Gwaith Iolo Goch (testun cyfansawdd)
← | Gwaith Iolo Goch (testun cyfansawdd) gan Iolo Goch golygwyd gan Thomas Matthews |
Iolo Goch → |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Gwaith Iolo Goch |
G Howell Baker
GWLAD IOLO GOCH
Gwaith Iolo Goch
LLANUWCHLLYN: AB OWEN
1915
IOLO GOCH.
AB oedd Iolo Goch i Ithel Goch ab Cynwrig o Lechryd yn y sir elwir yn awr yn sir Ddinbych. Yn 1334 yn ol "Archwiliad Dinbych," cawn fod Ithel Goch yn perthyn i wely Goronwy Fychan—ac y rhennid Llechryd yn dri gwely. Hefyd cawn ei fod yn talu chwe swllt ac wyth geiniog o rent am "ran o dir Iocyn Bach," oedd wedi ei golli i'r arglwydd oherwydd "diffyg ardreth a diffyg ebediw." Ei fam oedd Marged, gorwyres i Ednyfed Fychan. Nid oes rith o le i gredu nodiad Gruffudd Hiraethog—os efe ysgrifennodd y nodyn ar yr achres—taw "fferod wraig Iarll Lincoln" oedd ei fam. Rhoddir dau Iolo Goch ar yr achres hon. I'r ail Iolo, mab y iarlles, y mae plant. Ni roddir disgynyddion i Iolo y bardd ar yr un achres. Hefyd efe oedd yr hynaf o blant Ithel yn ol yr achresi; gesyd Gruffudd Iolo yn fab hynaf, a Iolo mab y iarlles yn bedwerydd. Y mae y ffaith fod Iolo yn hawlio. perthynas a disgynyddion ereill Ednyfed. Fychan yn brawf ychwanegol i ameu dilysrwydd chwedl Gruffudd Hiraethog.
Os Iolo ysgrifennodd farwnad Syr Rhys. Wgan, y mae lle i gredu y bu ym mrwydr Cressi, felly ganed y bardd tua 1326. Cafodd ei addysg, yn ol pob tebyg, ym Mynachlog Llan Egwestl. Yno gydag ef yr oedd ei gâr Ithel ap Rhotpert, gwedi hynny Archddiacon Ysceifiog; ac efallai eu bod hwy a Ieuan Trefor, Esgob Llan Elwy (1395-1410), уп gyd-ddisgyblion. Hwyrach, hefyd, mai Ieuan Trefor arall oedd. yr abad (1335-1357) y gwelodd Iolo y dadeni adeiladwaith gymerodd le yn y Fynachlog yn ei amser. Ni wyddom pwy oedd athro y bechgyn, yr unig beth ddywed Iolo yw ei fod "o'r un llwyth, o Ronwy Llwyd." Dywed traddodiad fod Iolo wedi graddio yn y ddwy gyfraith, ac y galwyd ef Iolo Goch oherwydd y byddai'n gwisgo cochl coch doethawr. Anhawdd derbyn hyn, y mae mwy o le i gredu y gelwyd ef yn goch am yr un achos ag yr oedd ei dad Ithel yn goch. Er nad oes gennym brofion o'r traddodiad hwn, yn ddiameu yr oedd Iolo yn wr hyddysg, yn enwedig yn llên Cymru. Er ei gywyddau serch, tybed a oedd wedi derbyn un o urddau isaf y myneich gwyn? Pe caem hyd i gof-restri Llan Egwestl medrem egluro llawer i ddyrys beth.
Sonia am dri athro iddo mewn barddoniaeth. Y cyntaf oedd Ednyfed ap Gruffudd, ac o dan ei addysg ef enillodd addurn cadair, yn yr olaf o'r Eisteddfodau Dadeni a gynhaliwyd tua 1356, am ei "wybodau parth Cerdd Dafod"— os cywir yw nodiad Iolo Morgannwg. Geilw Ithel Ddu yn drydydd athro; ond i Lywelyn Goch y dyry ef y parch mwyaf, ac y mae ei farwnad i'r bardd hwn yn deyrnged odidog.
Y mae Iolo Goch yn un o feirdd uchaf a mwyaf ei oes yng ngorllewin Ewrob. Gwelir, yn enwedig yn ei gywyddau serch, ddylanwad Dafydd ab Gwilym. Ond yr oedd iddo neges ddyfnach a mwy grymus nag eiddo Eos Dyfed. Cymer ran yng ngwrthdystiad ei oes yn erbyn coegni a rhagrith yr urddau cardod. Gwelwn hefyd fod iddo argyhoeddiadau crefyddol dyfnion, a dyry i ni fynegiant uchel o grefydd y Canol Oesau ar ei goreu. Yr oedd ymhell o flaen ei oes yn ei gyd-ymdeimlad â'i gyd-ddyn, ac y mae ei Gywydd i'r Llafurwr a neges byw i ni heddyw. Yn wir y mae y cywydd hwn yn ddihafal o'i fath, hyd y ganrif olaf.
Gwir taw fel bardd Owen Glyndŵr y câ'r sylw mwyaf. Y mae yr agwedd genedlaethol yn fwy grymus heddyw nag y bu erioed. Cawn yn ei gywyddau gân gwawr deffroad cenedlaethol i ryddid—rhyddid i weithio allan ei hiachawdwriaeth ei hun, heb i sythfryd un gelyn nag estron lethu ei datblygiad. Yr oedd yn un o broffwydi'r bore, gwelodd ffordd gywir dyrchafiad cenedl—drwy y niwl hwyrach—ond efe a welodd y llwybr, ac a annogodd Gymru i ymdeithio rhagddi. Cawn ddarluniau byw o Gymru a Chymry ar eu goreu—darluniau sydd yn anhebgorol angenrheidiol eu gwybod a'u deall, cyn y gallwn iawn amgyffred godidowgrwydd y deffroad hwn, a Chymru cyfnod Owen Glyndŵr.
Cafodd flynyddau hwy na'r addewid. Gwelodd ddifancoll ei dywysog. Yn ei alarnad ar ei ol—y cywydd olaf—cawn ef yn adgoffa y cynllunio wnaeth Owen er cael Cymru'n rhydd. Y mae acen ei ffydd yn y dyfodol yn treiddio trwy'r cywydd, uwchlaw ei hiraeth calon; gobeithia y dychwel ei dywysog ac y dwg y wlad o'i rhwym dygn yn rhydd."
Cymerais bob gofal allwn i gael y testun goreu. Y mae y cywyddau argreffir wedi eu cymharu â mwy nag un llawysgrif. Gobeithiaf nad oes lawer o wallau. Ceisiais fod mor sicr ag y gallwn parthed dilysrwydd yr awduriaeth; y mae rhai ameus i mi yma, a nodaf hynny. Bu casgliad Charles Ashton o wasanaeth mawr i mi, a phe buasai y rhai oedd a'r amser a'r cyfle iddynt mor foddlon gweithio ag y bu ef, ni fuasai cymaint o gyfoethog lenyddiaeth Cymru heb eu cyhoeddi. Yr wyf dan ddyled drom, hefyd, i'r ddiweddar Anrhydeddus Augusta Herbert o Lanofer, ac i'w mab, y Cadfridog Syr Ifor Herbert, C.B., G.C.V.O., A.S., am lawer o garedigrwydd.
T MATTHEWS.
Yr ydys yn gwybod fod llawer o'r llinellau'n feius, fel y dengys y diffyg synwyr a'r diffyg cynghanedd yn aml. Ond gwell cyhoeddi gwaith bardd Owen Glyndŵr yn awr yn y dull goreu y medrwn. Caiff rhywun ddod ag argraffiad cywirach. Darllenodd Mr. Ifor Williams y prawflenni, a rhoddodd awgrymiadau gwerthfawr, ond nid yw ef yn gyfrifol am unrhyw wallau ddigwydd fod.
Daw esboniadau llawn ar eiriau a digwyddiadau yn niwedd yr ail gyfrol o waith beirdd Owen Glyndŵr.[1]CYNHWYSIAD
Nodir y cywyddau amheus a seren *
CYWYDDAU SERCH
i Gyrru'r bronrhuddyn yn llatai
ii I Euron, pan oedd glâf o serch
iii Barf y bardd a'i rhwystrodd i gusanu
iv Barf y bardd
v I ddiolch am ariangae*
(Hwyrach yr ysgrifenwyd hwn amser y drydedd Eisteddfod Dadeni (1356) Priodolir
of hefyd i Ddafydd ab Gwilym-i ddiolch am ariangae roddwyd i Iolo]
vi Helynt Euron
vii Dewis ddyn y bardd
viii Y tafod a roddodd sen ar Euron
CYWYDDAU CYMDEITHASOL
ix Y Cardiau*
x Y Brawd Llwyd
xi Y Brawd Llwyd o Gaer
xii Y Llafurwr
xiii Y Llong
xiv Englyn-Ewyllys Da
xv Englyn-Poen mewn Pen*
CYWYDDAU CREFYDDOL
xvi Duw
xvii Englyn i'r Drindod
xviii Cyffes
xix Gweddi ar Grist
xx Sant Anna
xxi Achau Mair[2]
xxii Mair
xxiii Yr offeren
xxiv Dewi Sant
xxv Dydd y Farn
xxvi Marwnad Syr Rhys Wgan[3](gwedi 1346)
xxvii Araeth i Ddafydd ab Bleddyn (c. 1350)
xxviii Moliant Syr Hywel y Fwyall (gwedi 1356)
xxix Marwnad Tudur Fychan (1367)
xxx Edwart III, Brenin Lloegr (c 1368)
xxxi Gwyddelyn (c 1368)
xxxii Herdsin Hogl (c 1368)
xxxiii Marwnad Ithel Ddu (c 1368)
xxxiv Marwnad Dafydd ab Gwilym (c 1368)
xxxv Englyn ar Feddfaen Dafydd ab Gwilym (c 1368)*
xxxvi I erchi March Ithel ab Rhotpert (c 1380)
xxxvii Pedwar Mab Tudur Llwyd (c 1380 ? cyn)
xxxviii Achau Owen Glyn Dwr (c 1380)
xxxix Marwnad Meibion Tudur ab Gronwy (gwedi 1392)
xl Ar ddyfodiad Owen Glyn Dwr o'r Alban (c 1390)
xli Marwnad Llywelyn Goch (? c 1390)
xlii I Ithel ap Rhotpert i ofyn March (c 1391)
xliii Owen Glyn Dwr (c 1394)
xliv Marwnad Ithel ap Rhotpert (c 1396)
xlv Moliant Syr Rhosier Mortimer (c 1396)
xlvi Araeth o Fendith ar Lys Hywel Cyffin (c 1397)
xlvii Owen ab Gruffydd o Lan Tawy (1390-1400)
Y DARLUNIAU
1 GWLAD IOLO GOCH—Wyneb-ddarlun
2 EURON-
"Y ferch a wisg yn seintli"
3 CYFFES IOLO GOCH
"Lle mae nefolion
Lluaws urddolion,
Lluoedd angylion
Gwirion gwaredd"
4 "ARGLWYDD, TRUGARHA WRTHYF"
"Er dy loesion
Er dyniadon
Er dy goron
Wrda goreu"
5 YR EANG DANGNEF
"I'r lle mae eang dangnef
Ag aed a'r gerdd gydag ef"
6 YMADAWIAD ITHEL DDU
Ag a llong y gollyngwyd
O'i wlad i Dir Lleudad Llwyd"
7 BRWYDR CRESSI
"Gwae a'i gweles vng Nghressi,
Gwr diwael mewn trafael tri"
GWAITH IOLO GOCH.
I. Y BRONRHUDDYN.
GYRRU Y BRONRHUDDYN YN LLATAI, AC O GLODFOREDD IDDO.
Y CELIOG brag a'r clôg brych,
Cywraint barnwn fraint bron-frych,
Iarll adar, eurlliw ydwyd,
Ar glyw yn wych, ar y llwyn wyd;
Cael miwsig, cloiau mesur,
Cloedig bwnc, gloewdeg pur;
Cnoc glasfryn, celiog glwysfrith—
Croeso i'r bryn a'r crys aur brith.
Solais byd, felys-lais big,
Swyddwr a gwir-gas eiddig;
Difyr salm, di-ofer son,
Dy gerdd mewn bedw gwyrddion;
Mynac edn mewn coedwig,
Main dy ben, mwyn yw dy big.
Pen cyngor porthor perthi,
Plu bais deg-ple buost ti?
Hir y gwybum rywiog bais,
Hiraeth ddal, hwyr i'th welais.
Digiais, ymserchais wrthyd,
Druan gŵr, am dario yn g'yd;
Rhag bod clwyfau briwiau brad,
Na swrn o eisiau arnad;
Na charchar trwy alar trais,
Na milain frad, na malais;
Na chroglath, magl gath mwygl-gau,
Na ffitffel mewn cornel cae.
Celiog teg mewn clôg wyt ti,
Cresl waith-grys Crist i'th groesi;
Gwr crych ar hyd gwarr y bryn,
Gwr ysmala grys melyn;"
Bid adail bywyd dedwydd,
Brych i gwfl, 'r hyd brigau gwydd;
Bid glwysdy a'r bedw glasdeg;
Bodlon wyt, i'r bedw-lwyn teg.
Gwrando, gyw, gwiriondeg iaith,
Gad imi fod yn gydymaith.
Pan gerais, mi ddeliais ddig,
Pur-wen winwydden eiddig;
Dig yw eiddig, da y gwyddwn,
Di elli help i dwyllo hwn.
Gwna fyned oddi-gennyf fi,
Gwawr ddydd ag arwydd iddi.
'Mogel air call, a mygrliw cas,
Malais eiddig, mal Suddas;
'Mogel, er Duw, maglwyr dig,
Galar oedd, gwyliwr eiddig;
'Mogel yr haf, magl a rhwyd,
A'i gath hen-llom gethin-llwyd.
II. EURON,
PAN OEDD GLAF O SERCH.
HIR yw'r dydd, cethlydd caeth-loer,
Ys hwyr a naws haearn oer;
Hir yw'r wythnos, dros draserch,
Ys hwy'r mis im o sor merch;
Hir yw'r tymor hurt imi.
Tud mad, tost o fod mewn ty;
Ys hwyr yw i hystlys hi,
Y flwyddyn, oerfel iddi;
Am baham im, y bai hir—
Amser haf y'm sarheir?
Nid aeth fy llaw hiraethlawn,
Ar dant telyn rhymiant rhawn;
Ni thyfodd yr ail ddeilen,
Ni thrig dim o'r brig ar bren;
Ni chânt edn hafnant yn hawdd,
Yn luosawg ni leisiawdd,
Tref o'm gwlad, tra fum glaf,
Truan gwr, er ys tri-haf.
Nid byth cynt, llyth o haint llyn,
Y byddaf glaf a bawddyn;
Ni bu erioed bai ar wr
Trwsiad waeth ar wtreswr,
Er pan fu, hoewlu helynt,
Ar Awen Geridwen gynt,—
Gorddwy a phoen angerddawl,
Ar Daliesin, melin mawl;
Er na bwyf iawn rwyf un râs
Ac Efa mwy a gafas.
Minnau a wnaf im enaint
I fwrw hyn o ferw a haint
Mi a i'r pwll, lle mae'r Pair
Dadeni da di-anair;
Ag a ddof, pan gaf ddyfod,
Yn oed gordderchwr i'r nôd.
Pan ddel Fawrth a'i ryfawrthin,
A chilio gwynt a chael gwin,
A gloewlaw wybr goleulawn,
A gwlith angen-frith yng nghawn,
A niwl gwyd yn ol y gwynt,
Yn diffryd canol dyffrynt,
A'r hedyddod, rhai diddan,
Yn cael yn yr wybr eu cân,
A tho Mai, a thai mwyeilch
A phaentio gwydd a phŷnt gweilch.
Cynnyrch ar seith-iyrch y sydd,
A hindda, a gwanhwyn-ddydd.
Hyn y sydd ddywenydd im,
Cael o'm hoedl cwlm ehudlym;
Mynychu i dyfu dawn
At Rys deg wtres digawn-
Clywed gwaslef merched Mai,
Cwn a bely a'm cynhaliai:
Bwhwman y winllan werdd,
Yn y glasgoed, enw glwys-gerdd;
Cyd orwedd mewn coed irwyrdd,
Cyrchu ffair, cyfarch ar ffydd;
A bwrw nyn, nis bwriai neb,
Dyna, ar i lledwyneb;
Ymddiddan, gwledd gyfeddach,
Hyn a wnai gorff hen yn iach.
III. BARF Y BARDD.
A'I RHWYSTRODD I GUSANU EI GARIAD.
DOE'R pryd hwn yr oeddwn i
Drwy fedw yn ymdrafodi,
Ag Euron hardd, goroen hoew,
Gorwyr Eigr, gair oreu-groew.
Gafael daer am y gofl deg,
A gefais, gwn i gofeg;
Gafael arddwrn a gefais,
Gaifn hael am gefn ei hais;
Gafael chwith a wnaeth hithau,
Agwedd mwyn, am y gwddw mau;
Ymwasgu fal cwlm ysgwthr,
Am aur coeth ymwyrio cwthr;
Ymgusanu y buam,
Ni bu hir hynny, baham?
Diystyr oedd, diystryw oer,
Gan fun oleulan liw-loer,
Ymysg y coed am was cu,
Am esgyrn cul ymwasgu,
Goglais ganti pan giglau,
Trawswch a blew mor-hwch mau.
Fy marf gneifiedig ddig ddysg,
Crin gorbedw, fal croen garw-bysg;
Rhisglen hea geubren gobraff,
Yn rhisglo'r grudd fel rhasgl graff.
"Wt," eb Gwen, nid ateb gwych,
"Paid ti, poed oer y peidych;
Nesa hwnt, flew danas hen,
Siomgar wyt; a oes amgen?"
Cael serthedd, ciliais wrthi,
Ni chwery'r ferch, ni châr fi;
Diriaid iawn fu'r drudaniaeth.
Pa ddiawl aneddfawl a wnaeth
I gleiriach, bwbach y bobl,
Gusanu'r gwefus sinobl?
Digri oedd weled, ged gu,
Deugorff wen yn ymdagu;-
Aethum a'm bargod eithin,
Em aur, i feingil i min;
Ysglyfiais bacs diwacsa,
Is gwef dyn, bu ysgwfl da;
Darfu i'm dyllu, heb dwyll,
Barbed fy mun syber-bwyll;
Briwais glaer wyneb braisg lamp,
A bochgern merch ddibechgamp;
Gwesgais, digroenais i grudd,
Gwasgrwym tost ar ddyn gwisg-rudd;
Garw yw o beth ar gwrr boch,
I bod fel bargod burgoch;
Bondo fal brig perth bendew,
Byrion yw blaenion y blew;
Tin âb gul, teneu heb gig,
Twyn o for-frwyn ofer-frig;
Cardiau o beithynau bwth,
Neu rawn moelrhawn ymyl-rhwth;
Cloren lom, culor-hesg,
Colion haidd, celyn a hesg;
Draenoges ddiles ddialedd,
I ddigio'r wiw ddwyan wedd;
Gwnawd yn ol medd-dawd i mi
Gneifio 'marf, gnuf mieri;
Ni aill hi, nawell yw hyn,
Eillio hon â min ellyn;
Anrhegion mawr anrhygoll
A gaffwn, ped eilliwn oll;
Diofryd peth diafryw
A roddaf, o byddaf byw.
Cneifio 'marf, cyn i tharfu
Cneifiad oen, cynhaeaf du;
Dros i gadu'n draws geden
I dyfu gaeaf gnu gên,
I guddio'r croen a'r gwddw crych
A'r ddwyfron mor arddifrych—
O mynnaf, serchoccaf son,
Ymgaru, mi ag Euron.
IV. BARF Y BARDD. (2)
AI dydi, farf, a darfodd
Y ferch a'm cusanai o fodd?
Rhy-dew y fan y'th blannwyd,
Cnwd mawr ar y cnawd im wyd;
Wyddelig arw! ddolem,
Wrth edrych i'm drych am drem.
Aeth fy ngwep a'm wynepryd,
Gol gen, yn geden i gyd.
Er llwyred darffo y llori,
A'r modd yr eillier i mi,
Nid llyfnach, ddianach ddysg,
Na chroen y gwrboen garw-bysg;
Nid oes, gan Wen, i'm genau,
Fawr fodd am y farf fau;
Garw, gan deg i gorhoen,
Fal llysiau "cribau'r croen;"
Garw erioed oedd gwr i rudd,
Gwrych boeni, garwach beunydd;
Mintai o ardiau mantach
Budd o wraidd o bydd i wrach;
Mae ar fy llechwedd, meddan,
Ddeunydd mil o ddannedd mán,
Pais draeniog oediog ydyw,
Pwn ar en, fal pen o'r yw;
Blina col, blaenau celyn,
Symlau dur yn symlu dyn;
Blew hen-hwch, o ble hanwyd,
Cnwd o egin eithin wyd.
Llym a glew yw pob blewyn,
Grug dôl yn gorugaw dyn;
Megis morarw y magan'
Esgyll, mil o ysgall mân.
Yr wyd fal sofi ar rew,
Heb haen yn sythflaen saethflew,-
Dos ymaith rhag dwys amarch,
Do gên, fal bon myngen march;
A gwnai fy ngên yn henaidd,
A dŵr gwres y daw o'r gwraidd.
V. I DDIOLCH AM ARIANGAE.
IORWERTH, drwyadl ddioerwas,
Erioed ni bu drwg i ras.
Ar ungaingc, mewn ariangae,
Arwain aur a main v mae,
Ba wr un rhôl ag Iolo,
Defod hardd hoew-fardd, y fo?
Ar i ddwyfron arddyfrys
Erddaw y bydd, croesaw crys.
Urddas i'r ferch ddiweir-ddoeth
A roddai'r cae ruddaur coeth.
Erddi nid oes im ordderch,
Oer yw na syrth arni serch;
Ar eiriau mawl yr euraf,
Arwyrain hon orhoen haf;
Eiry naw-nyf oer-hin Ionawr.
Eurwn â gwawd, orhoen gwawr;
Euron hael arian hoewliw,
Eurwn i gwawd, ar enw gwiw;
Y rhiain ddi-orheiwg,
A'r ael ddu, urael a ddwg;
A roes im, llyna ras hoew,
Yr em oleuwen liw-loew;
Arwydd serchog a oryw,
Ar wystl serch erestlws yw;
Arwydd gwydrain ar gadach,
Euryn bychanigyn bach;
Oerfel er a ddel o ddyn,
I eiriol im roi euryn;
Eurwr wyf aur Arafia
Er ofn neb ni rof fy na;
Oedd afraid peth i'r ddwyfron,
A dynnai haint o dan hon.
Balchach wyf gilio'r balchwydd.
O'r cylla rhwth cawell rhwydd;
Odid iddo rhuo rhawg,
O wyrthiau main mawr-werthawg;
Gwyrthiau a rôn, gwerth aur ynt,
Ag odidog od ydynt;
Mae main yma i'm mynwes,
Anaml yw a wnai les,
Meddyg a wna modd y gwnaeth
Myddfai, o chai ddyn medd-faeth;
Iach yw'r galon hon, yn hawdd,
Hi à chae a'i hiachawdd;
Goreu fu im neu'r gerals,
Goreu fu ef ar gwrr ais;
Ni ohiriai lle bai ben
Gyhyrwayw gan gae hirwen,
Mwy nag i frig mynag traul
Rhew neu eiry ar hin araul.
VI. HELYNT EURON.
Y FERCH a wisg yn sientli,
Main i hael, a mwyn yw hi.
Ni bu achos nag ystyr,
Er lladd gwen fo'i lluddiodd gwŷr.
Ond i fyned eill deuoedd,
O ddychymig eiddig oedd.
Chwareu synn, chwerw fu'r synwyr,
Cnau i'm llaw, gwell i cnoi'n llwyr;
Cnau i'm llaw, er gwrandaw gwir—
"Minnau biau," eb ohir.
Pam y tau synhwyrau hon,
Amau hyn am i hanfon?
Pwy anfones lles llun
Iolo Goch a'i law gychwyn?
Pam y car, mab o'r lle mae—
Cared o chared chwarae?
"Gad yna," eb y geinferch,
"Am nifer im, myn fy'm serch."—
Pan agorodd i dwylaw,—
"Myn y ne! Nid mwy na naw."
Taflu o eiddig y cnau o'i law,
Ym mysg lludw mawn a llidiaw.—
"Fo fu Iolo gennyd "—
"Pwy a braw hynny? Pa bryd?
"Fo fu gennyd yn fynych."—
"Na fu oni bu na bych."
Fo y'th weled nos Wyl-Fair,
Ti ag ef mewn ty a gwair;
Ag y'th weled Nos Ynyd,
Ti ag ef mewn ty ag yd.
Fy nghred! Pe doethwn atoch,
Gwnaethwn ffo i'r cadno coch!"
"Ni chiliai'r gwas difai da,
Er undyn hyd yr India."
"Celwydd," eb y gwr culael,
"Ciliai neu gelai dy gael."
Cael o eiddig ffarf-ddig fferf,
Crynffon, wialenffon, lownfferf,
Rhoi pwys y ffon ar honno
Ar hyd i phen, bu rhaid ffo.
"Dos allan gynta y gellych."
"Nag a nes gwys, od wy was gwych."
"Dos i ddiawl wenwynawl naid."
"Nag a, syre, neges afraid."
VII. DEWIS-DDYN Y BARDD.
CARU ddwyf, caruaidd yw,
Cwrel-rudd criawal-ryw;
Cares falch, hepcores fedd,
Caredig ferch Caer Degfedd.
Cangen ddifethl, ael-gethloew,
Cegin-wrych garw-ddwfr, crych croew;
Cegiden bebyrwen babl,
Cogeil-gorff cu o gel-gabl;
Llwyr ing, im gwnaeth llawer och,
Llarieiddgainc llyry ruddgoch;
Lloer wyneb lliw eiry Ionawr,
Llar yw, a gwiw leuer gwawr.
Da iawn yw gwedd y dyn gwyllt,
A'i dyfeisiad, dwf Essyllt.
Dillynaidd, da y lluniwyd,
Diwyl hon, myn Dewi Lwyd!
Tal ag eur mal goreu mold,
Briallu-wallt, bre lliwold.
Deuliw eigr, da oleu-grair,
Dwy ael fain, megis delw Fair.
Llygad fal glain cawad coeth,
Tebyg i faen y Tiboeth;
Gwen rwydd, fal lliw gawn ar rew,
Gwyn-drwyn, cyfladd-grwn gwan-drew;
A deintws mwyn-tlws, a min
Digrif-wymp di-agr yfwin;
Tagell hir, teg oll i hymp.
Alarch-wedd gron-wiw lewyrch-wymp;
Bawd rif baderau eurfraich,
A bron atal-twf, a braich;
Llaw fain, un lliw a'r waneg,
Baslart hir, bys hoew-lary teg;
Ewin ballasarn arnaw,
A modrwy aur, y mae draw.
Ystlys-lun dduwies dlos-leddf,
Ystud-wen modd stad meddf.
Fferfain is fferrau'r feinir,
Ffurfeiddwyn droed cyd boed byr;
O chemir bys yn chwimwth,
O'i blaen, lygad crynfaen crwth,
Brwynen ewinwen wanwyrth,
Braidd fel tywys haidd, na syrth.
Arleis-lefn ddyn, eiry lwys-liw,
Wrlys gwyn ar eur lewys gwiw,
Gwyn i byd! Gwen yw i boch,
A gwisg fy nyn wefus-goch.
Penwisg welw, dyn di-ddelw doeth,
Penselgain yw'r pennes ael-goeth.
Pwy a allei, pei pen-saer,
Peintiaw â chalch pwynt fy chwaer?
Pentyrrais gerdd, pwynt di-rym
Puntur serch, pond trahaus ym
Dybiaw cael, bu hael baham,
Gydgwsg a'm dyn lygad-gam.
VIII. Y TAFOD.
A RODD SEN AR EURON.
Y DRUAN fawd lydan ledr,
Y Tafawd nid wyd hyfedr!
Pan na cheffy dy diddos,
Pa ddail a wnaid pan ddel y nos?
Na fedri, noeth ynfydrim,
I lenwi dewi er dim.
Adde'r wyd dy ddireidi
Addail tir i ddiawl wyt ti.
Awr daw it, ar dalm o'r dydd
Aml ferw yn ymleferydd;
Mwy na rhegen mewn rhagnyth
Am nith Fair, ni thawai fyth;
Aelod bochwael ddiwala,
Yn son am ferch dynion da.
"Ni thawaf," eb y tafawd,
"Ni thaw'r gwynt lle nithir gwawd."
Berw a ddwg fal mwg mawr,
O'r cylla fal berw callawr;
Drwg yn wir, gwaeth o ragor,
Yn llawn annwyd moelrhawn mor,
Pan ddel y llanw gwyllt llawn-hir,
Y sai a'i flew fel sofl ír,
A rhuo a wna a rhyw nâd,
A briw ferw a bryferad;
Yfed llyn gwerth dan berthi,
Nos a dydd yw dy naws di;
Ymddyfalu meddw foliad,
Son yn ffraeth am gwrw San Ffraed;
Hynny, myn Mair, a bair bod
Bygynad tebyg ynod;
A bloeddio fal pobl Iddew,
Mi a adwaen flaen dy flew;
Hawdd yw adnabod ar hen
Gorflewyn gwt aflawen;
Gau genau y geg anoeth,
Gael atat beth gatud boeth.
Ti a wnei, beth ni wnai neb,
Hoel gwta,-holi ac ateb.
Anredu enwir ydwyd,
Yr hudol ar i hol yr wyd.
Yn chware i delw weflgrach,
Wenhwyfar ymbilgar bach.
Dal yr wyd, gair dal roddir,
Drwy dy hun, dadl drydwy hir.
Mae'r naill beth achreth echrys,-
Ai bod brad gyfarfod brys,
Ai hunlle fodd henllwy faidd
Arnad yn haearnaidd,
Ai ymorol am Euron
Mordwy serch-mawr yw dy son.
Deffro Arch i Dduw'n diffryd
Dy ffrwyn, na fawl di i ffryd.
Doed dy gôf diota gynt,
Diodydd mêdd, da ydynt;
Dy flaen yn eurfaen oerful,
Dy fin cam daufiniog cul;
Ysbodol eisieu bedydd,
Arnad yn siarad y sydd.
Offeiriad meddw, gweddw gwyddel,
Gynt a'th fedyddiodd dan gel;
Tyfaist yng nghysgod dwyfoch,
Fal tafell o fara cell coch;
Cliciedyn yn cloi ceudawd,-
Clo pren gwern, clap brenau gwawd.
Megaist, fel y myn Magod,
Mefl o fewn, mau ofal fod;
Meistr dyfrllyd masw.drig,
Mesfrig a man yswr cig.
Perigl it y para glwyf,
Ag ellyn gynta y gallwyf
Dy dynnu, myn Duw a Deinioel,
O'r gwraidd, lafn mileinaidd moel,
Coffa di, ddaed y'm caffud.
Ni ddoem o dre, heb ddim drud.
Hanes ty, Cymro henaidd
Fal hanes troed blaengoed blaidd!
Mae 'no chwedl, mwy na chydladd,
Nes na'm lles im gael fy lladd.
Rho gyngor it rhag angen,
Rhy fenybr i'r rhaw fawn bren.
A minnau, gwir ni mynnwn,
Oerni byth i'r neb a wnn,
Er ugain morc, neu gan—muw,
Gael twyll, myn goleuad Duw.
IX. Y CARDIAU.
CENNYF yr oedd uwch Conwy,
Baich o dda, a buwch neu ddwy.
Deliais ar gardiau dilys,—
Allan o'm plwy mwy na mis.
Daeth diwrnod o daith arna
I chware'n two chwant da.
Cael yno'n rhwydd, coelio y rhain,
Yn rhugl un ar ugain;
A chware'n lew fel dewin,
Tynnu dews o tan y din,
Rhoi ysgwd i gardiau ysgil,
Casa gwg, cosi gwegil,
A gwladeiddio yn rhifo y rhain,
A rhegi tri ar hugain.
Ni oedd yn wr, elw hyll,
Yno ysywaeth le i sefyll,
Tynu cyn talu i'r colmyth,
Rhy daer oedd ar hyder wyth;
Dod yno un deu-naw
Ym min y nos-a mi a naw!
Sefyll ar saith gwaith y gwr,
Gwrthod pedwar, gwaith pwdwr.
Sefyll ar wyth, dylwyth da,
Traian nos, a'r cri yn isa.
Tynnu ar naw hylaw holi,
Coelio yn drwch-cael yno dri.
Cael tri deg, amliwio'r da,
Eto un-waith fet yna.
Fellyn pan fai deg fy lle
Un o'r trowyr a'i trawe;
O dod lê, i dario'n lan,
Dallu a dwedyd, myned allan.-
O rhown geiniog gain amlwg,
Nhwy rhoiai arian drwg.
O roddi grôd a ffas gron,
Ni chawn i, ond dandi dindon.
Gwerthu eidion, gwrthgu ydyw,
Ag wrth y dydd, gwerthu Duw.
Gwerthu llawer o'm gwartheg,
I dalu am dynnu'r deg.
Am hyn y collais fy mhwyll,
Yn gynnar wrth un ganwyll.
A fyno gael gafael gwr,
Geirda, nad aed yn gardiwr;
Ag od a, er ceisio ced,
Yn sicr fo gyll ei siaced.
X. Y BRAWD LLWYD.
TEG o gynnyrch hygyrch hardd,
Taliesin ffraeth-fin ffrwyth-fardd,
Ar garu hoen eira goror,—
Gwylan gar marian y mor.
Penna bardd oedd, pe ni bai,
Y brawd sais, lwyt-bais letbai;
A ddywod ddrwg i ddeuwerth,
Am ysgolheigion son serth;
A'i bregeth-bawbeth o'r Beibl,
Daeog anserchog surchwibl;
Gi brenig, drewedig draed,
Gynfab mab dragwas drygwaed;
Cedo-wrach hagr foel-grach fawr,
Cidwm gwregys-glwm grwys-glawr;
Moelrhon besychlon sechlodr,
Mab cleiriach o'r bwdwr-wrach bodr;
Gorchymyn hen ben glermwnt,
A wnai'r brawd aniwair brwnt.
Yr ai gwraig o'r gwir ogan
Rhag offeiriaid glwysiaid glan,
Gogan bychan, heb achos,
Oedd i'r riain, dlysfain dlos.
Pwy a geisiai, ni wnai neb,
O wyr da, aniweirdeb
Anian y corff a'i ynni,
Yw creu plant meddant i mi;
I amlhau ymyl heol,
Pobl byd, anwylyd yn ol.
Nid amod gwybod mewn gwad,
Gorff aur, garu offeiriad.
Diddarbod iawn dy dderbyn,
Gan Dduw er i fod gan ddyn.
Uchel yw gradd offeiriad,
Achos Duw mae'n uwch ystad;
Am hyn yn wir feinir fydd,
Y gelwir yn ddigwilydd.
Ieuan, degan fendigaid,
Offeiriad i dad a'i daid,
Beth oedd yntau, goreu gwr,
Ieuan, diddan fedyddiwr?
Mab hoff, o gorff offeiriad,
Ffwrdd y doeth un ffordd a'i dad.
Tad doeth Gwynog a Nwythan,
Oedd esgob mewn cadr-gob can.
Teca esgob o bob iaith
Oedd dad Glân Elian, eilwaith.
Ni liwir yn oleuad
I neb odíneb i dad.
Ni ddwg mab arab aren,
Baich i dad, am bechod hen.
Am hynny, yn wir, medd Syr Saint,
Y gwir freinia gwyr unfraint,
O mynnir cred a bedydd,
Rhaid yw offeiriad a ffydd.
Swydd offeiriad, tad a'i twng,
Gallu rhwymaw a gollwng.
Dyn a ddel dan i ddwylaw,
Am a wnêl cyn dêl, o daw.
Maddeu gweithred a meddwl,
Diffodi caledi cwl;
O chaiff gymun a chyffes,
Fo ai i nef a fo res;
Ag ef od af i gyfuwch,
Ni wyr cythrel trafel trwch.
Nid oedd gymaint braint y brawd,
A'i faddeuant i ddefawd,
Ag nid teilwng gollwng gwyll,
Ni wyr gymunaw ereill;
Na bedyddio, bo ddiddim;
Ni wyr Dduw,-a wyr e ddim,
Mwy na mwdwl moel madarch?
Moeswch mwy a ys na march.
XI. Y BRAWD LLWYD O GAER.
HYWEL, urddedig hoew—walch,
Ab Madog aberthog balch,
Mwy wrth gariad, lle cad cost
O Adda, dalm a wyddost,
Na neb, godineb nid oes
Gennyd, ond serchog einioes.
Ti a gwynaist, teg ener,
Wrthyf unwaith warth fy nêr,
A'r cwyn tau, di ri rhy-ddoeth,
Yw'r cwyn mau finnau, wr coeth.
Lled addef llid a wyddost,
Llyma'r cwyn dirwyn tost,—
Llun engl a wna'r llun an-glaer,
Llid gwyn y brawd llwyd o Gaer.
Llwdn troednoeth a ddaeth yn ddig,
Lle'r oedd gwraig llawer eiddig;
A mwyn rianedd mewn mainc,
Mwyaf gerym yn ieuainc;
Gwaethaf brawd i bregethu,
I foes wrth urddol a fu.
"Nid a i nef," meddai ef, "un
O charai wr a choryn."
Uwch yw'r swydd, Och ar i siad!—
Iddaw, ond gwir a wyddiad;
Pan na bai rydd serthydd serch,
I urddol wraig neu ordderch,
Rhoed cennad, rhad a'n cynnail
Rhydd, myn y dydd, mewn y dail.
Chwaen hagr, gan leidr gorwag-frwysc,
Chwerw dafawd oedd i'r brawd brwysc,—
Cymryd arnaw, deu-fraw dig,
Geibr nedd, gobr un eiddig;
Fwrn oer fraw, farnu ar frys
Ar enaid neb o'r ynys,
Gwell y peirch, gwiw allu pwyll,
Duw Dad, im dy didwyll
Gwraig ysgolhaig, os gwyl hi,
Urddoi a mwy gwnai erddi
Noc y dywawd y brawd brau,
Llwyd o Gaer, llidiog eiriau;
Mawr o was bras oedd y brawd,
O ddyrnwy aml i ddyrnawd;
Na bo gwell, hen gawell gwyr,
Y darffo i'r brawd oer-ffwyr;
Nei ddal lleidr gwyllt-gal gwallt-gylch,
Un cas yn rhodio'n yn cylch;
A'i gwff llwyd mewn gafl llechyr,
Gynhaig o Seisnig-wraig sur;
Cryw ar wisg oer osgedd,
Clawr croen crewr poen pob bedd;
Cwthr pla, lle cnofa llau cnwd.
Ci ceillgam bwdr cocyllgwd;
Ysgrin gwrach fraen sothach frau,
Ysgod hen felgod folgau;
Ystum ar sofl gofl gywen,
Ystlys ustus ys heb pen;
Ystelff diffaith, myn Seiriol,
Ystyried myhuned moel,
Na charai, na fynnai ferch.
Draw erddaw o draserch.
Pé chai'r mab fenthyg abid,
Gan hwn, yn dwyn llawn gwyn llid,—
Gwell o beth y pregethai,
Na mil o honaw ym Mai:
A chael gan fun loew-lun law,
O fwynder i warandaw,
A chael yn lledrad, o chae
A chain wiw riain warae,
Distadl athrodwr dwys-taer,
Dywed, frawd godlawd o Gaer,
Beth a holid, barcud bedd,
Gysgwr ar gam i'r gwragedd,
Ac enaid breladiaid bro,
Wynedd a Phowys yno.
Gwyliwch a gwelwch y gwr,
A brys ing, fal bras iangwr,
Gwydn duth, ar un gwadn ai dau,
Llwdn heb warthaf anlladau;
Rhoed un llusg, rhaid in i ladd,
Rhyw dost-wr, reidus diradd;
Rhoed arall yn rhaid oerwr,
Ffonnod yn gardod i'r gwr,
Drysid Duw rhagddaw, baw o beth,—
Drwsa brag dros i bregeth.
XII. Y LLAFURWR.
PAN ddanghoso rhyw dro rhydd,
Bobl y byd, bawb o lu bedydd,
Ger bron Duw cun, euddyn oedd,
Gwiw iaith ddrud i gweithredoedd,
Ym mhen mynydd, lle bydd barn,
I gyd, Olifer gadarn,—
Teg fydd chwedl di-ledlaes
Llafurwr, tramwywr maes.
O rhoddes ef, wr hoew-ryw,
Offrwm a'i ddegwm i Duw,
A'i gardod trwy gywirdeb,
O'i lety, ni necy neb;
Enaid da yna uniawn,
A dâl i Dduw dylai ddawn.
Hawdd i lafurwr hoewddol,
Hyder ar Dduw ner yn ol.
Ni fynn farn, ond ar arnawdd,
Ni chair yn i gyfer gawdd;—
Ni ddeil ryfel, ni ddilyn,
Ni ddifa am i dda, ddyn;
Ni bydd ry gadarn arnam,
Ni hawl yn gymhedrawl gam;
Nid addas onid i ddioddef,
Nid bywyd, nid byd heb ef.
Gwn mai digrifach ganwaith,
Gantho, modd digyffro maith,
Ganlyn, ni'm dawr heb fawr fai,
Yr aradr crwn a'r irai,
Na phe bai pen dorrai dŵr
Yn rhith Arthur anrheithiwr.
Ni cheir eithr o'i weithred,
Aberth Crist i borthi cred,
Na bywyd-pam y beiwn?—
Pab nag ymherodr heb hwn,
Na brenin hael-win hoew-lyw.
Dien i bwyll, na dyn byw;
Lywsidarus hoenus hen
A ddyfod hyn yn ddien;
A buchedd dda ddibechawd,
Mewn crefydd ffydd a ffawd,
Gwyn i fyd trwy iawn-bryd traw,
A ddeil aradr a'i ddwylaw.
Rhwyg cryg banadl gwastad-faes,
Cryw mwyn yn careio maes;
Cerir i glod, y crair glwys,
Cywir yr egyr hoew-gwys;
Cawell-tir gwydd, rhwydd yr hawg,
Call drefn urddedig cylldrawg;
Un dryll-wraidd dyffryn-wraidd ffrwyth
Yn estyn gwddf anystwyth,
Ystig fydd beunydd o'i ben—
Ystryd iach is traed ychen.
Aml y canai emyn,
Dilyn y fondid a fynn.
Ceiliagwydd ogwydd eigiawn,
Cywir o'i grofft y ceir y grawn;
Gwas porth-fil, an-eiddil nen,
Gwasgar-bridd gwiw ysgeirbren;
Cnwd a gyrch mewn cnodig år,
Cnyw diwael yn cnoi daear.
Gwr a'i anfodd ar grynfaen,
Gwas a fling y gwys o'i flaen;
E fynn i gyllell a'i fwyd,
A'i fwrdd dan fon i forddwyd;
Hu Gadarn, meistr hoew-giwdawd,
Brenin a roes gwin er gwawd;
Ymherawdr tir a moroedd,
Cwnstabl aur Constinobl oedd;
Daliodd ef, gwedi diluw,
Aradr gwaisg iawn gadr gwiw;
Ni cheisiodd, naf iachus oed,
Heb fwrw'r aer, i fara erioed;
Eithr da oedd i athro,
O'i lafur fraisg awdur fro,
Er dangos, eryr ddawn-goeth,
I ddyn balch a difalch doeth,
Bod yn orau, nid gau gair.
Un grefft gan y Tad iawn-grair;
Arwydd mai hyn a oryw,
Aredig dysgedig yw.
Hyd y mae cred a bedydd,
A phawb yn cynnal y ffydd,
Llaw Dduw cun, goreu un gwr,
A llaw Fair, ar BOB LLAFURWR.
XIII. Y LLONG.
ANHAWDD im un hawddamawr
Ar y llong, oer yw i llawr.
Cyfryw ffrwd, ceufawr y ffrost,
Carchardy uwch cwrw chwerw-dost,
A'r wâl ddu-oer awel ddig,
A'r gloew seidr oer gloesedig.
Hawddamor oerion arfoll,
I'm ion a'm cyfeillion oll;
Na bo wyll gyflo gyflong,
Hawddamawr i lawr y long.
Cerydd mawr, cur oedd i mi,
O fein-ddyn llesg fyw ynddi.
Rhocian a wnai, bai o beth,
Ar i hochr oer i hachreth.
Cost im oedd cowsty mŷr—
Castell ing, cist y llongwyr.
Cest fein-deml aml y camlyw,
Golwch Noe, golych win yw,
Hwch o rudderw, chwerw i chwys,
Henfon ddu, welwgron waelgrys;
Certwyn glo, nid cwrt iawn glân,
Carthen hwyl, cry croth anian;
Ffriw uchel, wrach fin-grach ford,
Ffroengau ystrodyr ffrwyngord;
Lled noe, llun lleuad newydd,
Llet-bai fal hen fuddai fydd;
Ergudlam wilff esgudlaid,
Ysgol anwadal i naid;
Geol waedd-greg goludd-grainc,
Cwilff rhoth, pawb a'i gwyl o Ffrainc.
Mingamai hi mewn gwymon,
Morgath a'i brath tan i bron;
Hwch a fwrw o chyfeirir,
Dorllwyth o dylwyth i dir;
Morgaseg hoewdeg hydyn,
A drosai llwyth dros y llyn;
Mwy a dål i mal na morc,
Mwys gwyrgam ym wasgar-gorc;
Caiff serthedd cyffes Arthur
Rhwng tyllfaen y maen fal mur;
A hefyd diofryd da,—
Nid af fyth i'm difetha.
I'r ddu-gest oer ar ddigoel,
Iddi hen almari moel;
Iangwraig bol yng nghrog y bu
Angor-ddwr eang oer-ddu;
Hwch dinas digwmpas gain,
Had-lestr hwyl, braen-lestr bronrain;
Llydan y slêd, graean greg,
Llamair gwys,-llo môr-gaseg;
Siared roth domled amlwg,
Sarff for megis march Syr Ffwg;
Barm dew, burm a dywallt,
Bol maen sarn blowmones hallt;
Og yn gorlyfnu eigiawn,
Ewig y môr, ogam iawn;
Llawer gwaith oer-waith oror,
Pan fai llanw gwyllt mawr-wyllt môr,
Rhoes hawddamawr hoew-wawr hael,
Eryr celmyn i'r Cilmael,
Lle'r oedd Rhys, llys ail lafar,
Ab Robert ddigwert gâr;
Yno y cawn dawn di-enig,
I wirawd aur, fragawd frig;
Yno dyhuddglo haeddglod,—
Petwn y mynnwn fy mod.
XIV. EWYLLYS DA.
LLESIWR byd a'i iechyd, lles orucha—Dduw,
Lles i ddyn i fara,
Lles yw cyfoeth ni fetha,
Nid lles dim heb ewyllys da.
XV. POEN MEWN PEN.
PEIDIED, nag oeded awdur—gwych heddyw,
A chodi Duw'n eglur;
Peidiaw ni ddylch cylch cur,
Pan ddel yn y pen ddolur.
XVI. DUW.
Duw, un a thri, dawn iaith rhydd,
Duw tri ag un tragywydd,
Duw ar ddiwedd fy ngweddi,
Duw, dod dy drugaredd di—
Yna y'th elwir yn unawr,
Duw dialedd a mawredd mawr.
Wedi'r loes ar groes y grog,
Duw tragwrol trugarog,
Duw yn dad, dewin didwyll,
Duw, Fab Duw, ysbryd pob pwyll.
I Lan Beblig yleni,
Yno y'th roed yn un a thrt,
Yn Drindawd undawd iawnder,
I uchel swydd uwch law'r ser;
Yn Dad, yn Fab, yn Aberth,
Yn Ysbryd cadernid certh;
Peblig ddiddig, dy addas,
Pardwn ar bob grwn, a gras;
Duw a'th ddug, di-addug don,
Yng ngwl at i angylion;
Tithau a ddygaist, wyt doethaf,
Fyw fy mledd, atad, fy Naf;
Yn Dad, yn Frenin cadarn,
Yn Fab, Ysbryd, yn Farn.
Delwau uwch o aur dilin
Dewr dy law, Duw ar dy lin,
A'i grys o waed, a'i groes wiw,
Dyhuddwr pawb, Duw. heddyw.
G'leuni gwawd Ysbryd Glan gwyn,
Deirid ar lun aderyn;
Pedwar ryw pren, maen nefawl,
Yn dy groes, un Duw grasawl;
Syres, sedrws, sypressws prisiaw
Palma olifia draw.
Naw angel hwynt a welir,
Gyda thi ar goed a thir.
Un o bob gradd yn addef
Rhwydd iach o raddau nef;
Pedwar cant, pum mil gwyliwn,
Un Duw, ar dy gorff yn dwn;
A phymtheg ychwaneg yng nghor
Rwygaw a thrugain ragor.
Dy ladd o fodd yn goddef,
Dy nawdd, un Mab Duw nef;
Dywaid, a roist dros wyr,
Dy orhoen oll, Duw Eryr!
Brenin wyd, bwriwyd mewn bedd,
Bron hynod, mewn brenhinedd.
Aroglaidd teg, Arglwydd, wyt ti,
Er gwleddau i arglwyddi;
Nid hendad wyd i'th gadair,
Ond Duw Fab, yn Fab i Fair.
Un oed yw'r Ysbryd iawnaf,
Dy nawdd ydyw Duw Naf;
Yn un Duw, yn iawn ddeall
Yn dri ag un, pen cyn call;
Drych haul fal y drych hoew-len,
Sylldy byd sy uwch dy ben;
Un yw'r haul leuer hoew-lyw
I ti, iach un a thri yw.
Felly'r wyd, Duw proffwydi,
Yn iaith Roeg, yn un a thri;
Dygaist a'th groes, bum oes byd.
A phoen uffern, a phenyd.
Ymherodr wyd y moroedd,
Awyr a thir o'th wyrth oedd.
Tydi a wnaeth, Mab maeth Mair,
Iawn gost popeth o un-gair;
Duw-sul y gwnaethost di son,
Yng ngwyl nef ag angylion;
Duw-llun, daear i aros,
Dro nawdd, a dwr y nos;
Diffrost Mawrth mewn diffridd,
Do, lysiau, prennau o'r pridd ;
Duw Mercher, ffêr i werin,
Do, haul. Do,-leuad, a hin;
Da ydoedd, Difiau adar,
A gwyllt anifeiliaid a gwâr;
Duw Gwener, Ner union,
Adda ag Efa gyfion;
Duw Sadwrn eur-dwrn irdaith,
Duw, y gorffennaist dy waith;
Daith ufudd doeth i ofeg,
Taranau tyrnau teg;
Yntau a wnaethost, y Tad,
Dwyn llewych dan y lleuad.
A bod i mi mewn byd mau
Dafod o ddur-iawn ddifai,
Hyd dydd barn, pe bai arnaf,
Ben pres, nes cyffes nis caf,
Ni dderfydd i brydydd brau,
Diwarth ddatgan dy wyrthiau;
Tra garawl wyt, tra gwrawl,
Trugaredd, dod, hynod hawi,
I'n ddigel, fy Nuw Geli,
Yn awr angeu, maddeu i mi.
XVII. I'R DRINDOD.
Duw Dad, Duw Fab, rhad priodol—dwys braff,
Duw Ysbryd sancteiddiol;
Duw Tri'n Un, nis detry'n ol,
Duw yw hwn, diwahanol.
XVIII. CYFFES.
CRAIR cred, ced cynnydd
Creawdr llu bedydd,
Crist fab Duw Dofydd,—
Cyn dydd di—hedd.
Gan na wn pa bryd,
Pa awr, pa enyd
Y'm dyci o'r byd—
Diwyd diwedd.
Arglwydd Dad, mad mawr,
Eurglo nef a llawr,
Erglyw fi bob awr,—
Gwawr gwirionedd.
I ti y cyffessaf,
Ag yr addefaf,
Can wyt bennaf Naf,—
Nawdd tangnefedd.
Pechais yn llwyr
O bob rhyw synwyr,
Rhwng llawr ag awyr—
Llwyr argywedd.
Saith priawd pechawd,
Glythni a medd—dawd,
Chwant cnawd, cas ceudawd,—
Cadarn nychwedd.
Methiant, glythineb,
Gwneuthur godineb,
Casineb ceudeb—
Cadw fy salwedd.
Balchder syberwyd,
Torri diofryd,
Cymryd bywyd amryd,—
Am ryw faswedd.
Goganu tybiaw,
Dyscu dymunaw,
Llidiaw a digiaw,
Dygn greulonedd.
Colli pregethau
Ag offerenau,
Maddeu y Suliau—
Moddau salwedd.
Gair meddwl angred,
Cilwg camgerdded,
Gweithred anwared,—
Gwth enwiredd.
Cyhuddaw gwirion,
Cam ddychmygion,
Honni trawsolion—
Hylithr ddeuredd.
Gochel maddeuaint,
Digio rhag hir—haint,
Torri nawdd—dir saint—
Braint brenhinedd.
Tyngu anudonau,
Ar werthfawr greiriau,
Cam gredu ac amau,
Geiriau gwiredd.
Trais, twyll, brad, cynnen,
Mwrn, lladrad, absen,
Llid a chenfigen,
Rhen pob rhinwedd.
Gwag cynnwys glwys glyw,
Gwawr mawr marw a byw,
Gwirion dad rhâd rhyw,—
Llyw llaweredd.
Dy nerth a archaf,
Dy nawdd a alwaf,
Dy ras a geisiaf,—
Naf nefawl wledd.
Rhag cwn dieflig,
Rhag hun gwenwynig,
Rhag cynnen dremig—
Dig digasedd.
Rhag drwg mŵg mign—wern,
Rhag gwaith gaeth gethern,
Drewiant cyrn uffern,—
Diffaith ddygnedd.
Rhag trais tragwyddawl,
Tân trwch callestrawl,
Tanawl uffernawl,
Ffyrnig drwythwedd.
Rhag tanllyd sudd—bwll,
Tanllwyth flam gymwll,
Tinllwn trwch rhwdbwll,—
Trydar llesgedd.
Rhag uffern boenau,
A'i ffeilsiau dyrau,
Cadwynau, rhwymau,—
Dreigiau drygwedd.
Rhag pwll fwrn pillfaf,
A'r gweisiau gwaethaf,
Uffern llid addaf,—
Drymaf dromwedd.
Rhag poen aruthrgar,
Poeth ferw tân llachar,
Pwll byddar daear,
Du-oer fygnedd.
Rhag lith llwythau blin,
Llys uffern fegin,
Llin Adda fyddin,
Gerwyn gyredd.
Brenhinawl Fab Mair,
Brenhinawl oreu—grair,
Brenin nef y'th wnair—
Gair gorfoledd.
Ti a faddeuaist,
Da y meddyliaist,
Y dydd y'n prynaist,
Ar bren crogwedd.
Dy boen a'th alaeth,
A'th ferthyrolaeth,—
Y rhai a'i gwnaeth,—
Eurfaeth orfedd.
Wrth hynny, Arglwydd,
Cadarn di—dramgwydd,
Cedrwydd cyfyngrwydd,—
Cof oferedd.
Gwna, Ddofydd, faddeu,
Fy holl bechodau,
A'm ddwyn i'th ddehau,
Oleu wledd.
Mal y maddeuwyf,
A wnaethbwyd trwy nwyf,
Ar fy nghnawd o nghlwyf,
Glew ddigllonedd.
O gawdd, o godded,
O drais, o golled,
Ag o bob niwed,—
Cured caredd.
I'th ddeheu, ddewin,
I bwyf gynefin,
Cyn rhwym daerin,—
Erwin orwedd.
Lle mae lle difrad,
Ar lawr llathd gwen—wlad,
Lle mae goleuad,—
Rhad anrhydedd.
Lle mae digrifwch,
A phob rhyw degwch,
Lle mae diddanwch,—
Deilwng orsedd.
Lle mae cywirdeb,
Lle mae diweirdeb,
Lle dibechod neb,—
Lle da buchedd.
Lle mae gorffwys,
Yng ngwlad paradwys,
Lle mae mirain—lwys,
Lle mae mawredd.
Lle mae nefolion,
Lle mae urddolion,
Lliaws angylion,—
Gwirion garedd.
Lle mae eglurder,
Lle mae dwyfolder,
Lle mae Ner nifer,—
Nefol orsedd.
Crist cred ced cadair,
Arglwydd pob cyngrair,
Erglyw fi, Mab Mair,—
Berthair borthedd.
Cyd bwyf bechadur,
Corfforawl natur,
Rhag tostur dolur,—
A mawr ddialedd.
Canys wyd Frenin
Ar ddeheu, Ddewin,
Hyd y gorllewin,—
Llywiawdr mawredd.
Canys wyf gyffesawl,
Ag edifeiriawl,
A Mair i'm eiriawl,—
Am oferedd.
Canys wyt freninocaf,
A delidiocaf,
Canys wyt oruchaf,—
Naf, na'm gomedd.
Er dy ddiwedd loes,
Er dy greulon groes,
Er poenau pum—oes,
Bum bustl chwerwedd.
Er y gwaew efydd,
A frathodd yr efrydd,
Tan fron Dofydd,—
Ddwyfawl agwedd.
Er dy weliau,
Clyw fy ngweddiau,
Er dy grau angau,
Ing yn y diwedd.
Er dy farw loesion,
Gan ddurawl hoelion,
Er dy ddrain goron,—
Dy drugaredd.
Er dy bum weli,
Er dy gyfodi,
Crist, Celi, a'th fersi—
Rhwym fi i'th orsedd.
A'th falch ddyrchafiad,
Ar ddeheu dy Dad,
Dod i'm gyfraniad—
O'th wlad a'th wledd.
XIX. GWEDDI AR GRIST.
Criste audi nos,
Cratón cyrios,
Rhag ymaros,
Rus gamwriau.
Agnus dei,
Alpha et Omega,
Deus homo,
Dios ameu.
Rex redemptor
Rhaid it hepcor,
Iawn rhyw gyngor
In rhag angeu.
Ef ni ehed,
Ef ni aned,
Ef ni weled,
Yn iawn oleu.
Ar fro na thir,
Ef ni welir,
Er yn ddyhir,
Ef yn ddiau.
Ef yw'r dial,
Am yr afal,—
Un anwadal
I anwydau.
Ef yn uchel,
Ef yn dawel,
Ef yn isel,
Ef yn asau.
Ef o'i arwydd,
Yn gyfarwydd,
Ef yn ebrwydd,
Ni fyn wobrau.
Yn bwhwman,
Yn tra buan,
Draw ac yman,
Drwy i gamau.
Ef ni bydd hyn,
Yn y flwyddyn,
Ni wybydd dyn,
Ef ni bydd iau.
Ac ef a gryn,
Ac ef ni ryn,
Ac ef a dyn,
Ac ef a dau.
Nid llesg lle dêl,
Nis llysg eufel,
Nis lludd oerfel,
Nis lladd arfau.
Nis baidd llwfr,
Nis ery dilwfr,
Nis bawdd cleuddwfr,
Nis baidd cleddau.
Nis rhed yn ddwys,
Nis gorffwys,
Nis daw cynnwys,
Nis dwg heiniau.
Nid marw, nid byw,
Nis gwn beth yw,
Dyn nis erglyw,
Dan is oer glai.
Nis gwlych cawad,
Nis gwyl llygad,
Yn gwir iawn Dad,
An gwarendai.
Gwir Frenin Nef,
Er dy dangnef,
Er dy oddef
Y dioddau.
Er dy loesion,
Er dyniadon,
Er dy goron—
Wrda gorau.
Er dy gystudd,
Er dy gythrudd,
Iaith oloew-rudd,
A'th ddoluriau.
Er dy unpryd,
Er pobl y byd,
Er dy benyd,
Er dy boenau.
Er dy gynneddf,
A'r deng-air deddf,
Wr diweir greddf,
Er dy wir-grau.
Er dy saint, oll,
Er dy archoll,
Er dy fronfoll,
Er dy freiniau.
Er dy godded,
A'th fron waedled,
Wr diweir-gred,
Er dy wir-grau.
Er dy bryder,
Ar dduw Gwener,
A'th wiw leufer,
A'th weliau.
Er dy ganmawl,
Frenin nefawl,
Athro gyrawl,
Athro gorau.
Moes im ddeall,
Yn wrthladd ball,
Ior diweir-gall,
Er dy wir-grau.
Hyn a fynnaf,
Hyn a gaffaf,
Hyn a geisiaf,
Oes negesau.
Nawdd y wirgroes,
A nawdd Idloes,
A rhoi im oes,
Mi a'r rhai mau.
Nawdd Maria,
A nawdd Anna,
A Seint Assa,
A santesau.
Nawdd seint Enlli,
A nawdd Cybi,
A nawdd Dewi,
Nudd y deheu.
A nawdd Ieuan,
A nawdd Cadfan,
A nawdd Sannan,
Nudd y seiniau.
Nawdd Mihangel,
A nawdd Gabriel,
A nawdd Uriel,
Y nawdd oreu.
Nawdd seint y byd,
I'm cymlegyd,
I ymoglyd
Rhag y maglau.
XX. SANT ANNA.
SANT y Cait a Sant Citws,
Sioasím hendad Siesws,
Pendefig boneddig hael,
O Nasreth yn yr Israel;
Yn dair rhan, ef ag Anna,
Rhinwedd ddoeth y rhannai dda,
Rhoi yn hyf rhan o'i gyfoeth,
I dŷ Dduw pan ydoedd ddoeth;
A'r ail ran ar ol y rhaid,
Ar unwaith a rôi i weiniaid;
Efallai yn hawdd felly,
O drain y da, drin i dy;
Nid oedd etifedd, na dyn
O'i gorph yn aberth, Duw-gwyn;
A'r gwr oedd goreu o'r iaith,
O'r deml a yrrwyd ymaith,
A ddug i ddynion a'i dda,
Wrth hyn oddiwrth Anna;
Cyrchawdd, ni ffaelawdd o'r ffydd,
I'r man uchaf o'r mynydd;
Crio a wnaeth, carai nawdd,
Ar y Creawdr y criawdd;
Gweddiodd am rodd o ras
Yn i gof, hynny a gafas;
Duw a ddanfones i'w dad,
Deg iawn hyd ato gennad,
"Dos di, dywysog dy iaith,
At Anna, eto, unwaith.
Hi a fydd blaenwydd dy blaid
I'th aros yn y porth euraid."
Adref y daeth i dref i dad,
Drych ef—mwy fu'r dyrchafiad.
Bu ddawnus bywyd Anna,
Beichioges y dduwies dda,—
I Anna, merch a aned,
A honno yw Mair-Crair Cred.
Bu Fair o'r Gair yn ddi-gel,
Yn feichiog o Nef uchel;
Mal yr haul y molir hon,
Drwy, wydr yr â i'r ffynnon;
Yn'r un modd, iawn rhydd anrheg,
Y daeth Duw at famaeth deg,
Goreu mam, goreu mamaeth,
Goreu i nef, y gwr a wnaeth,
Cyflawn oedd, cyflawn addwyn,
Tref i Dduw, tra fu i'w ddwyn.
Angylion gwynion yw'r gwyr,
Oedd i Wen ymddiddanwyr;
Wrth raid mawr, er athrodion,
Y ganed Duw o gnawd hon:
Hon a fagodd o'i bronnau,
Hynaws mawl o'i hanes mau.
Baich ar i braich oedd i Brawd,
A baich a'n dug o bechawd;
I Thad oedd yn y gadair,
A'i Mab oedd yn hŷn na Mair,
Mair a wnel, rhag yn gelyn,
Ymbil a Duw am blaid in;
Ar yn Duw, ef a wrendy
Neges y frenhines fry.
O chawn ni'n rhan drwy Anna,
Mwy fydd yn deunydd a'n da.
XX. ACHAU CRIST.
DAIONI Duw a aned,
O Fair Wyrf, garir arf i gred,
Ferch Iohasym, fab grym gra,
Pan torrwr, por pant ira,
Fab pante, fab wynt eirior,
Fab Elsi fab Eli bôr,
Fab Matham, digam degwch,
Fab Ioseb ffel ateb fflwch,
Fath Mathari gloew ri glân,
Digaeth fab Amos degan,
Un nefol fab Nawn ufudd,
Fab Esli, fab Naggai nudd,
Fath Math, fab Matthathei,
O symaeth mydr fab Semei,
Fab Ioseff-fab wyneb-loew,
Iuwda, fab Iohanna hoew;
Fab Resa, fab oreuserch
Sorobabel, siwel serch;
Fab Salathiel, bu sel sant,
Moddus fab Neri meddiant ;
Fab hoew Elmodam, fab Er,
Lunaidd fab lose loew-ner;
Fab Elieser, fab Iorim,
Bu hoff fab Matthat, baham;
Fab Lefi, fab Simon, wiw-iaith,
Baun rhiw fab Iuda ben rhaith;
Fab Ioseb, wiw wyneb-wr,
Fab Iona, wel dyna wr;
Fab Eliasym, rym rwymwaith,
Fab Melcha, fab Mainan maith;
Fab Matthata, ach, wrda chwyrn,
Diog fab Nathan deyrn;
Fab Ddy' frenin gwyn, gwydd
Broffwyd, fab Iesse broffwydd;
Fab Obeth, difeth i dôn,
Salmwr, fab Bôs fab Salmon;
Cywyddau Crefyddol.
Fab Naswn, wiwron arab,
Da bwyll, fab Aminadab;
Fab Aron lin Esdon les,
Offery gwir, fab Phares,
Fab Iuda, fab ni wna nag,
Eisoes Iacob, fab Isag;
Fab Abram, bab o rym bwyll,
Fab Thare, deidiau didwyll;
Fab Nachor, fab clodfor clan,
Rhugl fab Sarch, fab Rhegan;
Fab Ffaleg, diofeg dwyll,
Hebr fab Sale hoew-bwyll;
Fab Canan, wrddran eurddrem,
Fab syw Arphacsat, fab Sem;
Fab Noe hen i lên a’i lw,
A adeilodd rhag diluw;
Fab Lamech, dra difeth drem,
A'i sel, fab Mathusalem;
Fab Enoc fwya i benwn,
Fab Iareth, helaeth fu hwn;
Fab Mahalel, mawl eilwaith,
Cariad mil fu'r ciried maith;
Fab Canan, ddwyfan difeth,
Oes hir, fab Enos, fab Seth;
Fab Addaf, gloew eur-naf glwys,
Priodor tir paradwys;
Fab Duw i hun, gun gwrawl,
Tad pybyr, fab pob rhyw fawl,
Brawd llês i Addaf bryd llwyr,
A'i wrol daid a'i orwyr:
Brawd i Fair ddiwair ddwywaith,
A'i thad, a'i mab, enaid maith,
Brawd i bob Cristion o brudd,
Da dwyfawl a'i dad ufudd;
O hil Addaf hwylwydd-ior,
Yr ŷm yn geraint i'r Ior.
Arglwydd uwchlaw arglwyddi,
O nef, yw'n Pencenedl ni.
XXII. MAIR.
DOETH i'th etholes Iesu,
Em addwyn, yn fam iddo.
Dofydd i ddyfod a fu,
Rhag dial afal Efa.
Ni chymerth Efa yr afal—gwardd
Heb gyffwrdd a gofal;
Ni ddaw drwg heb drwm dial,
Mwy nag yr a'r da heb dal.
Teg fu'r tâl eiriol o air—i Drindod.
O drendal y gadair,
Pan ddaeth Crist Naf, araf gair
O Oen Duw Pab, yn fab i Fair.
Mair! Edrych arnaf, ymherodres,
Morwyn bennaf wyd, Mair unbennes;
Mair diron air, Mair Deyrnes,
Mair oleudrem, hael Lywodres;
Miserere mei! Moes Eryres,
Prydlyfr gweryddon wyt a'u priodles
A ffenestr wydrin nef a'i phennes,
A mam i Dduw in ymoddíwes,
A merch i'th un-brawd briffawd broffes,
A chwaer i'th un-Mab wyd, a chares
Ys agos, o beth, dywysoges,
Y deiryd dy fab it, nid eres?
Ys da dorllwyth fu ystad iarlles,
Fy enaid yw'r angel anfones
Yr Ysbryd atad, gennad gynnes;
Y fo â chwe-gair a'th feichioges;
Duw o fewn aeth yn dy fynwes,
Mal yr a drwy'r gwydr terydr tes
Megís bagad o rad rodres.
Tair cneuen wisgi, tri y troes,—
Yn Dad, trwy gariad y rhagores,
Yn Fab rwydd arab araf cynnes,
Yn Ysbryd glendid glân ymoddiwes.
Gwedi geni y Mab, gwn y digones,
Diareb rhwydded a dieres,
Heb poen yn esgor Por perffeithles,
Heb friw o'i arwain, nef briores,
Heb ddim godineb i neb o nes,
Neu ogan o wr, nid oedd neges;
Ef a orug, nef faerdref fawrdres,
Ef a orug uffern, nef gair cyffes.
Seren gron gyson a ymddanghoses
I'r tri brenin gwyn, hyn fu'r hanes—
I ddwyn rhwydd gyflwyn it rhag afles,—
Aur a thus a myrr. Ni syr santes;
Sioseb o'r preseb, gwir fu'r proffes,
Cof ydyw cennyt, a'i cyfodes;
Ieuan Fedyddiwr, gŵr a'n gwares,
Tad bedydd dibech, trech y troches
Yn nwfr Eurdonnen, yno y nofies.
Cref y megaist ef, megis duwies.
Ar dy fron hygn, fry-frenhines,
Oddí yno y buost yn ddewines.
Ti a ffoaist ag Ef tu ag Aiffes;
I'r Aifft rhag angraifft a rhag angres,
Rhyfedd fu'r gallu, fawr gyfeilles.
Ymddwyn yn forwyn, Fair arglwyddes,
Morwyn cyn ymddwyn, Fair fynaches,
Morwyn yn ymddwyn, gorllwyn geirlles,
Morwynaidd eto a meiriones.
Byw ydwyd yn nef, fal abades,
Yn dy gorffolaeth, hoew gorff haules,
Gyda'r gwr Brawdwr a'th briodes,
A theilwng a iawn i'th etholes,
Iddo i'w lywio, yn gywelyes.
XXIII. YR OFFEREN.
O DDUW, am yr hyn oedd dda,
I ddyn pawb a'i heidduna;
I wneuthur, awdur ydwy'
Tra fai, a minnau tra fwy';
Gwirddal y ffydd a gerddodd
Gatholig fonheddig fodd;
A bod gwae ef, oni bydd
Gair ofyn yn gywir ufudd;
Oed budd a bod wrth i ben,
Oreu ffair, yw'r offeren;
A'i dechreu mau godych-wrych,
Iawn waith yw cyffesu yn wych.
Offeren dan nen i ni,
Air da iawn, yw'r daioni;
A'i hoffis aml ddewiso
I bawb o'r deunydd y bo.
Ai o'r Drindawd ddoethwawd ddwyn,
Ai o Fair, wiwia' forwyn,
Ai o'r Ysbryd gloew-bryd Glân,
Ai o'r dydd, mae air diddan,
Ai o'r grog, oediog dyw,—
Mawr yw'r gwyrth—ai o'r marw gwiw;
Ac o lawer rhwydd—der rhad,
Modd arall, meddai uriad.
Llawer ar yr offeren—
Rhinwedd, myn Mair ddiwair wen,
A gyrch drwy orhoff goffa
Offeren, daw i ben da.
Angel da a fydd yng nghod,
Yn rhifc clud eirio clod;
Pob cam medraf adameg,
O'i dy hyd i eglwys deg;
O bydd marw, chwedl garw i gyd,
O'i sefyll yn ddisyfyd;
Os cyfraith loewiaith heb lid,
Dda yn ol Dduw a wnelid;
Anodd i Arglwydd, yna
Ddwyn un geiniogwerth o'i dda,—
Y bara offeren enyd,
Da fu'r gost, a'r dwfr i gyd,
A'n pair cysbell yw felly;
Yn gymunol freiniol fry.
Fo wnair o offeren Fair fwyn.
Moddus gorff, i mab addwyn;
O waith prelad, a'i Ladin,
I waed bendigaid o win.
Teiriaith hybarch diwarchae
Mewn yr offeren y mae—
Lading berffaith hoewdeg,
Gryw, Ebryw, a Groeg;
Rhaid yw tân wrth i chanu,—
Rho Duw dilwfr, a dwfr du;
Mi a wn pam, ond dymunaw,
Y mae'n rhaid tân cwyraid caw;
Wybrennaidd ar gyhoedd gynt,
I dduo byd a ddeuynt,
Rhaid yw felly gwedi gwâd
A glywais gael goleuad.
Llyma'r modd pam y rhoddir,
Da frawd, yn y gwin, ddwfr ir,—
Dwfr fry o fron Iesu wiw-sain,
A ddoeth gyda'i gwaed o ddain;
Pan y cyfodir, wir waith,
I fyny modd man fwyniaith,
Ym mhob lle pan ddarlleër
Fyngial pwyll efengyl per,
Yn bod yn barod berwyl,
I ymladd hoew radd yr wyl,
A'r neb diwyneb uniawn,
A'n ffalsai mwnai a wnawn;
Pell i rym, ponid pwyll raid,
Pum dewin, pam y dywaid
Yr offeiriad i bader,
Yn ôl dyrcha Corff y Ner,
Er dysgu a ffynnu'r tfydd
I ni, a fo yn ufudd
A ro pam yr ai ereill
O'r llu efengyl i'r lleill,
Yn ol Agnus," ni rusia
"Dei, qui tollis," Deus da—
Arwydd tangnefedd eirian,
A maddeu mwygl eiriau mân.
Ucha stad, nis gwad gwyr,
Ar y pab eiriau pybyr.
Eillio troell, well-well, wiw,
Ar i siad, o ras ydyw.
O son am bêr offeren
Pur i bwyll y pair o'i ben;
Wyth rym meddyginiaeth raid
Yw ar unwaith i'r enaid;
A rhwydd-der a gwarder gwiw,
Gywir ffawd, i'r corff ydyw.
XXIV. DEWI SANT.
DYMUNO da i'm enaid,
Heneiddio 'rwy, hyn oedd raid;
Myned i'r lle croged Crist,
Cyd boed y ddeu—droed ddi—drist,
Mewn trygyff yma'n trigaw,
Ni myn y traed myned traw.
Cystal am ofal im yw,
Fyned teirgwaith i Fynyw,
A myned, cynhired cain,
Yr hafoedd hyd yn Rufain.
Gwyddwn lle mynnwn fy mod,—
Ys deddfol yw'r eisteddfod,
Ym maenol Dewi'm Mynyw,—
Mangre gain, myn y grog, yw.
Yng Nglyn Rhosyn, mae'n iesin,
Ac olewydd, a gwydd, a gwin,
Ac unic miwsic, a moes,
A gwrlef gwyr a gorloes;
A chytgerdd hoew loew lewych,
Rhwng organ achlân a chlych;
A'r thwrwblwm trwm tramawr,
Yn bwrw sens, i beri sawr;
Nef nefoedd yn gyhoedd gain—
Ys da dref ystad Rufain;
Paradwys Gymru lwys lefn,
Por dewis-drefn, pur dwys-drefn.
Petrus fu gan Sain Padrig
Am sorri Duw, amser dig.
Am erchi hyn, amharch oedd
Iddo, o'r lle a wnaddoedd,
Fyned ymaith o Fynyw
Cyn geni Dewi, da yw.
Sant ydoedd ef, o nef i ni,
Cynhwynol, cyn i eni;
Sant glân oedd pan y ganed.
Am hollti maen graen i gred.
Sant i dad, di-ymwad oedd,
Penadur, saint pan ydoedd.
Santes gydles lygadlon,
Yn ddi-nam ydoedd Non.
Merch Ynyr, fawr i chenedl,
Lleian wiw iwch ydyw'r chwedl.
Un bwyd aeth yn i ben—
Bara oer a beryren
Aeth ym mhen Non, wen wiw,
Er pan gad, penaig ydyw.
Holl saint y byd, gyd gerynt,
A ddoeth i'r senedd goeth gynt,
I wrandaw yn yr un-dydd
I bregeth, a pheth o'i ffydd.
Lle dysgodd llu dewis-goeth,
Y bu'n pregethu yn goeth—
Chwe-mil saith ugein-mil saint
Ag unfil-wi o'r genfaint!
Rhoed iddo fod, glod glendid,
Yn ben ar holl saint y byd.
Codes, nid ydoedd resyn,
Dan draed Dewi, fry-fryn.
Ef yn deg a fendigawdd—
Cantref o nef oedd i nawdd;
A'r enaint twym arennig,
Ni dderfydd, tragywydd trig.
Duw a rithiodd dygn-gawdd dig,
Ddeu-flaidd, o anian ddieflig,
A deuwr hen, o Dir Hud,—
Gwydneu Astrus a Gwydrud,―
Am wneuthur drwg antur gynt,
Rhyw bechod o rybychynt
A'u mam-paham y bai hi
Yn fleiddast? Oerfel iddi!
A Dewi goeth a'u dug hwynt,
O'u hir—boen ag o'u herw-bwynt.
Diwallodd Duw i allawr—
I fagl a wnaeth miragl mawr;
Yr adar gwyllt ar redeg,
Yrrai i'r tai, fy ior têg.
Ceirw osgl-gyrn, chwyrn a chwai,
Gweision uthr a'i gwasanaethai.
Duw-Mawrth, calan Mawrth y medd,
I farw yr aeth ef i orwedd.
Bu ar i fedd, diwedd da,
Cain gler yn canu "Gloria."
Yngylion nef, yng Nglan Nant,
Ar ol bod i arwyliant;
I bwll uffern, ni fernir
Enaid dyn yn anad tir
A gladder, di-ofer yw,
Ym mynwent Dewi Mynyw.
Ni sang cythraul brycheulyd,
Ar i dir byth, er da o'r byd.
Hyder a wnaeth canhiadu,
Gras da y Grawys du,
I'r Brytaniaid, brut wyneb,
Y gwnaid rhad, yn anad neb;
Pe bai mewn llyfr o'r pabyr
Beunydd mal haf-ddydd hir,
Notari peblig, un natur
A phin a du a phen dur
Yn ysgrifenu bu budd,
I fuchedd ef ddi-achudd,
Odid fyth, er daed fai,"
Enyd yr ysgrifennai
Dridiau a blwyddyn drwydoll,
A wnaeth ef o wyniaith oll.
XXV. DYDD Y FARN.
A FARNANT eur-faint arfoll,
A'r bad mawr ar y byd oll?
Gwyn i fyd cyd cadarn
Cain, diwedd i fyd cyn dydd y farn;
A wnel urddas teyrnas teg
Yng ngwyliau dyddiau'r deuddeg;
Pan ganer lle clywer clod,
Corn cyfarn y cyrn cyfod.
Pob dyn yn gyfan a gyfyd,
I'r lan, o bedwar ban byd.
I'r lle goddefodd, medd llu,
Arw i loes, wrol lesu.
Ag yno y daw yn gwiw-ner,
Adda a'i blant, naw cant ner,
A Noah hen, angen oedd,
Yn fore, a'i niferoedd;
Llawenydd a fydd i'w fam,
Llyw wybrol, a llu Abram;
A llywio rhain a llu rhydd
Moesen yn llenwi'r meusydd;
A llu Dafydd yn llwyr-
Broffwyd ni lyswyd laswyr;
A Phawl Apostol y ffydd,
Ior mwyn, a ddaw i'r mynydd;
Ef a'r nifer ber barawd
A droes i'r ffydd drysor a ffawd,
A rhod yr haul, draul dra-mawr,
A'r lloer a ddisgyn i'r llawr,
A'r saith wiw blaned a'r ser,
O'r nefoedd ar y nifer.
Ag o uffern, hen wern hir,
O garchar hwynt a gyrchir,
Llid hir blin dau-finiog bla,
Llu Satan mewn lliw swta;
Pob dyn i ddyfyn a ddaw,
Yr un dydd yno i wrandaw
Ar y farn flin gadarn floedd,
A thrydar i weithredoedd.
Uwch o ras, Och! wir Iesu!
Dragywydd ofn y dydd du.
Yno y gwelwn yn gwiw-lyw,
Yn ymddangos, agos yw;
Modd ar y groes, naw-loes Ner,
Y gwahanwyd ef dduw-Gwener;
A'r goron hoelion hilyd
O ddraen am y tal yn ddrud;
A'r cethri dur, drwy gur draw,
A dolur traed a dwylaw;
Enaid a roes Duw ynnof
Pan gywirir cweirir cof;
Mihangel, Uriel eirian,
A'r cleddyddau tonnau tân;
Diau yw, gerllaw Duw lon,
Yn dethol y rhai doethion.
Yno y daw Mair air eirian,
Ar dalau i gliniau glân,
Yn dyrchafael gafael gwyn,
I dwylo yn adolwyn;
Aur i llef er i llafair,
I'w Mab, a'i Harglwydd a'i Mair,
Yn eur-chwaer, ag yn erchi
Nef a thrugaredd i ni.
Cawn ran gyda merch Anna,
Lliw dydd ym mysg i llu da;
Ag am hyn, gem henair,
Goreu i mi garu Mair.
XXVI. MARWNAD SYR RHYS WGAWN.
LLYMA oer-chwedl cenhedlawr,
Llas pen Cymry nen yn awr.
Gwahanwyd brawd briawd bron,
Ag enaid Llyfr y Ganon.
Syrthio angel, syrth anghlaer,
Syr Rhys aur, yng ngwregys aer,
Wgawn dryn a roe'r gwin draw
I'w genedl. Gwae o'i gwynaw!
Gwae a'i gweles yng Nghressi―
Gwr di-wael, mewn trafael tri.
Dorgwn gyd, dan gyngyd Gai,
Dewr loew-bryd, mewn dur lifrai;
Pan wisgawdd rudd gamlawdd rhi
Balaen uwch Llethr-dir Beli;
Yno y gweled, nid rhad rhwy,
Gwr praff wrth baladr saffwy;
Ag aruthr gael yn ael nos
Ac oeri traed ac aros.
Pan ddaeth at Ffranc a'r tranc trwm,
A'i lorf, a'i engyl larwm—
Yno y bu cyn tynnu tân,
Cynnwrf ym mlaen twrf taran;—
Arwydd trympau berau bar,
A lluched mellt,—tân llachar,
A'n galw i'w golofn winllys—
Glod eurgledd—rhodd Arglwydd Rhys;
A llew braisg yn llywio a braich,
Llu brenin yn lle Brynaich;
Gwybu Phylib aer-wib wr
I falais, od oedd filwr—
Uthr Ben Dragon lon lendid,
Aeth Paris ar gis i gyd;
Delw Sant Sior a'i dwylaw,
A'r grog drwy fawr annog draw;
Ni chiliodd yn wacheliad,
Ni chyrchodd gwart cart er cad.
Blaidd oedd a threm ddi-eiddil,
Blaidd y fo a blaodd fil.
Da oedd i gof mewn gofid,
A'i laif yn gyflawn o lid—
Uchel oedd niferoedd nef,
A'i eur-grest uwch helm aer-gref.
Mi a'i gwelais, lednais lyw
Dydd anrhaith, nad oedd unrhyw
Yngo fy nghai yn anghudd,
Yng nghaer fardd Emrys yng nghudd—
Gorff marw ar y llawr gerllaw,
A'i genedl yn i gwynaw,
A'i wayw, a'i gae, gwae a'i gwyl!
A'i emys yn i ymyl,
A'i lem lifiaid, drem drydoll,
A'i aesawr, ai i'r llawr oll;
A'i bebyll didwyll du,
Ner a'i faner i fyny,
A'i arwyl a'i hwyl hyloew,
A'i guras a'i helm las loew,
A'i seirch yn gyfryw ag asur
A'i enaid ydoedd ener—
Aed ef i wen-wlad Nef Ner.
XXVII. DAFYDD AB BLEDDYN.
ARAETH I DDAFYDD AB BLEDDYN, ESGOB LLANELWY.
DA iawn fu Fordaf, naf nifeiriawg
Da fu Nudd o fudd wrth anfoddawg,
Da fu Run i hun fu heniawg—o serch,
Da fu Rydderch, gwr ardderchawg.
Da fu Ruawn Befr, da fu Efrawg,
Da iawn fu Feiriawn, da fu Fwrawg,
Gwr coedd mwyn oedd Mynyddawg—Eiddin
Da Gynin, dewin gair godidawg.
Da fu Morien, hoew—ner muner manawg.
Da fu Edwin, ddaw i'n frenin freiniawg,
Goruchaf adaf, barnaf Eudaf oediawg,
Da fu heb gelu Goel Goedebawg,
Da fu Eidiol enau eiriau oriawg
Ys gwell går i bell gwr pwyllawg—balchryw,.
Ni bu i gyfryw, llyw galluawg.
Os rhaid mynegi, pwy rhi yr hawg—
Dafydd ap Bleddyn yw'r dyn doniawg,
Gwr perffaith, iawnwaith, enwawg—sancteidd-bryd,
Gwr o lwyth Uchtryd, nid bryd branawg.
Gwr digrif, gwr rhif, nwyf tylwythawg,
Gwr teuluaidd doeth, gwr cyfoethawg,
Gwr digabl roen, chwaen chwannawg—i gerdd-lais,
Gwr a gar priflais prelad baglawg.
Gwr gwiw gwyl ydyw, gwr goludawg,
Gwr gwar, hygar, car coronawg,
Gwr iesin, lladwin letenawg—cydostwng,
Gwr diflwng teilwng, talaidd, gwisgawg.
Gwr cywir a gwir gwaredawg,
Gwr cymen, llawen, lliw cenhedlawg,
Gwr coedd rhwydd, wersoedd addolawg—cydwedd,
Gwr cwbl i gampau, cenau Cynawg.
Gwr dwyfawl i hawl, hwyl anlloeddawg,
Gwr celfydd dedwydd a godidawg,
Gwr ato Mair, gair gorfodawg,
Gwr iawn hoew radlawn'n hirhoedlawg,
Gwr hyborth i borth, aberthawg—gwisga
Gwrda'n lle Asaff, iawn lluosawg.
XXVIII. MOLIANT SYR HYWEL Y FWYALL.
A WELAI'R neb a welaf,
Yn y nos pand iawn a wnaf?
Pan fum, mwyaf poen a fu,
Yn huno anian henu.
Cyntaf y gwelaf mewn gwir,
Caer fawrdeg acw ar fordir,
A chastell gwych gorchestawl,
A gwyr ar fyrddau a gwawl,
A glasfor wrth fur glwys-faen
Garw am groth tŵr gwrwm graen,
A cherdd chwibanogl a chlod,—
Gwawr hoenus y gwr hynod;
Rhianedd nid rhai anhoew,
Yn gwau y sidan glân gloew,
Gwyr beilch yn chwareu ger barth
Tawlbwrdd a secr ger tal-barth.
Eres nad oes henuriad
Ar lawr Gwynedd, wleddfawr wlad!
"Oes," ebr un, "syberw wyd,
Breuddwydio yn brudd ydwyd,—
Y wal deg a weli di,
Da dyddyn, o deuid iddi,
A'r grug eglur a'r groglofft,
A'r garreg rudd ar gwrr grofft—
Hon yw Criciaith, a'r gwaith gwiw,
A'i hen adail, hon ydyw.
A'r gwr llwyd—cadr paladr-ddellt—
Syr Hywel a'r mangnel mellt.
"A'r gwr gwyn-llwyd, Twrch Trwyth trin;
Naws-wyllt yn rhoi barneis-win,
Mewn gorflwch aur goreurin,
O'i law, yn fy llaw yn llyn;
Ag ystondardd hardd hirddu,
Yn nhal twr, da filwr fu;
Tri fleur-de-lys oris erw,
Yn y sabl—nid ansyberw;
A thri blodeuyn, gwyn gwiw,
O'r un-llun, dail arianlliw;
A'i wraig, Syr, wregys euraid,
Hywel, ion rhyfel, yn rhaid;
A'i llawforynion, ton teg,
Ydd oeddynt hwy bob deuddeg;
Yn gwau sidan glân gloew-liw,
Wrth haul belydr drwy'r gwydr gwiw;
Tau olwg, ti a welid,
Ystondardd yn hardd i sud—
Pensel Syr Hywel yw hwn,
Myn Beuno; mae'n i bennwn,
Anian fab Gruffydd rhudd rhon,
Ym mlaen am i elynion.
Yn minio gwayw mewn i gwaed,
Aniweir-drefn ion eur-draed;
Ysgythrwr cad ail Syr Goethrudd,
Esgud i droed, esgid rudd;
Ysgythred baedd ysgethring,
Asgwrn hen yn angen ing;
Pan rhodded trawsged rhwysgainc,
Y ffrwyn ym mhen brenin Ffrainc;
Barbwr fu fal mab Erbin,
A gwaew a chledd—trymwedd trin;
Eillio o'i nerth a'i allu,
Bennau a barfau y bu;
A gollwng, gynta' gallai,
Y gwaed tros draed trist i rai;
Anwyl fydd gan wyl Einiort,
Amli feirdd a mawl i fort;
Cadw'r linsir, cedwi loersiamp,
Cadw'r ddwy-wlad, cadw'r gâd, cadw'r gamp,
Cadw'r mor-darw cyd a'r mordir,
Cadw'r mor-drai, cadw'r tai, cadw'r tir,
Cadw'r gwledydd oll, cadw'r gloew—dwr,
A chadw'r gaer—IECHYD I'R GWR!"
XXIX. MARWNAD TUDUR FYCHAN.
CLYWAIS ddoe i'm clust ddehau,
Canu corn cyfeiliorn cau;
Ië, Dduw! a'i wedd ddiorn
Pa beth yw y gyfriw gorn?
"Galargyrn mychdeyrn Mon,"—
Gogleisiwyd beirdd gwag loesion.
Pa dwrw yw hwn, gwn gan och?
Pa ymffust i'm clust mal cloch?
"Marw,—y chwedl,—pencenedl doeth
Tudur, arf awchddur wych-ddoeth;
Ni fwrniwn ddim o'i farwnad,
Fychan, marchog midlan mad.
Chwerw iawn yw gennym, a chwyrn,
Cytgerdd rhwng clych ag utcyrn.
Pa weiddi! Pwy a wyddiad,
Yw hwn a glywn i'n gwlad?
"Ubain, a llefain a llid
Am y gwr mwya gerid,—
Calon pawb, nis coeliwn pwy,
Calon doethion Tindaethwy.
Llygrwyd Môn, myn llaw Egryn,
Llygrwyd oll lle goreu dyn;
Llygrwyd Cymru, gwedi gwart,—
Llithriced pobl llwyth Rhicart.
Dwyn llew bryn, byrddau dan llaw,
Dadwreiddiwyd i dy drwyddaw.
Dygn ymchwel, dwyn hoedl hardd,
Dygn waith dwyn brawd-faeth brud-fardd.
Wyr Rhirid Lwyd, euraid lwyth,
Flaidd ddifileindraidd flaendrwyth;
Dyrnod pen, hyd ymenydd,
Ar dlodion gwlad Fôn fydd.
Llywiodd Wynedd, llaw ddi—nag,
Llas pen Mon wen—mae'n wag."
Beth, o daw heibio hebom
I'r Traeth Coch lynges droch drom?
Pwy a ludd gwerin—pwl ym—
Llychlyn a'u bwyeill awchlym?
Pwy a gawn, piau Gwynedd?
Pwy a ddyrchaif glaif neu gledd?
Pwy nid wyl penyd alar?
Pwy mwy uwch Conwy a'ch câr?
Pan fu farw rhygarw rhugl,
Ffyniant hil, naf Bryn Ffanugl;
Ffelaig ysgythrddraig Uthr ddrud,
Ffy Mon o daw ffw a mud;
Ac oesawr oedd fawr iddo fraich,
Yswain waew 1lithfrain llwyth fraich;
Dillyn Mon frêyrion fro,
Deallai bwyll dellt ebilldo;
Gwyrennig câr pwyllig pell
Cartre'r cost, carw Tre'r Castell;
Gwae'r deau, rhaid maddeu'r medd,
Gweddw iawn, gwae ddwy Wynedd;
Gwae'r iyrch mewn llennyrch, mae'n llai,
Gwae'r ceirw am y gŵr a'i carai;
Gwae finnau, heb gyfannedd—
Gweled bod mewn gwaelod bedd,
Anhudded oer iawn heddyw,
O'i roi a phridd ar i ffriw;
Bod yn ddihir yn nhir erw,
Yng nghudd i ddurudd dan dderw.
Nid ydoedd ef gynhefin,
A rhyw wely gwedi gwin;
Gnotach iddo wisgo'n waisg
Yn ymwân frwydr, ion mwyn-waisg;
Helm gribog rudd-faelog-fyth,
A habrsiwn, walch glew hybrsyth.
Ni chollai wan, gwinllan gwyr,
Dref i dad, dra fu Tudur;
Ni phlygid gâr Anarawd,
Odid y doi lid i dlawd.
Na ddalier ych dan wych wedd,
Na ynganer yng Ngwynedd,
Na sonier am a dderyw,
Na lafurier, ofer yw;
Na chwardder am wych heirddion,
Na hauer mwy yn nhir Mon.
XXX. EDWART III, BRENIN LLOEGR.
EDWART AB EDWART, gwart gwyr,
Ab Edwart, anian Bedwyr,—
Edwart, wyr Edwart ydwyd,
Edwart Trydydd, llewpart llwyd.
Gwisgaist aurgrest yr aer,
Crest gwedi cwncwest can-caer;
Ar awr dda arwraidd wr,
Aur gwnsallt, eryr Gwynsor.
I'th annedd, a'th ddaioni,
Na fetho teyrn fyth i ti.
Cael a wnaethost, post peis-dew,
Galon a llaw-fron y llew;
Baedd y cyfnewid didwyll,
A phen, a synwyr, a phwyll;
A ffriw lygliw olwg-loew,
A phryd dawn a phriod hoew;
A phob iaith, cyd ymdaith cadr,
Engylaidd wyd, fy ngwaladr.
Cefaist gost, cefaist gysteg,
Yn nechreu d'oes, iawn ochr deg,
Yn gostwng pobl anystwyth
Lloegr, a Ffrainc, lle goreu ffrwyth.
Caf cyfedliw heddyw hyn,
Bob ail brwydr gan bobl Brydyn;
Difa'i llu, lle bu'r baich,
Dal brenin, dileu Brynaich;
Dolurio rhai, dal ereill,
Llusgo'r ieirll oll, llosgi'r lleill.
Curaist å blif ddylif ddelw,
Cerrig Caer Ferwig, cur ferw.
Rhoist ar gythlwng, rhwystr gwythlawn,
Ar For Udd, aerfa fawr iawn.
Gelyn fuost í Galais,
O gael y dref goleu drais;
Grasus dy hynt i'r Gresi,
Gras teg a rydd Grist i ti.
Llithiodd dy fyddin lin lem,
Frain byw ar frenin Böem;
Perigl fu i byrth Paris,
Trwst y gad, lle trewaist gis.
Ehedaíst, mor hy ydwyt,
Hyd y nef, ehedyn wyt;
Weithian ni'th ddynoethir,
Ni thyn dyn derfyn dy dir;
Cymod a'th Dduw, nid cam-oes,
Cymer yn dy gryfder groes.
Od ai i Roeg-mae darogan,
Darw glew, y ceffi dir glân;
A'r Iddew dref, arw ddi-drist,
A theimlo y grog a theml Grist;
A goresgyn ar grwysgaeth,
Gaerusalem, Fethlem faeth;
Tarw gwych, ceffi'r tir a'r gwyr,
Tor fanwaith tai'r Rhufeinwyr;
Cyrch hyd ym min Constinobl,
Cer bron Caer Bablon cur bobl,
Cyn dy farw y cai arwain,
Y tair coron cywrain cain,
A ddygwyd gynt ar hynt rhwydd
Ar deirgwlad, er Duw Arglwydd.
Tirionrwydd a'r tair anhreg,
A'th wedd, frenin teyrnedd teg;
Teilwng rhwng y taír talaith,
Frenin Cwlen fawr-wen faith.
I wen-wlad Nef, ef a fedd,
Y doi yno'n y diwedd.
XXXI. GWYDDELYN.
GWYDDELYN fudryn fwydrefr,
Gwaddowdlest cwn, gwiwfrwn gwefr;
Gwae dydi, hun hen deirw,
Gwydd helm ir, gwedd haul y meirw,
Gwas ffrom-lwfr gwyw saffrymlyd.
Cwiws brwynt cwei Isa bryd;
Carnfedd bres, corn efydd brau,
Car degwm, corr daeogau,
Carw a phryf mewn cwrri ffraen,
Cawr aelgrach oriaw olgroen;
Cripiwr crainc, iangwr copr crin,
Cyffeithdy clêr, ci ffraethdin,
Ceufflair hwch, cyffylwr haidd,
Cyff elydn copr cyffylaidd,
Carl serth a'i fwth carael foch,
Cehyr gorff syml caehirgoch;
Ceir o honod, cog rhonollt,
Cawg can coch, croen ci coeg-hollt;
Canwn mor ath cilcociant,
Coesyth blew aml coes i'th blant;
Cwcwallt moel, ci ceilldew mud,
Cocylldwn cicai alltud;
Rhaeadr yn rhuo ydwyd,
Rhyw ysgorn, i'm rhisg gwern ydwyd ;
Am wneuthur llywiadwr llau,
I'th fam heglgam dinhoglau.
Glod fawr ni roir gwlad i fud,
Gwladeiddiaist, glawod oeddid;
Coffau yr wyd, ceffi rus,
Coffr o wstris, cae 'ffrostus;
Ba ryw wr wyd, byrr o'r iawn,
Barf rydlyd berw afradlawn.
Baw a gold, mwygl bogeldew,
Bara rhudd, bryd bore rhew,
Bronbelau, crimogau croes,
Brenigrwydd hen bren egroes.
Dilid yr wyd, a dylusc,
O'r cwr i'r llall fal car llusc.
Oes le rhydd, was osler hen,
Ond yn Lleyn neu Dinllaen?
Haws it, leidr cechdraws cochdroeth,
Sychu march Ithel Ddu ddoeth;
A bwrw allan sach-gwlan gwlad
I ebod daeog abad.
Gorchest fawr nag ymgyrchu
Ag ef, da goddef i dy;
Neu a Madog, serchog syw,
Dwygraig-wr dyledow.g-ryw..
A minnau, pam na mynnwn
I'th frefant, fraw cant o'r cwn?
Nid synwyr ffol wrth ddolef,
Nid clêr lliw'r tryfer llawr tref;
Nid beirdd y blawd, barawd heb rym
Profedig beirdd-prif ydym―
Ni byddwn, od gwn i gyd,
Wrth un lleidr, fal o arth heinllyd.
Ni bydd gwr oni byddar,
Eryr gwyllt wrth yr ieir gwâr.
Ni bydd blaidd ieuangaidd iach,
Wrth oen a gwlangroen glingrach.
Ni bydd llew wrth lo ewig,
Ni bu ddelff coch, na bai ddig,
Ni bydd eofn emyd y moch,
Milgwn wrth gostog moelgoch.
Ni ddoi ar nawdd y dydd,
O Leyn fyth i lawenydd,
Ni ddaw dall o'i dy allan;
Ni ddaw'r wadd o'r ddaear wann;
Ni aed fyth o dŷ dy fam;
Ni a ancr o'i dy uncam.
Pen annoeth-pe awn innau
I'th wlad iangwr cachiad cau;
Fe'i neifio fal anifel,
A wnawd o'm cawd i'm cel,
Fal y gwnaethost, gost gystudd,
Deifio dy wraig dafod rydd.
Nid oes i'th wraig gynhaig dlawd,
Eithr un bys a thraian bawd,
Ag ewin Gwerfil gywir,
Ys gwae i chenedl, os gwir.
Nid hawdd iddi hi bobi bwyd,
Felly fal gwrach foel-llwyd,
Gad ateb, o'th gyd-wtir,
Bob eilwers fab yr hers hir;
Twnel ar y tafod tancern,
Tincern gwawd, wyneb tancer gwern.
Oes ar dy wawd, sur dy wen?
Oes holi eisiau halen?
Eisynllyd iawn is Enlli,
Ys heli i gerdd, salw o gi;
Os chwain mor-chwain mawr-chwaeth,
Ys faw diawl, aswy fu y daith.
XXXII. HERDSIN HOGL.[4]
ITHEL DDU i'th alw yddwyf,
Athrodwr beirdd, uthr ydwyf.
Athro'r gerdd i'th roir ar gant,
Etholwalch beirdd i'th alwant.
A thra da wyd, ni thry dyn,
A theuluwr iaith Leyn.
Erchaist i fardd orchest fawr,
Arch afraid cyn eiry Chwefrawr,
Goffhau giau ffiaidd
Gychwraig ddaneddwraig haidd—
Herstin Hogl a'r arogl oer,
Henllodr figyn-bodr garn-boer.
Mae'n i hun, nid mwyn i haint,
Du daerwrach dew i derwraint;
Mahelldyn, gefryn heb gig,
Main groen neidr, min grynedeg.
Merch rwsel hen sorel soeg,
Gwrach fresychgach frau sechgoeg
Rhaid i'n hyn gadw had,
I furnio iddi farwnad.
Paham, Ithel, ddinam Ddu,
O ba raid iddi brydu?
Fy enaid, im na ddanfonud,
Fesur i throed, fos rhwth ddrud;
Tra fae'r esgyrn, cyrn carn ffoll,
A giau du i gyd oll.
Nid hawdd cael gwawd barawd bur,
Yn absen gwilff wynebsur.
Gwnawn yn hoff i dydd coffa,
Pes gwelswn a phwn o ffa.
Minnau y sydd, mein was wyf,
Moli gellast fel y gallwyf.
Gwedi naddu gwadu iddi,
Enw heb senw yw i henw hi;
Pader i hon, pwy ydoedd?
Poed ar awr dda, prydu 'ddoedd,
I grybwyll Hers gefn gribin,
Grepach hogl-grach a'r hegl grin;
Henddyn fam Wyddelyn wefr,
Hers tinroth haer estynrefr;
Haeru maent i bod hirhynt,
Yn oes hen Geridwen gynt,
Rhefr grach, gwedi rhifai'r grib,
Hefys hydraeth bys droeth-bib,
Rhyswraig gynhaig, gwn i hanc,
Rhyswyn fawdgrin fwyd-granc;
Blif annigrif eneu-grest,
Blawta, gwlana, gwera gwest,
Cawsa, cica, myn coceth,
Casa pwnc, ceisio pob peth.
Llawer cydaid hen wenith,
Llawer baich ar i braich brith,
Llawer dryll cig selsig sail,
A chosyn dan i chesail.
Llawer gwaell, lliwir i'w gwedd.
A dynnai hi â'i dannedd;
Gwae'r mab gwedi gwyro'r min,
A golles diefiles diflin;
Nos y rhwymwyd dorglwyd don
A'i deufraich ar i dwyfron
Y bu'r wrach mewn berwa wrysg,
A ffloc aml a phlwy cymysg;
Yng nghwrr bwth anghywir baw,
A'i gwaling yn i gwyliaw.
Rhoed ysgrin ar hyd y scrwd,
Rhyll gyrchgas rhwyll gywarchgwd,
A rhwyd fawr ar hyd i fam,
Rhyw drasgl fynwes gasgl goesgam,
Rhag gweled rhwysg i gwylhers,
A chanu had uwch na'i hers.
Buwch ffol, ni bu uwch i phen,
O ffurf gael un offeren,
Nag offrwm, widdom geuffrom,
Na rhan, na lluman wyll lom,
Odid o chlywid â chlust
Uthr i thry, ffel a'i throed-ffust,
Alw yng Ngwynedd long anhoff,
Gyfryw glul ar ol gafr gloff;
I gwlan, a'i chwpan a'i chap,
A'i deuglaf yn rhoi dwyglap;
Rhannodd i blawd a'i rhynion,
I glêr, a'i phiner, a'i ffon;
A'i chynfas, a'i chrys bras brau,
A'i chae latwm, a'i chlytiau;
A'i chynog llaeth a'i chwynogl,
A'i chwd, Hersdin hwgwd hog!;
O'i blaen y bu oleuni,
Yn un wers wrth i hers hi;
A gweddio gwiw ddwyen,
Gyda hi, safn geudy hen;
Gwain gweirfforch, gwaneg orffwyr,
Gwae ni i marw hi mor hwyr.
XXXIII. MARWNAD ITHEL DDU.
DIR yw o Fro Feilir Frych,
Deryw, mawr yw'r dewin mawr-wych,
O ruthr gwaew, y waeth ior gwymp
I'r daeardy, dy oer-dymp.
Gwaew o ddolur gwyddelig,
Gwnaeth Duw, a bu ganwaith dig.
Yn anwybod dwyn ebyr,
O'i wanu â phen bwian byr—
Heb air ymladd, bar amlwg.
Trwyddaw ar draws, trwydden ddrwg,
Ni wnai wyddel a'i elyn,
Cyndrwg o hir wg a hyn.
Cwyn mawr is Conwy, yw marw
Ithel ddi-argel eurgarw.
Deryw'r gerdd, aeth yn dir gwydd,
Uwch a'i ryfel. Och o'r aflwydd!
Troed awgrym gwawd tra digrif,
Priddo pen profestydd prif;
Prydydd serchog enwog oedd,
A thrydydd athro ydoedd.
Campau'r mab oedd cwympo merch,
Cwmpasu gwawd, camp hoew-serch,
Dychanu i Brem, salw-drem sych,
A Gwyddelyn gwedd elych.
Yfed medd hyfeidd-bledd blwng,
Aur i gathl ar i gythlwng,
A helgyd merch hoeilgyrn,
A hela a chwn, wr hael chwyrn;
Pan na bu farw garw gaerug,
Gwyddelyn merch cregyn crug,
Ni chaiff ef dolef, lle y del,
Weithian, gan nad byw Ithel,—
Gwyn i fyd yn gwynfydu.
Y Brem bach! Awr brim y bu
O'i flaen farw ef eleni.
Iawn a wnaeth—hyn a wn i.
Beth yw'r byd? Pwy aeth a'r bel?
Pen doeth—pwy onid Ithel?
Pwy oedd oreu doniau dyn,
Darlleawdr ar dir Lleyn!
Pwy a wyddiad cariad cel?
Pwy eithr a wypai Ithel?
Oedd eres i ddaearu,
Ethol o Dduw Ithel Ddu.
O ba raid iddo, brydydd,
A cherdd-wr a heliwr hydd?
I Ynys Byr mae hir aeth—
Ithel Ddu'n rhith hela a ddaeth,
A'i gynnydd nis goganwn,
A'i gyrn gydag ef, a'i gwn,
Ag a llong y gollyngwyd
O'i wlad i dir Lleudad Llwyd,
I hela cwning hil Cynon—
Y fil saint a'i fawl a'i son.
Nid aeth llwyth o adwyth lli,
Un llong i Ynys Enlli,
Hyn a dyngaf, llwyraf llw,
Hanner cystal a hwnnw,—
F'enaid aur, llathraid yw'r llwyth,
A'm dewis-dyn, Du ystwyth.
Gwr a fedrodd yn gowraint—
Gorwedd lle mae senedd saint.
A glybod Talbod, sel dda,
Ag Iolyn, Ddu'n galwn'n dda.
Di-ddrwg i ddiwladeiddrwydd,
Digrif, pe sirif i swydd.
Nid oes gythrel disgethrin,
A ddel yno, gwenfro gwin.
Da dyddyn, o doed iddi,
Nid ai nebo honai hi.
Yno y daeth ef yng nghrefydd,
Yno byth, band iawn y bydd.
Gorffwys i gorff hyawdl
Hyd frawd ddiodlawd, dda awdl;
Nid aeth, o uchafiaeth iach,
I grefydd wr ddigrifach.
XXXIV. MARWNAD DAFYDD AB GWILYM.
HUDOL dwf fu hoedi Dafydd,
Hoew ddyn, pe bai hwy i ddydd!
Di-ungor awdl, da angerdd,
Ab Gwilym Gam, gwlwm y gerdd.
Lluniodd wawd wrth y llinyn—
Llyna arfer dda ar ddyn.
Gem oedd i siroedd, i swch,
A thegan gwlad a thegwch.
Mold y digrifwch, a'i modd,
Ymwared im am wiw-rodd.
Mau ddarpar, mi a'i ddirpwr
Farwnad o gariad y gwr.
Hebog merched Deheubarth,
Heb hwn, od gwn, aed yn garth.
Cynydd pob cethlydd coeth-lawn,
Canys aeth cwynofus iawn.
Tydi, gi, taw dy gywydd—
Nid da'r byd, nid hir y bydd.
Tra fu Ddafydd, gelfydd gân
Ydd oeddid barchus ddiddan;
Ac ni bydd o herwydd hyn,
Gwedi ef, gwiw dy ofyn;
Bwrier a weuer o wawd,
A'i deuflaen ar i daflawd.
Ethyw pensel yr ieithoedd—
Eithr pe byw, athro pawb oedd.
Uthr fy nghwyn, o frwyn fraw,
Athron-ddysg oedd uthr ynddaw.
A theuluwr serch i ferch fu,
A thelyn llys a theulu,
A thrysorer clêr a'u clod,
A thryfer bywyd, a'i thrafod.
A thruan—heb athrywyn,
A thraha oedd, fu difa'r dyn,
A thrawst beirdd, a thrist yw byd,
A thrachefn na thrachyfyd.
Athro grym, glewlym gloew-lef,
A theyrn oedd.—AETH I'R NEF.
XXXV. BEDD DAFYDD AB GWILYM.
AR FEDD FAEN DAFYDD AB GWILYM YM MYNWENT TAL Y LLYCHAU.
HARDD lasnen ywen, llwyn Eos—Dyfed,
Mae Dafydd i'th agos:
Mae'n y pridd y gerdd ddiddos,
Diddawn yw, pob dydd a nos.
XXXVI. I ERCHI MARCH ITHEL AP RHOTPERT.
RHO Duw mawr y march blawr-blwng—
Mall yr wyd yn ymollwng;
Teg gwrser, tew a garsyth,
Oeddit, tost na byddit byth.
Gyrfäydd goreu fuost,
I'th ol dyhir im, a thost;
Gweled yn wag lle y'th fagwyd,
A bod dy breseb heb fwyd;
Beth a wnaf danaf i'm dwyn
Am orwyddfarch mawr addfwyn?
Gorddig gan gleiriach gerdded,
Heb gael gorffwys heb ged;
Heb farch im onis archwn
I bwy is Conwy nis gwn.
Rho gyngor it rhag angen,
Myned at Ithael hael hen,
Ap Rotpert, fab pert yw'r por,
Ion Archddiagon ddeugor.
Dogn waith, da gan Ithael
Cadw cylch ag ef cyd cael
Nid rhaid i ti ni ddiylch
Nac oedi car, neu gadw cylch,
Nac erfyniaid cyfriaid cu,
Nag erchi, ond i gyrchu;
Ti a gei eddestr teg iawn
Ganthaw a'i wenllaw winllawn.
Bu gwir na bu debyg ef,
Benaig eglwys ban giglef
Marw fy march mawr fu i mi,
O gyllaeth wedi i golli.
Anfon anwylion yn ôl,
Syberw fu ddewis ebol,
A hebrwng eddestr blwng blawr,
Cain addfwyn teg cynyddfawr,
Carn geugraff, mewn rhaff yn rhwym,
Buan-rydd ffurf i ben-rwym.
Brondor pe's prynai Ior Iorc,
Dirmyg oedd arno deirmorc.
Nid hwn yw'r march blaen-barch blawr,
Ffroen foll, olwyngarn, ffrwynfawr.
Cyntaf bardd fyddaf iddaw,
Ag ola im gael o'i law.
Llyma'r maes, a llyma'r march,
Gwedi cael gafael gyfarch.
Pa dda im dirym dyrrwyf?—
Profi i ddofi ydd wyf;
Pa funud ehud eofn
Ar i gefn yr âf rhag ofn;
Rhag disgynfaen, chwaen chwimwth.
Trwm fyd dyn crwm, fal dwyn crwth.
Ni thrig eithr ar ogwydd,
I'w gyfrwy mwy nag wy gwydd,
Rhaid im ochel bugelydd
A'i gorchymyn yn syn sydd;
Ar y ffordd orhoff y ffo,
Rhybuddied rhai a'i beiddio;
O bell rhag dywedyd bw,
Gair hynod, garw yw hwnnw;
Rhaid yw im ochel Melin
Henllan, gwrach gronglwydwan grin
Hi a'i chlep fal hwch lipa,
Is y ffordd yn ysu ffa;
A'i chafn gan aeafnos,
A'i ffordd garregog a'i ffos;
Rhaid ymoglyd Rhyd Maglau,
Glyn Meirchion a'r goed-fron gau;
Ffordd enbyd ar ffair Ddinbych,
Aml draenllwyn a gwrysglwyn-gwrych;
Rhaid ofn y geuffordd ddofn ddwys,
A'i chraig-lethr uwch yr Eglwys;
Bo a fo yn aflym wyf,
Ai syrthio ai na syrthiwyf.
Llwyr fendith Duw, llorf iawndeg,
I'r gwr a'i rhoes, goreu rheg;
Uchelwyl hwyl hael Uchdryd,
Uchel-grair yw byw mewn byd;
Llugorn y bwyll a'i llogell,
Llygad y Berfeddwlad bell;
Dy' gwyl mabsant, holl Degeing1,
Digel glod, angel gwlad Eingl,
Rhagor wr mawr, rhag ereill,
Y sydd arnaw, gerllaw'r lleill.
Llawenach lliw i wyneb,
Yw ef a haelach na neb;
Parabl resonabl rhyw sant,
Cywirdeb fal cywair-dant;
Ffrwyth hyd yr unlliw winlliw,
A phryd archangel a'i ffriw.
Fy nhadmaeth ehelaeth hael
Weithian i mi yw Ithael,
A'm cefn ydyw, a'm cyfaillt,
Amau o beth a'm mab aillt.
Ardreth di-chwith gan Ithael
Y sydd yn gyflym i'w gael,
Pensiwn balch gwalch gwehelyth,
Diwallu cleirch ar feirch fyth,
A chael ar bob uchelwyl
Anrheg a gwahodd hawddhwyl;
Teilwng-gorff tawel angerdd,
Talm a'i gwyr da-tâl am gerdd;
Talu arian a rhudd-aur,
Marchog wyf, a meirch ac aur;
A'i fwyd a'i lyn ar i ford,
Wyr Ricart, wi o record.
Duw i'w adael, dywedwn,
Poed dir bywyd hir i hwn.
XXXVII. PEDWAR MAB TUDUR LLWYD O BENMYNYDD YM MON.
MYND yr wyf i dir Mon draw,
Mynych im i ddymunaw;
I ymwybod â meibion
Tudur fy naf, Mordaf Mon—
Gronwy, Rhys ynys hynaif,
Ednyfed, Gwilym lym laif—
Rhys, Ednyfed roddged rwy,
Gwaewlym graen Gwilym, Gronwy;
Ednyfed, Gronwy, mwy Rhun,
Rhys, Gwilym, ail rhwysg Alun;
Gwilym, Gronwy yw'n gwaladr,
Ednyfed rhoes ged, Rhys gadr.
Pedwar eglur pedroglion,
Angelystor ger môr Mon.
Pedwar Nudd,—Pedr i'w noddi!
Poed ar awr dda mawr i mi,
Pedwar maib—pwy a'i dirmyg
Plaid ni ad arnaf un plyg.
Iaith ofigion, iaith fyged,
Gwynedd, pedwar cydwedd ced,
Plant Tudur—fy eryr fu,
Paenod haelion penteulu;
Aerfa llu ar for lliant,
Aur dorllwyth yw'r blaenffrwyth blant;
Teirw ergryd haerllyd eurllin,
Terydr aer, taer ar y drin;
Gwalchyddion, brodorion brwydr,
Gwelydr wiw ergrydr eurgrwydr;
Barwniaid heb arynaig,
Beilchion blanigion, blaen aig;
Cangau'r corff cynhullorfion,
Calonnau emylau Mon.
Mon yr af, dymunaf reg,
Mynydd dir manweidd-deg,
Buarth clyd i borthi cler,
Heb wrthod neb a borther;
Claswr-wraidd deg glwys oror,
Clost aur, mae'n clust daro'r mor:
Mam Wynedd, mae im yno,
Geraint da i braint i'w bro;
Cyntaf lle'r af, llew a rydd,
Caer pen Mon, carw Penmynydd;
Ty gweles gynt, teg wiwle,
Tudur Llwyd, da ydyw'r lle.
Yno mae, heb gae ar gêd,
Ail drigant aelwyd Rheged;
Går da iawn, gwr di-anhoff,
Gronwy, loew saffwy, lys hoff,
Arwain a wnaf i'm eurwalch,
Waew a phenwn barwn balch,
A'i darged, benadur-gorff,
Gydag ef i gadw i gorff,
Yfo nid rhaid ofni tryn
Ag Iolo yn i galyn.
Af lle'dd wtresaf at Rys,
Arddreiniog, urddair ynys,
A'i drysorau dros ariant,
I faer coeth wyf, fe wyr cant;
Câr o'r gwaed, yn caru'r gwr,
I Rys wyf yn rysefwr;
Arddelw arnaf aur ddolef,
Olud oll i weled ef.
Nid pell Tre'r Castell, cell cêd,
Tud nefol, Tai Ednyfed,
I ffenestr wyf fi yno,
I faer fyth, fy aur yw fo.
Caf yno heb geisio gwell,
Cystal ag yn Nhre'r Castell;
Ol a gwrthol, i'm gorthir
Awn at Rys, gwys y gwir,
Ar draws Mon, o dy Rys mwy
Di 'rynaig i dy Ronwy;
O dy Ronwy, da'r Ynys,
Da ryw ymchwela i dy Rys;
O dy Rys, dur i aesawr,
I dy Wilym, mynd elw mawr,—
Llys Wilym, lle llysieulawn,
Llewpart aur, lle parod dawn;
A nwyd rhag yno trigaf,
Yn y nef ac iawn a wnaf,
Trefn clerach, trafn goleuryw,
Tariaf ym Mon tra fwy fyw.
XXXVIII. ACHAU OWEN GLYN DWR.
MYFYRIO bum i Farwn,
Moliant dyhuddiant i hwn,—
Arwyrain Owain a wnaf.
Ar eiriau mydr yr euraf,
Beunydd nid naddiad gwydd gwern,
Pensaer-wawd, pen y sirwern.
Pwy yng nglawr holl Faelawr hir—
Paun rhwy Glyn Dyfrdwy dyfrdir?
Pwy ni dylai, pe bai byd?
Pwy ond Owain, paun diwyd?
Y ddwy Faelawr, mawr eu mal,
Eithr y fo, a Mathrafal.
Pwy a ostwng Powys-dir,
Pe bai gyfraith a gwaith gwir?
Pwy'n eithr y mab pennaeth-ryw—
Owain ab Gruffydd—nudd in yw?
Ap Gruffudd llafn-rudd y llall,
Gryf-gorff cymen digrif-gall.
Gorwyr Madog, ior Degeingl,
Fychan yn ymseingan seingl.
Goresgynydd, Ruffydd rwydd,
Maelawr, gywir-glawr arglwydd.
Hil Madog hir-oediog hen,
Gymro ger hoew-fro Hafren;
Hil Fleddyn, hil Gynfyn gynt,
Hil Addaf ddewr hael oeddynt;
Hil Faredydd, rudd i rôn,
Teyrn carneddau Teon,
Hil y Gwinau, Deufreuddwyd,
Hil Powys lew, fy llew llwyd;
Hil Ednyfed, lifed lafn,
Hil Uchdryd ddewr, hael wych-drafn ;
Hil Dewdwr Mawr, gawr gwerin,
Heliwr gweilch, heiliwr y gwin,
Hil Maig Mygotwas, gwas gwaew-syth,
Heirdd fydd i feirdd, o'i fodd byth."
Hawddamor, por eur-ddor pert,
Hwyl racw'm mrwydr hil Riccert.
Barwn, mi a wn i ach,
Ni bu barwn bybyrach.
Anoberi i un barwn,
Eithr y rhyw yr henyw hwn.
Gorwyr dioer gair dwyrain,
Gwenllian o Gynan gain,
Medd y ddwy Wynedd einym,
Da yw, a gatwo Duw im.
Wrth bawb i ortho a'i bwyll,
Arth o Ddeheubarth hoew-bwyll;
Cynyddwr pob cyneiddwng,
Cnyw blaidd, y rhyw cenau blwng.
Pestl câd ag arglwydd-dad glew
Post ardal Lloegr, pais dur-dew;
Edling waed o genhedlaeth
Yw ef, o ben Tref y Traeth,
I gyfoeth ef, a'i gofyn,
Trefgarn, o'i farn ef a fyn;
Garw wrth arw, gwr wrth ereill,
Mwyn fydd a llonydd i'r lleill.
Llonydd i wan, rhan i'w rhaid,
Aflonydd i fileiniaid.
Llew Is-coed, lluosawg gêd,
Llaw a wna llu o niwed.
Llithio brain, 1lethu Brynaich,
A llath bren mwy na llwyth braich.
Be magwn, byw i 'magor
Genau i neb, egin Iôr,
Hael eur-ddrem, hwyl awyr-ddraig,
I hwn y magwn ail maig."
Tawn, tawn, goreu yw tewi.
Am hwn nid ynganwn ni,
Da daint rhag tafawd, daw dydd,
Yng nghilfach safn anghelfydd;
Cael o hwn, coel a honnir,
Calon Is-Aeron, a'i sir;
Ag iechyd a phlant gwych-heirdd,
Yn Sycharth, buarth y beirdd.
Un pen ar Gymru wen wedd,
Ag un enaid gan Wynedd,
Un llygad cymuniad caith,
Ag unllaw yw am Gynllaith.
XXXIX. MARWNAD MEIBION TUDUR
AB GORONWY O BENMYNYDD
YM MON.
LLYMA le diffaith weithion,
Llys rhydd, ym Mhenmynydd Môn;
Llyma Basg, lle mae llwm bardd,
Llef digys wedi llif digardd;
Tebyg iawn, o'r ty bu gynt,
Tudur a'i blant, da ydynt,
Ydyw llys wedi'r llesu
I'r fonachlog ddoniog ddu;
Wynebau trist, un abid,
Un sud a brawd ansawdd bryd,
Ag un wedd gynau i wyr,
Ydyw pawb o'i dai pybyr.
Un lifrai, un a lofrudd,
A'r brodyr, pregethwyr prudd.
Gnottach o'i law iddaw oedd,
Ar wyl fry, roi lifreoedd,
O'r brethynnau brith hownaid,
Ag o'r gwyrdd goreu a gaid;
I gerddorion, breisgion brisg,
I glerwyr na'i alarwisg.
Hwyl ddi-fawl yr Iddewon,
Udo mawr sydd ar hyd Mon;
Cell llwyd wedi colli i llyw,
Odidog o fyd ydyw.
Gweled am Rhys a Gwilym,
Abid du-heb wybod dim.
Ar ol y crefydd erioed,
Cwfaint o feibion cyfoed;
Boed yn nef y bo Ednyfed,—
Mon aeth ysywaeth yn sied.
Hwn a fu farw, garw gyffro,
Gyda i frawd i gadw y fro.
Gwae Fôn, am y meibion maeth
Gwasgarog, fydd gwaisg hiraeth.
Gwasgeiddfawr weilch, gwaith addfwyn,
Gwasgodion gwyr duon dwyn,—
Hardd oeddynt, ym morwynt myr,
Gwragedd Môn a'i goreu-gwyr.
Ner aethant, oerfant arfoll,
Mal ellyllon eillion oll.
Nid marw un gwrda i Môn,
Diau heb wisgoedd duon.
Yn Ynys Dywell, cell cerdd,
Y gelwid Môn, wegil-werdd.
Llwyr y cafas, llawr cyfun,
I chyfenw, a'i henw i hun.
Y dydd tecaf, haf hinon—
Nos fyth yn Ynys Fôn.
Y dydd tecaf haf hwy
A fydd nos hir o Fawddwy.
Mae cwmwl fal mwg gwymon,
Mal clips i mi ym Môn.
Hwyntau oll yn tywyllu
Ni wyl dyn, ond y niwl du.
Eithr eilun, mae uthr olwg,
Megys edrych, mewn drych drwg.
Y ddaearen oedd araul—
Drwg hin wedi duo'r haul.
Y dydd mawr des ydoedd mwy,
Y deuthant i Dindaethwy—
Gorddu gennym ag arddwl,
Gweled pawb fal gwibiaid pwl.
Di-wyl iawn dy oleuni,
Doeth blwyddyn yn ing i mi,
Colli gennym cell Gwynedd,
Cell gwleddau, biau y bedd,
Cellau oer, cell anwerus
Cell y glew Celliwig lys.
Car par paladr, dar dellt,
Gafael-fawr, gwaew ufeltellt
O ragor ni orugug
Oer gêd i'w dynged a'i dug.
Di-fwyn y tair morwyn mawr
A fu lysfam aflesfawr,—
Clopes dewis dlos duwies,
Cletys, Leteisys liw tes;
Oer ffordd y cowson orffen,
O hyd waith i hedau wen:
Ni ryfeddwn, gwn ganwaith,
Pe boddai ar Fenai faith;
Neu ar For Udd arfer oedd,
Penadur byd pan ydoedd.
Braw eisoes oedd i bresent
Suddo i gorff yn swydd Gent,
Mewn pwll trydwll troedig,
Y bu ar Sadwrn, dwrn dig,
A'i arwain ar elorwydd
Llwgr fawr yn Lloegr a fydd,
O Gaer Ludd i drefydd draw,
I gwr Môn, goror Manaw;
Y doeth at frawd llednoeth llwyd,
I briddaw-wb o'r breuddwyd!
I lawr Llan Faes elorwydd
Gyfriw gorff, bu gyrfa'r gwydd.
Aed i nef ag Ednyfed
I frawd fu giwdawd, fu ged.
Derbynied Duw ar bwynt dwys
Y brodyr i Baradwys
XL. AR DDYFODIAD OWEN GLYN DWR O'R ALBAN.
MAWR o symud a hud hydr,
A welwn ni ar welydr.
Archwn i Fair, arch iawn fu,
Noddi'r bual gwineu-ddu,
Arglwydd Tywyn, a'r Glyn glwys,
Yw'r pôr, a ior Powys.
Rhwysg y iarll balch gwyar-llwybr,
Rhwysgir wyr Llyr ym mhob llwybr;
Anoberi un barwn,
Ond o ryw yr henyw hwn.
Hynod yw henw i daid,
Brenin ar y barwniaid.
I dâd, pwy a wyddiad pwy,
lor Glyn daeardor Dyfrdwy.
Hiriell Gymru ddiareb,
Oedd i dad, yn anad neb.
Pwy bynnag fo'r Cymro call,
Beth oreu, gwn beth arall,
Goreu mab rhwng Gwr a Main
O Bowys, fudd-lys feddlain,
Oes un mab yn adnabod
Caru cler, goreu y cair clod;
Ni fyn i un ofyn ách,
I feibion; ni fu fwbach.
Ni ddug degan o'i anfodd,
Gan fab onid gan i fodd.
Ni pheris drwy gis neu gur,
Iddaw a'i ddwylaw ddolur;
Ni chamodd fasnach amwyll,
Cymain a bw cymen bwyll.
Pan aeth y gwr, fal aeth gwrdd
Goreu-gwr fu garw agwrdd,
Ni wnaeth ond marchogaeth meirch,
Goreu amser mewn gwrm-seirch;
Dwyn paladr gwaladr gwiw-lew,
Sioged dur a siaced dew;
Arwain-rest a ffenffestin
A helm wen, gwr hael am win;
Ag yn i ffen, nen iawnraifft,
Adain rudd o edn yr Aifft;
Goreu sawdiwr gwrs ydoedd,
Gyda Syr Grugor, ior oedd.
Ym Merwig, herw-drig hwyrdref,
Maer i gadw'r gaer gydag ef;
Gair mawr am fwrw y gwr march,
A gafas pan fu gyfarch.
A gwympodd ef yn gampus,
I lawr ae aesawr yn us.
Ar ail brwydr bu grwydr brud,
A dryll i waew o drallid.
Cof cyfliw heddyw yw hyn,:
Canllaw brwydr can holl Brydyn.
Pobl Brydain yn druain draw,
Pob dryg-ddyn, pawb dioer rhagddaw,
Yn gweiddi megis gwydd-eifr,
Gyrrodd fil garw fu i Ddeifr.
Mawr fu'r llwybr drwy crwybr crau,
Blwyddyn yn porthi bleiddiau;
Ni thyfodd gwellt na thafol,
Hefyd na'r yd ar i ôl,
O Ferwig Seisnig i sail,
I'r Ysbwys, hydr fu'r ysbail.
XLI. MARWNAD LLYWELYN GOCH AP MEURIG HEN.
O DDuw teg a'i ddaed dyn,
A welai neb Lywelyn
Amheurig foneddig hen,
Ewythr, frawd tad yr awen?
Mae ef? Pwy a'i ymofyn?
Na chais mwy, achos ni myn,
Meibion serchogion y sydd,
A morwynion Meirionydd.
Rhyfedd o ddiwedd a ddaeth
Os Rufain fu'r siryfiaeth.
Dyn nid aeth, a Duw'n dethol,
Erioed fwy cwyn ar i ol.
I baradwys i brydu,
Yr aeth bardd, ior eitha' bu—
I'r lle mae'r eang dangnef,
Ac aed y gerdd gydag ef.
Nid rhaid dwyn ynof ond tri,
Nid hagr cael enaid digri',
Mawr yw'r pwnc, os marw'r pencerdd,
Mawr a'i gwyr—ni bydd marw'r gerdd.
Pan ofynner, eur-ner oedd,
Y lleisiau yn i llysoedd,
Cyntaf gofynnir, wir waith,
I'r purorion per araith,
Hy iawn-gerdd y gwr Hen-goch,
Lluaws a'i clyw, fel llais cloch,—
Nid oes erddygan gân gainc,
Gwir yw, lle bo gwŷr ieuainc,
Nid oedd neb coeth ateb cu
Yng Ngwynedd yn ynganu;
Ni bydd digrif ar ddifys,
Nac un acen ar ben bys,—
Ond cywydd cethlydd coethlef,
Ni myn neb gywydd namn ef;
Ni cheir un-gair chwerw angerdd,
Ar gam unlle ar y gerdd;
Ni wnai Dydai, dad awen,
A wyddiad gulfardd hardd hen;
Cerdd bur, i gwneuthur, a wnaeth,
Gwrdd eurwych i gerddwriaeth;
Prydydd-fardd priod addfwyn,
Proffwyd cerdd, praff ydyw cwyn;
Priff-ffordd a gwely gordd gwawd,
Profestydd y prif ystawd:
Primas cywydd Ofydd oedd,
Profedig, prif-wr ydoedd;
Prydfawr fu'r ffyddfrawd mawr mau,
Pryd-lyfr i bob per odlau;
I gân Taliesin fin-rhasgl,
Trwy i gwst, nid trwy y gasgl,
Y dysgawdd fi y disgibl,
Ar draethawd o bob wawd bibl.
Athrylith, nid etholysg,
Athro da mur aeth a'r dysg.
Nid rhaid wrthi hi yr haf,
Da gwyr ef, y digrífaf.
Dieithr a wnaem yn deuoedd,
I mi ag ef, amig oedd—
Amlyn wyf, nid aml iawn neb,
O rai hen ar i hwyneb.
Pur athro cerdd, per eithrym,
Parod oedd pwy a wyr dym?
Minnau'n dal heriau fy hun,
Mi a wn, o mewn anhun,
Na dyrnu na gyrru gwawd,
Ag un-ffust, och! rhag anffawd.
Un natur a'r turtur teg.
Egwan wyf ac un ofeg.
Ni ddisgyn yr edn llednais,
Ni chân ar ir-fedw lân lais."
Minnau canu nis mynnaf,
Byth yn oes. Ow! beth a wnaf?
Gweddio Pedr, gwaedd eorth,
Y bum—canaf gerdd am borth,
Am ddwyn Llywelyn, ddyn da,
Urddol feistr nef i'r ddalfa.
Nis gwyr Duw am deulu-was,
Yn athro grym a wnaeth gras,
Ymysg pobloedd hyddysg hynt,
Proffwydi nef, praff ydynt.
Gwaith hoff gan Ddafydd broffwyd,
Ddatganu cerdd Lleucu Llwyd,—
Prydydd oedd Ddafydd i Dduw.
Clod y Drindod a'r Unduw,
Prydyddiaeth a wnaeth fy naf,
Y Sallwyr bob ryw sillaf.
Anniwair fu yn i oes,
Y caruaidd-fardd caredd-foes.
Pur wr tal, puror teulu,
Serchog edifeiriog fu..
Duw a faddeuodd hawdd hoed,
Iddaw yn i ddiwedd-oed.
Yntau a faddeu i'w fardd,
I ffolineb ffael anhardd.
Llys rhydd sydd echwydd uchel,
I brydydd lliw dydd, lle del;
Ni chae na dôr, na chwyn dyn,
Na phorth rhagddor, ni pherthyn;
Nid hawdd atal dial dwys,
Prydydd ym mhorth paradwys.
XLII. I ITHEL AP RHODPERT O GOED
Y MYNYDD I OFYN MARCH.
Pwy i'n mysg yn pen masnach,
A fyn a rhoi Duw ym farch?
O ganmol gwerth ugain-more,
Am un march a mwy na more;
Elw mawr cael eilíaw mawl,
Er gorwydd y rhagorawl;
Nid tra ariannawg ond rhai,
Dyn mwyn, mi myn, dwyn mwnai;
Dyn arall, myn dwyn arian,—
Dwyn i glod a fyn dyn glân;
Yn i dalm a wnai delyn,
O flaen dawns, ni flina dyn;
Felly y gwna, ci da diorn,
Llafar y cais llef y corn;
Hwy y pery na haearn,
Gwawd na march, a gwydn yw 'marn;
Ni ddiffyg gwawd tafawd da,
Ni lwgr ar ddwr ni lwyga;
Na llym-goes, ni all angerdd,
Rhuthr o'r gysp, ddieithro'r gerdd;
Ni affwsloner, ni ffawr soeg,
Fal ceffyl trwyngul tremgoeg;
Ni wasg hefyd ysgyfaint,
Ag ni fag ynddi haint;
Pregeth am hurbeth yw hon,
Marw o'r gysp mawr argospion;
Talai im ddoe talm o dda,"
Heno yn farw fal hen furia;
Gwyliwch lle mae y gelain,
Ar lethr y bryn, i lithio'r brain;
Dir cyn dwyn da o'r coed,
Rhoi ergyd cais i'r Argoed.
Rhyngof uniawn gôf angerdd,
A choed, a mynydd, a cherdd.
Gyrthied côf-eurged fawr-goeth,
Ym mhen y dewin-bren doeth,
Ithel ŵyr Ithel, wr uthr,
Orwyr Ithel Llwyd aruthr,
Etholedig iaith loew-deg,
Ithel, delw Fihangel deg;
Pendefig dri-dyblig dabl,"
Personaidd pur resonabl;
Prelad iawn pur aelwyd yw,
Yr eglwys aur rywiawg-lyw;
Cydwersawg cof diweir-salm,
Fum ag ef yn dolef dalm;
Gyda'r un Athro, clo clod,
A'r hen feistr, gwys yn hanfod;
O'r un llwyth a Ronwy Llwyd,
Post Drefryd pais edrifrwyd;
Pwy mwy o Ronwy uniawn,
Winfaeth benaeth fab Einiawn;
Uriel fu'r angel bro engyl,
Digon ceddid i Degeing!;
Nid oes fab sant o'r cantref,
Oen Duw na phen-rhaith ond ef.
Gre sydd iddaw, gras iddyn—
A meirch,—pam na rydd im un?
Na roed farch cul diarchen,
Llwygus, i wr heinus hen;
Rhag gorwedd, osgedd ysgwn,
Yn dwyn y baich dan i bwn.
Pe caffwn ranswm rwnsi,
Heb fwng ef a hebof fi,
Mi a wn ar hwn yr af,
Mai ebol goffol a gaffaf;
Pwy a'i deil tra pedolwyf?
Pwy a lŷn arno pwl wyf?
O rhed march ar hyd y maes,
Gorwyllt lwdn, fal gafr wallt-laes,
Ni thrigwn eithr ar ogwydd,
I'm cyfrwy, mwy nag wy gwydd.
O thiria hwch a throi hwn,
Camp yw arnaf, y cwmpwn.
O siga cloriau cleiriach,
O syrth, ni ddwg un nos iach,
O brathaf flaen fy nhafawd,—
Wel! yna gwaethyga gwawd.
Nid da i'r cylla ceullawn,
March a thuth amorchudd iawn.
Llyna megis y lluniwn,
Pes ceid yng ngwyliau'r Pasg hwn,
Hacnai a siwrniai sarn,—
Didramgwydd da di-drym-garn.
Gwyn i fyd, hefyd yr haf,
A'i gwelai y modd y gwelaf;
Gwas go gwta, da di-hort,
Ag eddystr mewn cebystr cort,
Yn dyfod dan amod im,
Yn anrheg gan iôn iawn-rym.
Mi a wnaf lawn lawenydd,
I'w gennad ef gyn y dydd ;
Drwy groeso Duw, troi gras da,
Wrtho ef a'm diwartha.
XLIII. OWEN GLYN DWR.
ADDEWAIS hyn, do ddwywaith,
Addewid teg addaw taith;
Taled pawb tâl hyd y bo
I addewid a addawo;
Pererindawd ffawd ffyddlawn,
Perwyl mor anwyl, mawr iawn;
Myned adduned ddain,
Lles yw, tua llys Owain;
Yn ddiau, hyd yno ydd âf,
Nid drwg, yno y trigaf;
I gymryd i'm bywyd barch,
Gydag of o gydgyfarch.
Fo all fy naf uchaf ach,
Aur ben cler, dderbyn cleiriach;
Clywed bod, nis cel awen,
Ddiwarth hwyl, yn dda wrth hen;
I'r llys ar ddyfrys ydd af,
O'r deucant odidocaf;
Llys barwn, lle syberwyd,—
Lle daw beirdd aml, lle da byd;
Gwawr Powys fawr, beues faig,
Gofyniad gwiw a fenaig.—
Llyma'r modd a'r llun y mae,
Mewn ergylch dŵr, mewn argae.
Pand da'r llys, pont ar y llyn,
Ag unporth lle'r ai canpyn:
Cyplau sydd, cypleus ynt,
Caboledig pob cwpl ydynt;
Clochdy Padrig, Ffrengig ffrwyth,
Clostr Westmastr, cloau ystwyth;
Cafell o aur cyfoll yw,,
Cynglynrwym pob congl unrhyw;
Cynglynion yn y fron fry,
Dordor megis daeardy;
A phob un fal llun llynglwm,
Sydd yn i gilydd yn glwm.
Tai nopl ar follt deunaw-plas,
Tai pren glân ar dop bryn glas;
Ar bedwar piler eres,
Mae i lys ef i nef yn nes;
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft ar dalgrofft adailgraff;
A'r bedeir lofft o hoffter,
Yng nghyd gwplas lle cwsg y cler;
Aeth y pedair ddiscleirlofft,—
Nyth-lwyth teg iawn yw wyth lofft;
To teils ar bob ty talwg,
Simneiau lle megir mwg;
Naw neuadd cofladd cyflun,
A naw wardrob ar bob un;
Siopau glân, gynnwys gain,
Swp landeg fal Siep Lundain;
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw;
Pob ty'n llawn, pob ty'n y llys,
Perllan, gwinllan, ger wenllys,
Gerllaw'r llys gorlle o'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall;
Parc cwning, meistr por cenedl,
Erydr a meirch hydr mawr chwedl;
Dolydd glân gwyran â gwair,
Ydau mewn caeau cywair;
Melin deg ar ddifreg ddwr,
A'i glomendy gloew maen-dwr;
Pysgodlyn arddyglyn cau,
A fo raid i fwrw rhwydau;
Amlaf lle nid er ymliw,
Penhwyaid a gwyniaid gwiw;
A'i drí bwrdd a'i adar byw,
Peunod cryhyrod hoew-ryw;
I gaeth a wna pob gwaith gwiw,
Cyfreidiau cyfair ydyw;
Dwyn blaenffrwyth cwrw Amwythig,
Gwirodau bragodydd brig;
Pob llyn, bara gwyn a gwin,
A'i gog a'i dân i'w gegin;
Pebyll y beirdd, pawb lle bo,
Pe beunydd caiff pawb yno.
A gwraig oreu o'r gwragedd,
Gwyn fy myd o'i gwin a'i medd!
Merch eglur llin marchog-lyw,
Urddol hael o reiol ryw;
A'i blant a ddeuant bob ddau-
Nythaid teg o benaethau;
Anfynych iawn fu yno.
Weled na chlicied na chlo;
Na phorthoriaeth ni wnaeth neb,
Ni bydd eisieu budd oseb,
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth;
Goreu Cymro, tro traglew,
Biau'r wlad, 1lin Bywer Lew.
Gwr meingryf, goreu mangre,
A phiau'r llys-hoff yw'r lle."
XLIV. MARWNAD ITHEL AP RHOTPERT,
O GOED Y MYNYDD, ARCHDDIACON YSGEIFIOG.
ERES y torres terra,
Yr awr hon blanhigion bla;
Ac eres y mag oroín,
Arni bellen ddefni ddofn ;
Achreth o oergreth ergryd,
Rhag sies o grynwres y gryd;
Tymmestl a ddoeth, nid duw-Mawrth-
Dydd mawr rhwng diwedd y Mawrth.
A'r Ebrill, digrill dygn in.
Difiau bu dechreu dychryn;
Rhwng y dydd newydd a'r nos;
Bychan a wyr ba achos;
Mawr o wth, marw Ithael
Mab Rhopert, mab pert, mab hael,
A roddes i ni ruddaur
Llydan ac arian ac aur.
Maen rhinweddawl gain a gaid
Mererid glân mawr euraid
Glain gwerthfawr engyl-fawr Eingl,
Glân da teg, gloyn Duw Tegeing];
Car i wlad gwledychiad gwledd,
Croes naid ac enaid Gwynedd;
Brawd engyl bryd ieuengaidd,
Pob drwg a da, pawb a draidd;
Neb arno ef ni barnai,
Am na bu fyw ef, fu'r bai;
Ni bu eto o'r Brytwn,
Un mor hael gan marw hwn;
Gwae hwynt, gler, mewn gwynt a glaw,
A'r ddaear, wedi'r dduaw.
Ni bu ar honno cyd bo byrr,
Dymestl nac un ardymyr,
Hyd heddyw anwiw anwir,
Gyfriw a hyn, gwae fi, Ior hır.
Mae Duw gwyn, amodeg oedd,
O foliant i fil filoedd,
Mal y gwnae'n amlwg o nef,
Da oedd, gwedi dioddef,
Pan darfu dirfawr orwag
Ysbeilio uffern, wern wag,
A chrynu, och o'r anwyd,
O'r ddaear lydan lân lwyd!
Yna y danfones Iesu,
Yn ol i fab, anwyl fu,
A llu engylion, fal llyn,
Ion eurbarch yn i erbyn,
Yn lleisiaw salm llais hoew-lwys
A letania yn dda ddwys.
Yr awrhon, nid llai'r owri
A ddaeth i gyd, cyn bryd bri,
I hebrwng corff teilwng teg
Yr abostol heb osteg.
Ni ddoeth i gyd o ddoethion,
Y sawl, yn yr ynys hon.
Hyn a wnaeth yr hin yn oer,
Cael adlaw o'r caled-loer,
Y ddaear ddu ddyrai ddwst
Yn crynnu, faint fu'r crynwst.
Mam bob cnwd bwrw briw-ffrwyth
Mantell oer rag maint i llwyth.
Pan gychwynnwyd, breuddwyd brau,
I'r Eglwys, lân aroglau,
O Goed y Mynydd, ag ef,
A'i dylwyth oll yn dolef;
Llawer esgweier is gil,
Yn gweiddi fyth,—"Gwae eiddil."
Llawer deigr ar rudd gwreignith,
Llawer nai oer, llawer nith,
Llawer effaith a dderyw;
Och fi, na bai iach fyw!
Aml gwaedd groch, gan gloch gler,
A diaspad hyd osber,
Yng nghylch y corff mewn porffor,
Yn canu, cyfaneddu côr.
Arodion saint ar redeg,
A wnai'r cwfaint termaint teg,
Gwae ddwy fil! Gwae i ddyfod
O fewn yr eglwys glwys glod!
A chlywed, tristed fu'r trwst,
Clych a chledr, cler achrydwst.
A goleuo gwae lawer,
Tri mwy na serlwy y ser,
Tortsiau hoew, ffloyw fflamgwyr,
Fal llugyrn tân, llychwyrn llwyr.
Mwy na dim oedd mewn y deml,
O'r gwyrda beilch, gwiw ar-deml;
Rhai'n gwasgu bysedd, gwedd gwael,
Mawr ofid, fal marw afael.
Rhianedd cymyredd cu,
Rhai'n llwygo, rhai'n llewygu,
Rhai'n tynnu i top boparth,
Gwallt i pen megis gwellt parth;
A'r rheidusion, dynion dig,
Yn udo yn enwedig;
Siglo a wnair groes eglwys,
Gan y godwrdd a'r dwrdd dwys;
Fal llong eang wrth angor,
Crin fydd yn crynnu ar for;
Gwae di, Iolo! Gwae i deulu,
O'r pyllaid aeth i'r pwll du;
Bwrw mân raean neu ro,
Ar i wartha fu'r ortho;
Ac o lawer awr fawr fwriad,
Pawb o'i gylch, fal pe bai gad;
Hysbys ym mhob llys a llan,
Dorri'r ddaear yn deiran;
Drwg y gweddai, dra gweiddi
Am wr fal ef, nef i ni.
Gwedi cael, hael henuriad,
Oes deg gan Dduw ag ystad.
Gwell tewi na gweiddi garw,
Yn rhygollt tost am rhygarw.
Llyma oedd dda, iddo ef,
Addoli Crist heb ddolef.
Gydag Eli, sengi sant,
Ag Enog mewn gogoniant.
Ni ddeuant, y ddau sant ddwys,
Brodyr ynt, o baradwys,
Oni ddêl hoedl i'w law,
Dydd-brawd yn yn diwedd-braw;
Ni ddaw i ben mynydd maith,
Olifer borffer berffaith,
Ion archdiagon degach,
Nag fydd Ithel uchel ach.
XLV. MOLIANT SYR ROSIER MORTIMER.
SYR ROSIER, asur aesawr,
Syr Rosier Mortmer mawr,
Rosier ieuanc, planc plymlwyd,
Sarff aer, o hil Syr Raff wyd.
Rhoes arglwydd y Rhos eurglaer,
Rhyswr, concwerwr can caer;
Colon engylion Englont,
A'i phen cynheiliad, a'i phont.
Per bren dawn, pair obry'n da
Por gwyn, blaguryn Buga;
Edlingwalch o deilwng-waed,
Eryr trin, oreuraid traed;
Arwraidd dy luniaidd law,
Wyr bur-ffrwyth ior Aberffraw;
Draig ynysoedd yr eigion,
Dragwn aer, darogan iawn
Ydd wyf, madws it ddyfod,
I Gymru rhyglyddy glod;
Mab fuost, doethost i dir,
Gwr bellach a grybwyllir,
Gwr grym, myn gwyar y grog,
Balc arnad bual corniog;
Nid oes ond eisieu arfer,
O arfer prydferth nerth Ner,—
Gwisgo arfau o gwesgir,
A'i cynnydd fal corn hydd hir;
A thorri, myn Duw, mewn dur,
Baladr soced-gadr cad-gur;
Arwain heyrn yn chwyгn chwerw,
A marchogaeth meirch agerw;
Ymwân a ieirll diamwynt
Ymwrdd, ymgytwrdd agwynt;
A'th yswain, a'th lain o'th flaen,
Pennaeth wyd, pwy ni'th adwaen?.
A'th hensmen hoew, a'th loew laif,
Ar gwrser a ragor-saif;
A'th helm lwys, a thalm o lu,
I'th ol ar feirch a theulu;
A cherdd o'th flaen o raen rwyf,
A chrydr a'r belydr balwyf;
Mawr ystad, Iarll y Mars doeth,
Mawr yw'r cyfenw, mwy na'r cyfoeth,
Mawr o fraint wyd, myn Mair fry,
Mawr dy deitl, mwy roed yty.
Iarll Mars, goreu iarll ym myd,
Iarll Llwydlo, ior llaw waedlyd,
Iarll Caerleon, dragon drud,
Iarll Wlster, ior lwystryd;
Henw da, a hyn oreu
O Ffrens, Dug o Clarens clau;
Henw da gwr hen a'i dieingl,
Wyr Syr Leonel, angel Eingl;
Darogan yw mai'n draig ni
A lunia'r gwaith eleni;
O ben y llew, glew i gledd
Coronir carw o Wynedd ;
Pam mae'r llew crafangc-dew cryf,
Mwy nag arth, maneg wrthyf?
Yn awr gwaisg ar dy fraisg-fraich,
Wyr Brenin Lloegr a'r Brynaich:
Pen arglwydd wyt, paun eurglew,
Ac eginyn o llin llew;
Pennaf fyddi gwedi gwart,
Ail rhyswr ar ol Rhisiart;
Gwnaed ieirll Lloegr gnwd haerllugrwydd
A fynnon o son i'w swydd;
Teilwng oedd it gael talaeth
Aberffraw ymadaw maith;
Amserol mi sy herod,
It ddeffroi i gloi dy glod;
Pa ryw ystyr, pâr osteg,
Y rhoed yr arfau tau teg;
Pedwar-lliw pedair iarllaeth,
Sy dani pwy piau pob peth;
Asur sydd yn dy aesawr,
Iarll Mars, gyda'r eur-lliw mawr.
Sinobl ac arian glân gloew
Im yw'r ysgwyd amrosgoyw.
Pedair cenedl diedliw,
A ddeiryd it, Gwyndyd gwiw,—
Ffrancod, Saeson, wychion weilch,
Gwyddyl, mam Cynfyl ceinfeilch;
Gwaed Ffrainc, gwiw da i ffrwyth,
Ydyw eurlliw diweirllwyth;
Urddedig arwydd ydyw,
Brenin yng ngwlad y gwin gwiw;
A chwbl o Guienne, pen pant,
Fyddi, mwy fydd dy feddiant;
Tai hyd ymylau Maeloegr,
A bid tai'r lle goreu'n Lloegr;
Yn achen y ddraig wen wiw,
Rawn llaes y mae arian-lliw;
Bw i Loegr a'i mab lygad,
Anwyl iawn wyd yn y wlad;
Ion o Wigmôr enwog-mawr,
A Iarll y Mars, arlwy mawr.
Gwawd-rydd cerdd, gwaed y ddraic coch,
Yw y sinobl sy ynnoch;
Am hynny bydd hy baedd hoew,
A rho eto aur ottoyw.
Cael dår, yw coel dy arwydd,
Cael gorfod rhagod boed rhwydd.
Grâs Arthur, a'i groes wrthyd,
A'i lys a'i gadlys i gyd;
Goreu lle, ail Gaer Lleon,
Y sydd iwch o'r ynys hon.
Rhyw Gwyddyl rhywiog addas,
Yw'r asur liw'r gloew-ddur glâs.
Glewaf grwndwal go-galed
Yw'r dur glas-lym, grym i grêd;
Glewach wyd, ail Galath
A'th luwch-waew, hoew loew-lath;
O hyder, o uchder iach,
Y goresgyni Gonach;
Dos drwy'r môr a distryw Mydd,
I flaenau'r wlad aflonydd;
Tref tad i tithau yw'r Trum
Tan gastell teg i ystum;
Tegwch Fatholwch fu,
Calon Iwerddon oerddu;
Dyrchaf dy stondardd hardd hwyl,
Diarchan yw dy orchwyl;
109
Gwna fwysmant, bid trychwant trwch,
Macwy mawr a Mac Morwch:
Torr, rhwyg, a brath, tu rhag bron,
Draw a Galys drwy y galon.
Brysia a chleimia achlân,
Gwlad Wlsfer glod Elystan;
Llynca gyfoeth llawn geufalc,
Myn di yn dau min Dwn Dalc
Yn ol, dal Grednel, fy ner,—
Ci ffalstw cyff o Wlster;
Ti a leddi, clochdy clod,
Bobl Wlster, bob ail ystod.
XLVI. ARAETH O FENDITH
AR LYS HYWEL CYFFIN, DEON LLAN ELWY.
DA yw bendith bardd a Duw bendig,
Ar y maendy a'r plas mau da heb blyg,
Ar baun difai, doeth, ar bendefig,
A'r neb piau hon, nid pwyll llyg,
A'r meistr Hywel hael yn rhoi'n ystig,
A thafarn o win, aur a thefig,
A'r un a'i deil, Basg a Nadolig;
Ag yn lluniaethu gwyr ni thy'gwyg,
A'r cardnal llwyd a'r cardweg;
Ar wern y glasdir wirnef glwys deg;
A'r orddiwes gaer, a'r ardd ddi-wag,
A'r llys i hangwen, a'r llesau-fag,
A'r llew, e fu dda, nid llaw fyddag,
A'r lle y rhennir beirdd, nid llaw rannag,
A'r neuadd fyrdd-fawr, newydd fardd-fag,
A'r gwirodau medd, ior euddwg;
A'r gwrddeiddrwydd y gwrdd diddrwg,
A'i fara, ai gwrw, a'i fêr, a'i gôg
A'r lle amla clêr mal llu amlwg,
Ar llaw Asa lwyd, ior lluosog.
A'r ffiolau aur oruth olwg,
A phob dyn o'r llys, a phawb a'i dwg,
A'r cwrw hyfaidd mal cris hafog.
XLVII. I OWEN AB GRUFFUDD AB OWEN
O LAN TAWY, I OFYN MARCH.
ARGLWYDD pellenigrwydd parch,
Owain wayw, blaenfain blin-farch:
Balch-fab Gruffudd, ni bydd ball,
Baun aur fab Owain arall ;
Gerdd o hydr gwraidd hoew-drafn,
Gethin loew, gynhefin lafn,
Mur un-blaid, mawr ewyn-blas,
Macwy o lan Tawy las;
Tirion-walch cadarn walch cain,
Twr naw-osgl teyrn Owain.
Tew-faedd gwyllt, etifedd gwrdd,
Twrn gwynfyd teyrn gwin-fwrdd.
Mae i'm bryd o loew-bryd lwybr,
Yn niwedd an Ion ewybr.
Gwn y caf, blaen-rwyddaf blanc,
Gan Owain eur-gnyw ieuanc.
March ar ol i bedoli,
Mawr i naid yn fy marn i;
Brysiwr tir, gwelir mai gwrdd,
Braisg i egwyd, brwysg agwrdd;
Ffraeth gynnor, gyrchwr gorchest,
A ffroen rôth mewn ffrwyn, a rest;
Llydan dal drud, arial draidd,
Llygad-rwth, a lliw gwydraidd ;
Llid o llithr, llew du llathraid,
Llawfron arth, nid llwfr i naid;
Mawr neidiau uwch clwydau cledr,
March dihafarch, du hyfedr;
A ffrom oedd osod i'w ffriw,
Ffrwyn wan-lledr, ffroen ewyn-lliw;
Crair llathr, gwyllt sathr 'rhyd gwellt-saig
A chryf ar dor allt a chraig;
A chawr gwrdd, a châr gerdded,
A chynt na'r rhwydd-wynt y rhéd.
Pentyrriwr march pwynt arial,
Pant da daw, pum punt a dâl;
Mygr Owain rudd-lain rwydd-lyw,
Mawr ydd â clod myrdd a'i clyw:
Mawl arab rhwydd-fab rhudd-fellt,
Mur tarian ddur tyr yn ddellt.
Rhoddaf gerdd i wr hoew-ddoeth,
Rhwydd-les câr, ion rhudd-lwys coeth,
Rhudd aur, fe wyr i rhoddi,
Rhodd mawr, ef a'i rhydd i mi;
Rhwydd olwg, rhiaidd alarch;-
Rhoed yntau i minnau'r march.
DIWEDD CYFROL I.
Daw cywyddau Owen Glyndwr, a gwaith beirdd ereiil Owen, yn yr ail gyfrol, gydag esboniadau ar eiriau.
CAERNARFON:
Cwmni y Cyhoeddwyr Cymreig, Cyf.
Swyddfa "Cymru."
Nodiadau
[golygu]- ↑ Bu farw Tom Matthews ym mis Medi 1916, ychydig ar ôl gyhoeddi'r gyfrol hon. Ni chyhoeddwyd yr ail gyfrol. Mae ei nodiadau am yr ail gyfrol (gan gynnwys yr eirfa) ar gael yn y Llyfrgell Genedlaethol Cyf:NLW MS 8360C.]
- ↑ Achau Crist yn y testun
- ↑ Syr Rhys Wgawn yn y testun
- ↑ Herstin (pen ôl), fel sydd yng nghorff y gerdd, sy'n gywir
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.