Cerddi'r Eryri (Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cerddi'r Eryri
Teitl
gan William John Roberts (Gwilym Cowlyd)

Teitl

CERDDI'R ERYRI:

SEF CASGLIAD DEWISOL O

GERDDI

DIGRIFOL A MOESOL.

LLANRWST:

CYHOEDDEDIG AC AR WERTH GAN W. J. ROBERTS.

Pris Chwe'cheiniog.

CERDDI'R ERYRI:

SEF CASGLIAD O OREUON

CERDDI POBLOGAIDD CYMRU

YN CYNWYS

CANEUON GWLADGAROL

TEIMLADOL, MOESOL

ADDYSGIADOL A DIFYROL

WEDI EU CRYNHOI I GYFROL FECHAN ER HWYLUSDOD I'R

DATGANYDD, Y CYSTADLEUYDD, A'R ADRODDYDD.

PRIS CHWE'CHEINIOG.

LLANRWST:

ARGRAPHWYD AC AR WERTH GAN W. J. ROBERTS

1887

RHAGYMADRODD.

Fy unig amcan i wrth gyhoeddi y detholiad hwn o ganeuon mwyaf poblogaidd yr oes a'r oror ydyw estyn cyfleustra i'm cydwladwyr i gael Llawlyfr hwylus at wasanaeth y Cyngherdd, y Gystadleuaeth a'r Aelwyd, gan hyderu y bydd fy ngwaith yn rhoddi boddhad a hwylusdod.

Yr eiddoch, yn wladgar,
G. C.

MAI 2FED, 1887.

CYNWYSIAD .

CERDDI'R ERYRI

Y DDRAIG GOCH.

Music i'w gael gan Gwilym Cowlyd.

Chwifiwn faner Goch y Ddraig
Draig hen Walia Wen,
Draig a lluman Eryri craff
Eryri uwch ei phen;
Canwn fel y canem gyd
A Chrwth a Thelyn Dên
Gerddi'r Eryri 'n oes oesoedd.


GYDGAN:

Ein Ner, Ein Ner, a folwn yn ddi-lyth
Ein Hiaith, Ein Hiaith, a'n gwlad a gadwn byth
Parchwn ein defodau mâd
A chanwn tra bo chwyth
Gerddi' r Eryri 'n oes oesoedd.

.

Chwyfiodd Arthur yn y gwynt
Ddragon gyfliw gwaed
Fathrodd falchder Rhufain gynt
A'i chedyrn dan ei thraed ;
Cedyrn heb eu plygu rioed
Mewn un henafol hynt
Ydyw gwroniaid Eryri.

Ein Ner &c.

Cymru, Lloegr, a Llanrwst,
Yw hen ddihareb byd
Treigla'r Wyddfa i lawr yn ddwst
A ninau'n Gymry o hyd,
Methodd brad ein llyw a'n beirdd
A lladd anfarwol fryd
Beirdd a gwroniaid Eryri,

Ein Ner &c,


Chwyf ein Draig arynaig rudd
Saib ar Fosworth sôn,
Rwymai 'r tras brenhinol pur
Wrth linach Tudur Môn,
Tra bo'n Mhrydain Wen "Eich Dyn,"
Parchwn ef a'n Iôn,
Byw fyddo Banon Eryri.

Ein Ner &c

Copyright Reserved.... GWILYM COWLYD

GLAN GEIRIONYDD_CAN YR ARWEST

Musig gan Eos Bradwen.[1]

I fryniau Geirionydd a murmur ei lli,
Mae swynion y daith uwch eu rhifo,
Mor dyner oedd awel y mynydd i mi,
A gloewon raiadrau'n dylifo,
Yn llwybrau yr Awen a gardd wyllt y brwyn;.
Lle bu yr ystorm yn taranu,
Mi glywais forwynig yn nghysgod y llwyn
Wrth wylied y praidd yno'n canu, canu.

A hon yw yr hen brophwydoliaeth a'r gân
"Eu Ner, eu Ner a folant,"
Eu tiroedd a gollant. Ond Gwalia lân
Er hyny yr heniaith a gadwant..

F'anwylyd, fe weli elynion dy wlad,
Yn dyfod a'u saethau yn suo,
Clyw udgorn y Gelyn yn galw i'r gâd,
Gwel wybren dy hen Gymru'n duo;
Bydd cartref y Brython i'r gelyn yn sarn,
Anghofir dy hen brophwydoliaeth,
Bydd farw dy heniaith, yr estron a'i barn
Pa le bydd dy hen annibyniaeth?

Estron,—Mae awel y bryniau yn sibrwd y gân,
"Eu Ner, eu Ner a folant"
Eu tiroedd a gollant, Ond Gwalia lan
Er hyny yr heniaith a gadwant.


Os wyt ti f'anwylyd, liw ewyn y dôn,
Dan gysgod y llwyn yma'n dawel,
A elli di ganu mor ddedwydd dy fron,
Pan ddaw swn ystorm yn yr awel?
Fe gyfyd gelynion, mae difrod ar daith,
Gwel ormes a brad yn dynesu,
Clyw accen y bryniau'n anghofio'r hen iaith,
A'r awen heb neb i'w mynwesu.

Estron,-Mae awel y bryniau yn gwybod y gân
"Eu Ner, eu Ner a folant,".
Eu tiroedd a gollant, ond Gwalia lân,
Er hyny yr heniaith a gadwant.

Copyright Reserved.....EOS BRADWEN

HEN WLAD FY NHADAU.

Ton—Hen Wlad fy Nhadau

Mae hen wlad fy nhadau yn anwyl gan i,
Gwlad beirdd a cherddorion enwogion o fri;
Ei gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mâd,
Dros ryddid collasant eu gwaed.

BYRDWN


Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau.

Hen Gymru fynyddig, paradwys y bardd,
Pob dyffryn, pob clogwyn i'm golwg sydd hardd,
Trwy deimlad gwladgarol mor swynol yw si
Ei nentydd, afonydd i fi.

Gwlad, gwlad, & c.

Os treisiodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae hen iaith y Cymry mor fyw ag erioed,
Ni luddiwyd yr awen gan erchyll law brad
Na thelyn berseiniol fy ngwlad.

Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i'm gwlad,
Tra mor yn fur i'r bur hoff bau,
O bydded i'r hen iaith barhau,

CERDD Y CYMREIGYDDION.

Ton—Calon Derwen.

Dowch, Gymreigyddion, y Brython da eich bri,
I gofio eich hen dadau, da raddau di ri?
Rhaid i chwi gydnabod bob alod yn bur,
Nad ydyw gwag redeg coeg Saes'neg ond sur;
Plant Cymru da eu rhyw, mae llwyddiant i'n llyw,
I gadw ein harferion tra byddom ni byw.
A dwedwn i gyd, hardd frodyr un fryd,
Ein hiaith a barhao, a llwyddiant a'i cadwo,
Heb loes, trwy bob oes, trwy bob oes, tra bo byd!

BYRDWN—A d'wedwn i gyd, &c.

Pwy ddichon draethu, neu haeru ar ei hynt,
Mor wychol oedd moddau'r hen gampau wnaed gynt;
Cadw trwy ryfel yr hoedel o hyd,
A churo ar filwriaeth holl benaeth y byd;
Er cyni o fyd caeth, ni fyddent ddim gwaeth,
Yr hen Gymry calonus oedd drefnus ar draeth.
Aeth Madog heb dra, a'i ddyfais oedd dda,
Hyd wyneb y dyfroedd, a'i lestr a hwyliodd,
T:rwy nerth y moroedd certh, moroedd certh, i'r America!

BYRDWN,—Aeth.Madog heb dra, &c.

Ac eto'n rhai gwychol, mae buddiol ein bod,
Hiliogaeth glan Cymru, yn glynu yn y glod,
Ni chollwn mo'n Breintiau o'n moddau'n un man;
Cynhaliwn gadernid ein Rhyddid i'n rhan;
Gan hyny, ar bob taith, amddiffynwn ein Hiaith,
Pwy sydd yn amheuol nad gwychol ein gwaith!
A d’wedwn i gyd, hardd frodyr un fryd,
Ein Hiaith a barhao, a llwyddiant a'n cadwo,
Heb loes, trwy bob oes, trwy bob oes, tra bo byd!

BYRDWN,—A d'wedwn i gyd, & c.

HIRAETH Y BARDD AM EI HEN WLAD.

Ton—Hiraeth y Bardd

Er cael pleserau yn ngwlad y Sais,
A gweld ei ddyfais wiwber,
Mae gwlad yr awen, geinwen gell,
Er hyny'n well o'r haner;
Ei hawel iach, a'i melus ddw'r,
A chyflwr ei thrigolion.—
Wrth gofio'i Beirdd rhyw hiraeth draidd
Drwy giliau'r wanaidd galon.

Braidd na dd'wedwn yn ddi wad
Mai nefol wlad yw Cymru;
O, na b'ai’nhraed yn sengu ar hon,
Ar finion ceinion Conwy.

Ac O, mor gynar yn ein gŵydd,
Ar bren frig. bydd y bronfraith,
A'i nodau 'n glir, newidiog lef,
Yn moli'r nef mewn afiaeth;
A'r enwog fwyalch, gyda'r dydd,
Ar gan a rydd ogoniant,
Ar frigyn pren, dan glogwyn serth,
Caeadnerth uwch y goednant.

Braidd, &c.

Mae'r Sais yn dangos im' bob dydd,
Mewn gwir, ei rydd hawddgarwch;
A'r nos caf ganddo wely clyd,
A digon byd o degwch;
Ond pan fo’m corph yn ' huno'n ber,
Ar wely tyner madblu,
Fe gwyd fy yspryd, ac fe 'hed
I'mweled a thir Cymru.

Braidd, & c.

Ac wedi deffro gyda'r dydd,
Mor bruddaidd fydd y galon
Nid daear Cymru fydd fy lle,
Ond canol tre' Manceinion;

Cyn codi'r haul o'r dwyrain draw,
Yr yspryd ddaw i'w lety,
I brudd fyfyrio fel y bu
Yn nghanol teulu Cymru.

Braidd, &c.

Yn nyffryn Conwy mae fy nhad
Yn nghanol mad gyfeillion,
Ac yno bydd nes geilw Duw,
Ar alwad, wyw farwolion:—
Cael benthyg bedd wrth ystlys hwn
A wir ddymunwn inau,
I orphwys nes daw'r meirw'n ol
O garchar ingol angau.

Braidd na dd'wedwn yn ddiwad
Mai nefol wlad yw Cymru;
O, na b'ai 'nhraed yn sengu ar hon
Ar finion ceinion Conwy.

Llansantffraid G.C......JOHN JONES.

MOLAWD CYMRU

.

Ton—Rhyfelgyrch Gwyr Harlech.

Henffych well i wlad fy nghalon,
Llwyddiant i ti Gymru dirion;
Bendith i dy feibion dewrion,
A dy ferched glân;
Peraidd yw dy hynod hanes,
I wresogi serch fy mynwes;
Tra bo 'ngwaed yn llifo'n gynes
Caraf wlad y gân;
Anwyl wlad fy nhadau,
Caraf dy fynyddau,
Creigiau glwysion uwch y nant,
Ymwelant a'r cymylau;
Dolydd a dyffrynoedd dyfnion,
Ffrydiau clir a llynau llawnion,
Adlewyrchant flodau tlysion
Yn eu dyfroedd glan:

Hiraeth sydd i'm llethu,
Am anwylion Cymru;
Ow! na chawn fy mhwrs yn llawn,
A chred a dawn i'm denu
Adre'n ol i blith fy nheulu,
A chyfeillion i'm croesawu :
Yn olynawl gwnawn folianu
Cymru, gwlad y gan.

Mil melusach i fy nghalon,
Na mwynderau gwlad y Saeson
Cig a gwin, a da, a digon,
Ydyw gwlad y gan ";
Nid oes modd i 'ngwen lawenu,
Tra bo f'enaid yn hiraethu,
Am fynyddoedd cribog Cymru,
A'i dyffrynoedd glan,
Nid y llawn heolydd,
Mwg a thwrf y trefydd :
Nid y byd, a'i olud drud
Sy'n denu bryd y prydydd,
Ond afonydd, gwyrddion ddolydd,
Swn yr awel yn y coedydd,
Cymau, glynau, bryniau, bronydd,
Cymru, gwlad y gan;
Cara'r oen y ddafad,
Cara mûn ei chariad,
Cara'r cybydd bwrs yn llawn
A dyn a dawn ei dyniad;
Cara'r babi fron ei fami,
Caraf fiinau'r wlad wy'n foli'
Duw a wyr mor. anwyl i mi
Ydyw Cymru lan,
TALHAIARN

"CYFLAFAN MORFA RHUDDLAN."

TON—Morfa Rhuddlan

Cilia'r haul draw, dros ael bryniau hael Arfon;
Lleni'r nos sy'n myn'd dros ddol a rhos weithion;
Pob rhyw chwa ymaith a gilia o'r llwyni :
Ar fy nghlust draw mae, ust, y dôn yn dystewi;
Dan fy mron clywai'm llon galon yn curo,
Gan fawr rym digter llym, wrth i'm fyfyrio
Ar y pryd pan fu drud waedlyd gyflafan,
Pan wnaed brad Cymru fad ar Forfa Rhuddlan.

Trwy y gwyll gwelaf ddull teryll y darian;
Clywaf sî eirf heb ri’arni yn tincian,
O'r bwâau gwyllt mae'n gwau, saethau gan sîo;
A thrwst mawr, nes mae'r llawr rhuddwawr yn siglo;
Ond uwch sain twrf y rhai'n, ac ochain y clwyfawg.
Fry hyd nef clywir cref ddolef Caradawg, "
Rhag gwneyd brad ein hen wlad, trôwn eu câd weithian,
Neu caed lloer ni yn oer ar Forfa Rhuddlan "!

Wele fron pob rhyw lon Frython yn chwyddo,—
Wele'u gwedd, fel eu cledd fflamwedd, yn gwrido;
Wele'r fraich rymus fry'n dyblu'r ergydion;
Yn eu nwy' torant drwy lydain adwyon :
Yr un pryd Cymru i gyd gyfyd ei gweddi,
“Dod yn awr nerth i lawr, yn ein mawr gyni,
Boed i ti, O! ein Rhi, noddi ein trigfan;
Llwydda'n awr ein llu mawr ar Forfa Rhuddlan.”!

Troswyf daeth, fal rhyw saeth, alaeth a dychryn,
Och! rhag bost bloeddiau tost ymffrost y gelyn:
Ond O! na lawenha, fel a wnai orchest;
Nid dy rym, ond dy ri' ddug i ti goncwest,
Ow! rhag braw'r dorf sy draw'n gwyliaw o'r drysau
Am lwydd cad Cymru fad,—rhad ar ei harfau;
Mewn gwyllt fraw i'r geillt fry, rhedy pob oedran,
Wrth wel'd brad gwŷr eu gwlad ar Forfa Rhuddlan.


Bryn a phant, cwm a nant, lanwant a’u hoergri,
Traidd y floedd draw i g'oedd gymoedd Eryri:
Yr awr hon y mae llon galon hen Gymru,
Am fawr frêg ei meib teg, gwiwdeg, yn gwaedu:
Braw a brys sydd drwy lys parchus Caradog;
Gwaeddi mawr fyn’d i lawr flaenawr galluog;
Geilw ei Fardd am ei fwyn delyn i gwynfan,
Ac ar hon tery dôn hen "Forfa Rhuddlan."!

Af yn awr dros y llawr gwyrddwawr i chwilio:
Am у fan mae eu rhan farwol yn huno:
Ond y mawr Forfa maith yw eu llaith feddrod;
A'i wyrdd frwyn, a'r hesg lwyn, yw eu mwyn gofnod,
Ond caf draw, gerllaw'r Llan, drigfan uchelfaith
Ioan lân, hoffwr cân, diddan gydymaith;
Ac yn nhy'r Ficar fry, gan ei gu rian,
Llety caf, yno'r af o Forfa Rhuddlan.

I. G. GEIRIONYDD.


CYMRU LAN, GWLAD Y GAN

.

Ton—Cymru Lan.

Pa wlad sy mor bêrswynol a'n gwlad hynodol ni,
Pob bryn a dyffryn siriol sydd o anfarwol fri!
Gorenwog yw pob ardal am wyr sy'n cynal can,
A rhydd yw ein mynyddoedd, a llon ein glynoedd glan.

BYRDWN.


Cymru lan gwlad y gan, Cymru lan gwlad y gan,
Dy feibion oll a unant o hyd yn ddi wahan,
Mewn moliant, clod, a bri, i'th anrhydeddu di,
A’th garu yn oesoesoedd, Cymru lan gwlad y gan.

Dysgleirio wna dy awen fel seren yn mhob Sir
Dysgleiriodd yn foreuol, a dysglaer fydd yn hir;
Gwladgarwch sydd yn gwenu i ddenu nerth dy ddawn
I ganu dy ogoniant o dant a chalon lawn;

Cymru lan gwlad y gan, &c.



Dedwyddyd a thangnefedd, a rhinwedd fo i'th ran
A’th lwyddiant fo ar gynydd o for i fynydd ban,
Monwesa dduwies Rhyddid, hoff Ryddid lan ei phryd
Nes byddo ei hathrylith yn fendith i'r holl fyd.

Cymru lan gwlad y gan, & c.
TALHAIARN

YR HEN AMSER GYNT.

Ton—Auld Lang Syne.

Er troion byd, ei wên a'i ŵg,
A llawer dyrys hynt,
Tra melus ydyw galw i gof
Yr hen amser gynt.

Er mwyn yr amser gynt, fy ffrind,
Yr hen amser gynt,
Ni wnawn yn llawen heno er mwyn
Yr hen amser gynt.

Ar hyd y maesydd clywid sain
Ein hadlais gyda'r gwynt,
Tra'n diſyn ein diniwaid gamp,
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, fy nghyfaill llon,
Aed gofal byd gan wynt;
Ni wnawn yn llawen heno er mwyn
Yr hen amser gynt.

Difyrid ni wrth godi a gweld
Y barcud yn y gwynt:;
Ond tyfa'r gwellt lle sangem ni
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, &c,

Ar ddyddiau hafaidd chwythu wnaem
Y dyfrglych gyda'r gwyni,
Heb feddwl fawr mai felly yr ai
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, &c.


Ar ol yr Wyn hyd lethrau bron,
Y rhedem ar ein hynt;
Nid mwy diniwaid hwy na ni,
Yr hen amser gynt, & c.

Dod law mewn llaw, &c.

Ar ôl y gâd yn mhell o dre,
Y rhoisom lawer hynt,
Ac ofn wynebu cartre'n ol,
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, &c.

A lluniem ryw ryfeddod fawr
A welsem ar ein hynt,
I foddio 'n mam rhag cerydd hon,
Yr hen amser gynt.

Dod law mewn llaw, & c.

Pa fodd y dichon fyn'd ar goll
Un rhan o'r mabol hynt;
Tra cofiaf sill am danat ti,
Bydd cof o'r amser gynt.

Dod law mewn llaw, fy nghyfaill lion,

Aed gofal byd gan wynt;
Ni wnawn yn llawen heno er mwyn
Yr hen amser gynt.

IEUAN GLAN GEIRIONYDD.

NOS SADWRN Y GWEITHIWR.

Ton—Nos Sadwrn y Gweithiwr.

Pa beth a welaf?—gweithiwr draw,
A chaib a rhaw mewn rhych,
A phwys a thristwch byd, a'i wg
A'i gwnaeth yn ddrwg ei ddrych;
Ond er ei fod mor llwm i'w gael,
Yn glytiog wael ei wawr,
Nos Sadwrndeifl ei galed waith,
A'i ludded maith i lawr.


O gwel mor glytiog garpiog yw
Yn ceisio byw'n y byd:
Heb ond prin ddigon at ei draul
Yn nghysgod haul o hyd,
Ei gylla weithiau'n gwaeddi'n groch,
Pob dimai goch ar goll;
Ond daw nos Sadwrn—gyda llôg
Fe gaiff ei gyflog oll.

Mae blin a chaled waith y dydd,
Hyd ffosydd gyda'r ffyrdd,
Bron a gorlwytho'i babell frau,
Mae dan ofidau fyrdd:
Pa’m mae'n gwirfoddol oddef dan
Ei ffwdan? adyn ffol I
Ah! mae ei olwg ar ryw lon
Nos Sadwrn eto'n ol.

Cyn codi'r haul y bore rhed
A'i fwyd a'i fasged fach,
Pib fer yn cuddio rhan a'i mwg
O'i wridog olwg iach;
Pan fyddo hunawg wyr mawr glod
Yn bod heb symud bys,
Bydd e'n llafurio'n ol ei drefn
A phen a chefn yn chwys.

Gan yr uchelwr mae ei barch
Yn ail i farch neu ful;
Pob un yn cerdded hyd ei ben,
Ail pont—bren ceubren cul,
A phlant ei feistr, cy'd a'i goes,
Rydd iddo loes neu lach;
Ond caiff nos Sadwrn gartre'i hun,
A bod yn frenin bach.

CAWRDAF.

YMWELIAD Y BARDD A THRE'R BALA

Ton—Ymweliad y Bardd a'r Bala.

.
I dref y Bala yr aeth y Bardd,
I edrych am ei dad;
Aeth dros y ty, a thrwy yr ardd,
Gan waeddi "O fy nhad!
Nid yw fy nhad yn unrhyw fan,
Os nad yw yn y bedd;"
Atebai careg iddo'n wan,
Dywedai,—"Yn y bedd!"

"Pa le mae Gwen, fy anwyl Gwen,
Fy chwaer pa le'r wyt ti?
Os wyt yn fyw, anwylaf Gwen,
Ateba, Wele fi'
Ni chlywaf lais, mawr yw fy mraw,
Wyt tithau yn y bedd?"
Atebai'r gareg oedd gerllaw,
Dywedai— "Yn y bedd!”

"Fy mam, fy mam, anwylaf fam!
A ro'ist im ' faeth a mâg,
O dywed' im', fy mam, paham
Mae'r gadair hon yn wag?
Fy mam, fy mam, fy mam, fy mam
Wyt tithau yn y bedd?"
Atebai'r gareg ateb gam,
Dywedai,— "Yn y bedd!"

"Mae'r tŷ yn dywyll drwyddo draw,
A'r ardd â'i blodau'n wyw;
Na’m tad, na'm mam, na'm chwaer gerllaw,
Ni welaf mwy yn fyw;
Maent hwy yn cysgu'n min y Llyn,
Mewn gwely pridd eu tri:
Mi wylaf dro wrth feddwl hyn,
Mae hiraeth arnaf fi."—TEGID

CANIAD Y GOG I ARFON.

Ton—Morwynion glan Meirionydd

Perffaith yw dy waith, Duw lôr,
Mae tir a mor yn dystion;
Da a didwyll gwnaed hwy oll,
Heb goll na dim diffygion;
Ond o'r cyfan goreu gwnaed
Goreuwlad wirfad Arfon.

P'le mae cynar ganiad côg
Mewn glaswydd deiliog glwysion,
Dynion neint, a chreigiau serth,
A phrydferth reieidr mawrion?
Ar Eryri uchel wawr,
Yn erfawr lanau Arfon.

Defaid filoedd sy'n porfau
Ar hyd ei bryniau meithion,
Ei gweunydd heirdd, a'i bronydd teg,
Sy'n llawn o wartheg duon,
Da yw'r pysgod sydd yn gwau
Yn nyfnion lynau Arfon.

Clywir adlais bêr ddibaid
Y clau fugeiliaid gwiwlon,
A'u chwibaniad hydy dydd,
Ar hyd ei gelltydd gwylltion,
A diniwaid frefiad wyn
Ar irfwyn fryniau Arfon,

Clywir miwsig bwysig, ber,
Trwy fwynder twrf y wendon
Nos a dydd y sydd a'i si,
Yn golchi'i glanau gleinion;
O! na chawn i rodio o hyd
Hyd forfin hyfryd Arfon,


P'le mae amlaf geinciau per
Y gwiwber delynorion:
Pawb yn canu yn eu cylch,
O‘n hamgylch fwyn benillion,
Yn gariadion, gyson gor,
Yn ngoror erfai Arfon.

P'le mae mwynder doethder dysg
Ac addysg teg agweddion,
Odlau cu, a mydru mawl,
A siriawl ddoniawl ddynion?
Odlau mae'r Beirddion mwya'u clod,
Anorfod, ond yn Arfon.

Pwy sydd bur, heb dwyll na brad,
Drwy fwriad na dichellion?.
Pwy sydd hawddgar, heb naws gwg,
Neu gynal drwg amcanion?
Pwy sydd un, ac un i gyd,
Ond dewrfeib hyfryd Arfon.

Hardd yw'r haul ar foreu teg.
A gloywdeg uwch gwaelodion;
Hardd a llon yw meillion Mai,
Ar ddifai lenydd afon,
Harddach yw menywod mad
Goreuwlad wirfad Arfon.

P'le y ceir mewn dolur du
Anadlu iach awelon,
Yfed dyfroedd mawr eu rhin
Sydd well na gwin i'r galon?
Pʻle ceir laeth a mel heb drai?
Yn erfai frodir Arfon.

Pa le у bu'm yn chwareu gynt
Yn chwyrn fy hynt a'm troion,
Pan oedd nwyf maboliaeth clau
Yn bywincau fy nghalon,
Heb. drafferthion i'm pruddhau?
Ar erfai frodir Arfon.


Y mae hiraeth i'm trymhau
Am weled glanau gleinion,
Hyfryd ddolydd, maesydd maith
Sy'n lanwaith heb elynion,
Ac am greigiau, muriau mawr,
Clog wynfawr, erfawr Arfon,

Os da gan glaf ar fin ei fedd
Gael adwedd o'i glefydion
Os da gan grwydryn yn y nos,
Cael llety diddos boddlon,
Gwell gan i gael lloches glyd
O dwrf y byd yn Arfon.

Gwyn fy myd pe cawn yn awr
Adenydd y wawr dirion;
Hedeg wnawn dros for a thir,
Yn gywir ac yn union,
A disgynwn yn ddiau
Ar erfai fryniau Arfon.,

Duw a'm dycco cyn fy medd
I fyw mewn hedd a digon,
A chael treulio‘m gweddill oes
Heb loesau anfelusion;
Hyn yw'm harch, a Duw yn dad,
Yn mynwes wirfad Arfon.

A phan y delo diwedd oes,
A duloes angau creulon,
A d'od o'r dydd i'm rhoddi'n fud
Yn nistaw fyd marwolion,
Boed i'm corph gael bedd yn nghlai
A daear erfai Arfon.
IEUAN GLAN GEIRIONYDD.

MYFYRDOD AR LANAU CONWY.

Ton—Earl of Moira.

Ar lanau Conwy ar fy nhro,
Pan byddwy'n rhodio ar hynt,
Ni fedraf lai na dwyn ar go ',
Wrth gofio'r dyddiau gynt:
Pa le mae'n hen gyfeillion llon,
A'm cyd-chwaryddion res;—
Er chwilio yma amser hir,
Ni byddai'n wir ddim nes;
Ond gwaith ffol—dyddiau'n ol,
Ni wiw eu 'morol mwy.

Bum yno ganwaith ar fy nhro,
Yn rhodio ar ei hyd,
Pan oedd difrifwch heb fy nal,
Heb ofal yn y byd;
A'm cyd-gyfeillion, wiwlon wedd,
Un tuedd oeddynt hwy;
Ffarwel yn awr i'r dyddiau gynt,
Ni welir mo'nynt mwy;
Ond pa les—nid wyf nes,
Nid oes dim o'u hanes hwy.

Fe ddarfu'm hen gyfeillion hael,
Fy ngadael braidd i gyd;
Mae rhai yn gorwedd dan y gwys
Yn llwyr o bwys y byd;
A'r rhai sy'n fyw gwasgarant oll
Ar goll i'r pedwar gwynt;
Mae hyny bron a dwyn fy ngho'.
Wrth gofio'r dyddiau gynt:
Aent ar hynt fel y gwynt,
Ac ni welir mo'nynt mwy.
PYLL

CAN Y BARDD WRTH FARW.

Ton—Llwyn On.

Gwnewch imi feddrod wrth ffrydlif y mynydd,
Na cherfiwch un linell i nodi fy hynt:
Ac yno telored glâs donau'r afonydd
Eu cerddi yn gymhlith â chwiban y gwynt.
Na chlywer un Och! lle mae'r prydydd yn huno;
Na choder un cofnod i ddangos y fan;
Yno na weler un serchawg yn wylo,
I dori â'i dolef dawelwch y lan.

I bydru fi dodwch heb gwynion na galar,
Diamdo, dienw, ac unig fy ngwedd;
Na dd'wedwch fy mod i mor drist ac edifar
Wrth deithio i dawel ystafell y bedd.
Pan ddychwel y Gwanwyn uwchben fy ngorweddle
Pored y milyn dywarchen fo gwerdd;
Pan chwifia y grug yn awelon y bore,
Adar y moelydd a ganant fy ngherdd.

Iesu, fy Nuw! yn y preseb a rwymwyd,
Maddeu fy nghamwedd—tro drallod yn hedd;;
Ti'r hwn dros ddyn pechadurus groeshoeliwyd,
Cofia fy lludw yn nghilfach y bedd!
Pan seinio yr udgorn trwy'r nen ddychrynedig
Alargan ddiweddaf y ddaear a'r mor,
Gâd i mi orphwys lle cân y gwaredig
Gathlau i'th foliant, fy Ngheidwad, fy Ior.

CAN Y MELINYDD.

Ton—Person Paris.


Mae genyf dy cysurus,
A melin newydd spon,
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron.

Mae genyf drol a cheffyl,
A merlyn bychan twt,
A deg o ddefaid tewion,
A mochyn yn y cwt.


Mae genyf gwpwrdd cornel
Yn llawn o lestri te,
A dreser yn y gegin
A phobpeth yn ei le,

Er hyn i gyd mae 'nghalon
Yn brudd o dan fy mron,
O eisiau meinir hawddgår
I wneyd fy myd yn llon.

A ddo'i di, Mari anwyl,
I'r Eglwys gyda mi?
Fy nghariad, a fy nghoron,
A'm calon ydwyt ti.

Os do'i di, fy anwylyd,
I'm gwneyd yn ddedwydd wr,
Cei gariad y melinydd
Tra try yr olwyn ddw'r.

Y BWTHYN BACH TO GWELLT.

Fe gollais fy Nhad, fe gollais fy Mam,
Pan oeddwn yn blentyn bychan,
Nid ydwyf yn cofio dim am yr un
O'r ddau oedd mor hoffus o'u baban;
Cymerwyd fi gan fy Nain meddynt hwy
Mewn storm o daranau a mellt,
A magwyd fi gan fy Nain ar y plwy ',
Yn y bwthyn bach tô gwellt.

Cydgan—
Pan yn rhuo byddai'r daran
Ac yn gwibio byddai'r mellt,
O! 'rwy'n cofio fel y llechwn,
Yn y bwthyn bach tô gwellt.


Pan byddai y rhew a'r eira gwyn,
O amgylch y bwthyn bychan,
Eisteddwn yn ddedwydd ar fy stol fach,
A chanwn ar ben yr hen bentan;
A'm Nain yn dysgu adnodau i mi
Yn nghanol ystorom o fellt;
Rhyw nefoedd fach gu i mi a fy Nain;
Oedd y bwthyn bach tô gwellt:

Cydgan—Pan yn rhiuo byddai'r daran, & c,

Fe fyddwn yn chwareu gwmpas yr arddi
Cartrefle y diwyd wenyn,
A difyr y treuliais i lawer awr,
I chwilio am nyth aderyn:
Mae hiraeth dwys yn fy nghalon brudd
Nes ydyw bron myned yn ddellt;
Ona b’aw eto yn blentyn fy Nain,,
Yn y bwthyn bach tô gwellt.

Cydgan—Pan yn rhiuo byddai'r daran, &c.

Fe fyddwn yn myned gyda fy Nain,)
Trwy'r ddôl gan ei galw'n fami,
A hithau mewn hiraeth dwys am fy mam
O'i chalon oedd gynt yn fy ngharu;
A chyda hi byddwn i yn mhob man,
Am dillad yn wynion a glan,
Ond erbyn hyn mae fy Nain yn y Llan
Yn huno yn y graian mân.

Cydgan—
Pan yn rhuo byddai'r daran
Ac yn gwibio byddai'r mellt,
O! 'rwy'n cofio fel y llechwn,
Yn y bwthyn bach to gwellt.

BUGAIL ABERDYFI.

Ton—O tyr'd yn ol fy ngeneth wen.

Mi geisiaf eto ganu cân
I'th gael di 'nol, fy ngeneth lân,
I'r gadair siglo, ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi:
Paham, fy ngeneth hoff, paham
Gadewaist fi a'th blant dinam?
Mae Arthur bach yn galw ei fam,
A'i galon bron a thori.
Mae'r ddau oen llaw—faeth yn y llwyn,
A'r plant sy'n chwareu gyda'r wyn,
O tyr'd yn ol, fy ngeneth fwyn,
I fynydd Aberdyfi.

Nosweithiau hirion, niwliog, du,
Sydd o fy mlaen, fy ngeneth gu,
O agor eto ddrws y ty,
Ar fynydd Aberdyfi.;
O na chait glywed gweddi dlôs
Fy Arthur bach cyn cysgu'r nos,
A'i ruddiau bychain fel y rhos,
Yn wylo am ei fami!
Gormesaist lawer arnaf, Gwen,
Gormesais inau,—dyna ben,
O tyr'd yn ol, fy ngeneth wen,
I fynydd Aberdyfi.

Fel hyn y ceisiaf ganu cân
I'th gael di ’nol, fy ngeneth lân,
I eistedd eto ger y tân,
Ar fynydd Aberdyfi;
'Rwy'n cofio'th lais cyn canu'n iach,
Ond fedri di na neb o'th âch,
Ddiystyru gweddi plentyn bach
Sydd eisiau gwei'd ei fami;
Rhyw chwareu plant oedd d'weyd Ffarwel,
Cyd-faddeu wnawn, a dyna'r fel,
Tyr'd dithau'n ol fy ngeneth ddel
I fynydd Aberdyfi.
CEIRIOG

MAE PAWB A PHOBPETH YN MYN'D YN HEN

A fuost ti'n meddwl y cyfaill mwyn,
Fod amser yn llithro dan dy drwyn;
O ddydd i ddydd, ac o awr i awr,
Wrth deithio, sefyll, ac eistedd i lawr;
Wrth fwyta, ac yfed, a rafio'n ffri,
Yn nghwsg, ac yn effro, ffwrdd a ni,
Ac os edrychwn drwy ddrws ei drên,
Cawn bawb a phobpeth yn myn'd yn hen.

Tra casgla'r cybydd, tra gwaria'r hael,
Tra llid a mwynder, colled a mael;
Tra cara'r llanciau lodesi glân,
Tra plethaf finau englyn a chan,
Tra'r bonedd yn byw ar winoedd a bîr,
A'r tlawd yn griddfan yn ngweithdy'r sir,
Pasio mae'r byd drwy alar a gwên,
A phawb a phobpeth yn myn'd yn hen.

Mae'r hen Eisteddfodau difyr gynt,
A'r delyn a'r gerdd, yn dilyn y gwynt,
Chwar'yddion Llundain uwch ben y llu,
Sy'n wallt eu dawn, a'r beirdd naill du!
Yr hen ddatgeiniaid yn dianc o'r byd,
Awdl y Gadair, a'r cwbl i gyd,
Mae'r iaith Gymraeg a'i llafar a'i llen,
A phawb a phobpeth yn mynd yn hen.

Y Gwyliau sy'n dod, a'i gelyn glas,
A'i gyflaith, a'i bwding, a'i wyddau bras;
Daw'r plant i enyn chwerthiniad iach,
I'r aelwyd gynęs yn Nghymru bach;
Ac er na welsoch chwi cystal erioed,
Mae Ann a Timothy'n cario'u hoed,
O wyl i wyl, ac o wên i wên,
Maent hwythau hefyd yn myn'd yn hen.


Glendid a chryfder sy'n myn'd yn myn'd,
A chwith yw edrych ar lawer ffrynd;
Mae Jane yn rhedeg i oedran syn,
Ac Wmffra'n dallt fod ei wallt yn wyn;
Camach yw gwar Meredydd a John,
Meinach yw trwyn Miss Edith y Fron;
A danedd gosod sy lond ei gen,
Yn wir, mae hithau'n myned yn hen.

Canwyd y clych. ond doe ydoedd hyn,
Diwrnod priodas Elen y Bryn;
Bellach y wledd anghofiodd y wlad,
Mae Elen yn fam, a Gwilym yn dad;
Wrth gym'ryd eu siawns yn glaf ac yn iach,
Ymguro a byw, a magu rhai bach,
Nesu mae'r trwyn i ymyl yr en
A Gwilym ac Elen yn myn’d yn hen.

Yn 'hedeg mor gyflym un dim nid oes,
I'w hynt a phedwar tymhor ein hoes,
Mynyd yn chwareu, mynyd yn llanc,
Mynyd yn wr, a mynyd ar dranc:
Waeth ini d’lodi mor llawer iawn,
Na chyfoeth a moethau y palas llawn,
Tarth ydyw pleser, gwagder yw gwen,
Mynyd yw'n hoes, rhaid myned yn hen.
TREBOR MAI.

CLYCHAU ABERDYFI

Ton - Clychau Aberdyfi

Os wyt ti'n fy ngharu i,
Fel r'wyf fi'n dy garu di
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.
Un dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi:


Hoff gan fab yw meddu serch,
Y ferch mae am briodi;
Hoff gan inau yn mhob man,
Am Morfydd Aberdyfi,
Os wyt ti'n fy ngharu i,
Fel rwyf fi'n dy garu di,
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.

Tra bo llanw, trai, a lli,
Yn fy nghalon caraf di:
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.
Os y byddi'n wraig i mi,
Ni flinaf fi'n dy hoffi;
Beunydd gwnawn ymlawenhau,
Fel Clychau Aberdyfi.

Os wyt ti'n fy ngharu i,
Fel rwyf fi'n dy garu di,
Mal un, dau, tri, pedwar, pump, chwech,
Meddai Clychau Aberdyfi.

ANWYLAF WLAD FY NGHALON

Anwylaf wlad fy nghalon
Am byth y caraf di,
Mae miwsig dy awelon,
Yn anwyl iawn gan i;
Hoff genyf yw dy fryniau,
Hardd yw pob rhan o'th dir,
Ond harddach yw, anwylaf wlad,
Dy gariad at y gwir.

Cydgan—
Anwylaf wlad fy nghalon,
O hyd fydd Cymru wen,
Dylifed holl fendithion
Y Nefoedd ar ei phen.


Dy anwyl blant a'th garant
Tra bywyd yn eu gwaed,
Dy holl elynion fynant
I lawr o dan eu traed:
Dan iau gaethiwus estron
Bu'th feibion amser hir,
Er hyn glynasant wrth eu gwlad
A’u cariad at y gwir.

Anwylaf wlad fy nghalon, &c.

Er gormes ei gelynion
Bydd Cymru'n "Gymru rydd,"
Ac anwyl gan ei meibion
Hyd wawr yr olaf ddydd:
Eu Ner bendigaid folant
Tra Brython yn y tir,
Eu hiaith a gadwant er pob brad,
A'u cariad at y gwir.

Anwylaf wlad fy nghalon, &c.

GELERT CI LLYWELYN

O'r helfa ar ei fuan farch,
Llywelyn ddaeth i'w lys,
Gan seinio'i gorn, ac ato daeth
Ei deulu oll ar frys:
Pan welodd wedd ei rian lan,
A'i gwenau hawddgar hi,
'Pa le mae Gelert?' ebai ef,
Pa le mae 'mhlentyn i?
Paham na ddaw y ddau yn awr
A chroesaw mawr i mi?'
Mae'th fab mewn hûn—a a thybiais i
Fod Gelert gyda thi.'

"Gad imi weld fy anwyl fab
 A'i wasgu at fy mron;
Fy nhrysor penaf ydyw ef
 Ar wyneb daear gron."

Ar frys yr aeth i'w 'stafell ef,
Ca'dd yno ddychryn mawr;
'Roedd cryd er blentyn wedi ei droi,
A gwaed yn rhuddo'r llawr!
"Fy mhlentyn tyner," ebai ef,
"Fy mhlentyn anwyl i!
Rhyw lofrudd â'i ysgeler law
 Derfynodd d'einioes di!"
A Gelert o ryw dywyll le
A gododd ar ei draed;
A'i lygaid yn melltenu tân,
A’i safn yn goch gan waed:
"Ai ti a wnaeth y weithred hon?
O elyn tost i mi!"
A sydyn gyda'i gleddyf llym
Trywanodd ef ei gi."

A! dyma lais o dan y cryd,
Fel miwsig angel syw;
Ymgrymu wna y fam a'r tad,
Mae'r plentyn eto'n fyw!
Wrth droi y dillad gwelant ef,
Yn gwenu yn ei hun;
Ac wrth ei ben yn gelain gorph,
Mae blaidd o aflan lun.
Llywelyn dd'wedai yn ei loes,
"O! Gelert, ffyddlon gi,
Achubaist di ei fywyd ef,
A lleddais inau di!
Cei faen o farmor ar dy fedd,
Anrhydedd fydd dy ran"
A'r ci wrth lyfu llaw y llyw,
Fu farw yn y fan.
TALHAIARN.

BEDD Y DYN TYLAWD

Ton - Bedd y dyn tylawd

Is yr ywen ddu ganghenog
Twmpath gwyrddlas gwyd ei ben,
Fel i dderbyn o goronog
Addurniadau gwlith y nen;
Llawer troed yn anystyriol
Yn ei fathru'n fynych gawd,
Gan ysigo'i laswellt siriol.
Dyna fedd y Dyn Tylawd.

Swyddwyr cyflog gweithdy'r undeb
A'i hebryngodd ef i'w fedd,
Wrth droi'r briddell ar ei wyneb
Nid oedd deigryn ar un wedd,
'Nol hir frwydro a thrafferthion,
Daeth i ben ei ingol rawd:
Noddfa dawel rhag anghenion,
Ydyw bedd y Dyn Tylawd.

Mae'r gareg arw a'r ddwy lytheren,
Dorodd rhyw anghelfydd law,
Gyd-chwareuai ag e'n fachgen,
Wedi hollti'n ddwy gerllaw;
A phan ddelo Sul y Blodau,
Nid oes yno gâr na brawd
Yn rhoi gwyrdd-ddail na phwysiau
Ar lwm fedd y Dyn Tylawd.

Ar sedd fynor nid yw'r Awen
Yn galaru uwch ei lwch,
A chyn hir drwy'r las dywarchen
Aradr amser dyna'i swch;
Un a'r llawr fydd yr orphwysfa,
Anghof drosti dyn ei ei hawd;
Ond er hyny angel wylia,
Ddaear bedd y Dyn Tylawd.
IOAN EMLYN

32

Y 'DERYN PUR

Ton—Y ' Deryn Pur

Y 'Deryn pur a'r adain las,
Bydd imi’n was dibryder,
O brysia'n brysur at y ferch
Lle rhois i'm serch yn gynar;
Dos di ati, dywed wrthi
Fy mod i'n wylo dw'r yn heli,
Fy mod i'n irad am gael ei gweled
Ac o'i chariad yn ffaelu a cherdded;
O! Duw faddeuo i'r hardd ei llun
Am boeni'r dyn mor galed.

Pan o'wn i'n hoenus iawn fy hwyl
Ddiwrnod gwyl yn rhodio,
Canfyddais fenyw lana 'rioed
Ar ysgafn droed yn rhodio;
Pan y gwelais, 'syth mi sefais,
Ac yn fy nghalon mi feddyliais,
Wele'r ddynes lana'r deyrnas,
A'i gwedd yn harddu oll o'i chwmpas,
Ni fyn'swn gredu un dyn byw
Nad oedd hi ryw angyles.
Miss WILLIAMS

GYDA'R WAWR.

Udganai udgorn rhyfel
Gyda'r wawr, gyda'r wawr,
Gwehyrai'r meirch yn uchel,
Gyda'r wawr;
Bu galed iawn y brwydro,
A'm hanwyl gariad yno
Yn gorwedd wedi ei glwyfo,
Gan alw am ei Weno,
Gyda'r wawr, gyda'r wawr.


Es yno'r boreu wedyn,
Gyda'r wawr, gyda'r wawr;
I chwilio am Llewelyn,.
Gyda'r wawr:
Ces wel'd ei ruddiau gwelw,
Ces glywed swn fy enw
Oddiar ei fin wrth farw,
Rhyw foreu prudd oedd hwnw,
Gyda'r wawr, gyda'r wawr.

Pob dydd rwy'n mynd er hyny
Gyda'r wawr, gyda'r wawr,
At fedd y gwr wy'n garu,
Gyda'r wawr;
I blanu tlysion flodeu,
Eneiniwyd gyda'm dagrau,
Tra'r dydd yn taflu ei oleu
I dd'weyd y cwyd rhyw foreu,
Gyda'r wawr, gyda'r wawr.

HEDYDD LON

Rwy'n disgwyl am y dydd,
Hedydd lon, hedydd lon,
O brofiad calon brudd
Hedydd lon
A phan y daw mi ganaf
A thithau am yr uchaf,
Yn llawen i'r cynhauaf,
Hedydd lon, hedydd lon.

Mae'r gweiriau ar y llawr,
H::edydd lon', hedydd lon,
Paham na's ceni 'nawr?
Hedydd lon,
Ai'th gywion bach a laddwyd,
A'th nyth gan ddyn wasgarwyd,
A'th fron gan hiraeth dorwyd?
Hedydd Ion, hedydd lon


Os galar ddaw i ti,
Hedydd lon, hedydd lon,
I ddyn pa sail o'i fri?
Hedydd lon,
Os gofid ddal mewn gaffel,
Un esgyn fry mor uchel,
B'le ffy'r ymdeithydd isel,
Hedydd lon, hedydd lon.

CODIAD YR EHEDYDD

Ton—Codiad yr Hedydd

Cwyd, cwyd ehedydd llon
O'th ddedwydd nyth ar ael y fron,
I ganu yn y nen:
Mwyn, mwyn y tonau mêl
O‘th beraidd big a'th galon ddêl
I synu'r byd uwch ben.
Pawb a hoffant swyn dy gân,
Sy'n llifo'n ffrwd o fiwsig ffri;
Nwyfus fawl dy galon lân
Enyna dân fy awen i;
Anwylaf wyt oʻr adar mân,
Boed bendith Duw i ti!

Llon, llon yw'r ddaiar lawr,
Mae'r haul yn gwenu ar y Wawr
Yn ngwrid y dwyrain dêr:
Dring, dring ehedydd mwyn,
Dyhidla odlau llawn o swyn
O groesaw i dy Ner:
Can yn Eden yn dy gryd
A ro'ist i'r greadigaeth hardd,
Iddi'n awr o bryd i bryd
Alawaidd dôn o‘th big a dardd,
A chanu wnei o hyd o hyd
Tra haul o byd a bardd.

GWENO FWYN GU

A ddoi di, fy nghariad, i gysgod y llwyn,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
I glywed yr adar yn trydar yn fwyn,
Hei, ho, Gweno fwyn gu;
Daw'r fronfraith i ganu ar frigyn y pren,
A'r hedydd i gwafrio yn entrych y nen,
A'r fwyalch i byngcio i blesio fy Ngwen,
Hei, ho, Gweno fwyn gu.

Mi wn bydd y rhosyn prydferthaf y sydd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
Yn chwenych rhoi cusan i'r gwrid ar dy rudd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
A'r lili'n adlewyrch claerwynder dy fron,
Gan dd'weyd "O na b'awn i cyn wyned a hon,"
A minau'n addoli dy lygad glas llon,
Hei, ho, Gweno fwyn gu.

Ar ol ini rodio drwy gydol y dydd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
Y nos wrth fyn'd adre' cei gyffes fy ffydd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
Bydd swn ein cwmniaeth yn fiwsig a medd,
A'r lloer yn tywynu yn hoew mewn hedd,
A'r ser yn ddysgleiriach pan welant dy wedd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu.

O mawr yw fy mhleser a mwynder fy myd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
Pan fyddwyf yn dotio ar lendid dy bryd,
Hei, ho, Gweno fwyn gu,
A'm meddwl yn rhedeg o hyd ac o hyd
Ar bethau mwy gwerthfawr na golud y byd
Priodas, a chariad, a babi, a chryd.
Hei, ho, Gweno fwyn gu.

Y MORWR MWYN.

Ton—Y Morwr Mwyn

I nodi'r man rhoir meini hardd,
Lle hûn rhai hoff mewn hedd,
Ac englyn geir o fri gan fardd,
Neu wers i gofio'r bedd;
Ond maen ni cheir er côf na chwyn,
I nodi bedd y Morwr mwyn.

Yn nghladdfa'r llan gwerdd ywen sydd
Yn gwâr gysgodi'r bedd;
A chesglir perion flodau blydd,
I hulio'r gwely hedd;
Ond ywen las na blodau llwyn,
Ni huliant fedd y Morwr mwyn.

Cwsg ef yn mhell o'i anwyl fro,
A i lân ( O! lymed ) wedd,
Lle mae tymestloedd lawer tro
Yn rhuthro tros ei fedd;
Ond un ar dir a ddeffry gwyn
Mynwesawl am y Morwr mwyn.

Ac aml mae un bêr ei bron.
Ar lan у môr fin du,
Yn dal cyfeillach gyda'r don,
Ei serch heb farw sy;
Ond grudd laith, llygad llawn, a chwyn,
Sydd ganddi am ei Morwr mwyn.

Dymuniad ddaw o'i mynwes lân,
Lle gwnaeth gwir gariad graith,
I'r wylan ddwyn ei galar gân,
Dros fôr a'i donau maith;
Fy ngeneth taw, angofia'th gwyn,
Dy lais ni chlyw y Morwr mwyn.


Na chrwydra, Gwen, y morlan maith,
Pob deigryn ofer yw;
Nis gwyr dy gariad alar chwaith,
Na gwae dy fynwes friw;
Uwch gwely'r heli nid oes cwyn
A ddeffry gwsg y Morwr mwyn.

Dwg gysur clau, ryw ddydd a ddaw,
Y geilw'r udgorn ef,
O eigion mor heb boen na braw,
Caiff uno eur-blaid nef.
Dos at yr Iôn, taer weddi dwyn,
Cei eto gwrdd â'r Morwr mwyn.
GWENFFRWD

YR HEN AMSER GYNT PAN OEDD BESS YN TEYRNASU.

Ton—The happy Days of Queen Bess

Os oes yma rai o hil yr hen Gymry,
Yn hoffi'r hen iaith, ac hefyd glywed canu;
Hyfryd i ni feddwl am yr amser aeth heibio,
Pan oedd y byd yn dda, a'r bobl heb rwystro.

BYRDWN.


O! faint o gyfnewid
Yn awr sydd yn Nghymru,
Er yr amser gynt
Pan oedd Bess yn teyrnasu.

Nid oedd yr amser hyny fawr o eisiau arian,
Pawb yn byw yn enwog, ar ei dir ei hunan;
Croesawu cerddorion y byddid wythnosau,
Rhai i ganu hâf, a'r lleill i ganu gwyliau.

O faint o gyfnewid, &c.


Llawer math ar gân a fyddai gan y rhei'ny,
Y Symblen Ben Bys, a'r hen Hob y Deri,
Plygiad y Bedol Bach, a Marged fwyn ach Ifan,
Ar hyd y Nos, a'r hen Forfa Rhuddlan.

O faint o gyfnewid, &c.

Nid oedd yr oes hono fawr o son am drethi,
Na mesur y tiroedd, na chodi y rhenti;
Ond undeb a chariad oedd yn mhob cym'dogaeth,
A gadael i Satan gyflogi gwyr y gyfraith.

O faint o gyfnewid, &c.

Ar brydnawn gwyliau myned byddai'r llanciau,
I ganol llanerch dêg i gadw chwareufa gampau;
Rhedeg a neidio y byddai'r rhai gwrol,
'Maflyd codwm clos, a thaflu maen a throsol.

O faint o gyfnewid, &c.

Nid oedd yr oes hono ond ' chydig o falchder,
Ni welwyd yn Llundain nemawr Haberdasher;
A phawb hyd wlad Cymru'n byw'n ddigon llawen,
A’u dillad i gyd o frethyn ac o wlanen.

O faint o gyfnewid, &c.

'Doedd gan modryb Alis, na chwaith modryb Modlen,
Ond bacsen am y goes, a charai i g’lymu r glocsen,
Pais o ddu'r ddafad, a chrys o wlanen deueu,
Het o frethyn tew, a chap o lian cartre'.

O faint o gyfnewid, &c.

Nid oedd gan fewyrth Shôn, ap Meurig ap Morgan
Ond cryspais o wlanen, a chlos o frethyn herpan,
Ffon o dderwen gref a fyddai yn ei ddwylaw,
Gwregys am ei ganol i rodio ar ol ciniaw,

O faint o gyfnewid, &c,

Ni bu yr hen bobl erioed yn yfed.brandi,
Ni cha'dd yr hen wragedd fawr o dea a chofee
Bara ceirch cadarn o flawd wedi rhuddo,
Ychydig o 'fenyn ac enwyn i ginio,

O faint o gyfnewid, &c.

Er hyny 'roedd cwrw i'w gael yn rhai cyrau,
I yfed at y beirdd am wneyd carol gwyliau;
'Roedd yr amser hyny ganu digon cymwys,
A chân pawb o'r goreu cyn cychwyn i Gaerwys.

O faint o gyfnewid, &c.

Ni wiw i'r beirdd 'rwan feddwl gwneuthur canu,
Na b'o chwech neu saith mor groes am eu barnu;
Er iddynt wneyd englyn, a hwnw'n broest cadwynog,
Ni thal o mo'i ddarllen oni bydd e'n gyfochrog.

O faint o gyfnewid, &c.

Ond twrch a cherdd Seis'neg, na thal hi mo'i gwrando
Hwn a gaiff barch p'le byna y byddo,
A llawer Cymro balch sy'n deall canu Saes'neg,
Ofer yn Gymraeg yw canu dim yn 'chwaneg.

O faint o gyfnewid, &c.

Ni ganwn Gymraeg er gwaetha'r rhai beilchion,
Er cymaint eu brad, a thwyll y cyllill hirion;
Er cymaint yw hunan a dichell y Saeson,
Ni ganwn iaith ein mam er gwaetha'r ynfydion.

Boed eto gyfnewid
Trwy holl siroedd Cymru,
Gwell na'r amser gynt,
Pan oedd Bess yn teyrnasu.

YSGUBOR RHYSYN

Miwsig gan J. D. Jones, yn Alawon y Bryniau.

Hen Gymro braf oedd Rhysyyn
Yn byw heb boen na brad,
Na meddwl drwg am undyn,
Mewn Tyddyn yn y wlad;
'Roedd ganddo 'sgubor fechan,
I gadw'r yd a'r pys,
A'i chlo oedd clicied dderwen
Gyfodid gyda bys!

Un gauaf, pan oedd cloron
Yn ddrud a phrinion iawn;
'Roedd LLYGOD MAWR ar droion
Yn tolli'r pentwr grawn;
Ac er cael trap a'i osod,
I warchod twll y wal,
Parhau wnai'r pys i ddarfod,
A'r llygod heb eu dal!

'Roedd Dic, ei fachgen henffel,
Rhwng deg a deuddeg oed;
Yn gosod yn mhob cornel,
Heb ddal yr un erioed;
Ond rhedodd rhyw brydnawngwaith
Ddrychfeddwl pert i'w ben,
Y gallai fod nhw'n ymdaith
Trwy dwll y glicied bren!

Y nos ddrycinog hono
Croesawyd aeres wanc,
Mewn lletty yn nefni'r bondo,
A'i bysedd yn y banc!!
Lladmerwyd y dychymyg
Trwy ddal arwres brad,
Ona nid Liygoden Ffrengig,
LLYGODEN FAWR Y WLAD!!!
GWILYM COWLYD.

FY ANWYL ROBIN BACH

Mesur—Jeanett a Jeanott.

Draw dros frig Eryri fraith,
Yr ymlithrai'r cwmwl rhudd,
A gwridai ael gorllewin fawr,
Ger gwyneb cawr y dydd;
O'r bwth mynyddig bach,
Oedd draw gerllaw y llyn,
Esgynai'r golofn gynta o fwg,
Boreuol ael y bryn;
Y fwyalchen bêr o'r bonge,
Aadseiniai'r creigiau crog,
A'i hadlais o ryw bigwrn bàn,
Atebid gan y gog;
Ac o draw ger godreu'r foel,
E ddygai'r awel iach,
I'm clust chwibaniad peraidd fwyn,
Fy anwyl Robyn bach.
I'm clust chwibaniad, &c.

A fy mhiser dan fy mraich,
Prysurwn dros y waen,
Gan yfed peraroglaidd sawr,
Y bloenlawr blydd o'm blaen;
Pob dyfyr orig fer,
A ddygai geinder gwiw,
O groth newydd-deb ger fy mrod,
Hyd lethrau heirddion ffriw;
Yn fy aros byddai'm ffrynd,
Ar y gamfa geryg draw,
A balchy rhedai'i gorgi du
I'm cwrdd a llyfu'm llaw;
A phan cydgyfarfod wnaem,
Pwy a holai f'awn I'n iach,
Gan roi i mi gusan serchog rin,
Ond f'anwyl Robyn bach.
Gan roi i mi gusan, &c.


Cydgasglai'r oll o'r buch,
Yn llonwych at y llwyn,
A'u godro wnaem ar fyr o dro,
Gan gydymfoddio'n fwyn,
A than y ddraenen gam
Eisteddem ar ryw 'stol
O faen mwsoglyd dymor clyd,
Ein ieu'ngctyd ddyddiau'n ol,
Uwch gofidiau'n berffaith rydd,
Ddiniweidion ddedwydd ddau,
Yn ymfenwydaw'n Eden chweg,
Ar foreu teg o Fai;
Ond uwch craig Cwm Eigia'n mhell
Rhoddai'r gigfran ambell wâch,
I ddweyd fel hedai'n hamser prin,
Fy anwyl Robyn bach.
I ddweyd fel hedai'n, &c.

Mae'r ddraenan eto'r un,
A'r maen mor esmwyth sydd,
Olwyno'n gu dros Waen y Gaer,
Mae cerbyd aur y dydd;
Y gog a'r fwyalch fwyn,
Mor bêr eu swynion sydd,
Ond ple mae'r chwiban fyddai'n fêi
Ar frig yr awel rydd?
Etyb adlais serch yn ôl,
Odd yr Orllewinol fro,
"Mae'm llw'n gerfiedig ar yr haul
Fu'n gweld ein breichiau'n nghlo,"
A'r adduned wnest hoff langc,
Pan yn fachgen ieuangc iach,
A ddeil nes dirwyn oes dy Wen,
I ben fy Robyn bach.
A ddeil nes dirwyn, &c.
GWILYM COWLYD

PLU YDYW PLU YN Y DIWEDD

Bu Gwilym erstalm—(yn llanc ifanc wrth gwrs)
Yn hoff o wneyd ' sgwrs â rhianod,
A'i fron elai'n fflam o edmygedd pob mun,
A boch fel y rhosyn a'r manod;
Do, do, fe fu'r bardd yn ei ffoledd
Yn froli ar flodau rhianedd;
Ond profwyd wyr dyn ar eu swynion bob un
Mai Plu ydyw Plu, yn y diwedd.

Wrth chwareu'n ddiniwaid gellweirus ar daith,
Ryw noswaith yn amser cynhauaf,
Pwy redodd i ffordd gyda'i galon a'i serch,
Ond merch ymherawdwr ffugyra;
Un fedrus ar nodwydd a llyfrau,
Ond estron i berchyll a lloiau;
A phrofwyd wyr dyn er ei swynion bob un,
Mai Plu ydyw Plu, ar y gorau.

Aeth eilwaith yn glaf o afiechyd y fron,
Gan swynion rhyw aeres i Ddoctor:
Ac wedi'r mawr boen i gael gwelliant a hwyl
O serch y beth anwyl anhebcor:—
Roedd hi'n lodes ieuanc o fonedd
A'r bardd heb ddim income i'w choledd,
A phrofwyd wyr dyn er ei swynion bob un
Mai Plu ydyw Plu, yn y diwedd.

Bu'n caru ddwy flynedd a merch rhyw Siop Win,
A'i threm yn dweyd cyfrin ei chalon;
Un lawen, ysgafndroed, fel dnwies o lan,
A'i gwallt o liw'r fran yn fodrwyon;
Piano wnai'n wallgof a'i bysedd,
A chalon pob mab yn eiddigedd;
Ond profwyd wyr dyn er ei swynion bob un
Mai Plu ydyw Plu yn y diwedd.

Mae'r bardd erbyn hyn yn hen langc agos iawn,
Ac wedi gwneyd llawn benderfyniad;
Y ceidw fo'i galon mor oered a'r graig
Os na wel o wraig yn ei gariad;
Un wyr am wneyd 'menyn, a phobi,
Trin ty, trwsio hosan, a golchi;
Can's profi wyr dyn bydd mursenod di lun,
Mai Plu ydyw Plu, ar ol priodi!

Er cymaint yw'r dal a'r pysgotta bob awr,
Y nwfr y mor mawr elwir caru;
Mae'n gwybod am un sydd i'r dim wrth ei fodd,
Os nad ydyw'n anhawdd ei bachu,
Mae'n gall, ac mae'n ddengar a llongu,
A'i llygaid gan serch yn pelydru,
Cael breichiau'r ferch wen yw nymuniad Amen
Yn blu tan fy mhen—pan fwy'n trengu.
GWILYM COWLYD

GOGANGERDD

I DDIRMYGWYR CYFARFODYDD LLENYDDOL

Roedd yn Llanddowror gynt hen wr,
O'r cyfnod nid wyf berffaith siwr;
Gall fod ei hanes yn y Dwr,
Ond nid yw bwys am hyny;
Ei enw oedd Gruffydd Sion y sant,
Hen ddysgybl hoff o ddysgu plant,
Cyfododd gwn, ysgolion gant,
Mewn cwm a nant yn Nghymru.

Trwy gyfrwng ei ysgolion rhâd,
Gwnaeth anherfynol ddrwg a brâd,
Ac yn mhob meddwl hauodd hâd.
'Rhyn eilw'r wlad gwybodaeth!
Gwnaeth hyn dragwyddol ben ar hynt
Yr hen foddlonrwydd dedwydd gynt,
A gwnaeth i'n bechgyn lyncu gwynt
Chwilfrydedd a llenyddiaeth.


Cyn hyn arferai'r ieu'ngtyd mad,
Bob Sul a gwyl ymgasglu'n gâd,
I erlyn rhyw chwaryddiaeth râd,
Wrth alwad tueddiadau;
Bob gyda'r nos ceid dawns a chân,
Yn nghwmni glwys lodesi glân,
Nes hedai'r oes yn ddiwahan,
Heb son am ffwndwr llyfrau.

O! 'r hybarch, fwyn Rufeinlg fam,
Byw byth fo'th deyrnas, herwydd pam,
Tra llywiaist di wneid nemawr gam
A’r meddwl trwy fyfyrio;
Cai'r werin dreulio oes ddi fraw
Heb son am Grist na llyfr i'w llaw,
Rol pechu mis, wyth swllt neu naw,
Wnai setlo'r Bil a'i glirio.

Ond erbyn hyn pêl droed nid oes,
Na thaflu maen, na chodwm clos,
O wawriad Sul hyd wylliad nos,
Naw wfft i'r chwaeth bresenol!
'Does chwareu ceulus mewn un man,
Na thenis ball wrth glochdy'r Llan,
Pob pleser teilwng laddwyd gan
Y cwrddau ban llenyddol.

Ow, ow, mae'r wlad yn awr fel pair,
Pob tref a llan ple bynag'r air,
Does dim ddywedir neu a wnair,
Yn sefyll at y safon,
Goleddir gan aelodau certh,
Ryw gymdeithasau gwag diwerth,
Lle profa dynion bwys a nerth
Gwahanol egwyddorion!


I fechgyn nwyfus, llon eu bryd,
Fel ni, sy'n arfer cyrchu'n nghyd,
I dreulio'r nos mewn, stafell glyd,
Yn ngwynfyd diod feddwol;
Fe fyddai'n slafaidd wasaidd waith
I ni bendroni'n nghylch yr iaith,
A drysu’n menydd ddyddiau maith
Ynghylch dysgeidiaeth foesol!

Pa waeth i ni pe llosgai'n nghyd
Bob llyfr a Beibl sy' yn y byd;
Neu pe bai pob llenyddiaeth ddrud,
Yn ffaglu‘n nghyd yn wenfflam?
Os cawn ni fwyd a phres a spree,
A bywyd llawen, waeth i ni
Pe'r ai pob enaid gyda'r lli,
A Chymru i gyd yn Fediam!

Nid y, m mor ffol, ynfydion wyr,
A cholli gwynfyd oriau'r hwyr,
Gwastraffu papur, ingc, a chwyr,
Er mwyn llenyddwyr Brydain;
Dilynwn ni'o pleserau cun,
Gwnaed pawb trwy'r byd fel myno 'i hun,
Pa les i ni fod unrhyw ddyn
Yn ddedwydd, ond ni'n hunain?

Er pan ddaeth dysg a llyfrau'n rhad,
Aeth pob teilyngdod ar leihâd,
Mae myfyr bechgyn gloewa'r wlad,
Yn wastad am Lenyddiaeth!
Wel codwn frodyr oll un fryd,
Ymdrechwn dd'rysu eu cais i gyd,
Hwre i'r Pab—Ac "Oes y byd"
I ddybryd anwybodaeth.
GWILYM COWLYD

SION PRYS.

Roedd hen wr ers talm, a gyfenwid Sion Prys,
Gwr parchus mewn llawer golygiad;
'Roedd ganddo fo Dyddyn heb ddegwm na threth,
Ac wmbreth o wartheg a defaid,
Ac wmbreth o weision, (rhwng dynion a hogs)
Mewn closau pengliniau, a byclau'n eu clocs.

'Roedd Sionyn mot enwog a'r Pab mewn un peth,
Yn gwbl ddi feth anffaeledig;
Ac mor ddigyfnewid a'r Quacker ei hun
Oddiwrth bob hen gynllun cyntefig;
Hen wladwr oedd Sion, os bu gwladwr erioed,
Bob blewyn o'i ben, a phob ewin o'i droed.

'Roedd beudy fan yma a man draw hyd y tir,
Gryn filltir o'r fan'r oedd e'n trigo;
Lle carid y gwellt a'r holl borthiant ar gefn,
Er helpu cyfundrefn y teilo;
Can's Teiliai'r hen bobl ers talm, clywais ddweyd,
Mewn cewyll ar gefn, cyn i drol gael ei gwneyd.

Pan welid y gwanwyn yn chwerthin mewn dail
Yn llygad yr haul gwyneb felyn,
Rho'id iau ar y Bustych, darperid yr ioc,
A thresi godidog o wdyn;
Ac ambell i glwt, o le teg a phur hawdd,
Pob un yn gawellwr cynhefin,
Yn tuthio o'r domen i'r cae, ac yn ol,
Am ddyddiau olynol bob blwyddyn;
A dyna fel byddent os gwir ddywed rhai,
Yn cario, ac yn cario, a'r domen fawr lai.


O dipyn i beth, daeth arferiad i'r byd.
Ceffylau, ac erydr, a throliau;
Ond fynai Sion Prys ddim i droliau un dyn
Gael llwytho'n yr un o'i domenau;
Can's tybiai'r hen frawd fod y ceffyl a'r drol,
Yn llyncu'r holl dail ar rhy 'chydig o lol.

'Doedd dim fynai ef, ond y cawell ar gefn,
A chadw'r hen drefn yn dragywydd;
Ffolineb a rhodres, medd ef, oedd wrth wraidd
Y cynllun Seisnigaidd a newydd;
Waeth beth dd'wedai rheswm na phrofiad o'i phlaid,
Cawellu wnai Sion am mai felly gwnai' i Daid.

Mae llawer o feibion Sion Prys,—o ran ffydd,
I'w gweled bob dydd ar hyd Cymru;
Rhai'n sefyll yn erbyn pob amcan trwy'r wlad
Fo'n groes i arferiad y teulu;
Rhyw hurtiaid hunanol, i'w heinioes yn bla,
Yn ddall i bob rhinwedd, a chroes i bob da.

Adwaenir y tylwyth gan laesder eu hael,
A'u nodwedd iselwael a bawlyd;
Oddiwrth bob diwylliant ymgadwant ymhell,
Can's gwell ganddynt gawell na cherbyd I
Mae dysg, a llenyddiaeth, a chanu mewn trefn,
I'r rhai'n megys trol—yn lle'r cawell ar gefn.

ERGYD Y DDAMEG

Os oes yn bresenol rhyw rai'n digwydd bod
Heb hoffi'r cyfarfod Llenyddol,
Ac heb weld y gwelliant mewn symledd a chwaeth
Yn null ein caniadaeth grefyddol,
Mae'r oes yn myn'd rhagddi, dowch allan ar frys,
Rbag ofn cael eich rhestru'n ddisgyblion Sion Prys.
GWILYM COWLYD

Y BYD YN POWLIO

A fuoch chwi'n meddwl unrhyw bryd,
Fod pêl'r hen fyd yma'n powlio?
'Rwy'n siwr ei bod hi'n abl gwych,
Prun bynag fuch chwi a'i peidio;
Chwi wyddoch—ddeuddeng mlwydd yn ol,
A phymtheg, deunaw, ugain,
Mae'r holl Gerddoriaeth godai'r gwlith
Oedd "DARLITH TANYMARIAN."

'Roedd hono'n Ddarlith yn ei hoes,
Gadd lawer cheers twymyn,
Ond treiglo ddarfu'r belen fawr,
A hithau i lawr i'w chanlyn;
Bu oes Darlithiau'n fyw er hyn,
Nes daeth Caledfryn gyfion,
I fwrw'r damper right and left
Ar grefft "pregethu dynion."

'Rwy'n cofio agos megys doe,
Gerddorion Llechwedd isa
Yn cadw'r Concert cynta 'rioed
Yng nghanol coed Rhiwdafna,
Nid diffyg grym nac 'wllys sy
Na buasent felly eto,
Ond dyma'r rheswm—fod y byd
O hyd, o hyd, yn powlio.

Bu Enthym Dirwest am ryw hyd
Y "Berl y byd" Cerddorol,
Pan oedd y bêl yn powlio i lawr
Yn un "Clwb mawr Dirwestol,"
Daeth Mills Lanidloes yn ddioed,
Ac Ambrose Lloyd rol hyny,
I siglo Cymru—a chodi chwaeth
Gerddoriaeth gwerth ei chanu.


Aeth hyny i lawr o beth i beth,
Roedd rhaid cael rhywbeth newydd,
Daeth berwi dwr i gyraedd pris
Tea Parties mewn Capelydd,
Daeth Maer y Printers—dduwiol nôd
I'r maes dan gysgod crefydd
Rhoes Demlau'r Arglwydd ar ei stretch
I werthu i Bamphlets beunydd.

Daeth Ieuan Gwyllt, mor wyllt a'r Gôg,
Gwr enwog i'w ryfeddu,
I ffurfio Common Prayer tôn
I holl Gerddorion Cymru!
Newidiodd German Music ffôl
Yn lle'n hen ddwyfol donau!
Mae'r byd yn dechreu teimlo'r catch
I lawr yn batch 'reiff yntau.

Rhyw fegys doe roedd canu poeth
Cantata goeth Caernarfon;
Caed wedyn "Gyfres" swllt y mis
O bigion Glees newyddion,
Ond erbyn heddyw ha ha, ha,
Mae oes "Sol Ffa" 'n blodeuo,
Just fel rhyw frechden aros pryd
Tra bo'r hen fyd yn powlio.

Does dim ond talent loew lawn,
All ddal i'r iawn gyfeiriad;
A dilyn cwrs y byd bob tro,
Wrth iddo bowlio i waered;
Wrth gwrs gyfeillion—rydych chwi
'Nenwedig chwi a minau;
Yn dilyn cylch beunyddiol hwn,
Wel, powliwn o Riwdafna.
G COWLYD.

MI GES I GAM OFNADWY

Mi ddwedai stori bach go ffres,
Sef hanes Dafydd Parri;
Doedd dim gwell crydd trwy'r deuddeg Sir,
A dyna'r gwir am dani;
Mi glosiai Dafydd bâr o Vamps
A neb oddiyma i Gonwy;
Os byddai bai fe feiai'r clamps,
Mi ges i gam ofnadwy.

Roedd gwobr yn'r Eisteddfod fawr
Un flwydd am bâr o Fwţsias
Mi drawodd Dafydd ati'n gawr,
A gweithiodd bâr i'r pwrpas;
Ac roedd oʻn bâr—roes neb erioed
Ei well am droed i dramwy;
Ond rhanu'r wobr fu (go dam)
Gadd Dafydd gam ofnadwy.

Cadd dipyn bâch o flâs er hyn
Ar lwyddiant Eisteddfodol,
Ac ni bu le fo byth yn wag
Mewn odid gwrdd Llenyddol;
Daeth yn Draethodwr mawr ei stor
A Bardd a Llenor mwy fwy;
A phob tro collodd——dywed pam
Mi ges i gam ofnadwy.

Gall ysgrifenu ar hyd a lled
Gan rhwydded ag anadlu;
A meddwl hefyd neno dyn,
Dae fater prun am hyny,
Mae 'i awen fel gollyngiad llyn
Diderfyn ei ryferthwy;
Yn dadgan mewn Cymraeg di nam
Mi ges i gam ofnadwy,


Pan wel ryw destyn at ei chwaeth
Yn rhyddiaeth neu'n farddonol,
Mae'n ysgrifenu llafnau maith,
Ryw chwech neu saith gwahanol;
Fe'u henfyn oll i dreio'u chance,
Fel chwareu Lottri Sidrwy;
A dwed pan gollant—mewn drwg lam
Mi ges i gam ofnadwy.

Na synwch ddim fod ganddo haid
Yn nwylaw'r Beirniaid heno;
'Rwy'n ddigon siwr—mae gan i dyst,
Sef dull ei glust oʻn gwrando;
Mae'n disgwyl gwobr am bob pwnc
All round—yn grwn fel modrwy;
Ac am bob siomiant—dwed heb nam
Mi ges i gam ofnadwy.

Mi ganodd llynedd i'r Chignon[2]
'R englynion gore oʻr haner;
A fo pia'r englyn gore yn hon
I'r Cogwrn Helter Scelter;
Ac os nad fo gaiff Waggon Caer,
A'r gân i'r afon Gonwy;
Gall ddatgan eto mewn drwg lam,
Mi ges i gam ofnadwy

Cai Dafydd Parri 'i farn ei hun
Y fo ydi'r dyn o'r cwbwl;
Fe 'nillai'r gwobrau'n nerth ei ddawn
Ar 'chydig iawn o drwbwl;
Ond rhywun arall—gadd y dydd
A Deio'n brudd wrth dramwy
Oʻr ' Steddfod adre——yn dweyd wrth Sam
Mi ges i gam ofnadwy.

MOLAWD Y DELYN.

Tua chwech ugain mlynedd yn ol, o eleni (1887), yr oedd mam Dafydd Sion Pirs yn cadw y Dafarn a elwid y DELYN (Harp), Llanfairtalhaiarn. Yr oedd yn fardd pert, ac y mae amryw oʻi Gerddi wedi eu Cyhoeddi, ond y ddoniolaf a'r oreu o'r cwbl yw "Molawd y Delyn," o'r hon y mae y pennillion canlynol wedi eu dyfynu, fel y goreuon, gan TALHAIARN.

Brenhines pob miwsig, hardd adail urddedig,
Wych haelfraint uchelfrig goethedig ei thop:
Am adlais mwyn odlau, pur lesol pêr leisiau,
Gan hon mae'r sain oreu sy'n Europ.

Clochdy clau wychder, c'lomendy clau mwynder,
Siop dannau siâp dyner, teg wiwber ei gwaith;
Pren oslef barneisliw, ty golau teg eiliw,
Tlws adail glwys ydyw glòs odwaith.

Merch organ arch eurgaingc, ty closgoed teg lwysgaingc,
Gorseddfaingc, crededdfaingc, troell wirgaingc tra llefni
Mawl lestr melusdrwst, sy'n dwndro sydyndrwst,
Cywirdrwst, duwioldrwst, di waeldrefn.

Gwagen pob gwiwgerdd, i lusgo melusgerdd,
Mae'n agor mwyneiddgerdd, wych haelgerdd a choeth;
Esgoldy'r ysgowldant, a chadair y chwiwdant,
Cegindant, Parlwrdant, perl eurdoeth.

Ty masarn, tô miwsig, glau adail glywedig,
Cynwysdy cân ystig, urddedig hardd iawn;
Hwyluslef meluslais cain oslef cynneslais,
Treínuslais iawn adlais hynodlawn.

Apollo ( medd llyfra ') a'i lluniodd o'r llona,
Mercurius a'i carai, da raddau, di rus;
Amphion a'i pynciai, ac Orion ( medd geiriau )
Yn ffyddlon eu moesau a'r Muses.


Orphion pan ganai fwys euraid fesurau,
Y meini'n y muriau yn chwareu'n wych oedd,
Wrth rinwedd pereiddlais y Delyn feluslais,
Os coeliwn ni adlais cenhedloedd.

Ei llais sydd i'n clustiau fel arogl i'n ffroenau,
Neu fel ar wefusau, tôn oreu tan ne';
Fe'i gwnaed at ei phwrpas yn harddach ei hurddas,
Na phalas na dinas i danne.

Tryth ddewrgras tri theirgw rach, hoff awgrym tri phum gwrach.
Dwys wyrthiau tri seithwrach, chwe nawgwrach yn ol;[3]
Pob un mewn trefn odiaeth yn gwneud eu gwasanaeth,
Peroriaeth athrawiaeth wrth reol.

A gwr a thri ecstro o'i hol yn ei hwylio,
Ac wythwast[4] yn gweithio o dano bob dydd;
Dwy forwyn,[4] da fwriad yn dilyn y deiliad
Mor gyflym i'w galwad a'u gilydd

Pwy godwn i'r gadair i agor ar ungair
Drysordy di anair pum cywair pob cân,
A chwery a chwebys a dwyfawd a deufys
Wrth statys amcanus mab Cynan.

Hyf godwch drigolion swydd Dinbych ac Arfon,
Trefaldwyn swydd dirion, Fflint, Meirion, a Môn:
Mae pawb ond plant Nabal, yn caru merch Tubal,
A'i threbal fain feddal fwyn foddion.

Os hapie ryw landdyn mewn afiaeth ymofyn,
Pwy ganodd i'r Delyn, deg eilun, da'i gair;
Ond didwyll yw d'wedyd i foddio'i gelfyddyd
Rhyw lengcyn dwl ynfyd o Lanfair.

Pob dyn a'i hadwaeno, gwnaed fawl fel y medro,
Yn hynaws i honno sy'n cleimio swn clod;
Mae pawb drwy'r holl wledydd yn caru ei llawenydd,
Ond ambell hên gybydd 'rw'yn gwybod.

AR DDIWRNOD CYNHEBRWNG FY MAM.

Rwy'n ameu, rwy'n credu, rwy'n dychryn
Rwy'n drysu, yn nghanol fath don;
Gorchfygu y farn y mae'r teimlad,
Yn mrwydr gynhyrfus fy mron;
Ai tybed mai fi oedd yn sefyll,
A nghalon yn drywyllt ei llam,
Wrth ochor yr Eglwys, fan hono,
Ar ddiwrnod Cynhebrwng fy mam?

Dydd ingoedd, pe dydd fuasai hefyd,
Mae dydd arno'n enw rhy gu;
Nid dydd gaf fi alw'r fath enyd,
Ond noswaith ofnadwy o ddu;
Ni chododd y ser mewn prydferthwch
Na'r lleuad, oherwydd paham,—
Ni welais i ddim ond tywyllwch,
Ar ddiwrnod Cynhebrwng fy mam.

Mi glywais i'r heulwen gyfodi,
Gan wasgar goleuni ar daen;
A chlywais fod pobpeth y diwrnod,
Yn union fel dyddiau o'r blaen;
Ond ni chefais i ef ond breuddwyd,
Ni theimlais lle cerddais un cam;
Rhyw adwy rhwng dyddiau fy mywyd,
Oedd diwrnod Cynhebrwng fy mam.

Dyoddefais, do, 'i chuddio'r tro olaf,
Byth mwyach i weled ei phryd;
Dyfnderau fy ingoedd pryd hwnw,
Fy Nuw sy'n ei gwybod i gyd;
O! 'r ydoedd glyn Achor yn gyfyng,
A llwybrau Rhagluniaeth yn gam;
A wylo'n hyfrydwch diddarfod,
Ar ddiwrnod Cynhebrwng fy mam.

Mi welais roi'r arch yn y beddrod,
Ah! 'r oedd yr ystorom yn fawr,
A'r llaw a'm meithrinodd mor anwyl,
Yn rhwym ynddi'n myned i lawr;
Dygyfor wnai galar o'm deutu,
Hen ffrindiau a cheraint dinam,
Ond fi yn yr ymchwydd oedd ddyfnaf,
Ar ddiwrnod Cynhebrwng fy mam.

Y degfed ar hugain o Ragfyr,
Tra dalio fy oes ar y llawr,
Ystyriaf yn ddiwrnod o waeau,
A dychryn yn nhoriad ei wawr;
Os arno daw'r heulwen trylachar,
Mewn annghof i wênu'n ddinam,
Mi wylaf ei wenau yn alar,
Ar ddyddgylch Cynhebrwng fy mam.
TREBOR MAI

YSGOLDY RHAD LLANRWST WEDI IDDO FYNED YN ANGHYFANEDD.

Hoff rodfa fy mabolaeth,
Chwareule bore myd,
A wnaed, i mi yn anwyl,
Drwy lawer cwlwm Clyd;
Pa le mae'r si a'r dwndwr,
Gaed rhwng dy furiau gynt,
A'r plant o'th gylch yn chwareu
A'u hadsain yn y gwynt?

Mae anian o dy ddeutu
Mor bruddaidd ac mor drom,
Fel un f'ai cadw gwylnos
Uwch d'adail unig, lom;
Mae'r olwg arnat heddyw,
Gaed gyntmor dêg a'r sant,
Fel gweddw d'lawd, amddifad,
Yn wylo ar ol ei phlant.


Mae swn y gloch yn ddystaw,
Heb dorf yn d'od o'r dre',
A bolltau'th ddorau cedyrn,
Yn rhydu yn eu lle;
Ystlum a'u mud ehediad,
Sy'n gwau eu hwyrdrwm hynt
Lle pyngcid cerddi Homer
A Virgil geinber gynt.

Mae hirwellt bras anfaethlon,
Yn brith orchuddio gro,
Y llawnt bu 'r cylch a'r belen,
Yn treiglo yn eu tro;
Boed wyw y llaw a'th drawodd
A haint mor drwm a hyn,
Boed ddiblant a'th ddiblantodd,
A diffrwyth fel dy chwyn.

Pa le, pa fodd mae heddiw
Y lliaws yma fu
’N cyd chwarae a chyd-ddysgu,
A chyd ymgomio’n gu?
Mae rhai mewn bedd yn huno,
A’r lleill ar led y byd,
Nad oes un gloch a ddichon
Eu galw heddiw ’nghyd.

Wyliedydd doeth a diwyd,
Os cwrddi at dy hynt
A rhai o'm cyd-sgolheigion
A'm chwaraeyddion gynt,
Dod fy ngwasanaeth atynt,
A dwed, er amled ton
Aeth drosof, na ddilëwyd
Eu cof oddi ar fy mron.
IEUAN GLAN GEIRIONYDD.

TRAETH-ODL AR EWYLLYS ADDA

Os gellwch chwi wrando chwedel,
Rwy'n deisyf cael dweyd yn isel,
Fel yr aeth y byd i gyd o'i go',
Fe fy nychir am floeddio'n uchel.

Geill llawer ddweyd wrth ddechreu,
Am danaf fy mod i'n ben denau;
Ond daliwch sylw wrth wrando'n hir,
A glywch chwi ddim gwir o'r geiriau.

Fe luniodd Adda ei 'wyllys
Yn fulaidd ac yn anfelus;
Fe aeth ei feibion, pa fodd bynag fu,
Ar ol ei gladdu i radd g'wilyddus.

Gosododd rai ar orsedd—feingciau
I wisgo porphor a sidanau;
Eraill i fatogi, ac i geibio'n g'oedd,
Mewn glynoedd hyd ben eu gliniau,

Rhoes deyrnwiail i rai o'i feibion,
I eraill ffust a golchffon;
A'r cwbl yn frodyr un ben a gwaed,
R'un dwylo a thraed yn union.

Ac i'r neb sy'n gweithio leia'
Y rhoes e'r peth goreu i'w fwyta;
A'r gwaca ei fol, fel mae gwaetha'r drefn,
Yw'r lluman a'r cefn llwma.

Ond rhoes gymaint o dwyll, rhagrith a chelwydd,
Ac o chwantau'r galon i bawb fel eu gilydd;
A rhoes bawb 'run bellder oddiwrth y ne',
Yn y gole tan yr un g'wilydd,

A rhoes gymaint balchder i'r tlota o'i deulu,
Ag i'r brenin, ond ni roes e' ddim i'w brynu;
Mi row'n genad, rw'n meddwl, i dori 'mys,
Cyn lluniwn i f'wyllys felly.


A'i blant pan ddechreusant gynt ymlwybraeth,
Gosododd hwy redeg gyrfa naturiaeth,
Rhoes bawb yr un bellder oddiwrth y ne',
A'u hwynebau i 'le anobaith.

Dyna lle'u gadawodd i gyd-ymdrabaeddu,
A'r llaid ar eu dillad a'r lle wedi ei d'wyllu,
I sathru traed eu gilydd yn y byd,
Yn filoedd wrth gyd drafaelu.

Ni cherdda'r cybydd mo lwybr oferwr,
Na rhegwr gwaetha mo lwybr rhagrithiwr,
A'r cwbl yn rhedeg yn bur rhwydd,
Rhwyg-afiwydd o'r un gyflwr.

A dyma fel yr aeth y ffordd mor llydan,
Fod pawb mor hynod am ei lwybr ei hunan,
A phob un a'i drachwant gydag e',
A'i bleserau a blys arian.

Yn awr mae dysgawdwyr llawn eu dysgleidiau,
Gan dewder a bloneg yn dadwrdd o'u blaenau;
"Ffordd uffern yw hon, dim pellach dowch,
Gochelwch, trowch yn eich olau."

Ac mae ffyrdd y rhain i'r nef cyn groesed,
Fel un ar i fyny, a'r llall ar i waered;
Yn ddigon er moedro menydd dyn gwan,
Heb wybod pa fan i fyned.

Meddai'r Papistiaid, "Cymʻrwch Pedr apostol,
Addefwch a thelwch, chwi fyddwch etholol,
Chwi gewch fynd i'r nef ar haner gair,
Heb fyn'd ddim pellach na Mair i morol."

Meddai'r Methodistiaid, "Ewch hyd y ffordd dosta
Ni feddwch dda'ch hunain, addefwch eich ana;
Ac os na'th etholwyd, 'dewch chwi byth i'r ne',
Ac uffern fydd eich lle, cewch goffa."


Na, meddai'r Baptist, "Nid dyna'r ffordd nesa,
Ewch dros fryn y wyntyll, a thrwy bant yr olchfa,
Gadewch foty bedydd plant ar y llaw chwith,
A chwi fydd y gwenith gwyna."

Na, meddai'r Wesleys, " Mae hono'n ffordd dd'ryslyd,
Mae llwybr i'r buarth trwy dref glendid bywyd;
Nac oes, meddai'r Cwacers, " dewch chwi fyth yn ffri
Heb gynhwrf ac asbri'r Ysbryd."

Na, Meddai hen Eglwys Loegr, " Ewch yn bur ddigyffro,
Rhwng dwy lech Foses, does le i chwi fisio,
A gymero dir, degymed yn deg,
Dim chwaneg. byddwch iach yno."

Wel, bellach oʻr werin, pa ddewin eill wirio,
Pwy sydd ar gelwydd, a phwy ellir goelio?
Mae'n ddigon er ammeu dan y rhod,
A oes uffern yn bod neu beidio.

Minau a roʻf gynghor yn debyg i'r Person,
Mae hanes ddiogel mai hyny sy ddigon;
Car dy gymmydog fel ti dy hun,
A Duw tri yn un oʻth galon.
NANTGLYN

BWYALL Y COWPER

CERDD I OFYN BWYALL I MR. THOMAS PRITCHARD Y

GOF O BONT-Y-GATH, LLANDDOGED

Y crefftwr nodedig, parchedig, gwych iawn,
Cywreinia cu rinwedd mae'n ddoethaidd ei ddawn
Gwaith dwylaw'r gwr yma sy'n brafia'n ein bro
Nid oes ar y ddaear fawr gymar i'r go';

Ail iddo ar dir ni welir m e'n wir
Am bob gorchwyl moddgar mewn claiar fodd clir,
Pob arfau wnâi'n bur o haiarn a dur
Yn wychion iawn awchus, yn llyfnion a thaclus,
Yn hwylus dda gymwys ddi gur

Gwna fwyell a chynion, ebillion di ball,
Yn oreu'n y gwledydd, y celfydd wr call;
Am diwcyod a rasglau o'r goreu ydi'r gwr,
Am dempriad ac hasiad da'i syniad mae'n siwr;
Mae'n weithiwr da pêr i'r hwsmon dan ser,
Gwna bigffyrch a rhawiau, ceibiau a phob cêr,
A henwi'r holl waith sydd imi'n rhy faith
A dadgan ei fawrglod ni ddichon fy nhafod,
Mae'n ormod o syndod i saith,

Fe wna heirdd Efeiliau dwys eiriau di syn
Pob gorchwyl celfyddgar di gymar ôf gwyn,
O bres ac o efydd mewn deunydd a dur,
Ei giod sydd drwy'r hollwlad mewn bwriad yn bur
Y cywrain wr call da buraidd di ball,
Nid adwaen yn unlle a wela arno wall;
Wrth glywed ei glod mor rhwydd dan y rhod
Lle byddo gwr mwynber rwy'n myned bob amser
Yn eger fel beger yn bod.

Fy angen o'm gwirfodd a'm gyrodd dan gwyn
At Thomas ap Prichard hapusol wr mwyn,
I 'mofyn am fwyall nid di ball yw'r dôn
Am dani rhwng pobloedd drwy'r siroedd bydd sôn,
Gwnewch hon wr teg wawr yn fwyall go fawr
Yn erfyn llym awchus fo'n gymwys i gawr,
A drawa ar un tro drwy einion y go'
Nes byddo'n gwahanu'n ddwy grawen o'r ddeutu
Yn hollti fel lledu pen llo.


Rhowch ynddi hi'n hynod y parod wr pur
Yr haiarn dros gampwys—dau ddegpwys o ddur,
Gwneiff gyda'i chrai dwbwl dda forthwyl di foed
Ond rhoi ynddi swmer mawr drymder o droed,
Bydd hon at lwy bren yn hylaw dros ben;
Gwych hefyd i glogsiwr da syniwr di sen,
Y sclatar ai cais at yru hoel ais
Rhoi benthyg ar droeau i wneyd danedd cribyniau
I Gymro heb swnio ac i sais.

Pan gaf y dda fwyall wr diball ar dir
Mi doraf holl goedydd y gwledydd yn glir,
Pe cawswn ei ffasiwn mi faswn yn falch,
Pan oeddynt yn tori holl goed Careg Walch;
Oni bae rhag ofn drwg holl goed Gallt y Cwg
Mewn diwrnod a dorwn, mi medwn ſel mwg,
Mi dorwn heb nachau, mewn diwrnod neu ddau,
Holl dderw Parc Llystyn a choedydd maes Mostyn
Rai gwydn ei brigau a brau.

A'i gwegil yn ffyrnig wnai'r cerig o'i cwr
Holl goed Philidelphia mi tora yn un twr,
Graienyn Penmachno wrth leinio eiff i lawr
Mi a'i tora fel cneuen y milain faen mawr;
Am y Wyddfa mae son, mi tora'n y bon,
Fel y gwelir mewn golau ymylau gwlad Mon;
Mi af cyn bo hir i Gaernarfon sir,
Mi baria'n daclusach i'w crogi bob creigiach,
Bydd tecach gwastatach eu tir.

Rhag eich rhoddi'r gwr hynod mewn gormod o gost
Mi a'i cymra'n llai ronyn rhag dychryn rhy dost,
Mi aethym rwy'n deudyd mewn enyd o oed,
Nid allaf ei riwlio na'i thraenio wrth ei throed;
Gofynais hi heb feth yn ormod o beth,
Bydd arni bris dirfawr neu dramawr o dreth;
Gwnewch hon mewn gair gwir i mi cyn bo hir
Yn llai o bum ugain a dau wyth drachefen,
Bydd felly yn globen go glir.


Wel cofiwch chwi Thomas ddewr addas dda'i ryw
Wneyd bwyall wr mwyngu am ganu a min gwiw,
Na throtho mo'i gweflau ar siwrnai drom syth
Na thyr ynddi'n unlle mor bylchau chwaith byth;
Mor finiog a glew ar dur dorai few,
A'i siap mewn llyfn foddeu, nid teneu na thew,
Eich dysgu wr ffri nid gweddus i mi,
Pan gaffwyf fi'n bendant y fwyall heb soriant
Rhof foliant wych haeddiant i chwi.
ELLIS ROBERTS (Elis y Cowper),
Llanddoged, a'i Cant,

MARWNAD O GOFFADWRIAETH AM SIR THOMAS KYFFIN O FAENAN

Mesur—"Hyd y Frwynen,"

O'ch newydd trymedd am beniaeth bonedd
O Faenan fwynedd iredd un,
Newydd caled fu o'i derfynied,
Ni gawson golled bod ag un;
Rhybyddion trymion i Fonddigion
Oedd colli'r ffyddlon cyson call,
Yn iach gyngor doeth yn rhagor
Yn ein bordor yn ddi-ball;
Yn iach reolaeth drwy ei gymdogaeth,
Yma o sywaeth hyn sydd siwr,
Fe fydd caled y diweddiad
Fe geir gweled am y gwr,

Och colli peniaeth yn y gymdogaeth,
Da ei waedoliaeth diwael ffri,
Och am Sir Thomas blin yw'r achos
Na base yn aros gyda ni;

Fe oedd alluog Aer goreurog
Un dwys enwog mewn pum Sir,
Ymhob achosion union ene
Fe ddoeth lafare y geirie gwir;
Ymhob achosion rhwng Bonddigion
Ei ddyfn fadroddion union o,
Llafare ei feddwl uwchlaw'r cwbl
Yn ddi-drwbl ar ryw dro.

Fe oedd yn rhoddgar ar y Ddaear
A 'lusengar iawn yn siwr,
Bydd colled galed i drueinied
Ag i'r gweinied am y gwr;
Peniaeth Siroedd ei air a safodd,
Yn hyn a nododd dan y Ne,
Cyntreifiwr Trefydd trefnwr Plwyfydd,
Fe oedd yn llywydd ar y lle.
Ffarwel dangnefedd i wlad Gwynedd
Am wr o fonedd gore fu
Drwy anfon synwyr Ustus cywir
Roedd gore llwybr ar bob llu.

Ffarwel ddaioni mewn chwarteri,
Fe oedd wr ffri yn oleuni i'r wlad,
Fe oedd gyntreifiwr at bob cyflwr,
Gore lliniwr y gwellhad;
Ei gywir eirie a'i Lythyre,
Oedd ganwyll ole hyd barthe'r byd,
Sir Thomas Kyffin uwch law cyffredin
Y galwe'r Brenin glan ei bryd;
Bydd cyffadwriaeth da ei waedoliaeth
Uwch law cywaeth i'w Blant cu,
Bydd enw mwyn—gu gadd o Ynghymru
Yn disglaer d'wynu ar deulu ei dy.

My Lady hynod uchel fawrglod
Blin i'w thrallod syndod siwr,
O fyn'd o ange trwy gystuddie
Ag ef o'i gartre gore gwr,

I'w liwdeg cynes Ladies canaid,
Trwm iddyn weled yn ddi-wad,
Fe bery yn drymder dros hir amser
I'r pedair tyner am eu Tad;
Mae part o Gymru yn prudd alaru
Ei roi mewn gwely gwaelod Bedd,
Ei ben daionus doeth 'madrodd medrus
Anfon Ustus hoenus hedd!

Mae'r holl wledydd mawr a'r trefydd
Yn ddi-gynnydd bod ag un,
Fel llong ar soddi heb gaptain arni
Bydd pawb yn ofni bob yn un;
Ar galed dywydd yn eu cystudd,
Ag heb un llywydd wrth ei llyw
Yn wylo'r dagre ar gryfion done
Am na fase ef yn fyw;
Bydd Gwrecsam, Dinbych a Rhuthyn burwych
Yn cofio'r dewrwych aeth i'r dwst,
Cwmpeini i'r bonedd help i'r gwanedd
Bu a llaw rwyddedd yn Llanrwst.

Mae Conwy dirion a Chaernarfon,
Trefydd cyrion Meirion, Mon,
Fflint ' run modde y gwyr mawr nhwythe
Ar bob siwrne am dano'n son;
Bydd pob uchelwr, aml ffarmwr
Yn cwyno eu cyflwr yn fwy caeth,
O eisio'n agos fod Sir Tomos
Ni baseór achos fel yr aeth;
Mae'n anghyfanedd Faenan fwynedd
Cyrchfa bonedd haeledd hedd;
Och mae'n drymedd am un puredd
Eitha honedd aeth i'r bedd.

Och mawr yw'r adwy am wr teimladwy
Trwy Nant Conwy cynar fan,
Am Ustus cywir swcor sicr
Da'i glod yn wir mae'r glyn yn wan;

Ef a rodded yn Llanddoged
Mewn Seler galed dyna'r gwir,
Adgyfodiad llawen iddo
Ddelo i fynu o hyno cyn pen hir;
Yn Bump a deigien Ange a'i dyge
Terfyne ei ddyddie oi boena i ben,
Un mis Mehefin dyddiau hafedd
V rhoed mewn marwedd fedd, Amen.
ELLIS ROBERTS,
(Elis y Cowper), a'i Cant.

CÂN YR HEN BOBL.

Hen wr a hen wraig o'r hen ddullwedd,
Ar aelwyd oedd wledig, yn Ngwynedd,
Fin nos wrth y tân,
A unent mewn cân,
Wrth gofio mor agos eu diwedd.

0, pa'm rhaid i henaint ein clwyfo?
Nid oes yma ddim i'n dolurio;
Yn gwau y mae Gwen,
Gwnaf finau lwy bren,¬
Mor ddedwydd mae'r nos yn mynd heibio!

Nid oedd genym ddim yn y dechreu;
Trwy drafferth daeth pobpeth o'r goreu;
Cyd weithiem yn llon,
Ac ysgafn ein bron.
Mewn iechyd, heb wasgfa nac eisiau.

Treuliasom ein bywyd yn foddlon,
Er pan ddaethom gynta'n gyfeillion;
Er ymladd â'r byd,
Mewn ffwdan o hyd,
Erioed ni rwgnachodd ein calon.


Ni roisom ein calon ar elwa,
Na rhodio ffordd galed cybydd-dra;
Ond cawsom heb ffael
Beth rhagor sy i'w gael
Ein gwala a'n gweddill hyd yma.

Er nas gallwn fostio'n haur melyn,
Mae genym ni ferched a bechgyn,
Y rhai sy'n eu bri
Yn anwyl i ni,
Uwch golud anwadal y cerlyn.

Ond gwelsom rai troion rhyfeddol,
Yn ystod ein gyrfa ddaearol;
Newidiwyd rhai'n fawr,
Rhai fyny, rhai lawr,
Aeth llawer i'w cartref trag'wyddol.

Pa ddyben yw siarad am elwa?
Mae'n amlach gyfyngder a gwasgfa:
Buom ni yn o hir
Mewn prinder, yn wir,
Er na buom eto'n cardota.

Yn ty hwn dechreu'som gydfydio,
A hir buom dad a mam ynddo;
Gall ddal i ni 'mlaen,
Er nad yw'n waith maen,
Nes awn i wlad well i breswylio.

A phan ddaw yr awr i ymddatod,
Cain huno mewn heddwch cydwybod,
A gorphwys mewn hedd
Yn nyfnder y bedd,
Heb deimlo na blinder na thrallod.

O, pa'm rhaid i henaint ein clwyfo?
A ninau heb ddim i'n gofidio;
Awn adre'n y man,
I dderbyn ein rhan,
Ac eraill ddaw yma i breswylio.
CYNDDELW

BYRDRA OES DYN

Mesur—Triban Morfydd

A fedd synwyrau diau dowch,
Ar undeb trowch i wrando
Yn un fwriad gan fyfyrio
Fel mae'n llethrog ddydd yn llithro,
Ni rusir mono i aros mynyd,
Gwalch ar hedfan, edyn buan ydyw'n bywyd.
I ba beth y gwnawn ein nyth
Lle na chawn byth fwyneidd—dra?
Llong ar dymhestl yw'r byd yma,
Rhyw groes ofid a'n croesawa;
Os heddyw dyddia byr ddedwyddwch,
Cawn gylchynu cyn y fory ag annifyrrwch.
Pa beth yw mawrion beilchion byd?
Yr iachol fron a'r uchel fryd,
Y luniog eneth lana'i gyd
Hi ddaw i'r gweryd gwaredd
Ni chymmerir parch a mawredd
Enw a golud—mwy na gwaeledd;
Unrhyw brenin a chardotyn,
Unrhyw gwawr y cawr a'r coryn,
Mae gyrfa dyn yn gryf un dyniad
Fel ar genlli daw o'r Eryri'r dwr i waered.
Mae llawer profiad treigliad tro
Ar ddyn o hyd o'i grud i'r gro,
Mewn rhyfel drud â'r byd tra b'o,
Gan geisio ynddo gysur;
Ar ei galon ddilon ddolur
Am ail yfed mwy o lafur,
Gwneuthur casgl a methu cysgu,
Yn y byd ei fryd hyfrydu,
Yn nghanol hyny ei alw o hono,
Heb un gronyn, da na thyddyn fel daeth iddo,

Gwagedd mawr rhoi serch a bryd
Ar olud byd a'i wychder,
Hedeg ymaith y mae'n hamser,
Ar ein hoedl na rown hyder;
Pa mor ofer yw ymrwyfo
Am ormodedd, yn y diwedd a'n gadawo?
Ffol i ddyn roi 'i goryn gwan
Yn filwr dan ofalon
Tra f'o conglau yn ei galon
Anostegol nid oes digon
Bydol union a'i bodlona,
Pethau'n darfod, ansawdd ammod, hyn sydd yma.
Ni wnaed ini mo'r byd un waith,
Na ninau i'r byd awch unfryd chwaith,
Ond er ein tywys ar ein taith
Drwy'r dyrys maith daearol;
Bod yn fyr o'r byd anfarwol
Yw ei flysio'n rhy aflesol;
Dodrefn benthyg oll sydd ynddo,
Mae da'r byd i gyd i'w gado;
Prin cawn o hono, cofiwn hyny
Letty priddfedd i deg orwedd wedi ei garu:
Noeth y daethom megys Io,
A noeth yr awn i nyth o ro,
Ein neges yma trigfa tro
Ail geisio nefol gysur;
Cyn i'n dydd hwyrâu yn rhyhwyr,
Cyn machludo haul ein hawyr,
Yn ein gwisg gochelwn gysgu,
Gwaedd ar haner nos sy'n nesu;
Dyn ni phery mewn hoff hiroes,
Ceisiwn felly, Amen lynu mewn ail einioes.
NANTGLYN

HIRAETH AM LANFAIR

Mesur—"Mary Blane"

Er cael pleserau o bob rhyw,
A byw mewn hufen byd;
Ni roddant imi fawr o hedd,
Ond gwagedd ynt i gyd:
Pa les i mi yw rhodio'n rhydd
Ar hyd y gwledydd glân!
Pa fodd y gwnaf ymlawenhau
A'm ffrindiau ar wahân?

Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i:
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd,
Os byth anghofiaf di.

Rhyw hudol fwyn hyfrydol fan
Yw'r llan ar fin y lli;
Melusol ydyw cwafriol gân
Hedyddion mân i mi:
O lawnder calon bronfraith lân
Gogleisgan ddiddan ddaw,
A pheraidd gwyn y fwyalch fwyn

O gwr y llwyn gerllaw;
Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd
Os byth anghofiaf di.

Rhoir clod i Lundain gain ei gwedd,
A'i mawredd yn mhob man;
Er hyny hoffwn fyw yn rhydd
A llonydd yn ein llan.
Cawn yno groesaw gan fy Mam,
Heb ofyn pam y dois;
Na'r achos imi droi yn ol
O siriol wlad y Sais.

Fy nghalon dirion lam o hyd &c,


Er cael cyfeillion rif y sêr
A mwynder yn mhob man,
Hiraethu wnaf am fyn'd yn ol
I'm genedigol lan;
Cael eiste'n ymyl aelwyd hardd
Fy Mam, yn Fardd o fri,
Yn nghwmni bechgyn bochgoch iach,
Mil mwynach yw i mi:

Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd
Os byth anghofiaf di.

Nid oes i mi ond gofid dwys
Wrth fyw dan bwys y byd;
Rhyw oerfel drwy fy monwes draidd
A gwelwaidd yw fy mhryd:
Er holl bleserau'r ddaear hon
Ni fydd fy mron yn iach,
Yn unman arall dan y ne',
Ond yn ein pentre bach;

Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i;
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd
Os byth anghofiaf di,

Pe cawn adenydd c'lomen deg
Chwim hedeg yno wnawn,
Dros fryn a dyffryn, dôl a gwaen,
Ymlaen, ymlaen yr awn,
Nes imi fynd i'r dyffryn glwys
Heb orphwys ar fy hynt;
Ond hedeg wnawn i'r hyfryd fan
Yn fuan fel y gwynt:

Fy nghalon dirion lam o hyd
I'r dyffryn clyd lle'm ganwyd i:
Anghofier fi gan bawb drwy'r byd
Os byth anghofiaf di,
TALHAIARN

MOLAWD ARTHUR

Gwrol a da ydyw Arthur y Cymry,
Teilwng yw byth o anrhydedd a chlod;
Arthur sydd fawr megys tad yn ei deulu
Arthur ein teyrn yw y doethaf yn bod:
Gwelir ei fawredd,
Cenir ei glod,
Swynion ei enw yn anwyl a gofir,
Tra pery y rhod,

Mwyniant a gawn lawer blwyddyn trwy Arthur
Lloches i'r gwan a tharian gref yw;
Mwyach bydd pawb yn ddyogel rhag dolur,
Ysgwyd wna'r cledd yn neheulaw ein llyw:
Rhyddid gaed drwyddo,
Brydain, O clyw!
Cofir ei hanes tra mor a thra Brython, "
A'i enw gaiff fyw.

Gwisger ei ben a choronau y gwledydd,
Cariad ei bobl nefoleiddio ei wedd:
Cododd ei wlad o dan droed y gorthrymydd;
Llwyddiant a bri gawsom oll drwy ei gledd:
Dalied yn loyw,
Llanwed o'i sedd
Wlad y Brythoniaid, dros byth, megys heddyw,
A llwyddiant a hedd.
R. J. DERFEL.


————————————

W. J. Roberts, Argraphydd, Llanrwst

  1. I'w gael yn y ddau Nodiant gan W. J. Roberts, Llanrwst
  2. * Y penill hwn i'w gyfaddasu gan yr adroddwr fel bo'r amgylchiadau yn galw.
  3. Rhif tannau y delyn, sef 99
  4. 4.0 4.1 Y bysedd a'r bodiadau