Daff Owen (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Daff Owen (testun cyfansawdd)

gan Lewis Davies (Lewis Glyn Cynon)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Daff Owen

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader]

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Daff Owen
ar Wicipedia




DAFF OWEN

DAFF OWEN

CHWEDL ANTUR I FECHGYN

GAN

LEWIS DAVIES

—————————————

—————————————

WRECSAM

HUGHES A'I FAB, CYHOEDDWYR

1924

MADE AND PRINTED IN GREAT BRITAIN

BUDDUGOL

YN

EISTEDDFOD GENEDLAETHOL

YR WYDDGRUG

1923

CYNNWYS

I. ANUFUDD-DOD

"Eyes, Right! Dress!"

Boys! Take up your Dressing! Smartly now! Left! Turn!"

"Dis!-miss!"

Dyna a glywsid drwy ddrws agored Ysgol Cwmdŵr am bedwar y prynhawn, o fyned heibio i'r pentref hwnnw ddydd Gwener neilltuol ym Mai 1887. Ac onibai gwybod ohonoch mai ysgol yn y wlad yng Nghymru oedd yr adeilad yn eich ymyl, gallasech dybio mai myned heibio i Ysgwâr y Barracks yng Nghaergaint neu Gaerefrog yr oeddech.

Ond y funud nesaf ni buasai dim amheuaeth yn eich meddwl, oblegid yn rhuthro allan i'r heol ar eich traws yr oedd twr o fechgyn yn gwthio heibio i'w gilydd yn nwyfus a direidus dros ben. Ar dafod pob un yr oedd heniaith y tir; ie, 'r un acen felys ag a glywsai Hywel Dda, Gerallt Gymro, Syr Rhys ap Tomos, a John Wesley, oll yn eu hoes a'u tro, pan yn tramwy yr unrhyw ffordd.

"Dere i'r allt, John!" neu "Nawr am yr afon, fechgyn!" oedd y siarad a wnâi yr heol yn llafar drwyddi.

Ond dim ond am foment, oblegid heb aros am neb, i ffwrdd â hwy, oddieithr ambell un a oedai am ei chwaer fach. Hapus hogiau! heb faich na gofid o un fath i rwystro eu hawddfyd nac i arafu eu camau. Ychydig yn fwy swil a thawel, ond nid yn llai llon a hapus, wele'r merched, gyda haul y bryniau ar lawer grudd a hoywder yr awel mewn llawer trem, yn dyfod allan trwy eu drws hwythau.

Tybed a gafodd y merched hefyd yr ymarfer o'r "Left! Turn! Dis!- miss!" yn ôl dull y bechgyn?

Os do, afraid yn siwr oedd y geiriau "Smartly now!" i rai mor heinif ac ysgafndroed â'r rhai hyn.

A phaham o gwbl iaith ymgyrch a chad yn y llecyn heddychlon hwn, lle nad oedd dim tuallan i gwrs tymhorau anian yn digwydd, ond ambell eisteddfod neu ffair, pastai neu "ffêst clwb"?

Dacw'r ateb ym mherson y gŵr a gloa ddrws yr ysgol ac a esyd yr allwedd yn ei logell y funud hon. Sylwch arno. Y peth cyntaf a welwch yw mai un fraich sydd ganddo, yna ei fod yn ddyn talgryf, a bod pob symudiad ac ysgogiad o'i eiddo fel pe wrth fesur. Mewn gair, hen filwr, heb un amheuaeth yn ei gylch. Ie'n siwr, dyna oedd Foster—cynorthwywr mawr y Ficer, ysgrifennydd pob mudiad yn y lle, a thywysydd yr ieuainc i feysydd dysg, ac un a gyfunai ynddo ei hun y swyddi parchus o feistr ysgol yr eglwys, a chlerc yr eglwys ei hun.

Bu cryn gynnwrf yn y pentre amser ei apwyntiad am ei anallu (oherwydd colli ohono ei fraich) i ganu yr harmonium yn y gwasanaeth. Ond am fod iddo lais rhagorol, a bod i Miss Harrison, merch y Ficer, gynnig llanw y bwlch yn ddi-dâl, ef a gafodd y swydd, a phan fu farw yr hen glerc cafodd swydd wag hwnnw hefyd.

Dyma'r gŵr a brysurodd yn awr i'r heol, ac wedi edrych i fyny ac i waered, a holodd un o'r merched ynghylch Daff Owen. Atebodd hithau iddi ei weld yn mynd yng nghwmni Glyndŵr Jones tuag at lan yr afon.

"Ewch ar unwaith i'w ymofyn!" eb yntau, ac i ffwrdd â hi ar yr archiad i chwilio am yr hogyn wrth y torlannau. Ond bu raid iddi gerdded lled tri chae cyn dyfod o fewn clyw y bachgen coll, ac wedi dywedyd ohoni ei neges wrtho, ychydig y diolch a gafodd wedi'i thrafferth i gyd.

"Wfft i ti a'r mishtir!" ebe fe. "Fe af 'nawr jest!"

Yna trodd oddiwrthi i roi ei sylw i rywbeth fil pwysicach yn ei olwg ar y pryd.

"Meindia fe, Glyn, bu bron mynd ma's, pan own i'n siarad â Mari. Dyna beth sydd o myrrath merched o hyd. 'Nawr ynte amdano!"

Testun y cyfeiriad hwn oedd brithyll mawr yr oedd y ddau lanc am ei ddal. Yr oedd y pysgodyn wedi dyfod am dro i'r dwfr bas, lle yr oedd yr afon wedi rhannu yn ddwy, ac wedi ei osod ei hun mewn perigl trwy hynny. Gwelodd y ddau hogyn eu cyfle, a thra chadwai un ohonynt warchae ar yr unig ffordd y gallai'r pysgodyn nofio yn ôl i'r dwfr mwyaf, brysiodd y llall i gloddio tyweirch er llanw'r adwy i'w rwystro i ddianc o gwbl.

Dyna'r funud y derbyniwyd gorchymyn y meistr, ond meistr neu beidio, rhaid oedd dal y brithyll yn gyntaf.

Nid gorchwyl hawdd i'w wneuthur ydoedd ychwaith, oblegid yr oedd mwy o ddwfr o dan y dorlan nag a feddyliasai'r ddau bysgotwr ar y cyntaf. Fodd bynnag am hynny, ei ddal oedd yn rhaid.

Cymerodd gwaith gryn ddwyawr cyn ei orffen, oblegid golygodd godi argae bychan i droi cwrs y dwfr a redai i mewn, a thaflu allan lawer o'r dwfr oedd yn weddill. Ac wedi'r gweithio dyfal bu ysgarmes fywiog o erlid y brithyll o garreg i garreg cyn i Daff ei gael yn ddiogel i'w law yn y diwedd. Yna wedi cyflawn edmygedd o'r ysbail ysblennydd, meddyliwyd am fynd adref, a'r pryd hwnnw y cofiodd Daff gyntaf am archiad y meistr. Yr oedd ias yr helfa wedi ei feddiannu'n llwyr, bellach," ebe fe, "y mae'n rhy hwyr i mi fynd o gwbl."

II. GAMALIEL Y PENTRE

YN wahanol i lawer hen filwr a geisiodd o bryd i'w gilydd addysgu plant Cymru yn yr amser gynt, pell oedd Sergeant Foster o fod yn annysgedig ei hun. Ei lawysgrifen ardderchog, pan yn cynnig am y swydd o ysgolfeistr, a dynnodd sylw ato gyntaf. Yna, pan holai'r offeiriad ef, digwyddodd i'r gŵr da hwnnw daro ar fan cryfaf yr ymgeisydd, sef ei wybodaeth fanwl o Shakespeare. Ac am ben hynny daeth ei lais rhagorol i'r maes i ymladd o'i ochr, gyda'r canlyniad iddo fynd dros ben pob rhwystr ac ennill y swydd.

Yn nes ymlaen daeth rhai o'i wendidau i'r golwg. Yn un peth rhodresai ei Shakespeare, a braidd byth y siaradai heb lusgo'r bardd mawr hwnnw i'r ysgwrs, ac yr oedd y gymdogaeth wedi hen flino ar ei "When shall we three meet again?" a'i Stands Scotland where she did?" a'r cyffelyb. Ei "Ie" (yn enwedig ar ôl yfed glasiad neu ddau) oedd "My word is my bond," a'i "Nage" terfynol yn wastad "No, not for Venice!"

Dyn yr offeiriad a'r "mawrion tir" ydoedd o'r dechreu, a chredai y rhai hynny, ac ambell ffermwr yn ogystal, mai digon o Saesneg o unrhyw fath oedd oreu i blant y plwyf. Ac felly tyfodd cenhedlaeth yng Nghwmdŵr na wybu nemor ddim am fawrion llên eu gwlad, nac am eu gweithiau.

Gwendid arall y Sergeant oedd ei fynych lymeitian. Gan mai ef oedd ysgrifennydd clwb y Farmers, naturiol oedd cyrchu yno—ar fusnes, wrth gwrs. Ond yr oedd yn syndod i'w ryfeddu weld y fath waith caled a oedd bod yn ysgrifennydd clwb, neu o leiaf fod yn ysgrifennydd clwb y Farmers.

Yno hefyd y cyfarfyddai ef â dynion mwyaf cyfrifol y plwyf—ar fusnes eto—a chan fod y rheini ambell waith yn dra llon eu hysbryd, a bod "llais canu " da ganddo yntau, wel, beth mwy naturiol na gofyn am gân gan yr un a'i medrai oreu.

Yn y modd hwn adseiniodd hen dderi parlwr y Farmers lawer ar "Tom Bowling," "Hearts of Oak, a'r "Gallant Arethusa." A pheth mwy naturiol wedyn na rhoi glasiad i'r eglwyswr a ganai cystal? Ie'n wir, beth hefyd ?

Ei hoff ateb ar gynnig o'r fath oedd "To be, or not to be, that is the question," ac yn ddios y "To be" a enillai bob tro. Nid oes sôn yn hanes y plwyf i gyd i'r "Not to be" gael y trechaf erioed.

Ac wedi dechreu cael blas arni deuai "Once more into the breach, dear friends," yn hawdd i'w dafod dro ar ôl tro.

Pe cyfyngai ei Shakespeare i droion felly, neu ynteu egluro'r meddwl yn well i'r plant oedd dan ei ofal, ni wnâi'r brawddegau ynddynt eu hunain ddrwg yn y byd. Ond i'r gwrthwyneb eu lluchio a wnâi ar bob achlysur, yn yr ysgol a thu allan iddi, a hynny heb fod dim neilltuol yn galw amdanynt, ond yn unig ei foddio ei hun, a llanw'r cymeriad a roddodd y ficer iddo ar ei ddyfodiad i Gwmdŵr o "fine Shakesperian scholar."

Dywedid yn gyffredinol ei fod yn well Cymro nag y tybid ei fod, ac iddo, rywbryd, ganmol Brutus yn gyhoeddus "fel llenor addfed". Taerai eraill eu bod wedi ei weled yn darllen "Wil, Brydydd y Coed", ac i bob golwg yn cael mwynhad mawr ynddo. Ond faint bynnag oedd mesur ei lwyddiant i ddarllen a deall y llyfr hynod hwnnw, ni chododd ei Gymraeg ymarferol yn uwch na brawddegau fel "Ma fa glân,' Ma fa pert," a "Ma chi tost?" Ac am y plant, druain, rhaid oedd iddynt hwy, o'i ran ef, fod yn hollol ddall y tuallan i'r "Spelling Book,"y Four Rules," y Catechism," Tonau o ansawdd "The British Grenadiers," a'r "Roast Beef of Old England," ac, wrth gwrs, dognau mân, anodd eu treulio, o'i hoff fardd Shakespeare.

Dyma'r gŵr a arhosodd yn ei dŷ ddwyawr ar noson "dal y brithyll mawr" gan ddisgwyl am Ddaff Owen i ddod yn ôl ei orchymyn. A chan na ddaeth hwnnw yn ddiymdroi, a bod mater neilltuol yn galw am ei bresenoldeb yntau yn y Farmers am saith, torrodd ar ei arfer o beidio â mynd i dŷ neb pwy bynnag o'r plwyfolion, oddieithr ryw ychydig, ac aeth i fwthyn Sioned Owen i chwilio am ei mab.

Y gwir oedd bod cyllid yr ysgol wedi dechreu dangos gwendid yn ddiweddar, ac allan o ymgom rhwng y ficer a'r ysgolfeistr trefnwyd bod "cyngerdd ysgol" i'w gynnal ar fyrder at y diben daionus o leihau'r ddyled.

Bu amgylchiadau o'r fath y flwyddyn flaenorol, a chyngerdd hynod o lwyddiannus a barodd esmwythhau'r baich yr amser hwnnw. Dyna'r pryd yr adroddwyd. "Huber! and Arthur" gyda chymeradwyaeth mawr, ac eleni yr oedd Brutus and Cassius" i gymryd y llwyfan gyda bwriad tebig.

Arfaethai y mei siarad am y peth yn yr ysgol. y prynhawn hwnnw, ond diangodd o'i gof yn llwyr. Felly heb golli amser yn rhagor, (gan y cymerai y dysgu a'r caboli gryn drafferth), a bod noson y gyngerdd. wedi ei phenodi eisoes, aeth i dŷ Sioned Owen ar ei neges arbennig.

"Good evening, Mrs. Owen! Where is Daff?"

"Yiss! Yiss! Come in, Mr. Foster!" ebe honno yn ei chyffro o gael y fath ymwelydd parchus wrth ei drws. Gwenodd y gŵr mawr, a cheisiodd ymddarostwng i safle'r wraig wylaidd a safai o'i flaen.

"Ma' fel hyn, Mrs. Owen. David chi, David Owen. Brutus David Owen also. Fi moyn David chi bod Brutus concert nesa' a son treasurer ysgol bod Cassius. Chi gweld? Ma' hynny, chi gweld, pert, Mrs. Owen."

Nid oedd Sioned yn gweld y peth o gwbl heb sôn am "weld pert," ac felly arhosodd hi yn fud gan ddisgwyl esboniad pellach. Ond ni ddaeth hwnnw, a throdd y meistr ymaith gan ddywedyd, "Fi gweld David 'fory. Good night, Mrs. Owen!"

Eisteddodd Sioned wrth ochr ei thân gan geisio dyfalu beth oedd ym meddwl Sergeant Foster, a mwy am na ddeuthai ei mab adref o'r ysgol mewn pryd y prynhawn hafaidd hwnnw.

III. BRUTUS O LYWEL

YMHEN chwarter awr ymhellach clywodd y weddw glwyd y cwrt bach o flaen y tŷ yn agor yn chwyrn, a gwaedd lawen yn canlyn,—

"Mam ! Mam ! Dyma fe, mam! Y brithyll goreu yn yr afon! Ac i chi mae e' i gyd! Fe ddwedes i wrth Glyn fod eich pen blwydd chi fory, ac mae e'n folon i chi ei gael. Glyn gwelodd e' gynta' yn y dŵr llonydd o dan Ynys yr Allt, ond iefa, Glyn?"

"Ie," medde hwnnw, "a dyna drafferth gawsom ni i'w ddal e', Mrs. Owen. Ond, rwy'n falch bod eich pen blwydd 'fory. Fe dda'th mewn pryd i'r dim, on'd do fe?"

"Na, nid yfory, fechgyn—wythnos i yfory ddwedes i, Dafydd. Ond diolch i chi'ch dau yr un peth yn union."

Ni alwai Mrs. Owen "Daff " ar ei mab byth, er y gwnâi pawb arall hynny.

"Dafydd! Pwy ych chi'n feddwl sydd wedi bod yma'n gofyn amdanoch chi !? Mr. Foster, y meistr!"

"Beth wy' i wedi 'i wneud 'nawr? Oedd e'n gâs, mam?"

"Nag oedd o gwbwl. Ond mater arian oedd ganddo, 'rwy'n siwr, achos yr oedd yn sôn am ryw Cash, neu Cashes heblaw Brutus o Lywel."

"Brutus o Lywel! 'Roedd hwnnw wedi marw cyn 'y ngeni i, mam!"

Oedd, machgen i, ond yr oedd dy dad yn ei gofio'n dda.

Wn i yn y byd yn wir beth oedd ym meddwl Mr. Foster, ond 'roedd yn serchog ryfeddol, beth bynnag, ac yn dweud y gwelai di 'fory am y peth. Trueni mai un fraich sydd ganddo!"

"Trueni'n wir! Glyw di, Glyn? Pe baech chi, mam, ond teimlo pwysau honno ambell waith, chi 'wedech ei bod yn un yn ormod. On' wnelai hi, Glyn?"

"Nawr, fechgyn, peidiwch â siarad fel'na. Colled fawr yw colli braich, yn enwedig i ddyn mor ffein â'r Sergeant. Arhoswch i gael tamed o fwyd gyda Dafydd, Glyn Rhaid eich bod ymron starfo, y ddau hwlcyn difeddwl!" (Hyn gyda gwên.)

"Na, dim thenciw, Mrs. Owen, rwy'n ddigon diweddar yn mynd adre fel y mae hi heb aros dim ymhellach. Rhaid i fi fynd."

Ac ymaith ag ef.

"Mam!" ebe Daff eilwaith ar ôl mynd o Lyndŵr allan, "Dwedwch wrtho i pwy oedd y Brutus o Lywel yma rych chi'n sôn amdano?"

"Wel, machgen i, weles i yrioed mohono, ond yr oedd gan dy dad olwg fawr arno, achos eglwyswr oedd e', ac eglwyswr oedd Brutus hefyd. Mae'n debig bod Brutus wedi bod yn rhywbeth arall cyn bod yn eglwyswr, ac yr oedd iddo lawer o elynion am iddo newid. Ond yr oedd barn uchel gan dy dad amdano drwy y cwbwl. Yn wir, 'rwy'n credu ei fod yn falch dy fod ti yn Ddafydd Owen hefyd fel Brutus ei hun, er mai ar ôl Dafydd 'y mrawd i y cest di dy enw.

A chofia hyn, Dafydd—dyn da oedd dy dad. Mae'n wir ei fod yn llawer hynach na mi, ac wedi bod yn briod cyn i mi erioed ei gyfarfod, ond mi 'roedd e'n barchus iawn ohono i yn wastad, a chofia, ni all gwraig weddw dlawd byth anghofio hynny, na—ddim byth! Ac mi 'roedd dy frawd hynaf yr un peth hefyd er mai llysfam o'wn i iddo fe."

Teimlai Sioned Owen ei bod yn ddyletswydd arbennig arni i siarad fel hyn am ei gŵr wrth ei hunig fab ei hun, am y rheswm nad oedd ef erioed wedi gweld ei dad, a chael ei ymgeledd. Gwraig dawel ofalus oedd hi, a'i holl fyd yn troi o gylch yr amddifad a adawyd iddi.

"Ei hunig wastraff," ys dywedai hi, "oedd prynu ambell faled," ffurf o wastraff nad oedd yn cwtogi llawer ar ei henillion prin, ond a roisai iddi fyd o gysur.

"A oedd Brutus yn sgrifennu petha', mam?"

"Oedd, machgen i, fe ysgrifennodd lawer, a phethau da oedden' nhw hefyd. Fe glywes dy dad yn dwedyd hynny lawer gwaith.'

"Ai fe 'sgrifennodd y Bachgen Main,' mam?

"Diar mi! Nage, am wn i, pam 'rwyt ti'n gofyn?"

"Na'r 'Ferch o Blwyf Penderyn'?"

"Nage! Mae honno'n hen iawn, w'ost di."

"Na 'Ffarwel i Langyfelach'?"

"Nage! rhyw sowldiwr wnaeth honno, medden nhw."

"Nag Anfon Lythyr, Deio Bach'?"

Nage'n siwr ! Ond aros di funud i mi gael chwilio am y gân ei hun. Dyma hi—Gan John Jones, Llangollen,—a chân iawn yw hi hefyd. 'Rwy'n crio bob tro y darllena i hi. Clyw fel y mae'n dweud !

Megais fachgen hoff ac annwyl
Ar fy mron mewn trafferth mawr,
Deio, ti yw'r bachgen hwnnw
Nas gwn ymhle yr wyt yn awr.
Maith yw'r amser er y'th welais,
Machgen annwyl, wyt ti'n iach, ?
Os nad elli ddyfod trosodd,
Anfon lythyr, Deio Bach!

Caled yw fy nhamaid bara,
Ie, caled iawn a phrin,
Tra mae 'mhlentyn, mi obeithiaf,
Gyda'i fara gwenith gwyn,
Pan f'och di, fy annwyl blentyn.
Wrth dy ford heb nych na nam,
Os nad yw yn ormod gofyn,
Cofia damaid gwael dy fam.'


Wn i yn y byd a fydd fy Neio Bach i yn anghofio 'i fam fel y llanc diofal hwn?"

"Na! ddim byth, mam! Wedi i fi ddechre gweitho rhaid i chi ddod i gadw tŷ i fi—tŷ gwell na hwn—ac yna fe fyddwn gyda'n gilydd am byth bythoedd."

Daeth tawelwch rhyngddynt am ennyd, yna trodd y fam at ei bachgen a'i gusanu yn annwyl.

"Ond pam rwyt ti'n gofyn cymaint am Brutus heno, machgen i?

"Fel hyn, mam—os oedd nhad yn adnabod Brutus yn dda, fe ddylwn innau wybod rhywbeth amdano hefyd. 'Dwy' i ddim am ddangos i mishtir 'fory nad wy'n gwybod dim am y dyn mawr 'roedd nhad yn ei nabod. Dyna i gyd. Ydych chi'n siwr, mam, nad oedd e'n gâs am i mi beidio â'i weld heno?"

"Eitha' siwr, Dafydd, achos 'r oedd yn serchus iawn, iawn. Ond rhag ofn mod i wedi camsynied, rho'r brithyll iddo'r peth cynta' bore 'fory. Dwed wrth Glyndŵr am hynny, ac fe gaf finnau frithyll arall cyn dydd 'y mhen blwydd. Y mae wythnos gyfan eto cyn hynny w'ost."

"Alright, mam! fe ddala i un mawr arall cyn hynny, ac 'rwy'n siwr y bydd Glyn yn eitha' belon hefyd. Trwmp iawn yw e' fel chithe, mam."

Gwenodd Sioned Owen yn foddhaus ar ei chymeriad yng ngolwg y plant, ac aeth allan i'w gardd gyda chalon ysgafnach nag a brofodd ers tro.

IV. BRUTUS O RUFAIN

CODODD Daff yn gynnar fore trannoeth ac aeth i chwilio am ei gyfaill cyn amser ysgol er mwyn adrodd wrtho am y newid cynllun ynglŷn â'r brithyll.

"Eitha' da," ebe hwnnw, 'falla' y cofiff 'r hen walch am hynny pan fo' inna mewn trafferth nesa'. Gad i ni'n dou fynd ato."

"Ie'n wir, dere mlân, cyn bod y plant eraill yn ein gweld yn mynd i'r tŷ. Ond paid à dwêd dim am ben blwydd mam wrtho, nei di? Fydd e ddim yn edrych yn bropor iawn iddo wybod mai ail gynnig a gafodd e'."

Hynny a wnaed, a bu'r anrheg yn llwyddiant mawr.

Daeth y mishtir ei hun at y drws, ac ebe fe, gan edrych i'r fasged, "Marry, what have we here? Odd's fish! tis fish, indeed!"

Yna aeth y dyn mawr yn ôl i'w dŷ gan ddwyn ei frithyll ag uchel floedd, a throdd y ddau ddisgybl yn eu holau hwythau at ddrws yr ysgol.

Yr oedd popeth yn iawn yn y gwersi y bore hwnnw. Disgleiriai yr haul y tu mewn a'r tu allan, a mwy nag un pechadur, y maddeuwyd ei drosedd am y tro, a

geisiodd ddyfalu am y tangnefedd dieithr a hyfryd a redai drwy'r lle.

Tua chanol gwaith y bore galwodd y meistr Ddaff ato.

"Nawr amdani, beth bynnag yw!" ebe'r llanc wrtho'i hun.

"Daff, you have heard of Rome, I dare say. She of the seven hills, you know.

"Yes, sir!" eb yntau heb roi ond hanner y gwir, a gobeithio'r goreu am y saith bryn.

"Perhaps you have also heard of Brutus, Daff?"

"Yes, sir, quite a lot."

Yr oedd ar fedr dwedyd ymhellach mai Dafydd Owen, fel yntau, oedd y dyn enwog hwnnw, ond rhwystrwyd ef gan y meistr yn taro i mewn gyda "That's right, you are the very boy for the part. Tom Morgan! Come here! You recite sometimes I think, Tom?"

"Yes, sir! I recited Y Salm Fawr Sunday 'fore last, sir."

"Alright! I'll forgive you that, but I want you to act with David here in the immortal Scene of Brutus and Cassius at our next concert. So we might as well begin at once. Come into the lobby with me and you shall repeat the lines to my pattern so as to get your pronunciation right at the first time of asking."

Ac yno, allan yn y cyntedd, y bu'r ddau Gymro bach yn ceisio yngan ar ôl eu meistr y geiriau na wyddent ond y peth nesaf i ddim o'u hystyr. Yr oedd yr athro yn pwysleisio mai llinell bwysicaf Daff oedd, you yourself are much condemn'd to have an itching palm," ac y byddai yn ofynnol iddo ei thaflu allan yn llawn sen at ei gydymaith, pan ddaeth i mewn atynt i'r cyntedd y Ficer Harrison, arglwydd y lle.

Ar y funud dechreuodd hwnnw siarad am y cyngerdd, ac yn enwedig am y ddadl rhwng Brutus a Cassius, a'r plant a drefnasid i'w hadrodd. Boddhaus iawn ydoedd o weld yr ysgolfeistr mor eiddgar yn ymdaflu'n gynnar i'r gwaith, oblegid ofn oedd arno mai rhy brin fyddai yr amser i wneuthur cyfiawnder â hi.

"We shall be ready in good time," ebe'r gwron hwnnw, "And if need were we could by diligence make assurance doubly sure," eb ef ymhellach.

Yna aethpwyd i siarad am bethau eraill, ac yn neilltuol am y crwt difoes hwnnw o waelod y pentre a anghofiai godi ei gap o gwrdd â chyfnither gwraig y ficer ar yr heol. "Glyndwr Jones again, I am sure,' ebe'r sgwlin,"— the wild and irregular Glendower. I'll teach him better soon, I'll warrant, Vicar."

"Good morning, Foster."

"Good morning, Vicar."

Ganol dydd rhedodd Daff adref at ei fam, a chyn cael ei anadl ymron, dywedodd.-"Nid Brutus o Lywel oedd e wedi'r cwbl, mam."

"O ble oedd e, ynte? chlywais i erioed am yr un Brutus arall."

"O Rome, mam, lle hynod iawn, ymhell bell oddiyma."

"Beth oedd yn hynod amdano?

"Yr oedd saith mynydd ynghanol y lle, ac rwy'n credu eu bod nhw i gyd yn llawn tân hefyd, mam!"

"Ie'n wir, hynod iawn, os felly."

'Rwy' i a Tom Morgan i fod i ddadleu yn ei gylch yn y concert nesa', ac 'rwy' i i fod yn gas iawn wrth Tom drwy y darn. Beth yw 'nitsh in pâm,' mam ? "

"Wn i ddim, machgen i, ond nid yw'n swnio'n neis iawn."

"Na! ych chi'n gweld, 'dwy i ddim i fod yn neis o gwbwl."

"Gallwn feddwl hynny, ond gwell i ti ofyn i Shams y Gof am y 'nitsh in pâm' yna, i ti gael gwybod yn exact amdano."

"Beth yw Tom i fod?"

"Cassius!"

"Cash-us! Dyna fe, a'i dad yn drysorydd yr ysgol hefyd! Eitha' da, 'rwy'n deall hwnna'n burion.

Cofia, wrth gwrs, ddysgu popeth mae y Brutus newydd yma yn ei ddywedyd, ond gofala beidio â bod yn rhy gas wrth Cashus, 'blegid 'roedd dy dad di a'i famgu ef yn gefnder a chynither, wyt ti'n gweld?"

Alright, mam. Dyma fi yn mynd i weld Shams 'n awr.

Cyn pen ugain munud yr oedd yn ôl drachefn, ac wedi cydio ohono am ganol ei fam, a oedd yn brysur gyda'i gorchwylion teulu, fe'i gosododd i eistedd yn y gadair freichiau, ac mewn llais awdurdodol fe ddywedodd wrthi," Gwrandewch! Y mae 'pâm' yn eitha' hawdd, sef pâm yn yr ardd,' 'pâm o flodau,'[1] neu 'bâm o genin,' neu rywbeth arall. Nid oedd Shams yn eitha' siwr am y nitsh.' Ond yr oedd, o fewn dim a dim a bod yn siwr hefyd, ebe fe. Planhigyn wherw dros ben oedd hwnnw 'slawer dydd, mae'n debig, ac mor wherw fel nad oedd caniatâd i neb o'r Romans i'w gael yn eu gardd, rhag ofn lladd pobol ag ef. Ac yr oedd Cashus wedi ei dyfu ar y slei. Gewch chi wrando arna' i yn tawlu hynny idd i wyneb e'!"

Felly, wir, rhyfedd iawn! Ond cofia di pwy yw Cashus wedi'r cwbwl!"

"Daeth y noswaith fawr-y ficer yn ei gadair, a'r mishtir yn ei ogoniant. Fe gafodd y "Roast Beef" ei encorio ar y diwedd, a bu bron i ddadl y ddau Rufeiniwr gael ei hencorio yn y canol, gan i Shams y Gof daro allan i guro dwylo pan safodd Daff ar flaenau ei draed, a chan estyn ei fys mewn gwawd deifiol a rinciodd allan, "you yourself are much condemn'd to have an itching palm!"

"Aeth pawb adref wedi eu llwyr foddhau, ys dywedai y "County Times," ac anadlodd y ficer a'i glerc yn rhydd am flwyddyn yn ychwaneg.

V. FFEST Y "FARMERS"

NID llawer diwrnod o dwrw a rhialtwch llawn a gaffai plant Cwmdŵr ar hyd blwyddyn gyfan. Ond yr oedd un, sef diwrnod ffêst y Farmers," pan ddeuai bron pob ffermwr a gweithiwr yn yr ardal at ei gilydd i'r gwesty i ddathlu pen blwydd y gymdeithas ddyngarol a gartrefai yno. Llawer amaethwr, a fuasai gynt. yn byw yn yr ardal, ond yn awr a drigai mewn plwyf neu sir arall, a ddeuai ar ymweliad â'r hen le ar y diwrnod arbennig hwn. A'r un modd llawer gweithiwr, brodor o'r pentref gwledig, ond a oedd erbyn hyn yn ennill ei fywioliaeth yng nglofeydd y Deheudir, a ddeuai hefyd i weld ei berthynasau ar adeg hapus y wledd. Felly rhwng popeth yr oedd diwrnod "ffêst y Farmers" yn ddydd o lawenydd i bobl hynaf Cwmdŵr yn ogystal ag i'r plant. Ond ni hidiai y rhai ieuainc gymaint am wedd ddyngarol y clwb, llyncid eu holl sylw hwy gan y pethau mwy gweladwy—y faner, y regalia, yr orymdaith, y gwisgoedd, ac yn enwedig yr afr wen o Aberhonddu, a flaenorai'r cwbl.

Dechreuid plethu cangau o wahanol goedydd uwch drws a ffenestri'r gwesty ddiwrnodau cyn y dydd mawr, ac erbyn dyfod o'r Sadwrn yr oedd pileri ac ystlysau'r cyntedd wedi eu cuddio â blodau o bob lliw. A chyn canol dydd treiddiai arogl hyfryd y bastai drwy holl rannau agosaf y pentref, fel rhwng y cwbl safai'r pentrefwyr fel pe ar flaenau eu traed yn disgwyl yr amgylchiad mawr oedd unwaith eto wrth y drws.

Felly y bu ar bob Sadwrn cyn y Sulgwyn oddiar cyn cof y neb a oedd yn fyw, ac felly y tybid y byddai hefyd ar yr un Sadwrn yn 1889.

Ond erbyn hyn yr oedd Sergeant Foster, yr ysgolfeistr, wrth yr awenau, ac awgrymid o bryd i'w gilydd, gan fwy nag un aelod, y gwelai Gwmdŵr ychwaneg y tro hwn—rhywbeth mwy teilwng o'r ardal a'r gymdeithas nag a fu erioed cyn hynny. Yr oeddid eisoes wedi penderfynu—gyda mwyafrif bychan, mae'n wir— i'r orymdaith fynd i'r eglwys i wrando pregeth fer gan y ficer cyn dychwelyd mewn rhwysg at y danteithion. Sonnid am bethau eraill hefyd, ond nid oedd cymaint sicrwydd am y rheini, er bod y Sergeant yn brysur anarferol, ac yn galw yn y Farmers ddengwaith yn y dydd.

Dyma'r prynhawn wedi dod o'r diwedd. Yr oedd y tywydd yn braf a'r ymwelwyr o bell yn dechreu ymdyrru i'r lle, ac yn galw mewn ambell ddrws i ofyn hynt hen gyfeillion bore oes.

Am ddau o'r gloch gelwid y Roll, a rhaid oedd i bob aelod dalu ei ôl-ddyled erbyn y pryd hwnnw. Wedi dibennu galw'r enwau dechreuwyd yr arwisgo, a llawer ffermwr mewn brethyn gwlad a fu ymron methu'i adnabod ei hun o dan liwiau disglair yr arwisgoedd newydd.

Ond o'r holl rai rhwysgus i gyd, y pennaf oedd yr ysgrifennydd, h.y., ein hen gyfaill y Sergeant. Nid yn unig yr oedd ei sgarff yn fwy lliwus, ond yr oedd hefyd fwy o sêr arni, a thu ôl iddi yr oedd pedwar medal yn hongian wrth rubannau o wahanol liwiau ar ei fron i hawlio iddo y lle amlycaf.

Cyn bod yr arwisgo ar ben, clybuwyd sŵn cras a thabyrddu egniol o gyfeiriad Trecastell. "Brass Band! byth na chyffro i!" ebe Shams y Gof. "Dyma hi o'r diwedd!"

Nid oedd clyw Shams wedi ei dwyllo, oblegid seindorf bres yn wir oedd yno yn agoshau i'r pentref, a'r seiniau yn dod yn fwy eglur bob cam y deuai. Gwenai y Sergeant gyda boddhad i'w ryfeddu, oblegid golygai y sŵn fod y Milwriad yn Aberhonddu wedi mynd allan o'i ffordd i barchu ei hen Sergeant trwy dorri ei reol i beidio gadael seindorf y gatrawd fynychu gwleddoedd o'r fath. Nid oedd yr ysgolfeistr yn sicr cyn hyn y deuai y seindorf o gwbl, felly bu yn ddigon doeth i fod yn dawel ar y pwnc. Ond bellach, yr oedd pob amheuaeth ar ben, ac ambell un o'r ffrindiau mwyaf ei sêl yn curo cefn yr ysgolfeistr, a'r holl westy yn un berw drwyddo.

Yn y pentref yr oedd pawb naill ai y tuallan ar garreg y drws neu ynteu y tu ôl i lenni'r ffenestr yn syllu ar yr afr a'i chyrn goreuredig, a'i chyfrwy amryliw, ac ar y sawdwyr cerddgar yn ei throedio hi i'r ysgwâr o flaen y Farmers.

Cyn pen canu dwsin o nodau yr oedd pob crwt a oedd o fewn hanner milltir i'r lle, naill ai eisoes yn yr ymyl neu yn ei rhedeg hi rhag colli'r sbri. Yn eu plith yr oedd Daff, Wil mab y Gwehydd, Glyn, Twm Ddwl (lloeryn y pentref), a rhyw ddeugain eraill yn troedio gam a cham â'r cerddorion newydd hyn a oedd yn deffro holl adseiniau'r cwm â'u miwsig byddarol.

Wedi ei marchio hi yn y blaen am ryw gymaint, trowyd i lawr o'r brif heol i'r ysgwâr, ac wedi ffurfio ohonynt gylch o flaen y tŷ, a chanu ychydig yn rhagor, diweddwyd yn sydyn ar chwibaniad mishtir y band!

Ar hyn daeth y Sergeant a dau arall allan o'r tŷ yn dwyn bob un ei lestr yn llawn o gwrw. Wedi hynny dygwyd allan nifer o wydrau gan ferch y tŷ, ac â'r rhain estynnwyd i'r cerddorion dieithr foddion i dorri eu syched.

A hwy wrth y gwaith hwn, mawr oedd yr edmygu ar yr offer, a'r cerddorion eu hunain, gan blant y pentref, rhai wedi eu swyno gan y dillad "coch a melyn,' eraill gan y trombone (sef yr offeryn a estynnai yn ôl a blaen ac a oedd un foment yn ddwylath o hyd, a phryd arall lai na hanner hynny), ond y rhan fwyaf, ac yn eu plith Twm Ddwl, Daff, a Glyn, gan y ddrwm fawr a oedd mor bwysig i'r holl fiwsig.

VI. "TWM DDWL"

OND dacw'r orymdaith yn cychwyn. Yr afr ymlaen y llu a milwr yn ei harwain; wedi hynny y seindorf yn llanw r heol gyda'i drum-major â'i ffon ryfeddol un cam o'u blaen, a gŵr y ddrwm fawr gam o'u hôl. Yna y ficer, a'r 'sgweier, yr amaethwyr, y gof a'r saer gwlad, a gweithwyr eraill yn cerdded yn ddeuoedd ac yn cael eu rhagod yn ofalus gan y Sergeant, a'i ffon hirfain, swyddogol-a'r cynhulliad oll yn bwysig a rhwysgus i'w ryfeddu.

Ni welwyd erioed orymdaith o'r fath yng Nghwmdŵr, a chan fod gwŷr a chariadon y rhan fwyaf o'r rhyw deg yn ei ffurfio, poblogaidd ydoedd gan bawb.

Ond nid gan neb yn fwy felly na'r plant. Cydgerddent â hi bob cam o'r ffordd, a phan drodd gwŷr y seindorf at yr eglwys wedi dibennu ohonynt y canu a thynnu eu hofferynnau i lawr i'w hochrau er myned i mewn i'r adeilad, braidd na byddai i'r plant eu dilyn yno hefyd. Ond wrth y drws safai'r Sergeant, ac nid oedd yr un cleddyf tanllyd a'u hataliai'n well na phresenoldeb y gŵr hwn. Ond gan fod ei angen ef yn y gangell ar fyrder ynglŷn â chanu'r gwasanaeth, fe amneidiodd ar Ddaff a Glyn i fynd ato, ac wedi eu dyfod fe'u gollyngodd i mewn i'r cyntedd. Eu gorchwyl hwy yno oedd gwarchod yr offerynnau, a oedd wedi eu gosod i bwyso yn erbyn y wâl, hyd nes y delai'r milwyr allan drachefn.

Mor falch oedd y ddau grwt o'r ymddiriedaeth! Ni chaffai wybedyn ddisgyn ar y pres na'r ddrwm pe gallent hwy ei rwystro.

Ymhen tipyn gwthiodd Twm Ddwl ei ben i mewn trwy'r drws, ac o weld mai y ddau hogyn yn unig a oedd yno, gwthiodd ei gorff i mewn hefyd, a chan ymlwybro'n gynnil, croesodd y cyntedd tuag at y ddrwm gyda'r bwriad o'i thabyrddu yno, heb ystyried am y gwasanaeth, na'r ficer, na'r ysgwlyn nac arall. Ac onibai i'r ddau lanc ymdaflu yn ei erbyn â'u holl egni buasai wedi llwyddo hefyd, oblegid yr oedd yn hŷn na'r un ohonynt, ac yn gono lled gryf gyda llaw.

Ymhen ychydig diweddwyd y gwasanaeth byr, daeth y bobl allan, ac ail-ffurfiwyd yr orymdaith gyda'u hwynebau yn ôl tuag at y Farmers i fwynhau y wledd ddarpar oedd yn eu haros. Wedi cyrraedd y gwesty yr ail waith dodwyd yr offerynnau mewn gody bychan wrth gefn y tŷ, a mawr oedd balchter y ddau lanc o gael eu galw unwaith eto i ofalu am y pethau gwerthfawr tra bwytâi eu perchenogion wrth y ford fawr yn ystafell hir y llofft.

Ni ddigwyddodd dim am ryw ugain munud, ond pan oedd yr amser yn dechreu mynd yn hir ac undonog, wele Dwm Ddwl yn curo ar wydr y ffenestr ac yn dywedyd wrth Ddaff mewn osgo lled wyllt,—"Mam moyn di!"

Ar hyn caeodd yr hogiau ddrws y gody ar eu holau, ac aeth Glyn gyda Daff i fyny i'r tŷ i weld beth yr oedd Mrs. Owen yn ei ymofyn. Erbyn cyrraedd ohonynt yno cawsant y drws yng nghlo arwydd a brofai fod y fam allan, ac a brofai hefyd mai celwydd a scil Twm yn unig oedd yr alwad wrth y ffenestr.

Wrth dynnu yn ôl tua'r Farmers drachefn, cydiodd Glyn ym mraich Daff yn sydyn gan ddywedyd,— "Ust! Clyw! Dyna'r ddrwm fawr, 'rwy'n siwr!

Rhedasant ill dau ar hyn, ac o ddyfod gyferbyn â'r siop gwelent yn y pellter haid o hogiau, ac yn eu canol rywun yn cario'r ddrwm fawr ac yn ei churo yn egnïol iawn.

Rhedasant yn gynt ar hyn, a buan yr adnabuant nad neb llai na Thwm Ddwl oedd yr un a gynyrchai'r sŵn.

Ymhen ychydig daliasant ef ac yntau erbyn hyn yng nghwr pellaf y pentref, sef gyferbyn â chroesheol gul y Dyffryn. Pan welodd ef hwy yn ei ymlid taflodd y lloeryn celwyddog y ddrwm oddiwrtho, ac i lawr i'r lôn yr aeth honno gan ymrolio i gyfeiriad yr afon.

Rhedodd Glyn ar ôl y tabwrdd mawr, ond arhosodd

Daff ar ben y lôn i fygwth Twm. Ni wnâi hwnnw

ond chwerthin a churo drwm ddychmygol ar ei ffordd yn ôl ac yngan, Bwm! Bwm! Bwm!"

A Daff yn disgwyl Glyn i ddychwelyd o'r lôn gan adfer y ddrwm, pwy ddaeth i lawr y brif heol yn frysiog iawn ond Smart, y plisman. Pan ddaeth i'w ymyl credodd Daff y byddai i lid y swyddog ei grino yn y man, oblegid rhuai efe,—"Owen, where is that drum? It was in your charge. Answer me this instant!"

Ceisiodd yr hogyn ffeindio ei dafod i esbonio beth a ddigwyddasai, ond cymaint oedd cynddaredd y plisman ac ofn y llanc fel na allai'r olaf ond pwyntio i lawr y lôn (lle'r oedd gwartheg y Dyffryn ar y pryd yn ei chroesi i fynd o un maes i un arall), a dywedyd yn grynedig, "Down there, sir."

Aeth y swyddog ar hyn i gyfeiriad yr afon, ac ymhen ysbaid gwelodd y llanc ef yn dychwelyd gan ddwyn y ddrwm gydag ef. Balch iawn oedd Daff o weld yr offeryn unwaith eto, a chredai yn ei ddiniweidrwydd fod yr helynt ar ben. Ond yn lle hynny dim ond dechreu yr oedd, oblegid yr oedd y ddrwm yn lleidiog drosti, a gwaeth fyth, yr oedd rhwyg mawr yn ei memrwn ar y ddau tu.

Wedi cyrraedd y brif heol unwaith yn rhagor, gafaelodd y swyddog yn chwyrn ym mraich Daff, a chafodd y crwt a oedd mor uchel ei ysbryd awr yn ôl, y profiad chwerw o gael ei dywys yn llaw'r polis yn ôl i'r Farmers drwy ganol y dorf fwyaf a welodd Cwmdŵr erioed.

Ceisiai ddywedyd rhywbeth am ei gydymaith Glyn, ac yr esboniai hwnnw glwyf y tabwrdd, ond fferrai ei waed o glywed mewn atebiad,—" Glyndŵr. indeed! That's all very well! Come along, youngster! You have done it at last!"

Llusgwyd ef i mewn i'r Farmers, lle yr oedd y ficer, yr ysgolfeistr, a "mishtir y band" yn edrych yn sobr iawn uwchben yr offeryn clwyfedig, a'r llanc, druan, yn eu hymyl yn crynu ac yn wyneblasu heb allu i ddim ond i ocheneidio a chrio.

Daeth ei fam o rywle wedi clywed am y trychineb, a chymerth ei mab gyda hi i'w thŷ, â golwg drist iawn ar ei gwedd. Ac nid oedd ei thristwch yn llai o glywed, ar ei myned allan o wyddfod y gwŷr, y swyddog calon-galed yn dywedyd wrthi, "You make him own up, missus! I shall be up there shortly myself!"

Ar yr aelwyd adroddwyd yr hanes gan Ddaff yn union fel y bu, ac ymlonnodd y fam rywfaint ar hyn. Ond crynai Daff wrth bob sŵn troed a âi heibio, a'r lleiaf a ddisgwyliai oedd ei draddodi i garchar Aberhonddu, a'i gosbi yno am drosedd Twm Ddwl. Mae'n wir i'r heddgeidwad alw yn yr hwyr brynhawn, ac iddo dynnu allan ei lyfr a gwlychu blaen ei bensil rhwng ei wefusau yn swyddogol iawn. Ond yr oedd wedi dofi llawer erbyn hyn, ac ym mhresenoldeb Mrs. Owen holai'r llanc yn garedig ddigon. Rhoes hwnnw'r manylion unwaith eto, ac wedi awgrymu ymhellach y dychwelai ar ôl clywed ystori Glyndŵr Jones, aeth y swyddog allan. Cododd hyn galon Daff eto'n fwy, oblegid gwyddai y byddai i'w gyfaill adrodd yr un ystori ag a wnaeth yntau.

VII. COLLI A CHAEL

ER syndod i bawb nid oedd Glyn, hwyr noson y Ffêst, ar gael yn unlle, er chwilio amdano ymhob cwrr o'r pentref hyd ganol nos.

Trannoeth, ac ef eto heb ddod adref, cododd yr holl ardal i chwilio amdano, ac ymwelwyd â'r celloedd mwyaf unig yn y creigiau a'r coedwigoedd am filltiroedd oddiamgylch dan y dybiaeth y gallai fod yn ymguddio ynddynt.

Bore Llun a ddaeth, a Glyn eto heb ei gael. Ychydig a ddaeth i'r ysgol o gwbl y bore hwnnw, ac wedi holi pawb yn fanwl, barnodd y ficer a'r ysgolfeistr mai gwell oedd i'r plant hynaf uno gyda'r ardalwyr yn y chwilio, ac i'r rhai lleiaf fynd adref.

Hynny a fu, ac yr oeddynt ar fedr gwneuthur yr un peth fore dydd Mawrth drachefn, gan mai yn ofer y chwiliwyd drwy gydol dydd Llun, pan estynnwyd ilythyr i dad y llanc fod ei fab ar y pryd gyda'i frawd ym Merthyr yn fyw ac yn iach fel arfer. Y gwir oedd i Lyndŵr, o weled galanastra'r ddrwm, fod yn rhy lwfr i wynebu'r plisman; ac felly, cilio a wnaeth drwy Flaen-y-Glyn, ac i lawr drwy Gwmtâf at ei frawd, a letyai ar y pryd ym Mhenrhewlgerrig, ac a weithiai ym Merthyr fel glowr.

Ymhen dwy neu dair blynedd ar ôl hyn, cyfarfu Daff yn ddamweiniol â Glyn yn stesion Pontypridd, a phan yn aros ei drên yn y man hwnnw, adroddodd yr olaf, gydag asbri mawr, am y modd y bu arno ar ddiwrnod rhyfedd ffêst y Farmers gynt.

"Fachgen!" ebe fe, "ti wyddot i mi, ar ôl i Dwm Ddwl rolio'r ddrwm i lawr i'r lôn, redeg ar ei hol. Y funud honno yr oedd gwartheg y Dyffryn yn croesi'r heol i fynd o un cae i'r llall, a chrash! dyna brif ornament y band yn erbyn ochr yr hen fuwch goch fwyaf, gan yrru ofn enbyd ar yr hen greadur, oblegid 'doedd hi erioed wedi bod mewn brass band, wyddost. Dechreuais innau 'werthin dipyn bach, wrth weld yr hen gochen yn ei phrancio hi, ond diaist i! y foment nesaf gosododd yr hen fileines ei throed ynddi, ac fe wyddwn wrth y sŵn fod yr hen big drum out of action. A'r un funud fe wyddwn fod 'y nhroed innau ynddi hefyd, yn waeth na'r hen fuwch, pe delai rhywun i wybod!

"Fachgen! dyna lle roedd fix! To be, or not to be!' ys dywedai yr hen Sergeant 's lawer dydd. Ped elwn i â'r hen ddrwm yn ôl yn fy mreichiau, chredsa' neb fi mai yr hen fuwch a wnaeth y damage, ac, wrth gwrs, y fi a gawsai'r bai. Ar y llaw arall, pe gadawswn hi yno, a chilio, sign of guilty conscience a fyddai hynny hefyd. A phan yn pendroni beth a wnawn i, ces gipolwg ar yr hen Smart yn siarad â thi ar ben yr hewl, a wel, 'rown i mor smart ag yntau am unwaith. 'Roedd ei weld yn ddigon, fe setlodd hynny'r fix ar unwaith. Fe redais, gan blygu gyda bôn y berth am beth ffordd, ac wedi mynd ddigon pell fe godais yn f'union, a mynd adre, fel mae'r Beibl yn dweud, ar hyd ffordd arall.'

"Cuddiais yn yr ardd am awr neu ddwy, ond pan welais y plisman yn mynd i'n tŷ ni, credais mai nghrogi a gawswn, man lleia', ac i ffwrdd â fi, fel ag yr oeddwn, at Shoni 'mrawd i Ferthyr. A dyna'r lle 'rwy' eto, yn ennill dwy bunt yr wythnos ac yn half-back i'r Cyfarthfa Crusaders hefyd, diolch i'r hen fuwch! Ha! Ha! Daff! Rho dy law!

VIII. YR ANFFAWD FAWR

NI phrofodd Daff erioed yn ei fywyd amser mwy adfydus na'r dyddiau y bu Glyn ar goll. Er y chwilio i gyd, credai yn ei galon (er na ddywedodd hynny wrth neb, naddo, hyd yn oed wrth ei fam) mai yng ngwaelod Llyn y Tro Mawr oedd gerllaw lôn y Dyffryn y ceffid corff ei gyfaill. A phan ddaeth y llythyr o Ferthyr i ddywedyd bod Glyn yn ddiogel yno, nid oedd neb yn fwy balch na'r hwn a oedd yn gyfrannog ag ef yng ngofal y ddrwm.

Ac er na feddyliodd Daff ddim am hynny ar y pryd, rhoddodd encil Glyn liw gwell ar drosedd y cyfaill a ddaliodd ei dir. Ac yr oedd digon o'r pentrefwyr wedi gweld Twm Ddwl yn ei thabyrddu hi i lawr dros yr heol brynhawn y Sadwrn hwnnw, ac yn cofio mai ef oedd gyfrifol, os cyfrifol hefyd, am yr holl helbul.

Un peth a darawodd Daff yn fawr y dyddiau hynny oedd tynerwch ei fam tuag ato. Un o anian addfwyn oedd Sioned Owen yn naturiol, ond pan welodd hi y trybini yr aethai ei mab yn ddifai iddo, torrodd ei theimlad mam allan yn ddengwaith cryfach, a pharodd i Ddaff ei hanwylo yn fwy nag erioed.

Ymhen blynyddoedd lawer ar ôl hyn, a hi bellach wedi marw ers amser, cofiai Daff, ynghanol siom a chaledi gwlad estron, yn fynych am y dyddiau hyn, a pharai'r atgof amdanynt iddo golli llawer deigryn am ei fam hoff.

Ond ar hyn bryd yr oedd y ddau gyda'i gilydd yn y bwthyn ger yr heol, yn breuddwydio am yr amser hyfryd oedd yn neshau pan fyddai Daff yn gweithio, a'i fam yn "cadw tŷ iddo. Dim rhagor o help gan y plwyf wedi hynny, bid sicr! Byddai ef yn gweithio'n galed, yn talu pawb, ac yn dal ei ben i fyny cystal â neb pwy bynnag. O mor felys a fyddai'r bywyd hwnnw!

Ond er yr holl freuddwydion disglair hyn, digon diflas oedd mynd i'r ysgol heb Lyndŵr, a gwaeth fyth o fod yn gwybod bod hwnnw eisoes yn y lofa, ac yn ennill arian mawr. Ac i lanw cwpan ei gur yn hollol, cyfeiriai yr ysgolfeistr byth a hefyd ar goedd yr holl ysgol at helynt y ddrwm fawr. Ac O! anodd oedd dioddef hyn, a'r plant yn ei boeni a'i sennu yntau yn ôl llaw!

Paham na frysiai'r misoedd iddo gael ymadael â'r lle atgas, a dechreu ar fod yn ddyn? Gwyddys mai dyna hanes pob hogyn pedair-ar-ddeg oed, ond ni wyddai Daff mo hynny, a chredai ei bod yn waeth arno ef nag ar neb o'i gyfoedion.

A druan ohono! Gwaeth eto oedd yn ôl!

A hi yn gynhaeaf gwair prysur anarferol, aeth Sioned Owen yn ôl ei harfer i helpu'r ffermwr cyfagos ar ddiwrnod y cywain. Nid oedd yn teimlo'n dda yn y bore, ond beth am hynny, heddiw neu ddim oedd eisiau'r help. Ac felly allan yr aeth, gan gymryd ei lle yn y rheng o fenywod a groesai Gae Du'r Allt gan garfanu ynghyd y gwair y ffordd yr elent yn barod i'r wagin a'i cludai i'r ydlan.

Bygythiai'r tywydd dorri, ac felly rhaid oedd dal ati i grynhoi cymaint ag a ellid o'r cynnyrch cyn dyfod o'r glaw. Cludwyd llwyth ar ôl llwyth o'r cnwd sawrus i glydwch, ac awgrymodd rhywun mai da fyddai parhau i gywain a chael y pryd bwyd yn ddiweddarach. Felly y gwnaed, ond cyn pen hanner awr yr oedd Sioned Owen wedi syrthio yn y rheng, a dwy o'i chymydogesau wrth y garfan yn ceisio dal ei phen i fyny.

Rhedodd un arall at y ffermwr a pharodd hwnnw i'w was garlamu i Drecastell am feddyg yn ddioed. Daeth y physygwr cyn gynted ag yr oedd modd, ond erbyn cyrraedd ohono ef y cae gwair yr oedd enaid Sioned Owen wedi hedeg, a Daff, druan, yn hollol amddifad o dad a mam.

IX. CYFAILL MEWN TARO

GADAWYD y gwair a'r wagin lle yr oeddynt, cariwyd gweddillion Sioned gyda dagrau i ystafell barchusaf y ffermdy, a gwnaed popeth a oedd yn weddaidd o dan ergyd mor dost. Dygodd y ffermwr Ddaff i'w dŷ ei hun, a'i amgeleddu yno dros adeg y trengholiad a'r angladd.

Ond pan aeth y llanc gyda Shams y Gof i'r bwthyn yn ymyl yr heol i nôl ei ddillad goreu, O! mor wag y lle! ac mor oer yr aelwyd! Trechwyd Daff gan ei deimladau'n llwyr yno, a chan bwyso 'i ben ar fraich yr hen sgiw, fe wylodd fel pe ar dorri ei galon.

"Der' di, 'machgen i, chei di ddim cam, tra gall Shams y Gof, ta' beth," ebe'r Samaritan hwnnw, a gwyddai Daff fod yr hen gyfaill rhyngddo a'r gwaethaf beth bynnag a ddigwyddai. Peth arall a wnaeth. Shams hefyd, heblaw cysuro'r amddifad, oedd galw gyda phawb yn y pentref (heb wybod i Ddaff), a gofyn help i dalu am arch dderi i'r hen gymydoges; oblegid, ebe fe, 'r oedd Sioned Owen yn rhy dda i'w chladdu gan y plwy'." Y gof hefyd oedd yn cyd-gerdded â Daff wrth ddilyn yr arch i'r gladdfa, ac yn eistedd wrth ei ochr pan yn clywed darllen odidog "bennod y claddu" yn y gwasanaeth. Yn wir, yn nhŷ Shams y treuliodd Daff fwyaf o'i amser ar ôl yr angladd, oblegid, er y gwyddai fod pob drws yn agored iddo, at ei hen gyfaill yr ymwasgai, a chydag ef yr ymgynghorai.

Gwerthwyd y celfi, a thalwyd y mân ddyledion; ac wedi hynny dechreuodd Daff feddwl ei gynlluniau am y dyfodol.

"Paid â bod mewn un brys, 'y machgen i," ebe Shams garedig. "Rwy'n deall dy fod di'n rhydd o'r ysgol bellach; dewis di dy lwybr fel y mynnot, ac yna fe gawn weld p'un fydd y ffordd oreu i ti gynnig ato"

"Wel, fel hyn Shams,—Fe glywais mam yn sôn llawer am yr amser y bu nhad ym Morgannwg yn y gweithie, a'r arian mawr a enillodd e' yno. Ostler oedd e' yng Nghwm Rhondda y pryd hynny o dan yr Ocean,' ac yr oedd e'n rhoi gair da iawn i'r lle. Ma' rhyw 'want arno i ei threio yno, os caf i le. 'Roedd nhad un amser yn 'nafus am i mam fynd yno i fyw, mae'n debig, ond âi hi ddim."

"Eitha' da, Daff, treia hi yn yr Ocean,' ac os na byddi di wrth dy fodd yno, wel, fe wn i am un drws a fydd yn agored i ti wedyn. Ie, a chofia, machgen i, gymaint o olwg oedd gan dy dad ar dy fam, waith fe ddath yn ôl o Gwm Rhondda, er cystal lle oedd hwnnw, am na fynsai hi fynd yno i fyw. Dyn t'luaidd oedd dy dad, Daff.

A chyda llaw ma' gennyf innau gefnder yn Nhonypandy, a phan fyddi di yn mynd i ffwrdd fe ddo i gyda thi cyn belled â hynny, waith mae isha 'i weld e'n fawr arna' i."

"O, diolch yn fawr, Shams, a diolch am bopeth 'rych chi wedi 'i neud drosto i hefyd. 'Roedd mam yn meddwl llawer amdanoch chi, Shams, ac 'rwy'n siwr 'i bod hitha'n diolch hefyd."

"Twt, lol i gyd. 'Netho i ddim mwy na rhywun arall."

"Good luck, Daff!"

Ac aeth y gof gwlad ymaith oddiwrth y llanc mewn ffordd anarferol iawn iddo ef; oblegid wedi mynd gam neu ddau oddiwrtho, cafodd afael ar gadach gwyn o rywle, ac â hwnnw hir-sychodd ei wyneb gan ddiweddu drwy chwythu ei drwyn yn chwyrn i'w ryfeddu.

X. CWM RHONDDA

"WEL, boy bach, wyt ti am 'y ngweld i?"

"Ydw, syr, i ofyn am waith."

"Wel, cera lawr i ben y pwll a gofyn i Tom Roderick, y gaffer, os ôs ganddo fe le i grotyn!"

'Dwy i ddim am fynd lawr i'r pwll, syr."

"Beth wyt ti am gâl bod, 'bycwn i? Surveyor, Manager, neu beth?"

"Run peth ag oedd nhad yma flynydda'n ôl, syr."

"Beth oedd e', 'tyswn i mor ewn a gofyn?"

"Ostler[2] syr, dan yr Ocean."

Derdyshefoni! Crotyn fel ti yn ostler! Bachan! fe fytsa un o'r ceffyla' dy ben di bant y diwrnod cynta'.

Beth oedd enw dv dad?

"William Owen, syr. William Owen, Cwmdŵr, o'dd rhai yn 'i alw."

"Dyr caton pawb! R'own i'n 'i napod yn dda. Bachan gwirion a gwithwr piwr o'dd dy dad."

Dyna oedd yr ymgom rhwng Daff a "dyn mawr" yr Ocean pan ofynnodd y llanc am waith y bore cyntaf. Gwridodd y bachgen mewn boddhad o glywed y deyrnged i'w dad gan y pen-arolygydd, a chredodd iddo weld ton o sirioldeb yn taenu dros wyneb "y dyn mawr " yn y syniad bod mab i hen weithiwr yn gofyn am le ei dad.

Trodd yr hynafgwr ato'n garedig, a dywedodd,— "Ti gei di waith, boy bach, ond 'does dim crots o ostlers i gâl, ti'n gweld. Dynon yn nhw i gyd."

"Diolch i chi, syr, beth ga' i neud?"

Ar hyn pasiwyd y ddau gan wr byr, oddeutu deugain oed, ac ar hwn y galwodd yr arolygydd, "Dai, dere 'ma funad! Yn y lefal wyt ti'n gwitho 'd 'efa?"

"Ia, Mr. Jones!"

"Gad i fi weld! Nid y ti o'dd yn gofyn i Tom am grotyn ddoe?"

Ia, Mr. Jones!"

"Wel, dyma fe i ti, ac os nag wy i'n camsyniad, bachan bach nêt hefyd."

"O, 'wara teg, syr, wir! Rwy' i wedi câl gormod o'r jaci-newydd-ddwads 'ma, otw wir. 'Dyw a'n gwypod dim, fe fentra!"

Paid 'wilia felna, bachan, dyn o dy oetran di!" ebe'r arolygydd drachefn. "Dera lawr i'r hewl gyda fi gam, i fi gâl gair ne' ddou o reswm gyda ti!" Hynny a wnaed, ac ymhen rhyw ddeng munud dyma'r glowr byr yn dychwelyd ac yn dywedyd wrth Ddaff,"—"Nawr, Tom Thumb, dera mlân. Wyt ti'n perthyn i'r boss, gwed?"

'Dwy'i ddim yn perthyn i'r boss, nac i Tom Thumb chwaith, ond fe ddwa i mlân gyda chi, os yw e' (gan gyfeirio at y pen arolygydd) am i fi neud hynny.'

"Alright, boy! Paid cwnnu dy wrych! Fe ewn lan."

I fyny yr aeth y ddau nes dod i agoriad yn y ddaear, tebig i adwy twnnel, gyda ffordd haearn gul ar ei lawr, a rhaffau, ddwy neu dair, yn hongian hyd ochrau'r ffordd oedd yn arwain i'r tywyllwch. Estynnwyd bob o lusern i'r ddau gan rywun yn ymyl, ac aethant ochr yn ochr gan ddilyn y ffordd haearn yn y blaen.

Deallodd Daff ei fod wedi ei anfon i'r lefel oherwydd iddo ddywedyd wrth yr arolygydd nad oedd yn hoffi'r pwll. Fe glywodd hefyd farn yr un gŵr amdano fel bachan bach nêt," a phenderfynodd haeddu'r ganmoliaeth yn llawn.

Cyn dechreu un math ar waith, trodd ei gydymaith ato gan ddywedyd,—"Gad i fi weld, beth yw d'enw di? Rwy'n diall ma' nid Tom Thumb yw a, ta' beth!" Dafydd Owen yw f'enw i, ond gartre 'roen nhw yn 'y ngalw i'n Daff, yn lle Dafydd."

"Enw tip—top sy gen't ti. Dafydd yw'm enw inna hefyd. Dafydd Young, sgylwch chi fod yn dda, ond ma' rhai yn 'y ngalw inna'n Dai Cantwr. Wel, fe allsa' fod yn wath. Dau Ddafydd ynghyd, peth gora'n y byd. Ond nid Dai Cantwr y Beca,' cofia! ac fel rown i'n gweud—fe allsa' fod yn wath. Gallsa' o dipyn, he'd! Ma' bachan yn y talcan nesa' ond un, ma' nhw'n ei alw'n Jim Skittles. Ond gofala di, paid ti galw hynny arno ne' fe fydd yn ddo-bin-ô arnot ti. James Jones yw ei enw right, a ma' fa'n dipyn o friwser, cofia!"

"Wel, yto, o ble wyt ti'n dod?

Cwmdŵr."

"Beth?"

"Cwmdŵr!"

"Fe fasa'n well yn Gwm Whisgi, wyt ti ddim yn meddwl? Ond dyna fe, allet ti ddim help pe tasa fa'n Gwm Pop. Dera mlân i ni gâl dechra! Ma' bwyd gen't ti, sbo?"

Tynnodd y cantwr ei gôt i ffwrdd, ac er syndod i Ddaff, y peth cyntaf a wnaeth oedd curo'r mur glo à hi, fel pe am ladd rhyw gacwnen danddaearol a oedd yno. Beth mae hynyna da?" ebe'r llanc syn.

"Gas!" oedd yr ateb swta. "Weli di'r clust yma?" ebe'r Cantwr drachefn, gan gyfeirio at yr aelod hwnnw a oedd fel pe wedi crino. "Gas, yto, wyt ti'n gweld! Ffluwchan o dân yn Lefal y Swamp, 'slawer dydd yn ôl!"

Deallodd Daff cyn i'r dydd ddarfod fod nwy ambell waith yn crynhoi ar radd fechan yn y lefal fel ag y gwna ar radd fwy peryglus yn y pwll, a bod y ffluwchen dân i'w hofni lle bynnag y bo, fel yr oedd clust crin y Cantwr yn dyst.

Tybiodd Daff fod ei gydymaith yn ei dreio y bore hwnnw, ac nid yn unig yn gweithio'n ddiwyd ei hun, ond yn peri iddo yntau, o dan gyfarwyddyd, i fod yn ddiwyd iawn hefyd. Wedi treulio rhan o'r bore yn y modd hwn, gwaeddodd y Cantwr allan yn sydyn, Spel Whiff!" Ni ddeallai Daff mo'r frawddeg, ac aeth ymlaen a'r gorchwyl mewn llaw.

"Gad hi, boy bach!" ebe fe. Chlywast ti ddim 'Spel Whiff?

A phan welodd Daff ei gydymaith yn paratoi i ysmygu, deallodd mai orig fechan o seibiant oedd y Spel Whiff."

Dwyt ti ddim wedi dechra smoco, sbo? Wel paid! Ond ishta lawr 'run peth!"

Nid hawdd oedd eistedd i lawr serch hynny, o leiaf nid yn ffordd y Cantwr, oblegid gostyngai hwnnw yn ei arrau yn ôl hen arferiad y glowyr, a chaffai orffwystra yn y ffordd honno, heb i'w gorff gyffwrdd â'r llawr na'i ben fwrw yn erbyn y top.

Yn ystod "Spel Whiff" bu ymgom pellach rhwng y ddau, ac yr oedd yn amlwg i'r hogyn ei fod erbyn hyn yn dechreu ennill ffafr ei gydymaith, oblegid siaradai bellach gyda chryn sirioldeb, tra gwahanol i'r hyn a wnâi yn y bore. Siaradai hefyd ambell frawddeg fel pe wrtho ei hun, megis. "Daff Owen,—D.O.=Do. Ia, dyna enw da i goliar da. Gormod o'r Do Nothings sydd yma o lawar." Yna gan droi at y llanc fe'i cyfarchai drachefn ar hanner ymson, "David Young,— D.Y.=Die, ond iefa? Ond cofia di, D.O., mai 'Never say Die! yw'r coliar bach hyn serch hynny."

Yn y modd hwn y treuliwyd y "Spel Whiff" gyntaf hyd nes i'r Cantwr weiddi'n sydyn" Ati eto, D.O.! neu fe fydd y pae yn lled dena y Sadwrn, wel' di. A ma'n rhaid gofalu am hwnnw o flân popath, ne' fydd 'na ddim llawar o siâp ar ddim."

XI. HIRAETH

AETH pethau ymlaen yn hwylus y dyddiau nesaf, y Cantwr yn dechreu mwmian canu wrth ei waith, a Daff yn dysgu rhywbeth newydd bob dydd am dorri glo. Cyn hir teimlai'r llanc ei fod o ryw ddefnydd gwirioneddol bellach, a chafodd yr hyfrydwch o glywed yn ddamweiniol ei bartner yn ei ganmol i'r glowr yn y talcen nesaf atynt.

Pan ddaeth dydd Sadwrn estynnodd D.Y. swllt yn fwy iddo nag y cytunwyd, a balchach oedd y llanc am hynny na dim am mai teyrnged y Cantwr i'w werth ydoedd. Rhoddodd hyn galon newydd ynddo, a dechreuodd weled nad oedd ei ddyfodol mor dywyll ag y tybiasai beth amser yn ôl.

Pan yn ymadael â'i gilydd brynhawn Sadwrn, a Daff a'i hur yn ei law, trodd y Cantwr ato eilwaith, a gofynnodd yn garedig,—"Ble wyt ti mynd 'fory, D.O?"

"Wel, Baptist own i yn yr hen le, ac 'rwy'n credu yr af i gapel y Baptist yma hefyd. Fe fydd mam yn falch o hynny."

"Ble ma' dy fam, machan i? 'Weta'st ti ddim amdani o'r blân. 'Rown i'n cretu i Mr. Jones 'wed. nag o'dd ddim tad na mam gen't ti."

"Eitha gwir, D.Y. Beth own i'n feddwl mai dyna'r lle y carai mam i fi fynd iddo pe bai hi byw."

"Well done! D.O.! Diain i! 'rwyt ti'n well na fi i hewl! 'Stica di, dyna'r ffordd! A chofia hyn— Baptist wy' inna' he'd pan elo'n bwsh! Ond dyna'r gwaetha,' rhaid cael pwsh lled gryf i'm siort i. Good bye, Butty bach!"

Yr oedd yr holl fyd yn wyn i Ddaff yn awr, a cherddodd i'w lety fel un oedd yn berffaith feistr ar ei ffawd.

Bore Sul a ddaeth—y Saboth cyntaf i'r hogyn fod y tu allan i Gwmdŵr erioed. Dyna'r rheswm efallai iddo fod yn fwy hiraethus am yr hen le y dydd hwn nag y bu drwy'r wythnos yn gyfan.

Pan gyda'i fam gartref, arferai hi ei alw ef i godi ar foreau Saboth mewn amser da iddo fynd i'r capel yn brydlon, ond, rywfodd neu'i gilydd (efallai am mai hynny oedd arfer ei thŷ), anghofiodd ei letywraig alw'r "coliar bach" (fel y galwai hi ef) cyn deg, ac felly, rhy hwyr ydoedd i fynd i gapel y bore hwn. Ond er mai yng nghegin ei lety yr oedd Daff, hedai ei feddwl i'r hen lannerch, a chlywai eto gloch y llan yn denu'r ffyddloniaid o lawer ffermdy a bwthyn i rodio llwybrau'r wlad tuag ati. Gwelai yr hen ysgolfeistr, a'i ddau lyfr du dan ei fraich, yn ei throedio hi i'r gwasanaeth yn ei esgidiau blucher, ei het silc, ddisglair, a'i frock—coat hir, yn union fel pe bai yn mynd on parade, ys dywedai y gwron hwnnw ei hun. Ie, gwelai hefyd ei fam fach, ar ôl trwsio ei phlentyn gyda phob manylrwydd, yn ei thrwsio ei hun gan gylymu rhubanau ei bonet o dan ei gên fel y weithred olaf cyn cloi ohoni'r drws a mynd i'r defosiwn.

Mor bell yn ôl yr ymddangosai y pethau hyn i'r llanc trist, ac mor annhebig eu gweld byth mwy. O feddwl am ei fam daeth y syniad iddo mai dyma'r dydd y byddai'n well iddo ysgrifennu at ei hanner- brawd yn Winnipeg—y brawd na welsai ei wyneb erioed. Ac am mai dieithr iawn iddo a fyddai'r Ysgol Sul heb adnabod neb ynddi, penderfynodd baratoi'r llythyr y prynhawn hwn. Efallai, pwy a wyddai, y deuai i adnabod rhyw aelod o'r ysgol cyn y Saboth wedyn.

Felly ar ôl cinio aeth at y llythyr. Dywedodd wrth ei frawd am farwolaeth sydyn ei fam, a charedigrwydd pawb yn yr amgylchiad. Rhoddodd fanylion y trengholiad a'r angladd, a diweddodd gyda chyfrif manwl o werthu yr ychydig gelfi ac o dalu'r mân ddyledion. "And here I am (ebe fe, gan roddi ei gyfeiriad yn llawn), trying my very best to earn my own living, and keep myself respectable." Dim un gair am bosibilrwydd methiant, nac ychwaith awgrym am gardod neu help o unrhyw fath.

Gosododd y llythyr y naill ochr i'w anfon i ffwrdd brynhawn trannoeth, ac aeth yn ôl ei fwriad i gapel y Bedyddwyr i wasanaeth yr hwyr. Yr oedd y lle yn orlawn, ac ymhlith cynifer o bobl nid oedd neb yn sylwi ar y llanc gwylaidd a eisteddai ar sedd uchaf yr oriel, sef "sêt y cwmpni" (chwedl rhai).

Deubeth yn neilltuol a dynnodd sylw Daff y noson honno y wedd ddwys ar wyneb y pregethwr, a'r canu ardderchog gan y dorf. Gwnaeth un fel y llall argraff fawr arno, yn fwy efallai am fod ei feddwl ef ei hun mewn cywair i'w derbyn ar y pryd.

Yn nhywyllni ei ystafell fechan ar ôl ymneilltuo i gysgu y noson honno, clywai o hyd ac o hyd ddylif mawl y dorf yn curo ar ei glyw hyd oriau mân y bore, gyda'r geiriau bendigedig:—

"O! santeiddia f' enaid, Arglwydd,
Ym mhob nwyd ac ym mhob dawn,
Rho egwyddor bur y nefoedd
Yn fy ysbryd llesg yn llawn,
N'ad fi grwydro, N'ad fi grwydro
Draw nac yma o fy lle."


Hepiodd am ychydig, yna clywai lais unigol- llais mwyn benywaidd yn canu'r un peth, ac mewn rhyw hanner breuddwyd gwelai mai ei annwyl fam ei hun ydoedd.

XII. CANU A CHANTORION

"DAFF! Daff! cwnnwch! 'newch chi! Mae'n gwarter wedi 'wech!" Dyna'r geiriau a darawodd ar glyw y glowr bach gyntaf fore dydd Llun. Neidiodd o'i wely, a chyn pen deng munud yr oedd wrth y bwrdd yn cymryd ei frecwast, ac yn barod i ddechreu wythnos arall o lafur.

Wedi mynd ohono ef allan o'r groesheol lle y lletyai, gwelai gannoedd o lowyr, yma ac acw, yn cyfeirio at y lofa hon neu'r lofa arall. Wrth "wddwg" ei lofa ef ei hun gwelodd ei bartner ynghanol rhyw ddwsin o'i gydlowyr, yn ei dadleu hi yn egniol iawn am rywbeth na wyddai Daff ddim o'i blegid, a'r cwbl mewn miri mawr am uchel her neilltuol a roddasai'r Cantwr pan. yn troi i ymadael â hwy.

Wedi cyrraedd o hwnnw i'r talcen glo a chyfarch Bore Da! i Ddaff cyn dechreu'r gwaith.

"Dyna foneddig 'ro'ech chi neithiwr, D.Y.," ebe'r llanc. "Gwelais chi a rhyw hanner dwsin o bapurau dan eich cesa'l wedi i fi ddod ma's o'r capel, ond yr o'ech yn rhy brysur i sylwi arna' i. Pam gymaint o hast ar nos Sul?"

"O, machan i, mynd i'r practis 'rown i, a dipyn yn ddiweddar yn cyrraedd, dyna i gyd. Wela's i monot, chwaith, neu ffêr dŵs, fe faswn wedi gweud rhwpath."

Practis i beth, D.Y?"

"O, bachan! 'steddfod Penybont sy wrth y drws, a ma'n parti ni yn cynnig yno. Chlywa'st ti ddim ohonyn nhw wrth y gwddwg, gynna' fach? Boys Treorci bob un. Ma' nhw'n cretu ma' nhw yw'r top dogs ar y Destruction, ti'n gweld. A 'wara teg, ma' nhw'n canu'n dda digynnig, rhyngton ni'n dou man hyn, a lêdar piwr iawn yw William Tomos, he'd, O ran hynny. Ond perthyn i barti'r Pentra wy' i, ti'n gweld, a rhaid dangos y colours o flân y tacla', ne' f'asa' dim shwd beth a byw gyda nhw. Beth 'wetas i o'r blân? Never say die!" on'd iefa? Fe fasa'n well na phumpunt gen i 'maeddu nhw ym Mhenybont, b'asa'n wir, taw dim ond am 'u gweld nhw mor cock sure! Ond 'nawr, D.O., at y cogyn yna, machan i!"

Dechreuwyd gweithio fel arfer, ergyd ac ergyd dibaid y glowr yn y talcen, mwm rhaff yn chwyrnu ar ben y deep, a llais soniarus yr halier yn cymysgu cân, serch neu arall, â galwadau'r heol.

Dyna un o nhw 'nawr !" ebe'r Cantwr pan neshaodd halier neilltuol at eu talcen. "Un o'r gora' oh nhw he'd, ond 'i fod yn lled ffond o boeni tipyn arna' i ambell waith." Ac megis ateb i'r disgrifiad clywai Daff ar y foment

We have bro-ken down evry altar of the
gods so worth-less and vain,

ond heb betruso am eiliad wele'r Cantwr gan bwyso ar ei fandril yn ei ateb lawn mor soniarus a chellweirus ag yntau,—

In our career never will we falter

Chwarddodd pawb oedd o fewn clyw, canys deall yr oeddynt yr ergydion a oedd yn y canu, a buan yr ymgynhullodd at ei gilydd y ddau ddatganwr, Jim Skittles a dau arall, heblaw Daff a chrwt y talcen nesa'.

"Spel Whiff, boys!" ebe Jim. "Pwy sy'n mynd i ennill ym Mhenybont? Ma' arian 'n talcan ni i gyd ar y Pentra, ta' beth!" ebe fe ymhellach.

"Wel, chi 'u collwch nhw i gyd hefyd!" ebe'i halier. "Ond rhaid i fi fynd, ma'r shwrna ar y ffordd, ne' fe faswn yn gweud pam mae'n rhaid i'r Pentra golli. Hylo! boy bach! (hyn at Daff), catw dy goesa' yn nhre, neud di! Fe fuo i bron damshal ar dy drestls di heb yn wypod. Dyna'r gwaetha o foys parti'r Pentra, ma' nhw shwd rai bach i gyd. Down bass wyt ti'n ganu, sbo! 'Ma fi'n mynd!"

"Paid shimplo neb, Shoni!" ebe Skittles, gan weiddi ar ôl yr halier direidus a oedd yn prysuro oddi— wrthynt. "Un bach oedd Tom Sayers, cofia!"

"Little and good, on'd iefa? Daff!" ebe fe drachefn gan droi yn ôl yn serchog at y glowr_bach, "Paid hito! 'do'dd e'n meddwl dim drwg. Dyna'i ffordd a, dyna gyd.'

Aethpwyd ymlaen wedi hynny i siarad am bethau eraill, ond yr oedd Daff cyn diwedd y "Spel Whiff" wedi ei ennill yn bleidiwr selog i barti'r Pentre—yn ei feddwl yn unig, wrth gwrs—oblegid ni chlywodd ef eto y naill barti na'r llall yn canu. Rhyfedd fel yr ennill gair teg, onide ? a rhyfedd fel y tramgwydda gair swrth hefyd!

Dechreuodd Daff gymryd diddordeb yn y "Spel Whiff" fel sefydliad hefyd. Hon ydyw orig y siarad y sydd wedi bod mor boblogaidd erioed gan lowyr y lefelau ymhobman, ac a etyb yr un diben yn y gweithie ag a wna efail y gof a siop y crydd yn y wlad, sef yw hynny, trafod pynciau'r dydd yn gyffredin. Nid oedd yr hogyn wedi bod eto ond wythnos yn Lefel yr Ocean, ond o fewn y cyfnod hwnnw clywodd fwy o drin a thrafod gwahanol destunau nag a glywsai yn ei oes cyn hynny. Yn eu plith yr oedd pregethau cyfarfodydd blynyddol "Noddfa," y bardd ieuanc addawol a oedd yn codi yn yr ardal, brwydr gwffio neu ddwy, brwydrau canu corau meibion y De, yr arwyddion cyn tanchwa, y perigl o gyfarfod haid o lygod Ffrengig yn y lofa (ac yn enwedig o gael eu harwain gan lygoden wen), pris isel torri'r "gloden," ffair Castellnedd, ynghyd â llawer mwy o bethau mân eraill; a phob ymgom yn cael ei chychwyn gan yr un oedd â'i anian fwyaf yn y cyfeiriad hwnnw.

XIII. SHONI CWMPARC

FEL yr ai'r dyddiau ymlaen dechreuodd Daff ymserchu'n fawr yn ei bartner. Yn un peth, yr oedd yn lowr deheuig (neu "goliar decha" fel y buasai D. Y. ei hun yn ei ddywedyd), a mwy na hynny nid oedd dim yn ormod trafferth ganddo i helpu Daff i ddod yn lowr da hefyd. Ac o gymryd diddordeb yn y Cantwr, braidd yn amhosibl a fyddai cynnal y diddordeb hwnnw heb droi rhyw gymaint ym myd cân. Felly, ac yntau'n dechreu dyfod yn eofnach i siarad, ebe Daff un diwrnod,—

"Mae canu da yng nghapel y Baptist, D.Y., on'd oes a?"

"O diar, ôs! hynny yw o ganu fel'ny. Ia, canu cysegretig, dyna'r gair, ôs, yn wir, ganu piwr digynnig. Ond bachan! beth pe baut ti'n clywad 'n parti ni,— dyna i ti ganu!

"Ti glywast Shoni Cwmparc yn 'i shimplo fa pwy ddydd, a dy shimplo ditha' fel down bass gyda llaw.

Ho'i, Daff! beth pe baut ti'n dod yn down bass heb jocan un o'r blynydda' nesa' 'ma! Dyna'r lle bydda sbort. Beth yw dy oetran di 'nawr?"

"Cerad ar 'y mymthag."

H'm, lled ifanc. O'dd rhai o dy dylw'th di'n canu?"

"Na, neb ond mam, 'rodd hi'n ffond iawn o ganu.'

Beth o'dd hi'n ganu?

O— Newyddion da,' 'Er i'r ffigysbren,' 'Y Bachgen Main,' 'Deio Bach'; ac 'rwy wedi clywad Shoni'n canu un oedd hi'n ffond ohoni, ond nid yw e'n i chanu hi 'run peth i'r dim."

"Beth yw honno?"

Ffarwel i Langyfelach,' ac ma' fa'n gatal y penillion gora' ma's, 'rwy'n cretu."

"O, wel, dwed di hynny wrtho fa, nei di, a fe dy baca' i di i'r lan. Dyma fa'n dod ar y gair !

"Clustfeiniodd y ddau lowr am ennyd, a chlywsant yr halier cerddgar wrthi yn ôl ei arfer yn cymysgu ei gân â chyfarwyddiadau i'w geffyl a'r dryswr bach,—

Ffarwel i Langyfelach lon

"Come, Jim!"

A'r merched ifanc oll o'r bron

"Dera, nei di."

Rwy'n mynd i weld pa un sydd well

"Tro'r pwyntars 'na!"

Ai ngwlad fy hun, ai gwledydd pell

"Whoa!"

Chwarddodd y ddau yn ddistaw, a chyn iddynt ddibennu dyna lais Shoni yn gofyn,—"Beth am y ddram 'na, Pentra?"

Cwmparc dere lan yma am funud, nei di? Pam na gani di'r gân yn right?"

"Be' sy'n wrong arni?

"Wrong, wir! Cân y penillion i gyd, yn lle codlach yr un hen bennill o hyd!"

Wel, cân di nhw ta, os wyt yn eu gwpod nhw'n well!"

"Rwy'n gwpod mwy na thi ohonyn' nhw, ond dyma foy bach sy'n eu gwpod i gyd. Ia! Ia! Yr un boy bach o'ut ti'n ei alw yn down bass bwy ddydd. Dyna'ch ffordd chi yn Nhreorci, shimplo pawb a phopath."

"Dwêd nhw wrtho fa, Daff!"

Ar hyn, dechreuodd y llanc eu hadrodd, a hawdd iddo oedd eu cofio i gyd, canys clywsai ei fam yn eu canu ganwaith. Pan ddaeth at y penillion olaf,—

"Marchio wnawn tua Llundain fry,
Duty caled ddaeth arnom ni,
Handlo'r ddryll, a'r cleddyf noeth,
Y bullets plwm, a'r powdwr poeth.

Os gofyn neb pwy wnaeth y gân,
Dywedwch chi mai merch fach lân
Sydd yn gweddio bob nos a dydd,
I'w chariad annwyl ddod yn rhydd."


amlwg oedd bod Cwmparc yn eu clywed am y tro cyntaf, a phan ddibennwyd, ebe fe ar unwaith, "Da iawn, wir ! Da iawn, wir! Rhaid i fi gâl y rheina gyda ti. A chyda llaw 'down i 'n meddwl dim drwg bwy ddydd 'ma, nag o'wn, wir. O's rhacor o ganeuon gen't ti?"

Cyn y gallodd Daff ei ateb un ffordd na'r llall, bwriodd y Cantwr i mewn,—

"'M, bachan, ôs, cannoedd o nhw. I dylwyth e' yw'r cantorion gora' round i Builth. 'I fam e' oedd Eos Llywel, a ma'i frawd hena' yn broffeswr mawr vm 'Merica': reg'lar top—notcher he'd! Fe ro i gyngor i ti, Shoni, meddwl di lai am d'hunan a dy Dreorci a mwy am ddyn'on sy'n amgenach na ti. 'Dwyt ti ddim yn bad sort i gyd. Ond dyna fe, cofia beth 'wy i 'n 'weud! Mâs a'r ddram 'na 'nawr!"

Yn ystod yr araith hon-un hir iawn a chyfrif mai'r Cantwr oedd yn siarad, ceisiodd Daff roddi taw ar hyawdledd D.Y. parthed ei dylwyth, ond ni fynasai'r Cantwr beidio, a deallodd Shoni y peth fel rhan o swilder yr hogyn. "Dyna weipad iddo fe!" ebe'r Cantwr mewn ychydig funudau ar ôl i'r ddram fynd, "'ma fa wedi gofyn amdeni ers llawer dydd. Dyna ddicon heddi', Daff bach! Gwishg dy gôt i ni gâl mynd!"

XIV. ABERHONDDU

BERNIR gan lawer mai yn y cyfnod 1887-93 y clywodd Cymru ei chanu corawl goreu erioed. Cododd tô o arweinwyr yn Ne a Gogledd yr amser hwnnw i dywys lleisiau melysion ein gwlad i ymdrechion uwch nag y bu hanes amdanynt mewn un cyfnod yn flaenorol. Nid oedd odid gwm na dyffryn poblog nad oedd iddo ei "gôr mawr" a'i barti meibion, a'r naill fel y llall yn llawn sêl ac ynni am ragori.

Ymhlith goreuon y De yr oedd Parti Treorci, Parti'r Pentre a Pharti Pontycymer, ac nid oedd un eisteddfod fawr yn gyflawn pe bai'r rhain yn absennol. Gwnaeth bechgyn Treorci wrhydri ar lawer maes cystadlu, llwyddodd Parti'r Pentre (neu y "Rhondda Glee Society," i fod yn eithaf swyddogol) i ddwyn hanner y wobr oddiar oreuon Huddersfield, o dan John North, yn Eisteddfod Genedlaethol Llundain 1887, a sicrhaodd Pontycymer y wobr yn gyfan yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 1891, trwy ddatgan "Cydgan y Pererinion" mewn arddull ddi-ail.

Teithiai pobl o bell ffordd i lawer eisteddfod i ddim arall ond i glywed aelodau y corau hyn yn datgan eu darnau godidog, a chlustfeinid arnynt wrth eu practis gartref gan bobl gerddorol ac angherddorol ynghyd.

Fel y gellid tybio, yr oedd cynlluniau a bwriadau y corau hyn o ddiddordeb neilltuol i'r ardaloedd y trigent ynddynt, ac nid oedd "talcen" yn yr holl ardaloedd glofaol na thrinid am ragolygon y parti hwn neu'r parti arall.

Dywedwyd eisoes fod D.Y., cyfaill Daff, yn aelod ffyddlon yng Nghôr y Pentre, ac mai canu a chantorion oedd ei fyd. Naturiol felly oedd i Daff ei hun gymryd diddordeb yn yr un peth. Yr oedd bellach wedi cyd- weithio â D. Y. am yn agos i dair blynedd, ac wedi dyfod i'w hoffi yn fawr.

Yr oedd bron â dod yn un o "Wyr y Gloren" hefyd, ys dywedai ef, oblegid nid oedd odid gapel na neuadd yng Nghwm Rhondda nad oedd ef, rywbryd, wedi ymweld â hwynt. O barch i goffa'i fam ymgartrefodd yn un o gapeli'r Bedyddwyr, ond pan fyddai sôn am gyngerdd neu gymanfa dda yn y cylch yn rhywle, ac yn enwedig o byddai un o'r corau meibion yn gwasanaethu yno, gellid penderfynu y byddai'r gŵr ieuanc gwylaidd o Lywel ("partner Dai'r Cantwr," fel y gelwid ef gan y glowyr yn gyffredin), yn sicr o fod yno'n brydlon.

Yn yr un modd dilynodd Daff y cantorion i lawer eisteddfod, ymwelodd â Phenybont-ar-Ogwr, Castellnedd, Pontypridd, ac eraill o drefydd mawrion Morgannwg, er mawr bleser a gwybodaeth newydd iddo ei hun. Un bore cynhyrfwyd ef yn fawr ar i Dai ofyn iddo yn ddigon didaro, Ble mae Aberhonddu, D.O.?

Oti a mhell o Ferthyr? Mae'r Parti'n mynd i gynnal consart yno 'mhen mis."

Dadlennwyd o flaen y gŵr ieuanc ei fywyd boreol unwaith yn rhagor, ac ar un fflach gwelodd eto yr afon, y torlannau, y meysydd cnydiog, a'r elltydd cysgodol, oll yn eu gogoniant a'u harddwch fel yn yr amser gynt. Daeth ton o hiraeth drosto ar y foment, ond yr eiliad nesaf atebodd yn ddigon digyffro, "Rhyw ddeunaw milltir f'aswn i'n ddweud. Pryd ych chi'n mynd?"

"Fe 'weta' nes ymlân. 'Dwy' i ddim yn siwr pryd. Leicet ti ddod gyda ni?"

Leicwn, wir! Waith wedi'r cwbl, D.Y., gwlad ffein yw Brycheiniog, a hen dre annwl yw 'Berhonddu, he'd. Fe leicwn fynd yn 'y nghalon!

"All right! fe 'weta' i wrth Tom" (gan olygu. Mr. Tom Stephens, arweinydd talentog y Parti).

Ymhen rhyw bum wythnos, gwelwyd hanner cant o lowyr cerddorol y Rhondda yn esgyn i lwyfan ym marchnadle'r dre hynafol yng ngwlad y Bannau. Digon cyffredin oedd yr olwg arnynt, a chredai ambell un o'r dyrfa, na wyddai'n well, mai camsyniad mawr oedd dwyn y bechgyn glas—greithiog hyn i'r llwyfan a anrhydeddwyd â phresenoldeb Patti ei hun bythefnos cyn hynny. Ond ar y frawddeg gyntaf o'r geiriau "Glory and Love to the Men of Old," yn y cytgan o Faust (Gounod), nid oedd yno ond un farn, a rhaid oedd ail ganu, mor fyddarol oedd y galw am hynny. O'r cytgan cyntaf ymlaen, y côr, y côr, oedd popeth. Hwynt—hwy oedd arwyr y dre.

Cerddodd Daff rai o'r prif heolydd cyn dechreu o'r gyngerdd, gan led—obeithio cyfarfod â rhywun neu rywrai o'r hen ardal, ond siomwyd ef yn hynny.

Ar ddiwedd y cyfarfod aeth i westy mawr y Wellington i gael lluniaeth gyda'r parti, cyn dychwelyd ohonynt oll i'r Rhondda yn hwyr y nos. Ac ar ei fynd heibio i un o'r ystafelloedd yfed, tybiodd iddo glywed llais a adwaenai.

Meddyliodd ar y foment am droi at y dyn (canys hiraeth mawr am Lywel oedd arno), ond trodd yn ei ôl drachefn, a da oedd ganddo am yr ail feddwl, oblegid clybu'r un llais eto, ac yn hynod floesg y tro hwn, yn mwmian "The man that hazh no muzhic in hizhmzhelf," etc., ac ar hynny nid oedd modd cam-syniad y gŵr mwy.

Blin iawn a fyddai gan Ddaff weld ei hen Gamaliel mewn cyflwr mor annheilwng, a mwy blin fyth a fyddai egluro i D.Y. a'r cantorion eraill mai y meddw hwn oedd yr un a'i dysgasai gynt. Felly cerddodd ar ei union i ystafell y swper, a chadwodd ei gyfrinach iddo ei hun.

XV. "LLYFR JOB"

TUA chanol y flwyddyn 1892 ymddangosodd rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol a fwriedid ei chynnal ym Mhontypridd yn y flwyddyn ddilynol, ac fel oedd yr arferiad ar bob achlysur o'r fath trowyd ei thudalennau yn eiddgar gan bob bardd, llenor, a cherddor a roddai ei fryd ar anrhydeddau Prif Wyl y Genedl.

Yn union wedi hynny daeth allan Raglen Eisteddfod Fawr Ffair y Byd, Chicago, gan demtio ymhellach â'i gwobrwyon hael. Ac os oedd ysfa fawr ymhlith gwyr llên y pryd hwnnw, mwy o lawer oedd ysfa gwŷr y gân, oblegid yr oedd pwyllgor Eisteddfod y Gorllewin yn benderfynol o gael canu goreu Cymru i groesi Iwerydd i gystadlu yn eu hanturiaeth hwy, ac yr oedd y mwyafrif o'r prif gorau yn eithaf parod i fynd yno pe gellid llwyddo i wynebu'r gost.

Yn y Deheudir yr oedd y prif gorau wrthi'n ddiwyd yn ymarfer â darnau y ddwy Wyl Fawr, a chan fod yr un darnau yn gystadleuol mewn amryw o eisteddfodau llai yr oedd digon o gyfleusterau er gweled pa un o'r tri oedd y goreu i'w anfon drosodd. Coffheid gan lawer am ganu ysgubol Pontycymer yn Abertawe, a chan mai yr un darn oedd dewisiad Chicago edrychid gyda chryn hyder atynt hwy. Ond yr oedd Treorci a'r Pentre, y naill fel y llall, wedi eu curo oddiar y pryd hwnnw, ac wedi curo ei gilydd hefyd o ran hynny; a rhwng popeth, anodd oedd nodi allan pa gôr o'r De oedd oreu i wynebu Chicago. Ond yr oedd Eisteddfod Pontypridd i'w chynnal yn gynnar yn yr haf. Boed i honno farnu rhyngddynt, a'r côr a enillai'r dorch ar lan Taf y diwrnod hwnnw aed i dynnu amdani ar lan Michigan hefyd.

Tua'r amser hwn y gofynnodd D.Y. yn sydyn i Ddaff un bore," Daff! rwyt ti'n mynd i'r Ysgol Sul, on'd wyt ti? Elli di atrodd rhwpath ma's o Lyfr Job?

"Sefwch chi, D. Y., galla' dipyn bach, 'falla'!"

"Wel, atrodd beth ohono, ynte!"

Yna yn lle ateb, chwarddodd Daff, oblegid yn ei fyw ni allai roi dim amgenach na,—" A Job a atebodd ac a ddywedodd," a daeth i'w góf am yr amser pan oedd plant Llywel yn cystadlu dysgu am y mwyaf o adnodau am wobr yr athro, a bod y frawddeg honno beunydd yn adnod wrthi ei hun yn y llyfr, a'u bod hwythau yn wastad yn dysgu yr adnod nesaf gyda hi er mwyn cael dwy yn lle un.

Esboniodd Daff y peth i'w gydymaith, gan chwerthin rhagor. Ond hwnnw ni chwarddai o gwbl, a dywedodd, "O, fel 'ny, iefa ? Ro'wn i'n meddwl nad oedd dim trics yn Shir Frychinog. Ffei! Daff! Ond dere â'r Beibl bach gen't ti i'r gwaith bore 'fory. Fe atebodd ddangosai i well petha' i ti yn Llyfr Job na'r ac a ddywedodd sgêmus yna. Paid anghofio, cofia!"

Bore trannoeth ped elid i "dalcen" neilltuol yn "Lefel yr Ocean" amser 'Spel Whiff," gwelid yno un yn tynnu allan Feibl bychan, ac yn troi ei ddalennau, tra thynnai un arall gopi o gerddoriaeth allan o logell ei gôt uchaf, ac yno wrth lewych eu lampau yn cymharu rhai brawddegau â'i gilydd.

"Wyt ti wedi câl gafa'l ar Job?" gofynnai'r hynaf. "Wel, nawr tro i bennod y 39, a dechreua ddarllen yn Number 19,— A roddaist ti gryfder i'r march? etc. Dyna nhw! Daff! Glywaist ti rwpath gwell yrio'd? Dishgwl 'ma! 'Dwy i ddim yn ddyn capel, cofia, ond, bachan! 'ro'dd rhwpath yn cerad lawr i'm hasgwrn cefan i echnos pan o'dd Tom yn eu darllen nhw i'r Parti. Diain! Bachan! nhw'n dda! A dyna be' sy'n od—ma' nhw'n llawn cystal yn Sisnag hefyd. The real stuff! Daff! Oti'n tan i' marw! Three cheers i'r hen Feibl, 'weta'i! 'Nawr at y glo mân 'na, Davy, boy! Wn i yn y byd a yw'r Beibl yn sôn am lo mân, Daff! Nag yw, sbo!" ma'

Y rheswm am yr holl ddiddordeb hwn yn Llyfr Job oedd fod "The War Horse" yn un o'r darnau i gorau meibion yn Eisteddfod Genedlaethol y Bont, a oedd bellach yn agoshau, a bod yr ymarferiad ohono yn hawlio llawer o amser Parti'r Pentre ar y pryd. Mynych yr âi Daff i'w clywed, a gwledd iddo'n wastad oedd y "Rhyfelfarch," ynghyd â'r "Tyrol" a'r Pilgrims "y tri darn a lanwai raglenni Chicago a Phontypridd yn gyflawn.

XVI. TRAMGWYDD DIFEDDWL

A hi ym min hwyr Mehefin yng Nghwm Rhondda a phelydrau'r gorllewin yn rhoddi "Nos Da" i gopâu Moel Cadwgan, cerddodd Daff am dro ar ôl swper i gyfeiriad Treherbert, ac wedi mynd gryn ffordd i fyny i'r cwm dros y brif heol, clywodd lais yn ei gyfarch o'r cyfnos,—

"How getting! Daff?"

Edrychodd ar yr hwn a'i cyfarchai, a gwelodd nad oedd neb amgen na Jim Skittles.

"Nos da, James! Tywydd braf!

"Ffein i ryfeddu, Daff. Dera 'miwn am lasiad!"

"Na, dim thenciw, James, ond fe gera nôl gyda chi os mai nôl ych chi'n mynd."

"Right o, Lad! os wyt titha'n siwr na fynni di ddim un."

"Eitha siwr, James, thenciw, gadewch i ni fynd."

Yn ôl yr aed, a'r naill yn ceisio dyfalu beth a fyddai'n fwyaf diddorol i'r llall.

'Rwy'n clywad 'ch bod yn dechra'r piler 'fory, James," gan gyfeirio at orchwyl neilltuol yn y gwaith. "Arian da am bythewnos, tebig iawn. Lwc i rai o hyd, James."

"O, fe fydd y tocins ddicon piwr figinta. Ond bachan gwelast ti pwy o'dd hwnna a basws?

"Naddo i. Pwy o'dd a? "Shoni Injinêr!"

"Pwy yw hwnnw? Odi e'n rhywun neilltuol?"

Wel, fe 'weta' wrthot ti pwy yw a, gan nag wyt ti'n gwpod, Mishtir Wil Rwsh, Dai Bacsa' a Bili Twm, ta' beth, a ma' rhai yn 'i faco fa yn erbyn Jack O'Brien, he'd."

"Injinêr ar beth yw a, 'i fod e'n fishtir ar gyma'nt yr un pryd?"

"O! Ha! Ha! Injinêr dyrna' yw a, 'r Bachan Dwl! Ha! Ha!

"Fe 'weti nesa' nag wyt ti'n napod Bil Samwel!"

"Nag wy i, o brysur, pwy yw hwnnw yto?"

"Beth? Wyt ti'n cisho gen' i gretu nag wyt ti'n napod Bil Samwel, a 'fenta'n dod a'i salŵn i ffair Dreorci bob haf? Paid hymbygan, Daff!"

"Wel, yn wir, James, 'dwy' i ddim yn 'i napod. Oti e'n perthyn i'r hen Forgan Samwel, wn i?"

"Pwy o'dd hwnnw, f' innocent bach i?"

"Hen bregethwr yn Shir Frychinog ar'n pwys ni."

O ddywedyd o Ddaff hyn credodd ar y foment oddiwrth wynepryd James ei fod wedi ei glwyfo i'r byw, oblegid yr oedd yr olwg arno yn anhyfryd iawn. Fflachiai llid yn ei lygaid, cuchiai ei drem, a chrynai ei wefus. Sylwodd Daff arno hefyd yn cau ei ddwrn, ac am eiliad neu ddwy ofnodd y tarewid ef ganddo, a hynny heb un syniad na rheswm paham.

Yr eiliad nesaf, fodd bynnag, ciliodd gwg y drem i raddau, ond, gyda'i wefus eto'n crynu, dywedodd Jim," Dishgwl 'ma, Dafi! 'Rwyt ti a Dai'r Cantwr 'ch dau yn byw mewn twbyn, Canu-Canu-Canu tragwyddol sy' gennych chi o hyd. Ma'n syndod i fi 'ch bod yn câl amsar i lanw drams o gwbwl. Oti, myn asgwrn i, gyda'ch hen fewian o hyd!

"Ond cofia di hyn, machan i! Wyt ti'n clywad? Ma'r byd mawr yn mynd ymlán hebddo chi, a 'dyw e'n hit'o dim am 'ch canu chi mwy na mwmian cleran ar y ffenast! Ma' isha galw yn y Stag' arno i 'nawr. Good Night!"

Synnwyd Daff yn fawr gan hyn oll, a blinwyd ef gan y dybiaeth iddo fod yn ôl mewn moesgarwch ar yr unig dro y cafodd ef gwmni James wrtho ei hunan erioed. O adrodd yr helynt wrth y Cantwr drannoeth, nid ymddangosai w'n syn, ond dywedodd yn dawel ddigon, "Ia, tr'eni mawr am James! Gwithwr da! a bachan ffein mewn llawar ffordd, rhy dda i'r dafarn a'r prize ring o gryn dipyn."

"Ond nid yw hynny'n esbonio 'i gasineb ato i nithwr o gwbl!

"Oti, Daff, oti'n wir! wath mab i bregethwr yw Jim! Dyna ddicon i ti! Gofala bido sôn am bregethwr wrtho o hyn i mâs, ne' fe gred dy fod ti'n gwpod am 'i dad, ac yn ei dawlu i'w ddannadd. Look—out wedyn! Pŵr Jim!"

XVII. PONTYPRIDD

Y DYDD mawr a ddaeth, a llwybrau Cymru gyfan oll yn arwain i Bontypridd.

Darfu ymdrech y corau cymysg yn gynnar yn yr wythnos, aeth heibio goroni bardd y bryddest, a chadeirio bardd yr awdl, ac wele bellach y corau meibion yn ymgasglu am y llwyfan.

Y cyntaf Treorci—cewri cant o ymgyrchoedd. Ust! Dyna nhw'n cychwyn—brawddeg gyntaf y Rhyfelfarch. O mor fawreddog!—mor afaelgar! mor llawn o ysbryd y darlun yn Llyfr Job! Yn canu'n dda drwyddi. Wedi hynny, "The Tyrol"—darn disgrifiadol ac anodd. Treorci yn sefyll yn uchel. Yn dilyn, côr neu ddau o ansawdd cyffredin. Pwy nesaf? The Rhondda Glec Society. 'Nawr, Dai'r Cantwr! 'Nawr, Gabriel Williams! 'Nawr, fechgyn y Ton!

"The War Horse!"—Glew iawn, ond nid cystal a Threorci. Wedi hynny'r "Tyrol "—hoff ddarn Tom Stephens.

Drwy'r dydd yr oedd cawodydd trymion wedi tabyrddu nen y Pafiliwn mawr, ac wedi rhwystro'r gwaith fwy nag unwaith. Dyna'r côr yn pasio'r rhannau arweiniol yn gelfydd iawn—clywch yr yodl gan lowyr Cymru, yn cael ei chynhyrchu mewn cystal sain â chan fugeiliaid yr Alpau eu hunain! Wedi hynny, ystorm y mynyddoedd, a'r côr yn canu'n odidog. Beth yn ychwaneg? Chlywch chwi mo dabyrddu'r tô? Ie'n wir, y gawod fawr tuallan yn helpu'r ystorm ar y llwyfan, yr effaith yn ysgubol a'r Rhondda Glee Society wedi cwblhau eu gwaith yn ardderchog.


Eto gor lleol, fel corach ymhlith y cewri, ac yn olaf, Pontycymer, glowyr fel bechgyn y Rhondda, ac yn gantorion glew bob un. Ond y "Tyrol" nid cystal, a'r "War Horse" yn wannach fyth. Y Dyfarniad "Yr ail wobr, Treorci, y wobr flaenaf, Rhondda Glee Society, a'r miloedd yn dywedyd, 'Amen!'

Y noson honno yn y tai, a thrannoeth yn y talcenni gwaith, ac ar ben pob heol,—" Rhondda am Byth!" 'Nawr am Chicago!"

Erbyn cyrraedd o Ddaff ei lety ar ôl prysurdeb y dydd rhyfedd hwnnw ym Mhontypridd, estynnodd gwraig y llety lythyr iddo, ac i'w fawr syndod, yn ysgrifenedig ar ei gefn yn eglur y geiriau hyn, "If not delivered, return to Box 217, Third Block, Winnipeg, Canada." Syllodd y llanc ar y cyfeiriad yn fanwl, ac ar y cyfarwyddyd dieithr drachefn, cyn ei agor. Yna, wedi penderfynu ohono mai iddo ef, ac nid i neb arall, yr oedd y llythyr tramor hwn, fe'i hagorodd, ac o flaen ei lygaid syn gwelodd fod y cynnwys yn dywedyd,—

Box 217.
Third Block,
Winnipeg,
Canada.
June 1st, 1893.

Dear David,

It is now nearly three years since I received your letter from the address in the Rhondda, intimating your mother's death, and of your efforts to maintain yourself honestly in that place. After delaying to write to you (for which there is no excuse) I really thought I had lost your missive. But in turning out some old account books the other day, I found it, and since its discovery my conscience has allowed me no rest until I have made amends for my former remissness.

You will be pleased to know that I have not been devoid of success in Winnipeg. I am now master of a large dry—goods store, which is entirely my own. I have a wife but no children, and as I can at present take in a young man to help in the business I give you the offer. I think it but right that brothers should help one the other, so if you care to accept come right away, and you will find me at the above address awaiting your coming.

Yours fraternally,
WILLIAM OWEN.

XVIII. TORRI'R CYNLLUNIAU

O HOLL ddyddiau llawn ei fywyd ni bu i Ddaff erioed lawnach un na hwn. Y bore yn fawr ei bryder am lwydd ei hoff gôr meibion ym Mhontypridd, y prynhawn yn wledd o ganu na chlywodd Cymru, nac un wlad arall ychwaith ei gwell; yna'r llongyfarchiadau, pan oedd dynion cryfion, o'u teimladau yn cofleidio ei gilydd fel pe baent hogennod ysgol; ac yn ddiweddaf, y llythyr hwn yn ei daro yn fud pan oedd ei galon a'i dafod, oherwydd y fuddugoliaeth, yn fwyaf chwannog i lawen siarad. O weld ei wedd gythryblus, gofynnodd gwraig y llety yn garedig a oedd wedi derbyn newydd drwg. Nid gwirionedd a fyddai ateb ei fod, ac eto, oherwydd ei wyneb sobr, a'i daw dieithr, naturiol oedd iddi gasglu hynny. Ymhen ychydig amser aeth Daff i'w wely, neu o leiaf i'w ystafell, ac yno yn ei ddagrau darllenai ac ail-ddarllenai'r llythyr fel un mewn breuddwyd.

Teimlai'r llanc, rywfodd, fod llaw gan Ragluniaeth yn hyn oll, a bod ei fam yn agos iawn ato y noson honno. Canys, onid oedd hi erioed, yn ei dyddiau dedwyddaf, wedi sôn ganwaith am weld Daff yn siopwr mawr, a hithau yn cadw ty iddo? Bellach, dyma'r cyfle wedi dod i'w mab, ond hyhi, fam dda, yn gorwedd yn ei bedd.

Credai Daff yn ddiysgog ei bod hi o fyd yr ysbrydion, yn ei annog i fynd at ei frawd; a hynny, iddo ef, a dorrai bob dadl. Rhaid oedd mynd, costied a gostiai! Ie'n wir, y gost-beth amdani? Nid oedd yr enillion wedi bod yn foddhaol yn ddiweddar, ac felly yr oedd gan Ddaff lai ar ei elw yr amser hwnnw nag à fuasai ganddo chwe mis yn ôl. Gofyn am help? Benthycio arian? Dim byth, oddiwrth undyn byw, leiaf o bawb oddiwrth y brawd na welsai mohono erioed! Nid oedd hwnnw yn ei lythyr wedi pennu un amser neilltuol ar ei ddyfod. Felly fe ysgrifennai yn ôl ato i dderbyn y cynnig ac i ddiolch amdano heb nodi dyddiad ei fyned. Ond oni welai Môr Iwerydd ef—Daff o Lywel— yn ei groesi cyn pen chwe mis, wel, nid yr hen Ddaff a fyddai o gwbl, ac nid y breichiau, na bu arnynt erioed ofn gwaith, oedd y rhai a symudai mor hoyw wrth ei ochr y foment honno. " O'r Pentra ag e'! O'r Treorci bach ag e'!" Dyna oedd y waedd wrth enau'r lefel, ac ar y partin dwpwl" y bore ar ôl yr Eisteddfod.

"Fachan byw! On'd oe'n nhw'n canu? Diwc annwl! Bu'r "Tyrol" bron tynnu'r pafiliwn am 'n penna'. Do, ta'n i'n marw! Chlywas i 'rio'd shwd beth! Am unwaith o leiaf boddhawyd pleidwyr y ddau gor lleol y naill fel y llall yn y dyfarniad, ac yr oedd Dai'r Cantwr a Shoni'r Halier yn gyd—arwyr am y tro, ac yn siarad ill dau yn garedig am y cór gwrthwynebol.

"Run man i fi 'weud y gwir," ebe D. Y., "pan glywasi Dreorci yn dechra'r War Horse,' mae'n ddobinó arno'n ni heddi', myntwn i wrth m' hunan. Ma'n nhw'n ormod i ni, y tro hwn, arno i ofn."

"Dyna beth od!" ebe Shoni 'n ôl. "Dyna'r very thing a 'wetas inna', pan o'ech chi foys yn clatsho ar y Tyrol. Ond dyna hi—teg yw teg—on'd iefa, Daff? A chyda llaw dyna dawal wyt ti, D.O., heddi'— be' sy'n bod, bachan? O'et ti ddim yn y 'Steddfod?"

"Own, wrth gwrs, ond yr ych chi gantorion yn 'wilia cymynt 'ch hunan, do's dim shawns i un tawal fel fi i ddoti gair i miwn ar 'i edge."

"Ha! Ha! tawal wir! Beth pe b'asa chi'n i weld e' ddo' yn y Bont ar ôl y feirniata'th, boys!— fe! my nabs, y bachan tawal, cofiwch yn citsho am genol 'rhen Ifan sy'n catw'r drws i'r côr, a'r ddou yn i walsan hi fel dou newydd—ddod—ma's o Benbont. O, ia, tawal! very tawal, ar fencos i! So long, boys! Come! Jim!"

Ffarwel i Langyfelach lon

"O—o—o'r Trehorci ag e'!"

Ymhen rhyw hanner awr ar ôl y siarad hwn, a hwy, sef D.Y. a D.O. ill dau yn gweithio'n ddiwyd yn y "talcen," trodd y Cantwr at Daff, a dywedodd,— "Ma' Shoni'n itha' iawn—be' sy'n bod heddi', Daff? 'dwyt ti ddim wedi gweud dwsan o eiria' trw'r bora. Collast ti dy wedjan n'ithwr ? Dyna beth pert! y côr yn ennill, a thitha'n colli! Be' sy' arnot ti, D.O.? Gwêd!"

Yr oedd Daff wedi meddwl adrodd holl helynt y llythyr wrth ei bartner ar y "Spel Whiff," ond gan i hwnnw ei holi fel hyn cyn dyfod o'r amser seibiant, gosododd ei fandril i lawr, aeth at ei gôt a hongiai ar y post, ac allan o un o'r llogellau tynnodd allan y llythyr o Winnipeg, a'i estyn i'w gyfaill heb air o eglurhad. "O! ware teg, D.O!" ebe hwnnw. Jocan own i! 'Dwy i ddim mo'yn darllen dy 'lythyron caru di, bachan. Dod e'n ôl !"

"Na, D. Y., does genny' ddim gwell cyfaill na chi. Darllenwch e'!"

Hynny a wnaed, a phan ddaeth y Cantwr i ddeall y cynnwys, fe chwibanodd yn isel a hir—seiniol yn ddatganiad o'i syndod. Estynnodd y llythyr yn ôl yn barchus ryfeddol, ac am beth amser ni ynganwyd gair gan yr un ohonynt. Ond yn fuan torrodd y Cantwr ar y distawrwydd eilwaith, "Dyna fe—ym lwc i o hyd! Wedi i fi gâl partner piwr, rhaid i fi'i golli a o achos rhwpath ne'i gilydd o hyd! Dyna William Jones y Betws—bachan cystal a wishgws grys yrio'd. Fe losgws e' i farwola'th 'run pryd y twymws 'rhen ffluwchan y clust 'ma ! A dyma titha' yto—yn mynd i bendraw'r byd wedi i fi ddechra serchu yndot ti! Yr wyt ti'n mynd, sbo?

Yr oedd tynerwch neilltuol yn y gofyniad olaf, a rhwng hynny a'i deimladau ei hun, ni allai Daff yn ei fyw ateb ar air. Yr unig beth a wnaeth oedd amneidio'n gadarnhaol â'i ben; ac ar hyn ail—gydiodd yn ei fandril ac aeth i gongl pella'r talcen i ergydio yno wrtho ei hun.

"Gwell hyn," ebe fe yn ei feddwl, 'na gneud hen fapa o'm hunan flaen Dai, ta beth.. Pe b'asa'r hen chum wedi gweud ond un gair yn rhacor fe faswn yn llefen fel plentyn, 'rwy'n siwr." Ac er mwyn osgoi yr ail-blentyndod, a oedd mor beryglus o agos, parhaodd Daff wrtho ei hun, hyd ddiwedd y shift, pan aeth y ddau lowr adre ochr yn ochr, ill dau yn dawedog iawn, ond eto yn gyfeillion mwy mynwesol nag erioed.

XIX. SON AM Y DAITH

"DAFF! Ble gweta'st ti o'dd y Peg Gwyn yna 'rwyt ti'n mynd iddo?"

"Winnipeg, D.Y! Winnipeg yw enw'r lle!"

"O ia, 'rown i'n meddwl ta' rhyw enw gwyn fel'na o'dd a. Ble ma' fa, wyt ti'n 'weud?"

"Rhyw hannar y ffordd yn grôs i Ganada."

"O wel, 'rwy'n falch o hynny, achos ro'dd chap yn y Bridgend n'ithwr cyn stop tap yn gweud 'i fod a o fewn dim a dim-milltir ne' ddwy, os 'wy' i'n cofio'n iawn-o'wrth machlud houl."

"Beth?

"O'r man ma'r houl yn mynd lawr."

"Ha, Ha! Tynnu'ch côs chi o'dd a, D.Y. Ia'n wir!"

"Tynnu 'nghôs i, wir! Fe ddangoswn i well iddo fe'r sgempyn! Wilia am Chicago own i ar y dechra, ac fe wetodd e' 'i fod e' wedi bod yno'n hir mewn ffatri facwn lle yr o'en nhw'n lladd miliwn o foch bob blwyddyn. 'Rwy'n mynd i weld y lle 'ny pan a i yno gyda'r Parti, wath 'ma' nhw yn gwitho'r injins i gyd o sgrechiata'r moch, medde fe. Troir sgrêch yn 'lectrisiti yn gynta', a hwnnw'n troir wheels wetyn. Dyn'on clyfar yw'r Ianks, on'd iefa?"

"Rhy glefer, D.Y., os o'dd gwalch y Bridgend' yn un ohonyn nhw. Ma'r Parti yn mynd i Chicago, ynte?"

"Oti'n! Fe setlwd hynny n'ithwr. Ma' Pontycymer yn tynnu nol, a ma' Gwilym yn mynd i ganu'r Solo gyda ni. A dyma fachan bach (hyn gan osod ei law ar ei fynwes ei hun) sy'n mynd he'd. Pentra for ever!"

"Beth amdana' i nawr, D.Y? 'Roe'ch chi yn 'y meio i am 'ch gatal pan sonia's i gynta' am fynd i Winnipeg, a chi yw'r cynta' i fynd wedi'r cwbwl, wath fydda' i—fydda' i—ddim yn apal—ddim mewn ffordd i fynd am 'wech mis o leia'."

"Hold on! ar yr apal 'na, D.O! Os gall D.Y. fynd i Chicago, fe all D.O. fynd i Winnipeg 'run pryd. 'Nawr, dim gair—fel'ny mae i fod. Os pantner, pantner! Dyna ddicon! 'Rwy' i wedi meddwl am hynny trw'r nos n'ithwr wedi i flôc y Bridgend' i 'weud nad yw'r ddou le ddim ymhell iawn o'wrth 'i gilydd, hynny yw, fel ma' nhw'n counto ym 'Merica. Ma'n depig nag yw can milltir yno ddim mwy na decllath yma."

"Ond yr ych chi yn y Parti, D.Y. Dwy' i ddim."

"Ma' hynny'n wir. Ond, bachan, Where there's a will there's a way." Gad di hynny i fi. Fe fydd isha rhywun i gatw'r drws ne' sgrifennu notison ne' rwpath o'r siort yn Chicago fel sy' yma."

"'Dych chi ddim am i fi ddwyn job yr hen Ifan wrth y drws, ych chi?"

"Na, er mwyn y nefoedd paid sôn am hynny, ne' fe fyn yr hen Ianto dy dorri di mâs o'r capal am ladrad, 'rwy'n siwr! Ond dyna—gad di bopath i fi!"

Cyn pen yr wythnos gwyddai pawb fod Daff Owen— pantner Dai'r Cantwr," yn "assistant sec" i'r côr, a bod yn ei fwriad i fynd i Chicago gyda hwynt. Ond ychydig oedd yn gwybod—nid hyd yn oed Ďaff Owen ei hun,—fod y Cantwr ar ôl adrodd yr amgylchiadau wedi mynd yn gyfrifol yn bersonol i'r pwyllgor am bob cost yr elid iddo ar gyfrif ei gyfaill ieuanc ar y daith, ond y byddai ei wasanaeth fel ysgrifennydd yn hollol i'w helw hwy.

Felly, pan neshaodd yr adeg i gymryd y fordaith, ymadawodd y ddau lowr ar yr un dydd o Lefel yr Ocean, a chawsant wythnos gyfan o gyngherddau yn ardaloedd poblog y De cyn cychwyn ohonynt i'r wlad bell.

Bore'r mynd ymaith o'r diwedd a ddaeth, a buan yr ysgydwid y llaw olaf, ac y chwifid y cadach diweddaf yn yr orsaf. Pan oedd y trên ar fedr symud wele ddrws y lle yr eisteddai'r Cantwr a Daff yn cael ei agor yn chwyrn, a rhywun yn ei daflu ei hun i mewn.

"Shoni, bachan! wyt titha'n mynd i Chicago?" Nagw', ond 'rwy'n mynd i Gardydd gyda chi, myn hyfryd i! Allswn i ddim gwitho heddi', a chi'n mynd off. A myntwn i wrth 'm hunan— Shoni! wyt ti ddim yn drwmpyn, nag wyt, wir, ddim yn sport o gwbwl, ne' fe elet idd'u heprwng nhw!' A dyma fi!"

Parodd hyn lawer o lawenydd ac ysbryd da yn y compartment, a chyrhaeddwyd Caerdydd, a barnu wrth yr hwyl fawr oedd yno, cyn bod yr hanner wedi ei ddywedyd.

Hyn wy' i'n 'weud," ebe Shoni, pan gyrhaeddwyd stesion y G.W.R., "Dotwch chi fass y Pentra, a thenors Treorci gyda'i gilydd, dyna'r parti i wado'r byd. 'Dwyt ti damed well o gewcan, D.Y., yr ych chi, tenors y Pentra, yn canu'n sharp witha'. Ond, dyna fe,—pob lwc a phidwch gwylltu ar y Pilgrims yn Chicago! Un peth arall wedi i chi ddod nôl, a'r belt wrth gwrs gyda chi, gadewch i Dreorci gâl un smack arnoch chi ar y War Horse,' dyna i gyd! Pob lwc! Fe fydd yr hen dalcen yn 'itha' gwag ar 'ch ôl chi, ta' beth! Good—bye, Dai! Good—bye, Daff bach!"

XX. LERPWL

BUAN y gadawyd Casnewydd ar ôl, ac y trowyd i fyny i dlysni gwlad Gwent, nid amgen na thrwy Gaerlleon a'r Fenni. Beth pe bai marchogion Arthur, Rhufeiniaid a Normaniaid Gobannium, neu yn wir hen Gymreig— yddion y Fenni—Carnhuanawc, Thomas Stephens, Jane Williams ac Ieuan Ddu—oll yn codi eu pennau i weld y Groesgad newydd hon yn mynd heibio i'w drysau Croesgad Heddwch, Croesgad Cerdd. Cymru Fechan yn galw ei chantorion glewaf, o'r pyllau glo a'r chwarel, i gystadlu á phennaf datgeiniaid y Gorllewin am lawryf Cân?

Nid oedd y glewion eu hunain yn meddwl dim am y pethau hyn, ond tynnodd brasdir a cheinder Sir Henffordd eu sylw'n fawr. Nid oedd y mwyafrif o'r côr erioed cyn y diwrnod hwn wedi gweld hopys yn tyfu, a golygfa hardd dros ben ydoedd hi hefyd.

Brysiwyd trwy Lwydlo ac Amwythig oedd â'u traddodiad anhapus yn eu hanes â Chymru, ond teimlwyd yn gartrefol drachefn yng ngolwg pyllau glo Rhiwabon, a'r acen Gymraeg a oedd i'w chlywed yno.

"Etrach, Dai! dyna bwll y Swamp, byth na chyffro i, neu rwpath tepig iawn iddo."

"Nace, bachan, mae'n debycach i Abergorci o lawar. Rho dân pib, ’nei di

Dyna'r siarad pob sillaf yn dangos yn eglur fod y bechgyn efallai ychydig yn hiraethus eisoes—yn cario Cwm Rhondda yn eu calonnau gyda hwynt i bobman. Wedi hynny, Birkenhead, ac afon brysur Lerpwl yn ymagor o'u blaen, ac wedi hynny drachefn y ddinas fawr ei hun, fel pe bai yr Amerig lydan, brysur, aflonydd yn gwthio un fraich dros Iwerydd i afaelyd yn yr hen fyd.

Nid oedd y côr i "gymryd y dŵr " hyd drannoeth, ac yr oedd hyn yn gyfle braf i'r aelodau i edrych o'u deutu. Hynny a wnaed, ond yn hynod iawn, cyn pen teirawr, yr oedd y mwyafrif ohonynt wedi dychwelyd yn ddeuoedd ac yn drioedd o'r ddinas ei hun i'r Landing Stage, ac yn syllu gyda diddordeb ar y bywyd egniol a oedd yno. Pobl o bob iaith a lliw—pawb â'i ofid, pawb â'i bwn—yn brysio heibio i'w gilydd, a welid yno, rhai yn dod o'r gwledydd tramor, eraill, fel y cantorion eu hunain, yn mynd yno; mewn gair, bwrdd cyfnewid yr holl fyd.

Yr hyn a dynnodd sylw glowyr y Rhondda yn bennaf, serch hynny, oedd gweld cyflymder y llwytho a'r dadlwytho o'r agerfadau bychain a wibiai yn llawn teithwyr o'r naill ochr i'r llall, ynghyd â symudiadau y badau llydain hynny a gludai'r llwythi mawrion o'r Landing Stage i'r ochr draw—y ceffylau, y ceir, a'r wagenni, yn sefyll ar eu bwrdd yn union fel pe baent ar yr heol ei hun, cyn eu symud yn un crynswth i'r ochr ddeau i'r afon.

"Dyna waith smart, on'tefa, bachan? 'Rwy'n siwr fod y bâd yn troi nôl am ail lwyth cyn y b'asa". Shoni Jones yn doti dram yn ôl ar y rhails. A ma' fe'n cyfri 'i hunan yn lled smart, cofia di! Ond ta' beth am hynny, good old Shoni 'weta i, mae 'i wâth e' i'w gâl. Er 'i hen dafod scaprwth i gyd, fe ddath i Gardydd i'n heprwng wedi'r cwbwl. Ond yr oedd yn rhaid iddo roi un crafad hyd 'n oed yno. Ti, Dai, o'dd yn 'i châl hi am ganu'n sharp. 'Dwy ddim yn cretu 'i fod wedi madda' byth i ti am, faeddu 'i gendar e' yn Tylorstown ar 'Fugeiles yr Wyddfa' slawar dydd. Ond dyma fe—Shoni yw e'—peth yn dda, a pheth yn ddrwg, fel ni i gyd."

Bore trannoeth yn gynnar aeth y cantorion i fwrdd y llong fawr a'u cludai, a chyn pen dwyawr gollyngwyd y rhaffau, ac yn araf dechreuodd y llestr symud. Tarawodd rhyw Gymro "Hen Wlad fy Nhadau" ar y Landing Stage, ond methiant a fu'r cynnig, yr oedd pob calon yn rhy drwm i ganu hyd yn oed honno ar foment ymadael.

Daliwyd i chwifio'r cadachau serch hynny oddiar y bwrdd ac oddiar y lan hyd nes i'r llong ymgolli yn y niwl a oedd yn dyfod i fyny o enau'r afon. Trodd Cymry Lerpwl, a llawer Cymro arall, a ddeuthai cyn belled â'r lle, yn ôl i'w gorchwylion a'u byd cynefin, a phrysurodd y Cymry ar y bwrdd i'w paratoi eu hunain ar gyfer y fordaith a'r byd newydd a agorai y tu hwnt iddi.

XXI. DROS IWERYDD

NID oedd yn y fordaith hon ddim llawer yn wahanol i'r teithiau dros Iwerydd a gymerir mor fynych bellach gan y cenhedloedd ddeutu'r glannau. Bernid y byddai rhai o aelodau'r cor dan glefyd y môr am y dyddiau cyntaf, ac felly ni chynhaliwyd practis o un fath hyd nes y byddent rywfaint yn well. Ac am y dyddiau hynny nid oedd wahaniaeth rhwng aelodau'r côr a'r teithwyr eraill.

Ond pan glywyd y Cymry oddeutu'r pedwerydd dydd yn dechreu paratoi eu cân, rhoddodd hynny arbenigrwydd arnynt, a chyn yr hwyr daeth apel at y côr am iddynt roddi cyngerdd i'r First Class Passengers y noson honno. Hynny a wnaed gyda chanmoliaeth uchel oddiwrth y bobl a ymwasgai i'r State Room i'w clywed. Dyna'r tro cyntaf i lawer o'r rhain wrando ar leisiau Cymreig o gwbl, a llawer Cymro bach a welodd hefyd am y tro cyntaf ysblander y First class cabins a oedd iddo yng nghudd cyn hynny.

Fel hyn y torrodd "hud y gân" bob mur gwahaniaeth i lawr am rai oriau, a llawer un a aeth i'w wely cyfyng y noson honno gyda syniadau newyddion am ddosbarthiad y talentau, ac am hawl dyn fel dyn, ar wahan i'r hyn a ddigwyddai fod ganddo.

"Land in Sight!" Dyna'r waedd a glybuwyd pan oedd y bobl ar frecwast fore neu ddau yn nes ymlaen. Brysiodd pawb i ddibennu eu pryd bwyd, ac i ruthro am y cyntaf i'r bwrdd i'w weled. Nid oedd mwy nag wythnos er pan ymadawsent â thir cyn hynny. —paham y brys? Ha! onid hwn oedd eu byd newydd, byd eu gobeithion, a byd eu cartref dyfodol? Felly, i fyny i'r bwrdd â hwy i gael yr olwg gyntaf ar y wlad yr oedd llawer ohonynt wedi dechreu ei phalmantu ag aur eisoes!

Ha! Daff! pe gwypit, hyd yn oed wrth lanio, y treialon a oedd yn dy aros ar y cyfandir newydd, ti elit yn ôl ar dy union, a byddai ennill dy hur onest yn y Rhondda yn felyswaith wrth lawer cyfnod o wermod yr oeddit i'w brofi!

Wedi'r ymchwil arferol parthed iechyd a glendid y teithwyr, gwasgarasant i bob cyfeiriad ar eu dyfod i New York. Nid oedd yr un rhyddid i aelodau'r côr yma ag oedd yn Lerpwl. Yr oeddynt bellach mewn gwlad a thre estronol, o dan gyfreithiau ac arferion dieithr. Ac heblaw hynny, yr oedd y cynlluniau oll yn llaw Agent neilltuol, a rhaid oedd ufuddhau i hwnnw yn y lleiaf fel ag yn y mwyaf.

Brysiwyd hwynt hefyd yn fwy, a phan ymadawodd eu trên â stesion y ddinas fawr, ar ôl eu deuddydd o ganu a chyngherdda yno, nid oedd gan neb ohonynt lawer o syniad am y lle namyn tryblith o adeiladau mawrion,—sky-scrapers, ffatrioedd, swyddfeydd papurau, a'r plasdai yn rhestri hir o gylch Broadway a'r Fifth Avenue, a llawer pellach na hynny. Un peth, fodd bynnag, a'u tarawodd—trydan oedd y cyfan. Yn y tai, a thuallan iddynt hefyd, ef oedd frenin ymhob man. Gwlad ardderchog yw'r hon a ymleda ddeutu Hudson, a llanwyd y teithwyr Cymreig, er nad oeddynt ond newydd syllu ar wastadeddau cyfoethog siroedd Henffordd a Chaer, â hud ei harddwch. "Bachan, dyma le ffein!" ebe un. "O's 'ma Gymry'n byw?

"Ös, milo'dd!" eh un arall, "ond well iti bido galw gyda neb ohonyn' nhw ar hyn o bryd, wâth ma' nhw gyd yn Chicago yn dy ddishgwl di!"

Felly ymlaen i Chicago, filltir ar ôl milltir, degau ar ôl degau, cannoedd ar ôl cannoedd—yn y blaen— yn y blaen. Peth newydd arall—gwely yn y trên— mynd iddo me un dalaith, a chodi ohono dalaith neu ddwy yn nes i'r gorllewin. Chicago, o'r diwedd! a'r côr i gyd yn eiddgar am gael eu traed ar ddaear Duw (chwedl un ohonynt) unwaith yn rhagor.

Yr Agent eto, a hwnnw yn eu brysio i'r gwesty heb golli amser. Pob un i'w ystafell am ryw ysbaid. Arlwy da ar y bwrdd wedyn, yna un practis cyn mynd i gysgu am y nos. Dau bractis yfory, a'r gystadleuaeth (y deuthpwyd bedair mil o filltiroedd i'w chynnig)— diennydd.

Cymru am Byth!

XXII. "FFAIR Y BYD"

"Hoi, boys! shwd ma'r Iankees yn wilia Cwmrâg? 'Rwy'n gwpod shwd ma' nhw'n treio wilia Sisnag," ebe Twm Watkin, un o'r Second Tenors, gan annerch y côr ychydig cyn cychwyn y practis cyntaf yn Chicago. Ac ar hyn efelychodd mor berffaith iaith drwynol "ystiward bwyd" y trên fel y deallodd pawb, ac y chwarddodd pawb hefyd Dechreuodd un ac arall adrodd eu helyntion wrth geisio deall pobl y Taleithiau yn eu siarad, ac aeth yn grechwen fawr.

Ar hyn daeth yr arweinydd i mewn, ac wrth glywed y grechwen, gofynnodd beth oedd yn bod. "O, dim byd, Tom, ond bod Twm Watkin yn mynd i sefyll am fod yn Bresident y wlad y tro nesa', a'i fod wedi dechra' practeiso ishws."

"O, wel, fe all hynny aros. Practis y côr yn awr. Chi wyddoch fod côr o Gaernarfon yma, tebig. 'Rwy' i wedi clywed hefyd 'u bo' nhw'n canu'n neilltuol o dda. 'Nawr, ati, fechgyn!"

Ac ati yr aethpwyd.

Erbyn mynd i'r Eisteddfod nid oedd angen i Dwm Watkin ofyn sut yr oedd Cymry America yn siarad Cymraeg. Yr oedd eu parabl gystal, neu efallai'n well, na'i eiddo yntau. Y canu, yr adrodd, yr areithio, yn dda iawn, ac yn neilltuol Gymreigaidd. Pe ceiid y llygaid, braidd na thybid mai yng "Ngwalia Annwyl ' yr oedd yr Eisteddfod.

A pha ryfedd! Yr oedd goreuon Cymry yr Unol Daleithiau yno—rhai wedi teithio o leoedd pell, gannoedd o filltiroedd i gael clywed yr hen iaith a'i halawon unwaith eto.

Enillasai Dyfed y gadair eisoes, a Watcyn Wyn y goron. Syrthiodd y wobr i gorau merched i gor y De, o dan arweiniad Clara Novello Davies, ac wele, ar y llwyfan, baratoi i gychwyn cystadleuaeth y corau meibion.

Dacw eneth, gynt o Gymru, ond yn awr o'r Taleithiau, yn canu nes gwefreiddio'r bobl, ac yna y cyntaf o'r corau ar eu traed. Gwrandawyd yn astud ar bob datganiad, ond am gorau'r hen wlad y dyheai'r dorf —am chwarelwyr Eryri, a glowyr Morgannwg. Ar esgyn o'r rhain yn eu tro i'r llwyfan, codai'r dorf atynt gyda banllefau.

Ar wahan i'r canu ei hun yr oedd yr olygfa hon yn un gynhyrfus dros ben. Teimlai Daff ei fynwes yn chwyddo yn y syniad mai Cymro oedd ef, a gwelodd yn ei ymyl ambell ddeigryn distaw a ddywedai'n hyawdl am lawer "Uchenaid am Gymru," am lawer atgof mebyd, a llawer tor-calon am yr hen gartrefi.

Canodd un neu ddau o gorau'r Amerig yn dderbyniol, ond amlwg oedd mai rhwng dau gor Cymru y gorweddai'r dorch. Bu ychydig o anffawd tonyddiaeth i gor y Gogledd, er iddynt ganu'n ardderchog. O'r braidd yr oedd côr y Rhondda gystal â hwynt yn rhediad cyffredin y canu, ond yr oedd ei donyddiaeth yn gliriach, a datganiad yr unawd gan Wilym Thomas, Ynyshir, yn orchestol dros ben.

Y wobr flaenaf—Y Rhondda. Yr ail—Eryri.

XXIII. YMADAEL A CHYFEILLION

BORE trannoeth y gystadleuaeth yr oedd archiad i aelodau côr y Rhondda i gyfarfod mewn ystafell neilltuol yn y gwesty, er clywed y trefniadau am gychwyn y daith adref. Dyna, o leiaf, oedd yr hysbysiad, ond mwy priodol a fyddai galw'r cynhulliad yn "seiat longyfarch," oblegid hynny mewn gwirionedd ydoedd.

Aethai heibio y gorfoledd cyntaf—gorfoledd y cofleidio, yr ysgwyd llaw, a'r curo cefn; ac yn ei le yn awr y siarad melys, y gwenu siriol, a'r cydolygiad parod. Diolchodd yr arweinydd iddynt yn wresog am eu hymdrech a'u hufudd-dod drwy yr holl anturiaeth. Mynych y torrwyd ar draws ei araith gan ambell air a brawddeg sydd mor nodweddiadol o'r glowr ymhobman pan yn ei hwyliau goreu. Gwenai y siaradwr ar y "Da iawn, Tom." "Hwre i'r Pentra!" "Or Mabon ag e'!" a phethau cyffelyb a borthai ei air iddynt; ac, wrth gwrs, yr oedd pawb wrth eu bodd, ac yn foddlon i bob trefniad a wnaed."

Cyn dibennu, galwyd o bob congl o'r ystafell am "air bach" oddiwrth Gwilym—"un gair bach, wir." Ef oedd y gwron y gwybu'r byd am ei ddewrder yng Ngorlifiad y Tynewydd yn y '77, ac y seinid ei glodydd ymhob cynhulliad o Gymry am ei ganu rhyfeddol ar unawd y "Pilgrims" yn Eisteddfod Abertawe yn y '91. Dyma'r gŵr a oedd eto wedi troi'r fantol ar yr un darn yn Chicago o fewn corff y diwrnod blaenorol, ac felly nid rhyfedd bod ei gydgantorion yn galw amdano yn awr.

Ond pe dywedid y gwir i gyd, nid ei hanes arwrol, na'i ganu uwchraddol ychwaith oedd wedi ennill calon y bechgyn wedi'r cwbl. Y teimlad o "un ohonom ni," cydlowr gwylaidd, hawddgar, ac iach ei galon,— dyna'r rheswm.

"Fechgyn! ebe fe, diolch am eich teimladau cynnes. Yr ydych wedi ennill brwydr enwog, ond cofiwch mai o drwch y blewyn yr oedd hi. Ymhob gwlad y megir glew, dyna'r hen weddel Gymraeg, on'd iefa? Wrth gwrs, yr ydym i gyd,—Mr. Stephens, ch'itha' a finna'—yn falch iddi droi i'n hochr ni.

Fe awn yn ôl i Gymru'n galonnog, gan obeithio y cyrhaeddwn yno'n sâff. O ia! rych chi'n gwybod, tebig, fod un ohonom, o leia', ddim yn dod 'nol gyda ni. Cyfeirio yr wy' at Mr. Daff Owen, mae e'n mynd 'mlaen i Winnipeg. Dyna'r own i'n ddweud——fy mod yn sicr fod 'n dymuniada' gora ni gydag e' ac y caiff e' lwc a iechyd yn ei fyd newydd."

Gostyngodd Daff ei ben ar hyn, a phan gododd ef drachefn daliodd lygad D.Y. yn syllu,—O! mor gyfeillgar, arno o ochr arall yr ystafell. Bu bron i Ddaff fethu dal ei deimladau ar hyn, ond gwasgodd ei ddagrau yn ôl a'i feddiannu ei hun drachefn.

Wedi i'r cyfarfod ddiweddu aeth pob aelod o'r côr ymlaen ato i ysgwyd llaw ac i ddymuno'n dda, hynny yw, pob un ond Dai'r Cantwr,—yr oedd ef wedi brysio allan yn un o'r rhai cyntaf.

Yn ei ystafell wely eisteddodd Daff wrth y bwrdd bychan yno, gan bwyso ei ben ar ei law, a'i feddwl yn gymysglyd iawn. "Dyma fi bellach," ebe fe wrtho'i hun, "yn llosgi 'madau'n llwyr. Yfory fe fydd fy holl gyfeillion yn troi eu hwynebau'n ôl i Gymru, a finna'n starto'm ffordd at bobl na wela's erio'd 'monyn nhw o'r blân, ac i wlad na wn i ddim amdani."

Ar hyn tynnodd allan o'i logell lythyr ei frawd unwaith yn rhagor, er y gwyddai ar ei gof bob gair ohono'n dda. Yna ysgrifennodd gerdyn ac arno,— "Will leave Chicago to—morrow night's mail, and will arrive in Winnipeg mid—day—the 22nd. Meet me at the Depôt. Your Brother, David Owen."

Wedi cyflawni hynny o waith, wele guro wrth ddrws ei ystafell, a Dai'r Cantwr yn dod i mewn. "Good—bye, Butty bach!" ebe'r gwron hwnnw, "'rwy'n mynd i starto 'nôl heno, gan 'y mod i'n meddwl galw i weld 'ngnithdar yn Scranton, cyn dala'r boys yn New York wetyn. Bachan! wn i ffordd 'n y byd ma' 'matal â ti, a ninna'n hen chums cŷd. Ond good luck, ta p'un!

"Ia un gair bach arall, ma' gen' i bresant bach i ti i gofio amdano i. Dod a yn dy bocad! Dôs gen' i ddim gwraig a phlant, diolch i'r nefo'dd, ac os bydd isha rhwpath arnot ti, rwpryd, al di air bach ato i, a fe 'naf 'ngora' glas i d'helpu. Dyna gyd, ffarwel nawr for good!"

"O na, diaich! fe fuo bron anghofio. Ha! Ha! etrach ar hwn. Fe ddangosa' i i'r gwalch am 'weud 'y mod i'n canu'n sharp!"

Ar hyn tynnodd y Cantwr allan bicture postcard. Arno yr oedd llun mul hynod o anhywaith, yn cnoi ac yn cicio.

O dan y darlun, wedi ei ysgrifennu yn anghelfydd gan y Cantwr ei hun, yr oedd—" The Treorci War Horse. Kind Love. David Young. 'Nawr sgrifenna ditha'r address fel bo Williams y postman yn 'i ddiall."

A phan dderbyniodd Shoni yng Nghwm Rhondda, ymhen oddeutu pythefnos, y cerdyn yn ôl y cyfeiriad— Mr. John Jones, Haulier and Baritone, near the "Red Cow," Treorci, South Wales, mawr oedd ei lawenydd o'i dderbyn, er gwaethaf y sen; a dangosai ef i bawb o'i gydnabod.

XXIV. WINNIPEG

ORIAU rhyfedd iawn ym mywyd Daff oedd ei rai olaf yn Chicago. Aeth i'w wely yn gynnar, ond cystal fuasai iddo beidio, canys yr oedd cwsg ymhell o'i amrantau.

Mynnai gorffennol ei fywyd ymwthio arno drwy'r nos. Un foment yr oedd yn yr hen ysgol yng Nghwmdŵr, ac yn byw yr hen droion unwaith eto— y "nitshin pâm a'r "ddrwm fawr" ymhlith y lleill. O hyn cyfododd atgof am ei fam, a gwlychwyd clustog ei wely gan ei ddagrau. Cysur iddo, serch hynny, oedd meddwl fod y daith hon at ei frawd yn unol â'r hyn a ddymunai hi pe bai fyw. Yna cofiodd am droion Cwm Rhondda, am weithio caled, am ganu a chystadlu, am Jim a D.Y., am Shoni, ac am y Picture Card a oedd eisoes ar ei ffordd i Dreorci ato. Chwarddodd wrth feddwl y peth a fyddai Mr. John Jones, Haulier and Baritone, yn ei ddywedyd pan gaffai'r neges. "Good old D.Y!" ebe fe wrtho'i hun. "Un o'r goreuon, drwy'r cwbwl—cyfaill yn wir!"

Ar hyn neidiodd Daff allan o'i wely, canys dyna'r pryd y cofiodd am y "present" yr oedd D.Y. wedi ei estyn iddo mewn amlen ddechreu'r nos. Wedi ail—gynneu'r goleu, aeth i logell ei gôt, agorodd yr amlen yn frysiog, ac yn ei law yr oedd note am ugain doler!

Safodd am beth amser mewn hanner breuddwyd, yna trodd at erchwyn ei wely, penliniodd yno, a diolchodd i Dad y Trugareddau am roddi iddo adnabod D.Y. Bore trannoeth aeth i'r Depôt i hebrwng bechgyn y côr oedd â'u hwynebau bellach ar New York—a Chymru. Mor llon yr ceddynt! mor uchel eu hasbri! Ac O, mor drwm ei galon yntau! Ysgydwyd dwylo unwaith eto, canodd y gloch, chwibanodd y peiriant, chwifiwyd cadach nau ddau, ac yr oedd Daff wrtho ei hun.

Treuliwyd y prynhawn ganddo i edrych o gylch y ddinas fawr, a phrynu rhai mân bethau y credai y byddai eu heisiau arno yn ôl llaw. Cyn machlud haul cychwynnodd ei drên allan o'r Depôt yn brydlon, ac am nad oedd y ffordd haearn hon ond newydd ei hagor, a bod y perchenogion am ennill enw da iddi, teithiwyd yn hwylus heibio i foroedd gwenith y paith llydan, a deuthpwyd i'r arhosfan yn Winnipeg o fewn pum munud i'r amser a arfaethasid.

Yn ystod arafiad graddol y trên o fewn cylch y stesion, syllai Daff yn graff ar y bobl a oedd yn disgwyl y teithwyr er gweled a oedd yno rywun yn edrych amdano ef. Na, neb! Wedi ei ddisgyn, fe gerddodd deirgwaith o un pen i'r stesion i'r llall i'r un pwrpas, ac unwaith mentrodd ofyn i ŵr yn ei ymyl ai ef ydoedd Mr. William Owen.

"I guess not," ebe hwnnw, "else how could I be Jake Carter at the same time?

Nid oedd dim i'w wneuthur bellach ond mynd i chwilio am ei frawd yn y Third Block, lle yr oedd y cyfeiriad a roddwyd yn y llythyr. Gosododd ei eiddo, druan o Daff! nid oedd ganddo lawer i gyd, yn y swyddfa ac aeth allan i'r dref; ac wedi cryn drafferth, gwelodd uwchben siop yno yr enw "Wm. Owen and Co., Dry Goods Store."

Bydd popeth yn iawn yn y man," ebe fe wrtho ei hun. Rhaid mai prysur neilltuol oedd ef gyda'i fusnes i fethu dod i'm cyfarfod."

Ar hyn aeth i mewn i'r stôr, ond nid oedd pethau yn neilltuol o fywiog yno ar y pryd. Safai dyn ieuanc y tu cefn i ddesg y pen pellaf o'i ystafell hir, ac aeth Daff ar ei union tuag ato, ac a ofynnodd am weld Mr. Owen.

Yr ateb cyntaf a gafodd oedd edrychiad hynod o gas, fel pe bai ei ofyniad diniwed a naturiol yn gofyn am hynny.

Yna, wedi cryn dipyn o holi o du y gŵr ieuanc, ac ateb o du Daff am ei gysylltiad â Mr. Wm. Owen, a'i neges bresennol ato, gofynnwyd i'r Cymro ddilyn ei holydd i ystafell y tu ôl i'r ystôr.

Wedi agor y drws archwyd i Ddaff fyned i mewn, ac yno yr oedd gwraig dal, lygadfyw, wedi ei gwisgo yn ei du, yn eistedd o'i flaen.

Cyfarchodd ef hi yn foesgar, ond hithau, yn llwyr anwybyddu ei gyfarchiad siriol, a'i holodd yn llym am ei fusnes â'i diweddar ŵr.

Diweddar! Aeth y gair fel saeth i galon y Cymro. Yna y clybu Daff am farwolaeth ei frawd fis cyn hynny, a thrymed oedd yr ergyd iddo fel y methodd an ennyd yngan gair.

Ond yn y cyfamser, llygadai y wraig ef yn llym, a chlybu Daff, fel pe mewn breuddwyd, hyhi nid yn unig yn gwadu na sgrifennodd ei gŵr i'r Pentre erioed, ond hefyd nad oedd iddo frawd o gwbl.

Ac am hynny dangoswyd iddo'r drws fel honnwr celwyddog a chwenychai ei wthio ei hun i safle yn yr ystôr drwy eofndra digywilydd.

Teimlodd Daff y ddaear yn ymollwng odditano, ac onibai na fynnai ddangos ei wendid, gorff ac ysbryd,

o flaen y fath bobl buasai wedi eistedd i lawr a chrio o doriad calon yn deg.

Allan yr aeth, fodd bynnag, a phob anadliad wrth gerdded hyd y stôr ymron â'i dagu. Meddyliodd unwaith am droi yn ei ôl a mynnu dangos llythyr ei frawd i'r weddw greulon. Ond ar wahan i'r gwrthdeimlad o'i wthio ei hun i bresenoldeb menyw heb groeso, gwyddai'n dda, os gallodd hi ddywedyd y pethau caled eraill, y taerai mai ei waith ef ei hun oedd y llythyr hefyd.

Trodd ei gefn ar y stôr angharedig, ac aeth yn ôl i'r depôt drachefn. Bu yn demtasiwn gref iddo yno gymryd y trên cyntaf yn ôl i New York, a cheisio dal aelodau'r côr cyn cychwyn ohonynt y fordaith. Ond moment o ystyriaeth a wnaeth iddo newid ei feddwl. Yn un peth, arian D. Y. a fyddai yn talu côst y trên, a pha fodd y gallai wynebu y bechgyn eilwaith ac esbonio iddynt yr amgylchiadau am wraig ei frawd? Ac ymhellach, byddai rhaid cael ychwaneg o arian i dalu am groesi Iwerydd, ac o ba le y gallai ofyn am y rheiny?

Na rhaid oedd wynebu'r byd unwaith eto, a dangos fod ganddo asgwrn cefn ei hun. Adeiladodd lawer castell yn yr awyr yn ystod y misoedd diweddaf, ond gwell eu chwilfriwio oll a chadw ei hunanbarch. Felly rhaid oedd trigo am dymor, o leiaf, yn ninas y paith, a gobeithio yr agorai rhywbeth iddo yno.

XXV. TYMOR O GALEDI

LLE digalon ydoedd Winnipeg i ddyn allan o waith ar yr adeg y taflwyd Daff ar drugaredd amgylchiadau yno tua diwedd yr haf 1893. Pe bai ei ddyfodiad rai misoedd yn gynt buasai yn well o gryn lawer, oblegid yr oedd nifer mawr o'r gweithwyr hur wedi mynd allan i'r wlad i gynaeafu'r gwenith. Ond erbyn hyn yr oeddynt yn dechreu dychwelyd i'r ddinas a chwilio am eu hen waith yn ôl. A gwell gan bob meistr ydoedd ail-dderbyn llafurwr y gwyddai rywbeth am ei werth, na chyflogi llanc dibrofiad a oedd wedi bod mor ffôl a chyrraedd y lle yn y "fall."

Profodd Daff i'r eithaf galeted oedd yr ystrydoedd, a faint caletach fyth oedd calon ambell gyflogwr yn yr ardal.

Druan o'r Cymro! yr oedd greenhorn wedi ei ysgrifennu yn fras drosto, ac yr oedd hyd yn oed ei ddillad o'i benwisg ysgafn i'w esgidiau haf— yn ei gyhoeddi, cyn yngan ohono air, fel yn perthyn i frawdoliaeth y newydd ddod."

"No, nothing doing!" oedd y frawddeg erchyll a âi'n greulonach bob dydd, am ei bod bob dydd hefyd vn golygu plymio'n ddyfnach i'r ystôr fechan o arian D.Y. a'i cadwai rhag newynu. Prin ddigon o'i arian ei hun a feddai Daff er talu ei gludiad i Winnipeg â hwynt, ond ar y ffordd tuag yno ni roddai hynny yr un anesmwythder iddo. Onid oedd ei frawd, perchennog y Dry Stores, wedi anfon amdano, ac yn ei ddisgwyl? Byddai popeth yn dda ond cyrraedd ato. Ond yn awr, heb frawd, heb gyfaill, heb gartref, heb lety priodol, heb ddillad gaeaf, yr oedd ei gyflwr yn resynus i'r pen.

"Paham na wnei di gynnig ar y La Dernière?" ebe rhywun wrtho yn y llety cyffredin un noswaith, pan nad oedd llygedyn o obaith o unman.

"La Dernière! beth oedd hwnnw, tybed?"

Yna yr eglurwyd iddo mai ystordy blawd mawr ydoedd ger y stesion, ac er nad oedd yn lle pleserus i weithio ynddo, ei fod yn well na dim.

Cofiodd Daff iddo dreio hwnnw ddeuddydd yn ôl, ac iddo gael ateb mwy angharedig nag arfer gan un o'r gyrwyr yno.

Treia di hi eto," ebe'r llall. "Meddwl oedd y gyrwr mai gwaith fel yr eiddo ef yr oeddet am ei gael. Cerdda di y tro nesaf drwy y drws mawr, ac mi fentraf na wrthodir mohonot yno. O, na! 'does dim gwrthod yno! Wyddost di Ffrensh, Gymro bach?"

Rhyfeddodd Daff na buasai wedi clywed am y lle hwn o'r blaen, a phenderfynodd fynd drwy'r drws mawr drannoeth, deued a ddel. Gwell unrhyw beth na rhynnu a newynu, a gwario'r cent olaf. "Ond paham y gofynnodd Greasy Jarge imi os gwyddwn Ffrensh, ys gwn i?"

Daff bach! pe gwypit mai talfyriad o "La Derniére Ressource" oedd yr enw, ac mai ystyr hwnnw oedd "y noddfa olaf," ti gawsit ryw syniad o ansawdd y gwaith.

Fodd bynnag am hynny, aeth Daff i fyny i'r lle drannoeth, ffeindiodd y drws mawr, ac aeth i mewn drwyddo. Ar ei fyned heibio clywodd lais i'w aswy yn gweiddi "Here's another!"

Credodd ar y pryd mai gair ynglŷn â'r gorchwyl mewn llaw ydoedd y waedd, ond gwybu'n well yn nes ymlaen.

Gofynnodd am waith i ŵr tal a ddaeth i'w gyfarfod, a chafodd waith ar unwaith, a thelerau'r gwaith yn ogystal. Cymerwyd ef i mewn i ystafell fawr arall, tywyllach o lawer na'r gyntaf. Yn hon yr oedd i gario hyn a hyn o sachau llawnion bob dydd a'u gosod yn rhestri hirion, trefnus wrth y pared, neu i'w cario oddiyno, fel y byddai'r galw.

"You can buck to, instanter, on this pile," ebe'r gŵr tal wrtho. "Twenty to the hour will be nothing to a strapper like you."

Byddai gosod un sach yn ei lle mewn tair munud yn gymharol hawdd pe na bai ond un i'w thrafod. felly. Ond cannoedd ohonynt yn aros i'w symud, a phob un ohonynt oddeutu deu canpwys a hanner— yr oedd y llafur yn llethol.

Gwan hefyd ydoedd Daff wedi hir ympryd y chwilio am waith. Ond gwnaeth ei oreu fel dyn, nes oedd y chwys yn mwydo'i grys, ac yn diferu dros ei arleisiau.

"Nineteen!" ebe llais y gŵr tal ymhen yr awr. "One Short!" Yr awr nesaf yr oedd dwy yn brin o'r nifer gofynnol, a'r un modd y drydedd, ac yn y cyfamser lluddedai a chwysai'r llanc yn fwyfwy o hyd. Rhyfeddai Daff nid ychydig am y chwysu mawr —yr oedd wedi arfer gweithio'n galed yn y lofa, ond nid oedd yn cofio iddo chwysu a lluddedu mwy erioed nag wrth y sachau y diwrnod cyntaf hwn. Ceisiai ei esbonio yn y ffaith ei fod ers rhai wythnosau heb weithio o gwbl, a'i fod ef wedi lleithio oherwydd hynny. Cafodd gyfran o arian ar gyfer y gwaith a wnaed, a'r noswaith honno prynodd Daff fwyd da, iachus iddo ei hun i fod yn gryf drannoeth.

Yr ail ddydd a ddaeth, ac o'r oriau y dydd hwnnw tair yn unig a welodd symud ugain sach yr un, dwy bedair ar bymtheg yr un, a'r gweddill ddeunaw yr un. Nid oedd ei ludded gymaint yn hollol y diwrnod hwn, ond chwysai gymaint ag erioed. Llafur caled ydoedd o dan unrhyw amgylchiadau, ond nid oedd ar Ddaff ofn gwaith, ac felly penderfynodd ddal yn y blaen. Erbyn hyn yr oedd y rhew a'r eira wedi dyfod, a ffodus iawn oedd i'r Cymro ei fod wedi ennill digon o arian i brynu dillad clyd yn barod i'r gaeaf, onide gresynus iawn fyddai arno.

Gwelodd lawer o fynd a dod ymhlith y rhai a gydweithai ag ef, a chyn pen deufis ef oedd y llaw hynaf yn ystordy'r sachau. Daeth i adnabod amryw o'r swyddogion a'r clercod hefyd, ac fel yr âi yr amser ymlaen edrychent hwy yn fwy serchog arno. Un peth oedd yn ddirgelwch mawr iddo serch hynny, sef paham yr arhosent, amryw ohonynt, gyda'i gilydd wrth y drws mawr ar ei ddyfod bob bore i'w waith, ac yr ymwasgarent y foment y deuai ef i'r golwg.

Ychydig a wyddai ef fod "ple" mawr am ba gyhyd y daliai efe ati, a bod sweep yn dibynnu ar y dydd y byddai'n rhaid iddo roi i fyny. Yr oedd ef eisoes wedi parhau'n hwy na'r un "greenhorn" o'i flaen, a thyfu yr oedd y diddordeb yn ei gylch.

Aeth Nadolig heibio, ac wedi dau ddiwrnod o seibiant aeth yntau yn ôl at ei galedwaith. Rhywbryd tua. diwedd Ionawr dechreuodd Daff besychu, ond daliodd ati am rai wythnosau er gwaethaf ei selni. Un bore, fodd bynnag, arhosodd yn ei wely, yr oedd meddwl am wynebu lludded y dydd yn ei wendid yn ormod iddo. Yr oedd y "sweep" wedi ei phenderfynu. Meddylid hefyd ymhlith y clercod na chysgoda; ef drothwy drws mawr y La Dernière byth mwy. Ond yn hyn fe'u siomwyd-yr oedd yn ôl cyn pen wythnos, er ei fod yn pesychu gymaint ag erioed.

"A game boy," eb un. "A blasted shame I call it all," eb arall. Wrth ei gilydd yn unig y dywedent hyn, ac yn y cyfamser âi Daff o ddrwg i waeth, hyd nes o'r diwedd y bu raid iddo ildio'r gwaith a gweld y meddyg.

Wedi clywed o hwnnw natur ei waith, a chyhyd y bu wrtho, eglurodd mai achos y peswch oedd mân ronynnau'r blawd a oedd yn hofran yn awyr ystafelloedd y La Dernière. Anadlai ef y rheini heb yn wybod iddo, ac o'u hanadlu creai hynny enynfa yn yr ysgyfaint. "Ac o bob greenhorn a ddanfonodd Prydain yma erioed," ebe fe yn ddigllon, "ti yw'r meddalaf ohonyn' nhw i gyd i ddioddef y penyd cyhyd. Wyddost ti ystyr La Dernière, 'y machgen i? ebe fe ymhellach. "Dos allan ar unwaith i'r paith i anadlu awyr Duw, wnei di? Rhof i ddim botwm corn am dy fywyd os arhosi yn y Last Resort ddiwrnod yn hwy. Two dollars, please! a phaid a ychwelyd i Winnipeg am flwyddyn o leiaf. Cofia fy ngair!

XXVI. YR HOBO CYMREIG

BRAWYCHODD geiriau'r meddyg lawer ar Ddaff, ond ar yr un pryd gwelai mai gwell oedd ufuddhau, ac felly, gan fod y gaeaf ar dorri, penderfynodd droi ei wyneb i British Columbia, lle yr oedd ar y pryd alwad am ddynion, a'r lle (pe credid siarad ei gyd-letywyr) yr oedd yn dragwyddol haf.

Ond gorweddai mil o filltiroedd rhyngddo ef a British Columbia, ac hynod ysgafn oedd ei bwrs er ei lafur i gyd.

"Ffo am dy fywyd!" ebe'r meddyg, ac felly rhaid oedd mynd, ysgafn neu beidio.

Ei gynllun oedd talu am ei gludiad cyn belled ag yr estynnai ei arian, yna gweithio yn y gwanwyn gyda ffermwyr y paith, cynilo digon i'w gludo dros y Rockies, a chyrraedd British Columbia cyn dyfod o'r gaeaf nesaf.

Cynllun da ddigon, ond fel llawer cynllun addawol arall, yn ei cholli hi yn y prawf.

Gweithiodd y rhan gyntaf o'r rhaglen yn dda neilltuol, sef i Ddaff wario ei arian, cyn belled ag yr aent, i dalu am ei gludiad. Ond pan ddeuthpwyd at yr ail ran, sef i'r llanc ei osod ei hun i lawr ar y paith, nôl darfod yr arian, a gwneuthur y goreu ohoni o hynny ymlaen, nid oedd gystal o gryn dipyn. Galwodd y Cymro mewn tair neu bedair fferm oedd yn ymyl y ffordd haearn rhwng Moose Jaw a Medicine Hat, a'r cwestiwn cyntaf ymhob un ohonynt oedd,—" Can you plough? A phan atebai yntau yr unig ateb gonest a fedrai ei roddi, collai'r ffermwr bob diddordeb ynddo mwyach. Nid felly y merched a'r gwragedd serch hynny, oblegid ni chaffai Daff ymadael ag un aelwyd heb bryd helaeth o fwyd yn gyntaf. Mewn dau le cyflogwyd ef am ysbaid i ofalu am y ceffylau, a chafodd fis o fwyd a llety mewn lle arall am roddi dwy wers y dydd mewn dysgu darllen i blant lluosog y teulu.

Fel hyn yr âi ef, gam a cham, yn nes i British Columbia, heb ystyried yn gyflawn na allai ef fyth groesi y Rockies yn yr un modd. Pan oedd yn y ffermdy olaf, galwyd heibio yno un prynhawn gan grwydryn arall a ddeisyfai am ymborth. Wedi bwyta o hwnnw a gafodd, dechreuodd y newydd-ddod siarad am y wlad, ac am ei fwriadau ei hun, ac er diddordeb mawr i Ddaff eglurodd ei fod â'i wyneb ar Vancouver. Aeth y Cymro i'w hebrwng ychydig er gwybod y modd y bwriadai gyrraedd y lle hwnnw, a difyrrwch mawr i'r crwydryn oedd cwestiynau Daff ynghylch y daith.

"Ffordd wyt ti'n meddwl i mi wneud y siwrnai, 'ngwas i?" ebe hwnnw. "Mewn Pullman neu ynte ar draed, prun?"

"Sut gwn "ebe Daff.

Ateb i mi mewn gwirionedd," ebe'r llall, "ai miliwnydd mewn disguise wyt ti, iti ddyfod cyn belled heb wybod fod y fath ŵr bonheddig â Hobo yn y byd? Tyrd i lawr at y tanc dŵr acw ac mi ddangosaf iti wrinkle neu ddau. No extra charge, either, Sonny!"

Aethpwyd i lawr frig y nos i'r man yr arhosai'r peiriant am ddwfr, ac yno y gwelodd Daff y crwydryn (ar gychwyn o'r trên i'w daith i'r tywyllwch, a chyn cyflymu ohono lawer) yn neidio'n ddistaw ar un o'r cerbydau, a chwilio'n frysiog am le i ymguddio. Dyna a fydd yn rhaid i finnau wneuthur un o'r nosweithiau nesaf yma," ebe Daff wrtho'i hun. "Rhy bell yw ei cherdded, a thalu nis gallaf; felly rhaid bod yn hobo' am unwaith."

Meddyliodd y llanc hefyd mai gwell oedd mynd yn ddiymdroi, oblegid yr oedd y nosweithiau yn byrhau'n gyflym, a buan y byddai y trên yn cychwyn ei daith oddiwrth y tanc cyn tywyllu o'r dydd. Clywsai gan amryw am y rhyfel parhaus rhwng swyddogion y ffyrdd haearn a llwyth yr "hobo," ac am y modd creulon y gwthid y crwydryn druan oddiar y cerbyd heb ei arafu yr un mymryn. Felly penderfynodd fod yn ofalus a gweithredu ymhob dim mor gynnil ag y gwelsai yr hobo " profiadol yn ei wneuthur ychydig nosau cyn hynny.

Dewisodd noson i'r anturiaeth pan na byddai leuad ond yn ddiweddar, ac wedi llanw ei holl logellau â bwyd, dyna fe'n cychwyn. Lled-dybiodd un foment fod un o'r swyddogion wedi ei weld yn y cyfnos, ond gan iddo lwyddo i esgyn i'r van heb i neb ymyrru ag ef, anadlodd yn fwy rhydd, ac aeth i gornel i orwedd gan dynnu rhai llafnau o haearn gwrymiog (corrugated iron) drosto. Yn y modd hwn y teithiodd am oriau na wybu eu nifer, ac o'r diwedd cysgodd o dan ei gwrlid metel.

Rhywbryd cyn dydd, deffrodd yn sydyn, teimlai yr haearn yn cael ei dynnu'n chwyrn oddiarno, fflachiai goleuni lamp i'w lygaid, a chlywai lais awdurdodol yn gorchymyn,- "Now then, out of this!" A chyda hynny clywai ddrws y van yn cael ei agor, ac yntau, yn hanner cwsg, yn cael ei wthio ato a thrwyddo i wacter y nos. "Gravel him!" ebe'r llais drachefn, a chyda'r gair disgynnodd Daff yn llwb i'r llawr, a chlywai olwynion y trên yn taranu heibio iddo o fewn pedair troedfedd i'w ben.

Yr oedd y loes gorfforol yn fawr, ond dyfnach o lawer ydoedd loes y sarhad o gael ei daflu allan i fyw neu i farw yn y diffeithwch. Llusgodd ei hun oddiwrth y ffordd haearn i gysgod llwyn oedd gerllaw, ac yno y gorweddodd yn friw, gorff ac ysbryd, hyd doriad dydd.

XXVII. TUA'R GORLLEWIN

WEDI i'r dwyrain wrido ychydig, ac i'r haul ddechreu taflu ei belydr dros y nefoedd tuag ato, cododd Daff yn ei eistedd i edrych o'i ddeutu. Yn ôl cyn belled ag y canfyddai ei lygaid, gwelai y ffordd haearn yn disgleinio am filltiroedd gan hollti'r paith fel â rhimyn arian. Dyna'r ffordd y deuthai ef drosti yn oriau'r nos. Nid oedd ganddo syniad clir am y milltiroedd a enillodd fel "hobo," ond rhaid eu bod yn llawer. am nad arhosodd y trên yn unman rhwng y tanc a'i daflu ef allan.

Fodd bynnag am hynny, rhaid ei fod bellach yn nesu at y Rockies, oblegid gwelai rhyngddo a'r gorllewin, fynyddoedd—rhes ar ôl rhes—yn codi fel grisiau i'r nefoedd. Ar y foment y syllodd arnynt gyntaf, daliodd pelydr o'r dwyrain y corunau uchaf, ac ar amrantiad wele r eira tragwyddol yn gweddnewid i'r aur pryd— ferthaf. Cymerodd Daff y cyfnewidiad fel arwydd. o obaith, ac ebe fe.—"Hwnt i'r rhain mae'r wlad i mi." Ac er y gwyddai fod gwaethaf y daith yn ôl, ni ddaeth i'w feddwl ddychwelyd i fyd y paith. British Columbia neu ddim! Ac felly dechreuodd droedio'r ffordd haearn i'r gorllewin, gyda'i wyneb ar y mynyddoedd, yr eira, a'r aur.

Penderfynodd ddal i gerdded yn weddol araf rhag lluddedu ohono yn ormodol, na phothelli o'i draed. Yr oedd deubeth, o leiaf, yn ffafriol i'w gerdded, sef mwynder yr hin ar y pryd a llawnder ei logellau yntau o ymborth. Barnai fod ganddo ddigon o fwyd i barhau, gyda gofal, am chwe diwrnod, ac er bod peth ohono wedi briwsioni erbyn hyn, nid llai rhinwedd y briwsion nag eiddo'r dafell.

Yn y modd hwn aeth rhag ei flaen gan deithio'r ffordd haearn y dydd a chysgu mewn rhyw gilfach y nos. Pasiodd llawer trên ef yn ystod yr amser hwn, ond teithiai bob un yn rhy gyflym iddo afaelyd ynddo. Cipolwg ar ddynion yn syllu'n syn ar yr "hobo" unig, ac olwynion fel pe yn chwyrnu arno wrth fynd heibio, oedd yr argraff fwyaf a gawsai ar ôl pob trên.

Un noson pan yn llechu i orffwys o dan wreiddiau hen foncyff a ddymchwelwyd rywbryd gan ystorm odid, clywodd udiad blaidd o gyfeiriad y mynyddoedd. Parodd hynny iddo feddwl am beryglon heblaw lludded a newyn; ac nid hyfryd oedd y syniad i lanc diarfog ddyfod o ddamwain ar draws bwystfil rheibus o ryw fath. Ond rhaid oedd teithio yn y blaen, ac erbyn hyn dechreuai y mynyddoedd coediog daflu eu cysgodion dros y ffordd haearn, a chyn hir deuthpwyd i dwnel, annhebig i ddim a welsai Daff o'r blaen. Ffurfiai y graig naturiol un ochr iddo, ac o uchter o ddeunaw i ugain troedfedd estynai tô cadarn o goed allan dros y ffordd haearn. Cynhelid hwn i fyny drachefn ar yr ochr bellaf oddiwrth y graig gan bileri praff o goed hefyd.

Hwn ydoedd un o'r snowsheds y clywsai amdanynt gan yr "hobo" ar y fferm. Ei phwrpas amlwg oedd cadw'r ffordd haearn yn glir oddiwrth eira neu unrhyw beth arall a ddanfonai'r gaeaf i waered o'r llethrau uwchben. Cerddodd Daff drwy amryw o'r rhai hyn y diwrnod hwnnw, ac er bod un ochr i'r sied, sef yr un bellaf oddiwrth y graig, yn weddol agored oddieithr am y pileri, eto gwell gan y teithiwr ydoedd yr awyr agored. Yn y sied teimlai ei unigrwydd yn fwy, a gwnâi pob sŵn (oherwydd y gwacter o dan y tô), yn seithwaith mwy nag yr ydoedd mewn gwirionedd. Oerach o gryn raddau hefyd oedd y lle, a gwaeth na'r cwbl tybiai y llanc yn awr ac yn y man fod rhywun yn sisial o'r tu ôl iddo pan chwibanai'r gwynt rhwng y pileri.

Bid sicr, nid oedd yno neb, ond fel y troediai'r bachgen blinderog drwy sied ar ôl sied, clywai ei galon yn ymollwng gan ei bryderon a'i ofnau.

XXVIII. MUNUDAU CYFFROUS

Ac nid peryglon i'w hanwybyddu oedd y rhai a wgai arno ychwaith. Chwythai'r gwyntoedd i lawr drwy gymoedd culion y Sierras, a chyda hwynt daeth oerlaw a rynnai'r llanc ymron. Ond y gwlychu a'r rhyndod, gwell gan Ddaff oedd gorwedd wrth fon craig na cheisio cysgu yn y sied eira lle yr oedd pob cysgod yn wrthrych ofn, a'r sŵn lleiaf yn floedd.

Cododd yn gynnar o'i orweddfan llaith fore trannoeth, ac wedi troedio trwy sied neu ddwy ymhellach, daeth yn sydyn at bont hir a groesai gilfach ddofn. Gwnaed. hi o drawstiau mawr wedi eu cyplysu ynghyd gyda'r fath gadernid ag i allau dal o dan y llwythi trymion a âi drosti.

Fel y mwyafrif o bontydd y gorllewin, nid oedd iddi ganllaw o unrhyw fath, a chan fod y gwynt yn ysgubo i lawr drosti, dim ond trwy ymdrech mawr y gallai Daff gadw ar ei draed arni ar ambell eiliad. Po nesaf yr elai ef at ganol y bont cryfaf i gyd oedd y gwynt, ac i'w fraw mawr gwelai fod yn y man hwnnw ambell agen o droedfedd neu ychwaneg rhwng trawstiau'r llawr â'i gilydd. Ac o edrych i lawr i'r dwfn rhwng y rheini gwelai yno lifeiriant mawr o lan i lan yn ymruthro drwy'r gwaelodion. Bu bron i'w ben syfrdanu wrth yr olwg, ond cafodd y meddwl i ostwng ar ei liniau, ac yn y modd hwnnw, gan benlinio ei ffordd o drawst i drawst, y cyrhaeddodd ben pellaf y bont. O ymyl y gilfach ofnadwy ymestynnai sied eira arall, hir a thywyll, a chyn myned iddi oedodd Daff ychydig i ail-ennill ei anadl ac i dawelu ei fron ofnog. Beth pe deuthai trên ac yntau ar ganol y bont! Torrodd chwys oer drosto wrth feddwl am bosibilrwydd y peth, a diolchodd am na feddyliodd hynny ar y trawstiau. Buasai'r digwyddiad yn ddigon iddo golli ei ben pan oedd arno fwyaf o angen bod yn bwyllog.

A'i fron eto'n gythryblus, aeth rhagddo i'r sied hon a gychwynnai'n uniongyrchol oddiar wefus y graig. Am fod pob sied y deuthai ati hyd yn hyn wedi ei hadeiladu'n union, gwelsai oleuni drwyddynt o'r un pen i'r llall. Ond gan fod y diwrnod hwn yn niwlog, ac hefyd am fod y sied hon ar ychydig o dro, tywyllach oedd hi nag arfer. Sylwodd Daff ar y tywyllwch mwy a phetrusodd ryw gymaint rhag myned i mewn.

Ond ebe fe wrtho ei hun,—" Daff! wna hyn mo'r tro! Yr wyt yn nervous ar ôl helbul yr hen bont. Mae British Columbia y tu hwnt i'r sied ddiwetha', cofia!"

Ar hyn agorodd ei ysgwyddau, ac ymlaen ag ef. Yr oedd wedi cerdded deuparth o'r ffordd, ac wedi mynd heibio i'r tro olaf yn y sied, a'r pen draw felly yn y golwg, yn sydyn gwelodd rhyngddo â'r goleu ryw gorff mawr yn symud yn araf tuag ato. Safodd y llanc fel pe ar darawiad wedi ei droi yn faen. Ond y foment nesaf cododd yr anghenfil ar ei draed ôl, a chyda rhu a swniai yn y lle gwag fel can taran, dechreuodd symud tuag at y llanc yn gynt. Gydag ysgrêch a barodd fraw hyd yn oed i'r gwaeddwr ei hun rhuthrodd Daff yn ôl y ffordd y daeth, nid amgen nag at enau'r sied a diwedd y bont.

Erbyn cyrraedd y man hwnnw credai y truan am eiliad nad oedd modd dianc, am fod y creadur o'i ôl, y llwybr tyllog uwchlaw'r dylif o'i flaen, y graig serth un ochr, a dyfnder na welai ei waelod yr ochr arall. Heb wybod yn iawn beth a wnai dechreuodd ddringo piler cyntaf y sied, a da oedd iddo gynnig hynny, oblegid nid cynt yr oedd efe wedi dringo deuddeg troedfedd nag y daeth y creadur i'r goleu. Arth ddu enfawr ydoedd hwnnw, yn llawn llid a gwancus yr olwg. Am y foment yr oedd Daff yn ddiogel, ond fel yr oedd waethaf iddo ef medrai yr arth ddringo hefyd. Hynny yn wir a ddechreuodd ei wneuthur ar unwaith, a chan mai dringo yr un piler ag a wnaethai Ddaff oedd y ffordd unionaf at ei ysglyfaeth, hynny a wnaeth.

Ond yr oedd Daff erbyn hyn ar y nenbren, a phan drodd ef a gweld bod y creadur yn ei ddilyn, llusgodd ei hun dros oleddf y to hyd at ochr y graig, lle yr oedd y piler arall tebig i'r un y dringasai ef gyntaf. Pan welodd fod yr arth yntau wedi cyrraedd y nenbren, llithrodd y llanc i'r llawr dros yr ail biler hwn.

Ond yr oedd y creadur yn ei ddilyn yn eiddgar, ac yn tramwy yn union yr un ffordd ag a aethai yntau, sef i fyny i'r piler allanol, yna dros y tô, ac wedyn i lawr dros biler y graig, ac yn groes i'r ffordd haearn, er cyrraedd y piler allanol unwaith eto.

Yr oedd Daff erbyn hyn wedi gwneud y cylch ddwywaith, ac yn dechreu dringo am y trydydd tro. Ymdeimlai ei hun yn colli ei nerth, a gwybu yn ei galon nad hir y gallai ddal y chware ofnadwy hwn. Ond yn sydyn clywodd drên yn chwibanu wrth ddechreu cymryd ohono y bont o'r ochr draw, a daeth gobaith yn ôl i fynwes y llanc eto. Hanner awr yn ôl, pan oedd ef ei hun ar y bont, dyfodiad y trên a fyddai iddo'n alanas o'r mwyaf, ond yn awr fe welodd yn ei ddyfod ei unig obaith am achub bywyd. A phan feddyliodd fod y peiriant yn ddigon agos dechreuodd chwifio ei freichiau o nen y sied a gweiddi ar y gyrwyr i aros. Ofer y bu hynny, fodd bynnag, ac oherwydd y niwl a sŵn y peiriant ni welwyd ac ni chlywyd mohono gan yr un ohonynt. Ffodus i'r pen oedd y peth serch hynny, oblegid er na welwyd Daff gan y gyrwyr gwelwyd ef gan yr arth, a gwnaeth y chwifio diorffwys i hwnnw ruo a ffyrnigo'n fwy fyth. Ac heblaw hynny, dyna'r peth a dynnodd ei sylw oddiwrth y trên a oedd yn prysur agoshau ato drwy y niwl. A chan mai gweld y llanc yn unig a wnâi'r arth, a gweld yr arth yn unig a wnâi'r gyrwyr, tarawodd y peiriant y creadur yn ei ochr nes yr oedd yn gelain, ac ef eto yn rhedeg yn ôl a blaen o un piler i'r llall.

Ataliwyd y trên, a disgynnodd y gyrwyr i weld yr arth, a phan gyda'i gilydd yn sylwi ar ei faint anferth, ymlithrodd Daff yn dawel i lawr o'r tô i'w hymyl, a rhwng ei wendid a'i brofiad ofnadwy llewygodd yno yn eu plith.

XXIX. RHEOLAU NEU DDYNOLIAETH

PAN ddaeth Daff ato'i hun yr oedd yn gorwedd yn ochr y ffordd haearn, a thri swyddog y trên yn sefyll uwch ei ben. Rhoddodd un ohonynt ei lestr tê wrth ei enau.

"Pŵr ffelo! y mae wedi cael siwrnai arw, onid yw? Sylwch ar ei lodrau yn garpiau i gyd, a'i benliniau wedi eu brifo'n dost. Nid dynoliaeth peth fel hyn, nage'n wir. Anwariaeth noeth yw, meddaf i."Ond," ebe'r trydydd, "gŵyr pob 'hobo cyn cychwyn ar ei daith beth sydd iddo i'w ddisgwyl o'i ddal. Ac heblaw hynny, nid peth dibwys i neb ohonom ninnau ychwaith ydyw torri'r rheolau fel hyn."

"Edrych yma, Sam," ebe'r cyntaf, "onibai fy mod yn gwybod yn amgenach amdanat, mi ddywedwn mai ti yw y dyn caletaf a welais erioed. Gwna di, fel y mynnych, wrth gwrs, ond amdanaf fy hun 'does dim yn y byd a wna i mi adael y truan 'hobo' hwn i farw yma yn y diffeithwch. Edrych arno, y mae wedi llewygu'r eilwaith!"

Wedi ail ddogn o'r tê, agorodd Daff ei lygaid eto, ac ymhen ennyd ymdrechodd godi. Ac wedi eistedd am ychydig yn agos i'r arth farw, fe welodd y tri swyddog ryw ffordd oddiwrtho yn sisial â'i gilydd yn sobr dros ben.

Diwedd yr ysgwrs fu i'r hwn a siaradodd gyntaf nesu ato a dywedyd wrtho'n garedig,—"Yr ydych mewn picil garw, gyfaill. Ond mae'n rheolau ni yn gaeth iawn,—'does dim pardwn am helpu 'hobo' i drên. Chwi ellwch ddringo dipyn, debig. Mae ambell van yn anodd, mae'n wir, ond chwi synnech rwydded yw ambell un arall. Rym ni'n mynd i fyny i'r sied i edrych a oes yno ragor o eirth. Peryglus iawn yw eirth ar bob pryd, wyddoch. Felly, pan ddown yn ôl, peidiwch am eich bywyd â gadael inni 'ch ffeindio yn eistedd y fan hon! Glywch chi?"

"Rheolau'n wir!" ebe'r un gŵr yn ddistaw. "Llestri pridd, goelia i!"

Ar hyn aeth Samaritan y ffyrdd haearn gyda'i gyd-swyddogion am ennyd i dywyllwch y sied. Cyfododd Daff, ac wedi dau neu dri chynnig, llwyddodd i ddringo i un o'r vans, a gorweddodd yno i lawr. O! mor flinedig ond eto a mawl a gweddi yn llond ei galon! Nid oedd rhagor o eirth yn y sied, mae'n debygol, oblegid y foment y llwyddodd Daff i ddringo i'r van, daeth y swyddogion yn ôl, ac ail—gychwynnodd y trên i'w daith.

Ymhen rhyw hanner awr, a Daff rhwng cwsg a dihun yn nhywyllwch y van, fflachiodd goleuni lamp i mewn, a chlybuwyd trwst traed dyn yn cerdded yn ôl a blaen fel pe yn chwilio'n ddyfal am rywbeth. Daeth y chwiliwr unwaith i'r gongl lle yr oedd Daff yn gorwedd, ond methiant mawr fu y chwilio dyfal, oblegid heblaw na chafodd yr hyn a geisiai fe gollodd rywbeth yno hefyd. Digwyddodd hynny yn ymyl wyneb y llanc, a phan estynnodd hwnnw ei law allan, wele, yr oedd yno lestr alcan bychan wedi ei adael ar ôl. Twym hefyd oedd y llestr ac yn arogli'n gryf o dê chwaethus. Profodd y llanc blin y tê yn gyntaf, ac yna yfodd ef i gyd. Wedi hynny fe syrthiodd i drymgwsg, ac ni wybu ragor amdano'i hun, hyd nes yr oedd haul diwrnod arall yn taflu ei belydrau ato drwy agen uwchben drws y van.

Ar ei ddihuno, gwelodd yn ei ymyl y llestr tê, ac o hynny fe gofiai am y diwrnod blaenorol, am hunllef y bont ac enbydrwydd yr arth. Ha! ychydig a feddyliasai ef gynt y byddai i'w fedr yn dringo coed Cwmdŵr y pryd hwnnw arbed ei fywyd yn y Rockies ymhen blynyddoedd! Yna fe wenodd mewn boddhad am y swyddogion a aeth i chwilio am yr eirth, ac yn enwedig am arwr y llestri pridd. Diolchodd i Dduw am yr arbed ac am ddanfon dynion i'w lwybr a gyfrifai fod gweithredu yn ysbryd y Crist yn sefyll yn uwch na chadw at lythyren unrhyw reol ddynol a wnaed erioed. Nes ymlaen yn y dydd safodd Daff ar ei draed yn y van, a thrwy'r agen uwchben y drws syllodd allan ar wlad eang, fras, ddyfradwy, a oedd yn gwenu ymhlith ei pherllannoedd. "British Columbia, gwlad yr heulwen!" ebe fe. Dyma hi, ac yn llawn y gair a ddywedwyd amdani!"

Ac yntau yn y teimlad hwn, arhosodd y trên mewn man unig. Agorwyd drws ei van yn dawel, ac ebe llais distaw o rywle,—"Hei! y chi sydd i mewn yna, gwrandewch! Amhosibl yw i ni'ch cario ymhellach. Neidiwch i lawr yn y fan hon. Y mae pentre oddeutu milltir yn nes ymlaen ar eich cyfer. Lwc dda! Hobo! a pheidiwch ag ymyrraeth ag eirth mwy. Gormod o dasg, yn wir. Ffarwel!

Neidiodd Daff i lawr ac edrychodd am berchen y llais. Ond nid oedd neb yn y golwg, ac am hynny fe ddiosgodd ei benwisg yn foesgar i'r wlad newydd yn gyffredinol, gan obeithio bod arwr y llestri pridd yn ei weld. Yna aeth i'r pentref a oedd ar ei gyfer.

XXX. FRAZER'S HOPE

Ac yntau'n cerdded yn araf yr heol i gyfeiriad y pentref na wyddai ei enw, daeth i'w gyfarfod eneth wridog, hawddgar, a phenderfynodd ofyn iddi gwestiwn neu ddau parthed y wlad a'r pentref, ac i'r perwyl hynny arafodd ei gam ychydig ar ei neshad, a chan godi ei gap yn foesgar, ebe fe wrthi,—

"Will you kindly inform me, miss, what village this is? gan bwyntio at y tai yn y pellter.

"It is called Frazer's Hope," ebe hithau.

Quite a good name, too, whoever Frazer might have been, eb yntau.

"They say that he was the first to cross the Rockies just here," eb hithau'n ychwanegol.

"Thank you!" eb yntau eto. "And if Frazer was the first, I think I can claim to be the latest."

Ar hyn edrychodd yr eneth yn fanwl ar ei wisg, a phan welodd fod ei draed allan drwy ei esgidiau, a bod y tyllau o gylch ei benliniau yn dangos y crachennau gwaed ar ei gnawd odditanynt, daeth ton o dosturi dros ei hwyneb, ac ebe hi,—"Do you mean to tell me that you have tramped the Rockies to Frazer's Hope?"

"Most of the way, miss," eb yntau, "but it is a long story, and it is hardly fair for me to detain you on the highway, much less to inflict my tale of woe on one I have not the least claim upon."

"On the contrary," ebe hithau, you interest me very much. But you must be famishing. I was going only a little further in any case, and I think I shall turn back right here."

Trodd Daff gyda hi, ac amlwg oedd ei bod hi yn arafu'i chamau i ateb ei gerddediad ef. "Do you think I shall be able to find work here?" eb ef wrthi ychydig yn bryderus.

"Work!" ebe hi wrtho yn ddigllon. "We are not quite pagans here, Mr.——"

"Owen! David Owen," eb yntau.

"Do you not think that rest, food, and clothes are more needed just now, Mr. Owen?"

Nid atebodd Daff ddim ar hyn, ac eb hithau ymhellach, mwy i gadw'r siarad yn y blaen na dim arall,—

"You are Welsh then, Mr. Owen?"

"Yes!"

"I'm so glad!"

Why should the fact of my being Welsh make you glad? Are you Welsh, too?"

"No! I'm Scottish—Jessie Selkirk—but there's an old lady in the house next to us who is Welsh of the Welsh—from Dellas, Dillas, or Dowlais, or some such place, and when she has a fit of homesickness, she makes me play and sing Welsh Airs for her at the piano. But play and sing I ever so well at any time, she says, after thanking me, that I ought to hear the Welsh lads sing. THEY are the singers! You sing, of course, Mr. Owen,—being Welsh?"

"I am afraid that I shall disappoint you in that, Miss Selkirk, the utmost I can claim is a fair ability to read music."

O! that will be splendid! But we are at our door. Come right in, Mr. Owen!"

Dilynodd y Cymro yr eneth i'r tŷ, ac aeth hithau i sisial am ychydig wrth ei mam.

Daliodd Daff ran o'r ymgom rhyngddynt, a daeth i'w glustiau y geiriau,— Rockies, starving, gentlemanly, a Welsh." Yn ebrwydd, wedyn daeth y fam ei hun ato, ac ebe hi,—"I understand from my daughter that you have walked over the mountains, Mr. Owen. How you must have suffered! Jessie, are you ready?"

Ar hyn daeth Miss Selkirk atynt yn dwyn gyda hi lestraid o gawl twym o ryw fath, a dywedyd, "Take this, Mr. Owen, will you? You can talk afterwards."

O'r fath flas oedd ar y moethyn hwnnw! Wedi'r arlwy cyntaf daeth ail, a thrydydd, a theimlai Daff ei nerth yn dod yn ôl iddo eisoes. Yna ar ôl gair neu ddau awgrymwyd bath a gwely gan Mrs. Selkirk, ac ni bu erioed driniaeth fwy mamol a thyner nag a roddodd y weddw hon i'r crwydryn a ddaeth yn y modd hwn yn wrthrych ei hymgeledd.

Bore trannoeth wele guro wrth ddrws ystafell Daff, ac ar ei archiad, Come in!" wele'r lle yn llawn o'r arogl ham and eggs hyfrytaf a ddenodd archwaeth dyn erioed. "Not a word!" ebe'r fam pan geisiodd ef ddiolch iddi, "and when you feel strong enough, you must get into these clothes. The razors are on the dressing table. I shall bring up the hot water in half-an-hour."

Felly y bu, a felly y gwnaed. Wedi mwynhau ohono ei forefwyd, cododd Daff o'i wely, gwisgodd y dillad newid—isaf ac uchaf—a oedd ar y gadair wrth law, eilliodd ef ei hun, a disgynnodd i'r gegin yn y llopanau (slippers) a oedd wrth ddrws ei ystafell wely. Wedi ei groesawu gan Miss Selkirk â'i hawddgar "Good Morning!" gwelodd y Cymro fod yno wraig arall heblaw hyhi a'i mam.

"Mrs. Jones, this is Mr. Owen who came here yesterday afternoon!"

Trodd Daff i gydnabod y cyflwyniad, ac yr oedd ar ei fin rywbeth arferol i'w ddywedyd, pan dorrodd yr hen wraig ar bob rheol ac arferiad, a chan gydio yn ei ddwy ysgwydd fe'i cusanodd gan ddywedyd,— "O! machan mawr i! ma' nhw wedi gweud y cwbwl wrtho i amdanoch chi. Diolch i Dduw! 'weta i!" Ac ar hyn llifodd deigryn gloyw dros ei grudd, deigryn y Gymraes oddicartref.

Ni wyddai Daff yn iawn beth i'w wneuthur na pha beth i'w ddywedyd ar y cyntaf, ond llwyddodd i yngan rywfodd,— Ia'n wir, Mrs. Jones. Diolch i Dduw! ac i chitha i gyd!

Ar hyn eisteddodd pobun i lawr, a dechreuwyd siarad yn gyffredinol, a holi ac ateb, yn neilltuol am yr hen wlad."

"Fuoch chi yrioed ym Merthyr a Dowlesh, machan

"Naddo! ddim yn Nowlais, ond fe fuo ddwywaith ym Merthyr, unwaith pan yn mynd o Shir Frychinog i'r gwaith glo yn y Rhondda, a phryd arall ar y ffordd i gonsart ein côr ni yn Aberhonddu."

"Rwy'n gweld mai coliar o'ech chi. Ble buoch chi'n torri glo?

"Yn Lefel yr Ocean, wrth Bentra'r Ystrad yn y Rhondda."

"Pwy gôr o'ech chi'n perthyn iddo? A sôn am gôr—Côr Dowlesh amsar o'wn i'n ferch ifanc!"

"Do'wn i ddim yn canu yng nghôr y Pentra, chwaith. Helpu'r ysgrifennydd oeddwn i."

"Cato'n pawb! Dyna'r côr enillws yn Chicago!"

Ia, a gyda nhw y detho i i 'Merica."

Sefwch chi, 'ro'dd hynny'r haf dwetha. Fel'ny chi 'rhosoch chi yn America pan 'ethon nhw'n nôl."

"Ia, dyna fel y bu. Ro'dd gen i frawd—hanner brawd yn Winnipeg, ac fe ofynnodd e' i fi ddod mâs ato fe idd 'i helpu yn y Stores, ond erbyn i fi gyrra'dd yno, 'roedd e' wedi marw, a'i witw, am ryw reswm ne'i gilydd, yn gwatu, nid yn unig i 'mrawd ysgrifennu ato i, ond nag o'dd gan 'i gŵr hi ddim brawd o gwbwl."

"O'r filen gas! Excuse me, Mrs. Selkirk and Jessic, I really must talk Welsh to Mr. Owen, or else I shall lose all the enjoyment. I'll tell it you again. I don't know when I had such a happy day before."

"Rhaid i fi 'ch galw chi'n Dafydd, Mr. Owen. Fe fydd yn fwy cartrefol, bydd wir, 'machan i!"

"Daff, ynte, Mrs. Jones. Dyna beth o'dd 'y nghyfeillion i gyd yn 'y ngalw i."

"Hear that, Jessie! I wanted to call him David, and he insists on my calling him Daff, as all his old friends used to. Very well, 'machan i! Daff gewch chi fod!"

Ar hyn daeth i feddwl y llanc nad dim ond ei air ei hun yn unig oedd gan y tair amdano ef a'i dreialon; a phrin y tybiai mai teg oedd hynny iddynt hwy. Felly, tynnodd o'i logell lythyr ei frawd ato, a dau neu dri eraill ynglŷn â'r côr yn Chicago. Gofynnodd i Miss Jessie eu darllen allan, a chyn ei bod hi wedi cwblhau'r gwaith, ac yn enwedig ar ddarllen llythyr ei frawd, a oedd yn cyfeirio at gladdu ei fam, ac am y "maintaining yourself respectably," yr oedd yn amlwg bod calonnau'r gwragedd mewn cydymdeimlad dwfn ag ef.

"Peid'wch hito! Daff!" ebe Mrs. Jones, Os cesoch le calad yn Winnipeg, fe fydd British Columbia lawer yn biwrach i chi, 'rwy'n siwr. Gadewch i ni gâl cân fach Gwmrâg 'nawr, er mwyn anghofio'r cwbwl.

Jessie dear! Turn to page 10 of the Songs of Wales, and let us have Yn iach i ti, Gymru.' A chyda bod y piano yn taro'r alaw, dechreuodd Mrs. Jones, mewn llais crynedig, ond a oedd eto'n dangos olion hen gelfyddyd o'r amser gynt, ynganu ar gân

"Yn iach i ti Gymru, ffarwel i'th fynyddoedd,
Dy nentydd grisialog a'th ddolydd di-ail."

"Nawr, Daff, rhaid i ch'itha' ganu hefyd!"

"Wel, Mrs. Jones, 'dwy i ddim cantwr—ysgrifennydd y côr own i, ond fe wna' 'ngora. Please play this on page 103, will you, Miss Selkirk?" gan gyfeirio at alaw neilltuol, ac wedi i'r offeryn ganu y rhan arweiniol i "Ymgyrch Capten Morgan," dechreuodd yntau ganu'r penillion yn arddull oreu D.Y. slawer dydd.

Rhwym wrth dy wregys gleddyf gwyn dy dad;
Atynt fy machgen, dros dy wlad
Mwg y pentrefydd gyfyd gyda'r gwynt,
Draw dy gymrodyr ânt yn gynt.
Sych dy ddagrau, ar dy gyfrwy naid,
Gwrando'r saethau'n suo fel seirff dibaid.
Wrth dy fwa, hyn wna'th fraich yn gref,
Cofia am dy dad, fel bu farw ef

Marchog i'w canol dangos dy arfbais,
Cyfod goch faner, dychryn y Sais!
Chwyth yr hen utgorn a ferwina'i glust,
Byw o'i enciliad bydd yn dyst.
Ar yr awel clyw yr ennyd hon,
Bloeddio 'Buddugoliaeth' Foel y don;
Bendith arnat, dos yn enw'r nef!
Cofia am dy dad, fel bu farw ef!


Wedi iddo ddiweddu'r penillion cododd Mrs. Jones ar ei thraed, cerddodd o gylch yr ystafell, a chan gyfeirio'i bys i wyneb y canwr, ebe hi,-"Dim cantwr, wir! Rhaid ichi ganu emyn neu ddou 'nawr, ac wedyn, rhywbeth arall."

Nid oedd modd nacau i'r Gymraes dwym-galon hon, ac wedi rhoi tro ar "Yn Eden, cofiaf hynny. byth,' a "Marchog, Iesu, yn llwyddiannus," rhaid oedd canu baled yn ychwanegol. Yn hynny o beth yr oedd Daff yn ei elfen, oblegid canwaith y clywsai gan ei fam yr hen faledi a fu mor boblogaidd yng Nghymru tua chanol y ganrif o'r blaen. A phan yng ngwres yr hen alaw y daeth i gytgan y Bwthyn Bach To Gwellt,"-

Pan yn rhuo byddai'r daran.
Ac yn gwibio byddai'r mellt,
O, rwy'n cofio fel y llechwn
yn y bwthyn bach tô gwellt

yr oedd Mrs. Jones yn foddfa o ddagrau, yn crio ac yn chwerthin bob yn ail. "What a beautiful old song! ebe Mrs. Selkirk. "It reminds me of some Highland melody that mother used to sing. And, of course, when one comes to think of it, we Highlanders, and you Welsh, are cousins in blood after all"

Dyna ddiwrnod mawr cyfarfyddiad cyntaf Daff a Mrs Jones, Dowlais, yn Frazer's Hope, British Columbia-un o'r diwrnodau hynny mewn bywyd na all dim beri eu hanghofio, na lleihau anwyldeb yr atgof amdanynt.

XXXI. VANCOUVER

PEDWAR diwrnod ar ôl ei ddyfod i lawr o'r Rockies, penderfynodd Daff ei bod yn bryd iddo feddwl am ei gynnal ei hun yn y wlad newydd, ac felly yn ystod ei forefwyd cyfeiriodd at y peth wrth Mrs. Selkirk.

"Yr ydych wedi bod yn garedig iawn wrthyf," eb ef, "ond rhaid i mi fynd bellach; clywaf fod galw mawr am weithwyr yn Vancouver. Os caniatewch imi ymweld â chi yn awr ac yn y man, bydd yn bleser o'r mwyaf gennyf ddyfod. Ond rhaid yw mynd ar hyn o bryd, fodd bynnag."

Gwelodd y gwragedd reswm y peth, a chan ei fod ef yn awgrymu am ymweliadau mynych, haws oedd ymado'r tro hwn. Ond pan soniwyd gyntaf wrth Mrs. Jones am ei fwriad i fynd i Vancouver ni fynnai hi er dim ei adael i fynd.

"'Dych chi ddim wedi hanner gwella eto, 'y machan annwl i!"

Ond pan ymgomiodd Daff ei hun â hi, a dangos. ei fod yn eithaf penderfynol yn ei fwriad, gwelodd hithau y peth yn ei oleu iawn, ond ni rwystrai hynny hi i'w siarsio i ddod i'w gweld cyn bo hir, a chael tipyn o'r hen iaith unwaith eto.

Cyn ei ymado, fodd bynnag, gwnaeth hi iddo gymryd pum punt ar fenthyg ganddi hi, i'w talu yn ôl y pryd y mynnai. Yr un modd gwnaeth Mrs. Selkirk iddo gymryd y "dillad newid" i gyd oddiwrthi hithau; a phan ar fedr mynd gwasgodd Miss Jessie arno gymryd bag a'i gynnwys oddiwrthi hi hefyd. Ac ymhlith llawer o bethau defnyddiol eraill yn y bag hwnnw, darganfu Daff ei hen bâr dillad wedi eu glanhau a'u cyweirio yn ofalus.

Wrth fynd allan o Frazer's Hope teimlai Daff ei fod nid yn unig wedi ennill cyfeillion trylwyr yn y pentref bychan, ond hefyd eu bod o'r fath nad aent yn y mymryn lleiaf rhyngddo a'i hunan-barch.

"Bendith ar eu pennau!" ebe fe. "Mi ddangosaf iddynt nad yw eu tosturi a'u hymgeledd wedi eu gwastraffu'n ofer." Yna fe gofiodd am eiriau'r Hen Lyfr,—"Bum newynog, a chwi a roisoch i mi fwyd; noeth, a dilladasoch fi; bum ddieithr, a dygasoch fi gyda chwi." Ac yn y meddwl hwn llanwyd ei galon a theimlad o'r tyneraf at y rhai oedd wedi bod mor dda wrtho yn ei ddydd blin.

Aeth yn ei flaen i Vancouver yn galonnog, ac efallai bod yr olwg daclus a oedd arno erbyn hyn wedi ei helpu i lwyddo yn y lle newydd hwnnw. Oblegid llwyddo a wnaeth, a hynny ymron ar unwaith.

Beth pe bai wedi mynd i mewn i'r lle yn y wedd y cyfarfu Miss Selkirk ag ef ar yr heol! Tebig iawn na byddai wedi ei gyflogi mor uniongyrchol, a dywedyd y lleiaf, oblegid yn Vancouver, fel pob man arall, y wedd allanol yw y tarawiad cyntaf.

Pan ymofynnodd ef yn y Stôr gyntaf am le ar y Staff digwyddodd iddo son am ei frawd yn Winnipeg, a'r rheswm iddo ddyfod ymlaen i Vancouver.

"A ddywedsoch chi mai brawd Mr. Wm. Owen, Winnipeg, ydych chwi? ebe'r perchennog.

Mewn atebiad tynnodd Daff lythyr ei frawd allan, ac estynnodd ef iddo.

Popeth yn dda, Mr. Owen," ebe'r gŵr. "Adnabûm lawysgrif eich brawd ar unwaith. Buom ein dau yn cydwasanaethu un adeg yn ystôr Hamilton a Hamilton, yn Chicago. Ac os ydych chi rywbeth yn debig iddo ef, gellwch eich ystyried eich hun ar ein Staff o'r foment hon. Pa bryd y byddwch chi'n barod i ddechreu ar eich gwaith?

Cymerodd Daff y prynhawn hwnnw i chwilio am lety cysurus, a bore trannoeth aeth i'r Stôr yn llawn o awydd at y gwaith. Penderfynodd ennill iddo'i hun gystal enw a'i frawd yngolwg y gŵr a brisiai hwnnw gymaint. Felly, mynnodd ddysgu popeth ynglŷn a'r fusnes a'r moddion goreu i'w hehangu a'i llwyddo.

Yn ei oriau hamddenol mynychodd y lleoedd y byddai'n well o fyned iddynt, ac wrth ymwneud â'r rhai hyn, nid hir y bu cyn deall fod yn Vancouver nid yn unig lawer o Gymry, ond hefyd gymdeithas Gymreig luosog. Cafodd dderbyniad calonnog i hon, a phan ddeuthpwyd i wybod mai gyda chôr meibion y Rhondda y daeth ef gyntaf i'r America, rhaid i'r gymdeithas ei glywed yn canu, a gwnaed yn fawr ohono ymhob modd.

Eglurodd yma fel yn Frazer's Hope mai fel swyddog y perthynai ef i'r cantorion, ac, fel yn Frazer's Hope hefyd, rhaid oedd iddo er hynny "ei chynnig hi."

Erbyn hyn dechreuai fagu ymddiriedaeth ynddo'i hun fel datganwr, a chanodd iddynt "Yr Hen Fwthyn Bach To Gwellt" gyda chymeradwyaeth fawr. Bu yn ddoeth yn newisiad ei gân, oblegid nid oes dim a apelia'n fwy at y Cymry oddicartref nag atgofion o'r fath, ac heblaw hynny gwyddai Daff hon yn dda, a chanai yr hen alaw annwyl gyda'r unrhyw wres angerddol ag a deimlasai yng nghanu ei fam gynt. Yn wir, credai fod yr ymlyniad wrth ei hoff alawon hi yn cadw'r hen gysylltiad yn gyfan o hyd, a hapus iawn oedd ef am y peth.

O droi ymhlith Cymry Vancouver daeth Daff i wybod am Gymry eraill yn British Columbia, rhai mewn pentrefi bychain megis Frazer's Hope ynghanol unigeddau'r wlad, ac eraill fel yn Nanaimo ar yr ynys yn gymdeithasau lluosocach. Cyn pen chwe mis yr oedd Mr. Daff Owen, diweddar o'r Rhondda, yn wybyddus ymhob cylch Cymreig, y tu hwnt i'r Rockies, fel gŵr ieuanc teilwng.

Ac o hynny cafodd fwy nag un cynnig manteisiol iddo ei hun gan fasnachwyr eraill a gystadleuai â'i gyflogydd cyntaf. Ond nacaodd ymadael â'i hen feistr, gan benderfynu mai i agor busnes ar ei law ei hun yn unig yr âi ef oddiwrth y gŵr a roddodd iddo'r siawns gyntaf yn Vancouver.

Fel hyn ymlithrodd yr amser heibio, flwyddyn neu ddwy, Daff yn fawr ei barch gan ei holl gydnabod, a busnes ei feistr yn llwyddo yn ei ddwylo.

Ond er ei holl brysurdeb nid angof ganddo y tair a'i hymgeleddodd yn Frazer's Hope. Ai i fyny atynt yn fynych, ac nid byth y deuai oddiyno heb yr ymdeimlad o serch dwfn tuag atynt. Cafodd drafferth o'r mwyaf i beri i Mrs. Jones dderbyn ei phumpunt yn ôl, ac i Mrs. Selkirk gymryd tâl am y dillad a roesai hithau iddo. Hoff gan y ddwy, serch hynny, ei ysbryd annibynnol wedi'r cwbl.

Ni bu sôn o'r un ochr na'r llall am yr hen ddillad, a oedd wedi eu cyweirio a'u gosod yng ngwaelod y bag. Pe gwypid y gwir, edrychai Daff ar y rheiny fel y masgot a fynnodd iddo lwc allan o anlwc. Cofiai ef yn dda am y Sul cyntaf y gwisgwyd hwy yn y Rhondda, pan gyfarchodd y Cantwr ef yn gellweirus fel yr Ocean Swell. Ynddynt hwy y croesodd ef Iwerydd, y gwaeddodd "Buddugoliaeth!" yn Chicago, ie, ac y penliniodd am ei fywyd ar bont y Sierras. Rhaid oedd eu cadw (er na wisgai mohonynt mwy) i'w atgofio am y dyddiau a'r treialon a fu.

Ond er na fynnai Daff gymryd oddiar law y gwragedd yn Frazer's Hope, o'r hyn gyfrifai ef yn gardod, eto yr oedd am iddynt deimlo ei barch mawr tuag atynt, a chwmni difyr dros ben oedd yr un a aethai ar ei wahoddiad ef i waered o'r pentref bychan i Vancouver i Ginio Gwyl Ddewi 1896. Yno yr oedd Mrs. Jones yn ei helfen, a Mrs. Selkirk a Jessie, er na ddeallent yr hanner a ddywedwyd, yn yr un ysbryd llawen hefyd.

Pan ddaeth pen blwydd Mrs. Selkirk, derbyniodd gyfrol hardd o'r Songs of Scotland,' gyda nôd Vancouver ar yr amlen fawr, a'r un modd cafodd Jessie gopi o "Blodwen " ar ei phenblwydd hithau. Yr oedd Mrs. Jones, ebe hi ei hunan, wedi anghofio bod y fath beth â phenblwydd yn bod, ond nid oedd hynny yn un rhwystr i Ddaff ddwyn gydag ef ar un o'i ymweliadau gopi hardd o "Lyfr Tonau ac Emynau yr enwad y perthynai hi iddo yn yr hen wlad.

"Y peth i'r dim, Daff bach! Fe gaf lawer o gysur wrth ddarllen a chanu'r rhain. Diolch yn fawr ichi,i machan annwl i! 'Rwy'n cretu, wir, ta'r Duw Mawr yn ei drugaredd a'ch alws chi yma ar y cynta' i gysuro hen wreigen fel fi. Pan yn canu'r hen donau beautiful hyn fe fydda' i 'n ôl yn Nowlesh bob tro, bydda' wir. Ma' 'want arno i ambell waith i werthu'r cwbwl yma, a mynd yn ôl, ond ma' nhw'n gweud wrtho i fod Dowlesh a Merthyr wedi troi'n Sasnigaidd iawn erbyn hyn, a beth 'nawn ni yno felly fwy nag yma Fe f'aswn yn ddiarth tost. A 'blaw hynny, yma ma' ngŵr i yn gorwedd, a'm bachan bach hefyd. Fe fydda' fe 'run oetran a chi'n 'nawr pe b'asa' fe byw. Ond dyna fe, trefan Duw oedd i fod, a wetyn, be sy' gen' i i'w 'weud?"

XXXII. Y "97"

BLWYDDYN hynod yn hanes British Columbia a fu y '97. Dyna flwyddyn Klondyke pan ddaeth "twymyn yr aur" heibio unwaith eto ac y profodd yn waeth na'r un ymweliad o'r fath oddiar California yn y '49. a Ballarat yn y '51.

Gwyddid ers tro fod aur yn British Columbia ei hun, yn enwedig yn ei rannau gogleddol, ond pan ddaeth y si fod y mwyn mewn helaethrwydd rhyfeddol y tu hwnt i'r Chilcoot a'r "White Horse,' cyfododd y wlad fel un gŵr i gyrchu tuag yno.

Gwag oedd pob gweithfa-nid oedd neb i gadw'r peiriannau i fynd; gwag hefyd pob perllan a maes am fod pob garddwr ac aradwr o ynni, naill ar Yukon eisoes neu ar ei ffordd tuag yno. Yr un modd, ychydig yn ddiweddarach, oedd pob siop ac ysgol am nad arhosai na gwas nac athro (a feddai bris tocyn i Dyea) i gynnal y gwaith.

Yn yr amser cynhyrfus hwn bu farw meistr Daff yn Vancouver, a daeth nai i'r gŵr yn berchennog y Stôr. Rhywfodd neu'i gilydd ni allai y Cymro gyd- dynnu â hwnnw, a phenderfynodd ynddo ei hun nad arhosai yn hir odano. Diau y byddai Daff cyn bo hir wedi dechreu ar ei law ei hun, hyd yn oed pe bai byw yr hen feistr. Ond nid oedd eto yn barod i'r anturiaeth, a dyrysodd angau felly ei amcanion i raddau. heblaw hynny, beth a dalai agor busnes yn Vancouver y dyddiau hynny a phopeth mor ansicr a chythryblus yn y lle? Ni wyddai yn iawn beth i'w wneuthur, ond un noson daeth i'w feddwl y cwestiwn,—paham na allai yntau fynd i Yukon i dreio'i lwc? Gwyddai beth oedd gwaith caled gystal â neb, a phwy a wyddai nad oedd Ffawd o'r diwedd yn mynd i wenu arno yntau?

Po mwyaf y meddyliai am y peth, disgleiriaf i gyd y gwelai bethau yn agor. A hyd yn oed pe na lwyddai, ni byddai'n waeth arno nag yr oedd yn bresennol, a gallai ddod yn ôl i Vancouver i ail—droedio'r un llwybrau drachefn.

Ac o ran hynny ped elai "y gwaetha'n waetha," ac y gadawai ef ei esgyrn o dan eira Klondyke, nid oedd na gwraig na phlentyn—na llawer o gyfeillion ychwaith —i alaru amdano.

Ar hyn daeth i'w gof y tair menyw yn Frazer's Hope, a chyfododd rhywbeth i'w wddf yn y syniad na ddychwelai atynt mwy.

Diwedd y cwbl, fodd bynnag, oedd iddo benderfynu mynd i dreio 'i siawns am dymor yng ngwlad Yukon. Fe fyddai byw yn syml yno, a dychwelai â chymaint o'r aur ag a fedrai ei gasglu, i'w helpu yng ngosod i fyny ei fusnes wedi ei ddyfod yn ôl. Ac erbyn hynny byddai Vancouver yn ddiau wedi gwella o'r dwymyn unwaith eto.

Ond cyn mynd ohono i'r daith fawr rhaid oedd ffarwelio â charedigion Frazer's Hope ac adrodd wrthynt ei fwriadau.

"Mynd i Klondyke! wir !" ebe Mrs. Jones, "Derdishefoni ! beth yw'ch meddwl chi? Otych chi'n mynd i aros ynghanol y savages a'r bad men i gyd? Ac os na laddiff un o'r rheini chi fe fyt yr wolves a'r bears chi lan yn fyw!"

"Look here, 'y merch i," ebe hi wrth Miss Selkirk, "Mae e'n mynd i'n gadael, ac i fod yn ysglyfaeth yn yr hen le cas yna yn yr eira. 'Does dim modd adnabod dynion, nac oes wir. Siaradwch ag ef, Jessie! Rhesymwch ag ef, wnewch chi, 'merch i?"

Ond Miss Selkirk ni ddywedai air, er cymaint y cymhellai Mrs. Jones hi i wneuthur hynny. Eto i gyd yr oedd yn ei hwyneb hi ryw bryder na allai Daff ei esbonio o gwbl ar y pryd.

"Lol i gyd, Miss Selkirk," eb yntau yn fyrbwyll, er mwyn cysuro Mrs. Jones yn fwy na dim arall. 'Dyw'r Klondyke ddim yn waeth lle nag unrhyw fan arall, lle'r ymgasgla dynion at ei gilydd. Y mae cystal siawns yno i'r gweithiwr diwyd ag sydd mewn unman am wn i, ac heblaw hynny does dim i'w wneud yn Vancouver ar hyn o bryd. 'Rwy'n penderfynu mynd, ac os gwêl Duw yn dda, mi ddof yn ôl mewn rhyw ddeunaw mis. Bydd y dwymyn ar ben erbyn hynny, a phethau fel cynt unwaith eto."

Felly i ffwrdd yr aeth—o Frazer's Hope y diwrnod hwnnw, ac o Vancouver ymhen tridiau. Casglodd ei gwbl ynghyd, a chan werthu peth, ac ystorio'r gweddill, yr oedd yn barod i gychwyn.

Bu cryn amheuaeth yn ei feddwl beth fyddai'n oreu—dwyn ond ychydig arian gydag ef, neu fynd a'r cwbl a feddai. Yn y diwedd, penderfynu mynd â'r hanner a wnaeth, gan adael yr hanner arall yn y Bank of Canada hyd nes y dychwelai.

Bu adeg neu ddwy yn ystod yr anturiaeth y credai mai da iddo fyddai cael ei holl eiddo yn y belt am ei ganol, ond ar y cyfan cysur iddo oedd gwybod ped elai'r cwbl yn fethiant yn y gogledd, na byddai yn hollol dlawd pan wynebai ar wareiddiad drachefn.

XXXIII. TUA'R GOGLEDD

Y DYDD y cefnodd yr agerlong Baltimore " ar borthladd Vancouver gan droi ei phen tua'r gogledd yr oedd ar ei bwrdd y gymysgaeth fwyaf o ieithoedd a glybuwyd erioed oddiar amser Tŵr Babel. Arni yr oedd y Chiliad, y Perufiad, a'r Mecsicaniad, oll â'u hamrywiol geinciau o'r Ysbaeneg lefn. Yno hefyd y Cockney a'i Saesneg rhugl, yr Ysgotyn a'i acen arw, a'r Amercaniad a'i sain drwynol. Gerllaw, ond yn fwy distaw, yr oedd Iddewon eiddgar, ac yn eu hymyl yn ddistawach fyth, Gymro wrtho ei hun, yn edrych ac yn gwrando ar bopeth o'i gylch.

Ond er yr amrywiaeth iaith yr oedd unpeth ar y llong yn gyffredin i'r holl deithwyr,—sef y syched didor am aur. Ac am y rheswm mai o "helaethrwydd y galon y llefara'r genau"—boed y llefarwyr ar dir neu ar for—aur, ac eto aur, oedd pwnc yr ymddiddan yn yr ieithoedd i gyd. Amlwg i'r Cymro ar y bwrdd, sef oedd hwnnw, Daff Owen, nad oedd y cwmni yn un dethol iawn, ac o'r rhai a siaradai fwyaf am gloddio'r mwyn nid oedd dwylo'r un ohonynt yn dangos ôl llafur O unmath. Mynd yr oedd llawer ohonynt, nid i gloddio am yr aur, ond i flingo drwy hapchware y rhai a'i meddai. A buan y profwyd hynny, oblegid cyn gynted ag y gwellasant o glefyd y môr, ymgasglu yn finteioedd bychain o dan y bywydfad neu wrth fôn yr hwylbren a wnaent, gan geisio denu hwn a'r llall i ymuno â hwy i dorri'r cardiau. Anerchwyd Daff yn galonnog iawn gan un neu ddau o'r doniolaf ohonynt, ond yr oedd ef wedi gweld gormod o'r unrhyw dylwyth yn Winnipeg i syrthio'n ysglyfaeth rwydd, ac yn y diwedd fe gafodd lonyddwch.

Eraill ar y bwrdd oedd yn llawn cynlluniau o bob math. Iddynt hwy nid oedd y Chilcoot namyn tomen y wâdd, a Mwng y Ceffyl Gwyn ond rhywbeth i chware ag ef. Yr oeddynt eisoes yn "Y Gulch," yn rhofio'r aur fel y mynnent, a phob un ohonynt yn dyfod yn filiwnydd undydd. Druain ohonynt! Dyma'r rhai yn ddiweddarach a wnaeth y trail yn un hunllef erch, ac a gollodd lawer ohonynt eu harian, eu rheswm, a'u hoedl, cyn gweled ohonynt na Yukon na'r Klondyke o gwbl.

Er mai diwedd yr haf ydoedd hi, dygai pob dydd. hwynt yn nes at anadl y rhew, ac ymhob min hwyrnos ymledai tawch oernaws dros y llong, a yrrai'r teithwyr i chwilio am eu cabanau a'u gwelyau rywfaint yn gynt bob nos.

Ar eu myned i Gulfor Chatham dechreuodd yr Aurora daflu ei lenni hud uwch eu pennau gan rychwantu'r nefoedd â'i ysblander; ac oedodd Daff ac ychydig eraill ar y bwrdd am noson neu ddwy i syllu ar wyrth Goleuni'r Gogledd.

Ond erbyn hyn yr oedd dyhead y glanio wedi cydio yn y teithwyr, ac ni allai'r llong symud yn ddigon cyflym i'w boddio. Achwynid hyn, a beiid arall, gan ddynion a oedd heb y syniad lleiaf am forwriaeth. Y lan! Y lan!" oedd eu cri fel pe bai holl aur y Klondyke yn eu haros ar y traeth, a hwythau yn ei golli oherwydd arafwch y capten a'r dwylo. Siaradent yn ynfyd, a gweithredent yn ynfyd hefyd, nes yr oedd yn syndod y modd y gallodd y swyddogion ddal heb osod rhai ohonynt yn y cyffion er eu diogelwch eu hunain, pe na bai er dim arall.

Ymhen deuddydd ymhellach dacw draeth Dyea yn y golwg, a phen y fordaith wedi dod. Man anial, oer, digroeso oedd hwn, heb heol nac adeilad o unmath oddieithr rhestr neu ddwy o gabanau coed a wynebai ar brif-lwybr hynod o leidiog. Mae'n wir y galwai y cabanau hyn eu hunain yn hotels, restaurants, saloons, banks, etc., ond megis o gellwair oedd hynny, oblegid chwerthinllyd i'r pen oedd yr honiadau mawr. Ond yr oedd pawb yno yn rhy brysur i sylwi ar ysmaldodau o'r fath. Digon iddynt hwy mai hwn oedd yr agoriad i wlad yr aur, hwnt i'r mynydd a edrychai i lawr arnynt oddidraw. A golygfa ryfedd ydoedd hi. Y man, flwyddyn yn ôl, nad adseiniai i ddim ond i grawciad yr aderyn unig, oedd yn awr yn heidio o ddynion ac anifeiliaid, tra bwriai llong ar ôl llong ychwaneg, ac eto ychwaneg atynt. Yr oedd y traeth eisoes wedi ei guddio ymron naill ai â phebyll neu â phentyrrau o nwyddau o bob math. Edrychai pob gŵr am y lle sychaf a diogelaf i osod ei eiddo i lawr arno cyn dechreu ohono ddringo i'r ucheldiroedd. A gwae i'r dyn nad oedd yn ddigon cryf neu yn ddigon dewr i ddal ei dwmpath ei hun yn y lle corsiog hwn.

Nid oedd neb yn chwannog i oedi yn y fath le, canys man anhyfryd iawn ydoedd ar y goreu, a mwy na hynny yr oedd y tymor yn prysur dynnu i ben, a buan y byddai Llyn Bennett a dyfroedd uchaf Yukon dan gloion ia, ac yna ofer ceisio symud hyd ddechreu'r haf dilynol.

Arweiniai dau lwybr o'r traeth i'r llyn cyntaf yn y mynyddoedd. Ymdroellai un yn ôl a blaen i gyrraedd y lle mewn modd cwmpasog. Hwn a elwid y Skagway, ac er ei fod yn un anodd, gellid defnyddio creaduriaid i gludo'r llwythi drosto. Ond, O'r fath dramwy! Yno y gwelid nid yn unig geffylau, mulod, ac asynod o dan eu harnais, ond yn yr un modd ychen, cŵn, a defaid hefyd, pob un o dan ei bwn, a'i wyneb tuagat yr hollt yn y mynydd fry.

Oherwydd y mawr gerdded ar y llwybr cleiog, buan yr aeth y ffordd yn un gors fawr, a rhaid oedd wrth nerth dau neu dri chreadur i wneuthur gwaith un pan ar lwybr tecach. A chan fod pob llwyth a gludid dros y trail yn ei wneuthur yn waeth i'r rhai oedd yn dilyn, a hefyd bod brys diwedd y tymor wedi meddiannu pawb, nid hir y bu cyn mynd yn rhedegfa gynddeiriog i gyrraedd y llyn am y cyntaf.

O dorri anifail ei goes, neu gwympo ohono o wendid teg i'r pyllau llaid, saethid ef yn y man lle'r oedd, a gadewid ei furgyn i wenwyno o'i gwmpas, yn hytrach na gwastraffu amser i'w gladdu. Llawer creadur y talesid amdano ddengwaith ei wir werth ar draeth Dyea a adawyd yn y modd hwn i'r cigfrain a'r bleiddiaid ar lethrau'r Skagway.

Yn wir, rhoddwyd i un man corsiog ar y daith yr enw ofnadwy Rotting Horses," gan gynifer y creaduriaid diniwed a ddaeth i'w hangau yno. Eithr onid oedd digon aur yn Klondyke i dalu am y cwbl? Felly, Klondyke neu Angau!" oedd y cri.

"Y trecha', treisied! y gwanna', gwaedded!

XXXIV. DROS Y CHILCOOT

Ac ni bu ar y Skagway brinder o weiddi nac o dreisio ychwaith. Rhwng rhegfeydd atgas y gyrwyr mileinig, a dolefau cur yr anifeiliaid druain, yr oedd y trail yn uffern barod.

Aeth Daff i fyny gyda'i ymyl am oddeutu milltir, ac er ei fod ef, gwaethaf y modd, wedi clywed rhegfeydd eirias fwy nag unwaith yn y Rhondda, ac wedi clywed sôn, gwaeth fyth, am greulondeb ambell i halier yno, eto yr oedd ei brofiad hwn ar y Skagway y tu hwnt i'r cwbl a glywsai.

Ni welodd ef ei Gyd-Gymry yn wynnach erioed nag o'u dal gyferbyn â barbariaid erchyll y trail.

Trodd yn ei ol yn drist iawn, ac wedi cyrraedd ohono eilwaith gabanau Dyea, eisteddodd yn un o'r restaurants i gymryd lluniaeth, ac i feddwl. Da ydoedd iddo ei ddychwelyd, oblegid ymhlith y newyddion diweddaraf a ddeuthai i lawr dros y Chilcoot yr oedd y sôn bod newyn yn bygwth y Klondyke, ac na adewid i neb pwy bynnag adael Llyn Bennett i gyfeiriad y gogledd heb allu ohono ddangos fod yn ei feddiant ddigon o ymborth dros y gaeaf. Bwriad Daff, cyn clywed hyn, oedd cynnig y llwyb arall i'r llyn, sef yr un serth dros y Chilcoot Pass ei hun. Ond beth a dalai iddo fynd y ffordd honno ychwaith, i gael ei droi yn ôl wedi dringo drwy waethaf y daith. Ond rhaid oedd gwneuthur rhywbeth, a hynny'n fuan. Ac onid elai yn ei flaen, rhaid oedd mynd yn ôl, h.y., i Vancouver,—ac yn fethiant!

Wedi mynd ohono allan i'r heol unwaith eto, canfu o'i flaen nifer o Indiaid yn dilyn ei gilydd fel ag y gwelsai y sandwich-men yn ei wneuthur gartref. Ond yn lle bod yn "ddolennau hysbysiaeth" fel y sandwich-men, cario pob un ei sach lawn a wnâi y rhain. Yn nes i lawr ar y llwybr gwelodd rai dynion gwynion yn gwneuthur yr un peth, ac o ofyn, deallodd Daff mai wedi eu hurio i gludo'r sachau dros y Pass i Lyn Bennett yr oeddynt, a bod tâl da am y gwaith, ond nad gormod y tâl ychwaith, am fod y Pass yn serth a'r llwythi yn drwm.

Dros y Chilcoot yr oedd y llwybr byrraf i gyrraedd y dyfroedd uchaf, ac am na allai yr un "creadur pwn ddringo'r ffordd honno, rhaid oedd wrth nerth dyn i gludo popeth dros wyneb y tarenni enbyd.

O weld yr Indiaid a'r cludwyr eraill wrth eu gorchwyl, daeth i feddwl Daff y gallai yntau gludo sachau gystal â neb pwy bynnag.

Onid oedd ef wedi gwasanaethu prentisiaeth wrth y gwaith yn y La Dernière yn Winnipeg gynt? Ac onid oedd wedi dal ei dir gystal â neb yno? Ac yn hytrach na dychwelyd i Vancouver yn waglaw fe ymladdai â'r Chilcoot hyd dranc!

I'w syndod deallodd fod 40 cent y pwys am y llafur, ac mai tueddu i godi yr oedd y gyflog bob dydd. Yr oedd hyn bron cystal â Klondyke ei hun, a chan mai brys i gyrraedd yno cyn cau o'r tymor oedd yn peri i hur y cludwyr godi cymaint, daliodd Daff ar y cyfle, a gwelwyd ef yn fuan yn y rheng a'i sach ar ei gefn.

Gwir bod y gwaith yn un llafurus dros ben, ond yr oedd y profiad yn y La Dernière yn ei helpu, ac o hynny llwyddodd i guro'r dynion gwynion eraill yn rhwydd. Cofiodd am y chwysu mawr ym melinau Winnipeg serch hynny, a pharodd yr atgof radd o anesmwythder iddo. Ond bellach, yn yr awyr agored iach yr ydoedd, ac i'w foddhad mawr sylwodd nad oedd yn chwysu yn afresymol fel ag y gwnâi yn y La Dernière.

Garw iawn oedd llwybr y cludwyr hyd yn oed ar y lleoedd gwastad. Ond pan godai i serthni blaen y cwm a arweiniai i'r Pass ei hun yr oedd y droedffordd nid yn unig yn arw, ond yn gul a llithrig hefyd. Mewn un man, rhaid oedd croesi cornant neilltuol, gam a cham, dros goeden syrthiedig a wasanaethai fel pont drosti.

Cymerai Daff seibiant mynych yn y rhannau anhawsaf o'r daith. Credai y talai hynny'n well nag aros i luddedu'n lân cyn gosod y baich i lawr. Yn y "codi " a'r "gosod i lawr yr oedd y fantais gan Ddaff ar y dynion gwynion eraill. Gollyngent hwy y llwyth i lawr heb un meddwl am y ffordd gynilaf o wneuthur hynny, a chodent ef i fyny drachefn gyda'r gwastraff mwyaf ar eu nerth. Ond yr oedd yr Indiaid wedi dysgu'r grefft yn rhywle fel ag y gorfuwyd i Ddaff ei dysgu gynt yn y La Dernière, ac ef mewn canlyniad oedd yr unig ddyn gwyn yn awr a allai gystadlu â hwynt. Cyflogid Daff gan ddau Americaniad ieuanc, a oedd yn iau nag ef ei hun. Tybiai ef mai dau fachgen of deuluoedd da oeddynt, dau fel pe wedi newydd adael y Brifysgol, ac yn mynd i'r Klondyke oddiar antur deg. O leiaf, nid oedd olion llafur ar eu dwylo, ac nid oedd prinder arian ar yr un ohonynt. Yr oeddynt ill dau o ysbryd uchel ac yn gryn sports, h.y., nid yn eu hiaith a'u honiadau yn gymaint ag yn eu hymagweddiad distaw tuag ato ef.

Yr oedd un ohonynt, Mr. St. Clair, wedi aros ar y traeth gyda'r pentwr nwyddau pan gymerth Daff y sach gyntaf i fyny i'r snowline, tra dilynwyd ef gan yr ail, sef Mr. Bradbury, i fyny at y man o dan frig yr eira, lle y pentyrrid yr holl sachau cyn cychwyn tramwy yr ail stage enbyd i gopa'r Pass. Rhwng y ddau ddyn ieuanc, un ar y traeth, a'r llall o dan gysgod y Chilcoot, y cerddai Daff drwy gydol y dydd, sef i fyny yn llwythog ac yn wag i lawr, hyd nes gyda'r hwyr yr oedd yr holl sachau ymborth a'r cydau offer yn ddiogel gyda'i gilydd ychydig o bellter oddiwrth fôn y grisiau ia.

Yn un o'r pynnau a gludwyd i fyny yn gynnar yn y dydd yr oedd pabell ddarpar o wneuthuriad neilltuol, ac erbyn dwyn o Ddaff y sach olaf at y crug o dan gysgod y Pass yr oedd Mr. Bradbury wedi llwyddo i godi honno ar ei pholyn, ac wedi cynneu tân coed mewn gradell fechan a oedd hefyd yn rhan o eiddo'r ddau ŵr ieuainc. Ac nid yn unig yr oedd yno dân, ond yr oedd ar hwnnw drachefn badell ffrio yn llawn golwythion o facwn. Sawrus a denol dros ben oedd yr ymborth hwn i Ddaff, ac wedi bwyta ohono ef hyd ddigon, gorweddodd yn gynnar i gysgu hun y blinderog, ac yn y wybodaeth y byddai trannoeth yn waeth fyth.

XXXV. CYMORTH I'R GWAN

TYBYGAI Daff nad oedd wedi cysgu ond rhyw ddwyawr neu dair pan glywai rywun yn symud o gylch y babell, ac wedi codi ohono i'w eistedd a throi fflap y babell i edrych allan, gwelodd ei bod hi eisoes yn dechreu dyddio, a bod Mr. Bradbury yn brysur wrth y radell a'i dân coed unwaith yn rhagor.

Cyn hir yr oedd y borefwyd yn barod, ac wedi cyfranogi ohono, tynnwyd y babell i lawr a dechreuwyd trefnu ar gyfer gwaith mawr y dydd. Yn unpeth, penderfynwyd bod cinio i'w darparu ar ben y Pass ganol dydd, a bod dwyawr o seibiant ar ôl hynny, a bod Daff yn yr amser hwnnw i ddyfod i lawr i wylio'r eiddo wrth droed y rhiw tra âi Mr. St. Clair i fyny i gael ei ginio yntau a dychwelyd i gymryd ei le yn y gwaelod drachefn.

Paratowyd hefyd raff i'w threfnu o dan ddwy ysgwydd Daff, ac wrth hon y gafaelai Mr. St. Clair i helpu Daff i fyny gyda'r llwythi hyd hanner ffordd, a'r un modd deuai Mr. Bradbury i waered i'w helpu dros lawer o'r hanner arall. O ddilyn y cynllun hwn rhoddwyd cymorth mawr i'r cludydd, ac ar yr un pryd cadwyd llygad ar yr eiddo yn y ddeufan. Serth a lithrig iawn oedd y llwybr serch hynny, a llawer gwaith y collasai Daff ei droed onibai am y rhaff a'i cynhaliai.


Ai yr Indiaid i fyny heb gymorth na rhaff nac arall, ac yr oedd yn syndod i bawb y modd y medrent ddal ati cyhyd. Aent heibio fel dynion yn cerdded yn eu cwsg, heb sylwi dim ar neb, er cymaint y boen a'r lludded.

Ond yr oedd terfyn hyd yn oed ar wydnwch corff Indiad, ac yr oedd Daff wedi sylwi bod yr hynaf ohonynt —Red Snake—yn dechreu dangos arwyddion amlwg o wendid; ac unwaith pan oddiweddwyd ef ar y llethr gan Ddaff, tynnodd y Cymro allan o'i logell botel fechan o frandi (yr oedd Mr. Bradbury wedi ei orfodi i'w chymryd y bore hwnnw), a rhoddodd ddogn ohoni i'r hen bagan oedd ar lewygu o dan ei faich.

"Ugh! heap good! oedd yr unig air a lefarwyd gan yr Indiad am y caredigrwydd, ond yr oedd diolch y llygaid yn dywedyd mwy nag un gair llafar ar y pryd.

Aeth Daff rhag ei flaen a'i lwyth i'r copa, ac ar ei ddychweliad i lawr yn waglaw cyfarfu à Red Snake yn pesychu a chrynu gymaint ag erioed wrth geisio cyrraedd pen y dibyn.

Ar ei siwrnai nesaf i fyny rhyfeddai Daff ychydig na byddai wedi cyfarfod â'r Indiad yn dyfod i lawr, ac am na wnaethai hynny ofnai y gwaethaf amdano, oblegid nid lle i ddyn claf yn sicr oedd llethrau'r Chilcoot. Ac ef yn y meddwl hwn aeth yn ei flaen ychydig wedyn, pan glywodd yn sydyn ei law chwith riddfan poenus. Gosododd Daff ei lwyth i lawr ar y foment ac edrychodd i gyfeiriad y griddfan. Yna, ddecllath islaw y llwybr, wedi llithro dros ddibyn bychan, yr oedd Red Snake a'i lwyth. Neidiodd y Cymro i lawr ato, tynnodd ef yn rhydd oddiwrth strap ei bwn, a gosododd ei fraich o dan ei ben. Trodd yr Indiad ei olwg at ei waredydd, ond amlwg oedd ei fod mewn poen dirfawr.

Gan adael ei bwn ei hun yn y man y'i taflwyd i lawr, cariodd Daff y truan i fyny i gopa'r Pass, a pharodd syndod nid bychan i Mr. Bradbury wrth ollwng i lawr o'i gefn wrth y tân, nid llwyth o flawd gwenith, ond— Indiad byw.

Eglurodd i'r gŵr ieuanc hwnnw yr anhap, a'r modd y gadawodd ef ei bwn o nwyddau ceisio achub bywyd. Ac wedi gosod y truan, gyda chymorth Mr. Bradbury, mor gysurus ag a allai, aeth yn ôl i gludo ei bwn ei hun i fyny i'r Pass at y pynnau a oedd yno yn barod. Gadawyd llwyth yr Indiad yn y man y syrthiodd.

Eglur fod yr hen wr wedi torri asen neu ddwy, ac o ddyngarwch teg penderfynwyd ei gadw yn eu pabell hwy y noson honno. Yn y cyfamser aeth Daff i lawr unwaith eto am lwyth arall ac i hysbysu Mr. St. Clair am y ddamwain, ac i ofyn iddo ymweld â chyflogydd yr Indiad, i ddywedyd wrth hwnnw am y modd y bu, fel y gallai ofalu am ei was ei hun. Ond yr oedd y cyflogydd—" Yank" mawr o Maryland—yn ddigon oer yn y peth, a phan welodd mai dyn ieuanc oedd Mr. St. Clair ceisiodd siarad dros ei ben.

"Beth yw dy feddwl di, youngster," ebe fe, "yn ymyrraeth â gweision dynion eraill? A oes gennyt ddim busnes dy hun i'w feindio? Ac nid yw'r hen ysgerbwd yn ddim ond Indiad wedi'r cwbl!"

"Dim ond Indiad!" Fflamiodd Mr. St. Clair ar hyn. "Dim ond bywyd dynol, 'rwyt ti'n feddwl, y dyhiryn! Efallai y carit ei saethu, fel ag y gwnest â'r ceffyl truan hwnnw ar y Fflats y ddoe. Edrych di yma! Os na wnei di dy ddyletswydd i ofalu am y pŵr ffelo hwn, fe ofalaf i, cyn naw bore yfory, nad ei di gam ymhellach na Llyn Bennett ar y siwrnai hon, beth bynnag ddaw. Cymer dy ddewis!"

Ar hyn trodd y gŵr ieuanc ar ei sawdl gan adael yr Yank mawr i dyngu a rhegu ar ei ôl. Ond yr oedd y siarad plaen wedi cyrraedd yr amcan. Bore trannoeth danfonwyd pedwar Indiad gan yr adyn i ddwyn eu cydwladwr allan o babell y bechgyn, a chredwyd fod y digwyddiad ar ben.

Ymhen amser hir wedi hynny deuthpwyd i wybod mai trosglwyddo'r dioddefydd i ddwylo'r Indiaid eraill yn unig a wnaeth yr Yank wedi'r cwbl. Ni chostiodd ei ofal ffyrling iddo ef, ac onibai i Ddaff wneuthur rhan dyn y prynhawn hwnnw, tebig mai ei adael i rynnu i farwolaeth a gawsai yr hen Indiad. o ran ei feistr ei hun.

XXXVI. YMRWYMIAD NEWYDD

NOSON i'w chofio am byth ydoedd honno ar frig y Chilcoot. Er gwaethaf y tân yn y radell haearn, yr oedd yn oer eithafol. Heblaw hynny, rhuthrai'r gwynt drwy adwy y Pass gyda nerth mawr, ac er gosod y babell yn y man mwyaf cysgodol posibl, dwywaith yn ystod y nos y gorfuwyd ar y tri ddal â'u holl egni yng nghyrrau eu tŷ gwydn i'w achub rhag cynddaredd yr ystorm.

Ac er eu bod wedi gosod sachau llwythog ar ei odreon i'w gadw yn ei le, amhosibl oedd cysgu serch hynny, gymaint oedd eu hofn a'u pryder yn ei gylch. Oblegid hwn oedd i fod yn annedd nosol i'r ddau ŵr ieuanc hyd nes cyrraedd Dawson, ac o'i golli ymha le y gellid cael un arall? A pha beth a fyddai eu cyflwr hwythau hebddo yn wyneb oerni'r nos?

Ac am ben hyn oll, yn eu hymyl yn griddfan a siarad yn syfrdan yn ei iaith ei hun yr oedd yr hen Indiad. Gwaeddai ar ambell eiliad fel ellyll, ac yna ymlonyddai drachefn i gwynfan a siarad wrtho ei hun. Rhwng y cwbl, ac er cymaint y lludded, ni chysgwyd eiliad gan yr un o'r tri. Eu hunig obaith oedd bod gwaethaf llwybr y Chilcoot ar ben. Ymhen diwrnod arall, cludent eu heiddo cyn belled a'r gors fawr, a gobeithient, cyn machlud haul yr ail ddiwrnod, gyrraedd Llyn Bennett ei hun, pan fyddai cytundeb Daff yn dyfod i ben.

O'i chymharu â lludded y ddydd cyntaf, hawdd oedd y daith o'r Pass i'r gors. Ymdroai'r llwybr ar y gorwaered, ac nid oedd agos mor serth â'r dyfod i fyny yr ochr arall. Y prif berigl bellach oedd llithro i'r pyllau llaid, a oedd yn lluosog ar ddeutu'r llwybr. Unwaith y digwyddodd hynny i Ddaff, a bu cryn orchwyl i'w gael ef a'i bwn yn ôl i'r heol iawn drachefn.

Cysgwyd yn dda wrth y Gors Fawr, ac yn gynnar y pedwerydd dydd tarawyd ar y llyn ei hun-y tri yn ddianaf, a'r eiddo oddieithr ychydig o fân golledion, yn ddiogel yn ymyl y babell ar lan y dwfr. Y noson honno talwyd i Ddaff y swm oedd ddyledus iddo, ac ychydig dros ben. Rhoddodd yntau ddangosiad amdanynt, a phan feddyliai ef fod ei fusnes â'r ddau ŵr boneddig ar ben boddlonwyd ef yn fawr gan gynnig neilltuol o du Mr. Bradbury.

"Beth yw'ch cynlluniau am y dyfodol, Owen?" ebe hwnnw.

"Wel, syr," ebe yntau.'Does obaith imi gyrraed dDawson am nad oes gennyf ymborth fel sy gennych chwi, foneddigion. Af yn ôl oddiyma i Ddyea, cariaf ychwaneg o lwythi os cyflogir fi, ac wedi hynny dychwelaf i Vancouver cyn dêl y gaeaf i gau popeth."

"A garech chi fynd i Ddawson?

"I hynny y deuthum allan, syr, ond beth 'wy'n well os na allaf symud cam?"

"Nid yw mor dywyll â hynny 'chwaith. Yr ydym wedi cydweithio'n rhagorol cyn belled, a bydd angen gwasanaeth un dyn arnom ninnau o hyn ymlaen.

Heblaw hynny, mae yn ein stoc ddigon o ymborth i dri yn ôl gofynion manylaf y Llywodraeth. Mewn gair, os gall Mr. St. Clair a minnau daro'r fargen â chi am fil o ddoleri a bwyd gaea dyna'r cynnig i chwi. Ystyriwch y peth heno, a rhowch wybod bore fory. Os cydsyniwch â'r telerau fe lofnodwn ar unwaith, a bydd popeth yn deg a rheolaidd o'r ddeutu. Yna fe wynebwn y gogledd yn galonnog cyn gynted ag y gallwn osod bad wrth ei gilydd."

"Diolch i chwi, foneddigion, a pha un bynnag a dderbyniaf y cynnig ai peidio, balchiaf yn eich meddwl da amdanaf."

"O'r gore. Nos Da!"

Ni chuddiai Daff oddiwrtho'i hun mai bywyd caled a gynigiai'r gogledd iddo. Profodd beth ohono eisoes, a gwaeth, wrth bob hanes, a fyddai po bellaf yr âi. Gwelsai ddigon o bobl ar y trail yn dychwelyd i Dyea heb fod wedi cyrraedd y Klondyke o gwbl. Wedi trechu ohonynt erchyllterau'r Skagway a'r Chilcoot yr oedd rhaeadrau y dyfroedd uchaf wedi eu trechu hwythau.

Mynnai pob milltir o'r daith ei tholl mewn bywydau dynol, ac wedi colli o rai teithwyr eu cyfeillion ar y ffordd, hawdd oedd i ambell un golli ei reswm yn ôl llaw, ac i lawer mwy golli eu dewrder ysbryd, a gwangalonni ar y ffordd.

Beth a ddeuthai o'r bobl oedd mor hyawdl ar y llong am eu mesurau a'u trefniadau i ennill yr aur? Cyfarfu Daff â dau ohonynt ar y Chilcoot yn wynebu'n ôl i Dyea, ac yn crymu fel hen ddynion, a gwelsai wrth y Gors Fawr un arall wedi ei glymu ar sled rhag gwneuthur ohono niwed iddo'i hun ac i eraill. Ond yr oedd ef hyd yn hyn yn gryf ac iach gyda doleri'r Chilcoot yn ei logell ac addewid am fil arall atynt, heb sôn am gynhaliaeth gaeaf cyfan ar y Klondyke yn ychwanegol. Pa fodd y gallai ef ddal ei ben i fyny yn Vancouver heb ymdrechu i'r eithaf, a pha fodd y gallai ef egluro yn Frazer's Hope fod un gyfraith fechan, a honno dros amser yn unig, wedi peri iddo droi yn ei ôl.

XXXVII. "ABRAHAM LINCOLN"

"FONEDDIGION!" ebe fe fore trannoeth. "Yr wyf yn derbyn eich cynnig, ac rwy'n barod i gychwyn i'r Klondyke y pryd y mynnoch."

"Eitha da, Mr. Owen. Dim ond i chwi osod eich enw yn y man hwn bydd popeth wedi ei setlo. Yr oeddem mor sicr, welwch chi, y derbyniech y cynnig, fel y trefnasom y papur cyn cael eich gair. Y man hwn, os gwelwch yn dda, Mr. Owen. Ac yna awn at fater saernïo'r cwch ar unwaith."

Taflodd Daff ei drem dros gynnwys y papur, ac yna llofnododd ar y gwaelod lle yr oedd yr enwau John Bradbury a Sydney St. Clair eisoes wedi eu rhoddi. Nid oedd wedi dianc ei sylw ychwaith mai Owen yn unig ydoedd o'r blaen, ond "Mr." Owen bellach. Golygai hynny gydraddoldeb rhwng y tri, ac heb un cyfeiriad arall at y peth buont fyw yn gydradd o hynny ymlaen yn gydweithwyr ffyddlon ar y cychwyn, ac yn gyfeillion calon cyn y diwedd. Yn raddol hefyd trodd y Mr. Owen, o gyfeillgarwch pur, yn "Daff," a'r un modd Mr. Bradbury yn "Jack," a Mr. St. Clair yn "Syd."

Llyn Bennett oedd dechreu y gadwyn o lynnoedd ac afonydd a yrrai eu dyfroedd i gyfarfod ag Yukon fawreddog rai cannoedd o filltiroedd yn nes i'r gogledd, ac a gludai'r miloedd teithwyr i ardaloedd Dawson a'r Forks yng nghanol gwlad yr aur.

Pan gyrhaeddwyd y llyn gan y gwŷr ieuainc, yr oedd ar ei lan lawn bum mil ar hugain o bobl eisoes, a'r rheini ynghanol y diwydrwydd mwyaf. Ofni yr oeddynt y gallai y gaeaf, a oedd bellach wrth y drws, ddyfod ychydig yn gynt nag arfer, a chloi y dyfroedd cyn ymadael ohonynt â'r lle.

Gwlad goediog oedd y glannau yn naturiol, ond oherwydd y galw mawr gan bob dyn am goed i wneud rhyw lun ar fad i'w ddwyn ef a'i eiddo i El Dorado'r Gogledd, buan y diflannai'r coedwigoedd yn gyflym. Ac heb fod yn hir ni fyddai yno bren i neb. Digon prin oedd yr adnoddau i Ddaff a'i gyfeillion pan gyrhaeddasant hwy yno ond yr oedd un peth yn eu ffafr, sef digon o offer at drin coed. Edrychid ar eu bwyeill, eu llifiau, a'u hebillion, mawr a bach, gydag eiddigedd gan y bobl a oedd yn gorfod talu doler yr un am hoelion wyth modfedd, a thri doler am fenthyg bwyell am hanner diwrnod.

Wedi gweithio gyda'r prysurdeb mwyaf am yn agos i wythnos gwelodd y tri eu bad hwythau yn barod i "gymryd y dwfr." Nid oedd golwg addurnol iawn arno, ond yr oedd yn un o'r cadarnaf ar y llyn, oblegid gwyddent yn dda fod iddo amser garw ar ei daith yn nyfroedd chwyrn y Rapids. Un peth arall a fu o gryn fantais a chysur iddynt yn llaw y dec bychan a osodwyd ganddynt dros y drydedd ran o'r cwch. Cadwodd hwn eu dillad a'u hymborth yn sych mewn llawer ysgydwad, ac heblaw hynny yr oedd yn gadernid i'r cwch ei hun.

Sylwch arno, Syd!" eb ei gyfaill ar fore pwysig y Launch.

"Mae'n nofio fel hwyaden. Ac i chwi, f' hen gyfaill, mae'r diolch i gyd."

Teimlai Daff nad oedd hynny ond cyfiawnder â Sydney St. Clair, oblegid ef, o'r tri, oedd yr adeiladydd goreu o ddigon.

"Thank you, Jack!" ebe'r cyfaill yn ôl, a'r wên ar ei wyneb yn dangos ei fod wedi cael llawn dâl am ei waith.

Erioed ni welwyd y fath amrywiaeth badau ag a oedd ar Lyn Bennett yr amser hwnnw. Popeth, unrhyw beth, a fedrai nofio-gelwid ef yn fad. Ac fel y gellid disgwyl lle yr oedd cymaint o saernïaeth carbwl yn y gwneuthuriad, aeth llawer o'r badau yn chwilfriw unwaith y gadawyd y llyn llonydd ar ôl. Golygai hynny i'r dwylo adeiladu cychod eraill yn eu lle, a hynny dan amgylchiadau gwaeth na'r rhai cyntaf, ac efallai colli'r tymor yn y fargen.

Mynnodd Jack (canys wrth yr enw hwn y gelwid Mr. Bradbury fynychaf erbyn hyn) alw eu cwch yn Abraham Lincoln, am, ebe fe "ei fod gryn dipyn gwytnach na'i olwg." Cytunwyd ar yr enw i'r cwch, a dechreuwyd cludo'r eiddo iddo. Rhaid oedd cario'r cwbl oddeutu ugain llath drwy'r dwfr, am mai bâs oedd y lan, ac Abraham Lincoln yn gorwedd yn ddyfnach ar y dôn gyda phob pwys a roddid ar ei gefn. Ond dacw hwynt i ffwrdd, y rhwyfau yn disgleinio yn yr heulwen, a phob calon yn iach. Anghofiwyd cur y Pass creulon ac edrychid ymlaen gydag aidd am daith o fwynhad, gan mor hyfryd oedd yr hin y bore hwnnw.

"I fyny a'r rhwyfau, fechgyn!" ebe Syd ymhen ychydig o amser. Dyma frisin yn dod!"

Ac ar hynny gosodwyd polyn i fyny ynghanol y cwch, a sicrhawyd ef mewn casgen oedd yn llawn o heyrn mân o bob math. Wrth hwnnw drachefn cysylltwyd llain mawr o gynfas y babell, ac ar ddal o'r gwynt yr hwyl newydd hon aeth y cwch yn ei flaen yn gyflymach o lawer.

"Nid am ddim y bum yn Yale, fechgyn," ebe'r morwr dyfeisgar wrth ei gyfeillion, Jack a Daff. "Bydd yn rhaid i chwi f'ethol yn gapten, fel y gwnâi yr hen fôr-ladron gynt. Dim slacio, cofiwch-unpeth o ddau amdani-naill ai ufudd-dod llwyr, neu gerdded y planc !

Erbyn hyn yr oeddynt wrth enau'r afon a arllwysai allan o'r llyn. Tynnwyd yr hwyl i lawr, ac nid oedd angen rhwyfo ychwaith, oblegid cyflymai'r cwch ohono ei hunan yn y rhediant. Caledwaith o'r mwyaf oedd ei gadw ar ganol y llifeiriant rhag taro ohono yn erbyn un neu arall o'r creigiau a estynnai ei gên hir i wely'r afon. Ond da iddynt oedd y profiad yn y man hwn, oblegid gwaeth oedd eto yn ôl. Cyn dyfod, fodd bynnag, at y creigleoedd mwyaf enbyd, cawsant ysbaid o deithio esmwyth ar fron Llyn Tagish. Daeth yr hwyl unwaith eto i helpu, a thrwy ei chymorth goddiweddwyd ar y llyn prydferth hwn lawer cwch a ddibynnai ar rwyfo yn unig.

116 DAFF OWEN Yna pasiwyd Windy Arm, a gwnaed amser da ar y Fifty Mile River, lle yr oedd ugeiniau o gychod yn ymdaith mor eiddgar a hwythau am gyrraedd pen y daith.

Ond yr oeddynt bellach wrth y Canyon, lle y cyfyngai gwely'r afon rhwng dwy graig anferth. Tynnwyd llawer cwch i dir uwchlaw'r Canyon er mwyn ei gryfhau cyn mentro i ferw'r dwfr a ruthrai yn y lle cyfyng. Oherwydd yr oedi ar y llecyn hwn lluosogai'r bobl a oedd yn aros eu tro i gymryd y Canyon, ac fel ymhob- man arall ar y daith lle yr ymdyrrai dynion am ennyd, dechreuai'r hapchware yn y man. Gwelodd Daff, wrth y Canyon fwy nag un a oedd wedi ymladd yn ddewr â'r Chilcoot neu'r Skagway, ac a oedd wedi saernïo cwch wrth Lyn Bennett a'i rwyfo hyd y creigle hwn, yn colli'r cwbl yno am na allent ddywedyd "Na" wrth y mileiniaid erchyll oedd yn ysglyfio pawb a fedrent ei ddenu at eu bordydd.

XXXVIII. YMLADD A'R DYFROEDD

SYLWODD y tri chyfaill yn y man hwn ar ambell fedd gyda chroes fechan, yn ymyl y lan. Dywedid yn gyffredin mai gorweddfan y rhai a foddwyd yn y Canyon oeddynt, ond sibrydid hefyd am fwy nag un a gymerodd ei fywyd ei hun o golli ei arian, ei gwch, a'i ymborth ar hanner y ffordd i'r Klonkyke.

Nid lle oedd hwn i aros ynddo'n hir, yn sicr. Gwell peryglon y dyfroedd na pheryglon oddiwrth ellyllon y trail wedi'r cwbl. Felly ymlaen yr aethpwyd cyn gynted ag yr oedd modd. Gyda gofal llwyddwyd i lywio drwy'r Canyon yn ddiogel hyd nes y deuthpwyd at y Rapids. Yno yr oedd y cwch i lithro i waered fel pe ar toboggan o ddwfr. Cyn mynd ar yr ysglent ofnadwy hon cylymodd Daff a Jack bopeth ag a ellid wrth ei gilydd yn eu llestr bychan. Safai un o'r bechgyn â pholyn yn ei law ar y naill ochr, ac un arall yn yr unrhyw fodd ar y llall, fel ag i ddal, yn anad dim, flaen y bad i'r un cyfeiriad a rhediad y dwfr. Ar ei draed y tu ôl iddynt, a chyda'i afael ar y llyw, yr oedd Syd. Ebe fe,-"Dyma'n ni'n mynd! Daliwch yn gadarn, fechgyn!"

Ar y gair, ymaith yr aethant yn gyflymach, gyflymach bob eiliad, hyd nes, ar waelod y llithrigfa ddychrynllyd, y teithient cyn gyflymed â thrên. Ond yr oedd swch y bad yn union yn y blaen, ac ar ben isaf yr ysglent rhuthrwyd hwy drwy ganol colofn o ddwfr a godai fel llen, allan i ddwfr tawel y tu hwnt iddi.

"Hwre!" gwaeddai'r capten. Dyma'r ffordd, fechgyn Popeth yn dda!"

Nid diogel oedd popeth, serch hynny. Taflwyd y cwbl a oedd yn y cwch allan o'i le, a rhwygodd un o'r sachau blawd nes gwynnu llodrau Jack fel eiddo melinydd. Ond beth oedd y mân anhapion hyn at ddiogelwch y cwbl, a'r calondid a roesai ar gyfer rhwystrau eraill a oedd eto yn eu haros?

Gwelsant feddau yn y man hwn hefyd, a daeth i'w meddwl ill tri y peth a allai eu tynged hwythau fod, pe troesai y cwch o ddamwain ei ochr at y dylif. Ymgroesodd Syd (canys Pabydd oedd ef) a llanwyd eu calonnau i gyd â diolch am y Llaw a'u diogelodd yn y dyfroedd mawr.

Buont yr un mor ffodus yn y Squaw Rapids yn is i lawr, ac erbyn hyn fe'u cyfrifent eu hunain yn fadwyr o brofiad. Ac yn wir, hunan-hyder oedd un o'r pethau gwerthfawrocaf iddynt y dyddiau hynny, oblegid eto yn eu haros yr oedd Rapids y "Ceffyl Gwyn," perigl mwyaf yr holl daith, yn ôl barn a phrofiad pob badwr a aeth i lawr hyd Yukon erioed.

Rhyw fath ar ddyfrgyfarfod oedd y man enbyd hwn, a phe gwyrai'r cwch ychydig i'r naill ochr neu i'r llall o linell y cyfarfod teflid ef gyda nerth mawr yn ôl i'r lan gan y rhediant ofnadwy, a gwae i'r llestr a ddigwyddai daro ar un o'r talpiau craig yng ngwely'r afon ar y tafliad yn ôl. Yr oedd man cyfarfod y ddeuddwr fel rhyw grib anferth o ewyn yn ymestyn i lawr am rai cannoedd o lathenni, nes arllwys o'r cwbl i drobwll llydan islaw. A'r gamp ydoedd dal blaen y cwch yn gywir ar gefn y grib bob cam o'r ffordd.

Gelwid y grib ddwfr hynod hon yn "Fwng y Ceffyl Gwyn", ac nid rhyfedd bod llawer ar y daith i Klondyke wedi dewis dadlwytho eu cychod i'w cludo hwy a'u llwythi gyda llawer o ludded dros y tir, i'w llwytho drachefn wrth dawelach torlan, yn hytrach na cheisio eu marchogaeth ar y grib wen.

Mynnai Syd er popeth gymryd llwybr y Mwng. Gwir y byddai i'r cwrs hwnnw, os yn llwyddiannus, arbed tri diwrnod o'r daith heb sôn am y llafur enfawr o gludo'r cwch a'i lwyth dros y creigiau. Ond yr anturiaeth noeth a apeliai ato ef. Felly at y Mwng yr aethpwyd.

Cymerodd pob un ei le yn ddistaw a rhwyfwyd at y man lle y dechreuai'r dwfr ymferwi. Ond naill ai o ddiffyg rhwyfo gyda chydbwysedd ar y ddeutu, neu o ddiffyg llywio'n gywrain gan Syd, methwyd taro ar y Mwng yn deg yn ei ganol. Gyda nerth cawr rhuthrwyd y cwch i'r naill ochr gan dynfa'r croesrediant, a dim ond o'r braidd y dihangodd rhag cael ei ddymchwelyd. Ar y foment enbyd honno taflodd Daff ei holl bwysau yn erbyn y rhan o'r cwch a godai allan o'r dwfr, a thrwy hynny unionwyd ac achubwyd y llestr.

Ond nid oedd y perigl eto drosodd, ac onibai mai i fan lle y tyfai nifer o fangoed y bwriwyd hwynt, drylliesid eu cwch yn erbyn y graig gerllaw. Edrychodd y tri ar ei gilydd am ennyd heb siarad dim. Ond pan ddechreuodd Jack ddadlwytho'r cwch, deisyfodd Syd arno atal ei law a rhoi un cynnig arni drachefn.

"Y chwi o bawb i feddwl am roi fyny, Jack. Dewch! Dewch! Mae rhywbeth ynof yn gwarantu mai llwyddiannus fyddwn y tro nesaf. Dewch! Fechgyn! wir!—un cynnig eto! Ac os methwn y tro hwn, mi gariaf yr hen lwyth y felltith yma i lawr dros y creigiau fy hunan. Gwnaf, bob pwys ohono. Gwnaf, wir! Dewch ymlaen !"

Gwenodd Jack a Daff ar hyn. Amhosibl oedd nacau i'r fath apêl, er gweled ohonynt yn is i lawr y creigiau gwgus a'u dryllient o golli ohonynt lwybr cefn y Mwng.

Gyda'r gofal mwyaf y cyfeiriwyd at y grib yr eilwaith. A lwyddent hwy i gyrchu'r lle iawn y tro hwn? Gyda'u calonnau yn eu gyddfau y nesasant i'r fan. Ha! dacw flaen y cwch yn codi am eiliad, ond yr eiliad nesaf dacw ef yn ôl yn wastad ar y llwybr drachefn, a ffwrdd â hwy yng ngafael y lli. Ac er eu bod yn cyflymu'n fwyfwy fel yn y Rapids eraill, daliodd Abraham Lincoln ar ganol y Mwng bob cam o'r ffordd, nes llamu ohono fel creadur byw i'r llyn mawr ar y gwaelod.

Yno cododd y tri fel o un fryd gan floeddio,- "Buddugoliaeth!" ac wedi nesu ohonynt i'r lan arosasant ennyd wrth y llannerch yn ymyl y dwfr gan ysgwyd dwylo â'i gilydd. Yr oedd The White Horse Rapids wedi cwrdd â'u trech, ac atseinid y goncwest gan yr holl greigiau a choedydd uwch y Llyn Tro.

Rhaid oedd aros ychydig yn hwy ar ôl y fath gamp a hon, ac wedi diogelu ohonynt y cwch wrth goeden gyfagos cerddwyd yn ôl a blaen gan siarad a chanmol eu ffawd.

Ymhen pellaf y llyn yr oedd ysgerbydau tri chwch o leiaf wedi eu darnio rywle ar y ffordd, ac wedi eu casglu i'r man hwn gan fympwy'r dyfroedd. Beth am y dynion a'u saernïodd ac a'u dug hwynt allan o Lyn Bennett gyda gobaith uchel? Daeth distawrwydd dwys dros y tri o weld yr arwyddion hyn o ddinistr cynlluniau eu cyd-deithwyr, a chyfeiriwyd yn ôl at eu llestr bychan hwy eu hunain, a oedd, trwy drugaredd Duw, wedi llwyddo i nofio pob ton hyd hynny.

Yr oedd y gwaethaf drosodd bellach. Rhwyfwyd a hwyliwyd gydag asbri mawr dros Lyn Lebarge ac afon y Thirty Mile allan i Yukon las, lle yr oedd yr ia eisoes yn dechreu gosod ei fysedd oer ar y glannau. Ond yr oedd canol yr afon yn lle rhydd, a thrwy hwnnw ymlithrodd yr Abraham Lincoln at ochr yr hafan fechan gyferbyn â thref Dawson, a glaniodd ei deithwyr ar ddaear Klondyke.

XXXIX. DAWSON CITY

Os bu meddwl gan Ddaff o gwbl fod dinas yr aur yn lle o groeso helaeth i ddieithriaid, buan y dysgodd yn amgen. Fel ymhobman arall o dramwy cyson ymgasgllodd tyrfa o wyr segur y conglau at y llestr newydd, gan lygadrythu ar y dyfodiaid a oedd wedi trechu'r White Horse." Yr un gair-"Checkahco," h.y., newydd gyrraedd," a ddywedai pob un o'r giwed ar ei nesu at y cwch, a buan y blinodd y dwylo ar ei glywed.

"Diolch i'r Nefoedd!" ebe Syd, "fod yr hen Abraham wedi ei ddecio. Rhaid mai dolur tost i'r pryfed hyn ydyw methu gweld faint yw ein hadnoddau. Credant yn ddiau ein bod wedi disgwyl codi'r cnapiau aur ar y wharff. "Nid mor checkahco wedi'r cwbl, myn jiaist i! 'taen' nhw'n gwybod y cwbl!"

Trefnwyd gan y tri fod Daff i edrych ar ôl yr eiddo yn y cwch tra'r âi y ddau arall i fyny i'r dre i edrych am le i'w osod. Nid cynt y troisant eu cefnau nag y dechreuodd dau neu dri o fechgyn y wharf gymryd diddordeb manylach yn y cwch, ac yn anuniongyrchol yn Naff hefyd.

"Hei! Checky!" eb un ohonynt wrtho, "wyddot ti mai dod yma i starfo yr wyt wedi ei wneud? Yr oedd Daff ar fedr dywedyd rhywbeth tarawiadol yn ôl, pan ganfu y gŵr siaradus swyddog neilltuol yn nesu at ymyl y dwfr, ac o'i ganfod nid arhosodd y gwalch i glywed ateb y Cymro o gwbl, ond aeth adre yn ddioed.

"Mi wyddwn y byddent i lawr yma yn eich croesawu, ddyn dieithr," ebe'r swyddog. "Welwch chwi nhw'n awr yn ei sgelcian hi ymaith? Dyna'r Dawson Dandies! Cewch lonydd ganddynt am oddeutu awr bellach, mi dybygaf. Ydych chwi wedi declario'ch nwyddau. Os na, mi gymra' i r manylion."


Yn tynnodd y swyddog ei lyfr allan a dechreuodd holi, a Daff yn ei ateb,—

Y ffordd y deuthpwyd i'r lle?—Chilcoot, Bennett, a Lebarge.

Enw'r llestr (os enw o gwbl)?—Abraham Lincoln (y ddau yn gwenu ar hyn).

Moddion cynhaliaeth dros y gaeaf?—Blawd, 8 sach; Pys, 2 sach; Bacwn, 6 ystlys; Siwgr, 50 pwys; Tê, 60 pwys. "Gwna hynyna'r tro," ebe'r swyddog, "ond cynghoraf chwi er dim i osod eich nwyddau mewn lle diegel ar unwaith."

Ymhen dwyawr dychwelodd Syd a Jack. Yr oeddynt wedi rhentu caban ar lethr y bryn tu ôl i'r dref a chyda hwynt yr oedd cert wedi ei hurio i gludo'r nwyddau i fyny i'r lle hwnnw. Dywedodd Daff wrthynt am ymweliad y swyddog, ac yn bendant am ei air olaf. Felly brysiwyd i weithred yn ôl arch, ac i ddilyn yr un cynllun o symud yr eiddo ag a wnaed ar y Chilcoot.

Gofalwyd hefyd ledu'r hwyl dros y cert bob tro yr ai'r trwy'r dre, oherwydd y newyn yn y wlad ar y pryd.

Cyn nos yr oedd nwyddau'r teithwyr yn ddiogel yn y caban, a'r cwch o dan ofal swyddogion y ddinas.

Wedi'r pryd bwyd cyntaf yn y cartref newydd aeth Daff allan am dro i'r dre cyn ei bod yn hollol dywyll.

Rhestr hir, milltir o hyd ar y bryncyn uwchlaw'r afon oedd canolfan yr holl drafnidiaeth. Ni ellid galw honno'n brif heol ychwaith, am nad oedd yn heol o gwbl. Llain o laid fyddai y disgrifiad goreu ohoni.

Ar ei hochr uchaf arweiniai llwybr, ychydig yn llai lleidiog, o'r briffordd i fyny i bob adeilad. Coed yn ddieithriad oedd defnydd y tai, a digon diaddurn oedd hyd yn oed y goreu ohonynt.

Yma yr oedd y banciau, y swyddfeydd, y siopau, a'r saloons yn gwasgu ar draws ei gilydd, a phob un ohonynt (pe rhoddid coel i'w honiadau) yn well nag un banc, swyddfa, siop a saloon arall ar Yukon. Tawel iawn ydoedd pob banc a swyddfa, fodd bynnag, pan aeth Daff heibio am y tro cyntaf, ond i lenwi'r diffyg. yr oedd pob saloon yn ddiwyd i'w ryfeddu, a neuaddau'r hapchwarae yr un fath. Ymddengys fod pob un yn y lle yn adnabod pob un arall, ac i gyd ar delerau cyfarchy naill y llall.

Aeth Daff i mewn dros drothwy y "Moose Horn," ac ar ei ofyn am rywbeth i'w yfed, clywodd eto y gair atgas

"Checkahco." Cyfarchwyd ef gan ddyn a benyw gyda hyfdra nad oedd yn ei hoffi, a gwelodd hefyd yn yr amser byr y bu yno bethau a wnaeth iddo feddwl yn sobr am fywyd y dre.

Yfid gan y merched a'r wynebau lliwiedig cyn drymed a'r dynion, a mentrent hefyd wrth yr hapfyrddau gymaint â neb pwy bynnag. Ymhen uchaf yr ystafell hir yr oedd gramaffôn gwichlyd a rygnai un o'r alawon "diweddaraf," ac i'r miwsig masw dawnsid gan dri neu bedwar cwpl.

Sylwodd Daff hefyd mai'r mwynwr oedd ffefryn y lle, ac mai â llwch aur y talai ef am bopeth. Yn wir, yn y cyffredin estyn ei gwd a wnâi ef i'r gweinyddwr, i hwnnw ei hun gymryd y rhan y tybid ei bod yn ddyledus arno. Nid oedd llawer o groeso i neb yn y tŷ oni thalai ef yn fynych am wirod i rywun neu rywrai. Mewn gair blingid y mwynwr ar bob llaw, a thalai yn ddrud am ei boblogrwydd byr-barhaol.

Y noson honno, wedi dychwelyd ohono i'r caban ar y bryn, talwyd i Ddaff y fil ddoleri addawedig; a'r peth cyntaf a wnaeth ef fore trannoeth oedd eu gosod, ynghyd â'r arian a enillasai yn Dyea, yn y banc yn Dawson. Trefnwyd hefyd yr un noson fod dwylo'r Abraham Lincoln i fwrw eu coelbren gyda'i gilydd am y gaeaf, ac y rhennid yr holl enillion yn dair rhan ar y dydd y torrai ia yr Yukon y gwanwyn dilynol.

Yn ystod eu hwythnos gyntaf ym mhrif dref y gogledd, rhoddwyd i'r tri dyn ieuainc lawer cynnig gan lawer math o ddyn. Pe credid y bobl hyn yr oedd allweddau'r El Dorado i gyd wrth eu gwregys hwy, ond eu bod, bobl garedig, yn foddlon eu bargeinio i ffwrdd am y peth nesaf i ddim mewn arian parod.

Ond nid oedd y Checkahcoiaid mor feddal ag y gobeithid, ac o ganlyniad mynd ymaith yn waglaw a fu raid i'r dyngarwyr i gyd.

Ar yr un pryd nid oedd diben o fod yn ddi-waith drwy'r gaeaf. Mae'n wir fod y lleoedd goreu yn y cilfachau cyfagos oll wedi eu cymryd, ond nid oedd un rhwystr i edrych ymhellach. Gwelent fwynwyr â'u "ceir cŵn" yn ymadael bob dydd â Dawson, a daeth yn amlwg y byddai'n rhaid iddynt hwythau wneuthur yr un peth heb fod yn hir, os oeddynt i ddychwelyd i'w gwlad eu hun yr haf dilynol yn gyfoethocach nag ar eu dyfodiad.

Ond i ba le y troent? Yr oeddynt eisoes wedi bod fis cyfan ar y Klondyke, heb fod yr argoelion fymryn gwell nag oeddynt ar y dydd cyntaf. Pryderai Daff lawer am hyn, canys yn y wlad am ei haur yr oedd ac nid am ei hanturiaeth fel ei gyfeillion.

XL. MYND I'R ANIALWCH

ÂI Daff i lawr i brif swyddfa'r Llywodraeth bob dydd i weld a oedd gobaith o ryw gyfeiriad am le newydd. Ac ef un bore yn dychwelyd oddiyno, gwelai Indiad cloff ar yr heol yn ymlwybro tuag ato. Ar ei ddyfod eto'n nes gwelodd mai ei hen gyfaill Red Snake o'r Chilcoot ydoedd. Dangosodd hwnnw yn ei ddull ei hun ei lawenydd o weld y gŵr a dosturiodd wrtho yn ei ddydd blin, a daeth yn siaradus hyd yn oed, am unwaith yn ei oes.

Adroddodd wrth Ddaff ei hanes oddiar amser y ddamwain. Wedi i long ddiweddaf y tymor fwrw ei llwyth ar draeth Dyea a mynd i ffwrdd yn ôl llaw, ymddengys i newyn ddal y lle hwnnw hefyd. A chan nad oedd gobaith am fwyd o unman prysurodd y bobl oddiyno, naill dros y Chilcoot neu ar hyd y Skagway ar ôl y teithwyr cyntaf. Red Snake, oherwydd ei anaf, ydoedd yr olaf i ymadael, ac amser caled dros ben a fu ei ran ar y trail. Bu'n ymladd â dau flaidd wrth Rotting Horses, ac yr oedd ar newynu pan gyrhaeddodd Lyn Bennett. Yno cyflogwyd ef i dorri coed gan rai a oedd yn rhy ddiweddar i nofio'r afon y tymor hwnnw; ond ymhen pythefnos bu mor ffodus â chyfarfod â'i fab ei hun, White Cloud, ar lan y llyn. Yr oedd y mab yn berchennog ar sled ac wyth ci, ac yn y sled honno y deuthant ill dau dros yr ia a'r eira i ddinas Dawson ddeuddydd yn ôl.

O holi o Ddaff ef am ei ddyfodol, dywedodd y gwyddai ei fab am gilfach neilltuol o gyfoethog tu hwnt i'r Forks, a'i fod yn meddwl mynd gydag ef i'r lle fore trannoeth yn y sled.

Deisyfodd Daff arno gael ymuno â hwy, a dangosodd yr hen ŵr ei foddlonrwydd ar unwaith; ond y carai siarad â'i fab yn gyntaf. Trefnodd i gyfarfod â Daff ganol dydd yr un diwrnod, ac yna y caffai ateb terfynol. Pan ddaeth yr amser i ben, nid Red Snake yn unig a ddaeth i'w gyfarfod, ond y mab hefyd; ac yno ar ganol yr heol gwnaed y cytundeb rhwng y tri heb ddim i'w gadarnhau ond y teimlad o ddiolchgarwch am ddyngarwch y dyn gwyn ar y Chilcoot.

Y noson honno adroddodd Daff yr holl helynt wrth ei gyfeillion yn y caban, a chyn dydd bore drannoeth yr oedd y cŵn a'r sled yn aros i'r Cymro wrth y drws. Gan addo yr ymwelai ef â hwynt drachefn cyn pen pum wythnos cefnodd Daff ar ei gyfeillion i wynebu'r anialwch heb neb ond dau Indiad yn gwmni.

"Marchons! mush there!" gwaeddai White Cloud ar y cŵn gan glecian ei whip, ac ymhen awr yr oeddynt ymhell ar eu ffordd. Nid peth anghyffredin oedd gweld tri gŵr yn gyrru i gyfeiriad y Forks unrhyw amser, felly ni sylwodd neb arnynt. Barnwyd yn ddoeth, fodd bynnag, wedi cyrraedd ohonynt y Forks, i'r dyn gwyn fynd yn ei flaen ar y trail, tra oedai yr Indiaid yn y pentre am awr neu ddwy, cyn ei ddal a'i godi yn nes ymlaen.

Pobl effro iawn i bob maes newydd ydoedd trigolion gwlad yr aur, a chryn gamp, wedi darganfod o rywun le addawol am y mwyn, oedd ei gadw yng nghudd oddiwrth eraill.

Wedi uno â'i gilydd eto bedair milltir ymhellach na'r Forks, teithiwyd ymlaen am saith neu wyth yn rhagor cyn troi o'r sled i lawr i gilfach neilltuol mewn coedwig fechan. Yno yr oedd nant yn dechreu ei ffordd i lawr, ac o ddilyn honno deuthpwyd i'r lle y gwybu White Cloud am ei gyfoeth, sef y lle a adnebydd pawb heddiw wrth yr enw Wood Creek. Tynnwyd deunyddiau pabell oddiar y sled, a thra rhoddai Red Snake fwyd i'r cŵn gosododd White Cloud a Daff y babell i fyny o dan gysgod llwyn mawr.

Tynnwyd hefyd allan o'r sled ymborth i'r dynion eu hunain, ac wedi cyfranogi ohono, a gweld y cŵn bob un yn ei wely eira y tu allan i'r babell, gorweddodd Daff a'i gymdeithion newydd i gysgu.

Ond pell oedd cwsg o amrannau'r Cymro y noson honno. Chwyrnai'r ddau Indiad yn ei ymyl heb na chyfrifoldeb na phryder o un math yn eu blino, chwyrnai'r cŵn y tu allan ar ei gilydd, udai blaidd yn y pellter, ac ysgrechiai tylluan yn awr ac yn y man uwch ei ben. Rhwng y cwbl, noson o flinder ydoedd i'r bachgen pell o dre.

Wrth droi yn ôl a blaen er mwyn denu cwsg, daeth i'w feddwl am y rhai a fu'n dda wrtho ar hyd ei oes,— Shams y Gof, Dai'r Cantwr, y swyddog ar y trên, a dau deulu Frazer's Hope. A welai ef hwynt eto rywbryd? neu a oedd ei bennod i ddiweddu yn eira'r Klondyke?

Ar hyn cododd White Cloud, ac aeth allan drwy agoriad y babell at y cŵn y tu allan. Ar ei chwibaniad, neidiodd pob un ohonynt i fyny, fel nifer o gesig eira byw, ysgydwodd pob un ei flew, ac ar amrantiad yr oeddynt yn barod i'w borefwyd. Wedi hynny cyneuwyd tân, ac ymhen ychydig yr oedd arogl flapjacks yn y badell ffrio yn denu Daff a Red Snake i fod yn barod i'w cyfran hwythau. Wedi gosod y rhelyw o'r bwyd heibio a sicrhau'r cŵn, dug y tri dyn eu hoffer gwaith at yr haen ym môn y graig a addawai mor dda. Unig gynllun yr Indiaid oedd ei darnio cyn belled ag y cyrhaeddai y morthwylion pigfain.

Ond eglurodd Daff mai gwell fyddai gwneuthur agoriad fel lefel i eigion y graig. Ac yma y daeth ei brofiad yn y Rhondda o fudd mawr iddo. Yr oedd digon o goed yn ymyl, ac â'r rhain bwriadai ef ddiogelu'r nengraig fel yr elent ymlaen. Gwelodd y ddau Indiad ei fedr yn trin offer, a rhoesant y flaenoriaeth iddo ymhopeth ynglŷn â'r turio. Mantais arall o gynllun y lefel oedd y gallent weithio drwy'r gaeaf er casglu tomen y gro mân yn barod erbyn y golchi yn y gwanwyn pan fai'r dyfroedd yn rhydd. Gweithiwyd fel hyn am wythnos gyfan cyn ei ddyfod i feddwl Daff nad oeddynt wedi sicrhau eu hawl i'r lle, ac nad oedd dim yn rhwystro dieithryn hollol i weithio wrth eu hochr. Gofidiodd ef beth am hyn, ac wedi egluro'r perigl i'w ddau gyfaill, gofynnodd i White Cloud ddyfod yn ôl gydag ef i Dawson i gywiro'r gwall.

Penderfynwyd peidio â chymryd dim o'r mwyn gyda hwy, ond gadael popeth fel yr oedd yng ngofal Red Snake hyd nes y dychwelent. Wedi mesur y rhan o'r haen yn y golwg, barnwyd fod yno ddigon i wneuthur pum claim. A chan mai dim ond tri oeddynt hwy eu hunain awgrymodd White Cloud i Ddaff gynnig y ddwy ran arall i'w gyfeillion yn y caban yn Dawson. Diolchodd Daff yn gynnes a chychwynnwyd y daith i'r dre.

Erbyn cyrraedd ohonynt yno ac esbonio i Syd a Jack gyflwr pethau yn Wood Creek, derbyniwyd y cynnig ar unwaith gan y ddau, ac wedi gofalu fod popeth bellach mewn trefn yn Swydda'r Mwynfeydd dychwelodd dau ŵr y sled gan ddwyn Jack yn ôl gyda hwynt, a gadael Syd wrtho ei hun i ofalu am y caban. Aeth y gwaith yn Wood Creek ymlaen yn rhagorach fyth o gael un gweithiwr yn ychwaneg, tyfai y domen bob dydd, ac edrychid gydag aidd am y dydd yn nechreu'r haf y dechreuid ei "golchi." Yr oedd y cewyll at y pwrpas eisoes yn barod, a chyn Nadolig yr oedd cwrs y nant hefyd wedi ei droi i roi mwy o hwylustod i'r gwaith pwysig pan ddechreuid ef. Yn nechreu'r flwyddyn, White Cloud yn unig a âi yn ôl a blaen i ymofyn lluniaeth a chael newyddion oddiwrth Syd. Yn y cyfamser profai'r lefel yn ardderchog a thyfai'r domen rhag blaen yn gannoedd o dunelli, parod i'r olchfa.

XLI. GWYLIO'R CLAF

WEDI un o ymweliadau White Cloud â'r dref, estynnwyd llythyr i Ddaff oddiwrth Syd, a barodd syndod nid bychan iddo. Dyma a ddywedai :

Caban Lincoln,
Dawson,
24/1/98.
F' annwyl Ddaff,

Bydd yn dda gennych glywed fod cydwladwr i chwi yma gyda mi yn y Caban. Achubais ef rhag
cynddaredd adyn o Fecsicad mewn ysgarmes yn y Moose Horn. A chan na allaswn ddioddef ei weld yn marw ar yr heol fe'i dygais. yma.

Pŵr ffelo! yr oedd ymron ar ben y pryd hwnnw, ond erbyn hyn y mae rywfaint yn well.
Dewch i Ddawson gyda White Cloud y tro nesaf yr ymwêl ef â'r dre. Carwn i chwi weld y
Cymro clwyfus. Dim ond o'r braidd y mae ynddo ei hun eto, ac ychydig iawn yw ei siarad.
Efallai y gwnewch chwi les iddo, nyrs ganolig wyf i ar y goreu.

Yr eiddoch yn fy ffwdan,
SYD.

Pan ddangosodd Daff y llythyr i Jack, torrodd hwnnw allan i chwerthin ar y cyntaf, ac ebe fe,— "Dyna Syd i'r dim. Nid oedd un sgwffl na chynnwrf o un fath yn Yale gynt nad oedd ef â llaw ynddo o ryw fath." Yna gan droi yn ddifrifol, eb ef ymhellach, Ond 'rwy'n diolch i'r nefoedd am y Cymro hwn, serch hynny."

Ni wyddai Daff yr ateb iawn i'w roi i hyn, a dywedodd, "Esguswch fi, Jack, nid wyf yn gweld unrhyw fater diolch i'r nefoedd am anfadwaith yn y Moose Horn. Nid wyf yn eich deall."


"Wel, fel hyn mae pethau'n union, Daff. Wedi i chwi ymadael â Dawson i ddyfod yma sylwais fod Syd yr ymweld gormod â'r Horn. Gofidiais am hynny, eto gwyddwn mai ofer pregethu llawer i Syd am ei fynychu a'r Salwn. Ac heblaw hynny, gwyddwn amdano y gallai fod mor ystyfnig â mul ar ambell bwnc. Gofal am ei gydgreadur oedd y peth goreu posibl i'w gadw o'r lle. Dyna fy esboniad."

Deallodd Daff bethau yn well ar hyn, a phenderfynodd, wedi meddwl ychydig yn ychwaneg, oedi ei fyned i Ddawson am bythefnos arall, am y gwyddai na welai Syd yn ei ofal am y claf mo'r Moose Horn am hynny o amser o leiaf. Ac efallai mai dyna'r moddion i'w gadw oddiyno yn gyfangwbl.

Felly gweithiwyd yn galed yn y lefel am bythefnos yn rhagor gan obeithio dechreu "golchi'r mwyn cyn bo hir.

Ar brynhawn Gwener yr ail wythnos harneisiodd White Cloud ei gŵn wrth y sled, a pharatodd Daff a Jack i fyned gydag ef i'r dre. Golygai hynny adael Red Snake wrtho'i hun yng ngofal y lefel a'r domen, a thipyn yn anhapus gan y tri oedd gadael yr hen ŵr yno wrtho'i hun, ond wedi ei siarsio i beidio â gweithio dim hyd nes y dychwelent, ymadawsant.

Ar eu neshad at y caban yn Dawson, yr oedd yn dechreu tywyllu, a disgwyliai'r teithwyr weld goleu yn y gegin fel arfer. Ond nid oedd y lamp wedi ei chynneu er bod goleu tân yn y stôf. Syllwyd i mewn drwy y ffenestr, ac yng ngoleu gwan y tân gwelent Syd ar un glun wrth wely bychan yn dal i fyny'n dyner ben rhywun a oedd yn gorwedd arno. Curwyd yn dawel wrth y drws cyn mynd i mewn, cyfarthodd un o'r cŵn yr un foment, ac ar eu myned i'r ystafell yr oedd Syd ar ei draed yn paratoi i gynneu'r lamp. Yng ngoleuni honno cymerwyd golwg ar y claf ganddynt ill tri, a phan drodd Jack a Syd ychydig i'r naill ochr i sisial rhywbeth yn dawel, gostyngodd Daff i gadair o flaen y stôf, a chan ddal ei ben rhwng ei ddwylo fe guddiodd ei wyneb, oblegid y claf oedd Jim Jones, fab y pregethwr, y bruiser o Gwm Rhondda!

Wrth ei agwedd deallodd y ddau gyfaill fod rhywbeth allan o'r cyffredin ar Ddaff. Credent ei fod wedi ei daro'n glaf, ond o'i holi fe amneidiodd iddynt oll fynd gydag ef i'r ystafell arall, a chyn eistedd o neb ohonynt yno, torrodd Daff allan yn gynhyrfus,—"Fechgyn, fechgyn! Hen gydnabod i mi yw ef. Gweithiai yn y talcen glo nesa ataf yn y lofa yng Nghymru. Pŵr Jim! dafad golledig os bu un erioed—plentyn aelwyd y gweinidog ei hun!"

Plygodd y cwmni eu pennau mewn cydymdeimlad dwfn am beth amser, hyd nes i guro sydyn ac agor brysiog o'r drws eu dwyn yn ôl i bethau cyffredin bywyd yr eilwaith. Y meddyg oedd yno wedi ei anfon amdano'n arbennig o weld y claf yn waeth, gan Syd y prynhawn hwnnw.

"A son of the manse, did you say?" eb yntau. "Poor boy! I am sorry for him. You see he is lapsing into unconsciousness again. There is really nothing to do but to put an occasional drop of brandy to his lips. He may last some days, or he may go any minute. I can see that he is in good hands. Good evening, gentlemen." Y noson honno trefnodd Daff i wylio'r claf wrtho'i hun, ac wedi bod yn ymyl y gwely am awr neu ddwy, dechreuodd feddwl beth a wnelai o digwyddai i Jim ddod ato'i hun rywbryd yn y nos. Oddiar ei brofiad ag ef ar yr heol i Dreherbert 'slawer dydd, ni wnâi hi mo'r tro i sôn am bregethwr o leiaf. Ac os nad pregethwr, nid geiriau pregethwr ychwaith, nac adnod, nac emyn, na dim o'r cyfryw. Ac yn sicr nid iawn fyddai sôn am yr hen fywyd. Beth o ddifrif a weddai iddo ei ddywedyd wrtho, rhag marw ohono fel ci? Yr oedd mewn penbleth na freuddwydiasai erioed amdano.

Yn oriau mân y bore, hepiodd Daff ei hun am ychydig yn y gadair o flaen y stôf, a breuddwydiodd yn ei gwsg glywed ohono ei fam yn canu "Hen Ffon fy Nain," fel y clywsai ef hi ganwaith yn y dyddiau gynt. Deffrodd yn sydyn, a gwelodd fod Jim wedi symud rhyw gymaint yn ei wely. Cododd i esmwytho'r glustog, a threfnu'r dillad gwely ychydig yn daclusach. Yna eisteddodd eilwaith yn ei gadair a dechreuodd fwmian iddo ei hun gân ei fam,—

A welsoch chi hen ffon fy nain?
Mae'n union fel y saeth,
Mae'n hynach heddiw nag erioed,
Ond nid yw law er gwaeth
'Roedd hon mewn bri cyn bod un trên,
Yn cario nain drwy'i hoes,
Ei chario wnaeth i byrth y bedd,
Heb unrhyw gweryl croes

Pan orffennodd ef y pennill cyntaf, yr oedd Jim wedi anhrefnu'r dillad unwaith eto. Cododd Daff eilwaith i'w gosod yn eu lle, ac yna canodd yr ail bennill,—

Pan oeddwn gynt yn blentyn bach
Yn dysgu trocdio cam,
I dŷ fy nain y rhoddwn dro
Heb wybod i fy mam.
Ond gwyddwn hyn yn eithaf da,
Er maint fy ofn a'm braw,
Na chawswn gam gan undyn byw
Os byddai'r ffon gerllaw.

Cyn diweddu canu ohono hwn yr oedd wyneb Jim tuagato a'i lygaid yn annaturiol o agored. Credai Daff o hyd nad oedd y claf ynddo ei hun, ac aeth ymlaen i ganu'r trydydd pennill, a oedd mor darawiadol am fore oes Daff ei hun, ac eiddo Jim yr un fath.

Trwy gymorth hon hi droediai gynt
I'r capel dros y bryn,
Drwy'r haf a'r gaeaf, glaw a'r gwres,
Y rhew a'r eira gwyn.
Ac os digwyddai daro'i throed
Wrth faen ar ochr y fron
Pan daenai'r nos ei phruddaidd len,
"Diogel!" meddai'r ffon."

Ac erbyn iddo ddiweddu canfu i'w fawr syndod fod Jim ar ei eistedd yn y gwely ac yn dechreu siarad.

"Ia ! mam fach! dyna fel 'roedd hi! Mam annwl! maddeuwch i James unwaith eto, newch chi, mam fach?"

Neidiodd Daff ato, a chan osod un fraich wrth gefn y claf, fe'i cofleidiodd yn dyner. Suddodd y pen blinderus ar ei ysgwydd, ac yn y modd hwn y cynhaliai Daff ef pan edrychodd Syd i mewn rywbryd cyn toriad gwawr.

Ond yr oedd yr enaid wedi ehedeg eisoes, a chan ysgafnhau'r baich marw oddiar ysgwydd Daff, gostyngodd Syd y pen i lawr i'r gobennydd drachefn, a chan gydio yn llaw ei gyfaill fe'i harweiniodd oddiwrth y gwely.

Cyn nos drannoeth, yn ôl arfer y wlad honno, dilynwyd yr hyn oedd farwol o James Jones (rywle o Gymru) i fynwent gyhoeddus Dawson City gan Ddaff, a'r meddyg, Syd a Jack, i aros dydd dyfodiad Gwaredwr ei dad a'i fam.

XLII. TARO'R "LLIW"

PENDERFYNWYD yn y caban ddydd Sul, gan fod amser pwysig y golchi ar ddyfod, mai gwell oedd iddynt oll fod gyda'i gilydd yn Wood Creek drwy'r haf a chysgu mewn pebyll yn ymyl eu cyfoeth. Felly, talwyd cyfran i berchennog y caban fore dydd Llun am ei gymryd yn ôl oddiar eu llaw ar unwaith, ac yn ystod y dydd hwnnw gwnaed dwy siwrnai â'r sled er dwyn y rhelyw o'r ymborth a phopeth arall angenrheidiol i'r mwynglawdd.

Ond ar gyrraedd ohonynt y lle y tro cyntaf, bu iddynt fraw o weld pabell Red Snake yn gydwastad â'r wr, y nwydda wedi eu taflu a'u darnio (rhai ohonynt) yma a thraw, a dim arwydd am yr hen Indiad ei hun yn unman.

Gwaeddasant gyda'i gilydd er tynru ei sylw os oedd ef o fewn cylch clyw. Mewn atebiad daeth llais egwan o'r lefel, a rhedodd Daff a White Cloud i mewn iddi er gweld beth oedd yno. Yn y pen draw gwelsant y twr coed a oedd wedi eu gosod yno (ar gyfer eu defnyddio i gryfhau'r nengraig) yn dechreu symud, ac allan o'u canol wele yr hen wr, Red Snake.

Wedi ei ddwyn allan i'r awyr agored mynegodd iddo fynd brynhawn y Sul i fyny ychydig i'r cwm, er gweled a oedd y nant yn dechreu toddi a rhedeg i'r cafnau a baratoisid. Ond cyn iddo fynd ymhell iawn tarawodd ar ei glyw udiad cas, a sŵn rhuthr yn y mângoed, i'w gyfeiriad ef. Rhedodd nerth ei hen draed yn ôl i'r babell, a phan yn neidio i lawr y dibyn bychan olaf tuagat ei noddfa deallodd mai bleiddiaid oeddynt. Deallodd hefyd na byddai ei babell yn noddfa iddo o gwbl rhagddynt, ac felly rhedodd yn ei flaen ymhellach ac i mewn i'r lefel.

Pan ddaeth y bleiddiaid at y fynedfa dywyll, petrusent fynd ymhellach i mewn, a rhoddodd hynny amser i'r hen ŵr drefnu'r coed yn amddiffynfa o'i amgylch.

Creaduriaid drwgdybus yw'r bleiddiaid wedi'r cwbl, ac o bydd iddynt daro ar rywbeth dieithr troant yn ofnog hefyd.

Dyna'r modd y bu y tro hwn, ni fentrwyd i mewn ymhellach na'r fynedfa, ond dywedodd yr hen wr fod eu hudiadau yno yn arswydus i'r pen ac yn llawn digon iddo ef. Ie, ond 'rown i'n meddwl eich bod o'r blaen wedi ymladd â dau flaidd yn Rotting Horses," eb un o'r Americaniaid ieuainc.

"Eitha gwir,"eb yntau, ond gyda hyn o wahaniaeth y FI oedd yn wancus y pryd hwnnw!

Rhoddodd y frawddeg honno fwy o oleuni ar erchyllter y trail na dim a ddywedasai yr hen ŵr yn flaenorol am y peth.

Edrychwyd faint y difrod a wnaethai bleiddiaid y Sul ar yr eiddo cyffredin, a chafwyd nad oedd yn llawer ag eithrio bwyd y cŵn-llarpiwyd hwnnw bob briwsionyn ohono. Ffodus mai absennol oedd y cŵn eu hunain neu buasent hwythau wedi mynd yr un ffordd â'u bwyd.

Codwyd y babell unwaith eto, ac un arall wrth ei hochr, a buan yr anghofiwyd y bleiddiaid ym mhrysurdeb y "golchi." Cyn pen pedair awr ar hugain rhedai'r dwfr drwy y cafnau gan roi i'r mwynwyr lawn waith.

Gweithid o fore glas hyd fachlud haul gan siglo'r cewyll yn ôl a blaen er gweld y "lliw." Ac yn wir, yr oedd yno "liw" ardderchog i lygaid a oedd wedi blysio am ei weld drwy y gaeaf yn gyfan.

Ar ôl tridiau o olchi penderfynwyd danfon Syd a Daff i Swyddfa'r Praw gyda detholion o'r mwyn i'w profi yno.

Pan wnaed y prawf, trodd y swyddog atynt gan ddywedyd,-" Good heavens, men, the richest this season! Don't shout it from the housetops if you are wise!"

Dygodd Daff y mwyn i'r banc, ac wedi prynu rhai pethau angenrheidiol, paratodd i ddychwelyd. Yn y cyfamser aeth Syd hefyd gylch y dre, ac wedi dibennu ohono yntau brynu, "mush"—wyd y cŵn tua gwersyll y coed unwaith yn rhagor.

Wedi mynd heibio'r Forks dechreuodd Syd ddangos i Ddaff y pethau a brynodd ef, ac yn eu plith yr oedd pedwar llawddryll newydd.

"Paham bedwar Colt, Syd, a chwithau yn gwybod ein bod yn bump yn y Gulch?"

"O, prynais un i mi fy hunan ers tro (hyn gan dynnu allan o'i logell ar ei lwynau lawddryll arall). Dyma hi, yr un y gwthiais ei ffroen yn erbyn gên y Mecsicad pan oedd yn llofruddio Jim. Y peth a'm blina yn awr yw na ollyngais yr ergyd ar y pryd. Ond mwy pryderus oeddwn y foment honno i achub bywyd y llanc o Gristion nag i yrru enaid du milain y Moose Horn i'r Purdan."

"Diolch o galon i chwi, Syd," ebe Daff, â'r deigryn yn cronni yn ei lygad. "Nid anghofiaf byth eich tynerwch o'm cyd-Gymro."

"Twt! twt!

Wyddwn i ddim ar y pryd mai Cymro ydoedd ef, nac ychwaith fod gennych fel cenedl asgwrn cefn o gwbl. Ond yr oedd e'n game, oedd yn wir. Y Duw Mawr! chwi ddylsech ei weld yn sefyll i fyny yn erbyn y Dago! Ond mewn ysgarmes o'r fath, ychydig o siawns sydd gan ddwrn y Cymro yn erbyn cyllell y Mecsicad unrhyw bryd. Da fydd gennych glywed, fodd bynnag, i Brydeiniwr arall, byrrach o'i ben na'r Mecsicad herio hwnnw i'w hymladd hi i'r pen â dyrnau gan osod y cyllill a'r Colts heibio. Ac os cafodd Mecsicad erioed lond ei grombil am unwaith, oddiar law y llanc glew hwnnw y'i cafodd—Frank Slavin ydyw enw'r Prydeiniwr ieuanc, ac y mae yn Nawson eto. Ond mae lle'r Mecsicad yn wag am ei fod wedi hwylio adre am repairs. Mae peth plwc ynoch chwi Brydeiniaid yn weddill o hyd. Ysgydwch law, Daff, ar ran yr hen wlad, a phob game cock o'i mewn. Ond dyma ni yn Wood Creek—ac heb fleiddiaid y tro hwn hefyd."

Doethineb yn Syd oedd prynu'r llawddrylliau, oblegid amhosibl fyddai cadw'r gyfrinach yn hir, ac yn Nawson y pryd hwnnw yr oedd rhai dynion nad ymatalient rhag unrhyw beth a'i gosodai ar lwybr yr haen gyfoethog yn Wood Creek. Sylwasai rhai ohonynt ar Ddaff yn cerdded i mewn i'r banc a phynnau dan ei gesail ac yn dyfod allan hebddynt. Cyn pen tri diwrnod yr oedd llygaid oddi rhwng y coed yn syllu ar y pump yn siglo'r cewyll wrth y cafnau dwfr, ac ymhen dau arall yr oedd dieithriaid yn gweithio am fywyd yr ochr uchaf a'r ochr isaf iddynt yn y cwm. Dedwydd oedd Daff yn awr o'i fod wedi sicrhau'r hawl iddo ef a'i gyfeillion mewn pryd. Ac ymhen hynny yr oedd y ffaith eu bod yn bum gŵr gyda'i gilydd yn eu gwneud yn ddiogelach fyth.

Teithiai y sled a'r cŵn i mewn i Dawson ddwywaith yn yr wythnos drwy y trimis o ddechreu Mai i ddechreu Awst, ac yr oedd y pump erbyn hyn yn werth ugain mil o ddoleri yr un.

Ond erbyn hyn hefyd rhaid oedd cynllunio am y dyfodol. Ymhen mis arall cloid y wlad eto gan yr ia, ac yr oedd yn rhaid penderfynu aros dros aeaf arall neu fynd allan drwy Alaska i'r môr, a gwledydd y de.

Dywedai Red Snake a White Cloud ond iddynt gael ugain ci a dwy sled, a digon o gynysgaeth am y gaeaf, y caffai y "much good friends y gweddill o'r arian o'u rhan hwy.

"Nid oes derbyn i fod i'r fath delerau o gryn dipyn!" ebe Syd ar unwaith. "Rhodder iddynt y cŵn a'r ddwy sled yn enw pob rheswm, ond rhaid i'r Canada Bank ddal y gweddill hyd nes y daw y ddau yn ôl yn newynog unwaith eto, yn ôl arfer yr holl Indiaid gonest i gyd."

Chwarddwyd yn galonnog am hyn gan y tri, ond teimlai'r tri hefyd mai Syd oedd yn iawn. "Fe weithia Jack a minnau yma aeaf arall eto,' ebe'r gwron eilwaith. "Beth am danoch chwi, Daff?" Pe dywedai Daff y gwir i gyd, fe ddywedai am y llythyrau mynych a ddeuthai ato o Frazer's Hope, to be called for at Dawson P.O., ac am yr hiraeth am y pentre bychan a'i drigolion a lanwai ei galon. Gallai ddywedyd hefyd am y llythyr diweddaf (a drosglwyddwyd ymlaen iddo o Vancouver), oddiwrth D.Y., ac am y contract "heading caled " yr oedd y Cantwr wedi ei gymryd yn y Rhondda, ac yn cynnig "mynd ar shâr ag ef, pe delai'n ôl.

Y cwbl a ddywedodd, fodd bynnag, oedd "Bwriadaf ymsefydlu yn Vancouver, ac felly carwn roi tro i'r lle er gweld beth yw'r rhagolygon am fusnes yno ar hyn o bryd." Felly y penderfynwyd, ac felly y bu. Yr oedd Daff i gadw ei hawl yn Wood Creek, ac i dderbyn yn ôl y lwc neu'r amlwc a ddigwyddai yno, a'r ddau gyfaill i wneuthur fel y gwelent yn oreu i hyrwyddo'r gwaith.

XLIII. TEG EDRYCH TUAG ADRE"

TUA diwedd Awst y flwyddyn honno trodd yr agerlong Louisiana y ddiweddaf am y tymor-ei phen i lawr hyd Yukon gan ddwyn ei llwyth gwerthfawr allan i drafnidiaeth y byd.

Ar ei bwrdd yr oedd Daff Owen, a wynebai wareiddiad unwaith eto gyda dangosiad am saith mil ar hugain o ddoleri yn ei logell. Teimlad cysurus ydoedd hynny, ond mwy ac uwch yn ei feddwl oedd y boddhad o fod wedi egnio i'w cael a'u cadw. Peth pe bai wedi gwastraffu ei amser o un salŵn i'r llall gan estyn ei gwd aur i'r gweinyddwr i dalu am "yfed" i bob un yn y lle? Byddai'n rhaid iddo aros yno eto, a mynd yn ôl, efallai gyda llai o lwc, i'r cilfachau am aeaf arall. Yna daeth i'w feddwl am beryglon y daith i fyny, am hunllef y Chilcoot a'r Ceffyl Gwyn; ac ar hyn diolchodd i Dduw unwaith yn rhagor am ei arbed a'i lwyddo.

Yr oedd y llong erbyn hyn yng nghanolbarth Alaska, ac yn tynnu'n gyflym tua'r aber a'r dwfr hallt; a mwynhâi'r teithwyr hinon yr Indian Summer yn fawr iawn. Nid oeddynt mor niferus o gryn lawer a theithwyr y Baltimore a ddeuthai o Vancouver i Dyea. Beth oedd ffawd y gweddill a'r miloedd eraill a dywalltodd yr holl longau allan ym mlwyddyn gyntaf y dwymyn aur? Gallai'r Chilcoot a'r afonydd creigiog hwnt iddo gyfrif am rai cannoedd ohonynt yn ddiau, a chysgai cannoedd eraill dan y cwrlid eira yn nhir oer y Klondyke. O'r rhai byw yr oedd torf wedi eu llyncu gan bleserau gwag y ddinas ysgafn, yn methu cadw allan o leoedd yr hapchwarae. I'r rhai hyn yr oedd y byd wedi ei gyfyngu ei hun i ddau lwybr, un o'r gilfach i'r salŵn a'r llall o'r salŵn yn ôl i'r gilfach. Ar y bwrdd yn cyd-deithio â Daff yr oedd rhyw hanner dwsin o wyr a aeth i'r Klondyke yr un pryd ag yntau, ac a oedd yn dychwelyd o'r wlad honno heb wybod dim am gur y mwynfeydd, ac eto'n gyfoethog y tu hwnt i un mwynwr a ddug y cyfoeth i oleu dydd. Adnabu hwynt ar y Baltimore, gwelodd hwynt yn dechreu eu gwaith cythreulig yn llaid Dyea, ac yn dal ati wrth y Canyon ynghanol y beddau a oedd yno. Hwy hefyd oedd wrth y byrddau yn y "Moose Horn," ac wele hwynt eto yn parhau wrth yr un grefft ar y Louisiana.

Pleser mawr iddynt fyddai gallu hudo Daff am unwaith i ymuno â'u "little parties," oblegid gwyddent o'r goreu mai un o ffodusion y "Gulches" ydoedd ef, ac o ganlyniad yn ŵr gwerth ei flingo.

Ond bob tro y ceisiwyd ei rwydo yr oedd rhywbeth yn ei drem yn arwyddo perigl i'r "crook," ac felly ni wasgwyd llawer arno wedi'r troion cyntaf.

Vancouver in sight! Dyna'r waedd ar y bwrdd ar y chweched bore wedi gadael Yukon; a pharatodd pawb ar gyfer y glanio.

Vancouver! Dyna'r lle y teimlodd Daff ei "draed dano" gyntaf, a'r lle y gobeithiai dreulio ei fywyd rhag blaen. Deubeth yn neilltuol y dymunai ac y breuddwydiai ef amdanynt ynglŷn â'r dre a'r ardal. A ddeuai ei freuddwydion i ben, tybed?

Wedi'r glanio a chael lluniaeth, aeth ar ei union at fasnachwr yn y lle, ac ar ôl y cyfarchiadau arferol, ebe fe wrth y gŵr," Flwyddyn yn ôl chwi gynigiasoch imi y siop hon am bum mil o ddoleri, Mr. Van Heurt, a ydyw yr un cynnig yn sefyll heddiw?"

Ai prynu drosoch eich hun, neu dros rywun arall yr ydych, Mr. Owen?"

"Drosof fy hun, bid sicr."

"Wel, dywedwch bum can doler yn ychwaneg, yna ni darawn y fargen."

Ar hyn, tynnodd Daff ei cheque book allan. "Faint yw yr ernes i fod, hyd nes y cwblhawn y fargen? "

"Dywedwch y pum cant ychwaneg, Mr. Owen. Gwna hynny y tro yn iawn. Ond rhaid i chwi aros blwyddyn cyn fy mynd allan er mwyn imi werthu fy eiddo er y fantais fwyaf."

"Eitha' boddlon, er mai gwell gennyf fyddai tri mis."

Talwyd y pum can doler, cytunwyd ar y ffordd i wneuthur y trosglwyddiad, ac aeth Daff allan fel gŵr wedi ennill teyrnas.

Ond yr oedd eto un breuddwyd yn aros i'w gyflawni, a rhaid ydoedd cynnig at hwnnw hefyd yn ddioed. Heb golli amser aeth i'r llythyrdy, lle yr oedd llythyr arall oddiwrth D.Y. yn ei aros, ac yn cynnig eto "shâr yn yr Heading Caled."

Annwyl hen bartner!" ebe Daff, yn ffyddlon o hyd, er bod hanner y byd rhyngom! Ond nid am y Cantwr yr oedd ei ail freuddwyd serch hynny. Cydiodd mewn papur teligram ac ysgrifennodd arno,—

"Mrs. Jones, Dowlais House, Frazer's Hope

Expect me to—morrow,

Daff."

a'i ddanfon i ffwrdd.

Trannoeth fe aeth ei hun i fyny i'r wlad, a phan ddechreuodd y trên arafu wrth nesu i'r orsaf a phasio heibio i'r ddau dŷ y gwyddai Daff mor dda amdanynt, yno yr oedd Mrs. Jones yn chwifio'i chadach, a'r ddwy wraig arall yn codi eu dwylo tuag ato.

Cyn pen chwarter awr yr oedd wedi ysgwyd llaw â hwynt oll, ac wedi ei gusanu gan Mrs. Jones yn ogystal.

"O! machan annwl i !" ebe hi. Diolch i Dduw am ych arbed chi i ddod 'nol yn fyw. Dyma fe, Jessie, ac ar fy ngair, credaf ei fod yn edrych yn well yn awr na'r diwrnod y gwelsoch chi e' gynta'!"

Chwerthin mawr am hyn ganddynt oll, a Daff yn edrych i fyny at Miss Selkirk gydag atgof o deimlad dwfn am y diwrnod pell hwnnw. Wedi hynny ymborth, ac ar ôl hynny canu, a chanu drachefn. "Gwelaf eich bod yn canu 'Blodwen' o hyd," ebe Daff wrth Miss Selkirk, pan wrthynt eu hunain am ennyd. "Beth amdano? A yw yn dal yn ei flas? "O, 'rwy'n caru pob miwsig Cymreig," ebe hithau. Ac ar hyn hi ganodd ar yr offeryn, braidd yn ddi- feddwl, frawddeg allan o'r ddeuawd adnabyddus yng ngwaith Dr. Parry, ac ar orffen ohoni hi hynny tarawodd Daff i mewn â'r gofyniad yn y gerdd,

A gymeri di nghalon?

ac atebodd hithau ar y piano, ond heb ei chanu, y frawddeg gerddorol,

Cymera'n ddioed.

sef yr un a etyb Blodwen.

Chwarddodd Daff ar hyn, a gwridodd hithau am na wyddai ar y foment achos ei ddifyrrwch. Yna, wedi esbonio iddi, dywedodd ymhellach,—

"Mi genais fy nghwestiwn i a chanasoch eich ateb chwithau ar y piano. Mi a'ch daliaf at eich gair, f' anwylyd."

Wedi hynny bu tawelwch mawr, o leiaf hyd nes i Mrs. Jones ddyfod o rywle a gofyn, "Ble 'rych chi i gyd yma ?" "Rhowch lwc dda' imi, Mrs Jones," eb yntau. Y mae Miss Selkirk—Jessie—newydd addo bod yn gymhares bywyd i mi"

Ar hyn neidiodd yr hen wraig fel geneth ddeunaw oed, ac wedi galw ar Mrs. Selkirk i'r ystafell, cusanodd hwynt oll drosodd a throsodd.

Dyma fi," ebe hi, mor hapus ag y galla i fod byth yn yr hen fyd yma!"

Ymhen chwe wythnos ar ôl hyn bu priodas hynod o boblogaidd yn Frazer's Hope, ac nid yw y merched a'r gwragedd etc wedi darfod siarad am y dillad gwychion a wisgai Mrs. Jones, Dowlais House, ar yr amgylchiad hapus.

Gan na allai'r pâr ieuanc ddechreu eu byd ar unwaith yn Vancouver, penderfynwyd, fel y croniclai'r papur lleol, ymweld ag Iwrop."

"Iwrop" y ddau, fodd bynnag, oedd Deheudir Cymru pan aed i Aberhonddu a Chwmdŵr, ac y dangosodd Daff i'w wraig leoedd hynotaf yr ardal. Rhaid oedd mynd i Gwm Rhondda hefyd i dreulio noson yng nghwmni D. Y. ac i ysgwyd llaw â John Jones, alias "Shoni Cwmparc",Haulier and Baritone. Ar wahoddiad Daff aethant yn bedwar bywiog anghyffredin i Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd yr wythnos ar ôl hynny.

Ac ar Ddydd y Cadeirio, pan alwyd "Y Cymry oedd ar wasgar" i fyny i'r llwyfan, nid oedd neb yn cynrychioli Canada yn fwy llawn eu calon na Daff, a'r eneth a gyfarfu ag ef ar yr heol wrth Frazer's Hope.


Y DIWEDD.

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.

 
  1. GPC -pâm o flodau
  2. GPC ostler: gwas stabl, un sy'n ofalu am geffylau