Gwaith Goronwy Owen Cyf I (testun cyfansawdd)
← | Gwaith Goronwy Owen Cyf I (testun cyfansawdd) gan Goronwy Owen golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Gwaith Goronwy Owen Cyf IGweler hefyd: Gwaith Goronwy Owen Cyf II (testun cyfansawdd) |
ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR
CONWY
Rhagymadrodd.
AR WAWR bore Deffroad llenyddol gwerin Cymru, cawn Oronwy Owen yn gweled arwyddion gogoniant meddwl ei wlad. Gwelai y tywyllwch oedd yn gorwedd arni, gwyddai nad oedd pendefig nac esgob mwy i noddi awen Cymru, dychmygai glywed y werin yn gwrando ar gerddi masweddol a dyriau anghelfydd. Gallasai yntau ennill bri drwy ganu yn ol chwaeth ddirywiedig y dydd, hawdd fuasai iddo guro Elisa Gowper ar ei dir ei hun. Ond ceinder Dafydd ab Gwilym a mawredd meddwl Milton enillodd fryd Goronwy Owen, a hynny pan oedd y naill yn anadnabyddus a'r llall yn ddirmygedig. O'i dlodi a'i hiraeth, cododd yr alltud lef oedd yn adlais o feddwl gorau hen Gymru; a chlywid ynddi, gan yr ychydig arhosodd i wrando, awen rymusach a mwy beiddgar nag a glywsid yng Nghymru erioed o'r blaen.
Ganwyd Goronwy Owen Ionawr 1 (13 yn ol y cyfrif newydd), 1722, yn Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, mewn bwthyn bychan ar fin rhos, ger y ffordd fawr rhwng Pentraeth a Llannerchymedd. Lawer blwyddyn wedyn, dywedai un o'r un fro am dano ef a'i dad a'i fam,—"Cymysg Owain Grono a Sian Parri ydyw. Nid oedd dan haul ddyn mwy diddaioni nag Owain, ac nid allai fod dynes gwrteisiach, ie, a diniweitiach, na Sian."
Yr oedd ysgol yn Llanallgo, dipyn i'r gogledd o'r bwthyn. Aeth Goronwy yno, heb yn wybod i'w rieni. Mynnai ei dad ei guro, ond cymerodd ei fam ei ran. Wedi hynny, pan yn dechreu teimlo gwerth ei awen, cofiai mai gofal ei fam oedd yn cyfrif am dryloewder dillyn ei iaith.
Pan yn un ar ddeg aeth i Ysgol Ramadegol Bangor, a dysgodd gyfansoddi Lladin rhagorol. Pan ddaeth ei ysgol i ben, yr oedd ei fam wedi marw, ac nid oedd y bwthyn ar fin y rhos yn gartref iddo mwy.
Yn bedair ar bymtheg oed cawn ef yn athraw ysgol ym Mhwllheli,—erbyn hyn yn garwr ac yn fardd. Oddiyno medrodd fynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen. Yn 1745 cafodd urdd diacon; ac, er llawenydd iddo, cafodd ei hun yn gurad yn ei hen gartref.
Buan y gorfod iddo droi o Fon; ac o hynny hyd ddiwedd ei oes helbulus bu'n hiraethu, ac yn ofer, am rywle yn ei wlad ei hun. Wedi aros peth yn sir Ddinbych, cafodd guradiaeth yn Selatyn, ger Croesoswallt, ac wedyn yn Nghroesoswallt ei hun. Yno, yn Awst 1747, priododd Elin, gweddw ieuanc, merch i fasnachydd o'r enw Owen Hughes; gwraig oleu-wallt feddal oedd, heb fawr o fyw ynddi.
Yn Medi 1748 cawn Oronwy yn Donnington, y tu hwnt i Shifnal, bron ar derfyn pellaf sir Amwythig. Yr oedd yn athraw yn yr ysgol, ac yn gurad Uppington i John Douglas, amddiffynydd athrylith Milton, ac esgob Carlisle a Salisbury wedi hynny. Gwlad o feusydd tonnog yw hon, gwlad yr haidd a'r gwenith, gwlad y maip a'r ffa. Mae'n un o'r ardaloedd iachaf, a phobl hynaws ynddi yn byw i oedran teg. Yma y blagurodd awen Goronwy, yma y canodd "Gywydd y Farn" a "Chywydd y Cynghorfynt." Yr unig beth a'i poenai oedd hiraeth am Fon a llaw drom yr Ysgotyn oedd yn wasanaethu. Weithiau cymerai ei ddychymyg ehediadau y synnai atynt ei hun, fel yng "Nghywydd y Farn," dro arall bwrlymiai ei hapusrwydd, yng nghwmni ei wraig a'i ddau fab, fell ffrwd fynyddig ar fore teg, yn "Awdl y Gofuned."
Yn Ebrill 1753, cerddodd i Lerpwl, ac yn fuan aeth ei deulu ar ei ol. Daeth yn gurad Walton. Tybiai ei fod yn agosach i Fon, a gwelodd forwyr oddiyno. Ond, wedi adnabod y lle, oer ac anial oedd o'i gydmaru a gwastadedd ffrwythlawn sir Amwythig. Cwynai na ddaethai'r awen gydag ef i'r fro newydd. "Beth a dâl awen mewn lle y bo llymdra a thylodi"? Ing oedd achos y gân oreu wnaeth yn y fro anhylon hon. Yma y ganwyd ei ferch Elin, ac yma y claddwyd hi.
Y mae tuedd mewn ambell le i ddenu i yfed ac ofera. Gadawodd Walton ei ol ar Oronwy. Yr oedd y "sucandai mân bryntion," wnaethai frad ei ragflaenydd, yn graddol ddenu Goronwy hefyd. Clywai ei gyfeillion am "ryw gyfeddach a rhy fynych dramwy i Lerpwl." Dyfnhai tlodi. Oedid gobaith. Ni fedrai ei blant siarad Cymraeg. Er hynny cynhyddai'r awydd am wybodaeth, a fflachiai'r awen o'r awr dduaf,—
"O f' Awen deg, fwyned wyt!
Diodid, dawn Duw ydwyt!
Tydi roit, â diwair wên,
Lais eos i lysowen."
Yr oedd gwladgarwch Gymreig yn deffro y pryd
hyn. Yr oedd Goronwy wedi dechreu darllen hanes
Cymru, ac wedi cael blas ar waith yr hen feirdd. Yr
oedd mewn gohebiaeth barhaus â thri mab Pentre
Eiriannell, y clywsai ei fam yn son am danynt,—
Lewis, Richard, a William Morris. Clywodd am y
Cymrodorion yn Llundain a'u gwaith.
Trodd ei gefn ar Gymru am byth. Aeth ef a'i deulu i Lundain. Yno y cawn hwy ar ddechreu'r gyfrol nesaf.
Yn yr ail gyfrol bydd hanes gwaith Goronwy Owen, nodiadau, a mynegai. Ond dymunwn yma gydnabod fy nyled i lafur cariad gwladgarol Robert. Jones, gynt ficer Rotherhithe, a golygydd gwaith Goronwy Owen.
- OWEN M. EDWARDS.
- Llanuwchllyn,
- Ion. 15, 1902.
- Llanuwchllyn,
- OWEN M. EDWARDS.
Cynhwysiad.
I. BORE OES. YN MON A BANGOR. &c.
Ion. 1 (hen gyfrif) 1722-Medi 1748.
Cais am gymorth i Fyfyrio.
Englynion o Weddi
Calendr y Carwr[1]
Englyn ar Ddydd Calan
II. YN DONNINGTON, GER CROESOSWALLT.
Medi 1748-Ebrill 29. 1753
Hanes Bywyd
Y Bardd a'i Awen
Awdl y Gofuned
Cywydd y Farf
Anfon Cywydd y Farn
Cywydd y Farn Fawr
Bonedd yr Awen
Yr Awen (dull Horas)
Lewis Morys
Cywydd y Gem, neu'r Maen Gwerthfawr
Marwnad Marged Morys
Bywyd yn Donnington
Hiraeth am Fon
Cywydd i'r Calan, 1753
Psalm cvii.
Meddwl am Argraffu
Cywydd y Cynghorfynt
III. YN WALTON, GER LERPWL.
Ebrill 29, 1753-Ebrill 29, 1755
Y Cartref Newydd
Yr Awen yn Walton
Geni Elin
Priodasgerdd Elin Morris
Gwladgarwch
Beirniadaeth
Hiraeth
Cywydd y Calan
Marw Elin
Marwnad Elin
Gadael Walton
Y Darluniau.
"Ar wawr y Deffroad."Arthur E. Elias.
"Ffordd yr Alltud"Miss Winifred Hartley.
"Wel, wel, mi welaf nad oes dim siawns am ddyfod i Gymru.
Nid oes mo'r help."
Y Carwr ar Ffo.Arthur E. Elias.
"Llemais â mawr full ymaith
Yn brudd wedi difedd daith;
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm hol."
Yn Lloegr
"Gwlad o feusydd tonnog, gwlad yr haidd
a'r gwenith, gwlad y maip a'r ffa."
Plas y Glyn, Mon. Arthur E. Elias.
"Mi allaf ddywedyd na welais i yr un y bai hoffach gennyf ei gyfeillach na William Elias."
Mynd i'r eglwys.Arthur E. Elias.
"Yr oedd yn swil gennyf ddoe, wrth fyned i'r eglwys yn ein
gynau duon, fy ngweled fy hun, yn ei ymyl ef, fel bad ar ol long.
I. BORE OES.
CAIS AM GYMORTH I FYFYRIO.
ADOLESCENTULUS sum 18 annos natus, in parochia de Llanvair in Mathafarn Eithaf ortus, in agro Monensi. Summa per pauperum parentum industria apud scholam publicam Bangor ensem versatus sum ab anno 1737 ad 1741. Quo tempore ad metam propositam perveneram, manum ferulæ subduxi, et ad parentes me contuli.[2]
Matre autem defunctâ, pater uxorem duxit, egoque sine cortice nare coactus sum; et laborem parum assuetus, nescio quomodo victum quæram. Litteræ mihi nihil aliud sunt nisi addita lumina, quibus miseriam meam magis perspicue prospicio."
Si paupertas pro merito habeatur, nescio quin ego sim tuo favore dignissimus.
Ad Audoenum Meyrick.[3]
ENGLYNION O WEDDI.
[Cyn myned i Rydychen.]
Duw Tad, un o'th rad a thri,—Duw anwyl,
Daionus dy berchi;
Duw unig y daioni,
Clau yw fy nghred, clyw fy nghri.
Dy eiriau, Ion clau, clywais—yn addaw
Noddi rawb a'th ymgais;
Ymagored, mi gurais,
Y nef wrth fy llef a'm llais.
Gellaist,—i'th nerthog allu—nid yw boen—
Wneyd y byd a'i brynnu;
Yn Dwysog, un Duw Iesu,
Ti sydd, Ti fydd, Ti a fu.
Da gwyddost wrando gweddi—dy weision;
Dewisaist eu noddi:
A minnau wyf, o mynni,
Duw Iesu deg, dy was Di.
Gwaelaidd gynt i fugeilio—ai Moesen
Tua meusydd hen Iethro;
Di roddaist hyder iddo,
A braint, a rheolaeth bro.
A'r Salmydd, cynnydd Dduw eu, cof ydyw,
Cyfodaist i fynu;
O fugail, heb ryfygu,
Aeth Dafydd yn llywydd llu.
Minnau, Duw Nef, o mynni,—anerchaf
Hyn o archiad iti;
Bod yn fugail cail Celi;
A dod im' dy Eglwys Di.
Ni cheisiaf gan Naf, o nefoedd—gyfoeth
Na gofal brenhinoedd,
Ond arail wyn ei diroedd,
Duw a'i gwnel,—a digon oedd.
CALENDR Y CARWR
[Ym Mhwllheli, tua 1743]
WIR yw i mi garu merch;
Trosais hyd holl ffyrdd traserch;
Gwelais, o'r cwr bwygilydd,
Cyni a gresyni sydd.
Nwyfus fu 'r galon afiach;
Ow! galon sal, feddal, fach!
Wyd glwyfus nid â gleifwaith,
Gwnaeth meinwen â gwên y gwaith.
Ow'r don anhoewfron hyfriw!
Ow! rydda 'i llun, hardd ei lliw.
Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy deg i wenu.
Gwenferch wyt, gwae fi ganfod
Dy rudd! a di fudd dy fod.
Mwynach a fych, fy meinwen,
Archaf i Dduw Naf, ddyn wen, .
Mwynach, pe Duw a'i mynnai,
Neu fid it' o lendid lai.
Da, ddyn fain, y'th gywrainiwyd;
Hygar ei ffurf, hoewgorff wyd.
Adwyth fod it', ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd deg.
Odid y canfu adyn
Chwidrach, anwadalach dyn.
Seithug a gefais wythwaith
Gan fain ei hael; gwael y gwaith!
Siomaist fi 'r wythnos yma;
Nos Sadwrn ni chawn dwrn da;
Dyw Sul y deuais eilwaith;
Dydd Llun y bu 'n dywydd llaith;
Dydd Mawrth, da im' ei wrthod;
Dydd Merchur, garw gur ac ôd;
Dydd lau, diau, a fu deg;
Och! Wener, gwlaw ychwaneg;
Ail Sadwrn a fu swrn sych;
Oerwynt im' oedd, ddyn eurwych;
Rhew ydoedd a rhuadwynt,
O berfedd y gogledd, gwynt.
Twy gorft nos yr arhosais,
Dwl im', ac ni chlywn dy lais.
Cnithio 'n gras ar y glaswydr
A'm bys gydag ystlys gwydr;
Llwyr egru llawer awgrym,
Disgwyl i'r ddor egor im'.
Yno gelwais â llais llwrf,
Rhag cwn a pheri cynnwrf,—
"Mari fwyn, mawr yw f' annwyd;
Oer ydyw, O clyw o'th clwyd;
Mawr yw fy nghur, lafur lwyth,
Deffro, gysgadur diffrwyth."
Galwad, ond heb ateb oedd;
Mudan fy nyn im' ydoedd.
Symudaw 'n nes a madws,
Cyrraedd dôl dryntol y drws,
Codi 'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddor ddig,
Gan ffyrnig wŷn uffernol
Colwyn o fewn, cilio 'n f' ol.
O'r barth yn cyfarth y caid,
Ail agerdd tân o'i lygaid,
Chwyrn udaw, Och! oer nadu.
Yn ddidor wrth y ddor ddu.
Yno clywn swrth. drymswrth dro,
Goffrom, rhwng cwsg ac effro,
Bram uchel ac, ni chelaf,
Erthweh fal yr hwch ar haf;
A beichiaw a'm bwbachai,
Ac annog ci heriog,—"Hai!"
Llemais à mawr ffull ymaith
Yn brudd wedi difudd daith;
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm hol.
ENGLYN AR DDYDD CALAN.
HYNT croes fu i'm hoes o hyd,—echrysawl,
A chroesach o'm mebyd;
Bawaidd fu hyn o'm bywyd;
Ond am a ddaw—baw i'r byd.
II. YN DONNIGTON
HANES BYWYD.
[Llythyr at Richard Morris, Mehefin 22, 1752.]
SYR,—Mi a dderbyniais eich epistol, a rhyfedd oedd gennyf weled un yn dyfod ataf o Lundain, a thra rhyfedd gweled enw gŵr na welais erioed â'm llygaid. Ffafr oedd hon heb ei disgwyl; eithr " po lleiaf y disgwyliad, mwyaf y cymeriad." Er na ddigwyddodd i'm llygaid erioed ganfod mo honoch, eto nid dieithr imi mo 'ch enw; tra fu fyw fy mam, mi a'i clywais yn fynych. Gan ofyn o honoch pa fath fywiolaeth sydd arnaf, cymerwch fy hanes fel y canlyn.
Nid gwiw gennyf ddechreu son am y rhan gyntaf o'm heinioes, ac yn wir prin y tâl un rhan arall ei chrybwyll, oblegid nad yw 'n cynnwys dim sydd hynod, oddigerth trwstaneiddrwydd a helbulon; a'ch bod chwithau yn gorchymyn yn bendant i mi roi ryw draws amcan o'm hanes Tra bum a'm llaw yn rhydd, chwedl pobl Mon, neu heb briodi, byw yr oeddwn fel gwŷr ieuainc eraill, weithiau wrth fy modd, weithiau yn anfoddlon; ond pa wedd bynnag, a digon o arian i'm cyfreidiau fy hun, a pha raid ychwaneg? Yn y flwyddyn 1745, e'm hurddwyd yn ddiacon, yr hyn a eilw ein pobl ni, "offeiriad hanner pann." Ac yno fe ddigwyddodd fod ar Esgob Bangor eisieu curad y pryd hynny, yn Llanfair Mathafarn Eithaf, yn Mon. A chan nad oedd yr esgob ei hun gartref, ei gaplain ef a gytunodd â mi i fyned yno. Da iawn oedd gennyf y fath gyfleusdra i fyned i Fon, oblegid yn sir Gaernarfon a sir Ddinbych y buaswn yn bwrw 'r darn arall o'm hoes, er yn un-ar-ddeg oed, ac yn enwedig i'r plwyf lle 'm ganesid ac y'm magesid. Ac yno yr aethum, ac yno y bum dair wythnos, yn fawr fy mharch a'm cariad, gyda phob math, o fawr i fach; a'm tad yr amser hwnnw yn fyw ac iach, ac yn un o'm plwyfolion. Eithr ni cheir y melust heb y chwerw." Och! O'r cyfnewid! Dyma lythyr yn dyfod oddi wrth yr esgob, Dr. Hutton, at ei gapelwr, neu gaplain, yn dywedyd fod un Mr. John Ellis, o Gaernarfon, "a young clergyman. of a very good fortune," wedi bod yn hir grefu ac ymbil ar yr esgob am ryw le, lle gwelai ei arglwyddiaeth yn oreu, o fewn ei esgobaeth ef; ac ateb yr esgob oedd, "Os Mr. Ellis a welai yn dda wasanaethu Llanfair," y lle y gyrasai y capelwr fi, "yr edrychai efe," yr esgob, "am ryw le gwell iddo ar fyrder." Pa beth a wnai drwstan? Nid oedd wiw achwyn ar y capelwr wrth yr esgob, nac ymryson â neb o honynt, yn enwedig am beth mor wael; oblegid na thalai 'r guradiaeth oddi ar ugain punt yn y flwyddyn. Gorfu arnaf fyned i sir Ddinbych yn fy ol, ac yno y cefais hanes curadiaeth yn ymyl Croesoswallt, yn sir y Mwythig, ac yno y cyfeiriais. Ac er hynny hyd y dydd heddyw, ni welais ac ni throediais mo ymylau Mon, nac ychwaith un cwr arall o Gymru, onid unwaith pan orfu i mi fyned i Lan Elwy i gael urdd offeiriad.
Mi fum yn gurad yn nhref Croesoswallt ynghylch tair blynedd; ac yno y priodais yn Awst,
1747. Ac o Groesoswallt y deuais yma ym Medi,
1748. Ac yn awr, i Dduw y byddo 'r diolch, y
mae gennyf ddau lanc teg; a Duw a roddo
iddynt ras, ac i minnau iechyd i'w magu hwy.
Enw'r hynaf yw Robert, a thair blwydd yw er dydd Calan diweddaf. Enw'r llall yw Goronwy, a blwydd yw er y pumed o Fai diweddaf.
Am fy mywiolaeth, nid ydyw onid go helbulus; canys nid oes gennyf ddim i fyw arno, onid enillwyf yn ddigon drud. Pobl gefnog, cyfrifol yw cenedl fy ngwraig i; ond ni fumi erioed. ddim gwell erddynt, er na ddygais mo honi heb eu cennad hwynt; ac na ddigiais monynt. ychwaith. Ni fedr fy ngwraig i ond ychydig iawn o Gymraeg; eto hi ddeall beth; ac ofni'r wyf, onid af i Gymru cyn bo hir, mai Saeson a fydd y bechgyn; canys yn fy myw ni chawn gan y mwyaf ddysgu un gair o Gymraeg. Mae gennyf yma ysgol yn Donnington, ac eglwys yn Uppington i'w gwasanaethu; a'r cwbl am 26 punt yn y flwyddyn; a pha beth yw hynny tuag at gadw ty a chynifer o dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud, a'r bobl yn dostion ac yn ddigymwynas? Er hynny, na ato Duw imi anfoddloni, o herwydd "po cyfyngaf gan ddyn, ehangaf gan Dduw." Nid oes ond gobeithio am well troiad ar fyd.
Fe addawodd eich brawd Llywelyn o Geredigion yr edrychai ryw amser am ryw le imi yng Nghymru; ac nis gwaeth gennyf fi frwynen yn mha gwr o Gymru. Duw a gadwo iddo ef iechyd a hoedl, ac i minnau ryw fath o fywiolaeth ac amynedd i ddisgwyl. Nid oes gennyf yn awr neb arall i ddisgwyl wrtho. Ni waeth gan y bobl yma, am a welaf fi, er yr hwyed y cadwont ddyn. danodd, os cânt hwy eu gwasanaethu, deued a ddêl o'u gwasanaethwr. Ni phrisiant hwy ddraen. er gwario o hono ei holl nerth a'i amser; ie, a gwisgo o hono ei gnawd oddi am ei esgyrn, yn eu gwasanaeth hwynt.
Ysgotyn yw 'r gŵr yr wyf fi yn ei wasanaethu yn awr, a Douglas yw ei enw. Ysgatfydd chwil a'i hadwaenoch. Y mae yn Llundain yn awr, a'r rhan fwyaf o'i amser, gyda Iarll Baddon, yn dysgu ei fab ef. Efe yw'r gŵr a gymerth blaid y prydydd Milton yn erbyn yr enllibiwr algas, gau, Lauder. Pa wedd bynnag, tost a chaled ddigon ydyw hwnnw wrthyf fi. Yr wyf yn dal rhyw ychydig o dir, sy 'n perthyn i'r ysgol, ganddo ef; ac er ei fod yn rhy ddrud o'r blaen, eto fe yrrodd eleni i godi fy ardreth i, rhag ofn a fyddai i gurad druan ynnill dim yn ei wasanaeth ef, neu gael bargen rhy dda ar ei law ef.
Mae gennyf ryw awydd diwala i ddysgu cymmaint ag a allwyf, ond ni fedraf gael mo 'r llyfrau i ddysgu dim a dalo ei ddysgu. Ni adnabum i neb erioed yn Llan Elian, na nemawr yn un lle arall yn Mon, oddigerth ychydig ynghylch y cartref, a thua Dulas, a Bodewryd, a Phenmon, &c., lle yr oedd ceraint fy mam yn byw. Er pan aethum i'r ysgol gyntaf, hynny oedd ynghylch deg neu un ar ddeg oed, nid oeddwn arferol o fod gartref ond yn unig yn y gwyliau; ac felly nid allwn adwaen mo 'r llawer. Mi a wn amcan pa le mae Tref Castell yn sefyll, er nas gwyddwn pwy a'i pioedd. Y tro cyntaf erioed yr euthum i'r ysgol, diane a wneuthum gyda bechgyn eraill heb wybod i'm tad a'm mam; fy nhad a fynnai fy nghuro, a'm mam nis gadawai iddo. Ba wedd bynnag, trwy gynhwysiad fy mam, yna y glynais. hyd oni ddysgais ennill fy mywyd. A da iawn a fu i mi; oblegid ynghylch yr amser yr oeddwn yn dechreu gallu ymdaro trosof fy hun, fe fu farw fy mam, ac yna nid oedd ond croesaw oer gartref i'w ddisgwyl. I Dduw y bo yr diolch, mi a welais ac a gefais lawer o adfyd, ac yr wyf eto yn methu cefnu 'r cwbl; ond gobeithio 'r wyf weled o honof y darn gwaethaf o'm bywyd eisus heibio. Da iawn a fydd gennyf glywed oddi wrthych. pan gaffoch gyfleusdra, a goreu po gyntaf. Bid sier i chwi, os gwelwch yn dda, gael rhyw gywydd yn y nesaf, ac yn mhob un o hyn allan. Chwi a gawsech "Gywydd y Farn" yn hwn oni buasai fy mod yn meddwl mai gwell i chwi ei gael yn argraffedig. Os nid ellwch yn hawdd ddidolli 'ch llythyr â ffrencyn, gyrrwch ef ymlaen heb yr un. Ni wna grotan na 'm dwyn na 'm gadael.
Eich, &c.,
- GORONWY OWEN.
Y BARDD A'I AWEN.
[At William Elias, Plas y Glyn, Mon: Tach. 30, 1751.]
Y CELFYDDGAR Frytwn, a'm hanwyl gyfaill gynt, —Chwi a glywsoch son, nid wyf yn ameu, am ryfeddol gynheddfau yr ehedfaen, pa wedd y tyn ato bob math o ddur a haiarn. Nyni a wyddom fod y gynneddf hon yn yr ehedfaen a'r haiarn hefyd, ac a allwn weled â'n llygaid yr effeithiau rhyfeddol uchod; ond nis gwyddom pa fodd, na phaham, y mae y peth yn bod; oblegid hod hyn, cystal ag amryw eraill o ddirgelion natur, yn fwy nag a allodd holl ddoethion a dysgedion byd erioed ei amgyffred. Ni fedraf lai na meddwl fod rhyw beth tra chyffelyb i hyn. yn natur dyn, yr hyn a bâr iddo gynhesu wrth ryw un, ac ymhoffi ynddo, yn hytrach nag eraill, er nas dichon ddirnad pa fodd na phaham, neu am ba achos. Am danaf fy hun, mi allaf ddywedyd, er dechreuad ein cydnabyddiaeth, na welais i yr un y bai hoffach gennyf ei gymdeithas na William Elias; a llawer gwaith yr amcenais. ysgrifennu atoch, pe gwybuaswn pa sut; o'r diwedd mi a gefais wybodaeth o Gymru ym mha le yr ydych yn byw. Mi fynaswn i'r Awen dacluso peth ar fy ymadroddion rhydlyd ac anystwyth; ni fynnai mo 'm clywed, er taer ymbil of honof fel hyn,
GORONWY.
Dos, fy nghân, at fardd anwyl;
O byddi gwan, na bydd gwyl;
Bydd gofus; baidd ei gyfarch;
Dywaid dy bwyll, a dod barch.
AWEN.
Os i Fon y'm danfoni,
Pair anghlod i'th dafod di;
Bu gyfarwydd dderwyddon,
Gwyr hyddysg, yn mysg gwŷr Mon.
Priawd iddi prydyddiaeth;
Cadd doethion ym Mon eu maeth;
Mon sy ben, er ys ennyd,
A'r ddoethion a beirddion byd.
Pwy un glod â'i thafodiaith?
A phwy yr un â'i pher iaith?
Tithau waethwaeth yr aethost;
Marw yw dy fath, mawr dy fost.
Nid amgen wyd nad ymgais
Dirnad swrn, darn wyd o Sais,
A'r gŵr, i'r hwn y'm gyrri,
Nid pwl ful dwl yw, fal di;
Ond prif-fardd yw o'r harddaf;
Am dy gân gogan a gaf.
Hawdd gwg a haeddu gogan;
Deall y gŵr dwyll y gân;
Un terrig yw; nid hwyrach,
Gwn y chwardd am ben bardd bach
GORONWY.
O Gymru lân yr hannwyf,
Na cham ran, a Chymro wyf;
A dinam yw fy mamiaith;
Nid gwledig, na chwithig chwaith.
Bellach dos ac ymosod,
Arch dwys; ato f' annerch dod;
A gwel na chynnyg William
Elias na chas na cham.
Hyd yma mi a'i llusgais gerfydd ei chlust, ac yma hi a'm gadawodd; a sorri a ffromi a wnaethum innau, ac ymroi i ysgrifennu y rhan arall heb gynghanedd, yn hytrach na bod yn rhwymedig iddi. Nid oes gennyf ddim newydd a dâl i ddywedyd i chwi oddi yma, oblegid nad adwaenoch na'r lle na 'r trigolion. Mae gennyf ddau fab, ac enw 'r ieuangaf yw Goronwy. Yr wyf yn awr wedi cymeryd ail afael yn fy ngramadeg Cymraeg, a ddechreuais er cyhyd o amser; ond y mae 'r gwaith yn myned yn mlaen fal y falwen, o achos bod gormod gennyf o waith arall yn fy nwylaw. Mi ddymunaf arnoch yrru i mi lythyr a rhyw faint o'r hen gelfyddyd ynddo gynted ac y caffoch ennyd. Nid oes yrwan gennyf fwy i chwanegu, ond fy mod,
- Eich ufudd wasanaethwr, o ewyllys da,
- GORONWY OWAIN.
- Eich ufudd wasanaethwr, o ewyllys da,
AWDL Y GOFUNED.
A ganwyd yn 1752, cyn gwybod pa beth oedd Awdl.]
O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,
Dyma o archiad im' a erchwn.
Un rodd orwag ni ryddiriwn—o ged;
Uniawn ofuned, hyn a fynnwn:
Synwyrfryd doeth a chorff anfoethus,
Cael o iawn iechyd calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.
Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes, heb ry nac eisien,
Ym Mon araul; a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion a llawn doniau.
Rhent gymhedrol; plwyf da 'i reolau;
Ty is goleufryn; twysg o lyfrau ;
A gwartheg res, a buchesau,—i'w trin,
I'r loew wraig Elin rywiog olau.
Gardd i minnau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd o wiw gysgodiad,
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion,
Hil derwyddon, hylaw adroddiad.
Ac uwch fy mhen, ym mysg canghennau,
Bêr baradwysaidd, lwysaidd leisiau.
Ednaint meinllais, adlais odlau,—trydar
Mwyn adar cerddgar, lafar lefau.
A thra bo 'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cydgais â'r cor meinllais manllu—fy nghân
Gwiw hoew a diddan gyhydeddu.
Minnau a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl arabawdl Robyn
Gan dant Goronwy gywreinwyn,—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.
Deued i Sais yr hyn a geisio,
Dwfr hoff redwyllt ofer a ffrydio
Drwy nant a chrisiant, a chroeso, —o chaf
Fon im'; yn bennaf henwaf honno.
Ni wnaf f' arwyrain yn fawreiriog,
Gan goffau tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud, myr, mynydd, dolydd deiliog,—trysor
Yn India dramor, oror eurog.
Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau,
Paris i'r Ffrancon, dirion dyrau,
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—son
Am wychder dynion; Mon i minnau.
Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.
CYWYDD Y FARF.
Cefais gystudd i'm gruddiau
Oer anaf oedd i'r en fau;
Oerfyd a gair o arwfarf,
A dir boen o dorri barf.
Mae goflew im' ac aflwydd,
A llwyni blew llai na blwydd;
Crinwydd fal eithin crynion.
Yn fargod da bod heb hon;
Trwsa 'n difwyno traserch,
Athrywyn mwynddyn a merch.
Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr en;
Difudd oedd ceisio 'i dofi:
"Ffei o hon, hwt!"—ffoi wnai hi.
Caswaith, er däed cusan,
Ymdrin â merch â'm drain mân;
Briwo 'i boch wrth ei llochi;
Och! i'r rhawn; ac ni châr hi;
Ac aflwydd el â'r goflew;
Sofl a blyg, ond ni syfl blew.
Cas gan feinwar ei charu,
O waith y farf ddiffaith, ddu.
Pwn ar en, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw;
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur.
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd en ddu fal dannedd og;
Brawsgawn, neu swp o brysgoed;
Picellau fal cangau coed;
Ffluwch lednoeth, yn boeth na bo!
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn neu lem gyllell,
Farf ddiffaith! ni fu waith well.
Ond gwell, rhag y gyllell gerth,
Ennyn gwale yn wen goelcerth;
Mindrwch gwiltwr gweindrwch, gwândrwm;
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm;
Ellyn â charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y rhydd ei hanedwydd nod—
Briw cyfled â lled ei llafn,
Llun osgo llaw anysgafn;
PLAS Y GLYN, MON.
"Na welais i yr un y bâi hoffach gennyf ei gymdeithas na William Elias."
O'm grudd y rhed y rhuddwaed;
Bydd lle craf wanaf o waed;
Gwelid o glust bywgilydd
Ddau ben yr agen a rydd;
Hifio fy nghroen a'm poeni;
Llwyr flin yw ei min i mi.
O mynnai nef im' unwaith,
En iach, heb na chrach na chraith,
Yn ddifrif rhown ddiofryd
Holl hifwyr a barfwyr byd.
Rhown ddinidr iawn eidduned,
Llw diau, myn creiriau cred,
Na fynnwn i fau wyneb
Un ellyn noeth na llaw neb.
Medrusaidd im' ei drawswch,
A gwynfyd yw byd y bwch;
Odid, filyn barfwyn bach,
Y gellid cael ei gallach;
A chywilydd, o choeliwch,
I ddyn na bai ddoniau bwch;
Hortair, na thybiai hurtyn.
Ddawn ei Dduw 'n addwyn i ddyn.
Croesaw y farf, wiwfarf, yt;
Cras orthwf, croesaw wrthyt!
Na fid digrif yn ddifarf,
Na i fin heb lathen o farf.
Bid pawb oll i'w harfolli;
Arfollaf a harddaf hi;
A dioddefaf dew ddufarf
Rhag eillio, gribinio barf.
Cywydd y Farn
At WILLIAM MORRIS, Mai 7, 1752.
DEAR SIR,—NAGE, Fy Anwyl Gydwladwr, dilediaith, a ddylaswn ddywedyd, eithr os chwi a'm hesgusoda am hyn o dro, chwi a gewch o Gymraeg y tro nesaf.
I am exceedingly obliged to you and Mr. Ellis for your good opinion of my poor performance. As to the printing of it, it is to me a thing indifferent. I am in no way fond or ambitious of appearing in print and commencing author; for now, thank God. I have no vanity to be gratified in so doing. And if I ever had, my own sense, as I grew up, overtopped and mortified it; and this troublesome world, with my narrow circumstances in it, has now effectually killed it, root and branch.
Mr. Lewis Morris was pleased to favour me with an examination of it, and marked out some few slips in it as to the poetry, which I have since endeavoured to correct; but with what success, I have not yet heard; and I am unwilling that anything of mine should be made public without the consent and approbation of my tutor.
Perhaps, if God enables me, and the world. allows me time, I may make something that may be thought at least equal to Cywydd y Farn. If I had time to spare, my chief desire is to attempt something in epic poetry; but the shortness of the measures in our language makes me almost despair of success. I have not a turn of genius fit for ludicrous poetry, which I believe is best relished in Wales; and you may see that the few little witticisms in Cywydd y Farf are rather forced than natural. Dafydd ap Gwilym was perhaps the best Welshman, that ever lived, for that kind of poetry, and is therefore very deservedly admired for it. And, though I admire, and even dote upon, the sweetness of his poetry, I have often wished he had raised his thoughts to something more grave and sublime. Our language, undoubtedly, affords plenty of words, expressive and suitable enough for the genius even of a Milton; and had he been born in our country, we, no doubt, should have been the happy nation that could have boasted of the grandest, sublimest piece of poetry in the world. Our language excels most others in Europe, and why does not our poetry? It is to me very unaccountable. Are we the only people in the world that know not how to value so excellent a language? or do we labour under a national incapacity and dulness? Heaven forbid it! Why, then, is our language not cultivated? Why do our learned men blame the indolence of their forefathers in former ages for transmitting so little of their learning to posterity, and yet, at the same time, wallow in the same security and indolence themselves?
[At Richard Morris, Awst 15.1752.]
SIR, Dyma 'ch llythyr wedi cyrhaeddyd hyd yma; a da iawn oedd gennyf ei weled, ac nid bychan ei groesaw er mwyn y llaw a'i hysgrifennodd. E fu frwnt anial gennyf lawer gwaith er pan ysgrifennais atoch o'r blaen, na buaswn yn gyrru i chwi "Gywydd y Farn." Nis gwn, pe crogid fi, pa fodd y bu hynny o wall arnaf; eithr boed sicr gennych mai nid anewyllysgarwch oedd yr achos, ond byr feddwl. Tybio wnawn i, fal hurtyn, mai amgenach fyddai gennych ei gael yn argraffedig; heb ystyried mai unig gymeradwyaeth yr anrheg oedd hanfod o honaw o law yr awdwr. Ba wedd bynnag, os rhynga fodd ichwi esgusodi hynny o esgeulusdra, llyma for ichwi yn awr fal y mae gennyf finnau, trwy "ei law a'i loewon," fal y dywedynt.
CYWYDD Y FARN.
OD im dy nawdd a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau f' armerth o'm nertbyd
Yw Dydd Barn a diwedd byd;
Dyddwaith; paham na 'n diddawr
Galwad i'r ymweliad mawr?
Mab Mair a gair yn gwiriaw
Y dydd ebrwydded y daw;
Ai saint cytun yn unair
Dywedant, gwiriant y gair;
A gair Duw 'n agoriad in',
Gair Duw a gorau dewin;
Pa'nd gwirair y gair a gaf,
lach rad! a pham na chredaf?
Y dydd diogel y daw,
Boed addas y byd iddaw!
Diwrnod anwybod i ni
A glanaf lu goleuni;
Nid oes, f' Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid ef a'i Dad.
Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron dison y daw;
Gwae 'r diofal ysmala;
Gwynfyd i'r diwyd a'r da.
Daw angylion, lwysion lu,
Llym naws, à lluman Iesu;
Llen o'r ffurfafen a fydd
Mal cynfas, mil a'i cenfydd;
Ac ar y llen wybrenneg
E rydd Grist arwydd ei grog.
Yno 'r Glyw, Ner y gloewnef,
A ferchyg yn eurfyg nef;
Dyrcha 'n uchel ei helynt,
A gwân adenydd y gwynt;
A'i angylion gwynion, gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoir gawr nerthol a dolef.
Mal clych, yn entrych y nef;
Llef mawr goruwch llif mor-ryd,
Uwch dyfroedd, aberoedd byd,
Gosteg a roir ac ust draw;
Dwrf rhaiadr darfu rhuaw;
Angel a gân, hoewlan lef,
Felyslais nefawl oslef.
Wrth ei fant, groewber gantawr,
Gesyd ei gorn, mingorn mawr;
Corn anfeidrol ei ddolef,
Corn ffraeth o saernïaeth nef.
Dychleim, o nerth ei gerth gân,
Byd refedd a'i bedryfan;
Pob cnawd o'i heng a drenga,
Y byd yn ddybryd ydd a;
Gloes oerddu 'n neutu natur,
Daear a hyllt, gorwyllt gur!
Pob creiglethr crog ogwymp,
Pob gallt a gorallt a gwymp;
Ail i'r ar ael Eryri,
Cyfartal hoewal a hi.
Gorddyar, bâr, a berwias
Yn ebyr, ym myr, ym mas,
Twrdd ac anferth ryferthwy,
Dygyfor ni fu for fwy;
Ni bu ddylif yn llifo
Ei elfydd yn nydd hen No.
Y nef yn goddef a gaid,
A llugyrn hon a'i llygaid,
Goddefid naws llid, nos llwyr,
Gan lewyg gwyn haul awyr.
Nid mwy dilathr ac athrist
Y poenloes cryf pan las Crist.
Y wenlloer yn oer ei nych,
Hardd leuad, ni rydd lewych.
Syrth nifer y ser, arw son!
Drwy'r wagwybr draw i'r eigion;
Hyll ffyrnbyrth holl uffernbwll
Syrthiant drwy'r pant draw i'r pwll;
Bydd hadl y wal ddiadlam
Y rhawg a chwyddawg a cham;
Cryn y gethern uffernawl,
A chryn a dychryn y diawl;
Cydfydd y fall Ai gallawr;
Car lechu 'n y fagddu fawr.
Dyfyn a enfyn Dofydd,
Bloedd erchyll; rhingyll a'i rhydd:—
"Dowch, y pydron ddynionach,
Yng nghyd, feirw byd, fawr a bach;
Dowch i'r farn a roir arnoch,—
A dedwydd beunydd y boch."
Cyfyd, fal yd o fol âr
Gnwd tew eginhad daear;
A'r môr a yr o'r meirwon
Fil myrdd uwch dyfnffyrdd y don;
Try allan ddynion tri-llu—
Y sydd, y fydd, ac a fu,
Heb goll yn ddidwn hollol,
Heb un o naddun yn ol.
Y dorf ar gyrch, dirfawr gad,
A 'n union gerbron Ynad.
Mab Mair ar gadair a gaid,
lawn Naf gwyn o nef gannaid,
A'i osgordd, welygordd lân,
Deuddeg ebystyl diddan.
Cyflym y cyrchir coflyfr,
A daw i'w ddwy law ddau lyfr:
Llyfr bywyd, gwynfyd y gwaith,
Llyfr angau, llefair ingwaith.
Egorir a lleir llith
O'r ddeulyfr amryw ddwylith:
Un llith o fendith i fad,
A'r diles air deoliad.
Duw gwyn i le da y gyr
Ei ddeiliaid a'i addolwyr.
I'r euog, bradog eu bron,
Braw tostaf! ba raid tystion?
Da, na hedd Duw, ni haeddant,
Dilon yrr, delwi a wnant.
Y cyfion a dry Ion draw,
Dda hil, ar ei ddeheulaw;
Troir y dihir,—hyrddir hwy,
I le is ei law aswy.
Ysgwyd y nef tra llefair
Iesu fad, a saif oi air:
Hwt! gwydlawn felltigeidlu,
I uffern ddofn a'i ffwrn ddu:
Lle ddiawl a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen a phoen na phaid;
Ni chewch ddiben o'ch penyd;
Diffaith a fu 'ch gwaith i gyd;
Ewch--ni chynnwys y lwysnef
Ddim drwg-o lân olwg nef,
At wyllion y tywyllwg,
I oddef fyth, i ddu fwg."
O'i weision, dynion dinam,
Ni bydd a adnebydd nam;
Da 'n ehelaeth a wnaethant;
Dieuog wŷr, da a gânt.
Llefair yn wâr y Câr cu,
Gwâr naws, y gwir Oen Iesu:
"Dowch i hedd, a da 'ch haddef,
Ddilysiant, anwylblant nef,
Lle mae nefol orfoledd
Na ddirnad ond mad a'i medd;
Man hyfryd yw mewn hoewfraint,
Ac amlder y ser o saint,
Llu dien yn llawenu,
Hefelydd ni fydd, ni fu.
O'm traserch darfum trosoch
Ddwyn clwyf, fal lle bwyf y boch
Mewn ffawd didor a gorhoen,
Mewn byd heb na phyd na phoen.
Gan y diafl ydd a 'r aflan,
A dieifl a'u teifl yn y tân.
Try 'r Ynad draw i'r wiwnef,
A'i gâd gain a gyd ag ef,
I ganu mawl didawl, da,
Oes hoenus! a hosanna.
Boed im' gyfran o'r gân gu,
A melused mawl IESU!
CRIST fyg a fo 'r Meddyg mau!
Amen!—a nef i minnau.
Wele dyna i chwi "Gywydd y Farn," ac odid na fydd ryfedd gennych, wedi gweled y gwaith, gael o hono gymaint cymeriad yn y byd. Ond os mawr iawn ei gymeriad, mwy yw 'r genfigen gan rai wrtho. Os nad ych yn dirnad paham y rhoddwyd y geiriau hyn yn ei ddiwedd:—
"Crist fyg a fo'r Meddyg mau;"
gwybyddwch mai claf, a thra chlaf, o'r cryd oeddwn y pryd y dechreuais y Cywydd, ac hyd yr wyf yn cofio, meddwl am farw a wnaeth imi ddewis y fath destyn.
Os chwychwi a fynnwch weled ychwaneg o'm barddoniaeth, gadewch wybod pa ddarnau a welsoch, rhag imi yrru i chwi y peth a welsoch o'r blaen, ac yna mi yrraf i chwi gywyddau o fesur y maweidiau. Yr wyf yn dyall fod yr hen Frutaniaid yn bobl go gymdeithgar yna yn Llundain; ond pa beth a ddywaid yr hen ddihareb? "Ni bydd dyun dau Gymro." "Non erunt consentientes duo Cambri." Gobeithio, er hynny, nad gwir mo bob dihareb; ac os e, mai nid dihareb mo hon, ond rhyw ofer chwedl a dychymyg rhyw hen wrach anynad, ymladdgar. Digon gweddol a thylwythgar y gwelais i hynny o Gymry a gyfarfum i â hwynt yn Lloegr.
Os tybiwch yn orau, chwi ellwch ddangos "Cywydd y Farn" i rai o'ch brodyr yn y cyfarfod misawl nesaf; yn enwedig i Huw Davis, neu 'r cyffelyb, a fo 'n hanfod o'n gwlad ni ein hunain. Ni 'm dawr i pa farn a roir arno, oblegid gael o honaw farn hynaws a mawrglod gan y bardd godidocaf, enwocaf, sy 'n fyw y dydd heddyw, ac, o ddamwain, a fu byw erioed yn Nghymru; nid amgen Llywelyn Ddu o Geredigion, yr hwn yr wyf fi yn ei gyfrif yn fwy na myrdd o'r mân-glytwyr dyriau, naw ugain yn y cant, sydd hyd Gymru yn gwybeta, ac yn gwneuthur neu yn gwerthu ymbell resynus garol neu ddyri fol clawdd. Pe cai y fath rimynwyr melltigedig en hewyllys, ni welid fyth yn Nghymru ddim amgenach a mwy defnyddfawr na 'u diflas rincyn hwy eu hunain.
Am y Gramadeg Arabaeg a Syriaeg, gadewch iddynt. Ni fynnwn i er dim eich rhoi chwi mewn cost na llafur er porthi fy awydd fy hun. Nid wyf fi eto berchen y boced a brynnai lyfr o werth dwybunt. Rhyw goron neu chweugain a fyddai ddigon gennyf fi wario ar lyfrau Arabaeg. Nid oeddwn i yn deisyf nac yn disgwyl yr aech chwi i'r boen o ymofyn gan fanyled yng nghylch y fath beth. Rhaid mi, heb y gwaethaf, roi heibio feddwl am y cyfryw bethau hyd oni throa Duw ei wyneb, a gyrru imi fy ngofuned neu ryw beth a fo cystal er fy lles. Rhaid yw yn awr arbed yr arian tuag at fagu 'r bardd a'r telyniawr, a chodi calon
"Y wraig Elin rywiog olau."
Am y llyfrau Arabaeg ac Ebrwy sydd yn eich meddiant chwi eich hunan, nid wyf mor chwannog a'u cybyddu oddi arnoch. Ni fyddai hynny mor llawer gwell na lladrad, oblegid fe orfyddai arnoch brynnu eraill yn eu lle hwynt at eich gwasanaeth eich hun. Mae 'n gyffelyb eich bod chwi yn dyall yr ieithoedd hynny, ac os felly, mi a wn i yn swrn dda anwyled y gall fod gennych y llyfrau. Mae gennyf fi yma Fibl, a Salter, a Geirlyfr, a Gramadeg Hebraeg; a dyna 'r cyfan; a da cael hynny. Ond am Arabaeg, ni feddaf lyfr o honi. Gwych a fyddai gennyf gael gwybod pwy yw Siancyn Tomos sy 'n dyall yr ieithoedd dwyreiniol cystal. Gwyn eich byd chwi ac eraill o'ch bath, sydd yn cael eich gwala o ddysg a llyfrau da, ac yn amgreiniaw mewn changder a digonoldeb o bob cywreinrwydd, wrthyf fi a'm bath sy 'n gorfod arnom ymwthio 'n dyn cyn cael llyfiad bys o geudyllau a goferydd dysgeidiaeth. Gwae fi o'r cyflwr!
Ni ddamweiniodd i mi adnabod mo Ieuan Fardd o Goleg Merton; ond mi a glywais gryn glod iddo; a thrwy gynhorthwy Llywelyn Ddu, mi welais ryw faint o'i orchestwaith; a diddadi yw na chafodd mo 'r glod heb ei haeddu. Er ei fod ef yn iau na mi o ran oedran, eto y mae yn hŷn prydydd o lawer; oblegid ryw bryd yn ngwyliau'r Nadolig diweddaf a ddechreuais i; ac oni buasai eich brawd Llywelyn, a yrrodd im ryw damaid o waith Ieuan, ac a ddywed yn haerllug y medrwn innau brydyddu, ni feddyliaswn i erioed am y fath beth. Tuag at am yr hyn yr ych chwi 'n ei ddywedyd, sef—mai Goronwy Ddu o Fon yw pen bardd Cymru oll, mae gennyf ddiolch o'r mwyaf i chwi am eich tyb dda o honof; ond gwir ydyw 'r gwir, yr ydych yn camgymeryd. Llywelyn Ddu yw pen bardd Cymru oll; ac ni weddai 'r enw a'r titl hwnnw ineb arall sydd fyw heddyw. Nid yw Ieuan a minnau ond ei ddisgyblion ef. Pwy a yf ei ddysg orau, ond hwnnw fo 'n wastadol tan law ei athraw?
E fu hynod iawn yr ymdrech rhwng gŵr o Geredigion a gŵr o Fon er ys gwell na thri chan mlynedd aeth heibio; sef Dafydd ap Gwilym a Gruffydd Grug; ac am yr wyf fi yn ei ddyall, Mon a gollodd a Cheredigion aeth a'r maes. Felly ninnau; pa beth yw Goronwy Ddu wrth Ieuan Fardd o Geredigion? Eto gwych a fyddai i Fon gael y llaw uchaf unwaith i dalu galanas yr hen Ruffydd Grug. Gwaethaf peth yw, nid wyf fi yn cael mo 'r amser, na heddwch, na hamdden, gan yr ysgol front yma, a drygnad y cywion Saeson, fy nisgyblion, yn suo yn ddidor ddidawl yn fy nghlustiau yn ddigon er fy syfrdanu a'm byddaru. Chwi welwch fy mod yn dechreu dyfod i ysgrifennu Cymraeg yn o dwtnais.
Gadewch cael clywed oddi wrthych cyntaf byth ag y caffoch hamdden; ac os oes gennych ryw lyfrau Hebraeg a dim daioni ynddynt, neu Arabaeg, a alloch yn bur hawdd eu hebcor, chwi ellwch eu llwybreiddio, &c. Bellach rhaid cau hyn o lythyr, oblegid ni erys Malldraeth wrth Owain, ac mae lle i ofni nad erys y post wrth Ronwy. Byddwch wych.
Ydwyf eich tra rhwymedig
a gostyngeiddiaf wasanaethwr,
GORONWY DDU, GYNT O FON,
BONEDD YR AWEN.
BU gan Homer gerddber gynt
Awenyddau, naw oeddynt,
A gwiw res o dduwiesau
Febyg i'w tad, iawn had Iau;
Eu hachau o Ganau gynt,
Breuddwydion y beirdd ydynt.
Un Awen a adwen i,
Da oedd, a phorth Duw iddi!
Nis deiryd, baenes dirion,
Naw merch clêr Homer i hon.
Mae 'n amgenach ei hachau;
Hŷn ac uwch oedd nac ach Iau.
Nefol glêr a'i harferynt;
Yn nef y cae gartref gynt.
A phoed fad i wael adyn
O nef, ei hardd gartref gwyn!
Dod, Ion, im' ran o honi,
Canaf ei chlod hoewglod hi;
Llwyddai yn well i eiddil
Borth tau na thafodau fil.
Dywaid, pa le caid Awen
Cyn gosod rhod daear hen,
Achael o'r môr ei ddorau,
A thyle dŵr o'th law dau,
A bod sail i'th adailad,
Ein Creawdr, Ymerawdr, mad?
I'r nef, ar air Naf yr oedd,
Credaf pand cywir ydoedd,
Ser bore a ddwyrëynt
Yn llu i gydganu gynt;
Canu 'n llon, hoewlon, eu hawd
Gawr floeddio gorfoleddawdl;
Ac ar ben gorffen y gwaith
Yn wiwlan canu eilwaith;
Caid miloedd o nerthoedd nef
Acw 'n eilio cân wiwlef;
Meibion nef yn cydlefain
A'u gilydd mewn cywydd cain:
"Perffaith yw dy waith, Duw Ion
Dethol dy ffyrdd a doethion,
A mad ac anchwiliadwy,
Dduw mawr, ac ni fu ddim mwy!"
Per lefair cywair eu cân,
Pob ergyr fal pib organ,
Can mil-ddwbl acen amlddull,
Llawen hoen, heb na phoen na ffull.
Gwanai eu gwiwdeg hoenwawr,
Ewybr eu llef, wybr a llawr;
Fe 'u clywai 'r ser disperod,
Llemain a wnai rhai 'n i'w rhod;
Ffurfafen draphen a droe,
Ucheldrum nef a chwildroe.
Daeth llef eu cân o nefoedd
Ar hyd y crai fyd, cryf oedd;
Adda dad ym Mharadwys
Clywodd eu gawr, leisfawr lwys;
Hoffai lef eu cerdd nefawl,
Ac adlais mwynlais eu maw;
Cynhygiai eu cân hoewgerdd,
Rhoe ymgais ar gais o'r gerdd.
Difyr i'w goflaid Efa
Glywed ei gân ddiddan dda;
Canai Efa, deca dyn,
Canai Adda, cain wiwddyn;
Canent i'w Ner o bêr berth,
O'r untu hyd awr anterth;
Ac o chwech ym mhob echwydd
Pyncio hyd nad edwo dydd.
Cân Abel oedd drybelid,
Diddrwg heb hyll wg a llid;
Anfad ei gân, bychan budd,
Acen lerw-wag Cain lawrudd;
Ni chydfydd Awenydd wâr
A dynion dybryd, anwar;
Ion ni rydd hyn o roddiad
Wiwles, ond i fynwes fad.
Cynnar o beth yw canu;
Awen i Foesen a fu;
Awen odiaeth iawn ydoedd,
Wrth adaw 'r Aifft angraifft oedd.
Cant, cant, a ffyniant i'w ffydd,
Cyn dyfod canu Dafydd.
Pyncio wnae fe, fal pencerdd,
Nefol a rhagorol gerdd.
Prydodd dalm o bêr Salmau—
Fwyned im' ynt, f'enaid mau!
Canu dwsmel a thelyn
Yn hardd a wnai 'r gwiwfardd gwyn
Gyda i law ydd ae'r Awen;
Wi! wi! i'r llaw wisgi, wen.
Ewybr oedd y boreddydd
Ei lais ym min dichlais dydd:
"Deffro, fy nabl, parabl per,
I ganu emyn gwiw Ner;
I'm Ion y rhof ogoniant
A chlod a thafod a thant."
Am ganu ni fu, ni fydd,
Hoew ei fawl, ei hefelydd.
Awen bêr, wiwber ei waith,
Oedd i Selyf ddisalw eilwaith.
Fe gant gân—gwiwlan y gwau—
Cân odiaeth y Caniadau.
Pwy na châr ei Ros Saron,
Lili, a draenllwyni llon?
Y mae 'n ail, y mwyn ciliad,
I gywydd Dafydd ei dad.
Dygymydd Duw ag emyn
O Awen dda a wna ddyn.
Prawf yw hon o haelioni
Duw nef, a da yw i ni.
Llesia gân yn llys gwiwnef,
Mawr gerth yw ei nerth yn nef.
Pan fo'r côr yn clodfori,
Cydlef llu nef oll â ni,
Ag ateb cân yn gytun,
Daear a nef a dry 'n un.
Dyledswydd a swydd hoew sant
Yw gwiw gân a gogoniant;
Dysgwn y fad ganiad gu,
Ar fyr iawn i'w harferu.
Cawn Awenlles cân unllef
Engyl a ni yng ngolau nef,
Lle na thaw ein per Awen,
"Sant, Sant, Sant! Moliant! Amen.
YR AWEN.
[Ar ddull Horas. Llyfr IV. Can 3.]
O CHAI fachgen wrth eni,
Wyd Awen deg, dy wên di,
Ni bydd gawr na gwr mawrnerth;
Prydu a wna; pa raid nerth?
Ni châr ffull, na churo ffest,
Na chau dwrn, o chaid ornest.
O bâi 'n agwrdd benigamp,
Ni chais glod gorfod y gamp.
Yn ei ddydd e ni ddiddawr
Gael parch am yrru march mawr.
Ni chyrch drin na byddinoedd,
Ni char nåd blaengad a bloedd;
Ni chaiff elw o ryfelwaith,
Na chlod wych hynod ychwaith;
Na choron hardd, ddigardd ddyn,
Draw i gil o droi gelyn.
Mawl a gaiff am oleu gerdd,
A gwiw seingan gysongerdd—
Barddwawd fel y gwnai beirddion
Defnyddfawr o wlad fawr Fon.
Cymru a rif ei phrif-feirdd;
Rhifid ym Mon burion beirdd;
Cyfran a gaf o'u cofrestr,
A'm cyfrif i'w rhif a'u rhestr;
Mawrair a gaf ym Meirion.
Yn awr, a gair mawr gwŷr Mon.
Llaesodd ar aball eisoes,
Cenfigen ei phen a ffoes.
O'f Awen deg, fwyned wyt!
Diodid dawn Duw ydwyt!
Tydi roit â diwair wên
Lais eos i lysowen.
Dedwydd o'th blegid ydwyf,
Godidog ac enwog wyf.
Cair yn son am Oronwy,
Llonfardd Mon, llawn fyrdd a mwy;
Caf arwydd lle cyweiriwyf,
Dengys llu a bys lle bwyf.
Diolch yt, Awen dawel;
Dedwydd wyf, deued a ddel;
Heb Awen baich yw bywyd,
A'i rhodd yw rhyngu bodd byd.
LEWIS MORYS.
[Ar ddull Horas. Llyfr IV. Cân 8.]
RHODDWN ariant a rhuddaur,
Rhown yt gawg gemawg ac aur,
I'r cyfeillion mwynion mau
Deuai geinion deganau,
Gennyi o bai ddigonedd,—
A phwy wna fwy oni fedd?
I tithau y gorau gaid,
Lewis fwyn, lwysaf enaid,
Pe bai restr o aur lestri
O waith cŷn Maelgyn i mi,
Ti a gait, da it y gwedd,
Gennyf yr anrheg iawnwedd.
Odid fod o fychodedd
Rhodd dreulfawr; rhai mawr a'i medd.
Tithau, nid rhaid it' weithion,
Ni 'th ddorodd y rhodd aur hon;
Caryt gywyddau cywrain,
Rhynged dy fodd rhodd o'r rhai'n:
Rhodd yw cyhafal rhuddaur,
A chan gwell; uwch yw nag aur.
Onid ofer iawn dyfais
I fynnu lod o faen clais?
Naddu llun eilun i wr,
Dewrwych portreiad arwr;
Llunio i guch, a llain gochwaed,
A chawr tan ei dreisfawr draed.
Pond gwell lên ac awenydd?
Gwell llun na'r eilun a rydd.
Dug o eryr da'i gariad,
Gwrawl udd a gâr ei wlad,
Llyw yn arwain llon aerweilch,
Teirf yn nhrin fyddin o feilch;
Wrth a gâr yn oen gwaraidd;
Yn nhrin llyw blin, llew a blaidd;
Arafoen i'w wŷr iefainc,
Llew erchyll a ffrewyll Ffrainc.
Pwy ag arfau—pa gerfiad—
A rydd wg golwg ei gad?
Trefi yn troi i ufel
O'i froch, a llwyr och lle 'r el.
Pwy a gai, oni bai bardd,
Glywed unwaith glod iawnhardd?
Tlws ein hiaith, Taliesin hen,
Parodd goffau ap Urien.
Aethai heb dant a chantawr
Ar goll hanes Arthur gawr.
Cân i fad a rydd adwedd
O loes, o fyroes, o fedd.
Cerdd ddifai i rai a roes—
Ynnill tragywydd einioes.
Nudd, Mordaf, haelaf helynt,
Tri hael Ior, ac Ifor gynt,
Laned clod eu haelioni
Wrth glêr hyd ein hamser ni!
Ac odid, mae mor gadarn,
Eu hedwi fyth hyd y farn.
Rhoddent i feirdd eu rhuddaur;
A llyna rodd well na'r aur.
Rhoid eto, nid rhaid atal,
I fardd; ponid hardd y tâl
A ddel of Awen ddilyth
O gyfarch, a bair barch byth?
CYWYDD Y GEM.
At William Morris, Medi 21, 1752.
DRWG iawn ac athrist gennyf y newydd o'r golled a gawsoch am eich mam. Diau mai tost a gorthrwm yw y ddamwain hon i chwi oll, a chwith anguriol ac anghysurus, yn enwedig i'r hen wr oedrannus; eithr nid colled i neb fwy nag i'r cymydogion tlodion. Chychwi oll, trwy Dduw, nid oes arnoch ddiffyg o ddim o'i chymorth hi yn y byd hwn, ac a wyddoch gyd â Duw i ba le yr aeth, sef i Baradwys, mynwes Abraham, neu wrth ba enw bynnag arall y gelwir y lle hwnnw o ddedwyddyd; lle mae eneidiau y ffyddloniaid yn gorffwys oddi wrth eu llafur, hyd oni ddelo cyflawniad pob peth; ac yno, wedi canu o'r udgorn diweddaf, a dihuno y rhai oll a hunasant yn y llwch, y caiff pob enaid oll eu barnu yn ol eu gweithredoedd yn y cnawd; a chymaint un a hunasant yn yr Arglwydd a drosglwyddir i oruchafion nefoedd, yno i fod gyd â'r Arglwydd yn oes oesoedd.
Ond nid wyf fi yma yn ameanu pregethu mewn llythyr; ac afraid ysgatfydd fuasai i mi ddywedyd dim wrthych chwi ar y fath achos; oblegid eich Fod chwi, yr wyf yn dyall, yn fwy cydnabyddus â Brenin y dychryniadau na myfi; ac felly yn llai eich arswyd o honaw; canys mi glywais iddo o'r blaen fod yn anian agos atoch, cyn nesed a dwyn ymaith yr ail ran o honoch eich hun, sef asgwrn o ch esgyrn, a chnawd o 'ch cnawd chwi. Duw, yr hwn a'i galwodd hi i ddedwyddwch, a roddo i chwi oll amynedd a chysur!
Da iawn a fyddai gennyf ddyfod i fyw yn Mon, os gallwn fyw yn ddiwall ddiangen; ac nid wyf yn ameu na byddai Llangristiolus yn ddigon i mi í fagu fy mhlant, pe caid. Ni rwgnach ffrencyn er dwyn llen gyfan o bapur mwy na phed fai onid hanner hynny, ac am hynny mi yrrais i chwi ar y tu arall i'r llen ryw fath o gywydd, nid y gorau, ond y diweddaf a wnaethum. Mi a'i gyrrais i Geredigion yn y llythyr diweddaf; ond ni chlywais eto pa un ai da, ai drwg, ai canolig ydyw. Dyma fo i chwi fal y mae gennyf finnau.
Llawer iawn o drafferthion a phenbleth a roes Duw i'm rhan i yn y byd brwnt yma; ac onide, mi fuaswn debyg i yrru i chwi ryw fath o gywydd coffadwriaeth am yr hen wraig elusengar o Bentref Eiriannell; ond nis gallaf y tro yma. Mae'r ysgol ddiflas yma agos a'm nychu fi. Pa beth a all fod yn fwy diflas a dihoenllyd i ddyn a fae yn myfyrio na gwastadol gwrnad a rhincyn cywion Saeson? Prin y caf odfa i fwyta fy mwyd ganddynt. Bychan a fyddai fod cell haiarn i bob un o honynt o'r neilldu, gan yr ymddyrru a'r ymgeintach y byddant; ac fel tynnu afanc o lyn yw ceisio eu gwastrodedd. Ond nid hynny mo gorff y gainc 'chwaith. Mae'r rhieni yn waeth ac yn dostach na 'r plant; pobl giaidd, galedion, ddigymwynas, anoddefus ydynt oll, a'r arian yn brin, a'r cyflog yn gwta, a'r cegau yn aml, a'r porthiant yn ddrud gyda minnau. Duw a'm dyco o'u mysg hwynt i nef neu Gymru, yr un a welo yn orau.
GORONWY OWEN.
P.S.-If Llangristiolus could be had at all, I suppose it would not be till after the death of the present incumbent. Mi adwaen yr hen Gorff, a. hen Walch gwydn yw, mi a'i gwarantaf.
CYWYDD Y GEM.
CHWILIO y bum uwch elw byd,
Wedi chwilio, dychwelyd;
Chwilio am em bêrdrem bur,
Maen iasbis, mwy anisbur.
Hynodol em wen ydoedd,
Glaerbryd, a DEDWYDDYD oedd.
Mae, er Naf, harddaf yw hi,
Y gemydd a'i dwg imi?
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main, daear a môr;
Ffulliwn hyd ddau begwn byd
O'r rhwyddaf i'w chyrrhaeddyd;
Chwiliwn, o chawn y dawn da,
Hyd rwndir daear India,
Dwyrain, a phob gwlad araul,
Cyfled ag y rhed yr haul;
Hyd gyhydlwybr yr wybren,
Lle'r a wawl holl awyr wen.
Awn yn noeth i'r cylch poethlosg,
Hynt y llym ddeheuwynt llosg,
I rynbwynt duoer enbyd
Gogledd, anghyfannedd fyd.
Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisian-glawdd na thawdd, na thawl;
Od iawn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im' lafuriaw.
Gwledydd ormod a rodiais
Trwy bryder ac ofer gais;
Llemdost i mi 'r bell ymdaith;
A phellaf, gwacaf y gwaith.
Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi.
Nid oes dŵr, na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.
Da gŵyr lesu, deigr eisoes
Dros fy ngran drwstan a droes.
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon?
Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall;
Cynnull, a gwael y fael fau,
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddion dwfn addysg
Sophyddion dyfnion eu dysg.
Diau i rhai 'n, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl—
Maen a'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur.
Rhoent obaith ar weniaith wag.
O byst aur â'u bost orwag.
Llai eu rhodd; yn lle rhuddaur
Bost oedd, ac ni chawn byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae son mai haws hynny.
Fluant yw eu hoff faen teg,
Ffol eiriau a ffiloreg..
Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw;
Sywlyfr y brenin Selef,
A llyfr pur Benadur nef.
Deufab y brenin Dafydd,
Dau Fugail, neb ail ni bydd.
Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenin mawr, dirfawr, a doeth,
Rhi 'n honaid ar freninoedd,
Praff deyrn, a phen-prophwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall, o bai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw'?
Ar ol pob peth pregethu,
"Mor ynfyd y byd," y bu.
Gair a ddwedai gwir, ddidwyll,
"Llawn yw 'r byd ynfyd o dwyll;
A hafal ydyw hefyd
Oll a fedd gwagedd i gyd."
O'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth.
Wir gall, i'm dyall y daeth,
Na chaf is law ffurfafen
Ddedwyddyd ym myd, em wen!
Ni chair yr em hardd-ddrem hon
Ar gyrrau 'r un aur goron,
Na chap Pab, na chwfl abad,
Na llawdr un ymerhawdr mad.
Llyna sylwedd llên Selef.
Daw 'n ail efengyl Duw nef.
D'wedai un lle nad ydoedd:
A'r ail ym mha le yr oedd.
Daw i ddyn y diddanwch
Yn nefoedd, hoff lysoedd fflwch.
Fan deg yw nef fendigaid,
Tlws ar bob gorddrws a gaid;
Pob carreg sydd liwdeg, lwys,
Em wridog, ym Mharadwys;
Ac yno cawn ddigonedd,
Trwy rad yr Ion mad a'i medd.
Duw 'n ein plith, da iawn ein plaid,
F'a 'n dwg i nef fendigaid.
Drosom Iachawdwr eisoes
Rhoes ddolef daer gref ar groes;
Ac eiddo ef nef a ni,
Dduw anwyl, f' a'i rhydd ini.
Molaf fy Naf yn ufudd;
Nid cant, o'm lladdant, a'm lludd.
Dyma gysur pur, heb ball,
Goruwch a ddygai arall—
Duw dy hedd; rhyfedd er hyn
Bodloni bydol innyn.
Boed i anghor ei sorod;
I ddiffydd gybydd ei god;
I minnau boed amynedd,
Gras, iechyd, hawddfyd, a hedd.
MARWNAD MARGED MORYS.
[At William Morris, Rhag. 8, 1752]
CHWI gawsech glywed oddi wrthyf yn gynt, ond odid, oni buasai y rhew tost a fu'n ddiweddar. Nid yw 'r Awen ond fferllyd ac anystwyth ar yr hin oer yma. Ni chaiff dyn ychwaith mo'r amser i brydyddu, gan fyrred y dyddiau, a chan ymsgythru ac ymwthio i gonglau; a pha beth a dal crefft heb ei dilyn? Pa wedd bynnag, dyma i chwi ryw fath o'r bwt of gywydd o "Goffadwriaeth" am yr hen wraig dda o Bentref Eriannell gynt. Hoff oedd gennyf fi hi yn ei bywyd; a diau fod rhywbeth yn ddyledus i goffadwriaeth pobl dda ar ol eu claddu; yr hyn, er nad yw fudd yn y byd iddynt hwy, a eill ddigwydd fod yn llesol i'r byw, i'w hannog i ddilyn camrau y campwyr gorchestol a lewychasant mor hoew odidog yn y byd o'u blaen hwynt. Nid yw cymaint fy rhyfyg i a meddwl y dichon fod ar law dyn o'm bathi ganu iddi fal yr haeddai. Beth er hynny ? "Melusaf y cân Eos, ond nid erchis Duw i'r Frân dewi." Yr asyn a gododd ei droed ar arffed ei feistr, ac nid llai ei ewyllys da ef na 'r colwyn, er nad hawddgar ei foesau. Fe all Bardd Du ddangos ei ewyllys; ac nid all Bardd Cock amgen cyd bai amgen ei gywydd. Os gwyddoch pa le y mae, rho'wch fi ar sathr y brawd Llywelyn Ddu. Yr wyf yn tybio ei fyned i Lundain cyn hyn; ac os felly, yn iach glywed na siw na miw oddi wrtho hyd oni ddychwelo.
Ai byw yr hen Gristiolus wydn fyth? Is the curacy of Llanrhuddlad disposed of? What other curacy is vacant? Waethwaeth yr a'r byd wrth aros yma. Prin y gellir byw yr awrhon—a pa fodd amgen, tra bo'r brithyd am goron y mesur Winchester, a'r ymenyn am saith geiniog, a'r caws am dair a dimai'r pwys? A pha sut y gellir byw tra cynydda'r teulu ac na chynydda'r cyflog? Y llanciau a ant fwyfwy 'r clwt, fwyfwy'r cadach, ac ymhell y bwyf, ie, pellach o Fon nac ydwyf, os gwn i pa 'r fyd a'm dwg. Nis. gwybûm i mo'm geni nes dyfod i fysg y Saeson drelion yma. Och finnau! Mi glywswn ganwaith son am eu cyneddfau, a mawr na ffynasai gennyf eu gochel. Mi allaf ddywedyd am danynt fal y dywaid Brenhines Seba am Solomon, "Gwir yw y gair a glywais yn fy ngwlad fy hun am danynt, eto ni chredais y geiriau nes im' ddyfod ac i'm llygaid weled; ac wele ni fynegasid imi 'r hanner.
Nid oes gennyf fi lid yn y byd i'r Doctor Es. Mae yn rhydd iddo fo ddictatio fal y fynno, onid fod yn rhydd i minnau wneuthur yn fy newis ai canlyn ei ddictat ef ai peidio; a pheidied o a digio oni chanlynaf, ac yno fe fydd pob peth o'r gorau. Cenawes ystyfnig ydyw'r Awen. Ni thry oddi ar ei llwybr ei hun er ungwr. Ac yn wir nid yw ond digon afresymol i wr na fedd nag Awen na 'i chysgod gymeryd arno ddysgu un a'i medd, pa fodd i'w harfer ai rheoli. Fe ellir gwneuthur pwt o bregeth ar y testyn a fynno un arall; ond am gywydd, ni thal draen oni chaiff yr Awen ei phen yn rhydd, ac aed lle mynno. A phwy bynnag a ddywedo amgen, gwybydded fod ganddo Awen ystwythach na 'm Hawen i, yr hon ysgatfydd sydd mor wargaled o ddiffyg na buaswn yn ei dofi yn ieuangach. Cennad i'm crogi onid wyt yn meddwl fod yr Awen, fal llawer mireinferch arall, po dyenaf a diwytaf ei cerir, murseneiddiaf a choecaf fyth ei cair. Nis gwn, pe 'm blingid, pa un waethaf ai gormod gofal, ai gormod diofalwch.
CYWYDD MARWNAD MARGED MORYS,
O BENTRE EIRIANNELL.
MAWR alar, trwm oer wylaw,
A man drist, sydd ym Mon draw;
Tristyd ac oerfryd garwfrwyn
Llwyr brudd, a chystudd a chŵyn;
Tristaf man Pentre 'riannell;
Ni fu gynt un a fâi gwell.
Ni fu chwerwach, tristach tro
I Fon, nag a fu yno;
Lle bu ddien lawenydd,
Ubain a dwys ochaín sydd;
Digroew lif, deigr wylofain,
Am Farged y rhed y rhain;
Didaw am Farged ydynt,
Marged, law egored gynt;
Bid hapus haelionus law,
Ffrawddus i fil ei phriddaw.
Rhy fawr san ar Forys yw,
Oer adwyth i'w gŵr ydyw;
Deuddyn un enaid oeddynt,
Dau ffyddlon un galon gynt.
Mad enaid! chwith am dani,
A phrudd hwn o'i phriddo hi;
Ac o'i herwydd dwg hiraeth
Ormod; ni fu weddwdod waeth.
Toliant ar lawer teulu
Ar led am Farged a fu;
Ymddifaid a gweiniaid gant,
Uchenawg, a achwynant
Faint eu harcholl a'u colled,
Farw gwraig hael lle bu cael ced
Llawer can-torth o borthiant
Roe hon lle bâi lymion blant;
Can hen a ddianghenodd;
I'r un ni bu nag o rodd:
Gwiwrodd er mwyn goreu-Dduw
Gynnes weinidoges Duw.
Gwraig dd gymar oedd Marged
I'w plith am ddigyrrith ged;
A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei dannod oedd.
Di ball yn ol ei gallu,
Rhwydd a chyfarwydd a fu;
Rhyfedd i'w chyrredd o chaid
Ing o unrhyw angenrhaid;
Rhoe wrth raid gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant;
Am gyngor doctor nid aeth
Gweiniaid, na meddyginiaeth.
Dilys, lle bâi raid eli,
Fe'i caid. Nef i'w henaid hi!
Aed i nef a thangnefedd,
Llawenfyd, hawddfyd, a hedd.
Nid aeth mad wraig deimladwy
O'n plith a gadd fendith fwy;
Bendith am ddiragrith rodd;
Hoff enaid! da a ffynnodd.
Os oes rhinwedd ar weddi,
Ffynnu wna mil o'i hil hi.
Pa lwysach epil eisoes?
Ei theulu sy 'n harddu 'n hoes;
Tri mab doethion tirionhael;
Mawr ei chlod, merch olau hael;
Tri—mab o ddoniau tramawr,
Doethfryd a chelfyddyd fawr;—
LEWIS wiwddysg, lwys, addwyn,
Athraw y gerdd fangaw, fwyn;
Diwyd warcheidwad Awen,
Orau gwaith, a Chymraeg wen.
RHISIART, am gerdd bêr hoewsain
Hafal ni fedd Gwynedd gain;
Anhebyg, tra bo 'n hybarch
Y Beibl, na bydd iddo barch.
Allai fod, felly ei fam,
Deilen na nodai WILIAM?
Chwiliai ef yr uchelion,
Y môr a thir am wyrth Ion.
Tradoeth pob brawd o'r tri-dyn,
Doeth hyd y gall deall dyn;
Tri gwraidd frawd rhagorawl;
Haeddant, er na fynnant fawl.
Da 'r had na newid eu rhyw,
D'wedant ym Mon nad ydyw
Cyneddfau, doniau dinam,
ELIN, ei merch, lai na 'i mam.
Da iawn fam! diau na fu
Hwnt haelach perchen teulu;
Rhy dda i'r byd ynfyd oedd,
lawn i fod yn nef ydoedd.
Aeth i gartref nef a'i nawdd,
Duw Iesu a'i dewisawdd.
Uniawn y farn a wna fo:
Duw Funer, gwnaed a fynno!
Dewisaf gan Naf i ni
Oedd ddeisyf iddi oesi,
Hir oesi, cael hwyr wysiad
Adref i oleunef wlad."
Gwae'r byd o'r ennyd yr aeth!
Oer bryd oedd ar brydyddiaeth;
Achles i wen Awen oedd,
A nesaf i'r hen resoedd.
Cynnes i feirdd, tra cenynt,
Oedd canu ffordd Gymru gynt.
Cael braint cân o ddadanhudd,
A chler er yn amser Nudd.
Boed heddwch a byd diddan
Byth it! ti a gerit gân;
Ac yna 'n entrych gwiwnef,
Cydfydd a cherdd newydd nef.
Ni 'th ludd cur, llafur, na llid;
Da yn Nuw yw dy newid:
Newidio cân, enaid cu,
Monwysion am un Iesu.
Clywed llef y côr nefawl;
Gwyn dy fyd! hyfryd dy hawl!
Lleisiau mawrgerth lleismeirgerdd,
Côr o saint cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau, cyhydlef,
Gwynion delynorion nef.
Can-llef dwsmel tra melys,
Fal gwin, ar bob ewin bys.
Dedwydd o enaid ydwyi!
Llaw Dduw a'n dyco lle 'dd wyt!
A'n hannedd, da iawn honno,
Amen, yn nef wen a fo!
[At Richard Morris, Rhag. 18, 1752.]
MI glywais fyned o Dduw â'ch mam; a saeth I'm calon oedd y newydd. Da iawn i laweroedd a fu hi yn ei hamser, ac ym mysg eraill, i minnau hefyd pan oeddwn yn blentyn. Hoff iawn fyddai gennyf redeg ar brydnawn Sadwrn o ysgol Llan Allgo i Bentref Eriannell, ac yno y byddwn yn sicr o gael fy llawn hwde ar fwyta brechdanau o fel, triagl, neu ymenyn, neu 'r un a fynnwn o'r tri rhyw; papur i wneud fy nhasg, ac amryw neges arall, a cheiniog yn fy mhoced i fyned adref, ac anferth siars, wrth ymadael, i ddysgu fy llyfr yn dda; a phwy bynnag a fyddai yn y byd, y ceid rhyw ddydd fy ngweled yn glamp o berson. Poed gwir a fo y gair; ac nid yw yn anhebyg gan weled o Dduw yn dda ffynnu ganddi adael meibion o'r un meddwl â hi ar ei hol. Duw fo da wrth ei meibion! Dacw i chwi y tu draw i'r ddalen ryw fath ar "gywydd o goffadwriaeth" am dani. Da y gwn na ddichon fod ar law dyn o'm bath i ganu iddi fel yr haeddai; eto mi allaf ddangos yr ewyllys; ac nid eill y goreu ddim yn ychwaneg. Mi allaswn, yr wyf yn cyfaddef, siarad geiriau mwy; ond yr oedd arnaf weithiau ofn dywedyd y gwir i gyd, rhag i neb dybied fy mod yn gwenieithio, yr hyn sydd gasbeth gan fy nghalon. Fe ŵyr pawb a'i hadwaenai hi nad ydwyf yn celwyddu nag yn gwenieitho o'i phlegid.
Am y lle y crybwyllais eich enw chwi, esgusodwch fi. Nis gwyddwn pa beth i ddywedyd am danoch, ac nis clywais erioed amgen na 'ch bod yna yn Llundain, a rhai o'ch mân gampiau a'ch mwynion chwedlau gynt, pan oeddych yn fachgen, a glywswn gan fy mam; pa fodd y cymmerasoch fwyall fechan gyda chwi i dorri'r ysgol erbyn y Gwyliau, a'r cyffelyb. Mi welais hefyd. er ys gwell na deunaw mlynedd ym meddiant fy ewythr, Robert Gronow, lythyr, ac ynddo ryw nifer o englynion cywreinddoeth a yrasech gynt oddi yna at fy nhaid, yr hen Ronw; ac heblaw hynny nid cof gennyf glywed na siw na miw yn eich cylch. Pa wedd bynnag, yr wyf yn dyall wrth hynny fod gennych eich rhan o naturioldeb gwreiddiol yr hen gelfyddyd, a gobeithio na thybiwch i mi wneuthur dim cam â chwi. Mi a yrrais y cywydd i Mr. William Morris o Gybi, ac i fy athraw o Allt Fadog hefyd; ond nis clywais eto pa 'r un ai da ai drwg ydyw. Yr wyf yn coelio pe cymeraswn lai o ofal yn ei gywreinio, mai llawer gwell a fuasai; canys sicr yw, fod gormod gofal cynddrwg a gormod diofalwch. Llyma 'r cywydd fel y mae.
GORONWY DDU, GYNT O FON.
BYWYD YN DONNINGTON.
At William Morris, Chwef. 24, 1753
ER hoffed gennyf yw eich hepistolau, eto, nid. wyf yn anoddefgar nad allwn weithiau aros eich cyfleusdra am danynt; nag mor sarrug, nad allwn faddeu ryw swrn o'ch hesgeulusdra, o bai raid, a chyd ddwyn â'ch anibendod am nad wyf fy hun mor esgud ag y gweddai. Felly, boed. sicr i chwi, nad ymliwiaf byth â chwi o'r ethryb hwnnw; a phed fawn Bab, chwi gaech lonaid y cap coch o'm pardynau, Prin y gallech goelio, ac anhawdd i minnau gael geiriau i adrodd, mor rhwymedig wyf i Mr. Ellis a chwithau. Diau mai o wir serch ar ddaioni, ac nad o ran cydnabyddiaeth, neu un achos arall o'r cyfryw, y mae Mr. Ellis cymaint ei garedigrwydd. Duw, awdur pob daioni, a dalo iddo! Fe orfydd arnaf yn ddiamau chwilio am ryw le cyn bo hir; ac felly, debygaf, y dywedwch chwithau pan wypoch fy hanes.
Mae gennym yma ryw ddau ysgweier o hanner gwaed, chwedl y Bardd Cwsg; un Mr. Lee, ac un Mr. Boycott. Y naill a fu, a'r llall y sydd, yn ben trustee i'r ysgol yma. Yr oeddwn o'r dechreu mor gydnabyddus a'r naill ag â'r llall. Y diweddaf sydd yn un o m plwyfolion yn Uppington; ond y llall a fu yn wastadol yn gynorthwywr imi yn fy anghenion. Mr. Lee a roe i mi fenthyg pum punt neu chwech wrth raid; ond gan Boycott ni chaid amgen na mwg o ddiod a phibellaid; ac weithiai, pan ddigwyddai iddo ddyfod i'r eglwys, yr hyn ambell flwyddyn a fyddai ynghylch teirgwaith, mi gawn ran of giniaw, os mynnwn; ond fe 'm nacaodd, y cadnaw, o fenthyg chweugain wrth fy angen, er nas gofynaswn ond i brofi ei haelder ef. Yr ych yn llygadrythu, ysgatfydd, wrth glywed son am fenthyca arian; ond ped rhyfedd y peth a mi yn dal rhyw faint o dir, ac yn talu treth, ac ardreth, a chyflogau, heb dderbyn mo 'm cyflog fy hun ond dwywaith, ac yn amlaf unwaith, yn y flwyddyn. Ba ddelw bynnag, mae rhyw elyniaeth rhwng y ddau wr uchod; a'r sawl a gaffo gariad un, a fydd sicr o gas y llall. Lee sydd Chwig, a Boycott sydd yn un o addolwyr lago. Pob cyffelyb a ymgais, fal y dywedynt; felly nid anhawdd dirnad pa 'r un gymhwysaf ei hoffi o ran ei blaid; a, phed amgen, pa 'r un a haeddai hefyd ei hoffi er mwyn ei haelioni. Nid ellais erioed aros addolwyr Baal, lago, &c., a'u cabals a'u celfi; ac ni ddysgais erioed chwareu ffon ddwybig; a thybio yr wyf na ddichon neb wasanaethu Duw a Mammon. O'r ddeuwr hynny Boycott yw eilun fy meistr (fal y mae gnawd i un o Ucheldir yr Alban), a chan fod yn gorfod arno ef fod yn Llundain, ar law Boycott y gadawodd ei holl faterion yma i'w trin fal y mynno. Ac felly Boycott sy 'n talu i mi fy nghyflog ac yn derbyn fy ardreth. Ac yn awr dyma 'r anifail, wedi cael o honaw fi yn ei balfau dieflig, yn dwyn fy nhipyn tir oddi arnaf. Yn iach weithion i lefrith a phosel deulaeth; ni welir bellach mo'r danteithion gwladaidd hynny heb imi symud pawl fy nhid. Ni wiw imi rhagllaw ddisgwyl dim daioni yma; ac anghall a fyddai fy mhen pe disgwyliwn; ac odid imi aros yma ddim hwy na hanner y Gwanwyn o'r eithaf. Ond o'r tu arall mae imi hyn o gysur. Dacw Mr. Lee wedi cael imi addewid o le gan yr arglwydd esgob o Landaff, yn gyntaf byth y digwyddo un yn wag yn ei esgobaeth. Mi glywaf ddywedyd na thal y lleoedd hynny nemawr, ac nad oes ond rhyw ychydig iawn o honynt ar ei law ef, ped fai'r holl bersoniaid yn meirw. Beth er hynny? Gwell rhyw obaith na bod heb ddim. Ond och! fi, wr fach, pa fodd imi ddyall eu hiaith hwynthwy? A pha bryd y caf weled fy anwylyd,
"Mon doreithog a'i man draethau?"
Dyna gorff y gainc.
Llawer gwaith y bwriedais gynt, ac nis gwelaf eto achos amgen, na ddown byth i breswylio ym Mon, hyd na bawn well fy nghyflwr nag yr oeddwn pan ddaethum allan o honi. Pan ddaethum o honi yr oedd gennyf arian ddigon i'm dianghenu fy hun (a pha raid ychwaneg?) ac nid oedd arnaf ofal am ddim ond fy ymddwyn fy hun fal y gweddai. A thybio yr oeddwn fod dwy law a dau lygad yn llawn ddigon i borthi un genau. Diameu na thybia 'r byd mo 'r cyflwr presennol elfydd i hwnnw a grybwyllais. Mae gennyf yn awr lawer o safnau yn disgwyl eu porthi, er nad oes gennyf ond yr un rhifedi o ddwylaw ag o'r blaen tuag ymdaro am fy mywyd. Eto, er maint fy ngofalon, cyn mhelled wyf fi oddiwrth feddwl fy nheulu yn bwys a gormes arnaf, a'm bod yn fy nghyfrif fy hun yn ganwaith dedwyddach na phe fai gennyf ganpunt sych wrth fy nghefn am bob safn sydd gennyf i ofalu trosto. Pe digwyddai imi unwaith ddyfod at Gerrig y Borth yn y cyflwr yr wyf, da y dylwn ddiolch i Dduw a dywedyd, fal y dywedodd y padriarch Jacob, "Ni ryglyddais y lleiaf o'th holl drugareddau di, nag o'r holl wirionedd a wnaethost a'th was; oblegid â'm ffon y daethum dros y FENAI hon, ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai." A diau mai fy ffon a minnau oedd yr holl dylwyth oedd gennyf pan ddaethum dros Fenai o Fon; ond yn awr mae gennyf gryn deulu a roes Duw imi mewn gwlad ddieithr. Bendigedig a fyddo ei Enw ef!
If I were ever so sanguine, I could hardly hope that the Lord Bishop of Landaff would find me anything so soon as I should want it, which must be probably about Lady-day next; and, consequently, I should not be so indolent as to leave myself unprovided in case of necessity. To use one's own endeavours is not at all inconsistent with a firm reliance on Providence.
I should be very glad to hear of a curacy in any county of North Wales, excepting Anglesey and Denbighshire. The first I except for the reason above mentioned; and the other, because I know the inhabitants of it too well. Pobl gignoethaidd, atgas ydynt. "Ffei arnynt," as my wife is used to say in her Shropshire dialect. I beg you would be so good as to get some intelligence whether that curacy in Lancashire, where young Owen of Aberffraw was to have gone, may now be had; and if so, whether it is worth the striving for. I have no objections to that country any more than to this, and I am now a pretty old priest; and anyone that would serve turn in Shropshire, especially in this part of it, might almost suit any other country in England, London only excepted. As I am in favour with Mr Lee, nid anhawdd fyddai iddo ef ddal i mi grothe yn mha le bynnag y byddwn, ond cadw o honof yr hen gyfeillach ar droed. Mae o yn wr mawr iawn gyda Earl of Powys, Lord Herbert gynt, Sir Orlando Bridgman, Esgob Landaff, ac aneirif o'r gwŷr mwyaf yn y deyrnas; ond y mae yn awr yn bur henaidd ac oedranus, yn nghylch pump a thriugain, neu ddeg a thriugain, o leiaf; ond fallai Dduw iddo fyw ennyd eto er fy mwyn i. Nid rhaid i chwi ymgenyd mo hyn wrth y Llew, rhag iddo ddifrawu o'm plegid, ac felly i minnau golli 'r cyfle o ddyfod fyth i Fon. Ond y mae 'n debyg ei fod yn gwybod eisoes; oblegid yn ddiweddar, pan oedd Bodfuan yn Lleyn wedi marw, mi ddymunais ar Mr Richard Morris fyned, yn enw Mr. Lee a minnau, at Esgob Llandaff i ddeisyf arno ofyn y lle hwnnw imi gan ei frawd esgob o Fangor. Pa sut a fu rhyngddynt nis gwn i, ac nis gwaeth gennyf; ond mi gollais yr afael y tro hwnnw. Ond y mae Mr. Morris o'r Navy Office yn dywedyd addo o Esgob Bangor ynteu wrtho ef, y cofiai am danaf ryw dro neu gilydd, pe fai goel ar esgob fwy nag arall. Nis gwn i pa fyd a'r ddaw; ond hyn sydd sier gennyf, fod yr un nefol Ragluniaeth ag am porthodd hyd yn hyn, yn abl i'm diwallu rhagllaw; a pha bryd bynnag y digwydda imi seithug, fod Duw yn gweled mai rhywbeth arall sydd oreu er fy lles.
GRO. DDU O FON.
HIRAETH AM FON.
[Ateb i Gywydd Hugh y Bardd Coch.]
PAHAM i fardd dinam doeth
Pergerdd, celfyddgar, purgoeth,
Ofyn cân a chynghanedd
Gan ddigrain was main nas medd?
Duw nef a ŵyr, dyn wyf fi
Dirymiant; Duw'n dŵr imi!
Dieithryn adyn ydwyf;
Gwae fi o'r sud! alldud wyf.
Pell wyf o wlad fy nhadau,
Och son! ac o Fon gu fau.
Y lle bum yn gware gynt
Mae dynion na 'm hadwaenynt;
Cyfaill neu ddau a'm cofiant—
Prin ddau, lle 'r oedd gynnau gant.
Dyn didol dinod ydwyf,
Ac i dir Mon estron wyf;
Dyeithr i'n hiaith hydriaith hen,
Dyeithr i bêrwawd Awen.
Gofidus, gwae fi! ydwyf
Wrth son, a hiraethus wyf.
Gan athrist frondrist fraendroch,
Ni chyngan hoew gân ag och;
Mewn canu, namyn cwynaw,
Ni chytgais na llais na llaw.
Pobl anwar Pabyloniaid,
Dreiswyr blin, draws arw blaid,
O'u gwledydd tra dygludynt
Wŷr Seion yn gaethion gynt,
Taergoeg oedd eu gwatworgerdd:—
"Moeswch, ac nad oedwch gerdd."
"Gwae ni o'r byd dybryd hwn,"
Cwynent; "Pa fodd y canwn
Gerdd Ion mewn tir estronol,
A'n mad anwylwlad yn ol?
Ni bu, dref sorth tan orthrech,
Fy nhrem am Gaersalem sech.
Os hawdd yr anghofiais hi,
Del amorth yn dal imi;
Anhwylied fy neheulaw,
Parlys ar bob drygfys draw,
A'm tafod ffals gwamalsyth
Fferred yn sych baeled byth."
Llyna ddiwael Israeliad;
Anwyl oedd i hwn ei wlad.
Daear Mon, dir i minnau
Yw, o chaf ffun i'w choffhau.
Mawr fy nghwynfan am dani;
Mal Seion yw Mon i mi.
O f' einioes ni chaf fwyniant
Heb Fon, er na thôn na thant
Nid oes trysor a ddorwn,
Na byd da 'n y bywyd hwn,
Na dail llwyn, na dillynion,
Na byw 'n hwy, oni bai hon.
Troi yma wnaf, tra myn Ner,
O'm hedfa, oni 'm hadfer;
Duw nefol a'm deoles—
Duw 'n rhwydd im', a llwydd a lles;
Crist D'wysog, Eneiniog nef,
Cedrwydd, a'm dyco adref!
CYWYDD I'R CALAN 1753
YN bod gwres i'r haul teswawr
A gorffen ffurfafen fawr
Difai y creawdd Dofydd
Olau teg a elwid dydd;
A Duw, gan hyfryted oedd,
Dywedai mai da ydoedd;
Cywraint fysedd a neddair,
Gywir Ion, gwir yw ei air.
Hardd gweled y planedau,
A'u llwybr yn y gylchwybr gau,
Tremiadau tramwyedig,
A chill yn deall eu dig.
Canfod, a gwych eurddrych oedd
Swrn nifer ser y nefoedd;
Rhifoedd o ser, rhyfedd son,
Crogedig uwch Caergwydion.
Llun y Llong a'i ddehonglyd,
Arch No a'i nawdd tra bawdd byd;
A'r Tewdws, dwr ser tidawg,
A thid nas rhifid y rhawg.
Er nifer ser y nefoedd—
Nifer o fawr wychder oedd—
Ac er Lloer wen ysblenydd,
Nid oes dim harddach na dydd;
Gwawl unwedd â goleunef,
Golau o ganhwyllau nef.
Oes a wad o sywedydd,
Lle dêl, nad hyfrydlliw dydd?
Dra bostio hir drybestod,
Mor rhyfedd rhinwedd y rhod
Oer suganed wres Gwener
Pan eli ias oerfel ser.
Duw deg lwys, da yw dy glod
Da, wir-Naf, yw pob diwrnod;
Un radd pob dydd o naddynt,
Pob dydd fal eu gilydd gynt;
Uchder trennydd fal echdoe,
Nid uwch oedd heddyw na doe
Nes it draw neillduaw dydd
Dy hunan, da Wahanydd—
Dygwyl yn ol dy degwaith.
Yn gorffen ffurfafen faith.
Na chwynwn it, Ion, chwennych
Dydd o'r saith, wedi 'r gwaith gwyca;
Yn talmu da fu dy fod;
Sabath ni chai was hebod.
Mawr yw dy rad, wiw Dad Ion,
Da oedd gael dyddiau gwylion;
Da 'r tro it' eu gwylio gynt,
Duw Awdur, a da ydynt.
Da dy Grog ddihalogŵyl:
Dy Grog oedd drugarog ŵyl,
Er trymed dy gur tramawr;
Penllad yw 'th Gyfodiad fawr.
Da fyg dy Nadolig, Dad;
Da iawn ydoedd d' Enwaediad,
Calan, fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gŵyl Duw Celi.
Da, coeliaf, ydyw Calan,
A gŵyl a ddirperai gân;
Ac i'r Calan y canaf—
Calan, well na huan haf.
Ar ddydd Calan y'm ganwyd;
Calan, nid aniddan wyd.
Gwaeth oedd enedigaeth Io,
Diwrnod a gwg Duw arno:
Calan wyt ni 'th cwliai Naf;
Dwthwn wyt nas melldithiaf.
Nodwyl fy oedran ydwyt,
Ugeinfed a degfed wyt.
Cyflym ydd a rym yr oes;
Duw anwyl, fyrred einioes!
Diddan a fum Galan gynt,
A heinif dalm o honynt;
Llawn afiaeth a llon iefanc,
Ddryw bach, ni chaid llonnach llanc.
Didrwst ni bu mo 'm deudroed
Ym mhen un Calan o'm hoed,
Nes y dug chwech a'r hugain
Fab ffraeth i fardd meddfaeth, main.
Er gweled amryw Galan,
Gofal yn lle cynnal cân,
Parchaf, anrhydeddaf di,
Tymor nid drwg wyt imi,
Cofiaf, Galan, am danad.
Un dydd y'm gwnaethost yn dad;
Gyrraist im' anrheg wiwrodd—
Calennig, wyrenig rodd—
Gwiwrodd, pa raid hawddgarach
Na Rhobert, y rhodd bert bach?
Haeddit gân, nid rhodd anhardd—
Rhoi im' lân faban o fardd.
Hudol am gân, hy ydwyt,
O bâi les gwawd, blysig wyt!
Dibrin wyf, cai dy wobrwy,
Prydaf i it; pa raid fwy?
A chatwyf hir barch iti,
Wyl arab fy mab a mi.
Aed y calendr yn hendrist,
Aed Cred i amau oed Crist,
Syfled pob mis o'i safle,
Ag aed ag ŵyl gydag e;
Wyl ddifai, di gai dy gwr;
Ni'm necy almanacwr;
Cei fod ar dal y ddalen;
Diball it' yw dy bill hen;
Na sylf fyth yn is, ŵyi fawr;
Glŷn yno, Galan Ionawr;
Cyn troi pen dalen, na dwy,
Gweler enwi "Gwyl 'Ronwy";
A phoed yn brif ddigrifwyl
I'r beirdd, newydd arab wyl;
A bid ei phraff argraffu
Ar dalcen y ddalen ddu,
Llead helaeth, lled dwylain,
Ehangffloch o liw coch cain.
PSALM CVII.
DYLEDSWYDD A DOETHINEB DYN YW YMFODDLONI I
EWYLLYS EI GREAWDR.
(O Saesneg y Dr. Samuel Collett.)
RWY droiau'r byd, ei wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier,
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpasgylch glân
Yn wiwlan, er na weler.
O'i dadawl ofal Ef a rydd
Yr hyn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur;
On'd da'i gymhesur fantol?
Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud,
Os Duw a'i myn, fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr, mewn munud.
Os yfaist gwpan lawn o i lid,
A'th doi à gwrid a gwradwydd,
Od wyt gyff cler a bustl i'r byd,
Fe 'th gyfyd i foddlonrwydd.
Fe weryd wirion yn y frawd
Rhag ynllib tafawd atcas,
Fe rydd orffwysfa i alltud blin
Mewn anghynefin ddinas.
Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y pennau gogwyddedig,
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.
Oes dim, nac yn na than, y nef
Nad Ef sydd yn ei beri;
Ac Ef a rydd-gwnaed dyn ei ran—
Y cyfan er daioni.
Pa raid ychwaneg? Gwnelwyf hyn,
Gosteged gwŷn a balchder;
Arnat Ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys
Bid fy holl bwys a'm hyder.
Yn Walton.
MEDDWL AM ARGRAFFU.
At William Morris, Ion. 15, 1753.
IE drud gethin yw argraffu cywyddau yn y Mwythig, yn enwedig os mynnir papur da. Ni chlywais oddi wrth y Person Williams er ys talm mawr o amser. Nid gwiw gennyf ymhel ag ysgrifennu nodau ac esponiadau hyd onis gwypwyf yn sicr pa 'r un a wneir, ai eu hargraffu. ai peidio; ond nid ydyw hynny, deued a ddel, oddi ar waith dwy awr neu dair o amser. Gweled yr wyf nad yw ond gwaith gwellt imi roi fy ewyllyswyr da i'r gost o argraffu peth er fy mwyn i, na wna ffyrlingwerth o les i mi na hwythau, ond rhoi gwaith i ambell gecryn i 'spio gwallau ac i'm coegi a'm cablu am fy ngwaith. Llyna arfer rhan fawr o bobl Fon, ie a phob gwlad arall, gynt; ac odid eu bod eto nemawr gwell eu moesau. Am hynny synhwyrolaf y tybiwn adael iddynt ganu dyriau Elisa Gowper o Lanrwst, yr hyn fo hoffaf ganddynt. Eto gwnewch chwi a fynnoch. Os eu hargraffu a welwch yn orau, ni phrisiaf i ddraen am y cabl a'r gogan a gaffwyf gan bennaubyliaid. Prin iawn yw yr arian gyda mi,—prinnach o lawer na 'r cywyddau,—ac onide ni fyddwn 'chwaith hir yn ymarofyn pa un a wnaid eu hargraffu ai peidiaw.
Ydwyf eich gwasanaethwr.
GORONWY DDU.
CYWYDD
Y CYNGHORFYNT, NEU'R GENFIGEN.
COFIO wna hoglanc iefanc
Yn llwyd hyn a glybu 'n llanc.
Gelwais i'm cof, adgof oedd,
Hanesion o hen oesoedd;
Ganfod o rai hergod hyll,
Du ann llyn Dân ellyll;
Drychiolaeth ddugaeth ddigorff,
Yngwyll yn dwyn canwyll corff;
Amdo am ben hurthgen hyll,
Gorchudd hen benglog erchyll;
Tylwyth Teg ar lawr cegin
Yn llewa aml westfa win;
Cael eu rhent ar y pentan,
A llwyr glod o bai llawr glân;
Canfod braisg widdon baisgoch
A chopa cawr a chap coch;
Bwbach llwyd a marwydos
Wrth fedd yn niwedd y nos.
Rhowch i'm eich nawdd, a hawdd hyn,
Od ydwyf anghredadyn;
Coelied hen wrach, legach lorf
Chwedlau hen wrach ehudlorf;
Coeliaf er hyn o'm calon,
A chred ddihoced yw hon,
Fod gwiddon, anhirionach
Ei phenpryd, yn y byd bach;
Anghenfil gwelw ddielwig,
Pen isel ddelw dduddel ddig,
Draig aeldrom, dera guldrwyn,
Aych gan gas dulas i'w dwyn;
Ac o rhoe wên ddwy-en ddu,
Gwynfyd o ddrwg a ganfu;
Uwch ei gran y mae pannwl,
Dau lygad dali pibddall pwl;
Golwg, a syll erchyll oedd,
A gaid yn fwy nag ydoedd.
Ni wýl o ddrwg un wala;
Ni thrain lle bo damwain da.
Gwynfydu bydd ganfod bai;
Llwyddiant di drwc a'i lladdai.
Gwenai o clyw oganair;
O rhoid clod, gormod y gair.
Rhincan y bydd yn rhonca,
Ai chrasfant, arwddant, ar dda.
Daint rhistyll hydryll a hadl,
Genau gwenwynig anadl;
Ffun yd a fâi ffynadwy,
O chwyth, ni thyf fyth yn fwy:
Lle cerddo, llesg ei hesgair,
Ni chyfyd nag ŷd na gwair.
Mae 'n ei safn, hollgafn hyllgerth,
Dafod o anorfod nerth—
Difyn a flugfawr dafod
Eiddil, a gwae fil ei fod;
A dwyfron ddilon dduledr,
Braen yw o glwyf ei bron gledr;
Dibaid gnofeydd duboen
A'i nych, a chrych yw ei chroen.
Gan wewyr ni thyr, ni thau,
Eiddo arall oedd orau.
Hi ni wna dda, ddera ddall,
Ni erys a wna arall;
Ein hammorth sy 'n ei phorthi,
A'n llwydd yw ei haflwydd hi;
Merch ffel, uffernol elyn
Heddwch a dedwyddwch dyn.
A methiant dyn ai maethodd;
O'i warth y bu wrth ei bodd.
E ddenwyd Adda unwaith.
O'i blas, a bu gas y gwaith,
Ai holl lwyth o'u hesmwythyd,
Trwy hon, i helbulon byd.
Llamai lle caid llygaid llawn
Dagrau, diferlif digrawn;
Aml archoll i friwdoll fron
Ac wylaw gwaed o galon;
Gwaedd o ofid goddefaint,
Wyneb cul, helbul a haint.
Rhown ar ball, hyd y gallom,
Ddichell y wrach grebach, grom;
Ceisiwn yn niffyg cysur,
Ddwyn allan y gwan o gur;
A rhoddwn a wir haeddo
I fad, pwy bynnag a fo;
A'r byd fal y gwynfyd gynt,
Dieifli annwn diflennynt;
A Chenfigen a'i gwenwyn,
Diffrwyth, anfad adwyth dyn,
Ddraig ffyrnig, ddrwg uffernol,
A naid i uffern yn ol.
Aed i annwfn, ei dwfn dwll,
Gas wiber, i gau sybwll;
A gweled ddraig ei gwala
Mewn llyn heb ddifyn o dda;
Caiff ddau ddigon, a llonaid
Ei chroen, o ddu boen ddi baid.
"Yr oedd yn swil gennyf fy ngweled fy hun, yn ei ymyl ef, fel bad ar ol llong."—Tud. 74.
III. YN WALTON.
Y CARTREF NEWYDD.
At William Morris, Ebrill 30, 1753.
YR ANWYL GAREDIG GYDWLADWR,— Dyma fi yn Walton o'r diwedd ar ol hir ludded yn fy nhaith. Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, yn nghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth, a'r person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon. Ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen gwasanaeth a phregethu fy hun yn y bore, a darllain gosper y prydnhawn, ac ynteu a bregethodd. Y mae'r gŵr yn edrych yn wr o'r mwynaf; ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymeryd yn ei ffordd. Mae 'r gwas a'r forwyn, yr hyn yw yr holl deulu a fedd, yn dywedyd mai cidwm cyrrith, anynad, drwg anwydus, aruthr yw. Ond pa beth yw hynny i mi? Bid rhyngddynt hwy ac ynteu am ei gastiau teuluaidd; nid oes i mi ond gwneuthur fy nyledswydd, ac yno draen yn ei gap. Hyn a allaf ddywedyd yn hyf am dano, na chlywais i erioed haiach well pregethwr, na digrifach, mwynach ymgomiwr. Climach o ddyn amrosgo ydyw. Garan anfaintunaidd, aflunaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr anhygoel, ac wynepryd llew, neu rywfaint erchyllach; a'i ddrem arwguch yn tolcio ym mhen pob chwedl, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion; ac yn cnoi dail yr India, hyd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei en. Ond ni waeth i chwi hynny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthafa welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd yn swil gennyf ddoe wrth fyned i'r eglwys yn ein gynau duon, fy ngweled fy hun. yn ei ymyl ef, fel bad ar ol llong.
Bellach e fyddai gymwys roi ichwi gyfrif o'r wlad o'm hamgylch; ond nis gwn eto ddim oddiwrthi, ond mai lle drud anial ydyw ar bob. ymborth. Eto fe gynhygiwyd imi le i fyrddio, hyd oni chaffwyf gyfle i ddwyn fy nheulu ataf, yn ol wyth punt yn y flwyddyn; a pha faint rhatach y byrddiwn ym Mon? Nid yw 'r bobl y ffordd yma, hyd y gwelwyf, ond un radd uwchlaw Hottentots—rhyw greaduriaid anfoesol, didoriad. Pan gyfarfyddir â hwy, ni wnant onid llygadrythu yn llechwrus, heb ddywedyd bwmp mwy na buwch. Eto yr wyf yn clywed mai llwynogod henffel, cyfrwysddrwg, dichellgar ydynt. Ond yr achlod iddynt, ni 'm dawr i o ba ryw y bont. Pymtheg punt ar hugain yw 'r hyn a addawodd fy mhatron imi, ond yr wyf yn dyall y bydd yn beth gwell na i air. Ni rydd imi ffyrling ychwaneg o'i boced, ond y mae yma Ysgol Rad, yr hon a gafodd pob curad o'r blaen, ac a gaf finnau, oni feth, ganddo. Hi dâl dair punt ar ddeg yn y flwyddyn, heblaw ty yn y fynwent i fyw ynddo. Os caf hi, fe fydd fy lle yn well na deugain punt yn y flwyddyn. Fel hyn y mae. Pan fu farw 'r curad diweddaf, fe ddarfu i'r plwyfolion roi 'r Ysgol i'r clochydd. Ac yn wir y clochydd a fyddai 'n ei chadw o'r blaen, ond bod y curad yn rhoi iddo bum punt o'r tair ar ddeg am ei boen. Ond nid oes, erbyn edrych, gan y plwyfolion ddim awdurdod i'w rhoddi hi i neb; ond i'r person y perthyn hynny; ac y mae yn. dwrdio gwario tri neu bedwar cant o bunnau cyn y cyll ei hawl. Felly yr wyf yn o led sicr y caf hi; ac oni chaf, nis gwn yn mha le y caf dŷ i fyw ynddo. Odid imi ei chael hithau gryn dro eto, tua Mehefin neu 'r Gorffennaf ysgatfydd. Os yw John Dafydd Rhys" heb gychwyn, gyrrwch ef yma gyda 'r llong nesaf; a byddwch sicr oi lwybreiddio ef, a'ch holl lythyrau at "Reverend Goronwy Owen, yn Walton, to be left at Mr. Fleetwood's, Bookseller, near the Exchange, Liverpool."—
Mi welais yn Liverpool yma heddyw rai llongwyr o Gymru——ie, o Gybi, y rhai a adwaenwn gynt, er na's adwaenent hwy mo honof fi, ac na's tynnais gydnabyddiaeth yn y byd arnynt, amgen na dywedyd mai Cymro oeddwn o Groesoswallt, lle na's adwaenent hwy; ac felly yr wyf yn dyall fod yn hawdd cael y peth a fynnir o Fon yma. Ond drwg iawn gennyf glywed fod Mr. Ellis anwyl yn glaf. Da chwi rhowch fy ngwasanaeth ato, a chan ddiolch am y "Dr. Dafydd Rhys." Nid oes gennyf ddim y chwaneg i'w ddywedyd yn awr, ond bod y genawes gan yr Awen wedi nacau dyfod un cam gyda myfi y tu yma i'r Wrekin—the Shropshire Parnassus—and that as far as I can see, there is not one hill in Lancashire that will feed a Muse.
At William Morris, Mehefin 2, 1753
WEL, bellach, digon o'r "lol botes" yma; ac weithion am hanes y Llew. Y mae'r hen Deigar a minnau yn cytuno'n burion hyd yn hyn; a pha raid amgen o hyn allan? Ni thybia 'r hen Lew ddim yn rhy dda imi, am fy mod yn medru ymddwyn mewn cwmni yn beth amgenach na'r llall, ac am fy mod yn ddyn go led sobr, heb arfer llymeitian hyd y sucandai mân bryntion yma. Os chwenychwn bot a phibell, y mae imi groesaw y prydnhawn a fynnwyf gyda 'r hen Lew ei hun, lle cawn botio 'n rhad ac ysmocio cetyn lawlaw, ac yna hwre bawb a'i chwedl digrif a dwndrio wrth ein pwys hyd oni flinom. Dyn garw oedd y curad diweddaf. Nid ai un amser ond prin i olwg yr hen Gorph; ac os âi, ni ddywedai bwmp ond a ofynnid iddo, ac fyth ar y drain i ddiane i ffordd; oblegid hoffach oedd ganddo gwmni rhyw garpiau budron o gryddionach, cigyddion, etc. Ac yn nghwmni y cyfryw ffardial yr arosai o Sul i Sul yn cnocio 'r garreg, chwareu pitch and loss, ysgwyd yn yr het, meddwi, chwareu cardiau, a chwffio, rhedeg yn noeth lyman hyd strydoedd Lerpwl i ymballio â'r cigyddion, a rheiny A'u marrow bones a'u cleavers yn soundio alarm o'i ddeutu, myned i'r eglwys ar foreu Sul yn chwilgorn feddw, etc.
Yr wyf wedi cael myned yn ben meistr i'r Ysgol; ond nid rhaid imi wneuthur dim yn y byd oni ddigwydd i rai ddyfod i ddysgu Lladin. Y mae gennyf un arall tanaf i ddysgu Saesneg, i'r hwn yr wyf yn rhoi wyth punt yn y flwyddyn am ei boen. Ac felly y cwbl yr wyf fi yn ei gael ydyw ynghylch chwe phunt neu saith yn y flwyddyn, heblaw 'r ty yn y fynwent. Ac y mae hynny yn ddigon am wneuthur dim. Y mae'r fargen wedi ei chloi, canys y mae 'r articlau cytundeb wedi eu tynnu a'u seinio rhyngof fi ac Edward Stockley, fy usher a'm cochydd, i'r hwn. y rhoesai 'r plwyfolion yr ysgol. Felly fy holl gyflog i sydd yn nghylch pedair punt a deugain yn y flwyddyn rhwng y ty a'r cwbl.
Wel! dyna ichwi fy hanes i, a hanes go dda ydyw; i Dduw a chwithau bo 'r diolch. Mae'r wraig a'r plant wedi dyfod yma er ys pythefnos, ac yr ŷm oll wrth ein bodd, onid eisieu dodrefn i fyned i fyw i'r ty yn y fynwent. Fe orfu arnat werthu pob peth yn Donnington i dalu i bawb yr eiddo, ac i gael arian i ddwyn ein cost yma. Felly Ilwm iawn a fydd arnom y cwarter cyntaf. Nid oes arnom eisieu dim yn fawr ond gwely neu ddau. Am gypyrddau, silffiau, etc., mae rhain yn perthyn i'r ty. Y mae gennym ddi- gonedd o burion ilentheiniau, llieiniau bwyd, etc., heb eu gwerthu. Yn nghylch pum punt, y welwch chwi, a'm gosodai i fynu'n bin yrwan; ac o'r pum punt dyma Dduw a haelioni Llywelyn wedi taflu imi ddwy heb eu disgwyl. Duw a dalo iddo yn ganplyg! Anrheg i'm dau lanc ydynt. Nis gwn i, pe crogid fi, pa fodd i gael rhodd Mr. Lewys Morris yma. Os medrwch chwi ddyfeisio rhyw ffordd, da fydd eich gwaith. Mawl i Dduw. nid oes arnaf un ffyrling of ddyled i neb, fel y bu o fewn ychydig flynyddoedd.
YR AWEN YN WALTON.
At Richard Morris. Gor. 9, 1753
CORNELIA, the mother of the Gracchi, is commended in history for having taught her sons, in their infancy, the purity of the Latin tongue; and I may say, in justice to the memory of my mother, that I never knew a mother nor even a master, more careful to correct an uncouth, inelegant phrase, or vicious pronunciation, than she. And that, I must own, has been of infinite service to me.
At William Morris, Gorff. 21, 1753.
TRA thrafferthus y gwelaf fi hel ychydig of ddodrefnach ynghyd; a hynny oedd raid imi wneuthur mewn byr o amser oni byddai well gennyf fy ngwerthu fy hun am a dynnai fy nannedd. Hawdd yw cadw un pen; ond y mae pedwar pen yn gofyn cryn lafur. Pa fodd bynnag dyma fi, i Dduw bo 'r diolch, yn y Ty yn y Fynwent, a'm teulu gyda myfi; ac ar ddarpar byw 'n ddigon taclus, os Duw rydd hoedl ac iechyd. Mi yrrais ichwi o'r blaen hanes yr ym- gomio a fu rhyngof a'r Aldramon Prisiart. Mil a'i gwelais un waith neu ddwy wedi hynny; a gŵr mwynaidd iawn ydyw. Mi gefais y dydd arall lythyr oddiwrth Llywelyn o Lundain. Yr oedd o ai frawd yn sione, ac wedi agos orthrechu ei elynion, ac yn dwrdio bod gartref, yn Ngallt. Fadawg, yn mhen y pythefnos.
Yr ydych bellach, nid oes ameu, yn disgwyl dau neu dri o gywyddau yn iawn am fy esgeulusdra, ac achos da paham. Ond os coeliwch y gwir, ni fedrais unwaith ystwytho at gywydd nag englyn er pan ddaethum i'r fangre yma. Nid oes gennyf lyfr yn y byd na Chymraeg na Saesneg yma, ond y Bardd Cwsg yn unig. Ond gobeithio y caf fy llyfrau ataf cyn bo hir. Y mae rhyw achos yn llestair imi fyned ynghyd a dim prydyddiaeth nes y caffwyf fy llyfrau yma; a hynny yw, because Llanbrynmair and Evan Brydydd Hir have made some objections against my Cywyddau; viz., that they had not a sufficient variety of cynghaneddau.
But enough of this. I beg you will be so good as to keep at least copies of all my Cywyddau that you have by you; for I am afraid I burned them in my hurry amongst some loose papers when I left Donnington. I thought I had safely put them up in my bags with my sermons, etc, but I cannot now find one of them all.
[At Richard Morris, Awst 10, 1753]
DEAR SIR, Mae cyhyd amser er pan ysgrifennais atoch, nas gwn yr awrhon pa sut i ddechreu, na pha 'r afael a gymeraf i esgusodi fy anibendod. Trafferthus oeddwn yn ceisio cynnull ynghyd ryw faint o ddodrefnach at gadw ty. Ffei ffei! Esgus gwag yw hwn. Ni thâl ddraen. Wel gadewch iddo. Llwyr ddigalon oeddwn of eisieu fy llyfrau ac ni allwn ystwytho at ddim of hiraeth am danynt. Ni thycia hynny ychwaith. Yr wyf yn ofni y gorfudd arnaf gyfaddef y caswir a dywedyd rhyw hupynt o ddiogi a syrthni a ddaeth trosof; a phwy a allai wrtho? Pa ddelw bynnag, nis gwn pa 'r un wiraf o'r tri esgus. Cymerwch eich dewis o honynt; neu 'r cwbl ynghyd, os mynnwch, am y rhoddoch i mi faddeuant.
Bellach am eich caredig lythyr diweddaf. Ie! Fi yn Esgob Bangor! Llwyr y darfu i chwi gamgymeryd Llyfr y Daroganau. A ydych chwi yn disgwyl byth weled yno Gymro yn esgob? Cynt y rhown goel ar y Brut sy 'n addaw dyfodiad Owain Lawgoch a'i orfodawglu, nag y dis- gwyliwn weled byth Gymro uwch bawd na sawdl mewn unrhyw rhagorbarch gwledig neu eglwysig. Am danaf fy hun, mi fum wyth mlynedd bellach yn ymddygnu am gael rhyw fath o offeiriadaeth yng Nghymru, ac nis cefais. Ond yr wyf weithion wedi rhoi fy nghalon mewn esmwythdra. Pe cynygid imi le yn Mon heddyw, ni fynnwn mo honaw, oni byddai yn werth deg punt a deugain o leiaf. Mae gennyf yma ddeugain punt yn llawn a thy, a gŵr mwyn, boneddigaidd yn batron imi. Gwaethaf peth yw, yr wyf yn oestadol ar fy llawn hwde rhwng yr eglwys a'r ysgol; a drud anferthol yw pob ymborth, o achos ein bod mor agos i dref Lerpwl. Ond ofer disgwyl pob peth wrth ein bodd yn y byd yma.
At William Morris, Awst, 12fed, 1753
GWR mwyn, hael, boneddigaidd, yw yr hen Lew i'r sawl a fedro dynnu 'r bara drwy 'r drybedd iddo. Pa beth, debygech. a gefais ganddo eisoes mewn un chwarter blwyddyn? Dim llai na chwech o gadeiriau taclus, ac un easy chair, i'w groesawu ef ei hun pan ddêl i'm hymweled, ac yn nghylch ugain o bictiwrau mewn frames duon.
My Bob is a very great favourite of his, and greatly admired for being such a dapper little fellow in breeches. The Vicar can never see him without smiling; and one day he said, that if himself could be cut as they cut corks, he would make at least a gross of Bobs. And being willing in some sort to try the experiment, he gave him a very good waistcoat of what they call silk camlet, to make him a suit of clothes, which it really did, and somewhat above. And the other day, when I had a couple of neighbouring clergy- men come to see me, he sent me a bottle of rum, and was pleased to favour me with his company, though he very seldom stirs abroad to any friend's house. Whenever he goes to visit a friend, which he has done three or four times this summer, he always desires my company and finds me a horse.
Campau yw y rhai hyn nad oes mo honynt yn perthyn i bob patron. Mor galeted a chieiddied oedd yr Ysgotyn brwnt hwnnw, Douglas! Mae'r gwalch hwnnw 'rwan yn cynnyg deg punt ar hugain, a'r ty, a'r ardd, &c., yn Donnington; ac er hynny yn methu cael curad. Byth nas caffo! Pe rhoisai hynny i mi, nid aethum led fy nhroed oddiyno. Amheuthun iawn i mi y troiad yma ar fyd. Duw a'i cynhalio ac a gadwo imi fy hen Batron Brooke; am y bawai gan Ddouglas gyrrith. "Draen yn ei gap a hoel helyg"! Yr wyf yn gweled yr awrhon mai "y gorau a gair orau," fel y dywedai fy mam; ac mai,
"Hyspys y dengys dyn,
O ba radd y bo i wreiddyn."
Mi gaf fy llyfrau yr wythnos yma, 'r wy 'n gobeithio; ac yna mi dorraf waith iddynt mewn barddoniaeth orau y medrwyf, ac nid yw hynny ond digon sal, mi wranta. Mae gennyf yma gryn waith ar fy nwylaw, mwy yn hytrach nag yn Donnington. Eto mi gaf weithiau ystlys odfa i weu rhywfaint wrth fy mawd, yn enwedig pan êl y nos yn beth hwy; oblegid gwell gan yr Awen hirnos gauaf, er oered yr hin, na moeldes ysblenydd hirddydd haf. Ac un cysur sydd gennyf, er oered a fo 'r hin yn y wlad oerllwm yma, na bydd arnaf ddim diffyg am danwydd; oblegid y mae eisoes gennyf ddau lwyth certwyn o lo a roed imi gan rai o'm plwyfolion; ac o ddeutu Gwyl Fihangel fe fydd coal-pence plant yr ysgol yn dyfod i mi, yr hyn a fydd fwy na digon i'm bwrw tros y flwyddyn; ac, ysgatfydd, mi gaf beth arian i'w pocedu, o herwydd fod rhifedi'r llanciau yn nghylch tri ugain neu ddeg a thri ugain; a phob un ei swllt a fyddent arferol o dalu. Os digwydd i chwi fod yn gydnabyddus â neb cyfrifol yn y wlad yna, a ewyllysiai yrru ei blentyn i'r ysgol i Loegr er mwyn dysgu Saesneg, byddwch mor fwyned a'i gyfarwyddo yma. Gadewch wybod, yn y nesaf, pa ramser o'r flwyddyn y bydd y cig moch a'r ymenyn rataf yn Mon.
At William Morris, Medi 5ed, 1753
NID oes dim chwareu ffwl pan welir y Person unwaith yn dechreu geran. Chwi welwch eraill yn picio i'r lle cyn i'r gwaed fferu yn y gwythi. And I wish anyone that prescribed me confidence and assurance" instead of "mo- desty," &c., would give me a good example by taking a dose himself. Mae'r lle arall yn llaw yr esgob, a mil i un pwy bynnag a'i caffo, nn theifli fyny rywbeth salach.
Am yr Ysgol nis gwn yn iawn pa beth i'w ddywedyd. Pe gwyddwn yn sicr mai yma y gorfydd i mi aros, fe fyddai wiw gennyf gymeryd poen. Ond y mae Mr. Van yn tyngu ac yn rhegu, ac yn crach boeri (chwedl y bobl), na chaf aros yma un flwyddyn ychwaneg.
Os bydd ar neb awydd i yrru plentyn yma, y pris yw deuddeg punt yn y flwyddyn a'i ddysg am ddim; a llai na hynny a'm rhydd mewn colled.
At Richard Morris, Rhag. 17. 1753
FE fu 'n ddrwg anaele gennyf na allaswn yrru y cywyddau a'r nodau arnynt atoch yn gynt, ond bod achos da i'm rhwystro, yr hwn na feddyliaswn o'r blaen ddim am dano. Yr wyf yn cofio grybwyll o honof gynt wrthych, nad oedd ysgrifennu nodau ar y ddau gywydd amgen na gwaith dwy awr neu dair o amser; ond, Duw yn fy rhan, camgyfri o'r mwyaf oedd hynny. Nid gwaith dwy neu dair o oriau ydoedd darllen Homer a Virgil trostynt; a hynny a orfu arnaf wneuthur, heb fod mo 'r llawer gwell er fy ngwaith. Ni choeliai 'ch calon byth leied oedd yno i'w gael tuag at nodau na dim arall. Meddwl yr oeddwn nad oedd neb a ddichon ysgrifennu dim mewn prydyddiaeth, na chaed rhyw gyffelybiaeth iddo yn y ddau fardd godidog hynny; ac felly yr oeddwn yn disgwyl cael rhyw fyrdd o debygleoedd o honynt, yn enwedig o Homer, i addurno fy mhapuryn. Ond och fi! erbyn rhoi tro neu ddau ymysg penaethiaid y Groegiaid beilchion, a chlywed yr ymddiddanion oedd arferedig, gan amlaf, yn mysg y rhai campusaf o honynt, hyd yn oed ródas кùs ei hun, ac Agamemnon, ac Ulysses, a llawer arwr milwraidd arall, mi ddyallais yn y man. nad oedd un o honynt yn meddwl unwaith am ddim o'r fath beth a Dydd y Farn; ac felly ni wnai ddim ar a ddy- wedent harddwch yn y byd i'm cywydd i. Ac, am a welais, nad oedd Hector, a blaenoriaid, a phendefigion Troia fawr, ddim gwell. Pius Eneas ynteu, er maint o glod a roe Virgil iddo am ei ddwyfolder, ni choeliaf nad y gwaethaf oedd o genedl Troia, wrth ei waith yn dianc oddiyno yn lladradaidd, heb wybod i'w wraig; ar hyder, mae 'n debyg, taro wrth ryw globen arall i'w ganlyn. A pheth mae'r cast a wnaeth y diffeithwr dauwynebog à Dido druan? Ai gwiw disgwyl ynteu ar ffalswr fel hwnnw feddwl am Ddydd y Farn? Ond o ddifrif, nid rhyfedd; oblegid pan oeddwn yn gwneuthur y cywyddau, nis gwn edrych o honof unwaith yn Homer na Virgil, ond yn y ddau Destament yn fynych. Dacw Gywydd y Farn" fel y mae, a nodau arno gorau a fedrais i eu casglu, wedi myned it Allt Fadawg i edrych beth a dalo, ac oddiyno fe ddaw atoch chwithau i Lundain o nerth y carnau, os caiff gynhwysiad o dan law Llywelyn; ac onide ni wiw mo 'i ddisgwyl. Ac os bydd hwnnw 'n boddio, fe gaiff Bonedd yr Awen" ynteu ei arlwyo 'n yr un modd, a'i yrru i chwi allan o law. Os rhaid dywedyd y gwir, chwi a gawsech y ddau yn llawer cynt, oni buasai i Mr. Vaughan o Gorsygedol, yr hwn, pan oedd yma yn nechreu Mis Medi, a ddywaid wrthyf, trwy ofyn o honof iddo, nad gweddus oedd i mi ysgrifennu nodau ar fy ngwaith fy hun.
Gwych o'r newydd a glywaf gennych ynghylch larll Powys. Duw a dalo 'n gan-plyg í chwi oll drosof. Nid oes dim a ofynno yr iarll, gan nag esgob na nemawr o undyn arall, na chaiff yn rhwydd; a gresyn gofyn o honaw ryw waelbeth. Pa beth debygwch chwi? Mae fy meddwl i wedi troi 'n rhyfeddaf peth a fu erioed. Canwaith y dymunais fyned i Fon i fyw; ond weithion, er na ewyllysiwn ddim gwaeth i'm gwlad nag i'm cydwladwyr, ni fynnwn er dim fyned iddi fyth, ond ar fy nhro. Gwell a fyddai gennyf fyw ymysg y cythreuliaid Ceredigion gyda Llywelyn er gwaethed eu moesau, nag ym Mon. Ond a fynno Duw a fydd. Nid yw awyr y wlad yma ddim yn dygymod â'r Awen cystal ag awyr gwlad y Mwythig. Eto hi a wasanaetha, yr wyf yn dyall; canys mi fum yn ddiweddar yn profi peth ar yr hen Awen, i edrych a oedd wedi rhydu a'i peidio. Mi gefais ganddi yn rhyw sut rygnu imi ryw lun ar Briodasgerdd" i'ch nith, Mrs. Elin Morris, yr hon a yrrais i Allt Fadog gyda "Chywydd y Farn." Tra phrysur wyf yr wythnos yma yn darparu pregethau erbyn y Nadolig. Ac heblaw hynny, yr wyf ar fedr myned a'r ferch i'r eglwys i'w bedyddio yn gyhoedd ddydd Gwyl Domas, ac onide chwi gawsech y "Briodasgerdd" y tro yma; ond chwi a'i cewch y tro nesaf yn ddisiomiant. Yr wyf yn disgwyl clywed o Allt Fadawg cyn bo hir ac yno mi gaf wybod a dál y "Briodasgerdd" ei dangos ai peidio. Nid wyf yn ameu na bydd "Cywydd y Farn" gyda chwi o flaen hwn, os tybia Llywelyn y tal ei yrru. Pendrist iawn ydwyf yn y fan o eisieu llyfrau, &c. Fe orfu arnaf brynnu Homer a benthyca Virgil i gasglu nodau.
Ydwyf, &c,
GORONWY DDU O FON.
Pa beth ddywedwch am "Aelod anghyttrig"
for "Corresponding Member?"GENI ELIN.
At William Morris, Rhag. 15, 1753
MAE hi, yn wir, yn gryn ennyd er pan yrrais atoch ddiweddaf, ond nid cyhyd ag yr ych chwi yn ei haeru, mi a'i profaf.
Ni welais i olwg eto ar "Siôn Dafydd Rhys," ac felly nid gwiw bwrw 'r bai ar y truan hwnnw am fy llestair i ysgrifennu. Nage, nage. Prysur iawn a fum yn croesawu dieithriaid. "Fe aeth y wraig Elin yn ddwy Elin o fewn y pum wythnos yma; a gwae a gaffo eneth, meddaf fi. Ni fu yma ddim gwastadfyd ar ddim er pan welwyd ei hwyneb hi. Codi ddengwaith yn y nos, a dihuno 'r cymydogion o'u gorffwysfa i'w hedrych, disgwyl iddi drengu bob pen awr, ac wylofain a nadu o'i phlegid, y fu 'r gwaith pennaf yma, er pan anwyd hi, hyd o fewn yr wythnos neu naw diwrnod, a llawer dychryn, ac oer galon o'i hachos hi, ddydd a nos. Mi a'i bedyddiais hi fy hun y noswaith y ganwyd hi; ac yr wyf yn gobeithio bellach ei bod, gyda Duw, wedi gorchfygu y convulsion fits, ac y deil i fyned i'r eglwys i gael bedydd public; yr hyn a gaiff, os bydd byw, Dyddgwyl Domas; oblegid ni chair dim bedyddio yma ond naill ai ar y Sul neu Wyl. Ac y mae'r vicar an addo o hono ei hun, ei bedyddio a chymeryd rhan o'm ciniaw, a rhoi imi alwyn of hen rum i fod yn llawen gyda 'r tad bedydd ac ynteu. Dyna hen wr gwiw!
PRIODASGERDD ELIN MORYS.
[At William Morris.]
PRIN y tal i'w gyrru i neb, oblegid nis meddwn un Gramadeg pan wnaethpwyd hi; ac nid oes ynddi namyn dau fesur yn unig, sef cywydd deuair hirion a chywydd deuair fyrion; ond bod y rheini wedi eu gwau a'u plethu groes ymgroes trwy eu gilydd, ac nis gwyddwn y pryd hynny nemawr o fesur arall.
Os bydd gennyf yn y man awr i'w hepgor, mi a darawaf y "Briodasgerdd" i lawr ar hanner llen arall o bapur. Mi glywais y dydd arall of Allt Fadawg, ac yr oedd pawb yn iach; ond achwyn yn dost yr oeddid ar greulondeb a dichellion yr hwyntwyr." Nid oedd y llythyr ond byr; a hynny i ofyn cennad i newid gair neu ddau yng "Nghywydd y Farn," i gael ei yrru i Lundain allan o law. Ac fe ddywaid y gwnai rai nodau ychwaneg arno, heblaw a wnaethum i fy hun; yr hyn a ddymunais arno ei wneuthur. Duw gyda chwi!
Nis gwn i, pe bai am fy hoedl, pa fodd y gwnaethym fath yn y byd o brydyddiaeth, a min- nau heb wybod na gweled ond cyn lleied o'r fath beth. Cymaint ag oedd o'm tu, oedd fy mod yn medru'r iaith yn dda, a chennyf gryn dipyn o ryw dueddiad naturiol at y fath bethau; ac er hynny i gyd, yr wyf yn meddwl nad yw 'r peth. adim llai na rhyfeddod.
Mae arnaf agos gywilydd gweled yr Awdl wirionffol yma; ac mi amcenais beidio ei gyrru. Da chwithau, na ddangoswch mo honi i neb."
Ni welais i erioed ddim o'r fath beth, na dim arall yn y Gymraeg a dalai ddim, ond "Y Bibl" a'r Bardd Cwsg." Gwyn eich byd chwi ac eraill sy 'n cael gweled eich gwala o hen MSS. a llyfrau eraill. Rhôf a Duw, cedwch yr hen MS. tros un dydd a blwyddyn, ac yno odid na ellwch. hepcor y copi i ddiddanu Goronwy Ddu druan, na welodd erioed y fath beth. Da chwi byddwch cyn fwyned a gyrru imi weithiau ambell glogyrnach llythrig, neu ryw hen fesur mwyn arall, allan o waith Gwalchmai, Cynddelw, Prydydd y Moch, neu 'r cyffelyb. Ac nid yw ludded mawr yn y byd i daro un, o'r lleiaf, yn mhob llythyr. Dymunaf arnoch, os medrwch, roi imi rywfaint of hanes Taliesin—pa beth ydoedd ef; ac yn enwedig pwy oedd Elphin, yr hwn y mae yn son am dano cyn fynyched? Pwy hefyd oedd fy nghar, Goronwy Ddu o Fon? ai yr un ydyw â Goronwy Ddu ap Tudur ap Heilyn? Ac os nid e, pa 'r un o honynt oedd piau "Breuddwyd Goronwy"?
Eich ateb yn y nesaf, da chwi,
GRO. DDU.
AWDL O BRIODASGERDD I ELIN MORYS.
UST! tewch oll! Arwest a chân,
Gawr hai, ac orohian!
Melus molawd,
A bys a bawd,
Llon lwyswawd llawen leisiau,
Aml iawn eu gwawd, mil yn gwau,
Wawr hoewaf, orohian
A cherdd a chân.
Tros y rhiw torres yr haul,
Wên boreu, wyneb araul;
Mae 'n deg min dydd,
Tawel tywydd,
O'r nentydd arien untarth;
Ni cheidw gwŷdd o chaid gwarth;
"Dwyre, ddyn wenbryd eirian,
Yw 'n cerdd a'n cân.
Na ad le i gwsg yn d' ael; gwên,
Disgleiria, dwywes glaerwen;
Feinais fwynwar,
E 'th gais a 'th gâr,
Dyn geirwâr, dawn a gerych,
Age 'n bar, gwen wiw, y bych;
I'r hoew walch orohian,"
Yw'n cerdd a'n cân.
Na arho hwnt yn rhy hir,
Waisg Elin; e 'th ddisgwylir;
Dwg wisg, deg ael,
Dda wisg ddiwael;
Dwg urael diwyg eurwerth,
Na fo gael un o fwy gwerth:
Aur osodiad ar sidan
I'r lwys wawr lân.
Ar hyd y llawr, y wawr wych,
Cai irddail ffordd y cerddych;
Gwiwrif gwyros,
A rhif o'r rhos,
Da lios, deu-liw ewyn;
Brysia, dos; ber yw oes dyn:
Du 'ch ellael, deuwch allan,"
Yw 'n cerdd a'n cân.
O chlywi, wenferch Lewys,
Dyre i'r llan draw o'r llys;
Canweis cenynt
O'th ol i 'th hynt,
A llemynt â'u holl ymhwrdd ;
Felly gynt, fe ae llu gwrdd
I'r eglwys, wawr rywioglan,
A'r glwys wr glân.
Wedi rhoi 'n rhwydd sicrwydd serch,
I'r mwynfab, orau meinferch,
Hail i'n hoew—wledd,
Dwg win, deg wedd;
Dwg o anredd digynnil
Ddogn o fêdd, ddigon i fil,
"A chipio pib a chwpan"
Yw'n cerdd a'n cân.
Rhodder a chlêr a'u haeddant—
Bwyd a gwin, be deuai gant;
I gyd ni gawn
Iechyd wychiawn
Y ddau nwyfiawn ddyn iefanc,
O bod llawn, byd da, a llanc,
Gŵr gwaraidd a gwraig eirian,
Par glwys per glân.
A fedro rhoed trwy fodrwy
Deisen fain, dwsin neu fwy,
Merched mawrchwant
I'w ced a'u cânt,
Dispiniaut hwy does peinioel;
Rhwy maint chwant rhamant a choel;
"Cysur pob gwyrf yw cusan,"
Yw 'n cerdd a'n cân.
Y nos, wrth daflu 'r hosan,
Cais glol y llancesau glân
O chwymp a'i chael,
Eurwymp urael,
Ar ryw feinael wyrf unig,
Gwenno ddu ael, gwn ni ddig;
Rhyned os syr ei hunan
Yn wyrf hen wan.
Yn iach cân i'r rhianedd,
Dêl i'r rhain dal wŷr a hedd!
Mae bro mwy bri
Eto iti;
Gyr weddi, gu arwyddiad,
I Dduw Tri, e ddaw it rad,
Byd hawdd, a bywyd diddan,
A cherdd, a chân.
Dod i'th wr blant, mwyniant mawr;
Dod ŵyrion i'th dad eurwawr,
A he o hil
Hapus hepil,
Dieiddil, Duw a wyddiad,
Ie, gan mil, egin mad;
Llaw Duw iddynt, llu diddan,
Hil glwys, hael, glân.
Gyr sin i wan gresynol,
I Dduw a wnair; e ddaw 'n ol:
Afiaith ofer
Y sydd is ser;
Gorau arfer, gwawr eurfain,
Moli dy Ner mal dy nain;
Gwiwnef it hwnt, gwynfyd da;
Amen yma!
GWLADGARWCH.
At Richard Morris, Ion. 24, 1754
CAREDIG GYDWLADWR,—Echdoe y derbyniais yr eiddoch o'r namyn un ugeinfed o'r mis sy 'n cerdded. Drwg iawn gennyf glywed ynghylch y peswch brwnt sy 'n eich blino; a meddwl yr wyf nad oes nemawr o'r gwŷr a facer yn y wlad a eill oddef mygfeydd gwenwynig y ddinas fawr fwrllwch yna. Mi adwaen lawer a gollasant eu hiechyd yna mewn llai nag ugeinfed ran o'r amser y buoch chwi yn preswylio ynddi. Duw piau llywodraethu a rhannu 'r bywyd ac iechyd; ac, os mynnai efe, llwyr y dylai Gymru erfyn arno ganiatau ichwi yn hir bob un o'r ddau; oblegid, pe amgen, nis gwn pa beth a ddelai o'n Cymdeithas na 'n hiaith ychwaith. Am ein cenedl, honno a ymdarawai trosti ei hun, gan ddirywio ac ymollwng yn ei chrynswth i fod yn un á chenedí fawr yr Eingl; ac yna y gwiried geiriau 'n drwg ewyllyswyr; sef, na pharhäi ein hiaith oddiar can mlynedd ar wyneb y ddaear. Telid Duw iddynt am hynawsedd eu darogan.
"Aie"? meddwch. Nid oes gennych neb yn eich Cymdeithas onid chwi eich hun a fedr wneuthur ymadferth nag ystum yn y byd tuag at ddangos eich hamcanion buddiol i'r byd. Och fi! Gresyndod mawr yw hynny. Gwae fi na bawn yn eich mysg; ni chai fod arnoch ddim diffyg ysgrifennydd, na dim arall o fewn fy ngallu fi. Ceisied yr aelodau gwasgaredig o'ch Cymdeithas eich cynorthwyo orau gallont tuag at y tipyn llyfryn hwnnw, os oes modd. Rhoed Gwilym Cybi ei law i mewn am lysiau, blodau garddwriaeth; canys nid oes mo 'i well am hynny. Rhoed. Llywelyn ynteu ei ran am hynafiaeth, hanesion, ac historiau, philosophyddiaeth anianol, a'r cyffelyb yr hyn bethau a ŵyr oddi wrthynt orau yng Nghymru, pe cai amser; ond nis gwn i ddim oddi wrthynt. Minnau, ac Ieuan Brydydd Hir ysgatfydd, a rof fy nwy hatling tuag at farddoniaeth, philology, a'r cyffelyb. A thros ben hynny, nid ymdderchafaf, oblegid nas meddaf nag amser na llyfrau cyfaddas i'r fath bethau.
[At John Rowlands, Clegir Mawr, Mon.]
YR ydwyf fi yn talu yma bum swllt a chwecheiniog y mesur am y gwenith Winchester measure. Y mae 'r gwair yn wyth geiniog yr Stone; hynny yw, ugain pwys y cwyr am wyth geiniog; yr haidd yn ddeuswllt a deg ceiniog, a thriswllt y Winchester measure; a phob peth arall yn ol yr un bris.
Mae hi'n awr yn hir amser er pan fu 'm yn Mon; ac yr wyf agos wedi bwrw fy hiraeth am dani. Eto pe cawn le wrth fy modd ynddi, mi ddeuwn iddi eto, er mwyn dysgu Cymraeg i'r plant; onide hwy fyddant cyn y bo hir yn rhy hen i ddysgu; oblegid y mae 'r hynaf yn tynnu at chwe blwydd oed, heb fedru eto un gair o Gymraeg; ac yn fy myw ni chawn gantho ddysgu; oni bai ei fod ymysg plant Cymreig i chware; ac ni fedr ei fam ddim Cymraeg a dâl son am dano, ond tipyn a ddysgais i iddi hi. mae sir y Mwythig yn llawer hyfrytach a rhatach gwlad na hon; ac mae 'n lled edifar gennyf ddyfod yma. Ond eto y mae 'r cyflog yma 'n fwy o gryn swm. 'R wyf yn cael yma yn nghylch dau ugain punt yn y flwyddyn, a llawn lonnaid fy nwylaw o waith i'w wneuthur am danynt. Mae yma gryn farwolaeth yn ein plith. Mi fyddaf weithiau 'n claddu pobl o fesur tri a phedwar yn y dydd. Dyma alwad arnaf i ymweled â'r claf y munudyn yma; felly ffarwel.
GRONW OWEN.
N.B.—Mae fy mrawd Owen ynteu wedi priodi er ys rhwng chwech a saith o flynyddoedd, ac yn byw o hyd yn Nghroes Oswallt yn sir Mwythig, a chanddo naill ai pedwar ai pump o blant. Ond ni welais i mono fo na hwythau er yn nghylch dwy flynedd a hanner neu well. Byddwch wych; a gadewch glywed oddi wrthych pan gyntaf y galloch.
[At William Morris, Ebrill 1, 1754)
A beth a ddaeth o Ned Foulkes, person Llansadwrn? Oherwydd mi glywaf fod ei le fo 'n wag.
[At Richard Morris, Ebrill 9, 1754]
Y CAREDIG GYDWLADWR,—Nid wyf yn ameu nad ydych bellach yn tybio fy mod wedi marw yn gelain gegoer. Ac yn wir fe fu agos i'r peswch a'r pigyn a'm lladd. Nid wyf yn cofio weled erioed gethinach a garwach gauaf. Nid yw 'r wlad oerllom yma ddim yn dygymod à mi 'n iawn. Llawer clytach oedd Swydd y Mwythig. Dyma ddeuddydd o hin wych yn ol yr amser o'r flwyddyn. Nid oes dim yn fy mlino cymaint a darfod i'r pigyn brwnt, a rhyw dra- fferthion eraill, lestair i mi yrru i chwi ganiad erbyn Gwyl Ddewi. Ni ddylai undyn a ystyrio mor ansier yw 'n bywyd, a'n hiechyd, a'n hamser —yn enwedig y sawl a fo megis gweinidog tan arall, fal yr wyf fi—addaw dim yn sicr ac yn ddifeth i neb; oblegid nas gwyddom, o'r naill awr i'r llall, pa beth a ddigwydd i'n rhwystro. Yr oeddwn wedi dechreu caniad i'r tywysog ar y mesur a elwir "Gwawdodyn Hir"; ond nid orffenais ond tri phennill o honi; ac bellach yn anorffen y caiff fod tros byth am a wn i. Ni wiw gennyf yrru y ddarn yna ichwi.
I lately took a fancy to my old acquaintance Anacreon. And as he had some hand in teaching me Greek, I have endeavoured to teach him to talk a little Welsh, and that in metre too.
"Hoff gan hen yw gwên a gwawd;
Bid llanc ddihadl, drwyadl droed;
Os hen an—nien a naid,
Hen yw ei ben lledpen, llwyd,
A synwyr iau sy 'n yr iad."
Observe that there is but the very same number of syllables in the Welsh as are in the Greek;
and I think the Welsh Englyn Proest fully answers.
the scope and meaning of the Ode; and that in
an almost verbatim translation. The more I
know of the Welsh language, the more I love and
admire it; and think in my heart, if we had men
of genius and abilities of my way of thinking, we
should have no need to despair of seeing it in as
flourishing a condition as any other, ancient or
modern.
BEIRNIADAETH.
At William Morris, Meh. 25, Gor. 12, a Hyd. 16, 1754
NID yw 'r Hwyntwyr (chwedl chwithau) onid hanner Cymry; gan eu bod, gan mwyaf, yn hanfod o had pobyl Fflandrys a Norddmandi; a rhyfedd yw allu o naddynt gadw maint yn y byd o'r hen iaith; ac o'r achos hwnnw yn bendifaddeu mi fynnwn iddynt adael ymgeleddu 'r iaith i'r sawl a fedront yn oreu wneuthur hynny, sef pobl Wynedd. Ac os ewyllysiant ddangos eu serch i'r iaith, cymerent arnynt ran fawr o'r gost; ond na feiddient roi na llaw na throed yn y gwaith, rhag ei ddiwyno â'u llediaith ffiaidd. Etwaeth lle bai yn y Deheudir ddyn a chanddo, neu a dybiai fod ganddo, ddawn Awenyddiaeth, bid rydd i hwnnw, o'm rhan i, ganu ei wala; oblegid odid i ddyn awenyddgar gyfeiliorni'n gywilyddus; a diau fod gwaed Cymröaidd yn drechaf yn mhob un o'r cyfryw, o ethryb mail dawn arbennig ein cenedl ni yw Awen; megis y mae dawn yr eildrem, "second sight," yn perthyn i Fryneich Ucheldir yr Alban. Ac oddi wrth y cyffredin hynafiaid, y Derwyddon, yr hanyw pob un o'r ddeu-ddawn. Y Derwyddon, yn ddiddadl. oeddynt hynafiaid ein cenedl ni; ond pa un ai hanfod o honom o waed Troia nis gwn. Pur anhawdd yw gennyf goelio hynny, hyd oni welwyf ychwaneg o eglurdeb nag a welais eto. Diau. gennyf nad yw 'n anrhydedd na pharch i neb hanfod o'r fath wibiaid a chrwydriaid; eto bid i'r gwir gael ei le, pe fae 'm oll yn feibion i Shon Moi, neu Loli Gydau Duon, na ato Duw ini wadu ein rhieni.
Oedd. Oedd, yr hen Dr. Davies o Fallwyd yn
dyall yr iaith Gymraeg yn bur dda, heb law
laweroedd o ieithoedd eraill. Ac nid eisiau dyall
a wnaeth iddo adael allan o'i Eirlyfr gymaint
eiriau, ond brys a blys ei weled wedi dyfod i ben
cyn ei farw. Mae 'n ddigon er peri i galon o
gallestr wylo 'r hidl ddagrau wrth weled fal yr
oedd yr hen Gorph druan yn cwyno yn ei
Ragymadrodd rhag byrred yw hoedl dyn, ac yn
mynegu pa sawl cynnyg a roesai lawer o wŷr
dysgedig ar wneuthur Geirlyfr Cymraeg; ond
bod Duw wedi torri edau 'r einioes cyn i'r un o
honynt, oddigerth un, gael amser i gwblhau ei
waith; ac yntef ei hun yn ennyd fawr o oedran,
gwell oedd ganddo yrru ei lyfr i'r byd heb ei
gwbl orffen, na 'i adael megis erthyl ar ei ol, yn
nwylaw rhyw rai, ysgatfydd, na adawsent iddo
byth weled goleu haul. A diameu mai diolchgar a ddylem oll fod iddo am ei waith, a mi yn
anad neb, oblegid efe a ddysgodd i mi fy Nghymraeg, neu, o'r lleiaf, a'm cadwodd rhag ei cholli yn nhir estron genedl.
MAE gennyf yma yn fy meddiant fy hun, garp o hen lyfr MS. o gywyddau a darewais wrtho yn Nghroes Oswallt, a yrraf yna i chwi, os nad yw 'r cywyddau gennych eisoes. It was written by one that calls himself Edward ap David, in the year 1639. I conclude him to have been a Shropshire Welshman; and, indeed, his llediaith and banglerdra sufficiently show it. Er hynny amor iddo am ei ewyllys da a'i gariad i'r Iaith, er carnbyled oedd ei waith arni. Yr oedd gennyf un arall o gymar i hwn, ond fe aeth hwnnw i law ddrwg, sef y lleidr o daeliwr gan fy mrawd Owen, ac yno y trigodd; a deg i un nad yw bellach gan faned ag us o waith y gwellaif, a'r pen diweddaf o hono yn eirionyn mesur o'r culaf yn barod i'w droi heibio rhag na ddalio un nic ychwaneg. Nid wyf yn cofio pa bethau oedd yn hwnnw, am nad oeddwn y pryd hynny yn bwrw yn ol y barddoniaeth gorau oll, mwy nag a wnaethai Shon Tomas Tudur, y taeliwr, gynt am y Delyn Ledr.
There are more curious old books of our language to be met with in some parts of Shropshire than there are in most parts of Wales. And that plainly shows that the people some generations ago valued themselves upon being Welsh, and loved their native country and language. But now those books are not understood, and consequently not valued. I bought at a bookseller's shop in Oswestry a Drych y Prif Oesoedd, first edition; Dadseiniad Meibion y Daran, or a translation of Bishop Jewel's "Apology" by one Morys Kyffin, of Glasgoed, in the parish of Llansilin, and formerly a Fellow of a College in Oxford, into excellent Welsh; and Bishop Davies's Llythyr at Cymbry, prefixed to Salesbury's New Testament in Queen Elizabeth's time; and Prifannau Sanctaidd, etc., by Dr. Brough, Dean of Gloucester, and translated into very good Welsh by Rowland Vychan, of Caer Gai; and all for eightpence. The first translation of the New Testament by Salesbury I met with in a certain man's hands in that town, and had it in exchange for a silly, simple English book, "God's Judgment against Murder."
Wrth hynny chwi ellwch weled nad oes nemawr o fri ar ein hiaith yn y wlad honno. Mi gefais yno. hefyd Eirlyfr y Dr. Davies, nid llawer gwaeth na newydd, am chwe swllt. Had I, when I lived in Oswestry, been as nice a critic in valuable old books as I was in voluble young women, I might have furnished myself pretty moderately; but who can put an old head upon young shoulders? Nid oedd gennyf yr amser hwnnw ddim blas ar Gymraeg na phrydyddiaeth; na dealltwriaeth, na chelfyddyd yn y byd ynddynt ychwaith.
Wyf, etc.,
GRONWY DDU.
YR ANWYL GYFAILL,—Dyma'r eiddoch o'r 11g wedi dyfod i'm llaw ddoe; ac yn wir rhaid yw addef fy mod wedi bod yn lled ddiog yn ddiweddar am na buaswn yn gyrru yna ryw awgrym i ddangos fy mod yn fyw cyn hyn. Ond bellach, bellach, dyma fi yn ei rhoi hi ar do, ac mi orffennaf fy llythyr y foru, oddigerth i'r cywion personiaid yma fy hudo allan i ganlyn llosgyrnau cŵn ac i wylltio ceinachod. Maent ar dynnu fy llygaid i bob wythnos, ddwywaith o'r lleiaf, a phrin y llyfasaf eu nacäu. However a little exercise does no hurt, and the young gentlemen are very civil.
Mi fum yn brysur yn nghylch diwedd y Gorffennaf yn parotoi i gyfarfod yr esgob i geisiaw ei dadawl ganiatad i bregethu, etc., yr hyn a gefais yn ddigon rhwydd am fy arian; ond nis gorfu arnaf gymeryd yr un licence am yr ysgol. Ac er pan glywais y newydd o'r Castell Coch mi fum yn dal wrthi ddycna gallwn i barotoi ychydig o bregethau tra bai 'r dydd yn hir, fal y gallwn gael y gauaf i brydyddu wrth olau 'r tân fal arferol. Nid gwaith i'w wneuthur wrth ganwyll ddimau yw prydyddu; ac nid mewn undydd unnos yr adeiladir y Castell Coch.
Ai e? Mae Elisa Gowper wedi derio dannedd y Monwyson llesgethan? Och o druain! Drwg yw 'r byd fod yr Awen cyn brined yn Mon nad ellid gwneuthur i'r carp safnrhwth, tafod-ddrwg hwnnw wastatu. Ond gwir sy dda, ni thâli ddyfetha prydyddiaeth wrtho, oddigerth y caid rhyw lipryn cynysgaeddol o'r un ddawn ag Elis ei hun; sef yw hynny, nid dawn awenydd, ond dawn ymdafodi ac ymserthu 'n fustlaidd, ddrewedig anaele. Fe debygai dyn wrth dafod ac araith Elisa, mai ar laeth gâst y magesid ef, yn nghymysg ac Album Graecum; ac mai swydd ei dafod cyn dysgu siarad oedd llyfu, ac onide ni buasai bosibl iddo oddef blas ac archwaeth budreddi ei ymadrodd ei hun. Mi fum i unwaith yn ngwmni Elis yn Llanrwst, ers yn nghylch pedair blynedd ar ddeg i 'rwan, yn ymryson prydyddu extempore, ac fe ddywaid fy mod yn barotaf bachgen a welsai erioed; ac eto er hyn, yn y diwedd, ni wasanaethai dim iddo oni chai o'r lleban arall o Sir Fon oedd yn ffrind iddo, fy lainio i. A hynny a wnaethent oni buasai clochydd Caernarfon oedd gyda mi. Tybio yr wyf mai prifio 'n rhy dost o rychor iddo a wnaethum yn ei arfau ei hun, sef tychanu, a galw enwau drwg ar gân.
Ydyw. Y mae offeiriad Walton yn cyweirio croen y Delyn Ledr bob munud o seibiant a gaffo; ond chwi a'i cewch adref cyn pen hir rhag eich marw o hiraeth. Er mwyn dyn a gaed fyth afael ar yr hen Farcutiaid, y soniasoch am danynt? Gwaith Edmwnd Prys, etc.? Mi welais ers talm o flynyddoedd, pan oeddwn yn Lleyn, holl ymrysonion a gorchestion Emwnt Prys a William Cynwal, gan yr hen Berson Price o Edeyrn—Price Pentraeth gynt, a Pherson Llanfair yn Nhwll Gwimbill, alias Pwll Gwyngyll —yr hwn oedd or ŵyr i'r Archddiacon.
Nid hen ddyn dwl oedd yr Archddiacon, a chofio yr amser yr oedd yn byw ynddo. Eto. yr wyf fi yn cyfrif William Cynwal yn well bardd o ran naturiol anian ac athrylith; ond bod Emwnt yn rhagori mewn dysg. Nid oedd Cynwal druan, ysgolhaig bol clawdd, ond megist ymladd a'r dyrnau moelion yn erbyn tarian a llurig,—
"A'r gwanna ddyn â gwain ddur
A dyr nerth a dwrn Arthur,"
chwedl yr hen bobl gynt.
E ddigwydd weithiau i natur ei hunan, heb gynorthwy dysg, wneuthur rhyfeddodau. Eto nid yw hynny onid damwain tra anghyffredin. Ac er mai prydferthwch dawn Duw yw naturiol athrylith, ac mai perffeithrwydd natur yw dysg, eto dewisach fyddai gennyf fi feddu rhan gym hedrol o bob un o'r ddwy, na rhagori hyd yr eithaf yn yr un o'r ddwy yn unig heb gyfran o'r llall. Mi glywais hen chwedl a ddywedir yn gyffredin ar Ddafydd ap Gwilym, sef—
"Gwell yw Awen i ganu
Na phen doeth ac na phin du."
Gwir yw am brydydd; ac felly y dywedai 'r
Lladinwyr, "Poeta nascitur, non fit," hynny yw,
"Prydydd a enir, nis gwneir "; mal pe dywedid,
Nid ellir prydydd o'r doethaf a dysgedicaf tan
haul, oni bydd wrth natur yn dueddol i hynny,
a chwedi ei gynhysgaeddu gan Dduw ag Awenydd naturiol yn ei enedigaeth. Os bydd i ddyn
synwyr cyffredin, a chyda hynny, astudrwydd,
parhad, ac ewyllysgarwch, fe ellir o honaw
eglwyswr, cyfreithiwr, gwladwr, neu philsophydd. Ond pe rhoech yr holl gyffiriau hynny
yn nghyd, a chant o'r fath, ni wnaech byth
hanner prydydd. Nid oes a wna brydydd onid
Duw a Natur. Ni cheisiaf amgen tyst o hyn na
M. T. Cicero. Pwy ffraethaf areithydd? Pwy
ddyfnach a doethach philosophydd? Ar air,
pwy fwy ei ysfa, a'i ddinc, a i awydd i brydyddu?
Ac eto pwy waeth prydydd? Trwstan o fardd
yn ddiameu ydoedd; ac odid ei gymar o wro
ddysg, oddigerth yr hen Ddr. Davies o Fallwyd.
Eto, er argymhenu ac ymresymu o honaf fal hyn,
nis mynwn i neb dybio mai afraid i brydydd fod
yn wr o ddysg. Nage; nid felly y mae ychwaith.
Er na ddichon dysg wneuthur prydydd, eto hi a
ddichon ei wellhau. Cymerwch ddau frawd o'r
un anian, o'r un galluoedd o gorph a synwyr, ac
o'r un Awenyddol dueddiad, a rhowch i'r naill
ddysg, a gomeddwch i'r llall, ac yno y gwelir y
rhagoriaeth. Er na ddichon y saer maen wneuthur maint y mymryn o faen mynor, eto fe
ddichon ei 'sgythru a'i gaboli, ei lunio ai ffurfio,
a gwneuthur delw brydferth o honaw, yr hyn ni
ddichon byth ei wneuthur o'r grut bras a'r
gwenithfaen.
Huzza! huzza! Mae Mr. Mosson yn ddyn da. Dyma lythyr oddi wrtho yn mynegu fod Dr. Wynne o Ddolgellau wedi marw yn gelain. Rhaid taflu hwn o'm llaw a'i yrru i ffordd i gael amser i ysgrifennu i Allt Fadog ac at yr Iarll, etc. Nid allaf gymeryd amser i ddywedyd dim ychwaneg, ond bendith Dduw i chwi am roi Mr. Mosson ar waith, ac iddo yntef am ysgrifennu cyn cynted.
Yours, etc., etc.,
GORONWY DDU.
[At Richard Morris, Tach. 9, 1754]
YR ych yn gofyn pam yr wyf yn gadael i'r Awen rydu? Rhôf a Duw pe cawn bris gweddol am dani mi a'i gwerthwn hi. Beth a dal Awen lle bo dyn mewn llymdra a thylodi? a phwy a gaiff hamidden i fyfyrio tra bo o'r naill wasgfa i'r llall mewn blinder ysbrydol a chorfforol?
HIRAETH.
At William Morris, Rhag. 2, 1754
Wel! Wel mi welaf nad oes dim siawns am ddyfod i Gymru. Nid oes mo 'r help. Yr wyf yn gwbl foddlon i'm tynged, doed a ddel; a gwell o lawer i mi na feddyliwyf byth am Gymru; ond rhoi fy llwyr egni i ollwng y Gymraeg dros gol, fal y mae y rhan fwyaf o'm cydwladwyr hyd Loegr yn ceisio gwneuthur, hyd onid yw yn swil ganddynt glywed son am Gymru a Chymraeg. Eto fal y dywaid y philsophydd Paganaidd pan oedd yn methu dygymod â Christionogaeth o herwydd ei symlrwydd, a'i hawsdra, ac anysgeidiaeth yr athrawon:— Sit anima mea cum Philosophis; hynny yw: "Bid fy enaid i gyda 'r Philosophy ddion;" fel y, Bid fy nghorff innau gyda 'r Cymry," ie a'm rhandir, a'm coelbren, a'm hetifeddiaeth yn y byd yma, os gwel Duw yn dda. Pe medrwn unwaith gael y gorau arnaf fy hun, a thraethu 'r naturiol hoffder sydd gennyf i'm hiaith, a'm gwlad, dyn a fyddwn. Ond beth a dal siarad? A fo da gan Dduw, ys dir.
Na ddo. Ni ddaeth Bob Owen ir cyrrau yma eto, am a wn i. Duw o'r nef a'i dyco 'n ddiangol! Mae fy nghalon yn gofidio trosto bob munud gan arwed yr hin ir mordwywr bychan. Fe fu gefnder i mi yma 'n ddiweddar o baith a Mynydd Bodafon, ac yn ol yr hanes a gefais gan hwnnw, nid yw Bob gyffelyb i wneuthur Cymraeg Mon fawr brinach er a ddyco yma o honi. He tells me they are fond of learning English from him, and so never trouble their heads about teaching him Welsh. He said he would take him for a week with him to Agnes Gronow, my aunt. If so, I am sure he will be very much made of, and will hear plenty of Welsh, while he has time to stay. God send him a fair wind and a good passage. I do not care how soon I see my little boy. Er mwyn dyn gadewch gael Ystori y Maen gyda'r Efengyl yn gyfan o'i phen. Mae 'n debyg mai ci brathog oedd y ci, a'r Manach yn rhoi prawf ar wyrthiau 'r Efengyl i'w wastrodedd o. Ond pwy oedd y dyn a feddyliodd am wyrthiau 'r maen? Garddwriaeth, meddwch, yw 'r genuine exercise. Fe allai mai e. Gwyn eich byd chwi sy 'n perchen gardd. Nid oes gennyf fi ddim o'r gwaith hwnnw i wneuthur yma ysywaeth! Ond ni chlywais i son fod Selyf yn ymhel a rhaw bal erioed; ac os gorfu i Adda ryforio, nid oes gennyf nemawr o gwyn iddo; ei fai ei hun oedd.
Och fi! Pa fodd yr aeth Llanrhaiadr nesaf i Ddinbych heibio heb wybod i neb? Y rhent orau. yn Esgobaeth Bangor! Dyma 'r Aldramon yn dywedyd ei bod yn ddigon o hyd yn wag; a bod Mr. John Ellis o Fangor wedi ei gwrthod hi. Mae hi yn 150 per annum, medd o. Gwych a fuasai gael gafael arni hi.
Aie? Prydyddiaeth esmwyth a chwenychai Mr. Ellis? As much as to say my numbers do not glide smoothly enough. Os ynteu y peth a all plentyn ei amgyffred sydd esmwyth, gwell i mi wneuthur ambell ddyri; ond gan gofio, onid yw Llyfr y Vicar, a'r Cerddlyfr yn ddigon helaeth yn eich plith? Eto ni ddyall plentyn deuddeg oed un pennill o ddim byd yn yr un o'r ddau. That is talking to no purpose I never wrote anything designedly for children; no, nor fools, nor old women; and while my brains are sound, never shall. Gwaed llosgwrn y gath! Ac nid oes gan Fardd ddim i'w wneyd ond clytio mân ddyriau duwiol i hoglanciau a llancesi i'w dysgu, i ysgafnhau baich yr offeiriaid? A phe bai un gan ffoled a gwneuthur hynny, odid y ceid gan y ilanciau tywod a'r merched nyddu fod mor fwyn a chymeryd y rhei'ny yn gyfnewid yn lle eu hen ddyriau anwylion a ddysgasant er ys llawer blwyddyn.
CYWYDD Y CALAN.
At William Morris, Rhag. 21, 1755
DEAR SIR,—Mi dderbyniais yr eiddoch o'r 4dd; ond Duw a'm cysuro, prin y medrwn ei ddarllen gan glafed oeddwn. I Dduw y bo 'r diolch, dyma fi ar fy nhraed unwaith eto, ond yn ddigon egwan a llesg, e ŵyr Duw. Yr oeddwn ar y ddegfed wedi myned i Crosby i edrych am fy anwyl gyfaill a'm cydwladwr a'm cyfenw, Mr. Edward Owen, Offeiriad y lle, ac yno'r arhosais y noson yn fawr fy nghroesaw yn nhy Mr. Halsall, patron fy nghyfaill, ac a aethym i'm gwely yn iach lawen gyda Mr. Owen; ond cyn y bore yr oeddwn yn drymglaf o ffefer; ond tybio yr oeddwn mai 'r acsus ydoedd; ac felly ymaith a mi adref drannoeth, a digon o waith a gefais i ddringo ar gefn fy ngheffyl. A dydd Sul fe ddaeth Mr. Owen yma, o hono ei hun, i bregethu trosof, ac a yrrodd yn union i gyrchu'r Dr. Robinson a Mr. Gerard yr apothecari ataf; a thrwy help Duw fe ffynnodd ganddynt fedru gwastrodedd ac ymlid y cryd a'r pigin; ond y mae'r peswch yn glynu yma eto. Mi wylais lawer hidl ddeigryn hallt wrth feddwl am fy Rhobyn fychan sydd yn Mon. Ond beth a dal wylo? gwell cadw fy nagrau i waith angenrheitiach. A body and mind harassed and worn out with cares and afflictions cannot hold out any long while. Gwnaed Duw a fynno! Ni bum yn glaf erioed o'r blaen, am hynny mi wneuthym ryw fath ar gywydd i hwn, sef y Calan, o'r old style, Ionawr y ddeuddegfed.
CYWYDD I'R CALAN.
Ow! hen Galan, hoen Gwyliau,
Cychwynbryd fy mywyd mau,
Ond diddan im' gynt oeddit
Yn Ionor? Hawdd amor it'!
Os bu lawen fy ngeni.
Ond teg addef hyn i ti?
Gennyt y cefais gynnydd
I weled awr o liw dydd.
Pa ddydd a roes im oesi,
Trwy rad Ion ein Tad, ond ti?
Adrodd pob blwydd o'm hoedran,
O ddiwyd rif, oedd dy ran;
A gwelwyd, ben pob Gwyliau,
Mai tycio wnaeth y maeth mau;
Er yn faban gwan gwecry,
Hyd yn iefanc hoglanc hy;
O ddiofal bydd iefanc,
Yn wr ffraw goruwch llaw llanc.
Ac ar Galan, in anad
Un dydd, bum o wr yn dad.
Finnau ni bum yn f einioes
Eto 'n fyr it' o iawn foes.
Melus im' ydoedd moli
A thra mawrhau d' wyrthiau di,
Ac eilio iti, Galan,
Ryw gelfydd gywydd neu gân.
Dy gywyddau da gweddynt
A'th fawl; buost gedawl gynt.
Weithion paham yr aethost,
Er Duw, wrthyf fi mor dost?
Rhoddaist im ddyrnod rhyddwys
O boen, a gwae fi o'i bwys!
Mennaist o fewn fy mynwes
A chlefyd o gryd a gwres,
A dirwayw 'r poethgryd eirias
Yn nglŷn â phigyn a phas.
Ai o ddig lid ydd wy glaf?
Bernwch, ai cudab arnaf?
Od yw serch, nawdd Duw o'i swm,
Ai cudab yw rhoi codwm
A chystudd di fudd i f' ais,
I'm gwanu am a genais?
Ar hwrdd os dy gwrdd a gaf
Eilchwyl, mi a ddiolchaf.
Ni chaf amser i 'mdderu;
Diengaist yn rhydd, y Dydd du;
Rhedaist fal llif rhuadwy
I'r môr, ac ni 'th weler mwy;
A dygaist ddryll diwegi,
Heb air son, o'm byroes i;
Difwynaist flodau f' einioes;
Bellach pand yw fyrrach f' oes?
O Galan hwnt i'w gilydd
Angau yn nesau y sydd;
Gwnelwyf à nef dangnefedd
Yn f' oes, fel nad ofnwyf fedd.
A phoed hedd cyn fy medd mau,
Faith ddwthwn, rhof â thithau.
Dy gyfenw ni ddifenwaf,
Os ei gwrdd yn f' oes a gaf.
Ni thaeraf annoeth eiriau,
Gam gwl, er fy mygwl mau.
Bawaidd os hyn o'm bywyd,
Rhwy fu 'r bai rhôf fi a'r byd;
Addefer di yn ddifai,
Rhôf fi a'r byd rhwy fu 'r bai.
Duw gwyn a'm diwygio i,
A chymod heddwch imi
A ddel cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yno daw Gwyliau llawen
I mi ac i bawb. Amen.
Mi gefais lythyr oddiwrth y Llew yr un diwrnod a'ch un chwithau. Yr oedd pawb yn iach yno, ac ynteu ar gychwyn i Lundain. Yr oedd yn peri i mi gymeryd calon—not to be disheartened: ond—
"Hawdd yw d'wedyd Dacw'r Wyddfa';
Nid eir trosti ond yn ara';"
eto yr wyf yn tybio fod fy nghalon i o ddur neu o ryw ddefnydd rhy wydn a pharhaus i dorri.
Mae, fel y byddwch gan fwyned ag ymwrando, eisiau am offeiriadaeta imi erbyn Calanmai; oblegid mi roddais warning i'm hen feistr er ys mis neu well, drwy rhyw ymgom a fuasai rhyngof a'r Mynglwyd yn nghylch myned yn Offeiriad Cymreig yn Llundain; a chan nad wyf yn clywed gair oddi wrtho, I mistrust that the scheme has miscarried, and almost repent of my rash warning here. My circumstances will not allow me to be idle for one week.
MARW ELIN.
At y Parch. Hugh Williams, Aberffraw, Ebrill 25, 1755
DEAR W———s,—Y munudyn yma agos y cefais eich llythyr o'r ddegfed, a gwych gennyf glywed pa fodd y rhannwyd y lleoedd yna, er nas gwaeth i mi o nodwydd pwy a'u caffo am y diengwyf i rhag cael yr un o honynt. Can diolch i chwi am ymofyn; ond yr wyf yn tybio mai yn Lloegr y cyst i mi adael fy esgyrn, er maint fy ewyllys eu dwyn i Gymru. Ni fyddai waeth gennyfi o fymryn wlad arall o Gymru na Mon; ond odid i'm ddyfod byth ychwaneg i unlle yn Nghymru, canys dyma fi yn myned yn union i Lundain, cyn pythefnos o'r haf, lle mae 'r Cymrodorion yn addo i mi a'r teulu ddigon o gynhaliaeth hyd oni chaffont i mi Bersonoliaeth yn rhyw wlad. Mi gaf gyflog am fod yn Ysgrifennydd ac yn Gyfieithydd, &c.. iddynt, ac y maent yn bwriadu llogi rhyw eglwys neu gapel, a thalu i minnau am offeiriadu yn Gymraeg ynddi unwaith bob Sul. Peth cyffredin yn Llundain yw bod Gwasanaeth Ffrengig, Seisnig, &c., yn yr un eglwys ar yr un diwrnod, ond ar amrafael oriau. Mae'nt yn rhoi imi addewidion mawr; nis gwn i beth a wnant; ond gyda Duw, mi fynnaf weled. Felly oni fedrwch ddyfod y ffordd yma ynghylch Calanmai, neu fy nghyfarfod yn rhyw le ar y ffordd i Lundain (yn Nghaer neu Mwythig), odid ini byth weled. ein gilydd nag ysgwyd llaw ond hynny. Duw er hynny ŵyr orau, a'i ewyllys ef a wneler.
Och fi! mi gefais innau anfeidrol drymder er
pan ysgrifennais atoch o'r blaen. Fe fu farw fy
unig eneth anwyl i yr hon a gleddais y Gwener
diwaethaf. Dedwydd gyfnewid iddi hi, f' enaid.
bach! ydoedd hwnnw, ac oni bai wendid Natur
ddynol, ni byddai i ninnau ddim achos i dristhau
llawer, erbyn ystyried ol a blaen. Dyma ddarn
o'r Marwnad, ond ei bod yn anorffen eto. Awdl
yw o amryw fesurau yn terfynu yn yr un brifodl trwyddi, 'n ol rheolau 'r hen Feirdd:—
MARWNAD ELIN, UNIG FERCH Y BARDD
MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'r hyd f' wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon.
ANWYLYD, oleubryd lân,
Angyles gynnes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liw ser, ni thâl son!
Oedd fwyn 'llais, addfain ei llun,
Afieuthus, groesawus swn
I'w thad, ys ymddifad ddyn!
Ymddifad ei thad, a thwn
Archoll yn ei friwdoll fron,
Yn nghur digysur, da gwn,
Yn gaeth o'm hiraeth am hon.
ER pan gollais feinais fanwl,
Gnawd yw erddi ganiad awrddwl
A meddwl am ei moddion;
Pan gofiwyf, poen a gyfyd,
A dyfryd gur i'm dwyfron,
A golyth yw y galon
Erddi, ac am dani 'n don,
A saeth yw son,
Eneth union,
Am anwyl eiriau mwynion—a ddywaid,
A'i heiddil gannaid ddwylaw gwynion.
YN iach, f' enaid hoenwych fanon,
Neli, 'n iach eilwaith, lân ei chalon,
Yn iach, fy merch lwysfach, lon!—f angyles,
Gorffwys ym mynwes monwent Walton,
NES hwnt dygynnull y saint gwynion.
Gan lef dolef dilyth genhadon;
Pan roddo 'r ddaear ei gwâr gwirion,
Pan gyrcher lluoedd moroedd mawrion,
Cai, f' enaid, deg euraid goron-dithau,
A lle yn ngolau llu angylion.
MAENT yn fy nghyngori i adael y wraig gyda
rhai o'i cheraint tros bum wythnos neu
chwech, hyd oni sefydlwyf; mae hithau 'n naghau
mynd at ei mam, ac yn dewis mynd i Sir Fon
neu i rywle at rai o'm ceraint i; ond nid oes gennyf
i ym Mon ddim ceraint a dâl faw; ac felly rhaid
i mi ei chymeryd gyda mi, heb y gwaethaf imi,
Gwyn ei fyd a fedrai feddwl am ryw le yn
Nghymru lle gallwn ei gadael tros fis trwy dalu.
Er mwyn Duw gyrrwch yma yn union, gynted ag
y caffoch hwn, heb golli un post.
Ydwyf yr eiddoch,
GORONWY DDU.
DIWEDD CYFROL I.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Bydd y rhan olaf yn yr ail gyfrol.
- ↑ Gŵr ieuanc iawn, deunaw oed, wyf, genedigol o blwy Llanfair Mathafarn Eithaf, yng ngwlad Mon. Trwy fawr ddiwydrwydd fy rhieni tlodion, bum yn ysgol gyhoeddus Bangor o'r flwyddyn 1737 hyd 1741. Yr adeg honno daethum i'r terfyn osodwyd imi, eis trwy'r ysgol, a dychwelais at fy rhieni.
- ↑ Bu fy mam farw, priododd fy nhad, a gorfod i mi ymdaraw fy hun ac, heb ymarfer â gwaith, nis gwn pa fodd i fyw. Nid yw Dysgeidiaeth ond goleu ychwanegol, trwy'r hwn y gwelaf, yn fwy eglur, yr anedwyddwch sydd o'm blaen. Os cyfrifir tlodi yn haeddiant, tybiaf mai myfi sy'n haeddu'th ffafr fwyaf.,
At Owen Meurig.
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.