Neidio i'r cynnwys

Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon (testun cyfansawdd)

gan William Williams (Cromwell)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Crynodeb o Hanes Dechreuad a Chynydd yr Eglwysi Annibynol yn Mon



Cynwysiad

CRYNODEB

o

Hanes Dechreuad a Chynydd

YR

EGLWYSI ANNIBYNOL

Yn Mon.



GAN Y PARCH. W. WILLIAMS.[1]




"COFIAF FLYNYDDOEDD DEHEULAW Y GORUCHAF."


BETHESDA:

ARGRAFFWYD GAN R. JONES.

1862.



RHAGDRAETH.

YR ydym yn ymgymeryd a'r llafur o gasglu, a chyhoeddi, yr hanes dilynol gyda theimlad o ddiolchgarwch diffuant i Dduw pob gras, am lwyddo ei waith yn ein mysg. Mae pob cangen o hanesyddiaeth yn werthfawr, fel cyfrwng i alw ein sylw at bethau henafol a diweddar— cysegredig a chyffredin-llwyddiant celfyddyd, gwybodaeth, a chrefydd. Ond hanes gweithrediadau yr Eglwys Gristionogol ydyw y rhyfeddaf a mwyaf gwerthfawr, i'r sawl y mae cariad Duw wedi cael ei dywallt ar led yn eu calonau.

Cynwysa y llyfr hwn grynodeb o hanes dechreuad, a chynydd yr eglwysi Annibynol yn Ynys Môn. Mae yr enw Annibynwyr, wrth ba un yr adwaenir aelodau yr enwad hwn, yn fath o ddangoseg o natur eu ffurf-lywodraeth eglwysig. Credant fod gan bob eglwys hawl i drefnu ei materion ei hun, megis dewis swyddogion, derbyn aelodau i'r eglwys, dysgyblu yr afreolus, &c., heb fod yn ddarostyngedig i unrhyw awdurdod oddi allan iddi; gan gymeryd gair Duw yn rheol ffydd ac ymarweddiad, a chydnabod awdurdod Crist yn unig fel pen yr Eglwys. Er fod yr eglwysi hyn yn annibynol y naill ar y llall, o ran eu trefniadau mewnol a neillduedig, eto, y maent yn gallu cydweithredu yn nerthol o blaid y sefydliadau cyhoeddus a berthynant iddynt fel enwad crefyddol. Er nad ydynt yn cael eu rhwymo i unffurfiaeth mewn barn, dysgyblaeth, a chyfraniadau at achosion crefyddol, y mae eu llafur cymdeithasol a chyhoeddus wedi enill iddynt yn barod fuddugoliaethau lluosog; nid trwy arfau cnawdol a gallu dynol, ond trwy rym y gwirionedd a ffydd yn Nuw. A'r enwad Annibynol yn Ynys Môn, y mae a fynom yn benaf yn y casgliad hwn. Er hyny, y mae yn llawenydd genym gael cydnabod yn serchog a didwyll, yr ymdrechiadau llwyddianus sydd wedi, ac yn cael eu gwneud gan enwadau crefyddol eraill yn yr Ynys, ynghyd a'r undeb a' brawdgarwch a feithrinir yn mysg y gwahanol bleidiau Ymneillduol y blyneddau hyn.

Er mai "Hanes yr Eglwysi Annibynol yn Môn" ydyw testyn y llyfr hwn, efallai na bydd yn anmherthynasol i'n hamcan i gymeryd bras olwg (mewn ffordd o ragdraeth) ar helyntion Ymneillduaeth o doriad gwawr Anghydffurfiaeth yn Nghymru, hyd sefydliad yr eglwys Annibynol gyntaf yn Ynys Môn, Ar ol merthyrdod yr anfarwol John Penry, ymddengys fod yr enwogion Wroth o Lanfaches, Ebury o Gaerdydd, a Walter Cradoc, wedi bod yn offerynau llwyddianus i hyrwyddo Ymneillduaeth. Ymddifadwyd y gwyr da hyn o'u bywioliaethau yn yr Eglwys Wladol, am iddynt wrthod cydsynio â chais y brenin i ddwyn i ymarferiad y llyfr a elwir yn Llyfr y Chwareuaethau. Cyhoeddwyd y llyfr llygredig hwn trwy orchymyn y brenin Iago I yn y flwyddyn 1617, a gorfodid yr Offeiriaid i ofalu am fod ei gynwysiad yn cael ei ddwyn i ymarferiad o dan eu harolygiaeth. Dywedir i'r llyfr hwn gael ei gyfansoddi gan un o'r Esgobion. Gorchymynid ynddo yn mhlith pethau eraill, "nad oedd gwasanaeth i fod yn yr Eglwys ond y boreu, oddieithr fod angladd; a bod y prydnawn i gael ei dreulio mewn chwareuon a digrifwch." Cyfarwyddai hefyd pa chwareuon oedd i'w harfer, sef, neidio, coetio, codymu, troedio pêl, &c., a chaniateid y pleserau hyn ar yr amod "nad oedd neb i gael uno yn y chwareuon y prydnawn, ond a fyddai yn bresenol yn yr addoliad y boreu;" a'r Offeiriaid, y rhai a ddarllenant y gwasanaeth crefyddol yn y boreu, oeddynt i flaenori yn y campau annuwiol hyn y prydnawn! Hawdd y gellir meddwl fod cyflawni y fath weithredoedd pechadurus ar ddydd Duw, yn achosi llawer o ofid i deimladau tyner a duwiolfrydig y gwyr da a enwyd. Gwrthodasant ufuddhau i orchymyn y brenin, ac o herwydd hyny bwriwyd hwynt allan o'r Eglwys Wladol. Yn y flwyddyn 1639, y sefydlwyd yr Eglwys Ymneillduol gyntaf yn Nghymru, a hono yn Eglwys Gynulleidfaol, trwy offerynoliaeth Wroth a Cradoc yn Llanfaches, Swydd Fynwy. Dyma flaenffrwyth y cynauaf toreithiog a welir yn awr yn y Dywysogaeth.

Yr oedd teyrnasiad Siarl I yn gyfnod tywyll a niwliog ar grefydd. Yr oedd afradlonedd a gwastraff y brenin yn creu gelyniaeth tuag ato yn mhlith aelodau y Senedd, a llygredigaeth ac anuwioldeb ei lŷs yn achosi i'r dosbarth efengylaidd o'i ddeiliaid i'w lwyr ffieiddio. Er ei holl ymgais i geisio ymgymmodi a'r Senedd trwy gynlluniau gwenieithus a chyfrwys, ac er holl ymdrechiadau y dyn taëogaidd ac anhyblyg hwnw Archesgob Laud, i adferyd undeb a heddwch yn yr eglwys, yr oedd y teimlad Puritanaidd yn cryfhau, a'r dymuniad am gael diwygiad trwyadl yn y wladwriaeth yn enill tir. Yr oedd miloedd yn hiraethu yn bryderus am y dydd pan y byddai i lyffetheiriau gormes gael eu dryllio, a'r deiliaid yn ddi wahaniaeth yn cael mwynhau rhyddid i addoli Duw yn ol llais eu cydwybodau. Fel ag y gwelir ambell i foreu tyner a hafaidd yn dilyn noswaith ddu a thymestlog, felly y bu yma. Cyflawnodd y brenin fesur ei anwiredd, diorseddwyd ef trwy orchymyn seneddol, a rhoddwyd ef i farwolaeth. Mewn canlyniad i hyn, newidiwyd ffurf y llywodraeth-cyhoeddwyd rhyddid cydwybod, a dyrchafwyd Cromwell yn llywodraethwr. Yn ystod y Weriniaeth, ffurfiwyd lluaws o fesurau diwygiadol i'r dyben o gyfarfod âg angen yr oes, Gwnaed cyfnewidiadau pwysig yn neddflyfr y deyrnas, dilewyd y cyfreithiau gorthrymus, a mabwysiadwyd rhai eraill mwy rhyddfrydig a chyfiawn. Dewiswyd dirprwywyr i ofalu am burdeb y weinidogaeth yn yr Eglwys Wladol, a bwriwyd allan o honi y gweinidogion di fedr ac anfucheddol a wasanaethent wrth ei hallorau. O dan nawdd yr arglwydd Amddiffynydd, daeth Independiaeth yn ffaith bwysig, a dyrchafwyd yr enwad i anrhydedd a chyhoeddusrwydd arbenig. Er yr holl anfri a deflir ar weithrediadau y Weriniaeth gan haneswyr pleidiol a rhagfarnllyd, y mae yn ddiamheuol fod y cyfnod hwnw wedi bod yn anrhaethol werthfawr i achos crefydd a rhyddid yn gyffredinol. Ni pharhaodd pethau yn y sefyllfa ddymunol hon yn hir, oblegid gorchfygwyd Cromwell gan angau, ar ol teyrnasu am bedair blynedd ac wyth mis. O herwydd nad oedd ei fab yn feddianol ar y gwroldeb a'r medrusrwydd angenrheidiol i lywyddu y deyrnas, rhoddodd yr awdurdod i fynu, ac esgynodd Siarl II i'r orsedd yn y flwyddyn 1660.

Esgynodd y brenin hwn i'r orsedd trwy ddylanwad yr Esgobaethwyr, ac addawai yntau yn deg ar y pryd i estyn rhyddid crefyddol i'w holl ddeiliaid, Mor gynted ag g deallodd Siarl fod ei orsedd yn ddyogel, dechreuodd weithredu yn orthrymus ac erlidgar tuag at y dosbarth rhyddfrydig o'i ddeiliaid. Lluniwyd deddfau caethion mewn cysylltiad â chrefydd, ac amcanwyd drachefn i rwymo cydwybodau dynion yn ol mympwy y brenin a'i senedd lygredig, Y gyntaf o'r gyfres o ddeddfau gorthrymus a luniwyd yn y teyrnasiad hwn oedd "Deddf Unffurfiaeth" (Act of Uniformity). Ymddengys fod yr uchel-eglwyswyr ar y pryd, yn anfoddlon i ffurf y gwasanaeth crefyddol a weinyddid gan y gweinidogion efengylaidd a ddewiswyd gan y dirprwywyr yn amser Cromwell, a phenderfynasant adferyd y "Llyfr Gweddi Cyffredin" i fod yn safon unffurfiaeth yn ngwasanaeth yr Eglwys. Llwyddwyd i basio ysgrif yn nau dŷ y senedd i orfodi pob gweinidog i'w arferyd. Ar y 15fed o Fai, 1662, rhoddodd y brenin ei sêl wrthi, ond nid oedd y gyfraith i ddyfod mewn grym hyd Awst 24, yn yr un flwyddyn. Disgynodd y diwrnod penodedig i roddi y ddeddf mewn grym ar y Sabbath ("canys mawr oedd y dydd Sabbath hwnw") sef, "Dydd Gwyl Bartholomew," Gresyn i'r fath anfadwaith gael ei gyflawni mewn cysylltiad âg enw un o ddysgyblion hunanymwadol y bendigedig Iesu! Yr oedd y sawl a ufuddhaent i gymeryd y llwon gofynedig gan y ddeddf hon, yn ardystio eu cydsyniad â threfn gwasanaeth y Llyfr Gweddi Cyffredin, yn nghydag â holl gredoäu ac erthyglau yr Eglwys. Ond, wele ddwy fil o'r gweinidogion mwyaf dysgedig, doniol, a defnyddiol yn yr Eglwys yn gwrthod ardystio eu cydsyniad â thelerau y ddeddf orthrymus hon "aethant allan yn llawen o olwg y cynghor" am gael eu "cyfrif yn deilwng i ddyoddef er mwyn enw yr Arglwydd Iesu" Gadawsant eu bywiolaethau a chyflwynasant eu hunain, a'u teuluoedd i ofal Rhagluniaeth y nefoedd. "Cawsant brofedigaeth drwy watwar a fflangellau, trwy rwymau hefyd a charchar, ac aethant oddi amgylch yn ddiddym, yn gystuddiol, ac yn ddrwg eu cyflwr; y rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Gofynwyd i un o'r Anghydffurfwyr gan gyfaill iddo, paham na fuasai yn cydymffurfio â'r gyfraith: atebodd yntau, "Mae genyf ddeg o resymau dros wneyd hyny," ac edrychai yn llygaid ei ddeg plentyn, y rhai yr oedd eu cynaliaeth yn ymddibynu yn hollol ar ei fywiolaeth Eglwysig; "ond," meddai, "y mae genyf un rheswm sydd yn gorbwyso y cwbl yn fy meddwl, sef cydwybod dda; ac o barch iddi, rhaid yw ufuddhau i Dduw yn fwy nag i ddynion." Am lalur a ffyddlondeb yr Anghydffarfwyr yn y cyfnod hwnw, y mae un awdwr galluog yn ysgrifenu fel y canlyn: "Y rhai hyn a aethant allan yn ysbryd a nerth Elias, i droi calonau at Dduw, Ymdrechasant yn galed, a llafuriasant yn egniol dros Ymneillduaeth, pan nad oedd ond baban wedi ei daflu ar wyneb y maes, i dosturi y rhai a deimlent ar eu calon ei ymgeleddu, Cewri oedd ar y ddaear yn y dyddiau hyny-dynion "nad oedd y byd yn deilwng o honynt." Siglasant y wlad fel coedwig yn cael ei hysgwyd gan wynt. Torasant ar draws ffurfioldeb a chysgadrwydd yr oes, Dihunasant yr ardaloedd â'u gweinidogaeth. Tafasant belenau tân i "neuadd y cryf arfog, er aflonyddu ei heddwch. Cerddasant "lwybrau disathr," lle na welid ond olion "anghyfanedd-dra llawer oes," a gadawsant ddylanwad ar Walia na ddilea tragwyddoldeb mo hono. Dynion oeddynt nad oedd ganddynt amcan i'w gyrhaedd na phwnc i'w godi, ond gogoniant Duw a lleshad eneidiau. Ymadawsant a'u mwyniant personol, gan aberthu y cwbl ar allor fawr daioni cyffredinol. Llyncwyd eu hysbryd i fyny gan ysbryd eu Blaenor, canys Crist nis boddhaodd ef ei hun. Dygasant arwyddair Cristionogaeth yn arwyddair eu bywyd-heb geisio fy lleshad fy hun, ond lleshad llaweroedd. Wynebasant beryglon yn llawen, gorfoleddasant mewn tlodi, a chanasant mewn carcharau. Mae y manau yr erys eu llwch yn gysegredig, eu henwau yn barchus gan y byd, a choffeir am danynt gydag ymgrymiad moesgarol gan genedlaethau sydd eto heb eu geni. [2]

Yn y flwyddyn 1664, tua dwy flynedd ar ol i Ddeddf Unffurfiaeth ddyfod mewn grym, lluniwyd deddf gaeth arall, sef Deddf y Tai Cyrddau (Conventicle Act). Ymddengys oddi wrth y nodiadau blaenorol, mai y gweinidogion Ymneillduol oeddynt yn teimlo fwyaf o herwydd gweithrediadau Deddf Unffurfiaeth. oblegyd dyoddefasant golledion ac anmharch personol mewn canlyniad iddi. Ond yn sefydliad yr olaf, yr oedd y lluaws Ymneillduwyr yn dyoddef yn ddiwahaniaeth y gorthrwm a osodid arnynt. Yr oedd y ddeddf hon yn cyfyngu yn ddirfawr ar ryddweithrediadau y pleidiau Ymneillduol, ac yn eu gosod yn agored i erledigaethau creulawn. Gomeddai y gyfraith hon "i ragor na phump o bersonau uwchlaw un ar bymtheg oed (heblaw aelodau y tŷ lle y cyfarfyddant) i gyfarfod i addoli Duw yn deuluol, neu yn gymdeithasol." Os ceid yr un a fyddai y gweinidogaethu ar y pryd yn euog o droseddu y gyfraith, dedfrydid ef am y trosedd cyntaf i dri mis ́o garchariad, neu i dalu dirwy o £5. Am yr ail drosedd, i chwe' mis o garchariad. neu ddirwy o £10. Am y trydydd trosedd, dedfrydid y cyfryw un i alltudiaeth am ei oes, neu i dalu dirwy o £100. Hefyd, yr oedd y personau a oddefent i "gyfarfodydd anghyfreithlon" fel eu gelwid, gael eu cynal yn eu tai, neu yn eu hysguboriau yn agored i ddirwyon trymion, ac os delid merched priod yn y cyfarfodydd hyn, dedfrydid hwy i dri mis o garchariad oddi eithr i'w gwyr dalu £2 o iawn drostynt. Yr oedd yr awdurdod i roddi y gyfraith hon mewn grym yn erbyn yr Ymneillduwyr, yn gorphwys gyda'r heddynad, yr hwn oedd yn meddu awdurdod i gosbi y cyhuddedig oddi ar dystiolaeth noeth y cyhuddwr yn unig Mynych yr ymddangosai gelynion Ymneillduaeth o flaen yr heddynadau, a thystiolaethau gau yn erbyn y diniwaid. "Barn hefyd a dröwyd yn ei hol, a chyfiawnder a safodd o hirbell, canys gwirionedd a gwympodd yn yr heol, ac uniondeb ni allai ddyfod i mewn."

Yn y flwyddyn 1665, rhoddwyd deddf arall mewn gweithrediad yn erbyn yr Ymneilldwyr, yr hon a elwir yn "Ddeddf y Pum Milltir" (Five Mile Act). Yr oedd y gyfraith hon, yn mhlith pethau eraill, yn rhwymo yr Ymneillduwyr trwy lŵ, na byddai iddynt gynyg am unrhyw gyfnewidiadau yn nhrefniadau yr Eglwys Wladol. Yr oedd pob gweinidog a wrthodai gymeryd y llwon gofynedig gan y gyfraith, i gael ei atal rhag byw yn, na dyfod o fewn pum milltir i unrhyw ddinas, neu fwrdeisdref; nac o fewn pum milltir i unrhyw blwyf, tref, neu le, yn mha un yr oedd wedi bod yn gwasanaethu yn flaenorol fel periglor, ficer, neu ddarlithydd; o dan berygl o gael ei ddirwyo i'r swm o £40. Cynlluniwyd y cyfreithiau ysgeler hyn, ynghyd a'r Test and Corporation Acts, pa rai oeddynt yn anghymwyso Ymneillduwyr cydwybodol i ddal swyddau gwladol o dan y goron, gan yr Esgobion a'u pleidwyr, gyda'r bwriad o geisio llethu Ymneillduaeth. Er hyn oll, myned rhagddo yr oedd y diwygiad er pob moddion a arferid i'w wrthsefyll. Yr oedd Ymneillduwyr yr oes hono yn debyg i'r Hebreaid gynt yn yr Aipht, "fel y gorthryment hwynt, felly yr amlhaent, ac y cynyddent." Parhaodd yn gyfyng iawn ar bobl yr Arglwydd yn ystod gweddill teyrnasiad Siarl, ar eiddo Iago II ar ei ol ef, hyd y Chwyldroad, pryd y rhoddodd y Goddefiad brenin rhyddfrydig William III ei sel wrth ddeddf y (Toleration Act), yn y flwyddyn 1689. Bu i'r cyhoeddiad o'r gyfraith hon, gynyrchu bywyd adnewyddol yn y miloedd Ymneillduwyr oeddynt yn barod bron a diffygio. Daeth y weinidogaeth deithiol i fri, ac ymroddodd lluaws o ddynion ieuanc cymeradwy i waith y weinidogaeth. Adeiladwyd amryw o addoldai newyddion ar hyd siroedd Cymru, a chofrestrwyd llaweroedd o dai i gynal cyfarfodydd crefyddol ynddynt. Gwelodd yr Arglwydd yn dda yn y cyfnod hwn, i fendithio ymdrechiadau ei weision ffyddlon mewn modd hynod Dynoethwyd ei fraich, a gwnaeth rymusderau. Agorwyd dorau y nefoedd, a thywalltwyd y gwlaw graslawn yn gawodydd ar y sychdir. "Yna yr anialwch a'r anghyfaneddle a orfoleddasant, a dechreuodd y diffaethwch flodeuo fel rhosyn."

O dan nawdd y gyfraith rag-grybwylledig, y daeth y cenhadau Ymneillduol cyntaf i ynys Mon i bregethu yr efengyl, Er mai y sir hon oedd yr olaf o siroedd Cymru i dderbyn egwyddorion Ymneillduaeth, eto, gellir dwe'yd am dani na bu yn ol i ardaloedd eraill yn y llwyddiant buan a chyffredinol a ddilynodd gweinidogaeth effeithiol ein hynafiaid. Gellir barnu na ddarfu i drigolion Môn ddyoddef nemawr o galedi o herwydd y cyfreithiau gorthrymus â enwyd, oblegid y mae yn amheus genym a oedd cymaint ag un Ymneillduwr proffesedig i'w gael yn yr holl Ynys, yr amserau helbulus hyny. Ymddengys mai Breiniolwyr (Royalists) brwdfrydig oedd y cyffredinolrwydd o dir-feddianwyr a gwyr Eglwysig Môn yn y blynyddau cythryblus a ragflaenodd y "Chwyldroad," pryd yr agorwyd drws y ffydd" i efengylu yn mhlith y Monwysiaid "anchwiliadwy olud Crist." Y cyffelyb ysbryd a ddangoswyd gan y dosbeirth hyn ar adegau diweddarach, yn enwedig, pan yn cynhyrfu yr erledigaethau crculawn a ddigwyddasant yn amser Lewis Rees, Jenkyn Morgan, William Pritchard—tadau Ymneillduaeth yn y wlad hon. Yr oedd Mon cyn dyfodiad y cenhadau Ymneillduol cyntaf iddi mewn sefyllfa isel a thruenus iawn o ran moesau a chrefydd. Y trigolion yn gyffredin mewn cyflwr o anwybodaeth dygn, eu meddyliau yn ymddifyru mewn gwag ofergoelion, eu cydwybodau yn wasaidd a dideimlad, a'u calonau yn orlawn o elyniaeth mileinig yn erbyn pob "pengrwn" a "Cradoc" a gyfarfyddant. Cymerai y lluaws eu harwain gan eu chwantau anianol, yn dilyn gwagedd, ac yn rhodio yn ol oferedd eu meddyliau. Gyda phriodoldeb neillduol y gallesid galw yr ynys hon yn yr adeg hono, fel ei gelwid gynt-"Yr ynys dywell." Ychydig o lyfrau oedd yn argraffedig yn yr iaith Gymraeg, yn y cyfnod hwnw, ac yr oedd y mwyafrif o lawer o'r trigolion heb fedru darllen. Yr oedd moddion addysg yn brin yn y wlad. Dywedir fod llaweroedd o benau teuluoedd cyfoethog, a rhai mewn swyddau pwysig, yn hynod o ddiofal am roddi addysg i'w plant. Yr oedd y merched yn gyffredin yn cael eu hamddifadu yn fawr o foddion addysg. Coffeir am rai boneddigesau o fri yn yr oes hono, yn analluog i ddarllen. Ymddengys fod yr hyn a ddywedai yr hybarch Ficar o Lanymddyfri am foneddigesau anllythrenog yn ei oes ef, yn wir ddesgrifiadol o'r un dosbarth yn Mon yr adeg dan sylw. Dywedai:

"Pob merch tincer gyda'r Saeson, fedr ddarllen llyfrau mawrion,
 Ni ŵyr merched llawer Scwier, gyda ninau ddarllen Pader."

Wrth ystyried fod y wlad gan mwyaf yn anllythrenog, ac yn dra anwybodus, y mae yn naturiol meddwl fod ymarferiadau y trigolion yn halogedig a phechadurus iawn. Treulid y Sabathau yn gyffredin mewn chwareuaethau ffol ac anfuddiol. Ymgasglai rhai i ryw lanerch deg, lle y byddai canu a dawnsio, ynghyd ag amryw arferion llygredig eraill yn cael eu cyflawni. Eraill a ymgyfarfyddant i chwareu y bêl a'u holl egni, hyd yn nod ar bared yr annedd gysegredig; ac eraill yn fawr eu lludded a ymlidient y bêl droed, gan anafu eu gilydd yn yr ymrysonfa, Treuliai eraill y Sabbath yn y tafarndai, i ymdrybaeddu mewn meddwdod hyd dranoeth, ac yn fynych ni orphenid y cyfarfodydd annuwiol hyn heb ymladdfeydd gwaedlyd. Mewn gair yr oedd y bobl yn eistedd mewn tywyllwch, yn mro a chysgod angau, a'r pethau a berthynant i'w tragwyddol heddwch yn guddiedig oddi wrth eu llygaid!

Yn y flwyddyn 1742, symudodd un William Pritchard o Glasfrynmawr, yn mhlwyf Llangybi, i Blas Penmynydd, Mon. Efe oedd seren foreu y diwygiad Ymneillduol yn y wlad hon. Yr oedd Mr. W. Pritchard mewn undeb a'r Eglwys Annibynol yn Mhwllheli, a pharhaodd mewn undeb a'r enwad hyd ei fedd. Yn fuan ar ol ei ddyfodiad i Benmynydd, llwyddodd i gael trwydded ar dŷ o'r enw Minffordd, i bregethu ynddo. Ar ei gais ef y daeth yr hybarch Lewis Rees, gweinidog yr eglwys gynulleidfaol yn Llanbrynmair y pryd hwnw, i bregethu i'r lle hwn; a dywedir mai dyma y cyfarfod crefyddol cyntaf a gynaliwyd gan yr Ymneillduwyr yn ynys Môn. Tebygai y cyfarfod bythgofiadwy hwnw mewn rhai pethau i gyfarfod mawr dydd y Pentecost. Rhai "a synasant ac a ammheuasant" "eraill a watwarasant," ond teimlodd amryw ddylanwad y "peth" hwnw a ragddywedwyd am dano trwy y prophwyd Joel, yn "dwysbigo eu calonau; ac ofn a ddaeth ar bob enaid." Dywedir yn hanes bywyd y Parch. Lewis Rees, fod ei weddi ar y pryd wedi cynyrchu argraffiadau dwysion ar rai o'r terfysgwyr, fel nad oedd nerth yn eu dwylaw i godi yn ei erbyn; ac i amryw o honynt gael agor eu calonau i ddal ar y pethau a lefarid. Derbyniasom yr hanesyn dyddorol a ganlyn, am effeithiau daionus y cyfarfod rhag-grybwylledig, oddi wrth y Parch. David Beynon, Nantgarw, Yn y flwyddyn 1814, pan oedd y diweddar Dr. Arthur Jones, Bangor, ar daith yn Mon, pregethodd am ganol dydd mewn tŷ a elwir Hafod, yn mhlwyf Llangwyllog. Aeth Mr. Beynon yno i'w gyfarfod. Yr oedd hen wr yr Hafod yn gristion cywir, ac ar y pryd yn bur oedranus, ac yn hollol ddall. Yn ei ymddiddan a Mr. Jones, adroddodd mewn dull effeithiol iawn hanes ei droedigaeth. Cymerodd hyny le, meddai, o dan bregeth Lewis Rees y waith gyntaf yr ymwelodd a Mon, yn ymyl y Minffordd yn mhlwyf Penmynydd. Yna aeth yn mlaen a'r hanes fel y canlyn. "Ni bu Saul o Tarsus erioed yn fwy penderfynol i garcharu disgyblion Iesu nag oeddwn i a'r fintai erledigaethus oedd wedi ymgasglu, gyda phastynau, i gyfarfod y pengrwn oedd i ddyfod i bregethu yn Mhenmynydd. Yr oeddym oll wedi cytuno, os efe a bregethai, y gwnaem ben am dano rhag blaen. Ac wedi iddo ddyfod yno, dechreuasom wasgu yn mlaen tuag ato, a phan aeth i ben hen gareg fawr yn ymyl yr hen dŷ hwnw (Minffordd), trodd ei wyneb tuag Arfon a rhoddodd y penill hwnw i'w ganu gan ryw nifer fechan oedd yn ei ganlyn:—

Disgwyliaf o'r mynyddoedd draw,
Lle daw i'm help 'wyllysgar," &c.

Ninau yn tybied mai disgwyl gwyr arfog o fynyddoedd Arfon yr oedd ef, a giliasom rhyw ychydig oddi wrtho. Ac wedi ymgynghori' penderfynodd rhai o honom gael clywed beth oedd gan y pengrwn i'w ddyweyd, ac felly ni aethom dros y clawdd yr ochr isaf i'r ffordd, a cherddasom yn araf a distaw yn nghysgod y clawdd, hyd nes y daethom ar gyfer y man lle y safai. Nid oedd ef yn gallu ein gweled ni, ac nid oeddym ninau am ei weled yntau, ond yr oedd ym yn clywed pob gair a ddywedai mor eglur a phe buasem yn ei ymyl. O dan y bregeth hono, ar y diwrnod rhyfeddaf yn fy oes, y daethum i adnabod fy hun fel pechadur colledig, yn mhob man, ac er pob dim, oddi allan i Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio. Diolch iddo byth, am fy nghipio fel pentewyn o'r tân."

Aeth rhai blyneddau heibio cyn adeiladu un capel a elwid yn briodol felly, yn yr holl wlad. Arferid pregethu yn achlysurol yn y Mirffordd gan bregethwyr dieithr a ymwelant a'r ynys. Rhydd y Parch Peter Williams, yr hanes a ganlyn am ei ymweliad a Môn yn y flwyddyn 1746. "Aethum yno (meddai) wedi cael hanes pregethwr o swydd Arfon, yr hwn a aethai i'r wlad hono; ymholais, a chefais ei fod yn dywedyd yn erchyll am wyr Mon, a'r cynlluniau ofnadwy oedd ganddynt yn erbyn pregethwyr teithiol, a'r rhai a fyddant yn eu canlyn. Pa fodd bynag anturiais bregethu ar hyd y bryniau, yma ac acw, lle bynag y gallwn gael pump neu chwech o wrandawyr yn gynnulledig, ond y bob! a ddaethant o bob man, gan lefain y naill wrth y llall, "un o'r penau-gryniaid a ddaeth i'n plith i bregethu." Dechreuais lefaru mor gynted ag y gallwn, ac ni arhosais i lawer o honynt ymgasglu. Deallais trwy hyfryd brofiad, os gallwn enill clustiau y bobl, y cawn hefyd eu calonau, ac na fyddai yn hoff ganddynt erlid mwyach. Fel hyn daeth rhai o honynt o radd i radd, yn lled fwynaidd; a daeth rhai o'r tlodion, ac o'r bobl o sefyllfa ganolig, i ofyn i mi ddyfod atynt i letya, a bod i mi groesaw o'r fath le ag oedd ganddynt hwy. Mewn canlyniad i ymweliadau gweinidogion a phregethwyr o siroedd eraill a'r ynys, lliniarwyd i raddau mawr y dymher erledigaethus yn mysg y "tlodion" a'r bobl "ganolig." Cofrestrwyd amryw dai anedd mewn gwahanol barthau o'r wlad, i gynal moddion crefyddol ynddynt, a bendithiwyd yr ynys cyn hir ag adfywiadau crefyddol lled nerthol. "Yr amser i drugarhau wrth Sion, ïe, yr amser nodedig a ddaeth: oblegid yr oedd ei weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi." Yr oedd y dychweledigion cyntefig yn hynod am eu diwydrwydd gyda phob moddion o ras, nid yn unig yn gartrefol, ond arferent deithio yn mhell i wrandaw gair y bywyd. Hefyd, ar ol gwrandaw gwirioneddau yr Efengyl, y rhai a gyfrifid ganddynt yn werthfawrocach nag aur coeth lawer; ymddiddanent am danynt "gan ddal yn well ar y pethau a glywsant, rhag un amser eu gollwng hwy i golli." Yr oedd undeb a brawdgarwch yn ffynu yn eu plith mewn modd anghyffredin. Cymerodd llawer o honynt eu colledu yn eu hamgychiadau bydol, yn hytrach nag ymostwng i draws-arglwyddiaeth gelynion crefydd. Ar un adeg, "galwyd rhyw nifer o'r rhai oeddynt yn caru crefydd, o flaen eu meistr tir, i Blas Lleugwy, lle yr oedd amryw o eglwyswyr wedi dyfod ynghyd. Gofynwyd iddynt, pa un a wnant, ai gadael crefydd, ai colli eu tyddynod? Atebodd y trueiniaid, mai colli eu trigfanau a ddewisent yn hytrach na gwadu eu Harglwydd. Yr oedd un o honynt yn bur dlawd. Methodd hwn ymatal, ond torodd allan i lefain yn mharlwr y gwr boneddig, ac i neidio yn ei glocsiau, gan waeddi; yn wir, y mae Duw yn anfeidrol dda i mi; gogoniant byth, diolch iddo! Enill tyddyn, a cholli teyrnas na wnaf byth! Parodd yr olygfa syndod aruthrol i'r boneddwyr, eto, eu troi allan o'u tyddynod a wnaed." [3]

Mewn lle a elwid Caeaumon, yn nhy un John Owen, y ffurfiwyd yr eglwys Annibynol gyntaf yn yr ynys, tua'r flwyddyn 1744. Hon oedd yr eglwys Ymneillduol gyntaf yn Mon. Adeiladwyd addoldy Rhosymeirch yn y flwyddyn 1748. Cydgynullai y gwahanol lwythau Ymneillduol i'r lle hwn, am amryw o flyneddau cyn iddynt adeiladu capeli iddynt eu hunain mewn manau eraill yn yr ynys. Cyfeiriwn y darllenydd am wybodaeth helaethach ar hyn, i hanes Ebenezer, Rhosymeirch. Ymddengys oddiwrth yr hanes dilynol, mai trwy lafur egniol, ac er gwaethaf rhwystrau ac anfanteision mawrion, y dygwyd ein gwlad i'r agwedd grefyddol a welir arni yn ein dyddiau ni. Na feddyliwn fod y gwaith wedi ei orphen. Na, y mae tir lawer eto heb ei feddianu. Mae yn wir y gall yr eglwysi Annibynol yn Mon, ddyweyd fel Sïon gynt, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion am hyny yr ydym yn llawen." Ond dylem "lawenhau mewn dychryn " o herwydd mae llygredigaethau yr oes eto yn gryfion, a'r gelyn ddyn yn brysur wrth y gwaith o hau efrau yn mhlith y gwenith. Cofiwn fod y rhyddid crefyddol a fwynheir genym yn werth gwaed llaweroedd o'n henafiaid, a pharchwn eu coffadwriaeth trwy wneyd iawn ddefnydd o'r breintiau sydd yn ein meddiant. Glynwn yn ddiysgog wrth yr egwyddorion hyny sydd wedi ein derchafu eisioes i anrhydedd arbenig fel enwad crefyddol, ac yn benaf oll "Ymnerthwn yn yr Arglwydd, ac yn nghadernid ei allu ef. Amddiffyniad y Goruchaf fyddo dros ei waith yn mysg pob enwad crefyddol yn yr ynys, fel y gweler ei effeithiau "er mawl gogoniant ei râs ef" y dydd ofnadwy hwnw a ddesgrifir gan ein Prif-fardd:

"Pan fo Môn a'i thirionwch,
O wres fflam yn eirias fflwch;
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam'dân."


HANES

DECHREUAD A CHYNYDD

YR EGLWYSI ANNIBYNOL

YN MON.


EBENEZER,

RHOSYMEIRCH.

EBENEZER! Y mae swyn yn yr enw. Gellir meddwl fod yr hen bererinion a fuont yn offerynol i godi yr addoldy hwn yn ngwyneb rhwystrau anghyffredin, yn dewis iddo fod yn goffadwriaethol o waredigaethau aml, a gofal neillduol yr Arglwydd am danynt, yn yr amserau helbulus hyny. I'r lle hwn y dygasant Arch yr Arglwydd, ac a adeiladasant Dŷ i'w enw, gan ddatgan yn weithredol "hyd yma y cynnorthwyodd yr Arglwydd nyni."

Ychydig a wyddom am ddechreuad yr achos Santaidd yn y lle hwn. Dywed y Parch David James, gweinidog presenol y lle, mai yr eglwys a gyfarfyddai yn nhy un John Owen, Caeaumon, oedd yn gofalu yn benaf dros adeiladu yr addoldy cyntaf. Cymerodd hyny le yn y flwyddyn 1748. Ar ol gorphen yr addoldy, symudodd yr eglwys fechan o Caeaumon, i'r lle hwn. Y rhai mwyaf cyhoeddus gyda'r achos y pryd hyny, oeddynt John Hughes, Rhydyspardyn; John Roberts, Dafarn-newydd; William Pritchard, Bodlewfawr (gynt o Plas Penmynydd); a John Owen, Caeaumon. Prynodd y Parch Jenkyn Morgan (gweinidog cyntaf yr eglwys hon) dyddyn bychan o'r enw Tynyreithnen, lle yr adeiladwyd yr addoldy. Gwnaeth yr erlidwyr eu goreu yn yr adeg hono, i geisio rhwystro y gwaith i fyned rhagddo, trwy dynu i lawr yn ystod y nos yr hyn a adeiledid gan y bobl y dydd, ond mewn canlyniad i ffyddlondeb a diwydrwydd yr ychydig gyfeillion yn y lle, llwyddasant o'r diwedd i orphen yr adeilad. Yma y cafodd y Methodistiaid Calfinaidd a'r Bedyddwyr, nodded ac ymgeledd dros lawer o flynyddau, cyn iddynt adeiladu capeli iddynt eu hunain, Yr oedd Addoldy Rhosymeirch yn agored i bregethwyr y gwahanol enwadau, pa rai yn fynych a ymwelant a Môn yr adeg hono; a derbynid y cyfryw gan yr eglwys a'r gynulleidfa gyda'r sirioldeb mwyaf. Yr oeddynt yn barod i groesawu pawb oedd 66 yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb." Dywedir i'r Parchn John Wesley a George Whitfield, ymweled a Rhosymeirch rai gweithiau ar eu ffordd i'r Iwerddon, a lletyant yr adegau hyny yn Rhydyspardyn. Nis gallwn ddyweyd faint oedd traul adeiladu yr Addoldy cyntaf na'r un presenol, ond gallwn gyhoeddi yr hyn sydd yn llawer mwy pwysig yn ein tyb ni, sef, nad oes dim dyled yn bresenol.

Y gweinidog sefydlog cyntaf fu yma oedd y Parch Jenkyn Morgan, Daeth i'r wlad hon trwy ddylanwad Mr. William Pritchard. Yr oedd Mr. Morgan ar un adeg yn cadw un o ysgolion rhad y Parch Griffith Jones, Llanddowror, mewn man gerllaw y Bala. Ar ymweliad y Parch Lewis Rees a Phwlleli un tro, bu i Mr. W. Pritchard (y pryd hwnw o Glasfrynmawr) a'i gyfeillion, gwyno wrtho ei bod yn isel ac yn ddigalon arnynt hwy, neb o'r newydd yn dyfod atynt, a'r gwrandawyr yn lleihau. Cynghorodd yntau hwy i anfon am Jenkyn Morgan, i gadw ysgol yn yr ardal, ac i gynghori ar hyd y cymmydogaethau. Ac felly y bu. Daeth Mr. Morgan i'r Glasfrynmawr, a bu yn ddiwyd iawn dros dymor fel ysgol feistr, a phregethai yn achlysurol. Ar ol ymadawiad Mr. W. Pritchard i'r wlad hon, deuai Mr. Morgan yn fynych i ymweled ag ef, ac mewn undeb a'r eglwys fechan yn Caeaumon, anturiodd ar y gwaith o adeiladu capel Rhosymeirch, lle y bu yn llafurio yn llwyddianus am ynghylch 20 mlynedd. Symudodd oddiyma i'r Deheudir, lle y gorphenodd ei yrfa. Ar ei ol ef, bu bugeiliaeth yr eglwys am ryw yspaid o dan ofal y personau canlynol Y Parch Zaccheus Davies, yr hwn a gyfrifid yn ysgolhaig gwych ac yn bregethwr da. Y Parch William Jones, yr hwn a symudodd oddi yma i Fachynlleth, a dywedir i angeu roddi terfyn ar ei oes ddefnyddiol, yn mhen tua dwy flynedd ar ol ei ymadawiad. Yn y flwyddyn 1784. daeth y Parch. Benjamin Jones, o Bencader, Sir Gaerfyrddin, i'r ardal hon. Bu yma yn gweinidogaethu am saith mlynedd. Cynyddodd yr eglwys yn fawr o dan ei weinidogaeth. Llafuriodd hefyd yn llwyddianus mewn ardaloedd eraill yn yr ynys. Efe a ddechreuodd yr achos yn Beaumaris, y Talwrn, a Phentraeth. Bu hefyd yn offeryn defnyddiol iawn yn nghychwyniad yr achos yn Ceirchiog, Caergybi, a'r Groeslon. Yr oedd yr Anibynwyr yn y cyfnod hwn yn llawer mwy lluosog na'r un enwad arall yn Mon. Yn y flwyddyn 1791, symudodd Mr. Jones i Bwllheli, lle y treuliodd weddill ei oes. Dywedai tua diwedd ei oes, ei fod yn amheus a ydoedd wedi gwneyd yn ei le i ymadael o Fon, lle yr oedd mor gymeradwy a llwyddianus. Y gweinidog nesaf oedd y Parch Abraham Tibbot, yr oedd yn nai i'r hybarch Richard Tibbot o Lanbrynmair. Yr oedd Mr. Tibbot yn bregethwr galluog a phoblogaidd. Ar ol gweinidogaethu yn y lle hwn am dymor lled fyr, rhoddodd angau derfyn disymwth ar ei fywyd. Pan yn myned at ei gyhoeddiad un boreu Sabbath i Landdeusant, syrthiodd oddiar ei farch mewn llewyg, a bu farw rhwng Bodffordd a Llanerchymedd. Yn y flwyddyn 1798, cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch Jonathan Powell, o Rhaiadr-wy. Bu yma yn llafurio am 23 o flynyddau. Yn mis Hydref 1821, gorfodwyd ef gan afiechyd i roddi ei weinidogaeth i fynu. Bu farw, Gorphenaf, 1823. Yr oedd Mr. Powell yn bregethwr effeithiol iawn, ac yn llawn o arabedd (wit) yn ei ymddiddanion. Un tro pan yn cychwyn i daith, ac yn myned heibio i dŷ a elwir y Cytiau, digwyddodd fod y wraig, Margaret Evans, wrth y drws ar y pryd; a dywedodd wrtho, "Wel, yr ydych yn myned heddyw eto Mr. Powell," "Ydwyf," ebe yntau, "yn myned ar ol gofid, A welsoch chwi ef yn myned heibio, Marged fach ?" "Naddo yn siwr Mr. Powell," ebe hithau, "fydd o byth yn myned heibio heb alw i mewn." Un boreu Sabbath, pan oedd Mr. Powell yn myned at ei gyhoeddiad i Rhos y meirch, digwyddodd fod y Parch. Christmas Evans yn bedyddio yn afon y Pandy, gerllaw Llangefni. Ymddengys fod Mr. Evans mewn hwyl anghyffredin ar y pryd. Cyfeiriodd Mr. Powell at yr amgylchiad yn ei bregeth y boreu hwnw, ebe efe, "Pan yn teithio tuag yma heddyw, clywais un yn gwaeddi, Yn mlaen yr elo yr ail-fedydd;' dywedaf finau, Yn mlaen yr elo yr ail-eni." Ar un adeg, mewn Cymdeithasfa a gynhelid gan y Methodistiaid Calfinaidd yn Llangefni, diolchai yr hybarch Robert Roberts, Clynnog, am "fod gwyneb Môn ac Arfon arnynt hwy yr hen Fethodistiaid." Yr oedd Mr. Powell yn pregethu y Sabbath canlynol yn Rhosymeirch, a dywedai, "Clywais ddiolch yn ddiweddar am wyneb gwlad, ond edrychwn ar Eglwys Dduw yn yr Aipht, ac yn Babilon; ai gwynebau yr Aiphtiaid a'r Babiloniaid oedd arni? nage: eu cefnau, ond yr oedd gwyneb Duw arni. Y mae yn beth anrhaethol mwy gwerthfawr i ni, garedigion, gael gwyneb Duw arnom na gwyneb gwlad." Ar ol Mr. Powell, daeth y Parch. David James yma. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yn Rhosymeirch, Capelmawr, a Sardis, Hydref 13eg, 1822; ac wedi cael help gan Dduw, y mae yn aros hyd y dydd hwn. Y mae Mr. James wedi gwasanaethu yr eglwysi uchod yn ffyddlon a gofalus, am y tymor hilfaith o 40 mlynedd.

Bu gwahanol dymorau ar yr eglwys hon; gwelwyd yr achos yn lled isel rai prydiau, yn enwedig, ar ymadawiad rhai o'r aelodau i sefydlu achosion newyddion mewn ardaloedd eraill. Gangenau o eglwys Ebenezer ydynt y Capelmawr, Sardis, Rhosfawr, Penmynydd, a manau eraill. Y mae yr eglwys hon wedi bod yn hynod o heddychol o'i sefydliad cyntaf hyd yn bresenol. Efallai y dylem grybwyll am ddwy ddadl a gyfododd yn yr eglwys yn amser y Parch. Benjamin Jones. Testyn y ddadl gyntaf ydoedd "Personau y Drindod." Ysgrifenodd Mr. Jones lyfr bychan ar y pwnc, yr hwn a fu yn foddion i ddwyn y ddadl i derfyniad buan. Yn mhen enyd, drachefn, cyfododd dadl arall ar fater mwy athronyddol, sef, "Fod dyn yn gyfansoddedig o dair rhan, corff, enaid, ac ysbryd." Terfynwyd y ddadl hon hefyd yn heddychol trwy ddoethineb a mwyneidd-dra eu gweinidog. Deallwn fod y dadleuon hyn yn cael eu dwyn yn mlaen mewn ysbryd efengylaidd, ac nad oedd dim ynddynt yn tueddu i archolli teimladau neb o'r frawdoliaeth, nac i aflonyddu heddwch yr eglwys. Codwyd amryw o bregethwyr yn yr eglwys hon; un oedd Mr. Hugh Thomas, gynt o Dreforllwyn, a thaid i'r presenol Mr. O. Thomas, Caergybi. Derbyniodd Mr. Thomas addysg ragorol yn moreu ei oes, ac anfonwyd ef gan ei rieni i Gaer, gyda'r bwriad o'i ddwyn i fynu yn feddyg. Ar ol dychwelyd i gymydogaeth Rhosymeirch, cyflawnai y swydd o oruchwyliwr dros ei feistr tir, a gweithredai fel meddyg yn achlysurol. Dywedir ei fod yn Gristion didwyll, ac yn nodedig o ffraeth fel pregethwr. Teithiodd lawer i bregethu yr efengyl, a derbynid ef yn groesawgar pa le bynag yr elai. Coffeir am dano yn cadw ŵylnos mewn tŷ yn nghymydogaeth Gwalchmai, lle yr oedd pedwar yn feirw ar y pryd. Yr oedd hyny yn adeg y "pigyn mawr" yn Mon. Bu Mr. Thomas yn pregethu am ysbaid 15eg mlynedd, a bu farw o'r ddarfodedigaeth yn y flwyddyn 1800, yn 42 mlwydd oed. Gadawodd weddw a 12eg o blant i alaru ar ei ol; o barch i'w goffawdwriaeth, claddwyd ef yn nghapel Rhosymeirch. Yma hefyd y codwyd y Parchn. Robert Hughes, yr hwn sydd yn gweinidogaethu yn Saron a'r Bontnewydd, Arfon; a Hugh Parry (Cefni Mon), yr hwn sydd yn bresenol yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Nhalybont, sir Aberteifi. Rhifedi presenol yr aelodau yw 70, yr Ysgol Sabbathol 80, y gynulleidfa 130.

Yn y gladdfa henafol a berthyn i'r addoldy hwn, y gorwedd gweddillion marwol lluaws o ffyddloniaid Sïon. Y mae llawer o lwch aur y rhai fu yn cychwyn yr achos Ymneillduol yn Mon yn gorwedd yn y llanerch gysegredig hon. Yma y claddwyd yr anghydmarol William Pritchard, Clwchdernog, ar ol treulio oes lafurus yn ngwinllan ei Arglwydd. Yma y gorphwys y Parch. Abraham Tibbot, a'r Parch. Jonathan Powell, y rhai a fuont yn ffyddlon yn eu tymor dros Dduw a'i waith. Yma y claddwyd yr hen bererinion Thomas Jones, Llanddaniel (Methodist), a Thomas Jones, Penmynydd. Yma y gorwedd y Parch. William Roberts, Groeslon, yr hwn a fu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn 38 mlwydd oed. Yma hefyd y gorphwys ein serchog frawd y Parch. Llewelyn Samuel, Bethesda, Arfon; a Mr. John Evans, mab y diweddar Barch. John Evans, Amlwch, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc doniol a gobeithiol iawn. Buasem yn hoffi gallu cofnodi enwau yr hen ddiaconiaid, a'r aelodau crefyddol sydd wedi eu claddu yn y lle hwn, ond nid ydynt wrth law genym; credwn eu bod oll yn ysgrifenedig yn Llyfr Bywyd yr Oen: "Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd, o hyn allan, medd yr Ysbryd, fel y gorphwysont oddi wrth eu llafur, a'u gweithredoedd sydd yn eu canlyn hwynt."

CAPEL MAWR.

CYNELID cyfarfodydd crefyddol yn yr ardal hon am rai blynyddau cyn adeiladu yr un addoldy, sef yn Ceryg-gwyddel, yn mhlwyf Cerygceinwen, ac yn y Tŷ gwyn, yn mhlwyf Llangadwaladr. Cofrestrwyd y lleoedd hyn i gynal moddion crefyddol ynddynt. Ffurfiwyd eglwys yn un o'r manau a enwyd tua'r flwyddyn 1763, os nad yn gynt. Y personau canlynol oeddynt yr aelodau cyntaf a gyfamodasant a'n gilydd, ac â'r Arglwydd i gychwyn yr achos yn y lle:-William Parry, Tŷ gwyn (yr hwn a bregethai yn achlysurol); Hugh Williams, College, Llangadwaladr; Owen Jones a'i wraig, Ceryg-gwyddel; Dafydd Abraham, y Llôg; Owen Roberts, Tynypwll; William Jones, Tyrhyswyn; Thomas Parry, Tanylan (wedi hyny Cerygengan); John Jones, Tyddyn-domos; a Mrs. Thomas, Tanylan. Yn mhen rhyw ysbaid o amser, daeth amryw eraill yn mlaen i ym. uno â'r ddiadell fechan, ac yn eu plith Mrs. Hughes o'r Plascoch, yr hon a gyfrifid yn wraig rinweddol a defosiynol iawn. Yr oedd Mrs. Hughes yn ferch i Mr. W. Pritchard, Clwchdernog, a hi yn unig o'i holl ferched ef a ymunodd â'r Annibynwyr; yr oedd y lleill yn aelodau parchus gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Gwahoddwyd y Parch. Jonathan Powell i bregethu yn ŵylnos Mrs. Hughes; ei destyn oedd Diar. xxxi. 29, "Llawer merch a weithiodd yn rymus; ond ti a ragoraist arnynt oll." Awgrymai yr hen frawd ar ei bregeth fod ei chwiorydd wedi dewis yn dda, ond ei bod hi wedi rhagori arnynt oll. Buwyd yn pregethu ac yn cynal cyfarfodydd neillduol yn Ceryggwyddel a'r Tŷ gwyn am oddeutu 10 mlynedd cyn adeiladu y capel. Y rhai oedd yn gofalu yn benaf dros y gwaith o adeiladu yr addoldy cyntaf, oeddynt, John Owen, Caeaumôn; Owen Jones, Ceryggwyddel; William Parry, Tŷ gwyn; a Thomas Parry, Tanylan Gweithredai John Thomas, Ysw, o Tanylan, fel arolygwr ar y gwaith. Yr oedd Mr. Thomas yn ŵr cyfoethog; ac er nad oedd yn aelod o'r eglwys fechan, eto, yr oedd ei hynawsedd a'i garedigrwydd tuag at y frawdoliaeth yn fawr. Yr oedd ei wraig yn ddynes dduwiol iawn, a gellir meddwl ei bod yn dylanwadu ar ei gŵr cr daioni, Hefyd, yr oedd y rhagddywededig Thomas Parry yn ngwasanaeth Mr. Thomas, fel prynwr ŷd iddo, ac o herwydd ei fywyd dichlynaidd, a'i onestrwydd fel goruchwyliwr, yr oedd yn gymeradwy iawn yn ngolwg ei feistr. Gan na wnaed unrhyw gofnodiad ar y pryd o'r treuliau cysylltiedig ag adeiladu yr addoldy cyntaf, nis gallwn ddyweyd faint a gostiodd, na'r modd y talwyd am dano. Yn y flwyddyn 1812, gwnaed adgyweiriad trwyadl arno, a rhoddwyd corau (pews) ynddo am y waith gyntaf; yr oedd y draul yn £70, a thalwyd y cyfan allan o drysorfa yr eisteddleodd. Dangosodd Mr. Thomas Parry, Cerygengan, garedigrwydd mawr tuag at yr achos yn yr amgylchiad hwn, trwy roddi benthyg yr arian a nodwyd, a boddloni i'w cymeryd yn ol mewn symiau bychain oddi wrth yr eisteddleoedd. Adeiladwyd yr addoldy helaeth presenol yn y flwyddyn 1834, o dan olygiad Mr. John Thomas, Presiorwerth; Mr. Richard Hughes, Plasbach; Mr. Henry Parry, Fferambaili, ac eraill o gyfeillion caredig yr achos. Costiodd yr adeilad tua £200, a thalwyd y cyfan gan y gynulleidfa, oddi eithr £15. Y mae yr addoldy yn bresenol yn ddiddyled.

Gan fod yr eglwys hon o'i dechreuad hyd yn awr, wedi cydgyfranogi â'i mam-eglwys yn Rhosymeirch o lafur yr un gweinidogion, erfyniwn ar y darllenydd i droi at hanes yr eglwys hono, lle y gwel gofnodiad o honynt, Rhifedi y gynulleidfa yma ydyw 250, yr eglwys yn 105, yr Ysgol Sabbathol yn 130. Y mae claddfa fechan yn perthyn i'r addoldy hwn, lle y gorphwys lluaws o bererinion mewn tawelwch; yn eu plith y mae gweddillion marwol yr hynaws a'r serchog frawd y Parch. Richard Roberts, Maelog, yr hwn a alwyd i'r winllan yn foreu, ac a noswyliodd yn gynar; yr oedd iddo air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Symudwyd ef i'r bedd yn ieuanc, ond y mae ei goffawdwriaeth yn fendigedig. Y mae yr hyn a ganlyn ar gareg fedd a berthynai i Tanylan:

M. S.

Margaritea Thomas de Tanylan in Parochia Trefdraeth quae vita decessit 24, Aprilis, A.D. 1783. Aetatis suae 47.

Monumentum hoc erexit amoris ergo dilectus conjux Johannes Thomas generosus, qui postea in mari obiutus est cum 58 aliis e Carnarvonia redeuntibus, 5 Dec. 1785. Aetatis suae 52.

Yn y Gymraeg:

C.G.

Margaret Thomas, o Tanylan, yn mhlwyf Trefdraeth, yr hon a ymadawodd a'r bywyd hwn Ebrill 24, 1783, yn 47 mlwydd oed.

Y gofadail hon o serch, a godwyd gan ei phriod urddasol a haelfrydig, John Thomas, yr hwn wedi hyny a foddwyd, yn nghyd â 53 eraill, wrth ddychwelyd o Gaernarfon, Rhag. 5, 1785, yn 52 mlwydd oed.[4]


CAPEL NEWYDD,

LLANERCHYMEDD.

TYBIR fod yr Annibynwyr yn pregethu yn y lle hwn er's yn agos gan mlynedd. Ymddengys mai mewn tŷ anedd (yr hwn oedd yn wag ar y pryd), mewn lle a elwir yn bresenol y "Walk," y dechreuwyd pregethu. Wedi hyny cymerwyd tŷ arall heb fod yn mhell o'r un gymydogaeth, yr hwn a fuasai unwaith yn dŷ tafarn, a elwid y "White Horse;" rhoddwyd meinciau ac areithfa ynddo, a buwyd yn addoli yn y lle hwn nes yr adeiladwyd capel Peniel, yn y flwyddyn 1811.

Yn agos i 80 mlynedd yn ol, symudodd un o'r enw John James i'r ardal hon; daeth yma o gymydogaeth Pwllheli. Adroddir aml chwedl ddyddorol am dano mewn cysylltiad a'r ddiweddar Mrs. Edwards, o Nanhoran. Yr oedd yn feddianol ar synwyr cryf, a dawn parod i draethu ei feddwl. Bu ei symudiad yma yn dra bendithiol i'r achos gwan; dangosodd trwy ei ffyddlondeb a'i haelioni fod yr achos yn agos at ei feddwl. Hefyd, yr oedd yma un Richard Price a'i briod, y rhai oeddynt yn hynod o gymwynasgar i'r achos yr adeg hono; yr oeddynt mewn amgylchiadau cysurus, ac yn cadw tafarn, a dywedir iddynt roddi ymborth a lletty yn rhad i'r holl bregethwyr a ddeuent yma, dros lawer o flyneddau. Teimlai y pregethwyr eu hunain gartref pan gyda theulu caredig Richard Price, ac yn hollol ddyogel rhag rhuthriadau y terfysgwyr pan o dan arwydd y "Liver." Amlhaodd cyfeillion yr achos yn raddol; ni ddiffoddwyd y llin yn mygu, ac ni thorwyd y gorsen ysig. Ymunodd un Edward Roberts a'r achos, a pharhaodd yn aelod dichlynaidd am dros 60 mlynedd. Yr oedd hwn yn grefyddwr bywiog a chywir, a chredir fod marw yn elw iddo. Ar ei ol ef, daeth Mr. Hughes, Tymawr (taid yr un presenol) i "ymwasgu a'r disgyblion;" a bu yntau yn bleidiwr gwresog i'r achos, gan gyfranu yn haelionus tuag at ei angenrheidiau. Yr oedd yn anmhosibl y pryd hwnw i gael tir yn y Llan i adeiladu addoldy ymneillduol, ond bu Mr. Hughes mor garedig a rhoddi darn o dir i'r perwyl, am 99 o flyneddau, yn y man mwyaf cyfleus ar ei estate, am bum swllt o ardreth blynyddol. Parhaodd yn noddwr caredig i'r achos hyd ei fedd. Y mae amryw o'i hiliogaeth yn dilyn ei esiampl deilwng hyd y dydd hwn. Adeiladwyd capel Peniel a thŷ mewn cysylltiad ag ef yn y flwyddyn 1811. Saif ychydig yn y wlad ar ochr y ffordd sydd yn arwain o Lanerchymedd i Langefni. Dyma lle y buwyd yn addoli hyd nes yr adeiladwyd capel yn y Llan, Pregethir yma eto yn achlysurol, a chynelir ysgol Sabbothol yn rheolaidd.

Y Parch Abraham Tibbot oedd y gweinidog sefydlog cyntaf a fu yma. Dywedir iddo fod am beth amser yn cadw ysgol ddyddiol yn yr hen adeilad yr arferid pregethu ynddi yn y Llan, sef y "White Horse." Yr oedd Eglwys Rhosymeirch o dan ei ofal gweinidogaethol yr un pryd. Tueddir ni i feddwl mai am dymmor lled fyr y bu Mr. Tibbot yma. Y gweinidog sefydlog nesafoedd y Parch David Beynon yn bresenol o Nantgarw, sir Forganwg. Yr oedd Mr. Beynon wedi bod ar daith trwy Fon, gyda'r diweddar Barch. G. Hughes, Groeswen, yn y flwyddyn 1811, a gwahoddwyd ef gan eglwys Peniel yn mhen dwy flynedd ar ol hyny i Gymanfa Mon, yr hon a gynelid yr hâf hwnw yn Llanerchymedd, Cydsyniodd yntau a'r cais. "Am ddau o'r gloch y prydnawn Sabbath cyntaf ar ol cyraedd Llanerchy medd," medd Mr. Beynon, "pregethais yn Peniel; ac am chwech yn yr hwyr o flaen y diweddar Barch. John Elias, yn yr awyr agored, gerllaw tŷ y diweddar Mr. D. Roberts, Currier, yn y Llan. Yr ydwyf yn cofio un peth yn neillduol a ddygwyddodd ar y pryd. Wedi imi esgyn i'r man yr oeddym i sefyll arno i lefaru, darllenais bennod, a phan yn rhoddi yr emyn hwnw allan i'w ganu,—

"Ddiffygiai ddim er cy'd fy nhaith,
Tra paro gras y Nef." &c.,

Gwelwn ar fy nghyfer un o'r merched mwyaf ei maintioli a welswn erioed, yn ymwthio trwy y dorf; ac a'i breichiau mawrion cilgwthiai y bobl ar dde ac ar aswy, hyd oni ddaeth o fewn ychydig i'r man y safwn arno. Brawychwyd fi yn ddirfawr, gan ei dull penderfynol yn ymwthio mor ddi-ildio drwy y dyrfa, oblegid ofnais ei bod wedi dyfod i godi terfysg yn yr addoliad, neu efallai i fy nymchwelyd oddiar fy safle. Ond dygwyddodd yn groes i fy ofnau, oblegid bu yr hen fam deimladwy, yn gymhorth mawr trwy ei hysbryd bywiog i'r bachgenyn egwan a dieithr, i anerch y gynulleidfa. Deallais wedi hyny, mai un Catherine Jones ydoedd, neu yn ol yr enw yr adnabyddid hi yn fwyaf cyffredin, "Cadi Rondol;" yr oedd yn un o deulu y gorfoledd oedd mor gyffredin yn y wlad yr adeg hono." Arhosodd Mr. B. yn y gymmydogaeth am oddeutu mis ar ol y Gymanfa, pryd y dychwelodd i Ferthyr, ac ni bu yno yn hir cyn derbyn galwad unfrydol oddiwrth eglwys Peniel i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Nifer yr aelodau ar y pryd (1813) oedd 25. Cynaliwyd cyfarfod urddiad Mr. B. yn fuan ar ol y Sulgwyn 1814. Dewiswyd y Parch. Jonathan Powell, Rhosymeirch, i draddodi y siars i'r eglwys. Yn mhlith pethau eraill, cynghorodd Mr. Powell aelodau yr eglwys i ofalu am gynhaliaeth gysurus i'w gweinidog; a chan droi yn sydyn at y gweinidog ieuangc, dywedodd, "ïe frawd ieuanc, beth bynag fydd ar ol i chwi, chwi gewch ddigon o waith i'ch tafod, ond ni wn i beth am eich dannedd."

Yr oedd yr Ysgol Sabbathol yn Peniel yn bur lewyrchus yr adeg hon. Dangoswyd llawer o ffyddlondeb a sêl o'i phlaid gan amryw yn y gymmydogaeth; megis Mr. Hughes, Tymawr a'i deulu; W. Williams, Sarnfadog; W. Jones, Gwehydd, Coedana; E. Williams, Tyhen; Lewis Jones, Crydd; Owen Jones, a'i chwaer; teuluoedd ieuainc David a William Aubrey, Richard Owen, Cefn-roger a'i deulu William Jones, Bettws, &c., Yn y flwyddyn 1814, cynyddodd rhifedi y gwrandawyr i raddau mawr, a chyn hir aeth y capel yn llawer rhy fychan i'w cynwys. Yna codwyd oriel (gallery) ar yr ochr ddwyreiniol i'r capel, ac er y cynwysai hon rai ugeiniau yn ychwanegol, yr oedd y capel yn cael ei lenwi bob Sabbath. Yn mhen tua thair blynedd symudodd Mr. Beynon i Landdeusant. Ar ei ol ef, bu y Parch. Owen Jones yma am dymor byr. Wedi hyny, cydsyniodd y Parch. W. C. Williams, (Caledfryn) â dymuniad taer y cyfeillion i aros yn eu plith i'w gwasanaethu yn yr Arglwydd. Yma yr ordeiniwyd ef. Bu Mr. Williams yn ymdrechgar a llwyddianus iawn. Gwnaeth lawer o ddaioni yn ystod tymor ei weinidogaeth. Bu yn foddion i dderchafu chwaeth y trigolion, i ddiwyllio eu meddyliau, a phlanu ynddynt egwyddorion teilwng. Canfyddir ei ol ef yma hyd y dydd hwn. Wedi treulio rhai blyneddau mewn llafur egniol, symunodd Mr. Williams i Gaernarfon. Ei olynydd ef oedd y Parch. Evan Davies, (Eta Delta.) Yn ystod gweinidogaeth Mr. Davies, yr adeiladwyd capel y Llan, yr hwn a alwyd ar ei enw "Capel Evan." Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1838, y draul yn £400. Bu Mr. Davies yn hynod o ymdrechgar i gasglu ato, ond yr oedd yn aros hyd yn ddiweddar £100 o ddyled rhwng y Llan a Peniel; talwyd y cyfan trwy ffyddlondeb ac ymdrch yr Ysgol Sabbathol yn y Ar ol ymadawiad Mr. Davies, daeth y Parch. John Roberts, y gweinidog presenol yma, yr hwn sydd wedi bod yn llafurio yn llwyddianus yn y rhan hon o'r winllan am 18 mlynedd. Yn ddiweddar, o herwydd fod yr eglwys a'r gynulleidfa yn parhau i gynyddu, bu yn angenrheidiol ail-adeiladu capel y Llan, a'i helaethu ryw gymaint. Yr oedd y draul uwch law '£500. Y mae yn addoldy hardd, helaeth, a chyfleus, ac yn feddiant i'r enwad, yn nghyd a'r tir a berthyn iddo, tra bo Mon uwch law y weilgi. Trwy roddion cartrefol, a chyfraniadau y cyfeillion crefyddol yn y sir, nid ydyw y ddyled yn bresenol ond tua £300. Y mae golwg lewyrchus a chynyddol ar yr achos yn y lle hwn; rhifedi yr eglwys ydyw 200, y gynulleidfa 300, yr Ysgol Sabbathol yn y Llan 110, yn Peniel yr un adeg 60. Y pregethwyr a godwyd yma ar wahanol amserau ydynt, y Parch. R. Parry (Gwalchmai), Llandudno; y Parch. R. Roberts, yn bresenol yn y Deheudir; Mr. W. Hughes, Dwyrain. Mon; a Mr. W. Williams, yr hwn a fu farw ar ei ddychweliad o'r athrofa,

CARMEL,

AMLWCH.

DECHREUWYD yr achos sanctaidd yn mhlith yr Annibynwyr yn y lle hwn tua'r flwyddyn 1785. Dywed y gweinidog presenol, y Parch. W. Jones, fel y canlyn, Nid yw yn hawdd gwybod pwy a fu yn pregethu gyntaf yma, ond wrth ymofyn flynyddau yn ol â rhai o blant yr aelodau cyntaf, cefais fod y diweddar Barch. Benjamin Jones, yr hwn oedd y pryd hyny yn gweinidogaethu yn Rhosymeirch a'r Capel mawr, yn arfer dyfod yma y blynyddau cyntaf, yn nghydag un William Jones, yr hwn oedd yn cyd lafurio ag ef y pryd hwnw Arferai rhai o'r aelodau cyntaf yn Amlwch, fyned i Rhosymeirch am beth amser i gymundeb, fel y gwnai aelodau eglwysig o wahanol fanau yn y cyfnod hwnw, gan ystyried eglwys Ebenezer fel eu mam-eglwys. Nis gellir gwybod yn sicr yn mha flwyddyn y corfforwyd yr eglwys gynulleidfaol yma, na faint oedd nifer yr aelodau ar y pryd. Dengys cofrestr y bedyddiadau fod y gweinidog cyntaf wedi ei sefydlu yma yn Mawrth, 1789. Ei enw oedd Evan Jones, daeth yma o'r Deheudir. Dywedir iddo ddyfod ar hyd y môr, a thirio yn Amlwch gyda'r bwriad o fyned yn mlaen i ymsefydlu yn Beaumaris; ond enillwyd ef gan yr ychydig gyfeillion yn y lle hwn i aros yn eu plith. Parhaodd i lafurio yn eu mysg gyda graddau dymunol o lwyddiant hyd y flwyddyn 1792, pan y tueddwyd ef i fyned i'r America, lle y mae yn gorphwys oddi wrth ei lafur er's llawer o flynyddau. Os gellir barnu am Mr. Jones, oddi wrth y gofrestr fanol a rheolaidd o fedyddiadau a adawodd ar ol, ymddengys ei fod yn ofalus yn ei swydd fel gwas i Iesu Grist a'i eglwys. Yn nhymor ei weinidogaeth ef y prynwyd lease ty anedd yn Mhorth Amlwch, yr hwn a wnaed yn lle cyfleus i addoli ynddo. Yn flaenorol i hyn, yr oedd y gynulleidfa wedi bod yn addoli mewn lle gerllaw y man y saif addoldy y Methodistiaid Calfinaidd yn nhref Amlwch, ond yr ochr arall i'r ffordd. Oherwydd fod y gynulleidfa yn lluosogi, bu yn angenrheidiol helaethu y capel ddwy waith yn lled fuan.

Yn y flwyddyn 1794, mewn cydsyniad â dymuniad yr eglwys, daeth y Parch. John Evans, i weinidogaethu yma. Yr oedd gwrandawyr Mr. Evans yn dra lluosog am lawer o flynyddau, yn gymaint felly, fel y gorfyddid ef i fyned i'r areithfa, yn fynych ar nos Sabbath, drwy ffenestr o'r tu cefn i'r lle. Ac felly y parhaodd hyd nes yr adeiladwyd addoldy harddach, a mwy cyfleus na'r eiddo ef yn y gymydogaeth. Yr oedd Mr. Evans yr ŵr tal a hardd o gorpholaeth, ymddangosai yn foneddigaidd a glanwaith yn mysg ei frodyr mewn cyfarfodydd. Gallesid dyweyd am dano fel am ŵr y wraig rinweddol, "Hynod yw ei gŵr hi yn y pyrth, pan eisteddo gyda henuriaid y wlad." Yr oedd ei ddawn llefaru yn hyawdl, ei lais yn rymus, "llefai heb arbed" ar brydiau wrth gyhoeddi trefn gras trwy y groes i achub pechaduriaid. Gwrthwynebai yn gadarn, fel amryw o'i gydoeswyr yn yr ynys hon, yr hyn a farnai efe yn groes i athrawiaeth iachus, gan enwad newydd a gododd yn ei ddyddiau. Dywed y Parch, W. Jones, iddo glywed Mr. Evans yn pregethu mewn cyfarfod gweinidogion, oddi ar Rhuf. xi., 6; "Ac os o ras, nid o weithredoedd mwyach," &c. Ar ol iddo ddatgan syniadau yr un a wrthwynebai, gwaeddai, "Esay bach, dyro help i guro y dyn yma." Yna dyfynai ran o Esaiah liii, a dywedai drachefn, "Dyna fe ar lawr;" ac yno y gadawodd ef. Derbyniodd Mr. Evans nifer mawr o aelodau i'r eglwys yn ystod y 30 mlynedd y bu yn llafurio yma. Ond gorfodid lluaws o honynt i fyned i leoedd eraill i enill eu bywiolaethau, yr hyn y cwynai efe yn fawr o'i herwydd, a theimlir y cyffelyb rwystr i luosogiad yr eglwys hon hyd y dydd hwn. Bu Mr. Evans yn cadw ysgol ddyddiol am lawer o flyneddau, a pherchid ef yn fawr gan ei hen ysgolheigion. Ond daeth henaint a gwaeledd i'w orfodi i roddi yr ysgol a'r weinidogaeth i fynu, rhoddodd yr olaf i fynu yn y flwyddyn 1825, ar ol llafurio yn Amlwch am 31 o flynyddau, ac yn Machynlleth, cyn dyfod yma, am ryw gymaint o amser. Bu yn byw am rai blyneddau, ar ol ymadael o Amlwch, yn Nhremadog lle y symudodd er mwyn bod yn agos i'w unig ferch. Pregethai yn achlysurol hyd nes i angau roddi terfyn ar ei fywyd yn 95 mlwydd oed. Yr oedd gan Mr. Evans un mab, o'r un enw âg ef ei hun, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc gobeithiol iawn, a nodedig am ei dduwioldeb. Dechreuodd bregethu pan yn bur ieuanc, ac wedi bod ar daith gyda 'i dad, dychwelodd gartref mewn gwaeledd, a bu farw yn mhen ychydig wythnosau. Claddwyd ef yn mynwent Rhosymeirch. Codwyd dau o bregethwyr yma yn amser Mr. Evans, heblaw ei fab ei hun. Un oedd y Parch. David Hughes, diweddar weinidog Trelech. Dechreuodd ar y gwaith mawr yn ieuanc, a chynyddodd mewn gwybodaeth nes dyfod yn ysgolhaig gwych, ac yn bregethwr rhagorol, ond gorphenodd ei yrfa yn gynar, a theimlir colled am dano yn y cymydogaethau a'r eglwysi lle y bu yn llafurio. Y llall ydyw y Parch. Hugh Hughes, yr hwn sydd yn awr yn gweinidogaethu mewn undeb â'r Eglwys Sefydledig yn Lancashire.

Daeth y Parch. W. Jones, y gweinidog presenol, yma Gorphenaf, 1826. Dechreuodd ei weinidogaeth yn yr hen gapel, ond yr oedd tir wedi ei gael ar lease am 99 o flynyddau, a gosodwyd sylfaen y capel newydd yn Awst, yr un flwyddyn. Caniataodd Rhagluniaeth ddaionus bob rhwyddineb i ddwyn yr adeilad i ben, a symudodd y gynulleidfa i'r capel newydd y Sabbath cyn y Sulgwyn, 1827. Darllenwyd rhan briodol i'r achlysur o'r gair sanctaidd, a rhoddwyd mawl i Dduw am ei ddaioni, a gweddiwyd yn daer am i'r Arglwydd roddi ei bresenoldeb grasol yn yr addoldy newydd. Pregethodd y gweinidog oddi wrth 2 Chron. vi. 41, 42. Casglwyd cynulleidfa deilwng o'r tŷ prydferth a chyfleus, a chwaneg wyd rhai canoedd trwy lwyddiant graddol at yr eglwys. Profwyd dylanwad dau adfywiad gwerthfawr yma, un yn 1839-40, a'r llall yn 1859-60; yn mha rai yr ychwanegwyd llawer o bobl i'r Arglwydd. Y mae rhai o ffrwyth yr adfywiad cyntaf yn parhau hyd y dydd hwn, a hyderwn yn gryf y bydd yr ail-ymweliad yn ffrwythloni yn gyffelyb. Helaethwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1861. Bu y draul tua £1000. Ei faintioli presenol ydyw 54 o droedfeddi wrth 42, ac oriel (gallery) helaeth a phrydferth o'i amgylch. Mae y gweinidog presenol wedi bod yn llafurio yn ffyddlon a llwyddianus yma am y tymor hirfaith o 36 o flynyddau. Mae yn gysur iddo feddwl na bu ei lafur yn ofer yn yr Arglwydd. Codwyd amryw o bregethwyr yn yr eglwys hon yn ystod gweinidogaeth Mr. Jones, sef, y Parch. W. Parry, Colwyn; y Parch. E. Evans, Pen y groes; y Parch. J. Hughes, Gwernllwyn, Dowlais; a Mr. E. Jones, yr hwn sydd yn ddefnyddiol gartref, ac yn y cylchoedd cyfagos. Mae yr olwg eto ar yr eglwys yn dra gobeithiol gyda golwg ar dduwioldeb a doniau ei phobl ieuainc. Bu yma gynt luaws o hen frodyr a chwiorydd ffyddlon gyda'r achos, y rhai nid ydynt i'w gweled na 'u clywed ar y ddaear, ond credir eu bod yn canu yn beraidd mewn gwlad well. Megis, W. Parry, J. Owen, J. Pritchard, O. Jones, G. Owen, T. Pritchard, R. Owen, E. Jones (tad yr un presenol), G. Williams, a ddaeth yma o Nefyn, yn nghyda llaweroedd eraill a fuont yn ffyddlon hyd angau. Yr oedd yr addoldy blaenorol, yn nghyda thŷ ac ysgoldy bychan a berthynant iddo, wedi dyfod bron yn ddiddyled, er iddynt gostio tuag £800; a buasent yn hollol felly, oni buasai y draul yr aed iddi rai blynyddau yn ol i'w hadgyweirio.

Rhifedi yr eglwys ydyw 262, yr Ysgol Sabbathol tua 200, y gynulleidfa yn agos i 500.

SION,

BEAUMARIS.

CORFFOLWYD yr eglwys Gynulleidfaol yn y dref hon, yn nechreu y flwyddyn 1785. Gwnaed ymdrechiadau egniol i ddwyn pregethu i'r dref, ar wahanol amserau, yn flaenorol i'r cyfnod hwn, er mai nid llawer o lwyddiant a ddilynodd. Yr oedd yn berygl bywyd, fel y gellir barnu, i Ymneillduwr gynyg cyhoeddi "gair y bywyd" yn y De hwn gan mlynedd yn ol. Dyoddefodd y pregethwyr a ddeuent yma, rhwng y blyneddau 1750 a 1760, y triniaethau mwyaf ffiaidd a chreulawn, fel y mae yn syndod cu bod wedi gallu dianc heb eu lladd.

Mor ddiweddar a'r flwyddyn 1775, anturiodd un Owen Thomas Rolant i ddyfod yma i bregethu. Dywed ef ei hun am yr amgylchiad fel y canlyn:—"Aethum yno mewn llawer o ddigalondid, gyda 12eg neu ragor o'm cyfeillion; yr oedd yno yn ein disgwyl dyrfa fawr iawn o bobl, a minau yn disgwyl y byddai fy ymenydd ar y pared cyn pen y chwarter awr; cymaint oedd fy ofn wrth ddechreu fel na allwn ymaflyd yn y Bibl gan fel yr oedd fy nwylaw yn crynu; wrth i mi weddio, yr oedd yno y fath swn gan y murmur a'r terfysg oedd yn mhlith y bobl, fel nad oedd yn bosibl i neb glywed ond ychydig; ond wrth ddiweddu y weddi, mi ddywedais y pader; pan glywodd y bobl hyn, rhedodd rhai o ddrysau y tai, ac ochrau y cloddiau, a chan dynu eu hetiau, nesasant at y dorf; ar hyn, gwaeddodd Mr. John Parry, bragwr, ar y bobl ar fod i bawb wrandaw yn ddystaw, ac na wnai neb er ei berygl ddim aflonyddwch, ac na thaflai neb gymaint a phlisgyn ŵy, o herwydd, ebe efe, yr wyf fi wedi rhoddi cenad i'r gŵr sefyll ar fy nhir, ac mi edrychaf am chwareu teg iddo." Ac felly y bu, ni chafodd y pregethwr ei affonyddu y tro hwn. Ond tueddir ni i feddwl mai nid dylanwad Mr. Parry oedd yr unig achos pa ham na aflonyddwyd ar y pregethwr, ond yr oedd ei waith ef yn adrodd y pader ar ddiwedd ei weddi fel olew tywalltedig ar feddyliau cynhyrfus a choelgrefyddol y terfysgwyr. Yr oedd yma yn y cyfnod hwnw, fel ag mewn manau eraill, ddynion a gymerent arnynt wybod mwy na'r cyffredin, yn dysgu y werin i daenu cyhuddiadau anwireddus am yr Ymneillduwyr, ac hefyd yn creu rhagfarn yn meddyliau y boneddwyr yn eu herbyn. Dywedent fod yr Ymneillduwyr yn erbyn y llywodraeth a'r bendefigaeth, ac awgryment fod y cynlluniau mwyaf bradwrus, a'r pechodau mwyaf ysgeler yn cael eu cyflawni yn eu cyfarfodydd neillduol. Nid ydyw yr arferiad cableddus a rhagfarnllyd hwn, ysywaeth, wedi llwyr adael ein gwlad hyd heddyw. Nodwn un engraifft a gyhoeddir yn "Methodistiaeth Cymru," yr hon a ddengys mor niweidiol oedd dylanwad y cyfryw chwedlau disail ar feddyliau boneddwyr ein gwlad:-"Pan oedd Cymdeithasfa gyntaf y Methodistiaid Calfinaidd ar gael ei chynal yn Beaumaris, yr ydym yn cael fod yr hen Lord Bulkeley, Baron-hill, ger llaw y dref, mewn pryder mawr o'r achos; ac ar ddyfodiad goruchwyliwr iddo o'r enw Mr. Richard Jones, Trewyn, i'w wydd ryw ddiwrnod cyn y cyfarfod disgwyliedig, ymddangosai y pendefig yn dra chyffrous, a chyfarchodd Mr. Jones ef fel arferol—"Pa fodd yr ydych fy Arglwydd?" "Yr ydwyf yn dra digalon," ebe yntau, "o herwydd fod y penau-gryniaid yn myned i gadw cyfarfod yn Beaumaris, a'u harfer ydyw cynal y cyfryw gyfarfodydd i gynllunio rhyw ddrygau, megys codi terfysgoedd yn y wlad, ac ymosod ar y llywodraeth, ac nid oes un math o sicrwydd na fydd Baron-hill ar dân cyn yfory." "Na, fy Arglwydd," ebe Mr. Jones, "ni wna y bobl hyn ddrwg yn y byd, y bobl oreu yn y byd ydynt, y mae y cyfarfod yn llawer mwy diberygl na phe buasai ball yn cael ei chynal yn y dref." "Nid felly ychwaith," ebe yr hen bendefig, "pobl yr Eglwys ydyw y bobl oreu." "Ie," ebe Mr Jones, "ond y mae y bobl yma yn bur debyg i'r Eglwys, ac yn bur barchus o'i herthyglau a'i gweddiau, er y byddant weithiau yn dywedyd yn llym yn erbyn rhyw fath o weinidogion anheilwng sydd ynddi, y rhai sydd yn taenu chwedlau disail a chas am danynt. Goeliwch fi, fy Arglwydd, ni ddaw drwg yn y byd oddi wrth y cyfarfod." Cafodd yr hen Lord Bulkeley, weled mai gwir a ddywedai ei oruchwyliwr wrtho, ac mai disail a fuasai ei ofnau, ac anheilwng o gred oedd y chwedlau a fynegasid iddo; ar ol hyn fe fu y pendefig clodwiw hwn yn serchog tuag at grefyddwyr tra y bu fyw." Gan mai yr achos Annibynol oedd y cyntaf a sefydlwyd yma, profodd yn ei gychwyniad, ac am flyneddau wedi hyny, holl lymder y ffuri rag-grybwylledig o erledigaeth.

Dechreuwyd pregethu gyda'r Annibynwyr yn y dref hon gan y Parch. Benjamin Jones, yr hwn oedd yn gweinidogaethu y pryd hwnw yn Rhosymeirch. Daeth Mr. Jones yma trwy wahoddiad y rhagddywededig Mr. John Parry, bragwr, yr hwn a fu yn noddwr caredig i'r achos dros lawer o flyneddau. Arferai Mr. Jones bregethu yr amserau cyntaf y daeth yma ar yr heol, yn ymyl y White Lion, gyferbyn a'r hen garchardy. Dywedir iddo ddewis y lle hwn mewn cydsyniad â dymuniad amryw o'r carcharorion, y rhai a ganiateid i fyned i'r ffenestri i wrandaw arno. Yn mhen ysbaid ar ol hyn, ymgyfarfyddai yr ychydig dysgyblion yn rheolaidd mewn tŷ anedd bychan o'r enw Tanyrardd, yr hwn a safai y pryd hwnw yn nghwr uchaf Wrexham St.; ond a dynwyd i lawr yn fuan ar ol symudiad yr achos oddi yno. Yn y lle hwn y corfforwyd yr eglwys gan y Parch. Benjamin Jones, Chwefror 27, 1785. Yr aelodau a dderbyniwyd yn y cymundeb cyntaf oeddynt John Parry, bragwr, Richard Williams, Owen Jones, William Parry, William Owen, labourer; Hugh Jones, David Davies, a William Jones, gwehydd. Yn yr ail gymundeb, derbyniwyd John Roberts a'i wraig, Elizabeth Parry, a David Owen, Aeth y tŷ yn fuan yn rhy fychan i gynwys y gynulleidfa, a symudwyd i ystafell mwy eang a chyfleus, yn agos i'r man y saif yr addoldy presenol; math o "lofft allan" ydoedd, a grisiau i 'fyned iddi o'r heol. Gosodwyd meinciau ac areithfa ynddi, a buwyd yn addoli yn y lle hwn am tua thair blynedd. Deuai y Parch. Benjamin Jones a'i gynorthwywr Mr. William Jones, yma yn rheolaidd ar y Sabbath i bregethu, a chynyddodd yr eglwys a'r gynulleidfa i raddau dymunol iawn. Cyfarfu yr achos a llawer o wrthwynebiadau yr adeg hon. Anfonai y terfysgwyr rai gweithiau, ddynion meddwon i blith y gynulleidfa i geisio aflonyddu yr addoliad. Brydiau eraill, deuai perthynasau digrefydd y rhai a fynychent y lle i'w cyfarfod ar eu dyfodiad o'r addoliad, i'r dyben o'u difrio yn gyhoeddus. Coffeir hyd heddyw am ambell i wraig wir grefyddol a ammherchid yn fawr gan ei gwr anhywaeth, am ddilyn crefydd yr adeg hon. Er hyn oll, yr oedd arwyddion amlwg fod yr Arglwydd mewn modd neillduol yn bendithio llafur ei weision, ac anogai y gweinidogion a ymwelent â'r lle y cyfeillion i adeiladu addoldy teilwng o'r achos, ac o'r enwad yn y dref. Gan nad oedd tir i'w gael am unrhyw bris i adeiladu addoldy Ymneillduol arno, tueddwyd Mr. John Parry i brynu rhes o dai bychain, heb yngan gair ar y pryd wrth eu perchenog mewn perthynas i'r hyn a fwriadai wneyd a hwynt. Cyn hir, chwalwyd un o'r tai, a dechreuwyd adeiladu y capel yn ei le, yr hwn a orphenwyd yn y flwyddyn 1788. Mor gynted ac y daeth bwriad y cyfeillion i adeiladu yr addoldy yn hysbys, gwnaeth gelynion crefydd eu goreu i geisio atal y gwaith i fyned yn mlaen. Yr oedd boneddwr yn byw ar y pryd mewn tŷ yn ymyl, gardd pa un oedd yn terfynu ar y tir a brynwyd gan Mr. Parry, bygythiai hwn yn ddychrynllyd, a dywedai yr adeiladai efe dŷ i'w gŵn ar dalcen y capel os adeiledid ef. Hefyd, camddarluniwyd yr amcan yn mhresenoldeb y diweddar Lord Bulkeley, yr hwn a anfonodd am Mr. Parry i ymddangos o'i flaen. Dywedodd ei Arglwyddiaeth, "Yr ydwyf wedi clywed John Parry eich bod yn adeiladu tŷ drwg iawn, gyda'r bwriad o gynal cyfarfodydd dirgelaidd o natur amheus ynddo, ac y mae yn debyg o fod yn nuisance i fy nhenantiaid yn y gymydogaeth." Atebodd Mr. Parry, "Mai tŷ i addoli Duw ydoedd, ac nad oedd yn mwriad neb i'w ddefnyddio i un amcan arall." Pa fodd bynag, llwyddodd Mr. Parry i dawelu meddwl yr hen bendefig, yr hwn a ddymunodd iddo cyn ymadael bob llwyddiant gyda'r gwaith.

Rhoddwyd gwahoddiad gan yr eglwys a'r gynulleidfa i un Evan Jones, gŵr o'r Deheudir i ddyfod i weinidogaethu iddynt. Gellir barnu i Mr. Jones fod yma am beth amser yn pregethu, ond cydsyniodd drachefn â chais y cyfeillion crefyddol yn Amlwch, ac ymsefydlodd yn eu plith. Ei olynydd ef oedd y Parch. John Jones, mab y diweddar Barch. Jonathan Jones, Rhydybont, sir Gaerfyrddin. Wedi hyny bu y Parch. William Jones yma dros ychydig amser, a symudodd i Drawsfynydd, swydd Feirion, lle y treuliodd dymor lled faith yn ngwasanaeth ei Arglwydd. Ar ei ol ef, daeth y Parch. Thomas Jones, yr hwn a gadwai ysgol ddyddiol mewn cysylltiad â'r weinidogaeth; bu yma am tua 7 mlynedd. Yn y flwyddyn 1809, cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch. John Evans, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yma dros ysbaid 32 o flyneddau. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Evans yr adeiladwyd yr addoldy presenol. Yr oedd traul yr adeiladaeth yn £450, a thalwyd y cyfan yn mhen ychydig flyneddau trwy gyfraniadau cartrefol a chasgliadau o leoedd eraill. Bu Mr. Evans yn hynod ymroddgar gyda'r gorchwyl o ddileu y ddyled, a llafuriodd yn egniol yn ngwyneb llawer o rwystrau dros y tymor hirfaith a nodwyd. Ar ol rhoddi y weinidogaeth sefydlog i fynu, parhaodd i bregethu yn achlysurol hyd derfyn ei oes, yr hyn a gymerodd le Gorphenaf 28, 1862, yn 83 mlwydd oed. Bu yn y weinidogaeth dros y tymor maith o 60 mlynedd, Yma yr ordeiniwyd y Parch. John Griffith, yn awr o Buckley, i fod yn gydlafurwr â Mr. Evans, yr hwn a olygai y pryd hwnw dros yr achos yn Mhentraeth a Phenmynydd mewn cysylltiad â Beaumaris. Yn Awst 1844, dechreuodd y Parch. William Thomas, y gweinidog presenol ar ei weinidogaeth yn y dref hon. Cynyddodd yr eglwys a'r gynulleidfa yn fuan o dan ei weinidogaeth, a chyfranwyd bywyd adnewyddol i'r achos yn ei wahanol ranau. Profwyd rhai tymorau ireiddiol ac adfywiol yn yr eglwys. Derbyniodd Mr. Thomas nifer luosog i'r eglwys yn ystod y 18 mlynedd diweddaf; y mae llawer o honynt yn aros hyd y dydd hwn, eraill wedi cael eu symud gan angau, rhai wedi gwrthgilio, ac amryw wedi ymadael i ardaloedd eraill i ddilyn eu galwedigaethau. Derbyniodd yr eglwys raddau helaeth o ddylanwad daionus yr adfywiad diweddaf a ymwelodd a'r wlad, ac er fod rhai wedi troi yn anffyddlon, y mae eraill yn "dal eu ffordd, ac yn chwanegu cryfder." Nifer aelodau yr eglwys yn bresenol yw 150, ac y mae bywiogrwydd, heddwch, a gweithgarwch yn ffynu yn eu plith. Y mae yr Ysgol Sabbathol yn bur flodeuog, ac yn parhau i gyfranu yn haelionus at wahanol achosion; y mae ei deiliaid yn rhifo tua 150. Rhifedi y gynulleidfa ar nos Sabbath yw 250. Ychydig flyneddau yn ol gwnaed adgyweiriad trwyadl ar yr addoldy, ac o herwydd fod y gynulleidfa yn parhau i gynyddu, gwnaed amryw o eisteddleoedd newyddion ynddo; bu y draul yn agos i £80. Hefyd, treuliwyd £33 yn ddiweddar ar amryw welliantau oeddynt yn angenrheidiol, sef, paentio, lliwio, cael nwy (gas) i'r addoldy, &c.

Heblaw y ffyddloniaid a enwyd yn barod, fel yr aelodau cyntaf a berthynent i'r eglwys hon, bu yma amryw eraill ag y mae eu coffadwriaeth yn fendigedig hyd y dydd hwn. Megis, Hugh George (yr hwn a gyflawnai swydd diacon am dymmor hir) a'i briod, John George a'i briod, Richard Evans a'i briod, Margaret Parry, yr hon a letyar y pregethwyr am flyneddau; Mary Pritchard, Llandegfan, yr hon a fu farw y 107 mlwydd oed, ar ol proffesu crefydd am yu agos i 60 mlynedd; Mary Williams, Rhos-isaf, Llaniestyn; William Jones, (yr hwn oedd yn ddiacon gofalus) a'i briod; John Lewis, yr hwn oedd hefyd y ddiacon ffyddlon a chywir; Catherine Tyrer, a Catherine Williams, Wrexham St., y rhai fuont ffyddlon hyd angau; Owen Jones a'i briod; Elizabeth Jones, Pendre'; Mary Jones, priod Peter Jones, yr hwn oedd hefyd yn aelod. Anne Edwards, Brynteg, Llandegfan. Mrs. Catherine Evans, (priod y diweddar Barch. J. Evans) a'i mham, y rhai fuont yn bleidwyr selog i'r achos yn ei fabandod; yn nghyda llaweroedd eraill diweddarach o ran proffes. Credwn eu bod yn derbyn eu gwobr. Collodd yr eglwys wasanaeth dau o'i diaconia.d trwy angau, yn ystod tymor gweinidogaeth Mr. Thomas. Un oedd y brawd ffyddlon a chywir Mr. Richard Williams, yr hwn a fu farw yn orfoleddus, yn 29 mlwydd oed. Y llall oedd Mr. John Tyrer, yr hwn a ddangosai fod yr achos yn agos at ei feddwl, trwy ei ddiwydrwydd crefyddol, a'i ddiysgogrwydd o'i blaid, yn ngwyneb pob amgylchiad a'i cyfarfyddai. Y pregethwyr a godwyd yma ydynt, Mr. W. Williams, yr hwn sydd hefyd yn enill iddo ei hun "radd dda" fel diacon yn yr eglwys; Mr. T. Williams, a Mr. Zechariah Mathers,

BETHANIA,

LLANDDEUSANT,

YMDDENGYS mai Mr. William Pritchard, o Glwch-dernog, a gychwynodd yr achos crefyddol yn yr ardal hon. Dywed y Parch. R. E. Williams (diweddar weinidog Llanddeusant), yn yr "hanes" a gyhoeddodd o'r eglwys uchod, mai y lle a neillduwyd ganddo yma oedd y Clwch-hir, tŷ bychan ar dir Clwch-dernog. Efallai y byddai yn ddyddorol gan y darllenydd gael gwybod am y modd yr arweiniwyd y gwr da uchod i'r ardal hon.

Llwyddodd yr erlidwyr yn eu hamcan i'w symud o Blâs Penmynydd, ac aeth ef a'i deulu mewn canlyniad i fyw am beth amser i Fodlewfawr, yn mhlwyf Llanddaniel. Aflonyddwyd arno drachefn yn y lle hwnw, a phenderfynodd ymadael unwaith yn rhagor. Ymddangosai llwybr Rhagluniaeth yn lled dywyll o'i flaen ar y pryd, a thra yr oedd yn petruso mewn perthynas i'r dyfodol, hysbyswyd iddo fod gan William Bulkeley, Ysw., o'r Bryndu, le yn rhydd. Aeth at y boneddwr i ddweyd ei gwyn. Gofynodd yntau beth oedd yr achos ei fod yn cael ei droi o'i dyddyn, a oedd efe yn methu a thalu am dano. "Nac oeddwn," meddai W. Pritchard, "ond yr achos o hyny yw fy mod yn ymneillduwr oddi wrth Eglwys Loegr." "Os nad oes rhywbeth heblaw hyny yn dy erbyn," ebe Mr. Bulkeley, "ti a gai ddigon o dir genyf fi." Ac felly y bu, rhoddodd lense iddo ar Glwch-dernog, a daeth yno i fyw yn y flwyddyn 1750. Nis gellir gwybod pwy oedd y pregethwyr cyntaf a ymwelsant a'r Clwch-hir. Yr oedd enw Mr. William Pritchard erbyn hyn wedi myned yn dra adnabyddus drwy Ogledd Cymru o leiaf, a gellir meddwl nad oedd yr un pregethwr yn dyfod i Fôn y pryd hwnw, heb dalu ymweliad âg ef. Ymddengys mai ambell i bregeth yn achlysurol a geid yn y Clwch-hir, ac arferai Mr. W. Pritchard fyned i Rhosymeirch drwy bob tywydd i addoli. Yr oedd yn coleddu meddwl parchus am ei fam-eglwys yn Mhwllheli, ac elai yno o Glwch-dernog yn fisol i gymundeb, tra y gallai. Nid rhyw lawer o lwyddiant fu ar grefydd yn Llanddeusant, yn ei oes ef. Ar ol ei farwolaeth, ymwelai amryw o weinidogion yr Annibynwyr â'r lle, a phregethent y pryd hwnw yn y Tynewydd, yn y Llan, lle y saif y siop newydd yn bresenol.

Tua'r flwyddyn 1793, daeth un Zaccheus Davies yma o'r Deheudir i bregethu a chadw ysgol. Dywedir am dano ei fod yn bregethwr cymeradwy, ac ar amserau yn bur daranllyd. Y gwr da hwn a lwyddodd i adeiladu y capel cyntaf yn Llanddeusant, yr hwn a orphenwyd yn y flwyddyn 1795. Bu Mr. Davies yn hynod o ymdrechgar i gasglu at y capel, oblegid dychwelodd adref ar ol bod ar daith i'r perwyl yn y Deheudir, a digon yn ei logell i dalu yr holl ddyled. Ar ol ei ymadawiad, bu yr achos am ryw yspaid yn lled isel. Deuai amryw yma i bregethu y cyfnod hwn. Yn mhlith eraill a ddeuent yn achlysurol, gellir enwi y Parch. Abraham Tibbot, Rhosymeirch; y Parch. John Jones, Ceirchiog; a'r Parch. Owen Thomas, Carrog. Bu yr olaf yn noddwr caredig i'r achos dros amryw flynyddau. Yn Hydref 1816, symudodd y Parch, David Beynon, o Lanerchymedd i Landdeusant, ac agorodd ysgol ddyddiol yn Bethania. Yr oedd yma ysgol ragorol ar y pryd yn cael ei chynal gan y Parch, Mr. Richards, Offeiriad y plwyf, yn y Llan; ond rhoddwyd cymhelliad i Mr. Beynon i godi ysgol yn y "capel bach," o herwydd fod y lle yn nês, ac yn fwy cyfleus i luaws o deuluoedd yn y gymydogaeth hono. Pregethai Mr. B. lawer yn y tai ar hyd y gymydogaeth, ac yr oedd llawer o gyrchu ar ei ol. Tra y bu yn aros yma, cynyddodd y gwrandawiad, ac ychwanegwyd llawer at yr eglwys. Ymwelai a'r ardal hon yn achlysurol am beth amser yn flaenorol i'w sefydliad yma. Dywed et ei hun, mai graddol iawn fu y cynydd yma hyd y flwyddyn 1814, pryd yr aeth y capel yn rhy fychan i gynwys y gwrandawyr yn gysurus. Coffeir ganddo am ddau amgylchiad nodedig a ddygwyddasant yn y cyfnod hwn, pa rai a deilyngant gael eu cofnodi yn hanes yr achos yn y lle. Dywed Mr. Beynon, " Yr oedd hen ŵr o'r enw Robert Rowland yn byw mewn tyddyn bychan gerllaw Bethania, sef, Pontysgynydd, Nid oeddwn gwedi ei weled yn y capel ar y Sabbath, a phan glywais am dano, synais beth at hyny, gan fod rhai o bob teulu o'r bron yn y gymydogaeth yn arfer dyfod yno. Un prydnawn Sadwrn, fel ag yr oeddwn trwy wahoddiad teulu caredig Clwchdernog, yn myned tuag yno i letya (yn Llanerchymedd yr oeddwn yn aros y pryd hwnw), ac yn myned heibio i dŷ yr hen ŵr, gwelwn ef yn eistedd ar gamfa, o flaen drws ei dŷ. Cyferchais ef, ac yntau finau. Dywedais wrtho nad oeddwn wedi cael yr hyfrydwch o'i weled ef yn y capel bach, fod bron bawb o'i gymydogion yn dyfod yno bob Sabbath, ac y carwn yn fawr ei weled ef a'i briod yn dyfod ambell dro. Atebodd, "Ni fum i yn gwrando ar 'sentar erioed, ond unwaith yn y Clwch, pan oedd rhyw bengrwn yno yn pregethu mewn cynhebrwn, a phe buaswn yn gwybod am dano cyn myn'd, ni elsai troed i mi yno byth-i'r Llan y bydda'i yn myn'd bob Sul." Dywedais wrtho, y gallai fyned i'r Llan yn ddigon prydlawn, wedi i'n cwrdd ni ddarfod, ac anogais ef yn daer i ddyfod. "I ba beth," meddai, "'d oes acw ddim lle i eistedd, ac nis gallaf sefyll; byddaf yn gweled oddi yma lawer yn sefyll allan oddeutu y drysau a'r ffenestri." Wel, deuwch chwi acw, meddwn inau, a chwi a gewch le yn seat y pwlpud, mewn man cyfleus a chysurus iawn, "Aië yn wir," ebe yr hen wr, "ai meddwl fy ngwneyd yn wawd yr ydych-fy ngosod yn y pwlpud aië? Wel, yr wyf yn awr dros 92 oed, ac ni fum i yn nghapel y 'sentars erioed, a beth feddyliai y bobl am danaf pe y gwelent hwy yr hen Robert o Bontysgynydd yn dyfod i'r capel bach hwy gredant fy mod wedi myn'd o nghô yn siwr, ac nid heb achos ychwaith." Wrth ymadael, anogais ef i ddyfod boreu dranoeth i'r addoliad. Boreu Sabbath a ddaeth, a chychwynais gyda rhai o'r teulu tua 'r capel, ac er fy syndod, gwelwn yr hen ŵr yn eistedd yn yr un man ag y gwelais ef y dydd o'r blaen, ond wedi ymdrwsio yn fwy trefnus nag oedd y pryd hwnw. Dywedai y sawl oedd gyda mi, ei fod yn arfer gwneyd hyny bob Sabbath i fyned i'r Llan. Aethum i fynu ato, ac wedi ei gyfarch, gofynais am ei gwmni gyda ni i Bethania, ond methais a llwyddo. Ond pan yn canu y waith gyntaf yn nechreu yr addoliad, gwelwn y bobl agosaf at y drws yn edrych allan mewn syndod, a chyn diweddu y gân, edrychais tua 'r drws, a gwelwn yr hen frawd o Bontysgynydd yn dyfod i mewn gan bwyso ar ei ddwy-ffon; aethum yn frysiog i'w gyfarfod, ac arweiniais ef i seat y pwlpud yn ol fy addewid iddo y dydd o'r blaen. Ni welwyd eisiau R. R. o Bontysgynydd yn y capel un Sabbath wedi hyny tra y bu efe byw, ac yn alluog i ddyfod yno. Yn lled fuan, daeth yr hen bererin a'i briod oedranus i'r gyfeillach grefyddol, a derbyniwyd y ddau yn aelodau eglwysig."Yn mhen rhyw yspaid ar ol hyn, symudodd Robert Rowland a'i deulu o Bontysgynydd, ac aethant i fyw i Gaerdeon, gerllaw Clwch-dernog. Arferai Mr. Beynon bregethu yn achlysurol yn y tai oddi amgylch, a gwahoddwyd ef gan yr hen frawd i ddyfod i bregethu ryw noswaith yn ei drigfa newydd ef Rhydd Mr. B. yr hanes canlynol am yr odfa hono a'i heffeithiau. "Aethum yno," meddai, "yn ol fy addewid, a chawsom odfa dda dros ben, yr Arglwydd yn rhoddi o lewyrch ei wyneb, a'r gwlith nefol yn disgyn yn rhwydd gyda'r dweyd anmherffaith, ond gonest. Eto, nid oeddwn wedi cael lle i feddwl y noson hono, fod dim wedi cael ei effeithio yn argyhoeddiadol ar neb o'r newydd yno. Ond yn y gyfeillach grefyddol gyntaf ar ol hyny, daeth amryw o'r ieuenctyd yn mlaen o'r newydd, ac yn eu plith John Jones o'r Muriaumawr, gerllaw Glanalaw, yr hwn fu, wedi hyny, mor gyhoeddus, fel y Parch. John Jones, Marton. dystiolaeth yn y gyfeillach oedd, mai y noson hono yn Nghaerdeon y cafodd y fraint o ddyfod i benderfyniad o ddewis crefydd Crist yn rhan dragywyddol iddo. Yr oedd Mr. Jones, yr adeg hono, yn cadw yr ysgol blwyfol yn Eglwys Llantrisant, a thrwy ddylanwad Mr. Beynon, cafodd fyned i ysgol barchus yn Nghaergybi dros ychydig amser, ac wedi hyny derbyniwyd ef i atrofa Llanfyllin. Wedi ymadael o'r athrofa, ymsefydlodd Mr. Jones yn Marton, sir Amwythig, lle y bu hyd derfyn ei oes ddefnyddiol yn gweinidogaethu, ac yn cadw ysgol i barotoi dynion ieuainc i waith pwysig y weinidogaeth.

Ar ol ymadawiad Mr. Beynon, deuai y Parch, Owen Jones, Llanerchymedd y pryd hwnw, yma dros dymor byr, hyd nes y cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch. Owen Thomas, Carrog. Parhaodd Mr. Thomas mewn cysylltiad a'r lle hyd ddiwedd ei oes, yn cael ei gynorthwyo gan ei fab, y Parch Thomas Owen. Yn y flwyddyn 1823, adgyweiriwyd ac helaethwyd ychydig ar yr hen gapel. Yn fuan ar ol marwolaeth Ꭹ Parch. Owen Thomas, daeth y Parch. David Davies, o sir Aberteifi i'r wlad hon, ac ymsefydlodd yn Llanddeusant. Yn mhen ychydig ar ol ei ddyfodiad i'r wlad, y dechreuodd yr adfywiad grymus a ymwelodd a'r rhan fwyaf o eglwysi Cymru tua 22 mlynedd yn ol. Cafodd yr eglwys yn Llanddeusant brawf o'r "addfed ffrwyth cyntaf." Aeth y fechan mewn cymhariaeth yn fil, a'r wael yn genedl gref; ac y mae yr Arglwydd wedi bod yn dirion wrthi o hyny hyd yn awr. Symudodd Mr. Davies oddiyma i Berea, yn y Sir hon; y mae yn awr yn Ceryg-cadarn, sir Frycheiniog. Yn y flwyddyn 1842, daeth y Parch, William Roberts yma o Rosymedre. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr addoldy presenol, sef, yn y flwyddyn 1844. Yr oedd y draul arianol yn £200. Yn nechreu y flwyddyn 1848, sefydlwyd y Parch. R. E. Williams, yn y lle hwn. Bu yn bur lwyddianus yma. Yn ystod ei weinidogaeth ef, y talwyd y gweddill o'r ddyled oedd yn aros ar yr addoldy. Llafuriodd yn egniol yn y rhan hon o'r winllan am yn agos i 12 mlynedd. Mewn perthynas i'r moddion a ddefnyddiwyd i ddileu y ddyled, dywed Mr. Williams fel y canlyn. "Daeth Mr. Thomas, Beaumaris yma am Sabbath. Dywedodd am lafur ysgol Sabbathol yno. Parodd hyny i rai yma feddwl y gallent hwythau wneyd ychydig. Yr oedd rhai yn bygwth, eraill yn ofni, ac eraill yn penderfynu treio; a threio a wnaed, heb un gobaith o wneyd mwy na £5 o bellaf yn y flwyddyn. Erbyn heddyw (1857) y mae yr oll o'r £107, mewn pedair blynedd a chwarter, wedi eu talu, gan ysgol Sabbathol 'dan 120 o average. Os cyfrifir y paentio, a'r adgyweiriad, nid oes lai na £150, beth bynag, wedi eu talu yn y 9 mlynedd ddiweddaf; heb son am y draul i wneyd mynwent hardd a chyfleus at wasanaeth y Gynulleidfa." Yn mhen tua blwyddyn a haner ar ol ymadawiad Mr. Williams, penderfynodd y cyfeillion yn Bethania a Siloh, i roddi galwad i'r Parch. T. T. Williams, eu gweinidog presenol, ordeiniwyd ef ar y 24ain a'r 25ain o Ebrill, 1861. Ychydig amser yn ol, aed i'r draul o wneuthur rhai gwelliantau oddi fewn i'r addoldy. Yr oedd rhai pethau ynddo yn anghyfleus, ac nid atebai yn mhob peth i amgylchiadau y lle, a'r oes. Bu y draul yn £50. Nifer yr eglwys ydyw 92, yr ysgol Sabbathol 120, y gynulleidfa 200. Breintiwyd yr achos hwn a llawer o noddwyr o'i ddechreuad hyd yn bresenol. Megis, William Pritchard, Owen Jones, a William Jones, Clwch-dernog; William Pritchard, a John Pritchard, Hen siop; David Roberts, Meiriogan; David Williams, y Siop; Thomas Jones, Melin Llwyndu; William Thomas, Glanalaw; Thomas Williams, Glanalaw; Robert Roberts, Mynydd Adda; Robert Jones, Tanylan.

EBENEZER,

LLANFECHELL

DECHREUWYD yr achos Annibynol yn y lle hwn, trwy offerynoliaeth un Richard Jones, yr hwn a ddaeth i fyw i'r Maesmawr gerllaw Llanfechell. Yr ydoedd yn aelod crefyddol yn y Capel mawr, ac arferai fyned yno i'r gyfeillach neillduol, ac ar y Sabbathau, (y pellder o 12 milldir) dros amryw flynyddau, ar ol iddo symud i'r ardal hon. Dywedir mai Mr. Harries, Pwllheli, oedd y cyntaf a fu yn pregethu yma, ac ar ei ol ef, daeth amryw yn eu tro i gyhoeddi gair y bywyd yn y gymydogaeth, Yn fuan ar ol ymweliad Mr. Harries, a'r lle, yr ymsefydlodd y Parch. Evan Jones yn Amlwch, a deuai yn fynych i'r Maesmawr i bregethu, a chynal cyfeillachau neillduol. Hefyd, ymymwelai y Parch. Benjamin Jones, Rhosymeirch, a'r lle yn aml. Nid oedd neb eto trwy yr holl ardal yn gwneyd proffes gyhoeddus o grefydd, oddieithr y rhagddywededig Richard Jones a'i deulu. Ni bu ei dymor yntau yn y rhan hon o'r winllan ond byr, bu farw yn y flwyddyn 1787, a mawr oedd y golled a deimlid ar ei ol. Claddwyd ef yn mynwent Rhosymeirch. Yn y cyfamser, daeth Mr. Owen Thomas, i fyw i Garrog. Ganwyd Mr. Thomas yn Ty'nyllan, Heneglwys, daeth at grefydd pan yn ieuanc, ac ymunodd a'r eglwys yn Rhosymeirch, lle yr oedd ei fam dduwiol yn aelod. Cyfarfu a llawer o erledigaethau, ond daliodd ei ffordd yn ddiwyrni yn ngwyneb y cyfan. Pan briododd, aeth i fyw i Gemmaes-goed yn mhlwyf Gwalchmai, ac o'r fan hon arferai fyned i addoli i'r Capel mawr. Yn mhen yspaid symudodd oddi yno i Fodwyn yn mhlwyf Llanrhyddlad, i fyw. Yn yr adeg hon, ymgyfarfyddai i addoli gyda'r ychydig ddisgyblion yn Llanddeusant, a bu ei arosiad yn eu plith yn hynod o fendithiol i'r achos yn y lle. Symudodd dracliefn i Garrog. Dywedir mai y peth blaenaf ar ei feddwl bob amser yn ei holl symudiadau, fyddai cael lle i addoli Duw. Cafodd le felly yn Llanfechell, er nad oedd yma ar y pryd ond un aelod crefyddol, sef, gweddw y rhag-grybwylledig Richard Jones. Cawsant dderbyniad i dŷ o'r enw Broc'nol, lle y bu y ddau yn cynal moddion crefyddol eu hunain dros beth amser. Pa fodd bynag, penderfynwyd adeiladu capel, a chafwyd darn o dir i'r perwyl perthynol i dyddyn y weddw grybwylledig. Yr oedd traul yr adeiladaeth ynghylch £150, a chasglwyd y cyfan yn lled fuan trwy ffyddlondeb Mr. Thomas, Y gweinidogion a bregethai fynychaf yn y capel newydd oeddynt y Parchn. A. Tibbot, Rhosymeirch; J Jones, Ceirchiog; a R. Roberts, Treban. Yn yr adeg hon, daeth hên chwaer grefyddol o'r enw Jane Owen, (alias Siân Owen Edward) yr hon oedd yn aelod yn Amlwch, i'w cynorthwyo i gynal cyfarfodydd gweddi. Bu Mr. Owen Thomas a Sian Edward yn cadw cyfarfodydd gweddi yn fynych, cyn bod yma neb arall a gymerai ran gyhoeddus yn y gwaith. Darllenai Mr. Thomas ran o'r Ysgrythyr, a rhoddai benill allan i'w ganu, yna dywedai yn ei ddull syml, "Sian dos dipyn i weddi," ac wedi cael gweddi afaelgar a gwresog gan yr hen chwaer, â yntau drachefn "yn hyderus at orseddfainc y gras." Profasant lawer gwaith gyflawniad o'r addewid hono, "lle mae dau neu dri wedi ymgynull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt." Yn mhen amser, gwelodd yr Arglwydd yn dda i fendithio yr ardal ag adfywiad crefyddol grymus iawn, a daeth llawer i ymofyn am le yn ei Dŷ. Yn eu plith coffeir am Richard Jones (mab yr un a grybwyllwyd yn barod); Thomas Williams, Tyddyn-du, a'i briod; Lewis Jones, Broc'nol; ynghyd ag eraill a fuont yn ffyddlon gyda'r achos. Parhaodd yr eglwys a'r gynulleidfa i gynyddu yn raddol hyd yn bresenol, er na theimlwyd rhyw lawer o weithrediadau anghyffredin yr Ysbryd y blyneddau diweddaf. Nifer yr aelodau ydyw 50, yr Ysgol Sabbathol 50, y gynulleidfa 100. Bu yr eglwys hon ar wahanol adegau o dan ofal gweinidogaethol y Parchn, Owen Thomas, Thomas Owen, David Roberts, yn awr o Gaernarvon; a John Jones, yr hwn sydd yn bresenol yn Maentwrog. Adeiladwyd addoldy newydd yma y flwyddyn hon (1862) gan y Meistri Lewis o Lynlleifiad. Mae y gwyr ieuanc canmoladwy hyn yn enedigol o'r ardal hon, ac yn dystion o wirionedd yr ymadrodd ysprydoledig "Ilaw y diwyd a gyfoethoga." Y maent hwythau o serch at eu hardal enedigol, ac o gariad at achos yr hwn sydd wedi eu llwyddo, wedi gwneyd anrheg o'r addoldy hardd a drudfawr hwn i'r enwad yn Llanfechell. Y draul yn £700. Bydd yn addoldy coffawdwriaethol i'r oesau dyfodol, o haelioni, a rhyddfrydedd y brodyr teilwng hyn. Mae yma gladdfa helaeth yn perthyn i'r addoldy, at wasanaeth yr ardal.

EBENEZER.

PENTRAETH.

MEWN tŷ anedd o'r enw Ty'nylôn, Cefn-hir, y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y gymydogaeth hon. Yn mhen rhyw gymaint o amser, agorodd drysau eraill yn yr ardal, sef, Penylon, a Thycroes, lle y pregethid yn achlysurol, ond y prif le oedd Ty'nylon. Prif noddwyr yr achos y pryd hwnw, oeddynt John Roberts, Ty'nylôn; William Rowland, Bodwgan; James Pritchard, Tycroes; Robert Jones, Melin Pentraeth; a Thomas Hughes, Pen y lôn. Dywedir i'r blaenaf a enwyd, ddwyn holl dreuliau yr achos nes y daeth y personau eraill yn mlaen i'w gynorthwyo. Ychydig oedd y treuliau mae yn wir, ond yr oedd yr ychydig hyny yn llawer i ddyn tlawd i'w gyflawni. Yr oedd yr olaf a enwyd yn arddwr yn ngwasanaeth boneddwr yn y gymydogaeth; daeth ei feistr ato un dydd Sadwrn, ac a ddywedodd, Thomas, y mae arnaf eisiau i chwi fyned ar neges i mi yfory; "atebodd yntau, "Yr ydwyf yn ewyllysgar Syr, i wneyd pob peth a allaf i'ch boddloni, ond nis meiddiaf dori y Sabbath." Oherwydd ei onestrwydd a'i gywirdeb, daeth Thomas yn fwy parchus yn ngolwg ei feistr, ac ni cheisiwyd ganddo wneyd dim gwaith ar y Sabbath mwyach, Yr oedd yma hefyd rai chwiorydd gwir ymroddgar gyd a'r achos yn ei gychwyniad, sef, Catherine Parry, Clai; Ellen Jones, Tanygraig; Ellen Jones, Lôn-lwyd; ac Ellen Jones, Ty'nyllan. Cyn hir, symudwyd yr Arch o dŷ John Roberts, i dŷ gwag a gymerwyd i'r perwyl yn y Llan, Pentraeth. Nid oedd y lle hwn yn ol tystiolaeth y rhai sydd yn ei gofio, yn un o'r lleoedd mwyaf cysurus i addoli ynddo. Tŷ a thô gwellt iddo ydoedd, a llawr y pwlpud o bridd, ac ystyllen wedi ei gosod ar ei draws i ddal y Beibl, a'r gwlaw yn disgyn yn rhwydd drwy y tô, ar dywydd gwlyb. Yr oedd yr achos yn y tŷ hwn, yn benaf, o dan ofal y Parch. D. Evans, Bangor, a'r Parch. W. Jones, Beaumaris. Deuai eraill yma i bregethu yn achlysurol. Dywedir iddynt gael cyfarfodydd gwresog a llwyddianus iawn yn yr hen dŷ, a'r canlyniad fu i'r gynulleidfa gynyddu, nes eu gosod dan yr angenrheidrwydd i helaethu lle y babell. Prynwyd darn o dir i'r perwyl gan Mr. Owen Jones, Hensiop, am £40; ac adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1803. Adeilad pur gyffredin ydoedd hon drachefn; yr holl ddodrefn a gynwysai oedd pwlpud ac ychydig o feinciau. Yn ystod gweinidogaeth y Parch. John Evans, Beaumaris yma, gwnaed eisteddleoedd ac oriel yn yr addoldy, yr hyn oedd yn welliant mawr. Ail adeiladwyd, ac helaethwyd y capel yn y flwyddyn 1856,-y draul yn agos i £300; er fod y gost yn fawr ac ystyried amgylchiadau y lle, llwyddwyd trwy gyd weithrediad ffyddlon y gynulleidfa, ac ewyllys da y gymydogaeth, i ddileu y ddyled yn mhen tua thair blynedd. Cynaliwyd cyfarfod Jubilee yn 1859, pryd y gwelwyd fod digon o arian yn ngweddill i ail baentio y capel, yr hyn a wnaed yn ddioed. Mae yr addoldy hwn yn wir deilwng o'r enwad; mae yr eglwys a'r gynulleidfa wedi gweithio yn ganmoladwy iawn. Credwn mai diffyg cynlluniau priodol, a chydweithrediad ffyddlon, yn fwy na thlodi cynulleidfaoedd, ydyw yr achos fod dyled yn aros ar lawer addoldy: mae y ddyled yn aros, am nad oes un ymdrech effeithiol yn cael ei wneyd i'w symud ymaith, "Yn mhob llafur y mae elw;" bu yr ymdrech gyda'r ail-adeiladu, a thalu y ddyled, yn ddechreuad cyfnod newydd ar yr achos yma, bendithiwyd yr eglwys â graddau helaeth o'r adfywiad yn 1859-60, fel y teimlodd llaweroedd eu bod wedi cael eu talu yn dda am eu llafur a'u pryder gyda'r achos, mewn bendithion i'w heneidiau yn y capel newydd. Mae yn dda genym allu cofnodi fod y rhan fwyaf o blant y diwygiad diweddar, yn y lle hwn, yn parhau yn ffyddlon, trwy gymhorth gras, hyd yn bresenol. Rhifedi aelodau yr eglwys ydyw 86, yr ysgol Sabbathol yn 80, y gynulleidfa tua 100.

Y gweinidogion fu yma ar wahanol amserau yn gofalu am yr achos, oeddynt, y diweddar Barch. John Evans, Beaumaris; y Parch. John Griffith, Buckley; y Parch. Thomas Davies, Bodffordd; y Parch. Henry Rees, Penuel, Hope. Dechreuodd y gweinidog presenol, y Parch, David Williams, ar ei weinidogaeth yma, yn Mawrth, 1855. Hefyd, yma yr erys ein brawd Mr. Owen Jones, yr hwn sydd yn bregethwr llafurus, ffyddlon, a chymeradwy gartref ac oddi cartref. Dywed Mr. Williams, "Wrth gymharu yr hyn yw yr achos crefyddol yn ein plith, â'r hyn ydoedd 60 mlynedd yn ol, y mae genym achos i gymeryd cysur a bod yn ddiolchgar; gan barhau mewn gweddiau am lwyddiant ychwanegol arno."

SARDIS,

BODFFORDD

FURFIWYD yr eglwys Gynulleidfaol yn y lle uchod yn y flwyddyn 1810. Cychwynwyd yr achos gan ychydig o aelodau Ebenezer, Rhosymeirch. Adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1814. Y rhai oedd yn blaenori gyda'r adeiladaeth, oeddynt, Daniel Jones, Rhydyspardyn; Robert Jones, Ceryg-duon; a William Jones, Ty'nyrallt, Y Parch. Owen Thomas, Carrog, oedd y gweinidog sefydlog cyntaf a fu yma ; parhaodd i ofalu am yr eglwys hyd y flwyddyn 1822, pan y cymerwyd ei gofal gan y Parch, D. James, mewn cysylltiad â'r Capelmawr. Yn yr ardal hon y magwyd y diweddar Barch. Owen Thomas, Carrog. Yr oedd yn aelod crefyddol yn Rhosymeirch. Er ei fod wedi' symud o'r plwyf hwn i Garrog, gerllaw Llanfechell, cyn adeiladu y capel, eto, efe a fu y prif offeryn i gael addoldy yn y lle. Helaethwyd y capel hwn yn y flwyddyn 1824. Yr oedd wedi myned yn llawer rhy fychan i gynwys y gynulleidfa. Adgyweiriwyd ef drachefn yn y flwyddyn 1846; bu y draul dros £300, ac y mae y cyfan wedi eu talu. Yr unig bregethwr a godwyd yma ydyw y Parch. Robert Evans (Trogwy), Maesglas, ger Treffynon. Mae rhifedi yr aelodau yn bresenol yn 65, yr Ysgol Sabbathol yn 80, y gynulleidfa 120.

HERMON,

LLANGADWALADR.

DECHREUWYD pregethu gan yr Annibynwyr yn yr ardal hon yn y flwyddyn 1813, mewn tŷ o'r enw Penyrallt. Deuai y Parch. Jonathan Powell, Rhosymeirch; a'r Parch, David Beynon, y pryd hwnw o Lanerchymedd, yma yn lled reolaidd i gynal moddion crefyddol.

Adeiladwyd yr addoldy cyntaf yn y flwyddyn 1814, yr oedd y draul arianol tua £40. Cymerwyd gofal yr adeiladaeth gan Mr. William Pierce, Tyddyn y cwc, yr hwn a roddodd y tir i adeiladu arno; Mr. Rowland Jones, Melin wynt, Bodorgan; a Mr. Rowland Roderic, Fachell; yr oedd y gwyr hyn yn aelodau ar y pryd yn y Capelmawr. Wedi myned i'r capel newydd y corfforwyd yr eglwys gan y Parch. Jonathan Powell. Nifer yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd 10.

Pan gynyddodd yr achos i raddau dymunol, rhoddwyd galwad unfrydol gan yr eglwys, yn y flwyddyn 1818, i'r Parch. Evan Roberts, i ymsefydlu yn eu plith. Ar ol bod yma am ychydig amser, tueddwyd ef i fyned i'r America, a sefydlodd yn Stuben, yn nhalaeth Efrog Newydd. Rhoddwyd galwad drachefn i'r Parch. William Roberts, o athrofa Neuaddlwyd, a neillduwyd ef i waith y weinidogaeth yn y lle hwn yn y flwyddyn 1826; bu farw yn nghanol ei ddefnyddioldeb, yn y flwyddyn 1830. Yn y flwyddyn 1832, gwahoddwyd y Parch. Ishmael Jones, o Lansanan, i gymeryd gofal yr eglwys, yr hwn a'i gwasanaethodd yn ffyddlon am yspaid 14 o flyneddau. Ail-adeiladwyd yr addoldy yn amser Mr. Jones, sef, yn y flwyddyn 1843; costiodd yr adeilad oddeutu £140. Symudwyd y ddyled yn llwyr oddi ar yr addoldy cyntaf, ac hefyd mewn rhan oddi ar yr ail, trwy ymdrechiadau cartrefol; nid oes ond £20 yn aros. Mae yr olwg bresenol ar yr achos yn Hermon, a'i ystyried yn ei holl ranau, yn rhagori ar ddim a welwyd er ei gychwyniad. Y gweinidog presenol ydyw y Parch. Thomas Ridge. Dywed Mr. Ridge "fod yr eglwys wedi derbyn yn helaeth o ddylanwadau cysurol a chynyddol yr adfywiad diweddar, fod nifer y dychweledigion ar y pryd yn lluosog, a'u bod, gydag ychydig eithriadau, yn ymddangos yn hynod o obeithiol." Bu yma rai pregethwyr yn cadw ysgol ddyddiol yn yr ardal ar wahanol adegau, ac yn pregethu yn achlysurol; sef, Mr. Titus Jones, y diweddar Barch. Hugh Lloyd, Towyn Meirionydd; a'r Parch, P. G. Thomas, yn awr yn Pennorth, sir Frycheiniog. Rhifedi yr eglwys ydyw 95, yr Ysgol Sabbathol 100, y gynulleidfa 150.

SALEM,

BRYNGWRAN.

DECHREUWYD yr archos hwn yn mhlwyf Ceirchiog, trwy offerynoliaeth un o'r enw John Bulk.[5] Dygwyddodd iddo ddyfod trwy y gymydogaeth pan oedd un Edward Williams yn adeiladu tŷ anedd, ac aeth yn ymddyddan rhyngddynt: dywedodd John Bulk, "y mae yma le cyfleus iawn i bregethu, a wnewch chwi ardrethu y tŷ hwn i hyny?" Atebodd E. Williams, "gwnaf, os caniata fy meistr tir." Cafodd ganiatad i'w ardrethu i'r perwyl am dair blynedd, a buwyd yn pregethu ynddo am yr yspaid hwnw; ar ol hyny, adeiladwyd capel bychan a thô gwellt arno, trwy offerynoliaeth un Thomas Rowlands, Treban, a chynaliwyd moddion crefyddol ynddo dros amryw flyneddau. Pa bryd, neu gan bwy y ffurfiwyd yr eglwys sydd ansicr.

Yn y flwyddyn 1824, adeiladwyd y capel presenol (Salem), pryd y symudwyd yr achos o Geirchiog i Fryngwran, yn mhlwyf Llechylched; rhifedi yr aelodau ar y pryd oedd 50. Cynyddodd yr achos i'r fath raddau fel y bu yn angenrheidiol helaethu yr addoldy yn y flwyddyn 1839. Traul adeiladu yr addoldy cyntaf yn Bryngwran oedd £150, yr hon a symudwyd yn llwyr yn mhen tua 10 mlynedd, heb fyned i unlle o'r gymydogaeth i ofyn cymhorth. Y baich, mewn gofal a llafur, gan mwyaf, a ddisgynodd ar weinidog y lle, y Parch. Robert Roberts, Treban; yn enwedig ar ol colli y cyfaill ffyddlon, Mr. Evan Griffith, tad Mr. John Evans, Gorslwyd, a Mr. Evan Griffith, Gwalchmai. Dangosodd Mr. Evan Griffith ofal diffuant am gynorthwyo y gweinidog gyda'r adeiladaeth, a llawenychodd yn fawr weled yr addoldy yn llawn ar ddydd yr agoriad. Dygwyddodd fod afiechyd marwol yn ei deulu ar y pryd, a chafodd yntau ei daro yn glaf yn dra disymwth, a symudwyd ef o'r Salem isod i'r Salem uchod yn fuan wedi agoriad y capel, yr hyn a barodd golled fawr i'r gweinidog a'r eglwys. Traul ail-adeiladu yr addoldy oedd yn nghylch £180, yr hon hefyd fel y draul gyntaf, a symudwyd yn llwyr trwy ymdrechiadau cartrefol.

Y diweddar Barch. John Jones, Talgarth, oedd y gweinidog sefydlog cyntaf a fu ar yr eglwys hon, ond nid ydym yn sicr pa hyd y bu yn llafurio yma. Dilynwyd ef gan y diweddar Barch. Robert Roberts, Treban, yr hwn oedd wedi cael ei fagu yn y gymydogaeth. Urddwyd ef Mehefin 29, 1810. Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y personau canlynol:-y Parchn. George Lewis, Llanuwchllyn; John Griffith, Caernarfon; Jonathan Powell, Rhosymeirch; John Evans, Amlwch; Arthur Jones, Bangor; William Williams, Wern; John Evans, Bala. Bu Mr. Roberts yn y weinidogaeth am tuag 28 o flyneddau. Byrhawyd ei lafur a'i ddefnyddioldeb i fesur helaeth am y pedair blynedd diweddaf o'i oes gan effeithiau y parlys mud (apoplexy), yr hyn hefyd, o'r diwedd, a achlysurodd ei farwolaeth; a gorphenodd ei fywyd llafurus Ebrill 12, 1838, yn 66 mlwydd oed. Yn mhen un mis ar bymtheg ar ol Mr. Roberts, bu farw ei anwyl briod, Mrs. Jane Roberts, yn 66 mlwydd oed, wedi treulio ei hoes, o'r bron, yn ddiwyd a ffyddlon yn ngwasanaeth ei Harglwydd. Yn mhen ychydig flyneddau ar eu holau, bu farw John Hughes hefyd, un o hen ddiaconiaid yr eglwys, yn 66 mlwydd oed, wedi bod am 40 mlynedd yn ngwasanaeth y diweddar Mr. a Mrs. Roberts,-"Cariadus fuont yn eu bywyd, ac yn angau ni wahanwyd hwynt." Am y tair blynedd olaf o oes Mr. Roberts, bu y Parch. Richard Parry, yn awr o Landudno, yn cydlafurio ag ef gyda chymeradwyaeth mawr, a phob peth yn ymddangos yn siriol a llewyrchus o dan ei ofal ef; ond symudodd Mr. Parry i Gonwy, a hyny yn groes iawn i feddwl a theimlad y cyfeillion yn gyffredin. Wedi hyny, daeth y Parch. William Davies, o Nefyn, yma, ac arhosodd am oddeutu 5 mlynedd. Yn ei amser ef yr ailadeiladwyd y capel. Ar ol ymadawiad Mr. Davies, bu un John Morris yma am ychydig amser. Ar yr ail Sabbath o Fai, 1850, dechreuodd y Parch. William Morris, y gweinidog presenol, ar ei weinidogaeth yma. Y mae dyfodiad Mr. Morris i'r lle hwn wedi bod yn fendithiol i'r eglwys a'r gymydogaeth. Codwyd yma dri o bregethwyr, sef, Mr. Richard Jones, yr hwn a aeth oddi yma i Goleg Blackburn, ond beth a ddaeth o hono wedi hyny sydd yn anhysbys i'r ysgrifenydd; y Parch. Robert Parry, diweddar o Newmarket, swydd Fflint; a Mr. Robert Roberts, mab ieuengaf y diweddar Barch, Robert Roberts, yr hwn y mae ei glod gartref, ac hefyd yn holl eglwysi y sir, fel Cristion cyson, a phregethwr defnyddiol; mewn undeb a'i frawd Mr. William Roberts, caflawnai swydd diacon yn yr eglwys. Rhifedi yr eglwys yn bresenol ydyw 120, yr Ysgol Sabbathol 160, y gynulleidfa 260. Profwyd gwahanol dymorau gyda chrefydd yn yr eglwys hon,

"Weithiau yn y tywyll gymoedd,
Weithiau ar ben y mynydd glas."

O ddeuddeg i bymtheg mlynedd yn ol, goddefodd ei Phen mawr i ruthr lled arw ymosod arni. Ond o diriondeb trugaredd ein Duw cadwyd hi yn fyw yn y nos. Ni ddifethwyd mo honi, er ei bod ar y pryd fel y "berth yn llosgi." Gwelwyd hefyd dymorau hafaidd a llwyddianus iawn ar yr achos yma. Anrhydeddwyd yr eglwys a chyfranogiad lled helaeth o ddau adfywiad a fu yn y wlad, sef yn 1839-40, ac yn 1859–60. Ychwanegwyd yn nghylch 60 at yr eglwys y tro diweddaf, ac er fod aml un fel Orpah wedi troi yn ol, eto, y mae y mwyafrif o lawer yn aros hyd y dydd hwn; gan gyrchu at y nôd, fel yr hyderwn, trwy nerth egwyddor, pan y mae tymor yr hwyliau a'r cyffroadau nwydol wedi darfod.

BETHEL,

CEMMAES.

DECHREUWYD cynal cyfarfodydd crefyddol gan yr Annibynwyr yn Mhenrhyn, Cemmaes, tua'r flwyddyn 1806. Cymerwyd tŷ anedd yn y lle i'r perwyl, gan Mr. Owen Thomas, Carrog, yr hwn a fu yn ymdrechgar iawn ar y pryd, yn ngwyneb llawer o anfanteision. Deuai rhai o'r brodyr crefyddol o Lanfechell, yn achlysurol, i'w gynorthwyo, ond gan fod yr achos yno yn dal yn lled wan, nid rhyw lawer o gymhorth a allasent estyn iddo. Dywedwyd wrth Mr. Thomas yr adeg hon, fod dyn defnyddiol o'r enw William Jones, yr hwn a berthynai i eglwys Rhosymeirch, yn chwilio am le cysurus i fyw; aeth yntau yn ebrwydd i ymofyn am dano, a chytunwyd iddo gael byw ar dir Carrog; o hyny allan, bu y brawd ffyddlon hwn yn gymhorth mawr i gynal cyfarfodydd crefyddol yn y Penrhyn, ac y mae amryw yn yr ardal eto, yn gallu cofio y cyfarfodydd gwlithog a gaed yno. Anaml y byddai yr un pregethwr yn ymweled â'r lle; ond un tro cafwyd cyhoeddiad "gwr dyeithr" i fod yn y Penrhyn un nos Sabbath. Ni ddaeth at ei gyhoeddiad. Wedi hir ddisgwyl yn ofer am dano, gofynwyd i Mr. Owen Thomas ddyweyd ychydig mewn ffordd o bregeth; nid oedd wedi dech reu pregethu y pryd hyn, ond ufuddhaodd yn galonog i'r cais, a chymerodd y rhan hono o'r gair yn destyn-"Gwresogodd fy nghalon o'm mewn: tra yr oeddwn yn myfyrio, enynodd tân, a mi a leferais â'm tafod," Salm xxxix. 3. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 1807, ac ar ol hyny arferai Mr. Thomas bregethu yn fynych yn Llanfechell, ac yn y Penrhyn, ac mewn manau eraill. Yn y flwyddyn 1814, ordeiriwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn Ebenezer, Llanfechell. Y gweinidogion a gymerasant ran yn ngwaith y cyfarfod oeddynt y Parchn. J. Griffith, Caernarfon; G. Lewis, Llanuwchllyn; J. Evans, Amlwch; ac R. Roberts, Treban. Yn fuan ar ol hyn, daeth ei ddau fab yn aelodau crefyddol, sef Thomas Owen, ac Owen Thomas. Arhosodd Thomas Owen yn Ebenezer, ac aeth Owen Thomas i'r Penrhyn. Yn yr adeg hon, daeth hen gapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Nghemaes yn wag, a symudodd y gynull- eidfa iddo, pryd y chwanegwyd lluaws at yr eglwys. Yn mhlith y dychweledigion y pryd hwnw, enwir Mr. Lewis Jones, Mr. John Owen, rholiwr, a'i briod; Mrs. Mary Jones, Siop, yr hon a fu yn lletygar i'r pregethwyr dros lawer o flyneddau; Mr. John Morris a'i briod; Mr. John Noall, Mr. John Lewis, saer a'i briod; a Mr. Morris Owen a'i briod. Yn y flwyddyn 1827, adeiladwyd yr addoldy presenol. Yr oedd traul yr adeiladaeth tua £220. Tua'r un adeg y daeth Mr. Thomas Owen i gynorthwyo ei hybarch dad yn ngwaith y weinidogaeth. Ordeiniwyd ef yn y flwyddyn 1828. Gweinyddodd y gweinidogion canlynol ar yr achlysur:-J. Evans, Amlwch; D. Jones, Rhosymeirch; R. Roberts, Treban; a W, Griffith, Caergybi. Gan fod yr eglwys hon wedi bod mewn undeb gweinidogaethol o'r dechreuad ag eglwys Ebenezer, Llanfechell, cyfeiriwn y darllenydd at hanes yr eglwys hono am restr o'r gweinidogion a fuont yma. Rhifedi yr eglwys ydyw 80, yr Ysgol Sabathol 75, y gynulleidfa 160. Y pregethwyr a godwyd yma ydynt, Mr. Robert Edwards, Mr. Hugh Owens, a Mr. Richard Jones. Y maent yn llafurus a chymeradwy gartref ac oddi cartref.

SARON,

BODEDERN.

CYNYGIODD ychydig o Annibynwyr i ddechreu achos crefyddol yn y lle hwn mewn tŷ anedd o'r enw Plás-main, tua 60 mlynedd yn ol. Yn lled fuan ar ol dechreu yr achos, gorfodwyd hwy i ymadael o'r lle, a chymerasant hen dŷ anedd eilwaith i'r un perwyl, o'r enw Llawr-y-llan. Deusi y Parch. Robert Roberts, Salem, yno ar un adeg yn rheolaidd i bregethu. Dywed y Parch. John Hughes, gweinidog presenol yr eglwys hon, iddo fod yno rai ugeiniau o weithiau, pan yn fachgenyn, gyda'i dad yr adeg hono; yr oedd yma 3 neu 4 o hen frodyr duwiol, a 6 neu 7 o hen chwiorydd ffyddlon, sef Owen Rowland, yr Efail-newydd, a'i wraig mor nodedig ag yntau, a merch iddynt, yr hon sydd eto yn fyw ac yn dra ffyddlon gyda'r achos yn Saron.

Adeiladwyd yr addoldy presenol yn y flwyddyn 1829. Derbyniwyd y swm o £30 tuag at ddileu y ddyled o Gleifiog-isaf, a chyfranodd y Parch. R. Roberts £10 i'r un dyben, a gwnaed y gweddill i fynu trwy gasgliadau yr eglwys a'r gymydogaeth; yr oedd y draul tua £100, a thalwyd y cyfan. Rhoddodd Mr. Roberts ei lafur gweinidogaethol i eglwys Saron yn rhad yr holl dymor y bu yn gofalu drosti. Ni bu nemawr o arwyddion fod y caredigrwydd hwnw wedi bod o wir leshad i'r eglwys, ar ol ei ymadawiad ef i dderbyn ei wobr. Olynydd Mr. Roberts oedd y Parch. David Davies, yn awr o Geryg-cadarn, swydd Frycheiniog; yr hwn oedd hefyd yn gweinidogaethu yn Llanddeusant a Llanfachraeth, mewn cysylltiad â'r lle hwn. Ar ei ol ef, cymerwyd gofal yr eglwys gan y Parch. William Evans, yn awr o Fagillt, sir Fflint. Yn ei amser ef y torwyd y cysylltiad rhwng y lle hwn â'r manau blaenorol a enwyd, pryd yr ymunodd Bodedern â Llanfairyneubwll i fwynhau yr un weinidogaeth; bu Mr. Evans yn llafurio yn ffyddlon yn y ddau le dros amryw flyneddau. Yn ystod gweinidogaeth Mr. Evans yr ymunodd y gweinidog presenol â'r eglwys yn Bodedern. Dechreuodd bregethu yn y flwyddyn 1849. Derbyniodd alwad i gymeryd gofal gweinidogaethol yr eglwys mewn cysylltiad â Llanfachraeth a Llanfairyneubwll, yn nechreu y flwyddyn 1854; a neillduwyd ef i waith pwysig y weinidogaeth yn mis Mawrth yr un flwyddyn. Bu Mr. Hughes yn gwasanaethu y tair eglwys yn ofalus am dros bum mlynedd, ond tua thair blynedd yn ol, agorodd rhagluniaeth y ffordd i Lanfairyneubwll fyned mewn cysylltiad â Maelog; ac felly nid ydyw yn gofalu yn bresenol ond am Bodedern a Llanfachraeth yn unig. Nifer yr aelodau yn Saron ydyw 36, yr Ysgol Sabbathol 30, y gynulleidfa yn agos i 60.

SOAR,

RHOSFAWR.

MEWN tŷ bychan o'r enw Tafarn-y-wrach, y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn yr ardal hon Yr oedd y wraig, Ann Pritchard, yn aelod yn Rhosymeirch, a'r cyfeillion o Rhosymeirch oeddynt brif noddwyr yr achos yn ei gychwyniad; cynalient gyfarfodydd gweddi yn y lle, ac yn achlysurol deuent a phregethwr gyda hwynt. Yr efengylydd John Bulk, oedd un o'r pregethwyr cyntaf a ddaeth yma; arferai bregethu yn daranllyd ac effeithiol iawn. Bu y Parch, Peter Williams, ac eraill o dadau Ymneillduaeth, yn pregethu yn Nhafarn-y-wrach. Yr oedd ardal y Rhosfawr yn y tymor hwn yn hynod o lygredig a digrefydd; treulid Sabbathau, yn gyffredin, mewn chwareuaethau ffol a phechadurus, Wedi cynal cyfarfodydd crefyddol am beth amser yn nhŷ Ann Pritchard, ymddengys fod y lle wedi cael ei roddi i fynu yn hollol, oherwydd esgeulusdra a difaterwch y trigolion. Yn mhen rhyw yspaid drachefn, dechreuwyd pregethu mewn tŷ arall yn y gymydogaeth, o'r enw Storehouse-wen; lle y deuai y Parchn. Owen Thomas, Carrog; Robert Roberts, Treban; Arthur Jones, Bangor; yn nghydag eraill yn achlysurol i bregethu. Dywedir y byddai cynulleidfaoedd lluosog yn arfer ymgasglu i'r lle hwn, nes y darfu i wr eglwysig ymyraeth yn draws-awdurdodol â'r addoliad, a'r canlyniad fu, i'r cyfeillion ofni cynal y cyfarfodydd yn hwy. Adroddir yr hanes fel y canlyn:-Dygwyddodd bod hen chwaer grefyddol o Benmynydd, yr hon oedd yn afiach, yn aros ar y pryd mewn tŷ bychan ar y ffordd gerllaw y Storehouse-wen. Gan ei bod yn analluog i fyned i wrandaw y pregethau, penderfynwyd cynal cyfarfod gweddi yn y tŷ lle yr oedd yn aros, un prydnawn Sabbath. Pan ddaeth y gynulleidfa yn nghyd, gwelwyd fod y ty yn rhy fychan i'w cynwys, a threfawyd i gynal y moddion ar ochr y ffordd, gyferbyn â drws y tŷ, a dygwyd yr hen chwaer glaf allan ar gadair i blith y dorf. Yr oedd y gynulleidfa yn lluosog, yr hîn yn ffafriol, a'r nefoedd yn tywallt ei bendithion; ond dygwyddodd pan oedd un hen frawda berthynai i gapel Glasinfryn yn gweddio, i offeiriad adnabyddus i'r bobl am ei ysbryd erlidgar, farchogaeth i ganol y dorf, gan glecian ei fflangell mewn tymher pur nwydwyllt. Yr oedd yr hen frawd yn ei weddi ar y pryd, yn diolch yn wresog i'r Arglwydd am ryddid i addoli, &c., pan y gwaeddodd yr offeiriad mewn llais bygythiol, "Pa ryddid sydd gan dy fath di, mi edrycha' i ar ol dy ryddid di," Pa fodd bynag, aeth y gweddiwr yn mlaen yn ddiarswyd nes y gorphenodd ei weddi. Yna yr offeiriad a ddechreuodd "chwythu bygythion a chelanedd" yn erbyn gwr y Storehouse-wen, gan ei rybuddio y dygai ef o flaen yr heddynadon os cadwai gyfarfodydd o'r fath yn ei dŷ, neu ar fin y ffordd mwyach. Ofnodd yr ychydig ddysgyblion, a phenderfynasant roddi y lle i fynu, a daeth y Parch, Owen Thomas, Carrog, yn ol eu dymuniad, y nos Sabbath canlynol, i bregethu farewell sermon yr achos yn y Storehouse-wen!

Ar ol hyn, cofrestrwyd tŷ bychan arall o'r enw Tanyrallt, i bregethu ynddo. Cynaliwyd cyfarfod ar y Sabbath i'w agor, a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. Arthur Jones, Bangor, a Robert Roberts, Treban. Ymddengys fod yr ychydig Annibynwyr oedd yn yr ardal hon y pryd hwnw, yn aelodau, naill ai yn Rhosymeirch neu yn Mhentraeth; a thybir mai yn Tanyrallt y corfforwyd yr eglwys Gynulleidfaol yn Rhosfawr. Arferai y Parch. D. Beynor, pan oedd yn gweinidogaethu yn Peniel, ddyfod yma yn lled reolaidd i bregethu yr adeg hon. Anrhegwyd ni ganddo âg ychydig o hanes yr eglwys hon yn ei chychwyniad; dywed Mr. Beynon, "Yn ystod y gauaf, 1814, ac yn nechreu y flwyddyn ddilynol, yr oedd y gynulleidfa yn dal i gynyddu yn Rhosfawr, a dywedais wrth y cyfeillion yn Peniel fy mod yn teimlo awydd, wrth weled y llyn yn Rhosfawr mor lawn o bysgod, i dynu y rhwyd i'r lan bellach. Awgrymais hefyd y buaswn yn hoffi i ddau neu dri o honynt ddyfod gyda mi yno y nos Sabbath canlynol; cytunwyd ar hyny, ac er llymed oedd yr hin, yr oedd yno luoedd wedi ymgasglu yn nghyd yn ein disgwyl: pregethais yn ymyl y drws, a safai y dorf oddi allan. Ar ddiwedd yr oedfa, dywedais ein bod yn bwriadu cynal ychydig o gyfeillach grefyddol yn y tŷ cyn dychwelyd i Lanerchymedd, ac os oedd yno rai yn cael eu tueddu i ddangos eu hochr o blaid y Gwaredwr bendigedig, ein bod yn ei Enw, yn rhoddi gwahoddiad serchog iddynt i ddyfod i mewn i'r tŷ atom ar ol canu penill. Wedi canu aethom i mewn, a phob un a'i lygaid yn bryderus ar y drws, yr hwn oedd eto heb ei gau; yn fuan, canfyddem un yn troi i mewn, un arall drachefn yn ei ddilyn, &c., hyd nes y daeth 7 o bersonau yn mlaen yn ddrylliog iawn, i ymofyn am drugaredd i'w heneidiau"" Tueddir ni i gredu mai dyma ddechreuad yr eglwys Annibynol yn Rhosfawr: pa bryd ar ol hyn, neu gan bwy y ffurfiwyd yr eglwys yn rheolaidd, nis gallwn ddyweyd gydag un math o sicrwydd.

Wedi bod yn addoli yn Tanyrallt am tua phedair blynedd, adeiladwyd yr addoldy presenol, a thŷ mewn cysylltiad âg ef, yn y flwyddyn 1816; yr oedd y draul arianol tua £70; cludwyd y defnyddiau yn rhad gan amaethwyr parchus o'r gymydogaeth, Nifer yr aelodau pan aed i'r capel newydd oedd 14. Ychydig amser yn ol, aed i'r draul o adgyweirio yr hen addoldy, ac ychwanegwyd rhai eisteddleoedd newyddion, fel yr ymddengys yn llawer harddach nag y bu; y mae'r ddyled wedi ei dileu. Mae yma fynwent helaeth, yr hon a wnaed yn anrheg i'r eglwys a'r gynulleidfa gan y brawd didwyll Mr. Thomas Hughes, un o ddiaconiaid y lle. Rhifedi yr eglwys ydyw 66, yr Ysgol Sabbathol 64, y gynulleidfa 110. Y gweinidogion fu yn gofalu am yr eglwys hon, oeddynt y Parchn. J. Evans, Beaumaris; J. Griffith, Bulkley; T. Davies, Bodffordd; Henry Rees, Penuel Hope. Bu y Parch. Edward Morris, yn awr o Chwilog ac Abererch, Arfon, yn byw yma am beth amser, ac yn bur gymeradwy yn yr ardal. Yma yr erys y brawd W. Jones, yr hwn sydd yn llafurus a defnyddiol gartref ac yn y cylchoedd cyfagos.

TEMAN,

GROESLON.

ADEILADWYD y capel hwn yn y flwyddyn 1815. Dechreuwyd yr achos yma drwy offerynoliaeth y Parch. Benjamin Jones, yr adeg pan oedd y gwr llafurus hwnw yn gweinidogaethu yn Rhosymeirch a'r Capelmawr, Bu yr achos Annibynol yn hynod o flodeuog yn y lle hwn am rai blyneddau ar ol ei sefydliad: y gwrandawyr yn lluosog, a'r frawdoliaeth yn unol â gweithgar: yr oedd pob argoelion ar y pryd y deuai mewn amser yn achos cryf a dylanwadol iawn. Ond fel arall y bu: nid oedd yr un capel arall y pryd hwnw, yn nes na Niwbwrch, neu Brynsiencyn i'r lle hwn; ond pan godwyd capelau gan enwadau eraill yn y gymydogaeth, dechreuodd y gynulleidfa ymwasgaru. Bu y diweddar Barch. Hugh Lloyd, Towyn, yma am rai blyneddau yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn pregethu yn achlysurol. Y gweinidog sefydlog cyntaf yn y lle hwn, oedd y Parch. Evan Roberts, yr hwn a ddaeth yma o athrofa Llanfyllin. Ei olynydd ef oedd y Parch. William Roberts, yr hwn a fu farw yn mhen ychydig flyneddau ar ol ei ddyfodiad i'r wlad. Wedi hyny, bu y Parch. Ishmael Jones yma dros dymor lled faith. Mae yr achos yn y Groeslon wedi bod er's blyneddau lawer bellach, fel corsen ysig, neu lîn yn mygu; ond er hyny, y mae argoelion bywyd i'w ganfod ynddo. Y mae rhai o hen noddwyr yr achos yn parhau yn ffyddlon hyd yn bresenol, megis, Joseph Davies, Ysw., meddyg, Niwbwrch; a'r hen chwaer letygar, Jane Williams, Tŷ'r capel. Y gweinidog presenol ydyw y Parch. Hugh Roberts, yr hwn trwy ei lafur a'i ffyddlondeb di-flino a gasglodd yn ddiweddar y swm o £100, tuag at ddileu y gweddill o'r ddyled oedd yn aros ar y lle. Nifer aelodau yr eglwys yn y lle hwn a Niwbwrch ydyw 20, yr Ysgol Sabbathol 15, y gynulleidfa 30.


TABERNACLE

CAERGYBI.

YSGRIFENWYD sylwedd yr hyn a ganlyn o hanes yr achos Annibynol yn Nghaergybi, o'i ddechreuad hyd y flwyddyn 1822, gan un John Davies, yr hwn a symudodd i'r dref hon i fyw, Mawrth 21, 1817. Yr oedd cyn hyny, yn aelod o eglwys y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli. Dywed Mr. Davies, "yn nechreu Mehefin 1817, daeth y Parch. Owen Thomas, Carrog, a'r Parch. David Beynon, dau o weinidogion y sir i ymweled a Chaergybi ar neges bersonol. Canfyddais hwy yn myned ar hyd yr heol, ac aethum atynt, a gwahoddais hwy i fy nhŷ. Yn y man cymhellais hwy i bregethu i'r bobl cyn ymadael o'r dref. Addawsant wneyd, a chafwyd benthyg addoldy y Bedyddwyr i'r perwyl. Taenwyd y gair drwy y dref, fod dau o weinidogion yr Annibynwyr i bregethu yno nos dranoeth, a chafwyd cynulleidfa liosog i wrandaw. Y dydd canlynol, cyn ymadael gwnaethom gynygiad i geisio ffurfio achos yn y dref. Anogwyd fi gan y brodyr i ymofyn am le cyfleus i bregethu ynddo. Cyn hir, cefais hanes lle felly, ystafell ydoedd yn mesur 29 o droedfeddi wrth 20, yr hon a fuasai yn chwareudy, ac yn ysgoldy, ond yn awr yn wag. Gelwid hi "y parlyrau," am mai dau barlwr wedi eu gwneud yn un oedd. Anfonais lythyr at y Parch. Owen Thomas, i'w hysbysu o'r peth. Yn y cyfamser cynelid cyfarfod misol yn yr ynys, ac aeth Mr. Thomas i'r cyfarfod a'r llythyr gydag ef. Gwnaeth ei gynwysiad yn hysbys i'r brodyr oeddynt yn bresenol, ac wedi ystyried yr achos, penderfynwyd ar fod y Parch. D. Beynon i ddyfod i edrych y lle. Gwelodd Mr, Beynon fod yr adeilad yn hynod o adfeiliedig. "Yr oedd darnau o waelod y drws (meddai) wedi syrthio yn bydredig ymaith, yr holl ffenestri yn ddrylliedig, a'r tô mor dyllog fel na buasai yn bosibl aros yn yr adeilad ar gawod o wlaw. Er y cyfan, wrth weled y fath shell gref, ac eang, meddyliais y gallesid ei wneud yn lle cyfleus am dymor o leiaf. Aethum at yr hen foneddiges a'i perchenogai, ac wedi bir siarad, cydsyniodd a'm cais, a gorchymynodd y forwyn i estyn agoriad y "theatre" i mi. Taflodd ef ar y bwrdd, a theflais inau fy swllt yn ernes iddi, a'm calon yn bur lawen am i'r Arglwydd ei thueddu i roddi i ni ein dymuniad. Trefn y cymeriad oedd, fod i ni fyned i'r draul o adgyweirio yr adeilad, a thalu £5 o ardreth blynyddol am dani. Aethum a hysbysrwydd o hyn i'r cyfarfod misol cyntaf ar ol gwneyd y cytundeb, ac amlygodd pawb eu cymeradwyaeth o'r hyn a wnaed."

Yn fuan ar ol hyny, daeth y Parch. Robert Roberts, Treban, i'r dref, a rhoddodd seiri coed a cheryg ar waith i adgyweirio y lle, yr hyn a gostiodd £8. Bu y Parch. D. Roberts, Bangor, (wedi hyny o Ddinbych) mor garedig a dyfod yma, a chasglodd yr arian a enwyd yn y gymydogaeth mewn ychydig amser. Erbyn hyn, cafwyd cymdeithas amryw gyfeillion oeddynt wedi bod gyda'r achos mewn lleoedd eraill, Mr. Owen Lewis, o eglwys Beaumaris, yr hwn wedi hyny a adeiladodd ein Tabernacle. Gwelwyd llawer o'i ffyddlondeb ef tuag at yr achos gwan. Un arall o'r enw Thomas Williams, yr hwn oedd wedi bod yn aelod yn Bodedeyrn yn amser y Parch. John Jones, Ceirchiog, oddeutu 19 o flyneddau cyn hyn; a ail-ymunodd a ni, a bu yn aelod flyddlon a diacon gofalus hyd ei ddiwedd, a gellir argraffu ar garreg ei fedd, "yr hyn a allodd hwn efe a'i gwnaeth." Gorphenodd ei yrfa Awst 8, 1830. Yr oedd un arall o'r enw Robert Hughes o eglwys y Parch. Jonathan Powell wedi dyfod yma ddwy flynedd cyn hyn, ymunodd yntau a'r achos, a bu am yspaid yn gymorth mawr gyda'r canu &c. hefyd, yr oedd hen aelod arall o eglwys y Parch. J. Griffith, Caernarfon, wedi symud yma er's tua phum mlynedd gyda ei phriod Mr. David Roberts, barcer; yr oedd hwn yn ŵr didwyll yn ei alwedigaeth, fel yr hen frawd ffyddlon a chywir William Griffith, ei olynydd. Y rhagddywededig Mr. Roberts, oedd y cyntaf a dderbyniwyd yn "y parlyrau," ac erys byth yn ysgub y blaenffrwyth o eglwys yr Annibynwyr yn Nghaergybi.

Yn niwedd y flwyddyn 1817, cawsom gyfarfod pregethu, pryd yr ymwelwyd â ni gan amryw o weinidogion yr ynys. Cawsom lawer o anogaethau ganddynt i fyned yn mlaen, ac addewid y byddai iddynt. hwythau wneud a allent i'n cynorthwyo. Bu y cyfarfod hwn yn foddion i dynu sylw llaweroedd o'r newydd at yr achos, a'u henill i wrandaw. Er mor wael oeddym, dangoswyd caredigrwydd mawr ar y pryd i'r Cenhadau, yn enwedig gan Mr. John Ellis, swyddog perthynol i'r Dollfa, yr hwn a fu yn gyfaill calon, a chyn ei ddiwedd yn aelod ffyddlon gyda'r achos, fel y mae ei weddw, a'i blant, a'i ŵyrion eto ar ei ol. Ar ei fwrdd ef y ciniawodd yr holl bregethwyr ar ddiwrnod y cyfarfod cyntaf hwnw. Buom yn lled aniben yn cael cyfleustra i weinyddu yr Ordinhadau. Ond cawsom hyny hefyd mewn amser. Y Parch. Owen Thomas, Carrog, oedd y cyntaf a weinyddodd swper yr Arglwydd yn ein plith. Wedi hyny cafwyd y fraint hon yn lled gyson, a derbyniwyd ambell un i gymundeb, ond yn lled anaml. Yn y flwyddyn 1819, daeth William Parry a Margaret ei wraig yma i fyw, y rhai oeddynt aelodau yn Llanerchymedd; a buont yn ffyddlon iawn fel y mae eu hiliogaeth hyd heddyw. Erbyn hyn, yr oeddym yn alluog i gynal cyfarfodydd gweddi pan ein siomid am bregethwr, ac ar amserau eraill. Yn y flwyddyn 1821, daeth Rowland Jones a Margaret ei wraig yma i fyw. Yr oeddynt yn aelodau o'r blaen yn Llangadwaladr, a bu eu dyfodiad yn llawer o gysur a chalondid i ni. Fel hyn, rhwng dieithriaid a rhai wedi eu derbyn yn y lle, yr oeddym yn rhifo tua 12 o aelodau.

O herwydd fod prinder llefarwyr yn y wlad, byddem weithiau heb neb i lenwi y Sabbathau. Parai hyny lawer o ddigalondid i ni, ac. anturiasom feddwl am gael bugail i ofalu am danom. Buom yn ymddiddan a dau frawd ieuainc, un o Athrofa Llanfyllin, a'r llall o Athrofa Caerfyrddin. Cawsom addewid gan y ddau y deuent yma, ond fe'n siomwyd gan y naill a'r llall o honynt. Pan mewn iselder meddwl o'r herwydd, cawsom newydd da rhagorol gan y Parch. R. Roberts, Treban, sef fod Mr, William Griffith, Caernarfon, a'i frawd yn athrofa Caerfyrddin, ac os gallem gael ganddo addaw dyfod atom, y byddai yn debyg o fod o fendith i'r achos a'r gymydogaeth. Addawodd wneyd a allai tuag at hyny, ac felly y gwnaeth, Yn nechreu Awst, 1821, daeth cyhoeddiad John a William Griffith i fod yn pregethu yn Nghaergybi un o'r Sabbathau canlynol. Wedi i ni gael y cyhoeddiad, penderfynasom ofyn benthyg capel ein brodyr y Bedyddwyr, a chaniatwyd ef yn rhwydd iawn. Wedi i Mr. W. Griffith ddyfod, darfu i rai o honom ddefnyddio y cyfleusdra i ymddyddan âg ef ar y mater, ond ni roddodd un addewid, ac ni ddangosodd unrhyw wrthwynebiad ychwaith; addawodd ymweled â ni drachefu cyn dychwelyd i'r athrofa, ac ar ei ddyfodiad y tro hwnw, cawsom fwy o hamdden i ymddyddan, a chawsom beth cysur ganddo cyn ymadael. Pan ddaeth Mr. Roberts, Treban i'r dref, tywalltasom ein calonau iddo ar yr achos, a deallasom ei fod yntau ac eraill yn cydweithredu o'n plaid; er ein bod yn cael ein diystyru gan rai, fel ychydig o bobl dlodion, dim ond 13 o aelodau, heb na chapel na chynulleidfa ond un fechan iawn, eto, yn meddwl cael dyn ieuanc dysgedig a pharchus i ddyfod i'n plith. Yr oeddym wedi meddwl am wneyd cais at eglwysi y sir i'n cynorthwyo i gael gweinidog am flwyddyn neu ddwy, a chrybwyllwyd hyny hefyd gan rai o'r gweinidogion mewn cyfarfod misol; ond dywedodd Mr. Griffith os byddai i Dduw dueddu ei feddwl i ddyfod i Gaergybi, yr ymddiriedai ef yn y Duw hwnw am gynaliaeth heb gymhorth neb o'r eglwysi eraill. Felly y bu, ac y mae eglwys y Tabernacl yn ddigon parod i uno yn nghyd i alw cyfarfod o ddiolchgarwch i Dduw o herwydd ei ddyfodiad i'w plith. Cyn diwedd y flwyddyn 1821, cytunasom a'n gilydd i roddi galwad i Mr. Griffith i fod yn weinidog arnom, ac amlygasom ein penderfyniad i'n pleidiwr serchog Mr. Roberts, Treban. Gyda'r parodrwydd mwyaf, cefnogodd yntau ein bwriad, ac addawodd ysgrifenu yr alwad, ac y caem ninau y tro nesaf y deuai i'r dref, gyfleustra i'w llawnodi. Yn mhen tua mis ar ol hyn, daeth Mr. Roberts yma i bregethu, ac ar ddiwedd yr oedfa, bore Sabbath, galwodd y cyfeillion yn nghyd; yna amlygodd y dyben, sef i lawnodi galwad i Mr. W. Griffith, Caernarfon, yr hwn oedd ar y pryd yn Nghaerfyrddin, i ddyfod i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Wedi deall hyn, yr oedd pawb am y cyntaf i ddyfod yn mlaen. Disgwyliasom yn bryderus am atebiad, ac ni a'i cawsom er ein llawenydd; dywedai Mr. Griffith y byddai yn debyg o fod gyda ni y mis Gorphenaf canlynol; ac ar yr 16eg o'r mis hwnw, yn y flwyddyn 1822, cyfarfuasom mewn llawenydd mawr dros ben. Y Sabbath canlynol, sef yr 21ain, pregethodd Mr. Griffith oddi ar Act. xviii. 910." Y mae cofnodion Mr. Davies yn terfynu yma. Dilynir yr hanes hyd yn bresenol gan y Parch. W, Griffith,

Dywed Mr. Griffith, "Y mae dilyniad yr hanes uchod wedi ei adael i mi o 1822, hyd 1862, deugain mlynedd o daith yr anialwch; ond er fod yr amser yn faith, bydd yr adroddiad o hono yn fyr. Daeth yr alwad y cyfeirir ati yn y llinellau blaenorol i'm llaw Chwefror 16, 1822; ac ar ol ystyriaeth ddwys, a gweddi daer, tueddwyd fi i gydsynio â hi. Barnai fy athraw, y Parch. D. Peter, nad oeddwn yn gwneyd yn iawn, gan y gallaswn yn hawdd gael maes mwy manteisiol i lafurio. Dau beth a barodd i mi benderfynu. Un peth oedd bywyd yr achos yn Nghaergybi; sicrhai gweinidogion yr ynys y byddai raid iddynt ei roddi i fynu, os nad awn yno: nis gallwn oddef y meddwl o fod ei waed ar fy nwylaw. Peth arall oedd gradd o hyder yn addewid fy Nuw, na byddai arnaf eisiau dim daioni. Meddyliais pe buasai Syr John Thomas Stanley, oedd yn byw yn y gymydogaeth, yn addaw felly, y buaswn yn galonog; a theimlais mai gormod o sarhad fuasai amheu y Digelwyddog! er hyny yr oedd fy ffydd yn eg wan. Gyda bod y llythyr, yr hwn oedd yn cynwys atebiad cadarnhaol i'r alwad, wedi ei ollwng i'r llythyrgell, dywedais wrth fy nghyd fyfyriwr hoff, y Parch. Caleb Morris, yr hwn oedd gyda mi ar y pryd, y buasai yn dda genyf ei gael yn ol; ond yr oedd hyny yn anmhosibl, "yr hyn a ysgrifenwyd a ysgrifenwyd." Pan ddaethum yma, 6 o frodyr, a 7 o chwiorydd oedd yn gwneyd i fynu yr holl eglwys; y gwrandawyr yn nghylch 40. Enwau yr aelodau ydoedd, Robert Jones, Thomas Williams, William Parry, Rowland Jones, William Williams, John Davies, Margaret Jones, Catherine Jones, Jane Evans, Margaret Parry, Elizabeth Roberts, Mary Lloyd, a Margaret Griffith. Rhyfyg a fuasai iddynt addaw fy nghynal, ac o herwydd hyny agorais ysgol. Cefais nawdd y gymydogaeth a'r wlad, ac yn fuan ysgrifenodd y Dr. Abraham Rees, o Lundain ataf, i'm hysbysu fod ysgol y Dr. Daniel Williams i gael ei symud o'r man lle yr oedd. Gan fy mod o Goleg Caerfyrddin, a'r Dr. yn hen gyfaill i fy nhad, dywedai y carai fy nghefnogi trwy osod yr ysgol o dan fy ngofal. Bu hyny yn grya fantais i'r achos gwan, ac i minau. Pe gallaswn fyw heb yr ysgol, credwyf mai gwell ar y pryd oedd i mi ei chadw; yr oedd yn fy nwyn i gydnabyddiaeth, ac yn rhoddi i mi beth dylanwad er daioni ar y plant a'u rhieni. Urddwyd fi i gyflawn waith y weinidogaeth Medi 25ain a'r 26ain, yn y flwyddyn 1822. Gan nad oedd genym gapel eto o'r eiddom ein hunain, cynaliwyd y cyfarfod yn addoldy y Bedyddwyr. Nos Fercher, dechreuodd y Parch. J. Evans, Amlwch, a phregethodd y Parch. W. Cooper, Dublin, oddi ar Ioan i. 29; a'r Parch. D. Jones, Treffynon, yn Gymraeg, oddi ar 1 Tim. i. 15. Boreu dydd lau, am haner awr wedi 6, dechreuodd y Parch. D. Morgan, Machynlleth, a phregethodd y Parch. T. Lewis, Pwllheli, oddi ar Ioan v. 25. Am 9, dechreuodd y Parch. J. Rees, Manchester, a thraddodwyd y gynaraeth gan y Parch. W. Jones, Caernarfon, oddi ar 1 Cor. i. 2; gofynwyd yr holiadau gan y Parch, R. Roberts, Treban; dyrchafwyd yr urdd-weddi gan y Parch. D. Jones, Treffynon, gydag arddodiad dwylaw; a phregethodd y Parch, W. Cooper, ar ddyledswydd y gweinidog, oddi ar 1 Tim. iv. 12—16; a'r Parch. D. Roberts, Bangor, ar ddyledswydd yr eglwys, oddi ar 1 Thess. ii. 20. Am 2, dechreuodd y Parch. Owen Thomas, Llanfechell, a phregethodd y Parch. D. Morgan, Machynlleth, oddi ar Heb. xii. 4; a'r Parch. J. Breese, Llynlleifiad, oddi ar Can. vi. 9. Am 6, dechreuodd y Parch. J. Evans, Beaumaris, a phregethodd y Parch W. Cooper, oddi ar Salm lxxxix. 15; a'r Parch, Daniel Griffith (wedi hyny o Gastellnedd) oddi ar Ezec. xxxvii. 9. Y nos ganlynol, pregethodd y Parch, J. Rees, Manchester, a'r Parch, J, Griffith, Beaumaris, yn awr o Buckley, oddi ar Dat. xiv, 10, 11; a Iago i, 5, Pregethais inau y Sabbath canlynol oddi ar Eph, iii, 8,

Yr oedd yn beth anfantais y blyneddau cyntaf, fy mod y gweinidog sefydlog cyntaf erioed yn y dref; er fod yr enwadau eraill wedi hir ymsefydlu yma, byddent yn cael eu gwasanaethu gan amrywiaeth doniau o'r wlad bob Sabbath. Felly hefyd y gwasanaethid cynulleidfa "y parlyrau" am y 5 mlynedd cyntaf, a lletyai y brodyr yn fynych yn Crecristfawr gyda Mr. Griffith Roberts, ewyllysiwr da i'r achos y pryd hyny, ac aelod diwyd wedi hyny hyd derfyn ei oes, er fod ganddo dair milltir o ffordd i ddyfod atom. Da genym gael cyfleustra i groniclo ei enw teilwng; y mae rhai o'i hiliogaeth yn dilyn ei siampl yn Llynlleifiad, a Bryngwran, Môn. Trefn y gwasanaeth Sabbathol o 1822, hyd 1831, ydoedd cyfarfod gweddi am 7, oedfa Gymraeg am 10, ysgol am 2, ac oedfa Saesonaeg am 6. Gan fod y Llan y pryd hyny yn gauad y nos, byddai y Saeson elai yno y prydnawn, bron i gyd yn dyfod atom ninau yn yr hwyr. Gwelwyd fod hyn yn niweidio yr achos Cymraeg, ac o herwydd hyny peidiwyd â'r Saesonaeg; profodd y canlyniadau yn fuan mai iawn y gwnaethom. Ein gorchwyl mawr nesaf oedd adeiladu; cafwyd y safle mwyaf dewisol Maintioli y capel oedd 45 o droedfeddi wrth 39, ac oriel o'i amgylch yr oedd traul yr adeiladaeth yn £800. Yr adeiladydd oedd y rhagddywededig Mr. Owen Lewis, yn awr o Langefni. Yr oedd yr anturiaeth yn fawr, ond safodd y cyfeillion, Mr. Roberts, Treban; Mr. Ellis, Marchog; a Mr. Roberts, Tynygroes, o dan bwys y ddyled gyda mi. Y mae parch yn ddyledus i'w henwau teilwng oddi wrth aelodau y Tabernacle, o oes i oes. Pregethwyd ynddo gyntaf ar foreu Sabbath, Chwefror 22, 1824; y testyn y boreu hwnw oedd Neh. x. 39. Yn y flwyddyn 1845, helaethwyd y capel trwy ychwanegu vestry helaeth ato, ac ail-drefnu y llawr. Helaethwyd ef drachefn yn y flwyddyn 1856, trwy estyn saith llath at ei hyd, fel y cynwysai rhwng dau a thri chant yn fwy nag o'r blaen; costiodd yr helaethiad hwn £650, heb law £100 am y tir oedd o'r blaen yn edringol, ond yn awr sydd yn feddiant tragwyddol. Y mae yr Ysgol Sabbathol wedi gweithio yn orchestol i ddileu y ddyled, a disgwylir y bydd eleni (1862) wedi gorphen y gwaith. Y mae yma ysgoldy a thŷ anedd mewn cysylltiad a'r capel. Cynydd graddol a pharhaus sydd wedi bod ar yr achos yma. Cafwyd ychwanegiadau anghyffredin at yr eglwys, y fath ag a elwir yn ddiwygiadau." Cymerodd y blaenaf le yn yr haner blwyddyn gyntaf o fy ngweinidogaeth. Ymwelodd yr Arglwydd yn rasol iawn a ni y pryd hwnw. Derbyniwyd lliaws o aelodau, ac yn eu plith o benau teuluoedd, yn wyr a gwragedd gyda'u gilydd, y rhai fuont yn dra defnyddiol. Bu hyn yn foddion i'n calonogi yn fawr, fel arwydd er daioni. Cafwyd ymweliadau cyffelyb yn 1832 ac 1840. Hefyd, un arall grymus iawn yn 1848. Ond y mwyaf effeithiol o'r cyfan oedd, yr adfywiad nerthol yn 1859-60. Breintiwyd ni a thangnefedd heddychol o'r dechreu hyd yn bresenol. Unwaith y bygythiwyd yr eglwys ag ymraniad, pan yn ei phlentynrwydd dechreuol. Pwnc y ddadl oedd, pa un ai canwyllau dip, ai ynte canwyllau mold, a ddylesid ddefnyddio yn y "parlyrau," Yr oedd y naill blaid am ddangos yr achos allan yn anrhydeddus, a'r blaid arall am "ddarparu pethau onest yn ngolwg pob dyn," ac yn ofni y buasai y fold uwchlaw eu gallu hwy. Ond yr ydym ni eu holynwyr wedi myned uwchlaw y fold a'r dip, yn gymaint a bod y nwy (gas) ysplenydd wedi eu hymlid hwynt oll ymaith.

Mae y gynulleidfa gyda y blaenaf mewn ffyddlondeb yn ei chyfraniadau, at yr achos yn gartrefol ac yn gyffredinol. Breintiwyd ni hefyd a diaconiaid ffyddlon. Y mae 5 a fu yn gwasanaethu y swydd wedi myned i orphwys oddiwrth eu llafur, ar ol enill iddynt eu hunain "radd dda," sef Thomas Williams, David Hughes, Rowland Jones, Hugh Rowlands, a Robert Roberts, gynt o'r Bank. Mae y 9 sydd yn aros o gyffelyb feddwl, ac yn gwir ofalu. Nifer yr aelodau eglwysig ydyw 600, yr ysgol Sabbatbol 450, y gynulleidfa 950. Nid oes yn aros yn yr eglwys yn bresenol, ond un o'r 13 oedd gyda mi ar y cyntaf, sef, ein hanwyl chwaer bedwar ugain mlwydd, Catherine Jones. Trwy diriondeb trugaredd ein Duw, gallaf ddweyd bellach, "yn nghanol fy mhobl yr ydwyf fi yn trigo," ac yn eu canol yr ydwyf yn debyg o noswylio. Cefais gymhelliadau i'w gadael am Dreffynon, Caerfyrddin, Llynlleifiad, Caernarvon, a Llundain; ond methais a gweled fy ngalwad oddi yma mor amlwg o Dduw, ag yr ymddangosai fy nyfodiad yma." Y pregethwyr a godwyd yn yr eglwys hon, ydynt y Parchn. D. Rowlands, B. A., Llanbrynmair, ac E, Jones, Llanhaiarn, Arfon.

CANA,

LLANDDANIEL.

BUWYD yn pregethu, ac yn cadw ysgol Sabbathol yn rheolaidd yn yr ardal hon, mewn lle a elwir Careg-y-ddyfnallt, am rai blyneddau cyn adeiladu y capel. Yr oedd yma eglwys wedi ei ffurfio ar y pryd yn y tŷ rhag-grybwylledig, yn cynwys ynghylch 6 o aelodau. Y Parch. J. Evans, Beaumaris, a Mr, Richard Thomas, Ceryg-llwydion, Arfon oeddynt yn gofalu yn benaf am yr achos yn ei ddechreuad. Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1826. Yr oedd traul yr adeiladaeth yn £140. Ar ddydd ei agoriad, sefydlwyd y Parch. William Roberts gynt myfyriwr yn Athrofa Neuaddlwyd, yn weinidog yma. Llafuriodd yn llwyddianus am yn agos i bedair blynedd, pryd y rhoddodd angau derfyn ar ei fywyd defnyddiol. Dangosodd yr ardalwyr eu serch tuag ato ar ddydd ei gladdedigaeth, trwy fyned yn dyrfaoedd i hebrwng ei ran farwol i hen gladdfa Rhosymeirch. Bu yr eglwys hon drachefn am tuag 8 mlynedd o dan ofal gweinidogaethol y Parch. Ishmael Jones, mewn cysylltiad a Hermon a'r Groeslon. Ar ol ei ymadawiad ef, bu y Parch. William Evans, yn llafurio yma mewn undeb a'r Dwyran; ymadawodd yntau yn mhen ychydig flyneddau. Yn y flwyddyn 1855, helaethwyd yr addoldy, y gost yn £100. Yr oedd £40 o ddyled yn aros ar y capel cyn dechreu ar y gwaith o'i helaethu. Dilewyd yr holl ddyled oedd yn aros ar y lle trwy ymdrechiadau cartrefol, a chynaliwyd cyfarfod Jubilee ar yr achlysur, Mehefin 24, 1861. Tra y buwyd yn helaethu yr addoldy, fe ymgyfarfyddai y gynulleidfa i addoli yn ysgubor yr Hen-siop, lle y cafwyd llawer cyfarfod gwresog a llewyrchus iawn. Bu y weinidogaeth yn "allu Duw" yn nychweliad rhai yn y lle hwnw. Nid doeth ydyw diystyru "crefydd yr ysguboriau." Yn niwedd y flwyddyn 1857, torodd y wawr mewn modd neillduol ar yr eglwys hon. Am amser maith, ni byddai Sabbath yn myned heibio, o'r bron, heb fod rhyw nifer yn aros o'r newydd yn y gyfeillach grefyddol. Profwyd dylanwad yr adfywiad diweddar yn nerthol iawn yma, yn gymaint felly, ond odid, ag a wnaed yn un lle arall yn yr ynys. Mae yn llawen genym ddeall fod y cyfeillion yn y lle hwn, yn adeiladu addoldy helaethach a mwy cyfleus y flwyddyn hon (1862). Y draul yn £400. Rhifedi yr aelodau ydyw 100, yr ysgol Sabbathol yn 90, y gynulleidfa 200.

HOREB,

PENMYNYDD.

Yn y plwyf hwn y pregethwyd gyntaf gan yr Ymneillduwyr yn ynys Mon. Gweinidog Annibynol oedd y pregethwr, sef, y Parch. Lewis Rees, o Lanbrynmair, ac ar gais aelod eglwysig gyda'r Annibynwyr, sef Mr. William Pritchard, Plas-Penmynydd, (wedi hyny o Fodlewfawr a Chlwch-dernog) yr ymwelodd a'r lle.[6]

Dechreuwyd pregethu yn y lle hwn mor foreu a'r flwyddyn 1742, chwech ugain mlynedd yn ol, eto, ni sefydlwyd yr un achos crefyddol yma hyd yn lled ddiweddar. Yr oedd gwahanol bethau yn achosi hyn. Colled fawr i'r achos crefyddol yn Mhenmynydd oedd symudiad Mr. William Pritchard o'r ardal, gan mai efe oedd y prif offeryn i'w ddwyn yn mlaen. Yr oedd yr ysbryd erledigaethus a chreulawn a ddangoswyd o bryd i bryd yn y lle hwn, yn tueddu hefyd i ddigaloni y rhai a ewyllysient wneuthur daioni. Nid ydyw y plwyf ychwaith yn un poblogaidd, ac y mae aneddau y trigolion yn hynod o wasgarog. Ymddengys i'r ardal hon gael ei gadael yn ymddifad o foddion crefyddol rheolaidd (oddi eithr yn eglwys y plwyf) am dymor maith ar ol i'r terfysgwyr roddi atalfa ar y cyfarfodydd a gynelid yn y Minffordd.

Arferai yr ychydig gyfeillion Annibynol oeddynt yn y plwyf, yn flaenorol i sefydliad yr achos yn eu plith, fyned yn rheolaidd i Rhosymeirch i addoli. Un o'r rhai ffyddlonaf yn eu mysg oedd yr hen chwaer oedranus Mary Francis, Tynewydd. Pan aeth yn analluog i deithio mor bell, o herwydd henaint a gwaeledd, deuai y cyfeillion crefyddol yn fynych o Rosymeirch a Phentraeth i ymweled â hi, a chynalient gyfarfodydd gweddi yn ei thŷ. Dywedir y byddai y cyfarfodydd hyny yn rhai bywiog a hyfryd dros ben; daeth y gymydogaeth yn fuan i'w hoffi, a dechreuwyd ymofyn am le cyfleus i bregethu yn achlysurol. Cydsyniodd un William Jones, Ty'nycae, a chais y brodyr, a rhoddodd ei dŷ i'r perwyl hwnw. Pregethid ar brydiau yn y Tymawr a manau eraill yn yr ardal, ond Ty'nycae oedd y prif dŷ cyfarfod yr adeg hono. Yn mhlith eraill a ddeuent yma i bregethu, coffeir am y Parchn. Owen Thomas, Carrog; Jonathan Powell, Rhosymeirch; a John Evans, Beaumaris; a deuai Mr. Hugh Lloyd, Groeslon; a Mr. Hugh Hughes, Dulas, yma yn lled fynych. Cyn hir, symudwyd yr achos o Ty'nycae i dŷ gwag o'r enw Dragon bach, lle y buwyd yn addoli hyd nes yr adeiladwyd y capel yn y flwyddyn 1827. Gofelid am yr achos yn y Dragon, yn benaf, gan y Parch. John Griffith, yn awr o Buckley. Parhaodd yr achos i gynyddu o dan ofal Mr. Griffith, fel pan symudwyd i'r capel yr oedd nifer yr aelodau yn 25. Yr oedd y personau canlynol yn mhith yr aelodau cyntaf, sef Hugh Roberts, Rhydyrarian; Michael Thomas, Gylched; John Jones, Glanyllyn; Owen Evans, Graigbach; Margaret Lewis, Tymawr; Mary Francis, Tynewydd; Mary Parry, Caehelyg; ac Ann Griffith, 'Ralltgeint. Costiodd yr addoldy a thŷ cyfleus mewn cysylltiad ag ef yn nghylch £180; a thalwyd y cyfan gan gyfeillion yr achos yn y gymydogaeth. Nifer yr aelodau yn Horeb ydyw 42, yr Ysgol Sabbathol 60, y gynulleidfa 100. Y gweinidogion fu yn gofalu am yr eglwys hon ar wahanol amserau oeddynt, y Parchn J. Evans, Beaumaris; John Griffith, yn awr o Buckley; Thomas Davies, Bodffordd; Henry Rees,, Penuel Hope; David Davies, Ceryg-cadarn; Cadwaladr Jones, yn awr o America; ac Owen Evans, Llundain. Bu yr hybarch Thomas Jones yn cadw ysgol ddyddiol, ac yn pregethu yma dros lawer o flyneddau.

CARMEL,

MOELFRO.

DYGWYD y gymydogaeth hon i gryn gyhoeddusrwydd, yn ei pherthynas â drylliad y "Royal Charter," yr agerlong odidog a gurwyd gan y dymhestl ar greigiau Moelfro, Hydref 26, 1859, pryd y collwyd yn agos i 500 o fywydau. Canmolid y trigolion ar y pryd, yn mhrif newyddiaduron y deyrnas, am eu gonestrwydd, a'u parodrwydd i ymgeleddu y rhai a achubwyd, ac i gysuro y rhai trallodedig. Ni dybiwn fod yr anrhydedd a ddeilliaw oddi wrth y fath ganmoliaeth, i'w briodoli, yn benaf ac yn flaenaf i'r addysg grefyddol a gyfranwyd i'r trigolion, trwy bregethiad yr efengyl, a'r Ysgol Sabbathol; yr oeddynt yn adnabyddus â chynwysiad royal charter y dwyfol datguddiad, cyn i "Royal Charter" Gibbs, Bright, a'u Cyf, arllwys ei thrysorau ar eu glenydd. Yr oedd dylanwad blaenorol y naill, wedi eu haddasu `i weithredu yn deilwng yn eu perthynas ofidus â'r llall.

Nis gallwn ddweyd gydag un gradd o sicrwydd, yn mha flwyddyn y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn Moelfro. Yr

amgylchiad a arweiniodd i hyny sydd fel y canlyn:-Yr oedd yma un Elizabeth Owen, gwraig i Mr. Thomas Owen, un o ddiaconiaid presenol yr eglwys, yr hon oedd yn aelod o eglwys Soar, Rhosfawr, Gan nad allai gyraedd pob moddion a gynhelid yn Rhosfawr ar y Sabbath, o herwydd pellder y ffordd ac amgylchiadau teuluaidd, llwyddodd i gasglu ychydig o ferched yn nghyd i gynal Ysgol Sabbathol, ar ryw ran o'r dydd yn Moelfro; cynyddodd yr ysgol mewn nifer, ac yn mhen rhyw yspaid, gwahoddwyd y Parch. Thomas Davies, Pentraeth, y pryd hwnw, ynghyd ag eraill, i ddyfod yma i bregethu. Ar ol bod yn cynal moddion crefyddol am beth amser, gyda graddau o lwyddiant, mewn ty annedd yn y lle, adeiladwyd yr addoldy presenol yn y flwyddyn 1827. Costiodd y capel a'r ty a berthynai iddo, yn nghylch £150. Nifer y cymunwyr pan aed i'r capel newydd oedd 25. Y gweinidog cyntaf a fu yma oedd y Parch. Evan Williams, yr hwn a gadwai ysgol ddyddiol mewn undeb â'r weinidogaeth; bu yma am oddeutu chwe blynedd yn ddiwyd a ffyddlon, pryd yr ymfudodd i'r America. Yn mhen tua dwy flynedd drachefn, gwahoddwyd Mr. Henry Edwards, gwr ieuanc hynaws a gwir deilwng, i ymsefydlu yma; yr oedd Mr. Edwards yn frawd i'r Parch, Thomas Edwards, gweinidog presenol Ebenezer, Arfon. Ni bu ei dymor gweithio ond byr; cyn iddo fod ddwy flynedd gyflawn ar y maes, dechreuodd ei iechyd wanhau, ac er pob moddion a ddefnyddiwyd i gael adferiad, gorfodwyd ef o'r diwedd i ddychwelyd i'w ardal enedigol i farw. Y gweinidog nesaf, oedd y Parch. Thomas Davies, yn awr o Bodffordd, Môn; yr oedd Moelfro a Rhosfawr yn cyd gyfranogi o lafur gweinidogaethol Mr. Davies: llafuriodd yma yn ffyddlon dros lawer o flyneddau. Y mae golwg obeithiol ar yr achos hwn yn bresenol; adgyweiriwyd yr addoldy yn ddiweddar, a thalwyd yr holl gostau gan y cyfeillion crefyddol gartref. Mae y gynulleidfa yn myned ar gynydd, a'r eglwys yn parhau yn fywiog ac unol yn eu hymdrechiadau. Mae y capel yn ddi ddyled. Nifer yr eglwys ydyw 55, yr Ysgol Sabbathol 80, y gynulleidfa 100.

HEBRON,

MYNAEDDWYN.

DECHREUWYD pregethu yn y lle hwn, mewn tŷ anedd a gymerwyd i'r perwyl gan y diweddar Mr. Owen, Trewyn, a Mr. Jones, Clarach. Yn fuan, aeth y tŷ yn rhy fychan i gynal y gynulleidfa, a phenderfynwyd adeiladu yr addoldy presenol, yr hyn a wnaed yn y flwyddyn 1829. Priodolir dechreuad yr achos hwn i ffyddlondeb y ddau foneddwr uchod, yn nghyda 'u teuluoedd; buont yn dra ffyddlon, ac aethant i gryn draul gyda'r adeiladaeth, ac wedi hyny i gynal yr achos am dymor maith. Arferent gyfranu yn haelionus at bob achos teilwng, ac yn neillduol ar wahanol adegau tuag at ddileu y ddyled oedd yn aros ar yr addoldy, Er fod y ddau wedi eu symud i'r bedd, y mae amryw o'u plant yn aelodau ffyddlon gyda'r Annibynwyr mewn gwahanol fanau; ychydig o honynt yn awr sydd yn nghymydogaeth Hebron. Achos lled wan sydd yma; nid yw yr ardal yn un boblogaidd, ac y mae llawer o symudiadau lled bwysig wedi cymeryd lle yma: rhai aelodau defnyddiol wedi symud i barthau eraill o'r wlad, amryw wedi ymfudo i'r America a lleoedd eraill, ac eraill wedi cael eu symud i'r bedd. Yn flaenorol i'r symudiadau hyn, yr oedd pethau yn llawer gwell nag ydynt yn bresenol. Mae yma amryw yn parhau yn ymroddgar a ffyddlon yn ngwasanaeth eu Harglwydd, ac yn ddefnyddiol gyda gwahanol ranau y gwaith; trwy gymhorth gras y maent yn cyrchu at y nôd, ac yn arddangos graddau helaeth o addfedrwydd i fyd gwell. Swm y ddyled sydd yn aros ar yr addoldy ydyw £60, Nifer yr aelodau yn bresenol ydyw 40, yr Ysgol Sabbathol tua 30, y gynulleidfa yn 60. Mae yr eglwys hon mewn cysylltiad â Llanerchymedd, o dan ofal gweinidogaethol y Parch. John Roberts.

BETHESDA,

LLANFACHRETH.

ADEILADWYD yr addoldy hwn yn flwyddyn 1834, trwy offerynoliaeth y Parch. Thomas Owen, Llanfechell; yr oedd y draul yn ryw gymaint dros £200. Bu Mr. Owen yn hynod o ddiwyd yn casglu tuag ato yn yr ardal hon ac mewn lleoedd eraill, fel y llwyddodd i leihau y ddyled i £160. Nid oedd yn y gymydogaeth hon yr adeg hono, ond dau aelod yn perthyn i'r Annibynwyr, sef Owen Williams, Pen y graig, a'i briod; bu y ddau yn cynal y gyfeillach grefyddol eu hunain, heb reb arall gyda hwy y maent yn parhau yn ffyddlon hyd y dydd hwn, ac wedi cael y fraint o weled eu plant yn aelodau o'r eglwys. Cynyddodd yr achos o flwyddyn i flwyddyn o dan weinidogaeth Mr. Owen, ac wedi hyny, o dan ofal y Parch, David Davies. Wedi ymadawiad yr olaf, bu y Parchn, W. Roberts, ac R. E. Williams, yn llafurio yma am amryw flyneddau. Yr oedd yr achos yn Llanfachreth yr holl yspaid blaenorol mewn undeb â Llanddeusant, ac ar ol ymadawiad Mr. Williams y cyd gyfranogodd yn mreintiau y weinidogaeth â Saron, Bodedeyrn; ac felly y mae yn aros hyd yn bresenol. Oddeutu 8 mlynedd yn ol, talwyd £10 o'r ddyled oedd yn aros; wedi hyny, casglwyd trwy ymdrechiadau cartrefol y swm o £30, a derbyniwyd allan o drysorfa y Cyfarfod Chwarterol £20; yr hyn a alluogodd y cyfeillion i ddileu £50 yn rhagor o'r ddyled. Y mae gan yr eglwys ychydig eto mewn llaw i gyfarfod â'r gweddill o'r ddyled sydd yn aros, sef £100, Nifer yr aelodau ydyw 55, yr Ysgol Sabbathol 45, y gynulleidfa yn 80. Cafwyd colled drom yn yr eglwys hon trwy farwolaeth y brawd cywir a ffyddlon Mr. Thomas Humphreys, ond hyderwn yn gryf ei fod yn derbyn ei wobr yn ardal lonydd yr aur delynau, Dywed y Parch, John Hughes, gweinidog presenol yr eglwys, fod golwg siriol a chynyddol ar yr achos, a bod yr eglwys yn dra unol a gweithgar.

REHOBOTH,

MAELOG,

MEWN pentref bychan o'r enw Rhosyneigyr y dechreuwyd pregethu gan yr Annibynwyr yn y gymydogaeth hon. Yr oedd y Parch, G. Rhydero yma ar y pryd yn cadw ysgol ddyddiol, ac efe a fu yn offerynol i ddechreu yr achos. Cesglid cynulleidfaoedd lluosog yn Rhosyneigyr yr adeg hono, a chredir hyd heddyw mai yno y dylesid adeiladu y capel, yn hytrach nag yn y llanerch anmhoblogaidd lle y mae. Adeiladwyd Rehoboth yn y flwyddyn 1837; costiodd y capel a'r tŷ a berthynai iddo tua £140, Rhifedi yr aelodau pan aed i'r capel oedd 9. Yr oedd yr achos hwn am rai blyneddau mewn cysylltiad â Salem, Bryngwran, ond o herwydd pellder y ffordd sydd rhyngddynt, gwelwyd o'r diwedd fod y cynllun yn anfanteisiol i'r ddau le, a thorwyd yr undeb. Yn y flwyddyn 1857, ordeiniwyd y diweddar Barch. Richard Roberts i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lle hwn. Bu y brawd ffyddlon yma yn ymdrechgar iawn gyda'r achos, am yn agos i bedair blynedd, pryd y rhoddodd angau derfyn ar ei oes; yr oedd hyn yn golled fawr i'r achos gwan. Yr oedd Mr. Roberts yn gyfaill serchog a didwyll, yn ddichlynaidd a duwiol yn ei ymarweddiad, yn bregethwr cymeradwy, ac yn hynod o barchus yn ngolwg pob dosbarth yn ei ardal; hebryngwyd ei ran farwol gan dorf alarus, i orwedd yn mynwent y Capelmawr. Yn y flwyddyn 1859, cynhaliwyd cyfarfod Jubilee yma, ar yr achlysur o symudiad y ddyled oedd ar y lle. Nifer yr aelodau ydyw 29, yr Ysgol Sabbathol 20, y gynulleidfa 45. Gofelir yn bresenol am yr eglwys hon, mewn undeb â Siloam, Llanfairyneubwll, gan Mr. Hugh Thomas, Llangefni,

SION,

LLANBADRIG.

ADEILADWYD yr addoldy hwn yn y flwyddyn 1838. Cymerwyd gofal gweinidogaethiol yr eglwys hon gyntaf gan y Parch. David Roberts, yn awr o Gaernarfon, mewn undeb a Siloh, Nifer yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd 8. Yn mhen rhyw yspaid, symudodd Mr. Roberts i Fanchester, lle y bu yn gofalu am yr eglwys Gynulleidfaol yn Gartside St. am amryw flyneddau. Ar ei ddychweliad yn ol i Gymru, ymsefydlodd yr ail waith yn y gymydogaeth hon, a bu yn llafurio yn llwyddianus yma, mewn cysylltiad a Llanfechell a Chemmaes, hyd nes y symudodd drachefn i Gaernarfon. Ar ei ol ef daeth y Parch. John Jones, yn awr o Faentwrog yma. Llafuriodd Mr. Jones yn egniol yn yr ardal hon am yn agos i bum mlynedd, pryd y symudodd i'r lle a enwyd. Y mae yma amryw o deuluoedd parchus yn "cyfranu i gyfreidiau y saint, ac yn dilyn llettygarwch." Yn eu plith gellir enwi Mrs. Thomas a'i theulu, Clegyrog, Mr, E. Thomas, Fodolisaf; Mr. Hugh Williams, Fodoluchaf; a theulu caredig Glanygors. Ymddifadwyd yr eglwys hon trwy angeu, o wasanaeth un o ffyddloniaid Sïon, sef Mr. Owen Thomas, Clegyrog. Yr oedd Mr. Thomas yn fab i'r diweddar Barch. Owen Thomas, Carrog. Yr oedd y brawd hwn yn Gristion cyson, didwyll, a thangnefeddus. Bu yn offeryn i ddechreu yr achos yn y lle, a pharhaodd yn ffyddlon gydag ef byd derfyn ei oes. Efe a aeth i dangnefedd. Mae yr addoldy hwn wedi cael ei adgyweirio a'i harddu yn ddiweddar, ac nid yn aml y gwelir addoldy bychan mor ddestlus mewn ardal wledig. mae yn anrhydedd i'r cyfeillion a berthynant i'r lle. Mae yr addoldy a'r tŷ a berthyna iddo yn ddi ddyled. Rhifedi yr aelodau ydyw 60, yr Ysgol Sabbathol 40, y gynulleidfa 110.


SILOH,

LLANRHWYDRYS

SEFYDLWYD yr achos Annibynol yn y lle hwn trwy offerynoliaeth y diweddar Mr. John Roberts (Edeyrn Mon). Yn flaenorol i hyn arferai Mr. Roberts a'i deulu fyned i Ebenezer, Llanfechell, lle yr oedd efe a'i briod yn aelodau. Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1838; costiodd £120; talwyd o'r swm yma £25, ac y mae £95 o ddyled eto yn aros. Y gweinidog cyntaf a fu yma oedd y Parch. D. Roberts, yn awr o Gaernarfon. Ordeiniwyd ef i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lle hwn a Sion, yn y flwyddyn 1840. Ar ol ymadawiad Mr. Roberts, daeth Mr. Matthew Lewis (wedi hyny o Dreffynon) yma i gadw ysgol, ac i bregethu yn achlysurol. Yn y flwyddyn 1843, newidiodd yr eglwys ei chysylltiad gweinidogaethol, trwy ymuno a Llanddeusant, a daeth y Parch. W. Roberts yma yn rheolaidd i'w gwasanaethu. Wedi hyny, bu y Parch. R. E. Williams, yma am yn agos i 12 mlynedd. Yn y flwyddyn 1861, dechreuodd y Parch. T. T. Williams, y gweinidog presenol, ar ei weinidogaeth yma, mewn undeb â Llanddeusant. Codwyd dau o bregethwyr yn yr eglwys hon, sef y Parch. R. Thomas, Penrhiwgaled, sir Aberteifi; a'r Parch. E. Morris, Abererch a Chwilog, Arfon. Yr amgylchiad mwyaf gofidus a gyfarfu â'r achos, oedd marwolaeth ei brif noddwr Mr. John Roberts (Edeyrn Môn), a'i anwyl briod; bu Mr. Roberts farw Hydref 1, 1855, a Mrs. Roberts yn mhen pedwar diwrnod ar ei ol: buont yn ymdrechgar iawn gyda'r achos hwn o'i gychwyniad, a gadawsant dystiolaeth ar eu holau fod pob peth yn dda, pan yn gwynebu byd arall. Da genym ddeall fod y plant yn efelychu eu rhieni duwiol, mewn diwydrwydd a ffyddlondeb gydag achos yr Arglwydd. Nifer aelodau yr eglwys ydyw 24, yr Ysgol Sabbathol 24, y gynulleidfa 50. Aelod o'r eglwys hon ydyw y brawd Mr. W. Williams, yr hwn a berchir yn fawr fel cristion cywir, a phregethwr cymeradwy.

EBENEZER,

LLANFAIRYBORTH.

MAE yr addoldy bychan hwn yn sefyll ar le prydferth, yn ymyl cofgolofn goffadwriaethol y diweddar Ardalydd Môn, gerllaw yr afon Menai. Gwerthwyd yr addoldy gan ein brodyr y Wesleyaid i'r Annibynwyr yn y flwyddyn 1839, am £90; a bu y draul o'i adgy weirio, cyn dechreu addoli ynddo, yn £30. Nifer yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd 14. Bu yr achos hwn yn ei gychwyniad yn bur llwyddianus; cynyddodd yr eglwys yn fuan i 35 o aelodau. Tua thair blynedd ar ol dechreuad y gwaith sanctaidd yn y lle, rhoddodd yr eglwys alwad i Mr. Owen Owens, un o'r gymydogaeth, i weinidogaethu yn eu mysg. Ni pharhaodd yr undeb hwn yn hir, oblegid ymfudodd Mr. Owens a'i deulu yn fuan i'r America. Ar ol ei ymadawiad, cytunodd yr eglwys â'r frawdoliaeth yn Berea a Phenmynydd, i roddi galwad unedig i'r Parch. Cadwaladr Jones, Ffestiniog y pryd hwnw, i'w bugeilio yn yr Arglwydd; cydsyniodd Mr. Jones â'u cais, a bu ei lafur yn fendithiol i'r tair eglwys. Ar ei ol ef, urddwyd y brawd P. G. Thomas, Hermon, i gyflawn waith y weinidogaeth yn y lle, mewn undeb â Beulah, Arfon, Wedi llafurio am oddeutu 6 blynedd, ymadawodd Mr. Thomas i gymeryd gofal yr eglwys Gynulleidfaol yn Pennorth, sir Frycheiniog: bu yr achos wedi hyny yn dra isel a dilewyrch-dim ond dau neu dri o frodyr, a rhyw nifer cyffelyb o chwiorydd yn ymgynull i'r lle. Deuai y Parch. Richard Hughes, Gwalchmai, yma yn fisol yr adeg hono i "dori bara" i'r ychydig ffyddloniaid, Gofynent yn hiraethlawn yn eu hymbiliau wrth orsedd gras, "Pwy a gyfyd Jacob, canys bychan yw ?" Ar ol noswaith ddu a chymylog, gwelodd Duw yn dda i ymweled â'r ddeadell fechan oedd bron a diffygio, megis â chodiad haul o'r uchelder, Daeth awelon y diwygiad" diweddaf heibio, ireiddiwyd ysprydoedd yr ychydig ddisgyblion, a daeth llaw yr Arglwydd yn amlwg gyda'r weinidogaeth; ymunodd rhai degau â'r eglwys yr adeg hono. Gall yr eglwys hon ddweyd fel Sïon gynt, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen." Nifer presenol yr aelodau ydyw 40, yr Ysgol Sabbathol 40, y gynulleidfa yn nghylch 60. Y cyfanswm a gasglwyd yn yr ardal at ddileu dyled y capel ydyw £55, a derbyniwyd £15 allan o drysorfa y Cyfarfod Chwarterol, felly y mae £50 o'r ddyled eto yn aros.

BEREA,

LLANIDAN.

DECHREUWYD Cynal moddion crefyddol rheolaidd gan yr Annibynwyr yn y gymydogaeth hon, yn y flwyddyn 1839. Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1840, a chynhaliwyd cyfarfod ei agoriad y Sulgwyn, yn yr un flwyddyn; yr oedd traul yr adeiladaeth yn agos i £200. Yn flaenorol i hyn, arferai yr ychydig gyfeillion Annibynol oeddynt yn byw yn yr ardal, i fyned i Cana, Llanddaniel, i addoli; yno yr oeddynt yn aelodau eglwysig.

Gan fod poblogaeth yr ardal hon yn cynyddu mor brysur ar y pryd, a'r addoldai agosaf gan belled oddi wrth y trigolion, anturiwyd codi addoldy mewn man cyfleus yr y gymydogaeth; ac ni bu yr anturiaeth yn ofer, fel y dengys y nodiadau canlynol, Nifer yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd 11, sef pedwar o feibion a saith o ferched. Y gweinidog sefydlog cyntaf oedd y Parch. David Davies, yr hwn a ddaeth yma o Landdeusant; bu yma am oddeutu tair blynedd, a symudodd i Langefni, Yr oedd sefyllfa yr achos yn bur isel a dyryslyd yr adeg hono; ond mewn canlyniad i ffyddlondeb yr ychydig gyfeillion yn y lle, yn nghyda bendith yr Arglwydd ar eu hymdrechiadau, cawsant yr hyfrydwch o weled yr achos yn llwyddo drachefn yn eu mysg. Ar ol ymadawiad Mr. Davies, rhoddwyd galwad unol i'r Parch, Cadwaladr Jones, Ffestiniog y pryd hwnw, i ymsefydlu yma. Ymddengys fod gan y bobl galon i weithio ar ddyfodiad Mr. Jones i'r lle. Cynyddodd y gynulleidfa gymaint, fel y bu yn angenrheidiol gwneyd mwy o eisteddleoedd, a threuliwyd y swm o £30, mewn amryw welliantau y tu fewn i'r addoldy. Lluosogwyd yr eglwys hefyd mewn rhifedi y cyfnod hwnw, o 30 i 60 o aelodau mewn ychydig amser. Yn mhen tua thair blynedd, symudodd Mr. Jones i Langollen. Wedi hyny, daeth y Parch, Owen Evans, yn awr o Lundain, yma. Bu ei weinidogaeth yn fendithiol i laweroedd yn y gymydogaeth hon; coffeir hyd heddyw am ei bregethau gwir efengylaidd ac adeiladol : symudodd oddi yma i Faentwrog. Yn nhymor yr adfywiad diweddaf a ymwelodd â Môn, derbyniwyd 70 o aelodau yn ychwanegol at yr eglwys; y mae y mwyafrif o lawer o honynt yn parhau yn ffyddlon hyd yn bresenol. Yn niwedd yr hâf 1860, helaethwyd yr addoldy, a gwnaed ef yn deilwng o'r achos a gynhelir ynddo; yr oedd traul yr helaethiad yn £100. Talwyd yr holl dreuliau blaenorol i'r helaethiad diweddaf oddieithr £22, trwy gyfraniadau cartrefol Y mae yn nghylch £70 o ddyled yn aros. Ymddengys fod yma ffyddlondeb anghydmarol wedi, ac yn cael ei ddangos o blaid yr achos, Mae gan y bobl galon i weithio. Y mae eu teimlad bywiog a phenderfynol, yn gorchfygu pob rhwystrau a'u cyferfydd. Yn ddiau y mae gwobr i'w gwaith. Nifer aelodau yr eglwys ydyw 100, yr Ysgol Sabbathol 85, y gynulleidfa 200.

SILOAM.

TALWRN

PREGETHAI y diweddar Barch. Benjamin Jones, Rhosymeirch yn yr ardal hon oddeutu 70 o flyneddau yn ol; yr oedd yma ddau neu dri yn proffesu gyda'r Annibynwyr ar y pryd, ac yn aelodau o eglwys Mr. Jones. Yn y flwyddyn 1841, yr adeiladwyd yr addoldy presenol; yr oedd y draul yn nghylch £90. Mae yr achos hwn wedi bod yn lled isel a di gynydd y blyneddau diweddaf. Bu yma ddyled drom yn llethu yr achos, ond y mae yn awr wedi ei symud. Trwy ymdrech cartrefol, yn nghyda'r cymorth a dderbyniwyd o gyfarfod chwarterol y sir, gorphenwyd talu y ddyled yn y flwyddyn 1860. Nifer yr aelodau ydyw 17, yr Ysgol Sabbathol 25, y gynulleidfa 45. Codwyd un pregethwr yma, sef y Parch. R. W. Roberts, Clarach, sir Aberteifi. Mae yr eglwys hon mewn undeb â Phentraeth, o dan ofal gweinidogaethol y Parch. D. Williams.

SILOAM,

LLANFAIRYNEUBWLL.

BUWYD yn addoli mewn tŷ anedd yn yr ardal hon, am tua thair blynedd cyn adeiladu y capel hwn. Pregethai y gweinidogion cymydogaethol yn achlysurol, yn nghydag eraill a ymwelent â'r ynys. Adeiladwyd yr addoldy yn y flwyddyn 1843, y draul arianol yn £50. Dangosodd yr ardal ei chydymdeimlad â'r achos trwy gludo y defnyddiau yn rhad. Bu Mr. R. Williams, Carna, y pryd hwnw, a Mr. O. W. Williams, Coedelen, yn hynod o ymroddgar fel arolygwyr yr adeiladaeth. Yr oedd golwg pur lewyrchus ar yr achos hwn yn ei gychwyniad, a pharhaodd felly dros amryw flyneddau. Ond daeth yn auaf arno. Yr oedd y cyfnod rhwng y blyneddau 1855, a 1859, yn dymor oer, diffrwyth, a digynydd ar yr achos hwn. Coffeir yn barchus yn yr ardal, am ffyddlondeb y brawd John Owen, Crossing, yn yr adeg hono; ac am garedigrwydd teuluoedd parchus Carna, a Threflysg, yn lletya y pregethwyr. Bu yr adfywiad crefyddol yn 1859-60, yn anmbrisiadwy werthfawr i'r eglwys hon; ymunodd llawer o'r newydd â hi. Y mae golwg obeithiol ar yr achos yn bresenol, fel y dengys y cyfrif canlynol. Nifer yr aelodau ydyw 36, yr Ysgol Sabbathol 50, y gynulleidfa 90. Trwy ymdrechiadau cartrefol, yn nghyda 'r hyn a dderbyniwyd allan o drysorfa y Cyfarfod Chwarterol, y mae y capel yn bresenol yn ddi ddyled. Bu y Parch. W. Evans, yn awr o Fagillt, yn gofalu am yr eglwys hon mewn cysylltiad â Bodedeyrn a Llanfachreth. Wedi hyny, bu y Parch. J. Hughes yn gweinidogaethu yma. Gan fod y ddwy eglwys a enwyd yn galw am fwy o amser a llafur en gweinidog, gorfu ar Mr. Hughes roddi ei weinidogaeth yma i fynu. Yna ymunodd yr eglwys hon â Rehoboth, Maelog, i gyd gyfranogi o weinidogaeth y diweddar Barch. R, Roberts. Ni bu yr undeb hwn ond byr. Ar ol gwasanaethu yma am ysbaid naw mis, symudwyd y gwas ffyddlon hwn gan angau o faes ei lafur, i fwynhau "taledigaeth y gwobrwy." Gofelir yn bresenol am yr eglwys hon, gan y brawd Mr. Hugh Thomas, Llangefni.

SARON,

BODGADFA.

YMDDENGYS llaw Rhagluniaeth yn amlwg yn sefydliad yr achos crefyddol yn y lle hwn. Yn 1839, a'r flwyddyn ddilynol, ymwelwyd a'r eglwys yn Mhorth Amlwch ag adfywiad gwerthfawr, fel yr ychwanegwyd llawer o aelodau o'r newydd ati. Yr oedd yn eu mysg rai o gymydogaeth Bodgadfa a'r cylchoedd, sef Hugh Owen, Asgellog, a'i briod; Hugh Thomas, y saer, a'i briod; John Michael a'i briod; a'r hen deulu ffyddlon William a Catherine Parry, y Rhwngc. Teithiodd y rhai hyn i Amlwch i'r cyfarfodydd crefyddol am lawer o flyneddau, yn Sabbathol ac yn wythnosol. Dechreuwyd pregethu yn Asgellog gan y Parch. Thomas Owen, Llanfechell, a'r Parch. W. Jones, Amlwch, ar noson waith. Gadawodd y blaenaf y lle yn fnan i ofal yr olaf a'i gyfeillion, a bu amryw o honynt, yn enwedig yr hen frawd Owen Thomas, y smelter, yn dra ffyddlon i fyned gyda'r gweinidog pan elai yno i bregethu. Yn mhen ychydig, daeth tŷ anedd yn wag yn agos i Fodgadfa, yr hwn a ardrethwyd i gynal moddion crefyddol ynddo. Ar y Sabbath, Mehefin 8, 1842, corfforwyd eglwys Gynnulleidfaol yma, yn gyfansoddedig o aelodau o'r gymydogaeth, y rhai a berthynent i'r eglwys yn Amlwch, yn nghyd a phump o'r newydd o ardal Bodgadfa, y cyfan yn gwneyd i fynu 12 o aelodau. Ychwanegwyd yn raddol at eu rhifedi, ac yn lled fuan cynyddodd yr eglwys i 30 mewn nifer. Yn mhlith eraill daeth Mr. Henry Edwards, Bodgadfa, a'i wraig dirion i'r eglwys, y rhai, yn nghyd a theulu yr Asgellog a fuont yn gymhorth mawr i'r achos yn ei fabandod, Y mae teulu Bodgadfa yn parhau felly hyd y dydd hwn, Tueddwyd John Michael a'i deulu, yn nghyd a 10 eraill i fyned i'r America, yr hyn a fu yn ergyd drom i'r achos yn ei wendid, Yr oedd y brawd a enwyd yn gwasanaethu swydd diacon yn Saron, a bu yn gweinyddu yr un swydd yn gyson a diwyd ar ol newid ei wlad, nes gorphen ei yrfa mewn llawenydd. Y mae yr adfywiadau gwerthfawr yn y blyneddau diweddaf, wedi bod yn fendithiol iawn i'r achos hwn, fel y mae cangen oddi yma yn debyg o sefydlu yn Rhosybol, lle y cynelir moddion rheolaidd er's peth amser. Cafwyd tir i adeiladu yr addoldy hwn gan R. Hughes, Ysw., o'r Plasbach, Llangeinwen, yr hwn a weithredai dros ei ŵyr W. Hughes, Ysw., yr hwn oedd o dan oed ar y pryd. Yr oedd y tir mewn lle cyfleus, a'i bris yn gymedrol iawn, Adeiladwyd y capel yn yr haf 1844; cymerwyd gofal yr adeiladaeth yn benaf, gan y brawd ymroddgar Mr. Hugh Parry, Rhwngc, a bu y gymydogaeth yn hynod o garedig ar yr achlysur, Rhoddwyd benthyg arian at y gwaith yn ddilog, gan chwech o bersonau; ac ni buwyd yn hir heb eu talu. Pregethwyd am y waith gyntaf yn Saron gan y gweinidog, y Parch. W. Jones, ar y Sabbath, Medi 8, 1844, oddi ar Exod. xx. 24. Ac o'r pryd hwnw hyd yn bresenol, y mae yr ym. adrodd am y groes yn parhau i berseinio yma gyda graddau dymunol o lwyddiant. Derbyniodd amryw ymgeledd a chysur i'w heneidiau yn y lle hwn, ac yn eu plith gellir enwi y Cristion cywir Rowland Hughes, Penybryn, ac un arall oedd yn ddiffygiol o'i golwg naturiol, yr hon a ganai yn fywiog yma, ac hyderwn yn gryf eu bod hwy ac eraill fu yn cydganu yn Saron, heddyw mewn gwell gwlad yn clodfori yr Hwn a'u carodd, ac a'u golchodd oddi wrth eu pechodau yn ei waed ei hun. Nifer yr aelodau eglwysig ydyw 40, yr Ysgol Sabbathol 50, y gynulleidfa 80.

LIBANUS,

BRYNSIENCYN

DECHREUWYD pregethu yma gan yr Annibynwyr mewn tŷ anedd, yn niwedd y flwyddyn 1842. Yn nechreu y flwyddyn ddilynol, cymerwyd tŷ ardrethol gan Mr. Richard Parry, Carn, i fod at wasanaeth yr eglwys, yr hon oedd yn 8 mewn nifer. Gwnaed y lle mor gyfleus ag y gellid, trwy osod areithfa a meinciau ynddo. Cynyddodd y gynulleidfa yn lled fuan, a phenderfynodd y cyfeillion i geisio sicrhau lle cyfaddas i adeiladu addoldy, ond profasant yn fuan fod hyny yn orchwyl pur anhawdd. Yn niwedd y flwyddyn 1843, agorodd Rhagluniaeth y ffordd o'u blaen yn bur annisgwyliadwy, trwy i lease a berthynai i dŷ a gardd ddyfod ar werth. Gan fod y lle yn dra chyfleus, prynwyd ef yn ddioed gan Mr, Parry, a buwyd yma yn addoli hyd Gorphenaf 1844, pryd yr adeiladwyd yr addoldy cyntaf. Yr oedd traul yr adeiladaeth yn £105. Nifer yr aelodau eglwysig yr adeg hono oedd 26. Casglwyd yn yr eglwys, ac yn mhlith y gynulleidfa tuag at y draul a enwyd y swm o £40, yn cynwys rhodd o £10 gan y diweddar R. Jones, Ysw., Bodowyr. Yn y flwyddyn 1850, buwyd o dan yr angenrheidrwydd i wneyd rhai eisteddleoedd yn ychwanegol, o herwydd fod y gynulleidfa yn parhau i gynyddu; a phaentiwyd yr addoldy yr un adeg. Yr oedd y draul yn nghylch £30. Yn y flwyddyn 1859, ail adeiladwyd y capel, ac helaethwyd ef gryn lawer; ei faintioli presenol ydyw 41 o droedfeddi wrth 28, Bu y draul hon yn £150, a chasglwyd yn yr Ysgol Sabbathol y swm o £106, fel y mae yn aros eto £44; yr hyn ydyw y ddyled yn bresenol. Bu y brodyr Mr. R. Parry, Carn; Mr. J. Edmunds, Porthamel; Mr. O. Jones, y Bryn; yn nghydag eraill, yn hynod o ddiwyd a llafurus gyda'r achos er ei gychwyniad. Y maent wedi cael y fraint o weled eisoes na bu eu llafur yn ofer yn yr Arglwydd. Mae yr eglwys hon, er nad ydyw ond prin ugain oed, wedi llwyddo uwchlaw pob disgwyliad, ac y mae yr olwg a welir arni yn bresenol, yn un pur obeithiol. Rhif yr aelodau ydyw 125, yr Ysgol Sabbathol 100, y gynulleidfa 180. Codwyd un pregethwr yma, sef Mr. Hugh Jones, yr hwn sydd yn ddyn ieuanc doniol a gobeithiol iawn.

SMYRNA,

LLANGEFNI.

ADEILADWYD yr addoldy hwn yn y flwyddyn 1844. Yr oedd gan ein brodyr y Methodistiaid Calfinaidd, a'r Bedyddwyr, achosion crefyddol nerthol a dylanwadol yma er 's llawer o flyneddau yn flaenorol i'r dyddiad uchod; yr hyn oedd i raddau yn anfanteisiol i sefydliad yr achos Annibynol yn y lle. Pa fodd bynag, ymgymerwyd yn galonog a hyderus â'r gorchwyl, a llwyddwyd yn yr anturiaeth i raddau dy- munol. Y prif offeryn yn nygiad hyn oddi amgylch, oedd y Parch. David Davies, yn awr o Gerygcadarn, swydd Frycheiniog. Yr oedd traul adeiladu yr addoldy yn £250, a thrwy ffyddlondeb di flino Mr. Davies yn benaf, symudwyd yr holl ddyled yn lled fuan. Ni bu tymor Mr. Davies ond byr, ac o'r adeg yr ymadawodd hyd yn bresenol (1862), y mae yr eglwys hon wedi bod yn amddifad o weinidogaeth sefydlog. Parhaodd yr achos i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn, yn ngwyneb llawer o anfanteision, hyd nes y mae wedi cyrhaedd safle lled bwysig a dylanwadol. Y mae amryw o Gymanfaoedd yr Annibynwyr yn Môn wedi cael eu cynal yma, a dangoswyd llawer o diriondeb a charedigrwydd tuag at yr achos gan y trigolion yn gyffredinol, ar y cyfryw amserau. Mae y gynulleidfa gyda'r blaenaf mewn ffyddlondeb ei chynulliadau, ac yn ei chyfraniadau at yr achos. Y mae ffyddlondeb a gweithgarwch yn ffynu yn yr eglwys. Oni buasai diwydrwydd a diysgogrwydd y cyfeillion o blaid yr achos yn y lle, nis gwelsid yr olwg ddymunol a gobeithiol sydd arno yn bresenol. Nifer yr aelodau ydyw 83, yr Ysgol Sabbathol 70, y gynulleidfa 120. Un pregethwr a godwyd yma, sef y Parch. Rowland Williams (Hwfa Môn), Bethesda, Arfon. Aelod o'r eglwys hon ydyw y brawd Mr. Hugh Thomas, yr hwn sydd yn adnabyddus i holl eglwysi y sir fel dyn defnyddiol a phregethwr cymeradwy.

MORIAH,

GWALCHMAI.

DECHREUWYD yr achos Cynulleidfaol yn y lle hwn yn y modd canlynol. Yr oedd yma bedwar o frodyr crefyddol a thair o chwiorydd yn aelodau o eglwys Salem, Bryngwran. Yr oeddynt yn arfer myned i Fryngwran ddwy waith bob Sabbath, ac felly yn teithio 10 milldir o ffordd o leiaf. Eu henwau ydynt, Evan Griffith, Siop; Edward Williams. Hugh Thomas, Robert Owen, Elizabeth Owen, Mary Lewis, ac Elinor Williams, Tua'r flwyddyn 1844, cymerwyd tŷ anedd yn Ngwalchmai gan Mr. Evan Griffith, i gynal moddion crefyddol ynddo, a buwyd yn addoli yma am yn agos i ddwy flynedd. Corfforwyd yr eglwys yn y lle hwn, o'r personau rhag-grybwylledig, ac ychwanegwyd amryw o'r newydd atynt. Yn y flwyddyn 1845, prynwyd darn o dir gan un Hugh Jones, cigydd, a thalwyd am dano gan Mr. Evan Griffith, ac adeiladwyd yr addoldy presenol arno. Cynaliwyd cyfarfod agoriad y capel y Pasg, 1846 Bu Mr. Griffith yn hynod o ymdrechgar ac o haelionus yn nghychwyniad yr achos, ac y mae yn parhau felly hyd yn bresenol. Efe a brynodd y tir, ac a dalodd gyflogau y gweithwyr, heb geisio llôg am ei arian. Costiodd yr addoldy £120, a thalwyd yn barod £110 o honynt, felly nid yw y ddyled yn bresenol ond £10. Dygwyd y rhan ysprydol o'r gwaith yn mlaen yr adeg hono, gan y Parch. Thomas Davies, yn awr o Bodffordd. Bu Mr. Davies yn noddwr gwresog i'r achos yn ei ddechreuad, ac er nad oedd yn ngallu yr ychydig gyfeillion i'w gydnabod yn deilwng am ei wasanaeth ar y pryd, eto parhaodd i lafurio yn siriol a diflino yn y tymor hwnw. Deuai amryw o weinidogion o'r Dê a'r Gogledd heibio ar eu teithiau yr adeg hono, a chafwyd oedfauon llwyddianus anarferol lawer gwaith, a chasglwyd yma eglwys yn cynwys 80 o aelodau yn lled fuan; mae y rhan fwyaf o'r cyfryw yn aros hyd yn awr, rhai wedi symud i ardaloedd eraill i fyw, ac amryw wedi cael eu symud gan angau. Y gweinidog presenol, y Parch. Richard Hughes, ydyw yr unig weinidog sefydlog fu yma. Mae Mr. Hughes yn enedigol o'r gymydogaeth, codwyd ef i bregethu gan yr eglwys hon, a dewiswyd ef ganddi drachefn i'w bugeilio yn yr Arglwydd. Codwyd yma ddau o frodyr ieuanc i bregethu, sef y diweddar Barch. R. Roberts, Maelog; a Mr. H, T. Parry, Ceryg-engan, yr hwn sydd yn wr ieuanc serchog a chymeradwy iawn. Nifer yr eglwys yma ydyw 60, yr Ysgol Sabbathol 50, y gynulleidfa 100,

NAZARETH,

GLANYRAFON

ACHOS gwan sydd yma. Yr oedd y draul o adeiladu y capel tua £70, a hysbysir ni fod y cyfan wedi eu talu. Gofelir am yr achos hwn yn benaf gan weinidog ac eglwys Moriah, Gwalchmai, y rhai fuont yn ymdrechgar iawn i gadw y drws yn agored yn y lle. Nifer yr aelodau ydyw 8, a'r gynulleidfa yn nghylch 20. Ni dybiwn nad ydyw y lle yn anobeithiol, y mae yma addoldy yn ddiddyled, a phoblogaeth led luosog yn ymyl. Hyderwn yn gryf y bydd i lafur y Parch. Thomas Davies, Bodffordd, mewn undeb â'r cyfeillion yn Ngwalchmai, gael ei goroni à llwyddiant buan. Teimlwyd colled yma ar ol y Parch. H. Griffith, offeiriad y plwyf, yr hwn a symudodd yn ddiweddar i Gaerlleon i fyw; bu Mr. Griffith yn gwasanaethu fel curad parhaol plwyfi Llandrygarn a Bodwrog, am dros 35 o flyneddau, Adwaenid ef trwy yr holl ynys fel un o'r pregethwyr mwyaf efengylaidd, a bu ei ryddfrydedd Cristionogol yn achos erledigaeth arno cyn hyn. Ychydig flyneddau yn ol, derbyniodd gerydd llym gan y diweddar Esgob Bangor, am ei fod yn arfer darllen yr Ysgrythyrau, a gweddio yn nhai ei blwyfolion; ystyriai yr esgob fod hyny yn aneglwysig, neu yn ngeiriau ei arglwyddiaeth ei hun, "Yn tueddu i beri i'r plwyfolion syml gredu, nad oedd dim pwys yn mha le, na chan bwy y darllenid yr Ysgrythyr Lân." Bu Mr. Griffith yn noddwr caredig i'r achos gwan yn Glanyrafon, rhoddai ymborth a llety yn ei dŷ ei hun yn siriol i'r pregethwyr a ddeuent yma. Y mae yn llawen genym gael gwneyd hyn o goffadwriaeth am ei enw teilwng, gan ddymuno iddo bob bendith dros y gweddill o'i oes.

TABOR

MYNYDD TWRF.

DECHREUWYD achos yr Annibynwyr yn y gymydogaeth hon, mewn tŷ o eiddo y diweddar frawd, Owen Hughes, yn y flwyddyn 1847, Perthynai yr aelodau cyntaf i eglwys y Tabernacle, Caergybi, a thrwy anogaeth a chyfarwyddyd eu gweinidog, y Parch. W. Griffith, ymsefydlasant yn y lle hwn; nid oedd y nifer ar y cyntaf ond 7, sef pump o feibion a dwy o ferched, Gan eu bod mor ychydig o rifedi, deuai amryw o'r brodyr o'r Tabernacle yma i'w cynorthwyo am beth amser. Parhawyd i gynal Ysgol Sabbathol a chyfarfodydd gweddi yn rheolaidd, a daeth lluaws o wrandawyr atynt o'r newydd, yr hyn a'u calonogodd i fyned yn mlaen gyda'r gwaith yn llawen a di flino. Yn y flwyddyn 1848, gan fod y tŷ yn anfanteisiol i gynal y gynulleidfa yn gysurus, adeiladwyd yr addoldy presenol. Dechreuodd yr eglwys a'r gwrandawyr gynyddu yn raddol o dan weinidogaeth Mr. Griffith, a gweinidogion eraill a ymwelent yn achlysurol â'r lle, Ymddengys fod yr Arglwydd wedi llefaru yn effeithiol drwy ei genadau yn y lle hwn, yn adeg y "diwygiad" diweddaf, hyd onid oedd "pobl lawer yn dyfod dan gerdded ac wylo, i ymofyn y ffordd tua Sion." Yn mhen rhai blyneddau, cynyddodd yr eglwys yn fawr mewn cydmariaeth i'r hyn oedd yn y dechreu; yn lle pum brawd a dwy chwaer, gwelwyd nifer yr aelodau yn 54, yr Ysgol Sabbathol yn 60, a'r gynulleidfa yn 80. Ond o herwydd y symudiadau lluosog, a gymerasant le yn ddiweddar yn y gymydogaeth, y mae y nifer wedi lleihau, Rhif presenol yr aelodau ydyw 34, yr Ysgol Sabbathol 38, y gynulleidfa 54.

ELIM,

DWYRAN.

ACHLYSURWYD sefydliad yr eglwys Gynulleidfaol yn y lle hwn, mewn canlyniad i symudiad Mrs. Griffith a'i theulu o Gaernarfon i'r Maenhir yn y gymydogaeth hon. Yr oedd Mrs. Griffith yn aelod gyda'r Annibynwyr er 's rhai blyneddau, a chan nad oedd gan yr enwad le i addoli yn y Dwyran, meddyliodd am gael gweinidogion yr Annibynwyr i ddyfod yma i bregethu, Llwyddodd y Parch, R. Parry, diweddar o Newmarket, i gael tŷ i'r perwyl, a dechreuwyd pregethu ynddo, Awst 21, 1848; rhifedi yr eglwys yn y cymundeb cyntaf oedd 5. Llwyddwyd yn fuan drachefn i gael lease am 99 o flyneddau ar ddarn o dir mewn lle cyfleus, gan Mr. John Owen, Tafarn-tywysog, Llangeinwen, am yr ardreth blynyddol o £1, i adeiladu capel arno; cafwyd cyfarfod i'w agor Tachwedd 26, 1849, Yr oedd traul yr adeiladaeth yn £180; y cyfanswm a gasglwyd at hyny oedd £100, y mae £80 o ddyled eto yn aros. Yn y flwyddyn 1850, ymsefydlodd y Parch. W. Evans, yn awr o Bagillt, yn yr ardal hon; llafuriodd Mr. Evans yn y cylch hwn dros amryw flyneddau: teimlodd yr eglwys fechan golled yn ei symudiad ef, ac hefyd yn ymadawiad teulu caredig y Maen-hir o'r gymydogaeth, Mae yr eglwys hon yn bresenol mewn cyflwr lled isel a digynydd, eto, y mae ynddi rai ffyddloniaid sydd "yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi," yn ymbil â Duw am iddo lewyrchu ei wyneb graslawn eto ar ei gysegr, Rhifedi yr eglwys ydyw 12, yr Ysgol Sabbathol 20, y gynulleidfa 25, Gofelir yn benaf am yr achos gan ein teilwng frawd, Mr. William Hughes.


TAFLEN

O SEFYLLFA RIFYDDOL YR ENWAD ANNIBYNOL YN MON, YN 1862.

NIFER CAPELI 35
" GWEINIDOGION 14
" PREGETHWYR 15
" AELODAU EGLWYSIG 3,057
" DEILIAID YR YSGOL SABBATHOL 2,871
" GWRANDAWYR 2,322
" GWRANDAWYR AC AELODAU 5,379

CYNWYSIAD



BETHESDA: ARGRAFFWYD GAN R JONES

Nodiadau

[golygu]
  1. William Williams, ('Cromwell', 1819-1875), gweinidog ym Miwmares, yn ôl ANNIBYNWYR CYNNAR MON yn Y Cofiadur; cylchgrawn Cymdeithas Hanes Annibynwyr Cymru. Rhif 36, (Ion. 1969)
  2. Adolygydd CYF. 1, tu dalen 417.
  3. Methodistiaeth Cymru, CYF. I. tudalen 113,
  4. Cyfeirir yma at y ddamwain alaethus a gymerodd le ar yr afon Menai, pryd y suddodd y treiddfed (ferry-boat) wrth groesi o Gaernarfon i Fon ar y dyddiad uchod. Allan o 55 o bersonau ni achubwyd ond un yn unig.
  5. Bu gweinidogaeth John Bulk, neu Vulk, fel ei gelwid gan rai, yn hynod o fendithiol mewn gwahanol barthau o'r ynys hon, tua 60 mlynedd yn o!. Yr oedd John Bulk yn enedigol o sir Benfro, a bu yn cartrefu vn Merthyr am y 60 mlynedd olaf o'i oes; glowr (collier) ydoedd o ran ei alwedigaeth; nid oedd yn ordeiniedig, ond pregethai yn achlysurol gartref, a theithiai gryn lawer i bregethu yr efengyl. Ymunodd a'r Bedyddwyr cyn diwedd ei oes. Dywed ei ferch, yr hon sydd yn awr yn lled oedranus, iddo lafurio yn ynys Mon, ar un adeg, am yspaid pedair blynedd, ac mai dyma yr unig le yn y Gogledd y bu yn aros dim ynddo. Ymddengys ei fod yn bur ymroddgar i waith y weinidogaeth. Arferai weithio yn galed wrth ei alwedigaeth, nes cael digon o arian i brynu ceffyl, ac yna cychwynai ar daith i bregethu am rai misoedd, ac ar ei ddychweliad gartref, gwerthai y ceffyl, ac elai yn ol drachefn at ei alwedigaeth. Dywedir am dano ei fod yn ddvn da, yn meddu synwyr cryf, ac yn bregethwr cymeradwy a defnyddiol iawn. Parhaodd i bregethu hyd derfyn ei fywyd. Bu farw yn 85 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Sion, Merthyr.
  6. Gwel hanes y Minffordd yn y Rhagdraeth.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.