Neidio i'r cynnwys

Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) (testun cyfansawdd)

gan Owen Gaianydd Williams

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785)



DAFYDD JONES
O DREFRIW.



DAFYDD JONES
O DREFRIW.

(1708-1785.)


GAN Y

PARCH. O. GAIANYDD WILLIAMS,

RO WEN.


"Dafydd Sion Dafydd, yr enwog Henafiaethydd."
—IEUAN GLAN GEIRIONYDD



CAERNARFON:

CWMNI'R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.).

SWYDDFA "CYMRU."

1907.

RHAGYMADRODD.

DYMA i ti, Gymro mwyn, hanes cymhwynasydd i ti. Nid oes llawer yn cofio am dano heddyw, ond ni fuasai Cymru llawn cystal ag ydyw oni bai am Ddafydd Jones o Drefriw.

Cei ol llafur gonest a diflino, ol chwilota llwyddiannus, yn y llyfr hwn. Y mae'r awdwr, yn of a glywais gan ereill ac yn ol yr ychydig a wn fy hun, wedi gwneyd gwaith deheuig a da.

Nid yw'r llyfr yn gyflawn nac yn berffaith, nid oes neb yn honni hynny. Ond gwelir pa lawysgrifau ddefnyddiodd yr awdwr; a chyn belled ag y mae y rhai hynny yn mynd, ni raid gwneyd y gwaith eto.

Y mae llawysgrifau ereill, yn ddiameu, nad oeddynt yng nghyrraedd yr awdwr. I'r rhai wêl y rhai hynny, bydd y llyfr hwn yn gyn- horthwy derbyniol. Ac o dipyn i beth, daw Dafydd Jones a'i waith yn hysbys fel y dylai fod.

Yr wyf, fy hun, yn ddiolchgar iawn i'r Parch. O. Gaianydd Williams am y llafur cariad hwn. Y mae wedi codi gŵr da, gweith- gar, a dyddorol i'n sylw.

Pwy wna'n debyg gyda chymhwynaswyr ereill ein gwlad? Pwy rydd lyfr fel hyn ar Vavasour Powel, ar Stephen Hughes, ar Hugh Jones Maes Glasau, a llu ereill?

Pan darewi at y gwaith, mynn amynedd a gofal ac addfwynder, fel y rhai ddanghosir yn y llyfr hwn.

OWEN M. EDWARDS.
Rhydychen, 1907.

CYNHWYSIAD.

1. Y Llenor a'i Oes
2. Amcan a lle Dafydd Jones
3. Pwy ydoedd
4. Bywyd a Buchedd
5. Barddoniaeth Dafydd Jones
6. Crefydd Dafydd Jones
7. Llyfrau Dafydd Jones
8. Ei Lyfrau (eto 1)
9. Ei Lyfrau (eto 2)
10. Ei Lyfrau (eto 3)
11. Bwriadau Llenyddol
12. Fel casglwr hen ysgrif-lyfrau
13. Y Diwedd


DAFYDD JONES
O DREFRIW.

I.
Y LLENOR A'I OES.

YCHYDIG yw nifer y gwyr grymus a orchfygant ddy- lanwadau eu hoes,—pobl gadwant eu nhodweddion naturiol eu hunain, heb ddwyn eu medr yn gaeth i ffasiwn, ac heb eu nhewid gan hindda a hinddrwg cymdeithas; pobl greant oes newydd, o leiaf elfennau newydd ym mywyd eu hoes. Mae'r llu mân ffrydiau sy'n ymgolli yn yr afon yn grymuso ei nherth; ond y llif sy'n penderfynu cwrs ei rhedfa. Mae gan gymdeithas weision gonest, y rhai deimlant ei hanghenion, gan weithio mewn amser ac allan o amser er eu puro a'u cyflenwi. Ceir eraill yn ddim amgenach na gwylwyr cyfleusterau, i droi'r mân ffrydiau i'w mantais eu hunain, fel pe cymdeithas a wnaed er eu mwyn hwy, ac nid hwy er mwyn cymdeithas. Fel mae'n syn, y rhain yw'r dosbarth gwasaidd, a gwas y gweision, oherwydd trwy waseidd-dra y ceisiant gyrraedd eu hamcanion. Y neb a el yn was i hunan, a ddewis feistr a'i gorfydd i wasanaethu pawb eraill. Felly, dan lawer amgylchiad, cymdeithas sy'n gwaseiddio'r dyn, ac nid y dyn yn gwedd-newid cymdeithas. Hon yn fynych yw tynged mân lenorion, pobl sy'n offeiriadu yn unig am eu bod o lwyth Lefi. Temtir hwy i arlwyo i'w cenedl arlwy o'r fath a gâr, seigiau. poblogaidd trachwant llenyddol. Maent graff i ganfod tueddiadau gwyllt, a nodedig fedrus i'w gwasanaethu. Codant o'u beddau esgyrn saint, os pair hynny i bobl synnu. Marchogant ofergoelion pob diniwed, os dwg hynny iddynt elw. Tynghedant bobl i gredu mai sylfaeni cymer- iadau yw'r mân chwedlau a adroddwyd gan gymdogion cenfigenllyd, neu a wran- dawsant yn frysiog gan wyr fu'n mwyn- hau caredigrwydd o dan gronglwyd y rhai y gwneir cam â'u cymeriadau. Bu'r dosbarth hwn o dro i dro yn ceisio gwthio eu gwrachiaidd chwedlau i blith ffeithiau. hanes goreugwyr ein gwlad, a chredwyd hwy gan yr ehud ei galon.

Hon yw'r duedd afiach sydd mewn newyddiaduron am newyddion cyffrous, ac am benawdau mwy cyffrous na'r newyddion. Mae deffro cywreinrwydd a phorthi math ysbrydiaeth yn gelfyddyd. Yr ysbryd dewiniaeth sy'n dwyn elw.

Gwlad beirdd a barddoniaeth yw Cymru. Ond mae ein barddoniaeth eto, mewn un wedd, fel heb ei dwyn yn gelf gain, i'w dosbarthu, ei hesbonio, i nodi ei meddyliau fel safon bywyd a moes, ac fel cyfrwng i ddwyn dynion i olwg y prydferth sy'n llawenydd tragwyddol i'r neb a'i canfyddo. Gwir y gwneir defnydd anuniongyrchol o honi yn ein colegau, er egluro gramadeg yr iaith. Mae hefyd lawer o hanes Cymru yng nghywyddau beirdd y canol oesoedd. Mae a'i cloddio allan? Pa bechodau bynnag gyflawnodd y Dr. Owain Pugh, Iolo Morgannwg, Owen Myfyr, a'r tô a gododd o dan eu dylanwad, gwyddent lawer mwy am farddoniaeth Gymreig na'r to o eisteddfodwyr trystfawr a'u dilynodd.

Nid yr un yw'r beirniad barddoniaeth a'r bardd. Mae ein beirdd yn llu, ond ein beirniaid yn ychydig. Yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf cawsom lu o eisteddfodwyr, dawnus ddigon fel beirdd, ond hollol amddifad o fedr i feirniadu barddoniaeth. Mae gwael a gwych, o ran celf a meddwl, eu barddoniaeth hwy eu hunain yn ddigon o dystiolaeth dros ein gosodiad. Mae'n aros fod ein barddoniaeth heb ei dosbarthu yn ol ei nhodwedd a'i nhatur. A yw'r unffurfiaeth nodwedd a ymddengys ar ei gwyneb, o Ddafydd ap Gwilym hyd yn awr, yn esgusodi'r diffyg? Y diffyg yw'r gwir reswm paham yr ymddengys mor unffurf ei nhodwedd. Ein hangen heddyw, felly, yw troi ein barddoniaeth yn fwy o gelf gain, i sefyll neu syrthio yn ol ei gwerth; yn lle ei chlodfori, o ba radd bynnag y bo, ar drostan eisteddfod.

Mae rhyw ffasiwn ym myd meddwl, a gweiniaid pob oes yn ei hefelychu, a llawer o'r cryfion yn boddloni i'w ffurfiau. Canu cywyddau cryfion pert wnaeth yr hen feirdd; hon oedd eu ha fer. Canodd Huw Morus ganeuon, o ffurf neillduol yn bennaf, a chanwr caneuon fu pob bardd bach am ddegau o flynyddoedd. Ceisiodd Goronwy Owen a'r Morrisiaid adgyfodi'r hen arfer, sef dwyn y gywydd drachefn i fri. Ar wahan i werth ei farddoniaeth, mae Goronwy yn deilwng o safle uchel, pe ond am hyn o waith a gwasanaeth llenyddol. Bu'r ddwy gymdeithas lengarol, Cymdeithas y Cymrodorion a Chymdeithas y Gwyneddogion, a sefydlwyd yn Llundain yn rhan olaf y ddeunawfed ganrif, yn foddion i gadw'n fyw yr un ysbryd, ond nid i fagu cymaint ag un bardd. Tebyg mai'r eisteddfod roddodd fri ar yr englyn a'r awdl. Anffawd ein barddoniaeth ddiweddar yw'r afrifed englynion. Anhawsder i feirdd ac anffawd i farddoniaeth fu rhoddi cymaint pwys ar y pedwar mesur ar hugain, gorfodi dynion i ganu ar fesurau na fedrent fawr gamp arnynt; eu gosod mewn hualau mesur a chynghanedd, nes poeni eu hysbryd a diffodd eu gwres. Pa fodd bynnag, ganwyd y ffasiwn, rhwymwyd hi mewn cadachau hen, a rhaid fu ei dilyn. Tarawodd Ceiriog, ac eraill o'i gydoeswyr, y tant gwladgarol, gwladgarwch radicalaidd, gwahanol i wladgarwch ceidwadol yr hen feirdd. Gwedd ar yr un deffroad gwladgarol a effeithiodd ar syniadau gwleidyddol y genedl-cenedl amlwg yn ei thueddiadau ceidwadol. A ffrwyth yr un ysbryd oedd ein deffroad yng nghyfeiriad addysg. A'r donn ddiweddaf a ddaeth dros ein barddoniaeth yw math o gyfriniaeth, hollol newydd i farddoniaeth y Cymro, ond nid mor newydd i'w feddwl prudd a llon. Yr oedd hen gynefin a

Thaith y Pererin' yn ei fywyd crefyddol. O'r diwedd daeth a ganodd agwedd foesol ei fywyd yn syml, tlws, a chyfriniol. Yn unig cofied ein beirdd. fod i'r ysbryd newydd hwn neges uwch na chanu hwian gerddi teimladau serch.

II. AMCAN A LLE DAFYDD JONES.

Anhawdd gwneuthur cyfiawnder â llafur llenyddol Dafydd Jones, heb hefyd roddi trem ar ansawdd foesol a chymdeithasol Cymru yn ei amser ef. Canys yr oedd llafur llenyddol ei ddosbarth ef yn cael ei benderfynu i raddau pell gan chwaeth lenyddol a chrefyddol ei oes. Ceir dynion yn gweithio am fod ynddynt nerth bywyd; proffwydi yn meddu neges neillduol, a rhaid yw ei thraethu, pa un bynnag a ddeallir ac a fwynheir hi gan eu cydgenedl ar y pryd a'i peidio. Eraill,

llai galluog, ond nid llai gonest, llenorion marchnad ydynt, ac angen y farchnad i raddau pell a benderfyna natur eu gwaith. Nid sarhad mo hyn. Mae'r llenorion ymarferol yr un mor wasanaethgar i gymdeithas a'r bobl fawrion, yr angylion a ehedant yng nghanol y nef o ran eu meddwl, ond a ymguddiant yn eu celloedd o ran eu cyrff. Hwy yw gweision y werin, a'r werin yn ei amser ef oedd y dosbarth anghennog. Y werin bobl a esgeuluswyd, pan y dylasent gael y sylw pennaf. Yn lle cysegru goreu eu gallu a'u doethineb er eu dyrchafu, sefydlodd y llenorion pennaf gymdeithasau er diddanu eu gilydd, gan adael y bobl gyffredin at drugaredd yr annoeth a'r diddawn. Bardd yr ychydig oedd Goronwy Owen. Am yr ychydig y cofiodd Rhys Jones o'r Blaenau

Blaenau yn ei "Orchestion Beirdd." Hulio bwrdd y bobl gyffredin a wnaeth Dafydd Jones a Hugh Jones Llangwm. A chanwr baledi'r tafarnau a'r ffeiriau, boddhawr y gwamal a'r ofergoelus, oedd Elis y Cowper. Canu cân ei galon a wnaeth Goronwy Owen, fel bwrw had i'r ddaear, heb un sicrwydd yr argreffid ei gywyddau byth, heb son am gael cymaint a ffranc am ei lafur. Yr oedd

Dafydd Jones lawer nes i fwrdd y cyfnewid; rhaid oedd iddo fyw ar lafur ei ddwylaw. Hyn oedd hanes ei ddosbarth. Rhaid oedd trefnu eu llafur llenyddol yn ol eu hamgylchiadau. Nid elw chwaith oedd eu cymhelliad, canys profasant lawer rhy fynych chwerwder a siomedigaeth colled. Yr oedd eu hanfanteision yn fawrion, a'u mwynderau yn ychydig. Fel ei holl gydoeswyr o'i ddosbarth, felly hefyd Dafydd Jones—ei anfanteision yn fawrion; a thegwch a'i waith yw ei farnu yng ngoleu'r rheiny.

Ni chyfoethogwyd ein llenyddiaeth na'n barddoniaeth oreu. Ond arloesodd y tir. Cyflenwodd ryw angen, a deffrodd anghenion uwch. Wrth roddi arlwy ar fwrdd cyffredin ei oes, cymhellodd hwy i bethau uwch a rhagorach. A darllenwyr pethau cyffredin un oes, yn fynych, yw tadau a mamau cewri yr oes ddilynol. Amcanodd yn dda; ac yn ol ei allu a'i fanteision gweithiodd yn rhagorol. Nid ydym wrth hyn yn cau ein hunain allan rhag beirniadu ei amcanion. Yn hytrach fel arall, tueddir ni i roddi ein dyfarniad yn ei erbyn, sef nad ymarferol i ŵr o ddysgeidiaeth gyffredin, o amgylchiadau lled isel, ac yng nghanol cymaint o anfanteision, oedd cysegru ei fywyd mor llwyr i wasanaethu llenyddiaeth ei oes a'i genedl. Ar yr un pryd rhaid cofio'r ysbryd a feddiannai ddynion. Yr ysbryd gwladgar a llengar hwnnw a barodd i lawer obeithio yn erbyn gobaith, a llafurio yng nghanol dyrysni heb wangalonni. Hauasant heb obaith medi o ffrwyth eu llafur yn na'r byd hwn.

Cyfiawnder a'u coffadwriaeth yw esbonio eu hymdrechion hunanaberthol yng ngoleu un o ddwy ffaith—eu cariad at lenyddiaeth ynddi ei hun, neu eu cariad at lesoli eu gwlad. Credaf mai'r cyntaf yw'r eglurhad goreu ar fywyd a theimladau Goronwy Owen.

Gwir y carodd ei Fon gu à chariad angerddol. Ond prin y gellir ei osod allan fel gwr a garodd ei wlad, a garodd Gymru gyfan. Hiraethu a wnaeth am gongl glyd, uwchlaw angen, ym Mon, i ganu teimladau byw ei galon. Yr oedd Ieuan Brydydd Hir, ei gydoeswr tlawd a thrallodus, lawer mwy gwladgar. Nid canu cywyddau, er iddo wneyd hynny, ond codi Cymru, codi ei wlad, a geisiodd efe. Fel cylch ei hoffder, yr oedd cylch ei lafur lawer eangach. Fe allai na feddai Dafydd Jones mo'r meddwl cryf ei ddoniau i garu llenyddiaeth er ei mwyn ei hun. Cariad at wlad, a math o ddawn lengar, oedd ei ysbrydiaeth ef. Ceir amlygiadau o'r cariad hwn yn torri allan yn awr ac eilwaith, pan ofidiai oherwydd tuedd Seisnig yr Eglwys, a dibrisdod gwreng a boneddig o'r Gymraeg. Carai a pharchai y rhai a garent Gymru a'i hiaith.

Gynt, cefnogwyd ein llenyddiaeth a'n llenorion gan fawrion y wlad, pan oedd—ent hwy eu hunain lenorion, a llenorion Cymreig. Hyn sydd fawl cywir gorffen—nol gwyn, a chlod priodol tir arglwyddi'r amser gynt. Tystia cywyddau clod a chywyddau coffa y molai'r beirdd bobl oedd garedig iddynt. A hwn, fe aliai, yw'r esboniad cywiraf ar y ffaith fod cymaint o waith ein hen feirdd, a chymaint o lawysgrifau hanes, yn llyfrgelloedd ein plasau. Pa fodd bynnag, braint a gollwyd yw erbyn heddyw. Ond er colli Arthur, cadwyd ei fri; a gwrendy cenedl am ei swn yn deffro.

Yng nghyfnod Dafydd Jones yr oedd y croesaw hwn yn cilio, os nad wedi cilio o'r wlad. Yr oedd perthynas cymdeithasol, gwreng a bonheddig, i raddau pell wedi newid. Peidiodd y bonheddig a bod yn noddwr llafurwr ei dir; o ganlyniad peidiodd y llafurwyr a bod iddo yntau yn deulu." Bellach nid arglwydd, ond tir arglwydd, oedd un; ac nid deiliaid, ond tenantiaid, oedd y lleill. Pan ddaeth "teulu" y mawrion i olygu yn unig rai o'u gwaed hwy eu hunain, diflannodd cadeiriau'r beirdd oddi ar yr aelwydydd; a daeth eu croesaw yn ddyledswydd wladol os nad cardod bersonol. Bu Ieuan Brydydd Hir yn byw mewn trallod ac angen ar gardodau olaf yr arfer hon. Syr Watkyn Wyn a'i cynorthwyodd am amser, gwedi hynny'r Paul Panton o Blas Pentraeth, yr olaf hwn yn ei helpio ar yr amod fod ei holl ysgrifeniadau a'i ysgriflyfrau i fyned yn eiddo'r Paul Panton ar ei farwolaeth.

Er daed yr amod o du'r boneddwr, dogn tloty a roddwyd i sicrhau'r pwrcas.

Ni fanteisiodd Dafydd Jones hyd yn oed i'r graddau y gwnaeth Ieuan Bry—dydd Hir ar hen arfer dda'r dyddiau gynt. Yr oedd Ieuan yn llenor yn ol anianawd y mawrion, yn ysgolhaig gwych yng Nghymraeg, Saesneg, a'r Lladin, yn fardd coeth, ac yn hanner addoli trysorau eu llyfrgelloedd. Os prin fuont yn eu nawddogaeth iddo ef; pa wedd y gellid disgwyl iddynt noddi gwr cyffredin ei ddysg a'i ddawn fel Dewi Fardd? Nid oedd fardd o'u dosbarth nac i'w dosbarth. Syndod i'r Morrisiaid ei arddel fel y gwnaethant, os teilwng galw ei ganmol a'i wawdio bob yn ail yn arddel hefyd.

Un o'r prif anhawsderau oedd cyflwr isel crefydd. Prin yr oedd y Diwygiad Methodistaidd eto wedi gosod ei ol ar Ogledd Cymru, tra'r Eglwys Wladol of dan lwch segurdod, a'r offeiriadon yn cysgu'n drwm. Amhosibl esgusodi'r Eglwys esgeulusodd y rhan fwyaf elfennol mewn addysg fydol a chrefyddol, sef dysgu'r bobl i ddarllen. Honnir mai un o brif achosion ei llesgedd oedd ei thlodi. Hyn sydd ffaith amlwg, gweithiodd rhai offeiriaid a gweinidogion tlodion yn wych er deffro a chodi'r wlad i fywyd uwch. Ni bu tlodi yn eu hachos hwy yn ddigon i'w hatal rhag ymdrechu.

Dioddefai'n dost hefyd oddi wrth y dwymyn Seisnig. Cwynai Dafydd Jones yn ei ragymadrodd i'w "Gydymaith Diddan" mai pedwar Sais oedd esgobion Cymru. A thrachefn, yn ol llythyrau y Prydydd Hir, "yr oedd personiaid o Saeson hollol yn cael eu penodi i fywioliaethau o Fflint i Fon." A pha flas gaffai estroniaid ar bethau Cymreig? A llesgaodd bywyd o achos y diflasdod. Felly yr oedd y nerth hwn, a allesid droi er llwyddo llenyddiaeth ymhlith y cyffredin, yn gorwedd yn farw. A bu orfod ar lenyddiaeth y wlad drigo'r mannau lle caffai groesaw, y fath honno o oes ag yr oedd y clochyddion yn amgenach llenorion na'u meistriaid.

Darn arall o hanes prudd yr amseroedd hyn ydoedd anwybodaeth y bobl, a'u hanallu i ddarllen. Rhaid aros mewn syndod uwch ben y ffaith anwadadwy fod cyfangorff y genedl yn hollol anysgedig, hyd yn oed yn analluog i ddarllen iaith eu haelwydydd. Pa le yr oedd eu gwaredwyr, y rhai a ofidient o'u hachos? Teimlodd y Morrisiaid i'r byw angen Cymru am Feiblau; ond gadawsant y mater o ddysgu'r werin i'w darllen i eraill. Methais weled un crybwylliad yn holl lythyrau y Morrisiaid na Goronwy Owen at ysgolion Gruffydd Jones o Landdowror. Ceir un crybwylliad byrr yn un o lythyrau'r Prydydd Hir. Rhaid y gwyddent am danynt; canys bu'r ysgolion hyn mewn llawer cymdogaeth yn y Gogledd, a llawer gwaith yn eu tro mewn rhai cymdogaethau. Gwawdiasant y "Gwahanyddion hyntiog a thrystiog," er eu gofid a luosogent yn y tir. A rhaid y safasant o hir bell, gan wylied yn amheus lafur un o'r gwyr eglwysig goreu a welodd Cymru. Paham na ddeallasant fod y math hwn o addysg yn hanfodol angenrheidiol er llwyddiant llenyddiaeth yn gyffredinol?

Yr oedd Dafydd Jones fel yn canfod yr anhawsder, a meddyliodd geisio ei symud. Canys hyn oedd un o amcanion cyhoeddi'r "Cydymaith Diddan." Fel llawer o lyfrau'r amser hwnnw, ceir y wyddor ar ei ddechreu, ac amcanwyd ei wneyd mor "ddiddan" nes peri i ddynion ei ddarllen o "ran digrifwch yr ymadrodd." Er ei fod yn "Gydymaith Diddan," ac yn ddifai fel y cyfryw, prin y bu'n foddion i ddysgu pobl i ddarllen.

I ŵr o amgylchiadau. a moddion Dafydd Jones, rhaid fod cyhoeddi llyfrau yn flinderus a dielw, er ei fod yn teithio'r wlad ei hunan i'w gwerthu. Ond caletaf y gwaith, mwyaf y clod. Yr oedd yr argraffwasg am ran gyntaf ei oes ymhell, yng Nghaer neu'r Amwythig yr oedd yr agosaf. Yr argraffwyr yn ddim amgenach na bwngleriaid, felly yr oedd cywiro'r wasg yn orchwyl pwysig. A pha faint bynnag o newyn llyfrau oedd yn y wlad, rhaid oedd dioddef ei arteithiau o ddiffyg moddion i'w prynnu. Felly nid rhyfedd fod canu cerddi ceiniog eu pris yn arfer mor gyffredin; dygent rywfaint o elw, tra'n llawer llai anturiaeth na chyhoeddi llyfrau. Gwelir yn amlwg oddi wrth amryw o'i lyfrau y rhaid fod ei drafferthion yn fawr, ei dreuliau personol yn drymion, ac yntau heb fawr foddion i ymgynnal danynt. Ceir ei ragymadrodd i'r Cydymaith Diddan" wedi ei leoli a'i ddyddio—

"Caer Lleon, o'm stafell,
Ar Graig yr Hewl beeth.
Chwefror 7, 1766."

Trigai ar y pryd yn Nhan yr Yw, Trefriw; ac yn ol a ysgrifennodd Ieuan Brydydd Hir am dano, Ion. 14, 1761, yr oedd yn meddu "rhawd o blant bychain, sef chwech neu saith ... yn achwyn bod arno ddyled, ac eisiau modd i dalu ei ardreth."[1] Yr eglurhad ar y lle yr ysgrifennodd ei ragymadrodd yw ei fod yno'n cywiro'r wasg." A rhaid fod hynny'n drafferth gostus i ŵr yn meddu amryw blant, a'i amgylchiadau ariannol yn gyfryw nes methu o hono "dalu am ei nenbren."

Fel yr awgrymasom, yr oedd Dafydd Jones yn gydoeswr a'r Diwygiad Methodistaidd." A thyna'r cyfan.[2] Rhaid y gwelodd olion ei ddylanwad ar fywyd moesol y De; y gwelodd y gwanwyn ysbrydol hwn yn dechreu gweddnewid agwedd foesol a deallol y Gogledd. Bywyd newydd oedd hwn a gododd, nid o ddeall na gwladgarwch y llawer, ond o gydwybod yr ychydig. A methaf weled ei fod o un gwahaniaeth o ba safle nac o ba raddau eu dysg; canys gradd, ac unig radd diwygiwr, yw enaid wedi ei danio. Ystyried cyflwr ysbrydol a chymdeithasol y wlad fu'r achos o hono. Nid oedd yr holl weithwyr yn gweithio yn yr un drefn, er ei fod yr un gwaith ac yn cyrraedd yr un amcan. Y modd i wella'r wlad yn ol syniad Gruffydd Jones oedd dysgu'r bobl i ddarllen, a rhoddi iddynt lenyddiaeth grefyddol dda. Credai Harris mewn deffro eu cydwybodau mewn odfaon, a'u diddanu mewn seiadau. A bu odfaon Rowland yn foddion i ddeffro ysbryd defosiynol, a dwyn dynion i brofi blas tangnefedd yr efengyl. Canlyniad diamheuol gweithgarwch y pleidiau oedd codi llawer ar y wlad yn ysbrydol, moesol, a deallol. Nid codi rhagorach beirdd a choethach llenorion a wnaeth y diwygiad; ond mewn amser, creu tô newydd o ddarllenwyr. Beirniadu ac erlid y Diwygiad Methodistaidd a wnaeth beirdd a llenorion goreu yr amseroedd hynny. Nid oeddent yn deall gwerth y gwaith, a gall fod eu balchder beth anfantais iddynt ei farnu'n deg. Yr oeddent yn fath o gymdeithas a'i gwaith ar ei chyfer, sef gwerthfawrogi a chadw math neilltuol o farddoniaeth a llenyddiaeth, ac ystyrient hwy, fel yr offeiriaid, "y cyffro newydd" fel newydd beth afreolaidd ac annuwiol. Llenyddiaeth y Diwygiad oedd Holwyddoregau Gruffydd Jones, gweithiau John Bunyan, "Patrwn y Gwir Gristion," "Llyfr y Tri Aderyn," yng nghyd a llyfrau da eraill, y rhai yn bennaf oedd gyfieithiadau o'r Saesneg. Er i Williams Pant y Celyn ddwyn i arfer fesurau newyddion a barddoniaeth newydd yn ei emynnau, parhau i ganu'r mesurau carolau anwastad eu cyhyrau, a cheisio efelychu Huw Morus, a wnaeth y beirdd bach a ymnoddent o dan gysgodion eu rhagorach. Pa fodd na welodd Lewis Morris werth Holwyddoregau Gruffydd Jones ac emynnau Williams sydd hollol anesboniadwy. Yr unig gyfathrach fu rhwng y ddwy blaid ydoedd gwaith Rhisiart Morys yn cynorthwyo Peter Williams yn nygiad allan Feibl 1770. A cheisiodd y Prydydd Hir, yn fwriadol neu anfwriadol, greu rhagfarn ym meddwl Rhisiart Morys yn erbyn Peter Williams, pan yr ysgrifenna,—

"Y Pedr Williams yna sydd yn argraffu y Beibl yng Ngharfyrddin, nid yw meddynt i mi yng Ngharedigion, ond ysgolhaig sal a phur anghyfarwydd yn y Gymraeg. Un o gynghorwyr, neu ddysgawdwr y Methodistiaid ydyw."[3]

"Am y Beibl Cymraeg â Nodau. y mae arnaf ofn na ddaw byth allan, ac nad yw'r dyn ychwaith ag sydd yn cymmeryd y gorchwyl yn llaw gymhwys i'r gwaith. Ei enw yw Peter WilIrams: un o'r Methodyddion ydyw. Ni fedr ddim iaith iawn, na'i hysgrifenu chwaith, megys y mae rhai llyfrau a ysgrifenodd yn tystio."[4]

Mae'r uchod, mewn un wedd, yn feirniadaeth deg, gyson a'r dystiolaeth oedd gerbron; oblegid yr oedd Peter Williams wedi cyhoeddi cyn hyn lyfr, nad oedd fawr gamp ar ei Gymraeg, na chysondeb yn ei orgraff. Nid ffrwyth barn, ond rhagfarn, oedd ei alw yn un "o'r Methodyddion." Pa wahaniaeth o ba "yddion" yr oedd, os ceid trwyddo argraffiad o'r Beibl at wasanaeth gwlad ddifeiblau? Er y darogan, profodd ei hun gymhwysach nag y syniodd y Prydydd Hir am dano; canys daeth ei Feibl allan ogystal ei ddiwyg, a dweyd y lleiaf, a'r Beiblau a'i blaenorodd. Ac erbyn hyn, mae wedi dod yr argraffiad mwyaf poblogaidd o unrhyw argraffiad ar wahan i argraffiadau'r Gymdeithas Feiblau.

Amlwg yw na ddylanwadwyd ar Ddafydd Jones gan y Diwygiad mewn unrhyw fodd. Canodd lawer o ganiadau crefyddol, ond yr oeddynt oll yn null y carolau, neu ynteu yn ol iaith a meddwl

"Canwyll y Cymry." Gall mai'r esboniad yw ei berthynas, o'r fath ag oedd, â'r Morrisiaid, a'u dylanwad arno, yn neilltuol felly ei syniadau uchel am Gymdeithasau Llundain, a'i ymroddiad i weithio yn y cyfeiriad a roddasant hwy i weithgarwch dros y genedl.

Yn cydfyw ac yn cydweithio â'r Deffroad crefyddol, yr oedd math o ddeffroad cenedlaethol a gwladgarol. Math o ryddfrydiaeth grefyddol, a'i hwyneb ar gymdeithas i'w chreu o newydd o ran ysbryd a threfniadau crefyddol, oedd un; tra'r llall yn ddeffroad ceidwadol, cadw a mawrygu hen geinion llenyddol oedd ei hanwyl-waith.

Pobl yn edrych yn ol oeddent, gan sugno asbri i'w calonnau o feddwl a bri'r gorffennol. Yn 1751 sefydlwyd cymdeithas enwog y Cymrodorion, gwaith yr hwn yn bennaf oedd codi o'r tyrrau llwch bob peth Cymreig mewn barddoniaeth, llenyddiaeth, ag hanesiaeth. Yr un modd yn 1771, sefydlwyd cymdeithas y Gwyneddigion, a'i hamcan hithau oedd eu cyhoeddi, er na wiriodd ei hamcan erioed.

Yma ceisiwn nodi safle Dafydd Jones, fel llenor neu fardd, pa un bynnag o'r cymeriadau hyn a haeddai. Fel y nodasom, ni fu un cysylltiad rhyngddo â'r Diwygiad na'i lenyddiaeth. Yr oedd lawer amgenach yn ei waith a'i gysylltiadau na baledwyr y ffair a'r gwylmabsant. Eto yr oedd pob peth a gyfansoddodd ac a gyhoeddodd islaw cael eu noddi gan y cymdeithasau uchod. Er fod ei waith felly, yr oedd efe ei hun yn aelod o'r cymdeithasau hyn. Yn rhagymadrodd y "Cydymaith Diddan" dywed,—

"Y mae yn Llundain Gymdeithas o Gymry a elwir Cymmrodorion, ac yn y wlad hefyd, yn coleddu Brithoneg: ac y mae ymbell Bapur Crynhodeb, sef y Clwb yn Gymraeg."

Mewn nodiad ar waelod y ddalen ceir,—

"Fe ddarfu iddynt fy enwi yn un ohonynt, y gwaelaf o'r cwbl."

Mae'r nodiad hwn yn hollol gywir, oherwydd ceir ei enw yn rhestr gyntaf Cymdeithas y Cymrodorion, yr hon gyhoeddwyd yn 1762.[5] Pa fath bynnag fardd neu lenor ydoedd, yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, cymdeithas yr eiddigeddodd Lewis Morris gymaint dros ei hurddas, cymdeithas nad oedd holl dalent Goronwy Owen ddigon o iawn drosto yng ngolwg Llywelyn Ddu am iddo ysmocio yn un o'i chyfarfodydd. Fel y cyfeiriasom eisoes, ei barchu a'i amharchu bob yn ail a wnaeth Lewis Morris, a hynny yn hollol anheg rai gweithiau. Wrth ysgrifennu at Edward Richard, Ystrad Meurig, geilw Lewis Morris y Flodeugerdd yn,—

"Un o erthyliaid basdardaidd Dafydd Jones, y ffwl i borthi ei wagedd ei hun, a lanwodd y Llyfr a'i brydyddiaeth ddiles ei hunan."

Mae'r donioldeb gwrachiaidd hwn, nid yn unig yn anheilwng o Lewis Morris, ond yn anghywir fel ffaith a beirniadaeth. Oblegid, o'r 189 o ddarnau barddonol a geir yn y Blodeugerdd, ni cheir ond y nifer cymedrol o 9 o waith Dafydd Jones. Os diles ei farddoniaeth, gallasai longyfarch ei hun yn wyneb ei feirniad, llu o gywyddau'r hwn sy'n llygru y neb a'u darlleno, y maent rhy faswaidd i gael eu cyhoeddi gan neb yn yr oes hon. Felly nid oes fawr bwys i'w roddi ar wên na gwg y Lewis Morris. Ond er ei feirniadu o hono ef arwed, gohebai âg ef yn achlysurol, ac ysgrifennodd ato rai llythyrau campus yn ol ei arfer.

Rhaid fod syniadau Ieuan Brydydd Hir lawer uwch am dano; ac, heb os, beth gonestach. Pan yn ysgrifennu at Risiart Morus i'w annog i ddwyn allan lyfrau neilltuol, megis "Y Llwybr Hyffordd i'r Nefoedd," dywedai,—

"Os yw'r drafferth yn rhy fawr i chwi olygu y wasg yn y cyfryw orchwyl dyma Dewi Fardd o Drefriw a wnai y tro, tan eich golygiad chwi, gystal a neb a adwaen i. Yr wyf yn ei enwi ef yn benodol, oherwydd mai dyn geirwir, gonest ydyw, a mwy o wybodaeth yn yr iaith na nemawr o'i radd a'i alwad, er iddo gael llwyr gam gan Stafford Prys yn Amwythig, yr hwn ni argraffai mo'i lyfr modd ag yr oedd ef yn ewyllysio, namyn fel y gwelai ef yn dda ei hunan, herwydd y dywawd Dewi i mi tan daeru, y medrai ef argraffu Cymraeg mor gywir neu gywirach nag yntau."[6]

Wele ddwy farn dau a'i hadwaenai yn dda. Eu cysoni a thynnu un casgliad teg am ei safle fel bardd a llenor i'n pwrpas presennol sydd anhawdd. A'r anhawsder pennaf yw, yn y rhagolwg ar yr un peth ei condemnid gan un ac ei cymeradwyid ef gan y llall. Rhaid addef fod Lewis Morris yn feirniad craff, er fod math o deimladau brwd balch yn peri iddo fod yn neilltuol lawdrwm ar bersonau ambell waith. Yn bennaf condemnio iaith ei brydyddiaeth a wnai'r Llywelyn Ddu, ac i ieithydd mor loew a meistrolgar yr oedd gweithiau Dewi Fardd yn israddol a chyffredin. Camgymeriad ar ei ran ef oedd eu gosod allan fel prydyddiaeth ddiles." Canys yr oedd lles barddoniaeth y ddau yn eu dysgeidiaeth foesol. Yn yr ystyr hon yr oedd barddoniaeth gyffredin Dewi Fardd yn llawer mwy llesol na chywyddau aflan ei feirniad, y rhai a ymddanghosasant, er syndod, ymhen llai na phedair blynedd, yn y "Diddanwch Teuluaidd," a'u hawdwr eto'n fyw. Drachefn, barn garedig yw eiddo'r Prydydd Hir. Wrth drigo yn Nhrefriw daeth i ddeall amgylchiadau gwasgedig Dafydd Jones, a ffurfiodd gyfeillgarwch âg ef. O hyn cymhellai ef i swydd y cai ychydig elw ariannol am ei chyflawni. Amlwg yw, oddi wrth weithiau llenyddol Dafydd Jones, nad oedd ieithwr o'r radd ei gosodid allan gan y Prydydd Hir. Pa faint bynnag o gam a gafodd oddi ar law Stafford Prys, ni ragorodd ef ei hun arno pan yr ymgymerodd â'r gwaith o argraffu. Canys yr oedd y llyfrau a ddaeth allan o wasg Trefriw lawer gwaeth eu horgraff a'u hargraff na rhai gwasg yr Amwythig. phrofant nad oedd Dewi Fardd gwbl fedrus i gywiro'r wasg, heb ryw Risiart Morus i'w gywiro yntau.

O fwrw golwg frysiog o'r fath hon dros ei amgylchoedd, gwelir nad oedd amgylchiadau Dafydd Jones yn galonogol na manteisiol i waith llenyddol. Ni chafodd y nodded arferol gan lenorion goreu'r oes, oherwydd na chafodd yr addysg honno a'i gwnelai'n ffafrddyn yn eu golwg. Er fod y llenyddiaeth a gyhoeddodd lawer uwchlaw baledau cyffredin ei oes, a'r llenyddiaeth a gydredai â'r baledau, nid oedd yn codi at safon lenyddol llenyddiaeth ei amser. Oherwydd hyn ni chafodd yr ychydig gymorth ariannol a roddai Cymdeithasau'r Cymrodorion a'r Gwyneddigion, os oedd eu cefnogaeth hefyd rywbeth amgenach na geiriau caredig. Yr unig reswm a ellir roddi dros ei waith a'i lafur ydoedd ei wladgarwch. Ar un llaw yr oedd uwchlaw canwyr baledi'r ffeiriau, heb deimlo o ysbryd y Diwygiad, eto heb fod o'r dosbarth neillduol o lenorion, er ei holl gyfathrach â hwynt. Ond er na feddai eu dawn a'u safle, yr oedd ei wladgarwch fel yr eiddynt hwythau. A bu was ufudd yr ysbryd hwn yn ol ei allu, a llwyddodd yn fawr.

Yn y bennod hon yr ydym wedi ceisio bwrw golwg dros ei anfanteision, nodweddion ei amser, ei gysylltiad â phrif lenorion ei amser. Er wedi crybwyll ei safle fel llenor, bardd, a henafiaethydd, yr ydym wedi ei gadael yn ben agored. A chaiff y darllennydd yn gyntaf farnu ei safle yn ol natur a swm ei waith. Canys gwaith dyn a ddylai yn bennaf roddi iddo safle.

III. PWY OEDD DAFYDD JONES?

Y fath hud rhyfedd sydd yn nhroadau hanes. Nid rhyfedd i'r hen Gymry gwladgar weu eu hadgofion yn fabinogion rhamantus, ond swynol a thlysion er hynny. Adroddent newidiadau araf oesau eu tadau fel pe wedi digwydd yn eu hamser a'u hoes hwy eu hunain. Yr oedd eu dychymyg heb ei ddofi gan ddysg, na'i feichio hyd lesgedd gan helyntion bywyd. Yr oedd ffeithiau hanes eu hamser fel cymylau'r awyr, yn nofio mewn gorffennol dilan, difynydd. Gwedi hynny y profwyd y gwir mai goreu cof, cof llyfr. Llyfrau'r wlad oedd cof y trigolion; ac os nad oedd y goreu, yr oedd barod a defnyddiol. thuedd byw'n barhaus yng nghwmni chwedlau arwrol oedd troi'r genedl yn genedl o arwyr. Yn araf newidiodd pethau. Daeth y wasg i ysgafnhau baich cof, a rhoddi mwy o waith i ddeall segur. A daeth digwyddiadau cymdeithasol yn gerrig llamu'r anialwch hwn—cartref hud oesau coll. Am ganrifoedd bu'r genedl yn byw i amcanion gwleidyddol. Rhyfeloedd, a son am ryfeloedd, oedd y post amser wrth yr hwn y rhwymid y rhes digwyddiadau eraill,—"Y peth a'r peth cyn neu wedi rhyw ryfel neu alanas llywodraeth. A bywyd masnach oedd ysbail rhyfel. Bu Llundain a'i Thŵr brenhinol, ei helyntion gwladol a chrefyddol, er pelled oedd pryd hwnnw, bron yn bob peth bywyd y wlad. Tu ol i lenni'r ffau wleidyddol honno y genid cynlluniau'r codi i fyny a'r taflu i lawr; a'r wlad fawr amgenach na rhyw fantais, yn bod at wasanaeth y rhai enillent y gamp yn y lotri wleidyddol. Treuliodd Cymru gannoedd o flynyddoedd o fywyd ofer. Gwir iddi fod beth mwy sefydlog na Lloegr; yr oedd ddigon toriaidd i aros wrth yr un post, er dioddef o achos hynny. Yr oedd yn y wlad ychydig fawrion yn clodfori'r brenin, ac ychydig feirdd yn eu clodfori hwythau. Yr oedd y beirdd a'r gwleidyddwyr fel rheol yng nghwmni eu gilydd; a chyfangorff y bobl y tu allan i'r cylch, heb fawr fwy amcan i'w bywyd na chynnal eu teulu a thalu'r rhent. Bu gwerin y wlad fyw a marw bron fel eu hanifeiliaid. Hyn oedd hanes Cymru am ddegau o flynyddoedd wedi amser Dafydd ab Gwilym a Thudur Aled. Mae'r newid yn fawr, ond fyrred y tymor y dygwyd yr oll oddi amgylch,—dim ond megis doe. Prydain heddyw, nid yw onid cynnyrch dadblygiad un oes. Gwelodd Victoria o'i gorsedd bron fwy o newid na'i holl flaenoriaid ynghyd. Mae cyfnewidiadau lawer fel yn hwyhau amser, a dynion yn rhyfeddu eu bod wedi byw cyhyd, ac yn cofio pethau mor wahanol.

Mae cant a hanner o flynyddoedd er pan drigai Dafydd Jones yn Nhrefriw, a dim ond cant a hanner. Mor agos a phell! Mae'r mynyddoedd fel o'r blaen, er holl raib yr ystormydd fu'n ymladd eu brwydrau ar eu llethrau, yn unig fod tô arall o goed yn sefyll rhyngddynt a'r gwaethaf, a phlant y drydedd neu'r bedwaredd genhedlaeth yn bugeilio'r defaid. Mae'r goedwig oedd ar y dyffryn yn faes aredig. Rhedeg mae'r afon tua'r môr, ac fel bywyd yn ymgolli yn ei amcan, ond yn gwneyd llawer gwasanaeth ar y daith. Bu Lewis Morris yn holi am enwau ei "gleisiaid," ac yn chwenych ciniaw o'r "brwyniaid a wnaeth Sant Ffraid." Treiglo mae'r afon; ond aros mae'r bryniau, a bron wedi blino yn cynefino a thô ar ol tô o ddynion yn chwareu ar eu llethrau, ac wedi oes ferr yn cilio a diflannu. Yn amser Dafydd Jones nid oedd yr holl wlad namyn nentydd tawel, mynyddoedd distaw, cartref ychydig wladwyr tawel, os nad tlawd. A Threfriw ei hun, nid oedd namyn "Caer-drws-nant," yn sel y mynyddoedd, ac yn gwylio dros drigolion y nentydd. Y pryd hwnnw yr oedd Llanrhychwyn fwy ei bri na Threfriw, megis hen ddinas fach yn cadw mewn cof ddull o fyw hanner cuddiedig yr hen dadau. Yn yr oes hen honno, yr oedd ambell gapel bach, diaddurn, yn cael eu codi draw ac yma, a dyrnaid o addolwyr ofnus a thlawd. Ceid ysgol uwchraddol ar gyfer pob sir; yn hapus yr oedd felly yn y rhan hon o'r Gogledd. A cheid ambell dwrr o blant yn ymgynnull yn hen ysguboriau'r tafarnau i ddysgu Cymraeg, o dan athrawon Gruffydd Jones: ac ambell un arall, a fedrai ar lyfr, a ddilynai eu hesiampl. Nid oedd oes y rheilffordd a'r pellebyr eto wedi gwawrio. Traul anfon llythyr oedd chwe cheiniog, a rhaid oedd teithio deng milltir i'w roddi dan sel cerbyd Llundain. Gwlad y cymanfaoedd, a hen wlad y cymanfaoedd, y diwygiadau a'r colegau, y gelwir Cymru heddyw. Ond yr oedd gwawr ei bore heb dorri'r adeg hon. Yr oedd y wlad fel heb ddeffro, a chymdeithas fel heb esgor ar ei bywyd ei hun. Cerddi'r ffair ac almanaciau'r flwyddyn oedd newyddiaduron y wlad. A chlochydd Trefriw oedd prif argraffydd Gogledd Cymru.

Profedigaeth ambell un a gais ysgrifennu cofiant yw gormod hanes. Yma prinder hanes yw'r trallod. Mae'r mân hanesion sy'n esbonio cymaint ar gymeriadau dynion wedi eu colli, ac wedi eu colli am byth. Y pryd hwnnw nid oedd ein llenorion wedi dechreu'r arfer hwylus. o groniclo eu hanes eu hunain, na chwaith wedi ymroi i'r gwaith o ysgrifennu cofiantau eu gilydd. Eu harfer hwy oedd canu clod y naill y llall pan yn fyw, a chanu un cywydd goffa. Cadw eu gwaith, ac nid eu hanes, oedd bwysig yn eu golwg. Bu gan y Diwygiad Methodistaidd law amlwg yn nwyn i fod yr arfer o ysgrifennu hanes a chofiantau.

Ac nid balchder mo hyn, ond ffurf ar ddyledswydd grefyddol. Trwy'r Diwygiad cafodd Cymru ddynion ag yr oedd elfennau eu cymeriad a ffeithiau eu bywyd yn gyfryw fel yr oedd cydwybod gwlad yn teimlo mai colled oedd eu colli.

Prin yw'r hanes am Ddafydd Jones yn ein llyfrau safonol; prin ymhob man o ran hynny. Yr un ychydig hanes geir yn Eminent Welshmen" Williams, yn "Enwogion Cymru," ac yn y "Gwyddoniadur;" yr un yw eu clod, a'r un yw eu camgymeriadau. A hyn yw aflwydd hanes llenyddiaeth Gymreig, un camgymeriad a ddaw yn fuan yn gamgymeriad llawer. Oherwydd gwell gennym yfed y goferydd nac ymdreulio i gerdded y ffordd i lygad y ffynnon.

Ni wnaeth Ieuan Glan Geirionnydd a ddylasai i gadw yn wyrdd goffadwriaeth Dafydd Jones. Croniclodd Ieuan hanes gwledydd pell a phobl ddieithr i Gymru ei wlad. Dyddorodd ei ddarllenwyr â hanes anifeiliaid gwâr a gwyllt. Ond er ei fod wedi ei eni mewn rhandir swynol i fardd Cymreig, yn swn hudol draddodiadau am Lywelyn a'r ymroddgar Syr Thomas Williams, ni chofiodd gadw'n fyw hanes ei bobl ei hun. Yn ei amser ef yr oedd llawer o hanes Dafydd Jones ar gof gwlad. Gwelodd Ieuan, ei fab Ismael Dafydd, a chanodd iddo englynion coffa, gan deitlo'r tad yn Dafydd Sion Dafydd, yr enwog henafiaethydd."[7] Felly cafodd pob cyfleustra hamdden teg i fyned heibio, a'r llwch lonydd i guddio ei goffadwriaeth.

Yr oedd i Ddafydd Jones amrywiol enwau. Anhawdd cael gŵr mwy amrywiol ei enwau, os nad ei ddoniau hefyd. Ar y cyntaf galwai ei hun yn "Dafydd Jones, Antiquary." Ond ei arfer yn rhan olaf ei oes oedd "Dafydd Jones, Dewi Fardd;" ac yn fynych "Dewi Fardd" yn unig. Wrth rai o'i weithiau ceir Dewi ap Ioan.[8] Mae'n debyg mai ei enw llafar gwlad yn Nhrefriw oedd Dafydd Sion Dafydd; i raddau pery felly o hyd. Ei enw fel llenor heddyw yw Dafydd Jones o Drefriw. A pho fwyaf o ymchwil wneir i lenyddiaeth y ddeunawfed ganrif, mwyaf amlwg y daw'r enw hwn o hyd. Enw yw sy'n ennill ei safle. Ymddengys mai Lewis Morris a'i cyfenwodd Dewi Fardd, a balch oedd o'r bedydd barddol hwn. Ceir y nodiad canlynol yn y "Cydymaith Diddan," tud. 176,—" Dewi Fardd y'm cyfenwai Lewis Morris, Yswain, fi ymhlith beirdd." Hawdd gweled fod Lewis Morris yn frenin cylch neilltuol o feirdd yn ei amser, a fod ei ffafrau megis eu heinioes iddynt. Mewn llythyr ato, dyddiedig Hyd. 14, 1757, geilw'r un gŵr ef yn Dafydd Sion."—" Gŵr gwann iawn oedd Mr. Wynne Cynhafal, ni fedrai gael mwy nag un subscriber i Ronwy, nac yr un (Duw'n helpio) i Dafydd Sion."[9] Llywelyn Ddu yn ddiau biau'r clod neu'r anghlod o'i alw "Bardd y Blawd Ceirch," yr hwn geir yn "Account of Manuscripts Dafydd Ellis, Criccieth." A chofnodwr enwau'r "Account" oedd y Llywelyn Ddu. A bu Goronwy ddaed a'i alw "Bardd y Blawd."

Pwy oedd ei rieni, a pha le ei ganwyd, sydd i raddau'n ddirgelwch. Ceir un awgrym am ei fam, sef fod Sion Dafydd Las yn ewythr iddo gefnder ei fam. Bardd teulu Nannau, a brodor o Lanuwchlyn, oedd y Sion Dafydd hwnnw. Bu farw yn 1694, wedi cefnu ei driugain oed; a ganwyd Dafydd Sion Dafydd ym mhen deuddeng mlynedd gwedi. Mae'r gwahaniaeth mewn amser yn lled chwithig, ond gall fod y berthynas er hynny. Cofnododd Dafydd Jones naw o gywyddau y Sion Dafydd Las yn un o'i ysgriflyfrau,[10] ond nid yw hyn un prawf o'i berthynas.

Yn ei enw ei hun ceir awgrym am ei dad, sef mai Sion Dafydd oedd ei enw. Yn ol arfer yr amseroedd, daeth cyfenw ei dad iddo ef yn enw priodol, ac enw priodol ei dad iddo yn gyfenw. A chadarnheir hyn gan ei waith yn galw ei hun yn Dewi ab Ioan. Dywed Gwilym Lleyn mewn nodiad lled amwys,—

"Wyr iddo (Dafydd Jones), mab i Ismael Dafydd, yw Mr. John Jones, argraffydd, Llanrwst, yr hwn a ymestynodd yn ol i'w hen daid i gael ei ddau enw."[11]

Felly nid Sion Dafydd, fel yr awgrymir gan yr enw Dafydd Sion Dafydd, ond John Jones, oedd enw tad Dafydd Jones. Os hyn a amcanodd Gwilym Lleyn osod allan, rhaid y camgymerodd. Yr oedd math o reoleidd-dra yn newidiad yr enwau, a buasai'r newid beth mwy rheolaidd pe rhagluniaeth y nefoedd wedi caniatau i Ddafydd Jones ei ddymuniadau. Wele'r rhestr,—

Sion Dafydd.
Dafydd (Jones) Sion.
Ismael Dafydd.
John Jones.

Fel y gwelir, enw ei hen daid a chyfenw ei daid oedd gan John Jones Llanrwst. Danghosodd Dafydd Jones awydd calon am gael yr enw Sion Dafydd yn y teulu; enwodd ddau o'i blant felly, ond buont feirw yn ieuainc. Mae'n debyg, yn ol yr enw, mai Dafydd Jones oedd y bachgen hynaf. Ni lwyddais i gael un crybwylliad am frawd na chwaer. Syndod i raddau iddo dewi a son am en genhedlaeth; gall, o ran hynny, fod yr holl ddirgelion ynghadw yn rhywle, ac eu ceir pan ddeuir o hyd i'w holl ysgriflyfrau.

Pa bryd ei ganwyd sydd i raddau'n anhawdd ei benderfynu, oherwydd gwahaniaeth dyddiadau. Ni cheir un cofrestriad o fedyddio yng nghofrestri Trefriw a Llanrhychwyn. Felly gobaith gwan gwaredigaeth o gofrestr eglwys, am na wyddis pa le i'w cheisio. Mewn hen ysgriflyfr o waith Dafydd Jones, ym meddiant y Parch. R. Jenkyn Jones, M.A., Aberdâr, ceir y cofnodiad canlynol, a hynny yn gofnodiad yn llawysgrifen Dafydd Jones ei hun, yn ol a ddeallwn,[12]

"Dafydd Jones a anwyd yn y flwyddyn 1703, dydd Mawrth, mis Mai 4 dydd, yr haul yn 2A arwydd y Tarw a'r lleuad yn newid 4ydd, 8A. 4 mynyd o'r prydnawn. Ei eni ef yn y bore nghylch 11 ar gloch. Y lleuad yn 30 oed."

Mae llawer o ddelw Dafydd Jones ar yr uchod, sef ei gyfeiriadau seryddol a'r manylder yn nesgrifio amser y geni. Eto yr ydym yn ameu y cofnodiad. Un elfen dieithr ynddo yw "Dafydd Jones a anwyd," pan yn ddieithriad yr arferai Dafydd Jones, pan yn adrodd pethau o'r fath am dano ei hun, gyfeirio ato ei hun yn y person cyntaf. Hefyd nid ydym yn rhoddi llawer o bwys ar gofnodion y llyfr, oherwydd ceir ynddo gofnodiad o'r fath hyn," Achau ei fab Ismael Dafydd a fu farw 1735." Mae'r cofnodiad olaf hwn yn amhosibl, oherwydd ni anwyd i Ddafydd Jones blentyn hyd 1739, ac ni anwyd Ismael am dros ugain mlynedd.

Mae cân o'i eiddo yn y Blodeugerdd yn dwyn yr enw "Odlau'r Oesoedd." Yn honno ceir y pennill rhyfedd a ganlyn,

"O'r holl oesau, hon yw'r ola,
Oer ddifwyna, ar ddaiar fane;
Er ys pum mil, seith gant rhigil
Sydd ar sigil, dreigl dranc:
Wyth o flwyddi, sydd heb amau
Hir faith adde, yw'r fath oed;
1708 mis Mawrth 25
Mawrth ugeinfed, dydd y pumed
Hyn o rified, i ni a roed;
Nis gwyr dynion nac Angylion
Na'r Mab tirion ond y Tad:
Y daw rhyfedd, derfyn diwedd
Ar bob mawredd, lwysaidd wlad.
Rheitiau gorchwyl, i ni ddisgwyl
Am ein harwyl yma yn hy;
Gan fyw'n dreulgar, drwy bur alar
Cyn mynd i garchar, daiar du."

Wedi darllen yr uchod drachefn a thrachefn nid oes gennyf ond un eglurhad arno, sef mai am ei oes ei hun a'i oedran y canai, ac mai dyddiad ei enedigaeth yw'r dyddiad ar ymyl y ddalen. Gwir mai enw o farddoniaeth aneglur yw'r pentwr y cloddiwn ein ffaith allan o hono, ac fod gwrthod gosodiad y CYMRU yn ymddangos yn hyfdra a diffyg barn, gan ei fod yn dwyn holl nodweddion tebyg i gronicliad gan Ddafydd Jones ei hun. Y pethau tebyg hynny yw'r achos ein bod yn ymdrafferthu cymaint, yn lle gosod i lawr yn syml yr hyn a ystyriwn yn wir ffeithiau hanes. Bellach dyma hwynt. Yn ol y cofrestriad eglwysig geir ym Mangor, bu farw Dafydd Jones Hyd. 20, 1785. Drachefn, yn ol carreg ei fedd, claddwyd ef Hyd. 26, 1785, yn 77ain mlwydd oed. Rhaid felly mai yn 1708 ei ganwyd. Yn y goleu hwn yr ydym yn gwrthod cofnodiad yr ysgriflyfr a chredu cofnodiad y pennill, yr hwn gadarnheir gan y garreg fedd.

Tueddir ni i wrthod y syniad ei fod yn enedigol o Drefriw, eto ni feddwn fawr reswm dros ein tuedd. Pa bryd y daeth yno ac o ba le? Rhaid ei adael i ymchwilydd arall. Credaf mai ei gartref cyntaf yno, ac olaf hefyd, oedd Tan yr Yw, ac arferai ysgrifennu Trefriw yn "Dref-yr-Yw." Mae'r Yw" yno o hyd, fe allai heb ymddangos lawer hynach, yn taflu eu cysgodion ar ei fedd ac ar wyneb ei hen gartref. Y ffurf hon sydd ar yr enw yn rhai o'r hen gofrestriadau eglwysig, ond nid oes fawr goel i'w rhoddi ar orgraff y cofrestriadau, am y ceir ynddynt hwy Drefruw," a rhai dulliau eraill hefyd. Mae'r chwedlau o ba le y daeth yn lluosog. "O'r Deheudir " ac o Ysbyty Ifan" yw'r tybiau mwyaf cyffredin. A gellir ychwanegu, er lluosogi tybiau, ardal Llanuwchlyn.

Os honno oedd cartref ei fam, nid amhriodol ceisio ei blwyfo yntau yno. Ni welais neb yn credu ei fod yn enedigol o Drefriw, a gall fod yr anghrediniaeth hon yn ddarn cywir o hanes. Eto mae awgrymiad neu ddau yn tueddu, yn bendant o ran hynny, i brofi ei fod enedigol o sir Gaernarfon. Yn ei gofrestriad fel aelod o Gymdeithas y Cymrodorion[13] nodir ef fel un genedigol o sir Gaernarfon.

Mae peth pwys i'w roddi ar y cofrestriad, oherwydd yr oedd aelodau'r gymdeithas yn selog, nid yn unig dros Gymru, ond dros eu hardaloedd—eu rhannau anwylaf hwy o honi. Yr oedd llawer o gydymgais iach rhwng y siroedd am anrhydedd.

Medd traddodiad, ond bloesg ei wala, mai teiliwr oedd wrth ei alwedigaeth. Ond clochydd Trefriw" ddywed cofrestriad y gymdeithas. Ni raid dadleu, gallasai fod y ddau. Dyddorol hefyd fod clochydd Trefriw yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion, a hynny pan oedd Lewis Morris yn gofalu am ei hanrhydedd; y gymdeithas y pechodd Goronwy gymaint wrth drin dybaco yn un o'i chynulliadau. Fel mae amser yn nychu rhagfarn i'w fedd, ac yn codi gwir fawredd i'r orsedd,—heddyw mae Goronwy yn fwy o anrhydedd i'r Gymdeithas nac a fu'r Gymdeithas iddo ef; ac am ei gynorthwyo, gwawdiodd y syniad o roddi cardod hyd yn oed iddo i dalu ei longlog i dir alltudiaeth. A phan ddaw pob peth ynghyd, bydd clochydd Trefriw yn fwy anrhydedd i'r Gymdeithas nac o anfri. Beth bynnag oedd ei alwedigaeth, amhosibl y rhoddai fawr amser iddi er cael trwyddi foddion cynhaliaeth. Tueddir fi i gredu y meddai ryw foddion cynhaliaeth ar wahan i'w enillion. Gwir fod ei amgylchiadau'n gwasgu; hawdd y gallasent wneyd er iddo feddu ychydig foddion ar wahan i unrhyw alwedigaeth gyffredin, megis clochydda neu gadw ysgol, oblegid collai gymaint o'i amser i lenydda, i chwilio'r wlad am hen ysgrif-lyfrau, ac i adysgrifennu'r rhai hynny. Wrth fwrw golwg dros lafur ei oes, y llyfrau gasglodd, a gyhoeddodd, ac a ail ysgrifennodd, rhaid dweyd iddo weithio yn galed, pe hyn yn unig a wnaeth.

Cafodd well manteision addysg na chyffredin ei oes. Yr oedd yn ysgolhaig da yn yr oes honno. Medrai ysgrifennu Saesneg. Yr oedd ei lawysgrifen yn gelfydd a thlos, agos bod yn gampwaith felly. Bu'n ysgolfeistr, er yr addefwn nad yw hynny un prawf o ysgolheigdod, mewn oes yr oedd bod yn hen sowldiwr yn un cymhwysder i gadw ysgol.

Ail ysgrifennodd lawer o hen lawysgrifau y ddwy a'r tair canrif blaenorol iddo, a rhai o honynt yn nodedig anhawdd. Yr oedd hyn ynddo ei hun yn ysgolheigdod gwerth ymfalchio ynddo.

Methasom weled cofnodiad am ei briodas. Ond yng nghofrestriad bedyddiad y plant nodir ei wraig fel Gwen. Os ad—eryn a ehedodd o'i fro oedd ef, o bosibl mai bro ei gymar a'i denodd. Gall ei bod hi yn un o frodorion Trefriw. Syndod na welodd yn briodol ei henwi. Er iddo gadw rhestr fanwl o'i blant a gofalu am hysbysu mai ei blant ef Dafydd Jones oeddynt, ni soniodd air am eu mham. Hawdd y gallasai roddi iddi'r deyrnged hon o barch; o herwydd rhaid y bu iddo'n wraig dda. Ar ysgwyddau pwy ond ei hysgwyddau hi y syrthiodd gofalon y teulu pan dramwyai ef y wlad yn ei ymweliadau llenyddol? Tueddir fi i gredu, pa le bynnag y priododd, mai'r lle bu fyw gyntaf oedd Trefriw, a Than yr Yw yn Nhrefriw. Yno y bedyddiwyd ei blant, a cheir rhagymadrodd un o'i lyfrau wedi ei leoli "Tan yr Yw, Mai 4, 1745." Mae'n debyg iddo briodi yn niwedd 1737, neu ddechreu 1738. Ganwyd ei blentyn cyntaf Chwefror 27, 1738—9, fel y cofnoda ef yr amgylchiad.

Wele gopi o gofrestr ei blant, copi o gofrestr yn ei lawysgrifen ef ei hun ar un o ddail gwynion "Cydymaith yr Eglwyswr yn ymweled a'r Claf." Ar ben wyneb ddalen yn y llyfr y mae wedi ei ysgrifennu ganddo hefyd,—"David Jones a Biau'r Llyfr 1754." Ysgrifennir hi air yn air a nod am nod fel ei ceir yn ol llaw yr hen lenor doniol.

OEDRAN FY MHLANT I DAFYDD JONES.

1 Sion, a Anwyd Nos Fawrth ynghylch ii, ar y 27 o fis Chwefror, yn y flwyddyn 1738-9, ar Dydd Cyntaf o oed y Lleuad. Ar Haul yn Arwydd y Pysc, 17.

2 Elizabeth, a Anwyd ynghylch 3 o'r Boreu Ddydd Mercher, Awst 25, 1742. Oed y Lleuad oedd 6. Yr Haul yn Arwydd y Forwyn, 14.

3 Jane' a Anwyd fis Chwefror, y 12 dydd at 10, o'r Boreu Dydd Mawrth, yn y flwyddyn 1741. Oed y Lleuad 22. Yr Haul yn 32 radd o Arwydd y Pysc.

4 Ann, a Anwyd fis Rhagfyr, y 7 Dydd at 10, o'r bore, Dydd Llun. Oed y Lleuad 17. Haul yn Arwydd y Saethydd 26. Y flwyddyn 1747. Llun.

5 Catrin, a Anwyd Ddydd Iau ar 3 o'r Boreu yn Mis Mawrth y 7 dydd, 1751. Oed y Lleuad 22. Yr Haul yn y 26 gradd o Arwydd y Pysc

7 Ismael, a Anwyd ynghylch 3 o'r Prydnhawn o fis Rhagfyr 30. Dydd Gwener. Oed y Lleuad 20. Yr Haul yn Arwydd yr Afr 1758. Neu Fachlud Haul.

6 Sion, a Anwyd ynghylch 4 ar gloch y bore Ddydd Iau, Medi 5, 1754, Oed y Lleuad 19. yn Arwydd y Forwyn.

Wele hefyd gofnodiad eu bedyddio, ond wedi ei thalfyrru, o gopi a gawsom o swyddfa cofrestru Eglwys Gadeiriol Bangor,—

  • 1. John the Son of David Jones, and Gwen his wife, was baptized the 28 Feb., 1739.
  • 2. Elizabeth. . . " . . .". . . 25 August, 1742.
  • 3. Jane . . . " . . .". . . 12 Feb., 1744.
  • 4. Ann . . . " . . .". . . 13 Dec., 1747.
  • 5. Cathrine . . . " . . .". . . 8 March, 1751.
  • 6. John . . . " . . .". . . 8 Sept., 1754.
  • 7. Ismael. . . . " . . .". . . 1 January, 1758.

O gymharu'r ddwy restr uchod, gwelir fod rhai o'r plant wedi eu bedyddio ar ddydd eu genedigaeth, ac eraill yn ebrwydd gwedi; arfer gyffredin yn yr amseroedd hynny. Ymddengys nad ysgrifennodd ef ei restr yn y llyfr uchod ar y pryd, ond ei hadysgrifennu mewn amser dilynol, ac wrth wneuthur hynny rhoddodd y seithfed yn lle'r chweched. Ond mae'r manylder a'r manylion rhyfedd a rydd yn profi ei fod yn copio o ryw gofnodiad a wnaeth ar y pryd.

Fel yr awgrymasom, yr oedd Dafydd Jones yn awyddus am gadw yr enw Sion a Sion. Dafydd yn y teulu, oherwydd henwodd ddau o'i blant ar yr enw hwn. Ei blentyn hynaf oedd fachgen, a galwodd ei enw Sion. Ni welsom gofnodiad ei farwolaeth ef. Galwodd ei fachgen cyntaf wedi'r pedair merch drachefn yn Sion. Er ei hoffder o'r enw, enw anffodus fu yn hanes ei deulu, oherwydd yn un o'r hen ysgriflyfrau ceir y cofnodiad prudd a ganlyn,—

"Hydref 19 neu'r hen gyfrif o'r mis 8 i clwyfodd Sion Dafydd o'r frechwen ac a bar—haodd hyd y 29 neu 18, o'r hon y bu farw ac a gladdwyd Nos Galan Gaia y 31 1762. 8 oed oedd ef."

Hefyd,—

"Fe ddigwyddodd i Sian ei chwaer freuddwydio, Nos Fawrth 22 o fis Mawrth yn y flwydyn 1763 weled ar fedd Sionyn Dafydd dri blodyn Lili wrth eu gilydd megis yn rhes a hi a welodd yno hefyd fwysi arall o ddail a elwir Blodau'r Gwr Ifainc."[14]

Na feier hyn o ofergoeledd, mae hiraeth o hyd yn coelio ambell freuddwyd. Ac mae rhai o enwogion Cymru heddyw yn cael eu swyno gan bethau oferach na "thri blodyn lili" yn tyfu ar fedd bachgen wyth oed a gladdwyd bum mis yn flaenorol.

Gwelir mai Ismael Dafydd, yr unig un o'r bechgyn a dyfodd i faint, yr hwn ddilynodd ei dad fel cyhoeddydd ac argraffydd llyfrau, oedd yr ieuengaf o'r torllwyth plant. Ganwyd ef oddeutu amser cyhoeddi'r Blodeugerdd. Yr oedd yn 27ain pan fu farw ei dad, a phan fu yntau farw claddwyd ef ym meddrod ei dad. Mae'n debyg fod Dafydd Jones, fel llawer yn ei oes, yn gwylio'r planedau, gan gredu'n ofnus ei fod fater o bwys pa un oedd "planed y plentyn." Yr oedd yr "Haul yn arwydd yr afr" pan anwyd Ismael. Ond fel ofergoelion yn gyffredin, nid oedd un broffwydoliaeth am ddyfodol y bachgen, canys nid oedd fawr debygolrwydd yn yr Ismael hwn i'r Ismael cyntaf. Gŵr Ilariaidd ydoedd, gwelir hynny'n amlwg yn englynion hir aeth Ieuan Glan Geirionnydd,—

"Ai gorph tirion llonydd,
Mewn carchar is âr y sydd."


IV. BYWYD A BUCHEDD.

Ym mlynyddoedd casglu a chyhoeddi'r Flodeugerdd, ceir amryw awgrymiadau am amgylchiadau'r casglydd. Yr oedd adeg ei lwyddiant llenyddol, a thymor ei galedi, yr un adeg yn ei hanes.

Bu felly hefyd i lawer eraill. Cyhoeddi'r Flodeugerdd, yn ol ei farn ef, oedd ei orchest-gamp, ac yn hyn ni chamgymerodd. Ond: fe fu baich y gwaith a baich y teulu bron ormod i'w ysgwyddau. Colled o ugain punt fu cyhoeddi'r Flodeugerdd. Oddeutu'r adeg hon, ysgrifennodd Lewis Morris ato lythyr, yr hwn, oherwydd ei gyfeiriadau a'i werth llenyddol, a adysgrifenwn,—

"Dewi henfardd, hardd, hirddysg
Chwiliedydd beunydd am bysg.

"Llundain, Hydr. 14, 1757.

Dyma eich Llythyr yn achwyn ar gŵn Caer, chwiwgwn oeddynt erioed. Mi welais Awdl a wnaeth L. Glyn Cothi iddynt, am dorri ei dŷ, a dwyn ei eiddo.

Dacw Ronwy fardd yn myn'd i Virginia i ganu i'r Indiaid, ac i fwytta Tobacco, ac i gael vnghylch 300l, yn y flwyddyn am ei boen, dan esgus bod yn feistr rhyw ysgol fawr sydd yno. Felly mid rhaid iddo wrth Subscribers.

Gwr gwann iawn oedd Mr. Wynne Cynhafal, na fedrai gael mwy nag un Subscriber i Ronwy, nac yr un (Duw'n helpio) i Dafydd Sion. Ni wyr yr Hwch lawn mo wich y wag. Wele hai, ni cha'r mwya' ei arian ond edrych arnynt a'u teimlo, ac yna marw fel anifail, a'i enw gyd âg ef, felly planhigion y ddaear a flagurant y bore, ac a wywant brydnhawn. Ond nid felly Gwilym Wynn, canys Bardd yw efe; ond, odid, Bardd a fo da wrth fardd arall. Gwr o'r mwynaf yw Gwilym, ond ei fod ddiog iawn am ddangos ei dalent, yr hon sydd odidog.

Gwell i chwi brintio rhyw Ysgafnbethau a Hanes y Gwragedd, &c., yn yr Amwythig, neu rywle yn eich cymdogaeth na myn'd i ymhel a phrintwyr Llundain, eisiau na byddech eich hunan yn canlyn arnynt. Ni thal i chwi brintio dim yn y Werddon; oblegid bydd yn anodd eu cael i Frydain Fawr, oblegid y Cyfreithiau sydd yn erbyn hynny, a'r Swyddogion yn eu dâl pan ddelont drosodd.

Diolch am yr englyn i Syr Gruffudd Llwyd. Mi a adwaen gastell Dinorwig yn Llanddeiniolen; ond nid wyf yn cofio un llys arall yno.

Do, chwi gollasoch un llythyren yn yr Englyn; sef, Treuliw yn lle Treuliwr, ac y mae'r braich ddiweddaf yn rhy hir o sillaf; fe ddylasai ddywedyd,

'Pen trin treuliwr gwin a gwyrdd.'

Mab oedd y Syr Gruffudd Llwyd yma i Rys ap Ednyfed Vychan, a wnaed yn Varchog gan y Brenin Edward y 1af, am ddyfod â'r newydd iddo i Ruddlan o enedigaeth y Tywysog Edward ynghastell Caernarfon; a chwedi hynny a droes yn erbyn y Saeson.

Mi wyddwn fy hun, ped fuasai Hywel Gwaederw yn tewi â sôn, fod y pysg yn afon Gonwy; ac nid y pysg sydd arnaf fi eisiau, ond eu henwau a'u hanes, trwy na bawn yna i gael cinio o frwyniaid a wnaeth Santffraid. Ymofynwch pa sawl enw sydd ar Leisiedyn, o sil y gro neu sil y gog, hyd at eog, yn wryw ac yn fenyw; ac a elwir un rhyw o'r Gleisiaid yna yn Benllwyd? a'r lleill yn Chwiwell, Carnog, Maran, Adfwlch, Gaflaw, Gwynniad hâf, Gwynniaid y gog, Brithyll mor, neu Brithyll brych, Silod brithion, brith y gro; a pha enwau eraill sydd yna ar y rhyw yma o bysgod heblaw hyn.

Nid oes yma ddim amser i roi i lawr ond hyn o'r Brygawthen yma; felly nos da'wch, a chofiwch fi at bawb o'r ffyddloniaid; sef y Beirdd rhadlon, diniwed, a garo eu gwlad, a'i hen gofion.

Eich gwasanaethwr,

LEWIS MORRIS."

Ni hoffwn i neb pwy bynnag synied yr amcanwn gwtogi clod teilwng y Morrisiaid. Parod ydym i roddi iddynt amgenach na'r clod traddodiadol presennol. Clod yw hwn a ddaeth i lawr oddi wrth ysgol o ddynion, Iolo Morgannwg ac Owen Myfyr, a welsant eu hunain fawredd eu gwaith, a lewed eu hymdrechion. fuont. O glod traddodiad ni raid ei ragorach. Ond paham na wyddom trosom ein hunain? Pa bryd y cred llenorion yr oes hon, a gweithredu ar y grediniaeth honno, nas gellir ysgrifennu hanes llenyddiaeth Gymreig y ddeunawfed ganrif heb fod hyddysg yn llythyrau'r Morrisiaid? Esgeuluswyd eu holl waith yn fawr gan eu cofiantwyr diweddaf. Er y pethau hyn, rhaid fydd ysgrifennu aml ddarn o feirniadaeth finiog am danynt. hwythau. Mae'r megis y gwnaethant hwy i eraill yn gorfodi dynion i wneuthur felly iddynt hwy.

Mae'r llythyr uchod yn dinoethi'r drwg ddifwynodd feirniadaeth Lewis Morris, sef gwawd a diystyrrwch, yn codi o deimladau clwyfedig, teimladau glwyfwyd nid o achos, ond o falchder ei ysbryd ef ei hun. Camolodd "Ronwy," ond gwawdiodd ef hefyd. Yr oedd ysmygu yng Nghymdeithas y Cymrodorion yn fwy pechod yn ei olwg na chanu clod puteiniaid o'r tu allan. A phan gyhoeddir llythyrau'r Morrisiaid fe welir fod colli eu ffafr yn gymaint achos yng ngyrru Goronwy i alltudiaeth yr America ag oedd ei dlodi a diystyrrwch yr eglwys.

Mae llythyren ac ysbryd yr epistol hwn yn awgrymu hanes. Pan yn ysgrifennu at uwchradd ei oes, aeth Lewis Morris o'i ffordd i wawdio Dafydd Jones. Ond os dibwys Dewi Fardd yn ei olwg, ysgrifennodd ato lythyr teilwng o hono ei hun. A chyhoeddwyd y llythyr hwnnw fel rhan o gasgliad o'i weithiau yn ei oes ef ei hun. A gyhoeddwyd ef heb yn wybod iddo? Prin. Pwnc yr ohebiaeth oedd cyhoeddi'r "Flodeugerdd;" fe allai fod Dafydd Jones wrth ymholi am argraffydd, yn anuniongyrchol yn ceisio ei nawdd i'r gwaith. Ar y pryd nid oedd ganddo lyfr arall yn cael ei ddarparu. Cadarnheir hyn gan y cyfeiriad wneir at hela subscribers. Daeth y Flodeugerdd allan ymhen blwyddyn a hanner, ac nid gormod hyn o amser yn yr oes honno i gasglu nifer gymedrol o enwau.

Yn y goleu hwn, nid yw y cyfeiriad at "brintio ysgafn bethau" a Hanes y gwragedd" namyn gwawdiaeth gudd. Rhyw fodd lledchwith o awgrymu pa beth yn ol ei fedr a ddylasai gyhoeddi—ei fedr yn ol syniad Lewis Morris am dano.

Er ein bod yn darllen yn o helaeth rhwng llinellau'r llythyr hwn, fe allai fwy nac sydd i'w ddarllen, mae'r ddwy linell gywydd yn poeni peth ar ein cywreinrwydd. Gadawn i'r darllennydd gymeryd y gair "hirddysg" yn y wedd a farno oreu. Ond a yw "hardd" fwy na chellwair barddonol? Un "tirion, Ilonydd," ac felly nid dyn bychan bywiog,. oedd Ismael Dafydd yn ol Ieuan Glan Geirionnydd. A da y gwyddai ef. ydyw Lewis Morris yn awgrymu mai un hardd, ac felly dyn o faintioli da ac ymddanghosiad prydferth, oedd Dafydd Jones? Hyn sydd wir, yr oedd rhai o'r hiliogaeth felly, a gall eu bod hwy yn meddu hyn o dystiolaeth am eu gwreiddyn.

Y flwyddyn nesaf oedd 1758. Wele'r dodrefn gwaith yr oedd Dafydd Jones yn ymdroi rhyngddynt,—cwnstabl a chlochydd Trefriw; cadw ysgol; cywiro'r wasg yn nygiad allan y Flodeugerdd;" casglu enwau tanysgrifwyr; gwerthu llyfrau; casglu ac adysgrifennu gweithiau hen feirdd a hen draddodiadau,—a'r oll er cynnal "rhawd" o blant. A rhwng yr oll yn ol yr uchod yn chwilio "beunydd am bysg." Ond mae gronyn o ffaith o dan law bardd yn ymchwyddo'n fynydd ambell waith. Felly gall nad oedd y chwilio "beunydd am bysg" yn rhan mor bwysig o'i fywyd wedi'r oll, os nad oedd ei fywyd wyrth o brysurdeb. A phe gwir opiniwn Gwilym Lleyn, treuliai oes o amser yn y tafarnau yn gwagedda yn ol arfer y dyddiau hynny.

Yn haf 1759 ymsefydlodd Ieuan Brydydd Hir yn Nhrefriw. Dyddiodd ei lythyr cyntaf oddi yno Tach. 29, 1759. Wele i Ddafydd Jones o'r diwedd gymydog oedd iddo hefyd gydymaith. Yr oedd Ieuan yn llosgi gan dân y deffroad newydd y deffroad llenyddol yn ddolen o'r gadwen honno gychwynodd yn y Morrisiaid a Goronwy trwy Owen Myfyr a Iolo Morgannwg hyd Lyfrgell Genedlaethol ein dyddiau ni.

Amser o waith caled o chwilio llyfrgelloedd ac adysgrifennu eu trysorau oedd ei arhosiad yn Nhrefriw. Felly hefyd Dafydd Jones. Yr oedd y ddau wedi dechreu ar eu gwaith yn hollol ar wahan i'w gilydd, yn neilltuol felly Dafydd Jones, yr oedd ef hynach yn y gwaith na Ieuan. Eto nid ydym yn awgrymu fod Ieuan ddyledus am gyfeiriad ysbryd ei waith i Ddafydd Jones. Yn rhai o lythyrau'r Prydydd Hir cawn gyfeiriadau dyddorol at Ddafydd Jones a'i amgylchiadau. Wrth ysgrifennu at Rhisiart Morus, os nad hyn oedd amcan yr ysgrifennu, dadleuai trosto gan ddywedyd,—

"Yn y cyfamser, dyma Dewi Fardd yn deisyf araf ysgrifenu atoch yng nghylch y llyfrau a ddanfonodd ef atoch i Lundain. Y mae yn deisyf cael gwybod pa gyfrif o naddynt a werthwyd. Y mae mewn eisiau cael y peth y mae'r byd hwn yn unfryd yn ymewino am danynt, sef arian. Atolwg gadewch iddo gael gwybod a oes modd na gobaith iddo gael gwared oddi wrthynt mewn amser gweddus, sef yw hynny, oddi yma i Galan Mai o'r eithaf. Os ydych yn tybied nad oes modd yn y byd i'w gwerthu, nid oes dim i'w wneuthyr ond danfon am danynt yn ol i'r wlad drachefn, lle y mae gwedy gwerthu'r cyfan er ys dyddiau; ond y mae ef yn gobeithio y byddwch mor fwyn a dyweyd o'i blaid, wrth y Cymmrodorion, i'w ysgafnhau ef o'r baich hwn. Pa fodd bynnag, y mae yn ymholi arnoch am ateb allan o law, a rhyw hanes o honynt. A minau, yr hwn wyf dyst golwg o'i gyflwr a'i ansawdd ef yma, wyf ym dymuned yr un peth.[15]

Ym mhen pump neu chwech wythnos mae cenadwri fwy galarus fyth yn cael ei hanfon i'r un fan. Ai ofni colled oddi ar law'r Llundeinwyr diofal, ynte gwir wasgfa oedd yr achos, anhawdd penderfynu. Gall fod elfen o'r blaenaf yn y gŵyn, oherwydd fod un o'r arweinwyr i ryw amcan wedi ei chollfarnu gyda'r fath rwysg dialw am dano. A chan ei bod wedi ei llwyr werthu yn y wlad, os oedd gweddill, doeth oedd eu cael i'r farchnad cyn tewi o'r galw am danynt.

"ANWYL GYFAILL.—Myfi a ysgrifenais lythyr atoch es dyddiau yng nghylch llyfrau Dewi Fardd ac ni chefais i nac yntau yr un ateb gennych. Dyma fi yn dod unwaith drachefn i'ch blino. Ertolwg, byddwch mor fwyn, er trugaredd, a golygu gronyn tuag at werthu ei lyfrau, oherwydd dyma ef dan gwynfan yn deisyf arnaf ysgrifenu atoch. Pur helbulus yw Dewi druan, â gwraig a rhawd o blant bychain ganddo, sef chwech neu saith. Y mae yn achwyn bod arno ddyled, ac eisiau modd i dalu ei ardreth; ac am hynny y mae yn gobeithio yr ystyriwch wrtho. Dyma fi, yn ol fy addewid, yn ysgrifenu atoch, ac nid oes geny.f ddim ychwaneg i'w wneythyr."[16]

Mae'r rhawd plant bychain yn wir cyson a'r hanes am eu rhif, ond mae'r "bychain" air oddef ei esbonio. Yr oedd ganddo chwech o blant, a chredu fel y dylid, fod Sion ei gyntafanedig wedi marw; o herwydd yr oedd ganddo bellach Sion arall yn y teulu. Nid oeddent mor "fychain" ac y mynn Ieuan i ni gredu, o leiaf ni ddylasent fod. Yr oedd Elizabeth yn 19 mlwydd oed; Jane yn 17; Ann yn 14; Catrin yn 10; Sion yn 7; ac Ismael yn 4.

Nid mor ieuainc, na mân chwaith mae'n debyg; gallasai tair o honynt yn yr oes honno fod yn ceisio gwneyd rhywbeth er ennill eu bara. Pa fodd bynnag, yr uchod yw'r ddadl dros werthu'r llyfrau. Ym mhen y ddeufis ceir cyfeiriad arall at y llyfrau fel a ganlyn,—

"ANWYL GYFAILL,—Mi a dderbyniais yr eiddoch o'r degfed o'r mis yma a da iawn yw hyny genyf o achos neges Dewi Fardd, yr hwn oedd yn barod i ddeisyf arnaf ysgrifenu y tryd—ydd llythyr atoch. You are to send David Jones his books back by the Chester waggon, and return the money in hand to Mr. John Williams at Gwydir, near Llanrwst. He is the Duke of Ancaster's steward there."[17]

Mae "return the money in hand to Mr. John Williams at Gwedir," yn dangos yn lled amlwg lle yr oedd y llaw oedd yn gwasgu, arian y nenbren chwedl yr hen bobl, sef y rhent, heb eu talu. Yr oedd eu dull o fasnachu'n drwyadl ddigon, "steward" Dafydd Jones yn Llundain yn anfon yr arian yn uniongyrchol i steward Duc Ancaster yng Nghymru. A phwy na wel yn hyn awydd gonest am gael ei hun yn rhydd o afaelion poenus dyled? Yn rhagymadrodd y Cydymaith Diddan ceir dwy linell o goffadwriaeth yr amseroedd hyn, wedi eu hysgrifennu yn 1766. Mae swn gofid ynddynt y pryd hwnnw, a rhaid y buasent fwy felly pe'n cael eu hysgrifennu yn eu hamser priodol eu hun,—

"Ym gael fy ngholledu uwch ugain punt, am Lyfr y Blodeugerdd; a chyda hyny ddigwydd i mi ddirfawr glefyd."

Rhwng popeth, nid rhyfedd ei fod yn dioddef oddi wrth y "Coler Du," y pruddglwyf, gan son fod terfyn ei einioes bron yn y golwg.

Pa bryd y bu Gwen Jones ei wraig farw, ni welais gofnodiad; ond rhaid y digwyddodd rhwng 1765 a 1770. Yn un o'r ysgriflyfrau fu yn ei feddiant ceir y llinellau canlynol,—

"Y mae fy nghalon i cyn drymed
Ac na fedrai brofi tamed
Nag yfed chwaith un math o ddiod
O wir alar am fy mhriod. D. J."


"Dod ymgais Duw nid angen
Am Ne i minne Amen. D. J."[18]

< Anhawdd rhoddi fawr o hanes ei gysylltiadau cymdeithasol yn yr amser hwn. Yn ol Goronwy bu ef ac Elis y Cowper yn ymladd gornest farddol â beirdd Mon. Rhaid yr adwaenai'r Cowper yn dda, oherwydd nid oedd mwy na thair milltir rhwng Trefriw a phen cadlys y Cowper; ac yn nyddiau olaf Dafydd Jones bu peth ymwneyd masnachol rhyngddynt â'u gilydd. Yn ol Goronwy Owen, eu cydoeswr, yr oedd y ddau o'r un dosbarth o feirdd. Prin y gwyddai Goronwy o ba ddosbarth yr oeddynt, gan ei fod ef yn estron i fywyd Cymru hyd yn oed cyn ei fyned i'r America. Yr oedd Dafydd Jones, er barn Goronwy, lawer gwell bardd nac Elis Roberts y Cowper, a llawer nes i ddosbarth y Morrisiaid fel llenor. Pwy ond hwy a'i gwnaeth yn aelod o Gymdeithas y Cymrodorion?

O leiaf nis gallasai neb ei aelodi yn y Gymdeithas honno yn groes i'w hewyllys. Ac OS oedd "Dafydd o Drefriw," fel ei galwyd gan Oronwy,[19] yn ddim amgenach nag Elis y Cowper, rhaid nad oedd rhan o Gymdeithas y Cymrodorion o radd a bonedd uchel iawn, ac fod llawer math o ddynion yn aelodau o honi. Ond gall mai cellwair wedi colli ei ddiniweidrwydd yw'r darn hwn o feirniadaeth.

Ceir y sylwadau canlynol gan Wilym Lleyn,[20]

"Yr oedd Hugh Jones, Llangwm, Dafydd Jones o Drefriw, ac Elis Roberts, y Cowper, yn gyfoeswyr, ac yn gyfeillion gwresog. Crach brydyddion oedd y tri, a hoff iawn o gwmni Syr John Heidden; a'r tri yn fath o ddigrifwyr; canent yn ddigrifol a chellweirus, yn ol fel y byddai y cwmni, ac yn aml gwnaent wawd o bethau crefyddol. Y mae eu gwaith yn gymysg o bob athrawiaeth, a llawer o sawr Pabaidd ar garolau Hugh Jones."

Mae'r sylwadau uchod yn gryfion, a meiddiaf ddatgan barn eu bod anghywir a disail. Amcenais er y dechreu gadw fy marn rhag troi'n rhagfarn o blaid nac yn erbyn ; ond teg yw rhoddi i bawb ei gymeriad moesol a llenyddol ei hun, os mewn modd yn y byd y gellir hynny. Pell ydym o gyhuddo Gwilym Lleyn ddim ond camgymeriad mewn barn, ond yn unig nad da ffurfio barn galed uwch ben defnyddiau prin.

Ni ddywedaf air yn erbyn "crach-brydyddion," a chaniatau fod graddau rhwng "crach-brydyddion." Rhaid fuasai i Wilym Lleyn addef hyn, os darllennodd weithiau Dewi Fardd ac Elis y Cowper. Gwir na chanodd Dafydd Jones fawr, os dim, gwir farddoniaeth; ac nad oedd llawer o'i gerddi yn ddim amgen na syniadau crefyddol lled gyffredin wedi eu gosod ar gân. Ond onid oes degau o ddynion, nad ystyrrir yn grach-brydyddion, yn euog o'r un anfadwaith? Yr oedd ei iaith ambell waith yn anghywir ac anystwyth, yn cynnwys llawer o eiriau salw a degau o ffurfiau gwerinaidd. Hyn hefyd oedd hanes beirdd ei oes. Ceir toraeth o eiriau gwerinaidd gan Huw Morus; a diolch am danynt, er fod gormod o honynt mewn ambell gân. Hefyd, canent yn ddigrifol a chellweirus sydd saeth ar antur. Methais, er chwilio'n ddyfal, weled yr elfen ddigrifol a chellweirus yng ngweithiau Dafydd Jones, oddigerth rhyw gyfeiriad achlysurol. Credaf fod ei natur yn amddifad o'r elfen ddymunol hon. Ymddengys rhai o nodweddion arddull Twm o'r Nant, yr arddull roddodd gymaint bri ar y bardd hwnnw ac yntau arni hithau, yng nghân "Ymddiddan y Gwragedd" yn y "Cydymaith Diddan." Nid digrifol honno, ond miniog. A faint o'r min oedd waith ei awen ef anhawdd penderfynu; ei thrwsio a wnaeth.

Yr un yw ein barn parth gwawdio pethau crefyddol. Yn yr oll welsom, nid oedd y duedd leiaf i'r wedd honno o ganu. Eithr yn hollol i'w gwrthwyneb, canodd lawer o fân ganeuon crefyddol, fel pe'n canu ei brofiad ar y pryd. Yn hyn yr oedd beth tebyg i'r Diwygwyr Methodistaidd, sef canu ambell brofiad. Ond yn ei fesurau cadwai at y drefn eglwysig, heb ddangos un arwydd o gynefindra â'r mesurau oedd yn dod i arfer trwy'r Diwygiad. Os oedd rhyw fai, ac yr oedd bai, tuedd ei lyfrau oedd bod yn ofergoelus grefyddol. A thrwy funud o ystyriaeth gwelir yn amlwg nad mynych y ceir neb ofergoelus grefyddol yn gwawdio ei ofergoelion ei hun. Oherwydd mae ofergoeledd fel rheol yn camddefnyddio rhai o deimladau goreu dyn, sef ei barch i bethau crefyddol.

Casgliad cyffelyb yw'r datganiad amheus am ei gymeriad moesol—ei fod yn hoff o gwmni Syr John Heidden. Hwn yw'r cymeriad roddodd llenorion y ganrif ddiweddaf i Elis Roberts y Cowper; a oedd y cymeriad a ffurfiodd y Cowper iddo ei hun waethed a'r un ffurfiwyd iddo gan eraill sydd amheus. Amcanai yn ei epistolau rhyfedd wneyd daioni, a dylasai geisio byw y daioni a amcanai i eraill fyw.

Ni welais un crybwylliad yng ngweithiau neb o'i gydoeswyr fod Dafydd Jones yn feddwyn cellweirus. Yr oedd Goronwy, Ieuan, ac eraill, yn euog o hyn. A chafodd eu brodyr lawer o flas ar edliw iddynt eu pechodau, onid e gallasent fod brinnach yn y gwaith o ddannod. Os cawsant flas ar ddannod y bai hwn i'r goreugwyr, pa achos tewi gawsant yn Nafydd Sion? Sonnir am ei dlodi gan Ieuan Brydydd Hir, ond yn dyner a pharchus; galwyd ef yn Fardd y Blawd gan Oronwy; trwyn surodd rhywrai wrtho, a galwodd Lewis Morris ef yn "ffwl." A phe yn euog o feddwi, diau y buasai'r yswain o Geredigion wedi ei gyfenwi'n "ffwl meddw." Mae'r cyhuddiad hwn yn neilltuol anghyson â'r lle roddodd i ddarnau dirwestol yn ei lyfrau. Mae yn y "Cydymaith Diddan" areithiau dirwestol da, a hynny pan nad oedd dirwest ar faner nac eglwys na chymdeithas. Hefyd mae'r un mor anghyson â'i ganeuon moesol, yn arbenigol felly y broffes o'i grefydd a wna yn rhagymadrodd y "Flodeugerdd," "Cydymaith Diddan," a "Histori'r Iesu Sanctaidd." Os gwir gosodiad Gwilym Lleyn, rhaid ei fod yn rhagrithiwr o'r fath waethaf, a fod ei ragymadrodd i'r Flodeugerdd yn ymylu ar fod yn gabledd annuwiol.

Bu'n darogan am flynyddoedd ei fod yn agos i'w ddiwedd. Pan dan ei faich, ac ambell saeth yn ei galon, carai son am y bedd. Bu fyw, er baich a chwyn, hyd onid oedd yn 77 oed. Claddwyd ef Hydref 20, 1785. Gorwedd ei weddillion o fewn ychydig lathenni i'w hen gartref, Tan yr Yw. Wele gopi o eiriau cofeb ei fedd,—

Yma y claddwyd Dafydd Jones
Tan yr Yw. Henafiaethydd, &c., c. c. c.
Claddwyd Hyd. 26 1785 yn 77 oed.

Hefyd
Dafydd Jones, mab Ismael Davies, Bryn Pyll, o Jane ei wraig,
Tach. 30 1789 yn y 6ed flwydd o'i oed.


Hefyd

Y dywededig Ismael Davies, Argraphydd
Tach. 22 1816 yn y 60ed flwydd o'i oed

Wele ni gwedi pob gwaith,—yn dri llesg,
A wnaed o'r llwch unwaith,
Mewn bedd, ond dyrnfedd fu'n taith
Lle chwelir ni'n llwch eilwaith.


V. BARDDONIAETH DAFYDD JONES.

Gwaith anhawdd yw rhoddi i Ddafydd Jones o Drefriw safle fel bardd.

Cadwodd dôn foesol ei ganeuon yn bur. Yn hyn tra rhagorodd ar ei gydoeswyr Cyfansoddodd amryw ganeuon—garolau yn ol arfer ei oes, llawer o englynion, ac mae ei ysgrif-lyfrau yn cynnwys llawer o benhillion Salm ar ffurf emynnau. Yn rhan foreaf ei oes ysgrifennodd rai cywyddau; ond nid yw'r rhai a welsom fawr glod iddo. Ni welais un o'r cerddi—y baledau penffair o natur rhai salaf rhai salaf Elis y Cowper—y cyhuddodd Ashton ef gyhoeddi cymaint o honynt. Syniai ef yn lled uchel o hono ei hun fel bardd, ond prin yr oedd ganddo le i hynny, os bardd bob amser yr hwn a gyfansoddo farddoniaeth. Ymddanghosodd rhan ehelaeth o'i ganeuon yn y "Flodeugerdd." Rhai o honynt a wnaed to order, er ymddangos yn y Flodeugerdd, canys ceir amseriad tair neu bedair wedi eu dyddio'r pryd hwnnw.

Rhoddaf yma ryw frasolwg dros rai o'i ganeuon a'i englynion. Prin mae eu gwerth llenyddol yn galw am fanylder; eto teg yw eu trafod. Yr ail-argraffiad (1779) o'r Flodeugerdd sydd gennyf. gyntaf a nodir yw

"Mawl i ferch a'i henw drwy'r gerdd."

"An Wiliam, An elw, An iredd, An arw,
An union, An enw, An loyw, An lan,
An fenws, fwynedd, An hynaws, An henedd,
An weddedd, An waeledd, An wiwlan.

"An weddus, An wiwdda, An linos, An lana,
An eurad, An arwa, An loywa yn y wlad,
 An ddoniol, An ddynes, An liwdeg, An lodes,
An fawrles, An gynes, An ganiad.

An burffydd, An berffeth, An hylwydd, Anheleth,
An anwyl, An eneth, An odieth, An wiw,
An onix, An enwog, An hylwydd, An halog,
An foddiog, An oediog, An ydyw.

"An seren, An siriol, An lwysedd, An lesol,
An onest, An unol, An raddol, An ras,
An oeredd, An eurol, An foddus, An fuddiol,.
An hollol, An weddol, An addas."[21]


Cymerwn Dewi ar ei air, mai mawl ac nid gogan i ferch o'r enw An yw'r uchod. Os mawl, mawl heb ei eneinio â fawr o wlith barddoniaeth, ond gobeithio ei fod yn onest a synhwyrol. Er mai tasg mewn gosod geiriau ynghyd ydyw, hi yw'r gân ystwythaf a chywiraf o ran mesur o'i holl ganeuon.

"Carol Plygain, a gymerwyd o Gân y 3 Llange a St. Ambros, i'w ganu ar fesur Barna Bunge." Nid cân y Tri Llanc yn hollol wedi ei throi ar gân yw hon, ond Carol wedi ei chymeryd o Gân y Tri Llanc fel y dywed yr awdwr. Mae'n ddernyn maith o ddeuddeg pennill, ac y mae ei syniad yn dda,—sef troi gwedd foliannus Cân y Tri Llanc yn garol Nadolig, ac mae dlysed ei farddoniaeth ag y gellid disgwyl. Wele engraifft,—

"Chwi holl weithredoedd brenin nef
Bendithiwch ef yn ufudd;
Molwch ei enw ef drwy'r byd
Yn galawnt gyda'ch gilydd;
Angylion glan o'r nefoedd wen,
A'r holl ddyfroedd sydd uwch ben,
A nerthoedd rhi Jehofa Rhen,
A'r wir ffurfafen ffurfiwch,
Haul a lleuad gyd a sêr,
Cawodau gwlaw a gwlithoedd pêr,
Euroclydon a gwyntoedd ner,
Yn dyner cyd ordeiniwch.


"Chwi dân a gwres, gaeaf a haf,
Y rhew ac eira ac oerfel;
Nosau a dyddiau yn eu rhyw
Bendithiwch Dduw goruchel;
Goleuni a thywyllwch du,
Mellt a chymylau'r awyr fry,
Y ddaear faith a'i gwaith yn gu,
Mae ef i'w haeddu yn haeddawl;
Chwi fynyddoedd dowch yn awr,
Bryniau, bronydd, moelydd mawr,
Dyffrynoedd a gwastadoedd llawr,
Rhowch i Dduw wir fawr eurfawl."[22]

"Difrifol ddymuniadau am drugaredd, i'w canu ar fesur a elwir Gwledd Angharad." Cerdd ddvmunol ei hysbryd yw hon; ceir ynddi ysbryd emyn, ond ei bod ar hen fesur cywreingas, ddigon felly i ddifwyno teimladau crefyddol tyner. Llawer o deimladau crefyddol da a gollwyd o ddiffyg eu canu mewn mesurau priodol iddynt eu hunain. Wele un o'r chwe phennill,—

"Clyw Dad y trugareddau, fy ngweddi'n llwyr
Bob boreu a hwyr; tydi o bawb yn ddiau,
Yw'r un a'r goreu a'i gwyr;
Gwel waeledd fy nhrueni, o'th flaen yn awr,
Bob enyd awr; Ni faethwyd neb a'i feithrin.
A'i feiau yr un mor fawr;

Na ddryllia'r gorsen yssig,
Tydi ydyw'r Meddyg diddig da,
Gwellha fy mriw, a gad fi yn fyw
Fy Nuw, O clyw fi'r claf:
Trwy ddrych dy Fab trugarog
Edrych yn rhywiog ar fy haint;
Gwna waeledd wr, fi'n golofn dwr
I'th foli yn siwr fel saint."[23]

Ysgrech Mai. Paham "Ysgrech Mai," anhawdd dyfalu, os nad math o ostyngeiddrwydd, sef nad allai ei oreu gân ef i Fai fod namyn ysgrech. Pa beth bynnag oedd ei farn ef, hyn sydd amlwg, sef mai hon yw ei gerdd oreu o lawer. Dewisodd fesur dymunol, canodd yn rhwydd, a chanodd lawer syniad tlws, wedi ei wisgo yn eglur a thaclus. Nid gormod dweyd mai dyma'r gân i Natur oreu geir yng nghasgliad y Blodeugerdd. Amheuthyn ei darllen, er cael gwedd arall ar bethau rhagor Huw Morus a'i efelychwyr yn gweu beirniadaeth ar gymdeithas a'i harferion, nes gwneyd barddoniaeth namyn Llyfr y Diarhebion ar gân. Gall nad yw yn gwbl wreiddiol, oblegid mae llawer o debygolrwydd rhyngddi a'r gân flaenorol iddi yn y llyfr, o waith Rhys Ellis,—

"Y teulu hynod haeledd,
Da haelion lu diwaeledd,
Sydd yma yn byw gyfannedd,
Bur weddwedd rwyddedd rai;
Egorwch eich golygon,
Cewch weled yn wych wiwlon,
Iawn gydfryd hyd y goedfron,
Gantorion mwynion Mai.

"Fe ddaeth yr Haf blodeuog,
Wych rinwedd at eich rhiniog,
Edrychwch mor feillionog
Yw'ch meusydd rywiog rai;
A'r Adar drwy gyttundeb,
Sydd wyneb oll yn wyneb,
Ffrwyth enau mewn ffraethineb,
Yn atteb mwyndeb Mai.

BYRDWN.


"Bendithia, Dad trag'wyddol,
Sior ap Sior frenhinol,
A phump o'i blant olynol,
Rhagorol reiol ryw;
Dau saith o wyrion hefyd,
A ninau bawb drwy'r holl fyd,
Bid i ni wir gyrhaeddyd
Dedwyddfyd gyda Duw.[24]

Ceir chwech arall o benhillion yn dilyn, o'r un nodwedd a natur. Paham yr oedd eisiau byrdwn i ofyn am fendith ar "Sior ap Sior frenhinol" mewn molawd i Fai sydd anhawdd ei ddeall, oddigerth fod ei deyrngarwch, fel popeth arall, yn adfywio a blodeuo o dan awelon balmaidd ei fis. Gedy i'w awen grwydro peth, a heibio'r farn a'r adgyfodiad cyn diwedd ei gerdd, er y gallasai'n hawdd ofera mwy nag ehedeg i gael trem ar y gwanwyn—a mwyned Mai y gwanwyn hwnnw.

Ceir ganddo nifer o garolau,—" Carol Plygain am Enedigaeth a Dioddefaint. Iesu, i'w ganu ar y Ffion felfed"; "Carol Clais y Dydd"; "Odlau'r Oesoedd";

Gwys Plygeiniol i Folianu Duw,"—oll yn y Flodeugerdd. Mae'r oll rai hyn i raddau o'r un natur a'r caneuon crefyddol cyntaf a nodasom. O bosibl fod eraill o'i waith yn y Flodeugerdd, canys amheuir ai nid ei eiddo ef yw'r rhai nodir fel wedi eu codi o Lyfr Dab Sion, sef Dewi ap Sion.

Saerniodd lawer o englynion, fel rheol yn gywir o ran cynghanedd, ond yn aneglur ac yn amddifad o bertrwydd anhebgorol englyn da. Ceir ar ddechreu'r Flodeugerdd Englynion Cyflwyniad gan Ieuan Brydydd Hir, David Ellis, a Dewi Fardd ei hun, ac yn anffodus rhoddodd ei eiddo ei hun yn gyntaf, os oedd anfoneddigeiddrwydd yn hynny hefyd. Wele hwynt,—

"Blodeugerdd iowngerdd awengu,—hynod
Ei henwir drwy Gymru;
Da ei fwriad er difyrru
Gomer lwyth digymmar lu.

"Mae Prydain gywrain ei gwaith,—yn amlwg
Yn ymyl estroniaith
Asiad enwog sidanwaith,
Od yw a mwyn weuad maith.

"Derbyniwch mynnwch i'ch mysg—farddoniaeth
Fawr ddeunydd o addysg;
Diau gemwaith digymmysg,
Gywir wiw ddawn gwyr o ddysg.

"Odiaethol fuddiol a fydd,—y canu
Er cynnal awenydd;
Dir llonna bob darllenydd
A'i naws da bob nos a dydd.

"Nag aros ond dos i dai,—gwyr anwyl
Gwyr enwog a'th garai;
N' ad i alldud o'i dylldai,
Olud dy fyth wel'd dy fai.

"Na ddos yn agos i neb,—o dylwyth
Sy'n dilyn casineb;
Myn wenu mwyn ei wyneb
Sawl eura ei serch mal aur Sieb."

"Ar ddiwedd "Histori Iesu Sanctaidd" ceir englynion perthynasol i'r llyfr,—

"Gwel gyffes hanes o hyd,—yr Iesu
Gwyw Rosyn dedwyddfyd;
Fu'n diodde' annedwyddfyd
Sal o'i fodd mewn isel fyd.

"Gofid ac erlid gyfan,—a'i faeddu
I foddio rhai aflan;
Yn glir ar ei enau glan,
O gas rhoe Suddas gusan.

Canaf a molaf Dduw mau,—mewn difri,
O'm dwyfron yn ddiau;
Fy siarad ar fesurau,
Swydd glir fy meddwl sydd glau."

Yn ail-argraffiad Drych y Prif Oesoedd, 1740, ceir englynion o fawl i'r llyfr gan amryw o feirdd yr amser honno, sef Jenkin Thomas, John Jones Llewelyn o Lanfair yng Ngaereinion, Theophilus Evans Vicar Llangamarch, sef yr awdwr ei hun, a Dafydd Jones o Drefriw. Wele'r eiddo Dafydd Jones, fel eu ceir yn yr argraffiad hwnnw,——

Mawl i'r Llyfr a'r Awdwr Mr. Theophilus Evans."

"Ardderchog enwog union,—clyw d'annerch,
Clau ddawnus amcanion,
O Wynedd yn ddi-unon
I'r deheu-dir da hoyw don.


O Arfon dirion dyrog—y tardda
At urdd wawr flodeuog,
Fawl min gân fel y mwyn gog,
Fraich anwyl i Frycheiniog.

[25]Theophilus iaith hofflawn
Oleu ras ail i Aaron
Fel Dafies[26] wiw flodeuyn
Goreu glwys gu eurog lin.

Peryglor Ifor Evan ail ydych,
Hael odiaeth berffeithlan,
Ac ieithydd yn gwau weithian,
Cymraeg lwys i'r Cymry glân.

Dosbarthu, rhanu yn rhwydd—hanesion
Hen oesoedd yn ebrwydd;
Gwr hylaw, gywir hylwydd,
Rhywiog lân ar we aeg lwydd.

Drych gwiwlan, dyddan i'n dydd—un ydyw,
Iawn adail waith crefydd;
Goludog iach i'n gwledydd,
Gwiw dw'ffel i gyd a'i ffydd.

Drych y Prif (a rhif ar hyd—yr) Oesoedd,
Aur eisoes o'r cynfyd;
Drych gwiw-lwys edrych golud,
Hynaws bwnc o hanes byd.


Llanddewi, heini, hynod—Llangammarch,
Llawn gymhwys fyfyrdod;
Dwy chwaer glir, da wych ar glod,
Hir einioes i'w lor hynod.

DAFYDD JONES, O DREFRIW, A'I CANT

Ysgrifennodd lawer o englynion i Almanac John Prys, yr hwn ddeuai allan yn flynyddol o 1738; yr olaf welsom yw'r un am 1771. Weithiau englynion cyfarch oeddynt, bryd arall cywrain dasgau ys—grythyrol. Wele ddiolchgarwch am ateb un o'i dascau,—

"Diolchgarwch i Jonathan Hughes am ei atteb."

"Jonathan (weithian wiw Ieithydd)—ap Huw
Ti piau'r awenydd;
Wyt gyflawn mewn dawn bob dydd
Hoff radol wych a phrydydd.

"Cenaist a rhoddaist yn wreiddiol,—atteb
Wiw odiaeth 'Scrythyrol;
Imi'n wir a mwyn yn ol
Mewn siarad cymmesurol.

"Am dy waith odiaeth deg,—diolchaf
Da eilchwel gyfandeg;
Anrhydedd a fo'n rhedeg
I'th enw doeth a'th awen deg."

—DEWI FARDD.


Fe wel y darllennydd nad oedd "John Prys, Philomath," yn olygydd neilltuol fanwl ar lythrennau a sillnodau, pa mor fanwl bynnag ei sylw o'r ser. Ar y ddalen nesaf ceir englynion

"I Annerch Ioan ap Rhys, Philomath."

"Astronomydd sydd ys wiw,—odiaethol
Wyt weithian o'r cyfryw;
Rwi'n d'annerch ar lannerch liw
Yn dryfrith hyn o Drefriw.

Sywedydd gwledydd gu lwys,—iawn ydych
Un odiaeth a chymmwys;
Tra gwiwlan trwy aeg wiwlwys
O ddysc a dawn addysc dwys.

"Graddau'r planedau a'i gwreiddin,—gweddaidd
Gwyddost hwy yn ddibrin;
Am y tywydd wyt iwin
Amor-hawdd am y wir hon.

Mynediad rhediad y rhodau,—nefol
A nifer planedau;
Arwyddion yr holl raddau
Yn wiw i gyd yna'r gwau.

"Gwiwlan a diddan bob dydd,—iw'th lyfrau
A'th lafur di beunydd;
Mewn maenol ac mewn mynydd,
Dyfal daith dy fawl a fydd.


"Iechyd a hawddfyd o hedd,—a fytho
I'th faethu'n gyfanedd
Da anno Duw dy rinwedd
Itti fyth hyd at dy fêdd."

DAFYDD JONES.[27]

Yn rhifyn Medi CYMRU 1903, ceir tipyn o waith barddonol Dafydd Jones wedi ei godi o'i lawysgrif sydd ym meddiant y Parch. R. Jenkin Jones, M.A., Aberdâr, lle y canmola y Morisiaid a Goronwy Owen. Rhydd Carneddog, yn yr un cylchgrawn, englynion wedi eu codi o almanaciau John Prys.

Rhag blino y darllennydd ymataliwn, gan ein bod wedi nodi digon i'w alluogi i ffurfio barn drosto ei hun. Ystyriwn, pa faint bynnag feddyliai Dewi Fardd o'i awen a'i chynhyrchion, nad o herwydd hon yr haedda glod. Yr oedd ef o'r dosbarth o feirdd na feddant fedr i dorri llwybrau newydd i'w traed fel y gwnaeth Goronwy Owen. A mawr oedd eu han—ffawd. Rhaid oedd iddynt ganu cywyddau ac englynion clod byw a marw, neu ganu penhillion yn arddull Huw Morus. oedd y llwybrau hynny yn sych-gochion, a diflasdod i'r wir awen oedd eu tramwyo. Cofio hyn a dynera beth ar ein beirniad—aeth, a haedda llafur medr cyffredin glod, tra'r adeilada'r un o fedr uwchraddol ei glod ei hun.

VI. CREFYDD DAFYDD JONES.

Yr oedd dau beth amlwg yn ymdorri allan yn barhaus yn ysgrifeniadau Dafydd Jones o Drefriw,—ei sel dros yr Eglwys, neu dros wedd Gymreig yr Eglwys, a'i brofiadau crefyddol. Ni cheir un arwydd iddo deimlo dim o ddylanwad y Diwygiad Methodistaidd, oedd yn allu moesol ac ysbrydol mor gryf yn ei amser. Diau y gwyddai am dano; ac os gellir cymeryd ei ddistawrwydd fel tystiolaeth, yr ystyr yw ei fod yn amheus o ba le yr oedd, ond barchus yn ymatal rhag ei gondemnio, neu ei fod yn ei gymeradwyo, ond oherwydd ei gysylltiadau yn tewi a son, yr olaf hwn fwyaf tebyg. Cyfeiriodd yn barchus at Griffith Jones Llanddowror. Nid felly'r Morrisiaid. Gwawdiasant hwy, yn ddifloesgni, y Diwygiad a'r Diwygwyr, felly hefyd Ieuan Brydydd Hir.

Er nad oedd llawer o raen grefyddol ar gymeriadau Ieuan Brydydd Hir, Goronwy Owen, a rhai o'r Morrisiaid, yr oeddynt yn Eglwyswyr selog, yn credu'n ddiysgog yng nghyfaddaster y drefn eglwysig er hyrwyddo crefydd, ac yng Nghymru y dylasai fod yn hollol Gymreig yn ei holl fywyd. Yr oeddent yn bendant yn erbyn yr elfen Saesnig, yr hon ar y pryd oedd yn difwyno bywyd yr Eglwys mewn llawer cylch, a'r Saeson oedd yn byw'n ddiwaith mewn bywoliaethau Cymreig. Aethant mor bell a dwyn cynghaws yn erbyn gŵr o Sais benodwyd i fywoliaeth Trefdraeth, Mon, a hwy a orfuant. Nid culni gwladgarol oedd eu sel. Os oedd gulni o gwbl, culni Eglwysig oedd, —os gellir galw sel dros eglwys eu calon yn gulni hefyd. Yr oeddent wedi deall un elfen o'r anhwyldeb ddifaodd nerth yr Eglwys yng Nghymru, ac mewn pryd yn codi eu llef dros ei feddyginiaethu. Pe buasai'r Eglwys yng Nghymru ar y pryd wedi gwrando eu cenadwri mae'n amheus a fuasai canlyniadau'r Diwygiad Methodistaidd yn hollol yr hyn fuont. Fel hwynt, felly hefyd Dafydd Jones. Gan ei fod ef lawer mwy o apostol y bobl na'r arweinwyr, felly yr oedd lledaenu'r teimlad hwn ymhlith y werin lawer mwy ei waith ef. Wele ddarn miniog o'i waith,—

"Ai ni fedr ef ddim Cymraeg? Na fedr air. Pa ddaioni a wna ef yn ei esgobaeth pan ddel ef iddi? Conffirmio plant a phregethu. Mewn pa iaith? Saesoneg a Lladin. Pwy sy'n i i ddeall? Y deon a'r ficeriaid ac ymbell wr bonheddig. Oh! Mi welaf nad yw'r lleill ond fel y coed a'r cerrig, fal yr oeddynt cyn y Refformation neu'r Diwygiad.

"Y rwan heb un Esgub o Gymro ganddo o fewn ei 4 Esgobaeth o bydd neb i'm gohebu, am fod mor eofn. Briwedig wyf o weled fod ein Heglwys yn amddifad o Gymro, i fod yn ben colofn iddi, na chae ryw Fryttwn gymaint a hynny o fraint, doed imi a ddel o ddig a bar am fy mhoen."[28]

Nid beirniadaeth oer un o'r tu allan, na chwaith duchan gŵr siomedig o'i mewn, ond datganiad caredig a gonest o deimlad yw hwn. Er mor deg a phri—odol yr ymddanghosai ei gwyn, buasai'n chwith ganddo ddeall mai ymhen 105 o flynyddau y gwelwyd yn ddoeth wella'r aflwydd. Yr un eu cwyn ag ef oedd y beirdd-offeiriaid; ond ei hagwedd foesol, a llesgedd ei hymdrech i oleuo'r wlad ac achub eneidiau, oedd cwyn y Diwygwyr o fewn ac o faes i'r Eglwys. Er ei fod ef ei hun yn llefaru geiriau lled arw a gonest am yr Eglwys, nid da oedd gan Ddafydd Jones i arall wneuthur hynny, yn neillduol ymosod ar y drefn eglwysig a gamddefnyddid. Fel gŵr o farn, un peth yn ei olwg oedd y drefn eglwysig a pheth arall oedd ei chamarfer. Yn y llyfr "Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob cydwybod," mae'r frawddeg ganlynol,—"Ac oni fedri weddio, cais duchan o flaen Duw, ond gad ymaith dy lyfr gweddi oddi allan."

Yn yr argraffiad o'r llyfr uchod a gyhoeddwyd ganddo ef yn 1750 gadaw—odd allan, "ond gad ymaith dy lyfr gweddi oddi allan.' Gwelir felly nad amcanai ond at gamarferion niweidiol. oedd yn yr Eglwys.

Yr oedd gwybodaeth Dafydd Jones am lenyddiaeth grefyddol, a diwinyddiaeth ei amser, yn eang. Safai bron ar ei ben ei hun yn ei oes. Yn ei nodion ar waelod dail y Cydymaith Diddan" cyfeiriodd at rannau mewn 29 o wahanol lyfrau oedd yn cadarnhau gosodiadau'r llyfr —hwnnw, a'r rhai hynny yn llyfrau safonol yr amser hwnnw. Mae ei gyfeiriadau, nid yn unig yn profi'r pwnc, ond yn wir ddyddorol i'r hanesydd. Arferai osod i lawr ddyddiadau yr argraffiadau, a hynny yn gywir bob amser. Yn yr amrywiol lythyrau at y darllennydd a ysgrifennodd,. danghosodd lawer o gydnabyddiaeth ag amrywiol lyfrau crefyddol, ac hefyd â'r Beibl. Amcanodd brofi ei osodiadau ag adnodau. Er ei fod yn profi ambell bwnc nad oedd fater cydwybod iddo ef na'i ddarllenwyr, nid oedd hynny yn bychanu dim ar ei gydnabyddiaeth â'r Ysgrythyrau. Cyhoeddodd amryw lyfrau crefyddol, er esiampl, chwedlau Nicodemus a thraddodiadau'r Tadau yn "Histori yr Iesu Sanctaidd." Yr oeddent fel cyffredin lyfrau'r amser, ac yn llai ofergoelus na llawer. A pha beth bynnag am gymeriad llenyddol y Flodeugerdd, y mae ei thôn foesol uwchlaw amheuaeth. Amcanodd at y moesol bur, yn ol ei osodiad ei hun, beth bynnag am y coeth lenyddol. Os yw ei charolau a'i cherddi yn amddifad o farddoniaeth, mae eu tôn grefyddol yn amlwg ddigon. Meddai yn ei ragymadrodd,—

"Rwy'n gobeithio nad oes yn hyn o lyfr ddim a wna niwed i grefydd neb. Os wyf yn adgyfodi gwagedd ac yn hau llygredigaeth, yr wyf yn y camwedd yn gymaint a'r gwyr a wnaeth y gwaith."

Os ydynt yn ymddangos yn lled ddi-farddoniaeth yn ein golwg ni heddyw, bai beirdd y farddoniaeth rydd oedd hynny. Yn wir, Williams Pant y Celyn, yn ei emynnau, oedd y cyntaf i ganu'n rhydd farddoniaeth gyfriniol dlos, y wedd honno ystyrrir heddyw'n farddonol.

Nodwedd lled amlwg ym mywyd Dafydd Jones yw tuedd at fod yn ofergoelus. Nid yn unig ysgrifennodd lawer o ofergoelion llafar gwlad yn ei ysgriflyfrau; ond, ysywaeth, coeliodd hwy hefyd. Digon naturiol. Yr oedd y tylwyth teg yn y wlad yn ei oes ef, yn dawnsio ar foreau haf, oni byddai cylchau gwyrddion ar y meusydd yn ol eu traed ysgeifn. Ymguddiai ysbrydion yn y ceubrennau, a llechent o dan gysgodion y coed tewfrig. Ac yr oedd ambell hen blas mwyn yn ddim amgen na chastell brad, lle trigai rhyw ysbryd effro, yn gwylio'n barhaus am gyfle dial rhyw alanas. Ymataliodd yn rhagorol rhag cyhoeddi'r chwedlau hyn, er iddo ysgrifennu toraeth o honynt.[29]

Thos. Price, Yswain, fu'n creu y ffeithiau sydd yn yr ysgrif-lyfrau ; John Davies yn oes Dafydd Jones ei hun yn eu hail chwilio, gan gadarnhau eu bod yn wir; a Dafydd Jones yn credu'r holl wrachiaidd chwedlau. Mae'r holl ddesgrifiad o lun Dulyn a'i bysgod yn bob peth ond gwir, a dylasai Dafydd Jones wybod hynny, gan fod y Dulyn heb fod nepell o'i gartref. Ond pa wahaniaeth? Onid rhywbeth tebyg yw hanes ofergoelion pob oes a gwlad?

Ceir ganddo hefyd lawer o gynghorion llawer mwy anffaeledig na meddyginiaethau yr oes hon, yn unig mai anffaeledig i un peth oeddent. Wele feddyginiaeth rad at dynnu dant,—

"Cymer lyffant melyn o'r dŵr fis Mawrth neu fis Mai, a berw mewn dŵr, a dod dy fys yn y dŵr hwnnw. Cyffwrdd y daint a fynnech ac ef a syrth o'ch pen." [30]

Yr un modd yr oedd yn ofergoelus yn ei anianawd grefyddol, heb feddu fawr o ysbryd Puritanaidd ei amser a'r amseroedd blaenorol. Felly nid oedd coelion y Canol Oesoedd, oedd eto heb gilio'n llwyr o'r wlad, yn gas yn ei olwg; yn hytrach fel arall. Yr oedd yn hollol sicr yn ei feddwl na chynwysai'r Efengylau holl hanes Iesu Grist, ond fod y "Tadau Sanctaidd wedi diogelu'r gweddill. Ac yr oedd traddodiadau'r tadau mor ddwyfol yn ei olwg ef a'r gwirionedd ei hun,—

"Ond eto rwy'n gweled fod y Tadau Duw. iol wedi adrodd llawer trwy ysbrydoliaeth nefol, o wrthiau nodedig yn eu llyfrau."[31]

Cyfeiriai bob amser at yr Apostolion yn y dull eglwysig,—St. Paul a. St. Pedr. Aeth mor bell a chymeryd chwedlau mynachod y Canol Oesoedd fel traddodiadau i'w credu. Diau fod yr elfen hon yn ddofn yn ei natur, ac yr oedd nodwedd cymdeithas a chrefydd ei oes yn llawer mwy o fantais iddi nac o ataliad arni.

VII. LLYFRAU DAFYDD JONES.

Gwr cynhefin yn yr hen amser oedd y gwerthwr llyfrau crwydrol; os nad poblogaidd hefyd. Ceid hwy yn y ffeiriau, y marchnadoedd, a'r gŵyl-fabsantau. Ganddynt hwy y cai y gwreng a'r bonheddig eu halmanaciau a'u cerddi—a'r ddau fath hyn o lenyddiaeth oedd newyddiaduron yr oes honno. A gwerthai'r dosbarth goreu o honynt y llyfrau sylweddol, uwch eu pris. Pan oedd moddion teithio mor brin, ac amser y newyddiaduron heb wawrio, mor ddieithr y rhaid fod rhannau o'r wlad i rannau ereill. Felly caffai'r llyfrwerthydd groeso, beth bynnag am werthiant ar ei lyfrau, oherwydd ei fod yn gludydd hanes un wlad i wlad arall. Fel rheol, yr oedd y gwerthwyr llyfrau yn gyhoeddwyr llawer o'r hyn a werthent.

Er nad hyn oedd galwedigaeth Dafydd Jones, gwnaeth lawer o hyn; ac nid yn unig werthu ei lyfrau ei hun, ond llyfrau wedi eu cyhoeddi gan eraill hefyd. Ar sail erthygl yn Nhraethodydd 1886,[32] credodd Charles Ashton iddo ddechreu cyhoeddi cerddi mor fore a 1723, ac iddo gyhoeddi tair o gerddi,—un yn 1723, un arall yn 1724, a'r drydedd yn 1727. Prin y credaf fod hyn yn wir. Nid yw'r enw Dafydd Jones yn ddigon o sicrwydd dros ddilysrwydd y gosodiad. Yr oedd mwy nag un Dafydd Jones yn y wlad, a Dafydd Jones o Brion yn lenor da. Yr hyn yn gyntaf sy'n ein temtio i ameu yw ieuenctyd y cyhoeddwr; nid oedd eto ond glaslanc, fe allai heb ddechreu cymeryd dyddordeb yn y pethau roddodd gymaint o bleser iddo wedi hynny. Gwedi'r flwyddyn 1727 ni cheir ei enw fel cyhoeddwr un llyfr hyd 1742. Gwir fod cyfnod hir, diwaith o'r fath, yn hollol bosibl; ond anhebyg er hynny a barnu yn ol cysylltiad didor Dafydd Jones â llenyddiaeth, o 1742 hyd ei fedd. Nid ydym yn collfarnu cred Charles Ashton, ond yn unig ddatgan ein amheuaeth. Os oes a all chwalu ein amheuon, a phrofi'r hyn a ymddengys i ni yn anhebyg, croesaw iddo.

Fel llawer o bethau eraill, mae hanes. gwasg Dafydd Jones yn wead o ffeithiau a chwedlau, chwedlau a ysgrifenwyd cyn hyn fel ffeithiau hanes. Canwyd ei chlod fel hen wasg Lewis Morris, y wasg y galwyd ei chyntaf-anedig yn "Dlysau'r Hen Oesoedd." Dywedwyd iddo ei phrynnu gan Lewis Morris, a'i chario ar ei gefn o Fon i Drefriw. Mae peth rhamant yn yr olaf, beth bynnag am haelioni yn y cyntaf. Ei chael yn rhad ac yn rhodd, medd eraill. Methais weled dim yn holl ysgrifeniadau Dafydd Jones yn cydnabod rhodd mor dderbyniol. Ond wrth chwilio hen ysgriflyfrau fu'n eiddo iddo, gwelais a ganlyn wedi ei ysgrifennu* gan arall flynyddoedd wedi ei farw,—

These MSS. were purchased by the Thomas Pennant, Esq., from the Executors of David Jones of Trefriw, one of the first printers in the Principality, and who was presented with a Fount of letters by the celebrated Mr. Lewis Morris."[33]

Ysgrifenwyd yr uchod rywbryd yn flaenorol i 1835, yn yr hon flwyddyn y rhoddwyd yr hen ysgriflyfrau i'w cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig. Yr hyn sydd yn ein taflu i ddyryswch yw,—Ai gwasg Lewis Morris oedd gwasg Bodedyrn? Os ie, pa hawl feddai Lewis Morris ar wasg oedd yn ol pob ymddanghosiad yn eiddo gŵr arall? Bu argraffu ym Modedyrn mor ddiweddar a 1760, os nad diweddarach. Trigai Lewis Morris y pryd hwn yn sir Aberteifi, yn ddigon llesg ei gorff, a bu farw yn 1765. A gofiodd am yr hen wasg, oedd anwyl iddo ddeng mlynedd ar hugain cynt, os ei eiddo oedd? Wrth fwrw golwg dros "Dlysau'r Hen Oesoedd," a rhannau o'r llyfrau argraffwyd yn Nhrefriw, hawdd credu mai llythyrennau Lewis Morris a ddefnyddiai Dafydd Jones. Nid oes gennyf farn i'w datgan ar lythyreniaeth gwasg Bodedyrn, am na welais ddalen o lyfr a argraffwyd yno. Os segur fu gwasg Lewis Morris wedi argraffu y Tlysau, os ei rhoddwyd ganddo i Ddafydd Jones, pa esboniad ellir roddi ar na ddarfu i Ddafydd Jones ddechreu argraffu am dros ddeng ar ol marwolaeth ei gymwynaswr? Ein casgliad yw hyn,—mai'r un wasg oedd gwasg Bodedyrn a Threfriw, a honno yn hen wasg Lewis Morris;[34] ond nad yw'r "fount of letters" uchod yn golygu ond yn syml y llythyrennau; i Lewis Morris roddi neu werthu ei wasg i John Rowland Bodedyrn; iddo gadw ei lythyrennau, gan mai ychydig oeddent; mewn amser di-weddarach iddo eu rhoddi i Ddafydd. Jones Trefriw; ac mewn amser diweddarach drachefn i Ddafydd Jones brynnu'r wasg a llythyrennau John Rowland. Hyn sydd amlwg, mae "Histori yr Iesu Sanctaidd," y llyfr cyntaf a argraffwyd yn Nhrefriw, wedi ei argraffu â dau fath o lythyrennau, ac un math o'r un faint a delw a llythyrennau Tlysau'r Hen Oesoedd."

Gair ymhellach ar yr amser y dechreuodd argraffu, gan fod un o'n llyfrau safonol yn gamarweiniol ar hyn. Dywed Charles Ashton,—[35]

"Ond nid ydym yn cyfarfod â'i enw fel argraffydd hyd y flwyddyn 1777, pryd yr argraffodd Ddwy o Gerddi Newyddion o waith Elis y Cowper. Ond o'r flwyddyn uchod yn mlaen fe argraffwyd rhan ehelaeth o lenyddiaeth faledawl Cymru yn Nhrefriw."

Mae'r uchod yn anghywir. Nid yn 1777 y dechreuodd argraffu yn Nhrefriw. Ymddengys na welodd Ashton mo" Histori yr Iesu Sanctaidd," yr hwn a argraffwyd. yn Nhrefriw yn 1776, na chwaith y cofnodiad a geir o hono yn Llyfryddiaeth y Cymry; felly nid cerddi Elis Gowper oedd ei gynnyg cyntaf. Yr un mor anghywir yw'r haeriad mai yn Nhrefriw yr argraffwyd rhan ehelaeth o "lenyddiaeth faledawl Cymru," ped fai hynny yn anfri mawr. Os felly, paham na phrofodd Ashton ei osodiad trwy roddi rhestr o'r baledau a gyhoeddwyd yno yn amser Dafydd Jones?

Wedi'r crwydro hyn, ceisiwn roddi rhestr o'r cerddi a'r llyfrau a gyhoeddodd, argraffodd, neu y bu iddo ryw ran ynglŷn â hwynt. Yn eu plith rhestrwn y cerddi y taflasom amheuaeth ar ei gysylltiad â hwynt, hyd oni ellir profi fod ein damcaniaeth yn gywir. Wrth fynd ymlaen, nodwn ein hawdurdod, fel y gallo'r darllennydd brofi pob peth drosto ei hun.

1. (1) CERDD, "Yn cynwys Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc a'i Gariad, ac fel ar y diwedd y Cyssylltwyd hwynt mewn gwir Rwymyn Briodas." 1723. (John Rhydderch, Amwythig).

2. (2) CERDD, "Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc o Gybydd a Merch Ifangc, (ar y Don a elwir Loth to Depart neu Anhawdd Ymadael." 1724. (John Rhydderch, Amwythig).

3. (3) Yn adrodd Dull y Farn Ddiweddaf, gan rifo 15 dydd o Aruthredd Rhyfeddol ar ddyfodiad Crist i'n Barnu. (Ar fesur a Elwir Syrthiad neu Gwympiad y Dail. Dafydd Jones a'i hail—wnaeth). 1727. (Amwythig).

4. (4) "Peder o Gerddi Diddanol. gyntaf, Carol Plygain ar fesur a elwir Crimson Velvet, 1742. (Gan Dafydd Jones, Antiquary). Yn ail, Carol o fawl i Fair y Forwyn i'w Ganu ar Fesur Tôn Deuair yw Ganu Wyneb y Gwrthwyneb. (Dafydd Jones a'i 'Sgrifennodd). Yn drydydd, Carol i'r Gwirod ar yr un Mesur. (Dafydd Jones a'i 'Sgrifennodd).

(1) Y Traethodydd, 1886, t.d. 221. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 186.
(2) Y Traethodydd 1886, t.d. 222. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 186.
(3) Y Traethodydd 1886, t.d. 273. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 187.
(4) Y Traethodydd 1888, t.d. 222. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 187.

Mae yma bump o "Gerddi Diddanol," ac nid "peder" fel. y nodir, na chwaith dair fel y nodir uchod. Ond nid yw enw Dafydd Jones fel awdwr nac ysgrifennydd wrth y ddwy olaf. Ysgrifennu dwy o'r uchod yn unig a wnaeth Dafydd Jones. Ym Mlodeugerdd Cymry" (1779, t.d. 226—7), nodir Carol Fair fel yr eiddo Thomas Evans, a'r Carol i'r Gwirod fel yr eiddo William Phylip.

5. "Histori Nicodemus Neu yn hytrach Ysgrifen Nicodemus oherwydd na ddethyniodd' (sic) yr Eglwys, ond pedair Efengyl. Ac yr oedd dyn o'r Phariseaid, ei enw Nicodemus pennaeth yr Iuddewon; Hwn a ddaeth at yr Iesu liw nos, ad a ddywedodd wrtho, Rabbi, nyni a wyddom mai Dysgawdwr ydwyt ti, wedi dyfod oddi wrth Duw. Canys ni allai neb wneythyr yr Gwyrthiau hyn yr wyt ti yn ei gwneuthyr oni bai fod Duw gyd ag ef, &c.. St. Ioan 3 pen. 1, 2, &c. Ac y mae hefyd lawer o bethau a wnaeth yr Iesu y rhai ped ysgrifenid hwy bob yn un ac un, nid wyf yn tybied y Cynnwysai y byd y llyfrau a Sgrifennid ult. St. Ioan, 21 pen. 2. Os Efengyla neb i chwi amgen na'i hyn a dderbyniasoch, bydded Anathema. Gal. 1. pen. 9. Da yw Mae'n gyd a'r Efengyl Medd Gwyddfarch gyfarwydd, 1206. A osodwyd allan gan Dafydd Jones; Myfyriwr ar hen beth au. Argraphwyd yn Ngwrecsam gan R. Marsh. 1745."

Gwyneb ddalen ryfedd. Pa un ai R. Marsh ynte Dafydd Jones biau'r anglod o'r gwallau, nis gwyddom. Gall mai'r goreu fai eu rhannu rhyngddynt. Wele engraifft bellach O iaith a synwyr y llyfryn. A pha mor garpiog bynnag ei wisg, yr oedd dda ddigon i'w syniadau ofergoelus.

"A hynny a ddywedodd hi (Brenhines. Seba) wrth Selyf ap Dafydd, ac yno y bu y Prenn hwnnw yn gorwedd hyd yr amser y Dioddefodd Crist arno a phan farnodd yr Iddewon Grist i angeu, y dywedodd un or Iddewon o ymadrodd Prophwydoliaeth, Cymmerwch Brenn y Brenin sydd yn gorwedd tu allan i'r Ddinas, a gwnewch ohono Groes i Frenin yr Iddewon, ac yna y daethant o'r tu allan i'r Dref a thorrasant y drybedd rann o Trawst ac o hwnnw y gwnaethant Grog yr Arglwydd, o Saith Gufudd ynddi o hyd, a thri chufydd yn ei braich o faint, ac i Summudasant hi hyd y lle a Elwir Calfaria, ac ar honno y Groeshoeliasant Ein Harglwydd ni Iesu Grist er Iechyd ir rhai a gretto ir hwn y mae Anrhydedd a Gogoniant Tragwyddol ganddo. Amen."

Yr oedd y cyhoeddwr yn distaw dybied y ceid a amheuai wir ei lyfr, a rhag-ddarparodd ei amddiffyniad iddo ei hun yn lloches cyn dod o'r ystorm. Wele honno,—

"Fe ddywed rhyw rai (mae'n debyg) mae peth a ddyfeisiais i neu arall yw Efengyl Nicodemus; ond gwybydded y cyfryw rai mai o Lyfr ysgrifen y Dr. Tho. Williams o Drefryw y tynnais i y coppi hwn, or Llyfr Gwyn o Hergest y cadd yntau, yr hyn a ysgrifenodd ef ynghylch y flwyddyn 1596."

A yw'r "Efengyl Nicodemus" hon yn "Llyfr Gwyn Hergest"? Mae'r diweddar Ganon Silvan Evans (Llyfr. Cymry, t.d. 399), yn anwybyddu'r uchod, os ei gwelodd; gan roddi i'r llyfr ffynhonell arall; sef,—

O Hen gyfieithiad ydyw, ond wedi ei gyfnewid a'i waethygu gan Dafydd Jones "Nicodemus Gospell, Enprynted at London in Fletestrete at the sygne of the Sonne by Wynkyn de Worde, Prynter unto the moost excellent Pryncesse my Lady the Kynges Moder In the yere of our Lorde God m. ccccc. ix. the Daye of Marche."

Tueddir ni i farnu yn hollol wahanol i'r Canon dysgedig. Mae'r chwedl efengyl hon yn y Llyfr Gwyn Rhydderch," felly rhaid fod y Canon Evans yn anghywir. Ac mae'r Llyfr Gwyn wedi ei ysgrifenu yn flaenorol i'w chyhoeddiad yn Saesneg. Un o hen efengylau Pabaidd, y petheuach ofergoelus hynny a roddai'r Eglwys hon i'w deiliaid yn lle'r gwir oleuni, yw'r efengyl, neu'r chwedl hon. A'n tyb yw nad drwy'r Saesneg y daeth, ond iddi gael ei chyfieithu yn uniongyrchol o'r Lladin i'r Gymraeg. Methasom weled ei bod yn un o hen ysgriflyfrau Dr. Thos. Williams, ond mae ol llaw y Dr. ar y Llyfr Gwyn.[36] Hawdd y gall fod ar a welsom o honynt. Pabydd selog, dan rith Eglwyswr, oedd ef, ond a ddiarddelwyd yn y diwedd gan y Llysoedd Eglwysig am ei ragrith. Felly yr oedd efengyl o'r fath hon yn unol â'i chwaeth grefyddol. Hefyd yn un o hen ysgriflyfrau Dr. Thos. Williams (Caerdydd MSS. 15), ceir rhestr o enwau, wedi ei hysgrifennu gan Ddafydd Jones, y rhai a werthasant y llyfr hwn, ynghyd a'r nifer a werthasant. Ceir copi o honi mewn MSS. oedd unwaith yn eiddo Edward. Llwyd, ond yn awr sy'n eiddo'r Parch. Peris Williams, Gwrecsam, wedi ei ysgrifennu gan Rydderch Lewis ap Owen, yn yr unfed ganrif ar bymtheg.[37] Pa un bynnag ai o'r Saesneg ynte o'r Lladin ei cyfieithwyd, OS oedd y copi welodd Dafydd Jones yn debyg i hwn, mae'n dra amheus a allasai waethygu Cymraeg y chwedl. A thebyg mai at Gymraeg y cyfryw y cyfeiriai'r Canon Silvan Evans. Rhoddwn ran o honi yma er difyrrwch, ac fel y gallo'r darllennydd farnu trosto. ei hun,—

"Yr unfed flwyddyn ar hygain o Amrodraeth Sesar Ymherodr Ryfain / ar ddegfed o dwysogaeth Erod fab erod frenin galalea / y Seithfed dydd o galan ebrill / Sef oedd hyny y 26ain o fis mawrth y 4edd flwyddyn o gonsseiliws Rwffi // 42 o dwyssogaeth yr yffeiriad olympas dann Siosseb a chaeffas . . . . ac eraill or Iddewon ddaethon at bilatys o ynys y bont yn erbyn Jessu yw gyhyddo . . . . hwnn eber hwynt a adnabyam ni ac awyddam i fod y [n] fab Siosseb Saer ai eni o fair ac yn doedyd i fod yn fab i ddûw ac yn frenin a hefyd i mae ef yn amherch y Sadwrn ni a hefyd i mae fe yn gillwng Kyfreithiau yn Rieni / pa. beth ebyr peilatws y mae yn i dillwng."

Wele ddigon i brofi a dangos fod anghenraid ar Ddafydd Jones newid llawer ar Gymraeg y cyfieithiad, ac iddo, er amled beiau ei lyfr, ei wella ac nid ei waethygu. Bu'r llyfryn trwy bedwar argraffiad, dau yn ystod oes ei gyhoeddydd cyntaf, a dau yn agos i'w gilydd wedi ei gladdu.[38]

6. Gwaedd Ynghymru yn wyneb pob cydwybod Euog. Yr ail Argraphiad, 1750. (Thomas Durston, Amwythig)." Ceir ynddo Lythyr at y Darllenydd, gan D. Jones (Dewi Fardd) o Drefriw. A "Llythur i'r Cymru cariadus" gan M. LI. Yng nghyd ag "Englynion perthynasol i'r Llyfr," gan Dewi Fardd, Thomas Llwyd, Huw Morus, Dafydd Lewis,. Iago ap Dewi, Bess Powys a Wiliam Phylip.

1. Gwrecsam 1745.
2. Amwythig 1750 (?).
3. Dolgellau 1799.
4. Caerfyrddin 1802.


Nid un, fel y rhoddir ar ddeall i ni gan Ashton, ond dau o lyfrau Morgan Llwyd a geir yma. Hefyd, mae "ail-argraffiad yn anghywir, y trydydd ddylasai fod.[39]

7. "Eglurun Rhyfedd. Sef, Ystyriaethau Godidog, Y Cyntaf, yn Cynnwys, Hanes yr Hen Wr o'r Coed. Yn Ail, Breuddwyd Troilus. Yn Drydydd, Troedigaeth Evagrius y Philosophydd. Yn Bedwerydd, Methyrdod Andronicus Ymmerawdr. Yn Bumed, Cywydd y Merthyron.

Eithr heb ffydd amhosibl yw rhyngu ei fodd ef: O blegid rhaid yw i'r neb sydd yn dyfod at Dduw gredu ei fod ef a'i fod yn obrwywr i'r rhai sy yn ei geisio ef, Heb. 11. 6.

A osodwyd allan gan Dafydd Jones. Argraphwyd yn y Mwythig tros Dafydd Jones, 1750."

Wele wyneb-ddalen ddoniol yr Eglurun Rhyfedd; fel mae ei enw felly mae yntau. Yn gyntaf oll, mae ynddo ddalen o ragymadrodd gan Ddafydd Jones, wedi ei dyddio, Trefriw, 14 Mai, 1750. Nid oes fawr gamp ar iaith y rhagymadrodd, ei sillebiaeth yn ddrwg, ei arfer o'r prif—lythyrennau yn waeth. Ym— ddengys na welodd yn dda yma ddefnyddionyddio diwedd-nodau ond pan yn newid y pwnc. Ac mae ei atalnodau eraill fel pe heuasai dyn hwynt gan eu gadael lle'r syrthiasant ar ddamwain. Er diddanwch i'r darllennydd, wele rhan o'r rhagymadrodd,—

"Ni fedraf lai na'ch Annerch a llyfr bychan etto. Ni cheir lles o ddiogi Ebr Aneurin Gwawdrudd, wrth Cybi Sant, a St. Paul hefyd a Orchymyn, os bydd (ebr ef) neb na fynnai weithio na chai fwytta 'chwaith, 2 Thes. 3. 10. Ymmhlith yr Atheniaid, f'a fernid ac a gospid Dynion Segur megis y Troseddwyr dihiraf A chan fod gan i rai o 'Sgrifeniadau fy Iaith heb fod erioed mewn print, nid wyf yn gweled lles yn y Byd o'u cadw dan lestr, gyd a Gwladys nid wy'n 'wyllysgar i fod yn esmwyth fy hun oni chai fy nghyd wladwyr, y Brutaniaid mwynion wybyddiaeth o'r cyfryw a chan fy mod yn agos i Dy fy hir gartref; ac nad oes yno waith, dychymig, gwybodaeth, na doethineb."

Mae'r llenor yn ymddangos yn hollol ddifrifol, heb amcanu cellwair o leiaf yn yr uchod. Mae'r beirdd, o ba faint bynnag y bont, ar adegau yn ddifrifol a di-niweid, a gall fod haen go gref o ddi-niweidrwydd yn ei natur yntau, nid weithiau, ond bob amser. Rhaid fod y diniweidrwydd hwn o dan faich trwm o'r pruddglwyf pan sonia mor glir am "Dŷ ei hir gartref." Pa ofid a barodd i'w gyfeillion? Nid oedd achos, canys bu fyw 35 mlynedd ar ol hyn. Chwedlau crefyddol yw cynnwys y llyfr. "Hanes yr Hen Wr o'r Coed,"—hen stori wedi ei throi'n gân, neu'n ddwy gân, yw hon; am hen wr fu mewn coedwig am 350 mlynedd yn gwrando cân un o'r angylion. Cyhoeddwyd yr ystori ar y dechreu yn y "Drych Cristionogol," 1585, am yr hwn lyfr yr ymhola'r cyhoeddwr yn y geiriau hyn,—

"N.B. Fe fyddai da genyf gael y Drych Gristionogawl, &c., yn gyflawn; i werth neu i Fenthyg. Yr hwn wyf fi Dafydd Jones."

William Pirs Dafydd o Gynwyd (yn ei flodau oddeutu 1660), oedd awdwr y gyntaf o'r ddwy gerdd. Nid oes enw wrth yr ail. Mae 2, 3, a 4, wedi eu cymeryd o Ystyriaethau Drexelius am dragwyddoldeb" (1661). Yr olaf sydd Gywydd Merthyron, a chywydd gymharol dda. Ar ei diwedd ceir a ganlyn,—"John Morgan, M.A., medd Moses Williams, B.C., a'i gwnaeth 1716."

VIII. LLYFRAU DAFYDD JONES.

(Parhad).

8. "Blodeugerdd Cymru, Sef Casgliad o Ganiadau Cymreig gan amryw Awdwyr o'r oes ddiweddaf. Yr hwn a gynnwys draethiadau Duwiol a Diddanol; y rhai na fuont yn gyhoeddedig mewn Argraph o'r blaen. O gynnulliad David Jones o Drefriw. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth yno gan Stafford Prys, Gwerthwr Llyfrau.

"Bydded hysbys i'r Cymru, fod Llyfr Dewisol Ganiadau yr oes hon, yn awr yn yr Argraphwasg, ac a fydd yn barod ynghylch Gwyl Mihangel, 1759. Pris 3s."

Fy unig awdurdod dros gywirdeb y wyneb-ddalen uchod yw "Llyfryddiaeth y Cymry" Gwilym Lleyn a "Hanes Llenyddiaeth Gymreig " Ashton. Am Wilym Lleyn, mae agos hanner y wyneb-ddalennau gopiodd yn anghywir. Ni welodd Ashton gopi ag wyneb-ddalen iddo. Felly finnau. Er fod o'm blaen ddau gopi 1759, mae wyneb-ddalen y ddau yng ngholl. Mae Ashton fel mewn peth amheuaeth a gyhoeddwyd "Blodeugerdd Cymru" yn 1759; felly mai argraffiad 1779 oedd ei hargraffiad cyntaf; fel na themtier neb i gredu fel efe, rhoddwn a ystyriwn yn brawfion dros gredu iddi gael ei chyhoeddi yn 1759, neu yn gynnar yn 1760.

1. Mae'r hysbysiad am y "Dewisol Ganiadau yn profi ddod o'r Flodeugerdd allan o'r wasg yn flaenorol iddynt hwy. A dyddiad y Dewisol Ganiadau yw 1759.

2. Mae'r Llythyr at y Cymry" ar ddechreu'r Flodeugerdd wedi ei leoli a'i ddyddio, Tan yr Yw, Mai 15, 1759."

3. Ysgrifennodd Lewis Morris ei feirniadaeth giaidd yn Tach. 8, 1759, gan alw'r llyfr yn un O erthyliaid bastardaidd Dafydd Jones. Q 4. Cyfeiriodd Ieuan Brydydd Hir, mewn amryw lythyrau, rhwng Rhag. 3, 1760, a Ion. 14, 1761, at un o lyfrau Dafydd Jones; llyfr yn ddiweddar oedd wedi dod allan o'r wasg, a llyfr oedd wedi trethu adnoddau ariannol y cyhoeddwr yn ddirfawr.

5. Mae rhestr o'r tanysgrifwyr ar ddiwedd argraffiad 1759, ond nid oes dim o'r cyfryw yn argraffiad 1779. Hefyd "Blodeugerdd Cymru y gelwir y cyntaf, tra "Blodeu-Gerdd Cymry' ei teitlir yn yr ail.

Mae'r uchod yn ddigon ar bwynt y mae lleied lle i amheuaeth yn ei gylch; a nodwn hwynt rhag cymeryd o un oes amheuon oes arall fel ffeithiau hanes.

Prin y mae sen Lewis Morris yn feirniadaeth deg ar y "Flodeugerdd," sef ei bod yn un o "erthyliaid basdardaidd Dafydd Jones." Pe am lyfrau blaenorol Dewi Fardd yr ysgrifenasai, gallasai guddio ei hun â chawnen o reswm dros eu galw yn "erthyliaid " neu fastardiaid, neu'r ddau ynghyd, os da hynny yn ei olwg. Ond doethach fuasai peidio. Oblegid codi cynnwys y rhai hynny a wnaeth Dafydd Jones o lyfrau a ystyrrid yn safonol, gan i raddau ddilyn esiampl Lewis Morris ei hun yn "Nhlysau'r Hen Oesoedd." A mwy na'r oll, treuliodd ei feirniad ran o'i oes lafurus i ysgrifennu eu tebyg, yn unig na threuliodd ei arian ac na cholledodd ei hunan trwy gyhoeddi llyfrau. Gan fod Lewis Morris yn adnabod y casglydd a'i fedr, gallasai roddi iddo'r ganmoliaeth o fod y casgliad ddaed a'r disgwyliad.

Mae rhagymadrodd y casglydd i'r "Blodeugerdd" yn tra rhagori ar bob "Llythyr at y Darllenydd" a ysgrifennodd yn ei holl fywyd. Rhydd i'r awdwr safle, a llefara'n uchel am ei fedr a'i wybodaeth. Codir yma gwrr y llen ar ei lafur dirfawr yn casglu llenyddiaeth ysgrifenedig wael a gwych ei genedl, llawer o'r cyfryw lafur erbyn heddyw sydd wedi mynd yn ofer. Ceir yma rannau da o ran iaith a meddwl—ei feddyliau lawer gloewach, a'i iaith yn goethach. Ond mae rhai o'r hen bechodau'n dilyn. Rhaid na wyddai ddiben diweddnod, neu ei fod yn un o'i gasbethau. Math o esgus dros ei waith, ac apel at ei "Anwylgu Gyd-Wladwyr" yw'r rhagymadrodd. Hawdd maddeu ei ostyngeiddrwydd yn ei esgusawd, a gonest yw sel yr apel. Meddai gyflawnder o ddefnyddiau. Yr oedd

"Wedi tramwy gan gasglu llawer o Gerddi, rhai o Dduwiol ddawn, eraill o ddiddanwch, a rhai, fel y geilw M. Kyffin o Lundain hwy, Legenda Aurea. Y rhai a allir eu galw yn gwbl wagedd; a hefyd ni ddeuant byth ar gyhoedd drwo fi; nid wyf am eu mawrhau, o achos eu dyfod o'r ail Awen."

'Ewyllysio i'r wyfi adferu rhyw ddiddanwch i'm bro, cyn fy myned i lwch ango. Canys pan ddel ychydig flynyddoedd yna mi rodiaf lwybr ar hyd yr hwn ni ddychwelaf."

Wele nodyn tant yr ymadel â'r fuchedd hon unwaith eto, er byw ohono naw mlynedd er pan ganodd ei farwnad ei hun o'r blaen, a thra nad gweddus i arall ei chanu am bedair blynedd ar hugain eto. Cwyna i raddau yn erbyn rhagluniaeth a dynion, a pha ryfedd iddo gwyno yn ei erbyn ei hun?

"Ond myfi trwy ryn ag anwyd, gwatwar, a dirmyg, distyrrwch a choegni, a anturiais roi ail fywyd i'r Dirifau a gewch yn y Blodeugerdd.'

Er ei holl drallodion, ni wyddai ef am rai o ofidiau'r oes hon. Mae'r wasg at ein galwad ni, fel prif-ffordd wedi ei digaregu, ond y defnyddiau'n brin. Mae llawer uchelgeisiol yng ngwlad bell y newyn. Yr oedd ef yng nghanol llawnder, a chanddo yng ngweddill fwy nac a roddodd yn y llyfr,—

"O rai erioed heb fod mewn print, Sef gymmaint o rai Duwiol a chymmaint o rai diddan ; mai a roddais y Llyfr yma yn gymysg; ond os byw fyddai mi a rôf gynnyg ar gael un o'r Ddau, ys ef y Duwiol, yn gyntaf. . . Y mae gennyf Ewyllys i roi y ddwy ran mewn Argraph. Yr ail ran a alwaf Blodeu-Gerdd Duwiol, a'r drydedd Blodeu-Gerdd Diddanol. Hefyd y mae gennyf fwy na Mil o Gywyddau, heblaw Awdlau ac Englynion, o's daw Llyfr ar y Mesurau hynny drwof, yr wyf ar fedr ei alw ar henw arall."

"Mwy na mil o Gywyddau" wedi eu casglu, wele ddigon i daro unrhyw un â syndod. Ond nid oes le i ameu'r gosodiad. Mae llawer o ysgrif-lyfrau a fu ganddo ar gael. Ofnaf fod y doraeth a "ddaeth o'r ail Awen," chwedl yntau, wedi eu colli. A ymlaen i gwyno'n dost oherwydd hwyrfrydigrwydd ei "Anwylgu Gyd-Wladwyr" i brynnu llyfrau, nid o achos eu bod yn dlodion, ond oherwydd gwastraffu eu harian am yr hyn nad ystyriai ef oedd fara na llyfrau.

"Ond gresyn fod Haidd, Gwinwydd, Llewig y Blaidd, Ffwgws, Ystrew, Berw'r Merched,. Crasddodrwydd, a Gwlyb dros ddyfroedd, yn amharu'r hwyl, ac yn dwyn Arian yr hen Frutaniaid."

Ar waelod y ddalen, mae'n egluro'r enwau ymfflamychol uchod fel hyn, Haidd = cwrw, Gwinwydd=gwin, Llewyg y Blaidd =hops, Ystrew=sneezing, Berw'r Merched,=tea, Crasddodrwydd = coffee.

Mae peth aneglurder yn y nodiad canlynol, sef iddo ysgrifennu Llyfr Cywyddau, &c.[40] Pan fedr yr hanesydd roddi ei law ar ei holl ysgriflyfrau, gall y profant. hwy wiredd ei osodiad. Amlwg yw iddo lafurio'n ddiflin i gasglu, adysgrifennu, a threfnu; haedda glod am hynny, a llafuriodd yng nghanol anfanteision a chaledi bywyd.

"Mi a fum dros amryw flynyddoedd yn Scrifenu Llyfr y Blodeugerdd, Llyfr Cywyddau, Awdlau, ac Englynion, Historiau ac Actau."

"Bendigedig yw Duw, ef a roes imi droseddwr, a Dynyn diccra, yn fynych: genad i orphen y Blodeugerdd, ac i'w weled mewn Argraph, ac i'w gyfranu i'm cyd wladwyr Cynorthwyol."

Teimlai'n ddiolchgar am fedru gorffen y gwaith er lles ei wlad, er ei anrhydedd ei hun, ac oherwydd ei danysgrifwyr, y rhai a arddelai fel ei " gydwladwyr cynorthwyol."

Cyhudda Lewis Morris ef o dorr amod ynglŷn â'r "Blodeugerdd," sef peidio cyhoeddi holl weithiau Huw Morus. Cam-gyhuddiad eto. Ni addawodd ddim o'r cyfryw wrth y tanysgrifwyr yn ei anerchiad "At Ewyllyswyr da i'r Brydyddiaeth," pan yn casglu enwau at ei "Lyfr," ond yn unig y cynhwysai lawer iawn o ganiadau duwiol a diddanol o waith Edward Morris, Huw Morris, ac Owen Gruffydd."[41] Ar wahan i bob addewid, yr oedd hyn yn amhosibl. Rhaid fuasai i'r "Blodeugerdd" fod lawer mwy ei mhaint i gynnwys ond eiddo Huw Morus ei hunan. A chyda phob parch i farn Lewis Morris y beirniad, a Dewi Fardd y casglydd, dylasai'r cyntaf wybod nad Dewi Fardd oedd y gŵr feddai'r farn na'r moddion i ddwyn allan "holl weithiau Huw Morus." Yr ydym yn ysgrifennu hyn er yn cofio mai Hugh Jones Llangwm, bardd o radd debyg i Dafydd Jones, a gyhoeddodd gyntaf ran o weithiau Goronwy Owen a Lewis Morris ei hunan. A phrin yr oedd yn anrhydeddus ar ran boneddwr o safle Lewis Morris farchogaeth i gyhoeddusrwydd ar asynod a gurai mor ddiarbed. Am Oronwy Owen yn ei dywydd blin, ni wyddai ef helynt ei weithiau dihafal. A anghofiodd Lewis Morris ddiwrnod angladd "Tlysau'r Hen Oesoedd," yr hwn gyntafanedig a fu farw o wir angen cefnogaeth, er galar a cholled i'w berchennog? Bu am flynyddoedd yn darparu ei "Celtic. Remains"; er yr holl oglais am glod oedd yn ei natur, nis cyhoeddodd ef, canys da y gwyddai y buasai iddo'n golled ariannol. Yna anheg oedd disgwyl i wr o amgylchiadau cyffredin, gyda phump neu chwech o blant, heb ond cadw tipyn o ysgol er eu dilladu a rhoddi iddynt damaid o fara, fyned o dan y fath gyfrifoldeb.

Amcanodd Dafydd Jones ddwyn allan gasgliad poblogaidd o farddoniaeth rydd— ar ffurf casgliad o delynegion. Cynwysai 45 o ganeuon Huw Morus, a llawer o weithiau beirdd da eraill. Cofiodd hefyd, beth bynnag oedd ei farn ef ei hun, am gerddi diddanol, sef rhigymau at chwaeth y lliaws. Gwir nad difai'r gwaith. Eto. rhaid ystyried "Blodeugerdd Cymru" yn gasgliad teg o farddoniaeth yr amseroedd hynny, a'r cynnyg cyntaf o'r natur hwn.

Yn nesaf rhoddwn restr o feirdd y "Blodeugerdd," wedi ei chodi yn bennaf o argraffiad 1779. Y rhain heb os yw'r beirdd bach a gyfenwid yn bennabyliaid," a'r 'ysmotiau duon" i ddangos. gogoniant eu rhagorach. Ynglŷn âg amryw o'r enwau mae dyddiadau, yr hyn olyga amlaf amser cyfansoddiad y Caneuon. Cymerwn ein rhyddid i wneyd sylwadau ar rai o'r caneuon wrth fyned ymlaen. Rhannwn wy i bum dosbarth.

I. AWDURON UN GAN.

"Aaron Jones, 1707; Abram Evan; Cadwaladr ap Robert, o Erw Dinmael; Dafydd Manuel, o'r Birdir, Trefeglwys; Dafydd Thomas; Dafydd Lewis (Parch.), Ficer Llangatawg ym Morganwg,"—mae hon yn gân faith, yn 37 o benhillion hollol ddifarddoniaeth a neillduol ofergoelus. Mae'n ddarlun digel o ofergoeledd yr oes honno. Hyn yw ei gwerth. Ac mae mor ofergoelus nes peri inni ameu crefydd, os nad synwyr y gŵr eglwysig a'i canodd. Pe'n chwedl o oesau bore'r byd, gallasem ei chymeryd fel math o fabinogi. Felly y mae i raddau, ond fod cymundeb â'r byd ysbrydol wedi cymeryd lle hud a lledrith, ac ysbryd yn chware rhan y ffon hud. Chwedl am ymddanghosiad ysbryd ydyw, sef hanes ymddanghosiad gwraig rhyw wr a drigai yn "Llan-Fihangel Rhos y Corn Sir Gaer-Fyrddin." Gan gofio, canu hanes mae'r bardd, ac nid adrodd chwedl. Er rhoddi gwedd glasurol ar y gân, mae ei hawdwr neu'r casglydd wedi egluro rhai rhannau ohoni, ac yn ddoeth wedi chwilio allan gyfeiriadau ysgrythyrol er ceisio crogi'r coelion arnynt, i dwyllo'r diniwed i gredu'r ynfydrwydd. Awn ymlaen gyda'r enwau.

"Evan Llwyd, o Wyddelwern; Evan William, o'r Gwylan; Ellis Rowland, o Harlech; ac Ellis Jones, o Dolgyn." Rhaid ymdroi ychydig gyda chân Ellis Jones, nid chwaith oherwydd ei barddoniaeth, ond o achos ei diwyg lenyddol. Ei phenawd yw "Hiraeth Gwyn Cariad i'w chanu ar fesur a elwir Morfa Rhuddlan." Nid oes ynddi fawr o swyn barddonol ar wahan i'w harddull, ond nis gall ei har—ddull lai na bod yn ddyddorol, am o bosibl mai'r ganig fechan hon a awgrymodd i Ieuan Glan Geirionnydd ei gân anfarwol ef. Er, hefyd, mae ddaed a rhelyw can—euon serch yr amseroedd hynny, pan oedd blodau, gwlith, ac awelon lawer llai pwysig fel cyfryngau caru nac ydynt yn ein dyddiau ni. Wele engraifft o gân serch Ellis Jones,—

"Gwrando gŵyn, Fenws fwyn, dyn sy'n dwyn dolur,
Wedi ymroi, oni ddoi, ar gais i roi cyssur,
Cyn i bur, arw gur, saethau dur dorri,
Dan fron ddi—nwy, friwiau mwy, attal hwy atti:
O serch i'th bryd, drych y byd, daliodd hudoliaeth
O'm blaen fel mân, wreichion tân, anwyl lan eneth
Nes myn'd yn swm, fel bowl o blwm, ddyga drwm ddigon
Briwo a wnaeth, y ganaid firaeth, giliau gaeth galon;
Er dim a fo harddwch bro, tynn fi o'm gofalon
Gad fi'n fyw, Seren wiw, hynod liw hinion."

"Evan Gruffudd; Gruffudd Phylip; Huw Huws o Fon; Humffrey William, o Dywyn Meirionydd; Harri ap Evan o Loddaith; H. C.; Dr. John Gwent, neu'r Dr. Powel; John Llwyd o Gwm Pen-Anner; John William o Drawsfynydd; John Rhydderch; Lewis Owen o Dyddun y Garreg; Mr. Morys Llwyd o Ddyffryn Ardudwy; Margared Rowland o Lanrwst, Margared, merch Rowland Fychan o Gaergain, a gladdwyd yn Llanrwst, Hydref, 1712, oed 89; y Parchedig Mr. Peter Lewis o Gerrig y Druidion." Geilw ef ei gân yn "Cathl y Gair Mwys." Un ar ddeg o benhillion doniol, ystwyth eu hiaith, yw'r "gathl" hon. Oherwydd hyn, ac oherwydd y defnydd "mwys" chwareus a wna'r awdwr o'i enw ei hun, gwnaeth hon ffordd iddi ei hun i'n llenyddiaeth ddiweddar. Fel ei hadwaenir gan ein darllenwyr, rhoddwn ddau neu dri o'r penhillion,—

"Hi aeth fy anwylyd yn Galan-gaua,
Ti wyddost wrth y rhew a'r eira;
Dywed imi yn ddi-gyfrinach,
Pam na wisgi Lewis bellach?
***
Rhai ront Lewis wrth eu breichiau,
Rhai ront Lewis wrth eu cefnau;
Cymmer ffasiwn newydd Gwenfron,
Dyro Lewis wrth dy ddwy fron.


"Gwelais ganwaith lewis gwnion
Gan gyffredin a boneddigion;
Am dy weled mi a rown fawrbris
Yn dda dy le, yn ddu dy Lewis.
***
"Oer yw'r ty heb dân y gaua,
Oer yw'r cenllysg, oer yw'r eira;
Oer yw'r hin pan fo hi'n rhewi,
Oer yw merch heb lewis ganddi."

Clod i goffadwriaeth y Parch. Peter Lewis am ei delyneg firain a doniol. Nid chwareu ar y gair mwys yw prif elfen ei chymeriad, ond ei nwyfder telynegol. Yr oedd hyn yn newydd ac amheuthyn mewn oes yr oedd pob bardd yn ystyried mai ei ddyledswydd oedd bod yn fath o gysgod o Huw Morus. Mae'r un gair o glod yn ddyledus i Gruffydd Phylip, awdwr y "Coler Du." Yr oedd y naill a'r llall megis rhagredegwyr Morwynion Glan Meirionnydd.'

"Rowland Fychan o Gaergai, neu Gynyr, Esq.; Rhys ap Robert, o Nant y Murddyn 1682; Robert Humffrey o Fon; Richard Thomas, o Ben Machno; Robert Mile; Robert Humffreys alias Ragad; Robert Evans; Richard Llwyd, o'r Plas Meini yn Ffestiniog; Rhys Thomas, Yswain o Gaernarfon; Robert Pritchard, o Bentraeth ym Mon, 1738; Rowland Huws o Rienyn yn agos i'r Bala." "Marwnad Rhys Morys, oedd 88 oed; a gladdwyd yn Llan y Cil, yn y flwyddyn 1757" yw'r gerdd hon. Rhoddwn ddau bennill er dangos nodwedd dyner-chwareus y gân a chymeriad diniwed" Rhysyn Morys." Er nad oes lawer gamp ar y gân, dengys fod llawer o frawdgarwch diddan a dirodres yn yr amseroedd hynny.

"O ddrws i ddrws yr oedd o'n rhodio,
A'i god a'i gyfoeth gyd ag efo;
Fel aderyn heb lafurio,
Fel Elias heb arlwyo;
Heb eisiau dim, a phwy mor happus
Yn sir Meirion a Rhysyn Morys?

"Gwan erioed, a'i droed heb drydar,
Yn saith oed cyn troedio daiar;
Gwan o gorph a gwan o foddion,
Gwan o help a chymorth dynion,
Er hyn ni 'dawodd Duw daionus
Mo'r eisiau mawr ar Rysyn Morys."

"Thomas Davies; Thomas Evans; Thomas Buttry; Mr. William Llwyd, Eglwyswr, Llanuwchlyn; Mr. William Matthew; Wiliam Pyrs Dafydd o Gynwyd; Wiliam Roberts Lannor yn Lleyn; a William Roberts, o Gapel Garmon."

II. AWDURON DWY GAN.

"Cadwalader Roberts, Cwm Llech Ucha, Pennant Melangel; John Thomas o Fodedeyrn; Lewis Jones, o Lanuwchlyn; Parchedig Robert Wynn, Ficer Gwyddelwern; Samuel Pierce (Pirs) o Fedd Cil Hart; Thomas Dafydd; Parch. William Wynn, o Langynhafal; Parchedig Mr. W. Williams, o Lan Aelian."

III. AWDURON TAIR CAN.

"Parchedig Mr. Ellis ap Ellis, Gweinidog Eglwys Rhos, o Landudno 1710; Richard Abram; Robert Evans o Feifod; Robert Edward Lewis o Gwm Mynach; a Rhys Ellis o'r Waun."

IV. AWDURON PEDAIR CAN.

Dai Sion, o Arfon;[42] Mr. Edward Samuel, Person Llangar 1722; Elis Cadwaladr, o Edeirnion; William Philip, o Hendre Fechan; Richard Parry, o Diserth; a Matthew Owen, Llangar."

V. AWDURON AMRYW GANEUON.

"Morys ap Robert o'r Bala, 7: Dewi Fardd o Drefriw, 9: Edward Morys, 11: Owen Gruffydd, o Lanystumdwy, 16: a Huw Morys, 49."

Mae'r enwau uchod fel y maent yn y Flodeugerdd, a thebyg eu bod yno fel eu cawd o dan y gwahanol gerddi, felly nid Dafydd Jones sydd i'w feio am anghysondeb yr orgraff. A gwyr y cyfarwydd nad oedd beirdd yr amser hwn yn nodedig o ofalus am sillebu eu henwau bob amser yr un modd.

Heb betruso yr ydym yn gosod fod y "Flodeugerdd" yn gasgliad teg o fardd—oniaeth rydd ein cenedl hyd adeg ei hymddanghosiad. Nid casgliad o farddoniaeth oreu a olygwn; ond yr ail oreu neu'r "ail Awen" fel y geilw'r casglydd hi, a pheth o'r drydedd. Arbeder ni o achos ohonom ddosbarthu cymaint ar i lawr. Oblegyd ei bod yn gasgliad o holl faes cynnyrch yr awen, nid y brasaf yn unig, y mae o fwyaf dyddordeb i'r hanesydd. Ac mae'n amgenach tyst hanes na phe'n cynnwys dim ond gweithiau Huw Morus, oherwydd ei bod yn engraifft o'n barddoniaeth rydd yn ei ffurf gyntaf—hyd y Diwygiad Methodistaidd.

Rhoddodd y Diwygiad dant newydd ar ein telyn farddol, ac ysbrydolodd yr hen dannau. Yn lle'r carolau bydol eu hysbryd, anghyfartal a hir eu hesgeiriau, a chlogyrnog weithiau, cawd emynnau newydd eu hysbryd a llyfn eu melodion. Mae Williams eto heb ei holl barch fel bardd Cymreig. Rhoddir iddo'n rhwydd safle brenin ein hemynwyr, ond paham na roddir iddo'r anrhydedd o fod yn ddiwygiwr ein barddoniaeth rydd? Ceir yn ei farddoniaeth y newydd mewn crefydd, moes, a barddoniaeth. Yn lle pendroni uwch ben ffeithiau hanes bywyd a phregethu'n foesol ar gân yn ddigon rhyddieithol weithiau mewn mesurau cellweirus, yng ngrym ei ysbryd cyfriniol aeth i fewn i sancteiddiolaf ysbryd dyn, ac o ysbryd anghenus dyn i'r ysbrydol yn Nuw a thragwyddoldeb. Williams rwygodd y llen rhwng barddoniaeth Cymru a thragwyddoldeb, gan ddangos y ffordd i deimladau ysbrydol i gymdogaeth Duw. Bu'n beirdd hyd hynny yn ffyddlon ddigon i'r hen arwyddair hanner anffyddol, Llygad i weled anian, calon i deimlo anian. Bellach, ond heb anwybyddu anian, llygad i weled Duw, calon i deimlo Duw. Bardd natur, meddir, oedd Dafydd ap Gwilym. Nid ydym yn gwarafun iddo'r anrhydedd, a mawr yw ei glod am ei ddarluniau ffyddlon a'i syniadau pert. Ond mae'r natur a welodd ef bron mor ddi-Dduw a phe na buasai Duw yn ei gwisgo â gogoniant bob gwanwyn, a'i dad—wisgo bob hydref. Williams yw bardd cyfrin cyntaf ein cenedl. Mae llawer o ryw fath o gyfriniaeth yn y Mabinogion, cyfriniaeth cysgodion prudd muriau hen gestyll, cyfriniaeth byd agos ond cuddiedig; cartref llywodraeth hud, a phobl yn byw ar ei drothwy, gan ofni'n barhaus droseddu ei ddeddfau a dod o dan farn ei ledrith, nes troi bywyd yn fath o hapchwareu anonest, yn awydd i lwgrwobrwyo ffawd a darostwng anffawd. Nid rhyfedd i "Daith y Pererin gael y fath dderbyniad gan ein cenedl. Mae'r llyfr rhyfedd hwn yn ddigon o esgus hyd byth am barchu cyfriniaeth farddonol a chrefyddol. Trodd hedfa enaid fel llwybr troed,—yn gadael dinas distryw, yn ymdrechu yng nghors anobaith, yn teithio tir Beulah, ac yn cyrraedd y nefol wlad. Cyfriniaeth foesol yw "Llyfr y Tri Aderyn," cyfriniaeth ysbrydol yw "Taith y Pererin."

Diosgodd Williams bethau sal yr ysbryd cyfriniol, ei ffigyrau, weithiau a arweiniant i ddeongliad rhy lythrennol. Defnyddiodd ei grym, a gwisgodd y peth byw," nid â ffigyrau ond à barddoniaeth dlos. Nid casgliadau synwyr cyffredin cryf, fel yn yr hen garolau a rhai o benillion " Canwyll y Cymry," yw gwersi moesol barddoniaeth Williams, ond gwyrddlesni a blodau aroglus bywyd ysbrydolyr ysbrydol hwnnw sydd a'i ffynhonnell yn Nuw. Mae barddoniaeth Williams, ar wahan i'w hamcanion a'i hysbryd crefyddol, yn rhagorach na dim geir ym marddoniaeth rydd y genedl yn flaenorol i'r amser. Yn lle canu'n bert am bethau materol, canodd ef yn dlws am bethau dwyfol. Yr oedd natur mor ddwyfol yn ei olwg, hyd oni welai'r tragwyddol yng ngloewder ei dwyfoldeb. Creodd Williams gyfnod newydd ym marddoniaeth gysegredig y genedl, a gweddnewidiodd ffurfiau ein holl farddoniaeth rydd. Rhoddodd heibio'r hen fesurau carolau, a mesurau'r baledi Seisonig oedd mor gyffredin, cerddoriaeth y ffair a'r dafarn. A chanodd ar fesurau llawer mwy cydnaws â natur ddefosiynol addoliad, a llawer haws i oes anysgedig eu cofio a'u harfer. Aeth mesurau Huw Morus, y mesur tri thrawiad," a'r caneuon cynghaneddol,, allan o arfer; a daeth mesurau emynnau Williams a'u tebyg i arfer yn eu lle. Yn fuan collwyd o'r tir yr hen ganeuon, y rhai nad oeddent amgenach lawer ohonynt na beirniadaeth neu gynghorion wedi eu hodli. Maddeued y darllennydd am dreulio cymaint o amser gyda'r Flodeugerdd. Gwnaethom hyn oherwydd ei bod brif orchest lenyddol Dafydd Jones, a'i bod ddanghosiad lled deg o ansawdd barddoniaeth rydd Cymru o amser Huw Morus hyd hanner y 18fed ganrif. A thrwy hyn fod ei nheges lenyddol bwysicach na'i gwerth barddonol.

IX. LLYFRAU DAFYDD JONES.

(Parhad).

9. "LLAIS Y DURTUR, sef gwahoddiad grasol ar Bechaduriaid . . . gan y Parchedig Mr. D. Rowlands, Gweinidog yr Efengyl yn Llangeitho. Argraphwyd yn Llundain gan W. Roberts, ac ar werth Ynghymru gan D. Jones o Drefryw; a W. Thomas dan lun y Fuwch Goch, Cowlane yn agos i Smithfield 1764."

12 plyg 15 t.d. Ail Argraphiad yw'r uchod.

YMDDANGHOSODD y cyntaf yn 1762 o swyddfa R. Thomas, a thros T. Davies. Amheuaf ai priodol rhestru'r uchod ym mhlith llyfrau D. Jones, oherwydd anhawdd penderfynu a oedd ganddo fwy rhan na bod yn oruchwyliwr gwerthiant y llyfr yng Nghymru. Pa fodd bynnag, mae hyn yn unig yn rhoddi prif os nad holl gyfrifoldeb y gwerthu ar ei ysgwyddau ef, pa beth bynnag arall a gynhwysai. Paham na chyhoeddodd lawer o lyfrau o fath yr uchod sydd anhawdd ei esbonio; yn unig mai un o lyfrau'r Diwygiad oedd, a pha faint bynnag o dueddiadau crefyddol oedd yn ei galon, nid oedd ynddi ddafn o gydymdeimlad a'r deffroad crefyddol.

10. "DIFERION GWYBODAETH, &c. &c. A draddodwyd gan Dafydd Jones, o Drefrhyw, C.C.C.

Argraphwyd yn Llundain gan William Roberts ac a werthir Ynghymru gan Dafydd Jones o Drefrhyw." "20 t.d. 12 plyg."

'Diwedd y rhagymadrodd a ddywed fel hyn, Annerch wael, oddiwrth dy Garwr. Llundain, Mawrth 31, 1764. Ac yn niwedd y llyfr y mae Diwedd y Rhan gyntaf'; eithr ni welais yr un arall." Mae'r uchod o Lyfryddiaeth y Cymru (t.d. 475). Ni welais y llyfr na chofnodiad arall am dano.

11. "CYDYMAITH DIDDAN. Yn ddwy Rann. Y Rhan gyntaf sydd yn Cynnwys crynhodeb Araithyddiaeth yr Hen Frutaniaid yn mysg Brythonaeg iw gilydd. Yr Ail Rhann. Yn adrodd mewn Euraid Odlau, di-rif, Afiethus ddifyrrwch Brodorion Cymry.

Quae audisti vide, omnia, vos autem num annuntiastis? Audita feci tibi nova extunc & conservata sunt quae nescitis. Esay 48. 6.

Odiaith a pherffaith ydi, Iaith Gamber,
Waith Gwin-ber oll drwyddi;
A gwreiddin goreu iddi
Yw Beirdd hen yn i bwrdd Hi.

Areithiau geiriau ethol, safadwy
Sef odiaith gynhwynol;
Adawyd i'n iw deol,
Frydain Iaith hyfryd yn ol.

—Dewi Fardd.

Digon o Grwth a Thelyn,
Medd hên Gyrys o Iâl. 1216.


Gan DAFYDD JONES, o Drefriw, C.C.

Caer Lleon,

Argraphwyd gan ELIZABETH ADAMS, tros
DAFYDD JONES

ac a werthir ganddo ef.

(Pris Swllt yn Rhydd, Pymtheg yn Rhwym)."

Tybiais yn briodol roddi'r wyneb-ddalen yn gyflawn, er ei meithder a'i gwallau, gan mor anghywir y gwnaeth Wilym Lleyn hyn o waith.

Bu'r "Cydymaith Diddan" hwn, fel "Flodeugerdd," yn hir yn yr esgorfa. Canys dywed ei gasglydd mai—"hir faith i bu'r Cymro yma'n gorwedd yn fud. Colled o ugain punt gyda'r Flodeugerdd, a dirfawr glefyd, onid aethym yn ddi-obaith am ei osod allan, hyd oni fynegais fy meddwl i bendefig mwynlan," fu'r achos. Mae gair at y darllennydd yn nechreu hwn fel yn ei holl lyfrau eraill. Er fod ei anerchiad yn wallus ei iaith, mae'n nodedig ddyddorol; dengys fod ei amgylchiadau'n donnog, a'i feddwl yn drallodus. Hefyd ymferwa ei deimladau Cymreig mewn gwrthryfel yn erbyn ysbryd Saesonig yr Eglwys Wladol. Ei ddarllenwyr oeddynt,—

"Nid i neb o'r Dysgedig na'r Cynhenus y darfu i mi ddarlunio hyn o ddiddanwch; Ond i'r Bobl Wladaidd ddiniweid; ac i'r rhai Ifainc er mwyn eu denu i ddarllain oran digrifwch yr ymadrodd. Paham yntau y bydd rhaid i neb arall drwyn "Suro wrth?"

Adfesur ei feirniaid, beirniaid y Flodeugerdd" yr oedd pan yn son am bobl yn trwyn Suro." A chwareu teg iddo, yr oedd y "Flodeugerdd" a'r Cydymaith yn lled agos i, os nad gwell na'r hyn y proffesai iddynt fod. Dadlea hawliau'r Gymraeg yn wresog oherwydd ei chamdrin mewn llys ac eglwys, gan gyfeillion, gelynion, cyfreithwyr, esgobion, a phersoniaid, heb ond ambell fardd yn rhoddi iddi air da..

"Yr achos a wnaeth i mi fod neu fynd i Philosophi i hwn, oedd weled fod y Brython yn Adlaw; oblegid ni fedd ef na Bil, na Band na Llythyr Cymmyn yn ei iaith. Paham nad allwn ni ei gael cystal ac ieithoedd eraill? A hithau fal i geilw Moses Williams yn iaith a ddyellir yn gyffredin trwy holl Gymru; ar oreu i gyfranu gwybodaeth a Duwioldeb rhwng y Gwerinos uniaith er tragwyddol les iw Heneidiau."

Wele ddarn o hanes rhodres yn ynfydu. Ei hen arfer. Ond er gwrthuned yr arfer, mae eto yn fyw,—

"Pan fyddo cyfaill yn anfon Llythyr at ei Gyfaill, è fydd yn Saes'neg, ac ni hwyrach a fedr un o'r ddau ddau deall gair ohonaw."

Eglwyswr selog a chlochydd oedd Dafydd Jones, a hyd y gwyddom ni siomwyd ef yn ei swyddau. Felly gellir cymeryd ei adroddiad o ffeithiau hanes ei amser heb eu hameu. Trueni hefyd ei fod yn teimlo mwy dros y Gymraeg a'r anfri deflid arni, na thros eneidiau a'r golled iddynt hwy o'r gamarfer,—

"A phan fyddir yn Scrifennu Cofrestr i'r Esgob-ty, am rai a fedyddir a briodir, ac gleddir, Ladin a fydd. Beth yw'r achos iddo fod felly? Fal i gallo'r Esgob wybod pa un a'i lleihau a'i cynnyddu i mae ei Esgobaeth ef. Ai ni fedr ef ddim Cymraeg? Na fedr air. Pa ddaioni a wna ef yn ei Esgobaeth pan ddel ef iddi? Conffirmio Plant, a phregethu. Mewn pa iaith? Saesonaeg a Ladin. Pwy sy'n i ddeall ef? Y Deon, a'r Ficeriaid ac ymbell wr bonheddig

***

Oblegid mae'n salw fod y Brython a fu gynt mor enwog a meddu'r holl ynys! Y rwan heb un Esgub o Gymro ganddo, o fewn ei 4 (Bangor, Llan Elwy, Ty Ddewi, Llan Daff) Esgobaeth, o bydd neb i'm gohebu, am fod mor eofn."

Nid oes dyddiad ar y llyfr, ond mae'r rhagymadrodd hwn wedi ei leoli a'i ddyddio Caer Lleon, Chwefror 7, 1766.

Mae rhan flaenaf y llyfr yn cynnwys 22 o hanesion, wedi eu cymeryd o lyfrau argraffedig gan mwyaf, ac mae'r hanesion. hyn oddeutu un ran o dair o'r llyfr. Dywed Ashton (Hanes Llen. Gymreig, t.d. 192), mai llyfr "o farddoniaeth ydyw, ar yr un dull a'r Blodeugerdd," yr hyn sydd gamgymeriad. Felly yr oedd yr ail argraffiad a ddaeth allan yn 1824; diau mai hwn yn unig a welodd Ashton, ac felly y syrthiodd i'r camgymeriad.

"Stori'r Cardiau," y gwelodd un o'r Germaniaid Cymreig gymaint tlysni ynddi, yw'r gyntaf. A pheth bynnag am dlos ei hiaith, mae'n grynhodeb rhyfedd o wybodaeth. Ynddo hefyd mae "Araith Gwgan," y gwelir cyfeiriad mor fynych ati yn yr amrywiol MSS. Mabinogi ddymunol ydyw, er yn amddifad o goethder iaith, a swyn meddwl yr hen Fabinogion. Mae yma lawer o ddarnau wedi eu codi o Almanaciau John Rhydderch o ddyddiau 1718, 1722, 1726, 1727, 1728. A dwy chwedl allan o "Dlysau'r Hen Oesoedd. Barddoniaeth yw'r ail ran, ugain o ddarnau, a rhai yn feithion, a'r oll o'r "ail-awen,"

os nad o ddosbarth pellach ei berthynas a'r awen wir na hynny; oddi—gerth dau ddarn gan Dafydd ap Gwilym. O'r ugain, mae 3 o waith Sion Tudur, ac 8 o waith Rhichard Parry o'r Ddiserth, Athraw Ysgol, Gwehydd, a Bardd, 1746," yn ol darnodiad Dafydd Jones o hono. Ystraeon y rhan gyntaf yw mwyafrif darnau barddonol yr ail ran, ond eu bod lawer llai swynol wedi eu troi i ffug-farddoniaeth. Mae darnau Richard Parry yn hirion, ei Ddihuniad Cysgadur yn ddwy ran, a "Hanes yr Oferferch " yn bedair rhan. Math o chwareu-gerddi byrion ydynt.

Mae'r un a elwir Polygynaeon" wedi ei thrwsio gan y casglydd ei hun, a rhydd y rheswm canlynol dros ei waith,—

"Derbyniwch hyn o hanes,
Yn gyfan fel i cefes
Mewn hen garp o 'Scrifen
Prin medrai neb i ddarllen;

Lle'r oedd ei ddalenau;
Gyd ôll ar Llythyrenau;
Wedi tywyllu a llwydo,
Ynnghyd ai rhugl rwygo;
Ac i mae ar gyhoedd,
Hir faith o flynyddoedd;
Er pan i gwnaed gynta,
Y traethiad hwn yma;
At wyth ugein-mlwydd,
I mae genyf Siccrwydd;
Pan ydoedd y rhain,
Yn wragedd yn Llundain;
Minau sef Dewi,
A'i trwsiodd ef gwedi."

12. Cerdd, "Dirifau yn cynwys Gogwyddiad neu Tebygoliaeth o Ddarostyngiad Brydain Fawr, i'w canu ar fesur a elwir Diniweidrwydd &c. (David Jones Antiq a'i gwnaeth) 1767." "Traethodydd" t.d. 278; "Hanes Llen. Gymreig," t.d. 192.

Mae Ashton yn rhoddi i ni y feirniadaeth ganlynol,—

"Yr oedd hon yr olaf o dair o gerddi a argraphwyd yn nghyd yn yr Amwythig, dros un Evan Ellis, yr hwn a ddesgrifiai ei hun ar brydiau yn Evan Ellis 'o bob man,' a phryd arall gosodai ei hun allan fel yn byw yn Llanfihangel Glyn Myfyr. Prynwr a gwerthwr edau wlan, a rhawn, a cherddi oedd yr Evan Ellis hwn. Ac efe, yn gystal ag eraill o'i gydoeswyr, megis William Morgan, William Roberts, William Jones a Richard Hughes, a gludent ffrwyth awen faledawl prydyddion o fath Dafydd Jones, at ddrysau y werin Gymreig."

Yr ydym wedi dyfynnu'r uchod er cael mantais i geisio symud ymaith gamflas camfarn Ashton. Pe datgan ei farn am Ddewi fel bardd a amcanai Ashton, tewi a son a wnaethem, er na phrofodd y meddai ef ei hun un ddirnadaeth am farddoniaeth. Datgan ei farn dan yr esgus o adrodd ffaith a wna, gan gyfrif Dafydd Jones ymhlith "prydyddion baledawl,' porthwr chwaeth isaf y werin, a chanwr pibau y tafarnau, a thrwy hyn wneuthur cam ag ef fel llenor, os nad darostwng ei gymeriad personol. Haeriad noeth, heb un prawf, ydyw. Os oedd felly, gofynwn eto, paham na roddodd ef restr o'r baledau. yn y rhestr rydd o'i weithiau? Yn ol rhestr Ashton ni chyhoeddodd un gerdd, heb son am falad, er 1742, os y cyhoeddodd un y pryd hwn. Os ar Dafydd Jones y dibynnai Evan Ellis am faledau, da oedd iddo ei fod yn "prynnu rhawn" a gwerthu "edeu wlan." Nid da rhoddi sen heb achos. Mae'r haneswyr yng Nghymru a uniawno wyrni ac a gywiro ffeithiau haneswyr yr oes o'r blaen, yn lle ein bod yn barhaus ail adrodd camfarnau a chamgymeriadau fel ffeithiau hanes?

13. "HISTORI YR IESU SANCTAIDD. YN CYNWYS Hanes byrr o Enedigaeth, Bywyd, Marwolaeth, Adgyfodiad, ac Esgyniad ein Iachawdwr Bendigedig: Ynghyd a Chasgliad o Brophwydoliaethau, Rhagddywediadau, a Rhyfeddodau perthynasol iddo ef, a grybwyllir am danynt yn yr Ysgrythyr Lan ac yn Ysgrifeniadau y Cenhedloedd.

At yr hyn y chwanegir,

BUCHEDD A MARWOLAETH

YR

EFANGYLWYR A'R APOSTOLION SANCTAIDD.

A gasglwyd allan o'r Ysgrythyr Lan, Ysgrifenadau yr Hen Dadau, ac Awduriaid eraill o ddiamheuol wirionedd.

Gan William Smith A.M.

A gyfieithwyd i'r Iaith Gymraeg allan o'r 14 Argraphiad yn Saesnaeg gan Dafydd Ellis Curad Derwen Swydd Dinbych.

TREFRYW

Argraphwyd gan D. Jones MDCCLXXVI.

Pris Swllt."

Cofnoda Gwilym Lleyn yr uchod (Llyfr. y Cymry, t.d. 571), ond y wyneb-ddalen wedi ei hadysgrifennu yn anghywir. Ni wna Ashton un cyfeiriad ato. Yr awdwr oedd y Parch. William Smith, M.A., y cyfieithydd, Parch. David Ellis, Derwen, a'r cyhoeddydd, Dafydd Jones. A theg disgwyl, rhwng y tri, lyfr o werth llenyddol neu dduwinyddol. Yn ol cofnodiad Gwilym Lleyn, cyfieithiad o'r "Ail argraffiad yn Saesonaeg," pryd yn ol y wyneb-ddalen mai o'r " 14 Argraffiad" ei cyfieithiwyd. Ymddanghosodd gyntaf yn 1702, wedi ei gyflwyno gan yr awdwr i'r Frenhines Ann. Nid oedd dim nodedig yn hynny, gan nad oedd y nodded yn ddim ond enw, ac na fu'r frenhines mae'n debyg well na gwaeth o'r "Histori" hwn. Ffaith hynod, os gwir, oedd i'r llyfr gael ei argraffu 14eg o weithiau rhwng 1702 a 1776, heb un rheswm dros hynny, ond ei ofergoeledd, ei gyfeiriadau parhaus at straeon a greodd mynachod, gan eu galw yn hanes, a rhithio duwioldeb wrth eu credu. Dafydd Jones a ysgrifennodd y rhagymadrodd, a hynny yn llawer mwy trefnus ac mewn gwell iaith na rhai o'i flaenoriaid, gan gyflwyno'r llyfr i

"Aelodau y wir Eglwys, yr hon sydd yn milwrio yma ar y ddaear; y cyfryw ag sydd dda ganddynt son am yr Anwylyd, a hefyd wedi meddwi o'i Gariad ef fel y dywaid Solomon, Can. 2. 4. 5. 2."

Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at natur cynnwys y llyfr. Cymysgfa o beth gwir a llawer o goelion yw'r "ymadroddion," anghywir yn eu cyfeiriadau a'u hamseryddiaeth ysgrythyrol. Yn ol William Smith, M.A., yr oedd y proffwyd Esay yn byw 500 mlynedd o flaen Jeremi. Awdurdodau pwysig yn ol y llyfr ar ddwyfoldeb person Iesu Grist oedd y deg Sybiliaid," pen oracl yr Aifft, a llu o eilunod pabaidd a phaganaidd ereill. Ac er ein syndod geilw'r cyhoeddydd y cyfryw yn ymadroddion y Tadau Sanctaidd." Cofier, yr oedd y cyhoeddwr yn hollol ddifrifol a gonest, oherwydd ysgrifenna,—

"Mi a hoffais y Llyfr yma pan welais ef gyntaf, oherwydd fod ynddo lawer o ymadroddion y Tadau Sanctaidd, ynghylch ein Iachawdwr, y rhai nid ydynt i'w cael yn yr Ysgrythyrau; ac etto sydd bur wirionedd.

Nid wyf fi o natur i chwanegu at yr Ysgrythyrau, Dat. 22. 18. Ond eto rwy'n gweled fod y Tadau Duwiol wedi adrodd llawer trwy Ysbrydoliaeth Nefol, o Wrthiau nodedig yn eu Llyfrau; y rhai nid ydynt i'w cael yn ein Iaith ni'r Brutaniaid."

Mae'r rhagymadrodd uchod wedi ei ddyddio—

"Medi 23 1776. Trefryw, Tan-yr-Yw.

Dafydd Jones, C.C."

Hwn yw cynnyg cyntaf Dafydd Jones fel argraffydd. "Taerodd" wrth Ieuan Brydydd Hir ei fod ddaed argraffydd a Stamfford Prys. Hwyrach ei fod, ond prin y profodd ei fod yn rhagorach. Ei brofedigaeth fawr oedd prinder llythrennau. Felly rhaid oedd rhoddi "u yn lle "y" mewn mannau, defnyddio prif lythrennau heb eu hangen, a cheir yn y llyfr dri neu bedwar math o lythrennau. yr oes honno yr oedd yn gynnyg gweddol dda, yn neillduol felly pan y rhaid casglu mai hunan-addysgydd oedd yr argraffydd. Yr unig wir bwysigrwydd a berthyn i'r "Histori" hwn, er William Smith, M.A., a Dafydd Ellis curad, Derwen, yw ei fod yn llyfr cyntaf gwasg Trefriw, a chynnyg cyntaf Dafydd Jones i argraffu.

14. "Dechreuad, Cynnydd, a Chyflwr presenol y Ddadl rhwng pobl America a'r

Llywodraeth. Gan M.D. Gwedi ei gyfiaethu er budd i'r Cymru.

Trefryw. Argraphwyd gan Dafydd Jones,

1776.

Pris 2 geiniog."

(Llyfr. Cymry 8 1776).

Ni welais yr uchod, na'r un crybwylliad arall am dano.

15.Goruchafiaeth a Llawenydd y Gwir Gristion, gan Thos. Williams.

Argraphwyd yn Nhrefriw."

(Llyfr. Cymry 2 1777).

16. Dwy o Gerddi newyddion. Y Gyntaf ynghylch Llofryddiaeth a wnaeth Gwr yn ymryfus; ac fel y bwriwyd y Weithred ar Wr arall ac fel y safodd y Gwr ai lladdasai ef yn Fforman i achub y Dyn gwirion ac y bu ef 15 mlynedd yn fyw wedi lladd y Gwr, ar peth a fynegodd ir Ustus fel y bu. Yr Ail fel y darfu i Wr yn agos ir Bala dagu ei wraig newydd Briodi ai bwrw i Afon Dyfrdwy hwn sydd yn Garcharwr i aros i gyfiawn Farnedigaeth am ei Weithred.

Ni Werth Ddyn prydferth un pryd y Nefoedd
Er nwyf ac Ifienctyd
Siomedig Benthyg yw'r Byd
Ai fonedd ni sai funud.

Dewi Fardd C.C.

Trefriw. 1777."

Argraphwyd gan Dafydd Jones,

(Llyfr. Cymry 33 1777).

X. EI LYFRAU.

(Parhad).

"HANES Y FLINDERUS DYNGED a ddigwyddodd i un Wm. Williams Melinydd LlanIlechid; Yr hwn a gadd ei ddihenyddio gan un Morris Rowland: Yr hwn a dderbyniodd ei haeddedigol Wobr am ei Weithred echryslon: Duw a'n gwaredô Rhag Clywed na bod y fath beth yn ein Gwlad. Amen.

TREFRIW. 1778." Argraphwyd, Gan DAFYDD JONES (Traethodydd, Ion. 1874. (Caneuon Cymreig 1767—1870 Amgueddfa Brydeinig).

Wele engraifft o'r gerdd yn yr hen amser yn gwasanaethu swydd newyddiadur ein hamser ni. Mae'r uchod yn wyth tudalen, dwy yn adrodd yr hanes mewn rhyddiaith, a'r gerdd, fath ag ydoedd, yn ymestyn dros chwech. "John Roberts prentis William Roberts y Gof, Ystorws Gwig Aber a'i canodd." Eiddigedd oedd achos y gyflafan; y Morris Rowlands hwn a saethodd William Williams er cael ei gariad, ac a dderbyniodd ei "haeddglod wobr" medd y gerdd, trwy gael ei roddi "wrth sibede" ar y "Dalar Hir."

18. "Cerdd, ynghylch Gwraig ai Mab ai Merch ai Hwyres: mewn digwyddiad rhyfeddol, anarferol di gyffredin! Ar Dôn fechan. Gan Dewi Fardd 1778 (D. Jones Trefriw)."

(Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 192).

Ashton yw'n hunig awdurdod dros yr uchod. A dywed ef fod yn gysylltiedig a hi gerdd arall o waith Elis y Cowper;' ac mai dyma'r gyntaf o'i waith ei hun iddo gyhoeddi.

19. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. Yn gosod allan yr helynt drafferthus sydd o achos yr arian Cochion hyd Gymru.

ii. Yn dangos mor llesol ydyw perffaith gariad rhwng Cristionogion ai gilydd, ar perygl a fydd i ni fyw heb gariad an gilydd gan grybwyll am y Barnedigaethau a roddes Duw ar ddynion di gariad.

Trefriw, Argraphwyd, gan Dafydd Jones, tros Harri Owen 1779."

(Traethodydd, Ion. 1874, 19).

Yr enw wrth y gyntaf yw "E. Roberts." Ai Elis y Cowper oedd; nis gwyddom. A'r ail O. Roberts, joiner, a'i cant."

20. Blodeu-Gerdd Cymry, sef Casgliad o Ganiadau Cymreig, gan amryw Awdwyr o'r oes ddiweddaf. Yr hwn a gynnwys draethiadau Duwiol, a Diddanol; y rhai ni fuant gyhoeddedig mewn Argraph o'r blaen. O Gynnulliad David Jones o Drefriw. Argraphwyd yn y Mwythig, ac ar werth gan Stafford Prys.'

Ail argraffiad yw'r uchod, fel y cyntaf oddigerth mân gyfnewidiadau yn yr orgraff. Gadawyd allan yn briodol restr y tanysgrifwyr. Hefyd newidiwyd teitl y llyfr o fod "Blodeugerdd Cymru" i fod "Blodeu-Gerdd Cymry," heb wella'r enw, os amcanwyd. Amheuaf a oedd a fynno Dafydd Jones a dygiad allan yr argraffiad hwn. Y tebyg nad oedd, gan nad oedd beirniadaeth led giaidd a cholled arianol o ugain punt lawer o galondid i ail ymgymeryd a'r un anturiaeth.

21. Y pedwerydd Llythyr, Oddi wrth eich Cyfaill a'ch Carwr (Pechadurus) sydd yn ymdrybaeddu Y'ngwynau a'i Chwantau fel y gwaethaf ohonoch. Yr ymadrodd a gymmerais allan o'r Ddeuddegfed Bennod o Lyfr y Pregethwr, (o'r eiddo Solomon ar Bedwerydd adnod ar ddeg &c.). O waith Ellis Roberts, Cowper.

Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones 1779."

Un o gyfres o lythyrau yw hwn a gyhoeddid yn achlysurol gan Elis y Cowper. Ymddanghosodd y cyntaf yn 1771, yr ail yn 1772, y trydydd yn 1774, a hwn yw'r "pedwerydd." Camgymera Gwilym Lleyn (Llyfr. y Cymry 13, 1779). wrth ei nodi fel "pedwerydd argraffiad," y "pedwerydd llythyr" ddylasai fod. Dylasai ganfod ei gamgymeriad gan y noda yn ei restr am y flwyddyn ddilynol, sef 1780 ail argraffiad o'r llythyr hwn (Llyfr. y Cymry i. 1780). Araeth o gynghorion, neu bregeth ddidrefn, oedd y llythyr. Yr oedd buchedd y Cylchwr, er gwaethed oedd, yn well nag y mynn ei feirniaid ei bod, a gall fod ei amcan yn well na'i fuchedd. Ond yr oedd y modd y ceisia gyrraedd ei amcan yn druenus i'r eithaf, yn ddim ond pentwr o feddyliau tlodion anrhefnus, wedi eu gosod ynghyd mewn iaith garpiog—rhyw gymysgfa o iaith lên a llafar.

22. "DWY O GERDDI NEWYDDION. Gwynfan i'r Cymry o golled am yr Arian cochion, oedd yn peru llawenydd o'i derbyn; ag i chwanegu ar eu galar mae'r hen Chwechainioge yn myned ar fyrr i Lundain i'w hail Gweinio.

O Ddeisyfiad hên bechadur am gymmorth Duw cyn ei ddiwedd

TREFRIW. Argraphwyd gan Dafydd J. tros H. Owen 1779."

(Traethodydd, Ion. 1874, 4).

23. "DWY BREGETH AR Y Testynau Canlynol SEF

i. Yr Ysbryd glan yn Argyhoeddi'r Bŷd o bechod, o gyfiawnder ag o farn.

ii. Rhodio gyda Duw. Gan y Diweddar Barchedig Mr. G. Witfield A. M.

Wedi ei Cyfiethu ir Gymraeg er budd ir CYMRY.

TREFRIW, ARGRAPH WYD, GAN D. JONES, tros y cyfiaethydd. 1779" 60 t.d.).

24. Cerdd, Myfyrdod am Weddio. 1770." (D. Jones Trefriw).

(Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t.d. 192).

Ein hunig awdurdod dros yr uchod yw Ashton.

25. "Y WANDERING JEW. Sef y Crydd Crwdredig o GAERSALEM. Rhyfeddfawr Newydd oddiwrth America gan y Captain enwog, William rheolwr y Llong, a elwir DOLPHIN yr hwn o fewn 7 wythnos a 3 dydd a ddaeth oddi-wrth Halifax yngogledd America, ac oedd rwymedig i ddyfod i Frusto; ond gwynt gwrthwynebus a'i gyrodd i'r Kingsale, gyda chyfrifol foddion rhyfeddol or Crydd gwybiedig, gyd ag Eglur ymofyniad o flaen 4 o Barchedig Ddifeinyddion. A llawer hefyd o arwyddion eraill a wnaeth yr Iesu yngwydd ei Ddisgyblion, y rhai nid ydynt Sgrifenedig yn y Llyfr hwn. Ioan xx. 30. Wedi eu cysylltu gan DEWI FARDD. Ni fynnwn I er dim yn y byd, chwanegu anwiredd at yr Sgrythyrau. Date. xxii. 18, 19.

TREFRIW. Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1780 tros Grace Roberts. (8 t.d.).

(Traethodydd, Ion. 1874, 9).

26. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. 1. Wedi ei Chymeryd allan o Eiriau Crist, sydd yn drydydd Bennod ar ddeg o Sainct Marc. 11. hanes y blindere a fu yn Mon ac Arfon yn amser y bu Captain TRODU yn Pressio gyda'i Army drygionus.

TREFRIW. Argraphwyd gan DAFYDD JONES, 1780."

27. "Y pedwerydd Llythyr," &c. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones,

(Llyfr. y Cymry, 1, 1780).

Ail argraffiad o Rhif 21 yw'r uchod, lle'n barod y rhoddwyd y wyneb ddalen yn llawn.

Rhaid fod y llythyrau Esgobaidd hyn i raddau yn boblogaidd, pan y daeth y fath nifer o honynt allan, a rhai trwy fwy nac un argraffiad.

28. "Difrifol fyfyrdod am farwolaeth, sef y Pummed Llythyr Ystyriol am Wellhad Buchedd y Daearol Bererindod; cyn dyfod Cennad Pechod i'n cyrchu i'r Byd Anweledig o Olwg cnawdol. A fyfyriwyd gan Ellis Roberts, Prydydd o Llanddoged.

Trefriw Argraphwyd tros Harri Owen 1780.""

Un o lythyrau yr hen Gylchwr o Landdoged eto. A rhaid fod rhyw rinwedd neillduol yn hwn rhagor un o'r epistolau, canys yr oedd yn ei drydydd argraffiad cyn diwedd 1781, os yw cofnodiad Gwilym Lleyn yn gywir.

29. "History o Rybydd i Bechaduriaid i Edifarhau, neu ddisgrifiad rhyfeddol fel y cafwyd dau henuriad ynghoed Ressington, yn agos i Doncaster, yn Sir Gaer Efrog. O gyfieithiad Thomas Morris o'r Ysbytty. Trefriw."

(Llyfr. y Cymry, 1, 1781).

30. Dwy o Gerddi Newyddion, &c. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1781.

Gwaith Ellis y Cowper ydynt."

(Llyfr. y Cymry, 24, 1781).

31. "DWY GERDD NEWYDD.

Yn gyntaf, ystyriaeth ddifrifol ar y mawrion drugareddau a drefnodd yr Arglwydd, tuag at gynnal Dynolryw.

Yn ail,

Rhyfeddol Gariad ein Harglwydd Bendigedig yn marw o'i wirfodd er mwyn cael ein gwaredu ni fel y caem ni fyw gydag ef yn dragwyddol mewn llawenydd.

Gan Hugh Williams Ro Wen. Argraphwyd yn Nhrefriw 1781."

32. Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. Carol Plygain Newydd i'r flwyddyn 1783. ii. Hanes Mab a Merch a ddaliwyd gyda'i gilydd mewn mwyneidd-dra.

TREFRIW. Argraphwyd gan Dafydd Jones."

(Traethodydd, Ion. 1874, 1).

33. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. O ddiolchgarwch i Dduw a roes allu GEORGE RODNEY i orchfygu ein gelynion, ar y ffordd i India. Yn ail Carol Plygain Newydd i'r flwyddyn o Oedran Crist 1783.

TREFRIW Argraphwyd gan Dafydd Jones 1782."

(Traethodydd, Ion. 1874, 2).

34. Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. O waith ELLIS ROBERTS Cowper, o ddiolchgarwch i Dduw am ei fywyd drachefn wedi bod agos i borth Angeu drwy Llecheden drom fis Medi dwaetha. ii. O ymddiddan rhwng Siopwr ar Tafarnwr bob yn ail Odl.

Trefriw Argraphwyd, gan Dafydd Jones. 1782."

(Traethodydd, Ion. 1874, 5).

35. Difrifol Fyfyrdod am Farwolaeth, &c., O waith Ellis Roberts, Cowper.

Trefriw Argraphwyd gan Dafydd Jones. 1782."

"Seithfed" Epistol y Cylchwr yw hwn. Mae ei benawd debyg i eiddo'r pumed llythyr. A dichon fod yn hyn lawer o onestrwydd, fod yr epistolau lawer tebycach eu cynwys nac yr awgrymai'r penawdau.

36. "Dwy o GERDDI NEWYDDION. i. Yn deisyf ar bob pechadur feddwl am Nos Angeu, yn Nyddie ei fywyd rhag iddo syrthio i'r Bedd cyn Ediferhau, chael ei gau allan or Nefoedd. ii. O gwynfan i'r Ffarmwr sy'n awr mewn Byd anghyfforddus, yr amser Rhyfelgar yn talu Terthi, ag Ardrethion mawrion ac yn ffaelio cael ond ychydig o bris ar ei heiddo.

TREFRIW, Argraphwyd, gan Dafydd Jones. 1782."

37. "Dwy o Gerddi Newyddion.

1. O drymder galarus am y Royal George yr hon a suddodd yn ei Harbwr gyda mil o bobl oedd arni lle yr aeth tri chant o ferched i'r gwaelod a Phlant gyda nhw. E. Roberts.

2. O Fawl i Ferch Robert Gruffydd ai Cant. Trefriw. Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782."

(Caneuon Cymreig 1767—1870 Amgueddfa Brydeinig).

38. "Dwy o Gerddi Newyddion.

1. I ddeisyf ar Dduw am drugaredd a'i Ragluniaeth i'n porthi y flwyddyn ddiweddar hon drwy erfyn arno roddi ei fendith ar yr ychydig luniaeth at ein porthi.

Ellis Roberts.

2. O ychydig o hanes y Fattel a fu'n Gibraltar. Y modd y cynorthwyodd Duw ychydig Wyr Prydain yn mhen llawer o elynion.

3. Hymn i'w chanu ar foreu ddydd Sul. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1782."

(Caneuon Cymreig 1767—1870 Amgueddfa Brydeinig).

Nid dwy ond tair o gerddi sydd yma, neu "ddwy o Gerddi Newyddion a "Hymn Newydd." Nid oes enw wrth yr ail gerdd na chwaith wrth yr emyn. Ond mae delw Dafydd Jones yn amlwg ar y pum pennill crefyddol hyn a elwir yn emyn, fel na phetruswn am yr awdwr."

39. Y Testamentwr, neu Bregeth ar y 9 o Heb. a'r 16, 17. Gan y Parchedig Mr. J. Morgans, Ciwrat Llanberis, yn Sir Gaernarfon, Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones. 1783."

Llyfr. y Cymry, 1, 1783).

40. "Rhybydd i Bechaduriaid, neu Hanes. rhyfeddol am un Samuel Whilby, yr hwn a syrthiodd mewn gweledigaeth ar y 15 dydd o Ebrill, 1756; Wedi ei gyfiaethu yn Gymraeg ga un a chwenyche lesad i lawer.

Trefriw, Argraffwyd gan Dafydd Jones, 1783."

(Llyfr. y Cymry, 9, 1783).

41. "Dwy o Gerddi Newyddion

Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Llyfr. y Cymry, 22, 1783).

42. "Tair o Gerddi Newyddion.

1. Yn gosod yn fyrr Rhyfedddod Angylion, happusrwydd dynion, a blinder cythreiliaid, sef Iechydwriaeth drwy Grist a'r esgeulusdra o weddio am ran yn Mhren y Bywyd.

John Roberts a'i cant.

2. Yn mynegi fel y digwyddodd i Wr Ifangc, ac yn gweddio am edifeirwch am ei bechod.

3. Fel y bu i Wr Ifangc garu merch ac fo ffaeliodd ei chael yn briod; ar yr achos hwnnw fe a ganodd fel y mae'n canlyn.

John Williams o Lanbedrog yn Lleyn a'i cant. Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870 Amguddefa Brydeinig).

Rhyw 12 o benhillion yw'r tair cân ynghyd. Er holl siom John Williams o Lanbedrog, pedwar pennill yn unig ganodd—canodd ei ofid ymaith yn rhwydd a didrafferth. Ceiniogwerth o farddoniaeth oedd y tair cerdd hyn, a cheiniogwerth nodedig o salw.

43. "Dwy o Gerddi Newyddion.

1. O Hanes dychryn ofnadwy a fu yn yr Italia modd y darfu i Dduw Singcio Tri Chant o Drefydd a thair o Drefydd Caerog; ac nid oes yno ddim ond llyn o ddwr diwaelod. Ellis Roberts.

2. Ymddiddan bob yn ail penill ar Loath to Depart fyrraf. Ellis Roberts.

Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870. Amgueddfa Brydeinig).

44. Tair o Gerddi Newyddion.

1. Ymddiddan rhwng Gwr Ifangc a'i Gariad bob yn ail Odl. Lyseni Meistres. (25 penill).

2. Cwynfan Merch Ifangc (7 penill).

3. Canu ar Belile March o glod i'r Lord Pased or Plas Newydd yn Sir Fon am ei haelioni i'r Tylodion.

Ellis Roberts a ganodd y Tair.

Trefriw, Argraphwyd gan Dafydd Jones, 1783."
(Caneuon Cymreig 1767—1870. Amgueddfa Brydeinig).

"Lord Pased" meddai'r Cowper am Arglwydd y Plas Newydd, a gall mai hon oedd arfer ei oes o swnio'r enw. Mae'r gân hon loewach na'r arferol o'i ganeuon. Wele ei llinellau agoriadol,—

"Cenwch ganodd mawl a miloedd
Yn lluoedd ymhob lle,
O glod i hynod eurglod
Arglwydd Dawn ufudd dan y Ne', &c."


45. Dwy o Gerddi Newyddion.

1. Yn rhoddi byrr hanes Dynes a wnaeth weithred ofnadwy Ymhlwyf Llansantffraid Glyn Conwy, sef dihenyddio ffrwyth ei Bry a'i ado fo rhwng Bwystfilod y Ddaear. Ellis Roberts.

2. Cerdd ar ddioddefaint Crist wedi ei throi or Groeg ir Gymraeg. Sion ap Howell.

3. Hymn Dewi Fardd.

Trefriw. Argraphwyd gan Dafydd Jones tros Harri Owen, 1784."

XI. BWRIADAU LLENYDDOL.

Cyhoeddodd Dewi Fardd lawer o lyfrau, ond bwriadodd gyhoeddi llawer mwy. Gwelodd ef, fel llawer gweithiwr arall, lu o obeithion dymunol yn machlud hwnt mynyddoedd yr amhosibl, gan ei adael yn brudd yng nghwmni siomiant. Yr oedd awydd cyhoeddi yn ysfa gref yn ei galon, a chan fod yn ei feddiant gymaint o ddefnyddiau mewn barddoniaeth a rhyddiaith, naturiol oedd iddo freuddwydio llawer o orchestion eraill. Aflwyddiant a'i llesteiriodd i ddwyn llawer o'i amcanion i ben. A pha angen dyweyd i aflwyddiant ferthyru tyrfaoedd o fwriadau da, yn neilltuol o fwriadau llenyddol ? Nid yn unig hyn fu hanes llawer o lenorion gwasgedig eu hamgylch—iadau a chyffredin eu dawn, ond bu hefyd yn anffawd bywyd gwyr o fri. A hyn fu hanes rhai yn ei oes ef. Bwriadodd Lewis Morris fwriadau teg, llafuriodd bron trwy ei oes ar ei "Celtic Remains," ond gadawodd ef heb ei gyhoeddi. Bu Ieuan Brydydd Hir mewn caledi a newyn yn ad -ysgrifennu, ond aeth toraeth ei waith i ofal Paul Panton, a buont bron waeth na cholledig am agos ganrif.

Mewn nodiadau ar waelod dail ei lyfrau, fel blodau min y ffordd, y ceir llawer o'i fwriadau llenyddol yn dod i'r amlwg. Yn yr "Eglurun Rhyfedd," 1750, t.d. 7, ceir y nodiad canlynol,—

"N.B.—Fe fyddai da genyf gael y Drych Gristionogawl, 1585, &c., yn gyflawn; i Werth neu i Fenthyg. Yr hwn wyf Dafydd Jones."

Drachefn, t.d. 9,—

"N.B.—Rwi'n ymofyn am 2 Lyfr. Crynodeb o Addysc Cristionogawl, &c., 1609. A Theater du Mond, Sef yw Gorsedd y Byd, 1615, o gyfieithiad Rosier Smyth, D.D., o Lan Elwy. Fe fydde da gennyf gael y Llyfrau yma i Werth neu i Fenthyg. Eich gwas'naethydd wyf,

DAFYDD JONES."

Mae llawer o ddyddordeb yn llechu rhwng llinellau'r hysbysiadau hyn i'r hwn fedd lygad i'w ganfod. Dywed Gwilym Lleyn mai yn 1584 y cyhoeddwyd y Drych Cristionogawl," heb enw awdwr, na nodiad o'r man ei hargraffwyd (Llyfr. Cymry, t.d. 29). Yn un o'i erthyglau yn y Manchester Guardian, rhydd Ernest Rhys fanylion llawnach—iddo gael ei gyhoeddi yn Rouen yn 1585, ac mai ei awdwr oedd y Dr. Gruffydd Roberts. Felly mae dyddiad Dafydd Jones yn hollol gywir.

Cyhoeddwyd y ddau lyfr arall a nodir, sef y Crynodeb" a "Gorsedd y Byd," yr amser a nodir gan Ddafydd Jones, sef y naill yn 1609 a'r llall yn 1615. Ym Mharis eu hargraffwyd. Pabydd selog ydoedd Rosier Smyth, a than nawdd ei Eglwys y cyhoeddwyd ei lyfrau. Hyn yn ddiau ydoedd y prif reswm paham eu cyhoeddwyd hwythau, fel yr eiddo'r Dr. Gruffydd Roberts, ym Mharis; a phaham hefyd na cheir ynddynt y llythyren w, ond ei lle a gymerir gan y ddwy vv, nes peri'r iaith ymddangos yn ddieithr. Ar wahan i hyn, mae eu Cymraeg yn dda a neilltuol ddealladwy.

Ar ddalen olaf yr "Eglurun Rhyfedd" ceir hysbysiad am ddau lyfr oedd yn barod i'r wasg. Wele'r hysbysiad am danynt,—

"Gwybyddwch fod gennyf ddau Lyfr yn barod i'r Argraphwasg; y cyntaf a elwir PERL MEWN ADFYD, am 6d. ac am 8d. dan ei gauad, y neb afo am 12 Efe a gaiff 13 yn y dwsin. Ar llyfr arall a Elwir Drych y Cymro, yn cynwys yr un faint o Sittiau a'r un rhyw bris a'r llall, fe a dderbynir Henwau Subscribers gan y sawl a wertho y llyfr hwn; oddi wrth yr hwn y bydd eich ufudd was'naethwr yn cael eu henwau yr hwn wyf, Dafydd Jones o Drefriw."

A gafodd "henwau Subscribers," nis gwn. Mae'n debyg na chafodd, oblegid ni ddaeth y llyfrau allan er daed yr hysbysiad am danynt.

Cawn ef drachefn, yn ei ragymadrodd i'r Blodeugerdd, t.d. 8, pan yn bwrw golwg dros y mil cywyddau a cherddi ysgrifenedig oedd yn ei feddiant, yn addaw dwy Flodeugerdd arall o faint a phris Blodeugerdd 1759, sef

"1. Blodeu-Gerdd Duwiol
"2. Blodeu-Gerdd Diddanol."

Ond cafodd gymaint colled arianol ac anhawsderau eraill ynglŷn â'r anturiaeth oedd ganddo mewn llaw, fel na ddaeth yr addawedig obeithion byth i ben.

Yn ei Ddiferion Gwybodaeth (1764) ceir un arall o'r awgrymiadau hyn. Ar ddiwedd y llyfr mae "Diwedd y Rhan gyntaf." Felly, rhaid y bwriadai ail, a phwy a wyr na feddyliai am drydedd neu bedwaredd.

Ar ddiwedd ei ragymadrodd i'w Gydymaith Diddan" ceir addewid am fwy o'r cyfryw ddiddanwch, os rhoddid iddo groesaw,—

"N.B. Y Cymry Dyledawg: Dyma ddwy ran o'r Cydymaith Diddan; Os bydd iddo gael genych dderbyniad Caredigol; fe rydd ynof Ewyllus i roddi y ddwy, ran eraill i'ch plith; Yr hwn sydd wedi ei fwriadu o'r un faint; Ac am yr un bris; ond cael eich henwau atto, ac heb Arian; Rhag digwydd rhyw rwystr na ddelo oddiwrth eich Ufudd wasanaethydd Dafydd Jones.

"Hefyd fod Llyfr Credadyn Bucheddol gwaith Mr. Kettlewel yn cael ei Brintio yn Llundain gan Mr. John Olfir; ac a ddaw i Gymru pan fo'n barod."

Pa un ai Dafydd Jones ynte'r ar—graffydd a hauodd atalnodau yn yr uchod, anhawdd gwybod. Bron nad yw'n wyrth o drwsgleiddiwch, yn neilltuol pan syrth—iodd sillgoll rhwng y ddwy, ran." Yr un fu tynged y ddwy ran hon, megis eraill a addawyd; ofnai ef ei hun na ddelai'r addewidion i ben, gan mai "henwau heb arian " a hoffai gael, "rhag digwydd rhyw rwystr."

Ymhen y ddwy flynedd y daeth "Y Credadyn Bucheddol i Gymru." Ond pan y daeth yr oedd yn llyfr wyth plyg o 414 o dudalennau, wedi ei argraffu yn well na mwyafrif llyfrau Cymraeg yr amser hwnnw. Cywirwyd y wasg gan Ieuan Brydydd Hir a Rhisiart Morys. Hyd y cefais allan, nid oedd un cysylltiad rhwng Dafydd Jones a'r Credadyn hwn, namyn y bwriadai ei werthu wedi dyfod o hono i'r wlad.

Oddiwrth hysbysiad a geir ar ddiwedd Dwy o Gerddi, a gyhoeddwyd yn 1779, bwriadodd gyhoeddi Gramadeg, a alwai yn Ramadeg o waith Beirdd,—

"I mae genyf Ewyllus i osod Gramer o waith Beirdd mewn Print. I mae genyf 7 neu 8 o Gopiau rhwng Print ag ysgrifen. Mi wyf D. J. o Drefriw."

Traethodydd, 1886, t.d. 415.

Beth olygir wrth 7 neu 8 o Gopiau Gramer o waith Beirdd, anhawdd dirnad. I mi, dirgelwch anirnadwy yw'r syniad o Ddewi Fardd yn cyhoeddi gramadeg, ac yntau, druan, yn newid ei orgraff a'i gystrawen yn amlach na phob llyfr a gyhoeddai. Mae'r dyfyniad uchod yn dangos ei fod ar y pryd mewn cariad a dullwedd yr amcanodd Ieuan Brydydd Hir ei dwyn i arfer a bri, sef yr "I mae." O bosibl hefyd nad ei amcan ef ei hun yn hollol oedd yr uchod. Yn yr Additional MSS. 15031 ceir copi o "Gynygion" fel eu gelwir, sef hysbysiad am Ramadeg Cymraeg, yr hyn a geir o dan y Cynygion hynny yw,—

"Ysgol-rad Llanrwst John Lewis

Medi 19 1781 Curad Trefriw."

Er nad oes enw Dafydd Jones wrth y daflen hon o hysbysiad, yn Nhrefriw ei hargraffwyd, mae'r llythyren yn tystio hynny. Mae'n debyg mai'r un Gramadeg yw hwn ac a nodir gan Dafydd Jones yn 1779. Er cariad Dafydd Jones a John Lewis ato, methais gael un prawf iddo erioed ymddangos.

XII. FEL CASGLWR HEN YSGRIF-LYFRAU.

Hon oedd prif nodwedd ei fywyd. Pa ymdrech bynnag wnaeth mewn cyhoeddi llyfrau, y wedd y cododd uchaf i ddosbarth llenorion goreu ei amser ydoedd yn ei awydd cryf i gasglu hen ysgrif-lyfrau a'u copio. Yn hyn yr oedd o'r un natur a'r Morrisiaid, a gall mai hon oedd y ddolen gydiol rhyngddynt. Cafodd gydymaith o'r un anianawd yn Ieuan Brydydd Hir. Am y ddau, Ieuan Brydydd Hir, curad Trefriw, a Dafydd Jones ei glochydd, yr ysgrifennodd Lewis Morris,—

"He is curate of Trefriw near Llan Rwst. to Mr. Jones of Cae'r Melwr. David Jones the Editor of the Songs is his clochydd. You shall see him soon, a hundred to one but they will drive one another mad."[43]

Cadwodd y ddau eu pwyll, ond methodd y Prydydd Hir a chadw ei fywyd; yr oedd ei bwyll yn gryfach na'i iechyd. Mae traddodiad yn aros yn Nhrefriw y cerddai'r wlad o ben i ben os clywai son am "lyfr newydd." Prin mae'r newydd yn gywir mai'r gwir ystyr yw yr elai o un pen i'r pen arall i'r wlad os clywai son am hen lyfr, yn neilltuol hen ysgriflyfr. Gadawodd ar ei ol gasgliad rhagorol o lyfrau argraffedig ac o ysgriflyfrau, ond gwasgarwyd hwy fel pethau o fawr werth. Er fod Ismael Dafydd yn argraffydd, ni feddai fawr o dueddiadau llenyddol ei dad, ac yn ystod ei fywyd "llonydd ef" eu gwasgarwyd, fel erbyn heddyw maent dros wyneb yr holl wlad, i'w cael odid ym mhob casgliad o lawysgrifau, a rhai mewn lleoedd nas disgwylid eu cael yno.

Ceir hanes ymhlith rhan o'r teulu, i wr eglwysig o sir Fon fod ym Mhenisa'r Dre am fis o amser yn chwilio i fewn i gistiau llawn o lyfrau o bob natur; iddo brynu allan o honynt yr hyn oedd werthfawr yn ei olwg. Un o'r enw Mr. Griffiths oedd efe. Credaf fod cnewyllyn y traddodiad yn wir, sef i wr eglwysig o'r enw Griffiths fod yn eu chwilio a chymeryd ei wala o honynt. Trigai, nid yn sir Fon, ond o fewn ychydig filltiroedd i'r fan—i Drefriw. Ni welais un argoel ddarfod i gymaint ag un o'i ysgriflyfrau dramwyo drwy Fon. Ond aeth llu o honynt, fel y danghoswn ymhellach, trwy fan neilltuol yn Nyffryn Conwy. Y Mr. Griffiths hwn, heb os, oedd y Parch. Hugh Davies Griffiths, Caerhun, boneddwr a gŵr eglwysig, ac yr oedd ei blas a'i eglwys o fewn llai na chwe milltir i Drefriw. Pa fodd yr oeddent heb ei adnabod ac iddynt dybied ei fod o Fon sydd anhawdd ei esbonio. Hyn sydd ffaith, aeth llawer o lyfrau Dafydd Jones i feddiant y Parch. H. Davies Griffiths. Casglodd y gŵr hwn, neu cafodd o gasgliad Dafydd Jones, nifer o MSS., a galwodd hwy yn Caerhun MSS. Mae llawer o honynt yn bresennol ymhlith yr Additional MSS. yn yr Amgueddfa Brydeinig; eraill, mae lle i ofni, wedi colli. Ein pwnc ni yw dangos cysylltiad y rhai hyn â Dafydd Jones. Wele lythyr o eiddo'r Parch. H. Davies Griffiths sydd yn tynnu'r llen i raddau ar y llwybrau y llithrodd yr MSS. ar hydddynt,—

"Dear Sir,—Constant succession of domestic calamities, which since I had the pleasure of seeing you in London, has at different intervals deprived me of the greater part of my blooming little family by severe and sudden maladies, has prevented me from paying earlier attention to the patriotic cause in which you are embarked and from sooner acknowledging the receipt of those valuable volumes, which you were obliging as to forward to me at different periods, in the course of the last Summer.

"Believe me, my dear Sir, so far as meer gratitude was concerned your kindness and your attention were not thrown away. I have endeavoured to make up a small collection of Welsh MSS. which I shall forward by the waggon from Conway to London tomorrow, and shall be much gratified to hear that any of Carrago are though worthy of your acceptance.

"Such as they are, they are heartily at your service; and I am not without hope that I shall be able to add a few more to the number, probably of greater value, which have been lent by a poor neighbour of mine to Mr. Jno. Williams of Llanrwst and which he has promised to dispose of to me if he can procure them from him.

"As I employ my leisure hours in collecting materials for a history of such parts of this neighbourhood as are situated near the banks of the River Conway on each side from its source to its mouth, which if it please God to prolong my life, I may put together at some future period. Should you or your ingenious and indefatigable friend Mr. W. Owen, happen in the course of your searches in these or any other ancient records, to meet with any local information respecting the antiquities, natural history of this Vale or Biographical Anecdotes of eminent persons connected with this object, a copy of that particular MSS. or a communication of its contents would be rightly gratifying. I hope to be able to steal up to town for few days in the course of the Spring, when I shall pay my personal respect to you and to Mr. W. Owen to whom I beg my respectfull regards.

"The Books are carefully packed in a box directed to Mr. Williams Bookseller No. 11 Strand London, I chose to direct them to him not being so certain of your precise address. Some of them are sadly soiled: but I did not venture to throw any of them aside. I shall be anxious to receive your candid opinion of them to serve as a clue to my future investigations in this way.

Believe me, Dear Sir,

Your sincere well wisher and faithful friend,
HUGH DAVIES GRIFFITHS.

Caerhun, near Conway,

Feb. 24, 1802."

"Written to Owen Jones, O. Myfyr, Furrier, Thames Street, London."[44]

Y domestic calamities" oedd marwolaeth pedair merch fechan. A bu'r Parch. H. Davies Griffiths farw ei hun ym mhen rhyw bum mis, sef Gorffennaf 20, 1802.

Mae'r "written to Owen Jones," mewn llaw wahanol. Gwelir fod y llyfrau yn cael eu hanfon i Owain Myfyr a Mr. W. Owen, wedi hynny Dr. W. Owen Pughe.

Aeth yr eiddynt hwy, eu casgliad rhyfeddol, i feddiant llywodraethwyr y Welsh School, Llundain, ac oddiyno oddeutu 1836, i'r Amgueddfa Brydeinig, ond wedi lleihau yn ddirfawr yn eu nifer. Nodir y rhai a ddaeth o Gaerhun, o leiaf lawer o honynt, a'r drefn "Caerhun No. 1," a "Caerhun No. 2," ac ymlaen hyd 29. Methais weled ond 15 o'r nifer hwn, sef 1—11, 16, 27—8—9. Yn Additional MSS. 15062 ceir cynhwysiad y Caerhun MSS.; yno ceir yn ychwanegol gynhwysiad No. 14, 15, 17, 18, a 19. Felly yr oedd No. 12, 13, 20, 21, 22, 23, 24, 25, 26 yng ngholl y pryd hwnnw, o leiaf ni welwyd hwy gan yr hwn gopiodd gynnwys y lleill.

Heb os y poor neighbour of mine " yn y llythyr uchod oedd Ismael Dafydd, mab Dafydd Jones. Gellir darllen peth rhwng llinellau'r llythyr. Pa fodd bynnag, yn y wedd hon fe ddiogelwyd llenyddiaeth, os nad yng ngholl, fuasai'n nodedig o wasgaredig erbyn hyn. Wrth droi dail y cyfrolau hyn ceir prawfion pendant i lawer o honynt fod ym meddiant Dafydd Jones, a'r casgliad naturiol a chywir hefyd yw mai ei eiddo ef unwaith oedd y Caerhun MSS. a llawer ychwaneg. Yn awr ni roddwn fras olwg dros y cyfrolau a fu yn ei feddiant ef.

I. Additional MSS. press mark 9864 (Amgueddfa Brydeinig). Tair cyfrol a thair cyfrol o achau. Cyfrol unplyg yw'r gyntaf o 288 tud.; hon yw gwreiddiol y "Display of Heraldry." Cyf. ii. yn bedwar plyg, 448 tud.; cyf. iii. o ddyddiad llawer hynach. Mae iddynt y cyflwyniad canlynol,—

"The gift of David the son of Thomas Pennant Esq. of Downing to the Library of the British Museum Oct. 1835.

"Two Volumes of Pedigrees by Mr. John Davies of Rhiwlas in Llansilin, the author of the Display of Heraldry published in Shrewsbury in 1716. These MSS. were purchased by the Thomas Pennant Esq. from the Executors of David Jones of Trefriw, one of the first printers in the Principality and who was presented with a fount of letters by the celebrated Mr. Lewis Morris."

II. Additional MSS. p. mark 14973, folio, 167 tud. Casgliad o farddoniaeth o weithiau Dafydd ap Edmwnt, Tudur Aled, Yr Ynad Coch, Sion Tudur, Thomas. Owen Llanelwy, &c. Ceir yma ar ymylon y dail lawer o benillion crefyddol, nes i ffurf emynnau'r Diwygiad na'r carolau crefyddol oedd yn nodweddiadol o'r amseroedd blaenorol o waith Dafydd Jones. Wele ychydig o honynt,—

"Mae ar fy nghalon hiraeth creulon,
Am gael mynd i'r nefoedd dirion;
A chael aros yn dragywydd,
Gyda'm bendigedig Arglwydd.

—D. F." tud. 18.

Nychdod beunod sy'n poeni,—yn gwbl
A gwybod tylodi
Mae henaint im dihoeni
Och Dduw mor flin yw trin tri."

—Tud. 18.

"Duw gwared fenaid gwrion
Oddi wrth bob rhyw beryglon
Dod i mi le fy Arglwydd Dad
Yng ngoleu gwlad angylion."

—Tud. 121.


Ar tud. 47 ceir y nodiad canlynol,—

"Mis Hydref 7 1767 y bu y llifeiriant mwyaf a welwyd yn yr oes bresenol, nag yn amser neb sy'n cofio, yr hwn a fwriodd i lawr lawer o bontydd a thai hefyd a lygrodd lawer o diroedd."

Ar tud. 151,—

"Gwelais freuddwyd fod gwr yn dweud fod arian iw cael mewn lle a elwir Cwm Moel Mwg neu Moelwg Mawrth 29 1769. D. Fardd."

Cymaint swyn i'r hen oes ddiddan oedd eu breuddwydion cwsg ac effro am arian daear.

Siomedigaethau gwynion oeddent wrth y rhai ni thramgwyddent.

Ar tud. 153 ceir y pennill awgrymiadol a ganlyn, ond heb un dyddiad,—

"I mae fy nghalon i cyn drymed
Ac na fedrai brofi tamed
Nag yfed chwaith un math ar ddiod
O wir alar am fy mhriod.

—D. J."

"Dod ymgais Duw nid amgen
Am Ne i minau, Amen.

—D. J."


Anffodus iddo beidio rhoddi'r dyddiad wrth y pennill uchod, yr hyn oedd mor hoff o wneyd. Mae'r uchod yn cyfeirio yn ddiau at farwolaeth ei wraig.

III. Additional MSS. p. mark 14974. Cyfrol o farddoniaeth debyg i'r flaenorol. Gelwir hwn yn "Llyfr Gabriel Salusbury."—" Gabriel Salusbury's Booke. Being the gift of Mr. Edward Foulkes, Rector of Caerwys in the County of Flint." Ar ei ddalen olaf ceir—" Henblas, Llanbedr; Caerhun 1803." Felly daeth hon trwy Gaerhun er nad yw wedi ei rhifnodi yn y rhestr.

Ceir yma lawer o waith Dafydd Jones, ei waith ef ei hun, a'i waith yn ysgrifenu'r eiddo arall.

"Nyni'n gynyrch a gyrch gant
Yn gynar i'r gogoniant.'

—"Chwefror 21 1774

Drwy fy hun."
Tud. 5.

"Orchfygo mae'n go mwyn gu—Bechodau,
Baich adwyth y fagddu,
Coroni'r cywir hyny
Hwn o fraint yn y Ne fry."
—Tud. 10.


Ar y wyneb-ddalen mae awdl-foliant o waith Ed. Morris wedi ei hysgrifennu gan Ddafydd Jones. Hefyd ar tud. 4 ceir chwech o englynion i'r "Seren Gynffonog" o waith Dafydd Jones; ac mae wedi ysgrifennu llawer o linellau draw ac yma drwy'r llyfr.

IV. Additional MSS. p. mark 14975.

Ar ddiwedd hon ceir dalen o fwy plyg a gwahanol bapur, ac arni yn ysgrifenedig Carol Nattolic Newydd;" ac ar ddiwedd y garol,—

"John Thomas a'i cant 1727 anner at Ddafydd Jones o blwyf Trefriw yn Sir Garnarfon."

Fy nghasgliad yw mai Dafydd Jones a osododd y ddalen garol yn yr hen ysgrif—lyfr, felly ei fod yntau unwaith yn eiddo'r casglwr o Drefriw.

V. Additional MSS. p. mark 14978 folio, 289 tud., "Caerhun, No. 1." Barddoniaeth y Dafyddiaid, sef Dafydd Alaw, Dafydd ab Edmwnt, Dafydd ap Gwilym, Dafydd Nanmor, Syr Dafydd Trefor, ac ereill yw hon. Wedi ei hys—grifennu yn y XVII. ganrif.

VI. Additional MSS. p. mark 14979, Small quarto, 242 tud." Caerhun No. 2." Gweithiau'r hen feirdd wedi eu hadysgrif—ennu yn XVI. a'r XVII ganrif.

VII. Additional MSS. p. mark 14980, small quarto, 134 tud., "Caerhun No. 3." Ar y wyneb ddalen mae enwau amryw y bu'r gyfrol hon ym meddiant iddynt,—

"Sidney Lloyd 1672,
Lewis Richards,
Thomas Foulkes,
John Lloyd of Maes y Pandy."


Ar tud. 2 ceir mewn ysgrifen fras,—

"Borrowed this Booke of David Jones Janry 23 1774. D.E."

Y David Jones uchod oedd Dafydd Jones, Trefriw. A'r D. E. oedd Dafydd Ellis, ar y pryd curad Derwen, swydd Ddinbych, wedi hynny person Criccieth.

Yr oedd Dafydd Jones ac yntau yn gryn gyfeillion. Efe gyfieithodd "Histori yr Iesu Sanctaidd," yr hwn gyhoeddwyd gan Ddafydd Jones yn Nhrefriw yn 1776.

VIII. Additional MSS. p. mark, 14981, Small quarto, "Caerhun, No. 4." 98 tud. "Badly transcribed about the year 1730," meddai'r gŵr wnaeth y rhestr. Gwaith Michael Pritchard yn bennaf yw hwn, a chynwysa lawer o'r farddoniaeth ymryson yn y ffrwgwd fu rhwng beirdd Mon ac Arfon oddeutu'r dyddiad uchod.

IX. Additional MSS. p. mark 14982, Small quarto, 58 tud., "Caerhun No. 5."

X. Additional MSS. p. mark 14983, small quarto, 57 tud., " Caerhun No. 6." Rhan gyntaf hwn wedi ei ysgrifennu gan y Parch. John Griffiths, Llanddyfnan, Mon: oddeutu 1640—1667.

XI. Additional MSS. p. mark 14984, small quarto, 344 tud., "Caerhun No. 7." Os cywir y casgliad, hen lyfr William Cynwal a ysgrifennwyd oddeutu 1640. Cynwysa Salmau William Middelton, 1595. Mae'r gyfrol oll yn yr un llaw—ysgrifen, ac wedi ei hysgrifennu a'r linellau yn boenus o agos.

XII. Additional MSS. p. mark 14985, Small quarto, "Caerhun No. 8."

XIII. Additional MSS. p. mark 14986, small quarto, 117 tud., Caerhun No. 9."

XIV. Additional MSS. p. mark 14987, small quarto, 55 tud. Gweithiau'r hen feirdd wedi eu hysgrifennu gan amryw rhwng 1670 a 1680 yw'r gyfrol hon. Mae'r englyn canlynol wedi ei ysgrifennu yn ddiweddarach,—

"Y pen ni bytho mewn pall,—mae'n dostur
Nid ystur wrth arall,
Ni wyr y dyn a fo diwall,
Yn llwyr mo angen y llall."


Ar y wyneb ddalen ceir enw "Richd. John Dafydd Pentre'rfoelas" yn llaw ysgrifen Dafydd Jones. Yr oedd y "Richd. John Dafydd" hwn yn un o werthwr llyfrau Dafydd Jones, ac yn un o'r gwyr a brofai iddo ei draddodiadau ofergoelus.

XV. Additional MSS. press mark 14989, Small quarto, 222 tud. Wedi ei hysgrifennu oddeutu diwedd y XVI. ganrif, yn cynnwys gweithiau Bedo Brwynllys, Bedo Havesb, Dafydd ap Ieuan Llwyd, Dafydd Nanmor, Deio ap Ieuan a Guto'r Glyn. Mae yma lawer o weithiau Dafydd Jones ar ymylon y dail, weithiau wedi eu harwyddo ganddo, caniadau o duedd grefyddol fel y rhai a geir yn rhif 2. Rhoddwn ychydig o honynt,—

"Wele'r dydd ac wele'r awr,
Cyn iddo ddirfawr ddarfod,
Mae ceisio gofyn gan Dduw hedd,
Am bob rhyw gamwedd gymod."

—Tud. 31.

"Dy fawr drugaredd fy Nuw hael
Gad im ei chael, 'rwy'n gwylio,
Dyrchafa fy ysbryd i'r Nef wen,
Mae Crist fy mhen i yno."

—Tud. 44.

Trugaredd fy Arglwydd dod i mi,
'Rwy'n gwaeddi am dani yn dyner,
Dwg di fy enaid am corph gwan,
I fyny dan dy faner."

"Nid oes hir Einioes i'r un—ond benthyg
Mo bymtheg munydyn
Darfod i mae ar Derfyn
Hydol dir yw hoedl Dyn."


—D. FARDD, 1772.

XVI. Additional MSS. p. mark 14997, duodecimo, 230 tud., "Caerhun No. 10." Wedi ei ysgrifennu oddeutu diwedd y XV. ganrif. Casgliad o weithiau'r hen feirdd.

XVII. Additional MSS. press mark 14998, duodecimo, 166 tud., "Caerhun No. 11." Hen feirdd eto, yn ddrylliog ac anghyflawn. Nid rhyfedd i'r Parch. H. Davies Griffiths gwyno am gyflwr rhai o'i ysgriflyfrau.

XVIII. Additional MSS. p. mark 15038, small quarto, 310 tud., Caerhun No. 27. Ymhlith llawer ereill mae yn hon yr eiddo Lewis Morgannwg, Tudur Aled, Dafydd ap Gwilym, Dafydd Matthew, Sion Brwynog, a Sion Kent. Ar y ddalen olaf ceir "Dafydd ap Sion a biau hwn 1768," yn llawysgrifen Dafydd Jones. Un arall o ffurfiau ei enw oedd Dafydd ap Sion a cheir ef wedi ei gwtogi yn Dab Sion fwy nag unwaith. Ysgrifennwyd y llyfr hwn yn 1575.

XIX. Additional MSS. press mark 15039, small quarto, 204 tud., "Caerhun 28." Llyfr wedi ei ysgrifennu yn salw, yn cynnwys barddoniaeth amryw feirdd yn y 17eg a'r 18fed ganrif.

XX. Additional MSS. press mark 15040, small quarto, 200 tud., "Caerhun 29." Copi tebyg i rhif 28.

XXI. Additional MSS. p. mark 15046, duodecimo, 342 tud. Ar wyneb ddalen hwn ceir "Dafydd Jones's Book 1770." Ym mhellach ymlaen yn y llyfr ceir,—

"Yma y terfyn y pumed Llyfr Cerddwriaeth Cerdd Dafawd. Ac ef a gopiwyd y Llyfr hwn allan o lyfr y Godidocaf Bencerdd ac Athraw goreu yn i amser Simwnt Fychan: a Dafydd Salbri o Ddol Badarn biau y Llyfr hwn oed Crist pan ysgrifennwyd hwn 1593. Rich. ap John ai scrifennodd. A minneu Dafydd Jones o Drefriw a biau'r Llyfr hwn y flwyddyn hon 1771."

Ei gynnwys yn bennaf yw "Darn o Ramadeg Simwnt Fychan. Traethawd wedi ei gyfieithu o'r Groeg a'r Lladin ar figyrau ymadrodd gan W. S., wedi ei helaethu gan Thomas Williams, Trefriw." Mae 16 tu dalen o hwn wedi ei ysgrifennu gan Dafydd Jones.

XXII. Additional MSS. press mark 15045, Caerhun No. 16. Cyfrol o bapyrau meddygol, mewn cyflwr braenus.

XXIII. "MS. 110. Three Welsh Grammars, The Dream of Maxen Wledig, Elucidarium, Commotes and Cantreds of Wales, Astronomy, &c. Paper, 73 x 53 inches; pages i.—x. and 1—246; bound in vellum; written by Thomas Williams before he began to sign himself Thomas ap Wiliam, physicwr. Pages 112—114 and 129—130 are in the autograph of Robert Vaughan of Hengwrt, 16 May, 1656; and Darogan Beli page 216 appears to be written by D. Jones [? o Lanfair Dyffryn Clwyd.]" Dyna ddesgrifiad Dr. Gwenogfryn Evans, Report of Welsh MSS., gyf. i., tud. 23.

Mae'r Dr. Gwenogfryn Evans yn cymell ei dybiaeth mai Dafydd Jones Llanfair yw'r D. Jones uchod fu'n treio ei law ar groniclo "Darogain Beli." Tueddir ninnau'n gryf i gredu mai Dafydd Jones Trefriw. Mae camgymeriad tebyg, sef priodoli gwaith Dafydd Jones Trefriw i David Jones Llanfair, wedi ei wneyd yn Rhestrau MSS. yr Amgueddfa Brydeinig, a hynny yn hollol anesgusodol. Mae trefn y llyfr i raddau pell iawn, yn milwrio yn erbyn tybiaeth Dr. Evans. Hen lyfr Thos. Williams Trefriw ydyw, yr hwn a ysgrifennodd ei hanner cyntaf.

Ysgrifennwyd rhannau eraill gan R. Vaughan yn 1656, a cheir gwaith Dafydd Jones yn un o'i ddalennau olaf. Mae'r drefn yn chwithig, os nad yn amhosibl amseryddol. Yr oedd David Jones neu John, Llanfair, ficer Gresford a phrebendari Llanfair yn 1560, Canon Llanelwy yn 1564, wedi marw cyn dechreu o Thos. Williams wneyd fawr waith fel ysgrifennwr llyfrau. Yn wir amhosibl oedd i un o lyfrau Thos. Williams fyned trwy ddwylaw David Jones. Os David Jones Llanfair yw hwn, rhaid mai llyfr D. Jones yw'r llyfr ac nid yr eiddo Thos. Williams. Os oes rhyw bwys yn nhrefn yr enwau, a chredwn fod, rhaid felly mai Dafydd Jones Trefriw oedd y D. Jones hwn. Dengys gweithiau Dafydd Jones Trefriw ei fod yn gydnabyddus a'r llyfr hwn, neu a llyfr arall hollol debyg iddo o waith Thos. Williams. Yn Ad. MSS. 15046, neu 21 o'r rhestr hon ceir Dafydd Jones wedi copio "Traethawd ar ffigyrau ymadrodd gan W. S., wedi ei helaethu gan Thomas Williams," tra mae'r traethawd i'w gael ar tud. 131 o'r llyfr hwn.

Yn y Yn y "Cydymaith Diddan," tud. 31, ceir cas bethau Ieuan Brydydd Hir ac Owain Cyfeiliog, a cheir hwy hefyd yn y llyfr hwn tud. 128 a 130. Cyhoeddodd Dafydd Jones yn 1745 yr hen chwedl boblogaidd yn ol yr hen ysgriflyfrau, Efengyl Nicodemus, a rhydd a ganlyn fel rheswm dros ei chyhoeddi,—

"Fe ddywed rhyw rai (mae'n debyg) mae peth a ddyfeisiais i neu arall yw Efengyl Nicodemus; ond gwybydded y cyfryw rai mai o Lyfr ysgrifen y Dr. Tho. Williams o Drefriw y tynnais i y copi hwn, o'r Llyfr Gwyn o Hergest y Cadd ynte yr hyn a 'scrifenodd ef ynghylch y flwyddyn 1596."

Mae'r Efengyl hon ar tud. 171 o'r llyfr hwn, ac os yw dyddiad Dafydd Jones yn gywir yr oedd D. Jones, Llanfair, wedi marw ers chwe blynedd cyn ynghylch y flwyddyn 1596." "D. Jones o hen lyfre," geir yn y llyfr, ac mae hynny fel llawer nodiad arall a geir o dan ei waith yn copio. Felly ein casgliad yw mai un o hen lyfrau Dafydd Jones, o leiaf iddo fod yn ei ddwylaw yn rhyw le, yw'r llyfr hwn. Hawdd y gallasai fyned oddi wrth Ddafydd Jones i Lyfrgell Mostyn trwy ddwylaw y Prydydd Hir.

XXIV. "MS. 262—Hen, 183. Pum Llyfyr Kerddwriaeth. Paper; 113 x 71 inches; pages 13—152, imperfect at beginning and end; written in 1681; sewn in sheepskin. This was probably the MS. of John Davies, bardd Nanneu, whose name it bears (p. 103). And his pedigree is given in the hand of D. Jones of Trefriw (p. 146). In 1740 it belonged to John Kadwaladr o blwy Ll. Drillo."

Dr. Gwenogfryn Evans, Adroddiad, cyf. i. Rhan iii., tud. 1076. Yr ydym yn gadael yr uchod heb geisio ei gyfieithu, fel na wnelom gam â rhan o adroddiad gwerthfawr Dr. Evans.

XXV. "MS. 12—Ph. 2160. Poetry; 5 x 4 inches; pages i.—viii., 1—500; slightly imperfect at the end; in old calf binding. This MSS. is in the autograph of Thomas Evans of Hendre Vorfydd, between Corwen and Ruthin. The writing, which is rather archaic in style, was began in the year 1600. Witness the green letters

T. 1600 E.' on page 4—and was mostly done before 1604. Afterwards additions, somewhat unsavoury, were made on margins, spaces left blank, &c., down to the year 1616. Pen. MS. 157 is in the same hand; and most of the MSS. written by Roger Morys, such as Mostyn MS. 135, Peniarth MS. 169, &c., once belonged to this Thomas Evans.

The MS. bears the following names: Wiliam larens o Gaerfyrddin (p. 279); Evan vaughan is book (p. 278); Hugh Jones of plas yn y ddole his book (p. 465); Edward Jones (Bardd y Brenin) on the flyleaf; David Jones's Book 1770 (p. 1), &c." Adroddiad Dr. Gwenogfryn Evans cyf. ii., rhan 1, tud. 145—6. Ar ddalen gyntaf o'r uchod mae'r pennill hwn,—

"Yr Arglwydd yw fy nerth am can
Y Tad ar Mab ar Ysbryd Glan
Pan delo fy mywyd bach i ben
Duw derbyn finau i'r nefoedd wen.

--DEWI FARDD 1771."

Mae "David Jones's Book 1770" ar tud. 3; ond nid yn llawysgrifen Dafydd Jones.

XXVI. MS. 15—Ph. 2936 (formerly numbered "47" and "722.") A list of the Cantreds & Commotes, as well as the Parishes of Wales, and of the British fortified towns together with some notes in a letter hand—in two parts. Paper: 3 x 3 inches; pages 1—98, and 1—22; 17th and 18th centuries; sewn in limp vellum. Part II. Coffadwriaeth gyd ag Henwau y rhai a gymerant y Llyfrau i'w Gwerthu droswyfi D. J [ones o Drefriw.]

Efengyl neu Histori Nicodemus issued in 1745 being a Welsh version of Nicodemus Gospel, issued by Wynkyn de Worde. See Llyfryddiaeth y Cymry p. 399."

Adroddiad Dr. Gwenogfryn Evans, cyf. ii., rhan 1, tud. 164.

Mae'n rhyfedd i Dr. Gwenogfryn Evans gymeryd ei gamarwain gan "Llyfryddiaeth y Cymry," am yr Efengyl Nicodemus hon. Credaf mai o'r Lladin y daeth i'r Gymraeg, ac nid o'r Saesoneg. Nid cyfieithiad yw argraffiad Saesoneg Wynkyn de Worde, yr hwn ymddanghosodd yn 1509, oblegyd yr oedd yn y Gymraeg amser hir yn flaenorol i hynny. Ceir hi yn Llyfr Gwyn Rhydderch Peniarth MSS. 4 a 5. (Adroddiad cyf. i., rhan ii., tud. 305).

Amsera Dr. Evans hwnnw, rhannau i'r 13eg, a rhannau i'r 14eg ganrif. Yr oedd yn yr hen ysgriflyfrau Cymreig cyn dechreu argraffu, anghofio hyn yn ddiau a barodd i Dr. Evans dybied fod sylwadau Canon Evans yn "Llyfryddiaeth y Cymry" yn gywir. Ceir amryw bethau yn rhan i. o'r MS. uchod yn llaw Dafydd Jones, sef cynnwys ei wyneb ddalen, cywir ac eglur fynegiad o'r ffordd fawr yn Lloegr a Chymru, nodiadau henafiaethol am Lanberis. Mae'r "Coffadwriaeth Henwau" yn cynnwys enwau, nid yn unig y rhai a gymerasant Efengyl Nicodemus, ond hefyd yr "Eglurun Rhyfedd" Henwau llyfrwerthwyr Dafydd Jones draw ac yma yn y wlad oeddent.

XXVII. "MS. 39 Poetry by I. Lleyn, S. Phŷlip, W. Lleyn, Rob. Hughes, Mred. ap Rhys, Sir D. Trevor, W. Wynn, L. Owen, L. Morris, Edw. Morris, Huw Roberts, Ellis Roberts, T. Edwards, Huw Jones, T. Jones. Paper; 7 x 6 inches; 306 pages in the autographs of I. Lleyn and D. Jones of Trefriw. Cwrt—mawr MSS." Ad. Dr. Gwenogfryn Evans, cyf. ii., rhan iii., tud. 935.

XXVIII. " MS. 48. Transcripts by D. Jones of Trefriw, including a Chronicle from Julius Caesar to James I.; also carols and poems by The Transcriber; bound in half morocco." Cwrtmawr MSS. Ad. Dr. Gwenogfryn Evans. Cyf. ii., rhan iii., tud. 937

XXIX. "MS. 84—Ph. 8393, in two volumes. Gwaith Beirdd Kymru, especially the Poetical Works of Griffith Hiraethog, Gutto'r Glynn, Simwnt Fychan, Sion Kent, Sion Tudyr, Tudyr Aled and Wiliam Lleyn. Paper; 13 x 4 inches; pages 1—706 (vol. i.), 707—1286 (vol. ii.); apparently in the autograph of D. Jones of Trefriw (p. 899); bound in green morocco."

Caerdydd MSS. Adr. Dr. Gwenogfryn Evans. Cyf. ii., rhan ii., tud. 790.

Gallasai Dr. Evans ychwanegu amryw feirdd eraill, ac y mae ugain, mwy neu lai, o'u cywyddau yn y llyfr; sef Dafydd ap Edmwnt, Dafydd ap Gwilym, Huw Arwystl, Huw Machno, Iolo Goch, Edward Morris, Owain Gwynedd, John Phylip, T. Prys, Edmwnd Prys, Rhys Cain, Richard Cynwal, Sion Dafydd Las, a Wiliam Cynwal. Yn yr oll ceir yma waith oddeutu 200 o feirdd, agos yr oll yn gywyddau. A chawn fod Dafydd Jones yma wedi ysgrifennu oddeutu 94,450 o linellau cywydd. Hwn y gellir yn briodol ei alw yn "Llyfr Dafydd Jones." Ysgrifennodd lawer mewn llyfrau eraill, a rhannau lled helaeth o rai a rhai llyfrau cyfain, ond yr un mor helaeth, gofalus, a safonol ei gynnwys a hwn.

Mae ynddo rai cywyddau o'i waith ei hun, megis Cywydd i John Rhydderch ar ei symudiad i Lanerchymedd yn 1731. Sion Rhydderch yr Almanaciwr oedd hwnnw. "Cywydd i ofyn Ellyn gan Richard Parry, M.D., o Dal y Bont, 1735." Aer y Gorswen oedd hwn, medd Dafydd Jones.

Os y gwir a ddywedai am ei farf yr oedd arno wir angen ellyn. Canys cwyna fod ei gernflew fel

"Sofl aflwydd sy flew hwyl flaidd,
Galwn hi yn gol haidd."

"Be gwasgwn bigau ysgall,
Ar fy llaw i friwo'r llall."

a

"Shop aethus swp o eithin."

Mae yma hefyd " Gywydd Moliant Mr. Hugh Hughes, Person, Trefriw, 1736." Mor wasanaethgar oedd yr awen y pryd hwn i ganu clod dynion, a hynny weithiau heb fawr haeddiant.

XXX. Tair cyfrol, plyg 6 x 4, 200 tud., ym meddiant y Parch. R. Jenkin Jones, M.A., Aberdar. Mae'r cyfrolau hyn yn cynnwys amrywiaeth mawr o farddoniaeth o eiddo Dafydd Jones ei hun, a hefyd lawer o ddyfyniadau o lyfrau Dr. Thos. Wiliams. Yn ei dro bu'r ysgriflyfrau hyn yn eiddo

Dafydd Jones, (eu hysgrifenydd).
Edward Jones. (Bardd y Brenin).
Josiah Rees, (Gol. Eurgrawn 1770).
Richard Rees, ei fab.
Parch John James, Gellionen.
Parch. Thos. Thomas, U.H.. Pant y Defaid
Parch. R. Jenkin Jones, M.A.


XIII. Y DIWEDD.

Yn nhu dalen 99 yr ydym yn datgan ein barn am "Wasg Lewis Morris," gan addaw ysgrifennu gair ym mhellach am y cyfryw. Diau mai hen Wasg y Lewis Morris oedd Gwasg Bodedyrn, ac i honno yn ei thro ddod i Drefriw. Aeth o Drefriw i Lanfyllin. A pha le wedi hynny?

Ym mhapurau'r Morrisiaid, yn yr Amgueddfa Brydeinig, daethom ar draws dalen brintiedig deifl beth goleu ar Wasg Caergybi, a pha fodd y cododd Lewis Morris argraff-wasg yno. Ym Mawrth, 1735, anfonodd y Llewelyn Ddu allan—Proposals, for erecting by Subscription a printing press at Llanerchymedd in the Isle of Anglesea." Yr amcan oedd codi gwasg er cynorthwyo "John Rhydderch o'r Mwythig, yr hwn oedd yn Llanerchymedd er 1731." Yr oedd Sion Rhydderch, meddai'r ddalen, "wedi myned yn dlawd a digartref yn ei henaint." Efe oedd i olygu'r wasg, ac yr oedd yr elw i fyned at ei gynnal. Ond wedi ei farw yr oedd yr elw i gael ei ddefnyddio er codi a chynnal "Ysgol Rad" yn y lle.

Yr oedd y Wasg "in great forwardness And will be ready to work at Midsummer next." Mewn gair, yr oedd yn barod wedi cael ei phrynnu. Yna daeth yr anffodion. Ni lwyddodd Lewis Morris i sefydlu cwmni na chael cyfraniadau. Ac yn Nhachwedd 1735 bu farw John Rhydderch. Felly y Wasg feddyliodd Lewis Morris sefydlu er budd yr hen Almanaciwr oedd yr un y treiodd ei law arni ei hun, a digon posibl mai John Rhydderch argraffodd Dlysau yr Hen Oesoedd."

Ar t.d. 22 ceir cyfeiriad at ddistawrwydd y Morrisiaid parth Ysgolion Griffith Jones yn y geiriau canlynol: Methais weled un crybwylliad yn holl lythyrau y Morrisiaid na Goronwy Owen at Ysgolion Griffith Jones Llanddowror. Ar y pryd yr oeddwn wedi darllen rhai degau o'u llythyrau yn yr Amgueddfa Brydeinig ac mae'r uchod wir yn ol y rhai hynny. Erbyn hyn, mae llawer ychwaneg wedi eu cyhoeddi, ac mewn rhai o'r llythyrau ceir cyfeiriadau canmoliaethus at yr ysgolion, er fod tôn amheus mewn rhai eraill. Er y canmol, mae'n achos i synu ato iddynt roddi i'r ysgolion leied cefnogaeth.

Trwy ryw amryfusedd, gollyngasom dros gof gofnodi tri llyfr a gyhoeddodd yn un gyfrol yn 1740, sef—

1. "Y Nefawl Ganllaw, neu'r Union Ffordd i Fynwes Abraham."

2. "Myfyrdodau Wythnosawl, sef Myfyrdod ar bôb Diwrnod yn yr Wythnos, yn enwedig ar Amser Grawys. Ynghyd â Cholectau, Gweddiau."

3. Cyngor yr Athraw i Rieni, Ynghylch Dwyn eu Plant i Fynu."

Cydrwymwyd y tri llyfr yn un gyfrol, oddeutu 150 t.d. Y cyfieithydd oedd Lewis Anwyl, "gweinidog plwyf Yspytty Ifan," wedi hynny Abergele. Canodd Dafydd Jones wyth o englynion "Mawl i'r Llyfr" a'r Cyfieithydd, maent i'w gweled ar gefn ei wyneb-ddalen gyntaf.

CAERNARFON:

CWMNI'R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),

SWYDDFA CYMRU."

Llyfrau Newyddion.

Cyhoeddedig gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymreig (Cyf.).

Caernarfon.

Nid yw y llyfrau hyn yn gyfres er eu bod oll bron o'r un plyg a maint.

LLIAN, 112 TUDALEN, DARLUNIAU.

PRIS, SWLLT YR UN.

YN BAROD.

I.

GAN OWEN EDWARDS.

II

WEDI EU CASGLU GAN GARNEDDOG.

Penhillion y Diwygiadau, tân oddiar yr allor.
yn llawn ysbryd ac athrylith.

III.

GAN RICHARD MORGAN.

1.-Coch y Berllan.
2. Priodas y Blodau.
3: Nyth Aderyn Du.
Y Gyfrol Gyntaf.
4. Bore Teg.
5.-Carwriaeth y Coed.
6.-Crafanc yr Arth:
7. Telor yr Helyg.

IV.

Cerrig y Rhyd

Llyfr o hanes rhai'n camu cerrig rhyd bywyd

GAN WINNIE PARRY.

V

GAN ELFYN.

VII.

GAN OWEN EDWARDS.


VIII.

ROBERT OWEN, APOSTOL LLAFUR.

GAN Y PARCH. RICHARD ROBERTS, B.A.

Y cartref yn y Drefnewydd. Y Siop yn Llundain, Manceinion, Lanark Newydd. Amseroedd Rhyfedd.
Trueni'r gweithiwr. Adam Smith a Malthus. Ym Mharis a'r Ynys Werdd. Ymroddi i wella cymdeithas. Ei syniadau.

VIII

DAFYDD JONES O DREFRIW.

GAN Y PARCH. O. GAIANYDD WILLIAMS

IX

GAN OWEN EDWARDS.

Caer Lleon Fawr. Llanidloes. Llanfair Muallt. Abertawe. Yr Hen Dy Gwyn. Llangeitho.

x

GWAITH HUGH JONES, MAESGLASAU.

DAU O'I LYFRAU,—SY'N BRINION IAWN ERBYN HYN.

I.—"Cydymaith i'r Hwsmon." 1774.

II.—"Hymnau Newyddion." 1797.

CYFRES Y FIL.

Cyhoeddir cyfrolau bychain tlysion o lenyddiaeth Cymru gan Ab Owen, Llanuwchllyn; neu R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy.

LLIAN, 112 TUDALEN, DARLUNIAU.

Pris 1/6 yr un.

Y mae y cyfrolan hyn wedi eu cyhoeddi:

Dafydd ab Gwilym.
Islwyn. Ychydig gopian'n aros.
Goronwy Owen (dwy gyfrol).
Gwilym Marles. Ychydig iawn yn aros .
Huw Morus, Pont y Meibion. Ap Vychan.
Edward Morus, Perthi Llwydion.
Owen Gruffydd, Llanystumdwy.
Beirdd y Berwyn.
Eben Fardd.
Ceiriog.
Robert Owen.
John Thomas.
Jac Glan y Gors.
Ann Griffiths, Dolwar Fach.
Samuel Roberts.
Dewi Wyn.
Geiriadur Cymraeg.

Cyfrolau eraill i ddilyn; dim llai na dwy yn y flwyddyn, dim mwy na phedair.

Anfonir y cyfrolau am 1/1 yr un i rai addawant dderbyn y cyfrolau sydd i ddod.

Nodiadau

[golygu]
  1. Gweithiau Ieuan Brydydd Hir. Llythyr 9.
  2. Clywsom, wedi ysgrifennu'r uchod, fod yn y Cwrt Mawr lythyr o waith Dafydd Jones ei hun, yn dweyd iddo fod mewn cysylltiad â'r Methodistiaid, ond i'w gyfeillion ei wawdio nes iddo eu gadael.
  3. Llythyr 35, Gorff. 22ain, 1767.
  4. Llythyr 27, Chwef. 4ydd, 1767.
  5. Additional MSS. 15059.
  6. Llythyr 19, Gorff. 7, 1764.
  7. Geirionydd, tud. 161.
  8. Caerdydd MS. 84. Ph. 8393.
  9. Diddanwch Teuluaidd, tud. 184.
  10. Caerdydd MSS. 8393.
  11. Llyfryddiaeth y Cymry, tud. 450.
  12. CYMRU, Medi, 1903.
  13. Additional MSS. Amgueddfa Brydeinig, 15059.
  14. Amgueddfa Brydeinig MSS. 17973, t.d. 20.
  15. Llythyr 8, Rhag. 3ydd, 1760.
  16. Llythyr 9. Ion. 14, 1761.
  17. Llythyr 10, Mawrth 21, 1761.
  18. Additional MSS. Amgueddfa Brydeinig, Press Mark 17973.
  19. Gronoviana, Llythyr 33.
  20. Llyfryddiaeth y Cymry, tud. 450.
  21. Blodeugerdd, tud. 127, 128.
  22. Blodeugerdd, 248—52.
  23. Blodeugerdd, 267—9.
  24. Blodeugerdd, 306—8.
  25. Proest gyfnewidiog.
  26. Dr Dafies a ysgrifenodd y Geirlyfr Cymraeg.
  27. Almanac John Prys, 1771.
  28. Cydymaith Diddan, t.d. 7.
  29. Ceir rhai yn CYMRU, Medi, 1903. Gwelir, yn enwedig, ei nodiadau ar Gamfa Hwfa a'r Allor Goch yn Llyn Dulyn.
  30. Yr ydym yn copio'r uchod o CYMRU, Medi, 1903, yno gall y darllennydd weled llawer chwaneg.
  31. Histori yr Iesu Sanctaidd. 1776. Tud. 4.
  32. Tud. 221
  33. Additional MSS. 9864.
  34. Gwel ar ddiwedd y Llyfr.
  35. Hanes Llenyddiaeth Gymreig, t. d. 186.
  36. Penarth MSS. 4 v 5.
  37. Report on Welsh Manuscripts, Vol. II., part 1, p. 360—3. J. Gwenogfryn Evans.
  38. Mae copiau o'r tri blaenaf yn yr Amgueddfa Brydeinig yn dwyn Press Marks (1) 872. g. 20; (2) 872. g. 21.; 872. c. 30. (3).
  39. 1653 Llundain neu Dublin.,
    1727 Caerfyrddin.
    1750 Y Mwythig.
  40. Wedi ysgrifennu hyn, gwelais ei Lyfr Cywyddau, Caerdydd MS. 84. Gwel yn nes ymlaen yn y bennod ar ei MSS.
  41. MS. yn fy meddiant.
  42. O bosibl mai Dafydd Jones ei hun oedd y "Dai Sion" hwn.
  43. Llythyr at Ed. Richards, Medi 20, 1759.
  44. Additional MSS. press mark 15028.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.