Neidio i'r cynnwys

Er Mwyn Cymru (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Er Mwyn Cymru (testun cyfansawdd)

gan Owen Morgan Edwards

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Er Mwyn Cymru

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader]



ER MWYN CYMRU.



CYFRES GWERIN CYMRU.—Y PEDWERYDD LLYFR.

ER MWYN CYMRU

GAN

OWEN EDWARDS.

"Ond y mae i Gymru ei henaid, ei henaid ei hun."

WRECSAM:

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR.

———

1922

I

WERIN

AC I

BLANT CYMRU

Y CYFLWYNIR Y GYFRES HON,

AM MAI IDDYNT HWY Y CYFLWYNODD

OWEN M. EDWARDS

LAFUR EI FYWYD.

RHAGAIR

CASGLIAD o erthyglau amrywiol a gyflwynir i dy sylw y tro hwn, ddarllenydd o Gymro.

Cyhoeddodd yr awdur, flynyddoedd yn ol erbyn hyn, lyfr a'i deitl,—ER MWYN IESU. Gallesid galw'r llyfr hwn o dan yr un teitl, yr un delfryd a symbyla'r ddau lyfr; i Owen Edwards nid oedd gwahaniaeth rhwng ER MWYN IESU ac ER MWYN CYMRU.

CYNHWYSIAD

(Rhoddir y flwyddyn yr ysgrifenwyd yr erthyglau mewn cromfachau)

ENAID CENEDL (1918)

"Os ceidw ei henaid, daw yn un o arweinyddion y byd "

DYGWYL DEWI (1909)

Beth a wisgwn heddyw?? "Beth a fwytawn heno?

"Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr. Heddyw cwynant o gydymdeimlad"

"Llenyddiaeth fyw apelia at blant"

"Ceid iechyd a thawelwch yno, gorffwys i'r corff a gorffwys i'r meddwl"

BYCHANDER (1918)

"Rhyfedd y bychander fedr ambell ŵn guddio"

"Y mae llawer ffordd i ŵr ieuanc, fedd ychydig o oriau hamdden fin nos, dramwyo i lenyddiaeth Cymru." "A bydd ei ffordd yn ffordd hyfrydwch"

{{canoli|[[Y PLANT A'R EISTEDDFOD (1918)}}

"Cymerodd yr Eisteddfod afael ym mhlant Cymru. Y plant yn unig fedr ei chadw'n fyw

BEDD GŴR DUW (1918).

Y Parch. J. R. Jones o Ramoth

YR YSGOL SUL (1916)

"Y sain bruddaf ym mywyd Cymru heddyw ydyw'r cwynfan fod yr Ysgol Sul yn colli tir'

"Trois i feddwl am uchelwyr Cymru"

"Rhaid edrych ar waith Islwyn fel rhan o'r un cyfanwaith"

"Teimlai'r gwan orfoledd iechyd, teimlai'r pryderus gryfder ffydd, teimlai'r trwmlwythog nerth cawr, teimlai'r diobaith mor lawn yw bywyd, wrth ffarwelio â'r mynyddoedd

"Mae rhai o'r dosbarthiadau hyn o amgylch y Wyddfa"

"Ail godi'r Ysgol Sul "

"Yr Hwn, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn"

"The scraggiest bit of heath in Scotland is more to me than all the forests of Brazil."—Carlyle

ARDDULL (1914)

"Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau'r werin, os dirmygir tafodiaeth, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a'i swyn"

BEIRNIADAETH (1913)

"Ateb Daniel Owen i mi oedd,—"Toedd gen i ddim digon o baent i'w orffen"

EDRYCH YN OL (1920)

"A mwyn, weithiau, fydd taflu ambell drem yn ol"

PEN YR YRFA (1918)

"A mi, ar ryw fin nos, yn ystyried fy mywyd ffwdanus a diles"

ER MWYN CYMRU.



ENAID CENEDL.

"Tlysni rhyfedd y criafol eleni."

LLAWER blwyddyn sydd er pan darewais nodyn dieithr, yn lleddf ac ofnus, gan alw ar Gymru ystyried rhag iddi, wrth ennill y byd, golli ei henaid ei hun. Deffrodd y nodyn gydymdeimlad mewn miloedd o galonnau, a chryfhawyd y rhybudd gan lawer utgorn. Daeth chwarelwyr Gogledd Cymru i'w gefnogi gydag un floedd. Yn arafach daeth amaethwyr y bryniau a'r dyffrynnoedd i'w groesawu, ac i ddeffro i'w gredu. Dechreuodd cymoedd gweithfaol Morgannwg a Mynwy ateb eu cydymdeimlad gwresog. Ac nid oedd y Cymry ar wasgar, yn enwedig Cymry dinasoedd mawrion Lloegr, ar ol.

Y mae llawer symudiad newydd er hynny. Bron na allwn ddweyd fod cenhedlaeth arall yn syllu ar dlysni rhyfeddol y criafol eleni.[1] "A bugeiliaid newydd sydd ar yr hen fynyddoedd hyn." Y mae chwyldroad wedi bod ym myd addysg. Y mae galluoedd cudd wedi eu deffro gan y cynnwrf sy'n gwneud i sylfeini cymdeithas siglo, gwanc rheolwyr am wledydd newydd a llwybrau masnach, a dyhead gwerin am ryddid a chydraddoldeb a chyfoeth. Pwy fuasai'n meddwl ugain mlynedd yn ol, y buasai cyfoethogion Cymru yn rhoi symiau o arian at addysg y werin, wrth y deng mil, yr ugain mil, a'r can mil o bunnau? Pob llwyddiant i'r genedl ymgyfoethogi mewn golud byd a meddwl, ac arweinied Duw ei hymdrechion arwrol a hunan-aberthol i fuddugoliaeth. Ie, enilled yr holl fyd.

Ond y mae i Gymru enaid, ei henaid ei hun. A gall golli hwnnw. Gall addysg flodeuo, gall crefydd gryfhau, gall rhyddid ennill y dydd, gall y tlawd godi o'r llwch ac ymgryfhau, gall y goludog fod yn gadarn ac yn frigog fel y lawryf gwyrdd, tra enaid y genedl yn llesghau a gwywo. Gall y genedl ymgolli yn yr ymerodraeth, a bod yn rhan farw yn lle bod yn rhan fyw, fel na chlywir ei llais mwy.

A phe digwyddai'r trychineb hwnnw, byddai Cymru heb enaid a'r byd yn dlotach. Pan ddaw ymdrech newydd dros ryddid a chrefydd, nid Cymru godai'r faner; byddai ei llais hi yn fud.

Y mae i Gymru ei hiaith ei hun, ac ni fedr gadw ei henaid hebddi. Nid hyn a hyn o eiriau, mwy neu lai nag mewn ieithoedd eraill, ydyw. Y mae ynddi brydyddiaeth bywyd a gobaith mil o flynyddoedd wedi ei drysori. Pan ddaw'r geiriadurwr anwyd i sefyll uwch ei phen, bydd, nid yn ieithegwr yn unig, ond yn hanesydd a bardd hefyd.

Y mae yn enaid hanner effro Cymru ddefnydd llenyddiaeth odidog; nid yw Ceiriog a Daniel Owen ond megis wedi codi cwr y llen, ac ni rydd Islwyn ond rhyw gipolwg niwliog ar y bywyd heulog llawn sy'n disgwyl ffurf a llais. Ar lenyddiaeth ddieithr,—a honno'n iaith ddieithr a masw y gwan, y gwrendy toraeth ein pobl ieuanc y dydd hwn. Os nad yw llenyddiaeth enaid Cymru i gydio yn ein plant, gwell iddynt fod yn anllythrennog, fel na chollant y chwaeth a'r dyhead a gadwodd y Mabinogion trwy genedlaethau di-ddysg a di-lyfr. Fy nghenedl, beth yw sefyllfa'r Gymraeg yn dy ysgolion?

Y mae i enaid Cymru ysbryd cerddoriaeth gyfrin, sydd eto heb gael llais, er y clywir sibrwd ei edyn mewn ambell hen alaw neu yn hwyl ambell gymanfa. Cofiaf am adeg na ddysgid alaw Gymreig yn yr un ysgol yng Nghymru. Pryd hynny, gwynfyd y cerddor fuasai newid enaid Cymro am enaid Sais, a iaith y Cymro am iaith yr Eidalwr, ac yntau heb adnabod y naill na medru y llall. Sais ddaeth ag alawon Cymreig i ysgolion Gogledd Cymru; Saeson sy'n galw heddyw am i'n cerddorion dynnu eu hysbrydoliaeth o'r bywyd cyfoethog Cymreig, yn lle edmygu'r dieithr na fedrant ond ei ddynwared. Ni anwyd cenedl ag enaid mor llawn o gerddoriaeth ag enaid cenedl y Cymry. Ewch i ysgolion y genedl, i wrando lleisiau'r plant ar fore. Pa mor aml y clywch emyn neu alaw Gymreig yno?

Y mae enaid Cymru'n ddwys grefyddol, a'i lygaid ar y tragwyddol. Oherwydd hynny, oni ddylai y weledigaeth fod yn glir? Oni ddylai'r gwyddonwr Cymreig fod yn ddarganfyddwr? Ond wedi colli ei enaid, cyll meddwl y Cymro ei nerth. Boed i Gymru bob llwyddiant. Daw cydraddoldeb a rhyddid, Prifysgol ac Ysbyty, a sylweddolir llawer breuddwyd. Ond na chollwn ein golwg ar enaid y genedl, rhag iddo, ynghanol adeiladau gwych a phwyllgorau brwdfrydig, ddiflannu o'r golwg. Mager ef yn yr ysgolion, a cholegau amrywiol y Brifysgol. Ond ei grud yw'r aelwyd. Yn yr amaethdy mynyddig, yn y bwthyn ar fin y nant, yng nghartref y glowr,— yno y ca ysbryd Cymru ei eni. Ac oni fegir hwn, cenedl ail raddol, yn dynwared peth islaw ei bywyd, fydd cenedl y Cymry. Os ceidw ei henaid, daw yn un o arweinyddion y byd. Mewn gwladgarwch llednais a

ffydd ddiysgog na fydded ein nôd ddim yn is.

DYGWYL DEWI

"BETH a wisgwn heddyw?" "Beth a fwytawn heno?" Dyna ddau gwestiwn y Cymro ar fore Dygwyl Dewi. Yr ateb i'r ddau gwestiwn yw,—"Cenhinen. Ni a'i gwisgwn yn y bore, a ni a'i bwytawn hi yn yr hwyr." Ac felly fydd. Gorffwys y genhinen, yn oer ac yn werdd, ar fynwes y Cymro yn ystod y dydd; a gorffwys y genhinen, yn gynnes ac yn llipa, yn ei gawl yn y nos.

Yn fyfyriwr yn Rhydychen y clywais i sôn gyntaf erioed am wisgo cenhinen ar ddygwyl Dewi Sant. Nid wyf yn sicr a oeddwn wedi clywed sôn am genhinen fwytadwy o'r blaen; yr wyf yn berffaith sicr nad oeddwn wedi gweled un erioed. Os clywswn ei henw, yr enw hwnnw oedd "lecsen" a "lêcs." Clywais fod bechgyn Coleg yr Iesu yn gwisgo cenhinen ar ddygwyl Dewi. Yr oedd llu o Gymry ohonom mewn colegau eraill, megis Balliol, New, Brasenose, Oriel, ac Exeter. Penderfynasom wisgo cenhinen, a chawsom genhinen gelfyddydol, —ei gwraidd o edafedd arian a'i dail o ruban gwyrdd. Yr oedd hon yn ysgafn ac yn dlos, ond sham oedd, nhebig iawn i'r genhinen fawr a sawrus wisgid gan fechgyn Coleg yr Iesu, un fuasai'n arf defnyddiol mewn ffrae a ffrwgwd. Gofynnodd fy athraw i mi beth oedd, a chefais gyfle i ddweyd llawer o bethau ynfyd am ogoniant ein cenedl ni yn y gorffennol, a rhai pethau am ei dyfodol sydd erbyn hyn yn dechre dod yn wir.

Er fy mod yn hen ben cyn gwybod beth oedd cenin y gerddi, gwyddwn am flodeuyn arall wrth yr un enw. Ni thyfai hwnnw ychwaith mewn lle mor uchel a mynyddig a'm cartref i, ond gwyddwn am dano mewn dolydd a chymoedd is i lawr, mwy cysgodol. Yr oedd ysblander ei felyn a thynerwch ei wyrdd wedi llenwi'm calon â llawenydd laweroedd o weithiau, a rhoi edyn breuddwyd i'm meddwl godi i wlad o farddoniaeth anelwig ond pur. A phob tro y gwelaf genhinen Pedr eto, yn llonydd yng ngwyleidd-dra ei chyfoeth euraidd yn y cwm, neu'n dawnsio'n llon i chwiban gwynt miniog Mawrth ar y dolydd, aiff ias o lawenydd hyfryd trwy'm calon, cilia pryder a diffyg ffydd ymaith, ac ail ddeffry hen obeithion wna'm bywyd lluddedig yn llawn ac yn ddedwydd eto.

Pa un ai'r leek ynte'r daffodil yw cenhinen Cymru ?

Nid oes gennyf hawl i benderfynu. Bechgyn a merched y dyddiau hyn, rhai'n paratoi at wasanaethu eu gwlad yn y blynyddoedd sy'n ymyl, sydd i benderfynu. Ond maddeuer i mi am gynnyg awgrym neu ddau.

Prun o'r ddau flodeuyn adwaenir fel y genhinen? Yn y rhan o Gymru adwaenaf fi oreu, sef mynydddir uchel y Berwyn, cenhinen Pedr yw'r genhinen. Credaf mai dyna fel y mae yn Lleyn hefyd. Yr oeddwn yn teithio o Bwllheli i Fotwnog yn y gwanwyn diweddaf, a gwelwn dwmpath o'r blodau melynion croesawgar. Gofynnais i'r gyrrwr,—gŵr cydnerth Cymroaidd,—beth oedd enw'r daffodils yn Gymraeg. "Wel," meddai, heb betruso dim, "cenin y byddwn ni'n eu galw y ffordd yma." Ond gwn mai'r leek sydd yn mynd i "gawl cenin " rhannau helaeth o Gymru.

Prun o'r ddau flodyn yw'r tlysaf? Ni allaf fi benderfynu. Y mae i'r leek ei thlysni. Y mae gwynder pur ei bron, amrywiaeth dymunol ei gwyrdd, a cheinder trofaog ffurf ei dail, oll yn ddiamheuol dlws. Clywais arlunwyr yn dweyd eu bod hwy yn hoffi lliw a llun y genhinen; ac y mae'n gain iawn, yn ddiameu, yn y darlun wnaeth Syr Edward Poynter o Ddewi Sant fel awgrym sut i addurno neuadd y Senedd. O'r ochr arall, pwy a wâd nad yw cenhinen Pedr yn un o'r blodau prydferthaf? Y mae'n gyfuniad o dlysni gwylaidd morwynig ac ysblander prydferthwch brenhines. Tlysni tyner a gwylaidd yw, ond a gogoniant yn fflamio ohono.

Prun o'r ddau flodyn sydd fwyaf nodweddiadol o'n cenedl ni? Llysieuyn dirmygedig yw'r leek yn llenyddiaeth Lloegr, peth gwylaidd ac isel ond defnyddiol. Llysieuyn gwerthfawr oedd y daffodil, yn ogoneddus ei ffurf a'i lliw, ac yn werthfawr fel meddyginiaeth. Yn ei ddarlun byw o bla 1625, rhydd yr Hen Ficer y meddyginiaethau gwerthfawrocaf mewn un pennill,—

"Ond pe ceit ti balm a nectar,
Cenin Peder, cerrig Besar,
Olew a myrrh, a gwin a gwenith,—
Ni wnant les heb gael ei fendith."

Cenedl wylaidd fu cenedl y Cymry'n ddiweddar, rhy lew a rhy lawen a rhy lariaidd"; ond yn awr y mae'n ennill ymddiried ynddi ei hun. thybia llawer fod y genhinen ddirmygedig yn arwydd gweddus i un gododd o isel radd. Ond cenedl o dras ardderchog yw cenedl y Cymry, wedi crwydro'n fore o'r dwyrain, dan arweiniad dychymyg cryf ac ysbryd mentrus; o'r dwyrain cynhesach y daeth y daffodil hefyd; a dyna pam y mae hi'n blodeuo gymaint yn gynt na blodau eraill, blodeua hi yr adeg y deuai'r gwanwyn i'w hen gartref. Hawdd cael ein temtio i gredu i'r Cymry ddod a'r blodeuyn hoff a rhinweddol gyda hwy i'r gorllewin. "Croeso'r gwanwyn ydyw, ac y mae'n ddarlun cywir o fywyd y genedl Gymreig, —bywyd o wanwyn, bywyd o ieuenctid parhaus, bywyd o obeithio yn erbyn pob anhawster, bywyd o gredu'r amhosibl. Medd wyleidd-dra tyner cenedl wedi dioddef, medd ogoniant cenedl yn codi i gymeryd ei lle ei hun. Mae llawer rheswm dros y newid sydd ar genedl y Cymry yn y dyddiau hyn, a'r rhai hynny yn rhesymau amrywiol iawn,—cred mewn etholedigaeth cenhedloedd, gweld golud y bryniau, teimlo manteision addysg. Ie, y mae hyd yn oed chware pel droed wedi ennill parch cenhedloedd eraill, a galw sylw at neilltuolion cenedlaethol mwy pwysig. Ai arwyddlun ein hiselradd gynt, ynte arwyddlun o nôd ein gwanwyn, a ddewiswn ni ?

"Gwasanaethaf" yw arwyddair Tywysog Cymru; ac nid oes wlad yn y byd yn credu yn gryfach na Chymru mewn urddas gwasanaeth. Ond nid gwasanaeth gwasaidd yw i fod. A chreulon. oedd cynnyg fel arwyddair i Gymro,—"Ar dy dor y cerddi, a phridd a fwytei, holl ddyddiau dy einioes." Nid gwasanaeth felly a gaiff y genhinen yn arwydd iddo. I Gymro, nid melltith y sarff, ond braint dyn, yw gwasanaethu. Ac ni ddirmygir cenhinen.

Gwn prun o'r ddau flodeuyn,—cenhinen a chenhinen Pedr, yw'r hoffaf i mi. Ond gallaf deimlo'n hawdd mai ar y llall yr erys serch eraill. Chwaeth pob un raid benderfynu. A phrun bynnag ai leek ynte daffodil gyfieithi yn genhinen ac a wisgi heddyw, Cymro wyt i mi. Gwisg hi, prun bynnag yw, mewn llawenydd. Na ddyro iddi dra-arglwyddiaeth y rhosyn, na phigau'r ysgall, na diwinyddiaeth y feillionen. Gwisg hi fel arwydd o wladgarwch pur. A boed pob bendith ar dy

ymdrech i godi'r hen wlad yn ei hol."

MURMUR DYFROEDD[2]

"Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr."

Y MAE rhyw fiwsig cyfrin, suon esmwyth o bell, atgofion am dynerwch hen amseroedd, ym murmur dyfroedd. Yn y nos, pan fydd twrf y byd wedi distewi, y daw y murmur yn hyglyw. I ddechre clywir rhuthr dyfroedd yn bendramwnwgl megis, dim ond sŵn anhrefn prysur gwyllt. Ond, yn raddol, daw'r sŵn yn hyfryd i'r glust, yn furmur hyfryd esmwyth; a thoc daw'n llawn o leisiau, oll yn siarad ar unwaith, yn dweyd pethau gwahanol, ond mewn cydgord sy'n felys iawn i'r glust sy'n hiraethu 'am hen atgofion pell.

Nid ymhob man, hyd yn oed yng Nghymru, y clywir murmur dyfroedd. Ond y mae lleoedd, ac nid ydynt yn anodd eu cael, lle llenwir y nos â suon melys, tyner, parablus dyfroedd sy'n myned heibio, ac yn adrodd hanes y cymoedd y daethant ohonynt, a'r cartrefi y daethant heibio iddynt ar eu taith.

Un o'r lleoedd hynny yw Llangollen. Pan ddisgynnir yn Llangollen yn y dydd, daw sŵn dyfroedd yn groeso; a golygfa sy'n llonni pob llygad yw gweled y tonnau yn dawnsio'n ewyn dros y creigiau. Ond pan ddaw'r nos, a phan ddaw aden distawrwydd dros y fangre dlos, y tyr y sŵn dyfroedd yn gerddoriaeth ddofn, llawn amrywiaeth a meddwl. Lawer noswaith, bum yn treulio oriau canol y nos i wrando ar y dyfroedd oedd yn canu cân mor gyfareddol, cân nad yw dychymyg dyn wedi ei rhoddi ar bapur eto, wrth fynd heibio ar eu ffordd i'r môr. Dwfr y Ddyfrdwy yw'r cantorion, dwfr dwyfol" yr hen Gymry. Yn yr hen amser gynt ciliai'r dyfroedd oddiwrth Gymru o flaen trychineb, ond gwasgent ati o flaen hawddfyd. Ond nid y peth a fydd glywaf fi ynddynt, ond y peth oedd. Deuant drwy lawer ardal hoff iawn i mi, heibio mwy nag un cartref wyf yn garu'n angerddol, heibio llawer amaethdy mynyddig neu fwthyn sy'n ddarlun i mi o fywyd pur nefolaidd plant. Carlamasant yn hoyw heibio i rai ohonynt yn y dydd; llithrasant heibio eraill heb i'r plant eu clywed yn y nos. Ond, i mi, y mae sŵn atgofion am hen lecynnau anwyl yn llais y dyfroedd sy'n mynd heibio dan ganu. I mi, y mae lleisiau oesoedd yn eu miwsig. Ymlonyddaf i wrando arnynt.

Wrth wrando, tybiaf glywed lleisiau'r hen fynachod yn canu mawl i Dduw yn adeg cyni Cymru. Ychydig yn uwch i fyny y mae aber yn rhedeg i ymuno a'r côr o hyfrydwch Glyn y Groes, lle bu'r Cisterciaid gynt yn addoli yn eu tŷ mawreddog cain. Lleisiau bas yw'r rhan fwyaf, a'r gân yn seml bron hyd fod yn arw,—hwyrach eu bod yn canu yn arwyl Owen Glyndwr. Ac ychydig yn uwch i fyny, deuant heibio cartref Owen,—onid oes ynddynt leisiau afiaethus plant a sŵn yr helgwn, a llais Iolo Goch gyda'r tannau ac islais o bryder a sŵn brwydr. Yn union ar eu holau daw lleisiau glywsant ddoe,—lleisiau'r plant yn Eisteddfod Corwen, a lleisiau'r prif ddatgeiniaid yn canu'r hen alawon. Onid yw murmur Dyfrdwy'n ddidor? Onid yw gobaith Cymru byth yn fyw?

Wrth Langar daw dyfroedd Alwen i ymuno a dyfroedd Dyfrdwy. A chymaint o hen fiwsig ddaw gyda hi, hyawdledd John Roberts o Langwm, llais gwladgarwch Owen Myfyr, chwerthiniad gwatwarus Glan y Gors, odlau melodaidd y Perthi Llwydion, cri'r gylfinhir yn unigeddau'r Hafod Lom. Heibio cartref plant hoyw sydd heddyw ar led y byd, heibio fedd yr hon fu farw yn nhlysni ei hieuenctid, heibio i gapel lle teimlwyd grym nerthoedd tragwyddoldeb,—gymaint sydd gennych i ganu am dano, y dyfroedd mwyn.

Ond, clustfeiniaf am lais y dyfroedd sy'n dod drwy Edeyrnion o ardaloedd y Bala. Clywaf lais clir a dewr Tom Ellis, a lleisiau tyrfaoedd bechgyn ysgol Ty dan Domen y Bala. Megis islais iddynt, yn llawn o gyfoeth miwsig dwys, clywaf lais yr aberoedd sydd wedi eu dofi a'u disgyblu wrth deithio'n araf drwy ddyfroedd Llyn Tegid. Y mae y rhai hyn i gyd yn siarad a mi. Nid oes yr un heb ystori ramantus,—daw pob un heibio cartref lle magwyd meibion a merched na fyddaf byth yn blino cofio am eu tlysni a'u hawddgarwch, eu hathrylith a'u medr, eu hymroddiad a'u haberth.

Y mae llecyn ar lethrau Twrch, cyn cyrraedd cartref Eos Glan Twrch. Plyga coed tewfrig trosto, —derw, ynn, a masarn. Llifa'r pistyll gloyw sy'n disgyn o'r ddaear gerllaw, ac nid oes gof ar lafar na llyfr i'r dŵr beidio canu am funud erioed. Dwfr oer hyfryd, peraidd iawn, ydyw. Ar y llethr uwchben siriol wena blodau'r effros, ar y weirglodd odditano fflamia gogoniant gold y gors. Edrych yr Aran fonheddig arno o bell, osgoa'r corwyntoedd ef wrth daro ar y llechweddau. Ni chlyw ef ond llais y dymestl, a murmur pell yr afon islaw. Ond drwy y dyfroedd llais y pistyll glywaf fi, y mae ynddo fwynder llais tad, tynerwch llais mam, a digrifwch llais brodyr oedd yn adlais o hapusrwydd na welais ei debig ond o ddail y coed mawr gysgodai'r pistyll ac amgylchoedd y tŷ. Bistyll glân cymwynasgar, o na arhosai dy ddyri fach ddiniwed yn llais miwsig mawreddog y Ddyfrdwy am byth.

Oddidraw etyb afon Liw gyfarchiad afon Dwrch. Hyfryd yw bronnydd a dyffrynnoedd Lliw. A byfryd yw miwsig ei rhaeadrau. I mi y mae rhuad Rhaeadr Mwy yn atgof am fas tyner Ap Vychan, fu'n gwrando filoedd o weithiau yn ei blentyndod ar fiwsig dwfn cyfareddol yr afon yn y coed.

Daw llu o aberoedd o'r mynyddoedd fry. Mae eu dwfr yn bur a thryloyw; maent yn ddarlun o'r dihalog a'r glân. Clywsant sŵn y gwynt yn y grug a'r rhedyn, clywsant frefiad dafad a chri aderyn a gweddi sant. Ac mor fwyn, —mor glir ac eto mor gyfoethog, yw sŵn eu dyfroedd heddyw. Dychmygaf glywed eu sain yn codi o gerddorfa lawn yr afon, hyd nes y tawa'r gerddorfa ac y sieryd yr aberoedd pell yn unig. Lleisiau pur a thyner bore oes,—llais hen freuddwydion ofnus, llais y gofyn pryderus, llais yr adduned ffyddlon, llais gobaith y dyfodol,—onid yw hon yn gân fydd yn chwyddo drwy dragwyddoldeb i gyd.

Bum yn Nolgellau yn effro yn y nos. I ddechre tybir fod afon Wnion ac afon Aran yn gwyleiddio ac yn distewi ar y dolydd wrth fyned heibio'r hen dre i'r môr. Ond, o glustfeinio, clywir eu cân draw ymhell, su breuddwydiol i ddechre, ond yn ennill nerth fel y distawa'r nos. O gilfachau Cader Idris ac Aran Fawddwy a'r Rhobell Fawr daw aberoedd fu'n canu i frenhines y weirglodd a chlych yr eos drwy ddyddiau'r haf,—Celynog, Melai, Helygog, a'u chwiorydd,—fu'n gwrando cerddi beirdd wrth fynd heibio cartrefi'r cymoedd. Cofiaf hwy,—bechgyn hoffus a llancesi glân, yn dod dros y Garneddwen wlawog ystormus i'r ysgol; a chwyddwyd dedwyddwch y byd gan fiwsig tyner eu bywyd hwy. Gwn am un pistyll bach, clywaf ei lais mewn dychymyg yn awr,— hwnnw oedd pistyll Ieuan Gwynedd. Y mae Bryn Tynoriad yn adfail anolygus ar ochr y Garneddwen, y mae'r dderwen fawr wrth y Tŷ Croes wedi diflannu, ond y mae'r pistyll yn dal i ganu, y mae mor fyw a dylanwad y Beibl Coch neu genadwri danllyd brudd Ieuan Gwynedd. Wrth wrando arnoch yn y nos, ddyfroedd Dolgellau, gynifer o leisiau cyfeillion mwyn bore oes glywaf yn eich mysg. Beth fel sŵn dyfroedd am ddeffro hen delynau?

Cysgais aml noson yn Llanfair Muallt. Yn y dechre ni chlywaf ddim, y mae sŵn tyrfaoedd Maesyfed a Buallt,—y naill yn Saesneg a'r llall yn Gymraeg, yn boddi pob sŵn hyfryd. Ond toc daw'r distewi. Yna dechreua afon Wy lefaru.

Ai o'r hen oesoedd y daw y llais? Onid fel y siaradai â Llywelyn yn Aberedw, ac a chwcw Williams Pant y Celyn yn Llanfair, y sieryd eto? I mi y mae'n llawn o leisiau'r hen amseroedd. Wedi dechre ei chlywed, clywir nid Wy fawreddog yn unig wrth araf orymdaith dros ei chreigiau, ond llu o aberoedd sy'n ymuno â hi. Daw Ithon, yn llawn lleisiau hen ysgarmesoedd gwŷr rhyfelgar Elfael a Melenydd, a lleisiau mynachod Cwm Hir yn gweddio ar Dduw am heddwch pan na wrandawai dynion dig arnynt. Daw Irfon hanesiol, heibio feddau Kilsby a Theophilus Evans, o Langamarch a Llanwrtyd, ac Aber Gwesin, o'r Gwern a'r brwyn a'r rhedyn, o Gamddwr y Bleiddiaid ac o gartref y barcud. Ymysg lleisiau ei dyfroedd, clywaf gri un afonig fach. Gwelais hi'n codi mewn hafn yn Mynydd Epynt, gwelais hi'n loyw wrth fynd heibio'r Cefn Brith i ddyfroedd Irfon. Llais John Penry glywaf yn ei dyfroedd pur, llais o ing wrth farw yn galw am yr efengyl i Gymru. A daw'r Wy ei hun o'i thaith hir o Blinlimon, heibio'r Rhaeadr rhamantus, a Marteg ac Elan yn ei dwylo; ac, i mi, y peth hyfrytaf yn ei miwsig yw emynau melodaidd John Thomas o Raeadr Gwy.

O gastell Aberhonddu clywais furmur dyfroedd Wysg yn nistawrwydd y nos, tra'n rhedeg dros greigiau rhamantus a graean glân. Canodd Islwyn lawer am brydferthwch y nos; hawdd fyddai canu i'w miwsig. Fel y mae tywyllwch y nos yn dangos y ser, yn dangos heuliau afrifed yn lle un, felly y mae distawrwydd y nos yn rhoddi llais i'r holl aberoedd, sy'n rhedeg heibio cartrefi dedwydd, llawn o blant glân, fel y rhedasant heibio i gartrefi cenedlaethau lawer. Tarrell a Senni, Crai a Hydfer, Gwydderig a Chlydach, Bran ac Ysgir a Honddu,—deuant yn llu i'r Wysg; a mwyn i'r cyfarwydd yw gwrando murmur y dyfroedd, a dehongli beth ddywedant am yr hyn fu ac am yr hyn sydd yn y glynnoedd prydferth a'r mynyddoedd iach y deuant ohonynt.

Mae ambell le na allaf glywed murmur y dyfroedd yn y nos ynddo. Y mae'r afonydd yno, ond y maent yn llifo'n ddistaw drwy'r dolydd. Gwelaf hwy yn y bore, a'r haul yn fflachio'n loyw ar fynwes eu dyfroedd. Ond ni ddywedasent ddim wrthyf yn y nos. Lle felly yw'r Bala, a Llanrwst, a Llandeilo, a Chaerfyrddin. Hwyrach mai afon Tywi yw'r ddistawaf o holl afonydd Cymru; llifa trwy ei dyffryn bras fel pe'n rhy oludog i siarad a neb.

Ond nid yw'r glust yn segur pan nad yw'r dyfroedd yn hyglyw. Y mae distawrwydd dwfn fel pe'n rhyddhau'r glust weithiau i glywed seiniau gollwyd ers blynyddoedd lawer. Clyw y teithydd yn yr anialwch, yn y distawrwydd llethol, sŵn clych yr eglwys yn y pentre ger ei gartref. Ac yn nhawelwch Llandeilo pan na fyn Tywi lefaru gair, sieryd y distawrwydd ei hun, drwy adael i'r glust gofio yr hen gryniadau pan ddaeth newydd o lawenydd neu o ing i'w chyffroi.

Nid yw'r môr yn siarad a mi am Gymru nag am fy hanes fy hun. Estron fum i iddo yn nyddiau mebyd, a phan wrandawaf ar ei ru, yn Aberystwyth neu ar lannau Gwyr, sôn am hanes gwledydd pell y bydd.

"Mwyngan ddwys yr afon fechan
Wrth ymdreiglo dros y gracan
Sydd yn hoff,"

ebe bardd y môr; ond ni allaf ei ddilyn pan ychwanega,—

"ond nid fel pruddgan
Sŵn y môr."

Yr aberoedd bychain mynyddig sy'n canu i mi; sŵn eu dyfroedd hwy yw dedwyddwch fy enaid. Heddyw deuant o fynyddoedd mebyd, a'u llais yn alar a hiraeth pur. Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr. Heddyw cwynant o gydymdeimlad. Aberoedd mwyn, cyfeillion fy mlynyddoedd hapus, daliwch i ganu with blant oesau i ddod, a bydded y plant hynny fel chwithau, yn fendith a bywyd i'r ardaloedd yr ant iddynt o fryniau plentyndod.

ANGEN MWYAF CYMRU

POB peth a rydd cenedl am ei heinioes. Y ddau awydd cryfaf ym mywyd pobl yw awydd cadw eu trysorau ac awydd byw eu bywyd. Y ddau beth yr ymgroesa meddwl cenedl fwyaf rhagddynt yw colli a marw. Fel rheol, nid yw cenedl yn gwybod ei bod yn teimlo y ddau awydd hwn, nac yn ofni yr ofnau hyn; daw'r awydd a'r ofn, fel anadl ei heinioes, yn rhan o'i bywyd heb yn wybod iddi. Ond, ar dro, daw rhywbeth i'w deffro; teimla'r dyhead, a daw ofn marw yn arswyd byw yn ei chalon.

Daeth cyfwng felly yn hanes yr Iddewon. Llifodd dylanwadau estronol drostynt. A beth oeddynt. hwy, druain dirmygedig, i wrthsefyll gwareiddiad Groeg a gallu Rhufain? Cawsant eu hunain wyneb yn wyneb a difodiad fel cenedl, a phenderfynasant fyw. Casglasant eu llenyddiaeth i'w chadw; daeth ynni egniol bywyd i'r genedl fechan wydn. Yn lle boddi yn y llif, hwy sydd wedi ei reoli.

Y mae Cymru'n wynebu cyfnod tebig. Y mae dylanwadau estronol yn llifo drosti. Mae llif masnach yn gwisgo ei therfynau ymaith beunydd. Y mae ei moesgarwch a'i chywreinrwydd hi ei hun yn croesawu'r dylanwadau sydd yn ei llethu. Ond, yn sydyn, daeth awydd ynddi am gadw a hiraeth am fyw.

Prin y mae cenedl ar y ddaear heddyw fedd gymaint o drysorau cudd. Gwyddis am lenyddiaeth ardderchog cyfnod y tywysogion. Pan drodd uchelwyr Cymru eu cefnau ar lenyddiaeth eu tadau, wedi buddugoliaeth Bosworth, aeth cywyddau cain y tywysogion bron yn angof. Ac yn eu lle dechreuodd gwerin roddi llais i'w meddwl ei. hun, llais cras a garw i ddechre, ond llais sydd wedi melysu'n rhyfedd erbyn hyn. A heddyw. y mae gwerin Cymru'n medru mwynhau ceinder ffurf cywyddau'r canol oesoedd; a gall pob ymgeisydd am radd M.A., ddwyn i'r goleu waith rhyw fardd anghofiedig cain. Heddyw y mae chwaeth y gwerinwr mor uchel a chwaeth uchelwr adeg Llywelyn; ac y mae ei gydymdeimlad yn eangach a'i fywyd yn ddyfnach. A yw'r trysorau hyn, trysorau llenyddiaeth gain y tywysogion a thrysorau llenyddiaeth fwy y werin,—i fynd ar goll am byth a neb i sôn am danynt mwy?

Nid oes odid genedl yn meddu iaith mor dlos a byw. Ac y mae clust Cymru wedi deffro i fiwsig ei hiaith ei hun, yn enwedig yn yr ardaloedd lle bygythir hi gan daw distawrwydd bythol. Os cyll Cymru ei bywyd fel cenedl, â i'r bedd yn genedl ryfeddol gyfoethog, ac nid yn genedl dlawd. Ai ysblander yr haul yn machlud welir yn ei bywyd heddyw, ynte bore gogoneddus arall yn torri? Beth bynnag yw, yr ydym fel cenedl mewn ymdrech i fyw. Yr un ymdrech yw ag ymdrech Llywelyn ac Owen Glyndŵr. Beth sydd eisiau at y frwydr?

Y mae'r ateb yn barod, llenyddiaeth fyw apelia at blant. Dyna angen mwyaf Cymru. Cymerer un lle,—Aberhonddu a'r cylchoedd. Mae'r bobl mewn oed yn siarad dwy iaith, ac y mae eu Cymraeg yn bur a phrydferth bron y tuhwnt i un ardal yng Nghymru; maent o feddwl ymchwilgar a deall parod. Y mae'r plant yn codi i fyny yn unieithog; o'u cymharu â'r to o'u blaenau nid oes i'w meddwl agos gymaint o nerth ac awch. Cwyna rhieni'r plant ar yr athrawon; cwyna'r athrawon ar y llyfrau.

Os ydyw Cymru i fyw, rhaid i rywrai ymdaflu i waith dros y plant. Nid ar faes y gad, ond mewn llenyddiaeth, y mae eisiau Llywelyn a Glyndŵr. Y mae inni lenyddiaeth fyw a chyfoethog, gwn hynny'n dda; ni welodd un cyfnod o'n hanes gynifer o lyfrau a chymaint o ganu. Ond i hen genedl y cenir y rhan fwyaf; ac nid i genedl ieuanc, nid yw'r meddwl yn ddigon syml, clir, newydd, a diddorol. Er amser Goronwy Owen, y mae beirdd goreu Cymru wedi efelychu hen fesurau. Y mae llaweroedd o feirdd y mesurau caethion, yn enwedig Eben Fardd, wedi canu'n brydferth fyw. Ond, er mwyn cadw bywyd Cymru, buasai un Hans Anderson yn werth, a mwy na gwerth, y cyfan i gyd. Y mae gennym yn y Mabinogion drysorgell o ystraeon na all Denmark na Germany ddangos eu tebig. Ond tra y cafodd Denmark ei Hans Anderson i wneud i'w hen chwedlau fod yn ddiddordeb bywyd pob plentyn yn ei hynysoedd a'i gwastadeddau, a Germany ei brodyr Grimm i wneud yr un gymwynas i blant ei thalaethau aml, nid oes i Gymru eto ond ei defnyddiau ardderchog a'i hiraeth am y llaw a ddaw, nid yn rhy hwyr gobeithio, i wneud y gwaith.

Y mae holl rwysg yr Eisteddfod yn mynd i'r rhannau hynny o lenyddiaeth, yr awdl a'r bryddest —sy'n apelio at y diwylliedig, y cyfarwydd, a'r hen. Ond am y rhannau sy'n apelio at y werin a'r ieuanc, y delyneg a'r rhamant yn enwedig, —ni roddir fawr o help i'w codi i fri a sylw. Ac eto hwy yw bara bywyd llenyddol Cymru, tra nad yw'r lleill ond danteithion i'r llenyddol gyfoethog.

Y mae'n beirdd yn ddiogel, a'r llenorion sy'n darllen ac yn beirniadu eu hawdlau, eu cywyddau, a'u pryddestau. Ond, y mae'r werin mewn perigl ar ymylon hyfryd Maldwyn, ar lethrau hanesiol Brycheiniog, yng nghymoedd tlysion Mynwy. Ar eu cyfer hwy rhaid cael yr emyn nawsaidd, y delyneg dyner, a'r rhamant fyw. Gwnaeth Ceiriog fwy i gadw'r Gymraeg yn fyw na holl feirdd y gynghanedd gyda'i gilydd, Ac i gyfarfod a'r angen, dyla llenyddiaeth gychwyn o'r newydd, nid o'r awdl, ond o Dwm o'r Nant neu Geiriog neu Ddaniel Owen. Y mae tŵr mewnol y genedl yn ddiogel hyd yn hyn, y mae beirdd yno yn hyfryd ganu awdlau i glustiau ei gilydd. Ond ar y rhagfuriau y mae'r perigl, ac ychydig yw nifer y rhai deheuig sy'n ymladd yno.

I'R MYNYDDOEDD

"Pell byramidiau y dragwyddol law,
Mor union y cyfeiriant ato Ef!"
——ISLWYN.

Y MAE llawer o'm darllenwyr wedi dringo ochrau perigl yr Alpau, neu wedi crwydro o gwm i gwm yn Norway. Ond y mae yn amheus gennyf a welsant ddim mwy ardderchog na'r Berwyn,—yr eangderau tawel unig sydd rhwng Maldwyn a Meirion,—ar nosweithiau hafaidd yn niwedd Awst, pan oedd y lleuad lawn yn tywallt diluw o oleuni arnynt.

Y mae cenhedlaeth yn awr yn codi mewn awyr iachach, a chyda gorwel pellach, na'r un genhedlaeth o'r blaen. Ar ddiwedd y ganrif ddiweddaf, prin yr oedd gwerin Cymru yn gyfarwydd â'r syniad o "fynd i'r môr." Byddent yn byw cymaint yn eu hunfan a gwerin rhai rhannau amaethyddol yn Lloegr yn awr. Prin y symudai'r gwragedd o amgylchedd eu tai, drwy holl gydol eu bywyd. "Rhyfedd, rhyfedd," ebe un oedd wedi mentro i ben bryn ger ei hannedd, " fod y byd mor fawr." Ond erbyn diwedd y ganrif hon, y mae bron bawb yn teithio peth, ac yn byw llawer yn yr awyr agored. Bydd dyfodiad y ceffyl haearn. mae'n ddiameu, yn estyniad oes i ddynolryw, gan ei fod yn temtio pobl y trefydd i lithro drwy awyr iach. Hoffwn weled, os caf fyw, ddau ddiwygiad yn nechreu'r ganrif nesaf. Hoffwn weled ail adeiladu bwthynod llafurwyr yn eu hen leoedd iach a rhamantus, a'r pentrefydd hagr yn adfeilion. A hoffwn weled rhai yn treulio eu gwyliau mewn pebyll ar y mynyddoedd. Ceid iechyd a thawelwch yno, gorffwys i'r corff a gorffwys i'r meddwl. Atelid rhwysg dau elyn sy'n difrodi mwy ar fywyd bob blwyddyn,—darfodedigaeth a gwallgofrwydd. A fuoch chwi yn treulio noson mewn pabell ar y mynydd ar noson o haf? Y mae'r lleuad yn codi y tu cefn i'r mynydd y mae eich pabell arno. Y mae eich ochr. chwi i'r mynydd yn berffaith dywyll, y mae duwch y nos a chwsg drosti. Ond y mae goleu'r lleuad lawn ar yr ochr gyferbyn, ac y mae ysblander y mynyddoedd ar eich cyfer, yn eu gwisg o arian ac aur symudliw, yn beth na all geiriau yr ysgrifennydd na lliwiau y lluniedydd roddi syniad egwan am dano.

A glywch chwi furmur yr afon islaw, a dwndwr hyfryd aberoedd pell? Nid ydynt yn eich blino, y maent fel pe'n rhan o'r distawrwydd mwyn sy'n gorffwys ar yr holl fynyddoedd, ac y maent fel pe'n tyner anadlu cwsg. Nid ydych yn sicr pa un ai cysgu wnewch, ynte ceisio barddoni. Y mae'n wir na feddyliasoch am farddoni erioed o'r blaen; a hwyrach mai trwy ymdrech y mwynhasoch Wordsworth ac mai o gydwybod y darllenasoch Islwyn. Ond heno, y mae rhyw feddyliau tebig i'w meddyliau hwy yn ymweled â chwi. Y mae gorffwys y mynyddoedd yn cryfhau eich meddwl, ac yn eich codi i gwmni na fuoch yn alluog i'w fwynhau erioed o'r blaen, nac yn deilwng o hono.

Bu cymundeb â natur, feallai, yn crebychu dynoliaeth. Yr oedd ar y barbariad ofn newyn a syched, yr oedd arno arswyd y mynydd a'r nos, ni allai ef feddwl am ddim ond anghysur ynglŷn â'r glaw a'r ystorm. Llechu, fel ffoadur euog, oedd prif awydd ei reddf. Erbyn heddyw y mae Creawdwr y ddaear yn Dad. Gwelir nad oes dim ar y ddaear ond i ryw ddiben da. Y mae cariad yn bwrw allan ofn. Y mae dynolryw yn iachach; yn gryfach, ac yn hapusach nag y bu erioed.

Yn afiaeth ei awen gwahodda Ceiriog ni i'r mynyddoedd. Dring y bardd y Wyddfa gyda ni, "gan ddiolch am gael gwin y graig mor agos at y nen." Y mae meddygon blaenaf yr oes yn dweyd yr un gorchymyn, yn fwy awdurdodol, er nad mor swynol. Os yw'r iechyd yn pallu, ni raid i ti fod yn alltud mewn gwlad bell; dring y mynydd agosaf, a byw gymaint fedri ar ei ben.

Byddai gan ein hynafiaid hendre a hafoty,— y naill yn y dyffryn clyd cysgodol, a'r llall ar fron uchel y mynydd mawr. Yr oedd yn rhaid iddynt hwy newid eu trigfan er mwyn cael bwyd. Y mae rhaid arall arnom ni,—rhaid iechyd corff a meddwl. Dylai pob un o honom fyw a chysgu a bwyta ar y mynydd, yn y maes, neu yn yr ardd gymaint sydd bosibl, ac nid yn y tŷ.

Ac i'r rhai o honom sydd yn gorfod treulio ein dyddiau yn y fyfyrgell neu'r ddarlithle neu'r swyddfa, y mae wythnos mewn pabell ar y mynydd bob blwyddyn yn estyn einioes, yn cryfhau meddwl, ac yn dyblu'r gallu i wneud gwaith.

Nid anghofiaf byth, mi gredaf, ddiwrnod a dreuliais ar ben yr Aran ddiwedd yr haf. Wrth droed y mynydd yr oedd fy nghorff yn llesg, a'm meddwl wedi pylu; ni chawn un mwynhad o hyfrydwch lliw neu felyster sain, ac ni fedrwn orffwys. Dringais y mynydd am ddwy awr, a chefais fy hun yn ddyn newydd. Yr oedd yr awel ysgafn falmaidd fel y gwin. Yr oedd y niwl teneu nofiai dros y mynydd yn hyfryd i'w anadlu, ac fel pe'n treiddio i bob rhan o'r corff i yrru blinder a lludded i ffwrdd. Symudai pob pryder ac ofn oddiar y meddwl. Teimlwn y gallwn wneud unrhyw beth bron ond cael amser ac iechyd. Ac wrth edrych ar y dernyn grisial sydd o fy mlaen, un o'r miloedd welais ar gopa'r Aran, y mae cof am yr awyr iach yn dwyn heddwch a gorffwys ac adnewyddiad nerth.

Y mae cannoedd, os nad miloedd, o furddynau bwthynod ar odrau ein mynyddoedd yng Nghymru. Gynt megid teuluoedd o fechgyn a genethod gwridgoch a iach yno. Y mae'r hen gartrefi prydferth yn awr yn adfeilion, a'r bobl oll yn byw mewn pentre o dai bychain afiach godwyd ar hen gors ger gorsaf y ffordd haearn. Onid oes Gymry yn y trefydd hoffai godi, neu rentu, bythynod felly, a symud i fyw iddynt yn eu gwyliau yn yr haf? Byddai'n llawer rhatach, ac yn llawer mwy dymunol, na thyrru gyda phawb i lan y môr. Mewn bwthyn yn y wlad, byddid ymhell o sŵn y coeg ganu a'r coeg chwareuon sy'n gwneud eiddilod yn hapus. Ceid mwynhau bywyd Cymreig fel y mae. Cai tad roddi i'w blant y bywyd, y Sabothau, y canu sydd mor gysegredig yn yr atgofion am ei ieuenctid ei hun. Cai feddwl, hefyd, fod ganddo gartref bychan yng Nghymru. Cyn hyn, gwelais hen feudy wedi ei droi yn hafdy bychan cysurus. Bychan fyddai'r bwthyn, wrth gwrs; ond y mae'r mynyddoedd a'r wlad o'i gwmpas yn ddigon eang i lond tŷ o blant chware faint a fynnont. Yr wyf yn credu fod yr awgrym yn un gwerth sylwi arno.

BYCHANDER

GOFYNNIR yn aml a yw addysg Cymru'n effeithiol. Llawer a soniwyd am gyfundrefn lawn o addysg i'r genedl, am ysgol y gallai'r athrylith dlotaf ei dringo. Llawer darlun gwych a dynwyd o'r peth fyddai Cymry pan wedi cael addysg, y gobeithiol yn dod yn sylwedd, yr amcan yn gyrhaeddadwy. Ac eto pan edrych Cymro o'i gwmpas, ni wel gewri ei obeithion, a themtir llawer un i ddweyd yn ei siomiant fod hen dymor yr anwybodaeth wedi codi gwell arweinwyr na chyfnod yr addysg.

O'm rhan fy hun, nid yw'm gobeithion i wedi eu siomi. Yn hytrach gwelaf fod llawer o'm hofnau yn fwy di-sail nag y tybiwn eu bod. Nid wyf wedi disgwyl gweld cewri mor gynnar a hyn; ond gwn eu bod yn dod. Y peth a fawr ofnais oedd bychander cenedlaethol; a chorachod. Nid wyf yn disgwyl y cawr ar hyn o bryd; a phe deuai, nid wyf yn siwr yr adnabem ef; yr wyf yn weddol sicr na chai ei le gennym. Fy ofn i yw gweld y corach. Wedi hir wewyr esgor mynyddoedd addysg Cymru, beth pe'r esgorent ar lygoden fach ddirmygus? A beth pe'r addolai'r genedl y corach, oherwydd fod ei hymddiried yn yr addysg a'i cynhyrchodd?

Y mae tri gallu pwysig yng Nghymru a'u tuedd at greu bychander cenedlaethol a chynhyrchu corachod hunan edmygol.

i.—Un ydyw'r syniad mai y tu allan i Gymru y mae pob cyfoeth gwerth ei gael. Bu Cymru heb wybodaeth am ddiwylliant Ffrainc a gwyddoniaeth yr Almaen. Wel hai ati, ynte, ymgoller yn llenyddiaeth y cenhedloedd hyn, ac anghofier fod gan Gymru hanes na llenyddiaeth, darganfyddwr na gwyddonydd, cân nae alaw. Cynhwysa llyfrau diweddar ar addysg gwynfan geneth athrylithgar, rhan nodweddiadol o gynnyrch ysgolion Cymru, mai yn Ffrainc y darganfyddodd llenyddiaeth ei gwlad ei hun. Ac adleisir ei chŵyn gan galonnau tyrfaoedd o fyfyrwyr Cymreig, y deffrowyd eu heneidiau i weled golud eu gwlad eu hunain mewn prifysgolion pell. Y mae elfennau bychander,—hunanoldeb anwybodaeth, diystyrwch o'r hyn nas gwyddir, eiddigedd gondemniol o wybodaeth nas meddir, a nodweddion nad oes gan yr iaith Gymraeg enw arnynt, yn llechu yn berigl cudd yng nghyfundrefn addysg Cymru. Cymerer gŵr o Gymro na fedr Gymraeg, wedi esgeuluso neu wrthod pob cyfle i'w dysgu, ac yn bychanu neu ddirmygu y llenyddiaeth na ŵyr ddim am dani,—gellir o'r gŵr hwnnw gor mor fychan fel yr heriwn holl wledydd Ewrop i ddangos ei salach a'i lai. Ac y mae yn ein mysg.

ii.—Gallu perigl arall yng nghudd yn addysg Cymru yw i ŵr fedru credu ei fod wedi dysgu popeth. Y mae'r perigl hwn yn gryf yng Nghymru oherwydd ein ffydd iach draddodiadol yn nerth gwybodau, yng ngrym addysg. Ac yn awr, yn y gyfundrefn newydd, cawn dystysgrif ysgol a gradd prifysgol fel arwydd y nerth a'r grym; a rhyfedd y bychander fedr ambell ŵn guddio. Y mae ffynhonnell y perigl yn amlwg. Yr arholiad yw. Gorfodir yr efrydydd, mewn ysgol a choleg, i gasglu gwybodaeth mewn pynciau erbyn adeg neilltuol, yna arholir ef, a chyhoeddir ei dynged. Y perigl mawr yw i'r efrydydd, a'r cyhoedd, feddwl ei fod ar ben ei daith yn y pynciau hyn, na raid iddo eu hefrydu mwy, ac y gall fyw ar ei radd. Y gwir ydyw, os cymer dyn radd a bod am bymtheng mlynedd heb efrydu mwy, y mae'n anheilwng o'i radd, ac yn ddyn annysgedig. Os hyfforddir athraw mewn coleg, ac yntau'n defnyddio dulliau'r coleg am bymtheng mlynedd heb newid, buasai'n well iddo pe heb ei hyfforddi o gwbl. Y mae dyn sy'n tybio na ŵyr ddim, er yn anwybodus, yn well athraw ac yn well dyn na gŵr tystysgrif a gradd sy'n tybio ei fod yn gwybod popeth. Dylai cyfundrefn addysg berffaith anfon i'r byd rai'n teimlo eu hunain ar gwr maes gwybodaeth a meysydd eang toreithiog o'u blaenau. Ond, os anfonant rai wedi gorffen efrydu eu pynciau, llanwant y wlad a chorachod.

iii.—Trydedd meithrinfa corach yw aros yng Nghymru pan mae'n bosibl iddo grwydro i brifysgolion eraill.. Tybiai rhai y dylai Cymro ymgadw rhag mynd i brifysgolion eraill o barch i'w brifysgol ei hun. Cyngor annoeth yw hwnnw. Y mae rhywbeth ymhob Prifysgol gwerth ei ddysgu. Y mae agoriad llygaid a deffroad meddwl i Gymro ymhob man. Cafodd cenedlaethau eu dysg yn Edinburgh, Glasgow roddodd ddeffroad i lu yn ddiweddar. Crwydrodd eraill i hen brifysgolion yr Almaen neu'r Eidal, ac eraill i brifysgolion newydd gwych yr Amerig. Ond, o'r prifysgolion i gyd, Paris neu Rydychen ddylai fod yn gyrchle i wr wedi graddio ym Mhrifysgol Cymru. Gobeithio y bydd llawer efrydydd o Gymro yn dod i ffafr prifysgolion dieithr eto, fel Gerallt Gymro gynt. A delent yn ol wedi eangu eu cydymdeimlad. Cymry'r gorwel eang sydd i godi eu gwlad.

Y mae'n debig mai dyna fel y mae ymhob oes,— y cawr yn niwl y dyfodol neu'r gorffennol, a'r corach yma gyda ni. Cofiwch fel y breuddwydiodd Rhonabwy, ar groen y dyniawed melyn yn yr hen neuadd burddu dal union, ei fod of a Chynwrig Frychgoch, gŵr o Fawddwy, a Chadwgan Fras, gŵr o Foelfre yng Nghynllaith, yn dilyn Iddawc Cordd Prydein ar ol byddin Arthur Fawr. "Padu, Iddawc," ebe Arthur, y cefaist y dynion bychain hynny?" "Mi a'u cefais, arglwydd, uchod ar y ffordd." A glâs wenodd Arthur. "Arglwydd," eb Iddawc, "beth y chwerddi di?" "Iddawc,' eb yr Arthur, "nid chwerthin a wnaf, namyn truaned gennyf fod dynion cyn fawed a hyn yn gwarchadw yr ynys hon, gwedi gwŷr cystal ag a'i gwarchetwis gynt."

FFYRDD HYFRYDWCH

ELENI eto bum yn edrych ymlaen yn hiraethlawn at ddyddiau'r mafon duon. Ac o'r diwedd, ar ddiflaniad haf glawog, daeth diwrnod mwyn a heulog. Troais innau'm wyneb i'r mynyddoedd, a chyrhaeddais y fan y cefais y mafon duon y llynedd, lle murmur ffrydlif a mynydd yn hapus, a lle daw awelon pur a iechyd ar eu hedyn.

Cefais fy hun wrth fur adfeiliedig, a'r mieri yn plygu drosto, ac yn cynnyg imi'r mafon yn nuwch gloywddwfn eu haeddfedrwydd. Prin na thybiwn eu bod yn fy adnabod, ac yn gwenu arnaf dan dywyniad yr heulwen, ac yn dweyd nad oedd neb yn rhoi pris ar eu melyster chwerwaidd ond myfi. Sisialai'r afonig gerllaw, gan fy atgofio ei bod hithau yno, a chofiwn fod mafon aeddfed yn crogi uwchben ei dŵr, gan ddawnsio uwchben ei chrychddwfn, a gwenu'n dawel lle gwelent eu llun yn ei llynnoedd clir a thawel. Ond byr fu munudau fy hyfrydwch. Daeth amaethwr ataf o'r cae llafur gerllaw, a dechreuodd areithio. Yr oeddwn wedi gwneud dau gamwri. Yr oeddwn wedi trespasu ar ei dir ef. Pe gwnai ef yr un peth ar dir rhywun arall, i'r carchar y cai ef fynd. A gwaeth na hynny, nid oeddwn wedi gofyn ei ganiatad ef i hel mafon duon. Atebais yn addfwyn na charcherid ef tan wnai ryw ddrwg; ac am ofyn ei ganiatad, na wyddwn i o bobl y ddaear pwy oedd, nac i bwy yr oedd y caeau'n perthyn. I dorri stori aniddorol yn fyr, i'r ffordd y tybiais i y dylwn fynd. Gadewais y mafon duon, i ddisgyn yn ddiddefnydd, mae'n ddiameu, i'r llawr; gwrthodais wahoddiad y ffrydlif, oedd megis yn codi dwylo gwynion arnaf o draw; ac yn hurtyn distaw, a'i falchter wedi ei dynnu i lawr, a'i ysbryd wedi ei glwyfo, cefais fy hun yn sefyll yn llwch y ffordd, yn edrych dros y clawdd bylchog ar y ffrwythau gwylltion gwaharddedig y bum yn meddwl am danynt ym misoedd hir y gaeaf. A daeth dau beth i fy meddwl.

Y mae'm cydymdeimlad i gyd gyda'r amaethwr, yn enwedig yr amaethwr bychan. Un felly oedd fy nhad. Gwn am ei serch angerddol at ei gartref, gwn am ei fywyd ymdrechgar a phur. Gwn mai'r cartrefi mynyddig hyn yw ffynhonellau goreu ein bywyd cenedlaethol. Gallwn feddwl pan yn sefyll ar y ffordd, fy mod wedi gwneud cymaint a neb o'm gallu a'm moddion i gadw amaethwyr Cymru yn ddiogel yn eu hoff gartrefi. Ond,— beth os try'r amaethwr yn orthrymwr? Beth os gwrthyd i eraill,—y llafurwr di-gyfoeth, y pererin lluddedig, y trefwr gwelw, ychydig o ffrwythau gwylltion y cloddiau, a mwynder llawen murmur yr afonig, a iechyd awel y mynydd? Os felly, pa well yw ef nag ystiward tordyn neu gipar hirgoes? Pe daethai'r meistr tir neu'r ystiward heibio, buasai groeso i mi o'r mafon, a gallaswn brofi hyd yn oed i gipar nad oeddwn yn gwneud dim drwg.

Y peth arall ddaeth i'm meddwl oedd nad yw'n ddoeth ar amaethwr gadw ymwelwyr draw o'r lle iach hwn. Talent am eu lle, am eu llaeth, am eu bara a'u hymenyn a'u cig, a byddai yntau ar ei fantais arnynt. Ond ni ddof fi byth yma eto. A dyna feddwl llawer, oherwydd nid yw trenau'r teithwyr yn aros yng ngorsafoedd y dyffryn.

A dyma finnau ar y ffordd. Nid wyf am fynd i gaeau neb arall, rhag cael yr un gwaharddiad. Af i fyny'r Garneddwen hyd y ffordd hir; ac er fod llawer o fafon cynnar a rhai llus diweddar hyd y cloddiau, ac er fod mynyddoedd gwyrddion hyfryd i'w gweld drostynt, teimlwn fod y ffordd fel carchar.

Trodd fy meddwl yn sydyn at ffyrdd sydd oll yn hyfrydwch, ffyrdd y mae rhyddid perffaith yn teyrnasu arnynt ac o'u hamgylch, ffyrdd a'u hamrywiaeth yn ddiddarfod, ffyrdd ar y rhai na all neb fod yn sarrug neu'n anheg. Y ffyrdd hyfryd yw ffyrdd llenyddiaeth.

Ers deng mlynedd ar hugain bellach yr wyf mewn cymundeb a gohebiaeth barhaus â phobl ieuaine feddylgar Cymru. Er llawenydd i mi, y mae newid wedi dod dros y cwestiynau arferent ofyn. Unwaith gofynnid am gyfarwyddyd i ennill gwobr, yn awr gofynnir am y ffordd oreu i fynd i mewn i faes llenyddiaeth. Diddorol, yn ddiau, yw fod rhai Cymry ieuainc yn dringo at wobrau uchaf ysgolion a cholegau'r wlad; anhraethol mwy diddorol yw teimlo fod lefain o bobl ieuainc yng nghyfangorff llafurwyr a mwnwyr ac amaethwyr a chrefftwyr ein gwlad wedi teimlo hyfrydwch ffyrdd llenyddiaeth.

Y mae llawer ffordd i ŵr ieuanc, fedd ychydig o oriau hamdden fin nos, dramwyo i lenyddiaeth Cymru.

Y ffordd symlaf a hawddaf yw cymeryd llawlyfr hanes syml, er mwyn cael cipolwg ar rediad hanes y wlad; bydd yn hawddach, wedi hynny, cael cipolwg ar rediad meddwl y bobl. Y mae digon o lawlyfrau'n rhoddi amlinellau hanes Cymru, o geiniog i gini o bris. I rywun yn dechre goreu bron po fyrraf fo'r llyfr. I gael hanes llenyddiaeth Cymru, rhaid cael llawlyfrau mwy, ac o leiaf dri o honynt. Nid ydynt yn hawdd iawn eu cael ychwaith, ond gellir eu benthyca o lyfrgell neu eu darllen yno. Y cyntaf yw "Literature of the Cymry," o waith Thomas Stephens, sy'n rhoi hanes llenyddiaeth Cymru hyd 1322; yr ail yw Hanes Llenyddiaeth Cymru o 1320 hyd 1650, gan Gweirydd ab Rhys; a'r trydydd yw Hanes Llenyddiaeth Cymru o 1651 hyd 1850, gan Charles Ashton. Y cyntaf yw y mwyaf meddylgar a mwyaf diddorol, ond y mae wedi ei ysgrifennu yn Saesneg. Y mae'r ddau awdwr arall wedi gofalu mwy am wneud eu ffeithiau yn gyflawn, yn hytrach na gwneud eu meddwl yn drefnus, ac am fudd yr ysgolor a'r efrydydd yn hytrach nag am ddiddordeb y darllenydd cyffredin.

Y mae hon yn ffordd i gyffiniau llenyddiaeth, ond nid oes hyfrydwch ynddi. Gall ambell un, mwy ei egni a'i gydwybodolrwydd na'i gilydd, ei cherdded i'r diwedd. Ond am y rhan fwyaf o honom, llyfrau gwerthfawr i fod ar ein hastelloedd i gyfeirio atynt yw y rhai hyn, ac nid rhai i ddangos i ni ar ddechreu'n taith gymaint o wynfydedd sydd o'n blaen. Y Porth Sych i wlad llenyddiaeth yw'r ffordd hon.

Y mae ffordd arall, drwy Borth y Beirdd. Cymerer tri llyfr, Alun Mabon Ceiriog, Awdl y Flwyddyn Eben Fardd, a rhannau o Ystorm Islwyn. Bum yn siarad a channoedd o Gymry sydd wedi dod i hyfrydwch llenyddiaeth gydag Alun Mabon, ac ni chefais un o honynt heb deimlo swyn naturiol a syml Ceiriog. Y mae miwsig hen alawon yn yr iaith, ac adlais o hen gartrefi yn y meddwl; y mae ieuenctid a'i hapusrwydd yn dod yn anfarwol, a Natur hen yn ieuanc byth. Y mae meddwl Awdl y Flwyddyn yn gain a chlir, yr iaith yn feistrolgar o syml a chyfoethog; trysorfa o emau ydyw; nis gwn am ddim sy'n cynnwys cymaint amrywiaeth o hyfrydwch mewn unoliaeth mor syml. Yn rhannau o'r Ystorm, hwyrach, y mae meddwl Cymru, hyd yn hyn, wedi cyrraedd ei fan uchaf. Gŵr oedd Islwyn oedd yn anhraethol uwch na neb dyn a'i hysbrydolodd, ac nid oes ysgol y gellir ei gyfyngu iddi, y mae'n llais i fardd mwyaf Lloegr yn ei ganrif ac i athronydd mwyaf yr Almaen heb oleuo ei lusern wrth dân yr un o honynt hwy. Pan fo gŵr ieuanc wedi teimlo nerth a swyn y tri gwaith hyn, gall ei ystyried ei hun yn un wedi cael ysgol dda. A ymlaen, wrth ei bwysau, i ddarllen ychwaneg o waith y tri, a myn wybod sut y mae eu bywyd yn esbonio eu gwaith. Hoff ganddo hwyrach fydd medru ar dafod leferydd ambell ddarn sy'n mynnu aros ar ei glyw, megis "Aros mae'r mynyddau mawr," "Ymweliad â Llangybi," a "Cheisio Gloewach Nen."

Y mae llawer ffordd arall at y porth hwn. Gellid, er esiampl, gymeryd Myfanwy Fychan Ceiriog, Awdl Heddwch Hiraethog, ac Awdl Elusengarwch Dewi Wyn. Yn wir, y mae cyfoeth o drioedd fel hyn yn ein barddoniaeth.

Porth arall yw Porth y Llenorion. Gellir cymeryd rhyddiaith yn lle barddoniaeth. Yn ein gwlad ni y mae rhyddiaith wedi cael peth cam. Ysgrifennir barddoniaeth ym munudau cynhyrfiad, y mae meddwl yr enaid ac ei lawn egni, ac afradir gofal ar ddewisiad geiriau ac arddull. Ond munudau cyffredin bywyd roddir i ryddiaith, a chymerir y gair agosaf at law. Ond bu un cyfnod yn hanes Cymru ddechreuodd mewn cynhyrfiad meddwl grymus ac a ddiweddodd mewn arddull gain. Ffrwythau goreu'r cyfnod hwn yw Llyfr y Tri Aderyn Morgan Llwyd, Gweledigaethau Bardd Cwsg gan Ellis Wynne, a Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans. Yr oedd cyfnod Morgan Llwyd y cyfnod rhyfeddaf yn hanes Prydain. Cododd y bobl yn uwch, o ran teimlad a gweled, nag y codasant cynt nac wedyn; ac yn y cyfnod hwn y gwelwyd bron bob meddwl mawr sydd wedi gorchfygu o hynny hyd yn awr. I'r cyfnod hwn yr eir i chwilio am ysbrydiaeth gan bob proffwyd ac apostol. Y mae Crynwyr y dyddiau hyn yn ceisio adnewyddu eu sel a'u grym trwy fynd yn ol at George Fox. Pan oedd bardd mwyaf ein hoes ni a'n tadau yn gweld angen ymnerthu ac ymladd o'r newydd, at Milton y trodd, gan ddweyd, "England hath need of thee." Ar un wedd y mae Cromwell, a Vane, a Blake yn llefaru eto pan ymysgydwo pobl i wrando arnynt. Llais Cymru yn y dyddiau hynny oedd llais Morgan Llwyd, a gall efrydydd Cymreig droi ato am ysbrydoliaeth. Er amled ei ystormydd, dydd o ysblander anghymharol oedd dydd y Chwyldroad Puritanaidd. Ac weithiau y mae i ddydd felly nawn tawel dwys, a'i liwiau wedi tyneru, ac ysbryd gorffwys dros y fro. Ar nawn felly y breuddwydiodd Ellis Wynne ac y dychymygodd Theophilus Evans. Dywedir fod cyfansoddi yn yr iaith Roeg yn rhoddi ceinder anileadwy hyd yn oed i lawysgrif yr hwn a'i gwna. Y mae darllen y tri gwaith hwn, rhai mor anhebig i'w gilydd a chyda pherffeithrwydd mor wahanol, yn sicr o adael argraff ddigamsyniol ar arddull y neb a'u darlleno, rhoi nôd arni sy'n llawer amlycach a gwerthfawrocach na certificate yr un ysgol ac na thestamur yr un brifysgol. Cyn deall y gweithiau hyn yn llawn, rhaid cael rhyw syniad am hanes yr amseroedd. Fel y mae'r gwaethaf, nid oes lyfr yn Gymraeg rydd yr hanes hwn. Pryd, tybed, y blina ein haneswyr ar ogofau gweigion yr oesoedd tywyll ac ar ryfeloedd diffrwyth yr oesoedd canol? Pryd y gadawant fân gwerylon yr hen dywysogion ac achau anorffen eu beirdd, ac y troant eu sylw at adeg y mae gwaed bywyd dynoliaeth i'w glywed yn curo ynddo? Nid ydynt wedi gwneud hyn eto, yr un ohonynt. Felly, rhaid i mi enwi llyfr Saesneg. Llyfr mewn cyfres o lyfrau ysgol ydyw, ei enw yw The Puritan Revolution. Y mae'n llawer amgenach peth nag a ddisgwyliech gael mewn cyfres felly, wedi ei ysgrifennu'n fanwl o lawnder gwybodaeth S. R. Gardiner, un o haneswyr goreu y blynyddoedd diweddaf.

Y mae llu o ffyrdd hyfrydwch eraill yn arwain at Borth yr Ardaloedd. Cymerer un ardal, edrycher ar ei golygfeydd, chwilier ei hanes, gwnaer rhestr o'i beirdd, ac ystyrier rhediad ei meddwl. Goreu i bob efrydydd ei ardal ei hun. Os Llansannan yw honno, neu Langybi, neu Lanymddyfri, neu aml i lan arall, caiff fynd trwy borth ei etifeddiaeth ei hun. Neu gellir cymeryd ardal eangach, dyweder Môn neu Leyn, neu Ddyffryn Clwyd, neu Ddyffryn Towi. Os cymerir Llansannan, dyna i chwi Dudur Aled, William Salisbury, Henry Rees, Gwilym Hiraethog, a Iorwerth Glan Aled, —os gwyddis banes y rhai hyn adnabyddir ysbryd llenyddiaeth Cymru bron ym mhob un o'i lwybrau.

Arweinia ffyrdd eraill, rhy aml i mi fedru eu henwi, at Byrth y Bywydau. Dyma'r ffordd, hwyrach, lle gwelir y mynyddoedd uchel, a lle daw mwyaf o ysbrydiaeth arwrol i'r meddwl. Cymerer tri llyfr,—Cofiant Ann Griffiths gan Morris Davies, Bangor, Atgofion am John Elias gan Gwalchmai, a Cofiant John Jones Talsarn gan Owen Thomas. Hanes syml yw'r cyntaf, hanes merch amaethwr ysgrifennodd emynau na ellir cymharu emynau yr un emynyddes, oddigerth rhai brenhines Navarre hwyrach, â hwy. Dyma'r dull symlaf ar fywgraffiad. Penodau yw'r ail gan un o'r ysgrifenwyr rhyddiaith mwyaf clir a dillyn fedd ein cenedl. Arweinia'n naturiol at y trydydd; ac y mae hwn, ar fwy nag un cyfrif, yn un o'r llyfrau hynotaf yn yr iaith Gymraeg. Yr oedd y Dr. Owen Thomas wedi ei eni'n fywgraffydd. Yr oedd ganddo gof diderfyn at groniclo manylion, ac yr oedd ganddo feddwl athronydd i godi uwchlaw'r manylion ac i'w gweled oll yn eu lle. Synnwyd fi lawer tro gan fanylrwydd ei wybodaeth, a chan nerth ei gof. Bu'n adrodd wrthyf unwaith hanes fel y gwelodd John Jones Talsarn gyntaf. Ni fu'n edrych arno'n hir yn cerdded mewn gardd. Ond yr oedd wedi cyfrif faint o fotymau oedd ar ei wasgod; ac yr oedd yn cofio, ymhen tri ugain mlynedd ac ychwaneg, pa flodau oedd yn tyfu ar lwybrau'r ardd. Ac y mae ei "Hanes John Jones" yn un o'r llyfrau mwyaf cyfoethog yn yr iaith Gymraeg. Yn wir, efe yw'r hanes Cymru goreu sydd wedi ei ysgrifennu eto, yn yr agwedd honno ar hanes sy'n apelio at y meddwl Cymreig. Y mae'r llyfr hwn yn llyfrgell ac yn oriel ddarluniau ynddo ei hun. Gellir troi iddo ddydd ar ol dydd, a chael ynddo drysorau na heneiddiant, ond a ddaliant i ddisgleirio o hyd. Wedi darllen y tri llyfr hyn bydd yr efrydydd yn teithio ymlaen i'r dyfodol yng nghwmni cewri, ac adlewyrchir ar ei enaid lawer o'u harddwch a'u nerth. A bydd ei ffordd yn ffordd hyfrydwch.

Neu gellid dewis llawer tri bywgraffiad arall, neu dri hunan-gofiant, hanes cenhadon hedd, neu fwnwyr, neu ddyfeiswyr, neu deithwyr. Y mae ffyrdd hyfrydwch yn mynd trwy lu o byrth eraill, megis Porth y Rhamantau, Porth y Dychymyg, Porth y Ser, Porth y Blodau, Porth y Crefyddau, Porth y Dyfeisiadau, Porth y Gwledydd Pell, Porth y Plant. Ond rhaid eu gadael ar hyn o bryd.

Y mae miloedd o Gymry wedi darganfod y ffyrdd hyn, ac y maent wedi cael mwy o gyfoeth o honynt nag a gafodd neb o'r aur a'r calch a'r glo sydd ym mynyddoedd Cymru. Yr wyf yn gobeithio yr adroddant, o un i un, pa fodd y cawsant flas ar lenyddiaeth, pa ffordd hyfrydwch y cychwynasant arni, ac at ba borth y cyfeirient. Bydd yn dda gan eraill weled eu camrau, a phwy ŵyr faint o ddilyn fydd arnynt i hyfrydwch pur?

Ond dyma fi eto ar ffordd y Garneddwen, ac yn dod yn agos i rediad dŵr. Y mae'r ffordd yn gyfyng, y mae rhywun wedi meddiannu'r tir hyd ati bob modfedd o'i hyd. Ond y mae ffyrdd yn eiddof finnau, ffyrdd heb derfyn ar eu rhif ac heb ddiwedd ar eu hyfrydwch.

Y PLANT A'R EISTEDDFOD

LLAWER o ddefnydd wnawd o ddywediad yr hen geidwadwr gonest Dr. Johnson am ei gasbeth, yr Ysgotyn, sef y medrir gwneud rhywbeth ohono yntau ond ei ddal yn ddigon ieuanc. Nid am yr Ysgotyn yn unig y mae hyn yn wir. Hwyaf wyf yn byw cadarnach yw'm cred fod yn rhaid i addysg dyn ddechre pan yn ieuanc. Ni fyn yr hen ddysgu; neu, yn hytrach, ni fyn ddysgu cerdded llwybr newydd. Erbyn hyn nid wyf fi'n gofyn iddo wneud. Rhaid dal y plentyn. Pe byddai'r ysgolion a'r athrawon yr hyn ddylent fod, gallent newid y byd yn ystod un genhedlaeth Cymerer un peth yn enghraifft. Y mae preswylwyr ein glannau moroedd iach a phrydferth, cyrchfeydd miloedd ar filoedd o ymwelwyr haf, yn brysur iawn am rai o fisoedd y flwyddyn. Ond beth sydd ganddynt i'w wneud trwy fisoedd meithion y gaeaf, nis gwn i. Gallent droi eu dwylo at wneud teganau prydferth, o bren a chragen a defnyddiau eraill, megis cychod a llongau bychain cain. Nid oes eisiau ond cyllell morwr, y mae coed ar y llethrau a miliynau o gregin ar y traeth, ac ychydig amynedd, i roddi gwaith pleserus i ddwylo sy'n llonydd tra bo amser yn mynd. Yn lle hynny, prynnir gwerth miloedd o bunnau o deganau hagr a di-chwaeth o'r Almaen ac Awstria. Ni fyn yr hen bobl newid. Hepian welsant, a hepian wnant. Ond hawdd fai cael y plant i ddysgu. Medrai dau neu dri o athrawon ieuainc egniol a brwdfrydig ddod a diwydiant newydd gwerthfawr i'n harfordiroedd. Dau ddyn wnaeth hynny yn Switzerland, ac y mae eu llafur a'u hesiampl wedi dwyn golud dirfawr i'w gwlad bob blwyddyn.

Y mae rhieni Cymru yn wladgar iawn ar ddiwrnod cymanfa ac eisteddfod, yn hyfryd ganu, meddwl a theimlo yn Gymraeg. Ond ni ellwch eu cael i siarad Cymraeg gartref, ac nid yw eu cymdogion Seisnig, na'u plant hwythau, yn dod i'r cyfarfodydd. Ond cydied ysgol dda yn y plant, a daw'r cartref eto'n Gymreig ei iaith a'i ysbryd.

Bu cynnydd y Methodistiaid,—cymerwn eu hanes hwy am mai hwy yw y diweddaf,—yn rhyfeddol gyflym adeg tân ymdeithiol y diwygiadau. Yna arafodd eu camrau hyd nes iddynt, wedi hir betruso, agor dorau eu seiadau i'r plant. Ond er hynny, buasent wedi darfod am danynt cyn hyn oni bai am eu Hysgol Sul. Cydiasant yn y plant, a buont fyw. Gŵr llygad-graff oedd Thomas Gee, a gorwel ei drem ymhell. Os na chredodd mewn gweinidogaeth sefydlog, credodd â'i holl enaid yn yr Ysgol Sul. Ceisiodd ddysgu Cymru, pe mynasai wrando, mai trwy ennill y plant yr enillid y werin. Pe mynaswn weled fy enwad fy hun yn meddiannu Cymru i gyd—y peth olaf a hoffwn—trown ei holl gyfarfodydd yn Ysgol Sul. Cawn y plant a'r dyfodol.

Os ydyw Cymru i fyw fel y Gymru adnabwn, garwn, hanner addolwn ni, os ydyw'r Gymru honno i fyw, rhaid i ni gydio yn nwylaw'r plant, a'r rhai hynny yn blant y genhedlaeth hon. Aiff y gymanfa'n gynhulliad teneu, heb y plant. Crina'r Eisteddfod i henaint a bedd, heb y plant. Dylai pob sefydliad cenedlaethol Cymreig gydio yn y plant os am fyw.

Gwelodd Rhys J. Huws fod y pethau hoffai ef yn dod yn eiddo i'r hen yn unig,—ysbrydol llenyddol dwys a hoffus. Tra'r ymhyfrydai hen feirdd wrth ganu am ogoniant a fu, yr oedd y plant a'u pennau yn y gwynt, yn byw ar lenyddiaeth salw, a chof am feirdd goreu Cymru'n cilio o gof. Bu amser nad oedd sôn am Geiriog na Hiraethog nag Islwyn ymysg plant Cymru. O deimlo hyn trodd meddwl Rhys J. Huws at Eisteddfod y Plant. Yn araf, ond yn sicr, ceir gweled y bydd Eisteddfod Plant Bethel, ac Eisteddfod Plant Bethesda, yn gychwyniad newydd i fywyd ein cenedl ni.

Gwyn fyd na chawsai Rhys J. Huws fyw ychydig yn hwy i weled ei waith yn dechre dod i'r golwg yn Eisteddfod Genedlaethol Castell Nedd. Y mae'n debig na fedr neb oedd yn y babell fawr orlawn ar ddydd y plant anghofio'r olygfa tra byddant byw. Canai'r corau plant o ysgolion ardaloedd poblog y De nes swyno'r gynulleidfa enfawr i ddistawrwydd amyneddgar a boddhaus trwy gydol yr hirddydd. Canai'r plant alawon gwerin Cymru yn Gymraeg. Os oedd yr effaith ar y dorf yn drydanol, bydd yr effaith ar yr ysgolion yn arhosol.

Daw canu alawon gwerin yn Gymraeg i'r ysgolion eraill. Daw canu Cymraeg a siarad Cymraeg eto i heolydd oedd wedi colli yr hen seiniau hudolus. A deffry pobl mewn oed sy'n gweddio'n gysglyd am i'r hen iaith barhau tra heb fod o ddim cymorth iddi, a gwelant fuddugoliaeth yr iaith yn ffyddlondeb gwladgar y plant. Trwy'r plant y codir yr hen wlad yn ei hol.

Cymerodd Castell Nedd un cam, cymered Corwen y cam nesaf. Daeth Castell Nedd a'r plant i ganu yn yr Eisteddfod, doed Corwen a hwy i holl waith un dydd. Rhodder dydd y plant yn gyfangwbl iddynt hwy eu hunain,—canu bid sicr, ond traethawd hefyd, a darlun, ac adrodd, a map, a'r holl fyd cyfoethog sy'n ymagor o amgylch plentyn yn ysgolion Cymru.

Cymered yr Eisteddfod afael ym mhlant Cymru. Y plant yn unig fedr ei chadw'n fyw, a chadw'r nodweddion cenedlaethol sydd eto mewn bri

yn ei phebyll.

BEDD GŴR DUW

AR un o ddyddiau heulog diwedd haf, cefais fy hun yn dringo ffordd weddol serth o Benrhyn Deudraeth i gyfeiriad Eryri. Wedi cyrraedd pen y bryn cyfarfyddais â dau arlunydd, y naill yn prysur godi i enwogrwydd fel un o brif arlunwyr y dydd a'r llall yn ŵr enwog ar y Cyfandir. Cymro oedd y naill, Norwegiad y llall. Wrth syllu ein tri ar y goleuni tyner glas ar lawer mynydd cribog ac ar fwynder hyfryd cymoedd aml, dywedai'r tramorwr, er ei fod wedi gweled mynyddoedd pob gwlad, o'i wlad ei hun i Zealand Newydd, na wyddai am le oedd gymaint wrth fodd arlunydd a chilfachau Eryri. Ac heb fynd ymhellach ar fy ystori, ddarllenydd mwyn, dylwn dy rybuddio, rhag peri siom i ti, nad wyf yn meddwl dodi i lawr yma yr ymgom a gefais â'r ddau arlunydd enwog. Arhosasant hwy i wylio rhyw agweddau ar y Wyddfa, yn ei mawredd brenhinol. Disgynnais innau i lawr i'r ochr arall; a chyn hir ni welai'r ddau arlunydd, os rhoddasant funud o sylw i mi wedyn, ond ysbotyn du yn symud yn araf hyd y ffordd wastad tua'r gogledd. Cerddwn hyd wastad y morfa enillwyd oddiar y môr, wyth mil o aceri, ebe rhywun a gyfarfyddais. Ar y dde i mi codai mynyddoedd Meirionnydd eu pennau,—y Moelwyn a'r Cnicht; ac ar y chwith, dros y morfa, yr oedd mynyddoedd Eifionnydd,—y Foel Ddu a Moel Hebog a'u cymdeithion. Yn union o'm blaen, ymhell i'r gogledd, codai'r Wyddfa yn ddistaw fawreddog ymysg ei theulu.

Ond nid i fwynhau cymundeb ysbryd â'r mynyddoedd y teithiwn i y nawn hwnnw. Yr oeddwn yn chwilio am fedd.

Er hynny nis gallwn beidio sylwi ar ambell beth ar y ffordd yn y fro gyfareddol hon. Unwaith yr oedd y môr dros y gwastadedd gerddwn, i fyny hyd Aber Glaslyn; a golchai'r tonnau ymyl gwisg y mynyddoedd y cerddwn hyd eu godre. A'r adeg honno mor ardderchog oedd yr olygfa, a'r môr yn ei rwysg.

Wrth ddringo i fyny teimlwn yn fwy gonest a chryf gan fod tir dan fy nhraed nad oedd yn dir lladrad, a hwnnw'n graig na fedr y môr ei adfeddiannu byth tra bo deddf ei ryddid fel y mae. Dyma bentref bychan glân fu gynt uwch y môr a'i ru, ac ar y chwith westy ac arwydd o waith haearn cain yn tynnu sylw pob fforddolyn. Y mae'r gwaith haearn tlws, wrth ysgwyd yn y gwynt, yn ddarlun o beth allai gofaint cywrain Cymru wneud pe wedi rhoddi eu meddwl yn eu crefft. Ond, ysywaeth, gwaith cenedl ddieithr yw, a dyllhuan rhyw hen deulu Cymreig wedi ei rhoi yn lle eryr y genedl uchelgeisiol. Troais i mewn i'r gwesty, tŷ glân cysurus, llawn o hen lestri prydferth a gwerthfawr, a'r bwyd dan gamp.

Cerddais ymlaen trwy'r pentref, a throais ar y dde, heibio i hen gartref Cymreig, y tŷ wedi ei drwsio'n brydferth, a'i erddi llawn dan eu llwyth o ffrwythau. Yna, wedi mynd dan fwa cerrig, wele ffordd gul yn fy arwain i mewn i fryniau Meirionnydd, i un o'r glynnoedd sy'n awr yn ymagor ar y morfa marw ond a fu gynt yn agor ar y môr byth aflonydd. Cerddais, am nas gwn i faint, wedi ymgolli yn nhlysni blodau ochrau'r ffordd a glesni'r mynyddoedd mawr yn eu tawelwch pell. A pha ryfedd? Onid diwedd haf oedd hi, a'r amaethwyr yn cludo olion gwair oddiar y ffriddoedd a thoraeth euraidd yr yd o'r caeau islaw? A chanai clych yr eos ogoniant yr hydref.

Ond, ar y dde, yn ochr y ffordd, dyma fynwent. Y mae mur cadarn, trwchus ac uchel, o'i hamgylch, rhyngddi a'r ffordd odditanodd a rhyngddi a'r llechwedd oddiarni. Medrais ddringo iddi, i annedd dawel y marw. Ac wedi i mi edrych o'm cwmpas, yr oeddwn megis wedi dringo i brydferthwch y nefoedd.

Edrychais i ddechre dros y ffordd y dringaswn ohoni. Odditanaf yr oedd llawr Aber Glaslyn, a throsto codai'r Wyddfa i'r nen o ganol ei theulu cawraidd. Troais i'r ochr arall, ac yr oedd yno lechwedd creigiog, coediog, uchel, yn ddarlun o gadernid. Ar y dde yr oedd perllan a choedydd yn codi o gaeau gwyrddion; ar yr aswy gwelwn lethrau creigiog Croesor a'r Cnicht pigfain dieithr. Ac o'm hamgylch yr oedd beddau. Eto, er y gellid clywed su esgyll gwybedyn heb glustfeinio, yr oedd y distawrwydd fel pe'n orlawn o leisiau a'r tawelwch fel pe'n orlawn o fywyd.

Yn y gornel ar y dde, a'r graig yn gysgod iddo, cefais y bedd yr oeddwn wedi dod i chwilio am dano. Symledd a chadernid oedd nodweddion y bedd, carreg las o'r mynydd gerllaw yn gorwedd ar gerrig celyd y fro. A dyma'r ysgrif sydd arno, wedi ei cherfio'n eglur a dwfn,—

Yma y gorwedd hyd yr

Adgyfodiad, Gorph

JOHN RICHARD JONES,

wedi treulio yn agos i 34n o flynyddau
yn FUGAIL diwyd, ffyddlon, a
llafurus: i'r EGLWYS gynnulledig
yn y lle hwn; gan ymdrech yn
ddiysgog o blaid yr EFENGYL
hyd ei ddiwedd; a goddef cystydd
am air Duw, a thystiolaeth Iesu, &c.

Gorphenodd ei waith a'i Yrfa
Mehefin y 27n 1822, ei oedran 57.


Pregethwr pur, ac ieithydd; hyd ei farw
Adferwr gwir Grefydd;
Pur ei araeth, Ferorydd,
Un hoff iawn, iach yn y ffydd.

O'r gro pan ddeuo ryw ddydd, gyda'r OEN
Caiff gadw'r wyl dragywydd;
Ail einioes o lawenydd,
A hir saif, i'w aros sydd.


A dyma'r lle hyfryd y gorwedd J. R. Jones o Ramoth ynddo, wedi bywyd ymdrechgar llawn o agor bydoedd newydd y meddwl a thragwyddoldeb o flaen gwerin gwlad. Canmolais ef unwaith wrth yr hwn sydd erbyn heddyw yr enwocaf o'i bobl, a'i enw ledled y byd. Ac atebodd yn chwareus, nid oedd ond llanc y pryd hwnnw,—"Buasai'n well iddo o lawer fynd i Lundain, lle cawsai ei alluoedd chware teg yn lle aros yn y fan yma, i gario mawn ar ei gefn o'r mynydd." Ond gall dyn mawr weithio mewn cylch bychan, ac y mae'n rhaid i rywrai aros yn y wlad. Y mae ffrwyth llafur yr efengylwr diofn a difloesgni, meddylgar ac ysgolheigaidd yn aros eto, a chynhydda o gynhaeaf i gynhaeaf. Gorwedd yma fel Arthur yn ei ogof, a'i farchogion o'i amgylch,—wele eu beddau hwythau'n llu gerllaw.

Bum yn ymgomio hyd ffyrdd y fro swynol, ers llawer o flynyddau, â phobl J. R. Jones. Bob blwyddyn dyfnheir yr argraff gyntaf wnaethant arnaf, fod tri nodwedd iddynt,—boneddigeiddrwydd, gonestrwydd, a gwybodaeth o'r Beibl. Dylaswn nodi y nodwedd olaf yn gyntaf, hwyrach, oherwydd mai hi yw sylfaen ac achos y lleill. Ac yma y mae eu blaenoriaid yn huno, a'r bugail yn eu mysg. Y mae'r fynwent ar y llechwedd fel gorffwysfa milwyr ac offeiriaid rhyw Urdd Ioan, wedi eu dydd o ymladd a gwaith, dygir hwy yma i huno gyda'i gilydd. Y mae'r cerrig yn hanes byw. Gorwedd hon ar fyfyriwr o Goleg Normalaidd Bangor, llanc o Ffestiniog, wywodd wrth hogi ei gryman ar gyfer cynhaeaf mawr,—

"Arwyddfan uwch gorweddfa—y diwyd
Owen Jones geir yma ;
Gŵr o addysg orwedda,
Ac un o deg enw da."

A chydag ef huna ei dad o'r un enw, "a alwyd yn dra sydyn," fel y gwneir yn y chwarelau ambell dro,—

"Tad hawdd ei hoffi, gwir serchog briod,
A hoff was Iesu, sy'n gorffwys isod;
Daeth oes o ymdrech yn erbyn pechod
Yn sydyn i derfyn.—gwaith yn darfod;
Ond gwyddai am gyfamod—a ddeil mewn bri
Yn hwy na meini cedyrn y Manod."

Dyma golofn i chwarelwr laddwyd yn chwarel Oakeley, "godwyd o barch gan ei gydweithwyr." Ac fel yr eir o'r naill garreg las i un arall, o golofn i golofn, ceir yma deulu crefyddol o wŷr a gwragedd o feddwl disgybledig ac o chwaeth bur. Am un bedd yn unig yr holais, bedd newydd oedd wedi ei gau ddoe, bedd y blodau gwylltion, wedi eu casglu gan blant, eto heb wywo arno. Bedd cenhades ieuanc oedd, fu'n cyhoeddi'r efengyl ar Fryniau pell; ond daeth hithau adre i huno. Yr oedd su dyner yn y fynwent, alaw awel wedi ehedeg o'r môr, gan gludo arogl y gwair cynhaeafus a'r gwenith gwyn ar ei hedyn. A disgynnodd rhyw ddedwyddwch tawel dros fôr a mynydd, a thros fy enaid innau. Os mai ystormydd canrifoedd sydd wedi rhoddi ei harddwch i'r fro hon, ysbrydoedd dynion mawr sydd wedi rhoddi eu cadernid hoffus i'r cenedlaethau sy'n gweithio eu dydd, ac yna'n huno, y naill genhedlaeth ar ol y llall.

YR YSGOL SUL

LAWER blwyddyn faith yn ol yr oedd tyrfa o amaethwyr a llafurwyr ar Green y Bala yn gwneud peth newydd iawn. Yr oeddynt yn penderfynu anfon mab amaethwr i'r Senedd i gynrychioli sir Feirionnydd, yn lle y gwŷr tir a'r gwŷr golud fuasai'n llais iddi cyhyd. A darlithient i'w gilyd oddiar lwyfa fod y gŵr ieuanc hwn yn meddu popeth gwerth ei feddu a feddai'r rhai fu o'i flaen, ac heblaw hynny wybodaeth dry lwyr am werin Cymru a chydymdeimlad perffaith â hi. Dywedent iddo fod yn ysgol oreu Cymru, yng ngholeg goreu Cymru, yng ngholeg boneddicaf Rhydychen, wrth draed y gwladweinwyr mwyaf selog a galluog.

Cododd un o wyr llafur Morgannwg, un oedd wedi rhoddi ei ffydd i'r gŵr ieuanc, ac un y disgwyliai y dorf am dano ers meityn. Gwefreiddiodd y dyrfa drwy ddweyd iddo ef orfod troi i'r Senedd heb awr o ysgol nac o goleg, heb ddim ond "yr hen Ysgol Sul."

Y noson honno bum yn cerdded yn ol ac ymlaen ar lannau Tryweryn gyda'r ymgeisydd, a synnai fod y glowr tanllyd yn awgrymu fod yr Ysgol Sul yn israddol i'r un ysgol yng Nghymru nac i'r un coleg yn Rhydychen.

Wedi deng mlynedd ar hugain o gynnydd yn addysg Cymru, teimlaf fod yr Ysgol Sul eto'n aros yn flaenaf un,—yn berffeithiaf mewn cynllun, yn flaenaf mewn defnyddioldeb, yn eangaf ei chydymdeimlad, ac yn uchaf ei nôd. A'r sain bruddaf ym mywyd Cymru heddyw ydyw'r cwynfan fod yr Ysgol Sul yn colli tir; yr wythnos hon gwelais gŵyn Bedyddwyr sir Gaer ac Anibynwyr sir Feirionnydd, dwy fyddin anodd eu gwangalonni, fod yn rhaid wrth ymdrech galed i gadw rhagfuriau'r Ysgol Sul.

Dull yr Ysgol Sul yw dull perffeithiaf cyfrannu addysg yng Nghymru. Ffurfiwyd yr Ysgol Sul gan ddyhead, angen, ac athrylith cenedl. Nid yw cyfundrefnau o saerniaeth yr addysgwr, o'u cymharu â hi, ond megis addurn pren o'i gymharu â chriafolen y mynydd neu fedwen arian y glyn. Y mae dau gamgymeriad pwysig yn addysg Cymru, Un yw gwneud cyfundrefn addysg heb astudio achosion llwyddiant rhyfedd yr Ysgol Sul. A'r llall yw dwyn i'r Ysgol Sul rai o'r neilltuolion dybid oedd yn achosion llwyddiant peiriannol addysg mewn ysgolion elfennol, megis safonau unffurf ac arholiadau allanol. Ond er pob camgymeriad, heb dreth, heb rodd gan Lywodraeth na miliwnydd, cododd yr Ysgol Sul i effeithiolrwydd sydd heb ei fath yn hanes ein cenedl. Dyma'n dilyn rai o'r nodweddion sy'n dangos fod yr Ysgol Sul, yr ysgol godwyd gan ein cenedl, ar y blaen i ddim addysg drefnwyd eto gan ein haddysgwyr proffesedig.

i.—Yn yr Ysgol Sul y mae addysg yn un, ac nid yn rhannau anghydnaws o un gyfundrefn gymysg ac anghyson. Yn addysg dyddiau'r wythnos rhennir addysg yn addysg elfennol, addysg ganolraddol, ac addysg prifysgol; nid ydyw y rhai hyn yn toddi i'w gilydd, ac ni ŵyr athrawon y naill ddigon am y llall, fe ymfalchia'r naill wrth ddadwneud gwaith y llall. Ond y mae'r Ysgol Sul yn ysgol elfennol, yn ysgol ganolraddol, ac yn goleg ynddi ei hun. Addysgir y plentyn mwyaf araf a'r athraw mwyaf dawnus yn yr un ysgol, —y mae'n ysgol fabanod ac yn goleg hyfforddiadol ynddi ei hun.

ii.—Y mae'r Ysgol Sul wedi denu cenedl iddi, heb orfodaeth na chosb, heb ffon na gwialen, heb gynnyg gwobr na swydd. Yn lle y rhain y mae ganddi dri atyniad nerthol. Un yw ei hysbryd Cymreig; y mae'n Gymreig drwyddi,—wreiddyn, pren, a dail; ynddi hi y cafodd ysbryd y genedl Gymreig y corff perffeithiaf a hygaraf i ymwisgo ynddo. Yr ail atyniad yw ei natur ddemocrataidd; nid oes ynddi hi le i ymhonwr sefyll ar lwyfan, na lle i gyfoethog ddweyd wrth dlawd, Y cyfaill, dos i rywle is i lawr, nid oes dy eisiau yma." Y mae ysbryd cydraddoldeb perffaith yr efengyl yn anadlu'n rymus drwyddi. A'r trydydd atyniad yw y llenyddiaeth efrydir ynddi, llenyddiaeth fwyaf y byd, casgliad ardderchog o ganeuon, croniclau, breuddwydion, ac athroniaeth; llenyddiaeth sydd yn ddigon eang i ddeffro'r meddwl cryfaf, ac yn ddigon dynol i swyno'r meddwl symlaf. Cymharer y corff hwn o lenyddiaeth â chynnwys egwan a masw llawer llyfrgell ysgol.

iii.—Y mae pob un yn yr ysgol hon yn athraw ac yn ddisgybl bob yn ail. Ufuddhau a rheoli bob yn ail oedd yn gwneud y dinesydd perffaith yng nghyfnod aur bywyd Groeg. I athraw, nid oes dim mor darawiadol hanes Edward Richard yn cau drws Ysgol Ystradmeurig am flwyddyn er mwyn cael cyfle i ddysgu ychwaneg. Byddaf yn meddwl am dano bob tro y gwelaf athraw Ysgol Sul yn troi i'w hen ddosbarth, at draed athraw arall, wedi cyfnod o fod yn athraw ei hun. Toc a'n ol, a'i feddwl yn llawnach a'i ddull yn berffeithiach. Ac felly ymberffeithia'r ysgol.

iv.—Y mae dosbarthiadau'r Ysgol Sul yn ddosbarthiadau bychain. Gall yr athraw ddilyn a gwylio pob meddwl, gall y disgyblion ddod i adnabod ei gilydd yn drylwyr. Tybia ambell athraw y gall ddysgu dosbarth o ddeg ar hugain, ond twyllo ei hun y mae; dirywia'r wers i fod yn bregeth neu ddarlith, a chollir y cymundeb enaid rhwng athraw a disgybl, a rhwng disgybl a disgybl, sydd yn hanfodol i berffeithrwydd addysg. Ac oherwydd bychander y dosbarth, gall fod amrywiaeth diderfyn ynddo. Rhagora un mewn craffter naturiol, un arall mewn dysg, un arall mewn adnabyddiaeth o'r natur ddynol; mae un yn amlwg oherwydd dychymyg, un arall oherwydd callineb; y mae distawrwydd gwylaidd ambell un fel arogl esmwyth yn y dosbarth. Ers rhai blynyddoedd yr wyf fi wedi cael y fraint o fod yn athraw i ddosbarth bychan dymunol o wŷr ieuainc rhwng ugain a deg ar hugain oed, a mwy; ac y mae yr amrywiaeth mewn gallu, barn, a dull yn amlwg. Eto, hoffwn i'r amrywiaeth fod eto'n fwy; dymunais lawer tro am gael dau arall,—un wedi cael anrhydedd dosbarth cyntaf mewn diwinyddiaeth mewn coleg, ac un arall heb fedru gair ar lyfr. Y mae amrywiaeth gwybodaeth, amrywiaeth gallu, amrywiaeth dawn, ac amrywiaeth tueddiad, fel haearn yn hogi haearn, yn fywyd ac yn ddiddordeb dosbarth. Ac ni raid i athraw, drwy drugaredd, fod o flaen pob aelod o'i ddosbarth yn yr holl bethau hyn, nag yn un o honynt.

v.—Profir effeithiolrwydd yr Ysgol Sul, nid drwy arholi unigolion, ond trwy ymweled â dosbarthiadau. Sicrha hyn ei rhyddid i bob ysgol. Trefna ei hun, gedy i bob dosbarth lunio ei ddull ei hun. A phan ddaw ymwelwyr, ceir awgrymiadau'n unig, a hanes ymgeisiadau ac arbrawfion ysgolion eraill.

vi.—Y mae i'r Ysgol amcan uchel, sy'n rhoddi iddi nod cyson, unoliaeth bywyd, a sicrwydd am lwybr datblygiad diogel. Nid beichio'r cof â gwybodaeth rhai eraill yw ei phrif amcan, ond defnyddio gwybodaeth i ddatblygu meddwl a chymeriad. Ei nod yw ACHUB pob disgybl i fywyd uwch. Nid ei hamcan pennaf yw dosrannu gwybodaeth yn drefnus ger ei fron, ond agor ei lygaid i weled. Deffry enaid, dadlenna fyd newydd; ei nod yw ail eni pob disgybl i weled teyrnas Crist. A'r nod uchel hwn yw sicrwydd llwyddiant yr Ysgol Sul. Ceidw hi'n fyw, yn effeithiol, yn gyfaddas i anghenion newydd a datblygiad uwch, genhedlaeth ar ol cenhedlaeth.

Y NODYN LLEDDF

CEFAIS fy hun yn ddiweddar yng nghwmni difyr lliaws o Wyddelod ffraeth. Llenorion oedd y rhan fwyaf o honynt,—beirdd, haneswyr, a nofelwyr. Nid oedd a fynnont, hyd y gallwn ddeall, â gwleidyddiaeth o gwbl; yn wir, nid oeddynt yn unol ar ddim mewn gwleidyddiaeth os nad unent yn eu dirmyg o'r aelodau seneddol, yn undebwyr ac yn ymreolwyr. Adroddodd un ohonynt fygythiad Grattan pan rowd terfyn ar Senedd Iwerddon yn 1801,—"Dinistriodd Prydain ein Senedd. Talwn ninnau trwy anfon cant o'n cnafon gwaethaf i fod yn felltith i'w Senedd hi." Dywedais enw un o arweinyddion gwleidyddol y Gwyddelod, a gofynnais a fedrai Wyddeleg. "Na fedr," oedd yr ateb, " a phe gofynnech iddo, teimlai fod y gofyniad yn sarhad arno." "Onid yw'n cynrychioli rhan hollol Wyddelig?" Ydyw, ond nid yw'r werin wedi deffro eto."

Teimlaswn ers tro fod rhywbeth yn eisiau i'm teimlad i yn y cwmni llawen, calon-gynnes, siaradus. Deallais, bob yn ychydig, mai â dosbarth cydmarol gyfoethog y cydymdeimlent; edrychent ar y werin fel dosbarth anwybodus, ofergoelus, di-lenyddiaeth, a'i gwladgarwch wedi gwylltio'n wleidyddiaeth ddall a hunanol. Mewn cwmni Cymreig o lenorion, beth bynnag arall fuasai yno neu ar ol, cymerid un peth yn ganiataol, sef fod gwerin Cymru yn ffyddlon i draddodiadau goreu ein hanes, ac yn nerth i'n gwlad. Amlygais fy syndod fod fy nghyfeillion Gwyddelig mor obeithiol, a'u gwerin heb fod wrth eu cefn. "Oni bai am y werin," ebe fi, "edwinai bywyd Cymru fel blodeuyn y glaswelltyn." Dywedais am groesaw'r werin i feddyliau Islwyn, danghosais gymaint yn iachach yw barn y werin na hyd yn oed barn eu harweinwyr, profais mai llais yn y diffaethwch fyddai llais gwladgarwr yng Nghymru oni bai am y werin. Ond nid oes gennym ni werin felly," oedd eu hateb, ac yr oedd yn amlwg nad oeddynt yn disgwyl un yn eu bywyd hwy.

Yn unigedd fy myfyrdod byddaf yn llawenhau wrth feddwl am werin Cymru, ac yn diolch i Dduw am dani, am ei ffyddlondeb a'i gonestrwydd, am ei hawydd i wneud yr hyn sy'n iawn, am ei chariad at feddwl, am gywirdeb ei barn, am dynerwch ei theimlad a chadernid ei phenderfyniad. Teimlaf yn fwyfwy bob dydd mai cenedl iach yw ein gwerin ni.

Ac yna daw cwmwl dros fy llawenydd. Ple mae ein huchelwyr, drwy gydol ein hanes, —yn esgobion a phendefigion, yn gyfoethogion a thirfeddianwyr? Maent bron bob un yn elynol, yn wrthnysig, neu'n fradwrus. Ymholais a mi fy hun a fedrwn gael o Gymru gwmni fel y cwmni llawen hwn. Na, cwmni i feirniadu ac i ameu, os nad i ddirmygu, fuasai cwmni o Gymry o'r un safle a'r rhain. Tosturiai'r Gwyddelod wrthyf finnau,"Os ydym ni heb werin yn nerth i ni, yr ydych chwi heb uchelwyr. Y mae eich cyfoethogion chwi yn gwaddoli colegau i anwybyddu eich hiaith ac i ddirmygu'ch cenedlgarwch, yr ydym ninnau yn ceisio codi'n gwerin i'r un tir a'ch un chwi."

Trois i feddwl am uchelwyr Cymru. Taflu rhyw fil o bunnau at goleg, ymddangos o flaen y dorf ar lwyfan Eisteddfod unwaith yn y flwyddyn, —nid yw hynny ond rhoddi carreg i un ofynno am fara. Nid arian, nid gweniaith sydd arnom eisiau; yr ydym yn hiraethu am gael teimlo fod calon ein huchelwyr,—aerod estronedig mil o draddodiadau, gyda ni. Pe buaswn uchelwr, ac wedi cael mantais cyfoeth i ymaddysgu ac i ymwareiddio, yr wyf yn credu y gwelswn goron ddisglair o'm blaen,—coron yn llaw gwerin fwyaf meddylgar a serchog hanes. Yn lle hynny, wele ein huchelwyr yn ennyn gwg y genedl garuaidd trwy anwybyddu ei hiaith, dirmygu ei llenyddiaeth, a gwawdio ei diwygiadau.

Y mae "Heart of Midlothian " Syr Walter Scott yn un o'm hoff lyfrau; ond nid y peth pruddaf yn hanes yr enethig Ysgotaidd, hwyrach, sy'n achosi mwyaf o brudd-der i mi. Pan ddaeth Jennie Deans i Lundain i ddadleu am fywyd ei chwaer syrthiedig, aeth at Dduc Argyll, yr enw enwocaf o bob enw i feddwl Ysgotaidd. Ond ni feddyliodd am eiliad fod yn anodd iddi hi, eneth wladaidd, ymddwyn yn briodol yng ngwydd y duc. Onid oedd yn gyd-wladwr iddi, y Mac Callum Mor? A chwestiwn ddaw a phrudd-der i'm meddwl yw,—Pe'r ysgrifennai Cymro hanes rhyw druan yn teithio i Lundain fel Jennie Deans, pwy gai i chware rhan Duc Argyll, pa bendefig, pa esgob, ar hyd hanes Cymru ers tri chan mlynedd? Na, y mae uchelwyr Cymru wedi ymneilltuo mor bell oddiwrth y genedl, mewn teimlad a gofal, fel mai prin y daw'r naill i feddwl y llall erbyn hyn. Faint o gartrefi uchelwyr yng Nghymru, erbyn hyn, sy'n gartrefi i'r iaith Gymraeg,—lle y caiff llenyddiaeth Cymru nodded? Pa hen gartref urddas a chyfoeth, pa esgobty neu ddeondy, pa goleg neu ysgol y gellir cyfeirio atynt fel lle yr adwaenir ac y croesawir y bardd a'r llenor sy'n coethi ac yn dyrchafu ei wlad? I ba le y gall Cymru werinol droi ei llygaid a dweyd, Oddiacw, o leiaf, cawn gydymdeimlad?

Feallai y cyfyd to o uchelwyr gwell, wyrion a gorwyrion plant y diwygiadau a'r hen ddioddef a'r hen aberthu. Y mae fy nghalon yn cynhesu, ac y mae calon gwerin yn cynhesu, wrth feddwl am ambell un sydd yng Nghymru'n awr,—heb ymestroni oherwydd hud arwynebol defodau dieithr. A daw ychwaneg.

Nid peth i aros yw'r cweryla chwerw ynghylch addysg. Nid peth i bara byth yw ymdrech Llafur a Chyfalaf. O na wrandawem ar lais Gwladgarwch. Rhoddai hi ddoethineb i derfynu'r naill ymdrech, a chydymdeimlad i leddfu'r llall. Pe medrem ymuno i wneud cyfundrefn addysg fagai gariad at Gymru ymysg ei meibion a'i merched

o bob gradd, safai Cymru yn urddasol o flaen y byd.

ISLWYN A'I FEIRNIAID.

CAFODD Islwyn ddydd ei gyfeillion, a thranoeth ei edmygwyr hiraethlawn yn awr gwawriodd tradwy ei feirniaid. Nid yw beirniadu Islwyn ond y peth ddisgwylid; y peth diddorol yw dyfalu pa fath feirniadaeth fydd. Beth ddywed y bardd newydd-newydd, y newydd danlli, am gawr yr oes o'r blaen? A fydd yn debig i feirniadaeth ysgol Pope neu ddilynwyr Dr. Johnson ar Wordsworth, wedi ei seilio ar ganon ffurfiau neu ar synwyr cyffredin di-farddoniaeth? Ynte a fydd megis Herrick yn codi ei ben o fysg blodau i arswydo wrth gofio am ystormydd aruthr meddyliau Ford a Shakespeare?

Cyhoeddwyd cyfrol fechan o waith Islwyn yn 1867 yn cynnwys darnau digyswllt o'i ddewisiad ei hun. Cynhwysa ar ei wyneb ddalen ddyfyniad o Life Drama Alexander Smith, gŵr oedd a'i enw'n glodus pan oedd Islwyn yn Edinburgh; ond oedd iddo ef megis Falconer i Byron, neu Thomson i Wordsworth. Gwelodd Smith lawer o brydferthwch hynafol Stirling a swyn byth-newydd golygfeydd Skye; creodd Islwyn fyd newydd, a'i brydferthwch wedi ei ysbrydoli. Y mae byd anianol, ac y mae byd ysbrydol. Gellir gwisgo'r byd anianol â swyn rhyfedd, gwnawd hynny gan lawer Groegwr yng ngwydd ei fryniau digymylau, a chan lawer Cymro mewn gwlad lle tynerir agwedd ei chreigiau gan niwl esmwyth a thyner. Y mae'r bardd anianol yn eithaf tra'n darlunio ei fyd ei hun. Ond tragedy beirniadaeth ydyw darluniad gan y bardd anianol o fyd y bardd ysbrydol, meddwl yr efelychwr yn ceisio amgyffred y meddwl sy'n creu. Nis gwn am un gair Cymraeg yn rhoddi holl gynnwys y gair Saesneg benthyg tragedy, ond gwn fod enaid Cymru'n llawn o'r syniad. Ceir y trychineb di-enw hwn yn llenyddiaeth Lloegr yn y ddeunawfed ganrif. Credid fod cewri oes aur Elizabeth wedi darganfod hynny o wirionedd barddonol oedd yn bod, ac mai gwaith yr oes newydd oedd cywiro, llyfnhau, caboli, gloywi; oherwydd, ysywaeth, ni fedrai'r rhai gynt yr iaith Saesneg fel y dylid ei medru. A dacw Pope yn ystwytho Shakespeare, a Dryden yn odli Milton. Ac yng ngwydd byd bodlon a difraw, diweddodd y ddrama mewn geiriadur. Ac nid dyna'r unig drychineb hyd yn oed yn yr un ganrif. Daeth Ysgotyn o'r enw Hume i gondemnio meddwl y trwswyr a'r taclwyr; i'w ddirmygu, ac i'w ddistrywio; ac ar ei adfeilion cododd Wesley a Coleridge a Wordsworth fyd newydd rhyfedd. Ond cafodd yntau ei feirniaid. Safasant, rai ohonynt hyd heddyw, ar fryn yr anianol i edrych ar y byd ysbrydol agoresid i'r byd. Byd ysbrydol yw byd Islwyn; beth, tybed, wêl y beirniad ynddo, o fyd yr anianol, lle mae'r llygad o gnawd mor fyw a chlust o gnawd mor deneu i swynion y byd naturiol?

Os bernir Islwyn wrth dameidiau o'r fan yma a'r fan acw, bernir ef yn anianol, ac ni ddeallir ef. Os tybia'r beirniad fod y darn yma'n berffaith, a'r darn nesaf yn anfarddonol, nid yw'r llinyn mesur priodol yn eiddo iddo. I'w weld yn iawn, rhaid cymeryd Islwyn yn yr oll ag ydyw, yn ei fyd ei hun, a than y goleu sy'n dangos ei fyd yn ei ysbrydolrwydd newydd grëedig.

Nid oes ond ychydig o feddylwyr y byd a'u holl waith creadigol yn un cyfanwaith mawr o amgylch eu personoliaeth, yn beth ellir adnabod wrth arlliw digamsyniol eu henaid, arlliw, o'i weled a dry eu sorod, neu beth ystyrrid yn sorod, yn aur disglair. Y mae Islwyn ymysg y rhain. A oes rhyw Gymro arall? Gall beirniad craff ameu, oddiar brofion negyddol pwysig, mai Dafydd ab Gwilym anfonodd yr haf i Forgannwg. Ie, amheuir ai Shakespeare wnaeth i'r gŵr hwnnw gnocio ganolnos ym munudau mwyaf echryslawn drama Macbeth. Os tynnir Islwyn o'r byd a greodd, ni ellir ei amgyffred; os gwelir ef yn ei fyd ei hun, gwelir ef ym mhopeth a wnaeth mwy.

Os ceir beirniad yn rhannu byd Islwyn yn aur a sorod, er anfated yw'r gwaith, y mae peth o'r bai ar Islwyn ei hun.

Yn un peth, er fod y byd a greai yn un yn ei feddwl ef, eto bob yn ddarn y rhoddodd ffurf weladwy iddo. Adeiladodd yn brysur, ond ni chafodd fyw i roddi i'w feddyliau ysgrifenedig y cynllun a'r drefn fuasai yn dangos ei holl greadigaeth yn amlwg i'r hwn a red. Storm mewn goleuni ysbrydol, goleuni rhy wirioneddol i fedru tywynnu erioed ar dir a môr, oedd ei fyd ef. Y mae absenoldeb y cynllun yn esbonio methiant y beirniad anianol i weled byd Islwyn, ond nid yw yn ei esgusodi.

Peth arall, bu Islwyn ei hun hwyrach, a'i olygwyr wedyn yn sicr, yn anffodus oherwydd rhoi'r farddoniaeth yn ddarnau trwy'r wasg. Dechreuodd drwy wneud hynny ei hun. Pan gyhoeddwyd ei gyfrol fechan yn 1867, gwelodd y Cymry ar unwaith fod bardd mawr yn eu mysg. Gwelodd lawer yn weddol glir y newydd-deb creadigol oedd yng ngweithrediad ei feddwl, wedi ei eni o elfennau rhyfedd, y Chwyldroad Ffrengig ac athroniaeth Hegel, dau allu mawr y dyddiau diweddaf hyn,—y naill y gallu dinistriol mwyaf, a'r llall y gallu creadigol mwyaf ym myd y meddwl. Ond cipolygon welent, a buont lawer blwyddyn yn disgwyl am beth wyddent oedd mewn bod, sef tryblith o ysgrifeniadau adawodd Islwyn ar ol pan fu farw yn 1878, yn chwech a deugain oed. Yn 1897, agos ugain mlynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd y peth dybid yr adeg honno oedd holl waith Islwyn, yn gyfrol yn cynnwys 864 tudalen, ac ar draws 38,000 llinell. Ni osododd y golygydd ei hun yn feirniad, cyhoeddodd bopeth fedrai gael, heb nodyn nac awgrym o'i eiddo ei hun; credai, a chred eto, y deuai trefnwyr a beirniaid i egluro byd Islwyn yn ei gyfanwaith. Prynnodd pum mil o Gymry y gyfrol fawr honno. Erbyn hyn y mae Islwyn yn llefaru o bulpudau pob enwad yng Nghymru, ac y mae ei feddwl wedi disgyn fel gwlith adfywiol ar holl ysbryd llenyddiaeth Cymru. Disgynnodd ar yr anuwiol nas adnabu ef, fel ar y duwiol a ymlonyddodd ynddo.

Yn anffodus iawn argraffwyd y gyfrol fawr heb wybod fod ysgriflyfr arall yn llechu o'r golwg. Cyhoeddwyd honno yn gyfrol yng Nghyfres y Fil yn 1903. Er edifeirwch dwys iddo, trodd y golygydd yn rhyw fath o esboniwr,—gwnaeth y darnau'n ddigyswllt, a rhoddodd benawdau iddynt, er nad oedd y rhain ond geiriau Islwyn ei hun. Ac yn awr temtir y beirniad arwynebol i weled un Islwyn yn y gyfrol fawr ac Islwyn arall yn y gyfrol fach, er fod cynnwys y ddwy wedi ei ysgrifennu ar yr un adegau, ac fel rhan o'r un cyfanwaith.

Os tybia rhywun y medr farnu Islwyn trwy dderbyn rhannau o'i waith fel gwaith rhyw Islwyn mawr a rhannau eraill fel darnau o waith rhyw Islwyn bach, y mae wedi colli llwybr beirniadaeth. Rhaid deall ac esbonio'r cwbl. Rhaid cymeryd pob meddyliwr mawr yn yr oll ag ydyw, a'i waith fel un cread, yn hannu o bersonoliaeth fyw.

I'w deall yn iawn rhaid edrych ar un o ddarluniau Rubens neu Murillo fel cyfanwaith, y mae pob lliw yn rhoi rhyw olud i'r holl liwiau eraill, a phob wyneb yn esbonio'r wynebau eraill. Ond cymerer y darlun bob yn ddarn, ac y mae'r gogoniant adlewyrchir arno gan y darnau eraill yn colli. Ar ol yr arlunwyr hyn daeth arlunwyr is-Ellmynaidd na ddanghosai eu darluniau un gallu creadigol, ond yr oedd y rhannau'n berffaith. Os edrychwch ar bob dilledyn, pob ffrwyth, pob pryf, y maent oll yn berffaith; y mae'r manylder ffyddlawn i efelychu natur bron yn wyrthiol. Meddylier am un o'r brodyr lleiaf hyn yn sefyll o flaen un o ddarluniau Titian neu Velasquez. Ebe un,—" Nid yw'r cyfoeth o liwiau yn y darlun yn naturiol. Ond a welwch chwi blygion dillad y milwr acw? Y maent mor gywir a phe bai'r arlunydd wedi bod yn deiliwr ar hyd ei oes." Ac atebai'r llall, "Ie, ac a welwch chwi'r bluen acw yn aden y mymryn angel bach yn y gornel? Mae mor gywir a phe bai'r arlunydd wedi treulio ei fywyd i fagu ffowls." Ac ebai'r ddau,-"Diolch am ambell em fedrwn ddeall mewn darlun mor fawr."

Ni ellir deall Islwyn trwy edrych ar un cwmwl gwlanog yn ei ddydd, neu wrth wrando ar un sydyn waedd gwynt yn ei nos. Rhaid edrych ar ei fyd i gyd, dan ei ddiluw o oleuni ysbrydol.


FFARWEL I'R MYNYDDOEDD

NIS gwn am ddim rydd fwy o nerth i ddyn i wneud ei waith nag aros mis yn y mynyddoedd. Os nad oes ganddo fis rhaid boddloni ar wythnos; os nad oes ganddo wythnos, y mae un diwrnod yn y mynyddoedd yn werth gwneud llawer o aberth i'w gael.

Y mae bywyd yn fwy pryderus, yn fwy cyffrous, ac yn fwy llafurus nag y bu erioed o'r blaen. Rhaid i bawb weithio yn awr, nid oes le i'r segurddyn; ac os yw oriau gwaith yn fyrrach, y maent oherwydd hynny yn galetach. Y mae'r bywyd llonydd a hamddenol a fagai athronwyr yn diflannu o'r byd; cywilydd, ac nid anrhydedd sydd i'r hwn fedr fod heb waith, ac a fedr fod yn foddlon heb waith. Nid bywyd hir, ond bywyd llawn yw bywyd y dydd hwn.

Ychydig yn awr fedr fyw mewn unigedd, ymhell o sŵn y boen sydd yn y byd. Y mae dibyniaeth cynhyddol dynion ar ei gilydd yn gwneud iddynt gyd-ddioddef. Nid ysgarmes bell, i feirdd ddweyd am dani flynyddoedd wedyn, ydyw rhyfel[3] erbyn hyn y mae'r ing i'w deimlo yng nghilfachau Eryri neu ar lannau Oregon fel y mae ym mhentrefydd difrodedig Ffrainc. Pan fo gweithydd glo y Deheudir yn segur oherwydd fod cyfalaf a llafur yn camddeall ei gilydd, nid gwŷr cyfalaf na gwŷr llafur deimla'r wasgfa gyntaf, ond cartrefi pell ar y bryniau, o'r lle y daeth teuluodd y gweithwyr ryw genhedlaeth yn ol. Bu'r cartref yn hunangynhaliol bron. Yn yr amaethdy mynyddig cysurus, yng nghysgod ei goed talfrig, gwenith neu geirch neu haidd wedi ei godi oddiar y gweirdiroedd o'i amgylch oedd grawn yr ymborth; cig wedi ei halltu gartref a physgod o'r afon a fwyteid; yr oedd llysiau bwyd a saig a meddyginiaeth yn tyfu yn yr ardd; yr oedd mawn a choed yn danwydd glân a digôst at y gaeaf. Ond, erbyn heddyw, nid oes amaethdy yn y wlad nad yw'n dibynnu am anhebgorion ei gysur, os nad ei fywyd, ar bron bob gwlad yn y byd. Lle bynnag y mae eisiau neu ddioddef, y mae dynolryw i gyd yn teimlo'r boen. Ac oherwydd fod dyn yn dod beunydd yn aelod cyflawnach o frawdoliaeth y byd, y mae cyfnewidiadau cymdeithasol mawrion gerllaw. Rhaid dod a rhyddid a deddf yn gysonach â'i gilydd, fel y try olwynion cyd-ddibynnol diwydiant yn esmwyth, heb lethu neb ac heb fynd yn ysgyrion eu hunain.

Yn y dyddiau hyn, dyddiau rhwng yr hen anibyniaeth tawel a'r gymdeithas gymhleth newydd, dyddiau rhwng yr hiraeth am yr hen wedi i'w ddiffygion fynd yn angof a'r newydd sydd eto heb ddadlennu ei fendithion, y mae'r meddwl yn agored i boen a phryder dau gyfnod llawn sy'n rhyfedd doddi i'w gilydd. Ni fu erioed gyfnod yn galw am gymaint o gryfder meddwl, o benderfyniad diysgog, o dawelwch yn wyneb siom a dioddef; ac nid rhyfedd fod llawer meddwl yn ymollwng dan y baich. "Na'ch sigler yn fuan oddiwrth eich meddwl, ac na'ch cynhyrfer,"— ond pa help fedrir roddi i wneud hynny?

Yn ddiameu y mae'r byd pryderus yn troi at Dduw yn y dyddiau hyn, nid dyn yma a dyn acw, ond dynion yn dyrfaoedd ac yn genhedloedd. Nid dychweliad yr afradloniaid unig yw nodwedd yr oes, ond cymdeithas yn dwyseiddio ac yn troi ei hwyneb at Haul Cyfiawnder. Y mae cynnydd ein ffydd yn Nuw a chynnydd cariad pob un o honom oll tuag at ein gilydd yn hanfodol at ddeall a setlo y cwestiynau cymdeithasol sydd o'n blaenau, os nad ydym i syrthio i anhrefn a chasineb a llofruddiaeth y Chwyldroad Ffrengig neu'r Chwyldroad Rwsiaidd wrth geisio ymwthio trwy'r nos tua'r dydd. Un o arwyddion mwyaf gobeithiol yr oes yw ei pharodrwydd i aberthu dros eraill, a'r crefyddolder cynhyddol sy'n gwneud ei gwelediad yn glirach a'i chamrau'n fwy sicr. Dyma angor.

Yn y blynyddoedd pryderus diweddaf hyn, y mae'r hiraeth am y mynydd a'r môr wedi bod yn gryfach nag erioed, ac y mae'r ymgynnull iddynt yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd. Fel y mae anghenion y cartref a phroblemau cymdeithas yn dod yn fwy gwasgedig a dyrys, y mae eangderau tawel y mynydd a'r môr yn dod yn fwy croesawgar. Dyna le i ddianc o bryder; dyna le i wella wedi briw. Sudda'r tawelwch yn gryfder i'r enaid, y mae'r awel oddiar y grug melys neu'r môr heli fel anadl einioes. A phan ffarwelir â'r mynydd, a throi'n ol i'r dref boblog, i'r fasnach ansicr ac i'r byd cynhyrfus, erys golygfeydd y mynydd yn y meddwl, gellir dianc iddynt mewn atgof pan fo'r amgylchiadau'n gwasgu a'r pryder yn llethu. Teimlir drachefn yr awel oddiar y gwaendiroedd neu oddiar y môr, a meddyginiaeth ar ei hesgyll; gwelir drachefn y copâu, y nefoedd, a'r cefnfor a'u tragwyddol heolydd. A theimla dyn na fedr neb gyfyngu ei feddwl, sylweddola ei ryddid, a cha'r cryfder enaid a'i ceidw yn ddiysgog lle gynt yr ofnai gynhyrfiadau dydd ac awr. Y mae gwlad fynyddig yn Eryri y mae llai o gyrchu iddi, hwyrach, nag i'r Wyddfa ar un ochr ac nag i Garnedd Dafydd a Charnedd Llywelyn ar yr ochr arall. Rhyngddi a'r Wyddfa y mae dyffryn cul Llanberis a llynnoedd Peris a Phadarn; rhyngddi a'r ddwy Garnedd y mae'r dyffryn rhamantus arall dorrodd yr Ogwen yn ffordd iddi ei hun, a Bethesda ar ei glan; a rhyngddi a Moel Siabod i'r dwyrain y mae Nant y Gwrhyd a Llyn Mymbyr. O fewn y cymoedd hyn y mae tyrfa ardderchog o fynyddoedd yn sefyll yn gadarn ac urddasol. O'r Fronllwyd tua'r de ddwyrain ceir hwy, Carnedd y Filiast a'r ddwy Elidir, y Foel Goch a'r Garn a'r ddwy Glyder,—beth yn is na'u cymdogion o bobtu mewn troedfeddi, ond yn codi i'r cymylau mor frenhinol a hwythau, neu'n gorwedd mor fawreddog ar ddyddiau digwmwl y tes. I'r mynyddoedd hyn deuthum, bererin egwan dan ei bwn, ddechre Gorffennaf eleni. Disgynnodd tawelwch Llanberis garedig a chroesawgar ar fy ysbryd blin a lluddedig, suodd sŵn hyfryd ei rhaeadrau fi i gysgu, a gwahoddodd ei mynyddoedd fi i fyny fry i dawelwch tangnefeddus yr uchelderau. Dros bedwar ugain mlynedd yn ol daeth Clwydfardd drwy'r fro, clywodd y rhaeadrau, ac ebai ef,—

"Rheieidr ar reisidr, dyruant,—a'u sŵn
Adseinia trwy'r wylltnant ;
Cynnwrf sydd yn mhob ceunant;
Bron na ffy pob bryn a phant.


Trystiaw a ffriaw'n dra ffroch—a chwyrnu
Wna'i chornant uchelgroch;
Twrw o hagrgri tra egr—groch;
Twrw'n y graig fel taran groch."

Digiodd Gutyn Peris wrth Glwydfardd am ddynwared sŵn rhaeadrau ei fro mor gras a hyn a rhoddodd su yn lle rhoch iddynt,—

"Un rhaiadr mawr sydd yn rhuo—o fewn
Y faenol gled honno;
A naws awel yn sio
Mewn ffrydiau hyd fryniau'r íro.

"A sain a styb eu si,—ar elltydd
Y mynydd o'r meini;
Ail cydgor yn perori,
Sain creigiau a lleisiau tti."

Ar fy nghlyw diamynedd i, graddol drodd yr hagrgri egr—groch yn naws awel yn sio. A chlywaf fas dwndwr y dyfroedd a brefiadau'r defaid mewn atgof, yn hyfryd foddi lleisiau llafur a rhyfel, hyd yr awr hon.

Cerddais i ddechre hyd odre'r mynyddoedd, i dalu'm gwarogaeth iddynt. Cerddais dros Fryn'r Efail at lan y Galedffrwd loyw, a dilynais hi heibio i Glwt y Bont ac Ebenezer hyd y gwaendir mynyddig maith sy'n mynd uwchlaw Llyn y Mynydd, ac yna i Fethesda. Ffrwd fwyn yw Caled ffrwd; ac er na welais hi erioed o'r blaen, yr oedd blodau ei glannau ac enwau ei chartrefi yn ei gwneud mor hoff i mi ag afonydd Dyfrdwy. Gwlad ryfedd yw y wlad, gwlad o greigiau a blodau, gwlad a'r mynyddoedd a'r môr yn gwahodd ac yn denu, gwlad o dai bychain a chapelydd mawrion, gwlad o ffermydd nad ydynt ond ychydig gaeau rhwng talpiau craig, a gwlad yn dibynnu ar un chwarel anferthol. Synnwn fod ardaloedd mor enwog mor agos i'w gilydd; ac ni chlywn enw ardal na ddeuai a rhyw fardd neu bregethwr i'm meddwl, llawer o honynt yn gyd-efrydwyr a mi flynyddau meithion yn ol, ac wedi llenwi gobeithion maboed i'r ymylon. Ac wrth edrych ar y wlad, nid rhyfedd ei bod yn fagwrfai athrylith. Wrth deithio i fyny at Ebenezer ymwasgai'r tai yn fwy at ei gilydd, nes bod yn bentrefydd. Yr oedd y tai yn lân fel yr aur. Ond ar ddiwrnod poeth, yr oedd y ffenestri i gyd yng nghau. Gofynnais i chwarelwr mwyn beth oedd y rheswm am hyn, ac atebodd gyda direidi yng nghil ei lygad," Y mae llawer iawn o bobol ddieithr yn dod ffordd hyn, welwch chwi, rhaid i ni fod yn bur ofalus beth a wnawn a'n ffenestri."

Wedi esgyn o'r caeau i'r mynydd yr oedd y gog yn canu dros y wlad, er ei bod wedi cilio o'r ardaloedd eraill. Hyfryd iawn oedd y gweunydd unig, eu byrwellt a'u gruglys. A mwyn oedd y golygfeydd ymagorai o'm blaen, hafnau mynyddig y Marchlynnoedd, porfeydd defaid maith Cwm Llafar ac Afon Caseg, a'r môr yn disgleirio ar Draeth y Lafan, yn ol fel y trown fy ngolwg. Yn lle disgyn yn ol yr un ffordd cerddais hyd lethr y bryniau, gan gadw ar ochrau Elidir. Odditanaf yr oedd gwlad lawn o bobl, a phawb wrthi yn y caeau gwair. Ar y ffordd, oedd fel rhodfa ffasiynol, yr oedd lluoedd o chwarelwyr a'u teuluoedd ym min hyfryd yr hwyr, yn gwylio ac yn beirniadu y cweirwyr gwair odditanynt. Cerddais trwy Waen Gynfi, hyd y ffordd uchel ac i Ddinorwig. Erbyn hyn yr oedd yn dechre nosi, ac arogl hyfryd y gwair yn llenwi'r awel hwyrol falmaidd. Troais yn ol i edrych ar lethrau Elidir, a thybiais na welswn erioed fynyddoedd mor dal, mor serth, mor ddieithriol, ac mor frawychus. Ac eto, yr oeddynt hwythau yn gwahodd,-"Tyrd i fyny yma, y mae awel eto sy'n fwy adfywiol na'r un deimlaist ti, a nef fwy gorffwysol." Ond i lawr yr oedd fy llwybr, drwy goedwig a chwarel; ac mewn myfyrdod a breuddwyd y dringais yr Elidir ac y chwiliais am Arthur.

Erbyn dechre Hydref y mae'r rhai fu'n ceisio gorffwys ar fynydd a môr wedi troi adref at eu gwaith. Cawsant fwy na gorffwys oddiwrth ludded; cawsant ysbrydoliaeth at y dyfodol. Byddant yn gryfach, yn fwy ffyddiog, ac yn well. Medrem wneud ar lai o chwareudai ac arlundai, a gwnawn ar lai o dafarnau a gwallgofdai, pe rhoddid modd i bawb ddod i gymundeb a'r mynydd. Teimlai'r gwan orfoledd iechyd, teimlai'r pryderus gryfder ffydd, teimlai'r trwmlwythog nerth cawr, teimlai'r diobaith mor lawn yw bywyd, wrth ffarwelio a'r

mynyddoedd.

PRIFYSGOL Y GWEITHWYR

NID yw yr amser wedi dod eto i ysgrifennu hanes sefydlu Prifysgol Cymru. Pan ddaw, ceir goleu diddorol ar ymdrechion llawer un dros addysg ein gwlad, megis Gladstone a Iarll Rosebery, ac yn enwedig Arthur D. Acland a Thomas E. Ellis.

Nid oedd y Brifysgol, yn y ffurf roddwyd iddi, wrth fodd pawb; yr oedd llawer o'r Cymry mwyaf cenedlgarol yn dymuno i'w chylch fod yn eangach, a'i hysbryd mewn cyffyrddiad amlach ac agosach â'r werin. Erbyn hyn y mae'n hyfryd meddwl fod y Brifysgol yn hollol genedlaethol, ni all neb ddweyd fod lliw plaid na sect arni, ac y mae'r amrywiaeth sy'n hanfodol i Brifysgol yn ei bywyd. Ond ni phroffwydid hyn gan bawb ar y dechre, a mynnent sicrhau o fewn cylch ei bywyd agweddau ar addysg ystyrient hwy yn rhan o fod Prifysgol berffaith.

Erbyn hyn y mae'n bosibl ymdrin â'r agweddau hynny heb beri tramgwydd i neb. Ac eithaf peth fyddai rhoi grym defnyddiol a pharhaol i ambell ddathlu gwyl Dewi trwy ymdrin â hwy yn yr ysbryd brawdol caredig sy'n nodweddu'r dydd hwn. Galwaf sylw fy nghydwladwyr at un agwedd arbennig, ac at un yn unig.

Beth yw'r berthynas rhwng Prifysgol Cymru â gweithwyr Cymru? Addef pawb fod y Brifysgol yn brifysgol y werin; er, hyd yn hyn, mai prin yw'r ddarpariaeth at gynorthwyo plant ysgol i ddringo iddi. Ond, a yw ei bendithion yng nghyrraedd y gweithwyr? Gwir y gall mab y gweithiwr fynd i'r Brifysgol, os medr ei dad gynhilo digon, ac os bydd yntau yn ddigon ffodus i ennill rhai o'r ysgoloriaethau prin. Ond beth am y gweithiwr ei hun, ac am ei feibion a'i ferched sydd gartref, oll yn dibynnu ar lafur oriau eu dydd? A yw addysg prifysgol o'u cyrraedd hwy?

Pan benderfynwyd ar ffurf Prifysgol Cymru, nid oedd, mewn gwirionedd, ond un cynllun derbyniol. Yr oedd colegau mewn bod yn barod, ac nid oedd dim yn bosibl ond corffori y rhai hynny'n brifysgol. A dyna wnawd. Ond yr oedd delw o brifysgol bur wahanol ym meddwl rhai o addysgwyr craffaf Cymru. Nid oedd i hon adeilad, na lle canolog. Yr oedd ei dosbarthiadau i fod ymhob tref a phentref a chwm drwy Gymru i gyd. Yr oedd ei darlithiau a'i dosbarthiadau i fod yn oriau egwyl y gweithiwr. Pe felly, a phe safasai cyfaill o Sais gyda Chymro ar ben y Wyddfa neu Bumlumon neu Fannau Brycheiniog, a phe gofynasai i ba gyfeiriad yr oedd Prifysgol Cymru, gallasai'r Cymro gyfeirio ei lygaid at bob cwm a dyffryn a dweyd,— Wele, y mae pabell Prifysgol Cymru ym mhob un o'r llennyrch a welwch o amgylch godre'r mynyddoedd hyn."

Yr oedd prifysgol felly yn rhy newydd yr adeg honno. Cenedl fyw egniol, lawn dychymyg a chywreinrwydd, yw cenedl y Cymry. Ond, er ei holl frwdfrydedd, cenedl ofnus iawn ydyw pan yn meddwl am roi cam ymlaen. Gŵyr y gall arwain cenhedloedd eraill; ond ei hen arfer llwfr yw chwilio am lwybrau wedi eu troedio'n barod, a chwilio'n aml am arweinwyr dieithr i'w thywys hyd-ddynt. Lle mae'r llwybrau NEWYDDION dorraist, rhai y gallai cenhedloedd eraill dy ddilyn yn hyfryd, fy nghened hoff? A oes gennyt ychwaneg na'r Ysgol Sul, y Cyfarfod Llenyddol, a'r Eisteddfod? Ac a yw hen lwybrau cenhedloedd eraill mor swynol fel na fynni dorri llwybrau i ti dy hun? Ai dilyn fynni, lle y rhoddodd Duw i ti athrylith i arwain?

Erbyn hyn y mae prifysgol i'r gweithwyr yn prysur dyfu, megis canghennau i Brifysgol Cymru. Y mae math ar undeb wedi ei ffurfio rhwng gweithwyr Cymru a cholegau'r Brifysgol. Y gwŷr a wnaeth yr undeb hwn yw gwŷr ieuainc gododd o fysg gweithwyr Cymru, ac sydd yn awr yn raddedigion y Brifysgol neu yn athrawon ynddi. Cyferfydd dosbarthiadau o wŷr ieuainc a merched ieuainc meddylgar a darllengar Cymru, wedi eu horiau gwaith, a daw athro atynt o'r Brifysgol, i roi iddynt ddarlith am awr, ac yna i arwain ymdrafodaeth am awr arall. Yn Lloegr y cychwynnodd y symudiad, ond yng Nghymru, neu o leiaf gan Gymro, y gwelwyd ei werth gyntaf, ac yng Nghymru y mae'r rhagolygon mwyaf addawol iddo. Nid yw wedi cael enw Cymraeg eto; y mae'r enw Saesneg, sef "Workers' Educational Association," yn rhy hir ac afrosgo, ac ni cheir ynddo lais i'r berthynas rhwng y gweithwyr a'r Brifysgol, sef y berthynas sy'n nodweddiadol o'r mudiad. Yr wyf wedi meiddio ei fedyddio yn Brifysgol y Gweithwyr."

"A fedr gweithwyr cyffredin, ar ol oriau blin eu llafur, wneud gwaith efrydwyr prifysgol? Gallant, y maent yn ei wneud, ac yn gwneud gwaith, mewn llawer man, sy'n deilwng o anrhydedd prifysgol. Mae rhai o'r dosbarthiadau hyn o amgylch y Wyddfa, —yn Llanberis, a Phen y Groes, a Bethesda, a Blaenau Ffestiniog. Mae rhai eraill yng nghanolbarth Cymru, yn Abermaw a Thowyn ac Aber— ystwyth, yn Abergynolwyn ac Aberllefeni. Ceir rhai ym Morgannwg, yn yr hen Lanilltyd Fawr a Phenybont ar Ogwr, yn y Barri a Chaerdydd, yn Abertridwr a Phenrhiwceibr,—ar y Fro ac yn y Bryniau. Ceir hwy yng Ngwent,—yn Abertileri a Bedwas, yn Rhymni a Bedwellty, yn y Coed Duon a Mynydd Islwyn.

Nid yw hyn ond dechre. Daw yr amser pan fydd dosbarth ymhob pentref. Bydd nifer o bobl ieuainc, rhai wedi gadael yr ysgol ac yn gwneud gwaith eu bywyd, yn cyfarfod ei gilydd, nid i wag ymblesera trwy edrych ar ddarluniau hud sy'n dinistrio eu chwaeth ac yn gwneud eu meddwl yn llibyn, ond i awchu min eu meddwl, ac i gael y pleser rhyfeddol geir wrth godi i fryniau uwch a gweled cyfandiroedd newydd ymherodraeth eu meddwl. A phan geir gwlad â'i phobl ieuainc wedi eu disgyblu fel hyn, pa wlad mor hapus a hi? Pob clod i'r rhai ddarparodd "ysgol" i'r ieuanc athrylithgar ddringo, er mai dringo oddiwrth ei wlad a'i werin wna yn ddigon aml. Ond dyma ddarpariaeth ar gyfer y rhai sy'n aros yn eu hardaloedd; a thrwyddi hi caiff yr ardaloedd hynny arweinwyr meddylgar a diogel. Byddai gynt, drwy bob rhan o Gymru, dywysogion fedrai ymhyfrydu yn arddull gain a swyn dieithr y Mabinogion. A bydd uchelwyr meddwl Cymru, blodau ei gweithwyr, arweinwyr ei bywyd ymhob cwm prydferth a thref boblog ynddi, wedi eu trwytho âg ysbryd eang, addfwyn, a gostyngedig y wir brifysgol. Ac eiddynt hwy fydd y gallu, a gwyn fyd Cymru pan ddeuant, heb sŵn utgorn na thabwrdd, i'w hetifeddiaeth.

Yn y dosbarthiadau hyn ceir rhai o nodweddion goreu y brifysgol berffaith.

i.—Cânt chwilio am wybodaeth er ei fwyn ei hun. Nid oes sôn am arholiad, ond un wirfoddol. Y mae cydymgais yn siwr; ond cydymgais ydyw am y mynediad helaethaf i mewn i deyrnas y meddwl, ac ni siomir neb. Ni raid wrth arholiad i brofi, mae prawf eglur yn yr ymarweddiad prydferthach, yn y meddylgarwch mwy hoffus, yn y defnyddioldeb mwy.

ii.—Cânt ddewis y pwnc sy'n cyfateb i angen eu meddwl a'u hardal. Hyd yn hyn hanes ac athroniaeth hanes ddewisir bron yn ddieithriad; ond nid yr hen hanes politicaidd sych am frenhinoedd a rhyfeloedd, eithr hanes datblygiad distaw y werin amyneddgar dirion dan arweiniad amlwg llaw rhagluniaeth. Nid oes faes trwy eang gylch gwybodaeth sydd mor swynol i werinwr; mae digon o le ynddo i'w gywreinrwydd a'i ddychymyg. A gwel ei fywyd ei hun ymhob cam

iii.—Cânt ddull cyfrannu addysg prifysgol ar ei pherffeithiaf. Dau ddatblygiad perffeithiaf addysg yw Ysgol Sul Cymru, lle mae'r efrydydd yn ddisgybl ac yn athro bob yn ail, ac weithiau y ddau ar unwaith; a chyfundrefn athrawol (tutorial system) Rhydychen a Chaergrawnt, lle mae'r disgybl mewn cysylltiad personol agos a pharhaus â'i athro. Y mae'r gyntaf yn bosibl oherwydd ymroddiad cenedl o bobl i ddysgu ei gilydd; y mae'r ail yn bosibl oherwydd fod i'r prifysgolion waddoliadau mawr, a thraddodiadau mil o flynyddoedd. Nis gallaf eu hesbonio yn awr, gwnaf hynny eto. Ond dywedaf hyn, y mae'r dosbarthiadau yr wyf yn sôn am danynt yn meddu nodweddion y brifysgol berffaith. Bydd Prifysgol y Gweithwyr, yng nghyflawnder yr amser, yn brifysgol berffeithiaf sy'n bod at anghenion gwerin gwlad.

Y peth rhyfeddaf i ni yw fod mor ychydig yn gwybod am y dosbarthiadau yr wyf yn sôn am danynt, a bod llai fyth yn gweled eangder a

phwysigrwydd y dyfodol sydd iddynt.

LLWYBRAU NEWYDD

RHYW dro yr oedd y diweddar Arglwydd Coleridge wedi dod i ymweled â Benjamin Jowett. Tra yn aros i'r gŵr dysgedig a doeth ddod i mewn, cyfeiriodd rhyw ferch ieuanc oedd yn y cwmni at ei weddi dyddiol, sef ar iddo gael ei gadw rhag mynd yn geidwadol yn ei hen ddyddiau. Ac ebe Coleridge, mor ddifrifol a phe bai ar ganol rhoi ei ddyfarniad pwysfawr ar fainc y barnwr,— "Y mae llawer o weddiau fy nghyfaill wedi eu hateb, mae'n ddiameu. Ond ni atebwyd y weddi yna."

Mae'r un deddfau yn rheoli bach a mawr. Pan rewir y llynnoedd mawr, rhewir y llynnoedd bach. A gallwn ninnau, eiddilod, weddio gweddi Jowett, a heb ein hateb.

Yr wyf yn gweled fy nghydwladwyr yn cerdded llwybrau newydd bron bob dydd. Ac y mae rhai o'r llwybrau a'r mordeithiau yn ddieithr i ni, ac yn ddieithr, yn ol fy nhybiau a'm rhagfarnau, i natur y Cymro. Tybed fy mod i'n mynd yn geidwadol, ynte a wyf yn gweld eraill yn llusgo'u hangorion? Cymerwn drem ar bethau dibwys iawn, er mwyn i chwi fedru rhoddi goleuni imi ar fy llwybr.

Echdoe yr oeddwn yn teithio hyd y ffordd haearn i fyny i un o gymoedd glo Morgannwg. Yn yr un cerbyd â mi yr oedd gŵr ieuanc trwsiadus, gweithiwr mewn dillad gwyl, gyda wyneb glân hoffus,—un lonnodd lawer aelwyd fel plentyn ac fel priod, oherwydd dywedodd ei fod newydd briodi. Yr oedd ei ysgwrs yn athronyddol sosialaidd; siaradai fel un wedi arfer siarad a dadleu llawer yn gyhoeddus, a mynych y gofynnai a oeddwn yn gweld ei bwnc; soniai lawer am egwyddorion, ac yr oedd yn amlwg ei fod wedi darllen a meddwl. Ond yr oedd yn feddw. Nid oedd ei feddwdod eto yn fwystfilaidd nag yn gythreulig. Yr oedd y ddiod wedi effeithio mwy ar ei dafod nag ar ei gylla na'i feddwl. Ceisiai siarad, ond ai'n afrwyddach o hyd. Dylwn ychwanegu mai Cymro oedd, gwelir ei debig yn ein Hysgolion Sul yn athrawon ac yn arolygwyr. Siaradai Gymraeg y Fro, oedd yn brydferth hyd yn oed ar wefusau'r meddw.

Toc peidiodd a siarad, ond, a sigaret yn un law, mesurai ei dalcen yn barhaus â'i law arall, gan edrych yn awgrymiadol arnaf fi. Esboniwyd imi mai dangos fod fy nhalcen yn gul yr oedd, a'm henaid yn gul, oherwydd fy mod yn gwrthod gadael iddo ysmygu mewn cerbyd lle nad oedd gan neb hawl i ysmygu. A daeth cwestiwn i'm meddwl, a phoen a dychryn yn ddwy asgell iddo, —A yw rhyddhau'r meddwl oddiwrth yr hen anwybodaeth yn dwyn gydag ef ryddhau'r enaid oddiwrth hen dlysau hoff rhinwedd a moes a gweddusrwydd? Ai'r dafarn sy'n rhyddhau, a'r addoldy'n caethiwo, mewn gwlad werinol fel Cymru? A yw'r goleuni newydd i ddod yn nillad halog a budron yr hen bechodau alltudiwyd o fywyd Cymru drwy ymdrechion ei chymwynaswyr goreu?

Drannoeth yr oeddwn yn cyrraedd gwesty, gwesty dirwestol, yn un o gymoedd poblog Gwent, Yr oedd yno delynau a dawnsio. Yn y fynedfa yr oedd chwech neu saith o wyryfon ieuainc, glân o bryd a gwedd a chwaethus eu gwisg, oll yn ysmygu sigarennau, ac yn ceisio dangos i bawb eu bod yn gwneud hynny. Tybient fod hyn yn brawf eu bod yn ddewr ac yn anibynnol, ac wedi dianc o hen gaethiwed syniadau cul. Nid wyf yn dweyd fod ysmygu yn beth hyllach ar ferch nag ar ddyn; yr hyn deimlaf yw ei fod yn beth hyll ym mhawb, —yn arferiad wastraffus, afiach, a budr. Nid hoedenod penwan, deallais, oedd y rhai hyn, ond merched digon deallgar a darllengar. Ac yr oeddynt am ddangos eu bod ar lwybrau newydd y meddwl drwy daflu oddiwrthynt bob yswildod gwyryfol a phob parch i deimlad rhai a barchant, ond a ystyriant yn gul.

Oni ellir dysgu'n pobl ieuainc i gerdded y llwybrau newydd gyda'r hen osgo brydferth a llednais? Oni ellir awchu'r meddwl, eangu'r cydymdeimlad, grymuso'r enaid heb wanhau moes ac heb amharu chwaeth? Gellir, onite nid yw'r awchu meddwl ond dynwarediad difin, nid yw'r eangu'r cydymdeimlad ond llacrwydd gwan, ac nid yw herio'r hen chwaeth ond gwaith gwendid penchwiban yn ffugio cerdded fel nerth urddasol.

Ond rhaid i genedl y Cymry ddeffro ac ymegnio, er mwyn achub ei phlant.

Un ddyletswydd amlwg yw ail godi'r Ysgol Sul i fod yn sefydliad addysgol penna'r genedl. Danghosodd Cynhadledd Zurich, yn yr haf diweddaf, fod cenhedloedd effro eraill yn ymegnio i godi'r Ysgol Sul i fri a dylanwad[4] Gwneir hyn yn enwedig yng Nghanada effro, lle mae pob llwybr yn newydd, ac yn yr Unol Dalaethau cyfoethog. Ond ceir yr ysgol hon yn hen ardaloedd y saith eglwys, ym Madagasgar a gwlad y Bechuana, yn Samoa a Fiji, a gostyngodd ymherawdwr Japan ei faner iddi. Yn hon ceir cerdded y llwybrau newydd mewn prydferthwch yn gystal ag mewn nerth.

Y mae sefydliadau addysg eraill, a'r rhai perffeithiaf eu dull yn debig i'r Ysgol Sul. Cefais gyfle i enwi un, ond y mae arnaf ofn na ddanghosais yn ddigon clir beth oeddwn yn feddwl. Tybiodd llawer, yn ddiau, wrth ddarllen fy llith ar Brifysgol y Gweithwyr, yn y bennod ddiweddaf, mai breuddwyd oedd fy neges. Ond nid breuddwyd heb ei sylweddoli yw, eithr ffaith. Y mae amryw athrawon ieuainc, yn barod, yn rhoi eu holl amser i'r gwaith; y maent wedi cael addysg sy'n eu cyfaddasu at y gorchwyl, y mae rhai ohonynt wedi cael y graddau mwyaf anrhydeddus fedr y prifysgolion roi. A gwell na hynny, y maent yn ddynion profiadol, wedi bod yn weithwyr a chynllunwyr eu hunain, yn chwarelwyr, yn lowyr, yn amaethwyr. Y mae eu calon yn eu gwaith, gallasent gael lleoedd llawer gwell a chyflogau llawer uwch; ond teimlant bwysigrwydd eu gwaith yn hytrach na'u hawl i gydnabyddiaeth deilwng. I gyfarfod y rhai hyn, daw bechgyn a merched ieuainc, oddiwrth waith y dydd, yn awyddus am wybodaeth. Pe gwelech hwy, a phe clywech hwy, teimlech yn hapus wrth gofio mai yr eiddynt hwy yw dyfodol Cymru.

DIFENWI CENEDL

"YR HWN, pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn." Dyna ran o un o'r darluniadau rhyfeddaf o gymeriad perffaith yn llenyddiaeth y byd. Cymeriad fel hwn fedd y grym i wneud gwyrthiau dros genedl a thros ddynol ryw. A chymeriad fel hwn fedd y llareidd-dra, y boneddigeiddrwydd, y swyn sy'n sicr, yn hwyr neu'n hwyrach, o ennill parch.

Y mae o fy mlaen lythyr oddiwrth Gymro gwladgarol, yn gofyn i mi am gymorth i wrthdystio yn erbyn y sarhad deflir yn aml ar enw'r Cymro ac ar gymeriad ei genedl. Er esiampl, geilw'r Saeson ni yn Welsh, sef "pobl ddieithr." Oni ddylent ein galw ar yr enw roddasom arnom ein hunain, sef yr enw anwyl ac anrhydeddus Cymry? Onid ni yw hen yd y wlad, a hwythau yn ddyfodiaid megis doe? Onid gennym ni y mae y llenyddiaeth hynaf, a datblygiad puraf a chyfoethocaf? Onid rhai bonheddig ydym, yn byw yn ein cartref ein hunain? A pha hawl sydd gan drawsfeddianwyr i athrodi y rhai ysbeiliasant, ychwanegu difenwi at ladrata, a galw hen feddianwyr y wlad yn "ddieithriaid " ynddi? Oni chodir a chrochfloeddio gwrthdystiad?

Mae llais melys iawn yn dod o gynnwrf yr hen oesau,—"Pan ddifenwyd, ni ddifenwodd drachefn." A yw'r gwladgarwr a'r boneddwr a'r Cristion yr un? Os felly, erys yr enaid yn dawel; ac ni chaiff y difenwr ei ddifenwi'n ol.

Wrth wrthdystio yn erbyn difenwi ei genedl, ni wna'r gwladgarwr gorselog ond galw sylw at y celwydd athrodus, yn lle gadael iddo farw; wrth amddiffyn ennyn sel mewn rhai eraill i'w wrthwynebu. Gall llew urddasol gerdded yn hamddenol trwy dyrfa o glepgwn fydd yn cyfarth ac yn chwyrnu o'i gwmpas. Gall cenedl hen ac anrhydeddus beidio talu sylw i fân athrodwyr diweddar ac i hen gelwyddau penwyn; os dechreua eu hateb, cyll ei hurddas hyd yn oed wrth lwyddo. Ychydig yn ol cyhoeddodd rhywun lyfr i athrodi cenedl y Cymry; cododd bob hen sarhad a dyfeisiodd rai newydd. Beth wnaeth y Cymry ynfyd ond brochi, a difenwi'r llyfr, a'i ateb. Trwy hynny cafodd y llyfr gylchrediad eang, cafodd ei gelwyddau edyn, a chafodd ei awdwr elw. Cyhoeddwyd llyfr tebig am yr Albanwr. Ond anhebig iawn fu ei dynged. Ni wnaeth Sandy sylw yn y byd ohono; os gwnaeth, cofiodd am frwydr Bannockburn ac am y gwŷr mawr anfonir o'i wlad i reoli rhannau eraill yr ymherodraeth, ac ni ddywedodd ddim.

Ni ddifenwyd mwy ar neb nag ar yr Iddewon, ni ddioddefodd neb yn fwy amyneddgar, ac ni lwyddodd neb yn fwy. Gofynnais laweroedd o weithiau i blant bach Iddewig pam y darllennant ddramodau Shakespeare a nofelau Dickens, a hwythau mor annheg at yr Iddewon. "Ni wyddent hwy well." Mae y plant ymysg yr Iddewon yn gwybod am urddas a mawredd eu cenedl; a phan ddifenwir hi, teimlant nad yw hi ddim gwaeth.

Ai cyngor dyn llwfr wyf yn ei roddi? Sut y gall cenedl falch, o dymer boethlyd, oddef yn ddistaw pan ddifenwer hi? Sut y medr ffrwyno ei hegni? Ni raid iddi wneud hynny. Bydded ei holl egni ar wneud daioni, a sieryd ei bywyd drosto ei hun. Tra yr wyf yn ysgrifennu y mae dau Gymro mawr newydd huno, a'r bedd eto heb gau arnynt. Yn eu bywyd buont wylaidd a diymhongar, gadawent i'w clod fynd i eraill; ond daw amser y dadorchuddir eu mawredd ac y gwelir gogoniant eu gwaith. Pan roddid y clod i eraill am ddarganfod pellebriad diwifrau, yr oedd Syr William Preece yn hen ŵr yn Arfon yn llawenhau wrth weled perffeithiad ei waith ef, fel y collodd tymhestloedd y môr lawer o'u dychryn. Pan ddarganfyddodd y gŵr o sir Fynwy, Alfred Russell Wallace, ddeddf datblygiad, helpodd eraill i brofi mai Darwin a'i darganfyddodd gyntaf. Ond myn hanes roi y ddau gawr hyn yn eu lle. Yr hyn wnaeth y rhain, gwnaed eu cenedl. A phan ddifenwer hi, bydded ei hateb yn ddistawrwydd urddasol. Y mae iddi esiampl, "Eithr rhoddodd ar y neb

sydd yn barnu yn gyfiawn."

Y MYNYDDOEDD HYFRYD

"DRW bach, come!"

Llais tenor soniarus oedd, ar odre Pumlumon, yn galw'r gwartheg i'r fuches i'w godro, ar nawn hyfryd o haf.

Yr oeddwn wedi cychwyn o Lanidloes ganol dydd, ac wedi troi fy wyneb i'r gorllewin, at y mynyddoedd hyfryd sy'n llu mawr megis yn edrych i lawr ar y dref fechan lân a phrydferth honno. Croeswch y Bont Fer neu'r Bont Hir dros Hafren loyw risialaidd, a chewch ddewis goludog o fryniau i'w dringo neu ddyffrynnoedd i'w teithio. Mae Clywedog a Hafren a Brochan yn ein gwahodd atynt, pob un yn ei llais ei hun; a medr pob un eich arwain heibio i lecynnau swynol o dlws, a heibio i lawer cartref sy'n hynod yn hanes neu yn llenyddiaeth Cymru.

Neu gellwch godi uwchlaw'r afonydd, a dechre dringo'r gelltydd ar unwaith. Y mae eangderau o fynyddoedd o'ch blaen, yn codi yma ac acw yn drumau ag enwau hanesiol arnynt, hyd nes y cyrhaeddwch Bumlumon ei hun. Dewisais i ddringo gallt, er ei bod yn un o ddyddiau poethaf yr haf diweddaf. Wedi cerdded yn araf, ac aros beunydd i syllu ar ddyffryn Hafren islaw, ac ar y Pegwn Mawr yn codi o fysg mynyddoedd Maesyfed yr ochr arall, o'r diwedd cyrhaeddais ben y bryniau. Nis gwn am well enw arnynt na'r mynyddoedd hyfryd. Dros y rhosydd gweiriog a'r gweunydd porfa crwydrai awel ysgafndroed o eangderau Pumlumon draw. Awel haf oedd, wedi ei deffro rywsut ar unigeddau'r môr; crwydrodd oddiyno i fyny hyd lethrau'r mynyddoedd, ac wedi ymdroi peth yn uchelderau hyfryd oerion Pumlumon, ehedodd i lawr, a iechyd y mynydd yn ei hanadl, i'm cyfarfod innau. Yr oedd wedi chware â'r corn carw ac â mantell Fair ar y mynydd, ac yn awr llenwai enau blodau'r dyffryn â chwerthin. Tra'n teimlo'r awel leddf esmwyth yn anadlu'n dyner ar fy wyneb, a thra'n syllu ar y dyrfa o fryniau a bronnydd hawddgar oedd o'm blaen, y clywais lais y cowmon yn galw ar nifer o wartheg duon i adael eu porfa. Mwyn iawn oedd y llais, a rywsut mynnai'r geiriau aros yn fy nghlustiau.

Tri gair yn unig ddywedwyd wrth y gwartheg, ond yr oeddynt mewn tair iaith. Ac yr oedd y tair iaith hynny yn ieithoedd tair cenedl ddaeth ar ol ei gilydd, fel tonnau'r môr, dros y mynyddoedd hyn. Gair yn perthyn i iaith goll yw'r gair drw. Yr oedd yma bobl unwaith, meddir, a'u henw ar wartheg oedd drw; cadwyd y gair hwnnw, fel pe tybid fod gwartheg y cynfrodorion yn ei ddeall yn well, yn iaith y genedl newydd ddaeth i feddiannu'r wlad. Yr enw rydd haneswyr ar y bobl y mae eu hiaith wedi ei cholli bron i gyd yw Iberiaid. Daeth Celtiaid ar eu holau, rhyfelwyr tal croenlan a llygad las, cryfach helwyr na'r Iberiaid llygatddu gadwai'r gwartheg. Cymerodd eu hiaith feddiant o'r broydd hyn; yn eu hiaith hwy yr enwir pob mynydd & dyffryn o fewn ein golwg. A gair o'u hiaith hwy, "bach," ddefnyddiai'r amaethwr fel gair o anwyldeb gyda'r hen enw Iberaidd. Ar ol y Celtiaid Brythonig daeth perthynasau iddynt, cenhedloedd Teutonaidd, ac o'u hiaith Seisnig hwy y daw gair olaf y llais.—"come."

Tybiai rhai fod cenedl yn diflannu gyda iaith. Ond nid felly y mae. Nid oes odid air o iaith yr Iberiaid yn aros, ond eu gwaed hwy sydd lawnaf ym mywyd y genedl. Y mae iaith y Celtiaid wedi marw ar y mynyddoedd sydd ar ein cyfer ym Maesyfed, er nad oes ardaloedd yng Nghymru a'u henwau lleoedd mor Gymreigaidd; ond ni newidiwyd gwaed y bobl. Cymry ydynt o hyd, eto'n arfer ambell air Cymraeg a llawer priodddull Cymreig, fel yr arfer Cymro ambell air a phriod-ddull Iberaidd. Y mae ardaloedd Llanidloes wedi bod yn graddol newid eu hiaith; ond y mae ysbryd crefydd a diwylliant ac addysg yn awr yn galw'r hen iaith yn ol. Mewn un cwm Seisnigaidd cyfarfum â thyrfa o blant yn chware. Wrth i mi eu cyfarch yn Gymraeg, siaradasant yr iaith honno'n fwyn a llithrig; yr oedd bardd wedi ei dysgu iddynt yn eu haddoldy. Bu Llanidloes yn Gymreig ac yn Seisnig droion. Ewch i'r fynwent islaw, neu chwiliwch lyfrau ei chofnodion, a chewch fod llu o weithwyr Seisnig wedi dod iddi pan y troai'r Hafren olwynion y melinau gwlan. Ond daethant hwy'n Gymry, a llawer ohonynt yn Gymry uniaith. Gall cenedl amryfal iawn siarad yr un iaith, gall cenedl bur iawn newid ei hiaith. Ni ddengys iaith hanfod cenedl. Mae rhyw awydd crwydro diorffwys ar genhedloedd. Dychymyg, newyn, anrhaith, tywydd heulog, crefydd, erlid, ysbryd rhyddid, aur,—llawer peth sy'n denu neu'n gyrru cenhedloedd i grwydro. Y mae cyfeiriad i'w crwydro er hynny, o ogledd- ddwyrain i dde-orllewin; mor sicr a bod greddf yn rhoi llwybr i grwydriadau gwenoliaid. Y mae crwydro parhaus ym mhob ardal hefyd. Yr wyf fi yn byw mewn ardal fynyddig iawn, lle fel pe wedi ei gwneud i fod yn ben gyrfa pob crwydryn. Daeth hynafiaethydd dysgedig yma rai blynyddoedd yn ol, i fesur penglogau'r bobl; er mwyn cymharu pennau cyn-drigolion ein hynys, canys tybiai ef mai disgynyddion y rhai hynny oeddym, phennau cenhedloedd diweddarach. Ond gwyddwn i mai hollol ofer oedd ei lafur, oherwydd dyfodiaid o fewn cof hanes yw pawb; ddau can mlynedd yn ol nid oedd yr un o'r teuluoedd y mesurodd ef eu pennau wedi dod yma i fyw.

Os oes awydd crwydro ar rai cenhedloedd, y mae awydd aros yn eu hunfan ar eraill. Nid yw cenhedloedd crwydr yn gwthio eraill o'u blaenau, fel y dywed rhai sydd yn tybio y diflanna cenedl gyda'i hiaith. Peth anodd iawn yw symud rhai sydd wedi penderfynu na symudant ddim. Medrai y dyfodiaid eu meistroli a'u caethiwo, ond ni fedrent eu difodi. Heblaw hynny, yr oedd yn rhaid iddynt wrthynt. Mae'r bobl ddywed "drw," a'r bobl ddywed "bach," a'r bobl ddywed "come," wedi ymgymysgu ar y mynyddoedd yn un genedl; ac y mae rhai eraill yn crwydro yma o hyd.

Pa un ai'r cenhedloedd sy'n llawn awydd crwydro, ynte'r cenhedloedd sy'n llawn awydd aros, yw'r cenhedloedd cryfaf a goreu? Pa un ai ysbryd anturus ynte ysbryd penderfynol yw'r cryfaf? Y mae hiraeth angerddol am gartref mewn rhai cenhedloedd. Gallech feddwl na hoffai neb fyw yn "Greenland oer fynyddig," lle na thyf coeden, lle mae'r nos hir ddidor yn ddigon i ddwyn gwallgofrwydd ar deithwyr ddelir ganddi, lle mae eira tawdd yr haf bron mor erwin ag eira rhewllyd y

gaeaf. Ond pan ddygwyd dau Esquimaux i feysydd

hyfryd Denmark, taflasant eu hunain i'r môr, gan feddwl am feiddio ei holl stormydd, a chyda sicrwydd y suddent cyn i'w hegnion egwan fynd a hwy fawr i gyfeiriad y wlad oer bell oedd mor anwyl iddynt hwy. Dywedir y bydd rhai o forwyr Llydaw, y cryfaf a'r dewraf yn llynges Ffrainc, yn marw o hiraeth pur.

Ai'r cryf a'r anturus sy'n crwydro; ai'r gwan a'r ofnus sy'n aros gartre? Y mae Tennyson, ym melodi dwys a phrudd ei odlau, yn ymgorfforiad o ysbryd gorffwys; y mae Carlyle, yng ngrym ystormus ei arddull arw, yn ymgorfforiad o ysbryd crwydro. Y mae'r cyntaf fel pe'n analluog i symud o froydd hud Dolgellau neu Gaerlleon ar Wysg, a'r olaf fel pe bai hen ysbryd y viking crwydrol yn cynhyrfu ei waed. Ond nid felly yn hollol yr oedd. Pan oedd Carlyle yn marw aeth Tennyson i edrych am dano. At farw y trodd yr ymddiddan. Yr oedd Tennyson am grwydro i farw i ben mynydd yn Brazil. "I should at least like to see the splendour of the Brazilian forest before I die," meddai. Atebodd yr hen athronydd ef o lan yr afon, "The scraggiest bit of heath in Scotland is more to me than all the forests of Brazil." Ac eto, yn Lloegr yr oedd ef wedi byw.

Os cryf, cryf i grwydro a chryf i orffwys; cryf y dyhead am weled gwledydd eraill, a chryf yr hiraeth am yr hen wlad Ac felly y mae bywyd y byd. Daw cenhedloedd eto i'r mynyddoedd hyfryd, a gwnant eu cartref ynddynt, fel yn yr oesoedd o'r blaen. Ac y mae popeth ar y mynyddoedd yn ymburo ac yn ymberffeithio,—bywyd dyn ac anifail a llysieuyn,—oherwydd yn ysbryd bywyd a rhyddid y maent yn byw, yn symud, ac yn bod.


ARDDULL.

Y MAE dau ŵr yn codi'n amlwg i sylw efrydwyr gair ac arddull y dydd hwn, sef Dr. Johnson yn Lloegr a Dr. W. O. Pughe yng Nghymru. Gwnaeth y ddau wasanaeth tebig iawn i'w gilydd, i'w gwahanol gydwladwyr. Gwnaethant eirlyfr o eiriau, nid arferedig yn bennaf, ond arferadwy; a bu dylanwad y geiriaduron yn bwysig ac arhosol mewn dwy ffordd,—rhoddasant drwydded i rai geiriau fel geiriau llenyddol, a gwrthodasant eraill fel pethau dieithr neu esgymun. Gosodasant i lawr safonau beirniadaeth ar ffurf gair; ceisiasant orgraff unffurf, a cheisiasant gadw hen ddulliau afrosgo pan oedd greddf naturioldeb a pherseinedd wedi mynnu rhai newydd; mynnai y Cymro ysgrifennu "idd ei" yn lle "i'w," a mynnai'r Sais yntau ysgrifennu "shall not "yn lle "shan't." Drwy bregeth ac ymarweddiad llenyddol ceisiodd y ddau wasgu ar eu cenedl arddull ystyrrid yn gywir a choeth a chlasurol, hyd nas adnabuai gŵr ei famiaith ei hun yn ei gwisg lyfr. Dan ŵr mawr oeddynt, doeth a hygar a gonest a da. A heddyw gwysir hwy o flaen y cyhoedd i'w beirniadu; a chyda pharch dwfn i'w cymeriadau a'u hamcanion gofynnir, os pery eu dylanwad, pa un wnant fwyaf, ai drwg ai da.

Yn yr oes hon, pan y mae bywyd yr iaith Gymraeg a bywyd ysbryd Cymru mewn perigl oddiwrth ymosodiadau estron ac mewn perigl mwy oddiwrth ymosodiadau cyfeillion ffug, y mae'n eglur na all Cymru fforddio gwneud camgymeriadau, Nid oes amser i ymdroi yma ac acw i wneud arbrawfion ar fywyd llenyddol y genedl, rhaid i ni dreulio'n hamser i gyd i ddarparu bwyd llenyddol i'r oes sy'n codi, onite bydd hen fywyd llenyddol Cymru wedi mynd. Ac y mae'n bryd gofyn cwestiwn, nid cwestiwn i ddifyrru ambell orig academaidd, ond cwestiwn y mae bywyd yr iaith Gymraeg a bywyd llenyddiaeth Cymru'n dibynnu ar yr ateb. Pwy sydd i benderfynu beth yw arddull iaith? Ai efrydwyr yr iaith, sydd yn gwybod hanes treigliad ei geiriau ac wedi hen gydnabyddu â gwaith ei hysgrifenwyr mewn adegau fu, ynte y werin na syniant am ddim ond dweyd beth maent yn feddwl? Pwy sydd i ddewis geiriau llenyddol yr iaith, ai yr efrydydd ysgolheigaidd sy'n gwybod eu hachau a'u tras a'r defnydd wneid ohonynt gynt, ynte'r werin na ŵyr am ddim ond fod yn rhaid iddi ddweyd ei meddwl?

Yr ateb diamwys yw mai'r werin. Y werin sy'n meddwl, y werin sy'n siarad, ac os na dderbyn llenyddiaeth eiriau ac arddull y werin, bydd arddull llenyddiaeth Cymru yn rhy hynafol a chlasurol, ac yna yn anaturiol ac yn ddiwerth at amcanion bywyd. A phan felly, rhewa i farwolaeth.

Wedi gwneud eu geiriaduron a'u gramadegau, seiliodd y Doctoriaid Johnson a Phughe eu harddull arnynt, a gwareder Cymru a Lloegr rhag arddull o'i bath. Os na chymerir iaith llenyddiaeth o enau'r werin, os dirmygir tafodiaith, cyll arddull yr iaith ei naturioldeb a'i swyn.

Ond oni ellir gwahaniaethu rhwng anddull lenyddol ac arddull werinaidd, a dysgu'r naill yn y coleg a'r ysgol a gadael rhwng y werin a'r llall? Oni all yr ysgolion a'r colegau gyfyngu eu hunain i Ddafydd ab Gwilym a Goronwy Owen, a gadael Ceiriog ac Islwyn i'r Eisteddfod a'r werin? Na ato ysbryd gwarcheidiol Cymru i hynny fod. Byddai'n golled fawr i'r werin, byddai'n golled fwy i'r ysgol a'r coleg.

Collai'r werin ddylanwad mwyn ac esmwyth y llenor ysgolheigaidd. Ni ddywed neb na all ef roddi cymorth i berffeithio'r iaith. Os gwrthododd greddf bywyd yr iaith welliantau'r ddau ddoctor, y mae dylanwad Defoe a Goldsmith yn aros ar iaith gwerin Lloegr a dylanwad Ellis Wynn a Theophilus Evans yn aros ar iaith gwerin Cymru. Ond gwŷr oedd y rhai hyn yn astudio iaith lafar y bobl; a rhai fedrai dynnu miwsig o delyn yr iaith, a'r werin yw'r delyn.

Collai'r ysgol a'r coleg lawer, hefyd, wrth ymgadw at ramadeg wedi ei sylfaenu ar Gymraeg oesoedd yn ol, oesoedd a'u hanghenion yn anhebig iawn i anghenion ein hoes ni. I ni, y mae beirdd a llenorion yr oes hon, a llafar y werin yn ein holl ardaloedd, yn bwysig; y mae y peth elwir yn gamgymeriad y llenor weithiau yn well na'r peth elwir yn gywirdeb y gramadegydd. Gall yr ysgol wneud llawer, ond iddi ddysgu'r iaith fel iaith fyw, a llenyddiaeth fel llenyddiaeth pobl sydd eto'n byw, yn ymdrechu, ac yn gobeithio. Gall y coleg wneud llawer, ac y mae astudio'r cynghaneddion yn ddisgyblaeth werthfawr; ond, o'i gamarfer, gall y ddisgyblaeth wneud drwg. Gall wneud i'r efrydydd foddloni ar ffurfiau gorglasurol, ac ar arddull anghelfydd, gan suo ei gydwybod lenyddol i gysgu trwy weld ei fod yn cadw rheolau cynghanedd. Dylid llosgi naw rhan o bob deg o'r brydyddiaeth gynghaneddol argreffir yn awr, fel ymgeisiadau amrwd dwylaw anghynefin, ac eithaf peth fyddai cyfyngu pob cywydd i ugain llinell, a bygwth toraeth y beirdd os nad ymgadwant at englyn unodl-union neu hir a thoddaid. Nid oes dim mor bersain a hyawdl a chynghanedd os bydd mor berffaith fel na feddyliwch am reol wrth ei gwrando neu ei darllen. Os na bydd felly, y mae'n feichus i'w darllen, ac yn andwyol i arddull y truan a'i saernio neu a'i darllenno. Y cwestiwn sy'n poeni mwyaf ar fy meddwl i yw hyn,-paham y mae Cymraeg hen bobl ein cymoedd gymaint yn geinach, gymaint yn fwy persain, gymaint yn fwy naturiol, a chymaint addasach i farchnad a phulpud a llyfr byw, nag yw Cymraeg mwyafrif mawr y llenorion fagwyd dan y gyfundrefn addysg yr ydym mor falch ohoni? Yr wyf yn sicr ein bod mewn perigl oddiwrth orthrwm geiriaduron a gramadegau. Dylem ddal yn well ar symlder cain iaith lafar.

Dywedodd un o swyddogion addysg uchaf Cymru wrthyf yn ddiweddar na fydd neb yn siarad Cymraeg ymhen hanner can mlynedd, a dywedodd un o swyddogion uchaf Lloegr yr erys llenyddiaeth Cymru yn bwnc efrydiaeth i oesoedd sy'n dod, ond nad oes i'r iaith lafar ond bywyd naturiol byr. Gwell gen innau gredu gyda Michael D. Jones na ad Duw i'r iaith Gymraeg farw byth. Mae ei bywyd yn dibynnu ar ei gwerin ac ar ei llenorion, ac yn enwedig ar y cydweithrediad rhyngddynt. Adnabwn gynt ŵr ymgymerodd ag adeiladu pont, ond methodd oherwydd iddo wario'r adnoddau ddylasai fynd i wneud y bont ar ddyfeisio peiriannau i godi'r cerrig. Ymdrech ein llenorion ddylai fod,—medru ysgrifennu fel y deallo y bobl hwy. O hynny y daw arddull naturiol, fyw, a grymus.

Wrth wrando ar lafar yr heol a'r farchnad y perffeithiodd Addison arddull rhyddiaith yr iaith Saesneg, yr iaith seml a llawn o eiriau byrion, "a'i sŵn fel tannau telyn, sy'n deffro ac yn distewi gyda phob cyffyrddiad." Geiriau gwlad rydd "Ddrych y Prif Oesoedd " ei symlder clir, a chyffelybiaethau llafar gwlad rydd hanner swyn ei arddull. Darluniadau llafar gwlad, wedi eu dychmygu gan werinwyr, a'u perffeithio wrth eu harfer ganddynt hwy, yw llawer o frawddegau bachog y Bardd Cwsg. Ac mor hyfedr yw gwerin wrth wneud geiriau, rhagor llenorion. Sonia'r llenor am ei "gledrffordd" ac am ei "reilffordd," dau air heb ffurf na pherseinedd iddynt; sonia'r gwerinwr, yn naturiol a phrydyddol, am "ffordd haearn." Cymerwn ddihareb oddiar lafar gwlad, a chanmolwn ei chynnwys cyfoethog. Yr un werin wnaeth eiriau'r iaith; ac wrth wneud gair, y mae'r gwerinwr yn troi'n fardd heb wybod hynny. Y mae arddull ambell ŵr anllythrennog yn fwy cain nag arddull gramadegwr. Cymerwn ein geiriau

o olud rhyfedd y werin—iaith, a byddwn glustdeneu i fiwsig ei harddull.

BEIRNIADAETH

Y MAE dau waith y dylid eu dysgu'n dda yng Nghymru, sef sut i ganmol a sut i feirniadu. Y mae rhai'n canmol wrth natur, a'u hanian at guddio beiau; y mae rhai yn beirniadu wrth natur, a'u greddf yn darganfod brychau. Y mae'r byd, yn enwedig y byd llenyddol, wedi ei rannu'n ganmolwyr ac yn feirniaid; y naill yn gweled gogoniant a thlysni ac yn dychmygu mwy, a'r lleill a'u llygaid beunydd ar safon na all ymdrech bardd neu lenor o ddyn byth ei gyrraedd.

Llawer cwestiwn ffol ac anorffen ofynnir am y beirniad. A oes fynno treuliad ei fwyd a'i farn? Pe bwytai fwyd iachach, a phe treuliai ef yn well, oni farnai fel arall? A all llenor da fod yn feirniad da? A all bardd fod yn feirniad o ryw lun? Tybia'r bardd mai un wedi methu canu ei hun yw'r beirniad; ac y mae'n sicr mai beirdd siomedig fu rhai o feirniaid goreu'r byd. Tybia'r beirniad mai anwybodaeth a diffyg chwaeth y werin yn unig yw achos poblogrwydd y bardd. Fel rheol, hwyrach, nid yr un yw'r bardd a'r beirniad; crewr yw y naill, archwiliwr yw y llall; ymrestra'r naill dan faner cydymdeimlad, a'r lleill dan faner cydwybod. Eto gall y gwir fardd a'r gwir feirniad fod yn un, pan fedd yr enaid gyfuniad o ddychymyg a manylder; a hyn rydd le arbennig yn llenyddiaeth Cymru i Eben Fardd.

Ychydig mewn cymhariaeth fu o feirniadu ar dudalennau y "Cymru". Ymgais i ddeffro, i roddi ysbrydiaeth, i gynorthwyo, fu ei ymdrech o'r dechre; darganfod athrylith, a rhoddi llafar iddi, fu ei nôd. Prin y mae llenyddiaeth ein gwerin yn ddigon hen eto i fedru goddef ei beirniadu, ac y mae rhyw deimlad anesmwyth yn y meddwl mai yng nghyfnodau adfeilio y blodeua beirniadaeth.

Ond mae i feirniadaeth iach ei lle; byddai'n fendith i lenyddiaeth Cymru dderbyn mwy ohoni. Nid beirniadaeth ddidrugaredd a chreulon, yn cychwyn allan i gondemnio, wyf yn feddwl, ond beirniadaeth garedig cyfaill ac athraw. Un amcan iddi fydd dangos, oddiwrth hanes eu dydd, paham y medd ein llenorion ryw nodion neilltuol; amcan arall fydd codi awydd yn ein hysgrifenwyr ieuainc am ysgrifennu goreu byth y gallant, ac am beidio gadael i ddim gwael fynd o'u dwylaw i'r wasg. Gallai ychydig o feirniadaeth gref a miniog, ond heb fod yn angharedig ac anonest, godi llawer ar safon Cymraeg ein papurau newyddion a'n cylchgronau, a chodi peth ar safon chwaeth a chywirdeb.

Dechreuwn gydag un hawdd iawn ei gamesbonio, sef Daniel Owen. Cefais y fraint o'i adnabod, a bum yn ymddiddan âg ef am y beirniadaethau ddarlunnir gan law fedrus. Y mae y ddau gwestiwn pwysicaf yn ddiddorol iawn. Dyma yw'r naill,— A oedd Daniel Owen yn ysgrifennu o gariad at grefydd fanwl a hunan—aberthol ei fam, ynte i ddangos nad oedd heb ei ffaeleddau, ac y dylasai newid gyda'r oes? A dyna'r llall,—A oedd yn iawn i wneud i Bob, llais meddwl ac egni'r dyfodol, farw mor ieuanc?

Yr oedd gan Daniel Owen gariad angerddol at y ddisgyblaeth lem y credai ei fam mor llwyr ynddi, ac at y grefydd oedd wedi gweddnewid bywyd chymeriadau'r Wyddgrug. Yr oedd ganddo hefyd lygad i weled y llawenydd, y digrifwch, a'r direidi sydd mor hanfodol i natur ddynol iach ag ydyw tlysni ei liw i'r blodeuyn a fflach ei edyn i'r gloyn byw. Y mae i fywyd ei ddwy wedd, y ddofn ddifrifol a'r ysgafn chwareus Hoffa ambell genedl y naill, hoffa un arall y llall. Difrifwch bywyd, agosrwydd tragwyddoldeb, mawredd Duw a bychander dyn, a welai'r Hebrewr; ac y mae y Cymro, megis wrth natur, wedi ei ddilyn. Tlysni dedwydd bywyd welai'r Groegwr, prydferthwch natur a diddordeb byw; ac y mae'r Ffrancwr a'r Eidalwr fel pe'n ei ddilyn. Y mae y ddwy ochr yma ar fywyd i'w gweled yn meddwl pob llenor mawr yn ogystal ag yn meddwl pob cenedl fyw. Ar ddechre ei yrfa fel bardd dengys Milton y naill yn Il Penseroso a'r llall yn L'Allegro. Ac yn ei nofel gyflawn gyntaf dengys Daniel Owen y naill ym Mari Lewis a'r llall yn Wil Bryan.

Dyfnaf a dwysaf y meddwl, cryfaf y duedd at y difrif a'r prudd. Y mae islais dwfn o brudd-der ym mywyd pob cenedl fawr; ceir ef yn hen lenyddiaeth Groeg, ac yng ngherddoriaeth Spaen heddyw. Gwelir eiddilwch y darfodedig, a chadernid yr oesol; i rai y mae tynged yn ddall a chreulon a didrugaredd, i eraill y mae'n freichiau tragwyddol i gynnal y gwan. Er iddo ddisgrifio'r ddwy agwedd, y ddwys a'r ddedwydd, i wasanaeth y ddwys yr ymdaflodd Milton; dirywiodd ei L'Allegro ysgafn-galon i Gomus foethus ac i Satan ddrwg, datblygodd ei Il Penseroso i'w arwr Adda ac i'w Waredwr. Yr un agwedd enillodd serch Daniel Owen. Darluniodd grefydd ei fam fel cryfder bywyd Cymru; ac nid oherwydd eu bod yn gyferbyniad hapus iddi ac yn gywiriad caredig ohoni y darlunnir meddylgarwch Bob a direidi Wil Bryan. Yr oedd meddylgarwch y naill yn werthfawr, a direidi naturiol y llall yn hawddgar, oherwydd fod i'r ddau radd o grefydd Mari Lewis yn sylfaen. Os felly, a oedd Daniel Owen yn iawn? A oedd bywyd caled y dyddiau hynny yn rhoi cystal cyfleusterau a bywyd mwy dibryder y dyddiau hyn? A oedd llenyddiaeth ddiwinyddol yr oes honno yn gystal disgyblaeth meddwl a llenyddiaeth ysgafnach ac eangach yr oes hon? Beth yw dyletswydd y diwygiwr, ai galw ar blant ei genhedlaeth i ddawnsio ychwaneg ac i ddarllen llyfrau ysgafnach, ynte galw arnynt i ymegnio mwy, gorff a meddwl? Pwy sydd mewn mwyaf o berigl o gael ei golli o fywyd Cymru, Mari Lewis ynte Wil Bryan? Y mae'n amlwg nad hygar i Ddaniel Owen fuasai Cymru wedi colli crefydd ei fam. Paham y bu Bob farw mor gynnar, a phaham y diflannodd o nofelau Daniel Owen?

Efe yw ysbryd y dyfodol, efe sy'n rhoi llais i feddwl a bywyd goreu Cymru. Efe ddylasai fod yr arwr. Pe wedi ei ddarlunio'n llawn, buasai'n ddarlun o arweinydd a gwaredwr gwerin Cymru. Mor werthfawr fuasai, hyd yn oed fel darlun yn unig, i lowr Cymreig Deheudir Cymru heddyw, fel cynllun o arweinydd anhunanol a diogel. Am ddarlun llawn o gymeriad fel hyn, gŵr meddylgar ymysg meibion llafur, a'i farn yn ddiwyro a'i galon yn llawn cydymdeimlad, y mae llenyddiaeth Cymru'n galw.

Cafodd Daniel Owen gyfle ardderchog i roddi i'w wlad gymeriad fuasai'n arweinydd i'w meddwl a'i bywyd. Rhoddodd ddarluniad o'r hen grefydd gadarn yn ei fam, a darluniad o'r hen hapusrwydd yn Wil Bryan; ond, pan aeth i ddarlunio ysbryd nerthol a hygar y dyfodol, llesghaodd, a gadawodd y darlun heb ei orffen. Y mae rhywbeth yn broffwydol iawn yng nghymeriad Bob, dengys fod Daniel Owen yn gweled yn glir i'r dyfodol, a gresyn na buasai wedi rhoi ei holl egni ar waith i ddarlunio Bob fel canolbwynt bywyd Cymru.

Pam na wnaethai hynny? Hwyrach fod ei frawd foddodd yn y pwll a Bob mor debig i'w gilydd yn ei feddwl fel na allai eu gwahanu. Ond, yn ddiameu, gwelodd Daniel Owen y gallasai wneud Bob yn arweinydd meddwl a bywyd; ac nid heb wybod beth a wnai y syrthiodd yn ol yn ddiymadferth oddiwrth y gwaith mawr. Gallai Daniel Owen, ar anogaeth fisol Roger Edwards, ddarlunio golygfa ddiddorol a chymeriad diddan, ond ni feddai ddigon o ymroad i ymdaflu i waith fuasai'n gofyn holl egni ei enaid am fisoedd a blynyddoedd i ddarlunio un cymeriad mawr. Cyfaddefodd wrthyf iddo orfod gadael i Bob farw oherwydd ei fod ef ei hun wedi cyrraedd diwedd ei adnoddau a therfyn eithaf ei egni. Pam y mae darlun Bob wedi ei adael mewn amlinell yn unig? Ateb Daniel Owen i mi oedd,—" Toedd gen i ddim digon o baent i'w orffen." Llesg iawn o gorff oedd Daniel Owen. Bu ei hanes yng nghyfres y "Cymry Byw" unwaith; ond dywedai mai yng nghyfres Cymry hanner marw y dylasai ef fod. Gwell iddo hwyrach, wedi'r cwbl, oedd dilyn ei duedd, a darlunio ei hoff gymeriadau, na phe bai wedi ymegnio i roddi ar len gymeriad fuasai'n ddarlun o fywyd llafur Cymru ac yn arweinydd iddi. Rhoddodd i ni Fari Lewis yn llawn a Wil Bryan yn llawn, a Bob mewn amlinell. Fel y mae, y mae'r Bob fu farw'n ieuanc yn allu ym mywyd Cymru. Yr ydym yn disgwyl am nofelydd arall,

mwy hwyrach, i wneud y darlun yn llawn.

EDRYCH YN OL

BU brenin Persia farw, a chludwyd ef at ei dadau. Yn araf ac yn ofnus esgynnodd ei fab yr orsedd yn ei le. A chofiodd am un o ddywediadau ei athraw, sef na buasai brenhinoedd mor dueddol i gamgymeryd pe gwyddent hanes y byd a'i bobl.

Felly, galwodd haneswyr goreu a chynghorwyr doethaf Persia at ei gilydd, a dywedodd wrthynt,— "Ysgrifennwch i mi hanes y byd yn fanwl, a bydded yr hanes yn gyflawn."

Ymhen ugain mlynedd, wele orymdaith yn cyfeirio at lŷs y brenin. Yr haneswyr oedd yno, wedi gorffen eu gwaith. Yr oedd gyda hwy ddeuddeg camel, a phob camel yn cludo pum can cyfrol. Yr oedd y brenin ieuanc erbyn hyn yn ymylu ar ganol oed o fywyd prysur a phryderus iawn, a dywedodd wrth yr haneswyr,— "Y mae bywyd yn fyr a llawn o ofalon, ewch yn ol, crynhowch yr hanes fel y bydd rhyw obaith i mi fedru ei ddarllen, eto heb adael unrhyw beth hanfodol allan o hono."

Ymhen ugain mlynedd wedyn, wele orymdaith lai, o wyr yn edrych yn hyn, yn dod at y llys. Gyda hwy yr oedd tri chamel, yn cludo pymtheg cant o gyfrolau. "Dyma hanes y byd mewn cwmpas llawer llai," ebe'r haneswyr, "ac eto nid oes dim hanfodol wedi ei adael allan." Ond yr oedd y brenin erbyn hyn ar fin henaint, ac ebai ef,—

"O haneswyr, yr wyf yn dechre mynd yn hen, ac y mae'r nerth a'r awydd i ddarllen yn prinhau. Dywedwch hanes y byd wrthyf ar lai o eiriau, ac mewn ychydig gyfrolau, eto yn gynhwysfawr."

Aeth yr haneswyr, ac ymhen deng mlynedd, gwelwyd gorymdaith arafach yn dod at y llys. Gyda'r gwŷr yr oedd eliffant ieuanc, yn cludo pum cant o gyfrolau. Erbyn hyn yr oedd y brenin yn hen, ac yn dechre crymu dan bwys ei waith, ac ebe ef wrth yr haneswyr,—

"Nid oes digon o'm hoes yn aros i mi ddarllen hyd yn oed y llyfrau hyn. Ewch yn ol, a chrynhowch eto. A dowch yn ol ar frys."

Trodd yr haneswyr yn ol, yn araf frysiog. Ymhen pum mlynedd gwelwyd hwy'n dod yn ol, ac arwyddion henaint yn amlwg arnynt. Yn eu canol yr oedd asen ieuanc yn cludo un gyfrol. Ac ebe hwy wrth y brenin,—

"O frenin, bydd byw byth. Wele ni wedi crynhoi hanes dynol ryw i un gyfrol, ac nid oes dim hanfodol wedi ei adael allan o hono.

Ac ebai'r brenin yn llesg,—" Yr wyf yn flinedig hyd angau.

Y mae awr fy ymddatodiad yn nesu, a rhaid i mi gau fy llygaid ar y byd a dynol ryw heb wybod eu hanes. Oherwydd ni fedraf ddarllen yr un llyfr byth mwy.'

"Nid felly, O frenin," ebe arweinydd yr haneswyr, a'i bwysau ar ben ei ffon, " yr ydym wedi crynhoi hanes pawb a phob dyn i dri gair, sy'n grynhodeb o hanes holl ddynol ryw."

"Gadewch i mi glywed y tri gair cyn fy marw," ebe'r brenin, "oherwydd y mae'r diwedd yn cyflym ddod."

Ac yn araf a dwys, dywedodd yr haneswyr y tri gair hyn,—

Bywiodd, dioddefodd, marwodd."

Dyna, fel yr ydwyf yn ei deall, yw sylfaen athroniaeth hanes Anatole France, un o'r hynafgwyr doethaf a hyotlaf o bawb sy'n fyw heddyw. Y mae'n gyfarwydd â hanes, ac y mae'n teimlo curiad calon ei wlad yn y dyddiau cyffrous hyn. Ac mor brudd a diobaith yw y crynhodeb hwn o fywyd dyn.

Rhyfeddais lawer at y prudd-der dwys sydd fel islais i holl fywyd heulog, cyflym, a dedwydd Ffrainc. Edrychwch ar feysydd eang ei hanes hir, a gwelwch hwy'n donnog fel y môr, a'i donnau dawnsiol yn ymddigrifo ac yn fflachio dan wenau'r haul. Ond cauwch eich llygaid am ennyd, a gwrandewch ar yr islais. Tawel a mawreddog ydyw, ac anhraethol ddwfn a phrudd. O Jean Calvin i Jean Jacques Rousseau, yn nhawelwch ei meddwl, ac yng nghynddaredd ei chwyldroadau, sugnodd athroniaeth ei bywyd o lyfr ysgrifenwyd ar fin anialwch eang pur y dwyrain ac a ddarluniodd arwr cynhefin â dolur. Nid oes yr un wlad wedi gadael argraff ddyfnach ar feddwl Cymru, nid yn uniongyrchol, yn bennaf, ond trwy'r Alban a rhai o feddylwyr Lloegr yng nghyfnod ei diwygiadau nerthol. Ac nid ymwrthod â'r bywyd difrif prudd a ddeisyfa y rhai sydd heddyw yn gofidio eu bod wedi eu galw ar enw Calfin cyhyd.

Un o'r pethaf pruddaf i mi, yn y rhan o lenyddiaeth y byd sy'n adnabyddus i mi, yw diweddglo hanesydd paganaidd wrth ysgrifennu hanes ei arwr,—"Os oes yn rhywle drigfan i ysbrydoedd y cyfiawn, os na ddiffoddir yr enaid gyda'r corff, gorffwys mewn hedd."

Gwn am lawer mab gofid na fynnai fyw drachefn, mewn byd arall, ei fywyd fel y bu. Nid wyf yn meddwl y gŵyr neb yn well na mi beth yw siomiant ac alaeth. Ond, os caf fyw fy oes eto mewn cylch mwy ysbrydol, fy nymuniad dyfnaf yw ei fyw yng nghwmni y rhai fu'n cyd—deithio â mi. A

mwyn, weithiau, fydd taflu ambell drem yn ol.

PEN YR YRFA

A MI, ar ryw fin nos, yn ystyried fy mywyd ffwdanus a diles, bywyd o gyfleusterau wedi eu colli a gwaith heb ei wneud, gwelais mor wir yw fod ein blynyddoedd yn mynd ymaith fel chwedl; a theimlais nad oes nofel a ddarllennir gan enethod ysgolion mor wagsaw, mor arwynebol, ac mor ddibwrpas a'm bywyd i.

Oddiwrth hynny troais, nid at fater llai prudd, ond at fater mwy dyrchafol. Sawl blwyddyn gafodd y rhai wnaeth waith parhaol at ei wneud? Ac er mwyn ateb fy nghwestiwn, a fflangellu tipyn arnaf fy hun wrth wneud, cynhullais hynny o lyfrau a feddaf, a chwiliais am enwau adnabyddus imi, er mwyn gweled beth oedd hyd eu bywyd. Wnaeth rhywun ym myd llenyddiaeth Cymru rywbeth arhosol dan bump ar hugain. Dyma oed Keats pan fu farw, wedi canu ei "Eve of St. Agnes." Bu Ieuan Ddu farw'n un ar hugain oed, ond erys ef, nid yn ei waith ei hun, ond yn hiraeth ingol Gomer ei dad; oni bai am hynny, buasai'r bachgen hoffus wedi ei anghofio ym mywyd cyffredin ei ardal,—

"Llama'r bydd dros froydd a bryniau,
Ffy'r cymylau gyda'r gwynt;
Hwylia'r llongau dros y weilgi,
Llifa Tawy megis gynt."

Dwy ar hugain oed oedd Golyddan pan fu farw, wedi canu ei arwrgerdd i'r Iesu; yr oedd ei nôd yn uchel a'i uchelgais yn ysol, ond ni aeddfedodd ei awen i'w melyster na'i thlysni naturiol. Pedair blwydd ar hugain gafodd Gwenffrwd i deimlo a meddwl a theithio, ac yr oedd cysgodion oerion ar ei fywyd, er mor felodaidd oedd ei gân. Bu Ben Bowen farw'n bump ar hugain; tlysni'n ymagor, tlysni'n proffwydo perffeithrwydd yn y man, oedd tlysni ei awen ef; a galarodd holl gymoedd Morgannwg ddiffodd ei lusern mor gynnar.

O'r pump ar hugain i'r deg ar hugain, ceir beirdd rhyfedd yng Nghymru. Bu Robert Owen, bardd y môr, farw'n alltud pell, wedi crynhoi profiad bywyd dwys a hiraethlawn i saith mlynedd ar hugain. Gall bardd ieuanc adael cân i gadw'i gof yn wyrdd, ond anodd i hynafieithwr adael gwaith parhaol heb fywyd hir; bu farw Mannoethwy hefyd yn saith ar hugain oed. Bu dau farw'n naw ar hugain oed, y naill wedi canu emyn a'r llall alaw, "Bydd melys gofio y cyfamod" a "Chodiad yr Ehedydd,"—nas gallasent wneud eu perffeithiach pe cawsent fyw i eithaf terfyn yr addewid. A hwyrach y gellir dweyd am Sadie fod ei hawen yn aeddfed pan syrthiodd i'r bedd yn ddeg ar hugain oed. Tua'r deg ar hugain y cwympodd Hedd Wyn yn Ffrainc, wedi canu rhai pethau perffaith; gwisgwyd Cader Eisteddfod Birkenhead mewn du dydd ei goroni, ac yntau yn ei fedd yn nhir yr estron. Dwy flynedd a deugain cyn hynny y gwisgwyd cader Taliesin o Eifion mewn du yn Eisteddfod Wrecsam; ond nid oedd pruddder mor ingol.

Rhwng y deg ar hugain a deugain y mae dyn wedi darganfod ei rym ac yn gweled gwaith ei fywyd y mae'r faint a wna yn dibynnu ar ei ynni ac ar ei gyfleusterau. Daeth cwmwl dros athrylith wyllt D. ab Gwilym o Fuallt, a bu farw'n un ar ddeg ar hugain oed. Y bywyd cyflymaf y gwn i am dano yw bywyd Ieuan Gwynedd; gymaint grynhodd i ddeuddeg ar hugain oed! gwaith ym Heber." Yn yr un oed y bu farw Ann Ceridwen Rees, y gyntaf o lu mawr meddygesau athrylithgar Cymru. Yn 38 y bu farw'r cerddor R. S. Hughes. Tybia'r rhai glywodd am hyawdledd ysgubol Robert Roberts Clynog chwithdod pan ychwanegir iddo farw'n ddeugain oed. Rhoddodd ei onestrwydd tryloyw, ei obaith byth-ieuanc, ei hoen iach a hoffus, gyfleusterau i Thomas Ellis wneud llawer; agorodd lygaid Gladstone i weled anghenion Cymru, ond bu farw cyn datguddio ei rym ei hun i wlad alarodd mor ddwys am dano; oherwydd nid yw deugain mlynedd, er yn ddigon i fardd ganu ar ei oreu, ond adeg fer a chynnar i wladweinydd. Ond torrodd Tom Ellis lwybr i eraill ddilyn ar ei ol, ac ni fu llais Cymru byth yn hollol yr un fath. O'r deugain i'r hanner cant oed y mae dynion yn meddu digon o brofiad y gorffennol i wneud cynlluniau, ac yn gweled y dyfodol yn ddigon maith i'w gwneud ar raddfa eang iawn; ond syrthiant yn eu nerth a'u bri. Bu Thomas Aubrey farw'n 41; dyna hefyd oedd oed Owen Jones y Gelli, y cyntaf o'r enw; gwelais yr ail yn batriarch. Bu farw Ioan Pedr yn 44, rhy ieuanc i hynafieithydd a daearegydd. Bu Glasynys farw'n 42; ac Alun yn 43, y ddau wedi cyrraedd perffeithrwydd eu Murmuron y Gragen" a "Marwnad Yn 42, hefyd, y bu farw Thomas Matthews, wedi gwneud gwaith arwrol, ac wedi torri llwybrau i lu o efrydwyr llenyddiaeth ac arluniaeth Cymru. Yn 43 y bu farw J. D. Jones o Ruthyn hefyd, wedi clywed adlais addysg a miwsig y dyfodol. Bu Gwilym Marles a Huw Myfyr farw'n 45, y naill wedi gadael ar ei ol olygfeydd bore oes oroesa hanes ei fywyd egniol, a'r llall wedi cyrraedd naturioldeb bardd y medr pawb ei ddeall. Pump a deugain oedd Viriamu Jones hefyd pan gollodd addysg Cymru wasanaeth ei feddwl clir a mwyn. Bu Islwyn farw'n 46, pan yn cynllunio unoliaeth y "Storm"; ond yr wyf yn credu y bydd y darnau, fel y maent, yn fwy o ysbrydoliaeth i feddwl Cymru na phe rhoddasai'r awdwr linyn mesur canol oed ar y gân.

Yr un oed oedd Dan Isaac Davies a Mynyddog, y naill yn llawn cynlluniau, a'r llall wedi cyrraedd perffeithrwydd ei ganeuon gwerin. Yn 47 bu farw Goronwy Owen a Threbor Mai, digon i brofi y medrir gwneud cywydd perffaith ac englyn perffaith yn yr oed hwnnw. Yn 48 bu farw R. H. Morgan a Iorwerth Glan Aled, y ddau anhebycaf i'w gilydd yn llenyddiaeth Cymru; y naill a'i feddwl llym beirniadol yn glir fel y grisial, a'r llall fel y wawr wedi ymwasgaru ar y mynydd- oedd. Dyna oedd oed Syr Edward Anwyl hefyd. Bu Tudno farw'n 49, wedi canu un gân fydd byw. O'r hanner cant i'r trigain oed, y mae dynion yn anterth eu nerth, wedi cael clust eu gwlad ac heb eto ystyried a ydyw yn iawn iddynt wneud cynlluniau newydd cyrhaedd bell. Y mae llawer o wendidau corff yn darfod fel yr eir ymlaen, a dyn megis angel anfarwol. Yn 51 bu farw Howell Davies yr efengylydd, Ab Ithel yr hanesydd gwladgarol, Charles Ashton y cynhullydd ffeithiau, ac Eos Morlais y canwr. Yn 52 bu farw Gomer, Cawrdaf, a Ieuan Gwyllt; Gomer wedi byw mwy na dwbl oes Ieuan Ddu, Cawrdaf wedi ysgrifennu'r nofel Gymraeg gyntaf, a Ieuan Gwyllt wedi rhoi bywyd newydd yng nghanu cysegr Cymru. Yn 52 hefyd y rhoddodd Tom Jones ei fywyd i lawr yn Ne Affrig. Yn 53 bu farw dau fardd mwyn yn hannu o'r un sir, Ossian Gwent a Ioan Emlyn. Bu farw Glan y Gors, Daniel Ddu o Geredigion, Thomas Stephens, ac Ossian Davies, yn 54. Yn 55 y bu farw Glan Alun, Hugh Price Hughes, Ceiriog, Emrys ap Iwan, a Rhys J. Huws. Yn 56 y bu farw'r Gohebydd, Jenkin Howell, Tudur Taf, a thri wŷr o sir Aberteifi,—Ebenezer Morris, Ebenezer Richard, a'r Esgob Llwyd. Bu'r ddau gyfaill, Dewi Wyn a J. R. Jones o Ramoth, farw yn yr un oed, sef 57; a dyna hefyd oedd oed John Phillips Bangor, Myfyr Emlyn, John Evans Eglwys Bach, ac Edith Wynne. Yn 58 y bu farw Ieuan Brydydd Hir, Morgan Howell, a Goleufryn. Bu cewri farw yn 59,—Howell Harris, Charles o'r Bala, Dr. George Lewis, Williams o'r Wern, Humphrey Gwalchmai, John Ambrose Lloyd, a Thalhaearn. Yn oedran hafaidd y drigeinfed flwydd bu farw Ioan Tegid, Ieuan Glan Geirionnydd, Richard Jones y Wern, Emrys, Mrs. Watts Hughes, a Herber Evans.

Wrth weled oed Talhaearn yn marw, y mae'n sicr y daw cân Ceiriog, "Cyfoedion Cofadwy," i'r cof. Rhwng hanner nos ac un yr oedd cwmni difyr o feirdd yn eu llawn hwyliau,—Iorwerth Glan Aled a Rhydderch o Fôn, Creuddynfab a Glasynys, Talhaearn a R. Ddu o Wynedd, a Cheiriog ei hun. Ar yr awr drymaidd honno curodd genethig wrth y drws, a holodd am "Iorwerth Glan Aled a'i wyneb hardd glân," i fynd i dŷ ei thad dros y ffordd,—

"Ac Iorwerth mewn syndod, petrusder, a braw,
Ufuddhaodd i'r llances fonheddig;
Aeth gyda hi ymaith, a ffon yn ei law,
Trwy y glyn tua'r palas mawreddig."

Yna daeth llais peraidd mwyn i alw am Risiart Ddu o Wynedd a Rhydderch o Fôn. Pan ddaeth cnoc am Greuddynfab, a chyn gwysio Glasynys, collodd Talhaearn ei amynedd, a dywedodd yr ai ar ol y llances ohono ei hun. Merch brenin Angeu oedd hi.

Dilynodd dau arall adwaenwn i yr un llwybr tywyll ymhell cyn gweld cymaint o'r byd na phrofi cymaint o'i fwyniant a Thalhaearn. Y naill oedd Charles Ashton yn unigedd mynyddoedd Mawddwy, a'r llall oedd T. Evan Jacob yn unigedd torfeydd Llundain. Yr oedd Jacob yn un o'r bechgyn disglair roddwyd i'r byd gan Goleg Prifysgol Cymru yn ei flynyddoedd cyntaf. Yr oedd yn llenor campus yn Gymraeg a Saesneg, yr oedd ei galon yn lân a chynnes er ei ffyrdd troiog, a gwyn fyd na fuasai rhywun wedi cydio yn ei law i'w arwain i lwybr wrth ei fodd. Collais i'r cyfleustra, ac y mae hynny'n boen i mi byth. Y mae beirdd eraill wedi syllu'n ofnus ar yr un llwybr trwy'r nos, ac y mae un wedi ei ddisgrifio ar gân. Dywedodd meddyg wrthyf fod y bardd hwnnw'n dioddef oddiwrth boen arteithiol ystyrrid y pryd hynny'n anfeddyginiaethol. Druain o'r beirdd, yn ddigon aml,—

"They learn in Borrow what they teach in Bong."

Mae dynion yn llawen fel rheol wedi cyrraedd eu trigain oed. Mae ystorm bywyd fel pe'n dechre distewi; yn lle gwaith ac ambell awr o seibiant cânt yn awr seibiant ac ambell awr o waith. Ac y maent fel pe dan addewid i gael deng mlynedd o'r hydref hyfryd hwn; mae miloedd o genedlaethau wedi cofio'r salm,-"Yn nyddiau ein blynyddoedd y mae deng mlynedd a thri ugain." A chyn y daw hynny i ben, onid yw'r genedl yn darparu pensiwn i rai fu'n ysgrifennu traethodau a gwneud englynion am flynyddoedd am ddim?

Er hynny, wedi cyrraedd y trigain oed, ni cherddodd John Elias, Carnhuanawc, Eben Fardd, a David Saunders ond un flwyddyn ymhellach. A dwy gerddodd John Jones Talysarn, I. D. Ffraid, Idris Vychan, David Lloyd Jones, Owen Alaw, Daniel Owen, Joseph Parry, a Watcyn Wyn. Tair gerddodd Ellis Wynne o Lasynys, Lewis Morris Môn, Lewis Hopcin, Dafydd Ddu Eryri, Cynddelw, Gwilym Lleyn, Cynfaen, Tanymarian, T. C. Edwards a H. M. Stanley. Cerddodd Edward Richard Ystradmeurig a Thomas Jones o Ddinbych, Nathan Wyn ac Alaw Ddu bedair. Yn 66 oed y bu farw Morgan Rhys, Edward Jones Maes y Plwm, Caleb Morris, Nicander, Brinley Richards, David Charles Davies a Burne Jones. Yn 67 y bu farw Thomas Coke, Tegidon, a Buddug, yn dilyn ei brawd Golyddan a'i thad Gweirydd; ac yn 68, Michael Roberts Pwllheli, Richard Wilson, Gutyn Peris, Joseph Edwards, Caledfryn, Llyfrbryf, ac Elis Wyn o Wyrfai. Yn 69 bu farw Erfyl a Dafydd Morgan Ysbyty; a chyrhaeddwyd y ddegfed flwydd a thrigain gan Bedr Fardd, Gwynionydd, Llew Llwyfo, Scorpion, Dr. Llugwy Owen, a Dr. Rees Abertawe.

Pan tua'r trigain, teimla dyn fod ganddo hawl i siarad â'r byd fel byd o bobl iau nag ef. Tua'r oed hwnnw safai Dafydd Ddu Eryri, yn hen cyn ei amser, o flaen torf Eisteddfod Caernarfon, ym Medi 1821, a diweddai ei anerchiad,—

"Wel bellach mewn hoewach hwyl,
Dirionwych frodyr anwyl,
Cenwch eich gwaith mewn cynnydd,
A mwynlan, diddan, bo'r dydd;
Minnau'n hen mewn anhunedd,
Yma'n byw ym min y bedd,
Gwyro mae fy moel goryn
Ar lawr gallt dan y gwallt gwyn;
Daw ereill Feirdd awdurol
Yn fuan, fuan ar f'ol :
Delom uwch eur, lafur loes
I'r lån anfarwol einioes
I gyhoeddi'n dragwyddawl
Glod Iôr o fewn goror gwawl;
Trwy ffydd gre'—bid lle llawen
I chwi ac i mi. Amen."

Dros flwyddyn yr addewid, sef 70, cerddodd David Charles Caerfyrddin, Ap Vychan, Henry Rees, John Thomas, a George Osborne Morgan un flwyddyn; cerddodd Bardd y Brenin, Twm o'r Nant, Thomas Pennant, Brutus, a Llawdden ddwy. Cerddodd llawer dair, yn eu mysg y mae David Davies Llandinam, Theophilus Evans, Owen Myfyr, Sion Wyn o Eifion er ei gystudd, a Thafolog. A phedair gerddodd Peter Williams, William Williams Pant y Celyn, Huw Derfel, Cynhafal, Bleddyn a Syr Lewis Morris. Bu farw Roger Edwards, Richard Roberts y dyfeisydd, Bardd Alaw, Joseph Thomas Carno, a Syr John Rhys, yn bymtheg a thrigain. Yn 76 bu farw W. O. Pughe, Dafydd Ionawr, Hugh Jones Maesglasau, John Gibson, Henry Richard, Nicholas Bennett, Michael D. Jones, Arlunydd Pen y Garn, a Daniel Davies Ton. Yn 77 bu farw Daniel Rowland Llangeitho a Syr Huw Owen; yn 78, Gruffydd Jones Llanddowror, Dr. Lewis Edwards Caerfallwch Dr. W. Roberts Utica, a Lleurwg; yn 79, Ellis Owen o Gefn y Meysydd, John Hughes Pont Robert, Jane Williams Ysgafell, Ieuan o Leyn, Dewi Ogwen, Owen Thomas, Matthews Ewenni, a Glaslyn. Cyrhaeddodd Iolo Morgannwg, Simon Lloyd y Bala, Morris Davies Bangor, J. R., a Lord Aberdare, eu pedwar ugain oed.

Pedwar ugain oed! "Ac os o GRYFDER y cyrhaeddir pedwar ugain mlynedd." Ie, os o gryfder. Wel, hai ati am fyw deng mlynedd arall, beth bynnag. Y mae dynion da yn marw yn rhy gynnar o lawer. Rhy ychydig o hen bobl sydd gennym. Y mae rif y rhai dros ddeg a thrigain ym Mhrydain Fawr a'r Iwerddon,—rhyw filiwn a hanner, yn llawer rhy fach. Ac nid yw'r rhai sy'n cael blwydd—dâl yn llawn miliwn. Pe cai dynion fod heb foethau yn eu hieuenctid, a chael mesur cymhedrol o fwyd iach; pe caent ddydd gwaith yn yr awyr agored, neu gyda'u ffenestri yn agored, a newid eu dillad yn lle eu dioddef yn wlybion, herddid ein daear gan dyrfaoedd o hen bobl dros eu pedwar ugain, yn sionc a hapus a doeth. Pe talem y sylw priodol i ddeddfau iechyd, a phe dysgid ni yn yr ysgolion mor werthfawr yw bywyd, eithriad fyddai i neb farw dan bedwar ugain oed, a chyflawnid y broffwydoliaeth,— "Hen wŷr a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Caersalem, a phob gŵr a'i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau." Ie, a gwell na hynny; nid cynhaliaeth fydd y ffon, ond addurn i'w throi o gwmpas wrth gerdded yn wisgi, oherwydd llawnder bywyd.

Cerddodd Gutyn Padarn, Gwilym Hiraethog, Eos Glan Twrch, R. J. Derfel, a Chranogwen, oll yn blant y mynyddoedd, flwyddyn wedi'r pedwar ugain; cerddodd Madam Bevan, Dafis Castell Hywel, Gweirydd ap Rhys, a Hwfa Mon ddwy; cerddodd Robert ab Gwilym Ddu, Owen Gwyrfai, Gwrgant, Idrisyn, Thomas Gee, Meudwy Môn, a Lady Charlotte Guest dair; a cherddodd Robert Jones Rhos Lan, Ehedydd Iâl, a'r Hen Olygydd bedair. Yn bump a phedwar ugain y bu farw Robert Owen y cymdeithasydd, John Davies Tahiti, Penry Williams, S. R., a Daniel Silvan Evans; yn 86 y bu farw Angharad Llwyd a Kilsby. Bu farw Rhys Jones y Blaenau a Robin Ddu Eryri yn 88, a D. L. Evans yr Undodwr yn 89. Cyrhaeddodd Lewis Rees ei ddeg a phedwar ugain; ac felly cafodd wyth mlynedd yn ychwaneg o ddydd gwaith na'i fab Abraham Rees, roddodd ei fywyd hir i bum cyfrol a deugain ei Cyclopaedia, y gwaith cyntaf o'r fath yn llenyddiaeth Prydain. "Eto eu nerth sydd boen a blinder; canys ebrwydd y derfydd, a ni a ehedwn ymaith. Nid dyna'm profiad i. Hen bobl dros eu deg a phedwar ugain oed oedd rhai o'r bobl hapusaf wyf yn gofio. Cofient am ddyddiau ieuenctid ac am flynyddoedd gweithio, ond yr oedd pob chwerwedd wedi melysu, pob poen pryderus wedi lliniaru, a'r daith o'u holau heb sŵn ystormydd ac ymdrech yn ymddangos yn deg a diddorol. Gwelais rai'n rhyfeddol hapus mewn henaint teg. Bu Alltud Eifion farw'n 91; bu Absalom Fardd, Clwyd fardd, Gwalchmai, a Gwenynen Gwent farw'n 94. Pwy oedd patriarch Cymru ym myd crefydd a llên? Bu'r hybarch Williams Troed rhiwdalar yn cael y teitl hwnnw, bu farw'n 95; ond erbyn hyn perthyn i'r hybarch William Evans Ton yr Efail, fu farw'n 96.

Dyna fi wedi taflu rhyw fras olwg dros hyd bywyd rhai o wŷr cyhoeddus Cymru, bron oll yn y ganrif ddiweddaf, ac ar ben eu gyrfa. Dewisais hwy o ddamwain; mae rhai eraill, pwysicach hwyrach, Daw cof rhai ohonynt yn fwy byw i genedlaethau sy'n dod; a'r lleill i angof gyda'r genhedlaeth hon. Nid wyf wedi sôn am rai fu farw'n ddiweddar, rhai welais yn tynnu at ben eu taith; gadawaf hwy hyd gyfle eto. Ac ni fanylais ar ben gyrfa yr un ohonynt, er fod diwedd amryw, megis Dafydd Ddu Eryri a Hugh Jones Maesglasau, yn agor y galon a ffynhonnau'r dagrau.

Amser dedwydd a gogoneddus yw henaint teg. Nid disgyn wna dyn o ganol oed i henaint, ond dal i ddringo i eangderau hyfrytach, purach, a gwell. O feysydd y pechod gwreiddiol, o feddau'r blys, dring i fyny i awyr bur ac iach pen Pisgah. Gwel droion yr yrfa odditano, eu gwylltineb garw wedi ei droi'n brydferthwch yn y pellter. Ac nid oes disgyn i rosydd Moab i fod mwy. A'r bywyd yn fwy santaidd, ac yn awel iach dyner pen y mynydd ymgyll yr enaid mewn llesmair yn yr ysbrydol. A dyna berffeithrwydd pen yr yrfa.


DIWEDD

••••••••••••••••••••••••••

WRECSAM:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN

HUGHES A'I FAB.

••••••••••••••••••••••••••

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. 1918
  2. Tynwyd y darlun, sydd gyferbyn tudalen 25, ychydig funudau ar ol i Owen Edwards, Coedypry, ac Ellen Davies, y Prys Mawr, benodi eu dydd priodas. Ymhen deng mlynedd ar hugain bron, ysgrifenna Syr Owen Edwards yr ysgrif hon yn ei alar, gan ddodi'r darlun a dynnodd tucha'r ysgrif gyda'r geiriau, "Bum yn eu gwrando'n dweyd am y dyfodol oedd yn hyfryd ansicr."
  3. Y Rhyfel Mawr 1914-1918.
  4. Cyflwynaf i sylw carwyr Cymru bamffledyn dwy geiniog, gyhoeddir gan y Parch. M. H. Jones, B.A., Penllwyn, ar "Hanes Cynhadledd Zurich." Yr wyf yn hyder y deffry Cymru i ymdrech newydd i gadw'r Ysgol Sul yn ei grym a'i dylanwad ac i fynnu'r genedl yn fwy llwyr yn eiddo iddi.