau trwy dwyll, trais, a gwaed, ond trwy gerdded llwybrau Heddwch, a chofio yn ein holl drafodaeth mai "Cyfiawnder a ddyrchafa genedl." Yn yr Etholiad hwn profodd Cymru ei hun yn ffyddlon i'w hegwyddorion. Ni ddanfonodd ond dau Geidwadwr i'r Senedd, sef, Syr Watkin Wynn ac Arglwydd Emlyn; a mawr oedd y difyrwch ar y pryd pan ddywedid y gallent fyned i fyny gyda'u gilydd i Lundain mewn un cerbyd, a phe buasid wedi dod ag ymgeisydd arall yn Sir Gaerfyrddin, yn ol pob tebyg, buasai deurod yn ddigon i'r pwrpas. Hawdd credu fod hyn yn llonder mawr i Mr. Richard, yr hwn a fu mor ffyddlon yn cymhell y Cymry i lynnu wrth eu hegwyddorion fel Ymneillduwyr, ac yn arbennig hefyd am ei fod yn edrych ar yr Etholiad hwn fel condemniad ei gydwladwyr ar wladweiniaeth dramor Arglwydd Beaconsfield.

"Y cwestiwn, a'r unig gwestiwn," meddai Mr. Richard, mewn erthygl a ysgrifennodd ar yr achlysur, mewn effaith ydoedd hwn,—'A ydym ni i gael gwladweiniaeth dramor ryfelgar ynte un heddychol?' Trwy gydsyniad cyffredin yr oedd pob cwestiwn arall wedi ei roddi i fesur o'r naill du a'i ohirio. Yn ffodus y mae yr ateb wedi bod yn glir, yn benderfynnol, a digamsyniol, ac y mae hyn i mi yn destyn llawenydd dwfn a didwyll."

Llawenychai yn fawr hefyd fod dros gant o'r mwyafrif yn Anghydffurfwyr.

Ysgrifennodd Mr. Richard lythyr maith i'r Daily News, ar y 27ain o Ebrill, yn taflu golwg dros yr Etholiad hwn. Heblaw nodi y ffaith fod yr Etholiad yn dangos fod Cymru yn genedl o Anghydffurfwyr, ac yn cashau rhyfel, cyfeiriodd at y cyhuddiad a wnaed gan Arglwydd Penrhyn fod y Cymry wedi torri eu haddunedau fel etholwyr. Nid oedd yn credu fod llawer o sail i'r cyhuddiad, ond gwasgai adref yr ystyriaeth, ai nid oedd y cyhuddiad, os oedd yn wir, yn dangos mai cenedl o. Ryddfrydwyr oedd y Cymry, ac o ganlyniad, nad oeddent yn ffafriol i'r Toriaid? Gwnaeth sylwadau tarawiadol iawn hefyd ar y cyhuddiad fod y Gweinidogion Ymneillduol wedi arfer eu dylanwad; a gofynnai, yn enw pob rheswm, pam na chaent wneud hynny cystal a'r clerigwyr. Yr oedd eu dylanwad yn un moesol, ac o ganlyniad yn un iachus a gonest. Nid oedd y mawrion yn deall iaith y bobl, ac ni wyddent fawr am eu gwir syniadau. Dylasai y ffaith fod 26 o'r cyfnodolion yng Nghymru yn rhai Rhyddfrydig ac Anghydffurfiol ddysgu gwers i'r pendefigion hyn.

Traddododd Mr. Richard hefyd rai areithiau grymus yn yr Etholiad hwn. Mae yr un a draddododd yn Neuadd tref Llanidloes, yn yr hon y mae yn cymharu Gweinyddiaeth flaenorol Mr. Gladstone a Gweinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield a'i dilynodd, yn un o'r rhai mwyaf effeithiol o'i eiddo; ac y mae ei gondemniad o spirited foreign policy yr olaf, yn dangos fod Mr. Richard yn feistr perffaith ar holl helyntion tramor y Weinyddiaeth honno. Yr oedd yn diolch i Dduw, yn onest, meddai, fod dyddiau y fath Weinyddiaeth wedi terfynnu. Yr oedd y diweddar Barch. Thomas Evans, wrth gyflwyno diolchgarwch i Mr. Richard am ei araeth ragorol, yn ei alw "yr areithiwr aurennau hwnnw, John Bright Cymru, sef, Mr. Henry Richard."

Disgwylid llawer oddiwrth y Senedd newydd. Temlai Cymru ei bod wedi ennill ei rhyddid cenedlaethol, ac y gallai bellach ymddiried yn llwyr i ddiogelwch y tugel. Yna mis Mehefin, cynhaliwyd cyfarfod mawr o Gymry yn y Palas Grisial, i ddathlu yr amgylchiad. Dywedir fod tua 4,000 o bobl yn bresennol. Yr oedd cerbydau rhad yn rhedeg i'r brif ddinas o wahanol barthau y Dywysogaeth. Siaradodd Mr. Richard yn y cyfarfod yn y ddwy iaith. Yn ystod y cyfarfod daeth Mrs. Gladstone a'i merch, a'i mab, Herbert, i mewn, ac aethant ar y llwyfan.

Danfonodd y Frenhines am Arglwydd Hartington i geisio ffurfìo Gweinyddiaeth, ac wedi hynny am Arglwydd Granville, ond nid oedd y naill na'r llall yn barod i ymgymeryd â'r gorchwyl. Gwyddent mai Mr. Gladstone oedd yr unig un a fyddai gymeradwy gan y Senedd a'r wlad, beth bynnag oedd teimlad ei Mawrhydi ei hun. Fel y gwyddis, bu raid danfon am "yr hen ŵr ardderchog," ac, ar ol llawer o drafferth, ffurfiodd Weinyddiaeth. Ymysg Aelodau y Cyfrin-Gyngor yr oedd y fath Ryddfrydwyr pendant a Mr. John Bright a Mr. Joseph Chamberlain. Y mae yn syn meddwl yn awr fod gwrthwynebiad mawr, gan rai o'r gwŷr mwyaf cymhedrol, i Mr. Chamberlain, am ei fod yn rhy Radicalaidd!

Gan fod Syr G. Osborne Morgan yn un o Aelodau y Weinyddiaeth newydd, ni fu yn hir cyn dwyn cwestiwn y Mesur Claddu i sylw, ac fe wyddis y bu Mr. Richard yn gynhorthwy mawr yn yr achos hwn. Cariwyd ef, ym mis Awst, trwy fwyafrif o 258 yn erbyn 79. Ceisiwyd llurgynio y Mesur yn y Tŷ Uchaf, ac anafwyd rhyw gymaint arno, ond pasiodd o'r diwedd. Nid oes eisieu dweud fod Mr. Richard wedi cymeryd rhan bwysig yn y dadleuon ar y cwestiwn hwn. Gwnaeth ymdrechion egniol hefyd i gael gwelliant yn Neddf y Claddfeydd Cyffredin, ac ymladdodd lawer i'w chael yn fwy cydweddol â dymuniadau Anghydffurfwyr, ond yr oedd y rhwystrau ar y pryd yn anorfod. Yr oedd Mr. Richard yn ffyddlon yn presenoli ei hun yn y Senedd, ac yn barod i wasanaeth bob amser y gelwid arno. Siaradodd yn gryf yn erbyn y mesur i gymeryd Cyfrif o Grefydd y bobl yn 1881, ac o blaid Mesur Cau y Tafarnau ar y Saboth. Wrth siarad ar y blaenaf, rhoes gystwyad i Mr. Beresford Hope a ddylasai fod yn wers iddo. Ar yr un pryd yr oedd gorchwylion Mr. Richard mor lluosog, ynglŷn â'r materion hynny yr edrychai arnynt yn brif waith ei fywyd, fel nad oedd am esgeuluso y rhai hynny i wrando ar bob math o siaradach, hyd yn oed yn y Senedd.

(1880) Ar y 15fed o Fehefin, cafodd gyfleustra i ddwyn o flaen y Tŷ gwestiwn ag oedd yn agos iawn at ei galon, ac un y bu efe, a phleidwyr Heddwch, yn gwneud darpariadau lawer ar ei gyfer. Cynhygiodd y penderfyniad pwysig canlynol,—"Fod anerchiad gostyngedig yn cael ei gyflwyno i'w Mawrhydi yn erfyn arni weled yn dda, yn rasol, i orchymyn i'w Phrif Ysgrifennydd Tramor i ymohebu â Galluoedd ereill i'r diben o gydleihau arfau milwrol yn Ewrob." Yr oedd yr araeth a draddododd ar yr achlysur hwn yn un o'r rhai mwyaf hapus, a chafodd wrandawiad astud a pharchus. Nis gallwn ond nodi ei sylwedd. Ar ol rhai sylwadau rhagarweiniol, dywedai mai nid y tir y safai arno oedd tir "heddwch am unrhyw bris," ond tir ag y gallai amddiffynnydd mwyaf aiddgar rhyfel sefyll arno. Gosodai i lawr, yn gyntaf, y ffaith fod arfau milwrol Ewrob ar y pryd yn arswydus o fawr a chostus, mor fawr fel y gellid tybied mai gwir atebiad i'r cwestiwn yn y Catecism,—"Beth yw prif ddiben creadigaeth dyn?" ddylasai fod, "Paratoi i ymladd." Olrheiniodd ddechreuad a chynnydd byddinoedd sefydlog, a'r modd yr oeddent yn cael eu chwanegu bob amser ar ol rhyfeloedd, a bod y pryd hwnnw tua 12,000,000 o wŷr yn cael eu hyfforddi yn Ewrob yn y gelfyddyd o ymladd, a bod tua 4,000,000 yn barhaus o dan arfau, a'r gost tua 500,000,000 o bunnau yn y flwyddyn. Danghosodd fel yr oedd y fath swm yn tlodi gwledydd, nid yn unig oherwydd yr arian a werid, ond hefyd y golled trwy fod cynnifer yn cael eu troi oddiwrth lafur enillgar. Difawyr oedd milwyr, ond nid cynyrchwyr. Y cwestiwn pwysig i'w ofyn ydoedd,—"A oedd y gwŷr arfog hyn yn diogelu heddwch gwledydd?" oblegid dyna a ddywedid oedd eu hamcan. I'r gwrthwyneb, yn ystod yr ugain mlynedd blaenorol yr oeddid wedi gwario y swm enfawr o 3,000,000,000 o bunnau ar ryfeloedd. Taflodd olwg dros brif wledydd Ewrob, a danghosodd, trwy ffigyrau diwrthbrawf, fel yr oeddent yn tlodi y teyrnasoedd hynny, ac yn eu gwasgu i'r llawr; ac yna daeth at y cwestiwn mawr, pwysig,—Ai nid oedd modd gwneud dim i roddi atalfa ar y gyfundrefn ffol hon. Dygodd dystiolaethau rhai o brif wladweinwyr y byd fod yn bryd gwneud rhywbeth yn y cyfeiriad hwnnw, neb amgen nag Arglwydd Derby, Mr. Gladstone, Mr. Bright, Syr Robert Peel, Arglwydd Beaconsfield, Duc Wellington, ie, a'r Times hefyd, yr hwn a ysgrifennai,—"Os pery pethau fel hyn, bydd yn warth i wladweinwyr Ewrob; ar eu hysgwyddau hwy y bydd y cyfrifoldeb yn gorffwys." Danghosodd hefyd fel yr oedd Seneddau, a phrif wyr y Cyfandir, y rhai y cyfarfu efe â hwynt, wedi datgan cymeradwyaeth i'r amcan hwn. Nid oedd heb wybod fod anhawsterau lawer i gario y peth allan, ond gofynnai, gyda phwyslais arbennig, os oedd gwladweinwyr Ewrob wedi gallu ychwanegu at eu harfau milwrol mewn ffordd o gydymgais, paham nad allent eu lleihau yn yr un modd. Wrth derfynnu, apeliodd at Mr. Gladstone, mewn geiriau hyawdl a theimladwy, i gymeryd y mater i ystyriaeth. Yr oedd wedi ennill llawer llawryf yn ei oes; ond os ymaflai yn y cwestiwn hwn o ddifrif, nid oedd un llawryf mwy gwyrdd a allai amgylchu ei dalcen na'r un a enillai trwy ddwyn y cenhedloedd i gydymgais i ostwng eu harfau milwrol.

Yr oedd yn amlwg fod yr araeth argyhoeddiadol hon wedi effeithio ar ddeall a theimlad Mr. Gladstone, oblegid pan gododd i siarad, ar ol i ereill gymeryd rhan yn y ddadl, danghosodd ei fod mewn llawn gydymdeimlad ag egwyddor araeth Mr. Richard; ni wadodd un o'i ffeithiau, yn hytrach gwnaeth rai o honynt yn gryfach. Ond, ar y cyfan, nid oedd yn barnu yn ddoeth pasio penderfyniad nad oedd y Tŷ yn barod i'w gario allan yn ymarferol. Yn y cyfwng hwn petrusai Mr. Richard ai doeth oedd rhannu y Tŷ, gan ei fod wedi cael araeth mor gefnogol gan y Prif Weinidog. Tra yn petruso fel hyn, galwodd Mr. Bright arno i ddod ato, a dywedodd yn ddistaw wrtho os boddlonai i newid rhyw gymaint ar ei gynhygiad ei fod yn credu y caniatai Mr. Gladstone iddo basio. Felly bu. Pasiodd y Tŷ, yn unfrydol, y cynhygiad canlynol,—"Fod y Tŷ hwn o'r farn mai dyledswydd Llywodraeth ei Mawrhydi ar bob achlysur, pan fyddai amgylchiadau yn caniatau, oedd cynghori llywodraethau tramor i leihau eu harfau milwrol." Er nad oedd cyfeillion Heddwch yn ystyried eu bod wedi cael eu hamcan, credent fod cam pwysig wedi ei gymeryd yng nghyfeiriad eu hegwyddorion. Ystyriai rhai o bapurau mwyaf dylanwadol y deyrnas fod Mr. Richard wedi gwneud gwaith mawr a phwysig. Dyna oedd llais y Daily News, y Daily Chronicle, a phapurau ereill; ond, wrth gwrs, yr oedd rhai o wŷr hunan-dybus y Wasg, fel arferol, yn gwawdio.

(1881) Ar y 29ain o Ebrill, 1881, dygodd Mr. Richard gwestiwn arall pwysig iawn o flaen y Ty, sef y modd yr oedd ein llyngeswyr, a'n cynrychiolwyr mewn parthau pellenig o'r byd, yn cweryla â gwledydd barbaraidd, ac yn ymosod arnynt, ac weithiau yn achosi rhyfel rhwng y wlad hon a'r gwledydd hynny, heb fod y Llywodraeth gartref wedi rhoddi un math o awdurdod iddynt. Traddododd araeth faith ar yr achlysur, a dygodd brofion allan o'r "Llyfrau Gleision" a osodid o flaen y Ty, y rhai, y mae lle i ofni, nad oes ond ychydig yn eu darllen, ag oedd yn peri syndod cyffredinol. Yr oedd yn amlwg fod yr araeth hon hefyd wedi ennill llawer o gydymdeimlad Mr. Gladstone, oblegid ei eiriau cyntaf yn ei atebiad ydoedd y rhai hyn,—

"Mae y maes a agorwyd gan fy nghyfaill anrhydeddus, fel y mae wedi sylwi yn bur briodol, yn un eang iawn. Nid wyf wedi gwrando ar areithiau fy nghyfaill anrhydeddus ar faterion fel hyn, un amser, heb lawer iawn o gydymdeimlad â'r rhan fwyaf o'r syniadau y maent yn eu cyfleu, ac yn enwedig â'r amcan a'r pwrpas cyffredinol sydd ganddo mewn golwg. Yr amcanion hynny bob amser yw,—cyfiawnder, dyngarwch, a thynerwch."

Addefodd fod gan y Senedd, yn yr amser a fu, lawer iawn mwy i'w ddweud ar gwestiynau o ryfel nag oedd ganddi yn awr.[20] Collodd cynhygiad Mr. Richard, pa fodd bynnag, trwy fwyafrif o wyth, sef 64 yn erbyn 72. Yn y flwyddyn hon, cododd helynt yn y Transvaal Nid ydym am ddadleu yr helynt hwnnw yn y fan hon. Gwyddis yn dda fod llawer yn ceisio haeru na ddylasai Mr. Gladstone adferu anibyniaeth y Transvaal ar ol i ni unwaith gymeryd meddiant o honi; ie, er ein bod wedi gwneud hynny ar y dybiaeth fod y Boeriaid yn dymuno bod dan iau Prydain, ac ein bod wedi cael allan wedi hynny fod hynny yn gyfeiliornad dybryd. Ond nid dyna oedd barn Mr. Richard, nid dyna oedd barn Mr. Gladstone, na barn Mr. Chamberlain—nac ychwaith farn mwyafrif Tŷ y Cyffredin ar y pryd y dadleuwyd y cwestiwn. Mae Mr. Richard, mewn erthygl glir a galluog yn yr Herald of Peace, yn trin y cwestiwn, a dywed, pe buasai y Tŷ wedi ymddwyn yn wahanol i'r modd y darfu, y buasai yn teimlo yn anobeithiol am ei wlad.

"Yn ol ein barn ni," meddai, "ni chyflawnwyd gweithred fwy ardderchog gan unrhyw Lywodraeth na'r un a gyflawnodd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone yn yr achos hwn. . . . un peth oedd derbyn llywodraeth gwlad o ddwylaw rhai oedd yn awyddus i'w rhoi i fyny, ond peth arall oedd cymeryd meddiant o honi a'i chadw â llaw gadarn. . . . Oddiwrth yr hyn yr ydym wedi ei gael allan trwy ymchwiliad, yr ydym yn credu fod ein gwaith yn cysylltu y Transvaal wrth ein Hymherodraeth ni, yn weithred o drawsfeddiant o'r natur fwyaf digywilydd ac anghyfiawn a ellir ei gael yn hanes y byd. Pe buasem wedi apelio at deimladau rhyfelgar y wlad hon, ac wedi penderfynnu cadw meddiant o'r Transvaal trwy ein nerth milwrol, mae yn ddiameu y buasem yn y diwedd wedi gorchfygu y Boeriaid; ond buasem am flynyddoedd, os nad am genedlaethau, wedi gorfod eu dal tanodd trwy nerth milwrol. Pan feddyliom ei fod wedi ei brofi wedi hynny fod 6,591 yn erbyn 587 wedi pleidleisio, er gwaethaf bygythiadau, o blaid anibyniaeth, nid rhyfedd fod Mr. Gladstone wedi dweud yn y Tŷ fod anrhydedd Prydain yn galw am i ni adferu iddynt eu hanibyniaeth heb ychwaneg o dywallt gwaed, ac wedi cyhoeddi dymuniad cryf i fyw yn heddychol â phobl ddewr, y rhai a brofasant eu hunain yn deilwng o fod yn arloeswyr ffordd gwareiddiad yn erbyn gormesdeyrniaid Affrica." Hawdd canfod oddiwrth y geiriau hyn fod Mr. Richard yn mawr gymeradwyo yr hyn a wnaeth Mr. Gladstone y pryd hwn, a'i fod ynhell o edrych arno yn un o gamgymeriadau mwyaf oes y gŵr mawr hwnnw, fel dadleuir gan lawer yn y dyddiau hyn.

Yn Hydref, 1881, cyflwynwyd anerchiad i Mr. Richard gan Gymdeithas Heddwch Leicester. Yn y cyfarfod gwnaeth gyfeiriadau dyddorol iawn at waith mawr ei fywyd, sef "ceisio parhau adsain anthem yr angylion,—'ar y ddaear tangnefedd, ac i ddynion ewyllys da." Yr oedd, meddai, wedi bod am 34 mlynedd a mwy, yn ceisio cario y genhadwri honno i bob parth bron o Loegr, Cymru, Ysgotland, a'r Iwerddon, ac yr oedd wedi talu cynnifer a 30 o ymeliadau a'r Cyfandir, a thrwy gyfarfodydd a chynhadleddau, wedi gwneud a allai i ddal i fyny adsain yr anthem ogoneddus honno.

Yn Eisteddfod Merthyr, yn 1881, cawn Mr. Richard yn llywyddu yn y prif gyfarfod. Cyflwynwyd anerchiad iddo yn nodi y gwahanol ffyrdd yr oedd wedi gwasanaethu ei genedl, ac yn ystod ei atebiad—yng Nghymraeg —dywedodd, er ei fod wedi bod am hanner can mlynedd yn Lloegr, nad oedd wedi anghofio Cymru; a phan aeth i Lundain gyntaf ei fod wedi penderfynnu tri pheth, sef nad anghofiai iaith ei wlad, nad anwybyddai bobl a sefydliadau ei wlad, ac y defnyddiai bob cyfleustra a gaffai i amddiffyn cymeriad a buddiannau ei wlad. Mae holl fywyd Mr. Richard ar ol hynny yn dangos gyda'r fath lwyredd y cadwodd at y penderfyniadau hyn. Pan oedd y gweithfeydd wedi sefyll yn ardaloedd Merthyr, gwnaeth Mr. Richard bob ymdrech i godi cronfa er cynorthwyo y gweithwyr, a chasglwyd yn agos i 5,000p., a threuliodd ddyddiau lawer yn y gymdogaeth er mwyn cael allan wir

sefyllfa pethau.

PENNOD XV

Mr. Richard yn Aelod o'r Departmental Committee ar Addysg yng Nghymru—Erthygl Esgob Llandaff ac atebiad Mr. Richard—Ei Araeth yn y Senedd ar Achos Borneo.

(1880) Yn y flwyddyn 1880, darfu i Arglwydd Spencer wahodd Mr. Richard i fod yn aelod o'r Departmental Committee neu Ddirprwyaeth i chwilio i mewn i achos Addysg yng Nghymru. Arglwydd Aberdare oedd cadeirydd y pwyllgor, ac Arglwydd Emlyn, Proffeswr Rhys, Mr. Lewis Norris, a'r Canon Robinson o York oedd y lleill. Yr oedd yn beth newydd ar y ddaear, ebe y Parch. Daniel Rowlands, M.A., yn y Traethodydd am 1888, fod y fath bwyll-gor yn cael ei benodi i edrych i mewn i sefyllfa Addysg Ganolraddol ac Uwchraddol yng Nghymru, ac y mae yn ddiameu na fu Prif Weinidog erioed yn y deyrnas, oddieithr Mr. Gladstone, ag y buasai y fath benodiad o dan ei lywodraeth yn bosibl. Yr oedd hefyd yn un o'r pethau rhyfeddaf gweled y fath wr a Mr. Richard yn cael ei benodi ar y fath bwyllgor. Nid, bid sicr, am ei fod yn ddifater am addysg, ac yn enwedig am addysg i Gymru; yr ydoedd hynny trwy ei oes wedi bod yn agos iawn at ei galon, fel y danghosai ei ymdrechion o blaid addysg elfennol, a thrachefn am flynyddoedd ynglŷn â Choleg Aberystwyth; ond y rhyfeddod oedd fod unrhyw lywodraeth Seisnig wedi gallu synied fod Ymneillduwr, ac Ymneillduwr Cymreig, yn meddu cymhwyster i osod ynddo unrhyw ymddiried o'r fath, Yr oedd ei benodiad iddo ef ei hunan hefyd yn destyn pryder, er i'r peth droi allan yn well na'i ofnau. "Pan wahoddwyd fi," meddai, mewn cynhadledd yng Ngwrecsam, "gan Arglwydd Spencer i ffurfio rhan o'r pwyllgor, yr oeddwn mewn cryn bryder am mai fi, y pryd hwnnw, oedd yr unig Ymneillduwr arno. O leiaf, nid wyf yn siwr o fy nghyfaill, y Proffeswr Rhys. Bu efe unwaith yn Ymneillduwr, ond mae yn Broffeswr yn Rhydychain yn awr, ac y mae arnaf ofn na allwn edrych arno ef, ar tir goreu ond yn unig yn amhleidiol." Ond cydnabyddai yn rhwydd iddo gael ei gyd-aelodau ar y pwyllgor yn foneddigion perffaith, a bod eu hargymhelliadau yn y diwedd yn dangos eu bod yn credu y rhaid i unrhyw gynllun addysgawl i Gymru, i fod yn llwyddiannus, fod mewn cysondeb a golygiadau corff mawr y bobl, ac i'r bobl gael bod yn ddehonglwyr eu teimladau eu hunain. Parhaodd yr Ymofyniad hwnnw o Hydref, 1880, hyd Gorffennaf, 1881. Cynhaliodd 50 o gyfarfodydd yng ngwahanol rannau Cymru, o Gaergybi ym Môn i Gasnewydd ym Mynwy; arholwyd 275 o dystion, o arglwyddi ac esgobion i lawr i weithwyr; a gofynwyd tuag ugain mil o gwestiynau. Yr oedd corff mawr y tystiolaethau y fath fel ag i lwyr argyhoeddi yr holl aelodau, a pheri iddynt gytuno ar Adroddiad ag y teimlid ei fod yn berffaith deg i genedl y Cymry, pa mor siomedig bynnag y gallai fod i'r rhai a ddalient eu gafael mewn breintiau a fwynhaent ar draul y genedl, ond i'r rhai nad oedd ganddynt unrhyw hawl. Yr oedd Mr. Richard yn gwybod yn dda pa fodd i ofyn cwestiynau a ddygent yr holl sefyllfa yn glir a diamheuol o flaen y pwyllgor, a theimlai aml un o'r rhai nad oedd rhyw lawer o gymhwyster yn ei ffeithiau i ddal goleuni dydd, fod ei ddwylaw arno yn anghyfleus o drymion, Cyn dechreu ar waith mawr y Pwyllgor Addysg, aeth Mr. Richard gyda Mrs. Richard a Mr. a Mrs. Bishop ar daith i Switzerland, er mwyn cyfnerthiad i'w iechyd. Er ei fod, bellach, tua deng mlwydd a thriugain oed, nid oedd yn segura, hyd yn oed pan ar ei wyliau oddicartref. Ysgrifennai lythyrau, erthyglau ar wahanol faterion, ac astudiai y "Llyfrau Gleision" er mwyn ymgymhwyso at waith mwy yn y dyfodol. Ymawyddai i wasanaethu ei ddydd a'i genhedlaeth, gan deimlo fod y nos yn dynesu, "pan na ddichon neb weithio." Yr oedd ei orffwys ef, ebe un cyfaill, yn gymaint a llafurwaith dynion cyffredin. Byddai yn syndod i lawer pe gallem groniclo yr holl waith yr oedd yn gallu ei gyflawni tua'r adeg yma ar ei fywyd. Teimlai yn ddwys wrth weled y naill gyfaill ar ol y llall fu yn ymladd ochr yn ochr âg ef mewn brwydrau celyd o blaid rhyddid crefyddol a heddwch yn syrthio ymaith. Ymysg y cyfryw yr oedd Elihu Burritt, yr hwn fu yn cydlafurio âg ef yn y Cynhadleddau Heddwch ar y Cyfandir gynifer o weithiau. Un arall oedd ei hen gyfaill mynwesol, Edward Miall, yr hwn a safai wrth ei ochr yn ymladd o blaid egwyddorion Ymneillduaeth yn, ac allan o'r Senedd. Traddododd Mr. Richard anerchiad llawn o deimlad dwys, mewn iaith brydferth, ar ei angladd. Un arall oedd Syr Hugh Owen, enw yr hwn sydd yn perarogli mor esmwyth ymysg cymwynaswyr Cymru; ac un arall oedd gweinidog yr eglwys yr oedd Mr. Richard yn aelod o honi, sef Dr. Raleigh o Kensington.

(1882) Yn 1882, ymddanghosodd erthygl yn y Church Quarterly Review gan Dr. Ollivant, Esgob Llandaff. Math o ymosodiad oedd erthygl yr esgob ar Mr. Richard yn bersonol am yr hyn a wnaeth ar y Departmental Conmittee. Atebwyd yr erthygl gan Mr. Richard yn y British Quarterly Review; a chan fod yr erthygl hon yn rhoi syniad i ni am y gwaith pwysig a gyflawnodd ar y pwyllgor, y mae yn werth gwneud talfyriad o honi. Cawn ynddi amddiffyniad Mr. Richard ei hun yn erbyn cyhuddiadau yr esgob, a dengys i ni mor gryf oedd y rhagfarnau y gorfu iddo weithio yn eu herbyn.

Dechreua trwy ddweud fod boneddwr yn perthyn i Goleg yng Nghymru wedi ysgrifennu unwaith at Aelod Seneddol i ofyn a oedd dim modd cael casgliad cyflawn o bapurau Seneddol yn dwyn perthynas a Chymru. Yr atebiad oedd, nad oedd dim papurau o'r fath mewn bod. Ni fyddai dim anhawster i gael digon o bapurau mewn perthynas i'r Iwerddon, Afghanistan, neu Twrci, Affrica Ddeheuol, neu Syria, neu lle bynnag y bu terfysg neu wrthryfel. Dywedir mai dedwydd yw y wlad nad oes iddi hanes; ond yr oedd hynny ar y dybiaeth nad oedd gan hanes ddim i'w wneud ond â rhyfeloedd. Er fod Cymru yn amddifad o'r pethau hyn, yr oedd ganddi ei hanes er hynny. Yr oedd am ganrif a hanner wedi bod yn ymddatblygu yn ddistaw mewn amgylchiadau allanol ac mewn cynnydd meddyliol. Gwnaeth gynnydd mawr mewn addysg; yn ei hysgolion Sabothol—y rhai perffeithiaf mewn unrhyw wlad—ac yn ei hysgolion dyddiol. Yn ystod y 30 mlynedd blaenorol yr oedd wedi gwario dim llai na 150,000p ar ysgolion a cholegau. Yr oedd hefyd wedi ychwanegu at ei llenyddiaeth yn ddirfawr. Yn ol cyfartaledd y boblogaeth, dengys Mr. Richard, trwy ystadegau, fod gan Gymru fwy o gymaint arall o gyfnodolion na Lloegr, un a hanner mwy nag Ysgotland, a chymaint bedair gwaith a'r Iwerddon. Ac allan o'r 32 o gyfnodolion Cymreig, nid oedd gan yr Eglwys Sefydledig ond 4.

Ond o'r diwedd cafodd Cymru "Lyfr Glas" yn cynnwys mwy na mil o dudalennau yn gyfangwbl iddi ei hunan ar sefyllfa addysg uwchraddol yng Nghymru. Ar ol galw sylw at gyfansoddiad y pwyllgor, a'r ffaith, fel y sylwyd, nad oedd ond un Ymneillduwr arno, dywed nad oedd neb a fedrai gyhuddo y pwyllgor o fod yn rhy bleidiol i Ymneillduaeth. Os oedd lle i gwyno hefyd, fel arall yr oedd yn hollol. Gwnaeth y pwyllgor ei waith, pa fodd bynnag, a derbyniwyd ei Adroddiad gan y Senedd a'r wlad yn dra ffafriol. Derbyniwyd ef hefyd gyda chymeradwyaeth gan y Dywysogaeth. Yr unig eithriad ydyw rhyw ddosbarth o glerigwyr, y rhai a flinid yn fawr oherwydd presenoldeb Anghydffurfiwr[21] ar y pwyllgor. Mae teimladau y cyfryw wedi eu datgan yn y Church Quarterly Review mewn modd tra hynod, ond nid mewn modd tra chrefyddol. Rhaid i ni esbonio tipyn ar gwynion y bobl, druain, erlidiedig hyn. Mae'n ymddangos fod Mr. Richard wedi ymgymeryd a'i waith ar y pwyllgor ar yr egwyddor fod y Cynllun Addysg a gynhygid i Gymru i fod, nid yn unig yn un effeithiol, ond yn un a gymeradwyid gan Gymru. Hyd yn hyn yr oedd yr Ysgolion Gwaddoledig bron i gyd wedi syrthio i ddwylaw yr Eglwyswyr. Er bod 35,000 allan o 49,000 poblogaeth Sir Fôn yn Ymneillduwyr, nid oedd un Ymneillduwr ar Ysgol Waddoledig Beaumaris. Nid oedd modd y byddai yr Ymneillduwyr yn foddlawn, ac y mae Adroddiad y Pwyllgor wedi profi hynny. Danghosai tystion lawer fod yr Eglwyswyr wedi gwneud ymdrechion i broselytio y plant ir Eglwys, lle yr oedd "athrawiaethau amryw a dieithr" wedi eu dwyn i mewn. Yn awr y, gwyn yn erbyn Mr. Richard ydyw ei fod wedi gofyn cwestiynau i'r tystion o flaen y Pwyllgor ag oedd yn dwyn y ffeithiau anghysurus hyn i'r amlwg. Ond pa fodd y gallai lai, heb fod yn anffyddlon i'w ymddiriedaeth? Beth oedd y ffeithiau a ddygwyd i'r golwg? Cafwyd fod 15,700 o fechgyn yng Nghymru a Mynwy eisieu Addysg Uwchraddol. Ar eu cyfer yr oedd 27 Ysgolion Gwaddoledig gyda gwaddol o 12,788p.; nad oedd ond 1,540 o fechgyn yn yr ysgolion hyn; bod dwy ran o dair o'r rhai hynny yn blant Eglwyswyr; a bod plant Anghydffurfwyr yn cael eu danfon i ysgolion ymhell, ar gost fawr, yn hytrach na'u bod yn cael eu danfon i'r Ysgolion Gwaddoledig yn eu cymdogaeth eu hunain. Onid oedd ffeithiau fel hyn o bwys mawr, ac onid oedd Mr. Richard yn gwneud gwasanaeth mawr wrth eu dwyn i'r amlwg? Yn wir, yr oedd cyfarfodydd wedi eu cynnal yng Nghymru i ofyn ar fod sylw yn cael ei alw at y ffeithiau hyn.

Ond yr oedd rhai clerigwyr yn honni nad oedd un lle i gwyno oherwydd fod Ymneillduwyr yn gorfod danfon eu plant fel hyn i Ysgolion Eglwysig. Gan nad oedd yr esgid yn gwasgu eu traed hwy, nid oedd yn gwasgu o gwbl. Nid oeddent hwy, medd y clerigwyr hyn, wedi clywed neb yn cwyno! Yr oeddent mor ffol a thybied mai atynt hwy yr aethai yr Ymneillduwyr i ddweud eu cwynion! Yr oedd Mr. Richard wedi meiddio gofyn i rai o'r tystion Eglwysig hyn sut y buasent hwy yn teimlo pe gorfodasid hwy i ddanfon eu plant i Ysgolion Ymneillduol? Wrth gwrs, yr oedd hwn yn gwestiwn anhyfryd iawn oddiwrth aelod o'r Pwyllgor ei hunan.

Ond yr oedd Mr. Richard wedi digio yr Adolygydd yn y Church Quarterly Review mewn dau beth arall. Un ydoedd ei fod wedi pleidio fod addysg grefyddol yn yr ysgolion dan sylw i gael ei hymddiried yn gyfangwbl i rieni a dysgawdwyr crefyddol y plant, a hefyd bod y Cymry mor grefyddol fel nad oedd yn debyg yr esgeulusid y rhan hon o'u haddysg, gan eu bod, yn ystod y can mlynedd blaenorol, wedi codi 3,500 o gapelau, ac yn gwario tua 400,000p. yn y flwyddyn ynglŷn â hwynt. Yr oedd hyn yn blino yr adolygydd yn enbyd. Codwyd y capelau, meddai, oddiar gau ddibenion, yr oeddent mewn dyled fawr, nid oedd dylanwad yr Ysgolion Sabothol wedi bod yn iachus, ond, yn hytrach, wedi cynhyrchu marweidd-dra ysbrydol ac oferedd crefyddol. Mae Mr. Richard yn dangos y modd twyllodrus y mae yr adolygydd yn ceisio profi y gosodiadau hyn, sef pigo dywediadau dynion da, yma ac acw, am yr angenrheidrwydd oedd am lafurio yn fwy gydag achos dirwest a phurdeb. Ie, mwy. Yr oedd yr adolygydd yn ddigon haerllug i honni fod y drygau hyn y cwynid o'u herwydd yn ffrwyth Ymneillduaeth yn unig. Mae Mr. Richard yn dangos y modd yr oedd y gwŷr hyn yn duo cymeriad eu cydwladwyr, i'r diben o wasanaethu eu plaid, ac yna y mae yn amddiffyn cymeriad y Cymry yng ngwyneb y cyhuddiadau hyn gyda'i ddeheurwydd arferol. Dywed fod rhywbeth anwrol yn eu dull o bardduo eu cydgenedl fel hyn. Nid yng Nghymru y gwneid hyn; ac nid yn yr iaith Gymraeg, onide buan y mygid eu haeriadau gan atebion diwrtheb; ond gwneid y cyhuddiadau mewn papurau Seisnig, lle yr oedd y gwenwyn yn treiddio, a lle nad oedd yn bosibl i'r gwrthwenwyn gael dod i mewn.

Ar ol ateb y cyhuddiad mewn perthynas i ddyledion y capelau a phethau ereill, dengys mor ddisail ydoedd y cyhuddiad a wneid gan yr adolygydd am anghymedroldeb Cymru. Yr oedd yr adolygydd wedi cael rhyw un i gyfrif y nifer a fynychai dafarnau neilltuol yn Abertawe a Merthyr, ac yna yn eu lluosogi hwy â holl nifer y tafarndai, a thrwy hynny yn gwneud allan fod un o bob pump o drigolion swydd Morganwg yn mynychu tafarndai ar y Saboth! Treulir gweddill yr erthygl gampus hon i drin cwestiwn moesoldeb y Cymry yn gyffredinol, a therfyna trwy ddweud nad oedd dim yn fwy effeithiol i ddwysau a phrysuro y cri am ddatgysylltiad nag ymosodiadau tebyg i'r un yn y Church Quarterly Review.

Gwelwn oddiwrth yr erthygl rymus hon y fath fantais fawr ydoedd i Gymru fod gŵr o wybodaeth ac anibyniaeth Mr. Richard ar y Pwyllgor Addysg ac nad oedd efe byth yn esgeuluso un cyfleustra a gaffai i amddiffyn cymeriad ei wlad yng ngwyneb ymosodiadau, o ba gyfeiriad bynnag y deuent.

(1882) Ar y 17eg o Fawrth, 1882, traddododd Mr. Richard araeth yn Nhŷ y Cyffredin ar achos Borneo, ynys oedd tua 284,000 o filltiroedd ysgwar, yn Ynysfor India. Ymddengys fod y Sultan Brunei, Sultan Soloo, ac un Tumougong, wedi gwerthu eu taleithiau i un o'r enw Mr. Dent, ar ran Cwmni Masnachol, yn cynnwys yr oll o Ogleddbarth Borneo, talaeth fwy na'r Deyrnas Gyfunol, gan fod y Cwmni wedi ymrwymo talu y swm blynyddol o tua phum mil o bunnau am danynt. Cadarnhaodd Llywodraeth Prydain y Cytundeb. Yr oedd telerau y Cytundeb yn cyfreithloni cymeryd buddiannau a thiroedd ychwanegol trwy unrhyw foddion cyfreithlon. Yr oedd Mr Richard, a rhan fawr o'r wlad ag oedd wedi deall y cwestiwn, yn condemnio y Cytundeb hwn. Gwadai Mr. Richard hawl y llywiawdwyr hyn i werthu eu teyrnasoedd a'u poblogaeth fel hyn, fel pe gwerthid darn o dir, a datganai ei syndod fod y Llywodraeth yn cymeradwyo y peth heb ganiatad y Senedd. Galwai Mr. Richard sylw yn yr Herald of Peace at y ffaith fod Llywodraeth Prydain eisoes wedi danfon 150 o dunelli o offer rhyfel i'r Cwmpeini.

Yn ei araeth yn y Tŷ ar yr achos, dywedai ei fod yn ymddangos y gallai rhyw is-swyddog, neu y neb a fynnai, gymeryd meddiant o diriogaethau, a gosod y draul o'u cynnal ar gefn pobl Prydain. Honnid, mae'n wir, nad oedd Prydain yn rhwym o amddiffyn y Cwmpeini hwn, ond fel y byddai yn amddiffyn Prydeinwyr yn gyffredin. Y drwg, er hynny, oedd fod yr "ond" hwn yn cynnwys bron bopeth. Yr oedd y "Llyfrau Gleision" ar y mater ymhell o fod yn rhai hyfryd i'w darllen. Yr oedd Holland, ac Yspaen, a Lloegr yn ymgrabinio am gael meddiant o wlad nad oedd yn perthyn iddynt. Os na syrthiai y rhai hyn allan â'u gilydd, byddent yn siwr o syrthio allan â'r trigolion. Felly y bydd y Saeson bob amser yn gwneud. Fel rhai yn ennill trefedigaethau trwy orthrech nid oedd neb tebyg iddynt, ond fel llywodraethwyr da yr oeddent yn aflwyddiannus. Yn wir, yr oedd arwyddion o anghydfod posibl yn ymddangos eisoes. Wrth ysgrifennu o Labuan, Ionawr, 1878, dywedodd y Consul Cyffredinol, Treacher, os ceid llong gynnau, yn achlysurol, gan y wlad hon, na fyddai fawr o drafferth gyda'r brodorion. Nid oedd efe (Mr. Richard) yn credu mewn llywodraethu trwy longau arfog. [Yma, fe waeddodd Mr. Gladstone, "Clywch, clywch, ac eto y mae y cenhadon yn galw am danynt yn barhaus."] Atebodd Mr. Richard, "Wel, y mae yn wir ddrwg gennyf glywed fod cenhadon yn anghofio eu cymeriad fel gweision Tywysog Tangnefedd, ac yn gofyn am longau rhyfel." Aeth Mr. Richard ymlaen i ddangos nad oedd pobl Borneo, a drosglwyddwyd fel hyn, yn meddu un llais yn y peth. Gwyddent hanes Rajah Brooke. Cafodd yntau ran o Borneo, fel y Cwmni hwn, a chwerylodd â'r brodorion, a chafodd help llong rhyfel ag oedd gerllaw, heb ddim i'w wneud, a chymerodd un o'r cyflafannau mwyaf creulon le ag a groniclir mewn hanesyddiaeth, a thalasom ni 20,000p. i'r swyddogion a'r dynion am eu gwaith. Ond er gwaethaf datleniad Mr. Richard, gan fod y peth wedi ei wneud, cymeradwywyd y Freinlen i'r Cwmni trwy fwyafrif o 125 yn erbyn 62. Fel y dywedodd Mr. Richard lawer gwaith, anhawdd iawn ydyw cael gan y Llywodraeth gondemnio gweithredoedd ein milwyr neu ein llyngeswyr am unrhyw weithred ar ol eu cyflawni, yn enwedig os buont yn llwyddiannus. Y mae ein darllenwyr wedi sylwi ar gyfryngiad Mr. Gladstone yn yr araeth uchod. Mewn cysylltiad â hyn, y mae Mr. Richard, mewn erthygl olygyddol yn yr Herald of Peace (Ebrill 1, 1882), yn crybwyll ei fod wedi clywed fod cyfarwyddwyr un Bwrdd Cenhadol, ychydig cyn hynny, wedi danfon at Fwrdd Cenhadol arall i ofyn a wnaent ymuno â hwynt i ofyn i'r Llywodraeth am amddiffyniad milwrol iddynt yng nghyflawniad eu gwaith; ac y mae Mr. Richard yn datgan ei lawenydd fod y Bwrdd hwnnw wedi gomedd cydsynio. Gresyn fod unrhyw Gymdeithas Genhadol yn awyddus i ategu eu gwaith trwy nerth arfau "cnawdol." Nid fel hyn, yn ddiau, y bwrir cestyll paganiaeth i'r llawr. "A ydyw yn bosibl," gofynnai Mr. Richard, "fod y cyfryw rai wedi anghofio geiriau eu Meistr, pan y gofynnodd ei ddisgyblion anwybodus, ym mebyd eu haddysg Gristionogol, a gaent ddwyn tân o'r nefoedd ar y Samariaid am eu bod yn gwrthod derbyn, ac yn barod i erlid, eu Meistr, —Ni wyddoch o ba ysbryd yr ydych chwi. Canys ni ddaeth Mab y dyn i ddistrywio eneidiau dynion, ond i'w cadw.' Pa ryfedd fod anturiaethwyr masnachol mor barod i dywallt gwaed anwariaid pan y mae Cristionogion sydd yn proffesu ceisio

eu troi, mor barod i wneud yr un peth?"

PENNOD XVI

Yr helynt yn yr Aifft—Areithiau Mr. Richard yn y Senedd ar y cwestiwn—Ymddistwyddiad Mr. Bright—Ei araeth yn erbyn blwydd-dal Arglwydd Wolseley a'r Llyngesydd Seymour—Y rhyfel yn y Soudan—Araeth Mr. Richard arno—Yr ymgais i Waredu Gordon.


(1882) Yn y flwyddyn hon y cododd y cyffro yn yr Aifft, yr hwn a dynnodd sylw cyffredinol ar y pryd, ac a barodd y fath ganlyniadau alaethus ar ol hynny; a'r rhai, yn wir, sydd yn aros hyd y dydd hwn. Gwelodd Mr. Richard fod y cwmwl yn ymgrynhoi, a pharai bryder mawr iddo. Cododd yr helynt trwy fod pobl arianog yn Ffrainc a'r wlad hon wedi rhoddi benthyg arian ar log uchel i Ismael Pasha, yr hwn oedd yn talu treth flynyddol i Twrci, ac yn dal y teitl Khedive. Trwy ei fod yn wastraffus, suddodd i ddyled drom; methai dalu y llogau i'r gwŷr yr oedd yn eu dyled, a bu raid iddo werthu ei gyfrannau yng Nghamlas Suez am bedair miliwn o bunnau, y rhai a brynwyd gan y wlad hon o dan weinyddiaeth Arglwydd Beaconsfield. Ond gwaeth yr oedd pethau yn myned trwy'r cwbl, a danfonwyd un Mr. Cave, o'r wlad hon, i edrych i mewn i sefyllfa arianol y Khedive. Credai Mr. Cave nad oedd modd gwneud dim heb i ni gymeryd arnom gyfrifoldeb arianol pwysig; ac ym mis Mai, 1876, cyhoeddodd Ismael nas gallai dalu y llogau. Gallesid meddwl, ar ryw gyfrif, mai gwell fuasai gadael rhwng y gwŷr arianog a roddasant fenthyg eu harian ar logau mor fawr rhwng 12 a 263 y cant—a'u helynt. Ond yr oedd eu dylanwad yn rhy fawr, yn y ddwy wlad, i gael ei ddibrisio. Danfonwyd Mr. Rivers Wilson gan y wlad hon, ac wedi hynny Mr. Goschen, a M. Joubert ar ran Ffrainc, i gynrychioli y gwŷr arianog oeddent yn dal ysgrif-rwymau, sef y bond-holders. Y mae Mr. Richard, yn ei araeth yn y Senedd, yn 1882, yn galw sylw arbennig at y ffaith, pan benodwyd Mr. Rivers Wilson yn aelod o Gyfrin-Gyngor yr Aifft, fod Llywodraeth Prydain yn ymwrthod â phob cyfrifoldeb yn yr achos. Ni wnaeth ond rhoddi benthyg gwasanaeth Mr. Rivers Wilson, megys am ddwy flynedd, i geisio gwastad hau eu cyfrifon a diogelu taliad y llogau os gellid. Gwnaed ef yn Weinidog y Cyllid. Ar hyn, mynnodd Ffrainc gael cynrychiolydd hefyd ar y Cyfrin-Gyngor, a phenodwyd M. de Bligniers. Cododd anesmwythder ymysg y bobl, a diswyddodd y Khedive y ddau. Yna, newidiodd Arglwydd Salisbury sefyllfa pethau, a mynnodd ail osod Mr. Rivers Wilson yn ei swydd. Gomeddodd y Khedive gydsynio, a diorseddwyd ef, a phenodwyd Khedive arall gan Twrci, ar gais y ddwy Lywodraeth, sef ei nai—y Tywysog Tewfik. Yr oedd yn rhaid i hwnnw wneud yr hyn a orchymynnid iddo gan y ddau Allu. Dyma'r rheolaeth ddyblyg, y dual control y sonnid cymaint am dani ar y pryd. Parhaodd pethau yn dawel am ddwy flynedd, ac yr oedd presenoldeb y ddau reolwr hyn yn cael edrych arno fel sicrwydd y perchid y gyfraith. Ond siomwyd y disgwyliad. Ymddengys nad oedd y bobl yn hoffi ymyriad y tramoriaid hyn. Yn Chwefrol, 1881, torrodd gwrthryfel allan yn Cairo, o dan arweiniad Arabi, swyddog yn y fyddin Aifftaidd, a lledodd dros y wlad. Cododd y cri, "Yr Aifft i'r Aifftiaid, a dim ymyriad gan Alluoedd Tramor." Penderfynnodd Ffrainc a Lloegr ddal i fyny awdurdod y Khedive, ac ar yr esgus o amddiffyn bywyd ac eiddo Alexandria, danfonwyd yno ddwy o longau rhyfel; ond, ar gais Germani, meddir, gwrthododd Ffrainc fyned ymlaen. Yr oedd Mr. Richard yn teimlo yn bur ofidus oherwydd y cam hwn o eiddo y Weinyddiaeth, gan fod ei barch i Mr. Gladstone, y Prif Weinidog, yn fawr. Ac yr oedd yn teimlo hefyd oherwydd fod ei gyfaill, Mr. Bright, yn aelod o'r Weinyddiaeth. Pa fodd bynnag, pan benderfynnodd y Llywodraeth wneud ymosodiad ar Alexandria, rhoes Mr. Bright ei swydd i fyny. Yr oedd presenoldeb y llynges yn hytrach yn gwneud perygl yr Ewropeaid yn Alexandria yn fwy. Ar y 17eg o fis Mehefin, torrodd terfysg allan, llusgwyd Consul Cyffredinol Lloegr o'i gerbyd, a lladdwyd lluaws o Saeson ac o Ffrancod. Tân-belenwyd Alexandria ar yr 11eg o fis Gorffennaf gan lynges Prydain. Yr oedd llynges Ffrainc, fel y dywedwyd, wedi tynnu yn ol. Parhaodd yr ymosodiad am ddau ddiwrnod. Gadawodd Arabi yr amddiffynfeydd caerog, gan adael Alexandria yn nwylaw y bobl. Torrodd pob math o aflywodraeth allan, taflwyd drysau y carcharau yn agored, gosodwyd rhannau o'r ddinas ar dân, ac am ddeuddydd nid oedd dim ond difrod a dinistr yn cymeryd lle. Lladdwyd tua 2,000 o Ewropeaid.

Yr oedd ychydig o wýr dewr, fel Mr. Richard ac ereill, yn codi eu llef yn uchel yn erbyn y galanastra hwn. Ar yr 22ain o Awst, glaniodd Arglwydd Wolseley a chadfridogion ereill yn Port Said, gyda 40,000 o wŷr, ac ymladdwyd brwydrau Tel-el-Mahuta, Kassassin, a Tel-el. Kebir. Gorchfygwyd Arabi, a dihangodd i Cairo; ac, yn y diwedd, rhoes i fyny i'r Galluoedd Prydeinig.

Yr oedd Mr. Richard wedi cyhoeddi, rhai wythnosau cyn toriad y rhyfel allan, wrthdystiad yn erbyn gwario arian a thywallt gwaed pobl y wlad hon i sicrhau llogau ir bond-holders. Ceisiodd gan y Llywodraeth hefyd addaw peidio arfer gallu milwrol cyn rhoddi cyfleustra i'r Tŷ ddatgan ei farn, ond gomeddodd y Prif Weinidog rwymo ei hun. Pan ddaeth y newydd fod Alexandria wedi ei than-belennu, gofynnodd Mr. Richard ai nid oedd dealltwriaeth ymysg y Galluoedd oeddent yn cael eu cynrychioli yn y Gynhadledd yng Nghaercystenyn, na chymerid dim cam gan un Gallu tra yr oedd yr ymdrafodaethau yn myned ymlaen; ac ai nid oedd tan-beleniad Alexandria yn drosedd o'r ddealltwriaeth honno? Addefai Mr. Gladstone fod y cyfryw ddealltwriaeth yn bod, ond yn ddarostyngedig i eithriadau, a bod y tan-beleniad i gael edrych arno fel un o'r eithriadau hynny.

Yn ei araeth yn y Senedd ar y cwestiwn, datganai Mr. Richard ei ofid fod gwŷr fel Mr. Gladstone ac Arglwydd Granville wedi ein harwain i'r trybini hwn.

"Nid wyf," meddai, "wedi arfer defnyddio geiria, gweniaeth tuag at y boneddwr anrhydeddus sydd yn ben ar y Weinyddiaeth. Ni fuaswn yn ystyried fy hun yn ddigon pwysig i wneud hynny; ond yn awr, gan fy mod yn gwahaniaethu oddiwrtho, fe ganiateir i mi ddweud nad wyf yn ildio i neb yn fy edmygedd dirfawr o'i alluoedd dihafal, ac yn fy mharch dwfn i'w gymeriad. Y mae enwogrwydd a chymeriad gwŷr fel efe yn ffurfio rhan o etifeddiaeth gyffredin y blaid Ryddfrydig, ac, yn wir, y genedl yn gyffredinol, ac nid yr ofn lleiaf sydd yn fy meddiannu, yn awr, yw y bydd i'r digwyddiadau anffodus sydd wedi cymeryd lle daflu cysgod ar ddiwedd gyrfa mor enwog a disglaer. (Cym.) Nis gallaf bleidleisio dros yr arian yma; nid yw i mi ond gwerth gwaed, a chan nas gallaf, ond trwy bleidleisio yn erbyn, roi ar gof a chadw fy nghwrthdystiad yn erbyn y gweithredoedd hyn, rhai yr wyf yn gydwybodol yn credu sydd mor anoeth ag ydynt o ddrygionus, a'r rhai sydd yn agor o'n blaen ddyfodol llawn o bosibilrwydd bygythiol a pheryglus, yr wyf yn penderfynnu pleidleisio yn erbyn y cynhygiad pe byddai raid i ni gerdded i'r lobby fy hunan." (Cym.)

Y cynhygiad a wrthwynebai Mr. Richard gyda'r fath wroldeb oedd, fod y swm o 3,300,000p. i gael ei ganiatau i'w Mawrhydi i gryfhau ei galluoedd milwrol ym Môr y Canoldir, yn ychwanegol at y costau arferol.

Ond nid gwrthwynebu Mr. Gladstone oedd unig ofid Mr. Richard ar yr achlysur hwn. Gofidiai fod cynnifer o gyfeillion Heddwch wedi troi eu cefnau yn nydd y frwydr. Pe buasent wedi dilyn yr un cwrs ag y darfu ef ac ychydig ereill, mae lle i gredu y buasai y rhyfel hwnnw wedi ei osgoi, ac na fuasai yr holl helynt a ddilynodd, hyd ryfel y Soudan, wedi cymeryd lle. Pan roes Mr. Bright ei swydd i fyny, yr oedd yntau yn teimlo yn drist oherwydd gwahaniaethu oddiwrth ei gyfaill, Mr. Gladstone. Pan yn esponio, yn y Senedd, ei waith yn ymddiswyddo, dywedai,—

"Chwi ellwch ofyn paham na fuaswn yn gwneud hyn yn gynt. Y gwirionedd syml ydyw fy mharch dwfn i'm cyfaill gwir anrhydeddus, y Prif Weinidog, ac i'r rhai sydd yn eistedd gydag ef, a barodd i mi oedi hyd y funud olaf. ... Yr oeddwn yn anghytuno ar bwnc o egwyddor, a phe buaswn yn dal fy swydd, buasai raid i mi ymostwng yn ddistaw i gario allan fesurau yr oeddwn i fy hun yn eu condemnio yn hollol, neu buasai raid i mi fod mewn cweryl parhaus & fy nghyd-swyddogion. Gŵyr y Tŷ fy mod am 40 mlynedd wedi ceisio dysgu fy nghydwladwyr yn y syniad fod y ddeddf foesol yn rhwymedig ar genhedloedd fel ar bersonau. Yn yr achos hwn yr ydwyf yn credu fod y gyfraith foesol wedi ei throseddu, ac o ganlyniad nis gallwn i gydsynio. ... Nis gallaf wadu yr hyn y bum yn ei bregethu a'i ddysgu drwy fy holl oes boliticaidd. Gofynnais i'm barn bwyllog, ac i fy nghydwybod, pa gwrs y dylasyn ei gymeryd. Yr wyf yn meddwl eu bod wedi ei bwyntio allan i mi â bys di-gamgymeriad, ac yr wyf yn ceisio ei ddilyn."

Y mae yn deg hysbysu yma, hefyd, y dywed yr Herald of Peace (Ebrill, 1889, t.d. 205), fod Mr. Bright wedi cyfaddef wrth Mr. Richard fod ei araeth ef ar dan-beleniad Alexandria wedi prysuro ei ymddiswyddiad.[22]

Yr oedd llawer yn edrych ar wrthwynebiad Mr. Richard i'r hyn a wnaed yn yr Aifft yn ddim amgen na chanlyniad naturiol ei syniadau am ryfel yn gyffredinol. I wrthweithio hynny, dywedai ar ddechreu ei araeth yn y Senedd, nad felly yr ydoedd. Nid oedd efe erioed, meddai, wedi gwthio y syniadau hynny ar y Tŷ, oblegid yr oedd yn argyhoeddiadol mai nid diogel fyddai apelio at egwyddorion pur Cristionogaeth yn y fath le.

"Gallwn," meddai, "fod yn Gristionogion aiddgar, ie, gwaedwyllt, bron, yn y Tŷ hwn ar brydiau, yn enwedig pan y bydd yn dwyn perthynas â chydnabyddiaeth allanol a defodol o Gristionogaeth. Ond ni fyddai neb yn ddiogel rhag cael ei wawdio yma ped anturiai ddwyn ein gwladweiniaeth genedlaethol, ac yn neilltuol ein gwladweiniaeth dramor, i gael ei phrofi wrth safon egwyddorion moesoldeb pur Cristionogaeth." Gwers lem i Senedd Prydain, rhaid addef; ond ofnwn mai nid heb ei haeddu, nid yn unig yn y dyddiau hynny, ond yn arbennig yn y dyddiau hyn.

Edrychai Mr. Richard ar wrthryfel Arabi, nid fel yr edrychai Llywodraeth Mr. Gladstone arni, sef fel gwrthryfel milwrol, ond fel gwrthdystiad yr Aifftiaid yn erbyn ymyriad tramor â'u hachosion hwy. Ysgrifennodd erthyglau galluog ar y cwestiwn, seiliedig ar dystiolaethau eglur papurau swyddogol oedd yn cadarnhau ei olygiadau ef ar y gwrthryfel.

(1883) Cafodd Mr. Richard gyfleustra ar y 13eg o Ebrill, 1883, i ddweud ei farn ar un wedd ar Ryfel nad yw yn aml yn cael ei ddwyn i'r amlwg, a danghosodd wroldeb yn siarad mor gryf ag y gwnaeth arno o dan y fath amgylchiadau. Ar y dydd crybwylledig, cynhygiwyd yn y Tŷ fod y Llyngesydd Seymour, ac Arglwydd Wolseley, a'u holynwyr am ddwy genhedlaeth, i gael blwydd-dâl o 2,000p. Gwrth wynebwyd y cynhygiad gan Syr J. W. Pease, Dr. Illingworth, a Syr Wilfred Lawson. Traddododd Mr. Richard araeth gref ar yr achlysur. Nid oedd yn gwrthwynebu y cynhygiad ar y tir ei fod yn anghymeradwyo y rhyfel, oblegid nid oedd y ddau filwr a nodwyd yn gyfrifol am gyfiawnder y rhyfel; na, eu gwaith hwy oedd ymladd yn unig. Yng ngeiriau Syr Charles Napier unwaith, y "gyfraith a'r proffwydi, crefydd a moesoldeb," i'r milwr ydoedd y Llyfr Rheolau. Ond yr oedd yn bryd gofyn paham y telir y fath anrhydedd i'r dosbarth hwn o ddynion. Ai am ragoroldeb eu gwaith—y gwaith o ladd a dinistrio? Ai dyma'r gwaith oedd i gael ei gydnabod mewn modd mor arbennig gan wlad Gristionogol? Ai yn unig am eu bod wedi gwneud eu dyledswydd? Ai am fod eu gwaith yn un peryglus? Beth am y miloedd mwnwyr oedd yn peryglu eu bywyd bob dydd er ein mwyn? Nid oedd y dynion dewr hyn byth yn cael tlysau. Ai am fod y milwyr yn ychwanegu at ogoniant y wlad? Yn ol ei farn ef, yr oedd gwaith llawer o honynt yn ystod y deng mlynedd ar hugain blaenorol, yn lle bod yn ogoniant, wedi dwyn gwaradwydd arnom. Aeth Mr. Richard ymlaen i enwi rhes o engreifftiau, ac yn eu mysg, tan-beleniad Alexandria. Na; nid oedd efe yn chwennych y fath ogoniant i'w wlad, ac am hynny nid oedd am wobrwyo y rhai a gyflawnent y fath weithredoedd. Trueni mwyaf Ewrob oedd yr ysbryd milwrol. Yr oedd ynddi ddeuddeg miliwn o ddynion yn dwyn arfau. Creadur oedd dyn, yng ngolwg ein swyddogion milwrol, i gael ei ddysgu i ladd ei gyd-ddyn. Yr oedd yn llawn bryd i ddos barthiadau ereill godi i wrthdystio yn erbyn y gorfoli ar y dosbarth hwn Llywodraethau Ewrob oedd yn dysgu y bobl i ddibynnu ar allu anifeilaidd; ac eto, yr oeddent yn ofni iddo gael ei ddefnyddio pan godai y bobl hynny i hawlio eu hiawnderau. Nid oedd efe yn credu fod y gallu milwrol yn feddyginiaeth rhag unrhyw anghyfiawnder; ond nid oedd yn rhyfedd fod y bobl weithiau yn troi i'w ddefnyddio, gan fod eu llywiawdwyr yn eu dysgu felly. Cafodd Mr. Richard 85 allan o 217 i'w bleidio ar yr achlysur hwn. Nid am boblogrwydd yr oedd efe yn gweithio, ond i amddiffyn gwirionedd.

Nid anyddorol ydyw'r ffaith fod Mr. Richard, y flwyddyn hon, wedi ysgrifennu llythyr i'r Tyst a'r Dydd, am ei fod yn credu fod y papur hwnnw yn gwyro oddiwrth y gwirionedd, trwy droi i geryddu Syr Wilfrid Lawson, a'i gyffelyb, am wrthwynebu rhyfel yr Aifft, a'r rhan a gymerodd Mr. Gladstone yn y rhyfel hwnnw. Mae y llythyr hwn yn werth cyfeirio ato hefyd, oherwydd y perygl yr oedd Mr. Richard yn ei ragweled a ddeilliai o'r rhyfel yn yr Aifft yn y dyfodol. Dywed ein bod wedi myned i'r Aifft, ond pa bryd y deuem oddiyno, nid oedd neb a wyddai. Yr oedd mor anhawdd i ni ddod allan o wlad Aifft ag yr oedd i blant Israel gynt, ac ofnai na ddeuem allan heb fyned trwy Fôr Coch o waed dynol. Hwyrach mai parch i Mr. Gladstone oedd yn cyffroi y Golygydd, ond dywedai Mr. Richard,—

"Yr wyf yn tystio fy mod yn parchu ac yn hoffi Mr. Gladstone gymaint ag un dyn yn y deyrnas; ond y mae un teimlad wedi gwreiddio yn fwy dwfn yn fy meddwl, a hwnnw ydyw ofn y Duw hwnnw sydd yn cashau anghyfiawnder a gormes.”

Ni fuwyd yn hir cyn gorfod gwynebu y "Môr Coch o waed" y cyfeiriodd Mr. Richard ato. Cododd gwrthryfel yn y Soudan, ac ym mis Medi danfonwyd Hicks Pasha, Swyddog Indiaidd yng ngwasanaeth y Khedive, i'w ddarostwng, gyda byddin o 11,000 o filwyr yr Aifft; ond ar ol dioddef caledi dirfawr, o dan wres haul y Cyhydedd, gorchfygwyd a dinistriwyd hwynt gan luoedd y Mahdi, y gau broffwyd. Wedi hynny, llethwyd Baker Pasha gyda'i fyddin o 3,500 gan filwyr Osman Digna. Fel arferol, gwaeddai y wlad am fynnu dial y colledion hyn, a danfonwyd cadgyrch o dan y Cadfridog Graham, ac ymladdwyd brwydrau yn El Teb, Tamai, a Tanianieb, a lladdwyd tua 5,000 o'r Soudaniaid.

Cododd Mr. Richard ei lef yn erbyn y rhyfelgyrch hwn. Nid oedd yn gweled mai dyledswydd Prydain oedd dial gorchfygiad un fel Hicks Pasha, oedd yn unig wedi gwerthu ei hun i ymladd brwydrau yr Aifft, yn enwedig gan nad oedd wedi myned allan ar gais, nac yn wir, gyda chymeradwyaeth Prydain. Dywedai mewn erthygl a ysgrifennodd yn Ionawr, 1884, y gwyddai pob un meddylgar o'r dechreu fod y Soudan mewn gwrthryfel yn erbyn yr Aifft, ac y byddai ein hymyriad yn dwyn arnom drybini. Yr wyf yn dychryn," meddai, "wrth feddwl am y pethau ofnadwy a all fod yn ein haros mewn cysylltiad âg achos Soudan. Da y dywedodd y gŵr doeth, Pen y gynen sydd megis ped agorid argae.' Yr ydym wedi agor llif.ddor yn yr Aifft, a phwy a all atal y llifeiriant?"

Cymerodd Mr. Richard ran yn y ddadl yn y Senedd hefyd yn erbyn yr ymgyrch hwn yn y Soudan, ac areithiodd yn Darlington, Lerpwl, a mannau ereill ar y pwnc. Mae ein darllenwyr, yn ddiau, yn gwybod y modd y terfynodd yr helynt. Cymerwyd Khartoum gan y Mahdi, a chollodd Gordon ei fywyd. Credwn y buasai yn dda iawn gan Mr. Gladstone pe gallasai dynnu yn ol allan o'r helynt yr oedd yr ymyraeth yn yr Aifft wedi ei arwain iddo. Ni ddanfonodd ryfelgyrch i geisio gwaredu Gordon, hyd nes y cododd y wlad ei llais yn rhy uchel i allu peidio rhoddi gwrandawiad. Danfonwyd rhyfelgyrch allan, o'r diwedd, ond yn rhy hwyr i waredu Gordon, a thynodd hyn lawer o anfri ar Weinyddiaeth Mr. Gladstone ar y pryd.

Yr oedd Mr. Richard yn erbyn danfon allan yr ymgyrch hwn, ac yn tybied fod anhueddrwydd Mr. Gladstone ar y dechreu i wneud hynny yn beth canmoladwy. Beiai llawer o gyfeillion Mr. Richard ef am y rhan a gymerodd yn yr achos hwn; ond nis gallesid disgwyl dim yn amgen oddiwrth un oedd mor ffyddlon bob amser i egwyddorion Heddwch. Heblaw hynny, yr oedd wedi gwrthwynebu pob ymyriad o'r dechreu, a hynny nid oddiar safle manylaf Cymdeithas Heddwch, ond oddiar safle cyfiawnder a moesoldeb, a'r hen athrawiaeth Ryddfrydig o anymyriad diangenrhaid â helyntion gwledydd tramor.

(1885) Traddododd Mr. Richard araeth alluog yn y Senedd ym mis Chwefrol, 1885, ar yr achos hwn, ar achlysur cynhygiad a wnaed gan Arglwydd Iddesleigh. Wrth ddarllen yr araeth finiog ac effeithiol hon, yr ydym yn canfod yn eglur fod Mr. Richard wedi ennill nerth a gwroldeb mawr fel dadleuydd Seneddol. Dadleuai fod pawb a gymerodd ran yn yr ymyriad hwn yn helyntion yr Aifft, yn gyfrifol am yr helbul yr oedd y wlad ynddo. Yr oedd y Prif Weinidog wedi dweud fod y cam cyntaf a gymerwyd yn yr achos wedi arwain yn anocheladwy i'r camrau dilynol. Llawenychai Mr. Richard, gan hynny, fod ei ddwylaw ef yn lân, gan ei fod wedi codi ei lef o'r dechreu yn erbyn pob cam a gymerwyd. Beiai y Toriaid, yn bennaf, am eu bod wedi ymyrryd mor ddiachos ar y cychwyn, ac am eu bod y pryd hwnnw eto yn gwneud a allent i hyrddio y Weinyddiaeth ymlaen ym mhellach. Gwnaeth ymosodiad trwm iawn arnynt am hyn. Ond nid oedd, meddai, am arbed y Weinyddiaeth bresennol. Cyflawnodd hithau bechodau lawer. Dylasai y Cyfrin Gynghor ymwrthod â gwladlywiad eu rhagflaenwyr yn yr Aifft, fel y gwnaethant yn Afghanistan, yn y Transvaal, ac yn Zululand. Ni ddylasent ddanfon llynges i ddyfroedd yr Aifft, nid oedd ond taflu yr awenau o'u dwylaw i ddwylaw milwyr; ni ddylasent ymyrryd yn achos y Soudan, ac yn wir, yr oeddent wedi penderfynnu ar y dechreu i beidio. Dywedasai y Prif Weinidog nad oedd un achos cyfreithlon gennym dros ymyrryd. Ymostyngasant i gri annoeth y lluaws. Cenhadwri heddychol oedd un Gordon i fod ar y dechreu, ond troes allan fel arall. Gofynnai pa hawl oedd gennym ni i ymladd yn erbyn y Soudaniaid? Yr oeddent, fel yr addefai Arglwydd Hartington, wedi codi yn erbyn un o'r llywodraethau mwyaf creulon a fu erioed. Dywedasai Syr William Baker y buasai efe ei hun, pe yn y Soudan, yn codi yn erbyn y Llywodraeth.

Dyna oedd tystiolaeth Gordon, yntau hefyd. Os felly, pa hawl oedd gennym i fyned yno i'w lladd am ymgais am eu hiawnderau? Pam na fuasem yn ceisio dod i fath o ymdrafodaeth â'r Mahdi i gael ganddo roddi yr amddiffynfeydd i fyny? Yr oedd tri o honynt wedi eu rhoi i fyny. Ni wnaed un ymgais i ddod i delerau. Yr oedd yn rhaid cael ymostyngiad diamodol. Beth oedd y cyfarwyddiadau a roed i Arglwydd Wolseley? Dod a Gordon a Stewart o Khartoum, a dim mwy na hynny. Pleidleisiodd Mr. Richard o blaid gwelliant Mr. Morley, sef bod y milwyr i gael eu dwyn adref o'r Soudan mor fuan ag oedd modd.

Dywedodd Mr. Balfour unwaith, os cymerai Prydain un cam ymlaen, na fyddai byth yn tynnu ei throed yn ol. Ai doeth hyn bob amser sydd gwestiwn. Cymerodd gam yn yr Aifft, ac y mae, nid yn unig heb dynnu yn ol, ond wedi cymeryd camrau lawer ymlaen, o fodd neu anfodd, ac y mae lle i ofni, y byddant yn rhai pwysig, os nad peryglus iawn. Fel y dywed Mr. Justin McCarthy yn ei gyfrol olaf ar Hanes ein Hamseroedd,—"Pe buasent wedi ymgynghori â phobl ddeallgar Prydain, ni fuasid byth yn tanbelennu Alexandria, ac ni fuasid wedi ymladd âg Arabi Pasha, a'i ddanfon i alltudiaeth; ond, with gwrs, nid oedd pobl Lloegr yn gwybod ar y dechreu beth oedd yn myned ymlaen. Mae ein Gwladweiniaeth Dramor yn hollol yn nwylaw ein llywodraethwyr, fel y mae yn nwylaw Unbenaethiaid y Cyfandir." Yr oedd Mr. Richard yn teimlo hyn, a dygodd y cwestiwn o flaen Tŷ y Cyffredin mewn un ffurf arbennig arno, fel y gwelir ar t.d. 253. Gwyddom fel y mae Prydain wedi myned ymlaen, nes cymeryd meddiant o'r Soudan trwy dywallt gwaed miloedd o'r trigolion anwar hyn. A ydyw yr ennill yn cyfiawnhau y traha ofnadwy sydd gwestiwn ag y mae llawer, fel John Morley, yn methu ei weled. A dilys yw y buasai Mr. Richard wedi codi ei lef yn uchel yn

y mater hwn, pe buasai byw.

PENNOD XVII

Colegau Gogledd a Deheudir Cymru—Ei Lafur Seneddol—Arwyddion Henaint—Ei Daith ar y Cyfandir—Ei Ysgrifau i'r Newyddiaduron, a'i Lafur yn y Senedd—Ei Ymddiswyddiad fel Ysgrifennydd Cymdeithas Heddwch—Ei Anrhegu â 4,000g.—Rhyfeloedd heb gydsyniad y Senedd—Datgorfforiad y Senedd—Etholiad Mr. Richard am y Bedwaredd Waith.

Yr ydym wedi dilyn hanes y rhyfel yn yr Aifft, a'r rhan bwysig a gymerodd Mr. Richard yn, a thu allan i'r Senedd, yn ei wrthwynebu, nes cael ein hunain yn y flwyddyn 1885. Ond rhaid i ni droi yn ol ychydig i groniclo rhai pethau yn hanes Mr. Richard na ddylem eu hesgeuluso.

Yn Ionawr, yn y flwyddyn 1883, yr oedd Mr. Richard yn bresennol mewn Cynhadledd i ystyried y moddion goreu i'w mabwysiadu mewn perthynas i'r rhodd o 4,000p. yn y flwyddyn oddiwrth y Llywodraeth at y Coleg yng Ngogledd Cymru; y tro cyntaf, fel y dywedodd Arglwydd Aberdeen, y Cadeirydd, y gwelodd y Llywodraeth yn dda ymddwyn tuag at Gymru fel yn meddu rhyw gymaint o anibyniaeth. Yn y cyfarfod tra dylanwadol hwn yr oedd yn bresennol y Duc Westminster, Esgob a Deon Bangor, Esgob Llanelwy, Clerigwyr ereill, Penaethiaid Sefydliadau Addysgawl, a thua dwsin o Aelodau Seneddol. Ar ol cynnyg y penderfyniad cyntaf gan Mr. Richard yn cymeradwyo cael Coleg i Ogledd Cymru, a'i gefnogi gan Esgob Bangor, cynhygiwyd gwelliant gan y Milwriad Cornwallis West, a chefnogwyd ef gan Mr. Darbishire," na fyddai dim penderfyniad yn cael ei basio gyda golwg ar dderbyniad y rhodd oddiwrth y Llywodraeth, hyd nes y byddai y Mesur gyda golwg ar Addysg Ganolraddol wedi ei osod gerbron y Senedd." Collwyd y gwelliant trwy fwyafrif mawr. Penodwyd pwyllgor i ddewis lle y Coleg, a phenodwyd ar Fangor bron yn unfrydrol. Tanysgrifiwyd tua 37,000p. i gych- wyn y Coleg, ac ymhen amser, cafodd Aberystwyth hefyd rodd gan y Llywodraeth o 4,000p, yn y flwyddyn.

Ar y 24ain o Hydref, yn yr un flwyddyn, agorwyd Coleg Deheudir Cymru a Mynwy yng Nghaerdydd, ar ol cyd-ymgais brwd rhyngddi âg Abertawe. Traddodwyd yr Anerchiad Agoriadol gan Arglwydd Aberdare, yr hwn a etholwyd yn llywydd y Coleg, a Mr. Richard yn is-lywydd. Traddododd Mr. Richard araeth ragorol ar yr achlysur. Datganai ei obaith y byddai iddynt osod o'r naill du bob eiddigedd lleol, sectaidd a chenedlaethol, ac ymuno mewn cydgordiad perffaith i ddatblygu y Coleg i'r eithaf; ac wrth y Cymry hynny, y rhai a ymddangosent fel yn erbyn i'r Saeson gymeryd rhan yn yr anturiaeth, dywedai,—"Nid oes arnaf ofn y Saxoniaid." Yr oedd yn barod i ymladd â hwynt, ond nid gyda'r hen arfau, sef cleddyfau a gwaewffyn, ond yn ysbryd yr arysgrifen uwch ben y Coleg, "Goreu arf, arf dysg," a dywedai yn chwareus, y cyfarfyddai â'r Saxoniaid a'r arf yma, ac y gorchfygai hwynt hefyd,

Y mae yn iawn crybwyll hefyd, fod Mr. Richard wedi gwneud ei oreu i alw sylw at y ffaith nad oedd Ymneilltuwyr yn cael y rhan â deilyngent o swyddau gan y Llywodraeth Ryddfrydol, ac ysgrifennodd lythyr cryf at Mr. Gladstone ar yr achos; a phan ddaeth yr adeg i benodi dau ddirprwywr Elusen ychwanegol o dan y ddeddf, anturiodd Mr. Richard enwi rhai cymwys i'r swydd. Wrth gwrs, nid oedd efe ei hun yn gofalu am swydd, a gwyddai Mr. Gladstone hynny yn dda. Dewiswyd Mr. Anstie, ac mewn llythyr at Mr. Gladstone, wedi hynny, diolchodd Mr. Richard iddo am hynny.

Yn 1883, dygodd Mr. Richard ei Fesur Claddfeydd i mewn, ac ar yr ail ddarlleniad, cymeradwyodd Syr William Harcourt egwyddor y Mesur; ond gwrthwynebwyd ef gan y blaid Doriaidd, a siaradwyd ef allan. Cariwyd yr ail ddarlleniad ym 1884, ond nid aeth ddim pellach y pryd hwnnw.

Yr oedd Mr. Richard, yn y flwyddyn 1884, yn 72 mlwydd oed. Mewn atebiad i lythyr a ddanfonasom ato i'w longyfarch ar ei etholiad yn 1880, gan ddymuno iddo hir oes i wasanaethu ei genedl am flynyddau lawer yn y dyfodol, dywed, —

"Yr wyf yn cofio yn dda eich bod wedi bod mor garedig a chyfeirio ataf fel un cymhwys i gynrychioli rhyw barth o Gymru yn y Senedd flynyddau yn ol. Ychydig a feddyliais y pryd hwnnw y deuai hynny byth i ben, a bellach nid oes gennyf ond gofidio na fuasai wedi cymeryd lle yn gynt, ac yna gallaswn wneud gwasanaeth mewn mwy nag un achos da. Yr wyf yn teimlo yn awr ei fod braidd yn hwyr mewn bywyd i ddechreu gyrfa boliticaidd. Pa fodd bynnag, yr wyf yn gobeithio fy mod wedi gallu, ac y byddaf eto yn gallu gwneud rhyw ychydig o ddaioni."

Oedd, yr oedd Mr. Richard wedi gwneud, nid ychydig, ond llawer iawn o ddaioni eisoes yn y Senedd, ac wedi ennill safle o barch a dylanwad, nid fel yr "aelod dros Gymru" yn unig, ond fel "Apostol Heddwch" ac Amddiffynwr rhyddid crefyddol. Ni fyddai byth yn siarad ond ar bwnc ag y teimlai pawb ei fod yn feistr perffaith arno. Yr oedd henaint, er hynny, wedi ei oddiweddyd, a'i iechyd ymhell o fod yn foddhaol. Aeth i Itali yn y flwyddyn 1884, gyda'i wraig. Yn Milan, aeth i gynhadledd flynyddol Cymdeithas Cyfraith Rhyngwladwriaethol. Pan yn Itali y tro hwn cafodd dderbyniad croesawgar iawn. Treuliodd beth amser yn Varese, a bu y daith yn wellhad dirfawr i'w iechyd. Hoffai olygfeydd natur yn fawr, a meddai mynyddoedd uchel swyn arbennig iddo. Cerddodd i fyny Monte Generosa, yr hwn oedd filoedd o droedfeddi o uchder.

Nid oedd ei ysgrifell byth yn segur. Ysgrifennodd lythyr tarawiadol iawn ar sefyllfa yr amseroedd, yr hwn a ymddanghosodd yn y Christian World, y Nonconformist, y South Wales Daily News, a lluaws o bapurau ereill. Gwasgai ar bawb i anfon llythyrau at Mr. Gladstone yn condemnio myned i orchfygu y Soudan. Credai y byddent, mewn gwirionedd, yn dderbyniol gan Mr. Gladstone ei hun. Tua'r amser hwn hefyd ysgrifennodd lythyr i'r Pall Mall Gazette ar yr anghydfod oedd yn codi rhwng Rwsia a'r wlad hon gyda golwg ar Afghanistan, a gofynnai paham nad allai yr holl gwestiwn gael ei gyflwyno i gyflafareddiad. Gofynnodd i Mr. Gladstone yn y Senedd hefyd yr un cwestiwn; yn gymaint a bod Rwsia a Lloegr yn bleidiau yn y Cytundeb a wnaed yn Paris ar ol rhyfel y Crimea, yr hwn a gynhwysai adran ar gyflafareddiad. Atebiad Mr. Gladstone ydoedd, nad oedd yr ymdrafodaeth eto wedi cyrraedd y pwynt ag oedd yn gwneud hynny yn angenrheidiol. Oherwydd fod yr achos mor bwysig, tynnodd Mr. Richard, wedi hynny, gofeb at Mr. Gladstone, wedi ei harwyddo gan John Bright, Samuel Morley, John Bryce, ac uwchlaw 80 ereill o aelodau Seneddol, yn gwasgu ei gwestiwn adref, a'r canlyniad fu, fod Mr. Gladstone, ar y 4ydd o Fai, wedi hysbysu y Tŷ fod y mater wedi ei gyflwyno i gyflafareddiad. Pwy fedr fesur y gwasanaeth hwn i'r deyrnas gan Mr. Richard a'r rhai yr oedd yn cydweithio â hwy, a phwy na ofidia na wnaed yr un peth yn helynt y Transvaal?

Yr oedd yr echryslonderau a gyflawnid yn y Soudan yn "poeni enaid cyfiawn" Mr. Richard tua'r amser hwn. Ysgrifennodd anerchiad o dan ei law, a llaw llywydd y Gymdeithas Heddwch ar y mater. Wrth ysgrifennu i gyfarfod a gynhaliwyd yn St. James' Hall i wrthdystio yn erbyn yr echryslonderau a nodwyd, dywedai, "Prin y gallaf ymollwng i siarad fel yr wyf yn teimlo wrth glywed, o ddydd iddydd, am y cigyddiadau ofnadwy a diamcan sydd yn myned ymlaen yn y Soudan. Pa fodd y gall rhai o'r dyniod sydd yn y Weinyddiaeth bresennol roddi eu cefnogaeth i'r fath bethau sydd i mi yn anesboniadwy."

(1885) Yng nghyfarfod blynyddol y Gymdeithas Heddwch a gynhaliwyd ar y 19eg o Fai, daeth ar y Gymdeithas yr hyn a fawr ofnai, sef rhybudd o ymddiswyddiad oddiwrth ei hysgrifennydd galluog, Mr. Richard, oherwydd henaint a musgrellni. Penodwyd Mr. William Jones-yntau yn Gymro twymgalon—yn olynydd iddo, ond dymunwyd ar Dr. Richard i barhau yn ysgrifennydd mygedol. Gwnaed cyfeiriadau parchus iawn at lafur Mr. Richard fel ysgrifennydd am 37 o flynyddoedd, ac at y gwaith mawr a wnaeth i ledaenu egwyddorion Heddwch yn ystod y tymor hwnnw, a'r modd yr oedd wedi creu teimlad mor gryf yn Ewrob o blaid cyflafareddiad. Llongyfarchwyd ef ar ei lwyddiant a'i ddylanwad Seneddol hefyd, a'i ymlyniad wrth yr un egwyddorion yno trwy glod ac anghlod. Dywedai y cadeirydd, wrth gyfeirio at ei waith mawr yn ei oes,—

"Yr ydych yn amddiffyn achos sydd, yn ol fy argyhoeddiad dwfn i, yn achos gwirionedd, rheswm, cyfiawnder, dynoliaeth, a chrefydd, ac anturiaf ddweud hefyd, achos Duw."

Nid mewn geiriau yn unig y darfu y cyfeillion hyn ddiolch i Mr. Richard. Ym mis Gorffennaf, 1884, cyfarfu nifer o honynt yn nhŷ Syr Joseph Pease yn Llundain, a chyflwynwyd iddo y swm o ddeugain can gini (4,200p.) fel arwydd o'u gwerthfawrogiad o'i lafur mawr a'i wasanaeth amhrisiadwy yn achos Heddwch.

Parhaodd Mr. Richard i lafurio ar ol hyn gymaint ag y caniatai ei iechyd. Bu yn ffyddlon yng nghyflawniad ei ddyledswyddau hyd ei farwolaeth. Dywedai ar yr un pryd, mewn cyfarfod yn Darlington, ei fod i raddau yn colli ei ffydd y diddymid y gyfundrefn filwrol gan lywodraethau y byd; yr oeddent wedi eu rhwymo, draed a dwylaw, wrth y filwryddiaeth ronc oedd yn gorlethu Ewrob. Ac nid oedd yn disgwyl llawer oddiwrth y Senedd ychwaith, hyd nes y deuai yn adlais tecach o lais y wlad; ac ychwanegai, mewn lle arall, hyd nes y deuai y bobl i ddeall egwyddorion Cristionogaeth yn eu cysylltiad a deddfwriaeth yn well.

(1886) Ar y 23ain o Chwefrol, 1886, cafodd Mr. Richard gyflerstra unwaith yn ychwaneg i alw sylw y Tŷ at waith Prydain yn ychwanegu Burmah at ei thiriogaethau, mewn araeth finiog iawn; ac ar y 19eg o'r mis canlynol cafodd gyfleustra hefyd i ddwyn mater ger bron y Senedd ag oedd yn dra theilwng o sylw. Cynhygiodd benderfyniad yn datgan fod y Tŷ yn barnu mai nid cyfiawn na doeth ydoedd cychwyn rhyfelawd a gwneud ymrwymiadau ag oedd yn gosod y wlad dan gyfrifoldeb mawr, ac ychwanegu tiriogaethau at ein hymerodraeth, heb i'r Senedd wybod a chydsynio. Dywedai ein bod yn ymffrostio ein bod yn wlad rydd; y cyffroem yn fawr pe meiddiai y Llywodraeth osod y dreth leiaf arnom heb ganiatad y Senedd, ac eto, gyda golwg a'r un pwnc o'r pwys mwyaf, yr oeddem yn gyfangwbl yn llaw ein swyddogion milwrol. Gallai unrhyw un o honynt, o'i ben ei hunan, hyrddio y wlad hon i ryfel yn erbyn gwlad arall, ac aberthu ei gwaed a'i thrysor, neu rwymo y wlad mewn cytundeb, neu ychwanegu at ei thiriogaethau, a'r cyfan heb ein gwybodaeth na'n cydsyniad ni gartref. Olrheiniodd hanes y modd yr oedd ein brenhinoedd gynt yn myned i ryfel, sef o'u mympwy eu hunain; ond nad oedd hynny yn cymeryd lle yn awr; mai y Weinyddiaeth, mewn gwirionedd, oedd yn penderfynu cyhoeddi rhyfel. Ond y drwg ydoedd fod ymrysonnau a rhyfeloedd yn aml yn cymeryd lle heb yn wybod iddynt. Mae'n wir fod gan y Senedd hawl ar y pwrs, ond yr oedd y rhyfeloedd yn fynych wedi cymeryd lle, a gwaed wedi ei dywallt; a'r cyfan a ellid ei wneud yn y diwedd oedd cadarnhau yr hyn a wnaed, a thalu y gost, neu ynte ddiswyddo neu gosbi y neb fyddai wedi ei ddechreu. Er engraifft, nid oedd neb yn fwy gwrthwynebol i'r rhyfel yn Afghanistan na Mr. Fawcett, yr hwn a ddywedai, wedi hynny, ei fod wedi gwneud a allai i alw y Senedd ynghyd cyn y cyhoeddid rhyfel, gan gwbl gredu, pe llwyddasai, "na fuasid byth yn dechreu y rhyfel." Ie, dyna'r drwg; nid oedd y wlad yn cael y y wybodaeth angenrheidiol, hyd nes y byddai yn rhy ddiweddar. Nid oedd efe, Mr. Richard, yn gwybod ond am un engraifft o’r Weinyddiaeth ei hun yn rhoi terfyn ar ryfel wedi iddo ddechreu, sef yn y Transvaal. Deallodd Gweinyddiaeth Mr. Gladstone ein bod wedi ein camarwain gan ein swyddogion yn Affrica, a therfynwyd y rhyfel hyd yn oed wedi i fyddin Prydain gael ei gorchfygu; a chredai efe, Mr. Richard, fod hon yn un o'r gweithredoedd mwyaf mawrfrydig mewn Gwladweiniaeth Gristionogol yn hanes ein gwlad. (Cym.) Ond pan ofynwyd am yr arian i gario rhyfel yr Aifft ymlaen, yr oedd wedi ei ddechreu, yr oedd Alexandria wedi ei than-belennu, a'r ddinas fawr honno o 170,000 o drigolion wedi ei dinistrio; nid gennym ni yn uniongyrchol, mae'n wir, ond eto mewn canlyniad i'r hyn a wnaethom ni. Taflodd Mr. Richard olwg dros y rhyfeloedd diangenrhaid a ymladdwyd o bryd i bryd, a dywedai, os edrychwn ar y rhyfeloedd hynny y cymerasom ran ynddynt yn ystod y genhedlaeth hon—a'r nefoedd a ŵyr, meddai, y maent yn lluosog ddigon—rhyfel cyntaf Afghan, rhyfel Syria, rhyfel Scinde, rhyfel cyntaf Burmah, rhyfel China, rhyfel Persia, y rhyfel yn Japan pan ddinistriasom Kagosima, rhyfel Abyssinia, rhyfel Ashantee, a'r rhyfeloedd dirif ymron yn Neheudir Affrica, a'r ail ryfel yn Afghan,—nis gellir dweud fod cymaint ag un o honynt yn ystyr gonest y gair yn rhyfel amddiffynnol o gwbl; oblegid yn yr oll o honynt, ymron, nyni oedd yr ymosodwyr. Yr oedd digon o amser a chyfleustra i ymgynghori a'r Senedd ymlaen llaw. (Cym.) Aeth Mr. Richard ymlaen i nodi engreifftiau o gytundebau yn cael eu gwneud heb gydsyniad y Senedd, a danghosai gydnabyddiaeth drwyadl â holl amgylch- iadau ei bwnc. Nid oedd efe, meddai, yn aelod o'r Tŷ yn 1859, ond ar ei gais darfu Mr. Hadfield ofyn am hysbysrwydd am y rhwymedigaethau yr aethai y wlad hon danynt i amddiffyn gwledyd ereill ym mhob parth o'r byd, a chafwyd eu bod yn 37 mewn nifer! Nododd, wedi hynny, y modd yr oeddem wedi ychwanegu at ein tiriogaethau. Yr oeddem, y pryd hwnnw, wedi cymeryd meddiant o'r bumed ran o'r byd. Yr oedd gennym yn Canada, yn Awstralia, a Deheudir Affrica, ddigon o dir i'r boblogaeth am fil o flynyddoedd i ddyfod. Dywedai rhai o'r hen Buritaniaid, y rhai oeddent i fesur, o dan y clefyd daear-newynog hwn, fod y Saint i "etifeddu y ddaear," a chan eu bod hwy yn Saint, mai eiddo iddynt hwy oedd yr holl ddaear. Gellid meddwl mai dyna deimlad Prydain yn awr. Terfynodd Mr. Richard ei araeth trwy gyfeirio at syniadau y Duc Wellington a Mr. Gladstone ei hun yn erbyn y wanc afiachus am diriogaeth, mwy yn wir nag y gallem ei drin.

Gresyn na ddarllennid yr araeth ragorol hon yn y dyddiau hyn, pan y mae y cyfryw wanc wedi dwyn ar ein gwlad helbul nad oes neb a ŵyr ei faint. Mae yn amlwg fod yr araeth wedi cael dylanwad mawr ar y Tŷ, oblegid cafwyd 114 yn erbyn 110 o blaid cynhygiad Mr. Richard, ac felly mewn gwirionedd, fe basiodd; ond gan ei fod mewn ffurf o welliant ar fod y Tŷ yn ymffurfio yn Bwyllgor o Adgyflenwad (Supply), yr oedd yn rhaid pleidleisio drachefn, ac yn y cyfamser, daeth aelodau ereill i mewn, nad oeddent wedi clywed gair o araeth rymus Mr. Richard, ac felly, pan roddwyd y cynhygiad mewn ffurf arall, collwyd ef trwy fwyafrif o 115 yn erbyn 109.

Yr oedd llawer o'r newyddiaduron pennaf yn siarad yn uchel iawn am yr araeth hon, hyd yn oed y Times yn dweud fod y ddadl arni yn un ddyddorol ac addysgiadol; a dywedai y Daily News fod yn llawer haws gwawdio Mr. Richard na'i ateb. Yr oedd hyd yn oed Mr. Gladstone yn gorfod datgan cydymdeimlad ag amcan Mr. Richard; ond yr oedd yn amharod i roddi ei gynhygiad mewn ymarferiad. Yr oedd rhai o wŷr goreu y Tŷ o'i blaid. Pe ceid y wlad wrth gefn cynhygiadau fel hyn, buan y gwelai ein Gwladweinwyr fod yn rhaid iddynt eu rhoi mewn ymarferiad. Yn yr Herald of Peace am Ebrill 1, 1886, y mae Mr. Richard yn difynnu geiriau o eiddo Mr. Gladstone, y rhai mae'n debyg, nad oedd wedi eu gweled pan yn traddodi ei araeth, ag oedd yn dangos ei fod ef ei hun yn bleidiol i egwyddor y cynhygiad. Maent yn werth eu dodi ar gôf a chadw yn y fan hon. Wrth siarad ar ryfel Persia yn 1857, defnyddiodd Mr. Gladstone y geiriau canlynol,—

"Fe allai fy mod yo camgymeryd, a gall ei fod yn syniad hen ffasiwn, ond yr wyf yn hyf yn ei ddweud, gan nad wyf yn ei ddweud mewn cysylltiad ag un person na phlaid, os ydyw Llywodraeth ei Mawrhydi wedi ein cario ni i ryfel, ei dyledswydd oedd galw y Senedd ynghyd y foment gyntaf y penderfynwyd cymeryd y fath gam. Nis gwn i a oes esiampl blaenorol i gyfiawnhau neu liniaru ei hymddygiad; ond mi ddywedaf hyn, fod yr arferiad o ddechreu rhyfeloedd heb gydsyniad y Senedd i'r mesurau cyntaf yn hollol groes i arferiad sefydlog y wlad, yn beryglus i'r Cyfansoddiad, ac yn galw am gyfryngiad y Tŷ fel ag i wneud cymeradwyo y fath weithred beryglus yn hollol amhosibl."[23]

Mor hawdd, onite, ydyw gosod egwyddorion teg a chyfiawn i lawr; ond mor anhawdd ydyw eu cario allan pan y mae yn rhaid croesi hen arferiadau wrth wneud hynny.

Yn ystod yr holl amser hwn, nid oedd Mr. Richard yn anghofio ei rwymedigaethau i Gymru. Bu yn gweithredu fel Cadeirydd Pwyllgor yr Aelodau Cymreig, ac y mae yn ddiameu, fod ei brofiad a'i bwyll yn werthfawr iawn.

(1885) Datgorfforwyd y Senedd 18fed o fis Tachwedd, 1885. Petrusai Mr. Richard yn fawr a wnai gynnyg ei hun i'r etholwyr drachefn. Yr oedd yn hen, a'i iechyd heb fod yn dda, ac yr oedd wedi eu gwasanaethu bellach am ddwy-flynedd-ar-byntheg. Ond ni ollyngent eu gafael ynddo, a dewiswyd ef am y bedwaredd waith, a hynny yn ddi-wrthwynebiad. Daliodd Cymru yn ffyddlon wrth Mr. Gladstone. Allan o 34 o aelodau (yn cynnwys Swydd Mynwy), yr oedd 30 yn Rhyddfrydwyr, a dim ond un o honynt yn erbyn Datgysylltiad. Agorwyd y Senedd newydd ar y 12fed o Ionawr, 1886; ond ar ol bod mewn awdurdod am ond ychydig o fisoedd syrthiodd Gweinyddiaeth Arglwydd Salisbury, a daeth Mr. Gladstone yn Brif Weinidog am y drydedd waith. Dygodd Mr. Gladstone Fesur Llywodraeth Gartrefol i'r Iwerddon i mewn, ac ym mis Mehefin taflwyd ef allan trwy fwyafrif o 30. Apeliodd, gan hynny, at y wlad, a chafodd nad oedd ond rhyw 191 o'i blaid a 85 o ddilynwyr Mr. Parnell. Dewiswyd Mr. Richard drachefn yn ddiwrthwynebiad. Yr oedd efe yn bleidiol i egwyddor Llywodraeth Gartrefol i'r Iwerddon, ac yn ffyddlon iawn i Mr. Gladstone. "Mi lynnaf fi wrth yr Hen Wr Ardderchog," meddai Mr. Richard,"deued a ddelo." Parchai ef yn fawr, a chredwn fod parch Mr. Gladstone i Mr. Richard yn fawr hefyd, fel y dengys y dystiolaeth uchel a roddes iddo wedi ei farwolaeth; er fod Mr. Richard wedi gwrthwynebu Mr. Gladstone yn y Tŷ ar fwy nag un achlysur, ac yn arbennig ar achlysur Rhyfel yr Aifft. Ond gwyddai Mr. Gladstone fod gan Mr. Richard argyhoeddiadau dyfnion, a bod ganddo reswm a Christionogaeth o'i du.

Y pwnc a dynnai sylw mawr y pryd hwnnw, a Chymru yn arbennig, oedd Datgysylltiad. Dyma'r pryd yr ysgrifennodd Mr. Richard, mewn cydweithrediad â'i gyfaill Mr. Carvell Williams, yr hwn oedd erbyn hyn yn Aelod Seneddol dros barth o Nottingham, ei lyfr rhagorol ar " Ddatgysylltiad,”—llyfr ag y mae John Bright wedi rhoddi canmoliaeth uchel iawn iddo. Fel y gellid disgwyl, y mae yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru yn cael sylw arbennig. Dengys trwy ffeithiau diymwad. ei bod wedi profi yn fethiant yno, a therfyna trwy ofyn ai nid oedd Cymru yn atebiad perffaith i'r ofnau hynny mewn perthynas i dynged gwir grefydd pe cymerai datgysylltiad le. Ofnid gan rai yr esgeulusid y parthau amaethyddol, lle yr oedd y bobl yn ychydig, yn wasgaredig, ac yn dlawd. Mewn atebiad, danyhosai Mr. Richard nad oedd un parth o'r Dywysogaeth yn cael mwy o sylw na'r parthau hynny. Yn Swydd Aberteifi anaethyddol, yn ol cyfrif 1851, darparwyd eisteddleoedd mewn addoldai i 97.8 y cant o'r boblogaeth; sef 27.4 gan Eglwys Loegr, a 70.4

gan yr Ymneillduwyr.

PENNOD XVIII

Mr. Richard yn cael ei bennodi yn aelod o'r Pwyllgor Brenhinol ar Addysg—Ei lafur mawr arno, er ei afiechyd —Ei erthygl nodweddiadol ar Gymru yn y Daily News.

Gwasanaeth pwysig iawn arall a gyflawnodd Mr. Richard yn ei hen ddyddiau ydoedd dod yn aelod o'r Pwyllgor Brenhinol i chwilio i mewn i achos Addysg yn Lloegr a Chymru. Yr oedd hyn yn ystod Gweinyddiaeth fer Arglwydd Salisbury. Tarddodd y cynhygiad am y Pwyllgor oddiwrth Arglwydd Cross, amcan yr hwn, yn ol ei addefiad ef ei hun, ydoedd gosod yr Ysgolion Enwadol ar yr un tir, o ran cynhaliaeth oddiwrth y Wladwriaeth, a'r Bwrdd-ysgolion. Dymunai y Weinyddiaeth wneud ymddangosiad o degwch, ac felly penodwyd nifer o'r blaid arall ar y Ddirprwyaeth. Yr oedd yn gynhwysedig o 23 o aelodau, 15 o honynt yn erbyn gosod addysg o dan reoleiddiad y wlad, a'r gweddill—y lleiafrif—yn Rhyddfrydwyr neu yn Anghydffurfwyr. Nid ydoedd iechyd Mr. Richard yn dda ar y pryd, ond gan ei fod yn teimlo y perygl oedd i ni fel teyrnas gymeryd cam yn ol yn lle ymlaen yn Achos Addysg —cam ag y mae y Weinyddiaeth yn ei gymeryd y dyddiau hyn—ymgymerodd â'r gwaith, a dilynodd gyfarfodydd y Pwyllgor yn ffyddlon hyd y diwedd. Penodwyd y Ddirprwyaeth ar y 15fed o Ionawr, 1886, ond ni orffenwyd yr Adroddiad hyd Mehefin 27, 1888. Eisteddodd am 146 o ddyddiau—95 o honynt i wrando tystiolaethau 151 o dystion, a'r gweddill i ystyried yr Adroddiad. Gwnaeth Mr. Richard ei oreu i gael yr Adroddiad yn un mor dêg ag oedd yn bosibl Cymeradwyai bob peth yn yr Adroddiad ag oedd tueddu i wella ein cyfundrefn o Addysg. Un o'r pethau hynny ydoedd yr argymhelliad a ganlyn,—"Y dylid rhoddi caniatad yng Nghymru i gymeryd i fyny yr iaith Gymraeg fel testyn neilltuol; os dewisir, i fabwysiadu cynllun i'w chymeryd yn lle y Saesoneg fel testyn dosbarth, seiliedig ar yr egwyddor o osod cyfundrefn raddoledig i gyfieithu o'r Gymraeg i'r Saesneg, i ddysgu Cymraeg gyda Saesneg fel testyn dosbarth; aco i gymeryd y Gymraeg i fewn ymysg yr ieithoedd ymha rai y gellir arholi ymgeiswyr am ysgoloriaethau y Frenhines, ac am drwyddedau." Nid oes raid dweud fod gan Mr. Richard law arbennig yn yr argymhelliad hwn. Mae ei fod wedi ei basio gan yr holl Ddirprwywyr yn brawf o'r cyfnewidiad ym marn y Saeson gyda golwg ar Gymru; a gwnaeth Mr. Richard fwy na neb y gwyddom am dano i ddwyn y cyfnewidiad hwn oddiamgylch. Gwnaeth wyth o'r aelodau ail Adroddiad yn nodi pethau yr oeddent yn methu cydsynio ynddynt yn Adroddiad y mwyafrif; ac yr oedd Mr. Richard yn un o'r wyth hynny. Yr oedd hefyd yn un o bump i dynnu allan drydydd Adroddiad, un maith a llafurfawr, ac yn myned ymhellach na'r ail, a'r hwn, ymysg pethau ereill, oedd yn dadleu dros Addysg Fydol. Credai Mr. Richard yn gryf nad oedd dim cyfaddasder yn y Llywodraeth i ymyraeth âg Addysg Grefyddol y bobl. Credai yn ysbrydolrwydd teyrnas Crist, ac yng ngallu caredigion crefydd i wneud eu rhan i ddysgu y grefydd honno i'r deiliaid. Yr oedd ei wybodaeth am, a'i gyllymdeimlad a'r gwaith mawr a wnaed yn wirfoddol gan Ymneillduwyr Cymru, yn dwfnhau y teimlad hwn yn ei ysbryd.

Tra yr oedd y Ddirprwyaeth yn gwneud ei gwaith, bu raid i Dr. Dale fyned i Awstralia i gynrychioli yr Anibynwyr Seisnig yn eu Jiwbili yn Hydref, 1887. Gofidiai Mr. Richard oherwydd hyn, ac ysgrifennai ato i ddatgan ei obaith y deuai adref cyn cyflwyniad Adroddiad y Ddirprwyaeth.

"Yr wyf," meddai, yn teimlo yn fwy awyddus am fy mod yn yn wybodol o fy ngwendid cynhyddol, ac o fy anallu i wneud cyfiawnder âg Achos Addysg Anenwadol. Mae'r afiechyd sydd yn fy mlino yu cynhyddu o ddydd i ddydd, ac yn fy analluogi yn fwy-fwy i wneud llawer o waith."

Dychwelodd Dr. Dale ym mis Ionawr, 1888. Terfynodd y Ddirprwyaeth ei gwaith, fel y dywedwyd, ym mis Mehefin. Y mae Dr. Dale yn rhoi tystiolaeth uchel iawn i'r modd y cyflawnodd Mr. Richard ei waith ar y Ddirprwyaeth. Dywed y byddent ill dau yn aml yn esgyn y grisiau gyda'u gilydd, ac am fisoedd lawer nid esgynnai Mr. Richard heb gymeryd y cyfferi angenrheidiol er atal ymosodiad yr anhwyldeb a fu yn angeu iddo yn y diwedd, sef clefyd y galon. Mynych y canfyddid, pan godai i gymeryd rhan mewn dadl, ei fod yn dioddef oddiwrth yr anhwyldeb, a bod siarad am bum munud neu ddeg wrth ryw ugain o foneddwyr, yn beryglus iddo. Gwyddai yntau hynny yn dda, a llawer gwaith y soniai am hynny. Ond yr oedd yn penderfynnu gwneud hynny o waith a allai tra byddai byw. Eisteddai ar y Ddirprwyaeth fel Arweinydd yr Anghydffurfwyr yn y Senedd, ac fel Cynrychiolydd Buddiannau Addysgawl Cymru. Teimlai bwysigrwydd ei sefyllfa. Deuai yn gynnar, ac arosai yn hwyr. Talai y sylw mwyaf i'r tystiolaethau, ac yr oedd yn graff a manwl iawn. Yr oedd yn foesgar ac ystwyth bob amser; ond yn anhyblyg fel y dûr mewn cwestiwn o egwyddor. Wedi unwaith gael gafael ar y gwirionedd, yr oedd yn anichonadwy ei symud. Efe oedd yr un a ysgrifennodd rai o'r brawddegau goreu yn Adroddiad y lleiafrif. Fel ei hen gyfaill, Mr. Miall, edrychai yn ol gyda gradd o ofid fod y wlad yn ymadael oddiwrth y gyfundrefn wirfoddol o Addysg. Yn wir, yr oedd Dr. Dale yn petruso a oedd wedi ei argyhoeddi yn llwyr fod cynhorthwy y Llywodraeth yn angenrheidiol, a'i fod yn credu y buasai Addysg, er y cynhyddasai yn fwy araf, yn gwneud hynny yn fwy diogel heb arian y Llywodraeth. Ond os oedd rhaid cael arian y Llywodraeth, teimlai yn gryf y dylai yr ysgolion fod o dan reolaeth rhai yn cynrychioli y bobl yn gyffredinol, ac na ddylid ceisio dysgu crefydd enwadol ynddynt. Mae yn amhosibl teimlo gormod o barch i Mr. Richard am ei lafur yn yr achos hwn, pan gofiom ei henaint a'i wendid ar y pryd.

Yn ystod yr holl amser hwn, yr oedd Mr. Richard yn parhau i fod yn Ysgrifennydd Mygedol y Gymdeithas Heddwch, ac ysgrifennai erthyglau arweiniol i'r Herald of Peace, a chyfansoddai Anerchiadau galluog iawn dros y Gymdeithas. Darllennodd bapur yn y Gyn- hadledd i ddiwygio a threfnu Cyfraith Ryng- wladwriaethol ar y 26ain o fis Gorffennaf, 1887, papur ag oedd yn dangos ôl llafur ac ymchwil- iad mawr.

Yn y Daily News am yr 17eg o fis Ionawr, 1888, sef tua saith mis cyn ei farwolaeth, ymddengye erthygl gan Mr. Richard ar y cynnydd yr oedd Cymru wedi, ac yn ei wneud. Mae yr erthygl yn dra nodweddiadol o'i hoffter mawr at wlad ei enedigaeth, o'i syniadau arbennig, o'i arddull o ysgrifennu, ac o'r wythien o wawdiaeth oedd yn ei gymeriad; a chan ei bod wedi ei hysgrifennu hefyd yn y flwyddyn olaf o'i fywyd, credwn y bydd y darllennydd yn ddiolchgar i ni am roddi cyfieithiad llawn o honni yn y fan hon. Mae yr erthygl fel y canlyn,—

"Mae Cymru yn dod i'r rhes flaenaf yn gyflym. Ceis-iodd rhai o honom, flynyddau yn ol, alw sylw pobl Lloegr at sefyllfa a hawliau y Dywysogaeth. Darfu rhai dynion eangfryd ac yr oedd Mr. Gladstone yn un —dalu sylw i'r hyn a ddywedasom. Ond ar y cyfan, yr oedd gan John Bull ofalon ereill yn pwyso ar ei feddwl, a gwaith arall lonaid ei ddwylaw. Yr oedd yn gorfod gwylio dros a gwastathau 'cydbwysedd gallu' yn Ewrob; yr oedd raid iddo ddal i fyny Anibyniaeth a chyfanrwydd' Ymherodraeth Twrc, a sefydlu yr hyn a elwir yn scientific frontier yn Afghanistan. Yr oedd raid iddo ddarostwng y Boeriaid yn y Transvaal o dan awdurdod Lloegr, gorchfygu Cetewayo, a rheoleiddio achosion Zululand. Rhaid oedd iddo danbelennu Alexandria, llywodraethu yr Aifft, a lladd miloedd o Arabiaid yn y Soudan. Mewn gair, yr oedd yn gorfod cario allan Wladweiniaeth Dramor rymus a nerthol ym mhob parth o'r byd; ac mewn cynhariaeth i'r anturiaethau ardderchog hyn, pa hawl oedd gan ryw filiwn a hanner o Gymry i ddisgwyl y buasai efe yn gostwng ei glust i'w cwynion a'u hapeliadau hwy, nac yn wir yn talu nemawr o sylw i'w achosion ei hun?

Fel y mae yn digwydd bob amser yn ein hanes politicaidd, yr oedd yn rhaid i Gymru wneud ei hunan yn flinder, cyn y caffai sylw. Gorfu arni godi ei llais yn lled uchel ar gwestiynau yn dwyn perthynas â'r Tir, a'r Eglwys, a hen ofergoelion ereill, cyn gorchfygu dideimladrwydd ei chymdogion. Ond wedi iddi ddechreu dychrynnu y dosbarthiadau mewn awdurdod, y mae wedi dod i feddu lle mwy na mwy amlwg ym meddyliau ac areithiau dynion. Addefir, yn awr, ei bod yn meddu hanfodiad gwahaniaethol, ac nad yw i'w hystyried bellach yn fath o labed wrth gynffon Lloegr. Mae Prif Weinidogion, a rhai a fu yn Brif Weinidogion, a phob math o Wladweinwyr ac Areithwyr wedi troi llewyrch eu hwynebau arni, ac wedi ennill ei phobl trwy lais eu hudoliaeth. Mae wedi cael Dirprwyaeth Ymchwiliadol gan y Llywodraeth, a hynny i gyd iddi ei hun. Bu ei hachosion o dan sylw parchus mewn Pwyllgorau a Chynhadleddau. Gwnaeth ei llais yn glywadwy hyd yn oed yn y Senedd, er pob ymgais a wnaed yn ddiweddar i'w distewi. Canlyniad naturiol hyn oll yw, fod llawer yn cyniwair gan siarad ac ysgrifennu am y Dywysogaeth; ac os nad yw gwir wybodaeth yn amlhau, mae yr hyn sydd yn proffesu bod yn wirionedd yn cael ei daenu. Ymwrolodd rhai newyddiaduron anturiaethus gymaint, fel ag i ymwthio i mewn i'r terra incognita hwn. Aethant i'r parthau hynny o'r wlad lle y drwedir wrthym 'fod y bobl wedi eu hysgaru oddirrth wareiddiad Seisnig,' pa beth bynnag y mae hynny yn ei feddwl. Fel canlyniad y gwibdeithiau anturiaethus hyn, llanwyd y newyddiaduron â phob math o adroddiadau cyffrous, mwy neu lai amheus, o'r hyn a welsant ac a glowsant, a phortreadwyd cymeriadau personau a dosbarthiadau mewn math o anferthlyn beiddgar ag sydd mewn rhan wedi difyrru, ac mewn rhan wedi llidio y bobl y buont yn treio eu llaw arnynt, a chwynant gyda phwyslais pendant, eu bod wedi eu camddarlunio a'u henllibio. Un o'r pethau y mae yr ymchwilwyr hyn wedi ei ddarganfod, a'r hyn y maent yn ei gyhoeddi i'r byd gyda diniweidrwydd plentynaidd, ydyw y ffaith mai Cymraeg ydyw iaith ymddiddan cyffredin ymysg saith o bob deg o drigolion y 'wlad dywell' hon; datguddiad sydd ynddo ei hun yn ddigon i daro y Philistiad Seisnig & dychryn, gan fod yr argyhoeddiad yn llechu yn ei fynwes, er na feiddia ei grybwyll, nad oes dim modd i unrhyw bobl fod yn bobl wir wareiddiedig, os na fyddant yn siarad Saesneg.

"Ond nid dyma'r cyfan; oblegid cawsant allan ymhellach fod nifer fawr o newyddiaduron a chyhoeddiadau ereill yn dod allan yn yr iaith Gymraeg, a'u bod i fesur dychrynllyd yn nwylaw Anghydffurfwyr; hefyd ac y mae hyn yn cyrraedd pwyut uchaf ofnadwyaeth-eu bod yn cael eu golygu gan Weinidogion Ymneillduol, a chan nad yw Gweinidogion Ymneillduol nemawr well na dyhirod fit for treason, stratagems, and spoils; caniateir i'r darllennydd crynedig i ddychmygu y perygl y gellir dwyn ein sefydliadau iddo, pan y mae y fath ddynion yn trin offeryn mor ofnadwy, a hynny mewn iaith na ddeallir mo honni gan wylwyr gwareiddiad Seisnig. Beth ydyw yr holl gymdeithasau dirgelaid, a chyfarfodydd canol-nosawl, a chyngreirwyr ffugweddol, mewn cymhariaeth i'r perygl sydd yn llechu o dan yr iaith anadnabyddus hon, er fod, neu fe ddylai fod, ym mhob plwyf gyfarthgi gofalus, rhan o waith yr hwn ydyw gwylied a rhoddi rhybudd amserol i'r awdurdodau, mewn byd ac eglwys, o'r cynllwynion drygionus yn erbyn cyfraith ac iawn drefn sydd yn llercian o dan orchudd yr iaith Gymraeg? I ychwanegu yr ofnadwyaeth, cymerir darnau detholedig wedi eu difynnu i ddibenion cyffrous, a chyfieithir a chyhoeddir hwynt fel engreifftiau o'r Wasg Gymreig. Gwneir esboniadau arnynt gyda'r amcan i beri fod pob un a'u darllenro i gael ei ddychrynnu gymaint, fel y byddo ei wallt yn sefyll ar ei ben, like quills upon the fretful porcupine. Diau fod llawer o bethau ffol a gwyllt yn ymddangos weithiau yn y papurau Cymraeg, fel y maent yn ddigon aml yn y papurau Saesneg. Ni fyddai dim yn haws i ryw un feddai ddigon o amynedd a hoffter at ddrygsawredd, na dethol allan hyd yn oed o dudalennau papurau sydd yn proffesu digllonedd at y Wasg Gymreig, ddarnau na fyddent yn gynlluniau perffaith o synwyr da a chwaeth dda, os na fyddent yn wir, yn ffiaidd oherwydd eu heithafiaeth a'u gwrthuni.

"Yn awr, nid ydyw ond teg fod pobl Prydain yn cael gwybod am yr ystrywiau hyn sydd yn cael eu cario ymlaen ar gost pobl Cymru trwy gyfrwng rhan o'r Wasg Seisnig. Heb hynny, byddai yn anhawdd deall pa fodd y mae dynion sydd yn proffesu bod yn Gymry, ac yn wir yn Wladgarwyr Cymreig aiddgar, yn gwneud eu goreu i osod yn destynau gwawd a ffieiddiad, sefydliadau a dosbarthiadau o ddynion y rhai sydd yn cael eu parchu gan y rhan fwyaf o'n cydwladwyr. Beth ydyw ystyr yr ymosodiad a wneir yn erbyn enwadau Ymneillduol, Gweinidogion Ymneillduol a Newyddiaduron Ymneillduol ? Mae yn bur hawdd esponio. Mae Cymru yn Rhyddfrydol mewn materion gwladwriaethol, a chan fod yr Anghydffurfwyr yn cyfansoddi asgwrn cefn y blaid Ryddfrydol, yr amcan mawr yw camliwio ac enllibio yr Anghydffurfwyr gymaint ag a ellir. O ganlyniad, taenir ar led yr haeriadau a'r cyhuddiadau mwyaf disail, y rhai sydd nid yn unig yn adychu anwybodaeth dybryd, ond llwyr anallu i ddeall a gwerthfawrogi nodweddion symlaf Cymdeithas Gymreig, neu yn wir, i ddeall yn iawn y ffeithiau symlaf sydd yn gorwedd ar y wyneb. Er esiampl, fe ddywedir wrthym drachefn a thrachefn, fod nifer y Sectau Anghydffurfiol yn lleng,' y 'ceir capelau yn perthyn i bob sect posibl ym mhob man.' Mae amcan y cyfryw haeriadau yn ddigon eglur, sef peri dirmyg a chreu rhagfarn. Os cyrhaeddir yr amcan hwn, nid yw o un pwys eu bod yn hollol groes i ffeithiau. Oblegid fe wyr pob dyn nad yw yn meddu ond y wybodaeth fwyaf arwynebol am Ymneilltuaeth Gymreig, mai ychydig iawn yw nifer sectau Cymru, gan fod corff mawr yr Anghydffurfwyr yn cael eu gwneud i fyny o'r pedair canlynol, sef Methodistiaid Calfinaidd, Anibynwyr, Bedyddwyr, a Methodistiaid Wesleyaidd. Ymysg y rhai hyn y mae llawer llai o amrywiaeth athrawiaeth ac eiddigedd nag sydd ymysg y Sectau o fewn Eglwys Loegr, am y rhai y dywedwyd wrthym gan y Times, ei fod yn ddigon hysbys y gall clerigwr yn yr Eglwys honno ddysgu unrhyw athrawiaeth nad oes ond y mwyaf cyfarwydd a all ei gwahaniaethu oddiwrth Babyddiaeth, Calfiniaeth neu Ddeistiaeth.

“Dywedir wrthym hefyd fod yr holl enwadau Ymneillduol yn sefydliadau politicaidd, llawn o elyniaeth wenwynig at yr Eglwys;' haeriadau sydd nid yn unig yn anwireddus a sarhaus, ond yn ffol i'r eithaf. Nid oes neb ag sydd wedi bod yn bresennol mewn cymaint ag un o Gynhadleddau neu Gymdeithasfaoedd yr Anghydffurfwyr a all syrthio i'r fath gamgymeriadau ynfyd a gwarthus, os na fyddant yn cael eu cynhyrfu gan falais blaenorol, yr hyn nad wyf yn ei honni. Credaf fod y cam-ddarluniadau hyn a'u cyffelyb, yn codi o'r ffaith fod dynion yn anturio trin materion tu allan i gylch eu gwybodaeth a'u crmhwysder i'w deall. Y mae digon o sefydliadau politicaidd grymus yng Nghymru, ond y maent y tu allan i'r Eglwysi.

"Diamheu fod llawer o Ymneilltuwyr, yn eu cymeriadau dinasyddol, yn cymeryd rhan neilltuol yn y sefydliadau hyn. Pa fodd y gall fod yn angen, pan y maent mewn rhif, deall, a dylanwad, yn cyfansoddi rhan fwyaf pwysig y boblogaeth? Y mae yn wir hefyd, pan y mae cwestiynau cyhoeddus o bwys yn cyffroi y wlad, fod rhai o'r enwadau Anghydffurfiol yn pasio penderfyniadau yn dwyn cysylltiad a mwy neu lai â'r cwestiynau hyn. Ond y maent yn gyffredin yn gwneud hyn gyda phetrusder ac anewyllysgarwch, fel pe yn gresynu fod yn rhaid troi am foment oddiwrth eu gwaith ysbrydol at y fath faterion bydol. Rhoddaf un engraifft o'r modd y maent yn arfer trin y fath faterion, Gwarthruddir y Methodistiaid Calfinaidd yn neilltuol fel rhai yn gwneud crefydd yn ddarostyngedig i boliticiaeth. Mewn erthygl alluog a ymddangosodd yn ddiweddar yn y Traethodydd, o dan law ei olygydd parchus a galluog, y Parch. Daniel Rowlands, yntau yn aelod parchus gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, nodir y ffeithiau canlynol, Mewn Cymanfa a gynhaliwyd yng Nghaernarfon ddeufis neu dri yn ol, a'r hon oedd yn cynrychioli holl Eglwysi Methodistiaid Gogledd Cymru, derbyniwyd cenhadwri oddiwrth un o'r Cyfarfodydd Misol yn cynghori ar fod rhyw sylw yn cael ei wneud o bwnc y Degwm, ag oedd y pryd hwnnw yn cyffroi y wlad. A pha beth a wnaed? Datganodd y Parch. Dr. Owen Thomas, un o'r gweinidogion mwyaf parchus a dylanwadol yn y Corff, deimlad cryf yn erbyn y priodoldeb o ymadael oddiwrth y rheol a ffynnai yn y Cyfundeb o'r dechreu i beidio dwyn cwestiynau y gellid mewn un modd eu hystyried yn rhai politicaidd i'r Cymanfaoedd hyn. Yr oedd cydsyniad cyffredinol yn cael ei ddatgan gan y frawdoliaeth i'r syniad hwn. Ond wrth edrych ar sefyllfa neilltuol y wlad, barnwyd yn ddoeth i benodi is-bwyllgor i ystyried y mater, a dwyn ymlaen benderfyniad, i un o'r cyfarfodydd dilynol. Yr oedd y penderfyniad hwnnw, yr hwn a dynwyd allan gan Dr. Thomas ei hun, a'r hwn a gefnogwyd gan yr aelod pres- ennol dros Sir Fôn, fel y canlyn,—'Ein bod ni fel Cymanfa yn dymuno datgan ein cydymdeimlad dyfnaf âg amaethwyr ein gwlad, oherwydd yr iselder mawr yr oeddent wedi eu dwyn iddo yn y blynyddoedd diweddaf; ein bod yn gofidio yn neilltuol oherwydd yr anghydfyddiaethau gofidus a gymerasant le mewn rhai mannau mewn perthynas i'r degymau; ein bod yn gobeithio yn fawr y trefnir pethau yn fuan fel ag i rwystro pob achlysur i'r cyfryw anghydfyddiaethau, trwy ddefnyddio y degymau i ddibenion cenhedlaethol. Yn y cyfamser, yr ydym yn taer gynghori ein holl aelodau, pa faint bynnag fyddo y temtasiynau y byddant yn agored iddynt, tra yn arfer pob moddion cyfreithlon i gael yr hyn a ystyrient yn iawnderau gwladol, i wneud hynny yn y fath fodd ag a dueddo er anrhydedd eu crefydd, ac er harddu yr Efengyl a broffesant.'

Cyhuddiad arall a ddygir yn erbyn Anghydffurfwyr Cymru ydyw hwn,—Eu bod yn troi eu pulpudau yn llwyfannau politicaidd, ac yn lle pregethu yr Efengyl, eu bod yu areithio wrth y bobl mewn iaith wyllt ac anghynedrol ar gwestiynau y dydd. Yr wyf yn gwadu y cyhuddiad brwnt enllibus hwn yn bendant. Tybiwyf fod gennyf hawl i ddwyn fy nhystiolaeth bersonol ar y mater. Clywais gannoedd o bregethau o bulpudau Cymru, ac yn arbennig eiddo y Methodistiaid Calfinaidd, ymysg y rhai y magwyd fi. Traddodid rhai o honynt ar adeg o Etholiad, pan oedd y Tlad mewn berw politicaidd gwyllt. Ni chlywais un ag oedd yn y radd leiaf yn bregeth boliticaidd, neu yn cynnwys y cyfeiriad lleiaf at bynciau y dydd, y rhai oedd yn cynhyrfu meddyliau y bobl. Nid yn aml y byddaf yn myned i wasanaeth yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru, ond y tro diweddaf y gwnaethum hynny, clywais bregeth hollol boliticaidd, ac nid oedd yn llai hynod am ei bod yn cael ei lluchio at ben Mr. Gladstone, yr hwn oedd yn bresennol ar y pryd."

Nid yn hawdd y gellir prisio gwerth erthygl fel hon yn y Daily News, a hynny oddiwrth un o ddylanwad Mr. Henry Richard, er rhoddi taw ar y rhai oeddent mor barod bob amser i lychwino cymeriad y Cymry trwy gyfrwng y Wasg

Seisnig.

PENNOD XIX.

Iechyd Mr. Richard yn datfeilio—Ei gariad at Gymru—Yn myned i Dreborth—Ei fwynhad yno—Ei farwolaeth sydyn—Ei gladdedigaeth yn Llundain—Anerchiad Dr. Dale—Teyrnged Mr. Gladstone i'w gymeriad—Sylwadau y Wasg ar ei fywyd a'i waith.

(1888) Gwelir oddiwrth yr erthygl yn y bennod flaenorol fod yr un awyddfryd angherddol ym mynwes Mr. Richard i amddiffyn anrhydedd a chrefydd ei wlad, yn awr, pan yn hen ŵr 76 oed, ag oedd ynddo pan yn ŵr cymharol ieuanc dros ddeugain mlynedd cyn hynny yn Crosby Hall, Llundain, ac nad oedd ei holl helyntion Seneddol, na’i lafur gyda'r Gynıdeithas Heddwch, er eu maint, yn oeri dim ar ei gariad at hoff wlad ei enedigaeth. Ond er fod yr ysbryd yn barod i waith bob amser, yr oedd y cnawd yn wan. Rhoes marwolaeth un o'i gyfeillion mynwesol o'r un afiechyd ag oedd yn ei boeni yntau gyffro i'w feddwl, a theimlai y dyddiau hyn, nad oedd ei yrfa yn debyg o redeg ymlaen lawer pellach. Treuliai ddyddiau i drefnu ei bapurau—er, meddir, na wyddai ei wraig mo hynny—fel pe yn ymwybodol fod dydd ei ymddatodiad heb fod ymhell.

Hoffai yn fawr dreulio rhai o'i ddyddiau hamddenol gyda'i gyfaill, y diweddar Mr. Richard Davies o Dreborth, Arglwydd Raglaw Sir Fôn, yng ngolwg mynyddoedd Sir Gaernarfon ac afon brydferth y Fenai. Byddai yn mwynhau y tawelwch a'r gorffwystra yn y lle prydferth hwnnw yn fawr. Yn fuan ar ol gohiriad y Senedd, sef ar y 9fed o Awst, 1888, aeth efe a'i wraig i dalu ymweliad â'r lle hyfryd hwnnw. Caffai groesaw cynnes yn Nhreborth bob amser. Dywedai Mr. Davies, y byddai—er ei afiechyd—yn llawen a siriol, ac yn mwynhau difyrion y rhai ieuainc yn fawr. Y dydd Sadwrn cyn ei farwolaeth, aethant mewn cerbyd i Bettws y Coed, a heibio Llyn Ogwen a Chapel Curig, a mawr fwynhai Mr. Richard olygfeydd prydferth y parthau hynny. "Mae hwn," meddai, gan droi at Mrs. Davies, "yn ddiwrnod i'w gofio." Galwodd Dr. Owen Thomas yno y dydd Llun canlynol, a chawsant ymddiddan hyfryd dros ben am yr hen bregethwyr, ac am ei dad, Ebenezer Richard, yn eu plith, a mwy nag unwaith y datganai ei syndod at gôf anghydmarol Dr. Thomas. Hawdd gennym gredu hyn. Côf gennym fod yn cydgerdded ag ef tua chapel Rose Place, Lerpwl, yn amser rhyfel y Crimea, lle yr oedd Mr. Richard i draddodi darlith, a'r Parch. Henry Rees (tad Mrs. Richard Davies), i fod yn gadeirydd; y modd parchus y siaradai "ddau Mr. Rees," ac y mawr ofnai rhag iddynt ymollwng gyda llifeiriant rhyfelgar y dyddiau hynny, gan y gwyddai mor fawr oedd eu dylanwad. Diau fod adroddiadau dyddorol Dr. Owen Thomas am yr hen bregethwyr, tuag at y rhai y teimlai Mr. Richard y fath barch dwfn, a phregethau y rhai a wnaeth y fath argraff arhosol ar ei feddwl, yn rhoddi mawr foddhad iddo. Dyma'r pryd yr aeth i Gymanfa Caernarfon, ac y clywodd "orfoleddu" o dan bregeth Dr. Owen Thomas, fel y crybwyllwyd eisoes.

Nos Lun, yr 20fed, yr oedd Mr. Richard gyda nifer o gyfeillion yn Nhreborth, yn ciniawa gyda'i londer arferol; a thuag un-ar-ddeg o'r gloch, bu raid iddo adael yr ystafell oherwydd ei boenau. Aeth ei ddirdynfeydd yn waeth. Danfonwyd am y meddygon, Dr. John Roberts a Dr. John Richards, yn ddioed. Ond yr oedd yn rhy ddiweddar! Ychydig cyn hanner nos, rhoes angeu esmwythid iddo o'i boenau ym mhresenoldeb ei wraig, a Mr. a Mrs. Davies, a'r lluaws cyfeillion oeddent yn gwylied o amgylch ei wely.

Fel hyn y cafodd y Cymro gwladgarol hwn farw yn y wlad a garai mor fawr, neu, fel y dywedai Dr. Dale, yng nghyrraedd sŵn dyfroedd ac yng ngolwg mynyddoedd gwlad ei enedigaeth; ac y mae yn ddiau, fel y dywedai ei wraig alarus, pe cawsai gyfleustra i ddatgan ei ddymuniad, mai fel hyn y carasai iddi fod. Esgynnodd enaid caredig Apostol mawr Heddwch o ganol broydd tawel a distaw Treborth fry i'r wlad o fythol hedd. Yng ngeiriau tlws Ceulanydd,—

"Tra llechai yn gynnes ym mynwes mwynhad,
Yn ymyl yr afon wahanna ddwy wlad,
Derbyniodd wys angeu yn dawel ei fryd,
A chroesodd yr afon wahanna ddau fyd."

Ar yr 22ain, ar ol gwasanaeth byr yn y tŷ gan y Parch. David Charles Davies, M.A., un o gyfeillion mynwesol y trancedig, cludwyd y corff mewn arch dderw tua'r Orsaf. Yn dilyn yr elorgerbyd, ar draed, yr oedd Mr. Davies a'i dri mab; Mr. Coleman, ei fab ynghyfraith, a mab yr aelod o Norwich; Mr. Charles Pierce, U.H.; Mr. Bryn Roberts, A.S.; Dr. John Roberts, U.H.; a'r Parch. D. C. Davies, M.A. Wedi hynny, deuai cerbydau Mr. Richard Davies, yn y rhai yr oedd Mrs. Richard, Miss Richard, Mrs. Richard Davies, a boneddigesau ereill o deulu Treborth. Ar ol hynny, yr oedd cerbydau gwâg Mr. Robert Davies, Bodlondeb, Mr. Charles Pierce, Dr. John Roberts a Mr. J. Bryn Roberts, A.S. Cyrhaeddwyd Bangor tua 3 o'r gloch. Nid oedd dim ar yr arch ond

"HENRY RICHARD,

GANWYD EBRILL 3, 1812.

BU FARW AWST 20, 1888."

Cludwyd ei gorff i'w dŷ, yn Llundain, 22, Bolton Gardens, a chladdwyd ef ym mynwent Abney Park, ar ddydd Gwener, y 24ain, lle y dodwyd ef, ar ei gais ei hun, meddir, wrth ochr bedd ei hen weinidog, Dr. Raleigh. Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus. Yr oedd yn bresennol Weinidogion yr Efengyl, Aelodau Seneddol, Cynrychiolwyr yr Undeb Cynulleidfaol, y Gymdeithas Heddwch, a lluaws mawr o Gymdeithasau ereill, y rhai y bu Mr. Richard yn eu gwasanaethu yn ystod ei fywyd llafurus.

Cyflawnwyd y gwasanaeth ar yr achlysur yng Nghapel Abney, gan y Parch. Edward White a'r Parch. Dr. Dale. Yr oedd anerchiad Dr. Dale, hen gyfaill Mr. Richard, yn deilwng o hono ei hun ac o'r achlysur. Wrth gyfeirio at y ffaith mai yng Nghymru y bu farw, dywedai mai gweddus oedd iddo farw yno, oblegid carai Gymru yn angherddol. Yn ystod holl lafur a chyffroadau a dadleuon ei fywyd cyhoeddus maith, yr oedd bob amser yn teimlo dylanwad y galluoedd hynny oedd o'i amgylch yng nghartref ei febyd. Yr oedd Mr. Richard, meddai, wedi etifeddu traddodiadau yr amseroedd hynod hynny yn hanes ei wlad, pan yr oedd gwŷr o athrylith, dan ysbrydoliaeth ffydd ogoneddus, yn teithio trwy bob parth o Gymru, ac yn pregethu Efengyl Crist gyda nerth a dylanwad anghydmarol bron. Pa le bynnag y pregethent, ymdyrrai y bobl i'w gwrandaw. O drefydd a phentrefydd pell, o amaethdai a maesdrefi gwasgaredig, o'r dyffrynoedd ac ochrau y mynyddoedd, ysgydwid miloedd a degau o filoedd o wyr, gwragedd a phlant gan eu cenhadwri, fel yr ysgydwir y coed gan yr ystorm.

Ac nid cyffro y funud yn unig oedd hyn. Yn ystod dwy genhedlaeth, achubwyd Cymru rhag anghrefydd, a llanwyd ei phobl â duwiolfrydedd dwfn a gwresog. Yr oedd tad Mr. Richard yn un o'r rhai mwyaf enwog ac ymroddgar o'r dysgawdwyr cyntaf hyn.

Cyfeiriai Dr. Dale hefyd at lafur Mr. Richard gyda'r Gymdeithas Heddwch, ac fel Aelod Seneddol, mewn iaith goeth a theimladwy dros ben; ac at ei fywyd teuluaidd, o'r hyn yr oedd efe (Dr. Dale) yn dyst, am ddwy flynedd. Yr oedd yn addfwyn, yn serchog, ac anhunanol. Carai yn wresog, a cherid ef yn wresog yn ol." Ar yr un pryd, yr oedd mor gadarn a'r graig ithfaen. "O dan y cyfan gorweddai crefydd ei febyd yn dawel. Nid nad oedd yntau yn cael ei aflonyddu ar brydiau gan ystormydd ymosodol y blynyddoedd diweddaf; ond pa wyntoedd bynnag a chwythai, neu pa lifeiriant bynnag a ymosodai, yr oedd ei ffydd ef yn ddiysgog. Adeiladodd ar graig, a'r graig oedd Crist."

Wrth y bedd, cafwyd anerchiadau rhagorol, yn yr iaith Gymraeg, gan y Parch. Dr. Owen Evans, a chanwyd yr hen bennill anwyl,—

"Bydd myrdd o ryfeddodau
Ar doriad boreu wawr," &c.

Traddodwyd pregeth angladdol hefyd gan y Parch. Edward White, yng Nghapel yr hwn y bu Mr. Richard a'i deulu yn addoli am dros ugain mlynedd.

Dygwyd tystiolaethau uchel i gymeriad Mr. Richard gan luaws o wŷr enwog. Mae tystiolaeth Mr. Gladstone yn un wir werthfawr, ac yn haeddu sylw neilltuol. Gwelsom fod Mr. Richard wedi gwrthwynebu Mr. Gladstone droion yn y Senedd, ac wedi arfer geiriau trymion iawn weithiau. Ond gwyddai Mr. Gladstone mai nid pleser oedd hynny iddo, ond ffyddlondeb diwyro i wirionedd; ac yr oedd mawrfrydigrwydd cymeriad Mr. Gladstone y fath, fel yr oedd ei barch i Mr. Richard gymaint a hynny yn fwy mewn canlyniad. Ar y 4ydd o fis Medi, sef rhyw ddwy wythnos wedi marwolaeth Mr. Richard, aeth Mr. Gladstone i Eisteddfod Gwrecsam, lle y traddododd araeth, yng nghwrs yr hon y cyfeiriodd at Mr. Richard yn y geiriau canlynol,—

"Yn awr, y mae hwn yn ddydd o adgofion, ac wedi i mi siarad fel hyn am y Cymry fel cenedl, yr wyf yn cael fy adgofio i edrych i fyny at yr arysgrifen yna ar gyfran o'r muriau, a sylwi ar yr enw 'Henry Richard,' enw nas gellir cael ei well fel arwyddlun o Gymru, Cefais yr anrhydedd o'i adwaen am yr ugain mlynedd diweddaf, os nad ychwaneg, ac y mae bob amser wedi bod yn dda gennyf ddweud fy mod yn edrych arno ef mewn perthynas i bobl Cymru, o ran ymddygiad, cymeriad, cynheddfau a gobeithion, fel athraw ac arweinydd. Yr wyf mewn dyled iddo am lawer a ddysgais ynghylch Cymru, ac y mae yn dda gennyf bob amser gydnabod y ddyled honno. Ond, foneddigion, y mae ganddo hawliau eangach arnoch chwi. Mae ganddo yr hawl arnoch o fod wedi arddangos i'r byd, gynllun o gymeriad nad all uurhyw wlad lai nag edrych arno gyda chydymdeimlad a hyfrydwch. Gwelais ef yn y Senedd yn amddiffyn syniadau pendant, yn amddiffyn rhai syniadau, fe allai ymysg y rhai goreu a goleddai, er engraifft, gyda golwg ar Heddwch, yn y rhai nad oedd ganddo lawer yn cydymdeimlo âg ef neu yn ei ddilyn. Gwelais ef bob amser yn cyfuno y dewrder a'r penderfyniad mwyaf di-ildio wrth ddadleu ei egwyddorion a'i syniadau gyda'r tynerwch, yr addfwynder, a'r cydymdeimlad mwyaf at y rhai a wahaniaethent oddiwrtho. Y ffaith yw, foneddigesau a boneddigion, er nad wyf yn dymuno dwyn i mewn yma, yn afreidiol neu yn ymyrgar, ystyriaethau mor ddifrifol—dichon eu bod yn fwy cymwys ar y cyfan i le arall—y ffaith yw fod ganddo ef yr hyn a allwn ei alw yr heddwch tufewnol hwnnw ag oedd yn esponio ei hunanlywodraeth allanol; ei addfwynder yn gystal a'i ddewrder. Yr oedd yn amhosibl ei weled heb ddweud ei fod, nid yn unig yn proffesu Cristionogaeth, ond fod ei feddwl yn gysegr i ffydd Gristionogol; gobaith Cristionogol, a chariad Cristionogol; ac yr oedd yr holl nerthoedd a'r egwyddorion mawrion hynny yn tarddu o'r canolbwynt, ac yn peri i'w oleuni lewyrchu ger bron dynion; er y buasai ef ei hun yr olaf i honni neu i gydnabod fod ynddo un math neu radd o deilyngdod neu haeddiant. Mi wn, foneddigesau a boneddigion, y bydd ei enw yn cael ei hir gofio a'i fythol barciu yn eich plith, ac y mae yn dda gennyf gael y cyfleustra hwn i dalu iddo y deyrnged galonnog a diffuant, ond ber ac amherffaith hon o edmygedd a pharch."

Mae bod Mr. Richard wedi tynnu allan y fath dystiolaeth a hon oddiwrth Mr. Gladstone, nid yn unig yn siarad yn uchel am ei gymeriad Cristionogol, gloew a phur, ond hefyd yn dangos fod yng nghymeriad Mr. Gladstone ei hun, elfennau cydnaws ag oedd yn cael eu cyffroi ac yn dwyn allan ei gydymdeimlad. Talai y Wasg hefyd deyrnged o barch i gymeriad a gwaith Mr. Richard, ac nid oedd gan hyd yn oed y Times air bach i'w ddweud am dano,—

"Yr oedd," meddai y Daily News, "yn un a elwid, fe allai, gan ei elynion yn benboethyn, a hynny, mae'n debyg, am y rheswm ei fod yn ddyn o ddifrif. Sicr yw, nad oedd Mr. Richard yn cloffi rhwng dau feddwl. . . Traddodai ei areithiau gydag eglurder a byrder canmoladwy iawn; ac ni fyddai byth ym methu argraffu ar feddyliau ei wrandawyr ei fod, mewn gwirionedd, o ddifrif yn ei amcan. Dywedai swyddog Aifftaidd, yr hwn oedd yn digwydd bod yn Oriel y Tŷ, yn ystod y ddadl ar yr Aifft, ar achlysur tan-beleniad Alexandria, er ei fod ef yn gryf o blaid y peth, fod araeth Mr. Richard wedi cynhyrchu effaith ddwys iawn ar ei feddwl, oherwydd y nerth a'r difrifwch gyda pha un y traddodwyd hi."

"Nid oedd y diweddar Mr. Richard," ebe y Leeds Mercury, "wedi cymeryd rhan arbennig mewu materion cyhoeddus, ac ni siaradai ond yn anfynych, ond yr oedd ganddo ddylanwad mawr yng Nghyngorau y dosbarth Radicalaidd o'r blaid Ryddfrydig, ac yr oedd llawer o'r aelodau ieuengaf yn ddyledus am eu casineb at ryfel a'r diplomyddiaeth ansefydlog sydd yn arwain i ryfel, i'w ddysgeidiaeth anuniongyrchol ef."

"Nid oedd," meddai y South Wales Daily News, Gymro mwy nodweddiadol yn bod. Yr oedd ei enw yn air teuluaidd. Carai ei bobl, a charent hwythau yntau. Yr oedd yn Wleidyddwr doeth, ac yn siaradwr da. Parotoai ei areithiau yn ofalus"

"Cafodd y pleser," medd y Pall Mall Gazette, "o weled y pwnc o gyflafareddiad rhwng teyrnasoedd, pwnc yr oedd efe yn ben-campwr arno yn Nhý y Cyffredin, wedi ennill sylw y byd, a hynny oherwydd ei lafur egniol ef."

"Mae marwolaeth Mr. Richard," medd y Birmingham Post, "yn symud o'n mysg un sydd yn cynrychioli ysgol o wladweinwyr sydd wedi gwneud gwasanaeth pwysig i'r wlad, trwy roddi pwys arbennig a pharhaus i egwyddorion mawrion yn ein gweinyddiaeth ymarferol. Mae'n dda fod dynion i'w cael sydd yn gwrthod cydnabod dylanwad ansefydlog cyfleustra, ac yn dal mai iawnder pur ydyw unig sail deddfwriaeth. Y cyfryw un oedd Mr. Richard."

"Yr oedd yn ennill mawr," ebe Echo Llundain, "i'r Gymdeithas Heddwch gael y fath un a Mr. Richard i ddadleu ei hachos, oblegid er ei fod yn dal y syniad o anghyfreithlondeb rhyfel o dan bob amgylchiad, fe ddefnyddiodd foddion ymarferol; ac yr oedd bob amser yn barod i gyfarfod amddiffynwyr gwladweiniad tramor anturiog ar eu tir eu hunain. . . . Mae wedi troi allan yn fynych, yn y diwedd, mai amddiffynwyr Hedd wch oedd yn eu lle. Pan y mae y nwydau wedi eu cyffroi, mae cydwybod dyn yn aml yn beth sydd ar y ffordd. Bu Mr. Richard yn gydwybod i'r wlad ar fwy nag un achlysur"

Do, ac y mae bod gwlad wedi colli ei chyd- wybod, fel y mae lle i ofni ei bod, i raddau pell, yn y blynyddau diweddaf hyn, yn argoeli yn ddrwg am ei llwyddiant yn y dyfodol.

Pasiodd Pwyllgor y Gymdeithas Heddwch benderfyniad, yn cydnabod ei wasanaeth dihafal i achos Tangnefedd ar y ddaear, a dywedai fod y Gymdeithas yn ddyledus iddo am yr hyn ydoedd y pryd hwnnw; ac y mae yr Herald of Peace, am fis Medi, 1888, yn dweud mai y peth diweddaf a wnaeth Mr. Richard, ar ol ei ymweliad olaf a Swyddfa'r Gymdeithas, oedd myned at ei gyfreithwyr yn Finsbury Circus, i wneud ychwanegiad at ci Lythyr-Cymun, yn rhoddi 200p. at y Gymdeithas Heddwch, a 100p, i bob un o Golegau Cymru.

Pasiwyd penderfyniadau hefyd gan Gymdeithasau Heddwch yn y wlad hon a'r Cyfandir, yn datgan eu colled ym marwolaeth Mr. Richard, a'r un modd gan Gymdeithasfa y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhwllheli, ar gynhygiad Dr. Owen Thomas, a chefnogiad Mr. Thomas Lewis, A.S. Dywedai yr olaf fod Mr. Richard wedi ennill dylanwad llywodraethol yn y Senedd, a'i fod yn cael ei ystyried yno yn awdurdod ar bob mater yn dwyn perthynas â Chymru, a bod ei ym ddygiad yn Nhŷ y Cyffredin bob amser yn uniawn ac anrhydeddus, yn gystal at gyfeillion, ag at elynion. Yn y llythyr a ddanfonwyd oddiwrth gyfeillion Heddwch yn yr Unol Daleithiau gyda'u penderfyniad o gydymdeimlad â Mrs. Richard, dywed yr Ysgrifennydd, y Parch. Rowland B. Howard, ymysg geiriau tyner ereill,—

"Mae Lloegr yn ymddangos yn llawer llai atyniadol, a'r cefnfor yn llawer lletach er pan y mae fy nghyfaill anwyl, fy mrawd a'm gohebydd, wedi ehedeg ymaith. Ei weled a'i glywed ef oedd un o'r pethau yr oeddwn yn edrych ymlaen ato yn Paris yr haf nesaf."

Gallem ddwyn llawer o dystiolaethau ereill oddiwrth wŷr enwog, megys Arglwydd Granville, Arglwydd Randolph Churchill, Arglwydd Derby, Arglwydd Rendel, A.S., Thomas Ellis, A.S., a Mr. Lewis Morris, ac ereill, ac nid yw yr oll ond yr hyn a gwbl haeddai ein cydwladwr enwog, Mr. Henry Richard.

Yn fuan ar ol ei farwolaeth, gwnaed symudiad i gael Cofadail teilwng iddo ar ei fedd ym mynwent Abney Park, a chariwyd y peth i weithrediad, a chaed un brydferth dros ben. Ar un ochr y mae y geiriau canlynol,—

"Wedi ei godi trwy danysgrifiadau cyhoeddus, er cof am fywyd a dreuliwyd mewn ymdrechion diwyd a hunanymwadol i hyrwyddo egwyddorion Heddwch a Rhyddid Crefyddol, ac i ddyrchafu sefyllfa addysgol, foesol a pholiticaidd y bobl, ac yn arbennig trigolion y Dywysogaeth, y rhai a garai mor fawr. Gan fod yn ffyddlon i'w argyhoeddiadau, ac yn ddewr yn eu hamddiffyn, trwy ei gysondeb a'i hynawsedd, fe enillodd barch ei wrthwynebwyr yn gystal a serch a hoffter ei gyfeillion, y rhai sydd yn mawr gofleidio coffadwriaeth ei gymeriad Cristionogol uchel a'i wladgarwch goleuedig."

Ar du arall y gof-golofn y mae yr adnod

ganlynol,— "Gwyn eu byd y tangnefeddwyr, canys hwy a elwir yn blant i Dduw."— Mat. x. 5.

A’r darn adnod ganlynol yng Nghymraeg,

"Canys yr oedd yn fawr gan ei genedl, ac yn gymeradwy ym mysg lluaws ei frodyr, yn ceisio daioni i'w bobl, ac yn dywedyd am heddwch i'w hoil hiliogaeth." — Esther x. 3. (1889) Dadorchuddiwyd y Gofadail ar y I5fed o fis Tachwedd. Cafwyd anerchiadau gan Dr. Owen Thomas, Lerpwl, yr hwn, meddai, a'i hadwaenai am 60 mlynedd, a'r pregethwyr enwog yr hanasai o honynt. Clywsai ef hefyd yn pregethu pan oedd yn weinidog ieuanc yn Llundain. Nid oedd neb cyffelyb iddo am amddiffyn iawnderau y Cymry. Traddodwyd annerchiad hefyd gan Mr. Alfred Illingworth, A.S., ar ran y Gymdeithas Heddwch. Nid ennill buddugolìaethau, meddai, ar faes y gwaed ydoedd yr achos fod y Gofadail wedi ei chodi. Yr oedd mwy na digon o'r cyfryw gennym wedi eu codi eisoes; ond Cofadail i Arwr Heddwch oedd hon. Adwaenai Mr. Richard er's deng mlynedd a'r hugain, . . . a chredai na chafodd neb sylweddoli cynifer o'i amcanion ag a sylweddolodd efe. Credodd yn ei Feibl, ymgysylltodd â rhai o wŷr goreu y deyrnas,—Mri. Cobden, Bright, Sturge, ac ereill—a gwnaeth gynnydd dirfawr yn yr achos ag oedd mor agos at ei galon.

(1893) Mynnodd y Cymry hefyd godi Cof-golofn i Mr. Richard yn ei dref enedigol, Tregaron. Penodwyd pwyllgor i gario yr amcan allan ar ba un yr oedd Arglwydd Aberdare yn Llywydd. Ymysg yr islywyddion yr oedd enwau Mr. Gladstone, aelodau Seneddol ereill, gweinidogion o bob enwad, a llu o wŷr urddasol ereill. Yr ysgrifenyddion oeddent Mri. R. L. Davies, a'r Parch. T. Levi. Dadorchuddiwyd y golofn ar y 18fed o Awst, 1893, yr hon oedd wedi ei gwneuthur gan Mr. Albert Toft, o Chelsea. Y prif siaradwr ar yr achlysur oedd y Gwir Anrhydeddus Syr George Osborne Morgan, Barwnig, A.S. Dywedai ei fod yn cofio yn dda glywed Mr. Richard yn siarad yn Lerpwl am y waith gyntaf, ym mhresenoldeb Syr William Harcourt a Mr. John Bright, ac yr oedd yn teimlo ar y pryd y fath drueni oedd, fod dyn mor ragorol heb gael sedd yn Nhŷ y Cyffredin. Wrth gyfeirio at ei amddiffyniad o'i gydwladwyr yng ngwyneb ymosodiadau y Dirprwywyr Addysg, dywedai ei fod wedi "malu a chwilfriwio" y Dirprwywyr y pryd hwnnw yn llwyr. Er ei fod yn addfwyn a thyner, gallai daro yn drwm iawn pan mynnai. Yr oedd ei ymosodiad ar y tirfeddianwyr fu yn gormesu ar eu tenantiaid yn Etholiad 1868, a'i effaith ar y tirfeddianwyr oedd yn y Tŷ ar y pryd, yn rhywbeth aruthrol. "Pan eisteddodd i lawr," ebe Syr George Osborne Morgan, "yr oedd dau beth yn amlwg, sef bod Cymru wedi cael un i'w chynrychioli, a bod Mr. Richard wedi gwneud ei yrfa Seneddol yn ddiogel."

Siaradwyd hefyd gan y Barnwr Bowen Rowlands; yr Uch-gadben Jones, A.S.; Mr. Joseph J. T Alexander, Ysgrifennydd Cymdeithas y Gwrth- Opium, ar ran Cymdeithas Heddwch (gan fod Dr. Darby yr ysgrifennydd yn Chicago ar y pryd); Mr. Frank Edwards, A.S.; Mr. William Jones, Birmingham; Mr. Thomas Williams, U.H., Merthyr, un o hen gyfeillion mynwesol Mr. Richard, a Mr. D. Prosser, Sheerness (ar ran Cymry Llundain). Ysgrifennai y Daily Chronicle, mewn erthygl olygyddol, fel y canlyn ar yr achlysur,-

"Fel Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch y cofir am Henry Richard yn fwyaf neilltuol gan yr oes bresennol; ond y mae araeth swynol Syr G. Osborne Morgan yn Nhregaron, yn rhoi darluniad byw o'r areithiwr hyawdl a ymladdodd mor ddewr yn y Senedd dros Gymru. Pan yn meddwl am yrfa a bywyd Henry Richard, 'y dyn na wnaeth elyn erioed,' yr oedd yn naturiol i'r siaradwr edrych ar y dyddiau hyn fel rhai dirywiol. Yr ydym wedi pellhau yn fawr heddyw oddiwrth fywyd tawel a difrifol Henry Richard, ac ni fyddai dim yn fwy buddiol i ni yn awr nag efrydu ei fywyd personnol a pholiticaidd ef.”

Fel yr ydym wedi ceisio desgrifio, y bu fyw, y bu farw, y claddwyd, ac yr anrhydeddwyd y gwladgarwr twymgalon, yr anghydffurfiwr pybyr, y carwr Addysg Rydd gwresog, a'r Apostol Heddwch selog

HENRY RICHARD

—————————————

MR. ELEAZAR ROBERTS

—————————————

PENNOD XX

Adolygiad ar brif waith bywyd Mr. Richard—Ei safle ar y pwnc o Heddwch—Sylwedd ei brif ysgrifeniadau arno.

Credwn nas gellir darllen y tudalennau blaenorol heb ganfod fod Mr. Richard wedi cyflawni gwaith amhrisiadwy o werthfawr ynglŷn â Chymru,—ei chrefydd, a'i haddysg.

Dymunol fuasai sefyll uwch ben y gwaith mawr hwn, a dangos mor ddyledus ydym fel cenedl iddo yn y cysylltiadau hyn; y modd y gorfododd y Saeson i edrych gyda mwy o barch arnom, ac y danghosodd fod y Wasg Seisnig yn berffaith anwybodus mewn perthynas i neilltuolion y Cymry fel cenedl. Danghosodd hefyd fod eu Hymneillduaeth wedi eu dyrchafu, ac mai nid y peth dirmygedig hwnnw ydoedd ag y mynnai rhai ei bod. Gwnaeth hyn ar yr Esgynlawr, trwy y Wasg, ac yn y Senedd.[24] Ac ar ol marwolaeth ei gyfaill, Edward Miall, nid fel amddiffynydd Ymneillduaeth y Cymry yn unig yr edrychid arno yn y Senedd, ond fel cynrychiolydd Ymneillduaeth y Deyrnas yn gyffredinol.

Nid myned i'r Senedd a wnaeth Mr. Richard er mwyn ei anrhydedd ei hun, ond i wasanaethu ei oes. Dywedir fod Arglwydd Beaconsfield, pan oedd yn Mr. Disraeli, wedi torri unwaith i ymddyddan â John Bright yn un o gynteddau Tŷ y Cyffredin, ac wedi dweud wrtho yn ddifrifol mewn adeg o siomiant. "Gwyddoch, nad oes gennych chwi na minuau un amcan arall wrth barhau yn aelodau o'r Tŷ hwn, ond ennill enwogrwydd." Pan ddywedodd Mr. Bright wrtho ei fod yn hyderu fod ganddo ef (Bright), amcan uwch, sef lles y deyrnas, troes Disraeli ar ei sawdl, gan godi ei ffroen. Nid oedd yn gallu deall dyn gonest fel John Bright. Yn ddiameu, ni fuasai, ychwaith, yn deall Henry Richard, Nid oes neb erioed wedi tybied am foment fod ganddo ef un amcan arall yn chwilio am sedd yn y Tŷ, ond cario allan yr egwyddorion mawrion a phwysig y credai mor ddiysgog ynddynt. Yr oedd swydd, a sefyllfa, a dyrchafiad personol, fel amcanion i ymgyrraedd atynt, yn bethau nad aethant ar draws ei feddwl erioed, er, mae yn ddiau, nad oedd yntau, fel pob dyn gwir fawr a gwir onest, heb fod yn eiddigeddus iawn dros ei enw da, ac yn meddu mesur o uchelgais.

Ond, er cymaint a wnaeth Mr. Richard o blaid Cymru, Addysg ac Anghydffurfiaeth, mae yn rhaid cydnabod mai amcan mawr ei fywyd oedd gwasanaethu achos Heddwch. Tystiolaeth Mr. Gladstone am dano yw, mai ei egwyddorion heddychol oedd y "rhai goreu a goleddai."

Dymunem, gan hynny, alw sylw arbennig at y rhan hon o'i waith, a hynny, nid yn unig am mai hwn oedd gwaith mawr ei fywyd, ond am ein bod yn credu nad ydyw ei lafur a'i ddysgeidiaeth yn yr achos hwn, wedi cael y sylw ag sydd yn deilwng o'i bwysigrwydd a'i ddylanwad yn y dyfodol ar y byd. Heblaw hynny, yr ydym yn ofni nad ydyw pawb, hyd yn oed o'i edmygwyr pennaf, wedi dirnad yn drwyadl safle Mr. Richard gyda golwg ar y pwnc hwn. Mae rhai o Gristionogion goreu y deyrnas, dynion a'i parchent ef yn fawr, ac a gyd-weithient âg ef ym mhob achos da arall, dynion a gredent nad oedd un dadleuydd cadarnach, tecach, a mwy sylweddol nag ef, pan yn trin achos Cymru, Ymneillduaeth, Addysg, a phynciau cyffelyb, yn tybied, ar yr un pryd, gyda golwg ar y pwnc o Heddwch, fod 'hynawsedd a thynerwch ei deimlad yn meistroli ei ddeall a'i reswm, ac, o ganlyniad, nad oedd yn ddiogel ei ddilyn ar y pwnc hwn. Yn awr, y mae o bwys i sylwi nad oedd un pwnc ag yr oedd Mr. Richard wedi ei astudio yn fwy trwyadl, wedi darllen mwy arno, yn teimlo yn fwy aiddgar drosto, ac yn fwy argyhoeddedig ei fod yn sefyll ar dir cadarn a diysgog Cristionogaeth, rheswm a synwyr cyffredin, mewn perthynas iddo, na'r pwnc hwn o Heddwch. Nis gallwn dafu mwy o sarhad ar ei goffadwriaeth, na thrwy edmygu ei syniadau a'i lafur ym mhob cyfeiriad arall, a bod yn ddiystyr o'i argyhoeddiadau dyfnaf ar y pwnc hwn. Credwn mai dyma'r pwnc oedd nesaf at ei galon; a'r un y carasai iddo gael y lle amlycaf yn ei goffadwriaeth, a theimlwn, gan hynny, y dylem nodi yn lled fanwl ei olygiadau arno, gan hyderu y dygir lluaws ein darllenwyr i dalu sylw mwy arbennig i'w olygiadau neilltuol ef ar y pwnc pwysig hwn, er y gallant ymddangos i rai, fe allai, yn rhai eithafol.

Mae yn iawn i ni gydnabod, ar y dechreu, fod Mr. Richard yn un ag oedd yn dal fod rhyfel, o dan bob amgylchiad, yn groes i egwyddorion Cristionogaeth; yr un mor groes ag ydyw twyll, anonestrwydd, neu anwiredd. Nis gallai, mewn un modd, ddwyn ei feddwl i ddygymod a'r syniad fod dim yn cyfreithloni gwaith Cristion yn cymeryd arfau dinistr i'w ddwylaw, ac amcanu at fywyd ei gyd-ddyn. Yr oedd yn un ag y mae y byd yn arfer estyn bys ato mewn gwawd, gan ei alw yn Peace at any price man. Byddai, er hynny, yn anghymeradwyo yr enw hwn ar y blaid y perthynai iddo, ac ar un am gylchiad troes y gwawd yn erbyn ei wrthwynebwyr yn Nhŷ y Cyffredin, trwy olrhain tarddiad yr enw at y Duc Wellington! Dywedodd ar yr amgylchiad hwnnw, ei fod yn herio yr holl fainc esgobol i brofi fod rhyfel yn unol âg egwyddorion Cristionogaeth. Credai mai dyma'r tir cadarnaf i sefyll arno wrth ddadleu yn erbyn rhyfel. A mynych y cyfeiriai at gyngor Mr. Cobden iddo, at yr hwn y cyfeiriwyd eisoes. Ond gwelsom nad oedd Mr. Richard, er hynny, yn cadw at y cyngor hwn bob amser. Yn yr Herald of Peace, yn fynych, ac yn y Senedd, bob amser, arferai gymeryd amddiffynwyr rhyfel ar eu tir eu hunain, gan ddangos anghyfiawnder, ffolineb, barbareidd-dra, creulondeb, a difudd-der y rhyfeloedd arbennig a fyddent o dan sylw.

Am Mr. Cobden, nid oedd efe yn condemnio rhyfel ar bob amgylchiad. Ac er fod John Bright yn perthyn i gorff y Crynwyr, y rhai sydd yn credu fod pob rhyfel yn groes i egwyddorion Crefydd Crist, nid ydym yn siwr y buasai yntau yn gweithredu yn ol yr egwyddor honno bob amser. Dywedodd mewn cyfarfod cyhoeddus yn Westminster, ar yr 22ain o Chwefrol, 1887, y byddai yn ddigon buan gofyn iddo ef a oedd yn myned mor bell ag i gondemnio pob rhyfel pan ddeuai y byd i gondemnio rhyfeloedd anghyfiawn a di-raid; ac wrth ysgrifennu at gyfaill yn Manchester unwaith, dywedai,—"Gall fod yn wir nas gellid bob amser osgoi rhyfel, ac mewn rhai amgylchiadau, gallai fod yn gyfreithlon." Ac mewn llythyr i'r Spectator ar y 25ain o Fedi, 1882, dywedai,—"Nid wyf erioed wedi gwrthwynebu unrhyw ryfel neilltuol ar y tir fod rhyfel, o dan bob amgylchiad, yn anghyfreithlawn. . . . . Nid wyf yn awyddus i ddadleu y cwestiwn dansoddol hwn."

Ond am Mr. Richard, fe siaradai bob amser yn glir a difloesgni ar y mater. Yr oedd ei gredo ar y pwnc mor eithafol a'r Crynwr mwyaf aiddgar. Mor bell yn ol a'r flwyddyn 1845— tair blynedd cyn iddo fod yn Ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch—traddododd araeth yn yr Hall of Commerce ar "Ryfel," a thriniodd y cwestiwn o gyfreithlondeb, neu yn hytrach, anghyfreithlondeb rhyfel amddiffynnol, a datganodd ei syniadau arno. Cyn i un o'n darllenwyr ddechreu tosturio wrth ordynerwch neu anwroldeb Mr. Richard, cynghorem ef i ddarllen ei sylwadau ar y cwestiwn yn yr araeth honno.

Nid yw pawb yn deall y tir y saif y Crynwyr, ac y safai Mr. Richard amno yn y mater hwn. Camddeall y tir hwn sydd yn peri fod cynifer yn codi y gwrthddadleuon a wnant yn erbyn eu daliadau. Nid yw y Crynwyr, ac nid oedd Mr. Richard mor ffol a honni, na fyddai cario allan eu hegwyddorion yn peri iddynt ddioddef neu osod eu meddiannau a'u bywyd mewn perygl mewn amgylchiadau neilltuol. Dadleuai yr addefai pawb fod gonestrwydd a geirwiredd yn ddyledswyddau moesol rhwymedig ar bawb, ond byddai yn hawdd tybied amgylchiadau y gellid gosod dyn ynddynt ag y byddai ar ei golled, os nad yn peryglu ei fywyd wrth lynnu yn ddiysgog wrth y dyledswyddau hynny. Yr un modd gyda golwg ar beidio ymladd; er y gallai fod yn anhawdd iawn, ac yn beryglus i fywyd dyn i gario hynny allan ar amgylchiadau neilltuol, eto, gan fod ymladd yn groes i ddysgeidiaeth y Testament Newydd, rhaid oedd ufuddhau i Grist, bydded y canlyniadau yr hyn y bont. Ond tra yn dal hyn, yr oedd ganddo gymaint o ffydd yng Nghrist fel y credai fod yr egwyddorion Cristionogol hyn yn siwr o fod yn fwy diogel ac effeithiol i ddwyn dedwyddwch i'r byd, yn y pen draw, na'r egwyddorion cyferbyniol. Mae eu bod wedi eu gorchymyn gan Grist, a phrofiad dynion pan yn eu cario allan yn deg, yn profi hynny. Mae Mr. Richard, yn yr araeth y cyfeiriwyd ati, yn dangos fod y reddf sydd yn ein natur yn ein harwain i amddiffyn ein hunain pan ymosodir arnom, i fod o dan lywodraeth rheswm a chydwybod ; mai dyna sydd yn gwahaniaethu dyn oddiwrth yr anifail, fel y danghosir yn glir iawn gan Esgob Butler. Ac ym mhellach, fod rheswm a chydwybod drachefn i fod o dan ddeddf i Grist, gan fod yn rhaid "caethiwo pob meddwl i ufudd-dod Crist." Y cwestiwn, gan hynny, yw—A ydyw Cristionogaeth yn caniatau i ni i ddinistrio ein gilydd, hyd yn oed mewn rhyfeloedd hunan-amddiffynnol? Dadleua Mr. Richard ei bod yn dysgu yn gwbl groes i hynny, a'i bod yn bendant yn condemnio gweithrediad y nwydau sydd yu torri allan yn y cyfryw ryfeloedd. Ni thybiodd Crist na'i Apostolion erioed y buasai eu disgyblion yn euog o'r gweithredoedd creulon hynny yn erbyn bywydau dynion sydd yn cymeryd lle mewn rhyfeloedd ymosodol. Ond fe ddarfu iddynt ragweled, pan yr ymosodid arnynt ar gam, y gallent gael eu temtio i ddial, yn ol "greddi eu natur;" ac o ganlyniad, y maent yn gwahardd ac yn condemnio hyn gyda phwyslais a mynychder nas gellir ei gamgymeryd. "Nac ymddielwch, rai anwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint, canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial, mi a dalaf, medd yr Arglwydd." "Na wrthwynebwch ddrwg." "Gwelwch na thalo neb ddrwg am ddrwg i neb, eithr yn wastadol dilynwch yr hy sydd dda tuag at eich gilydd, a thuag at bawb." "Os a chwi yn gwneuthur yn dda, ac yn dioddef, y byddwch dda eich amynedd, hyn sydd rasol ger bron Duw." O ran hynny, byddai difynnu yr oll a ddywedir ar y pen hwn yn ddim amgen na difynnu cyfran helaeth o'r Testament Newydd.

Ond a ydyw dyn felly i beidio amddiffyn ei hun? Na; y mae ganddo luaws o ffyrdd heb ddial a thywallt gwaed, defnyddio cleddyfau a bidogau. Y llwybr Cristionogol ydyw gorchfygu drygioni trwy ddaioni,—"Os dy elyn a newyna, portha ef." Pe byddai ein ffydd yn gryfach, gallem anturio i fysg ein gelynion gyda mwy o ddiogelwch na phe byddai gennym arfwisg o ddur.

Ond y mae y gwrthwynebydd yn dweud mai ofer siarad fel hyn, ac yn myned i ddychymygu amgylchiad neilltuol, megys pan ymosodid arnom gan leidr? Tra nad oedd Mr. Richard am osgoi anhawster fel hwn, cymer achlysur i nodi mor beryglus i achos moesoldeb ydyw bod yn rhy barod bob amser i "ddychymygu amgylchiadau" fel hyn. Yr ydys, trwy hynny, yn apelio, nid at reswm na Christionogaeth, ond at deimladau ofnus dyn. Hawdd fyddai dychmygu angylchiadau yn y rhai y byddai yn anhawdd cadw at y gwirionedd a bod yn onest; ond nid fel hyn yr ydys yn arfer dysgu y dyledswyddau hynny. Ond i gyfarfod â'r amgylchiad o ymosodiad personol arnom, dadleuai Mr. Richard nad oedd gennym un hawl i wneud ymosodiad dialgar yn ol. Gallem arfer moddion moesol, ac apelio at reswm a chydwybod yr ymnosodydd. Gwyddai y byddai rhai yn gwawdio y fath syniad, ond fe ddarfu i Barclay a Leonard Fell, ac ereill, wneud hynny, a buont yn llwyddiannus. Neu, fe allem ffoi, os byddai modd. Beth! bod mor anwrol a ffoi o herwydd perygl? Nage, ebe Mr. Richard, ond ffoi rhag y demtasiwn i gyflawni pechod. Dyma'r dewrder pennaf. Neu, hwyrach, y gellid arfer nerth neu allu corfforol i wrthweithio yr ymosodiad, ond peidio gwneud hynny mor bell ag i gymeryd bywyd. Gan Dduw yn unig yr oedd y cyfryw hawl.

Ond beth os byddai y cwbl yn aneffeithiol, ac nad oedd dim i'w wneud ond lladd, neu i mi gael fy lladd? Beth ydwyf i wneud y pryd hwnnw? "Gwneud," atebai Mr. Richard, "marw fel Cristion cywir, marw yn hytrach na chyflawni trosedd yn erbyn deddf Duw." Addefai pawb y byddai yn ddyledswydd arnom, yn hytrach na gwadu enw Crist, i farw fel y merthyron gynt. Pam na ddylid edrych ar dyn a ddewisai farw, yn hytrach na throseddu un o reolau moesol dysgeidiaeth Crist yn y Testament Newydd, yn ferthyr mor wirioneddol a'r dyn a rydd ei fywyd i lawr dros un o'i athrawiaethau?"[25]

Ond dywedir weithiau nad yw y ddysgeidiaeth hon yn y Testament Newydd, ond yn gymhwysiadol at bersonau unigol, ac nid at lywodraethau a theyrnasoedd. Ond gofynnai Mr. Richard a ydyw y Testament Newydd mewn un man yn dweud hynny; sef bod gweithredoedd a waherddir i Gristion unigol yn gyfreithlon i lywodraeth Gristionogol? Ni fyddai hyn ond dymchwelyd holl seiliau moesoldeb. Ond pe addefid fod rhyfel amddiffynnol yn gyfreithlawn; gofynna Mr. Richard, pa le y gorwedd y llinnell rhwng rhyfel gwir amddiffynnol, ac un ymosodol? Os hunan-amddiffyniad yn unig sydd yn gyfreithlon, y foment yr eir dros ben hynny, ac y dechreuir ymosod ar y gelyn, yr ydys yn myned i dir anghyfreithlon. Y gwir yw, na fu erioed ryfel a ystyrid yn un amddiffynnol yn unig ar y dechreu, na therfynodd yn un ymosodol. Mae hanes holl ryfeloedd y byd yn dangos hynny, yr hyn sydd ynddo ei hun yn profi geudeb yr ymresymiad o blaid yr hyn a elwir yn rhyfel hunan-amddiffynnol yn unig, tra yn condemnio rhyfel ym- osodol.

Dyna oedd dysgeidiaeth Mr. Richard yn 1845, a glynnodd wrth yr un ddysgeidiaeth hyd ei fedd. Carem i'r rhai fydd yn edrych arni yn eithafol, ddarllen y gwahanol erthyglau a ysgrifennodd Mr. Richard yn yr Herald of Peace ar y wedd hon ar y cwestiwn. Y mae yn ei drin mewn atebiad i luaws o wŷr dysgedig sydd yn dwyn rhesymau tebyg i'r rhai a nodwyd uchod, ac yn eu hateb. Pa bryd bynnag y teimla rhyw un awydd i daflu y Bregeth ar y Mynydd, a dysgeidiaeth yr Epistolau o'r neilltu, gan honni nad oeddent i gael eu hesbonio yn llythyrenol, troai Mr. Richard arnynt bob amser, gan ddweud mai nid ar y llythyren yr oedd efe yn dibynnu, ond ar yr ysbryd cyffredinol oedd yn rhedeg trwyddynt oll. Er na olygid i ni yn llythyrenol droi y rudd aswy pan darewid ni ar yr un dde, a oeddem, gan hynny, i fyned i'r eithafion cyferbyniol, a thrywanu ein gelyn, a'i ladd, a llosgi ei dai ac yspeilio ei eiddo? Ac os nad oedd gwadiad yr esboniad llythyrenol yn cyfreithloni y pethau hyn, nid oedd yn cyfreithloni rhyfel.

Pwysai Mr. Richard yn fynych ar y ffaith fod y Cristionogion, ym mlynyddoedd boreuaf Cristionogaeth, yn ymryddhau oddiwrth y fyddin Rufeinig; a bod y paganiaid hynny a droent at Gristionogaeth trwy offerynoliaeth y Cenhadon, bob amser, megys o honynt eu hunain, yn teimlo fod rhyw anghydnawsedd rhwng y grefydd newydd a'u rhyfeloedd, a'i bod yn rhwystr ar eu ffordd i fyned allan i ymladd yn erbyn llwythau gelynol.

Ond nid dyma'r unig dir, na'r un mwyaf cyffredin y safai Mr. Richard arno. Dadleuai fod rhyfel, nid yn unig yn groes i Gristionogaeth, ond yn un o olion barbariaeth, yn beth ynfyd, costus, creulon, ac anynol, a chredai fod yn llawn bryd dyfeisio moddion i derfynnu anghydfyddiaethau rhwng teyrnasoedd ag oeddent yn fwy cydnaws â thyfiant gwareiddiad a Christionogaeth na rhyfel. Yn wir, nid oes un wedd ar y cwestiwn nad yw wedi ei chymeryd i fyny yn ei wahanol ysgrifeniadau.[26]

Tuag at ddeall safle ymarferol Mr. Richard ar y pwnc o ryfel, dichon nad allwn wneud yn well na rhoddi cynhwysiad papuryn a ddarllenwyd ganddo o flaen Cynhadleddau yn yr Hague, Cologne, Milan, Llundain a Lerpwl, rhwng y blynyddoedd 1875 ac 1887, ar "Resymoldeb Cyflafareddiad Ryng-wladwriaethol;" a Thraethawd a ysgrifennodd ar "Fuddugoliaeth raddol Cyfraith ar Nerth Anifeilaidd."[27] Gan y gellir edrych ar y Traethawd hwn fel math o sylfaen ar ba un y gellir adeiladu y pwnc o Gyflafareddiad arni, ni a gyfeiriwn ato gyntaf. Mae y Traethawd yn un galluog iawn ar y testyn, ac yn ffrwyth darlleniad helaeth ac ymchwiliad manwl. Gofynna a oedd rhywbeth ffol yn y dybiaeth y gall teyrnasoedd Ewrob ddod i gydnabod hawl cyfraith i benderfynnu ymrafaelion ac anghydfyddiaethau, yn lle nerth anifeilaidd? Credai fod y syniad hwn yn berffaith gyson â thuedd gynhyddol gwareiddiad.

Gwyddys, mai yr arferiad ar y dechreu oedd, i ddynion amddiffyn eu hunain a'u hawliau trwy nerth corfforol. Ac y mae yn syn mor hir y buwyd cyn diddymu yr arferiad hwn. Un o'i holion ydoedd y drefn o benderfynnu achos trwy ymladd. Yr oedd y drefn farbaraidd hon yn cymeryd y ffurf o brawf cyfreithiol. Dygid y ddwy blaid ymlaen, ac yna gorchymynai y Barnwr iddynt ei hymladd hi allan. Dewisid y maes; yn fynych byddai yn agos i Eglwys; elai y ddau i wasanaeth yr offeren yn gyntaf, a chyflawnid llawer o seremoniau gyda holl bwysigrwydd defodau llys barn. Caniateid i foneddwyr ymladd ar feirch, merched a chlerigwyr i ymladd trwy ddirprwywyr, ac yr oeddent i ymladd hyd yr hwyr, neu nes i un gael ei orchfygu. Am beth amser, ar ol y flwyddyn 1066, hon oedd yr unig drefn.

Wedi amser Harri yr ail, dygwyd y drefn o brawf trwy reithwyr i arferiad, os na fyddid yn dewis yn hytrach y prawf trwy ymladd. Parhaodd cyfraith y profi trwy ymladd hyd y flwyddyn 1818, a'r hyn a barodd y diddymiad oedd, fod dyn, yn y flwyddyn honno, wedi apelio am gael ymladd â'i wrthwynebwr. Diau fod pawb yn teimlo yn awr fod y dull hwn o brofi achos mewn llys yn un barbaraidd; ond y mae Mr. Richard yn gwasgu tri sylw adref oddiwrth yr arferiad. (1.) Nas gellid dweud dim yn erbyn yr arferiad nad ellir ei ddweud hefyd yn erbyn rhyfel. (2.) Bod dynion wedi ymlynnu wrth yr arferiad am fynyddoedd lawer gyda'r un ystyfnigrwydd ag y maent yn awr yn glynnu wrth ryfel. (3.) Ac eto, er hyn oll, fod yr arferiad o'r diwedd wedi gorfod cilio o flaen gwareiddiad a synwyr cyffredin.

Meddylier eto am arferiad neu sefydliad arall. Am ganrifoedd lawer yr oeddid yn caniatau rhyfeloedd rhwng pleidiau anghyoedd-pleidiau yn cydnabod yr un gyfraith gyffredinol—fel yn meddu yr un hawliau a rhyfeloedd rhwng teyrnasoedd yn awr. Os gallai unrhyw ddyn a gydnabyddid fel math o arweinydd ar ddynion, eu casglu ynghyd a'u harwain i ddial rhyw gam ar ei gymydog mewn cyffelyb amgylchiadau, cydnabyddid ei hawl i wneud hynny. Ond yr oedd yn rhaid iddo fod yn fath o bendefig. Yr oedd cydnabod a chaeth-ddeiliaid y penaeth o dan orfod i ymladd drosto. Hawdd deall fel yr oedd yr arferiad hwn yn darostwng pobl i sefyllfa farbaraidd, fel y dengys Robertson, yr hanesydd. Yr oedd yr eithafion mewn creulondeb yr elai yr ymladdwyr hyn iddynt yn arswydus. Buwyd yn hir iawn cyn gallu darostwng yr arferiad barbaraidd hwn a'i ddwyn o dan ddylanwad cyfraith, er bod yr Eglwys a Chynghorau wedi siarad yn uchel yn ei erbyn. Cydsyniwyd i ddechreu, i beidio ymladd yn ystod gwyliau yr Eglwys a dyddiau arbennig ereill, a gelwid y dyspeidiau hyn yn Rhyfel-baid Duw (Truce of God). Mae Mr. Richard, wrth alw sylw at yr ymdrechion lawer a wnaed i ddiddymu yr arferiad, yn dweud fod pelydr o oleuni o'r diwedd wedi tywynu ar feddyliau y barwniaid eu hunain, a'u bod wedi cytuno i apelio yn eu cwerylon at ddyfarniad eu cyd-benaethiaid, a gwasga y ffaith adref gyda grym argyhoeddiadol, nad oedd dim yn gwahaniaethu y rhyfeloedd hyn, o ran ffolineb ac anghyfiawnder, oddiwrth ryfeloedd y dyddiau presennol rhwng teyrnasoedd â'u gilydd. Geilw Mr. Richard sylw eto yn y Traethawd dan sylw, fod yr holl wledydd mawrion sydd yn awr yn cyfansoddi Cyfandir Ewrob, ychydig o ganrifoedd yn ol, yn cael eu gwneud i fyny o daleithiau neu genhedloedd gwahanol, y rhai a dybient fod eu buddiannau yn amrywio; ac yr oeddent yn ymladd a'u gilydd fel y mae teyrnasoedd mawrion yn gwneud yn awr.

Yr oeddyn Lloegr unwaith, saith o deyrnasoedd gwahanol, o dan yr enw Heptarchy, ac yr oedd Gorllewinbarth yr Ynys yn cael ei rannu i bum teyrnas. Yr oedd y rhai hyn yn byw mewn anghydfod a rhyfel parhaus a'u gilydd. Pe dywedasai rhyw un y pryd hwnnw y buasai y Taleithiau hyn yn ymuno o dan yr un awdurdod llywodraethol, prin y credid ef. Ar ol trin y pwnc hwn gyda mesur helaeth o fanylder, mae Mr. Richard yn gofyn, os ydyw gwareiddiad wedi diddymu rhyfeloedd taleithiol, pam nad all gwareiddiad uno y gwahanol deyrnasoedd yn y fath fodd ag i gael rhyw gyfraith neu ddealltwriaeth a fydd yn foddion i atal rhyfeloedd rhyngddynt? Credai fod yr anhawsterau ar y ffordd yn llawer llai na'r rhai sydd wedi eu gorchfygu eisoes trwy y moddion a enwyd. Nid yw y teimladau gelyniaethol rhwng cenhedloedd mor gryf ag oeddent rhwng y Celtiaid a'r Sacsoniaid yn y wlad hon, a'r cenhedloedd cyffelyb yn Ffrainc a Rwsia. Ac y mae moddion trafnidiaeth a chymdeithasiad rhyngddynt yn fwy helaeth yn y dyddiau hyn nag oeddent rhwng cenhedloedd cymharol agos y dyddiau gynt. Pam, gan hynny, yr edrychir ar y dynion sydd yn ceisio cario i'r dyfodol y ddeddf fawr a welsom mewn gweithrediad yn y gorffennol yn ynfydion ? Onid ein dyledswydd yw dwyn y ddeddf hon i weithredu mewn cylch eangach, sef rhwng teyrnasoedd a gwladwriaethau? Mae rhyw fath o gyfraith rhwng teyrnasoedd mawrion eisoes, ond y mae yn bennaf mewn cysylltiad â dygiad rhyfel ymlaen. Os gellir cytuno ar rai pwyntiau, pam nad ellir ar ereill, a thrwy hynny ddwyn y cenhedloedd o dan weithrediad deddf neu gyfraith, yn lle o dan lywodraeth nerth anifeilaidd yn unig? Ceisiwn ddangos yn y bennod nesaf fel y profai

Mr. Richard fod hyn yn beth ymarferol.

PENNOD XXI

Y dadleuon yn erbyn Cyflafareddiad—Yn beth mewn gweithrediad eisoes-Dros ddau cant o engreifftiau rhwng 1815 a 1901—Llwyddiant llafur Mr. Richard.

Yn 1887, fe gyhoeddodd Mr. Richard bamffled yn cynnwys papurau ar “Resymoldeb Cyflafar- eddiad Ryngwladwriaethol a'i gynnydd diwedd- ar," y rhai a ddarllenwyd mewn cynhadleddau o'r Gymdeithas er diwygio a chrynhoi ynghyd Gyfraith Cenhedloedd. Darllenwyd y papurau hyn yn yr Hague, Cologne, Milan, Lerpwl a Llundain. Cyfeiriwn, yn fyr, at eu cynhwysiad. Nid oes neb na addefa mai gwell-yn lle myned i ryfel-fyddai terfynnu cwerylon trwy foddion heddychol; ond pan eir at y gwaith codir pob math o wrthwynebiad. “Ryfeloedd sydd wedi bod bob amser, ac ofer ydyw siarad.” Dyna fel y siaredir; ac o ran hynny dyna fel y siaradwyd pan geisiwyd diddymu caethwas- iaeth, ac y dadleuid o blaid Rhyddid gwladol. A ydym mor ffol, fe ofynnir, a thybied y bydd dynion âg arfau yn eu dwylaw, a'u nwydau wedi eu cyffroi, yn barod i'w rhoi heibio, a phlygu i benderfyniad barnwyr ac i ddylanwad rheswm ? Addefai Mr. Richard nad oedd Cyf- lafareddiad yn feddyginiaeth anffaeledig rhag pob anghydfod; a gwyddai ei fod yn fwy cym- hwysiadol at rai anghydfyddiaethau nag ereill. Ond pan yr haerir, fel y gwneir yn fynych, nas gellir penderfynnu y cwestiwn hwn ac arall trwy gyflafareddiad, yr oedd efe, Mr. Richard, bob ainser yn dueddol i ofyn, Paham? Ac nid oedd byth yn cael atebiad boddhaol. Yr unig beth a wneid fyddai, son am ein hanrhydedd fel gwlad. Y peth pwysig, fel y dywedai y Proffeswr Sheldon Amos, oedd ceisio cynefino y bobl âg engreifftiau o'r peth wedi cael ei gario allan i weithrediad. Yr oedd pob engraifft yn gorfodi y gwrthddadleuwr i gilio cam yn ol. Beth pe buasai y lluaws cwestiynau dyrys ynglŷn â'r Alabama wedi terfynnu mewn rhyfel? Buasid yn dadleu fod cynifer o gwestiynau ereill wedi codi ynglŷn â'r prif gwestiwn, fel nas gallesid byth eu penderfynnu trwy gyflafareddiad. Y lluaws gwestiynau ereill sydd yn codi, a'r teimladau digofus sydd yn enynnu yn amser rhyfel sydd yn peri fod y cwestiwn mawr yn ymddangos yn un mor gymhlethedig, ac yn arwain i'r dybiaeth nad oes ond rhyfel a all ei ddadrys. Ein hamcan ni, medd Mr. Richard, ydyw ceisio rhwystro i'r teimladau digofus hyn godi rhwng teyrnasoedd a'u gilydd. "Pen y gynnen sydd megys ped agorid argae, am hynny, gad ymaith ymryson cyn ymyryd â hi."

Gofynnir weithiau, a ydys yn meddwl y gwnai concwerwyr mawr, y rhai sydd yn amcanu at orchfygu y byd ymostwng i osod eu hamcanion o flaen Cyflafareddwyr? Na fyddent, mae'n debyg, ond nid yw Cyfraith yn llai bendithiol am na wna y fath rai a Rob Roy, Robin Hood, a Jack Sheppard ymostwng iddi. Mynych y cyfeirir at Ryfel y Crimea. Dywedir wrthym fel dadl yn erbyn Cyflafareddiad, mai pethau ereill heblaw yr un peth a broffesir ydyw gwir achos y cweryl, megys uchelgais gwladweinwyr, eiddigedd rhwng cenhedloedd, ac awydd am ogoniant milwrol, fel yn y rhyfel hwnnw. Ond dyma un o'r dadleuon cryfaf o blaid cael rhyw lys o gyflafareddiad. Ni feiddiai un deyrnas ddwyn y pethau a enwyd o flaen y cyfryw lys. Myn rhai hefyd nas gellir penderfynnu cwestiwn ynglŷn âg anrhydedd neu urddas gwlad o flaen Cyflafareddwyr. Ond y gwir yw fod anrhydedd gwlad yn dal cysylltiad â phob anghydfod rhyngddi a gwlad arall. Pan gynhygiodd America gyntaf roddi cwestiwn yr Alabama i ddyfarniad Cyflafareddwyr, atebodd Arglwydd John Russell mewn modd trahaus mai Llywodraeth ei Mawrhydi oedd "unig amddiffynydd ei hanrhydedd." Ond fe wnaed hynny, wedi y cyfan, ac fe'i gwnaed yn effeithiol. Dywed Grotius y gellir yn deg edrych ar y blaid sydd yn gwrthod Cyflafareddiad fel yr un sydd ar fai.[28]

Ond pa ddadl bynnag a ddygir yn erbyn Cyflafareddiad, yr ydys yn rhy dueddol i anghofio hyn, mai yr hyn a gynhygir yw. Cyflafareddiad fel peth gwell na rhyfel. Wrth siarad am y naill, rhaid ei gyferbynnu â'r llall. A ydyw rhyfel yn fwy anrhydeddus, yn fwy urddasol, na Chyflafareddiad? Tybiwyd unwaith nas gellid penderfynnu cwestiwn o anrhydedd personol heb ymladd gornest; yr oedd yn rhaid golchi ymaith y llychwiniad ar y cymeriad trwy waed. Ond yn awr, mae'r ynfydrwydd hwn wedi ei ymlid ymaith o'r deyrnas hon. Pam y mae rhai dynion da eto yn dal yr un egwyddor yn ei pherthynas â theyrnasoedd? Beth ydyw y peth hwnnw a ystyrir yn fwy urddasol nag ymostwng i achos gael ei benderfynnu gan reswm a chyfiawnder? Pan ystyrrir beth ydyw rhyfel yn ei holl erchyllderau, yr ydym yn gorfod sefyll mewn syndod at y datroad ar egwyddorion moesol sydd wedi cymeryd lle trwy hir arferiad, pan y gellir edrych arno fel yn fwy anrhydeddus ac urddasol i Gristionogion nag ymostwng i ddyfarniad Deddf a Chyfiawnder.

Y mae Mr. Richard yn cyfarfod â dadl arall yn erbyn Cyflafareddiad, sef y gall y dyfarniad fod yn un anheg. Cyfeiria at rai achosion a benderfynwyd felly, a dengys na ddygwyd un gwrthwynebiad i'r un o honynt, a gofynna hyd yn oed pe byddent weithiau yn anghyfiawn, a ydyw rhyfel yn debyg o fod yn fwy cyfiawn yn ei derfyniad? Mae'r cleddyf yn dryllio pob iawnder ar unwaith.

Ond y mae Mr. Richard, er y cwbl, yn addef nad yw Cyflafareddiad yn drefn berffaith, ac y byddai cael llys a Barnwr cymwys i derfynnu cwerylon rhwng teyrnasoedd yn well. Bu efe, meddai, yn synnu lawer gwaith na fuasai Cyfreithwyr yn ymuno yn un corff i wrthwynebu rhyfel, oblegid yr oeddent yn cynrychioli egwyddor ag oedd mewn gwrthdarawiad hollol i bob rhyfel.

Ond rheswm mawr Mr. Richard, ac un ddylai fod yn derfyniad ar y ddadl ydyw un a wasgai adref mewn papur a ddarllenwyd ganddo yn Cologne yn 1881. Honna mai nid cwestiwn i'w ymresymu ydyw bellach. Mae Cyflafareddiad wedi ei roi mewn gweithrediad lawer gwaith, ac wedi profi yn effeithiol. Mae lluaws mawr o anghydfyddiaethau rhwng prif wledydd y byd wedi eu terfynnu yn heddychol trwy Gyflafareddiad; anghydfyddiaethau a allasent derfynnu mewn rhyfel, oni buasai hyn.

Nid ydyw Mr. Richard yn rhoi ond ychydig o engreifftiau; ond y mae o bwys i ni alw sylw at y ffaith fod eu nifer yn fawr iawn. Mae Dr. Darby, Ysgrifennydd presennol y Gymdeithas Heddwch, mewn traethodyn a gyhoeddodd yn ddiweddar, yn rhoi cyfrif manwl o'r holl achosion a derfynwyd fel hyn trwy Gyflafareddiad, a cheir fod eu nifer o'r flwyddyn 1815 hyd y flwyddyn 1901 yn fwy na dau gant. Mae tua 79 o honynt yn dwyn perthynas & Phrydain, 65 a'r Unol Daleithiau, 16 â Ffrainc, 10 â Germani, 12 âg Yspaen. Ac y mae eu rhif yn cynhyddu bob blwyddyn, fel y gwelir pan y dywedwn fod eu rhif yn 46 yn ystod y chwe blynedd olaf o'r ganrif ddiweddaf. Mae ceisio dadleu, gan hynny, fod yn amhosibl penderfynnu dadleuon rhwng teyrnasnedd heb fyned i ryfel yn groes i ffeithiau profedig, ac y mae y wlad a wrthyd y drefn hon, pa le bynnag y gellir ei rhoi mewn gweithrediad, fel y dywed Grotius, yn siwr o fod yn ymwybodol o wendid ei hachos. Cofier hefyd fod pob achos a benderfynnir fel hyn yn dod yn esiampl i'w ddilyn, yn dod yn gyn-engraifft (precedent); ac y mae tuedd mewn cyn-engreifftiau i ymsefydlu o'r diwedd yn ddeddfau. Nid yw rhyfel, fel y gwyddis, yn penderfynnu dim ond pwy sydd gryfaf.

"Nid oes dim cymhwyster," medd Mr. Richard, "yn y bidog i ganfod y gwirionedd, ni fedd pylor ddawn canfyddiad moesol, ac nid oes gan un o gyflegrau

Krupp un math o gysylltiad arbennig â chyfiawnder".

* * * * * * * * *

Wedi ysgrifennu fel hyn ar hanes a phrif waith bywyd Mr. Henry Richard, naturiol ydyw gofyn pa lwyddiant a ddilynodd, neu sydd yn debyg o ddilyn y fath ymdrechion a wnaed ganddo yn achos Heddwch? Beth fu y dylanwad ar y byd gwareiddiedig? Wrth edrych ar hanes Prydain am y ddwy flynedd ddiweddaf, a mwy, gellid meddwl na fu achos Heddwch erioed a chan lleied o arwyddion ffyniant i'w ganfod arno, ac nid oes un amheuaeth nad yw ysbryd milwrol wedi rhoi ysponc arswydus yn ddiweddar. Ond caniataer i ni, cyn terfynnu, alw sylw at rai ystyriaethau sydd, er hynny, yn ymddangos i ni yn deilwng o gael eu cadw mewn cof ynglŷn â'r cwestiwn hwn.

1. Yn oi tystiolaeth y Llyfr Dwyfol, y mae amser i ddod pan droir y cleddyfau yn sychau, a'r gwaewffyn yn bladuriau, "ac ni ddysgant ryfel mwyach.” Ac fel y dywed Dr. Chalmers, yn ei bregeth ar "Heddwch," nis gellir disgwyl i'r dyddiau hyn wawrio heb fod ymdrechion yn cael eu gwneud gan Gristionogion ac ereill i'w dwyn i ben. Dyma'r modd y mae Duw bob amser yn dwyn oddiamgylch gyflawniad y proffwydoliaethau. Rhaid defnyddio moddion tebyg i'r rhai a ddefnyddiwyd gan Mr. Richard mewn cysylltiad â'r Gymdeithas Heddwch i lefeinio gwledydd cred â'r syniad hwn. Rhaid pregethu yr egwyddorion hynny o'n pulpudau yn fwy, rhaid ennill meddiant mwy llwyr, os gellir, o'r Wasg, rhaid gwrthweithio ysbryd milwrol y deyrnas, rhaid addysgu ein Seneddwyr, a rhaid pregethu athrawiaeth Mr. Richard ar y llwyfannau ac yn y Senedd yn fwy hyf a dewr nag erioed.[29]

2. Yn 1895 gwnaed symudiad pwysig iawn i wneud Cytundeb rhwng Prydain a'r Unol Daleithiau i beri fod pob cwestiwn rhwng y ddwy wlad, nas gellid ei derfynnu trwy ymdrafodaeth, i gael ei derfynnu trwy Gyflafareddiad. Derbyniwyd y newydd fod y fath beth ar droed gyda llawenydd mawr gan bobl oreu y ddwy wlad. Ffurfiwyd Cytundeb, a llaw-arwyddwyd ef yn Washington gan y diweddar Syr Julian Pauncefote ar ran Prydain, a chan Mr. Olney ar ran yr Unol Daleithiau. Ond, fel y gwyddis, fe daflwyd rhwystrau ar y ffordd, ac nid aeth y mater trwodd i orffeniad. Ond, fel yr ysgrifenna Justin McCarthy yn ei gyfrol ddiweddaf, "gellir dweud fod meddwl goreu Gweriniaeth yr Unol Daleithiau trwy ei gwŷr cyhoeddus a'i newyddiaduron a'i phobl yn hollol o blaid y Cytundeb. Nis gellir yn hir rwystro i egwyddor a gefnogwyd mor gyffredinol ar ddau du y Werydd gael dod i weithrediad."[30] Na ellir, yn ddiau, ac ond iddo gael ei gadarnhau, gallwn ddefnyddio geiriau y ddiweddar Frenhines wrth agor Senedd 1897, pan yn cyfeirio at y Cytundeb hwn,—"Yr wyf yn gobeithio," meddai,“ y bydd y trefniant yn meddu gwerth ychwanegol, trwy argymhell i Alluoedd ereill ystyriaeth o egwyddor trwy ba un y bydd y perygl o ryfel yn cael ei leihau yn fawr."

3. Ond y symudiad mwyaf pwysig, yn ddiau yn y cyfeiriad hwn, ydyw yr un a wnaed gan Ymherawdwr ieuanc Rwssia, ar y 14eg o Awst, 1898, pan y danfonodd allan trwy law ei Weinidog Tramor, Ysgrif Ymherodrol (Rescript) wedi ei gyfeirio at holl gynrychiolwyr y Gwledydd Tramor yn St. Petersburg.[31] Amcan yr Ysgrif oedd galw sylw at y mawr niwed a wneir gan ddarpariadau milwrol cynhyddol y gwahanol deyrnasoedd. Mewn gair, nid oedd ond datganiad o'r gwirioneddau pwysig a bregethwyd gan gyfeillion Heddwch am flynyddoedd. Nid oes ynddo un pwynt na chafodd ei drafod yn fanwl gan Mr. Richard yn ei areithiau ar y Cyfandir ac yn Senedd Prydain. Cynhygia yr Ymherawdwr fod Cynhadledd yn cael ei chynnal i ystyried y mater hwn, ac i ddwyn oddiamgylch y syniad goruchel i geisio gwneud heddwch cyffredinol yn fuddugoliaethus ar elfennau terfysg ac anghydgordiad." Tarawyd y byd â syndod gan yr Ysgrif hon, ond derbyniwyd hi gyda chymeradwyaeth gan brif deyrnasoedd y byd, a chan Seneddwyr, Esgobion, a gwŷr dylanwadol o bob math. Ar ol danfon allan Ysgrif arall yn nodi yr amcan yn fwy manwl, trefnwyd fod y Gynhadledd i gyfarfod yn yr Hague ar y 18fed o Fai, 1899. Daeth ynghyd gynrychiolwyr o 26 o wledydd, sef Germani, Awstria-Hungari, Belgium, China, Denmarc, Yspaen, Ffrainc, Prydain, Groeg, Itali, Japan, Luxemberg, Mexico, Montenegro, Netherlands, Persia, Portugal, Roumania, Rwsia, Servia, Siam, Sweden, Norway, Switzerland, Twrci a Bulgaria.[32] Cynrychiolai y rhai hyn deyrnasoedd yn cynnwys naw ran o ddeg o'r ddaear mewn maintioli, a phoblogaeth o 1,400 allan o 1,600 o filiynnau pobl y byd. Yr oedd y Cynrychiolwyr yn gant mewn nifer, a buont yn eistedd am ddau fis. Os oes rhyw ymdrafodaeth rhwng y teulu fry a theulu'r llawr, y mae yn anhawdd meddwl nad oedd enaid Mr. Richard yn talu ymweliad â'r “Tŷ yn y Coed,” yn yr Hague, yn ystod y ddau fis fythgofiadwy hyn, gan fod y pwnc y bu efe drwy ei oes yn galw sylw y byd ato, yn awr yn cael ei drafod mewn modd ymarferol yn yr ysmotyn dyddorol hwnnw. Mae holl hanes y Gynhadledd yn awr o'n blaen mewn cyfrol drwchus o 572 o dudalennau.[33] Gan na chaniatawyd i wŷr y Wasg fod yn bresennol yn y cyfarfodydd, ni chafwyd ond hanes amherffaith iawn o'r Ymdrafodaethau, ac yr oedd pobl y gwledydd yn anwybodus iawn o'r gwaith pwysig oedd yn myned ymlaen. Yn wir, gan na wnaed dim yn ymarferol yn y cyfeiriad o leihau darpariadau milwrol, coleddwyd y dybiaeth fod y Gynhadledd i fesur yn fethiant Ond y mae hyn yn gamgymeriad dybryd. Er y boddwyd sŵn ei gweithrediadau gan drwst magnelau rhyfel y Transvaal, ac er na ddaethpwyd i benderfyniad gyda golwg ar ddiarfogiad, credwn fod y Gynhadledd ynddi ei hun yn ffaith orbwysig yn ei ganlyniadau yn hanes y ganrif ddiweddaf, yn enwedig pan gofiwn ei fod yn ddealltwriaeth ynddi nad oedd hwn ond y gyntaf o gyfres. Ond nid terfynnu heb wneud dim a wnaed. Hyd yn oed gyda golwg ar leihad yn y darpariadau milwrol, pasiwyd yn unfrydol fod y cyfryw "leihad i'w ddymuno yn fawr er mwyn lles moesol a naturiol dynoliaeth," a bod y pwnc i gael ei gyfeirio yn ol i ystyriaeth y gwahanol lywodraethau. Dyma ddatganiad gan gynrychiolwyr prif deyrnasoedd y ddaear, fod yr hyn y dadleuid drosto gan Mr. Cobden a Mr. Richard ac ereill, yn beth i'w fawr ddymuno, ac y dylai y gwahanol deyrnasoedd ei gario allan yn ymarferol. Ai peth bychan oedd hyn i'w wneud yn y Gynhadledd gyntaf? Yn ychwanegol at hyn, fe basiwyd cyfres faith o erthyglau yn rheoleiddio dygiad rhyfel ymlaen er mwyn ei wneud yn llai creulon ac yn fwy cydweddol â gwareiddiad y dyddiau hyn.

Ond y gwaith mawr a wnaed gan y Gynhadledd hon oedd ynglŷn a'r pwnc o Gyflafareddiad fel moddion i osgoi rhyfeloedd yn y dyfodol. Pasiwyd yn unfrydol fel sylfaen yr ymdrafodaeth, eu bod oll yn ymrwymo i geisio sicrhau terfyniad heddychol i bob anghydfyddiaeth a allai godi rhwng teyrnasoedd. Ie, mwy,—a dymunem bwysleisio y ffaith hon, oblegid credwn mai ychydig sydd wedi ei sylweddoli,— fe benderfynwyd fod math o lýs sefydlog yn cael ei ffurfio, at yr hwn y gellir cyfeirio cwestiynau a allant godi i beri anghydfod rhwng teyrnasoedd. Yn ol erthygl 23, mae y Galluoedd yn ymrwymo i ddewis pedwar o wyr cymwys a hyddysg mewn materion o Gyfraith Ryngwladwriaethol y rhai sydd i ffurfio y llys sefydlog hwn. Bellach, os digwydd i anghydfod godi rhwng unrhyw ddwy o'r teyrnasoedd ymrwymedig, yn lle dechreu hel eu byddinoedd at eu gilydd, gall pob un ddewis dau o aelodau y llys hwn, ac os metha y pedwar gytuno, dewisant ddyddiwr i benderfynnu y pwnc mewn dadl.

Da gennym hysbysu mai y diweddar Syr Julian Pauncefote, cynrychiolydd Prydain yn y Gynhadledd a alwodd sylw ac a ddadleuodd dros ddymunoldeb sefydlu y llys hwn, ac y mae yn amlwg fod y ddiweddar Frenhines Victoria yn gwerthfawrogi ei lafur yn yr Hague, oblegid anrhydeddwyd ef trwy ei wneud yn Farwnig. Mae holl fanylion cyfansoddiad y llys hwn, y rheolau y penderfynwyd arnynt ynglŷn âg ef, a'r areithiau grymus a draddodwyd ar yr achlysur yn cael eu gosod i lawr yn llyfr Dr. Holls. Carasem fanylu arnynt, ond nid dyma'r lle priodol i hynny. Ynfydrwydd fydd tybied y bydd pob Gallu mewn anghydfod âg un arall ar unwaith yn troi i wneud defnydd o'r llys newydd hwn; ond digon yw dweud fod y Gynhadledd wedi gosod i fyny beirianwaith o Gyflafareddiad, ond ei rhoi mewn gweithrediad, a rydd derfyn ar ryfeloedd rhwng y Galluoedd a gynrychiolid ynddo. Gwaith mawr ein Seneddwyr, dysgawdwyr a gwyr dylanwadol y byd o hyn allan fydd goleuo y bobl fod yn bosibl bellach apelio at foddion mwy rhesymol, mwy dynol, mwy cydweddol âg egwyddorion Cristionogaeth na'r dull barbaraidd presennol i derfynnu cwerylon; fod llys wedi ei sefydlu i'r pwrpas hwnnw. . . . Unwaith y caiff y llys hwn un achos pwysig i'w benderfynnu, bydd yn haws cyfeirio ato mewn achosion ereill.[34]

Ar ddiwedd y flwyddyn 1901, cyfarfu Cynhadledd Ryngwladwriaethol America yn Mexico, a rhoddodd ei chymeradwyaeth unfrydol i Gytundeb Cynhadledd yr Hague. "Bydd hyn (ebe Adroddiad y Gymdeithas Heddwch am 1902), yn cwblhau gwaith Cynhadledd yr Hague, trwy estyn y Cytundeb Heddwch hyd at yr holl fyd gwareiddiedig ..... Pan fydd yr Unol Daleithiau eto wedi llaw-arwyddo Cytundeb yr Hague, bydd sefydliad cyffredinol. Uchel Lys Cenhedloedd o blaid yr hyn y gweithiodd y Gymdeithas hon am tua chan mlynedd, wedi ei gyflawni.”

A gallwn ychwanegu, pan ddaw y cenhedloedd gwareiddiedig i apelio at y llys hwn yn lle at y cleddyf, ni fydd neb yn teilyngu mwy o barch am y rhan â gymerodd i ddwyn y dyddiau dedwydd hyn i ben na'n cydwladwr, y diweddar Henry Richard. A goddefer i ni, wrth derfynnu, bwysleisio y sylw, fod yr athrawiaeth a bregethodd drwy ei oes, wedi dod o'r diwedd yn gredo proffesedig cenhedloedd Gwareiddiedig y byd.

ATODIAD:

Yn cynnwys rhai o syniadau neilltuol Mr. Richard
ar y cwestiwn o Ryfel a Heddwch.

GAN fod hanes bywyd a gwaith Mr. Richard mor gymhlethedig â'r cwestiwn mawr o Heddwch, yr ydym yn teimlo nad anerbyniol gan y darllennydd fydd cael engreifftiau o'r modd y byddai efe yn edrych ar y cwestiwn hwnnw yn ei amrywiol agweddau, ac yn enwedig gyda golwg ar y dadleuon a ddygid ymlaen gan rai dynion da weithiau, er ceisio amddiffyn rhyfel. Bydd hyn yn help i'r darllennydd ffurfio barn dêg ar olygiadau Dr. Richard ar y pwnc. Ceisiwn roddi talfyriad o ychydig o'r engreifftiau hyn, wedi eu cymeryd yn bennaf o ysgrifau Dr. Richard yn yr Herald of Peace, Cyhoeddiad misol y Gymdeithas Heddwch. Nodwn y rhifyn lle y mae y pwnc yn cael ei drin yn helaeth.

1. Y Gyfraith Filwrol.—Dywed Syr Charles Napier, un o'r awdurdodau uchaf ar bwnc o'r fath yn ei Remarks on Military Law, mai unig ddyledswydd milwr ydyw ufuddhau i'w Gadfridog, gan fod ei gydwybod a'i gyfrifoldeb i Dduw a'i gyd-ddyn yn gwbl yn ei law ef. Dyma hefyd ddatganiad y Duc Wellington. Dywedai y Parch. J. J. Freeman, mewn Cyfarfod Cenhadol unwaith wrth gyfeirio at y modd yr ymddygid at y Caffrariaid, fod Syr Harry Smith, Llywydd y Cape, wrth annerch y milwyr yn ei ddull cyffrous ei hun wedi arfer y geiriau hyn,—" Filwyr, eich dyledswydd gyntaf ydyw ufuddhau i'ch swyddogion, a'r ail ydyw ufuddhau i Dduw." Mae Mr. Richard yn gofyn yn ddifrifol, pa sawl Cristion oedd yn teimlo, fel y dylai, wrth glywed datganiad y Cadfridogion a enwyd fod y milwr yn gyfrifol i'w Swyddog o flaen ei Dduw, ac yn ystyried nad oedd hyn ond ffaith sydd wrth wraidd Cyfraith Filwrol Prydain? Beth pe dywedai un o'r milwyr, "Nid wyf yn credu fod y rhyfel hwn yn un cyfiawn, rhaid i mi ufuddhau i Dduw, am hynny, nis gallaf ymladd;" a gydnabyddid y fath blê am foment mewn llys milwrol? Os na wneid, meddylied ein cyfeillion am gyfundrefn sydd yn gwneud peth fel hyn yn angenrheidiol. Herald of Peace, 1851, t.d. 142.

Yn yr Herald of Peace am y flwyddyn 1860, t.d. 114 a 126, y mae Mr. Richard yn croesi cledd a'r Parch. F.D. Maurice ar y cwestiwn hwn. Dywed Mr. Maurice fod llawer yn petruso rhoddi addysg grefyddol i filwyr, rhag y cyfyd yn eu meddyliau gwestiynau gyda golwg ar gyfreithlondeb rhyfeloedd arbennig. Ond dadleua Mr. Maurice nad oes dim a wnelo'r milwr â'r cwestiwn o gyfiawnder unrhyw rhyfel, oblegid nis gall dim a wna efe newid barn y Llywodraeth; ei waith ef ydyw ymladd, ac nid arno ef y mae y cyfrifoldeb. Mewn erthyglau nerthol a chyrhaeddgar iawn, y mae Mr. Richard yn gwasgu adref y cwestiwn, Ai nid oes rhyw derfyn i fod ar ufudd-dod i'r Llywodraeth? Onid ydyw pob un drosto ei hun i roddi cyfrif i Dduw? Pe gorchmynnid i'r milwr ladd ei dad, neu pe gwaherddid iddo addoli Duw, a ydyw yn ddyledswydd aruo ufuddhau? Mae bod y swydd filwrol yn arwain i'r fath ganlyniadau, ac yn gorfodi dynion o gymeriad mor ddilychwin a Mr. Maurice i'w hamddiffyn yn gondemniad ar y gyfundrefn filwrol bresennol ar unwaith. Difynna Mr. Richard hefyd eiriau ereill o eiddo Syr Charles Napier, yr hwn yn ei Ddydd-lyfr a ddywed, mai "gorchfygu teimladau crefyddol ydyw'r ffordd yn gyffredin i wneud milwr da."

Mae yr un pwnc, mewn gwedd wahanol, yn cael ei drin yn ei Adolygiad ar Fywyd Cadben Hedley Vicars yn yr Herald of Peace am 1856, t.d. 66. Yr oedd gwaith dynion da fel Hedley Vicars yn aros yn y fyddin ac yn cyflawni y fath weithredoedd ysgeler ac anfad ag a wnaeth efe, yn anesboniadwy i Mr. Richard; ond ar yr un egwyddor ag y deallir gwaith y diweddar John Newton ya cario y gaethfasnach ymlaen, sef diffyg ystyriaeth.[35]

2. Rhyfel ac Egwyddorion Cristionogaeth.–Y syniad cyffredin yw y bydd rhyfel yn darfod o angenrheidrwydd, pan fydd egwyddorion Cristionogaeth wedi ennill tir mwy cyffredinol yn ein mysg. Ond y mae Mr. Richard, mewn erthygl yn yr Herald of Peace am 1863, t.d. 222, yn dadleu fod hynny yn dibynnu ar y cwestiwn pa fath Gristionogaeth a ddysgir. Pe troid y byd at Gristionogaeth yfory, tra y pregethid y Gristionogaeth a bregethir mor fynych yn awr am gyfreithlondeb rhyfel, ni roddai hynny derfyn arno. Yr oedd gan Fwrdd Cenhadol yn America Genhadaethau llwyddianus yn Cherokee a Choctaw, ond nid oedd eu Cristionogaeth yn rhwystro i'r Cenhadon amddiffyn Caethwasiaeth, er hynny. Ac onid oes llawer o ddiwinyddion enwog yn awr yu dadleu nad oedd rhyfel rhwng Cristionogion yn bechod?[36] Tystiai Esgob New Zealand fod llawer o'r brodorion Cristionogol yn anewyllysgar i gymerid y Cymun, gan fod y Llyfr Gweddi Cyffredin yn cyfreithloni rhyfel. Yr oedd yu rhaid dysgu y dynion hyn oedd wedi derbyn Cristionogaeth, nad oedd dim sail i'w tynerwch cydwybod!

Un o'r ymgeisiadau mwyaf cywrain i gysoni rhyfel â Christionogaeth ydyw eiddo Canon Mozley, yn un o'i bregethau o flaen Athrofa Rhydychain. Cofus gennym fod gweinidog Cymreig enwog unwaith wedi galw ein sylw at y bregeth hon fel un ag oedd yn myned o dan wraidd egwyddorion y Crynwyr. Cafodd argraff wahanol iawn, pa fodd bynnag, ar ein meddwl ni. Mae y Canon yn sylfaenu ei ymresymiad ar y gosodiadau hynod ac anesboniadwy a ganlyn,—"Mae Cristionogaeth," meddai, "yn mabwysiadu natur. Fel rhan o natur y mae yn mabwysiadu cenhedloedd fel yn cyfansoddi, ar yr un pryd, raniad a chyfansoddiad y bywyd dynol. Wrth fabwysiadu natur, y mae Cristionogaeth yn mabwysiadu rhyfel, gan fod rhyfel yn un o hawliau mewnol natur. Y mae rhyfel yn un o'r hawliau hyn, oblegid yn rhaniad dynolryw i genhedloedd gwahanol y mae rhyfel y angenrheidiol!"

Os oes rhyw un yu tybied fod rhyw wirionedd o dan y gosodiadau cyfriniol cywrain a thywyll hyn, cynghorem ef i ddarllen tair erthygl arnynt gau Mr. Richard yn yr Herald of Peace am 1877, t.d. 268, 282, a 328. Rhaid fod achos yn anobeithiol pan y gorfodir gŵr mor ddysgedig a'r Canon Mozley i weud y fath haeriadau ag a wna yn y bregeth dan sylw. Nid rhyfedd i Mr. Richard ddweud wrth derfynnu ei Adolygiad galluog, na ddarllennodd erioed bregeth gyda mwy o dristwch, nac un sydd yu fwy tebyg i wauhau ffydd y bobl yng Nghrefydd Crist, na'r bregeth hon.

3. Cristionogaeth yn ymarferol yn awr.—Mynych y dywedir nas gellir cario allan egwyddorion heddychol y Testament Newydd yn awr; ond pan ddaw y byd yn nes i'w le y gellir gwneud hynny. Nid yw hyn ond defnyddio y feddyginiaeth, medd Mr. Richard, wedi i'r claf wela. Yn y byd drwg presennol y mae y gwersi, "Na wrthwynebwch ddrwg" i'w gweithio allan. Os aroswn i athrawiaethau Cristionogol newid y byd, gallwn gael ein siomi. Mae digon o engreifftiau o uniongrededd athrawiaethol yn cydfyw a'r gweithredoedd mwyaf anfad ar ran Cristionogion. Yr oedd rhai o'r dynion duwiolaf a mwyaf uniongred yu amddiffyn y gaethfasnach. Rhaid troi tanbeidrwydd goleuni llawn yr Efengyl ar y drwg penodol sydd eisieu ei symud cyn y gwelir ef, ac y gwneir hynny. Herald of Peace, 1850, t.d. 6.

4. Rhyfel a goruwchlywodraeth Duw.—Nid oes dim yn effeithio mwy i beri i rai pobl grefyddol fod yn hwyrfrydig i gondemnio rhyfel na'r ffaith ei fod weithiau yn offeryn yn llaw Duw i ddwyn oddiamgylch amcanion neilltuol. Nid oedd Mr. Richard yn gwadu y ffaith, ond gofynnai, Beth, er hynny? a oeddem i fabwysiadu yr egwyddor "Gwnawn ddrwg fel y del daioni?" Meddylier am ddynion yn ymuno i wrthwynebu pob math o ormes ac erledigaeth grefyddol, a rhyw un yu dadleu yn eu herbyn, gan fod "gwaed y merthyron yn hâd yr eglwys!" Beth a ddywedid pe symudid gormesdeyrn—un a fyddai wedi gwneud drygau ofnadwy—oddiar y ffordd trwy lofruddiaeth, a phed elai rhywun at y llofrudd gan ddweud ei fod yn ddiau wedi cyflawni gweithred ysgeler, ond ar yr un pryd fod yn rhaid cofio y bu yn offeryn yn llaw Duw i gario allan ei amcanion Ef! Mae y bobl sydd yn siarad ar ryfel fel hyn yn ymresymu ar sail dwyllodrus, sef fod gennym hawl i reoleiddio ein hymddygiadau yn ol y canlyniadau a ddichon eu dilyn, yn lle yn ol eu nodwedd moesol. Herald of Peace, 1853, t.d. 302.

5. Rhyfel a lledaeniad yr Efengyl.–Syniad llawer o ddynion da ydyw fod rhyfel wedi "agor drysau" i'r Efengyl. Dadleua Mr. Richard, hyd yn oed, pe felly, na fyddai hynny yn un ddadl dros i ni ei gyfreithloni; fod Duw yn gallu goruwchlywodraethu y drygau pennaf er daioni. Ond a ydyw yn ffaith fod rhyfel wedi bod yn fanteisiol i ledaeniad yr Efengyl? Geiriau un ysgrifennydd enwog ydyw,—“ Fod pob rhyfel yn ystod y 200 mlynedd diweddaf wedi arwain i drefniadau a arweiniasant i ledaeniad Cristionogaeth." Ai gwir hyn? Nage, medd Mr. Richard, yn ol tystiolaeth hanesiaeth. A fu rhyfel yn help i achos Protestaniaeth y Diwygiad? Yn 1546 cymerodd y Protestaniaid yn Germani arfau yn erbyn Charles y 5ed. Ar ol pum mlynedd o ymladd, gorchfygwyd yr Ymherawdwr. Yn lle bod o fantais, bu y rhyfel yn niwed dirfawr i Brotestaniaeth. Ataliodd ei lledaeniad yn allanol, a darostyngodd ei nodweddiad mewnol. Cymerer rhyfel yr Huguenotiaid yn Ffrainc Yn ol tystiolaeth Proffeswr de Felice, yr oedd ganddynt 2,150 o Eglwysi yn 1501, ond yn 1606 eu nifer oedd 760. A mwy, yr oedd crefydd a moesoldeb wedi eu darostwng i'r cyflwr iselaf ar ol y rhyfel. Dyna hefyd dystiolaeth Syr James Stephen yn ei Lectures on the History of France. Cymerer hanes y rhyfel a barhaodd am 30 mlynedd yn Germani, rhyfel a gychwynwyd o bwrpas i ledaenu Protestaniaeth. Collodd Germani, medd Menzel, hanner ei phoblogaeth, ac yn ol ereill ddwy ran o dair. Dinistriwyd trefydd, difethwyd masnach, a chollodd y bobl eu rhyddid. A fu Protestaniaeth ar ei hennill? Dwg Mr. Richard dystiolaethau Schiller, Mosheim, Pfister, a Macaulay, i ddangos y modd y bu gwir Brotestaniaeth ar ei cholled mewn canlyniad. Yr un modd y bu gyda rhyfeloedd y wlad hon, hanes y rhai y mae Mr. Richard yn ei roddi. Cymerer y rhyfel yn erbyn Ffrainc yn nechreu y ganrif hon. Mae pobl wedi eu dysgu i gymeryd yu ganiataol, heb ymchwiliad, fod y rhyfel mawr hwnnw wedi bod yu fanteisiol i ryddid a chrefydd. Ond a fu? Gwir y cododd llawer o sefydliadau daionus yn nechreu y ganrif, ond nid mewn canlyniad i'r rhyfel, ond oherwydd yr Adfywiad Crefyddol a dorrodd allan. Yr oedd yn syniad cyffredin, ar y pryd, y buasai y rhyfel yn troi allan yn fanteisiol i Grefydd; ond dengys Mr. Richard, trwy daflu golwg ar sefyllfa y Cyfandir, nad felly y bu. Ac y mae yn rhoddi trem ar lafur Cenhadon ymysg Paganiaid, ac yn dangos y modd y mae rhyfeloedd wedi llesteirio ei lwyddiant. Tystiolaeth Mr. Hume, Cenhadwr Americanaidd ydyw, mai tuedd brodorion India ydyw edrych ar y Ceuhadon fel yn perthyn i'r milwyr sydd wedi eu darostwng, a bod hynny yn caledu eu calonnau yn erbyn eu dysgeidiaeth. Tystiolaeth Mr. Long, Cenhadwr yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig ymysg yr Hindwaid ydyw, mai "y rhwystr pennaf i ledaeniad Cristionogaeth ydyw ysbryd rhyfelgar y rhai sydd yu ei phroffesu."

Ond hwyrach y dywedir mai nid fod rhyfel yn helpu derbyniad Cristionogaeth a honnir, ond ei fod yn "agor drysau" iddi i fyned i mewn. Sut y gallesid myned i India, oni buasai fod y cleddyf wedi agor y ffordd yn gyntaf? Gofidia Mr. Richard oherwydd dadl fel hon.

Onid oedd gan Gristionogaeth yr un gallu i weithio ei ffordd i fysg y Paganiaid, ag oedd gan ei charedigion yn yr oesoedd boreuol? Beth oedd yn rhwystr iddynt wneud fel St. Francis o Assissi, a Francis Xavier? Onid un o'r dadleuon pennaf o blaid dwyfoldeb Cristionogaeth ydyw ei lledaeniad gwyrthiol yn y canrifoedd cyntaf, heb rym na chynorthwy y cleddyf?

Er mwyn dangos fel y mae y syniad cyfeiliornus wedi meddianuu meddyliau dynion da, yn enwedig yn amser rhyfel, difynna Mr. Richard ran o bregeth Dr. Candlish ar y geiriau, "O! gleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lonyddi?" yn yr hon y mae yn torri allan gyda hyamdledd rhyfedd i ofyn, "Pa fodd y gall lonyddu tra y mae gormes, trais, coel-grefydd, caethwasiaeth, Babilon Fawr, mam puteiniaid, &c., ar eu traed." Gofynna Mr. Richard, gyda syndod, a hefyd gyda gresyndod. A oeddem i dybied mewu difrif mai y cleddyf oedd i ddinistrio "coel-grefydd," "gormes", "caethwasiaeth," "Mahometaniaeth a Phabyddiaeth?" A oedd y Dr. dysgedig yu anghofio y geiriaU, "Arfau ein milwriaeth ni nid ydynt gnawdol, ond nerthol trwy Dduw i fwrw cestyll i'r llawr." Herald of Peace, 1854, t.d. 104.

Cofier nad yw y difyniad a roddwyd o bregeth Dr. Candlish, ond esiampl o un o luaws o bregethau a draddodwyd tua'r flwyddyn 1851-5 o dan ddylanwad yr ysbryd rhyfelgar oedd wedi meddiannu y wlad yn amser Rhyfel y Crimea.

6. Rhyfel a Rhyddid.—Nid oes dim ag y mae pleidwyr rhyfel yn ymddangos fel yn cael y llaw uchaf ar bleidwyr Heddwch, na chyda'r cri a godir mor fynych mewn perthynas i frwydrau ein "gwrol ryfelwyr" yn colli eu gwaed dros ryddid. Nid oedd neb mor barod, ac a ymladdodd yn fwy dewr dros ryddid na Mr. Richard, ond nid â'r cleddyf. Honnai mai nid y cleddyf ydyw'r offeryn goreu i ennill rhyddid. Yn wir, yr oedd y syniad am ryddid yn beth cwbl groes i'r syniad am nerth anifeilaidd. Edrycher ar hanes y Chwildroad yn Ffrainc. Ni fu mwy o gariad at wir ryddid ym mynwes neb na'r Ffrancod yn y Chwildroad cyntaf; ond pan wnaed ymosodiad arnynt gan bennau Coronnog Ewrob, ac y dibynasant ar y cleddyf, gwenwynwyd cymdeithas, cyfnewidiwyd eu natur, a daethant yn ellyllon mewn creulondeb. Dyna yr hyn y mae hanesiaeth yn ei ddysgu bob amser. Pa un bynnag ai buddugoliaethu ai colli a wneir, mae rhyddid yn dioddef. Dywedir yn gyffredin nad yw y genedl honno a ymladda am ei rhyddid yn cael ei gwasgu i'r llawr. Ond y mae hanes Groeg, Carthage, Poland, Itali, Hungari a llawer ereill yn profi i'r gwrthwyneb. Edrychwch ar Ewrob yn awr (1851). Mae Rhyddid, oherwydd apelio at y cleddyf, wedi cael ei ddarostwng o dan garnau gormesiaeth. Sylwer mai y foment yr apelia rhyddid at y cledd, ac yr arferir trais ac y tywelltir gwaed dynol, y mae yn colli y dydd.

Ond tybier fod pobl wrth ymladd yn gorchfygu eu gormeswyr, a ydynt trwy hynny wedi dogelu eu hiawnderau? I'r gwrthwyneb, ym mhob amgylchiad bron y mae y milwyr a ennillod y fuddugoliaeth yn dod eu hunain yn orneswyr. Yr ydys yn arferol o gyfeirio gydag ymffrost at Cromwell fel engraifft o ryfel yn dymchwel gormes ac yn ennill rhyddid. Ond y mae yn anichonadwy cyfeirio at engraifft fwy anffodus. Er holl ragoriaethau cymeriad Cromwell, yn lle rhoddi rhyddid i'r wlad, mathrodd holl egwyddorion cyfansoddiad Prydain dan draed. Daeth gormes y fyddin yu anioddefol, a rhuthrodd y bobl i ddwylaw y Stuartiaid yn ol, ac ymhen 30 mlynedd bu raid gweithio allan ei rhyddid drosodd drachefn.[37]

Ond hwyrach y dywedir, Edrychwch ar y modd yr ennillodd America ei rhyddid a'i hanibyniaeth trwy rym y cleddyf. Gadewch i ni edrych ar y ffeithiau noeth a chelyd. Bu Washington mor fawrfrydig a dychwelyd y cleddyf yn ol i ddwylaw y bobl. Ar fwy nag un achlysur, gwnaeth y milwyr yr hyn y maent bob amser yn dueddol i'w wneud. Ymgynghreiriasant yn erbyn yr awdurdod gwladol, a cheisiasant gan Washington ddod yn frenhin. Gwrthododd. Gwnaeth y fyddin ymgais wedi hynny i drawsfeddiannu'r awdurdod i'w dwylaw eu hunain; ond bu dylanwad Washington yn llwyddiannus i'w rhwystro. Na, nis gellir byth ymddiried achus rhyddid i ddwylaw milwyr.[38]

Os gofynnir ai nid ydyw pobl i ddefnyddio moddion i ennill eu hiawnderau, yr atebiad penderfynnol yw, Ydynt, yn ddiau. Ond pa foddion? Nerth meddwl, nerth gwirionedd. Meddyliau sydd yn siwr o ddymchwelyd pob trais a gormes. Mae nerth un gwirionedd yn anorchfygol. Carwyr rhyddid, heuwch feddyliau neu syniadau. Yr oedd Mazzini yn 1830 yn dadleu fod hyn yn amhosibl, gan fod y Wasg a phob moddion addysg yn gauedig. Ond beth gymerodd le rhwng 1830 ac 1848? Er pob rhwystr, llwyddodd meddwl rhydd i weithio ei ffordd i Itali, a dengys Mr. Richard y modd yr ymddyrchafodd y genedl yn 1849, a bod y meddyliau a roddwyd ynddi wedi gweithio eu ffordd ac wedi lefeinio yr holl does. Geiriau Mazzini yn awr ydynt, Cyrhaeddodd y cri, Byw fyddo Itali i eithaf arfordir Sicily. .....Gall Itali ymffrostio..... bod ei phlant wedi codi trwy rym meddylddrych." Ond yn anffodus ymaflodd Itali yn y cleddyf, trybaeddodd ef mewn gwaed, ac o'r foment honno selwyd ei thynged, oblegyd fe wyddai gormes sut i drin y cleddyf gyda mwy o rym. Gwyn fyd nad allem ddweud wrth y rhai sydd yn awr yn dioddef,—Credwch yn nerth gwirionedd. Gelynion pennaf rhyddid y dyddiau hyn ydyw ei garedigion proffesedig sydd yn llychwino ei gymeriad mewn gwaed a thrais. Herald of Peace, 1851, t.d. 90 a 102.

Mewn erthyglau erell y mae Mr. Richard yu dangos fel y mae byddinoedd sefydlog Ewrob yn elynol i wir ryddid y bobl. Mewn un o honynt mae yn difynnu geiriau o bapur milwrol yn dangos fel y gall y cleddyf roddi i lawr bob amser anesmwythder ar ran y bobl, gan fod y Swyddogion yn ddieithriad bron o blaid yr awdurdodau.

7. Rhyfel a Gwladgarwch.—Ai trwy amddiffyn ein gwlad ar bob adeg, iawn neu beidio, y dangoswn ein cariad at ein gwlad oreu? Ai trwy ganu

"Stand thou by thy country's quarrel,
Be that quarrel what it may,
He shall wear the greenest laurel
Who shall greatest zeal display?"

Credai Mr. Richard mai gwir garwyr eu gwlad oedd y rhai a ddywedent y gwir yn onest wrthi, ac a'i rhybuddiai o'i pherygl. Mae gwledydd mor agored i fethu ag ydyw personau. Nid oes un o bob mil wedi astudio yr ymdrafodaethau a arweiniasant i'r rhyfel hwn (un y Crimea). Nid têg oedd i'r cyfryw gondemnio y rhai oeddent wedi gwneud hynny, fel yn ddiffygiol mewn gwladgarwch. Nid oedd bod y Senedd yn unfrydol yn brawf o iawnder y rhyfel. Mae dysgeidiaeth Hanesiaeth yn profi i'r gwrthwyneb. Yn 1739 fe fynnai y bobl fyned i ryfel yn erbyn Yspaen ar y cwestiwn o hawl i ymchwiliad yn y moroedd americanaidd. "Ni wnaent," ebe Syr Robert Walpole, "wrando ond ar un ochr." Ar ol bod yn brwydro am flynyddoedd, blinodd y bobl ar ryfela, a gwnaed Cytundeb, ebe Smollett, heb air o sôn am yr hawl i wneud ymchwiliad ynddo. Yr un modd yr oedd y bobl yn gwaeddi yn groch am fyned i ryfel yn erbyn Ffrainc yn 1793. Na, nid brwdfrydedd o blaid rhyfel ydyw gwladgarwch. Herald of Peace, 1854, t. d. 140.

Edrychwch ar broffwydi Israel. Pe buasai rhyw un yn y dyddiau hyn yn arfer y fath iaith, ac yn condemnio yr awdurdodau fel y darfu Hosea, Malachi, Jeremiah ac Esaiah, cawsai ei gondemnio fel y teyrnfradwr mwyaf echryslon. Herald of Peace, 1857, t.d. 270.

Nid oedd Mr. Richard yu credu fod gwladgarwch yn rhinwedd i'w glodfori. Nid oedd yu ddim amgen nag un o reddfau ein natur. Nid oedd neb yn synnu at un a garai yr hen fwthyn rhwng y mynyddoedd yn yr hwn y ganwyd ef—yr oedd yn beth eithaf naturiol. Ond nid oedd neb ychwaith yn gorfoli y cyfryw fel pe buasai yn hynod am ryw rinwedd moesol uchel oherwydd hynny. Llawer llai pe cyflawnai ryw weithred anghyfiawu tuag at gymydog oddiar gariad at ei fwthyn ei hun. Pam, gan hynny, y clodforwn gymaint ar wladgarwch? Beth ydyw y moli bythol ar Marathon, Thermopylæ a Palatæ, ond canmol ychydig o Roegiaid am lywodraethu ar bawb arall a'u cadw yn gaethion? Ebe Euripides, "Mae y Groegiaid wedi eu geni i ryddid, a'r barbariaid (sef pawb ereill) i gaethiwed." Dylem gofio nad oos dim mewn gwladgarwch o angenrheidrwydd yn rhinweddol. Mae llawer o'n llenyidiaeth glasurol wedi ein camarwain. Mae dwy egwyddor fawr Cristionogaeth yn groes hollol i'r syniadau hyn, sef undod Duw fel Tad, a brawdoliaeth gyffredinol holl ddynolryw. Nid oes dim canmol ar wladgarwch yn y Testament Newydd. Yr oedd Rousseau yu dwyn hyn fel dadl yn erbyn Cristionogaeth, sef ei bod yn dodi cariad at ddyn, fel y cyfryw, o flaen cariad at ei gydwladwyr. Ond dyma ogoniant Cristionogaeth. Herald of Peace, 1856, t.d 138.

8. Egwyddorion Heddwch yn ddiogel.—A ydyw yn ddiogel ceisio cario allan yr egwyddorion heddychol hynny y dywedir sydd yn cael eu cymhell yn y Testament Newydd? Cymerwn un engraifft. Aeth William Penn, y Crynwr, allan i America gyda'r amcan o sefydlu Trefedigaeth ar egwyddorion Cristionogol. Yn lle cymeryd mantais ar yr hawl Frenhinol oedd ganddo, a chymeryd tir oddiar yr Indiaid, prynodd dir ganddynt, a gwnaeth gytundeb cyfeillgar â hwynt. Nid aeth ag un math o arfau rhyfel gydag ef, ni adeiladodd amddiffynfeydd na dim o'r fath. Dywedai y Brenhin Charles yr Ail wrtho y byddai yn siwr o gael ei ladd a'i fwyta gan yr Indiaid, ac mai ofer oedd iddo ddisgwyl help milwyr ganddo ef. "Nid oes arnaf eisieu dy filwyr," ebe Penn y Crynwr digryn. Beth fu y canlyniad? Am yr holl amser y bu y Prif Awdurdod yn nwylaw y Crynwyr yn Pennsylvania—sef am 70 mlynedd, ni wnaed un niwed iddynt. Ni chollwyd un dafn o waed y Crynwyr. Edrycher ar yr ochr arall. Aeth llawer o'r hen Buritaniaid allan gydag arfau rhyfel. Y canlyniad fu, eu bod wedi gorfod ymladd yn fynych, y collwyd bywydau, ymddygodd yr Indiaid yn greulon tuag atynt, ni feiddient adael eu tai na'u lleoedd o addoliad heb fod milwyr yn eu gwarchod, ac yr oedd yn rhaid i bob dyn ofalu i gario ei arfau gydag ef. A hyn i gyd tra yr oedd y Crynwyr yn myned ac yn dod heb arfau, ac yn berffaith ddiogel. Herald of Peace, 1857, t.d. 222.

9. Y Duc Wellington.—Pan fu farw yr hen Dduc Wellington, yr oedd pob newyddiadur, ac yn wir y nifer fwyaf o bwlpudau y wlad yn ei glodfori. Nid felly Mr. Richard. Yn un peth, am nad oedd yn credu fod y syniad o "ddyledswydd, am yr hyn y canmolid y Duc gan bawb yn ddim amgen na dyledswydd milwrol; peth hollol wahanol i rwymedigaeth i wirionedd. Ac yn ail, am fod y gogoniant yr hwn a enillodd Wellington, yn ogoniant a gostiodd ddwy filiwn o fywydau, fod y rhyfel rhyngom â Ffrainc yn un diangenrhaid, ac o ganlyniad yn un anghyfiawn, fod rhai o brif Seneddwyr y deyrnas—yn eu mysg Arglwydd Brougham ac Arglwydd John Russell, a llu ereill—yn credu hynny, fod Napoleon mor fuan ag y daeth i awdurdod yn awyddus i fod mewn heddwch â'r wlad hon, ac os felly, methai Mr. Richard weled "gogoniant" rhyfeloedd Wellington. Ond pe addefid fod y rhyfeloedd yn rhai cyfiawn ar y pryd, beth a enillwyd? Erthygl gyntaf Cytundeb Vienna, ar ol yr holl dywallt gwaed am flynyddoedd oedd nad oedd Napoleon, nac un o'i dylwyth byth i feddu un awdurdod yn Ffrainc, ac eto dyma Louis Napoleon, ei nai, yn Ymherawdwr Ffrainc yn awr! Herald of Peace, 1852, t.d. 126.

10. Gwrthryfel India.—Ysgrifennodd Mr. Richard lawer ar y cwestiwn hwn. Mynnai y deyrnas hon nad oedd ond gwrthryfel ar ran y milwyr yu unig, ond dadleuai Mr. Richard yn gryf mai gwrthryfel ar ran trigolion India ydoedd, yn erbyn llywodraeth Prydain, a dygodd dystiolaethau lawer o haneswyr, barwyr, swyddogion milwrol ac ereill i brofi hynny. Mawr gondemniai y creulonderau a arferai y wlad hon tuag atynt wrth eu cospi am eu gwrthryfel. Mae yn trin yr holl gwestiwn mewu amryw rifynnau yu yr Herald of Peace am 1858 gyda deheurwydd a manylwch mawr. Bydd y neb a ddarllenno ei erthyglau yn cael goleuni ar y berthynas rhwng y wlad hon âg India, nad yw yn hawdd ei gael mor gryno mewn un man arall.[39]

11. "Er gwaethed yw rhyfel, y mae pethau gwaeth."—Clywir y geiriau hyn yn fynych, a phan ofynir beth sydd waeth, atebir fod Caethwasiaeth, Anghyfiawnder a Gormes yn waeth. Ond honnai Mr. Richard mai y pethau gwaeth" hyn sydd yn cyfansoddi rhyfel. Beth ydyw caethwasiaeth? Ai nid, fel y dywed Cicero, ufudddod darostyngol heb ryddid ewyllys? Ac onid dyma sefyllfa milwyr? Rhyfedd fel y mae geiriau yn dylanwadu arnom. Cyffroir ein holl deimladau wrth feddwl am gaethwasiaeth fel y bu yn America, ac fel y mae yn Cuba; ond nid oes neb yn meddwl fod tair miliwn o wŷr yn Ewrob yn awr mewn cyflwr o gaethiwed mwy llwyr a darostyngol nag a lusgodd yr Affricaniaid o'u cartrefi erioed. Tra yn filwr, nid oes i'r dyn ddim rhyddid personnol, dim cyfraith ond un filwrol; mae yn agored i gosb marwolaeth hyd yn oed am anufuddhau i orchymyn cyfreithlon swyddog. Yn wir, y mae y gair cyfreithlon yn cael ei adael allan o'r llŵ a weinyddir i'r milwr. Pe gomeddai saethu ei gyd-filwr pan orchmynid iddo, er y gallai deimlo ei fod yn ddieuog, bydd raid iddo gymeryd y canlyniad. Nid oes ganddo un llys i apelio ato. (Gwel Ethics of War, t.d. 28,9). Ar y Cyfandir, y mae dyn yn cael ei lusgo o'i gartref, gosodir ef o dan gyfraith filwrol yn groes i'w ewyllys am flynyddau; nis gall ddianc heb beryglu ei fywyd, neu gael ei gosbi yn greulon; ni chaiff briodi heb ganiatad ei feistr, ac y mae yn ddarostyngedig i'r flangell a'r haiarn poeth. Pa le mae'r gwahaniaeth rhyngddo â chaethweision yn gyffredin? Ychwaneg, mae y milwr yn cael ei orfodi i gyflawni yr hyn y gall efe edrych amo fel pechod. Ewyllys y Swyddog Milwrol ydyw ei "Gyfraith a'r Proffwydi" iddo ef, fel y dywed Syr Charles Napier. Nid oes dim cyfraith yu gorfodi caethweision cyffredin i wneyd hyn. Yn ol geiriau Count Alfred de Viguy, mae'r dyn yn cael ei ddinistrio yn y milwr, ac y mae yn dod yn beiriant. Neu yng ngeiriau Benjamin Franklin, "Mae caethiwed y milwr yu waeth na chaethiwed y Negro. Pe gorchmynnid i gaethwas gan ei feistr i yspeilio neu lofruddio ei gymydog, amddiffynnid ef gan yr Ynad am omedd ufuddhau. Ond nid felly y milwr." Gan ein bod yn cymeryd yn ganiataol fod yn rhaid i ni gael milwyr, yr ydym yn ceisio perswadio ein hunain fod rhywogoniant yn y ffaith fod dynion yn cael eu hamddifadu o bopeth sydd yn cyfansoddi dyn—ei ewyllys, ei ryddid, a'i gydwybod—ac yn cael eu gwneud—a defnyddio geiriau y bardd Southey—"yn ddim amgen na pheiriannau llofruddiaeth." Herald of Peace, 1878, t.d. 200.

———————————————————————————————————————

GWRECSAM : ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.

———————————————————————————————————————

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Y Tadau Methodistaidd.
  2. History of Protestant Nonconformity in Wales, t.d. 45. HENRY RICHARD, A.S
  3. Bywyd y Parch. Ebenezer Richard, gan ei feibion, t.d. 221.
  4. Cyfeiriai Mr. Henry Richard at yr anerchiad prydferth a gyflwynwyd iddo yn y cyfarfod.
  5. Dwedai Mr. Bright, unwaith, y dylid dodi y llythyren a yn y gair Crimea yn ei ddechreu, a'i alw a Crime.
  6. Yr oedd rhyw ddylanwad swyngyfareddol gan y geiriau hyn ar y bobl yn gyffredin, fel yr oedd i'r geiriau suzerainty a paramountcy yn nechreu rhyfel Deheudir Affrica.
  7. Hwyrach y caniateir i ni mewn nodiad fel hyn ddweud nad oes dim yn rhoddi mwy o bleser i ni yn awr yu ein hen ddyddiau na’n bod wedi gwneud a allem, pan yn ysgrifennu i'r Amserau ar y pryd i ddadleu yn erbyn y rhyfel ynfyd hwnnw. Dyna'r pryd y daethom i adnabyddiaeth personol a Mr. Richard, ac y cawsom y pleser o ysgwyd llaw â'r hen wron, Joseph Sturge o Birmirgham.—Gwel Y Traethodydd am 1896, t.d. 139.
  8. Cafodd Mr. Richard brawf o hyn yn yr etholiad dros sir Aberteifi yn 1865. Yr oedd y Milwriad Powell yn Dori, ac yn cynrychioli y sir honno ar y pryd. Aeth y si allan ei fod, oherwydd afiechyd, yn bwriadu encilio. Gwnaed pob darpariaeth, gan hynny, i ddwyn allan Syr Thomas Davies Lloyd, Barwnig, yr hwn oedd Ryddfrydwr. Yr oedd Mr. Henry Richard hefyd wedi cael ei wahodd i gynnyg ei hun dros y sir. Newidiodd y Milwriad Powell ei feddwl, a phenderfynnodd nad ymddiswyddai. Ar hyn y mae y Barwnig Rhyddfrydol yn tynnu yn ol, gan ei fod wedi ymrwymo i beidio gwrthwynebu y Milwriad Powell, yr hwn oedd "feistr tir mor boblogaidd, ac yn gymydog!" Wrth gwrs, yr oedd yn rhaid cadw y gallu ym meddiant y mawrion, deued a ddelo. Mae yr holl hanes i'w gael yn y Traethodydd am 1865, t.d. 488, wedi ei ysgrifennu gan y doniol Kilsby Jones. Mae yr erthygl yn werth ei darllen, pe na byddai ond am ei donioldeb blasus.
  9. C. S. Miall.
  10. Digrifol ydyw darllen y llythyr hwn yn awr yn llawn yn Hansard, a sylwi ar y nifer o engreifftiau o gamsillebiaeth a gwallau ereill sydd ynddo, megys "as" yn lle "have," "interfeer" yn lle "interfere," "you refuses" yn lle "you refuse," ac yr ddiau nid difyr oedd darllen y llythyr fel yr oedd, a dodi y gair "sic" ar ol pob gwall; ac nid difyr, ychwaith, oedd i ysgrifennydd y llythyr weled ei anwybodaeth yn cael ei ddinoethi ger gwydd y deyrnas.
  11. Y mae Mr. Richard wrth ysgrifennu ar hyn, yn galw sylw at y ffaith bwysig nad oedd, er hynny, ddim gostyngiad yu nifer y Swyddogion milwrol yn y fyddin a'r llynges, y rhai oeddent yn parhau i dderbyn symiau mawrion am wasanaeth ddychmygol. Yn wir, codai y dosbarth hwn eu llef yn uchel yu erbyn y gostyngiad.
  12. Herald of Peace. Rhag. 2, 1872.
  13. Pleidlais gudd
  14. Mae Mr. C. S. Miall yn ei fyywgraffiad o Mr. Richard yn camgymeryd wrth osod y daith hon yn 1873.
  15. Nid 1873 fel y dywed Dr. Miall.
  16. Camgymeriad Mr. Miall ydyw dweud mai ar y 9fed ydoedd
  17. Am natur y Cynhygion hyn, gweler William Ewart Gladstone: Ei Fywyd a'i Waith, gan y Parch. Griffith Ellis, 21.4., tudal. 300.
  18. Gweler y penderfyniad hwnnw ar tudalen 113.
  19. Honnid gan ei bleidwyr fod y rhyfel diweddar yn Affrica yn cael ei ddwyn ymlaen yn y modd mwyaf dynolgar ag oedd bosibl, tra y dywedai ereill fod Prydain yn arfer" moddion barbaraidd." Ffromodd newyddiaduron Germani yn aruthr am i Mr. Chamberlain dweud fod y Germaniaid wedi arfer moddion cyffelyb, os nad gwaeth, yn y rhyfel rhyngddynt a Ffrainc yn 1870-1. Ond y mae yr Anrhydeddus Aubern Herbert yn y Contemporary Review, (Gorffennaf, 1902), mewn erthygl o dan y penawd, How the pot called the kettle black, yn dangos fod cyhuddiad Mr. Chamberlain yn hollol wir. Un peth ydyw pasio penderfyniadau mewn cynhadledd yn ymrwymo i ymgadw rhag arfer creulondeb dianghenraid mewn rhyfel, ond peth arall ydyw cario y penderfyniadau hynny allan pan y mae y nwydau anifeilaidd wedi eu cyffroi. Mae yr hyn a gymerodd le yn Neheudir Affrica, yn China, ac yn Ynysoedd y Philippine, yn eglur ddangos hynny. Na, peth barbaraidd ydyw rhyfel o angerrheidrwydd.
  20. Dadl Mr. Gladstone oedd fod y rhan fwyaf o'r engreifftiau a nodwyd gan Mr. Richard wedi eu derbyu yn ffafriol gan y wlad wedi hynny; ond, fel y dywedai Mr. Richard ar ol hynny, un peth ydyw cyfiawnhau gweithred y bwriedir ei chyflawni, a pheth arall ydyw peidio ei chondemnio ar ol iddi gael ei chyflawni.
  21. Mr. Richard.
  22. Dywed Mr. William Jones, yn ei Quaker Campaigns in Peace and War, i John Bright ddweud wrtho ar ol hyrny,—"Gwelais Arglwydd Granrille y prynhawn cyn y tan-beleniad, a sicrhaodd i mi fod popeth yn myned ymlaen yn iawn yn yr Aifft. Drannoeth daeth y newydd am ddinistr yr Amddiffynfeydd. Syrthiodd y newydd ar y Cyfrin Gyngor fel taranfollt. Synwyd pawb oherwydd y tro ar bethau, a phenderfynais nas gallwn yn hwy fod yn aelod o'r Weinyddiaeth."
  23. Hansard. Cyf. CXLIV., t.d. 115. Chwef. 3, 1857.
  24. Er mwyn dangos fel y byddai Mr. Richard yn defnyddio pob cyfleustra i ddweud gair o blaid Cymru, a'i hiaith, cymerer yr hanesyn canlynol,—"Mewn araeth ym Mhorthmadoc, ar y 15fed o fis Medi, 1892, dygodd Mr. Gladstone, yng nghanol banllefau cymeradwyol, enw Mr. Henry Richard i mewn, a dywedai,—gaf fi adrodd hanesyn i chwi? Yr oedd y nifer fwyaf o honoch yn adnabod Mr. Henry Richard, A.S. Yr oed Mr. Richard yn Gymro twyıngalon, ac fel y mae nifer fwyaf o Gymry, yn un gwrol iawn hefyd. Un diwrnod, yn Nhy y Cyffredin—nis gallaf ddweud i chwi sut y bu, oblegid nid peth cyffredin ydyw i ni ddadleu cyfieithiadau o'r Ysgrythyr,—ond ar ryw achlysur, fe gododd dadl neu ymddiddan ar bwnc y cyfieithiad awdurdodedig o'r Ysgrythyr, a siaradodd Mr. Richard i'r perwyl a ganlyn,—Y mae gennych chwi, y Saeson, gyfieithiad ardderchog ac amhrisiadwy o'r Ysgrythyrau Santaidd, ac yr wyf yn gobeithio y gwerthfawrogwch ef, fel y dylech; ond mi hyderaf na ddigiwch wrthyf am ddweud fod gennym ni, y Cymry, gyfieithiad llawer rhagorach. Y rheswm dros fod ein cyfieithiad ni yn fwy rhagorol na'r eiddoch chwi yw, nid am fod eich cyfieithwyr chwi wedi esgeuluso gwneud eu dyledswydd, ond am fod ein hiaith ni yn tra rhagori ar yr eiddoch chwi.'"
  25. Yr ymdriniaeth fwyaf effeithiol ac argyhoeddiadol o eiddo Mr. Richard ar y wedd hon ar y cwestiwn o hunanamddiffyniad, ydyw yr un a ymddanghosodd mewn dwy Erthygl yn yr Herald of Peace am 1858, t d. 78 a 90. Ysgrifennodd awdwr galluog The Eclipse of Faith, sef Henry Rogers, lyfr o dan yr enw Selections from the Correspondence of R. E. H. Greyson, yn yr hwn yr ymdriniai â gwahanol faterion. Yn eu mysg y mae yn trin y cwestiwn o hunanamddiffyniad yn ol egwyddorion y Crynwyr, ac yn ceisio profi geudeb yr egwyddorion hynny. Yr oedd enwogrwydd yr awdur yn galw am atebiad cyflawn a manwl, ac y mae Mr. Richard yn y ddwy erthygl a nodwyd, yn ein tyb ni, yn codymu y Prif Athraw gyda deheurwydd digyffelyb. Y mae yr erthyglau yn gynllun o ymresymiad teg, manwl, a chyflawn. Mae y diweddar Barch. G. Parry, D.D., yn Y Traethodyld am 1871, yr ail godi dadl Greyson o blaid rhyfel, ond y mae yn amlwg nad oedd wedi darllen atebiad Mr. Richard.
  26. Credwn, pe cesglid at eu gilydd yr holl Erthyglau a Thraethodau a yegrifennodd Mr. Richard ar Ryfel, y byddent yn ystorfa o ffeithiau a rhesymau na fyddai yn bosibl cael eu gwell mewn un man. Nid ydym yn petruso dweud y cyfansoddent lenyddiaeth gryno a chyflawn ar yr holl gwestiwn. Draent yn gorwedd, gan mwyaf, yn yr Herald of Peace, cyhoeddiad misol a fu o dan ei olygiad, ac y bu yn ysgrifennu iddo am tua deugain mlynedd. Neu pe cesglid detholiad o'r ysgrifau hyn, yn un gyfrol, byddai yn gaffaeliad gwerthfawr i achos Heddwch, a byddai yn well coffadwriaeth am lafur ac ymchwiliad Mr. Richard i'r pwnc nag y gallai un colofn o farmor fod byth.
  27. The Gradual Triumph of Law over Brute Force, by Henry Richard, M.P., Third Edition, 1881.
  28. Tybed fod yr ymwybyddiaeth o hyn wrth wraidd gwrthodiad Gweinyddiaeth Prydain i gais y Transvaal cyn y rhyfel diweddaf i benderfynnu y cwestiwn trwy Gyflafareddiad? Pwy fedr ddesgrifio y trueni a arbedasid, pe derbyniasem y cynhygiad hwnnw?
  29. Beth pe ceid plaid gref unedig o wŷr tebyg i Mr. Richard yn Senedd Prydain y dyddiau hyn, dynion a gadwent y cwestiwn hwu gerbron yn barhaus? Byddai effaith y cyfryw blaid ar farn y wlad, ac ar ddeddfwriaeth y Senedd yn anrhaethol werthfawr. Cariodd Mr. Richard ei gynhygiad o blaid Cyflafareddiad trwy'r Tŷ yn 1873, er gwaethaf pob rhwystr. Beth sydd yn rhwystro i bob Aelod Cymreig fod yn "iach yn y ffydd" ar y cwestiwn hwu, ac i ymdrechu o blaid y ffydd honno? Dim, ond cael etholwyr Cymru grefyddol i fynnu cael hynny. Mae'r llwyddiant yn eu llaw hwy.
  30. History of our own Times from 1800 to year of Jubilee, t.d. 449.
  31. Nid dyma'r Ymherawdwr cyntaf i symud yn y cyfeiriad hwn. Gwelt.d. 72.
  32. Gwaharddodd Lloegr i'r Transvaal gael dod i mewn.
  33. The Peace Conference at the Hague, and its Bearings on International Law and Policy, by Frederick W. Holls, D.C.L., a Member of the Conference from the U. S. of America. Macmillan & Co. Price 10/- net.
  34. Medd y Times am Awst 27ain ddiweddaf,—"Mae Cyngor yr Hague ar gael ei alw ynghyd er mwyn penderfynnu ei achos cyntaf. Yr oedd y cyhoedd wedi gwneud ei meddyliau i fyny nad allasai y Llys hwnnw fod o un gwir fudd, a bydd y newydd hwn yn peri syndod." Achos bychan ydyw rhwng yr Unol Daleithiau a Mexico. Mae y blaenaf wedi penodi Syr Edward Fry (Sais) a M. Martens (Rwsiad), a'r olaf wedi penodi y Seneddwr Guernaschelli (Italiad) a M. de Savolnin Lohman (Isellmynwr). Dyma ddechreu, pa fodd bynnag.
  35. Gwel erthygl gan yr Awdwr yn y Traethodydd am 1898, t. d. 107, yn cyfeirio at y mater hwn.
  36. Onid dwy wlad yn proffesu Cristionogaeth sydd yn ymladd â'u gilydd yn awr yn Affrica, pan ydym yn ysgrifennu.
  37. Mewn erthygl arall yn yr Herald of Peace am 1862, t.d. 30 a 42, mae yn dychwelyd at yr un engraifft, gan ddifynnu yn helaeth allan o lyfrau gwahanol haneswyr. Dengys fod y bobl wedi colli eu cariad at ryddid cyn yr Adferiad. Penderfynwyd gwahodd y Brenin yn ol heb ofyn am gymaint ag un ymrwymiad ond llw y coroniad. Yr oedd moesoldeb wedi myned yn isel iawn fel y tystiolaetha Macaulay, a llenyddiaeth wedi llygru yn ddirfawr.
  38. Credwn, pe buasai Mr. Richard yn fyw yn awr, er cymaint y gallasai deimlo dros y Transvaal yn ymladd dros eu hanibyniaeth, y dygasai eu hachos hwy yn brawf ychwanegol o wirionedd ei honniad. Pe buasai dewrder yn sicrhau rhyddid, buasai y Gweriniaethau yn awr yn rhydd. Buasai dewrder moesol heb y cledd, ond odid yn ei ddiogelu, a dichon mai trwy foddion moesol yr adenillant ef eto.
  39. Cyhoeddwyd yr erthyglau wedi hynny yn bamffled.