Cofiant Hwfa Môn (testun cyfansawdd)
← | Cofiant Hwfa Môn (testun cyfansawdd) golygwyd gan William John Parry |
Rhagdraeth → |
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant Hwfa Môn |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
COFIANT
HWFA MÔN.
DAN OLYGIAETH
W. J. PARRY.
THOMAS GRIFFITHS & CO.,
CYHOEDDWYR,
BRIDGE STREET, MANCHESTER.
.
CYFLWYNIR Y GYFROL HON
TRWY GANIATAD I'R GWIR ANRHYDEDDUS
Arglwydd Mostyn,
CYFAILL FFYDDLAWN YR ARCHDDERWYDD,
AC UN SYDD YN CARU
Cymru, Cymro, a Chymraeg.
HWFA MÔN.
YN ol dymuniad fy hen Gyfaill yr wyf wedi ymgymeryd a dwyn allan y Gyfrol Goffawdwriaethol yma iddo. Gall na fydd ynddi holl fanylion ei fywyd, ac erbyn hyn nid yw hyny yn cael ei ystyried yn hanfodol i Gofiant. Gwell o lawer yw cael adolwg cyffredinol ar ei fywyd, yn nghyd a'r gwersi hyny fydd o fudd i'r oesau fydd yn dilyn. Cymeriad eithriadol oedd Hwfa Môn, a chymeriad fu am fwy na haner canrif yn cymeryd lle amlwg yn mywyd y Genedl. Rhaid ei fod yn feddianol ar Athrylith uwchraddol i allu cadw ei le yn y front hyd derfyn ei oes, a hono yn oes faith. Llanwodd lawer cylch pwysig yn myd llenyddiaeth a chrefydd,. ac nid lle ailraddol lanwodd yn y naill a'r llall. Ca y gwahanol Ysgrifenwyr, sydd yn garedig wedi ymgymeryd a hyny, ei osod yn ei le priodol yn y gwahanol gylchoedd y troes ynddynt, ac ni ddymunem iddo le uwch nag a haeddai yn y naill a'r llall. Yr oedd wedi cychwyn ysgrifenu hanes ei fywyd ac wedi gorphen dwy benod, sef un ar "Penygraig" ei gartref genedigol, a'r llall ar "Rhos Trehwfa" cartref ei faboed, ac nis gallwn lai na dodi y rhai hyny i mewn. Yr oedd wedi trefnu i Ysgrifenu tairarddeg eraill, ond daeth llaw angeu yn rhy drom arno cyn gwneud hyny. Y penodau eraill oeddynt,—Llangefni; y Dyffryn; Bangor; Ebenezer; Aber y Pwll; Y Bala; Bagillt; Brymbo; Bethesda; Llundain; Llanerchymedd; Llangollen a Rhyl. Rhaid i lawer peth fwriadodd ar gyfer y penodau hyny bellach fyned yn ngoll i ni. Sicr yw y buasai ynddynt lawer tamaid blasus.
Mae genyf i gyflwyno fy niolchgarwch gwresocaf i'r oll o'r Ysgrifenwyr i'r Gyfrol, ac yn neillduol i'r Parch John T. Job, yr hwn yn garedig iawn a ymgymerodd a dethol y Farddoniaeth, ynghyd a chywiro y prawfleni.
- 1 Awst, 1907.
CYNWYSIAD.
DARLUN. Gwynebddalen. Hwfa Mon yn adeg cyhoeddiad |
PENNOD IV. |
PENNOD VIII. |
Bore Oes. Penygraig. |
—— Y Gymanf |
RHAGARWEINIAD.
GAN Y PARCH. E. REES, "DYFED," CAERDYDD.
PARCH E REES
YR ARCHDDERWYDD
Bu dda genyf glywed fod Cofiant y diweddar Hwfa Môn i'w gyhoeddi yn ddiymdroi. Buasai oedi yn hir yn anfantais ar lawer cyfrif. Y mae yr adgofion am dano eto yn iraidd, a'i barch yn ddwfn yn mynwes y wlad, a chylch ei hen gydnabod yn eang ac yn gynhes, fel nad oes y petrusder lleiaf yn nglyn a'r anturiaeth. Fel rheol, cyhoeddir llyfrau Cymreig mewn ofn a dychryn, a cheir achos i edifarhau mewn llwch a lludw. Ond diau genyf y ca'r Cofiant hwn dderbyniad helaeth, gan fod cymeriad y gwrthddrych yn un mor ddyddorol, ac mor llawn o addysg. Yn ychwanegol at ddyddordeb yr hanes, bydd amrywiaeth dawn yr ysgrifenwyr yn fantais i ddwyn allan holl amrywiaeth y cymeriad, fel y ceir golwg gywir ar Hwfa o bob safle ar ei fywyd. Y mae Cofiantau teilwng yn fendith i fyd. Taflant oleuni ar frwydrau peryglus bywyd, a dysgant y ffordd i esgyn i wynfyd ac anfarwoldeb. Cawn olwg ar egwyddorion yn ymddadblygu, ac yn rhoi ffurf ar gymeriad, ac arweinir y darllenydd i gasgliadau cywir am yr hyn sydd yn gwneud dyn, ac yn rhoi gwerth ar ei hanes. A dyma ddull Cymru o anrhydeddu coffadwriaeth ei phlant. Y mae ei chofgolofnau marmor yn brin, ond ei cholofnau llenyddol yn dra lluosog. Peth cyffredin yn mhlith cenhedloedd eraill yw cerfio enwau eu henwogion a phin o haiarn ac a phlwm yn y graig, a chodi cerfddelwau mewn dinasoedd a phentrefi, i gadw côf o'u tadau gerbron y byd. Ond nid yw Cymru yn enwog yn hyn, ac efallai mai prinder manteision yn y gelfyddyd yw y prif reswm am hyny. Boddlon yw ar gareg fedd, pe na byddai arni ond dwy llythyren. Bu cryn son yn ddiweddar am golofn i "Llewelyn ein Llyw olaf," ond ni enillwyd clust na chalon y genedl, oherwydd paham, aeth y drychfeddwl teilwng yn fethiant. Diau fod digon o genedlgarwch yn y wlad, ond ni fyn ddyfod i'r golwg yn y cyfeiriad hwn. Y mae ei chwaeth yn gryfach at gofgolofnau llenyddol—at ddarluniau o fywyd, yn fwy nag at ddelwau cerfiedig.
Un o gedyrn Mon oedd Hwfa, ac nid y lleiaf o ardderchog lu yr ynys. Y mae y llecyn neillduedig hwn yn hynod yn hanes Cymru— llecyn llawn o draddodiadau, ac o adgofion cysegredig. Magodd dywysogion mewn tyddynod digon distadl, ac y mae llewyrch athrylith fyw yn aros ar eu henwau. Gall Mon ymffrostio yn ei phroffwydi, ac ymfawrhau yn ei beirdd. Yno y dechreuodd Hwfa broffwydo, ac yno y dechreuodd freuddwydio ar ddihun. Cyfeillachodd lawer a natur, ac aeth i fewn yn mhell i'w chyfrinach. Dysgodd ei gwersi yn awyddus, i beidio. 'u gollwng yn anghof byth. Ei goleuni hi dynodd ei dalent i'r golwg, cyn i haul arall dywynu ar ei amgylchiadau. Dyna ysbrydolodd egnion cyntaf ei awen, ac a roddodd flas iddo ar erlid ysbrydion. Teimlodd yn gynar fod rhywbeth cydnaws a natur yn gyfaredd dirgel yn ei ysbryd, ac ymroddodd i'w ddadblygu er difyrwch iddo ei hun. Carai yr encilion, a hoffai unigedd, a chlywai swn drychiolaethau yn ymsymud o'i gwmpas, nes peri iddo anghofio ei hun wrth geisio deongli eu cenadwri. Digon prin fu ei fanteision, ond nid anffawd i gyd oedd hyny. Cafodd rhai o'r tueddiadau cryfaf oedd o'r golwg yn ei feddwl lonydd i dyfu yn naturiol, heb i drais allanol mewn un modd eu gwyrdroi o'i anfodd. Unwaith y ceir allan gyfeiriad meddwl, gwyn ei fyd wedyn os gall droi pob ffrwd i'w felin ei hun. Diffyg manteision ddaeth i'r golwg a rhai o'r cymeriadau mwyaf gwreiddiol mewn cymdeithas—cymeriadau digaboliad, heb rodres na mursendod yn andwyo'u natur. Y mae yn iechyd i fyd daro wrthynt am dro, a threulio awr yn eu cysgod; a gresyn eu bod yn darfod o'r wlad, i roi eu lle i'w salach. Dynion wedi tyfu fel derw ar gloddiau, heb olion bwyell ar eu gwraidd na'u brig. Ni aflonyddwyd ar dueddiadau naturiol meddwl Hwfa, a thyfodd yn fardd yn ddiarwybod iddo ei hun Ceir trem ar ei fywyd borenol mewn lle arall yn y gyfrol hon.
Yr oedd Hwfa yn gymeriad eithriadol yn inhob ystyr—yn ei allanolion, yn ei ddull o feddwl, yn ei barabl, ac yn ei gymdeithas. Yr oedd yn y cwbl fel efe ei hun, ac nid fel neb arall. Y fath bersonoliaeth urddasol! Yr oedd yn amlwg yn mhlith mil, ac nis gallai efe fod yn guddiedig. Tra yr ymgollai y lluaws yn nghysgod eu gilydd, fel rhedyn ar fynydd, yr oedd Hwfa yn tynu sylw pawb, a'i bersonoliaeth hardd yn cymhell edmygedd. Gofynid yn ddystaw wrth ei weled yn agoshau, "Pwy yw hwn?" "Beth all hwn fod?" "Nid yw hwn yr un fath a phawb." Yr oedd ei wyneb llawn, ei drem feddylgar, ei osgo weddus, ac urddas ei holl ymddangosiad, yn gwneud i'r hwn a'i pasiai edrych yn ol dros ei ysgwydd i gael ail olwg arno. Y mae dynion felly yn brin, ac amheuthyn yw taro wrthynt i dori ar unffurfiaeth cymdeithas. Yr oedd yn addurn yn mhob cylch, a'i wyneb yn llefaru, pan fyddai ei enau yn fud. Eithriad oedd cyfarfod a pherson a chymaint o fawrhydi o'i gwmpas, ac yr oedd ei harddwch allanol yn gynrychioliad teg o'r dyn oddi mewn. Nid felly y mae gyda phawb. Y mae y bodau duaf, weithiau, yn ymrithio ar lun engyl. Dyna ystyr y cyngor hwnw, "Na fernwch wrth y golwg, eithr bernwch farn gyfiawn." Gwyddom fod llawer yn y byd yn ddim amgen na beddau wedi eu gwynu. Ond yr oedd dynoliaeth Hwfa yn hardd fel ei wyneb. Argyhoeddid ni yn ei gymdeithas, ei fod yn foneddigaidd, ac yn hawdd ei drin. Gallai daro ei droed i lawr yn drwm pan fyddai angen, ond hyd y gwelais i, ymladdwr sal iawn ydoedd, a thristwch i'w galon oedd swn cyflafan. Gallai ruo fel llew, a gwneud taranau a'i lais, heb newyn am waed, na chynddaredd yn ei gymhell. Mab tangnefedd ydoedd, yn hollol ddiddichell, a difeddwl drwg. I'w gydnabod, yr oen, a'r golomen, oedd amlycaf yn ei gymeriad. Anaml y gwelwyd y fath gorfforiad o ddiniweidrwydd. Yr oedd mor llednais a gwyryf, ac mor dyner a chariad mam. Hawdd dylanwadu ar ddyn felly, a hawdd ei arwain i brofedigaeth yn ddiarwybod iddo ei hun. Ymhyfrydai mewn caredigrwydd, a gwnai gymwynas dan ganu. Yr wyf yn rhoddi arbenigrwydd ar y pethau hyn, am fod syniad llawer yn y wlad am dano yn wahanol. Nid oes dim yn cyfrif am hyny, ond diffyg adnabyddiaeth o hono.
Meddai ar dalent ffrwythlawn, ac yr oedd ei holl gnwd yn gynyrch ei feusydd ei hun. Nid oedd lloffa yn brofedigaeth iddo, ac ni ddysgodd fyw ar lafur pobl eraill. Yr oedd yn Hwfa yn mhob peth a wnai. Meddyliai yn eang, ac ni thalodd fawr sylw i'r gelfyddyd o roi llawer mewn ychydig. Ymhelaethu oedd ei brofedigaeth. Pan godai ar ei draed, yr oedd fel dyn yn ymwregysu i deithio cyfandiroedd, a cherddai yn gryf ei anadl wedi i feidrolion eraill ddiffygio ar y daith. Sylwai ar bobpeth ar y ffordd, a gwelai dwmpathau yn tyfu yn fynyddoedd. Cymerai amser i gyfarch pob blodeuyn, ac ymgomiai a'r grug a'r ysgall ar ei lwybr. Diystyrai bob llwybr byr at ei nod, ac ymddifyrai yn hamddenol ar hyd y rhodfeydd mwyaf cwmpasog, heb ofyn cyfarwyddyd neb. Er hyny, yr oedd ei nod yn y golwg o hyd a'i gyfeiriad yntau ato, ond ni frysiai i'w gyrhaedd tra y tywynai haul ar ei feddwl. Ni theimlai un anhawsder i siarad, a'i gamp oedd tewi wedi cychwyn. Daliai ati yn hir, ac weithiau, yn "ofnadwy hwy na hir," am fod manylion distadlaf ei bwnc yn tynu ei sylw. Gallu arbenig yw hwn, a thra bendithiol yn aml; ond nid yw yn fantais i gyd mewn oes mor ddiamynedd. Oes y darluniau ydyw, a'r rhai hyny yn ddarluniau parod. Y mae edrych arnynt yn cael eu tynu, allan o'r cwestiwn. Digon yw trem frysiog ar un, ac heibio at y llall, a goreu po leiaf o egni meddwl ofynir i'w cymeryd i fewn. Anogir byrder ar bob llaw, a phethau byrion sydd yn boblogaidd yn mhob cylch. Clywsom ddywedyd gan y rhai gynt, fod y fath beth yn bod a "phleser boen"—ymgodymu a gwirioneddau cyndyn, nes eu gorchfygu a'u darostwng. Ond y mae y pleser boen, wedi rhoddi ffordd i bleser iach, hawdd ei gael, a haws ei golli. Dyna ysbryd yr Ond nis gallai Hwfa fod yn fyr, na meddwl am gefnu ar ei "dragwyddol heol." Creulondeb ag ef ei hun, ac a'i gynulleidfa, oedd ei drefnu i bregethu yn un o ddau, gan fod ei bregeth ef ei hun, fel rheol, yn ddigon i dri chyffredin. Fe'i magwyd yn nghyfnod y cewri, ac yn swn pregethau hirion nad oedd neb yn blino arnynt, a meddianwyd yntau gan yr un ysbrydoliaeth. Aeth i fewn i linell y goreuon o'r tadau, a chredai mai cam a'r efengyl oedd troi pregeth yn bwt o anerchiad, a ffwrdd a hi. "Mesur da, dwysedig, ac yn llifo drosodd," oedd rheol Hwfa, ac nid ymgynghorai a chig a gwaed yn ei swydd.
Yr oedd ei bregeth yn gyfuniad o feddwl, ac o ddawn; a'r naill yn gweddu i'r llall, a'r ddau yn gweddu i Hwfa. Symudai yn mlaen yn araf, yn ddystaw, ac yn hollol hunan feddianol. Parablai yn groew, a'i Gymraeg yn soniarus, a theimlid cyn hir fod blas awen ar rai o'i frawddegau. Deuai ambell air aruthrol i'r golwg, nad oes hawl gan neb ond beirdd i'w ddefnyddio-gair fuasai yn berygl i beirianau llafar dyn cyffredin. Erbyn hyn, gwelid y gynulleidfa yn ymfywiogi, ac yn rhoi ei hun mewn trefn i fwynhau. Cyn hir, torid ar lyfnder ei leferydd gan ysbonge uchel ar air, a thawelai yn ol eilwaith, wedi taro'r gwamal a rhyw haner dychryn. Cynyddai'r dyddordeb fel y cynyddai'r hwyl, ac yn sydyn, dyna floedd ddieithr arall yn diweddu mewn sibrwd. Byddai yn foddfa o chwys erbyn hyn, ac ysgydwai ei wallt bir, fel llew yn ysgwyd y gwlith oddiar ei fwng; ac wedi hir fygwth, gollyngai ei dymhestloedd yn rhydd. Ond po fwyaf y taranai, anhawddaf ei ddeall, am ei fod yn taranu yn wahanol i bawb eraill. Ymgollai ambell air yn y cynhwrf, gan ein gadael i ddyfalu beth allasai fod. Yr oedd yn ddifyr ei glywed yn bloeddio geiriau trisill, gan eu gorphen ar dri chynyg; ac fel rheol, cadwai y sill olaf bron yn llwyr iddo ei hun. Ni chlywsom neb arall yn ynganu geiriau yr un fath, ac ni chlywodd yntau ychwaith. Yr oedd yn wreiddiol hollol iddo ei hun, a champ i neb ei efelychu gydag un mesur o lwyddiant.
Y mae ei gynyrchion barddonol, gan mwyaf, o flaen y wlad, yn ddwy gyfrol daclus; a gwnaeth yn ddoeth iawn eu cyhoeddi yn ei fywyd. Nis gallai neb arall ar ei oreu, wneud hyny fel yr awdwrei hun. Y mae pob bardd o fri yn cyfansoddi milltiroedd o bethau na ddymunai iddynt fod mewn casgliad o'i weithiau, ac i farnu ei deilyngdod wrthynt. Cynyrchion difyfyr i gael llonydd gan gyfeillion, a dyna ddiwedd am danynt. Ond cyhoeddwyd y rhan fwyaf o weithiau Hwfa dan ei olygiaeth ef ei hun. Ni pherthyn i mi roi barn arnynt ar hyn o bryd, gan y ceir arall yn gwneud hyny yn y Cofiant hwn. Barddonodd lawer, a bu yn dra llwyddianus mewn ymgyrchoedd peryglus. Cafodd farn uchel llenorion goreu'r genedl yn ei ddydd, ar ei allu llenyddol, ac yr oedd hyny yn dawelwch meddwl iddo, yn wyneb pob ymosodiad oddiwrth y rhai na welent ragoriaeth, ond yn yr eiddynt eu hunain a'u cyfeillion. Ei brofedigaeth yma eto oedd meithder. Canai yn hir ac yn gwmpasog, a darostyngai bobpeth at ei wasanaeth. Yr oedd ei gynllun, fel rheol, yn dra eang, a gellid cerdded drwy ganol ei faes heb weled ei derfynau. Gan ei fod yn cau cymaint o dir i fewn, prin y gallesid dysgwyl iddo ei droi i gyd yn dir gwenith, Cerddai drosto i gyd, a gwnai ei hun yn gynefin a'i holl lwybrau; ond y perygl oedd i arall dori ei galon wrth geisio ei ddilyn, a throi yn ei ol. Ar destyn a'i derfynau wedi eu nodi allan gan arall, yr oedd dan anfantais fawr, oblegid byddai ei gynllun ef yn ymestyn yn mhell dros y terfynau ar bob llaw. Cam ag ef oedd ei gyfyngu, gan fod y greadigaeth yn rhy gul iddo.
Yr oedd ei arddull hefyd yn meddu ar arbenigrwydd—yn gref, ond braidd yn drystfawr. Myn rhai nad yw arddull felly yn gydweddol a natur. Ond yr oedd yn naturiol hollol i Hwfa. Dyna nodwedd ei feddwl, a hoffder ei awen. Nid yw natur wedi gwneud pawb i ymhyfrydu yn yr un gwrthddrychau. Mewn awelon a blodeu y mae un yn byw; mae swyn i arall mewn storm a rhaiadrau.. Swn tymhestloedd, a'rhaiadrau crychwyn sydd yn arddull Hwfa, ond yr oedd hyny mor naturiol iddo ef ag awel a heulwen i eraill. Credai fod barddoniaeth mewn geiriau, a chredai yn iawn; ond nid oedd hyny yn ei wneud yn ddibris o feddylddrychau. Y mae dynion yn gwahaniaethu mewn gwisgoedd—rhai mewn sidan a phorphor, eraill mewn nwyddau o waith cartref; ond ni feddyliai neb am luchio llaid at eu gilydd am eu bod yn anhebyg. Y mae cymaint o wahaniaeth yn y dull of feddwl, ag sydd yn y dull o'i osod allan, a phob un yn naturiol iddo ei hun. Ond arddull rhwysgfawr oedd yr eiddo Hwfa, ac ymhyfrydai mewn geiriau mawrion, weithiau, o'i greadigaeth ei hun, i dynu sylw at yr hyn fyddai ganddo mewn llaw ar y pryd. Gwnai hyny yn aml wrth areithio, yn fwy er dyddori ei gynulleidfa na dim arall. Cofus genyf pan yn hogyn, ei wrando yn darlithio, gyda llawer o nerth a hwyl. Nid oes genyf adgof am ddim o'r araeth, oddieithr ychydig eiriau nodweddiadol hollol o Hwfa; a thebyg y buasai y rhai hyny hefyd yn anghof pe'n eiriau symlach. Yr oedd yn desgrifio helfa yn rhywle, ac yn son am "y milgi yn milgieiddio, a'r ysgyfarnog yn ysgyfarnogi," nes peri i ddyn deimlo fod clust yn ymglusteiddio" yn swn yr helfa. Hawdd fuasai cael geiriau symlach i osod allan egni yr ymgyrch, ond y mae yn amheus a fuasent mor effeithiol i gyrhaedd yr amcan oedd mewn golwg ar y pryd. Ei hofflinell oedd. y synfawr a'r cynhyrfus. Clywai storm mewn gwlithyn, a therfysg mewn dagrau. Tynai fellt o wybreni digwmwl, rhoddai liw of frawychdod ar brydferthwch, a gwnai ochenaid yn ddaeargryn. Yr ysgythrog, a r ofnadwy oedd yn naturiol iddo, a dyna'i ddull o ganu. O'm rhan fy hun, gwell genyf lyfnder diymdrech, a thlysni didrwst; ond nid yw hyny yn rheswm y dylai pawb fod yr un fath. Y mae amrywiaeth arddull yn tori llawer ar unffurfiaeth y byd llenyddol, ac i bob arddull gareg adsain mewn rhyw galon neu gilydd.
Nodwedd amlwg yn marddoniaeth Hwfa, yw ei pherthynas a'r dwyfol. Yr oedd yn gweled Duw yn mhob peth. Ni fyn rhai ei weled mewn dim, ac ystyriant ei gydnabod yn wendid. Dynion o'r ddaear, yn ddaearol, ac yn fwy na haner anffyddwyr yw y rhai hyn. Boddlon ydynt i dalu y warogaeth uchaf i dduwiau Groeg, ac i ofergoelion cenhedloedd eraill; ond na sonier am y Duw byw, nac am sylweddau mawrion y byd a ddaw. Canodd yr hen feirdd cenhedlig yn ardderchog i'w duwiau rhyfelgar; ond nid yw paganiaeth ynddi ei hun yn amod anfarwoldeb, ac nid yw awen i bara byth ac yn dragywydd i wasanaethu ar dduwiau gau. Y mae goleuni dadguddiad wedi tori'n fore ar Gymru, ac os yw ei beirdd yn canu yn yigoleuni hwnw, a llewyrch gwirionedd pur ar eu meddyliau, gwyn eu byd. Nid oes raid i ddyn aros yn bagan mewn tywyllwch i ddod o hyd i feddyliau teilwng. Yr ydym fel yr Hebreaid, yn genedl o dueddiadau crefyddol dyfnion, a gwirioneddau yr efengyl wedi cymeryd meddiant o reddfau dyfnaf ein natur-wedi dod yn rhan o honom, fel nas gallwn feddwl na gweithredu, heb gydnabod Crewr a Chynaliwr, a bendigo Ceidwad sydd a'i hanes yn ogoniant ac yn ras. Dyna'r rheswm fod gwedd mor dduwinyddol ar lenyddiaeth Cymru. Nis gallwn osgoi yr elfen hon, heb wneud cam a'n natur foesol fel cenedl; a phell fyddo'r dydd i feirdd Cymru wadu eu Duw, i foddio meddyliau sydd a mwy na'u haner yn glai. Tra fyddo'r Presenoldeb dwyfol yn y wlad, na feied neb yr offeiriaid am fod clychau'r cysegr yn crogi wrth odreu eu gwisgoedd.
Llanwodd Hwfa le amlwg yn nghylchoedd cyhoeddus Cymru. Yr oedd ei genedlgarwch yn angerddol, a charai ei wlad fel ei enaid ei hun. Soniai lawer am ei genedl, a dyma un o'r geiriau cynhesaf ar ei wefus. Canmolai lawer ar ei wlad, a braidd na chredai fod y ffordd i'r nefoedd yn nes o Gymru nag o un man arall. Yn ngwasanaeth ei wlad y bu fyw, ac yn ei chariad y bu farw. Ymffrostiai yn ei dadau, a dygai fawr sel dros eu defion. Yn Ngorsedd y Beirdd, yr oedd fel brenin yn mhlith llu, a phawb yn foddlon iddo deyrnasu mewn heddwch. Gallesid meddwl yno iddo gael ei greu o bwrpas i fod yn Archdderwydd, a rhoddai addurn ar y swydd, ac ar ei holl gysylltiadau. Pwy mor olygus ar ben y maen? Yr oedd ei wyneb llydan fel codiad haul ar y cylch. Edrychai y cenhedloedd arno gyda'r dyddordeb mwyaf, a chredent ei fod yn gorfforiad o gyfrinion yr oesoedd gynt. Erbyn hyn, sefydlir gorseddau llenyddol mewn gwledydd eraill, ac efelychir Cymru yn y cyfeiriad hwn, i gadw ysbrydiaeth genedlaethol yn fyw. Y mae yr holl lwythau Celtaidd, bellach, wedi deffro ar bob llaw, ac yn agoshau at eu gilydd mewn. brawdgarwch a chydymdeimlad; a chydnabyddant yn rhwydd fod y deffroad cyffredinol hwn yn gynyrch Gwyl genedlaethol Cymru. O'i llwyfan hi, ac o gylch ei meini, yr aeth y tân allan, ac y mae yn llosgi yn genedlgarwch cynhes ar allorau cenhedloedd eraill. Dylai hyn enyn parch a chariad dyfnach at yr hen Sefydliad, a chreu awydd am ei wneud yn allu cryfach nag erioed i gyrhaedd yr amcanion uchaf. Glynai Hwfa wrth yr Orsedd am ei fod yn credu fod iddi genhadaeth er daioni; a gall fod o wasanaeth pwysig i'r Eisteddfod gydag ychydig undeb a chydweithrediad. Gan nad pa ddiffygion a berthyn iddi, y mae yn drwyadl Gymreig, ac nis goddef i unrhyw ddylanwad gyfyngu ar hawliau yr iaith. Y mae hyn yn rheswm dros i bob Cymro roi ei anadl o'i phlaid, a gwneud ei oreu i eangu cylch ei dylanwad. Gwyddom fod yr Eisteddfod ei hun, er's talm, wedi syrthio oddi wrth y gras hwn, ac wedi anghofio ei Chymraeg bron yn llwyr; a gresyn fod yr hen iaith mor ddiystyr o dan ei chronglwyd ei hun. Arwyddair sydd yn dod yn boblogaidd y dyddiau hyn yw. "Dim iaith, dim cenedl." Efallai mai darn o wirionedd yw hyny; ond y mae yn ddarn mawr iawn, oblegid y mae iaith yn rhan bwysig o fywyd cenedl, ac yn un o'r llinynau cryfaf i'w dal wrth ei gilydd. Heblaw hyny, y mae yn etifeddiaeth y tadau i'w plant ar eu hol.
Hawdd cyfrifam ymlyniad diollwng Hwfa wrth yr Eisteddfod—yr oedd yn un o'i phlant. Urddwyd ef ar ei maen hi ganol y ganrif ddiweddaf, a bu yn ffyddlon ac yn wresog o'i phlaid drwy ei oes. Yr oedd yn ddyledus iddi am ei nawdd, ac y mae hithau yn ddyledus iddo yntau am ei wasanaeth. Hen Sefydliad ardderchog yw yr Eisteddfod, ac y mae ynddi rywbeth sydd yn gydnaws iawn ag anianawd y genedl. Gwelodd lawer tro ar fyd, ac odid na wêl lawer tro eto cyn y bydd farw. Y mae oesoedd yn cyfnewid, ac yn ein dwyn yn ddarostyngedig i amgylchiadau newyddion, a chyfleusterau gwell. Y mae manteision addysg erbyn hyn, yn trawsnewid llawer ar bethau, ac yn creu y chwyldröadau mwyaf bendithiol yn holl gylchoedd bywyd. Er hyny, y mae i'r Eisteddfod ei lle ei hun, a gall fod o wasanaeth pwysig i'r wlad, heb ei llyncu i fyny gan sefydliadau diweddarach. Yn wir, y mae manteision addysg uwchraddol y wlad yn ddyledus iawn i'r Eisteddfod ei hun. Hon gadwodd y tân yn fyw nes i genedlgarwch diweddar ddeffro o gwsg, a chodi llef dros hawliau Cymru. Dyma'r Sefydliad addysgol goreu feddem yn yr hen amseroedd, pan oedd manteision addysg mor brin yn mhlith y werin. Chwerddir am ben y syniad o alw'r Eisteddfod yn goleg; ond y mae hyny yn codi o gulni meddwl y rhai nas gwyddant beth yw ymladd ag anghenion. Os nad yw yn goleg yn ystyr Prifysgolion y dyddiau hyn, fe brofodd ei hun yn goleg i lawer yn y dyddiau gynt, pan nad oedd yr un golofn arall i'n harwain trwy'r anialwch. Y mae llawer o brif enwogion y wlad yn ddyledus iddi am eu dysgu i feddwl, pan nad oedd cyfryngau eraill wrth law. Deffrodd dalentau a galluoedd fuasent wedi cysgu eu hunain i farwolaeth pe cawsent lonydd. Y mae deffro meddwl o'i gysgadrwydd, a rhoi cyfeiriad iddo mewn ymchwil am anfarwoldeb, o fendith fawr iddo ei hun, ac o wasanaeth mawr i gymdeithas. Mewn llafur y mae nerth a bywyd meddwl, ac y mae creu awydd am ragori yn gaffaeliad i fyd. Dyna mae'r Eisteddfod wedi ei wneud i lawer yn y wlad. Nid yw yn proffesu eu gwneud yn ddysgawdwyr, ond eu cynhyrfu o'u dinodedd tawel, a'u cyfeirio i dir uwch. Myn rhai gondemnio cystadleuaeth, am ei bod lawer pryd yn cynyrchu pethau digon sal. Ond os yw'r dyn ar ei oreu, tybed y gwnai yn well na'i oreu yn annibynol ar gymhellion allanol? Tybed nad yw y rhedegwr yn ymegnio yn fwy, pan yn teimlo fod arall ar ei sawdl? Cystadleuaeth sydd yn cadw'r byd yn effro yn mhob cylch, ac y mae yn ysbrydoliaeth ardderchog i'w yrru yn ei flaen.
Bydd enw Hwfa fyw yn hir, a'i glod yn uchel wedi i'r fynwent ei ollwng dros gof. Cododd ei golofn yn ei fywyd, a bydd yn amlwg i'r oesau a ddêl yn hanes Cymru. Gwelodd lawer o anhawsderau, a daliodd i ddringo drwyddynt i loewach dydd. Daeth i'r golwg yn ei nerth ei hun, heb neb i ganu udgyrn o'i flaen, ac enillodd boblogrwydd eithriadol yn ei holl gylchoedd. Y mae hyn yn brawf o gynheddfau naturiol gryfion, a bu dan orfodaeth drwy ei oes i'w cadw'n loew. Wedi ei ddigoni a hir ddyddiau i wasanaethu ei wlad, ei genedl, a'i Dduw, gorffwysed mewn hedd.
Blodeu'r dydd dan belydr da,
Gynhauafwyd gan Hwfa.
Pennod 1.
FEL CYMERIAD CYMREIG
GAN Y PARCH. RHYS J. HUWS.
PLENTYN y 'wlad,' y cysegr, a'r eisteddfod oedd Hwfa Môn, ac felly, bu dan rym y tri dylanwad cryfaf ar fywyd Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Magwyd ef yn Môn hudolus, pan yr oedd John Elias a Goronwy Owen yn teyrnasu ar uchelgais gwlad. Yr oedd hyawdledd pregethau y naill, a swyn cywyddau'r lall yn gyfaredd gwerin y pryd hynny; ac er swyn corn hela'r uchelwr, ac er cryfed y demtasiwn i drin "daear dirion" Môn, yr efengyl a'r gynghanedd oedd hud y bobl yn nhymor mebyd Hwfa. Cymry uniaith, gan mwyaf, oedd y Monwysion yr adeg yma, a bu dylanwad Elias a Goronwy yn fawr ar lafar y wlad. Trethodd y pregethwr holl adnoddau'r iaith i ddisgrifio nef ac uffern, purdeb a phechod; a gweuwyd llawer o ansoddeiriau lliwgar y prophwyd i mewn i iaith y bobl; ac y mae'n ddiau i fin a thlysni Cymraeg Goronwy gadw'n fyw lawer priod—ddull tlws yn nhafodiaith y sir. A phan ychwaneger ddarfod i'r ddau ddenu'r werin i ddarllen y Beibl, nid rhyfedd fod y fath rym a graen ar Gymraeg yr ynys. Ac yn wir, y mae Cymraeg cryf, seinber, yn nodwedd amlwg ym mhob pregethwr mawr a godwyd ym Môn o ddyddiau Elias hyd yn awr. Dysgodd Hwfa Gymraeg Môn pan oedd y dafodiaith yn arf wedi ei loywi gan athrylith ddisgleiria'r wlad, ac er i'r ysfa am fathu geiriau ddifwyno llawer ar ei arddull, y mae arogl Cymraeg pêr ar ei waith, er yr holl afraid i gyd. Yr oedd yn ddihefelydd am yngan y Gymraeg. Pwy a allai ruglo ll' ac' ch' fel Hwfa Môn ? ac mor òd o felus y llithrai dros lafariaid yr hen iaith! Megis dwndwr nant y mynydd yn erbyn cymal o graig, ydoedd ei barabliad o glec a gwrthglee y gynghanedd yn y fèr awdl' ar agoriad yr Eisteddfod. Gorchwyl pur hawdd a fai dangos drymed yw cysgod y wlad dros ganu'r beirdd Cymreig, a phob math ar lenydda diweddar. Nid yw bywyd y ddinas fawr yn ei ruthr ofnadwy wedi ei farddoni yng Nghymru eto, a hynny am nad yw wedi ei fyw yma, canys cyfyd canu cenedl o'i bywyd mor naturiol ag y tyf glaswellt gwlad o'i daear. Yr oedd meddwl Hwfa, fel y mwyafrif o feirdd Cymru, wedi ymlinynnu mewn dwyster, cyfriniaeth, ceidwadaeth a rhyw ddiffyg cywirdra rhyfedd; a phriodolwn hyn i raddau pell i ddylanwad y wlad—yn arbennig nos y wlad, ar ei ddatblygiad. Yn wir, ni cheir nos yn y dre' boblog, canys llewyrcha'r nwy yno cyn machlud haul a llysg hyd godiad gwawr ymron; ac yn lle hwyrnos dawel tyr swn gorhoian ac wylofain cymhlith, beunos ar glyboedd y trefwr.. Ond yn y pentre' gwledig, mwynheir lledrith y llwydoleu yn swn ofergoel a chân heb gymaint a chanwyll frwyn mewn gwrthryfel a'r gwyll. Gyda'r nos daw llanw'r ysbrydol i'r wlad, bydd gwersyll o ysprydion ym mhob perth, a gwylliaid annaearol ym mhob ceunant, ac o bydd raid ymdaith i bell ym min hwyr ceisir cwmni'r ci i gadw'r ysprydion draw. Dyna nos Môn pan oedd Hwfa'n blentyn, a phan gofiwn i'w ddychymyg byw droi twmpathau'r wlad yn breswylfeydd angylion lawer tro, gallwn yn hawdd gyfrif am ymchwydd rhai rhannau o'i "Owain Glyndwr." Ond os yw nos y wlad yn meithrin rhyw gyfriniaeth afiach mewn rhai meddyliau, y mae yn creu parchedigaeth ofnus ym mron y bardd, ac yn dyogelu ffresni'r byd iddo. I Hwfa yr oedd y tywyllwch yn dwyn Môn yn ei freichiau i'r tragwyddol bob nos, a'r wawr yn ei dwyn hi'n ol bob bore yn ieuanc fyth." Yn nyddiau ei febyd ef, dyeithriaid a phererinion oedd mân reolau'r Cyngor Dinesig ym mhentrefi tlysion Môn—wrth reddf ac nid wrth ddeddf y gweithredid yno gynt. Ychydig o feddwl cynllungar a chlós oedd yn eisieu, ac nid oedd yr hyn a elwir genym heddyw yn broblemau cymdeithas yn wybyddus y pryd hwnw, fel nad oedd nemor alw am wyddor nac athroniaeth i chwilio am "natur pethau." Yr unig rai oedd wedi dechreu "aethu" pethau yr adeg yma oedd y difinyddion a thra yr oeddynt hwy ym mynych son am dadolaeth, etholedigaeth, brawdoliaeth a llawer aeth arall, am dad, dewis, a brawd y soniai y werin, ac yn y dull hwn o feddwl y meithrinwyd deall Hwfa—yr hyn yw dweyd mai bardd oedd. Gwyddis fod y wlad yn enwog am ei charedigrwydd, ac fel rheol, rhai tirion, tyner, yw ei phobl; ond ni fagwyd mewn gwlad erioed garediccach Hwfa Mon. Yr oedd ei natur yn oludog o deimlad, a da y gwyr ei gyfeillion gynesed oedd ei groesaw, ac mor òd o glwyfus oedd ei siom—er mai gwaedu 'n gudd a wnai ef bob amser dan archoll. Wrth edrych dros gynnwysiad ei gyfrolau yr hyn a'n tery fwyaf yw y nifer fawr o englynion cyfarch a beddargraff a geir ynddynt. Tybiwn nad ysgrifennodd yr un bardd Cymreig gynnifer o honynt ag efe. Yr oedd ei ddeigryn yn crisialu 'n englyn ar lan bedd, a'i wên yn troi'n glec groesawol mewn neithior. Pwy a rydd i lawr sawl darn o ganu a daflodd Hwfa i ganol dagrau babanod aniddig? Do, canodd y gwladwr caredig hwn yn helaethach na nebi amgylchiadau mawr bywyd—geni a marw, priodi a chredu; a druan o'r galon nas cryn ar drothwyon y drysau trwy y rhai yr el bywyd i fyd arall a phrofiad newydd. Y mae golud o farddoniaeth yno. Yn hyn oll, plentyn y wlad oedd y bardd, ac er aros o hono COFIANT dros ysbaid yn y ddinas fawr, ni bu i'w phrysurdeb fennu arno fel ag iddo golli ystyr tri pheth mwyaf barddonol y byd-cryd, modrwy a bedd. Aethum dros ei lyfrau 'r eildro 'r wythnos hon, a theimlwn fod yr awyrgylch yn hynod o iach-ni cheir ond dylifiad calon di-eiddigedd yn ei ganu, heb ergyd i neb ond i anghredwr. O'i barnu yn ol ei hysbryd, a'r galon a geir ynddi, y mae rhannau o'r farddoniaeth gyda 'r pethau goreu a feddwn, a tharddant o'r lle y cawsom ein cerddi pennaf—o galon gyffrous a meddwl hygoel plentyn y wlad.
II.
Yr ail ddylanwad mawr ar fywyd Hwfa Môn, fel ymron bob Cymro enwog arall oedd y cysegr. Magwyd ef yn nyddiau uniongredaeth dawél, canys ni chawsai hi eto gyfle i erlid, am na feiddiasai beirniadaeth hyd yn hyn roi ei llaw oer ar adnodau'r Beibl Cymraeg, na chynnyg tynnn tragwyddoldeb o uffern y Testament Newydd. A phan ddechreuodd Hwfa bregethu yr oedd meddwl y wlad wedi ei drwytho mewn rhyw fath of ofergrededd a'i gwnai yn dir da i dderbyn had yr hauwr Cymreig, oedd a'i natur yn llawn dwyster, cyfriniaeth, a gwres. Yn wir, rhoddodd y pulpud gyfle ardderchog i'r doreth barddoniaeth oedd yn ei natur lifo allan. Mor fyw y disgrifiai gyni'r ddafad goll a thaith ol—a—gwrthol y bugail, ac mor ufudd y bu ansoddeiriau iddo wrth ddarlunio'r nef a gorymdaith Ffordd y Gofid! Cymro ydoedd fel pregethwr yn ymdrechu, fel rheol i wthio'r gwir i'r galon, ac nid ei yru'n bwyllog trwy'r deall, y gydwybod a'r ewyllys, ac onid oedd yn hyn o beth, fel y rhelyw o bregethwyr mawr ei wlad, yn apelio at y llecyn mwyaf disgybledig ym mywyd ei genedl? Yn ei berthynas á chrefydd credaf mai yn ei ysbryd yr oedd ei fawredd. Yr oedd mor deimladwy a chariadlawn, mor serchog a diniwed, ac mor eang ei gydymdeimlad nes ei wneyd yn un o'r dynion mwyaf ennillgar yn y wlad. Dichon nad oedd yn hynod am rym ei argyhoeddiadau, canys ni bu raid iddo ymladd ei ffordd i'r goleu, a darganfod gwirioneddau'r Efengyl drwy gyfyngderau ac ing enaid. Cawsai efe ei gred yn etifeddiaeth, ac nid amheuodd erioed gadernid ei sail. Mater o ysbryd yn hytrach nag ymdrech oedd crefydd iddo ef. Er yn perthyn i'r Annibynwyr, ni bu erioed yn dadleu dros egwyddorion gwahaniaethol ei enwad, nac yn ymladd ym mrwydrau gwleidyddol y genedl. Paham hyn, tybed? Credaf ddarfod i mi eisoes awgrymu'r atebiad. Pobl yr argyhoeddiadau cryfion sydd yn myned i'r bylchau cyfyng; ond yn aml brwydrant dros y gwir mewn ysbryd anrasol iawn. Mewn Un yn unig y cafwyd gras a gwirionedd" mewn cyfuniad perffaith. Welwyd mo Hwfa Môn, yn aml, ond ar lwyfanau leted â'r genedl gyfan—llwyfan yr eisteddfod a maes y gymanfa, canys ni allai efe drywanu Cymro er cyfeiliorni o hwnw'n bell. Credaf na bu neb yng Nghymru yn gyn lleied o ddyn plaid ag efe, ac er mai clod amheus yw hynny weithiau, barnaf mai angen pennaf cenedl fechan fel nyni yw dynion o gyffelyb ysbryd i Hwfa Môn—o anwyl a thirion goffa. Cymro, dybygaf, yw y bardd—bregethwr, oblegid nis gwn fod pregethwyr unrhyw wlad arall yn barddoni cymaint a phregethwyr Cymru, na beirdd unlle arall yn pregethu fel awenyddion ein gwlad ni. Yr oedd Hwfa yn fardd ac yn bregethwr, ond er hynoted ydoedd yn pregethu'r gair, y bardd oedd amlycaf ynddo ef. Yr oedd y darlun yn fwy na'r wers, a'r lliw yn gliriach na'r egwyddor yn ei bregethau. Camp y bardd yw cuddio'r wers, camp y pregethwr yw ei dangos. Gwir, fod ambell ddisgrifiad barddonol yn cynyrchu teimladau dwysion, ac yn codi cwestiynau lu, ond y darlun tlws sy'n creu ac nid yn dangos y pryd hynny. Ceisiodd Hwfa ddwy goron dau arwr ei genedl, y bardd a'r pregethwr, a bu nesed i'w cael a nemor un; ond bu Duw yn ffyddlon i'w reol—nas gedy i neb goncro mwy nag un byd, ac fel bardd y bernir Hwfa Môn gan Gymru'r dyfodol. Yn y pulpud y cafodd y blas cyntaf ar boblogrwydd, ac awr bwysig mewn bywyd yw awr y blâs cyntaf, am mai yn honno fel rheol y taenir rhwydi tynged dros yrfa pob dyn. Fel y phïol o'r hon yr yfodd Trystan ac Essyllt, y mae defnydd rhamantau oes yn y diferion cyntaf a yfir o gwpan blâs. Fel y câr y Sais arwr y chwareudy, felly yr anwyla'r Cymro wron y pulpud, ac am oes faith bu'r Cymry yn eistedd dan weinidogaeth Hwfa, fel yr eistedd gwahoddedigion mewn gwledd. Ond y diwedd a ddaeth, a machludodd yntau yn fendigedig o dlws. Hardd yw syllu ar ymddatodiad grasol, ond gwelwyd llawer arwr yn cilio i'r gorwel fel un heb weled tlysni gorllewin, na dysgu'r gelfyddyd o ffarwelio 'n rasol. Gwnaeth Hwfa Môn hynny, a phan yn gweled oes newydd a thraddodiad newydd yn dod i le'r hên, gwenodd efe wrth gyfarch yr oes newydd, a gwyrodd i'r anocheladwy fel tywysog. Dichon nad oedd yr hen wron yn deall ond ychydig iawn ar ysbryd a delfrydau y Gymru newydd oedd yn amgau o'i gylch yn grefyddol a llenyddol; ond hyn sydd wir, Cymraes oedd natur Hwfa Môn, ac yr oedd honno wrth reddf yn bendithio popeth oedd yn dwf o gred a thraddodiadau y genedl yn y gorphennol.
III.
Canrif fawr yn hanes Cymru oedd y ddeunawfed. Dyna ddyddiau'r Cyffrawd crefyddol grymusaf a brofodd y genedl. Yn ei dechreu yr oedd athrylith Pantycelyn yn troi profiadau dyfnaf ei genedl yn ganu, a thua'r diwedd yr oedd athrylith drefniadol Thomas Charles yn rhoi llun a threfn ar gynyrchion y Pentecost, ac enaid Ann Griffiths yn ymarllwys yn yr hymnau mwyaf angerddol a glybu'r byd erioed. Dichon mai dau ddylanwad cryfaf y Diwygiad ar lenyddiaeth y genedl oedd gogwyddo 'r meddwl at y Beibl a'r byd ysbrydol, a meithrin serch y bobl at ganu rhydd. Athrylith, yn unig, fedr gysegru arfau llenyddol. Coded rhyw Bantycelyn neu Ann Griffiths i ganu emynau, a bydd bywyd y pennill yn ddyogel, nydded rhyw Dafydd ab Gwilym gynganeddion ac nis derfydd am y cywydd, a thra bo telynegion Ceiriog yn dihidlo miwsig i glust y wlad ceir rhywun beunydd yn "ceisio canu cân." Mantais fawr i hoedl y gynghanedd oedd i Oronwy ei phlethu yn yr un oes ag y canai Pantycelyn ei bennillion. Fodd bynnag, yn nechreu y bedwaredd ganrif ar bymtheg, cawn rywbeth tebyg iawn i adweithiad yn digwydd. Ymrwyfai llawer yn anesmwyth yn erbyn disgyblaeth y seiadau, a daeth serch y Cymro at ramant, lliw a chlec i wrthryfel a Phuritaniaeth gyfyng "pobl y seiat.' Aed am ymwared at yr Eisteddfod, yr hon a groesawai gan ddigri, ac a achlesai hen ddefion a choelion y genedl. Yn fuan cyfyd traddodiad llenyddol newydd ac ysgol newydd o feirdd—yn cael eu blaenori gan Dewi Wyn, yr hwn a anwyd yn 1784 ac a nyddai gynganeddion cryfion, cywrain, yn nechreu 'r ganrif ddiweddaf. Yn ei oes ef yr aeth y beirdd i ogoneddu 'r gynghanedd groes, ac i ddiystyru, i raddau pell, y lusg a'r sain, ar waethaf y defnydd a wnaed o honynt gan y ddau feistr—Dafydd ab Gwilym a Goronwy. Rhyw ddeunaw mlwydd yn iau na Dewi oedd Eben Fardd, athrylith yr hwn a osododd fri mawr ar y gynghanedd, a thrwy ei gefnogaeth i gyfarfodydd llenyddol a wnaeth fwy na neb arall i greu a meithrin eisteddfodaeth yng Nghymru. Denwyd athrylith y wlad i'r Eisteddfod, gwnaethpwyd arwr o'r bardd cadeiriol, ac aeth blaenion y genedl i ymgiprys am safle'r pen campwr barddol. Dyna fel yr oedd pethau yn oes Hwfa, ac ymroddodd yntau fel ei gydoeswyr enwog—Caledfryn Hiraethog, Ap Vychan, Emrys ac eraill i ennill llawryfon yr Eisteddfod, ac ar ei llwyfan hi, yn 1862, pan y trechodd efe Eben Fardd ar awdly Flwyddyn," cafodd flas anniwall ar lwyddiant, ac hyd ei farw, yr oedd yr ysfa gystadlu yn llosgi yn ei waed. Bu gan yr Eisteddfod ddylanwad cryf ar ddatblygiad ei feddwl, ac fel y câr plentyn rodio'n llaw ei fam, y carai yntau ddilyn yr Eisteddfod. Ergyd englyn pert, cainc y delyn—deir—rhes, a meini'r Cylch Cyfrin oedd ei dri gwynfyd; ac yr oedd ei serch at ddefod gryfed ag ydoedd yn nerwydd yr hen oesau. Cyfunid grym a hud yn ei bersonoliaeth a'i gwnai yn hynod ym mhlith dynion. Nis gallai arlunydd fyned heibio iddo heb lygad rythu, na phlentyn ei weld a'i anghofio; a rhaid bod rhywbeth arbennig mewn wyneb all hudo celfyddyd a swyno plentyndod. Anodd penderfynu faint o'r Celt a'r Iberiad sydd yng ngwaed Cymro yr oes hon, ond y mae'n sicr fod y Cymry wedi etifeddu cariad y ddwy gainc at ymddangosiad golygus a glân; ac wrth ddarllen barddoniaeth y genedl o'r amser boreuaf, canfyddwn fod y bardd yn rhoi sylw neillduol i'r llygad yn ei ddarlun o dlysni, ac hyd heddyw y mae cryn lawer o'r llygad glâs" yng nghaneuon serch y wlad. Ceir yn llenyddiaeth henaf y byd gryn sylw'n gael ei wneud o'r gwallt,' a hwnw gan mwyaf yn "grych," pan yn disgrifio prydferthwch, a dichon nad oes ystyr neillduol i'r cyplysiad Cymreig o lygad a gwallt' fel dau anhebgor tlysni, ond bid a fynno, dyna'r ddwy elfen amlycaf yn narlun y bardd Cymreig o dlysni mun. A phwy a feddai ddau lygad cyffelyb i Hwfa Môn Ac os nad oedd ei wallt yn droellog, yr oedd yn fwyn a hirllaes, ac yn disgyn ar yr ysgwydd fel edau o bali gwyn. Credaf nad oedd Cymro'n fyw a feddai wyneb mor gyfrin—dlws a Hwfa Môn. Ceid haen o harddwch drosto 'i gyd, ac yr oedd rhyw fwynder rhyfedd ar ei rudd, a chyfriniaeth bell yn ei lygad. Son am lygaid ! Gan bwy y bu eu bath? Yr oeddynt fel dwy ffenestr dlos o'r rhai y syllai personoliaeth orchfygol—yn awgrymu cyfriniaeth, urddas a chariad, i'n holl natur. Welais i erioed lygaid mor fynegiadol â'i rai ef. Mae'n gof gennyf eu gweled fel ffynhonnau o ddagrau, ac hefyd yn loywon gan fellt, ac erys eu trem ger fy mron byth. Yr oedd llygaid mor fychain mewn wyneb llyfndeg, braf, a chorff mor dywysogaidd yn fynegiadol dros ben. Gosodwyd ef, gan genedl gyfan, drwy ryw gydsyniad greddfol, yn olyniaeth y derwyddon, a gallwn feddwl am dano yn trin y cryman aur ac yn tori'r uchelwydd yn deilwng o offeiriad y cynfyd. Diau i bersonoliaeth Hwfa Môn wneuthur llawer i wisgo seremonïau'r orsedd ag urddas a gwedduster, ac od oedd ambell ddefod yn wrthun yng nghyfrif rhai, yr oedd ymddangosiad yr archdderwydd yn dlws anniflan. Cwynir fod estron bethau yn ymgrynhoi o gwmpas yr Eisteddfod, ond hyd y flwyddyn ddiweddaf yr oedd wyneb a bloedd Hwfa Môn yn ddigon i argyhoeddi'r bobl, mai Cymraes oedd yr hen wyl, ar waethaf popeth. Pan aeth ef i gadw noswyl collodd yr orsedd ei cholofn gadarnaf, a'r llwyfan Gymreig yr wyneb harddaf a welodd erioed.
Pennod II
FEL BARDD, YM MESURAU'R GYNGHANEDD.
GAN Y PARCH. H. ELFED LEWIS, M.A., LLUNDAIN.
MEGIS y mae un darlun yn ennill sylw a magu hyf rydwch fel cyfan waith urddasol, ac un arall trwy amryw swynion ar wahân geir ynddo, un, dyweder, yn ddarlun mawreddogo fynydd llydansail, talgryf, a'r llall yn rhoddi cipolwg hudolus ar lain o wyrddfor rhwng hollt yn y bryniau,—felly hefyd gyda gwaith y bardd. Y mae un yn cyffroi'r galon trwy swyn amryw awgrymiadau na wyr neb pa mor bell y cyrhaeddant; a'r llall yn agos atom, yn dangos y cyfan yn fanwl ac yn glir, heb fawr o awgrymiadau pell. Y mae'r meddwl unochrog yn cael ei demtio i farnu nas gall y ddau fod yn feirdd: ac er mwyn dyrchafu un, rhaid iddo gael dibrisio'r llall. Ond y mae lle a gweinidogaeth i'r ddau: a gellir, trwy ddiwylliant, feithrin digon o gallineb i gydnabod gwerth y ddau. Rhed un oes ar ol y naill, ac oes arall ar ol y llall: ond wrth godi rhyw gymaint uwchlaw'r oes, rhoddir i'r ddau y cyfiawnder sydd ar law Amser i'w rannu. Tua chanol y ganrif o'r blaen, prin y mynnai'r meddwl Cymreig ddim o'r cyfriniol mewn barddoniaeth: er ys blynyddoedd bellach, prin y mynn ddim arall. Rhwng y ddau y mae tegwch barn yn trigo.
I'w oes y perthynai Hwfa Mon, ac ol ei oes arno. Yn ei awdlau, a'i farddoniaeth gaeth yn gyffredin, ni cheir fawr o'r cyfriniol; darlunia'n fanwl y golygfeydd sydd o'i flaen, gan orphen y darlun yn ofalus a gweddus: a dyna'i gryfder. Ychwanega air at air, a llinell at linell, bron yr un, oll, o ran ystyr, er mwyn bod yn sicr o wneud y darlun yn gyfan; a gedy'r darlun heb fawr o oleuni crebwyll arno. Sylwer, er engrhaifft, ar ei ddarlun o'r brain, yn awdl y Flwyddyn, ar ol i'r hauwr fwrw i'r gwys "eurliw ddyrneidiau irlawn".
A heidiau o frain hyd y fro,—eilwaith
A welir yn neidio;
A'u golwg craff yn gwylio—hyd ochr nant,
Heb rif adwaenant eu briwfwyd yno.
Disgyn heidiau,———A'u cysgodion
Fel cymylau,———Daenant weithion
O'r wybrenau,———Yn ordduon
Ar y braenar:———Ar y ddaear.
Hwy heidiant ar ddywedydd, yn gynnar,
O ganol y meusydd;
Crygiant goruwch y creigydd,—gan chwara u
Yn dduon gadau am nawdd hen goedydd.
A llaesant uwch y llysoedd—eu hesgyll,
Gan ddisgyn o'r nefoedd ;
Ac yno wrth y cannoedd—ymnythant,
Ac hwy adleisiant trwy y coed—lysoedd.
A llais y fran o'i llys fry,
Ar hyd wybren red obry;
Rhwng brigau, cangau y coed,
A brasgeinge tew y brysgoed:
O dan gysgod, dewdod dail,
Trwy geuedd troiog wïail,
Yr heliwr, adarwr du,
A laddodd y frân loywddu.
Dyna ddarlun cyflawn
wedi ei drefnu yn ofalus a'i orphen yn effeithiol brain Cymru ydynt, y brain adnebydd y gwladwr Cymreig mor rhwydd yn llinellau'r bardd ag ar feusydd had ac yng nghysgod hen goedydd. Nid ychydig o dalent a deheurwydd oedd eisieu i wneud yr olygfa mor fyw, mor gartrefol. Cymerer, eto, o'i awdl ar Ragluniaeth," ddarlun y fronfraith:
A rhodda bronfraith, oddi ar wyrdd brenfrig.
Fyw alaw hudol, a nefoledig:
Dawnsia, ail bynycia â' i big—gerdd lawen,
Fwyn, hyd y goeden, yn fendigedig.
Wedi blino 'n pyngcio pill,
Eilio bannau mêl bennill,
Daw i lawr o'i gaead lwyn,
Hyd oerlif, o'i dew irlwyn:
Oera 'i big, greadur bach,
Yn y llyn, a dawn' llonnach;
A heb oed, ail gwyd ei ben,
Ysgydwa 'i ddilesg aden;
Ac yna y tlws ganwr
Rydd glod au ddiod o ddwr;
A difyr heda hefyd,—yn ei ol,
I'w bren siriol, a bron na sieryd!
Nid ychydig o gamp yw ail lunio Natur mor fanwl, mor gywirgraff, mor ddymunol. Y mae rhyw fath o freuddwydio yn haws o lawer na hyn.
Profedigaeth bardd o'r dosparth hwn yw myned yn was geiriau. Ac ni byddai na chall na charedig i ddweyd fod Hwfa Mon wedi osgoi'r brofedigaeth hon. Y mae ei feithder weithiau yn dwyn blinder; a cheir ef, bryd arall, o ganol hyawdledd, yn troi'n ddigon dinerth. Er engrhaifft, yn ei awdl i Owain Gwynedd—awdl gymharol fèr, danbaid, awenyddol yn niwedd araeth Owain, a honno'n araeth gref, hyawdl, —ceir dwy linell fel hyn:
Nid gorwyllt nwydan geirwon—oedd araeth
Ddyddorol ein gwron.
A allai dim fod yn wanach na'r gair "dyddorol," o dan y fath amgylchiadau? Y mae'r gair, gair bach llanw'r papyr newydd, bron a'n rhwystro i deimlo grym y llinell sy'n cloi yr englyn—
Ond araeth yn creu dewrion.
Gallwn ddilyn ei eirgarwch i gyfeiriadau ereill. Bathai eiriau yn ei hwyl, ac at ei amcan; ac os cynyrchodd rai di lun, cynyrchodd lawer o rai cryfion. Onid oes dawn ar gynnull a dethol geiriau cymhwys, a darlun byw bron ymhob un, yn y darn cywydd hwn, er enrgrhaifft?—
Edwi mae y blodau měl,
O naws y dyffryn isel;
Gwelwon yw meillion y maes,
A dyfent ar flodeufaes:
Y sawrus lysiau, iraidd,
Edwinant, grinant i'r gwraidd;
Cwtoga y borfa bér,
Lasdeg oedd lawn melusder;
Teneua, gwywa y gwellt
A'r barug döa'r byrwellt;
Y blagur a oblygant,
Pengrymu, a nychu wnant;
A'r lili siriol eilwaith
Yn y llwyn, a'i grudd yn llaith,
Wywa o' i thwf y waith hon,
A churia urdd ei choron.
Onid yw geiriau fel "blodeufaes," "cwtogi," "teneuo," "pengrymu "—yn y cysylltiad lle'u ceir uchod—yn talu'n dda am eu lle ? Cymerer eto rannau o'i ddesgrifiad o'r Ddaeargryn—gan fod yr oll yn rhy faith i'w ddyfynu—ac onid yw fel prophwydoliaeth am alaeth San Francisco ?
Y trydan gwyllt a reda, |
Tyr ei nherth—tery yn ol |
Yma eto teimlwn fod gan y bardd awdurdod ar eiriau newydd a hen, o bell ac agos; deuant i'w lle wrth ei alwad; ac fel yr ymgodai caerau'r ddinas gynt wrth sain telyn Orpheus, felly yr ymgyfyd y llinellau cydnerth hyn, gair wrth air, gan lais cân yr awenydd. Ni fuasai un desgrifiad o hono fel bardd, yn y diriogaeth lle y cerddwn ar hyn o bryd, yn gyflawn heb enwi ei hoffder at liwiau disglair, fel at seiniau croch. Fflamia'r fellten, disgleiria'r gem, rhua'r daran a'r rhaiadr, yn fynychach yn ei waith ef nag yng ngwaith un bardd Cymreig arall. Y mae wrth ei fodd ynghanol rhwysg a thwrf Natur.
Mae anian yn fflam wenwawr,—hyd orwel |
***
Ar ofwy, drwy'r holl bedryfan,—y daw
Engyl ystorm allan;
A Duw, mewn cerbyd o dân,
Inni ddengys Ei Hunan!
Naf rodiodd yn Ei fawrhydi—heddyw
A rhoes addysg inni:
Duw glân, Tad y goleuni,
A: roes â mellt wers i mi.
Tra y mae'n wir mai mewn cyfanwaith eang y mae ei gryfder amlycaf fel rheol, y mae ganddo lawer englyn, neu ddarn bychan gloyw, ar ei ben ei hun, mewn cywydd neu awdl, sy'n profi y medrai rodio 'n agos atom a chanu yng nghywair telyneg. Os hoffai yn reddfol i'r sain ddatseinio
"Trwy yr awyr ar glustiau eryrod,"
ys dywed am glod Owain Gwynedd, ac os hoffai wneud
"anferth goelcerthi,—yn flamgochion
Fenyr, ar eirwon fannau yr Eryri,"—
ymfoddlonai lawer tro ar iaith fwy gwylaidd, a lliwiau mwy dystaw. Dyma ddesgrifiad grymus o weddi Elias:
Ei enaid a riddfanodd.
Yn y drych—ei riddfan drodd
Yn awr drwy fröydd y nen,
A' i sibrwd droes y wybren,
A'i nofiawl gymyl hefyd,
Yn sychion, gochion i gyd.
Dyma haelioni Rhagluniaeth, na wyr am "bartïol farn": V Dyry ei bwyd i'r dryw bach. A'i dylwyth yn y deiliach; Tyrr i aderyn y tô Ei bendith dan y bondo. </poem> }} Dyma wrolder yr eryr:
Ac eryr ar fainge eira, —yn astud
Eistedd yn ei noddfa,—
Ac wedyn y coda—hyd orwelion
Wybrenau noethion, a breñiniaetha!
Edn hyf! na synned neb
Ei weld wrth dragwyddoldeb!
Noa yn yr arch:
Noa eilwaith a'i anwylyd,—hynaws
Ymddiddanai'n hyfryd:—
A mawrion donnau moryd
Yn rhuo barn ar y byd!
Ynghanol rhwysg a grymusder awdly "Flwyddyn," ceir darlun tyner o'r fun gystuddiedig" yn troi allan yn wyneb haf, gan "leddfus yngan emynnau, mewn dagrau: daw i'r ardd dan chwenychu yn ddi—ddrwg
Ryw wan ail olwg ar y wen lili:
er llesged, iacheir ei chalon gan "aroglau almonau mêl":
Ei llaw wen trwy y llwynau—a estyn,
Yn ddystaw am flodau;
Yno o hyd gwna fwynhau
Eu llewyrch tlws a'u lliwiau.
Wrth edrych ar ei waith mewn cynghanedd gyda'i gilydd tueddir fi i osod awdlau y "Flwyddyn," y "Bardd," ac "Owain Gwynedd," a chywydd y "Gweddnewidiad," gyda detholiad o'i Englynion, fel ffrwyth goreu ei awen. Y mae yn awdl "Rhagluniaeth" rannau ardderchog: ond ymddengys i mi ei bod yn rhy gwmpasog ei chynllun, a darnau o honi yn rhy agos at ryddiaith—hanesion y Beibl ar gynghanedd. Y mae arwydd o lesgedd yn ei awdlau diweddaraf—megis "Noddfa," a'r "Frenhines Victoria "—sydd yn gwrthod lle iddynt gyda'i waith boreuach. Ond ceir llawer o'r hoywder gynt, a mwy na hynny o'i natur dda, a'i foneddigeiddrwydd, a'i ysmaldod hoffus, yn yr "awdlau byrion" arferai ysgrifennu y blynyddoedd diweddaf ar gyfer agoriad yr Eisteddfod genhedlaethol, o flwyddyn i flwyddyn. Ni cha Hwfa Môn mo'i haeddiant heb ei osod ynghanol ei oes, a heb ryw gymaint o'r natur agored a'r galon radlawn oedd yn rhan o'i gynhysgaeth. Y mae meithder ei gerddi, i oes frysiog fel hon, yn peri i lawer un golli amynedd a'i adael cyn cael y cwbl sydd ganddo. Perthynai i Gymru Fu": y mae mwy o ôl yr hen nag o naws y newydd yn ei awenwaith. Bron na thybiem mai efe yw'r olaf o feirdd yr hen ddosparth: cododd Cymru newydd o 'i: amgylch tra yr heneiddiai, nad oedd ac nad yw yn ei ddeall ef na'i ddosparth yn iawn. Ond nid yw hynny'n golygu ei fod ef na hwythau heb eu lle arosol yn llenyddiaeth Cymru. Newidia'r hin eto, daw awel arall dros feddwl y genedl; ac yn ei dymor caiff pob bardd ei gynulleidfa a'i glod. Rhaid i feddwl cenedl, fel tir âr, gael newid had o dro i dro: rhaid iddi gael y darlunydd syml, rhaid iddi hefyd gael y gweledydd; rhaid iddi gael arweinydd i fyd agos Natur, rhaid iddi gael hefyd un i'w thywys i dir pell yr ysprydol.
O'r isel froydd, a'u glenydd gleinion,
Dros heulawg fryniau, a'u gwenau gwynion :
Heibio i'r cymylau, doau duon,
Dyrcha'i olwg hyd yr uchelion :
A thynna mewn iaith union—ddarluniau
O'r holl fynyddau, a'u gelltau gwylltion.
***
Ei awen gref a hefyd
I'r bythol anfarwol fyd,
A rhodia mhlith ysprydion
Ar hyd taleithiau yr Ion.
Awdl Y Bardd.
Anfynych y ceir bardd yn arglwydd y ddeufyd hyn: digon o deyrnas yw un o'r ddau fyd iddo. Ond doeth o beth fyddai i feirdd a beirniaid un byd, gofio hawl a haeddiant beirdd y byd arall. Nid ymrafaelio am flaenoriaeth, ond cydweithio, yw anrhydedd pennaf yr oll.
Pennod III.
BARDDONIAETH RYDD HWFA MON.
GAN Y PARCH. JOHN T. JOB, BETHESDA.
EITHRIAD prin iawn yw cael bardd yn ein plith sydd wedi rhagori i raddau cyfartal yn Nau Ddosbarth y Caeth a'r Rhydd— Fesurau. Yn wir, tybed a oes yr un? Pe gofynnid i'n cenedl ni, i ba un o'r ddau ddosbarth hyn y perthynai Hwfa Môn, ni cheid ond un ateb ganddi—Dosbarth y Caeth. Y gwir yw, mai'r Mesurau Caeth aeth â'i fryd ef; a dilys gennyf mai yn y Mesurau hynny y cyfansoddodd efe ei bethau goreu. Eto, belled ag y mae a fynno cywirdeb iaith (ffurfiau cywir geiriau &c), a broddegiaeth lân a chyfan &c a'r cwestiwn, credaf y cytunir y ceir mwy o wallau yn ei Farddoniaeth Gaeth nag yn ei Farddoniaeth Rydd. Hwyrach mai'r demtasiwn sydd y'nglŷn a'r gynghanedd, sydd i raddau. pell yn gyfrifol am hyn: canys y mae ysfa'r gynghanedd wedi arwain llawer i fardd cyn hyn ar ddisperod—i ystumio iaith ac i frawddegi'n llac; ac un o lawer o bechaduriaid— anrhydeddus ddigon mewn ystyron eraill—ydoedd Hwfa Môn yn y cyfeiriad hwn. Dylid cofio cofio hefyd nad ydoedd cyfnod yr Uchfeirniadaeth Gymreig wedi gwawrio yn nyddiau anterth Hwfa: yn wir, weithian y mae y Cyfnod hwnnw'n gwawrio. Ac nid yw ond teg beirniadu pob bardd yng ngoleuni ei oes ei hun. Ac felly y'nglŷn â Hwfa Môn.
Wrth edrych drwy y Ddwy Gyfrol o'i Waith Barddonol, cyfarfyddir â thoreth o farddoniaeth ddisglair yn y Mesurau Rhydd. Weithiau, synnir ni gan feiddgarwch ei ddychymyg, tynerwch ei gyffyrddiadau, ac yn bendifaddeu gan gywirdeb a bywiogrwydd ei ddisgrifiadau. Ac yma gellir sylwi mai bardd disgrifiadol ydoedd yn bennaf: nid oedd yn perthyn o'r ganfed ach i'r Ysgol honno a adweinir fel Ysgol y Bardd Newydd. Na,—Hên Fardd ydoedd Hwfa—hên fardd cryf a rhadlon a thrwyadl—Gymreig. Fel ei gorph, felly yntau: hên dderwen braff, aml—geinciog, a chaeadfrig ydoedd,—â'i brigau yn gwybod dim ond am awelon Cymreig: dyna Hwfâ.
Gwyr pawb am ei gân i'r "Ystorm." Ni chaniatâ gofod i mi ddyfynnu'n helaeth o unrhyw ddarn o'i eiddo. Sylwer ar y cyferbyniad yn y ddau ddarlun hyn:—
Gorwedda'r defaid
Yn y twyn,
I wrandaw cerdd
Y bugail mwyn;
Breuddwydia'r gwartheg
Dan y pren
A'r borfa'n tyfu
Dros eu pen!
Mae'r adar mån
Yn gan i gyd
Yn pyncio'u dawn
Am rawn yr yd:
Mae natur fel
Nefolaidd fun
Yn hoffi siarad
Wrthi 'i hun!
Ond—dyna udgorn yr ystorm wedi galw; a dacw'r elfennau'n ufuddhau:—
Mae'r haul yn tywyllu! Mae'r mellt yn goleuo! Mae'r wybren yn crynu! Mae'r dyfnder yn rhuo! Mae mellten ar fellten! Mae taran ar daran! |
Mae Duw yn dirgrynu Colofnau pedryfan! Mae'r ddaear ar drengu! Mae'r nefoedd yn syrthio! Arswyded y bydoedd!— MAE DUW'N MYNED HEIBIO! (I. tud. 34—5.) |
Dyna Ystorm berffaith, a Duw yn ei marchog!
Mewn darn cryf arall ar Y Cleddyf," terfynnir fel hyn:
Rhyw ddigorph ysbryd fel drychiolaeth ddaeth
I fwngial yn fy nghlust y syniad hwn :—
"Ystyria synllyd ddyn, wrth wel'd y CLEDD
Yn lleipio moroedd gwaed, gan duchan moes,
Nad yw ei nwydol wanc a'i danllyd får
Ond syched tafod damniol gythraul mud!"
(I. tud. 38.)
Syniad ofnadwy, onidê—Hwfä-aidd felly.
Ac yn y darn ar "Y Fagnel," disgrifia'r haul yn rhedeg drwy y nef ar—lwybr o dân"; ac yna:—
O ogof melldith yn ystlysau'r graig
Y llwybrai dynol ellyll tua'r maes,
Lle gwibiai dreigiau rhyfel yn eu bâr
Gan ruddfan am yr awr i sugno gwaed
O bwll calonau dewrion cryfaf byd.
A syndod y byd!—y mae Magnel Hwfa, wedi ei—
Chloddio gan ryw gryfion ddieifl
O ddanedd creigiau diffaeth affwys ddofn;
A thrwy ffwrneisiau melldith ffurfiwyd hi
I arllwys soriant barnol ar y byd.
Y gwaeau erchyll geulent yn ei bru,
Gan dwchu ar eu gilydd trwy y gwres;
Ac yn ei cheudod llechai angau blwng,
Gan fud ymborthi ar elfenau brad.
(I. tud. 215.)
Ystyriaf ei fod weithiau yn ei ddisgrifiadau yn eithafol, yn ffinio ar y grotesque, os nad yn wir yn bradychu diffyg barn a chwaeth dda. Cân gref iawn drwyddi yw "Dydd y Frwydr." Beth yn fwy barddonol na'r pennill hwn'?—
Y march rhyfelawg ydoedd
Yn chwareu ar y ddol;
A gwellt y maes yn codi
I edrych ar ei ol;
Trwy faes y frwydr carlamai
Nes colli'i waed bob dafn;
Ac ar y cledd y trengai
A tharan yn ei safn!
(I. tud. 230.)
Wele gân ardderchog o destynnol, i'r "Eryr":—
Wrth olau'r lloer ryw noson
Y crwydrais drwy y glyn;
Ac yn ei llewyrch canaid
Canfyddais eryr syn,
Yn sefyll ar y clogwyn
I yfed awyr iach,—
A'i esgyll wedi'u trochi
Yn ngwaed rhyw faban bach.
Ar ael y graig dragwyddol
Y cysgai'r eryr mawr;
A thrwy ei gwsg pendronol
Breuddwydiai am y wawr;
A chyda'r wawr ehedai
Drwy froydd yr awyr glaer,
A'i esgyll gwaedlyd olchai
Yn nhònau'r môr o aur!
Ar donau'r dydd chwareuni
Gan fynd o nen i nen,
A sér, uwch sèr, a chwarddent,
A synent uwch ei ben;
Ac yntau'n hyf a'u pasiai,
A mawredd ar ei ael;
Ac uwch, ac uwch esgynai
Nes dawnsiai yn yr haul!
(II. tud. 25—6.)
Mae'n amheus gennyf a ganwyd gwell cân na honyna i'r "Eryr," mewn unrhyw iaith. Mae'r darlun yn berffaith; pob gair yn ei le; pob cyffyrddiad yn effeithiol. Dyna'r Eryr! onidê? Mae'n ofnadwy o Eryraidd!
Cán dyner, ddwys, yw ei gân ar "Einioes Dyn" (I. tud. 44—5); a "Bryneiriol yn Ddu" (I. tud. 138—141). Ac wele gân brydferth o'i eiddo ar "Y Lili Wen":—
Y Lili Wen, oleuliw wawr,
A dyf yn ngardd y Palas mawr;
Y Lili Wen, mewn awyr iach,
A dyf yn ngardd y bwthyn bach.
Y Lili Wen, o blith y drain,
A wêna ar y dduwies gain;
Y Lili Wen, lon eilun ffawd,
A wêna ar y weddw dlawd.
Y Lili Wen, dan goron wlith,
Anwylir gan y blodyn brith,—
Y rhosyn gwyn, a'r rhosyn och,
A wylant am gusanu'i boch.
Y Lili Wen, a'i nefawl swyn,
A huda angel at y llwyn;
A rhed angyles hyd yr ardd
I'w rhoi ar fron ei cherub hardd!
(I. tud. 73.)
Sylwer ar symlrwydd a chartrefolrwydd y dyfynniad hwn o'i "Fwthyn ar lan yr Afon":—
Y tad a'r fam eisteddent
Yn siriol wrth y tân;
A'r plantos bach chwareuent
Oddeutu'r aelwyd lân;
Y moethus gi orweddai
I gael mwynhau ei hun—
Er mwyn i'r ferch anwylaidd
'Gael yno dynui lun
Y Bibl mawr teuluaidd
Estynid ar y bwrdd;
Er cadw y ddyledswydd
Prysurai pawb i'r cwrdd:
Ac wedi cânu penill
Oedd beraidd iawn ei flas,
Cydblygai pawb yn wylaidd
I gyfarch gorsedd gras.
(II. tud. 35—6.)
Hapus iawn hefyd, yn y llinnell hon, yw ei Efelychiad o "Village Blacksmith" Longfellow (I. tud. 384).
Ond ei brif orchest yn y Mesur Rhydd yw ei Arwrgerdd ar "Owen Glyndwr," a enillodd iddo y wobr yn Eisteddfod Caerfyrddin yn 1867,—cerdd uwchlaw tair mil o linellau. Cerdd hanesyddol ydyw o ran ei chynllun; ond cerdd hynod o effro a chyffrous ei disgrifiadaeth : mae'r swn arwol yn cerdded yn rymus trwyddi; ac mewn llawer i adran, gwelir gallu disgrifiadol Hwfa Môn ar ei oreu—ac nid dweyd bach yw hynny. Peth sydd wedi'm taraw wrth ei darllen, yw llyfnder ei mydryddiaeth, a meistrolaeth amlwg yr awdwr ar y mesur: ni cheir nemawr i linnell afrwydd ei symudiad yng nghorph yr holl gerdd, yr hyn a brawf fod Hwfa Môn yn meddu clust dda: mewn gair, yr oedd canu yn ei ysbryd. Hwyrach y gellir ewynaw peth o herwydd tra— mynychiad yr un figyrrau; ond nid yw hyn i'w deimlo ond i raddau cymharol fychan. Credaf fod Owen Glyndwr yn destyn wrth fodd calon yr awdwr; canys, pa beth bynnag ydoedd Hwfa Môn, credaf nad oes neb a wâd iddo y cymeriad o Wron—addolwr; ac y mae'n rhaid wrth fardd felly i gânu Arwrgerdd dda. Nid rhyfedd, ynte, i Hwfa lwyddo ar destyn fel "Owen Glyndwr." Ni chaniatâ'r terfynnau i mi ddyfynnu nemawr o'r gerdd hon. Goddefer ychydig linellau:—
Delweddau ei henafiaid welir ar
Ei ysgogiadau yn y gwaedlyd faes;
Yn ei arwrol ddull, dyrchafai drem.
A diysgogrwydd cawr yn llenwi'i bryd!
O dan ei gamrau trymion, siglai'r llawr—
Ac wrth ei sangiad cadarn, tyrfai'r graig ;
A'i dolystainiad cryf arwyddai fod
Y GWRON synai fyd, yn sathru'i gwar.
Ei dywysogol ddull amlygai rym
Y meddylfrydau oedd fel tònawg för
Yn ymgynhyrfu yn ei galon fawr!
Ei dalcen llydan oedd fel marmor gwyn
Yn ymddisgleirio dan belydriad haul;
A'i lygaid creiffion fel ffwrnesiau tân,
O angerddoldeb ei feddylfryd eryf;
Ei wallt chwareuai tros ei dalsyth gefn
Fel godrau cwmwl du ar war ystorm!
A'i drwyn bwäog oedd yn dangos nerth
Ei benderfyniad mewn tymhestloedd blwng;
Delweddau'i ysbryd i'w wynebpryd llawn
A ymgyfodent, fel y cyfyd gwrid
Trwy wyneb eang wybr o wres yr haul!
Ei bendefigol drem fawreddog oedd
Fel gwyneb y ffurfafen, cyn i'r storm
Ymdori yn ei nherth, gan siglo'r nen,
Ac ysgwyd hyd eu gwraidd sylfaeni'r byd!
Ei eiriau oeddynt fel y daran groch,
Yn tori trwy y nen mewn llif o dân;
A thrwy ei ruol lais dychrynai myrdd,
Ac yn ei wyddfod gwelwai cryfion byd!
(I. tud. 249—250)
Yn ei gân "Yr Adfeiliad," ceir llai o ddychymyg—y mae cysgod ei henaint arni, a mwy o ffeithiau celyd bywyd ynddi; eto teimlir ei bod yn llawn o'r dwyster hwnnw sy'n dweyd mwy arnom, hwyrach, nag ehediadau dychmygol ei gerddi eraill:—
Yr olwyn wrth y pydew drydd
Bob dydd yn fwyfwy egwan;
Y foment olaf ddaw ar fyr,
A thyr y llinyn arian
Y llanc ysgafndroed, fu heb glwy,
Ar ofwy'n llamu'r afon;
Efe yn ebrwydd ymlesga,
A hoffa help y ddwyffon.
(II. tud. 133—6.)
Eto, mor ddwys—dyner yw ei "Odlig Henaint"; goddefer ddau bennill:—
Mae'm clyboedd gan henaint yn ffaelu
A chlywed mwyn nodau y gân,
Yr hon a fu'n toddi fy nghalon
Gan roddi fy nheimlad ar dân;
Ond er fod per seiniau y tànau
Yn cilio o'm cyraedd bob un ;
Caf eto yn nghanol distawrwydd.
Eu pyncio'n fy nghalon fy hun.
Mae clymau fy natur yn datod
O gwlwm i gwlwm o hyd;
A swn eu datodiad sy'n dwedyd
Fy mod yn dynesu o'r byd;—
Ond os ydyw clymau fy natur
Yn araf ymddatod bob un,—
Mae gennyf hên gwlwm cyfamod
Na ddetyd llaw angeu ei hun.
(II. tud. 273.)
Un ddawn arall a feddai Hwfa Món nad yw yn eiddo ond ychydig o feirdd y dyddiau diweddaf, sef yw honno—y ddawn Emynaul. Gweler Cyf I. tud. 393—"Bara Angylion," a'r" Winwydden Oreu"; Cyf II. tud. 31—"Cyfrif Beiau"; tud. 49.—Iesu yn Gymorth"; tud. 211— "Trefn y Cadw"; tud. 214—"Allorau Duw"; a thud. 302— Gwynt y Gogledd." Ni a ddyfynnwn dair engraifft :— {{center block| <poem> Peraidd fana yr Angylion Gefais yma yn y byd; Bara'r Nefoedd a'm cynhaliodd Rhag newynu lawer pryd; Profi gwleddodd mewn anialwch Ambell funud ar fy nhaith Droes yr anial er mor arw Imi'n Nefoedd lawer gwaith.
Gwin a darddodd o'r Winwydden Oreu yn y Ganaan wlad, Yw y gwin a yfaf yma Yn nghynteddoedd tŷ fy Nhad; Ac yn nghwmni'm hanwyl Iesu Pan y daw fy nhaith i ben, Caf ei yfed ef yn newydd. Byth o flaen yr Orsedd Wen. {{center block| <poem>
Chwythed gwyntoedd cryf y Gogledd
Yn fy erbyn yn y byd;
Af y'mlaen heb ddigaloni
Trwy y gwyntoedd oer i gyd;
Caf dawelwch
Wedi cyraedd pen y daith.
Bellach, y mae yr hên fardd rhadlon "wedi cyraedd pen y daith
a'r tragwyddol "dawelwch," ac yn yfed o ffrwyth y "Winwydden
Oreu" yn "newydd byth o flaen yr Orsedd Wen." Peraidd hûn i'w
weddillion yn naear hên ei Anwyl Wlad, yng nghyffiniau'r Rhyl, yn
swn suo-gân y môr.
Pennod IV.
FEL EISTEDDFODWR.
GAN Y PARCH. R. GWYLFA ROBERTS, LLANELLY.
Y MAE cyssylltiad a'r Eisteddfod wedi bod yn fath o anhebgor i fardd Cymreig am ugeiniau o flynyddau bellach. Ynddi hi y gwnai ei orchestion: drwyddi hi y delai i sylw y wlad, a bod yn llwyddianus yn ei gornest hi oedd yn rhoddi safle genedlaethol iddo. Prin hwyrach y gellir dweyd fod y ardd heddyw yn meddwl llawn cymaint o honi ag y gwnai y tô y perthynai Hwfa Mon iddo; a diau nad oes yr un mwyach yn credu mor drylwyr yn ei defion a'i hanes a'i hurddau ag efe. Er hynny y mae yn deilwng o sylw fod beirdd goreu ein cenedl, ac eithrio Goronwy Owen, wedi bod yn Eisteddfodwyr pybyr or bedwaredd ganrif a'r ddeg hyd yn awr, os nad yn gynt na'r ganrif honno.
Nid oes angen mynd ymhellach na'r Eisteddfodau Dadeni i weled hyn. Yn Eisteddfod Gwern y Clepa yn 1328, Dafydd ap Gwilym enillodd y gadair; yn Eisteddfod y Ddol Goch yn 1329, Shon Cent enillodd y gadair; yn Eisteddfod Powys 1330, Madog ap Gruffydd enillodd y gadair. Dyna'r tair fwyaf a phwysicaf a gynhaliwyd yn ein gwlad am lawer o amser, a gwelir fod yr hwn a elwir yn aml yn brif fardd y genedl yn ymgeisydd a buddugwr yn y fiaenaf. Pan ddeuwn i Eisteddfod fawr Caerfyrddin yn 1451, gwelir fod yno wyr fel Dafydd Nanmor a Llawdden a Dafydd ab Edmwnt yn cymeryd rhan flaenllaw ac yn cael eu dyfarnu yn oreuon y gwahanol gystadleuaethau. Drachefn pan eir i mewn i Eisteddfod Caerwys yn 1524, y mae 'r bardd ardderchog Tudur Aled yn ben gwr yn y sefydliad ac yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1568 y mae'r marwnadwr digymar William Lleyn yn amlwg yno wedyn. Ni chynhaliwyd yr un Eisteddfod o bwys mawr ar ol hon, nes y caed un Caerfyrddin yn 1819: ac yr oedd Gwallter Mechain a Robert ap Gwilym Ddu yn gystadleuwyr ynddi: ac o'r adeg honno hyd ein. dyddiau ni y mae pob bardd o nod a fagwyd yn ein gwlad wedi bod rywfodd neu gilydd ynglyn a'r sefydliad cenedlaethol. Cafodd rhai o honynt eu siomi yn dost, fel Dewi Wyn o Eifion er hynny i gyd cadwodd y mwyafrif eu cyssylltiad a'r Eisteddfod yn hir iawn.
Pan ddaeth Hwfa Mon i mewn i'r Cylch, yr oedd yr Eisteddfod yn bur wahanol i'r hyn yw yn awr. Nid oedd ei chymeriad yn hollol mor lan cynhelid hi fel rheol mewn pebyll neu yn un o gestyll ein gwlad fel yn Miwmaris a Rhuddlan a Chaernarfon: ond yr oedd llawer o lygredd y gyfeddach ynglyn â hi. Ciliai gweinidogion o ystefyll y beirdd yn aml o herwydd yr yfed a'r maswedd a'r malldod oedd yno. Hefyd cynhelid dawnsfeydd rhodresgar a gwleddoedd. mawrion yn yr hwyr, yn lle'r Cyngerdd a drefnir yn bresenol. Yr oedd cymaint o Saeson yn cael lle a sylw y pryd hwnw ymron ag yn awr; eithr yr oedd tôn wahanol i'r Eisteddfod: mwy o le i lenyddiaeth bur, llai o lawer o swn canu ag eithrio'r delyn, ac anfynych yr oedd yno ymgiprys corawl yn creu dadwrdd difudd. Ceid beirdd goreu y genedl yn parhau yn gystadleuwyr hyd eu bedd hefyd, fel Eben Fardd yn Nghaernarfon ychydig wythnosau cyn iddo farw; a bychan iawn oedd cylch y Cadeirfeirdd Cenedlaethol. Rhyw bump neu chwech oeddynt i gyd.—Caledfryn, Emrys, Nicander, Eben Fardd, Hiraethog a Gwalchmai. Yr oll yn troi o gylch y cewri hyn, a'r naill yn beirniadu'r llall yn ddidor, a chryn chwerwder yn eu plith, a drwgdybiaeth eithafol.
Dywedir mai tipyn yn oeraidd oedd y derbyniad roed i Hwfa Mon pan fentrodd gyntaf i ymyl y Cylch; ond profodd yn gynar y gallai sefyll yn gyfochrog â meistri yr Eisteddfod. Gwelodd gladdu yr hen wroniaid bob un. Safodd yntau ar y "Maen Llog" yn batriarch oedranus, a'r genedl gyfan wrth ei draed; ac ysgol newydd o feirdd ymhob ystyr, yn ymwyleiddio o'i flaen ac yn talu gwarogaeth urddasol iddo: heb gymaint ag un o honynt yn meddu golwg mor frenhinol ag efe. Ymhob ystyr y mae pethau wedi newid: nid oes ond ychydig o'r arferion Eisteddfodol gynt yn aros yn awr.
Yr oedd y bardd buddugol yn arfer darllen ei awdl i gynulleidfa fawr y diwrnod yr enillai,—gwnaeth Hiraethog hynny yn Eisteddfod Madog yn 1851. Y peth agosaf i hynny geid yn ddiweddar oedd Hwfa Mon yn darllen neu adrodd ei Fer—Awdl ar lwyfan yr Eisteddfod, ac y mae hynny wedi darfod bellach.
Yr oedd gwrando mawr a manwl ar holl feirniadaethau llenyddol y dyddiau gynt: ac yn wir dyna oedd gwledd benaf yr wyl,—clywed Caledfryn neu Eben Fardd yn darllen ei sylwadau ar y cynyrchion: eithr nid oes gan y cynulliad amynedd i hynny erbyn hyn, oddieithr i'r beirniad fod yn blingo a gwawdio y cystadleuwyr wrth ei swydd, a'r dorf yn gwybod mai felly y bydd pan gyfyd ar ei draed,—rhoddir rhyw fath o wrandawiad iddo felly.
Yr oedd mwy o naws y wlad ar y sefydliad hefyd ac yspryd gwerinol iachach. Yr holl bobl yn edrych i fyny at arweinwyr y sefydliad gyda pharch digymysg, a bardd yn gyfystyr a phroffwyd i'r genedl. Syndod y warogaeth a delid i Eben ac Emrys a Gwallter Mechain a Ieuan Glan Geirionydd.
Fodd bynag ofer achwyn. Gwelodd Hwfa y cwbl a thyfodd ynghanol y cwbl: ac o ran ei serchiadau yr oedd yn byw yn yr hen Eisteddfod o hyd ac yn meddwl am yr hen arwyr. Llwyddodd hefyd i ddod a'u hysbryd gydag ef i'r wyl bob blwyddyn a chadwodd eu neillduolion rhamantus hyd y diwedd. Amhosibl oedd ymddeol o rwymau yr hen hud a gildio i feirniadaeth ddiweddar ar yr Orsedd ac ar hanes yr Eisteddfod.
Pan oedd yn ddyn pur ieuanc daeth un o Eisteddfodau pwysicaf y ganrif ddiweddaf i ymyl ei gartref yn Mon—i'r Aberffraw yn 1849, ac yn honno yr urddwyd Rowland Williams ac y cydnabu Gorsedd yr hen sefydliad ef yn fardd o dan yr enw a wisgodd hyd ei fedd. Prin y mae eisiau manylu ar hanes Eisteddfod Aberffraw. Yr oedd rhai o lenorion goreu y genedl yn yr un cwmni ag ef yn cael eu hurddo, megis Gweirydd ap Rhys. Nid dyna gyssylltiad Hwfa i gyd a'r Eisteddfod honno. Yr oedd yn gystadleuydd ynddi hefyd, a dyfarnwyd ef yn ail oreu ar Englyn i Syr John Williams Bodelwyddan.
Cafodd yr un cysur ag Emrys yn yr wyl y dydd hwnw,—bod oddeutu'r blaen, eithr nid oedd ei golled ef lawn cymaint a'r eiddo Emrys. Dyna lle dechreuodd Hwfa Mon ei yrfa Eisteddfodol; ac ar ol yr yr urddo a'r cystadlu yn Aberffraw daliodd ei afael yn gyndyn yn nghymanfa llên a chân ei genedl hyd ei fedd. Mae pedair ochr i'w hanes fel Eisteddfodwr o hyn ymlaen:—ochr y cystadleuydd deheuig: ochr y beirniad adnabyddus: ochr y gorseddwr selog: ac i orffen, ochr yr Archdderwydd urddasolaf fu yn yr Orsedd erioed. Nis gwn yn iawn pa faint fyddaf yn groesi i diriogaeth neb o'm cydysgrifenwyr wrth gymeryd yr agweddau hyn i hanes Hwfa Mon; ond cydnebydd pawb eu bod yn dal perthynas anorfod ag ef fel Eisteddfodwr.
Afraid i mi fanylu dim arno fel bardd, na siarad am ei deilyngdod fel beirniad: yr oll a wnaf fydd cyfeirio yn fyr at y ffeithiau sydd ynglyn a'i yrfa lenyddol; gan ofidio yn fawr na byddai mwy o lawer wrth law genyf. Pigo ffaith yma ag acw wrth fyned heibio yw'r oll sydd yn bosibl i mi.
II.
Yr oedd cystadlu yn fynych yn un o nodweddion y beirdd tua chanol y ganrif ddiweddaf. Nid oedd safle nac oedran yn gwneud dim gwahaniaeth. Fel y cyfeiriais eisoes at Eben Fardd yn ceisio am y gadair ychydig amser cyn marw ohono yn henafgwr ymron. Enillodd efe wobr fawr yn y Trallwm yn 1824, a pharhaodd i ymgeisio am ddeunaw mlynedd a'r hugain wedyn, heb neb yn codi ei law na'i lais yn erbyn. Y mae erbyn hyn gri yn cael ei ddylai neb enill cadair genedlaethol fwy nag unwaith; ac y dylai pob bardd roi i fyny ei ymdrechion Eisteddfodol ar ol cyraedd tua chanol oed. Yn hytrach, mawrheid y ffaith fod beirdd oedranus ymysg y cystadleuwyr gynt. Gwnaeth Hwfa Mon ei ran yn dda fel ymgeisydd hefyd. Ei gadair gyntaf oedd un Llanfairtalhaiarn yn 1855, am ei awdl ar "Waredigaeth Israel o'r Aifft." A'r un flwyddyn enillodd gadair yn Eisteddfod Machraeth, Mon, am ei awdl ar "Y Bardd." Cyn cael y ddwy gadair hyn yr oedd wedi enill tlysau lawer. Tlws arian yn 1851 yn Eisteddfod Fflint am englyn beddargraff "Robert Eyton, Ysw": a thlws arian arall yn yr un Eisteddfod am Osteg o Englynion i'r "Palas Gwydr": wele ddwy fuddugoliaeth fuan iddo ar ol ei urddo yn fardd. Yr un flwyddyn yr oedd yn Eisteddfod Lerpwl yn gweld y llawenydd direol oedd yno am i Ieuan Gwynedd enill gyda'i bryddest ar "Olygfa Moses o ben Pisgah"; ac enillodd yntau yn honno ar englyn. Yr oedd wedyn yn fuddugwr yn Nhremadoc yn 1851, ar Doddaid i "Ddafydd Ionawr," un o eisteddfodau pwysig canol y ganrif; lle 'r oedd Hiraethog yn fardd y gadair ac Emrys yn cipio'r gwobrwyon am y farddoniaeth rydd, ac Eben Fardd yn ben beirniad. Gwelir fel hyn fod Hwfa wedi anturio i'r dyfroedd nofiadwy yn ddiymdro a'i fod yn dechreu teimlo ei nerth. Un arall o'r Eisteddfodau mawrion oedd eiddo Llangollen, 1858, a chafodd y dorch cyd-fuddugol o'i du yno am y Cywydd ar "Y Gweddnewidiad" yn honno hefyd yr arweiniodd Ceiriog ei Fyfanwy i sylw y genedl, ac y dangosodd Eben ei wrhydri ar Faes Bosworth. Rhaid llamu ymlaen yn awr at brif orchest Hwfa Mon, pan wnaeth waith mwyaf ei oes yn yr Eisteddfod. Gwaith barodd syndod cyffredinol, ac un nad yw'r genedl fel pe wedi llwyr faddeu iddo hyd heddyw am ei wneud—gorchfygu Eben Fardd. Yn Nghaernarfon y digwyddodd hyn yn 1862: a Chaledfryn a Nicander a Gwalchmai oedd y tri beirniad. Y Flwyddyn " oedd y testyn: a phwy bynag arall oedd yn treio am y gadair—ac yr oedd yno naw o awdlau i mewn—aeth y si allan fod yr hen wron o Glynnog a'i fryd ar y gadair honno: ac yn ddioed dwedodd pawb mai efe oedd i'w chael. Ar y llwyfan yr oedd llu o feirdd a llenorion goreu y genedl y pryd hwnw:—Ceiriog, Glasynys, Ioan Emlyn, Taliesin o Eifion, Gweirydd ap Rhys, Robin Wyn, Ioan Arfon, a'r tri beirniad, ac Eben Fardd ei hun.
Ond pan ddarllenodd Caledfryn y feirniadaeth gwelwyd fod gwaed newydd yn dod i mewn i gylch y cadeirfeirdd mawrion: a syfrdanwyd y dorf gynhyrfus pan welwyd dyn ieuanc llwydwedd a thal yn codi i hawlio'r gadair. Yr hen orchfygwr wedi cilio yn brudd o'r llwyfan, a Hwfa Mon yn cymeryd ei le. Gwnaethai Eben ei hun orchest ddigymar gyda'i "Ddinystr Jerusalem "pan yn ieuanc iawn; rhaid oedd rhoi ffordd i un ieuanc arall cyn marw. Llawen oedd. pawb am weled Hwfa yn cael ei gadeirio, fel bardd cymharol newydd; eithr croes drom yr un pryd oedd gweled y cadfridog hybarch yn cilio i Glynnog wedi ei archolli a'i ysbeilio o'i dalaith: ac fel y crybwyllasom nid o'i bodd y dygymydd y genedl eto a'r goncwest hon o eiddo Hwfa Mon.
Myned rhagddo gyda nerth herfeiddiol wnaeth o hyn ymlaen. Cyrchodd Gadair o Gastellnedd a Choron o Gaerfyrddin yn fuan wedyn: ac yr oedd y gamp ddiweddaf yn bwysig, oblegid mai am bryddest neu arwrgerdd y cafodd hi,—"Owain Glyndwr."
Ei ornest nesaf o bwys oedd yn Eisteddfod y Wyddgrug lle y cafodd y gadair Genedlaethol yr ail waith, am ei awdl ar "Garadog yn Rhufain": ac ymhen pum mlynedd wedyn o dan feirniadaeth Hiraethog, Islwyn ac Elis Wyn o Wyrfai enillodd y Gadair yn Eisteddfod Birkenhead am ei awdl ar "Ragluniaeth." Fel hyn, heb son am gystadleuaethau eraill yr oedd Hwfa Mon ar y maes o hyd ac yn llwyddo mewn gornest ar ol gornest. Difyr a phrudd yw deall fod ganddo awdl ymron yn barod i'w hanfon i gystadleuaeth am Gadair Utica, America ar "Yr Ewyllys" pan fu efe farw.-" The ruling passion strong in death."
III.
Marw o un i un wnai yr hen feirniaid enwog fu yn dal y dafol lenyddol yn ein gwlad. Rhoddid y lle blaenaf yn y ganrif ddiweddaf i' Wallter Mechain. Efe meddir oedd "Lord Chief Justice" y cylch barddol. Yr oedd yn graff ac yn ddyn hyddysg iawn yn llen y cenhedloedd clasurol.
Gerllaw iddo rhoddid Caledfryn. Y mwyaf llym a didrugaredd fu ar fainc yr Eisteddfod; ond yr oedd gan bawb ffydd gref ynddo yntau, a gwnaeth ei waith gyda didwylledd noeth. Ei unig fai oedd fod y cledd yn ei law bob amser pan safai yn ymyl y clorian. Eben Fardd ddwys a thyner oedd un arall o brif feirniaid ein cenedl, heb neb na dim allai fyth ei berswadio i wyro barn.
Dangos y perl oedd yn y cyfansoddiad wnai Eben, a dangos y llaid oedd o gylch y perl wnai Caledfryn, meddir. Syrthio i'r bedd, y naill, ar ol y llall yr oeddynt, a rhaid oedd cael eraill i'r adwyon. Bu cyfnod pan ddodid gwyr i feirniadu nad oeddynt wedi gwneyd fawr o'u hol fel cystadleuwyr eu hunain; ond newidiodd pethau yn raddol, a hawliwyd i feirniad fod yn fardd cydnabyddedig, o'r diwedd. Daeth cyfle Hwfa Mon felly; ac am lawer o flynyddau bu yn un o ynadon yr Eisteddfod. Nis gwyddom yn hollol pa bryd y cymerodd ei le ar y fainc; ond yr oedd wedi ymgadarnhau ddigon arni erbyn y flwyddyn 1865 fel ag i fod yn un o'r beirniaid ar yr Arwrgerdd yn Aberystwyth, pan enillodd Llew Llwyfo gyda'i gerdd ar "Ddafydd ": ac o hyn ymlaen beirniadu a chystadlu bob yn ail y bu am gryn dymor. Buasai rhestr o'r Eisteddfodau mawr a bach y bu Hwfa Mon yn dal y clorianau ynddynt, ac enwau ei gydfeirniaid yn ddyddorol iawn; ond gan nas gallwn roi y rhestr yn weddol gyflawn gwell yw peidio gwneyd llawer o ymgais. Yn unig dywedwn ei fod yn un o'r rhai fu'n penderfynu tynged y bardd yn Eisteddfod fawr Chicago yn 1893: ac aeth cynyrchion gwyr fel Gwilym Eryri a Thudno a Watcyn Wyn a Gurnos, a Llew Llwyfo a Cheulanydd, drwy ei ddwylo heb son am fwyafrif y Cadeirfeirdd sydd yn fyw. Galwyd ef mewn rhai engreifftiau i dorri dadl fel canolwr, megis yn y Rhyl yn 1892, ac ni chlywsom fod llawer o ddadleuon gwedi barn yn dilyn ei ddyfarniadau. Rhan pob beirniad Eisteddfodol yn ein gwlad ymron yw cael ei amheu a'i ddifrio gan rai heb ddysgu colli, ac nid yw wythnosau o feirniadu'r beirniaid namyn defod lenyddol gyson yn Nghymru bob blwyddyn. Efallai i Hwfa ddiane cystal a neb rhag y penyd a'r blinfyd hwn. Yr oedd yn bur gymeradwy fel beirniad oherwydd, yn un peth, ei fedr i draddodi yn hyglyw ei ddyfarniad ar ddydd yr wyl. Nid oedd ei debyg am hyn: ei barabl pert, croyw a difyrus: ei ddull o adrodd darnau o'r awdl neu'r cywydd, yn gorfodi pawb am y munyd hwnw i dyngu ei fod yn gweld ac yn deall cynghanedd cystal a Hwfa ei hun gan mor glir y dodai efe hi allan, ac mor uchel oedd clec pob cydsain rhwng ei wefusau teneuon; ac yn anad dim, ei lais mawr yn torri dros y cynulliad i gonglau eithaf y neuadd Eisteddfodol. Yr oedd codiad ei law weithiau, ei edrychiad dieithr, a'i holl ymroad gyda'r feirniadaeth yn gwneyd ei thraddodi ganddo yn un o brif ddigwyddiadau'r wythnos.
Chwarddai'r dorf yn braf, gan gyfranogi o hwyl Hwfa ei hun; a mwynheid yr holl helynt yn fwy o lawer oherwydd ei fod ef gyda'r gorchwyl. Prin y gellid dweyd ei fod yn ysgrifenu beirniadaeth oedd yn dangos craffter mawr yn ei helfeniad o'r cyfansoddiadau, a'i dull o chwalu a chwilio allan werth yr awdlau, yn ol safonau beirniadaeth lenyddol. Yr oedd Canons of criticism yn bethau allan o lwybr Hwfa Mon i raddau pell. Yn ol ei reddf ei hun y deuai o hyd i deilyngdod y cynyrchion, a dotio at ddarnau ohonynt a wnai efe yn hytrach na chymeryd cyfanwaith i ystyriaeth. Eithr, fel y dywedasom eisioes, yr oedd ei wrando a'i wylio yn cyhoeddi 'r feirniadaeth oedd ganddo i'w rhoi, yn dweyd ei fod yn gymeriad Eisteddfodol hollol ar ei ben ei hun.
IV.
Mawr yw'r dwndwr wedi bod yn ddiweddar ynglyn a Gorsedd y Beirdd. Credid yn ddiysgog gan lu o'r hen Eisteddfodwyr fod yr Orsedd wedi disgyn yn ddifwlch o oes y Derwyddon hyd ein dyddiau ni, ac yr oedd parch diffuant yn cael ei hawlio i'w hurddau a'i defodau. Mae erthyglau a gyhoeddwyd rhyw ddeng mlynedd yn ol yn un o brif gylchgronau y wlad wedi chwalu 'r traddodiadau fel peiswyn. Ofer ceisio adeiladu ar sail mor ansicr mwy. Er hynny dangosir fod yr Orsedd ynglyn a'r Eisteddfod ers yn agos i ganrif. Dywedir mai ynglyn ag Eisteddfod Caerfyrddin yn 1819 y cynhaliwyd yr orsedd gyntaf erioed fel y mae yn aur: ac nid oes son am Orsedd yn hanes yr Eisteddfodau gynhaliwyd yn Aberhonddu yn 1822 ac yn Nhrallwm yn 1824: nac yn Ninbych yn 1828 a Biwmaris yn 1832. Ceisiodd Iolo Morganwg gael gorsedd ynglyn ag Eisteddfod Caerdydd yn 1834 ond methwyd a'i chynal; eithr yn fuan wedyn dechreuwyd cynal gorsedd mewn cyssylltiad a'r Eisteddfodau, ac yr oedd wedi dod i rym yn Eisteddfod y Gordofigion yn Lerpwl yn 1840: cynhaliwyd un lled rwysgfawr yno, a chafodd Eben Fardd a llu eraill eu hurddo ynddi. Erbyn Eisteddfod fawr yr Aberffraw yn 1849 yr oedd y teitl o "Archdderwydd wedi ei ddyfeisio, ac yn cael ei wisgo gan Ddewi o Ddyfed. Gwelsom fod Charles Ashton yn ei draethawd yn dweyd i'r teitl gael ei hawlio gan y gwr uchod yn Miwmaris yn 1832: ond y mae yn sicr fod y safle hon yn cael ei CHYDNABOD yn yr Aberffraw. Nis gwyddom am ba faint o amser y cadwodd feddiant o'r Archdderwyddiaeth: bu "Meilir" yn gwisgo'r teitl ar ei ol: yna tuag 1876 daeth i ran Clwydfardd ac ar ei ol ef i Hwfa Mon.
Cyn dringo cyfuwch a hyn yr oedd yn rhaid gwasanaethu yr Orsedd mewn safle is. Ceir fod Clwydfardd yn cymeryd ei le fel "Bardd yr Orsedd " yn yr Aberffraw, a gwyddom yn dda i gyd fod Hwfa am flynyddoedd yn gynorthwywr ffyddlawn i'r hen brydydd diddan Clwydfardd; yr hwn oedd yn llesg iawn, a baich dirfawr o ddyddiau ar ei ysgwydd hardd pan gyrchai i'r Eisteddfod tua diwedd oes. Yr oedd amryw yn nghylch yr Orsedd" yn bur batriarchaidd cyn marw Clwydfardd. Gellid gweled Dewi Ogwen yn sefyll ar y maen, a'i lais dwfn a thyner a dieithr yn araf ollwng allan weddi yr Orsedd. Yna codai Gwalchmai dawel a digyffro i ddweyd gair am henafiaeth ac urddas y defion, ac am werth yr urddan, a phriodoldeb y lliwiau oedd ar fentyll y gwahanol urddedigion,-a chrynai ei lais yn rhyfeddol o effeithiol. Yn y man cawsai Hwfa ei gyfle; ac er nad oedd mor hen a'r lleill, yr oedd yntau fel aelod ieuangaf y teulu patriarchaidd, ac yn ddigon cryf i siarad drostynt oll. Gwaeddi lle y methai Clwydfardd, a hawlio "Gosteg" i Ddewi Ogwen, a chyffroi gwên ar ol sobrwydd Gwalchmai.
Pan fu farw Clwydfardd nid oedd neb allai gydymgais a Hwfa Mon am y swydd. Yr oedd rhif ei gadeiriau cenedlaethol: yr oedd ei urddas prydweddol: yr oedd ei ddyddordeb diball a'i gred ddisyf yn yr Orsedd a'i thraddodiadau yn peri fod pawb yn yswatio ac yn cilio i wneyd lle iddo. Gwae i'r neb a ddywedai air yn erbyn yr holl ddefodau; a'r pagan mwyaf anobeithiol yn Nghymru. benbaladr oedd y neb a feiddiai feirniadu 'r Orsedd yn anffafriol. Ychydig iawn sydd yn y cylch Eisteddfodol heddyw yn credu chwarter cymaint a Hwfa Mon yn nilysrwydd henafol y defion gorseddol; y mae rhai yn dal yn bur ffyddlon i'r gred a feddai 'r tadau yn y cyfan, eithr prinhau y maent yn naturiol. Iddo ef yr oedd yr oll yn gyssegredig a diffuant, a'i serch wedi ymglymu yn ddiddatod wrth y seremoniau. Efe hefyd wnaeth yr Orsedd yr hyn yw; ac ni welwyd ar y maen llog ei debyg o ran urddas a harddwch. Craffai pawb arno a thyrai 'r miloedd i'w weled a'i wylio; ac yn enwedig i wrando ei ergydion a'i ffraeth-gynghaneddion. Amhosibl yw ei ddarlunio mewn brawddegau ymron. All neb ddesgrifio sut y byddai yn torri gair ar hanner ei ddweyd, ac yn ei ollwng o'i enau yn ddarnau, ac ôl ei ddant neu ei wefus deneu ar bob darn.
Amhosibl son am Hwfa Mon fel Eisteddfodwr" heb gyfeirio at ei berthynas a'r Orsedd. Un peth a wnai cyn ei godi i'r Archdderwyddiaeth oedd cyfansoddi a darllen allan "Fer Awdl" ynglyn a phob Eisteddfod yn ddiweddar; nis gwyddom i sicrwydd pa bryd y dechreuodd ar y gwaith hwn: ond y mae pentwr o'r "awdlau byrion " hyn yn aros yn ei law ysgrif. Fel rheol parotoid dwy ganddo ar gyfer neu ynglyn ag Eisteddfod, yn enwedig ar ol ei wneyd yn Archdderwydd: y naill ar gyfer dydd cyhoeddi yr Eisteddfod (flwyddyn a diwrnod cyn ei chynal), a'r llall i'w hadrodd ar ddydd agor yr Eisteddfod. Weithiau darllenai ei Fer Awdl yn yr Orsedd ar ben y Maen: bryd arall ar lwyfan y neuadd lle y cynhelid yr wyl. Difyr yw edrych dros y copiau yn ei law ysgrif ef ei hun, a'i weld wedi tynu ei bin drwy ambell englyn a thoddaid yma a thraw. Dyma yr "Awdl ar Agoriad Eisteddfod Gyd—genedlaethol Chicago Medi 1893" yn dechreu fel hyn :—
Amerig! cartref mawredd;
Hon saif ar ei digryn sedd:
I'w mawredd yn nhwrf moryd,
A mawr barch ymwyra byd.
Bras randiroedd,
Byth ystadoedd,
Gloyw diroedd—
Gwaelod arian.
Llifo beunydd
Drwy ei meusydd,
Mae afonydd
Mwyaf anian.
Ohio fawr, rhuo fyn—
Ymnydda am anoddyn :
Trwy fawredd gwyllt—dryferwi—am ryw for
Mae'r fawr Fississippi;
Clyw ddyfngan syfrdan ei si
Yn siarad a Missouri.
Wele, ymysg yr Awdlau, un ar "Agoriad Eisteddfod Genedlaethol. Llanelli Gor. 30, 1895"; ac y mae dyddordeb neillduol ynglyn a'r copi hwn. Yn ngorsedd Llanelli yn 1895, y dechreuodd Hwfa Mon ar ei waith fel Archdderwydd, ac y mae wedi ysgrifenu ar y copi hwn' drefn y gwasanaeth, rhag llithro o hono i amryfusedd wrth afael yn ei swydd. Mae'r ddalen yn darawiadol iawn:—
Agoriad Eisteddfod Genedlaethol
Llanelli Gor. 30, 1895.
I.
Corn Gwlad.
II.
Gweddi yr Orsedd.
III.
Gweinio y Cledd.
IV.
Y Cyswyn Eiriau.
Y gwir yn erbyn y byd.
In wyneb haul a llygad goleuni:
Llais uwch adlais.—A oes Heddwch?
Llef uwch adlef—A oes Heddwch?
Gwaedd uwch adwaedd,—A oes Heddwch?
Iesu na'd Gamwaith.
Llafar bid lufar.
V.
Y CYHOEDDIAD.
Pan yw oed Crist yn fil wyth gant naw deg a phump, a chyfnod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain yn ngwyl yr Alban Elfed sef cyfnod Cyhydedd Haul y Mesuryd, ar ol y gwys a'r gwahawdd i Gymru oll gan gorn gwlad o'r amlwg, yn ngolwg, yn nghlyw gwlad a Theyrnedd, dan osteg a rhybudd un dydd a blwyddyn. Cynhelir Eisteddfod a Gorsedd wrth Gerdd yn nhref Llanelli yn nghantref Carnwallon yn Swydd Caerfyrddin, ag hawl i bawb o geisiont Fraint a Thrwydded wrth Gerdd Dafawd a Barddoniaeth i gyrchu yma yn awr Cyntefin Anterth lle ni bydd noeth arf yn eu herbyn; ac yma yn erwynebol y Tri Chyntefigion Beirdd Ynys Prydain nid amgen Plenydd Alawn a Gwron; ac yma Cynhelir Barn Cadair a Gorsedd ar Gerdd a Barddoniaeth, ac ar bawb parth Awen a buchedd a gwybodau o geisiont Fraint ac Urddas a Thrwyddedogaeth yn nawdd Cadair Llanelli yn nghantref Carnwallon.
Llafar bid Lafar. Y gwir yn erbyn y byd.
Iesu na'd Gamwaith.
Yna "Cainc ar y delyn." "Anerchiadau y Beirdd" ac i orffen "Arawd."
Yr ydym wedi dodi cynwys y copi hwn i lawr: gall y bydd
yn help ryw dro i ryw Archdderwydd helbulus fydd mewn perygl
o anghofio ei wers. Nid oes angen aros yn hwy gyda'r ochrau hyn i
fywyd yr anwyl a'r eithriadol Hwfa Mon. Clywsom am arlunydd
enwog o Loegr dreuliodd haf yn Nghymru, gan grwydro rhwng
clogwyni glaslym y Wyddfa, a thrwy ogoniant a rhamant Bettws-y-
Coed gwr welodd fireinder Dyffryn Clwyd a rhuthr yr ysblander
tua Drws Ardudwy. Eisteddodd ar dywodfryn aur yn gwylio 'r
Fenai yn llathru, a'i hwyneb yn llosgi rhwng erchwynion Mon ac Arfon o dan dywynion heulddydd o Fai; a bu yn gorffwys o dan
fangoed a miwail ymhell o ddwndwr y mor; eithr dychwelodd i
Loegr wedi gweld golygfa fwy na'r oll, meddai ef,-pan y disgynodd
ei lygaid ar Hwfa Mon" yn pasio heibio iddo ar heol yn Sir
Feirionydd. We shall never see his like again.
Pennod V.
YCHYDIG ADGOFION.
GAN E. VINCENT EVANS, YSW. (VINCENT), LLUNDAIN.
NID oes odid i un o gyfoedion Eisteddfodol Hwfa Môn yn aros i adrodd hanes dechreuad ei gysylltiad a'r Wyl Genedlaethol, ac ni pherthyn i mi, un o'i ddisgyblion a'i edmygwyr diweddaraf, i geisio olrhain y cysylltiad hwnw ymhellach yn ol na fy adgôf personol o hono. Wrth edrych yn ol i'r gorphenol daw i fy nghof, i mi fod mor ffodus a dyfod i gysylltiad lled agos a'r diweddar Archdderwydd rywbryd tua'r flwyddyn 1872 ar fy nyfodiad cyntaf i'r Brifddinas. Yr oedd ef y pryd hwnw yn anterth ei boblogrwydd, a chyda mawr lwyddiant yn bugeilio yr Eglwys Gynulleidfaol Gymreig yn Bartlett's Passage, Fetter Lane. Y mae yr hen gapel,lle y clywsom ef laweroedd o weithiau yn tywallt hyawdledd ac yn byrlymu barddoniaeth erbyn hyn wedi ei droi at wasanaeth un o'r Cymdeithasau Cydweithredol (y Printing Machine Managers' Trade Society) a'r defaid a gyrchent iddo, wedi cael corlan newydd iddynt. eu hunain yn y Pentonville Road; ond i Gymry'r genhedlaeth hono, gynifer ohonynt ag sydd yn aros, ac feallai i Gymry cenedlaethau i ddod, bydd yn anhawdd sôn am Fetter Lane heb ddwyn ar gôf mai yn y lôn gul a chymharol ddinod sydd yn cysylltu Heol y Fleet a Holborn, y bu Caleb Morris a Hwfa Môn yn treulio rhan werthfawr o'u bywyd ar y ddaear. Y pryd hwnw nid oedd ysgrifenydd y llinellau hyn ond "llefnyn o hogyn," newydd adael ei gartref mynyddig yn Meirion bell, ac yn ceisio rhyw rith-lenora yn Llundain fel un o "gynrychiolwyr y wasg." Ond yr oedd cariad at lenyddiaeth, gan nad pa mor eiddiled y serch a gwan y cyflawniad, yn ddigon o drwydded i galon fawr Hwfa. Cyrchai llawer math of fardd, a phob rhyw esgus o lenor, i'w gartref croesawus yn Claylands Road, yn y llawn sicrwydd y byddai iddynt yno dderbyn cyfarwyddyd yn gystal a chroesaw. Yr oeddwn innau yn mhlith y lliaws.
Un o gyfeillion mwyaf diddan Hwfa Môn yr adeg hono ydoedd hen ficer llengarol Rhydd-ddwr-hydd chwedl yntau, sef y diweddar Barchedig Robert Jones, Rotherhithe, ac un o'n hadgofion Cymreig cyntaf o'r hyn a welsom yn Llundain ydyw adgôf am gyhoeddiad ar bared yn hysbysu fod Robert Jones ar ryw noson arbenig i draddodi darlith a'r "Farddoniaeth Gymreig" i Gymdeithas Lenyddol. Seisonig. Yr oedd yr atdyniad yn ddigon i'n denu i'r ddarlith, ac yno y daethom gyntaf i gyfarfyddiad a Hwfa yn y Brifddinas. Unwaith o'r blaen yr oeddym wedi cyd-gyfarfod, efe yn un o wyr mawr Cymanfa yr Annibynwyr" yn un o bentrefi Meirion, minnau yn "ohebydd lleol" yn ysgrifenu hanes yr wyl. Mae'n hyfryd genyf feddwl hyd yn nod yn awr nad oedd pregethwr y Gymanfa wedi gollwng dros gôf yr hogyn a gyflwynwyd i'w sylw fel gohebydd yr Herald yn Nhrawsfynydd. Am gryn yspaid bu darlith Robert Jones, ar Farddoniaeth Gymreig—Beirdd Mon yn benaf a Goronwy Owen yn ben wrth gwrs—yn myned o gwmpas y gwahanol Gymdeithasau Llenyddol yn Llundain, a byddai Hwfa yn y cwrdd mor amled a minnau, ac nid wyf yn sicr iawn nad oeddym ein dau mor reolaidd yn y cynnulliad ag yr ydoedd y darlithydd ei hun. Talai Robert Jones yr echwyn yn ol i'r Prif-Fardd trwy fyned i wrando ar, ac i gymeryd y gadair yn ei ddarlithiau yntau.
Yn niwedd y flwyddyn 1873 fe gynyrchwyd llawer o frwdfrydedd Cymreig yn y Brifddinas mewn canlyniad i ymweliad buddugoliaethus "Y Cor Mawr," o dan arweiniad Caradog, a'r Palas Grisial. Un o ganlyniadau anuniongyrchol y fuddugoliaeth gorawl yr adeg hono ydoedd adfywiad cymdeithas henafol y Cymmrodorion. Fel y mae'n eithaf gwybyddus sefydlwyd y Gymdeithas hon yn y flwyddyn 1751 gan Rhisiart Morris o'r Mint a'i frawd Lewis Morris (Llewelyn Ddu o Fon). Bu y Gymmrodoriaeth mewn trwm gwsg fwy nag unwaith ac ar fin trengu, ond yr ydym ni sydd yn ei charu yn dal na thorwyd erioed mo linell yr olyniaeth. Pan yr adfywiwyd hi yn 1873 er enghraifft, yr oedd o leiaf Gwrgant, os nad eraill o hen aelodau Cynghor yr ail sefydliad yn 1820, yn aros i estyn iddi draddodiad a bendith y tadau. Ac o hyny hyd yn awr y mae yn tyfu ac yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Prif ysgogydd y mudiad Cymmrodorol, fel llawer i fudiad Cymreig arall yn y dyddiau hyny ydoedd Mr—wedi hyny Syr—Hugh Owen. Gydag ef yr oedd Gwrgant a lliaws o Gymry aiddgar eraill, llawer ohonynt erbyn hyn wedi ymuno a'r Gymmrodoriaeth fwy y tu draw i'r llen; yn eu plith, Morgan Lloyd, Brinley Richards, Stephen Evans, John Griffith (Y Gohebydd) Robert Jones, Rotherhithe, William Davies (Mynorydd) R. G. Williams (ab Corfanydd) J. Roland Philipps, awdwr "Hanes y Rhyfel Cartrefol yn Nghymru a'r Gororau," a Hwfa Môn. O'r gweddill nid oes yn aros yn awr ond, Pencerdd Gwalia, Syr John Puleston a Syr Marchant Williams. Yr ydym yn cael fod Hwfa nid yn unig yn un o aelodau blaenaf y Gymdeithas adfywiedig, yr oedd hefyd yn un o aelodau y Cynghor cyntaf o 30 a ddewiswyd i'w llywodraethu; prawf diymwad pe bae prawf yn eisieu o'r safle a'r parch a feddai yn Llundain yn yr adeg sydd dan sylw. Yn lled fuan yn ei hanes ni a'i cawn yn traddodi darlith i'r aelodau. Y tęstyn fel y gellid disgwyl ydoedd "Barddoniaeth Gymreig "a chadeirydd y cyfarfod fel yr oedd yn ddigon naturiol ydoedd ei gyfaill y Parch, Robert Jones, Rotherhithe. Yr oedd hyn yn mis Mawrth yn y flwyddyn 1876, ac yn yr Ebrill dilynol ni a'i cawn yntau yn llywyddu a Robert Jones yn darlithio ar un o'i hoff destynau sef "Pregethwyr a Phregethau Cymreig." Nid wyf yn meddwl fod cofnodiod o araeth Gymmrodorol Hwfa ar gael. Côf genyf na byddai yn hoffi i fwy na chrynodeb o'i ddarlithiau ymddangos trwy y wasg; y rheswm am hyny mae'n debyg ydoedd y gelwid arno mor aml i'w traddodi. Ond os nad yw ei farn am Farddoniaeth Gymreig ar gael yn Nghofnodion y Gymdeithas y mae darn o'i farddoniaeth ef ei hun i'w weled yn argraphedig yn y Gyfrol gyntaf o'r Cymmrodor (1877). Testyn y dernyn ydyw "Yr Ystorm" ac y mae'r llinellau yn dra nodweddiadol o ddull barddonol yr Hwfa. Er enghraifft, fel hyn:—
Ust! beth yw'r sibrwd ileddfol sy'
I'w glywed yn yr awyr fry?
Ust! clyw! mae'n nesu oddi draw
Mae'n ymwrdd yn y dwfn is law!
Ysbrydion ystormydd
Sy'n deffraw drwy'r nefoedd!
Elfenau sy'n udo
Hyd eigion y moroedd
Cymylau sy'n rhwygo
Gan gyffro y trydan,
Y gwyntoedd sy'n meirw!
A Natur yn gruddfan!!
Clyw gnul ystorm! clyw gorn y gwlaw!
Gwel wib y mellt! clyw daran braw!
Clyw dyrfau dwr! gwel ffwrn y nen!
Clyw storm yn tori ar dy ben!
Mae'r haul yn tywyllu!
Mae'r mellt yn goleuo!
Mae'r wybren yn crynu!
Mae'r dyfnder yn rhuo!
Mae mellten ar fellten!
Mae taran ar daran!
Mae Duw yn dirgrynu
Colofnau pedryfan!
Mae r ddaear ar drengu!
Mae'r nefoedd yn syrthio!
Arswyded y bydoedd!
MAE DUW'N MYNED HEIBIO!
Pa un ai ysfa ieithyddol ynte cyfeillgarwch syml ydoedd y rheswm nid ydwyf yn gwybod ond y mae'n ffaith i Robert Jones, yr hwn oedd golygydd Y Cymmrodor ar y pryd, gynyg cyfeithiad o'r geiriau hyn ochr yn ochr a'r gwreiddiol; treiodd y Saesneg, a chafwyd hi'n brin!
Mudiad arbenig arall y cysylltir enw Syr Hugh Owen ag ef ydyw yr un a arweiniodd i sefydliad Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn y mudiad hwn hefyd cymerodd Hwfa Môn ran flaenllaw. Bu'n dadleu hawliau yr Orsedd a'r Eisteddfod yn mhell cyn hyny, ac nid oes eisieu adgofio i neb ei fod yn awdurdod ar y pwnc pan y cafwyd ymdrafodaeth yn 1880 ar y cwestiwn o sefydlu Cymdeithas ganolog a chynrychioliadol i'r diben o ystyried a chario allan wahanol ddiwygiadau a awgrymid y pryd hyny, ynglyn a gwaith yr Eisteddfod Genedlaethol. Pan, mewn canlyniad i'r drafodaeth a gymercdd le ar y mater yn Eisteddfod Caernarfon yn Awst 1880, a'r cyfarfod a gynaliwyd yn yr Amwythig y mis dilynol, y sefydlwyd Cymdeithas yr Eisteddfod yr oedd Hwfa Môn yn aelod o'r Cyaghor cyntefig, a pharhaodd yn aelod ffyddlawn o hono hyd ddydd ei farwolaeth. Y flwyddyn ar ol hyny, sef yn Eisteddfod Genedlaethol Merthyr Tydfil, y daeth ysgrifenydd y llinellau hyn gyntaf i gysylltiad swyddogol a'r hen sefydliad, ac wrth gwrs i gysylltiad agosach a Hwfa. Eisteddfod fythgofiadwy oedd Eisteddfod Merthyr yn 1881. Ni pherthynai ir Orsedd yn y dyddiau hyny ond ychydig o'r gwychder a'r bri a berthyn iddi yn awr. Fe gedwid y Cylch, ond nid oedd Arlunydd Penygarn wedi ei benodi yn Arwyddfardd i'w osod o dan reol ac wrth fesur! Pan aeth nifer o honom foreu cynta'r ŵyl yn Merthyr i chwilio am yr Orsedd yr oedd yno ryw fath o Faen Llog wedi ei baratoi ond yr oedd. Cylch y Meini heb gymaint a chareg i ddynodi ei derfyn. Rwy'n cofio yn dda yr helynt a fu i chwilio am ddeuddeg maen, ac yn cofio cystal a hyny i ni orphen y cylch gyda darn o fricsen! Ond pa waeth am hyny, yr oedd arddeliad ar y gwaith, a phe y buasem ni ond yn gwybod yr oedd yr olyniaeth Archdderwyddol am genhedlaeth gyfan yn sefyll yn y Cylch, oblegid nid yn unig yr oedd Clwydfardd yn gwasanaethu, ond yr oedd Hwfa yn cynorthwyo, a Dyfed yn "cael ei dderbyn." O'r flwyddyn hono hyd yn awr yr wyf wedi cael y fraint o fod yn bresennol yn mhob Eisteddfod Genedlaethol. a gynhaliwyd. Ryw unwaith neu ddwy yn unig y bu Hwfa yn absennol. Syrthiodd yn naturiol i le gwâg yr hybarch Glwydfardd. Llanwodd y swydd o Archdderwydd gydag urddas mawr, ac ychwanegodd yn ddirfawr at rwysg atdyniadol yr Orsedd. Gwisgai y dderwyddol wisg a ddyfeisiodd Mr. Herkomer iddo fel pe wedi ei eni iddi, a dygai bwys gwasanaeth yr Orsedd fel brenhin a fae'n falch o'i ymddiriedaeth. Dangosodd y frawdoliaeth bob teyrngarwch a ffyddlondeb iddo, a thystiodd y cyhoedd eu hoffder o hono yn y Dysteb sylweddol a gyflwynwyd iddo ar lwyfan yr Eisteddfod yn Llynlleifiad. Yn ei gartref yn y Rhyl yn 1904 y gwelwyd ef ddiweddaf yn yr wyl, erbyn 1905 yr oedd yr Orsedd yn Aber Pennar yn ngofal ei ddirprwy, Cadfan, a chyn Eisteddfod fawr Caernarfon yn 1906, yn llwyddiant yr hon y buasai yn llawenychu, yr oedd wedi ymuno a'r côr anfarwol anweledig sydd yn byw yn oes oesodd yn mywyd ein gwlad.
Pennod VI.
FEL BUGAIL.
GAN Y PARCH. T. ROBERTS, WYDDGRUG.
WRTH yr enw Hwfa Mon, ei enw barddol, yr adnabyddidef gan ei gydgenedl; fel bardd yn gyntaf y meddylid am dano. Ac yr oedd yn fardd, doedd dim dadl; gan nad beth arall ydoedd Hwfa Mon, yr oedd yn fardd bob modfedd o hono. Yr oedd tri anhebgorion bardd wedi cydgyfarfod ynddo yn amlwg, sef "llygaid i weled anian, calon i deimlo anian, a glewder i gydfyned ag anian." Yr oedd y bardd yn amlwg yn ei holl osgo, ei edrychiad, ei ymddangosiad, ei gerddediad; yr oedd yn meddwl fel bardd, yn siarad fel bardd, yn cerdded fel bardd, yn gweithredu fel bardd. Ofer oedd meddwl am ei gaethiwo dan unrhyw ddeddf, ond deddfau caeth Dafydd Ap Edmwnt. Ond nid bardd yn unig ydoedd Hwfa Mon, yr oedd hefyd yn bregethwr dihafal, yn weinidog da i Iesu Grist, yn ddarlithiwr hyawdl, ac yn llenor Cymreig coeth. Ond yn yr ysgrif hon ni bydd a fynom ag ef ond fel bugail neu weinidog yr efengyl. Gyda ni fel Annibynwyr, y gweinidog yw y bugail, a'r bugail yw y gweinidog; dysgwylir iddo wneud gwaith y ddau. Mae yr enw gweinidog yn ei olygu yn fwyaf arbenig yn ei gymeriad fel pregethwr, ac athraw, ac arweinydd ei eglwys; mae yr enw bugail yn ei olygu yn ei gymeriad bugeiliol o fwrw golwg dros braidd Duw, o gysuro y drallodedig, o geisio y darfedig, o ymgeleddu y glwyfedig. Yr oedd Iesu Grist yn llanw y ddau gymeriad. Fel Gweinidog Duw byddai ef yn pregethu, ac yn athrawiaethu wrth y bobl; fel Bugail mawr y defaid byddai yn eu harwain i'r porfeydd gwelltog, yn ceisio y golledig, yn dychwelyd y darfedig, yn rhwymo y friwedig, ac yn cryfhau y lesg. Efe yw "Gweinidog y cysegrfa a'r gwir dabernacl," ac efe hefyd yw "Bugail mawr y defaid." Ac wrth feddwl am dano ef, y Pen Bugail, a'r modd perffaith y cyflawnai ei waith, byddwn yn barod i ofyn yn aml, "A phwy sydd ddigonol i'r pethau hyn?" "Eithr ein digonedd ni sydd o Dduw." "Yr hwn hefyd a'n gwnaeth ni yn weinidogion cymwys y Testament Newydd."
FY NGHYFARFYDDIAD CYNTAF AG EF.
Y tro cyntaf i mi weled a chlywed Hwfa Mon oedd yn hen bwlpud Salem, hen "Gapel Ty-du," plwyf Llanbedr-y-Cenin, y pryd hwnw dan weinidogaeth yr hen efengylydd llariaidd John Williams, Caecoch. Yr oedd hyny yn Mehefin 1862. Cyfarfod pregethu blynyddol oedd yno. Nid oedd cylch y dewisedigion i gyfarfod Salem y pryd hwnw yn un mawr; fel rheol byddent yn cael eu dewis o blith Gweinidogion cymydogaethol.—Ap Vychan; Y Go Bach, Tanymarian; Roberts, Caernarfon; Edwards, Ebenezer; Griffiths, Bethel; J.R., fel rheol fyddai cylch yr etholedigion. Yr oedd Hwfa ar y pryd yn Brymbo a Gwrecsam; anaml y meddylid am fyned mor bell a hyny i geisio pregethwr i gyfarfod Salem, rhaid felly fod ei enw wedi dod yn lled adnabyddus fel pregethwr poblogaidd. Testyn un o'i bregethau yn y cyfarfod hwnw, ar unig un wyf yn gofio, oedd Es. 4, 5, "A'r Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Sion, ac ar ei gymmanfaoedd, gwmmwl a mwg y dydd, a llewyrch tan fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn." Nid oes genyf yr adgof lleiaf am un testyn na phregeth arall a glywais yn y cyfarfod hwnw, ond yr wyf yn cofio Hwfa a'i destyn. Yr oedd y son am dano fel bardd wedi creu dysgwyliadau ynom ni fel bechgyn ieuainc—oedd y pryd hwnw yn ceisio rhigymu tipyn ein hunain; ac yr oedd yr olwg arno yn y pwlpud, ei safiad talgryf, ei wallt llaes yn gorwedd ar ei ysgwyddau llydain, a'i wyneb llyfn, diflew, yn tynu sylw pawb. Beth yw hwn? gofynem; mae hwn yn rhywun, nid yw yr un fath a neb a welsom o'r blaen. Pan ddechreuodd lefaru teimlem ei fod yn ddawn newydd, ar ei ben ei hun. Dechreua yn ddistaw ac araf, gan fesur ei gamrau fel yr elai yn mlaen, parablai yn glir a chroew, gan dori ei eiriau yn berffaith. Meddyliem na chlywsom erioed Gymraeg mor seingar a pherffaith, a'r fath gyfoeth diderfyn o eiriau, a phob gair yn disgyn yn naturiol i'w le. Fel yr elai yn mlaen mae yn cyflymu ei leferydd, yn amlhau ei eiriau; ac fel y mae yn gwresogi, a hen saint cynes Salem yn ei borthi, mae y chwys mawr yn dechreu diferu ar y Beibl, ac erbyn hyn mae ei eiriau a'r ansodd—eiriau yn llifo allan yn rhaffau hirion fel defaid o gorlan, gan wasgu eu gilydd yn eu brys i ddod allan. Toc bloeddiai, a dyrchafai ei lais cryf fel udgorn. Chwareuai yn hir ar y gair "creu"—"gair bychan, crwn, cryno, cryf a grea—a gr—e—a—a. Gwaith Duw yw creu— neb greu ond Duw." Clywais y bregeth hono rai gweithiau ar ol hyny, yr oedd yn un o'i ddewisolion, a chlywais ef dan arddeliad amlwg; ond i mi dim tebyg i'r tro cyntaf hwnw yn hen gapel anwyl Salem.
GYDAG EF YN WRECSAM.
Yn fuan ar ol hyn, ac mewn canlyniad i anogaeth garedig ganddo ef, aethum i a'm cyfaill y Parch. J. Arfon Davies, i Wrecsam i weithio, er mwyn gweled ychydig o'r byd, ac, fel y meddyliem, er mwyn ymgydnabyddu ychydig a'r iaith Saesneg. Hon oedd ein taith gyntaf oddi cartref, ac yr oedd yn un i'w chofio. Cychwynasom yn blygeiniol iawn i'n taith ar foreu hafaidd yn Mehefin, gan feddwl cerdded bob cam. Croesasom afon Conwy mewn cwch yn agos i'r Abbey, yn Maenan. Dringasom i fyny, ochr sir Ddinbych i Langerniw, Meddyliem wrth basio am, "Uchel gwrnad cloch Llangerniw," yn nghan Jac Glan y Gors, i'r teulu a gollasant rifedi yr wythnos. Ond nid oedd amser i weled y gloch, cyfeiriasom yn mlaen i Lansanan, gan adael y Caedu, hen gartref y Salisbury a gyfieithodd y Testament Newydd, a'r Chwibren, hen gartref Hiraethog a Tango y ci, dros afon Aled, "Afon fach y bardd," gan olchi ein traed yn hono fel pererinion defosiynol; aethom hefyd heibio i'r Nant, lle bu Twm yn dechreu rhigymu cerddi, a'i fam yn "rhincian "canwyll frwynen iddo. Cyraeddasom Dinbych tua dau o'r gloch, yn flinedig iawn. Wedi cael tamaid o rywbeth i dori ein newyn, a gorphwys ychydig, penderfynasom fyned gyda'r trên oddi yno i Rhuthyn. Gadawsom Rhuthyn am Llanarmon. Erbyn cyraedd yno, a bron yn methu symud gan flinder, nid oedd llety i'w gael. O'r diwedd cawsom letty noswaith gan un Nuttal yn Rhydtalog, gwr caredig a lletygar, a gwr y daethom ein dau yn gydnabyddus iawn ag ef ar ol hyny. Yr oeddym erbyn hyn wedi teithio o ddeg i ddeuddeg ar hugain o filldiroedd, ac mor flinedig ag yr oedd yn hosibl i ni fod. Boreu dranoeth Cyfeiriasom dros y Bwlchgwyn, i lawr i'r Coedpoeth, trwy Adwy'r Clawdd, ac i Wrecsam erbyn tua dau o'r gloch. Wedi holi ychydig cawsom hyd i dy Mr. Williams, ac nid anghofiwn yn fuan y modd caredig a chynes y derbyniodd ef a Mrs. Williams ni i mewn. Yr oedd wedi rhoi siars i ni alw yn ei dy ef, ac y gwnai ei oreu drosom. Ac felly y gwnaeth. Wedi cael cwpanaid o de, a gorphwys ychydig, daeth gyda ni allan, a rhoddodd ni yn ngofal ein cyfaill calon byth wedi hyny, Mr. Joseph Edwards. Yr oedd eisoes wedi gofalu am waith i ni gyda y diweddar Mr. Charles Griffiths, King's Mill, un o hen ddisgyblion Williams o'r Wern, a'r hwn oedd ar y pryd yn teyrnasu ar bron holl felinau y wlad, a llu mawr o fasnachwyr blodiau. Yn y gyfeillach, cyflwynodd Hwfa ni yn garedig dros ben i'r eglwys; yr oeddym wedi gofalu am ein llythyrau aelodaeth. Rhoddodd gynghorion tadol i ni ar pa fodd i ymddwyn mewn lle dieithr, ac i fod ar ein gwyliadwriaeth rhag temtasiynau tref wyllt ac annuwiol. Anogodd yr aelodau i fod yn garedig wrthym, a gwneud sylw o honon fel dau fachgen ieuainc dieithr a dibrofiad o'r wlad. Ond yn wir prin yr oedd angen yr anogaeth, nid wyf hyd heddyw wedi gweled eglwys mor anwyl o'u gilydd, ac mor groesawus o ddieithriaid, a'r eglwys fechan hono yn hen gapel diaddurn Pentrefelin. Bu i ni yn gartref oddi cartref; a bu y gweinidog a'i briod i ni fel tad a mam. Nid oeddym ein dau ond crefyddwyr ieuanc, wedi cychwyn yn ngwres diwygiad mawr 59 a 60; ac yr oedd byw oddi cartref, ac mewn tref, yn fywyd hollol newydd i ni. Ac yr oedd cael cyfeillion caredig a gofalus fel hyn ini ar y cyfryw adeg ar ein hanes, ac yn y fath le, yn beth nas gallwn ei brisio.
Maddened y darllenydd i mi am ymdroi gyda chymaint a hyn o hunangofiant yn nghofiant Hwfa Mon, ni fuaswn yn gwneud oni bae ei fod yn rhoi mantais i mi i ddangos Hwfa fel bugail yn fy adnabyddiaeth cyntaf ag ef. Profodd ei hun i ni ein dau yn fugail yn gwir ofalu am ei braidd. Nis gallwn anghofio ei garedigrwydd, na pheidio teimlo ein rhwymedigaeth iddo. Er y byddai lawer oddi cartref y pryd hwnw, ac er fod gofal yr eglwys yn Brymbo ar ei law, eto ni byddai yn anghofio y ddiadell fechan yn Pentrefelin, yr hon oedd yn agos iawn at ei galon.
HWFA A'R YMFUDWYR AMERICANAIDD.
Tra yn paratoi at hyn o ysgrif tynwyd fy sylw gan ysgrif yn y Drych Americanaidd, a chan ei bod yn ddyddorol dros ben, ac yn rhoi golwg brydferth ar gymeriad Hwfa, ac arno yn ei gymeriad bugeiliol, cymerwn ein rhyddid i'ddodi dyfyniad o honi i mewn yn y fan hon. Y penawd yw.—ADGOFION AMI BAGILLT A HWFA MON"; Gan y Parch. J. A. Jones, Dartford, Wis.
"Pan yn morio i America yn 1851 mewn llong hwyliau o Aberystwyth, arosodd y llong wrth angor yn Bagillt, Swydd Fflint, nos Sadwrn, i ddadlwytho. Gwelsom wr bucheddol yn myned i'r capel oedd gerllaw ar foreu y dydd Sabboth. Dywedasom wrtho fod arnom awydd dod i'r cyfarfod, ein bod ar ein ffordd i'r America, a bod ein dillad goreu yn rhwym yn y cistiau yn y llong. "O, nid gwiw i chwi chwalu y rhai hyny," meddai, yr ydych yn eithaf da fel yr ydych chwi, deuwch gyda fi i'r bregeth." Aeth a ni yn mlaen i'r fainc at y pwlpud.
Ysgolfeistr o nodweddiad coeth a boneddigaidd oedd yn pregethu yn absenoldeb y gweinidog oedd yn glaf. Nefoedd fechan i ni oedd clywed y saint yn adrodd eu profiadau aeddfed yn y gyfeillach. Porth y nefoedd i mi oedd cael bod yn y fath le o dan yr amgylchiadau pan oedd y galon yn glaf wrth gefnu ar Gymru fendigedig, a gwagle ydoedd y dyfodol i gyd o'n blaenau.
Boreu dranoeth cyn myned i ffordd, arweiniodd ni i wyddfod Mr. Williams, gweinidog Annibynol eglwys Bagillt, oedd ar ei glaf wely, ond nid yn beryglus felly. Ni wyddem ar y pryd mai ei "nom de plume" ydoedd Hwfa Mon. Dyn ieuanc hardd, dymunol yr olwg arno ydoedd, oddeutu deg ar hugain oed, gallasem feddwl, gyda llygaid llawn a threiddgar, cyflym a bywiog, yn edrych arnom gyda dyddordeb a difrifoldeb. "Wel," meddai, "yr ydych chwi eich dau yn myned i America, mae'n debyg." Ydym Syr. Wel, cofiwch chwi eich dau fod yn blant da. A ydych yn addaw bod." Ydym, Syr. "O'r goreu."
Edrychai arnom ein dau gyda theimlad tad tyner, a dywedai drosodd a throsodd "Cofiwch fod yn blant da yn America." Cododd ei ddwylaw fel pe yn yr agwedd o'n bendithio a gollyngodd ni cefnfor ymaith gan ddymuno nawdd y nefoedd drosom ar y tymestlog ac yn yr Unol Dalaethau. Synasom yr amser hwnw ac yr ydym yn synu eto wrth weled dyn dyeithr o agwedd mor bur a defosiynol yn dymuno ein llwyddiant tymorol a thragwyddol, a hyny o eigion ei galon. Y mae yn agos i bum deg a phump o flynyddoedd er hyny, ond eto y mae cyngorion ac edrychiad difrifol Hwfa Mon mor fyw a ffres i mi heddyw a phe buasai'r cyfryw wedi dygwydd y ddoe.
Anfonasom adref o Utica yr aethai llawer o bethau yn angof, ond nad aethai pobl urddasol Bagillt a chyngorion difrifol Mr. Williams y gweinidog byth yn angof!"
Ond i ddychwelyd at Hwfa yn Wrecsam a Brymbo. Tybiaf mai y cyfnod y llafuriodd yn y cylch hwn oedd yr un mwyaf llafurus, a dichon y mwyaf llwyddianus, yn ei hanes fel gweinidog. Yr oedd yr adeg hon yn mlodau ei ddyddiau, yn ddyn ieuanc cryf a golygus, a'i enwogrwydd fel pregethwr a bardd yn dechreu fflachio dros y wlad. Am dano yn y cyfnod hwn ysgrifena ei gyfaill Rhuddenfab yn Ngheninen Gwyl Dewi fel hyn :-"Yn ystod y tair blynedd y bùm yn byw yn Ngwrecsam cefais y fraint o fwynhau cyfeillgarwch diffuant Hwfa Mon a'i anwyl briod, yr hon oedd yn un o'r boneddigesau mwyaf caredig a welais erioed. Yn y blynyddoedd hyny yr oedd Hwfa Mon yn enill nerth fel pregethwr o Sabboth'i Sabboth, fel y tyfodd ar unwaith yn ffefryn yr eglwysi trwy Gymru, fel y profai y galwadau parhaus o hob cyfeiriad am ei wasanaeth. Yr oedd hyny yn peri iddo fod oddi cartref yn fynych, er gofid mawr i'w wrandawyr; a'r hybarch Ishmael Jones y Rhos yn gyffredin fyddai ei giwrad. Byddem weithiau yn cael cyfarfod ysgol yn ei absenoldeb. Ond pa un bynag ai pregeth gan arall, ai cyfarfod ysgol, fyddai genym, byddai Hwfa Mon y Sul canlynol yn gwneud iawn am y golled; a byddai y gynulleidfa yn gwirioni ar ei ddawn, ac yn meddwl mwy o hono nag erioed."
Bu dyfodiad Hwfa Mon i Brymbo yn fywyd o feirw i'r achos Cymreig yn Wrecsam. Y pryd hwnw yr oedd yr eglwys Annibynol yno fel llin yn mygu, a bron wedi diffoddi. Yr oedd golwg salw a digalon ar yr hen gapel, ac yr oedd ei amgylchoedd yn waeth na hyny. Fel yr eglwys yn Pergamus, trigai yr eglwys fechan "lle yr oedd gorsedd-fainc satan." Yr oedd Pentrefelin y pryd hwnw yn cael ei adnabod fel Bedlam Gwrecsam, trigfan y Gwyddelod, enwog am ei meddwdod a'i hymladdfeydd. Ond yr oedd yno "ychydig enwau, y rhai ni halogasant eu dillad," rhai o "heddychol ffyddloniaid Israel." Aeth dau o'r rhai hyn i Frymbo, i osod eu hachos gerbron yr eglwys yno. Dywedent, yn ol geiriau Rhuddenfab yn yr ysgrif y cyfeiriwyd ati, "fod yr achos yn Wrecsam, yn ol pob arwydd yn sicr o farw, os na ddeuai ymwared o rywle yn bur fuan." Wedi gwrando eu cwyn cyfododd Hwfa Mon a dywedodd, "Os bydd hyny yn foddhaol gan yr eglwys yma, yr wyf yn barod i roddi oedfa iddynt yn Ngwrecsam bob Sabboth am ddau o'r gloch, ac i gadw y gyfeillach ganol yr wythnos, am dymor, i edrych beth allwn wneud." Aeth y gynrychiolaeth adref yn galonog ryfeddol, ac fe ddechreuodd yntau gyflawni ei addewid ar unwaith; ac yn wyrthiol rywfodd dechreuodd yr achos yn Ngwrecsam ymfywiogi o hyny allan. Yr oedd pregethau Hwfa Mon y pryd hyny yn angerddol; tynai lonaid y capel bob Sabboth i'w wrando; a chwanegwyd lluaws at rifedi yr eglwys cyn pen ychydig amser. Erbyn hyn saif yr achos Annibynol yn Ngwrecsam yn gof-golofn oesol i lafur cariad gweinidog Brynseion. Mewn tair blynedd yr oedd yr achos oedd yn marw' wedi dyfod yn allu cryf yn Ngwrecsam, trwy weinidogaeth ddi-dal y llafurus a'r duwiolfrydig Hwfa Mon. Yr oedd ef wrth fodd ei galon tra fyddai achos ei Feistr mawr yn llwyddo dan ei ofal."
Ond ni chafodd Hwfa, mwy nag eraill o weinidogion Crist, ddianc heb gael ei boeni gan y rhai anhywaith a ymlusgant i'r eglwysi. Cyfarfu yntau, fel Hiraethog, a'r Ddafad ungorn gas," a chafodd aml i gorniad ganddi. Yr oedd yn aelod yn Pentrefelin tua'r adeg yma rhyw deiliwr, yn wr anfoddog a brwnt ei yspryd, a brathog ei dafod, a gwnaeth ymosodiad diachos ar y gweinidog un noson seiat. Ni chlywsom ei enw, dae waeth. Nid oedd yn ddyn iach iawn mae'n debyg, a dywedai y brawd a roddes ei hanes i ni fod ei flinder yn codi o natur ei afiechyd. Ond barn cariad oedd hon. Parodd y gwr hwnw boen calon i Hwfa, poen nas gallodd ei anghofio yn fuan. Er ei fod o duedd faddeugar a thosturiol, clywsom mai prin y gallodd faddeu i'r teiliwr hwnw, yr hwn cyn hir a alwyd i wyneb ei Farnwr. Yr oedd Hwfa Mon yn ddyn o deimladau cryfion a byw, teimlai yn angerddol oddiwrth fryntwch brodyr, suddai eu geiriau miniog i ddyfnder ei galon, ac nid hawdd yr anghofiai hwy. Fel cyfaill yr oedd yn ffyddlawn fel Jonathan i Dafydd; ond os cai dro gwael, digiai trwyddo, a dangosai hyny, ond nid trwy ddial. Yr oedd yn ormod o gristion i ddial, ac yn ormod o foneddwr i redeg neb i lawr yn ei gefn. Gwyddai Hwfa fod rhai yn ei fychanu ef yn ei gefn, yn ei feirniadu yn angharedig, yn hystyng pethau bryntion am dano, &'r rhai hyny weithiau yn frodyr, ond ni chlywid ef byth yn bychanu yn ol, nac yn enllibio ei gymydog yn ddirgel. Os na allai ganmol, gwell ganddo oedd tewi, ac yr oedd tewi Hwfa yn awgrymiadol. Weithiai difriid ef trwy y wasg, dan gysgod cowardaidd ffug enw, wrth gwrs, a phan welai beth felly cynhyrfai ei holl natur mewn digofaint at yr ymddygiad iselwael, ond ni ysgrifenai air yn ol. Llawer gwaith y tystiai yn ein gwydd na roddodd ei law erioed bin ar bapyr i ddifrio neb yn ei gefn. Y dystiolaeth hon oedd wir.
HWFA FEL DISGYBLWR.
Ystyrir disgyblu a cheryddu yr afreolus yn rhan bwysig, os nad y brif ran yn ngolwg rhai, o waith y gweinidog. Edrychir arno fel dyn llac a diofal am anrhydedd yr achos, os na fydd o hyd yn clecian y chwip, ac yn plycio yr efrau. Ond ni fuasai neb yn meddwl am Hwfa yn y cymeriad hwnw; nid oedd yn ei line. Gwell oedd ganddo adael i'r ddau gyd-dyfu hyd y cynhauaf, rhag ofn y buasai wrth ddiwrieiddio yr efrau yn diwrieiddio y gwenith gyda hwynt. Os oes ddisgyblu a cheryddu i fod, gwneler hyny gan y swyddogion, a gwneler hyny gan y rhai mwyaf ysprydol, ac mewn yspryd addfwynder, a chyda'r amcan o adgyweirio. A'r unig ffordd effeithiol i ddisgyblu a cheryddu yr afreolus, ydyw i'r eglwys ddangos y fath ymarweddiad pur a santaidd ag a'i gwnelo yn rhy boeth i rai felly deimlo yn esmwyth ynddi. Pan ofynwyd i Moody beth fuasai yn ei wneud â liquor merchant, pe buasai yn aelod yn ei eglwys, yn ddyn o gymeriad diargyhoedd, ac yn haelionus at yr achos, a fuasai yn ei ddiarddel? "No," meddai yn benderfynol, but I would make my church too hot for him." Dyna yr unig ffordd ddiogel ac effeithiol i ni ddisgyblu—gwneud ein heglwysi yn rhy boeth iddynt. Pan mae yr eglwys yn ei lle, mae dychryn yn dal y rhagrithwyr yn Seion. Ond medrai Hwfa ddisgyblu a cheryddu yn llym, os gwelai achos amlwg yn galw am hyny. Gwelsom ef yn ceryddu o'r pwlpud ragor nag unwaith. Yr oedd yn eiddigeddus dros anrhydedd ac urddas y pwlpud; os gwelai ysgafnder neu gamymddygiad wrth wrando cenadwri yr efengyl, teimlai fod rhwymedigaeth arno i arfer ei awdurdod i geryddu y pryd hwnw, ac ni phetrusai nodi allan ar gyhoedd y personau fyddai yn camymddwyn, a rhoddai iddynt wers nad anghofient yn fuan. Gwelsom unwaith frawd a eisteddai yn union o flaen ei lygaid yn lle edrych arno yn troi dalenau ei lyfr emynau. Nid oedd y brawd hwnw yn meddwl ei fod yn gwneud dim yn anfoesgar, llawer llai ddiystyru y pregethwr, ond felly yr arferai fod yn aml, er poen i rai. Safodd y pregethwr yn fud am eiliad yn y pwlpud, setiodd ddau lygaid bychain treiddgar dan eiliau trymion ar y dyn, pointiodd ef allan a'i fys, a gorchymynodd ef i gau y llyfr, a dywedodd mai arwydd o ddiffyg synwyr, neu ddiffyg crefydd, neu anfoesgarwch, oedd i ddyn ddarllen ei lyfr emynau yn ei set yn lle gwrando. Dychrynodd y brawd, ac nid anghofiodd y cerydd, ac nid anghofiodd y gynulleidfa hono. Dywedir am y diweddar Barch. R. Humphreys y Dyffryn, pan y byddai ef yn cael ei anfon gan y Cyfarfod Misol i ryw eglwys i drafod mater o ddisgyblaeth, y byddai y cymydogion yn arfer dyweyd, wedi deall pwy fyddai y llysgenadwr. "Ni bydd eisiau yr un crogbren y tro hwn." Nid llawer o waith i'r crogbren a wnaetli Hwfa yn ei oes. Y llinellau amlycaf yn ei gymeriad ef oedd caredigrwydd a thynerwch; camgymerai rhai hyn yn feddalwch, ond nid y rhai a'i hadwaenent oreu.
A OEDD HWFA YN YMWELWR?
Gofynais i chwaer graff, ddeallus, oedd yn aelod yn Brynseion, Brymbo, pan oedd Hwfa Mon yn weinidog yno, ac un sydd yn parhau yn aelod ffyddlon yno hyd heddyw, sef Mrs. Price, sut un oedd Hwfa fel ymwelwr a'i bobl. "Ni byddai byth," meddai, "yn galw yn ein tai ond pan y byddai achos am hyny. Yr oedd yn rhy brysur i dreulio ei amser i chwedleua yn ein tai. Ond os byddai afiechyd, neu rhyw drallod mewn teulu, ac iddo gael gwybod, byddai yno ar draws pobpeth, ac nid oedd neb y cerid ei weled yn fwy. Darllenai a gweddiai gyda'r claf, a chynghorai a diddanai y rhai mewn trallod; ac os gwelai fod eisiau, nid a'i allan o'r ty heb adael rhyw ddarn arian ar ei ol yno." "Yr oeddym ni," meddai Mrs. Price yn mhellach, "yn hoff iawn o Hwfa, a Mrs. Williams, a cholled fawr i ni oedd ei ymadawiad oddi yma. Ond nis gallem ei feio, gan ei fod yn cael gwell lle."
Gofynais i frawd craffus, ac un gafodd gyfle i adnabod Hwfa fel bugail, flynyddoedd yn ddiweddarach ar ei oes, beth oedd ei brofiad ef o hono. A dyma fel yr ysgrifena ei gyfaill, Mr. Richard Griffiths, Llangollen, am dano:—"Mae'n debyg pe baid yn holi aelodau a chorph yr eglwysi yn y gwahanol leoedd y bu yn gweinidogaethu, mae dyma fyddai y ddeddfryd, eu bod yn hoff iawn o Hwfa Mon fel gweinidog a boneddwr caredig ac fel cyfaill, ond mai lled anfynych y byddai yn talu ymweliad a hwynt fel teuluoedd; ond byddent oll yr un mor barod i gydnabod gwirionedd arall sef hwn, pan y byddai aelodau o'i gynulleidfa neu wrandawyr mewn afiechyd neu mewn galar neu gyfyngder——y foment y cai Hwfa Mon glywed am y cyfryw byddai yn talu ymweliad â hwy ar ei union; ac os y byddai yn cynnal moddion bychan wrth erchwyn eu gwelyau, byddai yn ddoeth iawn yn newisiad rhan o'r ysgrythyrau pwrpasol i'r amgylchiad ac yn hynod effeithol ar ei luniau yn cyflwyno y cyfryw i ofal eu tad nefol; ac os byddai yn credu y gallai fod teulu mewn angen ni byddai byth yn canu'n iach a'r cyfryw heb adael swllt neu hanner coron yn nghil dwrn y claf. Mae gweinidogion llai enwog na Hwfa Mon yn sicr o fod yn fwy blaenllaw nac y byddai ef yn talu ymweliadau rheolaidd o dy i dy gyda'u cynulleidfaoedd, ond i ddyn oedd a chymaint o waith à Hwfa Mon yr oedd yn lled anhawdd iddo hebgor amser i dalu ymweliadau rheolaidd a'r cynulleidfaoedd, pan y byddant yn mwynhau iechyd.
Yr oedd hefyd yn gwneuthur gwasanaeth neullduol yn y cyfeillachau wythnosol a'r cyfarfodydd gweddio trwy wnenthur (1) yn y cyfeillachau sylwadau byr a phwrpasol ar sylwadau yr aelodau (2) ac yn y cyfarfodydd gweddio byddai ganddo sylw byr ar ol y weddi neu yr ychydig adnodau fyddant wedi cael ei dyweyd gan y rhai fyddai yn cymeryd rhan, a byddai yn hapus neillduol ar adegau yn gwrandaw adnodau ac yn holi y plant yn y cyfarfodydd hyn. Yr oedd yn hynod o hoff o blant ac yn gallu enill eu serch a'u sylw yn yr addoldy yn gystal ac yn y tai.
Clywais sylw am y diweddar Dr. Thomas Binney, un o gewri y pwlpud yn Llundain y ganrif ddiweddaf, digwyddodd glywed fod. y gynulleidfa yn cwyno a hyny yn lled chwerw mae hynod o anfynych y byddai yn talu ymweliad a hwy yn eu tai, ond ei fod yn pregethu yn anfarwol bob Sabboth, ac ar ddiwedd y gwasanaeth boreuol y sabboth canlynodd, crybwyllodd ei fod wedi clywed y gwyn ai fod am ddiwygio yn y peth hyny, ac meddai yr wyf am dalu ymweliad a chymaint o honoch fel aelodau a chynulleidfa o boreu llun hyd nos sadwrn. A'r Sabboth canlynol ar ol myned trwy y gwasanaeth o ddechreu yr oedfa—yr hyn a wnaeth yn hynod effeithiol—sylwodd ei fod wedi mwynhau ei hunan yn ddirfawr yn talu ei ymweliadau, ond yn anffodus nad oedd wedi cael un foment o amser i barotoi pregethau gogyfer a'r Sabboth ac felly meddai byddaf heddyw borau yn eich gollwng allan ar ol canu a gweddio. A chlywais na bu neb yn cwyno ar ol hyny nad oedd yn talu ymweliad a'i gynulleidfa. Dyma y wers y mae'r hanes yn ei awgrymu, os bydd gweinidog yn gwneuthur ei ddyledswyddau yn rymus yn y pwlpud, ac hefyd yn y gwahanol gyfarfodydd ynglyn ar achos, mae peth annoeth ydyw disgwyl i'r cyfryw dalu ymweliadau cyson a'r tai annedd, os na bydd afiechyd neu alar neu gyfyngderau yn cyfarfod teuluoedd."
Eithaf gwir a ddywed Mr. Griffiths, mae yn amhosibl i unrhyw weinidog, gan nad faint ei alluoedd, gyflawni ei waith yn effeithiol yn y pwlpud ar y Sabboth, os treulia lawer o'i amser mewn ymweliadau dianghenrhaid â thai ei bobl yn ystod yr wythnos. "A house—going pastor makes a church—going people," meddai Dr. Chalmers. Digon tebyg, but a house—going pastor makes a weak pulpit. A rhaid i'r eglwysi gymeryd eu dewis, os am "house—going pastor" rhaid iddynt foddloni ar bwlpud gwan; ond os am bwlpud cryf rhaid iddynt beidio dysgwyl i'w gweinidog dreulio ei amser i ofer siarad yn eu tai. "Peidiwch," meddai y cawr bregethwr Ap Vychan, wrth roddi siars i eglwys ar ordeiniad gweinidog, "Peidiwch a dysgwyl iddo fod lawer o'i amser yn eich tai chwi; mi ddaw mi wn pan fydd achos yn galw, ond i chwi roi gwybod iddo, ond peidiwch a dysgwyl iddo fod fel ciwrad yn trotian o dy i dy i yfed te gyda chwi ar hyd yr wythnos; neu os gwnewch chwi, rhaid i chwi foddloni ar bregeth bach fain fain, fel pregeth ciwrad, ar y Sul. Mae ar bregethwr eisiau bod yn ei study yn darllen a myfyrio, a pharatoi ei bregethau, ac nid yn chwedleua ar hyd y tai. Ac oni fydda fo yn beth digrif gweled gweinidog yn myned a gwmpas tai ei bobl bob boreu ddydd Llun, fel casglwr trethi, a gofyn yn y drws, "Oes yma rhywun yn sal heddyw," ac felly yn mlaen nes myned rownd iddyn nhw." Ac eto rhaid ymweled, yn enwedig a'r esgeuluswyr a'r trallodus. Ond y gamp yw ymweled i bwrpas. Mae rhai yn ymweled yn rhy aml, eraill yn rhy anaml. Mae ymweled rhai yn fantais i'r weinidogaeth, mae ymweled eraill yn andwyol i'r weinidogaeth. "Buaswn yn gallu gwrando yn well ar Mr——— pe buasai heb fod yma yn adrodd straeon ffol i ddifyru y plant acw y dydd o'r blaen," meddai gwraig gall a chrefyddol am ei gweinidog. Dylai ymweliad y gweinidog â thai ei bobl fod yn foddion o ras i'r teulu, nid yn sych-dduwiol chwaith, a sanctimonious, ond yn hollol rydd, agos, a naturiol; nid yn rhyw swyddogol bwysig, neu offeiriadol, ond fel cyfaill caredig. Mae yn debyg mai yr un oedd yn medru gwneud hyn berffeithiaf oedd y diweddar Parch. W. Griffiths, Caerygbi. Yr oedd ymweliad y gwr anwyl a santaidd hwnw a thai ei bobl fel ymweliad Angel Duw, bron fel ymweliad Iesu Grist. Ni byddai byth yn aros yn hir, ond digon hir hefyd i ysgwyd llaw a phob un ac i ddyweyd rhyw air yn ei amser" wrth bob un, ac ni phasiai yr eneth forwyn os gwelai hi. Yr oedd ef yn gofalu na byddai ei ymweliadau a thai ei bobl yn anfantais iddo yn y pwlpud, ond yn hytrach yn fantais. Ac onid oedd amryw o'r hen weinidogion yn enwog fel ymwelwyr doeth. Ofnir fod y to presenol o weinidogion. yn mhell ar eu hol yn hyn. Cwynir fod ambell un gafodd ei addysg ar draul yr enwad, yn ystyried ei hun yn rhy fawr (?) i ymweled. a phobl ei ofal, yn enwedig â'r aelodau cyffredin, talant rhyw social visits a'r rhai pwysicaf. Mae eraill, o ddiogi neu ddiffyg meddwl, yn gadael y gwaith i'r ficar a'i giwrad, ac felly collant eu pobl. Mae eraill yn ymwelwyr mor annoeth fel y byddai yn llawer gwell iddynt beidio. Meddai y gwr ffraith hwnw, y Parch. J. Stephens, Brychgoed, wrth gynghori cyfaill unwaith ar y mater hwn, "Peidiwch a myned yn rhy aml i dai eich aelodau, ond bydd yn rhaid i chwi ymweled a hwy weithiau hefyd. Ceisiwch gael gafael ar y man canol. Y mae un yn cario y gwair yn rhy newydd, felly mae yn fynych yn llosgi ganddo. Y mae arall yn gadael y gwair yn rhy hir heb ei gario, felly gwair llwyd sydd ganddo bob amser. Y mae man canol i gario gwair. Ac y mae man canol ar ymweliadau gweinidogaethol. Peth mawr yw i chwi gadw eich aelodau rhag llosgi mewn hyfdra gormodol arnoch, a rhag llwydo mewn dieithrwch oddi wrthych. Cofiant fod man canol arni."
Pennod VII.
FEL GWEINIDOG.
GAN W. J. PARRY, BETHESDA.
Y TRI Gweinidog cyntaf y bum tanynt yn Bethesda oeddynt Y Parchn Llewelyn Samuel; David Jones B.A.; a Hwfa Mon. Ni fu tri mor anhebyg iw gilydd, mi gredaf, yn yr un un Eglwys erioed. Cof plentyn sydd genyf am Mr Samuel, gan iddo farw cyn fy mod yn dair-ar-ddeg oed, ond mae ei nodweddion fel Gweinidog yn ddigon hysbys. Gan y byddai yn dra mynych yn nhy fy rhieni cefais bob mantais, er yn ieuanc i sylwi ar rai pethau oeddynt yn ei wneud yn boblogaidd. Dyn byr, cryno, bywiog, o bryd tywyll oedd Mr Samuel. Enillai serch plant mor fuan ag y deuai iw cymdeithas. Gofalai am fod ar delerau da a phawb. Gallai pawb agoshau ato. Mantais fawr iddo oedd y ffaith ei fod yn adnabod pob aelod wrth ei enw. Pregethai bob amser yn fyr ac yn felus. Anaml yr ai ei bregeth dros ugain munud. Byddai yr eneiniad yn wastad ar y gwasanaeth gyd ag ef; a gofalai na byddai yr un gwasanaeth crefyddol yn myned dros awr. Credai mewn tori pob cyfarfod yn ei flas. Cyfeillachau profiad y credai ef ynddynt, ac yr oedd yn dra llwyddianus i dynu allan brofiad yr hen frodyr a'r hen chwiorydd. Ni phasiai neb ar yr heol heb gyfarch gwell iddynt, na neb plentyn heb osod ei law ar ei ben, ai anog i fod yn blentyn da, a gofalu am adnod iw hadrodd yn y gyfeillach; a gwelid plant yn rhoi goreu iw chwareuon pan y deuai ef i'r golwg, a rhedent ato er derbyn ei fendith, a theimlo ei law ar eu penau. Byddai gwên ar ei wyneb yn wastad, a geiriau cysurlawn, calonogol, yn dyferu dros ei wefusau. Cymerai drafferth i astudio cymwysder pob aelod, er eu gosod yn y tresi i wneud y gwaith y credai ef y byddent gymwysaf iddo, ac nid yn aml y methai. Fel hyn arbedai lawer arno ei hun, heblaw y rhoddai fantais i rai i ddadblygu mewn gwaith y byddent gymwys i wasanaethu yr Eglwys a Christ ynddo. Anfynych yr ai ei hun trwy ran arweiniol unrhyw wasanaeth gan y byddai wedi arfer rhai o'i Swyddogion, a rhai o'r aelodau i wneud hyny, ac yr oedd amryw o honynt yn rhagori mewn hyn o waith. Rhai o brif neillduolion ei gymeriad fel Gwenidog, oeddynt, dawn, byrder, craffter, tynerwch, a chyfrwystra. Dilynwyd ef gan Mr Jones, yr hwn oedd wr gwahanol iawn iddo. O ran corph nid oeddynt yn anhebyg. Yr oedd y naill fel y llall o gorph byr, cryno, a thywyll o bryd. Yr oedd Mr Jones yn fwy o Student nag ef. Prin y gwelai neb ar yr heol, ac os gwelai rhywun ni wyddai pa un ai iw gynulleidfa ef neu rhyw un arall y perthynai. Cafwyd prawf o hyn gyd ag ef lawer gwaith. Yn ei Study yr oedd yn byw, hyd yn nod pan ar yr heol. Anogid ef gan y swyddogion i ymweled, ond pan y galwai mewn ty hawdd oedd gweled mai yn ei Study yr oedd yn y fan hono. Yn y gyfeillach anerchiad gwerth ei gwrando ar rhyw fater neu gilydd geid ganddo, yr hon yn fynych ni roddai le naturiol i brofiad dori allan ar ei hol. Dadblygodd yn gyflym fel pregethwr yn y cyfnod byr y bu yma. Daeth yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd Cymru, rhwng 1859 ac 1879, ac ni chafodd odid i weinidog oedfaon grymusach nag ef yn y blynyddoedd yma. Yr oedd mwy o'r athronydd na'r Bardd yn ei bregethau. Dilynwyd ef gan Hwfa un o brif Feirdd yr oes. Yr oedd tân Barddoniaeth yn tori allan pa bryd bynag y codai i siarad, gan gynhesu calon y gwrandawyr. Clywais ganddo yn ei bregethau rai o'r sylwadau mwyaf prydferth—farddonol glywais o bwlpud erioed. Yr oedd pob un o'r tri yn tynu tyrfaoedd ar eu hol. Ond doniau gwahanol iawn oedd gan y tri i wneud hyn. Dawn melus y cyntaf, ynghyd ai ddull dengar o drafod pobl oedd yn denu y dyrfa ar ei ol ef. Pregethau grymus, ac ysgoleigdod yr ail oedd yn tynu y bobl iw wrando. Meddyliau barddonol, cymraeg pur, aceniad clir, ac araethyddiaeth esmwyth y trydydd oedd yn sicrhau llond capel iw wrando bob tro yr esgynai i'r Areithfa. Yr oedd y tri yn talu sylw mawr i ieuengetid yr Eglwys, er nad yn yr un dull. Cymerai y cyntaf drafferth iw hastudio, ac yna iw cyfarwyddo i ymdaflyd i waith neillduol yn yr Eglwys y credai ef y gallent fod o fwyaf o wasanaeth ynddo. Cynhaliai yr ail ddosbarthiadau Beiblaidd a Gramadegol, ac fel hyn rhoes gychwyn da i nifer fawr o fechgyn fu ar ol hyny o wasanaeth i'r Eglwys fel Athrawon yn yr Ysgol Sul. Tra y casglai y trydydd nifer dda o honynt at eu gilydd i wrandaw ar ei Ddarlithoedd ar "Y Gwr Ieuanc"; "Coron Bywyd"; a "Barddoniaeth." Ac yn ychwanegol at hyn rhoes fywyd newydd yn Ngymdeithasau Llenyddol y Gymdogaeth fuont yn offerynol i ddwyn i'r amlwg lawer talent fuasai oni bai am hyny dan gudd. Yn ddiddadl i Hwfa a Tanymarian y perthyn y clod penaf am y llywyddiant mawr fu ar Eisteddfodau Cadeiriol Cymreigyddion Bethesda rhwyg 1864 ac 1870.
Mae taflen argraffedig tymor Darlithoedd Hwfa am 1865—6 yn awr ger fy mron, dyma hi:—
Traddodir darlithiau ar y testynau canlynol gan y Parch; R. Williams (Hwfa Mon)
yn Ysgoldy Bethesda yn ystod misoedd Y gauaf.
Rhagfyr 6 1865
Addysg y Bobl ieuanc
Ionawr 8 1866
Y pwys o Ffurfio Cymeriad
Chwefror 7 1866
Gwir Enwogrwydd
Mawrth 7 1866
Crefydd Bur.
Traddodir y Darlithiau hyn yn rhad i bawb, a hyderir y byddant yn
foddion i wneud lles dirfawr ir oes sydd yn codi yn Bethesda."
Fel Gweinidog, pan yn Bethesda, yn y Pwlpud y rhagorai Hwfa.
Yma yn ddiddadl yr oedd yn Feistr y Gynulleidfa. Gosodai pob
osgo o'i eiddo urddas ar y Swydd. Ni welwyd nag edrychiad nag
ymddygiad gwamal ganddo yn y Capel. Byddai difrifoldeb mawr iw
weled ar ei wedd, a phan yn esgyn grisiau y Pwlpud gadawai argraff
ar bawb na ystyriai y gwaith yn ddibwys. Wrth bregethu torai bob
gair yn glir a chywir; yr oedd aceniaeth bur yn naturiol iddo, ac yn
fwy felly na neb a wrandewais oddigerth Caledfryn. Siaradai mor
esmwyth a naturiol, mor groew a hyfryd, mor swynol a llyfn, gan
hoelio pob clust wrth ei eiriau. Nyddai eiriau prydferth iawn ar
adegau, gan eu dyblu a'u treblu weithiau gyd ag arddeliad. Yr oedd
yn dra gofalus o deimladau pobl, a hen air ganddo oedd,—nad oedd
gan neb hawl i friwio teimlad dyn mwy na'i gorph,—ond gwelwyd
ef rai gweithiau o'r Pwlpud, ond anfynych iawn, yn rhoi ergydion
trymion i rai troseddwyr.
Yr unig gwyn yn ei erbyn tra yn Weinidog yn Bethesda oedd ei feithder. Ymdaflai mor llwyr iw bregeth a chwysai gymaint nes ei gwneud yn angenrheidiol iddo newid ei ddillad isaf yn y ty Capel bob nos Sul cyn cychwyn gartref. Yr oedd gofal yr hen Dadau anwyl gymaint am dano nes pledio yn fynych gyd ag ef i arbed mwy arno ei hun. Ond ni thyciai dim. Bu ei iechyd yn wanaidd rhyw flwyddyn cyn iddo adael Bethesda, a rhoddwyd ar ddau o'r Diaconiaid i siarad ag ef ar y mater. Yn ofer y bu y tro hwn hefyd. Yn mhen rhyw fis ar ol hyn cyfarfyddodd un o'r ddau, a hwnw yn wr lled blaen, a thipyn yn finiog ei eiriau ar adegau, a Hwfa yn dychwelyd o daith ar brydnawn Sadwrn a bag lledr bach yn ei law, ac wedi ei gyfarch ychwanegodd y Diacon,—"Gwag mi gredaf yw hwna erbyn hyn, ac felly mae gobaith pregeth fer foru!" Teimlodd Hwfa y sylw, ac yn neillduol y dôn yn mha un y dywedwyd ef, ac aeth yn mlaen heb yngan gair. Dranoeth yr oedd yn pregethu y boreu yn Treflys; yn Saron y prydnawn; a'r nos yn Bethesda. Yn y ddau le blaenaf pregethodd fel arfer. Y nos daeth i Bethesda at amser dechreu, ac yn groes iw arfer aeth yn syth i'r Pwlpud heb wneud sylw o neb. Yr oedd y Capel yn orlawn fel y byddai bob nos Sul gyd ag ef. Rhoes benill allan iw ganu. Darllenodd y Salm 97. Rhoes benill drachefn iw ganu; a gweddiodd yn fyr ond yn llawn teimlad. Cymerodd ei destyn yn yr unfed adnod arddeg o'r Salm,—"Hauwyd goleuni i'r cyfiawn, a llawenydd i'r rhai uniawn o galon." Pregethodd am ugain munud gyd a mwy o swyn a dylanwad nag y clywais ef erioed, ar,—"Y Cyfiawn mewn tywyllwch, a'r Cyfiawn mewn goleuni." Yr oedd yr holl wasanaeth drosodd am ugain munud i saith, a neb yn symud o'u heisteddle, gan gredu mae rhyw drefn newydd o eiddo Hwfa o ddechreu y gwasanaeth ydoedd. Wrth weled neb yn symud cododd yn y Pwlpud, ac aeth i lawr grisiau y pwlpud, a phan yr eisteddodd yn y Gadair o dan y Pwlpud y drechreuodd y gwrandawyr symud allan. Byddwn yn fynych ar nos Sul yn ei ddanfon gartref i Dolawen, a'r noswaith hon cymerodd fy mraich gyd a fy mod o'r Capel, ac aethom yn mlaen fraich yn mraich am rhyw chwarter milldir heb ddweud gair, yna troes yn sydyn attaf," Dyne nhw Parry; ai e wir; fedr Hwfa ddim pregethu yn fyr!" Mi ail a thrydedd adroddodd hyn, gan ei fwynhau yn rhyfeddol. Cafodd lonydd byth wedyn.
Fel ymwelydd nid oedd yn enwog. Yr oedd yn anhawdd iddo fod yn ymwelydd cyson gan fel y deuai galwadau am dano mor fynych, ac yntau yn hawdd iw ddenu,-i Ddarlithio; i Gyfarfodydd Pregethu; i Eisteddfodau a Chyfarfodydd Llenyddol. Pan yr ymwelai nid hawdd oedd cael ei well mewn hyn o waith. Talai sylw i bob aelod o'r teulu o'r bach i'r mawr, a byddai ganddo air melus a chysurlawn i bob un o honynt, ac wedi gwneud rhyw sylw caredig o bob aelod o'r teulu, au hanog i fod yn ffyddlawn i foddion gras, a chilio oddiwrth bob drwg, ymadawai heb ymdroi, gan adael ar ei ol bersawr hyfryd. Ni roddai gyfle byth i neb chwedleua ag ef pan ar ymweliad. Gwelais rai yn ceisio ac yn methu. Wrth wely y claf yr oedd heb ei ail im tyb i. Yr oedd cydymdeimlad iw deimlo yn mharabliad pob gair ddywedai, a byddai rhai o'i eiriau ar adegau felly fel dyfroedd oerion i enaid sychedig; ac fel diliau mel i gysuro ambell i ddioddefydd. Gwelais ef fwy nag unwaith wrth erchwyn. gwely hen gristion pan yn marw ai ddagrau yn llifo, ai ocheneidau yn llanw yr ystafell. Yr oedd ganddo galon dyner neillduol.
Yn y Gyfeillach drachefn byddai wrth ei fodd yn nganol y brodyr a'r chwiorydd. Ni cheid ond gair byr ganddo ar gychwyn y Gyfeillach, ac yna ar ol gwrandaw adnodau y plant tynai allan yr hen frodyr a'r hen chwiorydd i adrodd eu profiadau, a chafwyd lliaws o Gyfeillachau bendigedig gyd ag ef. Yn fynych iawn ai trwy y llawr gan ddweyd gair wrth hwn a'r llall wrth basio er eu tynu allan, ac anfynych y methai ddwyn perl i'r golwg. Bu rai troion digrif gyd ag ef ar adegau felly. Yr wyf yn cofio un felly gyd a William Jones Tangarth. Hen wr byr ei ddawn oedd William Jones, a byr ei wybodaeth, hynod ymdrechgar gyd a'r byd, ond tra selog am ddod i bob moddion Crefyddol, er yn ymddangos tra yno yn cysgu ai bwysau ar ddrws y set. Un nos cyfeillach daeth Hwfa heibio iddo o'r tu ol gan daro ei law yn sydyn ar ei ysgwydd nes startio yr hen wr. Meddai Hwfa,—"Wel William Jones, a oes genych brofiad adroddwch chi i ni heno? Yr ydych yma mor gyson a neb. Beth bynag fydd y tywydd, a phwy bynag fydd ar ol, yr ydych chi yma'n wastad. Yr ydych wedi clywed llawer ac amrywiol brofiadau yn y blynyddoedd meithion y buoch yn aelod yma; ac yr ydych wedi myned trwy lawer tywydd blin sydd yn magu profiad. Mi fyddaf yn clywed y byddwch yn y bore glas, cyn pedwar o'r gloch, i fyny ar y mynydd gyd a'ch cawell; ac ar ol caniad yn y chwarel yn yr hwyr yno drachefn. yn yr hwyr yno drachefn. Mae hyny yn profi fod eich diwydrwydd a'ch gofal am y byd yn fawr iawn." Gyd a bod y gair yna dros wefus Hwfa, a chyn iddo gael cyfle iw gymwyso, dyma yr hen wr yn codi ei wyneb yn sydyn at wyneb Hwfa gan ofyn, "A welwch chwi Mr Williams rhyw fai arna i am hyna ?" "Wel," meddai Hwfa yn bwyllus "Na wela i, ond—" "Wel, waeth gen i am ddim ond" meddai William Jones "eisio gwybod sy arna i, ydio'n bechod gofalu am y byd?" "Wel, nag ydi," meddai Hwfa,—"Wel, pirion ynte" meddai William Jones, gan ddropio ei ben i lawr ar ddrws ei set i orphen ei nap, ac ymaith a Hwfa dan wenu.
Yr oedd ganddo ddigon o bwyll i gyfarfod a dynion anhydrin, ac amgylchiadau dyrus yn yr Eglwys, fel ag i fyned trwyddynt yn ddidramgwydd. Bu mwy nag un amgylchiad tra y bu yn Bethesda iw brofi yn y peth hwn. Gallaf gyfeirio at un o honynt. Wedi iddo gychwyn yr achos yn Treflys aeth dau o Ddiaconiaid Bethesda yno, ac yr oedd y nifer yn Bethesda wedi disgyn i 5; sef, John Pritchard; David Griffith; William Roberts; Griffith Rowlands; a Robert Williams. Penderfynodd yr Eglwys yn unfrydol yn Mawrth 1866 i godi 4 Diacon newydd, a rhoddwyd rhybudd o fis o hyny. Penodwyd ar yr 20ed Ebrill i wneud hyn. Daeth yn nghyd rhyw 300 o'r Aelodau ar y noswaith benodedig. Wedi dechreu y moddion hysbysodd Hwfa pa fodd y bwriedid myned yn mlaen gyd a'r dewisiad, gan wneud ychydig sylwadau ar waith y — Swydd a'r cymwysderau iw llanw. Gyd ai fod yn eistedd i lawr cododd un o'r pregethwyr cynorthwyol ar ei draed a gofynodd am ganiatad i ddweyd gair cyn pleidleisio. Ar ol cyfeirio at adegau eraill pryd y codwyd blaenoriaid yno, y rhai yn ol ei farn ef oeddynt o'u hysgwyddau i fyny yn uwch na'r gweddill o'r Eglwys, ychwanegodd,—"Yr ydych wedi penderfynu codi pedwar? Pedwar o beth? Yr ydych wedi bod yn llawer rhy fyrbwyll yn penderfynu ar rif. Beth wnaeth i chwi ddod i benderfyniad i ddewis pedwar ? A welwch chwi bedwar? A welwch chwi dri? Welwch chwi ddau ? Prin y gwela i un. Cofiwch na wna pob math o aelod Ddiacon. Ynfydrwydd perffaith ydi i chi fyned yn nglyn a'u codi heb fod eu hangen, a bod rhai cymwys yn y golwg. Dylai y pedwar, neu y tri, neu y ddau, neu yr un fod yn amlwg ddigon i gorph yr Eglwys cyn penderfynau ar y rhif. Hoelion wyth ddylai Diaconiaid Eglwys fod, ond wela i ddim o'm blaen yn yr Eglwys yma yn awr ond sparblis, sparblis, sparblis. Peidiwch dewis sparblis o Ddiaconiaid!" Yr oedd y wich oedd yn ei lais pan yn gwawdio yn dwys—hau y diystyrwch gyd a pha un y llefarai y geiriau hyn. Erbyn iddo orphen yr oedd yr amser wedi cerdded yn mhell, a chododd Hwfa yn araf; ni chyfeiriodd o gwbl at yr araeth, yn unig dywedodd,— "Daethom yma heno yn ol penderfyniad Eglwysig gymerwyd yn bwyllog, ar ol gweddio ar Dduw am arweiniad, i daflu ein coelbren bleidleisiol yn newisiad pedwar Diacon, fel y gobeithiwn da eu gair a llawn o'r Ysbryd Glan.' Erbyn hyn mae yr amser wedi myned yn bell, a gohiriwn y gwaith hyd nos Fawrth nesaf. Bydded i bob un, i bob un, weddio o hyn hyd hyny am arweiniad. Nos Fawrth nesaf am saith o'r gloch, ar ol canu, darllen, a gweddio, awn yn gyntaf peth at y gwaith o ddewis pedwar Diacon. Ni a roddwn ein gofal i'r Arglwydd." Yr oedd yr Eglwys oll gyda Hwfa yn y cwrs gymerodd. Gwnaed fel yr hysbyswyd y nos Fawrth dilynol, y 24ain Ebrill 1866, a dewiswyd pedwar, ac y mae dau o honynt yn aros yn Ddiaconiaid hyd y dydd hwn. Allan o 278 bleidleisiodd y noswaith hono cafodd y cyntaf 275; yr ail 273; y trydydd 248; a'r pedwerydd 149. Gallasem yn rhwydd gyfeirio at ddigwyddiadau eraill brofai ei bwyll a'i ddoethineb mewn amgylchiadau dyrus.
Yr oedd yn neillduol ofalus am supplies da i lanw y Pwlpud yn ei absenoldeb. Cof genyf am un digwyddiad lled ddigrif ddigwyddodd gydag un o honynt, sef Scorpion. Yr oedd Hwfa yn supplio Fetter Lane, Llundain yn mis Mai 1867, yr hyn a ddilynwyd gan Alwad iddo oddiyno. Mae yn ymddangos fod Hwfa wedi trefnu, yn ol fel y mynai Scorpion, iddo ef ddod i Bethesda Sabboth Mehefin 9, ac i Hwfa ar ei ffordd gartref i fod yn Llanrwst. Y prydnawn Sadwrn blaenorol daeth Scorpion i Bethesda a galwodd yn Masnachdy Mr Robert Jones, Bookseller, a phan welodd Mr Jones ef gofynodd mewn syndod,—"Beth ydych chi yn wneud yma Mr. Roberts?" "Dyfod yma i supplio yn lle Hwfa foru." "Wel" meddai Mr Jones "Hwfa sydd wedi ei gyhoeddi yma, ond mae'n debyg mai wedi anghofio hysbysu y cyhoeddwr y mae." Felly tawelwyd. Aeth Mr. Roberts yn mlaen i Dolawen, a gwelai ar unwaith nad oedd Mrs Williams ychwaith yn ei ddisgwyl, ond yn ddoeth, fel y hi, gwnaeth ef yn gwbl gysurus, er ar yr un pryd yn teimlo fod rhyw ddyryswch, gan ei bod y bore hwnw wedi cael gair fod Hwfa yn dod adref gyda thrain hwyr y noswaith hono. Wedi swper aeth Mr Roberts i'r gwely, ond nis gallai gysgu gan fod yr argraff wedi dyfnhau gyda holiadau Mrs Williams fod rhyw ddyryswch yn bod. Yn fuan wedi haner nos clywai ddrws y front yn agor, a rhywun yn dod i mewn. Cododd i ddrws ei ystafell, a chlywai siarad distaw yn y passage, ac o dipyn i beth gwnaeth allan lais Hwfa. Rhoes ei ddillad am dano, ac aeth i lawr i'r gegin, lle yr oedd Hwfa mewn chwys mawr yn cael cwpanaid o de. Mewn ysbryd uchel gofynodd Scorpion,—"Hwfa, beth yw peth fel hyn?" "Wel Mr Roberts bach" meddai Hwfa "yr ydych wedi cam gymeryd y Sabboth, y Sabboth nesaf ddarfu mi ofyn i chwi" "Nage, Nage," meddai Scorpion "y Sabboth yma, y Sabboth cyntaf wedi i chwi ddod o Llundain ofynsoch i mi, ond waeth prun bellach beth ydych chwi yn myn'd iw wneud, a ydych chwi yn myned i gychwyn dros y Benglog i Llanrwst y munud yma, neu mi rwyf fi yn myn'd? Ni chaiff fy mhobol i ddim bod heb bregethwr foru." Plediai Hwfa, a Mrs Williams, bob sut yn erbyn i'r naill na'r llall o honynt orfod myned ar y fath awr, dros y fath le, y fath bellder, ei fod ef wedi blino ar ol teithio o Lundain i Fangor, a cherdded o Fangor i Dolawen, 7 milldir o ffordd, ond ni ysgogai Scorpion. Rhoes ei Overcoat am dano, ei het am ei ben, ai Umberela yn ei law i gychwyn. Pan welodd Hwfa hyn rhoes i mewn, a chychwynodd rhwng un a dau o'r gloch yn y bore, a chyrhaeddodd Talywaen ger Capel Curig rhwng tri a phedwar y bore. Cododd y teulu. Yr oedd wedi llwyr ddiffygio, a gwnaeth Mrs Jones iddo fyned i'r gwely yno, a driviodd ef i Lanrwst erbyn oedfa y prydnawn. Ni fu fawr lewyrch ar bregethu Scorpion yn Bethesda y Sabboth hwnw.
Yr oedd yn neillduol garedig i Bregethwyr ieuanc. Yn ei adeg ef, yn Bethesda, codwyd tri i bregethu, sef y Parchn: Owen Jones, Mountain Ash; John Foulkes Aberavon; a William Williams Maentwrog; a gallai y tri fynegi am lawer tro caredig o'i eiddo iddynt ar gychwyn eu gyrfa. Pan yr oedd ef yn Weinidog yn Bethesda yr oedd yn yr Eglwys dri pregethwr cynorthwyol, sef Robert Jones; Luke Moses; a William Davies, a byddai yn ofalus iw dodi yn eu tro i wasanaethu yn yr Eglwysi dan ei ofal.
Hyd y terfyn yr oedd yn neillduol boblogaidd yn Bethesda gyda'r gynulleidfa, yr Eglwys, a'r gymdogaeth. Tra y bu yma cynyddodd y gynulleidfa a'r Eglwys. Cychwynodd achos newydd, symudiadau Llenyddol newydd yn y gymdogaeth, a theimlwyd colled fawr ar ei ol.
Teilwng i goffawdwriaeth Mrs Williams yw dweyd ei bod yn gymeradwy iawn gan yr holl frawdoliaeth yn Bethesda, yn dra gofalus o Hwfa ac yn garedig neillduol i'r tlawd, yr anghenus, a'r amddifaid yn ein plith.
Yr oedd ar delerau da ai Ddeaconiaid yn Bethesda tra bu yma. Dyma fel y Canodd ar ol rhai o honynt,—
AR OL MORRIS PRITCHARD.
Morys trwy rwystrau mawrion—a'r achos
Ymdrechai yn ffyddlon;
Ac o'r tymhestloedd geirwon,
Ai yn Sant i Ddinas Ion.
I ogoniant yr esgyna,—Morys
Mewn mawredd disgleiria;
Yn y dydd angylion da,
A synir ai Hosana.
AR OL WILLIAM ROBERTS, TYNEWYDD, COEDYPARC.
Astud dawedog Gristion,—heddychot,
Ddiddichell a ffyddlon,
A gloew sant i eglwys Ion,
Oedd y gwr hardd ei goron.
AR OL JOHN PRITCHARD, COEDYPARC.
John Pritchard oedd brif gyhoeddwr,—y Demel,
Dyn llym fel dysgyblwr;
Cristion twym—galon fu'r gwr,
Ac ar Dduw gwir weddiwr.
AR OL WILLIAM WILLIAMS, BRAICHMELYN.
William ydoedd yn feddyliwr,—manwl
A miniawg ddysgyblwr;
Fuddiawl was. grefyddol wr,
Yn rhodio'n llaw'r Creawdwr.
JOHN JONES, MAESCARADOC ; TAD PARCH. O. JONES, MOUNTAIN ASH.
Gwr selog. garai sylwedd,—oedd y gwr
Haeddai gael anrhydedd;
Ac er ei barch, ni lwgr bedd
Ei goron, drwy drugaredd,
Canwaith o ddyfnder cyni,—yn gryf,
Yn groch, dan glodfori,
Gwaeddodd mewn hwyliog weddi—
Clwyfau yr Oen ! Calfari!
Pennod VIII.
FEL PREGETHWR.
GAN Y PARCH. T. EVANS, AMLWCH.
DYWEDIR gan rai mai fel bardd y rhagorai Hwfa Mon, ac nid fel pregethwr, gadawaf ar eraill cymhwysach i benderfynu y cwestiwn hwnw. Pa un bynag, yr oedd elfenau gwir athrylith yn berwi i'r golwg yn ei bregethau, ac enillodd ei safle fel un o gedyrn y pwlpud Cymreig. Cydoesai a nifer o bregethwyr perthynol i'r gwahanol enwadau, na fendithiwyd ein cenedl erioed a'u rhagorach. Ac yr oedd yn rhaid cael pregethwr yn feddianol ar ddonian uwchraddol, i fod yn amlwg yn mhlith y fath rai. Mae y bychan yn ymddangos yn llai yn ymyl y mawr, ond yr oedd Hwfa Mon yn gawr, yn nghanol cewri.
Gwnaeth natur ef yn etifedd amryw bethau, a fu yn hynod fanteisiol i'w boblogrwydd. Ni chafodd ei eni a llwy aur yn ei enau, nag yn etifedd tai a thiroedd, ond gwnaed ef yn etifedd pethau canmil gwerthfawrocach, a phethau nas gellir eu prynu er arian. Mae ambell un wedi codi i enwogrwydd heb ei fod wedi cael talentau lawer, ond bu "yn ffyddlawn ar ychydig" a thrwy ymdrech galed cyrhaeddodd safle anrhydeddus, a phriodol y gallai dd weyd am y safle a gyrhaeddodd, "A swm mawr y cefais i y ddinasfraint hon." Ond gallasai Hwfa Mon ddweyd, "A minau a anwyd yn freiniol." Mae llawer o wirionedd yn yr hyn a ddywedai yr hynod Ishmael Jones, am ddwyn i sylw—"Mae un o'r Caesars yn dweyd 'rwan, fod y genius mwya' eisiau introduction, ac y mae rhywbeth felly yn y Beibl, 'rwan—"Iago brawd yr Arglwydd " 'rwan. Mae perthynas yn introduction weithiau; bryd arall corph da, presence, trwyn, neu lais—bloedd dda, 'rwan."
Anfynych y cafodd unrhyw athrylith well introduction na'r eiddo Hwfa Mon, dyna presence! Y fath gorph tywysogaidd, tal, lluniaidd, cadarngryf, gwyneb glan, llawn, heb fod blewyn yn cael caniatad i dyfu arno, talcen uchel, pen o faintioli mwy na'r cyffredin, gwallt llaes yn ymdoni ar ei ysgwyddau. Yr oedd ei bresenoldeb yn urddasol, ac yn tynu sylw cyffredinol, ac nid oedd raid ei weled ond unwaith i'w gofio byth wedyn.
Dywedai yr hen bregethwr y cyfeiriais ato eisioes, nad oedd dim daioni o boblogrwydd buan," a chredaf fod llawer o gywirdeb yn y sylw, yn raddol, fel rheol, y mae pethau mawr yn ymddadblygu. Y cicaion yn tyfu mewn noswaith, ond y dderwen yn cymeryd amser hir. Ac felly am ddynion mawr, ond y mae eithriadau, megis y diweddar Mr. Spurgeon yn mhlith y Saeson, ac amryw y gallasem ei henwi yn y weinidogaeth Gymreig. Dyna y Parch John Evans, Eglwysbach, yr oedd fel comet danllyd, yn tynu sylw yr holl wlad, ar ei ymddangosiad cyntaf. Ond yr oedd y fath adnoddau naturiol yn y cymeriadau a nodwyd, fel na siomwyd y disgwyliadau a grewyd ganddynt ar y cychwyn. Daeth ein gwrthrych yn enwog ac adnabyddus fel pregethwr yn fuan wedi iddo ymsefydlu yn y weinidogaeth. Y tro cyntaf i mi ei weled, a'i glywed yn pregethu, ydoedd ar nos Lun cyfarfod blynyddol y Pasg, yn nghapel Pendref, Llanfyllin. Y mae agos i haner cân mlynedd er hyny. Ac er mai pregethu a phregethwyr oedd yn dwyn fy mryd y pryd hwnw, eto, yr oeddwn yn rhy ieuanc i allu cofio ond ychydig, ond y mae yr adgof yn fyw am dano, yn eistedd yn y pwlpud wrth ochr Hen Olygydd y "Dysgedydd "—y patriarch anrhydeddus o Ddolgellau. Nid yn fynych y gwelwyd mwy eithafion mewn pwlpud. Am yr Hen Olygydd yr oedd ei arafwch ef yn hysbys i bob dyn." Ac fel y sylwodd rhywun am ei weinidogaeth, mai Dyfroedd Siloah yn cerdded yn araf" ydoedd. Bwyd cryf yr hwn a berthyn i'r rhai perffaith," ydoedd ei bregethau, a hwnw yn wastad yn fwyd iach, a'i draddodiad yn hollol dawel a digynhwrf, o'r gair cyntaf byd yr amen. Yr oedd hefyd wahaniaeth mawr rhwng y ddau bregethwr mewn oedran; a thybid fod cryn ymryson wedi bod rhyngddynt am gael pregethu yn gyntaf, yr oedd yr Hen Olygydd yn gall fel y Sarff," ond heb ddim o'i gwenwyn, ac felly ymddygodd yn gall y noson hono, barnodd os oedd efe i bregethu o gwbl fod yn rhaid iddo bregethu yn gyntaf, neu ei fod yn bur debyg o golli y cyfle y tro hwnw. Ac wedi pregeth fer a syml gan yr hynafgwr parchedig, ar "nodweddion y rhai sydd gyda'r Iesu," sylfaenedig ar Act iv. 13., cododd Hwfa Mon ar ei draed, "a llygaid pawb yn y Synagog yn craffu arno." Yr oedd ei ddyn oddi allan yn tynu sylw, ac yn peri i'r gynnulleidfa deimlo na welsent neb tebyg iddo yn y pwlpud hwnw o'r blaen. Nid oedd golwg lyfndew a chorphol arno y pryd hwnw, fel mewn blynyddoedd wedi hyny— teneu, esgyrnog, a'i wyneb yn bantiog, ac i raddau yn welw, ac heb flewyn yn tyfu arno, a'i wallt tywyll yn crogi i lawr hyd ei ysgwyddau, a'i lygaid megis wedi eu claddu, o dan dorlanau o aeliau cuchiog. Felly mae ein hadgof am dano yr adeg hono. Mawr oedd y clustfeinio i wrando y gair cyntaf a ddeuai allan o enau y pregethwr dieithr, darllenai ei destyn mewn cywair isel, a goslef oedd yn dreiddgar er yn ddistaw. Ac yr oedd rhyw arbenigrwydd yn y pwysleisiad a'r aceniad, oedd yn hollol wreiddiol, ac yn dwyn delw un oedd yn gynefin a chleciadau y cynghaneddion. Teimlid fod rhyw doriadau yn ei eiriau, oedd yn debyg i fath o attal dywedyd, ag oedd yn nodweddiadol o hono hyd y diwedd. Os bu cywreinrwydd yn meddianu cynulleidfa erioed, yr oedd felly y noswaith hono. Ond wele y gair cyntaf allan o enau y pregethwr ! Llyfr y Di-ar-heb- ion, y bed-war-edd ben-od, a'r ddau-naw-fed ad-nod. "Ond llwybr y cyfiawn sydd fel y gol-eu-ni, yr hwn a lew-yr-ch-a fwy fwy hyd gan-ol dydd." Cynwysai y bregeth athrawiaeth, duwinyddiaeth, a barddoniaeth, a mwy o'r diweddaf nag a glywswn mewn pregeth erioed cyn hyny. Ei fater ydoedd-Cynydd bywyd y Cyfiawn, soniai am ddeddf cynydd, a threuliodd amser hir i ddarlunio fel yr oedd gwahanol wrthrychau natur yn ufuddhau i'r deddfau, a osododd y Creawdwr iddynt. Cyferiai at yr haul a'r lleuad, y ser a'r planedau, eu maintioli, cyflymder eu symudiadau, ac fel yr oeddynt yn cadw eu cylchoedd a'u "hamseroedd nodedig." Rhoddodd ddarluniad brawychus o'r mellt a'r taranau, nes oedd y gwrandawyr bron a dychmygu eu bod yn gweled y mellt yn fflachio, ond meddai, Mae Duw yn "gwneud ffordd i fellt y taranau." Yna dywedai am y gwynt, mor ddilywodraeth yr ymddangosai i ni, ond fod y gwynt ystormus yn gwneuthur ei air ef." Ei ddarluniad o'r môr oedd y mwyaf barddonol. Nid oeddwn wedi gweled môr erioed, ond teimlwn fy mod yn ei weled y noson hono. Yr wyf wedi byw yn ei olwg bob dydd bellach, er's llawer o flynyddoedd. Ond bron nad wyf yn credu fod y darlun a gefais o hono yn y bregeth gan Hwfa Mon, yn ei ddangos yn llawn mor fawreddog, ag y gwelais ef o gwbl. Da fuasai genyf allu rhoddi y desgrifiad yn ei eiriau ef ei hun. Yr oedd rywbeth i'r cyfeiriad a geir ganddo yn ei Awdl "Y flwyddyn."
Dyfnderaw chwyddog, yn foriog ferwant,
A'u glafoerion trochionnawg lifeiriant,
Hyd yr uchelion yn wyrddion hyrddiant,
Goruwch anwfn yn wyllt y gwreichionant;
A thwrw y bytheiriant, erch ryfel
A than yr awel bygythion ruant!
Wedi y darluniad mor rymus, yr adroddai eiriau yr ysgrythyr— "Pan osododd efe ddeddf i'r môr, ac i'r dyfroedd, na thorrent ei orchymyn," "Ti wyt yn llywodraethu ymchwydd y môr; pan gyfodo ei donau, ti a'u gostegi." Disgynai i gywair is a newidiodd ei dôn wedi hyny, a chafwyd ganddo ddarluniad swynol a thlws dros ben o'r gwlaw "Y cynar wlaw, a'r diweddar wlaw, a gwlaw mawr ei nerth," ac fel yr oedd pob dyferyn a ddisgynai o'r cwmwl yn cadw ei ddeddf. "Pan wnaeth efe ei ddeddf i'r gwlaw." Cyfeiriodd wedi hyny at yr anifeiliaid, y bwystfilod, y pysgod, a'r adar asgellog; a dangosai fel yr oedd y Creawdwr wedi gosod terfynau i'r naill a'r llall, a phob un yn cadw ei le.
Pregthodd gydag egni cawr, nes oedd ei chwys yn llifo, rhedai ar hyd ei fochgernau, a dihidlai oddiwrth ei wallt llaes. Pan yn nghymdogaeth y deg ar y gloch, terfynodd gyda haner dydd y cristion gan adael y gynulleidfa mewn synedigaeth ddieithriol. Mawr fu y siarad am ei bregeth ar ol hyny, a hwn a'r llall yn holi pa bryd yr oedd y dyn odd hwnw yn dyfod yno drachefn. Bu "Y Beirniaid" fel yr adnabyddid hwy, yn mesur ac yn pwyso y bregeth. Yr oedd yno ddau yn arbenig a gyfrifent eu hunain yn oraclau, a materion dyrys, rhyw ddirgeledigaethau fyddai ganddynt yn wastad dan sylw. Nid oedd y naill na'r llall yn aelodau eglwysig. Mynychai un ddwy eglwys, un AR y plwy a'r llall YN y plwy. Disgybl y dorth oedd efe yn y gyntaf, a disgybl "Y Pynciau" yn yr ail. Yr oedd y naill yn Armin rhonc a'r llall yn Galfin eithafol. Yr oedd pregeth Hwfa yn rhy Galfinaidd gan yr Armin. Nid oedd sicrwydd y cyrhaeddai yr haul i'w ganol dydd, gallai ddisgyn yn ol saith o raddau, o leiaf ar ddial y Cristíon, canys yr oedd y "gair" yn dweyd. Mai "seithwaith y syrth y cyfiawn, ac efe a gyfyd drachefn." Mynai y Calfin fod hyny yn amhosibl. Yr oedd yn fwy cyfleus iddo ef i gredu mewn "rhad ras" na gweithredoedd. Bu dadleu a beirniadu pwysig ar Hwfa Mon ar ol yr oedfa hono. Ond cytunai pawb Ei Fod yn Ddyn ar ei Ben ei Hun.
Gwrandewais lawer arno wedi hyny, yn ystod y deugain mlynedd diweddaf, yn enwedig y blynyddoedd y bu yn gweinidogaethu yn Mon., Nid oedd odid bregethwr a elwid yn amlach i gymeryd rhan yn uchelwyliau ei enwad. Ac fel pob pregethwr, yr ydoedd weithiau yn uwch ac weithiau yn is. "Nid oes yr un cloc" fel y dywedai "Ap Vychan" "yn taro deuddeg bob tro." Cafodd lawer o oedfaon nerthol ac effeithiol, a rhai o honynt yn ysgubol. Clywais yr hen bobl o'r lle hwn, yn son llawer am oedfa a gafodd yma, ar foreu Sabbath, flynyddoedd lawer yn ol, pryd y pregethai ar weddi ddirgel. Dywedir iddi dori allan yn orfoledd mawr ar ganol yr oedfa. Gallaf nodi rhai o'r testynau y clywais ef yn cael oedfaon nerthol wrth bregethu arnynt, megis y drydedd Salm ar hugain. Byddaf fel gwlith i Israel &c." "Yr Arglwydd a grea ar bob trigfa o fynydd Seion &c," Minau nesau at Dduw sydd dda i mi &c." a "Ffydd, gobaith, cariad."
Pregethai yn Nghymanfa Mon a gynhelid yn Amlwch, haf y flwyddyn 1874, a chyda llaw, gallaf grybwyll mai efe oedd yr olaf a symudwyd o'r chwech a bregethai yn y Gymanfa hono, Sef y Parchn R. Thomas (Ap Vychan) J. Thomas D.D., Herber Evans, R. S. Williams, Bethesda, a J. T. Evans, Caerfyrddin.
Yr oedd Hwfa Mon yn pregethu am Saith foreu yr ail ddydd. Rhoddwyd ef i bregethu ar yr awr hono fel y caffai yr amser i gyd. iddo ei hunan, a hefyd er mwyn sicrhau cynulleidfa dda. Ac yr oedd y capel eang yn llawn. Sylwasom fod yno amryw wedi dyfod ar awr mor foreu, o mor bell a Llanerchymedd.
Y drydedd Salm ar hugain oedd ei destyn, y boreu hwnw. Cof genyf ei fod yn helaethu ar y pwys o gael gwybod yr amgylchiadau dan ba rai y cyfansoddwyd Salmau, Hymnau, ac Odlau ysbrydol," fod hyny yn ychwanegu at eu dyddordeb. Yna rhoes ddarluniad of Ehedydd Ial" yn croesi y mynydd du, rhwng y Wyddgrug a Rhuthyn, mewn ystorm o fellt a tharanau, nes oedd esgyrn y mynydd yn clecian, ac mai yn yr amgylchiadau hyny y cyfansoddodd yr emynau. "Er nad yw'm cnawd ond gwellt &c." Yna wedi rhagymadroddi deugain munud-dywedai, "Cawn sylwi ar y Salm bob yn frawddeg." Yr oedd yr Hybarch Mr. Griffith, Caergybi, yn eistedd ar ei gyfer, yn y set fawr, gwelwn yr henafgwr parchedig yn estyn ei law at y Beibl oedd ar y bwrdd, a dechreuodd gyfrif y brawddegau, ac yna trodd i edrych yn awgrymiadol ar y cloc. Mewn rhyw fan ar y bregeth dywedodd sylw a gariodd ddylanwad mawr. Darluniai y tan-suddwr (diver) yn myned i lawr i'r dyfnderoedd ar ol y wreck, ac yn dyfod i fyny a darn o'r wreck, gyd ag ef, yn profi iddo fod yn y gwaelod. Yna dywedai am yr Iesu yn myned i'r gogoniant, a'r lleidr edifeiriol gyd ag ef, yn dangos iddo fod yn y gwaelod-yn y dyfnderoedd. Yr oedd hono yn un o'i oedfaon mwyaf grymus, ac yr oedd yn un o'r rhai hwyaf o'i eiddo. Yr oedd y pregethwr yn nghanol ei afiaeth, pan lifai y tyrfaoedd i'r maes at yr oedfa haner awr wedi naw. A'r dyrfa oedd yn y capel yn rhuthro ar eu cythlwng i chwilio am ryw damaid, gan ei bod yn amser myned i'r oedfa arall.
Pregethodd drachefn ar y maes am ddau y prydnawn, ei fater ydoedd:-Yr arch, ei gwrhydri a'i rhyfeddodau; pryd y daeth heibio i dy Obed-Edom, a Duw yn ei fendithio er mwyn yr arch. Rhoddai un sill yn rhagor at enw Obed-Edom, a dywedai Obed-Ed- Edom "Obed-Ed-Edom, dyna i chwi air tlws, Obed-Ed-Edom, mae o fel y diliau mel, Obed-Ed-Edom, mae o yn goglais clustiau y cerdd-or-ion yma. Obed-Ed-Edom, yr oedd gwartheg Obed-Ed- Edom yn brefu Hosanna, a'r merched wrth eu godro, dip, dip, dip, dim diwedd ar eu llaeth. Yr oedd yd Obed-Ed-Edom yn edrych dros y cloddiau, ac yn dweyd-welwch chwi ni, ŷd Obed-Ed -Edom." Buasai yn dda genyf allu cofio ei ddesgrifiad o'r arch yn Nhy Dagon. "Ac wele, Dagon, wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, ger bron arch yr Arglwydd, a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylaw, oedd. wedi tori ar y trothwy, corph Dagon yn unig a adawyd iddo." Yr oedd yn humorous nodedig, yn darlunio y Philistiaid yn gosod eu duw yn ei le drachefn, ac yn myned yno boreu dranoeth, ac er dirfawr syndod, wele Dagon y boreu hwnw, mewn gwaeth cyflwr nag o'r blaen, Crac yn ei ben, crac yn ei ddwylaw, crac ar ei draws, a chrac ar ei hyd, teyrnas y craciau."
Ni chynygiaf wneud elfeniad manwl o'i gymeriad fel pregethwr, mae hyny allan o'm cyrhaedd. Nid oedd ef mwy na rhyw bregethwr arall i fyny a safon beirniadaeth pob un. Clywais rai oeddynt wedi ei bwyso yn eu clorianau, yn dweyd yn ddifloesgni ddarfod iddynt eu gael yn brin. Ond pa le y ceir clorianau beirniadaeth anffaeledig gywir? Mae rhagfarn yn dylanwadu ar rai, ac y mae llawer yn dibynu ar chwaeth a galluoedd. Rhaid cael athrylith i werthfawrogi athrylith. Dylai y bach yn enwedig fod yn ochelgar a phwyllus wrth anturio mesur a phwyso un mwy nag ef ei hun. Eto, ceir rhai o'r cyfryw yn ddigon rhyfygus i gynyg pwyso mynyddoedd mewn pwysau. Mynydd o athrylith oedd Hwfa Mon.
Dywed Dr. Burrell, New York, fod nifer o frodyr yn ymddyddan a'u gilydd am y diweddar bregethwr byd-enwog Dr. Talmage. Beirniadent ef yn rhydd iawn, a nodweddid ef gan rai o honynt fel " buffon," eraill fel "sensationalist," a'r lleill fel Mountebank." Yr oedd yr hen weinidog enwog a duwiolfrydig; Dr. Cuyler yn clywed yr ymddyddan, a throdd atynt, gan ddywedyd "Foneddigion, nid ydym yn ddigon mawr i siarad mor rhydd a hyn am Dr. Talmage. Gwn ei ddiffygion, wedi bod yn gymydog iddo am flynyddau, and he is head and shoulders above us all." Bu rhywun yn ddigon eithafol i alw pregethau Dr. Owen, tywysog y duwinyddion yn "Continent of mud." Ni ddeallais fod mwy o feirniadu ar Hwfa Mon, na rhyw bregethwr poblogaidd arall, ond pe buasai, ni fuasai i'w ryfeddu, gan ei fod gymaint ar ei ben ei hun, ac mor wahanol i bawb arall, o ran ei arddull.
Yr ydoedd ei bresenoldeb urddasol, gwreiddioldeb ei arddull, a'i hyawdledd fel areithydd yn driawd pwysig yn mhlith y pethau oedd yn cyfrif am ei boblogrwydd. Cydnabyddwyd ef yn dywysog yn mhlith areithwyr penaf y genedl. Priodol y gellir cymhwyso ato, y darluniad a rydd ef ei hun, o'r hwn y cydnabyddir yn gyffredinol ei fod yr areithydd penaf fu yn y pwlpud Cymreig.—
"Llunia yn deg ei frawddegau,—a doeth,
Y deil ddôr ei enau;
A phob gair, heb goegair gau,
A fesur a'i wefusau."
Tebyg na bu yr un pregethwr yn ein gwlad yn gyfoethocach o iaith nag ef. Yr ydoedd yn feistr perffaith ar eiriau, yr oeddynt yn ddarostynedig iddo, ac at ei alwad, i wneud fel y mynai a hwy. Deallodd ei wrandawyr ystyr llawer gair, na ddeallwyd ganddynt o'r blaen, wrth ei glywed ef yn ei barablu. Yr oedd ynddo y fath ystwythder fel siariadwr, ei wefusau mor denau, fel y gallasai nyddu geiriau, a'u plethu i'r ffurf a ewyllysiai. Ac yr oedd ei iaith yn wastad yn goeth, geiriau detholedig, pur a diledryw fyddai ganddo. Prin yr oedd raid i'r pregethwr hwn chwilio am eiriau cymeradwy," yr oeddynt fel pe buasent yn cymell eu hunain iddo mewn cyflawnder. Bendithiwyd ef hefyd a chyflawnder o lais, a hwnw yn glir a threiddgar, a gwnaeth ddefnydd helaeth o hono, yr oedd ei nerth corphorol yn caniatau hyny. Meddyliodd rhai am dano yn anterth ei ddydd, y buasai ei lais yn pallu, os cawsai fyw i fyned yu hen. Cafodd fyw i oedran mawr, ond parhaodd ei lais yn gryf a chlir, bron i'r diwedd. Gallesid yn ei flynyddoedd diweddaf, glywed ei lef hyd yn mhell, pan y pregethai, neu y safai ar y "Maen Llog." Meddai berffaith lywodraeth ar ei lais, fel y gallai ei godi a'i ostwng pryd y mynai, ac fel y mynai. Amrywiai ei lais yn ol ei ewyllys, i gyfateb i'r mater fyddai ganddo dan sylw. Esgynai i fynydd y "Gwynfydau " a llefarai yn esmwyth a thyner, bryd arall safai ar Sinai, a cheid clywed swn yr ystorm yn ei leferydd, nes y byddai y gwrandawyr yn ofni ac yn crynu.
Yr oedd ei safiad yn y pwlpud yn urddasol, safai yn syth, fel nad oedd berygl i'r meginau a'r peirianau llafar gael cam. Nid oedd ei draed yn cynyg ysgog" o'r un man, er fod ei gorph a'i ben a'i ddwylaw yn symud. Dechreuai mewn cywair isel, ond yn glir, gan dori ei eiriau yn groew, a gallaf eto gyfeirio at yr hyn a ddywed ef yn ei Englynion i John Elias, ai gymhwyso yn dra phriodol ato ef ei hun—
"Geiriai ei destyn rhagorol,—yn glws,
Yn glir a phwysleisiol;
Seiniaw pob gair yn swynol,
Oll a wnai heb sill yn ol."
Llefarai yn bwyllus ac arafaidd ar y dechreu, ond nid oedd byth yn drymaidd a llusgedig. Byddai rhywbeth yn ei aceniad a'i bwysleisiad, i ddeffro sylw, ac i greu sirioldeb, ar y cychwyn; ac yr oedd ei ragymadrodd mor ddyddorol, fel na welid llygaid yn gwibio, na gwrandawr yn gapio. Condemnid ef gan rai am fanylu yn ormodol, ond yr oedd ef yn medru gwneud hyny yn ddyddorol, ac heb ddiflasu y gynulleidfa.
Ceid ynddo nodau yr "areithiwr hyawdl." Yr ydoedd ei agweddau (gesture) yn deilwng o'r areithyddiaeth aruchelaf. Nid oedd dim yn ei ystumiau yn ymylu ar fod yn ddichwaeth, ac anaturiol. Weithiau, byddai yn ddistaw am ychydig, a llefarai wrth y gynulleidfa drwy ei symudiadau corphorol, a gwnai hyny, fel y deallent of mor berffaith a phe dywedasai wrthynt mewn geiriau. Fel y dywedir am Elias o Fon, fod—
"Hyd yn nod ei atal dywedyd
Yn gyfrwng o hyawdledd cu."
gellir dweyd am Hwfa Mon, fod agwedd ei gorph, ysgydwad ei ben, a symudiad ei law, yn llefaru yn effeithiol. Os am blanu y soniai, yr oedd mor naturiol a hwylus yn darlunio y planwr, nes oeddych. fel yn gweled y gweithiwr wrth ei orchwyl yn y blanhigfa. "Paul yn planu." "Dyma blanwr!" meddai, "Y mae ambell blanwr fel pe byddai gwenwyn yn myned oddiwrth ei ddwylaw i'r ddaear, at wraidd y pren." Os soniai am bysgota, ceid ei weled yn ymaflyd yn yr enwar, ac yn taflu y line, unwaith, dwywaith, mor gelfydd, nes oeddych bron a dychmygu gweled y bluen yn disgyn ar y dwfr.
Mae rhai yn proffesu bod mor feddylgar, fel nad ydynt yn gofalu dim am lais, na dawn, na dull y pregethwr, ond iddynt gael mater. Os oes rhywrai i'w cael nad oes gan areithyddiaeth ddylanwad arnynt, prawf o ddiffyg yw hyny. Ceisiai rhyw lanciau direidus yn y Chwarel, argyhoeddi yr hen bregethwr diniwed Elias Morris, Bettws y Coed, ei fod cystal pregethwr a Hiraethog "I'e" ebai yntau "ond fod ganddo ef ryw ffordd o ddeud." Yr oedd gan Hwfa Mon "ffordd o ddeud" hollol ar ei ben ei hun, a theilwng o'r athrylith ddisglaer a gafodd.
Yr oedd ganddo drefn a chynllun yn ei bregethau. Pregeth heb gynllun, nid yw ond rheffyn o eiriau, neu gasgliad o frawddegau, tebyg i'r mob yn Ephesus, y rhai "ni wyddent o herwydd pa beth y daethent yn nghyd." Ymddangosai i rai weithiau fel pe buasai yn myned yn bell oddiwrth ei fater, ac yn dweyd pethau amherthynasol, ond camgymeriad fuasai tybied hyny am dano. Mae yn nodweddiadol o athrylith ei bod yn fynych yn cymeryd wib, tra mae talent fechan yn troi mewn cylch bychan, yn yr un man, fel ceffyl malu barc.
Gallaswn hefyd grybwyll am yr humour oedd ynddo, yr ydoedd yn llawn o hono. A phrofedigaeth un felly ydyw ei gamddefnyddio. Ond ymgadwodd ef yn rhagorol, heb fod yn euog o hyny. Mae rhai yn eithafol wrthwynebol rhag gwneud unrhyw ddefnydd o hono yn y pwlpud, mae eraill yn barnu y gellir gwneud defnydd cyfreithlon o hono er mantais i'r gwirionedd. Mae rhai o'n prif bregethwyr wedi gwneud hyny. A'r rhai mwyaf medrus i gynyrchu gwên ddymunol, fel rheol, ydyw y rhai a wyddant oreu ffordd y dagrau hefyd. Ond y mae ysmaldod a chellwair yn anheilwng o'r lle cysegredig y saif y pregethwr ynddo.
Heb ymhelaethu, gallaf grybwyll fod y gwrthrych wedi etifeddu y pethau y cyfeiriais yn fyr atynt, yn nghyd a phethau eraill allesid enwi, yr hyn a barai iddo gael ei ystyried yn Dywysog a gwr mawr fel Pregethwr. Cefais lawer o gyfleusderau i ymgydnabyddu ag ef, fel dyn a phregethwr, fel dyn yr oedd yn un o'r rhai mwyaf diniwed, a llawnaf o garedigrwydd, a adwaenais erioed. Nid diffyg manteision. i'w adnabod yn well, ydyw y rheswm na allaswn ysgrifenu yn well am dano. A diau y gwneir hyny gan frodyr mwy profiadol a galluog.
Bydd ei enw fel bardd a llenor, ac fel pregethwr a darlithydd,
mewn bri, tra parhao iaith, llenyddiaeth, a chrefydd Cymru.
Pennod IX.
FEL DARLITHYDD.
GAN Y PARCH. D. EVANS, CAERFYRDDIN.
GWNAETH Hwfa enw iddo ei hun fel pregethwr a bardd, flynyddoedd, rai cyn dyfod allan yn ei gymeriad o ddarlithydd. Ceir lluaws yn bregethwyr a beirdd campus heb feddu o gwbl ar anhebgorion darlithwyr. Rhaid i ddyn gael ei eni i hyn, fel pobpeth y myn ragori ynddo. Meddai ein gwron ar yr anhebgorion. a ganlyn. Personoliaeth urddasol—darfelydd a chrebwyll y bardd,—edmygedd brwdfrydedd—dynwarediad llais allai dori fel trwst taran dros y tiroedd;" a thynherwch allai ddisgyn i gilfachau dyfnaf y galon, a gwyneb allai wisgo gwg deifiol at yr atgas, a gwên gorfoledd at y dymunol. Yr oedd ganddo hefyd gyflawnder o iaith a medr. dihafal i roddi ei phriodol sain i bob llythyren a silleb yn yr iaith gymraeg. Cai y gwefusolion, y deintolion, y cegolion, a'r gorchfantolion yr un chwareu teg. Pleser fuasai ei glywed yn adrodd englyn tebyg i'r un canlynol:—
Chwychwi a'ch âch o'ch achau—o'chewch chwi
O'ch uwch—uwch achychau,
Ewch ewch, iachewch eich ochau.
Iach wychach, ewch o'ch iachäu."
Neu yr un canlynol o'i waith ei hun—
"Ei geurog bleth gyhyrau—a redent
Yn gyfrodawg ffurfiau;
Gwreiddient drwy'r rychiog ruddiau,—a'i wrymiawg
Aeliau esgyrniawg, a'i grychlaes gernau."
Yr oedd yr anhebgorion a enwyd, a'i safle fel un o brif ddynion y genedl, wedi ei wneud ers blynyddau, yn un o ddarlithwyr mwyaf poblogaidd Cymru.
Nid oedd yn meddu ar allu dihafal "Hiraethog" i ddynwared, ond gallu i ddisgrifio, a darlunio mewn geiriau. Os na chai efe eiriau i ateb ei bwrpas mewn geiriaduron bathau eiriau o'i eiddo ei hun. Byddent weithiau yn fyrion ac yn grynion fel marbles, brydiau eraill byddent yn llarpiau hirion, heglog, a chymalog; a mawr hoffai chwareu ar rai o honynt yn ol a blaen, ac yn mlaen ac yn ol; a mynych y cynghaneddai frawddegau tlysion yn unig wrth chwareu à geiriau. Dadgymalau hwynt sill a'r ol sill, a chymal a'r ol cymal, ac yna dodau hwynt yn ol eilwaith, a'u dwyn allan yn eu llawn hydau, nes gogleisio yr holl gynulleidfa. Os deuai beirniad cul a sychlyd i'w wrando, tebyg i'r proof yn erbyn chwerthin mewn capel, y clywais "Kilsby" yn dyweud ei gyfarfod yn Merthyr, byddai math hwnw yn bur debyg o gael ei gonero gan hyawdledd a medr "Hwfa,"—yn neillduol pan y taranai allan ambell air, na chlywodd neb ei fath ond ganddo ef. Bu yn nodedig o ffodus yn newisiad ei faterion hefyd,—testynau a digon o le i'w athrylith amrywiog i chwareu, ac hefyd o duedd i gynhyrfu talentau cuddiedig, ac enyn uchelgais iachus mewn dynion ieuainc,—sef. "Y Dyn Ieuanc"; "Coron Bywyd"; "Meibion Llafur"; "Barddoniaeth"; "Gwilym Hiraethog"; a Gwilym Hiraethog"; a "Thros y Don." Mae mwy na deng mlynedd a'r hugain er pan glywais y ddwy gyntaf ond erys eu hargraph, ac yn neillduol, argraph o bersonoliaeth Hwfa" ei hun, yn fyw iawn ar fy meddwl.
Wele, "Hwfa" yn codi ar y llwyfan,—mae'n baladr o ddyn tua dwy lath o hyd, ysgwyddau a brest lydan, a'r dyn oddiallan wedi ei wisgo mewn superfine cloth o'r math oreu, ac wedi ei ffitio yn dda, y gôt wedi ei botymu yn dyn, ei wallt wedi ei gribo yn ol ac yn disgyn i lawr dros ei wâr,—ei wyneb wedi bod o dan oruchwyliaeth yr eilliwr mor fanwl, fel nad oes cymaint a brigyn na bonun gwelltyn wedi ei adael arno,—ei goler, a'i wddf—dorch yn ganaid fel eira, ond nid yn hir y pery pethau yn ei hystad wreiddiol. Fel y mae y darlithydd yn myned yn mlaen bydd clustiau y goler wedi disgyn yn llipa y naill a'r ol y llall, fel pe na fuasai starch yn adnabyddus iddynt, a'r gwallt yntau wedi chwareu hafoc ers meityn drwy chwenych y blaen.
Fodd bynag golwg urddasol a thywysogaidd oedd arno, yn peri i chwi deimlo fod" meistr y gynulleidfa" yn sefyll o'ch blaen. Wedi cyfarch y Cadeirydd mewn dull nodweddiadol o hono ei hun; dechreuodd drwy enwi y testyn Y Dyn Ieuane." Dechreuodd drwy fwrw golwg ar Ddyn yn ei greadigaeth.
"Y dyn, y dyn dianaf.
Oedd lawn urdd ar ddelw Nâf."
Y gwahaniaeth rhwng y dyn cyntaf wedi ei greu yn ei gyflawn faint, a dyn yn cael ei eni,—y drafferth i'w ddysgu,—i'w ddysgu i sugno, a'r drafferth fwy na hyny i'w ddysgu i beidio sugno,—a bod ambell un heb ei ddiddyfnu yn haner cant! Yna daeth at "Y Dyn Ieuanc"—gyntaf yn ei gartref—dylanwad cartref ar ddyn ieuanc— yn cael ei ddarlunio gan Cawrdaf yn "Hiraeth Cymro am ei wlad."
Fod dylanwad cartref yn aros ar ddyn wedi myn'd yn hen.
Darluniodd hyn drwy adrodd yn dyner odiaeth yr "Evening Bells" gan Thomas Moore.
Wedy'n caed Harddwch y Dyn Ieuanc, a bod pobpeth ieuanc yn hardd. Chwareuai Awen "Hwfa" yma yn ei hafiaeth. Yr oedd ei ddarluniad o ddyn ieuanc wedi cyrhaedd un a'r hugain yn ddisgrifiadol i'r pen. Portreadodd i ddechreu ddyn ieuanc y wlad yn yr oedran hwnw—gwrid iechyd yn cochi ei fochau tewion, llygaid gloeywon yn fflamio fel mellt yn ei ben." Gwelir ef yn sefyll ar war y mynydd, a'i fochau tewychion yn gorwedd ar ei ysgwyddau, a'i het ffelt am ei ben, yn canu bâs nes siglo'r creigiau; ond edrycher ar fachgen ieuanc y dref yn un a'r hugain oed: "O! y mae yn fain!" A chwareuai Hwfa" ar ei feindra. "O! y mae yn fain! Y mae yn ddigon main i fyned drwy ddafnau gwlaw heb wlychu!" Gofod a ballai ychwanegu, ond cofiwyf yn dda iddo ar y diwedd nesau ychydig i ffrynt y llwyfan, gan osod ei droed deheu ychydig yn mlaen—ac fel cawr wedi deffro, teifl ei fraich ddeheu allan, a phwyntiai a'i fys, ac ar dop ei lais, sydd eto yn fy nghlustiau (fel y bloeddiai ar lwyfan yr. "Eisteddfod" "A oes Heddwch ") "Ddyn Ieuane! os ceisia rhywun dy rwystro ar dy ffordd i fynu i fryn anrhydedd, saf oi flaen o, plana dy sawdl yn y ddaear gyferbyn ag o, ac edrych yn ei dalcen o, nes y bo twll drwy ei ben o"!
Yr un nodwedd oedd i'r un a'r "Goron Bywyd."
Yr wyf o'r farn fod y ddwy hyn yn fwy manwl a gorphenol yn eu cyfansoddiad na rhai o'r lleill, ac nid anhawdd cyfrif am hyny. —Yr oeddynt yn mysg ei gyntafanedigion, ond yr oedd y lleill yn peri iddo deimlo yn fwy cartrefol ynddynt, yn neillduol, Gwilym Hiraethog" a "Barddoniaeth" ac felly cymerai fwy o ryddid, ac i ddyn o adnoddau "Hwfa," ac heb fod yn gredwr yn y mesur byr, temtid ef i ymdroi yn ormodol cyn dyfod at gnewyllyn ei fater. Cymerer yr un ar "Hiraethog." Yr oedd ei edmygedd mor fawr o'i arwr, ac adnoddau y darlithydd a'i destyn mor ddiysbydd, nes ei demtio i ymdroi gyd a'r amgylchoedd i raddau gormodol.
Cefais y fraint o glywed hon yn Albion Park, Caer, nos Lun Hyd, 12, 1885; un o'r troion cyntaf, os nad y cyntaf iddi gael ei darlithio oddi cartref. Anmhosibl fuasai cael gwell cyfleustra, am mai yno y treuliodd Hiraethog" ei flynyddau olaf, ac yn y ddinas hon yn nghanol ei deulu y bu farw.
Rhaid cydnabod hefyd, nad oedd neb cymhwysach i ddarlithio arno na "Hwfa." Gwnaethum aberth i fod yn bresenol, a disgwy— liwn, yn naturiol, am bethau mawr. Cododd i'n hanerch am ddeg mynyd wedi saith, ac aeth a ni ar ein hunion i "Lansanan wën ei gwawr," a gwyr y neb wyr ddim am Lansanan, mai nid gwaith hawdd i fardd o gymeriad ac edmygedd "Hwfa" fuasai ymadael oddiyno yn fuan,—mangre William Salsbri, cyfeithydd y Testament Groeg i'r Gymraeg. Hen dreftadaeth "Hedd Molwynog"—un o henafiaid "Hiraethog"; "Tudur Aled"; "Griffith Hiraethog "Meurig Llwyd"; R. Ap Dafydd," hen athraw "Hiraethog mewn barddoniaeth, a "Bardd Nantglyn," Cawsom ddarlun tlws of afon "Aled" yn ymddolenu drwy yr ardal ai brithilliaid yn tòr—wynu yn ei dyfroedd gloeywon. Awd a ni i'r Cae Du, a chadwyd ni yno yn hir, am mai yno y bu William Salsbri; aeth a ni i'r ystafell gul yn ochr y simddeu fawr lle y gwelid drwyddi yr awyr las, ac nid wyf yn sicr na chipiodd ni unwaith yndorf gariadus" drwyddi i gefn y ty, mewn cyffro am fod ei angel gwarcheidiol—ci Salsbri, wedi rhoi cyfarthiad bygythiol, fel i arwyddo fod rhai o swyddogion "Mari Waedlyd," ei gwaed—gŵn hi, wedi dod yno i ddal Salsbri am y pechod dychrynllyd o droi y Testament Newydd i iaith y werin. Fodd bynag, darluniwyd y cyffro a achosai cyfarthiad yr hen gi ffyddlon— Cipid y llyfrau, yr inc a'r cwbl er diane drwy y mŵg i'r ystafell gul oedd yn mantell y simddeu. Mynai "Hwfa," fod Cymru o dan ddyled neillduol i'r hen gi yn gystal ag i'w feistr am y Testament. Mynodd y darlithydd ymdroi cryn dipyn eto gyda hen breswylwyr doniol a diniwed y lle, yn nyddiau mebyd "Hiraethog."
Dywedai y byddent yn arfer geiriau oeddynt fel rhegi, ond nid rhegi chwaith—megys. "Ynmhell-y-bo; yn bôcs-y-bo; yn boeth-y-bo; dario; dratio a daucio"—a'i "Hwfa" drwyddynt, heb i neb deimlo ei fod yn tynu dim oddiar urddas y ddarlith. Clywais "Hiraethog" yn dyweud y byddai yr hen bobl yno yn eu hadrodd mewn cyfeillachau, yn hollol ddifeddwl, fel pe buasent wedi myned i mewn i'w natur. Cafwyd wedy'n ei gynyrchion barddonol cyntaf—enill y gamp yn eisteddfod Aberhonddu am y Cywydd ar "Farwolaeth Nelson "—ymwasgu at yr Annibynwyr—dechreu pregethu—yr "Alwad" o Heol Mostyn, yn symud yno. Gwnaeth i ni gydgerdded ag ef o'r tu ol i'r wagen a'i chlud, a Mrs. Rees a'r plant. Yna parattowyd i gychwyn o Fostyn i gymanfa Llanerchymedd, yn genad yn lle y Parch. D. Jones, Treffynon, a gwisg o frethyn cartref am dano, clôs penglin, het fawr feddal o frethyn ffeltiwr, ac esgidiau cryfion o ledr da—gwaith crydd gwlad,—cefnau isel a chareiau lledr yn clymu y ddwy glust ar gefn ei droed.
Wedi cyrhaedd dros y milldiroedd meithion i'r gynhadledd, a thraethu ei neges—arweiniwyd ef i dy Mr. William Aubrey, lle yr oedd i aros. Caledfryn oedd y gweinidog ar y pryd, ac ar gais y teulu wedi addaw iddynt un o wyr blaenaf y gymanfa. Ystyriai y teulu hwn ei hunain yn mhell o flaen eu cymydogion mewn diwylliant a moesau. Yr oedd y tad a'r plant wedi arfer talu tipyn o sylw i lenyddiaeth, yn neillduol y plant—i lenyddiaeth saesnig. Pan ddaeth Miss Aubrey i'r drws, cymerodd mai hen flaenor gwledig oedd "Hiraethog,— oddiwrth ei ddiwyg, a'r olwg deneu a henaidd oedd arno—diflasodd drwyddi—ac aeth ág ef i'r gegin, fel lle difai i'w fath; a mynegodd i'w thad, fod Caledfryn wedi anfon hen flaenor o ffermwr yno, yn lle, fel yr addawsai, un o brif bregethwyr y gymanfa.
Diflasodd hwnw ac ni fynai fyn'd i siarad âg ef; ond rhag bod yn anfoesgar, gan mai nid bai y gwr dieithr oedd dyfod attynt, aeth ato ar ei ffordd i'w wely, a chymerodd yr ymddiddan canlynol le, a'r plant yn gwrando. "O ba le yr ydych chwi yn dyfod, yr hen wr?" "O Lansanan, ond o Fostyn y dois i yma." Llansanan!" "Lle y mae hwnw?" "Yn agos i Ddinbych." "Sut fu i chwi ddyfod mor bell oddi cartref?" "Cael fy anfon yma ddarfu i mi gan, Mr. Jones, Treffynon." "Wel does i chwi ond gwneud eich hun mor gysurus ag y medroch chwi, gan eich bod chwi wedi dyfod. Y mae yn amser i mi fyned i'r gwely, nos dawch." "Wel, nos dawch."
Wedi i'r tad fyned, meddyliodd y mab am Lansanan, a gofynodd i'r hen wr, Ydych chwi yn gwybod rhywbeth am "Gwilym Hiraethog" sydd yn Llansanan?" "Gwn rywbeth." Hwyrach mai chwi ydyw o?" "Wel, y maent yn dey'd hyny." Trodd y brawd at ei chwaer, a dywedodd yn saesoneg, rhag i'r hen wr ddeall, tebyg. "He is one of the best poets in Wales!" "Indeed!" "Yes, he is." Deallai wrth gwrs bob gair, a theimlai fod ei awyrgylch ychydig yn oleuach yno. Ymaith ar ferch a'r newydd i'w thad. "Do you know, father, who is the old blaenor after all?" He is "Gwilym Hiraethog," who gained the prize for the Cywydd on the 'Death of Nelson' at Brecon eisteddfod, and the prize for the Cywydd. on the Gorlifiad of Cantre' gwaelod, at Denbigh."
Er hyn oll, un o brif bregethwyr y gymanfa oedd ef yn ddisgwyl, ac nid oedd eto o lawer yn foddlawn.
Ar frecwest dranoeth dywedai—Yr ydwyf yn deall mai chwi ydyw "GWILYM HIRAETHOG," y mae yn dda genyf gael eich cymdeithas, wyddwn I yn y byd pwy oeddych chwi neithiwr, onide buasai yn dda genyf gael ychydig ragor o'ch cymdeithas. Wyddoch chwi ddim pwy sydd i bregethu y boreu yma?" "Y mae Mr. Williams yn dyweud y rhaid i mi wneud yn un" "Y chwi!" "Ie, meddai fo." Ond er mai "Gwilym Hiraethog" oedd o, nid oedd Mr. A. yn credu mai efe oedd y dyn i bregethu yn mhrif oedfa y gymanfa.
Gadawyd i Hiraethog gerdded wrtho ei hun i'r cae, a Mr A. a'r teulu yn dilyn o'i ol. Aethant hwy i gerbyd gyferbyn a'r llwyfan, a theimlent yn ddig, ac aflonydd i feddwl dodi yr "hen flaenor" i bregethu yn yr oedfa hono. Fodd bynag, wedi i Mr Lloyd, Llanelwy, bregethu yn dda, ac yn sylweddol—dacw yr hen flaenor at yr astell, a chawodydd o feirniadaeth o gerbyd Mr A. yn cael eu tywallt. Darllenodd y pregethwr ei destyn yn wahanol i arfersef ar dop ei lais. Y galon sydd yn fwy ei thwyll na dim, drwg diobaith ydyw pwy a'i hedwyn?" Dechreuodd gydio—ymwasgai y bobl at y llwyfan, clywir ocheneidiau, gwelir dagrau yn gawodydd, gwenant, wylant, a diolchant: mae teulu y cerbyd wedi eu trawsnewid —wedi ymgolli—a dywedent wrth bawb o'u cylch. "Acw, gyda ni, y mae o yn aros." Torodd y cwmwl, a chafwyd oedfa byth i'w chofio. Brysiai Aubrey at risiau y llwyfan i dderbyn y pregethwr i lawr, breichai ef, er mwyn i bawb gael gwybod mai gydag ef y mae prif bregethwr y gymanfa yn aros—Cafwyd ciniaw yn y parlwr. Ond nid oedd ganddo (Hiraethog) ddim amser i'w golli, am ei bod yn ddydd gwener, a'i fod gartref y sul.
Teimlai Mr. A. fod yr esgidiâu oedd am ei draed yn rhy drymion iddo gerdded ffordd mor bell, ac anrhegodd ef â phar o esgidiau a wnaethid i hen Ustus Heddwch o'r gymdogaeth, a phrif elyn y gymanfa; ac felly cafodd y gwr a ddaethai yno i anrhydeddu y gymanfa, fyned ymaith yn esgidiau y gwr a fynai ei dirmygu!
Buwyd wedy'n gyda'r urddiad yn Mostyn—y weinidogaeth ysgubol wedi hyny yn Nhinbych a Liverpool—ac yr oedd yr awrlais wedi pasio deg, a therfynwyd wedi tair awr o siarad, heb i ni gael ond ychydig o deithi athrylith y gwron.
Teimlwn ar pryd fod digon o adnoddau yn y gwrthrych i'r darlithydd i allu rhoddi i ni ddarlith o ddwy awr bob nos trwy yr wythnos hono, a buasai yn werth talu swllt bob tro. Wedi dechreu nos lun mor ddifyr gydai hanes yn dringo drwy anhawsderau i binacl enwogrwydd cenhadlaethol. Cael darlith nos fawrth arno, fel Pregethwr; nos fercher, fel Bardd; nos Iau, fel Darlithydd, nos Wener, fel Llenor, a nos Sadwrn, fel Gwleidyddwr. Buasem wedyn wedi cael "Gwilym Hiraethog" yn adnoddau gor—gyfoethog ei athrylith ryfeddol. Gwnaeth "Hwfa" ddwy ddarlith arno ar ol hyn—a digwyddodd y tro ysmala a ganlyn gyda hwy. Dywedai y doniol Barch Isaac Jones (W) ei gymydog yn Llangollen, yn nhŷ ein câr y Parch. D. Williams (B) yno——iddo glywed i "Hwfa" ddarlithio am bedair awr yn y Rhyl!! Ceisiai "Hwfa" ddyweud mai tair awr a haner a fu y noson hono; ond sicrhai ei hen ffrind, iddo fod bedair awr! Dymunodd y bobl, drwy y Cadeirydd ei bod i gael y ddwy gyda'u gilydd. A hawdd y credwn mai Mr. Jones oedd yn iawn, am yr amser. Yn yr ail ddarlith hon, yr oedd ganddo lawer o sylwadau miniog yn gystal a chwareus. Soniai am y drafferth a gaffai "Hiraethog gyda'r Amserau," ac yn neillduol, gyda J. Jones, y Cyhoeddydd,— dywedai "Hwfa," fod ysbryd y gwr hwn mor sur, a golwg mor sur arno, fel na fuasai raid iddo ond taro pen ei drwyn yn afon Lerpwl, na fuasai yn ei throi yn finegar bob dafn o honi!
Daeth y darlithydd o hyd i stori colli y crys, a chafwyd hwyl ryfeddol. Fel hyn y bu, pan oedd Hiraethog," yn byw yn Devon Street, Liverpool, digwyddodd ei hen gyfaill Mr. Pugh, Mostyn, un tro fod ar ymweliad âg ef a phan oedd y ddau yn ddifyr gyda'u gilydd yn y llyfrgell, daeth Mrs. Rees i mewn yn gyffrous, a dywedodd fod rhyw ddynion drwg o grwydriaid wedi dwyn ei grysan oedd ganddi allan ar y line yn sychu yn y buarth!"Yn enw yr anwyl," meddai yntau. Chwarddodd Mr. Pugh, a dywedodd, Wel yn wir; mi gollodd ei grefydd i gyd pan gollodd o sypyn o'i lyfr ar Grefydd Naturiol a Datguddiedig gynt yn Ninbych; ac mi gollodd ei ragluniaeth pan gollodd o sypyn o'i lyfr ar Providence and Prophesy, wrth fyned gyd a'r trên; a dyma fo erbyn hyn wedi colli ei grys! Does ganddo 'rwan, na chrefydd, na rhagluniaeth, na chrys. Mi ddywedaf i chwi, Mrs. Rees, beth a wnewch. Y tro nesaf y byddwch yn golchi, crogwch o ei hun ar y line a'i grysau am dano i sychu, dyna'r unig ffordd i chwi." Ymollyngwyd i chwerthin, a phwy allai lai! Rhaid, a disgwylir mewn darlith gael cryn dipyn o snuff, fel hyn. "Dros y Dòn" Buasai Taith i America yn rhy ystradebol o eiriad i fardd o fath"Hwfa," ond ceid barddoniaeth yn y geiriad cryno a chrwn hwn. Er hyn gwnaeth, hen frawd gwledig y cam—gymeriad a ganlyn yn y gymydogaeth hon, wrth gyhoeddi y ddarlith ar nos Sabath— "Nos yfory yn nghapel y Priordy, Caerfyrddin, bydd Hwfa Môn yn myn'd dros y dôn, dechreua am saith o'r gloch." Gwyddai pawb a wyddai ddim am yr Archdderwydd nad oedd efe fedrus yn y cyfeiriad hwnw, ac na fuasai yn werth talu swllt am ei glywed yn yn treio. Nid gwiw cynyg ei ddilyn a'r y daith "Dros y Dòn," am na chaniatta gofod. Yn wir, methai "Hwfa" ei hun a chymeryd ei gynulleidfa gydag ef bob amser fawr o'r daith. Sicrhawyd fi oddiar awdurdod safadwy, iddo mewn man yn ardal Bethesda fethu, yn ystod teirawr, a chymeryd y gynulleidfa allan o olwg tir y Werddon, hyd yn nod ar y fordaith allan!
Manylai ar y cychwyn allan o Lynlleifiaid, (ni soniwyd am Liverpool), ac ar yr ager-long y Teu-ton-ic, chwedl yntâu. Rhaid oedd chwareu tic ar ol tic wedi unwaith gydio yn y gair. TEU-TON-IC -Teu-ton-ic. Darluniai yr ager-beiriant, a rhoddwyd stoc o'r teithiwyr. Nifer y teithwyr ar ol gadael Queens' Town yn 1500.— tri arddeg yn Gymry. Cawsom ddarlun "Hwfa" o angladd un o'r môr-deithwyr, yn effeithiol iawn;—Cyrhaeddwyd Efrog-Newydd heb gymeryd arno fod New York yn bod.
Y pethau rhyfeddaf a gawsom wedi cyrhaedd drosodd oedd darluniad dihafal y darlithydd o'r "Niagara"—"Ffair y byd," yn Chicago, a'r Eisteddfod Fyd-gynulliedig, i'r hon yr oedd efe yn wahoddedig.
Yr oedd y "Niagara" wedi ei synu a'i swfrdanu â'i fawredd- darluniai y càn miliwn tunelli dyfroedd yn disgyn dros y creigiau bob mynud, nes siglo craig gorseddfainc cyfandir America! Portreadai y Chwyrndrobwll erchyll sydd fel pwll uffern islaw, i'r môr wedi ymwylltio yn ymdywallt yn ei gynddaredd dros ddannedd craig dinystr. Wedi darlunio yr arswydedd ofnadwy sydd yno. Yna newidiai ei lais, i ddarlunio y tawch gwyn yn ymgodi yn gymylau diorphwys oddiwrth nerth disgyniad y dwfr, a'r haul yn edrych drwy y cymylau hyn nes creu enfys odidog yn bont aur dros geubwyll uffern. Yna torai allan gan godi ei lais yn uwch uwch— Niagara! NIAGARA! NIAGARA!"—a gostynga ei lais a dywed. "Dim i'w weled ond y Duw Mawr!!"
Ni allaf ymdroi gydar "Ffair na'r Eisteddfod," ond wedi gweled y pethau oedd yno, dywedai "Hwfa" fod ticiadau yr awrlais yn dyweud y rhaid dychwelyd i'r "Hen wlad." Y peth oedd yn ogleisiol oedd, fod way a eisteddai y tu cefn i'r awrlais, wedi gosod atalfa ar ei diciadau yn fuan ar ol wyth, ac yr oedd yn awr yn nghymydogaeth y deg! Dychwelwyd heb nn ddamwain, wedi teithio ugain mîl a haner o filldiroedd ac heb fethu un cyhoeddiad! Nid rhyfedd, pan laniodd yn Llynlleifiaid, iddo daro ei droed gyda diolchgarwch ar "Terra Ferma" i waeddi "DAEAR, daear Prydain Fawr, daear fy ngwlad dan fy nhraed." Ac wrth ddiweddu y ddarlith tarawai ei droed ar fyrddau yr esgynlawr, nes dirgrynu yr holl adeilad!
Yr wyf yn ddyledus i'm câr y Parch. D. Williams, Llangollen, hen gymydog i "Hwfa" am flynyddoedd, am yr hanes difyr a ganlyn ynglyn a'r ddarlith hon, a phethau gwerthfawr eraill. Traddodai "Hwfa" y ddarlith "Dros y Dòn," yn Bootle. Cadeirid gan y gwr hoffus y Parch. Griffith Ellis, M.A., gwr gwir alluog fel y gwyr pawb. Yn ei anerchiad ar y dechreu, dywedoedd y cadeirydd parchus mewn tipyn o ysmaldod-ei fod yntau wedi bod am daith i America, a chyfeiriodd at y Parch. J. H. Hughes, gweinidog y Bedyddwyr, yn Bootle, ac meddai, "Mae fy nghymydog y Parch. J. H. Hughes yr un modd a minau wedi bod am daith yn yr un wlad, ac yr ydym wedi dyfod yma ein dau fel Detectives i weled fod yr "Archdderwydd" yn dyweud yn gywir am America." Penderfynodd "Hwfa" ar unwaith droi y tipyn bach ysmaldod hwn i gyfrif da. Wedi ei alw gan y Cadeirydd, dechreuodd trwy ddyweud-"Meistr Detective," ar hyn torodd y bobl allan mewn chwerthin ac meddai yntau drachefn, "Meistr Detective, yr ydwyf wedi dyfod yma i ddyweud, nid yr hyn a glywodd y clustiau hyn (gan gyfeirio at ddwy glust y Cadeirydd), yn America, ond yr ydwyf fi yma Meistr Detective, i ddyweud yr hyn a glywodd y clustiau hyn (gan gyfeirio at ei glustiau ei hun) yn America. Meistr Detective; yr ydwyf fi yma i ddyweud, nid yr hyn a welodd y llygaid hyn (gan gyfeirio at lygaid y Cadeirydd), yn America, ond yr hyn a welodd y llygaid hyn (gan gyfeirio at ei lygaid ei hun), yn America. Meistr Detective, yr ydwyf fi yma heno i ddywedyd, nid yr hyn a brofodd y galon hon (gan gyfeirio at galon y Cadeirydd) yn America, ond yr ydwyf fi yma, Meistr Detective i ddywedyd yr hyn a deimlodd y galon hon yn America (gan gyfeirio at ei galon ei hun). Erbyn hyn, yr oedd y gynulleidfa wedi ymgolli mewn difyrwch a hwyl a neb yn mwynhau y tipyn ysmaldod, yn fwy na'r Cadeirydd ei hun.
Rhaid dyweud fod y ddarlith yn nodedig o ddyddorol, er nad mor orchestol a'r un y caf yn nesaf gyfeirio ati, sef, yr un "Farddoniaeth." Addefa pawb mai bardd oedd Hwfa yn fwy na dim. Pa un bynag a'i pregethu neu ddarlithio, mynai y bardd ddyfod yn amlwg i'r golwg—yn creu talpiau o ddrychfeddyliau ac yn cordeddu cynghanedd mor naturiol ag anadlu. Felly yr oedd yn ei elfen gyd a'i ddarlith ar Farddoniaeth," a theimlid fod ganddo awdurdod i lefaru, ac fel un ag awdurdod y llefarai hefyd.
Wedi rhoddi deffiiniad o farddoniaeth—y gwahaniaeth rhwng barddoniaeth a barddoniaeth—lle barddoniaeth mewn llenyddiaeth. —gwasanaeth barddoniaeth uwch raddol mewn moes a chrefydd— barddoniaeth gwahanol genhedloedd,—ac wedi dod at farddoniaeth yn hanes Cymru, argyhoeddid pawb ei fod gartref. Olrheiniai farddoniaeth o ddyddiau yr hen feirdd, hyd yr oes hon, a rhoddai engrheifftiau, ac yr oedd ei adroddiadau yn wir feistrolgar, a synasai llawer o'n prif—feirdd, fod cymaint yn eu gwaith pe clywsant "Hwfa" mor fedrus yn eu hadrodd.
Trwy garedigrwydd y golygydd, rhoddaf yma engrhaifft a ddengys "Hwfa" yn ei afiaeth a'i ogoniant ar y llwyfan. Pan urddwyd y diweddar Barch. John Foulkes yn Nhyddewi yn Ngorphenaf 1868, aeth golygydd y cofiant gyd a'i gyfaill i'r urddiad, a daeth "Hwfa" yno o Lundain, fel hen weinidog i Mr. Foulkes, pan yn gweinidogaethu yn Bethesda. Manteisiodd eglwys gyfagos ar yr amgylchiad i gael y ddarlith gan "Hwfa" ar "Farddoniaeth."! Nid enwaf y cadeirydd. Digon dyweud ei fod yn weinidog parchus a galluog, ond ni feddyliodd neb fod gwreichionen o farddoniaeth yn perthyn i'w natur,—math o athronydd—dduwinydd yr ystyrid ef yn rhesymu ei bregeth mor fanwl a phe yn myned trwy broblem yn Euclid. O ddyn mor gall, y syndod yw iddo syrthio i gam— gymeriad aml i gadeirydd llai, drwy fyned yn ei araeth agoriadol i faes y darlithydd,—bwyta ei amser, a thraethu yr hyn na wyddai ond y nesaf peth i ddim am dano.
Cyfeiriodd at y testyn, ac at y darlithydd, gan awgrymu, y ceid, yn ddiau, lawer o bethau newydd iddynt hwy yn Sir Benfro, gan y Bardd o'r Gogledd; ond nad oedd y Gogleddwyr ddim i fyn'd adref dan y syniad nad oedd gan Sir Benfro ei Beirdd; ac yna rhoes adroddiad o waith rhai o honynt, y pethau mwyaf slip a glywyd. Ac wedi siarad ar y meithaf, troes at y darlithydd, gan awgrymu mewn cryn dipyn o hèr, yr hoffai ef glywed engrheifftiau gwell o farddoniaeth o waith gwyr y gogledd. Yr oedd yn eglur ar " Hwfa" ei fod wedi ei gynhyrfu, ac wedi i'r cadeirydd ei gyflwyno i'r gynulleidfa. Cododd, a safodd o'i flaen, gan foes ymgrymu ato yn y modd mwyaf mawreddus. A chan osod pwyslais ar bob sill a llythyren dywedodd—"Barchedig Feistr Gadeirydd; da genyf gael Bardd a Beirniad Barddoniaeth o radd uchel yn y gadair heno. Bydd yn help mawr i dipyn o Fardd o'r gogledd, pan yn trafod Barddoniaeth ei hen wlad. Cawsoch chwi fel cynulleidfa wledd amheuthyn, ac engrheifftiau nodedig o Farddoniaeth y sir hon. Ni buasid yn eu hadrodd ar amgylchiad fel hyn oni bai fod eich Cadeirydd yn credu fod ynddynt elfenau dyrchafol. Y ydym mewn mantais i farnu yr awdwyr a'r adroddwr wrth yr hyn a glywsom."
Yna aeth ymlaen at y ddarlith, a daeth i roddi engrheifftiau gwahanol o Farddoniaeth y Gogledd—Dechreuodd gyd a'r tyner toddedig yn y dull dihafal y medrai ef, nes hoelio pob clust a llygad yn y gynulleidfa ;—a thra yn adrodd, cerddai ol a blaen ar y llwyfan, gan fyned yn fynych tu ol i'r Cadeirydd.
Yna daeth at farddoniaeth mwy cynhyrfus, cafwyd darnau o awdl Caledfryn "Ar Ddrylliad y Rothsay Castle," Megis y darn sydd yn darlunio y llong a'r tonau yn golchi drosti, a dim ond dyfrllyd fedd yn aros ei theithwyr—rhai yn gwylltio, ac yn gwallgofi, eraill yn gweddio yn dawel—eraill—perthynasai a chyfeillion yn ymaflyd yn en gilydd!!
Wele rai, gan alar hallt..
Yn ymrwygo 'n wallgo wyllt,
Eu llygaid yn danbaid oll,
Troent, ymwibent fel mellt.
Eraill yn gallu ymdyru 'n dirion
I alw ar enw eu Duw, lyniwr union;
Yn Iôr gafaelent, gan fwrw e'u gofalon,
Ar eu Nêr agwrdd sy'n ffrwyno'r eigion;
Eraill yn suddo 'n oerion—mewn trymder,
A hallt flinder i wyllt fol y wendon!
Rhai oedd yn serchog, i galonog lynu
Yn eu gilydd, er ymddiogelu,
Hyn ni chollent er i'r môr erchyllu,
Yn y tywyllwch, tra meddent allu;
Ond y groch dòn, ddigllon ddu—yn ddibaid,
A wasgai eu henaid nes eu gwahanu!!
Yna troai at y cadeirydd, a gofynai, fel gorchfygwr "A oes Barddoniaeth yn hwnyna?" Wedi hyny denai rhanau o awdl Eben Fardd ar Ddinistr Jerusalem." Teimlai y gynulleidfa fel pe yn gweled "Muriau Deml Jehofah yn dan," ac yn clywed "Trwst y trawstiau 'n clecian." Gofyna y darlithydd eto i'r Cadeirydd "A oes Barddoniaeth mewn peth fel hwnyna?" Wele eto, adroddiad o ran o awdl Geirionydd ar Wledd Belsassar" Y darn llaw yn ysgrifenu ar galchiad y pared, a dychryn y brenin!—
"Dyheu mae mynwes euog—Belsassar,
Fel arth udgar, anwar, newynog.
Mae braw y Llaw alluog—yn berwi
Trwy ei wythi ei waed tortheithiog.
Dafnau o annwn sydd yn defnynu
Acw i'w enaid euog, ac yn cynnu;
Mewn llewyg drathost mae'n llygadrythu
Ar yr ysgrifen sydd yn serenu
Rhwg ei wyneb, ac yn daroganu
Rhes o wythawl ddamweininu er saethu
Tin i enaid y brwnt a'i ennynnu.
Gan boen a gloes mae'r gwyneb yn glasu,
Dan ymwylltiaw, a'r llygaid yn melltu." &c;
Dacw'r cadeirydd yn symud ei gadair am fod "Hwfa" wedi
symud o'r tu ol iddo, ac am ei fod hefyd yn teimlo ei fod yntau
wedi ei bwyso yn nghlorianau y tipyn "Bardd o'r Gogledd," a'i gael
Fel y yn brin,—a theimlai y gynulleidfa oll yr un modd.
symudai y Cadeirydd ei gadair, symudai "Hwfa" ar ei ol, fel yr
aeth y bobl i wylio symudiadau y ddau, ac i ymnyddu gan
chwerthin. Yna wedi myned drwy y dernyn gorchestol mor odidog,
daeth y cwestiwn drachefn, "A oes Barddoniaeth mewn peth fel
Adroddodd yn nesaf rai darnau o'i waith ei hun, ond heb
ddatguddio yr awdwr, megys, Y Rhyfel—Farch." A phan yn
gorphen gyda'r dernyn hwn :—
"Sathr ddewrion cryfion mewn crau,
Yn gernydd dan ei garnau!
Cryna, crych—neidia wed'yn,
Rhed i'w brane ar hyd y bryn!
Gweryra, gwawdia bob gwn,
A luniwyd gan hil annwn;
Rhyfel watwara hefyd,
Troa ei ben, Hwtia'r byd!"
Gofynai mewn llais uchel gorchfygwr A oes Barddoniaeth yn hwnyna?" I ddiweddu, adroddodd Y cleddyf" o'i waith ei hun, ond yn celu yr awdwr—adroddodd hwn ar uchaf ei lais a phan yn myned drwy y geiriau hyn i'w orphen:—
"Ystyria synllyd ddyn wrth wel'd y Cledd
Yn lleipio moroedd gwaed, gan duchan moes,—
Nad yw ei nwydol wange a'i danllyd fâr
Ond syched tafod damniol gythraul mud!"
Rhedodd Hwfa ei fysedd trwy wallt y Cadeirydd, o'r tu ol iddo nes neidiodd hwnw yn grynswth o'i gadair, mewn dychymyg fod y cleddyf, mi dybiwn, wedi cael ei redeg ar hyd ei benglog!! Gofyna "Hwfa" yn ddifrifol yn ei wyneb "A afaelodd rhyw gymaint o Farddoniaeth y gogledd yn ngwraidd eich gwallt ŵr?
Bu yno hwyl heb ei hail; ac addefodd y Cadeirydd, ar ol talu y warogaeth uwchaf i "Hwfa" a'i ddarlith, ei gam-gymeriad ac mai yn mysg y dorf yr eisteddai y tro nesaf y byddai yn gadeirydd—fod barddoniaeth neu rhywbeth rhyfedd iawn wedi ymaflyd yn ngwraidd ei wallt, ac nas gallai ddisgwyl tawelwch nes myned adref, o leiaf. A diau iddo fyned wedi ychwanegu rhai cufyddau at ei ddoethineb yn y cyfeiriad o feirniad Barddoniaeth.
Diau y ceir darlithau ar "Hwfa," ond ni cheir byth ddarlithydd
fel "Hwfa." Ei ail ni ellir. Nid oes odid dref nac ardal yn
Nghymru na chlybuwyd ef yn y cymeriad hwn, a manteisiodd
llawer achos gwan, yn arianol, a phersonau anffodus, ac yn
neillduol, ddynion ieuanc a'u hwyneb ar y weinidogaeth oddiwrth ei
ddarlithiau, heblaw y gwleddoedd meddyliol cyfoethog a fwynhawyd
wrth eu gwrando. Gyda phriodoldeb y gellir, wrth derfynu hyn o
lith, gymhwyso ato y geiriau canlynol o eiddo Martin F. Tupper:—
{{center block|
<poem>
That glorious burst of winged words! how bound they from his tongue!
The full expression of the mighty thought, the strong triumphant argument,
The rush of native eloquence, resistless as Niagara,
The keen demand, the clear reply, the fine poetic image,
The nice analogy, the clenching fact, the metaphor bold and free.
The grasp of concentrated intellect wielding the omnipotence of truth,
The grandeur of his speech in his majesty of mind!"
Pennod X.
FEL CYFAILL.
GAN Y PARCH. HENRY REES, BRYNGWRAN.
Y MAE yn debyg y gosodwyd arnaf fi i ysgrifenu am Hwfa Mon fel cyfaill am y tybir fy mod yn un o'i gyfeillion agosaf; ac felly yr oeddwn. Tybygaf nad oes yn fyw heddyw, ond dau neu dri, a fuont mewn cyfeillach mor hir ac agos ag ef ag y bum i. Dechreuodd ein cyfeillgarwch ychydig dros ddeugain mlynedd yn ol, a pharhaodd a chynyddodd yn fwy fwy hyd nes yr ataliwyd gan ei farwolaeth: ac i mi, y mae y byd yn wacach ac yn oerach o lawer ar ol ei golli. Cydnebydd pawb fod Hwfa Mon yn un o'r cymeriadau mwyaf unigol a dyddorol a feddai Cymru. Yr oedd ynddo neillduolion a'i gosodent ar ei ben ei hun—heb fod neb yn gyffelyb iddo—ac a effeithient er tynu sylw ato ac enyn dyddordeb ynddo yn mhob peth a wnai. Fel pregethwr, fel darlithydd, fel bardd, Hwfa oedd Hwfa yn mhob un o'r cymeriadau hyny. Yr oedd neillduolrwydd yn perthyn i'w ddyn oddiallan a barai i'r dieithr wedi myned heibio iddo ar yr heol, droi yn ol i edrych arno gan ddweyd ynddo ei hun rhaid fod hwna yn rhywun,—"Pwy a all fod tybed?" Ac nid oedd y dyn oddiallan ond mynegiant o'r dyn oddifewn, a'r rhai a gaent fyned agosaf ato a welent fwyaf o neillduolrwydd ynddo. Y mae ambell un yn cael sylw ac edmygedd mawr pan yr edrychir arno o bell, ond " 'tis distance lends enchantment to the view "—pan yr eir yn agos ato y mae'r dyddordeb yn darfod a'r dyn yn ymddangos yn ddigon cyffredin. Ond po agosaf yr elid at Hwfa mwyaf oll o ddyddordeb a deimlid ynddo, canys wedi myned yn agos ato y gwelid ynddo ragoriaethau nad oeddynt mor amlwg i'r rhai a edrychent arno o bell.
Wrth sefyll uwchben y testun sydd wedi ei benodi i mi sef Hwfa Mon fel cyfaill, teimlais fod y porth yn gyfyng, ac yn arwain i ffordd. sydd braidd yn gul i mi ei rhodio gyda r adgofion sydd genyf am dano; a chymerais fy rhyddid i newid i mi fy hun y penawd gosodedig, i'r un a ganlyn sef "Adgofion am fy nghyfaill Hwfa Mon." Wrth draethu yr adgofion hyny am dano meddyliaf y gall y neb a'u darlleno gasglu yn rhwydd oddiwrthynt y fath un ydoedd fel cyfaill, ac y gwêl fod holl anhebgorion cyfaill—fel y maent yn gynwysedig yn yr ansawddeiriau, cywir, ffyddlon, caredig, dyddan—i'w cael yn llawn ynddo ef.
Y mae'r adgof cyntaf sydd genyf am dano yn fy nhaflu yn ol am bymtheng mlynedd a deugain. Hogyn yn yr ysgol oeddwn i y pryd hwnw, a chofiaf yn dda am danaf fy hun yn myned i'r ty un nos Sadwrn a chael fod y pregethwr a ddisgwylid i bregethu y Sabboth wedi cyrhaedd. Gwelwn ef yn eistedd ar y gadair wrth y tân——yn ddyn ieuanc tál a gwallt gwineuliw hir wedi ei droi yn ol oddiwrth ei dalcen a thu ol i'w glustiau nes yr oedd ei wyneb llawn glán difarf yn cael eithaf chwareu teg i ymddangos. Tybiwn na welais ddyn ieuanc harddach erioed. Cofiaf am dano yn pregethu dranoeth, a chofiaf ei destun hefyd: "Ond tydi pan weddiech, dos i'th ystafell; ac wedi cau dy ddrws, gweddia ar dy Dad yr hwn sydd yn y dirgel : a'th Dad yr hwn a wél yn y dirgel a dâl i ti yn yr amlwg." Y mae yn rhaid fod rhyw neillduolrwydd yn y pregethwr ieuanc cyn y buasai wedi llwyddo i argraphu ei destun ar gôf yr hogyn fel y mae yn glir ar ei gof fel testun y pregethwr y Sabboth hwnw yn mhen dros haner canrif ar ol hyny. Clywais lawer o bregethau cyn hyny, a llawer mwy wedi hyny, ond ychydig iawn o'r testunau sydd wedi aros gyda mi fel y gallaf gyfeirio atynt a nodi gan bwy, yn mha le a pha bryd y clywais bregethu arnynt. Ond y mae y geiriau y cyfeiriwyd atynt yn aros gyda mi fel testun Hwfa Môn hyd y dydd heddyw: ac ni byddaf byth yn eu darllen neu yn clywed eu darllen neu eu hadrodd na bydd Hwfa Mon yn mhwlpud hen gapel y Tabernacl, Great Crosshall Street, Liverpool, yn ymrithio o fy mlaen. Yr oedd hyn, mi dybiaf, yn yr un flwyddyn ag yr ordeiniwyd Hwfa yn Magillt. Yn mhen tua deuddeng mlynedd wedi hyny, a mi wedi ymsefydlu yn weinidog yr eglwys annibynol yn Nghaer ac yn bur fuan wedi i Hwfa symud o Wrexham i Bethesda, yr oeddwn i a'm hanwyl gyfaill, y diweddar Barch Evan Edmunds Dwygyfylchi, ar ymweliad à chyfaill i ni ein dau oedd yn byw yn Methesda ar y pryd. Yno y cyfarfuasom â'r enwog Kilsby Jones, yr hwn a gartrefai yn Llundain y pryd hwnw ac a ddaethai i dreulio ei wyliau haf y flwyddyn hono ar daith drwy ranau o Ogledd Cymru. Ar ei hynt daeth i Bethesda a bwriadai fyned oddiyno i Gapel Curig a Llanberis ar ei ffordd i ben y Wyddfa. Ceisiodd gan Edmunds a minau fyned gydag ef, a chan faint ei daerineb efe a orfu er ein bod wedi llunio myned i gyfeiriad arall. Wrth fyned heibio galwasom yn Nolawen lle y preswyliai Hwfa, a mawr oedd y croesaw a gawsom ganddo. Ceisiodd Kilsby ei berswadio yntau i ddyfod gyda ni, ond gan na fynai efe ddyfod rhaid oedd myned hebddo ac aethom yn mlaen i Gapel Curig lle yr arosasom y noswaith hono. Dodwyd ni ein tri yn yr un ystafell-gysgu lle yr oedd dau wely a gorweddai Kilsby yn un, ac Edmunds a minau yn y llall. Ond nid oedd wiw i ni feddwl am gysgu yn agos at Kilsby ac yntau yn effro. Ac yn effro y bu gan barablu hyd oriau mân y boreu, ac adrodd ystraeon a barent i ni chwerthin hyd oni siglai y gwely tanom; a chodasom yn y boreu heb i ni gael cysgu ond ychydig iawn, a'n hochrau yn ddolurus gan yr hyrddiau o chwerthin a gyffroed ynom gan ei ddigrifwch. Aethom o Gapel Curig heibio i Ben-y-Gwrhyd a thrwy y bwlch i Lanberis. Yn hwyr y dydd-hirddydd haf-cychwynasom ddringo i ben y Wyddfa, a chyrhaeddasom rhwng deg ac un-ar-ddeg o'r gloch ac arosasom yno hyd y boreu er mwyn cael gweled yr haul yn codi.
Yr oedd gwelyau i'w cael ond gan ein bod yn eu drwgdybio o fod yn oer ac yn llaith penderfynasom ymgadw rhagddynt. Tra yn eistedd i fynu gan siarad a phen-dympian bob yn ail, tuag un o'r gloch y boreu clywem swn gwaeddi oddiallan, ac erbyn craffu- wrando clywem rhyw lais yn galw arnom ni wrth ein henwau. "Gato pawb!" meddai Kilsby "yspryd pwy sydd yn aflonyddu arnom ar ben y Wyddfa!" Wedi i ni agor y drws pwy a welem yn sefyll yno ond Hwfa! Wrth weled yr olwg hurt-synedig oedd arnom torodd Hwfa allan i chwerthin nes o'r bron y tybiem y clywid ei swn yn y gwaelodion pell. Yr oedd rhywbeth heintus yn chwerthiniad Hwfa, a pharodd i ninau chwerthin, ac yr oedd clywed dau chwarddwr o'r fath ag oedd Kilsby a Hwfa, yn cyd chwerthin ar eu heithaf yn rhywbeth i gofio am dano. Wedi i ni ei adael yn Methesda ymddengys fod Hwfa wedi edifarhau am wrthod dyfod gyda ni, a phenderfynodd ddyfod ar ein hol, ac yr oedd ei ddyfodiad atom yn ychwanegiad mawr at ddifyrwch y cwmni. Ar y daith hono ac ar ben y Wyddfa y dechreuodd y cyfeillgarwch a fu rhyngof ag ef am gyhyd o amser, ac a barhaodd yn ddidor ac yn ddigwmwl hyd y diwedd.
Credaf na bu neb erioed yn haws cadw cyfeillgarwch yn mlaen ag ef na Hwfa Mon. Os bu iddo rai, fu unwaith yn gyfeillion, ond heb barhau felly, yn sicr nid arno ef yr oedd y bai o hyny. Nid oedd ynddo ddim diffyg mewn cywirdeb a ffyddlondeb a barai i'r rhai a ymwasgent i agosrwydd cyfeillgarwch ag ef ymgilio oddiwrtho drachefn mewn siomedigaeth. Y mae rhai yn fwy medrus i enill cyfeillion nag ydynt i'w cadw wedi eu henill. Ond yr oedd Hwfa yn ofalus ac yn meddu ar bob cymhwysder i gadw ei gyfeillion. Fel enghraifft o'i ofal yn hyn, gallaf grybwyll i mi tua phedair blynedd yn ol, dderbyn llythyr oddiwrtho yn dechreu ac yn diweddu fel hyn:
"Fy Anwyl Frawd
Dim ond gair i dori ar y distawrwydd ac er mwyn cadw yr
hen gyfeillgarwch . . . . Yr wyf wedi addaw myned i
Beddgelert y Pasg. Pa le y byddwch chwi? Hoffwn gael
golwg arnoch.
Yr oeddwn ar y pryd wedi bod am rai misoedd heb ei weled ac heb fod dim gohebiaeth wedi pasio rhyngom, ond nid oedd ef yn foddlon ar i bethau fod felly a mynai anfon llythyr yn unig i "dori ar y distawrwydd." Nid yw rhelyw o'r llythyr yn cynwys dim a fuasai yn werth ganddo eistedd i lawr i'w ysgrifenu oni buasai ei fod am 'gadw yr hen gyfeillgarwch." Pe byddai mwy o ofal felly yn cael ei weithredu gan gyfeillion tuag at eu gilydd, caent lai o siomedigaeth yn eu gilydd nag a gânt yn fynych. Y neb y mae iddo gyfeillion cadwed gariad."
Yr ydys yn disgwyl mewn cyfaill gael un yn ffyddlawn. Nid oes neb yn werth i'w alw yn gyfaill os na theimlir yn ddiamheu am dano fel un y byddai yn ddiogel i'w ollwng i mewn megis i gysegr sancteiddiolaf ein mynwes. Y mae cael cyfaill—cyfaill yn ngwir ystyr y gair-un a ymddiriedo ac yr ymddiriedir iddo—yn gaffaeliad o'r gwerth mwyaf ac yn un o gysuron melusaf bywyd, a dyn i dosturio wrtho ydyw hwnw, yr hwn er fod ganddo lawer o gydnabyddion nid oes ganddo yr un cyfaill y gall ymddiried ei gyfrinach iddo. Cyfaill felly a gefais yn Hwfa. Ni chafodd yr un o'i gyfeillion achos i amheu ei ffyddlondeb erioed ac i edifarhau o herwydd ymddiried ynddo. Pell oedd efe o bysgotta cyfrinach ei gyfeillion. Yn wir mwy parod o lawer oedd i fynegi iddynt ei gyfrinach ei hun nag ydoedd o awyddus am wybod yr eiddynt hwy. Yr oedd yn hollol rydd oddiwrth yr ysfa sydd yn blino rhai am wybod hanes a dirgelion eu cymydogion, ac oddiwrth y cyfrwysdra a arferir ganddynt tuag at hyny. Y mae troad llygad ambell un wrth ofyn cwestiwn digon syml yn peri meddwl fod rhyw amcan iddo mwy nag sydd yn ymddangos ar y wyneb, nes y gwneir i ni betruso sut i'w ateb, os nad hefyd i'w droi heibio heb ei ateb o gwbl. Y mae rhai yn ymffrostio yn eu cyfrwysdra i wneuthur y fath bethau. Unwaith yr argyhoedder ni am ddyn mai dyn felly ydyw y mae doethineb yn galw arnom i fod yn ochelgar iawn wrth ateb ei gwestiynau symlaf, os bydd a wnelont o fewn y ddegfed radd a'r hyn na fynem i bawb ei wybod. Gwyddom am rai drwy holiadau syml yn gyfrwys iawn i dynu i'r golwg wendidau y rhai a gymerent arnynt fod yn gyfeillion iddynt, er mwyn eu gwneyd yn destunau digrifwch gydag ereill. Nid yw dynion felly yn hir iawn heb gael eu hadnabod nes y tynir. oddiwrthynt ac yr ymwrthodir a'u cyfeillgarwch gan y rhai a fuont mor anffodus a chael eu denu i osod ymddiried ynddynt. Nid oedd. dim cyfrwysdra felly yn agos at Hwfa. Yr oedd efe mor ddiniwed a'r golomen. Yn wir buasai yn dda iddo pe buasai wedi meddu ar ychydig o gyfrwysdra y sarph, canys buasai hyny wedi ei gadw rhag ambell brofedigaeth y cafodd ei arwain iddi gan ei ddiniweidrwydd. Clywais fod un gwr enwog— un o'r rhai gynt— wedi dweyd fod pobl Sir Fon, yn hynod ofalus am number one a'u bod yn gyfrwys iawn i sicrhau buddiant y number hwnw sut bynag y daw ar number two. Os ydyw hyny yn wir fel rheol— nid wyf yn gwybod a ydyw ai peidio— yr oedd Hwfa yn eithriad amlwg i'r rheol hono. Yr oedd number two yn bur bwysig yn ei olwg ef, ac ni chlybuwyd son am dano erioed yn gosod ei droed ar number two er mwyn mantais a dyrchafiad i number one. Nid oedd dim o'r yspryd un— anol hwnw ynddo o gwbl. Dringodd i fyny i'r sylw a'r poblogrwydd a gafodd yn hollol ar ei gost ei hun heb geisio darostwng neb arall er mwyn codi ei hun. Os costiodd i rai brofi pangfeydd o eiddigedd wrtho nid oedd gan Hwfa ddim help am hyny.
Yn y flwyddyn 1893, sef blwyddyn Ffair fawr y byd a gynhelid yn Chicago penderfynodd y diweddar Barch Joseph Rowlands Talysarn a minau fyned i'r America nid er mwyn gweled y Ffair yn gymaint ag i ymweled â rhai o'r sefydliadau Cymreig sydd ar wasgar yn yr Unol Daleithiau. Yr oedd Hwfa wedi cael gwahoddiad taer i fod yn bresenol yn yr Eisteddfod oedd i gael ei chynal yn Chicago y flwyddyn hono. Ymddengys iddo fod am amser yn petruso pa un ai myned a wnai ai peidio; ond pan y clybu ein bod ni am fyned bu hyny yn foddion i benderfynu y ddadl oedd yn ei feddwl, o ochr cydsynio a'r cais a dderbyniasai a threfnodd i groesi y môr gyda ni. Hwyliasom allan yn y "Teutonic "—y llong y soniodd cymaint am dani yn y ddarlith boblogaidd a draddododd ar hyd a lled Cymru yn ei flynyddoedd diweddaf ar "Dros y Don." Ar fwrdd y Teutonic cawsom ystafell—gysgu i ni ein hunain heb fod neb arall gyda ni i aflonyddu arnom er bod ynddi le i bedwar, ac ni threuliasom wythnos ddifyrach erioed nag a gawsom yn nghwmni ein gilydd wrth groesi y môr o Liverpool i New York. Yr oedd Hwfa yn siriol a llawen ar hyd yr amser, yn mwynhau pob peth oddieithr pan y gwelai ambell foryn yn codi tipyn ar ei wrychyn yr hyn a barai iddo dybied bod ystorm fawr yn curo arnom. "It is a great storm!" meddai un bore wrth un o swyddogion y llong "O no" ebai yntau tan wenu "this is only what we call a fine breeze." Ond ni waeth pa beth a ddywedid ni fynai gredu nad oedd yn "great storm" arnom. Yr oedd amryw o Gymry yn y steerage, ar modd y daethom i wybod eu bod yno oedd, i ni eu clywed yn canu hen donau Cymreig, ar y deck islaw. Tra yn sefyll ar y deck uchaf yn edrych i lawr ac yn gwrandaw arnynt cododd un o'r cantorion ei olwg i fynu a gwelodd ni a chyfeiriodd sylw y lleill atom, a deallasom eu bod yn ein hadnabod oblegid cyfarchasant ni wrth ein henwau. Nos Sadwrn anfonasant genadwri atom i ofyn i un o honom draddodi pregeth iddynt ar eu deck hwy prydnawn Sabboth. Trefnasom mai Hwfa oedd y pregethwr i fod, a rhoddasom ei gyhoeddiad iddynt. Ond erbyn i'r Sabboth ddod yr oeddym ar fanciau Newfoundland yn nghanol y niwl tew sydd yn arferol o fod yno; ac mor oer a llaith oedd yr hin fel y barnwyd yn ddoeth i beidio cynal yr oedfa. Nos Sabboth aethom i'r gwasanaeth a gynhelid yn yr ail Saloon pryd y cawsom bregeth gan frawd weinidog o Sais ac yna ar ol swppera aethom i lawr i fyned i'n gwelyau. Wedi myned i'r ystafell eisteddodd Hwfa i lawr a dyweddodd "Wel frodyr gadewch i ni gael tipyn o ddyledswydd yn yr hen Gymraeg heno, cyn myned i orphwys." A hyny a fu. Darllenodd un o honom benod ac aeth un arall i weddi ac yna aethom i orphwys. Y mae y "tipyn o ddyledswydd" hono a gynhaliwyd genym ar fanciau Newfoundland yn nghanol y niwl tew, ar llong wedi arafu i lai na haner ei chyflymdra arferol, a'r corn niwl, bob yn ddau neu dri munyd yn anfon allan hir—sain. drymaidd i rybuddio unryw long a allai fod yn ein hymyl, rhag iddi ddyfod i wrthdarawiad â ni, y mae y "tipyn o ddyledswydd " hono, meddaf, yn aros ar fy meddwl mor fyw ag un o ddigwyddiadau y daith. Y mae Hwfa a Rowlands wedi dod o hyd i'w gilydd bellach yn y wlad well a chredaf fod y tro hwnw mewn côf ganddynt hwy yno, a dichon eu bod hwy, erbyn hyn, yn awyr glir y wlad hono yn gallu gweled mwy o ganlyniad i'r "tipyn o ddyledswydd" hono nag a welaf fi sydd hyd yn hyn yn nghanol niwl a tharth y byd hwn. Yr wyf yn crybwyll am y tro am ei fod yn arddangosiad o'r yspryd crefyddol oedd yn Hwfa, ac oedd yn fwy amlwg ynddo i'r rhai a gawsant gydnabyddiaeth agos ag ef, nag i neb arall. Dranoeth wedi y dydd y glaniasom yn New York, gadawodd Hwfa ni i fyned i Pensylfania i ddechreu dilyn ei gyhoeddiadau, ac aethom ninau i fyny yr afon Hudson i ogleddbarth talaeth New York i ddechreu ar ein gwaith yno. Yn ol y cynllun oedd wedi ei dynu allan i'n taith gan y cyfeillion caredig oedd wedi ymgymeryd â'r drafferth o wneyd hyny, yr oedd Hwfa a ninau i gyfarfod a'n gilydd yn nghymanfa Oneida yn mhen oddeutu tri mis wedi i ni ymwahanu yn New York. Yn ystod y tri mis hyny cyrhaeddai son am dano hyd atom yn fynych, a gwelem aml grybwylliad am dano yn y papurau Cymreig, a Seisnig hefyd, a deallem ei fod yn cael derbyniad hynod o groesawus yn mhob man yr elai iddo. Ni chawsom fod yn yr Eisteddfod yn Chicago, ond yr oedd y fath amlygrwydd yn cael ei roddi iddi yn y papurau Americanaidd fel yr oeddym yn gallu dilyn ei gweithrediadau y naill ddydd ar ol y llall. Ac yn nglyn â'r Eisteddfod yr oedd son mawr am Hwfa Mon. Ychydig o amser wedi'r Eisteddfod yr oeddwn yn pregethu yn Homestead—tref yn agos i Pittsburgh—ac yn y ty lle yr arhoswn adroddwyd i mi am Americanwr Seisnig yn gofyn i un o deulu y ty "Who is this Half—a—Moon they are talking so much about?" Meddyliai y dyn oddiwrth yr enw, fel y deallid ganddo ef, mai rhyw Indian Chief ydoedd wedi cael ei ddwyn o rywle o'r gorllewin pell i wneyd arddangosiad o hono yn yr Eisteddfod. Ac nid yn nglyn â'r Eisteddfod yn unig yr oedd son am dano. Ymdyrai cynulleidfaoedd mawrion i wrando arno yn pregethu ac yn darlithio, ac aeth yn ddwfn iawn i serch ein cyd-genedl drwy y wlad fawr i gyd. Y flwyddyn ddiweddaf (1905) bum yn aros am rai wythnosau yn Cincinnatti yn nhalaeth Ohio, a sonid wrthyf yn barchus ac yn anwyl iawn am Hwfa Mon gan y Cymry yno, gan y rhai yr oedd adgofion melus iawn am dano yn ei ymweliad â hwy yn y flwyddyn 1893.
Wedi bod yn pregethu ac yn teithio am yn agos i dri mis cyrhaeddodd Rowlands a minau i Remsen lle yr oedd Cymanfa Oneida i ddechreu, a lle y disgwyliem gyfarfod â Hwfa. Cyrhaeddasom yno yn brydlon erbyn y nos gyntaf sef nos Lun, ond er ein siomedigaeth nid oedd dim hanes am Hwfa. Bore dydd Mawrth, daeth telegram oddiwrtho i hysbysu ei fod ar y ffordd ac y byddai yno mewn pryd i bregethu y prydnawn. Gan fod Rowlands wedi pregethu y nos gyntaf disgynodd arnaf fi i bregethu gydag un o weinidogion y cylch yn oedfa y bore. Pan oeddwn ar ganol pregethu daeth Hwfa i mewn a cherddodd yn mlaen i eisteddle yn ymyl y pwlpud. Wedi eistedd edrychodd i fynu ataf gyda'r wên oedd mor nodweddiadol o hono, ac yna edrychodd am Rowlands a chanfu ef yn eistedd yn y set fawr a gwenodd arno yntau. Yna gwelwn, ei lygaid yn llenwi o ddagrau, a thynodd ei gadach o'i logell a chuddiodd ei wyneb ynddi a bu yn yr agwedd hono am rai munydau. Wedi i'r oedfa derfynu brysiasom ato ac yntau atom ninau ac wedi hir ysgwyd dwylaw dywedodd "Frodyr anwyl y mae'n dda genyf eich gweled. Yr oedd arnaf hiraeth am danoch. Yr oeddwn yn methu peidio crio o lawenydd pan welais eich gwynebau." A da oedd genym ninau ei weled yntau a chawsom fod gyda'n gilydd ar hyd yr wythnos hono gan ein bod ein tri i ddilyn y Gymanfa o Remsen i Holland Patent ac oddiyno drachefn i Utica lle yr oedd i derfynu nos Wener. Wedi gorphen y Gymanfa aethom gyda'n gilydd i Waterville lle y disgwylid am danom i gynal cyfarfod pregethu nos Sadwrn ar Sabboth. Bore Llun daeth yr adeg i ni ymwahanu drachefn. Yr oedd Rowlands a minau bellach yn troi ein gwynebau ar New York lle y bwriadem fod erbyn y Sabboth ac yna y dydd Mercher canlynol i gymeryd y llong—y Teutonic fyth—i ddychwelyd adref. Ond yr oedd gan Hwfa fis neu bum wythnos eto i fod yn y wlad. Ceisiasom ganddo daflu y cwbl i fyny i ddychwelyd gyda ni, ac oni fuasai fod ganddo amryw o ymrwymiadau i ddarlithio a bod parottoadau wedi cael eu gwneyd gan y cyfeillion yn y gwahanol fanau mewn ffordd o argraphu a gwerthu tocynau, credaf y buasem wedi llwyddo. Ond ni allai feddwl am siomi y cyfeillion oedd yn disgwyl am dano ac wedi darparu ar gyfer ei ddyfodiad i'w plith. Daeth gyda ni i'r depôt i'n gweled yn cychwyn a chofiaf byth am yr olwg drist ddigalon oedd arno. Yr oedd dagrau eto yn ei lygaid, a daliodd i edrych arnom, a ninau arno yntau, hyd nes y'n cipiwyd o'i olwg. Teimlem braidd yn bryderus yn ei gylch canys yr oedd wedi gwaethygu o ran yr olwg arno o'r hyn ydoedd ar ddechreu y daith, dri mis cyn hyny; ac nid rhyfedd ychwaith canys pregethai a darlithiai gyda'r un egni a meithder yn nghanol gwres mawr yr haf yn America, ag y gwnai yn y wlad hon fel yr ydoedd wedi teneuo a gwywo cryn lawer yn ei wedd. Yn nghofiant y diweddar Dr. Roberts, Wrexham, ymddengys llythyr a dderbyniodd Dr. Roberts oddiwrth gyfaill iddo yn America yn mha un y dywedir fel hyn am Hwfa:
"Yr wyf newydd ddod adref o Bangor Pa: lle y bum yn treulio Sabboth gyda'm cyfaill Hwfa, ac yn ffarwelio ag ef am byth mae'n debyg yn y byd hwn. Darlithiodd yno nos Sadwrn ar Hiraethog a pregethodd y Sabboth dair gwaith i gynulleidfaoedd mawrion. Y mae'r hen frawd yn dal yn dda iawn, ond yr wyf yn meddwl ei fod wedi tori tipyn oddiar pan welais ef gyntaf dros dri mis yn ol. Y mae'n syn ei fod yn dal cystal. y mae'n pregethu neu ddarlithio bob nos ac yn dal ati bob tro am awr a haner i dair awr! ac yn bloeddio a chwysu yn ofnadwy. Pregethu yn wir dda a chyda dylanwad mawr. Y mae wedi myned yn ddwfn iawn i serch y bobl yn y wlad hon ac yr wyf yn sicr ei fod wedi gadael dylanwad da ar ei ol yn mhob man y bu."
Gwelir fod y llythyr uchod yn cadarnhau yr hyn a ddywedwyd yn barod am effeithiau y daith ar Hwfa ac hefyd am y dylanwad da a gafodd ei gymdeithas a'i weinidogaeth ar y rhai y bu yn ymdroi yn eu plith yn ystod y daith. Er cymaint yr ofnem am dano oddiar yr olwg a welem arno pan yn ei adael yn Waterville, cafodd ddychwelyd o'i daith lafurus heb fawr o anmhariaeth ar ei iechyd, canys bu fyw am ddeuddeg mlynedd wedi hyny gan deithio a pregethu a darlithio gyda nerth hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farwolaeth. Bu fy anwyl gyfaill Rowlands farw cyn pen pedair blynedd wedi dychwelyd ohono o'r America. Yr oedd ef yn un o'r rhai rhagorol" yn sicr, a phan yn anterth ei nerth yr oedd yn un o'r pregethwyr mwyaf cymeradwy a phoblogaidd yn Nghymru. Nid oedd yn gryf ei iechyd pan yn cychwyn i'r daith, a bernir fod llafur y daith wedi bod yn foddion i fyrhau ei oes. Ond yr oedd Hwfa yn meddu ar gyfansoddiad mor gadarn fel na effeithiwyd arno ef gan y llafur a'r gwres ond yn arwynebol iawn.
Bu y gymdeithas a gefais gydag ef ar y daith hono yn foddion i beri i mi feddwl yn uwch ac yn anwylach o hono nag erioed. Yr oedd iddo yntau ei ddiffygion a'i feiau fel sydd i bawb o honom; ond yr oedd ynddo ragoriaethau a barent i'w gyfeillion ei werthfawrogi a'i garu drwy y cwbl. Gwyr pawb oedd yn ei adnabod ei fod yn hynod o ddiabsen. Byth ni chlywid ef yn siarad yn isel neu yn chwerw am neb. Ac yr oedd hefyd yn hynod o loyal i'w gyfeillion. Ni fynai wrando ar ddim a ddywedid yn erbyn ei gyfeillion. Ni chai neb fyned yn mlaen ond ychydig iawn yn y ffordd hono yn ei bresenoldeb ef, na ddangosai yn ei wedd ac yn ei leferydd, mor anghymeradwy oedd hyny ganddo.
Cofiaf pan yn nesu at y lanfa yn New York, fod Hwfa yn yspio ar y dorf oedd yno yn sefyll i weled y teithwyr yn dyfod o'r llong i'r lan, ac yn edrych allan am un yr oedd yn ei ddisgwyl i'w gyfarfod. Am ysbaid ni welai neb a adwaenai, ond o'r diwedd chwarddodd allan a dywedodd wrthym "Dacw fo'n wir! Welwch chi mono?" ac erbyn i ninau graffu ni a welem rhywun yn y dorf yn taflu ei law ac yn chwifio ei het ar Hwfa. Dyfodiad y cyfaill hwnw i'w gyfarfod oedd y croesaw cyntaf a gafodd yn y wlad y daethai i ymweled â hi. Gallwn feddwl mai yn debyg i hyny y bu arno ar ei fynediad i'r wlad well. Ychydig cyn marw bu am amser yn gorwedd heb gymeryd sylw o neb. Yn sydyn cododd ei ben oddiar y gobenydd ac edrychodd i fynu at nenfwd yr ystafell ac wedi craffu am ychydig eiliadau ar rywbeth neu rywun nad oedd neb arall oedd yn yr ystafell yn gallu ei weled, torodd allan i chwerthin yn llawen, ac yna dododd ei ben i lawr gyda gwén o foddlonrwydd hyfryd—gwen oedd yn aros ar ei wyneb pan y cuddiwyd o dan gauad yr arch Credaf fod Hwfa fel yr oedd yn nesu at y lan, yn gweled cyfeillion anwyl iddo oedd wedi ei flaenu, wedi dyfod i'w gyfarfod ac yn amneidio eu croesaw iddo i'w plith. Do, cafodd yr hyn a ddeisyfir am dano yn y penill hwnw o waith Emrys.
Arglwydd! dal ni nes myn'd adref
Nid yw'r llwybr eto'n faith;
Gwened heulwen ar ein henaid,
Wrth nesau at ben y daith;
Doed y nefol awel dyner
I'n cyfarfod yn y glyn,
Nes i'n deimlo'n traed yn sengi
Ar uchelder Seion fryn.
Pennod XI.
EI FARWOLAETH AI GLADDEDIGAETH.
GAN Y PARCH. R. PERIS WILLIAMS, WREXHAM.
"Natural death is, as it were, a haven and a rest to us after long navigation. And the noble soul is like a good mariner; for he, when he draws near the port, lowers the sails and enters it softly with gentle steerage. . . . And herein we have from our own nature a great lesson of suavity, for in such a death as this there is no grief nor any bitterness: but as a ripe apple is lightly and without violence loosened from its branch, so our soul without grieving departs from the body in which it hath been.
GELLIR, gyda phriodoldeb, gymwyso y dyfyniad uchod o gyfieithiad Dr. Carlyle i'r Saesneg o Convito Dante, at ymadawiad Hwfa Mon a'r fuchedd hon. Aeth ymaith fel llestr yn myned i'r hafan ar ol mordaith hir.
Bu yn bur wael ychydig amser cyn symud o Langollen i fyw i Rhyl; tybiai ef ac eraill fod ei adferiad yr adeg hono yn dra ansicr, pa fodd bynag, cefnodd ar yr afiechyd hwnw, a chafodd fwynhau iechyd lled dda drachefn, er fod yn amlwg nad adferwyd iddo y nerth oedd wedi ei golli. Yr oedd y gwaeledd hwnw wedi rhoddi mantais iddo i sylweddoli yr amgylchiad y gwyddai nad oedd yn mhell iawn oddiwrtho, a sylwai ei gyfeillion ei fod fel pe yn deimladwy yn barhaus ei fod ar fin byd arall.
Ar y 14eg o Fedi 1905 y tarawyd ef yn wael o'r cystudd olaf. Wedi symud i fyw i Rhyl arferai fyned yn ddyddiol am dro i'r Promenade, ac yn ol ei arfer, aeth foreu y diwrnod y cymerwyd ef yn wael, ac eisteddodd ar fainc yn ymyl y traeth, i wylio y plant yn chwareu yn y tywod ar fin y mor; byddai wrth ei fodd yn edrych arnynt yn adeiladu eu cestyll, yn nofio eu llongau a'u cychod, ac yn ymdrochi ar lan yr heli. Daeth yn sydyn yn gawod o wlaw, prysurodd yntau tua chartref; gwelwyd ef yn y gwlaw yn cyfeirio tua Llys Hwfa gan un o gerbydwyr y Rhyl, yr hwn a'i cododd i'w gerbyd ac a'i dygodd at ddrws y ty. Treuliodd y prydnawn wrth y tân yn ei study; tua phump o'r gloch dywedodd wrth Miss Nellie Hwfa Roberts (ei nith) ei fod yn teimlo yr rhyfedd iawn, a'i fod am fyned i'w wely. Yr oedd mor llesg fel y cymerodd, er iddo gael help ei nith, dros haner awr i fyned i fyny y grisiau i'w ystafell. Erbyn deg o'r gloch y noswaith hono yr oedd yn bur wael a danfonwyd am y meddyg—Dr. Hughes Jones—yr hwn wedi ei weled a ganfu ei fod yn dyoddef oddiwrth inflammation of the lungs. Gwaethygodd wedi hyn, a bu raid cael professional nurse i ofalu am dano. Yn mhen oddeutu tair wythnos yr oedd ychydig yn well, ond cyn diwedd mis Hydref yr oedd gryn lawer yn waeth drachefn. Un diwrnod wedi iddo fod yn holi y meddyg a'r nurse ynghylch ei waeledd, ac iddynt hwythau roddi iddo atebion calonogol, gofynodd i'w nith "Nellie beth wyt ti dy hun yn ei feddwl? A wyt ti yn meddwl fy mod am wella?" Wedi i Miss Roberts ei ateb yn gadarnhaol, torodd yntau i wylo yn hidl, a gweddiodd am gymorth i oddef y cystudd. Yr oedd yn gwbl dawel gyda golwg ar yr ochr draw, eto yr oedd yn amlwg ei fod yn ymwybodol o newydd-deb a mawredd rhamantus yr amgylchiad. Llwyddwyd i'w godi i eistedd mewn cadair rhyw bythefnos cyn ei ymadawiad, ond wedi bod yn eistedd ynddi am tua chwarter awr yr oedd yn dda ganddo gael myned yn ol i'w orweddle. Un diwrnod efe a roddodd" fel Joseph "orchymyn am ei esgyrn." Gofynodd i'w nith drefnu iddo gael ei gladdu yn mynwent newydd y Rhyl, yn hytrach nag yn mynwent Seion Treffynon lle y claddwyd ei briod, ac hefyd lle y claddwyd Miss Roberts fu yn cadw ei dy wedi marwolaeth ei briod. Gofynodd hefyd i'w nith, i ofalu am roddi rhyw gydnabyddiaeth i'r cerbydwr a'i dygodd adref y diwrnod y cymerwyd ef yn wael.
Talwyd ymweliad ag ef yn ystod ei gystudd gan amryw o'i hen gyfeillion, a'r hyn roddai iddo fwy o foddhad na dim a glywai ganddynt, oedd y newyddion da a ddygent iddo ynghylch y Diwygiad Crefyddol yn ngwahanol ranau y wlad. Wylai fel plentyn ar ol iddynt ymadael, yr oedd hyny yn effeithio arno yn ei wendid fel y bu raid i'r meddyg wahardd i neb ei weled. Yr oedd yn graddol wanhau o ddydd i ddydd, a chan iddo gael ei daraw gan paralysis yn y gwddf, analluogwyd ef i lefaru ond yn bur aneglur; yr oedd ei feddwl hefyd ar brydiau yn ddyryslyd, ond yn ei ddyryswch yr oedd yn nghanol ei waith, yn darparu i fyned i'w deithiau i bregethu, ac yn trefnu ar gyfer yr Eisteddfod, &c. Nid agorodd ei lygaid, ac ni cheisiodd ddweyd gair o'r Nos Fawrth olaf y bu byw, hyd brydnawn dranoeth. Oddeutu tri o'r gloch ddydd Mercher gofynodd ei nith iddo Fewyrth bach, sut yr ydych yn teimlo? Nellie sydd yma hefo chwi. Oes arnoch chwi ddim ofn ai oes?" Ni chymerai sylw am beth amser o'r hyn ddywedai, ond yn sydyn agorodd ei lygaid ac edrychodd, a chyda gwên nefolaidd ar ei wyneb, ceisiodd lefaru. Yr oll ellid ei ddeall o'r hyn ddywedai oedd Nellie bach, O! 0!! hapus! hapus!! hapus!!!" Torodd Miss Roberts i wylo, ceisiodd yntau amneidio arni i beidio, ac yna cododd ei law, a dywedodd yn hyglyw "I fyny, I fyny." Dywedodd Miss Nellie wrtho "Yr ydych yn hapus iawn, fewyrth" ac atebodd yntau "Fu neb erioed yn fwy hapus." Wedi hyny, aeth i ffwrdd yn raddol; anadlai yn wanach a byrach, hyd nes, heb ymdrech na llafur, yr hunodd yn yr Iesu, am ddau o'r gloch boreu dydd Gwener, y 10fed o Dachwedd. Derbyniwyd y newydd am ai ymadawiad gyda galar cyffredinol. Brithid y wasg a chyfeiriadau helaeth at ei farwolaeth. Dydd Mawrth y 14eg., oedd diwrnod ei angladd a gallesid dweyd wrth yr olwg oedd ar dref Rhyl fod rhywbeth mawr yn cymeryd lle yno y diwrnod hwnw. Yn gynar ar y dydd gwelid cerbydau a motor cars arglwyddi a boneddigion y fro yn olwyno tua Llys Hwfa, a dygent dorchau o flodau tlysion a bytholwyrdd yn fud dystion o barch i goffadwriaeth y gwr hyawdl oedd wedi tewi. Haner awr wedi un ydoedd yr adeg i gychwyn yr angladd, ond ymhell cyn yr amser yr oedd tyrfa o gyfeillion ac edmygwyr yr ymadawedig, yn wyr, gwragedd, a phlant, yn cynrychioli gwreng a bonedd, addysg, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, a chrefydd y wlad wedi ymgasglu i River Street. Gweinyddwyd yn y ty, gan y Parch Thomas Evans, Amlwch, drwy ddarllen rhanau o'r Beibl, a gweddio yn dyner a dwys. Yna dygwyd allan yr arch o dderw caboledig yn cynwys yr hyn oedd. farwol o'r prifardd. Yr ysgrifen ar yr arch oedd :—
"PARCH ROWLAND WILLIAMS.
(HWFA MON).
Bu Farw 10fed o Dachwedd, 1905.
Oed 83."
Yr oedd cynifer o wreaths wedi eu danfon fel nad oedd yn bosibl rhoddi ond ychydig o honynt ar yr arch. Wele restr o'r rhai ddanfonasant dorchau o flodau:—Arglwydd ac Arglwyddes Mostyn; yr Arglwyddes Augusta Mostyn; Yr Anrhydeddus Filwriad a Mrs. Henry Lloyd Mostyn; Yr Arglwyddes Pyers Mostyn, Talacre; Miss Harens, Llundain; Nurse Marie Anwyl; Miss Nellie Hwfa Roberts (yr hon a weinyddodd yn dyner a gofalus ar Hwfa hyd y diwedd); Cymdeithas Cymry Caer; Mrs. Bulkeley Owen "Gwenrhian Gwynedd" (mam Arglwydd Kenyon), Mrs. Lawrence Brodrick, "Gwendolen ; Y Proffeswr Hubert Herkomer, R.A.; Mrs. J. Emlyn; Mr. H. R. Hughes a theulu Kinmel Hall; Dr. Owen Prichard, Llundain; Mr. a Mrs. E. O. V. Lloyd, Rhaggat; ac hefyd. oddwrth ychydig o Gatholiciaid Llundain.
Wedi i Mr. Hugh Edwards "Huwco Penmaen," a Mr. T. Whitley yr undertaker hysbysu a threfnu yr orymdaith, cychwynwyd tua Chapel Queen Street, fel y canlyn:—
1, Y Meddyg; 2, Diaconiaid Eglwys Gynulleidfaol Queen Street; 3, Gweinidogion a Phregethwyr y dref; 4, Cynrychiolwyr Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, a Chymdeithas Y Cymrodorion; 5, Aelodau y Cynghor Trefol; 6, Yr Elorgerbyd; 7 Y Perthynasau; 8, Gweinidogion a Phregethwyr; 9, Cerbydau; 10, Y Cyhoedd. Y Perthynasau yn yr angladd oeddynt Miss Nellie Hwfa Roberts; y Parch. R. Mon Evans; Dr. Owen Prichard, Llundain; Nurse Marie Anwyl; y Parch. R. A. Williams (Berw), Mr. a Mrs. Williams, Prestatyn; a Mrs. W. Roberts, Llanddulas. Ymhlith y dorf o weinidogion ac eraill yn bresenol sylwasom ar y personau canlynol:—Y Parchn Henry Rees, Bryngwran; J. Cadvan Davies, Aberystwyth; Thomas Edwards, (Gwynedd), Aber; Dr. Owen Evans, Liverpool; Dr. Oliver Treffynon; T. Roberts, Wyddgrug; T. Shankland, Bangor; William Hugh Evans; S. T. Jones; W. O. Evans, R. Richards, J. Roberts, R. Curry, J. Pandy Williams, R. Hughes, J. Knowles Jones, Rhyl; Dr. Pan Jones, Mostyn; James Charles, Dinbych; R. Peris Williams, Gwrecsam; J. O. Williams (Pedrog), Liverpool; T. Evans, Amlwch; O. L. Roberts, Liverpool; D. Rees, Capel Mawr; J. Myrddin Thomas; Ben Williams; M. F. Wynne; Ezra Jones, Prestatyn; Thomas Jones, Dinbych; W. James, Sarn; D. Wynne Evans, Caer; T. H. Jones, Seion Treffynon; H. Parri, Rhosymedre, David Jones, Rhuthyn; Mri. J. W. Jones, Y.H., Rhyl; W. J. Parry, Y.H., Bethesda; Thomas Jones, Y.H., Gwrecsam; Joseph Edwards, Gwrecsam; W. Hughes, Y.H., Dolgellau; J. Thomas (Eifionydd), Caernarvon; E. Vincent Evans, Llundain; L. J. Roberts, M.A., Rhyl; E. Lettsome, Llangollen; Christopher Williams, Arlunydd; Pierce Davies a J. Pritchard, Abergele; William Roberts, Dinbych; ynghyda Mri. Arthur Rowlands "Ab Uthr"; Richard Jones, Robert Oldfield, a T. Whitley (diaconiaid Eglwys Queen Streot) a lluaws mawr eraill.
Wedi cyrhaedd y capel, yr hwn yn fuan a orlanwyd, rhoddodd y Parch. Thomas Roberts, Wyddgrug, yr hwn a lywyddai y gwasanaeth, un o emynau Hwfa allan i'w ganu "Gras o'r orsedd fry a redodd" &c. Yna darllenodd y Parch. Dr. Oliver, Treffynon, Salm xc. a gweddiodd yn effeithiol iawn. Y Parch. T. Roberts a sylwodd fod symudiad y bardd wedi peri i'r genedl deimlo, a hyny mewn modd mwy cyffredinol nag oedd yn cael ei arddangos yn y cynulliad hwnw, oblegid yr oedd lluaws o lythyrau wedi eu derbyn oddiwrth amryw bersonau yn datgan eu hanallu i fod yn bresenol. Yn eu plith yr oedd Mr. J. Herbert Lewis, A.S., Mr. J. Herbert Roberts, A.S., Syr T. Marchant Williams; Mr. P. Mostyn Williams; y Prifathraw Probert, D.D., y Parchn. Dr. Abel J. Parry, W. Foulkes, Llangollen; H. Elvet Lewis, Llundain; D. Williams, Llangollen; y Proffeswr J. M. Davies, Bangor; Mri Alltwen Williams; T. H. Thomas (Arlunydd Penygarn); Dr. Drinkwater, Dr. Parry, ac amryw eraill drosodd. Yr oedd eglwysi Bagillt; Brymbo; Queen Street, Gwrecsam; Bethesda; y Tabernacl, King's Cross, Llundain; a Llangollen lle y bu "Hwfa Mon" yn gweinidogaethu a Smyrna Llangefni, lle y dechreuodd bregethu wedi pasio penderfyniadau yn datgan teimlad o golled, trwy ei farwolaeth, a chydymdeimlad a'i berthynasau.
Yn ddiweddarach daeth y llythyr canlynol i law mewn attebiad i air ddanfonwyd i hysbysu y Brenin Edward VII. am farwolaeth yr Archdderwydd:—
Windsor Castle
"The Private Secretary is commanded by the King to thank the Rev. R. P. Williams for his letter of the 14th instant and to say that His Majesty hears with deep regret the news of the death of the Venerable Archdruid of Wales. the Reverend Rowland Williams (Hwfa Mon).
"The King would be glad if the Rev. R. P. Williams would convey the expression of His Majesty's sincere sympathy with Hwfa Mon's relations on the loss they have suffered by the death of the Archdruid of Wales, for whom the King had a great regard.
16th Nov., 1905."
Mr. W. J. Parry, Bethesda, a alwyd i siarad yn gyntaf, dywedodd ei fod wedi dyfod yno y diwrnod hwnw i gladdu un o'i hen gyfeillion, cyfaill oedd wedi parhau yn ffyddlon am dros ddeugain mlynedd. Nid oedd yn gwybod a oedd ganddo elyn; ond os oedd, yr oedd efe yn sicr na chlywodd mo Hwfa Mon erioed yn dweyd gair gwael am neb. Ni fethodd erioed a llenwi un cylch cyhoeddus yr ymgymerai ag ef, gwnai hyny yn anrhydeddus, yn y pulpud, ar y llwyfan, yn yr orsedd ac yn yr Eisteddfod. Chwith iawn ganddo feddwl eu bod yn claddu un oedd mor anwyl ganddynt. Y Parch. J. Pandy Williams, Rhyl, a ddywedodd eu bod yn ddiau, yn rhoddi i orwedd yn y bedd y diwrnod hwnw un o enwogion y genedl a'r wlad. Fel brawd a chyfaill cafodd ef bob amser yn siriol a charedig yn llawn cydymdeimlad, ac yn gefnogol iawn yn ei ysbryd a'i ymadrodd i'w gwneyd yn well a chryfach i wynebu eu dyledswyddau ar ol hyny. Y tro diweddaf y cafodd yr hyfrydwch o siarad ag ef, y Diwygiad oedd testyn yr ymddyddan. Yr oedd ei ysbryd yn llawn gwres, a dywedodd ei fod yn ddiolchgar am y dylanwad nerthol a deimlid yn y wlad. Teimlai yn sicr mai nid amser i feirniadu ydoedd, ond i weddio, canu, a gorfoleddu, am fod yr Arglwydd yn gwneyd i ni bethau mawrion. Fel pregethwr yr oedd tlysni a phrydferthwch ei frawddegau, gwelediad clir ei deall, cyflymder a threiddgarwch ei ddychymyg yn ei wneyd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei oes. Fel llenor a bardd yr oedd yn y rheng flaenaf, a bydd ei lafur a'i wasanaeth yn aros.
Y Parch. R. Richards, yr hwn a gynrychiolai Eglwysi Rhyddion, Rhyl, a ddywedodd fod yr Eglwysi hyny yn cydymdeimlo yn fawr â theulu y diweddar Hwfa Mon, a'r Enwad Anibynol. Yr oeddynt yn teimlo yn falch ei fod wedi dyfod i fyw i Rhyl; yr oedd wedi rhoddi mwy o enwogrwydd ar y lle am ei fod wedi dyfod yno. Yr oedd rhyw urddas yn ei bresenoldeb pan yn mynychu cyfarfodydd yr Eglwysi Rhyddion. Cyfeiriodd ato fel gwrandawr rhagorol ar bregethwyr eraill, sylwodd nas gallai draddodi areithiau byrion, a bod yn dda ei fod wedi myned i wlad lle nad oedd cyfrif amser.
Mr. E. Vincent Evans, Llundain, ysgrifenydd Cymdeithas yr Eisteddfod, a Chymdeithas y Cymrodorion, a ddywedodd ei fod ef a Mr. L. J. Roberts, Arolygwr ysgolion, yn cynrychioli Cymdeithas y Cymrodorion yn yr angladd. Yr oedd Hwfa Mon pan ydoedd yn weinidog yn Eglwys Fetter Lane, Llundain, yn bresenol yn y Cyfarfod pwysig gynhaliwyd yn 1875, pryd yr adnewyddwyd yr Eisteddfod Genedlaethol. Yr oedd Syr Hugh Owen, Mr. Stephen Evans, "Y Gohebydd," Mr. Brinley Richards, a Mr. John Thomas, yn bresenol hefyd yn y cyfarfod. Y pryd hwnw y cychwynwyd yr adfywiad cenedlaethol a wnaeth gymaint yn Nghymru yn ystod y blynyddoedd dilynol. Yr oedd yn chwith iawn ganddo feddwl fod Hwfa wedi ein gadael.
Y Parch. Thomas Edwards, "Gwynedd " a sylwodd fod dylanwad personoliaeth Hwfa Mon yn cael ei deimlo yn fawr bob amser; ac fel yr oedd o ran corff, felly yr oedd hefyd mewn ystyr feddyliol. Yr oedd pob peth a ddyferai dros ei wefusau yn werth ei wrando. Cyflawnodd wasanaeth anmhrisiadwy mewn llawer cyfeiriad, ac erys ei goffadwriaeth yn hir. Cafodd y genedl golled fawr iawn trwy ei farwolaeth.
Y Parch. J. Cadvan Davies, a sylwodd eu bod wedi cyfarfod er dychwelyd i'r nef yr hyn oedd wedi cael ei roddi yn fenthyg iddynt; ond wrth roddi y benthyg yn ol yr oedd wedi ei ranu rywfodd, oblegid bydd ei ddylanwad yn aros yn fyw yn yr eglwysi eto. Yr oeddynt yn claddu dyn da a chymeriad anwyl y diwrnod hwnw, a themlai ef hiraeth ar ol ei anwyl gyfaill Hwfa Mon. Y Parch. Dr. Owen Evans, Liverpool, a gyfeiriodd at y ffaith fod Hwfa Mon ac yntau wedi dilyn eu gilydd yn eu meusydd gweinid— ogaethol. Yr oeddynt wedi eu hordeinio i waith y weinidogaeth o fewn rhyw dridiau neu bedwar i'w gilydd; aeth yn olynydd i Hwfa Mon i Brymbo, a daeth Hwfa wedi hyny yn olynydd iddo ef yn Llundain. Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn o ragoriaethau dysglaer —yr oedd yn gymeriad cenedlaethol. Yr oedd yn dywysog o ddyn.
Yr Arglwydd Mostyn, a ddywedodd fod Hwfa Mon ac yntau wedi bod. yn gyfeillion am lawer o flynyddoedd. Daeth i'w adnabod bum mlynedd ar hugain yn ol yn yr Eisteddfod gyntaf y bu ynddi. Der— byniodd lawer o garedigrwydd oddiar law y gwr yr oeddynt oll y diwrnod hwnw yn galaru oherwydd ei farwolaeth. Wedi canu yr emyn Seisnig
"Our God, our help in ages past," &c.
terfynwyd y gwasanaeth trwy weddi ddwys gan y Parch. James Charles, Dinbych.
Fel yr oedd y dorf yn myned allan o'r capel chwareuwyd y "Dead March" gan Miss Roose. Yna ymffurfiwyd yn orymdaith fel o'r blaen, a chyfeiriwyd tua Chladdfa newydd y dref, lle y dodwyd y corph i orphwys yn y bedd. Darllenwyd cyfran o'r Ysgrythyr a gweddiwyd yn effeithiol ar lan y bedd gan y Parch. David Rees, Capel Mawr.—Wedi canu
Ymwahanodd y dorf. Nid oes yn y bedd ond ei weddillion marwol; ond y mae y fynwent sydd yn cadw y rhai hyny hyd foreu yr adgyfodiad, yn llecyn cysegredig iawn yn syniad a theimlad miloedd o'r Cymry.
"Man anwyl yw'r man, mae'n huno—a rhwydd
Y rhodda pob Cymro
A ddaw at ei fedd o;—o'i drist enaid
Ryw gu ochenaid Gymreig uwch hono."
Noswaith y cynhebrwng traddoddwyd pregeth angladdol hynod o
hapus iddo yn nghapel Queen Street, Rhyl, gan y Parch. Henry
Rees, Bryngwran, oddiar Ioan I. 47.
Pennod XII.
ADGOFION.[1]
GAN Y PARCH. DAVID ROWLANDS B.A., "DEWI MON."
CHWITH yw meddwl fod Hwfa Môn bellach yn ei fedd. Yr oedd amryw o honom sydd mewn gwth o oedran yn barod i feddwl y buasai efe yn ein goroesi oll; oblegid yr oedd ei gorff cawraidd, ei lais ystormus,a'iagwedd awdurdodol, yn gyfryw, gellid tybied, ag a barasai i Angeu ei hun betruso ymosod arno. Yn wir, yn yr ornest ddiweddaf, yr oedd yn bur amheus am rai wythnosau pa un o'r ddau a gawsai y llaw uchaf. Ond Angeu a orfu wedi'r cyfan, er mawr alar i laweroedd a obeithient yn wahanol. Ar ryw ystyr gellir dywedyd mai Hwfa oedd y "bardd olaf"—yr olaf o'r âch a fu gynt mor ddylanwadol yng Nghymru. Claddwyd y diweddaf o'r baledwyr ym mherson Owain Meirion, y gwr tal, esgyrnog, ac afrosgo, a arferai deithio o ffair i ffair am flynyddoedd. i ddatganu y naill "gân newydd" ar ol y llall er difyrrwch i lanciau a llancesau gwledig nad allent brisio un math arall o lenyddiaeth. Llawer hanner awr a dreuliais i fy hunan, pan yn hogyn, i wrando ar ei greglais anaearol, pan yn traethu hanes rhyw drychineb cyffrous, megis tanchwa mewn glofa, neu lofruddiaeth erchyll, neu longddrylliad alaethus, mewn rhigwm o'i waith ei hun. Tybiaf nad oedd efe mor isel ei ymadrodd â'i ragflaenydd, "Die Dywyll," mantell yr hwn a ddisgynasai arno, er fod Dic yn rhagori arno mewn athrylith. Hoffai, ar rai adegau, ganu ar destynau crefyddol; hynny yw, pan y byddai testynau mwy poblogaidd dipyn yn brin. Er enghraifft, gellir nodi ei gân ar "Deifas a Lazarus," o'r hon nid oes ond y pennill canlynol yn unig wedi glynu yn fy nghof,—
Y porffor gorau gynt a wisgai,
A'r gwynion grysau i'w groen,
Heb feddwl munyd y cai ei symud
O'r bywyd i'r mawr boen.
Y tro diweddaf y daethum i gyffyrddiad âg ef oedd yn Llanbrynmair, lle y treuliodd ddiwedd ei oes mewn neilltuaeth, gan ennill ei fara wrth gario "siop wen." Ond nid oes iddo yr un olynydd. Er i amryw, o bryd i bryd, geisio ei efelychu, rhaid dywedyd nad oeddynt ar y goreu ond "sparblis" diddym, ag y buasai hen "hoelion wyth" y dyddiau fu yn cywilyddio arddel perthynas â hwy. Maddeuer i mi am grwydro oddiwrth fy nhestyn. Na freuddwydied neb fod Hwfa i'w gymharu am foment â'r clerwyr. Fy amcan yw dangos fel y mae dull y byd yn "myned heibio." Ond i ddychwelyd. Hwfa oedd y cynrychiolydd perffeithiaf o neb yn ei oes o'r bardd, sef yw hynny, bardd yr hen amseroedd. Yr oedd Hwfa yn fardd o'i sawdl i'w goryn: gwaith mawr ei fywyd oedd barddoni; ac ychydig, mewn cymhariaeth, o ddyddordeb a gymerai mewn dim arall. Hyd y gwyddys, nid oedd yn malio brwynen pa blaid boliticaidd a fyddai mewn awdurdod; ac y mae yn amheus a allasai efe, ar unrhyw adeg, enwi prif aelodau y Llywodraeth. Ni fu erioed yn flaenllaw gyda mudiadau yr enwad y perthynai iddo; ac yr oedd cadair yr Eisteddfod yn symbylu ei uchelgais yn llawer mwy grymus na chadair yr Undeb Cynulleidfaol. Yn hyn tebygai i'r diweddar Ddoctor Joseph Parry (Pencerdd America). Gwyr pawb a adwaenent y Pencerdd fod miwsig wedi gorfaelio ei holl alluoedd, fel nad oedd ganddo chwaeth nac amynedd i feddwl na siarad am helyntion y byd yr oedd yn byw ynddo. Pe digwyddasai chwyldroad yn y Deyrnas, nid yw yn debyg y buasai yn tynu ei sylw o gwbl, oddigerth ysgatfydd iddo ganfod ynddo destyn cantawd.
Meddai y Bardd ddylanwad anhraethol yng Nghymru fu." Heb son am oes y Derwyddon neu y Canol Oesoedd, ni raid i ni fyned yn ol ond rhyw ganrif neu ddwy iw weled yn ei ogoniant. Creadur rhyfeddol ei foesau ydoedd, gan amlaf,—aflerw ei wisg, diofal am ei amgylchiadau, ac yn ymddibynu am ei fara beunyddiol ar hygoeledd ei noddwyr. Yr oedd eillio ei farf, a thorri ei wallt, a thrwsio ei berson, gellid meddwl, yn wastraff amser yn ei olwg. Y mae hyn yn cyfrif am y dywediad a ffynnai ymysg y werinos i ddesgrifio dynsawd mwy anolygus na'r cyffredin—"Mae o'n edrych wel prydydd." Nid ydym heb wybod fod eithriadau yn bod—fod y bardd a'r boneddwr, weithiau, yn cyfarfod yn yr un person. Ac yr oedd ei ofn ar bawb—y cyfoethog yn gystal a'r tlawd; oblegid y felldith fwyaf arswydus a allasai ddigwydd i ran neb marwol oedd cael ei oganu mewn cân. Fel hyn yr oedd ei wasanaeth yn werthfawr ar rai adegau. Pwy all fesur y lles a wnaeth Twm o'r Nant yn ei oes trwy fflangellu crach foneddigion ac offeiriaid didoriad oedd yn bla ar y wlad? Nid oedd Elis y Cowper—os gwir yr hanes—yn rhy ofalus bob amser i wahaniaethu rhwng ei eiddo ei hun ac eiddo ei gymydog. Dywedir iddo, unwaith, gymeryd meddiant o goed heb ofyn caniatad eu perchennog. Gwysiwyd ef i ymddangos ger bron yr ynad lleol mewn canlyniad, yr hwn a'i dedfrydodd i dymor o garchariad. Bore drannoeth cyfarfu yr ynad âg Elis ar yr heol yn Llanrwst, ar ei ffordd i'r carchar dan ofal ceisbwl. Dan ei gesail yr oedd rhol fawr o bapyr gwyn. "Aros di, Elis," ebai yr ynad, "beth yw y papyr yna sydd gen' ti?" "O," ebai yntau, " yr wyf yn bwriadu defnyddio hwn i ysgrifennu cân i chwi, syr." Dychrynnodd yr ynad yn aruthr; a chan droi at y ceisbwl dywedai, "Gad iddo fo fynd i'w grogi!
Yr oedd Hwfa yn fardd hyd flaenau ei fysedd— yn fardd yn ystyr gysefin y gair. Yr oedd yn y wir olyniaeth farddol, ac wedi yfed yn helaeth o ysbryd ac etifeddu y rhan fwyaf o hynodion yr urdd— urdd ag sydd, er gwell neu er gwaeth, yn awr wedi diflannu. Gallasai erys rhai blynyddau ddywedyd gyda gradd o briodoldeb, "Myfi fy hunan yn unig a adawyd," er fod amryw ymhonwyr eto yn aros. Wrth eu galw yn ymhonwyr pell wyf o amcanu eu diraddio. Dichon eu bod yn wyr o athrylith, gwybodaeth, a diwylliant tuhwnt i'r cyffredin—gwyr ag ydynt yn anrhydedd i'r wlad a'u magodd; ond nis gellir eu galw yn "feirdd " mwy nag y gellir gwthio gweinidogion Ymneillduol i'r olyniaeth apostolaidd. Pan gyfarfyddir â hwy ar yr heol, pwy sydd byth yn sefyll i synnu at eu hymddangosiad uwch ddaearol? Pwy sydd yn gallu gweled tân ysbrydoliaeth yn fflachio yn eu gwynepryd? Pwy feddyliai am gymhwyso at eu llygad pwyllog eiriau y prydydd Seisnig—" The poet's eye in fine frenzy rolling"? Beirdd, yn wir! Priodol fyddai iddynt, un ac oll, fabwysiadu cyffes Dewi Wyn o Eifion—
"Nid wyf fardd, ond ei furddyn!"
Y mae yr Orsedd weithian, gan nad beth sydd yn gywir parthed ei hynafiaeth, yn rhan hanfodol o'r Eisteddfod. Pe diddymid yr Orsedd ysbeilid yr Eisteddfod, yn ol syniad y lluaws—Saeson yn gystal â Chymry—o'i phrif swyn; llusgid hi o awyrgylch rhamant i diriogaeth cyffredinedd; ac nis gallai mwyach danio y dychymyg mwy na chystadleuaeth aredig neu arddangosfa amaethyddol. Yr oedd Hwfa yn credu yn drwyadl yn yr Orsedd: ni byddai ei hyawdledd byth mor ysgubol â phan yn amddiffyn ei hawliau neu yn seinio ei chlodydd: arferai, y pryd hwnnw, fathu geiriau digyfryw, a'u lluchio yn chwilboeth at ei wrandawyr, fel bwledi of safn magnel. Dygai fawr sêl dros yr holl ddefodau cysylltiedig â hi; a mynnai eu cario allan gyda'r fath fanylder a phe buasai. iachawdwriaeth y genedl yn ymddibynu arnynt. Prin y gellir meddwl i'r un offeiriad, pan yn gweinyddu yr offeren, gael ei feddiannu a'r fath ddifrifwch angerddol â'r eiddo ef, pan yn sefyll ar y Maen Llog ynghanol y cylch derwyddol, dan nenfwd glasliw y ffurfafen, i gyflawni y dyledswyddau perthynol i'w swydd. Pwy a'i clywodd a all anghofio y "Llais uwch adlais," y "Llef uwch adlef," y "Waedd uwch adwaedd," pan fyddai ei floedd, fel taran drystfawr, yn diasbedain rhwng y creigiau, wrth iddo ofyn, "A oes heddwch"? Nid rhyfedd i'r proffeswr Germanaidd hwnnw a ddaethai i'r wlad hon i ddysgu Cymraeg, wrth iddo roddi hanes ei ymweliad â'r Eisteddfod, yn un o bapyrau Cymreig y Gogledd, ei ddynodi fel y "croch Hwfa!"
Os nad wyf yn camgymeryd, penodiad cymharol ddiweddar yw swydd yr Archdderwydd. Yr unig archdderwyddon wyf fi yn eu cofio yw Dewi o Ddyfed, Meilir, Clwydfardd, a Hwfa Môn; ac y mae yn amheus gennyf a benodwyd yr un o honynt, oddigerth y diweddaf, drwy bleidlais reolaidd y Beirdd. Tae fater am hynny! Clwydfardd oedd y cyntaf i osod bri ar y swydd. Yr oedd ei ymddangosiad patriarchaidd a'i oedran mawr ar unwaith yn hawlio gwarogaeth; ac edrychid i fyny ato, gan fach a mawr, fel person cysegredig, fel ymgorffoliad byw o fawrhydi yr Awen. Gwisgai ei dlysau arian ar ei ddwyfron (megis amryw o'i frodyr), fel cynifer o ser, ar achlysuron cyhoeddus; ac yr oedd un o honynt, o ran maint, bron yn gyfartal i ddysgl giniaw. Gallai adrodd englynion gyda mwy o arddeliad na neb yn ei oes; ac yr oedd ganddo doraeth o honynt ar gyfer pob amgylchiad. Y rhai mwyaf doniol o'r cwbl oll oedd ei englynion ef ei hun i'r Llwynog, a adroddwyd ganddo, am y waith gyntaf, yn Eisteddfod Aberffraw, yn 1849. Wedi darlunio camweddau y creadur barus, yn ei ffordd ddihafal ei hun dywed—
Ac am a wnaeth o gam â ni,—heblaw
Dwyn oen blwydd a thwrei,
Mileiniaid tost yw 'mhlant i,
A'm gwraig sydd am ei grogi.
Ond gellir dywedyd yn ddibetrus na chyrhaeddodd yr Orsedd binacl ei rhwysg hyd deyrnasiad Hwfa. Yn ystod ei deyrnasiad ef (a Chlwydfardd hefyd, o ran hyny) daeth ei graddau yn werth eu derbyn gan fawrion y tir, ac hyd y nod y teulu brenhinol, heb son am enwogion gwledydd eraill. Credaf na ddygodd Brenhines Roumania o'r wlad hon drysor gwerthfawrocach yn ei golwg na'r ysnoden las a dderbyniodd yn Eisteddfod Bangor. Ychwanegodd y Proffeswr Herkomer hefyd, dro yn ol, at ei hurddas arddangosol drwy wisgo y Derwyddon, y Beirdd, a'r Ofyddion, mewn gynnau gwynion, gleision, a gwyrddion, a choroni yr Archdderwydd â choronbleth o fetel cerfiedig fel arwyddnod o'i uwchafiaeth.
Nid yw yr Orsedd eto y peth y dylai fod, na'i graddau o gymaint gwerth ag y gellid dymuno. Buwyd yn gywilyddus o esgeulus, am lawer blwyddyn, yn y mater o raddio. Ystyrid unrhyw leban a allai gyfansoddi pwt o englyn, ac a allai berswadio y cyflwynfardd calon feddal i'w arwain i'r cylch cyfrin, yn gymwys i'w ysnodennu ar unwaith. Yn unig gofynnai yr Archdderwydd, "A ellir bardd o honaw?" ac os atebid, "Gellir," dyna bopeth ar ben. Cyhoeddai yr Archdderwydd fod y penbwl i gael ei adnabod o hynny allan, ymysg Beirdd Ynys Prydain, dan yr enw "Sion Ddwygoes," er mawr syndod i bob edrychydd meddylgar a ddigwyddai fod yn bresennol. Rhaid i bob ymgeisydd am radd ar hyn o bryd basio rhywfath o arholiad—arholiad digon caled i brofi o leiaf fod ganddo rywbeth amgenach na meipen ar ei ysgwyddau. Deallaf fod diwygiad pellach yn y gwynt; a gobeithio y bydd yn ddiwygiad sylweddol. Dyma gyfleustra ardderchog i wneud yr Orsedd yn grynhoad o hufen diwylliant y genedl. Tybed na ellir rhoddi iddi gyffelyb safle. yng Nghymru ag a fedd yr Académie Française yn Ffrainc, trwy gyfyngu ei haelodaeth yn hollol i'r rhai sydd wedi gwneud eu rhan tuag at gyfoethogi llenyddiaeth eu gwlad?
Brodor o Fôn oedd Hwfa, mal yr awgryma ei enw; ac yr oedd yn falch o'i fro enedigol. Pa fodd y mae cyfrif am y ffaith fod Môn, o ddyddiau y Derwyddon hyd yn awr, wedi bod mor nodedig am wroldeb, athrylith, ac ysbryd anturiaethus ei meibion ? "Môn mam Cymru" y gelwid hi gynt; ac yr oedd yn llwyr deilyngu y cyfenwad. Gofynnai rhyw fardd, yng ngwres ei edmygedd o honi——
Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wyr mawr Mon?
Gormodiaith, yn ddiau, yw y dyheuriad—"Môn a'i beirdd mwya'n y byd;" ond os gwir yr hen air, fod yn rhaid cael rhyw liw cyn llifo," mae'n deg i ni gasglu fod beirdd Môn ymysg goreuon yr oesau. Dichon fod enwau rhai o honynt wedi myned ar ddifancoll; ond y mae enw Goronwy Ddu yn aros mewn bri, a'i gywydd. gorchestol ar "Y Farn Fawr" yn gofwy oesol o egni seraffaidd ei awen. Pa angen ychwanegu enghreifftiau? "Ab uno disce omnes." Nid oes dim yn arwynebedd y tir i gyfrif am hyn, gan fod y coedwigoedd yn brinion, yr afonydd yn brinnach, a'r bryniau yn brinnach fyth. Gwlad fynyddig yn gyffredin sy'n cenhedlu darfelydd; a swn cornentydd, ysgythredd y creigiau, a rhuthr y dymhestl, sydd fynychaf yn cryfhau ei edyn. Gwastatir unffurf ddigon yw Rhos Trehwfa, yn gorwedd rhwng Cefn Cwmwd a Llangefni, ger llaw y brif-ffordd o Fangor i Gaergybi. Dyma lle y treuliodd Hwfa ei ddyddiau boreuol, a dyma lle yr yfodd gyntaf o ysbrydiaeth cerdd. Yr ydym yn rhyfeddu, gan hynny, at nodwedd ffrochwyllt ei ysgogiadau meddyliol. Gwir y gallasai unrhyw ddiwrnod weled cyrrau Arfon yn y pellder, a mynyddoedd yr Eryri yn dyrchafu eu pennau ar y terfyngylch tua chodiad haul: a gallwn yn hawdd ddyfalu iddo, lawer dydd, sefyll mewn syndod i syllu ar y cymyl trwmlwythog a ymrolient ar eu llethrau ar ddynesiad yr ystorm. Digon tebyg i hyn adael argraff ddyfnach ar ei feddwl na'r olwg hudolus fyddai arnynt dan goron felynliw yr heulwen yn nhawelwch hwyrddydd haf. Tybed ei fod, yn y llinellau canlynol o'i eiddo i genedl y Cymry, yn adrodd ei brofiad ei hun?
Gwela greigiau
Trwy'r cymylau:
Ar y glannau aur a gleiniog
Am eu gyddfau
Gwela dorchau
Niwl y borau yn wlybyrrog.
Y llwydwyn niwl a'u dillada.—a'i darth
Yn dew a'u gorchuddia;
Yna lluwch fentyll o iâ,a'i rewynt
Yn oer, am danynt a hir ymdaena.
Brychion gernau,
Troiog riwiau,
I gorynnau geirw Anian.
Hirfaith drumiau,
Crychog gribau,
Lluaws dyrrau, llys y daran.
Y mae yn rhy fuan eto i benderfynu safle Hwfa yn y byd barddonol: caiff Amser wneud hynny—Amser nad yw byth yn pallu gwneud cyfiawnder, trwy gladdu enwogrwydd rhai, ac anfarwoli eraill mwy teilwng, a esgeuluswyd ond odid gan eu cydoeswyr. Gallwn ddywedyd, fodd bynnag, fod yr elfen gyffrous, ysgythrog, ddychrynllyd, yn cael lle amlwg yn ei gynyrchion. Cymerer y darnau canlynol, y rhai a ddyfynnir ar antur:—
Y RHYFELFARCH.
Trwy wyn hadl, troa yn hyll,—
Cyrcha i'w branciau erchyll!
Troedia lwybr y trydan,—
A charnau dig chwyrna dân!
Ysol fellt trwy y meusydd,
Fel hen seirff, o'i flaen y sydd!
Pala ei ffordd! a'r pylor.
Yn dân oddeutu ei dorr!
Hollta y main trwy wyllter,—
Uwch y sarn lluchia y ser!
Gyrra trwy byllau gorwaed!
Tan ei geirn tonna y gwaed
 mwy o nerth llamu wna,—
Y fagnel dan draed figna.
Y DDANNODD.
Rhonco waew yn rhincian—yw'r Ddannodd,
Trwy ddynion pensyfrdan,—
Bwyall diawl,—ebill o dân
Yn tyllu'r cilddant allan!
YR ANGHREDADYN.
Deall mai nid oddiallan—i ti
Mae ystorm y brwmstan;
Ceir defnydd tywydd y tân
Yn dy enaid dy hunan!
UFFERN.
Y fall lle tyrr fyth fellt daran,—y pwll
Lle mae pawb yn gruddfan,—
Carchar diafl a'r dyn aflan,
A ffwrn Duw, yw Uffern dân.
Mae yr olaf yn dwyn i'm cof waith Dafydd Cadwaladr, dros gan mlynedd yn ol, yn dychrynu cynulleidfa wledig yng nghymydogaeth y Bala, trwy ddarlunio tynged yr anedifeiriol yn y geiriau arswydlawn a ganlyn—"Bobol," meddai, gan ddyrchafu ei lais trywanol,"Bobol, chwi fyddwch yn uffern, yn rhostio fel penwaig cochion, rhwng cilddannedd y cythraul!"
Y tro cyntaf i mi gyfarfod Hwfa oedd yn ei dŷ ei hun, ym Magillt, oddeutu y flwyddyn 1853. Yr oeddwn i, yr adeg honno, yn llencyn dibrofiad, ac ar fy nhaith drwy Sir Fflint i gasglu at Goleg y Bala. Treuliais ran o wythnos dan ei gronglwyd; ac y mae yr adgof am y dyddiau hynny yn fyw yn fy mynwes hyd y dydd hwn. Yr oedd yn garedig tuhwnt i bopeth: caredig ydoedd efe i bawb; ond dichon i'r ffaith fy mod yn frodor o Fôn ddyblu ei garedigrwydd i mi y tro hwnnw. Ymddangosai wrth ei fodd; a pha ryfedd? Oblegid yr oedd newydd briodi, ac yn y rhan gyntaf o fis y mel. Gwraig landeg, hoenus, a siriol dros ben oedd Mrs. Williams; ac er ei bod amryw flynyddoedd yn hŷn nag efe, nid ymddangosai y gwahaniaeth oedran yn anaturiol ar y pryd. Yr oedd yn amlwg ei fod ef yn ei hanner addoli; a gwn i'w edmygedd o honi a'i serch tuag ati barhau yn ddi fwlch hyd y diwedd. Nid heb bryder yn ymylu ar fraw yr edrychaswn ym mlaen at ei gyfarfod; oblegid gwyddwn y buasai raid i mi bregethu fwy nag unwaith yn ei bresenoldeb, ac yntau yn fardd ag yr oedd ei glod yn cyflym ymdaenu led—led y Dywysogaeth. Pa fodd y gallwn sefyll manylder ei feirniadaeth? Ond profodd fy ofnau yn ddisail. Gwrandawai arnaf mor astud a phe buaswn yn un o gewri yr areithfa.
Goddefer i mi sylwi yma, mai nid croesawgar iawn oedd y derbyniad a roddwyd i Hwfa ar y cyntaf gan rai o'r hen feirdd. Hwyrach fod beiddgarwch ei arddull, yn ol eu barn hwy, yn rhy ddibris o safonau chwaeth ar yr un pryd nid wyf yn gwybod i neb fod yn gâs wrtho;—pwy erioed a geisiodd fod yn gâs wrth Hwfa ac a lwyddodd? Gwelais rai yn gwenu wrth grybwyll ei enw; ond dyna i gyd; ni chefais le i gredu fod y wên un amser yn cuddio malais. Canodd un bardd o fri nifer o englynion ysmala, yn y rhai yr alaethai dynged resynus y Beirdd, y rhai a deflid, un ac oll, allan o waith, gan na byddai dim gofyn mwyach ar eu nwyddau. Terfynai trwy ddywedyd:—
Ni enwir neb yn union
Ond Hwfa fawr, fawr o Fôn!
Ni argraffwyd yr englynion hyn o gwbl; ond buont am flynyddau ar lafar gwlad. Bum yn synnu ynnof fy hun, ganwaith, yn ystod cystudd olaf y bardd, pan yn darllen, o ddydd i ddydd, yn y newyddiaduron Seisnig, yr hysbysiadau parth cwrs ei glefyd—bum yn synnu mor agos fu i'r broffwydoliaeth a nodwyd gael ei chyflawni!
Cyfarfyddais âg ef laweroedd o weithiau, dan bob math o amgylchiadau, yn ystod yr hanner can mlynedd dilynol. Mae y rhan fwyaf o'r achlysuron hynny, wrth reswm, wedi llithro o'm cof. Nid felly Eisteddfod fawr Caerynarfon yn 1862, lle gwelais ef yn eistedd, am y tro cyntaf, yn y Gadair Genedlaethol. Nid oeddwn i fy hunan wedi bod mewn eisteddfod erioed o'r blaen; ac yr oedd y gweithrediadau mor newydd, mor ddyddorol, ac mor hyfryd i mi, fel, er i mi wario swm o arian am lety, a lluniaeth, ac anghenrheidiau eraill,—a'm llogell heb fod yn rhy lawn,—ni fu byth yn edifar gennyf. Lle enbydus yw tref Gymreig ar adeg yr Eisteddfod gellir meddwl fod rhyw wanc aniwalladwy yn meddiannu y trigolion, fel nad ydynt yn foddlawn i'r ymwelwyr ymadael cyn talu y ffyrling eithaf—a llawer ffyrling dros ben! Bum mor ffodus a chael fy urddo gan Feilir, archdderwydd y cyfnod; a theimlwn gryn dipyn yn dalach ar ol y ddefod. Yr oedd rhyddid a chynulliadau i mi wedyn fyned i gyfarfodydd y Beirdd digyffelyb oedd cyfarfodydd y cyfarfodydd y Beirdd yr amser hwnnw. Yr amcan proffesedig wrth eu cynnal oedd ymdrin â breiniau Barddas; ond, waeth heb gelu, treulid yr amser i adrodd ffraethebion, chwedlau, ac englynion byrfyfyr, gan hen lychod gwreiddiol, ag ydynt, erys llawer dydd, wedi eu priddo, heb adael neb o gyffelyb ddoniau i lanw eu lle. Dyna'r unig dro i mi glywed yr hen bererin ffraethbert, Owen William o'r Waenfawr; ac er ei fod yn dra oedrannus, yr oedd yn llawn asbri, ac yn ymfflamychu gyda'r goreu o'i frodyr. Digwyddasai Nicander ddywedyd, un boreu, nad oes yr un Cymro "o waed coch cyfan" i'w gael yn bresennol ac ymddengys i'r haeriad gynhyrfu yr hen frawd hyd waelodion ei fodolaeth. Yng nghyfarfod yr hwyr—cyfarfod y Beirdd—torrodd dros ben y llestri; a chyda difrifwch digamsyniol—difrifwch dyn wedi ei sarhau yn nhy ei garedigion—dywedai, "Yr wyf yn adnabod fy nhylwyth erys dwy fil o flynyddoedd. Y dyn yn dweyd fy mod i yn perthyn i Saeson, Ysgotiaid, Gwyddelod, a rhyw 'nialwch felly!" Ond prif arwr y cyfarfodydd, fodd bynnag, oedd Cynddelw. Yr oedd ei ystraeon yn ddiderfyn; a llawer o honynt yn ddigon i greu chwerthin mewn hen geffyl. Crybwyllodd rhywun y lles dirfawr oedd y Saeson yn ei wneud i Gymru, drwy wario eu harian i weithio ei mwngloddiau. Felly'n siwr!" ebai Cynddelw, âg ystryw yng nghil ei lygad, "ond pwy, atolwg, sy'n crafangu y cwbl o'r elw? A glywsoch chwi erioed stori y Gwyddel a'i gi? Digwyddodd i'r ddau golli eu ffordd yn un o goedwigoedd mawrion yr Amerig; a dyna lle buont am ddyddiau yn crwydro nes eu bod bron a newynu. O'r diwedd penderfynodd yr adyn dorri cynffon y ci; ac wedi llwyr—fwyta y cig oedd arni, caniatodd i'r ci druan grafu yr esgyrn!"
Yr oedd pabell yr Eisteddfod, yr hon oedd rhwng muriau y Castell, yn orlawn ddiwrnod y cadeirio. Dodir mwy o bwys ar gadeirio y Bardd yn y Gogledd nag a wneir yn y De; a dyna yr olygfa sydd yn atynnu y miloedd. Ac yr oedd yr Eisteddfod yn Eisteddfod y pryd hwnnw, ac nid, fel y mae wedi myned erbyn hyn, yn gymanfa ganu, —yn enwedig yn y De, lle y teflir popeth i'r cysgod gan y cystadleuaethau corawl. Ar y llwyfan yr oedd cynulliad mawreddog o ser y byd llenyddol, yn cynnwys Caledfryn, Gwalchmai, Nicander, Gweirydd ap Rhys, Taliesin o Eifion, Glasynys, Ioan Emlyn, Ceiriog, Robyn Wyn, Eben Fardd, ac eraill rhy luosog i'w henwi —ser ag ydynt heddyw oll wedi machludo! Sylwer mai Robyn Wyn oedd tywysog y marwnadwyr; ac efe fyddai yn wastad bron yn ennill y dorch pan fyddai Marwnad i gystadlu arni, ac yr oedd wedi ennill y boreu hwnnw. Pan alwyd ei enw, parodd rhyw fardd cellweirus gryn ddifyrrwch trwy waeddi—
Robyn Wyn, er neb, yn awr,
A wyla ar bob elawr!
Ac yn y fan atebodd rhywun arall—
Er neb yn awr, Robyn Wyn
A wyla am ei elyn!
Testyn y Gadair oedd "Y Flwyddyn;" a'r beirniaid oedd Caledfryn, Nicander, a Gwalchmai. Yr oedd llawer o ddyfalu wedi bod, er's wythnosau, pwy oedd i gael y Gadair: ond pan aeth y gair ar led fod. Eben Fardd yn cystadlu, nid oedd dim amheuaeth ym meddwl neb nad efe oedd i'w chael. Rhyfyg o'r mwyaf, yn ol syniad y werin, oedd i neb ei wrthwynebu. Onid oedd efe yn gadeirfardd eisoes? Ac onid oedd wedi cynyrchu rhai o'r awdlau mwyaf gorchestol yn yr iaith? Ac onid oedd ei enw yn adnabyddus trwy Gymru benbaladr fel pencampwr anorchfygol? Ychydig oedd nifer y cadeirfeirdd y dyddiau hyny: gallasai dyn yn rhwydd eu cyfrif ar ei fysedd. Pan ofynnid pwy oedd i gael y Gadair, cyfyngid yr atebiad i ryw un o fysg rhyw hanner dwsin, nid amgen Caledfryn, Hiraethog, Emrys, Gwalchmai, Eben Fardd, ac fe allai un neu ddau eraill. Ni freuddwydid fod yn ddichonadwy ychwanegu at eu nifer. Mor wahanol yw pethau erbyn hyn, pan y mae cadeirfeirdd mor amled ar y ddaear a mwyar duon!
Darllenwyd y feirniadaeth gan Galedfryn yng nghanol distawrwydd y bedd; ac yr oedd y dorf fawr megis yn crogi wrth ei wefusau. Yr oedd clywed Caledfryn yn parablu Cymraeg yn ei ddull dihafal ei hun yn wledd na fwynheid ond yn anfynych; yn wir, rhaid i mi gyfaddef na chlywais i erioed ei ail. Wedi beirniadu nifer o gyfansoddiadau, a nodi allan eu diffygion a'u rhagoriaethau, daeth yn y diwedd at yr awdl fuddugol; a dyma ei ddesgrifiad o honi :— Yr Eryr.—Mae yr awdl hon yn orlawn o syniadau awenyddol, dillyn, tyner, a threiddiol. Y mae y dychymygiad yn dilyn Natur yn deg. Y mae y mydryddiad yn rhydd ac esmwyth. Y mae y gwaith yn arddangos gwreiddioldeb meddwl a syniadau priodol. Y mae yma ystyriaethau dyrchafedig, yn cael eu gwisgo mewn ymadroddion cyfaddas i'r amcan. Y mae priod—ddull yr iaith yn dda ac eglur. Y mae rhai o'r cylymiadau yn gyrhaeddgar ac awgrymiadol. Y mae yr awdwr, gydag aden eryr, weithiau yn ymddyrchafu uwchlaw pethau cyffredin, hyd uwchder teml yr Awen; a chyda llygad eryr yn cymeryd ei dremiad dros derfynau eang ei destyn. Y mae yn tynnu darlun o wahanol dymorau y flwyddyn, mewn lliwiau cryfion, gyda phwyntil cywrain.
Safai Eben Fardd, ar y pryd, yn fy ymyl; a chefais y fraint o
gyffwrdd ag ymyl ei wisg: ac yr oedd hynny yn fwy peth yn fy
ngolwg na phe cawswn siglo llaw â'r Frenhines. Prin y gallwn
sylweddoli y ffaith fy mod yn sefyll ar yr un llwyfan âg awdwr
anfarwol "Dinystr Jerusalem "—awdl a ystyriwn yn wyrth o
brydferthwch yn nyddiau mebyd. Sylwais fod gwynepryd Eben
wedi syrthio erys meityn; ac heb yn wybod i mi ymgiliodd o'r
llwyfan, ac nis gwelais ef drachefn. Yr oedd y dorf yn awr yn
llygaid ac yn glustiau i gyd—yn dal ei hanadl yn angerddoldeb ei
disgwyliad, a channoedd ym mhen draw y babell yn sefyll ar
flaenau eu traed. "A ydyw 'Yr Eryr' yn bresennol ?" gofynnai
yr arweinydd. "Ydyw," meddai rhywun; ac yn y fan gwelwn Hwfa yn cyfodi ar ei draed. Yr oedd y cyffro yn anesgrifiadwy. Rhwng
y curo dwylaw, y chwifio cadachau, a'r banllefau byddarol, yr oeddwn
bron a chredu fod pawb ond fy hunan wedi hanner gwallgofi.
Cadeiriwyd y bardd gyda'r rhwysg arferol, a chefais innau y
pleser o'i longyfarch ymhlith y rhai cyntaf. Ond yr hyn a
osodai arbenigrwydd neillduol ar yr amgylchiad oedd, fod hen
gylch y cadeirfeirdd wedi ei dorri am byth, a chyfnod newydd.
yn hanes yr Eisteddfod wedi gwawrio.
Pennod XIII.
NODION AR EI YRFA.
BORE OES.
PEN Y GRAIG, TREFDRAETH, MÔN.
GANWYD ein Gwron mewn Amaethdy bychan o'r enw Pen y Graig, Trefdraeth, Mon, yn mis Mawrth 1823. Fel hyn y canodd, ac yr ysgrifenodd am y lle.
Adeilad i iawn fodoli,—a gras
Fu Pen y Graig i mi;
Duw Iôn daenodd ddaioni
Hyd y fan lle ganwyd fi.
"Yr oedd y gair ar hyd yr ardaloedd mai Pen-y-Graig oedd un o'r tai hynaf yn y plwyf. Ac yr oedd yr olwg gyntaf arno yn dangos ei fod yn hen. Yr oedd ei ffurf o'r fath fwyaf hen ffasiwn. Ei furiau yn llathen o led; ac wedi eu hadeiladu o feini mawrion, heb ol morthwyl na chyn ar yr un o honynt. Ac yr oedd ei holl waith coed wedi ei wneud o hen dderw durol. Yr oedd ei ddrysau ai ffenestri wedi eu saernio yn y modd goreu. Yr oedd ei do wedi ei wneud o lyfn wellt y wlad, ac yr oedd wedi ei doi lawer gwaith drosodd, ac yr oedd ei do mor drwchus fel na ddeuai yr un dafn o wlaw drwyddo. Yr oedd yr hen Ben y Graig yn arddanghosiad teg o ddull yr hen Gymry gonest yn gwneud eu gwaith. Yr oedd cadernid gwaith eu llaw iw weled drwy Ben y Graig i gyd. Ac yr oedd ei henaint yn profi hyny. Yr oedd wedi ei adeiladu ar lethr uchaf y graig, ac yn gwynebu at gyfodiad yr haul. Yn union o flaen ei ddrws gwelid y Wyddfa yn ymddyrchafu,"—
Yn estyn ei phen i laster,—hyfryd
Hoewfro'r uchelder;
A'i gwyneb ger bron Gwener
Yn chwarddu, cusanu'r Ser.
"Ar y llaw chwith o'r drws gwelid Penmaenmawr a'r
Penmaenbach, ynghyd a Charnedd Llewellyn, a Charnedd
Ddafydd fel pe yn codi ar flaenau eu traed i ysbio dros
ysgwyddau eu gilydd. Ac ar y llaw ddeau gwelid Goleudy
Llanddwyn, a'r llongau bychain a mawrion yn gwibio
heibio iddo, wrth fyned a dyfod i fasnachu i Borthladd
Caernarfon. Wrth edrych tua Chaernarfon gwelid Baner
Tŵr yr Eryr ar y Castell yn ymhofran uwch ben Afon Menai."
Dros drwyn Llanddwyn daw'r lli,
Drwy fariaeth gan dryferwi;
Croch rua tona y tân
Hyd orau gwal Bodorgan;
Gwel'd safnau dyfnderau dig
Y mor ddychryna Meirig.
Ond pan gilia, treia y traeth
Hudolus yn y dalaeth.
Yma gwragedd am gregin
A ffreuent, floeddient yn flin;
Ac ar ol eu cweryliaeth.
Y troes y cregin o'r traeth.
Ac ar helynt y ffrae greulon
Y Sir hyd heddyw sy'n son.
"Dyna y golygfeydd cyntaf erioed i mi weled yn y byd hwn, ac yr wyf yn cofio yn dda i fy Mam fy ngodi ar ei braich i 'ddangos y gwahanol leoedd i mi, ac yr wyf yn cofio y fath drafferth a gymerodd i gael genyf gofio enwau y gwahanol leoedd ar dafod leferydd, a dyna y dasg ddaearyddol gyntaf erioed a gefais gan fy Mam. Ond os oedd yr olygfa oddiallan i'r ty yn swynol yr oedd yr olygfa a geid oddifewn i'r ty yn llawer mwy swynol i fy Mam. Yn y ty yr oedd casgliad o lyfrau gwerthfawr wedi eu rhoi yn drefnus ar y dreser oedd o dan y ffenestr oedd yn nghefn y ty. Y llyfr cyntaf oedd o dan y llyfrau i gyd, oedd BEIBL PETER WILLIAMS, ac yr oedd gan fy Mam feddwl mawr o'r Beibl hwnw, o herwydd cafodd ef yn anrheg ar ddydd ei phriodas gan ei chyfeillion yn yr ardal. Ac y mae genyf finau feddwl mawr o'r hen Feibl hwnw, canys yn y Beibl hwnw y dysgais ddarllen Gair Duw gyntaf erioed; a darllenodd fy Mam ef saith waith drosodd, ac y mae ol ei dagrau a'i hewinedd i'w gweled heddyw ar sylwadau Peter Williams, drwyddo i gyd."
Hyd lwybrau duwiol Abram,
Y mae ôl dagrau fy Mam.
"O'r hen Feibl anwyl yna y cymerais inau destyn fy Mhregeth gyntaf, a dyma y testyn":—
Y mae afon a'i ffrydiau a lawenhant
ddinas Duw; Cyssegr preswylfeydd y Goruchaf.
"Y mae yr hanes i'w weled yn Dyddiadur yr Annibynwyr, gan y Parch H. Pugh, Mostyn, am 1847, ac y mae yr hanes yn gysegredig iawn yn fy ngolwg byth. Ac y mae Smyrna Llangefni yn Sêl ddofn ar lechau fy nghalon hyd heddyw. Yr addysg a ddysgodd ei Fam iddo yw yr addysg ddyfnaf yn nghalon pob bachgen ystyriol, ac yr wyf fi yn gallu profi hyny heddyw drwy drugaredd. Yr oedd fy Mam yn cael llawer o fwynhad yn y golygfeuydd eang oedd o'r tuallan i Ben—y—Graig, ond yr oedd yn cael llawer mwy o fwynhad wrth edrych a darllen y llyfrau oedd ar y dreser yn y ty o dan y ffenestr. Wedi iddi ddangos y Mynyddoedd a'r 'Wyddfa i mi, yr wyf yn cofio mor dda a phe cymerasai le ddoe, iddi ddywedyd wrthyf, Wel Machgen i yr oeddid yn synu wrth weled y Wyddfa yn nghanol creigiau Sir Gaernarfon, ond cofia di Machgen anwyl i, nad yw y Wyddfa sydd i'w gweled yn nghanol creigiau Sir Gaernarfon, yn ddim wrth y Wyddfa sydd i'w gweled yn nghanol y llyfrau ar dreser dy fam yn Mhen y Graig. Edrych ar Feibl Peter Williams yn eu canol, dyna i ti Wyddfa yn codi hyd y drydedd nef, a galli weled tragwyddoldeb oddiar ei phen heb un cwmwl rhyngoch di ag ef. Cododd y geiriau syml yna o enau fy mam pan oeddwn yn blentyn syniadau uchel yn fy meddwl am fawredd y Beibl, a gwnaethant i mi geisio dysgu ei ddarllen a'i fyfyrio. Ac nid oes neb byth all ddywedyd beth yw gwerth addysg Mam i mi."
Rhoi addysg o nef y nefoedd—i mi
Wnai Mam drwy'r blynyddoedd;
Didor yn ngair Duw ydoedd,
Un a'i blâs yn ei Beibl oedd.
Rhoes Mam heb flinaw 'n llawen,—cu ei henaid
Dros ei hunig fachgen;
A'i haraeth bob llythyren,
Fyddai iaith y nefoedd wen.
Menyw fechan a mwyn fochau—a gwraig
Gref iawn ei synwyrau;
Ni bu cristion drwy Fôn fau
Gywirach yn ei geiriau.
Un rasol ddoniol ddinam—ie doeth
I'm dal rhag pob dryglam;
Argau rhag pethau gwyrgam,
Fu i mi addysg fy Mam.
Ei heinioes hyd ei phenwyni—a fu
Yn werth dirfawr imi
A'i llun o hyd i'm lloni,
A lyn ar fy nghalon i.
Cefais cyn fy mod yn cofio—wyn gryd
Pen y Graig i'm siglo;
Ces drwy'r serchog freintiog fro,
Angelion i fy ngwylio
"Mewn gwaith deng munyd o gerdded i'r Gogledd Ddwyrain o Ben y Graig, yr oedd eglwys a Mynwent Trefdraeth, a byddwn inau, er mor ifanc oeddwn, yn hoff iawn o fyned i'r fynwent i geisio darllen y pethau fyddai ar gerig y beddau. A byddwn bob amser yn dyfod oddiyno gan feddwl y byddwn inau farw, er mor ieuanc oeddwn. Ac yr ydwyf yn credu byth mai peth da iawn i blant ydyw myned yn awr ac eilwaith i fynwentydd, i gerdded rhwng y beddau, a cheisio dysgu darllen y gwersi fyddo yn argraffedig ar y cerig. Dyma Englyn sydd wedi ei argraffu ar lawer o gerigbeddau mewn gwahanol fynwentydd."
Ti sathrwr baeddwr beddau-hyd esgyrn
Doda ysgaifn gamrau;
Cofia ddyn sydd briddyn brau,
Y dwthwn sathrir dithau.
"Nis gwn pwy wnaeth yr Englyn yna, ond dylasai enw ei awdwr fod wrth yr Englyn yn mhob man lle yr argraffwyd ef; canys y mae yn Englyn tra rhagorol. Gwnaeth ceisio dysgu darllen Beddargraffiadau yn mynwent Trefdraeth ddaioni mawr i mi pan oeddwn yn blentyn, ac yr wyf yn credu y gwna dysgu darllen, a myfyrio Beddergryff ddaioni mawr i blant gwylltion yr oes ramantol hon."
RHOSTREHWFA.
"Pan oeddwn yn bump oed symudodd fy Rhieni o Benygraig Trefdraeth i Rhostrehwfa, lle oddeutu tair milldir o Langefni. Yr wyf yn cofio y symudiad mor dda a phe buasai wedi cymeryd lle ddoe. Anfonodd Huw Rowland, Tymawr, Trefdraeth, ddwy drol a dau o feirch porthiantus wrth bob un i gludo y dodrefn i'r Cartref newydd, rhyw saith milltir. Yr oedd y tywydd yn hyfryd, a'r haul yn tywynu yn gryf; yr hyn oedd yn sirioldeb mawr i galon fy Mam ar adeg bwysig felly, ac yr oedd fy Nhad yn dweud 'wrthym mai awgrym o lwyddiant mawr oedd tywyniad yr haul ar adeg symudiad felly. Gwrthododd fy Mam fyned i mewn i un o'r Troliau oblegid yr oedd yn well ganddi gerdded, a chymerai finau yn ei llaw. Cyrhaeddwyd Rhostrehwfa yn gynar yn y prydnawn, a dadlwythwyd y dodrefn yn lled gryno cyn y nos. Yr oedd y ty yn llawn o honynt. Gwnaeth fy Mam dipyn o drefn ar yr aelwyd er mwyn i ni gael tamaid o swper, a lle i gadw dyledswydd y tro cyntaf erioed yn canol y Rhos. Darllenodd fy Nhad y drydedd Salm ar hugain, ac aeth i weddi fer. Gweddi fer fyddai gan fy Nhad yn wastad, ac ni bu erioed yn amleiriog mewn gweddi. Ond ni welais ef erioed yn gweddio gartref nac yn y Capel na byddai ei ddagrau yn llifo yn ffrydiau dros ei ruddiau, ac felly yr oedd ef y noson ryfedd a phwysig hon."
Ei ddwysder ef ydoedd wastad,- yn dod
O flaen Duw drwy brofiad;
Nód amlwg o ddwfn deimlad
Geiriau Nef oedd dagrau Nhad.
"Boreu dranoeth drachefn cadwyd dyledswydd yr un fath ar yr aelwyd. Eglwys y Methodistiaid yn Llangefni, pellder o ddwy filldir, oedd yr agosaf i ni, a'r ffordd yn dda, ac yno yr oedd y Nhad am i ni fyned; ond i Bencarog, bellder o dair milldir a hono yn ffordd ddrwg iawn y mynai 'fy Mam fyned, a hi a orfu. Yn Mhencarog yr ymaelodasant er gwaethed oedd y ffordd yno. Ac i Bencarog gyda fy Rhieni y bum inau yn myned hyd nes oeddwn yn bedairarddeg oed. Ni bum yn aelod o'r Eglwys yno oherwydd nid oedd y Methodistiaid Calfinaidd yn derbyn rhai yn gyflawn aelodau o'r oedran hwnw yn y dyddiau hyny, yr hyn oedd yn sicr o fod yn ddiffyg mawr ynddynt. Bu fy Rhieni yn ffyddlon iawn i fyned i bob moddion, yn enwedig i'r Seiat, a byddai yn rhaid i minnau fyned gyd a hwy er pelled a gwaethed y ffordd. Lawer gwaith y buom yn myned yno a'n traed yn wlybion domen. Ni byddai gwlaw nac ystorm yn attal fy Rhieni o'r capel."
"Tyfais yn fachgen tal ac iach a phan ddaethym yn bedair arddeg oed cefais fy mhrentisio am ddwy flynedd yn Saer Coed gyd ag un o'r enw John Evans, Llangefni. Wedi gorphen fy mhrentisiad bu John Evans yn daer arnaf i aros gyd ag ef i weithio o dan gyflog, a bum yn gweithio felly gyd ag ef hyd nes blinais. Dyn go galed i weithio iddo oedd John Evans megis y dengys y ffaith ganlynol. Yr oedd yn arfer a gwneud Eirch y plwy pan aethym i ato, a byddai raid i minau eu cario ar fy ngefn i'r manau yr oeddynt i fyned. Bu dyn farw o'r dwfrglwy yn Mhentre Berw, lle oddeutu pedair milltir o Langefni, a bu raid pygu yr arch oddimewn fel na ollyngai y dwfr. Yr oedd hyn yn nganol haf poeth. Wedi gorphen yr Arch, yr hwn oedd yn un o'r rhai mwyaf, dyma John Evans yn dwedyd wrthyf, Wel fachgen rhaid i ti ei gario i Bentreberw. Dos ag ef ar hyd y llwybyr gyd a glan yr afon hyd bont y Gors meddai, canys y mae y ffordd hono yn fyrach, ac yn brafiach iti fyned, nag hyd y ffordd bost. Wel Mister y mae 'r Arch yn rhy drwm i mi ei gario mor bell a hithau mor boeth, meddwn inau wrtho. Twt nac ydyw meddai yntau, yr wyt yn ddigon cryf, dos a brysia yn dy ol. Ac wedi haner gwylltio aethym, a chymerais y cortyn fyddai genym yn arfer cario yr Eirch a rhoddais ef am yr Arch ac aethym ag ef ar fy ngefn drwy ganol Llangefni hyd at y felin ddwr oedd ar lan yr Afon, ac wedi cyraedd yno aethym ar draws y Cae at yr hen lwybyr oedd ar ei glan, ac yno rhoddais yr Arch i lawr ar y llwybyr, ac yr oeddwn wedi blino yn fawr wrth ei gario, ac eisteddais ar ei gauad er cael gorphwyso dipyn. Ac yno wrth feddwl am y ffordd faith oedd genyf of fy mlaen penderfynais y cymerwn y cortyn oedd yn mhen ol yr Arch, ac y clymwn ef wrth y cortyn oedd yn mhen blaen yr Arch, ac y rhoddwn yr Arch ar yr Afon hyd nes awn at bont y Gors, ac yno y cawn y ffordd bost hyd Bentreberw. Ac wedi clymu y cortyn wrth eu gilydd tynais yr Arch hyd yr Afon, ac yr oedd yn nofio yn hwylus, ac nid oedd dim dwr yn myned iddi, oblegid yr oedd wedi ei bygu yn dda oddi mewn. Wedi dyfod at Bont y Gors bu raid i mi dynu yr Arch o'r dwr, a phan oeddwn yn ei sychu a glaswellt cyn ei roddi ar fy ngefn i fyned i ben fy nhaith yr oedd dau ddyn ar ben wal y Bont uwch fy mhen, a dywedasant wrth bawb beth a welsant, ac aeth stori yr Arch ar yr Afon drwy yr holl wlad fel tán gwyllt. Oni bai am y ddau ddyn ar y bont buasai y ffaith wedi pasio yn ddigon distaw. Ond nid oedd neb yn gweled bai arnaf fi fel hogyn am gymeryd yn fy mhen i nofio yr Arch, ond yr oedd pawb yn beio John Evans am wneud i mi ei chario."
Ni fu yn hir ar ol hyn yn ngwasanaeth y gwr yma, er iddo gael cynig cyflog da ganddo am aros ond gwrthododd, ac aeth i weithio ei grefft am dymor yn Bangor, Ebenezer[2], Aberypwll a lleoedd eraill.
Dychwelodd yn ol i Fon oddeutu y flwyddyn 1847, ac yn fuan wedyn codwyd ef i bregethu gan Eglwys Smyrna, Llangefni. Dechreuodd feddwl am Farddoni a phregethu tua'r un adeg. Dyma ei nodiad ef am ei bregeth gyntaf, "Yn Ysgubor fy Nhad ar Rhostrehwfa y gwnaethym y bregeth gyntaf erioed, a dyma y testyn,—'Y mae afon ai ffrydiau a lawenhant ddinas Duw; Cysegr preswylfeydd y Goruchaf.' Nid anghofiaf byth y pleser a gefais wrth fyfyrio y bregeth hono" Yn y flwyddyn 1847 aeth i Goleg y Bala, ac aeth trwy gwrs o Addysg yno. Yr oedd yn y Bala ar yr un pryd ag ef amryw wyr ieuanc ddaethant ar ol hyny yn enwog yn y weinidogaeth Annibynol,—megis,—Parchn. R. Edwards, Llandovery; Robert Lewis, Tynycoed; Price Howell, Festiniog; Dr. H. E. Thomas, Pittsburg; William Jones, India, &c.
Yn raddol daeth yn boblogaedd fel pregethwr. Fel hyn y dywed ef ei hun am ei ymadawiad o'r coleg,—
"Daeth fy amser i ben yn Athrofa'r Bala yn y flwyddyn 1851. Yr oeddwn wedi derbyn tair o Alwadau oddiwrth wahanol Eglwysi cyn gorphen fy amser yn y Bala. Bu y tair Galwad yn fy Llogell gyd a'u gilydd, am oddeutu pythefnos, cyn rhoddi attebiad i'r naill na'r llall o honynt. Yn ystod y pythefnos yna bum yn myfyrio yn ddistaw a 'dwys, ac yn dyfal barhau mewn gweddi am i'r Arglwydd arwain fy meddwl i roddi attebiad priodol. Canys yr oeddwn i wedi bod trwy yr holl amser yn methu penderfynu i ba un o'r Galwadau y rhoddwn Attebiad cadarnhaol. Gallaf ddywedyd heddyw mai dyna un o'r adegau mwyaf pwysig a fu ar fy meddwl yn ystod fy holl oes. Ond o'r diwedd daeth yr amser i fyny, ac yr oedd yn rhaid i mi roddi attebiad cadarnhaol i'r naill Alwad neu y llall. Pan aethym atti i ysgrifenu yr oedd y fath betrusdod yn fy meddwl fel yr ysgrifenais attebiad cadarnhaol i bob un o'r tair Galwad. Rhoddais y tri attebiad yn fy llogell, ac aethym fy hun tua'r Llythyrdy yn y Bala, gan weddio yn yn daerach, daerach, ar i Dduw fy nhadau roddi ei sel gymeradwyol ar fy ngwaith yn atteb. Sefais gerllaw y Llythyrdy gan ocheneidio, a phenderfynais y rhoddwn y llythyr cyntaf y rhoddwn fy llaw arno yn y Llythyrdy. Ac erbyn i mi edrych y ddau lythyr oedd ar ol yn fy llogell gwelwn mai yr Alwad i Eglwysi Bagillt a Flint oeddwn wedi atteb yn Gadarnhaol. Ac yno yr aethym. Yr oedd yr addewid i mi am gyflog am fy llafur yn llawer uwch yn yr Eglwysi eraill, ond i Bagillt a Flint yr aethym; ac os oedd y Cyflog yn fychan mewn arian yr oedd bendith y Celwrn Blawd yn gwneud y bwlch i fyny, fel na bum mewn eisieu ddim daioni drwy y blynyddoedd y bum yno. Hwyrach fod llawer o weinidogion yn fyw yn awr wyr am fendith y Celwrn Blawd yn gystal a minau."
Cynhaliwyd y Cyfarfod iw neillduo i gyflawn waith y weinidogaeth yn Bagillt a Flint ar y 3ydd a'r 4yd o Fehefin 1851 a cheir yr hanes fel y canlyn yn y Dysgedydd Gorphenaf 1851,—
"Y noswaith gyntaf yn Bagillt pregethodd y Parch. W. Griffith, Caergybi a'r Parch. M. Jones, Bala. Ar yr un pryd yn Flint pregethodd y Parch. J. Jones, Sion a'r Parch T. Edwards, Ebenezer. Bore dranoeth yn Bagillt dechreuwyd gan y Parch. J. Griffith, Bwcle. Eglurwyd ac amddiffynwyd y drefn Gynulleidfaol o lywodraeth Eglwysig gan y Parch. M. Lewis, Treffynon. Gofynwyd yr holiadau gan y Parch T. Edwards, Ebenezer, diweddar Weinidog y brawd ieuane, y rhai a attebwyd er boddlonrwydd i bawb. Gweddiodd y Parch W. Griffith, Caergybi, am fendith yr Arglwydd ar y gwaith pwysig a gymerodd le. Traddodwyd y Cyngor i'r gweinidog ieuanc gan ei ddiweddar athraw y Parch. M. Jones, Bala; ac i'r Eglwys gan y Parch H. Pugh, Mostyn. Terfynwyd y Cyfarfod trwy weddi gan y Parch. O. Owens, Rhesycae. Am 2 pregethodd y Parch. J. Griffith, Bwcle, a'r Parch. W. Griffith, Caergybi. Am 7 yn y Capel Cynulleidfaol pregethodd y Parch. W. Lloyd, Wern, a'r Parch T. Edwards, Ebenezer. Ar yr un pryd yn ngapel y brodyr Wesleyaidd pregethodd y Parch. T. B. Morris, Rhyl a'r Parch. W. Parry, Llanarmon."
Ni byddai allan o le i nodi yma y rhan olaf o'r alwad fel y gallo y wlad weled y gwelliant mawr sydd yn bod yn nghynhaliaeth y weinidogaeth. Dywed y 73 aelodau oedd yn. Bagillt a'r 37 oedd yn Flint eu bod yn ymrwymo i wneuthur a allom er eich cynhaliaeth a'ch cysur yn mhob ystyr. Y 'swm yr ydym yn ei addaw yn bresenol ydyw Deg punt ar hugain yn Flynyddol. Ionawr 1851.
Bu yn bur llwyddianus yn Bagillt a Flint, a thra yno cliriodd y ddyled ar gapel Bagillt, a sicrhaodd dir i roi Capel newydd arno yn Flint.
Yn ei berthynas ai arhosiad yn Bagillt mae ganddo y nodiad canlynol,—
"Wedi dyfod i sefydlu yn Bagillt gwelais fy mod wedi dyfod i aros i ganol maesydd rhyfeloedd OWAIN GWYNEDD. Ac un o'r pethau cyntaf a wnaethym oedd ceisio dyfod yn hyddysg yn hanes y gwr mawr hwnw. Fodd bynag wrth ddarllen hanes Owain penderfynais gyfansoddi yr awdl sydd yn y Gyfrol a gyhoeddais. Cyfansoddais hi oll yn fy oriau hamddenol, a hyny yn hollol yn annghysylltiedig ag unrhyw wobr. Gan y byddai fy nheithiau Gweinidogaethol cyntaf yn fy rhwymo i fyned drwy lawer o hen faesydd rhyfeloedd OWAIN cyfansoddwyd llawer o'r awdl ar y crwydriadau hyny, ac mae yn y Llyfr yn hollol fel yr Ysgrifenwyd hi ar y prydiau crybwylledig."
Erbyn hyn yr oedd ei glod fel pregethwr a dawn newydd yn ymledu, a'r galwadau am ei wasanaeth yn amlhau. Yn Chwefror 1852 derbyniodd Alwad daer i ddod yn weinidog i'r Eglwys yn Great Jackson Street, Manchester, yr hon ar ol dwys ystyriaeth a wrthodwyd ganddo. Yr oedd y cyflog addewid yn Driugain Punt.
Yn Rhagfyr 1855 derbyniodd alwad unfrydol i fyned i weinidogaethu i'r Eglwys yn Brymbo, ac addawent o Gyflog Ddeuddeg punt a Deugain gyd a chwe sul yn rhydd yn y flwyddyn. Derbyniodd yr Alwad, a gweithiodd yn egniol a llwyddianus yno. Cafodd gryn lafur gyd a'r Capel Newydd godwyd yn Brymbo gan i hwnw pan ar haner ei godi gael ei daflu i lawr gan ruthrwynt ystormus. Bu yn lafurus hefyd gyd a'r achos yn Wrexham, yr hwn pan gymerodd ef ei ofal oedd fel llin yn mygu, ond llwyddodd i symud ei safle, a chodi capel newydd yno.
Pan yn Brymbo a Gwrecsam cafodd gynig galwad i Newmarket[3], Sarn a Waenysgor, yn olynydd i Scorpion a chynygient o Gyflog Haner can punt a thy; ond gwrthododd hi.
Yn Mehefin 1862 cafodd Alwad Unol o Eglwys Bethesda Arfon, ac addawent o Gyflog Gant a haner. Dechreuodd ar ei Weinidogaeth yn Bethesda y Sabboth cyntaf sef y 3ydd o Awst 1862. Cynhaliwyd ei Gyfarfod Sefydlu ar yr 11 a'r 12 o Hydref 1862. Y noswaeth gyntaf pregethodd Y Parch: E. Stephen, Tanymarian, oddiar Heb: 4, 14-16; a'r Parch R. Thomas, Bangor, oddiar Rhuf: 5, 8. Bore Sul pregethodd Y Parch. T. Edwards, Ebenezer, oddiar Math. 27, 3, 4; a'r Parch. H. Pugh, Mostyn, oddiar 1 Cor: 15, 58. Yn y prydnawn Parch. D. Griffith, Portdinorwic, oddiar Ioan 14, 1-3. A'r nos Parch. D. Roberts, Carnarvon, oddiar Salm 136, 23; a'r Parch. H. Pugh, Mostyn, oddiar Ioan 14, 19. Bu yn neillduol lwyddianus a phoblogaidd tra y bu yn Bethesda, a llanwodd y Capel fel nad oedd yno Sedd iw gosod yn yr holl gapel pan yr ymadawodd o'r lle. Yr oedd hefyd wedi myned yn un o'r pregethwyr mwyaf poblogaidd yn y wlad y pryd yma, ac yn hoffus gan ei holl Frodyr yn y Weinidogaeth yn y cylch, megis, Tanymarian; Ap Vychan; Gwalchmai; Dewi Ogwen; J. R.; Herber; Williams, Bangor; Griffiths, Amana; Griffiths, Bethel; &c. Yr oedd galwadau parhaus am dano i Bregethu, Beirniadu, a Darlithio. Cymerai ddyddordeb mawr yn Ngyfarfodydd Llenyddol y Gymdogaeth, ac yn neillduol felly yn Eisteddfod Gadeiriol Cymreigyddion Bethesda; ac Eisteddfod Flynyddol Annibynwyr Bethesda. Yr oedd ef a Tanymarian yn anhebgorion yr Eisteddfodau hyn. Yn Nhymor ei Weinidogaeth ef yma y sefydlwyd yr achos yn Treflys ac yr adeiladwyd y Capel cyntaf yno. Un gauaf rhoddodd i wyr Ieuanc y Gymdogaeth o bob Enwad gyfres o Ddarlithodd rhad ar "Y Gwr Ieuanc." "Y Gwr Ieuanc." Y rhai ar ol hyny a drefnodd yn Ddarlith boblogaidd, a bu gofyn mawr am dani ar hyd a lled Cymru. Yr oedd y Gyfres yn neillduol boblogaidd pan eu traddodwyd gyntaf o dan Gapel Bethesda; a chododd awydd mewn llawer gwr ieuanc i ragori, ac mae amryw yn fyw heddyw addefant iddynt gael eu deffro gan Hwfa yn y Darlithoedd hyny. Ond tua diwedd Haf 1867 dechreuwyd sibrwd fod ei fryd ar symud i Lundain; ac ar y 4ydd Awst 1867 rhoes rybudd i'r Eglwys yn Bethesda ei fod wedi derbyn galwad i Fetter Lane, Llundain, ac wedi ei hatteb yn Gadarnhaol; a thraddododd ei bregeth olaf fel gweinidog yn Bethesda ar y 10'fed o Dachwedd 1867 (Deunaw mlynedd a'r hugain i'r diwyrnod y bu farw) oddiar Heb. 1, 1.
Dechreuodd ei Weinidogaeth yn Llundain ar yr 17eg o Dachwedd 1867. Bu yn dra llwyddianus a phoblogaidd yma drachefn, a chasglodd yn nghyd lond Capel Fetter Lane o Gymry Ieuanc Llundain. Gwnaeth waith mawr yma hefyd. Cliriodd yr hen ddyled, a helaethodd y Capel. Ymdaflodd i holl symudiadau Cymreig y brifddinas, a gwnaeth gyfeillion, o amryw o'r Cymry mwyaf amlwg yno. Yr oedd Yr oedd yn dra awyddus i ddychwelyd i Gymru, ac yn neillduol felly i Fôn, ei Fam Wlad. Amlygodd hyny iw gyfeillion, o dro i dro.
Yn Chwefror 1870 anfonwyd galwad unfrydol iddo o Amlwch, a chafodd lythyrau taer yn erfyn arno gydsynio oddiwrth yr hen Weinidog y Parch: Wm. Jones; ac oddiwrth y Parch. W. Griffith, Caergybi, ond methodd weled ei ffordd yn glir iw derbyn.
Yn Mawrth 1871 derbyniodd alwad unfrydol o Eglwys Hyde Park, Pennsylvania, ond gwrthododd hon drachefn. Yn Tachwedd 1875 anfonodd Eglwys Park Road, Lerpwl i ofyn ei ganiatad i osod ei enw o flaen yr Eglwys ond gwrthododd.
Yn Chwefror 1877 derbyniodd alwad unfrydol i Ruthin, yr hon a wrthododd hefyd.
Yn Ionawr 1881 derbyniodd alwad o Lanerchymedd a derbyniodd hi, a bu yno yn Gweinidogaethu hyd Medi 1887 pryd y rhoes rybudd i'r Eglwys y byddai yn ymadael. Tra yn Llanerchymedd codwyd ty i weinidog y lle. Yn mis Hydref 1887 derbyniodd Alwad o Llangollen lle y bu yn gwasanaethu hyd y daeth i deimlo fod henaint yn trymhau, ac yr argyhoeddwyd ef mai ei ddyledswydd oedd ymryddhau o ofal Gweinidogaethol, yr hyn a wnaeth yn y flwyddyn 1893 ac yr ymneillduodd i fyw i Rhyl lle y terfynodd ei yrfa.
Tra yn Llangollen cliriodd ymaith yr hen ddyled ar Gapel Trefor.
CYFNOD BARDDONI.
Yr hanes cyntaf sydd genym am dano fel Bardd sydd mewn nodiad o'i eiddo ef ei hun, yr hwn sydd fel y canlyn,—
"Yn y flwyddyn 1848 yr oedd Beirdd Mon wedi eu pensyfrdanu ag ysbryd i gyfansoddi Carolau, ac o dan ddylanwad y cyffrawd hwnw codwyd rhyw fath o ysfa ynof finau i geisio gwneud Carol, a phan oeddwn yn dyrnu ceirch yn ysgubor fy nhad yn nghanol Rhostrehwfa dechreuais feddwl am ddechreu gwneud y Garol. Bum yn hir yn ceisio dyfalu pa fesur a ddewiswn, ac wedi maith ystyried dewisais Agoriad y Melinydd,' yr hwn oedd yn fesur poblogaidd iawn yn Mon y dyddiau hyny. Nid bychan ydyw y mwynhad fyddaf yn ei gael yn awr ac eilwaith wrth gofio yr hwyl fawr fyddwn yn ei gael yn yr hen ysgubor wrth ddyrnu yr ysgyb geirch a'r Miller's Key. Ac yr wyf yn cofio yn dda i mi gael y fath hwyl wrth ddyrnu a barddoni nes torodd y ffust yn fy llaw."
"Ond modd bynag er maint oedd fy ffwdan gorphenwyd y Garol fel y mae yn y llyfr, ac y mae yn y llyfr yn hollol fel y gwnaed hi yn yr Ysgubor." Gweler oddiwrth hyn ei fod yn 26ain oed cyn dechreu Barddoni.
Aeth i Eisteddfod Freiniol Aberffraw yn y flwyddyn 1849, ac fel hyn yr ysgrifena am hono.
EISTEDDFOD FREINIOL ABERFFRAW 1849.
"Yr oedd disgwyl mawr am yr Eisteddfod hon yn Môn, a hyny oherwydd ei bod yn cael ei galw yn Eisteddfod Freiniol. Yr Eisteddfod hon oedd y gyntaf erioed i mi fod ynddi. Yr Archdderwydd yn yr Eisteddfod hon, oedd y Parch David James (Dewi o Ddyfed) Kirkdale, Liverpool, a bardd yr Orsedd ydoedd Mr. David Griffydd (Clwydfardd). Cynaliwyd Gorsedd urddasol yno ar gae glâs, heb fod yn mhell oddiwrth y Babell. Daeth llawer ymlaen at yr Orsedd i dderbyn urddau o law yr Archdderwydd."
"Nid oedd neb yn cael eu harholi cyn derbyn urddau yn y dyddiau hyny fel yn y dyddiau hyn. Yr unig beth oedd yn anghenrheidiol i dderbyn Urdd Bardd y pryd hwnw, oedd derbyn tystiolaeth oddiwrth Fardd yr Orsedd y gellid gwneud bardd o hono. Ac ar y dystiolaeth yna, y derbyniodd y personau canlynol eu hurddau barddonol yn Eisteddfod Aberffraw 1849."
William Powers Smith | • • • | — | (Gwilym Arfon) |
Owen Edwards | • • • | — | (Owain Ffraw) |
Robert John Price | • • • | — | (Gweirydd ap Rhys) |
William Williams | • • • | — | (Gwilym Bethesda) |
Samuel Owen | • • • | — | (Sâm o Fôn) |
Evan Jones | • • • | — | (Ieuan Ionawr) |
Robert Roberts | • • • | — | (Macwy Môn) |
Rowland Williams | • • • | — | (Hwfa Môn) |
John Hughes | • • • | — | (Cadell) |
Daniel Hugh Evans | • • • | — | (Daniel Ddu o Fon) |
William Lewis | • • • | — | (Gwilym Gwalia) |
William Williams | • • • | — | (Gwilym Cefni) |
William Trevor Parkins | • • • | — | (Gwilym Alun) |
Robert Evans | • • • | — | (Trogwy) |
John Edwards | • • • | — | (Ioan Dyfrdwy) |
John Robert Jones | • • • | — | (Arfon Eilydd) |
John Hughes | • • • | — | (Ioan Alaw) |
David Williams | • • • | — | (Bardd Lleifiad) |
Parch John Hugh Williams | • • • | — | (Cadvan) |
Parch Hugh Owen | • • • | — | (Meilir) |
Parch Hugh Norris Lloyd | • • • | — | (Bleddyn o'r Glyn) |
"Diwrnod o flaen yr Orsedd, cyhoeddwyd y rhoddid gwobr o Gini am yr Englyn goreu i Syr John H. Williams, Bodelwydden, erbyn boreu yr Orsedd, yr oedd yr Ysgrifenydd wedi derbyn deg o Englynion ar y testyn, a chefais inau yr anrhydedd o fod yn ail oreu, a hyny o dan feirniadaeth (Iocyn Ddu), un o feirniaid y Gadair fyth gofiadwy hono."
"Dyna y tro cyntaf erioed i mi anfon llinell i gystadleuaeth, a synais yn fawr fy mod yn teilyngu lle mor anrhydeddus yn nghystadleuaeth Eisteddfod oedd yn cael ei galw yn Freiniol, a hyny gan un o feirniaid y Gadair."
Y gwr a ddaeth ymlaen i dderbyn y wobr, oedd Mr. H. Beaver Davies, Llanerchymedd. Ar ol hyn, cefais inau fy ngwahodd gan y Llywydd ar y Llwyfan i adrodd fy Englyn yr hwn oedd yn ail oreu, ond er hyny derbyniais wobr lawer mwy ei gwerth na'r Gini, am yr ail Englyn, ar hyny galwodd y llywydd ar i awdwr yr Englyn ail oreu ddyfod i fynu i'r Llwyfan, i adrodd ei Englyn, a chyn bod y gair o'i enau aethym i'r llwyfan fel yr oeddwn, i adrodd fy Englyn. A dyna y tro cyntaf erioed i mi geisio dringo ar Lwyfan Eisteddfod i adrodd Englyn."
"Dyma yr Englyn i Syr John H. Williams, fel yr adroddwyd ef ar y Llwyfan yn Eisteddfod Aberffraw, a'r Englyn a farnodd Iocyn Ddu, yn ail oreu."
Hynaws wladgarwr hynod—yw Gwilym,
A gwawl i'r Eisteddfod;
Pur a glân y pery ei glod
Oesau y ddaear isod.
Yn Eisteddfod Gadeiriol Llanfair-Talhaiarn calan 1855 yr ymgeisiodd gyntaf am y Gadair, ac enillodd hi. Y testyn oedd Gwaredigaeth Israel o'r Aipht. Dyma y Feirniadaeth ar Awdl Hwfa fel yr anfonwyd hi i'r Eisteddfod, ac y darllenwyd hi yno,—
That signed Jethro' was one of the smoothest probably ever composed within the metrical rules which govern the Awdl' (mesurau caethion). It displayed a great deal of talent, but in parts it was too minutely historical, and somewhat wanting in poetic fire. It was, however, deemed well worthy of the prize.
Cadeiriwyd ef yno.
Yn yr un flwyddyn ymgeisiodd am y Gadair yn Eisteddfod Gadeiriol Llanfachreth Mon. Y testyn oedd Awdl ar Y Bardd." Y Beirniaid oeddynt Dewi o Ddyfed, a Gwalchmai. Dyfarnwyd ei Awdl ef yn oreu a Chadeiriwyd ef.
Yn 1858 enillodd ar y Cywydd Y Gweddnewidiad" yn Eisteddfod Genedlaethol Llangollen, pryd y Cadeiriwyd Eben Fardd am ei Awdl ar Faes Bosworth."
Yn 1860 enillodd y Brif Wobr am Awdl Goffa i Ieuan Glan Geirionydd. Y tro nesaf ymgeisiodd am Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ngaernarfon yn 1862. Y testyn oedd, "Y Flwyddyn." Y Beirniaid oeddynt, Caledfryn; Nicander; a Gwalchmai. Mae yn eithaf hysbys fod dyfarniad Nicander o blaid Awdl Eben Fardd, tra yr oedd Caledfryn a Gwalchmai yn gosod Awdl Hwfa yn oreu. Felly Hwfa Gadeiriwyd. Heblaw a enwyd yr oedd y Prif Feirdd canlynol hefyd yn cystadlu am y Gadair;—Dewi Wyn o Esyllt; Elis Wyn o Wyrfai; ac Ioan Emlyn; ynghyd ag wyth eraill.
Yn 1866 ymgeisiodd am y Gadair yn Eisteddfod y Cymry yn Nghastell Nedd am yr Awdl Goffa "Galar Cymru ar ol Alaw Goch," a dyfarnwyd ef yn oreu a Chadeiriwyd ef.
Yn 1867 ymgeisiodd am y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin am yr Arwrgerdd ar "Owain Glyndwr," a dyfarnwyd ef yn oreu a choronwyd ef yno. Y Beirniaid oeddynt, Petr Mostyn, a Llew Llwyvo. Yn 1873 ymgeisiodd drachefn am y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol y Wyddgrug. Y testyn oedd "Caradoc yn Rhufain." Cyhoeddwyd ef yn fuddugol a Chadeiriwyd ef. Y Beirniaid oeddynt, —Tafolog; Trebor Mai; a Ioan Arfon.
Yn 1878 ymgeisiodd am y Gadair drachefn yn Eisteddfod Genedlaethol Birkenhead am yr Awdl ar Ragluniaeth. Cyhoeddwyd ef yn fuddugol a Chadeiriwyd ef. Y Beirniaid oeddynt,—Hiraethog; Islwyn; ac Elis Wyn o Wyrfai. Yr oedd y Beirdd canlynol hefyd. yn y gystadleuaeth yma.—Tudno; Tafolog; a Dewi Wyn o Esyllt. Mae yn eithaf hysbys ei fod yn ymgeisydd am y Gadair yn Eisteddfod Genhedlaethol Llundain yn 1887 ar" Victoria" pryd y
Cadeiriwyd Berw. Y beirniaid yno oeddynt, Dyfed; Tafolog, ac Elis Wyn o Wyrfai. Ymgeisiodd hefyd am y Gadair yn Eisteddfod
Genhedlaethol Pwllheli. Y testyn oedd Noddfa." Cadeiriwyd
Dyfed yno. Yn ychwanegol at hyn gallwn wneud yn hysbys fod yr
ysbryd Cystadlu wedi ei ddilyn hyd ochr y bedd, a phan y tu hwnt
i'w bedwarugain mlwydd oed. Yr oedd pan y tarawyd ef yn sal o'r
clefyd y bu farw o hono, sef yn mis Medi 1905, bron wedi gorphen
Awdl ar "Yr Ewyllys" ar gyfer Eisteddfod y Calan yn Utica, yr
Unol Daleithiau.
RHESTR O'R EISTEDDFODAU CENEDLAETHOL YN Y RHAI Y BU HWFA MON YN FEIRNIAD
Ceisiasom gasglu ynghyd restr o'r troion y bu yn Beirniadu yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol Yn canlyn ceir y Rhestr. Nid yw yn gyflawn, ond mae mor gyflawn ag y gallasem ni ei gwneud. Dodwn yma hefyd enwau ei Gydfeirniaid yn- ghyd a'r Testynau ac enwau y Buddugwyr.
BARDDONIAETH
AR WAHANOL
DESTYNAU.
HELEN LLUYDDOG.
Organwyd, ar fore ei geni-gán,
Gynes i'w harfolli;
Y wawr lon roi oleuni
Euraid, hoff, ar ei chryd hi:
Nwyf a gwen y Nef a gaid
Yn eigion ei dwfn lygaid;
Byw gochwyn rosyn yr Ha
Ar ei dwyfoch-wrid Efa;
Llathr wallt crog, donog dwynydd,
A'r haul yn chware yn rhydd;
Eilun fyw, o law wen fâd,
Ystwyth, deneulefn, wastad;
Ysgafn o droediad gwisgi,
A sang na ddeffröai Si,
Hi gerddai 'n ngwisg y wawrddydd.
A'i dawns ar belydr y dydd!
Glan gerfiedig lunio-ei byw dlysedd
A'i gwir angylwedd garai Angelo;
Dien baentio ei dwyael-yn gywir
Mewn aur Offir, a ddymunai Raffael.
EMYN.
Arglwydd, dyro di dy Ysbryd |
Atal di'r cymylau gweigion, |
DYLANWAD YR YSBRYD
Arglwydd grasol, tywallt d'ysbryd
Ar ein hodfa yma 'n awr,—
Dyro deimlo ei effeithiau,
Yn ei ddylanwadau mawr,—
Gâd i'n brofi
Beth yw'r nefoedd yn dy dŷ.
Dyro ini'r hên awelon,
Megis yn y dyddiau gynt,—
I ddeffroi ein holl ysbrydoedd.
O na chlywem sŵn y gwynt,—
Chwythed eto
I roi 'n hysbryd oll ar dân.
Y MARWOR
Arglwydd, dyro Di y marwor |
Dyro wres y Cariad hwnw |
SYCHED AM Y GWLAW
Arglwydd, tywallt y cawodydd
Hyfryd ar y crindir crâs,—
Fel bo'r anial yn blaguro
Dan ddylanwad pur dy räs,—
O cyflawna
Dy addewid yma 'n awr.
Y mae gerddi Mynydd Sion,
Yn sychedig am y gwlaw,—
Ac mae 'r blodau mwyaf tyner,
Fel yn gwywo ar bob llaw;
Arglwydd, gwlawia
Ar dy erddi Di dy hun.
Gwrando Arglwydd ein hymbiliau
Heddyw yn y sychder mawr;
Os na roddi y cawodydd,
—Dyro ini 'r gwlith i lawr,—
Ninau ganwn
Dan ddefnynau 'r Dwyfol wlith.
DYFROEDD MARA.
Os rhaid yfed dyfroedd Mara
Heddyw yn yr anial cräs,
Ni gawn yfed dyfroedd peraidd
O hen ffynon Dwyfol räs,—
Am y ffynon
Gorfoledda 'n henaid mwy.
GRAWNWIN ESCOL.
Os rhaid mynd i Rosydd Moab
Gan orchfygu llawer cád,—
Ni gawn brofi sypiau grawnwin
Dyffryn Escol Canaan wlad;
A chawn wledda
Ar ddanteithion nef y nef.
FFYNON GRÂS.
Yfed bum o lawer pydew
Wrth drafaelio 'r anial maith,
A phob pydew oedd yn sychu,
Gan fy siomi ar fy nhaith;
Ond o'r diwedd cefais ffynon,
Beraidd yn yr anial cräs—
Ffynon loew fel y grisial
O ddyfnderau Dwyfol räs.
Os yw 'm llygaid heddyw'n pylu
Ac yn gollwng deigryn prudd,—
Ac os yw fy llaw yn methu
Sychu'r deigryn ar fy ngrudd;
Daw fy Iesu
Mwyn i'w sychu cyn bo hir
Os yw 'm traed yn methu symud
Fel yn nyddiau bore f'oes,—
Ac os ydynt wedi blino
Wrth i'm geisio cario'r groes,—
Dont i redeg
Hyd heolydd Salem lan
CALFARIA
I GALFARIA awn i weled
Iesu 'n marw ar y Groes;
Trwy ei angau, ni gawn yno
Obaith bywyd drwy ein hoes ;
O GALFARIA
Y cawn nefoedd yn y byd!
Y LLUSERN DDYNOL
Y mae gwawr y Llusern ddynol
Yn ymddangos heddyw 'n gref;
Ond nid gwawr y llusern yma
Yw gwawr llusern nef y nef;
Y mae gwawr y llusern ddynol.
Yn cyfnewid yn ei liw;
Ac mae perygl rhwng y lliwiau
Gam gymeryd llusern Duw.
Y mae gwawr y Llusern ddynol
Yn llewyrchu weithiau 'n dlos;
Ond ceir gwawr y llusern gryfa
Yn diffoddi ganol nôs;
Arglwydd, gwylia'r holl lusernau
Rhag i'w lliwiau dwyllo dyn;
Cadw'r holl lusernau dynol
O dy Demlau di dy hun.
DUW MEWN CNAWD
Gwawl Hwn yw y goleuni—a welir
Yn heuliau 'r Wybreni;
A Hwn, er ein goleu ni
Dywynodd Mewn Cnawd ini:
A heulwen difrycheulyd
Yw Hwn i bawb yn y byd.
IESU
Pan byddaf weithiau yn poeni—yn swrth
Heb Sêr i'm sirioli
Ei wyneb a'i oleuni
Ydyw haul fy enaid i:
Fy ngwared o bob caledi—a wnaeth
Yn ol ei dosturi;
Am oes, llifeiriodd i mi
O'i law anwyl haelioni.
Efe allodd fy arfolli,—o'i fod:l
Huliodd ei fwrdd imi;
Rhanodd rhag pob trueni
Laeth a mêl helaeth i mi:
LLWYBR Y GWAREDYDD
Ara deg goleua'r dydd—ar y llwybr
Lle cerddai'r Gwaredydd;
Ei waed yn sobr ystaen sydd
Ar waelod yr heolydd.
</br
Y BEIBL CYMRAEG
Mor glws yw ei Gymraeg làn
I ddal heirdd feddyliau Ion;
Ar wisg ei holl eiriau hên
lâh a roes ei wawr ei Hun,
A oes iaith mor ddisothach
Ac mor gu a'r Gymraeg iach
I osod Angeu Iesu.
Yn deg o flaen enaid du?
PWLPUD CYMRU.
Goleuad hoff ein gwlad yw |
Mewn tangnefedd |
Mewn hedd, o dan y mynyddau—uchel, |
A mawr serch ymerys of |
A daw dail llygaid y dydd |
Daw'r anial o drueni,—tyf rhos cain |
Y GYMANFA.
O! mor hoff yn moreu Ha! |
SEINAI.
A'r dydd hwn y rhodiodd Iah |
Wele ofnadwy olwg |
FY MAM
Am addysg i bob moddion—mi a awn,
Gyda fy mam dirion;
Hi hoeliai yn fy nghalon,
Bethau mawr Sabathau Môn.
FY NHAD
Ei ddwysder ef ydoedd wasdad, yn dod
O flaen Duw drwy brofiad;
Nodau amlwg ddwfn deimlad,
Geiriau Nef oedd dagrau Nhad.
MAM A NHAD
Hyd lwybrau y duwiol Abram—o ganol |
Drwy ingoedd o frwydyr angau—o râs |
DYSGEIDIAETH GYNTAF HWFA MÔN
Hwfa a sugnodd o bur hufan—Gras,
O fewn ei gryd bychan;
Yfodd lefrith o lith lan
Ei Feibil er yn faban.
ENAID YN CWYNO AM ADDYSG.
Fy enaid, na fydd gwynfanol—yn awr,
Os na chêst fawr ysgol;
Hefo Nhâd, cei Nef yn ol,
Ac addysg yn dragwyddol.
ODFA ADFYD
Y mae awyr ddu fy Mywyd—heddyw,
Yn clafeiddio 'm hysbryd;
Ond yma 'n odfa adfyd
Iesu gaf yn ras i gyd.
PICELLAU SATAN.
Os ytyw picellau Satan,—a'i fellt,
Am fy ngwaed yn mhobman,—
Y Duw anfeidrol sy'n dân,
Yw fy nhwr, a fy nharian.
HEB IESU.
HEB IESU, pa le buaswn?—O GROES
IESU GRIST caed PARDWN,
A heddyw gorfoleddwn,
Daw GRAS o hyd o GROES HWN.
OES HWFA.
Drwy ofid byd arafa—fy einioes,
A fy enaid wibia;
Er aml gyngor doedor da,
Am sefyll mae oes Hwfa.
CANU HEB Y CORPH.
Enaid, i'r Nef yr esgynwn—ac a'r
Corff byth y ffarweliwn;
Ac yno i Dduw canwn.
Y caniad heb y cnawd hwn.
ENGLYN: CERIDWEN, GENETH Y PARCH E. DAVIES, BRYMBO.
Ceridwen lon sy'n gwirioni—Beirddion,—
Mae pob harddwch ynddi;
Rhoed crog, dryblithog blethi.
O raffau 'n aur i'w phen hi.
Y CWMWL.
Hyd y nwyfre, dan hofran,—yn dawel
Deua'r cwmwl llydan;
Ac o li' môr y gwlaw mân
Ridyllia 'n hyfryd allan.
Ac wedi rhoi cawodydd—i raddol
Ireiddio y meusydd,—
Rhoi ei bwys yn ara' bydd
Am enyd ar y mynydd.
Y LLEW.
Cadarn yw TEYRN y Coedydd,—ei gilwg
A geula mewn stormydd;
Ofnadwy nos dramwy—ydd,
Yn ei safn taranau sydd.
DYCHRYNWN, flown oddiwrth ffau—y Llew.
Daw llid o'i amrantau;
Tan ei guwch ceir mellt yn gwau,
A'i fwng yn gartref angau.
PERLAU BEDDAU Y BYD
Coeliwch yr Atheistiaid celyd,—y Saint
Sydd yn aur drwy'r hollfyd;
Saint da Iehofa hefyd
Yw perlau beddau y byd.
Y CRISTION YN ANGAU.
Caru eistedd mae y Cristion—yn aml
Yn nhwrf tonau'r afon:
Er cysur clyw furmuron
Geiriau Duw yn mrigau'r dòn.
Y Cristion chwardda ar donau—y Dwr
Yn llaw Duw y Duwiau,—
Yma y Nef i'w mwynhau
Fyn o ing Afon Angau.
RHYBYDD!
Nid â chân y gwych organydd—na Dysg
Daw'n Duw i'r Eglwysydd;
I fawrion doethion y dydd,
"Evan Roberts" fo'n rhybudd.
Y DIWYGIAD.
O'r efail, nid o'r Athrofa,—y dygwyd |
Wedi o'r Ysbryd ymadael—â'i blant |
Y DIWYGIAD.
Rhyw ddiwygiad annirnadwy—yw hwn |
Diwallu yr enaid truan—a'i gri |
EMÄOD YN Y PULPUD
Daiarwyd meibion y daran—o'u sedd, |
EVAN ROBERTS
Nid eurgaine o nodau Organ—na dysg, |
EVAN ROBERTS. Onid dwyfol yw'r Sant Evan—o'r De |
Y DIWYGIAD
YN AIL GREU YR ANGRIST
Na edrych di Sant yn odrist—a ffol, |
EISTEDDFOD BAGILLT,
GORPHENAF 23ain A'R 24ain 1889.
Torfoedd sydd heddyw yn tyrfu—yn min |
Yma Pari yw'r camp wron,—Pari |
BER-AWDL
AR
AGORIAD EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
BANGOR,
AWST, 1890.
Tynwn holl blant Awenydd—ein hanadl, |
Ein gwlad sydd heddyw yn glws |
Ogylch erglywch erddygan—mynyddoedd |
Didwyll ysbrydion hen dadau—y beirdd |
Daliwn heb flinaw 'n ddiwyraw ddewrion, |
AWDL
AR
AGORIAD EISTEDDFOD GYD-GENEDLAETHOL CHICAGO,
MEDI, 1893.
AMERIG!—Cartref mawredd,
Hon saif ar ei digryn Sedd,—
I'w mawredd, yn nhwrf moryd,
A mawr barch ymwyra byd!
Gwlad amrywiawg,
Dra goludawg
Huda'r gwledydd,—
Ei mawrhydi
Grea yni
Gwir Awenydd.
Dyrch penau 'i mynyddau i'r nen,
O ddu abred, hyd werdd wybren,—
Ac yno, yn ngwyddfod Gwener,
Ar eu siol cyd ddawnsia'r ser!
Brâs randiroedd,
Byth ystadoedd,
Gloew diroedd
Gwaelod arian,—
Llifo beunydd
Drwy ei maesydd
Mae afonydd
Mwyaf anian.
Berwa Columbia i lawr
Rhwng haenau torau y tir,-
Chwal greigydd caerydd o'u cwr,
Mileinio mae am lanw môr.
Ohio fawr, rhuo fyn,
Ymnydda am anoddyn,-
O ganol y clogwyni,-drwy bob nant,
Eilia ogoniant yr Alegani.
Trwy fawredd, gwyllt dryferwi-am y mor
Mae'r fawr Fississipi,-
Clyw ddyfngan syfrdan ei si
Yn siarad â Missowri.
Y fath drafnidiad ofnadwy
Y sydd ar fynwesau y ddwy!
Tora 'u 'n alaw trwy 'r tyrau awelog,
Hyd orielau 'r cyfandir heulog,-
Ac o fawredd cyforiog-hyd wybr werdd,
Nydda 'u croewgerdd drwy'r Mynyddau Creigiog.
Chwydda eu sú 'n ddyruog-hyd gefnllif
Ymwriad dylif y mor Tawelog!
Erglywch eco
Creigiau eto
Yn cryg ateb,—
Treiddia crochdon
Gwaedd eu hwyldon,
Dragwyddoldeb.
Ac ar dranc y Neiagra drydd—ei ben
Dros y banawg greigydd,—
Ac yn ei raib llwnc yn rhydd
I'w fwnwgl yr afonydd.
Trwy hwn rhua taranau,—a'u godwrf
Ysgydwa 'r dyfnderau,
A thrwy floedd ferth y certh cau,
Tyrfa ing cartref angau!
Och! eirianllif dychrynllyd,—hyd anwn.
Teifl donau syfrdanllyd;
O'r crochlif wyllt ferw crychlyd,
Dyrua bár rheiadrau byd!
Edrychwch ar ei drochion,—O! gwelwch
Gilwg ei ellyllon,—
Llechwch,—gwelwch y lluwchion!
Mae angau du 'n mwng y don!
AMERIG fedd goedwigoedd—dirif,
Dorant wanc teyrnasoedd;
Medd ddyfnion lawnion lynoedd—fel grisial,
Dwr iach anhafal,—drychau y nefoedd!
AGORIAD
EISTEDDFOD GENEDLAETHOL LLANDUDNO
MEHEFIN,
30ain 1896.
I.
CORN GWLAD
II.
GWEDDI-YR-ORSEDD
Dyro, Dduw, dy nawdd,—
Ac yn nawdd, nerth,—
Ac yn nerth, deall,—
Ac yn neall, gwybod,—
Ac yn ngwybod, gwybod y cyfiawn,—
Ac yn ngwybod y cyfiawn, ei garu,—
Ac o garu, caru pob hanfod;
Ac ymhob hanfod, caru Duw,—
Duw a phob daioni.
III.
GWEINIO Y CLEDD.
Y GWIR YN ERBYN Y BYD
YN NGWYNEB HAUL, LLYGAD GOLEUNI.
Llais uwch adlais—A oes heddwch?
Llef uwch adlef—A oes heddwch?
Gwaedd uwch adwaedd—A oes heddwch?
Iesu nâd gamwaith—Llafar bid lafar.
YR AGORIAD.
Pan y mae oed CRIST yn fil wyth gant naw deg a chwech, a chyfnod Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, yng Ngwyl yr Alban Elfed, sef Cyfnod Cyhydedd Haul y Mesuryd, ar ol gwys, a gwahawdd, i Gymru oll, gan Gorn Gwlad, o'r amlwg yng ngolwg, yn nghlyw Gwlad a Theyrnedd, dan Osteg a rhybudd. un dydd a blwyddyn, cynhelir Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ar y Fách, ar Fynydd Pen Gwygarth, yn Mhlwyf Llandudno, Cantref y Creuddyn, Talaeth Gwynedd, yn swydd Gaer yn Arfon, ac hawl i bawb a geisiont Fraint a Thrwydded wrth Gerdd Dafawd a Barddoniaeth, i gyrchu yma, yn awr gyntefin Anterth, lle nad oes noeth arf yn eu herbyn, ac yma yn erwynebol y Tri Chyntefigion. Beirdd Ynys Prydain, nid amgen Plenydd, Alawn, a Gwron, ac yma cynhelir Barn Cadair a Gorsedd, ar Gerdd a Barddoniaeth, ac ar bawb parth Awen a buchedd, a gwybodau, a geisiont Fraint, ac urddas a Thrwyddedogaeth, yn nawdd Cadair Gwynedd.
LLAFAR BID LAFAR.
Y GWIR YN ERBYN Y BYD.
IESU NÂD GAMWAITH.
IV.
CAINC AR Y DELYN.
V.
ANERCHIADAU Y BEIRDD.
VI.
ARAWD.
BER-AWDL
AR
AGORIAD EISTEDDFOD GENEDLAETHOL
ABERHONDDU,
Awst, 1889.
Deuodd Gwyl ddedwydd y Gân,—a heb oed
Gwibia Beirdd o bobman,—
Am ddyddiau, a'u doniau 'n dân,
Ymlonant yn nheml anian.
Cathlau eu tympanau pur,
Lon etyb telyn natur;
O gylch ein Gorsedd heddyw
Alaw fwyn sydd yn ail fyw.
Clywch furmurawl
Awen ddwyfawl
Honddu afon,—
Gwrandewch beraidd
Emyn wylaidd
Mwyn awelon.
Adar hudawl
I Feirdd ront fawl,
Hefo 'u heurgoeth haf organ
Yng ngwiail coed engyl cân.
A'n Gorsedd dangnefeddawl,— mewn cynghan
Gu mae anian heddyw yn gymunawl!
Mae rhiwiau trumau 'r awel—a'u haddurn
Oll heddyw fel Carmel,—
Ar bob llaw, mor dawel—ogoneddus
Yw wybren iachus y bryniau uchel!
Tyrau draw yn gwawdiaw gwynt
Tyrau natur iawn ytynt,—
Eu cestyll yn sefyll sydd
I wirioni'r Awenydd!
Uwch y wlad iach oludog,—gwel hyfion
Benau brych wynion Banau Brycheiniog.
Hyd y maes blodeua mill
A gwên dydd, yn ganaid oll,—
Yn y pur chwaon heb ball
Arogl myr dreigla ym mhell.
Hen dyrau oesawl ein dewrion—yma
Dremiant i'r uchelion,—
I wyliaw ein halawon,—hyd riniogydd
Drysau 'u parwydydd gwrendy 'r ysprydion.
Ar ael nef yn moli defod—anwyl
Ein henwog Eisteddfod,—
Clywch delynog geinciog gân
Brychan o'r wybr uchod.
O! fwyn hudol funudyn—awenawl,
Beirdd hoenus yr Englyn,—
Yma â Beirdd yr Emyn—sy'n chwarau
Yn eu sandalau yn swn y delyn.
Drwy felus gyd orfoledd—yn awr
Yn nheml ein hoff gyntedd
Caiff ein barddol swyddol sedd—ar gerdd dant.
Heddyw ogoniant gan Dde a Gwynedd.
Chwarau Bardd Deau am dorch,
Am Orsedd Bardd Gwynedd gyrch,—
Ond daw'r ddau dan seliau serch
Yma 'n un ar y Maen Arch.
Cyntedd cantor,
Maine wen mewn Cór,
Ceir hon yn gysegr anian
Ysblenydd i gelfydd gân,—
Ac o'i mewn dyrch eco mawl
Ei Phrydydd offeiriadawl.
Adrodda i'r Derwyddon,—yn ei wres,
Am enwog hanes y Meini gwynion.
Drwy y cylch modrwyog hwn,
Am urddas y daw myrddiwn.
Dyma lanerch ardderchog,—a haddef
Llenyddwyr talentog,—
Giwdodau godidog ;—a gaiff barnwyr
Burach awenwyr na Beirdd Brycheiniog?
Nid rhyw rodres,
A gorddiles
Gerddi halog,
Ond cerdd glodwych,
Bur a chwenych
Beirdd Brycheiniog.
Pwy rif deitlau
Plant y doniau
Fawr—wych enwau
Sir Frycheiniog!
Y mae cofres,
Gwyrthiau mawrles
Eu gwir hanes
Yn goronog.
Sidons y Chwareues hudai—y Beirdd,
Swynai bawb pan chwarddai,—
Rhinwyr y byd wirionai
A'i gwrid lle bynag yr ai.
Brycheiniog fawr fagodd gawri,—o hon
Yr hanodd John Penri,—
Y brawd ddyrchafwyd mewn bri
A tharan y Merthyri!
Carnhuanawg, wron hoenus—a fu
Yn wir Fardd llafurus,—
Ar ei sedd anrhydeddus,—creu dydd
Bu yr hanesydd ar ben Barnasus!
Ac yntau Ienkin, ben cantawr,—i ni
Wnaeth donau dieisawr,—
O fyw elfen nefolfawr
A'u gwerth fydd tra Talgarth fawr!
Yma 'n ei lle, ar y Maen Llog—heddyw
Mewn addurn amrywiog;
Dan helaeth edyn haulog—Awenydd
Sydd fawr ei chynydd yn Swydd Frycheiniog.
Gwreiddio mae deddf yr Eisteddfod
Yn ddyfnach, a chliriach ei chlod,—
Tyfu y mae ei phlant hefyd
Yn galon wrth galon i gyd.
Cwyd Derwydd, a Bardd Cadeiriog,—in eto
O natur ardderchog,—
Yn y wlad wen oludog—cant hwythau
Barch i'w henwau tra Banau Brycheiniog.
BARDDONIAETH.
YR ADFEILIAD.
WRTH wel'd gweithredoedd Duw o'n blaen |
Wrth droi ein golwg ar bob llaw, |
Y gwallt, oedd gynt yn ddu ei wawr, |
Pob peth gweledig dan y rhód, |
Llangollen. —————— HWFA MON.
CORON BYWYD.
BYWYD.
TUEDD YMCHWILGAR.
TUEDD gref yn y meddwl dynol yw y duedd ymchwilgar. Trwy y duedd hon y mae y disgybl yn gofyn am lyfrau yn ol ei chwaeth, gan eu darllen, a dysgu ei wersi, ac wedi hyny y mae yn dringo i brif gadair yr athraw. Trwy nerth y duedd ymchwilgar y cafwyd allan y darganfyddiadau mwyaf yn y byd. Y tueddfryd hwn sydd wrth wraidd pob darganfyddiadau. Fel y mae y Main Spring yn yr awrlais yn peri i bob olwyn weithio, felly y mae yr ysbryd chwilgarol yn peri bywyd a gwaith drwy bob cymdeithas yn y byd. Pe tyner y main spring o'r awrlais, safai yr awrlais. Pe tyner yr Ysbryd yma o'r byd, safai y byd! Golygfa ofnadwy fyddai y byd wedi sefyll!
BYWYD YN DDIRGELWCH.
Er cynifer o bethau dirgel a gafwyd i'r golwg drwy y duedd ymchwilgar, y mae bywyd yn aros yn ddirgelwch eto, a diau yr erys felly byth! Y pethau agosaf atom yw y pethau tywyllaf ini. Y mae gwallt ein pen yn agos, y croen am ein hesgyrn yn agos, ond y mae y bywyd sydd ynom yn nes na'r cyfan, ac er hyny dyna y peth tywyllaf i ni! Ond er fod hanfod bywyd yn ddirgelwch i ni, y mae genym rai dirnadaethau cywir am dano.
GWYDDOM BETH YW EI FLÂS.
Pan oedd hen daid Syr Lewis Morris, y bardd, yn mapio glanau y mor o amgylch Ynys Môn, cyfarfyddodd a hen batriarches o wraig yn Rhosnegir, yn casglu gwmon y mor. Pan ddaeth i gyraedd siarad a hi, gofynodd iddi a wyddai hi beth oedd lled a hyd, a dyfnder y Môr. Dywedodd yr hen batriarches na wyddai hi. Ond pa beth a wyddoch chwi am y môr ynte, gofynai Lewis Morris, ac ar hyny ateboedd, "Wel, Syr, os na wn i beth yw hyd, lled, a dyfnder y Mor, mi a wn beth yw ei flas cystal ag un lefiathian sydd yn swalpio ynddo." Felly os na wyddom ninau beth yw hyd, lled, a dyfnder môr bywyd, ni a wyddom oll beth yw ei flas.
Y mae y baban bach ar fraich ei fam yn gwybod am ei flas cystal a'r henafgwr canmlwydd oed. Ond er na allwn wybod ei faintiolaeth, ni a wyddom yn dda am ei Dyfiant. Nid ydym yn gallu ei weled yn tyfu. Ei weled wedi tyfu yr ydym. Planer y fesen a gwilier hi, nis gall neb ei gweled yn tyfu. Ei gweled wedi tyfu yr ydym. Diau mai llygad mam yn gwilio ei baban ar ei bron yw y llygad craffaf o bob llygaid. Ond er mor graff ydyw, nis gall weled y baban yn tyfu. Nid yw yn gallu gweled yr aelodau yn ymestyn, ac yn tewychu. Ei gweled wedi ymestyn a thewychu y mae hi, a hyny yn rhoddi iddi achos i lawenhau. Bywyd yn cyd dyfu. Nid y naill aelod yn tyfu o flaen y llall. Ond oll yn cyd dyfu.
ARWYDDION BYWYD.
Ni welodd neb Dduw erioed. Ond y mae yn dyfod i'r golwg drwy arwyddion a rhyfeddodau. Y mae bywyd y pren yn dyfod i'r golwg drwy ei wyrddlesni, ei ddail, ei flodau a'i ffrwyth. Ni welodd neb fywyd erioed ynddo ei hun, nac yn eraill. Ond daw i'r golwg drwy ei arwyddion, a dengys pa un a'i gwan a'i cryf ydyw.
BYWYD YR UN PETH YN MHAWB.
Y mae gwhaniaeth mawr rhwng lliwiau, a ffurfiau y blodau, ond yr un yw bywyd ynddynt oll. Y mae gwahaniaeth mawr yn maint y Coed, yr un yw bywyd ynddynt i gyd. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y naill anifail a'r llall, a rhwng y naill fwystfil a'r llall, ond yr un yw y bywyd yn y naill a'r llall. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y naill ddyn a'r llall, ond yr un yw bywyd dynol ynddynt oll. Y mae gwahaniaeth rhwng y naill angei a'r llall, ond yr un yw y bywyd yn mhob angel.
Y mae gwahaniaeth rhwng y naill gythraul a'r llall, ond yr un yw natur bywyd pob cythraul. Y mae gwahaniaeth mawr rhwng y naill Sant a'r llall, ond yr un yw bywyd ysbrydol yn mhob Sant.
CYFFREDINEDD BYWYD.
Pan edrychom drwy natur y mae pob peth yn fyw o'n hamgylch. Y mae pob peth yn siglo gan fywyd.
"There is nothing stands still,
So old ages declare;
But the world ever changing
In earth, sea, and air;
All the powers of nature,
In truth, f we trace;
What are they? what are they?
But running a race.
The winds from all quarters,
Career through the sky;
They blow hot, they blow cold,
They blow swift, they blow high;
They follow, they flank,
And they fly in our face;
What are they? what are they?
But running a race.
The rivers that run to the end of the earth
Flow thousands of miles
From the place of their birth;
From the old, and the new world
They pour out a pace;
What are they? what are they?
But running a race."
AMLYGIAD BYWYD.
Amlyga bywyd y pren ei hun drwy ei ireidd-der, a'i liw. Amlyga bywyd yr anifail ei hun yn ei nerth yn gwneud ei waith. Felly y bywyd dynol.
CYNALIAETH BYWYD.
Y mae i bob bywyd ei gynaliaeth arbenig ei hun. Cynhaliaeth y ddafad yw porfa y ddol. Cynaliaeth y pysg yw arlwyon y mor. Cynaliaeth y bwystifilod yw eu hysglyfaeth. Ond y bwystfil dyn yw y creadur mwyaf ysglyfeuthgar o honynt oll! Os eir i farchnad y bwydydd yn y bore ceir gweled yno gyflawnder o bob amrywiaeth. Cyflawnder y maes, cyflawnder y gerddi, cyflawnder y perllanau, cyflawnder y corlanau, cyflawnder y beudai, a chyflawnder yr awyr. Ewch yno gyda'r nos, y mae safn y dyn wedi eu llyneu!
BYWYD YN EI WAITH.
Gweithia bywyd yn wastad. Cura y galon yn wastad. Ni chafodd bywyd foment o orffwstra erioed. Gweithia bywyd yn ddistaw. Gosoded y cerddor, teneuaf ei glust, ei glust ar y llwyn glaswellt, i geisio ei glywed yn tyfu, fe dyfa trwy ei glust arall allan, os na chilia i ffordd.
BYWYD DYNOL YN EI WAITH.
Tori Tunnel trwy yr Alps! Codi dyffrynoedd—Gostwng mynyddoedd. Gwneud ffordd i fellt a tharanau-Nofio y moroedd. Tramwyo y wybrenoedd, &c.
Yr ydym yn meddwl mai Job soniodd gyntaf am Goron, a hyny pan gododd ei elyn yn ei erbyn. Fel hyn y mae yn dywedyd.
"O am un am gwrandawai! wele fy nymuniad yw, i'r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifenu o'm gwrthwynebwr lyfr. Dian y dygun ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle Coron i mi. Job pen 31 adnod 36. Dyna y dull yr oedd prif fardd y byd yn ymddwyn at ei elynion!
PRYDFERTHWCH.
Y boneddigesau a ddechreuasant wisgo coronau. Gwisgant hwy i ddau bwrpas neillduol, i harddu eu pen, ac i ddal eu llaeswallt yn drefnus. Wedi hyny, o flwyddyn i flwyddyn, daeth yr arferiad o wisgo coronau ar neillduad breninoedd i'r orsedd. Gwnaed hyn er mwyn eu harddangos yn eu haddurniadau penaf. Y meddylddrych cyntaf yn nghoron bywyd yw harddwch bywyd. Bywyd pur, a sanctaidd. Talent lan, athrylith lân. Mae talentau mawrion i'w cael yn ffosydd llygredigaeth. Angylion athrylith yn nghobyllau llygredigaeth!
GWERTHFAWROGRWYDD.
Mae coron bob amser yn golygu gwerth mawr. Y mae perlau coron Victoria yn werth £112,000. Nid yw ond bechan o ran ei maintioli. Golyga coron bywyd, fawr werth bywyd. Y dyn a wnaeth leiaf o bawb oedd Methusalem. Cafodd oes hir ond ni wnaeth ddim yn werth i'w groniclo. Dylem ddiolch am oes hir, ond dylem gofio mai gwneud pethau o werth sydd yn coroni bywyd.
Lawrance Coster y Dutchman. rhaid dywedyd gwerth yr Argraff Wasg, cyn y gellir traethu gwerth oes hwn. Rhaid traethu gwerth y LLYTHYR CEINIOG, cyn y gellir traethu gwerth oes Syr Rowland Hill a'i sefydloedd. Ond gyda llaw, dylem ddywedyd, lle clywo y byd, mai S. R. o Lanbrynmair, oedd pia y meddylddrych gwreiddiol o'r LLYTHYRDOLL CEINIOG, a dylasai gael rhan o'r clod a rhan helaeth o'r clod. Beth yw gwerth BEIBL CYMRAEG, i Gymru uniaith yn yr Ysbyty, mewn gwlad estronol? Rhaid dywedyd gwerth hwnw, cyn y gellir traethu gwerth oes Dr. Gwilym Morgan o Langernyw.
Coron bywyd yn gwneud peth o werth yn ystod oes.
LLYWODRAETH.
Arwydda Coron Brydain lywodraeth Prydain. Er nad yw y goron ei hun ond bechan, eto, y mae yn arwyddlun o lywodraeth na fachluda yr haul ar ei gogoniant. Coron bywyd yw ei fod o dan lywodraeth dda. Dyn yn gallu cadw llywodraeth gyflawn arno ei hun. Dylai dyn ddysgu llywodraethu ei hun cyn dechreu llywodraethu neb arall.
BUDDUGOLIAETH.
Arwyddlun aruchel o fuddugoliaeth yw coron. Coronau campau Olympus. Coron bywyd yw fod dyn yn gallu gorchfygu rhwystrau. Dylai pob dyn roddi ei nôd ar orchfygu pob peth. Arwyddair Dr. Young oedd.
"Any man can do
What any other man
has done."
Y DYN IEUANGC.
DYGWYD dyn i fodolaeth drwy ddull arbenicach nag un creadur arall. Drwy y gair BYDDED y dygwyd pob creadur arall i fod. Ond newidiodd Duw y gair i ddwyn dyn i fodolaeth, ac a ddywedoedd,—Deuwn a gwnawn ddyn. Awgryma y gair deuwn, fod mwy nag un person yn gwneud y creadur dyn. Diau fod yma gyfeiriad at y tri pherson sydd yn y Drindod Ddwyfol. Y mae y Tad, Y Mab, a'r Ysbryd Glân, yn cyd ddywedyd Deuwn gwnawn ddyn.
Rhydd hyn fwy o arbenigrwydd ar ddyfodiad dyn i'r byd na dim arall. Ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain. Dengys hyn fod dyn wedi ei greu wrth gynllun. Ni wnaeth Duw ddim erioed ond wrth gynllun. Ond o'r holl gynlluniau a gymerodd Duw i greu pethau, y mae y cynllun a gymerodd i greu dyn wrtho, yn uwch na'r un cynllun arall. Ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain. Dyma ddelw, a llun y DRINDOD.
"Y dyn, y dyn, di anaf,
Oedd lawn urdd, ar ddelw Naf."
Dygwyd dyn i'r byd yn ei lawn faint. Felly y dygwyd pob peth ar y cyntaf i fod. Yr eryr cyntaf yn ei lawn faint, yr anifail cyntaf yn ei lawn faint, y bwystfil cyntaf yn ei lawn. faint, a'r dyn cyntaf yn ei lawn faint. Ni chafodd neb y drafferth o fagu y dyn cyntaf. Mawr yw y gwaith a'r gofal, a geir i fagu y baban, cyn y daw yn ddyn. Y mae y fam yn cael llafur mawr i ddysgu y baban i sugno y fron, ac wedi ei gael i ddysgu sugno, y mae mwy o waith i'w gael i ddysgu peidio sugno. Llawer o helynt a geir i geisio diddyfnu ambell un oddiwrth y fron. Ac y mae ambell un heb ei ddiddyfnu pan y mae yn haner cant oed.
Ceir gwaith mawr i ddysgu ambell blentyn i ddysgu bwyta, ac i eistedd wrth y bwrdd. Ac wedi llwyddo i wneud hyn, y mae gwaith mawr i'w gael, i ddysgu i'r plentyn sefyll, ac i gerdded yn iawn. Ond ni chafodd neb y trafferthion hyn gydag Adda.
Cael ei hun yn gallu sefyll, a cherdded, wnaeth Adda, ac y mae yn ddiamau ei fod yn gallu sefyll a cherdded yn hardd iawn.
Y mae gwaith mawr i'w gael i ddysgu ambell blentyn i siarad, ac i ddeall ei iaith. Ond yr oedd Adda yn gallu siarad, a deall ei iaith yn berffaith, y tro cyntaf yr agorodd ei enau. Y mae llawer o ddyfalu wedi bod i geisio gwybod pa iaith oedd eiddo Adda, ond y mae hyny yn ddirgelwch hyd yn hyn. Ceir ambell Gymro go selog yn haeru mai yr iaith Gymraeg ydoedd ei iaith, ac mae eraill yn myned ar eu llw mai Cymro ydoedd.
Ond haeriadau heb fawr o seiliau iddynt, yw y rhai yna, ac nid oes dim llawer o bwys pa iaith a lefarai. Ceisia llawer ddychmygu pa fath ddyn ydoedd Adda. Haera y dyn bychan, mai dyn bychan oedd Adda, ac haera y dyn mawr, mai dyn mawr oedd Adda. Ond y mae yn ddiau, fod Adda yn engraifft o ddynoliaeth berffaith.
Y DYN IEUANGC.
Fel rheol, gartref ceir pob peth, pan yn ieuange. Gartref y mae y bwystfil, pan y mae yn ieuange. Bwystfil oddi cartref yw y llew, pan y gwelir ef yn y bedrolfen yn cael ei gludo drwy y wlad. Gartref y mae y dyn pan y mae yn ieuange, oddigerth eithriad. Y mae swyn yn y gair CARTREF. Fel y mae dylanwad gan y Lloer ar lanw y mor, felly y mae dylanwad gan y gair cartref ar feddwl y dyn Ieuange. Ceir arwydd o hyn yn Awdl Hiraeth Cymro am ei wlad, gan Cawrdaf.
"Edrychaf fi, drwy ochain—ar fwyngu
Derfyngylch y Dwyrain,—
Ond ple mae gwedd Gwynedd gain,
Bro odiaeth Ynys Brydain.
Gwely, gobenydd galed—o gerrig
I orwedd mewn syched,—
Wylaw, a'r ddwy law ar led,
Am gynes fro i'm ganed."
Peru dylanwad y gair cartref ar feddwl dyn wedi myned yn hen, fel y mynega Thomas More.
"Those evening bells, those evening bells,
How many a tale their music tells,
Of youth, and home, and that sweet time,
When last I heard their soothing chime.
Those joyous hours are past away,
And many a heart that then was gay,
Within this tomb now darkly dwells,
And hears no more those evening bells.
And so 'twill be, when I am gone,—
That tuneful peal will still ring on,
While other bards shall walk these dells,
And sing your praise, sweet evening bells."
Y DYN IEUANGC YN HARDD.
Y mae pob peth ieuangc yn hardd. Y mae y pren tra yn ieuange yn hardd. Mor brydferth yw y pren afalau tra y mae yn ieuange. Y mae yr olwg arno yn deilio, yn blodeuo, ac yn ffrwythloni, yn un o'r pethau harddaf yn natur. Ond y mae yr olwg arno wedi myned yn hen geubren yn wahanol iawn. Y mae y march ieuange yn dlws iawn. Edrycher arno yn prancio ar y maes, ac yn neidio a'i draed i fynu, a'i glustiau i lawr, y mae ei hoender, a'i yni, yn annisgrifiadwy.
Ond edrycher arno ar ol heneiddio, a'i esgyrn yn tremio ar eu gilydd, a'r Cigfrain yn crawcian uwch ei ben! Ond edrycher ar y baban yn ei gryd dyna lle gwelir harddwch! Craffer arno wedi cyraedd ei un arhugain oed. Gweler dyn ieuange un arhugain oed y wlad. Wedi cael tad a mam iach. Gwaed pur, heb ei gymysgu a gwaed afiach cenhedloedd eraill. Mêr-iach yn ei esgyrn, a hwnw yn berwi yn wresog drwy ei holl gymalau.
Gwrid iechid yn cochi ei fochau tewion. Llygaid gloewon
yn flamio fel mellt yn ei ben. Gweler ef yn sefyll ar war y
mynydd, a'i fochau trwchus yn gorwedd ar ei ysgwyddau, ai
het ffelt am ei ben, yn canu bâs nes siglo y creigiau. Edrycher
ar fachgen un arhugain oed y dref O! y mae yn fain! Y
mae yn ddigon main i fyned rhwng dafnau gwlaw heb
wlychu! Ond y mae mam bachgen y wlad, a bachgen y dref,
yn gofyn, Beth fydd y bachgen hwn?
CATHLAU HENAINT HIRAETHOG.
Os yw yr hybarch Hiraethog yn heneiddio, y mae ei "Gathlau Henaint," yn llawn o nwyf Awen ieuengaidd. Cyhoeddodd ein cyfaill athrylithgar lawer llyfr gwerthfawr yn ystod ei oes, ac y maent oll yn ein meddiant. Ond o'r holl lyfrau rhagorol a gyhoeddodd, y mae y llyfr hwn yn llawn mor hoff genym a'r un o honynt. Y mae ei "Awdl Foliant," yn nechreu y llyfr, yn un o'r gemranau dysglaeriaf yn yr iaith; ac yn un o brif orchestion yr awdwr mewn celfyddyd barddol. Ni wyddom am yr Awdl, ar y Pedwar Mesur ar hugain, ag y mae Awen, a chelfyddyd, wedi ymgymlethu yn nghyd mor brydferth ag yn hon. Y mae ei chynghaneddiad mor gywrain a gwaith ede a nydwydd y bendefiges, ac y mae ei syniadau fel perlfoglynau gwerthfawr yn dysglaerio trwy yr holl weadwaith.
Dyfynwn ambell ddarn yma ac acw, i arddangos i'r darllenydd yr hyn a grybwyllasom yn wir.
CYFARCHIAD Y BARDD I'W AWEN.
Hen Awen, gwna Gån newydd,—un eto,
Na atal dy Gywydd;
Awdl fawl, hyawdl a fydd,
Dda lawen i Dduw Lywydd.
Dad y doniau, dod di wenydd,
Baro gynydd byw ar ganiad,—
Gwawd a golau gyda'u gilydd,
Lanwo'n temlydd, lono 'n teimlad;
I'n Creawdydd, râd Waredydd,
Byddo beunydd, heb ddibeniad,
Fawl a chlodydd, yn afonydd,
Mwya gwiwrydd am ei gariad.
Nid ydym yn edmygwyr mawr o ddull rhai beirdd yn moes gyfarch eu Hawen, gan erfyn arni ddeffroi at ei gwaith; o herwydd y mae perygl i'w Hawen droi clust fyddar atynt a myned i'w ffordd ei hun, gan ymystyfnigo yn ei hanufudd—dod. Ond nid Awen gelffantaidd felly yw eiddo Hiraethog. Nid oedd eisiau iddo ef, ond sisial haner gair yn ei chlust nad oedd yn clustfeinio, ac yn ymaflyd o ddifrif yn ei gwaith. Ystyrir fod y mesur Tawddgyrch Cadwynog a ddyfynwyd yn un o'r mesurau mwyaf anhawdd ei gystwyo; ond y mae Hiraethog yn ei gystwyo, ac yn ei weu mor rwydd, ag y gweua y gwehydd ei edafedd sidan ar ei ddylifau; ac nid yw yn tywyllu dim ar y meddwl wrth wneud hyny, megis y gwna rhai.
DUW YN RHY FAWR I'W AMGYFFRED.
Deall ei fod, a'r holl fawl
Ni fedrir, mae 'n Anfeidrawl
Duwdod ydyw
Da i bawb,—Duw byw;
A'r hanyw ynddo 'i Hunan
I'w glod, Ior glan.
Yn y dernyn cyntaf o'r dyfyniad yna, ceir y Deuair hirion, a'r
byrion, yn nghyd; ac yn yr olaf ceir y Gwawd-dodyn Byr; ac
y mae celfyddyd ac athrylith, yn dysglaerio yn ddi gwmwl,
trwy bob llinell.
DUW YN EI WAITH.
A'r air dygai'r greadigaeth
Yn fyw delaid i fodolaeth;
Allan hwyliai 'n union helaeth
Pob yr heigiau, pob rhywogaeth.
A'i air daliai yr adeilad,
Er hanfodiad hen fydoedd
E reola ar ei alwad
Hwyl y lluoedd, haul a lleuad.
Y mae y Gyhydedd hir, a'r Gadwen fer, yn darllen yn llithrig, yn y ddau ddernyn yna; ac y mae eu tôn acenau yn cyffwrdd tanau tyneraf ein clyboedd, ac yn rhinio chwilfrydedd ein dychmygiad cywreiniaf.
DAIONI DUW I DDYN.
Y ddaiar lwythawg greigiawg a grogodd
Ar y gwagle, o'r safle ni syflodd;
Ei awyr dyner, enfawr, a daenodd
A hono yn wasgod am dani wisgodd.
Ei wyneb arni wenodd—yn hyfryd
A hi yn llawn iechyd y llawenychodd.
YMDDANGOSIAD DUW YN Y CNAWD.
Do, deuodd o'i fodd yn fwyn
Y mawredd yn fab Morwyn!
Mab Duw 'n wir, yn mhob dawn oedd
Waredwr, a Mab Mair ydoedd!
Yn asgwrn, o'n hasgwrn ni,
Ordeiniwyd, E'n Frawd ini.
CRIST AR Y GROES.
O! Brynwr ! ei bur einioes,
Rhoi hon ar y greulon Groes;
Wnai 'n ufudd ufudd hefyd
Dros bawb, ie, dros y byd!
Yn ei waed mawr iawn ei werth
Rhoed diben ar waed aberth
Digon deddf, a digon dyn
Gafwyd, ac i bob gofyn
Yn ei daliad Oen dilyth
Rhoes warthnod ar bechod byth
Damniai ef, a dyma i ni
Ymwared o'n camwri!
Ei angau yn ei ingoedd,
Yn angau i angau oedd!
Dengys yr Hir a Thoddaid, a'r Deuair hirion yma eto, nad
yw urddas awenyddol yr Awdl ddim yn colli wrth fyned yn
mlaen, ond ei fod yn dysglaerio yn gryfach
CYDFOLIANT.
Caiff ei garu
Hynaws Iesu, yn oes oesoedd;
Gan bob graddau
Rhi a llwythau yr holl ieithoedd.
Haul y wybren hylwybrawl,
Y lleuad oedd a'i llwyd wawl;
A'r Ser, anifer i ni
Olwynion o oleuni;
Llenwch holl gonglau llonydd—y deugant,
A byw foliant hefelydd.
Tan a chenllysg, cymysg certh,
Eira a rhew, tew, a'r tarth;
A'r storm fydd yn nydd ei nherth
Yn gwarau penau pob pyrth.
Y taranau terwynawl,
A chwi fellt fflamiwch ei fawl.
Dyna i ti farddoniaeth ddarllenydd, a digon o dan ynddi i doddi calon Yscotyn! Er caethed yw rheolau Hupynt, y Proest Cadwynodl, y Toddaid, a'r Deuair hirion, y mae Awen HWFA MON. danllyd Hiraethog, yn fflamio trwyddynt, nes y mae pob peth ar dân mewn moliant!
HEDDWCH Y MILFLWYDDIANT.
Arfau rhyfel ni welir
Yn un ty o fewn y tir
Eu rhingyll i dir angof
I gyd fydd Morthwyl y Gof!
A'i forthwyl gwna'r gof wyrthiau—tra hynod |
Y celwydd a'i aflwydd o |
Os nad yw peth fel yna yn farddoniaeth ni waeth peidio a son am farddoniaeth byth. Na ddarllenydd, dyna farddoniaeth a garia ddylanwad i'r oesau a ddeuant; ac a ddyga fri i enw Hiraethog, yn meddwl pob dyn a'i darlleno yn ystyriol. Os dyweda rhai o ddarllenwyr y Dysgedydd, nad ydynt yn gweled dim neillduol yn y darnau a ddyfynwyd o'r Awdl odidog hon, rhoddwn gyngor iddynt fod yn ofalus wrth fyned drwy ffair y gwartheg, rhag ofn i ryw fuwch neu fustach, fwyta y Maimp sydd ar eu hysgwyddau.
Mae yn y llyfr bump o gathlau eraill, sef Marwnad Seisnig Hiraethog, i'w ddiweddar frawd, y Parch Henry Rees; Afon Fach y Bardd; Anerchiad hen Bererin cystuddiol i'w draed dolurus; Yr Hen Ben Maen Mawr; a Mrs. Eliza Jones, o Bodoryn Fawr.
Y mae y cathlau hyn oll, yn orlawn o farddoniaeth naturiol wedi ei gwisgo yn ngwisgoedd dillynaf yr iaith. Y mae y farwnad i'w frawd, yn llawn o deimlad byw hiraethol, ac yn cyffroi gwaelod y galon wrth ei darllen. Mae Afon Bach y Bardd, yn sisial yn ein clust, wrth ei darllen, ac yr ydym fel yn gweled y brithilliaid yn chware ar ei graian glas, ac fel yn clywed yr adar yn canu ar ei glanau.
Mor swynol yw! Mae Anerchiad yr hen bererin i'w draed,
yn peri ini wylo, a chwerthin bob yn ail! Mae yr hen
Benmaen Mawr, fel ambell het bregethwr, yn fwy nag ef ei
hun, yn y caniad hon! Am Farwnad i Mrs. Eliza Jones
Bodoryn Fawr. Y mae hon yn un o'r Marwnadau tlysaf o'i
maint a ddarllenason erioed.
GWYL DEWI.
ARWEST NEU ARAWD
LLANDUDNO,
1896.
I.
HENAFIAETH YR ORSEDD.
YN Hanes Cymru gan Carnhuanawe, tudalen 45, ceir y ffaith bwysig hon.
"Yn mhlith defodau y Beirdd, y sawl a ddisgynasant hyd yr amser presenol, gallwn benodi yr arfer o gynal Gorseddau ac Eisteddfodau, i'r dyben o drafod gorchwylion perthynol iddeu brodoriaeth. Y mae yr arfer hon, yn ddiamheuol o hendra mawr. Mewn Awdl o waith Iorwerth Beli, Bardd o'r 14eg ganrif, y mae coffawdwriaeth am ORSEDD a gynhaliwyd gan Faelgwn Gwynedd, gerllaw i Gastell Dyganwy yn y 6ed ganrif.
Ystyrir Carnhuanawe yr awdurdod uwchaf ar bynciau fel hyn. Craffer ar ei ddull ymadrodd yma. "Cynal GORSEDDAU ac EISTEDDFODAU. Gorsedd yn gyntaf, ac Eisteddfod wedyn, fel yr ydym ni wedi arfer gwneud, ac yn bwriadu gwneud yn Llandudno eleni. O'r Orsedd y mae yr Eisteddfod yn deilliaw allan. YR ORSEDD yw y gwreiddyn, a'r Eisteddfod yw y dderwen sydd yn tyfu arno.
II.
ARWYDD EIRIAU YR ORSEDD.
CADAIR TIR IARLL, yn y nawfed ganrif. "Duw a phob daioni." A oes arnom gywilydd o hyn yna?
III.
CADAIR MORGANWG. "Nid da lle gellir gwell." A oes cywilydd?
IV.
Cadair Gwynedd. "Iesu nad gamwath." A oes cywilydd arnom eu harddel?
II.
DYRCHAFU TALENTAU.
Y mae yn Nghymru dalentau. Llawer gwaith y clywsom rai yn dywedyd "CYMRU DLAWD."
Y mae hyn yna yn gelwydd. A yw Cymru yn dlawd o'r Glo, nac ydyw medd Rhuabon. A yw Cymru yn dlawd o blwm, nac ydyw medd Mynydd Mainera. A yw Cymru yn dlawd of lechi, nag ydyw medd Chwareli Llanberis, Ffestiniog, a Braich Cafn. A yw Cymru yn dlawd o dalentau, nac ydyw medd yr Eisteddfod. Pwy gododd Geirionydd i'r golwg, yr Eisteddfod. Pwy gododd Eben Fardd i'r golwg, yr Eisteddfod. Pwy gododd Hiraethog i'r golwg, yr Eisteddfod. Pwy gododd Gwalchmai i'r golwg, yr Eisteddfodd. Pwy gododd Clwydfardd i'r golwg, yr Eisteddfod. Pwy gododd Walter Mechain? A gallasem enwi lleng o rai eraill a godwyd i'r golwg gan yr Eisteddfod.
DYRCHAFU Y GYMRAEG.
Cwynir fod gormod o Saesonaeg yn yr Eisteddfod. Ond da genyf—ddywedyd fod yr Orsedd am ei chodi a'i chadw.
Y mae yr ORSEDD yn Gastell i'r Iaith Gymraeg, oherwydd yn gymraeg y mae pob peth yn cael ei ddwyn yn mlaen ynddi.
Y mae estroniaid yn ceisio llyncu ein gwlad. Maent yn llyncu ein hafonydd, ein Chwareli, ac y maent am lyncu y Wyddfa.
Ond ni wnant lyncu y Gymraeg, pam am ei bod yn rhy
fawr i fyned drwy gyrn eu gyddfau.
YSPRYDOLIAETH Y BIBL.
I
Y BIBL.
WRTH yr enw hwn y meddylir, llyfr, llith, neu ysgrifen. Y mae yr enwau hyn wedi eu rhoddi ar yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ir dyben o ddangos eu rhagoriaeth ar bob llyfr arall. Peth pwysig iawn ydyw cael enw priodol ar bob peth, sef enw yn cyfleu y syniad cywir am natur yr hyn a enwir. Y mae genym lawer o enwau gwahanol am y Bibl, ond y mae yr holl enwau yn cyflwyno i ni yr un syniad goruchel am y Bibl. Gelwir y Bibl gan Esaia y prophwyd, yn Llyfr yr Arglwydd, gan Paul yr apostol, yn Llyfr y bywyd, a chan Ioan, yn Llyfr bywyd yr Oen. Cyfaddefir mai y Bibl yw y Llyfr hynaf o'r holl lyfrau aneirif sydd yn y byd, ac y mae pawb bron yn cydnabod mai Moses a'i hysgrifenodd gyntaf. Gelwir y Bibl weithiau yn Ysgrythyr, yn Ysgrythyr lân, yn Ysgrythyrau, ac yn Ysgrythyrau Sanctaidd, a hyny er mwyn en gwahaniaethu oddiwrth lyfrau anawdurdodedig ac Apocraphaidd. Ceir yr enw Ysgrythyr yn fynych yn y Bibl ei hun, pan y cyfeirir at rai o'i wahanol ranau, megis yn Mhrophwydoliaeth Esiah, pan y cyfeirir at addfwynder Mab Duw. "A'r lle o'r Ysgrythyr oedd efe yn ei ddarllen oedd hwn. Fel dafad i'r lladdfa yr arweiniwyd ef." Esiah 53. 7. Ond wrth yr Ysgrythyrau yn gyffredinol y meddylir yr Hen Destament, a'r Testament Newydd. Ac y mae yn ddiamheuol, mai y ddau Destament, yn unig a ystyrir yn Ysgrythyrau Canonaidd a dwyfol, a dylid cofio hyny yn wastadol.
YSPRYDOLIAETH Y BIBL.
Y mae genym seiliau i gredu, fod y cristionogion uniawngred drwy yr oesau, yn cyfaddef fod cynwysiad y Bibl, sef yr Hen Destament, a'r Testament Newydd, yn ddwyfol, a'u bod wedi eu harfaethu er mwyn adferu bywyd dirywiol y byd. Y mae yn y Bibl lawer o bethau sydd uwchlaw dirnadaeth yr amgyffredion cryfaf, ond ni ddylai neb rwgnach oblegid hyny, canys nid yw ein bod ni heb allu amgyffred pethau, yn un prawf nad yw y pethau hyny yn bodoli. Y mae y llysiau sydd oddeutu ein llwybrau, yn tyfu mewn modd nas gallwn ni amgyffred. Nid ydym ni yn gallu deongli ar ba egwyddor y mae y blodau yn wahanol yn eu lliw, a'r dail yn wahanol yn eu ffurfiau, ac nis gallwn ni wybod pa sut y mae sylweddau llysieuol yn gwahaniaethu yn eu heffeithiau. Ond er nad ydym yn gallu esbonio y pethau hyn, byddai yn ynfydrwydd i ni eu priodoli i'r peth a ddealler wrth y gair damwain. Ein dyledswydd ni yw bod yn ddistaw, pan y mae ysbrydoliaeth ddwyfol yn peidio llefaru. I'r dyben o argyhoeddi meddwl Job o fychandra ei wybodaeth, rhoddodd y Creawdwr rês o gwestynau iddo i'w hateb, ac os na allai ateb y cwestiynau hyn, pa fodd y gallai ateb cwestiynau mwy. "Pwy a osododd fesurau i'r ddaiar, neu pwy a estynodd linyn arni hi? Pwy a ranodd ddyfrlle i'r llifddyfroedd, a ffordd i fellt y taranau? A oes dad i'r gwlaw? neu pwy a genhedloedd ddefnynau y gwlith? O groth pwy y daeth yr ia allan? a phwy a genedloedd lwydrew y nefoedd? A'i wrth dy orchymyn di yr ymgyfyd yr eryr? ac y gwna efe ei nyth yn uchel?" Job 38-39.
Ond heblaw hyn, nid ydym yn gwybod ond ychydig iawn am danom ein hunain. Y mae ein cyfansoddiad corphorol, a meddyliol, yn rhy ofnadwy i ni allu eu hamgyffred, ond er hyny, yr ydym yn credu yn eu bodolaeth. Yr un modd yr ydym yn credu yn ysprydolrwydd y Bibl, er nad ydym yn gallu ei lwyr ddeall. Ac y mae credu y Bibl yn bwysicach i ni na'i ddeall, canys trwy gredu y Bibl yr ydym i dderbyn y bywyd tragwyddol.
III.
SAILIAU EIN CREDINIAETH.
Y mae gwreiddioldeb a geir drwy y Bibl, yn ein dwyn i gredu yn ei ysprydolrwydd. Clywir llawer o son am wreiddioldeb meddyliau dynion, ond y mae yn beth sydd heb ei ganfod eto. Gwyddom am lawer wrth geisio bod yn wreiddiol wedi myned yn hurtiaid. Wrth graffu ar feddyliau awdwyr pob oes, yr ydym yn gweled mai byw ar feddyliau eu gilydd y maent, i raddau helaeth iawn. Y mae yn hawdd cael gwynebau, a gwisgoedd newyddion i hen feddyliau, ond y mae yn anhawdd cael y peth a elwir yn wreiddioldeb yn eu canol. Eilfyddu eu gilydd y mae prif awdwyr y byd bron. Ond ni cheir dim eilfyddiaeth yn y Bibl. Cyfododd rhyw ddynion ar ol Malachi ac Ioan Fedyddiwr, i geisio eilfyddu yr Ysgrythyrau; ond y mae gwahaniaeth dirfawr rhyngddynt a'r Ysgrythyrau Sanctaidd. Rhodder paragraff o Llyfr Tobit, yn yr Apocripha, a pharagraff o Efengyl Ioan, i ryw chwaer ddarllengar, a duwiol, a hi a wyr y gwahaniaeth sydd rhwng eu blas yn ebrwydd. Y mae holl waith yr Arglwydd yn meddu gwreiddioldeb dwyfol, ac ni all neb ei eilfyddu. Tybiwn fod y ffaith yna yn Sail gref i ni gredu yn ysprydoliaeth y Bibl. Y mae sibrwyd anadl ddwyfol i'w glywed drwy yr holl Fibl. Fel y dywedodd Paul, wrth ysgrifenu at Timotheus, "Yr holl Ysgrythyr sydd wedi ei rhoddi gan Ysprydoliaeth Duw." II. Tim. 3-16. Neu yn ol y gwreiddiol, wedi cael ei anadlu gan Dduw. Fel yr anadlodd Duw anadl einioes yn ffroenau dyn, felly yr anadlodd ef ei air yn ngenau ysgrifenwyr y Bibl. Y mae y gair a anadlodd Duw yn ngenau yr ysgrifenwyr sanctaidd, yn anllygredig fel efe ei hun.
Y mae ei bresenoldeb dwyfol yn aros yn ei Air, fel yr oedd y Gogoniantlyn aros, ac yn preswylio rhwng y Cerubiaid gynt. Heblaw hyn, y mae unoliaeth y gwahanol brophwydoliaethau am y Messiah, yn profi eu bod oll o ddwyfol ysprydoliaeth. Cyfeiriwn yma at rai o'r prophwydoliaethau arbenicaf yn nghylch y Messiah i brofi ein gosodiad. Prophwydwyd am ddyfodiad y Messiah i'r byd yn ei gysylltiad llinachol,—a rhag ddywedwyd mai o had y wraig, mai o had Abraham, mai o Lwyth Juda, mai o gyff Jesse, mai o forwyn, ac mai had Dafydd y deuai. Prophwydwyd hefyd am dano o ran ei nodwedd foesol, a dywedwyd y byddai yn gyfiawn, ac y byddai yn ddioddefgar. Prophwydwyd am dano fel Cyfryngwr, fel Prophwyd, fel Brenin, fel Offeiriad, fel Eiriolwr, fel Prynwr,— ac y byddai ei ddyoddefiadau, a'i farwolaeth, yn feichniol drosom ni. Prophwydwyd hefyd, am lawer o amgylchiadau a gymerant le yn ei hanes personol. Prophwydwyd y genid ef yn Bethleham, y byddai yn ddiystyr a dirmigedig, y byddai dan gystudd a gorthrymder, y gelwid ef yn Nazaread, y iachai glefydau, y marchogai yn freiniol ar asyn i Jerusalem, y gwerthid ef am ddeg ar hugain o arian, y rhenid ei ddillad wrth goelbren, y diodid ef a finegr, y trywenid ei ddwylaw a'i draed, y rhoddid ef i farwolaeth, y gwenid ef, ac na thorid asgwrn o hono, y byddai ei fedd gyda'r cyfoethog, ac yr adgyfodai foreu y trydydd dydd, heb weled llygredigaeth, ac yr esgynai i'r nefoedd. Llefarwyd y prophwydoliaethau hyn, a llawer eraill allasem enwi, yn ystod tair mil a haner o flynyddoedd, a hyny gan bersonau, ac ar achlysuron hollol wahanol i'w gilydd. Tybiwn fod hyn yn profi yn eglur fod yr holl ysgrifenwyr yn prophwydo o dan ddylanwad ysprydoliaeth ddwyfol.
IV.
BYWYD A MARWOLAETH CRIST YN CYSONI Y PROPHWYDOLAETHAU AM DANO.
Nid ydoedd yn ddichonadwy cysoni y prophwydoliaethau am Grist, cyn iddo ef ymddangos ar y ddaiar, ac iddo fyw, marw, adgyfodi, ac esgyn i ogoniant. Pwy fuasai yn dysgwyl y buasai y Messiah yn nodedig am ei addfwynder, a'i larieidd— dra, yn ol un brophwydoliaeth am dano, ac y buasai yn wrthrych casineb, gwawd, erlid, a marwolaeth, yn ol prophwydoliaeth arall am dano? Pwy byth ddychmygasai, mai yr hwn y prophwydodd Esiah am dano, y byddai yn wr gofidus, cynhefin a dolur, a archollid, ac a farwolaethid,— fyddai hefyd yr hwn y prophwydodd yr un Esiah am dano, na byddai diwedd ar helaethrwydd ei lywodraeth a'i dangnefedd? Ond yn Nghrist, y mae yr holl brophwydoliaethau hyn yn cael eu cyflawnu yn berffaith.
V.
Y TESTAMENT NEWYDD YN CYDNABOD.
YSPRYDOLIAETH YR HEN DESTAMENT.
Un o'r profion penaf o ysprydoliaeth yr Hen Destament, yw ei fod yn cael i gydnabod gan y Testament Newydd. Ar y dyb o ysprydoliaeth yr Hen Destament, y mae y Testament Newydd yn sefyll. Diameu mai hon yw y ddolen sydd yn cysylltu y ddau Destament, a'r ddwy oruchwyliaeth. Hon yw y ffrwd o fywyd sydd yn rhedeg drwy holl ysgrifeniadau yr Efengylwyr, a'r Apostolion. Pe tynid ymaith ysprydoliaeth yr Hen Destament, ni byddai y Testament Newydd yn ddim ond twyll a hoced digymysg. Tryfrithir yr Efengylau ag esiamplau yn cyfeirio y dygwyddiadau yn hanes Crist, at y prophwydoliaethau yn yr Hen Destament. Hen Destament. "A hi a esgor ar fab, a thi a elwi ei enw ef Iesu; oblegid efe a wared ei bobl oddiwrth eu pechodau. A hyn oll a wnaethpwyd, fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy y prophwyd: Wele morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar fab. Matt. i. 21-23." A hwy a groeshoeliasant gydag ef ddau leidr; un ar y llaw ddehau, ac un ar yr aswy iddo.
A'r Ysgrythyr a gyflawnwyd, yr hon a ddywed. Ac efe a gyfrifwyd gyd â'r rhai anwir. Marc, 15-27-28." Y mae Crist ei hun yn dywedyd fod yr Hen Destament yn cyfeirio ato ef fel ei brif ganolbwnc. "Chwiliwch yr Ysgrythyrau; canys ynddynt hwy yr ydych chwi yn meddwl cael bywyd tragwyddol, a hwynt hwy yw y rhai sy'n tystiolaethu am danaj fi. Ioan 5-39. Na thybiwch fy nyfod i dori y gyfraith na'r prophwydi, ni ddaethum i dori ond i gyflawni. Math. 5-27. Diamau mai y cysondeb hwn rhwng y prophwydoliaethau am y Messiah, cyflawniad yn Nghrist, a honiad pendant Crist, mai efe oedd eu gwrthrych, a darfod, mewn gwirionedd, eu cyflawni hwy ynddo, a chanddo ef ei hun,-hyn meddaf, oedd sylfaen athrawiaeth yr efengylwyr, a'r Apostolion; a hyn, meddaf, yw, ac a fydd, sylfaen athrawiaeth cenhadau hedd hyd ddiwedd amser. "Farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ol yr Ysgrythyrau; a'i gladdu, a'i adgyfodi y trydydd dydd yn ol yr Ysgrythyrau. 1 Cor. 15-3-4."
VI.
ETHOLIAD Y GENEDL IUDDEWIG.
Megis y mae yn amlwg i Dduw ethol dynion, a'u sancteiddio, a'u cynhyrfu i lefaru ac i ysgrifenu y Bibl,-" 'Canys nid drwy ewyllys dyn, y daeth gynt brophwydoliaeth,-eithr dynion sanctaidd Duw a lefarasant megis y cynhyrfwyd hwy gan yr Ysbryd Glan," II Pedr 1,-21.
Felly hefyd rhyngodd bodd i Dduw ethol cenedl, a'u sancteiddio, er mwyn ei ddatguddio ef i'r byd drwy yr Ysgrythyrau. Wrth ddarllen hanes yr Iuddewon, yr ydym yn canfod na chaed yn eu mysg braidd neb yn talu sylw neillduol i gelfyddyd. Pan gymerodd Solomon arno y gwaith o adeiladu y Deml, bu raid iddo anfon i Tyrus, am fab gwraig weddw o ferched Dan, yr hwn oedd yn medru gweithio mewn aur, arian, pres, haiarn, ceryg, coed, porphor, Glas, lliain main, ac ysgarlad, i gerfio pob cerfiad, a dychmygu pob dychymyg. Enw y gwr hwn Hiram. II Cron 2,-12. Anfonodd Solomon am y Hiram hwn o herwydd nad oedd yn mysg yr Iuddewon yn Jerusalem neb allai wneud ei waith. Heblaw hyn ni wyddai neb yn mysg yr Iuddewon, ond ychydig iawn am gelfyddyd o ryfela. Duw oedd yn ymladd eu rhyfeloedd. Ac ychydig iawn o sylw a dalasant fel cenedl i athroniaeth, a gwyddoniaeth. Ond er hyn oll, yr oedd ganddynt athrofeydd y prophwydi yma ac acw drwy y wlad, yr hyn oedd yn dangos yn eglur fod eu meddwl fel cenedl wedi ei ddwyn yn hollol at bethau ysprydol. Fel hyn, y gallem gredu, y rhyngodd bodd gan Dduw, o'i anfeidrol ddoethineb, a'i ras, ethol a sancteiddio, a chynhyrfu, drwy ddylanwad ei Ysbryd, feddyliau un genedl, i roddi dadguddiad o hono ei hun i'r byd, drwy yr Ysgrythyrau santaidd. Tybiwn fod yr ystyriaethau a nodwyd, yn mysg eraill allasem nodi, yn seiliau cryfion i'n dwyn i gredu "Fod yr holl Ysgrythyr wedi ei rhoi drwy Ysbrydoliaeth Duw."
Llyfr ydyw y Bibl hyfryd—a lanwyd
O oleuni'r Ysbryd,—
A chyfraith y Nef hefyd.
Ydyw'r Bibl i gadw'r byd.
ENW DA.
(GAN HWFA MON).
DEFNYDDIR y gair enw, weithiau, i wahaniaethu rhwng gwahanol bersonau, megys Cain ac Abel, a dyn a chythraul. "Beth Pryd arall, defnyddir y gair i osod allan gyflwr peth. yw dy enw?" ebe Iesu wrth y dyn cythreulig. Yntau a atebodd, gan ddywedyd, "Lleng yw fy enw, gan fod llawer o honom;" a byddai yr enw Lleng yn eithaf priodol i lawer un yn y dyddiau hyn, canys y mae llawer o honynt. Dynoda y gair, bryd arall, natur rhyw swydd a weinyddir. "A thi a elwi ei enw ef Iesu; oblegid efe a wared ei bobl." Arferir y gair hefyd i arwyddo rhyw fri ac anrhydedd. Dyn wedi cyflawni rhyw orchest, a thrwy hyny wedi enill iddo ei hun glod ac enw mawr. Yn yr ysgrythyrau, dynodir yr hwn y byddo ei enw wedi ei ysgrifenu yn y nefoedd, fel un yn meddu yr enw rhagoraf. Pan ddychwelodd y deg a thriugain yn ol at yr Iesu, a dywedyd wrtho fod y cythreuliaid yn ufuddhau iddynt, efe a ddywedodd wrthynt, "Eithr yn hyn na lawenhewch, fod yr ysbrydion wedi eu darostwng i chwi, ond llawenhewch yn hytrach am fod eich enwau yn ysgrifenedig yn y nefoedd." Yr oedd cael yr enw o ddarostwng y cythreuliaid yn beth mawr, ond yr oedd cael eu henwau wedi eu hysgrifenu yn y nefoedd yn beth llawer mwy. Nid yw enw da yn hawdd i'w gael. Mae pethau da yn brinion. Hawddach cael anialwch o ddrain, na chael gardd o flodau, a chael traeth o laid na chael blwch o berlau. Felly hawddach yw cael lleng o enwau drwg na chael un enw da. Cyn cwymp Adda, da oedd pob peth yn y byd; ond wedi hyny, troes bob peth yn ddrwg. Tyfodd drain a mieri ar dir y blodau, ac ymledodd cymylau marwolaeth dros awyrgylch y bywyd pur. Ond er fod yn anhawdd cael enw da, nid yw yn anmhosibl ei gael. Y mae enwau da yn lluosogi bob dydd, ac y mae eu gogoniant yn myned yn ddysgleiriach yn barhaus. Dywedai Solomon mai "Gwell oedd enw da nag enaint gwerthfawr," ac yr oedd ef yn addas i roddi barn ar bethau, o herwydd addfedrwydd ei brofiad, ac eangder ei ddosthineb. Yr oedd gwerth mawr ar yr enaint yn ei ddyddiau ef, o herwydd defnyddid ef i eneinio yr offeiriaid a'r breninoedd; ond nid yw yr enaint rhagoraf ond darfodedig yn ei loewder a'i berarogledd. Y mae enw da yn tra rhagori arno, oblegid perarogla a dysgleiria yn hwy nag ef. Nid yw y gemau, a'r holl bethau dymunol, ond megys gwegi yn ei ymyl. "Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer."
Y mae yn werthfawr i'r dyn ei hun. Y mae y peth a
ddyrchafo ddyn i sefyllfa o ymddiried yn werthfawr bob amser.
Cyfodwyd Joseph i sefyllfa o ymddiried mawr yn yr Aifft, a
Daniel yn Mabilon, a hyny trwy ddylanwad eu henwau
rhagorol. Y mae harddwch pryd a gwedd, a gogoniant talent,
yn dyrchafu llawer; ond y mae enw da yn dyrchafu ei
berchenog yn llawer uwch na'r holl bethau hyn. Y mae hwn
yn beth nas gellir ei ladrata. Gall y lleidr ladrata yr aur a'r
arian; ond byddai mor hawdd iddo ysbeilio yr haul o'i
oleuni, nag ysbeilio enw da oddiar ei berchenog. Gall dyn
gario hwn gydag ef i bob man, ac ar bob adeg, heb ei deimlo
yn faich. Gall amgylchiadau daflu cwmwl drosto weithiau ;
ond daw i'r golwg drachefn, fel yr haul trwy y cymylau.
Y mae enw da fel yr aur yn dal gwres y ffwrn, a deil wres y
farn heb newid ei liw. Y mae hwn yn werthfawr i'r byd o'i
amgylch. Y mae y creigiau a'r mynyddoedd yn werthfawr i'r ddaear. Wrth yr esgyrn hyn y mae cnawd a brasder y
dyffrynoedd yn crogi. Heb y creigiau, byddai y ddaear fel un
corsdir llynclyd a pheryglus. Mae y dynion sydd yn meddu
enw da fel colofnau yn cynal y byd i fyny. Y rhai hyn ydynt
esgyrn corff pob cymdeithas ragorol, ac y maent yn gryfach na
holl greigiau y byd. Peth i'w enill ydyw. Y mae awydd
angerddol mewn rhai am enw. Daw yr awydd hwn i'r golwg
yn mwthyn y cardotyn, fel yn llys y brenin. Chwiliwyd allan
lawer o ddychymygion, a gwnaed llawer ystrane rhyfedd gan
lawer un er ceisio cael gafael arno. Ond nid pawb sydd yn
ymbalfalu am dano sydd yn ei gyrhaedd ar lwybr cyfiawnder a
barn; ac, o herwydd hyny, gwisgir llawer un a chywilydd yn
lle anrhydedd a chlod. Y dyn ei hun sydd i'w wneud. Gall
arall wneud llawer o bethau iddo; ond rhaid iddo ef ei hun
wneud ei enw da, neu fod hebddo. Peth i'w wneud wrth reol
ydyw. Nid oes modd gwneud peth yn dda heb reol dda.
Gwna llawer bethau heb feddwl am reol yn y byd.
Meddyliant heb reol, siaradant heb reol, gweithiant heb reol, a
bucheddant heb reol; ac y mae yr olwg arnynt fel tylwythau
o ganibaliaid yn yr anialwch. Os myn y plentyn enw da trwy
ufuddhau i'w rieni, aed at y rheol, "Y plant, ufuddhewch i'ch
rhieni." Os myn enw da trwy fod yn onest, aed at y rheol,
"Na ladrata." Os myn enw da trwy fod yn eirwir, aed at y
rheol, Dywedwch y gwir bawb wrth eich gilydd."
Os myn enw da trwy fod yn sobr, aed at y rheol, "Na
feddwer chwi gan win," &c. Peth i'w wneud yn araf ydyw.
Fel y gwna y darlunydd ei ddarlun o linell i linell, felly
y gwneir enw da, o ychydig i ychydig, hyd nes y
gorphener ef. Y mae y pethau a wneir yn araf yn gryfion, a'r
pethau a wneir ar ffrwst yn weiniaid. Cicaion Jonah yw y
peth a wneir ar ffrwst, ond y mynydd cadarn yw y peth a wneir yn araf. Mae yr enw da a wneir yn araf yn dyfod yn
fwy ac yn gadarnach bob dydd, a deua mor gryf yn y diwedd
nas gall neb ei ddryllio ond ei berchenog ei hun. Fel y
dystrywia y fellten wyllt y palas godidog, y cymerwyd
blynyddoedd i'w adeiladu, felly y dystrywia un weithred wyllt
yr ENW DA a gymerodd i'w berchenog fwy na haner canrif
i'w weithio allan. O bob colled, colli enw da yw y golled
fwyaf. Os oes rhyw rai yn amheu hyn, holant y carcharau, a
gwrandawant ar lais y crogbrenau!
YR YSTORM.
(GAN HWFA MON).
Y gerddoriaeth gan Joseph Parry, Ysw. (Pencerdd America), Mus.
Bac. Cantab.
Professor of Music at the University College of
Wales.
Daeth dydd! daeth dydd cynhauaf gwyn!
Mae'r haul yn chwerthin ar y bryn !
Dwyfoldeb santaidd wisg y nen!
Mae bwa'r enfys am ein pen!
Gorwedda'r defaid yn y twyn
I wrandaw cerdd y bugail mwyn;
Breuddwydia'r gwartheg dan y pren,
A'r borfa'n tyfu dros eu pen!
Mae'r adar mân yn gàn i gyd,
Yn pyncio'u dawn am rawn yr yd;
Mae natur fel nefolaidd fün
Yn hoffi siarad wrthi'i hun!
Ust! beth yw'r sibrwd lleddfol sy
I'w glywed yn yr awyr fry?
Ust! clyw! mae'n nesu oddidraw,
Gan ymwrdd yn y dwfn islaw!
Ysbrydion ystormydd
Sy'n deffraw drwy'r nefoedd!
Elfenau sy'n udo
Hyd eigion y moroedd;
Cymylau sy'n rhwygo
Gan gyffro y trydan,
Y gwyntoedd sy'n meirw!
A natur yn gruddfan!!
Clyw gnul ystorm! clyw gorn y gwlaw!
Gwel wib y mellt! clyw daran braw!
Clyw dyrfau dwr! gwel ffwrn y nen!
Clyw storm yn tori ar dy ben!
Mae'r haul yn tywyllu!
Mae'r mellt yn goleuo!
Mae'r wybren yn crynu!
Mae'r dyfnder yn rhuo!
Mae mellten ar fellten!
Mae taran ar daran!
Mae Duw yn dirgrynu
Colofnau pedryfan!
Mae'r ddaear ar drengu! mae'r nefoedd yn syrthio!
Arswyded y bydoedd! mae Duw yn myn'd heibio!!
NICANDER.
(GAN HWFA MON.)
Erthygl I.
Y CYNWYSIAD.
Teilyngdod Nicander o goffadwriaeth barchus—Ei wlad enedigol—Cymeriad ei deidiau a'i neiniau—Amgylchiadau ei rieni—Ei fynediad i'r ysgol y tro cyntaf Ei brentisiad yn saer coed—Ei ynediad i Gaerlleon—A'i ddyrchafiad i Goleg yr Iesu yn Rhydychain.
DYLEDSWYDD Yyw talu teyrnged o barch i goffadwriaeth yr enwogion a wasanaethasant eu gwlad mewn pethau da; a hyfryd yw olrhain eu hachau, darllen eu gweithiau, a barnu eu teilyngdod. Myna rhai pobl dalu parch i'r pethau distadlaf a berthyn i ambell i wr mawr. Mewn rhai arddangosfäau amlygir yr edmygedd mwyaf, hyd yn nod i ddarnau gwisgoedd, a gwreiddiau cilddanedd, ambell hen wron. Tybia llawer un fod mwy o swyn mewn darn o'r hen wisg oedd am gefn Wellington, ar faes Waterloo, nag sydd yn holl wisg—gelloedd ambell bendefig. Ond, fodd bynag am hyny, y mae llawer mwy o wir swyn mewn ambell fwthyn bach, lle y ganwyd ambell blentyn athrylith, nag sydd yn holl rwysgfawredd ambell frenhindy; ac y mae mwy o wir hudoliaeth mewn hen ffon ambell un, nag sydd yn nheyrnwialen ambell un arall.
Teimlir rhyw fath o foddhad cyfriniol wrth edrych ar ddarlun pob dyn mawr; o herwydd wrth ei lun y gellir dyfalu pa fath un ydoedd, o ran pryd a gwedd, ac ystum. Ymrithia delweddau ysbryd pob dyn ar wyneb ei ddarlun; ac y mae ambell ddarlun wedi ei baentio mor gywrain, nes yr ydym yn gweled y gwrthddrych fel yn fyw o flaen ein llygaid. Fel yr adnabyddir ffurfiau gwynebpryd drwy ddarluniau, felly yr adnabyddir llinellau cymeriad drwy fywgraffiadau. Y mae genym luaws o fywgraffiadau enwogion, wedi eu hysgrifenu yn ein hiaith; ac y mae llawer o honynt wedi eu hysgrifenu mor dda, fel yr ydym wrth eu darllen yn canfod eu gwrthddrychau fel yn ail fyw ger ein bron. At y nifer luosog sydd genym eisoes, hoffem i'r bywgraffiad hwn, i'r diweddar Nicander, gael lle yn eu mysg. Fel y cydweithia pob llinell a dynir gan yr arlunydd i wneud arlun cywir, felly yr hoffem ninau i bob llinell yn y bywgraffiad hwn gydweithio i roddi dysgrifiad teg o Nicander. Os llwyddwn i wneud hyn, efallai y symbylir ambell fachgen tlawd i geisio efelychu ei ragoriaethau; ac os felly, gellir dysgwyl gweled llu o lenorion dysgedig yn cyfodi eto yn Nghymru. Efallai y gofyna ambell ddyeithrddyn, wrth glywed enw Nicander yn cael ei grybwyll o bryd i bryd:—
Abl Awdwr o b'le ydoedd,
Pa wladwr, Gymrodwr oedd?
EI WLAD.
Dyweda hen ddiareb, mai "Yn mhob gwlad y megir glew." Ond nid yw y ddiareb hon yn awgrymu nad oes llawer glew wedi ei fagu mewn tref, a dinas; ond awgryma yn gryf mai mewn gwlad agored, yn ngolwg y mynyddoedd, yn sŵn brefiadau y defaid, ac yn murmur yr afonydd, y mae y rhif luosocaf o'r cewri wedi eu magu. Y mae Cantref o'r enw Eifionydd, yn swydd Gaerynarfon, yr hon sydd yn cynwys rhan o Eryri, ac yn ymestyn hyd at làn mór Ceredigion. Tua dechreu y ganrif hon, yr oedd rhanau helaeth o Eifionydd yn rhosdir gwyllt, ac yn fawnogdir dyfrllyd:—
"Ys byrfrwyn, llafrwyn, yn llu,
Neu gyrs oedd yn gorseddu;
Pabwyr gleis,—pob oerweig wlydd,—
Hesg lwyni, a siglenydd."
Ond, erbyn heddyw, y mae y rhosydd oerion wedi eu troi yn
faesydd ffrwythlawn, a'r mawnogydd tomenllyd wedi eu dwyn
yn erddi blodeuog; ac y mae llawer o'r gwastadeddau diffrwyth
wedi eu gwisgo à choedwigoedd cysgodfawr. Diau fod
Eifionydd yn awr yn un o'r broydd mwyaf hudol yn swydd
Gaerynarfon; ac y mae plwyf Llangybi yn un o'r manau
mwyaf swynol yn Eifionydd. Y mae swyn yn mynwent y
plwyf hwn, canys yma y bu Eben Fardd yn rhodio rhwng y
beddau, gan fyfyrio ei gerddi gwyryfol, yn adeg ei fachgendod;
ac yma y mae beddrod y bardd godidog Dewi Wyn o Eifion, a
lluaws o enwogion eraill allasem eu henwi. Prydferthir plwyf
Llangybi, â hen balasau tegy Glasfryniaid, ac a phreswylfeydd
enwog lluaws o'r henafiaid pendefigaidd. Hynodir y plwyf
hwn à dwy o gadeiriau henafol, sef Cadair Cybi, a Chadair
Elwa; ac efallai mai nid anmhriodol fyddai ychwanegu dwy
gadair eraill atynt, sef Cadair Eben, a Chadair Nicander.
Tua chanol y plwyf y mae Carn Bentyrch, yn ymddyrchafu fel arglwyddes i arolygu yr holl amgylchoedd. Wrth ei godre, tardda Ffynon Cybi; dyfroedd yr hon a ystyrir yn dra rhinweddol; ac at hon y cyfeiria Dafydd Ddu Eryri yn y llinellau canlynol:—
"Ambell ddyn, gwaelddyn, a gyrch,
I bant, goris Moel Bentyrch;
Mewn gobaith mai hen Gybi
Glodfawr sydd yn llwyddaw'r lli."
Yn y plwyf hwn y mae y Capel Helyg, lle yr ymgynullai yr Annibynwyr, tua'r flwyddyn 1650; ac yma y mae beddrod y bardd tlws Emrys, o Borthmadog. Tua y gogledd ddwyreiniol i'r plwyf, saif pentref bychan Bryn Engan, lle dechreuodd Methodistiaeth wreiddio mor foreu a dechreuad y symudiad Methodistaidd yn Ngwynedd. Nid yn mhell o'r fan hon y mae y Monachdy Bach, preswylfod ddiweddaf y bardd melus Robert ap Gwilym Ddu. Lle heb fawr o brydferthwch o'i ddeutu yw y Monachdy; ac o herwydd hyny gwnaeth y bardd Du yr englyn duchan canlynol iddo:—
"Ni allaf fyw yn holliach,—am orig
Rhwng muriau hen Fonach;
A wnaeth Ion le gwrthunach,
Och! di! byth, Fonachdy Bach."
Gwelir, oddiwrth y crybwyllion blaenorol, fod plwyf Llangybi yn dryfrith o bethau hynod; a buasai yn hawdd i ni grybwyll am lawer mwy o'i hynodion, ond y mae yr hyn a grybwyllwyd yn ddigon i roddi syniad lled gywir i'r darllenydd dyeithr am yr ardal lle ganwyd ac y magwyd y diweddar Barch. Morris Williams, A.C., (Nicander).
EI RIENI.
Tua dechreu y canrif hwn, yr oedd gwr o'r enw William Jones yn byw mewn ty o'r enw Coedcaebach, yn mhlwyf Llangybi. Yr oedd yn wr dysyml a synwyrol, ac yn grefyddwr dichlynaidd gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Bu yn flaenor gyda'r enwad parchus hwn am oddeutu deugain mlynedd; a dywedir mai ei brif hynodion fel blaenor oedd ei lymder a'i onestrwydd fel dysgyblwr. Ystyrid fod ganddo chwaeth dda at gerddoriaeth; a dywedir ei fod yn deall egwyddorion y gelfyddyd yn dda. Yr ydoedd hefyd yn brydydd ffraeth a pharod; ac y mae rhai darnau tlysion o'i waith ar gael yn awr. Edrychid ar William Jones o'r Coedcaebach fel gwr llawnach o wybodaeth gyffredinol na neb o'i sefyllfa yn y plwyf; ac o herwydd hyny perchid ef yn fawr gan bawb a'i hadwaenai. Y gwr rhagorol hwn ydoedd tad Sarah, mam Nicander, a thad Pedr Fardd o Lynlleifiad. Taid a nain Nicander, o du ei dad, oeddynt Sioned Hughes, a Morris Williams o Bentyrch Uchaf. Ymddengys nad oedd un duedd at farddoniaeth yn nheulu Pentyrch Uchaf, ond yr oeddynt hwythau, fel teulu Coedcaebach, o duedd pur grefyddol; ac ystyrid hwy yn bobl dawel, gymydogol, a thra difrycheulyd. Wrth ystyried y pethau hyn, nid yw yn rhyfedd i feddwl Nicander gael ei ogwyddo at farddoniaeth, a chrefydd, oblegid cafodd ei addysgu o'r bru yn y naill fel y llall. Yr ydoedd tad Nicander yn gwasanaethu fel gwas fferm yn y Betws Fawr, gyda Robert ap Gwilym Ddu, yn y flwyddyn y priododd; ac yr oedd Sarah, mam Nicander, yn gwasanaethu fel morwyn fferm y flwyddyn hòno yn y Gaerwen, gyda Dewi Wyn o Eifion—dwy fferm heb fod yn nebpell oddiwrth eu gilydd. Mae dywediad ar lafar gwlad i Morris, tad Nicander, fyned i dalu ymweliad cyfeillachol à Sarah i'r Gaerwen un noson pan yr oedd yr holl deulu wedi myned i huno; a dywedir iddo luchio ceryg i'r ffenestr nes oedd pob man yn diaspedain, ac i Dewi Wyn, wrth glywed y twrw, neidio o'i wely i'r ffenestr, a gwaeddi dros y ty—
"Sarah! mae'r ty'n myn'd yn siwrwd!"
Boreu dranoeth, wedi myned adref, dywedodd Morris yr hanes wrth ei feistr, Robert ap Gwilym Ddu; a dywedodd y Bardd Du wrth Morris—Os clywi di Dewi yn gwaeddi fel yna eto, gwaedda dithau fel hyn dros bob man,—
Os wyt fyw erglyw o dy glwyd.
Yn ystod y flwyddyn hòno, priododd Morris a Sarah, ac aethant i fyw i'r Coedcaebach; ac yn Awst, y flwyddyn 1809, ganwyd Nicander. Bu iddo ddau frawd a dwy chwaer; a dywedir iddynt hwythau dyfu i fyny yn anrhydedd i'w gwlad.
Yn fuan wedi geni Nicander, symudodd ei rieni i fwthyn bychan o'r enw y Coety; a "Morris y Coety" y byddai y bobl yn galw Nicander pan ydoedd yn blentyn; ac, yn wir, felly y galwai llawer o'r hen bobl ef hyd ddiwedd ei oes. Gwelir mai tlawd oedd rhieni Nicander, ond tlawd gonest a chrefyddol, ac aelodau ffyddlon gyda y Trefnyddion Calfinaidd.
EI FYNEDIAD I'R YSGOL.
Er fod rhieni Nicander yn isel eu hamgylchiadau yn y byd, eto, yr oeddynt yn dra awyddus am i'w plant gael addysg. Dywedir y byddent, ar nosweithiau hirnos gauaf, yn gwneud eu goreu i addysgu eu plant yn yr ysgrythyrau, a hyny wrth oleu y tân; a mynegir mai eu hymddyddanion penaf fyddai am werth addysg a chrefydd. Tua yr amser yma, yr oedd gwr call, a dysgedig, o'r enw Richard Davies, yn cadw ysgol yn mhentref Llanystumdwy, ac ymddengys mai gydag ef y cafodd Nicander y manteision addysg gyntaf. Dywedir mai bara sych a phiser gwag fyddai gan Nicander yn myned i'r ysgol bob boreu, ac mai ei arferiad fyddai myned o amaethdy i amaethdy i ymofyn am ychydig o laeth i'w yfed gyda'i damaid sych yn yr ysgol. Dyna olwg darawiadol ar fachgenyn tlawd yn ceisio dringo i fyny yr allt ar lwybrau dysgeidiaeth! Bychan feddyliodd llawer un wrth ganfod y bachgen a'r bara sych a'r piser gwag yn myned a dyfod tua Llanystumdwy, mai efe a fyddai yn un o brif—feirdd ei oes. Os teimla rhyw fachgen tlawd ei feddwl yn digaloni wrth geisio addysg, bydded iddo gofio am BISER GWAG A BARA SYCH Nicander.
EI GREFFT.
Wedi bod yn yr ysgol yn Llanystumdwy am tua phedair blynedd, a phan ydoedd tua phedairarddeg oed, rhoddwydd ef i ddysgu gwaith saer coed at hen wr tafodrydd yn Mhencaenewydd, gerllaw Penymorfa. Clywsom Ellis Owen— y bardd o Gefnymeusydd—yn dweyd mai "Morris bach y llifiwr" y byddai pobl yr ardal hòno yn galw Nicander; a dywedai mai llifiwr hoew a chyflym ydoedd. Cyfansoddodd un o hen feirdd yr ardal yr englyn hwn iddo,—
"Ni chafwyd bachgen amgenach,—na llaw
I drin llif yn hoewach;
Nid oes un llifiwr siwrach
Yn y byd na Morris bach."
Parhaodd Nicander i drin y llif a'r fwyell nes ydoedd tua phedairarbymtheg oed. Yn ystod y cyfnod yma, ymddengys iddo fod yn gweithio gyda'i feistr mewn gwahanol fanau, ac yn mhlith manau eraill, bu yn gweithio yn Nolymelynllyn, yn sir Feirionydd. Tra y bu yn aros yma, cymerodd Mr. R. Roberts, y Ddol, ato yn fawr, a gwnaeth ei oreu i'w galonogi i fyned yn mlaen mewn dysg a barddoniaeth. Yr oedd Mr. Roberts yn meddu chwaeth gref at farddoniaeth; ac yr oedd yn gyfaill mawr a'r beirdd, yn enwedig ag Ieuan Glan Geirionydd, yr hwn oedd yn preswylio y pryd hwnw yn Nghaerlleon. Llwyddodd Mr. Roberts i gael gan Ieuan i roddi ei ddylanwad dros y bachgen Morris, ac i'w gael i'r ysgol ramadegol i Gaerlleon. Yn y flwyddyn 1828, wele byrth yr athrofa yn Nghaerlleon-ar-Ddyfrdwy yn ymagor o led y pen i dderbyn "Morris bach y llifiwr" i mewn i fwynhau ei holl freintiau addysgol. Wele yntau yn awr yn troi ei gefn ar Eifionydd, ac yn ffarwelio am byth a'r llif a'r fwyell. Cododd ei droed o waelod y pwll llif, brasgamodd tua Chaerlleon, ac eisteddodd yn nghanol teml addysg!
EI DDYRCHAFIAD I RYDYCHAIN.
Wedi treulio tua dwy flynedd i efrydu yn Nghaer, a hyny gyda diwydrwydd a llwyddiant anarferol, cafodd ei ddyrchafu yn aelod o Goleg yr Iesu yn Rhydychain yn 1830. Yr oedd Ap Ithel yn Rhydychain gydag ef, ond dywedai Nicander na byddai fawr o gymdeithas rhyngddynt a'u gilydd; ac nid oedd hyny yn ddim syndod; canys yr oedd ansawdd meddwl y ddau yn dra gwahanol i'w gilydd. Yr oedd meddwl Nicander yn fywiog a gwresog, a meddwl Ap Ithel yn araf ac oer; tafod Nicander yn ffraeth a phert, a thafod Ap Ithel yn drwm ac afrwydd; ond yr oedd y ddau yn enwog yn eu ffyrdd eu hunain. Ar ol i Nicander fod yn Rhydychain am bedair blynedd, graddiwyd ef yn A.C., ac urddwyd ef i waith y weinidogaeth. Yr oedd yn awr oddeutu pump ar hugain oed, ac yn ymddangos yn wr ieuanc hardd a gwisgi, ac yn orlawn o uchelgais. Er mwyn boddio cywreinrwydd y rhai hyny na chawsant y pleser o adnabod Nicander yn bersonol, rhoddwn yma eirlun o'i berson,—Dyn, byr, corff crwngryf, talcen uchel, llygaid mawrion, bochau cochion, trwyn uchel, genau crwn, gwefusau teneuon, edrychiad sydyn, parabl pert, llais ysgafnglir, chwerthiniad uchel, ac osgedd urddasol. Ond er mwyn i'r darllenydd allu cofio ei ddarlun yn well, rhoddwn yma ddysgrifiad y bardd o Nicander,—
Gwr byr, ac arab ei eiriau,—a gwrid.
Mewn graen ar ei fochau;
Llygaid mawrion, clirion, clau,
Cryno wyneb—crwn enau.
NICANDER.
(GAN HWFA MON.)
Erthygl II.
CYNWYSIAD.
Ymadawiad Nicander o Rydychain i Dreffynon, swydd Gallestr[6]—Ei symudiadau gweinidogaethol—Llinellau ei gymeriad fel dyn—Ei ragoriaethau fel ysgolhaig, a'i allu fel bardd—Ei gymhwysder fel. beirniad, a'i dalent fel pregethwr—Colled a galar y wlad ar ei ol.
GWELWYD llawer bachgen o Gymro tlawd yn myned i Rydychain, a'i feddwl yn llawn pryder; ond gwelwyd ef yn dyfod oddiyno a'i galon yn llamu mewn llawenydd; ac wedi enill iddo ei hun yr anrhydedd o fod yn athraw yn y celfyddydau. Bachgen felly oedd Alun. Taflodd Alun y ffedog groen oddiam dano; camodd dros orddrws gweithdy y crydd, yn y Wyddgrug; cerddodd i Rydychain, a'i feddwl yn llawn o uchelgais; ac yn y flwyddyn 1829, daeth i guradiaeth Treffynon, yn holl urddas ei B.A. Bachgen cyffelyb ydoedd Nicander. Crogodd yntau ei lif ar yr hoel, gadawodd ei fwyell wrth y blocyn, troes allan o weithdy y saer, beiddiodd i Rydychain; ac yn y flwyddyn 1834, daeth yntau oddiyno, yn gwisgo ei deitl, a'i feitr; ac ymsefydlodd yn nghuradiaeth Treffynon, fel olynydd i'r awenber Alun. Tybir mai ar ei ffordd o Rydychain i Dreffynon yr oedd Nicander, pan y cyfansoddodd yr englyn hwn:—
"O dynion bleth gadwyni,—ac oer dawch
Cor Rhydychain ddifri;
Ac o wlad Sais, cludais i,
I gain froydd Gwenfrewi."
Clywsom hen Eglwyswr selog, o ardal Treffynon, yn dywedyd i ddyfodiad Alun a Nicander yno, fod yn gyfodiad o farw yn fyw i'r Eglwys Wladol yn y dref. Ac nid oedd hyny yn llawer o syndod: canys nid yn fynych y breintiwyd un dref a'r fath dalentau dysglaer. Ymddengys mai pan yr ydoedd. Nicander yn preswylio yn Nhreffynon, y gwnaeth ef yr englyn canlynol i'r Gwyddel a grogodd ei ffyn yn nghronglwyd ffynon Gwenfrewi:—
"At Wenfrewi, tan ei friwion,—heddyw
Daeth Gwyddel ar ddwy ffon;
Ond mendiodd,—lluchiodd yn llon,
Ei ffyn i ben y ffynon."
SYMUDIADAU NICANDER.
Wedi treulio pedair blynedd yn Nhreffynon, symudodd i guradiaeth Bangor, a chapeloriaeth Pentir, yn swydd Gaernarfon. Yn ystod ei arosiad yno, ymddyrchafodd i'r fath anrhydedd, ac enwogrwydd, nes y cynhyrfwyd awen Dewi Wyn i ddywedyd fel hyn am dano:—
"Morus William yw'r Selef—yr Heman,
A'r Homer digyfref;
Di feth un, dau o'i fath ef,
A wnai Wynedd yn wiwnef.
Morus sy'n Forus anfarwol,—Morus
Sy'n un mawr rhyfeddol;
Ni fu ei enw ef yn ol,
Ond Morus anghydmarol."
Ar ol llafurio yn Mangor a Phentir am chwe' blynedd, aeth yn gurad o dan y Deon Cotton, i Lanllechid, lle y bu yn gwasanaethu am ddwy flynedd. Yn y flwyddyn 1846, penodwyd ef gan yr Esgob Bethel, i fod yn gurad parhaol yn Amlwch, swydd Fon. Wedi gwasanaethu am bedair blynedd ar ddeg yn Amlwch, dyrchafwyd ef i fywoliaeth Llanrhyddlad, Llanfflewyn, a Llanrhwydrus, lle yr oedd yn cael tua phum' cant o bunau yn y flwyddyn am ei lafur. Ac yn y lle hwn y preswyliodd mewn llawnder, hyd nes yr hunodd yn yr angeu ar y trydydd dydd o fis Ionawr, yn y flwyddyn 1874, yn bedair blwydd a thriugain oed. Mae ambell un wedi dechreu ei oes mewn palas, ond o herwydd diogi ac afradlonedd, wedi marw mewn tlotty. Ond dechreuodd Nicander ei oes yn y bwthyn tlawd; a thrwy lafur a bendith, ymddyrchafodd o radd i radd, a chafodd farw yn ei balas.
PRIF WEITHIAU NICANDER.
Prif weithiau Nicander ydynt yr Homiliau cyfiethedig, y Flwyddyn Eglwysig, y Salmau Cân, Awdl y Greadigaeth, y Dwyfol Oraclau, Cyfieithiad Damegion Esop, Awdl yr Adgyfodiad, Pryddest Brenus, Pryddest yr Eneiniog, Awdl Cenedl y Cymry, Pryddest Moses, Awdl y Môr, Pryddest Dafydd, ac Awdl Sant Paul. Yr Awdl ar y Greadigaeth a roddodd iddo yr anrhydedd o eistedd yn nghadair Genedlaethol. Eisteddfod Aberffraw, yn y flwyddyn 1849. Pryddest Brenus a enillodd iddo y llawryf yn Eisteddfod Llangollen, yn y flwyddyn 1858. Pryddest yr Eneiniog a ddygodd iddo y deugain gini, yn Eisteddfod Dinbych, yn y flwyddyn 1860. Awdl Cenedl y Cymry a'i cyfododd i eistedd yr ail waith yn y gadair genedlaethol, yn Eisteddfod Aberdar, yn y flwyddyn 1861; a'r Bryddest ar Moses a roddodd iddo yr hawl ar yr ugain gini, a'r tlws arian, yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, yn y flwyddyn 1862. Cyfansoddodd wmbredd o fan bethau eraill yn ystod ei oes; ond nid oedd y pethau hyny oll ond megys mân flodau wrth odre mynyddoedd, wrth eu cydmaru â'r cyfansoddiadau a nodwyd.
NICANDER FEL DYN.
Mae llawer yn meddu talent a dysg, ond yn dra diffygiol fel dynion. Yr oedd gan Risiard, gynt o Aberdaron, dalent, a gallu difesur i ddysgu gwahanol ieithoedd, ond hurtyn ydoedd. fel dyn wedi y cwbl. Ond yr oedd Nicander yn meddu talent a dysg, ac ar yr un pryd yn ddyn synwyrol, a hyfryd mewn cymdeithas. Er iddo gael ei ddyrchafu mewn urddau, ni welwyd ef erioed yn anghofio ei hun drwy ei falchder, gan ymddangos fel rhyfeddnod mewn starch, fel y gwelir rhai! Ni anghofiodd Nicander erioed y ffos y cloddiwyd, na'r graig y naddwyd ef o honi. Y mae yn berygl son wrth ambell un am y grefft a ddilynai cyn dydd ei ddyrchafiad, er fod arwyddion o'r grefft hòno i'w canfod yn eglur yn nhafliad ei law, yn nyddiad ei gorff, ac yn ngwead ei draed. Ond nid un o'r gwyr meinion ac ysgafnben hyn oedd Nicander; oblegid byddai ef wrth ei fodd yn wastad wrth son am y pwll llif, a helyntion gweithdy y saer. Yr oedd ef yn ddigon o ddyn i eistedd yn mwthyn y tlawd, yn gystal ag yn mhalas y boneddwr; ac i gyfeillachu gyda'r Ymneillduwr selog, yn gystal a'r Eglwyswr uchel. Nid anghofiodd efe ei rieni yn nydd. ei ddyrchafiad, ond talodd y pwyth iddynt yn eu henaint a'u penllwydni. Ni chollwyd golwg ar y dyn yn nysgleirder y meitr, na gwynder y wenwisg.
NICANDER FEL YSGOLHAIG.
Na thybied y darllenydd, am foment, ein bod yn meddwl am bwyso a Nicander fel ysgolhaig; oblegid ni chynysgaethwyd ni eto à digon o ddwlni a haerllugrwydd i geisio gwneud peth rhy fawr, a rhy uchel i ni. Ond y mae yn annichonadwy edrych dros fywyd Nicander heb sylwi ar ei ddysgeidiaeth. Yr oedd ei feddwl er yn fachgen yn sychedu am ddysgeidiaeth, fel y sycheda yr hydd am yr afonydd dyfroedd; ac wrth ystyried hyn, nid rhyfedd iddo fod yn ysgolhaig mor wych. Cymer ambell un arno ei fod yn ysgolhaig, pan nad yw ond ymhonwr gwag, a rhodresgar. Clywsom gan wr cyfarwydd, y byddai Isaac Harris, gynt o Dalsarn, wrth bregethu weithiau, yn dweyd yr enwau canlynol fel y gwynt:-"Sweden, Denmark, Russia, Holland, Belgium, Cuba, Jamaica, a Porto Rico." Traethai y gwr doniol y frawddeg yna, er rhoddi ar ddeall i'r werin anwybodus ei fod yn wr dysgedig. Ond pe gofynasid iddo ddangos lle yr oedd Porto Rico ar y map, canfyddesid yn fuan na wyddai ddim mwy am Porto Rico, na wyddai Porto Rico am dano yntau. Ond nid un o'i fath ef ydoedd Nicander, canys yr oedd ef yn ysgolhaig profedig, ac wedi enill ei deitlau trwy arholiadau teg. Dywedwyd wrthym, oddiar awdurdod diamheuol, ei fod yn deall pump o ieithoedd, a'i fod yn adnabyddus â gwaith y prif-feirdd yn mhob un o honynt. Y mae y ffaith iddo gael ei ddewis, yn y flwyddyn 1854, i olygu argraffiad o Feibl Rhydychain yn Gymraeg, ac argraffiad y Beibl mawr, at wasanaeth y llanau, yn profi ei fod yn ysgolhaig o awdurdod uchel. Ac heblaw hyny, nis gellir darllen ei weithiau, heb ganfod ynddynt lawer o arwyddion dysg. Ond er dysgleiried ei ddysg, yr ydoedd yn hawdd canfod arno yn wastad, nad oedd ei ddysg wedi ei yru i ynfydu, fel y gyrir rhai yn y dyddiau hyn. Arferodd ef ei ddysg megys gwasanaethyddes i'w addurno, a'i gymhwyso i droi yn urddasol yn holl gylchoedd ei alwedigaeth, ac nid oedd diffyg olew ar ei ben.
NICANDER FEL BARDD.
Y mae genym ni gryn gred mewn brid. Os clywn fod rhyw un yn deilliaw o frid Tom Thumb, yr ydym yn dysgwyl gweled rhywbeth yn Domthymaidd ynddo; ac os clywn amryw un yn deilliaw o frid Cawr Anac, yr ydym yn dysgwyl gweled rhywbeth yn Gawranacaidd ynddo. Pan glywn am un yn deilliaw o frid didalent, nid ydym yn dysgwyl fawr am dalent ynddo; ond pan glywn am un yn deilliaw o frid athrylithgar, yr ydym bob amser yn dysgwyl gweled arwydd o athrylith ynddo. Ond mae'n wir y cawn ein siomi yn aml, yn y naill fel y llall: canys gwelir bachgen llawn o athrylith yn cyfodi weithiau o deulu digon dwl; a phryd arall gwelir creadur digon hurt yn cyfodi o deulu digon talentog, yn llawn of gyfrwysder. Ond, fodd bynag am hyny, deilliodd gwrthddrych ein herthygl o frid beirdd; ac nid yn unig hyny, ond cafodd ei fagu, a'i ddwyn i fyny yn nghanol prif feirdd ei wlad. Wrth ystyried pethau fel hyn, yr oedd yn naturiol i ni ddysgwyl fod rhywfaint o'r awen farddonol yn ysbryd Nicander. Pan oedd ef yn fachgen, yr oedd y beirdd canlynol fel ser yn tywynu trwy y wlad a'i magodd :—Robert ap Gwilym Ddu, yn y Betws Fawr; Dewi Wyn, yn y Gaerwen; Sion Wyn, yn Chwilog; Sion Dwyfor, yn Llaw—weithfa Gwynfryn; Ellis Owen, yn Nghefn y Meusydd; Hywel Eryri, yn Traena, &c. Buasai braidd yn wyrth i fachgen gael ei eni o frid beirdd, a'i fagu yn nghanol y fath lu o feirdd, heb fod rhywfaint o arwyddnod yr Awen arno. Deallwn i Nicander ddechreu barddoni yn bur ifanc; canys cyfansoddodd Awdl ar y pedwar mesur ar hugain pan ydoedd tua deunaw oed. Testun yr awdl hon oedd yr enwau priodol sydd yn y Beibl. Creodd cywreinrwydd. cynghaneddol yr Awdl hon gryn syndod yn mysg beirdd Eifion; ac effeithiodd i Dewi Wyn goleddu gobeithion lled uchel am ddyfodol dysglaer i'r bardd ieuanc. Ac er mwyn i'r darllenydd gael rhyw ddirnadaeth am orchest gynghaneddol yr Awdl hon, rhoddwn iddo y dernyn hwn:—
"Selec, Iron, Salu, Cora,
Asir, Siah, Isar, Sehon,
Melci, Amnon, Milca, Imna,
Silem, Hogla, Salum, Eglon,
Meros, Hela,
Gwel pob darllenydd craff, fod arwyddion o allu mawr yn
saernïaeth gynghaneddol y llinellau yna; ond er hyny, nid
oes ynddynt un wreichionen o farddoniaeth. Y mae mwy o
allu meddwl y celfyddydwr, nag o allu meddwl y bardd
ynddynt. Fel yr oedd mwy o awydd y llenor cywrain, nag o'r
bardd aruchel, yn ymddangos yn ngwaith Nicander yn moreu
ei oes, felly yr ydoedd yn ymddangos yn ei waith trwy holl
ystod ei fywyd. Dywedodd y diweddar Hugh Tegai wrthym,
ei fod wedi darllen ei Awdl ar Genedl y Cymry, yn Eisteddfod
Aberdar, a bod yr englyn canlynol yn engraifft deg o'r holl
Awdl:—
"Holwch Nelson, a Boni,—a holwch.
Wellington uchelfri;
Ac Incerman am dani,
A chewch rês o'i hanes hi."
Mae yr englyn yna mor reolaidd, o ran cywreiniad ei gynghanedd, a "Meros, Hela, Morus William;" ond y mae yn llawn mor ddifarddoniaeth a'r "Meros, Hela, Morus William." Ac os yw yr englyn hwn yn engraifft deg o'r holl Awdl hòno, y mae yn hawdd gweled fod y cyfansoddiad yn graddio yn uwch fel dernyn celfyddydol, nag fel dernyn barddonol. Efallai mai y tri chyfansoddiad llawnaf o farddoniaeth o eiddo Nicander, yw ei Awdl ar y Greadigaeth, ei Bryddest ar Brenus, a'i Arwrgerdd i Moses. Y mae yn y cyfansoddiadau hyny rai darnau gwir odidog; ac y maent yn teilyngu lle yn mysg y gemranau mwyaf barddonol yn ein hiaith. Wrth edrych yn bwyllog ar holl gyfansoddiadau barddonol Nicander, y mae yn hawdd canfod, mai ei allu cywreiniol fel llenor, ac ysgolhaig, a'i cyfododd i'r safle anrhydeddus yr oedd ynddi, ac nid nerth, a chyfoethogrwydd ei athrylith fel bardd. Ac efallai mai fel llenor dysgedig, yn fwy nag fel prif-fardd gorlawn o grebwyll beiddiol, y cerir ei enw i'r oesau a ddeuant.
NICANDER FEL BEIRNIAD.
Yr oedd llawer o bethau yn cydgyfarfod yn Nicander i'w gymhwyso yn feirniad. Yr oedd ei adnabyddiaeth o lenyddiaeth, ei ddysgeidiaeth glasurol, ei chwaeth bur, a'i brofiad fel cyfansoddwr, yn ei gymhwyso yn fawr i'r swydd. Ond yr oedd ynddo bethau oeddynt yn ei anghymhwyso yn ddirfawr. Clywsom ef yn dywedyd, oddiar fanlawr Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon, yn y flwyddyn 1862, wrth ddarllen ei feirniadaeth ar waith rhyw ymgeisydd aflwyddianus, y dylasid atal y wobr oddiwrtho, am ei fod wedi arfer ffugenw rhy fawr wrth ei gyfansoddiad. (Dywedodd hefyd, yr haeddasai Dewi Wyn golli ar Awdl Elusengarwch, yn Eisteddfod Dinbych, o herwydd iddo roddi yr enw Taliesin wrth ei waith). Heblaw hyn, dywedodd wrth adolygu Awdl Glanmor i'r Cynhauaf, y buasai yn well ganddo ef fod yn awdwr i'r llinell hon sydd ynddi,
"Bwrw ser, dan nifer, a nôd,"
na chael pum' cant o bunau o gyflog yn y flwyddyn! Yr oedd y ffaith ei fod yn agored i ddweyd ac i gredu pethau ffol fel hyn, yn sicr o fod yn ei anaddasu i lenwi ei swydd fel beirniad anrhydeddus, ac yr oedd yn sicr o fod yn tueddu i siglo ymddiried y rhai craff ynddo. Ond er yr holl bethau hyn, cafodd Nicander yr anrhydedd, fel Eglwyswr, o feirniadu yn yr Eisteddfodau, mor fynych, os nad yn fynychach na neb yn ei oes; ac y mae yn debyg na bu yr un gwr eglwysig yn eistedd ar y faine feirniadol mor aml ag ef ar ol y diweddar Walter Mechain.
NICANDER FEL PREGETHWR.
Yr oedd lluaws o bethau yn Nicander yn ei addasu i fod yn
ddyn cyhoeddus. Yr oedd ei ymddygiad syml a boneddigaidd,
pertrwydd ei barabl, clirder ei lais, coethder ei iaith, ac eangder
ei wybodaeth, yn tueddu oll at ei gyfaddasu i'r areithfa. Yr
ydoedd yn un o'r darllenwyr goreu ar y Beibl a glywsom
erioed. Byddai ei glywed yn darllen penod o'r ysgrythyr yn
gystal ag esboniad arni. Bu yn aros gyda ni am ddwy
noswaith, pan oeddym yn byw yn Dolawen, ger Bethesda; ac
nid anghofiwn, yn fuan, ei ddull dirodres yn darllen ac yn
gweddïo hwyr a bore, wrth gadw dyledswydd. Ni allasai neb
feddwl arno, wrth ei glywed yn ddarllen y sylwadau yn Meibl
Peter Williams, ac wrth ei glywed yn gweddïo o'i frest, ei fod
erioed wedi bod yn gwisgo gwenwisg; o herwydd yr ydoedd ei
ddull yn llawer tebycach i hen bregethwr Methodistaidd nag i
berson eglwys. Prif ddull Nicander o bregethu oedd y dull
esboniadol, ond byddai weithiau yn ymddyrchafu i hwyl a
gwres nefolaidd. Clywsom iddo unwaith rwygo ei wenwisg
wrth daflu ei freichiau, a churo ei ddwylaw mewn hwyl
orfoleddus. Ond eithriad i'w drefn o bregethu oedd ymollwng
i hwyliau felly. Clywsom hefyd y byddai yn pregethu llawn
cystal pan y byddai y clochydd ac yntau, ac ychydig o hen
wragedd, yn bresenol, a phan y byddai llonaid y cathedral yn
ei wrando; ac yr oedd hyny yn ganmoladwy ynddo; ac yn
addysg dda i lawer pregethwr Ymneillduol, sydd yn cael ei
ddylanwadu gan nifer ei wrandawyr. Efallai na bu pregethwr
mor ysgolheigaidd erioed yn pregethu i gynulleidfaoedd llai
nag y bu Nicander. Gresyn na fuasai gwr o'i fath yn cael lle
teilyngach o'i dalentau dysglaer. Ond efe a fu farw; ac mae
y wlad yn teimlo, ac yn galaru ar ei ol. Os gofyn rhywun paham y mae bywgraffiad Eglwyswr yn cael lle mewn
cyhoeddiad Ymneillduol, dywedwn mai am yr un rheswm ag y
mae pregeth Ymneillduwr yn cael lle mewn pulpud eglwysig,
a phregeth Eglwyswr yn cael lle mewn pulpud Ymneillduol.
Ac y mae llawer o'r fath bethau.
CALEDFRYN.
(GAN HWFA MON.)
CYNWYSIAD.
Ei naturioldeb—Ei ddestlusrwydd — Ei unplygrwydd—Ei eonder—Ei graffder—Ei eglurder—Ei sefydlogrwydd—Ei watwariaeth — Ei danbeidrwydd—Ei nawdd i addysg bur, a'i garedigrwydd gartref.
DIAU y cydnabydda pob dyn gafodd y fraint o adnabod y
diweddar Barch. W. Williams (Caledfryn), o'r Groeswen, mai
un o'r pethau cyntaf a welid ynddo ydoedd naturioldeb. Yr
oedd yn naturiol yn ei edrychiad, yn ei wisgiad, yn ei
ysgogiad, ac yn ei ddull o osod ei feddwl allan. Yr ydoedd yn
amlwg fod natur wedi ei eneinio yn blentyn iddi ei hun; ac
yr oedd ei henaint tywalltedig yn dysgleirio ac yn perarogli ar
ei ben yn wastadol. Yn gysylltiedig a'i naturioldeb, yr ydoedd
math o ddestlusrwydd llednais yn ymddangos trwy ei holl
ymarferion. Y mae llawer dyn yn ymddangos yn naturiol,
ond yn aflerw. Gellir canfod lleng o feirdd, llawn o athrylith
farddol, yn meddu digon o naturioldeb, ond yn dra amddifad o
ledneisrwydd ymarferol. Ond nid gwr felly ydoedd Caledfryn;
o herwydd yr ydoedd ei ddestlusrwydd llednais ef yn dyfod i'r
golwg yn brydferth yn ei holl gyflawniadau. Ei arwyddair ef
ydoedd :— "Gwneler pob beth yn weddaidd, ac mewn trefn."
Peth amlwg arall yn ei gymeriad oedd unplygrwydd gyda phob
peth. Nid un wedi ymwisgo mewn dyblygion o dwyll a rhagrith oedd ef; ond un mor noeth oddiwrthynt ag ydyw y
gofgolofn farmor sydd yn addurno lle ei feddrod. Os duai ei
wyneb gan ystorm ar amserau, nid oedd hyny ond arwydd o'r
ystorm oedd yn llenwi ei ysbryd ar y pryd; ac os tywynai ei
wyneb agored gan lawenydd, nid oedd hyny ond arwydd o'r
llawenydd a'r hoen a goleddai ei galon ar adegau felly. Ni bu
dyn ar y ddaear hawddach i'w adnabod nag efe; canys fel yr
ymddangosai yn y cyhoedd, felly yr ydoedd yn y dirgel. Drwy
y pethau hyn, yr ydoedd yn hawdd canfod elfen arall yn dyfod.
i'r golwg yn ei gymeriad, sef ei onestrwydd. Yr ydoedd y son
am onestrwydd Caledfryn wedi myned trwy Gymru fel diareb;
ac yr ydoedd ei elynion bryntaf yn gorfod cyfaddef mai dyn
ydoedd yn cael ei lywodraethu gan yr egwyddor euraidd o
uniondeb diwyrni. Ni arferodd ef a dyrchafu y cyfaill ar draul
darostwng y gelyn. Ei brif nod yn wastad ydoedd—
Darparu pethau onest yn ngolwg pob dyn." Elfen arall oedd.
yn ymddangos yn eglur ynddo oedd eonder meddwl. Ni
wyddai Caledfryn beth oedd ysbryd llwfr a slafaidd; ac ni allai
oddef cymdeithas y dyn llwfr a diyni. Yr oedd ganddo ef
ddigon o eonder i ddywedyd y gwir yn ngwyneb pob dyn heb
ofni y canlyniadau, ac feallai na ddywedodd un dyn fwy o
wirionedd noeth yn ei oes na ddywedodd ef. Ei ddywediad
mynych ydoedd,—"O'm lleddir am wir, pa waeth?" Ac nid
yw hyn yn beth rhyfedd, canys yr oedd ef yn meddu eonder a
beiddiad i fyned yn erbyn llifeiriant llawer o farnau cyffredin y
byd; tra yr oedd eraill yn ymollwng yn llwfraidd gyda y llif.
Llawer gwaith y clywsom ef yn dywedyd y geiriau hyn gyda
nerth—"Y rhai cyfiawn sydd hyf megys llew." Yr ydoedd
craffder barn hefyd yn ymddangos yn gryf, ac fel yn reddfol
ynddo. Ni ollyngai un gwaith o'i law heb ei brofi wrth y
rheol fanylaf. Arferai edrych ar bethau o bob cyfeiriad. Yr oedd yn ddigon craff i weled rhagoriaeth y gwych, a gwrthuni
y gwael, a meddai ddigon o graffder i'w deol yn deg oddiwrth
eu gilydd. Yr oedd awch ar ei gyllell ysgythru yn wastad; a
gorfu i lawer bardd a beirniad yn Nghymru deimlo ei llymder.
Haerai rhai y byddai yn rhy lymdost yn ei nodiadau; a'i fod
yn llymdostach at waith eraill nag ydoedd at ei waith ei hun.
Ond os oedd hyn yn wir am dano, y mae yn wirionedd hefyd
i'w feirniadaethau ef wneud mwy tuag at buro barddoniaeth
Gymreig, na beirniadaethau neb arall yn ei oes. Diau na bu
ei graffach fel beirniad barddonol yn eistedd ar fainc
beirniadaeth yn Nghymru erioed; a phan syrthiodd ef i'r
beddrod, collodd yr eisteddfodau feirniad oedd yn dwr ac yn
darian i degwch a chyfiawnder. Llinell arbenig arall yn
nghymeriad Caledfryn ydoedd eglurder. Ni bu neb erioed a
lefarodd fwy dros i bawb draethu ei feddwl yn eglur na
Caledfryn; ac nid oedd ganddo nemawr o ffydd yn y dynion.
hyny sydd yn son yn wastad am y depth of thought; o herwydd
credai ef nad oedd modd dysgu arall yn dda ond trwy ddwyn
pob peth yn amlwg o flaen eu llygaid. Yr oedd yn gallu
traethu ei feddwl bob amser yn oleu a thryloew; ac y mae
holl ysgrifeniadau, mewn rhyddiaeth a barddoniaeth, yn profi
hyn. Gwr ydoedd ef yn hoffi rhodio wrth liw dydd, ac nid
wrth liw nos. Yr ydoedd sefydlogrwydd hefyd yn elfen gref
yn ei nodweddiad. Yr ydoedd er pan yn ieuanc yn
Ymneillduwr egwyddorol a thrwyadl; a safodd yn ddigryn dros
ei egwyddorion trwy ei holl oes: ïe, ymladdodd frwydrau
poethion dros ei gredo; ac ambell frwydr hyd at waed. Yr
oedd mor ddiysgog a'r graig dros Ymneillduaeth; ac efe a
dyngodd lawer gwaith i'w niwed ei hun, ac ni newidiai.
Arbenigrwydd arall a ymddangosai yn amlwg ynddo trwy ei
oes, oedd math o watwariaeth (sarcasm.) Yr oedd y duedd watwarol mor naturiol iddo ag anadlu. Deuai ei watwaredd
i'r golwg trwy wahanol ffyrdd. Weithiau trwy droad ei lygad,
nyddiad ei wddf, ysgogiad ei law, a brathiad ei air. Yr oedd
cymaint o fin ar ei frath-eiriau weithiau, fel y gallai frathu y
dyn mwyaf celffantaidd trwy ddyfnder ei galon; a mynych y
gwelwyd rhai o'r tylwyth hwn yn gorwedd yn eu gwaed ger ei
fron. Elfen amlwg arall ynddo ydoedd tanbeidrwydd ysbryd.
Yr ydoedd tanbeidrwydd ei ysbryd yn angerddol ar amserau.
Deuai ei angerddoldeb i'r golwg weithiau yn ei ymddyddanion.
ar bynciau neillduol; megys dadgysylltiad yr eglwys a'r
wladwriaeth, a gorthrwm y degwm a'r trethi. Ymddangosai
tanbeidrwydd ei ysbryd hefyd yn ei ysgrifau, ei areithiau, ei
farddoniaeth, ond nid yn fwy yn un man nag yn yr areithfa
santaidd. Byddai yr olwg arno ar amserau, ar esgynloriau y
cymanfaoedd, fel angel Duw. Gwelwyd tyrfaoedd callestraidd eu
calon yn toddi fel y cwyr o flaen y ffwrn, o dan wres angerddol
ei genadwri; a gorfodwyd i'w elynion gredu lawer tro, mai nid
tân dyeithr oedd yn cyneu ar ei wefusau. Tybiai llawer y buasai
yn well iddo beidio a bod mor angerddol ei ysbryd, oblegid y
byddai mewn perygl weithiau i'w sèl fradychu ei wybodaeth;
ond nid ydym ni yn tueddu i farnu felly am dano. Yn mysg y
pethau hyn, yr oedd peth arall yn ymddangos yn llawn mor
gryf ynddo, sef ei bleidgarwch dihafal i addysg rydd.
Ysgrifenodd lawer, areithiodd lawer, dadleuodd lawer, a
theithiodd lawer i amddiffyn addysg rydd yn y wlad; ac nis
gwyr neb faint y daioni a wnaeth yn y cyfeiriad hwn yn ystod
Yr oedd yr awyddfryd cryf oedd ynddo tros ddiwygiad
crefyddol a gwladol, yn anhysbydd; ac nid ydoedd ei fod yn
heneiddio yn effeithio dim i wanychu y tueddfryd hwn. Fel y
mae gwlith y boreu yn ireiddio yr ardd flodau, felly yr ydoedd
yr elfen o garedigrwydd yn eneinio holl gymeriad Caledfryn. Gallai y dyeithrddyn feddwl wrth glywed Caledfryn yn siarad
ar adegau, mai dyn o'r fath mwyaf cignoeth ydoedd; ond pe
cawsai y dyn hwnw aros o dan ei gronglwyd am ddiwrnod neu
ddau, cawsai weled mai dyn llawn o garedigrwydd a thynerwch
ydoedd. Yr oedd ei garedigrwydd yn ei dŷ, ei groesaw i
ymwelwyr, a'i gydymdeimiad a'r weddw a'r amddifaid, y
cystuddiol a'r tlawd, yn ddigyffelyb; ac y mae lluoedd heddyw
yn fyw allant ddwyn tystiolaeth i'r gwirionedd hwn.
Diau y cyd-dystiolaetha pob dyn cyfarwydd â ni am yr anfarwol
Caledfryn, fod yr elfenau a nodwyd yn gyfrodedd trwy ei holl
gymeriad. Ond gwybydder, ar yr un pryd, nad ydym wrth
grybwyll y pethau hyn, yn haeru nad oedd iddo yntau ei
ddiffygion mawrion, fel pob dyn arall. Ond yr oedd y llinellau
a nodwyd yn llewyrchu trwy ei gymeriad fel y llewyrcha y
gwahanol liwiau yn yr enfys.
YMWELIAD Y PARCH. R. WILLIAMS (HWFA MON) A'R AMERICA,
GORPHENAF 19eg, 1893.
AR gais taer Golygydd enwog y DYSGEDYDD, yr ydym yn ysgrifenu ychydig o hanes ein hymweliad â'r Gorllewinfyd, ac yr ydym yn tybio mai ysgrifenu yr hanes yn wahanol erthyglau byrion o fis i fis, fydd yn fwyaf derbyniol gan y darllenwyr.
I.
Y TEUTONIC.
Un o lestri ardderchocaf llinell odidog y White Star yw y Teutonic, ac wedi ei gwneuthur o'r defnyddiau durol goreu. Y mae yn 582 o droedfeddi o hyd, ac yn 57 a chwe' modfedd o droedfeddi o led, ac yn 39 a phedair modfedd o droedfeddi o ddyfnder. Gall tri chant o fordeithwyr eistedd gyda'u gilydd yn gomfforddus yn y cabin cyntaf, ac y mae digon o le yn yr ail gabin i 170 eistedd yn gysurus, ac y mae digon o le yn y trydydd cabin i 850 i fwynhau eu hunain yn ddigon hapus. Yn gysylltiedig â'r holl leoedd hyn, y mae ystafelloedd hyfryd i'r ysmocwyr wedi eu trefnu yn y modd mwyaf deniadol. Ac er mwyn gwneud yr ysmocwyr yn hapus, ceir digon o boerflychau gerllaw, fel na raid i un ysmociwr halogi ei boeryn yn mhoeredd y llall. Y mae holl ystafelloedd y gwelyau hefyd wedi eu trefnu yn y modd mwyaf rhagorol, ac y mae peraroglau dillad glán yn perarogli trwyddynt oll. Diameu fod gallu cyfoeth a chelfyddyd wedi bod ar ei oreu yn rhagddarparu y Teutonic, er mwyn ei gwneuthur yn un o'r llongau mwyaf hyfryd i fordeithwyr o bob dosbarth. Heblaw y pethau hyn, y mae yr holl swyddogion, o'r Cadben i lawr, yn ddynion o'r cymeriadau dysgleiriaf, ac yn deall eu gwaith yn drwyadl, fel y gall pob mordeithiwr fod yn berffaith dawel fod y Teutonic o dan ofal y dynion goreu, yr hyn sydd yn anrhydedd i gwmpeini y White Star.
Wrth edrych ar fawredd y Teutonic yn y Doc yn Liverpool, tybiem nas gallasai y tonau mwyaf siglo fawr arni. Ond cyn pen nemawr o ddyddiau wedi gadael Liverpool, gwelsom nad oedd y Teutonic, er ei maint, ond megys rhyw flewyn llesg ar frigau y tonau cynddeiriog yr Atlantic.
Ar y 19eg o fis Gorphenaf, 1893, daeth fy anwyl frodyr, y Parch. Henry Rees, Bryngwran, a'r Parch. Joseph Rowlands, Talysarn, gyda mi ar fwrdd y Teutonic. Yr oeddym yn cael ein cyfarwyddo yn ein holl symudiadau gan y gofalus a'r medrus Gymro Gwyllt, yr hwn oedd wedi darparu Berth i ni ein tri fod gyda'n gilydd, yr hyn oedd yn gysur mawr i ni, wrth wynebu ar y fath fordaith beryglus. Oddeutu haner awr wedi tri, ar y prydnawn byth—gofiadwy hwnw, gadawsom Liverpool, a'n calonau yn ymchwyddo gan bryder dwys.
Ac felly gadael ein cyfeillion—a wnaem,
Yn ymyl glan yr afon, —
Tra gwelem, adwaenem dros dòn
Ganoedd a'u cadachau gwynion.
Wrth brysuro o olwg Liverpool, yr oeddym yn dysgwyl y cawsem olwg ar Ynys Mon wrth ei phasio, ond cawsom ein siomi, o herwydd yr oedd niwl a chymylau yr hwyr wedi ymdaenu dros yr hen Ynys druan, fel na chawsom weled ond rhyw arliw gwan o honi. Fodd bynag, wedi ein siomi na chawsem olwg ar yr hen wlad, aethom i'n gwelyau, gan roddi ein hunain o dan ofal yr Hwn a roddodd y môr yn ei wely. Wedi rhoddi ein penau ar ein gobenyddiau, cadwyd ni yn effro gan swn y ddwy sgriw oeddynt yn ysgriwio trwy y tonau wrth fyned yn mlaen. Ond o herwydd ein lludded a'n pryderon, siwyd ni i gysgu yn araf deg. Ond cyn ein bod ni braidd wedi dechreu chwyrnu, deffrowyd ni, ac erbyn i ni agor ein llygaid, yr oedd y Teutonic wedi cyrhaedd i borthladd hyfryd y Queenstown.[7]
Ar hyd y Werydd y rhedai—ac wrth
Queenstown yr angorai,—
Yno ei chroch luman chwai
Uwch yr awyr chwareuai.
O! hafan ogoneddus! Yr oedd yr olwg arno y bore hwn tu hwnt i allu neb i'w ddesgrifio. Yr oedd y môr yn llonydd, ac yn dysglaerio fel y grisial o dan belydrau yr haul. Yr oedd yr olwg ar y tyle gwyrddion o amgylch glanau y porthladd, ac ar y dref a'i phinaclau, wedi ein boddi gan syndod a swyn! Un o'r pethau cyntaf a glywsom yma oedd swn dynion yn taflu llonaid casgiau mawrion o weddillion ymborth i'r môr, a'r peth cyntaf a welsom wed'yn, oedd gweled heidiau o wlanod yn disgyn ar draws eu gilydd i'r môr, gan ymladd â'u gilydd am y briwsion. Ac wedi cael eu gwala a'u gweddill,
Yn llewyrchion haul llachar—gwyl wenai
Y gwlanod chwareugar;
Hyd y lli, heb ofni bâr,
Ymrodiai y môr adar.
Tra yr oeddym yn ymddifyru i edrych ar y golygfeydd hyn, deuai y llythyrau, a'r papyrau newydd i mewn yn sacheidiau, a phawb yn rhedeg am y cyntaf atynt. Yna daeth y Gwyddelod ymfudol i'r bwrdd, a'r olwg arnynt yn wyllt a chyffrous, ac yn edrych fel Gwyddelod! Erbyn hyn, yr oedd ar fwrdd y Teutonic oddeutu pymtheg cant o eneidiau, a phawb a'u gwynebau tua'r Gorllewinfyd.
Wedi aros am ryw deirawr—i'r llyw
Gael trefnu'r llwyth gwerthfawr;
O'r dirion hyfryd orawr,
Aem oll tua'r eigion mawr!
II.
O QUEENSTOWN I NEW YORK.
Os egyr y ffals eigion—ei enau,
Ni ddychryna nghalon,—
Rhodia Duw ar hyd y don
I ngwyliaw a'i angelion.
PAN adawsom borthladd hyfryd Queenstown, yr oedd y môr yn llyfn, a'r haul yn tywynu yn ddysglaer, ac yr oedd ymylau yr Ynys Werdd yn edrych yn hudolus iawn. Yr oedd y creigiau ysgythrog hyd lànau y môr, a'r bythyndai gwynion oedd i'w gweled hyd lethrau yr Ynys, yn gwneud yr olygfa yn dra dyddorol. Wedi i'r Teutonic frysio heibio i'r Cape Clear, troes ei phen mewn rhwysg—
"Tua'r Gorllewin araul,
Ty'r Hwyr, lle lletya'r Haul."
Pan oeddym yn graddol golli ein golwg ar y Werddon, ac yn dechreu tremio ar y dyfnder mawr, daeth geiriau y Salmydd i'n meddwl yn sydyn. "I ba le yr äf oddiwrth dy ysbryd? ac i ba le y ffoaf o'th wydd? Os dringaf i'r nefoedd, yno yr wyt ti; os cyweiriaf fy ngwely yn uffern, wele di yno. Pe cymerwn adenydd y wawr, a phe trigwn yn eithafoedd y mor; yno hefyd y'm tywysai dy law ac y'm daliai dy ddeheulaw." A phan oeddym yn synfyfyrio ar y pethau hyn, clywem swn canu emynau Sankey, yn dyfod o gymydogaeth y Steerage. Ac yn ein llawenydd, cyfeiriasom tua'r fangre. Ac erbyn myned yno, gwelem dorf daclus o Wyddelod, a'u llyfrau yn eu llaw, yn canu yn eu hwyliau goreu. Llanwyd ein calon o lawenydd wrth eu gweled, a'u clywed yn canu mor dda. Yr oedd erbyn hyn yn dechreu hwyrhau, ac aethom ninau i edrych ar yr haul yn machludo, o herwydd yr oeddym wedi clywed lawer gwaith, fod golwg ar yr haul yn machludo ar y mor, yn un o'r golygfeydd mwyaf gogoneddus, ac yr oeddym yn awchus i gael golwg iawn arno. Aethom i fan cyfleus ar y bwrdd, a chawsom olwg na anghofiwn mo honi byth. Yr oedd y cawr i'w weled yn fwy, ac yn wridgochach, nag y gwelsom ef erioed o'r blaen. Yr oedd yr olwg arno yn ymsuddo o'n golwg, i eigion y mór, y noson hono, yn ofnadwy ogoneddus! Yn rhy ogoneddus i neb allu ei ddarlunio! Ar ol ei fachludiad, prudd-gochai yr holl ffurfafen uwchben.
Ac ael anian wisgai gwsg leni,-a rhydd
Wisgai'r hwyr yn ei dlysni;
Yma yn awr canfyddem ni
Emau'r haul hyd y môr heli!
Wedi ein synu yn mawredd y rhyfeddodau, teimlem ein hunain yn llesgau, ac aethom i'n gwelyau i orphwys. Ond cyn y boreu cawsom ein deffroi gan grygleisiau ofnadwy Corn y niwl! Ac erbyn i ni fyned ar y bwrdd, yn y boreu, yr oedd y niwl fel tywyllwch yr Aipht, wedi ein hamgau; ac yr oedd y corn yn rhuo nes rhwygo ein clustiau. Erbyn hyn, yr oeddym ninau yn dechreu dychrynu, canys clywsom ganwaith, mai gelyn gwaethaf y morwr yw niwl; ac oblegid hyny, yr oeddym mewn pryder, rhag ofn dyfod i wrthdarawaid à rhyw long arall. Fodd bynag, tewychu yr oedd y niwl, a pharhau i ruo yr oedd y corn, a rhwng y naill a'r llall, yr oeddym ni wedi myned i deimlo yn anhapus iawn. Ond yn mhen amser maith, daeth pwff o wynt o rywle, a chwalwyd y niwl, a dechreuodd yr awyr glirio, a daethom i weled y môr fel o'r blaen. Ar hyn, clywem rywun yn gwaeddi Whale, nes oedd y Teutonic yn diasbedain! Gyda hyn, rhedasom i edrych dros ochr y llong, ar, eiliad gwelem heidiau o bysgod yn llamu o'r tonau, a phob un fel yn ymryson i neidio am yr uwchaf! Pan y gofynasom pa bysgod oeddynt, cawsom wybod mai hiliogaeth y Tunny (Thynnus Vulgaris) oeddynt, ac nid hiliogaeth y morfilod. Ymddengys fod heidiau mawrion o'r pysgod hyn yn heigio yn yr Atlantic Ocean, a bod y pysgodwyr yn gwneud elw mawr oddiwrthynt. Yn fuan wedi hyn, ymgryfhaodd y gwynt, a dechreuodd y môr gyfodi fel mynyddoedd mawrion.
Twrw heb osteg trybestod-hyd oror
Y dyfnderau isod;
Yn y dwfn, wrth fyn'd a d'od,
Ymrafaeliai morfilod!
Trwy wenyg, codi eu trwynau-yn hyf
Wnai morfeirch gan chwarau;
Chwythent byst, poerbyst o'u pau,
Yn wynias hyd y nenau!
Y llong gref oedd fel yn crefu-yn daer,
Am i'r don lonyddu!
Ac i'r awel dawelu,
Ar y daith drwy y mor du!
Dywedasom wrth un o'r morwyr oedd yn sefyll gerllaw i ni
ei bod yn ystormus iawn. A dywedodd yntau nad oedd peth
felly yn ddim ond rhyw stiff breeze. Parhaes y gwynt i gyfodi,
hyd nes oeddym dros fanciau Newfoundland, ac yr oedd
ugeiniau o'r môr-deithwyr yn sal iawn, a'r olwg arnynt yn
druenus dros ben. Ond, drwy drugaredd, daliasom ni yn iach
drwy y cwbl. Ac i brofi hyny, yr oeddym yn gallu dilyn ein
prydiau yn rheolaidd, ac yn gallu eu mwynhau yn rhagorol.
Aethom i orphwys yn gynar y noswaith hono, gan ddymuno
i'r hin gyfnewid. Ac erbyn i ni godi boreu dranoeth, yr oed
y mor wedi tawelu, a'r haul yn dechreu tywynu yn boeth. Pan oeddym yn dechreu mwynhau ein hunain yn nghyfnewidiad
y tywydd, clywem fod yn y llong gantorion Cymreig, o'r
Deheu a'r Gogledd. Ac heb oedi dim, aethom i chwilio am
danynt, ac wedi eu cael, gofynasom iddynt a wnaent ganu
rhai o'r hen emynau, a'r hen donau Cymreig, a dywedasant
y byddai yn dda gan eu calon gael gwneud. Ac wedi cael
cydymgynghori â'u gilydd, dywedasant eu bod yn barod.
Gofynasom iddynt a fyddent mor garedig a chanu yr hen
emynau, "Ar fôr tymhestlog, teithio'r wyf," "O fryniau Caersalem ceir gweled," "Bydd myrdd o ryfeddodau," &c.;
a dywedasant y gwnaent. Yna cydymgynullasant i'r un fan
ag yr oedd y Gwyddelod yn canu caneuon Sankey, y dydd
o'r blaen. Canasant yr hen emynau, a'r hen donau, a
chawsant y fath hwyl, fel yr oedd y mor-deithwyr yn cyrchu
atynt o bob cwr yn y llong, ac ni chlywyd byth son am y
Gwyddelod, na Sankey, ar ol hyny. Ni buom erioed yn
falchach o'n iaith, ein cerddoriaeth, a'n Cenedl, na'r tro hwn !
Aethom i huno y noswaith hono, gan byncio mawl yn ein
calonau i Dduw, am fod modd i fwynhau y nefoedd ar y môr
fel ar y tir. Cyfodasom yn foreu dranoeth o herwydd ei bod
yn foreu Sabbath. Ac wedi cael ein boreufwyd, aethom i'n
Berth, a chadwasom ddyledswydd ein tri gyda'n gilydd.
Gofynodd yr awdurdodau i ni gymeryd rhan yn y moddion
cyhoeddus, ond dywedasom y byddai yn well genym gael
llonydd. Ond aethom i'r cyfarfodydd Seisonig, y boreu a'r
hwyr, a da oedd genym weled fod y Sabbath yn cael ei gadw
mor dda ar y môr. Boreu dranoeth, claddwyd un o'r mor-
deithwyr yn y môr, a gwelsom ei weddw druan yn wylo dagrau
yn hidl ar ei ol. Wedi i'r amgylchiad alaethus hwn gymeryd
lle, teimlem ryw bryder ac ofn yn ein llenwi ar hyd
gweddill y fordaith; ac yn wir, yr oedd golwg mwy difrifol i'w weled ar bawb. Treuliasom y dydd hwnw ar ei
hyd, mewn rhyw syn fyfyrdod, gan feddwl y gallasai yr un
dynged ddygwydd i ninau ein tri. Wrth fûd fyfyrio ar y
pethau hyn, ail deimlem ein calon yn llenwi o awydd
diolch i'r Arglwydd am ei ofal tirion am danom. Ac erbyn
hyn, yr oeddym yn dyheu yn fwy-fwy, am gyrhaedd pen y
daith; ac am weled cyrau y wlad yn dyfod i'r golwg. Yr oedd
ein holl enaid yn ein llygaid, yn tremio am y wlad dramor.
Ond o'r diwedd, dyma floedd yn dywedyd fod y Pilot Boat yn y
golwg. Ac er ein mawr lawenydd, gwelem ef yn hwylio tuag
atom, a'r haul yn tywynu ar ei faner. Ar ol i'r Pilot ddyfod
ar fwrdd y Teutonic teimlem ein hunain yn sirioli trwyddom,
gan feddwl fod pob peth yn dda, ac nad oeddym yn nepell
oddiwrth yr hafan a ddymunem. Tybiem fod y Teutonic fel yn
llamu o lawenydd, pan y daeth y Pilot ar ei bwrdd, canys
dechreuodd adruo ei ffumerau, ac ail chwyfio ei llumanau, fel
brenines, a meistres y môr! Wedi morio fel hyn am rai oriau,
gyda rhwysg, a mawredd, ar foment, clywem ryw Gymro yn
gwaeddi, tir! ac erbyn edrych, yr oedd creigiau y Long Island
yn y golwg. O! y fath orfoledd a lanwodd ein calon! Yn fuan
wedi hyn, daeth y Sandy Hook i'n golwg, ac ar ol hyny,
dechreuodd y New York Bay ymagor o'n blaen, ac yr oedd yr
olwg arno yn ofnadwy ogoneddus! Gyda hyn, yr oedd yr holl
for-deithwyr ar y bwrdd, a phawb yn tremio i bob cyfeiriad.
Arafodd y Teutonic, a nofiodd yn esmwyth, hyd nes daethom i
olwg dinas Efrog Newydd, a Brooklyn. Ac fel pawb arall, yr
oeddym ninau ein tri, yn dechreu parotoi ein pethau gan
lygaidrythu am y làn. Yr oedd yn awr tua haner awr wedi dau,
prydnawn Mercher, y 26ain o Gorphenaf, 1893. Wedi cael pob
peth yn drefnus, ac wedi gollwng ei magnel allan, nes crynu
tir America, dyna y Teutonic yn llithro yn esmwyth i'r Doc, lle yr oedd miloedd o bob cenedl yn gwibio, ac yn tremio arni.
Ac wedi ei sicrhau yn ei lle arferol, dyma ninau, a chanoedd
eraill, yn cerdded yn araf oddiar ei bwrdd, hyd nes cawsom
ein traed ar geryg palmant America! Yr oeddym yn teimlo
awydd diolch, a neidio, wedi cael ein traed ar y graig! Gyda
ein bod wedi dyfod i lawr o’r llong, pwy oedd yno yn cyfarch
gwell i ni, ond y brawd ffyddlawn y Parch. R. Lloyd Roberts,
Bangor, Pa. Galwodd am gerbyd, ac aeth a ni i'n llety lle yr
oeddym i aros, sef i'r Universal Hotel, 75, Clarkson Street, New York. Yno yr oedd Mr. a Mrs. Morgans, yn ein dysgwyl. Ac yno y cawsom gartref oddi cartref.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Allan o'r Geninen trwy ganiatad y diweddar Brif Athraw Dewi Môn.
- ↑ Deiniolen
- ↑ Trelawnyd
- ↑ Y Fflint
- ↑ Abergwyngregyn
- ↑ Sir y Fflint
- ↑ Cobh Hrbwr Corc, Iwerddon
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.