Hynafiaethau Edeyrnion (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hynafiaethau Edeyrnion (testun cyfansawdd)

gan Hugh Williams (Hywel Cernyw)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Hynafiaethau Edeyrnion

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Edeirnion
ar Wicipedia


HYNAFIAETHAU

EDEYRNION

SEF

Traddodiadau, Chwedlau, Hynodion, Eisteddfodau
Ac Enwogion, Cwmwd Edeyrnion.

DAN OLYGIAETH

HYWEL CERNYW

CORWEN: ARGRAFFWYD GAN THOMAS EDMUNDS.

CYHOEDDEDIG GAN R. HUGHES, TY'NYCEFN.

——————

Pris Wyth Ceiniog.

HYNAFIAETHAU

EDEYRNION

SEF

Traddodiadau, Chwedlau, Hynodion, Eisteddfodau
Ac Enwogion, Cwmwd Edeyrnion.

DAN OLYGIAETH

HYWEL CERNYW

CORWEN: ARGRAFFWYD GAN THOMAS EDMUNDS.

CYHOEDDEDIG GAN R. HUGHES, TY'NYCEFN.

——————

MDCCCLXXVIII

Cynnwys[1]

SYLWADAU ARWEINIOL

Y MODD y daeth y llyfryn bychan hwn i fodolaeth sydd fel y canlyn. Cynygiwyd gwobr gan Mr. R. Hughes, Ty'nycefn, am y Traethawd goreu ar "Hynafiaethau Edeyrnion," ar gyfer Eisteddfod Gadeiriol Corwen yn 1874. Y beirniad oedd y Proffeswr Peter (Ioan Pedr), Bala, yr hwn a ddyfarnodd y wobr i Mr. T. Williams, Swyddfa yr Advertizer, Croesoswallt, brodor o Gorwen, a'r hwn sydd yn llenor medrus, ac yn teimlo llawer o ddyddordeb mewn pynciau hynafiaethol. Addawodd yr ysgrifenydd gyfieithu y traethawd hwn, a gwneud rhai sylwadau ychwanegol. Anogid ef at y gwaith hefyd gan y beirniad dysgedig a hynaws Ioan Pedr. Ond yn unol â chynghor awdwr y traethawd ei hunan, barnwyd drachefn mai gwell oedd adeiladu y traethawd o'r newydd; ac felly y gwnaed, gan wneud defnydd, fodd bynag, o gynllun a sylwadau Mr. Williams pan y bernid hyny yn oreu.

Yr awdurdodau yr ymgynghorwyd â hwy oeddynt, Cymru, gan y Parch. O. Jones; Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, gan Gweirydd ab Rhys; History of the Diocese of St. Asaph, by Rev. D. R. Thomas; Darlithoedd O. Jones; Myvyrian Archeology; Y Gwyliedydd; Gorchestion Beirdd Cymru; Enwogion Cymru, gan I. Foulkes; Methodistiaeth Cymru; Golud yr Oes; Cymru Fu, &c. Yr oedd y llafur yn fwy o gryn lawer nag y tybiodd yr ysgrifen- ydd y buasai ar y cyntaf, a'i bryder yn fynych oedd nid pa beth i'w gael i fewn, ond pa bethau i'w gadacl allan. Yr oedd ganddo ddigon o wellt, beth bynag, i wneud priddfeini, ond y darllenydd sydd i benderfynu i ba raddau y llwyddodd. Gallesid gwneud cyfrol lawer helaethach, ond cawsai y darllenydd, wrth gwrs, y pleser o dalu rhagor am dani. Prin y gellir dysgwyl i Gymru benbaladr deinlo dyddordeb yn y rhandir hwn, ac felly gan y bydd y cylchrediad yn gyfyngedig, nid oes lle i ddysgwyl nemawr elw i neb.

Buasai yn dda genyf pe buaswn wedi cael rhagor o amser mewn trefn i wneud y gwaith yn berffeithiach, ond rhaid ei adael fel y mae, gan obeithio y cwyd awydd mewn rhywrai i fyfyrio rhyw gymaint ar hanes eu hardal, "gan ystyried y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd,"

Corwen, Ion., 1878.

H. CERNYW WILLIAMS.

LLANSANTFFRAID GLYN DYFRDWY

Y mae y plwyf, yr hwn oedd gynt yn gysylltiedig â Chorwen, yn gorwedd i'r gogledd-ddwyrain yn sir Feirionydd, yn taro ar sir Ddinbych, ac yn cael ei ddyfrhau gan yr afon Dyfrdwy. Cynwysa bedwar cant a haner o erwau o dir llafur a phorfa, Cauwyd yr holl dir anniwylliedig drwy gyd-ddealltwriaeth heddychol rhwng y tirfeddianwyr yn y flwyddyn 1807. Ymunir â'r Dyfrdwy yn y plwyf hwn gan yr afon fechan Morwynion, sydd yn llifo i lawr o'r Morfydd. Y mae y golygfeydd amgylchynol yn dra amrywiol. Wrth syllu ar y dyffryn o safle fanteisiol uwchlaw Rhagad, gellir gweled yr afon yn ymdroelli fel sarff:

"Darwena'n swynol ar y doldir tonog,
Y llwyni hardd a'r bronydd mân twmpathog."-GLASYNYS

Gellir gweled dyffryn a mynydd, dôl a bryn, bob un yn ei brydferthwch ei hun, yn chwareu ei ran yn yr olygfa geinferth. Y mae Eglwys y plwyf yn ei ffurf bresenol wedi ei hadeiladu yn nechreu yr ail ganrif ar bymtheg, gan i orlifiad y Dyfrdwy lwyr ysgubo yr adeilad blaenorol, gan ei roddi yn anrheg i'r môr. Ceir y penill canlynol ar lafar gwlad:-

"Dyfrdwy, Dyfrdwy fawr ei naid,
Aeth ag Eglwys Llansantffraid,
Y llyfrau bendigedig,
A'r gwpan arian hefyd."

Gobeithir fod awdwr y penill yn fwy cywir fel hanesydd nag ydyw o gywrain fel bardd. Ceir tair ywen o dyfiant ardderchog, a hen yr olwg arnynt, yn y fynwent, pa rai ydynt wedi gollwng eu dagrau i eneinio beddau llawer cenedlaeth. Darfu un Griffith Roberts, yr hwn a fu farw yn 1812, adael £20 yn ei ewyllys, llogau yr hyn sydd i'w rhanu rhwng tlodion yr ardal ar foreu dydd Nadolig. Ceir tai ar fin y Dyfrdwy, yn agos i gapel y Bedyddwyr, yn dwyn yr enw "Carchardy Owain Glyndwr;" a dywedir y byddai yr hen wron enwog hwnw yn cadw ei garcharorion rhyfel yn y lle. Yr ochr arall i'r afon, yn nghyfeiriad Llangollen, mae cae a elwir Dôl Penni, a'r traddodiad ydyw fod Owain unwaith wedi gosod nifer o bolion yn y maes hwn, a gwisgo pob un o honynt mewn gwisg filwraidd, er mwyn twyllo byddin y Sacson. Llwyddodd y ddyfais. Ymosodwyd yn ddidrugaredd ar y milwyr pren, y rhai nad oeddynt fymryn gwaeth; ac wedi i'r gelyn ddarfod ei saethau, ymosodwyd arno gan Owain. Bu brwydrau gwaedlyd rhwng Owain Glyndwr ac Arglwydd Grey o Ruthyn yn y parthau hyn, ond o'r diwedd gorfu i'r diweddaf dalu deng mil o farciau i'r blaenaf, a phriodi Jane ei bedwaredd ferch. Priodas ryfedd oedd hòno, ac nid oes genym ond gobeithio eu bod wedi byw yn ddedwydd hyd wahaniad angeu. Wele yn canlyn restr o Berigloriaid y plwyf o'r flwyddyn 1537 hyd yn awr:-Thomas ap Howel Vychan, 1537; Thomas ap John, 1556; David Labenton, 1560; Edward Jones, 1570; Maurice Davies, 1573; J. Ellis, 1587; R. Griffith, 1642; Thomas Jones, 1660; Edward Lloyd, 1664; Jenkin Maesmore, 1664; William Williams, 1702; James Langford, 1720; E. V. Pughe, 1771; Owen Lewis, 1781; Robert Prichard, 1798; Edward Roberts, 1799; John Hughes, 1812; J. Williams, 1835; D. Evans, 1862. Yr enwadau eraill yn y plwyf ydynt y Methodistiaid Calfinaidd, y rhai a ddechreuasant trwy gynal Ysgol Sul tua dechreu y ganrif hon. Adeiladasant gapel yn gynar yn y ganrif hon. Codasant gapel newydd hardd yn 1872. Y Bedyddwyr a ddechreuasant gynal Ysgol Sul yn llofft y Grouse. Codwyd capel yn 1832, yr hwn a helaethwyd yn 1850. Yn gysylltiedig â'r capel hwn ceir mynwent helaeth. Poblogaeth y plwyf, yn ol deiliadeb 1871, oedd 202.

CORWEN

Y mae Corwen yn un o blwyfau Edeyrnion, ac yn dref farchnad. Ystyr y gair, medd rhai, yw Côr-wen (the white choir); medd eraill, Corvaen, gan olygu careg mewn cylch oddiwrth y groes a geir yn y fynwent, yr hon oedd mewn bod, mae'n debyg, o flaen yr Eglwys. Dywed eraill mai oddiwrth Corwena, mam Beli a Bran, y deilliodd yr enw; ac eraill drachefn mai Caerowain yw y gwir enw. Dyna ddigon o ddewis i'r darllenydd, ond gwell genym ni fabwysiadu y syniad cyntaf. Pan ymosodwyd ar Ogledd Cymru gan Henri II., yn 1165, neu 1163, fel y nodir yn y Myvyrian, (gwel "Brut y Tywysogion," tudal. 712), daeth ef a'i lu i wersyllu ar fryn Berwyn, yn agos i'r dref hon. Cyfarfyddwyd ef gan fyddinoedd unedig y Cymry, sef byddin y Gogledd, dan arweiniad Owain Gwynedd a'i frawd Cadwaladr; byddin y Deheubarth, dan orchymyn Rhys ab Gruffydd; Powys, dan Owain Cyfeiliawg, a meibion Madoc ab Meredydd; gwyr y berfeddwlad rhwng Gwy a Hafren, dan meibion Madoc ap Idnerth. Gwersyllodd y byddinoedd unedig hyn gerllaw Castell Crogen, a dechreuasant ffurfio amddiffynfa gadarn â'i henw Caer Drewyn, o fewn saith milldir i wersyll y Normaniaid, yn agos i Gastell y Waun. Ar ol hir wylied eu gilydd, ac i luaws o fân ysgarmesoedd gymeryd lle, gorthrechwyd byddinoedd y brenin uchelffroen mor dost, fel y bu raid iddo encilio ar ffrwst am nodded i fynydd Berwyn. Ymddygodd y brenin yn greulon dros ben at y rhai a ddaethant i'w afael, gan yr addefa Hollinshed, ei fawrygwr, ddarfod iddo dynu llygaid yr hoglanciau ieuainc, hollti eu trwynau, a llenwi clustiau amryw foneddigesau. Yr un yw rhyfel yn mhob oes, ac o dan ei ddylanwad gwneir y creulon yn saith creulonach. Mae braidd yn sicr mai y fuddugoliaeth hon yw testun cân Owain Cyfeiliog, yr hon a geir yn y Myvyrian Archæology, tudal. 140, dan yr enw "Hirlas Einir;" a mawr y ganmoliaeth a rydd yr hen fardd i Fugelydd Hafren, balch eu clywed-y ddau lew, sef dau fab Ynyr, cenawon Goronwy, &c.

Yr oedd y lle a elwir Caer Drewyn yn cael ei amddiffyn gan fur cadarn, olion yr hwn sydd eto i'w weled, yn gynwysedig o geryg rhyddion wedi eu gosod yn nghyd, yn rhyw dair llath o led, ac yn tynu at filldir o amgylchedd. Defnyddid y Gaer hefyd gan y dewr Owain Glyndwr. Pa ryfedd hyny, gan mai rhyw dair milldir oddiyma, ar y ffordd i Langollen, ond yn mhlwyf Corwen, y ceir olion un o ben balasau Owain Glyndwr, yn y fan a elwir yn awr Carog,—lle, fel y canodd Iolo Goch am ei balas arall Sycharth, y dangosid mwyneidd-dra nid bychan i'r beirdd a'r teithwyr a gyrchent yno—

"Anodd yn fynych yno
Weled na chlicied na chlo,
Na phorthoriaeth ni wnaeth neb;
Ni bydd eisiau budd oseb,
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched byth yn Sycharth.
Llys barwn, le syberwyd,
Lle daw beirdd am le da byd,"

Mae traddodiad yn yr ardal fod hen fwrdd cegin mawr a arferid gan Owain Glyndwr ar gael eto yn ffermdy Carog. Bu amryw o enwogion y Gymdeithas Hynafiaethol Brydeinig yn ei weled ar adeg eu cylchwyl yn Llangollen yn Awst, 1877; ond barnent oll , er fod y bwrdd yn hen, nad oedd mor hen a hyny.

Y mae tref Corwen yn llechu yn nghesail Berwyn, ac yn ymfwynhau ar fin y Dyfrdwy. Y mae y mynydd uchel sydd uwch ei phen yn garedig iawn yn sefyll rhwng ei phreswylwyr a'r ystormydd cryfion y gwyr trigolion y pentrefydd cymydogaethol am danynt, ond fel iawn am ei ragorwaith y mae yn cadw gwyneb yr haul oddiwrthynt am rai wythnosau yn nhrymder y gauaf. Ryw haner milldir i'r de-orllewin o'r dref, ar y ffordd fawr o Lundain i Gaergybi, y mae pontfaen gadarn wedi ei chodi dros yr afon. Oddiar y bont hon ceir y fath olygfa odidog ar yr afon am tua milldir ar i fyny sydd yn ddigon i yru y mwyaf rhyddieithol yn fardd dan eneiniad anian ei hun. Y mae gwyneb yr afon yn ymddangos ar dywydd teg fel gwydr gloyw, ac ar fin yr hwyr gellir gweled y coedydd cyfagos âg wybren y nefoedd yn ymgomio gyda'u gilydd yn y dwfr. Ar ochr Berwyn mae lle a elwir sedd Owain Glyndwr, neu Ben-y-pigyn, lle, yn ol hen draddodiad hygoelus, y darfu i Owain daflu dagr, yr hon wrth ddisgyn ar gareg a wnaeth argraff ddofn haner modfedd o hyd. Y flwyddyn y priododd Tywysog Cymru gyda'r Dywysoges Alexandra darfu i'r Corweniaid yn ngrym eu teyrngarwch godi adeilad uchel ar ffurf hen fuddai gnoc i ddathlu yr amgylchiad,, ac i gael lle dymunol i ddyeithriaid weled gogoniant y dyffryn islaw. Y mae plwyf Corwen yn llafn un milldir ar ddeg o hŷd, ac o dair i bedair o led. Cynwysa 12,646 o erwau, y rhai a ddosberthir i 1,744 o dir llafur, 3,590 o dir porfa, 700 yn goed-dir, a 6,612 yn fynydd-dir. O fewn y plwyf hwn ceir palas hynafol y Rhug, lle y preswylia yr Anrhydeddus C. H. Wynn, ail fab Arglwydd Newborough o Glyn Llifon, disgynydd un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, yn llinach Cilmin Droed-ddu. Y mae Rhug yn enwog ar ddalenau hanesiaeth Gymreig fel trigle llawer pendefig haelfryd, a noddwr clyd i iaith, llenyddiaeth, a defion y Cymry. Ond nid dymunol yw pob adgof am y lle. Yn agos i Rug y bradychwyd y tywysog dewr Gruffydd ab Cynan. Bu ef a Rhys ab Tewdwr o'r Deheubarth mewn brwydr gyda Trahaiarn ar fynydd Carno, yn sir Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1099. Enillodd y fuddugoliaeth, fel y daeth coron dywysogol ei hynafiaid yn eiddo iddo. "Ond byr fel llygedyn o haul ar ddiwrnod tymestlog fu llwydd a rhwysg Gruffydd, canys y bradwr Meirion Goch a'i hudodd i grafangau Iarll Caerlleon, Llwyddodd hwnw trwy ffalsder i gael ganddo gyfarfod yn gyfeillgar âg Ieirll Caerlleon ac Amwythig, y rhai a ddarparasent gorff mawr o filwyr i ymguddio gerllaw. Cymerodd y cyfarfyddiad le gerllaw Rhug, uwchlaw Corwen, a daliwyd Gruffydd, gan ei ddwyn i Gastell Caerlleon, lle y bu yn garcharor am 12 mlynedd. Ei. warchodlu a ollyngwyd ymaith, eithr nid cyn tori ymaith y fawd oddiar law ddehau pob un o honynt. Hyn o greulonder a gyflawnwyd arnynt er eu hanghymhwyso i ddwyn cleddyf o hyny allan. Felly am 12 ml bu Gwynedd yn gruddfan dan ormes yr estron Huw Lupus, Iarll Caerlleon, a'r Tywysog Gruffydd ab Cynan yn dihoeni yn nghastell ei gormesydd; ac ar derfyn yr amser hwnw Cynfrig Hir a fu yn foddion ei waredigaeth."— (Enwogion Cymru, gan 1. Foulkes, tudal. 426).

Heb fod yn mhell o Rug saif Coed-y-Fron. Dywed llên gwerin fod brawd i'r Barwn Cymer, yr hwn a drigai yn Gwerclas, yn byw yn Ucheldref, a'i fod wedi cael addewid y cai feddianu Coed-y-Fron am yr ysbaid angenrheidiol i dyfu tri chnwd. Yr oedd y Barwn yn naturiol yn meddwl fod ei frawd yn myned i hau rhyw rawn cyffredin ynddi, ond mawr oedd ei siomedigaeth pan ddeallodd ei fod wedi hau cnwd o fês ynddi; ac os gwir y traddodiad, mae yn dra thebyg mai digon prin y mae yr ail gnwd wedi cael ei gludo eto allan o honi. Fodd bynag, mae tyrfa fawr o frain yn preswylio yn y lle yn wastad, pa rai, ar ol bod yn ddiwyd iawn yn degymu hadau gwerthfawr, ac yn trethu amynedd amaethwyr Edeyrnion yn y dydd, a ddychwelant i dangnefedd heddychol Coed-y-Fron i orphwys dros nos.

Y mae Eglwys Corwen wedi ei hadeiladu mewn arddull Francaidd yn hytrach na Seisnig, ac yn cynwys tŵr llydan ar y pen gorllewinol. O dan fwa, yn y pen gogleddol i'r gangell, ceir bedd un o'r Ficeriaid boreuol o'r enw Iorwerth Sulien, yn ddangos mewn cerfiad ar ffurf ddynol, ac o dano yr ysgrifen ganlynol mewn hen lythyrenau: "Hic jacet Iorwerth Sulien vicarius de Corwaen ora pro eo." Y mae yn y fynedfa i'r Eglwys gareg bigfain a elwir "Careg y Big yn y fach rewlyd;" a'r tra- ddodiad yn ei chylch ydyw fod pob ymgais at adeiladu yr Eglwys mewn man arall wedi troi yn fethiant, a bod y sylfaenwyr wedi cael eu harwain mewn modd uwchnaturiol at y lle y saif y gareg hon. Y mae Capel y Rug wedi ei godi, fel y tybir, yn 1637, am fod perchen y Rug yn cwyno o herwydd bod gorlifiad yr afon yn ei atal yn fynych i Eglwys y plwyf. Gadawodd Syr R. W. Vaughan, Bar., yn 1859, y swm o £2,000 fel gwaddoliad tuag at gynaliaeth y curad fo yn gweinyddu yn y lle. Dyma restr o Berigloriaid a Ficeriaid Corwen, a blynyddau eu sefydliad :- Perigloriaid—Roger Ellis, 1537; L. Pyddleston, 1551, (collodd ef y swydd am iddo gyflawni y trosedd o briodi); M. Clennock, LL. B., 1556, (pe buasai Mari fyw ychydig yn hwy cawsai ei ddyrchafu i Esgobaeth Bangor, ond gan iddi farw bu gorfod iddo ffoi i Rufain); E. Meyric, 1560; H. Rainsford, A.M., 1606; O. Eyton, A.M., 1666; W. Wells, 1705; John Wynne, 1727; L. Palmer, 1748; J. Morgan, B.A., 1750; W. D. Shipley, A.M., 1774; Dr. Prettyman, 1782, (cafodd ef ei wneud yn Esgob Lincoln yn 1787); J. Prettyman, 1786; R. Sneyd, LL. B., 1796; J. Dean, B.A., 1808; W. Cleaver, M. A., 1809; J. F. Cleaver, 1812. Ficeriaid-J. Toone, 1533; L. ap David, 1533; R. Salesbury, 1573; J. Roberts, 1578; H. Ednyvet, A. M., 1581; R. Humphreys, 1624; A. Spark, 1637; E. Powell, A.M., 1639; A. Maurice, A.M., 1641; R. Edwards, 1660; O. Eyton, 1665; K. Eyton, A. M., 1705; W. Humphreys, 1713; R. Parry, A.B., 1747; R. Lewis, A.B., 1747; H. Williams, A.M., 1792; R. B. Clough, M.A., 1797; R. B. Clough, 1811; Morgan Hughes, 1830. Sefydlodd y Periglor presenol, y Parch. W. Richardson, M.A., yn 1867. Hyd 1863 yr oedd Glyndyfrdwy yn perthyn i blwyf Corwen, fel y mae eto yn wladol; ond y pryd hwnw ffurfiwyd tref-ddegwm Carog, Mwstwr, a Thirllanerch, a rhanau o drefi Bonwm a Rhagad, i wneud plwyf eglwysig; ac ni a roddwn yma enwau y Ficeriaid sydd wedi bod yno yn gweinyddu o adeg adeiladiad yr Eglwys yn 1859 hyd yn bresenol:—D. Morgan, 1859; E. Evans, 1865; Davies, 1871; R. Owen, 1876. Y mae yn Nglyndyfrdwy hefyd gapeli gan y pedwar enwad ymneillduol, a dwy ysgol ddyddiol, fel mai anfynych iawn y ceir lle mor fychan wedi ei freintio â chynifer o adeiladau crefyddol ac addysgol. Yn mhlith yr Ymneillduwyr y Methodistiaid Calfinaidd a sefydlasant gyntaf yn Nghorwen. Dechreuasant trwy bregethu tua 1790, yn nhŷ un John Cadwaladr, Cyfrwywr; a buont drachefn yn llofft yr Harp, tŷ a gedwid ar y pryd gan Richard White. Sefydlwyd Ysgol Sul yn 1798, a chodwyd capel yn 1803. (Gwel Methodistiaeth Cymru, gan J. Hughes, cyf. 1.). Cawsant eu gwawdio yn helaeth, a'u herlid yn chwerw yn y blynyddau cyntaf; ond aethant ar gynydd cyflym drwy'r cwbl. Yn mhen tua chwarter canrif ar eu hol dechreuodd y Wesleyaid gynal cyfarfodydd crefyddol; yna daeth yr Annibynwyr; ac yn olaf y Bedyddwyr. Y mae gan y pedwar enwad bellach gapelau prydferth, ac achosion lled flodeuog. Y gweinidogion presenol ydynt y Parchedigion W. Williams, (T.C.); J. Pierce, (W.); J. Pritchard, (A.); a H. C. Williams, (B.).

O'r tucefn i Eglwys y plwyf ceir chwech o dai cyfleus wedi eu hadeiladu yn 1750 gan William Eyton, Ysw., o Blas Warren, yn sir Amwythig, er mwyn bod yn drigle i weddwon offeiriaid. Yn un o'r tai hyn y preswylia yn bresenol weddw a merched yr hynafiaethydd godidog, y llenor trylen, a'r Cymro aiddgar Ab Ithel, am yr hwn y dywed Elis Wyn o Wyrfai:—

"Fe wridai y gwladfradwr—ger ei fron,
Gwyrai frig athrodwr;
Lle byddai dystawai stŵr,
Ceuai genau'r coeg hònwr."

Y mae Mrs. Williams yn derbyn blwydd-dâl oddiwrth y Frenhines fel cydnabyddiaeth o wasanaeth ei phriod i lenyddiaeth ei wlad.

Cynwysai poblogaeth plwyf Corwen, yn ol deiliadeb 1871, 2,464 o drigolion, tua 1,100 o ba rai a breswyliant yn y dref. Y mae yn myned ar gynydd parhaus, gan fod chwarel Penarth drwy ddyhewyd J. P. Jones, Ysw., a Mr. Phillips, yn rhoddi gwaith i gynifer o feibion llafur, a bod llinell y Great Western wedi rhoddi bywyd newydd yn y lle. Yr anfantais tuag at adeiladu yw fod y dyffryn mor gul. Yn achlysurol bydd y Dyfrdwy yn tori ar draws pob deddf, a ffrwd y mynydd, fel y dywed Rhuddfryn, yn d'od "ar ei phen yn rhaff ewynog." Nos Lun, Awst 3, 1846, ymwelwyd â'r lle gan daran-dymhestl ddychrynllyd, yr hon a barodd niwed i feddianau, a cholled i fywydau. Ceir yn ngwaith barddonol Cynddelw luaws o englynion ar yr amgylchiad. Dyfynwn a ganlyn:—

"Adeg du osteg a dwysder—ydoedd,
Ie, adeg dwfn brudd-der;
Mal fai pang drwy'r eangder,
Gan lesgau hyd seiliau'r ser.


"Curwlaw mawr dirfawr dyrfau—ddylifodd
Gan ddolefain gwaeau
Dinystr fel môr a'i donau
Y nos hon sy'n ymnesan.

"Tre Gorwen addien huddwyd—â dystryw,
Dwysder gaed yn Nghynwyd;
Bro lon Edeyrnion—darniwyd
Yr holl le gan lifddwr llwyd."

GWYDDELWERN

Ystyr y gair Gwyddelwern, yn ol y Dr. W. O. Pughe, yw "tir rhoslyd yn llawn prysglwyni (a moor or meadow overgrown with bushes);" ac wrth edrych ar ansawdd y fan, cawn le i gredu fod a fyno hyn fwy âg enw y lle nag sydd gan Wyddelod yr Ynys Werdd, yn ol yr hen dyb werinaidd. Ceir amryw enwau yn y plwyf, megys y Wern Ddu, Ty'nywern, &c., yn dynodi yr un peth. Y mae y plwyf yn mesur 9,127 o erwau o dir, a'r boblogaeth, yn ol deiliadeb 1871, yn 1468. Y mae Eglwys y plwyf, yr hon sydd wedi ei chysegru i Beuno Sant, yn ymddangos yn dra hynafol, a bellach mewn cyflwr lled adfeiliedig. Ceir yn y pentref gapeli heirdd perthynol i'r Methodistiaid Wesleyaidd a Chalfinaidd, ac yn y plwyf ceir capeli hefyd gan y Bedyddwyr a'r Annibynwyr. Adeiladwyd yma ysgoldy ardderchog gan y Bwrdd Ysgol yn 1872, lle y mae llawer o'r meddyliau ieuainc yn cael cyfeiriad da i brif-ffordd gwybodaeth gan Mr. D. Owen. Ceir gweddillion hen gaerfa Brydeinig yn nosbarth Llwchmynydd, heb fod yn nepell o'r Bettws; a rhyw dri chwarter i'r de o bentref Gwyddelwern ceir twmpath gwneuthuredig a elwir Tomen y Castell. Ar ffordd Rhuthyn, rhyw ddwy filldir o'r pentref, ceir lle a elwir Bryn Saith Marchog, am i Owain Glyndwr gymeryd yr Iarll Grey a'r saith marchog yn garcharorion. Yn agos i'r Bryn hwn yr oedd hen gapel Llanaelhaiarn, yr hwn a enwir yn y Myvyrian fel un o blwyfau Edeyrnion; ond mor wancus fu Gwyddelwern fel y llyncodd y plwyf hwn yn hollol, ac y mae fel gwartheg culion Pharaoh heb fod lawer tewach yn y diwedd, gan fod plwyf Llangar mewn modd eglwysig wedi llyncu Bodheulog a Chynwyd fechan, a Llawr-y-Bettws wedi llyncu Perseithydd.

Ond yn wladol mae Cynwyd o hyd yn mhlwyf Gwyddelwern, a hynod chwithig yw hyny, gan fod tafell o blwyf Corwen yn rhedeg drwy ei ganol. 'Pan y deuwn i'r lle hwn cawn gyfoeth o olion hynafiaethol, a chronfa o hen draddodiadau am Gymru fu. Er fod Cynwyd yn golygu y drwg cyntaf, neu yr ysgelerder mwyaf, rhy ddrwg yw cysylltu hyny â'r lle hwn, gan nad oes genym un sail i gredu mai yma y syrthiodd dynolryw, er fod lleoedd o'r enw Plas Adda a Moel Adda o fewn ychydig filldiroedd. Haws credu ei fod wedi cael yr enw oddiwrth Cynwyd ab Cynwydion, yr hwn, meddir, oedd dywysog rhyfelgar a galluog yn preswylio yn Edeyrnion, ond yr hwn mewn amser a ymneillduodd i arwain bywyd meudwyaidd. Crybwyllir am dano gan awdwr Drych y Prif Oesoedd fel un a ddygodd i fyny dyaid o blant mewn modd canmoladwy. O fewn haner milldir i'r pentref hwn y saif y "Cae Mawr," neu Cymer, fel y gelwid ef unwaith. Sonir llawer am hen farwniaid Cymer, eisteddle ddiweddaraf pa rai oedd y Gwerclas. Yn achau Spencer Bulkeley Wynn, Barwn Newbrough, a gyhoeddwyd yn Ngolud yr Oes, gan yr hynafiaethydd medrus Gwilym Lleyn, ceir a ganlyn:"Magdalen Rogers, etifeddes Bryntangor, a anwyd Awst 13, 1623. Priod- odd yn 21 oed & Humphrey Hughes, Ysw., o'r Gwerclas, sir Feirionydd, XI. Barwn Cymer yn Edeyrnion." Gwelir man beddrod rhai o Hughesiaid y Gwerclas yn mynwent Llangar gyda beddargraffiadau Lladin arnynt. Rhyw ddwy filldir o Gynwyd, ar lyn Mynyllod, ceir ynys nofiadwy. Yr hen draddodiad gwerinaidd yn ei chylch oedd, os buasai yn symud tua Chorwen y byddai i'r farchnad ostwng, os tua'r Bala y byddai iddi godi! Mae ynysoedd o'r fath ar lynoedd Cumberland, ac y mae pobl yn gallu eu hesbonio bellach heb gymhorth ofergoeledd. (Gwel Bygones, 1872). Dyma restr o Ficeriaid Gwyddelwern :-D. ap John, 1537; Galfrid ap Ienu, 1538; G. ap John, 1540; J. ap Harri, 1560; P. Roberts, 1594; G. Hughes, 1632; J. Foulkes, 1639; S. Lewis, 1643; T. Williams, 1662; J. Foulkes, 1675; R. Jones, 1678; D. Wyane, 1685; W. Jones, 1689; J. Lloyd, 1691; R. Wynne, 1702; Edward Wynne, 1713; David Davies, 1740; R. Evans, 1753; W. Evans, 1770; R. Maurice, 1786; R. B. Clough, 1791; J. Mostyn, 1797; T. Hughes, 1801; J. Jones, 1809; D. L. Jones, 1829.

LLANGAR

Llangar, yn ol hen draddodiad, a dardd oddiwrth ryw hen garw-Llan-y-carw-gwyn. Dywed y traddodiad eu bod wedi

bwriadu codi yr Eglwys mewn man arall yn y gymydogaeth, ond fod y gwaith yn d'od i lawr o hyd fel yr oedd yn cael ei adeiladu; ac iddynt o'r diwedd fyned i ymgynghori â rhyw ddoethwr, ac i hwnw eu hanog i fyned i hela carw, a pha le bynag y codent garw gwyn, mai dyna y fan i'r Eglwys sefyll. Y mae llên gwerin yr ardal yn dweyd fel hyn am yr amgylchiad dychymygol uchod:-

"Yn Llangar codwyd;
Yn Mron Guddio cuddiwyd;
Yn Moel Lladdfa lladdwyd;
Yn y Bedren pydrwyd."

Pa gysylltiad all fod rhwng codi carw gwyn, neu garw coch, â chodi Eglwys, nis gallwn ddyfalu; ond mae yn rhyfedd fod rhyw draddodiadau cyffelyb, fel y sylwyd o'r blaen yn nglŷn âg Eglwys Corwen, mewn cysylltiad â llawer o hen Eglwysi. Y mae Eglwys Llangar yn hynafol iawn, ond ni wneir defnydd o honi bellach ond yn unig ar yr achlysur o gladdu rhai o'r hen drigolion, gan fod Eglwys hardd wedi ei chodi yn Nghynwyd. Plwyf bychan iawn yw Llangar. Nid oes ynddo yn awr na chapel, na thafarn, gefail gof, melin, siop saer, na thy teiliwr, ni dybiwn. Lle prydferth ydyw; ac nid rhyfedd i Dafydd Ddu Eryri ddweyd am y llanerch deg pan oedd ar ymweliad â'r fro-

"Gwnewch o'r ddaear hawddgar hon
Baradwys i'ch ysbrydion."

Dywed y Parch. J. Evans, Garston, mewn traethawd buddugol o'r eiddo yn Nghynwyd amryw flynyddoedd yn ol:—"Yr oedd gwr mawr yn byw yn Gwerclas unwaith a arferai wneud gwledd flynyddol, a gwahodd ei gymydogion iddi. Yn mysg y gwahoddedigion yr oedd bardd o'r enw Mathew Owen, a breswyliai yn. Ty'nllwyn, Llangar. Yr oedd cafn, math o gwch, i'w gael y pryd hwnw, yn yr hwn yr arferid croesi y Dyfrdwy ar gyfer Gwerclas. Yr oedd y bardd fel yr ymddengys wedi 'yfed yn uchel' ar noson y wledd, ac er fod yr afon wedi llifo dros ei glanau, teimlai yn ddigon eofn i anturio i'r cwch, yn hytrach na chwmpasu a myned dros y bont. Ond mawr yr helynt fu arno. Prin y diangodd â'i fywyd yn ysglyfaeth; ac mor fuan ag y caf odd ei droed ar terra firma, daeth allan yn ddigon difyfyr yr englyn canlynol:

"Da'i ddim i gafnu yn y cyfnos—i bant
Os bydd pont yn agos;
Af gefn dydd i gafn dyddos,
'Dal i gafn neb ar gefn nos."

Heb fod yn bell o fynwent Llangar ceir lle o'r enw Bedlam, lle, fel y gellir tybio oddiwrth yr enw, y ceid gwallgofdy unwaith; ond ni fuom lwyddianus i gael unrhyw hanes credadwy yn ei gylch.

Gadawodd Mrs. Lumley Salesbury, yn 1750, arian tuag at ddilladu dwy o hen wragedd y plwyf yn flynyddol; a gadawodd Hugh Roberts, Caergoed, yn 1806, £200, llog pa rai sydd i fyned bob blwyddyn at addysgu plant tlodion o'r plwyf hwn a Gwyddelwern. Dyma restr o Berigloriaid Llangar-R. ap H. Dormer, 1537; J. ap Rice, 1540; G. ap Llewellyn, 1546; O. ap John, 1586; T. Price, 1592; R. Davies, 1614; R. Owen, 1642; J. Griffiths, 1661; E. Vaughan, 1662, E. Ellis, 1664; H. Jones, 1668; J. Lloyd, 1689; E. Jones, 1691; E. Samuel, B. A., 1720; Ed. Samuel, B.A., 1748; W. Evans, 1762; E. Parry, 1784; T. Davies, 1789; R. Williams, 1796; P. L. Williams,[2] M.A., 1826; F. Griffiths, 1836; J. Dawson, 1838; W. Williams, 1858; T. J. Jones, B.A., 1872.

Ar ol cysodí y nodiadau ar Gynwyd yn mhlwyf Gwyddelwern, cafodd yr ysgrifenydd olwg ar ddau faen melin a godwyd o dir Celyngoed yn y flwyddyn 1807, y rhai brofant, wrth gwrs, fod melin wedi bod yn y lle, yn gyson â'r traddodiad yn yr ardal, yr hwn a ddywed hefyd fod yno amryw dai. Taid y Parch. John Meredith, Dolgellau, a ddarganfyddodd y meini, a chan yr ŵyr y maent yn bresenol. Symudwn yn mlaen bellach at

LLANDRILLO.

Saif y pentref hwn ryw 5 milldir o Gorwen, a chynwysa y plwyf y trefgorddau canlynol:—Dinam, Cilan, Faerdref, Garthiaen, Penant, a Syrior. Mae y rhan fwyaf o'r plwyf yn gorwedd ar wastad-dir, yr afonig Ceidiog a'r afon Dyfrdwy yn rhedeg trwy y dolydd; ond ceir bryniau uchel i'r cyfeiriad deheuol, yr uchaf o ba rai yw Cadair Ferwyn, o ben pa fryn y gwelir rhan helaeth o'r wlad fel cylcharlunfa ardderchog. Ceir llawer o ffermdai yn y gymydogaeth sydd a'u henwau yn dangos eu bod o hynafiaeth mawr. Er engraifft, nodwn y rhai canlynol, ar awdurdod y Parch. T. Davies, Pentref. Cwm ty pellaf.—Rhydgethin yn yr hen amser. Heibio y ty hwn yr arweiniai y ffordd o'r Bala i Groesoswallt dros y mynyddoedd, a Rhydgethin oedd y lle i fyned trwy y nant. Cedgwm.—Ei ystyr yw Cauadgwm, neu cwm cul. Tyddyn y Famaeth.-Lle yr oedd etifedd Tyfod yn cael ei fagu, a'r famaeth yn cael y tyddyn yn ddiardreth am ei thrafferth. Cadwst.—Dwy fferm, un o bob tu i'r afon. Ei ystyr yw "brwydr yn y coed." Ar y fferm hon ceir cae o'r enw Clwt maen hogi, lle y minid yr arfau. Clochnant.—Dywed traddodiad mai yn y nant hon y cafwyd cloch Capel Rhug. Llysdyn.—Ceir traddodiad fod senedd yn cael ei chynal yma yn yr hen amser, ac y. mae agwedd hynafol ar y lle. (Ai gwneud cyfreithiau i drigolion Llandrillo yr oeddynt?) Branas—Coed y brain. Ganodl.—Ei ystyr yw "lle y llaeth gwyn." Ffynonydd y Brenin.—Dywedir mai yma y carcharwyd Harri VII. am fis gan Owain Gwynedd, ac oddiyma y trodd yn ol mewn gwarth. Pentrefelin.—Pen cantref tref Dinam. Mae drws yr hen felin eto yn ei hen ddull yn troi ar ei golyn, a barna Mr. Davies mai dyma y drws hynaf yn Edeynion, os nad yn sir Feirionydd. Hendwr.—Hen amddiffynfa enwog. Mae y gymydogaeth hon yn nodedig am ei hamddiffynfeydd, a cheir olion cromlechau rai, a charneddau mewn cyflawnder. "Bwlch y Maen Gwynedd, yn mynyddoedd y Berwyn, ydyw y lle a benodwyd gan Rhodri Fawr yn fan cyf- arfod Tywysogion Gwynedd a Phowys, er mwyn gwastadhau ymrafaelion a phenderfynu ymrysonau a allai gyfodi rhyngddynt; ac yn yr un gadwen o fynyddoedd, a thufewn i derfynau y plwyf hwn, y mae careg fawr wastad, darn o gromlech, yn ol pob tebyg, a elwir Bwrdd Arthur."—(Cymru, gan y Parch. O. Jones, tudal. 471, cyf. ii.). Yn y Cambrian Magazine am Ebrill, 1831, dyfynir o hen lyfr hanes etholiad un John Jones, yr aelod seneddol dros sir Feirionydd, yr hyn gymerodd le tua dechreu y 17eg canrif. Yn y writ cyfarfyddir â'r enwau hyn, yn mhlith eraill:—Owen Salesbury, Rug, Corwen; Rowland Vychan, Caergai; John Vychan, Cefnbodig; a Humphrey Hughes, Gwerclas. Wrth son am y boneddigion hyn, anhawdd peidio cofio am Rowland Vychan, a Lewis Llwyd o Rhiwaedog, wedi bod yn ciniawa yn Rug, ac wrth fyned adref aeth y ddau i ymrafaelio. Ond bore dranoeth anfonodd Rowland Vychan ei was at Lewis Llwyd gyda'r penill hwn—

"Bir a chwrw Owen Salsbri
A wnaeth gynen ar Gyreni
Rhwng Lewis Llwyd, bendeflg mwynlan,
A'r hen gecryn Rowland Vychan,"

Yn y Cambrian Magazine am Hydref yr un flwyddyn hefyd ceir cofnodiad o'r hyn a hawlid fel arian cymhorth gan y llywodraeth yn y flwyddyn 1636 gan dirfeddianwyr yn y sir. Dyma y rhai a enwir o gwmwd Edeymion. Llangar—Humphrey Hughes; G. David ap Ieuan; J. Wynne; a J. ap Edward ap Tudur. Llandrillo-Morgan Lloyd; Humphrey Branas; Morris Jones; J. ap Ieuan; a Humphrey ap David. Corwen—W. Salesbury; J. Lloyd, Carog; J. Lloyd, Rhagad; L. ap Rees; J. ap Howell; T. Wynne; R. Lloyd. Gwyddelwern—Humphrey ap Ellis; D. Lloyd John; Thomas Wynne; a John ap Robert.

Mae yr Eglwys, yr hon a gysegrwyd i St. Trillo, yn dra hynafol. Cynwysa dŵr yn y pen gorllewinol, yn yr hwn unwaith y ceid awrlais, rhodd un Edward Jones yn 1772. Cafodd yr Eglwys hon ei hailadeiladu yn 1776, ei hadgyweirio yn 1852, a thrachefn yn 1877.

Gadawodd un Hugh Jones y Ddol £300, pedwaredd ran o lôg pa swm oeddynt i gael eu rhanu yn flynyddol rhwng tlodion y plwyf hwn.

Sonia yr hen Edward Llwyd am "Fedd y Santes ar làn Cadwst, lle kladdwyd Santes Trillo." Dywed hefyd, "Dafydd Rowland, hen grythwr, a arferai bop Sul y Pasc prydnawn vynd evo ieuencktyd y plwyf i ben craig Dinam i ranu yr ých gwyn. Yno y kane fo gaingc yr ychen banog a'r holl hen keinkie, y rhai a vuant varw gidag ef."-(Dyfynedig gan y Parch. D. R. Thomas' History, page 702).

Bu y lle hwn, fel llawer lle arall, yn hynod am ei ofergoeledd flynyddau yn ol Dyfynwn a ganlyn o Cymru Fu, fel y derbyn- iwyd yr hanes gan olygydd y llyfr dyddorol hwnw oddiwrth Mr. E. Evans, Cynwyd:—

Er's oddeutu haner cant o flynyddoedd yn ol, aeth y gair ar led trwy gymydogaeth Llandrillo yn Edeyrnion fod Gwiber yn cartrefu mewn llwyn yn yr ardal hono, yn agos i le a elwir Plas y Faerdref. Derbynid y newydd ar y cyntaf gydag anmheuaeth, ond gan fod amryw o wyn a mân greaduriaid wedi meirw trwy, fel y credid, ei brathiadau gwenwynig; a bod llawer o bobl eirwir wedi gweled rhywbeth yn ehedeg o gwmpas yr ardal hono ag iddo gorph hir ac adenydd byrion, a thybient hefyd pan arafai ychydig eu bod yn canfod rhyw gèn symudliw hardd i gyd trosto, a bod iddo lygaid fel fflam dân yn ymsaethu trwyddynt; nid oedd neb yn y gymydogaeth yn ddigon rhrfygus i wadu y ffaith.

Cyn hir, yr oedd pwnc y Wiber wedi dyfod mor bwysig, fel mai dyna oedd byrdwn pob stori. Ymddiddenid am dani gyda sobrwydd yn yr efail, a siop y crydd; a phryd bynag y cyfarfyddai dau gymydog a'u gilydd, odid fawr nad y Wiber fyddai testyn yr ymddiddan. Dyna mewn gwirionedd oedd pwnc y dydd, a'r nos hefyd. Yr oedd yn amlwg hefyd fod yn rhaid gwneud rhywbeth heblaw siarad, canys er mor finiog ydyw y tafod, yr oedd yn amlwg nas gallasai ladd y Wiber. Penderfynwyd galw cynadledd o hynafgwyr a doethorion yr ardal. Wedi dwys ystyried y pwnc, daeth y cynghor rhyfel i'r penderfyniad o benodi diwrnod i wneud ymosodiad cyffredinol ar y gelyn. Ac wedi hir ddisgwyl daeth y diwrnod penodedig—diwrnod pwysig oedd hwn ar lawer ystyriaeth. Teimlai llawer mam y pryder dwysaf oherwydd y peryglon yr oedd yn rhaid i'w mab fyned trwyddynt cyn machlud haul; a llawer morwyn landeg a roddai aml i ochenaid ar ran ei chariad. Y diwrnod hwn yr oedd dewrder llanciau y fro i gael ei brofi, a'r gwroldeb hwn yr honai llawer eu bod yn feddianol arno i gael ei ddadblygu. Mewn gair yr oedd dedwyddwch yr ardal yn dybynu yn hollol ar weithrediadau y dydd hwn.

Yn fore iawn, cyn i'r haul ddyfod yn iawn allan o'i ystafell, dyma y fyddin yn cychwyn gan gerdded yn araf eto yn benderfynol at lan yr afon Dyfrdwy. Dyna y fan oedd wedi ei benodi fel maes y frwydr. Yr oedd yn y fyddin hon amrywiaeth mawr, rhai o bob oed a gradd; ac ambell hen batriarch pentyn mewn angen ffon, ond eto yn ddigon gwrol-calon y dydd hwn i fyned hebddi. Ond pa amrywiaeth bynag oedd yn y fyddin, yr oedd mwy yn yr arfau, y rhai yn benaf oeddynt bigffyrch, crymanau, &c., ac ambell hen frawd wedi dyfod o hyd i'r fwyall, gan yr ystyrid y cyfryw arf fel y mwyaf pwrpasol. Mor fuan ag r cyrhaeddodd y fyddin i lan y Dyfrdwy, gosodwyd baner goch i fynu, yn yr hon yr oedd picellau wedi eu gwlychu mewn gwenwyn. Amcan y faner goch oedd hudo y Wiber, oddiar ei chasineb at bob peth coch, i ymguro yn erbyn ei chasbeth, ac felly anafu ei hun. Ond er disgwyl yn bryderus an oriau ni wnaeth y wiber ei hymddangosiad; a pheuderfynodd llywyddion galluog y gàd, mai y doethaf oedd i bawb fyned' ir fau, a phenu diwrnod arall i ail Enrg am frwydr.

Ond cyn i'r diwrnod hwnw ddyfod, fe ddigwyddodd i rywun ddyfod i'r gymrdogaeth oedd wedi gweled mwy o'r byd a'i greaduriaid na'r cyffredin; a thrwy rhyw ddamwain, cafodd olwg ar y Wiber, a hysbysodd y trigolion dychrynedig, er mawr ryddhad iddynt, nad oedd y Wiber yn ddim amgen na CHEILIOG PHEASANT.

Deallwyd wed'yn mai wedi dianc o Wynnstar yr oedd yr aderyn diniwaid, ac wedi crwydro gan belled â Llandrillo, lle na welwyd yr un erioed o'r blaen. A dyna'r hanes a'r helynt a fu gyda Gwiber Llandrillo.


Dechreuwyd pregethu egwyddorion Ymneillduaeth yn y gymydogaeth yn gynar yn y ganrif ddiweddaf. Yn y fl. 1776 ymwelwyd â'r lle gan genadon y Bedyddwyr, sef David Evans, y Dolau, ac un arall, a phregethasant mewn ty yn agos i'r pentref. Enillasant rai dysgyblion; ond yn gymaint ag na pharhawyd pregethu, syrthiodd yr achos i'r llawr. Cyn pen nemawr o amser daeth y Methodistiaid i'r ardal, a byddai Sion Moses, a Mr. Foulkes, o'r Bala, yn cynal oedfaon wrth gareg farch y Bell.

"Mi gym'ra' fy nhywys gan fugail yr Eglwys
Rhag ofn fod Sion Moses yn misio,"

ebai Huw Jones o Langwm. Wyr i'r hen gynghorwr Sion Moses oedd "Tegid," y bardd a'r offeiriad o Nanhyfer. Agorodd un Griffith Edwards, yr hwn a adeiladasai fwthyn un-nos ar fynydd Mynyllod, ei dy i'r cynghorwyr dd'od iddo i bregethu. Enynodd hyn ddigofaint rhai boneddigion yn yr ardal, a thynwyd yr hen gaban i lawr! Ond cafwyd ty gwell a mwy cyfleus i gynal moddion ar ol hyn. Bellach mae gan y Methodístiaid, yr Annibynwyr, a'r Wesleyaid, gapeli yn y pentref er's llawer o flynyddau.

Dyma restr o Berigloriaid a Ficeriaid y plwyf hwn:-Perigloriaid—Randolph Pool, 1537; E. Collys, 1538; H. Edwards, 1538; H. ap Howel, 1557; H. Edwards, 1589; J. Pryce, 1592; W. Kenrick, 1599; T. Banks, A.M., 1600; J. Griffiths, 1634; Dr. Clutterbuck, 1665; B. Carter, 1702; J. Upton, 1736; C. Bertic, 1761; E. Thurlow, 1789. Ficeriaid—J. Griffith, 1537; J. D. Goch, 1554: J. Reynold, 1558; J. Vaughan, 1573; J. ap Harri, 1582; T. Jones, B.D., 1594; O. Vaughan, 1595; P. Brereton, 1598; J. Head, 1604; T. Roberts, 1611; R. Lewis, 1635; K. Pearks, 1645; E. Evans, 1653; H. Hughes, 1660; H. Jones, 1666; H. Parry, 1704; H. Foulkes, A.B., 1709; E. Wynne, A.M., 1731; S. Mytton, 1731; R. Anwyl, 1776; J. Lloyd, 1799; J. Wynne, M.A., 1826; T. Williams, 1871. (Y mae yn syndod mewn plwyf gwledig fel Llandrillo gyfarfod cynifer o ddynion yn gwisgo enwau Seisnig wedi bod yn gweini ar angen ysbrydol y trigolion. Hyderwn i'r efengyl gael cyfiawnder oddiar eu llaw, os oedd Gramadeg Cymraeg weithiau yn dyoddef cam).

LLANDDERFEL

Nid yw yr awdurdodau yn cytuno pa le i osod Llandderfel. Dywed y Parch. O. Jones fod rhan o hono yn Nghantref Penllyn, a rhan yn Nghantref Edeyrnion; tra y rhestrir ef yn y Myvyrian Archeology, a chan awdurdodau eraill, yn gwbl yn Mhenllyn. Fodd bynag, ni ddigia Penllyn wrthym am wneud rhai sylwadau ar y lle, i aros i rywun yn y rhanbarth hwnw gymeryd y mater mewn llaw, a'i drafod yn helaethach. Y mae pentref Llandderfel yn sefyll ryw 4 milldir o dref y Bala, a chynwysa y plwyf 7,794 o erwau, gyda phoblogaeth o 968, yn ol deiliadeb 1861. Gwneir ef i fyny o'r chwe' trefddegwm canlynol:-Y Llan, Caerceiliog, Cynlas, Doldrewyn, Nantffrayen, a Selwrn; a dywed Ioan Pedr—"Ystyrir fod Llaethgwm hefyd yn drefddegwm, ond ni chyfrifir hi ar wahan yn y trethiad." (Traethodydd, Ion,, 1877). Yn y rhifyn uchod o'r cyhoeddiad rhagorol a nodwyd ceir yr ysgrif gyntaf o gyfres a fwriadai y Proffeswr Peter ysgrifenu. Ysgrifenai dan y penawd, "Hynafiaethau Penllyn," a chynwysa yr ysgrif gyntaf nodiadau cyffredinol ar y sir, a sylwadau uniongyrchol a manwl ar blwyf Llanuwchllyn. Bwriadai yn y rhifynau canlynol ddilyn yn mlaen gyda'r plwyfau eraill, ond gyda bod y Tradhodydd hwnw allan o'r wasg, yr oedd y

"Cyfaill llon, ffyddlon, di ffug,
Mor bur a gemau'r barug,"

ys dywedai Elis Wyn o Wyrfai, wedi myned i ffordd yr holl ddaear. Colled genedlaethol oedd ei fyned i'w argel wely. Cymer y plwyf ei enw oddiwrth Derfel Gadarn, rhyfelwr cadarn yn y chweched canrif. Yr oedd yn fab i Hywel ap Emyr Llydaw, ac yn un o abadau mynachlog fawr Ynys Enlli. Daeth ei enw yn hysbys, a'i ddewrder yn glodforus, mewn canlyniad i'r rhan a gymerodd yn mrwydr Camlan. Ond gadawodd waewffon rhyfel, a chymerodd yn ei lle y ffon fugeiliol, gan gysegru ei oes i wasanaethu crefydd. Fel hyn enillodd ei ffordd i blith y seintiau Cymreig, a gosodwyd i fyny yn Eglwys Llandderfel ddelw o hono yn gerfiedig mewn coed. Cyrchai pererinion o bob cwr i dalu gwarogaeth i'r ddelw hon, a hyny gyda chymaint o defosiwn ag a hynodent ddilynwyr Mahomet ar eu ffordd i Mecca. Credai llawer o honynt fod gan y sant allu i waredu ei edmygwyr o boenau colledigaeth. Dywedir fod cynifer a phum' cant wedi dyfod o wahanol barthau ar y 5ed o Ebrill, 1537, sef dydd Gwylmabsant y lle, i "ymostwng i'r ddelw." Dichon mai nid annyddorol fydd dyfynu yma lythyr a anfonwyd gan Ellis Price, y dirprwywr i'r perwyl yn Esgobaeth Llanelwy, at Syr Thomas Cromwell, y Ficar cyffredinol, yn hysbysu am fodolaeth yr eilun hwn, ac yn gofyn ei ewyllys yn ei gylch:—

"Right honorable, and my syngular good lorde and mayster, all circumstanncys and thankes sett aside pleasithe yt yowre good lordshipe to be aduisid that where I was constitute and made by yowre honorable desire and commaundmente comissiarie generall of the dyosese of Saynte Asaph, I haue done my diligens and dutie for the expulsinge and takynge awaye of certen abusions supersticions and ipocryses usid withyn the saide dyosese of Saynte Asaph accordynge to the kynges honorable rules and injunctions therein made, that notwithstandinge, there ys an image of Darvell Gadarn withyn the saide diosese in whom the people have so greate confidence hope and trust that they come dayly a pilgramage unto hym some with kyne, other withe oxen or horsis, and the reste withe money in so much that there was fyve or syxe hundrethe pillgrames to a mans estimacon that offered to the saide image the fifte date of this presente monethe of Apll; the innocente people hathe ben sore aluryd and entisid to worshipe the saide image in so muche that there is a comyn saynge as yet amongist them that who so ever will offer auie thinge to the saide image of Darvell Gadarn, he hathe power to fatche hym or them that so offers once oute of hell when they be dampned. Therefore for the reformacon and amendmente of the premisis I wolde gladlie knowe by this berer youre honorable pleasure and will, as knowithe God: who euer preserue your lordshipe longe in welth and honor.—Written in Northe Wales the vi, day of this presente Aprill (1537).—Youre bedeman and daylie orator by dutie.

"ELIS PRICE."[3]

(Quoted by Rev. W. Bingley in his Tours, pub. 1814; and in part by Rev. D. R. Thomas in his History of the Diocese of St. Asaph, page 771).

Mewn canlyniad i hyny cymerwyd ef i Lundain, lle y cafodd ei gydlosgi gyda mynach o'r enw Forest. Y trosedd a roddid yn erbyn Forest oedd "amheu yr efengyl, a gwadu dwyfol benogaeth y brenin,"

"David Darfel Gatheren,
As sayth the Welshmen,
Fetched outlawes out of hell.
Now is he come, with spere and shield,
In harnes, to burne in Smithfield,
For in Wales he may not dwell.

"And Forest the friar,
That obstinate lyar,
That willfully shall be dead,
In his contumaeiè,
The gospel dothe deny
And the king to be supremo head."[4]


Gadawyd ar ol ddarlun o garw coch er cof am ddelw y sant, yn nghyda cheffyl pren a ffon a elwid ar enw Derfel. "Uwchlaw y persondy mae cae a elwir 'Bryn Derfel,' i'r hwn gae, meddai traddodiad, yr ymgynullai pobl o bob parth yn y Pasg er mwyn cael marchogaeth ceffyl Derfel. Yr oedd y ceffyl wedi ei osod ar bawl lledorweddog mewn cysylltiad â phawl arall unionsyth, ac yn gorphwys ar golyn. Cafaelai y marchogwr mewn croesffon oedd yn nglŷn â'r ceffyl, a chwyldroid ef o amgylch y pawl unionsyth, fel y chwyldroir plant ar geffyl pren mewn ffair."- (Nodau yn ngwaith Lewis Glyn Cothi, dyfynedig yn Enwogion Cymru.)

Ceir amryw weddillion derwyddol yn y plwyf, yn gystal ag olion amddiffynfeydd milwrol. Y mae yr enwau Cefn Creini (the mountain of worship) ac eraill yn awgrymiadol o'r cyntaf, a Dolgadfa a Rhiwaedog yn llawn acenion rhyfel, a'u gruddiau yn goch gan waed, Yma ceir cylch ceryg a elwir Pabell Llywarch Hen, lle y tybid y trigai y bardd a'r rhyfelwr enwog. Llawer o anffodion a ddaethant i'w gyfarfod; ond yn ben ar yr oll collodd ei holl feibion—

"Wyf hon, wyf unig, wyf anelwig oer,
Gwedy gwely ceinmyg.
Wyf truan, wyf tridyblyg;
Wyf tridyblyg hen, wyf anwadal drud,
Wyf ehud, wyf anwar,
Y sawl a'n caroedd ni'm car."


Tua chan' mlynedd yn ol, yr oedd benyw o'r enw Gaynor Hughes yn byw yn Llandderfel, yr hon, fel Sarah Jacob, yn ddiweddarach, oedd yn proffesu byw heb fwyta. Mae Pennant yn son am dani, a darfu i Jonathan Hughes wneud cerdd iddi, lle y dywed—

"Mae bywyd dyn a'i angau,
Diamheu yw bob gradd a rhyw
Yn llaw yr Hollalluog,
Y gwir ardderchog Dduw.
Ffon daf a chareg denau
A laddai'r cawr Goliah i lawr.
Lladd Jonah oedd yn ei grombil
Nid allai'r morfil mawr;
Dwyn anadl hon o'i genau,
Ni ddichon angau a'i saothau syn;
Gwir ganiatad y nefol Dad
A'i ordinhad yw hyn."


Argraffwyd y gerdd yn 1778, ac yr oedd Gaynor yn orweddiog y pryd hwnw er's pedair blynedd. Cyrchai lluaws i'w gweled, gan ddwyn blodau a pherlysiau iddi, a dywedai hithau fod pren y bywyd yn harddach na holl flodau a rhosynau y llawr. Tybiai y werin ddiddichell ei bod wedi gweled pren y bywyd yn llythyrenol; ond tra thebyg mai cyfrwysdra yr hen ferch oedd y cyfan,

Gwaddoliad.—Gadawodd John Williams, drwy ei ewyllys dyddiedig Mawrth 9, 1846, i'w weinyddwyr, John Wm. Foulk, R. Wynne, a R. Thomas, weddill ei etifeddiaeth, yr hyn a ddaeth i £60, llog pa rai sydd i gael eu rhanu yn flynyddol rhwng hen bobl lesg, afiach, a thlawd y plwyf.

Rhoddir enwau perigloriaid y plwyf, ac adeg eu sefydliad, o 1537 i lawr:—John ap John, ap Thomas, ap Rice, 1537; J. Price, 1556; J. ap D. Lloyd, 1558; J. Price, 1573; R. Vaughan, 1583; W. Kenrick, 1592; M. Jones, 1640; A. Thelwall, A.M., 1641; J. Pierce, 1663; H. Parry, 1675; P. Hall, 1705; R. Edwards, 1720; T. Jones, 1740; P. Maurice, 1760; E. Hughes, 1760; S. Stoddard, B.A., 1763; D. Stoddard, M. A., 1788; T. Davies, 1796; E. Beans, 1825; J. Jones, A.M., 1828; J. Jones, 1840; W. Morgan, 1868.

Rhaid i ni groesi y mynydd bellach a myned i

LANFIHANGEL GLYN MYFYR.

Saif y pentref ryw saith milldir i'r gogledd-orllewin o Gorwen. Tir mynyddig, amlwg, yw y tir, yn cynwys 4,202 0 erwau, ac yn cymeryd i fewn y trefddegymau Cefnpost, Cysylog, Llysan, a Maesyrodyn, Poblogaeth y plwyf yn 1861 oedd 481. Y mae yr Eglwys yn hir a chul, ond wedi ei harddu yn fawr drwy adgyweiriad yn 1853. Ar y mur yn y pen gogleddol, ceir nodiad dyddorol am flwyddyn y lli, sef 1781, pan chwyddodd yr afon Alwen yn ddirfawr, ac yr oedd cenllif y mynydd yn ddinystriol. Daeth y llifeiriant i mewn i'r Eglwys, gan gario ymaith ran o'r gangell. Sylwa y Parch. D. R. Thomas fod yr arferiad o hel "Blawd y gloch" yn cael ei ddal i fyny gan y clochydd fel ei dâl am alw y plwyfolion i'r Eglwys, ae hefyd yr arferiad gan y plant o hel "Bwyd cenad y meirw," ar nos gwyl yr holl saint. Mae yr arferiad diweddaf hwn yn ffynu o hyd mewn rhanau eraill o Edeymion; gwelais rai o blant Llansantffraid wrth y gorchwyl yn 1876. Elent oddi amgylch y ffermdai gan haner ganu with y drws—

"Dydd da i chwi heddyw,
Bwyd cenad y meirw,"


Ac mewn amryw fanau estynid iddynt deisen fechan wedi ei gwneud at y pwrpas. Brodor o Lanfihangel oedd y Dr. P. Maurice, o Oxford, awdwr enwog, ac amryw enwogion eraill am y rhai y cawn son mewn penod arall. Dyma enwau y boneddigion a fuont yn gweinyddu fel perigloriaid yn y plwyf hwn:- J- Vaughan, 1537; J. Blacken, 1537; L ap David, 1551; J. Vaughan, 1573; H. Owen, 1574; T. Powell, A. M., 1602; H. Owen, 1606; J. Price, A.M., 1618; R. Foulkes, 169; J. Kyffin, 1623; R. Foulkes, A.M., 1629; J. Foulkes, 1662; R. Williams, 1677; D. Wynne, 1689; W. Hughes, B.A., 1729; D. Davies, B.A., 1753; W. Jones, 1760; W. Rowlands, 1799; R. Prichard, 180o; W. Lewis, M.A., 1847; E. Roberts (Elis Wyn o Wyrfai), 1866; E. Evans, 1872.

BETTWS GWERFIL GOCH

Mae llawer o fanau yn Nghymru yn dwyn yr enw Bettws, megys Bettws yn nghwmwd Iscenin, yn agos i Landeilo Fawr; Bettws yn Rhos, ger Abergele; Bettws yn nghwmwd Uwch-hanes, yn nghantref Cydewain ar làn Hafren; Bettws Tir Iarll, yn Morganwg; Bettws Bledrws, yn nghwmwd Caewedros; Bettws Ieuan, yn nghwmwd Iscoed, yn Ngheredigion; Bettws Claerwy, yn nghwmiwd Penwyllt; Bettws Diserth, yn nghwmwd Llech Ddyfno, yn Maesyfed; Bettws Garmon; Bettws y Coed, yn Nant Conwy; a Bettws Gwerfil Goch. Am ystyr yr enw dywed Cynddelw fel hyn:"Myn rhai mai gair Cymraeg yw Bettws, yn golygu lle canolog rhwng mynydd a dyffryn; ond nis gallwn gael gwreiddyn Cymraeg iddo. Tebycach mai Eglwysair o'r canol oesoedd ydyw. Yr oedd gan y Pabyddion Lan, Capel, a Bettws. Y Llan oedd y prif grefydd-dy. Cangen ddibynol ar y Llan oedd y Capel. Chapel of ease—capel diogi, capel anwes. Nid yw yr athraw Rees, yn ei Welsh Saints, yn gwneud fawr o wahaniaeth rhwng Capel a Bettws. Mae tarddiad y gair yn ansicr ganddo ef, ond awgryma mai Bead House yw ei dadogair. Eraill a'i tarddant o Abbot House—ty Abad. Beads yw gleinian, neu baderan y Pabyddion; a thebygol mai lle i fyned i gyfrif eu paderau oedd y Bettws, yn yr hen amser, neu fan i droi ar eu teithiau wrth fyned ar bererindod o'r naill fan i'r llall," (Greal, Ebrill, 1869.)

Saif pentref y Bettws ryw 5 milldir o Gorwen, yn nghyfeiriad y gogledd-orllewin, Plwyf lled fynyddig yw y plwyf hwn ar y cyfan, yn cynwys ond rhyw 258 o drigolion. Ond cynwysa rai golygfeydd prydferth dros ben. Yn Bottegir, ffermdy yn yr ardal, y preswyliai yr enwog Filwriad Salusbury, yr hwn a amddiffyn. odd Gastell Dinbych gyda dewrder nodedig dros bedair wythnos ar ddeg.

Y mae yr Eglwys wedi ei chysegru i Mair, a chynwysai gynt hen gerfwaith mewn coed yn cynrychioli y croeshoeliad. Bu y cerflun hwn ar goll am amser maith, ond ar ol hir ymchwiliad fe'i cafwyd yn gladdedig mewn hen ysbwrial yn y twll dan y grisiau. Y mae wedi ei gyfleu uwchben yr allor yn bresenol yn ei gyflwr adferedig, ac oddiwrth y llythyrenau sydd yn aros— "Ecce Homo, Maria, Johannea,"—gellid barnu fod y cerfiad wedi ei wneud tua'r bedwaredd ganrif ar ddeg neu y bymthegfed. Y mae yn y fynwent amryw brenau yw o agwedd tra hynafol, lle y clywir cryglais y gwynt o flaen ystormydd; ac y mae yr olwg arnynt yn dangos eu bod wedi blino yn ymladd brwydrau canrifoedd.

Wele restr o Berigloriaid y Bettws:-D. ap Ieun, 1537; H. ap Robert, 1566; E. Griffiths, 1589; T. Adkin, 1626; G. Hughes, 1660; D. Edwards, 1661; H. Owens, 1683; D. Wynne, 1684; S. Morgan, 1688; Edward Samuel, 1702; E. Jones, 1720; L. Jones, B.A., 1728; W. Jones, B.A., 1755; T. Owen, M.A., 1760; J. Lloyd, B. A., 1766; J. Hughes, 1794; J. Morgan, 1800; E. Edwards, 1822; W. Hnghes, 1851; W. Jones, 1877.

PENOD II.

ENWOGION EDEYRNION

GALL y parth hwn o Gymru ymffrostio iddo fod yn drigle cynifer o wŷr enwog mewn gwahanol gylchoedd. "Yn mhob gwlad y megir glew, ac felly magwyd amryw wŷr glewion ar lanau y Dwrdu neu y Dyfrdwy. Bu lluaws o hen deuluoedd clodwiw yn byw yn y palasau a'r tai mawr yn yr ardaloedd. Mae Carog, Rhagad, Rug, Ucheldre, Maesmor, Bryntangor, Hendreforfydd, Gwerclas, Hendwr, Cilan, Cefnbrychdwn, ac eraill, yn enwau tai y cyfarfyddir â hwy yn fynych yn hanesiaeth yr ail ganrif ar bymtheg. Bu teulu urddasol yr Huwsiaid oeddynt arglwyddi Cymer yn preswylio yn Ngwerclas, y rhai oeddynt nodedig am eu teyrngarwch i'r brenin, a'u dylanwad yn cael ei deimlo gan y wlad oddiamgylch. Gellid cyfeirio at amryw o deuluoedd eraill o gryn fri yina a thraw, ond mae agwedd cymdeithas yn newid gyda threigliad amser, ac iselwyr un oes yn cael eu haner addoli gan oes arall. Gwna ystormydd gauaf wawd o hen balasau, a gellir dweyd am lawer lle-

Drain ac ysgall mall a'u medd,
Mieri lle bu mawredd.

Ond teilynga cŷff y Salusbriaid o Rug fwy o sylw na nodiad wrth fyned heibio, yn enwedig pan gofiom fod William Salusbury o'r Cae Du, Llansanan, y cyfieithydd hyglod, yn dwyn perthynas â hwy.

Yr oedd John Salusbury o Rug yn un o'r boneddigion a awdurdodid yn "llythyr cynwys" y Frenhines Elizabeth wrth alw Eisteddfod Caerwys, yn 1567, i ddarostwng clerfeirdd segur, diawen, a diwaith, ac i ddyrchafu y gelfyddyd i urddas teilwng.

Beth ellir wneud yn well na gadael i "Garmon" y Gwyliedydd, sef y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain), lefaru ar hanes y teulu hwn? Yr oedd Gwallter yn arwyddfardd galluog, yn llenor medrus, ac yn abl i beri i iaith y Cymro fyned yn fyw o flodau dan ei ddwylaw. Fel hyn y dywed:—

"Yn ol deongliad dameg fflangell y Philistiaid,—'Allan o'r bwytäwr y daeth bwyd, ac o'r cryf y daeth allan felysdra;' felly, oddiar wraidd y Saeson cleddyfrudd, a'r Normaniaid saeth-anelawg, y tarddodd trwydd cnydfawr, toreithiog o fendithion tymorol ac ysbrydawl, i Gymru dlawd a gorthrymedig. Y Salsbriaid oeddynt o áach Normanaidd, a dywedir mai gyda Gwilym y Goresgynydd y daeth y cyntaf o'r enw i'r ynys hon, yn y fl. 1066. Yn ol llyfrau yr Arwyddfeirdd, mab i'r Salsbri cyntaf yn Nyffryn Clwyd, oedd Ioan Salsbri, a fu farw yn y fl. 1289; a Mr. Peter Elis a ddywed mai mab i hwn oedd Syr Harri Ddu, enw tra adnabyddus i hen delynorion Gwynedd: ond Reinallt a ddywed mai y pedwerydd Salsbri yn Nghymru oedd yr Harri Ddu uchod, ac iddo briodi Nest, wyres i Ithel Fychan, a marw yn y fl. 1289. Trwy fynych ymbriodi ac ymgyfathrachu âg etifeddesau Cymreig, daeth y Salsbriaid, fel rhai Normaniaid gwiwgof eraill, o enwau Herbert, Stradling, Basset, Tuberville, &c., yn Gymry gwladgar, o barth gwaed, ac iaith, a serchiadau. Yn Marwnad Syr John Salsbri, hynaf, o Leweni, dywed William Lleyn megys

wrth y marw—

"Y Sesiwn gwyddys eisiau
Eich doeth fron a'ch DWY-IAITH frau."

Ac am y Salsbríaid, a'u syberwyd tuag at feirdd a cherddorion, y dywed S. Tudur, yn ei Awdl Briodas i John Salsbri o Rug, a Bachymbyd-

"SION Eryr y gwŷr i gyd—SION wrol,
SION eurwalch Bachymbyd—
SION fwyaf son i'w fywyd,
SION ben ar bawb sy'n y byd.


'Y gwŷr o raddau a gar roddion
Hap a roed iddynt y Prydyddion,
A gwŷr o ddwyradd o gerddorion,
A chroew iaith a Chrythorion—
NADOLIG, a SULGWYN, o delon'-BASG & MAI
Er maint a ddeuai, croesawai SION.'

"Pais-arfau y Salsbriaid yn gyffredin oedd-'Maes rhudd, Llew ar ei ysglyfnaid arianaidd, a choron euraidd, rhwng tair lloeren o'r trydydd lliw.' Dengys hyn eu Cymreigyddiad; herwydd bod arfau y Cymry yn fwy llewawg o lawer nag arfau y Saeson. Anfynych y gwelir Arfbais bedranawg Gymreig heb lew yn rhyw gwr iddi.

"Mr. Pennant a dybiai ddyfod y Salsbriaid i Lleweni (llys yr hen Farchweithian, un o bymtheg llwyth Gwynedd yn yr 8fed canrif) cyn amser Harri y trydydd: ond nid yw hyn debyg, canys yr oedd Dafydd, brawd 'Llywelyn y llyw olaf,' yn arglwydd Dinbych yn nheyrnasiad Edward y cyntaf; ac yn ei gwyn at Archesgob Caergaint y mae yn achwyn ar drais a gorthrech Saeson Caerlleon, ac eraill, am dori a chludo ymaith ei goedydd ef yn Lleweni, heb ei genad ef. Y mae hyn yn hanesiaeth awdurdodawl, ac felly nid tebyg i'r Salsbriaid feddianu Llys Marchweithian nes y dienyddiwyd Dafydd, arglwydd Dinbych, gan ei elynion cigyddaidd yn Amwythig, yn y fl. 1282. Ond pa bryd bynag y daethant i Leweni, ni buont bir cyn lledu eu hesgyll, a pherchenogi nifer o balasau a threftadaethau yn swyddau Dinbych, Fflint, a Meirion; canys ni a'u cawn yn Bachymbyd—Rug—Bachegraig—Yr Ystoc—Lleproc—Llanrhaiadr—Llywesog —Clocaenog—Llanfwrog—Maes Cadarn—Gwytherin—Dol-beledr—Llandyrnog.

"Ond 'golud yn ddiau a gymer adenydd, ac a eheda ymaith, megys eryr tua'r wybr.' Enwau a theuluoedd a ymddangosant yn fawr eu rhwysg, ac a ddiflanant. Felly o'r Salsbriaid llydain eu hesgyll, nid oes heddyw—'prin ddau, lle yr oedd gynau gant' -neu lai na dau, canys ar wibfeddwl ysgafn nis gwn ond am un tylwyth cerbydawg, boneddwiw, o'r enw, a hwnw nid yn Nwynedd ond yn Ngwent." (Gwel y Gwyliedydd am Mehefin, 1826; hefyd Traethodau Llenyddol Dr. Edwards.)

Y mae y bargyfreithiwr hyawdl E. G. Salusbury, Ysw., gynt A.S. dros Gaerlleon, yn hawlio ei ddisgyniad o'r llinach enwog.

Bellach sylwir yn fras ar hanes amrywiol bersonau a godasant i hynodrwydd yn y cwmwd:—

ELIS CADWALADR.—Preswyliai ef yn Llandrillo, lle y blodeuai fel bardd o 1707 i 1740. Efe oedd y prif fuddugwr yn Eisteddfod y Bala dydd Llun y Sulgwyn, 1738. Y barnwr oedd y Parch. Edward Wynne, Ficer, Gwyddelwern, yr hwn a anerchodd yr holl gynulleidfa mewn barddoniaeth ganmoliaethol, gan ddweyd am Elis Cadwaladr—

"Goreu i gyd, gwr y gadair."

Yr oedd E. Cadwaladr yn dra chelfyddgar yn y mesurau caethion, fel y prawf yr englynion a gyfansoddodd i'w gosod ar fedd Huw Morris o Bontymeibion. Y mae ei gân a elwir "Clod i ferch," yn dangos y gwyddai fwy na llawer o'i gydoeswyr am enwau clasurol. Dyma englyn o'i waith i "Gywergorn Telyn,"

"Tair pibell i gymell y gân—awr felus
Ar fodrwy liw arian;
Tynu mae y tanau mân
Tlws eurgordd at lais organ."


PARCH. R. B. CLOUGH, M.A.[5], oedd Ficer Corwen. Bu farw Gorph. 11, 1830, yn 48 ml. oed. Yr oedd Mr. Clough wedi astudio y mesurau caethion, ac yn gallu canu yn lled gywrain ynddynt.

"Adwaenoch swn adenydd
Cystrawen yr awen rydd;
Modrwch glymu ymadrawdd,
Goleu teg o gload hawdd,"

meddai R. Davies, Nantglyn, wrtho. Dyma ddau englyn o'i waith ar farwolaeth y Parch. D. Richards (Dewi Silin), Periglor Llansilin-

"Dybenwyd, claddwyd mewn cledd—ein cyfaill,
Ow! cofiwn y tostedd;
Cri colli ein câr callwedd,
Dydd blin dwyn Silin o'i sedd.

"Dyn ardduag o ran urddau—un parchus
Yn perchen iach foesau;
Heb serthedd dygasedd gau
Anfoesawl o'i wefusau."


Yr oedd Mr. Clough yn hynod am ei nawdd i awenyddion, ac am feithrin llenyddiaeth. Efe yn gyffredin fyddai y llywydd mewn mân Eisteddfodau a gynelid yn Edeyrnion yn y chwarter cyntaf o'r ganrif hon. Ceir yn yr hen Wyliedydd amryw farwnadau ar ei ol gan Peter Llwyd, o Gwnodl Fawr, E. Jones (Britwn Ddu), &c. Gosodir yma englynion buddugol ar ei ol, a enillasant mewn Eisteddfod fechan yn y Ddwyryd, yn fuan ar ol ei farwolaeth. Yr awdwr oedd Iolo Gwyddelwern, ac nid ydym yn credu iddynt erioed fod yn argraffedig o'r blaen. Copïwyd hwy i'r ysgrifenydd gan Rhuddfryn, yr hwn sydd yn fab yn nghyfraith i'r bardd Iolo:—

"Pwy all ddal, cynal mewn co—mawr alar
Marwolaeth fath Gymro;
Perl ac enaint, braint ein bro,
Bu les mawr, heb lesmairio.

"Och! erfawr dirfawr derfyn—ar einioes
Wr enwog mor sydyn;
Offelriad, gwir offeryn,
I'wyllys Duw a lles dyn.

"Colofn deg, cofn ar g'oedd—i'r eglwys
Trwy eglur welthredoedd;
Colofn ein gwlad fad ef ydoedd,
I'n cu, lefn iaith—colofn oedd.

Gwnai farn yn gadarn gydiol—cytundeb
Mewn cyfiawnder deddfol;
Pwyllys wr, pell a siriol,
O destun fals dystion ffol,

"Ar ol ei siriol bwyllus araeth—gwag
Yw'r eglwys osywaeth;
Gwag Eisdeddfod, syndod saeth,
Mor o alar marwolaeth.

"Llais ddyrchai, erchai eirchion—mal utgorn
Aml atgof i ddynion;
Lles o air, ewylly's Ion,
Gwr—bugailiwr o galon.

"Ow! noddwr awenyddion—Ow! collwyd
Y calla' fardd tirion;
Mae'n rhwygiad a brathiad bron,
Ow! darniwyd nerth Edeyrnion.

"Bu farw i bob oferedd—holl ofwy
Hyll ofd a llygredd;
Byw wedi hyu byd o hedd,
Eiddo ei Dduw yn ddiddiwedd


"I'n goror neb hawddgarachi—oi pherl oedd,
Ffarwel iddo bellach;
E alwodd Ior i wledd iach,
Fywyd ef o fyd afiach."
—IOLO GWYDDELWERN.

HYWEL CILAN.—Bardd enwog yn ei flodau o 1460 i 1490. Dywed Enwogion Swydd Feirion a'r Geiriaduron Bywgraffyddol fod llawer o'i waith ar gael mewn llawysgrifen, ond ni ddywedant yn mha le. Efe oedd perchenog Llawr y Cilan yn mhlwyf Llandrillo.


SYR RHYS O DREWYN.—Bardd yn blodeuo tua 1460, ac yn byw gerllaw Corwen.[6] Bu mewn ymryson barddonol gyda Gutto'r Glyn, bardd abat Glynegwestl, ger Llangollen, yr hwn a'i triniai yn arw, er y dywed—

"Offisiol a chyffeswr,
A meddyg im' oedd y gwr."

Cafodd Syr Rhys gynorthwy Tudur Penllyn, ond ymddengys fod Gutto yn drech na'r ddau. Arferid gynt alw gwŷr eglwysig with yr enw Syr fel y defnyddir y gair Parch, yn ein dyddiau ni.


CYNFRIG HIR.—Brodor o Edeyrnion. Y modd yr hynododd ef ei hun, gan enill enwogrwydd yn mhlith mawrion Edeyrnion, oedd drwy ei ffyddlondeb gwladgarol, ei serch cynhes, a'i wroldeb nerthol yn anturio i garchar Caerlleon Gawr, ac yn arwain oddiyno ar ei gefn Gruffydd ab Cynan, Tywysog Gwynedd, ar ol bod yn dihoeni yn y garchargell am yr ysbaid o ddeuddeg mlynedd.


SION CYNWYD.—Bardd gwlad da yn byw yn Nghynwyd, ac yn ei flodau tua dechreu y ganrif hon. Cyhoeddwyd peth o'i waith yn y Cylchgrawn


DAFYDD AB HARRI WYN, oedd fardd medrus yn y 16eg canrif. Pan oedd ar daith i Eisteddfod Caerwys, yn 1567, darfu í Sion Phylip o Ardudwy ei orddiwes gerllaw y dref hòno, wedi bod ar hyd y nos yn crwydro a cholli y ffordd ar y mynyddoedd, a gofyn a wnaeth Sion Phylip, ac ef yn hollol ddyeithr iddo——

"Y mwynwr, mi ddymunwn
Gael enw y lle, hoywle hwn."


Yna atebodd Dafydd ab Harri Wyn ef yn ebrwydd yn y wedd a ganlyn—

"Caerwys yw hon, cares hardd,
Cyrch hen heirddion feirddion fyrdd;
Cymer I'w nawdd Cymry nordd,
Cor liên tywys cynwya cordd."

Synai Sion Phylip yn aruthrol iddo gael ateb mor fuan ar orchest bencerddaidd. A phan brofwyd ef dranoeth o flaen y beirdd, gwelwyd ei fod yn medru yr holl fesurau cerdd a'u perthynasau, a'i fod wedi canu arnynt yn fwy gorchestol na neb a gawsant raddau pencerddiaid yn yr Eisteddfod.—(Gwel Geir. Aberdar, Geir. Lerpwl, &c., dyfynedig o lyfr Ieuan Brydydd Hir).

DAFYDD WILLIAM PYRS.—Bardd o Gynwyd. Yr oedd yn byw tua 1660. Bu ef a Matthew Owain o Langar yn gyfranog mewn cyfansoddi rhai caneuon, un o ba rai a geir yn Blodeugerdd Cymru.


ELIS AB ELIS.—Bardd ac offeiriad yn trigianu yn Llandrillo rhwng 1580 a 1620. Y mae amryw gywyddau ac englynion o'i waith ar gael.


EDWARD EVANS (Iolo Gwyddelwern) a anwyd yn y Tyddyn. Bychan, yn mhlwyf Gwyddelwern, yn 1786. Yr oedd yn nai fab chwaer i Thomas Edwards (Twm o'r Nant), a diau ei fod yn tebygu cryn lawer mewn gallu awenyddol i'r hen athrylith hwnw. Ni feddai ar feiddgarwch a gwylltineb awen Twm, ac ni anurddid ei waith gan gynifer o wallau chwaith. Eto, er yn nghanol rhwystrau, meddienid ef â rhyw feiddgarwch tawel i gystadlu â chewri yr oes ar brif bynciau yr amser, fel y dengys y dyfyniad canlynol o restr cynwysiad ei lyfr, yr hwn sydd yn meddiant Rhuddfryn mewn cyflwr destlus:—Awdlau ar Roddiad y Ddeddf ar Sinai; Gwledd Belsassar; Elusengarwch; Abraham yn Offrymu Isaac; Dewrder Caradog; Marwnad Dafydd Ddu o Eryri; Marwnad Dafydd Penant; Gwaeddolef uwchben Brenin— llys Angeu; yn nghyda lluaws o gywyddau, cerddi, a charolau. Brawd iddo ef oedd Evan Evans, sylfaenydd Cymdeithas y Cymreigyddion yn Lerpwl. (Gwel llyfr R. Davies. Nantglyn). Wele engraifft o'i waith allan o'r awdl ar "Roddiad y Ddeddf"—


"Gwedi trimis o gyd-dramwy—Duw a ddaeth,
Dydd oedd ddychrynadwy;
Efo nodwaith ofnadwy
Pryd el farn—pa raid ei fwy?

"I roddi el arwyddair—i Israel
Addasrwydd ei gynghrair,
A dewis bywyd diwair,
Nod eang yw mewn deng air.

"Sinai oedd dan greision wawr—fflam amwyth
Yn fflamau echrysfawr;
Amwyll derfysg, mellt dirfawr
Yn troi'n mwg taranau mawr."

Bu farw yn 1853, a chladdwyd ef yn mynwent Llanfwrog, Rhuthyn, gyda'r englyn canlynol o'i waith ei hun yn gerfiedig ar gareg ei fedd:—

"Llom walan lle mae Iolo—Gwyddelwern
Ga'dd alwad i huno,
Dan wisg llygredd, dynfedd do,
Hyd esgyn i'w adwisgo."

DAVID HUGHES (Eos Ial) oedd fardd yn byw yn Morfydd, Llansantffraid. Dringodd drwy gryn anhawsderau i safle led uchel fel cyfansoddwr. Cyfansoddodd amryw fân lyfrau, a byddai yn arfer a'u hargraffu ei hunan, a myned yma a thraw i'w gwerthu. Yr oedd ganddo gryn allu i oganu drwg-arferion, a mynych y defnyddiai ei ffrewyll at ofergoeledd a ffolineb yr oes. Claddwyd ef yn mynwent y Bedyddwyr, Llansantffraid, tua 1860.


GRUFFYDD AB CYNAN, er ei eni yn yr Iwerddon, (yr hyn a gymerodd le tua dechreu yr unfed ganrif ar ddeg), sydd, o herwydd ei gysylltiad uniongyrchol mewn blynyddau dyfodol â'r rhanbarth hwn, yn haeddu cofnodiad yma. Yr oedd yn enwog fel rhyfelwr a thywysog yn Ngwynedd, a'i fri yn ddolur llygaid i'w elynion. Cyfeiriwyd mewn rhan arall o'r llyfr hwn at ei fradychiad anfad gan Meirion Goch yn Rug, ger Corwen, drwy yr hyn y trosglwyddwyd ef i garchar Caerlleon. Darfu iddo ddwywaith lwyddo i ymlid byddinoedd cedyrn Gwilym Goch (William Rufus) o Gymru i chwilio am nodded yn eu gwlad eu hunain. Yr oedd yn nodedig hefyd am ei nawdd i feirdd a llenorion. Yr oedd yn ddigon gwladgarol i wneud ymdrech egniol i adfywio a gloywi yr awen Gymreig, ac yn ddigon call i ddwyn gwyr enwog or Iwerddon i'w gynorthwyo yn y gorchwyl. Nid oedd felly mor ddall yn ei wladgarwch nes ei atal i sylwi ar ragoriaethau gwledydd eraill. Yr oedd hyny yn rhinwedd canmoladwy ynddo. Ei arwyddair, debygid, oedd, "Croesaw i'r goleuni o ba gyfeiriad bynag y daw." "Cymdeithion gwahanredol a ddywedynt ei fod yn wr cymedrol ei faint, â gwallt melyn amo, ymenydd gwresog, a wyneb crwn da ei liw; llygaid mawr gweddus, ac aeliau teg, barf hardd, mwnwgl (gwddf) crwn, a chnawd gwyn, ac aelodau grymus, a bysedd hirion, ysgeiriau union, a thraed teg; cywraint oedd, a hyawdl mewn amrafaelion ieithoedd; boneddig oedd yntau, a thrugarog wrth ei giwdawd (ei genedl), creulon wrth ei elynion, a gwychaf gwr mewn brwydr."—Gwel ei "Fuchedd."

OWEN FYCHAN, yr hwn a adnabyddir yn gyffredin wrth yr enw Owain Glyndwr, oedd fab i Gruffydd Fychan ap Gruffydd o'r Rhuddallt, ap Madog Fychan ap Gruffydd ap Madog ap Gruffydd Maelawr, ap Meredydd ap Bleddyn ap Cynfyn. Ei fam oedd Helen, merch Thomas ap Llywellyn, yr hwn a briododd Elinor Goch. Dengys Gwallter Mechain, drwy gynllun achyddol cywrain, ei fod yn disgyn trwy ei dad o dylwyth tywysogol Powys:—

"Bleddyn ap Cynfyn bob cwys,
Ei hun br'oedd hen Bowys;"

ac o du ei fam o Rhys ap Tewdwr, a Gruffydd ap Cynan, dan sefydlydd llwythau brenhinol Deheubarth a Gwynedd. Ganwyd Owain Glyndwr yn y flwyddyn 1364, naill ai yn Nglyndyfrdwy, yn mhlwyf Corwen, neu ynte yn Sycharth, yn mhlwyf Llansilin. Aeth saith dinas i ymryson am yr anrhydedd o fod yn fan genedigaeth Homer, ac felly dadleuir rhwng y ddau le hyn fel man genedigaeth yr arwr Cymreig. Yn mhen blynyddau lawer ar ol hyny, taenwyd chwedlau rhyfedd am ddygwyddiadau synfawr wedi cymeryd lle ar enedigaeth Owain. Gafaelodd y bardd mileneidiog Shakespeare yn y traddodiadan hyn, ac yn y ddrama ardderchog Henry IV. dywed, gan roddi y geiriau yn ngenau "Glendower:"—

"At my nativity
The front of heaven was full of fiery shapes
Of burning cressets, and at my birth
The frame and huge foundations of the earth
Shak'd like a coward:


The goats ran from the mountains, and the herds
Were strangely clamorous to the frighted fields;
These signs have marked me extraordinary,
And all the courses of my life do show
I am not in the roll of common men."

Cyfeithir y rhan ddiweddaf yn Hanes y Brytaniaid a'r Cymry fel hyn :—

"Ar fy ngenedigaeth
Yr oedd wyneb nen yn llawn o ddelwau tanllyd:
Rhuthrai'r geifr o'r bryniau, a'r deadelloedd
A ddadyrddent yn ddychrynedig yn y meusydd;
Dynodai'r arwyddion hyn fi fel un hynod,
A phrawf holl yrfa'm bywyd mai felly'r wyf,
Ac nad wyf fi ar lechres gwŷr cyffredin."

Cafodd ddygiad i fyny fel ag oedd yn gweddu i fab pendefig, a gosodwyd ef i ddysgu y gelfyddyd gyfreithiol, nid er mwyn bywoliaeth, mae'n debyg, ond er mwyn dysgyblaeth feddyliol, a mantais i'w fywyd yn ol llaw. Y mae Shakespeare braidd yn hoff o wawdio dull y Cymry o siarad Saesonaeg, fel y rhydd eiriau chwithig yn ngenau Syr Hugh Evans, yr hen offeiriad Cymreig, ac y gwna i Fluellen (Llywelyn), y milwr Cymreig, alw Alexander Fawr yn "Alexander the pig," &c.; ond rhydd iaith gywir a choeth yn ngenau y pendefig Glendower, a gesyd ef i ddweyd wrth Hotspur:—

"Medraf siarad Saesonaeg, Syr, cystal a chwithau,
Canys dygwyd fi i fyny yn y llys Seis'nig.

Nid oes genym ddim hanes credadwy arall, hyd y gwyddom, am ein gwron hyd ei briodas. Ei ddewisedig wraig oedd Margaret, merch Syr David Hanmer, o Hanmer, yn sir Fflint. Os ydym i gredu fod Iolo Goch yn dweyd ffaith wirioneddol, ac nid yn llechu yn nghysgod rhyddid y bardd i orliwio, yr oedd y foneddiges hon yn ymyl perffeithrwydd o ran ei chymeriad:—

"A gwraig orau o'r gwragedd,
Gwyn y myd o'i gwin a i medd;
Merch eglur 11in marchoglyw,
Urddol hael o reiol ryw."

Yr oedd gan Owain dyaid o blant, y rhai hefyd a ganmolir gan y bardd. Ymddengys fod Llys Owain yn Sycharth yn hynod am ei ardderchogrwydd a'i urddas. Dyma ddarluniad o hono gan y bardd a enwyd:-

"Tai Napl"[7] ar folt deunawplas,
Tai nawplad fold deunawplas,
Tŷ pren glân mewn top bryn glas.
Ar bedwar piler eres
Ei lys ef i nef yn nes.
Ar ben pob piler pren praff,
Llofft ar dalgrofft adeilgraff,
Ar pedair llofft, o hoffter,
Ynghyd gydgwplws lle cwsg cler.
Aeth y pedair disgleirlofft,
Nyth lwyth teg iawn, yn wyth lofft.
To teils ar bob tŷ talwg,[8]
A simnai lle magai mwg.
Naw neuadd gyfladd gyflun,
A naw wardrob ar bob un.
Siopau glân, gwlys gynnwys gain,
Siop[9] lawndeg fel Siop Lundain.
Croes eglwys gylchlwys galchliw,
Capelau a gwydrau gwiw.
Pob tu'n llawn, pob ty'n y llys,
Perllan, gwinllan, gaer wenllys.
Parc cwning[10] meistr pôr cenedl,
Erydr a meirch hydr mawr chwedl.
Garllaw'r llys, gorlliwio'r llall,
Y pawr ceirw mewn parc arall.
Dolydd glân gwyran[11] a gwair,
Ydau mewn caeau cywair.[12]
Melin deg ar ddifreg ddŵr,
A'i golomendy gloyw maendwr.
Pysgodlyn, cudduglyn cau,
A fo rhaid i fwrw rhwydau;"

(Gorchestion Beirdd Cymru, tudal. 115). Dywed Cynddelw

mewn nodiad ar y Cywydd hwn: "Mae y 'Bryn glas,' ar dop yr hwn y safai y ty pren glan, yn cael ei adnabod hyd heddyw. Mae olion y pysgodlynoedd i'w canfod, y parc, a'r felin, ond eu bod yn rholdy a phandy erbyn hyn; ac y mae y ty cynswllt yn cael ei alw Pentre'r cwn o hyd eto. Ond gan mai ty pren ydoedd, mae pob olion o'r adeilad wedi llwyr ddiflanu er's oesoedd bellach." Mae traddodiad yn ardal Glyndyfrdwy hefyd fod hen balas Owain yno yn gladdedig yn "Pwllincyn"—Pwll llynclyn (?), yn agos i'r Mound, sef y domen isaf o'r tair sydd rhwng Corwen a Glyndyfrdwy. Ceir yr enwau Parc, a Llidiart y Parc, yn yr ardal o hyd, ond nid oes garw cyflymdroed i'w weled bellach, os buont yma fel yn Mharc Sycharth—"Pawr ceirw mewn parc arall." Tybiwn mai nid anmhriodol yn y fan hon fydd dyfynu y llinellau canlynol o waith y bardd medrus Iorwerth Goes Hir, y rhai oeddynt fuddugol mewn cyfarfod llenyddol a gynelid yn Llansantffraid:—

"Ar lanerch dlos lle heibio rhed
Y Dyfrdwy ar el hynt,
Fe saif hen olion ar ei glan,
Gweddillion amser gynt:
Hen lys traddodiad noda'r fan
Ynglyn a'r enwog wr,
Gan ddweyd mai dyma garchar gynt
Hon arglwydd dewr Glyndwr.

"Hen lafar benill ddaeth i lawr
Ar dafod llawer oes,
Gan adrodd hen ddygwyddiad fu,
I ni fel hyn y rhoes:
Tri chant neu fwy o flwyddi'n ol
Aeth Dyfrdwy fawr ei naid,"
Yn un o'i gorlifladau gynt,
'Ag Eglwys Llansantifraid."

"Gerllaw y carchar safai hon,
Lle 'nawr mae gwely'r lli;
A chwery y brithylliaid yn
Lle bedd ein tadau ni;
Tyst golofn ydyw ef o'r fan,
Hwnt, hwnt, i ddydd fy nhaid,
Y safai yn yr amser gynt
Hen dreflan Llansantffraid.

"O fewn dy furiau, garchar hen,
Bu'n gaethion wyr o fri;
Traddodiad wel yr Arglwydd Grey
O fewn dy furiau di;
A llawer tost bendefig balch,
A llawer grymus wr,
Arweiniwyd i'ch gynteddau gan
Alluog law Glyndwr.

"Os aeth ei gapel gyda'r lli,
Os aeth el lys yn llyn,
A'i her domenydd gwylio, fel
Galarwyr yn y glyn:
Goroesodd yr hen garchar llwyd
Gadernid llawer tŵr,
A dwg i ni ryw gofion hoff
O arwr mawr, Glyndwr."


Ond er mor gysurus y gallasai Owain dreulio ei amser yn ei balasau, ac yn mwynhau ei etifeddiaethau, credai ef fod dyledswydd yn galw arno ddadweinio y cleddyf, a dyfod allan yn rymus dros anrhydedd ei genedl. Yr oedd yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad y pryd hwnw "a'r afon Gaer hyd afon Gwy," a phob ymdrech i'w lladd wedi profi yn aneffeithiol. Yr achlysur i dynn egnion milwrol Owain allan oedd, cweryl a gyfododd rhyngddo a Reinallt, Arglwydd Grey o Rhuthyn, yn nghylch llain o dir o'r enw Croesau, rhwng Glyndyfrdwy a Rhuthyn. Yr oedd Owain wedi enill cyfraith ar y mater yn amser Richard II., ac felly cadwai Reinallt lid byw yn ei fynwes tuag ato. Pan benderfynodd Henry IV. gychwyn allan mewn cadgyrchiad yn erbyn Ysgotland, yn y flwyddyn 1400, anfonodd drwy Grey wys, a gwahoddodd i Glyndwr ymuno gyda barwniaid eraill yn yr osgordd. Cadwodd y bradwr mewn modd bwriadol y wys hon am cyhyd o amser fel nad oedd yn ddichonadwy i Owain ufuddhau. Y canlyniad fu i'r anufudd, fel y tybid ef, gael ei gyhoeddi yn fradwr, a'i feddianau yn fforfed! Rhoddodd hyn gyfleusdra i'r digofaint oedd wedi hir groni yn mynwes ein gwron at y brenin i dori allan yn rhyferthwy. Cynullodd nifer o Gymry dewrion ac aethant yn fintai er mwyn adenill y tiroedd a anrheithasid. Fel hyn torodd allan yn raddol wrthryfel cyhoeddus, a lluoedd o bob parth a ddeuent allan yn ewyllysgar i wisgo arfogaeth, ac i ymladd dan luman "Tywysog Cymru," fel yr ymhyfrydent alw Glyndwr.

Tybir mai ar Gaer Drewyn, yn agos i Gorwen, lle y buasai gwersyllfa Owain Gwynedd yn flaenorol, yr oedd gwersyllfa Glyndwr y pryd hwn. Ond yn fuan yr oedd ganddo amryw wersyllfaoedd eraill mewn gwahanol barthau o Gymru, a chymerodd ran mewn brwydrau lawer na chaniatai gofod i ni eu holrhain yn y cylch hwn. Llechai weithiau yn nghalon bryniau Eryri, bryd arall cawn ef ar goryn balch Plumlumon, drachefn ar wastadedd y Faelor Seisnig, ac wedi hyny yn nghanol Ceredigion. Ymosododd yn ddiarbed ar lawer o gestyll a geid yn Nghymru perthynol i'r Saeson, a llwyddodd i ddinystro rhai, a gosod gwarchodwyr yn y lleill.

Dywedir fod pob peth yn gyfreithlon mewn rhyfel, ac ymddengys fod gan lawer o'r rhai sydd yn selog dros y cleddyf gydwybodau digon ystwyth i gredu unrhyw beth. gellir cyfiawnhau llawer o ymddygiadau Glyndwr yn ei gadgyrchoedd, ond mae yn amlwg ddigon nad oedd y Saeson fymryn gwell, beth bynag. Yr oedd cryn lawer o gyfrwysdra yn nodweddu gweithrediadau ein gwron, ac nid yw yn annhebygol nad oedd ef ei hun, er mwyn llwyddiant ei arfau, yn ceisio dylanwadu ar ei filwyr, ac ar y byddinoedd estronol, fod yn gweithredu dan ddylanwad swyngyfaredd, a'i fod mewn cynghrair gyda deiliaid y byd ysbrydol. Fel y dywed Bardd Avon—

"Where is he living?—clipp'd in with the sea
That chides the banks of England, Scotland, Wales,
Which calls me pupil, or hath read to me;
And bring him out that is but woman's son
Can trace me in the tedious ways of art,
And hold me pace in deep experiments;
I can call spirits from the vasty deep."

Ac y mae yn bur sicr fod llawer nid yn unig yn credu y gallai "alw ysbrydion o'r dyfnder," ond hefyd y deuent i fyny pan y galwai arnynt. Bu ymddangosiad y seren wib yn 1402 yn llawer o fantais iddo. Nid oedd Whitaker's Almanac yn d'od allan y pryd hwnw i oleuo trigolion y wlad, nac hyd yn nod y Cyfaill gan Sion Robert Lewis; ac yr oedd y werin hygoelus yn hawdd iawn eu perswadio i gredu unrhyw beth. Bu Iolo Goch yn ddiwyd i wneud y goren o'r amgylchiad—

"Am eu lliw y mae llawer
O son am anian y ser,
Er eu sud eres ydynt
O radd nef arwyddion y'nt.

"Ond y seren eleni
Y sydd o newydd i ni,
Gem yn arwain in' gymod
Can Dduw glan, gwn iddi glod:
Uchel y mae uwchlaw Mon,
Yn ngolwg yr angylion;
Duw a ddyg fo'n diddigia
Gwynedd i gael diwedd da."

Ymddengys fod Owain yn gallu bod yn benderfynol iawn pan y tybiai fod angen am hyny, ac hefyd yn gallu cadw ei deimlad milwrol dan gudd weithiau, gan ymheulo yn mwyniant lletygarwch a charedigrwydd. Dodwn yma ddau draddodiad am dano sy'n egluro hyn. Y cyntaf a gyfeiria at ei ymddygiad efo ei gefnder Hywel Sele o Nannau:-"Ar ol hir gweryl fod rhwng y ddau, ceisiodd abad Cymer, gerllaw Dolgellau, eu cymodi, trwy eu dwyn at eu gilydd i gydymddyddan yn wladgarol; ac ymddangosai iddo lwyddo yn ei gais rhesymol. Aeth Owain, ar anogaeth yr abad, i lys Hywel gyda bwriad heddychol. Fel yr oedd y ddau yn rhodio yn y parc, Owain, with weled ewig yn pori gerllaw, a ddywedodd yn ddifeddwl drwg wrth Hywel, yr hwn a ystyrid y saethydd goreu yn ei oes, 'Dyna i chwi nôd ardderchog,' Yna tynodd Hywel yn ei fwa, gan gymeryd amo anelu yr ewig; ond trodd yn ddisyfyd a gollyngodd y saeth at galon Glyndwr, yr hwn, yn ffodus, a wisgai hurig ddur dan ei ddillad, ac am hyny ni chafodd niwaid. Ffyrnigodd Glyndwr gymaint oblegid y brad yma fel y rhwymodd Hywel yn y fan; ac wedi llosgi ei dŷ, cludodd yntau ymaith na wyddai nebi ba le. Ymdrechodd câr iddo, a'i enw Gruffydd ab Gwyn o'r Ganllwyd, yn Ardudwy, ei achub o law Glyndwr; ond gorchfygwyd yntau, ac wedi lladd llawer o'i wŷr, llosgwyd dau o'i dai, sef y Berth- lwyd a'r Cefn Coch. Yn mhen deugain mlynedd wedi hyny cafwyd ysgerbwd dyn mawr, o fath Hywel, yn ngheudod hen dderwen, lle y bwriwyd ef gan Glyndwr, fel y tybid, yn wobr am ei fradwriaeth. Yr oedd adfeilion hen dy Hywel Sele i'w gweled yn mharc Nannau yn amser Pennant, yn un pentwr o farwor a lludw." (Pennant's Tours, v. iii., p. 336). Yr ail a'i gesyd allan mewn agweddiad arall ar ei gymeriad. Dywedir iddo dramwyo y wlad unwaith yn null gwr boneddig dyeithr:- "Yn ol y chwedl hòno, tramwyodd Owain y wlad yn null gwr boneddig dyeithr, er mwyn gwybod tuedd y trigolion, heb ond un cyfaill gydag ef, yn rhith gwas iddo; a chan nad dyogel neb dan arfau yr amser hwnw, aeth y ddau'n anarfog at gastell Syr Lawrence Berclos (Lawrence Berkrolles), a gofynodd Owain am lety noswaith, yn Ffrangeg, iddo ef a'i gyfaill; cael hyny yn rhwydd iawn, a chael croeso mawr a goreuon o bob peth yn y castell; a chan mor foddlawn oedd Syr Lawrens i'w gyfaill, bu'n daer arno aros rhai diwrnodau gydag ef; a dywedyd ei fod ar fyr o ddyddiau yn dysgwyl gweled Owain Glyndwr yno; am ei fod wedi danfon allan ei holl ddeiliadon a'i weision, a llawer eraill o ffyddloniaid iddo, yn nghyrch pob rhan o'r wlad, yn wŷr twng iddo i gyd, i ddala Owain, yr hwn a glywsai fod wedi dyfod i'r rhanau byny o Gymru; a'i fod hefyd dan dwng ei hunan i roddi gwobrwyon anrhydeddus i'w wŷr, os hwy a ddelaint âg Owain Glyndwr yno, y naill neu'n fyw neu'n farw. 'Da iawn,' ebai Owain, 'y byddai diogelu'r gwr hwnw, a bod gallu yn rhywrai i wneuthur hyny.' Gwedi bod yn nghastell Syr Lawrens bedwar diwrnod a thair noswaith, yn fawr ei barch a'i roeso, meddylws Owain mai call fyddai myned i ffordd; a chan roi ei law yn llaw Syr Lawrens, dywedyd wrtho fel hyn:—'Y mae Owain Glyndwr yn gâr cywir, heb na digofaint, na brad, na thwyll yn ei galon, yn rhoi llaw yn llaw Syr Lawrens Berclos, ac yn diolch iddo am y groeso, a'r caredigrwydd, a'r syberwyd boneddigaidd gafodd ef a'i gyfaill, yn rhith gwas iddo, yn ei gastell; a chan addaw ar law yn llaw, a llaw ar galon, na ddaw byth ar feddwl iddo ddial. yr hyn a feddyliodd Syr Lawrens Berclos iddo; ac nas goddefai i hyny fyw ar ei gof, nac ar wybod iddo, hyd y bai yn ei allu, yn meddwl ac ar gof nebun o'i geraint a'i gymhlaid:' ac ar hyny, Owain a'i was a gyrchasant eu ffordd, a myned ymaith." (Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, tudal. 285, 286).

Bu Owain farw Medi 20, 1415.—

"Mil a phedwar cant nid mwy—cof ydyw
Cyfodiad Glyndyfrdwy;
A phymtheg praff ei safwy,
Bu Owain hen byw yn hwy."

Pa le y terfynodd ei einioes, a pha le oedd y llecyn gafodd dder byn ei ran farwol, sydd dra anhysbys. Rhai a ddywedant mai yn sir Henffordd, yn nhy un o'i ferched, y tynodd yr anadl olaf. Eraill a ddywedant mai yn Nglyndyfrdwy y gosodwyd ei gorff i orwedd yn y pridd. Terfynwn ein cofnodion am dano yn ngeir— iau Hanes y Brytaniaid a'r Cymry, Dos. IV., tudal. 298:—

"Ymddengys i ni, ar y cyfan, nad oes neb, yn ystod holl hanes ein cenedl, yn deilwng o edmygedd uwch nag Owain Glyndwr. Efe ydyw'r unig wron Cymreig a ymddyrchafodd yn ysbaid ychydig fisoedd i radd tywysog pendefigol, ac a adferodd annibyniaeth a hen derfynau ei wlad. Er bod ei bobl wedi eu darostwng er's mwy na chan' mlynedd gan en treiswyr, ac felly'n llwyr anghyfaddas i enill llwyddiant milwrol, eto mynych yr arweiniodd efe hwy dros y terfynau, ac y gorfododd i luoedd mawrion encilio o'i flaen, er iddynt gael eu cefnogi gan bresenoldeb eu brenin coronog. Tra yr oedd yn amddifad o adnoddau ond a grewyd ganddo ei hun, er hyny enillodd oddiar ei elynion, neu cafodd gan ei gynghreirwyr, drysorau, arfau, milwyr, ac amddiffynfeydd, trwy gyfrwng y rhai y llwyr drechodd gyfrwysder a galluoedd yn nod Henry IV. ei hunan, a bu gyfartal i athrylith filwrol Henry o Fynwy; a hèriodd holl allu Lloegr yn ddiarswyd. "Y mae ei glod fel swyngyfareddwr, a'r gred mai efe oedd gwrthddrych yr hen ddaroganau Cymreig, yn ddigon i brofi y dylanwad hynod a gynyrchai ei athrylith goethedig a nerthol dros feddwl ei gydoeswyr, yn nghydag effaith rymus ei lwyddiant tra rhyfeddol. A mwy fyth, er ei glod, tynerid ei wroldeb gan ddoethineb dyngarol; cedwid ei uchelgais heb ei lychwino gan hunanoldeb; ac nis gellir profi ddarfod iddo erioed, yn yr un o'i ymdrechiadau gwladol, gynyg aberthu annibyniaeth ei wlad er mwyn dyrchafu ei hun a'i deulu, yr hyn nis gellir ei ddywedyd ond am ychydig iawn o dywysogion a rhyfelwyr. Am hyny, naturiol ydyw i bob Cymro diledryw ymfalchio mewn arwr o'i genedl ei hun y methodd gorchfygwyr y Saxoniaid, yr Ysgotiaid, y Ffrancod, a llawer cenedl arall, ei ddarostwng dan iau eu gormes; a'r hwn, mewn gwirionedd, oedd y Cymro olaf, o waed coch cyfan, a fu'n dywysog Cymru oll."

OWAIN GWYNEDD.—I. Y tywysog cadarn, oedd fab i Gruffydd ap Cynan, am yr hwn y soniwyd yn barod yn ei gysylltiad âg Edeyrnion. Ar farwolaeth ei dad, yn 1137, yn ol defod gwlad, rhanwyd tywysogaeth Cymru, a rhan Owain ydoedd gwlad Gwynedd. Ei weithred gyntaf fel tywysog ydoedd arwain rhyfelawd i'r Deheubarth, yr hwn a fu yn dra llwyddianus. Dinystrodd Gestyll Ystrad Meurig, a Phont Stephan, a llosgodd Gaerfyrddin i'r llawr. Yn 1144 darostyngodd gastell cadarn y Wyddgrug. Cyfeiriwyd mewn tudalen blaenorol at ei ymosodiad llwyddianus yn erbyn byddin Harri II., yn 1165. Yna cymerodd Owain Gastell Basingwerk, yn sir Fflint, gan ei lwyr ddinystrio; a buan ar ol hyny cyfarfu Cestyll Prestatyn a Rhuddlan â'r un dynged. Terfynodd ei oes fywiog yn 1169, a chladdwyd ef yn Mynachlog Bangor.—II. Ceir marwnad i un Owain Gwynedd yn y Gorchestion o waith Tudur Owain. Pwy oedd yr Owain Gwynedd hwnw sydd anhysbys, gan nas gall fod y tywysog na'r bardd adnabyddus. Fodd bynag, yr oedd yn byw yn Gwyddelwern, ac yno y claddwyd ef.

"Trist yw'n iaith trosto'n ei ol,
Gan ei ddwyn Owain Gwynedd,
Y fo'n Ial a fu'n y wedd
Gwyddelwern, y gwaeddolef,
Gwaed a wyl beirdd gwedi ef."


OWAIN BROGYNTYN.—Pendefig urddasol tua diwedd y 12fed canrif. Mab ydoedd i Madog ap Meredydd ap Bleddyn, tywysog Powys Fadog; a'i fam ydoedd ferch Y Maer Du o Rug, yn Edeymion. Rhoddes ei dad iddo arglwyddiaeth Edeyrnion, a'r cwmwd gerllaw a elwir Dinmael. Yr oedd ei balas yn Mrogyntyn (Porkington), gerllaw Croesoswallt, ac y mae olion ei aneddle i'w weled hyd y dydd hwn. Gwelir el achau yn ngwaith Lewis Dwn.


THOMAS JONES.—I. Ganwyd Thomas Jones, yr Almanaciwr enwog, yn Tre'rddol, ger Corwen, yn y flwyddyn 1647. Dywedir iddo fyned i Lundain fel teiliwr pan yn ddeunaw oed. Ond cyn hir, gadawodd y gelfyddyd hòno, gan droi i fasnachu mewn llyfrau, &c. Arferai deithio drwy yr holl wlad, gan gadw ffeiriau Caerlleon, Amwythig, Gwrecsam, a Bristol. Sefydlodd argraffwasg yn yr Amwythig tua'r flwyddyn 1696, er mwyn cyhoeddi gweithiau Cymraeg; a gwnaeth lawer o ddaioni ar ran ei wlad a'i genedl. Cyhoeddai Almanac Cymraeg yn rheolaidd am lawer iawn o amser, ac yr oedd yr Almanaciau hyn yn cynwys llawer iawn o wybodaeth fuddiol na cheid y pryd hwnw yn un man arall. Mae yn nodedig fod cynifer o wŷr o'r cylchoedd hyn wedi bod gyda'r gorchwyl o gyhoeddi Almanaciau: mae yn anrhydedd i Edeyrnion mai hi a fagodd y cyntaf. Wedi ei amser ef bu John P'yrs o Bryneglwys yn cario y gwaith yn mlaen, ac wedi hyny Cain Jones o Glynceiriog. Rhoddwn grynodeb o'r llyfrau a gyfansoddwyd, a gyfieithwyd, neu a olygwyd gan Thomas Jones (1) Y Gymraeg yn ei Dysgleirdeb, neu Helaeth Eirlyfr Cym— raeg a Saesonaeg. Terfyna y rhagymadrodd fel hyn:"O'm ty wrth lun y Cawrfil, yn Maes Isa'r Fawnog, Caerlydd, Medi 12, 1687," yr hyn o'i gyfieithu yw, "From my house near the sign of the Elephant in the Lower Moorfields, London," &c. Aeth hwn drwy amrywiol argraffiadau. (2) Unffurfiad. (3) Y gwir er gwaethed yw. Rhydd hwn hanes Brad y Powdwr Gwn, a'r hyn a elwir yn Frad y Presbyteriaid. (4) Llyfr Gweddi Cyffredin, cyfieithiad. (5) Carolau a Dyriau. (6) Artemidorus—Deongliad breuddwydion. (7) Llyfr o Weddiau.-

II. Thomas Jones, Cyllidydd. Nis gwn ddim o hanes y gwr hwn, amgen na'i fod yn bur fywiog gydag Eisteddfodau y rhan olaf o'r ganrif o'r blaen. Dan ei ysbrydiaeth ef y cynaliwyd Eisteddfod Corwen yn 1789.


III. Thomas Jones, Corwen, bardd, llenor, a phregethwr da, yn blodeuo o 1800 hyd 1830. Ceir amryw ddarnau o'i waith yn y cyhoeddiadau perthynol i'r cyfnod uchod. Gwelir cywydd o'i eiddo, a chryn ragoriaeth yn perthyn iddo, yn y Gwyliedydd am 1826, ar y testun "Erthyliad cais y Pabyddion."


EDWARD JONES, gweinidog gyda'r Wesleyaid, a anwyd yn agos i Gorwen, yn y flwyddyn 1775. Yn 1805 aeth i'r weinidogaeth deithiol, gan ddilyn yn mlaen am un mlynedd ar ddeg gyda chymeradwyaeth uchel yn Ngogledd a Dehau Cymru. Dyoddefodd gystudd trwm am 23 o flynyddoedd. Yr oedd yn bregethwr rhagorol, ac yn fardd lled wych. Bu farw yn 1838, yn 63 mlwydd oed.-(Enwogion Meirion).


EDWARD JONES, neu Bardd y Brenin, telynor enwog, a anwyd mewn ffermdy o'r enw Henblas, yn mhlwyf Llandderfel, sir Feirionydd, yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn meddu cryn lawer o awen gerddorol, canys nid yn unig gallai chwareu amryw offerynau cerdd, ond medrai hefyd eu saernio. Dysgodd i ddau o'i feibion, Edward a Thomas, chwareu y delyn Gymreig, mab arall i chwareu y Spinnet, ac arall y crwth, ac yntau ei hun a chwareuai ar organ. Tua 1774 aeth Edward i fyny i Lundain, o dan nawdd amryw foneddigion Cymreig. Ystyrid ef yn delynor campus, o herwydd ei allu i arddangos chwaeth, teimlad, a phwysleisiad priodol gyda'r offeryn. Cafodd gefnogaeth wresog, a bu yn rhoddi gwersi ar y delyn i luaws o foneddigesau uchelradd. Penodwyd ef yn delynor i Dywysog Cymru yn 1783, ond nid oedd y swydd hono ond un fygedol a didal Yn 1784 cyhoeddodd ei lyfr tra gwerthfawr hwnw, "Musical and Poetical Relics of the Welsh Bards," yr hwn a ailargraffwyd gyda chwanegiadau yn 1794. Cyhoeddodd hefyd lyfr arall o'r un natur yn 1802, o dan y teitl, "Bardic Museum of Primitive British Literature". Y mae y rhai hyn yn llyfrau gwir werthfawr a dyddorol, ac yn cynwys sylwadau ar yr hen alawon Cymreig. Yn 1820 cyhoeddodd ran o gyfrol arall, eithr lluddiwyd ef i'w gorphen gan afiechyd. Bu hefyd yn dra diwyd yn casglu hen lyfrau prinion, ac yr oedd ganddo ystorfa helaeth a gwerthfawr o'r cyfryw; ond gan ddyfod o hono yn analluog i ddilyn ei broffeswriaeth, a'i fod yn meddu ysbryd rhy annibynol i hysbysu ei gyfeillion o'i gyfyngder, efe a'i gwerthodd hwynt a rhan fawr o'i lyfrgell er mwyn cael arian at fyw. O'r diwedd hysbyswyd ei galedi i lywodraethwyr Cymdeithas Frenhinol y Cerddorion, y rhai yn ddioedi a roddasant iddo y swm o £50 yn y flwyddyn, yn ddiarwybod iddo ei hun hyd oni dderbyniodd yr arian. Pa fodd bynag, ni chafodd ond byr amser i'w mwynhau, a bu farw yn Marylebone, Ebrill 18, 1824, yn 72 oed. Gadawodd o'i ôl luaws o lyfrau prinion, a thwysged o gerddoriaeth, y rhai a arwerthwyd yn gyhoeddus yn Chwefror, 1825, a chafwyd am danynt £500, ac yr oedd yntau ei hun wedi gwerthu gwerth £300 cyn hyny. Y mae y llyfrau a gyhoeddodd yn ddigonol dystiolaeth i'w allu a'i athrylith. Ffrwyth deugain mlynedd o lafur ac ymchwiliad ydynt, a chludir ei enw ganddynt yn anrhydeddus i'r dyfodiant—Geiriadur Lerpwl, tudal. 584).

EDWARD JONES (Britwn Ddu) oedd fardd lled dda yn byw yn Bodorlas, ger Llansantffraid, Bu farw yn 1876, yn 85 ml. oed. Cystadleuodd gryn lawer yn anterth ei ddyddiau, a bu yn fuddugol amryw weithiau. Enillodd y wobr flaenaf ar englynion i "Longddrylliad" yn Eisteddfod Corwen, Gwyl Dewi, 1827, pryd y rhanwyd yr ail wobr rhwng Eos Ial a R. Thomas, Llanuwchllyn, sef Ap Vychan, Bala, yn awr. Ceir yr englynion (24 mewn nifer) yn y Gwyliedydd am Awst, 1827.


MEIRION GOCH.—Pendefig yn byw yn Edeyrnion yn yr unfed ganrif ar ddeg. Mae tafod hanesyddiaeth yn ddystaw am ei rinweddau, ond gorwedd ei enw dan domenydd o warth o herwydd iddo fod yn ddigon anfad i fradychu Gruffydd ap Cynan i ddwylaw y Saeson yn 1079.


OWEN JONES (Owain Myfyr).—Ganwyd y gwladgarwr haelfrydig a'r hynafiaethwr twymgalon hwn mewn ffermdy o'r enw Tyddyn Tudur, yn mhlwyf Llanfihangel Glyn Myfyr, sir Ddinbych, yn 1741. Mab ieuengaf i deulu parchus ydoedd yn y lle hwnw, am y rhai ni wyddys ond ychydig heblaw eu bod yn hanu o deulu hynafol. Pan yn dra ieuanc, danfonwyd ef i Lundain, a rhwymwyd ef yno yn egwyddorwas gyda Meistri Kidney a Nutt, Furriers, yn Thames Street. Yn mhen ysbaid cafodd gyfran yn y fasnach, a thrachefn olynodd hwynt; a pharhaodd i ddwyn y fasnach yn mlaen hyd ei farwolaeth. Ond er ei ofalon a'i lwyddiant masnachol, mynodd hamdden i dosturio wrth agwedd farwaidd llenyddiaeth ei wlad, i resynu dros ddifrawder ei gwŷr mawr o'i phlaid, ac i wneud ei oreu er dihuno doniau cysglyd ei gydwladwyr, ac arbed rhag difancoll ysgrifeniadau gwerthfawr ein hynafiaid oedd yn cael eu gorchuddio gan lwch a'u hysu gan bryfaid. Tynodd ei gynlluniau er mwyn dwyn ei amcanion gwiwglodus oddiamgylch, ac nid arbedodd nac arian nac amser er eu cyrhaedd. Yn 1772 bu yn offeryn i sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain, ac nid yn unig bu hon o fawr les er enyn cenedlgarwch yn mhlith Cymry y Brifddinas, ond bu o wasanaeth mawr hefyd trwy benodi a chynal Eisteddfodau mewn amrywiol barthau o Gymru. Ymroddodd yn ieuanc i gasglu ac adysgrifio hen ysgriflyfrau Cymreig, a pharhaodd yn ddiwyd wrth y gwaith hwn hyd ddiwedd ei oes; a blaenffrwyth yr ymdrech wladgarol hon ydoedd iddo argraffu yn 1789, a hyny yn hollol ar ei draul ei hun, gyfrol drwchus yn cynwys 592 o dudalenau, o gywyddau, &c., Dafydd ab Gwilym, gyda rhagymadrodd bywgraffyddol helaeth o'r bardd gan y Dr. O. Pugh. Tua dechreu y ganrif bresenol cyhoeddodd argraffiad newydd o Ddyhewyd y Cristion, sef cyfieithiad y Dr. John Davies y Fallwyd o'r Christian Resolution, er lles ysbrydol ei gydgenedl. Ond cofgolofn ardderchog ei yni cenedlgarol ydoedd ei gyhoeddiad o'r drysorfa werthfawr hono o lenyddiaeth hynafol Gymreig, "The Myvyrian Archeology of Wales." Cyhoeddodd Myfyr y gwaith mawr hwn yn hollol ar ei draul ei hun yn 1801—1807, mewn tair cyfrol wythblyg mawr. Cynwysa gynyrchion barddonol a rhyddieithol y Cymry o'r oesau boreuaf hyd derfyn y 13eg canrif; ac yr oedd y cyhoeddiad yn unig o hono yn costio i Myfyr dros fil o bunau. Rhoddwyd yr ysgrifeniadau crybwylledig i'r byd yn y dull cyntefig, gyda ffyddlondeb cydwybodol, trwy gynorthwy Dr. Pugh ac Iolo Morganwg—ond cofier ar draul Owain Myfyr; a phan ystyrier fod y rhan gyntaf o'r trysor— au llenyddol hyn heb fod erioed o'r blaen mewn argraff—fod llawer o honynt wedi eu hachub, yn ol pob tebygolrwydd, rhag dinystr anocheladwy; a phan gofier fod difaterwch cywilyddus yn ffynu yn gyffredinol gyda golwg ar lenyddiaeth Gymreig, fel yr oedd ad—daliad yn anobeithiol,—y mae yn aumhosibl prisio y weithred hon o eiddo Myfyr yn rhy uchel. Y mae y gwaith gwerthfawr hwn wedi cael ei ailargraffu gan Mr. Gee, Dinbych. Heblaw yr ysgrifau a gyhoeddodd efe yn y Myvyrian, cadwodd y gweddill o honynt yn ofalus mewn ysgriflyfrau, a chwanegodd atynt gopiau llawysgrifol llenyddiaeth y genedl o 1300, lle y terfyna yr Archæology, hyd oes y Frenhines Elizabeth. Dywedir y costiodd casglu, ysgrifenu, a dosbarthu y rhai hyn iddo dros dair mil o bunau. Gadawodd ef hwynt i'w wraig, gan yr hon y pwrcaswyd hwynt i'w cadw yn yr Amgueddfa Brydeinig, lle y maent yn awr, yn cynwys 47 cyfrol o brydyddiaeth, yn 16,000 o dudalenau, heblaw tua 2,000 o englynion. Mae yr un casgliad hefyd yn cynwys 53 cyfrol o ryddiaeth Cymreig, mewn tua 75,300 o dudalenau, yn cynwys llawer o ysgrifeniadau Cymreig ar amrywiol bynciau. Yr ysgrifau anmhrisiadwy hyn, oddigerth ychydig o honynt a gyhoeddwyd yn y Brython, Cymru Fu, &c., a orweddant yn domen farw a diles yn y gywreinfa genedlaethol. Yn 1805 efe a ddechreuodd gyhoeddi cylchgrawn Cymreig yn Llundain o'r enw y Greal, yn cynwys lluaws o hen ysgrifau Cymreig prinion a dyddorol, yn nghydag erthyglau gwreiddiol; ond ni chyhoeddwyd ond un gyfrol o hono, ac y mae hòno yn an. hawdd ei chael bellach. Yr oedd Myfyr hefyd yn meddu llawer Rhydd golygydd y rinweddau personol tra chanmoladwy. Cambro Briton un esiampl nodedig o hyn. Ychydig o flynyddau ar ol sefydlu Cymdeithas y Gwyneddigion, tynodd awdwr traethawd Cymreig enwog, i'r hwn y dyfarnwyd un o'r gwobrau, mewn canlyniad i hyny, sylw ei sylfaenydd haelfrydig. Y canlyniad angenrheidiol i hyny oedd, i ohebiaeth ddechreu rhyngddynt, yn ystod yr hon y cymhellodd ein Mecenas Cymr ei gyfa newydd i fynu y budd o addysg athrofaol i'w dalentau, gan ddefnyddio yn ei lythyr ar yr achlysur y geiriau nodedig hyn:—

"Mi ddygaf fi eich holl draul. Tynwch arnaf fi unrhyw symiau o arian a ddichon fod yn angenrheidiol i chwi tra yn yr athrofa, Ac amod yr ymrwymiad ydyw hyn: os dygwydd i mi trwy ryw anffawd mewn masnach fyned yn dlawd, ac i chwithau fod mewn sefyllfa o gyfoeth, fod i chwi y pryd hyny fy nghynal i." Nid oes brawf cryfach o'i ysbryd haelfrydig yn angenrheidiol. Dywedir mai unwaith yn unig y bu y boneddwr ieuanc a nodwyd dan yr angenrheidrwydd o wneud prawf o haelioni ei noddwr, ac iddo ei gael y pryd hyny yn llawn cystal a'i addewid; ac y mae yn sicr y cawsai ef yr un mor ffyddlon i'w air pe yr aethai ar ei ofyn drachefn. Dylid chwanegu hefyd, ddarfod i Myfyr, trwy ei graffder doeth yn yr amgylchiad yma, a thrwy ei gefnogaeth gymhelliadol, fod yn foddion i ddwyn person i'r cyhoedd a fu yn addurn wedi hyny i lenyddiaeth Gymreig. Wedi oes ddefnyddiol, efe a fu farw yn ei dy ei hun yn Thames Street, Medi 29, 1814, yn 73 oed, gan adael gweddw a thri o blant ar ei ol—un o ba rai, sef ei unig fab, Owen Jones, a ddaeth yn adeiladydd enwog, ac yn awdwr amrai lyfrau uchelbris ar y gelfyddyd hono. —Em. Welshmen; Cambrian Register; Cambro Briton.

MATTHEW OWAIN, o Langar, bardd dysgedig ac adnabyddus. yn blodeuo tua 1650—1670. Gallai gyfansoddi yn lled awenyddol weithiau, a gallai wneud yn bur wael bryd arall. Nid pob dyn galluog fedr ganu'n wael.


JOHN PARRY, bardd o Gorwen, ac un fu yn gyfranog a Matthew Owain mewn cyfansoddi a chwareu Interliwdiau.


RHYS WYN AB CADWALADR, bardd rhwng 1580 a 1640.


CADWALADR ROBERTS, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a anwyd yn Plasynfaerdref, Llandrillo, Tach, 26ain, 1837. Yr oedd o deulu parchus a chrefyddol. Dechreuodd bregethu yn y fl. 1859. Wedi treulio amryw flynyddau fel efrydydd yn Athrofa y Bala, derbyniodd alwad oddiwrth eglwysi dosbarth Cerygydruidion; ond cyn hir, cyfyngodd ei lafur i eglwysi Rhydlydan, Tymawr, a Chefnbrith. Bu farw Ebrill 13, 1875, yn 37 mlwydd oed. Yr oedd yn bregethwr melus, efengylaidd, a dylanwadol, a theimlid fod bwlch mawr wedi ei wneud gan angeu pan alwyd ef ymaith.—(Gwel ei Gofiant gan y Parch. J. Williams, Llandrillo).


ROBERT ROBERTS, gweinidog tra enwog gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn Bonwm, plwyf Corwen, yn 1783. Bu yn olygydd i'r Eurgrawn; ac ystyrid ef yn bregethwr rhagorol. Bu farw yn 1818. "Machludodd ei haul tra yr ydoedd yn ddydd."

ROBERT ROBERTS, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn Llansantffraid, Corwen, a Chynwyd. Ganwyd ef yn Caregafon, plwyf Corwen, yn 1818; a bu farw yn Plasynhonwm, yn yr un plwyf, yn 1868. Llafuriodd yn ddyfal a llwyddianus yn y weinidogaeth, ac ysgrifenodd lawer i'r Greal, Seren Gomer, a chyfnodolion eraill. Rhagorai yn ei fedrusrwydd i drafod hanesiaeth eglwysig, Yr oedd hefyd yn wr cadarn mewn beirniadaeth Feiblaidd, ac uwchlaw'r cyfan yn Gristion gloew. (Gwel ei Gofiant gan H. C. Williams).


EDWARD SAMUEL—Brodor o Arfon, ond hawlia Edeymion ef fel un o'i henwogion, ar gyfrif iddo dreulio ei oes gyhoeddus braidd oll yma, Sefydlodd fel offeiriad yn Bettws Gwerfil Goch yn 1702, a symudodd i Langar yn 1721, lle yr arosodd hyd ddydd ei farwolaeth, yn 1748, ac efe yn 75 mlwydd oed. Claddwyd ef wrth ben dwyreiniol Eglwys Llangar, a thrwy ofal doeth a phriodol mae careg ei fedd i'w gweled o hyd, a'r ysgrifen arni yn hollol ddealladwy. Yr oedd E. Samuel yn fardd o gryn fri, ac yn gyfansoddwr gwych mewn rhyddiaeth; ond fel cyfieithydd ystwyth a da y gwasanaethodd ei genedlaeth fwyaf. Noda G. Lleyn y llyfrau canlynol wedi iddo eu dwyn allan:—1, Bucheddau'r Apostolion. 2. Gwirionedd y Grefydd Gristionogol, cyfieithiad o waith Hugo Grotius. 3. Holl ddyledswydd dyn, cyf. 4. Prif ddyledswyddau Cristion, cyf. 5. Athrawiaeth yr Eglwys, cyf. 6. Pregeth yn nghylch gofalon bydol—pregeth angladdol oedd hon, ond ni cheir son am y gwrthddrych o'i mewn ond yn unig yn y rhagymadrodd). 7. Pregeth ar Adgyfodiad Crist.


ROBERT WILLIAMS, A.M., Periglor Llangar, a anwyd yn 1748, ac a fu farw yn 1825. Claddwyd yntau wrth hen Eglwys Llangar, yn agos i fedd ei gynoeswr a'i flaenorydd E. Samuel. Yr oedd yn fardd a llenor gwych, ac yn wr tra dysgedig. Sonit am dano gyda pharch gan Dr. Owen Thomas yn Nghofiant John Jones, Talysarn. Ceir yn y Gwyliedydd am 1826 awdlau marwnadol am dano gan Peter Llwyd o Gwnodl, a Gwilym Ysgeifiog, Dywed yr olaf ei fod yn foregodwr, yn ddyn diwyd, yn trin saith iaith, &c., ond eto yn Gymro i'r bôn.

ROBERT WYNNE.—Ficer Gwyddelwern, bardd gwell na'r cyffredin, yn blodeuo yn nechreu y ddeunawfed canrif.


EDWARD WYNNE.—Sefydlodd yntau yn Ficer Gwyddelwern yn 1713. Nis gwn a oedd yn fab neu ryw berthynas i'r diweddaf. Yr oedd yn fardd o gryn fri, ac yn feirniad mewn Eisteddfodau y cyfnod hwnw. Englynion o'i eiddo ef a ddewiswyd i'w gosod ar fedd Huw Morrus yn Llansilin. Ceir detholion o'i waith yn y Blodeugerdd.


PETER LLWYD, o Gwnodl Fawr, yn agos i Gynwyd, oedd fardd o gyrhaeddiadau canmoladwy. Efe oedd "bardd" Cymdeithas Lenyddol Corwen, ac ymddengys iddo gyhoeddi cryn nifer o'i gyfansoddiadau, a gadael hefyd luaws ar ol mewn ysgrifen. Cyfeiriwyd eisoes at amryw o'i gynyrchion, a phe buasai gofod yn caniatau, gallesid dyfynu yn helaeth er rhoddi prawf o'i fedrusrwydd.


JOHN JONES (Sion Brwynog), yn blodeuo tua diwedd y ganrif o'r blaen. Dywed J. Roberts, Llandrillo, mai yn agos i'r Ddwyryd yr oedd yn preswylio. Gwelir cywydd i'r Haf o'i waith yn Almanac Cain Jones am 1792. Ceir cryn gywreinrwydd yn nodweddu y cywydd, megys y gair haf yn terfynu bob yn ail linell ar ei hŷd, a chynwysa ambell darawiad hapus. "Gyda Gwen y rhodienaf, rhy fyr fydd hirddydd haf," meddai. Gobeithio fod yr hen frawd, er na wn nemawr o'i hanes, wedi cael yn ol ei ddymuniad, "yr ail fyd yn hyfryd haf."


PENOD III.
TARDDIAD ENWAU.

RHODDODD Meirion ab Tybiawn ab Cunedda Wledig ei enw ar Meirionydd. I Edeyrn y rhoddwyd Edeyrnion, a dyna sydd yn cyfrif am enw y cwmwd hwn. Gyda golwg ar yr enw Dyfrdwy mae amrywiol farnau yn ffynu. Ymddangosodd dau lythyr dyddorol ar y mater yn y Bygones, perthynol i'r Oswestry Advertizer, yn ddiweddar, y rhai a ddodwn i mewn yma, gan ddefnyddio y cyfieithiad a ymddangosodd yn ngholofn "Cymru Fu" yn y. Genedl Gymreig. Yr ysgrifenwyr ydynt y Canon Williams, awdwr yr Eminent Welshmen, a'r Parch, R. Jones, Rotherhithe, golygydd gwaith Goronwy Owain:—

"DYFRDWY (Dee).—Mae golygydd Y Cymrodor, tudal. 199, yn amheu y tarddiad o enw yr afon hon, yn y Gossiping Guide to Wales, o 'Dwfr du,' ac yn hòni yn awdurdodol ei fod yn tarddu o dwfr, a dwy neu dwyfol. Megys yr wyf yn meddwl mai myfi a gynygiodd y tarddiad cyntaf, felly yr wyf eto yn myntumio ei fod yn gywir, a rhoddaf fy rhesymau am dano. Nis gallaf dd'od o hyd i dwy (dwyfol) mewn unrhyw eiriadur, ac y mae pob geiriadur o'r iaith Gymraeg genyf. Y rhai penaf ydynt Salesbury, Dr. Davies, Edward Llwyd, a Dr. Owen Pughe. Nid ydynt hwy yn dweyd dim mai 'dwyfol' yw 'dwy,' er fod Dr. O. Pughe yn rhoddi 'Dyfrdwy, y dwfr dwyfol,' yr hyn nid yw yn ddim ond haeriad, ac oddiyma y cafodd Y Cymrodor ei wybodaeth. Nid oes, pa fodd bynag, ddim awdurdod dros y tarddiad hwn. Gelwir yr afon bob amser gan breswylwyr presenol ei glànau yn 'Dwrdu,' neu y Dwfr du, ac enw tra dysgrifiadol o honi ydyw. Felly y gelwid hi yn amser ein gwron Cymreig, yr hwn a ysgrifenai ei enw Owen de Glendourdy. Yr Hen Gymraeg am ddwfr ydoedd dubr, a dobr, a'r Hen Wyddelaeg oedd dobur. Yna trwy feddaliad rheolaidd b i bh, dobhr yn Gymraeg a dobhar yn y Wyddelaeg; yn awr, ynganid bh fel v, oddiwrth yr hyn y daeth dwfr yn Gymraeg, a thrwy gwtogiad dour neu dur; a dur yn y Wyddelaeg. Dobhra, dur, yn Gaelaeg, a dour yn y Fanawaeg. Hen ffurf du, yn y Gymraeg a'r Wyddelaeg, oedd dub, a dyna y ffurf a arferai yr Hen Frutaniaid pan oresgynasant yr Iwerddon. Cedwir y ffurf yn ei burdeb yn Dublin, sef Dulyn yn ol y Cymraeg presenol. Aeth y dub Gymreig a Gwyddelig drwy y treigliad arferol i dubh, a daeth y llythyren olaf, yn dwyn sain , yn aneglur, megys y gwelir yn tre am trev, plwy am plwyv, a lluaws o engreifftiau eraill, a'r diwedd fu ei gadael allan yn hollol. Mae afon fawr yn yr Iwerddon a elwir Blackwater neu Dwr—du. Mae dwy afon yn Ysgotland a elwir Dee, a dwy eraill a elwir Dye, ac un arall Duv neu Duff, oddiwrth eu lliw; a chadarnheir hyn oddiwrth ddwy afon yn swydd Ayr a elwir Dow-uisk, unig ystyr yr hyn yw Dwfr du, heb unrhyw gyfeiriad at ddwyfoldeb. Yr enw Rhufeinig ar y ddwy Dee oedd Deva, ac oddiwrth yr enw hwn y mae yn ddiau genyf y cafwyd dwy yn Gymraeg, gan fod wy yn air cyfystyr â'r Lladin e, fel y mae yn amlwg oddiwrth y geiriau Cymraeg rhwyd, cwyr, eglwys, &c., oddiwrth rete, cera, ecclesia. Mae y syniad o ddwyfoldeb yn nglŷn â'r Ddyfrdwy yn perthyn i gyfnod cymhariaethol ddiweddar, megys i amser Spencer a Drayton. Yr awdwr boreuaf a ddyfynir yw Giraldus Cambrensis, a'r cwbl a ddywed ef yw-Trigolion y parthau hyn a haerant fod dyfroedd yr afon hon, y Douerdwy, yn newid eu rhydau bob mis; ac fel y tueddo yn fwy tua Lloegr a Chymru, hwy a allant ddarogan gyda sicrwydd pa genedl fydd yn llwyddianus neu yn anffodus yn ystod y flwyddyn.'-R. WILLIAMS, Rhydycroesau.

"Wele yn canlyn atebiad y Parch. Robert Jones, a gwelir mor ddeheuig y mae yn cyfarfod â'r holl wrthddadleuon:-'Mae Canon Williams o Rydycroesau yn gwadu cywirdeb fy nharddiad o'r gair 'Dyfrdwy.' Myn ef mai ystyr yr olddod dwy yw 'du' ac nid 'dwyfol' neu 'gysegredig,' megys yr hacrais i yn y Cymrodor; a dymuna ef gael clod am y darganfyddiad. Haera yn mhellach mai oddiwrth Dr. Owen Pughe y cefais i fy ngwybodaeth ar y mater. Mae efe yn gyfeiliorus ar bob pen. Wrth drafod ei haeriadau, mi a'u cymeraf o'u gwrthol. Nid wyf hyd yr awr hon wedi ymgynghori â'r geiriaduron a nodir ganddo. Nid efe, ychwaith, yw darganfyddwr y ddamcaniaeth mai ffurf arall ar du yw dwy. Os try efe i Pennant's Tours in Wales: Llundain, 1810, cyf. ii., tudal. 215, efe genfydd fod Pennant, ganrif yn ol, yn dadleu yn erbyn y tarddiad neillduol hwnw: diau ei fod wrth wneud hyny yn dadleu yn erbyn y tarddiad a dderbynid yn gyffredin yn ei oes ef. Os trown i'r mater mewn dadl, y mae geirdarddiad fy ngwrthwynebydd yr un mor anghywir. Er mwyn gwrthbrofi golygydd Y Cymrodor, y mae efe yn troi i'w eiriaduron, Gresyn braidd ei fod wedi aflonyddu ar yr hyn ag y mae ysgolheigion yn ddiweddar wedi ei ganiatau i'r gweddillion hyn o'r amser a fu. Oddieithr, efallai, gasgliadau cyfyngedig Dafis a Llwyd, ni ddaeth allan o'r wasg erioed lyfrau ag y gellid dibynu llai arnynt. Nid wyf yn dweyd eu bod yn ddiwerth. Buont, ac y maent eto, yn ateb rhyw bwrpas. Ond pan gyfyd unrhyw fater gwir bwysig, nis gellir dibynu ar eu hawdurdod. Er pan ymddangosasant hwy yn y byd, mae y wyddor o ieitheg gymhariaethol wedi dyfod i fodolaeth, a hyny gydag egni sydd yn diffodd y goleuadau llai hyny ger ei bron, er mai ychydig iawn o oleuni sydd yn angenrheidiol i egluro y pwnc dan sylw. Yn awr dwy neu dwyfol yw gwreiddair 'dwyfol,' cysegredig. Y mae yn gyd—darddedig â deva y Sanscrit, dea y Lladin, thea y Groeg, dia y Wyddelaeg, doué y Llydawaeg, a dwyw yr hen Gymraeg neu Frutanaeg. Ceir ef yn gyfansawdd na Gwasdwy, neu Gwasduy fel y mae yn y Record of Carnarvon, ac yn meudwy; ac yn y ddwy engraifft hyn yr ystyr yw 'dwyfol.' Ond gan nad wyf yn chwenych cyhoeddi golygiadau ieithyddol yn ex cathedra, mi a ddyfynaf o awdwr ag y mae ei gyrhaeddiadau ieithyddol yn meddu enwogrwydd Ewropeaidd. Os try Canon Williams i Rhys's Lectures on Welsh Philology, tudal. 325, efe a dderllyn yr hyn a ganlyn:—'The Dee, Deva, probably means the goddess, (that is, in contradistinction to the masculine god); and as the river is still called in Welsh Dyfrdwy or Dyfrdwyf,— the water of the Divinity,' &c. Felly yr ysgrifena. Mr. Rhys. Ond myn y Canon blygu dwy neu dwyf i du er mwyn ategu ei ddamcaniaeth. Mae y geirdarddiad uchod yn cael ei gadarnhau yn yr Archeologia Cambrensis gan ysgrifenydd a ymgyfenwa 'Cereticus,' a gallwn dybio fod ei olygiadau yn cael eu derbyn gan y golygydd, y Parch. D. Silvan Evans, onide nid ymddangosasent yn y cyhoeddiad hwnw. (Cyf. v. o'r 4edd gyfres, tudal. 86). Mae y ffurfiau Dwyf a Dayw (ll., dwyfau a dwywiau) i'w cyfarfod nid yn anfynych, a gwahanol ffurfiau ydynt ar yr enw Duw; ac mewn geiriau fel Dwyf arferiad nid anfynych yw gadael allan yr derfynol with yngan y gair. Oddiwrth dwyf y daw dwyfol megys y ffurfir duwiol oddiwrth Duw. Arferir Dyfrdwy a Dyfrdwyf am yr afon Dee yn yr iaith frodorol. Ond pa beth a ddywed tystiolaethau hanesyddol? Y maent i gyd yn ei erbyn. Ni wna efe gyfrif o Giraldus Cambrensis, fel yn byw mewn oes ddiweddar; ac eto ysgrifenai Giraldus wyth gan' mlynedd yn ol. Drayton a Spencer, er eu bod yn canu yn yr unfed ganrif ar bymtheg, a ystyrir ganddo fel caws llyffant. A oes arno eisieu cyfnod o'r amseroedd cyn y diluw? Dywedir fod y cyfryw gofnodiad i'w gael yn achyddiaeth un o'n tywysogion Cymreig, sef 'Oddeutu yr adeg yma y crewyd y byd!' Mae yn wir nad oes un son am y traddodiad yn ein hen farddoniaeth Gymreig; ond y mae y neb sydd yn gynefin â'r hen feirdd yn gwybod nad ydynt yn ymwneud ond ychydig â chwestiynau dychymygol a chwedlonol o'r fath yma. Pa beth, ynte, yr wyf yn ail ofyn, yw y dystiolaeth hanesyddol a gawn gan yr hen ysgrifenwyr hyn? Cyhoedda Giraldus fod Deverdoeu, yr hyn yn ein hoes ni a fyddai Dyfrdwy neu Dyfrdwyf, wedi ei donio â dwyfoldeb, neu y rhagwybodaeth a'i galluogai i ragfynegi llwydd neu aflwydd i'r Celtiaid neu y Saeson. Michael Drayton, yn y nawfed caniad o'i Polyolbion, a wna i Feirionydd ddadgan gydag ymffrost—

"The pearly Conway's head, as that of holy Dee,
Renowned rivers both, their rising have in me.'

Yn y degfed caniad efe a ddywed:—

'Twice under earth her crystal head doth run;
When instantly again Dee's holiness begun.'

"Yr oedd hanesiaeth neu chwedloniaeth wedi argraffu yr un meddylddrych ar feddwl Spencer. Yn ei amser ef yr oedd yn hen nodwedd i'r afon. Efe a ddywed :—

'And following Dee, which Britons long ygone
Did call divine, that doth by Chester tend,'

"Nid oedd Milton a'i ddysgeidiaeth enfawr heb wybod am ei hanes, pan y llefarai am dir yn yr hwn

'Deva spreads her wizard stream.'

"A pha beth yw iaith ein Bardd Breiniol, yr hwn a gânt mor anwyl ac mor dda ein rhamantau Arthuraidd? A ydoedd efe yn anwybodus yn nghylch chwedloneg a llên gwerin y Celtiaid pan yn canu—

"As the South—west that blowing Bala lake
Fills all the sacred Dee.'

"Yr wyf yn hyderu y bydd i hyd yn nod y sylwadau brysiog hyn argyhoeddi Canon Williams ei fod wedi camgymeryd yn y mater hwn, ac na cheisia efe eto ddinystro geirdarddiad sydd yn gosod ar gof a chadw un o'r tarddodiadau mwyaf dyddorol a rhamantus yn nglŷn â'n gwlad ac a'n hiaith."—GOLYGYDD Y Cymrodor, Ficerdy All Saints, Rotherhithe.

Mae, o leiaf, ddau ddyfaliad arall am darddiad y gair. Un ydyw, y dybiaeth fod y gair yn deilliaw oddiwrth y fan lle y cychwyna mewn dwy ffynon yn mhlwyf Llanuwchllyn. Dyna yr ystyr a geir mewn traddodiad braidd yn gyffredinol yn y plwyf a enwyd. Bu yn gred gan lawer hefyd unwaith mai ystyr y gair yw y drydedd afon. Fel hyn:—Y Gyn-wy (Conwy)—yr afon gyntaf; yr El-wy—yr ail afon; y Dryd-wy—yr hwn a lygrwyd mewn amser yn Ddyfrdwy, Yn y modd hwn yr ydym yn rhy gyfoethog mewn dyfaliadau, nes y mae yn anhawdd penderfynu pa rai i'w gwrthod, a pha un i'w dderbyn. Y mae y dysgedig Pennant yn gwrthod y Dwr—dwy, am nad oedd, meddai ef, yn tarddu o ddwy ffynon; ond ystyriwn bobl Llanuwchllyn yn uwch awdurdod ar fater o'r fath nag estron fel efe, na bu, efallai, erioed yn y fan. Ychydig o gyfathrach oedd rhwng trigolion pen uchaf Penllyn, lle y cychwyna y ffrwd ei rhawd, â gwaelod Edeyrion yn yr hen ganrifoedd, yr hyn, dybiwn, a aiff yn mhell yn erbyn tybied i enw lleol felly gerdded mor bell. Tybiwn mai y peth goreu a allwn ni wneud ydyw gadael y mater i'r darllenydd ei benderfynu, os gall, a dweyd fel esboniad yr hen bregethwr ar "y swmbwl yn y cnawd," mai ein barn ydyw na wyr neb pa syniad sydd yn fwyaf cywir. Nid oes genym un gwrthwynebiad, hyd nes y daw yr afon ei hunan i ddweyd ei bam ar y mater, i'r darllenydd gymeryd ei ddewis.

PENOD IV.
EISTEDDFODAU EDEYRNION.

Y MAE yr Eisteddfod Gymreig yn hen sefydliad, wedi ei drosglwyddo drwy yr oesau er y canrifoedd cyntaf. Diau fod llawer tro wedi bod ar eu byd hwy fel pobpeth isloerawl arall. Byddent weithiau mewn gauaf du, gwgus, a phryd arall dan dywyniad siriol huan haf. Ceir yn ngwaith Pennant (vol. ii., cd. 1810) draethawd manwl a dysgedig yn rhoddi hanes yr Eisteddfodau yn Nghymru, yn nghyda darluniad da o'r prif gymeriadau yn nglŷn â hwy. Bu y beirdd yn cael eu dal mewn bri mawr yn nheuluoedd y tywysogion Cymreig, ac yn mhlith y prif fonedd. Derbynient ffafrau mewn cyflawnder, cynaliaeth gysurus, ac amddiffyniad i'w personau, ac ystyrid gwerth bardd yn gyfartal i bris 126 o wartheg. Tra y mae lluaws o bethau wedi codi yn y farchnad er y dyddiau dedwydd hyny, ofnwn fod bardd wedi myned i lawr gryn lawer yn marn y byd. Ystyrir dyn bellach yn llawer pwysicach na bardd.

Ond âg Eisteddfodau y parth hwn o wlad yr awen y mae a fynom ni, ac ni chaniata gofod ond i wneud nodiadau byrion. Yr oedd rhai o wŷr Edeyrnion yn wyddfodol ac yn cymeryd rhan yn yr Eisteddfod a gynaliwyd yn Nglynceiriog ddydd Iau y Dyrchafael, 1743—Y barnwr yn yr Eisteddfod hòno oedd Sion Prys, yr Almanaciwr dysgedig o Fryn Eglwys, ac Arthur Jones o Gyldini oedd yr enillydd. Fel hyn y canai y naill i'r llall—

"Arthur heb wâd yw athro'r beirdd,
Gan hwn y ceir canghenau cerdd;
De'wch, blant, yn bendant i'r bwrdd,
I godi hwn i'r gadair hardd."

Yr oedd Harri Parry o Graig-y-gath yn rhigymu yno yn ol ei arfer. Un o'r clerfeirdd oedd ef, ond bu mor anturus unwaith a myned i ymryson barddonol gyda Twm o'r Nant; ond dywedai Twm—

"Dolen a chortyn dwylath
I grogi y gwr o Graig y gath."

Cynelid cynulliadau y beirdd y cyfnod hwn mewn tafarndai, ac arferir cryn ryddid ar iaith pan y gelwir rhai o honynt yn Eisteddfodau o gwbl. Canu yn ddifyfyr y byddai y cystadleuwyr yn gyffredin, a'r goreu ar yr oll a ystyrid yn ben bardd y dydd. Lled ddireol fyddai amryw o'r rhai a ystyrient eu hunain yn blant Ceridwen, ac aml yr yfent yn helaethach o drwyth yr heidden nag o'r awen wir. Mae traddodiad yn ffynu fod Eisteddfod wedi ei chyhoeddi i fod yn Nghorwen unwaith, ac i fardd ddyfod ar ei drafael i chwilio am dani. Erbyn cyrhaedd y ty ni welai ond un bardd wedi meddwi, a dau delynor mewn ymryson; ac yna dywedai—

"Eisteddfod hynod i'w henwi—yw hon,
A'i hanes yn ddigri';
Dau delynor yn anfodloni,
A dyn o'i hwyl—dyna hi."

Cymerai rhai dynion hoff o segurdod a'r gyfeddach arnynt eu bod yn feirdd weithiau, er mwyn cael ymgysgodi yn ffafrau gwyr haelionus,—dynion na cheid awen yn eu penau mwy nag y ceir afalau yn tyfu ar bren onen. Un o'r tylwyth hwn, debygid, oedd y teiliwr o Benllyn y sonia Ap Vychan am dano, yr hwn a gredai mewn llenwi ei gylla ar draul eraill ar gyfrif y ddawn a dybiai oedd ganddo. Ond gwnaed deddf y gorfodid ef i dalu dros y cwmni oll os na allai wneud proest neu englyn iddo ei hunan o fewn cylch amser penodol. Ar ol bir ystyriaeth daeth allan y llinell hon——

"Dyma ddyn o Benllyn bwt."

Ond yn ei fyw ni allasai fyned yn mhellach; ond o drugaredd ato gorphenwyd y proest drosto gan un arall—

"A dawn hael o dan ei het:
A raid i we'ydd a phrydydd ffrwt,
Neu deiliwr sal dalu'r siot."

Yn y flwyddyn 1789 cynaliwyd Eisteddfod ar raddfa eangach na'r cyffredin yn Nghorwen, o dan arwydd Owain Glyndwr. Y llywydd oedd Thomas Jones y Cyllidydd, ac yr oedd yn wyddfodol yr enwogion Twm o'r Nant, R. Davies, Nantglyn, Jonathan Huws, Robert Williams, Trerhiwaedog, Gwallter Mechain, &c. Rhoddodd y llywydd y testynau canlynol i ganu arnynt:—1. Adferiad iechyd Sior y III.; 2. Y Frenhines Siarlot; 3. Mr. Pitt; 4 Etifedd Nannau; 5. Pont Corwen; 6. Yr Ysgyfarnog; 7. Dr. Willis, meddyg y brenin; 8. Owain Glyndwr; 9. Arglwydd Bagot; 10. Adardy Rug; 11. Cymdeithas y Gwyneddigion. Dyma englyn a gyfansoddwyd i Bont Corwen yn yr Eisteddfod—

"Saith gameg hardd-deg yw hi—seth ganllaw
Syth gynllwyn dwfr dani;
Syth glwm saith gloer yn poeri,
Safnau'r llwnc nas ofner lli."


Wele yn canlyn englyn Twm o'r Nant i "Adardy Rug,"—

"Pleserus heb liw sarug—anedd—dy
Mewn mynydd-dir mânrug;
Gorsedd Berwyn swydd barug,
Adail rwydd i deulu Rug.'

Anfonwyd cyfansoddiadau tri, sef eiddo Twm o'r Nant, Jonathan Huws, a Gwallter Mechain, i Gymdeithas y Gwyneddigion i farnu pa un o honynt a deilyngai y gadair arian. Rhoddwyd y llawryf i Walter Davies, nes y dywedid—

"Twm o'r Nant a'i fant fwyn
A ildiodd i Drefaldwyn.

Ond digiodd Twm, a mwmiai—

"Rhoi clod i Wallter ddallder, ddu,
Cyhoeddus cyn ei haeddu.'

Digiodd rhai o gyfeillion Twm yn aruthr, yn neillduol Dr. D. Samuel, yr hwn a aeth mor bell a cheisio gan un o'r blaid wrthwynebol fyned i ymladd omnest; ond diweddodd y cwbl yn dawel drwy i'r Doctor roddi anrheg i Twm o ysgrifbin arian, ac yn ysgrifenedig arno, "Rhodd Dafydd Samuel i T. Edwards, Penbardd Cymru. Anfonodd y bardd o'r Nant awdl o ddiolchgarwch yn ol iddo yntau. Cyflwynwyd medal arian hefyd yn yr Eisteddfod uchod i Lewis Roberts, Maentwrog, am ganu penillion gyda'r delyn deir-rhes. Cyhoeddid yn Eisteddfod Corwen fod yr un ganlynol i'w chynal yn y Bala. "I'r Bala'r tro nesa" 'rawn ni," meddai un; "Qes bai feddwl os byw fyddi," meddai un arall mewn mynyd.

Ceir hanes yn y Gwyliedydd, Goleuad Cymru, &., am nifer o Eisteddfodau yn cael eu cynal yn Edeyrnion yn y rhan gyntaf o'r ganrif hon. Weithiau ymgynullent yn y Stamp, Llangar; weithiau dan arwydd y Delyn yn Nghorwen; ac weithiau yn y Ddwyryd. Bu Peter Llwyd o Gwnodl yn Fardd y Gymdeithas am gryn amser, a'r Parch. Mr. Clough yn Llywydd. Bu y mân. Eisteddfodau hyn yn gyfleusdra i dynu egnion beirdd lleol da allan, megys Peter Llwyd, Eos Ial, Iolo Gwyddelwern, &c. Gwnaethant lawer tuag at ddwyn iaith a llenyddiaeth y Cymry i sylw ieuenctyd yr ardaloedd, gan greu rhyw gymaint o gyffro meddyliol, ac ysgwyd tonau llyn llonydd cymdeithas y dyddian hyny.

Cynaliwyd Eisteddfod fawr yn Nghorwen yn Awst, 1874, yr hon a barhaodd am ddau ddiwrnod, yn cael ei llywyddu gan yr Anrhydeddus C. H. Wynn, Rug; S. Holland, Ysw., A.S.; J. Parry Jones, Ysw., Dinbych; a T. Eyton Jones, Ysw., M.D., Gwrecsam, brodor o Edeynion. Ymgynullodd miloedd o bobl I'r babell eang, ac yn eu mysg rai o brif uchelwyr y wlad, a chyfrenid gwobrwyon am weithiau celfyddydol yn gystal ag am gerdd dafod a cherdd dant. Anhawdd peidio teimlo fod ysbryd yr oes wedi newid llawer. Nid y gwladgarwch goreu yw glynu yn gibddall wrth hen arferion, ond cadw rhinweddau ein hen dadau er newid y ffurf, ac ymwrthod â'u colliadau, er mai colliadau Cymry oeddynt.

GWELLIANT GWALL

Yn tudal. 17, yn lle Harri VII. darllener Harri II.

DIWEDD

LIST OF SUBSCRIBERS.

Mr. J. G. Bellis, Letter Carrier, Corwen
Miss S. Barnard, Glan'rafon
Mr. W. Davies, Grocer, Cynwyd
D. Davies, Factory, do., 2 copies
W. Davies, Goods Foreman, Corwen
R. G. Davies, B. Buildings, Denbigh
D. Davies, Ty'nycefn, Corwen
D. Davies, Trewyn Fawr, — do.
R. Davies, Mill, Melin y Wig
R. Davies, Bonwm
H. Davies, Carpenter, Llandrillo
W. Davies, Brynhyfryd, — do.
J. Davies, Oror, Gwyddelwern
G. Davies, Bryn Line, — do.
Miss Davies, Maesgwyn, — do.
Mr. W. Evans, Hendreforfydd, Llansantffraid
T. Evans, Groeslwyd, Gwyddelwern
—Edwards, Smith, Derwen
W. Evans, Smith, Gwyddelwern
J. Evans, Pupil Teacher, Llandrillo
D. Edwards, Cooper, Corwen
Rev. D. Edwards, Glan'rafon
Mr. E. Evans, — do.
S. Edwards, Brynderw, do.
J. Evans, Tyddyndyfi, do.
E. Edwards, Glyndwr, Glyndyfrdwy
R. Ellis, Tre'rddol, Corwen
J. Davies (Taliesin Hiraethog), Cerygydruidion
E. Edwards, Gell, Corwen
J. Davies, Painter, — do.
J. Edwards, Tyceryg, — do.
D. Davies, Grocer, — do.
R. Evans, Barber, — do.
J. D. Ellis, Llangwm
J. Edmunds, Ucheldref, Corwen
E. Edwards, Brynhaulog, Cynwyd
J. Edwards, Joiner, — do.
R. Edwards, Joiner, — do.


Mr. J. Edwards, Bettws — do.
E. R. Edwards, Draper, Cynwyd
R. Edwards, Penyffordd,
Rev. D. Evans, Rectory, Llansantffraid
Mrs. Davies, Llandderfel
Mr. T. Davies, Glyndyfrdwy
D. Davies, Cynwyd
J. D. Griffiths, — do.
Rev. W. Griffiths, Llansantffraid
Mr. T. Griffiths, Smith, Corwen, 2 copies
J. Griffiths, Tymawr, Llansantffraid
J. Hughes, Smith, Glyndyfrdwy
T. Hughes, R. O., Gwyddelwern
H. Hannam, Smith, — do.
E. Hughes, Bryn Line, — do.
E. Hughes, Ty'nycelyn, — do.
T. Hughes, Smith, Glan'rafon
D. Hughes, Maerdy
W. Hughes, School Terrace, Corwen
W. Humphreys, Queen, — do.
R. Hughes, Tailor & Draper, — do.
D. Hughes, London House, — do.
R. Edwards, Ty'nycefn,
J. Hughes, Brynrhug,
Miss A. W. Davies, Rug Lodge, — do.
Mr. J. Edwards, Penybont, Druid, — do.
D. Hughes, Stone Mason, — do.
W. Humphreys, G. W. R., — do.
T. Humphreys, Joiner, — do.
R. Hughes, Tynd— dol, — do.
J. Hughes, Melinrug, — do.
Mrs. Humphreys, Grocer, — do.
Hughes, Ty'ntwll, Cynwyd
Rev. Evan Jones, Nantglyn
Mr. J. Jones, Llanfihangel
W. Jones, Ty'nllidiart, Corwen
Albert E. Jones, G. W. R., — do., 2 copies
D. Jones (Cynwydion), — Dolgelley
Rev. B. Humphreys, Llangollen, 2 copies
Mr. E. Jones, Timber Merchant, Corwen
F. G. Jones, Ironmonger, — do.
W. Jones, Chemist, — do.
W. M. Jones, B. S. — do.
Miss Jones, Ty'nycefn, — do.
Mr. J. Jones, Brynrhug, — do.
J. Hughes, Smith, — do.


Mr. R. Hughes, Tailor, Corwen
W. Jones, Confectioner, — do.
J. Jones, G.W.R., — do.
W. R. Jones, G. W.R., — do.
D. Jones, Casenion, — do.
W. Jones, Cottage, — do.
J. Jones, Bettws, — do.
J. Jones, Trewyn Fawr, do.
Rev. D. Jones, Gwyddelwern
Mr. R. Jones, Ty'nyfron, Glan'rafon
H. Jones, Fourcrosses, Llawrybettws
W. Jones, — do.
J. W. Jones, Tyisa, — do.
E. Jones, Postman, — do.
E. Jones, Penisa'rmynydd, do.
D. Jones, Glyn, Llandrillo
C. Jones, Tea Merchant, — do.
E. Jones, Maesgwyn, Gwyddelwern
D. Jones, Brynbrith, — do.
H. Jones, Penybont, Llansantffraid
E. Jones, Llidiartyparc, — do.
O. Lloyd, Post Office, Corwen
R. Lloyd, Joiner, — do.
E. Lloyd, Junior, Bryneglwys
Jarret, Plasyfardre, Llandrillo
R. H. Lloyd, Commerce House, Corwen
J.Morris, Joiner, Rug, — do.
R. Lloyd, G. W. R., — do.
W. Morris, P.O., Cerygydruidion
H. Morris, (Rhuddfryn), Corwen
H. Lloyd, Bwlchgwyn
R. Roberts, Shoemaker, Cynwyd
E. Roberts, Rug
J. Roberts, Melinrug
R. R. Roberts, Corwen
J. Rees, Penlan, — do.
R. P. Roberts, Rhydyfen, do.
R. Roberts (Eryr Alwen), do.
J. Roberts, Plasynddol, do.
Rev. R. D. Rowlands (Anthropos), Bala
Mr. G. Rees, Maerdy Mill
E. Roberts, Ty'nycefn
W. Roberts, do.
T. E. Roberts, Tynewydd
R. Roberts, Tanycoed
H. Rees, Saddler, Corwen


Cyhoeddwyd y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1929, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.

 
  1. Dim yn rhan o'r llyfr gwreiddiol
  2. Mab iddo ef yw Watkin Williams, Ysw., A.S. Credwn mai yn Ficerdy Llangar y ganwyd y seneddwr galluog hwn.
  3. Cotton MSS. in the British Museum; Cleopatra, E. IV. vol. 55.
  4. Hall's Chronicle, ccxxxiii.
  5. Roger Butler Clough
  6. Mae'n debyg mae Syr Rhys o'r Dre Wen ger Croesoswallt ydoedd nid Drewyn, Corwen (gw CPC Cymru Guto—Syr Rhys)
  7. Napl-(Naples).
  8. Talwg-Tal-gwe, uchelfalch. Ty uchel a tho ceryg yn gyferbyniol i'r bythod isel a tho gwellt.
  9. Ai nid "siap (shape) landeg," ddylai fod yma?
  10. Cwning-Cwning-gaer, (a rabbit warren)
  11. Gwyran-Porfa fras.
  12. Rhaid fod lle ardderchog iawn yn Sycharth y pryd yr oedd Owain yn ei rwysg a'i gyfoeth. Yr oedd ei lys, ei eglwys, a'i diroedd o gylch y llys, mewn trefn odidog.