Tro yn Llydaw (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Tro yn Llydaw (testun cyfansawdd)

gan Owen Morgan Edwards

I'w ddarllen pennod wrth bennod gweler Tro yn Llydaw

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikiquote
Wikiquote
Mae dyfyniadau sy'n berthnasol i:
Tro yn Llydaw
ar Wiciddyfynnu.
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Tro yn Llydaw
ar Wicipedia








Cyfres Gwerin Cymru — Y Trydydd Llyfr.

TRO

YN

LLYDAW:

GAN

OWEN EDWARDS

WRECSAM:

HUGHES a'i FAB, CYHOEDDWYR.

1921.

Digitized by the Internet Archive

in 2011 with funding from

University of Toronto

http://www.archive.org/details/troynllydawOOedwa

I

WERIN

AC I

BLANT

CYMRU

Y CYFLWYNIR Y GYFRES HON.

AM MAI IDDYNT HWY Y CYFLWYNODD

OWEN M. EDWARDS

LAFUR EI FYWYD.

Cyflwynir i

Syr H. Ll. Watkin Williams Wynn,

Barwnig,

y llyfryn hwn am werin sydd eto'n llawn

parch tuag at ei hen deuluoedd.

RHAGYMADRODD.

MEDDYLIAIS, cyn cychwyn i Lydaw, y cawn y wlad honno'n llai dieithr imi nag un wlad arall dan haul, ond fy ngwlad fy hun, oherwydd yr un bobl yw'r Llydawiaid a'r Cymry, a'r un yw eu hiaith. Ond, wedi byw ychydig o wythnosau ymysg y Llydawiaid, a rhoddi tro amgylch ogylch eu gwlad, teimlais fod eu tebygolrwydd mawr i'r Cymry yn rhoddi rhyw ddieithrwch rhyfedd ar y bobl hyn, — ar eu hwynebau, ar eu harferion, ar eu hiaith.

"Ail Gymru ydyw Llydaw." Ie, ond gyda gwahaniaeth mawr.

Cymru heb ei Diwygiad ydyw Llydaw. Nid ydyw'r hen arferion ofergoelus, gyda'u prydferthwch dieithr, wedi eu halltudio o'r wlad; nid oes yno yr un seiat i ddinistrio "difyr-gampau diniwed y werin, ac i droi crefydd lawen y bobl yn rhagrith sur." Eithaf gwir, ac y mae yn Llydaw anfoesoldeb y buasai meddwon Cymru yn gresynnu ato.

Cymru heb ei Hysgol Sul ydyw Llydaw. Y mae'r Llydawiaid yn ofergoelus ungred,—ni agorwyd eu llygaid i weled dirgelwch yr Arfaeth a'r Gair; y mae'r Llydawiaid yn byw yn ofn yr offeiriaid, ac yn wasaidd gaeth i'w huchelwyr, ni chawsant Ysgol Sul i roddi iddynt gred yng ngwerth eu henaid, i roddi iddynt ddemocratiaeth Cymru. Y mae'n amhosibl i Gymro ddirnad anwybodaeth ei gefnder Llydewig.

Cymru wedi sefyll tua dechre'r ddeunawfed ganrif ydyw Llydaw, — mewn crefydd, mewn moesoldeb, mewn gwybodaeth. Wrth fynd i Lydaw, y mae'r Cymro'n mynd ymhellach na thros fôr, y mae'n mynd ddwy ganrif yn ol. Y mae'r Llydawiaid eto yn "eglwys eu tadau," eto'n dilyn arferion eu tadau, — yn canu'n ddiddan, yn dawnsio'n dda, yn meddwi'n chwil. Y mae Llydaw mewn perigl, ac ni fedd nerth Cymru i'w wynebu. Y mae anffyddiaeth andwyol Ffrainc yn prysur dreiddio i'w chyrrau eithaf. Y mae'r offeiriaid anwybodus hunanol am eu bywyd yn ceisio cadw'r bobl dan hud ofergoeledd; y mae'r bobl hynny, dan ddylanwad ysgolion a phapurau newyddion Ffrainc, yn dyheu am ryddid. Ond nid i'r rhyddid sydd yng nghyfraith yr Arglwydd y maent yn prysuro, ond i ben-rhyddid anfoesol digrefydd Ffrainc. Wyneb Cymro sydd gan y Llydawr, — eto heb ei feddylgarwch; canu Cymru ydyw canu Llydaw,— eto heb dân gwladgarwch a dyfnder argyhoeddiad crefydd. Ond, Os na chyfrynga Rhagluniaeth yn fuan, ni bydd y Llydawr ond Ffrancwr, — heb awen, heb athrylith, heb Dduw yn y byd. Cwyna Victor Hugo, bardd mwyaf Ffrainc, fod adlais llais Crist yn mynd yn wannach wannach yn y wlad, — {{Dyfyniad| “Mais parmi ces progrés dont notre age se vante, Dans tout ce grand éclat d'un siècle éblouissant, Une chose, O Iesus ! en secret m'epouvante, C'est l'echo de ta voix qui va s' affaiblissant."

_________________

NODYN GOLYGYDDOL. Gwyddis yr ysgrifennwyd y llyfr hwn a'r awdwr yn fachgen ifanc. Diau pe bai wedi ei ysgrifennu yn hwyrach yn ei fywyd y buasai ambell i beth ynddo yn wahanol. Ceir ynddo Llydaw fel ei gwelid gan Brotestant, eto gan un oedd yn ei charu. Dywed y Llydawyr Catholig nad ydyw y llyfr yn rhoddi eu crefydd yn yr olwg briodol, ac felly nad ydyw yn gwneud cyfiawnder a hwy. Dylai'r Cymry sydd yn cymeryd diddordeb yn eu perthynasau agos, y Llydawyr, geisio deall y ddwy olwg ar y wlad, ac wedi iddynt ddarllen "Tro yn Llydaw," ddarllen dau bamffled y Bonwr Pierre Mocaër, — "LLYDAW A CHYMRU," a "TUEDDIADAU LLENYDDIAETH LLYDAW"; Cyhoeddwr: A. LAJAT, 38 Rue des Fontaines, Morlaix, Llydaw. Dylai y gwledydd Celtaidd dynnu yn agosach at ei gilydd, dylem gymeryd mwy o ddiddordeb yn ein gilydd.

——————*——————

CYNHWYSIAD.

RHAGYMADRODD

I. — MYND I'R MÔR

II. — YNYSOEDD DEDWYDD

III. — DINAS MALO

IV. — CRAIG Y BEDD

V. — TAITH AR DRAED

VI. — GWESTY LLYDEWIG

VII. — IOAN Y GYRRWR

VIII. — LANNION

IX. — LLYDAWIAID YN ADDOLI

X. — EGLWYS AR FRYN

XI.— MIN NOS SABOTH

XII. — YNYS ARTHUR

XIII. — MORLAIX

XIV. — DROS Y MYNYDDOEDD DUON

XV.— GYDA'R CENHADWR

XVI. — YR EGLWYS GAM

XVII. — Y DDINAS FODDWYD

XVIII. — GWLAD Y BEDDAU

XIX.— DINAS AR FRYN

XX. — TROI ADRE

GEIRFA

TRO YN LLYDAW.

I.

MYND I'R MÔR.

" Y mae'r byd a'i droeon dyrys,
Yn debig iawn i'r môr gwenieithus,
Weithiau'n drai ac weithiau'n llanw,
Weithiau'n felys, weithiau'n chwerw."
Ieuan Glan Geirionnydd.

YR oedd defnynnau breision o wlaw braf yn disgyn ar laswellt cras llethrau Llanuwchllyn pan oeddwn yn cychwyn, cyn diwedd Gorffennaf, i edrych am fy nghefndryd yn Llydaw. Yr oedd wyneb Llyn Tegid, fu'n loyw a llonydd am wythnosau, fel môr arian tawdd, wedi crychu a duo i wynebu drycin. Er cynhared oedd, gwelwn fod y cnwd ysgafn o wair wedi ei hel oddiar finion y Ddyfrdwy, oddigerth ambell i renc neu fwdwl o olion. Ac ar yr adlodd coch llosg yr oedd defnynnau mawr y glaw cynnes maethlawn yn disgyn yn ddibaid.

Pan lithrodd y tren i Riwabon, gwelwn Ifor Bowen yn fy nisgwyl. Rhoddasom ein hychydig gelfi, — sebon a chrib a dau ddilledyn lliain neu dri,— mewn ysgrepan, yr unig ysgrepan feddem i'r daith, ac yr oedd hon mor ysgafn fel y medrem ei thaflu hi a'i chynnwys i'n gilydd o'r naill ochr o'r orsaf i'r llall. Gwyddwn trwy brofiad na fai'n edifar gennym am ysgafnder ein clud.

Yr oedd y gwenith yn dechre llwydo ar Ddyffryn Maelor pan oedd mynyddoedd Berwyn yn cilio o'n golwg. Ar ein cyfer yn y tren yr oedd dwy hen wraig a hen ŵr. Un dew dawel oedd un o'r gwragedd, a wyneb mawr fel cloc hen ffasiwn, yn gwenu o hyd, ond yn dweyd dim. Nid oedd y llall yn gyffelyb iddi. Wyneb hir main oedd gan hon, dwylaw gwynion esmwyth a bysedd hirion llonydd, gên ystwyth ryfeddol, a thafod na ddichon un dyn ei ddofi. Yr oedd y wraig dew wedi gosod ei hun yn y gornel, a'i hwyneb i mewn i'r cerbyd, a'i dwylaw celyd ymhleth, mewn agwedd gwrando. Yr oedd y wraig deneu wedi eistedd ar ymyl y fainc a'i hwyneb at y llall, a'i chefn at yr hen ŵr, mewn agwedd siarad. Llifai'r geiriau allan yn ffrwd ddidor, yr oedd yn medru siarad hyd yn oed wrth gymeryd ei gwynt. Yr oedd ar yr hen ŵr, — hen wraig ddylai fod, — awydd cymeryd rhan yn yr ysgwrs. Hen Gymro oedd, bychan o gorff, — meddai gorff teiliwr a bysedd crydd, — mewn trowsus du gloywddu cwta, hosanau lliain gyda mwy o dyllau na'r rhai y rhoddai ei draed drwyddynt, esgidiau isel clytiog, cot ddu seimlyd, a het wellt wen ysgafn heb fod o'r defnydd goreu. Pe bai fawr a'i lais yn gryf, medrai wneud i'r ddwy wraig wrando arno, ond yr oedd cryndod yn ei ên, ac ni allai yn ei fyw hawlio gwrandawiad. Treiai roi ei rwyf i mewn yn awr ac eilwaith, ond buan y boddid ei lais gan y llais arall.

"Ut us feri drei weddar in Wêls,"-
"And as I was telling you, my dear, he told me on his deathbed that the house was to be mine, but that I must paint it and keep it tidy. I couldn't paint it under ten pounds, and I hadn't ten shillings. Now, what could I do?"
Ddi crop of he us feri lutl in Ingland,'
"So I determined to let them have it, and I left Liverpool for good, and I went up to Thlangothlen."
"Se ut agien, mam, se ut agien !"

Yr oedd cymaint o awdurdod yn llais yr hen ŵr y tro hwn fel y trodd y ddwy wraig ato,—

"Whêr dud iw se, mam?"
"Thlangothlen."
"Llan Gollen, se ut leic ddat."
"Thlan Gothlen."
"Ha! Iwar mywth usnd ffinisd, iw Inglis pipl, leic ddi Wels."

Os at siarad y mae ceg wedi ei gwneud, yr oedd ceg y wraig honno wedi ei hen orffen. Ond os dylai fod yn ddistaw ar brydiau, fel trwy ddamwain, yn sicr yr oedd ei pheiriannau llafar yn anorffenedig, gadawyd iddynt redeg cyn rhoi'r stop, a rhedeg y maent byth.

Yr oeddym yn newid ein tren yn y Mwythig, a'r golygfeydd, a'n cwmni. O wastadedd hen Faelor, troisom i'r de, a dechreuodd y tren redeg yn chwyrn gyda godre mynyddoedd Cymru tua Henffordd. Wrth basio Church Stretton gofynnodd Ifor Bowen i mi a oedd bosib cael golygfa dlysach yn yr Alpau, ond cyn i ni gyrraedd Llwydlo yr oedd ei gyd-deithwyr wedi tynnu ei sylw, ac ni ches gyfle i adrodd dim ar a wyddwn am yr hen le y llywodraethid Cymru o hono yn y dyddiau gynt. Ar ein cyfer yr oedd pedwar o fodau, yn llenwi'r fainc. Yn agosaf at un ffenestr yr oedd hen amaethwr corffol, yn meddu wyneb plentyn direidus. Yn nesaf ato yr oedd coediwr neu glocsiwr, yn meddu'r gwefusau hwyaf a welodd Ifor Bowen a minnau erioed. Y mae pobl godre Sir Drefaldwyn yn hynod am hyd gwefus, ond ni welais i debig hwn yn Llansilin na Llanfyllin. Nid o ran fod ei geg yn fawr, — gwelsom ar ein taith ddynion a chegau fel blychau tybaco, ond yr oedd llawnder a hyd yn ei wefus wnai ei wên yn ddigrifol iawn. Yn nesaf at Jon y Geg yr oedd person eglwys, a wyneb fel arch. Dyn hir ydoedd, mewn dillad duon, fel hen gloc derw. Nis gwn beth a wnai ei wyneb mor hagr, — feallai mai'r cyferbyniad rhwng ei wep welwlas angeu a'r cnwd o flew duon a dyfai ar ei ddwy gern. Ofnai Ifor Bowen iddo fod yn fwy o ddychryn na’r un deryn corff i lawer dyn claf. Rhyngddo a'r ffenestr yr oedd gweithiwr tyn ffroenuchel, tebig i'r rhai fydd yn cadw llygad beirniadol ar y blaenoriaid yng Nghymru, a chadwen efydd felen ar ei wasgod rips. Ni ddywedod neb ac nid oedd yn awr ond ychydig o amser i syllu ar y pedwar wyneb hyn. Wedi gweled eglwys gadeiriol Henffordd am y tro olaf, ni sylwasom ar ein cyd-deithwyr, yr oedd Sir Fynwy mor dlos. Ymagorodd dyffryn yr Wysg ar ein de, gwelem ei brydferthwch diarhebol dros gastell Aber Gafenni. Gadawsom yr afon yn Llangadog, a chroesasom i ddyffryn afon arall, mor dryloyw a'r Wysg. Ar ein de yr oedd hanner cylch o fryniau, a gofynnodd Ifor Bowen a oeddwn yn disgwyl cael golygfa mor brydferth a hon hyd nes y gwelem hi drachefn wrth ddod yn ol. Cyn i mi orfod ateb yr oeddym wedi cyrraedd Caerlleon, dinas Arthur Fawr, ac wedi cyfarfod yr Wysg eto, nid yn dryloyw fel o'r blaen, ond yn goch wedi crwydro ar hyd daear feddal wastad Gwent. Yr oedd cawod o wlaw'n orchudd dros Gasnewydd, ac ni chlywsom y tren yn arafu nes oedd wedi croesi'r Hafren drwy dwll odditani, ac wedi ymgyflymu drwy gwr o Sir Gaerloyw tua Bristol. Cawsom heulwen ar Fath, ac amser i fwyta ychydig o fefus Gwlad yr Haf. Yr oedd Ifor Bowen yn llawen, ac yn canu'n ddibaid. Yr oeddwn i'n gysglyd, ac nid wyf yn cofio ond ychydig am y prynhawn, — Bradford yn ymnythu yng nghesail bryn, llun ceffyl gwyn ar ryw fynydd, cwpanaid o de da yn Westbury, gwlad o ŷd a choed, chwyrniad y tren, a thôn ar y geiriau,

“Ac yn dwedyd wrth yr adar,
Wele daeth y gwanwyn hardd.”

Yr oeddwn yn ddigon effro i weled olion caerau Prydeinig Dorchester, a phrin yr oedd wedi dechre nosi pan gyrhaeddasom Weymouth. Nid oedd ein llong yn cychwyn dan ddau o'r gloch y bore, a buom mewn tipyn o benbleth pa fodd i dreulio'r oriau hyd hynny er budd ac adeiladaeth i ni. Cerddasom yn ol ac ymlaen hyd finion bau ardderchog Weymouth, cyrchfa miloedd o bobl wael a di briod ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Yr oedd tri atyniad ar fin y môr, — seindorf dannau, Punch and Judy, a chyfarfod diwygiadol. Yr oedd cerbyd, — rhywbeth hanner y ffordd rhwng cerbyd sipsiwn a wagen hela Syr Watcyn, — wedi dod yno o rywle, a'r geiriau "Bible Carriage" mewn llythrennau melynion ar ei thalcen. Ynddi yr oedd dau ddyn, a chymerodd y rhai hyn eu dameg, ac anerchasant y dyrfa. Albanwr oedd y cyntaf, a dywedai wrth y Wesleaid trwsiadus oedd o'i flaen nad oedd dim haeddiant mewn mynd i'r capel, a chadw Ysgol Sul, a rhoi at y Genhadaeth, a gwisgo ruban glâs, os nad oeddynt wedi teimlo eu hunain yn cael eu hysgwyd uwch ben ufîern, ac ymron cyffwrdd â'r fflamau. Dywedai hyn oll âg un law yn ei boced, mor oeraidd a phe bai n dadleu rhagorion pelennau neu ryw feddyginiaeth fydenwog arall. Pan oedd yn tynnu at yr Amen, clywid tinc y delyn yn y pellter, a gwich Judy. Buan yr heliodd Satan ei blant i'w cynefin, ac ni adawyd i ganu ar ddiwedd y bregeth ond ychydig o'r ethol deulu sy'n edrych ar y rhan fwyaf o fywyd y byd hwn fel gwagedd a blinder ysbryd. Wedi canu, ymddanghosodd y pregethwr arall, dyn eiddil, yn gwichian brawddeg, ac yna'n distewi am ennyd cyn gwichian un arall. Yr oedd dull ymadrodd hwn mor erchyll fel yr oeddym yn hiraethu am yr un fu'n siarad o'i flaen. Rhoisom dro i edrych sut yr oedd plant y byd hwn yn mwynhau eu gwagedd; ac erbyn i ni ddod yn ol, yr oedd y pregethwr bach yn dal ati'n ffyddlon o hyd. Un gwrandawr oedd yn aros, ac yr oedd hwnnw'n graddol gilio ymaith i'r tywyllwch oedd erbyn hyn yn cuddio'r ddaear a'r môr. Bu plant y byd hwn yn gallach yn eu cenhedlaeth y min nos hwnnw na phlant y goleuni; yr oedd eu stori'n fyrrach ac yn fwy bywiog, ac wrth i ni droi tua'r llong, nid adrodd y pregethau wnai Ifor Bowen, ond dal i ganu beth ddywedwyd wrth yr adar am y

gwanwyn hardd.

II.

YNYSOEDD DEDWYDD.

“Efe a wareda ynys y diniwed,
A thrwy lendid dy ddwylaw y gwaredir hi.”
JOB.

MEWN ffordd gŵyr teithwyr yn dda am dani, enillasom barch serch hen stiward patriarchaidd y llong. Cawsom y gwelyau goreu, a daeth yr hen frawd i esmwythau ein pulw ac i ddweyd nos da. Cysgais i, wedi rhoi cadach coch am fy mhen a dweyd fy mhader. Tybiwn glywed sŵn y môr yn ymgryfhau, ond ni wyddwn pa un ai'r llong oedd yn cychwyn trwy'r tonnau, ynte ai myfi oedd yn crwydro ar hynt freuddwydiol. Yr oedd y bore wedi torri pan ddeffroais, a chlywn ru'r dyfroedd wrth i'r llong ymdreiglo fel peth meddw drwyddynt. Neidiais oddiar fy silff, ac wedi syrthio ar draws pob celf oedd ar fy llwybr, cyrhaeddais y dec. Taflodd ton gwr gwyn ei mantell ar draws fy nannedd wrth fynd heibio, a gwnaeth fi'n effro iawn. Edrychais yn ol tua Lloegr, nid oedd ond tonnau brigwyn, fel mynyddoedd dan eira, yn y cyfeiriad hwnnw. Gofynnais i forwr lle'r oedd y Caskets, gan fod arnaf eisiau gweled y môr yn trochionni o'u cwmpas. Yr oeddym wedi eu pasio ar y cyfddydd, ac yr oedd ynys Guernsey'n dechre dod i'r golwg. Eis i lawr i ddweyd bore da wrth Ifor Bowen. Ni fedraf ddarlunio saldra'r môr, yr oedd yno lawer yn llawenychu wrth fy nghlywed yn dweyd fod Guernsey yn ymyl, ac ni chlywais neb yn canu, —

"Ac yn dwedyd wrth yr adar,
Wele daeth y gwanwyn hardd."

Rhwng y Caskets a Guernsey, y mae môr na fydd byth yn llonydd; pan fo'r tonnau'n gorffwys ymhobman arall, byddant yn ymladd ac yn ymwylltio yma. O noswaith yn yr haf, yr oeddym wedi cael mordaith ystormus; ac er fod y bore'n dawel, yr oedd y llong yn dal i godi a syrthio ym maes brwydr y tonnau aflonydd hyn. A thra'r oedd y llong yn ymlwybro rhwng y creigiau perigl sydd ar draethell Guernsey, yr oedd nifer o wynebau gwelwon, wynebau rhai na fynnent sôn am frecwest, yn edrych yn hiraethlawn tua'r lan. Cyn hir, angorasom yn hafan dawel Pedr Sant. Yr oedd y cei'n llawn o bobl yn disgwyl am danom, a thra'r oeddym yn cerdded hyd y bwrdd i edrych ar y dref orchuddiai'r hanner cylch o fryniau sy'n cysgodi'r porthladd, yr oedd rhywun beunydd yn cynnig i ni bapur newydd, neu'n dangos basged lawn o rawnwin gwyn a choch.

Prin yr oedd yr haul wedi cynhesu, — nid oes neb mor ddiolchgar am gynhesrwydd yr haul a'r rhai fu'n sal ar y môr,— pan welwyd merched y ffrwythau'n prysuro i'r lan, a gwelsom y bobl ar y cei yn mynd bellach bellach oddiwrthym. Moriasom gyda glan yr ynys, cyn troi i'r môr agored. Gwelsom fod Guernsey wedi ei hamgylchynnu gan fur o greigiau uchel. Wrth odre y rhai hyn y mae digonedd o fôr lysywod, ac yn y tyllau sydd yn eu bronnau duon, ymnytha miloedd o wylanod. Tra'r oeddwn yn syllu ar y creigiau, ac ar y llanerchi tatws welwn dros rai ohonynt, clywn lais yn gofyn a welais Guernsey o'r blaen. Hen ŵr oedd yno, wedi dod i'r llong yn Guernsey, hen ŵr cam, wedi plannu llawer o datws, ac wedi gwneud llawer o arian. Rhyw un mil ar bymtheg o aceri ydyw'r ynys, meddai, ac mae dau ddyn ar bob acer ar gyfar- taledd, ac y mae pob acer yn werth deg punt o rent. Porir rhyw un ran o dair o'r ynys, gorchuddir dros ei hanner gan datws. Cludir y rhai hyn i Lunden ar hyd y môr; ac er cymaint y pellter, gellir cystadlu à lleoedd yn ymyl y ddinas, gan na thelir rhent na threth ar y môr, —

Heb rent nac un gofynion
Yn y môr,
Ni thelir treth tylodion
Yn y môr.

Yr oedd yr hen ŵr yn meddwl y byd o'i ynys. Siaradai am ei senedd, am y cyfreithiau wneir gan yr ynyswyr eu hunain, am gyfoeth a diwydrwydd y bobl, am yr awyr dymherus, am y caeau blodeuog, heb dwrch na llyffant na dim gwenwynig. Synnai nad oeddwn wedi clywed am lili'r ynys. 'Does dim arogl arni, meddai, ond y mae'n un o flodau prydferthaf y byd. Mewn dull rhyfedd y daeth i Guernsey, brodor o Japan yw. Aeth llong oedd yn dychwelyd o Japan yn ddrylliau ar y creigiau hyn ryw ddau can mlynedd yn ol. Ni achubwyd neb, ond cludodd y tonnau lili i'r lan, a gwreiddiodd hithau yn agen y graig. Bu yno am flynyddoedd heb i neb syllu ar ei thlysni, ond gwelodd rhyw bendefig hi, a daeth y lili yn wrthrych edmygedd y byd. Ac hyd heddyw, ni fyn flodeuo mor brydferth yn unlle ag yn yr ynys lle'r achubwyd hi.

Wedi i'r llong adael cysgod creigiau Guernsey, ail ddechreuodd y tonnau ei lluchio, a thorrai'r môr yn genllif ewynog drosti weithiau. Canlynid ni gan rai o'r gwylanod, ac wrth deimlo ysgytiadau ein llong afrosgo feddw ni, eiddigeddwn wrth eu mordaith dawel hwy uwch ein pennau, yr oedd y gwynt mewn heddwch a hwy, prin y cyffyrddai â'r un o’u plu eiraog. Pan fyddai'r llong ar frig y don, gwelwn yr ynysoedd eraill. Yr agosaf atom oedd Jethou fechan, gyda'i deugain acer a'i phedwar preswyliwr. Y tuhwnt iddi gwelem Herm, lle mae glaswellt ar y ffyrdd ac ugain o bobl. Y mae Sark, y bellaf welem, yn fwy, ac y mae arni chwe chant o bobl. Ymgodai fel mynydd grugog o'r môr aflonydd lle collwyd cynifer o fywydau. Cyn hir. gwelwn Jersey, y fwyaf a'r bwysicaf o'r ynysoedd Buom awr yn morio gyda'i glan i St. Helier, ei phrif ddinas. Y mae hithau mewn rhwymyn o greigiau gwenithfaen, dorrir gan ambell i fau, gyda thywod melyn a chaeau tatws, fel pe bai llawnder yr ynys yn rhedeg drosodd.

Er fod yr ynysoedd hyn yn perthyn i'r goron Brydeinig y mae pob un o honynt mewn gwirionedd yn weriniaeth. Perthyn i Normandi yr oeddynt, a hwy'n unig sy'n aros o feddiannau Ffrengig brenhinoedd Normanaidd Lloegr. Penodir prif swyddog yr ynysoedd, — y beili, — gan y frenhines, a gellir apelio ati o'r llysoedd cyfraith. Gyda hyn o eithriad, rheola'r ynyswyr eu hunain. Ymgyfarfyddant yn eu senedd, gwnant gyfreithiau, codant eu cyllid fel y mynnont, rheolant eu haddysg a'u masnach yn ol eu hewyllys. Sieryd pawb Saesneg a Ffrancaeg yn rhigil, er mai Ffrancaeg yn unig siаredir yn y seneddau, oherwydd mai hi yw hen iaith yr ynys. Y mae pobl ddwyieithog yn ddeallgar ac yn dda allan bob amser; nid oes gwell addysg at fasnach yn bod na dysgu dwy iaith. Y mae ynyswyr y Sianel yn feddylgar, yn gynnil, yn meddu eiddo eu hunain. Yn aml, hwy bia eu ffermydd bychain; a phan nad ydynt ond tenantiaid, ni fedrir eu troi ymaith tra bônt yn talu'r rhent arferol. Ar farwolaeth y perchennog, rhennir y tyddyn rhwng ei ferched a'i feibion, fel y gwneir yn Ffrainc; ni roddir braint i'r mab hynaf, fel y gwneir yn Lloegr. Y mae y dull hwn yn fwy rhesymol, ond y mae iddo ei anfanteision. Yn Ffrainc, y mae'r ffermydd wedi eu rhannu mor fân fel y gellwch neidio o glawdd i glawdd dros y wlad. Ond yn Jersey, ni ellir rhannu pan elo'r ffarm yn rhyw dair acer. Nid yw'r ddaear yn naturiol ffrwythlawn, ond trwy ynni'r ynyswyr a'u medr amaethyddol, codir gwerth can punt oddiar un acer mewn un flwyddyn. Gwyddant pa ddefnydd i wneud o'u tir, gwyddant pa wrtaith y mae yn ofyn, a gwyddant ym mha farchnad i werthu eu cynnyrch. Y mae gan Gymru ei dwy iaith, fel Jersey, er na siaredir ei Chymraeg yn ei hysgolion na'i llysoedd cyfraith na'i chynghorau. Pe ceid hynny, a phe cai amaethwyr Cymru fanteision amaethwyr Jersey, sicrwydd am eu tyddynod, rhent deg, ac

addysg amaethyddol, — byddent mor ddiwyd a chyfoethog a'r ynyswyr dedwydd hyn.

III.

DINAS MALO.

“We have had enough of action, and of motion we, Rolled to larboard, rolled to starboard, while the furrow followed free."
TENNYSON.–The Lotus Eaters.

TRA'R oeddwn yn meddwl am ddyfodol Cymru, teimlwn law Ifor Bowen ar f’ysgwydd, yr oedd newydd ddod i fyny o'r caban, ac wedi darganfod fod y llong yn agos iawn i'r porthladd. Gadawsom St. Aubin a'i bau bach tlws, ac ymhen ychydig, aethom i mewn i borthladd St. Helier. Yr oedd arnaf fi awydd am gael syllu ennyd ar y porthladd a'r gaer sydd yn ei wylio, ond yr oedd ar Ifor Bowen awydd am gael ei draed ar y ddaear, a gwybod i ba westy yr aem. "Deuwch gyda ni," ebai'r hen ŵr o Guernsey, "chwi hoffwch y lle'n fawr." Dilynasom ef a'i gwmni o'r llong, cerddasom ar hyd y cei hir a thrwy heol gul i ganol y dref, — lle'r banciau, a'r siopau, a'r llyfrgelloedd,— a chawsom ein hunain yng nghyntedd y Birmingham Hotel, dan gysgod gwinwydd gleision. Rhoddodd Mrs. Rondel groeso cynnes i ni, a gwahoddodd ni at y bwrdd, gan fod y cinio'n barod. Rhoddwyd ni'n dau i eistedd ar law dde'r westywraig, a'n cym- deithion ar yr aswy. Yr oedd pedwar ohonynt, — yr hen ŵr cam; ei wraig, un wedi ei gwneud at drin y byd, yn gwybod i'r chwarter ffyrling faint oedd pris pob peth; ei ferch, geneth welw o bryd du, rhyw bump ar hugain oed, un fedrai bario tatws wrth fodd ei mam, a chanu'r piano er anystwythed ei bysedd; a chyfaill iddynt, hen fachgen mawr trwchus, a gwallt cyrliog, cyn hyned agos ag Wmffre Gam ei hun. Ein tyb oedd ei fod wedi priodi'r eneth, a dywedodd Mrs. Rondel wrthym yn ddistaw bach mai felly'r oedd. Deallasom hefyd fod rhyw Wil Hopcyn yn y chware, a'i fod wedi gorfod canu erbyn hyn, —

“Ym Mhen y Bont ar ddydd y farchnad
Cwrdd a 'nghariad wnes i ’n brudd,
'Roedd hi'n prynnu'r wisg briodas,
A'r diferyn ar ei grudd.”

Un golwg ar wyneb Sian O'Falus oedd yn ddigon i ddangos nad oedd siawns i Wil am yr eneth yn erbyn Ionfawr Bwrs. Pobl dawel foneddigaidd oedd y pedwar hyn, a'u hymddygiad yn wylaidd a charedig. Yr oedd saith neu wyth o Saeson wrth y bwrdd hefyd, ac nid oedd y rhai hyn yn dawel nac yn foneddigaidd. Yr oedd yno ŵr ieuanc heb ddim talcen, ond yn meddu gwddf fel gwddf tarw, yn siarad yn ynfyd ac yn chwerthin yn ynfytach. Yr oedd yno un ddynes yn eu mysg, yn cadw cymaint o sŵn a phymtheg o wragedd pysgota. Yr oedd Sian y Llais wedi cael addysg dda, ond synnai'r eneth arall ati, er nad oedd hi ond geneth bario tatws. Y mae rhyw wylder na fedr yr addysg uchaf ei roi, ac na fedr y diffyg addysg mwyaf ei guddio. Gofynnodd Sian Lais i Ivor Bowen ysgrifennu pennill yn ei llyfr, a daeth ag ef ataf fi i ofyn beth oedd, —

"Bum edifar fil o weithiau,
O waith siarad gormod geiriau;
Ond ni'm blinodd gofid creulon,
O waith siarad llai na digon."

Yn y prynhawn buom yn cerdded trwy dref St. Helier, ac anaml iawn y gwelsom le tlysach a glanach. Y mae ynddi rhyw wyth mil ar hugain o drigolion, heblaw'r lliaws dieithriaid, ac y mae ei hystrydoedd a'i siopau yn batrwm i ddinasoedd y byd. Y mae ei thrigolion mor foesgar a'r Ffrancod, ac mor onest a'r Saeson. Dringasom Fryn y Crogbren, — yr oedd yr haul ar y môr, a'r ynys a'i thref yn ddarlun o ddedwyddwch a golud odditanom. Eisteddasom ar y glaswellt tan welsom yr haul yn colli dros orwel y môr. Daeth awel ysgafn i suo trwy'r coed odditanom, ac yr oedd seindorf filwrol yn chware alawon pruddglwyfus adwaenem mewn parc cyfagos wrth i ni droi i'n gwesty i orffwys.

Yr wyf yn credu fy mod i wedi dysgu y rhan fwyaf o'r ychydig a wn mewn gwestai wrth deithio. Bydd gennyf awr neu ddwy "rhwng min nos a phryd swper," bydd rhyw lyfr yn sicr o fod yn fy nghyrraedd, a chaf rywbeth ynddo dyf yn fy meddwl. Yn y Birmingham Hotel bum yn darllen hanes rhyfel yr Amerig mewn cyfrol o hen bapurau newyddion, ac yn edrych drwy lyfr y gwesty, lle'r oedd gwesteion blynyddoedd wedi torri eu henwau. Pobl ddinod oedd yr ysgrifenwyr i gyd, ond nid oedd eu sylwadau’n hollol aniddorol. Hyd bresych Jersey oedd wedi dal ar feddwl un, rhadlonrwydd tybaco ar feddwl un arall. Yr oedd un wedi cael gorffwystra meddwl, ac un arall wedi cael pys gleision wrth ei fodd. Yr oedd rhyw weddw o Ffrainc yn gweld Jersey cyn dlysed a Pharis, ac yr oedd rhyw Ffilistiad o Sais yn datgan ei lawenydd ei fod yn myned ymaith. Yr oedd Gwyddel wedi canmol cyfreithiau Jersey, Albanwr wedi talu teyrnged i'w hamaethyddiaeth, a geneth Ffrengig wedi dweyd am lygaid gleision ei merched. Hawdd ydyw adnabod yr ysgolfeistr, y prentis siopwr, y penteulu, y morwr, yn y llyfr hwn.*


*Dyma bigion o'r llyfr :

Name. Residence Going to Events, Adventures, Remarks
N. A. Graves Putney Mrs. N. A. Graves O, had I the wings of a dove!
W. Fair London London Interesting scenery, wore a top hat, got it smashed.
Evan Carp Wellington Guernsey Got married at Troglodyte ; wish I hadn't.
J. P. Probert Llanelly Home, sweet home
Mme. Torquet Le Mans Carteret Pour moi, Jersey est un petit Paris
Louise Dulac Avignon Granville Les Anglaises ont de beaux yeux bleus.
R. Roberts Cardiff S. Malo Immense!
Joseph Andrews Manchester Guernsey They grow the cabbage ten feet high.
Walter Bull London Southampton Very glad I am going away.
E. F. Curl Bedford St. Pierre I came, I saw, I was conquered.
Sarah Dew Derby Home I saw everything, and everybody saw me.
W. Dickson Liverpool Weymouth Good feeding at a moderate cost.
M. E. Bligh Grimsby Die, if I remain here. Good place for umbrella and mackintosh trade.
J. Cicero Wall Balham London A fraud of an island, highly over-rated.
Adieu, sempiterna saecula.
Sydney Blake Plymouth Plymouth Jolly place, sorry pears weren't ripe.
J. Poole Ludlow Weymouth A. 1
Ifor Bowen Meirion Llydaw Gwyn fyd na chai Cymru fanteision Jersey.

Bore drannoeth yr oeddym yn gorfod ail gychwyn i'r môr, — aros yn Jersey fuasem yn hoffi. Yr oedd y môr yn dawel, a symudiadau'r llong yn esmwyth. Ciliodd Jersey'n ol tua Lloegr, gwelem greigiau perigl ynysoedd Chausey ar ein haswy rhyngom ag arfordir Normandi, ac ymhen rhyw ddwy awr a hanner gwelem Lydaw'n ymestyn ymhell i'r gorllewin. Nid oedd ond chwe Phrydeiniwr ar y llong, — nyni'n dau, a phedair Saesnes. Bu'r pedair hyn yn cyd-deithio tipyn â ni, ond ni ddaethom yn rhyw gyfeillgar iawn. Mam a thair merch oeddynt, y fam yn credu mewn gwario cyn lleied ag a fedrid, a'r merched yn ofni fod hynny'n arwydd o ddiffyg "dygiad i fyny." Wrth y tŷ coed lle codir tocynau ar gei Jersey y cyfarfyddasom gyntaf. Wrth i mi wasgu ymlaen i gael tocyn, dywedodd y fam yn awdurdodol mai eu tro hwy oedd y nesaf, a gosododd ei harswyd arnaf. Sefais yn y pen pellaf i'r llong oddiwrthi, gydag Ifor Bowen a rhyw Lydawiad. Yr oedd y Llydawiad yn troi adre ac yn canu nes oedd y creigiau'n diaspedain wrth i ni neshau at ddinas Malo Sant.

Dyma'r lle cyntaf welsom yn Llydaw. Saif ar graig red allan i'r môr, a gwelsom fod mur uchel cadarn yn amgylchu'r ddinas. Glaniasom yn olaf rai. Daeth dau filwr i chwilio'n hysgrepan a'n pocedi, a gwelsom dyrfa ohonynt yn agor cistiau’r merched Seisnig, mawr fraw iddynt. Gwrthodasom gymeryd ein harwain i'r un gwesty, ond cerddasom yn hamddenol trwy borth enfawr i'r dre, a dechreuasom ddringo y stryd. Pan oeddym ar ei chanol, aeth cerbyd y Grand Hotel Franklin heibio, a'r pedair Saesnes ar ei ben. Edrychasom ar gerdyn y gwesty hwn, roddasid inni gan ryw hogyn,-

GRAND HOTEL FRANKLIN. Mae'r tŷ'n adnabyddus am ei gysur. Ystafell ardderchog i giniawa. Pris pymtheg swllt y dydd, heb gyfri gwin a gwasanaeth. Cerbyd wrth bob tren Siaredir Saesneg."

Lleoedd i'w gochel fel rheol ydyw gwestai y siaredir Saesneg ynddynt, os meddylir am weld y wlad, ac yn enwedig os cynilir. Wedi cyrraedd yr eglwys, — y mae'r tai goreu braidd bob amser yn ymyl yr eglwys a'r siopau llyfrau, — troisom ar y dde hyd Stryd y Gemau, ac yna i lawr hyd stryd gul uchel, hyd nes y daethom at westy a'i wyneb wedi ei guddio gan flodau. Dau arwydd sydd gen i fod gwesty'n gysurus a'r bobl yn onest, — gweled llyfrau a gweled blodau, — ac ni siomwyd fi erioed. Aethom i'r Hotel du Centre, a daeth Llydawes i'n croesawu. Eisteddasom mewn ystafell lawn o ddodrefn derw du, wedi eu cerfio'n gelfydd, a thynasom ysgwrs. a dwy Ffrances oedd wedi dod o Le Mans i'r môr. Ni wyddent fawr am Lydaw, ond edmygent y dodrefn Llydewig yn fawr. Holent lawer am Loegr, a gofynasant inni ai gwir yr hyn a ofnent, — nad oeddym ni'n dau'n coleddu'r wir ffydd Gatholig. Cyn i ni orffen esbonio Calfiniaeth iddynt, canodd y gloch ginio. Arweiniwyd ni i ystafell eang drymaidd, y mae gorchudd- lenni gwyn ar holl ffenestri Llydaw, — a chawsom gyfle i sylwi ar wisg y Llydawesau, eu capiau gwyn, eu hwynebau tywyll prydferth pruddglwyfus. Ni siaredir Llydaweg yn y dref, meddent, ond ceir ef yn y wlad oddiamgylch. Ceisiwyd un o weision bach y gwesty, bachgen o'r wlad, a sicrhai ef y cwmni ei fod yn ein deall yn siarad Cymraeg. Rhowd terfyn ar ei Lydaweg gan ddau ddaeth i chware rhywbeth tebig i Godiad yr Ehedydd ar y delyn a'r crwth. Pan ddistawodd y delyn, aethom allan i grwydro drwy'r ystrydoedd. Synnem at uchter y tai, pob un yn bedwar neu bum uchter llofft, ond cofiasom nad oes ond ychydig o le ar y graig gadarn hon, a bod yn rhaid gwneud y goreu o hono. Cul iawn ydyw'r ystrydoedd a budr; teifl pawb yr hyn nad oes arno ei eisiau i'r heol, ac erys hwnnw yno, i wasgar ei ddrygsawr, hyd nes y daw'r glaw'n genllif hyd yr ystrydoedd serth i'w olchi ymaith. Cyn belled ag y mae a fynno carthffosydd â gwareiddiad, y mae Llydaw gan mlynedd ar ôl.

Cyrhaeddasom yr eglwys gadeiriol — y mae St. Malo'n un o saith esgobaeth Llydaw, ac aethom i mewn Y mae pob eglwys Babyddol yn agored bob amser, gellir myned iddi i addoli neu i orffwys. Am eglwysi a chapelau ein gwlad ni, gellid meddwl mai at y Sul yn unig yr adeiladwyd hwy, ac na ddylid addoli ond ar y dydd hwnnw. Os mynnir gweled eglwys neu gapel, rhaid holi a chwilio am yr allwedd ar led gwlad. Pam na adewir hwy yn agored, fel y medrir dianc o dwrf y byd iddynt, i fyfyrio neu i ddarllen? Yr oedd canghellau bwaog yr eglwys hon yn llawn o blant a gwragedd a merched yn eu capiau gwyn, a'u basgedi ar lawr yr eglwys wrth eu hochr. Yr oedd yno lawer o ofergoeledd, a defosiwn, a phrydferthwch. Yr oedd difrifwch addoliad ar yr holl wynebau tlysion, — gwelsai Dafydd ap Gwilym lawer Morfudd yma. Yr oedd mawredd y colofnau a goleuni tyner y ffenestri lliw'n dylanwadu arnom ninnau er ein gwaethaf, a theimlem rywbeth tebig i awydd addoli'n dod drosom. Ond, wedi mynd allan, teimlem mai dylanwad arwynebol oedd dylanwad yr eglwys; gwanhau ein meddyliau a wnai, gwneud i'n heneidiau suddo i ddiogi, a thybied fod y diogi’n addoliad. Deffro’r meddwl ddylai addoliad iawn wneud, a'i yrru i chwilio am wirionedd, i ymhyfrydu mewn hiraeth am Dduw. Wedi gadael yr eglwys teimlem ein meddyliau'n wannach a gwacach, a'n heneidiau'n fwy llesg — ac arfer gair sathredig, teimlem fod y colofnau a'r goleu wedi ein gwneud. Pwy bynnag sydd yn yfed o'r dwfr hwn, efe a sycheda drachefn. Ni cheir yma y nerth enaid rydd yr efengyl, ni cheir yma y dwfr bywiol sydd yn gwneud yr enaid unigol yn breswylfa Duw. O bell y mae Pabyddiaeth yn dlws a swynol, ond ni wna ond twyllo'r enaid â dwfr na fedr ddisychedu. Pe gwelai'r Llydawiad yr Iesu, ei weddi yn ei eglwys fyddai, — "Arglwydd, dyro i mi y dwfr bywiol, fel na sychedwyf, ac na ddelwyf yma i godi dwfr."

Yr oedd yn dechre nosi pan adawsom yr eglwys, ac yr oedd yr heolydd yn edrych yn gulach a duach yng ngoleuni egwan yr ychydig lampau wrth i ni droelli drwy'r farchnad bysgod a ffordd rhyw santes i'r Place Chateaubriand, y lle agored sydd dan gysgod y castell anferth saif ar yr unig wddf o dir sy'n cysylltu St. Malo a'r lan. Yr oedd seindorf y milwyr yn chware yno, a hanner pobl y dref yn eistedd dan y coed i wrando ar y canu ac i yfed gwin rhudd. Gwan a chelfyddydol a dienaid oedd y miwsig, — miwsig Ffrainc, nid miwsig Llydaw. Yr oedd yr awyr yn drom, yr oedd y gwres yn gwneud i arogl anioddefol godi o fudreddi'r ystrydoedd, yr oedd sŵn y seindorf yn fyddarol, — gadawsom y lle chwyslyd llychlyd poeth, ac esgynasom i ben y mur. Daeth awel oer, a meddyginiaeth ar ei hadenydd, o'r môr i anadlu ar ein talcennau. Yr oedd arogl iach hesg ac ewyn arni, a dygodd furmur y môr yn lle twrw anuwiol yr utgyrn pres. Cerddasom am oriau yn ol ac ymlaen ar hyd y mur, gwelem yr ynysoedd duon caregog yn britho'r môr, a goleudy draw ymhell rhyngom a chartre. Gwyddem fod y graig lle naddwyd bedd i Chateaubriand ynddi yn y tywyllwch yn rhywle o'n blaen. Bu fyw yn y dref odditanom; er tywylled oedd, gwelem ei dŷ, tŷ sy'n westy i ddieithriaid yn awr. A dengys trigolion Dinas Malo yr ynysig lle'r huna. Bu ganddynt lawer arwr mewn rhyfel, llawer môrleidr enwog, ond yn Chateaubriand yr ymogoneddant. Dyweder am dano, yng ngeiriau Tadur Aled,—

" Y gwr marw, e gâr morwyn
Ddaear dy fedd er dy fwyn,"

Cyn i ni ymadael yr oedd y ddinas yn dawel, a'i thyrau a'i muriau duon yn edrych yn dduach yn y nos, fel mynwent yn y môr.

"Y gwylanod o'r glennydd, — tua'r môr
Troi maent eu hadenydd ;
A'r holl ednain a'u sain sydd
Yn cludo tua'u clwydydd."

IV.

CRAIG Y BEDD.

“D'ou je voyais au loin frémir le bleu de l'onde, Comme un tissu d'azur sur un sein palpitant.'

AR ein codiad drannoeth, ail gychwynasom trwy'r ystrydoedd. Sylwem fyrred ac eiddiled oedd y dynion, — y mae'r aberth roddwyd i ryfeloedd yn dechre effeithio ar Ffrainc, — a hardded a chryfed oedd y merched. Yn y farchnad lysiau gwelsom nifer o wragedd, — rhianedd a gwrachod, — yn gwylio llysiau celyd a blodau geirwon, fel pe baent oll wedi tyfu ar lan y môr. Y mae'r ystrydoedd oll yn debig i'w gilydd, — yn uchel, yn gulion, yn ddrygsawrus. Fel Pabyddiaeth, o bell y mae St. Malo dlysaf. Esgynasom i'r mur. Nid yw y môr yn brydferthach yn unlle. Ac o'r mur, y mae'r dref yn meddu harddwch hefyd, ymgyfyd fel caer wedi ei chodi'n gyfanwaith gan yr un cynllunydd, a'r eglwys yn dŵr uchaf iddi. Y mae amryw ynysoedd creigiog ar draethell St. Malo, ac ar drai gellir cerdded yn droedsych i ambell un o honynt. Yn y Grand Bey, un o'r rhai agosaf atom, y mae bedd Chateaubriand, yn y graig. Yr oedd y môr yn mynd allan, disgynasom oddiar y mur, a cherddasom o borth Mair dros dywod a cherrig at droed yr ynys. Y mae grisiau wedi eu naddu ynddi, esgynasom hwy, a chawsom ein hunain mewn hen amddiffynfa adfeiliedig. Ar ei lloriau ac o'i hamgylch tyf glaswellt garw, ac eithin, blodau'r gŵr drwg, a llysiau gwaedlyd. Gwelir hefyd ambell i feillionen a llygad y dydd, rhai geirwon, fel drwgweithredwyr wedi eu halltudio o gwmni eu cydflodau i'r ynysig unig hon. Ar ochr y môr y mae craig yn sefyll uwchben y dyfnder, ac ynddi y mae bedd. Ar y bedd y mae croes o farmor garw, heb enw yn y byd. Yma y gorwedd Chateaubriand, ar ymyl craig uwch ben y môr. Y mae'r ynys yn eiddo iddo ef a'r gwylanod a'r blodau geirwon. Ar rai o'r ynysoedd y mae palasau heirdd, y mae amddiffynfeydd ar rai eraill, ond ar hon nid oes ond adfeilion, a blodau, a bedd.

Mae meddwl Llydaw'n debig iawn i feddwl Cymru,— yr un hoffter o dlysni, yr un cariad at yr ysbrydol, yr un pruddglwyf, yr un ymdeimlad o ddieithrwch tragwyddoldeb, yr un naws grefyddol. Y mae'r Llydawiaid wedi eu gadael yng nghornel eu hen wlad i ddysgu gwirioneddau'r ysbryd i'r Ffrancod arwynebol, gwamal; fel y gadawyd y Cymry i ddysgu'r Sais oer digydymdeimlad. Yn hyn o beth, y mae Chateaubriand wedi gwneud gwaith y Llydawr i'r dim, dysgodd y Ffrancod i ymhyfrydu mewn tlysni arddull, a dysgodd rai o'r giwed ddiffydd i weled cyrrion y byd ysbrydol sy'n cilio mor gyflym o'u golwg yn ein dyddiau ni. Llais crefydd Llydaw ydyw llais Chateaubriand i'w glywed ymysg lleisiau gwawdlyd anffyddwyr Ffrainc. Yn St. Malo y ganwyd ef, ac efe ei hun ddewisodd le ei fedd. Anodd fuasai cael lle mwy tawel. Er fod yr ynys yn nannedd y gwynt, y mae lle tawel ar y bedd dan gysgod y groes, pan fo'r gwynt a'r tonnau'n curo ar y graig. Y tu cefn i'r ynysig y mae bywyd prysur, ond ynddi hi ceir tawelwch agos y bedd a thawelwch pell y môr. Tybed fod ysbryd Llydaw wedi gorffwys ym medd Chateaubriand? Nid oes yno wladgarwch, mae'r Ffrancaeg ac anffyddiaeth yn prysur ennill tir, ac y mae bedd Chateaubriand yn edrych, nid tua'i wlad ond tua'r môr.

Yr oedd y llanw'n prysur guddio'r tywod pan adawsom yr ynys, ond ymysg y llennyrch tawel fyn le arhosol yn ein meddwl, y mae Craig y Bedd. Gwelsom oror Llydaw, — penrhyn y tu ol i benrhyn yn ymestyn i'r môr,— ac atgofiodd hyn ni nad oeddym eto ond ar gyrrau'r wlad. Aethom i'r Llythyrdy i ysgrifennu adre,— adeilad coed, llawr pridd, lle treiodd clarc bach bysedd budron a llais gwan roi rhy fach o newid inni. Rhedasom i ffarwelio â phobl y gwesty, a daeth y llanc siaradai Lydaweg i ddangos y llong ager oedd ar gychwyn i fyny'r afon i Ddinan.

Prin yr oeddym wedi gosod ein hunain yn gyfforddus ar fwrdd y Bretagne, pan ddaeth y cadben atom i ddweyd fod pedair Saesnes mewn trybini mawr. Eis atynt, ein hen gyfeillion, a chlywais hanes tywydd garw. Nid oedd neb yn y gwesty fedrai siarad Saesneg wedi'r cwbl, a doedd dim i'w wneud ond gadael iddynt gymeryd faint a fynnent am bopeth. Yr oedd y tair merch wedi bod mewn ysgol yn dysgu Ffrancaeg am dair blynedd, — y fam oedd yn dweyd yr hanes,— a dyma hwy heb fedru siarad yr un gair. A mwy na'r cwbl, yr oedd y llong ar gychwyn, a'u celfi hwythau heb ddod, er eu bod wedi talu am eu cludo. Anfonwyd ein Llydawr bach i chwilio am y pethau, a chafwyd hwy'n ddiogel i'r llong cyn iddi gychwyn. Cawsom fordaith hyfryd i fyny'r afon Rans. Yr unig ddolur llygad i ni ar y bwrdd oedd dau Ffrancwr a dillad newydd danlli, yn ceisio denu sylw rhyw eneth brydweddol oedd ym mhen arall y llong. Pan adawodd y llong gysgod y cei, daeth awel a chipiodd hetiau gwellt y ddau ymaith, gan eu troelli a'u chwyrlio hyd wyneb y dŵr cyn gadael iddynt suddo. Ffasiwn Ffrainc o wneud gwallt ar hyn o bryd ydyw ei dorri yn y gnec ; yr oedd conion gwallt y ddau hyn fel brws scwrio neu gol haidd. Eisteddasom ym mhen blaen y llong wrth iddi forio i fyny'r afon, a theimlem wrth weled y fforestydd a'r adfeilion cestyll ein bod yn myned i Lydaw ac yn ol i'r hen amseroedd. Yr oedd yr afon yn llydan a'i dwfr yn hallt tan gyrhaeddasom Chatelier. Yma y mae dyfrddor, a thra'r oeddid yn codi'r llong yn hwnnw yr oedd amryw gardotwyr yn dweyd wrthym am eu cyni ar y lan. Yr oedd un dyn mawr unfraich hagr yn cadw sŵn erchyll, a hen ŵr bychan yn gwneud dim ond dal ei het yn ddistaw. Daeth y fam Seisnig ataf i ofyn a daflwn ddernyn arian drosti i het yr hen ŵr bach, gan na fedrai hi anelu. Wedi gadael y begeriaid, yr oedd gwely'r afon yn gulach, ymgodai creigiau uchel ar y naill law, a choedwigoedd ar y llall. Ymledodd yr afon wedyn, moriasom rhwng dwy res o goed poplys, a gwelsom Ddinan yn uchel uchel ar y bryn o'n blaenau. Y mae'r fordaith i fyny'r Rans yn un ddymunol odiaeth, er na cheir golygfeydd mor fawreddog a Loch Lomond, na rhai swynol fel golygfeydd y Rhein.

Synnem at gadernid Dinan, y mae uchter ei bryn yn ddau gant a hanner o droedfeddi, ac y mae mur o ddeg troedfedd ar hugain o uchter fel coron ar ei ben. Y mae'r afon wedi bod ers oesoedd yn gwneud y lle'n gadarnach, trwy ddyfnhau ei gwely wrth droi o gwmpas y dref ar ei ffordd i'r môr. Y mae pont wedi ei thaflu drosti, o Ddinan i Lan Fale, pont o wenithfeini, dros wyth gan troedfedd o hyd, ac agos i gant a hanner o uchter. Pan ddaeth y llong dan gysgod y ddinas, gwelem y bont fel enfys uwch ein pennau.

Wedi rhoi'n pedair Saesnes yng ngherbyd " Gwesty Lloegr," dechreuasom ddringo'r bryn i Ddinan, gan feddwl am y brwydro gwaedlyd fu rhwng y Normaniaid a'r Llydawiaid ar y llethrau serth hyn. Cyrhaeddasom borth Iersual, a dringasom ystryd gul droellog i Ystryd y Gwlan. Yna cawsom ein hunain yn y Stryd Fawr, ac ar ein llaw chwith gwelsom eglwys Falo, fel camel anferth ar ei liniau. Troisom i mewn i orffwys. Y mae ôl dwylaw pobl y bedwaredd ganrif ar ddeg ar lawer peth yn yr eglwys hon; dacw feddrod a chader garreg sy'n perthyn yn sicr i'r cyfnod hwnnw. Yr oedd marchnad yn y dref, a dylifai'r bobl i'r eglwys, gan ymgroesi'n ddefosiynol â dwfr swyn wrth y drws. Gwelsom lawer genethig yn codi'r llen sy'n cuddio'r gyffesgell, ac yn myned i mewn; ond gallem dybio, oddiwrth eu gwên hapus a'u mwmian canu, nad oedd ganddynt bechodau mawr nac edifeirwch.

Hwyrach y dylem ninnau gyffesu ein bod wedi llawenhau pan gododd y gwynt hetiau'r Ffrancod, cyn troi i grwydro am awr trwy'r hen heolydd sy'n ymdroelli i bob cyfeiriad oddiwrth yr eglwys. Y mae y rhai hyn mor uchel a chul fel na wel yr haul byth mo’u gwaelod. Teifl pob llofft allan uwch ben y llall, a phrin y gwelir yr awyr rhwng dau fargoed sydd bron a chyffwrdd ei gilydd. Medd pob tŷ ddrws mawr a ffenestri mawrion yn agor i'r stryd, a gellir gweled cynnwys pob tŷ wrth fyned heibio. Gwelsom dŷ teiliwr, a deg neu ddeuddeg o feibion a merched yn gweithio ynddo, ystafell eang, lle cysgir ac y bwyteir ac y gweithir. Ar ei chyfer yr oedd tŷ crydd, ac yr oedd yntau a'i feibion a'i ferched yn gweithio yn ddygn. Yr oedd pobl y ddau dŷ'n medru siarad â'i gilydd yn hawdd, ac yr oedd pobl y llofftydd uwch ben, hefyd, yn medru cymeryd rhan yn yr ysgwrs. Rhaid fod pobl yr ystrydoedd hyn yn adnabod ei gilydd yn dda; y mae'n anhygoel iddynt y gellir byw am flynyddoedd mewn tref Seisnig heb adnabod pobl y tŷ nesaf. Yr oedd llawer o'r tai yn hen iawn, yn bedwar can mlynedd a chwaneg, fel y tystiai'r trawstiau derw cerfiedig prydferth.

O gyffiniau'r eglwys cerddasom i orsaf y ffordd haearn, a gwelsom y medrem gael tren hwyr i St. Brieuc, ac yr oedd yn llawenydd inni gael troi'n ol i dreulio teirawr yn ychwaneg yn Ninan. Troisom yn ol heibio'r Hotel d'Angleterre, — gwelsom y pedair Saesnes yn eistedd wrth y ffenestr agored, ein golwg olaf arnynt, a cherddasom ar hyd y mur, gan fwynhau'r olygfa ar y dolydd a'r bryniau, gyda theml Brotestanaidd fechan yn eu mysg, ymestynnent tua'r gorllewin. Ar gornel ddeheuol y mur y mae castell gyda thŵr dros gan troedfedd o uchter. Bu unwaith yn balas, — y mae cader y dduces Ann ynddo eto,— bu Senedd Llydaw'n ymgyfarfod ynddo, bu'n garchar i filwyr Lloegr yn ystod rhyfel Boni, ac yn awr y mae'n llawn o garcharorion Ffrainc. Troisom yn ol i'r Place Duguesclin ac aethom i gafe i gael, — na, does yma ddim tê,— coffi a llaeth a bara ac ymenyn. Gofynnais i ŵr y botymau a fedrai siarad Llydaweg. Na fedrai, ond dywedodd fod pobl yn y farchnad fedrai. Edrychasom i lawr o'r ffenestr ar y Place Duguesclin,— lle mawr agored, gyda dwy res o goed pisgwydd ar hyd-ddo, — a gwelsom ei fod yn llawn o bobl y wlad. Yr oedd eu hwynebau mor Gymreig fel y meddyliasom am ennyd ein bod yn edrych ar ffair y Bala. Gwelem yno yr hen wŷr ceimion a'r hen wragedd siaradus, a'r wynebau ieuainc tlysion, gwylaidd, welir yng Nghymru; ond yr oedd arwydd diod ar rai o'r dynion canol oed. Gwyddem fod llawer golygfa ryfedd wedi cymeryd lle ar y Place Duguesclin hwn, — llawer gorymdaith ardderchog fu'n mynd trwodd ar ryw uchel wyl Babyddol; llawer brenin a brenhines fu'n edrych ar gampau'r dorf; llawer twrnament fu yma rhwng gwŷr llurigog o bob gwlad ; llawer lleng o filwyr Llydewig fu'n canu eu halawon am y tro olaf yma cyn cychwyn i'r rhyfel yn erbyn Lloegr neu'r Almaen. Y mae enw Duguesclin yn un o'r rhai anwylaf yn Llydaw, er fod pum can mlynedd er pan beidiodd a'i derfysg. Hanes Llydaw yn y bedwaredd ganrif ar ddeg ydyw hanes yr ymladd am ei choron rhwng Montfort a Blois. Daeth y Saeson yn gynorthwy i Fontfort, a chymerasant lawer o gestyll Llydaw, gan feddwl cadw meddiant ohonynt fel mynedfeydd i Ffrainc. Arwr y Llydawiaid yn erbyn y Saeson oedd Duguesclin. Ni fedrai ddarllen nac ysgrifennu, ond medrai ymladd ei ffordd trwy fyddin â'i fwyell rhyfel. Yr oedd yn ymladd bob amser, mewn heddwch a rhyfel. Bu gornest rhyngddo a Syr Thomas Canterbury ar y lle hwn, ar geffyl gyda phicellau i ddechre, yna ar droed gyda chleddyfau. A yw'n edifar gennyt garcharu fy mrawd?" ebai Duguesclin, a blaen ei gleddyf ar wddf y Sais gorchfygedig. "Nac ydyw," ebai hwnnw, ond arbedwyd ei fywyd ar daer gais Duc Lancaster. Y mae cerfddelw o'r hen filwr garw yn Ninan, ac y mae ei enw'n byw mewn llawer cerdd Lydewig, cerdd ddywed am dano'n dinistrio cestyll y Saeson, ac yn amddiffyn ei gydwladwyr gorthrymedig.


Cerddasom drwy'r farchnad i le agored arall, a gwelsom eglwys henafol St. Sauveur, gyda'i ffenestri hanner cylch a'i thô uchel, o'n blaen. Aethom i mewn, a gwelsom res hir o ferched yn eistedd, ac offeiriad edifeiriol ei wedd yn eu canol, yn disgwyl yn amyneddgar am eu tro i gyffesu. Synnem beth oedd ar feddwl yr offeiriad. Gwelsom y gist farmor du lle cedwir calon Duguesclin, ond ni welsom neb yn gweddio arno ef, — digon prin y medrir ei gyfri’n sant. Gweddio a gwneud gwyrthiau oedd gwaith y saint, nid gweithio ac achub cam y tlawd. Y mae'r hen fynwent wedi ei gwneud yn ardd ddymunol, cerddasom drwyddi, a chawsom ein hunain ar y mur, yn edrych ar olygfa ogoneddus. Yr oedd yr afon odditanom, yr oeddym yn rhy uchel i weled a oedd ei dwfr yn rhedeg ai peidio, nid oedd ein llong yn fwy nag esgid baban, yr oedd y bobl groesent y bont yn ymddangos i ni cyn lleied a phlant, fel yr ymddanghosai'r bobl ar y gwaelod iddynt hwythau. Ymestynnai gwlad goediog fryniog mer bell ag y gallai'r llygad weled, ac yr oedd yr awel yn cludo arogl miloedd o goed dros yr hen fur. Y mae'r llecyn hwn, fel castell Heidelberg yn yr Almaen, yn denu miloedd yma o bob gwlad, i syllu ar yr olygfa gafwyd trwy wneud y fynwent yn ardd. Yr oedd yn prysur hwyrhau pan oeddym yn gorffen ein tro o gylch muriau a thyrau syrthiedig y lle henafol hwn. Clywem lais melys, fel llais pregethwr yn yr hwyl, yn dadleu rhagoriaethau pysgod werthai dyn y llais, ond mwy effeithiol i ni oedd ysgrech rybudd anaearol ein tren gerllaw.

V.

TAITH AR DRAED.

"Hawdd yw dwedyd 'Dacw'r Wyddfa',
Nid ei drosti ond yn ara'."

YR oedd yn ddigon goleu i ni weled yr orsaf gyntaf wedi gadael Dinan, — Corseul enw un o chwe llwyth Llydaw, y Curiosolites. Wedi hyn ni welem ddim. Yr oedd y tren yn mynd mor araf a phe bai angladd, ac nid oes dim mor flinedig i deithiwr Prydeinig ag arafwch tren y cyfandir. Meddyliem weithiau ein bod yn myned trwy goedwigoedd, dro arall y gwelem rosdiroedd eang dan y goleu aneglur. Arhosem amser direswm ym mhob gorsaf wledig lle na welem ond pigyn du rhyw eglwys rhyngom a'r awyr, lle prysurai pawb adre oddiwrth y tren olaf.

Erbyn cyrraedd Lamballe, cawsom fod gennym awr i aros hyd nes y deuai tren Paris trwodd i St. Brieuc. Dywedir fod Lamballe yn werth ei gweled, liw dydd. Buom ninnau trwy ei holl ystrydoedd, gwelsom ei heglwys ar ben bryn, a thybiasom weled colofnau cerfiedig a ffenestri meinion hirion. Ond yr unig beth wyddom i sicrwydd am Lamballe ydyw, ei bod yn eithaf tawel yno rhwng un ar ddeg a hanner nos.

Pan ddaethom yn ol, cawsom ein cyd-deithwyr milwrol meddwon yn oer ganu, tan dorrodd chwibaniad tren Paris ar eu sŵn. Treiasom gysgu ar y meinciau caledion, ac ni fuasai rhu olwynion y tren yn rhwystr i ni, oni bai am ysgrechfeydd y milwyr yr oedd gwin wedi llawenychu eu calonnau ac agor eu cegau. Ni chyrhaeddasom St. Brieuc cyn penderfynu na theithiem yn hir wedyn gyda'r tren, ac na theithiem byth wedi nos.


Yr oeddym wedi gwneud rheol na ddewisem ein gwesty cyn ei weled, hynny ydyw, na fynnem gerbyd yn unlle i'n cludo o'r orsaf i'r dre. Nid y gwesty goreu fedd y cerbyd hardda'n aml, na'r llythrennau mwyaf arno. Nid am westai mawrion, lle na welem ond clarcod diamynedd a gweision lifre anwybodus yr oeddym yn chwilio, ond am rai cysurus, lle mae popeth dan lygad y pen-teulu, lle caem groeso gwledig a hanes ddigon. Y mae digon o'r gwestai hyn yn Llydaw, ond nid mewn cerbyd yr eir iddynt bob amser.

Pan welsom gerbyd olaf St. Brieuc yn diflannu i'r ystrydoedd tywyllion, ofnasom ein bod wedi gwneud camgymeriad am dro. Buom yn cerdded milltiroedd debygem, — ni ŵyr neb faint fydd yn gerdded pan mewn ofn a phryder, — yr oedd yr ystrydoedd yn mynd yn gulach, yn dlotach, ac ni welem na goleu llusern lety na neb a'n cyfarwyddai at y cyfryw. O'r diwedd daethom ar draws bôd yn ymsymud yn afrosgo trwy'r ystrydoedd gweigion, gan sefyll ennyd weithiau i ymsefydlu ar ei draed ac i synnu at ansefydlogrwydd y ffordd, un yn dychwelyd adre oddiwrth gymdeithion iddo. Ond i ni ei ddilyn ef, sicrhai ni y caem y gwesty mwyaf cysurus yn St. Brieuc. Ond toc eisteddodd ar risiau eglwys, a chyfaddefodd, er ei fod wedi ei eni a'i fagu yn y dref, na wyddai ar y ddaear fawr ym mha le yr oedd. Gadawsom ef yno, a phrysurasom ymlaen. Gwelsom oleuni llusern yr Hôtel de l'Univers, er llawenydd nid bychan i ni. Gofynwyd a oedd arnom eisiau swper, mewn llais ddanghosai'n eglur na chaem ddim ond o anfodd, ac arweiniwyd ni trwy lawer cyntedd i ystafelloedd eithaf cysurus. Yr oedd yr haul yn uchel ddigon pan ymddanghosasom bore drannoeth, ac ychydig o'r gwesteion oedd yn aros, — tair Ffrances yn cwyno'n enbyd am hyd eu bil, a gwraig weddw mewn galarwisg, gwisg laes yn ei gorchuddio i gyd, ond fel y gellid gweled holl ffurf ei chorff, ei mynwes berth ei thro. Mae llawer telyn ar yr helyg, ond heb ei thorri er hynny.


Dywedir fod dwy ffordd o deithio yn Llydaw—ar draed, i weled llawer; neu gyda'r tren, i weled dim. Yn lle teithio gyda'r tren araf dros wastadedd Plouagat a Guengamp a Threglamus, lle na welsem ond meysydd o wenith a meillion a llin, penderfynasom gerdded tua'r gorllewin gyda glan y môr. Ni chymerasom ond cipolwg ar heolydd budron St. Brieuc esgobol cyn cychwyn tua'r wlad. Cawsom well syniad am y bobl mewn hanner awr nag a gawsem yn y tren mewn wythnos. Gwelem y bobl gyda'u gorchwylion, cylch o ferched yn golchi dillad o amgylch pwll; geneth ieuanc yn gyrru trol hir i'r farchnad, a wyneb tlws iach, a chap gwyn Llydewig; gŵr a gwraig yn golchi llin eu tyddyn bychan yn yr afon, llin wneid yn lliain cartref pan ddoi nosweithiau hirion y gaeaf; hen offeiriad tew, darlun o erlidiwr, yn gwgu arnom ac yn chwipio'i geffyl i lawr y goriwaered wrth ein pasio. Sylwem fod tai da ymhobman, wedi eu hadeiladu'n gryfion a chysurus. Gallesid meddwl fod Llydaw ymhell ar y blaen i Gymru wrth edrych ar dai ffermydd y ddwy. Yn Llydaw Babyddol, pobl dlodion a diog, — rhai heb law na phen na chalon, — a hwy'n unig, sy'n gorfod byw mewn tai fel tai amaethwyr cynnil deallgar Cymru. Estronodd y Diwygiad werin Cymru oddiwrth ei harglwyddi, — oddiar hynny, nid edrych y landlordiaid ar y bobl fel rhai i'w deall ac i gydymdeimlo â hwynt, ond yn unig fel rhai i'w gorfodi i roddi gwasanaeth trwy rym cyfraith. Ac eto, y Diwygiad wnaeth y Cymry'n foddlon i ufuddhau i bob iod a phob tipyn o'r gyfraith sydd wedi gwasgu mor drom arnynt, y Diwygiad ddysgodd y Cymro nwydwyllt gynnig y gern arall i'r hwn a'i tarawo, ac i beidio gwahardd ei bais i'r hwn a ddygo ymaith ei gochl. Diwygiad crefyddol yng Nghymru, Chwyldroad yn Ffrainc, — y mae'r Cymro eto'n talu rhent uchel am ffermdy adfeiliedig, ac y mae'r Llydawr yn ei dŷ eang dan ardreth deg. Llawer hanesydd sydd wedi cyferbynnu cyfraith Lloegr âg anghyfraith Ffrainc, sefydlogrwydd y naill ag anwadalwch y llall. Yr oedd yn Llydaw werin wedi ei gwneud yn fwystfilaidd gan orthrwm, yn ddigon bwystfilaidd i droi at yr arglwyddi oedd yn gwasgu eu cyfraith ddidrugaredd arni, ac i ddarostwng y rhai hynny i'w dialedd erchyll a'i chyfraith ei hun. Y mae yng Nghymru werin wedi ei gwneud yn ddeallgar a hir ei hamynedd gan ddysgawdwyr gododd Duw o fysg y bobl, ac y mae'n dioddef ac yn dioddef tra mae'r gyfraith yn araf gydnabod ei cham. Ni welir capel yn unman yn nyffrynnoedd ac ar fryniau Llydaw, ac ni welir yno hen amaethwr penwyn yn byw mewn beudy, oherwydd gwrthod ymddangos yng ngwasanaeth dienaid y Llan, neu wrthod dweyd fod rhyw filwriad o Sais yn deilwng gynrychiolydd ei sir Gymreig yn y Senedd.

Cyn hir, wedi cerdded ar i fyny am awr a hanner, daethom i ben y tir, a dechreuasom gerdded ffordd wastad drwy gaeau gwenith eang. Yr oedd blodau adnabyddus hyd glawdd pridd y ffordd, — y ben galed a chwilys yr eithin, caem ambell i air â phobl yn gweithio,— "bon jour," neu "amser braw," — a mynych y deuem at groes a rhai'n penlinio o'i blaen. Cyn dod i Bordic, gwelem groes garreg o gerfiad tlws ryfeddol, a darllennem ar ei gwaelod mai iddi hi y rhoddwyd y wobr yn St. Brieuc. Nid ydyw'r Llydawiaid, mwy na'r Cymry, yn gystal cerfwyr ar bren na charreg a'u tadau, ond gwneir pob ymdrech yn Llydaw i ail ddysgu cerfio pren marw'n flodau, a gwneud i garreg ddelwi cynhesrwydd bywyd. Cwynir yng Nghymru nad oes gennym gelfau cain, ond anaml yr ymgyfyd cyfarfod llenyddol yn uwch na rhoi gwobr am ffon neu olwyn berfa; cwynir fod gennym ormodedd o feirdd, ac eto rhoddir y gwynt a'r cread a'r haul a'r nos yn destynau gwobrwyedig i'r bodau hyn draethu eu bychanedd arnynt.

Gwlad anodd cerdded ynddi ydyw Llydaw, y mae'r awyr yn drom ac yn llethol, y mae'r golygfeydd yn undonog, ac nid ydyw'r ffyrdd yn cuddio'u hyd trwy droelli rhwng bryniau. Ond cyn i ni ddechre cwyno, gwelsom y môr. Rhyfedd y gorffwys rydd golwg ar ei bellter glâs. Ystwythodd ein coesau wrth ei weled, a chyflymasom i lawr tua Binic, ymdrochle bychan, cyrchle llawer o Ffrancod. Aethom i'r Hotel de Bretagne, a dywedodd hen ŵr llawen fod y cinio ar y bwrdd. Yr oedd yno gwmni mawr, a chedwid hwy'n ddifyr gan Ffrancwr anferth o gorff, a adroddai droeon trwstan Llydawiaid syml. Yr oeddym ni'n dau yn newynog ac yn sychedig, ac yfasom ddiod felen oedd ar y bwrdd, gan ddrwgdybio mai osai oedd. Nid oedd y dwfr yn yfadwy, ac yr oedd yn rhaid i ni yfed rhywbeth, neu dagu.

Wedi cinio, dringasom y bryn yr ymnytha Binic dano. Yr oedd yr haul yn boeth orlethol, ond ar ben y bryn yr oedd awel oer hyfryd, a golwg ar y môr a'r traeth. Eisteddasom yno ar fin y ffordd mewn glaswellt peraroglus, i wylio edyn melin wynt safai gerllaw. Gwelem weddoedd hirion y Llydawiaid yn dod i'r felin, — pedwar pen o geffylau, gyda choleri gwellt a mynciod pren am danynt, a chrwyn defaid wedi eu lliwio'n lâs ar gyrn y mynciod. Treiwn gofio cerdd Lydewig glywais unwaith, — melinydd yn gofyn lle'r oedd ei gariad, a melinydd arall yn ateb i sŵn ei felin fod y Barwn Hefin, gŵr mawr y felin ddŵr, wedi mynd a hi,

"Melfed du sy am dani'n dyn,
A bordor braf o arian gwyn ;
Cap fel eira sydd gan hon,
A rhosyn coch sydd ar ei bron.
Ha ha, fy melin dry,
Diga — diga — di,
Fy melin dry, ha ha,
Diga — diga — da."
" Yn y llyn fe wel ei llun,
Yno saif i addoli ei hun.
Cân yn llon 'Myfi bia'r felin,
A myfi bia'r Barwn Hefin.'
Ha ha, fy melin dry,
Diga — diga — di,
Fy melin dry, ha ha,
Diga — diga — da."


Gadawsom y felin, ni chlywsom ei "diga — diga — di" mwy, ond gwelem hi o bob pen bryn gyrhaeddem. Yr oedd pawb gyfarfyddem yn awyddus am ysgwrs, gofynnent gwestiynau fel y gofynna torrwr cerrig ar y ffordd yng Nghymru, "O ba wlad y deuwch ? " Ai prynnu tatws yr ydych ?" Cwynent mai ychydig iawn o longau ddaeth i chwilio am datws eleni, ac yr oeddynt yn siomedig pan ddeallasent nad oedd arnom ni eisiau taro bargen. Ond pan ddeallent mai Cymry oeddym, ail enynnai eu diddordeb, a dywedent yn llawen ein bod ni yr un bobl. Gofynnent i ni gyfrif neu ddweyd dyddiau'r wythnos yn Gymraeg, ac yna edrychent ar ei gilydd mewn syndod a dywedent, — Llydaweg bur ydyw hynyna." Dros fryniau ffrwythlawn a thrwy ddyffrynnoedd coediog, gydag ambell gipolwg ar y môr, daethom i St. Quay a Phortrieux, dau ymdrochle bychan tlws, llawn o dai newydd, a chabanod ymdrochi, a Ffrancod. Dringasom riw hir a blinedig, ac arhosem yn aml i siarad â'r Llydawiaid caredig siaradus. Oni bai am drymder yr awyr, gallem feddwl mai yng Nghymru yr oeddym. Na, y mae un gwahaniaeth mawr arall, nid oes yma ddwfr rhedegog. Ceir ambell i bwll golchi ar ochr y ffordd, dwfr glaw wedi sefyll, a throchion sebon fel ewyn arno. Gwyddem am ŵr yfodd drochion sebon unwaith mewn camgymeriad am laeth enwyn. Troisom i mewn at hen wraig i ofyn a roi hi gwpanaid o ddwfr oer i ddisgybl, a chawsom ddwfr peraidd o waelod pydew oer. Yr oedd yr hen wraig yn dlawd iawn, stoc ei siop oedd corn o freth yn ac ychydig lysiau ; ond ni fynnai ddim gan bobl ddieithr am lymaid o ddwfr oer.

Erbyn cyrraedd Tref Eneuc, yr oedd yn dechre oeri at y nos, a ninnau wedi blino. Ond hen le tlawd, pentre o dai to gwellt yng nghanol coed duon, heb westy o lun yn y byd, ydyw Tref Eneuc. Hysbyswyd ni y caem lety ym Mhlw' Ha, pum milltir ymlaen. Dilynwyd ni o'r pentre gan dyrfa o blant. Os oeddym ni mor ddigrifol iddynt hwy ag oeddynt hwy i ni, cafodd y plant bach hynny wledd. Yr oedd gan y bechgyn rwymyn — lledr am eu canol, a het wellt fawr ei chantal, a ruban melfed du am dani, am eu pen. Yr oedd gwallt y merched mewn rhwyd, fel y gwelwn wallt ein neiniau mewn darluniau, a chap gwyn ar eu coryn. Yr oedd pawb yn ei esgidiau pren; a chan eu bod yn gorfod rhedeg i'n canlyn, yr oedd sŵn eu traed fel cawod o wlaw taranau ar ddail crin. Yr oeddynt yn ofnus iawn, a chilient yn ol pan ddechreuem siarad â hwy. Ai Llydawiaid ydych?" Nage." Ai Ffrancod?" "Ie." "Sodlwch hi ynte," ebai Ifor Bowen, gyda threm hyllig, ac yr oedd yno dwrw llu o esgidiau pren yn clecian ar y ffordd galed.

Yr oedd yn noson hafaidd, gwelem y merched a'u crymanau'n dod o'r caeau gwenith, a chaem aml olwg bell brydferth ar y môr. Gwelem y dynion yn bwyta eu swper, — llaeth a bara du, — o gwpanau pren, ar drothwy eu tai, a chlywem sŵn y droell y tu mewn. Yr oedd yr haul wedi colli ers meityn y tu hwnt i Ynys Brehat pan gyrhaeddasom Blw' Ha, ar ben bryn. Cylch o dai o amgylch eglwys fawr ydyw, trigle rhyw bum mil o bobl. Cerddasom o amgylch yr eglwys, i weled holl gylch y pentre. Yr oedd yr holl drigolion yn y drysau'n edrych arnom, a thybiem nad oedd ond nyni'n dau a'n wynebau'n lîn ym Mhlw' Ha y prynhawn hwnnw. Pan fyddai tor yn y cylch tai, gwelem wlad eang o fryniau'n dwyshau at y nos.

Aethom at ddrws y gwesty glanaf welem, yr Hotel dela Poste, a dechreuasom siarad geiriau Cymraeg, er syndod a difyrrwch nid ychydig i'r yfwyr oedd yn llercian o gwmpas y drws.

"Nos fad."
"Nos fad."
"Bara, 'menyn, cig dafad?"
"Ia, ia."
"Dau wely dros y nos? "
"Ia, ia."

Chwarddasant yn galonnog, a gwahoddasant ni i mewn

i gegin fawr dywell.

VI.

GWESTY LLYDEWIG.

YMHEN ychydig cynefinodd ein llygaid â thywyllwch y gegin, a gwelem beth oedd o'n cwmpas. Yr oedd hen wraig a golwg batriarchaidd arni, — brenhines ar dylwyth lliosog, — yn malu siwgwr yn brysur; yr oedd hen ŵr hirwallt yn bwyta potes yr ochr arall i'r ystafell, ac yr oedd dwy neu dair o enethod yn gwibio'n ol ac ymlaen dros y llawr pridd i gyflawni gorchwylion y tŷ. Y peth mwyaf tarawiadol i ni oedd lle'r tân. Yr oedd mantell y simdde'n ddigon mawr i gysgodi dwsin o bobl, ac yr oedd yn y tu mewn iddi gadwyni wedi eu gwisgo a huddugl canrifoedd. Ar lawr yr oedd y tân, a chrochanau o bob math yn rhesi bob ochr iddo. Yr oedd Ifor Bowen a minnau wedi gosod ein hunain dan y simdde, pawb ar ei bentan, oherwydd mai dyna'r lle mwyaf cyfforddus yn y tŷ, a'r lle hawddaf gweled popeth o hono. Yr oeddym yn flinedig iawn, a gorffwysasom mewn distawrwydd, a'n llygaid yn agored. Cyn hir daeth un o'r genethod at y tân, — nid oedd fawr o hono, dim ond ychydig farwor. Gydag un llaw daliai badell ffrio, ac â'r llall rhoddai ddefnydd ar y tân, ac yr oedd hwnnw yn ufuddhau iddi, weithiau'n swatio dan y badell, a thro arall yn ymsaethu i fyny'n fflam oleugoch, fel pe'n sefyll ar faenau ei draed i weled pwy oedd yn y tŷ. Pan godai'r fflam, gwelem ninnau'r tŷ — gwely mawr wedi ei orchuddio gan lenni trymion, cypyrddau llawn o lestri disglair, trawstiau'n camu dan bwysau cig hallt à llin, cŵn 0 bob lliw'n gwylio dan y cypyrddau, bwrdd hir a rhes o wynebau y tu hwnt iddo'n edrych tua'r bobl ddieithr a'r crochan. Toc, daeth rhywun i mewn, a gorchymynnodd oleu canwyll mewn tôn awdurdodol. Gŵr unfraich oedd, wedi colli'r fraich arall wrth ddilyn Chanzy ar un o feysydd gwaedlyd rhyfel yr Almaen. Yr oedd ganddo lyfr dan ei gesail, llyfr y llywodraeth, a galwodd arnom at y bwrdd i dorri ein henwau, ac i ddweyd tipyn o'n hanes, — ein hoed, lle ein genedigaeth, ein preswylfan, o ble y daethem, i ble yr aem, beth oedd ein neges, pa lywodraeth a'n noddai. Yr oedd wedi drwgdybio mai Ellmyn oeddym, ond gwenodd pan welodd enw Cymru, a gofynnodd a oeddym yn medru deall Llydaweg. Yr oeddym yn uchel yng ngolwg pawb wedi i ddyn y llywodraeth wenu arnom. Nid oedd iar yng nghefn y tŷ a'i gwddf yn ddiberigl, nid oedd dim yn y tý nag yn y farchnad na chaem ef, yr oedd y genethod a'r crochanau a'r tân yn barod. Wedi cydymgynghori, gofynasom am goffi a llaeth. Prin yr oedd y gair o'n genau cyn fod un o'r gweision yn dal dwy sospan uwchben y tân, — coffi yn un, a llaeth yn y llall. Bum yn synnu droeon pam y mae gwin yn destun i'r beirdd, tra mae eu hawen yn ddistaw am goffi a thê. Mae llawer cân gynhyrfus am win coch y Rhein, —

"There is nothing that cheers a heart like mine,
But a deep deep draught of the red Rhine wine,"

ond ni chlywais fod yr un bardd erioed wedi canu i goffi du Arabia na thế gwyrdd Ceylon. Yr oedd y coffi gawsom ni yn werth gwneud pryddest iddo. Yr oedd yn aroglus, yn flasus, dadluddedodd a deffrodd ni. Gadawyd y ganwyll hir yn oleu er anrhydedd i ni, ac yr oedd yno gynulleidfa o bobl yn barod i siarad a chwerthin. Gofynnais a oedd ganddynt lyfr yn y tŷ. Nac oedd, yr un. Gofynnais i'r bobl a fedrent ddarllen, ac a oedd ganddynt lyfrau. Nid oedd yno neb yn medru darllen, ond yr oedd un hogyn pengrych yn meddu llyfr. Rhedodd i'w geisio, a rhoddodd ef yn fy llaw. Holiedydd Pabyddol oedd, a gwrandawai pawb arnaf fi'n holi, a'r Llydawr bach yn ateb, —

"Pet person so en Doue? »
"Tri, an Tad, a'r Map, hac ar Speret — Santel."
"Pet sort ele (angylion) so?"
"Daou sort, drwg ele hac ele mâd."
"Pelech e mân Iesus Christ?"
"Efel Doue e mân dre oll; e fel Doue a den assambles (ynghyd), e mân er Barados hac en sacrament."
"Fet poan a swffras en he gorff ar groes?"
"Pemp. Ar chenta, e chwesas an dwr hac ar goad.

An eil, e oe fflagellet. An trede, e oe curunet a spern. Ar befare, e twgas he groes. Pempet, e oe crucifiet.'

"Pet sort peden (gweddi) so?"
"Daou sort, ar beden a galon, ac ar beden a cheno."
"Levet ar befare gwrechemen."
"Da dad, da fam a enori, efit pell amser a fefi."

Yr oedd llawer o athrawiaeth gau yn yr holiedydd, am Fair, am Burdan, am haeddiannau iawnol gweddiau'r saint, am y Pab, ond yr oedd ynddo lawer testun ardderchog i bregethu i'r Llydawiaid oedd o'n cwmpas. Clogyrnog oedd ein Ffrancaeg ar y goreu, ac am Lydaweg, ni fedrem ddim. Nid oeddym wedi gweled adnod yn Llydaweg erioed, onide nyni a'i dywedasem y noson honno. Os cyfarfyddaf un o'r Llydawiaid hyn yn y farn ddiweddaf, gallaf ddadleu dadl Moses nad oeddwn ŵr ymadroddus, eithr safndrwm a thafotrwm oeddwn. Medrwn wneud fy hun yn ddealledig i bobl ddysgedig, Ond yr oedd yn amhosibl i mi ddweyd fy meddwl am eu crefydd wrth y bobl hyn fel y deallent fi. Teimlwn eu bod yn barod i wrando, gwyn fyd na fedrwn siarad.

Daeth gŵr tew trwsiadus i mewn, a gofynnodd i'r hen wraig a gaem fyned i'r parlwr i ysgwrsio. Esboniodd jni mai swyddog cyllid y llywodraeth oedd. Gwelem oddiwrth ei lygaid mawrion duon nad Llydawr oedd, a dywedodd toc mai o ddeheudir Ffrainc y daeth, a'i fod wedi graddio yn athrofa Toulouse. Nid oedd y parlwr mor ddiddorol a'r gegin, ystafell fechan, bwrdd crwn ar ei chanol, a darluniau lliwedig o frwydrau'r Ffrancod. Ni fu Pierre Amand yn hir heb wneud ei hun yn gysurus uwchben ei dybaco a'i win. Gwleidyddiaeth oedd pwnc cyntaf ein hysgwrs, a dywedasom ein bod yn synnu nad oedd cyfarfod cyhoeddus yn unlle, a hithau'n amser etholiad cyffredinol. Cyn iddo ateb, daeth un arall i mewn, meddyg y dref. Gŵr bychan a wyneb hir oedd hwn, nid Llydawr, ond Picard o'r enw Louis des Cognets. Gofynnais a lwyddai Boulanger. Os gwnai, byddai chwyldroad yn Ffrainc. "A ydych chwi drosto?" Cododd y ddau ar eu traed, a gwaeddasant "Na," nes oedd yr ystafell yn diaspedain.

" Ond y mae'n gas gennych yr Almaen a Bismarc?"
"Ydyw, ond gwaeth nag ofer fyddai i ni ymladd yn awr."
"A gewch chwi Alsace a Lorraine yn ol? "
"Cawn, ond rhaid i ni gael help.
"Help pwy? Lloegr? Yr Eidal?"
"Nage, mae'r Saeson yn rhy ymffrostgar a hunanol i wneud dim dros neb, ac mae'r Eidal yn troi yn ein herbyn, er mai ni a'i rhyddhaodd. Rwsia fydd ein cymorth ni."
""A oes tipyn o gryfder yn y teimlad gwladgarol yn Ffrainc?"
"O oes, y mae Ffrainc yn un, bydd Ffrainc yn barod cyn bo hir."

Cododd y ddau ar eu traed, a dechreuasant ganu'r Marsellaise ar uchaf eu llais, gan gadw amser gyda'i dwylaw i'w gilydd. Yr oeddynt ar ganol un arall, y Chant du Depart, pan glywyd cnoc ar y drws. Daeth gŵr ieuanc arall i mewn, wyneb gwelw, weithiau'n brudd, a'r funud nesaf yn wên i gyd. Llydawr oedd Owen Tresaint, a chyfreithiwr wrth ei alwedigaeth. Yr oeddym oll yn siarad gyda'n gilydd, myfi'n holi, a hwythau'n ateb.

"Beth ydyw credo boliticaidd Llydaw?"
"Mae'r trefi'n werinol, ond y mae y rhannau gwledig yn frenhinol iawn."
"Beth ydych chwi eich tri?"
"Gwerinwyr i'r carn !"

A gorfod i mi aros heb holi ychwaneg nes oedd y tri wedi codi ar eu traed a chanu'r Marsellaise drwyddi.


"Pam y mae Llydaw'n fwy Ceidwadol na Ffrainc? "
"Dylanwad y boneddigion, — ei hen deuluoedd, — a'r offeiriaid."
"Beth ydyw credo'r offeiriaid?"
"Y maent yn Geidwadwyr ac yn Frenhinwyr bob un. Ac y mae eu dylanwad ar y bobl yn fawr iawn."
"A ydyw'r bobl yn eu parchu?"
"Nag ydynt, ond y mae arnynt eu hofn, hwy fydd yn eu cyffesu ac yn eu claddu."
"Yr ydych chwithau'n Babyddion? "
"Ydym, Ffrainc ydyw'r lle mwyaf Pabyddol yn y byd. Ond nid ydyw crefydd yn ddim ond enw i ni. Mae llawer o'r Llydawiaid yn ddefosiynol, yn enwedig y merched, ond y mae pawb yn dechre chwerthin am ben crefydd. Nid ydyw'n Pabyddiaeth ni ond esgus dros fod heb yr un grefydd. Y mae Ffrainc yn medru gwneud heb yr un yn iawn."
"A fyddwch chwi'n mynd i'r eglwys weithiau?"
"Na fyddwn, byth."
"A fuo un o honoch yn cyffesu?"
"Ha, ha, naddo erioed."
"Fydd yr offeiriaid yn dweyd beth gyffesir?"
"Na fyddant, byth. Y mae hynny o dda ynddynt, medrant gadw cyfrinion yn iawn. Ac y mae'r gyfraith yn cefnogi hynny, fedr neb wneud iddynt ddweyd ar lw."
"A ydyw buchedd yr offeiriaid yn foesol?"

"H — m — m!" meddent, gan droi ochr eu pennau, i ni weled yr amheuaeth oedd yn eu llygaid. Yr oedd y Llydawr yn anesmwyth ers tro, ac yn llawn awydd am gael ein holi.

"Ai nid Pabyddion ydych chwi?"
"Nage, Calfiniaid."
"Y nefoedd fawr ! a ydych yn credu credo Calfin i gyd?"
"Ydym, i gyd."
"Dyna'r gredo fwyaf ofnadwy fu erioed. Yr wyf yn sicr nad ydych yn ei byw."
"Ydynt yn sicr, Owen Tresaint, edrychwch arnynt, nid ydynt yn ysmygu nac yn yfed, y maent yn meddu holl ragoriaethau'r Saeson. A dyma ninnau'n meddu holl wendidau'r Ffrancod, — yn ysmygu ac yn yfed, yn siarad a gwaeddi. Hwre !"
"A ydych yn meddwl fod y Saeson wedi'r cwbl yn well pobl na'r Ffrancod?"
"Ydym, o lawer. Y maent yn ddistaw a gonest ac amyneddgar. Ac y mae'r Ffrancod yn ysgeifn, yn anwadal, yn hoff o bleser, yn gwawdio popeth crefyddol a dwys. Nid ydym ni'n Ffrancod nac yn Saeson, ac y mae gennym hawl i farnu."
"Ddim yn Saeson? Beth ydych ynte?"
"Cymry. Owen y gelwir fi gartref, a Mam' a Tad' oedd y geiriau cyntaf fedrwn."
"Ddyn! yr ydym ni'n frodyr. Owen ydyw f’enw innau, a Mam' a Tad' oedd y geiriau cyntaf a fedrwn."
"Yr un bobl ydyw'r Llydawiaid a'r Cymry. Glywsoch chwi ddim am frwydr Sant Cast, lle trechodd y Ffrancod y Saeson. Wel, yr oedd y Saeson wedi glanio ar lan y môr, y mae'r lle i'w weled oddiyma ar ddiwrnod clir. Yr oedd llawer o Gymry gyda'r Saeson, a llawer ohonom ninnau gyda'r Ffrancod. Ac wrth gerdded ymlaen i ymosod, yr oedd y Llydawiaid yn canu cerdd Lydewig ar eu hen alaw rhyfel, Gwarchae Gwengamp y gelwir hi; ac wrth eu clywed, meddyliodd y Cymry fod byddin o Gymry'n ymosod arnynt. Meddyliasant fod bradwriaeth yn eu gwersyll, taflasant eu harfau, a dyna pam y gorchfygwyd y Saeson.'"

Nis gwn a ydyw ystori Owen Tresaint yn wir, ond gwn ei bod yn draddodiad gredir trwy Lydaw. Y mae cerdd ym Marzaz Breiz yn dweyd yr hanes. Y mae'r hen alaw bruddglwyfus yn union fel rhai o'r hen donau Cymreig, ond prin hwyrach y buasai Cymro'n deall y geiriau canlynol wrth i filwyr Llydewig eu canu, er y buasai'n credu, feallai, mai Cymraeg a genid, —

E Gwidel e oent discennet,
E Gwidel e douar Gwenned.
E Gwidel int bet douaret,
Efel ma oent e Camaret.

"E bro Leon, rag Enes Chlas,
Gwechell, e oent discennet choas;
Cemend a wad deffant loscet
Cen a oa ar mor glas ruiet.

"N'eus, e Breis, na boder na bren
E - lech na gafer ho escern;
Cwm a brin och ho sashat,
Glaw ac afel och ho channat."


Rhydd y gerdd hon flwyddyn brwydr St. Cast 1758, er fod traddodiadau eraill yn dweyd i'r peth gymeryd lle'n llawer cynarach.

Er bloafes ma mil ha seis cant,
Hag eis ouspenn hag hanercant,
D'am eil lun o fis Gwengolo,
Oa trechet ar Saoson er fro.

Cyn diwedd y noson, yr oedd y deheuwr a'r Picard wedi tewi, ond yr oedd Owen Tresaint yn holi'n ddibaid. Yr oedd y peth lleiaf am Gymru'n ddiddorol iddo, a dywedodd pobl y tŷ na welsant ef erioed yn aros mor hwyr. Nes penelin na garddwrn; er fod Cymru a Llydaw wedi ymuno â chenhedloedd gwahanol, nid ydynt wedi colli eu diddordeb yn ei gilydd. Pe bai Ffrancwr a Sais, Cymro a Llydawr mewn cwmni, y Cymro a'r Llydawr dynnent at ei gilydd gyntaf. Ac er nad ydyw eu crefydd yr un, y mae ganddynt yr un teimlad crefyddol. Y mae eu hen grefydd yn prysur golli ei dylanwad ar y Llydawiaid, syrth eu bechgyn ieuainc meddylgar i anffyddiaeth Ffrainc, am na wyddant am grefydd Cymru. Yn y cyfwng hwn, ni ŵyr neb beth sydd ar ddod. Hwyrach y gadewir i Lydaw suddo i'r anffyddiaeth sy'n dilyn ofergoeledd. A hwyrach y clywir sŵn ym mrig y morwydd, y disgyn Ysbryd yr Arglwydd ar Lydaw fel y disgynnodd ar Gymru, ac y gelwir ar Fynyddoedd Arez i foeddio canu, "Canys gwaredodd yr Arglwydd Lydaw, ac yng Nghymru yr ymogonedda efe." Yr oeddym yn rhy gysglyd i ddal sylw ar holl neilltuolion "llofft oreu'r" gwesty y noson honno. Yr oeddwn i wedi blino gormod i gysgu'n dawel, a mynnai'r darluniau oedd ar y mur ganu i mi. Nid un dôn a glywn, ond casgliad o ddarnau cerddi glywn, llinellau heb berthynas i'w gilydd yn ymgysylltu yn null digyswllt breuddwyd, —

"Three merry brown hares came leaping,
Over the empty keys."

VII.

IOAN Y GYRRWR.

"I fairly, therefore, divided my half — guinea, one half of which went to be added to his thirty thousand pounds, and with the other half I resolved to go to the next tavern, to be there more happy than he." — OLIVER GOLDSMITH.

TUA saith deffroisom, ac yr oedd yn ben ddiwrnod ar y Llydawiaid boreuol. Clywem swn hollti coed a malu coffi, a dwrdio cŵn a ffrio golwythion cig; gwelem y farchnad yn llawn o hen wragedd yn eistedd uwchben brethyn a llysiau, ffrwythau a chrymanau a melysion.

Yr oedd degau o bobl yn ffarwelio â ni pan adawsom Blw' Ha, a synnent ein bod yn meddwl cerdded yr holl ffordd i Ben Pwl. Yr oedd ein ffordd yn drom ac eithaf anifyr am y teirawr cyntaf, gwelem hi'n rhedeg fel saeth dros yr ucheldir gwastad am filltiroedd o'n blaenau. Draw ar ben y bryn byddai rhyw dref, — mae pob tref yn Llydaw naill ai ar ben bryn neu wrth enau afon, ac araf iawn y gwelem ein hunain yn agoshau ati. Ar ochrau llychlyd y ffordd hir gwelem lawer hen gyfaill yn gwenu, — botwm y gŵr drwg, glaswenwyn, dor y fagl, llin y mynydd, eithin. Weithiau arosem i dynnu sgwrs â'r genethod bochgoch oedd yn medi gwenith â'u crymanau anghelfydd. Weithiau pasiem bedair neu bump o ferched, a breichiau fel cewri, yn torri cerrig ar y ffordd. Tybiem fod bron bob gwaith caled yn cael ei wneud gan ferched, yr oedd y dynion oll gyda'r ceffylau, neu yn y fyddin, neu ar y môr. Erbyn cyrraedd Plw' Esec, yr oeddym yn ddigon sychedig i hiraethu am rai o aberoedd mynyddig Cymru. Troisom i mewn i Westy Ffrainc, a gofynasom yn Gymraeg am ddŵr. Daeth gwraig, — darlun o lanweithdra a chynildeb, — a glasiaid inni. Yr oedd y dŵr yn glaear, fel pe bai newydd ei godi o lyn chwid. Yr oedd yno ddigon o ddiodydd, ond yr oeddynt yn feddwol i gyd. Nid oedd yno de, a phan ofynasom am dano, deallasant yn union mai Prydeinwyr oeddym.

Y mae Llydaw'n wlad sychedig iawn, gwlad lawn o lwch, gwlad nad oes ynddi ond ychydig o ddwfr rhedegog. Dylid cofio hyn wrth glywed fod y Llydawiaid yn bobl feddwon. Yr oedd hen grefyddwr yn byw yn Llanuwchllyn flynyddoedd yn ol o'r enw Rhobet Rhobet, ac yr oedd syched yn llinell bur eglur yn ei gymeriad. "Ie, Ie," ebai'n gwynfannus, pan glywai y disgyblid ef yn y seiat, yr hen stori ydi hi o hyd, pawb yn sôn fod Rhobet Rhobet wedi meddwi, a neb yn sôn am y syched mawr oedd ar Rhobet Rhobet."

Fel yr oeddym yn myned yn bellach i Lydaw, yr oedd y croesau'n amlhau. Gwelem fod llawer o honynt yn newydd, ac enwau y rhai a'u codasant danynt, rhyw Julie Madoc neu Mari Tregwiel. Yr oeddynt yn mynd yn fwy arddunol hefyd. Croesau plaen welsom gyntaf; yna corsen a gwaewffon arnynt; yna darlun o gorff yr Iesu; yna'r Iesu a'r ddau leidr; ac ar oror môr y gorllewin, ceir mynydd Calfaria dan y groes, ac Iddewon a Rhufeiniaid arno. Yr oedd yr offeiriaid yn amlhau hefyd, a'r begeriaid. Henaint, dallineb, cloffni, llaw wywedig, craith, — y mae hyn oll yn esgus dros sefyll ar ochr y ffordd, a gwaeddi ar y teithiwr am elusen, a mawr dda fo iddo.

O ben bryn Ceriti gwelsom y môr. Buom yn eistedd yn hir ar fur y pentref hwn, — gyda'i hen ysgol lwyd, a'i groes, a'i gaeau gwenith, — i edrych ar yr ynysoedd a'r creigiau frithent y lan. Oddiyma dringasom trwy ddyffryn coediog i fynachlog Beauport. Nid oes leoedd mwy rhamantus yn y byd na'r mannau ddewisodd y myneich i gyfaneddu ynddynt, priodol y gelwir y ile hwn yn "Hafan Dlos." Y mae muriau eglwys y mynachty'n aros eto, a choed yn tyfu y tu mewn, ac yn estyn eu pennau allan drwy y ffenestri bwaog. Ond y mae rhyw Ffilistiad wedi prynnu'r lle; ac os â rhywun, yng ngrym ei gariad at yr hen amseroedd, i grwydro drwy'r colofnau a'r coed, dianga'n ol am ei fywyd, ac anferth gorgi nerthol, llwyd, yn ymysgwyd o'i ol.

Y mae Pen Pwl yn ymdrochle bach prydferth, a gwelsom lawer o longau Prydeinig wedi dod iddo 'i gael llwyth o datws. "Disgynfa'r Gwerinwyr" oedd enw'r gwesty cyntaf welsom, a G. Penanhoat oedd yn ei gadw. Y mae G. Penanhoat yn ŵr call yn ei genhedlaeth, ar ystyllen yr oedd y gair "gwerinwyr," oherwydd cred ef, fel llawer Llydawr arall, y gellir tynnu'r ystyllen cyn hir, fel yr ymddanghoso'r hen air "brenhinwyr" drachefn. Yr oedd Ifor Bowen yn canu, —

" And whatsoever king shall reign,
I will be Vicar of Bray, sir,"

.

wrth i ni grwydro drwy'r ystrydoedd i chwilio am le cyfaddas i orffwys. Yr oedd yn ddau o'r gloch y prynhawn pan oeddem yn cael pob croeso yn ystafell fawr lân y Llew Coch, lle fel amgueddfa, yn llawn o gregin a blodau, a hen ddodrefn a darluniau.

Wrth fyned allan dywedasom "Amser braf" wrth un a safai ar y rhiniog. Tynnodd ei wyneb ein sylw ar unwaith. Gŵr byr o gorff ydoedd, ond cydnerth cadarn, gydag ysgwyddau llydain a wyneb yn ddarlun garw o garedigrwydd. Yr oedd ei wallt yn ddu a'i wyneb yn goch, lliw, cynnes a gafodd wrth wenu ac yfed gwin rhudd. Esgidiau pren oedd am ei draed, het wellt goryn isel gantel mawr a ruban am dani oedd am ei ben, a thros ei grys gwlanen yr oedd hugan gotwm lâs yn cyrraedd at ei liniau. Yr oedd chwip cyhyd a genwar yn ei law; ond nid oedd blentyn yn myned heibio na wenai arno, oherwydd wyneb Ioan y Gyrrwr oedd fwyaf nodweddiadol, nid ei chwip. Ni holodd ein hanes, ond yr oedd ei wyneb yn ein gwahodd i'w ddweyd. Pan glywodd ein bod yn myned i Lannion y noson honno os medrem, dywedodd ei fod yntau'n myned hefyd, a bod ganddo'r ddau geffyl goreu yn Llydaw. Efe oedd gyrrwr car y post, ac yr oedd yn cario teithwyr gyda'r llythyrau. Cyn pen yr hanner awr, yr oedd Ifor Bowen a minnau'n eistedd ar fainc flaenaf car y post gydag Ioan y Gyrrwr, a'r tu ol i ni yr oedd chwech neu saith o Lydawiaid yn mynd i Dreguier neu Lannion. Weithiau siaradent Lydaweg, dro arall Ffrancaeg, a synnem at sydynrwydd eu troiadau o'r naill iaith i'r llall. Yr oeddynt yn bobl ddeallgar, — yr oedd un wedi darllen Renan, un arall wedi bod yn Aber Tawe, a'r cwbl yn awyddus iawn am wybod ein hanes.

Yr oedd ddau geffyl gwyn yn mynd yn brydferth hyd y ffordd wastad, a'u mwng yn yr awel. Cyn dod i Lèzardrieux, croesasom bont sy'n crogi dros gan troedfedd uwchben dwfr yr afon Prieux, ac yr oedd y bont yn ysgwyd fel siglen wrth i'r cerbyd groesi. Yr oedd golwg brydferth ddigymar ar yr ochrau coediog odditanom, a'r muriau tan eu heiddew, a'r afon lydan, a'i thywod wedi ei guddio gan lanw'r môr. Yr oedd clychau Guezennec yn canu cnul, a llawenydd priodas yn Nhredarzec, wrth i geffylau Ioan garlamu trwyddynt. Arafasom wrth fynd i lawr dyffryn afon Guindy, a dywedodd Ioan, wrth ein gweled yn mwynhau'r olwg arni, y croesem hi lawer gwaith.

Dringasom ystryd serth o hen dai, ac yr oeddym dan gysgod eglwys Tre Guier. Nid oedd amser i fyned iddi, ond edmygem ei thŵr ysgafn uchel, a'i lliaws ffenestri crynion. Yn Nhre Guier yr oedd teithwyr Ioan yn talu am eu cludo. Yr oedd y teithwyr o Ben Pwl i Lannion yn talu yn y Llythyrdy, ond i Ioan y talai pawb godid ar y ffordd. Gwrthod cymeryd dim y gwelais Ioan bob tro, dyna un rheswm pam yr oedd pawb yn gwenu wrth iddo fyned heibio, oherwydd yr oedd yn amlwg na fu creadur caredicach na dedwyddach yn rhodio'r ddaear. Ond yn y Llythyrdy yr oedd ganddynt hen arfer o godi dwbl ar bobl ddieithr. Clywais Ioan yn dadleu a hwy, ni wyddwn y pryd hwnnw mai dadleu drosom ni yr oedd. Y mae'n dda gennyf feddwl am y wraig wyneb y glem a'm hyspeiliodd mai Ffrances, ac nid Llydawes, oedd. Ond hwyrach na ddylwn gwyno, bum yn talu swllt yn lle naw ceiniog i gerbydwr yn Sir Gaernarfon, am fy mod wedi siarad Saesneg ag ef, pan oeddwn yn dechre dysgu'r iaith honno; a bum yn talu dau swllt yn lle deunaw yn Sir Feirionnydd i logwr ceffylau haearn, am yr un amryfusedd.

Yr oedd golwg ar wyneb gonest Ioan yn ddigon i wneud i ddyn anghofio chwerwder cael "ei wneud." Yr oedd yn gwneud rhyw ddireidi o hyd, — bloeddio ar ferched yn cario llestri ar eu pennau, er mwyn i ni weled pa mor sicr y safent; dychrynnu plant a'i chwip hir, i ni gael clywed eu hesgidiau pren yn clecian wrth ddianc; cymeryd arno nad oedd wedi dal llythyrau deflid iddo ar y ffordd. Ond yr oedd yn dyner wrth ei geffylau, a rhoddodd gyngor i ni, os byth yr elem yn yrwyr ceffylau, beidio chwipio, gan na wna hynny ddim da yn y diwedd. Cyflymasom drwy La Roche Derrien a Llangoed a Chaer Anhal, a dechreuodd Ioan ofni y caem ein hyspeilio wedyn yn Lannion. Dywedodd y gwyddai ef am westy cysurus, gedwid gan bobl onest, yng nghanol y dre. Medrai roddi ei air yr hoffem ef, oherwydd yno yr oedd ef yn rhoi i fyny ei hun. Ni fedrai ysgrifennu, ond rhoddodd bapur a phensel i fachgen oedd yn y cerbyd, a dywedodd wrtho am ysgrifennu fel hyn, — "M. Pouhaër, dyma ddau ŵr dieithr, yr wyf yn erfyn arnoch fod yn garedig wrthynt, Ioan y Gyrrwr." Rhyw dair milltir cyn cyrraedd Lannion, gofynnodd Ioan a hoffem weld mynd, a chyda'r gair yr oedd y ddau geffyl gwyn ar garlam gwyllt. Yr oedd y cerbyd yn crynnu drwyddo, ac weithiau'n neidio fel peth byw, nid oedd arnaf lai nag ofn iddo fynd yn yfflon, fel na wyddai neb pa ran o bentwr diffurf fuasai Ioan y Gyrrwr ac Ifor Bowen a minnau a'r ddau geffyl gwyn.


Yr oedd gweled Llythyrdy Lannion fel diangfa rhag marwolaeth inni. Ac fel yr oedd y peth yn bod, yr oedd M. Pouhaër yno. Hen ŵr corffol, yn gwenu beunydd, oedd. Dilynasom ef i'w Hotel de l'Univers, enw digon anhyfryd inni, ond cawsom ef yn lle wrth ein bodd. Yr oedd yno ddau Sais ieuanc ar ymadael, a dywedent ar ginio na chawsant hwy le mor gysurus yn Llydaw i gyd.

Cyfarfyddasom y ddau hyn droeon wedyn, — ym mhrysurdeb gorsaf Landernau ac yn nhawelwch gwastadedd Carnac, ac yr oedd yn dda gennym eu gweled bob amser. Nid oes fôd ar y ddaear mor anioddefol a'r Sais uniaith, un ddirmyga'r Cymro ac a gasha'r Gwyddel, oherwydd nad ydyw erioed wedi ceisio deall neb, na meddwl am neb ond fel y gwasanaethont ef. Ond mae'r Sais fo wedi trafaelio gwledydd ac wedi dysgu cydymdeimlo â chenhedloedd eraill, yn greadur newydd. Medd foneddigeiddrwydd gonest tawel, ac y mae yn hoffus iawn. Er gwaetha'r Trioedd, y mae'n bosibl "dadfileiniaw Sais." Nid ydyw ei "fileindod" ond peth arwynebol, y mae pethau gwell yn nyfnder ei natur. Pan lysgir ef i ddeall ac i brisio ynni'r Albanwr a chrefydd y Cymro a dawn y Gwyddel, bydd yn fraint ac yn bleser cael bod yn gyd-ddinesydd iddo.

Erbyn i ni ddod i'r gegin, yr oedd Ioan wedi cyrraedd yno, wedi yfed ei lymaid arferol, ac wedi cysgu'n dawel, heb feddwl am yr holl dda a charedigrwydd oedd yn ei wneud o ddydd i ddydd. Y mae miloedd o ladron cyfoethog drwy Ffrainc yn byw ar lafur Ioan a'i debig, ond ni feder eu cyfoeth i gyd roddi iddynt y cwsg

fwynhai'r gyrrwr wedi'r daith trwy wynt yr haf.

VIII.

LANNION.

"Y blodau sy'n gwenu’n y gwanwyn, tra la,
'Does fynnon' nhw' ddim a'r peth."

AR nos Sadwrn y cyrhaeddasom Lannion, a chawsom hi'n dref fechan dlos ar waelod dyffryn, trwy yr hwn yr ymddolenna'r afon Guer gyda godrau mynyddoedd coediog tua'r môr. Y mae rhai o'i chwe mil pobl yn ddarllengar, oherwydd gwelsom ynddi dair o siopau llyfrau. Un o'r pethau cyntaf wnaethom oedd chwilota y rhai hyn am lyfrau Llydewig. Ychydig iawn a gawsom. Ar y cyntaf ni chynygiai'r eneth oedd yn ein gwasanaethu ond rhyw un neu ddau o lyfrau cerddi i ni. Ond digwyddodd ddweyd nad oedd ganddynt ddim ychwaneg, "ond llyfrau duwiol." "Un duwiol ydwyf finnau, dowch a hwy." A thra'r oedd yn chwilio am danynt, gofynnodd hen foneddiges oedd yn digwydd bod yno ai Cymry oeddym. Dywedodd amryw eiriau Llydewig wrthym, a holai ai yr un geiriau oeddynt yn Gymraeg. Ymysg geiriau eraill, dywedodd enw roddir weithiau ar y gelyn ddyn, enw na ddywedir ond y llythyren gyntaf a'r llythyren olaf ohono yng Nghymru gan bobl y seiat. Dywedais wrthi fod yr enw'n adnabyddus i mi, ond na arferid ef ond gan ei gyfeillion yn ein gwlad ni, mai'r diafol y gelwid ef yn y pulpud, ffurf hwy o'r un gair. Dywedodd hithau nad oedd ond yr enw bach arno yn Llydaw. Gyda hynny daeth yr eneth a baich o lyfrau, ac ymswynodd y foneddiges yn ddefosiynol wrth weled llun y groes arnynt.


Buom yn crwydro trwy yr holl ystrydoedd, gan edmygu y tai henafol a'r eglwysi, ac eisteddasom dan gysgod y coed ar lan yr afon i wylio'r plant yn chware. Bron na feddyliem mai yn y Bala yr oeddym wrth weled wynebau Cymreig y plant, a hanner ddychmygwn weled y Sul wedi dod, a hwythau yn yr Ysgol Sul yn ateb Rhodd Mam. Gwyn fyd nad felly fuasai.

Erbyn i ni gyrraedd y tŷ, yr oedd y bobl wedi deall oddiwrth Ioan y Gyrrwr mai Cymry oeddym, ac nid oedd taw ar eu holi. Teulu o dad a mam a phedair merch oedd y teulu, a holai'r merched ni, er mawr foddhad i'r dyrfa o Lydawiaid oedd yn y gegin. Buom yn cyfrif bob yn ail, hwy yn Llydaweg a ninnau yn Gymraeg. Holent am ferched Cymru,beth oedd lliw eu gwallt a'u llygaid, a fedrent ganu a dawnsio, pa fath flodau fyddent yn wisgo. Yr oeddynt hwy'n holi yn Ffrancaeg, gan ail adrodd eu cwestiynau yn Llydaweg. Byddem ninnau'n ateb yn Gymraeg. Pan ofynnodd Josephine yn swil fath lygaid oedd gan eneth Gymreig, atebodd Ifor Bowen yn Gymraeg, — "Un llygad glas ac un llygad du,". — a meddyliais na pheidiai'r Llydawiaid a chwerthin.

Pobl o'r wlad oedd pobl y gwesty, wedi dod i'r dref i fyw bymtheng mlynedd yn ol. Yr oedd y merched wedi cael addysg llawer gwell na'r cyffredin, mewn ysgol gedwid gan leianod. Coginio oedd gwaith y gŵr, wrth y stof y ceid ef bob amser. Byddai'r wraig, — hen wraig hardd, a'i llygaid yn dduon dduon, — yn eistedd yn ei ymyl, ac yr oedd yno bob amser, a'i chyngor caredig yn barod. Louise, y ferch hynaf, oedd clerc y tý; Jeanne, yr ail, oedd yn gofalu am y gegin; Francoise, y drydedd, oedd yn cario bwyd i'r bwrdd ar hyd yr hen risiau derw mawr; nis gwn beth oedd gwaith Josephine, os nad gwneud ei gwallt. Yr oedd Francoise yn barod i ddweyd pob peth a wyddai, ac yr oedd ysgwrs â hi yn dweyd cymaint wrthym am fywyd Llydaw ag ysgwrs Owen Tresaint.


"Beth sy'n yr Eglwys yfory?" "Gwasanaeth yr offeren, rhaid i chwi fynd yno. O, mae yn dlws."

"Raid i chwi gyffesu cyn cymuno?"
"O na raid, byddaf yn cymuno bob Sul, ond ni fyddaf yn cyffesu ond unwaith yn y flwyddyn, yn y Pasg."
"Beth? Cyffesu dim ond unwaith am bechodau
blwyddyn?"
"Ie. Ni fyddaf fi ddim yn pechu, byddaf yn codi'n fore ac yn gweithio'n galed bob dydd, byddaf yn ennill fy mwyd heb wneud drwg i neb. A beth fynnwch chwi'n chwaneg?
"Feddyliwn i na raid i chwi ddim cyffesu o gwbl. Pam y byddwch yn gwneud?"
"Wel, tawn i 'n digwydd gwneud rhywbeth, lladrata, fel y darfu'r wraig yn Nhreguier oddiarnoch chwi."
" Beth ddigwyddai yn y gyffesgell?"
"Fe holai'r offeiriad fi, — beth ydyw f'enw, pwy ydwyf, o ba le y dof, beth ydi'm gwaith, pwy ddrwg a wnes.'
"Os byddwch wedi dwyn, a raid i chwi dalu am gyffesu?"
"O na raid, dim ond rhoi'r peth yn ei ol, neu ni chaf fy nghymun."
"Ond beth pe baech yn cyflawni rhyw bechod mawr? Beth, er enghraifft, pe syrthiech mewn cariad?"
"O, 'dydyw hynny ddim yn bechod?"
"Ydyw, ofnadwy. A beth pe baech yn curo'r gŵr?"
"Fel arall y mae hi yn Llydaw, y gwŷr fydd yn curo'r gwragedd. Onid ydyw hynny'n gywilydd? Bydd y gŵr yn yfed brandi a gwin rhudd, ac yn mynd adre i guro'r wraig.Mae pawb yn Llydaw yn meddwi ac yn curo eu gwragedd. Phrioda i byth, gwnes fy meddwl i fyny ers blynyddoedd."
"Fydd yr offeiriad yn curo'r wraig? "
"Na, 'does ganddo fo yr un. Ni chaiff yr offeiriad ddim edrych ar wragedd, i'w hoffi, rhagor eu priodi."
"Fydd yr offeiriaid ddim yn esgymuno'r gwŷr? "
Na fyddant byth. A fuase'r gwŷr ddim yn malio, achos 'does arnynt hwy ddim eisiau cael eu cymun.
"Mae crefydd Llydaw wedi mynd yn rhy wan i effeithio ar fywydau pobl, felly?"
Ydyw, yn wir. Ond y mae gwasanaeth yr offeren yn dlws iawn. Chwi gewch ei weled yfory."


Yr oedd ein hystafell yn un o'r rhai mwyaf cysurus, — gwelyau wedi eu gorchuddio â llenni gwynion, bwrdd a thaclau ysgrifennu, a hen ddodrefn cerfiedig fu'n gwasanaethu llawer oes. Yr oedd y dref fechan yn dawel, ac wrth weled goleuni gwan llusern bell cofiasom am hanes geneth amddifad Lannion," un o'r traddodiadau sy'n dangos ofergoeledd Llydaw ar ei dlysaf.

"Mewn gwesty yn Lannion gwasanaethai morwynig amddifad, a'i henw oedd Perinaic Mignon. Rhowch ini win i'w yfed, dyma'r arian, a rhowch inni rywun i gario llusern i'n goleuo adre'. Pan wedi mynd ychydig o bellter, edrychasant ar y forwynig, a dechreuasant siarad yn isel a'i gilydd. 'Blentyn tlws, mae'th ddannedd a'th groen mor wyn ag ewyn y lli.' Gadewch fi fel yr ydwyf, fel y gwnaeth Duw fi; pe bawn fil tlysach, nid ydyw hynny'n ddim i chwi. Mae'th eiriau'n foneddigaidd blentyn, a fuost yn ysgol y lleianod?' Na, cefais fy meddyliau ar aelwyd fy nhad. Gwell gennyf na'u hanghofio fy nghladdu'n fyw, fy nhaflu i waelod y môr.' "Mae gwraig y gwesty'n disgwyl am ei morwynig, yn disgwyl dan ddau o'r gloch y bore, dwy awr cyn torri'r dydd. 'Cwyd, wyliwr, i achub geneth sy'n marw yn ei gwaed!'
Cafwyd hi wrth groes Ioseff Sant yn farw. Yr oedd ei llusern yn ei hymyl, yn goleuo o hyd.
"Mae dau ddyn ar y crogbren. Bob nos wedi hynny, gwelid llusern fechan a goleu gwan wrth droed croes Ioseff Sant. Cyn hir daeth amser penodedig marw'r eneth, pe na lofruddiesid hi. Aeth y goleu'n fwy, fwy; cymerodd ffurf geneth mewn gwisgo oleuni; lledodd ddwy aden, ac ehedodd i'r nef.'

Y peth sy'n gwneud hen ryddiaith Gymreig yn well anghymharol na rhyddiaith ddiweddar ydyw ei symlrwydd. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng arddull syml, fyw, eglur y Mabinogion ac arddull chwyddedig, afrosgo, anaturiol yr oes hon. Y mae'r bai am y dirywiad wrth ddrws dau ddosbarth o bobl, — y beirdd a phobl y papurau newyddion. Daeth rheolau cynghanedd i fod, ac yr oedd yn rhaid i'r beirdd ddweyd yr hyn oedd ganddynt i'w ddweyd, nid yn eu dull eu hunain, ond yn ol rheol. O hynny allan nid y meddwl sy'n rheoli'r iaith, ond yr iaith sy'n rheoli'r meddwl. A dyna lu o eiriau llanw a beirdd llanw. Ychydig feddai ddigon o athrylith i ddweyd meddyliau swynai'r Cymry yn yr hen amser; ond yn awr gall pob un, — os medd ddigon o hunanoldeb a diffyg synwyr i wneud hynny, ysgrifennu geiriau fel di wad' ar ddiwedd llinell, a'u llenwi i fyny, — 'mad'

"Deuwch oll, Gymry mad,
I wrando arna 'i yn ddi wad."

Gellir cyfansoddi yn y mesurau caethion gyda llai fyth o feddwl. Meddylier fod eisiau begio ambarelo dros hen ŵr. Doder rhyw gynghaneddion i lawr i ddechre, —

dd : s : f : : dd : s : f
b : th : r : : b : th : r
g : ch : r : : g : ch : r

Yna llanwer y gwagleodd â rhyw lythyrennau eraill, fel y ffurfier rhyw eiriau. Ceir clywed y beirniaid yn cyhoeddi fod y llinellau'n ddiwall.

"Ei ddeisyfiad ddwys ufudd,
A'i obeth wir beth er budd,
Gael drwy glod i'w gysgodi,
Geinwych ŵr un gennych chwi."

O ddiffyg enaid y mae'r beirdd yn andwyo llenyddiaeth, o eisiau bara yr ydym ni " bobl y Wasg yn gwneud ein rhan. Rhaid i ni lenwi colofnau hirfeithion, boed gennym rywbeth i'w ddweyd neu beidio. Ona ysgrifennid ein gofidiau ar femrwn! O na bai treth drom ar bapur eto, fel yn y dyddiau gynt.

Y mae llenyddiaeth Ffrengig yn waeth o'r hanner na llenyddiaeth Gymreig, — yn fwy chwyddedig a dichwaeth, yn llawnach o ffug — deimlad a ffug — ddysgeidiaeth. Bu bardd yn Ffrainc yn darllen i mi gân gyfansoddasai i'w enaid, "Ify Enaid" oedd y testun. Y mae buddugoliaeth cwch Ffrengig ar gwch Seisnig, chwe Ffrancwr yn erbyn dau Sais, yn "fuddugoliaeth ogoneddus." Y mae pob tŷ tafarn bach tô brwyn yn "westy mawr ysblenydd," — megis Hotel Fawr y Gath Fach. Y mae tŷ brics newydd ym Minic, yn llawn o arogl calch a phaent. Ceir ynddo ddwy ystafell i eistedd, a thair ystafell wely. Yn yr ystafelloedd bychain hyn y mae dodrefn rhad newydd, — cypyrddau o ddel wedi eu paentio'n felyn, a chlapiau gwydr; llenni gwynion ysgeifn grôt y llath; papur brith coch a du a melyn; a darluniau lliwiedig mawr o frwydr Austerlitz, gorsaf y ffordd haearn, a thứr Eiffel. O flaen yr adeilad y mae goriwaered di — laswellt, wedi ei orchuddio â darnau poteli, yn rhedeg i lawr i fin y môr. Wedi gorffen y tŷ, rhoddwyd darluniad fel hyn ohono yn y papur newydd, —

" BRYN IECHYD, Binic. Palasdy newydd ardderchogar lan y môr. Dodrefn newydd cain a harddwych. Saifar lethr bryn rhamantus a hyfryd. Y mae'r olygfa geirohono'n arddunol i'r eithaf. O'i flaen ymestyn y môryn ei holl anfeidroledd. O mor gain ydyw pan fo'r lloeryn arllwys ei goleuni tyner ariannaidd arno ! Cartrefiechyd a dedwyddwch. Rhent, ugain swllt y mis."

Rhoddir darluniad mewn un Llawlyfr i Deithwyr' o greigiau'r afon Rans, creigiau sy'n rhyw chwe throedfedd o uchter ar gyfartaledd, —

" Ymgyfyd creigiau aruthrol yn hyf tua'r nen.Ar eucopaau blodeua'r eithin yn gain. O mor brydferth! Ogeinder tlws a mawreddol aruthredd cymhlethedig ! Weithiaumeddiennir ni gan ddychryn wrth syllu arnynt, dro arallwylwn mewn cydymdeimlad.Yr hotel oreu yn Ninan yw Hotel y Bendigedigrwydd.Y mae yno gogydd ardderchog. Prisiau rhesymol.'

Hawdd coelio fod yr iaith yn colli ei nerth, pan ddefnyddir ei geiriau cryfaf i ddweyd y pethau mwyaf dibwys. Pe bai'r byd yn dechre llosgi, neu pe doi diluw drosto eto, ni fedrid dweyd wrth Ffrancod beth fyddai'n bod, meddylient fod perigl i nant foddi chwilen, neu i nyth dryw fynd ar dân. Un o'r pethau olaf wyf yn gofio yn Ffrainc ydyw gweled gwas ffordd haearn yn dod at gerbyd lle'r eisteddai Ifor Bowen a minnau a rhyw blentyn, ac yn dweyd, — " Paratowch

eich tocynau, chwi holl drigolion y cydfyd."

IX.

LLYDAWIAID YN ADDOLI.

"Ac mi a glywais lef telynorion yn canu ar eu telynau."
IOAN. Dat. xiv. 2.

YR oedd yn fore Sul tawel fel pe bai'r awyr Iach yn llawn o ysbryd addoli pan oeddym yn dringo i fyny, gyda thyrfa o Lydawiaid, tua hen eglwys drymaidd Lannion. Yr oedd y siopau yng nghauad, ond gwelem res hir o hen wragedd yn eistedd y tu ol i'w nwyddau yn lle'r farchnad; ac er nad oedd ond prin hanner awr wedi saith, yr oedd yno dyrfa o bobl o'r wlad, yn bargeinio'n galed. Arosasom ennyd ar y lle agored sydd o amgylch yr eglwys, i syllu ar bryniau coediog ffrwythlawn y mae Lannion yn eistedd ar eu godrau, ac i edrych ar y bobl yn ymdyrru i fyny. Yr oedd yn gofyn ymdrech i gredu nad yng Nghymru yr oeddym, oherwydd y tawelwch Sabothol, y golygfeydd, a'r wynebau. Yr oedd hen wraig o bobtu i'r drws wrth i ni fyned i mewn, pob un a chragen yn ei llaw, i dderbyn elusen. Yr oedd yr eglwys eang fel pe’n wâg, er cymaint ai iddi. Gwelem Lydawiaid yn addoli, — rhai ar eu sefyll a'u pennau'n grymedig, rhai ar eu gliniau ar y llawr cerrig oer, a rhai ar gadeiriau gwellt. Yr oedd yn well gennym ni y dull diweddaf, ac edrychasom o'n cwmpas am gadeiriau. Gwelem bentwr anferth ohonynt y tu ol i'r drws, a gwraig a dannedd melynion, pell oddiwrth ei gilydd, fel Gwrach y Rhibyn, yn eu gwylio. Trwy dalu dime, cawsom gadair a phenlinio'n esmwyth. Gellir penlinio'n esmwyth ymhob gwlad, trwy dalu. Wedi cael cadair, ceir esgus hefyd i edrych o gwmpas, heb i neb fedru ameu nad ydyw meddwl yr hwn edrycho yn gyfangwbl ar addoli. Wrth eistedd y mae'r gadair o'n hol, wrth benlinio y mae o'n blaen; ac wrth newid o ystum gweddio i ystum canu, beth sy'n fwy naturiol na thaflu golwg ar ein cydaddolwyr? Gyda fod y gloch wyth yn tewi, clywem sŵn clocs lawer ar y llawr cerrig, a buan y llanwyd yr eglwys gan ferched, gydag ychydig ddynion wrth y drysau. Yr oedd pawb yn ymgroesi'n ddefosiynol wrth ddod i mewn, a gwelsom un hen wraig gam lawgauad, — yr oeddym wedi clywed ei sŵn yn bargeinio yn y farchnad, — yn rhoi ei basged i lawr, yn tynnu potel o'i phoced, yn llenwi'r botel â dwfr swyn, ac yn troi i ffwrdd cyn clywed gair o'r gwasanaeth. Dyletswydd deuluaidd ei thŷ fyddai gwneud i bawb roddi ei fys yn y botel, a gwneud arwydd y groes â'r dwfr.

Yr oedd pawb yn ddistaw pan ddechreuodd offeiriad fwmian gwasanaeth yr offeren yn Ffrancaeg, fel cacynen mewn bys coch. Yr oedd golwg darawiadol ar y dyrfa o wragedd mewn capiau gwynion, ac ambell i het Ffrengig goch yn eu canol, fel blodyn y gŵr drwg mewn cae o lygaid y dydd. Dyfnhaodd y distawrwydd pan oedd yr offeiriad yn cymuno, nid oedd dim i'w glywed, — yr oedd hyd yn oed yr awel fel pe wedi distewi, — ond tinc ariannaidd y gloch genid gan fachgennyn wrth droed yr allor. Wedi i'r offeiriad yfed o'r gwin, a thra'r oedd yn dweyd ei fod yn ymgysegru o'r newydd i Grist a'i groes, yr oedd dyn mawr yn cario plat alcan trwy'r eglwys, ac yn swnio'r ychydig ddimeuau oedd arno, i alw sylw. Y bobl dlotaf oedd yn taflu eu dimeuau — rhai heb feddu dime i gael cadair. Cofiwn, wrth eu gweled, mai à dimeuau fel hyn, — dimeuau cymun Llanddowror, — y cychwynwyd bywyd newydd ein hen wlad ni.

Rhaid cyfaddef ein bod ni wedi edrych llawer o'n cwmpas, ac yr oedd Llydawiaid yn rhyfeddu atom. Gwelsom ddwy o ferched ein gwesty ymysg y lliaws. Yr oedd Sian yng ngwisg lednais syml y Llydawesau, — cap gwyn a shawl ddu. Ond yr oedd Josephine wedi ymdrimio yn null balch y Ffrancod, — het wellt tawr a blodau ffamgoch arni, ambarelo'n garn i gyd, côt fach dwt, a byclau arian ar ei hesgidiau. Yr oedd Sian yn addoli'r offeren, ac yr oedd Josephine yn addoli santes sêth hoywgorff, gariai ambarelo diddefnydd, ac a wisgai gôt fach dwt, ac esgidiau byclau arian. Prin yr oedd y weddi olaf drosodd cyn i'r bobl ddechre dylifo tua'r drws. Gwelais Josephine yn mynd yn eu canol, fel blodyn coch ar genlli gwyn, a gwelais Sian ar ei gliniau gyda'r ychydig oedd wedi aros ar ol i dderbyn eu cymun o law'r offeiriad.

Llawer Llydawr a'n hysbysodd ei bod yn "amser Mad" wrth i ni fyned i lawr o'r eglwys tua Gwesty'r Cydfyd. "Yr oedd pawb welem yn berffaith heddychlon a dedwydd y bore Sul tyner hwnnw, oddigerth dyn dall ymhyrddai trwy'r bobl tua phorth yr eglwys, wedi methu codi'n ddigon bore i gymeryd ei le gyda'r ddwy ddynes i fegio, ac wedi colli'r dod allan yn gystal a'r mynd i mewn.

Cyn deg yr oeddym yn dringo tua'r eglwys eilwaith, i glywed canu gwasanaeth yr offeren. Yr oedd y dyrfa'n lliosocach, sŵn y clychau'n ddyfnach a melusach, ac wedi mynd i fewn gwelem fod hen offeiriad penwyn urddasol wedi cymeryd lle'r offeiriad bach llais main. Dan lofft yr organ yr oedd plant yr ysgolion, mewn dillad gweddus, a'r lleianod yn gofalu amdanynt. Nid wyf fi'n credu mewn rhoi'r plant gyda'i gilydd wrth addoli, yn y sêt deuluaidd y dylai'r plentyn fod, dylai deimlo fod ei deulu'n addoli, ac y bydd bwlch yn hen deulu'r set os crwydra byth oddiar y llwybrau gwerthfawr drud.

Ond dyna lais yr offeiriad. Y mae'n felodaidd odiaeth, tinc Dolyddelen i'r dim, —

"Judica me, Deus, et discerne causam meam de gente non sancta; ab homine iniquo et doloso erue me."

(" Barn fi, o Dduw, a dadleu fy nadl yn erbyn y genhedlaeth anhrugarog; rhag y dyn twyllodrus ac anghyfiawn, gwared fi." Ps. xliii. l.)

Ni ddylwn ddweyd fod yn bosibl torri cymeriad adnod, ond ni fedraf fi hoffi'r adnod hon byth. Ni fu erioed bobl fwy diniwed a chariadus na Waldensiaid Merindol, ac ni welodd y nefoedd, er cymaint wel, gyflafan mor anhrugarog a'r gyflafan welodd pan ymosododd y Baron D'Oppede, gyda gwehilion milwyr pob gwlad, ar y bobl heddychlon hyn. Pan gododd yr anghenfil hwn yn senedd Paris i gyfiawnhau gweithredoedd na all yr hanesydd oeraf eu hadrodd heb deimlo ei waed yn berwi, y geiriau cyntaf ddywedodd oedd, — " Judica me, Deus, et discerne causam meam de gente non sancta."

O'r braidd na ddychmygwn weled y wyneb erchyll hwnnw, a'r geiriau sanctaidd yn ymhalogi ar ei wefusau rhyfygus, ymysg y wynebau Llydewig yn canu ymlaen, —

"Canys ti yw Duw fy nerth, paham y'm bwri ymaith?

Paham yr af yn alarus trwy orthrymder y gelyn?"

Yr oedd cryndod erfyniad yn llais yr offeiriad wrth waeddi'r adnod nesaf,

"Anfon dy oleuni a'th wirionedd, tywysant hwy fi,

ac arweiniant fi i fynydd dy sancteiddrwydd, ac i'th bebyll,"

ac yr oedd calon y bobl mewn hwyl wrth ateb, —

Minne drof at allor fy Nuw,

At y Duw lawenycha'm hieuenctid."

Yr oedd ysbryd eu haddoliad wedi gwefreiddio'r bobl tra canai'r offeiriad, fel o galon lawn llawenydd, —

"Mi a gyffesaf it ar y delyn, O Dduw, fy Nuw; paham

yr wyt drist, fy enaid, a phaham y terfysgi ynnof?"

Yr oedd rhith crefydd yma, heb ei grym; ei llawenydd, heb ei dylanwad ar fywyd; yr oedd gorchudd ar bethau mawrion Duw; a chyda gweddi'r Llydawiaid, esgynnai gweddi dieithriaid, — perthynasau ar ymweliad, —

Dychwel, Arglwydd, i'r addoliad gwag, er mwyn dy

weision, llwythau dy etifeddiaeth."

Tybiwn fod y weddi wedi ei hateb, yr oedd rhyw Bresenoldeb yn yr addoliad hwn. Yr oedd y bobl yn gwyro fel gwair yn y gwynt, dan ryw ddylanwad. Sŵn ydyw canu, ac eto wele'r bobl yn cyhwfan o'i flaen fel pe bai awel. Y mae'r offeiriaid yn cychwyn o'r allor, ac yn cerdded yn araf drwy gorff yr eglwys, dan ganu. Yr oedd yno un offeiriad tal, a wyneb hardd meddylgar, ac yr oedd wynebau tewion daearol y lleill fel pe wedi eu gweddnewid. Yr oedd eu lleisiau ardderchog yn crynnu ac yn ymdonni mewn hwyl orfoleddus; a phan ddistawent hwy, canai'r organ dôn bruddglwyfus, fel adlais eu cân. Wrth glywed y "Gloria in excelsis," treiwn anghofio'r geiriau, tybiwn glywed torf Gymreig yn canu Tanycastell, teimlwn fod yn rhaid i mi naill ai gorfoleddu neu wneud peth arall na fedrais ei wneud erioed, rhoi ymarllwysiad i'm teimlad mewn cân, —

Yn y dyffryn tywyll garw
Ffydd i'r lan a'u daliodd hwy,
Mae'r addewid rad i minnau,
Pam yr ofna'm henaid mwy?"

Tybiwn fy mod yng nghanol tyrfa Gymreig pan fyddo'n teimlo, yng ngwres un o emynnau Ann Griffiths, fod y nefoedd yn wên i gyd, a iachawdwriaeth ar ei wynebpryd. Beth achosodd y cynhyrfiad hwn, wnai i bobl Lannion anghofio eu hunain mewn addoliad y bore Sul hwnnw? Hwyl yr offeren, dyna oedd. A dyna ydyw hanes yr hwyl Gymreig, — yr offeren wedi ei dwyn i'r awyr agored, ac wedi ei defnyddio i wasanaethu Crist yn hen symlrwydd ei efengyl. Y mae rhyw gyffyrddiad rhyfedd rhwng Calfiniaeth a Phabyddiaeth, y mae yr efengylwr Calfinaidd, wedi traethu gwirioneddau sy'n ddinistriol i gredo Eglwys Rhufen, yn rhoi tinc ar ddiwedd ei bregeth sy'n adlais o hen addoliad yr eglwys honno. Y mae atgofion am yr hen grefydd y bu Cymru'n ymhyfrydu ynddi, — fel yr ymhyfryda Llydaw'n awr, eto'n tyneru a phrydferthu ei haddoliad gwell, addoliad sy'n meddu symlder a difrifwch rhai'n ymwneud a gwirioneddau tragwyddol. Y mae addoliad Pabyddol yn dlws a mawreddog, ond eto teimlwn mai drwy hud a lledrith yr oedd yr offeiriad yn effeithio ar y bobl. Y goleu crynedig, y canhwyllau, perarogl yr aberth, ysgogiadau araf y thuser, y gwisgoedd gorwych, y canu swynol, — hyn oll wnaeth i'r bobl ymgrymu fel pe i'r gwirionedd ei hun. Wrth weled y bobl yng ngorfoledd addoliad, meddyliais am ennyd fy mod yn gweled achos arall. Dychmygwn weled yr offeiriaid a'u gwisgoedd yn diflannu o'r allor, a gwelwn yn eu lle offeiriad Pabaidd wedi ei aileni a'i sancteiddio. Daeth ei wedd yn eglurach eglurach, a Joseph Thomas oedd. Gwelwn ynddo gyfuniad o bethau goreu Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth, — swyn y naill a gwirionedd y llall; adnabyddiaeth y naill o holl droeon y galon ddynol, ac adnabyddiaeth y llall o feddwl Duw am bechadur; cydymdeimlad y naiil â dioddef, a llymder y llall at bechod; apeliai at deimladau'r galon, fel Pabydd, ac fel Protestant apeliai at y deall. Gallaswn dyngu y clywn ei lais yn darlunio Juda'n ymbilio dros Fenjamin, —

" Gad iddo fo fynd, 'rydw i wedi mynd i gyfamod a ’nhad y daw o'n ol; gad iddo fo fynd, 'feder yr hen ŵr fy nhad ddim byw hebddo fo; gad iddo fo fynd, mi af fi i'r carchar yn ei le."

Gallaswn dyngu fod y dyrfa'n dal ei hanadl wrth ei wrando'n darlunio porth y cenhedloedd, ac yn dychmygu clywed Iesu'n dweyd, — "Rhaid i mi farw, MAE'R CENHEDLOEDD YN GWASGU AR Y GIAT." Pa aberthu, pa ganu, pa ddarluniau fedrai wneud yn Aberth mor fyw a hyn?

"Felly deda inne;" — ond y mae llaw Ifor Bowen ar fy ysgwydd, a'i lais yn fy nghlust, — " Wyt ti ddim wedi synnu? Mae hyn fel cymun yng Nghymru. Gwrando, dene dôn fel St. John yn union." Ac ar hynny, dechreuodd fwmian canu gyda hwy,

"Ai Iesu mawr, ffrind dynol ryw,
A wela'i fry, a'i gnawd yn friw,
A'i waed yn lliwio'r lle;
Fel gŵr di bris yn rhwym ar bren,
A'i waed yn. dorthau ar ei ben?
Ie, f'enaid, dyma fe."


Ymgodai ambell i lais melys uwchlaw'r lleill, ac yr oedd teimlad yn troi chwyrniad y rhai ganent trwy eu trwyn yn fiwsig. Yr oedd yr ofîeiriaid fel pe wedi eu gorchfygu gan deimlad, ac unai'r bobl yn eu cân, gyda lleisiau isel esmwyth. Crwydrodd fy meddwl i wedyn, a phenderfjmais gofio rhai pethau y teimlwn eu gwirionedd. Yr wyf wedi bod jn meddwl am danynt ar ol hynny, ac yr wyf yn sicr eu bod yn wir.

Yn un peth, y mae addoliad Anghydffurfiol Cymru wedi cadw popeth gwerth ei gadw o hynodion Pabyddiaeth. Ar Galfiniaeth Cymru gwelir gwawr ei hen Babyddiaeth; ceir pregethau llymion Geneva, a chanu gorfoleddus Rhufen. Yr oedd y Diwygiad Protestanaidd ynddo ei hun yn rhy oer i Gymru, ni fynnid mo hono hyd nes i'r emynwyr ei gynhesu a'i dyneru. Ond wedi dyddiau Williams ac Ann Griffiths, y mae Anghydffurfiaeth Cymru'n rhywbeth gwell a chyfoethocach na Phrotestaniaeth noeth, y mae wedi ennill yn. ol bethau goreu yr hen grefydd hefyd. Medd y Beibl, — peth goreu Protestaniaeth; medd yr emynnau, — peth goreu Eglwys Rufen. Yr emynnau sicrhaodd grefydd Cymru; oni bai am Williams ac Ann Griffiths, ni chofiesid yn ein dyddiau ni am Rowlands Llangeitho a John Elias.

Yn ail, nid ydyw yr Uchel Eglwysyddiaeth y gwahoddwyd fi i'w weled mewn amryw fannau yn Lloegr yn ddynwarediad gwirioneddol o Babyddiaeth. Chware Pabyddiaeth ydyw, a chware dienaid iawn. Wrth weled addoliad Pabyddol, teimlwn ei fawredd, a thristawn wrth gofio nad ydyw'n dysgu i'r bobl feddwl; wrth weled addoliad Uchel Eglwysig, ni allwn lai na theimlo ein bod yn edrych ar ddynion yn gwneud gwaith plant, — chware, mewn tŷ teganau, y peth welsant ddynion yn ei wneud mewn tai. Nid rhyfedd fod Eglwyswyr yn cael digon ar chware, ac yn mynd drosodd yn lluoedd i Eglwys Rufen. Nid ydyw Eglwys Loegr yn lle i orffwys ynddi, saif ar hanner y ffordd rhwng Rhufen a Chalfiniaeth, — ni fedd ei haddoliad fawredd y naill na meddylgarwch y llall.

Yn drydydd, mae'n anodd proffwydo pryd y derbyn y Llydawiaid grefydd Cymru. Nid ydyw Llydaw yn yr un cyflwr ag yr oedd Cymru ynddo'n union cyn y Diwygiad. Nid ydyw offeiriaid Llydaw'n segur, y mae'r Chwyldroad wedi eu gwneud yn effro iawn; nid gwasanaeth llygoer Eglwys Loegr sydd yn Llydaw, ond gwasanaeth sydd wrth fodd y Celt; a mwy na'r cwbl, nid ydyw Ffrainc yn gadael Llydaw iddi ei hun, fel y gadawodd Lloegr Gymru, y mae ymdrechion diderfyn yn cael eu gwneud i Ffranceiddio Llydaw, — gwneud y Llydawiaid yn feilchion, yn ddiddym, ac yn anffyddol. Ond, o'r ochr arall, y mae dylanwad yr offeiriaid yn darfod; y mae Protestaniaeth Cymru wrth fodd y Llydawiaid; a hwyrach fod digon o gadernid yn yr ysbryd Llydewig, — pe'r atgyfodai, — i wrthod gwareiddiad' arwynebol gwan Ffrainc, ac i syrthio'n ol ar hen ysbryd crefyddol a meddylgar y Llydawiaid eu hunain.

Pe cydiai Cymru yn llaw Llydaw, medrai ei harwain hyd ei llwybrau ei hun. A pha beth bynnag gaffai Llydaw o hynny, cai Cymru fil mwy. Dywedir fod gwylio ei blant yn tyfu yn rhoddi llawenydd ieuenctid drachefn i'r tad, teimla ei fod yn ieuanc gyda hwy. Pe dysgai Cymru Lydaw i gerdded ffyrdd yr Arglwydd, adnewyddai ei hieuenctid ei hun wrth wneud hynny, profai drachefn o lawenydd iachawdwriaeth yr hen ddiwygiadau. Ond henaint sicr i Gymru fydd anghofio Llydaw. "Pan ddychwelo Sodom a'i merched i'w hen gyflwr, yna tithau a'th ferched a ddychwelwch i'ch hen gyflwr; canys nid cedd mo'r son am Sodom

dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchter."

X.

EGLWYS AR FRYN.

YR oedd Sian a Francoise yn ein disgwyl o'r eglwys, a dechreuasant ein holi ar draws ei gilydd.

"Sut yr oeddych yn leicio'r gwasanaeth?"
"Yr oedd yn darawiadol iawn, ac yn bur brydferth."
"A oeddych yn ei ddeall?"
"Nag oeddwn i, Lladin oedd."
"A fedrwch chwi ddarllen? "
"Medraf ddarllen Ffrancaeg, a siarad Llydaweg, ond ni fedraf ddim Lladin na Saesneg."
"Fedrwch chwi ddim darllen Llydaweg?"
"Na, 'does neb bron yn medru darllen Llydaweg, ond y mae pawb yn Lannion yn ei deall. Darllennwch chwi'r llyfr Llydaweg yna, mi ddywedaf finne beth ydyw yn Ffrancaeg. 'Does neb yn dysgu Llydaweg yn yr ysgolion, dim ond Ffrancaeg."
"Pwy sy'n dysgu'r Beibl i chwi?"
"O, gyda lleianod y bum i, yn Roche Darrien. Mi wn i lawer o'r Beibl. Mi wn enwau plant Jacob, ac enwau brenhinoedd Juda, a hanes Dafydd, a hanes dyn y gwallt hir, — beth oedd ei enw hefyd? — Absalom, a llawer o bethau eraill."
"Wyddoch chwi hanes y proffwydi?"
"Na wn, ddim. Ond mi wn hanes brenhinoedd Ffrainc."
"Wyddoch chwi hanes Llydaw?"
"Na wn, ddim."
"Fydd yr offeiriaid ddim yn pregethu i chwi am y proffwydi ac am yr efengylwyr?"
" Yr offeiriaid ! Na fyddant hwy, 'does arnynt hwy ddim ond eisiau arian. Arian am bob peth. Os bydd eisiau bedyddio plentyn, pymtheg swllt. Os bydd eisiau claddu'r marw, tri chan swllt. Ac fel y talech chwi, felly caech eich claddu. Ac os bydd arnoch eisiau gweddïo dros eich perthynasau i'w cael o'r purdan, talu am hynny. O, mae'r offeiriaid yn gyfoethog iawn."
"Faint sydd ohonynt yn Lannion?"
"Mae llawer iawn, dros gant. Mae ugain yn yr eglwys y buoch chwi ynddi'n unig. Mae Lannion yn lle ceidwadol iawn, a brenhinol, am fod cymaint o bendefigion yn byw oddiamgylch, ac y mae yr offeiriaid a'r boneddigion yn cyd - fynd bob amser."
"A ydyw gwerin bobl Lannion ar delerau da â'r offeiriaid? "
" Yn y dref 'dydi'r bobl yn hidio fawr amdanynt, ond y mae pobl y wlad yn credu ynddynt eto, byddant yn cario popeth iddynt; gwin, osia, tatws, gwenith, ffrwythau, popeth. Mae'n gywilydd fod pobl sy'n gweithio dim yn cael cymaint o bethau."
"A oes yma ddim Protestaniaid?"
Oes, ddau deulu. Swisiaid ydynt, a daeth pregethwr i aros gyda hwynt unwaith. Pregethodd, ac aeth pawb, pawb, i'w glywed. Ac yr oedd o 'n pregethu'n dda. Ond yr oedd yn dweyd nad oes eisiau cyffesu. Fyddwch chwi'n cyffesu?"
"Byddwn."
"I bwy? I'r bugail Calfinaidd? "
"Nage, i Dduw."
"O, mae hynny'n llawer gwell."

Teimlai Sian mai trwy rywun yr oedd hi'n mynd at Dduw. Rhedodd ymaith, a daeth a Josephine gyda hi'n ol. Yr oedd Josephine yn hoffach o holi na Sian, a nyni oedd yn gorfod ateb. Pan glywsant nad oedd gan y Protestaniaid ond nefoedd ac uffern, heb yr un purdan, yr oeddynt yn meddwl fod hynny'n well o lawer. Teimlem eu bod yn credu nad oedd y gwirionedd ganddynt hwy, eu bod wedi colli eu ffydd yn eu hoffeiriaid, a'u bod yn barod i grefydd arall.

Ar ol cinio aethom i fyny'r bryn o Lannion i eglwys Brelevenez, a chawsom olygfeydd prydferth cyn cael ein hunain ar y platfform uchel y saif yr hen eglwys arno, gyda'i thŵr ysgwar a'i ffenestri Normanaidd hirion. Yr oeddym yno ymhell cyn dechre, a rhoisom dro drwy'r fynwent sydd o amgylch yr eglwys i ddarllen yr enwau sydd ar y beddau. Gwelsom fedd plentyn Seisnig fu farw yma, a charreg gof i ryw Gabrielle le Yaudet, un o Lannion, fu farw yn "ei lleiandy yng Nghaersalem," wyth mlynedd yn ol. Yng Nghymru darlunir gwragedd ar gerrig beddau fel gwraig hwn a hwn," yn Llydaw darlunir y gwŷr fel 'gŵr hon a hon." Gwelsom lle gorwedd corff Yues Tyneve (Owen Tynewydd), gŵr Miriamme Bruv," yn ogystal ag "Isabella Yvonne Euen, gwraig Yues Person." Ni waeth pa mor bwysig oedd dyn, boed glochydd neu faer, gofelir dweyd pwy oedd ei wraig, — "Louis Brevet, clochydd Brelevenez, a gŵr Perrine Guegon"; "Joseph L'Hévède, maer Camlez, gweddw Marie Gabec; " "Isabella Piriou, gweddw Louis Ruic, a gwraig Jean Morvan." Gwelsom fedd syml un dyn y tybiai Ifor Bowen ei fod yn ddyn dedwydd, — "Jean Guyomar, hen lanc."

Eisteddasom ar wal y fynwent tan darawai'r cloc ddau, yr oedd yno gysgod coed ac awel, tra'r oedd pobl Lannion odditanom ymron deddfu gan y gwres. Clywem sŵn esgidiau pren y Llydawiaid yn dod i fyny'r grisiau cerrig, ac wrth edrych i lawr gwelem gapiau gwynion y merched a choryn hetiau'r dynion. Y mae cantel het Lydewig mor fawr, fel na welem, oddiuchod, ddim ond y hi, er y gwyddem fod dyn dani. Wedi cyrraedd, eisteddai'r dynion, yn ieuanc ac yn hen, ar fur y fynwent, i orffwys ac i weled y lleill yn tynnu i fyny. Aethom i'r eglwys, wedi gwrthod prynnu ffrwythau gan hen wraig oedd yn eu gwerthu wrth y drws, a chawsom hamdden i edrych o'n cwmpas cyn i'r gwasanaeth ddechre. Rhwng y bwau cerrig diaddurn gwelem aml rodd i sant yr eglwys, — llong gan ryw forwr fu mewn enbydrwydd ar y môr, blodeuglwm gan rywun gafodd waredigaeth ar dir, — a rhwng y colofnau yr oedd darluniau mawrion o olygfa ddwyreiniol, ond nid oedd yn eu mysg ddarlun i'w gymharu â'r olygfa welem drwy'r drws. Rhwng coesau merhelyg gwelem Lannion yn gorwedd yn dawel ar y gwastadedd odditanom, a'r haul poeth ar ei hystrydoedd, ond yr oedd yn oer hyfryd y tu fewn i furiau trwchus yr eglwys. Yr oedd corff yr eglwys yn llawn o ferched, yn gorffwys ac yn gweddio ar ol llafur caled yr wythnos, torri cerrig a medi a dyrnu. Cyn hir dechreuodd y dynion ddylifo i mewn, ac yr oedd galw mawr ar y dwfr santaidd. Yr oedd pawb wedi ymdawelu pan ddechreuodd y gwasanaeth, ac edrychasom oll tua'r allor. Gwelem y pulpud pren cerfiedig a'r capeli o farmor coch a gwyn ; y côr prydferth a darlun o Fair ynddo, yng ngwisg merched ffasiynol amser balch Louis XVI.; y canhwyllau cwyr meinion hirion, o bob lliw, a goleu bychan coch ar bob un, fel pe baent gynifer o flodau'r haul. Yr oedd gwisg yr offeiriad yn arddunol i'r eithaf, — sidan gwyn ac ymyl aur, a choron emog ar ei gefn; yr oedd gwisg bechgyn y côr o sidan glas, a surcot ridyllog wen arni. Darllennai'r offeiriad â llais crynedig, a gallwn feddwl yn hawdd, oni bai am y dillad gorwych, mai hen Gymro oedd. Arweinid y gân gan ddyn a basûn enfawr, a rhyfedd y sûn fedrai mor ychydig o fechgyn gadw. Wedi'r gwasanaeth, yr hwn oedd yn wir darawiadol drwyddo, aethant allan yn rhes, — yr hen offeiriad crand, offeiriad ieuanc, a'i gnawd fel siglen dongen, dyn y casgliad, dyn y basûn, a'r bechgyn gleision. Rhuthrodd y dynion allan, ond arhosodd y gwragedd ar ol. Ymhen hanner awr edrychasom i mewn, ac yr oedd llawer ohonynt yn aros yno.

Pan ddaethom i lawr i'r dre, gwelsom fod y prif heolydd yn llawn, oherwydd yr oedd y dydd yn ddydd gwyl Ann Santes. Yng nghanol tyrfa ger y bont, gwelem y dyn dall oedd yn begio wrth ddrws yr eglwys y bore. Yr oedd yn canu baledi'n awr; ac yr oedd dyn meddw, a thrwyn mawr cam, a cheg fel bwcwl esgid, yn ceisio dal y gragen iddo. Fel hyn y mae o hyd, — yr offeiriaid wrth ben eu digon, a'r gler ar newynu. Pawb at y peth y bo, yr offeiriaid i ddiolch am dynerwch Rhagluniaeth, a'r clerfardd sychedig i ganmol yr hwn fedd win a chalon hael. Ni fedrwn ddeall y gân, oddigerth ambell air. Ond yr oedd tyrfa astud yn ei deall yn iawn, ac yn ei mwynhau fel y byddai Cymry'r ffeiriau'n mwynhau cerddi Jac Glan y Gors. Y mae het y Llydawiaid yn union fel het person, neu het ambell sprigin o bregethwr heb basio arholiad y Cyfarfod Misol; a golygfa digon rhyfedd oedd gweled cynulleidfa o bobl dan y fath hetiau yn gwrando'n geg agored ar faledwr pen ffair Nid oedd gennyf fi fawr o ffansi o'r baledwr ymgrymai i'r saint wrth yr eglwys ac a roddai ei fys ar ei gap i'r lleill wrth y bont, — nid hoff gennyf bobl fo’n goleuo'r ddau ben i'w canwyll, ond cwynwn er hynny na fedrwn ddeall ei gân. I fy nghysuro, canodd Josephine gân hiraeth hen Lydawr am ei wlad, a gadawodd i mi ei hysgrifennu. Dygais hi adre, a chyfieithwyd hi gan gyfaill i mi. Ystyrir ef yn fardd gan ferched ieuainc ei ardal, y mae wedi ennill droeon mewn cyfarfodydd llenyddol, a dywedodd y beirniad craff Ap Sebon unwaith y gellir bardd o honaw. Dyma'r gân, —

Hen gastell fy nhad, man crud fy mabandod,
Nyth tawel fy mebyd a fuost i mi,
Ymhell oddiwrthyt heneiddiais, yng nghryndod
Fy henaint rwy' heddyw yn canu i ti.

Daw atgof am danat fel llais pell obeithion,
Clywaf furmur dy ddyfroedd a su dy awelon,
Clywaf adlais yr adar o'th ddwfn goedydd duon,
Wrth nythu y gwanwyn yn dy dawel gysgodion.
A theimlaf d’unigedd yn gordoi fy ysbryd,
Unigedd rydd heddwch ac anghof o'm blinfyd.

Yng nghanol y ddawns, lle mae gwisgoedd yn disgleirio,
Gan emau tryloywon fel mellt wrth fynd heibio,
Lle teifi y coronau ar lygaid llawn cariad
Eu heuraidd gysgodion, — daw meddyliau am danad.

Wrth weled brenhines y ddawns yn ei thlysni,
Daw meddyliau am flodyn sy'n harddach na hi,
Lili aur Llydaw, mae hon yn teyrnasu
Ar flodau'r mynyddoedd, cyfoedion i mi.

Dychmygaf fod eto ar fryniau f’hen Lydaw
Yn casglu y gwinwydd yn blentyn fel cynt,
Ymysg fy nghyfoedion rwy'n gwrando hen alaw,
Yn dawnsio'n ysgafn — droed a'm gwallt yn y gwynt.

Mae'm traed yn cyflymu drwy'r glaswellt aroglus,
Drwy liliau tal eurfron, drwy lygaid y dydd;
Anghofiais fy henaint, a’m hofnau pryderus,
Mae f’enaid yn Llydaw! Mae f’enaid yn rhydd !


Nid wyf yn hoffi rhyfeddnodau. Gwn am ŵr doeth fydd yn osgoi pob cân a brawddeg lle y gwel ryfeddnodau ar eu diwedd. Ond Ap Sebon ei hun a’u dododd yn y gân hon, ac ni feiddiaf fi osod bysedd anghysegredig arnynt, na’u halogi ag ysgrifbin nad ysgrifennodd i Eisteddfod erioed. Y maent yn y gwreiddiol hefyd, ond nid yw hynny goel yn y byd, gan fod caneuon Ffrengig mor llawn o ryfeddnodau ag ydyw dôl o

lygaid y dydd ym mis Mehefin.

XI.

MIN NOS SABOTH.

"C'est l'heure ou les enfants parlent avec les anges." —

VICTOR HUGO.

YR oedd addoliad Ann Santes wedi troi'n ffair wyllt — y plant wedi gadael allor y santes, ac yn sefyll, gyda'r defosiwn eto ar eu hwynebau, o flaen stondin fferins; y dynion yn pigo eu crymanau, a rhai ohonynt yn sefyll yn bur ansefydlog wrth wneud hynny, ac yn gwenu gwên lydan fel adlewyrch cwpanaid o win coch; y begeriaid yn bendithio'r gwragedd roddent ddimeuau yn eu dwylaw, ac yn tywallt melltithion ar y plant roddent iddynt ddyrnaid o gerrig eirin.

Nid mewn lle fel hyn y medrem ddisgwyl tawelwch nos Sul. Cerddasom i fyny ffordd hir Molaix, ar hyd bryn gweddol serth, ac yn bur fuan yr oeddym yn unigedd gwlad ffrwythlawn dlos. Nid oedd ond ambell fôd dynol i'w weled, yr oedd pawb yn Lannion yn cadw gwyl. Dywedodd hen berson plwy' doeth wrthyf unwaith fod adeg Sasiwn y Bala yn amser wrth ei fodd, — "bydd pawb yno," meddai, ond y bobl oreu gen i." Y llynedd cymerodd lleidr fantais ar absenoldeb y bobl, ac yr oedd llestri arian y persondy'n rhan o'r ysbail

Byth er hynny y mae'r person plwy yn cadw'i lygad ar y bobl oreu genno fo.

Wrth deithio ymlaen hyd y ffordd union, gwelem wraig unig yn sefyll, a buwch fraith yn pori gerllaw. Cyn hir gwelem fod llinyn rhyngddynt. Dynes ganol oed oedd y ddynes, deneu a gwelw, yn dechre crymu cyn ei hamser. Y mae ei hwyneb yn rhy brudd a gwasgedig i fod yn brydferth, — na, daw gwên drosto, .y mae'n brydferth iawn. Wyneb meddylgar ydyw, yn dweyd hanes bywyd o weithio a phryderu dros eraill. Y mae ei dillad yn wael, nid iddi ei hun y mae wedi byw; y mae ei hwyneb yn dyner a phrydferth, — nid am dani ei hun y mae wedi meddwl. Gofynnais iddi yn Ffrancaeg pwy oedd. Ysgydwodd ei phen, ond gyda gwên garedig ar ei hwyneb. Yna treiais Gymraeg, gan gyfeirio at y 'fuwch, dafad,' 'caseg,' a dweyd ei bod yn 'Sul braf.' Dechreuodd hithau lefaru ar unwaith, gwyddwn fod ganddi galon lawn, ac yr oedd yn cymeryd diddordeb ynnom. Dywedasom ein bod wedi dod o'r gogledd, dros y môr. Yr oedd ganddi hithau frawd ym Mhen Pwl, tybed a oeddym yn ei adnabod? Clywais hen wraig yng Nghymru'n gofyn i un oedd newydd ddod o'r Amerig, — "y mae gen inne fachgen yn Sir Benfro, tybed na welsoch chwi o?" Daeth gwên dynerach nag o'r blaen dros wyneb y Llydawes wrth sôn am ei brawd, cofiai am lawenydd a dioddef ieuenctid. Byddaf yn meddwl fod merched yn dioddef mwy na dynion dros eraill, mae'n haws ganddynt aberthu, ymhyfrydant wrth deimlo eu bod yn dioddef dros rai a garant. Pe gwelsem y brawd ym Mhen Pwl, y mae arnaf ofn nad oedd ei chwaer gymaint yn ei feddwl ag oedd ef yn ei meddwl hi. Dyna fuasai nefoedd hon, nid gwlad lawn o seintiau ac offeiriaid a merthyron, ond gwlad lle mae'r rhieni byth yn ieuanc, a'r plant byth yn fach.*

Wrth deithio ymlaen, daethom at dŷ newydd rhyw ddegllath o'r ffordd. Gwelem hen ŵr yn camu dros y rhiniog, ac arosasom ef. Yr oedd yn fyr a cham, ac yn hobian, ond heb ffon; gwisgai het wellt ac esgidiau pren, ac yr oedd ei gôt laes yn cyffwrdd â'i arrau. Yr oedd gwên roglyd ar ei wyneb, a thybaco nid ychydig yng nghil ei foch.

(* Le paradis, ce serait les parents toujours jeunes et les enfants toujours petits." — Victor Hugo.)


"A fedrwch chwi siarad Gallec?"
" Na."
"Mae gennych dŷ newydd braf."
"ia, ia, ty nefe braw."
" Dacw foch gwyn.
"ia, moch gwyn."
"Dacw ddeunydd gwin gwyn ar fur y tŷ."
"ia, gwin gwyn.
"Gwin rhudd ydi'r gore.

"ia," gyda gwên dyn yn teimlo ei fod yn dweyd gwir wrth ei fodd, "ia, gwin felli sy'i efed."

Synnwn ein bod yn deall ein gilydd mor dda, a thynnais lyfr allan i ysgrifennu'r brawddegau. Erbyn i mi godi fy mhen, yr oedd yr hen dderyn wedi dychrynnu, a gwelwn ef yn hobian ymaith, a'i ddwy law ar gefn ei gôt laes.

Daethom at dalcen tŷ tafarn bychan a chlywem gyfri yn yr ardd, — "unan, daou, tri, pefer, pemp, whech, seis, eeis, nao, dec." Rhois fy mhen dros y gwrych, a gwelwn tua dwsin o bobl yn chware. Pan welais gyfle, treiais dynnu ysgwrs, —

"Whare?"
"ia, whare bwlw."
"Whare am arian?"
"ia, ia, am arian."

Bachgen ieuanc tal lluniaidd oedd yn siarad â mi, morwr yn perthyn i'r llynges Ffrengig. Yr oedd wedi bod yn Aber Tawe, yn Fenis, ac yn China, lle y clwyfwyd ef, ac yr oedd wedi cael tri mis o wyliau i fendio. Daeth un arall atom, a mynnai ddweyd ei hanes yng ngwarchae Strasburg. Gadawodd pawb eu chware pan ddeallasant fod yno Gymry, ac yr oedd gan bob un ei air Llydewig i ofyn ai'r un peth oedd yn Gymraeg. Gwaith anuwiol ydyw chware bwlw ar nos Sul, ond yr oedd y bobl hyn yn garedig ac yn foneddigaidd. Gwelsom lawer Sais swta; digymwynas a hunanol oedd y rhan fwyaf o'r Ffrancod gyfarfyddem; ond ni welsom un Llydawiad anfoneddigaidd, cawsom garedigrwydd syml, a gwên ar bob wyneb trwy'r wlad. Troisom yn ol ar hyd ffordd arall, ffordd oedd yn ymdroelli hyd ochr y mynydd, a'r troeon ymron a chyffwrdd â'i gilydd. Cynhir daeth Lannion i'r golwg odditanom, anadlai awel ysgafn drosti tuag atom, ac eisteddasom ar fin y ffordd i edrych ar y dref o dai henafol ymysg coed ar lan yr afon. Ar y drofa odditanom yr oedd amryw wragedd, a phlant yn chware, gan gadw gormod o sŵn, os gormod yw llawer. Oni bai am eu dadwrdd hwy, buasai tawelwch y Saboth yn gorffwys ar yr holl wlad eang o fryniau a dyffrynnoedd welem o'n blaen. Yn sydyn, clywsom dinc prudd ar y gloch fawr. Dyna bennau'r gwragedd yn crymu, ac yr oedd pob plentyn ar ei liniau mewn eiliad, a'i ddwylaw ymhleth, ar ganol y ffordd. "Cloch yr Angel " oedd, a gwyddwn rediad gweddi'r plant, —

"Dyro i ni ras, o Dduw, fel yr adnabyddom ymgnawdoliad dy Fab, ac y'n dyger i ogoniant yr Atgyfodiad drwy ei ddioddef a'i groes.Yn ei enw Ef. Amen."

Eisteddais yn hir i wylio'r plant. Mae plant yn debig i'w gilydd ym mhob man, a disgwyliwn eu cael yn debycach hyd yn oed nag ydynt. Synnai Dafydd Rolant glywed plant yn siarad Saesneg ar gyffiniau Lloegr, a synnwn innau weled plant, a'u hwynebau Cymreig, ar eu gliniau wrth glywed cloch yr Angelus. Yr oeddwn yn ceisio dychmygu ym mhle yng Nghymru y bu plentyn yn penlinio olaf i ddweyd "gweddi'r Angel", pan glywn lais Ifor Bowen yn dadseinio o'r coed gerllaw, —

"Cymru, fy ngwlad, hen gartref y Brython,
Cartref y dewr, ei grud, ac ei fedd."

Yr oedd y gloch wedi tewi, ac yr oedd y plant yn methu dirnad beth oedd y llais o'r coed. Gwn am blentyn feddyliodd unwaith fod ei weddi wedi deffro'r taranau, er mawr ddychryn iddo. Y mae Cymru wedi bwrw ei choelbren gyda Lloegr, a Llydaw gyda Ffrainc, ers canrifoedd bellach, ond wele Lannion odditanaf eto'n berffaith Lydewig, fel y mae'r Bala’n berffaith Gymreig. Rhoddwyd pob dylanwad ar waith i ladd y bywyd Celtaidd yn y ddwy, ond y mae'r plant yn dysgu'r hen iaith eto yn Llydaw ac yng Nghymru. Er hynny, nid yr un fu hanes y ddwy wlad. Ni orfodwyd Llydaw i ymostwng i Eglwys estronol, fel y gorfodwyd Cymru; ni rannwyd bywyd Llydaw, — y pendefig yn erbyn y gwerinwr, a'r gwerinwr yn erbyn y pendefig, — — fel y rhannwyd bywyd Cymru; ni chamesbonnir y Llydawr i'r Ffrancwr, fel y camesbonnir y Cymro i'r Sais; ymfalchia Ffrainc yn Llydaw, gan ddweyd mai'r morwyr Llydewig ydyw gogoniant ei llynges, tra dywed offeiriaid a barnwyr Seisnigaidd Cymru mai hyhi ydyw rhan wrthryfelgar Pryden a chywilydd ei llysoedd cyfraith. Ond gall Cymru ymorfoleddu yn ei gorthrymderau. Dioddefodd fwy o sarhad na Llydaw, ac am hynny y mae gwlatgarwch ei meibion yn llawer mwy effro heddyw. Dioddefodd orthrwm Eglwys faterol hyd nes yr anghofiwyd enw Crist ynddi," ond teimlodd hefyd rym diwygiad na theimlodd Llydaw mohono eto. Yr oedd arnaf finnau awydd diolch i Dduw, heb gloch, am gystuddio Cymru fel ei gwaredid, pan glywn lais Ifor Bowen draw ymhell, —

" Collaist yr oll pan gollaist Lywelyn,"

a phrysurais i lawr ar ei ol.

Troisom i mewn i eglwys Ann wrth fyned yn ol, — yr oedd wedi nosi weithian, — ac yr oedd ugeiniau o bererinion ar eu gliniau ar y llawr pridd. Yr oedd eu hanadl afiach wedi cymysgu â mwg aroglus y thuser, nes gwneud yr awyr mor glos fel na fedrem ni aros pum munud yno. Wedi cyrraedd ein gwesty cawsom hanes yr wyl.

"A fydd gennych chwi wyliau yng Nghymru?"
"Bydd, sasiynau y byddwn yn eu galw.
"Fydd pobl yn meddwi ynddynt?
"Na fyddant. Fe fyddent yn meddwi flynyddoedd yn ol, ond mewn rhyw Sasiwn fe roddodd John Elias feddwon y Sasiwn ar ocsiwn.


"Pwy a'u prynnodd, y diafol? "
"Nage, Iesu Grist."
"O 'roedd yna ŵr yn curo'r wraig, wedi bod yn yr eglwys, ac wedi meddwi. Fydd y gwŷr yn curo'r gwragedd yng Nghymru?"
"Na fyddant, 'dydi'r anuwiolaf ddim mor annuwiol a hynny. Ond, ers blynyddoedd yn ol, fe fyddai curo gwragedd yng Nghymru hefyd, fel y dywed yr hen bennill, —

"Llawer gwaith y bum i'n meddwl
Mynd i'r llan a gwario'r cwbwl,
Dwad adre'n feddw feddw,
Curo'r wraig yn arw arw.'

A dywedai Sian mai felly'n union y mae'r Llydawiaid yn gwneud yn awr. Yr oedd Josephine yno hefyd, ond heb yr het, a chawsom gryn ddifyrrwch wrth ei chlywed yn adrodd neilltuolion gwahanol genhedloedd. Y mae'r Saeson, ebai hi, yn sur a balch, ond yn onest a ffyddlon; y mae'r Cymry'n debig i'r Saeson, ond eu bod yn bruddach, ac yn bwyta llai; y mae'r Ffrancod yn anwadal, yn arw am bleser, yn anuwiol; y mae'r Llydawiaid yn dawnsio ac yn canu ac yn meddwi, ond y maent yn grefyddol iawn er hynny, ac nid fel y Ffrancod.

Meddyliwn wrth gysgu'r noson honno fy mod wedi cael Sul hir a llawn; a phan oedd y golygfeydd a'r dynion yn diflannu, y peth olaf welwn oedd y wraig unig, yn gwylio ei buwch ar y ffordd hir, ac yn gwenu

wrth feddwl am ei brawd.

XII.

YNYS ARTHUR.

"The island valley of Avalon,
Where falls not hail or rain, or any snow,
Nor ever wind blows loudly."
TENNYSON.

AMSER du, oedd y geiriau cyntaf glywais bore dydd Llun, ac ateb Ifor Bowen, — " Na, amser gwyn." Ifor oedd agosaf i'w le, — yr oedd niwl glaswyn yn gorchuddio'r dref a'i choed, a gwlith — wlaw'n disgyn o hono. Ger llaw ein tŷ yr oedd cerbyd bychan ar gychwyn i Be’rhos a Threcastell, heibio'r fan lle dywed y Llydawiaid fod Arthur Fawr yn huno. Gosodasom ein hunain ar un o'r ddwy fainc oedd ynddo, a chyn hir yr oedd cymaint o lwyth ohonom fel y bai'n dda gennyf gael mynd allan, oherwydd cydymdeimlad a'r ceffyl bach buan oedd yn ein tynnu, ac oherwydd fod y lle gawn i'm coesau'n rhyfeddol gyfyrg. Ni fedrwn symud oddiar ymyl gul y cerbyd, hyd yn oed pan fyddai chwip y gyrrwr yn troi'n rhy agos at fy mhen neu pan fyddwn yn cael fy ngwthio drosodd i eistedd ar gant yr olwyn. Yr oedd dyn mawr tew yn y cerbyd, a bum yn synnu laweroedd o weithiau mor hawdd y bydd dyn tew'n disgyn, wrth ei bwysau ei hun, i'r lle mwyaf cysurus ymhobman. Yr oeddwn i'n gysurus wrth gychwyn, ac yn ceisio gwneud englyn i got y dyn tew oedd yn crogi dros y cerbyd; ond cyn hir, trwy ryw ddirgel ffyrdd, yr oedd y dyn tew wedi symud i ganol y cerbyd, a minnau'n ofni bob munud y byddai'r olwyn yn cyffwrdd â mi. Er hynny, cefais beth difyrrwch. Dywedai'r Llydawiaid enwau lleoedd wrthyf, — Caer Efoar, Maesmor, en ar Lan, Croes Hedd, Tre Melfen. Dywedent hefyd enwau pob peth welem. — 'nifel,' 'ceseg,' meizion' (meillion), 'rhod' (olwyn), 'moch,' porchell,' ‘gwenith,' 'haidd.'

Pan ddaethom i olwg y môr ger St. Quay gadawsom y cerbyd a'i drymlwyth, a dringasom fryn serth i Ben rhos Gwirec. Yr oedd y niwl yn codi oddiar y môr, aç ynys ar ol ynys yn dod i'r golwg; daeth yr haul o'r cwmwl, fel Arthur o'i ynys draw, disgleiriodd y tywod, a gwridodd y grug. Yr oedd yn fwll i gerdded. a throisom i fynwent Pe’rhos i orffwys ac i edrych ar yr olygfa swynol o draeth a bryniau. Y mae golwg henafol ar yr eglwys. Gwenithfaen coch yw ei defnydd, ac y mae'n hawdd gweled fod llawer ystorm wedi bod yn curo arni er pan adeiladwyd hi yn y ddeuddegfed ganrif. Y mae ei cholofnau fel pe bai bleiddiaid llidiog wedi bod yn eu cnoi, y mae ei thô yn anwastad a llwyd, y mae pob carreg yn heneiddio yn y mur, nid oes dim newydd yn agos at yr eglwys hon, ond beddau. Aethom i mewn, i'r lle tawelaf fu erioed. Heibio le'r dwfr bendigaid, heibio'r bedyddfaen, heibio i le'r arch, rhwng colofnau ceimion gan henaint, fel coesau hen ddynion, daethom i'r côr, dan oleuni lliwiau hen wydr na all neb yn awr wneud ei debig. Yr oedd distawrwydd y bedd yn llenwi'r eglwys, oni bai am dipiadau cloc mewn cornel bell, ac yr oedd tipiau hwnnw, fel curiadau calon, yn gwneud y distawrwydd yn ddyfnach fyth.

Y mae ei eglwys yn gartref i'r Llydawr. Ynddi y bedyddir ef, dywed hanes ei fywyd o ddydd i ddydd yn ei chyffesgell, a phan ddaw awr marwolaeth teimla y bydd yn ddiogel os rhoddir ei gorff i orffwys ynddi dan y brethyn du a'r groes wen ar ei ffordd i'r bedd. A phan ddaw henaint ac unigedd, y mae'r eglwys yn lle tawel i fyfyrio am ddyddiau ieuenctid ac am hen gyfeillion sydd wedi gadael dyffryn Bacca. Nid oedd ond un hen wraig yno y bore hwn, mor ddistaw a delw, ond clywem swn clocs un arall ar y llawr cerrig pan oeddym yn ymadael.


Fel y Cymro, y mae lle ei fedd yn dir cysegredig i'r Llydawr. Fel y mae cyfraith Ffrainc yn bod, ni raid gadael bedd heb aflonyddu arno ond am ryw ychydig o flynyddoedd, a pheth eithaf tarawiadol oedd gweled fod ambell un wedi prynnu llonyddwch am ddeugain mlynedd." Yr oedd enwau Llydewig ar bob carreg fedd. Yr oedd yno un Marie Yvonne Gallec yn gorwedd, fel y gellir gweled John Sais, neu Sayce, mewn ambell fan yng Nghymru.

Yn Llydaw y mae'r offeiriaid mor Lydewig a neb. Y mae hyn yn cyfrif i raddau pell am eu dylanwad ar y wlad. Mewn cyfarfod pregethu eglwysig yn y Bala, rhoddwyd yr esgob i bregethu yn Saesneg, ac nid ydyw hyn ond enghraifft o'r ynfydrwydd barnol sy'n gwrthod pob moddion i anwylo’r Eglwys i'r wlad. Ond yn Llydaw, y mae'r offeiriaid yn Llydawiaid. Dacw offeiriad ieuanc yn nesau at yr eglwys, meddyliasom am eiliad mai rhyw chwil giwredyn o Gymru oedd, yr un het, yr un goler, yr un gôt, yr un ysgrepan. Prin na ddisgwyliem y Saesneg neis hwnnw, y Saesneg nas mynnir siarad y Gymraeg wledig rhag ei ddifwyno, oddiar ei wefusau. Ond Llydaweg glywsom, iaith ei bobl, ac yr oedd ei bobl yn adwaen ei lais.

Cerddasom ymlaen hyd lan y môr, ac er poethed oedd, gwelem fod gan y Llydawiaid gymaint o ddillad am danynt a phe bai raid iddynt wynebu rhewynt Tachwedd neu eirlaw Chwefrol, esgidiau pren, trowsus llac carpiog wedi ei glytio fel na welid beth oedd y brethyn gwreiddiol, crys a'r patrwm wedi ei osod bob ffordd, fel pe bai ei wisgwr wedi ei wneud o ddarnau o bobl eraill. Peth digri oedd gweled y plant oll wedi eu gwisgo mewn dillad pobl; gwelsom eneth a'i nain, y ddwy mewn pais stwff a chap, ac ni wyddem o'r tu ol p’un oedd yr eneth seithmlwydd a ph'un oedd yr hen wraig saith mlwydd a thrigain.

Yr oedd y tai welem oll fel ei gilydd, — tô brwyn, llawr pridd, cypyrddau ac addurniadau efydd hir ar eu drysau, bord gron, llestri a llwyau pren. Wrth bob tŷ, gwelir teisi eithin, llyn chwid, a moch yn ymdorheulo; a chlywir arogl y rhedyn sy'n llosgi dan y crochanaid tatws. Trwy wlad o dai lliosog, daethom i La Clarte, pentre tlawd o dai gwael o amgylch eglwys hen. Pan ddaethom at y porth, gwelem ddyn yn eistedd o flaen drws mawr yr eglwys, ac yn ceisio tynnu lluniau'r cerfwaith carreg, — yr Iesu’n marw, y Forwyn a'i baban, y deial, — oedd ar y mur o'i flaen. Nid gwaith hawdd oedd hyn, oherwydd yr oedd tyrfa o blant a chŵn yn gwasgu arno o'r tu ol, ac yn cymeryd y diddordeb mwyaf yn y darlun, fel ag yr oedd yn rhaid i'r arlunydd druan fod ar ei ochel rhag i fys budr neu drwyn ci gyffwrdd â'i baent gwlyb. Pan ddaethom ni i'r golwg, cafodd yr arlunydd lonydd gan ei feirniaid, rhedasant oll i'n cyfarfod, y plant i fegio, a'r cŵn i ysgwyd eu cynffonnau. Cyn i'r begeriaid ein byddaru, daeth nifer o Ffrancod bach tewion diamynedd, a merched i'w canlyn yn gwasgar perarogl o’u sidanau, o gerbyd gerllaw. Rhuthrodd y dorf o fegeriaid ar draws ei gilydd at y rhai hyn, a chawsant un Ffrancwr hael, a dime i'w rhoddi. Yr oedd ugeiniau o ddwylaw diddaioni o'i flaen, ac ugeiniau o gegau yn dolefain disgrifiadau o ystad y tlawd. Aethom i borth yr eglwys, ac yr oedd llond y ddwy fainc o fegeriaid, yn murmur eu cwynfan wrth i ni fyned heibio. Y mae'r bobl hyn yn begio wrth eu tylwythau, — gwelsom nain a mam a merch yn estyn eu dwylaw am gardod ar unwaith. Gwelsom bobl dlodion garpiog yn gweithio'n galed, gwnaent unrhyw gymwynas inni, ac ni ddisgwylient, rhagor gofyn, am gardod. Ond am rai eraill, dysgant fegio oddiar y fron, — gwelsom lawer baban wedi ei ddysgu i estyn ei law fach oddiar fron ei fam, — ni wnaent gymwynas dros eu crogi, a dyma'r bobl mwyaf aniolchgar ar wyneb y ddaear. Rhennir trigolion Llydaw, fel y rhennid y Cymry gynt, yn ddau ddosbarth, — y bobl sy'n cynyrchu, a'r bobl sy'n difa'r hyn gynyrchir gan eraill. Gwaith y dosbarth cyntaf yw llafurio ac aberthu. A gwaith y lleill, — "defaid y gadles," fel eu gelwir, — yw bwyta'r mêl o gychod rhai eraill, cardota, gwlana, bendithio â'r genau, a melltithio â'r galon. Nid oes ond un tlodi anrhydeddus, — tlodi fel tlodi ein Gwaredwr, — tlodi y syrthiwyd iddo trwy weithio a dioddef dros eraill. Fel y mae gwlad yn dod yn fwy crefyddol, diflanna'r cydau cardod, ac amlha gweill, ceibiau, a rhawiau.

Y mae'r ffordd o La Clarte i Blw' Manach gyda'r ryfeddaf fum i 'n deithio erioed. Dringasom i gopa bryn, ac i frig craig anferth orffwysai ar ei ben. O'n blaen yr oedd anialwch o greigiau erchyll, neu yn hytrach o gerrig llwydion yn bentyrrau ar ei gilydd. Gallem yn hawdd ddychmygu mai rhyw anialwch dwyreiniol ymestynnai o'n blaenau, a'r cerrig fel camelod yn gorwedd arno, a'r Ffrancesau sidanog welsem yn La Clarte fel ambell i fflamingo oleugoch ysblenydd yma ac acw. Gyda min yr anialwch hwn gwelem dawelwch dedwydd eangder y môr.

Wrth ymlwybro rhwng y cerrig, bron na feddyliem mai pennau cawrfilod, penglogau hen anifeiliaid y cynfyd oeddynt, y gwylltfilod y byddis yn breuddwydio am danynt, wedi eu troi'n garreg. Rhwng y cerrig, gwelem feysydd gwenith aeddfed, a llwybrau glaswelltog, a thai crynion dieithr, — magwrle plant bach tlws, rhy swil i fegio, a iechyd tlodi ar eu gruddiau, yn dianc i syllu arnom o ben carreg uchel neu o ddôr fwaog eu cartref. Gwelsom dŷ a'i adeiladau wedi eu codi ar un garreg wastad, ac yr oedd lle ar yr un garreg i fuarth eang a theisi gwair. Yr oedd un garreg fel llew wedi neidio ar gefn yr hydd, ac yn gafael â'i ddannedd yn ei ysgwydd; yr oedd rhai eraill fel chwilod wedi chwyddo i faintioli aruthrol. Ai'r cerrig yn fwy ac yn amlach fel yr elem ymlaen, yr oeddynt fel cawrfilod wedi gorwedd ar ei gilydd yn bentwr.

Gyda i ni gyrraedd glan môr, disgynnodd y niwl gwyn trwchus ar y ddaear drachefn, ac yr oedd rhywbeth ofnadwy yn yr olygfa ar y cerrig mawr drwy'r niwl, a rhu'r môr yn adseinio o honynt. Gadawsom breuddwyd cynhyrfus o greigiau ar ein hol, a theithiasom ar hyd y traeth i Blw' Manach. Y peth cyntaf welsom oedd delw Gwirec Sant, a'i wyneb tua'r môr, oherwydd gweddio dros forwyr yw ei waith. Yr oedd dwy fam yn dysgu i'w plant gerdded o amgylch traed y saint, a dywedent wrthym mai amser sal" oedd at weled y wlad, oherwydd y niwl. Gerllaw yr oedd capel y sant, ac ar hyd ein ffordd gwelem ddarnau o groesau, wedi eu malurio gan yr hin. Aethom drwy bentref Plw' Manach, a daethom at ddwy felin droir gan y môr. Y mae argae wedi ei wneud ar draws genau cwm main, agorir y llif — ddorau pan fo'r môr yn dod i mewn, a cheuir hwy pan fydd yn dechre treio. Gadewir digon o ddwfr i droi'r melinau sydd ar yr argae hyd nes y daw'r llanw i mewn drachefn. Clywsom yr arog] blawd wrth basio'r melinau, a gwelem resi hirion o Lydawiaid yn mynd ar ol ei gilydd, fel gwyddau, a'u beichiau ar eu cefnau tua'r felin. I Blw' Manach y bydd pobl Tregastell a'r wlad o'i hamgylch yn dod "i'r môr." Gwelsom hwy yn eu dillad goreu, yn llewys eu crysau rhag dwyno eu côt, yn edrych ar y pysgotwyr oedd yn brysur ar y traeth. Weithiau cyfarfyddem amaethwr yn gyrru cerbydaid o blant iach, a phrin yr oedd amser i gael gair wrth basio, —

"Ai dyma'r hynt i Dregastell? "
Ia, ia, dena hi."

Dywedir "Ie, Ie" gyda mwy o bwyslais yn Llydaw nag yng Nghymru, fel y bydd dyledus yn dweyd wrth ei ofynnwr pan fo hwnnw'n darlunio ei fawr angen am arian.

Yr oeddym yn troi ein cefnau ar y môr, ac yn cychwyn i Lannion ar hyd ffordd arall. Cyn dod i Drecastell, eisteddasom dan gysgod coed eglwys fechan y Graig Arian, ar ben bryn. Yr oedd amryw bentrefydd mân o dai to brwyn o'n hamgylch, a pherllannau afalau, a chaeau gwair, a gwenith, a thatws, a chloddiau gyda mawn yn sychu ar eu pennau. A thraw yr oedd y traeth tywodlyd fel llawr aur, a'r niwl fel gorchudd o geinwaith arian drosto. Tybiem ein bod yn gweled amlinelliad gwan y Saith Ynys trwy'r niwl, ond hwyrach mai dychmygu yr oeddym. Cofiasom mai yn rhywle ar y traeth niwliog dieithr o'n blaenau y dywed y Llydawiaid fod Arthur Fawr yn huno, i iachau ei glwyfau, ac i aros am gyflawnder yr amser i wared ei genedl. Y mae'n debig fod Arthur yn bod fel duw rhyfel y Celtiaid cyn i'r Cymry a'r Llydawiaid ymwahanu pan orfod iddynt ymladd, — y Cymry'n erbyn y Saeson, a'r Llydawiaid yn erbyn y Normaniaid, — daeth y duw rhyfel yn arwr cenedlaethol, yn ymladd yn erbyn ei elynion, ac yn syrthio trwy frad Modred ym Mrwydr Camlan. Y mae gan y Cymry a'r Llydawiaid er hynny Afallon, eu Harthur yn huno, a'u gobaith am atgyfodiad ysbryd eu cenedl. Y mae Arthur wedi deffro yng Nghymru, ond y mae Arthur Llydaw eto’n huno dan

y traeth disglair acw.

XIII.

MORLAIX.

ANNAML y bu mwy o eisiau bwyd na'r eisiau oedd arnom ni pan gyrhaeddasom Drecastell tua dau o'r gloch ar brynhawn mwll a phoeth.

Prin yr edrychasom ar yr eglwys na'r ystrydoedd; ac wedi troi i mewn i westy, edrych ar y bobl yn gwneud bwyd oedd yr unig beth diddorol inni. Tra'r oeddym yn bwyta, heliai pobl y pentref i mewn i'r gegin eang i weled y dieithriaid. Siaradent yn ddibaid, ond yr oeddym yn rhy brysur i dalu'r sylw lleiaf iddynt. O'r diwedd cododd Ifor Bowen ei ben, a dywedodd, — " Helo, dyma ferched braf." Meddyliasant ein bod yn medru Llydaweg oddiwrth hynny, a rhedasant allan blithdraffith. Y mae'n ddiame eu bod wedi gwneud sylwadau y buasent yn eu tyneru pe tybient ein bod yn eu deall. Yr oedd accordion yn y tŷ, a dechreuodd Ifor Bowen ei ganu. Wrth sŵn hwnnw mentrodd y merched ieuainc yn ol, a dechreuasant ddawnsio ar y llawr. Gwelem y boddheid hwy yn neilltuol gan ambell alaw Gymreig, — megis Dyffryn Clwyd a Hobed o Hilion. Canasant amryw ganeuon Llydewig, ac yr oedd pruddglwyf y Cymry lond eu lleisiau. Y mae Ifor Bowen yn perthyn i grefydd, a gwrthododd ail ddechre canu caneuon dawns. Ond mynnai'r Llydawesau ddawnsio, ac yr oedd un yn canu rhyw ychydig o nodau, — "un, dau, tri, pedwar, pump, a naw, — tra bo sodlau ysgeifn y lleill yn symud. Yr oeddynt yn gwibio trwy ei gilydd mor esmwyth a phe baent blu eira mewn awel, nes oedd ein llygaid bron a britho wrth edrych arnynt. Meddyliem, wrth adael Tregastell, y bu amser y gwelid merched Cymru'n ymdrwsio i fyned allan gyda'r chwareuyddion dawns. Pan newydd adael y dref, gwelsom" Galfaria" ar fin y ffordd ar ein llaw chwith. Tŵr cerrig ydyw, a chapel yn ei waelod, a grisiau yn troi am dano i'w ben. Ar furiau'r capel bychan gwelais amryw gerfiadau, — un yn dweyd i'r Calfaria hwn gael ei adeiladu trwy ras Duw, ac elusen ar Frythoniaid; un arall yn dweyd beth enillai'r hwn ddoi yma ar bererindod; a thrydydd yn moli'r groes fel arwydd i'r morwr deflid ar y lan ei fod ymhlith brodyr, boed hwy Saeson neu Spaenwyr neu Ffrancod, os gwelai hi. Gwelais rydd — gyfieithiad o frawddeg yn llyfr Thomas o'r Kempis,

"Ar saent a bellee mui ha ma ellent dious compagnunez an dud, hac a oa gwell gant ho en em antreteni gant Doue."

Yn ymyl hwn y mae pennill Llydewig, —

"Ar bed am eus, sivaos! caret,
An' am eus cavet ennan,
Nemet poen corff ha poen speret,
En ansaf o ran breman;
Choui nebquin, ma Doue, so mad,
Ha capabl d’hon chontantin."

Onid iaith a phrofiad Cymru ydyw? "Y byd, ysywaeth, garwyd gennyf fi, ni chefais ynddo namyn poen corff a phoen ysbryd, yr wyf yn ei gydnabod y pryd yma. Chwi'n unig (neb cyn), fy Nuw, sydd fâd a galluog i'n boddloni ni." Ar du allan y tŵr gwelsom lawer diareb Lydewig wedi ei hysgrifennu, —

"Gwell eo diski mab bihan
Efit dastum mado d'ehan." *
"Bugale Duw a d'le bepret,
Efel breudeur, en em garet." †
" Gna hirie ar fad a chelli,
Warchoaz martese e farfi." ‡
"Diou sceul a gas dann enf euz ar bed cristenien,
Unan ann elusen hag an eil ar beden " §

————————————————

*"Gwell yw dysgu mab bychan na hel cyfoeth iddo."
† "Plant (bugeiliaid) Duw a ddyle bob pryd, fel brodyr, fod yn ym garu."
‡"Gwna heddyw'r da (mâd) a elli, yfory hwyrach e ferwi."
§"Dwy ysgol enfyn y cristion i'r nef o'r byd, un yw elusen, ac yr ail yw gweddi."

————————————————


O ben y tŵr gwelem wlad fryniog dlos dan ei niwl; gwelem hefyd y ffordd hir ddigysgod yr oedd yn rhaid i ni ei cherdded, yn rhedeg fel saeth dros fryniau digoed tua'r de, tra rhedai ffordd Trebeurden a Phleumeur ohoni i'r de orllewin. Yr oedd yn boeth anioddefol i gerdded, ond caem aml i ysgwrs, ac aml i lymaid o ddwfr oer " â chroesaw. Gwelem wragedd yn gweu gwasgodau i'w plant, y gwasgodau gleision welais am gymaint o fechgyn Llydewig hyd lannau bau Aber Teifi. Pabyddion a dieithriaid oeddynt i mi yr adeg honno, ni chofiwn fod mam ofalus yn pryderu am bob un ohonynt, a'u bod fel ninnau'n meddu ered yn Rhagluniaeth a chariad at natur a hiraeth am eu gwlad.

Anawdd inni oedd gadael Lannion, a throi tua Morlaix. Cymeriad gwan roddai Mari i'r lle yr aem iddo, — "lle drwg, llawn o ferched meddwon, nid lle tawel duwiol fel Lannion." Ond gadael oedd raid, ac yr oedd tyrfa o forwyr, a'r gair * Caledonien' ar eu capiau, yn dod gyda ni. Yr oedd gan rai ohonynt wynebau eithaf meddylgar, a gwelsom lawer wyneb hardd, tebycach i wyneb offeiriad nac i wyneb morwr. Yroedd gwrid iach y wlad yn aros ar rai o'r wynebau; ondyr oedd llygaid y rhai hynaf wedi hagru, a'u hwynebau heb feddu'r meddylgarwch sy'n prydferthu wyneb y canol oed.

Teithiasom tua'r de drwy wlad fryniog. Yr oedd y diwrnod mor boeth fel y croesawem yr awel ddeuai i'r tren, er fod parddu ar ei hesgyll. Gwelem ffyrdd dyfnion wedi eu torri yn y ddaear fras, a'r gwenith yn cyhwfan uwch eu pennau'n gysgod iddynt. Yn y cysgod oer braf gwelem Lydawiaid yn bwyta eu ciniaw, — sosej a bara du; ac ni wyr neb beth yw ystyr — bara gwyn os na orfod iddo rywdro geisio cnoi a threulio bara du. Yn ein tren yr oedd dau newydd briodi. Gwyddem hynny oddiwrth y ffaith eu bod yn eu dillad goreu, oddiwrth eu dull yn gwenu ar ei gilydd, oddiwrth ei gwaith hi'n brwsio'r llwch oddiar ei gột, a'i waith ynte'n cynnig codi'r ffenestr i fyny ar y diwrnod poethaf wnaeth erioed. Yr oedd ef wedi mynd yn hen lanc cyn priodi, gellid gweled hynny oddiwrth ei ofal am ei ambarelo ac oddiwrth ei wisg, — crys gwyn fu'n lanach, rhimin o gadach du main, cadwen felen wedi ei phrynnu at y briodas ac yn cael lle mawr ar ei wasgod. Priodeles? ebe fi wrth yr eneth. Gwridodd hithau, a rhoddodd ysbonc balch a'i phen, fel pe na bai rhyw lawer o gamp cael hwn, ac un pur hyll oedd, — wyneb du hagr rhychiog, llygaid na fedrech ddweyd o ba liw yr oeddynt, a sug tybaco rhwng ei ddannedd melynion. Ond yr oedd ef wedi gwirioni tipyn, ac ni welai neb ond y hi.

Yr oeddym yn aros rhyw ddwyawr ym Mhlouaret, i aros tren Paris i'n cludo tua'r gorllewin. Gorweddodd Ifor Bowen ar fainc yn ystafell aros yr orsaf, trois innau trwy'r gwres tua'r pentref sydd chwarter milltir oddiyno. Gwelwn griw o'r morwyr yn mynd o'm blaen, ac un ohonynt, un oedd yn mynd i'r môr am y tro cyntaf, — yn cael ei hun allan o'r rhes er ei waethaf. Eglwys ar fryn ydyw Plouaret, a lle marchnad o'i chwmpas, a mur crwn o dai o amgylch hwnnw. Ym mhorth yr eglwys yr oedd plant yn chware, a phapurau ar y mur yn cyhoeddi pererindod i St. Brieuc a phardwn Gwengamp. Wedi mynd i mewn i gysgodion oer yr eglwys, y peth cyntaf dynnodd fy sylw oedd y pulpud a'i ddarluniau cerfiedig o Foses ar y mynydd, yr angel yn cyffwrdd â genau Esay, Ieremi'n galaru uwchben Caersalem, Eseciel a'i ddyffryn esgyrn sychion, Daniel a'r angel, Ioan yn y diffaethwch, a phedwar efengylwr y Testament Newydd. Ar ganol yr eglwys gwelais arch, a brethyn du drosto, a lluniau arian arno, lluniau o Amser ar ei adenydd a thuser yr offrwm. Uwchben yr arch a'r corff yr oedd dau ddywediad, — "Heddyw i mi, yfory i tithau;" "Llaw yr Arglwydd a gyffyrddodd â mi." Yr oedd coedwig o ganhwyllau goleu o gylch yr arch, — pedair wrth bob cornel yn ddwylath o hyd, a thair wrth bob ochr. Yr oedd y tawelwch dyfnaf yn yr eglwys, — nid oedd yno ond myfi a'r Brython orweddai dan y gorchudd du.


Y mae rhai capeli prydferth yn yr eglwys. Bum yn sefyll peth amser o flaen capel St. Owen, lle'm hysbysid y cawn ollyngdod oddiwrth fy holl bechodau am flynyddoedd lawer os gweddiwn y gweddiau hyn o'm calon, —

"Iesu, Ioseff, a Mair, yr wyf yn cyflwyno i chwi fy nghalon a'm henaid. Iesu, Ioseff, a Mair, cynorthwywch fi yn f'olaf gur. Iesu, Ioseff, a Mair, caffed fy enaid, wedi fy marw, fod mewn heddwch gyda chwi. O Dduw, yr hwn roddaist St. Owen yn dad i'r tlawd, yn ddadleuydd dros y gweddwon, yn warcheidwad i'r amddifaid, dyro i ni ras, trwy ei eiriolaeth ef, i fod yr un mor elusengar, ac i ystyried perl mawrbris tragwyddoldeb yn well na da tymhorol byd sy'n myned heibio.Er mwyn Iesu Grist. Amen.

O, St. Owen, goleu eich gwlad, gelyn aflendid, drych perffeithrwydd, gŵr y gwyrthiau, atgyfodwr y meirw, gweddiwch drosom ni."

Cyn i mi fynd trwy restr hirfaith perffeithderau Owen Sant, yr oedd pererin Llydewig wedi dod o rywle, a llwch trwchus ar ei ddillad, a'i wyneb wedi llosgi yn yr haul, ac wedi penlinio'n ddefosiynol wrth fy ochr. Hawdd oedd gweled iddo gael siwrne hir, ac nad oedd wedi aros i gael lluniaeth pan gyrhaeddodd Blouaret; hwyrach fod ganddo bechodau yn ei lethu, a chred yn Owen Sant; hwyrach fod yr eglwys ar ei bryn wedi bod yn ei olwg am oriau wrth iddo deithio'r ffyrdd hirion llychllyd, a thra'r oedd ei enaid yn gruddfan am ollyngdod oddiwrth bechodau.

Gadewais y Llydawr yn gweddio mewn ffydd, a bum yn syllu ar rai arwyddluniau Llydewig oedd yn yr eglwys, cyn troi o honi. Wrth y drws daeth awel gynnes i'm cyfarfod, yr oedd gadael yr eglwys fel gadael y bedd.

Cerddais heibio drysau y cylch eang o dai, a gwelais y morwyr o gwmpas bord gron mewn tự tafarn tô brwyn. Yn yr un tŷ yr oedd barilaid o osai, a gwelwn res o gwpanau piwter uwch ben drws y parlwr, heblaw y rhai oedd yn nwylaw'r morwyr. Yr oedd y gloch gnul yn canu, ond ni welais neb yn gwrando arni oddieithr hen ŵr, a llygaid fel gwydr, un wyddai y bydd ei gloch yntau'n canu gyda hyn. Gwelwn lwythi mawn yn prysur ddod i mewn, yr oedd yr eithin wedi ei gynhaeafa'n barod mewn deisi uchel. Gwellt ydyw to'r tai; ac wrth i mi edrych i mewn iddynt oddiallan dros y rhagddor, ni welwn ond duwch, oddigerth ambell fflam goch pan fyddai rhyw hen wrach yn taflu eithin dan y crochan.

Erbyn i mi gyrraedd yr orsaf, yr oedd y morwyr wedi dod yn ol o'm blaen, ac yn bargeinio gyda hen wraig am eirin duon. Clywais lais un ohonynt yn gofyn yn wawdlyd," Pa gimint? Whech!" A chlywais yr hen wraig yn ateb, wedi rhoddi'r eirin o un i un, — Dene douzec !" Dechreuodd y morwyr ddawnsio cyn hir. Yr oedd un ohonynt wedi gwario cryn dipyn, — a chofier y gellir meddwi'n chwil yn Llydaw am bum ceiniog, — a phur afrosgo yr oedd yn dawnsio. Er hynny clywsom ef yn cynghori ei gyfaill i ddawnsio'n iawn," gan ei alw wrth enw adnabyddus yn Llydaw a Chymru ar un ofnir gyda'r gwyll. Sylwai Ifor Bowen yn gyffredinol mai y rhai sy'n dawnsio'n gam yn y byd yma sydd hoffaf o gynghori eraill i ddawnsio'n iawn.

Daeth tren Paris cyn hir, a chydag iddo stopio clywsom wylofain. Yr oedd geneth wledig o Dre Guier wedi anghofio disgyn yng Ngwengamp, ac wedi dod ymlaen i Blouaret. Dywedid wrthi y gallai fynd yn ol gyda'r tren nesaf, ac nad ai ei chelfi ar goll. Llydaweg oedd yn siarad, ac yr oedd y morwyr oll yn gydymdeimlad i gyd, ond ni fynnai'r enethig ei chysuro. Yr oedd dynes ffasiynol o Ffrainc yn y tren, a chwarddai wrth weled yr eneth yn wylo, gan ddweyd yn wawdlyd, — " Mae hi'n ddigon hen i edrych ar ei hol ei hun, mae hi'n un ar bymtheg oed." Yr wyf wedi sylwi droeon mai anodd iawn gan ferched gydymdeimlo â'i gilydd, yn enwedig rhai dibriod.

Canodd cloch y tren fel pe bai claddedigaeth yn cychwyn, ac wedi i ni fynd tipyn darganfyddodd y Ffrances grand ei bod hithau wedi colli ei ffordd. I Lannion yr oedd yn myned, dylai ddisgyn ym Mhlouaret, ond dyma'r tren yn ei chwyrnellu tua Brest. Atgofiodd un o'r morwyr hi ei bod yn ddigon hen i edrych ar ei hol ei hun. Cawsom ei chwmni anifyr anewyllysgar cyn belled a Phlounerin, ac yno disgynnodd. Danghosai rhai o'r teithwyr bentre bychan i ni ar y chwith, a dywedent am bererindod flynyddol oedd newydd gymeryd lle, — ymlusga'r pererinion ar eu gliniau o amgylch y fynwent, ac yna tynnant am danynt yn noeth lymun groen ac ymolchant yn ffynnon Laurent Sant. O Blounerin i Forlaix cawsom ffordd ddiddorol, — weithiau rhosdir yn ymestyn at y môr, dro arall byddem ar lethr bryniau, a dyffrynnoedd isel oddi tanom, yn llawn o bobl yn cyweirio gwair. Tua thri o'r gloch cawsom ein hunain ar bont anferth uchel, a gwelem dref a phorthladd Morlaix i lawr ar lan afon yn syth odditanom.

Stopiodd y tren newydd groesi'r bont, ac ar ein cyfer gwelem y gwesty y cawsom ein cyfarwyddo iddo gan ein cyfeillion Llydewig yn Lannion, — yr Hôtel Bozellec, un o'r gwestai gore a rhataf yn Llydaw. Un o'r pethau cyntaf a wnaethom oedd holi'r westywraig am Mr. Jenkins, cenhadwr y Bedyddwyr. Oedd, yr oedd yn ei adnabod yn dda, y mae pawb yn adnabod Mr. Jenkins ym Morlaix, ebe hi. Y mae pawb yn hoff ohono, y mae wedi gwneud da na wyr neb ei faint yna, wedi dysgu llawer i ddarllen ac i fyw'n well." Dywedodd hefyd am y deffroad diweddar, ond meddyliwn y cawn hanes manylach gan Mr. Jenkins ei hun.

Wedi cael ymborth, arweiniwyd Ifor Bowen a minnau gan fachgen bach bochgoch i lawr tua thrigle'r cenhadwr a thua'r dref. Troisom i ystryd gul, a churasom wrth ddrws derw du. Daeth bachgennyn i'r drws, — yr oedd Mr. Jenkins wedi mynd i ffwrdd am ei wyliau, ac ni ddoi'n ol tan ddydd Iau. Dyma'r siomedigaeth gyntaf, a'r unig siomedigaeth fawr, a gawsom yn Llydaw. Drwy'r prynhawn hafaidd hwnnw buom yn crwydro drwy ystrydoedd troellog henafol Morlaix. Cymerer un ystryd fel esiampl, — y mae'r tai uchel ymron a chyffwrdd yn eu bargodau, fel pe’n moesymgrymu i'w gilydd; ar eu llawr y mae siopau hirion llawnion, o frethyn a llestri ac ymborth a blodau; ym mhob ffenestr llofft gwelir wynebau pruddglwyfus y Llydawiaid drwy'r gorchuddlenni o rwydwaith gwyn. Ar ganol yr ystryd, — prin y medr glaw na phelydr haul ddod trwy'r rhimin o awyr welir rhwng y bargodau, — gwelir hen wŷr yn hollti ac yn rhwygo coed, a hen wragedd yn llifio'n galed.

Yr oedd yr haul eto yn y golwg pan gyrhaeddasom y Place des Marines, lle agored yng nghanol y dref. Anodd cael golygfa fwy tarawiadol. Oddiamgylch y mae tai uchel, a choed y llethrau sydd y tu ol iddynt i'w gweled dros eu pennau. Rhed yr afon yn gyflym a gwyllt hyd un ochr i'r lle, a gwelir rhes hir o ferched ar ei glan yn golchi'n ddiwyd. Ar y lan arall, y lan agosaf i'r ysgwar, eistedd rhes o hen Lydawiaid ar y garreg ganllaw isel, i drin y byd. Uwchben popeth gwelir y bont fel dwy enfys, ac wrth edrych i fyny arni hi y mae'r tai uchel fel corachod. Y mae naw dolen yn y bont isaf, a phedair ar ddeg yn yr uchaf, a hawdd y gallaf gredu fod hon yn un o'r pynt ardderchocaf yn y byd. O'r Place rhed ystrydoedd culion i bob cyfeiriad, — trigle gofaint, teilwriaid, hetwyr, basgedwyr, gweyddion, oriadurwyr. Pobl foesgar a charedig iawn oedd ar lan yr afon, ond nid oedd Ifor Bowen yn gweled y merched cyn dlysed a'r rhai welodd yn Lannion, gan fod eu crwyn yn dduach. Lle dedwydd oedd ar y ganllaw garreg hir er hynny, clywem furmur y dŵr a Brythoneg, ac erbyn hyn yr oedd y tai uchel yn taflu cysgodion hyfryd dros yr afon i ganol yr ysgwar. Pan oeddym yn dechre teimlo'r cerrig yn oerion, gwelem orymdaith yn dynesu'n araf, — gŵr mewn dillad hen ffasiwn yn gyntaf, yna nifer o fechgyn mewn gwen wisgoedd, ac yna rhyw bedwar offeiriad. Arosasant wrth ddrws ar ein cyfer, gwelais fod gorchuddlenni dros y ffenestri, a daeth y bechgyn yn ol o'r tŷ gyda chanh wyllau cwyr hirion wedi eu goleuo yn eu dwylaw. Yna gwelsom arch dêl dyn tlawd yn cael ei gario allan, a daeth dau hen ŵr, dau frawd galarus, allan ar ei ol. Rhoddodd y gwragedd heibio olchi, arhosodd pob un oedd yn twyso ceffyl a throl dros palmant, cododd pedwar dyn carpiog y corff, dechreuodd yr offeiriaid ganu, a dyma bawb yn cychwyn.

Yn Llydaw, fel yng Nghymru, caiff dyn tlawd gladdedigaeth barchus. Dilynasom y corff i ystryd gul uchel dywyll, ac yr oedd pob balconi yn yr hen ystryd yn llawn o wynebau difrifol yn edrych arnom, wynebau swynol ieuainc, a hen wynebau gwywedig, melyn. Daethom ar i fyny i eglwys wedi ei chodi'n union dan un o fwaau y bont, wrth droed un o'r colofnau, ac aethom i mewn. Eglwys newydd oedd, ac ni feddai brydferthwch eglwysi henafol Llydaw. Yr wyf yn meddwl mai'r Chwyldroad ddinistriodd ryw eglwys arall ym Morlaix, ac mai dyna'r rheswm pam y codwyd hon. Meddyliwn, wrth ei chymharu â'r hen eglwysi, am aderyn wedi gorfod ail wneud ei nyth pan oedd adeg y defnyddiau drosodd.

Rhowd y corff ar lawr yr eglwys, a chauodd yr offeiriaid arnynt yn y côr, i ganu. Tybiwn fod y bobl yn gweled eu hoffeiriaid ymhell oddiwrthynt hyd yn oed ar lan y bedd; ni chysurent y galarwyr â gobaith gwell, ni wnaent ond oer ganu ffurf — weddiau nad oeddynt hwy eu hunain, hwyrach, yn eu deall. Nid oedd rhyw lawer o urddasolrwydd ar y gwasanaeth, rhai sal iawn oedd y cantorion, ond yr wyf yn credu i mi wneud un darganfyddiad wrth wrando arno. A dyna oedd, mai'r gwasanaeth claddu Pabyddol ydyw Morfa Rhuddlan. Ni allwn ysgwyd ymaith yr ymdeimlad fy mod yn gwrando ar gôr o Gymry'n canu'r alaw honno. Ai nid y gwasanaeth claddu yr eid trwyddo wrth ben y marw ar ol y frwydr ydyw'r alaw bruddglwyfus hon? Hawdd oedd i alarnad am y marw droi’n ofid am golli brwydr. O'r eglwys, ail gychwynasom i fyny ystryd serth tua'r fynwent. Yr oedd hon yn rhy serth i'r dynion, ac ni welid ond Ifor Bowen a minnau, a rhyw ffag clonciog o Lydawr cloff, yn dilyn yr offeiriaid a'r merched i fyny'r ystryd.

Daethom i lawr i'r Quai de Léon. Oddiyma y mae Morlaix'n debig iawn i Fenis, tai uchel ar lan afonydd yn y naill, a phalasau yn y llall. Oddiyno cyrhaeddasom le'r Hotel de Ville, a buom yn treio siarad Llydaweg â merched y siopau, ac â'r bobl oedd yn eistedd tan y coed. Pan glywsom sân y tren wyth yn croesi'r bont, fel sŵn taran bell, troisom yn ol trwy'r Place Souvestre, — lle gwelsom hen dai tlysion dan eu heiddew, i ystryd Gambetta. Clywem y plant yn siarad Ffrancaeg, ond wrth chware, rhigymau Llydewig oeddynt yn ganu.

Yr oedd pobl y gwesty'n garedig iawn, pawb yn siarad Llydaweg, ac yn cymeryd diddordeb mawr ynnom. Un peth a'm blinai yno, yr oedd papurau newyddion Paris yn cyrraedd yno bob dydd. Nid oedd Ifor Bowen wedi gweled ond papurau Cymreig a Seisnig o'r blaen, a gwridai wrth weled darluniau papurau Paris. Trwy hanes Ffrainc, y mae dylanwad Paris wedi bod yn bopeth ymron. Gwir a ddywed Mr. Freeman mai Paris greodd Ffrainc. Ac yn awr Paris yw calon bwdr y wlad, — tywallt ei meddyliau anffyddol a llygredig i bob cwr. Melltith Ffrainc ydyw dylanwad Paris ffasiynol bechadurus.

"Nos fad" oedd y gair olaf a glywsom wrth ddringo'r grisiau tua unarddeg y noson honno. A nos fad oedd hi. Yr oedd yr awyr wedi oeri'n braf, agorasom ein ffenestri, a chlywem sŵn dawnsio a chanu'n dod i fyny o ystrydoedd y dref oedd yn gorwedd odditanom. Cysgais a breuddwydiais fod y môr wedi dod dros Forlaix yng nghanol y ddawns a'r wledd, — breuddwyd freuddwydiwyd am lawer lle yng Nghymru ac yn Llydaw.

XIV.

DROS Y MYNYDDOEDD DUON.

TUA chwech o'r gloch bore drannoeth yr oedd o wastadeddau a bryniau, lle gwelem wragedd yn gwylio gwartheg ym mhob cae, er boreued oedd. Yr oedd afonig fechan, weddol lawn, yn rhedeg gydag ochr y ffordd haearn; ac yr oedd murmur hon, ynghyd â su awel y bore wrth ysgwyd y grug a'r banad), yn ein gwneud yn ddedwydd iawn, er nad oeddym wedi cael brecwest.

O Forlaix i Landerneau, gallem feddwl mai trwy Gymru yr oeddym yn teithio, cymoedd mynyddig coediog, wynebau prydferth deallgar, ambell i hen eglwys lwyd ei gwedd, cestyll mewn mantell o eiddew. Pan ofynnem i'n cyd deithwyr am enwau'r lleoedd basiem, dyma gaem — Corlan, Penwern, Pont Glas, Caerdu, Mês Pant, Ty Mawn, Coed Mawr, Bodilis, a'r cyffelyb, enwau yr oeddym wedi eu clywed oll mewn gwlad arall. Cyn cyrraedd Landivisiau yr oeddym yn troelli drwy wlad dlos odiaeth, gwlad lle mae pobl weithgar yn byw mewn tai newydd glân. Yr oedd dillad y gweithwyr oll yr un fath, — trowsus rips llac, crys gwyn, esgidiau pren, a het coryn isel cantal maur a ruban du llaes yn disgyn i lawr y tu ol.

Yr oedd yr haul wedi hen sychu'r gwlith oddiar goron brenhines y weirglawdd cyn i ni ddod i olwg tyrau dwy eglwys Landerneau. Yma yr oedd gennym ddwyawr i aros. Yr oedd ein tren yn mynd ymlaen i Frest, lle Ffrengig llawn o filwyr a rhyfeddodau rhyfel, lle nad oedd arnom ni eisiau ei weled. Arosasom am y tren sy'n rhedeg hyd y ffordd droella hyd fronnau'r Mynyddoedd Duon tua'r de. Wedi disgyn, y peth cyntaf wnaethom oedd edrych o'n cwmpas am le i gael brecwest, a gwelem "Westy Llydaw" yn sefyll gerllaw. Gofynasom yn Gymraeg i ŵr tew corffol safai ar y rhiniog a gaem goffi a bara. Gwenodd wên fawr, ac arweiniodd ni i'w barlwr. Yr oedd yno ddodrefn derw cerfiedig prydferth, yn enwedig cwpwrdd, wedi ei gerfio yn 1639, ac arno lun grawn ac angelion a gwaith ffili gri. Yr oedd yno lestri hen hefyd, er amser Harri'r Pedwerydd, a chyda hwynt yr oedd dysglau llaeth lawer, a buddai gnoc. Yr oedd y llestri'n llawn o laeth, a'r hufen melyn melys ar ei wyneb, — ac yr oedd pob arwyddion mai lle llawn o dda'r byd hwn oedd Gwesty Llydaw. Yr oeddym yn newynog — mae hynny i'w gofio, — ond yr ydym yn meddwl na chawsom erioed gystal brecwest, o leiaf am dair ceiniog.

Lle henafol ydyw Landerneau, yn meddu rhyw naw mil o bobl, ar yr afon Elorn. Ar y cei helaeth y mae lliaws o goed wedi eu plannu, y mae'r tai cerrig yn uchel a hen, — teimlem y rhaid ein bod mewn tref bur enwog, er na wyddem ddim o'i hanes. Y mae tŵr rhidyllog yr eglwys, a'i golofnau meinion, yn bur darawiadol; y mae tawelwch o gwmpas yr eglwys bob amser, oherwydd ni cha plant fyned iddi, na chware yn y lle agored o'i blaen. Gwelsom lawer o bobl ynddi, — rhai'n gweddio, rhai'n cyffesu, rhai'n begio. Gwyddem na fyddai llawer o ddieithriaid yn dyfod i Landerneau oherwydd y sylw dynnem ni; synnem, hefyd, fod y Llydawiaid yn llygadrythu cymaint arnom, a ninnau mor debig iddynt mewn pryd a gwedd.

Mae mwy o seremoni o lawer yng ngorsafoedd y Cyfandir nag yn ein gorsafoedd ni. Ni cheir rhodio'n rhydd hyd y platfform fel y ceir ym Mhryden, rhaid aros mewn ystafell wedi ei rhannu'n dair, — lle mae'r mawrion, y canol, a'r tlodion, — nes clywir chwibaniad y tren yn y pellter. Yr oedd arnaf hiraeth am gael fy nghoesau'n rhydd, a chyflymu’n ol a blaen ar hyd y platfform welwn drwy wydr y ffenestr; ond nid oedd dim i'w wneud, rhaid oedd imi gadw popeth yn llonydd ond fy llygaid. Rhaid cael pob math o bobl i wneud byd, dyma hwy, yn disgwyl am y tren, — bechgyn a'u dillad wedi eu gwneud mor afler a phe baent wedi eu gwneud i blant pren; hen wraig, a'i gwallt gwyn yn gyrls i gyd; capten llong, mewn côt fer ac esgidiau esmwyth; dandi dan het silc dal, het fel corn simdde; offeiriad wyneb bloneg, yn mwmian gweddiau ac yn edrych ar wagedd o gil ei lygaid; bechgyn a hetiau duon Llydaw, bechgyn a hetiau gwellt gwynion Ffrainc; merched y wlad mewn melfed du, yn dawel ac yn stans; ac ysgol ferched mewn gwisgoedd lliain newydd danlli yn ol ffasiwn ddiweddaraf Paris. Agorwyd y drws, a rhuthrasom ar draws ein gilydd i'r tren. Cefais amser, cyn iddo gychwyn, i sylwi ar dryciaid o geffylau. Yr oedd yno ddwsin lle na ddylai mwy na phedwar fod, yr oeddynt yn chwys diferu, ac wrth iddynt ymwylltio yn eu poenau, byddai gyrrwr bwystfilaidd yn procio ei ffon i'w ffroenau. Y mae'r Llydawiaid yn hoff o'u hanifeiliaid; ond am y porthmyn, cenedl greulon ac esgymun ydynt hwy.

Y Mynyddoedd Duon a Mynyddoedd D'Arrée ydyw asgwrn cefn Llydaw. Rhedant drwy ganol y wlad, o gyffiniau Ffrainc i'r môr. Gwenithfaen ydyw eu defnydd, — weithiau, yn enwedig ar eu pennau, y mae'r garreg yn noeth; dro arall, lle y mae ychydig o ddaear yn ei chuddio, tyf glaswellt garw'n fwyd i ddefaid a geifr teneuon; yn nes i lawr, ar ochrau'r mynyddoedd, ceir daear ddyfnach, a dyffrynnoedd, a dwfr yn rhedeg, a ffrwythlondeb mawr. Obell, y mae golwg dywyll a phruddglwyfus ar y Mynyddoedd Duon, nid oes arnynt hwy y lliwiau gleision tyner sy'n gwneud mynyddoedd Cymru mor brydferth. Yr oeddym yn troi gyda thrwyn y mynyddoedd hyn tua'r de, nid yn eu croesi'n hollol, ond eto'n ddigon uchel arnynt i weled yr holl wastadedd oedd odditanom, a Môr y Werydd ar ei orwel.

Ar ein llaw chwith gwelem y Mynyddoedd Duon o hyd; bob yn ail, fryn a dyffryn, y dyffryn yn rhedeg i'r gwastadedd ac i'r môr. Nid oedd gennym amser i gael taith trwy'r mynyddoedd, dywedid wrthym y buasem yn hoff'r mynyddwyr yn fawr, oherwydd eu cariad at brydyddiaeth a thraddodiad. Y mae un traddodiad am Arthur. Dywedir, bryd bynnag y bo rhyfel ar dorri allan, y gwelir Arthur a'i luoedd yn gorymdeithio hyd gopaau y Mynyddoedd Duon acw. Yn rhyfel y Chwyldroad, cenid


GORYMDAITH ARTHUR

Mab y milwr yn y bore waeddai ar ei dad;
"Ar gopâu'r Mynyddoedd Duon wele wŷr y gad.
Rheng 'r ol rheng o wŷr ceffylau, mil o wayw ffyn
Welai draw'n disgleirio'n eglur yn y bore gwyn.
"Arthur yw, fy machgen anwyl, rhaid in baratoi,
Lle mae'r bwa, lle mae'r saethau ? Hoi! I'r gad! Ohoi!"

"Calon am lagad! Pen am brech!
Ha las am blons, ha traon ha ffrech!
Ha tad am map, ha mam am merch!

"March am casec, ha mul am as!
Pen llu am mael, ha den am goas!
Goad am dacrou, ha tan am chwas."

Digon prin y mae eisiau cyfieithu'r gân ddial hon i Gymro,

"Calon am lygad, pen am fraich,
A lladd am friw, ar ddol a bryn,
A thad am fab, a mam am ferch.

"March am gaseg, a mul am asyn,
Cadfridog am filwr, a dyn am was,
Gwaed am ddagrau, a thân am chwys."

Wrth i ni deithio'n araf gydag ochrau eithinog y mynyddoedd tua Dirinon, yr oedd nifer o Lydawiaid yn canu alaw debig iawn i Fugeilio'r Gwenith Gwyn. Gwelem y môr ymhell ac yn dawel dan awyr boeth yr haf, a thu hwnt iddo gwelem amlinelliad gwan traethell Leon ac Ynys y Meirw, fel y gwelir bryniau Dyfneint o fro Morgannwg. Yr oeddwn i mewn rhyw gyflwr hanner breuddwydiol, a thybiais fy mod yn deffro yng Nghymru pan glywais waeddi — "Dowlas." Edrychais am enw yr orsaf — "Daoulas." Y mae Dowlas Llydaw yn dlws iawn, — bugeilio'r gwenith gwyn yr oedd rhai o'r bobl, a rhai'n eistedd ar lan afonig dryloyw i ochel y gwres. Gwelais Ddowlais Cymru hefyd; ac wrth wrando ar ru ei beiriannau ac edrych ar ei gawodydd tân a llwch, tybiais i mi glywed llais yn cyhoeddi,—

Learn that henceforth thy song shall be,
Not mountains capped with snow,
Nor forests sounding like the sea,
Nor rivers flowing ceaselessly,
Where the woodland bend to see
The bending heavens below.

“There is a forest where the din
Of iron branches sounds!
A mighty river roars between,
And whosoever looks therein
Sees the heavens all black with sin,—
Sees not its depths nor bounds."

Byddaf yn ofni'n aml yr effeithia llwyddiant masnachol Cymru arni er drwg, yr hegrir ei bywyd moesol fel yr hegrir ei daear gan byllau glo a chwarelydd. Y mae'r wlad yn prysur gyfoethogi, ein gweddi fo na chyll ei chyfoeth pennaf, — ei chariad at grefydd a'i hymdeimlad o'r ysbrydol, — wrth gynilo arian ac aur, ac wrth weithio haearn a dur. Mil gwell gan i'r Llydawr,— er na fedd ond cae tatws ar ei elw, yr hwn fedr addoli yn ei eglwys a chanu caneuon ei wlad ar ei aelwyd dlawd, na'r Cymro sydd wedi crebychu ei enaid wrth wneud arian, ac yn dirmygu ei hen iaith pan wedi cael palas i fyw ynddo.

Y mae mynachlog Daoulas, y fynachlog adeiladodd Guiomarch yn y ddeuddegfed ganrif, yn adfeilion. Ymysg yr adfeilion, chwery y ffynnon, y ffynnon y bu'r mynachod yn ymolchi ynddi, mor glir ac mor loyw ac mor gref ag erioed. Tebig iawn i'r ffynnon fach ydyw ysbryd Cristionogaeth. Codir llawer eglwys yn deml allanol i'r ysbryd hwn, a buan yr adfeilia honno. Y mae Eglwys Rufen heddyw yn adfeilion diobaith o amgylch ffynnon bywyd Eglwys Crist. Ond chwery'r ffynnon o hyd.

adael Daoulas gwelem wlad weddol wastad, — rhyw silff ar ochr y mynydd, — gwlad garegog a phur ddiffrwyth, lawn o dai henafol, prydferth, cadarn. Y mae rhyw ddieithrwch digri yng ngwisgoedd y Llydawiaid sy'n gwenu arnom, mae'r plant yn tafu blodau i ni, ond wff! dyma ni mewn tynel, ac wedi mynd allan o hono, y mae mur o bridd o bobtu i ni, fel na welem ddim. Llawer o gymharu sydd wedi bod rhwng y tren a'r hen gouts fawr y byddai'n tadau'n arfer trafaelio ynddi. Mae rhywbeth yn fwy gonest yn ymddanghosiad yr olaf, — byddai'n rhedeg hyd y prif ffyrdd, yng ngolwg pawb, a byddai'n mynd i bob tref trwy y porth mwyaf. Ond am y tren, y mae rhywbeth yn llechwraidd ynddo ef, — y mae ei lwybr yn aml o olwg tramwyfa'r bobloedd, trwy'r caeau a'r tu cefn yr â, a daw allan yn rhan isaf trefydd a dinasoedd, rhyw hanner lleidr, hanner pryf genwar, hanner ysbryd drwg ydyw'r tren. Y mae'r gouts fawr, fel gloyn byw, yn harddach lawer yn yr haf, ond druan ohoni yn y gaeaf.

Dyma ni allan eto, mewn gwlad goediog, heb dŷ yn y golwg yn unlle, a dyffrynnoedd lliosog, — ac afon yn gudd yn eu dyfnderoedd coediog yn rhywle, yn ymddolennu tua'r môr. Yna daeth gwastadedd ardderchog, ond buan yr ymdonnodd yn fryniau wedyn. Yr ydym yn awr ar ael mynydd uchel, clywn chwibaniad erchyll y tren, fel ysgrech aderyn drwg wrth ehedeg gyda chopa'r mynydd, yn cyhoeddi i drigolion Quimerch ein bod yn dod. Bryniau, rhosdir, eithin wedyn, dyma ni'n croesi afon fordwyol, — gwelwn hi ymhell odditanom, a'i mwd coch, — ac yn aros yn Chateaulin. Yr oedd yr orsaf yn llawn o bobl mewn gwisg Llydewig. Sylwasom fod rhyw debygrwydd yng ngwisg y bobl yma i wisg offeiriadol. Yr un oedd gwisg y bobl a'r offeiriaid unwaith, ond y mae gwisg yr offeiriaid wedi aros yr un, tra mae gwisg y bobl wedi newid yn ol gofynion eu gwaith. Y mae gwahaniaeth mawr, heblaw gwahaniaeth iaith, rhwng Llydawr a Ffrancwr eto. Daeth Ffrancur tew olewaidd i'r un cerbyd a ni; yr oedd Llydawr wedi cario ei nwyddau, ac wedi eu rhoi mewn diogelwch, ond wedi colli'r Ffrancwr; toc llygadodd ei dderyn, a daeth at ddrws ein cerbyd a'i het yn ei law. Wedi iddo fyned cyhoeddodd y Ffrancwr felltithion ar bopeth Llydewig, — eu hiaith, centyl eu hetiau, eu hesgidiau pren, eu hwynebau melancolaidd, a'u "bragou brâs."

Wrth adael gorsaf Chateaulin ceir golwg ar y dref, — un o'r golygfeydd prydferthaf yn Llydaw. Rhed dyffryn i fyny o'r dref, a gwelir eglwys a mynwent a choed duon ynddo, y mae rhyw ddieithrwch anesgrifiadwy yn y dyffryn hwnnw, y mae Natur ei hun fel pe wedi heneiddio ynddo. Gwlad odidogo wenith, a dyma ni'n croesi prif gadwen y Mynyddoedd Duon, lle mae creigiau uchel ac ewyn ar y dwfr. Yna disgynasom i wastadedd Quéménéven, a rhedodd y tren yn esmwyth hyd lawr dyffryn yr afon Ster, trwy

wlad hyfryd o gaeau a pherllanau, i hen dref Quimper.

XV.

GYDA'R CENADWR.

Y MAE Quimper yn un o'r lleoedd tlysaf, gwelsom hynny ar unwaith. Y mae'r afon Odet yn rhedeg tan gysgod bryn serth coediog, ac ar lan yr afon, wrth droed y bryn, saif y dref. Wrth ddod o'r orsaf, gwelem ystryd hir yn rhedeg tua'r de, a'r afon yn rhedeg gyda'i hochr, — yn rhedeg ar hyd-ddi ddylaswn ddweyd, — oherwydd nid oes dai rhwng yr afon a'r ystryd. Rhwng yr afon a throed y bryn y mae rhes o dai, a phont yn croesi o'r ystryd at bob un o honynt. Yr ochr arall i'r heol, y mae rhes o fasnachdai a gwestai, tai prydferth a'u ffenestri yn llawn o flodau. Dros y rhai hyn, gwelem dai'r ystrydoedd eraill, — y mae Quimper yn dref bwysig, yn meddu dros bymtheng mil o drigolion. Uwchlaw popeth, ymddyrchafa dau bigyn uchel yr eglwys gadeiriol, — fel dwy glust mul,” ebe Victor Hugo.

Troisom o ystryd yr afon tua chanol y dre, a phenderfynasom mai'r Hôtel de Bretagne fyddai ein gwesty. Gŵr byr, pryd du, yn meddu'r enw priodol Le Bihan, oedd gwr y tŷ, a choffa da am dano, bu'n garedig iawn wrthym. Wedi cael lluniaeth a gorffwys, gofynasom iddo a wyddai rywbeth am genhadwr o Bryden Fawr oedd yng Nghuimper. Gwyddai'n dda, yr oedd pawb yn y dre yn gwybod am “M. Shincin Shòns," chwedl yntau. Da oedd gennyf glywed mai fel "y bugail Calfinaidd" yr adnabyddid Mr. W. Jenkin Jones, oherwydd Calfiniaid y gelwid hen arwyr Protestanaidd Ffrainc, Coligni, La Noue, Agrippa d’Aubigné, Duplessis Mornay, — rhai o'r dynion ardderchocaf welodd y byd. Anfonwyd plentyn gyda ni i ddangos lle'r oedd Mr. Jones yn aros, nid oedd y tŷ ond rhyw ychydig o gamrau o'r Hôtel de Bretagne. Gwelem oddiwrth yr enw, — Olgiati, — ac oddiwrth ymddanghosiad glân a chwaethus ffenestri'r siop, fod pobl y tŷ'n Swisiaid ac yn Brotestaniaid. Nid oedd Mr. Jones i mewn, ond nid oedd ymhell, a welem yn dda ddod i fyny i'w ystafell, ac eistedd nes y doi? Eisteddasom mewn ystafell brydferth gysurus, a thra'r oedd Ifor Bowen yn sylwi ar ddarluniau'r pregethwyr Methodistaidd oedd ar y muriau, rhyfeddwn i a fyddai W. Jenkyn Jones wedi altro llawer er pan oeddym yn cydefrydu yn Aber Ystwyth wyth mlynedd yn ol. Yr oedd ef ar adael yr athrofa pan oeddwn i'n dod yno o'r Bala. Bum yn cydymdynnu ag ef mewn arholiad, ac nid myfi enillodd, er y gallwn gysuro fy hun fy mod wedi curo pawb arall. Yr wyf yn cofio yr adeg y cychwynnai i Lydaw, a'r argraff dda a roddwyd ar y bechgyn gan waith ysgolhaig goreu'r coleg yn mynd allan yn genhadwr.

Daeth i mewn, ychydig oedd wedi newid, er fod ganddo farf a'i fod wedi ymdebygu rywfodd i'r Llydawiaid. Ni wyddwn a fuasai yn fy adnabod i, gan fy mod wedi heneiddio llawer mewn wyth mlynedd, a dywedais fy enw. Atebodd yntau, —

"Yr wyf yn eich cofio'n dda iawn. Mi wyddwn eich bod yn d'od drosodd, ond nis gwyddwn pryd. Damwain hollol ydyw fy mod yng Nghuimper heddyw, ac mae yn falch gen fy nghalon fy mod yma. Y mae'n wyliau arnaf fi yn awr, ond ces deligram oddiwrth gyfaill ddoe yn dweyd fod Roberts, Waverton, wedi dod yma i edrych am danaf. Dois innau adre ar fy union, ond yr oedd Roberts, Waverton, wedi mynd, ond mae'ch gweld chwi'n gwneud i fyny am y brofedigaeth."
"Ym mhle'r oeddych yn treulio'ch gwyliau ?"
"O, gyda'r Beibl gludwyr, buom yn teithio'r wlad i'r de oddiyma, hwy'n gwerthu Beiblau a minnau'n siarad â'r bobl."
"Ffordd ryfedd o dreulio gwyliau, gwaith fuasai'ch gwyliau chwi i lawer o honom. Beth yw eich rhagolygon yn Llydaw'n awr ? "
"Llawn o obaith, mae hi'n dechre gwawrio arnom ni'n awr. 'Doedd dim posibl cael Llydawiaid Quimper i ddod i'n capel, ond yn awr yr ydym wedi cael ystafell, ac y maent yn dod i honno'n lluoedd."
"Beth ydyw'ch meddwl am y syniad sy'n ennill tir yng Nghymru y dylid rhoi'r genhadaeth yn Llydaw i fyny ?
"Yr wyf yn teimlo'n sicr na rydd Cymru mo Llydaw i fyny byth. Affolineb mawr fyddai ei rhoddi i fyny'n awr, ar ol blynyddoedd caled o weithio, pan mae'r ffrwyth ar ymddangos.
"Beth yw'r arwyddion welwch o hynny ?"
"Y maent i'w gweled ym mhob man. 'Roedd Pabydd deallgar yn dweyd wrthyf ychydig yn ol fod ar yr offeiriaid ofn yn eu calonnau weled Pabyddion yn dod i'n hymofyn i gladdu eu meirw; a phan wnant hyn, bydd gallu'r offeiriaid ar ben. Ond chwi gewch weled yr arwyddion eich hunan gyda hyn."
"A oes gennych lenyddiaeth Lydewig Brotestanaidd go dda? Trwy'r emynnau, mi gredaf, yr enillir y Llydawiaid."

Dywedodd y cenhadwr beth sydd wedi ei wneud yn y cyfeiriad hwn, aeth yn bur frwdfrydig, a chanodd un o emynnau James Williams, ar yr Hen Ddarbi, gydag arddeliad,–

"Discennet er Crist deus en nenfou,
Efid clascet ar re gollêt,-
He galon oe leun o drugares,
Ar falla so bet safeteệt,
Eur becheres bras oe pardonet,
Dre feritou prisus he ouad,
He chalon cen lous so bet goalchet,
He chenchet a gren he goall stad."

Gofynnais a oedd Pabyddiaeth ddim wedi dysgu'r bobl i weled prydferthwch llenyddiaeth a natur a chrefydd. Y mae llawer o dlysni yn hen grefydd Rhufen, a bu ei dylanwad ar fywyd yn fawr.

"Yr wyf yn cofio darllen erthygl o'ch gwaith,"ebe ynte, "yn profi nad ydyw crefydd a'r celfau cain yn cydflodeuo. Clywais lawer o gondemnio arnoch, ond gwyddwn eich bod yn dweyd y gwir. Beth feddyliech chwi mae celfau cain Eglwys Rufen wedi wneud i'r Llydawiaid hyn? Pan ddeuais i'r wlad gyntaf, meddylient mai dweyd wrthynt am addoli'r delwau yn yr eglwys yr oeddwn."
"A ydyw'n anodd eu cael i feddwl drostynt eu hunain?
"Ydyw, yn amhosibl bron. Y mae Pabyddiaeth wedi lladd eu meddwl; rhaid i minnau ddechre trwy fod yn rhyw fath o offeiriad iddynt. Daeth gwraig ataf y diwrnod o'r blaen i ofyn i mi a wnawn ei chyffesu,— y mae'r offeiriaid wedi eu cynefino â gorffwys ar bobl eraill am bob peth."
"A oes llawer o frwdfrydedd dros eu heglwys ymysg yr offeiriaid? "
"Dim. Y maent yn gweled fod eu dydd ymron ar ben, ac y maent yn gwneud eu goreu i gadw eu gafael ar y bobl, tuag at eu cadw mewn anwybodaeth."
"A ydyw'r offeiriaid yn cydymdeimlo â dyhead cenedlaethol y Llydawiaid?"
"Y maent wedi lladd hwnnw ers talm. Rhaid i chwi gofio nad ydyw Llydaw fel Cymru. Nid ydyw'r deffroad cenedlaethol wedi cyrraedd yma eto. Pan ddywedodd Le Bras y diwrnod o'r blaen y dylai'r Llydawr fod yn falch mai Llydawr ydyw, chwarddasant am ei ben. Ond beth feddyliech chwi am droi i weled y dre' ar y prynhawn braf yma?"

Dringasom y bryn y saif Quimper wrth ei droed, yr oedd y coedydd yn gysgod hyfryd, a gwelem yr hen dre ramantus trwy'r dail pan eisteddem i orffwys. Danghosodd y cenhadwr yr holl ysgolion ac ysbytai oedd yn nwylaw'r offeiriaid, —ysgolion elfennol, ysgolion canol, mynachlogydd, lleiandai, meddygdai ymron heb rif. Dywedais y buaswn i'n digalonni wrth feddwl am bregethu Protestaniaeth mewn lle mor Babyddol a hwn.

"Byddaf inne'n digalonni weithiau, ond dro arall bydd rhyw nerth yn fy nghodi i uchelfannau'r maes.
"A oedd dod yma i ddechre ddim yn beth digalon iawn?"
"Na, yr oedd yma gyfeillion Ffrengig yn disgwyl am danaf, a chefais groeso calon."
"Ond onid ydyw'n ddigalon iawn i ddechre siarad yn unlle? Ai sefyll ar gornel y stryd y byddwch? "
"Na, bydd y bobl yn disgwyl am danom braidd bob amser, bydd ein gelynion wedi cyhoeddi ein bod yn dod."

Yr oedd y prynhawn yn hyfryd gynnes, a suai awel dyner o ganoldir Llydaw drwy'r coed. Aeth yr ymddiddan yn ymddiddan am Gymru, hyd nes y gwelsom oddiwrth hyd cysgodau'r coed fod yn bryd i ni fynd yn ol. Yr oeddym yn ciniawa gyda theulu Protestanaidd, — M. a Mme. Orière, — hyhi o Switzerland ac yntau o Ddeheudir Ffrainc. Dywedai Mme. Orière am ei hiraeth am fynyddoedd y Grisons ac am Brotestaniaid diwyd yr Alpau. Yr oedd yn siarad yn rhy gyflym i mi ddeall ei holl ystyr, ond deallais yn eglur fod Protestaniaeth yn newid dyn drwyddo. Dywedai'r cenhadwr am bysgotwyr Pont l'Abbe, nad ydynt wedi ymuno eto, ond y maent ar y ffordd, — darllennant y Beibl, gwisgant ruban glas dirwest, gwnant eu dyletswydd, "y maent yn aeddfedu ohonynt eu hunain." Deallais fod sel rhai wedi troi'n ddibendraw braidd, — siaradant nos a dydd gydag eraill, ar y lan ac ar y môr, i'w cael at y Gwaredwr. Clywsom am bysgotwyr eraill, — "Hwn yn gyntaf a gafodd ei frawd Simon." Gofynnais i'r cenhadwr a oedd arno ddim hiraeth am y cyfarfodydd yng Nghymru. Rhoddodd yntau hanes cyfarfod yn Llydaw, cyfarfod y methent gael pen arno, oherwydd fod rhywun a chwestiwn i'w ofyn o hyd, amser y tren yn unig roddodd ben ar y cyfarfod melys hwnnw." Adroddodd Ifor Bowen hanes Joseff Thomas yn pregethu ar y nefoedd yn Sasiwn Dolgellau; ac wrth weled pobl yn prysuro ymaith er eu gwaethaf pan oedd y bregeth ar ei melysaf, dywedodd, — "Bobol, fydd ono 'ddun tdden yn y nefoedd."

Tarawiadol iawn oedd clywed gymaint ddisgwylia Protestaniaid Quimper wrth Gymru. Dylai Cymru anfon, nid un, ond deuddeg o genhadwyr. Fel y byddai'r hen eglwys Brydeinig yn gwneud,-gyrru cwmni o genhadwyr gyda'i gilydd. Y mae'r muriau'n crynnu yn Llydaw, meddent, un ymosodiad dewr rydd y wlad yn eiddo Crist.

Ar ol cinio, yr oedd yn braf wedi gwres llethol y dydd,— aethom i lawr gyda glan y dŵr i gwr y dref, ac eisteddasom lle mae'r afon yn rhoi tro am odrau'r mynydd. Doi arogl hyfryd y gwair o'r caeau gerllaw, gwelem luniau'r tai gwynion a'r coedydd duon yn y dŵr, a gwelem y Seren Hwyrol yn gwylaidd oeraidd syllu arnom. Dywedodd Jenkin Jones ei drallodion yn Rosporden, a chawsom ryw syniad am yr anhawsterau y rhaid i genhadwyr ymladd yn eu herbyn. Trodd yr ymgom at gangen-ieithoedd Llydaw,— ieithoedd Leon, Treguier, Cornouaille, a Vannes. Wrth i Ifor Bowen a minnau droi tua'n gwesty, tybiem o hyd mai

yng Nghymru yr oeddym, ac mewn breuddwyd.

XVI.

YR EGLWYS GAM.

MEWN gwesty Llydewig cawsom ein hunain yn gartrefol iawn ymhob man. Ceir yr hen groesaw Cymreig yn ei holl symlrwydd calon— gynnes, — daw'r morwynion i roddi ychwaneg o ymborth ar y ddysgl, rhagofn fod y dyn dieithr yn rhy swil i wneud cyfiawnder âg ef ei hun, ac i holi, o wir awydd am wybodaeth, beth y mae'n wneud. Pan oeddwn yn ysgrifennu emynnau Llydewig o ysgrif-lyfr oedd y cenhadwyr wedi roddi yn fenthyg imi, daeth morwynig o Lydawes ataf, a gofynnodd ai cerdd oedd gennyf, ai cerdd Gymraeg oedd, ac a wnawn ei chanu. Gwyn fyd na fedraswn ganu iddi yr emyn oeddwn yn ysgrifennu —

Hen ho peus gwelet,
Hen ho peus gwelet,
Iesus, fa Ffrener ha Doue?
'Fid eur pecher efel doun
Roas 'so bues dre chouad fa Roue.'

Ond ni fedraf ganu. Mewn cyngherdd o offerynnau nid oes ond un offeryn fedraf fi ddeall, — y drym fawr. Y mae rhywun wedi dweyd, — mae pobl yn dweyd pob peth, — mai'r clyw yw'r mwyaf ysbrydol o'n holl synhwyrau, ac y mae rhywun arall wedi dweyd fod ysbryd canu'n hanner chwaer i ysbryd addoli. Os felly, y mae ar ben arnaf fi.

Ac eto, ni ddylwn ddigalonni, oherwydd bum unwaith yn arweinydd côr. Yn Geneva oedd hynny, pan oeddwn yn gaeth mewn ystafell yno gan afiechyd. Yr oedd gennyf le tân hir hen ffasiwn, a phymtheg o decelli arno'n rhes, yn canu drwy gydol y dydd. Nid oeddynt o'r un faint, ac nid yr un faint o ddwfr fyddwn yn roddi ym mhob un ohonynt. A thrwy eu ffitio fel hyn, a thrwy ddyfal ymarferiadau, a thrwy eu harwain gyda megin, yr oeddwn wedi dysgu'r pymtheg tecell i ganu Gorymdaith Gwŷr Harlech. Ryw ddiwrnod, er dirfawr brofedigaeth imi, taflodd y tenor goreu ei big, ac ni fu lun ar y côr byth ar ol hynny.

Bore'n hail ddiwrnod yng Nghuimper, dechreuasom grwydro drwy ystrydoedd diddorol y dref. Yr oedd y farchnad ar ein ffordd, a throisom iddi i weled y Llydawesau a'u blodau newydd ddod o'r wlad. Yr oedd enwau y trefydd Llydewig a'u pais arfau ar y mur, — Castell Newydd, Lesneven, Port Lauray, Audierne, coron a tharw Car Haix, draig goch Pont l'Abbé, draig wen Pont y Groes, bwyell goch Concarneau, llong Morlaix, hwrdd Quimper, tair pluen Brest, castell Chateaulin, ceiliog coch Quimperle, draig ddu St. Pol de Leon, dwy ddraig Landerneau, llewpard Le Faou, Le Conquet, Douarnenez.

Eglwys Gadeiriol Quimper ydyw adeilad enwocaf y dref. O bell, y mae fel pe ar edyn, oherwydd amlder ei hategion, fel draig a dau gorn hir yn ymbaratoi i esgyn oddiar y ddaear. Wedi myned i mewn, y mae golwg wir fawreddog ar y colofnau a'r gwydr lliw. Wedi sylwi ychydig, gwelsom fod yr eglwys yn gam, fel llwybr a thro ynddo drwy goedwig dewfrig. Gwnaed hi'n gam i fod yr un fath a Iesu Grist ar y groes, pan oedd ei ben wedi gogwydd gan ing.

Ar golofn ar ein cyfer y mae hanes yr eglwys yn gerfiedig, ac enwau ei chymwynaswyr, — y Gradlon ddiangodd pan foddodd y môr Ddinas Is, Owen Cabellic, Alan Rivelen, Bertrand Rhosmadec, Raoul le Moel, Claude de Rohan. Ar y dde, gwelsom gapel y Forwyn Fair, a "Je suis l'immaculee conception" fel coron o amgylch ei phen. Hysbyswyd ni fod yn y capel hen bethau y dylem eu haddoli, sef,

1. Blewyn o wallt y dra santaidd Forwyn.
2. Blewyn o edafedd ei gorchudd.
3. Carreg o fedd y dra santaidd Forwyn.
4. Carreg o'r tŷ yn Nazareth.
5. Carreg o le'r Ymweliad, hynny yw, o dŷ y santaidd Elisabeth.

Wedi pasio cyffes gelloedd a chapel Calon Santaidd Iesu, daethom at gapel mam y Forwyn, Ann Santes. Darlunnir hi fel "nain Iesu Grist, mam yng nghyfraith Joseff, priod Joachim, gwinwydden ffrwythlawn, llawenydd angylion, merch y patriarchiaid, noddfa pechaduriaid, mam y cleifion." Yn y ffenestr uwchben y mae darlun o Ann yn dysgu yr enethig Mair i ddarllen, ac y mae dyn cloff tlawd yn disgwyl wrthi am ymgeledd gerllaw. Hoff iawn gan y Llydawr adael i'w ddychymyg chware o gwmpas y cartref yn Nazareth. Nid ydyw ei ofergoeledd i'w gondemnio'n gyfangwbl, ymgais ydyw i ddarlunio bywyd y Beibl fel bywyd Llydaw. Teimla'r Llydawr yn sicr fod gan y Forwyn fam fel rhyw hen foneddiges Lydewig, merch llinell o batriarchiaid hirwallt, un dda wrth y tlawd, un ddysgai i'w phlant ddarllen. Onid ydyw dychymyg Cymru wedi gweithio yn yr un modd? Oni ddarluniai Evan Harries y Pharoaid fel rhyw orthrymwr adwaenai'r bobl ar Fro Morgannwg, ac oni ddarluniai Gwilym Hiraethog hen famau Israel fel hen famau Dyffryn Clwyd?

Y mae addoli'r Forwyn Fair yn beth anysgrythyrol, ond nid ydyw yn beth anodd ei esbonio. Yr oedd yn rhaid i'r diwinyddion esbonio pa fodd yr oedd yr Iesu, ac yntau'n ddyn, yn rhydd oddiwrth bechod gwreiddiol. Naturiol oedd iddynt ymhyfrydu mewn disgrifio cymeriad dihalog y Forwyn, a'i gwneud hithau hefyd yn fath o dduwies, — yn ferch santes, ei hun yn ddibechod. Peth arall, yr oedd yn rhaid gwneud crefydd yn hawdd ei deall i bobl o syniadau gweiniaid a daearol, ac y mae person dynol, — yn enwedig gwraig i gydymdeimlo, — yn llawer mwy dealladwy nag egwyddor neu wirionedd noeth.


Yn ol yr hen Biwritaniaid, y mae Duw'n llawn llid yn erbyn pechod ac yn llawn cydymdeimlad â'r pechadur. Y mae Pabyddiaeth wedi cymeryd y naill o'r priodoleddau dwyfol hyn, a Phrotestaniaeth wedi cymeryd y llall. Cydymdeimlad â'r pechadur yw nodwedd Pabyddiaeth, crefydd lawn o bob math ar faddeuant ydyw yn y byd hwn, ac y mae wedi rhoddi'r Purdan rhwng yr enaid coll a'r 'uffern ddiobaith. Casineb at bechod ydyw nodwedd Protestaniaeth, iddi hi y mae muriau uffern yn ddiadlam byth. Crefydd i'r Celt, — un sy'n pechu ac yn edifarhau o hyd, ym mhwysau ei natur nwydus, — ydyw Pabyddiaeth. Crefydd i'r Teuton, un na wna ddim ond o hir fwriad, ydyw Protestaniaeth. Person sydd fwyaf dealladwy i'r Celt. sefydliad i'r Teuton, – Mair sy'n llenwi meddwl y naill, yr Eglwys sy'n llenwi meddwl y llall. Paham y mae'r Cymry'n Brotestaniaid ynte? Y mae Ann Griffiths wedi gwneud yr Eglwys, priodasferch yr Oen, mor hawdd ei deali i Gymro ag ydyw Mair y Forwyn i Lydawr.

Y mae yn yr Eglwys Gam lawer o gapelydd a chreiriau eraill, capel Joseff, ond nid oes cymaint yn penlinio o'i flaen ef ag o flaen ei fam yng nghyfraith; capel Ioan, ac asgwrn ei ben; bedd rhyw Lydawr o Gynan, ‘yn disgwyl atgyfodiad; Mair y Gobaith, gyda darlun o wyneb swynol, a llawer o flodau offrwm; darlun o'r tad Mannoir yn dysgu'r Brythonwyr yn eu hiaith eu hunain trwy wyrth; capel braich Corentin, nawdd sant yr eglwys, ceir gollyngdod oddiwrth bechodau tri chan niwrnod ond ymweled â'r bedd hwn, estynnir yr un fraint i'r eneidiau sydd yn y Purdan, sut bynnag y medrant adael y lle hwnnw er mwyn cymeryd daith. Ond hwyrach y gall rhyw gâr wneud y siwrne drostynt. Gwelsom allor freintiedig," a cherſlun o hen esgob tew yn gorwedd yn gysurus ynddo; a chapel y Tri Diferyn; a chreiriau llawer sant, — Ronan, Goulven, Padarn, Malo, Melain, Armel. Gwenole, Gildas, Meen, Petvan.

Y mae'r Llydawiaid wedi cadw mwy o'u hen enwau priodol na'r Cymry. Oddigerth rhyw ychydig,—megis Llwyd, Anwyl, Gwyn—y mae enwau'r Cymry yn enwau dieithr. Jones, Williams, Evans, Roberts, Hughes, dyna ymron yr oll a feddwn. Gellir esbonio pam y mae'r enwau Cymreig wedi diflannu. Pan ddaeth y Normaniaid i Gymru, dechreuodd trigolion y wlad, yn ol eu hen arfer wasaidd, gymeryd enwau'r Saeson, a galwodd pawb ei hun yn John neu'n William neu'n Hugh. Erbyn y bymthegfed ganrif, byddai enw Cymro yn rhywbeth fel hyn, John ap Hugh ap Richard ap William ap Harri ap Robert ap Cadwaladr ap Rhydderch ap Llewelyn ap Gruffydd. Ond tyngodd yr esgob oedd yn Arglwydd Lywydd y Gororau tua 1540 na fedrai ef byth gofio mwy na dau enw ar yr un dyn, a gwnaeth gyfraith nad oedd yr un Cymro i fynd yn ol ymhellach na'i dad wrth ddweyd neu ysgrifennu ei enw. Ac felly cwtogwyd John ap John ap Hugh ap Richard ap William ap Harri ap Robert ap Cadwaladr ap Rhydderch ap Llewelyn ap Gruffydd nes oedd yn John Jones. Gadawyd ambell lecyn, megis Mawddwy, dan ei hen gyfreithiau, ac arhosodd yr enwau achyddol megis cynt. Clywodd gŵr o Lan— uwchllyn lais mawr, pan yn ei wely, o gors gerllaw ei dû. Deallodd oddiwrth y sŵn mai dyn o Fawddwy oedd wedi myned i'r gors ar ei ffordd adre, ac efe weithian wedi ymgyfnerthu â diod gadarn i wynebu ofnau Bwlch y Groes. Pwy sydd yna, druan? Dowch yma'n union i helpu William Sion William ap Sion Llywelyn ap Rhydderch mab yr hen Lywelyn Sion o'r gors." Helpwch eich hunain, y fileiniaid, y mae yna ddigon o honoch i lenwi'r gors, feddyliwn i."

Ond cadwodd y Llydawiaid eu henwau. Ar siopau Quimper yn unig gwelais y rhai hyn,—Castel, Morvan, Guezenec, Cardod, Madoc, Mancec, Guiomar, Rivoalen, Kergoat, Le Coz, Guiader, Le Gof, Troadec, Le Bras (Y Mawr, gwlaw bras), Le Balch, Le Hir, Le Bihan, Squannec (y dyn a'r clustiau hirion, cf. 'sgwarnog, yr anifail hirglust), Troeder, Keribin, Le Berre (Y Byr), Le Goig, Le Bris (Y Brith), Canet, Caralec. Chwarddasom wrth weled un enw,—"Le Moel, Peruquier," Y Moel, trwsiwr gwallt.

Crwydrasom drwy'r ystrydoedd Llydewig sy'n dringo ochr y bryn,—" Ystryd y Gwyr Bonheddig a'i cherfiadau; Ystryd Pichéry, lle mae "Tafarn y Bobl Seilion," — y mae llawer o fynych wendid yn Llydaw hefyd; a llawer hen ystryd dawel arall. Llydaweg glywem yn yr ystrydoedd hyn, ac ar lan yr afon loyw, a than y coed, ond yr oedd yr hysbyslenni i gyd yn Ffrancaeg. Yr unig hysbyslenni Llydewig welsom oedd rhai bydwragedd a meddygon anifeiliaid. Rhyw— beth yn debig ydyw yng Nghymru, clywais Gymraeg ddigonedd ar heolydd Caerfyrddin, ond yr unig Gymraeg welais yn ffenestri ei siopau oedd hysbyslenni am bregethau ac am furum sych.

Gwelsom Guimper ar fin nos, pan oedd y lleuad newydd yn dod i'r golwg dros ysgwydd goediog y bryn. Gwelsom y goleu'n crynnu ar yr hen furiau, ar ddau bigyn yr eglwys gam, ar y coed oblygent uwchben

yr afon, — ac ni welsom ddim prydferthach erioed.

XVII.

Y DDINAS FODDWYD.

UN bore gwelid Ifor Bowen a minnau'n cyrchu tua thŷ'r cenhadwr, yr oedd wedi addaw dod gyda ni i Ddouarnenez. Pan oeddym yn pasio dan gysgod yr eglwys ar y ffordd i'r orsaf, gwelem hen ŵr hirwallt barfwyn yn prysuro adre heibio'r gornel. Luzel oedd, ond ni feddem amser i gael ymgom âg ef, rhag colli'r tren. Efe, Renan, a'r Vicomte de la Villemarqué sydd wedi gwneud mwyaf, o bawb sy'n fyw, dros lenyddiaeth Llydaw. Yr oeddym wedi meddwl cael ysgwrs â'r tri, ond ni wenodd Ffawd arnom.

Yn yr orsaf gwelsom lawer o Swissiaid Protestanaidd Quimper, yr oeddynt hwythau'n mynd i dreulio diwrnod ar lan y môr yn Nouarnenez. Yr oedd mab un ohonynt, ysgol feistr, newydd gyrraedd adre o Ffrainc, a dywedodd lawer wrthym am deimlad llywodraeth Ffrainc tuag at Lydaw. Yr un ydyw ag oedd teimlad Lloegr at Gymru ryw ychydig flynyddoedd yn ol, awydd dinistrio bywyd Cymru, a gwneud yr holl Gymry'n Saeson. Ni oddefir i un athraw esbonio gair yn Llydaweg i blant yn yr ysgol, rhaid dysgu plentyn uniaith Llydewig trwy gyfrwng y Ffrancaeg. Dan y drefn felltigedig hon yr addysgwyd finnau, lawer blwyddyn yn ol, mewn ysgol wledig yng Nghymru. Cymerir gofal, fe'm hysbyswyd, am anfon pob ysgolfeistr Llydewig i rannau arall o'r wlad; a dygir brodorion Ffrainc neu Wasgwyn yn eu lle i Lydaw. Ffranceiddio pob man ydyw amcan llywodraeth Ffrainc, trwy osod syniadau pechadurus am wag ogoniant Ffrengig ym meddyliau pawb. Edrychais o'm cwmpas, a gwelais ar gapiau'r plant enwau brwydrau gwaedlyd anghyfiawn Napoleon,—Marengo, Austerlitz, Jena. Ond ni welais Drafalgar na Waterloo na Sedan ar gap neb.

Yr oeddym yn teithio'n araf drwy wlad fryniog eithaf ffwythlon heibio Wengat a Iuch, yn y man croesasom bont dros afon oedd ar ymarllwys i'r môr, a dywedwyd fod Douarnenez yn ymyl.

O'r orsaf aethom drwy ystryd hir, gan ddal sylw ar y man bethau wna fywyd y pentrefydd Llydewig yn anhebig i fywyd pentrefydd Cymru, — yr esgidiau pren (bwtw coad); drym y criwr, yn lle cloch; y dull o bedoli ceffylau yn yr efail, lle gwelsom wyth o bobl a'u holl egni yn pedoli un ceffyl. Cyfeiriasom tua thŷ'r pregethwr Calfinaidd Le Groignec, a theimlem yn gartrefol iawn wrth feddwl am ymweled â phregethwr Methodist o Lydawr. Mewn lle dieithr, i dŷ'r pregethwr yr eir yn aml am gyfarwyddyd, ac y mae hyn yn beth i'w synnu ato pan gofiom nad oes undyn mwy prysur nag ef. Ond clywsom nad oedd gartref, a throisom i dŷ'r is lys-genhadwr Norwegaidd, hen ŵr tal urddasol, sy'n preswylio yn Nouarnenez i achub cam y Norwegiaid Lutheraidd sy'n dod yma i werthu tar a rhaffau i'r pysgotwyr. Oddi yno aethom trwy'r pentref tua'r môr. Eglwys newydd ydyw'r eglwys, dynwarediad gwael a di-enaid o eglwys Quimper; a phentref tlawd hyll ydyw'r pentref, — tai budron wedi eu hadeiladu yn dyn yn ei gilydd. Ond am y môr, ni welais ef mor ogoneddus yn unlle erioed. Prysurasom heibio'r adeiladau lle pecir sardines, gan gau ein ffroenau rhag y drewiant gyfyd o'r miloedd pennau pysgod oedd yn pydru ym mhob agen, esgynasom fryncyn gwyrdd, gwelsom y môr o'n blaenau, a daeth awel iach oddiarno i'n cyfarfod. Yr oeddym wedi clywed nad ydyw Bau Douarnenez yn ail ond i Fau Naples yn unig mewn prydferthwch. Nid ydyw awyr Llydaw mor glir ag awyr yr Eidal, na'r lliwiau mor dyner a gogoneddus, ond y mae Bau Douarnenez yn hyfrydwch i bob llygad a'i gwel. Y mae wedi ei gau i mewn ar bob ochr ond un gan fynyddoedd. Oddiar y bryn y safem arno gwelem holl gylch ei draethell. —llethrau grugog a Ilanerchi bychain o dywod melyn disglair yn agosaf atom, a rhimin o fynyddoedd gleision yn y pellter, yn ymestyn i'r môr ar lun pen ysgyfarnog. Yr oedd yn amser i'r cychod fynd allan i bysgota, ac yr oedd ugeiniau ohonynt yn cyfeirio tua phen y llwybr i'r môr agored heibio godrau'r mynydd sy'n sefyll yn y môr. Goblygai eu hwyliau bychain duon i'r un cyfeiriad, yr oedd y cychod yn dduon, fel pebyll Cedar, ar y dwfr glas, ac yn hawddgar iawn. Ymddanghosai'r bau'n dlysach na'r tir, yn fwy heddychlon na'r môr, yr oedd y cychod bach yn berffaith ddiogel wrth ddawnsio'n ddistaw ar ei dennau mân, a meddyliwn fod pob Llydaw- iad oedd ar y bau wedi gweddio gweddi'r pysgotwr, — "O Dduw cadw fi, mae dy fôr di mor fawr, a'm cwch innau mor fach."

Bu'r bau tonnog hwn yn ddol werdd unwaith, medd hen hanes. Yn y bumed ganrif teyrnasai Gradlon Mawr ar Gaer Is, y ddinas ar y gwastadedd oedd yn is na'r môr pan fyddai'r llanw i mewn. Dyma oedd "Cantre'r Gwaelod" yn Llydaw, a Gradlon Mawr, fel Seithenyn Feddw, oedd yn cadw allweddau'r môrddrysau. Yr oedd sant yn Llydaw'r adeg honno, o'r enw Gwenole, ac yr oedd hwn wedi hen rybuddio Gradlon fod perigl mewn gwleddoedd a gwin. Yr oedd gan Radlon ferch brydferth, hefyd, o'r enw Dahut, ac yr oedd ganddo elyn. Gwelodd Dahut y gelyn hwn, a hoffodd ei bryd a'i wedd. Cyn hir, cymerodd ei darbwyllo ganddo i ladrata'r allweddau oddiar y gadwen oedd am wddf ei thad, a'u rhoddi iddo ef. Agorodd yntau'r drysau pan oedd pawb yn cysgu yn nyfnder y nos, ac erbyn y bore ni welid ond môr lle buasai Caer Is. Clywodd rhywun sŵn y dyfroedd yn dod, a medrwyd cyfrwyo march Gradlon mewn pryd iddo ddianc. Rhoddodd Ddahut ei ferch wrth ei sgîl, ond, dan bwysau'r ddau, yr oedd y môr yn prysur ennill ar y ceffyl. Pan oedd y tonnau wrth sodlau'r march, daeth marchog arall a charlamodd yn ochr y brenin, a gwaeddodd arno'n llidus am daflu Dahut i lawr. Gwelodd Gradlon mai ysbryd Gwenole oedd yn siarad âg ef, a thaflodd ei ferch i lawr mewn ufudd- dod iddo. "Pwll Dahut? y gelwir y lle y boddodd merch y brenin hyd heddyw. Wedi ei boddi hi, peidiodd llid Gwenole a chynddeiriogrwydd y môr. Y mae cerdd Lydewig yn y Barzaz Breiz am foddi gwastadedd Is.

I.

A glywaist ti eiriau gŵr Duw,
Wrth Radlon Mawr, hen frenin Is?
Gwylia, gwin a chariad yw
Dinistr byd. Rhaid talu'r pris."

II.

Ebe Gradlon,"Hoff gyd wleddwyr, cysgwch heno gyda mi,"
"Pell y cerddodd y nos weithian, cysgwn gyda thi."
A daeth llais o'r mwynaf glywyd i glust merch y brenin ffol,
"Dahut anwyl, dwg im allwedd Dinas Is, ti a'i cei yn ol."

III.

Cysgai’r brenin yn ei harddwch, harddwch henaint teg,
Syrthia'i wallt fel cawod eira ar ei fantell borffor cain,
Ar ei wddf 'roedd cadwen emog, ac arni agoriadau ddeg,
Gwelid allwedd caerau'r moroedd, allwedd fawr, ymysg y rhain.

IV.

Daeth geneth wen ysgafndroed
Yn ddistaw, ddistaw,
I'r frenhinol 'stafell gwsg,
Gan wrandaw, gwrandaw.
Anadliad cwsg ei thad,
Yn unig glywai,
Ond su alaethus y môr
ar bell ororau.
O faen yr hen ŵr oedd yn huno penliniodd,
Y gadwen a'r allwedd yn ddistaw gymerodd.

V.

Mae'r brenin yn cysgu. Ond daw gwaedd o'r iselder,—
"Mae'r drysau yn agored, mae'r môr yn rhuthro i mewn,
"Fy mrenin ! O cwyd! Dy farch buanaf gyfrwyir,—
"Mae'r tonnau brigwynion cynddeiriog yn dyfod !
"Ho! Ffowch am eich bywyd, drigolion y gwaelod !
"Mae'r môr ar ein gwarthaf, pwy agorodd y drysau?
"Pa adyn melltigedig a'n bradychodd i Angeu?"

Mae buanfarch y brenin ar ucheldir Pen Afroedd,
A Chaer Is yn eigion y dyfroedd.

VI.

"Goediwr, dywed imi, a welaist fuanfarch
Hen frenin Is yn dianc rhag y môr?"
"Ni welais ddim, ond aml yn nyfnder nos
Mi glywais sŵn traed ceffyl yn dianc rhag y môr,
Trip, trep, trip,
Trep, trip, trep,
A'r môr yn dod i mewn.
Bysgotwr, dywed imi, a welaist forwyn fôr
Yn cribo ei gwallt melynaur ar y lan?"
Do, llawer gwaith y gwelais forwyn wen y môr,
A'i chân, fel llais y tonnau, 'n gwynfannus wan."

Prynhawn dedwydd dreuliasom gyda'r cenhadwr ar ochr y bryn, y môr a Dinas Is odditanom, a chymylau uwchben yn lleddfu'r gwres. Ond rhaid oedd rhoddi terfyn ar yr ymgom, gan fod bysedd clociau'n mynd o hyd. Troisom tua thŷ'r pregethwr Le Groignec. Y mae'n byw mewn rhan isel yn y pentref, — a pha le sydd futrach na phentref pysgotwyr. Esgynasom risiau. yr oeddynt yn fudron a lleidiog iawn. Wrth fynd i fyny, gwelem du fewn llawer ystafell, ac yr oeddynt oll yn fudron ffiaidd. Cyn hir cyrhaeddasom yr ystafelloedd uchaf ar y fflat, ac yr oedd tynnu i fyny iddynt o'r lleill fel myned o'r ddaear i'r nefoedd, — llenni gwynion, dodrefn cyn laned a'r aur, plant bach tlws, iechyd, a chân. Dyma deimlir, bob amser wrth fyned o dŷ Pabydd i dŷ Protestant. Beth bynnag arall y mae Protestaniaeth yn wneud, y mae'n dysgu pobl i olchi eu hwynebau ac i lanhau eu tai, ac y mae hyn yn sicr o fod yn rhan bwysig o grefydd Iesu Grist. Y mae Le Groignec yr un ffunud a phregethwr Methodist Cymreig, ac y mae ei wraig yr un fath yn union a gwraig pregethwr Methodist, — yn llawen, yn hardd, yn groesawgar. Y tu allan i Gymru, nid oes yn y byd gystal merched a merched Llydaw. Cawsom ginio cysurus, ar liain cyn wynned a'r eira, cofiodd Madame Le Groignec mai Prydeiniaid oeddym, a chawsom de fel bys. Yr oeddym oll yn teimlo ein bod yn un teulu, caneuon a chrefydd a theimladau Cymru oedd ein caneuon a'n crefydd a'n teimladau ni y prynhawn hwnnw. Llydaweg oedd yr iaith, ond nid oeddym yn cofio nad Cymraeg oedd. Yr oedd un o ferched bach Le Groignec yn chware'r piano,—hyhi sy'n chware yn y capel, — a'r lleill yn canu. Yr oedd un emyn prydferth yn dechre,

"Iesu, rwy'n hiraethu am danat."

Ond y peth mwyaf tarawiadol i ni oedd clywed y Delyn Aur,—

"Ne fo ffin da gana ha meuli
Iesus Crist da firicen,
Tent hog eled gano assambles
He fadeles da bep den,
Ne fo bicen
Ffin da son am delen aour."

Aethom i weled yr ystafell genhadol. Rhan o dŷ coed ydyw, ystafell isel, dywell, mewn lle budr. Ar noswaith cyfarfod, medr y gelynion wneud gwrando'n beth amhosibl, ac y mae'r arogl ymgyfyd o'r tomennau gerllaw yn anioddefol bob amser. Perigl parhaus oedd syrthio ar draws plant, creaduriad bach budron hanner noethion oedd yn chware yn y llwch a'r tomen— ydd. Yr oedd un peth yn anwylo'r bodau bach hyn i ni ar unwaith, clywem bwy'n gwaeddi mam,' y gair cyntaf ddysgasom ninnau erioed. Os hoffech gryfhau'ch sel dros y genhadaeth yn Llydaw, ewch yno a gwrandewch ar y plant yn chware; cewch deimlo, mewn graddau anfeidrol lai, deimladau Tad Nefol wrth glywed pechaduriaid, ym mangre pechod a dioddef, eto'n siarad rhywbeth tebig i hen iaith y wlad well.


Aethom trwy'r ystrydoedd i'r pen arall i'r pentre i weled yr ystafell genhadol newydd. Gŵr canolig o ran taldra ydyw Le Groignec, gyda llais treiddgar heb fod yn ddwfn, a wyneb yr un bictiwr a Henry Jones, Capel Garmon gynt. Dywedodd wrthyf mai mynach oedd unwaith, yn ei gell gwelodd dwyll Pabyddiaeth, darllennodd ei Feibl, gwelodd oleu, daeth yn Brotestant, a phriododd. Wrth gerdded ymlaen, gwelem fod braidd bob Llydawr yn rhoddi ei fys ar gantel ei het i'r ddau genhadwr, tra na welem neb yn moes gyfarch yr offeiriaid Pabaidd. Mae'n amlwg fod y Llydawiaid yn parchu'r bugeiliaid Calfinaidd, tra nad oes ond ofn yn eu cadw wrth y lleill.

Erbyn i ni edrych yr ystafell newydd, yr oedd yn dechre nosi, ac yr oedd amser y tren yn agoshau. Rhwyfasom dros yr afon, yr oedd y llanw'n codi'n gyflym, ac aethom i'r orsaf hyd ffordd agosach na'r un y daethom ar hyd—ddi. Siaradai'r cenhadwr Lydaweg a'r cychwyr, er braw iddynt,—"O, 'roeddem ni'n meddwl mai Ffrancod oeddych chwi." Yr oedd y lleuad i'w gweled yn nofio ar y tonnau sydd uwchben y wlad a foddwyd, gwelem hwyliau duon y cychod rhyngom a'r goleu gwyn, noswaith aeddfed yn yr haf oedd honno, ac y mae'n sicr gennyf na fu Douarnenez erioed yn brydferthach.

Yr oedd y cwmni Protestanaidd yn yr orsaf o'n blaenau, a chawsom ymgom am ddemocratiaeth Cymru ar hyd y ffordd adre. Wedi cyrraedd y dref, yr oeddym yn gorfod ffarwelio â'r cenhadwr, gan ein bod yn cychwyn yn blygeiniol drannoeth tua'r de. Buasai'n dda gennym gael myned i Bont l'Abbé, ond cofiasom fod miloedd o fysedd clociau yn symud ymlaen yn ddibaid. Ac yma y gadawsom W. Jenkin Jones a'i obaith am Lydaw,

a'i gred fod pethau mawr ar ddigwydd.

XVIII

GWLAD Y BEDDAU

YMGYNGHORASOM ddiwedd ein diwrnod olaf yng Nghuimper, a gwelsom nad oeddym eto wedi teithio ond prin hanner cylch Llydaw, tra'r oedd ein mis gwyliau bron ar ben. Rhaid i ni oedd teithio'n gyflymach o lawer trwy'r ail ran o'n tro, a rhaid i minnau gwtogi f'ystori.

Cododd y Bychan ni'n fore, ac wrth deimlo hyfrydwch tawel y bore hwnnw, gwnes hen benderfyniad mai aderyn bore fyddwn o hyd. Teithiasom tua'r de ddwyrain, tua Vannes, trwy wlad fynyddig, i fyny dyffryn afon fechan, gan adael Bau Marwolaeth a Phen March o'n holau, a chan ddilyn traethell Bau Biscay ar ein de. Gwelsom fod deheudir Llydaw yn llawer tlotach na'r gogledd,—oherwydd fod y tir yn fwy diffrwyth, ac oherwydd fod marchnadoedd Lloegr ymhellach. Nid ydyw'r tywod a'r diffeithleoedd wedi eu gwneud yn erddi fel yn y gogledd, y mae pob plentyn wedi ei eni'n gardotyn, ac y mae'r offeiriaid Pabaidd i'w gweled yn heidiau duon fel brain.

O Guimper i Rosporden cawsom gwmni hen offeiriad, budr ei grys, budr ei lyfr. Ni welsom neb yn gwneud yr arwydd leiaf o barch iddo yng Nghuimper nac yn Rosporden. Ac eto yr oedd ganddo ef a'i debig ddigon o ddylanwad ar ofnau'r bobl i wneud Rosporden yn lle anghysurus iawn i genhadwr Protestanaidd.

Dywed Villemarqué fod Rosporden yn hynod yn yr hen amseroedd am y dawnsfeydd a elwir carnaval, pan ymwisgai dynion mewn mygydau a chrwyn anifeiliaid i wneud eu diffeithwaith. Llawer ystori ddywedwyd i ddiddyfnu'r Llydawiaid oddiwrth y dawnsfeydd hyn. Unwaith, yn eglwys fawreddog Quimper, a dim ond llusern fechan yr allor yn oleu, clywid llais dwfn offeiriad o Rosporden yn canu'r hanes hwn,—

GWLEDD Y MARW.
Bu digwyddiad yn Rosporden
Lawer blwyddyn faith yn ol,
Sobrodd lawer un gwyllt-nwyfus,
Ac yn gall wnaeth lawer ffol.

Gwelid tri o lanciau ieuainc,
Mewn tafarndy'n yfed gwin,
Poethai' gwaed wrth fynych godi'r
Cwpan at eu min.

Yn eu meddw nwyf ymdeithient,
Gan wneud drygau'n ewn,
Hyd nes cyrraedd porth y fynwent,—
Aeth y gwaetha i mewn !

Ar y llawr 'roedd esgyrn pennau,
Meiddiodd godi un,
Ac a'i dododd, feiddgarwch !
Ar ei ben ei hun.

Yn lle'r llygaid, dyllau gweigion,
Rhodd ddwy ganwyll wen,
Ffoai pawb o fewn y pentre,
Rhag yr erchyll ben.

Danghosodd Duw ei anfoddlonrwydd,
Rhuodd taran ddofn
Dros holl wyneb du y nefoedd, —
Llewygodd rhai gan ofn.

Wrth roi'r benglog yn y fynwent,
Ebe'r llencyn hy,—
"Hen frawd marw, nos yfory
Tyr'd i swper ataf fi."

Aeth y nos a daeth y bore,
Fel bu lawer gwaith;
'Roedd y llencyn fel arferol;
Canai gyda'i waith.

Daeth nos drannoeth. Amser swper
Clywid cnoc ! cnoc ! cnoc !
Ebe'r bachgen gwyllt di feddwl,
"Dof i agor toc."

Daeth y Marw hwnnw i mewn,
A dwedodd, "Dyma fi,
Onid ydwyt yn fy nisgwyl
I swpera gyda thi?"

"Nid yw'th swper di yn barod,
Parod yw f'un i,
Yn fy meddrod oer mae'r arlwy,
Dyfod raid i ti.

Clywid gwaedd angeuol,
Yn welw wyw aeth gwedd
Y llanc wahoddwyd yno
I wledda yn y bedd.


Dywedir am un arall ei fod wedi gwisgo penglog ar ei ben ei hun, a'i fod yn methu'n lân a'i dynnu i ffwrdd oddiar ei ben; ac am un arall wedyn iddo wisgo crwyn anifeiliaid, ac i Dduw ei droi yn anifail ynddynt. Ar yr olwg gyntaf, y mae gwyrthiau fel hyn yn anhygoel, ond gwn fod Duw wedi gwneud pethau cyffelyb. Gwn am ragrithiwr fu'n gwisgo ei fwgwd yn hir, erbyn heddyw ni all ymddiosg, rhaid iddo droi ymysg dynion a'i fwgwd erchyll ar ei wyneb. Gwn am un fu'n rhoi croen y bwystfil am dano weithiau,—dim ond ar ambell i dro, i feddwi a phechu, — heddyw ni all ymddiosg, y mae wedi troi'n fwystfil yn ei groen bwystfil benthyg.

Gwelsom dŵr eglwys Rosporden, eglwys ar lan afon, a theithiasom trwy wlad o wartheg brithion ac eirin duon i Fanalec. Oddiyno daethom i Quimperlé, lle cynhelir " Pardwn yr Adar," un o'r lleoedd tlysaf yn Llydaw. "Cymer" y galwesid y lle yng Nghymru, oherwydd saif rhwng yr Izol a'r Ellé, lle mae eu dyfroedd yn uno, "fel coron o ddail a blodau ar y dwfr." Gwel— som dŵr ysgwar yn codi o goed Quimperlé wrth deithio ymlaen tua Lorient. Lle mawr Ffrengig, porthladd rhyfel pwysig ydyw hwn, ac nid oedd a fynno ni ag ef. Gwell fuasai gennym aros yn un o'r pentrefydd Llydewig gerllaw — ym Mhleumeur (Plwy Mawr), lle'r ymwisga'r L!ydawesau mewn gwyn ar "Ddydd Bendith y Pysgod," pan fo'r cychod sardines yn cychwyn i'r môr; neu yn Locminé, lle mae sant weddia dros bobl feddwon.


Gwelsom gastell adfeiliedig Hennebont, ac adroddasom i'n gilydd y digwyddiadau cyffrous gymerodd le yn y rhan hon o dalaeth Morbihan. Wedi cyrraedd Auray, gadawsom y tren, i roi tro trwy wlad y beddau. Y mae'n anhebig iawn i'r wlad ydym newydd ei gadael; yn lle gwlad fryniog, a choedwigoedd mwsoglyd fel cestyll, cawn ddarn o wlad wastad, weddol anial, yn rhedeg i'r môr. Cloddiau isel o gerrig mân a thywyrch, ffyrdd union digysgod, gwastadedd tlawd gwyntog, — dyna ydyw gwlad y beddau. Yr oeddwn wedi gweled Stonehenge, a rhaid i mi gyfaddef nad ydyw Carnac yn ddim wrthi : siomedig iawn y teimlem wedi gweled y cerrig anferth sy'n sefyll neu orwedd ar y llannerch eang wastad hon ar lan Bau Biscay. Rhyfeddem beth oeddynt, — ai pyrth temlau, ai beddau, ai beth. Gwyddem yn sicr eu bod yn rhan o ryw hen grefydd baganaidd, dderwyddol hwyrach, sydd wedi diflannu o flaen Cristionogaeth. Gwelsom groes haearn wedi ei gosod ar un o'r cerrig mwyaf, ac yr oedd yr hen garreg fawr baganaidd fel pe’n gwargrymu'n anfoddog dan y groes. Wrth weled y cerrig, dros ddwy fil o honynt, yn sefyll ar y gwastadedd, ac yn gwyro oll yr un ffordd, bron na chredem fod yr hen chwedl yn wir, sef mai tyrfa o baganiaid oeddynt, fu'n erlid ar ol sant, wedi eu troi'n gerrig, fel gwraig Lot gynt, pan ar roddi eu dwylaw ar y Cristion ffoai o'u blaen. Ar y gwastadedd dieithr hwn y mae'r plant bach tlysaf welais erioed. Dilynasant ni rhwng y rhesi hirion o gerrig, yn droednoeth goesnoeth, gan ddisgwyl dimeuau. Pan symudem, trotiai tyrfa fach ar ein hol, a'u llygaid goleu prydferth yn llawn gobaith, trwy'r eithin a'r grug. Wedi deall ein bod wedi rhoddi pob dime, ni adawsant ni; daethom yn ffrindiau mawr, hwy'n siarad Llydaweg, a ninnau'n siarad Cymraeg.

Yn y cwmni difyr hwn, cyrhaeddasom bentref Carnac. Yn yr eglwys gwelsom enw perchennog un o'r seti, — "Me. Dieu me garde de Kervegan", (Caerfechan), a gwnaeth hyn i ni feddwl am Praise God Barebones, ac am ei frawd But-for-the-grace-of-God That-would- have-been damned Barebones. Y mae yma hefyd sant sy'n gwella pob afiechyd ar wartheg; gwelais ddau hen ffarmwr ar eu gliniau o'i flaen.

Un o'r pethau dieithriaf welais i erioed ydyw mynwent Carnac. Y mae'n erchyll o ryfedd ac ni allaf ei anghofio, er gwneud fy ngoreu. Pan fo'r corff wedi pydru yn y bedd, codir ef i fyny, a rhoddir ef mewn arch ar lun tŷ. Gwelais lawer o'r rhai hyn, a'r enwau arnynt,—Marie Ann Guillevic de Kercloir a'r gwallt melyn hir eto'n aros ar y benglog, a llawer eraill yr oedd pobl y lle yn eu hadnabod yn dda. Wedi iddynt aros ychydig ar y beddau, teflir yr esgyrn i adeilad mawr gerllaw. Gwelsom hwy yno, tyrfa o bobl feirw, a rhedyn Mair yn ceisio ymgripio dros gwr o'r pentwr erchyll. Pan dery'r cloc hanner nos, dywedir y cyfyd yr esgyrn hyn, ac y gwelir hwy'n myned yn orymdaith i'r eglwys gerllaw. Sicrhaodd saer maen fi ei fod wedi gweled ffenestri'r eglwys yn oleu yn nyfnder y nos; aeth yno, a thrwy'r ffenestri gwelai'r gynulleidfa o esgyrn, ac Angeu mewn gwenwisg yn y pulpud yn pregethu iddynt.

Y mae llawer lle diddorol ar wastadedd Carnac, Quiberon, lle bu brwydr chwerw rhwng y ffoedigion Llydawaidd a'r Chwyldroadwyr, a lle llawer bedd, dolmen, a maen hir, — ond ni fynnai amser aros wrthym, a gorfod i ni redeg ar hyd y ffordd hir lychlyd, drwy'r gwres, rhag colli'r tren. Yn yr orsaf gwelsom ddwy Saesnes baciog, wedi gorfod rhedeg fel ninnau, ac yn dweyd dear wrth ei gilydd mewn dull na fai Llydawr uniaith byth yn deall gwir ystyr y gair. Disgwyliem

gyrraedd Vannes cyn i'r nos gerdded ymhell iawn.

XIX

DINAS AR FRYN

WELAIS ddau ymadrodd o Saesneg yng ngorsaf Auray—hysbysiad am "steeple—chase oedd i gymeryd lle y Sul canlynol, a genuine toilet soap ar focs llawn o bysgod. Danghosodd Ifor Bowen i mi eneth hawddgar oedd yn rhodio ymysg y bobl,—" Dacw i ti, mae pawb yn edrych arni, 'does dim ond geneth dlos gaiff warogaeth gan bawb ym mhob man." Ymysg yr offeiriaid tewion cnawdol trwynsur yr oedd un gŵr ieuanc llathraidd hardd, — gwridodd pan welodd fi'n sylwi ei fod yntau'n cael mwynhad o syllu ar harddwch yr eneth honno. Ni raid i mi ddweyd mai Llydawes oedd. Y mae'r Llydawesau'n groenlan iawn, ond y mae'r llwch fel pe byddai wedi myned i grwyn y francesau, rhywbeth fel pe bai wedi ei pholsio ydyw Ffrances hardd.

Yr oedd yn hen brynhawn arnom yn cyrraedd Vannes, a hyfryd oedd cysgodion ei heolydd wedi'r gwastadedd poeth. Wedi ymgartrefu yn yr Hotel de Morbihan, troisom i'r eglwys i orffwys. Y tu allan gwelsom res o fwaau prydferth toredig, a theimlasom fod rhywbeth yn fawreddog iawn yn y pentwr adeilad eang a di- drefn. Y mae braidd yn rhy orwych oddimewn, ond, gan fod y ffenestri’n fychain fychain, ymddengys yr hen eglwys yn dawel a phrudd. Yr oedd yno lawer o bobl, yn ddefosiynol iawn. Daeth gŵr goludog i mewn ar ein holau, clywsom fegeriaid yn galw ei sylw wrth y drws, penliniodd, tynnodd gadwen aur o'i boced, ac aeth trwy ei weddiau'n rhigil ddigon. Prin yr oedd wedi codi pan ddaeth haid o offeiriaid o gapel gerllaw, heb eillio ers pedwar diwrnod ac heb olchi eu hwynebau ers pedwar mis, ac aethant allan drwy'r eglwys i gladdu rhywun, druan. Aethom allan cyn iddynt ddod yn ol, i lenwi'r eglwys a'u hoergri.

Y mae hen byrth Vannes eto'n aros, a'r muriau y bu'r saethyddion yn sefyll arnynt. Wedi syllu ar yr hen adeiladau, aethom ar hyd y rhodfeydd sydd y tuallan i'r mur, a gwelsom mor hardd yr ymgyfyd muriau llwydion yr hen ddinas o'r gerddi a'r afon sy'n rhedeg o'u hamgylch. Nid oes, ond odid, ddinas yn y byd ag y bu cymaint o warchae arni a Vannes, o amser Iwl Caisar hyd y chwyldroad, ond y mae ei chaerau cedyrn, erbyn heddyw, wedi eu gwneud yn rhodfeydd lle gwelsom blant yn chware ac yn siarad Llydaweg. Oddiar y rhodfeydd hyn, gwelem y gororau Llydewig tua'r de, "Dyffryn Maelor" Llydaw, talaeth Nantes, a buom yn dyfalu a fedrem weled La Roche Bernard ar y gwastadedd bras, y lle cyntaf ddaeth yn Brotestanaidd dan ddylanwad Coligni.

Gyda'r nos daethom yn ol i'r ddinas, a buom yn syllu ar y medelwyr yn dod adre o'r caeau. Cawsom le cysurus yn yr Hotel de Morbihan,-gŵr ieuanc brith wallt oedd y gŵr a biau'r nenbren, Llydawr caredig. Yr oedd yno rai Ffrancod anfoddog yn aros, ac yn gwawdio'r morwynion Llydewig,-gollyngodd Ifor Bowen ei dafod droeon ar y rhai hyn.

Bore haf tawel eto. Wrth i ni fyned allan trwy'r porth, gwelsom flodau cochion yn crogi oddiar yr hen furiau uchel maluriedig; a'r medelwyr, yn ferched ac yn ddynion, a'u crymanau a'u ffustiau ar eu hysgwyddau, yn disgwyl am i rai ddod i'w cyflogi am y dydd. Yr oedd eu gwisgoedd Llydewig, yn enwedig gwisg un hen ŵr hirwallt, yn brydferth iawn. Yr oedd pobl yn dylifo i'r dre, — rhai yn cario dysglau llawn o laeth, rhai'n cario caws fel cerrig melinau, merched yn cario torthau cyhyd a maen hir ar eu pennau. Yr oedd lle iawn wrth y porth i weled gwisg y Llydawiaid elent i mewn i'r farchnad, — yr het felfed gron a'i chynffon hir, y clos pen glin llac, y wasgod addurnedig, y got lâs a gwaith aur arni, yr esgidiau coed fel gên uchaf crocodeil. Nid oedd gennym ond diwrnod i fyned ar hyd gororau Llydaw o Vannes i St. Malo, y lle y cychwynasom ohono. Ac felly, yn y tren y buom y rhan fwyaf o ddydd hir-ddydd haf. Yr oeddym erbyn hyn a'n hwynebau tuag adref, ac yr oedd Ifor Bowen yn bloeddio canu, pryd bynnag y byddai'n effro, -

"Y mynydd, y mynydd i mi,"

neu

"Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionnydd.”

Bryniau; meysydd oddiamgylch amaethdai bychain; genethod yn gwylio gwartheg a geifr; gwlad garegog eto, tywarchen deneu ar y cerrig, fel croen wedi ei dynnu'n dyn dros benglog; Questenberg, a ffordd dros y gwastadedd tua Phlwy Ermel ; geneth a throell, a gwastadedd eang distaw y tu ol iddi; Malansac, a gwynt ystorm yn ei choed; St. Jacut, gwastadedd, a bryniau'n ymylon pell iddo, a melinau gwynt arnynt; coed a thai uchel fel hesg ar y gwastadedd digysgod unig; cors eang ; Rennes fawr boblog ; daear frasach, gwlad gyfoethocach; tatws, gwenith, grawnwin, coed, dyna welwn trwy ffenestr y tren cyn hepian a chysgu ar y dydd hir, a chlywed gwaeddi Dôl, a deall ein bod o'r diwedd wedi cyrraedd Dôl yn Llydaw.

Cawsom aros teirawr yn Nôl. Aethom trwy'r stryd hir a'r farchnad foch i'r hen eglwys, a meddyliwn, wrth edrych ar ei mawredd syml, fod tri cyfnod wedi bod yn hanes meddwl Cymru,

1. Cyfnod ymhyfrydu mewn mawredd adeiladau, cyfnod adeiladu'r bwâu a'r ffenestri sydd eto yn deffro ein hedmygedd wrth weled hen furddynod fel Tintern.
2. Cyfnod ymhyfrydu ym mawredd a thlysni natur; y goedwig ydyw teml Dafydd ap Gwilym, a'r ehedydd ydyw ei gennad at Dduw.
3. Cyfnod ymhyfrydu mewn meddyliau,- gweled yr ysbrydol, ac anghofio'r allanol. Lle tlawd ydyw Dôl, er ei hened. Papur brith a

llyfrau gweddi welais yn siop y llyfrwerthwr. Y mae pob yn ail dŷ'n dafarn,-gwelais un ystafell fawr, a bwrdd derw wedi ei ysgwrio a'i loywi, a thân siriol yn goleuo'r tŷ a'r llestri gloywon; mewn tŷ tafarn arall gwelais werthu sebon mewn un gornel, a thrwsio esgidiau mewn un arall, a photio yn y lall; mewn trydedd, gwelais ddyn unfraich yn canu am ei damaid i ddwy ddynes ; gwelais ferched cadarn yn ymdyrru, a'u crymanau ar eu hysgwyddau, i botio osai a chwrw. Er hynny, pobl gryfion ac ysgafndroed ydyw trigolion dinas Samson Sant.

O Ddôl penderfynasom mai nid yn ol i St. Malo yr aem, ond i Ranville, er mwyn gweled cwr o Normandi cyn troi i'r môr ac adre. Ymysg ein cyd-deithwyr, — milwyr meddwon ac offeiriaid diog, — yr oedd boneddwr yn trafaelio yn ei slipas. Dywedai Ifor Bowen ar ei wir iddo weled pregethwr yn Sir Ddinbych unwaith yn codi tatws yn ei slipas. Daliais sylw ar seremoni gymer le pan fo un Ffrancwr yn cymeryd tân oddiar getyn un arall, a dyma hi, —

1. Nod.
2. Moes ymgrymiad.
3. Cymeryd tân.
4. Nod.
5. Ysgwyd llaw.
6. Moes ymgrymiad.

Ac wedi hynny byddant yn ddieithriaid fel o'r blaen.

Gyda'r nos, yr oeddym yn pasio Pontorson, ac yn croesi o Lydaw i Normandi. Wrth weled y coedwigoedd meddyliasom am William y Gorchfygwr, un fu'n ymladd cymaint ar y terfynau Llydewig cyn dod yn frenin Lloegr, yr heliwr cadarn oedd yn caru'r ceirw tal fel pe bai dad iddynt.' Yr oedd yn hwyr pan gyrhaeddasom yr Hotel Bonneau, y gwesty bach cysurus sydd wrth droed y bryn uchel y saif Avranches arno. Nos Sadwrn oedd, ac yma yr oeddym i dreulio ein Sul olaf ar y Cyfandir, wrth ben Llydaw a'r môr.

XX.

TROI ADRE.

BORE Sul dringasom y bryn serth i fyny i'r ddinas, trwy ddanadl, a bysedd cochion, a mieri, — a'r olygfa yn ymeangu o hyd. Gwelem ddyffryn y Seez,— mwd tywodlyd, llanerchi o welltglas gwyrdd, a'r afon yn ymddolennu hyd y gwastadedd; gwelem fryniau pell Llydaw, a thawelwch y Saboth yn gorffwys arnynt.

Cyrhaeddasom ben y bryn, a chawsom olygfa nad o fewn y byd ei hardderchocach. Odditanom gwelem Mont St. Michel ar graig sy'n ymgodi o'r tywod ym Mau Cancale, a gwelem Normandi goediog fel bwrdd odditanom, a'r ffyrdd yn rhedeg fel saeth hyd ei gwastadeddau. Draw gwelem Lydaw, fel y gwelir bryniau Cymru oddiar furiau Caer. Cofiasom mai duc Normanaidd Avranches, Huw Flaidd, oedd duc Caer hefyd; a bod ei lygad chwannog wedi bod yn edrych ar Gymru o Gaerlleon Gawr fel y bu yn edrych ar Lydaw oddiar y bryn uchel hwn.

Ond i'r eglwys yr oeddym yn cyrchu. Bu eglwys ar ben y bryn yr ydym yn sefyll arno, ond nid oes ond ychydig o gerrig nadd yn aros ohoni, y garreg y bu Harri'r Ail yn penlinio arni mewn edifeirwch yn eu mysg. Dacw'r bobl yn dylifo i'r eglwys newydd, fel cacwn geifr i'w nyth, ymhell cyn yr amser. Pan darawodd y cloc ddeg, daeth dyn mewn gwisg las ac ymyl wen gau'r drws. Gyda'r Normaniaid, ac nid gyda'r Llydawiaid, yr ydym yn addoli heddyw,— y mae eu llygaid yn las, nid oes neb yn cymeryd sylw ohonom, 'does neb yn dweyd “ Dowch i'n sệt ni,”– tebig i'r Saeson, ac nid i'r Cymry, ydyw'r rhain. Ar y wal o frics cochion sy'n dalcen i'r eglwys fawr yr oedd darlun o enedigaeth Crist, ac ar yr allor odditanodd gwelsom yr addoliad Pabyddol,— miloedd o ganhwyllau dime, offeiriaid laweroedd mewn dillad gwyn, yn hanner dawnsio'n ol ac ymlaen, ac esgob a'i gap fel dwy glust o chwith. Gwelsom yr arddodiad dwylaw a gorymdaith yr esgob, — ac ni welsom grefydd yn cael ei darostwng gymaint yn unlle erioed. Ni ddywedodd yr esgob air am iachawdwriaeth, ond cerddodd ymlaen trwy'r eglwys mewn dillad gorwych, a'i fugeilffon emog ar ei ysgwydd, a gemau'n disgleirio ar ei fysedd merchetaidd gan fowio a mwmian. Aeth yn ol i'r allor, a thra'r oedd y côr yn canu peth na ddeallai'r bobl, ymbinciai yntau yn ei sêt fel merch falch Hafod yr Aur. Meddyliais am ein hen weinidog gwledig, ac am ei wisg ef, nid sidan gorwych a gemau disglair, ond gwregys gwirionedd, dwyfronneg cyfiawnder, esgidiau paratoad efengyl tangnefedd, tarian y ffydd, helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw Gair Duw.

O'r eglwys aethom i'r gerddi, lle gwelsom bobl yn dawnsio dan lwyni ardderchog o goed, llwyni fel bwâu eglwys gadeiriol, a holl eangder y wlad i'w weled odditanynt. Gorfod i ni aros yn hir yma, oherwydd daeth yn wlaw mawr. Nid glaw gyrru ystormus fel glaw Cymru, ond cawod o wlithlaw yn disgyn fel gorchudd dros y wlad fawr. Buom yno'n disgwyl iddo beidio am oriau, — un siwt oedd gennym. Weithiau gwelem Font St. Michel yn llwyd drwy glog lâs y glaw, dro arall ymgollai drachefn mewn cawod newydd. O'r diwedd, cawsom hanner awr o sychin i redeg i lawr i'r Hotel Bonneau, lle buom yn darllen papurau cymundeb y plant ac yn eu hannog i ddarllen y Beibl.

Bore dydd Llun, teithiasom tua Granville trwy Folligny, lle y mae gorsaf mor fawr fel y tybiem ei bod yn ddiwrnod sasiwn trenau. Cawsom gwch Ffrengig i Jersey, a buom yn mwynhau'r olygfa o weled dandi Ffrengig dan saldra'r môr, gyda'i ddillad goleu, ei drowsus tyn, ei gansen felen, ei gyff a botymau fel lleuad, ei rosyn o faint ambarelo, ei gadach poced enfawr, ei het wellt ddarluniedig, ei fwstas troellog, ei gol haidd o wallt.

Cawsom brynhawn a noswaith hapus yn Jersey, yr oedd y lleuad lawn uwchben ei thraeth o dywod melyn a chreigiau duon. Yr oedd llong newydd y Great Western yn mynd adre i Weymouth drannoeth, a chawsom le ynddi. Yn cyd-deithio â ni yr oedd ugeiniau o brentisiaid siopwyr o Saeson, a'u cariadau gyda hwy. Daeth yn ystorm erchyll cyn i ni gyrraedd Guernsey, ac yr oedd y prentisiaid bach yn sal i gyd. Ond gofalent am y genethod trwy'r cwbl, ac y mae gwir ddynoliaeth mewn unrhyw un gofia am rywun arall dan saldra'r môr.

Cyrhaeddasom Frystyw erbyn nos Fawrth. Teimlem fod Lloegr yn wahanol iawn i Lydaw, — golwg oerach ar y wlad, pobl dawel ddistaw, awyr ysgafnach, golwg gweithio ar bob dyn, ac nid golwg diogi. Cerddasom dros bont Clifton, gwelem lun y lleuad danom yn y dyfnder, a dywedodd Ifor Bowen na welodd ar y Cyfandir yn unlle gystal golygfa a hon.

Bore dydd Mercher, yr oedd y tren yn ysgubo drwy dynel yr Hafren, — y mae trenau'r Cyfandir mor araf a chladdedigaeth o'u cymharu â hwn. Yr oedd yr ŷd newydd ei gynhaeafa oddiar feysydd Gwent, yr oedd haul y bore ar Gasnewydd, teimlem ein bod yn Llydaw'n ol pan welsom wynebau Cymreig Pontypŵl, — na, y mae mwy o feddwl yn y rhai'n. Gwelsom ddwfr rhedegog, "a diolch am drugareddau gloywon," fel y clywais Ifor Bowen unwaith yn gofyn bendith uwch ben te Sian Grintach.

Wrth ysgwyd dwylaw, diolchai Ifor Bowen a minnau am ddemocratiaeth Cymru, am Brotestaniaeth Cymru, am wladgarwch Cymru. Y mae gwaseidd-dra, offeiriadaeth, anwybodaeth, a meddwdod ein cefndryd Llydewig yn prysur ddiflannu, trwy rym efengyl Duw, o'n gwlad anwyl ni.

GEIRFA.

*

PAN yn chwilio am eiriau, cofier fod y llythyren c, p, t, g, b, d, ll, m, rh, yn newid yn nechre gair, er enghraifft,-

cath. ei gath. fy nghath. ei chath.

pen. ei ben. fy mhen. ei phen.

troed. ei droed. fy nhroed. ei throed.

geneth. ei eneth. fy ngeneth.

brawd. ei frawd. fy mrawd.

darlun. ei ddarlun. fy narlun.

llyfr. ei lyfr.

mam. ei fam.

rhan. ei ran.

Rhoddir h weithiau o flaen gair, megis,-enw, ei henw.

Os methir cael ystyr gair a ddechreua gydag a, e, i, o, u, w, y, ceir ef, fel rheol, drwy edrych dan y llythyren g.

Arwydda m. masculine; f. feminine; pl. plural.





AFROSGO, clumsy.

AGWEDD, f., attitude.

ALLTUDIO, to banish.

ALLWEDD, f., key.

AMGUEDDFA, f., museum.

AMRYFUSEDD, m., mistake.

ANFOESOLDEB, m., immorality.

ANFFYDDIAETH, m., atheism.

ANWADALWCH, m., inconstancy.

ARDDUNOL, sublime.

ARFORDIR, m., coast.

ARLWY, m., preparation.

ARSWYD, m., dread.

ASGELL, f., ESGYLI, pl., wing, fin.

ASWY. left hand.

BANADL, m., broom.

BARGOD, m. pl., eaves.

BLODEUGLWM, m., bunch.

BRAWDDEG, f., phrase.

BUGEILFFON, f., pastoral staff.

BWAOG, arched.

BWYELL, J., axe.

CAIB, f., pick.

CANGELL, f., chancel.

CANTAL HET, m., brim of a hat.

CARDOD, f., charity.

CARPIOG, tattered.

CARTH FFOS, f., sewer.

CEI, m., quay.

CEIDWADOL, conservative.

CLOCSIWR, m., clogmaker.

CLYTIO, to patch.

CNUL, m., knell.

COELBREN, m., lot.

COLEDDU, to cherish.

CONION, m. pl., stumps.

CORACHOD, m. pl., despicables. CORGI, m., cur.

CORYN, m., crown of the head.

CRAITH, f., scar.

CREBYCHU, to shrivel.

CROCHAN, m., cauldron.

CRYCHU, to wrinkle.

CWR, m., border.

CWTA, short.

CYFERBYNIAD, M., opposition.

CYFFESGELL, f., confessional

CYFFESU, to confess.

CYHWFAN, to heave.

CYLLID, m., revenue.

CYMUNO, to communicate.

CRYMAN, m., sickle.

CYNFYD, m., the ancient world.


CHWILEN, f., beetle.

CHWILOTA, to rummage.

CHWYSLYD, sweaty.


DADFILEINIAW, to tame.

DADWRDD, m., noise.

DANADL, m. pl., nettles.

DEL, m., deal.

DIADLAM, homeless.

DIALEDD, m., revenge.

DIASPEDAIN, to cry out, to ring.

DIFERYN, m., drop, tear.

DIFFEITHLE, m., desert place.

DIGYSWLLT, unconnected.

DIRNAD, to imagine.

DIRYWIAD, m., degeneration.

DRYGSAWR, m., stench.

DRYCIN, f., storm.

DYNWAREDIAD, m., imitation.


EDMYGEDD, m., admiration.

EIDDIGEDDU, to be jealous.

EIDDIL, slender.

EITHIN, m., gorse.

ELUSEN, f., charity.

ENFYS, f., rainbow.

GADLES, f., farm house store.

GARDDWN, m., wrist.

GENWAR, f., fishing rod.

GOF, M., GOFAINT, pl., smith.

GORIWAERED, m., descent.

GRADDOL, gradually.

GRESYNU, to commiserate.

GWAMAL, capricious.

GWAREDU, to save.

GWARCHAU, m., siege.

GWEDDNEWIDIAD, m., transfiguration.

GWELWLAS, pale.

GWENIEITHUS, flattering.

GWENITHFAEN, f., granite.

GWENWISG, f., surplice.

GWEYDD, m., weaver.

GWGU, to frown.

GWICHIAN, to squeak.

GWLITHLAW, m., drizzle.

GWRTAITH, m., manure.

GWYLAN, f., sea gull.


LLANW, m., tide.

LLAW GAUAD, tight fisted.

LLEIANDY, m., convent.

LLERCIAN, to lurk.

LLIF-DORAU, lock gates.

LLIN, M., string.

LLOGWR, m., hirer.

LLURIGOG, armed with a coat of mail.

LLYDAWEG, f., Breton.

LLYGADRYTHU, to stare.

LLYGOER, lukewarm.


MAGWRLE, m., early home.

MEDELWR, m., reaper.

MEDDYGINIAETH, f., remedy.

MEFUS, m. pl., strawberries.

MEILLIONEN, f., clover.

MEMRWN, m., parchment.

MERHELYGEN, f., yellow willows.

MWDWL, m., stack.

MWGWD, m., blind mask.

MYNACH, m., monk.

NAWS, m., temperament.

NWYF, m., energy.


OCSIWN, f., auction.

OFERGOELUS, superstitious. OFFEREN, m., mass.

OSAI, m., cider.


PALMANT, m., pavement.

PARDDU, m., soot.

PATRWM, m., pattem.

PENGLOG, m., skull.

PENGRYCH, curly headed.

PERLLAN, f., orchard.

PISGWYDD, m. pl., linden-trees.

PIWTER, m., pewter.

PLITH DRAFFLITH, helter skelter.

PRESWYLFA, m., abode.

PRUDDGLWYFUS, depressed.

PURDAN, m., purgatory.


RHAGRITH, m., hypocrisy.

RHENG, f., row, rank.

RHIDYLLOG, riddled.

RHIGYL, fluently.

RHIMIN, m., narrow strip.

RHINIOG, m., threshold.

RHUDD, red, crimson.


SATHREDIG, common.

SEIMLYD, greasy.

SEINDORF, f., band.

SURCOT, f., surcoat.


TAS, f., TEISI, pl, rick.

TAWDD, melted.

TRAETHELL, f., sand-bank.

TRAMWYFA, f., passage.

TROCHIONI, to foam.

TRWSIADUS, well-dressed.

TYDDYN, m., homestead.


THUSER, f., censer.


YMDREIGLO, to roll.

YMGELEDD, m., SUCCOUT.

YMHALOGI, to defile oneself.

YSBLENNYDD, rcsplendent.

YSGOGIAD, m., movement.

YSGRECH, f., screech.

YSGREPAN, f., wallet.


DIWEDD

WRECSAM :

HUGHES a'i FAB, CYHOEDDWYR.

EdTOrds, 0. PB

2293 Tro in Llydaw .E3

PONTíFíCAl. INSTfTUTE OF MEDIAEVAL STUOIES

59 gu.-EN'S PARK

ToRONTo 5, Canada