Neidio i'r cynnwys

Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern

gan David Samuel Jones

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Cofiant Darluniadol Y Parch William Williams o'r Wern
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
William Williams o'r Wern
ar Wicipedia

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader



COFIANT DARLUNIADOL

Y PARCHEDIG

WILLIAM WILLIAMS,

O'R WERN.

YN CYNWYS PREGETHAU A SYLWADAU O'I EIDDO,

GAN Y

PARCH. DAVID SAMUEL JONES,

CHWILOG.

——————♦——————

"Y bywgraffiad goreu o bob dyn ydyw y mynegiad ffyddlonaf o'r hyn
a wnaeth. Dangos dyn yn ei waith ydyw y drych cywiraf y
gellir edrych arno."—GWALCHMAI.


DIHAFAL GENAD JEHOFA—FU EF,—
PRIF WR Y GYMANFA,—
AC WILLIAMS OEDD URIEL GWALIA—TRWY'I DDYDD
PWNC EI LEFERYDD FU PEN CALFARIA. — HWFA MON.

——————♦——————

DOLGELLAU:

ARGRAFFWYD A CHYHOEDDWYD GAN W. HUGHES, HEOL MEURIG.

CYFLWYNIR Y GWAITH HWN

I'R

PARCH. W. WILLIAMS-WERN,

DARTMOOR, VICTORIA, AWSTRALIA,

UNIG FAB EIN GWRTHDDRYCH PARCHEDIG, GYDA

DYMUNIADAU GOREU

YR AWDWR.

RHAGYMADRODD.

GODDEFER i ni amlygu ein diolchgarwch puraf am y cynorthwy sylweddol a dderbyniasom yn mharotoad y gwaith hwn, oddiwrth y Parch. William Lloyd, Caergybi; John C. Rees, Pensarn, ger Amlwch; M. O. Evans, Wrexham; Thomas E. Thomas, Coedpoeth; Owen Thomas, M.A., Llundain; F. P. Watkin Davies, M.A., Llanfachreth, ger Dolgellau; Mri. William Jones, Booth Street, Manchester; W. E. Williams (Gwilym Eden), Trawsfynydd; Josiah Thomas, Liverpool, a Mr. W. Rogers, Bryntirion, Coedpoeth, ac eraill, enwau pa rai a welir yn nghorff y gwaith. Dyledus yw i ni hefyd gydnabod ddarfod i ni wneuthur defnydd helaeth o gofiant gwerthfawr Mr. Williams, gan y Parchedig William Rees, D.D. (Gwilym Hiraethog). Yn wir, darllen y gwaith rhagorol hwnw a gynyrchodd ynom awydd am wybod mwy o hanes y gwrthddrych, ac i'w roddi yn helaethach drwy gyfrwng y cofiant hwn. Unig ddiffyg y cofiant cyntaf yw byrder. Ond dylid cofio fod cyhoeddi cofiant o'i faint ef yn yr oes hono, yn anturiaeth arianol fawr a phwysig. Erbyn hyn, y mae y cofiant athrylithlawn hwnw wedi myned allan o argraffiad, fel nad oes copi o hono i'w gael am arian, ond fel y mae yn nglyn â Rhyddweithiau Hiraethog. Teimlwn fod swyn diddarfod yn enw Mr. Williams, a bod ei fywyd yn cynwys ffeithiau o duedd mor ddyrchafol, nes y mae yn werth eu hail ddwyn i sylw. Rhoddir mantais i ni drwy gyfrwng ei bregethau a'i sylwadau i weled beth ydoedd ei olygiadau ar brif bynciau y grefydd Gristionogol, ac hefyd i weled yn mha le yr ydym ninau yn sefyli y dyddiau hyn o ran ein golygiadau duwinyddol, wrth eu cyferbynu â'r eiddo ef a'i gydoeswyr. Nid ydym yn dysgwyl y bydd i'r gwaith hwn roddi boddlonrwydd i bawb o'n cyfeillion; a buasai yn dda genym ninau iddo fod yn well.

Dichon y dylem hysbysu mai y ffenestr a ddangosir, yn cael ei chuddio i raddau gan gangen coeden, a dyf o flaen y White House, Bersham, yw ffenestr yr ystafell wely yn yr hon y bu Mr. Williams farw ynddi.

Diolchwn i'n brodyr yn y weinidogaeth, y rhai a fuont mor garedig a galw sylw eu cynulleidfaoedd at y gwaith hwn, i'r dosbarthwyr fuont yn casglu enwau ato, ac i'r rhai a anfonasant eu henwau yn bersonol, a chydrhyngddynt y maent yn llu mawr, fel y gwelir oddiwrth y rhestr ar ddiwedd y llyfr.

Bellach, nid oes genym ond dymuno ar i'r darlleniad o hono fod yn fendithiol i'w holl ddarllenwyr.

D. S. JONES,

BODALAW,

CHWILOG, R.S.O.[1]
Dydd Llun, Gorphenaf 9fed, 1894.

Y CYNWYSIAD.

PENNOD I.

DYNION gwerth eu cofio—MR. WILLIAMS yn un o honynt Lle ei enedigaeth—Enw ei gartref yn cael ei sillebu mewn gwahanol ddulliau—Amgylchoedd ei gartref yn fanteisiol i berchenogion Athrylith—Priodas rhieni ein gwrthddrych—Nodwedd ei henafiaid Y Parch. John Williams, Dolyddelen, yn cael ei ddefnyddio yn offeryn i ddychwelyd mam MR. WILLIAMS at grefydd—Ei frodyr a'i chwiorydd —Cyfamod ei dad âg ef—Yntau yn ei gadw— Myned i Frynygath, neu i Lanfachreth, cyn adeiladu Capel Penystryd—Cymeryd llwy oddiar fuarth Cwmeisian Uwchaf—Ei fam yn myned ag ef i'w danfon yn ol, ac yn gweddio drosto—Ei hoenusrwydd yn amlwg—Ei dad yn ofni y byddai yn od ar holl blant yr ardaloedd—Henafgwr yn yr ardal yn ei weled yn wahanol i blant eraill y Cwm—Tuedd Athronyddol ei feddwl yn dyfod i'r golwg yn foreu ar ddydd ei fywyd.

PENNOD II.

Natur yn amgylchoedd cartref ein gwrthddrych yn cael aros heb ei llychwino gan law dyn—Y trigolion gynt yn ymgadw yn ffyddlon i natur mewn bwydydd a gwisgoedd Cedyrn yn preswylio yma gynt—Ein gwrthddrych yn fyw i bob peth natur—Yn penderfynu myned yn saer coed—Ei hyfrydwch yn ei gelfyddyd—Dyfod i wybodaeth. helaethach o'r natur ddynol wrth ddilyn ei grefft— Arferion annuwiol yn yr ardal—Anrhydeddu y gwŷr a enillent yn y campau llygredig Yn anhawdd ymgadw rhag cymeryd rhan ynddynt—Y tylwythau teg a'r swynyddion—Ysbrydion yn ymddangos mewn lleoedd neillduol yn yr ardal—Y dylanwadau yr ydoedd ein gwrthddrych yn agored iddynt—Heb gael addysg foreuol—Ysgolion yn ychydig ac yn anaml y dyddiau hyny—Manteision crefyddol yn Llanuwchllyn—Eglwys Penystryd yn ganghen o eglwys Llanuwchllyn—Rhys Dafis yn pregethu yn Medd-y-coedwr—Ein gwrthddrych yn yr oedfa—Gwr a gwraig y ty yn ofni iddo derfysgu yr addoliad—Lewis Richard yn ei gyrchu yn nes i gyfeiriad y tân—Y testun y pregethwyd arno, a'r emyn a ganwyd ar ddiwedd yr oedfa—Y llanc wedi. ei derfysgu yn ei enaid gan y gwirionedd—Bedd-y-coedwr mewn lle unig ac anghyspell—Ychydig o fanylion am helyntion bywyd a symudiadau Rhys Dafis Ei lafur a'i nodweddau—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Ei weithredoedd da yn trosglwyddo ei goffadwriaeth yn barchus i'r oesau a ddelo ar ol.

Yr oedfa yn Medd-y-coedwr Capel cyntaf Penystryd—Neillduo Mr. William Jones yno yn weinidog—Prophwydoliaeth yr hen brophwyd o Bontypool am dano—Diwygiad crefyddol yn Mhenystryd—Mr. Jones yn anghofio am ei anifail—Mynegiad yr Hybarch Owen Thomas, Brynmair, am nodwedd WILLIAMS yn ei ieuenctyd—Myned i'r gyfeillach am y tro cyntaf—Y gweinidog a'r eglwys yn methu a deall beth i ddywedyd wrtho —Ei dderbyn yn gyflawn aelod—Yntau yn ymwrthod â chwareuon pechadurus—Teimlo gwasgfa a chaledi yn ei feddwl—Cael ymwared trwy aberth y groes—Dylanwadau teuluaidd yn fanteisiol iddo —Ei chwaer Catherine ac yntau yn cyd—deithio i Benystryd—Morris Roberts, Gwynfynydd, yn eu gwylio—MR. WILLIAMS yn adgofio am hyny— Ofni cymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus Ei fam ac yntau yn gweddio wrthynt eu hunain—Ei weddi gyhoeddus gyntaf—Yr aelwyd yn lle manteisiol i ymarfer ar gyfer yr addoliad cyhoeddus—Hen ddiaconiaid Penystryd gan Gwilym Eden— Buont yn garedig i'n gwrthddrych—Ei barch yntau iddynt—Ei alw yn "Gorgi bach" yn Maentwrog—Hoffi myned i Lanuwchllyn—Mewn enbydrwydd am ei einioes wrth fyned oddi yno tuag adref—Cael ei waredu—Yn cynyddu mewn crefydd—Yr eglwys yn ei anog i ddechreu pregethu—Yntau er yn ofni yn ufuddhau—Ei destun cyntaf—Huw Puw o Dyddyngwladys, yn ei glywed yn pregethu mewn llwyn o goed—Pregethu yn Nhyddynybwlch —Mr. Jones yn ei ganmol—Coffadwriaeth gwr a gwraig Tyddynybwlch yn fendigedig—Y son am ein gwrthddrych yn ymledu—Prinder llyfrau—Ei hoff awduron—Ei chwaer Catherine gynorthwyo Y diafol yn ei demtio—Gorchfygu y demtasiwn Yr Hybarch William Griffith, Caergybi, yn cael ei demtio yn gyffelyb—MR. WILLIAMS yn cael amrai waredigaethau—Myned rhagddo gyda gorchwyl mawr ei fywyd—Pregethu yn effeithiol yn Ábergeirw mawr—Cael profedigaeth ddigrifol wrth bregethu yn Nhyddyn mawr—Ei hunanfeddiant yntau yn ei gwyneb—Pregethu yn "Y Parc," Cwmglanllafar—Barn un o oraclau Llanuwchllyn am dano—Yr enwad Annibynol yn fychan yn Meirionydd ar y pryd—Erbyn hyn wedi cynyddu yn ddirfawr.

PENNOD IV.

MR. WILLIAMS yn fedrus fel saer coed—Ei hoffder at ei gelfyddyd yn lleihau—Ei gariad at bregethu yn cynyddu—Mynachlog y Cymer—Coedio Ysgubor Dolfawr, Llanelltyd—Myned at y Parch. William Jones i'r Ysgol—Dechreu arfer ysgrifenu—Awyddu am fanteision addysgol helaethach—Y Parch. John Roberts, Llanbrynmair, yn ei anog i fyned i Fwlchyffridd—Yntau yn myned yno, ac yn lletya yn Ngallt-y-ffynon—Ei athraw yn Mwlchyffridd—Trwstaneiddiwch MR. WILLIAMS gyda'i Saesonaeg—Cael ei boeni am hyny—Dyfod i gyfathrach agosach â'r Parch. John Roberts o Lanbrynmair Gadael Bwlchyffridd—Pregethu Saesonaeg yn Mwlchyffridd—Gwerthu y ddeadell ddefaid—Cael ei gynal yn yr Athrofa â'r arian a dderbyniodd efe am danynt—Myned i Athrofa Wrexham—Anfon am gyfieithydd rhyngddo ef a Miss Armitage—Ysgrif Dr. Jenkin—Y myfyrwyr yn chwerthin wrth wrando ar MR. WILLIAMS yn adrodd ei wersi—Yr athraw yn gwahardd hyny— Ei gydefrydwyr—Derbyn galwad o Horeb, sir Aberteifi—Penderfynu ymsefydlu yno—Y cyfarfod yn Liverpool—Mr. Thomas Jones o Gaer yn ei anog i ymsefydlu yn Wern a Harwd—Yntau yn cydsynio—Rhagluniaeth y nef yn cyfryngu yn brydlon—Gwasanaeth Mr. Jones, Caer, i'r Enwad Annibynol yn y Gogledd—Ei ewyllys—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Cadw ein gwrthddrych yn y Gogledd—Yntau. yn gadael yr Athrofa ac yn ymsefydu yn y Wern,

PENNOD V.

Agosrwydd y Wern i Wrexham—Y myfyrwyr o Athrofa Wrexham yn pregethu yn y Wern o'r dechreuad—MR. WILLIAMS yn un o'r rhai cyntaf i bregethu i'r Annibynwyr yn yr ardal—Ysgrif y Parch. J. Thomas, Leominster, yn y Beirniad—Y flwyddyn 1807 yn un hynod yn hanes eglwys y Wern—Adeiladu ei hail gapel—Ymsefydliad MR. WILLIAMS yn yr ardal—Myned i lettya at Mr. Joseph Chalenor—Pregethu yn Nghymanfa Machynlleth cyn cael ei ordeinio—Aros yn y Wern am yn agos i flwyddyn cyn ei urddiad—Tystiolaeth Mr. Evans, Plas Buckley—Bedyddio merch fechan yn mhen dau ddiwrnod ar ol ei ordeinio—Nifer achosion yr Annibynwyr yn siroedd Dinbych a Fflint yn ychydig ar cychwyniad gweinidogaeth MR. WILLIAMS—Yntau yn ymwroli i'w waith—— Agoriad y capel cyntaf yn Rhesycae—Y Wern yn dyfod yn enwog drwy ei chysylltiad â MR. WILLIAMS—"Cymanfaoedd yr Annibynwyr" Sefydlu eglwys yn y Rhos—Ei nifer ar y pryd—Mr WILLIAMS yn cymeryd ei gofal—Ei ymweliad âg Athrofa Wrexham Ei wasanaeth i'r enwad drwy hyny—Yn ymroddi i deithio y wlad yn achos yr Efengyl—Anghyfleusderau teithio—Tystiolaeth Mr Thomas, Ty'n-y-wern, am MR. WILLIAMS yn dilyn Mr Hughes, o'r Groeswen, ar un o'i deithiau casglyddol yn y Gogledd—Llyfr casglu Mr. Hughes—Eglwys y Rhos yn llwyddo—Adeiladu ei chapel cyntaf—MR. WILLIAMS yn casglu ato.

PENNOD VI.

Dechreu achosion newyddion yn Llangollen a Rhuabon—Rhywbeth heblaw rhagrith—Yr eglwysi ag eithrio Harwd, yn cynyddu dan weinidogaeth MR. WILLIAMS—Ei arddull bregethwrol—Oedfa yn Nhowyn, Meirionydd—Y dadleuon duwinyddol— Hergwd i Arminiaeth—MR. WILLIAMS yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth —Gwasanaeth Mr. Roberts o Lanbrynmair, a MR. WILLIAMS—Tystiolaeth yr Hybarch W. Daniell, Knaresborough, am y cyfnewidiad a gymerodd le yn marn ein gwrthddrych ar bynciau athrawiaethol crefydd—Rheswm MR. WILLIAMS dros newid ei farn—Ei atal i bregethu yn Sir Fynwy—Ei gyd-gynorthwywyr—Y"Prynedigaeth," a'r "Galwad Ddifrifol" Rhoddi ystyr fasnachol i'r Iawn— Ystyried y rhai a gilient oddiwrth yr Athrawiaeth hono yn gyfeiliornwyr peryglus—Poblogrwydd MR. WILLIAMS fel pregethwr—Ei briodas Myned i drigianu i Langollen—Yr achos Annibynol yno —Agoriad capel Llangollen—Yr ysbryd cenadol yn deffroi yn y wlad—Y Deheudir yn blaenori—Cymanfa y Groeswen, a Chyfarfod Cenadol Aber— tawe—Cychwyniad yr achos Cenadol yn y Gogledd Cyfarfodydd Llanfyllin a Threffynon Ein gwrthddrych yn cymeryd dyddordeb yn y Cymdeithasau Beiblaidd a Chenadol—Apeliad y Parch. Richard Knill—Effaith yr apeliad ar MR. a MRS. WILLIAMS—Ei Araeth nodedig yn Llangollen— Cymanfa Horeb, Sir Aberteifi—Tystiolaethau yr Hybarch W. Evans, Aberaeron, y Parch. J. B. Jones, B.A., a Hiraethog, am y nerthoedd rhyfedd oedd yn cydfyned â phregeth ein gwrthddrych yn y Gymanfa hono

PENNOD VII.

MR. WILLIAMS yn y Deheudir yn casglu at gapel newydd Llangollen—Adgofion y Parch. D. Jones, Gwynfe, am y daith hono——Cynghorion MR. WILLIAMS iddo—Mr. Jones yn methu a'i gael yn WILLIAMS O'R WERN fel oedd ganddo ef yn ei feddwl —Yn ei gael yn Nghrugybar i fyny â'r syniad oedd ganddo am dano cyn y daith hono—Dr. Thomas, Liverpool, yn ysgrifenu adgofion Mr. Jones— Parch. Richard Knill a John Angel James—Dr. William Rees—Cymanfa y Rhos—Ymddyddan ynddi ar y priodoldeb o gychwyn y "Dysgedydd Crefyddol" Penderfynu gwneuthur hyny mewn cyfarfod yn Ninbych—Arwyddo y Cytundeb— Dull a threfn ei gychwynwyr o'i ddwyn yn mlaen —Gwyr galluog wedi bod yn ei olygu o'i gychwyniad—Ei ddylanwad yn ddaionus ar y wlad—Cyfarfod Cenadol yn Nghaernarfon—Rhoddi Llangollen a Rhuabon i fyny—Pregethu pregeth Genadol yn Llundain—Oedfa hynod yn Aberdaron—Y gweinidogion a gyfodwyd i bregethu dan weinidogaeth MR. WILLIAMS—Ein dyled i Harwd

PENNOD VIII.

Cyfnod arbenig yn hanes MR. WILLIAMS—Cymanfa Llanerchymedd—Darluniad Gwalchmai o'n gwrthddrych yn pregethu ynddi ar y "wlad well" Helaethu Capel y Wern i'w faintioli presenol— Eglwys Rhuthyn mewn helbul—MR. WILLIAMS yn gwasanaethu mewn angladd yn Rhuthyn—Rhoddi Harwd i fyny—Llythyr at y Parch. C. Jones, Dolgellau—Crynodeb o bapyr yr Hybarch S. Evans, Llandegla—Nodwedd MR. WILLIAMS fel gweinidog a bugail—Llythyr y Parch. R. Roberts, Rhos—MR. WILLIAMS yn addaw myned i bregethu i'r Beast Market, Wrexham—Cael oedfa hynod yno—Gweinidog perthynol i'r Ranters yn tystio mai o dan bregeth MR. WILLIAMS yr argyhoedd— wyd ef—Merch ieuanc o'r Frondeg yn ymuno â'r Ranters yn Wrexham—Ei mam yn pryderu yn ei chylch MR. WILLIAMS yn tawelu ei meddwl— Tystiolaeth y Parch. J. Rowlands, Talsarn, am "Bregeth y mamau "yn y Rhos

PENNOD IX.

Tystiolaeth yr Hybarch Humphrey Ellis, Llangwm, am MR. WILLIAMS fel pen teulu—Ysgrifau y Parch. J. Thomas, Leominster, ar Robert Jones, Y Stryd—Llythyr yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth—MR. WILLIAMS yn pregethu yn Nghapel Iwan, Sir Gaerfyrddin Cymanfa Trelech —Mr. Davies, Talgarth, yn pregethu yn y Wern— Morwyn MR. WILLIAMS yn ceisio ganddo ail adrodd un pen o'i bregeth iddi—Tystiolaethau Miss Jones, Plas Buckley, a Mr. William Jones, Rossett, am grefyddolder Mr. Williams yn ei deulu—Tystiolaeth Mrs. Mason am bregethau effeithiol o eiddo MR. WILLIAMS Dau ddyn annuwiol yn teimlo cywilydd o'u buchedd wrth ei wrando yn pregethu—Teithiau mynych ein gwrthddrych yn y cyfnod hwn—Pregethu yn Nghwmeisian ganol—Marwolaeth bruddaidd y Parch. David Jones, o Dreffynon—MR. WILLIAMS yn Swyddi Meirionydd a Threfaldwyn yn areithio dros ryddhad y caethion yn y West Indies—Cymanfa Colwyn—Marwolaeth y Parch. John Roberts o Lanbrynmair—Miss Williams yn cychwyn "Boarding School" yn ei chartref MR. WILLIAMS a'i deulu yn symud i fyw o'r Talwrn i Fryntirion Bersham—Gweddi effeithiol o'i eiddo wrth ymadael

PENNOD X.

MR. WILLIAMS yn parhau i deithio llawer—Ei oes ef yn un drafferthus i weinidogion gydag adeiladu addoldai newyddion—Annibynwyr y Gogledd yn edrych ato ef am gymhorth—Blinder y Parch. D. Griffith, Bethel, gydag achos Manchester— Cydymdeimlad a ffyddlondeb MR. WILLIAMS iddo —Talu dyled capel Manchester—Parotoi at y Cydymegniad" Cyffredinol—Y Cyfarfodydd yn Ninbych a Rhaiadr—gwy—Llafur a haelioni MR. WILLIAMS gyda'r symudiad—Ei ddylanwad daionus mewn aneddau pan ar ei deithiau pregethwrol—Ei gefnogaeth yn sicrhau llwyddiant y symudiadau yr ymgymerai efe â hwynt—Adroddiad y "Cydymegniad"—Talu £24,000 o ddyled yr enwad— Deffroad ysbrydol yn dilyn hyny yn yr eglwysi— Anfon galwad o eglwys Rhaiadr—gwy i MR. WILLIAMS—Yn cerdded "rhwng dau leidr"—Cystudd a marwolaeth Mrs. Williams—Ei Chofiant gan y Parch. T. Jones, Ministerley—Trallod dwys MR. WILLIAMS ar ol ei briod—Teimlo awydd i symud o'r Wern—Cael ei alw i wasanaethu am Sabbath i'r Tabernacl, Liverpool—Yr eglwys hono heb weinidog ar y pryd—Holi MR. WILLIAMS am weinidog—Yntau yn cynyg ei hun iddynt—Rhoddi galwad iddo—Merch ieuanc o'r Wern yn wylo pan roddwyd y mater gerbron yr eglwys—Yr holl Dywysogaeth yn anfoddlon iddo symud—Arwyddo yr ardystiad dirwestol cyn symud i Liverpool—Yr ocsiwn goffi—Ei bregeth ymadawol

PENNOD XI.

Amgylchoedd Newydd MR. WILLIAMS yn wahanol i'r hyn oeddynt yn ei hen faes—Eglwys y Tabernacl yn ei dderbyn yn groesawgar—Ei fynediad i Liverpool yn ychwanegu at gysur Mr. Pierce—Liverpool yn methu ysgaru y Wern oddiwrth ei enw—Ei ofal am un teilwng i'w olynu yn y Wern a'r Rhos—Ei lythyr at y Parch. E. Evans, Llangollen—Cyflwyno Tysteb i MR. WILLIAMS—Pregethu yn Nghymanfa Colwyn—Boneddiges Seisnig o Liverpool yno yn ei wrando—MR. WILLIAMS yn parhau yn llawn gweithgarwch—Ymosodiad arno yn y Papyr Newydd Cymraeg"—Y Bedydd olaf a weinyddodd yn y Wern—Bedyddio baban yn Bethesda—Cymanfa Ddirwestol Caernarfon—Ysgrif yr Hybarch B. Hughes, Llanelwy—Cyfarfodydd yn Nhreffynon—MR. WILLIAMS yn cael oedfa hynod yno—Ei nodwedd Gymreig— Ordeinio dau weinidog yr un diwrnod yn Nhreffynon, y naill i'r Saeson a'r llall i'r Cymry— Cynghor MR. WILLIAMS i'r Gweinidog Cymreig—Ei eiriau yn cael eu hystyried yn rophwydoliaethol Gwyl Ddirwestol Treffynon—Llawer o bregethwyr enwog wedi eu cyfodi yn Nghymru

PENNOD XII.

MR. WILLIAMS yn parhau i deithio llawer—Pregethu yn Nghyfarfod Urddiad Mr. Thomas yn Glandwr—Llythyr y Parch J. Davies, Taihirion— Yr achos yn llwyddo yn y Tabernacl Cyfeillgarwch MR. WILLIAMS gyda'r Parch. Henry Rees— Cynghori y Parch. H. Ellis, Llangwm—Lladron yn tori i'w dŷ ar y Sabbath—Bedyddio merch fechan y Sabbath hwnw—Dirwest yn bwnc y dydd—MR. WILLIAMS yn cael anwyd wrth fyned i gyfarfod dirwestol Mostyn—Dychwelyd adref yn wael iawn —Ei gyfeillion yn ofni na byddai iddo byth wella —Yntau yn cryfhau—Myned i Nanerch—Anfon llythyr at ei fab ieuengaf—Cael derbyniad croesawgar yn Nanerch—'Walk' WILLIAMS Wern— Myned am daith drwy ranau o Arfon a Meirion— Dychwelyd yn ol i Liverpool—Myned i Ddublin ac Abertawe Y gwynt yn ei gadw am wythnos. yn Nghaergybi—Anerchiad effeithiol o'i eiddo yn y Tabernacl—Cyrhaeddyd i Abertawe a lletya yn y Sketty—Dychwelyd yn sydyn i Liverpool—Ail—ddechreu pregethu—Myned gyda'i ferch henaf i Landrindod Dychwelyd oddiyno wedi ymsirioli yn fawr—Dal i bregethu drwy y gauaf dilynol— Ystorm fawr 1839.

PENNOD XIII.

Ystorm fawr Liverpool Y Parch R. Parry, (Gwalchmai) yn galw yn nhy MR. WILLIAMS dranoeth wedi yr ystorm—Gweddi effeithiol o eiddo MR. WILLIAMS y boreu hwnw—Yr ystorm yn effeithio yn niweidiol ar iechyd ei ferch henaf, ac ar yr eiddo yntau hefyd—Llythyr Mr. Edwyn Roberts, Dinbych—Helynt "cario y faine" yn Liverpool—Agoriad capel y Rhos—Cymanfa Bethesda Llythyr y Parch. D. Griffiths—MR. WILLIAMS yn pregethu yn Bethel, ac yn areithio ar ddirwest yn Siloh, Felin Heli—Ei bregeth nodedig ar etholedigaeth yn Bethesda "Hen Gymanfaoedd," gan Mr. W. J. Parry, C.C—Cymanfa Beth— esda y ddiweddaf i MR. WILLIAMS bregethu ynddi —Anghydfod rhwng Dr. Arthur Jones a Mr. WILLIAMS Dr. W. Rees yn llwyddo i'w cymodi a'u gilydd—Dr. Arthur Jones yn ei hebrwng ymaith i "gwr pellaf y traeth."

PENNOD XIV.

Y meddyg yn ei gynghori i adael Liverpool— Datod ei gysylltiad ág eglwys y Tabernacl—Ei lafur a'i lwyddiant yn Liverpool, gan y Parch. Thomas Pierce—Eglwys y Wern a'r Rhos yn ei wahodd i ail ymsefydlu yn eu plith—Terfynu ei weinidogaeth yn Liverpool—Eglwys y Tabernacl yn teimlo yn ddwys o herwydd ei ymadawiad—Yn ail ddechreu yn hen faes ei lafur—Diwygiad yn yr eglwysi—Cyfarfod pregethu hynod yn y Wern— Ei anwyl Elizabeth yn gwanychu—Y tad a'r ferch wedi eu caethiwo yn eu gorweddfanau—Y ddau yn ymddyddan â'u gilydd am y nefoedd Cyfarfod pregethu effeithiol yn y Rhos—Y Parchn. W. Rees, Dinbych; R. Jones, Rhuthyn; W. Griffith, Caergybi; a Joseph Jones, Ysw., Liverpool, yn talu ymweliad â MR. WILLIAMS—Yr olygfa pan oeddynt yn ymadael yn un wir effeithiol Dr. Chidlaw yn ymweled â MR. WILLIAMS—Marwolaeth Miss Williams—Yntau yn gwaelu yn gyflym wedi ei cholli hi—Ymweliad ei chwaer âg ef—Achos eneidiau—Galw ato swyddogion yr eglwysi—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Breuddwyd hynod o eiddo y Parch. Moses Ellis—Marwolaeth Mr. James Williams, mab hynaf ein gwrthddrych—Ei fab a'i ferch ieuengaf yn ymfudo i Awstralia— Llythyr oddiwrth unig fab ein gwrthddrych.

PENNOD XV.

Y Dyn, y Cristion, a'r Pregethwr—Talu ymweliad a Thy Newydd, Chwilog Hunanfeddiant yn. ngwyneb tro trwstan wrth fwrdd ciniaw—Yn gyfaill i werin ei wlad—Cynadledd Cymanfa Bethel— Cefnogi y symudiad dirwestol—Adnabyddiaeth drwyadl MR. WILLIAMS o'r natur ddynol—Natur yn datguddio iddo ei chyfrinach—Ei ymweliad a Phenlan—Ei wybodaeth dduwinyddol—Ei enwogrwydd fel pregethwr—Newid ei arddull bregethwrol a'i olygiadau duwinyddol yn gyfamserol— Y "system newydd"—Cyfodiad MR. WILLIAMS yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes y weinidogaeth efengylaidd yn Nghymru—Ymdrechu am syniadau cywir am Berson Crist—Gweled y Beibl a natur yn gyson â'u gilydd yn eu dysgeidiaeth—Yn athronydd gwych—Trafod pynciau tywyll mewn dull eglur a goleu—Gallu arbenig i ddefnyddio cymhariaethau yn ei bregethau Gweithiau y Parch. Jacob Abbott—Pregethau gwahanol ar yr un testynau Tystiolaeth yr Hybarch Thomas Hughes, gynt o Fachynlleth, am MR. WILLIAMS fel pregethwr—Adgofion gan yr Hybarch William Roberts, Penybontfawr—Englynion Coffadwriaethol gan yr

Hybarch Gwalchmai.

PENNOD XVI.

Un o ragoriaethau MR. WILLIAMS fel pregethwr Darluniad o hono gan y Parch. William Rees, D.D. Ysgrif y Parch. Owen Thomas, D.D.— Nodiadau gan y Parch. Robert Roberts, Rhos.

PENNOD XVII.

PENNOD XVIII.

Ysgrif y Parch. David Morgan, Llanfyllin— Anerchiad y Proff. H. Griffith, F.G.S., Barnet— Nodiad gan Dr. David Roberts (Dewi Ogwen), Wrexham

PENNOD XIX.

MR. WILLIAMS yn pregethu yn yr Efail Newydd—Ei ysbryd cyhoeddus—Hoffder at blant—Oedfaon hynod o'i eiddo yn Machynlleth, Penystryd,

Llangwm, Nannerch, Ynysgau, Caergybi, Bodffordd, a Cana—Rhestr o'i destynau—Ei Hiraethgan

PENNOD XX.

Pregethau

PENNOD XXI.

Dyfodiad pechod i'r byd-Llywodraeth foesol- Dim ond tri chwrt yn y mil blynyddoedd "Gan ddechreu yn Jerusalem "-Yn ol eich ffydd-Ffurfio cymeriad Cariad: nad yw y priodoleddau dwyfol ond gwahanol agweddau arno.

PENNOD XXII.

Cynghorion o eiddo MR. WILLIAMS mewn amgylchiadau neillduol, gan yr Hybarch R. Parry, (Gwalchmai)-Dywediadau o'i eiddo, gan y Parch. E. Davies (Derfel Gadarn)-Tri hanesyn am dano, gan y Parch. Z. Mather, Abermaw

PENNOD XXIII.

Gosod cof-faen yn nghapel y Wern-Rhoddi Cof-golofn ar ei fedd-Diweddglo

LLEOLIAD Y DARLUNIAU.

Dau ddarlun y Parch. William Williams
Cwmeisian Ganol
Bedd-y-Coedwr
Capel Penystryd
Tyddynybwlch, Ganllwyd
Hen Ysgubor Dolfawr, Llanelltyd
Y Machine, Pentre'rfron
Y Talwrn
Capel y Wern fel yr oedd yn amser Mr. Williams
Bryntirion, Bersham
Yr Hen Dabernacl, Liverpool
Y White House, Bersham
Mr. W. Williams-Wern, Awstralia
Y Tablet
Y Gof-Golofn


PENNOD I.

BOREU EI OES 1781—1791.

Y CYNWYSIAD—Dynion gwerth eu cofio—Mr. Williams yn un o honynt Lle ei enedigaeth—Enw ei gartref yn cael ei sillebu mewn gwahanol ddulliau—Amgylchoedd ei gartref yn fanteisiol i berchenogion Athrylith—Priodas rhieni ein gwrthddrych—Nodwedd ei henafiaid—Y Parch. John Williams, Dolyddelen, yn cael ei ddefnyddio yn offeryn i ddychwelyd mam Mr. Williams at grefydd—Ei frodyr a'i chwiorydd—Cyfamod ei dad âg ef—Yntau yn ei gadw—Myned i Frynygath, neu i Lanfachreth, cyn adeiladu Capel Penystryd—Cymeryd llwy oddiar fuarth Cwmeisian Uwchaf—Ei fam yn myned ag ef i'w danfon yn ol, ac yn gweddio drosto—Ei hoenusrwydd yn amlwg—Ei dad yn ofni y byddai yn od ar holl blant yr ardaloedd—Henafgwr yn yr ardal yn ei weled yn wahanol i blant eraill y Cwm—Tuedd athronyddol ei feddwl yn dyfod i'r golwg yn foreu ar ddydd ei fywyd.

DYNION gwerth eu cofio, "Men worth remembering," ydyw teitl cyfres neillduol o gyfrolau gwerthfawr, a ddygir allan o'r wasg yn Lloegr ar ddynion enwog; a phe y buasai enwogion Cymru yn y rhestr ddyddorol, nid oes neb a wyr ddim am hanes Cymru a'i chrefydd, yn enwedig yn mhlith yr Annibynwyr, yn ystod y ganrif hon, na chydnebydd gyda pharodrwydd, mai nid trais yn neb yw tybied, y buasai ein gwron yn hawlio lle amlwg yn mysg y cyfryw. ddynion; a hyny oblegid ei dduwioldeb diamheuol, ei athrylith fyw a nefol, ei dalentau dysglaer, a'i wasanaeth anmhrisiadwy i grefydd efengylaidd yn ein gwlad am gyfnod maith.

Ar y cyfrif uchod, nis gellir ei anghofio ef, canys. y mae ei enw wedi ei gerfio mor ddwfn a sicr ar lech calon y genedl Gymreig, a'i goffadwriaeth wedi ei wisgo âg anfarwoldeb, fel y mae mor ddiogel yn ei mynwes, ag ydyw mynyddoedd Gwyllt Walia yn eu safleoedd.

Ystyriaeth o'r gwerth a berthyn i'w hanes, a'r ymwybyddiaeth fod ei athrylith, a'i dalentau amrywiol, wedi eu cysegru, a'u cyflwyno yn gyfangwbl ganddo, ar allor crefydd i lesoli eraill, sydd wedi. ein symbylu i osod y darllenydd mewn mantais i feddu gwybodaeth helaethach am dano, yn holl deithi ei gymeriad, ac i ddyfod i gyfathrach agosach âg ef yn holl gylchoedd ei wasanaeth dros Dduw.

Ganwyd ein gwrthddrych yn Cwmhyswn Ganol, plwyf Llanfachreth, swydd Feirionydd, yn y flwyddyn 1781. Amaethdy bychan gwledig, a hollol ddiaddurn, ar lethr y mynydd, mewn lle hynod o agored, heb fod yn nepell oddiwrth waith aur enwog ac adnabyddus Gwynfynydd yw Cwmhyswn Ganol Ty cymharol newydd yw yr un presenol, ond y mae yr hwn a arddangosir yn y darlun yn rhan o'r hen dy, ac o ran ei ffurf allanol, y mae yn hollol fel yr ydoedd yn nyddiau boreuol Mr. Williams. Wrth ei dalcen gorllewinol, y mae tair o goed wedi tyfu yn uchel a phreiffion, ac y maent fel pe yn gwasanaethu er diogelu y drigfan rhag rhuthriadau ystormydd o'r cyfeiriad hwnw. Cyfyd y tir i fyny wrth dalcen uwchafy ty, nes bod bron yn gydwastad â'r corn mwg. Oddiwrth y ty eir i lawr ar hyd llechwedd y mynydd, yr hwn sydd yn llechweddu, ac yn ymestyn hyd at bistylloedd mawrion ac ardderchog Cain a Mawddach, ychydig islaw i'r annedd enwog.

Sillebir enw yr annedd uchod mewn gwahanol ffyrdd, megys Cwmhyswn, Cwmhwyswn, Cwmhwyson, a Cwmeisian; ac amryfal yw yr esboniadaeth a roddir ar darddiad ac ystyr y gair. Bernir gan rai mai Cwm-y-swn, neu Cwm-dwfr-swn, yw ystyr briodol yr enw. Mae yno swn, canys y mae pistylloedd Cain a Mawddach yn rhuo yn drystfawr ar amserau, gan wneuthur "swn dyfroedd lawer," wrth ruadru dros y creigiau i'r gwaelodion, fel nad yw yr ystyr a nodwyd yn ymddangos mewn un modd yn un hollol annaturiol. Ond rhaid cofio fod yn y Cwm rywbeth heblaw swn, ac o herwydd hyny, dichon mai ystyr arall sydd i darddiad yr enw. Yn wir, gellir talu ymweliad â Chwmhyswn Ganol, ar sychder haf, a thybied mai yno y cartrefa

dystawrwydd, ac os oes barddoniaeth mewn

dystawrwydd; dyma y lle i'w deimlo yn effeithiol. Gallai mai Cwmhesgen[2] yw yr enw priodol, oblegid mae yr amgylchoedd yn gyfoethog o gyrs a brwyn; ac y mae yn rhaid troi yr afonydd yn mhell, ac i'r ffrydiau sychu, cyn y torir ymaith bob corsen a hesgen o'r fangre hon; neu fe ddichon mai Cwmiesin yw yr ystyr gywiraf, yr hyn o'i aralleirio yw-Cwm Cain, Cwm arddunol, Cwm hardd. Yn sicr, felly y mae, fel y dywed Thomas Pennant, yr hanesydd, am y lle hwn,-"Y mae natur wedi bod yn afradus yma mewn prydferthion."

Cymered y darllenydd yr un a fyno o'r ystyron. uchod; ni chawsom ni erioed ein boddloni yn hollol mewn esboniad ar yr enw, ac nid ydym yn gweled rhyw lawer o bwysigrwydd yn hyn, a sillebir ef genym o hyn allan yn Cwmeisian fel ei seinir ar lafar gwlad. Digon at ein pwrpas ni yn y gwaith hwn, yw gwybod hyd sicrwydd, mai yma y ganwyd, ac mai oddi yma y cychwynodd y Parchedig William Williams o'r Wern, allan i fendithio y byd. Y mae pob peth yn amgylchoedd ei gartref genedigol, yn fanteisiol i berchenogion athrylith a thalent er eu dadblygu. Y golygfeydd ydynt ramantus, mawreddus, arddunol, prydferth, a swynol odiaeth, gan gynwys mynyddoedd uchel a chribog, creigiau ysgythrog a daneddog, ceunentydd dyfnion, afonydd gloewon, coedydd mawrion, ac amrywiol lawer iawn, a llanerchau hyfryd nodedig. Ceir yma deleidion o bob amrywiaeth dymunol i'r llygaid i edrych arnynt, a digon o waith i syllu ar, a rhyfeddu at ardderchawgrwydd creadigaeth Duw; ac nid yn fuan yr anghofia llawer heblaw Thomas Pennant, yr olygfa a welir drwy y coed, pan y byddo yr haul yn tywynu ar bistylloedd Cain a Mawddach, y rhai ydynt yn wir ardderchog wrth ddisgyn o honynt i'r dyfnder mawr, gan ymddangos yn wynion fel afonydd o laeth. Ie, oddiyma y galwodd yr Arglwydd ei was allan, ac yr arweiniodd ef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel canwyll ei lygaid, gan lewyrchu drwyddo, nes y gwelodd y bobl oleuni mawr yn llewyrch ei weinidogaeth danbaid, nerthol, ac efengylaidd. Ychwanega hyn at nifer y profion lluosog sydd genym eisioes, mai nid o dai brenhinoedd o angenrhaid y mae meibion y daran yn dyfod allan, ac mai nid mewn dillad esmwyth y gwisgwyd y rhai sydd yn parotoi ffordd yr Arglwydd, ond à nerth o'r uchelder.

Yn Eglwys plwyf Trawsfynydd, Ionawr 9fed, 1767, ymunodd William Probert, o Lanfachreth, mewn priodas â Jane Edmund, Dolymynach Isaf, Trawsfynydd. Mab ydoedd ein gwrthddrych parchedig i'r rhieni uchod. Yr oedd William Probert ei dad, yn fab i Robert ac Ellen Williams ei wraig o'r lle a nodwyd. Nis gallwn nodi nemawr i sicrwydd am danynt hwy, ond yn unig ddarfod iddynt, Tachwedd 14eg, 1734, fyned â'u mab William i'w fedyddio yn Eglwys plwyf Llanfachreth. Yr oedd William Probert yn ddyn tawel a synhwyrol iawn. Arferai wrando llawer ar yr efengyl, ac aeth droion i'r Bala, pellder o bymtheg i ddeunaw milldir o ffordd, i wrando ar y Parch. Daniel Rowlands o Langeitho, ac eraill yn pregethu. Meddai ar ddeall cryf a chyflym, ond ysywaeth, nid ymunodd efe âg un blaid grefyddol mewn proffes, drwy ystod ei holl oes faith. Mynychai yr Eglwys Sefydledig, a byddai yn addoli Duw, drwy gynal addoliad teuluaidd ar ei aelwyd gartref gyda chysondeb diball. Saer coed ydoedd efe o ran ei gelfyddyd, ac hefyd amaethai yn fedrus a diwyd y tyddyn bychan a ddelid ganddo. Gweithiai lawer o bilynau meirch, ac arferai ddywedyd o ran digrifwch diniwed yn ei ffordd dawel ei hun, pe y buasai meirch yr ardal hono yn gallu siarad, mai efe a fuasai yn cael gweithio yr holl bilynau ar eu cyfer, oblegid fod yr eiddo ef yn gorwedd mor esmwyth ar eu cefnau. Disgynai arno hefyd i weithio eirch bron i holl feirwon y cymoedd hyny; ac arferai ei fab enwog o'r Wern, ddywedyd fod ei dad yn arferu gormod gydag eirch, ac yn cynefino cymaint â hwynt, fel yr oedd yn anmhosibl iddo fod yn "grefyddol iawn." Beth bynag am athroniaeth y sylw, a'r hyn oedd yn angenrheidiol yn ol safon ei fab, mewn trefn i fod yn "grefyddol iawn," rhestrid William Probert, yn mysg y dynion moesolaf, doethaf, a manylaf yn yr holl ardaloedd. Gwelodd aml a blin gystuddiau yn ei deulu, a chafodd fyw nes cyrhaedd oedran teg, a chroesi o hono yn mhell dros linell yr addewid, ond bu yntau farw, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Ebrill 22ain, 1822, yn 88 mlwydd oed. Ganwyd Jane Edmund, mam ein harwr, yn y flwyddyn 1741. Merch ydoedd hi i Edmund a Gwen Morgan, Dolymynach Isaf. Saif yr amaethdy uchod, yr hwn erbyn hyn sydd yn adfeiliedig iawn yr olwg arno, ar lan afon Cain, yr hon a ymddolena drwy ddyffryn bychan, ond prydferth a swynol nodedig, ychydig islawi Gapel Penystryd. Ganwyd Edmund Morgan ei thad, yn Moel-y-glo, plwyf Llanfihangel-y-traethau, swydd Feirionydd. Hana Mr. Rowland Edmund, sydd yn cyfaneddu yn awr yn Moel-y-glo o'r un teulu. Ystyrid. Edmund Morgan, y gwr cryfaf o gorffolaeth yn Ngogledd Cymru, os nad yn yr holl dywysogaeth. Adroddir llawer o bethau hynod am dano, er profi ei fod ar y blaen bron i bawb o'i gydoeswyr mewn gallu i gyflawni gorchestion corfforol, y rhai a osodent gryn fri ac enwogrwydd ar y rhai a'u cyflawnent yn ngolwg llawer o ddynion yn yr oes hono. Dywedir iddo unwaith fyned i ymaflyd codwm gyda Dafydd Dafis, Tynant, ac er fod yr olaf yn wr cryf a nerthol iawn, bu raid iddo fyned adref heb godymu ei wrthwynebwr, er fod ei esgidiau newyddion wedi eu dryllio yn chwilfriw yn yr ymdrechfa ffol. Bu Edmund Morgan byw nes myned yn oedranus iawn. Ond er cryfed ydoedd efe, yr oedd iddo yntau ei derfynau, ac nid oedd i fyned drostynt. Pan y cymerwyd ef yn glaf o'r afiechyd y bu efe farw o hono, gofynwyd iddo faint ydoedd ei gywir oedran! Atebodd yntau, "gellwch roddi cant a naw ar fy arch," ac felly y gwnaethpwyd yn ol ei orchymyn, a cherfiwyd hyny ar gareg ei fedd yn yr amser priodol. Clywodd Syr R. W. Vaughan, Nannau, perchenog Dolymynach Isaf y pryd hwnw (Syr W. W. Wynn yw ei berchenog yn awr) am oedran eithriadol ei hen denant hoff, ond amheuai y Barwnig caredig, a oedd hyny yn gywir, ac ofnai fod y gwr hynod o Ddolymynach, wedi methu wrth gyfrif ei oed; ac efe a aeth gan ymofyn yn fanylach am y peth, a chafodd wybod i sicrwydd, nid ei fod yn gant a naw, ond ei fod yn gant a thair ar ddeg, a cherfiwyd hyny, yn ol gorchymyn y Barwnig ffyddlawn ar gareg ei fedd. Bu farw Edmund Morgan, Chwefror 6ed, 1817, yn [113] oed. Torwyd y lle ysgwar a welir ar y beddfaen, yn ddyfnach yn y gareg, er mwyn cywiro y ffigyrau cyntaf, y rhai oeddynt yn hollol gamarweiniol. Y neb a ewyllysio weled drosto ei hun, aed a thröed i mewn i fynwent Eglwys Trawsfynydd—gwelir y bedd ar y llaw ddeheu yn fuan wedi yr eir drwy y fynedfa ir fynwent. Mae ychydig o ol y rhif 9 i'w weled eto, fel pe heb ei lwyr ddileu ymaith, pan yr oeddynt yn cywiro yr oedran ar y gareg. Ceir yn y fynwent hon, feddau eraill hefyd, perthynol i'r teulu hwn, sef yr eiddo Evan Edmund, mab Edmund Morgan, yr hwn a fu farw Mehefin 13eg, 1809, yn 47 mlwydd oed. Hefyd Jane Edmund, gwraig yr uchod, yr hon a fu farw Ebrill 13eg, 1827, yn 51 mlwydd oed; yma hefyd y gorwedd Rowland Edmund, Felynrhydfawr, yr hwn a fu farw Chwefror 27ain, 1819, yn 63 mlwydd oed. Yr oedd yntau yn fab i Edmund Morgan, ac yn dad i'r diweddar wr da hwnw—Morgan Edmund o'r Ucheldref, ger Corwen, ac yn daid i'r Parch. Edmund Morgan Edmunds, Rhiwabon. Hanai y diweddar Barch. E. Edmunds, Dwygyfylchi, o'r teulu hwn; ac o deulu Mr. Williams, o ochr ei dad, yr hana y Parch. J. Evans, Nelson, Morganwg. Er chwilio llawer, ni chawsom ddyddiad genedigaeth na marwolaeth Gwen Morgan, gwraig Edmund Morgan, nac yn wir, ddim am nodwedd ei chymeriad yn foesol na meddyliol. Buasai yn wir dda genym allu anrhegu y darllenydd â mwy o hanes y teulu hwn, ond y mae yr holl oes hono wedi ei chasglu at ei thadau, ac oes arall wedi cyfodi, heb allu mynegi i ni y dirgelwch; ac nid oes dim ffeithiau wedi eu cofnodi am danynt, fel ag i'n galluogi i gyflenwi y diffyg, a gwell genym ninau beidio a dyfalu pethau, y rhai nas gallwn fod yn sicr o'u dilysrwydd. Ond nid yw amser wedi ein hamddifadu a'n hysbeilio o ffeithiau pwysig, y rhai a ddangosant i ni nodwedd cymeriad Jane Edmund, mam Mr. Williams. Gwraig rinweddol a chrefyddol nodedig ydoedd hi, fel y ceir gweled yn mhellach yn mlaen yn y gwaith hwn. Aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ydoedd. Nis gallwn nodi yn fanwl amser ei dychweliad at yr Arglwydd, ond y mae sicrwydd ei bod yn proffesu crefydd, ac yn aelod eglwysig naill a'i yn Brynygath, neu Llanfachreth, oddeutu y flwyddyn 1790; gwel Hanes Methodistiaid Gorllewin Meirionydd tudalen 471. Ond gan y gwyddis mai y Parch. J. Williams, Dolyddelen, a ddefnyddiodd yr Arglwydd yn offeryn yn ei law i'w dychwelyd ato, nis gallasai ei dychweliad fod wedi cymeryd lle cyn y flwyddyn 1787, a hyny oblegid y bernir oddiar seiliau lled gedyrn, mai yn y flwyddyn uchod y dechreuodd y gwr gonest a rhagorol hwnw, ar y gwaith o bregethu. Yr ydym yn gywir, ac yn ddiogel, wrth ddywedyd ddarfod iddi ddechreu proffesu crefydd rywbryd rhwng 1787 a 1790. Bodolai cyfeillgarwch pur a dwfn rhwng Mr. Williams, Dolyddelen, a Mr. Williams, Wern, ac nid rhyfedd hyny, pan gofiom mai y cyntaf a fu yn foddion i ddwyn mam yr olaf o gyfeiliorni ei ffyrdd, nes ei bod yn gadwedig gan yr Arglwydd, ac yn glodfawr yn Israel. Wedi tramwy gan bregethu teyrnas, Dduw, am dros haner can' mlynedd yn mysg y Methodistiaid Calfinaidd, a hyny mewn ffyddlondeb mawr, aeth y Parch. J. Williams i dangnefedd Mawrth 27ain, 1839, yn 82 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Dolyddelen, y dydd Sadwrn canlynol. Parhaodd gyrfa grefyddol Jane Edmund, am o leiaf dair blynedd a deugain, yr hon a redodd yn ffyddlon gan edrych ar Iesu i'r terfyn eithaf. Ysgrifenai Mr. Thomas Price, Maes-y-glwysan, atom, gan ein hysbysu ei fod yn cofio iddo ar un nos Sabbath, fyned i Eglwys Llanfachreth, ac i'r gwr Parchedig oedd yn gweinyddu y noswaith hono, hysbysu y gynulleidfa, fod Jane Edmund, Cwmeisian Ganol, yn dymuno am ran yn ngweddiau yr Eglwys. Pa fodd bynag, pan y daeth awr ei hymddatodiad, yr oedd wedi gwregysu ei lwynau, a'i chanwyllau wedi eu goleuo, a hithau yn hyderus yn dysgwyl am ei Harglwydd, a hi a aeth i orphwysfa pobl Dduw, Medi 28ain, 1833, yn 92 mlwydd oed. Dygwyd ei chorff i'w gladdu yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Hydref Iaf. Sonir hyd heddyw gan yr ardalwyr, am weddi hynod Mr. Williams, wrth y ty cyn cychwyn corff ei fam i'r gladdfa. Pregethodd y nos flaenorol yn y Bala, a hyny yn nodedig ac effeithiol iawn. Cyrhaeddodd i Gwmeisian Ganol yn brydion. Gan y gwyddid ei fod yn dyfod, ac y dywedid mai efe a fyddai yn gwasanaethu wrth y ty, ymgasglodd yno dyrfa anferth, yn enwedig i'r fath le anghyspell. Dododd ei ddwy law ar arch ei fam, a gweddiodd mor nodedig o ddwys ac effeithiol, fel na chlybuwyd dim yn debyg yn yr holl ardaloedd. Yn wir, tystiai y Parch. E. Davies (Derfel Gadarn), Trawsfynydd, na wrandawodd efe ddim mor effeithiol a'r weddi hono yn ei holl oes. Dywedai Mr. Williams, yn nghwrs ei weddi; mai "Diwrnod mawr oedd y diwrnod hwnw, diwrnod claddu yr hon a roddodd i mi fronau i'w sugno, ïe, claddu yr hon a weddiodd lawer drosof, ac a roddodd i mi gynghorion oeddent yn werthfawrusach nag aur." Erbyn iddo ddiweddu, nid oedd yno un llygad sych yn yr holl dyrfa fawr. Clywsom henafgwr yn tystiolaethu, ei fod fel pe yn clywed swn ei weddi fyth yn ei glustiau. Gwelsom un arall oedd yn bresenol yn yr angladd, yn wylo yn hidl wrth adrodd yr hanes i ni, a hyny yn mhen deunaw mlynedd a deugain wedi i'r amgylchiad fyned heibio. Bydd genym achos i gyfeirio eto at rieni Mr. Williams yn nghorff y gwaith hwn, ac yn arbenig at ei fam, fel y gwelir y rhan amlwg a fu ganddi hi, yn. ffurfiad cymeriad ei mab hoff ac enwog, ond ymataliwn yn awr, heb ond yn unig fynegi i'w rieni gael byw, nes profi o honynt o'r llawenydd hwnw, ddarfod iddynt gael magu mab i fod yn brophwyd i'r Goruchaf, a'i weled yn myned allan o flaen wyneb yr Arglwydd, i barotoi ei ffyrdd ef, ac i roddi gwybodaeth iachawdwriaeth i'w bobl drwy faddeuant o'u pechodau. Ganwyd i'r rhieni hyn saith o blant tri o feibion a phedair o ferched,—

ELLEN. Ganwyd hi yn niwedd y flwyddyn 1767, ond o herwydd pellder y ffordd, a'r hin auafol, ni chymerwyd hi i Eglwys Llanfachreth i'w bedyddio, hyd Mai 8fed, 1768. Ni bu y chwaer hon erioed yn briod. Nodweddid hi gan gryn lawer o ryw hynodrwydd mewn amryw bethau. Meddai allu a chwaeth at ddysgu barddoniaeth, a gallai adrodd y cyfryw heb ball. Darllenai lawer ar y Beibl, a gallai ddarllen yn ei hen ddyddiau heb gymhorth gwydr—ddrychau. Yn gyffredin byddai yn arfer cloi y drws arni ei hun yn y ty, neu yn hytrach, ddrws y llofft, yn Llanfachreth, i'r hon y symudodd tua diwedd ei hoes, a'r hon hefyd a roddwyd iddi yn ddiardreth gan Syr R. W. Vaughan, Nannau. Nid ydym yn deall iddi hi erioed fod yn proffesu. crefydd. Bu Ellen Williams farw yn gyflawn o ddyddiau, a chladdwyd hi yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Mawrth 7fed, 1864, cyn cyrhaedd ei 97 mlwydd oed.

EDMUND. Ganwyd ef yn niwedd y flwyddyn 1768. Nis gallwn nodi dyddiad ei fedyddiad ef. Nid ydym yn deall ddarfod iddo yntau ymuno mewn proffes grefyddol âg unrhyw enwad. Wedi iddo ymsefydlu yn y byd, aeth i fyw i le o'r enw Bwlchiocyn, yn Ffestiniog, lle y mae ei fab Mr. John Williams yn aros eto. Bu Edmund Williams farw Ionawr 28ain, 1853, yn 85 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Ffestiniog. Yr oedd yn ddyn tawel a siriol, yn llawn o gymwynasgarwch, ac yn hoffus gan ei gymydogion.

ROBERT. Nis gallwn nodi dydd genedigaeth, bedyddiad, nac oedran y brawd hwn pan y bu farw. Yr oedd ef yn ddyn ieuanc nodedig o grefyddol, ac yn aelod eglwysig yn Mhenystryd. Dywedir iddo gyfarfod â damwain wrth gymynu coed, ac iddo o herwydd hyny, fod yn fethiantus. dros weddill ei oes. Pan aeth swyddogion eglwys Penystryd, i edrych am dano yn ei gystudd olaf, dywedodd wrthynt, ei fod yn meddwl y gwnelai ei frawd William bregethwr, ac y byddai yn ddoethineb ynddynt hwy i ddal sylw arno, i edrych a ganfyddent hwythau ryw arwyddion ffafriol i hyny ynddo. Dyma y crybwylliad cyntaf, am ar a wyddom ni, am gyfodi William yn bregethwr. Felly i'w frawd, ag oedd yn gystuddiol ar y pryd, y rhoddwyd yn gyntaf wybod fod prophwyd i'r Arglwydd yn y teulu. Wrth weled ei hunan yn tynu tua therfyn ei yrfa ddaearol, dywedodd Robert ei fod yn gweled haf ei fywyd bron a therfynu, fel haf naturiol y flwyddyn hono, a bod blodeu ei fywyd yn syrthio fel y dail a syrthient oddiar y coed wrth y ty. Bu ef farw mewn tangnefedd heddychol, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Hydref 31ain, 1796.

MARGARET. Nis gwyddom ddim am fanylion bywyd y chwaer hon, ond yn unig ei bod yn aelod ffyddlon gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, yn Brynygath neu Llanfachreth. Y darfodedigaeth cyflym ydoedd yr afiechyd y bu hi farw o hono, a hyny yn ieuanc. Claddwyd hi yn mynwent Eglwys Llanfachreth, Gorphenaf 10fed, 1800.

CATHERINE. Ganwyd y chwaer hon, Gorphenaf 15fed, 1777. Bedyddiwyd hi yn Eglwys Llanfachreth, Gorphenaf 19eg, 1778. Gwelir ei bod o fewn pedwar diwrnod i fod yn flwydd oed, pan y bedyddiwyd hi; ond nid yw hyny i ryfeddu ato, gan neb a wyr ddim am y ffordd o Gwmeisian i Llanfachreth. Yr oedd y chwaer hon yn cyd-ddechreu crefydda â gwrthddrych y cofiant hwn. Bu hi yn briod gyda Robert Jones, Saer coed, yn ol ei gelfyddyd. Ymadawsant o Drawsfynydd, yn y flwyddyn 1823, gan fyned i fyw i'r Wyddgrug. Bu iddynt ddau o feibion—John a William. Gadawodd y blaenaf y wlad hon am Utica, America, lle y bu farw yn y flwyddyn 1850. Mae yr olaf eto yn fyw, ac yn trigianu yn Manchester; ac yn aelod ffyddlon gyda'r Annibynwyr yn nghapel Booth Street. Bu Robert Jones farw yn y Wyddgrug, rywbryd yn 1858. Fel y canlyn y dywed y Parch. W. G. Thomas, (Gwilym Gwenffrwd), Wyddgrug, am dani—"Yr oeddwn yn gydnabyddus iawn â Catherine Jones, chwaer Mr. Williams o'r Wern, neu fel yr adnabyddid hi yn y Wyddgrug, Catrin Jones." Pan ddaethum i'r dref yn 1853, yr oedd hi yn byw gyda'i gwr, Robert Jones, mewn ty bychan yn yr Heol Newydd, yn agos i dafarndy o'r enw Royal Oak. Yr oedd ddau mewn oedran pan ddaethum i'r dref, ond yr oedd ef yn alluog i enill ychydig at eu cynaliaeth, drwy ddilyn ei gelfyddyd; ac yr wyf yn meddwl eu bod yn arfer a lletya saneuwyr a ddeuent i'r ffeiriau a'r marchnadoedd o'r Bala a manau eraill i werthu sanau. Gwr byr, ond cydnerth ydoedd Robert Jones, a gwisgai wallt gosod tywyll, yn neillduol ar y Sabbathau, ac ar achlysuron arbenig eraill hefyd, yr hwn ar adegau lled gyffrous ar dymher wyllt yr henafgwr, a symudai o'i le, nes y gwelid. noethder y pen yn y parth. dadorchuddiedig. Yr oedd eithafion wedi cydgyfarfod yn y pâr oedranus hwn. Tra yr oedd ef yn un sydyn, tanbaid, a ffrwydrol, yr oedd hithau yn un hynod o amyneddgar, a llwyddai yn fuan i'w liniaru yntau hefyd. Byddai hi yn un o'r rhai ffyddlonaf yn nghyfarfodydd gweddio y chwiorydd. Yr oedd ei gweddiau yn arafaidd, ond yn dra chynwysfawr ac effeithiol. Rhoddai gynghorion rhagorol i'r merched ieuainc oeddent yn aelodau o eglwys Bethel ar y pryd hwnw. Yn mhen rhyw bum' mlynedd ar ol fy nyfodiad yma, y bu farw Robert Jones, ac y mae y dygwyddiad yn fyw ar fy nghof, a hyny yn fwy, oblegid mai yn fy nhy i y derbyniodd efe yr ergyd angeuol. Daeth i ymgynghori â mi ar ryw fater cyfreithiol, a rhoddais efi eistedd mewn cadair freichiau, ac wedi ychydig o ymddyddan tawel, gwelwn ef yn ceisio cyrhaedd rhywbeth yn agos i'r lle tân, a chan yr ofnwn iddo syrthio, prysurais ato, a gwelwn ei fod wedi derbyn ergyd o'r parlys, a thrwy fy mod inau ar y pryd yn dyoddef oddiwrth anhwyldeb gewynol, yr oeddwn mewn sefyllfa resynol gan ofn a phryder. Aeth ei lais yn floesg, a'i aelodau yn ddiymadferth, a holai yn bryderus iawn am ei briod. Gadewais ef yn ngofal cymydog, ac aethum ar frys i geisio meddyg. Cludwyd ef i'w dy, a bu farw yn mhen tuag wythnos a'i "ffydd yn Nuw." Yn lled fuan wedi marwolaeth ei phriod, symudodd Catherine Jones o'r Wyddgrug, gan fyned i fyw dros weddill ei hoes at ei mab i Fanchester. Gorphenodd Catherine Jones ei gyrfa yn orfoleddus, Awst 12fed, 1864, yn 87 mlwydd oed. Claddwyd hi yn Nghladdfa Openshaw, Manchester. GWEN. Ganwyd hi yn 1785, a bedyddiwyd hi yn Eglwys Llanfachreth, Hydref 20fed y flwyddyn a nodwyd. Bu hi yn briod âg un o'r enw John Jones. Yr oeddent ill dau yn proffesu crefydd, ac yn aelodau ffyddlon yn eglwys Lon Swan, Dinbych. Un o heddychol ffyddloniaid Israel ydoedd Gwen Jones. Bu hi farw Rhagfyr 9fed, 1871, yn 86 mlwydd oed, a chladdwyd hi Rhagfyr 13eg, yn mynwent yr Eglwyswen, ger Dinbych. Wyr iddi hi yw y Parch. Robert Williams, y Tywyn, ger Abergele.

WILLIAM. Gwrthddrych ein cofiant oedd y chweched plentyn, a'r ieuangaf o'r meibion. Nis gallwn nodi dydd ei enedigaeth, ond gwelwn ddarfod iddo gael ei fedyddio yn Eglwys Llanfachreth, Tachwedd 18fed, 1781, gan y Parch. Evan Herbert, curad Dolgellau. Cafodd y gwr Parchedig uchod fraint ag y buasai llawer un yn llawenhau o'i phlegid, ac yn diolch am dani, a diau ei fod yntau yn teimlo felly, os yr arbedwyd ef, nes gweled fod yr hwn a gyflwynwyd ganddo i'r Arglwydd drwy fedydd, wedi dyfod yn enwog ac yn adnabyddus drwy holl Gymru.

Nis gallasai rhieni o'r fath nodwedd, ag ydoedd rhieni ein gwrthddrych, lai na bod yn ofalus am eu plant, ac yn dyner o honynt oll, ac felly yn ddiau yr oeddent, ond ymddengys fod William yn fwy hoffus ganddynt na'r un o'r plant eraill, ac yn arbenig felly gan y fam, oblegid yr ydoedd ef yn dyner ac yn anwyl iawn yn ei golwg, ac yn blentyn ei hoffder mewn modd neillduol, canys bu ef yn sugno ei bronau, nes ei fod yn agos i bedair blwydd oed. Wrth ei weled yn parhau i sugno, a'i fam yn teimlo anhawsder mawr i'w ddiddyfnu oddiwrth y fron, gwnaeth ei dad gyfamod gweithredoedd âg cf, gan addaw iddo yr oen du yn anrheg, os ymataliai efe rhag sugno, ac felly y bu. Cydsyniodd âg amodau y cyfamod, ac ni cheisiodd sugno o hyny allan; ac fel y mae pob cyfamod daionus a gedwir, yn dwyn bendith i'r sawl a'i cadwo; daeth iddo yntau ddaioni a bendith, drwy gadw y cyfamod hwnw, fel y ceir eto weled. Y mae yn sicr mai i Frynygath, neu Lanfachreth, y dygid ef gan ei fam ar y cyntaf i foddion cyhoeddus, oblegid yr oedd ef yn wyth mlwydd oed cyn i gapel Penystryd gael ei adeiladu. Dysgai ei fam bob gonestrwydd i'w phlant. Pan yr oedd ei hoff William o naw i ddeg oed, ac yn croesi ar draws buarth Cwmeisian Uwchaf, cododd i fyny hen lwy, yr hon oedd wedi myned yn hollol ddiwerth, ac aeth a hi adref. Wedi ei gweled, gofynodd ei fam iddo, yn mha le y cafodd efe hi? Atebodd yntau, drwy ddywedyd, mai ar lawr. Yn mha le gofynai y fam eilwaith? Nid yw hi yn dda i ddim meddai y bachgen. Ond nid oedd yr atebiad hwnw mewn un modd yn un boddhaol gan y fam onest; ac o'r diwedd, wedi iddi wasgu yn drwm arno, cyfaddefodd y bachgen mai oddiar fuarth Cwmeisian Uwchaf y cyfododd efe hi. Gorchymynodd hithau iddo fyned a'r llwy yn ol, ond y fath oedd ei afael ynddi, fel y dangosodd raddau o gyndynrwydd i ufuddhau i gyfraith ei fam. O'r diwedd cymerodd hi ef erbyn ei law yn dyner, ac aeth ag ef i ddanfon y llwy i'w pherchenog. Gofynodd gwraig Cwmeisian Uwchaf iddi, "I ba beth yr ydych yn trafferthu, Sian Edmund, nid yw yr hen lwy o ddim gwerth i neb, gadewch hi i'r bachgen bach." "Na, nid felly," meddai hithau, "Oblegid gall yr hen lwy hon, er mor ddiwerth ydyw, drwy adael iddo ei chadw, arwain fy machgen i'r crogbren. Gadewch i ni weddio;" ac ymostyngodd ar ei gliniau, a gweddiodd yn ddwys, gan ddeisyfu yn ostyngedig, a thaer iawn, am i'r Arglwydd o'i drugaredd, gadw ei bachgen rhag y pechod o anonestrwydd, a rhag pob pechod arall hefyd. Teimlai William fod y weddi hono yn gerydd llym arno, a bod y lle yn annyoddefol iddo ef, tra y gweddiai ei fam dduwiol drosto. Gwnaethpwyd argraff annileadwy ar feddwl y bachgen ar y pryd, ac ni bu dim o'r fath beth yn brofedigaeth iddo ef byth ar ol y tro hwnw. Gwynfydedig yw y plant hyny a fendithiwyd â mamau mor onest ag ydoedd y fam hon, ac y mae miloedd o brofion yn ein gwlad, yn cadarnhau y dywediad, "Fod un fam dda yn werth cant o ysgolfeistriaid." Yr oedd bywiawgrwydd, hoenusrwydd, a direidi diniwed William mor amlwg, a'r fath wefr fyw yn ei natur, fel yr arferai ei dad ddywedyd am dano, ei fod yn ofni y byddai yn od ar holl blant yr ardaloedd; ac megys y proffwydodd efe, felly yn hollol y bu, canys ni chododd neb o'i flaen o'r fangre hon, ac yn sicr, ni ddaeth neb ar ei ol hyd yma beth bynag, yn fedd- ianol ar y fath alluoedd naturiol dysglaer, ac o gyffelyb hynodrwydd a chyhoeddusrwydd ag ydoedd efe. Dywedai henafgwr parchus o'r ardal, ei fod yn dyrnu yn Cwmeisian Ganol unwaith, pan yr oedd ein gwrthddrych yn fachgenyn lled ieuanc, a'i fod yn gweled ynddo y pryd hwnw rywbeth ag oedd yn ei wahaniaethu yn amlwg oddiwrth blant eraill y Cwm. Deuai hyny i'r golwg ynddo mewn rhyw gywreinrwydd neillduol, drwy ei waith yn cynllunio adeiladau ffugiol i'r anifeiliaid, gan osod coed yn gywrain iawn ar ochr allanol mur y ty, fel moddion sicr, i ddal y da corniog yn eu lleoedd priodol. Arferai gynllunio llawer yn yr adeg dan sylw, gan arddangos yn foreu, y duedd athronyddol oedd mor naturiol iddo, a'r hon a ddaeth mor amlwg i bawb ynddo ar ol hyn. Os gellir ystyried dyn yn meddwl drosto ei hun, gan chwilio achosion ac egwyddorion pethau allan,—eu cysoni â'u gilydd, ac nid cymeryd yr eiddo eraill yn ganiataol, yn athronydd, yn ddiau, yr oedd ein gwrthddrych

yn nodedig fel athronydd er yn ieuanc.

PENNOD II.

EI FYNEDIAD YN SAER COED, A'I ARGYHOEDDIAD 1791—1794.

Y CYNWYSIAD—Natur yn amgylchoedd cartref ein gwrthddrych yn cael aros heb ei llychwino gan law dyn—Y trigolion gynt yn ymgadw yn ffyddlon i natur mewn bwydydd a gwisgoedd Cedyrn yn preswylio yma gynt—Ein gwrthddrych yn fyw i bob peth natur—Yn penderfynu myned yn saer coed—Ei hyfrydwch yn ei gelfyddyd—Dyfod i wybodaeth helaethach o'r natur ddynol wrth ddilyn ei grefft— Arferion annuwiol yn yr ardal—Anrhydeddu y gwŷr a enillent yn y campau llygredig Yn anhawdd ymgadw rhag cymeryd rhan ynddynt—Y tylwythau teg a'r swynyddion—Ysbrydion yn ymddangos mewn lleoedd neillduol yn yr ardal—Y dylanwadau yr ydoedd ein gwrthddrych yn agored iddynt—Heb gael addysg foreuol—Ysgolion yn ychydig ac yn anaml y dyddiau hyny—Manteision crefyddol yn Llanuwchllyn—Eglwys Penystryd yn ganghen o eglwys Llanuwchllyn—Rhys Dafis yn pregethu yn Medd-y-coedwr—Ein gwrthddrych yn yr oedfa—Gwr a gwraig y ty yn ofni iddo derfysgu yr addoliad—Lewis Richard yn ei gyrchu yn nes i gyfeiriad y tân—Y testun y pregethwyd arno, a'r emyn a ganwyd ar ddiwedd yr oedfa—Y llanc wedi ei derfysgu yn ei enaid gan y gwirionedd—Bedd-y-coedwr mewn lle unig ac anghyspell—Ychydig o fanylion am helyntion bywyd a symudiadau Rhys Dafis Ei lafur a'i nodweddau—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Ei weithredoedd da yn trosglwyddo ei goffadwriaeth yn barchus i'r oesau a ddelo ar ol.

Y MAE natur yn amgylchoedd cartref ein gwrthddrych enwog yn cael llonyddwch i wisgo ei gwisgoedd naturiol a dihalog, heb ei llychwino nemawr gan gelfyddyd ddynol. Erys y mynyddoedd a'r bryniau fel cynt, ag eithrio gwaith aur Gwynfynydd, a llifa yr afonydd yn yr un cyfeiriad tua'r mor-eu cartref cyntefig. Ymgadwai y trigolion hefyd, gynt, yn ffyddlon i natur yn eu bwydydd a'u gwisgoedd. Eu bara ceirch a'u caws a fwyteid ganddynt, a'u diod o ddwfr a llaeth oedd sicr iddynt. Gwisgai y meibion eu huganau llwydion, eu cotiau cynhes, a'u llodrau pen glin, oeddent o ddefnydd gwisg gochddu y ddafad, a'u botymau oeddent fel bathodau Eisteddfodol, yn ganfyddedig o bell ar eu gwisgoedd.

Y merched, hwythau, oeddent fedrus i drin y droell fawr a'r droell fach, a cheisient wlan a llin, gan ei weithio â'u dwylaw yn ewyllysgar, yn wisgoedd, fel y gallent, o herwydd nerth ac anrhydedd. eu mentyll clyd, chwerthin yn yr amser a ddaw, gan herio ystormydd o wyntoedd a gwlawogydd.

Trigai y trigolion mewn aneddau llonydd, heb ddim i dori ar eu tawelwch, ond swn y daran gref, a'r gwynt ystormus ar amserau, bref y ddafad, a chyfarthiad ci y bugail. Anaml y byddent yn gweled dyeithr-ddyn yn tramwyo heibio i dynu eu sylw. Cedyrn oedd yn preswylio yn y cymoedd hyn yr amser hwnw, a gwelir ambell un o'u gwehelyth yn aros eto, fel dangoseg o'r hyn ydoedd y lluaws gynt.

Gallwn yn deg ddychmygu, fod un mor nwyfus ag ydoedd ein gwron, yn ei fachgendod, yn rhwym o fod yn un byw iawn i bob peth natur. Gwyliai yr amser i'r adar i nythu, a deallai yn fuan, yn mha le yr oedd trigle eu nythod cywrain. Dysgwyliai yn bryderus am glywed y gog yn canu ei deunod am y waith gyntaf yn y tymhor, ac os byddai ganddo geiniog neu ddimai yn ei logell ar y pryd, llawenhai yn fwy. Hyfrydwch iddo oedd gwrandaw y fronfraith a'r fwyalchen amrywiol eu seiniau, yn telori yn y goedwig islaw ei gartref. Y cornchwiglod a'r gylfinhir yn chwibianu dros y fro yn uwch i fyny. Gwrandawai ar griciad y rhedyn yn crecian gerllaw iddo, ac er pob ymdrech, nid hawdd oedd cael yr un o honynt i'w law, na'u hymlid o'r terfynau. Ond llwyddai weithiau i sawdelu ambell i neidr i farwolaeth. Yr oedd dal y brithilliaid yn yr afonydd, a chasglu y cnau oddiar y coed, yn rhan o hyfrydwch a gwaith tymhor ei fachgendod. Ond aeth y tymhor hyfryd hwnw heibio, a daeth yn angenrhaid arno yntau, fel eraill o blant y Cwm, i ymwregysu at waith mwy neillduol, a meddwl am ryw orchwyl er ei gynaliaeth. Wedi ystyriaeth briodol ar du ei rieni, a chael ei foddlonrwydd yntau, penderfynwyd ei ddwyn i fyny yn saer coed. Ymhyfrydai yn fawr yn ei gelfyddyd, a chyrhaeddodd gryn fedrusrwydd ynddi. Daeth hefyd, wrth ddilyn ei grefft o'r naill amaethdy i'r llall yn y gymydog- aeth, i feddiant o wybodaeth helaethach a chywirach o gilfachau dirgel a dyrus y natur ddynol, ac er nad oedd y cylch newydd y troai ynddo, heb ei beryglon a'i brofedigaethau, eto, profodd yn fanteisiol iddo, yn yr adnabyddiaeth fanwl a helaeth a gafodd efe o'r ddynoliaeth yn ei gwahanol agweddau, pan yr oedd efe wrth y gwaith o saernio celfi hwsmoniaeth, yn y naill fan a'r llall i amaethwyr ei wlad.

Anurddid yr ardaloedd hyn, fel llawer o ardal- oedd eraill yn yr oes hono, gan arferion annuwiol o eiddo y trigolion, drwy eu gwaith yn treulio y Sabbathau i gyflawni campau ac arferion llygredig -megys chwareu cardiau, interliwdiau, y bel droed, rhedegfeydd ceffylau, ac ymladdfeydd ceil- iogodd. Gwelir hyd heddyw hen safle Pit ceiliogod heb fod yn nebpell o Gapel Penystryd. Yn ychwanegol at y pethau uchod, yr oedd Gwyl mab Santau mewn bri ar y Sabbathau, lle y ceid y bibell, y delyn, a'r ddawns yn nghyd; ac yn fynych, meddwai y cwmni, a diweddid mewn ymladdfeydd mileinig rhwng dynion â'u gilydd. Ac hefyd, nid oedd gywilydd ganddynt bitchio a choetio ar ddydd Duw. Anrhydeddid y gwyr a enillent y gamp yn yr ymdrechfeydd ffol ac annuwiol uchod, a rhoddid iddynt le amlwg yn ymddyddanion yr aelwydydd, a siaredid am danynt fel rhai yn haeddol o barch dau ddeublyg am eu gwrhydri. Nid hawdd ydoedd i fachgen ieuanc nwyfus ymgadw heb eu hedmygu hyd at gymeryd rhan yn yr arferion niweidiol, gan obeithio dyfod rhyw ddydd ei hunan yn fuddugol- iaethwr ar bawb o honynt yn y pethau a nodwyd, a thrwy hyny ddyfod yn wrthddrych edmygedd cyffredinol ynfydion y tir. Sonid llawer yn nghlywedigaeth gwrthddrych y cofiant hwn, am orchestion a chymwynasau y tylwythau teg dychmygol, ac am y swynyddion a'u dewiniaeth-eu gallu rhyfeddol i ddwyn pethau dirgel i oleuni, ac i daraw eraill à barn condemniad am eu trosedd. Credid y cwbl gan lawer, er nad oedd yr oll ond hoced a thwyll. Traethid wrtho am y lluaws ysbrydion oeddent yn weledig mewn lleoedd neillduol yn yr ardal, i lawr o'r lluaws ysbrydion hyny, y traethai yr henafgwr hygoelus hwnw am danynt, yr hwn a sicrhai ddarfod iddo weled myrdd o ysbrydion duon yn cerdded ymylon cantel llydan ei het, ond heb ei bensyfrdanu ganddynt, hyd at y bwgan sicr a hynod hwnw, a welid yn ymddangos wrth bont y Cilrhyd, ar ffurf dyn heb ben iddo. Nid yw yn gwbl hysbys pa ddyddordeb a gymerodd ein gwrthddrych yn y campau annuwiol y crybwyllwyd am danynt yn flaenorol; ac ni wyddis i ba raddau y credai efe yn modolaeth ac ymddangosiad dychmygol, yr ysbrydion y sonid cymaint wrtho am danynt. Ond y mae yn dra thebyg nad oedd yntau ddim yn fwy o amheuwr yn nghylch eu bodolaeth a'u hymddangosiadau nag ydoedd y rhelyw o fechgyn a thrigolion y cymoedd hyny yn yr oes hono. Fodd bynag, galluogir ni i weled drwy ddrych, yr hyn a ysgrif- enwyd, beth ydoedd nodwedd yr oes hono, a beth oeddent y dylanwadau yr ydoedd yntau yn agored iddynt y tu allan i derfynau aelwyd ei rieni. Ni dderbyniodd ddim manteision addysgol yn ei fachgendod, amgen na'r hyn a'i galluogodd i ddarllen yn iaith ei fam. Nid oedd ysgolion Sabbathol ond ychydig ac anaml yn y wlad y pryd hwnw, ac felly yn yr ardal hon hefyd, fel nad oedd manteision addysgol a chrefyddol ond nodedig o brin. Eto, yr oedd y nos yn cerdded yn mhell, a goleuni dydd hyfryd gwybodaeth yn dechreu pelydru ar yr ardaloedd. Bu y Parch. B. Evans yn llafurio yn egniol gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn er addysgu y bobl, a lledaenu terfynau achos yr Arglwydd yn yr amgylchoedd. Dilynwyd ef gan y Parchn. T. Davies ac A. Tibbot, y rhai a lafuriasent yn ddyfal yn y cylchoedd hyn. Yn amser yr olaf yr adeiladwyd capel cyntaf Penystryd, ac fel aelodau o eglwys Llanuwchllyn yr ystyrid y rhai a ymgyfarfyddent ynddo ar y dechreu, ac yno yr elent i gymundeb y saint. Hefyd, bu y goleuadau mawrion y Parchn. Thomas Charles, a George Lewis; y naill gyda'r Methodistiaid yn y Bala, a'r llall gyda'r Annibynwyr yn Llanuwchllyn, yn llewyrchu goleuni gwybodaeth Ysgrythyrol yn y broydd hyn. Wrth gymeryd yr hyn a nodwyd i ystyriaeth, gwelir yn eglur, nad oedd y bobl ddim wedi eu gadael yn gwbl mewn tywyllwch heb ddim goleuni gwybodaeth hyd y pryd hwn, ond yn hytrach, eu bod yn rhodio yn ngoleuni llewyrch efengyl gogoniant y bendigedig Dduw. Rhoddodd un o'r enw Rhys Dafis, ysgolfeistr a phregethwr teithiol gyda'r Annibynwyr, ei gyhoeddiad i bregethu ar noswaith, mewn ty anedd o'r enw Bedd-y- Coedwr. Wedi i'r dydd a'i oruchwylion fyned heibio, wele y cymydogion gwledig a dirodres yn dyfod y naill ar ol y llall, dros y llechweddi serth, a'r llwybrau anhygyrch, gan gyfeirio eu camrau yn araf tua'r drigfan a enwyd. Wedi i Dafydd Dafis a Sarah Morris, gwr a gwraig y ty, daflu golwg ar y gynulleidfa, a chanfod, er dychryn iddynt, fod William, Cwmeisian Ganol, wedi dyfod yno, ac yn eistedd ar y gist fawr oedd gyferbyn a'r drws, ofnent iddo derfysgu yr oedfa, oblegid gwyddent am ei nwyfiant a'i ddireidi arferol. Wrth ei weled yn aflonyddu, aeth Lewis Richard Brynre, Pen-y- graig wedi hyny, at y bachgen, gan ddeisyfu arno yn dyner, i ddyfod yn nes i gyfeiriad y tân, ac felly y bu, cydsyniodd â'r gwahoddiad yn ddiwrthwynebiad. Erbyn hyny, yr oedd yn amser dechreu yr oedfa, a dacw y pregethwr yn cyfodi, ac yn rhoddi

emyn i'w ganu, ac efallai mai Sarah Morris, gwraig y ty, oedd yn arwain y gân, oblegid yr ydoedd hi yn gantores nodedig o fedrus a soniarus. Wedi darllen a gweddio, cymerodd y llefarwr y geiriau canlynol yn destun:—"Trowch i'r ymddiffynfa, chwi garcharorion gobeithiol; heddyw yr ydwyf yn dangos y talaf i ti yn ddau ddyblyg." Cafwyd pregeth gyffrous iawn, ac ar ddiwedd yr oedfa rhoddwyd yr emyn canlynol i'w ganu:—

"Mae plant y byd yn dweyd ar g'oedd,
Mae meddw wyf, neu maes o nghof;
Os meddw wyf, nid rhyfedd
yw Meddw ar win o seler Duw."

Bu yno ganu gwresog â'r ysbryd, faint bynag oedd y gynulleidfa yn ei ddeall. Dyna, ddarllenydd, y testun y pregethwyd arno, a'r emyn a ganwyd ar ddiwedd y bregeth bwysig hono yn Bedd—y—Coedwr. Medda y testun bwysigrwydd dwyfol, ond ni theilynga yr emyn unrhyw sylw, ond yn unig gellir dywedyd, ei fod yn enghraifft o lawer un a genid y pryd hwnw, i aros i chwaeth y cynulleidfa— oedd ymgoethi, ac iddynt arferu â rhai gwell yn eu lle hwynt. Eto, wrth gysylltu yr emyn uchod â'r achlysur o argyhoeddiad un a ddaeth wedi hyny yn un o'r pregethwyr penaf a gododd Duw erioed yn ein gwlad, nis gall lai na meddu swyn a dyddordeb yn nglyn â'r amgylchiad nodedig hwnw.

Wedi i'r oedfa fyned drosodd, ymwasgarodd y gynulleidfa bob un i'w fan, ac aeth William Cwmeisian Ganol, yntau tuag adref y noson hono, heb derfysgu yr addoliad, ond wedi cael ei derfysgu yn ei enaid, gan anogaethau y pregethwr i'r fath raddau, fel na chafodd lonyddwch nes rhoddi ei hun i'r Arglwydd. Wrth ganfod mor ychydig ydyw nifer y tai sydd oddeutu Bedd-y- Coedwr, a'i fod yntau mewn lle mor anghysbell, nid yw yn hawdd dyfalu yn gywir beth a achosodd i Rhys Dafis fyned i bregethu i'r fath le neillduedig, yn enwedig wrth ystyried fod capel Penystryd erbyn hyn, wedi ei adeiladu. Dichon fod yno rywun yn glaf, neu yn oedranus ar y pryd, fel nas gallasai fyned i'r addoldy a nodwyd, a rhaid cofio hefyd fod yn y Cwm, lawer mwy o dai yn cael eu preswylio ar y pryd hwnw, nag sydd yno yn awr. Heblaw hyny, arferid pregethu llawer mewn aneddau yn y dyddiau hyny. Gwneir niwed annhraethol gan dirfeddianwyr mewn llawer ardal, drwy eu gwaith yn symud hen derfynau, ac yn chwalu hen gartrefi, gan wneuthur mân ffermydd yn barciau mawrion, i fod yn sathrfa i ewigod y maes, yn lle bod yn drigfaoedd dedwydd, ac yn aneddau llonydd i deuluoedd lawer i fyw yn gysurus ynddynt, ac i gyfoethogi y wlad yn mhob rhyw fodd. Pa bryd y daw cyfoethogion y wlad yn synwyrol, ac y cymer meddianwyr y ddaear ddysg yn y peth hwn, drwy gydnabod hawl pob dyn i gael lle i fyw ar ddaear Duw, yr hon a roddes efe i feibion dynion i'r amcan hwnw.

Beth bynag am hyny, ceir digon o brofion fod Rhys Dafis wedi bod yn Bedd-y-Coedwr; a chafodd y gwr a'r wraig ieuanc a drigent yno, y fraint o agor eu drws i'r pregethwr cyffredin, ond a ddefnyddiwyd yn offeryn yn llaw Duw y waith hono i wneuthur gwaith anghyffredin yn nychweliad y llanc o Gwmeisian Ganol at yr Arglwydd. Nid oedd ein harwr ond tair ar ddeg oed pan y teimlodd efe y gwirionedd yn ymaflyd yn ei gydwybod, ac felly cymerodd hyny le yn y flwyddyn 1794.

Pa bryd y daeth Rhys Dafis i ddeall mai saeth oddiar fwa ei weinidogaeth ef yn Bedd-y-Coedwr a lynodd yn nghalon y llanc, sydd gwestiwn nas gallwn yn awr ond dyfalu yn ei gylch. Ond pa bryd bynag y mynegwyd y ffaith ddyddorol iddo, nis gallasai lai na bod yn llawenydd i'w galon, yn enwedig wrth edrych ar ffrwyth yr oedfa hono yn ngoleuni bywyd tra defnyddiol y gwr enwog y ceisiwn yma arlenu ei hanes. Nid anghydweddol âg amcan, ac â nodwedd y gwaith hwn, yw rhoddi yma ychydig fanylion am fywyd a symuniadau Rhys Dafis. Mab ydoedd efe i Dafydd Thomas Dafis ac Elizabeth ei wraig, o Ben-y-banc, plwyf Bettws Evan, swydd Aberteifi. Nid oedd Pen-y-banc, lle y ganwyd ef, ond anedd-dy bychan hollol wledig yr olwg arno, yr hwn a safai tua haner milldir i'r ddeheu o bentref a Chapel Glynarthen. Erbyn hyn, nid yw hyd yn nod ei adfeilion yn weledig, ond ceir amryw yn yr ardal yn cofio yr hen adeilad yn dda. Er pob ymchwiliad o'r eiddom, methasom a dyfod o hyd i gofnodiad o fedyddiad Rhys Dafis. Bernir yn lled sicr iddo gael ei eni yn y flwyddyn 1772. Ond dywedir mewn amryw gofnodion mai yn y flwyddyn 1777 y ganwyd ef. Os yw hyny yn gywir nid oedd efe ond pedair blwydd yn hyn na Mr. Williams, ac nid oedd ond 17eg oed pan yn pregethu yn Bedd-y-Coedwr. Ond nid yw yn ymddangos yn beth tebyg y buasai bachgen o'r oedran hwnw, a hyny yn yr oes hono, wedi dechreu pregethu mor ieuanc, a myned am yspaid at y Parch. J. Griffiths, Glan-dwr, i fyned drwy gwrs o addysg yno, ac wedi hyny ddyfod i'r Gogledd, a phregethu yn yr anedd a nodwyd, tra nad oedd efe eto ond 17eg oed. Ond wrth gymeryd 1772 fel amseriad cywir ei enedigaeth, fel y ceir ef yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyfrol III., tudalen 418, yr oedd efe yn 22ain oed ar y pryd, ac ymddengys hyn yn fwy cyson â holl amgylchiadau ei hanes. Nid oes genym sicrwydd yn mha le y dechreuodd efe bregethu; tueddir ni i gredu mai yn Glynarthen y bu hyny. Daeth i'r Gogledd yn ieuanc, a bu yn lledu ei babell mewn amrai leoedd. Bu yn cadw ysgol yn Garthbeibio, Swydd Drefaldwyn; Nant-glyn, Swydd Dinbych; Pennal a Llanuwchllyn yn Swydd Feirionydd; ac efallai mewn lleoedd eraill hefyd. Tybiwn yn sicr mai yn Llanuwchllyn yr ydoedd efe yn pabellu, pan y bu yn pregethu yn Bedd-y-Coedwr. Gwyddom ddarfod iddo fod yno yn cynorthwyo Dr. George Lewis yn nygiad gwaith yr ysgol yn mlaen, pan yr oedd y Parchedig ddoethawr yn parotoi at gwblhau y llyfr rhagorol hwnw ar dduwinyddiaeth, yr hwn a adwaenir wrth yr enw Drych Ysgrythyrol, neu Gorff o Dduwinyddiaeth. Daeth y llyfr gwerthfawr a nodwyd allan o'r wasg yn y flwyddyn 1796; ac nid yw yn annaturiol i ni dybio fod Rhys Dafis yn llafurio yn Llanuwchllyn er's dwy flynedd cyn hyny. Dywedir yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyfrol III., tudalen 418, mai yn Mhenarth, Swydd Drefaldwyn, yn y flwyddyn 1796, y cafodd Rhys Dafis y ddamwain i'w droed, a hyny mewn adeg o ddiwygiad grymus a nerthol iawn, drwy i ddyn mawr cryf o'r enw John Rogers, wrth orfoleddu a neidio sathru ar ei droed, ac o ddiffyg gofal prydlon, chwyddodd yr enyniad fyny i'w goes. Y mae y mynegiad uchod yn ddigon eglur a phendant ynddo ei hun, fel nad oes un achos i'w amheu o gwbl. Yr ydym hefyd, yn deall, drwy y Parch. O. L. Roberts, Pwllheli, yr hwn a fu yn gweinidogaethu yn Mhenarth, fod argraff ar feddyliau llawer o'r hen drigolion, mai yno y cymerodd yr amgylchiad poenus le. Ond dywedir i ni yn y llyfr a elwir Yr Hen Bererinion, yr hwn a gyhoeddwyd gan Mr. Isaac Foulkes (Llyfrbryf) Liverpool, mai yn Nghymanfa Cilcenin y derbyniodd efe niwed i'w droed, a hyny drwy iddo ef ei hun, wrth orfoleddu a neidio, ei daro yn erbyn bar haiarn oedd wedi ei roddi i gryfhau y wagen, yn yr hon y safai efe ac eraill. Cynaliwyd y Gymanfa hono yn Cilcenin, ar y dyddiau Mehefin 4ydd a'r 5ed 1806. Y mae gan Miss Hannah Davies, merch Rhys Dafis, gof clir iawn ddarfod iddi glywed ei mam yn dywedyd mai yn Nghymanfa Cilcenin yr anafwyd troed ei thad. Tybiwn fod yn anhawdd heddyw, ar ol cymaint o amser, gael dim sydd yn sicrach ar y mater na'r dystiolaeth uchod o eiddo ei ferch. Bu raid i'r meddygon gyflawni y gwaith poenus o gymeryd ymaith ei goes. Dywedir iddo, ar ol i'r operation fyned drosodd, gyfodi ar ei eistedd, gan ddiolch mai ei goes, ac nid ei dafod a gymerwyd ymaith, ac y gallai wedi hyny bregethu Crist. O hyny allan defnyddiai goes bren, a daeth yntau i gael ei enwi bellach yn Rhys Dafis y goes bren. O ran ei ddyn oddiallan, ni chyfrifid ef yr harddaf o ddynion, ond tueddai yn hytrach at fod yn hagr yr olwg arno, a meddai gryn lawer o hynodion. Yn wir, gellid ei ystyried ef yn hollol unique, heb neb yn debyg iddo yn mysg dynion. Beth er hyny, llwyddodd i enill llaw a chalon merch i dirfeddianwr bychan o Langeler, Swydd Gaerfyrddin, canys yn y flwyddyn 1808 ymunodd mewn priodas gyda Mary Jones, merch Daniel Jones, o'r lle a nodwyd. Wedi ymsefydlu yn y byd, aeth i fyw i dyddyn bychan o'r enw Penlon, yr hwn oedd yn cynwys digon o dir at gadw dwy fuwch a cheffyl, ac yno y trigodd efe dros weddill ei oes. Ganwyd iddynt bedwar o blant; dau o feibion a dwy o ferched, y rhai a enwyd ganddynt yn David, Thomas, Mary, a Hannah. Y mae yr olaf eto yn fyw, ac yn trigianu yn Nghaerfyrddin, ac yn aelod ffyddlon yn nghapel Heol yr Undeb.

Yr oedd cylch gweinidogaeth Rhys Dafis, yn cynwys yr holl Dywysogaeth; fel y daeth ef a'i anifail yn adnabyddus drwy holl Gymru. Adroddir llawer o bethau digrifol am dano ef a'i geffyl, ac nid bob amser yr ymddygid yn garedig atynt, pan ill dau ar eu teithiau efengylaidd, canys dywed y Parch. J. Thomas, D.D., Liverpool, yn un o'i ysgrifau tra dyddorol ar "Letydai Cymru," yn y Dysgedydd am 1890, tudalen 301, fel y canlyn, "Mae dygwyddiad yn dyfod i'm cof y funyd yma, ac y mae yn rhaid i mi gael ei grybwyll. Yr oedd Mr. Davies, Aberteifi, a Mr. Griffiths, Hawen, neu Horeb, nid wyf yn sicr pa un, yn myned i ryw Gymanfa, a Rhys Dafis yn myned gyda hwy; a rhaid oedd iddynt fyned drwy Gaerfyrddin, a galwasant yn y Drovers Arms i gael lluniaeth iddynt eu hunain, ac ebran i'w hanifeiliaid. Y Drovers oedd y ddisgynfa y pryd hwnw, fel y mae eto, ac o westy, anhawdd cael lle mwy cysurus. Cedwid y ty y pryd hwnw gan Mrs. Davies, neu fel y gelwid hi yn nhafodiaith gyffredin y wlad, Mari'r Drovers.

Yr oedd iddi wr yn ddyn caredig, ond hi oedd yn cario y llywodraeth. Yslaben o ddynes fawr arw yr olwg arni ydoedd, yn siarad yn uchel, ac yr oedd ei geiriau yn mhell o fod yn felfedaidd; ond fel y dywedir weithiau, yr oedd y gair garwa yn mlaenaf ganddi, oblegid o dan y gerwindeb yr oedd cryn lawer o dynerwch a charedigrwydd. Ond gwyddai yn dda ar bwy i wneud yn hyf, a phan y deuai rhai o oreugwyr yr enwad heibio, medrai eu parchu â llawer o urddas. Pan ddaeth y tri wyr at ei drws, yr oedd hi yn brysur yn darllaw; ond y fath oedd ei pharch i Mr. Davies, a Mr. Griffiths, fel y mae yn troi pob peth o'r neilldu i roddi croesaw iddynt; ac yn erchi rhoddi ceffylau y ddau wr enwog yn yr ystabl, a rhoddi ymborth iddynt, a throi ceffyl Rhys Dafis i'r yard, er mai hwnw, druan, oedd y mwyaf anghenus o'r tri. Ar ol cael lluniaeth, y maent yn ail gychwyn, ond cyn eu bod nepell oddiwrth y dref, dechreuai ceffyl Rhys Dafis ddangos bywiogrwydd mwy nag arferol, pranciai fel ebol, ac o'r braidd y gallai ei farchogwr ei reoli; a'r casgliad a dynent oll oedd ei fod wedi cael feed dda yn y Drovers.

Cyrhaeddwyd y Gymanfa, ac aeth heibio, ac wrth ddychwelyd drachefn, galwai Mr. Davies a Mr. Griffiths, yn y Drovers, ond nid cynt yr oeddynt yno nag y dechreuodd Mrs. Davies drin Rhys Dafis a'i geffyl; ac yna adroddai ei bod wedi tywallt llestriad o'r breci cryfaf, a'i roddi allan yn yr yard i oeri, ond i geffyl Rhys Dafis fyned yno a'i yfed bob dyferyn. Deallasent hwythau erbyn hyn beth oedd yr ysbrydiaeth oedd ar yr asynyn nes peri ei fod yn prancio mor ddilywodraeth. Ond arbedasid hyn oll i wraig y Drovers pe troisid anifail yr hen bregethwr di-urddau i'r ystabl i gael lluniaeth, fel y gwnaed âg anifeiliaid y gwyr parchedig."

Adroddai y Parch Job Miles, Aberystwyth, wrthym am Rhys Dafis yn lletya ar un o'i deithiau am noson unwaith, yn y Baily Coch, ger Tai Hirion. Yn ol defod ac arferiad y teulu, aeth— pwyd i gynal addoliad teuluaidd, ac wrth gwrs gosodwyd ar yr hen apostol teithiol i wasanaethu y tro hwnw; ac yn bresenol yn yr addoliad, yr oedd cath berthynol i'r teulu. Gan yr arferai yr hen bererin ddull gwreiddiol o daflu ei law, a phoeri llawer wrth bregethu a gweddio hefyd, ac felly y waith hon yn y Baily Coch.

Wrth weled yr ymddygiad hwnw o'i eiddo, meddyliodd y gath mai ei gwatwar a'i dirmygu hi yr ydoedd y gweddiwr, a theimlodd fod hyny yn ormod i'w oddef, a dechreuodd hithau, titw, chwyrnu a phoeri, a dangosai fod ganddi allu rhyfeddol yn y cyfeiriad hwnw, a rhwng fod Rhys Dafis yn poeri, a'r gath hithau yn parhau i chwythu bygythion a chelanedd, cafodd y teulu drafferth flin wrth geisio cynal i fyny anrhydedd yr addoliad crefyddol hwnw, canys yr oedd yr olygfa yn gyfryw, fel yr oedd braidd yn anmhosibl i'r gwyddfodolion ymgadw rhag ymollwng i ysgafnder a chwerthin, heb son am allu addoli. Heblaw hyny, nid oedd modd i neb symud i ddysgyblu y gath, gan ymaflyd yn ngwar y bechadures, a'i bwrw hi allan o'r synagog, heb i'r oruchwyliaeth hono derfysgu mwy ar yr addoliad, a buasai yn berygl i hyny enyn natur boethwyllt y gweddiwr yn fflam dân, nes y buasai yn llefaru geiriau brwmstanaidd ar ganol ei weddi deuluol. Ond gan i bawb ymlonyddu, ni bu yno unrhyw drychineb annymunol.

Dygwyddodd llawer o bethau tebyg yn ei hanes, y rhai pe ysgrifenid hwynt bob yn un ac un, angenrhaid fyddai cael cyfrol i'w cynwys hwynt yn unig. Er hyny, na feddylied y darllenydd mae y ffaith mai coes bren oedd gan Rhys Dafis, ac i lawer o ddygwyddiadau digrifol gymeryd lle yn nglyn âg ef yn ystod ei ymdaith drwy y byd, oedd yn cyfrif am ei hynodrwydd; na, yr oedd iddo ef ei nodweddau ar wahan i hyny, y rhai sydd yn rhwym o hawlio sylw yn mhob oes, gan edmygwyr cymeriadau gwreiddiol. Gwnaeth ddaioni lawer, drwy efengyleiddio ac addysgu y bobl yn y lleoedd y bu yn aros ynddynt. Goddefodd fesur o erledigaeth a gwawd mewn rhai lleoedd, yn nghyflawniad ei waith pwysig, fel llawer un arall yn y dyddiau hyny, canys yr oedd erlidiau yn rhan helaeth o freintiau pregethwyr yr oes hono. Nid oedd ef yn berffaith, ond yr oedd yr hyn a ystyrid yn ddiffyg ynddo, fel yr ymwthiai i'r golwg. yn nhai y capeli, ac mewn aneddau eraill, yn ei dymher boethwyllt, yr hon ar y cynhyrfiad lleiaf a enynai yn fflam dân, nes y llefarai yn angerdd ei deimlad, eiriau a losgent fel tân, yn cael ei gwerthfawrogi ynddo, fel yr oedd yn cael ei hamlygu yn y gwresawgrwydd nodedig a'i nodweddai ef yn yr areithfa. Yr oedd absenoldeb gwres o'r areithfaoedd yr adeg hono yn deimladwy, canys yr oedd llawer o bregethwyr lled oerion a difywyd yn tramwy ar hyd y ddaear y dyddiau hyny, fel yr oedd cyfodiad Rhys Dafis yn tori ar unffurfiaeth oerllyd yr oes hono. Nid tân dyeithr ychwaith, ond y tân santaidd oedd ganddo ef yn llosgi ar allor ei galon, a phan y llefarai efe, byddai calonau eraill yn cael eu tanio hefyd. Ei arwyddair ydoedd, "Nid yn ddiog mewn diwydrwydd, yn wresog yn yr ysbryd, yn gwasanaethu yr Arglwydd." Tramwyai gan bregethu y gair, a cheisiai lenwi y wlad âg efengyl Crist. Cafwyd prawf amlwg ynddo ef ddarfod i Dduw ethol ffol bethau y byd, fel y gwaradwyddai y doethion; a gwan bethau y byd, a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn, a phethau distadl y byd, a phethau dirmygus a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y diddymai y pethau sydd, fel na orfoleddai un cnawd ger ei fron ef. Pwy a all ddirnad yn gywir faint y daioni a gyflawnwyd yn ein gwlad gan bregethwyr cynorthwyol a theithiol fel hyn. Addefwn yn rhwydd fod dull y byd yn myned heibio yn gyflym yn y peth hwn fel mewn pethau eraill, a bod cyflwr a sefyllfa ein gwlad wedi newid yn ddirfawr yn yr haner can mlynedd diweddaf, o'i chyferbynu â'r hyn ydoedd yn flaenorol i hyny. Eto, dylid ymbwyllo rhag troi draw bob pregethwr a ddaw heibio yn yr wythnos. Gall Eglwys drwy gau ei drws felly, golli cyfleusdra gwerthfawr, a bod yn euog o wrthod cenadwri briodol ati oddiwrth Dduw. Ni ddylid anghofio y gall Andreas fod yn foddion yn llaw Duw i ddwyn Simon at yr Iesu, neu y lleiaf i ddylanwadu ar y mwyaf, yr hyn a welir yn amlwg yn hanes Rhys Dafis yn nglyn â gwrthddrych y cofiant hwn. Edmygai Rhys Dafis ei fab enwog yn y ffydd yn ddiderfyn, ac nid oedd hyny ond peth hollol naturiol. Rhyfeddai yr hen bregethwr os cyfarfyddai âg un oedd heb adnabod Mr. Williams. Edrydd y Parch. J. Rowlands, Talysarn, yr hanes canlynol am dano:—"Clywsom un o ddiaconiaid Brynseion, Brymbo—un sydder's blynyddau bellach wedi dilyn ei hen weinidog i'r cartref tragwyddol, yn adrodd hanes ymweliad o eiddo Rhys Dafis â maes llafur Mr. Williams. Yr oedd yr hen efengylwr i bregethu yn Brymbo. Enw cyntaf y capel ydoedd Cyfynys, wedi hyny Harwd. Ymddengys nad oedd y capel yn un o'r rhai hawddaf d'od o hyd iddo, gan ei fod mewn lle neillduedig, yn arbenig felly i wr dyeithr. Yr oedd Rhys Dafis wedi dyfod i'r gymydogaeth, a methai a gweled y capel; a chyfarfu â llefnyn o fachgen ar y ffordd, a gofynai iddo, "Yn mha le y mae capel y Gyfynys, machgen i? Wn i ddim,' ebai'r bachgen. 'Wel aros di,' ebai yntau, 'yn mha le y mae Capel Harwd yma?' "Dwi ddim yn gwybod,' ebai y bachgen. Yn mha le y mae Capel yr Annibynwyr?' ebai'r hen bregethwr. 'Nis gwn, ebai'r bachgen. 'Wel, aros di, yn mha le y mae Capel Sentars yma?' 'Wn i ddim,' oedd yr ateb. Erbyn hyn teimlai yr hen efengylwr ei sel dros ei fab yn y ffydd yn cynhyrfu gyda phob atebiad o eiddo y bachgen, gan ei fod yn credu nad oedd y fath ddyn ag ef ar y ddaear, ac y dylasai pob creadur rhesymol ac afresymol bron yn y gymydogaeth hono wybod lle yr arferai y fath seraph bregethu ynddo. 'Wel, aros di eto, yn mha le y mae Capel Mr. Williams o'r Wern yma.' 'Wn i ddim,' ebai yntau. 'Wel, yr wyt ti yn adnabod Williams, onid ydwyt?' 'Nag wyf fi,' ebai y bachgen. Yr oedd natur yr hen bregethwr erbyn hyn yn berwi, ac meddai wrth y bachgen, 'Ddim yn adnabod Williams o'r Wern, mae y cythraul yn adnabod y dyn hwnw,' a tharawodd ei goes bren yn y ffordd gyda'r fath nerth, nes yr oedd yn clecian, a diangodd y bachgen, druan, ymaith mewn dychryn am ei fywyd." Meddai Mr. Williams yntau barch diledrith tuag at Rhys Dafis, fel y dengys yr hanesyn canlynol, yr hwn a anfonwyd i ni gan y Parch. J. Thomas, Leominster, gynt o'r Wern, "Cyfarfu dau weinidog—un yn oedranus a'r llall yn bur ieuanc—ar ymweliad â Mr. Williams yn y Talwrn. Trodd yr ymddyddan wrth fwrdd ciniaw am Rhys Dafis y goes bren, fel ei gelwid yn gyffredin. Tueddai beirniadaeth y ddau ymwelydd i fod braidd yn rhy lem ar yr hen bregethwr. Gwrandawai Mr. Williams arnynt am ychydig, ond gwelai yr ieuengaf o'r ddau fod yr ymddyddan yn anghymeradwy. Rhoddodd Mr. Williams yr arfau bwyta o'r neilldu, a dywedodd yn araf, ond eto yn gryf 'waeth i chwi heb siarad, frodyr, nid yw yn gyfrifol am lawer iawn o'i ddiffygion. Duw wnaeth ei geg, ac nid efe ei hun. Medr ysbryd yr Hollalluog ganu yn bereiddiach gyda chyrn hyrddod, nag y medrai yr un Handel fu erioed ar y berdoneg oreu yn yr holl greadigaeth. Byddaf fi yn ddyledwr tragwyddol i Rhys Dafis yn y nefoedd.' Darfu yr ymddyddan am dano yn y fan, a theimlodd y ddau ymwelydd lawer mwy o barch i'w enw byth ar ol hyny. Yr ieuengaf o'r ddau weinidog a adroddodd yr ymddyddan uchod i mi yn yr un ystafell yn y Talwrn ag y cymerodd le, yn mhen deugain mlynedd ar ol hyny—mor rhyfedd onide?"

Efe oedd ganwyll yn llosgi, ac yn goleuo, ac wedi goleuo llawer ar y trigolion mewn gwahanol ardaloedd, o'r diwedd llosgodd allan. Bu farw yn dra sydyn Ionawr 5ed, 1847, yn 75 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent eglwys Llangeler. Pregethwyd ei bregeth angladdol gan y Parch. J. Evans, Hebron, oddiar y geiriau "Mi a ymdrechais ymdrech deg, mi a orphenais fy ngyrfa, mi a gedwais y ffydd."

Hoffasem yn fawr iawn roddi yn y gyfrol hon ddarlun o'r hen bregethwr gwreiddiol a llafurus, ond wedi ymofyn â Miss Hannah Davies ei ferch, deallasom nad oes darlun o hono i'w gael, ac felly nis gallwn wneuthur yr hyn unwaith a fwriadem; ond pa le bynag y sonir am y bregeth gyntaf a draddodwyd gan bregethwr Annibynol yn Nhalybont, swydd Aberteifi, ac am y bregeth hynod yn Medd-y-Coedwr, swydd Feirionydd, bydd coffa parchus hefyd am Rhys Dafis, goes bren, fel yr un a anrhydeddwyd gan Dduw i gychwyn yr achos Annibynol yn Nhalybont, ac i fod yn offeryn yn ei law yn Medd-y-Coedwr i ddychwelyd Williams o'r Wern at yr Arglwydd. Y mae y gwaith mawr a gyflawnodd yn ei oes, heblaw y ffeithiau a nodir uchod, yn werthfawrocach dangoseg o hono nag unrhyw ardeb o'i berson o waith y cywrain i'w drosglwyddo i'r oesau a ddelo ar ol.

PENNOD III.

O'I ARGYHOEDDIAD HYD NES Y DECHREUODD BREGETHU 1794—1800.

Y CYNWYSIAD.— Yr oedfa yn Medd-y-coedwr Capel cyntaf Penystryd—Neillduo Mr. William Jones yno yn weinidog—Prophwydoliaeth yr hen brophwyd o Bontypool am dano—Diwygiad crefyddol yn Mhenystryd—Mr. Jones yn anghofio am ei anifail—Mynegiad yr Hybarch Owen Thomas, Brynmair, am nodwedd WILLIAMS yn ei ieuenctyd—Myned i'r gyfeillach am y tro cyntaf—Y gweinidog a'r eglwys yn methu a deall beth i ddywedyd wrtho——Ei dderbyn yn gyflawn aelod—Yntau yn ymwrthod â chwareuon pechadurus—Teimlo gwasgfa a chaledi yn ei feddwl—Cael ymwared trwy aberth y groes—Dylanwadau teuluaidd yn fanteisiol iddo —Ei chwaer Catherine ac yntau yn cyd—deithio i Benystryd—Morris Roberts, Gwynfynydd, yn eu gwylio—MR. WILLIAMS yn adgofio am hyny— Ofni cymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus Ei fam ac yntau yn gweddio wrthynt eu hunain—Ei weddi gyhoeddus gyntaf—Yr aelwyd yn lle manteisiol i ymarfer ar gyfer yr addoliad cyhoeddus— Hen ddiaconiaid Penystryd gan Gwilym Eden— Buont yn garedig i'n gwrthddrych—Ei barch yntau iddynt—Ei alw yn "Gorgi bach" yn Maentwrog ——Hoffi myned i Lanuwchllyn—Mewn enbydrwydd am ei einioes wrth fyned oddi yno tuag adref Cael ei waredu—Yn cynyddu mewn crefydd—Yr eglwys yn ei anog i ddechreu pregethu—Yntau er yn ofni yn ufuddhau—Ei destun cyntaf—Huw Puw o Dyddyngwladys, yn ei glywed yn pregethu mewn llwyn o goed—Pregethu yn Nhyddynybwlch —Mr. Jones yn ei ganmol—Coffadwriaeth gwr a gwraig Tyddynybwlch yn fendigedig—Y son am ein gwrthddrych yn ymledu—Prinder llyfrau—Ei hoff awduron—Ei chwaer Catherine gynorthwyo Y diafol yn ei demtio—Gorchfygu y demtasiwn Yr Hybarch William Griffith, Caergybi, yn cael ei demtio yn gyffelyb—MR. WILLIAMS yn cael amrai waredigaethau—Myned rhagddo gyda gorchwyl mawr ei fywyd—Pregethu yn effeithiol yn Ábergeirw mawr—Cael profedigaeth ddigrifol wrth bregethu yn Nhyddyn mawr—Ei hunanfeddiant yntau yn ei gwyneb—Pregethu yn "Y Parc," Cwmglanllafar—Barn un o oraclau Llanuwchllyn am dano—Yr enwad Annibynol yn fychan yn Meirionydd ar y pryd—Erbyn hyn wedi cynyddu yn ddirfawr..

YN y bennod flaenorol, gwelsom fel y darfu i'r Arglwydd arwain ei was i bregethu yn Bedd—y—Coedwr, a'r canlyniad gogoneddus. a fu i'r oedfa, a'r cwbl yn profi mai nid o waed, nac o ewyllys gwr, eithr mai o Dduw yr oedd y peth, fel y byddai godidawgrwydd y gallu o Dduw, ac nid o ddynion. Adeiladwyd capel cyntaf Penystryd yn 1789, ar dir Dolgain, pellder o ryw ddwy neu dair milldir o Drawsfynydd, tua chyfeiriad cartref ein gwrthddrych. Lleolwyd yr addoldy uchodoldy uchod mewn pantle unig a llwm yn y mynydd-dir, ac nis gellid ei weled nes bod yn ei ymyl. Ni chanfyddid oddiar ei fuarth un drigfan o eiddo dyn nac anifail. Mwynheir yma y tawelwch hwnw sydd yn fanteisiol ac yn angenrheidiol er cyflwyno addoliad i Dduw. Wrth weled y fath dyrfa niferus wedi ymgasglu yn nghyd i'r addoldy, gellid tybio mai neidio allan o'r twmpathau grug a brwyn gyda brys a ddarfu iddynt, ac nid rhyfedd fuasai clywed dyeithr ddyn yn gofyn mewn syndod, o ba le y daeth y rhai hyn? O ran ei gynllun, ni welsom ni erioed gapel tebyg iddo. Yr oedd y drws i fyned i'r llawr ar yr aswy, a grisiau cerrig ar yr ochr dde oddiallan i fyned i'r oriel. Gan fod yr oriel bron a bod yn daenedig drosto, oll nid gorchwyl anhawdd i'r pregethwr o'r areithfa fuasai ysgwyd llaw â'r rhai o'r rhai a eisteddent ar ymyl yr oriel. Nis gallasai y pregethwr o'r areithfa weled yr oll o'r gynulleidfa ar y llawr. Yr oedd drws bychan yn ffrynt ei bulpud uchel, er mwyn gollwng goleuni drwyddo o'r ffenestr oedd tu ol iddo i'r llawr. Addurnid wyneb yr oriel â nifer mawr o blatiau eirch, yn eynwys enwau y meirw a orweddent yn y fynwent gerllaw. Er na feddai wychder allanol, eto, anhawdd fyddai nodi addoldy lle y teimlwyd nerthoedd y byd a ddaw yn fwy grymus, nag y teimlwyd hwynt yn Mhenystryd. Neillduwyd y duwiolfrydig Mr. William Jones yn weinidog yma, Mai 22ain, 1792. Llafuriodd yn y cylch hwn am wyth mlynedd ar hugain gyda ffydd

londeb mawr. Wrtho ef y prophwydodd yr hen brophwyd o Bontypool, "Na byddai fawr lwydd ar ei weinidogaeth drwy ei oes, ond y gwelai ychydig o adfywiad cyn y diwedd," ac megys y dywedodd, felly yn hollol y bu i olwg ddynol beth bynag. Bu yn rhodio yn alarus gerbron Arglwydd y lluoedd am flynyddoedd lawer, ond o'r diwedd torodd gwawr diwygiad arno, yr hyn oedd yn llawenydd penaf ei galon. Y fath ydoedd y mwynhad a deimlai unwaith, fel yr aeth filldiroedd tuag adref heb ei anifail, ond yn rhywle ar y ffordd, cofiodd am dano, a gofynodd yn sydyn i'w gwmni, "Ha wyr bach, yn mha le y mae yr hen geffyl?" Yr oedd Mr. Jones yn gweinidogaethu yma er's dwy flynedd cyn dychweliad ein gwron at grefydd. Y mae yn debyg mai i Benystryd yr elai Mr. Williams er yr agorwyd ef. Bu yno droion mor ysgafn ei galon a'r ehedydd, mor rhydd a'r awel, heb ddim neillduol yn gwasgu ar ei feddwl. Ysgrifenai yr Hybarch Owen Thomas, Brynmair, am dano yn y cyfnod hwn fel y canlyn:-"Yr wyf yn cofio yn dda y son cyntaf a glywais am dano. Yr oedd hyny pan oeddwn tua chwech neu saith oed. Arhosai dwy wraig o Drawsfynydd am noswaith yn nhy fy mam, ac am dano ef yn benaf y siaradent. Yr oedd y ddwy hyny ychydig yn hyn nag ef, ac yn dra chydnabyddus âg ef er pan oedd ef yn fachgenyn. Dywedent mai bachgen chwareus a direidus nodedig ydoedd efe, a byddai felly yn arbenig yn y capel. Piniai ddillad y merched a eisteddent o'i flaen wrth eu gilydd, ac ysgrifenai enwau ar gefnau eraill gyda math o chalk. Ymdrechai y merched am gael lle i eistedd a'u cefnau ar y pared fel na chai William Cwmeisian Ganol fyned o'r tu ol iddynt. Dyna fel y dywedai y gwragedd hyny pan yn siarad a fy mam am dano, a minau yn gwrando arnynt, ac yr wyf yn eu cofio yn dda yn awr. Dywedent hefyd, eu bod yn y capel yn edrych arno yn cael ei dderbyn i gymundeb yn fachgen ieuanc."

Yn fuan wedi pregeth Rhys Dafis yn Bedd-y-Coedwr, aeth William Williams yn ei hugan lwyd, yn wledig yr olwg arno, i'r gyfeillach grefyddol i Benystryd. Aeth yno, nid i ddifyru ei hun, ond i ymofyn yn grynedig am le yn nhy Dduw, ac ymgeledd i'w enaid. Edrychent oll arno gyda synder, ac yn eu hymddygiad tuag ato; gofynent yn ddychrynedig iddo, fel y darfu i henuriaid Bethlehem gynt ofyn i Samuel, "Ai heddychlawn dy ddyfodiad?" Gallasai yntau eu hateb drwy ddywedyd, "Heddychlawn, daethum i aberthu i'r Arglwydd." Gan eu bod yn hysbys o'i fywiogrwydd gynt, ac heb fod yn hollol rydd oddiwrth y pechod o ddiystyru ei ieuenctyd, nid oeddynt yn weinidog na brawdoliaeth, yn deall yn glir pa beth i ddywedyd wrtho, na pha gwrs i'w gymeryd gydag ef, pa un ai ei dderbyn neu ei wrthod a wnaent, ond yn y diwedd, yr etholedigaeth a'i cafodd, faint bynag o'r lleill a galedwyd o herwydd y sylw a roddwyd iddo. Beth pe buasai yr eglwys a'r gweinidog yn Mhen'stryd y noswaith hono yn gallu gweled gwerth yr anrheg a roddwyd iddynt yn ngoleuni dyfodol y llanc dirodres a safai o'u blaen, diau y buasent oll yn llamu gan lawenydd, am ddarfod i'r Arglwydd eu mawrhau drwy roddi iddynt un ag oedd i ysgwyd yr holl Dywysgogaeth â'i ddoniau nerthol cyn pen nemawr o amser. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod cyn ei fod yn bymtheg oed, ac anfynych iawn y derbynid neb yn yr oedran cynarol hwnw yn yr oes hono, ac o herwydd hyny, nid rhyfedd fod y derbyniad a roddwyd iddo wedi tynu sylw y lluaws. Wedi hyny ymwrthododd yn llwyr ac ar unwaith â phob chwareuon pechadurus, ac ymroddodd a'i holl egni i ymarfer ei hun i dduwioldeb. Yn yr adeg hon perchenogai bêl droed, ond aeth a'r bêl adref gan roddi brathiad drwyddi â'i gyllell, a dywedodd nad oedd ef am chwareu gyda hono byth ond hyny. Bu yn wasgfa a chaledi ar ei feddwl ar ddechreu ei ymdaith grefyddol, a hyny i'r fath raddau fel "na wyddai yn y byd beth i'w wneuthur iddo ei hun oni buasai aberth y groes." Cylchynid ef y pryd hyny gan ddylanwadau ocddynt yn ffafriol i feithriniad ei rasusau crefyddol. Yr oedd ei fam, ci frawd Robert, a'i chwaer Margaret eisioes yn crefydda yn ddiwyd. Ond bu y ddau olaf feirw yn fuan. Gan fod ein gwrthddrych a'i chwaer Catherine yn cyd-ddechreu ar eu hymdaith grefyddol, elent yn ffyddlon eu dau gyda'u gilydd i Benystryd drwy bob math o dywydd, ac er fod eu ffordd yn bell ac yn arw, nid oedd tywyllwch ac oerni y gauaf, na gwres lleddfol yr haf yn eu lluddias i ddilyn y cyfarfodydd yn ddifwlch. Byddai Mr. Morris Roberts, Gwynfynydd, yn eu gwylio ar eu teithiau hyn, a deallai amser eu mynediad a'u dyfodiad yn gywir, ac yn ddireidus a chwareus ddigon, lluchiai fân geryg dros y gwrychoedd ar eu hol.

Ond yr oedd y brawd a'r chwaer yn deall mai o ran rhyw ddigrifwch diniwed y gwnai efe hyny, fel nad oeddynt mewn un modd yn cymeryd eu dychrynu ganddo. Adgofiai Mr. Williams am hyny yn aml, ac adroddai yr hanes gyda boddhad wrth Mr. Davies, Trawsfynydd, ac yn ddiweddglo i'r hanesyn dywedai, "Un direidus oedd Morris onide?"

Ofnai ein gwrthddrych y ceisid ganddo gymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus, a hyny yn fwy, am y teimlai y buasai pawb yn dysgwyl rhyw berffeith— rwydd amlwg byth wedi hyny yn ei fywyd. Arferai ei dad gadw dyledswydd gartref, fel y nodasom eisoes, a byddai ei fam yn gwneuthur hyny yn absenoldeb ei phriod. Un noswaith wedi i bawb o'r teulu ond efe a'i fam fyned i'w gwelyau, aeth ei fam i weddi, ac wedi iddi hi orphen, ceisiodd ganddo yntau fyned i weddi, a chydsyniodd â chais ei fam yn y fan. Yr oedd ei frawd hynaf yn effro ar y pryd, ac yn gwrando arno yn gweddio ar ol ei fam, ac edliwiai iddo boreu dranoeth, gan ei alw "Yr hen weddiwr." Teimlai y gweddiwr ieuanc beth cywilydd ar y pryd, ond diflanodd hyny ymaith yn fuan. Buasem yn hoffi gweled darlun o'r fam hon a'i bachgen pan yn gweddio wrthynt eu hunain y noswaith hono. Gwnelai ddarlun ardderchog mewn mynor neu ar len. Yn fuan wedi hyny gwasgai un o ddiaconiaid yr eglwys arno yn drwm i ddiweddu un o'r cyfeillachau drwy weddi, ond teimlai efe ei hun yn ofnus, ac yn ddiysbryd at y gwaith, ond wedi ei hir gymhell, o'r diwedd plygodd ar ei liniau a dywedodd, "Mae y dyn yma eisieu i mi weddio, O Arglwydd, dysg di fi i weddio, er mwyn Iesu Grist, Amen." Dyna, ddarllenydd, ei weddi gyhoeddus gyntaf. Blaenorwyd y weddi uchod gan weddi o'i eiddo ef gydai fam ar yr aelwyd ac yn sicr, lle manteisiol i arferu ar gyfer yr addoliad cyhoeddus yw yr aelwyd gartref, a thra y parheir i addoli Duw yn deuluol, ni bydd prinder doniau cyhoeddus yn yr eglwysi. Heblaw ei fanteision ar yr aelwyd gartref, cylchynid ef yn y cyfnod hwn gan ddiaconiaid gofalus eglwys Penystryd; a bu ganddynt ran yn ffurfiad ei gymeriad cyhoeddus, yn yr hyfforddiant medrus a roddasent iddo. Trwy garedigrwydd yr hen lenor galluog, Mr. W. E. Williams (Gwilym Eden), Dolymynach, Trawsfynydd, galluogir ni i roddi yma ychydig grybwyllion gwerthfawr o'i eiddo am danynt:— "Yr oedd rhai o'r rhai canlynol yn henafgwyr profiadol, ac eraill yn anterth eu nerth a'u defnydd— ioldeb, a'r rhai ieuengaf o honynt yn gyd—gyfoed— ion i'r anfarwol Mr. Williams pan yr oedd ef yn cael ei ddwyn i fyny yn yr Hen Gapel.

SION ELLIS, RHIWGOCH. Bu ef yn hwsmon i'r diweddar Mr. D. Roberts, Rhiwgoch. Yr oedd ei fuchedd, ei grefyddolder, ei ddiwydrwydd, a'i ffydd— londeb cyson i ddilyn moddion gras, yn hawlio iddo Er fod warogaeth a pharch oddiwrth bawb. ganddo y fferm fwyaf yn y plwyfi 'w harolygu, eto, anaml y collai efe unrhyw foddion. Tystiai Mr. Roberts fod ganddo fwy o ymddiriedaeth yn ei hwsmon, am ei fod yn "was da a ffyddlon" i'w Dduw "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Bu ef farw Medi 1af, 1812, yn 53 mlwydd oed.

IFAN JONES, TYDDYNBACH. Efe oedd yr hynaf o honynt. Dywedir ei fod yn swyddog eglwysig rhagorol, yn ddyn unplyg, ac yn Gristion gloyw iawn. Yr ydoedd ef yn un o'r colofnau cadarnaf o dan y baich, pan yr oeddynt yn adeiladu capel Penystryd; ymddengys ei fod o ran ei amgylchiadau bydol yn gefnog iawn. Gadawodd ddeg punt ar hugain, hyny yw, eu llogau, at gynaliaeth y weinidogaeth yn Mhenystryd "tra bo dwfr yn rhedeg.' Yr ymddiriedolwyr cyntaf oeddynt Mri. Robert Owen, Gilfachwen, a Robert Isaac Roberts (yr hen Ddoctor) Penystryd Ffarm. Bu Ifan Jones farw yn 1817, yn 84 mlwydd oed.

SION PUW, BRYNLLINBACH.[3] Arno ef y disgynai y cyfrifoldeb o weithredu fel arweinydd yr eglwys yn absenoldeb y gweinidog. Yr oedd yn ddyn gonest a dihoced, ac yn swyddog ffyddlawn ac ymroddgar. Hynodid ef fel un ag yr oedd rhyw eneiniad nefol yn amlwg iawn ar ei holl gyflawniadau crefyddol. Yr wyf yn cofio dwy ferch ac un mab iddo yn aelodau defnyddiol yn yr hen Gapel. Bu farw Sion Puw, Awst 2il, 1820, yn 73 mlwydd oed.

ROBERT OWEN, GILFACHWEN. Ystyrid ef yn ddyn o ddylanwad a pharch cyffredinol. Meddai ar ddoethineb pell uwchlaw y cyffredin. Os cyfodai ymrafael ac anghydwelediad yn nglyn â materion gwladol yn y gymydogaeth; ato ef yr apelid am y ddedfryd derfynol. Er ei fod o dymher addfwyn a siriol, eto, pan y gorfodid ef i gyfodi i fyny i weinyddu cerydd, llefarai gydag awdurdod ac urddasolrwydd. Yr oedd yn weddiwr mawr, ac yn hynod o ffyddlawn i ddilyn y cyfarfodydd gweddiau mewn gwahanol aneddau yn y gymydogaeth. Arferai ddywedyd, "Os cawn Beti Ifan, Dolymynach, a Beti Griffith, Tyddynmawr, i weddïo, a Sarah Jones, Caegwyn, i borthi y gwasanaeth, a nawdd y Goruchaf i roddi y fendith, byddwn yn sicr o gyfarfod bendigedig. Bu y Gilfachwen yn llety cysurus i bregethwyr tra y bu Robert Owen a'i briod byw. Yr oedd efe yn un o'r diaconiaid a arwyddodd yr alwad i'r Parch. E. Davies (Derfel Gadarn) i ddyfod yma yn weinidog. Bu ef yma yn gweinidogaethu am bedair blynedd ar ddeg ar hugain gydag arddeliad a llwyddiant mawr. Cafodd yr eglwys ei cholledu yn fawr drwy farwol— aeth Robert Owen, yr hyn a gymerodd le Ionawr 24ain, 1831, yn 61 mlwydd oed.

HARRI PUW, BRYNLLINFAWR. Yr oedd ef yn meddu cyfoeth lawer, ac er yn ieuanc pan yr oeddynt yn adeiladu capel Penystryd, eto, gwnaeth ei ran yn ardderchog. Ymddengys ei fod wedi cael manteision addysgol helaethach na'r cyffredin y dyddiau hyny. Casglodd lyfrgell helaeth, yn cynwys y cyfrolau gwerthfawrocaf a allai gael gafael arnynt. Dywed yr Hybarch Humphrey Morris mai efe oedd y darllenwr goreu a glywodd erioed. Eisteddai ef a'i deulu lluosog o gylch y tân ar hirnos gauaf, a darllenai yntau iddynt ryw lyfr buddiol. Bu ei lyfrgell werthfawr at wasanaeth ei olafiaid yn Brynllin hyd yn ddiweddar. Meddai ar gorff lluniaidd, ac yr oedd yn dalentog i gynllunio, ac i weithio allan ei gynlluniau hefyd. Dygodd ei fab i fyny yn feddyg, sef y diweddar Dr. H. R. Pugh, Bala. Bu Harri Puw farw Mawrth 28ain, 1836, yn 65 mlwydd oed.

WILLIAM LLWYD, HAFODTYFACH. Dyn lled fyr a chrwn ydoedd ef. Gwisgai "glos pen glin "sana' bach," a chot a gwasgod o frethyn glas cartref. Yr oedd efe yn wr addfwyn a thawel, ac yr oedd yn rhaid cael rhyw amgylchiad anghyffredin i gynhyrfu dim ar ei ysbryd. Yn wir, yr oedd bron a bod yn berffaith mewn hunanfeddiant. Efe wyf fi yn ei gofio gyntaf yn gweinyddu fel ysgrifenydd yr eglwys. Ni feddai efe fawr o hynodrwydd fel siaradwr, eto, nodweddid ei weddiau gan rhyw daerni ag oedd yn effeithiol iawn. Yr oedd ei fywyd yn esiampl, a'i gynghor yn ddiogel i'w ddilyn. Bu William Llwyd farw Ionawr 18fed, 1848, yn 74 mlwydd oed.

ELLIS SION, DOLYMOCH. Yr wyf yn ei gofio yntau yn dda. Yr oedd efe yn dal a lluniaidd; yn llawn dwy lath o daldra. Yr oedd yn enghraifft gywir o hen foneddwr Cymreig urddasol. Yr oedd ei wisg o'r top i'r gwaelod o wlanen gochddu'r ddafad. Nid oedd y "clos pen glin" ond prin gyrhaedd dros y cymal, ac yr oedd cwr yr ardas lydan oedd yn dal yr hosan yn y golwg. Yr oedd ganddo wynebpryd mynegiadol, a disgynai ei wallt arianaidd a modrwyog dros ei ysgwyddau llydain. Meddai ar dalent naturiol gref, ac yr oedd yn gyfoethog mewn dywediadau pert ac arabus, ac yn ddawnus mewn cynghor a gweddi. Nai iddo ef oedd y diweddar Mr. M. Jones (Meirig Prysor), Bryncelynog, yr hwn oedd yn ddiacon ffyddlawn yn eglwys Ebenezer, Trawsfynydd. Bu Ellis Sion farw Mai 30ain, 1855, yn 84 mlwydd oed.

HUW IFAN, DOLYMYNACH UWCHAF. Yr oedd efe yn ddyn cryf a bywiog o gorff a meddwl. Gwisgai yn hynod syml a dirodres. Efe yn ddiau oedd "llefarydd y ty." Ystyriai Huw Ifan ei hun yn "Henadur Llywodraethol" (beth bynag a feddylid wrth hyny). Pa fodd bynag, yr oedd efe yn wr o ddylanwad mawr. Gan ei fod mewn amgylchiadau bydol lled dda, yr oedd ganddo allu i fod yn gryn gefn i'r achos yn Mhenystryd, a bu felly hefyd a gadawodd yn ei ewyllys £10 at gapel newydd Penystryd. Yr oedd ef yn Ysgrythyrwr cadarn, ac yn feddianol ar lawer o wybodaeth gyffredinol, ac yn llawn gweithgarwch a defnyddioldeb dros Dduw. Symudodd cyn diwedd ei oes i dy Capel Jerusalem, lle y bu farw mewn tangnefedd, Mai 4ydd, 1871, yn 95 mlwydd oed."

Enwid eraill gan Gwilym Eden, y rhai oeddynt yn olynwyr teilwng i'r rhai uchod; ond gan yr oesent hwy yn ddiweddarach na thymhor boreuol Mr. Williams, nid ydynt yn dyfod yn uniongyrchol o fewn cylch amcan y gwaith hwn. Bu "hen ddiaconiaid Penystryd" yn garedig i'n harwr, a rhoddasent iddo bob cynorthwy i fyned yn mlaen gyda'i grefydd, ac yr oedd ei barch yntau iddynt hwythau yn fawr. Wedi iddo ddechreu arferu ei ddawn yn gyhoeddus yn yr eglwys, deallwyd yn fuan fod ynddo allu mawr i wneuthur daioni. Ymledodd ei ddefnyddioldeb yn fuan i wahanol gyrion yn yr ardaloedd. Dilynai y cyfarfodydd gweddiau a'r cyfeillachau crefyddol a gynelid mewn gwahanol aneddau o amgylch. Disgynai arno ef yn fynych y gwaith o lywyddu y cyfarfodydd hyny. Yn "Hanes Eglwysi Annibynol Cymru," Cyfrol I., tudalen 439; adroddir am dano yn cadw cyfeillach grefyddol mewn lle o'r enw Coed-y-tywyn—tyddyn bychan ar etifeddiaeth Cefnfaes, yn Maentwrog, yn y flwyddyn 1798, ac efe ond dwy ar bymtheg oed ar y pryd. Daeth hen wraig i'r gyfeillach, i'r hon y gofynodd ef, "Pa beth oedd ar ei meddwl hi." Cyffrodd a dywedodd, "Aros di y corgi bach, be waeth i ti beth sydd ar fy meddwl i. A wyddost ti beth sy' ar dy feddwl di dy hun? yr wyt ti yn rhy ifanc i holi hen wraig fel y fi;" ac ymadawodd yn dramgwyddedig iawn. Ond nid oedd ymddygiad felly yn cynhyrfu dim arno ef, ond yn hytrach gwasanaethai er ei ddangos ef i fwy o fantais yn y cymhwysder arbenig a feddai ar gyfer ei waith mawr a phwysig yn y dyfodol. Yn y cyfnod hwn, yr oedd yn hoffi myned i Lanuwchllyn i'r gwyliau arbenig a gynelid yn yr Hen Gapel, lle y gwasanaethai y Parchedig Ddoethawr George Lewis er's pedair blynedd cyn hyn; yr hwn hefyd am ei fod yn doeth iawn, a ddysgodd wybodaeth Ysgrythyrol mor helaeth a thrwyadl i'r bobl, fel y daethent i gael eu hystyried a'u cydnabod y bobl fwyaf deallus mewn duwinyddiaeth yn yr holl wlad yn yr oes hono. Adroddodd Mr. Williams ei hun wrth ein hen athraw anwyl a galluog y Parch. E. T. Davies, Abergele, iddo unwaith wrth ddychwelyd o Lanuwchllyn fod mewn enbydrwydd am ei einioes. Ceisiai unioni o Lanuwchllyn at Gwm-yr-allt Lwyd, ac yr oedd y nos wedi ei ddal. Gan fod y gwlaw wedi bod yn ymdywallt yn ystod y dydd, yr oedd Waen y griolen wedi ei gorchuddio gan ddwfr, a'r sarn lle y byddai yntau yn arfer croesi drosodd wedi ei gorlifo, fel nad oedd i'w gweled. Er hyny, yr oedd ef yn lled benderfynol yn ceisio croesi i'r ochr arall, ond bu agos, iddo a boddi y noswaith hono, a bu raid iddo gilio yn ei ol, a da oedd iddo allu gwneuthur hyny, cyn myned o hono gyda'r llifeiriant. Wedi cerdded llawer yn ol a blaen, daeth o'r diwedd at swp o frwyn a gasglwyd gan rywun at doi, ymwthiodd iddo, a llechodd ynddo hyd y boreu, a phan dorodd y wawr, ac i'r dyfroedd dreio, aeth yntau tuag adref yn llawen ei galon, am ddarfod i Dduw ci waredu, wedi bod o hono yn mheryglon llifddyfroedd. Wrth weled ei gynydd amlwg mewn grasusau, gwybodaeth, a defnyddioldeb yn yr eglwys, ac adgofio geiriau ci frawd Robert at y rhai y cyfeiriwyd eisoes, anogwyd ef yn daer gan y Parch. W. Jones a'r eglwys yn Mhenystryd, i ddechreu pregethu. Cymerodd hyny le yn y flwyddyn 1800, pan nad oedd ef ond pedair ar bymtheg oed.

Pan y soniwyd gyntaf wrtho am iddo ymaflyd yn y gwaith santaidd o bregethu, meddianwyd ei enaid gan ofn a dychryn mawr. Yr oedd yn amheus o'i gyflwr, ac ofnai nad oedd efe ddim wedi ei alw gan Dduw i'r gwaith goruchel o efengylu anchwiladwy olud Crist. Ond wedi gweddio llawer am arweiniad dwyfol yn y mater, a deall wrth ddarllen ei Feibl, fod cyfamod yr Arglwydd yn cyf— arwyddo y rhai a'i hofnant ef, tybiodd y gallai mai llais Duw ato ef oedd i'w glywed yn llais yr eglwys. Gan hyny, efe a benderfynodd ufuddhau a gwneuthur ei oreu i geisio pregethu Crist Iesu ei Arglwydd, gan wybod na byddai iddo gael ei feio am hyny, beth bynag a ddeuai o hono. Dechreuodd eraill ar yr un gwaith yn eglwys Penystryd, yr un adeg a'n gwrthddrych, ond profasent yn fuan mai nid i'r un o honynt hwy y dangoswyd y weledigaeth nefol, a chan nad oedd ganddynt ddatguddiad oddi uchod, rhoddasent y gwaith i fyny yn ebrwydd. Daeth y noswaith i'n gwron i draddodi ei bregeth gyntaf yn y gyfeillach grefyddol. Dewisodd y geiriau canlynol yn destyn y waith gyntaf iddo ymaflyd yn y gorchwyl pwysig, "Ephraim a ymgysylltodd àg eilunod, gâd iddo," Hosea vi. 17.

Nis gwyddom pa fodd y bu arno yn y traddodiad o'i bregeth gyntaf, nac ychwaith yn mha le y safai efe yn syniad beirniaid a cheidwaid yr athrawiaeth oeddynt yn gwrando arno. Beth bynag am hyny, aeth awr danllyd ei brawf heibio, "A'r hwyr a fu, a'r boreu a fu," heb i neb fe ddichon, o'r rhai a'i gwrandawsent ddychmygu y byddai y bachgen gwledig hwnw a safasai yn ei glocs ger eu bron y noswaith flaenorol, yn un o gedyrn yr areithfa yn Nghymru cyn pen nemawr o flynyddoedd. Bellach, yr ydym yn nesâu at gyfnod mwy amlwg a chyhoeddus yn mywyd ein gwrthddrych teilwng. Dywed Thomas Carlyle yn mywgraffiad John Sterling, eiriau i'r ystyr a ganlyn:—"Fod darluniad o fynediad y dyn lleiaf drwy y byd, ond ei bortreiadu yn ffyddlon a chywir, yn alluog i ddyddori y mwyaf." Os yw hanes cywir o fywyd dyn cyffredin, yn ol athrawiaeth y brenin Lenor o Chelsea, yn ddyddorol, yn sicr y mae hanes bywyd un o'r dynion mwyaf anghyffredin a fu erioed yn ein gwlad yn rhwym o feddu dyddordeb arbenig a chyffredinol, ond ei arlenu yn gywir, yr hyn a geisiwn wneuthur yn ngoleuni hyny o wybodaeth sydd genym am ein gwron enwog.

Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, yr oedd Huw Puw, Tyddyngwladus, yn myned heibio i lwyn o goed ar dir Cwmeisian Ganol; a chlywai rywun yn pregethu yn anarferol o hyawdl ac effeithiol yn y llwyn coed; ac erbyn nesau at y lle, deallodd mai gwrthddrych y Cofiant hwn oedd yno yn arferu ei ddawn, gan bregethu a'i holl egni. Bu y Parch. William Jones, Trawsfynydd, yn byw am ryw ysbaid o amser yn y Ty Ceryg, Ganllwyd, ac heb fod yn nepell o'r Ty Ceryg, ond yn uwch i fyny, gerllaw y Rhaiadr du, y saif Tyddynybwlch, yn mha le yr adeg hono y trigai gwr a gwraig o'r enw William ac Anne Jones, y rhai oeddent i'll dau

TYDDYNYBWLCH, GANLLWYD.

yn gyfiawn gerbron Duw. Dichon iddynt glywed Mr. Jones yn canmol y pregethwr newydd oedd ganddynt yn Mhenystryd; a naturiol iawn oedd bod mynych siarad am dano yn eu mysg.

Pa fodd bynag am hyny, ceisient, a hyny yn daer iawn ar y pregethwr ieuanc o Gwmeisian ddyfod i'w ty hwy bregethu, a chydsyniodd yntau â'u cais caredig ato, ac y mae yn deilwng o sylw mai yn Nhyddyny bwlch, Ganllwyd, y traddododd Mr. Williams ei bregeth gyhoeddus gyntaf. Yr oedd Mr. Jones, ei weinidog, yn yr oedfa yn gwrando arno, ac wedi iddo orphen, ac i bawb ymwasgaru, dywedodd wrth wr y ty, "Oni ddarfu i Wil fyned drwyddi yn lled dda yn to?" Ni chawsom allan beth ydoedd ei destun y tro hwnw. Bu teulu Tyddynybwlch o werth a gwasanaeth annhraethol i achos crefydd yn yr ardal hon am gyfnod maith. Bu William Jones farw Gorphenaf 30ain, 1823, yn 54 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn mynwent Eglwys Llanelltyd. Bu hithau, Anne Jones, ei wraig farw Mehefin 3ydd, 1863, yn 86 mlwydd oed, a chladdwyd hi yn mynwent capel Annibynol y Ganllwyd. Buont yn garedig i Mr. Williams ar ddechreuad ei yrfa bregethwrol, a bydd eu coffadwriaeth byth yn fendigedig ac yn anwyl genym, pe na buasent wedi gwneuthur dim ond ceisio ganddo ddyfod i'w hanedd hwy i draddodi ei bregeth gyhoeddus gyntaf, ac ar y cyfrif uchod yr ydym yn hoffi meini Tyddynybwlch, ac yn gresynu am fod yr hen adeilad bron a myned yn garnedd adfeiliedig. Ymledodd y son am dano yn fuan, fel un ag oedd yn feddianol ar rhyw ddawn hynod iawn; ac un ag yr oedd ganddo genadwri oddiwrth Dduw i'w llefaru, a gweledigaeth nefol i'w hysbysu i ddynion. Dywedodd Victor Hugo, "Bydded wir neu gau, mae yr hyn a ddywedir am ddynion, yn aml yn meddu cymaint o ddylanwad ar eu bywydau, ac yn arbenig ar eu tynged, a'r hyn a wneir ganddynt." Felly Mr. Williams, o herwydd yr hyn a ddywedid am dano, a'r hyn a wneid ganddo, daeth i gael ei restru yn fuan yn un o bregethwyr penaf Cymru. Yn ol athrawiaeth y gwr doeth, y mae darllen llawer yn flinder i'r cnawd, ond nid oedd nemawr o lyfrau Cymreig ag yr oedd yn werth i'n gwrthddrych ymflino llawer i'w darllen, er ei fantais fel pregethwr, i'w cael y pryd hwnw, ond gwnaeth ei oreu gyda'r ychydig oeddynt yn ei gyrhaedd. oedd y llyfr cyfoethog a rhagorol hwnw, y Drych Ysgrythyrol, neu Gorff o Dduwinyddiaeth, gan Dr. George Lewis, fel y gwelsom, newydd ddyfod allan o'r wasg, ac yn tynu sylw mawr ar y pryd, ac yn dra gwerthfawr gan ein gwrthddrych yn ei efrydiaeth Ysgrythyrol, fel yr oedd yn llewyrchu goleuni i'w feddwl ar y Beibl, prif lyfr ei astudiaeth. Hefyd, hoffai yn fawr Benarglwyddiaeth Duw, gan Eliseus Cole, a Hall's Help to Zion's Travellers, y rhai oeddynt wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg. Sylwedd pregeth yw yr olaf o'r llyfrau a nodwyd ar y geiriau, "Cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl." Eglurir ynddo y rhwystrau athrawiaethol, profiadol, ac ymarferol. Gresyn na cheid argraffiad newydd eto o hono. Yr oedd Mr. Williams yn hoffi y llyfr hwn yn anghyffredin. Ymneillduai i le dirgel gyda'i lyfrgell fechan, a byddai ei chwaer, Catherine, rhwng yr hon ag yntau yr oedd anwyldeb neillduol, yn sefyll gerllaw, gan wylio a bod yn barod i wasanaethu drosto, drwy borthi neu ddyfrhau yr anifeiliaid yn ei le pan y byddai ei dad yn galw arno, fel y gallai efe gael perffaith lonyddwch i ddilyn ei efrydiau yn ngholeg anian. "A'r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhawyd yn yr ysbryd, ac a fu yn y diffaethwch hyd y dydd yr ymddangosodd efe i'r Israel." Temtiwyd ef yr adeg hon gan y gelyn i daflu ei hunan i'r afon sydd gerllaw ei gartref.

Gwyddai y diafol y deuai William bach yn William y gorchfygwr arno yn y man, ac y gwnelai rwygiadau mawrion yn ei deyrnas ddu. Ond er mor nerthol y demtasiwn arno, cafodd fuddugoliaeth ar yr un drwg y tro hwnw; ac nid oedd y fuddugoliaeth hono o'i eiddo ar y gelyn, ond o fuddugoliaethau eraill a enillai efe yn y man, nes bod yn llwyr orchfygwr, ac yn fwy na chonewerwr ar ei holl elynion. Onid oes rhywbeth yn ofnadwy o ddychrynllyd yn y syniad o'r dylan— wad nerthol sydd gan ddiafol ar ddynion. Oni chlywsom yr Haeddbarch William Griffith o Gaergybi, yn adrodd, a hyny tan wylo dagrau heilltion, am y modd y darfu iddo yntau, pan yn ieuanc, gael ei demtio i wneuthur yr un peth; ac ychwanegai drwy ddywedyd, ei fod wrth adrodd yr hanes y diwrnod hwnw, yn teimlo arswyd yn ei fynwes wrth adgofio am yr amgylchiad. Er i Mr. Williams gael ei nerthu gan Dduw, rhag syrthio yn aberth i'r demtasiwn gref y cyfeiriwyd ati eisoes, eto, nid oedd efe wedi myned drwy ei beryglon oll yn ardal ei enedigaeth.

Pan yn croesi maes unwaith, gan gario bwyell ar ei ysgwydd, gwelai darw rhuthrog yn cyflymu ar ei ol, gyda chyflymder a ffyrnigrwydd ofnadwy, rhedai yntau o'i flaen â'i holl egni, a chafodd ben y clawdd cyn iddo ei oddiweddyd, a chan sefyll yno yn wrol, rhoddodd ergyd iddo yn ei dalcen â gwegil y fwyell, nes ei hollol syfrdanu am beth amser; a phan yn ei daraw dywedai, "mi rof i tir chwech." Wedi i'r anifail ffyrnig ddyfod ychydig ato ei hun, diangodd ymaith am ei einioes. Dywedai y teulu, i'r hwn y perthynai y tarw, ei fod yn cofio y geiriau, "mi rof i ti'r chwech," tra y bu efe byw. Yr ydym eisoes wedi cyfeirio at dair o waredigaethau amlwg a hynod iawn a dderbyniodd ein gwrthddrych, ond y mae genym. un eto i alw sylw ati, yr hon sydd yn dangos gofal Duw am dano mewn modd arbenig iawn. Bu yn cymynu coed yn Mhenybryn, Llanfachreth, a thra yno gyda'r gwaith hwnw, syrthiodd pren arno, gan falurio ei het yn chwilfriw, ond heb gyffwrdd yn niweidiol âg ef. Yr oedd y waredigaeth hon, yn nghyda gwaredigaethau eraill a gafodd efe, wedi cynhyrfu ei enaid i gydnabod Duw yn ei waredigaethau iddo, ac i lafar ganu yn dragywydd am iddo orchuddio drosto. Efe a aeth rhagddo gyda gorchwyl mawr ei fywyd, gan ymwroli, fel un yn gweled yr anweledig. Bu o wasanaeth annhraethol gyda'r achos yn y cymydogaethau cylchynol ar ei gychwyniad cyntaf allan. Dywedai Sarah Pugh o'r Brynllinbach, am dano yn y cyfnod hwn ar ei fywyd, "Yr oedd William yn barchus gan bawb yn gyffredinol, ac wedi iddo ddechreu pregethu, gwahoddid ef i bregethu i'r tai o amgylch ei gartref. Sonir am dano yn pregethu yn hynod iawn, mewn wylnos merch ieuanc yn Abergeirw Mawr Yr oedd yn amlwg o dan arddeliad neillduol ac anarferol iawn. Dichon fod yr amgylchiad ynddo ei hunan yn fanteisiol iddo, yn gystal a bod ei ddoniau yntau hefyd yn effeithio yn rhyfedd ar y bobl, fel rhwng pob peth, nid oedd llygaid sych yn yr holl gynulleidfa. Gwnaeth ddaioni dirfawr yn ei ardal ei hun. Yr oedd y trigolion yn annuwiol, ac yn ofergoelus, a llawer iawn o hen gampau llygredig yn cael cu harfer ar y Sabbathau; ac yr oedd cael dyn ieuanc fel William i ddweyd yn erbyn drygioni yr oes, yn werth anmhrisiadwy." Adroddir am dano yn pregethu yn Nhyddynmawr, gerllaw capel Jerusalem, Trawsfynydd, yn y cyfnod hwn. Yr oedd gwraig dduwiol iawn yn byw yn yr amaethdy a nodwyd, yr adeg hono, o'r enw Elizabeth Griffith, yr hon oedd yn wael ar y pryd. Daeth tyrfa" luosog yn nghyd i'r bregeth, ac yn eu plith yr oedd amrai o fechgyn ieuaine nwyfus a direidus iawn. Dygwyddodd un peth yn yr oedfa hono oedd yn brofedigaethus a digrifol i'r gynulleidfa, ac yn arbenig felly i'r pregethwr ieuanc; oblegid fel yr elai yn mlaen, yr oedd rhai o'r bechgyn ieuainc yn brysur wrth y gwaith o luchio groi gyfeiriad y pregethwr, ac o'r diwedd, disgynodd gröyn ar flaen trwyn y llefarwr; ond efe mewn hunanfeddiant perffaith a aeth yn ei flaen, heb gymeryd arno fod dim allan o'i le wedi dygwydd. Yr oedd y gallu i anymwybyddu rhwystrau, a myned yn mlaen gyda'i waith, heb eu cydnabod o gwbl, yn gryf ynddo drwy ei oes." Dywedai yr Hybarch Cadwaladr Jones, Dolgellau, mai y tro cyntaf iddo ef glywed Mr. Williams yn pregethu, oedd mewn ty anedd o'r enw "y Parc," Cwm Glanllafar, a hyny yn lled fuan wedi iddo ddechreu ar ei waith cyhoeddus. Cyhoeddiad Mr. Jones, Trawsfynydd, oedd yno, ond gan i Mr. Williams ddyfod gydag ef, gosodwyd ef i bregethu ychydig o'i flaen, a hyny a wnaeth ar y "Saith canwyllbren aur." Cynorthwyai ei hen athraw ef, ac ymddangosai fel pe yn ofni i'w ddysgybl ieuanc fethu a myned yn mlaen heb gymhorth ei amenau a'i ocheneidiau lluosog ef. Ond nid oedd dim perygl o'r cyfeiriad hwnw, ac yr oedd yntau yn ofni lle nad oedd achos ofni. Ystyrid fod ei ddull a'i agwedd wrth bregethu yn y cyfnod hwn, yn ymddangos yn llawer rhy hyf, a'i ymadroddion yn tueddu i yru ei wrandawyr i ysgafnder chwerthinllyd ac ynfyd. Barnai un o oraclau Llanuwchllyn wedi ei wrando, nad oedd arno eisieu swmbwl i'w yru yn mlaen, ond yn hytrach yn ei drwyn i'w yru yn ol. Beth bynag am yny, ceir digon fel hwnw eto yn y byd, i gynllunio offerynau i "yru yn ol," ac nid i symbylu ein dynion ieuainc yn mlaen. Ond nid yw Duw byth yn gwneuthur cyfleustra i ni fyned yn ol, ond egyr foroedd i'n galluogi i fyned yn mlaen, a byddai yr un mor hawdd atal yr haul ar ei yrfa, neu atal llanw y môr i chwyddo i'r lan, ag a fyddai atal yr un o'r rhai a anfonwyd gan Dduw rhag cyflawni ei waith ef. Nid oedd sefyllfa ein henwad yn Meirionydd ar y pryd mewn un modd yn galonogol i ddyn ieuanc i gychwyn allan, canys nid oedd ein haddoldai yno yn rhifo mwy na deg pan ddechreuodd ein harwr bregethu, sef Ty'nybont, Llanuwchllyn, Bala, Pennal, Rhydymain, Rhydywernen, Penystryd, Dinasmawddwy, Brithdir, a Llanelltyd. Ail gychwynodd ein gwrthddrych a'r Parch. Hugh Pugh, Brithdir, yr achos yn y Cutiau, yr hwn oedd wedi ei adael i ddiflanu er's blynyddoedd; ac wedi i Mr. Williams fyned i'r athrofa, parhaodd Mr. Pugh i ofalu am dano hyd ei farwolaeth. Erbyn hyn mae y deg wedi cynyddu nes myned yn wyth a thriugain mewn rhifedi. "Ac felly yr eglwysi a gadarnhawyd yn y ffydd, ac a gynyddasant mewn rhifedi beunydd."

PENNOD IV.

O'R ADEG Y DECHREUODD EFE BREGETHU HYD EI YMSEFYDLIAD YN Y WERN 1800—1807.

Y CYNWYSIAD—Mr. Williams yn fedrus fel saer coed—Ei hoffder at ei gelfyddyd yn lleihau—Ei gariad at bregethu yn cynyddu—Mynachlog y Cymer—Coedio Ysgubor Dolfawr, Llanelltyd—Myned at y Parch. William Jones i'r Ysgol—Dechreu arfer ysgrifenu—Awyddu am fanteision addysgol helaethach—Y Parch. John Roberts, Llanbrynmair, yn ei anog i fyned i Fwlchyffridd—Yntau yn myned yno, ac yn lletya yn Ngallt-y-ffynon—Ei athraw yn Mwlchyffridd—Trwstaneiddiwch Mr. Williams gyda'i Saesonaeg—Cael ei boeni am hyny—Dyfod i gyfathrach agosach â'r Parch. John Roberts o Lanbrynmair Gadael Bwlchyffridd—Pregethu Saesonaeg yn Mwlchyffridd—Gwerthu y ddeadell ddefaid—Cael ei gynal yn yr Athrofa â'r arian a dderbyniodd efe am danynt—Myned i Athrofa Wrexham—Anfon am gyfieithydd rhyngddo ef a Miss Armitage—Ysgrif Dr. Jenkin—Y myfyrwyr yn chwerthin wrth wrando ar Mr. Williams yn adrodd ei wersi—Yr athraw yn gwahardd hyny— Ei gydefrydwyr—Derbyn galwad o Horeb, sir Aberteifi—Penderfynu ymsefydlu yno—Y cyfarfod yn Liverpool—Mr. Thomas Jones o Gaer, yn ei anog i ymsefydlu yn Wern a Harwd—Yntau yn cydsynio—Rhagluniaeth y nef yn cyfryngu yn brydlon—Gwasanaeth Mr. Jones, Caer, i'r Enwad Annibynol yn y Gogledd—Ei ewyllys—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Cadw ein gwrthddrych yn y Gogledd—Yntau. yn gadael yr Athrofa ac yn ymsefydu yn y Wern

CYRHAEDDODD ein gwrthddrych gryn fedrusrwydd fel saer coed, ond fel y cynyddai ei gariad at bregethu Crist, yr oedd ei hoffder at ei gelfyddyd yn lleihau, fel erbyn hyn, yr oedd yn amlwg iawn mai nid i saernio coed yn eu morteisiau y neillduwyd ef o groth ei fam, ond i saernio syniadau ac egwyddorion mawrion yr efengyl, drwy eu harddangos mewn cysondeb perffaith â'u gilydd. Gerllaw i bentref Llanelltyd, gwelir gweddillion mynachlog enwog y Cymer, neu y Vaner, fel y gelwir hi yn awr, yr hon a ddengys olion o fawredd ac arddunedd 'henafol. Edrycha y coed sydd o bob ochr. i'r rhodfa a arweinia tuag ati, yn nodedig o fawreddus a phrydferth, a medda yr hen Fynachlog swyn arbenig i'r henafiaethydd a'r hanesydd, ond mwy dyddorol i ni yw syllu ar hen ysgubor ddiaddurn Dolfawr, yr hon sydd ychydig yn uwch i fyny: na'r Fynachlog, a hyny am y rheswm mai Mr. Williams a'i coediodd, ac mai hyny oedd y gwaith diweddaf a wnaeth efe fel saer coed, cyn myned o hono i dderbyn addysg ar gyfer gwaith pwysicaf ei fywyd.

Erys yr hen Ysgubor hyd heddyw, a phe y gallasai ceryg ei muriau lefaru, a'r trawstiau o'i gwaith coed ateb, diau y buasai ganddynt ddirgelion lawer i'w hysbysu i ni am bryderon calon ein gwrthddrych y dydd hwnw. Bu am gyfnod byr yn yr ysgol a gadwai y Parch. William Jones, ei weinidog. Yn yr adeg hon y dechreuodd efe ddysgu y gelfyddyd o ysgrifenu. Yr oedd wedi dechreu pregethu er's dwy flynedd cyn hyn. Yn y flwyddyn 1802, meddianwyd ef gan awydd cryf am fyned i rywle i fwynhau manteision addysgol helaethach, er ei addasu yn fwy ar gyfer gwaith mawr ei oes. Ystyrid hyn gan lawer yn y dyddiau hyny yn afreidiol, a hyny am y tybient mai pregethwyr o geudod y ffos yn unig oeddynt yn dwyn arnynt nodau rhai wedi eu heneinio gan Dduw i'r gwaith; ac mai niweidio y cyfryw a wneid drwy roddi iddynt addysg Golegol. Ond nid felly y syniai ein gwron am ei ddyfodol a'i waith. Gallasai gael addysg gyda Dr. Lewis, yn Llanuwchllyn, heb fyned yn mhell o'i gartref, ond teimlai fod arno angen mwy o gyfleusderau er arferu ac ymgydnabyddu â'r iaith Saesoneg, nag allasai efe gael yn Sir Feirionydd ar y pryd. hwnw.

Deallodd y Parch. John Roberts, Llanbrynmair, am yr awyddfryd hwn oedd ynddo, a chynghorodd

ef i fyned i Fwlchyffridd, ger y Drefnewydd, fel y gallai sicrhau yr hyn yr awyddai gymaint am dano. Wedi cael boddlonrwydd ei rieni, penderfynodd fyned yn ol cyfarwyddyd Mr. Roberts iddo. Gwawriodd dydd ei ymadawiad o dy ei dad. Buasem yn hoffi gwybod beth oeddynt y cynghorion a roddwyd iddo gan ei dad, ac yn arbenig gan ei fam y dydd pwysig hwnw. Diau iddynt gydweddio cyn iddo gychwyn ymaith, oblegid arferent wneuthur hyny gyda'u gilydd yn ddyddiol er's tro bellach, ac yn sicr, nid aeth amgylchiad pwysig felly heibio heb iddynt gyd-ddeisyf am fendith yr Arglwydd i gyfarwyddo ei gerddediad ef. Wedi iddo gyrhaedd i Fwlchyffridd, trefnwyd iddo letya yn ystod ei arosiad yno yn Ngallt-y-ffynon. Yr oedd y teulu yn geraint i Mr. Roberts o Lanbrynmair. Hefyd, un o'r enw John Roberts ydoedd ei ysgolfeistr yma. Buasai yn dda nodedig genym allu rhoddi i'r darllenydd ychydig o hanes athraw cyntaf Mr. Williams oddicartref. Ond er pob ymdrech o'r eiddom i gael rhyw wybodaeth am dano o ran ei gymeriad moesol, a'i alluoedd addysgol, ni lwyddasom yn ein hamcan. Dichon mai hen filwr anafus wedi dianc yn archolledig o faes y gwaed, neu mai hen forwr a waredwyd o safn marwolaeth mewn llongddrylliad ydoedd efe; ond waeth i ni heb ddyfalu, ni wyddom ddim am dano ond yn unig ei enw. Er mai Saesonaeg a leferid gan y rhan luosocaf o drigolion Bwlchyffridd y pryd hwnw fel yn awr, eto, nid rhyw lawer o gynydd a wnaeth ein gwrthddrych yn yr aeg hono tra y bu yn aros yn y lle. Adroddai yr Hybarch Hugh Morgan, Samah, wrth y Parch. J. C. Jones, Llanfyllin, ddarfod i un amgylchiad ddygwydd yn hanes Mr. Williams yma, am yr hwn y poenid ef gan weision Gallt-y-ffynon tra y bu yno. Ymddengys ei fod yn aros yno ar adeg cynhauaf gwair, a rhyw ddiwrnod, gan faint ei awydd i roddi cynorthwy iddynt i gasglu y gwair i ddiddosrwydd, dywedodd wrthynt yn sydyn, "Come to hel boys— y gwair." Poenid ef ganddynt, drwy eu bod yn sicrhau ddarfod iddynt hwy ddeall iddo ddywedyd wrthynt, "Come to hell," gan egluro iddo eu bod yn rhyfeddu fod pregethwr yn ceisio ganddynt ddyfod i uffern.

Prin y gallesid dysgwyl dim yn amgenach na rhyw drwstaneiddiwch fel a nodwyd, oddiwrth fachgenyn ieuanc a fagesid yn mynydd-dir Meirionydd, lle nad yngenid bron byth air o'r Saesonaeg gan neb o'r trigolion y pryd hwnw. Faint bynag oedd ei awydd ef am ddysgu Saesonaeg yn Mwlchyffridd, sicr yw fod ei awydd am bregethu Cymraeg wedi enill mwy o nerth yn ei feddwl, megys heb yn wybod iddo. Y Parch. John Roberts, Llanbrynmair, a arolygai dros yr eglwys Annibynol yn y lle y pryd hwn; felly, daeth Mr. Williams i gyffyrddiad agosach yno â'r gwr rhagorol hwnw, yr hwn a roddodd i'r efrydydd ieuanc lawer o gynghorion, y rhai a ystyriai efe dros weddill ei oes o werth annhraethol iddo. Ni bu ei arosiad yma ond am rhyw wyth neu naw mis, pryd y dychwelodd i'w gartref am ychydig cyn myned i'r Athrofa. Yn Mwlchyffridd yn mhen blynyddoedd ar ol hyn y gwnaeth efe yr ymgais i bregethu yn Saesonaeg am y waith gyntaf erioed, ac nid rhyw lwyddianus iawn y bu yn ei anturiaeth gyntaf i bregethu yn yr iaith agosaf atom, er hyny ni ddigalonodd efe. Cyfeiriasom eisoes at y "Cyfamod gweithredoedd" a wnaeth ei dad âg ef yn nglyn âg ymatal o hono rhag sugno, ac os y cadwai efe yn ffyddlon at amodau y cyfamod hwnw, y rhoddid iddo "Yr oen du" yn wobr am hyny. Ac felly y bu, a chynyddodd y da hwnw o'i eiddo ar y ddaear yn ddirfawr; a chyn myned i'r Athrofa gwerthodd y ddeadell ddefaid, ac â'r arian a dderbyniodd efe am danynt y cynaliwyd yn ystod tymhor ei gwrs Athrofaol. Symudwyd Athrofa Croesoswallt yn y flwyddyn 1792 i Wrexham, at y Parch. Jenkin Lewis, fel y gallai efe ei llywyddu yn gystal a bod yn weinidog i'r Eglwys Annibynol yn Mhenybryn.

Yn y flwyddyn 1803, penderfynodd ein gwron fyned yno i ymgeisio am dderbyniad i'r Athrofa. Diau mai pryderus iawn ydoedd ei feddwl wrth deithio tua Wrexham, gan na wyddai efe beth a fyddai ei dynged yn niwedd ei daith, Gan y dywedir mai Mrs. Lewis a ddaeth i'r drws i ymddyddan â'r ymgeisydd newydd, rhaid mai oddeutu diwedd y flwyddyn y cymerodd hyny le, oblegid yn mis Tachwedd, y flwyddyn hono, yr ail briododd Mr. Lewis gyda Mrs. Armitage, gweddw y diweddar Barch. W. Armitage, Caerlleon Gawr, yr hon oedd Saesones hollol. Dichon hefyd mai camgymeriad yw dywedyd mai Mrs. Lewis a ddaeth i'r drws, ac mai cywirach yw nodi mai Miss Armitage, merch Mrs. Lewis, a agorodd y drws i'r Cymro o Lanfachreth. Fodd bynag am hyny, bu yn rhaid ymofyn am gyfieithydd rhyngddynt, gan nas gallent heb hyny ddeall eu gilydd. Wedi iddo weled yr Athraw, a rhoddi iddo brofion o iachusrwydd ei athrawiaeth, yn ol fel y gofynai y Trysorfwrdd Cynulleidfaol gan bob ymgeisydd, rhoddwyd iddo dderbyniad i'r Athrofa. Nid ydym yn deall fod unrhyw safon neillduol heblaw yr uchod i'w phasio cyn cael derbyniad i'r sefydliad y pryd hwnw. Heblaw hyny, yr oedd Ysgol Ramadegol yn gysylltiol â'r Athrofa hyd ei symudiad o'r Drefnewydd i Aberhonddu, pryd y diddymwyd hi. Er iddo gael ei hun o fewn i gynteddau sefydliad addysgol yr enwad, eto oherwydd fod ei anfanteision boreuol wedi bod y fath, ni allodd efe ddeall nemawr o gyfrinion yr ieithoedd clasurol yn ystod ei efrydiaeth yn yr Athrofa, eto drwy gryfder ei alluoedd naturiol, ni ddaeth efe allan oddi yno heb ddeall rhyw gymaint o Roeg a Lladin hefyd. Ond os y methwyd a gwneud ysgolor gwych o hono, profodd ei hun yn dduwinydd dwfn, ac yn bregethwr oedd yn meddu arbenigrwydd hyd yn nod y pryd hwnw. Fel un oedd wedi ei alw gan Dduw i fod yn Apostol, yr oedd yn mawrhau ei swydd i'r fath raddau, fel yr oedd pob peth arall oedd pob peth arall yn cael bod yn is-wasanaethgar iddi. Meddai "reddf naturiol at bregethu, deall cyflym i amgyffred gwirioneddau duwinyddol, ac athrylith gref at uchaniaeth.”

Dywed Dr. Jenkin mewn ysgrif alluog arno yn yr Homilist, yr hon a welir yn nghyfrol III., tudal. 209, ac o ba un y cymerwyd y dyfyniad uchod: "Iddo fyned i'r Athrofa i ymofyn 'bara' i faethu ei athrylith, ond mai ceryg sychion a chelyd a roddwyd iddo i lwytho ei gof â hwynt." Nid yw y mynegiad uchod o eiddo Dr. Jenkin mewn un modd i'w ddeall fel yn adlewyrchu yn anffafriol ar allu yr athraw galluog i gyfranu addysg, ond yn hytrach yn gondemniad ar y gyfundrefn addysgol a osodwyd iddo gan y pwyllgor i'w chyflwyno i rai oeddynt heb gael manteision addysgol boreuol digonol i'w galluogi i amgyffred dim o'r bron, am yr hyn a gyflwynid i'w sylw, ac mai llawer doethach fuasai rhoddi hyfforddiant mewn llenyddiaeth a duwinyddiaeth Seisnig yn unig iddynt hwy, yn yr amser byr oedd iddynt yn yr Athrofa. Byddai ein gwrthddrych yn cwympo yn fynych wrth geisio cerdded ar hyd llwybrau y gramadegau, a chynyrchai hyny chwerthiniad mynych yn mysg ei gyd-efrydwyr; ac wrth weled hyny, dywedodd ei athraw wrthynt unwaith: "Do not laugh at him, he will beat you all before long." Ac yn sicr, megys y prophwydodd efe, felly yn hollol y bu, nid mewn dysgeidiaeth aruchel ond fel pregethwr a meistr y gynulleidfa. Mynegir ddarfod iddo dystio wrth ei athraw ar ddiwedd ei dymhor yn yr Athrofa, ei fod yn credu nad ymadawsai nemawr un oddiyno yn onestach nag ef, gan olygu nad oedd efe yn cludo rhyw lawer o ddysgeidiaeth gydag ef oddiyno.

Yr oedd y Parchedigion canlynol yn cydefrydu â Mr. Williams yn Wrexham am beth amser:—David Thomas, Llanfaches; David Powell, Cae-bach; Benjamin Evans, Bagillt; John Lewis, Bala; yr hwn a urddwyd i gyflawn waith y weinidogaeth Awst 23ain, 1808. Rhoddir dyddiad ei urddiad ef am na cheir ef yn hanes eglwys y Bala; Thomas Powell, Brynbiga; William Jones, Dwygyfylchi; William Jones, Penybontarogwy; David Roberts, Dinbych, a Cadwaladr Jones, Dolgellau. Bu y gwŷr uchod o wasanaeth dirfawr i grefydd yn ein gwlad, yn y pulpud, a thrwy y wasg, yn arbenig ddau o honynt, y naill fel awdwr y Geiriadur Duwinyddol rhagorol sydd genym, a'r llall fel Golygydd medrus y Dysgedydd, am y cyfnod maith o un flwydd ar ddeg ar hugain. Buasai yn hawdd i ni ysgrifenu penod helaeth ar fywyd a llafur pob un o'i gydefrydwyr, ond buasai hyny yn chwyddo y gwaith dros ein terfynau rhagosodedig. Efallai fod eraill o'r hen weinidogion wedi bod yn yr Athrofa ar yr un adeg a'n gwrthddrych, ond methasom ni a chael sicrwydd am neb ond a enwasom. Darfu i alluoedd pregethwrol Mr. Williams ymlewyrchu yn nodedig o ddysglaer cyn ei ymadawiad o'r Athrofa. Bu ar deithiau yn y Deheudir yn ystod gwyl ddyddiau yr Athrofa, ac enillodd sylw arbenig, a chymeradwyaeth gyffredinol fel pregethwr ar y teithiau hyny. Wedi ei ddychweliad oddiyno y tro diweddaf, derbyniodd alwad oddiwrth eglwys barchus Horeb, Sir Aberteifi. Yr oedd hyn wedi ymadawiad Mr. Lloyd a Mr. Jones, y rhai a fuont yn cydweinidogaethu yn Horeb a'r cylch am beth amser, a chyn i Mr. Thomas Griffiths gael ei urddo yn weinidog i'r eglwys. Penderfynodd Mr. Williams ateb yr alwad o Horeb yn gadarnhaol; ac aeth mor bell ag eistedd i lawr i ysgrifenu yr atebiad iddi, ond pan yr oedd efe wrth y gwaith pwysig hwnw, daeth un o'i gyd-fyfyrwyr i'w ystafell, gan ei hysbysu fod caniatad i'r myfyrwyr oll i fyned gyda'u hathraw i gyfarfod pregethu oedd i'w gynal dranoeth yn Liverpool, ond fod yn rhaid iddynt gofio dychwelyd dranoeth wedi y cyfarfod. Rhoddodd yntau ei bin ysgrifenu o'i law yn y fan, ac ymaith àg ef yn llawen ei galon i'r wyl arbenig, gan feddwl yn sicr am orphen y llythyr wedi dychwelyd yn ol, ond nid oedd y llythyr hwnw byth i gael ei orphen." Wrth ddychwelyd o'r cyfarfod gyda'i athraw, galwasent eu dau yn nhy Mr. Thomas Jones, Cutler, yn Nghaer, yr hwn oedd yn foneddwr gwir grefyddol, cyfoethog, a haelionus iawn. Hysbysodd Mr. Lewis iddo fod Mr. Williams wedi derbyn galwad, a'i fod yn bwriadu ymsefydlu yn Horeb, Sir Aberteifi. Gwelodd Mr. Jones ar unwaith y buasai hyny yn golled na wyddid ei maint i'r enwad Annibynol yn Ngogledd Cymru, ac anogodd ef yn daer iawn i ymsefydlu yn y Wern a Harwd, gan ddwyn ar gof iddo fod ar yr enwad yn y Gogledd fwy o angen un o'i fath ef nag oedd arno yn y Deheudir, canys yr oedd gan y Deheuwyr eu Davies ddoniol a galluog yn Abertawe, a Hughes yn y Groeswen, yr hwn oedd yn un gronfa lawn o athrylith gref; a Williams yn Llanwrtyd, yn llawn o'r tân nefol; ac heblaw hyny, fod yr enwad Annibynol yn wanach yn y Gogledd nag ydoedd yn y Deheudir, a bod hyny yn un rheswm dros geisio ganddo roddi heibio y bwriad o fyned i Horeb. Sicrhaodd ef hefyd, na byddai arno eisieu dim daioni os yr elai efe i'r Wern. Pa fodd bynag, o herwydd ei daerni, llwyddodd Mr. Jones i'w berswadio i aros yn y Gogledd, ac anfonodd Mr. Williams ei atebiad nacaol i'r alwad o Horeb. Hysbysodd Mr. Jones eglwysi y Wern a Harwd o hyny, a rhoddasent hwythau alwad i Mr. Williams ar unwaith. Rhyfedd fel y cyfryngodd Rhagluniaeth y nef mor brydlon, fel ag i ddwyn hyn oddiamgylch yn llwyddianus; ac yn hyn oll, gwelir yn eglur mai nid eiddo dyn ei ffordd, ac mai nid ar law gwr a rodio y mae llywodraethu ei gerddediad, ond mai oddiwrth yr Arglwydd y mae ei gerddediad ef.

Dichon na ddaeth i galon ond ychydig o Annibynwyr yr oes hon i ddychmygu maint y daioni a wnaethpwyd gan Mr. Jones, Caer, i'r enwad Annibynol, ac i grefydd yn Nghymru, ac yn arbenig yn Ngogledd Cymru. Efe a sefydlodd ysgolion dyddiol a symudol yn ein henwad, ac a lwyddodd i gael Dr. George Lewis i'w harolygu, a bu hyny yn foddion i atal y gwr rhagorol hwnw rhag myned i America i drigianu fel yr oedd unwaith wedi bwriadu a rhagdrefnu i fyned. Bu Mr. Jones yn gynorthwy—ydd sylweddol, ac yn noddydd caredig i lawer eglwys wan ac anghenus. Efe, ar ei draul ei hun, ag eithrio ychydig gynorthwy gan amaethwyr yr ardal, a adeiladodd gapel cyntaf Rhesycae. Yn wir, ymestynai ei ofal dros yr holl eglwysi, a phryderai am eu llwyddiant. Yr oedd ef yn dywysog y cyfranwyr yn ei ddydd. Gresyn na buasai genym fwy o hanes y gwr rhagorol hwn. Gwnaethom bob ymdrech i sicrhau hyny, ond aflwyddianus fuom. Nid ydym yn deall ра fodd y bu ei gydoeswyr mor esgeulus gyda hyn o orchwyl. Fel y canlyn yr ysgrifenai y diweddar Mr. E. G. Salisbury, gynt o Gaer atom, a hyny ychydig amser cyn ei farwolaeth, "I am sorry that I cannot give you any information about Mr. Jones that is likely to be of service to you. I remember hearing Mr. Williams of Wern alluding to him as a good man who had done service to Wales. But I was a child at the time, and could not appreciate the words he uttered in my presence.

Fel prawf ddarfod iddo wneuthur gwasanaeth i Gymru, darllener ei ewyllys olaf i'r enwad yr hon sydd fel y canlyn: I also give and bequeath unto the said John Dickinson, Charles Williamson, and Thomas Clubb, and the survivor of them, and the heirs, executors, and administrators of such survivor, the sum of five hundred pounds upon trust to pay and apply the interest, dividends, and proceeds thereof, to my shopman Edward Powell, during the term of his natural life, and from and after his decease, to his widow (if he leaves any), during the term of her natural life, or so long as she continues his widow, and from and after her decease, or in case she marries again, or from and after the decease of the said Edward Powell, in case he leaves no widow, then I give and bequeath the said principal sum of five hundred pounds to be equally divided amongst the children of the said Edward Powell, if more than one, if but one, then to such only child. And in case there should be no lawful issue of the said Edward Powell then living, then I give and bequeath the said sum of five hundred pounds to the Reverend Jenkin Lewis of Wrexham, the Reverend George Lewis of Llanuwchllyn, the Reverend John Roberts of Llanbrynmair, and the said Charles Williamson, upon trust, to put and place the same out at interest upon real or Government security, and to apply the interest, dividends, and proceeds thereof for the propagation of the gospel in South Wales. And I do hereby direct my said Trustees, the said John Dickinson, Charles Williamson, and Thomas Clubb, to permit and suffer the said Edward Powell to employ the said sum of five hundred pounds in business during the term of his natural life, they taking such ample and sufficient security from him for the same as they in their discretion shall think most proper. I also give and bequeath unto the said Jenkin Lewis, George Lewis, John Roberts, and Charles Williamson, the sum of fourteen hundred pounds upon trust to put and place the same out at interest upon real or Government security, and to pay and apply the interest, dividends, and proceeds of seven hundred pounds part of the said sum of fourteen hundred pounds, to such of the poor Dissenting Ministers in North or South Wales, as they in their discretion shall think proper; but I do hereby direct that there shall not be given to any minister a sum exceeding five pounds in one year, and to apply the interest, dividends, and proceeds of seven hundred pounds, the remaining part of the before mentioned sum of fourteen hundred pounds for the support of the schools of which Mr. George Lewis is now 'superintendent, the interest of the said sum of fourteen hundred pounds to commence from the day of my death, but the principal not to be claimed until after the expiration of two years afterwards. I also give and bequeath to the said Jenkin Lewis, George Lewis, John Roherts, and Charles Williamson, the sum of two hundred pounds upon trust to put and place the same out at interest upon real or Government security, and to pay and apply the interest, dividends, and proceeds thereof to such of the most needy young men in the Academy at Wrexham (of which Mr. Jenkin Lewis is now a Tutor) as the Tutor thereof for the time being shall think proper. And it is my will and desire that when any one or more of my said Trustees the said Jenkin Lewis, George Lewis, John Roberts, and Charles Williamson, shall happen to die, the survivors of them, or the majority of such survivors shall proceed to elect and appoint another Trustee, or other Trustees, in the place and stead of such deceased Trustee or Trustees, in order that there may be constantly four Trustees to act in the execution of the trusts reposed in them as aforesaid, and such Trustee or Trustees so elected, and appointed, from time to time, shall be invested with the same powers, and the like authorities, as the Trustees so originally named in this my will as aforesaid.'

Arwyddwyd yr ewyllys uchod Mai 5ed, 1810; yn ychwanegol, mewn ol—ewyllys o eiddo Mr. Jones, yr hon a arwyddwyd Gorphenaf 17eg, 1810, ceir a ganlyn:— And whereas I have in my hands the of fifty pounds left by the late John Henshaw of Wem, now I do hereby give and bequeath the same to the said John Dickinson, Charles Williamson, and Thomas Clubb, upon trust, to put and place the same out at interest, upon real or Government security, and to pay and apply the interest, dividends, and proceeds thereof for the support of the Welsh Charity Schools of which I am Treasurer.

Profwyd ei ewyllys yn Nghaer, Mai 5ed, 1814. Y mae holl ewyllys Mr. Jones, copi o'r hon sydd ger ein bron, yn wir ddyddorol, ond ni farnasom yn ddoeth gyhoeddi yma ond yn unig ei gymunroddion cyhoeddus i'r enwad Annibynol yn Nghymru. Y mae yr arian uchod, yn ol darbodion yr ewyllys, yn cylchdroi yn ein mysg er gwasanaeth yr enwad hyd y dydd heddyw. Bu farw Mr. Jones, a hyny yn dra sydyn, boreu dydd Gwener, Tachwedd 5ed, 1813, yn 76 oed. Claddwyd ef y dydd Iau canlynol yn mynwent capel yr Annibynwyr, Heol y Frenhines, yn Nghaer.

Dywedir yn y Chester Chronicle am ddydd Gwener, Tachwedd 12fed, 1813, am dano fel y canlyn: "Anfynych y collodd cymdeithas, ac anfynych y gall fforddio colli dynion fel Mr. Thomas Jones. Pa beth bynag sydd gyfiawn, teg, ac anrhydeddus mewn masnachwr; pa beth bynag sydd hawddgar mewn cyfaill, pa beth bynag sydd yn gariadus yn y dyngarwr, pa bethau bynag sydd yn gosod urddas ar Gristion, er cyfansoddi ei gymeriad, ac yn hyrwyddo ei ymdrechion, llewyrchodd y cyfryw rinweddau yn mywyd yr hwn y mae holl Gaer yn awr yn galaru am dano. Collodd y tlawd gyfaill, y cyfoethog esiampl i'w ddilyn, yr anwybodus ddysgawdwr, y trallodus ddyddanydd, yr anfad a'r drygionus rybuddiwr ac adferwr. Pan y mae y byd Cristionogol yn galaru ar ei ol, y mae yn ddiamheu ei fod ef ar ei enill, ond i'r rhai sydd yn crwydro yn yr anialwch, y mae eu colled hwy yn annhraethol fawr. Diolched y tlodion i Dduw am iddo arbed iddynt eu cymwynaswr am gyhyd o amser, a bydded i'w galar droi yn llawenydd, oblegid fod 'bendith yr hwn oedd ar ddarfod am dano,' yn eiddo i'w cyfaill ymadawedig." Tra y sonir am y gwaith a gyflawnodd gwrthddrych y cofiant hwn yn Ngogleddbarth Cymru, bydd coffa hefyd, am yr hyn a wnaeth Mr. Thomas Jones o Gaer, er dylanwadu ar Mr. Williams i wrthod yr alwad o Horeb, ac ymsefydlu yn y Wern. Er i Mr. Williams gael ei gymhell i aros yn yr Athrofa yn hwy, eto, wrth weled y cynhauaf yn fawr, a'r gweithwyr yn anaml iawn y dyddiau hyny, dywedai fod yn rhaid iddo ef ymadael, neu yr elai y cynhauaf heibio tra y byddai efe yn hogi ei gryman; ac felly, wedi iddo dreulio pedair blynedd yn yr Athrofa, ymadawodd oddiyno, gan wynebu ar faes ei lafur dyfodol mewn llawn ymddiried yn yr hwn a ddywedodd "Cyfarwyddaf di, a dysgaf di yn y ffordd yr elych, a'm llygad arnat y'th gynghoraf."

PENNOD V

O'I YMSEFYDLIAD YN Y WERN HYD ADEILADIAD CAPEL CYNTAF Y RHOS 1807—1812.

Y CYNWYSIAD.—Agosrwydd y Wern i Wrexham—Y myfyrwyr o Athrofa Wrexham yn pregethu yn y Wern o'r dechreuad—Mr. Williams yn un o'r rhai cyntaf i bregethu i'r Annibynwyr yn yr ardal—Ysgrif y Parch. J. Thomas, Leominster, yn y Beirniad—Y flwyddyn 1807 yn un hynod yn hanes eglwys y Wern—Adeiladu ei hail gapel—Ymsefydliad Mr. Williams yn yr ardal—Myned i lettya at Mr. Joseph Chalenor—Pregethu yn Nghymanfa Machynlleth cyn cael ei ordeinio—Aros yn y Wern am yn agos i flwyddyn cyn ei urddiad—Tystiolaeth Mr. Evans, Plas Buckley—Bedyddio merch fechan yn mhen dau ddiwrnod ar ol ei ordeinio—Nifer achosion yr Annibynwyr yn siroedd Dinbych a Fflint yn ychydig ar cychwyniad gweinidogaeth Mr. Williams—Yntau yn ymwroli i'w waith—— Agoriad y capel cyntaf yn Rhesycae—Y Wern yn dyfod yn enwog drwy ei chysylltiad â Mr. Williams—"Cymanfaoedd yr Annibynwyr" Sefydlu eglwys yn y Rhos—Ei nifer ar y pryd—Mr WILLIAMS yn cymeryd ei gofal—Ei ymweliad âg Athrofa Wrexham Ei wasanaeth i'r enwad drwy hyny—Yn ymroddi i deithio y wlad yn achos yr Efengyl—Anghyfleusderau teithio—Tyst- iolaeth Mr Thomas, Ty'n-y-wern, am Mr. Williams yn dilyn Mr Hughes, o'r Groeswen, ar un o'i deithiau casglyddol yn y Gogledd—Llyfr casglu Mr. Hughes—Eglwys y Rhos yn llwyddo—Adeiladu ei chapel cyntaf—Mr. Williams yn casglu ato.

GAN nad yw y Wern yn nepell o Wrexham, nid oedd Mr. Williams mewn un modd yn ddyeithr i'r "praidd bychan" oedd yno, a hyny oblegid yr arferai y myfyrwyr o Athrofa Wrexham bregethu yn yr ardal o'r dechreuad. Yn debyg i'r myfyrwyr hyny oeddynt o dan ofal Eliseus gynt, y rhai a wnaethent iddynt eu hunain "le i gyfaneddu ynddo;" felly yntau, gwnaeth "le i gyfaneddu ynddo," oblegid yr oedd Mr. Williams yn un o'r myfyrwyr cyntaf, os nad y cyntaf oll, i bregethu i'r Annibynwyr yn ardal y Wern.

Yn Y Beirniad am 1866, mewn ysgrif ragorol o'i eiddo ar "y Wern," dywed y Parch. John Thomas, Wern (Leominster yn awr), fel y canlyn: "Dywedir wrthym mai mewn hen dŷ tô gwellt yn ochr y Nant, y cawsent ddrws agored gyntaf yn yr ardal. Y mae yr hen dŷ hwnw yn sefyll yn rhyw lun hyd y dydd hwn. Y mae yr olwg arno yn llwyd a diaddurn. Y mae yn llechu, megys am gysgod, yn mynwes y graig, ar lawr y Nant, a'r afonig yn murmur ei cherdd wrth fyned heibio. Ni welir mo hono braidd nes bod ynddo. Yr ydym wedi methu cael yr un enw arno. Y mae efe fel tai y Nant i gyd, heb yr un enw ond enw y trigianydd, a'r enw yn cyfnewid fel y byddo y trigianydd yn symud. Sicrheir ni mai Edward a Margaret Pritchard oedd yn byw ynddo yr adeg hono. Nis gwyddom pa sut y daeth y myfyrwyr i fyned i'r ty hwnw, na pha flwyddyn yn sicr y pregethwyd ynddo y tro cyntaf; ond ymddengys ei bod yn rhywle tua diwedd y flwyddyn 1803, neu ddechreu y flwyddyn 1804. Rhoddodd Edward Pritchard le i'r arch ddyfod i'w dŷ, fel Obededom gynt, a diau na chollodd yntau ei wobr. Ymddengys ei fod yn un o'r aelodau cyntaf yn eglwys y Wern, fel y cawn sylwi eto. Yr ydym wedi dangos y ty i amryw weinidogion wrth fyned heibio, a phob un yn teimlo dyddordeb mawr pan yn cael ar ddeall mai yno y bu Williams o'r Wern yn pregethu gyntaf yn yr ardal. Pur ychydig o dai oedd yr amser hwnw yn ochr y Nant, ac y mae yn debyg fod y rhai oedd yn trigianu yn yr ychydig hyny yn myned i Adwy-y-clawdd i addoli. Symudwyd yr arch o'r Nant i'r Stryd, am ei fod, yn ddiau, yn lle mwy gobeithiol i gasglu cynulleidfa a dechreu achos.

Y mae Mr. John Griffiths, Frondeg, yn cofio yn dda ei fod yn hogyn bychan gyda'i dad a'i fam yn y Stryd, yn gwrando Mr. Thomas Powell a Mr. Williams yn pregethu, ac i'w dad a'i fam aros ar ol yn y gyfeillach y pryd hwnw. Testun Mr. Williams ydoedd Caniad Solomon iii. 9, 10, "Gwnaeth y brenin Solomon iddo gerbyd o goed Libanus. Ei byst ef a wnaeth efe o arian, ei lawr o aur, ei leni o borphor; ei ganol a balmantwyd â chariad i ferched Jerusalem." Nid oes genym yr un dychymyg beth oedd addysgiadau Mr. Williams oddiwrth ei destun, ond y mae yn sicr i'r bregeth gael argraff ddwys ar feddyliau y gwrandawyr. Efe oedd eu hoff bregethwr y pryd hwnw. Yr oedd yr oedfa hono yn y ty y mae Mr. Robert Jones, hen was i Mr. Williams, yn byw yn bresenol, Bu yr oedfaon yn cael eu cynal am beth amser yn y ty hwn. Symudwyd oddiyno i dŷ arall yn ymyl, y ty a gyfaneddir yn bresenol gan Mr. Edward Shone, ond ty Mary Edwards y pryd hwnw. Yn y ty hwn y corffolwyd y dychweledigion yn eglwys Yma Annibynol, gan yr Hybarch Jenkin Lewis. hefyd y bu y cymundeb cyntaf, yr un amser ag y corffolwyd hwy yn eglwys. Y mae Mr. John Griffiths, Frondeg, yn cofio yn eithaf ei fod yn myned ar gefn merlyn ei dad i Wrexham i gyrchu yr Hybarch Jenkin Lewis i'r ty hwn i ffurfio yr eglwys, ac i roddi cymundeb iddi. Yr oedd hyn tua diwedd y flwyddyn 1804, neu ddechreu 1805. Tua'r un amser y corffolwyd eglwys y Gyfynys—eglwys Brynsion, Brymbo yn awr, gan yr Hybarch Jenkin Lewis. Casglodd Mr. Williams a'i gyd—fyfyrwyr y defnyddiau trwy lafur a hunanymwadiad mawr, a ffurfiwyd hwy yn eglwysi Annibynol gan eu hathraw parchus, Gwraig weddw oedd Mary Edwards. Yr oedd yn aelod yn yr Adwy gyda y Methodistiaid Calfinaidd. Cafodd yr eglwys fechan ieuanc ymgynull yn ei thy bob Sabbath o'r pryd y corffolwyd hi, hyd nes adeiladu y capel cyntaf. Dywed Hiraethog yn hanes bywyd Williams o'r Wern, mai rhif yr aelodau yn y cymundeb cyntaf oedd pump; a dywed y Parch. D. Morgan, Llanfyllin, yr un peth yn Hanes Ymneillduaeth. Ymddengys i ni mai Hiraethog yw awdurdod Morgan, gan fod Hiraethog yn ysgrifenu yn 1841, a Morgan yn ysgrifenu yn 1855, 14 mlynedd ar ol Hiraethog. Ystyriwn hysbysiad Hiraethog yn awdurdod lled sicr; yr oedd Williams o'r Wern ac yntau yn gyfeillion mor anwyl. Ond yr anhawsder ydyw, penderfynu pwy ydoedd y pump. Mae yr anhawsder, nid i gael y rhif pump, ond i benderfynu y pump o rif mwy.

Yr ydym wrth holi a chwilio wedi cael enwau y personau canlynol fel rhai ag y mae tebygolrwydd mawr, o leiaf, eu bod yn y cymundeb cyntaf, Edward Davies y Parc, a'i wraig; Margaret Griffiths y Wern; Edward Griffiths, Caeglas, a Charlotte Griffiths ei wraig; Edward Pritchard, y Nant; a Mary Edwards, y Stryd. Y mae hyny yn gwneud saith, ac nid pump. Gan nas gallwn daflu hysbysiad Hiraethog dros y bwrdd heb wneud amryfusedd, rhaid i ni geisio dangos pa bump o'r saith a nodwyd oeddynt. Y mae yn sicr fod Edward Davies y Parc, a'i wraig, yn ddau o'r pump. Dywed ein cyfaill, Mr. Richard Hughes, Ty'rcelyn, yn hanes marwolaeth Elizabeth, gwraig Edward Davies y Parc, yn y Dysgedydd am Chwefror, 1840, "Mai Edward Davies a'i wraig a sefydlasant eglwys y Wern, ac mai hwy ddechreu. odd yr achos yn Mhenystryd, Llandegla, cyn symud oddiyno i Wrexham." Yr oeddynt felly yn aelodau yn Wrexham cyn symud i'r Parc, ac felly nid oes amheuaeth nad oeddynt yn y cymundeb cyntaf. Gan eu bod yn aelodau yn Wrexham cyn symud oddiyno i'r Parc, y mae yn ddiau eu bod yn adnabyddus iawn â'r Hybarch Jenkin Lewis a'r. myfyrwyr; a chredwn fod ein casgliad yn hollol gywir, mai hwy fu yn offerynol i gael y myfyrwyr i ardal y Wern i bregethu. Nid oes yr un amheuaeth eto nad oedd Margaret Griffiths, y Wern, yn un o'r pump. Y mae llawer yn fyw a'i clywsent hi ei hun yn dweyd hyny lawer gwaith. Yr oedd hon yn hynod am ei duwioldeb; y mae ei henw yn berarogl yn y gymydogaeth hyd heddyw. Y mae yn bur debygol eto fod Edward a Charlotte Griffiths, Caeglas, yn y cymundeb hwnw. Cawn eu bod yn y gyfeillach yn hir cyn hyny, ac yn danfon merlyn i gyrchu yr Hybarch Jenkin Lewis i ffurfio yr eglwys, ac i roddi y cymundeb cyntaf. Wedi pwyso pob tystiolaeth yn ofalus, yr ydym yn barnu mai y pump a enwyd oeddynt. Buasai yn foddhad mawr genym pe buasai eu henwau wedi eu croniclo pan oedd un o honynt yn fyw. Nid mewn capel hardd nac eglwys gadeiriol yr oedd y pump. hyn wedi ymgynull i gofio angeu y Gwaredwr, ond mewn hen dŷ digon gwael yr olwg allanol arno. Er hyny, pan gofiwn mai yno y ffurfiwyd eglwys y Wern, ac y bu y cymundeb cyntaf, nis gallwn yn ein byw edrych arno fel lle dinod. Y mae yn agos gynifer o aelodau eglwys y Wern yn byw yn y ty hwn. yn awr ag oedd yn gwneud i fyny yr holl eglwys ar ei chychwyniad. Lluosogodd y gynulleidfa yn gyflym, ac ymunodd llawer â'r eglwys yn y ty hwn, fel yr aeth y ty anedd yn rhy fychan. Dywedai y llais dwyfol, "'D'od le i mi fel y preswyliwyf."

Adeiladwyd y capel cyntaf yn y flwyddyn 1805, ychydig yn uwch i fyny na'r lle y saif y capel presenol. Pur fychan ac anghelfydd ydoedd, heb nag oriel na chor ynddo. Yr oedd y drws yn y tu cefn iddo. Y mae wedi ei droi yn dŷ anedd er's blynyddau lawer. Y mae yn gofus gan Mr. John Griffiths, Frondeg, fod gwedd ei dad am ddiwrnodau lawer yn llusgo coed, calch, a cheryg ato yn rhad. Y mae amryw o hen bobl y Wern yn cofio yn dda eu bod y myned yno i'r oedfaon pan yn blant. Trwyddedwyd y capel hwn i bregethu ynddo gan Samuel, Arglwydd Esgob Llanelwy. Danfonwyd deiseb am y drwydded Gorphenaf 24ain, 1805, ac y mae y drwydded wedi ei dyddio Medi 13eg, 1805. Y mae y ddeiseb a'r drwydded wedi bod yn ein llaw—y ddeiseb wedi ei hysgrifenu gan yr Hybarch Jenkin Lewis, a'r drwydded gan Arglwydd Esgob Llanelwy. Hwyrach y bydd eu darllen yn ddyddordeb i lawer. Dyma y ddeiseb:-

"To the Right Reverend Father in God, Samuel,
"by Divine permission, Lord Bishop of St. Asaph.
"We, whose names are hereunto subscribed, being
"his Majesty's Protestant subjects dissenting from
"the Church of England, have agreed to set apart
"for the public worship of Almighty God, an
"edifice, or building, situate at the Wern, in or
"near Minera, in the county of Denbigh, and
"diocese of St. Asaph, and desire that the
same may be registered according to the Act of
"Parliament made in the first year of the reign of
"their late Majesties, King William and Queen
"Mary, entitled 'An Act for exempting their
"Majesty's Protestant subjects dissenting from the
"Church of England, from the penalties of certain
"law." As witness our hands, the 24th day of July
"1805, Jenkin Lewis, A. W. Thornley, Owen
"Owens, William Ellis, John Griffiths."

Dyma eto y drwydded wedi ei harwyddo gan yr Esgob:-

"13th September, 1805. Registered in
"the public registry of the said Lord Bishop of
"St. Asaph, according to the Act above mentioned
"and there entered on record."

Cafodd yr hen gapel, er na chafodd ei gysegru, ei drwyddedu gan Arglwydd Esgob. Nid oedd na gwell na gwaeth o hyn, ond yn unig na feiddiai neb aflonyddu yr addoliad, na dirwyo yr addolwyr. Buwyd yn y capel hwn yn addoli yn nghylch dwy flynedd, sef hyd y flwyddyn 1807. Traddodwyd llawer pregeth effeithiol; cafwyd llawer cymundeb nefolaidd, a dychwelwyd llawer at yr Arglwydd ynddo. Bu y Parch. Moses Ellis, Mynyddislwyn, cyn iddo ddechreu pregethu, yn cadw ysgol ddyddiol ynddo. Buan iawn yr aeth y lle hwn eilwaith yn rhy gyfyng, fel yr oedd yn rhaid "helaethu lle y babell, ac estyn allan gortynau y preswylfeydd."

Wrth ddarllen y dyfyniad a roddir uchod o ysgrif Mr. Thomas, dylid cadw mewn cof yr adeg yr ysgrifenwyd hi, canys heb hyny nid ydyw yn ddealladwy, oblegid yr oedd rhai o'r personau a enwir ynddi yn fyw yr adeg hono; "y rhai oeddynt eu hunain o'r dechreuad yn gweled" llawer o'r ffeithiau a fynegir i ni ganddo, ond erbyn hyn, eu lle hwythau nid edwyn ddim o honynt mwy; ac ni welir ond y fan lle gynt y safai y ty y pregethwyd gyntaf ynddo gan yr Annibynwyr yn yr ardal, canys y mae yr hen anedd wedi ei chwalu yn gydwastad â'r llawr. Blwyddyn a adwaenir gan eglwys y Wern, fel un hynod yn ei hanes, yw 1807, canys dyma y flwyddyn yr adeiladodd ei hail gapel, yn y lle y saif y capel presenol; ac heblaw hyny, dyma y flwyddyn y dechreuodd Mr. Williams ar ei weinidogaeth yma, ac yn Harwd. Aeth i letya at Mr. Joseph Chalenor, Y Machine, Pentre'rfron, gerllaw Adwy-y-clawdd, lle y bu yn nodedig o gysurus am yn agos i ddeng mlynedd, sef hyd nes y priododd,

Y MACHINE, PENTRE'RFRON.

Yr ydym yn cael ein gwron yn pregethu mewn cymanfa yn Machynlleth, yr hon a gynaliwyd ar y dyddiau Mercher a Iau, Medi 28ain a'r 29ain, 1808. Gan ei bod y gymanfa gyntaf iddo ef bregethu ynddi, rhoddwn ei hanes fel y ceir ef yn hanes "Cymanfaoedd yr Annibynwyr," gan y Parch. J. Ll. James (Clwydwenfro), tudal. 158, 159.—" Dechreuodd yr addoliad ddydd Mercher yn agos i un o'r gloch, pryd y darllenwyd, y canwyd mawl, ac y gweddiodd y Parch. W. Hughes, Dinas Mawddwy. Pregethodd y Parch. W. Williams, Wern, oddiwrth Esa. ix. 6; a'r Parch. David Jones, Treffynon, oddiwrth Ioan xiv. 16. Yna cadwyd cyfeillach neillduol gan y gweinidogion, yr hon a ddechreuwyd drwy weddi gan y Parch. H. Pugh, Brithdir, ac a ddiweddwyd drwy weddi gan y Parch. G. Lewis, Llanuwchllyn. Am 6 yr hwyr, dechreuwyd drwy fawl a gweddi gan y brawd Cadwaladr Jones. Pregethodd y Parch. P. Maurice, Ebenezer, oddiwrth 1 Pedr i. 16; a'r Parch. T. Jones, Saron, oddiwrth Dat. iii. 10. Boreu dydd Iau, am haner awr wedi 6, dechreuwyd drwy fawl a gweddi, gan y Parch. J. Evans, Amlwch, a phregethodd y brawd R. Jones, Llanfyllin, oddiwrth 1 Cor. vi. 20; a'r Parch. W. Jones, Trawsfynydd, oddiwrth Rhuf. i. 9. Am 10, dech, reuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, a phregethodd y Parch. T. Phillips, Neuaddlwyd, ar Natur y gyfraith, a dyben ei rhoddiad, oddiwrth Gal. iii. 19. (y rhan flaenaf), a'r Parch. M. Jones, Trelech, ar Natur ac ardderchawgrwydd yr efengyl, oddiwrth 2 Cor. iv. 4. Am 2, dechreuwyd drwy fawl a gweddi, gan y Parch. J. Lewis, Bala; a phregethodd y Parch. J. Lloyd, Henllan, oddiwrth Rhuf v. 20 a'r Parch. D. Williams, Llanwrtyd, oddiwrth 2 Cor. v. 17.

Bu cyfarfodydd yn yr hwyr yn y dref, yn Aberhosan, ac yn Pennal. Cawsom brofi neillduol diriondeb yr Arglwydd, a lle cysurus i gredu ei fod yn foddlon i'n Cymanfa. Rhoddodd hin ddymunol, ac arwyddion o neillduol gynorthwyon i eneuau cyhoeddus." Gwelir fod Mr. Williams, yn pregethu yn y Gymanfa uchod fis union cyn ei urddiad. Dengys hyn y safle uchel yr oedd efe wedi dringo iddi y pryd hwnw yn syniad y bobl am dano fel pregethwr arbenig.

Gan nad oedd yn ddefod yn mysg yr Annibynwyr y dyddiau hyny i osod o honynt eu dwylaw yn ebrwydd ac yn derfynol ar neb rhywun, bu Mr. Williams, yntau, yn llafurio yn y Wern a'r cylchoedd am yn agos i flwyddyn cyn cael ei ordeinio yn weinidog iddynt.

Ymddengys hyn yn rhyfedd yn ein dyddiau brysiog ni, ond pe y buasem fel enwad wedi parhau i rodio yn ol y rheol hon, buasai hyny wedi ein diogelu rhag cael achosion mewn rhai amgylchiadau i edifarhau, am ddarfod i ni ymadael â'n harferiad cyntaf. Fodd bynag, ni ordeiniwyd Mr. Williams hyd Hydref 28ain, 1808, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur pwysig hwnw fel y canlyn: Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. William Hughes, Dinas Mawddwy; pregethodd Dr. George Lewis, Llanuwchllyn, ar Natur Eglwys, a gweddiodd y Parch. William Jones, Trawsfynydd, yr Urdd-weddi. Traddododd y Parch. Jenkin Lewis, Wrexham, y Siars i'r gweinidog, oddiwrth Hebreaid xiii. 17: "Ufuddhewch i'ch blaenoriaid, ac ymddarostyngwch; oblegid y maent hwy yn gwylio dros eich eneidiau chwi, megys rhai a fydd rhaid iddynt roddi cyfrif; fel y gallont wneuthur hyny yn llawen, ac nid yn drist: canys difudd i chwi yw hyny;" a thraddododd y Parchn. John Roberts, Llanbrynmair, Gynghor i'r eglwys, oddi-wrth yr un geiriau. Pregethwyd y prydnawn a'r hwyr, gan y Parchn. James Griffiths, Machynlleth, a John Jones, Liverpool. Yr oedd teimladau Mr. Williams yn nodedig o ddrylliog yn ystod gwasanaeth ei ordeiniad; ac nid rhyfedd hyny, canys nid oedd efe heb feddu syniad ac ymdeimlad priodol am fawredd a phwysigrwydd y gwaith yr ydoedd efe y dydd hwnw yn cael ei neillduo iddo yn gyhoeddus.

Clywsom yr hynafgwr parchus a chrefyddol Mr. David Evans, Plas Buckley, yn dweyd ei fod ef yn blentyn bach gyda'i fam yn nghyfarfod ordeinio Mr. Williams, a'i fod yn cofio ei weled yn wylo, a gofynodd y bychan i'w fam "Beth mae Mr. Williams yn crio, mam?" Dichon mai Mr. Evans yw yr unig un sydd yn fyw heddyw o'r rhai oeddynt yn bresenol yn y cyfarfod uchod, a hyny yn mhen pedwar ugain a phedair o flynyddoedd wedi i'r amgylchiad fyned heibio. [4]

Bellach, y mae genym i'w ddal gerbron, ac i edrych ar ein gwrthddrych yn nghyflawniad dyledswyddau ei swydd aruchel o "weinidog da i Iesu Grist." Gwelwn iddo fedyddio merch fechan i Mr. Edward a Charlotte Griffiths, Caeglas; a hyny ar Hydref 30ain, 1808, sef yn mhen dau ddiwrnod ar ol ei ordeiniad, yr hon a alwyd yn Margaret. Yr oedd y Margaret uchod yn gyfnither i'r hon a ddaeth i gael ei hadnabod wedi hyny yn Mrs. Williams o'r Wern.

Nid oedd gan yr Annibynwyr yn sir Ddinbych, ar ddechreuad gweinidogaeth ein gwron, ond un ar ddeg o addoldai, sef Wrexham (Chester Street), Dinbych, Wrexham (Penybryn), Llanrwst, Capel Garmon, Llangwm, Wern Harwd, Moelfro, Pentrefoelas, a Rhuthyn. Ac nid oedd yn sir Fflint ond pump, sef Newmarket, Treffynon, Buckley, Bagillt, a Rhes-y-cae. Nid oedd y Wern a Harwd, ond megys dwy fesen newydd-blanedig yn y tir, ac yn dechreu ffrwytho, fel nad oedd ond cariad at ei Arglwydd yn llosgi yn nghalon Mr. Williams i'w gymhell i ofalu am danynt, gyda gofal a thynerwch, hafal i'r eiddo tad am ei blant anwyl ganddo. Fodd bynag, efe a ymwregysodd at ei waith mawr, gan roddi prawf eglur a buan, drwy ei lafur a'i ysbryd cyhoeddus, y ceid ynddo ef un galluog a ffyddlawn i'r Hwn a'i galwodd ac a'i gosododd yn y weinidogaeth, canys deallwyd yn ebrwydd fod yr Arglwydd wedi rhoddi iddo drysorau cuddiedig, ac wedi datguddio iddo guddfeydd dirgel yr Ysgrythyrau, a'i fod yntau yn meddu ar fedr arbenig i ddwyn allan o'i drysorau bethau newydd a hen, yn y fath fodd fel ag i swyno gwlad o bobl i ddyfod i wrando yr hyn a leferid ganddo. Yr ydym yn ei gael ddydd Llun y Sulgwyn, 1809, yn gwasanaethu gyda'r Parchn. T. Jones, Newmarket, a T. Jones, Moelfro, yn agoriad capel cyntaf Rhes-y-cae. Dywedir fod y cyfarfod hwnw yn un llewyrchus o ran poblogrwydd, a hynod iawn o ran yr effeithiau nefol a deimlid ynddo.

Hyd y gwelsom ni, dyma y cyfarfod cyntafi Mr. Williams bregethu ynddo wedi ei ordeinio. Teimlid ei fod yn angenrhaid bellach yn ngwyliau arbenig ei enwad, a daeth yr enw "Williams o'r Wern" ar unwaith yn anwyl a chysegredig ar aelwydydd Gwyllt Walia yn gyffredinol. Derbyniodd eglwys y Wern, hithau, enwogrwydd arhosol, na buasai byth yn bosibl iddi ei etifeddu oni buasai ei fod wedi ei roddi iddi drwy ei chysylltiad â'r Parchedig William Williams. Meddylia casglydd hanes 'Cymanfaoedd yr Annibynwyr," mai ein gwrthddrych oedd y Parch. W. Williams, Drefnewydd, yr hwn a bregethodd yn Nghymanfa Crugybar y dydd Iau olaf o Fehefin 1809; canys dywed ar waelod tudalen 167 o'r gwaith gwerthfawr hwnw, "Meddyliwn mai W. Williams, Wern, oedd hwn; yr oedd newydd gael ei urddo o Athrofa y Drefnewydd, ac felly heb gael amser i wneud enw y Wern yn ddigon enwog." Dichon y dylid nodi mai camgymeriad yw hyny, oblegid mai o Athrofa Wrexham yr urddwyd ein gwrthddrych, a bu yr Athrofa yn y dref hono hyd 1816, pryd y symudwyd hii Lanfyllin, ac oddiyno drachefn i'r Drefnewydd yn 1821. Diau mai y Parch. W. Williams, Drefnewydd, Morganwg, oedd yr un a bregethodd yn Nghymanfa Crugybar yr adeg a nodwyd, yr hwn a urddwyd Gorphenaf 21ain, 1808. Llwyddai eglwys y Wern yn gyflym dan weinidogaeth Mr. Williams. Yr oedd ychydig o frodyr a chwiorydd hefyd yn ymgynull yn nghyd i addoli Duw mewn lle o'r enw y Pant, yn Rhosllanerchrugog. Pregethid iddynt gan Mr. Williams, a'r myfyrwyr o Wrexham ar gylch, ac yn rheolaidd. Yn nechreu 1810, sefydlwyd hwy yn eglwys. Saith oedd eu nifer ar y pryd, ac yn Awst y flwyddyn hono, symudasent o'r Pant i ystafell arall yn y Rhos. Ymofynasent â'r Parch. J. Lewis yr athraw o Wrexham, am weinidog i'w bugeilio. Cynghorodd yntau hwy i roddi eu hunain o dan ofal Mr. Williams; ac wedi ymgynghoriad priodol, cydsyniodd yntau â'r gwahoddiad. Erbyn hyn yr oedd ganddo, yn ychwanegol at ofalu am y Wern a Harwd, i ofalu hefyd am y Rhos; ac fel yr oedd maes ei lafur yn eangu, yr oedd ei ddyddordeb yntau yn mhob symudiad daionus yn cynyddu. Er fod Mr. Williams wedi ymadael o'r Athrofa, eto ni phallodd ei ddyddordeb ynddi, a'i ofal am gysur, cynydd, a defnyddioldeb y myfyrwyr. Ymwelai yn fynych â'r athrofa, tra y bu y sefydliad heb ei symud i Lanfyllin. Fel y canlyn y dywed y Parch. Michael Jones, Llanuwchllyn, am yr ymweliadau bendithiol hyny o'i eiddo[5] —"Byddai yn dyfod yno at y myfyrwyr yn aml, nid fel un mewn swydd, ond fel cyfaill ac ewyllysiwr da i wybodaeth, a byddai yn cadw cyfarfodydd gyda'r gwŷr ieuainc am awr neu ddwy, a byddai rhyw fater dyrus yn aml mewn duwinyddiaeth neu anianyddiaeth yn cael ei olrhain mewn modd syml ac eglur, nes y byddai yn adeiladaeth fawr i feddyliau y myfyrwyr gwyddfodol. Byddai yr ymweliadau hyn o'i eiddo yn fendithiol iawn i eangu eu deall, ac i'w tueddu i fyw yn fwy duwiol, i wneuthur gwell defnydd o'u hamser, er eu cynydd eu hunain, lles eraill, a gogoniant Duw. O'm rhan fy hun, gallaf dystiolaethu fod hyn yn un o'r pethau mwyaf bendithiol a gefais tra yn yr Athro fa hono; yr ydwyf yn rhwym o ffurfio fy syniadau duwinyddol yn ol gair Duw, a'm syniadau anianyddol yn ol prawf achos ac effaith, ond bu efe yn offeryn da i ddwyn fy meddwl i weithredu ar y pethau hyn, a'i hwylio yn ei ymchwil i ddirnad drosto ei hun er graddau o foddlonrwydd. Diau genyf fod gradd helaeth o wybodaeth gyhoeddus wedi ei chyfranu trwy ei ymdrechion hyn gyda'r myfyrwyr; ond mwy na'r cwbl oedd, y byddai ei holl ymdrin â ni yn tueddu yn fawr er hunanymroddiad i Dduw, a'n dwyn i fyw yn fwy duwiol; dangosai yn eglur i ni mewn modd siriol a deniadol, y byddai ein bywyd gweinidogaethol yn ol ein bywyd athrofaol, ac y byddem yn sicr o fagu yr eglwysi dan ein gofal o'r un ysbryd ac chwaeth a ni ein hunain, am hyny, os mynem i'r eglwysi fod yn dduwiol, a'r byd i deimlo ein gweinidogaeth, y byddai yn rhaid i ni yn gyntaf fod yn yr unrhyw agwedd ein hunain; magai a meithrinai ni yn fawr yn y pethau hyn."

Ystyriwn fod y dystiolaeth uchod yn un werthfawr iawn, yn enwedig fel y mae wedi ei rhoddi gan un a fu ei hunan yn llygad-dyst o'r pethau a fynega efe i ni, ac yn arbenig felly pan gofiwn na byddai Mr. Jones byth yn cymeryd ei gario gan ei deimladau, fel ag i draethu pethau wrth eraill, heb yn gyntaf eu meddwl yn briodol ei hunan. Cydnebydd pawb a wyr ddim am y bywyd colegol, a'r rhyddfrydigrwydd brawdol a fodola cydrhwng yr efrydwyr a'u gilydd, y rhaid fod yn Mr. Williams rywbeth neillduol iawn, cyn y buasai yn gallu enill y fath ddylanwad ar y myfyrwyr, tra nad oedd efe eto ond ieuanc, ac heb fod ond ychydig amser wedi myned heibio er pan yr ymadawodd efe ei hun o'r athrofa. Heblaw hyny, nid dygwyddiad yn ei hanes, ond ei arferiad oedd hyn, canys y mae genym dystiolaeth bellach o eiddo y Parch. William Jones, Amlwch, yr hwn oedd yn yr Athrofa pan y symudwyd hi o Wrexham i Lanfyllin, ac fel y canlyn y dywed ef[6]—"Bu hefyd fel tad a brawd i'r myfyrwyr tra yr oedd yr Athrofa yn gyfagos iddo yn Wrexham, ac yn wir, ymwelai â hwynt yn fynych wedi ei symudiad o'r lle hwnw. Yr oedd ein hybarch athraw, y diweddar Barch. G. Lewis, D.D., yn wir hoff o hono. Pan y deuai i'r dref, wedi talu ymweliad â'n hathraw, rhoddai ei gyfeillach yn rhydd a siriol i'r myfyrwyr; cyrchem bawb yn dra awyddus i'r man lle y clywem ei fod, ac yn bur anfynych, os un amser yr ymwelai â ni, heb fod ganddo rywbeth pwysig i dynu ein sylw arno er ein gwir adeiladaeth, a byddai croesaw i ni osod o'i flaen unrhyw fater a ymddangosai yn anhawdd, neu yn ddyrus i ni, gwnai ei oreu bob' amser i'w chwalu a'i egluro i'n meddyliau. Trwy y byddem yn llafurio yn ei gapeli bob yn ail Sabbath âg ef, yn gynorthwyol iddo, byddem yn fynych yn cael yr hyfrydwch o letya gydag ef nos Sadwrn, neu nos Sabbath, a thrwy hyny yn cael bod yn dystion o'i weddiau taerion ar ein rhan. Cofus iawn genyf am ei weddi yn deuluaidd un—boreu Sabbath drosof fi a'm cydfyfyrwyr; nid yw yr argraffiadau a wnaed ar fy meddwl a'm teimlad y pryd hyny wedi eu dileu hyd yr awr hon; ac y mae yn dra sicr genyf, mai nid pan y byddem yn bresenol yn unig y cofiai am danom, ond ein bod yn cael rhan helaeth yn ei weddiau yn wastadol; oblegid gwyddom fod y weinidogaeth ag oedd yn codi i fyny yn cael lle dwys ar ei feddyliau ef, fel un ag oedd mor helaeth yn ei ysbryd cyhoeddus, ac mor wresog yn ei gariad at achos yr Arglwydd.

Hefyd, nid oedd neb ag a lawenhai yn fwy nag ef yn ein cynydd a'n llwyddiant mewn addysg, er bod yn ddefnyddiol yn ein hoes. Ar derfyniad amser pob myfyriwr yn yr Athrofa, cynelid cyfarfod neillduol rhyngddo ef a'i frodyr cyn ei ymadawiad, i weddio dros eu gilydd, ac i gynghori y y naill y llall; Mr. Williams a fyddai ein cadeirydd bob amser ar yr achlysuron hyny; ac wedi i bob brawd draethu y cynghor a fyddai ar ei feddwl i'r brawd a fyddai ar ymadael, ac iddo yntau roddi ei. gynghorion iddynt hwythau a fyddent yn aros ar ol, yna rhoddai y cadeirydd iddo gynghorion, a'i anogaethau difrifol, a therfynai y cyfarfod drwy weddi yn wresog a thaer ar ei ran. Nid peth hawdd a fyddai anghofio yn fuan y cyfarfod hwn. Yn y modd hwn yr oedd y caredigrwydd mwyaf a'r cyfeillgarwch penaf yn bod rhwng y myfyrwyr a Mr. Williams dros y blynyddau a dreuliasent yn gymydogaethol iddo; ac nid wyf yn cofio am y gradd lleiaf o oerfelgarwch yn neb o honom tuag ato, nag am un arwydd o hyny ynddo yntau tuag atom ninau, a diau genyf fod hyn wedi gosod i lawr sylfaen cyfeillgarwch am eu hoes rhyngddo ef a'r rhai a gawsent y fraint o dreulio eu hamser yn yr Athrofa yn gymydogaethol iddo. Byddem weithiau yn cael cyfleusdra i'w wrando yn pregethu, yr hyn a fyddai yn dra hyfryd genym, ac yn wir adeiladaeth i'n meddyliau."

Nid oes angen ychwanegu dim at yr uchod, er dangos ei wasanaeth anmhrisiadwy i'r Athrofa a'r myfyrwyr, ond yn unig fynegu nas gellir byth amgyffred hyd a lled y dylanwad daionus a gyrhaeddodd efe drwy y gwasanaeth hwn o'i eiddo i'w enwad. Er na adawodd Mr. Williams gofnod-lyfr ar ei ol, fel ag i'n galluogi i'w ddilyn yn fanwl yn ei holl symudiadau cyhoeddus, eto gwelwn y byddai "mewm teithiau yn fynych," yn nechreuad ei dymhor gweinidogaethol. Rhaid cofio hefyd fod teithio y wlad yn y dyddiau hyny, yn beth gwahanol iawn i'r hyn ydyw yn ein dyddiau ni, oblegid nid oedd y cledrffyrdd wedi eu gweithio fel rhwydwaith dros wyneb ein Talaeth, ar hyd pa rai yn awr y rhed y cerbydresi clyd, bron i bob cilfach a chwm, yn gystal ac i'r trefydd mawrion, a'r mân bentrefi yn y wlad, gan dywallt o honynt ein cenadon hedd, bron wrth ddrysau ein haddoldai, a hyny mewn ychydig oriau ar ol iddynt gychwyn o'u cartrefi. Ond nid oedd yn y dyddiau gynt dynged well i'n hefengylwyr na cherdded oddiamgylch, os na byddai ffawd wedi eu galluogi i bwrcasu anifail i'w cludo. Fodd bynag, rhaid oedd myned drwy wynt a gwlaw, haf a gauaf, oerni a gwres, ac ar fynyddoedd uchel, ffyrdd a llwybrau anhygyrch, y gwelid gynt draed yr efengylwyr, cyhoeddwyr heddwch, a'r rhai oeddynt yn mynegu daioni, yn cyhoeddi iachawdwriaeth, ac yn dywedyd wrth Seion, dy Dduw di sydd yn teyrnasu. Trwy ymdrech ddiball y tadau i deithio ein gwlad fel hyn, a'r nerth dwyfol oedd yn nodweddu mor amlwg eu cenadwri, yr effeithiwyd ar ein Tywysogaeth mor lwyr a thrwyadl, nes mewn cymhariaeth y mae y wlad oedd o'u blaen yn ddiffaethwch annhreithiedig, ar eu hol fel gardd baradwys; a bu gan ein gwron law arbenig mewn dwyn oddiamgylch y cyfnewidiadau grasol, y rhai a barasent i'r anialwch a'r anghyfaneddle lawenychu o'u plegid, ac i'r diffaethwch orfoleddu a blodeuo fel rhosyn. Yn nghymanfa Sir Gaernarfon, yr hon a gynaliwyd yn Salem, Llanbedr, Gorphenaf 4ydd, 1810, gweinyddwyd fel y canlyn: Am 9, dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan Mr. H. Williams, Cheltenham. Pregethodd y Parchn. J. Lewis, Bala, oddiwrth 1 Ioan iv. 9; a B. Jones, Pwllheli, oddiwrth 2 Pedr i. 10. Yn y prydnawn, pregethodd y Parchn. W. Williams, Wern, oddiwrth Dat. xxii. 20; a G. Lewis, Llanuwchllyn, oddiwrth Heb. ix. 28. Yn yr hwyr, pregethodd y Parchn. D. Davies, Rhes-y-cae, oddiwrth Luc xx. 31; a W. Hughes, Brynbeddau, oddiwrth Ioan x. 27. Hefyd pregethwyd y nos flaenorol gan y Parchn. T. Jones, Newmarket, a D. Jones, Treffynon. Methasom a gweled ddarfod i Mr. Williams weinyddu mewn cymanfa ar ol ei ordeiniad cyn yr uchod. Yr oedd amgylchiadau yr achos y fath, fel y gorfodid gweinidogion yn yr oes hono i deithio llawer i gasglu at ddiddyledu addoldai. Cefnogai Mr. Williams y cyfryw ymwelwyr yn garedig, fel y dengys y nodyn gwerthfawr a ganlyn, yr hwn a anfonwyd i ni gan Mr. T. Thomas, Ty'nywern,—"Bu Mr. Hughes o'r Groeswen, a Mr. D. Beynon o Ferthyr, (wedi hyny o Lanerchymedd), ar daith drwy y Gogledd yn casglu at Gapel Llantrisant, Morganwg. Cychwynasent yn Ebrill, 1811, a buont ar eu taith am tua naw wythnos. Dilynodd Mr. Williams o'r Wern hwy am oddeutu wythnos, a dywedai ar ol y bregeth y noson olaf, gan godi ei ddwylaw i fyny, "Wel, Hughes dragwyddol,' gan gyfeirio at ddawn diderfyn ac hyawdledd Ilifeiriol y llefarwr. Yr oedd Mr. Hughes, mae'n debyg, yn pregethu pregeth wahanol yn mhob oedfa. Arwyddodd Mr. Williams ei enw wrth lyfr casglu Mr. Hughes fwy nag unwaith. Y mae y llyfr hwnw genyf, a chadwaf ef tra fyddaf byw. Mae ynddo enwau amryw o enwogion y pulpud Cymreig yn nechreu y ganrif hon, megys Mri. Griffiths, Caernarfon; Roberts, Llanbrynmair; Michael Jones, Llanuwchllyn; Powell, Rhosymeirch; a'r mwyaf o'r oll, "Mr. Williams o'r Wern." Gwelir mai yn mhen tua dwy flynedd a haner wedi ordeiniad Mr. Williams, y cymerodd yr amgylchiad uchod le. Megys y gwna haiarn hogi haiarn, a gwr wyneb ei gyfaill, felly hefyd, nis gallasai dilyn pregethwr mor drydanol, ag ydoedd Mr. Hughes o'r Groeswen, lai nag effeithio yn ddyrchafol ar ein gwron fel pregethwr. Erbyn hyn yr oedd doniau dysglaer a nerthol Mr. Williams yn ad-dynu y lluaws yn nghyd i'w wrandaw yn mha le bynag y byddai yn pregethu, a'r achosion yn y Wern a'r Rhos yn cynyddu yn gyflym. Gorlenwid yr ystafell yn y Pant, fel yr aeth yn rhy gyfyng gan breswylwyr.

Yn y flwyddyn 1812, penderfynodd yr eglwys a ymgyfarfyddai yn y Pant, Rhos, adeiladu capel iddi ei hun, yr hwn a gwblhawyd yn y flwyddyn a nodwyd, a symudodd yr eglwys i'w chapel newydd. Tybiai llawer y pryd hyny, mai rhan o'r portread nefol, yr hwn a ddangoswyd yn y mynydd i bob cenad anfonedig o eiddo Duw, ydoedd iddynt fyned yn gyfrifol am ddyledion addoldai newyddion, a chasglu at eu diddyledu hefyd, ac mai prawf o'u ffyddlondeb i wneuthur o honynt bob peth yn ol y cyfryw bortread, oedd eu mynych deithiau casglyddol llafurus a thrafferthus, ond nid oedd y dyb hono ond mantell, o dan ba un yr ymesgusodent rhag cymeryd eu cyfran gyfreithlawn o'r baich eu hunain. Fodd bynag, gweithiodd Mr. Williams yn egnïol drwy fyned o amgylch i gasglu at ddi-ddyledu addoldy newydd y Rhos, a bu yn llwyddianus yn ei waith.

PENNOD VI.

O ADEILADIAD CAPEL CYNTAF Y RHOS HYD GYMANFA HOREB. 1812—1820.

Y CYNWYSIAD.—Dechreu achosion newyddion yn Llangollen a Rhuabon—Rhywbeth heblaw rhagrith—Yr eglwysi ag eithrio Harwd, yn cynyddu dan weinidogaeth Mr. Williams—Ei arddull bregethwrol—Oedfa yn Nhowyn, Meirionydd—Y dadleuon duwinyddol— Hergwd i Arminiaeth—Mr. Williams yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth —Gwasanaeth Mr. Roberts o Lanbrynmair, a Mr. Williams—Tystiolaeth yr Hybarch W. Daniell, Knaresborough, am y cyfnewidiad a gymerodd le yn marn ein gwrthddrych ar bynciau athrawiaethol crefydd—Rheswm Mr. Williams dros newid ei farn—Ei atal i bregethu yn Sir Fynwy—Ei gyd-gynorthwywyr—Y"Prynedigaeth," a'r "Galwad Ddifrifol" Rhoddi ystyr fasnachol i'r Iawn— Ystyried y rhai a gilient oddiwrth yr Athrawiaeth hono yn gyfeiliornwyr peryglus—Poblogrwydd Mr. Williams fel pregethwr—Ei briodas Myned i drigianu i Langollen—Yr achos Annibynol yno —Agoriad capel Llangollen—Yr ysbryd cenadol yn deffroi yn y wlad—Y Deheudir yn blaenori—Cymanfa y Groeswen, a Chyfarfod Cenadol Aber— tawe—Cychwyniad yr achos Cenadol yn y Gogledd Cyfarfodydd Llanfyllin a Threffynon Ein gwrthddrych yn cymeryd dyddordeb yn y Cymdeithasau Beiblaidd a Chenadol—Apeliad y Parch. Richard Knill—Effaith yr apeliad ar MR. a MRS. Williams—Ei Araeth nodedig yn Llangollen— Cymanfa Horeb, Sir Aberteifi—Tystiolaethau yr Hybarch W. Evans, Aberaeron, y Parch. J. B. Jones, B.A., a Hiraethog, am y nerthoedd rhyfedd oedd yn cydfyned â phregeth ein gwrthddrych yn y Gymanfa hono

HEBLAW gofalu am ddyfrhau yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ofal gweinidogaethol Mr. Williams, yr adeg hon, ymchwyddai afon ei weinidogaeth bur dros ei cheulanau arferol, gan ymledu a llifeirio tua Llangollen a Rhuabon. Dechreuodd ef yr achosion yn y lleoedd a nodwyd, y naill yn 1811, a'r llall yn 1813. Pregethodd ei bregeth gyntaf yn Rhuabon yn 1813, oddiwrth Luc xxiv. 47: "A phregethu edifeirwch a maddeuant pechodau yn ei enw ef yn mhlith yr holl genhedloedd, gan ddechreu yn Jerusalem." Dywed Dr. W. Rees, yn gofiant i Mr. Williams, tudalen 21ain, y "Bu y bregeth hon yn allu Duw er iachawdwriaeth i rai eneidiau. Dygwyddodd i un dyn tra annuwiol ac erlidgar ddyfod heibio i'r ty ar amser y bregeth, a throes i mewn. Ymaflodd y gwirionedd yn ddwys yn ei feddwl, a chaled oedd iddo geisio gwingo yn erbyn y symbylau; ac efe oedd un o'r rhai cyntaf a ddaethent yn mlaen i ymofyn am aelodaeth eglwysig yn Rhuabon; yr oedd yn un o'r ychydig nifer yn ffurfiad cyntaf yr eglwys yno. Yr oedd Mr. J. Breese, ag oedd yn fyfyriwr y pryd hyny, yn cynorthwyo Mr. Williams yn yr amgylchiad hwn." Adeiladwyd y capel yma yr un flwyddyn ag y dechreuwyd yr achos. Erbyn hyn, yr oedd ganddo bump o eglwysi i ofalu am danynt, a gwnaeth hyny yn ffyddlon nodedig, yn enwedig wrth gymeryd i ystyriaeth ei lafur cyhoeddus yn yr holl enwad, a phellder ei eglwysi oddiwrth eu gilydd. Elai i wahanol gyfarfodydd wythnosol yr eglwysi gyda chysondeb diball, ag eithrio yr adegau pan y byddai ar ei deithiau pregethwrol. Cyddeithiai ef a'i letywr ffyddlon, Mr. Joseph Chaloner, yn aml adref o gyfeillachau y Wern. Dychwelent un tro, ar noson dywell iawn, gan gymeryd y llwybr llithrig o'r Nant i fyny at y Coedpoeth y tro hwnw, pryd y cwympodd y ddau, gan ymlithro yn mhell yn ol, ond ni dderbyniasent unrhyw niwed. Wedi iddynt gyfodi, ac ail gychwyn, dywedodd Mr. Williams, "Wel Joseph, y mae yn rhaid fod rhywbeth heblaw rhagrith, yn ein cymhell i ddyfod i foddion gras ar y fath noson mor dywell." Y mae yn sicr mai cariad at eu Harglwydd Crist Iesu oedd y "rhywbeth" hwnw a gymhellai y gwyr rhagorol i'w gwaith.

Cynyddai eglwysi ei ofal, ag eithrio Harwd, mewn rhifedi a dylanwad beunydd; ac arferai Mr. Williams ddywedyd, ddarfod i Harwd wneuthur mwy o les iddo ef nag a allodd efe wneuthur i Harwd, oblegid y byddai meddwl am Harwd nychlyd yn tueddu i gadw ei feddwl yn ostyngedig, pan y byddai yn gweled y bobl yn ymdyru ar ei ol mewn lleoedd eraill wrth y canoedd. Diau fod gan natur ac anian ddylanwad dystaw ac effeithiol i ddeffroi athrylith, a pheri ei bod megys yn ymffurfio yn ei meddianwyr i'r un a'r unrhyw ddelw, a golygfeydd cylchynol natur ei hunan. Ymddengys fod arddull bregethwrol Mr. Williams yr adeg hon yn dwyn arni ei hun nodau o arucheledd dirodres, hafal i natur yn amgylchoedd Cwmeisian Ganol, yn mynydddir Meirionydd. Tybiai rhai mai buddiol fuasai iddo ffrwyno ei athrylith, fel nad ymddangosai mor ddilywodraeth a hyf ger bron hen saint gofalus yr oes hono. Ond ni wna perchenogion athrylith gref ufuddhau yn ebrwydd, drwy ymwisgo yn ol dull dychymyg dynol i foddio dynion. Felly yntau, yr oedd ganddo arddull arbenig o'i eiddo ei hun, ac nid oedd gywilydd ganddo ymwisgo ynddi; ac yr oedd yn nodedig o effeithiol fel pregethwr yn y cyfnod hwn ar ei fywyd. Er cael gweled prawf o ddilysrwydd ein gosodiad, darllener a ganlyn allan o "Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd," tud. 188—189: "Wedi i'r erledigaeth fyned heibio, ac i grefyddwyr amlhau, yr oedd llawer o bregethwyr dyeithr yn teithio drwy Dowyn, Meirionydd. Adroddir hanesyn dyddorol gan y Parch. D. Cadvan Jones, am ymweliad cyntaf Mr. Williams o'r Wern, â'r dref, Aeth dau o'r brodyr a berthynent i'r Annibynwyr i'w gyfarfod, a chyfarfyddasent â gwr ieuanc o edrychiad ysmala, dirodres, a difater, ar gefn merlyn bychan. Yr oedd y naill a'r llall o'r ddau aethent i'w gyfarfod yn lled ofni nad efe oedd y gwr dyeithr, gan nad oedd ymddangosiad pregethwrol ganddo. Boed a fo, gofynwyd iddo, 'Ai chwi yw y gwr dyeithr sydd i bregethu gyda'r Dissenters heno?' 'Ie,' ebe fe, 'beth am hyny?'

'O, dim Syr, ond ein bod wedi dyfod i'ch cyfarfod.' Aeth ef a'r ddau arweinydd yn mlaen, ac erbyn cyrhaedd y dref, dygwyddodd amgylchiad eto o flaen ty penodol, a barodd iddynt amheu ai efe oedd y pregethwr. Modd bynag, ni ddywedasent ddim i amlygu eu drwgdybiaeth. Y noson hono, yr oedd Mr. Griffith Solomon i bregethu gyda'r Methodistiaid, a chafwyd drwy fawr gymhell a chrefu, ganiatad i roddi y gwr dyeithr i bregethu gydag ef, gan y tybiai yr ychydig frodyr na chaent neb i'w wrandaw pe y cedwid y ddwy oedfa ar wahan. Aeth y ddau arweinydd tua'r capel, ac yr oedd Griffith Solomon ychydig yn ddiweddar, a Mr. Williams wedi dechreu. Pan y daeth Griffith Solomon i mewn, edrychodd i fyny, rhuthrodd i'r pulpud, ac ymaflodd yn y gwr dyeithr yn ddiseremoni, a chymerodd ei le ef. Wel, wel,' ebai y ddau arweinydd ynddynt eu hunain, 'does dim amheuaeth bellach nad twyllwr ydyw y gwr ieuanc, ac y mae y Methodist yn ei 'nabod.' Yr oedd y Methodist yn ei 'nabod, a dyna'r pa'm y mynai y blaen. Cafwyd oedfa y cofiwyd am dani byth gan y sawl a'i clywsent hi, ac er mawr lawenydd i'r ddau frawd, yr oedd yr hen Edward Williams, oedd mor wrthwynebol i adael i'w pregethwr gyd-bregethu â phregethwr y Methodistiaid, y cyntaf ar ei draed, ac yn uwch ei gloch na neb.'

Nodweddid y blynyddoedd hyn, fel rhai ag yr oedd dadleuon duwinyddol brwdfrydig yn cael eu dwyn yn mlaen yn Nghymru rhwng y gwahanol bleidiau crefyddol a'u gilydd. Bu ymsefydliad y Wesleyaid yn y Dywysogaeth yn 1800, yn ddychryn i'r rhai a dybient mai hwy oedd yn cadw gwirionedd yn ddilwgr, ac mai gyda hwy yr oedd trigle y wir athrawiaeth; ac nad oeddynt, wrth geisio ymlid Wesleyaeth o'r terfynau, ond yn gwneuthur gwasanaeth i Dduw. Bu ein gwrthddrych Parchedig yn rhodio y ffordd hon ar ddechreuad ei weinidogaeth. Y fath ydoedd nodwedd y weinidogaeth ar y pryd, fel y dywedodd Mr. Williams ei hun wrth Dr. Owen Thomas, "Nid oedd pregeth yn werth dim gynt, os na byddai ynddi ryw hergwd i Arminiaeth; ac mi fydda'i yn cywilyddio wrth gofio fel y bu'm fy hunan yn fynych yn ei phaentio." [7] Dywed Dr. W. Rees, yn ei gofiant iddo, tud. 15: "Yr oedd o ran ei farn a'i athrawiaeth yn Galfiniad lled uchel yn nyddiau boreuaf ei weinidogaeth; dyna oedd tôn y weinidogaeth yn mhlith yr Annibynwyr yn y dyddiau hyny. Buasai dyfodiad y Wesleyaid i Gymru ychydig flynyddau cyn hyn, yn achlysur yn ddiau i'r Trefnyddion Calfinaidd, yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr, i sefyll yn dynach dros yr athrawiaeth Galfinaidd nag y gwnaethent cyn hyny; neu yn hytrach, i beri iddynt gilio oddiwrth Galfiniaeth gymhedrol i dir uchel-Galfiniaeth, er mwyn ymgadw ac ymddangos yn ddigon pell, fel y tybient, oddiwrth yr heresi Arminaidd, fel yr edrychent arni, pan mewn gwirionedd, yr oeddynt yn myned yn llawer nes ati o ran egwyddorion, tra yn cilio yn mhellach oddiwrthi mewn ymddangosiad arwynebol, a swn geiriau yn unig. Cyn y dyddiau hyny, yr oedd y Corff Trefnyddol mor wresogfrydig dros yr athrawiaeth o gyffredinolrwydd yr Iawn, a galwedigaeth yr Efengyl, ag y daethant wedi hyny yn erbyn y golygiadau hyny. Y Parch. J. Roberts o Lanbrynmair, oedd un o'r rhai cyntaf yn Ngogledd Cymru a gyfododd i fyny dros yr athrawiaethau a fuasent yn foddion i ddeffroi, a chynyrchu y diwygiadau nerthol yn nyddiau Lewis Rees, Howell Harris, a Daniel Rowlands, William Williams, Pantycelyn, ac eraill, a gwrthddrych y cofiant hwn oedd un o'r rhai cyntaf a ddaeth allan i'w gynorthwyo. Y mae yn debygol fod hyn o wahaniaeth rhwng y ddau dô yma o weinidogion â'u gilydd, nid oedd gan dadau y tô blaenaf unrhyw system benodol o athrawiaeth wedi ei chasglu a'i chrynhoi, a'i gosod yn drefnus wrth ei gilydd, ond ymollyngent yn ffrwd ymadroddion y Beibl, heb ofalu cymaint am fanwl ddangos cysondeb y naill gangen o athrawiaeth â'r llall; ac yn wir, fe ymddengys eu bod yn hollol yn eu lle, nid oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser yn galw am nemawr o hyny; yr oeddynt yn gwynebu ar y wlad pan oedd yn gorwedd mewn tywyllwch, anwybodaeth, a difrawder, a gwaith eu tymhor hwy oedd seinio yr alarwm uwch ei phen, er ei deffroi o'i marwol gwsg trwm; ac at y gwaith hwn yr oedd eu meistr mawr wedi eu haddurno â galluoedd corfforol a meddyliol i raddau helaeth iawn. ail dô yr ochr arall, a ddechreuasent osod trefniad o'u golygiadau wrth eu gilydd, gan ymdrechu dangos cydffurfiant a chysondeb y naill athrawiaeth a'r llall, ac yr oedd amgylchiadau eu hoes a'u hamser hwythau, a mwy o alw am hyn nag oedd o'r blaen; yr oedd y wlad erbyn hyn wedi ei goleuo i raddau, ac egwyddorion yr efengyl yn cael eu gosod gerbron mewn dullweddau gwahanol, nes oedd mwy o ysbryd ymofyniad wedi ei gyffroi ynddi, ac ymholi pa fodd y cysonid y peth hwn a'r peth arall â'u gilydd. Gwnaeth Roberts gyda'i ysgrifell yn benaf, a Williams yn yr areithfa, lawer iawn o wasanaeth yn y ffordd hon." Wrth ysgrifenu yn 1888 at ei frawd, Mr. Edward Daniell, Wern Farm, dywedai yr Hybarch William Daniell, Knaresborough, fel y canlyn:— I cannot tell you anything more about Williams of Wern than what Dr. Rees said in his memoir. My memory is very bad. It is between 60 and 70 since I used to write the heads of his sermons. I can just say that I was told that he began his ministry as a pretty stiff Calvinist, but I know that he gradually grew more liberal, and at last I d'ont think he was a Calvinist at all. Y mae y dystiolaeth uchod wedi ei rhoddi gan un hollol gymhwys i farnu—un a ddygwyd i fyny yn y Wern pan yr oedd Mr. Williams yn ei lawn nerth, ac un a'i hedmygai yn ddiderfyn, ac un sydd wedi cael help gan Dduw, yn aros gyda ni hyd y dydd hwn.

Newidiodd Mr. Williams ei farn am y teimlai anhawsder i gysoni y gyfundraeth dduwinyddol gyntaf a fabwysiadodd â gwahanol ranau o Air Duw. Bu darllen y gwaith a elwir yn "True Religion delineated," gan Dr. Bellamy, yn foddion effeithiol i'w ddwyn allan o'r dyryswch yr ydoedd yn cael ei hunan ynddo. O herwydd y cyfnewidiad a gymerodd le yn ei farn ar bynciau athrawiaethol crefydd, ac iddo gael ei adnabod fel Calfiniad cymedrol, tybiodd llawer mai eu dyledswydd hwy yn ngwyneb hyny, ydoedd cau drysau eu pulpudau rhagddo. Yn ei lythyr atom cyfeiria yr Hybarch Isaac Thomas, Towyn, at hyn,—"Pan yr oeddwn yn llanc yn sir Fynwy, y gwelais ac y clywais Mr. Williams. Ei destun oedd, 'Cyfraith yr Arglwydd sydd berffaith, yn troi yr enaid; tystiolaeth yr Arglwydd sydd sicr, ac yn gwneuthur y gwirion yn ddoeth.' Rhoddai bwys mawr ar Air Duw yn nychweliad pechadur; ac o herwydd hyny, amheuid gan rai pobl, a gyfrifid eu bod yn selog dros y wir athrawiaeth yn y cyfnod hwnw, nad oedd y gwr mawr o'r Gogledd yn iach yn y ffydd, ac am hyny, ataliwyd ef i bregethu mewn un, os nad mewn mwy, o leoedd ar y daith hono."

Nis gall yr athrawiaeth sydd yn cynyrchu ysbryd erledigaethus yn ei chofleidwyr fod yn ol duwioldeb. Ni ddigalonodd ein gwrthddrych, canys yr oedd ei farn gyda'r Arglwydd, a'i waith gyda'i Dduw; ac efe a aeth rhagddo, gan bregethu yr un golygiadau gyda nerth a goleuni mawr. Cyfnerthwyd ef a Mr. Roberts, o Lanbrynmair, hefyd, gan waith y Parchedigion Dr. Everett, y pryd hyny o Ddinbych, ond wedi hyny o America, Michael Jones, Llanuwchllyn; John Breese, o Liverpool; James Griffiths, Ty Ddewi; a David Morgan, Llanfyllin, ac eraill, yn dyfod allan i ysgrifenu yn gryf a goleu o'u plaid. Gwelsent yr athrawiaethau yr erlidid hwynt gynt o'u plegid, yn gweithio eu ffordd, yn cael eu credu a'u gwerthfawrogi yn gyffredinol. Ceir syniad lled gywir a chlir am y pynciau y dadleuid gynt yn eu cylch yn y "Prynedigaeth," gan y Parch. Thomas Jones, o Ddinbych, ac yn y "Galwad Ddifrifol," gan y Parch. John Roberts o Lanbrynmair. Mae y ddau lyfr uchod wedi eu dwyn allan yn un llyfr gwerthfawr a rhadlawn. Hefyd ceir y wybodaeth helaethaf a manylaf am ddadleuon duwinyddol yr oes hono yn mhob agwedd arnynt, yn "Nghofiant y Parch. J. Jones, Talsarn, mewn cysylltiad â Hanes Duwinyddiaeth a Phregethu Cymru," gan y Parch. Owen Thomas, D.D., tudalen 262—537. Mynai un blaid roddi ystyr fasnachol i'r Iawn, gan egluro nad oedd yn golygu ond Iawn ar gyfer nifer neillduol o bechaduriaid oeddynt i gael eu cadw, ac nad oedd modd gwaredu neb ond y rhai oeddynt yn nghyfamod y pryniad. Rhoddai y blaid arall ystyr eangach iddo, gan edrych ar yr Iawn yn agor ffordd anrhydeddus i Dduw faddeu, ac achub y rhai oll a'i derbyniant, a heb i hyny anurddo gogoniant llywodraeth Duw. Edrychid ar y rhai a gilient oddiwrth athrawiaeth yr Iawn masnachol, yn gyfeiliornwyr peryglus, yn mhlith pa rai yn amlwg y rhestrid ein gwron. Y mae duwinyddiaeth wedi rhoddi camrau breision mewn cynydd, o'r man lle yr ydoedd yn flaenorol i ddyddiau y "system newydd," hyd ein dyddiau ni, ac yn sicr ni ddylid llesteirio dim, yn y mesur lleiaf, ar ymdrech meddylwyr duwinyddol yn eu gwaith yn ceisio deall gwirionedd yn well; ond yn hytrach, dylid cefnogi pob ymchwiliad gonest er deall yr Ysgrythyrau yn gywirach. Y fath oedd poblogrwydd Mr. Williams erbyn hyn, fel yr oedd arogl hyfryd enaint ei weinidogaeth efengylaidd yn cyflym lenwi y Dywysogaeth, ac oblegid hyny, nis gellid ei lethu i ddinodedd, oblegid yr athrawiaethau a bregethai, er y dymunasai llawer allu gwneuthur hyny. Ychydig flynyddau cyn hyn yr oedd wedi ffurfio cydnabyddiaeth â boneddiges o'r enw Miss Rebecca Griffith, o Gaer; ac ar ddydd Mawrth, Gorphenaf 22ain, 1817, drwy drwydded yn eglwys St. John the Baptist yn y ddinas hono, priodwyd hwynt. Gweinyddwyd ar yr achlysur dedwydd hwnw gan y Parch. R. Caunce. Y tystion, neu y gwas a'r forwyn oeddynt Robert a Sarah Fletcher. Boneddiges amddifad oedd Mrs. Williams cyn priodi. Bu Mr. James Griffith, ei thad, farw Tachwedd 2il, 1793, yn 36 oed, a bu Mrs. Elizabeth Griffith ei mam farw Rhagfyr 27ain, 1813, yn 60 oed. Claddwyd hwynt yn mynwent Capel Annibynol, Heol y Frenhines yn Nghaer. Brodorion oeddynt hwy o ardal y Wern. O ran coethder meddyliol, diwylliant addysgol, lledneisrwydd ei moes, a chrefyddolder ei hysbryd, ei chyfoeth, a'i haelioni, yr oedd Mrs. Williams, yn gymhwys i droi yn nghylchoedd uwchaf ac urddasolaf cymdeithas, heb droseddu yn erbyn rheolau manylaf "Manners of Modern Society;" a hi a wnaeth iddo yntau les, ac nid drwg, holl ddyddiau ei bywyd. Bu iddynt bedwar o blant—Elizabeth, James, Jane, a William. Aethant i drigianu i Langollen. Yr oedd Mr. Williams wedi cychwyn achos i'r Annibynwyr yn y dref hono er's chwe' blynedd cyn hyn, pryd y pregethodd mewn ystafell helaeth yn y Royal Oak, oddiwrth Salm cxix. 113, "Meddyliau ofer a gaseais, a'th gyfraith di a hoffais." Buont yn cydymgynull yn y Royal Oak am beth amser, wedi hyny symudasant i dŷ Mr. Thomas Simon. Ond ni chafwyd capel hyd y flwyddyn 1817, yr hwn a agorwyd Hydref 8fed, y flwyddyn a nodwyd. Pregethwyd ar achlysur ei agoriad gan y Parchn. M. Jones, Llanuwchllyn; R. Williams, Rhesycae; C. Jones, Dolgellau; R. Everett, Dinbych; D. Jones, Treffynon; T. Lewis, Bala; D. Griffith, Talsarn, a W. Hughes, Dinasmawddwy. Yr oedd yr ysbryd cenadol wedi deffroi, ac yn cynyrchu gweithgarwch yn yr eglwysi yr adeg hon. Yr oedd y Deheudir wedi blaenori y Gogledd yn y gwaith da hwnw, oblegid mewn cymanfa yn y Groeswen, yr hon a gynaliwyd ar y dyddiau Ebrill 12fed a'r 13eg, 1814, ar gynygiad y Parch. David Davies, Abertawe, penderfynwyd yn unfrydol, fod Cymdeithas Genadol Gynorthwyol yn cael ei sefydlu yn Nghymru, mewn cysylltiad â'r un yn Llundain, ac mai Abertawe oedd y lle cyfaddasaf i gynal y cyfarfod cyntaf. Datganodd yr holl weinidogion oeddynt yn bresenol (a Mr. Williams yn eu mysg) yn y Groeswen, mai buddiol iawn fyddai i'r holl Gristionogion o bob enwad ymuno â'u gilydd yn y symudiad, fel na byddai i unrhyw gyfarfodydd eraill gael eu cynal ar y dyddiau hyny. Cynaliwyd y cyfarfod a nodwyd yn Abertawe ar y dyddiau Mercher a Iau cyntaf yn Awst dilynol. Yr oedd y cyfarfod Cenadol hwnw yn un hynod, nid yn unig am ei fod y cyfarfod Cenadol cyntaf yn y Dywysogaeth, ond am fod presenoldeb yr Arglwydd i'w deimlo ynddo mewn modd nerthol iawn. Nis gallasai y fath ysbryd bendigedig lai nag ymledu, ac enyn sel genadol danllyd yn yr enwad yn y Gogledd hefyd, ac felly y bu. Ymroddodd Mr. Williams, Mr. Jones, Treffynon, ac eraill, a'u holl egni i gychwyn a chefnogi y Gymdeithas Genadol yn y Gogleddbarth. Cynaliwyd cyfarfod yn Llanfyllin, Ebrill 8fed, 1817, i ymddyddan yn nghylch y priodoldeb o sefydlu Cymdeithas Genadol yn Ngogledd Cymru. Nid yw manylion cyfarfod Llanfyllin genym, ond gwyddom ddarfod iddynt benderfynu ynddo, mai yn Nhreffynon yr oedd y cyfarfod nesaf i'w gynal, a hyny mewn cysylltiad â'r Cyfarfod Cenadol oedd i'w gynal yn Nghaer, yn Awst y flwyddyn hono. Cynaliwyd Cyfarfod Cenadol Treffynon ar y dyddiau Awst 12fed a'r 13eg, 1817, yr hwn a elwid "The First Anniversary of the North Wales Missionary Society." Gan fod manylion trefniadau y cyfarfod hwnw ger ein bron,[8] ac o'r fath ddyddordeb, dodwn hwynt yma yn llawn:—Dechreuwyd y dydd cyntaf am ddau yn y prydnawn yn nghapel yr Annibynwyr, pryd y pregethodd y Parch. T. Raffles, D.D., Liverpool, yn Saesonaeg, oddiwrth Mathew ix. 37, 38; a'r Parch. William Williams, Wern, oddiwrth Caniad Solomon viii. 8. Yn yr hwyr pregethodd Dr. Winter, Llundain, yn Saesonaeg, oddiwrth Luc xiv. 23; a'r Parch. J. Griffith, Caernarfon, yn Gymraeg, oddiwrth Phil. i. 27. Am ddeg dranoeth, pregethodd y Parch. Combes, Haxton Academy, yn Saesonaeg, oddiwrth Mathew vi. 10; a Dr. Lewis, Llanfyllin, yn Gymraeg; oddiwrth Esaiah lv. II. Am haner awr wedi dau, yn yr un lle, cymerwyd y gadair gan D. F. Jones, Ysw., Caer. Gweddiodd Dr. Winter, a darllenodd Dr. Lewis yr adroddiad. Pasiwyd amrai benderfyniadau pwysig. Galwyd sylw y gynulleidfa fawr at sefyllfa y Paganiaid, ac at yr addewidion am lwyddiant yr efengyl, a'r pwys mawr o wneud ymdrechion yn nglŷn â'r genadaeth. Anerchodd Dr. Winter, Llundain; Mri. Reynolds, Caer; Charrier a Philips, Liverpool; Combes, Jones, Treffynon; a Dr. Lewis, y cyfarfod yn Saesonaeg; a'r Parchn. W. Williams, Wern, a T. Jones, Syrior, yn Gymraeg. Yn yr hwyr, pregethodd Y Parchn. P. S. Charrier, yn Saesonaeg, oddiwrth Actau ii. 14, a T. Jones, Syrior, yn Gymraeg, oddiwrth Matthew xxiv. 14. O herwydd gorlawnder, bu raid cynal cyfarfod mewn dau le ar yr un adeg. Yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd y nos gyntaf, pregethodd y Parchn. C. Jones, Dolgellau (ni roddir ei destun ef), a W. Hughes, Dinasmawddwy, oddiwrth Ioan iii. 30. Am haner awr wedi chwech boreu dranoeth, pregethodd y Parchn. J. Reynolds, yn Saesonaeg, oddiwrth 1 Tim. i. 15, a J. Lewis, Bala, yn Gymraeg, oddiwrth Marc xvi. 15. Am ddeg pregethodd y Parchn. M. Jones, Llanuwchllyn, oddiwrth Deut. xxxiv. 10; a D. Morgan, Machynlleth, oddiwrth Dat. xiv. 6. Am haner awr wedi dau, pregethodd y Parchn. D. Beynon, Llanerchymedd, oddiwrth Gen. xlix. 10; a P. Griffith, Llanrwst, oddiwrth Ephes. i. 4. Ac yn yr hwyr pregethodd y Parch. D. Roberts, Bangor, oddiwrth Titus ii. 11; ac i derfynu gwaith y dydd, gweinyddwyd Swper yr Arglwydd dan lywyddiaeth Dr. Winter, a chymerwyd rhan gan amrai o weinidogion eraill hefyd. 'Da yw i ni fod yma,' oedd iaith y gweinidogion a'r bobl oll. Cafwyd cyfarfodydd anghyffredin a hynod iawn."

Y mae yn achos o lawenydd mawr i ni fel enwad, am fod y Genadaeth yn cael cymaint o sylw yn ein mysg y dyddiau hyn, ac yn sicr, gall holl gefnogwyr Cymdeithas Genadol Llundain, pan y maent yn parotoi at ddathlu ei chanmlwyddiant, gymeryd cysur wrth edrych yn ol ar ei gweithredoedd nerthol, a dywedyd, "Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, am hyny yr ydym yn llawen.' Cymerodd ein gwrthddrych Parchedig ddyddordeb arbenig yn y Gymdeithas Beiblau a'r Gymdeithas Genadol drwy ei oes. Dygwyddodd iddo ddarllen araeth nodedig iawn o eiddo y Cenadwr enwog y Parch. Richard Knill, yn yr hon yr apeliai efe yn daer iawn ar fod i'r Cristionogion yn y wlad hon aberthu rhyw gymaint o'u moethau, megys myglys, a phethau eraill, a chyflwyno yr arian a werid am danynt, i gael Beiblau i'r Paganiaid. Dangosai y gallasai y Pagan druan gael dalen o Feibl argraphedig y pryd hwnw â'r arian a werid ganddynt mewn ychydig oriau am fyglys.

Arferai Mr. Williams ysmygu ychydig yn feunyddiol cyn hyn, ac wedi darllen apeliad toddedig Mr. Knill, parotoai fel arfer, i lenwi ei bibell â myglys, pryd yr edrychodd Mrs. Williams arno, yn nodedig o awgrymiadol, ac mewn llais tyner ac effeithiol iawn, dywedodd wrtho, "Ah! Mr. Williams, dyna ddalen arall o Feibl y Pagan tlawd yn myned i'r tân." Teimlodd yntau y sylw i'r byw, a dywedodd, "Wel, beth a fyddai i mi ei roddi heibio, a rhoddi arian y myglys yn ychwanegol at Gymdeithas y Beiblau," ac felly y gwnaeth efe. Gwel y darllenydd yn nrych yr uchod, nad yw y self denial" a argymhellir mor briodol ar yr eglwysi y dyddiau hyn ddim yn beth hollol newydd. o ran yr egwyddor a'r ymarferiad o hono yn Nghymru, yn gystal a bod yr hanesyn yn ddangosiad o dynerwch cydwybod Mr. a Mrs. Williams. Dadleuodd ac areithiodd Mr. Williams lawer, yn alluog a medrus, o blaid y Cymdeithasau Beiblaidd a Chenadol. Ceir a ganlyn am dano mewn un o gyfarfodydd y Feibl Gymdeithas a gynaliwyd yn Llangollen, i'r hwn y gwahoddwyd ef i gymeryd rhan ynddo,[9] "Yr oedd y Parch. J. Elias a'r Parch. R. Richards, Caerwys, yno fel dirprwyon pwyllgor y Gymdeithas yn Llundain. Hwnw oedd y tro cyntaf i Mr. Williams fod mewn cyfarfod cyhoeddus o'r fath yn Llangollen. Wedi traethu ar fawredd amcan y Gymdeithas o daenu yr Ysgrythyrau dros wyneb yr holl ddaear, cymerai olwg ar y moddion i gyflawni yr amcan hwnw, sef mai trwy gydweithrediad parhaol caredigion y Beibl, mewn cyfraniadau yn unig y gellid gwneud hyny.

"Meddyliwch am yr aber fach ar waelod y nant," meddai, "Ewch ati a gofynwch iddi, i ba le yr wyt ti yn myned mor brysur a diymdroi aber fach?" "Yr wyf yn myned i gludo llongau i India a China, a rhanau eraill o'r byd," atebai hi. "Ti'n myned i gludo llongau? yr wyt ti'n rhy wan i gludo gwialen, heb son am longau." "O," medd yr aber fach, "Y mae aber fach arall yn cyfarfod â mi ychydig yn mhellach, ac un arall draw, ac un arall drachefn, ac afon fawr o'n blaen, ac ni a awn gyda'n gilydd i hono, ac yn hono i'r môr, ac ni a gynorthwywn ein gilydd felly, ac fe gymer y môr ein help ni i gario'r llongau mawrion i holl borthladdoedd y byd. Gofynwch i'r ddimai sydd yn llaw'r eneth fach yna i'w dodi yn y casgliad heno, "I b'le yr wyt ti yn myned, ddimai druan?" Y mae ei thinc wrth ddisgyn ar y plat yn ateb, "I anfon Beiblau i'r holl fyd!" "Ti anfon Beiblau i'r holl fyd! Druan o honot." "O, y mae un arall i ddyfod i'm cyfarfod oddiwrth y bachgen bach acw, ac un arall oddiwrth yr eneth yna, ac un arall oddiwrth yr hen wraig weddw yn y fan draw; ac ni awn gyda'n gilydd i drysorfa y Gymdeithas yn Llundain, ac mi ddaw llaweroedd yno i'n cyfarfod ni o bob cwr i'r deyrnas; ac i gyd gyda'n gilydd, drwy barhau o flwyddyn i flwyddyn, nyni a lanwn holl wyneb y ddaear â Beiblau o'r diwedd." Yna, rhoddodd siars ddifrifol i rieni plant ar iddynt eu dysgu i gadw eu dimeiau i'w cyfranu at achosion da, yn lle eu gwario ar felusion. "Hwyrach mai y ddimai a rydd yr eneth fach yna ar y plat heno," meddai, "A dala am argraffu adnod y caiff rhyw bagan yn Affrica fywyd tragwyddol wrth ei darllen." Yr oedd yn Llangollen y pryd hwnw glochydd oedd yn oracl y dref o ran synwyr a gwybodaeth; sylwai hwnw ar ol y cyfarfod, "Bachgen rhyfeddol ydyw bachgen y Wern yna, yr oedd ei araeth heno yn drech o ddigon na'r un o'r lleill." Cafodd Dr. Raffles afael ar chwedl yr aber a'r ddimai, a gwnaeth ddefnydd da o honi; adroddodd hi mewn cyfarfod cyhoeddus yn Llundain; aeth oddiyno drosodd i'r cyfandir, ac adroddwyd hi lawer gwaith yn y naill wlad a'r llall yn nghyfarfodydd y Feibl Gymdeithas." Yn sicr, "Few and far between," yw y dynion hyny a allant gynyrchu dywediadau ac areithiau a fyddant yn werth eu hadrodd drosodd drachefn a thrachefn, yn ngwahanol wledydd y byd, ond yr oedd ein gwrthddrych wedi ei freintio â'r ddawn arbenig hono, fel y dengys yr uchod.

Yr oedd Mr. Williams erbyn hyn yn anterth ei boblogrwydd fel pregethwr, a galw cyffredinol am dano o bob cwr o'r wlad, ac anrhydeddid ei weinidogaeth gan Dduw, mewn modd amlwg, yn y nerthoedd dwyfol oeddynt yn cydfyned â hi, yn neillduol felly mewn rhai lleoedd. Adroddir ddarfod iddo gael rhyw oedfa nodedig iawn yn Nghymanfa Horeb, sir Aberteifi. Gan i ni glywed llawer o bethau am dano yn y gymanfa hono, nad oeddym yn gallu gweled profion digonol o'u dilysrwydd, ymofynasom a'r Hybarch William Evans, Aberaeron, fel yr un tebycaf o bawb y sydd heddyw yn fyw, o fod yn gwybod hyd sicrwydd yr hyn a geisiem. Anfonodd Mr. Evans yn garedig ac ar unwaith, yr hyn a ganlyn—"Nid oeddwn yn Nghymanfa Horeb, yn y flwyddyn 1820, a phe y buaswn, yr oeddwn yn rhy ieuanc yr amser hwnw i allu gwybod am ddim oedd yn myned yn mlaen yno. Ond clywais lawer o son am y Gymanfa wedi hyny. Yr oedd Mr. Williams wedi derbyn cais oddiwrth Mr. Griffiths, y gweinidog, yn gofyn iddo bregethu ar "Dduwdod Crist," am y rheswm fod llawer o Undodiaid yn yr ardal, y rhai a fyddent debygol o fod yn y Gymanfa. Pregethodd Mr. Williams yn anarferol o rymus a dylanwadol. Ysgubai y cwbl o'i flaen fel llifeiriant mawr gan nerth ei ddawn ac ardderchawgrwydd ei bethau. Dywedir fod yr Undodiaid wedi colli pob llywodraeth arnynt eu hunain wrth ei wrando. Oedfa i'w chofio oedd hono am oes pawb oedd yn bresenol. Ond nid gwir a glywsoch ddarfod i Mr. Williams syrthio i freichiau Dr. Phillips, ond clywais ei fod yn bryderus iawn cyn dechreu pregethu, ac i Dr. Phillips ei galonogi, drwy ei sicrhau fod gweddiau lawer o'i du. Yr oedd ei bwnc yn un pwysig, a dysgwyliad mawr wrtho, a thorf anarferol o luosog o'i flaen. Dywedai wrth ddechreu pregethu, na safodd erioed o'r blaen gerbron cynulleidfa mor fawr, ond gwyddai y byddai yn wynebu un fwy yn y dydd olaf. Ychydig o droion y cefais fantais i'w glywed, ac ar rai o'r adegau hyny, yr oedd yn ddylanwadol iawn."

Gwelir yn "Nghymanfaoedd yr Annibynwyr," tud. 320, i'r Gymanfa uchod gael ei chynal ar y dyddiau Mehefin 7fed a'r 8fed, 1820, a hyny yn y drefn a ganlyn—"Y dydd raf am 11, bu cyfeillach gan y gweinidogion i ystyried amgylchiadau yr eglwysi. Cafwyd hanes cysurus iawn am lwyddiant crefydd yn ein plith. Am 3, dechreuodd y Parch. S. Price, Llanedi; a phregethodd y Parch. H. George, Brynberian, I Cor. i. 23; a'r Parch. D. Peter, Caerfyrddin, 2 Cor. x. 4; a'r Parch. D. Jones, Crygybar, Ioan iii. 7. Am 7 yr hwyr, bu 18 o bregethau yn y naill fan a'r llall trwy'r ardaloedd. Yr ail ddydd, am 9, dechreuodd y Parch. J. Phillips, Bethlehem; a phregethodd y Parch. D. Williams, Llanfair, Heb. vi. 18; a'r Parch. W. Williams, Wern, Matthew i. 23. Am 2, dechreuodd y brawd D. Davies, Trefgarn (Zion's Hill wedi hyny), a phregethodd y Parch. D. Griffiths, Trefgarn, 2 Pedr iii. 14; a'r Parch. J. Rowlands, Llanybri, Col. iii. 4. Aeth llawer i'w ffordd yn llawen wedi derbyn blaenbrawf o gymanfa y cyntafanedigion yn y nef, lle na bydd rhaid ymadael mwy." Ceir profion fod yr effeithiau yn wahanol, ac yn rhyfedd ar y dyrfa pan y pregethai Mr. Williams y tro hwnw; canys dywed y Parch. J. B. Jones, B.A., Aberhonddu, yn y Cenad Hedd am 1892, tudal 79—80, fel y canlyn: "Yr oedd Mr. Williams o'r Wern, yn ei lawn glod fel pregethwr yr adeg hono. Daeth torf aruthrol yn nghyd ar yr ail ddydd, prif ddiwrnod yr uchelwyl yn y Deheudir yr amser hwnw. Yn eu plith yr oedd y Parch. D. Davies, Castellhywel; yn dynesu at ei 80 mlwydd oed. Yr oedd wedi cyflawni gweinidogaeth faith yn y cylch hwnw, ac yn barchus iawn. Drwy ei oes cadwasai Ysgol Ramadegol nodedig. Yr oedd yn ysgolhaig gwych, a chyrchai gwŷr ieuainc o bell ato, amrai o honynt a fynent fod yn offeiriaid; ond gan ei fod yn anghredu yn ngwir Dduwdod yr Arglwydd Iesu, gwaharddodd Esgob Ty Ddewi yn y diwedd i offeiriaid fyned ato am addysg. Yn yr oedfa ddeg o'r gloch y pregethai W. Williams, a'i destun ydoedd, 'Wele, morwyn a fydd feichiog, ac a esgor ar Fab, a hwy a alwant ei enw ef Emmanuel, yr hyn o'i gyfieithu yw, Duw gyda ni.' Yr oedd D. Davies yn wr corffol a mawr iawn, yn pwyso oddeutu tri chan pwys. Daeth yn ei gerbyd i'r Gymanfa, yr hwn a gyfleodd ar y maes o flaen areithfa y pregethwr, ac yn agos iawn ato. Cylchynid ef gan y gynulleidfa fawr. Ymaflodd y pregethwr yn ei bwnc gorbwysig gyda nerth anarferol. Yr oedd yn berffaith ystyriol o bwysigrwydd ei waith, ac awyddai argyhoeddi y canoedd gwrthgredwyr oedd o'i flaen, o'r pwys tragwyddol iddynt eu hunain i feddu syniadau gwir am Berson y Gwaredwr. Ni chlywais pa un a lwyddodd i ddychwelyd yr un o honynt i'r wir ffydd am Fab Duw, ond mae yn hysbys iddo effeithio yn ddwys ar y gwr mawr oedd yn y cerbyd o'i flaen. Teimlodd D. Davies yn bur fuan fod yr ymadroddion yn rhy galed iddo allu eu gwrando, a chychwynodd i fyned yn mhellach o'u swn. Trodd ben y ceffyl oddiwrth y pregethwr nes yr oedd ei gefn ei hun ato, ac yna arosodd. Ond pan ddelai ymadroddion grymus ar ol eu gilydd, rhoddai awgrym i'r ceffyl a'r ffrwyn i symud allan, yna arosai eilwaith. Gwnaeth hyny mor aml hyd nes yr aeth i gŵr pellaf y dorf, ac arosodd yno hyd y diwedd a'i gefn ar yr areithle, a'r pregethwr grymus ynddo. Wedi gorphen yr oedfa, aeth D. Davies i'w gartref yn ymyl addoldy Llwynrhydowen. Dywedai ar y ffordd, 'Os yw y dyn yna yn dywedyd y gwir, mae yn annichonadwy i neb o honom ni fod yn gadwedig.' Y traddodiad ydyw, iddo ochelyd dywedyd dim am Berson Crist ar ol hyny am y saith mlynedd olaf yn ei weinidogaeth." Terfynwn y benod hon, heb ychwanegu am yr oedfa dan sylw ond yr hyn a ganlyn drwy ganiatad Mr. Isaac Foulkes (Llyfrbryf), o "Rydd Weithiau Hiraethog," tud. 82—83, "Taflodd y pregethwr olwg ddifrifol dros y dyrfa fawr oedd yn sefyll o'i flaen ar ol darllen ei destun, yna gostyngai ei ben, a chadwai ei lygaid ar y Beibl agored ger ei fron. Dechreuai ymadroddi fel un yn teimlo y tir o dan ei draed, ac yn pwyso ei frawddegau â'i eiriau wrth eu traethu. Cyn pen ychydig funydau, yr oedd yn amlwg fod yr ofn, y petrusder, a'r cryndod wedi ei adael, a'i fod yn teimlo ei draed tano, a'i gerddediad yn cael ei hwylio. Cododd ei wyneb i wyneb y gynulleidfa, heb un arwydd o ofn na phryder arno,—cyn pen y deng munyd yr oedd y dyrfa fawr yn ei law, pob clust wedi ei sicrhau, a phob meddwl wedi ei gyffroi. Aeth yn mlaen i egluro a phrofi y gwirionedd y daethai i ddadleu drosto gyda rhwyddineb, goleuni, a nerth mawr, nes oedd gwynebau y Sosiniaid yn y dorf yn gwelwi, a llawenydd yn pelydru yn llygaid a gwedd eu gwrthwynebwyr. Wedi myned trwy ran ddadleuol y bregeth, trodd at y rhan gymhwysiadol, ac yno torodd yr argeuau; tywalltai allan y fath ffrwd o hyawdledd tanllyd a ysgubai bob peth o'i flaen fel lifeiriant dyfroedd mawrion. Anghofiodd y ddwyblaid yn y dyrfa eu holl ddadleuon ar yr adeg, a gwelid yr Undodwr a'r Trindodwr yn cydwylo, ac yn cydgymysgu eu dagrau â'u gilydd dan y dylanwad. Ni chymerodd y pregethwr arno o'r dechreu i'r diwedd ei fod yn gwybod fod digter na dadl wedi bod erioed rhwng Cristionogion ar y pwnc; er hyny, oedfa oedd hono y cafodd Undodiaeth Sir Aberteifi deimlo hyd ei henaid oddiwrthi. Gostyngodd ei banerau yn y fro hono am amser hir ar ol hyny." Y mae yn rhaid fod rhyw ddylanwadau rhyfedd a hynod iawn yn cydfyned â'i weinidogaeth yn y Gymanfa hono, cyn y buasent yn cynyrchu y fath effeithiau ar y dyrfa fawr, ac yn sier, nid oeddynt yn ddim llai na "nerthoedd yr Arglwydd."

PENNOD VII.

O GYMANFA HOREB HYD YR OEDFA YN ABERDARON. 1820—1823.

Y CYNWYSIAD—Mr Williams yn y Deheudir yn casglu at gapel newydd Llangollen—Adgofion y Parch. D. Jones, Gwynfe, am y daith hono—Cynghorion Mr Williams iddo—Mr. Jones yn methu a'i gael yn Williams o'r Wern fel oedd ganddo ef yn ei feddwl—Yn ei gael yn Nghrugybar i fyny â'r syniad oedd ganddo am dano cyn y daith hono—Dr. Thomas, Liverpool, yn ysgrifenu adgofion Mr. Jones—Parch. Richard Knill a John Angel James—Dr. William Rees—Cymanfa y Rhos—Ymddyddan ynddi ar y priodoldeb o gychwyn y "Dysgedydd Crefyddol" Penderfynu gwneuthur hyny mewn cyfarfod yn Ninbych—Arwyddo y Cytundeb—Dull a threfn ei gychwynwyr o'i ddwyn yn mlaen—Gwyr galluog wedi bod yn ei olygu o'i gychwyniad—Ei ddylanwad yn ddaionus ar y wlad—Cyfarfod Cenadol yn Nghaernarfon—Rhoddi Llangollen a Rhuabon i fyny—Pregethu pregeth Genadol yn Llundain—Oedfa hynod yn Aberdaron—Y gweinidogion a gyfodwyd i bregethu dan weinidogaeth Mr Williams—Ein dyled i Harwd YN y bennod flaenorol, rhoddasom hanes agoriad Capel Llangollen. Bu Mr. Williams yn y Deheudir yn casglu at ddyled yr addoldy hwnw, a chredwn mai cyfeiriad at y daith hono sydd yn Adgofion. y Parchedig D. Jones, Gwynfe, am Mr. Williams fel pregethwr, y rhai a ysgrifenwyd gan Dr. John Thomas, Liverpool. Gan eu bod yn dal perthynas â'r cyfnod sydd yn awr dan ein sylw, rhoddwn hwynt yn y bennod hon—"A glywsoch chwi Williams o'r Wern lawer gwaith Mr. Jones," meddwn i wrth y diweddar Barchedig D. Jones, Pant—arfon, pan yn ei ystafell fechan gydag ef ryw noson yn ngauaf 1847? "Do, mi clywes o lawer gwaith, ac mi weda i chi yr holl hanes y tro i mi i wel'd e a'i glywed e. Biddy (canys felly y galwai efe Mrs. Jones), gwedwch wrth un o'r merched yna am dd'od a thipyn ar y tan yma." Gwelais yn union fod ganddo stori hir i'w hadrodd ac felly gosodais fy hun mewn cyflwr i wrando yn fanwl gan benderfynu cofio yr oll a allwn. "Rown i wedi clywed lawer gwaith am Williams, Wern, taw pregethwr noted oedd e, ac 'rown i'n awyddus am i glywed. 'Roedd son mawr i fod e a'r hen Roberts, Llanbrynmair, a gwyr y North i gyd yn y system newydd. 'Doedd yma neb yn i phregethu hi yn blaen, ond 'roedd Davies, Pantteg, a Griffiths Tyddewi, yn cael i doubto eu bod nhw ynddi—'roen nhw i dau wedi bod yn y North, ond ta beth ryw Sabbath, dyma gyhoeddiad Williams y Wern yn d'od i Gapel Isaac, i fod yno y Sabbath wed'yn. Rwy'n meddwl fod hyn tua'r flwyddyn 1819, ond alla i ddim bod yn siwr. Yr oedd Mr. Williams yn casglu at ryw dŷ cwrdd y daith hono. Doedd dim ryw lawer yma wedi clywed am dano, ond yr oedd yma rai; ac wedi clywed i fod e yn y system newydd. A doe'n nhw yn blasu fawr pan cawson nhw i gyhoeddiad e. Yr oedd Morgan y crydd, tadcu y Stephenses, ac un neu ddau eraill, yn dipyn o Baxterians. Ac roe'n nhw o blaid y system newydd, a gwŷr y North. Rown i wedi dechreu pregethu tipyn er's tro, ac yr oedd yr achos yn cychwyn tua Phontargothi yna, ac mi glywn o Dy'nycoed fod Williams Wern i fod yn pregethu nos Sadwrn yn (nis gallaf gofio enw y ffarm), Llanegwad. Mi benderfynais y buaswn i yn myn'd nos Sadwrn i'w glywed e; a heb weyd dim wrth neb mi gyfrwyais y pony, ac mi aetho yno. Yr oedd Mr. Williams wedi cyrhaedd yno dipyn o mlaen i, ac yn eistedd ar y scrin yn ymyl y tan. Yr oedd e yn llai dyn nag own i yn ei ddysgwyl, ac yn edrych yn ieuengach. Falla i fod e yn ddeunaw ar hugain, ond 'doedd e ddim yn edrych dros ddeg ar hugain. Mae yn eistedd yn ddystaw fel un mewn myfyrdod dwfn, a'r bobl yn dyfod i fewn o un i un. Ond 'doedd e yn gwneud un sylw o neb. "Mae'n bryd dechre," medde rhywun yn mhen tipyn, ac y mae ynte yn codi ac yn myned at ben y bwrdd, ond yn gomedd myned i ben stol. Fe roddodd benill i'w ganu, mewn swn dwfn, bâs yn odds i ddim own i wedi glywed; ac felly y mae yn darllen ac yn gweddïo heb godi na chyfnewid dim ar ei lais, oddigerth gostwng tipyn weithiau i ryw dôn leddf. Darllenodd ei destun, 'Na ddyweded neb pan demtier ef, gan Dduw y'm temtir.' Siarad yn dawel fel 'rych chi a mina fan yma 'roedd e, a phrofi nad oedd Duw yn temtio neb i bechu. 'Down i 'rioed wedi clywed y pethau gan neb, ac eto 'roen nhw yn bethau cyffredin hefyd. Newydd, ac eto 'roen nhw yn hen; clirio Duw nad oedd dim bai arno fe, a rhoi yr holl fai ar y dyn yr oedd e. Wedi iddo orphen es i'r stabl i nhol y pony, ac adre a mi: a dyna Williams y Wern, meddwn i ynof fy hun, y mae nhw yn son cymaint am dano. Dyw hwna ddim yn bregethwr felly chwaith, ac eto mae rhywbeth ynddo. Mae yn hawdd cofio ei bregeth yr own i yn teimlo nad oedd dim modd ei hanghofio. Aetho i Gapel Isaac boreu Sabbath, 'doedd yno neb ond y fi wedi glywed e, a wydda neb yno mod ina wedi glywed e; yr oedd yr hen gapel yn llawn, llawnach nag arfer o lawer: neb o leoedd eraill chwaith; ond pawb yn treio d'od i glywed y dyn mawr o'r North. Yr oedd y bobl i gyd yn y capel cyn ei fod e yno, ac rown nhw am i mi ddechreu y cwrdd, ond gyda hyny, dyma fe i fewn, ac i'r pwlpud heb weyd un gair wrth neb, ac yn rhoi gair ma's i ganu—

'Ymddyrcha O Dduw y nef uw chlaw
Oddi yno daw d' arwyddion.'

yn edrych yn well na'r nos o'r blaen, ei lais yn fwy bywiog, a'i ysbryd fel wedi ei gyffroi gan y gynulleidfa. Ei destun ydoedd 'Hwn a ddyrchafodd Duw â'i ddeheulaw yn Dywysog ac yn Iachawdwr i roddi edifeirwch i Israel a maddeuant pechodau.' Bu yn desgrifio Duw yn dyrchafu ei Fab o'r bedd, ac i'w ddeheulaw, ac yn darlunio yr osgordd o angylion yn myned adref, nes yr oedd pawb yn synu at ei brydferthwch, ond 'doedd e ddim yn nerthol, nac mor effeithiol ag y clywswn i ambell un, ond 'doedd dim ymdrech ynddo, 'doedd e yn fforsio dim, ond yn gweyd yn doddedig. Daeth yn mlaen at y bendithion oedd yn canlyn ei ddyrchafiad. 'Edifeirwch a maddeuant pechodau.' Dyna y tro cyntaf i mi glywed y sylw fod yr un pethau yn ras yn eu perthynas â Duw, ac yn ddyledswydd yn eu perthynas â'r dyn. Taw dyledswydd pechadur oedd edifarhau, ond taw gras Duw oedd yn rhoddi yr edifeirwch. Yr oedd e yn gweyd ambell i sylw i beri gwên, ond rhyw air wrth basio fyddai hyny. Yr oedd pawb wedi eu boddio ynddo, er 'doedd neb chwaith yn meddwl ei fod i fyny â'r son oedd am dano. Nid oedd neb o'r rhai oedd yn erbyn y system newydd yn gwel'd bai yn y byd ar y bregeth. Yr oedd ei fod yn Salem am 2, ac mi benderfynais yr aethwn i yno wed'yn i gael ei glywed e drachefn boed a fyno. Daeth rhai o Gapel Isaac i Salem, ond llai o lawer nag fuasech chi'n feddwl i wrando Williams, Wern. Ei destun e yn Salem oedd, 'A byddwch wneuthurwyr y gair, ac nid gwrandawyr yn unig, gan eich twyllo eich hunain.' 'Doedd e ddim agos cystal a'r nos o'r blaen, ac yn mhell iawn islaw y peth oedd e yn Nghapel Isaac, ac eto yr oedd rhywbeth yn mhob peth oedd e'n weyd. 'Roedd e yn myn'd i Abergorlech y nos, ac yn myn'd i de i Brisgen, ac fe geisiodd Mr. Davies gan inau i fyn'd yno i de gydag e. Ar de fe wedodd Mr. Davies wrtho mod ina yn pregethu tipyn. 'O, ai e yn wir,' meddai, A welis i monoch ch'i yn yr odfa neithiwr?' 'Do syr,' meddwn ina. 'Wel 'roeddwn i yn meddwl pan welis i ch'i bore heddyw mod i wedi'ch gwel'd chi o'r blaen.' Dyna i gyd fu o siarad am dana i na mhregethu. Ar ol te mae e yn gofyn i Mr. Davies, 'Pa ffordd yr äf i i'r lle yna yr ydw i, i fod heno? Dowch ch'i ma's gyda mi i'r clos (buarth), mi ddangosa i y ffordd i ch'i,' ebe Mr. Davies. A ma's a ni, a ch'i ellwch wybod nad oedd yr hen Ddavies, Brisgen, yn meddwl fawr o hono, ne fe fuase yn anfon y gwas i'w hebrwng. Ar y clos y mae Mr. Davies yn dangos y pwynt iddo, ac yn ei gyfarwyddo pa fodd i gadw y ffordd. 'Mae hi yn ffordd go ddrwg ond ydi hi?' meddai Mr. Williams. Wel, meddwn i phrisia fawr d'od gyda ch'i, bydda yn ol cyn y bydda nhw yn y gwely.' 'Diolch i ch'i yn wir os dewch,' ebe ynte. Ymaith a ni, ond 'doedd e yn gweyd fawr ddim nes'n bod ni ar y mynydd uwch ben Abergorlech, fe ddechreuodd fy holi faint o amser oedd er yr own i wedi dechreu pregethu, ac a own i yn meddwl am weinidogaeth, ac yna fe roddodd i mi ychydig o gynghorion gyda golwg ar bregethu. Dyma nhw mor agos ag y galla i gofio fel y gwedodd e nhw, Treiwch ddeall beth fydd y gwirionedd fydd yn y testun fydd genych. Ei feddwl ei hun yn y gwirionedd a fendithia Duw, ac nid ein meddyliau ni ar y gwirionedd. Cedwch ochr Duw bob amser yn glir. Gellwch fod yn sicr nad oes perygl yr ochr yna—nis gall yr athrawiaeth sydd yn cymylu character Duw fod yn wirionedd. Peidiwch ag ofni traethu y gwirionedd. Nid yr athrawiaeth fwyaf derbyniol gan ddynion, fydd wrth fodd Duw bob amser, ac nid y peth sydd oreu ganddynion yn aml, sydd oreu iddynt. Cofiwch mai lles eneidiau ddylai fod eich amcan yn wastad yn y pulpud. Nid mountebank i ddifyru pobl ydi pregethwr i fod, ond cenad Duw atynt yn achos eu heneidiau.' Diolchais iddo am ei gynghorion. Aeth yntau fel i ryw fyfyrdod ynddo ei hun, ac ni ddywedodd air wrthyf nes bod yn ymyl Ty Cwrdd Abergorlech. Yr oeddwn yn meddwl hwyrach y buasai yn gofyn i mi ddechreu y cwrdd yn Abergorleeh, ond ddaru e ddim, ac yr oedd yn dda gen i hyny, er y buaswn yn gneud pe buasai yn gofyn. Nid oedd pobl Abergorlech yn ymddangos yn gwybod fawr am dano, rhagor na bod rhyw ddyn dyeithr o'r North. Cynulleidfa fechan oedd Gweddiodd yn ddwys iawn ar ddechreu y cwrdd, yn fwy hynod nag y clywswn ef o gwbl. Ei destun ydoedd, 'Os chwychwi gan hyny, a chwi yn ddrwg, a fedrwch roddi rhoddion da i'ch plant, pa faint mwy y rhydd eich tad o'r nef yr ysbryd Glan i'r rhai a ofynant ganddo.' Dyna y bregeth oreu o'r pedair. Yr angenrheidrwydd am yr ysbryd Glan, a pharodrwydd Duw i'w roddi. Nid oedd mor hwyliog a'r boreu, ond yr oedd yn llawn mor ddifrifol. Pe buasai y bregeth y nos yn cael ei phregethu mewn llawer man, fe fuasai yr effeithiau yn nerthol iawn. Arhosais ef i lawr o'r pulpud i gael siglo llaw âg ef, a diolchodd i mi am dd'od gydag ef, ac ychwanegodd, os byth dewch chi i'r Gogledd, fe fydd yn dda gen i y'ch gwel'd.' Daethum adref, ond yn y myw nis gallaswn gael y dyn na'i bregethau oddiar fy meddwl. 'Roedd e yn wahanol i bawb own i wedi glywed 'rioed, ond doedd e mor peth own i yn ei ddysgwyl 'chwaith. Yr oedd rhywbeth wedi fy nghlymu wrtho, ac eto, down i ddim yn ei gael y peth own i yn ei ddysgwyl. 'Doedd y Williams Wern oedd gen i yn fy nychymyg, a'r Williams Wern glywswn i nos Sadwrn a'r Sul, ddim yr un peth; a dyna lle yr own i yn meddwl am dano, a pho fwyaf feddyliwn, ucha' i gyd yr oedd e yn myn'd yn fy meddwl; ac am ei bregethau 'doedd dim modd peidio i cofio," ac wrth adfeddwl yr own i yn gwel'd mwy yn y pethau oedd e wedi weud. Yr own wedi clywed Davies fawr o Abertawe; ac yn ddigon cyfarwydd a Davies, Sardis; a Williams, Llanwrtyd; a Hughes, Groeswen; a Jones, Trelech, a'r holl rai yna; a dysgwyl rown i gael Williams, Wern, yn debyg o ran dawn iddynt, ond 'doedd dim byd yn debyg ynddo i'r un o honynt, ond yr own i ei wel'd hefyd mewn rhai pethau yn rhagori arnynt oll. Allswn i ddim cael y dyn a'i bregethau oddiar fy meddwl. Yr oedd Jones, Crugybar, wedi cael cyhoeddiad Williams, Wern, i fod gyda hwy yno boreu Mawrth, a beth wnaeth yr hen Jones, ond cymeryd mantais ar ddyfodiad Williams, Wern, i gael cwrdd gweinidogion yn Nghrugybar ddydd Llun a dydd Mawrth. Yr oedd Williams yn myn'd i Esgairdawe a Ffald-y-brenin dydd Llun, ac yn d'od i Grugybar dydd Mawrth. Mi benderfynais yr aethwm i Grugybar, boed a fyno, i'w glywed e wed'yn unwaith, ac yr own i yn dysgwyl y daetha fe ma's yno ar ei oreu.

Yr oedd Crugybar yn lle twymn iawn, yr oedd Nansi Jones a Dai Sion Edmunds, a'r hen bobl yno, yn rhai tanllyd dros ben, fel yr own ni yn meddwl, taw, dyna y lle i mi gael ei glywed ei hunan. Erbyn yr oedfa ddeg yr es i yno, ac mi ddeallais yn union fod yno ddysgwyliad mawr am dano. Yr oedd Jenkin Morgan, Pentretygwyn, a Davies, Sardis, wedi pregethu y prydnawn o'r blaen; ac yr oedd rhai o'r wags yno, yn gweyd taw ofn pregethu gas e. Peter Jenkins o Brychgoed, bregethodd yn gyntaf, a Jones, Rhydybont, Abertawe yn awr, yn Saesonaeg, yn y canol. Yr oedd rhai o dylwyth y Brunant, wedi d'od yno i'r cwrdd, a rhyw Saeson gyda nhw; ac ar ol i'r bregeth ddarfod dyna Williams, Wern, yn codi ar ei draed, ac anghofia i byth mo'i olwg e. Yr oedd yn hawdd gwel'd arno fod pwysau mawr ar ei feddwl, yr oedd yn ddifrifol, yn brudd o ddifrifol, fel y teimlais i ryw beth yn myn'd trwyddo i pan y cododd i fyny. Rhodd air ma's i ganu,

'Rhwng Piahiroth a Baalsephon
Mewn cyfyngder mwy 'rioed."

A chyn ei fod wedi gorphen y ddwy line gyntaf, yr oedd hen bobl Crugybar a'u penau yn agored fel adar bach yn dysgwyl. Ges i ofn y buase nhw yn tori ma's i folianu ar y canu, fel y gwelis i nhw yn Nghrugybar lawer gwaith, gan mor fywiog yr oe'n nhw pan rows e y gair ma's; ond yr oedd awydd clywed Williams, Wern, mor gry fel na bu yno fawr dyblu. Darllenodd ei destyn, 'Eto ti ydwyt Dduw parod i faddeu. Dyma hi, meddwn wrtho fy hunan, heddyw y gwnaiff hi. 'Doedd ganddo ddim rhagymadrodd. 'Mater y testun ydyw parodrwydd Duw i faddeu," meddai gyda'r gair cyntaf. Yr oedd e fel pe y buasai wedi dyfod yno dros Dduw o bwrpas i ddweyd hyny wrth y bobl; ac yn ymddangos mor awyddus am weyd ei neges fel nas gallasai ymdroi gyda dim arall. Duw yn barod i faddeu, a chael dynion i gredu hyny oedd y cwbl ganddo. Ni chlywais erioed bregeth yn rho'i cymaint o help i feddwl yn dda am Dduw, ac yr oedd yn ei ddarlunio mor barod i faddeu, nes rown i yn meddwl y buase yn dda gan bawb yn y lle droi ato. Bu yn dal ei hwyrfrydigrwydd i gospi, a'i barodrwydd i faddeu ar gyfer eu gilydd. Dyna y tro cyntaf erioed i mi glywed y sylw—nad ydyw arfau dial ddim yn barod, fod eisiau hogi y cleddyf, anelu y bwa, a pharotoi y saethau, a'i fod yn dysgwyl i bechadur pan yn clywed swn y parotoi i ddial i ddychwelyd. Mi glywes hyny lawer gwaith ar ol hyny, ond efe oedd y cyntaf glywes i yn ei weyd. Aeth drwy hanes y mab afradlon yn gadael ty ei dad, a'r croesaw mawr a gafodd pan ddaeth adref, i osod allan barodrwydd Duw i dderbyn pechadur na fu dim erioed yn fwy naturiol. Ch'i allsech feddwl taw darlunio mab afradlon i ryw gentleman farmer yn y wlad yma yr oedd e, gan mor debyg yr oedd e yn wneud o i blant drwg yn gyffredin. Nid oedd dim ymdrech i'w weled ynddo o gwbl, ac yr oedd ei bethau yn llyncu pawb i fyny mor llwyr, fel nad oedd neb yn meddwl am ei lais na'i ddawn. Ryw dôn leddf oedd ganddo yn fwyaf effeithiol pan yn disgyn yn isel, ond yr oedd ganddo floedd rymus, ac nid bloedd 'chwaith, ond rhyw dôn gref yn llanw yr holl le, ac yn myn'd dros bob teimlad. Nid oedd yr ungwyneb sych yn y fan, ond drwy eu dagrau yr oedd pawb yn gwenu. Mi glywais yr amenau a'r diolch yn uwch lawer gwaith, ac mi sylwais fod rhai fyddai yn arfer amenu yn uchel wedi anghofio eu hunain yn lan, ac yn methu gwneud dim ond gwrando ac wylo. 'Doedd e yn rhoi dim lle i Amen. Nid oedd dim o'r dymuniadau sydd gan lawer yn eu pregethau ganddo fe—fel 'doedd e ddim yn rhoi bwlch i Amen. Nid gwneud hwyl oedd ei bwnc, ond cael y bobl i gredu fod Duw yn barod i faddeu, a throi ato am faddeuant. Ond pan 'roedd e o fewn ryw bum' mynud i'r diwedd, fe drodd at y gynulleidfa, ac a ofynodd mewn llais tyner, caredig, 'Wrandawyr anwyl, a dreiwch ch'i Dduw am drugaredd? Mi wn fod y diafol am eich rhwystro, ac edliw eich holl bechodau i chwi, ond y mae yma un gair rydd daw byth arno, eto, eto, eto. Dywedodd ef dair gwaith yn uwch, yn gliriach, ac yn dynerach bob tro, ac erbyn y trydydd tro mi welwn Nansi Jones ar ei thraed, ac yn taflu ei breichiau ar led, a'r 'O diolch' cynhes, clochaidd, yn echo yr holl le, a Dai Sion Edmund yn ei dilyn a phawb yn cydymollwng i ganmol am yr uchaf, ac felly y terfynodd y cwrdd. Gweddiodd Williams, ond chlywodd neb yr un gair wedodd e, ond yr own i yn gwel'd ei wefusau yn ysgwyd, ac ar ol y cwrdd mi es i tuag adre wedi clywed Williams, Wern, mor uchel ag y gallasai un dyn ffaeledig mewn cnawd fod. Dyna i ch'i fy hanes i am Williams, Wern. A dyna i'r darllenydd yr hanes mor gywir a chyflawn ag y gallaf finau yn mhen tair blynedd ar hugain gofio adgofion y Parch. D. Jones, Gwynfe, am Williams o'r Wern. [10]"

Yn Hanes Bywyd y Parch. Richard Knill, tud. 257, dywed y Parch. John Angel James fel y canlyn: "In some of the paintings of the old masters there is the work of more hands than one. The more important and prominent subjects of the picture were elaborated by the artist who designed the piece, while the subordinate 'parts were left for others to finish." Felly yma, nid yn unig yr oedd Mr. Jones wedi dilyn Mr. Williams yn ddyfal, a sylwi arno yn fanwl, ond gwelir hefyd, ol llaw fedrus Dr. Thomas yn perffeithio llinellau y picturei orpheniad, fel rhwng y ddau, anrhegwyd ni â darlun rhagorol o Mr. Williams, drwy gyfrwng pa un y galluogir ni i weled yn gliriach y fath un ydoedd fel pregethwr. Pan ddarllenodd Dr. William Rees yr "Adgofion" blaenorol, gresynai am na buasent yn ei feddiant ef pan yr ydoedd yn ysgrifenu Cofiant Mr. Williams fel y gallasai eu rhoddi ynddo. Er mai fel pregethwr o'r radd flaenaf yr enillodd Mr. Williams y fath enwogrwydd, eto, na feddylied neb ei fod yn cyfyngu ei wasanaeth yn unig i'r pulpud; na, yr oedd ei ofal ef yn ymestyn i bob cyfeiriad. Ei dalentau dysglaerwych, a'i arian yn cael eu cyflwyno yn ewyllysgar, er cynorthwyo a chefnogi pob symudiad daionus yn y tir. Yn yr adeg hon teimlai Mr. Williams yn arbenig, yn nghyda'r Parchn. C. Jones, Dolgellau; J. Roberts, o Lanbrynmair; D. Morgan, Machynlleth, ac eraill o arweinwyr yr enwad Annibynol yn y Gogledd yn wyneb y camgyhuddiadau a'r camddarlunio oedd arnynt, fod ar yr enwad angen mawr am gyhoeddiad enwadol i egluro a dysgu ei egwyddorion yn eglwysig ac yn wladol i'r Dywysogaeth; ond yn y Gymanfa a gynaliwyd yn y Rhos ar y dyddiau Medi 26ain a'r 27ain, 1820, yr ymddyddanwyd gyntaf yn gyhoeddus ar y priodoldeb o gychwyn y Dysgedydd Crefyddol, fel y gelwid ef ar y dechreu. Dychrynai rhai wrth feddwl am y fath ymgymeriad, ond erbyn y cyfarfod a gynaliwyd yn Ninbych, Tachwedd 1af, 1821, i hyrwyddo yr amcan teilwng hwnw, yr oedd pethau wedi addfedu i'r fath raddau, fel y tynwyd allan gytundeb ysgrifenedig cydrhwng cychwynwyr y Dysgedydd, ac arwyddwyd ef ganddynt. Wele gopi o hono:—"Articles of Agreement," &c., 1821, Nov. 1st.

1. We, whose names are underwritten, have all and severally agreed, to publish a monthly Magazine, to be called Dysgedydd Crefyddol, Price 6d. per No.

2. That we shall forward to the Editors, some Article or other for insertion, monthly, and encourage our friends in our respective neighbourhoods to do the same.

3. That in case of loss attending the undertaking, we will bear it share and share alike; but if it should produce any gain, we shall consider ourselves entitled, severally, to a portion thereof, and the rest at our discretion to be applied towards religious purposes.

  • D. JONES, Holywell.
  • D. MORGAN, Machynlleth
  • R. EVERETT, Denbigh.
  • C. JONES, Dolgelley.
  • W. WILLIAMS, Wern.
  • J. EVANS, Beaumaris.
  • BENJ. EVANS, Bagillt.
  • D. ROBERTS, BANGOR.
  • ROB. ROBERTS, Treban.
  • EDW. DAVIES, Rhoslan.

JOHN ROBERTS, Llanbrynmair.
WM. HUGHES, Dinas.
These two were present, but left the place without signing their names to the document.
C. JONES.[11]

Er mantais i'r rhai na chawsent, ac fe ddichon, na chant byth, weled y rhifyn cyntaf o'r Dysgedydd,[12] yr hwn a ddaeth allan yn Tachwedd, 1821, dodwn yma yr hyn a geir ar glawr y rhifyn hwnw, yr hwn oedd i wasanaethu fel specimen copy o'r hyn oedd y Dysgedydd i fod, os y ceid cefnogaeth ddigonol gan yr enwad i'w ddwyn allan:—

"AT Y CYMRY,—SYLWER.

1. Fod y Dysgedydd Crefyddol i ymddangos yn nechreu Ionawr, 1822, a rhan bob mis o ganlyniad, pris Chwech Cheiniog, ar yr un fath bapyr a llythyrenau a'r rhan hon; os ceir digon o enwau erbyn y 15fed o Ragfyr. Dymunir, gan hyny, ar bob gweinidog yn mhlith yr Anymddibynwyr i ymofyn enwau yn ddioed, a'u danfon i'r derbynwyr ysgrifau, fel y gallont hwythau eu danfon i'r Golygwyr erbyn yr amser uchod.

II. Fod gweinidogion yr eglwysi Cynulleidfaol yn gyffredinol i gael eu hystyried y cyhoeddwyr, a bod llywyddiaeth y gwaith yn meddiant deuddeg o honynt fel Dirprwywyr, dau yn mhob sir, sef,

  • Trefaldwyn, John Roberts, a David Morgan.
  • Dinbych, William Williams, a Robert Everett.
  • Meirionydd, Cadwaladr Jones, a Michael Jones.
  • Caernarfon, David Roberts, a Edward Davies.
  • Mon, John Evans, Beaumaris, a Robert Roberts, Ceirchiog.
  • Fflint, David Jones, a Benjamin Evans.

III. Fod y gwaith i gael ei ranu yn ddosbarthiadau, fel y crybwyllir isod; gan hyny, dysgwylir i bob un o'r cyhoeddwyr i anfon ysgrifau ar unrhyw fater a ddewisant, er cynysgaeddu y naill ddosbarth a'r llall; ond dysgwylir i bersonau neillduol gymeryd y gwaith arnynt, a bod yn sicr o ddanfon ysgrifau bob mis yn y drefn ganlynol:—

Dosbarth 1. Hanes Bywydau, &c.:—J. Roberts, Llanbrynmair; Dr. Lewis, Drefnewydd.

2. Traethodau ar Dduwinyddiaeth, a sylwadau beirniadol ar ranau o'r Ysgrythyrau:—B. Jones, a T. Lewis, Pwllheli; W. Williams, Wern; E. Davies, Drefnewydd; W. Jones, Caernarfon; T. Jones, Newmarket, &c.

3. Hanes yr Eglwys o ddyddiau yr Apostolion:—D. Morgan, Machynlleth, a E. Davies, Rhoslan..

4. Hanes dechreuad a chynydd Sefydliadau Crefyddol, &c. :—D. Roberts, Bangor, a J. Breese, Liverpool.

5. Hanes Cenadaeth yr Efengyl yn mhlith y Paganiaid:—D. Jones, Treffynon; R. Everett, Dinbych.

6. Hanesion Gwladwriaeth yn bur fyrion, sef y pethau mwyaf hynod, ac yn enwedig y pethau y byddo un berthynas rhyngddynt a chrefydd:—C. Jones, Dolgellau, a J. Jones, Machynlleth.

7. Barddoniaeth,—W. Hughes, Dinas Mawddwy; T. Williams, Rhes-y-cae: J. Thomas, Chwilog; T. Jones, Liverpool; Gwilym Cawrdaf a Morris Davies o Ddolgellau, &c.

8. Amrywiaeth,—

Sylwer yma, nad yw nodi materion neillduol i bersonau neillduol, megys uchod, yn atal y personau hyny i ysgrifenu ar bethau eraill, ar un cyfrif, ond dysgwylir iddynt hwy (a phawb a ewyllysio) wneud eu goreu ar y materion eraill hefyd. Heb ffyddlondeb yn y personau uchod, nid all y gwaith fyned yn mlaen yn rheolaidd.

IV. Fod un yn cael ei osod yn mhob sir yn dderbynydd ysgrifau, oddiwrth y rhai a fyddo yn danfon i'r DYSGEDYDD yn y gwahanol siroedd, sef yn Sir Drefaldwyn, John Roberts, Llanbrynmair:—

Sir Gaernarfon, David Roberts, Bangor:—Sir Fon, John Evans, Beaumaris:—

Sir Feirionydd, Michael Jones, Llanuwchllyn:—Sir Ddinbych, Robert Everett:—

Sir Fflint, David Jones, Treffynon.

V. Dysgwylir i bob eglwys i benodi rhyw un crefyddol yn eu plith i fod yn Ddosbarthwr y Rhifynau, ac i dderbyn tal am danynt, ac i ddanfon yr arian at y derbyniwr ysgrifau yn ei sir ei hunan, bob tri mis yn y Gogledd, a phob chwech mis yn y Deheudir.

VI. Fod dymuniad a dysgwyliad ar i'r brodyr yn y Deheudir i roddi pob cymhorth a allant i fyned a'r gwaith yn mlaen, drwy anfon defnyddiau ac ymdrechu i'w gwerthu.

VII. Fod y dirprwywyr i gyd—ddwyn y golled, os felly y bydd. Ond os bydd y gwaith yn troi allan yn dda, er enill wedi talu pob traul, fod yr enill i gael ei ddefnyddio, dan olygiad y dirprwywyr yn y ffordd y barnant oreu er helaethiad achos Iesu Grist.

VIII. Fod y cyfrifon a berthyn i'r cyhoeddiad i gael eu sefydlu yn flynyddol gan y dirprwywyr.

Hysbysir yma fod i bawb ddanfon eu hysgrifau yn ddidraul,"

Yn ngoleuni yr uchod, gwelir mor ddeheuig a gofalus oedd cychwynwyr y Dysgedydd yn eu hymgymeriad pwysig. Diau mai angenrhaid oedd iddynt fod felly, canys nid anturiaeth fechan mewn un modd oedd cychwyn cylchgrawn misol ac enwadol y pryd hwnw, a'i bris yn chwe'cheiniog y rhifyn. Dechreuwyd cyhoeddi y Dysgedydd yn rheolaidd yn Ionawr, 1822. Cyfarfyddodd â gwrthwynebiadau lawer, ond daliodd ei dir, ac ychwanegodd gryfder a dylanwad daionus yn mhob cyfeiriad, a heddyw, ar ol gwasanaethu am ddeuddeg mlynedd a thriugain, y mae ei dderbynwyr yn fwy niferus nag erioed o'r blaen, a dylent fod yn lluosocach eto. Bu gwŷr galluog yn Olygwyr arno, o'r Hybarch. C. Jones, ei Olygydd cyntaf, hyd y gwr galluog a phoblogaidd sydd yn ei olygu yn awr mor fedrus a llwyddianus, a phell iawn fyddo y dydd pan yr ymddeola y Prifathraw E. Herber Evans, D.D., o'r Olygiaeth. Ymroddai Mr. Williams â'i holl egni i wasanaethu achos yr Arglwydd yn mhob modd gartref ac oddicartref yn y cyfnod hwn. Anghofiai ei gysuron cartrefol a theuluaidd yn hollol, gan yr awyddfryd oedd ynddo i wneuthur daioni yn gyffredinol. Cawn ef mewn cyfarfod cenadol pwysig yn Nghaernarfon, Hydref 5ed, 1821, yr hwn a gynaliwyd yn Llysdy y Sir; a thraddododd araeth effeithiol iawn yn y cyfarfod hwnw, sylwedd yr hon sydd fel y canlyn:—"Pan oedd Gedeon yn myned i ryfel, yr oedd yn gorchymyn i'w lu udganu yn yr udgorn o amgylch y gwersyll, "Cleddyf yr Arglwydd a Gedeon," ni allasai Gedeon wneud dim heb gleddyf yr Arglwydd, ac nid ai cleddyf yr Arglwydd ei hunan, heb ro'i yr anrhydedd i Gedeon i ddyfod gydag ef. Mae pob peth yn cydlefain am ein bywiog gydweithrediad i anfon yr efengyl at y paganiaid; mae mur gwahaniaeth rhwng Iuddewon a Chenedl—oedd wedi myned i lawr, mae y meirw sydd yn eu beddau yn gwaeddi am i ni wneud eu colled hwy i fyny―y genedl sydd yn dyfod ar ein hol, megys yn gwaeddi am i ni ro'i esiampl deilwng o'u blaen hwythau yr holl greadigaeth fawr i gyd yn cydruddfan o eisiau i'r gwaith yma fyned yn mlaen yr haul megys yn dweyd, yr wyf fi wedi tywynu 1800 o flynyddoedd ar Affrica er pan groeshoeliwyd y Gwaredwr, a ydych chwi ddim am anfon gwybodaeth o hono bellach yma? Pob deilen o de yr India, a phob gronyn o goffi y Tyrciaid, a phob llwchyn o siwgr yr India arall megys yn dywedyd, danfonwch efengyl yn ein lle; y mae coed y maes fel yn gwaeddi, ni a wnawn longau; y carth, gwnawn ninau hwyliau; y llin, gwnawn ninau bapyr i argraffu Beiblau; y môr bob tro y daw ei lanw dros fanciau Caernarfon, fel yn gofyn a oes neb yn foddlon i fyned drosodd i gyhoeddi yr efengyl dragwyddol; angylion y nef yn galw; ymysgaroedd trugarog Duw, ïe, gwaed y Cyfryngwr bendigedig yn galw arnom i ddeffroi o gwsg pechadurus, ac anfon yr efengyl i'r holl fyd. Ond wrth wneud pob ymdrechiadau, ystyriwn yr angenrheidrwydd o ddwys weddi at Dduw am ddylanwadau y Tragwyddol Ysbryd i orphwys yn fwy helaeth ar bob gweinidog, ac ar bob Cristion yn gyffredinol.

Yn y flwyddyn 1822, dymunodd Mr. Williams am gael ymryddhau o'i ofal gweinidogaethol yn Llangollen a Rhuabon, ac yn ol ei gynghor i'r ddwy eglwys, cytunasant â'u gilydd i roddi galwad i Mr. Davies o Athrofa y Drefnewydd i ddyfod i'w bugeilio. Cynaliwyd cyfarfod yn Llangollen i'w ordeinio, Awst 29ain, 1822. Ychydig cyn hyn y symudodd Mr. Williams o Langollen, gan fyned i fyw i'r Talwrn, anedd dawel a hyfryd rhwng y Wern a'r Rhos. Profodd y symudiad hwn o'i eiddo yn fanteisiol iddo ef, ac yn fendithiol iawn i eglwysi y Wern a'r Rhos, y rhai a flodeuent yn brydferth, ac a gynyddent beunydd dan ei weinidogaeth gyfoethog. Teithiai hefyd i leoedd pell oddiwrth eu gilydd yr adeg hon. Cawn ddarfod iddo, Mai 9fed, 1823, bregethu pregeth genadol hynod iawn yn Llundain oddiar Haggai i. 2—6. Oddiwrth lyfr cofnodion y diwedd—ar Mr. Richard Griffith, Ty mawr, Aberdaron, yr hwn oedd yn hanesydd, hynafiaethydd, a chofnodydd campus, gwelir ddarfod i Mr. Williams bregethu Tachwedd 17eg, 1823, yn Aberdaron, oddiar y geiriau "Ac eraill, gan ei demtio, a geisiasant
ganddo arwydd o'r nef." Gan nad oedd yno gapel, bwriedid cynal yr oedfa mewn ty anedd o'r enw Hen Blas, ond pan welwyd y bobl yn dylifo i lawr o'r Rhiw a thrwy Ben y Caerau, deallwyd yn fuan mai ofer oedd meddwl am bregethu yn y ty. Er mai Tachwedd ydoedd, eto yr oedd yr yr hin yn hyfryd y dydd hwnw. Ceisiwyd gan Mr. Williams ddyfod allan i bregethu, a chydsyniodd yntau â hyny. Gweithiwyd rhyw fath o fanllawr ar unwaith; ac erbyn hyny, yr oedd y pentref yn llawn o bobl, yn awyddus am ei glywed. Dangosai y pregethwr, a hyny mewn modd goleu ac eglur iawn,. fod gan y dyn ei hunan rywbeth i'w wneuthur er ei gadwedigaeth, cyn meddwl am arwydd ychwanegol o'r nef. Dychrynodd yr uchel—Galfiniaid oedd yno wrth glywed y fath athrawiaeth yn cael ei thraddodi iddynt. Wedi myned adref, a meddwl llawer am y pethau a wrandawsai, methai yr hen John Williams, Deuglodd, a gofyn bendith ar y bwyd; ac a defnyddio geiriau Mr. Richard Griffith, ei gâr, "yr oedd yr hen ffwlcyn yn sefyll wrth y bwrdd, ac yn ymsgrwtian gan ofyn, "Dyn, dyn, beth fedr dyn wneud, beth fedr dyn wneud?" Beth bynag am hyny, cafwyd rhyw oedfa eneiniedig, a grymus nodedig y tro hwnw yn Aberdaron, yr hon a barodd i lawer un ofyn o ddifrif, "Beth sydd raid i mi ei wneuthur fel y byddwyf gadwedig?" Heblaw bod yn wasanaethgar ei hunan, anrhydeddwyd Mr. Williams, a'r eglwysi o dan ei ofal, â'r fraint o gael codi a chychwyn pregethwyr, y rhai a fuont yn wir ddefnyddiol i'r enwad Annibynol, ac i grefydd yn gyffredinol. Yn nhymhor ei weinidogaeth ef yn y Wern, y cyfodwyd yno i bregethu y gweinidogion defnyddiol a ganlyn, y Parchn. Robert Morris, Saron, Tredegar; a Moses Ellis, Mynyddislwyn; ac un o'r Wern yw yr Hybarch William Daniell, Knaresborough; ond yn Manchester y dechreuodd ef bregethu. Yn eglwys y Rhos y dechreuodd yr hynod Ismael Jones, a'r Parchn. Robert Thomas, Hanover, a Samuel Evans, Llandegla, bregethu. Yn eglwys Harwd y cyfodwyd y Parch. Edward Davies, M.A., yr hwn a fu Athraw galluog yn Ngholeg Aberhonddu gyfnod maith; ac yn Harwd hefyd y cyfodwyd y Parch. William Thomas, yr hwn a fu yn weinidog cymeradwy yn Nwygyfylchi, ac wedi hyny yn Beaumaris. Er cymaint a sonir am aflwyddiant eglwys Harwd yn nyddiau Mr. Williams, eto yr ydym yn ystyried ein bod yn ddyledus iddi, pe na buasai wedi gwneuthur dim ond rhoddi i ni y dynion ardderchog a nodwyd.

PENNOD VIII.

O'R OEDFA YN ABERDARON HYD YR OEDFA YN NGHAPEL Y WESLEYAID YN Y RHOS 1823—1831

Y CYNWYSIAD—Cyfnod arbenig yn hanes MR. WILLIAMS—Cymanfa Llanerchymedd—Darluniad Gwalchmai o'n gwrthddrych yn pregethu ynddi ar y "wlad well" Helaethu Capel y Wern i'w faintioli presenol— Eglwys Rhuthyn mewn helbul—MR. WILLIAMS yn gwasanaethu mewn angladd yn Rhuthyn—Rhoddi Harwd i fyny—Llythyr at y Parch. C. Jones, Dolgellau—Crynodeb o bapyr yr Hybarch S. Evans, Llandegla—Nodwedd MR. WILLIAMS fel gweinidog a bugail—Llythyr y Parch. R. Roberts, Rhos—MR. WILLIAMS yn addaw myned i bregethu i'r Beast Market, Wrexham—Cael oedfa hynod yno—Gweinidog perthynol i'r Ranters yn tystio mai o dan bregeth MR. WILLIAMS yr argyhoedd— wyd ef—Merch ieuanc o'r Frondeg yn ymuno â'r Ranters yn Wrexham—Ei mam yn pryderu yn ei chylch MR. WILLIAMS yn tawelu ei meddwl— Tystiolaeth y Parch. J. Rowlands, Talsarn, am "Bregeth y mamau" yn y Rhos

YR ydym yn awr yn nesau at gyfnod arbenig ac amlwg iawn yn hanes ein gwrthddrych parchedig, ac yn dyfod i edrych ar un o'r oedfaon hynod, yr hon a adwaenir hyd y dydd heddyw, fel yr un a gododd yr enwad Annibynol i fwy o sylw a pharch drwy holl Ynys Mon, nag oedd iddo yn y wlad cyn hyny. Cyfeirio yr ydym at Gymanfa Llanerchymedd, yr hon a gynaliwyd Mehefin 16eg a'r 17eg, 1824; am yr hon y clywsom lawer, yn enwedig am yr effeithiau grymus a nefol a deimlid ynddi, pan bregethai Mr. Williams ar y "wlad well." Gan fod amseriad y Gymanfa hono yn dal perthynas a'r cyfnod hwn, nis gallwn ymatal heb roddi yma y darluniad campus a ganlyn o'r oedfa hono gan y Parch. R. Parry, (Gwalchmai), yr hwn a welir yn y Dysgedydd Hydref, 1877, tudalen 295, 296. "Gellid golygu ei ymweliad â Mon yn amser y Gymanfa hynod hono yn Llanerchymedd, fel cyfnod arbenig yn ei fywyd. Y mae yr amgylchiadau ar gof a theimlad nifer yn yr Ynys hyd y dydd hwn. Yr oedd yn nghanolddydd ei boblogrwydd y pryd hwnw, ac yr oedd dysgwyliad mawr am dano, a'r son am ei fod i bregethu yn y gymanfa wedi cyrhaedd pob man. Nid oedd y cyffredin yno wedi ei weled na'i glywed erioed; ac yr oedd yn naturiol dysgwyl y byddai nifer y gwrandawyr yn lluosocach nag arferol. Pregethodd y nos gyntaf yn Nghapel y Methodistiaid; ni addawai bregethu ddwywaith ar y maes, ac yr oedd yn eglur ei fod yn cadw ei nerth erbyn dranoeth. Ei bwnc oedd addysgiaeth gref—yddol yr ieuainc, oddiwrth Salm lxxviii., "Canys efe a sicrhaodd dystiolaeth yn Jacob, ac a osododd gyfraith yn Israel, y rhai a orchymynodd efe i'n tadau eu dysgu i'w plant, fel y gwybyddai yr oes a ddel, sef y plant a enid, a phan gyfodent, y mynegent hwy i'w plant hwythau, fel y gosodent eu gobaith ar Dduw, heb anghofio gweithredoedd Duw, eithr cadw ei orchymynion ef."[13] Enillodd serch y bobl yn lan ar y bregeth gyntaf. Yr oedd y cynulliadau dranoeth yn lluosocach na dim a welwyd o'r blaen gyda'r enwad. Pregethai Mr. Williams am 2 o'r gloch; yr oedd yr hin yn frwd, yr awel yn drymllyd, a theimladau y dorf yn swrth. Pregethai un Mr. Lewis, o Bwllheli, o'i flaen, ac er ei fod yn traddodi gwirioneddau digon teilwng, eto, nid oedd yn gallu enill un math o sylw, ac ymollyngai lluaws mawr o'r bobl i orweddian yn wasgarog ar y maes. Ymddangosai Mr. Williams yn dra anesmwyth ar hyd yr amser; aeth i lawr o'r areithfa, dro neu ddau, cerddai ychydig o amgylch, ond dychwelai yn fuan, ac yr oedd fel pe buasai wedi ei orchuddio gan bryder. Terfynodd y bregeth gyntaf. Daeth yntau yn mlaen at y ddesg; edrychai yn lled gyffrous, gan dremio yn o wyllt dros y dorf, ar y naill law a'r llall, a'i enaid yn eglur ar dân gan wres ei bwnc, a'i galon wedi ei llanw â meddyliau byw; yr oedd yn hynod gweled y dorf yn codi, a phawb yn ymsypio at eu gilydd, o'r braidd, gan yr olwg arno yn dychymygu ei glywed yn dywedyd gydag Elihu, "Yr ydwyf yn llawn geiriau, y mae yr ysbryd sydd ynof yn fy nghymhell i, wele fy mynwes fel gwin, nid agorid arno; y mae hi yn hollti fel costrelau newyddion," &c. Yr oedd pob wyneb ger ei fron fel pe buasai wedi ei wisgo âg arwyddion dysgwyliad wrtho. Darllenodd ei destun yn lled eofn a chyflym, "Eithr yn awr gwlad well y maent hwy yn ei chwenych, hyny ydyw, un nefol." Daeth yn fuan i afael âg enaid ei weinidogaeth, gan dywallt ffrwd o ddarluniad swynol o Ganaan, ac Abraham yn teithio ar ei hyd a'i lled, i gael golwg ar ei holl ddolydd lysion, a'i llethrau dengar, gan chwilio yn awyddus am y man lle y gallai adeiladu tref iddo ei hun a'i olynwyr, a'i galw "TREF ABRAM," &c. Yn ddiau, yr oedd ei ddarluniad dyddorol o'r hen batriarch mewn iaith mor ddestlus a theuluaidd, mewn parabl mor berseiniol, ac mewn lliwiau mor naturiol, a'i sylwadau hudolus ar y naill lethr a bryn, a gardd a pherllan; a'r llall, yn ddigon i syfrdanu teimlad y gwrandawr mwyaf clauar ei farn, a pheri iddo anghofio pa le yr oedd yn sefyll; gollyngodd y fath ddiluw o hyawdledd cerddorol i chwareu ar bob clust a chalon, fel cyn pen ugain munyd yr oedd holl deimladau y dorf yn gwbl at ei law a'i alwad; a phan yr oedd y bobl felly, fel pe buasent wedi colli pob hunanfeddiant, trodd yn sydyn, a gwaeddodd, "Na, na, dim o'r fath beth nid am y wlad hono yr ymofynai, gwlad well oedd yn ei olwg ef o hyd," a dilynodd, wedi hyny, mewn darluniad o'r Ganaan nefol, yn ei thra rhagoroldeb, nes yr oedd pawb fel pe buasent yn dychymygu fod y ddaear lle y safent yn symud o dan eu traed. Wedi hyny daeth rhagddo at yr athrawiaeth a'r addysgiadau bwriadol, gyda dylanwad dihafal ar y dorf. Tro i'w hir gofio ydoedd.

Dywedodd un amaethwr cyfrifol o'r gymydogaeth am ei deimlad ar y pryd, "Yn wir, welwch chwi, yr oeddwn o'r braidd wedi anghofio nad yn Nghanaan yr oeddwn, yn cydgerdded âg Abraham, gan ei weled a'i glywed, pan yn edrych ansawdd y wlad, rhwng y bryniau a'r nentydd, ac yn gwneud ei adolygiad ar holl gyrau y fro." Arosodd y syniadau yn fyfyrdod byw gan bawb yn hir; yr oedd ef ei hun yn ystyried hwn yn un o droion hynotaf ei oes, canys buwyd yn ymddyddan âg ef am y bregeth flynyddau wedi hyny. Bernir fod ei bregeth am y nefoedd y tro hwn wedi bod yn foddion i godi sylw at yr enwad drwy yr ynys o'r bron. Yn gyferbyniol â'r bregeth hon, traddododd un yn mhen y ddwy flynedd wedi hyny, mewn cymanfa yn Amlwch, ar uffern, allan o'r ddameg ar y gwr goludog. Yr oedd hi Yr oedd hi yn adeg o ddiwygiad crefyddol drwy y wlad gyda phob enwad ar y pryd, a thorodd allan yn fath o orfoledd dan y bregeth. Nid oedd Mr. Williams yn gweled hyny yn gydweddol âg amcan ei genadwri, a throdd i roddi cynghor tyner i'r bobl, i ystyried ei weinidogaeth gyda myfyrdod dwys, a rhwng y naill beth a'r llall, ni chafod y tro hwnw mor hwyl a'r dylanwad a gawsai y tro blaenorol. Yr oedd ei amcan yn y ddwy bregeth i ddwyn bywyd ac angeu, nefoedd ac uffern, yn ddigon effeithiol gerbron, i adael argraph er daioni, ond aeth y bobl i wres teimladau yn rhy fuan, fel na chafodd ef weithio ei ffordd trwy y deall at y galon, fel y dymunasai, er mor effeithiol a hapus oedd ei draddodiad ar y pryd. Y mae y cyfeiriadau uchod yn ddigon i roddi mantais i bob sylwedydd craff weled yn mha ffordd yr oedd rhagoriaethau Mr. Williams yn dyfod i'r golwg egluraf."

Er y byddai Mr. Williams yn fynych oddicartref yn y cyfnod hwn, eto cynyddai yr eglwysi yn nghylchoedd neillduol ei ofal yn amlwg, ac yr oedd eglwys y Wern wedi cynyddu cymaint, fel erbyn y flwyddyn 1825, bu yn rhaid helaethu y capel i'w faintioli presenol, a phrynwyd hefyd ddarn o dir i'w ychwanegu at y fynwent. Ymestynai ei ofal hefyd, am yr eglwysi yn gyffredinol, fel os y goddiweddyd rhyw eglwys wan yn rhywle nes ei bod yn druan a helbulus gan dymhestl, ac yn ddigysur, byddai ef y parotaf o bawb i'w hamddiffyn a'i dyddanu. Bu yn helbulus iawn ar eglwys Rhuthyn pan chwythodd tymhestl oddiwrth yr adeiladydd arni, ond bu Mr. Williams yn noddydd ffyddlon iddi yn nydd ei chyfyngder, fel y dengys

yr hyn a ddywed Mr. John Hughes, Rhuthyn, am y dymhest hono:—"Bu angenrhaid ar Mr. Williams i fyned i'r llys gwladol yn Liverpool, yn dyst yn achos Capel Rhuthyn. Efe a fu y prif offeryn yn y gwaith o brynu y tir gan Mr. Froude, Plasmadog, Wrexham, i adeiladu y capel arno. Teimlai Mr. Williams ddyddordeb dwfn, ac anarferol iawn yn eglwys Rhuthyn. Byddai yma yn aml yn ystod yr adeg yr oeddis yn adeiladu y capel, a hyny er mwyn gweled pa fodd yr oedd y gwaith yn myned yn mlaen. Hysbyswyd ef nad oedd yr adeiladydd ddim yn gweithredu fel y dylasai, a daeth yntau yma yn ddioedi. Gwelodd fod yr adeiladydd ar y ffordd i golledu yr eglwys fechan yn fawr, drwy wneuthur gwaith twyllodrus ar y capel. Ataliwyd ef rhag myned ddim yn mhellach gyda'r adeiladu. Penderfynodd fyned a'r achos i'w benderfynu mewn llys barn; ac nid oedd gan yr eglwys hithau ond myned yn mlaen i amddiffyn ei hunan. Dewiswyd Mr. Williams o'r Wern; Mri. Edward Jones, Post Office; a Thomas Jones, Draper, Rhuthyn, i dystiolaethu drosti yn y llys. Wedi gwrando tystiolaethau cedyrn, a galw y tystion, ni chafodd y rheithwyr un drafferth i benderfynu yn mhlaid yr eglwys. Bu raid i'r adeiladydd dalu swm mawr o iawn i'r eglwys, ac hefyd orphen y capel yn ol y cymeriad cyntaf. Nid oedd neb yn dyfod o Liverpool yn fwy llawen ei galon na Mr. Williams, a hyny am ddarfod iddynt enill buddugoliaeth i'r chwaer fechan oedd heb fronau iddi yn Rhuthyn. Cymerodd un amgylchiad neillduol arall le yn Rhuthyn yn nglŷn â Mr. Williams, nad oes un crybwylliad am dano yn unman, na neb yma, oddieithr un hen chwaer a minau fy hun yn unig, yn cofio dim yn ei gylch. Yr oeddym ni yn llygaid dystion o'r hyn a gymerodd le. Daeth Mr. Williams i Rhuthyn yr adeg hono hefyd, ar ryw neges yn nglŷn a'r capel, fel llawer tro arall. Yr oedd teulu duwiol, ac hefyd adnabyddus iawn iddo ef, mewn trallod chwerw o herwydd marwolaeth merch anwyl iddynt. Nid oedd yr ymadawedig wedi ei bedyddio yn Eglwys Loegr, ac oblegid hyny, daeth gair oddiwrth y Parson, foreu dydd y claddedigaeth, yn hysbysu na wnelai ef ddim ei chladdu, am y rheswm nad oedd wedi ei bedyddio yn yr Eglwys. Ychwanegodd hyny eu trallod yn fwy byth. Ond cyfododd iddynt ymwared o le arall. Eglurodd Mr. Edward Jones, Post Office, yr amgylchiadau i Mr. Williams, gan ei hysbysu fod Mr. Evan Thomas (tad y ferch) mewn trallod blin. Dywedodd yntau am iddo anfon gair i'r tad trallodus, i orchymyn iddo barotoi at gychwyn yr angladd, ac y byddai ef wrth y ty yn gwasanaethu; ac felly fu, gweddiodd yn nodedig o effeithiol. Aethpwyd a'r corff i'r fynwent, a rhoddwyd ef yn y bedd, yr hwn nad oedd ond mur y fynwent yn gwahanu rhyngddo a'r ffordd fawr oddiwrth eu gilydd. Safai Mr, Williams ar risiau hen dy a elwir y Goat yr ochr arall i'r ffordd, gan wasanaethu o'r fan hono, canys nid oedd rhyddid iddo fyned i'r fynwent. Wedi gorphen y gwasanaeth, gorchymynodd i'r Rector a'r clochydd ddyfod ato i dderbyn y tâl arferol, a thalodd o'i logell ei hun holl draul y claddedigaeth. Edrychid ar Mr. Williams y pryd hwnw, fel un diystyr o'r defodau Eglwysig, a cheblid ef am hyny, ond yr oedd ganddo ef ddigon o nerth, fel nad oedd un perygl iddo lwfrhau yn amser cyfyngder. Er y gorfodir ni i ymgydnabyddu â ffeithiau. o'r fath a nodwyd, eto nis gallwn ymatal heb ymlawenhau yn y rhyddid eangach sydd genym ni, yr hwn a enillwyd i ni â mawr swm o ymdrechion a helbulon o eiddo cefnogwyr rhyddid gwladol a chrefyddol, ac yn arbenig wrth gofio fod i ni etifeddiaeth eangach yn y golwg, a hyny heb fod yn mhell oddiwrthym, ac yn y dyddiau hyny, ni bydd yn rhaid i weinidogion yr Arglwydd sefyll o'r tu allan i'r eglwys, chwaithach y tu allan i'r fynwent, wrth weinyddu mewn angladdau, canys eu traed a safant o fewn ei phyrth hi ar ddydd gogoneddus cydraddoldeb a brawdgarwch crefyddol.

Yn y flwyddyn 1828 rhoddodd Mr. Williams eglwys Harwd i fyny, a chymerodd y Parch. Jonathan Davies ei gofal mewn cysylltiad â Phenuel. Erbyn hyn, nid oedd gan ein gwrthddrych ond y Wern a'r Rhos yn uniongyrchol i ofalu am danynt. Arferai draethu ei syniadau ar wahanol faterion yn eofn a diamhwys, ac oblegid hyny, ystyriai rhai brodyr gochelgar ei fod weithiau yn myned i eithafion." Anfonodd ei gyfaill y Parch. C. Jones, Dolgellau, lythyr ato unwaith, yn ei anog i fwy o ochelgarwch, a chafodd oddiwrtho yr atebiad canlynol:—

"Wern, Medi 26ain, 1829. [14]

FY ANWYL FRAWD,—

Yr wyf yn rhwymedig i chwi am y cynghor iachusol a gynwysai eich llythyr diweddaf. Awgrymasoch fy mod i yn dueddol i fyned i eithafion am bersonau a phethau, a rhoddasoch i mi gynghor difrifol i gymeryd gofal am fod yn gymedrol, ac i beidio meddwl a llefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau neu bethau. Amen, ac Amen. Yr enghraifft a roddasoch oedd yr hyn a ddywedais yn Llanbrynmair; a thybiwn eich bod wedi rhoddi y gryfaf a allasech gofio i'm hargyhoeddi o'm bai. Ond yr wyf fi yn y tywyllwch, ac heb wybod pa le y mae yr eithafion yn yr ymadrodd hwnw. Ni honais unrhyw anffaeledigrwydd ar y pwnc. Ni roddais fy marn yn gyfraith i neb. Ni chondemniais neb. Dim ond amlygu fy nheimladau fy hun ar y mater. Prin yr wyf yn meddwl y buasai offeiriad Pabaidd yn ei deimlo. Yn eich llythyr nesaf, nid wyf yn amheu na byddwch mor deg a dangos mai rheol y Testament Newydd, a'r Hen hefyd, ydyw, fod i ni dderbyn plant i'r eglwys yn ddirgel, a bod holl ddybenion Bedydd yn cael eu cyrhaeddyd yn y ffordd hono; a dangos yn mhellach pa mor bell y gwyrais i oddiwrth y rheol hono tuag eithafion. Yr ydych chwi yn fy anog i fynu cael barn Mrs. Williams ar y pwnc; ond yr wyf yn ofni nad yw hi yn ddigon diduedd i roddi barn deg ar y mater. Yr ydych yn fy anog i fod yn ochelgar a chymedrol yn fy nodiadau ar bersonau. Er hyny, dywedasoch chwi am A. Jones; 'yr wyf yn credu yn gryf ei fod wedi gwneud yr hyn sydd o'i le yn ddiamheu.' Arferwn feddwl ein bod i farnu am bersonau wrth eu hymddygiadau, ac os gwnaethant yn ddiamheu bethau sydd yn feius ac o'u lle, y dylem ymdrechu eu hargyhoeddi o hyny, ac os na lwyddwn, nad ydym i ddal cysylltiad â hwynt; ond dywedwch chwi nad wyf fi i wneud felly. Cymerwch ofal, byddwch gymedrol, hyny yw, os na chredaf fi fod amcanion pobl sydd a'u gweithredoedd yn hollol ddrwg yn amcanion da, yr wyf fi yn myned i eithafion. Dymunwn wybod trwy eich llythyr nesaf, pa un ai wrth eu hymddygiadau, neu ynte wrth eu hamcanion yr ydym i farnu personau? Mi a feddyliais wrth eich llythyr mai eu hamcanion yw eich rheol chwi i farnu am danynt, ac y dylwn inau briodoli amcanion da ddynt, er fod eu hymddygiadau yn hollol ddrwg yn ddiamheuol; ac os na wnaf hyny, yr wyf yn euog o fyned i eithafion, ac o lefaru yn rhy fyrbwyll am bersonau. Dysgwyliaf i chwi roddi i mi well eglurhad ar bethau na rhywbeth fel yna. Ein cofion caredicaf at Mrs. Jones, a derbyniwch yr unrhyw eich hunan.

Ydwyf, yn parhau yn gymaint cyfaill i chwi ag erioed,

W. WILLIAMS."

O.Y. "Nid ydych yn dywedyd gair am eich bwriad i ddyfod i'n Cymanfaoedd. Ymdrechwch ddyfod, a threfnwch eich taith fel y galloch fod am un noswaith yn ein ty ni."

Nid oes angen prawf eglurach o gyfeillgarwch pur o bobtu, na'r hyn a ddangosir i ni drwy gyfrwng y llythyr blaenorol.

Edrychasom ar ein gwrthddrych Parchedig hyd yma yn nghyflawniad ei waith fel pregethwr, ac yn nglŷn â symudiadau cyhoeddus ei enwad yn gyffredinol; ond o hyn i ddiwedd y bennod hon, nyni a edrychwn arno fel gweinidog a bugail yn ei gylchoedd cartrefol. Gwnawn hyny yn ngoleuni cynwys papyr gwerthfawr a ddarllenodd yr Hybarch Samuel Evans, Llandegla, yn nghyfarfod sefydliad y Parch. T. E. Thomas yn Nghoedpoeth, Medi 24ain, 1887:—"Mae enw Mr. Williams wedi ei argraffu yn ddwfn yn hanes ein gwlad a'n cenedl, ac yn enw y cyfeirir ato yn ddiau gyda pharch diledryw, ac edmygedd mawr am oesau eto i ddyfod. Nid oes yn ngweddill yn awr neb y gellir yn briodol eu galw yn gydoeswyr iddo. Ychydig o'r rhai a'i gwelsant, ac a'i clywsant, sydd yn aros heddyw ar y maes. Dichon fod ysgrifenydd y llinellau hyn, ac un neu ddau eraill yn eithriad yn hyn o beth. Adwaenwn Mr. Williams fel dyn er y flwyddyn 1827, pan nad oeddwn eto ond deng mlwyddd oed. Yn mhen rhyw ddwy flynedd wedi hyny, dygwyd fi i gyfleusdra i gael bod o dan ei weinidogaeth yn Rhosllanerchrugog; a phan yn un ar bymtheg oed, derbyniwyd fi ganddo ef yn gyflawn aelod o'r eglwys barchus hono. O'r pryd hwnw hyd adeg ei ymadawiad i Liverpool, cefais ef fel tad a chyfaill, a pharhaodd y gydnabyddiaeth drwy ystod ei arosiad byr yn Liverpool, ac ar ol ei ddychweliad i hen faes ei lafur hyd derfyn ei oes. Wrth hyn, fe wel y darllenydd fy mod wedi cael braint y chwenychasai llawer sydd yn awr yn fyw fod wedi ei chael. Nid ydwyf byth wedi maddeu i mi fy hun am fy niofalwch a'm hesgeulusdod dybryd, yn peidio defnyddio y cyfleusdra neillduol a gefais i fanteisio ar yr agosrwydd a'r cysylltiad agos a fu rhyngwyf â'r fath ddyn rhagorol. Clywais ganddo bregethau cynhyrfus, mwynheais lawer o gyfarfodydd eglwysig dan ei weinidogaeth, a threuliais lawer o amser yn ei gwmni buddiol ac adeiladol, ac o herwydd fy niofalwch a'm hesgeulusdra dirfawr, y mae arnaf gywilydd hysbysu fy mod yn un o ddisgyblion Williams o'r Wern, er y cyfrifasid hyny yn anrhydedd uchel gan lawer, ac felly yn ddiau yr wyf finau fy hun yn ei chyfrif. Er mai fel pregethwr neu efengylydd y rhagorai Mr. Williams, a phregethu a enillodd iddo y fath enwogrwydd fyth barhaol; eto yr oedd yn weinidog a bugail da a gofalus, yn enwedig gellid edrych arno felly wrth gymeryd eangder maes ei lafur i ystyriaeth. Talai ymweliadau achlysurol â'r holl aelodau, yn enwedig y rhai cystuddiol, profedigaethus ac oedranus; ac amcanai at adael argraff ddymunol a daionus ar ei ol yn ei holl ymweliadau. Rhoddai bwys mawr yn ei bregethau a'i ymddyddanion, ar yr angenrheidrwydd o feithrin crefydd bersonol, fel prif gymhwysder i ddefnyddioldeb dros Dduw, ac fel safon i gymeradwyaeth yn ngolwg dynion. Pan yn cyfeirio at hyn, dywedodd unwaith, 'Ni bydd gan neb ffansi o'r leg futton oreu oddiar ddysgl fudr—yn ngweinyddiad dysgyblaeth eglwysig, arferai bwyll, doethineb, a ffyddlondeb dihafal.

Cymerai ei lywodraethu yn ei farn i raddau go bell, gan natur y cyhuddiad a ddygid yn erbyn y troseddwr, a'i farn bersonol am gymeriad cyffredinol y cyhuddedig. Gallai beri i'r fflangell ddisgyn, yn drom, pan y barnai fod yr achos yn galw am hyny, yn enwedig pan y canfyddai ysbryd anhywaeth yn yr hwn a ddysgyblid. Ond ei nod ef yn wastad fyddai ceisio edrych ar yr ochr dyneraf i'r achos. Safai yn gryf yn erbyn diarddeliad, os oedd diwygiad neu adferiad mewn un modd yn bosibl. Rhoddai i'r cyhuddedig fantais pob amheuaeth yn ei achos. Dywedai, gwell genyf oddef yn yr eglwys bump o ragrithwyr, na throi un Cristion allan o'r eglwys. Rhoddaf yma enghraifft o'i waith a'i ddull yn gweinyddu dysgyblaeth. Yn yr ymdrech gyffredinol a wnaed i ddileu dyledion addoldai yr Annibynwyr yn Nghymru, bu Mr. Williams yn Lloegr yn casglu am fisoedd at yr amcan hwnw. Yn ystod ei absenoldeb, dygwyddodd i ryw chwaer led afrywiog ei thymherau ymrafaelio gyda chymydoges iddi, ac yn ystod yr ymrafael, bygythiodd hi a'r haiarn smwddio. Yn y cyfarfod parotoad cyntaf wedi dychweliad Mr. Williams adref, hysbyswyd ef gan un o'r swyddogion, fod achos y chwaer i gael ei ddwyn yn mlaen am ei bygythiad â'r haiarn smwddio. 'Oh,' ebai yntau, Gwell i ni gymeryd pwyll, ac amser, y mae ymladd â hararn smwddio yn beth anarferol i'w ddwyn o flaen yr eglwys.'

Gohiriwyd i gael amser i weled yr effaith a gawsai yr hysbysiad hwnw o'i eiddo ar y droseddwraig. Atebodd y dyben yn dda, oblegid enciliodd y wraig waedwyllt hono o'r gyfeillach, ac yr oedd ei hymadawiad yn waredigaeth fawr i'r eglwys. Wrth dderbyn aelodau newyddion, arferai fanyldra anghyfffredin, pan yn egluro iddynt amodau y Cyfamod Eglwysig.' Gwasgai arnynt yr angenrheidrwydd am gydymffurfiad manwl a'i holl fanylion. Yr wyf yn ofni fod cryn ddiofalwch yn awr mewn llawer lle yn nglŷn â'r mater pwysig hwn. Llywodraethid Mr. Williams yn hyn hefyd i ryw fesur, gan yr ystyriaeth o oedran, gwybodaeth, sefyllfa, a chymeriad blaenorol yr ymgeisydd. Cofiaf byth y cynghor byr, ond tra chynwysfawr, a roddodd wrth estyn i mi ddeheulaw cymdeithas—' Ymarfer lawer, fachgen, â gweddi ddirgel.' Nid yw y cynghor ond byr, a chynghor a roddir yn bur gyffredin i rai wrth eu derbyn. Ond dywedodd Mr. Williams ef y tro hwnw gyda'r fath deimlad a difrifoldeb, fel nad yw tri ugain mlynedd wedi ei ddileu o'm cof. Rhoddai siars dra difrifol, pan y dygwyddai rhai fod yn ymadael o'r ardal, ac yn newid eglwys. Yr oedd gwr ieuanc unwaith yn gadael y Rhos i fyned i faelfa berthynol i ewythr cyfoethog iddo, a drigai yn y Brifddinas, ac wedi rhoddi iddo luaws o gynghorion buddiol, diweddodd drwy ddweyd, 'Gwell i ti fod yn golier duwiol yn dy glocs yn y Rhos yma, na bod yn wr boneddig digrefydd yn dy goach yn Llundain.' Wylai mam y gwr ieuanc yn chwerw wrth wrando yr ymadroddion hyny yn cael eu llefaru wrth ei mab, a hyny am y gwelai ynddo arwyddion gwrthgiliad. Goddefer i mi eto gyfeirio at ddull cyffredin Mr. Williams o gario yn mlaen y gyfeillach eglwysig. Yn aml, cynygid gan rai o'r frawdoliaeth, ryw fater ysgrythyrol, athrawiaethol, neu ymarferol i ymddyddan arno. Weithiau dymunai brawd neu chwaer arno bregethu ar ryw destun neillduol, neu ar bwnc o athrawiaeth arbenig, a braidd bob amser, treulid y gyfeillach mewn rhyddymddyddan ar y mater hwnw, a phregethai yntau arno y Sabbath dilynol. Yr oedd arferiad fel hyn yn sicrhau gwell sylw i'r bregeth, ac yn deffroi mwy o ddyddordeb yn ei chynwysiad. Heblaw hyny, yr oedd y cyfryw ddefod yn fanteisiol i fagu yr eglwys yn holl egwyddorion crefydd. Teimlai ambell frawd a chwaer yn llawen iawn, pan glywent Mr. Williams, yn ei bregeth y Sabbath, yn cyfeirio at ryw ddywediad a ddywedasant hwy yn y gyfeillach, pan yn ymdrin â'r pwnc dan sylw. Sicrhai y drefn hon o gadw cyfeillach gydymdeimlad rhwng y pregethwr a'r bobl, a rhwng y bobl a'r pregethwr. Cofiwyfi'r pwnc o weddi gael ei osod i lawr un tro, i fod yn destun ymdriniaeth yn y gyfeillach eglwysig, sef gweddi ddirgel, a gweddi gyhoeddus. Treuliwyd un gyfeillach i ymddyddan ar ddull a threfn gweddi gymdeithasol. Condemniai Mr. Williams feithder mewn gweddi gyhoeddus. Fodd bynag, yr oedd yn bresenol un brawd a adnabyddid fel un diarhebol am ei feithder wrth weddio yn gyhoeddus, ond prin iawn ydoedd efe o ran dim eneiniad oedd arno yn ei holl gyflawniadau cyhoeddus. Pan glywodd efe Mr. Williams yn beio gweddiau hirion, tybiodd y gallai efe ei orchfygu ar dir yr Ysgrythyr, drwy ddywedyd fod gweddi Jacob wedi parhau drwy y nos. 'Wel, ïe, onide,' meddai Mr. Williams, 'Ond cofia di mai gweddi bersonol oedd hono. Gweddia dithau am ddeng munyd yn y capel, a dos adref, a gweddia drwy y nos fel Jacob os myni.' Diau i'r gwr hwnw ddeall oddiwrth y wers uchod, mai un peth yw gweddio yn faith yn gyhoeddus, ac mai peth arall yw gweddio yn faith yn y dirgel. Camgymerir y naill am y llall yn aml. Hyderaf fod yr hyn a grynhoais yma o'm hadgofion am Mr. Williams, a thuedd ynddynt i roddi rhyw syniad aneglur i'r darllenydd o'r hyn ydoedd efe fel gweinidog a bugail, yn enwedig i'r rhai hyny na chawsant erioed gyfleusdra i'w adnabod yn bersonol. Nid yn unig yr oedd Mr. Williams yn weinidog a bugail rhagorol, ond gellid ar amrai gyfrifon edrych arno fel math o esgob yn yr enwad Annibynol yn Nghymru, a hyny oblegid y dyddordeb dwfn, a'r pryder dwys ac eang a ddangosai, ac a deimlai dros yr holl eglwysi yn y Dywysogaeth. Bu yn offerynol yn llaw Duw i blanu llawer o eglwysi, ydynt erbyn heddyw yn llwyddianus, a'r rhan fwyaf o honynt yn alluog i gynal gweinidogaeth eu hunain."

Yn y Wern yn 1803 yr hauwyd yr hedyn Annibynol Cymreig cyntaf yn y cylch hwn, yr hwn a eginodd ac a dyfodd, nes myned yn bren mawr a changhenog, a'i geingciau yn cerdded i wahanol gyfeiriadau cylchynol, ac o'r cyfryw, gellir enwi mewn modd arbenig, yr eglwysi a ganlyn:— Brymbo, Rhosllanerchrugog, Llangollen, Rhuabon, Wrexham (Queen Street), Rhosymedre, Trefor, Fron, Bwlchgwyn, Coedpoeth, Ponkey, Talwrn, Brynteg, Nant, Rhostyllen a'r Gwersyllt. Gyda phriodoldeb y gall yr eglwysi uchod gyfeirio at Eglwys y Wern, gan ddywedyd, "Hon yw yw ein mam ni oll." Yn amser Mr. Williams, yr oedd yn ei eglwys dri o ddiaconiaid, y rhai oeddynt yn sefyll yn amlwg yn mhlith eu cydswyddogion, a hyny o herwydd dysgleirdeb eu cymeriad, cryfder eu synwyr cyffredin, a'u ffyddlondeb digyffelyb yn nghyflawniad eu gwaith, ac yn y rhai yr ymddiriedai Mr. Williams yn drwyadl—sef Mr. Joseph Chaloner yn y Wern, Mr. Richard Pritchard yn y Rhos, a Mr. Robert Cadwaladr yn Harwd. Nis gellir enwi Harwd heb fod llawenydd a diolchgarwch yn llenwi ein calonau, wrth weled fod hon a fu yn llesg, ac yn agos i ddiflanu, wedi myned yn ddwy eglwys lewyrchus. Dyma y rhandir helaeth o'r wlad ag y bu y seraph—bregethwr o'r Wern yn cyhoeddi efengyl Crist ynddo, a hyny mewn anedddai, ysguboriau, ystafelloedd, ac yn y meusydd agored, flynyddau cyn adeiladu y rhan luosocaf o'r capelau a enwyd, na meddwl erioed am danynt. Trwy ymdrech mawr o helbulon yr enillwyd i ni y fath etifeddiaeth deg, a bydded bendith Duw yn gorphwys Ar randir ein hetifeddiaeth ni holl ddyddiau y ddaear." Rhoddwn yma eto, yr hyn a ddywedir gan y Parch. R. Roberts, Rhos, Mr. Williams, yn mhlith pobl ei ofal:—"Nid oedd ymweliadau bugeiliol mewn cymaint bri yn mysg yr Ymneillduwyr, ac yn enwedig yr Annibynwyr yn ei amser ef. Yr oedd ei deithiau mor fynych a meithion, ei lafur yn cychwyn achosion newyddion yma a thraw mor fawr, a'i egni ddiddyledu capeli mor ddiorphwys, a chylch ei weinidogaeth mor eang, yn peri nas gallai ymweled yn fynych â phobl ei ofal. Ond ni omeddai fyned pan y byddai angen am dalu ymweliad â'r rhai a garai mor fawr, oblegid yr oedd efe yn gwir ofalu am y praidd. Gwnai sylw arbenig o blant mewn teuluoedd. Gofalai am ddyfrhau yr egin grawn. Ymddygai yn serchog a thadol at wasanaethyddion, gan ddangos fod ganddo wir ofal am eu buddianau tymhorol ac ysbrydol. Mae rhai cynghorion a roddodd i'r dosbarth yma yn parhau i gyflawni eu gweinidogaeth mewn teuluoedd hyd y dydd hwn. Rhoddai gyfarwyddiadau i rieni ar pa fodd i ddwyn eu plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd. Clywsom gan hen bobl yr ardal rai o'i gyfarwyddiadau iddynt, ac y maent yn werthfawrocach na gemau. Cyfranai i'r tlawd, rhybuddiai yr esgeuluswyr, dyddanai y claf, a chysurai y methedig. Yr oedd mor llawn o ddoethineb a thynerwch, fel y cyfranai i holl aelodau y teulu yn ol eu hangen. Croesawid ef fel angel Duw ar aelwydydd ei bobl. Dydd y farn yn unig a ddengys ddylanwad da Mr. Williams yn nheuluoedd ein cenedl."

Cefais rai o'r ffeithiau a ganlyn gan y diweddar Mr. Samuel Rogers, Nant, hen bererin anwyl ac aeddfed, a fu farw ychydig amser yn ol, ac efe yn dair neu bedair a phedwar ugain mlwydd oed. Yr oedd ei edmygedd o Mr. Williams tu hwnt i fesur. Ychydig o eisteddleoedd oedd yn nghapel y Wern y pryd hyny, ac am flynyddoedd lawer ar ol hyny, eithr llenwid y llawr gan mwyaf a meinciau, ac yr oedd yno ystof hefyd i gynhesu y capel, a mawr fyddai y crynhoi o amgylch hono pan y byddai yr hin yn oerfelog. Ar nosweithiau yr wythnos yn y gauaf, byddai y praidd bychan yn glwm am hon. Ond yn yr haf eisteddent yma ac acw yn ol eu cyfleusdra, neu eu dymuniad. Nid oedd Mr. Williams mewn un modd yn ofalus am brydlondeb yn dyfod i foddion gras, a byddai yn gyffredin wedi pasio yr amser arno cyn y cyrhaeddai y capel. Marchogaeth y byddai efe fynychaf, a hyny am fod ei ffordd yn mhell. Deuai i mewn yn bwyllus, ac wedi cyrhaedd y set fawr, rhoddai ei ffon o'i law, tynai ei gob uchaf oddi am dano, ac wedi taflu cipdrem ar y defaid oedd eisoes yn y gorlan yn dysgwyl eu bugail, eisteddai yn ei gadair, a phlygai ei ben mewn gweddi ddystaw am fendith Duw ar y cyfarfod. Yna rhoddai benill i'w ganu, darllenai a gweddiai yn fyr ac i bwrpas. Wedi hyny, gofynai i'r brodyr cryfaf ddweyd gair, yr hyn a wnaent yn rhwydd a pharod bob amser. Taflai yntau air rhyngddynt fyddai yn oleuni, yn gysur, ac yn adeiladaeth i'r saint, ac yr oedd yn hynod o fedrus a deheuig i guro yr hoelion adref. Wedi hyny, drachefn, cymerai ei ffon, gan ei gosod drwy ei freichiau ar draws ei gefn, a cherddai yn hamddenol i'r llawr at y defaid a'r wyn gwanaf. Edrycher ar y bugail hwn, gwna gynyg teg at ddwyn yr wyn yn ei fynwes, ac i goleddu y mamogiaid. Symudai rhwng y meinciau gan ofyn adnod, neu air o brofiad, neu benill, neu sylw wedi ei gofio o'r bregeth y Sabbath blaenorol. Nid oedd neb yn cael dianc. Rhoddai wedd deuluol ar y gyfeillach, a byddai yntau ei hun fel tad tyner yn cyfranu i gyfreidiau y teulu yn ddoeth a medrus. Gwyddai amgylchiadau ei bobl mor dda, a meddai adnabyddiaeth mor ddwfn o'r galon ddynol, a gwyddai drwy brofiad beth oedd ymdrechu a llygredd yn ei galon ei hun, fel yr oedd ynddo gymhwysder neillduol i oleuo, cynorthwyo, dyddanu, a chadarnhau y credinwyr. Wedi rhoddi i bawb ei ddogn galwai ar frawd i ddiweddu y gyfeillach. Tystiai yr henafgwr parchus a nodwyd y byddai y cyfarfodydd hyn yn fynych yn fath o nefoedd ar y llawr, ac y byddai ynddynt yn cael ei wroli a'i arfogi i ymladd â Satan, cnawd, a byd. Bellach, maent wedi cyfarfod mewn gwlad lle na bydd y gelynion a grybwyllwyd, na'r un gelyn arall byth yn eu poeni.

Yr oedd yr elfen wleidyddol yn gymharol dawel yn Nghymru yn ei ddyddiau ef, ac ni wyddid nemawr am y Radicaliaeth sydd erbyn heddyw mor amlwg yn y byd a'r eglwys hefyd. Teyrnasai gweinidogion y cyfnod hwnw fel breninoedd yn eu heglwysi, ac anfynych iawn y byddai neb yn cwyno ei fod yn cael ei yspeilio o'i ryddid a'i hawliau. Barnai aelodau y dyddiau hyny, mai eu dyledswydd a'u braint hwy oedd byw yn dduwiol yn Nghrist Iesu, ond tybia llawer yn ein dyddiau ni, eu bod wedi eu galw i lywodraethu. Er fod yr eglwysi oeddynt yn uniongyrchol dan ei ofal, wedi cynyddu gydag ef, yr oeddynt yn meddu y parch dyfnaf iddo, a'r ymddiriedaeth lwyraf ynddo, eto dywedir ei fod mor deg a boneddigaidd, ac yn gweithio allan egwyddorion ein Cynulleidfaoliaeth yn ymarferol mor ddibartïaeth ac esmwyth, fel na feddyliodd neb yn maes ei lafur erioed ei fod yn chwenych y blaen." Yr oedd y llywodraeth mor esmwyth, fel na wyddid ei bod. Teyrnasai Mr. Williams mewn cyfiawnder, doethineb, cariad, a phwyll, ac am hyny bu heddwch mawr.

Er ei fod yn Annibynwr argyhoeddedig a chryf, eto yr oedd yn hynod rydd a diragfarn at enwadau eraill. Y mae Dr. Owen Thomas, Liverpool, yn ei gofiant ardderchog i'r diweddar Barch. John Jones, Talsarn, yn cyfeirio at hyn, ac yn dywedyd ei fod "Yn un nodedig o rydd a diragfarn, heb wybod dim, gan belled ag y gallwn ni ganfod, am deimlad sectol," ac ystyriai Dr. Thomas mai "rhagorfraint fawr" ydoedd iddo ddyfod i gyffyrddiad âg ef yn y dref hono." Er dangos mor ryddfrydig ydoedd efe at enwadau eraill, ni raid ond hysbysu ddarfod iddo addaw myned i bregethu i'r Primitive Methodists yn y Beast Market, Wrexham, ond pan ddeallodd y cyfeillion Annibynol yn y dref hono am ei fwriad, anfonasant ddau genad ato i'r Talwrn i ddeisyfu arno yn daer i alw ei addewid yn ol, a pheidio a myned i'r Beast Market. Buont yn ymliw âg ef yn hir, ond nid oedd dim a ddywedent wrtho yn llwyddo i beri iddo newid ei gwrs. Ei destun yno ydoedd, "Ac yr oedd ei fab hynaf ef yn y maes," &c. Arddelwyd y gwirionedd o'i enau yn Wrexham y tro hwnw mewn modd nerthol iawn. Yn mhen blynyddoedd ar ol hyny. daeth gweinidog perthynol i'r Ranters i Wrexham i areithio, ac yn nghwrs ei araeth, dywedodd, mai o dan bregeth o eiddo Mr. Williams yr argyhoeddwyd ef; a thybir yn lled sicr mai o dan y bregeth hono yn y Beast Market y cymerodd hyny le. Yr oedd un o'r enw Mrs. Mary Griffiths yn byw yn y Frondeg tua'r adeg yma, yr hon oedd yn fodryb chwaer ei dad i Mr. B. Harrison, C. C., Coedpoeth, ac i'r hon yr oedd merch yn gwasanaethu ar y pryd yn Wrexham; yr hon pan yno a ymunodd â'r Ranters, ond pan ddeallodd ei mam dduwiol hyny, teimlodd i'r byw, a phwysodd y peth mor drwm ar ei meddwl, nes ei bod mewn pryder dwys iawn yn nghylch ei merch, ond cadwasai y cwbl yn ei mynwes ei hun hyd nes nad allasai ymatal yn hwy, ac ymaith a hi, gan fynegu ei thrallod i Mr. Williams. Dywedodd yntau, "Y maent yn rantio tua'r nefoedd, ac ni allwn ninau yr Annibynwyr, ddysgwyl lle gwell; felly Mari, gad iddi." Ac ar hyny, tawelodd meddwl y fam drallodus, ac ni chafodd achos i fod yn athrist mwy yn nghylch y mater hwnw. Yr oedd Mr. Williams yr un mor ryddfrydig a pharod i gynorthwyo pob enwad gartref yn gystal ac oddicartref, fel y dengys yr hyn a ganlyn, a anfonwyd i ni gan y Parch. J. Rowlands, Talsarn—"Yn wyneb prinder gweinidogion i orphen cyfarfod pregethu perthynol i'r Wesleyaid yn y Rhos, ceisiwyd gan Mr. Williams bregethu y noson olaf gydag un o weinidogion yr enwad parchus hwnw. Pregethai y gwr dyeithr yn nghyntaf, yn ddoniol a hyawdl. Wedi iddo orphen, esgynodd Mr. Williams i'r areithfa, a phregethodd "bregeth y mamau," fel y gelwid hi. Un o'r pethau dynodd ei sylw gyntaf wedi dechreu pregethu, ydoedd gweled un o'i wrandawyr cyffredin yn y Rhos, yn eistedd ar ymyl yr oriel, ac yn gwrando yn y modd mwyaf astud, ac wrth fyned yn mlaen taflai ei lygaid yn awr a phryd arall ar ei hen wrandawr, a pharhai yntau i wrando yr un mor astud, ac yn y man gwelai ddagrau yn rhedeg o'i lygaid, a llawenhai yr hen weinidog wrth weled un o'i wrandawyr cyson dan y fath deimladau gobeithiol. Daeth y dyn ato ar derfyn y gwasanaeth. Cyfarchai Mr. Williams ef yn garedig, a datganai ei lawenydd o herwydd iddo ei weled yn gwrando mor astud, a than y fath dimladau. "Yn wir," ebai y dyn, "Yr oeddwn i yn teimlo yn angerddol hefyd. Yr oedd y gwr dyeithr yna wedi pregethu mor rhagorol o'ch blaen, fel yr oedd arnaf ofn yn fy nghalon i chwi fethu cael hwyl, ac yr oeddwn yn wylo o lawenydd wrth eich gweled yn cael nerth." Dengys yr amgylchiad uchod, nid yn unig ryddfrydigrwydd a nerth Mr. Williams, fel pregethwr, ond hefyd, sel un o'i wrandawyr cyson dros anrhydedd ei weinidog mewn adeg a ystyriai efe oedd iddo yn awr danllyd o brawf, ac wylai o lawenydd wrth ei weled yn dyfod drwy ei brawf mor ogoneddus.

PENNOD IX.

O'R OEDFA YN NGHAPEL Y WESLEYAID YN Y RHOS HYD EI YMADAWIAD O'R TALWRN. 1831—1834.

Y CYNWYSIAD—Tystiolaeth yr Hybarch Humphrey Ellis, Llangwm, am MR. WILLIAMS fel pen teulu—Ysgrifau y Parch. J. Thomas, Leominster, ar Robert Jones, Y Stryd—Llythyr yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth—M. Williams yn pregethu yn Nghapel Iwan, Sir Gaerfyrddin Cymanfa Trelech —Mr. Davies, Talgarth, yn pregethu yn y Wern—Morwyn Mr. Williams yn ceisio ganddo ail adrodd un pen o'i bregeth iddi—Tystiolaethau Miss Jones, Plas Buckley, a Mr. William Jones, Rossett, am grefyddolder Mr. Williams yn ei deulu—Tystiolaeth Mrs. Mason am bregethau effeithiol o eiddo Mr. Williams Dau ddyn annuwiol yn teimlo cywilydd o'u buchedd wrth ei wrando yn pregethu—Teithiau mynych ein gwrthddrych yn y cyfnod hwn—Pregethu yn Nghwmeisian ganol—Marwolaeth bruddaidd y Parch. David Jones, o Dreffynon—Mr. Williams yn Swyddi Meirionydd a Threfaldwyn yn areithio dros ryddhad y caethion yn y West Indies—Cymanfa Colwyn—Marwolaeth y Parch. John Roberts o Lanbrynmair—Miss Williams yn cychwyn "Boarding School" yn ei chartref Mr. Williams a'i deulu yn symud i fyw o'r Talwrn i Fryntirion Bersham—Gweddi effeithiol o'i eiddo wrth ymadael

YN y bennod flaenorol, cawsom olwg ar Mr. Williams yn nghyflawniad ei waith fel gweinidog a bugail yr eglwysi. Trwy garedigrwydd yr Hybarch Humphrey Ellis, Llangwm, galluogir ni yma i weled ei ymddygiad tadol yn ei deulu, a chariadlawn at bawb a drigent yn ei dŷ. "Bu'm yn was i'r anwyl Barchedig William Williams o'r Wern a'i deulu yn y flwyddyn 1831, ac am ran o'r flwyddyn 1832. Arferai godi am chwech ar y gloch yn yr haf, ac am saith yn y gauaf. Darllenai am awr a haner cyn ei foreubryd bob dydd. Yn ddioedi ar ol boreubryd, ymgynullem oll i gegin y teulu i'r addoliad teuluaidd—Mr. a Mrs. Williams, y ddwy ferch, Eliza a Jane, a'r ddau fab, James a William, a'r ddwy forwyn, Margaret a Beti, ac Wmffra y gwas. Eisteddai Mr. Williams wrth ben y bwrdd, a darllenai ran o'r Ysgrythyr yn bwyllog ac ystyriol. Gwnelai sylw eglurhaol a chymhwysiadol yn aml ar ol Yn darllen, yna gweddïai yn syml ac yn daer. Saesonaeg y cynelid yr addoliad boreuol, a hyny am fod Mrs. Williams a'r plant oll yn fwy cynefin â'r aeg hono nag oeddynt â'r Gymraeg. Diolch heddyw am Saesonaeg eglur a dirodres Williams o'r Wern. Yr oedd yn hawdd i'r gwas a'r forwyn ddeall am ba beth y gweddïai, a thra rhagorai ar y Saesonaeg cyffredin oedd i'w glywed y pryd hwnw o Rhosllanerchrugog i Benarlag. Wedi yr addoliad boreuol, treuliai Mr. Williams ei amser yn ei fyfyrgell i ddarllen a myfyrio hyd haner dydd. Arferai ysgrifenu prif sylwadau ei bregeth ar lechen ddeublyg ar ffurf llyfr, ac wedi ei chau, byddai y bregeth yn ddiogel ar y ddau wyneb mewnol y rhagymadrodd a'r casgliadau ar y ddau wyneb allanol. Cedwid hwynt yno hyd foreu Llun, ac os byddai yn eu gweled o werth, ysgrifenai hwynt ar ddernyn o babyr bychan, a golchid y llechen er gwneuthur lle i ysgrifenu y gweledigaethau ar gyfer y Sabbath dyfodol. Yn y Gymraeg y dygid yn mlaen yr addoliad teuluaidd nos Sabbath. Wedi i'r addoliad fyned drosodd, byddai Mr. Williams yn holi y plant a'i wasanaethyddion am waith y dydd. Un tro holai ei fab William beth oedd y pwnc a drinid yn yr ysgol, ac hefyd, am ba beth y gweddiwyd, ac y pregethwyd yn ystod y dydd; ac a oedd rhyw sylw wedi aros yn ei gof ef? Nid oedd y bachgen ond o wyth i naw oed ar y pryd, ac nid oedd wedi dal na chofio dim oll a fu dan sylw yn ystod y Sabbath hwnw—dim, pa fodd bynag, fel ag i allu adrodd dim o'r hyn a wrandawodd. Yr oedd gan y plant fules fechan i'w cario i'r capel, a lleoedd eraill. Ymdrechai y tad argraffu ar feddwl y bachgen, fod ganddo ddeall a chof, ac y dylasai eu harfer, a'i fod tra heb gofio dim felly, yn darostwng ei hunan yn debyg i'r fules fechan oedd yn eu cario hwy i'r capel. Dywedai y tad, 'Pe y bawn yn myned a hi i'r capel, ni wnai hithau ond dyfod oddiyno heb ddeall na chofio dim.' 'Wel, ïe, tada,' meddai y bychan, 'byddwn yn debyg iddi, os gwnai hi beidio a brefu, yr oeddwn i yn ddystaw yno.' Ar hyny, chwarddodd Mrs. Williams, ac hefyd ninau oll, a bu dipyn yn galed ar Mr. Williams wrth geisio llywodraethu ei hun. Trwy yr arholiadau hyn ar yr aelwyd, dyfnheid, ac argreffid yn y meddwl y pethau fuont o dan sylw yn y cysegr. Wrth adgofio y dyddiau hyny, yr wyf yn teimlo fod yr addoliad teuluaidd ar aelwyd Williams o'r Wern, yn arbenig ar nos Sabbathau, yn gyfryw fel y caem ynddo y gwin goreu yn olaf yn aml.

aml. Daliasom grwydryn unwaith, yr hwn oedd wedi ymwthio drwy ffenestr—ddrws i'r ysgubor, a bu yn cysgu yn y gwellt dros y nos, heb fod neb perthynol i'r ty yn gwybod dim am dano. Pan aethom yno yn y boreu, gan nad oedd wedi cwbl oleuo, dychrynwyd ni yn ddirfawr. Rhedodd William, y bachgen ieuengaf, i hysbysu ei dad o'r ffaith. Daeth Mr. Williams yno yn bwyllog iawn, a gofynodd amrai gwestiynau i'r dyn yn hynod o dyner a charedig, ac wedi cael boddlonrwydd yn ei gylch, rhoddodd gynghorion buddiol iddo, ac aethpwyd ag ef i'r ty i gael cwpanaid o botes cynhes. Ymadawodd y crwydryn druan, dan ddiolch a bendithio pawb a phob peth perthynol i'r teulu hwnw. Yr oedd ffair y gwanwyn yn ffair fawr a phwysig iawn yn Wrexham driugain mlynedd yn ol. Parhai am o ddwy i dair wythnos. Byddai gwneuthurwyr a gwerthwyr nwyddau masnachol Gogledd Lloegr a Gogledd Cymru yn dyfod iddi i brynu nwyddau at yr haf. Arferai arddangosfeydd ddyfod i'r ffeiriau crybwylledig, a mawr oedd y cyrchu iddynt. Daeth yno ddwy yn ystod fy arosiad i gyda 'gwr Duw.' Trwy fod Mr. Williams o gartref ar daith bregethwrol tua'r Bala a Dolgellau ar y pryd, gofynais i Mrs. Williams am ryddid i fyned i'r ffair, a hyny wrth gwrs ar Ddydd Llun pawb, fel y gelwid ef, a chaniatawyd i mi fy nghais. Wrth syllu ar newydddeb golygfeydd yr arddangosfa, arosais yn rhy hir yn ffair gwagedd y bobl ieuainc, tebyg i Vanity fair John Bunyan, fel erbyn i mi gyrhaedd adref, yr oedd yn naw ar y gloch. Ac i wneuthur fy ynfydrwydd yn fwy atgas yn fy ngolwg, ac yn waeth, dygwyddodd fod Mr. Williams wedi dyfod adref yn gynar y prydnawn hwnw, ac yr oedd ef a'r ferlen yn dra lluddedig ar ol eu taith. Wedi deall ei fod ef wedi cyrhaedd adref, aethum ato i'r ystabl yn euog nodedig. Gofynodd yn ddifrifol iawn i mi, Ai dyma'r amser yr wyt ti yn dyfod o'r ffair?' Dywedais inau mai fel hyn y dygwyddodd, a bod yn ddrwg iawn gennyf am y tro, ac os y gwelai yn dda ganiatau i mi, y gwnawn i orphen ymgeleddu a phorthi y ferlen. 'Wel, gan dy fod ti fel ene, mi gei wneud, ond pe y buaset ti o ysbryd arall, buaswn yn ysgrifenu boreu yfory at dy hen dad duwiol, i'w hysbysu fy mod yn ofni dy fod yn ymwylltio.' Ac wedi hyny aeth pob peth drosodd. Ceryddai yn ddifrifol, grasol, ac enillgar. Yr wyf yn teimlo yn ddiolchgar heddyw am ei gerydd i mi dros driugain mlynedd yn ol, 'Cured y rhai cyfiawn fi yn garedig, a cheryddant fi, ac na thored eu holew penaf hwynt fy mhen na fy nghalon.' Ymwelai â chleifion yr eglwysi wrth alwad, ac nid arferai dreiglo o dŷ i dŷ yn ddibwrpas, ac i wag siarad. Ymweliadau Gwr Duw' ydoedd ei ymweliadau ef â phobl ei ofal. Byddai yn rhydd a chartrefol nodedig yn mysg ei swyddogion a'r holl aelodau. Bum unwaith mewn wylnos yn y Rhos gyda Mr. Williams. Ychydig iawn oedd wedi dyfod yn nghyd, a hyny am fod clefyd peryglus yn y ty, ac nid oedd neb o'r rhai a ddaethent i'r cyfarfod yn fedrus ar ddechreu canu. Dechreuodd yr hen ddiacon ffyddlon Mr. Richard Pritchard ganu penill, a hyny heb roddi y geiriau allan yn gyntaf. Rhoddwch benill allan Richard, gael i ni ganu gyda chwi,' meddai Mr. Williams. Dyrysodd hyny y dechreuwr yn hollol, ac nis gallodd fyned yn mhellach. Wrth fyned tuag adref, dywedodd Mr. Williams, 'Wel, dechreuwr canu sal iawn ydych chwi, Richard.' Yr wyf gystal a chwi bob dydd,' meddai Mr. Richard Pritchard, yn llon ddigon. Yn Llanbrynmair y bu tro go ryfedd yn fy hanes i,' meddai Mr. Williams. 'Yr oedd y capel yn orlawn bobl, a'r fynwent wedi ei gorchuddio gan y dyrfa fawr, a minau yn y ffenestr. Yr oedd y dechreuwr canu oddifewn i'r capel, a phan ddechreuodd y dôn, cymerais inau hi megys o'i enau drwy y ffenestr, er mwyn i'r gynulleidfa oddiallan ei deall, a bu yno ganu mawr arni." Dywedodd Mr. Richard Pritchard dan wenu, Yr ydych fel Seintiau y dyddiau diweddaf, bydd y rhai hyny yn gwneuthur gwyrthiau rhyfedd draw yn mhell tua Merthyr Tydfil, ond yn gwneuthur dim tua'r Rhos yma.' Ar hyny cydchwarddodd y ddau, canys yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol ac anwyl iawn. Cydgerddwn dro arall o'r gyfeillach grefyddol o'r Rhos gyda Mr. Williams. Ar y ffordd gwelai ymladdfa ffyrnig a chywilyddus yn myned yn mlaen cydrhwng dau ddyn ieuainc a adwaenai yn dda. Penderfynodd yn y fan gyfryngu rhyngddynt. Gofynodd i un o honynt, 'Aros di, ai nid hon a hon yw dy fam di?' Wedi cael atebiad cadarnhaol gan y bachgen, dywedodd, Dear me, beth pe bai dy fam dduwiol yn dy weled yn y drefn yma?' drefn yma? Erfyniodd yn daer ar y bachgen i fyned adref, ac wedi hir berswadio, cychwynodd, ond gwaeddai y lleill ar ei ol, gan ddanod iddo ei lwfrdra. Dywedodd y bachgen wrth Mr. Williams, Y maent yn gwaeddi llwfryn arnaf Mr. Williams.' 'Na hidia mo honynt' meddai yntau, 'tyred di gyda mi.' Ac er mor anhawdd oedd hyny i'r gwr ieuanc, eto, bu yn ddigon gwrol a doeth i fyned i ganlyn 'Gwr Duw,' nes ei fod allan o olwg ei wrthwynebydd, a'r hen gwmni drygionus. Yn awr, nid dyn cyffredin a allasai ymyryd yn y fath gweryl, heb i hyny beryglu llwyddiant ei amcan, a lleihau ei ddylanwad, ond llwyddodd ef. Yn wir, yr ydoedd ef yn fath o Ynad Heddwch mewn byd ac eglwys. Yr oedd gwynfydedigrwydd y tangnefeddwyr (peacemakers) yn eiddo arbenig iddo ef. Er fod dros driugain mlynedd wedi myned heibio er pan yr oeddwn yn ei wasanaeth, yr wyf heddyw yn diolch am fanteision a bendithion y tymhor a dreuliais dan gronglwyd yr enwog William Williams o'r Wern." [15] Gellir ychwanegu yr un gyffelyb werthfawr dystiolaeth o eiddo eraill a fuont yn ngwasanaeth yr un gwr, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn o ysgrifau dyddorol y Parch. J. Thomas, Leominster (gynt o'r Wern) ar "Robert Jones Y Stryd," y rhai a welir yn y Dysgedydd am Chwefror a Mehefin, 1875:—'Yr oedd y blynyddoedd y bu R. Jones yn ngwasanaeth Mr. Williams yn gyfnod arbenig yn ei fywyd—yn gyfnod yr edrychai yn ol arno fel rhan ddedwyddaf ei oes y soniai lawer am dano, ac yr ymffrostiai ychydig ynddo. Nid oedd dim yn sirioli ei feddwl yn fwy na'i introducio i weinidog dyeithr fel hen was i Mr. Williams o'r Wern, ac ni welsom yr un nad oedd yn dda ganddo gael ysgwyd llaw âg ef. Y mae yn gof genym ddweyd wrtho unwaith, Y buasai yn dda gan fy nghalon pe buasai pawb sydd yn proffesu eu bod yn ngwasanaeth Iesu yn teimlo mor falch o'i wasanaeth ag y teimlai ef ei fod wedi bod yn ngwasanaeth Williams o'r Wern.' 'Yr oedd Mr. Williams yn feistr da, da iawn,' oedd yr ateb, ond yn right siwr, y mae yr Iesu yn llawer gwell. Mr. Williams oedd y meistr tebycaf iddo a welais erioed; ond y mae yr Iesu mawr wedi gwneud mwy drosof, a rhoddi mwy i mi nag a fedrai ef, er cystal oedd. Y mae yn rhaid i mi ddweyd yn dda am Mr. Williams, ac yn llawer iawn gwell am yr Iesu." Meddyliais ar y pryd, a llawer gwaith wedi hyny, fod cysylltiad penau teuluoedd crefyddol â'u gwasanaethyddion yn gyfleusdra nodedig iddynt i ddyrchafu crefydd, ac mor ddymunol y buasai pe y gallasai pob gwas a morwyn edrych yn ol ar gyfnodau eu gwasanaeth mewn teuluoedd crefyddol gyda y fath barch i'w meistr ac i'w grefydd ag yr edrychai ef ar gyfnod ei arosiad yn nheulu Mr. Williams. Bu y cysylltiad hwnw yn fantais anmhrisiadwy iddo fel crefyddwr yn mhob ystyr. Y diwrnod cyntaf wedi ei ddyfodiad i'r Talwrn, daeth Mr. Williams ato cyn iddo gychwyn allan ar ol ciniaw, a dywedodd, Robert, cais dy Feibl, a 'dos i'r ysgubor (yr hon oedd ar ganol cae ychydig oddiwrth y ty), a chymer awr ar ol dy giniaw bob dydd i'w ddarllen, ac na hidia ar yr awr hono, beth fyddo eisiau ar y merched yma. Tydi pia hi, a gwna yn fawr o honi i ddarllen dy Feibl.' Mynych yr adroddai y ffaith uchod gyda'r dyddordeb mwyaf. Byddai, yn ei gylch, yn cael cymeryd ei ran yn y ddyledswydd deuluaidd, a byddai Mrs. Williams yn bur aml, meddai, yn ei gadw ar ol yn yr ystafell i wastadhau y camsyniadau fuasai wedi eu gwneud yn y darllen, ac yr oedd parch yn ei galon iddi hyd ei fedd am wneuthur hyny. Un boreu yr oedd yn darllen Rhuf. xiii. 8, ac fel hyn dygwyddodd iddo ddarllen, 'Na fyddwch yn nyled neb o ddimai, ond o garu bawb eich gilydd,'—o ddimai yn lle o ddim. Wedi gorphen y ddyledswydd, a'r teulu fyned allan, ceisiodd Mrs. Williams ganddo droi i'r adnod a'i darllen drachefn, ac yntau yn llai hunanfeddianol na'r tro cyntaf, am y gwyddai fod gwall yn rhywle, a ddarllenodd yr un modd yn union drachefn. 'Nid fel yna y mae Robert,' ebai Mrs. Williams, 'Ond na fyddwch yn nyled neb o ddim.' 'Ie, yn right siwr, meistres bach, felly y mae hefyd.' 'Wel, Robert,' ebe hithau, Y mae llawer wedi gwneud mwy o gam â'r Ysgrythyr na'r un a wnest di y boreu hwn, ond y mae meddwl y darlleniad cywir yn well na meddwl dy ddarlleniad di hefyd. Y mae o ddim yn llai nag o ddimai. Dro arall darllenai Mat. vi. 19: Na thrysorwch iwch drysorau ar y ddaear.' Swniai y gair'iwch' yn 'uwch,' gan roi sain u pur eglur i'r i. Cafodd ei athrawes ychydig mwy o drafferth y tro hwn i'w gael i weled ei gamsyniad, ond fe'i deallodd, ac fe'i cofiodd. Daeth yn ddarllenwr rhwydd a deallus ar ol hyn, ac yn wir fe ddylasai, wedi bod flynyddau dan ddysgyblaeth; ac y mae yr engreifftiau a nodwyd yn rhoddi rhyw syniad am ei natur a'i manylwch. Yr oedd pwys yn cael ei roddi, nid yn unig ar ddarllen y Beibl, ond ar ei ddarllen yn iawn. Byddai yn aml yn adrodd y wers a roddodd Mr. Williams iddo ar weddïo yn gyhoeddus. mae dysgu dynion i weddïo yn sicr yn beth pur bwysig, ac yn bur anhawdd i'w wneud. Y mae digon o eisiau yn aml, ond bydd genym ofn gwneud mwy o ddrwg i'r gweddïwr nag o les i'r weddi. Y mae y wers hon mor nodweddiadol, fel y bydd yn dda gan y darllenydd ei chael, hyd y gallom, yn ngeiriau yr athraw a'i rhoddai, a'r dysgybl a'i derbyniai:—Yr oeddwn un boreu,' ebai R. Jones, 'wedi defnyddio enw y Brenin Mawr yn rhy aml yn fy ngweddi, nid oeddwn yn gwybod hyny ychwaith ar y pryd. Yn mhen dwy awr daeth Mr. Williams ataf i'r ysgubor, yn siriol iawn ei feddwl, ac wedi eistedd i lawr ar swp o wair, dywedodd, "Wel, Robert, gorphwys ychydig, a gâd i ni ymddyddan tipyn am grefydd; ac wedi i mi droi y gwaith o'm llaw, ac eistedd, dywedai, 'Beth feddyliet ti pe cymerem weddi a gweddio yn destun i ymddyddan arno?' Boddlawn iawn yn right siwr, Mr. Williams, ebai finau, ac yn dechreu meddwl hefyd fy mod wedi gwneud camgymeriadau y boreu hwnw mewn rhywbeth na wyddwn i ar y ddaear beth. A ddarfu i ti sylwi erioed,' meddai, 'ar weddi yr Arglwydd, fel y gelwir hi? Y mae yn cael ei galw yn weddi yr Arglwydd, cofier, nid am fod yr Arglwydd Iesu yn ei harfer yn llythyrenol a dieithriad, fel y mae wedi ei chofnodi yn ei weddiau ei hun. Nid oes genym yr un enghraifft iddo ei defnyddio felly gymaint ag unwaith. Y mae yn cael ei galw gweddi yr Arglwydd, ni feddyliwn, am ei bod yn gynllun addas o drefn a materion gweddi a ddysgodd yr Arglwydd i'w ddysgyblion. A ddarfu i ti sylwi erioed nad yw enw y Brenin Mawr yn cael ei ddefnyddio ynddi ond unwaith o gwbl, a hwnw yr enw sydd yn dynodi y berthynas anwylaf ac agosaf sydd rhyngddo a'i bobl—"Ein Tad".' Y mae llawer iawn wrth weddio—o ddiffyg ystyriaeth yn ddiau yn defnyddio yr enw goruchel yn rhy aml fel geiriau llanw—yn aml ddweyd Ein Tad nefol, i aros i gael rhywbeth arall i'w ddweyd; a byddaf yn ofni y bydd hyny yn un ffordd y cymerir ei enw yn ofer gan ddynion.' 'Wel, Mr. Williams anwyl, feddyliais i erioed am y peth yna o'r blaen; ac yr wyf yn gweled y peth yn right yr enw oleu,' meddwn inau. 'Wel, machgen i,' meddai yntau, 'ti weddiaist ti yn dda iawn heddyw y bore, ond yr oeddwn i yn teimlo dy fod yn arfer yr enw goruchel yn rhy aml o lawer. Mi wn y cymeri di yr awgrymiad yn garedig a diolchgar; a chan ein bod yn ymddyddan am weddio, y mae yn beth. gweddus iawn i ni bob amser drefnu ein mater ger ei fron, er yr edrych efe heibio i lawer o annhrefn lle y byddo calon ddidwyll a gwresog. ydym yn trefnu ein ceisiadau gerbron dynion, a dylem drefnu ein gweddïau yn sicr gerbron Awdwr pob trefn; trefnu ein cyfaddefiadau, ein herfyniadau, a'n diolch; a threfnu y cwbl yn y geiriau mwyaf priodol; nid amgylchu môr a thir, a dweyd pob peth ar draws ac ar hyd, ac heb ddweyd ond ychydig neu ddim wrth Dduw, wedi y cwbl. Mae yr Iesu, sylwa di, yn anghymeradwyo gweddiau hirion gweddiau yr amleiriau. Y mae y weddi yn myned yn hir, fynychaf, am nad yw wedi ei threfnu. Lle y mae gwir deimlad o'r angen, gellir dweyd y neges mewn amser byr, ac mewn geiriau byr. Y mae llawer yn nacâu myned i weddi yn gyhoeddus am yr ofnant na fedrant weddio yn ddigon hir: craffa di, nid yw yr Arglwydd erioed wedi achwyn gymaint ag unwaith fod gweddi neb yn rhy fyr, ond y mae yn cwyno yn aml fod gweddiau llawer yn rhy hir. Peth gwrthun iawn hefyd yw rhoddi hysbysiadau (informations) o wahanol bethau i'r Hollwybodol; yr wyf wedi teimlo lawer gwaith fod dynion pan yn gwneud felly am wneud show o'u gwybodaeth yn fwy na dim arall; a buom yn meddwl droion pe buasai pagan o Affrica yn dygwydd clywed llawer Cristion yn gweddio, y buasai raid iddo feddwl mai rhyw Dduw anwybodus iawn yw ein Duw ni. Dylid bod yn wyliadwrus iawn, cofier, rhag defnyddio geiriau sathredig ac isel mewn gweddi. Gallant weithiau daro yn hapus ar y teimlad mewn adegau hwylus a chynhyrfus, ond, yn y cyffredin, dolurio teimlad y gynulleidfa a darostwng y gweddiwr a'r weddi a wnant. Gad di i'r teimlad didwyll bob amser ddethol y fendith, a gofala fod y deall yn dethol y geiriau mwyaf priodol a gweddus i'w cheisio gan Dduw. Enaid y weddi yw enaid yn teimlo. Bellach y mae yn rhaid i mi fyned; dos dithau at dy waith, a meddwl lawer am y pethau hyn." Felly y terfynodd cyfeillach yr ysgubor y boreu hwnw, wedi rhoddi cyfeiriad da i feddwl y llanc, a gadael argraff arno barhaodd yn fyw yn ei brofiad hyd ddydd ei farwolaeth.

Dengys yr uchod mai meistr ardderchog oedd ein gwrthddrych, ac mai bendigedig yw y gweision a'r morwynion hyny y disgyna eu llinynau mewn lleoedd mor hyfryd a manteisiol er meithrin pob rhinwedd a daioni ag ydoedd y teulu dan sylw. Gan fod yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth, mewn llythyr gwerthfawr o'i eiddo atom, yn cyfeirio at yr arferiad o arholi y gwasanaethyddion yn nhy Mr. Williams, am waith y Sabbath, dod- wn yr eiddo yntau yn y benod hon, "Gwrandewais Mr. Williams amryw droion. Yr wyf yn meddwl fod dros driugain mlynedd er y clywais ef yn pregethu yn nghapel Iwan, Sir Gaerfyrddin. Aeth amryw o ieuenctyd o ardal y Drewen un boreu Sabbath yno i'w wrando. Bu raid iddo bregethu yn y ffenestr. Ei destun oedd, 'Ac âr yr annuwiol sydd bechod, aberth yr annuwiol sydd ffiaidd, pa faint mwy pan yr offrymant gyda meddwl drwg.' Dywedodd fod yr annuwiol yn. pechu wrth aredig, sef wrth gyflawni y gwaith mwyaf di-brofedigaeth i bechu gydag ef o bob gwaith. Gall dyn weddio o un cwr i'r cae, nes myned i'r cwr arall, ond fod yr annuwiol yn pechu wrth aredig, ac wrth bob gwaith arall hefyd. Aberth yr annuwiol sydd ffiaidd, y mae yn pechu wrth weddio. Wel, meddai y dyn, os wyf yn pechu wrth weddio, mae yn well i mi beidio a gweddio o gwbl. O, na, yr wyt yn pechu mwy wrth beidio, yr wyt felly yn rhoddi dau gam i uffern yn lle un. Wel, os wyf fi yn pechu wrth weddio, ac yn pechu mwy wrth beidio, beth a wnaf? I'r fan yna yr wyf am dy gael, ac y mae yr ateb wrth law, 'Cred yn yr Arglwydd Iesu Grist, a chadwedig fyddi.' Pregethai mor nerthol. y waith hono, nes y crynai y rhai a wrandawent arno. Nid wyf yn cofio gwell oedfa erioed. Wedi hyny, cafwyd cymundeb nodedig o effeithiol, Y pryd hwnw y clywais gyntaf hanes y ferch ieuanc hono, yn rhedeg dros y mynydd i gyfarfod ei chyfeillion mewn rhywle dirgel i gofio Angeu y Groes. Yr oedd dynion y pryd hyny yn hela crefyddwyr i'w cosbi. Cyfarfu hithau â dau o'r erlidwyr, a gofynasent iddi, I ba le yr oedd hi yn myned? O, ebe hi, 'brawd i mi sydd wedi marw, a heddyw y maent yn darllen ei ewyllys, ac yr wyf finau yn myned i glywed beth y mae ef wedi ei adael i mi.' Trydanodd yr hanesyn hwnw yr holl dorf. Pwy ond yr Arglwydd a allasai gyfarwyddo y ferch ieuanc hono i ateb mor ddoeth. Clywais Mr. Williams yn pregethu mewn cymanfa yn Nhrelech,[16] a hyny ar ddiwrnod gwlawog anghyffredin. Yr oedd y gweinidogion a'r bobl oll yn ddigalon nodedig. Bu Mr. Rowlands, Cwmllynfell, dri mis yn parotoi pregeth ar Gyfiawnhad, ac yr oedd dysgwyl mawr am y bregeth, a phregethwr rhagorol ydoedd Mr. Rowlands hefyd, ond yn y gymanfa hono, yr oedd yn llai nag ef ei hunan. Pwnc Mr. Williams y tro hwnw oedd, Mawredd Duw'—Mawredd naturiol Duw, a Mawredd moesol Duw. Traethail bethau gogoneddus ar y naill adran a'r llall o'i bwnc pwysig. Cyfododd yr oedfa hono y gymanfa i enwogrwydd anghyffredin, ac nid ä byth yn anghof gan neb oedd yno yn gwrando. Pan oeddwn yn yr ysgol yn y Neuaddlwyd, aethum i a brawd arall ar daith i bregethu, ac ar un Sabbath yr oeddwn yn ardal y Wern, ac yn pregethu yno. Dygwyddodd i mi fod yn aros yn y Rhos gydag un o aelodau yr eglwys Annibynol yno. Ar ol yr oedfa gwelwn ferch ieuanc yn rhedeg ar fy ol, ac yn gofyn yn ostyngedig iawn, a wnawn i ddywedyd wrthi un pen o'r bregeth, yr hwn a fethodd ei gael yn ei chof. Bydd fy meistr,' meddai, 'yn gofyn i mi heno am y testun a'r bregeth, ac yr wyf yn cofio y cwbl ond un pen i'r bregeth.' Synais at y ferch ieuanc, a theimlais barch mawr iddi. Erbyn deall, morwyn i Mr. Williams ydoedd y ferch hono. Gwynfyd na bai pob pen teulu yn arfer defod o'r fath gyda phob gwas a morwyn. Diau y ceid ffrwyth lawer oddi- wrth y cyfryw arferiad."

Soniasai y ddiweddar Miss Sarah Jones, o Blas Buckley, yn aml am rinweddau amlwg a lluosog y teulu hwn, ac am y manteision crefyddol uwch- raddol a dderbyniodd ei hunan, yn ystod y pum' mlynedd y bu hi yn gweinyddu fel athrawes i blant Mr. Williams. Clywsom ninau ein hunain yr henafgwr parchus, Mr. William Jones, Rossett, yr hwn yntau hefyd a fu yn was i Mr. Williams, yn adrodd ddarfod iddo weled ei feistr lawer tro yn dyfod o'r ysgubor a'i wynebpryd fel angel Duw, gan danbeidrwydd y dysgleirdeb a lewyrchai ynddo, ac ychwanegai mai nid rhywbeth wedi iddo ymwisgo ynddo, fel mewn gwisg Sabbathol, ydoedd y difrifwch a'i nodweddai ar amserau yn yr areithfa, ond rhywbeth oedd yn amlwg iddynt ar ei wyneb- pryd yn y ty er's dyddiau, yr hyn oedd iddynt hwy yn arwydd sicr o Sabbath anghyffredin iawn. Pa ryfedd ei fod mor effeithiol wrth draddodi ei genadwri dros Dduw yn y cyhoedd. Mynegwyd i ni gan Mrs. Mason, Manchester, yr hon sydd yn henafwraig grefyddol a deallus, ac yn ferch i Mr. Joseph Chaloner yr henaf, y byddai Mr. Williams yn pregethu ar ambell nos Sabbath mor ddifrifol, nes effeithio cymaint arni hi, fel y ciliodd ei chwsg oddiwrthi lawer noswaith, ac nis gallasai ymryddhau oddiwrth y pethau sobr a wrandawsai ganddo. Gallai ef ymlid ar ol pechadur i'w noddfeydd gau, gan ei ddangos iddo ei hunan yn ffynhonell o bob dychryn ac arswyd ar wahan oddiwrth Grist. Yn yr adeg yr oedd hen waith plwm Minera yn llawn bywiogrwydd, cyn iddo sefyll am lawer blwyddyn wedi hyny, yr oedd y gweithwyr yn derbyn cyflogau rhagorol am gwaith, ond o ddiffyg ystyriaeth a darbodaeth briodol, yr oedd llawer o honynt yn gwario eu hamser a'u harian am oferedd. Un tro, yr oedd dau ddyn adnabyddus yn yr ardal, wedi treulio wythnos gyfan mewn gloddest annuwiol. Cytunent â'u gilydd wrth ymadael bob nos, yn mha le yr oeddynt i gyd-gyfarfod dranoeth, a pha amser ar y dydd. Pan ddaeth nos Sadwrn, dywedodd un o honynt wrth y llall, 'Yr wyf fi wedi blino ar y spri yma'— Felly finau,' meddai ei gyfaill,—'I ba le yr awn ni foru?' 'Wel, beth a fyddai i ni fyned i'r Wern boreu foru i wrando beth fydd gan Mr. Williams i'w ddweyd?' Felly y bu, aethant yno. Dygwyddodd (os dygwyddiad hefyd), fod Mr. Williams yn y bregeth y boreu Sabbath hwnw yn darlunio yn gywir ddynion, wedi treulio eu hamser, fel yr oeddynt hwy wedi bod yr wythnos flaenorol. Cawsent eu hunain druain, wyneb yn wyneb, megys a'u hymddygiadau annuwiol y dyddiau o'r blaen. Yr oedd y bregeth iddynt hwy yn llosgi megys ffwrn, a'r lle yn annyoddefol iddynt. Rhoddasent eu penau i lawr, gan guddio eu hwynebau mewn cywilydd, a meddylient fod rhywun wedi adrodd eu hanes i'r pregethwr, ac felly fod yr holl gymydogaeth yn gwybod am danynt. Wrth fyned allan o'r oedfa, gofynodd un o honynt i un o'r aelodau, 'Pwy a fu yn dweyd am danom ni wrtho?' 'Beth ydych yn 'Beth ydych yn ei feddwl.' 'Wel, yn 'doedd ef yn ein darlunio ni, ac yn dweyd sut yr oeddym wedi bod yn berffaith gywir.' 'Wel, un fel yna yn hollol ydyw Mr. Williams,' meddai y dyn yr ymddyddanai âg ef. Hoffasent allu ymguddio eu dau o ŵydd y pregethwr y boreu hwnw. Beth a ddaeth o honynt ar ol hyny, nis gwyddom—gobeithiwn y goreu am danynt. Teithiai Mr. Williams yn y cyfnod hwn, yn ddibaid yn achos yr efengyl. Gwyddai beth oedd myned drwy wynt a gwlaw, oerni a gwres, yn y gauaf a'r haf, gan deithio y wlad o Gaergybi i Gaerdydd, ac o Lan Andras i Dŷ Ddewi. Ceid ef hefyd yn aml yn Llundain, a threfydd eraill Lloegr, ac yn Aberdaron yn nherfyn eithaf gwlad Lleyn, ac wedi hyny yn ngheseiliau mynyddoedd Meirionydd. Gallasai aros yn dawel yn ei gartref' clyd, yr hwn oedd yn llawnach o elfenau mwyniant bywyd, nag ydoedd y rhan fwyaf o gartrefi gweinidogion yn yr oes hono. Ond anghofiai efe ei lesâd a'i esmwythyd ein hunan, wrth geisio llesâd llaweroedd. Dysgwyliai y cynulleidfaoedd am dano, yn mhob tref, pentref, a chwm, fel am y gwlaw. Breintid cymoedd anghyspell ein gwlad yn fynych â'i weinidogaeth nerthol. Clywsom Mr. John Morris, Berth Ddu, yr hwn sydd ddiacon ffyddlon a pharchus yn yr eglwys Annibynol yn Nhre'rddol, gerllaw Corwen, yn adrodd fel adrodd fel y bu ef yn gwrando ar Mr. Williams, unwaith yn pregethu yn Nghwmeisian Ganol, ei hen gartref. Ei destun y tro hwnw ydoedd, "Gan fod yn eglur mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini genym ni, wedi ei ysgrifenu nid âg ingc, ond âg Ysbryd y Duw byw, nid mewn llechau ceryg, eithr mewn llechau cnawdol y galon." Yr oedd ei fam enwog yn gwrando arno yn yr oedfa hono, er yn orweddiog gan lesgedd a henaint. Fel rhwng pob peth, oedd yr oedfa yn un o'r rhai mwyaf anghyffredin o effeithiol a wrandawyd erioed, ac yn un y cofir byth am dani gan yr ychydig sydd eto yn aros o'r rhai oeddynt yn ei gwrando. Blwyddyn golledus i Annibyniaeth, a Chymru oll o ran hyny, oedd y flwyddyn 1831, canys ar ddydd Iau y 25ain o Awst y flwyddyn hono, pan yn Liverpool ar ei daith i gasglu at Gapel Gartside Street, Manchester, y cwympodd y Parch. David Jones, Treffynon, drwy lawr-ddrws masnachdy yn Ranleagh Street, wrth fyned i dŷ ei gyfaill Mr. Gresson, a bu farw yn mhen ychydig oriau, heb allu dywedyd ond "I know that I am accepted"—Gwn fy mod yn gymeradwy. Teimlodd Mr. Williams yn anghyffredin o herwydd marwolaeth dra sydyn a phruddaidd ei anwyl gyfaill, ac nid rhyfedd hyny, oblegid yr oedd Mr. Jones yn un o ragorolion y ddaear. Meddai ysbryd cyhoeddus iawn. Bu yn ysgrif— enydd i ganghen Swydd Fflint o Gymdeithas y Beiblau am ddeunaw mlynedd; i ganghen Gwynedd o Gymdeithas Genadol Llundain am naw mlynedd, ac Undeb Cynulleidfaol Swyddi Fflint a Dinbych naw mlynedd. Cydweithiodd ef a Mr. Williams lawer gyda phob achos daionus. Gwyddai y bobl ar wynebpryd Mr. Williams yn yr areithfa yn y Rhos y boreu Sabbath dilynol i farwolaeth Mr. Jones, a hyny cyn iddo hysbysu dim, fod rhywbeth neillduol wedi cymeryd lle. Wedi iddo roddi emyn i'w ganu, hysbysodd y gynulleidfa o'r am— gylchiad sobr, yr hyn a effeithiodd yn ddwys iawn ar yr holl dyrfa. Ond er maint y golled a'r galar a deimlai, nid ymollyngodd efe, ond ymnerthodd ac ymwrolodd i gyflawni ei waith gyda mwy o egni nag erioed. Cymerai ddyddordeb yn y cynhyrfiadau gwleidyddol a gynhyrfent y deyrnas hon y blynyddoedd hyny. Yn 1833 yr ydym yn ei gael ef a'r Parch. Samuel Roberts, M.A., Llanbrynmair, yn tramwy drwy Drefaldwyn a Meirionydd, gan areithio yn alluog, er cynhyrfu y wlad i ymdrech dros Ryddhad y Caethion yn y West Indies. Y fath ydoedd dylanwad yr areithiau hyny ar y rhai a'u gwrandawsent, fel y teimlent eu gwaed megys yn fferu yn eu gwythienau, wrth glywed ganddynt am ddyoddefaint y caethion; ond gwawriodd dydd gogoneddus eu rhyddhad, a bu gan ein gwron ran yn nygiad hyny oddiamgylch. Pregethodd Mr. Williams yn Nghymanfa Colwyn, yr hon a gynaliwyd Gorphenaf 24ain a'r 25ain, 1833, a chafodd oedfa hynod iawn, ond gan y bydd angenrhaid arnom i gyfeirio eto, yn mhellach yn mlaen yn y gwaith hwn, at yr oedfa hono, nid ymhelaethwn yma. Bu marwolaeth yr Hybarch. John Roberts o Lanbrynmair; yr hyn a gymerodd le ddydd Sabbath, Gorphenaf 20fed, 1834, yn achos o alar dwys iawn i wrthddrych y cofiant hwn, yn gystal ac i'r holl genedl yn gyffredinol. Aeth Mr. Williams i angladd Mr. Roberts, drwy rwystrau mawrion, ac anhawsderau lawer. Arosasent yn hwy na'r amser arferol i gychwyn angladdau yn yr ardal gan ddysgwyl am dano ef, a phan yr oeddynt bron wedi rhoddi i fyny bob gobaith y gallai gyrhaeddyd, o'r diwedd gwelid ef yn d'od, ac wedi iddo gyrhaedd i'r ty, cyn dweyd gair wrth neb, rhoddodd ei ben ar y bwrdd, ac ymollyngodd i wylo yn dost, am yr hwn a garai efe mor fawr. Yr oedd yr holl wasanaeth angladdol yn wir effeithio!, ond clywsom "J. R.," yn dweyd, fod gweled Mr. Williams yn wylo yn y ty yr olygfa effeithiolaf a welodd efe erioed, ac yr oedd pawb oedd yn bresenol wedi cydymollwg mewn wylofain a galar mawr am eu cyfarwyddwr galluog a diogel. Anfonodd Mr. Williams y llythyr canlynol at feibion yr Hybarch John Roberts, ar yr achlysur o farwolaeth eu hanwyl dad. Ystyriwn fod y llythyr yn cynwys rhai llinellau ydynt yn ddarluniad mor gywir o nodweddau Mr. Williams ei hun, ag ydynt fel desgrifiad o gymeriad Mr. Roberts, fel nad oes angen am i ni wneuthur unrhyw esgusawd dros ei ddodi yn y gwaith hwn: "Anwyl gyfeillion,—Un o'r pethau sydd yn rhoddi yr hyfrydwch penaf i'm meddwl ydyw gweled hiliogaeth pobl dduwiol yn dyfod i lenwi eu lle yn nhŷ yr Arglwydd. Y mae yn llawenydd mawr genyf feddwl eich bod chwi wedi eich dewis yn lle eich Parchedig dad. Yr ydych yn cael dyfod i mewn i'w lafur ef, i gael medi yr hyn a hauodd efe mewn dagrau a diwydrwydd. Mawr yw eich braint. Nid wyf yn gwybod am un caritor ar y ddaear ag y dymunwn yn fwy ei efelychu, na'r eiddo eich anwyl dad, a bydd yn llawenydd mawr gan laweroedd, heblaw fi, i weled ychydig o hanes ei fywyd. Er mwyn fy mrodyr ieuainc yn y weinidogaeth ac eraill, nodaf rai o'r pethau hyny yn ei nodweddiad ag y byddai yn dda i ni eu hefelychu:—

1. Ei brif addurn oedd ei dduwioldeb—ofni pechu. Yr oedd yn gadael arogl santaidd a duwiol ar ei ol yn mhob man lle yr elai, ac ar bob cyfeillach y byddai ynddi. Yr oedd cymaint o nefolrwydd yn ei agwedd a'i ymddyddanion, fel na bu'm erioed yn ei gyfeillach heb deimlo mwy o awydd i fyw yn santaidd. Yr oedd yn iechyd i enaid gyddeithio àg ef, a mynych feddyliais mai gwyn eu byd y rhai oedd yn bwyta bara ar ei fwrdd. Ni chyfarfum â neb erioed mwy parod i gydnabod llaw yr Arglwydd yn mhob goruchwyliaeth nag ef, a mwy teimladwy o'i ymddibyniad beunyddiol ar Dduw.

Yr oedd yn dysgleirio yn fawr yn ei ostyngeiddrwydd, a'i lareidddra. Ni welais neb erioed yn cythruddo llai yn ngwyneb celwyddau a chableddau anfoneddigaidd a chwerwon. Fel Michael yr Archangel, ni oddefai ei lareidddra iddo ddysgu y gelfyddyd o gablu, ond fel y wenynen, tynai fêl o'r llysieuyn chwerwaf. Felly yr oedd yr holl gyhuddiadau anghywir a ddygwyd yn ei erbyn, a'r enwau dirmygedig a roddwyd arno, yn ei yru yn nes at Dduw, ac i weddio dros ei wrthwynebwyr. Mynych y clywais ef yn dywedyd, "Wel, os cyfarfyddwn yn y nefoedd, ni a ysgydwn ddwylaw yn garedig iawn, ac fe dry ein dadleuon i ryfeddu y gras a'n dygodd yno."

3. Peth arall oedd yn llewyrchu yn rhagorol yn ei nodweddiad oedd, ei awyddfryd i wneuthur lles i eraill. Nid oedd fel llawer yn meddwl fod ei holl waith yn yr areithle, ond yn mhob ty, ac yn mhob cyfeillach yr oedd yn chwilio am gyfleustra i roi gair i mewn dros Grist er gwneuthur daioni. Y fath oedd ei ffyddlondeb yn hyn, fel yr oedd ofn ei gyfarfod ar y ffordd ar rai, am y gwyddent y dywedai yn ffyddlawn wrthynt am eu bai a'u perygl. Cydymdeimlai yn dyner iawn â'r rhai oedd mewn adfyd. Cynghorai yn dirion y rhai fyddai mewn dyryswch. Yr oedd yn barod iawn i estyn cymhorth i'r gwan yn y ffydd, ac hyfforddiai bob plentyn y cai afael arno. Darfu i laweroedd o'r cyfryw wylo eu dagrau tyneraf pan y clywsent am ei farwolaeth. Y maent yn hiraethu ar ei ol, a diau y cofiant ei gynghorion tra byddant yn y byd. Nid ymadawai o dŷ heb adael rhyw gynghor buddiol ar ei ol yno; a byddai pawb yn y ty, ac yn enwedig y plant, am ei weled yno drachefn. Gwyddom am rai gweinidogion a fuont o les mawr i'r cyhoedd, ond a esgeulusasent eu teuluoedd gartref, ond nid felly y bu Mr. Roberts. Gallesid ei anerch ef, a'r eglwys oedd yn ei dŷ.' Nid oedd na gwas morwyn nad oedd efe yn teimlo gofal am eu heneidiau. Yr oedd ei deulu mor barod i ymddyddan am bregethau a phethau crefydd ag oeddynt i siarad am amgylchiadau y byd hwn; oblegid ei fod ef wedi eu harfer at hyny. Llawer gwas a morwyn sydd ag achos ganddynt i fendithio Duw iddynt erioed gael y fraint o ddyfod dan ei gronglwyd.

4. Yr oedd ei ofal yn fawr am achos Crist yn gyffredinol. Nid llawer, er dyddiau Paul, allasai ddweyd yn fwy priodol—Heblaw y pethau sydd yn dygwydd oddi allan, yr ymosod yr hwn sydd arnaf beunydd—y gofal dros yr holl egiwysi.' Os oedd efe yn anghymedrol mewn dim, yn hyn yr oedd felly. Yr oedd ei ddwys ofal yn gwanhau ei natur, ac yn mynych effeithio ar ei iechyd. oedd achos ei holl frodyr yn y weinidogaeth yn agos iawn at ei galon, ac yr oedd yn ei wneuthur fel ei achos ei hun. Yr wyf yn teimlo am ei golli; oblegid fy mod wedi colli un ag oedd yn beunyddiol weddio drosof fi a'm brodyr. Nid anghofiaf byth y cynghorion dwys a gefais ganddo, ac y mae yn drwm genyf feddwl na chaf gynghor o'i enau byth mwyach.

5. Yr oedd bob amser yn wyliadwrus i ymddwyn yn ddoeth a gochelgar. Ychydig o weinidogion yn Nghymru, os neb, oedd yn fwy anwyl a pharchus gan ei eglwys gartref, a chan ei frodyr yn gyffredinol. Yr oedd ei dduwioldeb, a'i ddoethineb yn llawn wneuthur i fyny y diffyg oedd yn ei ddoniau.

6. Fel Duwinydd yr oedd Mr. Roberts o olygiadau cyson ac eglur ar y Beibl.

Nid oedd yn rhwymo ei gred wrth unrhyw gyfundraeth ddynol, ond wrth Air Duw yn unig. Y mae dynion yn gyffredin iawn, fel y maent yn heneiddio, yn cau eu drysau yn erbyn pob peth newydd, yn erbyn pob diwygiad; eu harwyddair yw, 'Hyn a gredais, a hyn a gredaf.' Nid oes braidd ddim yn fwy o rwystr ar ffordd rhydd-redfa gwybodaeth na'r ysbryd dilafur yma; a thyma y rheswm fod llawer o bregethwyr yn myned mor wael a diddefnydd yn eu henaint.

Nid felly yr oedd Mr. Roberts, eithr yr oedd yn dyfod yn mlaen gyda'r oes, a safodd yn un o'r rhai blaenaf ar ei rwn hyd ddiwedd ei oes. Er, dichon ei fod yn un o'r rhai olaf yn nechreuad ei dymhor, yr oedd ei feddwl yn iraidd a bras yn ei henaint. Treuliodd gryn lawer o ddiwedd ei amser ar faes dadleuaeth. Nid oedd neb yn fwy annhebyg i fyned i'r maes hwnw nag ef, eithr cafodd ei wthio iddo. Fel dadleuwr yr oedd yn deg a llednais. Yr oedd ei resymau yn eglur a grymus, ond yr oedd gwawdiaeth a chabledd islaw ei foneddigeiddrwydd Cristionogol. Efe oedd un o'r rhai cyntaf a dorodd y garw yn erbyn gorlif Antinomiaeth yr oes, a dyoddefodd erledigaeth nid bychan o herwydd hyny; ond y mae llu o ol—fyddin yn awr yn ei ddilyn a fedrant saethu at drwch y blewyn. Buasai yn dda iawn genyf pe y buasai rhyw un yn cymeryd mewn llaw y gorchwyl o roddi darluniad llawnach o gymeriad Mr. Roberts nag y medraf fi wneud, er gwneuthur cyfiawnder âg ef, ac er anogaeth i'm brodyr ieuainc i rodio yn ei lwybrau, wrth weled mai duwioldeb, diwydrwydd, a phwyll, ddarfu ei wneuthur ef mor ddefnyddiol ac mor gymeradwy. A gellid crybwyll, mai dyma y prif gymhwysiadau ddylai fod mewn golwg gan eglwys wrth alw dynion ieuainc i waith mawr y weinidogaeth.

Heb y rhai hyn nid yw pob cymhwysderau era ill yn werth dim. Ond gyda'r rhai hyn gall ychydig o'r lleill wneud y tro.

Gan ddymuno eich llwydd, a hyderu yr erys ôl llafurus weinidogaeth eich duwiol dad am oesau hir yn Llanbrynmair.

Ydwyf, anwyl gyfeillion,
Yr eiddoch,
William Williams.—1834." [17]

Tua'r pryd hwn penderfynodd Miss E. Williams, merch henaf ein gwrthddrych ymgymeryd â chadw Boarding School, i addysgu boneddigesau ieuainc. Y mae yn awr o'n blaen gopi o lythyr a ysgrifenwyd ganddi at Miss Owens, Tyddyncynal, gerllaw Conwy (Mrs. Griffiths, Merchlyn, wedi hyny), a hyny er's yn agos i driugain mlynedd yn ol. Yn mysg pethau eraill, crybwylla ynddo am yr ymddyddan a fuasai rhwng ei thad a'r Parch. R. Rowlands, Henryd, yn nghylch yr ysgol, ac yn ol awgrym a roddasai Mr. Rowlands ar y pryd, fod tebygrwydd y buasai Miss Owens yn hoffi myned atynt i dderbyn addysg. Bodolai cyfeillgarwch pur ac anwyl iawn cydrhwng Mr. Williams, a theulu Tyddyncynal. Yr oedd Mr. Owens yn ddiacon ffyddlon yn Henryd, ac yr oedd llawer o wreiddioldeb yn perthyn iddo. Dywedodd wrth Mr. Williams un tro, "Gallaf fi gadw seiat yn well na chwi, ond gallwch chwithau bregethu yn well na minau." Nid ydym yn gwybod a fu Mrs. Griffiths yn y Boarding School gyda Miss Williams, ai naddo. Bu Mrs. Evans, Llandegla, yn yr ysgol hon; ac y mae y tymhor hwnw byth yn un euraidd yn ei golwg. Ni waeth heb gelu mai bychander y gydnabyddiaeth a roddid i Mr. Williams am ei lafur gweinidogaethol, ydoedd un rheswm o eiddo Miss Williams dros ymgymeryd â r gwaith o gadw ysgol.

Yr oedd Mr. Williams, mewn llawer o bethau, yn mhell o flaen gweinidogion yr oes hono fel dysgawdwr ei bobl. Ond ni ddarfu iddo erioed eu dysgu i gyfranu at grefydd yn deilwng, ac oblegid hyny, nid oedd y swm mwyaf a dderbyniodd efe am ei wasanaeth gwerthfawr, ond cywilyddus o fychan. Er mwyn cario gwaith yr ysgol yn mlaen yn effeithiol, yr oedd yn angenrheidiol iddynt wrth dŷ helaethach na'r Talwrn; a symudasent i Fryntirion, Bersham. Teimlai Mr. Williams

BRYNTIRION, BERSHAM

mai nid hawdd oedd ymadael o'r Talwrn, lle y treuliodd efe flynyddoedd dedwyddaf ei oes. Fodd bynag, gwawriodd y dydd ar yr hwn yr oedd hyny i gymeryd lle. Wedi i'r llwyth olaf o'r dodrefn fyned ymaith, dywedodd Mr. Williams, fod yn rhaid iddo gael cadw dyledswydd am y waith olaf am byth iddo ef, yn y lle hwnw fel ei gartref, a hyny a wnaeth efe yn ddwys ac effeithiol iawn. Diolchai am y bendithion lluosog a dderbyniasent fel teulu yn yr anedd hono. Erfyniai yn daer am arweiniad yr Arglwydd yn eu mynediad oddiyno. Dymunai am i fendith Duw orphwys ar y teulu oedd yn dyfod yno i'w holynu, ac ar fod i'r Beibl gael ei ddarllen ar yr aelwyd, tra y byddo careg ar gareg o'r hen gartref yn aros heb ei falurio. Tystiai Mr. Richard Pritchard, Rhos, yr hwn oedd wedi ei alw yno i gynorthwyo yn yr ymadawiad, fod y lle yn ofnadwy iawn pan yr oedd Mr. Williams yn gweddio.

Dymunol oedd gweled y teulu enwog yn ymadael yn swn y weddi deuluol, ac yn ngolwg mwg yr hen allor gysegredig; ac o dan arweiniad dwyfol Ragluniaeth, gweinyddiadau yr hon a deimlai Mr. Williams yn ddwys iawn fel yr amlygir hwynt yn yr Ysgrythyrau, ac yn amgylchiadau beunyddiol bywyd, yn gymaint felly, fel y dywed y Parch. Owen Evans, D.D., yn ei lyfr rhagorol ar Merched yr Ysgrythyrau, tudal 99, "Yr arferai ein gwrthddrych ddweyd na byddai ef byth yn gallu darllen hanes Ruth a Naomi heb golli dagrau uwch ei ben." Gwelai law Rhagluniaeth yr un mor amlwg yn symudiadau plant dynion yn barhaus, a chydnabyddai hyny yn ostyngedig a diolchgar.

PENNOD X.

O'I YMADAWIAD O'R TALWRN HYD EI SYMUDIAD I LIVERPOOL. 1834—1836.

Y CYNWYSIAD—Mr. Williams yn parhau i deithio llawer—Ei oes ef yn un drafferthus i weinidogion gydag adeiladu addoldai newyddion—Annibynwyr y Gogledd yn edrych ato ef am gymhorth—Blinder y Parch. D. Griffith, Bethel, gydag achos Manchester—Cydymdeimlad a ffyddlondeb Mr. Williams iddo —Talu dyled capel Manchester—Parotoi at y Cydymegniad" Cyffredinol—Y Cyfarfodydd yn Ninbych a Rhaiadr-gwy—Llafur a haelioni Mr. Williams gyda'r symudiad—Ei ddylanwad daionus mewn aneddau pan ar ei deithiau pregethwrol—Ei gefnogaeth yn sicrhau llwyddiant y symudiadau yr ymgymerai efe â hwynt—Adroddiad y "Cydymegniad"—Talu £24,000 o ddyled yr enwad— Deffroad ysbrydol yn dilyn hyny yn yr eglwysi— Anfon galwad o eglwys Rhaiadr—gwy i MR. Williams—Yn cerdded "rhwng dau leidr "—Cystudd a marwolaeth Mrs. Williams—Ei Chofiant gan y Parch. T. Jones, Ministerley—Trallod dwys Mr. Williams ar ol ei briod—Teimlo awydd i symud o'r Wern—Cael ei alw i wasanaethu am Sabbath i'r Tabernacl, Liverpool—Yr eglwys hono heb weinidog ar y pryd—Holi Mr. Williams am weinidog—Yntau yn cynyg ei hun iddynt—Rhoddi galwad iddo—Merch ieuanc o'r Wern yn wylo pan roddwyd y mater gerbron yr eglwys—Yr holl Dywysogaeth yn anfoddlon iddo symud—Arwyddo yr ardystiad dirwestol cyn symud i Liverpool—Yr ocsiwn goffi—Ei bregeth ymadawol

GAN nad oedd Mr. Williams yn ymwneud dim â'r sefydliad addysgol y soniwyd eisoes am dano, ni ddarfu i hwnw lesteirio dim yn y mesur lleiaf arno ef, yn nghyflawniad ei waith mawr a goruchel. Yr ydym yn ei gael yn y cyfnod hwn mewn teithiau mynych a phell, yn nglŷn â symudiadau mawrion a phwysig ei enwad, ac â chrefydd yn gyffredinol yn y Dywysogaeth. Oes drafferthus ac aml ei helbulon i weinidogion gydag adeiladu addoldai newyddion ydoedd oes ein gwron, a chymerodd ef gyfran helaeth iawn o'r cyfrifoldeb, y drafferth, a'r pryder oedd yn nglŷn â hyny. Edrychid ato am gymhorth gan bron holl Annibynwyr y Gogledd, yn arbenig felly yn siroedd Dinbych a Fflint; ac anfynych iawn y ceisient ei ffafr yn ofer. Gwyddis i'r Parch. D. Griffith, Bethel, fod mewn blinder mawr yn nglŷn â dyled capel Manchester. Bygythiodd y dyn oedd wedi rhoddi yr arian ar yr addoldy, y buasai yn gwerthu eiddo Mr. Griffith, os nad anfonid yr arian iddo ar unwaith. Cyfryngodd Mr. Williams, ac anfonodd lythyr at y gwr hwnw, yr hwn a welir yn nghofiant y Parch. D. Griffith, Bethel, tudal. 39 —rhan o'r hwn sydd fel y canlyn, I cannot see that you are under the necessity of selling Mr. D. Griffith up, except you wish to do so, as the money is not now wanted. And one would hope, in a little while, things will come better, if not, the chapel must be sold. I can say nothing else now. I am already under about £3,000 on accounts of chapels, and it is not my duty to launch any further now.

Yn ngoleuni yr uchod, gwelir mor ffyddlon a phur ydoedd Mr. Williams i frawd mewn trallod, ac mor eang ydoedd ei gydymdeimlad, ac mor fawr ydoedd ei gyfrifoldeb arianol yn achos ei enwad. Trwy gydweithrediad unol yn nglŷn â dyled capel Manchester, rhyddhawyd yr eglwys o law ei gelyn, a gallodd hithau o hyny allan wasanaethu Duw, heb ofn y ddyled a fu iddi yn boenedigaeth mor fawr, ac am amser mor faith; a chafodd Griffiths, Bethel,' yntau, wedi iddo roddi gwasgfa effeithiol i'r gwr o Gaernarfon, ei hunan yn rhydd, ac ni bu athrist mwy yn nghylch Manchester. Bu llwyddiant y cydweithrediad egniol, a'r haelioni a ddangoswyd gan weinidogion ac eglwysi yn nglŷn â'r achos a fu dan sylw, yn agoriad llygaid i'r hyn oedd yn bosibl i'r enwad ar raddfa eangach drwy gydymegniad,' er symud ymaith y ddyled drom oedd arno ar y pryd. Dylid nodi mai mewn ymddyddan a gymerodd le yn mharlwr bach' y Parch, D. Williams, Troedrhiwdalar, rhyngddo ef a'r Parch. T. Jones, Llangollen, y soniwyd gyntaf am y symudiad pwysig hwnw, ac mai yno y dechreuwyd gweithio peiriant mawr y cydymegniad' ac y trefnwyd at osod i lawr y llinellau ar hyd pa rai yr ydoedd i redeg. Buwyd am gryn amser cyn perffeithio y peirianwaith i weithredu yn rheolaidd drwy yr holl enwad Ysgrifenwyd ysgrifau galluog o blaid y mudiad i'r Dysgedydd gan wŷr medrus. Cafwyd yn Nghymanfa Dinbych, yr hon a gynaliwyd yn 1832, ymddyddan ar y pwnc, a chymerwyd yno y mater i fyny yn galonog. Trefnwyd hefyd i gynal cyfarfod mewn man manteisiol i weinidogion De a Gogledd i ddyfod i ymgynghori yn nghyd, am y ffordd effeithiolafi gyrhaedd yr amcan mewn golwg. Cynaliwyd y cyfarfod hwnw yn Rhaiadr Gwy, Hydref 31ain, 1832, adroddiad o'r hwn a roddir yma fel y ceir ef yn y Dysgedydd am y flwyddyn uchod, tudalen 375.—"Cyfarfu amryw weinidogion o'r De a'r Gogledd yn Rhaiadr, i ystyried pa lwybr yw y goreu i symud y dyledion sydd ar addoldai yr Annibynwyr yn y Dywysogaeth; a chytunwyd ar amrywiol reolau, y rhai a ymddangosant eto mewn amser dyladwy. Ni welwyd mwy o arwydd undeb erioed rhwng gweinidogion gwahanol y De a'r Gogledd, a hyderir y bydd iddynt gydweithredu yn fywiog â'u gwahanol gynulleidfaoedd, ac a'u gilydd, er mwyn symud y baich gorthrwm sy'n gorbwyso ar ysgwyddau llawer o weinidogion ac aelodau ffyddlon, nes y maent bron a llethu dano. Y mae y gweinidogion oedd yno yn bresenol wedi tanysgrifio eisoes dros saith gant o bunau, a chynwys yr addewidion a wnaed yn Ninbych; rhai yn addaw

eraill 10p., rhai 50p., ac eraill 5p.; a hyderir y bydd i eraill nad oeddynt yno, i ddilyn eu hesiampl, fel y gellir drwy hyny gymhell y cynulleidfaoedd i ddeffro at y ddyledswydd arbenig hon. Am ddau o'r gloch ddydd Mercher, pregethodd y brodyr W. Williams Caer—Am chwech narfon; a W. Griffiths, Castellnedd. o'r gloch, pregethodd y brodyr J. Griffiths, Hawen, a J. Breese, Llynlleifiad. Am ddeg o'r gloch dranoeth, pregethodd y brodyr D. Davies, Aberteifi, a W. Williams, Wern. Am ddau o'r gloch, pregethodd y brodyr S. Roberts, Llanbrynmair; C. Jones, Dolgellau; a J. Breese. Pregethodd y brodyr D. Griffith, Bethel; D. Davies, Abertawe, &c., y nos o'r blaen yn addoldai y Trefnyddion Calfinaidd, a Wesleyaidd; a'r brodyr W. Williams, Caernarfon; W. Lewis, Tredwstan; D. Davies, Aberteifi; W. Williams, Wern; S. Roberts, Llanbrynmair; J. Davies, Llanfair; D. Morgan, Machynlleth; E. Evans, Abermaw; C. Jones, Dolgellau; B. Rees, Llanbadarn; a J. Evans, Beaumaris, yn yr addoldai o amgylch Rhaiadr." Ymgymerodd yr holl enwad yn galonog â'r gwaith mawr a daionus uchod, fel erbyn y blynyddoedd 1834, 1835, yr oedd y cydymegniad cyffredinol ar lawn waith, ac yn ymdeithio yn llwyddianus. Ymdaflodd Mr. Williams yn llwyr ac yn hollol i'r ymdrechfa fawr hono. Cyfranodd haner can' punt ei hun at yr amcan, a bu oddi cartref am fisoedd rhwng Llundain a lleoedd eraill, yn casglu ato. Pwy a ŵyr faint y daioni a wnaethpwyd ganddo ar y teithiau hyny, oblegid yn ychwanegol at gasglu llawer er chwyddo cyllid y drysorfa, amcanai at fod o ddylanwad dyrchafol dros Dduw yn mhob lle yr elai efe iddo. Adroddai Mrs. Jones, Shop y Gornel, Machynlleth, ddarfod iddi weled Mr. Williams a Mr. Roberts, Dinbych, yno mewn cyfarfod oedd yn dal cysylltiad â'r ymdrech dan sylw, ac arhosent yn ei chartref hi. Pan oeddynt wrth y bwrdd ar fyned i giniawa, gofynodd Mr. Williams i Mrs. Jones, yr hon nad oedd ond ieuanc iawn yr adeg hono, "Welwch chwi merch fach i, a ddeuwch chwi a dwfr ar y bwrdd i fy ymyl i, nid wyf fi am roddi tramgwydd i neb." Dro arall disgynai yn Machynlleth, a rhoddai i fyny y tro hwnw yn nhŷ Mrs. Miles. Yr oedd yn ddiwrnod gwlawog ryfeddol, ac yr oedd ei ddillad yntau wedi eu gwlychu drwyddynt. Arferai Mrs. Miles gymeryd pob gofal er ymgeleddu y pregethwyr a fyddent wedi eu maeddu gan y tywydd, ac felly yr ymddygai y tro hwnw at Mr. Williams. Wedi iddi orphen ei lanhau dywedai wrthi, gan gyfeirio at yr oedfa y noson hono, "Os byddaf wedi ymdrwsio cystal oddi mewn ag wyf oddi allan fe geir bendith." Y mae yr Hybarch Robert Hughes (M.C.), Gaerwen, mewn llythyr gwerthfawr o'i eiddo atom, yn cyfeirio hefyd, at awyddfryd ein gwrthddrych i wneuthur daioni yn mhob lle yr arhosai ynddo. Wele ddyfyniad o'i lythyr:—" Yr wyf yn cofio yn dda am y diweddar Barchedig W. Williams o'r Wern; un o'r dynion teilyngaf a fu mewn pulpud erioed yn Nghymru. Y tro cyntaf i mi ei glywed oedd, pan oeddwn yn fachgen ieuanc yn Nghapel yr Annibynwyr yn Mhorth Amlwch. Pregethai oddiar eiriau gwahanol ar ddyledswydd a gras, sef 'Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael ef, gelwch arno tra fyddo yn agos.' 'Ceisiwyd fi gan y rhai ni ymofynasant am danaf; cafwyd fi gan y rhai ni'm ceisiasant, dywedais, wele fi, wrth genedlaeth ni alwyd ar fy enw i.' Amcan y bregeth ragorol hono ydoedd cysoni dyledswydd a gras. A gwnaed hyny yn ardderchog hefyd. Yr ydych yn cyfeirio at ei ymweliad â'r Cefndu. Yr oedd yn pregethu yn Cana, a daeth i letya i'r Cefndu. Boreu dranoeth, yn ol yr arfer, yr oedd yno addoliad teuluaidd, a Mr. Williams wrth reswm oedd yn gwasanaethu. Yr oedd yno rhwng y gwr, y wraig, y plant, a'r gweinidogion lonaid yr ystafell. Ar ol myned drwy yr addoliad teuluaidd, gofynodd Mr. Williams i Mr. Roberts, a gai efe ymddyddan gair o'r neilldu â'r oll o'i weinidogion. Byddaf ddiolchgar i chwi am wneud, ebai Mr. Roberts. Wedi hyny efe a ymneillduodd i'r parlwr, ac a ymddyddanodd â phob un o honynt yn bersonol, gan roddi iddynt gynghorion priodol, yr hyn, mae'n debyg a fu yn lles iddynt am eu hoes. Yr oedd Mr. Williams yn ddyn Duw, ac yn amcanus i wneuthur daioni i'w gydbechaduriaid yn mhob man, bob amser. Nid yn yr areithle yn unig. Gwnaed yr Arglwydd ein holl bregethwyr yn gyffelyb iddo yn hyny."

Yr oedd cael cefnogaeth a nawdd y fath bregethwr, ac un oedd mor awyddus i berarogli Crist yn mhob lle, ag ydoedd ein gwrthddrych, yn sicrwydd bron am lwyddiant unrhyw symudiad yr ymgymerai efe âg ef. Ysgrifenyddion y "cydymegniad cyffredinol" oeddynt y Parchn. D. Morgan, Machynlleth; a S. Roberts, M.A., Llanbrynmair; a chyda'r fath wŷr medrus, buasid yn dysgwyl llwyddiant ar y gwaith, ac felly y bu. Cyhoeddasent adroddiad llawn a manwl o'r casgliadau ar derfyn yr ymdrech, yr hwn sydd yn awr ger ein bron, a chan y tybiwn mai i ychydig yn yr oes hon y rhoddwyd y fraint o'i weled, rhoddwn yma yr 'Anerchiad' sydd ar ei ddechreu, "Wele yr adroddiad o'r 'cydymegniad cyffredinol' weithian gerbron y Cymry. Gwnaeth ysgrifenwyr yr Undeb Cyffredinol, yn gystal ag eiddo yr Undebau Sirol, eu goreu er ei gael allan yn gynt. Gorwedd y bai o'r gohiriad yn llwyr wrth ddrysau y gweinidogion a'r eglwysi fuont o lawer yn fwy parod i gyfranu nag i wneud eu cyfrifon i fyny, a'u hanfon i'r ysgrifenyddion; a lled debygol yw, fod rhai, trwy ddiflasdod fel hyn, wedi llwyr gau eu hunain allan, ac er i bob moddion gael eu harferyd i'w cael i mewn, hwyrach na fyddai neb yn fwy parod i feio am eu bod allan na hwynt eu hunain. Byddai yn ormod, feallai, i ddysgwyl perffeithrwydd mewn adroddiad a ysgrifenwyd gan wahanol bersonau, ar wahanol amserau, ac mewn gwahanol fanau; ond odid nad yw enwau rhai personau a lleoedd wedi eu camlythyrenu, am fod anhawsdra i'r cysodydd weithiau i ddeall yr ysgrifenlaw, ond pa wallau bynag addichon fod wedi dygwydd, gobeithio y teflir mantell cariad drostynt, gan i bawb wneud eu goreu i ymestyn at berffeithrwydd. Hyderwn na chynygir mor adroddiad i sylw y cyffredin oddiar deimladau gwag—ymffrostgar a chwyddedig, ond mai yr unig amcan mewn golwg ydyw dangos yr hyn a wnaeth Duw, ac nid yr hyn a wnaeth dynion; ac ein bod yn foddlon tanysgrifio o galon i eiriau per—ganiedydd Israel, (1 Cron. xxix. 14), "Eithr pwy ydym ni, a phwy yw ein pobl ni, fel y caem ni rym i offrymu yn ewyllysgar fel hyn; canys oddiwrthyt ti y mae pobpeth, ac o'th law dy hun y rhoisom i ti." Coflyfrir yr ymdrechion hyn. i'r un dybenion ag y gwnaeth pobl Dduw yn mhob oes o'r byd lyfru eu gorchestion gyda'r achos—sef dangos yr egwyddor fwyaf gymeradwy gyda Duw, a mwyaf diddig gyda dynion, er myned a'r achos yn mlaen, Exod. xxv. 2, "Gan bob gwr ewyllysgar ei galon y cymerant fy offrwm." Mae holl hanes y tabernacl a'r deml yn eglur ddangos i ni fod gorfodaeth yn ffiaidd gan Dduw, ac yn gas gan ddyn. Cynygir yr adroddiad, gan hyny, fel colofn o effeithioldeb y gyfundraeth wirfoddol, a hyderir y myn pob eglwys Gynulleidfaol un o honynt er ei gadw gyda chof—lyfrau eraill, er trosglwyddo gwybodaeth am y cydymegniad yn 1834 a 1835 i oesoedd diweddaraf y byd. Wrth ddarllen hanes egnion pobl Dduw yn mhob oes, ymddengys fod undeb a chydweithrediad yn hanfodol angenrheidiol er gwneud gorchestion at adeiladu y tabernacl (Exod. xxxv. 20—30); byddai rhai yn dwyn eu harian a'u haur, a'u trysorau gwerthfawr; eraill a ddygent grwyn hyrddod a daearfoch; a'r gwragedd a nyddent, ac a ddygent o ffrwyth eu llafur; felly, oni buasai i wŷr yr aur a'r arian gyd—gyfarfod mewn cyd—ymdrech â gwŷr y symiau mân yn yr egniad diweddar, ni fuasai 24,000p. o ddyled Cymru wedi eu treiglo i ffwrdd, ond drwy undeb a chydweithrediad, wele hwynt wedi eu dileu. Ac er na ellir cyhoeddi trwy wersyll Israel Cymry, fod y gwaith ar ben (Ex. xxxvi. 6, 7), fel y gwnai Moses gynt, eto dymunem gyd—lawenhau o herwydd yr hyn a wnawd, ac ymosod yn gydunol ar y deng mil sydd eto yn aros, gan wybod na fydd ein llafur yn ofer. Gobeithir y gwna pawb a bwrcaso yr Adroddiad ei gadw yn barchus, fel y gallo yr oloesolion ymddifyru wrth weled ymdrechion eu teidiau, fel yr ymddifyrwn ni yn awr wrth egniadau ein teidiau gyda'r Cymdeithasau Cenadol a Beiblaidd er's deugain mlynedd yn ol, ac hwyrach y byddai yn fendithiol iawn i'r oes sydd yn codi i weled prawf na fu eu teidiau yn ddiofal am drosglwyddo efengyl iddynt hwy, ac y dylent hwythau ymroddi i helaethu yr achos a'i drosglwyddo i eraill. Mae y 10,000p sydd eto yn ol yn galw ar bob sir i barhau yn ffyddlon nes toddi y cwbl; a thaer ddymunir ar bob sir i ofalu na byddo un lle o'i mewn yn myned i draul na gofid afreidiol. Hyd ffurfiad yr Undeb byddai aml i un yn adeiladu y lle, ac fel y gwelai ef yn dda, heb eistedd munyd i fwrw y draul; yna gwelid ef fel gwibiad a chrwydriad, gan adael ei gynulleidfa i soddi dan logau, ac ymgrintachu â'u gilydd; ond o hyn allan na foed i neb adeiladu heb i'r sir ymrwymo i gynorthwyo os bydd rhaid. Cofier hefyd cyhyd ag y byddo deng mil yn aros fod pum cant o bunau o logau ar Iesu Grist i dalu bob blwyddyn. Hwyrach fod rhai wedi meddwl wrth glywed y gweinidogion yn anog i fod yn haelionus, na fyddai galw arnynt am ddim rhagllaw; ond y mae hyn yn anmhosibl, cyhyd ag y byddo congl o'r ddaear heb addoldy ynddi—ac ni byddai yn dda gan un dyn duwiol iddi fod fel hyny; maent hwy i gyd yn mesur eu cariad at Grist wrth eu cariad at ei achos (Act. ii. 44, 45; a 2 Cor. viii. 1—3). Cyn y terfynom, dymunwn ddiolch i'r eglwysi ag oeddynt wedi gwneud ymdrechion mawr yn uniongyrchol cyn ffurfiad yr undeb i dalu dyledion eu hunain, ond a ymroisant wedi hyn i gynorthwyo eraill. Terfynwn yn awr gan obeithio fod amser y diwygiad wedi dechreu ar Gymru, a bod mammon y ddelw fawr ar gael ei gwneud yn gyd—wastad â'r llawr, a bod ysbryd cyhoedd ar esgyn i'r orsedd yn ei le." Dengys ymgyrch y cydymegniad y gwaith mawr ellir wneud drwy ymuno â'n gilydd, yn gystal a'i fod yn brawf arosol o nerth a rhagoriaeth yr egwyddor wirfoddol i gynal achos Duw. Bu talu 24,000p o ddyled yr enwad y pryd hwnw yn foddion i'w alluogi i gerdded yn hwylusach byth wedi hyny. Ond uwchlaw pob peth, hyfryd yw cofio, ddarfod i hyny ddeffroi yr eglwysi yn ysbrydol, ac yr oedd cael gwared o'r cysgadrwydd moesol oedd wedi eu meddianu, yn ychwanegu at lawenydd y rhai oeddynt yn ofni am Arch Duw yn yr oes hono, ac felly yn ddiau yr ydoedd i Mr. Williams. Ond yn ymyl pob llawenydd, y mae galar yn dilyn yma; canys yn Rhagfyr, 1835, bu farw y Parch. D. Roberts, Dinbych, yr hwn oedd yn gyfaill anwyl, mynwesol, a ffyddlon i wrthddrych ein Cofiant. Pregethodd Mr. Williams bregeth angladdol iddo oddiar Actau xiii. 36, 'Canys Dafydd, wedi iddo wasanaethu ei genedlaeth ei hun trwy ewyllys Duw, a hunodd; ac a ddodwyd at ei dadau, ac a welodd lygredigaeth.' Cyhoeddwyd crynodeb gwerthfawr o'r bregeth hon yn y Dysgedydd, am Mawrth, 1837. Yn y flwyddyn 1835 hefyd, yr oedd yn amlwg fod iechyd Mrs. Williams, anwyl briod ein gwrthddrych, yn gwanychu, a chymylau yn ymgasglu yn ei ffurfafen deuluaidd, yr hon oedd wedi bod yn hynod ddysglaer a digymylau yn ystod y deunaw mlynedd blaenorol. Wedi marwolaeth y Parch. Daniel Evans, Rhaiadr Gwy, rhoddodd yr eglwys yno alwad unleisiol i Mr. Williams i ddyfod yn weinidog iddi. Bernid y buasai symud yno yn profi yn llesol er adgyfnerthiad i iechyd Mrs. Williams. Heblaw hyny, ystyrid y Rhaiadr yn fath o borth rhwng De a Gogledd, ac y buasai ymsefydlu yno yn fanteisiol iawn i Mr. Williams ei hunan, ac i'r holl enwad. Teimlai yntau raddau o ogwyddiad yn ei feddwl i gydsynio â'r alwad o'r Rhaiadr Gwy. Bu dau negesydd dros yr eglwys hono yn ymweled âg ef, y rhai a ddaethent i'r Wern ar ddiwrnod cyfarfod blynyddol eglwys y Rhos, ac aethent eu dau i'r oedfa ddau o'r gloch. Pan yn myned o'r capel, cerddai Mr. Williams rhwng y ddau ymwelydd, a dilynid hwynt gan y Parch. Hugh Pugh o Fostyn, yr hwn a waeddodd, gan ddywedyd, "Mr. Williams, ni welais chwi erioed mor debyg i'ch Meistr mawr ag ydych heddyw." "Sut felly Pugh?" gofynai yntau, "Wel, rhwng dau leidr," atebai y gwr ffraeth o Fostyn. Fodd bynag, ni chaniataodd dwyfol Ragluniaeth iddo ef fyned i Rhaiadr Gwy, a bu yn rhaid i'r ddau swyddog ddychwelyd yn dra siomedig. Ond bu yr eglwys yn y Rhaiadr yn llwyddianus i sicrhau y Parch. John Griffiths o Fanchester, yn weinidog iddi cyn diwedd y flwyddyn 1835. Erbyn dechreu y flwyddyn 1836, gwelid fod haul bywyd Mrs. Williams yn cyflym gilio tua gorwel ei fachludiad yr ochr hyn, ac er pob medr meddygol, gofal a thynerwch eithriadol o eiddo ei phriod a'i phlant, ni thyciai dim er rhoddi atalfa ar y darfodedigaeth oedd yn prysur fwyta ymaith ei nerth; ac ar ddydd Iau, Mawrth 3ydd, 1836, ehedodd ei henaid o Fryntirion i dragwyddol orphwysfa y saint. Dydd Mercher, y 9fed, claddwyd hi yn mynwent y Wern. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. John Saunders, Buckley. Pregethwyd y Sabbath canlynol ar yr amgylchiad gofidus i dyrfa fawr, gan y Parch. Isaac Harris y Wyddgrug, oddiwrth Diar. x. 7: "Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig, ond enw y drygionus a bydra." Ysgrifenodd y Parch. T. Jones, Ministerley, fyr—gofiant am y wraig rinweddol uchod, yr hwn a welir yn y Dysgedydd, Gorphenaf 1836, ac er mantais i'r darllenydd nad yw y rhifyn hwnw ganddo, rhoddwn yma yr hyn a ganlyn allan o'r cofiant, fel y gwelir drwyddo nodweddau cymeriad Mrs. Williams yn ei bywyd, ac ansawdd ei theimladau yn ei chystudd a'i mynudau olaf:—"Yr oedd yn feddianol ar synwyr cryf, a thymher hawddgar. Meddianai ar lawenydd heb ynfydrwydd, a sobrwydd heb bruddder. Meddianai hefyd ar egwyddorion didwyll; parchai y ffyddloniaid, cydymdeimlai â'r gwan, argyhoeddai y troseddwr yn llym, a ffieiddiai ei chalon y rhodresgar a'r diegwyddor. Wrth eu cymeriad y byddai yn adnabod dynion, ac nid wrth eu meddianau; y rhinweddol a'r dirodres oeddynt ei chyfeillion mynwesol, beth bynag fyddai eu hamgylchiadau bydol. Y rhinweddau uchod, wedi eu gwrteithio â dysgeidiaeth a'u prydferthu à gras, a'i gwnaeth am ei thymhor yn ymgeledd gymhwys i weinidog y cysegr. Yr oedd ei chamrau teuluaidd wedi eu nodi â diwydrwydd ac iawn drefn, nid i'r dyben i ymgyfoethogi, ond i fod yn wasanaethgar i haelfrydedd ac elusengarwch. Yn ei pherthynas â'i phlant, fel mam, daliai y llywodraeth deuluaidd i fyny yn ddoeth a diysgog; rhoddai ar ddeall iddynt yn arafaidd a rhesymol, mai ei lle hi oedd llywodraethu, a'u lle hwythau oedd ufuddhau. Ac wrth eu haddysgu felly, yr oedd ufuddhau yn dyfod yn rhwydd a naturiol iddynt, yr hyn ydyw careg sylfaen tymher hawddgar a chymeriad caruaidd. Ni wnai byth godi eu dysgwyliadau âg addewidion chwyddedig a diles, ond yr hyn a addawai a gyflawnai yn ofalus, yr hyn a dueddai i chwanegu eu cariad ati, a chryfhau eu hyder ynddi. Ni chymerai chwaith ddim oddi—arnynt a ystyrid yn eiddo personol i un o honynt, heb ei ganiatad, ac yn gyffredin talai ei werth am dano, a dysgai hwy i gyfranu hyny at ryw achos da, Fel hyn dangosai iddynt mewn ymarferiad, y pwys a'r angenrheidrwydd o gyfiawnder a gonestrwydd rhwng gwr a gwr. Yr oedd Mrs. Williams yn byw dan neillduol ystyriaeth o'i dyledswydd yn mhob peth, beth bynag a ymddangosai idd yn ddyledswydd ni phetrusai ei gyflawni, faint bynag fyddai y draul a'r drafferth gysylltiedig âg ef. Pan ar unrhyw amgylchiad, yn absenoldeb Mr. Williams, y gelwid arni i basio barn anaddfed, a gweithredu yn ddioed, teimlai yn ddwys rhag na byddai wedi gwneuthur yn iawn. Arferai ddywedyd yn ddifrifol, "If I have done wrong I am very sorry". Dichon nad oedd neb yn fwy manylaidd yn y cyflawniad o'i dyledswyddau; na neb o'r tu arall, a bwysai lai arnynt yn y cyflawniad o honynt. Ystyriai ei holl gyflawniadau yn wasanaeth dyledus arni, ac nid yn sylfaen cymeradwyaeth iddi, oblegid ar Grist yn ei gymeriad a'i ras yr oedd holl bwys ei henaid, ac efe yn unig oedd ei holl obaith. Trwy ei chystudd oll yr oedd ei meddwl yn dawel a chysurus, nes oedd yn hyfrydwch bod yn ei chyfeillach. Yr oedd cysuron y grefydd a'i cynysgaeddodd â'r fath gymhelliadau i ddyledswydd yn awr yn llifo i'w henaid fel afon, ac yn talu yn dda am bob traul a thrafferth a gymerodd. Yr oedd ei meddwl yn gwbl ar Grist, ac yn rhyfeddu ei bod wedi caru cyn lleied arno, ac yn galaru na buasai wedi gwneuthur mwy drosto. Gyda'r myfyrdodau yma, ymddifyrai ei meddwl mewn amryw benillion, megys y canlynol:

'Fy Nuw, fy nghariad wyt, a'm rhan,
A'm cyfan yn dragwyddol;
Ni feddaf ond tydi'n y Ne',
Nac mewn un lle daearol.'

Yn ei horiau diweddaf, yn neillduol, yr oedd ei ffydd yn hynod o gref, eglur, a rhesymol, eto yr oedd yn ystyriol o dwyll y galon lygredig, ac yn ofni cymeryd rhyfyg yn lle ffydd ddiffuant. Pan fyddai ei chysuron yn gryfion iawn, gofynai yn fynych, Can this be presumption? A ddichon hyn fod yn rhyfyg? Ac adroddai rai o'i hoff benillion, megys:—

'Tydi yw'r môr o gariad rhydd,
Lle daw'm llawenydd dibaid;
Trogylch fy holl serchiadau wyt,
A chanolbwynt fy enaid.

'Fy enaid atat ti a ffy
Mewn gwresog gry' ddymuniad,
Ond O, mor bell yr wyf er hyn;
O Iesu! tyn fi atad.

Gweddiai yn barhaus am fwy o santeiddrwydd, ac am gael sefydlu ei meddwl yn fwy ar Grist, fel po nesaf i'r nefoedd yr oedd yn tynu, mwyaf i gyd oedd yn ei weled o'i gwaeledd, yn debyg i Paul wedi bod yn y drydedd nef, yn gwaeddi allan, 'Nid wyf fi ddim.' Dywedai yn aml am werthfawredd. crefydd y galon, ac nad oedd crefydd allanol yn werth dim heb grefydd y galon. Ychydig oriau cyn ei hymadawiad, yn ymwybodol fod yr amser yn nesâu, ffarweliodd yn dawel â'i phriod hawddgar, ac â'i phlant anwyl, gan eu cynghori yn y modd dwysaf, a'u rhybuddio yn y modd difrifolaf i fod yn sicr o'i chyfarfod hi yn y nefoedd; yna torodd allan mewn llef eglur, Ac y'm ceir ynddo ef,' ac mai Crist oedd ei phob peth hi am byth. Yr oedd wedi hollol ymroddi i ewyllys yr Arglwydd, i wneuthur â hi fel y gwelai yn dda—yr oedd mor ddiolchgar i'r teulu am bob ymgeledd a wnaent iddi, a phe buasent yn hollol ddirwymau tuag ati. Yn ei munydau olaf, dywedodd ei mherch henaf wrthi fod yn anhawdd iawn ymadael. Atebai hithau, Nac ydyw, nac ydyw.' Dywedai yn fynych na byddai y nefoedd ddim yn lle dyeithr iddi; fod ganddi lawer o gyfeillion yno yn barod. Dysgwyliai y byddai y Parchn. D. Jones o Dreffynon, a J. Roberts o Lanbrynmair, ac eraill gyda hwy, yn ei chroesawu hi i mewn; ond meddyliai nas gallai ysgwyd llaw â hwy i gyd, cyn myned i fwrw ei choron wrth draed yr hwn a fu farw dros y penaf o bechaduriaid. Fel ffrwyth addfed wedi hollol ymddiosg oddiwrth bob peth gweledig, ymadawodd â'i phriod naturiol, ac aeth i fyw at Briod ei henaid; ffarweliodd â'i chyfeillion daearol, i fyned at luoedd o gyfeillion nefol, 'At fyrddiwn o angylion, ac at Iesu, Cyfryngwr y Testament Newydd.'

Bu marwolaeth Mrs. Williams yn ddyrnod mor drom i'w phriod, fel y teimlodd ei fod wedi ei fwrw i'r dyfnder isod, a bod y dyfroedd yn ei amgylchynu hyd yr enaid, a'r hesg yn ymglymu am ei ben, fel yr oedd ar lewygu ac ymollwng i ddigalondid gorlethol. Teimlodd oddiwrth ei brofedigaeth i'r fath raddau, nes yr oedd ei gnawd arno yn curio, a'i enaid ynddo yn galaru, ac ni fynai ei gysuro, oblegid yr oedd Dinas ei gyfarfod wedi ei gwneuthur yn bentwr, ac yntau wedi ei adael heb yr hon yr edrychai i fyny tuag ati, ac y gosodai arni ei obaith mewn awr o gyfyngder. Trowyd Bryntirion yn Fryn gofid a galar iddo.

Er fod ganddo ymlyniad wrth, a serch cryf at eglwysi ei ofal, y rhai y bu yn eu gwasanaethu mor gymeradwy am naw mlynedd ar hugain, eto, wedi marwolaeth Mrs. Williams, teimlodd awydd i symud i ryw gwr arall o winllan ei Arglwydd i lafurio, am y tybiai yn un peth, y buasai newid golygfeydd, a gweled wynebau dyeithr yn ei gynorthwyo i anghofio ychydig ar ei ofid, am yr hwn y meddyliai nad oedd gofid neb fel ei ofid ef. Yn y cyfamser, galwyd arno i wasanaethu am Sabbath i eglwys y Tabernacl, Great Crosshall Street, Liverpool; a chydsyniodd yntau â'r cais. Yr oedd yr eglwys barchus hono heb weinidog ar y pryd, canys yr oedd y Parch. John Breese wedi symud i hen eglwys enwog Heol Awst, Caerfyrddin; ac wedi dechreu ar ei weinidogaeth yno er y Sabbath cyntaf yn 1835. Lletyai Mr. Williams yn Liverpool dros y Sabbath a nodwyd yn nhy Mr. William Evans, Old Post Office Place. Tra yn ymddyddan â'u gilydd am yr achos yn y Tabernacl, dywedodd Mr. Evans wrtho, fod arnynt hwy yn y Tabernacl angen mawr am weinidog, a gofynodd iddo, 'Ai ni wyddai efe am neb cymhwys a allasent hwy gael i ddyfod atynt?' Atebodd Mr. Williams, drwy ofyn, A gymerwch chwi fi?' Yr oedd yr atebiad hwnw o'i eiddo wedi synu Mr. Evans, a bu gan lawenydd yn rhyfeddu, ac heb allu credu am beth amser ei fod i'w ddeall fel un o ddifrif yn y mater, ac o'r diwedd dywedodd, Nid yw yn bosibl i ni eich cael chwi yma Mr. Williams!' 'Ys gwn i yn wir,' meddai yntau, byddaf yn meddwl fy mod wedi bod ddigon yn y Wern, ac mai gwell i'r achos, i'm plant, ac i minau hefyd, fyddai i mi symud i rywle arall. Mynegodd Mr. Evans yr ymddyddan a fuasai rhyngddo ef a Mr. Williams, i swyddogion eraill yr eglwys, y rhai pan glywsent hyny, oeddynt fel rhai yn breuddwydio, a llanwyd eu genau à chwerthin, a'u tafod a chanu, oblegid teimlent fod yr Arglwydd ar wneuthur iddynt hwy bethau mawrion, ac am hyny yr oeddynt yn llawen. Anfonwyd dirprwyaeth at Mr. Williams, ac wedi iddynt gael pob sicrwydd y deuai efe atynt, rhoddasent y mater gerbron yr eglwys, a phan y gwnaethpwyd hyny, yr oedd llawer o'r aelodau yn eu sel a'u llawenydd, yn codi eu dwy ddwylaw i fyny dros roddi galwad iddo i ddyfod atynt. Ond yr oedd yno un ferch ieuanc, yr hon a roddodd ei phen i lawr, ac a wylodd yn chwerw dost, ac ni chododd ei llaw dros y penderfyniad. Gofynwyd iddi wrth fyned allan o'r capel, a oedd hi yn erbyn i Mr. Williams ddyfod yn weinidog i'r Tabernacl? pryd yr atebodd hithau gan ddywedyd, 'O nac ydwyf, ond methu a gwybod yr wyf fi beth a wna hen bobl dduwiol y Wern ar ol colli Mr. Williams.' Un enedigol o ardal y Wern ydoedd y ferch ieuanc ragorol hono, ond ni chawsom wybod ei henw, pe amgen, rhoddasem ef yma. Parodd yr hysbysiad o fwriad Mr. Williams i ymadael o'r Wern anfoddlonrwydd drwy yr holl Dywysogaeth. Teimlodd eglwysi y Wern a'r Rhos yn y fath fodd o herwydd ei benderfyniad o'u gadael, fel na ddarfu iddynt geisio ganddo ail ystyried y mater, a theimlodd yntau hyd at golli dagrau o herwydd yr ymddygiad hwnw o'r eiddynt tuag ato. Dichon i'r eglwysi ymddwyn felly, am y tybient nad oedd o un dyben iddynt geisio ganddo aros gyda hwy. Fodd bynag, felly y bu.

Pan wnaethom yn hysbys i'r Parchedig John Thomas, D.D., Liverpool, ein bwriad o ysgrifenu y gwaith hwn, dywedodd wrthym, fod "atebiad" Mr. Williams i alwad eglwys y Tabernacl iddo, yn ei feddiant ef; ac yr anfonai ef i ni mor fuan ag y caniateid iddo amser i edrych dros ei bapyrau, ond er ein gofid, bu y gwr enwog farw cyn cael hamdden i hyny. Ond anfonodd ei fab, y Parch. Owen Thomas, M.A., Llundain, yr atebiadi ni, ac yr ydym yn dra diolchgar iddo am ei ffyddlondeb. Wele yr atebiad yn yr iaith yr ysgrifenwyd ef, ac hefyd, enghraifft berffaith o lawysgrif Mr. Williams:

Rhoddwn yr atebiad i'r llythyr uchod hefyd yn y Gymraeg:—

WERN,

Mehefin 26ain, 1836.

At Eglwys Crist, cynulledig yn Great Crosshall St.

Ar ol, yr wyf yn gobeithio, ystyriaeth anmhleidiol a gweddi, yr wyf wedi gwneud fy meddwl i fyny i dderbyn eich gwahoddiad i ddyfod i lafurio yn eich plith fel eich gweinidog. Yr wyf yn gobeithio y byddwn o lawer o gysur a bendith i'n gilydd. Yr wyf yn teimlo yn wir ddiolchgar am fod undeb a heddwch yn ffynu yn eich plith, a'm gweddi yw, ar iddo barhau yn hir.

Ydwyf, yn rhwymau yr efengyl,
W. WILLIAMS.

O. Y.—Ymddengys yn awr y gallaf drefnu pethau, fel ag i ddechreu ar fy ngorchwyl yn eich plith ddechreu Hydref."

Gwelir fod "atebiad" y pregethwr enwog yn hynod o'r syml a dirodres, ac yn nodweddiadol hollol o'r dyn yn ei holl gyflawniadau. Fel yr oedd yr amser iddo i ymadael yn nesâu, teimlai fod datod y cysylltiad oedd rhyngddo â'r Wern, yn galetach gorchwyl nag y meddyliodd, oblegid nis gallai ymgynal i ymddyddan am ei ymadawiad gyda'i gyfeillion hoff Mri. Joseph Chaloner, Richard Pritchard, Robert Cadwaladr, Thomas Taylor (tad Mrs. Jacob, gynt o Abertawe), Ellis ac Elizabeth Daniell, Frondeg; (rhieni yr Hybarch W. Daniell, Knaresborough), John a Charlotte Griffiths, Caeglas, a llu eraill, fuont yn gydgynorthwywyr ffyddlon iddo yn ei waith mawr a phwysig. Dywedodd wrth ei gyfaill anwylaf, Dr. W. Rees, mai y ddau amgylchiad caletaf a'i cyfarfu ef oedd, colli Mrs. Williams, ac ymadael o'r Wern.

Yr oedd y diwygiad dirwestol newydd ddechreu cynhyrfu y wlad yn ddaionus y pryd hwnw, er ceisio rhoddi atalfa effeithiol ar lifeiriant dinystriol meddwdod yn y tir; ac mewn cyfarfod dirwestol a gynaliwyd yn y Wern, ychydig wythnosau cyn symudiad ein gwrthddrych i Liverpool, y darfu iddo ef arwyddo â'i law yr ardystiad dirwestol; ac ar derfyn y cyfarfod hwnw, wrth gyfeirio at ei ymadawiad, dywedai ei fod yn dymuno eu hysbysu, mai "Ocsiwn Goffi, ac nid ocsiwn Gwrw oedd i fod yn ei dy ef." Cyhoeddasai hyny rhag i neb o honynt gael eu siomi drwy ddysgwyl yn ofer am gwrw, oblegid mai cwrw a arferid roddi i bawb i'w yfed mewn arwerthiadau felly yn y dyddiau hyny. Rhoddodd Mr. Williams, cyn ymadael â'i hen faes, drwy y weithred uchod yn gyhoeddus, ei sel o blaid y diwygiad oedd yn sobreiddio y wlad. Terfynwn y benod hon drwy roddi sylwedd ei bregeth ymadawol yn y Rhos a'r Wern, yr hyn a gymerodd le y Sabbath olaf yn Medi 1836.

"Megys y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu." 2 Cor. i. 14. [18]

I. Paham y mae dydd y farn yn cael ei alw dydd Crist?

1. Gwaith Crist yn unig fydd yn cael ei ddwyn yn mlaen y diwrnod hwnw. Bydd gwaith pawb arall wedi ei osod o'r neilldu a'i atal. Bydd y byd mor brysur ar waith y boreu hwn ag erioed, megys yr oedd yn nyddiau Noah-priodi, planu, prynu, gwerthu, adeiladu, &c., hyd y dydd yr aeth Noah i mewn i'r arch, felly bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn.' Rhydd ymddangosiad Crist y dydd hwnw atalfa fythol ar bob gwaith daearol, gwaith yr amaethwr, y masnachwr, y morwr, y celfyddydwr, y teithiwr, gwaith llywodraethwyr, cyfreithwyr, a phob crefftwr o ba grefft bynag y bo,' ac ni chlywir trwst maen melin ar y ddaear mwyach; gwaith pregethwyr yn darfod; ni chlywir swn durtur fwyn yr efengyl mwyach; gwaith Crist fel Barnwr fydd yn unig yn cael ei ddwyn yn mlaen. Ni ddarfu iddo atal gwaith neb pan ymddangosodd ar y ddaear, ond etyl waith pawb pan ymddengys ar y cymylau.

2. Pethau Crist yn unig fyddant yn llenwi meddyliau, ac yn destynau ymddyddanion pawb y diwrnod hwnw; holl achosion trafferthus y byd hwn wedi eu llwyr anghofio gan bawb; holl ofalon galwedigaethau ac amgylchiadau y ddaear wedi eu carthu allan o bob meddwl, y miliynau meddyliau anfarwol wedi eu cydgrynhoi at yr un gwrthddrychau, pob ymddyddanion am bethau eraill wedi tewi, Crist a'i bethau wedi llyncu y cwbl iddynt eu hunain.

3. Y dydd y bydd Crist yn gorphen ei waith mawr yn ngoruchwyliaethau rhagluniaeth a phrynedigaeth, ac y bydd ei fuddugoliaeth ar ei holl elynion yn cael ei pherffeithio.

4. Y dydd y bydd Crist yn ymddangos yn ei lawn ogonianty bydd yn dyfod i'w oed—dydd ei goroniad.

II. Y bydd dynion yn cyfarfod yn y dydd mawr hwnw, yn ol y gwahanol berthynasau a fuasai rhyngddynt â'u gilydd, er eu mawr orfoledd, neu eu mawr drueni.

1. Yn eu cysylltiad cymydogaethol y rhai a fuasent yn cydfyw yn yr un gymydogaeth â'u gilydd, ac felly yn effeithio dylanwad da neu ddrwg y naill ar y llall; byddant yn cyfarfod gerbron brawdle Crist i ateb am y dylanwad hwnw.

2. Cysylltiad masnach a galwedigaethau—Y prynwr, a'r gwerthwr, cydweithwyr.

3. Cysylltiad teuluaidd gwŷr a gwragedd, rhieni a phlant, meistriaid a gweinidogion.

4. Cysylltiad crefyddol, gweinidogion, ac eglwysi, a gwrandawyr. Bydd yr holl gysylltiadau hyn ag y buom ynddynt yn y byd hwn, yn effeithio ar ein dedwyddwch neu ein trueni yn nydd Crist. Byddwn yn adnabod ein gilydd, yn cofio am bob peth a fu rhyngom â'n gilydd.

Buom yn y gwahanol gysylltiadau hyn yn fendith neu yn felldith i'n gilydd. Y mae y cysylltiad a fu rhyngof fi a chwithau, bellach er's naw mlynedd ar hugain, yn awr yn darfod, ond nid yw ei effeithiau a'i ganlyniadau yn darfod, nac i ddarfod byth. Yr wyf fi wedi bod yn fy swydd bwysig yn athraw a dysgawdwr i chwi. Cyflwynais y rhan fwyaf o honoch i'r Arglwydd drwy fedydd; cefais yr hyfrydwch a'r fraint o dderbyn llawer o honoch yn aelodau i eglwys Crist; ond yr wyf yn gadael llawer o honoch yn annychweledig. Cyfarfyddwn oll yn nydd Crist, a pha fath gyfarfod a fydd hwnw? Pa fodd y bydd ein cysylltiad hwn yn effeithio ar y naill a'r llall o honom? A gawn ni gyfarfod yno i fendithio a chydlawenhau yn ein gilydd, ddarfod i ni erioed ddyfod i'r cysylltiad hwn? Er gorfoledd, ynte er galar a gofid, y cyfarfyddwn?

III. Bydd y cyfarfod hwnw yn dra gwahanol i bob cyfarfod arall a gawsom erioed.

1. Bydd y cyfarfod mwyaf o bob un—yr holl genhedloedd, yr holl oesau. Ni welwyd un oes nac un genedl oll mewn un cyfarfod o'r blaen, ond bydd holl genedloedd yr holl oesau yn hwn.

2. Byddwn yn cyfarfod yn wastad yma mewn ystad o brawf, ond yno i dderbyn ein gwobr neu ein cosb.

3. Byddwn yn cyfarfod yma i ymadael drachefn, ond yno i beidio ymadael byth, ar un llaw; ac ar y llaw arall, byddwn yn ymadael yma oddiwrth ein gilydd mewn gobaith o gael cyfarfod drachefn, ond ymadael am byth y bydd y rhai a fyddant yn ymadael â'u gilydd yno.

4. Y mae ein cyfarfodydd yma yn gymysgedig o drallod a llawenydd, ond yno bydd yn ddigymysg—llawenydd pur, neu drallod digymysg."

Teimlai y cynulleidfaoedd a'r pregethwr hefyd yn ddwys iawn, pan y pregethai efe yr uchod iddynt. Beiid ef am fyned ymaith, ond teimlai ef fod ganddo gydwybod dawel yn y mater, ac fod ei farn gyda'r Arglwydd, a'i waith gyda'i Dduw; ac felly, efe a ymadawodd o'r Wern am Liverpool yr wythnos ganlynol

PENNOD XI.

O'I SYMUDIAD I LIVERPOOL HYD YR WYL DDIRWESTOL YN NHREFFYNON 1836—1838.

Y CYNWYSIAD—Amgylchoedd Newydd Mr. Williams yn wahanol i'r hyn oeddynt yn ei hen faes—Eglwys y Tabernacl yn ei dderbyn yn groesawgar—Ei fynediad i Liverpool yn ychwanegu at gysur Mr. Pierce— Liverpool yn methu ysgaru y Wern oddiwrth ei enw—Ei ofal am un teilwng i'w olynu yn y Wern a'r Rhos—Ei lythyr at y Parch. E. Evans, Llangollen—Cyflwyno Tysteb i Mr. Williams— Pregethu yn Nghymanfa Colwyn—Boneddiges Seisnig o Liverpool yno yn ei wrando—Mr. Williams yn parhau yn llawn gweithgarwch— Ymosodiad arno yn y Papyr Newydd Cymraeg" Y Bedydd olaf a weinyddodd yn y Wern—Bedyddio baban yn Bethesda—Cymanfa Ddirwestol Caernarfon—Ysgrif yr Hybarch B. Hughes, Llanelwy —Cyfarfodydd yn Nhreffynon—Mr. Williams yn cael oedfa hynod yno—Ei nodwedd Gymreig— Ordeinio dau weinidog yr un diwrnod yn Nhreffynon, y naill i'r Saeson a'r llall i'r Cymry— Cynghor Mr. Williams i'r Gweinidog Cymreig— Ei eiriau yn cael eu hystyried yn brophwydoliaethol Gwyl Ddirwestol Treffynon—Llawer o bregethwyr enwog wedi eu cyfodi yn Nghymru

GAN mai yn ngolwg dyffryn prydferth a ffrwythlawn Maelor, yr hwn sydd wedi ei addurno â phalasau heirdd, a thrwy yr hwn y llifa y Ddyfrdwy tua'r môr yn fawreddus yr olwg arni, yr oedd Mr. Williams wedi trigianu er's blynyddoedd, yr oedd symud i'r ddinas fawr fyglyd, aml a phrysur ei phobl, o dawelwch hyfryd Bersham, yn rhwym o beri iddo deimlo ei amgylchoedd newydd yn wahanol a dyeithriol iawn i'r hyn oeddynt yn ei hen faes. Ond derbyniwyd ef gan eglwys y Tabernacl fel rhodd arbenig iddi oddiwrth yr Arglwydd, yn groesawgar a diolchgar. Cafodd dŷ mewn safle ddymunol, sef yn 128, Islington. Yr oedd y pregethwr a'r bardd rhagorol, y cywir Barch. Thomas Pierce, yn gweinidogaethu i eglwys Bethel (Park Road yn awr), er's pedair blynedd cyn hyn; ac yr oedd symudiad Mr. Williams i'r Tabernacl, yn ychwanegiad dirfawr at gysur Mr. Pierce. Er fod ein gwrthddrych wedi gadael y Wern am Lynlleifiad, eto yr oedd cyhoedd fel pe wedi penderfynu mai yn Williams y Wern y mynent ei alw byth, a methodd Liverpool ag ysgaru y Wern oddiwrth ei enw. Dengys a ganlyn o "Hunangofiant y diweddar Barch. Evan Evans, Llangollen," yr hwn a welir yn Dysgedydd 1886, tudal. 451, 452, fel yr awyddai Mr. Williams am weled un teilwng yn cael ei alw i'w olynu yn y Wern a'r Rhos, a'r gofal a ddangosai efe am danynt er wedi eu gadael. "Gweddusach i ni adael heibio grybwyll y gwahanol fanau y cefais alwadau oddiwrthynt, rhag i neb feddwl fy mod yn gwneuthur bost o hyny; ond y mae un amgylchiad nas gallaf ymatal rhag ei grybwyll. Derbyniais lythyr oddiwrth Mr. Williams o'r Wern, ar ei ymadawiad oddiyno i Lynlleifiad. Yr wyf yn methu a chael gafael yn y llythyr hwnw, er ei fod yn rhywle yn mhlith fy mhapyrau; ond y mae ei ail lythyr ataf ar yr un achos yn awr ar y bwrdd o'm blaen, a dyma gopi cywir o hono:—

"128, Islington, Liverpool,
31st December, 1836.

"My Dear Friend,

There is about five weeks since I wrote to you before, on behalf of the people of Wern and Rhos. They would be very much obliged to you if you could supply there for two or three Sabbaths about the end of next month, or the beginning of February. As I have told you in my last, they have some intention to give you an invitation to come amongst them. I believe they would make from £80 to £100 salary. They wonder what is the reason that you do not answer the letter I wrote before; and indeed, I cannot help but wonder myself. Surely they are worth answering their letter—

"I am, Yours, &c., W. WILLIAMS.

Mr. C. Griffiths, Palston Mill, near Wrexham.

"P.S.—I have posted the other letter at Liverpool."

Yr wyf yn rhyfeddu fy hun hefyd ddarfod i mi oedi cyhyd i ateb llythyr cyntaf Mr. Williams. Nid wyf yn cofio yn awr pa fodd y bu hyny, os esgeulusdra ydoedd, yr oeddwn yn haeddol o gerydd llymach nag a gefais gan y gwr parchus a charedig, oblegid y mae troion o'r fath hyny yn annheilwng iawn mewn gweinidog yr efengyl. Ond yr wyf yn cofio yn dda pa beth a barodd i mi nacau cydsynio â chais Mr. Williams a'i gyfeillion, sef fy ystyriaeth nad oeddwn yn meddu cymhwysderau digonol i fod yn olynydd i Mr. Williams o'r Wern yn ei weinidogaeth! Ie, Williams o'r Wern, cofiwch! Y pregethwr enwocaf yn ein plith yn Nghymru! Dychrynais rhag meddwl y fath beth a myned i'r Wern a'r Rhos ar ei ol ef; ac felly ymesgusodais rhag myned yno i'w gwasanaethu gymaint a Sabbath y pryd hwnw."

Gwelir drwy yr uchod y syniad uchel a goleddid gan Mr. Evans am ein gwrthddrych, ac hefyd y pryder a deimlai yntau yn nghylch pobl y Wern a'r Rhos. Ni phallodd eu dyddordeb hwythau ychwaith ynddo yntau, ac ni pheidiasent ag ymgynghori â'u cyn-weinidog enwog mewn achosion perthynol i'r eglwysi. Penderfynodd ychydig gyfeillion i Mr. Williams yn Wrexham a'r amgylchoedd, fod yn ddyledswydd arnynt amlygu eu parch iddo a'u serch ato, drwy gyflwyno iddo anrheg fechan yn arwyddnod sylweddol o hyny. Er fod y symudiad wedi ei gychwyn cyn iddo ymadael â'r Wern, eto ni allwyd ei chyflwyno iddo hyd nos Fawrth, Mai 16eg, 1837, yr hyn a wnaed mewn cyfarfod cyhoeddus yn nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, Abbot Street, Wrexham. oedd yr anrheg yn gynwysedig o haner can' punt a dysgl arian, ar yr hon y ceir yr argraff a ganlyn:—

TO THE REV. WILLIAM WILLIAMS,

LATE OF WERN,

this salver, accompanied by fifty sovereigns, is presented by his numerous friends in and near Wrexham, as a token of their affectionate esteem of his Christian character, and of grateful remembrance of his past service among them, as a memorial of faithful discharge of his duties as pastor over the people with whom he was harmoniously united for nearly thirty years, and as a testimonial of the disinterested labours and extensive ministerial usefulness by which through the grace of God he was eminently distinguished 'throughout the Principality of Wales Wrexham, April 1837.

Ni ddeallasom beth ydoedd rheswm hyrwyddwyr y symudiad uchod, dros eu gwaith yn dewis cyflwyno yr anrheg yn Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd yn Wrexham, yn hytrach nag yn Nghapel y Wern. Ni chawsom ychwaith gymaint o fanylion trefn y cyfarfod ag a fuasai yn ddymunol genym. Daeth nifer fawr o gyfeillion yn nghyd i gyfranogi o wledd ddanteithiol a baratowyd ar gyfer eu hangenrheidiau naturiol. Wedi hyny, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus o dan lywyddiaeth y diweddar Charles Griffiths, Ysw., King's Mill; ac anerchwyd y cyfarfod yn briodol gan amryw o frodyr teilwng. Pan y cyfododd Mr. Williams i gyflwyno iddynt ei ddiolchgarwch, yr oedd ei deimladau yn ddrylliedig iawn; ac o

herwydd hyny, yr oedd yr olygfa yn un o'r rhai mwyaf effeithiol a welwyd un amser, ac yn un nad anghofiwyd gan neb o'r rhai oeddynt yn bresenol. Y mae cyfarfod o nodwedd yr uchod yn adfywiol i deimladau y rhai sydd yn rhoddi, yn gystal ac ac i'r hwn sydd yn derbyn. Ymaflodd Mr. Williams â'i holl egni yn ei waith yn ei gylch newydd, a thaflodd fywyd i holl beirianwaith Eglwys y Tabernacl. Crybwyllasom eisioes fod Mr. Williams wedi pregethu yn Nghymanfa Colwyn yn 1833. Trwy ganiatad, rhoddwn yma yr hyn a geir yn Rhyddweithiau Hiraethog, tudalen 85—87, am y gymanfa hono—"Yn haf—dymor y flwyddyn 1833, cynelid cymanfa flynyddol siroedd Dinbych a Fflint yn Colwyn. Yr oedd boneddiges o Liverpool, yr hon oedd o olygiadau Undodaidd, yn aros yn Abergele ar y pryd, yn mwynhau awyr a dwfr y môr. Daethai y diweddar Barch. T. Parry, o Blackburn y pryd hwnw, yr hwn oedd enedigol o Abergele, adref ar ymweliad â'i rieni a'i hen ardal. Cyfarfu ef â'r foneddiges ar y traeth un diwrnod, ac aeth yn ymddyddan rhyngddynt, yr hyn a fu yn ddechreuad cyfeillgarwch; a mynych y byddent yn nghymdeithas eu gilydd tra y buont yn aros yno. Fore dydd y Gymanfa yn Colwyn, cyfarfu y foneddiges â Mr. Parry ar yr heol mewn cerbyd, yn cychwyn i'r Gymanfa; gofynodd iddo i ba le yr ydoedd yn myned, ac wedi iddo ddywedyd mai i gyfarfod pregethu a gynelid y diwrnod hwnw mewn lle cyfagos, dywedodd hithau pe buasai wedi cael gwybod am y cyfarfod mewn pryd, yr aethai hithau yno, y buasai yn dda iawn ganddi weled cyfarfod pregethu Cymreig am unwaith. Cymhellodd Mr. Parry hi i fyned gydag ef yn y cerbyd, rhedodd hithau i'w llety, paratodd ei hun, ac ymaith a hi i'r Gymanfa. Yr oedd Mr. Williams yn pregethu y bore hwnw ar y testun, "Heb ollwng gwaed nid oes maddeuant." Prif fater y bregeth oedd yr angenrheidrwydd o Iawn er maddeuant pechodau. Yr oedd yr athrawiaeth y bore hwnw,

"Fel y gwlith tirionaf dystaw,
Sy'n dyhidlo oddi fry.

Ie, "fel gwlithwlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt." Eisteddodd y foneddiges mewn côr ar gyfer y pregethwr, a Mr. Parry wrth ei hochr, a chyficithai ranau o'r bregeth iddi. Yr oedd yr athrawiaeth yn hollol groes i'w golygiadau a'i chredo hi; er hyny, diolchai yn foneddigaidd i Mr. Parry am ei garedigrwydd iddi. Aeth y Gymanfa heibio, a phawb i'w fan, aeth y foneddiges hithau i'w llety; ac yn mhen rhai dyddiau, dychwelodd adref i Liverpool, ond nid yn hollol yr un un, yn mhob ystyr, y daeth hi adref o Abergele, ag yr oedd hi yn myned yno. Na, yr oedd rhywbeth a glywsai hi o'r bregeth yn Colwyn y bore hwnw wedi cydio, ac wedi glynu yn ei meddwl, fel nad oedd modd ei ysgwyd ymaith, ond cadwai y cwbl hir dymhor yn nghyfrinach ei mynwes ei hun. Rhywbryd yn y flwyddyn 1837, cymerwyd hi yn glaf iawn, ac ymddangosai am hir amser yn annhebyg i wella. Amlygai ddymuniad cryf yn ei chystudd yn fynych am weled y gweinidog a glywsai hi yn pregethu bedair blynedd yn ol yn Colwyn, pe buasai modd; yr oll a wyddai hi am dano ydoedd, mai Mr. Williams oedd ei enw. Aeth un o'r teulu at Dr. Raffles i ofyn iddo ef dalu ymweliad â hi, ac felly fu. Hysbysodd Dr. Raffles iddi fod y gweinidog a glywsai yn Colwyn yn awr yn byw yn y dref, ac yr anfonai air iddo ddyfod i edrych am dani. Pan aeth Mr. Williams i'w hystafell, adnabu ef yn union, a chynhyrfodd yr olwg arno ei theimladau yn fawr, a hithau yn wan iawn. Wedi dyfod ychydig ati ei hun, dechreuodd adrodd ei helynt ysbrydol iddo, na chawsai hi ddim heddwch i'w henaid na dydd na nos, er pan y buasai yn ei wrando (trwy gyfieithiad) yn Colwyn, bedair blynedd cyn hyny; ddarfod iddi wneud pob ymdrech i ymlid ymaith a chadw allan yr aflonyddwch o'i meddwl, ond yn ofer. Galwasai o'r diwedd am gymhorth ei chyfeillion, a gweinidogion o'r un enwad y perthynai iddo, ond ni allent ei hiachau o'i harcholl. Yr oedd rhai pethau o'r bregeth hono hefyd yn ymddangos yn bur dywyll iddi, ac yn bur wrthwynebus i'w meddwl, a charasai gael ymddyddan âg ef yn eu cylch. "Yr ydych yn rhy wan yn awr, Madam," meddai yntau, "os caniatewch i mi fyned i weddi yn fyr cyn ymadael, y mae hyny yn gymaint ag a ellwch chwi ddal heddyw, a mi a ddeuaf yma yfory eto." Caniatawyd hyny yn rhwydd iddo. Parhaodd i ymweled à hi bob dydd. Cytunasent fod iddi hi nodi dim ond un o'i gwrthddadleuon ar y tro, ac iddo geisio ateb a symud hono; ac felly aethant yn mlaen am rai dyddiau. Yr oedd y meddyg yn bur anfoddlon pan ddeallodd hyn, gan ddadleu fod ymddyddanion felly yn ormod iddi yn y gwendid yr oedd hi ynddo, ond mynai hi gael Mr. Williams ati bob dydd i'w hystafell, a dywedai ei fod ef yn gwneud llawer mwy o les iddi nag oedd y meddyg a'i gyffyriau yn ei wneud. Y canlyniad fu symud o'i meddwl bob gwrthwynebiad a deimlai i athrawiaeth fawr yr efengyl o Iawn er maddeuant pechodau, a'i dwyn i fod Gristion gostyngededig at Groes Crist. Gwellhaodd o'i chlefyd, gadawodd ei hen gyfeillion crefyddol, ac ymunodd âg un o'r eglwysi Annibynol yn y dref. A phan oedd Mr. Williams yn glaf, deuai i ymweled âg ef bob dydd, a mawr oedd ei serch ato tra fu efe byw. Adroddai Mr. Williams yr hanes i'r ysgrifenydd un bore Sabbath ar yr heol wrth fyned gyda'u gilydd o'i dŷ ef yn Great Mersey Street, i Bethel, Bedford Street, capel ein cyfaill Mr. Pierce. Yn Ninbych yr oeddwn i yn byw y pryd hwnw. Buasai yn dda genyf lawer gwaith pe buaswn wedi holi mwy i fanylion yr hanes, a chael adroddiad o gynwysiad yr ymddyddanion a fuasai rhyngddynt. "Yr oedd hi," meddai ef, "yn foneddiges o alluoedd cryfion iawn, ac o feddwl goleuedig a choeth; ac nid gwaith hawdd ac ysgafn oedd ateb ei gwrthddadleuon a'i rhesymau. Nid oedd wedi ymgymeryd â'i golygiadau Undodaidd yn arwynebol ac ysgafn, ond yr oeddynt yn argyhoeddiad meddwl wedi dwys ymchwiliad, darllen, a myfyrdod; ac felly, nid peth bychan a hawdd oedd iddi ymryddhau oddi wrthynt. Gwrandawodd ugeiniau y bregeth hono yn Colwyn yn ei holl nerth cynhenid, ac nid trwy gyfieithiad o ryw ranau o honi, ac aethant ymaith, hwyrach, yn ddiystyr ganddynt, ac ni feddyliasant mwy am dani. Ond saethodd gwreichion o honi, er dan anfantais o gyfieithiad, i feddwl a chalon y wraig foneddig hono a fuont yn foddion i'w goleuo am ei chyflwr fel pechadures, ac am ogoniant a chyfaddasder y drefn fawr o ras yn Aberth ac Iawn y Gwaredwr ar gyfer trueni ac angen yr euog; ac i'w harwain i dderbyn a chofleidio y drefn hono am ei bywyd tragwyddol. Mor ddyfnion, mor gyfriniol a doethion, ydyw ffyrdd a goruchwyliaethau rhagluniaeth a gras. Llenwid breichiau Mr. Williams gan waith yn nglŷn â materion cyhoeddus yn wladol a chrefyddol yr adeg hon. Ymdrechodd o blaid llwyr ddiddymiad y Dreth Eglwys anghyfiawn a gorthrymus. Efe hefyd a ddewiswyd yn drysorydd y dysteb a roddwyd i'r Parch. E. Davies (Eta Delta), Llanerchymedd, yn gydnabyddiaeth am ei wasanaeth gwerthfawr yn nglŷn â'r achos dirwestol, ac yn arbenig fel "Y Llwyrymwrthodwr cyntaf yn Nghymru." Bu Mr. Williams hefyd yn dadleu mewn cyfarfod cyhoeddus yn Liverpool y pryd hwn dros benodi Esgobion Cymreig i Gymru. Ymosodwyd arno yn ffyrnig am hyny, mewn ysgrif wenwynig, yr hon a ymddangosodd yn y rhifyn olaf o'r "Papyr Newydd Cymraeg," yr hwn a gyhoeddid yn Nghaernarfon. Erbyn heddyw, ni wyr bron neb, ond y nesaf peth i ddim o hanes "Y Papyr Newydd Cymraeg,"[19] ond y mae penodi Esgobion Cymreig i'r Cymry yn ol athrawiaeth ein gwrthddrych y pryd hwnw yn beth sydd erbyn hyn yn cael ei hawlio, ac nid diogel ei wrthod, gan mor gryf yw y teimlad Cymreig o blaid hyny. Er wedi gadael Cymru, eto parhai Mr. Williams i dalu ymweliadau mynych â gwlad ei enedigaeth, ac yn arbenig â hen faes ei lafur. Yr ydym yn ei gael ar Gorphenaf 23ain, 1837, yn gweinyddu yr ordinhad o fedydd ar Elizabeth, merch fechan Mr. William ac Elizabeth Griffith, Bersham. Hi oedd yr olaf o blant y Wern a fedyddiwyd ganddo ef. Bedyddiodd ganoedd lawer o blant yn y Wern, a lleoedd eraill, yn ystod ei oes weinidogaethol. Wrth eu cyflwyno i'r Arglwydd drwy fedydd, arferai roddi cynghorion pwysig iawn i'r rhieni ar yr amgylchiad, y rhai a gofid ganddynt, a throsglwyddir hwynt o oes i oes, ac felly gwasanaethant yr oesau, megys yr engraifft a ganlyn a gofnodir yn y Dysgedydd gan y Prifathraw E. Herber Evans, D.D.,—"Daeth yr olygfa hon i'n cof, a sylw glywsom gan yr hen frawd ffyddlawn Mr. Griffith Thomas, Treflys, Bethesda, am Mr. Williams o'r Wern yn bedyddio. Gofynem iddo beth oedd yn nodedig yn y pregethwr anfarwol hwn, ei ateb oedd, yr oedd yn wastad yn dweyd rhywbeth i'w gofio. Er engraifft, meddai, clywais ef yn bedyddio baban unwaith mewn ty, a dywedodd fel hyn: Dyma faban, efe fydd y brenin yn y ty hwn. Rhaid i bawb yn y ty redeg pan fydd ef yn galw. Rhaid i'r fam godi haner nos os bydd yn gwaeddi. Rhaid i'r tad hefyd, adael pob peth os bydd eisiau help arno ef. Y bychan fydd y brenin, a phawb trwy'r ty yn ufuddhau iddo nos a dydd. Rhaid tendio arno, rhaid iddo gael teyrnasu, ond cofiwch, dim ond am flwyddyn. Yn mhen y flwyddyn, diorseddwch ef. Ufudd-dod wed'yn. Ac os na fynwch chwi ufudd-dod yn mhen blwyddyn, fe ymgyndyna yn erbyn ufudd-dod am ei oes.' Teimlwn fod y sylw hwn yn deilwng o'r gwr mawr, oedd yn gymaint o athronydd yn ei eglurebau."

Teimlwn ninau wedi darllen yr uchod, mai gwir y dywediad, "Nid oes dim sydd wir a theilwng yn myned ar goll." Yn y Gymanfa Ddirwestol fawr a nodedig a gynaliwyd yn Nghaernarfon Awst 2il a'r 3ydd, 1837, yn ychwanegol at weinyddu yn ddoeth fel cadeirydd i'r holl gynadleddau, areithiodd a phregethodd Mr. Williams yn hynod o'r effeithiol yn yr wyl hono. Dywed yr Hybarch David Williams (M.C)., Conwy, am y Gymanfa hono, yr hwn oedd yn bresenol ynddi, fel y canlyn:—"Yr oedd yno lu o enwogion y pulpud, megys John Elias, Williams o'r Wern, Christmas Evans, Griffith Hughes (W.), H. Griffiths, Llandrygan, Mon (Eglwyswr Rhyddfrydol a chydwybodol), a llawer eraill o weinidogion o bob enwad, a lleygwyr parchus o bob rhan o'r wlad. Dyma yr wyl ddirwestol enwocaf a welsom erioed. Yr oedd y dyrfa fawr yn cyrhaedd o'r dref i'r Morfa yn agos i filldir o ffordd. Cychwynodd yr orymdaith o Gapel Moriah, yn cael ei blaenori gan y gwŷr enwog a enwir uchod. Aethent drwy y prif heolydd dan ganu:—

"Er gwaetha'r llid yn mlaen yr awn,
Fel llu banerog enwog iawn," &c.

Yn y Morfa yr oedd esgynlawr gyfleus wedi ei darparu, a chafwyd yno gyfarchiadau hyawdl a nerthol gan y cewri a enwyd. Dywedodd Mr. Williams y bydd arweinwyr mewn drygioni yn y byd hwn yn hawdd i'w hadnabod yn y byd arall—y bydd pob llofrudd yn adnabod Cain yno, a phob eilunaddolwr yn adnabod Jeroboam, a phob meddwyn yn adwaen Belsassar, a phob un halogedig yn adwaen Esau, a phob un werthodd Fab Duw yn adnabod Judas, yn uffern byth. Yr oedd yr effeithiau yn drydanol ar y miloedd a wrandawent yno. Pregethodd Mr. Williams hefyd yn y Gymanfa hono, oddiar Actau xvii. 19, 20—"A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon a draethir genyt." Yn Y Diwygiad Dirwestol, tudalen 162, dywed y Parch. J. Thomas, D.D., am ei bregeth fel y canlyn—"Pregeth anghymharol, yr eglurhad llawnaf a thecaf o'r egwyddor: Ddirwestol a glywais erioed. Felly y teimlwn y pryd hyny, ac felly y dywedai y rhai oedd mewn. oedran cyfaddasach i farnu. Yr egwyddor fawr o hunanymwadiad oedd yr un a safai arni, a dangosai fel y mae pethau sydd ynddynt eu hunain yn gyfreithlawn, yn myned yn bechadurus drwy y camarferiad o honynt; a phan yr änt felly, y dylid llwyrymwrthod â hwy. Cyfeiriodd at y sarff bres, yr hon oedd o ordeiniad Duw; ond pan yr aeth yn fagl i'r bobl, gorchymynwyd ei dinystrio. Amlhaodd ei eglurhadau nes y dangosodd yn eglur fod yr egwyddor ar ba un yr oedd y gymdeithas yn seiliedig yn gorwedd yn yr Ysgrythyrau." Ar ein cais, anfonodd yr Hybarch. Benjamin Hughes (M.C.), Llanelwy, i ni yr ysgrif werthfawr a ganlyn, a chan ei bod yn dal perthynas a'r cyfnod hwn yn hanes ein gwrthddrych, rhoddwn hi yma yn ddiweddglo i'r benod hon—"Y mae adgofion boreuaf fy oes yn dal cysylltiad agos â'r dygwyddiadau crefyddol oedd yn nglŷn â'r gwahanol enwadau yn Nhreffynon, lle y'm ganwyd ac y'm dygwyd i fyny. Oedfeuon hynod, Cyfarfodydd Blynyddoi, Cymanfaoedd, Cyfarfodydd Beiblau, gweinidogion dyeithr perthynol i wahanol lwythau Israel yn ymlwybro i'r cysegr, oeddynt y pethau a dynent fy sylw penaf i, ac a wnaent yr argraff ddyfnaf ar fy meddwl. Gan nad oeddym yn byw nebpell oddiwrth gapel yr Annibynwyr, byddwn er yn fachgen pur ieuanc yn cymeryd dyddordeb neillduol yn y Cyfarfod Blynyddol a gedwid yn addoldy yr enwad hwnw, ar ddydd Gwener y Groglith. Cymerwn fy eisteddle yn lladradaidd ar un o'r meinciau ar y llawr neu yn yr oriel. Yr oedd rhyw edmygedd dwfn yn fy meddianu tuag at y gweinidogion a ddeuent i gynal y cyfarfod. Un achos o'r cywreinrwydd am meddianai pan elwn i addoldy Heol y Capel, oedd gweled y gweinidogion yn dyfod i'r pulpud drwy y drws, o'r ystafell fechan yn union o'r tu cefn i'r areithle. Yr oedd hyny yn rhoddi rhyw ddylanwad cyfriniol ar fy meddwl yr adegau hyny. Yr oedd y pregethwr oedd yn bwriadu cyfarch y gynulleidfa yn cael ei hunan ar funydyn wyneb yn wyneb a chynulleidfa fawr; ac o'r ochr arall, yr oedd pobloedd lawer yn cyd-blanu eu llygaid ar y genad oedd i sefyll rhwng y byw a'r meirw. Yr oedd yr olygfa yn peri i mi feddwl am yr archoffeiriad gynt yn dyfod o'r gafell santaidd i blith y bobl. Cofus genyf mai y gweinidogion a ddeuent i Dreffynon i'r wyl flynyddol yr adegau hyny i bregethu, oeddynt y Parchn. John Roberts, Llanbrynmair; R. Jones, Rhuthyn; D. Roberts, Dinbych; I. Harris, Wyddgrug; T. Jones, Newmarket; B. Evans, Bagillt; O. Owens, Rhes-y-cae; W. Rees, Mostyn; ac yn arbenig Mr. Williams o'r Wern. Byddai ef yn gyffredin yn pregethu ddwywaith yn y cyfarfod, naill ai y ddwy noson, neu ynte am ddeg boreu Gwener a'r noson ddiweddaf. Yr wyf yn cofio yn dda fel y byddai y gweinidogion yn cael hwyl i bregethu. Defnynai eu hathrawiaeth fel gwlith-wlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt. Gwisgid hwynt â nerth o'r uchelder, ond ymddangosai Mr. Williams i mi fel o dan raddau helaethach o'r eneiniad dwyfol, na neb o'i frodyr. Pan y cyfodai ef, elai allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. Yn awr, caniateir i mi geisio rhoddi desgrifiad byr o hono mewn cyfarfod pregethu. Dychmyged y darllenydd ei fod ar nos Wener y Groglith, yn un o'r blynyddoedd rhwng 1833, a 1839, yn cael ei hunan yn addoldy Heol y Capel, Treffynon. Am chwech a'r gloch y mae yr oedfa i ddechreu, ond y mae y capel yn llawn haner awr cyn yr amser, ac erbyn adeg dechreu y mae yr addoldy yn orlawn. Y mae nifer y gwrandawyr yn mhob sedd wedi dyblu, ac y mae y mynedfeydd, y conglau, a'r gwagleoedd yn dyn o bobl o bob gradd yn awyddus i wrandaw cenadwri gweision y Duw Goruchaf. Ond beth am y lluaws pobl sydd wrth y drysau oddiallan? Wel, y mae eu sefyllfa hwy yn debyg i'r eiddo y gwrandawyr hyny yn Capernaum gynt, "Ac yn y man llawer a ymgasglasant yn nghyd, hyd na anent, hyd yn oed yn y lleoedd yn nghylch y drws." Ond atolwg a oes dim modd rhoddi ychydig o ymwared i'r nifer mawr acw sydd yn sefyll ar y llawr ac yn nghyrion uchaf yr oriel? Oes, y mae modd, drwy gyrchu y meinciau o'r ysgoldy, a hyny a wnaed, fel y gallai yr addolwyr eistedd bob yn ail â'u gilydd. Erbyn hyn y mae yn amser dechreu y gwasanaeth, a dacw bregethwr, glandeg yr olwg arno, tua chanol oed, yn codi i fyned drwy y rhanau defosiynol o'r addoliad. Y mae y canu yn wresog, y darlleniad o'r Ysgrythyr yn hyglyw, a'r weddi yn daer, yn deimladwy, ac yn gynwysfawr. Yn mhen enyd o amser dacw y drws o'r tu cefn i'r pulpud yn agor, ac wele weinidog arall yn gwneuthur ei ymddangosiad, ac y mae yn amlwg wrth wedd foddhaus y gynulleidfa ei fod yn uchel yn eu ffafr. Pregethai yn goeth, yn ddoniol, ac yn dda. Ond wedi iddo fod am rhyw dri chwarter awr yn egluro trefn y cymod yn effeithiol, a chyda graddau helaeth o gymeradwyaeth, canfyddid arwyddion ar wynebpryd y gynull- eidfa ei bod yn dysgwyl cyfranogi o seigiau brasach yn y man, ac yn parotoi ei hunan i yfed o felusaf winoedd yr efengyl. Wedi i'r pregethwr cyntaf gilio o'r neilldu, ac i ddor y gafell gael ei agor, wele weinidog arall yn gwneud ei ymddangosiad. Gwr yn tueddu y pryd hwn at fod braidd yn deneu, ac ychydig yn dalach na'r cyffredin. Gwynebpryd agored, wedi ei eillio yn lân, dau lygad tanllyd, eryraidd, yn llawn gwroldeb a meddylgarwch, ac yn meddu digon o allu i dreiddio i ddirgelion natur y gynulleidfa. Talcen uchel, cnwd helaeth o wallt, a hwnw, er nad yn annhrefnus, eto heb ei drin a'i droi yn goegfalch. Gwddf-gadach gwyn (nid gwddf-dorch glerigol), can wyned a'r eira, a hwnw wedi ei glymu, nid yn ddolenog ac ymddangosiadus, ond yn disgyn i lawr yn weddus, ac yn cuddio yr holl fynwes. Dyna y Parchedig William Williams, Wern-un o dywysogion y pulpud Cymreig yn yr oes o'r blaen. Nid oedd rhaid i'r pregethwr hwn wneuthur unrhyw esgusawd dros sefyll i fyny yn y lle santaidd i gyhoeddi yr efengyl, ac nid oedd eisieu iddo ef gyflwyno cred-lythyrau oddi wrth unrhyw lys daearol er mwyn argyhoeddi dynion ei fod yn deyrngenad (ambassador) wedi ei anfon oddi wrth Dduw, oblegid yr oedd ei fedr, ei amcan, ei ysbryd, ei ddifrifwch, a'i ymroddiad, yn cario argyhoeddiad igydwybod pawb ei fod yn weinidog cymhwys y Testament Newydd. Dyna fe yn darllen ei destun, mewn llais eglur, fel yr oedd pawb yn gwybod yn y fan pa faes y bwriadai ei lafurio, a beth fyddai rhediad ei genadwri. Yn ei ragymadrodd wrth ddangos perthynas y geiriau a'r cyd-destunau, er ei fod yn goeth, nid oedd yn feirniadol iawn, nac yn esboniadol; ond yr oedd y tro hwnw yn gystal a throion eraill y clywais ef, yn egluro cryn lawer ar yr Ysgrythyrau yn ngoleuni ei natur dda ei hun, ei ewyllys dda, a synwyr cyffredin. Wrth ranu ei destun, cododd faterion agos iawn at y gwrandawyr, heb fod yn rhy uchel ar y naill law, nac yn rhy isel ar y llaw arall. Wrth ddefnyddio cymhariaethau i egluro y gwirionedd, yr oedd yn dra gochelgar rhag ymylu at ddim fuasaai yn rhoddi y tramgwydd lleiaf i'r puraf ei chwaeth, ac hefyd rhag dweyd dim fuasai yn rhoddi unrhyw feithriniad i halogedigaeth. Yn mhen rhyw ugain munyd yr oedd y pregethwr wedi twymno i'r fath raddau, fel yr oedd yn hawdd gwybod fod y gwirionedd yn llosgi yn ei ysbryd ef, yn gymaint felly, fel y dangosai hyny ei hun yn y llais, llygaid, a gruddiau y pregethwr. Ac yn mhen rhyw haner awr nofiai fel Lefiathan yn ei elfen yn nyfroedd yr efengyl. Mor hapus y cyfeiriai at ddamegion Crist, ac at hanesion yr Hen Destament, ac y gosodai bron bob peth o dan deyrnged er egluro a grymuso ei resymau dros i ddynion dderbyn yr Iachawdwriaeth. Llefarai nid am y bobl, nac yn nghlyw y bobl, ond wrth y gwrandawyr. Erbyn hyn y mae ugeiniau o'r gwrandawyr a lluaws o'r gweinidogion, yn ddiarwybod iddynt eu hunain yn codi i sefyll, blith drafflithi wrando, gan mor fwyned oedd sain yr udgorn arian. O mor eglur, mor wresog, ac mor hyawdl y mae yn llefaru, mor ddengar ydyw ei wahoddiadau, mor resymol ydyw ei gymwysiadau, ac mor ddifrifol ydyw ei apeliadau. Treiglai ei chwys i lawr ar hyd ei ruddiau, a dacw y dagrau heilltion yn tywyllu ffenestri ei lygaid, ac y mae yr holl gynulleidfa wedi ei gorchfygu. Yn nghanol cyffro mawr a theimladau dwysion, terfynodd y gweinidog enwog ei bregeth y noson hono, a phawb yn teimlo ei fod ef bellach, yn lân oddiwrth eu gwaed hwy oll. Clywais Mr. Williams amryw droion pan oeddwn yn fachgen, ond yr oedfa uchod sydd yn aros yn fwyaf byw yn fy nghof. Yr ymarferol yn benaf, ac nid yr athrawiaethol oedd rhediad cyffredin ei weinidogaeth. Byddai ganddo doraeth o gymhariaethau i daflu goleuni ar ei faterion. Meddai fedr neillduol i gyflwyno yr efengyl mewn dull enillgar i'w gydgenedl. Ymddangosai fel pe buasai ei enaid wedi ymffurfio mewn mould Gymreig. Yr oedd dullwedd ei feddwl wedi ei wisgo a'i addurno mewn arddull Gymreig. Cymru, Cymry, a Chymraeg, oeddynt wrthddrychau agos iawn at ei galon. At arferion Cymreig, da neu ddrwg, y byddai yn cyfeirio y rhan amlaf yn ei weinidogaeth. Cymhariaethau Cymreig a ddefnyddiai i egluro ei faterion, a diarhebion Cymreig oedd y rhai o'r morthwylion oedd ganddo i yru y gwirioneddau adref, ac i'w rhybedu yn nghydwybodau y gwrandawyr. Pe buasai pagan yn gwrandaw arno y tro cyntaf, buasai yn penderfynu yn sicr mai Cymro gwresog oedd Abraham, ac mai Cymry ffyddlawn oedd Moses, Samuel, a Dafydd; ïe, mai Cymro o'r Cymry oedd yr apostol Paul, ac mai un o genedl y Cymry o ran y cnawd, ac un yn caru ein cenedl ni yn fwy na neb arall oedd Gwaredwr mawr y byd! Gan fod cymaint o'r nodweddion hyn, yn nghyda llawer o bethau pwysig eraill yn ei weinidogaeth, nid oedd yn rhyfedd yn y byd fod Mr. Williams mor boblogaidd, Y mae genyf amryw bethau eraill y gallwyf gyfeirio atynt, ond nid ydynt mor eglur yn fy nghof. Ond y mae dau amgylchiad arall y gallaf eu nodi yn fyr, sef y rhan a gymerodd Mr. Williams mewn ordeiniad gweinidog yn Nhreffynon, a'i ymdrech gyda dirwest pan y sefydlwyd yr achos da hwnw gyntaf yn ein gwlad. Gan fod eglwys a chynulleidfa barchus yr Annibynwyr yn Nhreffynon, yn cael ei gwneud i fyny o Gymry a Saeson y pryd hwnw, rhoddodd yr eglwys yn 1835 alwad i ddau frawd ieuanc i ddyfod atynt i'w bugeilio, sef Mri. D. W. Jones ac Ellis Hughes, y rhai oeddynt newydd ddyfod o'r Athrofa. Yr oedd Mr. Jones i ofalu am y Saeson, a Mr. Hughes i wasanaethu y Cymry, a hyny yn yr un capel. Yn mhen amser, cafwyd cyfarfod i ordeinio y ddau bregethwr, a hyny yr un diwrnod. Ordeiniwyd Mr. Jones yn y boreu, ac yr oedd y gwasanaeth oll yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr iaith Seisonig. Rhoddwyd y charge i'r gweinidog ieuanc gan yr enwog Dr. Raffles, Liverpool. Ordeiniwyd Mr. Hughes yn y prydnawn, ac yr oedd yr holl wasanaeth yn cael ei ddwyn yn mlaen yn Gymraeg. Cymerodd nifer o weinidogion Cymreig ran yn neillduad Mr. Hughes. Rhoddwyd y cynghor i'r pregethwr ieuanc gan Mr. Williams Wern. Yr oeddwn i yn y cyfarfodydd hyny drwy y dydd, yn eistedd yn yr oriel, ac yn talu sylw manwl i'r holl weithrediadau. Yr oedd anerchiad Mr. Williams i'r gweinidog yn effeithiol iawn, ac yn meddu nodweddion cynghor apostolaidd. Yr wyf yn ei weled yn awr â llygaid fy meddwl, fel yr ydoedd y pryd hwnw yn sefyll yn y pulpud, a'r gweinidog ieuanc yn nghongl y sedd fawr, ychydig islaw yr areithfa, ac yr oedd apeliadau y cynghorwr fel llais o dragwyddoldeb. Dywedodd lawer o bethau pwysig iawn, a gwnaeth rai sylwadau a ddaethant yn mhen rhyw ddwy flynedd neu dair ar ol hyny, i gael eu hystyriel fel rhagfynegiadau prophwydoliaethol. Dywedodd, 'Fy mrawd ieuanc, gofelwch ar fod cyfrinach agos rhyngoch chwi a'r Arglwydd Iesu Grist. Cofiwch yn wastad mai gwas ydych, ac mai rhyngu bodd eich Meistr a ddylai fod yn amcan penaf eich bywyd. Codwch eich golwg yn ddigon uchel i fyny, dros ysgwyddau ac uwchlaw personau o fri ac awdurdod pa faint bynag fyddo eu taldra, 'Gan edrych ar Iesu,' yn mhob amgylchiad. Os gwnewch chwi hyny, ni chewch byth eich siomi ynddo ef. Nid yw yn beth anmhosibl, nad all y rhai fuont yn fwyaf blaenllaw i'ch cael yma i lafurio, droi eto yn eich erbyn a'ch anesmwytho, fel y teimlwch mai gwell fydd i chwi fyned oddiyma. Gobeithio mai nid felly y bydd pethau, ond fel hyny y gwelwyd mewn rhai lleoedd gweinidogion yn cael eu siomi yn boenus, a phersonau a phethau yn troi allan yn hollol i'r gwrthwyneb i'r hyn a addawyd ac a ddysgwyliwyd. Ond os byddwch chwi ar delerau da â'ch Meistr, sef yr Arglwydd Iesu Grist, fe lyna ef yn ffyddlawn wrthych pe byddai i bawb droi yn eich erbyn. A oedd craffder cynhenid Mr. Williams yn ei alluogi y pryd hwnw i ragweled nas gallasai y Cymry a'r Saeson drigo yn nghyd, ac addoli yn gytun yn yr un lle felly, a'i fod yn hyny yn gweled arwyddion drygfyd—nis gwn. Ond hyn sydd sicr, ymadawodd Mr. Hughes, gan fyned i fugeilio eglwys Penmain, a bu yn llafurio yno yn llwyddianus hyd ddiwedd ei oes; a chyflawnwyd prophwydoliaeth Mr. Williams yn llythyrenol. Cofiwyd ei eiriau yn hir, a buont yn destyn ymddyddan am lawer o flynyddoedd ar ol hyny.

Bu Mr. Williams mewn Gwyliau Dirwestol yn Nhreffynon, yn dadleu yn hyawdl dros yr achos gwerthfawr hwnw. Yr wyf yn ei gofio yno mewn cynadledd ddirwestol tua'r flwyddyn 1838. Yn nglyn a'r gynadledd hono, yr oedd y Parch. W. Rees (Dr. Rees), Dinbych y pryd hwnw, a Mr. Williams yn cyd—bregethu ar ddirwest yn nghapel eang y Methodistiaid Calfinaidd. Testyn Mr. Rees ydoedd Jos. vii. 12, Ni byddaf mwyach gyda chwi, oni ddyfethwch yr ysgymunbeth o'ch mysg;' a thestyn Mr. Williams ydoedd Act. xvii. 19, 'A allwn ni gael gwybod beth yw y ddysg newydd hon, a draethir genyt.' Yr oedd sylwadau y ddau weinidog enwog yn dra phriodol. Ergydiai Mr. Rees yn effeithiol at ddrygedd y fasnach feddwol, ac eglurai Mr. Williams egwyddorion llwyrymwrthodiad â'r diodydd gwaharddedig, gan ddangos y manteision a'r bendithion a ddeilliai i'r Cymry, ac i holl genedloedd y ddaear, pe deuai dynion i fyw bywyd o sobrwydd. Yr oedd pob peth yn fawr yn yr oedfa hon megys yn yr oedfaon eraill y cefais y pleser o fod ynddynt yn gwrando ar Mr. Williams—capel mawr, cynulleidfa fawr, pregethwyr mawr, materion mawr, hwyliau mawr, ac effeithiau mawr yn dilyn. Gellir dweyd yn ddibetrus na chodwyd er dyddiau yr apostolion, mewn talaeth mor fechan a Chymru, y fath nifer o weinidogion enwog perthynol i'r gwahanol enwadau ag a godwyd yn yr haner diweddaf o'r ganrif o'r blaen, a'r haner gyntaf o'r ganrif hon.

Deled yr Arglwydd i greu, i lunio, ac i wneuthur llawer eto yn ein gwlad i fod yn gedyrn gyda gweinidogaeth yr efengyl, ac i ymaberthu er iachawdwriaeth eneidiau colledig, megys y gwnaeth y Parchedig William Williams o'r Wern."

PENNOD XII.

O WYL DDIRWESTOL TREFFYNON HYD YR YSTORM FAWR YN LIVERPOOL.—1838—1839.

Y CYNWYSIAD—Ystorm fawr Liverpool Y Parch R. Parry, (Gwalchmai) yn galw yn nhy Mr. Williams dranoeth wedi yr ystorm—Gweddi effeithiol o eiddo Mr. Williams y boreu hwnw—Yr ystorm yn effeithio yn niweidiol ar iechyd ei ferch henaf, ac ar yr eiddo yntau hefyd—Llythyr Mr. Edwyn Roberts, Dinbych—Helynt "cario y faine" yn Liverpool—Agoriad capel y Rhos—Cymanfa Glandwr—Llythyr y Parch J. Davies, Taihirion—Yr achos yn llwyddo yn y Tabernacl Cyfeillgarwch Mr. Williams gyda'r Parch. Henry Rees—Cynghori y Parch. H. Ellis, Llangwm—Lladron yn tori i'w dŷ ar y Sabbath—Bedyddio merch fechan y Sabbath hwnw—Dirwest yn bwnc y dydd—Mr. Williams yn cael anwyd wrth fyned i gyfarfod dirwestol Mostyn—Dychwelyd adref yn wael iawn—Ei gyfeillion yn ofni na byddai iddo byth wella—Yntau yn cryfhau—Myned i Nanerch—Anfon llythyr at ei fab ieuengaf—Cael derbyniad croesawgar yn Nanerch—'Walk' Williams Wern—Myned am daith drwy ranau o Arfon a Meirion— Dychwelyd yn ol i Liverpool—Myned i Ddublin ac Abertawe Y gwynt yn ei gadw am wythnos. yn Nghaergybi—Anerchiad effeithiol o'i eiddo yn y Tabernacl—Cyrhaeddyd i Abertawe a lletya yn y Sketty—Dychwelyd yn sydyn i Liverpool—Ail—ddechreu pregethu—Myned gyda'i ferch henaf i Landrindod Dychwelyd oddiyno wedi ymsirioli yn fawr—Dal i bregethu drwy y gauaf dilynol— Ystorm fawr 1839

TEITHIAI Mr. Williams lawer oddicartref, a phregethai yn aml mewn lleoedd pellenig yn y cyfnod hwn ar ei oes. Yr ydym yn ei gael yn Glandwr yn traddodi y Cynhgor ar ordeiniad y Parch. R. Thomas (Hanover wedi hyny), yr adeg hon. Dechreuodd Mr. Thomas, fel y gwelwyd, bregethu yn y Rhos, o dan nawdd Mr. Williams, ac yr oedd yn un o'i ddysgyblion ffyddlonaf. O herwydd yr anghyfleusdra oedd yn nglŷn â theithio y pryd hyny, yr oedd myned o Liverpool i Glandwr yn 1837, yn orchwyl mwy ac anhawddach, nag ydyw yn ein dyddiau cyflym, esmwyth, a chlyd, ni o deithio. Er mai perthyn o ran amseriad i'r benod flaenorol y mae y mynegiad am ordeiniad Mr. Thomas, ond gan nas gallem ei leoli yn y benod hono, heb iddi ymestyn yn ormodol dros ei therfynau, rhoddwn yr hyn a ganlyn am y cyfarfod hwnw yn y benod hon—"Urddwyd ef Ebrill 19eg, 1837. Aeth Mr. Williams ei hen weinidog yr holl ffordd o Liverpool i Glandwr, ac yr oedd yn daith faith yn y dyddiau hyny. Traddododd siars iddo, ac yr oedd y siars hono yn un i'w chofio. Wrtho ef y pryd hwnw y dywedodd Mr. Williams, fod cryfder pregethwr yn ei gymdeithas â Duw; mai y gweddiwr mawr oedd y pregethwr llwyddianus—'Mae yma rywogaeth o gythreuliad tua Glandwr ac Abertawy yma fy mrawd, nad ä nhw ddim allan ond drwy weddi ac ympryd. Mi chwarddan yn eu llewis wrth y'ch gwel'd chi yn troi y lexicons, ac yn manylu ar ystyr geirie, ond mi ddychrynen trwy calone pan wela nhw chi ar eich deulin gyda Duw.' Dywedwyd wyrthym gan rai oedd yn bresenol fod rhyw awdurdod dwyfol yn cydfyned â'i eiriau." [20]

Yr ydym yn ddiolchgar am a ganlyn o eiddo y Parch. J. Davies, Taihirion; yr hwn oedd yn bresenol ei hunan yn gwrando ar Mr. Williams yn pregethu yn y Mynydd Bach a Libanus, Treforris, yn nglŷn â'i ymweliad a Glandwr y waith hono, "Nid wyf yn sicr ai y Sabbath cyn, neu yr un ar ol cyfarfodydd Urddiad y diweddar Barch. R. Thomas, Hanover, yn Siloh, Glandwr, y pregethodd Mr. Williams yn y Mynydd Bach y bore, a Libanus, Treforris, am dri. Yr oedd y tywydd yn nodedig o ffafriol dros yr holl ddyddiau hyny. Ar y Sul, ac yn wir nos Sadwrn, gallesid meddwl fod rhywbeth rhyfedd i gymeryd lle yn y gymydogaeth, canys yr oedd y parotoadau yn mhob teulu yn fawr. Gwelid pobl yn troi allan o'u tai yn blygeiniol iawn boreu Sul, ac ar bob croesffordd, cyfarfyddent eu gilydd, gan dynu tua'r un cyfeiriad, Deuent o gyfeiriad Glandwr, Pentre Esyllt, Tir—deunaw, Cadle Felindre, Llangafel Ucha, a Threforris, gan gyfeirio tua'r capel, a'r fath oedd eu nifer, fel y methodd llawer a chael lle i fewn. Ar yr hen stair geryg o'r tu allan y bu raid i mi ac eraill aros, fel na chlywsom ddim ond swn y pregethwr yn pregethu, ac hefyd, swn y bobl wrth fwynhau ei weinidogaeth dyner ac effeithiol. Mawr oedd y canmol ar yr oedfa gan bawb gafodd y fraint o fod i fewn yn ei gwrando. Ond yn Libanus, Treforris, bu'm inau yn fwy ffortunus, cefais fyned i fewn i'r capel, er y bu yn rhaid i mi sefyll, fel llawer eraill, o'r dechreu i'r diwedd, ac yr oedd y tyndra yn fawr. Ei destun yma oedd, 'Dameg y Mab Afradlon.' Nid wyf yn cofio y bregeth, ond nis gallaf byth anghofio ei eglurebau, a'r hanesion a adroddai er mwyn gyru a gwasgu y gwirionedd adref yn fwy effeithiol i feddwl a chalon y gynulleidfa. Wedi iddo dwymno yn ei bwnc wrth ddangos parodrwydd tad yr afradlon i'w dderbyn yn ol, adroddodd am lanc ieuanc yn Liverpool oedd wedi ei golli yn sydyn, a chan yr arferai yfed i ormodedd, ac iddo gael ei weled yn feddw gerllaw y dociau, barnodd y tad a'r fam, ar ol dysgwyl am lawer o amser yn ofer, fod eu mab wedi boddi. Mynasent alarwisgoedd, a dwys iawn oedd eu galar, yn neillduol y fam, yr hon a dreuliai oriau bob nos yn ddigwsg, wrth feddwl am, a hiraethu ar ol eu bachgen anffodus. Ond yn mhen llawer o amser wedi iddynt ei golli, dyma guro ar y drws un noson, ac meddai y fam wrth ei phriod, Dyna John yn curo.' 'O na,' meddai yntau, Mae John wedi darfod am dano." "Y mae yn debyg i gnoc John,' ebai hithau,' a chan ei fod yn debyg, af i weled.' Wedi agor y drws, yr oedd y fam a'r bachgen colledig yn cofleidio eu gilydd, a dagrau gorfoledd yn gwlychu eu gruddiau. Ond pan y bydd yr afradlon yn dychwelyd at Dduw, ni bydd amheuaeth am un foment am dano ef. Y tad oedd y cyntaf i'w weled yn y pellder, ac i redeg i'w gyfarfod, ei gofleidio, ei gusanu, a'i adfer yn ol i'r hen safle, gan wledda, a bod yn llawen. Yr oedd llais y pregethwr mawr erbyn hyn yn nodedig o effeithiol. Ni theimlais erioed

cyn hyn, nac ond unwaith ar ol hyn, fy nghnawd yn ysu am fy esgyrn, a gwallt fy mhen fel yn sefyll wrth wrando yr efengyl. Y fath oedd effaith ei lais arnaf, ac y mae yn amheus genyf nad yr un oedd yr effeithiau ar eraill, fel yr oeddwn i a phawb yno, yn eu dagrau, ac yn teimlo yn dra diolchgar am barodrwydd Duw i dderbyn pechadur. Crybwyllais i mi deimlo unwaith yn gyffelyb, a'r tro hwnw oedd, yn agoriad Capel Sion, Cwmafon, pan yr oedd Mr. Rees, Llanelli, yn pregethu ddydd yr agoriad. Pregethodd Mr. Williams yn Glandwr, yn nghyfarfodydd yr Urddiad a grybwyllwyd eisioes. Efe a bregethodd charge i'r gweinidog, a chan na ddaeth Mr. Williams, Troedrhiwdalar; bu rhaid iddo roddi charge i'r eglwys hefyd y yn noson hono. Canmolid ei bregethau gan bawb yn gyffredinol, a pharhaodd y son am danynt yn hir. Y mae ei lais ef yn fyw yn ei ddylanwad ar fy nghlust, pa bryd bynag y gwelaf, neu y clywaf ei enw hyd y dydd heddyw.' Megys ag y bu ein gwrthddrych Parchedig o dan fendith Duw, yn fywyd i'r holl enwad yn Sir Ddinbych, felly hefyd y bu efe yn Liverpool, canys effeithiodd ei weinidogaeth yn ddaionus i ddeffroi cynulleidfaoedd yr enwad i fwy o weithgarwch. Anfonai Mr. Joseph Chaloner (ieu.) adref, yr hwn ar y pryd a drigai yn Liverpool, i hysbysu ei dad fod gweinidogaeth Mr. Williams yn y Tabernacl, er yn dyner, eto ei bod yn fwy effeithiol nag y teimlasai efe hi erioed yn y Wern. Nid oedd Mr. Chaloner yn aelod pan yr aeth i Liverpool, ond teimlai i'r byw o dan weinidogaeth ei hen weinidog; ac un nos Sabbath, aeth allan fel arfer i ganlyn y dyrfa, ond cyn myned nemawr oddiwrth y capel, trodd yn ei ol, ac aeth i'r gyfeillach. Pan y gwelodd Mr. Williams ef wedi troi yn ei ol, torodd allan i wylo, ac nis gallasai am enyd fechan lefaru un gair wrth y dychweledig. Ond wedi iddo feddianu ei hun, aeth dros hanes teulu Mr. Chaloner yn effeithiol iawn, a dywedodd mor dda fyddai gan ei dad duwiol yn y Wern, ddeall ei fod wedi troi ei wyneb tua Sion. Bu y gwr da uchod wedi hyny, yn swyddog gwerthfawr yn eglwys barchus Salem, Coedpoeth, lle y diweddodd ei yrfa mewn tangnefedd. Arferai Mr. Williams siarad yn hynod o blaen a chartrefol gyda'r dychweledigion newydd bob amser, ac felly yn y Tabernacl hefyd, megys y dywedodd wrth yr hen Mr. Dudding, pan y daeth ef at grefydd wedi iddi fyned yn hwyr ar ddydd ei einioes, "Wel James bach, daethoch chwithau ar y coach olaf." Daeth eglwys y Tabernacl i wisgo gwisgoedd ei gogoniant dan weinidogaeth Mr. Williams, ac yn fwy o allu er daioni nag y buasai erioed cyn hyny. Cydweithredai ei gweinidog enwog yn unol a hyfryd â gweinidogion perthynol i enwadau crefyddol eraill yn y dref. Trwy ganiatad Richard Davies, Yswain, U. H., ac Arglwydd Raglaw Mon, a chydsyniad y Mri. Hughes a'i Fab, Wrexham, rhoddwn yr hyn a ganlyn allan o Gofiant y Parchedig Henry Rees, gan y Parch. Owen Thomas, D.D., tudalen 242—244: "Ychydig o wythnosau cyn i Mr. Rees ymsefydlu yn Liverpool, yr oedd Mr. Williams—Williams o'r Wern cyn ac wedi hyny—hefyd wedi symud yma, ac fel y gallesid dysgwyl, yr oedd ei weinidogaeth yn dra chymeradwy, ac yntau ei hunan yn mhob cylch yn dra phoblogaidd. Yr oedd y ddau bregethwr mawr yn nghyrhaedd eu gilydd; ac er nad oeddynt yn cael cyfleusderau mynych i gyd—gyfarfod mewn rhydd—gyfeillach, yr oeddynt yn cael hyny weithiau; ac yr oeddynt yn aml gyda'u gilydd mewn cyfarfodydd o wahanol natur, yn enwedig cyfarfodydd y Gymdeithas Ddirwestol, y rhai oeddynt y pryd hyny yn cael eu cynal yn rheolaidd, ac aethent yn hynod o boblogaidd. Ymunodd y ddau â'u gilydd unwaith, yn ol penodiad pwyllgor y gymdeithas i ysgrifenu papur ar 'Y Fasnach Feddwol,' yr hwn a gyhoeddwyd yn y Dirwestydd am Tachwedd, 1837, ac a ddaeth allan wedi hyny yn draethodyn wrtho ei hun. Daeth Mr. Rees, trwy ei gydnabyddiaeth â Mr. Williams, i goleddu meddyliau uchel iawn am dano, yn enwedig, a defnyddio ei eiriau ei hunan, am "ei synwyr cyffredin anghyffredin, a'i awydd amlwg, ac eto hollol ddirodres, i fod yn wir ddefnyddiol." Yr oedd Mr. Williams, o'r tu arall, yn edmygu Mr. Rees yn fawr iawn. Ni chollai byth unrhyw gyfleusdra a gaffai i fyned i wrandaw arno pan y dygwyddai fod yn pregethu yn rhywle yn ei gyrhaedd ar un o nosweithiau yr wythnos. Ac yr oedd bob amser yn ei fwynhau yn fawr; a gwelwyd ef yn fynych yn wylo wrth wrando arno. Byddai yr un pryd yn teimlo ei fod yn dwyn gormod o fater i mewn i'w bregeth, ac yn rhoi gormod o dreth ar sylw ei wrandawyr; a thybiai y buasai y bregeth yn fwy buddiol pe buasai yn llai. Clywsom gyfaill yn dywedyd ei fod ef yn cydgerdded â Mr. Williams ryw noswaith hyd at ei dŷ yn Islington, ar ol bod yn gwrandaw eu dau ar Mr. Rees yn Pall Mall. Wedi i Mr. Williams siarad a chanmol llawer ar y bregeth, o'r diwedd, meddai, "Ond yr oedd hi yn bregeth rhy fawr o lawer; yr oedd yn beichio gormod ar y bobl. Hi wnelsai dair o rai da iawn. Yr wyf fi yn sicr fy mod i fyny â'r cyffredin oedd yn y, capel yna heno, eto yr oedd hi bron a fy llethu i; ac yr oeddwn i agos a meddwl ei fod ef ei hunan yn cael digon o waith gyda hi." Y mae y sylw yma yn cyfateb yn gwbl i sylw arall o eiddo Mr. Williams am dano, a roddir i ni gan ei frawd "Mae yn gofus genyf," meddai Dr. Rees, "pan oedd yn byw yn Phythian Street, yn fuan wedi iddo symud i Liverpool, i mi dalu ymweliad âg ef gyda y diweddar Williams o'r Wern, yr hwn oedd yntau yn byw yn Liverpool y pryd hwnw. Wedi ychydig ymddyddan, dywedodd fy mrawd, ei fod er ys dyddiau yn trafferthu gyda rhyw destun ag y teimlai awydd pregethu arno, ac yn methu cael boddlonrwydd iddo ei hunan ar ei wir feddwl. Y mae yr esbonwyr yma sydd gen i, yn fy nyrysu,' meddai, 'yn hytrach nag yn fy moddloni arno. Ac y mae rhywbeth yn dweyd ynof, nad oes yr un o honynt wedi gallu myned i ysbryd ei feddwl; ac yr wyf yn methu myned iddo fy hun, i ddim boddlonrwydd.' Cynygiodd Mr. Williams ryw syniad ar y testun i'w sylw. Bu yntau yn ddystaw am enyd, gan droi y syniad hwnw yn ei fyfyrdod. Ac, eb efe, yn mhen ychydig 'Y mae rhywbeth yn y golygiad yna yn siwr; ond y mae yn amheus gen' i ai dyna yw y cnewyllun er hyny.' Yn ystod yr ymddyddan, dywedai Mr. Williams-'Pregethwr didrugaredd iawn i bregethwyr eraill ydych chwi.' 'Wel, paham yr ydych yn dweyd hyny,' gofynai yntau. 'Paham? am fod arnoch eisiau dihysbyddu pob testun yr ymafloch ynddo, fel na fedro neb bregethu arno ar eich ol.' 'Beth a wnai y dyn a ddeuai ar ol y brenin?' 'Y mae Henry Rhys wedi bod yn pregethu ar y testun hwn, ni wiw i neb gynyg arno ar ei ol o, ddywed pob pregethwr.' 'Wel, sut y byddwch chwi yn gwneud,' gofynai y llall. 'Wel, cymeryd y byddaf fi,' meddai Mr. Williams. 'ryw feddwl neu awgrym fyddo yn y testun yn ateb i'r pwrpas fyddo genyf ar y pryd mewn golwg, a cheisio gwneud y goreu a allaf o hwnw; a gadael y testun fel y gallaf fi fy hunan, a phob un arall a ewyllysio fyned ato rywbryd drachefn.' 'O,' ebai yntau, 'fe fydd digon yn mhob testun ar fy ol inau.' 'O!' meddai Mr Williams, 'ni raid i'r testun na neb arall ddiolch i chwi am hyny,' ac ar hyny chwarddodd y ddau. Gresyn na buasai genym fwy o adgofion am y gwŷr enwog hyn, pan y dygwyddent gyfarfod â'u gilydd." Yn ngoleuni yr ymddyddan blaenorol, gwelir, nid yn unig anwyldeb y gwŷr enwog at eu gilydd, ond ceir hefyd gipdrem ar nodwedd wahanol y ddau fel pregethwyr. Rhoddai Mr. Williams lawer o gynghorion gwerthfawr i bregethwyr ieuainc yn nglŷn â'u gwaith pwysig. Wedi iddo ef symud i Liverpool, y dechreuodd y Parch. H. Ellis, Llangwm, ar y gwaith o bregethu yr efengyl. Aeth yr olaf i dalu ymweliad â'i hen feistr enwog yn Liverpool. Gofynodd Mr. Williams iddo, "A fyddi di yn breuddwydio weithiau dy fod yn pregethu," "Na, nid wyf fi wedi breuddwydio eto," oedd yr atebiad. "Ho, nid yw hi ddim wedi myned yn galed arnat ti eto, rhaid i ti freuddwydio, a methu cysgu, cyn y byddi yn iawn. Hefyd, paid a dysgu pechaduriaid i bechu pan fyddi yn pregethu. Gwelaist mewn hen dai tô gwellt, yn Nghymru gynt, astyllen wedi ei rhoddi o dan y tô, yn groes i'r llawr, i ddal y bara ceirch. Rhyw ddiwrnod pan yr oedd y fam yn myned oddicartref, dywedodd wrth y plant, "Peidiwch chwi a chymeryd ffon eich tad o gil y drws acw, i daflu y bara ceirch yma i lawr." Nid oedd y plant wedi sylwi nemawr ddim ar y bara ceirch, na meddwl am eu taflu i lawr, na deall dim oll pa fodd i gyflawni hyny. Ond wedi i'r fam ddangos y ffordd iddynt i'w cael i lawr, ac iddi fyned ymaith, y peth cyntaf a wnaethent oedd myned i ymofyn y ffon i'w taflu i lawr yn deilchion. Gwnaethant y gwaith yn rhwydd, a hyny am fod y fam wedi dangos iddynt pa fodd i'w gyflawni, wrth eu gosod ar eu gocheliad rhag hyny. Bydd pregethwyr weithiau yn son am bechodau duon, ac wrth osod eu gwrandawyr ar eu gocheliad rhagddynt, disgynant yn boenus at fanylion, na wyddai llawer o'r gwrandawyr ddim am danynt cyn hyny, ond agorwyd eu llygaid gan hathrawon o'r pulpud, a dysgwyd hwynt ganddynt i bechu—paid a dysgu pechaduriaid i bechu, beth bynag ar a fo." Teimlwn fod cryn lawer o'r nodwedd athronyddol oedd mor amlwg yn Mr, Williams, yn dyfod i'r golwg yn y cynghor uchod i'r pregethwr ieuanc. Pan oedd Mr. Williams yn byw yn 128, Islington, cymerodd amgylchiad le, ag oedd yn golledus ac yn boenus iddo ef a'i deulu, drwy waith lladron yn tori i fewn i'w dŷ, a hyny ar ddydd Sabbath, pan yr oedd yr oll o'r teulu yn y capel. Dygasent ymaith ugain punt a goblet arian. Gwyddent yn ddiau yn nhy pwy yr oeddynt, oblegid o wawd, ysgrifenasant ar bapur y geiriau pwysig watch and pray, gan ei adael ar y bwrdd. Bedyddiodd Mr. Williams ferch fechan yn y Tabernacl y Sabbath hwnw, yr hon a adwaenir heddyw fel Mrs. Price, Caemynydd, ger y Wern. Yr oedd ei rhieni hi yn byw ar y pryd yn Liverpool. Dywedodd Mr. Williams y boreu Llun canlynol wrth ei gymydog, Mr. Edward Owen, Corn and Flour Merchant—"Wel, pe y daethent wythnos i ddoe, yr oedd yma dri ugain punt yn y ty, ond telais ddeugain punt yr wythnos ddiweddaf am ysgol Jane, felly ni chawsant ond ugain punt a'r goblet arian. Cymerodd y cwbl yn hollol dawel; eto, effeithiodd yr amgylchiad anffodus yn fawr arno. Clywsom Dr. John Thomas yn dweyd y bydd llawer yn Liverpool yn defnyddio yr amgylchiad uchod fel rheswm dros adael rhywun o'r teulu adref o'r addoliad ar y Sabbath, i ofalu am y ty; canys meddant, os torodd lladron i dŷ Mr. Williams, Wern yma, beth am ein tai ni. Yr oedd dirwest wedi dyfod yn bwnc y dydd yn Nghymru yr adeg hon, a galwad mawr ar holl bleidwyr yr achos dirwestol i wasanaethu mewn cyfarfodydd yn mhob cwr o'r wlad. Yr ydym yn cael Mr. Williams, yn nechreu y flwyddyn 1838, yn cychwyn allan o'i dŷ, a hyny ar ddiwrnod eithriadol o oer a thymhestlog i fyned i Fostyn i gyfarfod dirwestol. Aeth i lawr at y Pier Head i ddysgwyl am ager—long i hwylio drosodd. Safodd i ddysgwyl yn y gwynt a'r gwlaw bron hyd fferdod. Wrth ei weled o dan effeithiau cryndod felly, dywedodd ei gyfaill, Mr. James Dudding, wrtho y dylasai efe gymeryd ychydig o rywbeth i'w gynesu. "Na, thal hyny ddim byd James bach," meddai yntau, "yr wyf yn myned i areithio ar ddirwest yn Mostyn, a rhaid bod yn gyson ac yn egwyddorol gyda hyn, fel gyda phobpeth arall." Wedi dysgwyl llawer am i'r llong gychwyn ymaith, rhoddwyd ar ddeall o'r diwedd, ei bod o herwydd y gwynt gwrthwynebus, nerth ac enbydrwydd y dymhestl, yn rhoddi i fyny i fyned y diwrnod hwnw, ond yr oedd Mr. Williams yn benderfynol o fyned i'w neges, a thraddodi ei genadwri; a rhedodd bron yr holl ffordd o'r Pier Head i orsaf y cerbyd oedd ar gychwyn i Gaernarfon, yn y cyflwr hwnw, wedi chwysu wrth redeg, a'i ddillad yn wlybion am dano, y cymerodd ei le yn y cerbyd. Cyrhaeddodd i Dreffynon, lle y lletyodd y noson hono. Teimlai ar ei daith fod rhyw gryndod hynod yn cymeryd meddiant o hono, ac er gorphwys mewn llety clyd a chysurus, ni chafodd ei waredu oddiwrth ei anwyd poenus, oblegid nid oedd nemawr yn well dranoeth, ond aeth i Fostyn, a gwnaeth ei ran yn effeithiol iawn yn y cyfarfod, er y teimlai efe ei hun mai gwaith anhawdd oedd iddo sefyll i fyny. Am yr wyl ddirwestol uchod, dywed y Parch. J. Thomas, D. D., yn y Geninen, am 1884, tudal. 99, fel y canlyn:—"Yr oedd Mr. Williams o'r Wern yn yr ŵyl hono, a dyna yr unig dro i mi fod yn siarad âg ef; ac nid anghofiaf ei eiriau caredig, a'i ddull dirodres yn siarad â bachgen tlawd, dinod, hollol ddyeithr iddo. Nid oedd yn iach ar y pryd, ac yn nhy Mr. Pugh dywedai wrthyf, 'Daffod fy sgidia' i; nei di;' a theimlwn yn fraint i gael 'datod carai ei esgidiau.' Erbyn dau o'r gloch y daethum i'r cyfarfod, ac yr oedd yno luaws wedi d'od o Fflint, Bagillt, Treffynon, Llanerchymor, a Ffynongroyw, ac wedi bod yn gorymdeithio trwy y lle, er ei bod ddiwrnod gwlawog iawn. Da yr wyf yn cofio Mr. Enoch G. Salisbury yno yn llefnyn main, ac yn rheoli adran Bagillt; ac wedi cyrhaedd i'r capel, yr hwn a orlanwyd hyd y drysau, galwyd ar yr Hybarch Mr. Jones, Newmarket, i lywyddu. Nid wyf yn cofio fawr am y cyfarfod; ond, ar ei ganol daeth Mr. Williams o'r Wern i mewn, a galwyd arno yn fuan i siarad. 'Y creadur wedi ei ddarostwng i oferedd,' oedd yr ymadrodd a gymerodd i fyny; a mawr mor hapus y triniodd ef. Darluniai yr ŷd, a fwriadwyd at gynal calon dyn, yn ocheneidio yn mhob man, o'r funyd yr aeth i law y bragwr, nes myned i gylla yr yfwr. Creadur Duw, wedi ei ddarostwng wrth ei gymeryd o'i le a'i gamddefnyddio ydoedd. Yr oedd y dorf yn ei law o'r foment yr agorodd ei enau hyd y diwedd, a siaradai yn hollol ddiymdrech. Erbyn y cyfarfod hwyrol yr oedd y lluaws o'r ardaloedd cylchynol wedi myned ymaith, ond yr oedd ar ol dyrfa fawr. oedd ar ol dyrfa fawr. Dywedodd Mr. Pugh ei fod yn dymuno galw un i'r gadair oedd yn anwyl iawn gan bawb yno, ac un a lafuriodd yno gyda pharch a llwyddiant mawr, ac ar hyny cymerodd Mr. Rees, y pryd hwnw o Ddinbych, y gadair. Nid wyf yn cofio am ddim yn arbenig a ddywedodd, ond yr wyf yn cofio yn dda ei fod yn ddifrifol iawn. Yr oeddwn wedi darllen ei anerchiad ymadawol wrth adael Mostyn i fyned i Ddinbych; anerchiad dirwestol ydoedd, oblegid dyna, ar y pryd, oedd pwnc y dydd, ac yr oedd Mr. Rees yn un o'r rhai dewraf o'r cedyrn; ac ni ddarllenais na chynt na chwedyn, ddim byd yn fwy miniog ac argyhoeddiadol ar y mater. Mr. Williams oedd arwr y cyfarfod, ac wrtho ef yr oedd y dysgwyliad; ac er i amryw siarad, ac i minau yn fachgenyn gael yr anrhydedd o ddweyd gair, eto ychydig o sylw a delid i ddim a ddywedai neb, a dysgwylid i bob un orphen erbyn y dechreuai, er mwyn iddynt glywed Williams o'r Wern. Yr oedd ef yn nodedig o humorous y noson hono, yn fwy felly nag y clywais ef erioed; ond yr oedd ganddo, ar yr un pryd, sylwadau oeddynt fel bachau yn glynu." Dranoeth wedi cyfarfod Mostyn, ymddangosai ychydig yn well, a cherddodd yn nghwmni ei dri chyfaill hoff ac anwyl—y Parchn. William Rees, Dinbych; H. Pugh, Mostyn; ac E. Hughes, Treffynon, i Bagillt, i gynal cyfarfod dirwestol yno. Gallodd ddal y daith yn weddol, ond noswaith boenus a gafodd, ac erbyn boreu dranoeth, edrychai yn isel a llesg iawn. Dychwelodd y boreu hwnw yn ol i Liverpool, ac ar unwaith wedi cyrhaedd adref, aeth i'w wely, a bu mor wael am wythnosau fel yr ofnid na chyfodai mwy. Ei afiechyd oedd anwyd anarferol o drwm, o dan effeithiau yr hwn yr oedd fel pe yn cael ei fwyta ymaith gyda chyflymder mawr Nis gallai y meddygon drwy unrhyw foddion o'u heiddo ei chwysu am amser hir, ac heb hyny nid oedd ganddynt ond gobaith gwan am ei adferiad, ond o'r diwedd llwyddasant yn eu hamcan, a dechreuodd yntau ymloni a chryfhau yn raddol, ond eto, daliai y peswch caled ei afael ynddo. Wedi iddo ymgryfhau digon, cynghorodd ei feddyg ef i fyned drosodd i Gymru, fel y gallai yfed awelon iachus gwlad ei enedigaeth, ac mai hyny oedd y moddion tebygaf i'w alluogi i fuddugoliaethu ar ei afiechyd. Penderfynodd yntau fyned i Nanerch, Swydd Fflint, at Mr. John a Miss S. Jones, y rhai oeddynt eu dau bob amser yn garedig i achos a gweision y Duw Goruchaf. Yr oedd ei fab ieuengaf ar y pryd yn Llanbrynmair, yn derbyn addysg gan y Parch. Samuel Roberts, M.A. Cyn cychwyn i'r daith hon, ysgrifenodd Mr. Williams at ei anwyl William y llythyr canlynol:—

"LLYNLLEIFIAD, Ebrill 16eg, 1838.

"ANWYL BLENTYN,

"Y mae yn ddrwg genyf fod eich teimladau mor ofidus o herwydd fy afiechyd; yr oeddwn yn ofni hyny, o herwydd bod cymaint o straeon yn cael eu taenu ar hyd y wlad. Mi a fum yn sal iawn, ond yr oedd Dr. Blackburn yn lled hyderus yr amser gwaethaf a fu arnaf; dywedai fod y lungs yn iach. Yr wyf yn dyfod yn well bob dydd yn awr, yn pesychu llai, ac yn dechreu teimlo gwell archwaeth at fy mwyd, yr hwn hefyd sydd yn cynyddu bob dydd. Y mae y Dr. yn fy nghynghori i fyned i'r wlad am dair wythnos neu fis, mor gynted ag y delo y tywydd yn ffafriol. Yr wyf yn bwriadu myned i Nanerch at Miss Jones, bydd yno le cysurus iawn i mi. Yr wyf yn gobeithio, ac yn gweddio ar fod yr afiechyd hwn o fendith fawr i mi, i'm dwyn i fyw yn nes at Dduw, ac i bregethu Crist yn well nag y darfu i mi erioed. Yr wyf yn teimlo awydd i fyw ychydig yn hwy er mwyn fy mhlant. Y mae llawer iawn o weddiau wedi, ac yn cael eu hoffrymu i'r nef ar fy rhan...... Anwyl blentyn, gobeithiaf eich bod yn ymdrechu cynyddu a myned rhagoch mewn dysg, ond yn enwedig mewn crefydd; crefydd yw sylfaen bywyd defnyddiol.

Ffarwel, anwyl William,
Ydwyf, eich cariadlawn Dad." [21]

Dengys y llythyr uchod ei ofal tadol am ei blant anwyl, yn gystal a'i fod yn ddangosiad o agwedd ei feddwl yn mhair cystudd. Efe a aeth i Nanerch, lle y derbyniwyd ef yn groesawgar nodedig, a bu yno yn derbyn ymgeledd am oddeutu tair wythnos. Nid yn unig yr oedd ei letywyr caredig yn teimlo mai braint oedd iddynt hwy gael gweinyddu caredigrwydd iddo, ond teimlai yr holl ardalwyr hyny hefyd. Clywsom Mrs. Lloyd, Hersedd, Rhesycae, yn adrodd fel y byddai ei rhieni o Drellyniau yn ymweled âg ef, ac mor dda fyddai ganddi hithau, yn eneth ieuanc iawn y pryd hwnw, gael myned gyda'i mam i edrych am Mr. Williams Wern, a'r argraff ddaionus a adawodd hyny byth ar ei meddwl. Y mae walk gerllaw y ty yr arosai Mr. Williams ynddo yn Nanerch, a elwir hyd heddyw, yn "Walk Williams y Wern." Adeiladodd Mr. Jones eisteddleoedd esmwyth iddo un ar ganol y walk, a'r llall yn y pen uwchaf iddi. Gorphwysai yntau wedi cyrhaedd y gorphwysfanau hyn. Cysgodir un ochr i'r walk gan goed cysgod—fawr. Edrych, ddarllenydd, ar yr hen arwr yn cerdded ar y rhodfa hon. Nis gallai ar y cyntaf ond cerdded yn araf a gofalus iawn, gan osod y naill droed ar ol y llall yn deg ac esmwyth ar y ddaear, gan mor ysig oedd ei babell ddaearol. Ymhyfrydai yn gwrando ar gerddorion y wig, y rhai a delorent yn hyfryd ar gangau y coed uwch ei ben, gan ollwng allan ffrwd o fiwsig pur, a meddyliai yntau am y mwyn gantorion hyny sydd yn canu â thelynau Duw ganddynt, yn y wlad sydd byth yn llawn o iechyd digymysg. Derbyniodd Mr. Williams yn Nanerch adgyfnerthiad, a meddyliodd y gwnaethai marchogaeth les iddo, ac wedi cael benthyg march, aeth am daith drwy ranau o Swyddi Arfon a Meirion, a dychwelodd yn ol, er wedi cryfhau i raddau, eto nid oedd dim wedi profi yn effeithiol i beri i'w beswch blin i ollwng ei afael yn llwyr o hono. Wedi ei ddychweliad i Liverpool o Nanerch, nid ymddangosai y gobeithion am ei adferiad, yn ol yr olwg oedd arno, ond gwanaidd iawn; ac nid oedd ofnau ei gyfeillion am dano, mewn un modd, wedi eu hymlid ymaith. Yn fuan wedi hyny, cynghorodd ei feddyg ef i gymeryd mordaith, a phenderfynodd yntau fyned i Ddublin ac Abertawe. Nid oedd ond am alw yn frysiog yn y lle blaenaf, i gael ymgynghoriad yno â meddyg neillduol. Dygwyddodd fod cadben llong o Abertawe yn Liverpool ar y pryd, ac wedi deall am fwriad Mr. Williams, addawodd llywydd y llong ei gymeryd yn rhad gydag ef, ac felly y bu. Ac er mai nid prophwyd yn ffoi oddiwrth ei ddyledswyddau oedd y passenger enwog, eto cawsent oll ddeall fod morio yn enbyd y waith hono, canys cyfododd tymhestl wynt mawr, a bu raid i'r cadben orchymyn troi y llestr i borthladd Caergybi am ddiogelwch, lle y buont am oddeutu wythnos. Ond bu y cwbl er lleshad, canys cafodd gwr Duw drwy hyny gyfleusdra am y tro olaf am byth iddo ef, i weled ei gyfeillion crefyddol yn y dref hono; ac o herwydd fod ei beswch yn llai erbyn cyrhaedd y porthladd, yr oedd ef yn nodedig o siriol. Aeth i'r Tabernacl y Sabbath i wrando ar ei gyfaill, Mr. Griffith, yn pregethu. Traddododd Mr. Williams anerchiad oddiar fainc y sedd fawr y nos Sabbath hwnw, gan sefyll megys un yn syllu ar dragwyddoldeb. Yr oedd y lle yn ofnadwy, ac nid yw yr ychydig sydd yn aros o'r rhai oedd yno yn ei wrando byth wedi ei anghofio. Dywed y Parch. E. C. Davies, M.A., yn Nghofiant y Parch. W. Griffith, Caergybi, tudal. 185, am yr ymweliad hwnw o'i eiddo â'r Tabernacl, fel y canlyn: "Yr oedd ganddo ef (Mr. Griffith) ychydig enwau ag y soniai lawer iawn am danynt. Enw oedd yn fynych ar ei wefusau oedd enw ei hen gyfaill Williams o'r Wern. Ni flinai ar adrodd am dano a'i ddywediadau yn ystod yr wythnos y bu yr enwog Williams yn cael ei gadw gan y gwynt (wind bound) yn Nghaergybi, pan yn myned drosodd i Dublin at y meddyg yn ei waeledd olaf. Adroddai am Mr. Williams y nos Sabbath yn yr wythnos hono, yn codi ar ei draed yn y sêt fawr, wedi iddo ef orphen pregethu, ac ar ol sefyll ar ei draed am foment fel pe mewn myfyrdod dwys, aeth i ben y fainc, a thraddodwyd un o'r anerchiadau rhyfeddaf a glywyd yn y Tabernacl erioed—safai y llefarwr megys ar riniog tragwyddoldeb, a'i eiriau megys awelon byd dyfodol, yn ysgubo pob teimlad o'u blaen. Ni chlywsai Mr. Griffith, ei hen gyfaill, am un a fu wrthi yn llefaru un amser gyda'r fath ddylanwad gorchfygol ei dawelwch a'i ddifrifoldeb."

Wedi i'r gwynt ostegu, ac iddynt hwythau gael yr awel o'u tu, hwyliasant allan o borthladd Caergybi. Nid ydym yn gwybod nifer y cyfeillion a'i hebryngasent ef i'r llong, ond pe y gwybuasid fod Williams o'r Wern yn myned o'r dref am y tro olaf, buasai yr holl drefwyr yno yn ffarwelio âg ef; ac yn sicr buasai yno wylo tost, a syrthio ar ei wddf i'w gusanu, cyn ymadael o hono am byth o'u goror. Wedi iddo gyrhaeddyd i Abertawe, gwahoddwyd ef yn garedig gan Mr. a Mrs. Hughes, Yskety isaf, i ddyfod i letya atynt hwy, ac yno y bu. Yn Nghofiant Mr. Williams gan Dr. Rees, tudal. 41, ceir a ganlyn o eiddo Mr. Thomas Nicholas, am ymweliad Mr. Williams â'r Yskety isaf:—"Bum yn ddiweddar trwy ran o Swydd Forganwg; bum yn lletya un noson yn Yskety isaf, y man y lletyai Mr. Williams pan y bu drosodd am ei iechyd, a lle y mae ei goffadwriaeth yn anwyl a bendigedig. Dywedai Mrs. Hughes fod ei ymddygiad tra y yno, yn wir ddelw o symledd, gostyngeiddrwydd, a duwiolfrydigrwydd. Ofnai yn fawr rhag bod o ddim trafferth nac anghyfleusdra i neb; byddai yn hynod o ddiolchgar am y gymwynas leiaf: ac ymdrechai wneuthur rhyw addaliad am bob un. Ymddangosai yn dra awyddus am adferiad iechyd, fel y gallai wneud mwy o ddaioni; cwynai yn aml iawn nad oedd wedi gwneuthur nemawr iawn o ddaioni yn ei oes. 'Yr wyf yn penderfynu yn nghymhorth y nef, meddai, os caf wella, i bregethu yn well, a gweithio mwy nag erioed.' Daliodd Mrs. Hughes sylw arno un boreu, ei fod yn edrych yn hynod o bruddaidd ac isel ei feddwl, a chan dybied mai gwaeledd ei iechyd, ac nad oedd yn gwellhau cystal a'i ddysgwyliad oedd yr achos, hi a ddywedodd wrtho, Yr wyf yn rhyfeddu atoch, Mr. Williams, fod gwr o'ch bath chwi yn gofidio wrth feddwl am farw, mwy na phe byddech yn meddwl am fyw.' Taflodd olwg dreiddiol arni, ond methodd ateb gair; crymodd ei ben ychydig, a sylwai Mrs. Hughes fod y dagrau yn llifo ar hyd ei ruddiau; pan welodd hithau hyny, gadawodd ef, gan fyned i barotoi boreufwyd. Wedi i'r teulu ymwasgaru, galwodd arni, ac wedi iddi eistedd gerllaw iddo, dywedai, Dywedasoch gyneu eich bod yn rhyfeddu ataf fi, fy mod yn drwm fy nghalon gyda golwg ar farw; yn awr, mi a ddywedaf i chwi, y mae arnaf fawr awydd byw i wneud llawer mwy dros Grist nag a wnaethum erioed. O! nid wyf wedi gwneuthur dim. A pheth arall, dymunwn fyw nes gweled fy mhlant wedi tyfu i fyny i allu gofalu am danynt eu hunain.' Yr wyf yn meddwl mai dranoeth wedi'r ymddyddan uchod yr aeth Mr. Williams i Abertawe heb feddwl llai na dychwelyd yn ol i'r Yskety eilwaith, ond cafodd lythyr yn y dref oddiwrth ei deulu gartref, yn ei hysbysu fod ei fab hynaf wedi dychwelyd adref or Coleg i dalu ymweliad â'i deulu, penderfynodd i fyned adref y diwrnod hwnw gyda'r agerlong, 'rhag,' ebe efe, na 'chaf gyfle i'w weled ef byth mwy.' Felly ymadawodd â Morganwg. Cyrhaeddodd adref yn ddiogel. Yr oedd ei deulu erbyn hyn, wedi symud o 128, Islington, ac wedi myned i fyw i Great Mersey Street. Derbyniodd adgyfnerthiad sylweddol yn ystod ei fordaith, a'i arosiad yn yr Yskety, yr hyn a'i llonodd yn ddirfawr; ond er hyny, glynu wrtho yr oedd ei beswch, ac yr oedd y gorchymyn wedi myned allan oddiwrth y meddyg, yr hwn a'i gwaharddai rhag ail ddechreu pregethu yn ebrwydd wedi ei ddychweliad adref o Abertawe. Ond nid hawdd oedd ganddo roddi ufudd—dod i'r gorchymyn hwnw, canys yr oedd ei galon yn llawn meddyliau, a'r ysbryd oedd ynddo yn ei gymhell i'w mynegu i eraill, a chan nad allai efe ymatal yn hwy, yn nechreu mis Medi, y flwyddyn hono, efe a bregethodd oddiar Actau xxiv. 25: "Dos ymaith ar hyn o amser, a phan gaffwyf amser cyfaddas, mi a alwaf am danat." Yr oedd y gair o'i enau y nos Sabbath hwnw megys tân, ac fel gordd yn dryllio y graig; ac nid oedd y nerthoedd a deimlid y noson hono, ond ernes i'r eglwys o bethau mwy oeddynt i ddilyn, canys ymwelodd yr Arglwydd â'i bobl drwy y diwygiad crefyddol nerthol a dorodd allan yn eglwys a chynulleidfa y Tabernacl yn fuan wedi yr oedfa hono. Cynghorodd y meddyg Mr. Williams a'i ferch hynaf, yr hon, hithau oedd y pryd hwn yn llesg a gwanaidd iawn ei hiechyd, i fyned i Landrindod, ac aethent ill dau, a phrofodd yfed dyfroedd, a mwynhau awelon iachusol y lle hwnw yn ddaionus iddynt, a dychwelasant wedi ymsirioli llawer. Gallodd Mr. Williams bregethu ddwy waith bron bob Sabbath drwy y gauaf dilynol, heb deimlo ei hunan yn ddim gwaeth, ac am hyn yr oedd yn llawen, a llawenhai ei gyfeillion niferus hefyd, am eu bod yn gweled arwyddion yr estynid ei ddyddiau am gyfnod yn mhellach. Ond dychwelodd y cymylau ar ol y gwlaw, a duodd ei awyrgylch deuluaidd eilwaith, oblegid ar nos Sabbath, Ionawr 6ed, 1839, taflwyd corn mwg ei dŷ gan wynt mawr yr ystorm eithriadol hono, yr hwn a ddisgynodd drwy y tô i'r llofft, ac ar y gwely, gan ei falurio yn chwilfriw, ond trefnodd yr Hwn ag y mae y gwynt ystormus yn gwneuthur ei air Ef, nad oedd neb yn cysgu yn y gwely hwnw noswaith y drychineb fawr.

PENNOD XIII.

O ADEG YR YSTORM FAWR YN LIVERPOOL HYD GYMANFA BETHESDA.—1839

Y CYNWYSIAD.—Ystorm fawr Liverpool Y Parch R. Parry, (Gwalchmai) yn galw yn nhy Mr. Williams dranoeth wedi yr ystorm—Gweddi effeithiol o eiddo Mr. Williams y boreu hwnw—Yr ystorm yn effeithio yn niweidiol ar iechyd ei ferch henaf, ac ar yr eiddo yntau hefyd—Llythyr Mr. Edwyn Roberts, Dinbych—Helynt "cario y faince" yn Liverpool—Agoriad capel y Rhos—Cymanfa Bethesda Llythyr y Parch. D. Griffiths—Mr. Williams yn pregethu yn Bethel, ac yn areithio ar ddirwest yn Siloh, Felin Heli—Ei bregeth nodedig ar etholedigaeth yn Bethesda—"Hen Gymanfaoedd," gan Mr. W. J. Parry, C.C—Cymanfa Bethesda y ddiweddaf i Mr. Williams bregethu ynddi—Anghydfod rhwng Dr. Arthur Jones a Mr. Williams—Dr. W. Rees yn llwyddo i'w cymodi a'u gilydd—Dr. Arthur Jones yn ei hebrwng ymaith i "gwr pellaf y traeth."

NID ydym yn hollol sicr pa un ai yn 18, Boundary Street, ai yn Great Mersey Street, yr oedd ein gwrthddrych yn byw pan y drylliwyd ei dŷ gan y rhuthrwynt mawr, Tueddir ni i gredu mai yn yr heol olaf a enwir y trigai efe ar y pryd hwnw, sef yn y ty a rifnodir yn awr â'r rhif 26, Great Mersey Street; ac iddo wedi hyny, symud i 18, Boundary Street, lle y bu hyd ei ymadawiad o Liverpool.

Yr oedd yr ystorm hono o ran ei ffyrnigrwydd a'i chyffredinol—rwydd y fath, fel y collodd cant a phymtheg eu bywydau gwerthfawr yn Liverpool a'r amgylch—oedd; a gwnaed difrod lawer iawn ar fywydau a meddianau ar dir a môr mewn lleoedd eraill hefyd. Bwriadai y Parch. R. Parry (Gwalchmai), letya yn nhy Mr. Williams, y noson y cymerodd yr ystorm le, ond lluddiwyd ef, fel nas gallodd gyrhaedd yno hyd dranoeth. Wedi iddo fyned i'r ty, arweiniodd ein gwron ef i'r ystafell yn yr hon yr oedd canoedd o geryg wedi disgyn ar y gwely, lle y bwriedid iddo ef gysgu. Dywedodd Mr. Williams wrtho yn dawel, "Wel, frawd, dyma lle y buasai dy orweddfa, pe daethit yma yn ol dy fwriad." Yr oedd ei sylwadau ar ddaioni Duw yn y waredigaeth a roddwyd iddynt, yn gyfryw nas gellid byth eu hanghofio. Dywedai, "gallai fod rhywbeth eto i ni i'w wneud ar ol arbediad fel hyn, y mae yn anogaeth i ni i fod yn fwy cysegredig i'r gwaith, We must improve it in a sermon.' Arosodd Mr. Parry gydag ef, hyd nes yr oedd yr addoliad teuluaidd drosodd, ac a defnyddio ei eiriau ef ei hunan" Yr oedd rhywbeth yn hynotach yn ei weddi y pryd hwnw na dim a glywswn erioed; yr oedd fel pe buasai yn gofyn cenad y Goruchaf, i nesâu ato yn nes nag arferol, megys i ymddyddan àg ef wyneb yn wyneb—mor syml (simple), mor deimladol; eto, mor eofn, ryw fodd, nes yr oeddwn yn arswydo yn grynedig yn fy lle; a pharhaodd rhyw deimlad nad allaf ei ddarlunio wrthyf dalm o ddyddiau, braidd na ddychymygaswn fod ei wyneb yn dysgleirio fel Moses; ni welais fwy o arwyddion ysbryd duwiolfrydig erioed." Er i'r teulu oll gael eu gwaredu rhag angeu y noson ofnadwy hono; eto, dychrynwyd hwy yn ddirfawr, a bu cyfodi o'u gwelyau ganol nos, a bod o dan fin yr awel oer hyd y boreu, yn achos i Miss Williams, ei ferch henaf, yr hon oedd eisioes yn llesg a gwanaidd iawn, i gael anwyd trwm, yr hwn a brysurodd ei marwolaeth. Effeithiodd yr amgylchiad yn niweidiol ar iechyd dirywiedig Mr. Williams hefyd, ac o hyny hyd derfyn ei yrfa, gwelid yn amlwg mai gwanychu yn raddol yr ydoedd! Ond eto, ymdrechai gyflawni ei weinidogaeth gartref ac oddi—cartref; ac yr oedd yn llwyddo i wneuthur hyny gyda chymeradwyaeth a boddlonrwydd cyffredinol, er mewn gwendid a nychdod mawr. Mewn llythyr o'i eiddo atom, dywed Mr. Edwyn Roberts, pregethwr parchus a chymeradwy yn Ninbych, am Mr. Williams yn y cyfnod hwn, fel y canlyn:—"Gallaf nodi, pan y byddai yn dyfod i Ddinbych i bregethu neu i areithio, y byddai yn hynod o'r poblogaidd yma fel mewn lleoedd eraill, Yr oedd yma hen wraig gynt o'r enw Bety Jones, yr hon na byddai yn myned i un lle o addoliad, ond ar ddau achlysur yn unig, sef i'r Eglwys Sabbath y Pasg, ac i gapel Lôn Swan y Sabbath y byddai Mr. Williams o'r Wern yno yn pregethu. Erbyn Sabbath y Pasg, rhoddai Bety ei chap allan ar y gwrych i'w sychu a'i wynu, a rhoddai ef allan yn yr un modd erbyn Sabbath Williams o'r Wern. Gofynai Mr. John Griffith, yr hen ddiacon iddi, Bety, beth yw yr achos eich bod yn rhoddi y cap allan?' Yr ateb fyddai, Mr. Williams o'r Wern sydd i fod yn nghapel Lôn Swan y Sabbath.' Tynai bob dosbarth o bobl i'w wrando, a deallid ef yn ymdrin hyd yn nod â phethau mawrion yr efengyl, gan bob gradd o ddynion. Clywais ef yn pregethu ar 'Rwymo Satan,' oddiar Datguddiad xx. I—3. Yr oedd hyny ar noswaith gyntaf ein cyfarfod blynyddol, ac efe yn unig a bregethodd y noswaith hono. Dywedai mai cadwyni i rwymo Satan yw yr Ysgol Sabbathol a'r Gymdeithas Ddirwestol, y rhai ydynt yn cydweithio â'u gilydd i'r amcan hwnw. Pregethodd am awr y noson hono, a sonir am y bregeth yn y dref a'r wlad hyd y dydd heddyw. Bu yma aml i dro yn areithio ar ddirwest, ond saif un ymweliad o'i eiddo gyda'r amcan daionus hwnw, megys ar ei ben ei hun, ac yn fwy hynod na'i ymweliadau eraill. Areithiai y tro hwnw ar ganol y dref y Groes—ac yr oedd mor effeithiol y waith hono, fel yr oedd cedyrn yn wylo yn hidl, ac nid anghofir ei anerchiad gan neb o'r rhai a'i gwrandawodd." Y mae ambell un yn gawr yn yr areithfa ond yn blentyn eiddil a hollol amddifad o allu i drafod amgylchiadau dyrys mewn eglwys, ond yr oedd Mr. Williams yn gryf ac yn fedrus yn y naill gylch fel y llall. Cymerai ambell ddygwyddiad le yn ei absenoldeb, ag y methai y brodyr ei ddwyn i ben yn foddhaol. Bu amgylchiad felly unwaith o dan ei sylw, yr hwn a achoswyd drwy waith un o aelodau eglwys y Tabernacl yn cario mainc ar ei ysgwydd o'r naill le i'r llall, yr hyn nad oedd yn gyfreithlawn iddo i wneuthur, a hyny oblegid ei fod ar y pryd yn derbyn cynorthwy o Gymdeithas Cleifion yn y dref, ac yr oedd cyflawni unrhyw orchwyl pan yn derbyn o'i chyllid, yn groes i reolau y gyfryw gymdeithas. Dygwyd y mater i'r eglwys, a chynaliwyd llawer o gyfarfodydd yn nglŷn âg ef. Methai y diaconiaid a'r brodyr oll ei derfynu gyda dim boddlonrwydd. Cyrhaeddodd Mr. Williams adref, a gosodwyd helynt "cario y fainc" o'i flaen, gan erfyn arno alw sylw yr eglwys at y mater. "O'r goreu," meddai yntau, ac felly y bu. "Dywedwch yr achos," meddai wrthynt. Yna hwythau a ddechreuasent fyned dros yr helynt yn fanwl a helaeth iawn, a bu yno lawer o siarad hollol ddifudd. O'r diwedd, gofynodd Mr. Williams iddynt, a hyny yn dawel, ac mewn ffordd awgrymiadol nodedig, "A fedrwn ni ddim codi ein traed bellach dros y fainc?" Yn y fan terfynodd y cwbl, a phawb yn teimlo yn ofidus am ddarfod iddynt ymdroi cymaint gyda mater mor ddibwys a "chario mainc," a theimlasent hefyd mai gwerthfawr oedd meddu gweinidog oedd yn gallu gwneuthur yr ystorm yn dawel. Gobeithiai cyfeillion niferus Mr. Williams, y buasai gwanwyn a haf y flwyddyn 1839, yn profi yn adnewyddiad iddo ef a'i anwyl Elizabeth, ond twyllodrus a siomedig y profodd y gobaith hwnw o'r eiddynt, oblegid yr oedd yn amlwg erbyn hyny fod afiechyd Miss Williams yn buddugoliaethu arni yn gyflym, a hithau yn cilio ymaith fel cysgod. Yr oedd ei ferch hon erbyn hyn, o ran oedran a medr, yn hollol gymhwys i arolygu amgylchiadau ei dŷ, ac yr oedd mor gyfoethog o rinweddau Cristionogol, y rhai a lewyrchent yn brydferth yn ei bywyd, fel yr oedd yn rhaid mai gofid dwys iddo ef ydoedd gweled arwyddion fod ei phabell ar gael ei thynu i lawr. Er hyny, ni roddodd yn ynfyd ddim yn erbyn Duw, a phrofodd yn helaeth iawn o'r dedwyddwch hwnw, sydd yn unig yn eiddo i'r rhai hyny sydd yn ddyoddefgar mewn cystudd, ac yn dyfalbarhau mewn gweddi. Wrth gyflwyno ei ferch i'r Arglwydd mewn gweddi, mynych y dywedai "Yr ydym yn ei gadael yn dy law di, Arglwydd, a dyna y lle goreu iddi, y mae yn well ac yn ddiogelach yno, nag yn un man arall; cymer hi, a chymer dy ffordd gyda hi."

Yr oedd y flwyddyn 1839 yn flwyddyn yr ymwelodd Duw â'n gwlad mewn modd amlwg, drwy ein breintio âg adfywiad crefyddol grymus iawn, ac yr oedd hyny yn llawenhau calon Mr. Williams yn ei nychdod personol, a'i drallod teuluaidd. Yn y cyfamser, yr oedd wedi addaw myned i gyfarfod pregethu i Gonwy, ond o herwydd cystudd Miss Williams, anfonodd lythyr at y gweinidog (yr Hybarch R. Parry yn awr o Landudno), i alw ei addewid yn ol. Wele gopi o'r llythyr hwnw—

LLYNLLEIFIAD, Ebrill 22ain, 1839.

FY ANWYL GYFAILL.

Parhau yn bur wael y mae fy anwyl Elizabeth. Y mae wedi ei chyfyngu i'w hystafell wely er's deng wythnos, ac wedi ei darostwng i'r fath wendid, fel nad yw yn gallu codi, ond tra y bydd ei gwely yn cael ei gyweirio. Nis gellir gwybod pa gyfnewidiad buan yn nglŷn â hi a all gymeryd lle; ac o dan yr amgylchiadau hyn, nid wyf yn meddwl ei bod yn ddyledswydd arnaf i adael cartref. Y mae yn wir ddrwg genyf nas gallaf ddyfod i'ch cyfarfod pregethu fel yr addewais

Yr wyf yn gobeithio y deuwch chwi i'n cyfarfod ni gyda Mr. Rees, a Mr. J. Roberts. Yr ydym hefyd yn dysgwyl i'n cyfarfod Mr. Williams, Llanwrtyd; Mr. Jones, Rhuthyn; Mr. Griffiths, Caergybi; a Mr. Harris, Wyddgrug.

Llawenheir fy nghalon wrth glywed am yr adfywiad crefyddol sydd yn eich plith. Y mae rhagor i'w gael, ond rhaid i chwi weddio mwy.


Ydwyf,
Yr eiddoch, &c.,
W. WILLIAMS.

18, Boundary Street.

Cynyddu yr oedd peswch Mr. Williams hefyd, ond gallodd barhau i bregethu gartref, ac oddi-cartref hefyd yn achlysurol hyd ddiwedd haf 1839. Yr ydym yn ei gael ar y dyddiau Llun a Mawrth, Mehefin 17eg a'r 18fed, 1839, yn pregethu yn agoriad capel newydd Rhosllanerchrugog. oedd y diwrnod hwnw iddo ef yn ddydd llawn o adgofion, yn gystal a bod yn ddydd o lawenydd mawr iddo, wrth weled yr eglwys a gychwynodd mewn ystafell yn y Pant, yr hon nad oedd ar y cyntaf ond saith mewn rhif, yn awr yn cael gweled dydd agoriad ei hail gapel eang a hardd, yr hwn a lanwyd yn fuan gan gynulleidfa barchus. Gan y gwyddid yn mhell ac yn agos am waeledd Mr. Williams, ofnid nas gallai bregethu yn Nghymanfa Sir Gaernarfon, yr hon oedd i'w chynal yn Bethesda, ar y dyddiau Awst 7fed a'r 8fed, 1839, ond gallodd fyned i'r gymanfa hono, a phregethodd yn effeithiol ar "Etholedigaeth a gwrthodedigaeth, oddiar y geiriau Eph. i. 1—4, a Jer. vi. 30. Y mae genym yr hyfrydwch o ddodi yma yr hyn a ganlyn o eiddo y Parch D. Griffith, gynt o Ddolgellau. Yr oedd ef yn bresenol yn y gymanfa hono:—

"Yn ol eich cais, yr wyf yn anfon i chwi hyny o 'adgofion' ag sydd genyf am yr anfarwol Williams o'r Wern. Chwi ddeallwch mai adgofion bachgen ydynt, oblegid nid oeddwn nemawr dros bymtheg mlwydd oed pan y bu farw Mr. Williams. Er hyny y maent yn ffyddlawn a chywir. Y mae yn fy meddwl syniad byw o'r hyn ydoedd o ran ei berson, ei wedd, ei lais, a'i boblogrwydd anarferol, yr hwn syniad a gefais yn ystod ei ymweliadau â Sir Gaernarfon o fewn y ddwy flynedd cyn ei farwolaeth. Yr wyf yn meddwl mai yn nechreu haf y flwyddyn 1838, y mwynheais y cyfle cyntaf i'w weled. Y waith hono fe'm danfonwyd gyda phony hyfryd a llonydd oedd genym i Gaernarfon ar foreu dydd gwaith tesog a thawel i'w gyrchu i Bethel; lle yr oedd i bregethu y boreu hwnw. Yn fuan ar ol gadael y dref tarawsom ar wr ffraeth, yr hwn a ddaliai gydymddyddan hyfryd â Mr. Williams dros ran fawr o'r ffordd; yn cydgerdded â ni hefyd yr oedd bachgenyn yn dwyn ar ei fraich biser gwag, fel pe ar fedr myned i geisio llaeth i un o'r ffermydd cyfagos. Gan i'r pony yn swn yr ymddyddan, a hithau yn deg hyfryd, ymollwng i dipyn o ddifrawder, ebe Mr. Williams wrth y bachgen, yn yr olwg ar wialen a welai ar ochr y ffordd: Machgen i, a weli di yn dda godi y wialen yna i mi. Efallai y bydd yn rhywbeth genyt allu dweyd rywbryd i ti unwaith gael cyfle i roi gwialen yn llaw un a adwaenid gan rai wrth yr enw Williams o'r Wern.' Ufuddhaodd y bachgen ar unwaith, ac ymddangosai fel yn falch o'r anrhydedd a roid arno. Am bregeth Mr. Williams yn Bethel, nid wyf yn cofio dim. Yr oedd yno dorf luosog yn gwrando, wrth reswm, a phawb yn clustfeinio fel am eu bywyd. Ar ol y bregeth cynelid cyfeillach, ond aethum i, ac un o weision fy rhieni, tua'r fynwent i ddal a chyfrwyo y pony i fod at wasanaeth Mr. Williams yn mhellach. Y peth cyntaf wyf yn gofio wedi hyn oedd gweled dwy neu dair o wragedd cyfrifol ar ol dyfod o'r capel, yn troi eu hwynebau tua'r pared, ac yn wylo yn hidl, gyda napcynau yn eu dwylaw i sychu ymaith eu dagrau, ac yna gwelwn amryw o'r aelodau hynaf yn ymwasgu o'u deutu i ysgwyd dwylaw yn gynhes, ac i'w llongyfarch ar eu gwaith yn tori drwodd i wneud arddeliad cyhoeddus o'r Gwaredwr. Golygfa hynod ydoedd, ac y mae fel yn fyw o flaen fy llygaid y funyd hon. Gan farnu y gwasanaeth wrth yr effeithiau, rhaid ei fod yn fendigedig iawn. Dro arall (ond pa un ai yn ystod yr un flwyddyn, ynte yr un agosaf ati, nid wyf yn sicr), ymddiriedid i mi fyned a'r gig i'w gyrchu o Gaernarfon i Borth Dinorwig, neu y Felin Heli, fel yr arferid galw y lle y pryd hwnw, yr oedd efe i areithio ar Ddirwest y noswaith hono yn nghapel Siloh. Nid oeddwn yn bresenol i'w glywed, yn gymaint a bod yn rhaid i mi fyned a'r cerbyd yn ol cyn dechreu y gwasanaeth; ond yr oedd yno gynulliad llawn, a siarad i bwrpas hefyd, yn ol fel y dywedwyd wrthyf lawer gwaith ar ol hyny. Clywais fy mam fwy nag unwaith yn adrodd darnau o anerchiad Mr. Williams y noson hono. Dywedai fod witch yn y ddiod, a gofynai, Pwy erioed a welwyd yn myned at y pot llaeth, gan eistedd i lawr i lymeitian am oriau; na, gyda'r ddiod feddwol y bydd pobl yn ymddwyn yn afresymol felly.' Yr oedd ei eiriau a'i wedd yn ddifrifol iawn pan y troai i siarad ar y pwys o fod rhieni yn rhoddi esiamplau teilwng i'w plant yn yr achos yma. 'Llawer tad,' ebe fe, 'a welwyd yn dal i ymarfer â'r diodydd meddwol, ac eto, drwy rym penderfyniad cryf yn gallu cadw yn hynod dda ar dir cymedroldeb drwy ei fywyd. Cerddai gydag ymylon perygl (meddai, gan symud ei fys yn araf gydag ymyl allanol astell y pulpud) heb i unrhyw drychineb mawr ddygwydd. Ond dacw ei fab yn myn'd ar ei ol, gan feddwl gwneud yn union yr un fath, eithr cyn cyrhaedd hyd haner ei yrfa, wele ef, druan, yn syrthio dros y dibyn i ddystryw.' Yr oedd yr effaith wrth gwrs yn drydanol. Mor glir a boneddigaidd yr ymresymai Mr. Williams y noson hono, fel yr enillodd lawer i benderfynu bod yn llwyrymwrthodwyr o hyny allan. Fel yr awgrymais, nid oeddwn yn bresenol i glywed yr araeth fythgofus hono yn Siloh; ac am ei bregeth yn Bethel, er fy mod yno yn mhlith y gwrandawyr, nid wyf yn cofio dim yn ei chylch, ond yr effeithiau hynod hyny y cyfeiriais atynt yn barod. Ond am y gymanfa a gynelid yn Bethesda yn haf y flwyddyn 1839, dygwyddai yn dra gwahanol. Yr oeddwn erbyn hyny gryn dipyn yn hynach, a'm meddwl yn dra bywiog i dderbyn argraffiadau oddiwrth yr hyn oll a welwn ac a glywn, yn enwedig ar y fath achlysur nodedig ag ydoedd hwnw. Yn nghwmni fy rhieni, a llawer eraill o'r crefyddwyr goreu yn Bethel, aethum i'r gymanfa hono gydag awyddfryd cryf am gael clywed i bwrpas, amryw o brif weinidogion yr enwad Annibynol, heblaw Mr. Williams o'r Wern, yn traddodi eu cenadwri; ond am dano ef y meddyliwn i, megys eraill, yn uwchaf a phenaf. Teimlid llawer mwy o ddyddordeb yn yr achlysur mae'n ddiau, am fod y si ar led fod Mr. Williams, yn ol pob tebyg, yn mhell yn y darfodedigaeth, ac na cheid ei weled efallai byth eto mewn cymanfa yn Sir Gaernarfon. Efe oedd i bregethu yn olaf ar foreu dydd mawr yr wyl. Cynelid y gymanfa, nid ar faes agored, ond yn y capel, gyda chyfleusdra i'r rhai na allent ddyfod i mewn i glywed y pregethau drwy un o'r ffenestri mawrion oeddynt yn nghefn yr adeilad. Yr oedd y capel hwnw yn dra eang, er nad yn gymaint a'r un presenol. Ni raid dweyd ei fod yn orlawn o wrandawyr y boreu hwnw, gyda thyrfa fawr oddi-allan hefyd. Yr oeddwn yno yn brydlawn, fel ag i sicrhau lle mewn man cyfleus yn y gallery. Yn ymyl y ffenestr y cyfeiriais ati, yr oedd platform wedi ei godi, ac ar hwnw y safai Mr. Williams i draddodi ei bregeth anghymharol ar Etholedig aeth a gwrthodedigaeth. Llawer gwaith y buasai efe yn pregethu yn y capel hwnw o'r blaen, a phob amser gyda grym a deheurwydd mawr. Clywais Tegai yn dweyd iddo ei glywed yno yn pregethu ryw noswaith ganol yr wythnos ar Fawredd Duw, mewn ffordd mor hynod, fel ag i fod yn anefelychadwy. Mewn dull rhwydd a didrafferth, arllwysai allan y fath ffrydlif o syniadau gwreiddiol ac ardderchog ar y pwnc, nes synu a chyffroi hyd yr eithaf, y dorf anferth a ddaethai yn nghyd i'w wrando. Yr oedd golwg wir ryfedd arno, meddai ef, ac yr oedd y rhan fwyaf o'r gwrandawyr a'u safnau yn llydain agored, fel pe yn awyddus i lyncu pob gair a ddeilliai dros wefusau y llefarwr hyawdl. Ond yn awr, dyma ei dro olaf ef i ymddangos yn Bethesda wedi dyfod. Edrychai yn welw a churiedig ei wedd. Diau fod y darlun a welir yn ei Gofiant (gan Dr. W. Rees) yn bortreiad hynod dda o hono y pryd hwnw. [22] Y fath ddystawrwydd a deyrnasai drwy y lle pan y cododd ar ei draed i bregethu. Er yn dwyn olion nychdod, yr oedd eto yn wir fawreddog yr olwg arno. Ei lais ydoedd glir, ei barabliad yn ystwyth, ei drem yn urddasol, a'i holl ystum yn hardd ac yn naturiol dros ben. Ei lygaid oeddynt fawrion, a hynod ddysglaer gan dân athrylith. Edrychai yn myw llygad y gynulleidfa, gan lefaru fel meistr hollol arno ei hun, ac ar ei waith, ac arni hithau hefyd. Rhyw wrandawr go hynod fuasai hwnw, a allasai ddal yn ddigyffro dan dywyniadau tanbaid y golygon hyny. Nid oedd eisieu iddo ef floeddio mewn trefn i fod yn effeithiol. Yr oedd rhyw thrill yn ei lais âg oedd yn gorchfygu pob teimlad. Yn ei swn, mynych yr elai pobl i wylo yn ddiarwybod iddynt eu hunain. Felly yr oedd yn Nghymanfa Bethesda yn pregethu ar Etholedigaeth. Yr oedd y lle yn Bochim mewn gwirionedd. Ni welais y fath wylo mewn cymanfa erioed. Diau i lawer deimlo yn rhyfedd pan ddarllenodd ei destun, y naill yn Eph. i. 4, 'Megys yr etholodd efe ni,' &c.; a'r llall yn Jer. vi. 30, Yn arian gwrthodedig y galwant hwynt,' &c. Yr oedd y bregeth ar gynllun cwbl newydd, ac o duedd ymarferol ardderchog. Yr wyf yn cofio fel y dywedai yn ei ragymadrodd y byddai yn arferiad gan yr hen dduwinyddion bregethu llawer ar y pynciau hyn, Etholedigaeth a Gwrthodedigaeth, ond fod duwinyddion diweddar fel rheol yn eu hosgoi, gan feddwl fod tuedd niweidiol mewn pregethu o'r fath. Tarddai hyn, fel yr oedd yn amlwg iddo ef, am y rheswm eu bod yn pregethu yr athrawiaethau hyn mewn golygddysg, neu yn eu theory, yn hytrach nag yn yr amlygiad o honynt yn nghwrs naturiol dygwyddiadau. Y mae theory etholedigaeth, er enghraifft, yn amlwg i Dduw, ond yn ei gwaith y mae yn ei dangos i ni. Yr wyf yn cofio y cyfeiriad hapus a wnaeth at Bont Menai yn ei gwaith, fel rhagarweiniad i'r sylwadau oedd ganddo i'w traethu yn nghylch etholedigaeth gras. Da y cofiwyf hefyd am rai o'r amgylchiadau a ddygai ef i sylw er dangos etholedigaeth yn ei gwaith. Y cyntaf yn eu plith oedd 'amgylchiad boneddiges urddasol, yr hon a fwynhai gyflawnder o olud y byd, yn nghyd a'r holl lawenydd cysylltiedig â chwmnïau uchel, balls, races, &c., ond daeth Duw heibio iddi yn ei Ragluniaeth, cipiodd ddau o'r plant y naill ar ol y llall. Teimlodd yn drwm y tro cyntaf, ond yn drymach fyth yr ail dro. O'r diwedd collodd ei phriod, a thrwy hyny lawer o'i meddianau; symudodd i gylch llai. Yn ymyl ei phreswylfod newydd yr oedd capel, clywodd y Gair, daeth yn Gristion, a bu farw yn yr Arglwydd.' Dyna 'etholedigaeth yn ei gwaith.' Yr amgylchiad nesaf y cyfeiriai ato oedd eiddo bachgen afradlon, yr hwn oedd ganddo fam dduwiol a weddiai lawer drosto. Pryderai yn ei gylch nes i'w nerth ddechreu pallu yn gynar, gwisgai wydrau cyn bod yn 40 oed, crwydrai yntau yn ddifeddwl o le i le. Clywodd ei fam o'r diwedd ei fod yn aros mewn rhyw fan neillduol, ac anfonodd at weinidog oedd yn llafurio yn y lle, gan ddeisyf arno weddio yn gyhoeddus dros ei mab oedd yn anwyl ganddi, er yn afradlon. Tra yn gweddio dygwyddodd y bachgen droi i mewn; effeithiwyd arno, meddyliodd mai efe oedd y truan y gweddiid drosto. Aeth at y gweinidog ar ddiwedd y gwasanaeth, gwelodd lythyr ei fam, toddodd ei galon, a bu farw yn ddedwydd yn mhen amser ar ol hyn. I'r cwestiwn, Beth oedd hyn? Dyma ateb y pregethwr, 'etholedigaeth yn ei gwaith.' Fel yr adroddai Mr. Williams yr hanesyn hwn, yr wyf yn cofio fod golwg hynod o ddrylliog ar y gynulleidfa. Wedi crybwyll am ddau amgylchiad nodedig arall, er egluro ei fater, aeth rhagddo i dynu pump neu chwech o addysgiadau, y rhai oll a ymddangosent yn gwbl deg a naturiol. Gyda'r mater arall, dilynai yr un cynllun yn hollol, gan gario argyhoeddiad i bob meddwl ystyriol, mai peth ofnadwy i ddynion o wlad yr efengyl fyddai cael eu cyfrif yn arian gwrthodedig yn y diwedd, ac na fyddai ganddynt neb i'w beio ond hwy eu hunain, os mai felly y dygwyddai. Wedi i'r gymanfa fyned drosodd, yr oedd cryn son am bregethau Rees o Ddinbych,' ac eraill a weinyddent ynddi, ond am bregeth ogoneddus Williams o'r Wern y meddylid ac y siaredid yn benaf ar hyd a lled y wlad. Bu ei thraddodiad o annhraethol les i ganoedd yn y parthau hyny, a chlywais luaws o bobl grefyddol yma a thraw yn adrodd darnau o honi gyda boddhad yn mhen blynyddoedd lawer wedi i'r pregethwr enwog ddisgyn i fro dystawrwydd."

Yn hanes Hen Gymanfaoedd gan Mr. W. J. Parry, C.C., Bethesda, yn y Dysgedydd 1887, tudalen 147, gwelwn mai "Yn nglŷn â'r gymanfa hon y darfu i swyddogion y chwarel roddi gorchymyn allan nad oedd caniatad i neb golli ei waith i fyned iddi, a chreodd hyny gynhwrf anghyffredin yn y wlad. Cof genyf glywed adrodd rhai hen bererinion yn hysbysu swyddogion y chwarel, 'Pe byddent heb waith byth, y mynent gael y gymanfa.' Ond yr oedd yn y wlad y pryd hwnw, fel yn awr, luaws yn cloffi rhwng dau feddwl—meddwl y swyddogion, a meddwl eu cydwybod—eu hegwyddorion. Ond cyn bod oedfa'r boreu bron wedi dechreu, yr oedd gan y gymanfa a Williams o'r Wern ynddi, ormod at—dyniad iddynt, fel y torwyd ar draws pob gorchymyn, a dylifwyd yn dyrfaoedd o'r chwarel i gae y gymanfa. Ni feiddiwyd cosbi chwaith am hyny. Yr oedd y dòn yn rhy gref, a chorff y gweithwyr yn rhy unol i'r swyddog feiddio gwneud hyny.' Gwelsom mai Llanbedr, Sir Gaernarfon a gafodd y fraint o glywed llais Mr. Williams gyntaf mewn cymanfa ar ol ei ordeinio, ac yn y sir hono hefyd, yn Bethesda, y waith uchod y gwrandawyd ei lais am y tro olaf yn nghymanfaoedd ei wlad, canys yr uchod ydoedd y gymanfa olaf iddo ef bregethu ynddi. Cymerodd un amgylchiad le yn Mangor ar ddychweliad ein gwrthddrych o Gymanfa Bethesda, ag sydd yn werth ei gofnodi yma." Adroddwyd yr hanesyn gan Dr. W. Rees i Mr. W. J. Parry, Bethesda, a rhoddwn ef yma, fel yr adroddodd Mr. Parry ef wrthym ninau:—" Bu arian a gasglwyd at ddiddyledu addoldai yr Annibynwyr yn 1833—1834, yn y rhaniad a fu arnynt yn Bethel, yn achlysur i oeri ychydig ar deimladau Dr. Arthur Jones a Mr. Williams at eu gilydd, yn arbenig felly deimladau y blaenaf at yr olaf. Ni ddeallasom ni fod Mr. Williams yn fwy cyfrifol am yr hyn a wnaed yn y rhaniad, na rhyw rai eraill oeddynt yn cydweithredu yn y mater. Fodd bynag, nid oedd teimladau felly rhwng dau hen wron ardderchog o'u bath hwy, mewn un modd, yn hyfryd, ond yn beth anhyfryd iawn. Fel y crybwyllwyd, yr oedd Mr. Williams yn hynod o wael Wedi i'r oedfa ddau yn Nghymanfa Bethesda. fyned drosodd, aeth ef, Dr. W. Rees, a'r Parch. D. Davies, Aberteifi, gyda'u gilydd i Fangor, canys yr oedd y ddau olaf i bregethu yn Ebenezer Cyn myned i'r capel, gofynodd Dr. Rees i Mr. Williams, a oedd ef am ddyfod i'r oedfa? Na,' meddai yntau, Yr wyf fi yn rhy wael i ddyfod heno, ac heblaw hyny, pe bawn yn d'od, hwyrach mai dweyd rhywbeth yn gas wrthyf a wnai Mr. Arthur Jones, ac yr wyf fi yn rhy lesg a gwan i allu dal dim o nodwedd felly heno.' oedd Dr. Rees yntau, yn awyddus iawn i ddwyn y ddau dywysog at eu gilydd, a gofynodd, 'Wel, a fuasech chwi ddim yn hoffi ei weled cyn i ni adael y dref?' 'Buaswn, ond y mae arnaf ofn mai dweyd rhywbeth yn arw wrthyf a wna efe,' meddai yntau eilwaith. Barnasent o'r diwedd mai gwell oedd i Mr. Williams aros yn y ty y noson hono, yn enwedig wrth gymeryd sefyllfa ei iechyd i ystyriaeth, ac felly y bu. Aeth Dr. Rees i'r capel, ac wedi i'r cyfarfod derfynu, aeth i dŷ Dr. Arthur Jones, a chyn ymadael, dywedodd wrtho, 'Y mae Mr. Williams o'r Wern yn y dref yma, ac y mae yn wael iawn hefyd.' 'Yn mha le y mae o?' gofynai Dr. Jones. 'Yn y London House, a fuasech chwi ddim yn hoffi ei weled cyn iddo adael y dref?' 'Wn i ddim wir.' 'Wel, y mae ef yn wael iawn, ac y mae bron yn sicr ei fod yma am y tro diweddaf, ac os na chewch chwi ei weled y tro hwn, y mae yn fwy na thebyg, na bydd i chwi byth gael ei weled, a byddai yn drueni i ddau wron fel chwi beidio a chymodi a'ch gilydd.' 'A yw efe yn wael felly?' 'Ydyw yn sicr.' 'Pa bryd y byddwch chwi yn gadael y dref?' 'Boreu yfory gyda'r steamer.' "Wel, dywed wrtho, os hoffai efe gael fy ngweled i, am iddo ddyfod yma yfory cyn myned ymaith—deuwch eich dau.' Yn llawen iawn gan hyny, yr ymadawodd Dr. Rees y noson hono i fyned at Mr. Williams i'r London House. Pan yr oeddynt eu dau yn ymneillduo i orphwyso, awgrymodd Dr. Rees i Mr. Williams y priodoldeb iddynt alw gyda Dr. Jones, cyn iddynt adael y dref dranoeth, ac ychwanegodd, ei fod yn sicr y buasai yn dda ganddo ei weled. 'Tybed y buasai yn hoffi fy ngweled; a baid ef a bod yn chwerw wrthyf, y mae arnaf ofn iddo lefaru gair croes, oblegid nis gallaf ddal hyny yn awr.' Na, ni wnaiff ef ddweyd dim yn gâs wrthych, gadewch y mater hwnw arnaf fi.' Boreu dranoeth a wawriodd, ac wedi boreubryd, ac i'r ddyledswydd deuluaidd fyned drosodd, dacw Mr. Williams a Dr. Rees yn cychwyn eu dau am dŷ Dr. Arthur Jones. Edryched y darllenydd arnynt yn cerdded yn araf i fyny High Street; dacw hwy wedi troi o'r golwg i'r entry gul sydd yn arwain at Ebenezer, ac at dŷ yr hen ddoethawr. Pwy oedd yn eu dysgwyl ac yn edrych yn bryderus am danynt drwy y ffenestr, ond yr hen wron Dr. Jones ei hun, a phan y gwelodd hwynt yn dyfod, rhedodd i agor y drws, ac i'w derbyn yn groesawgar nodedig drwy ymaflyd yn llaw Mr. Williams, gan ei gwasgu yn dŷn a chynhes. Edrychai y ddau yn myw llygaid eu gilydd am foment yn y drws, heb allu o honynt, o herwydd eu teimladau drylliog, lefaru gair y naill wrth y llall, ac yn nwylaw eu gilydd y darfu iddynt ymlusgo o'r drws at y tân ac wedi erfyn maddeuant y naill y llall, a chael sicrwydd fod hyny wedi ei sicrhau, eisteddasant un o bob ochr i'r tân, ac wylai y ddau yn hidl. Safai Dr. Rees yntau, rhwng y ddau yn edrych arnynt, ac ni allai am enyd lefaru gair, gan yr effaith orthrechol a gariodd yr olygfa hono arno. Hoffasem yn fawr weled darlun o'r amgylchiad uchod mewn mynor neu ar len. Wedi bod yn y ty am beth amser, dywedodd Dr. Rees fod yn rhaid iddynt fyned, gan fod yr agerfad i gychwyn yn fuan. Ar hyny, dywedodd Dr. Arthur Jones, 'Myfi a ddeuaf gyda chwi i'ch hebrwng i gwr pellaf y traeth;' ac ymaith a hwy yn mreichiau eu gilydd i 'gwr pellaf y traeth,' ac felly yr ymadawodd Mr. Williams â Bangor y tro olaf hwnw am byth iddo ef, a'r oerfelgarwch a fuasai rhyngddo â'i hen gyfaill, wedi toddi a llifo ymaith yn eu dagrau maddeuol. Nis gwyddom a welsant hwy eu gilydd ar ol hyny, cyn iddynt gyfarfod yn y wlad well. Ond yr ydym yn sicr fod yr hwn a fu yn hau, a'r rhai oedd yn medi, erbyn hyn yn llawenychu yn nghyd yn nhy eu Tad am y cyfarfyddiad hwnw yn Mangor, yr hwn a ddygwyd oddiamgylch drwy offerynoliaeth Dr. William Rees."

PENNOD XIV.

O GYMANFA BETHESDA HYD EI FARWOLAETH.—1839—1840.

Y CYNWYSIAD.—Y meddyg yn ei gynghori i adael Liverpool— Datod ei gysylltiad ág eglwys y Tabernacl—Ei lafur a'i lwyddiant yn Liverpool, gan y Parch. Thomas Pierce—Eglwys y Wern a'r Rhos yn ei wahodd i ail ymsefydlu yn eu plith—Terfynu ei weinidogaeth yn Liverpool—Eglwys y Tabernacl yn teimlo yn ddwys o herwydd ei ymadawiad—Yn ail ddechreu yn hen faes ei lafur—Diwygiad yn yr eglwysi—Cyfarfod pregethu hynod yn y Wern—Ei anwyl Elizabeth yn gwanychu—Y tad a'r ferch wedi eu caethiwo yn eu gorweddfanau—Y ddau yn ymddyddan â'u gilydd am y nefoedd Cyfarfod pregethu effeithiol yn y Rhos—Y Parchn. W. Rees, Dinbych; R. Jones, Rhuthyn; W. Griffith, Caergybi; a Joseph Jones, Ysw., Liverpool, yn talu ymweliad â Mr. William—Yr olygfa pan oeddynt yn ymadael yn un wir effeithiol Dr. Chidlaw yn ymweled â Mr. William—Marwolaeth Miss Williams—Yntau yn gwaelu yn gyflym wedi ei cholli hi—Ymweliad ei chwaer âg ef—Achos eneidiau—Galw ato swyddogion yr eglwysi—Ei farwolaeth a'i gladdedigaeth—Breuddwyd hynod o eiddo y Parch. Moses Ellis—Marwolaeth Mr. James Williams, mab hynaf ein gwrthddrych—Ei fab a'i ferch ieuengaf yn ymfudo i Awstralia—Llythyr oddiwrth unig fab ein gwrthddrych. AR ol dychweliad Mr. Williams adref o Gymanfa Bethesda, gwelid yn amlwg fod yr arwyddion am ei wellhad ef a'i anwyl Elizabeth, yn diflanu mor gyflym, fel y barnodd eu meddyg galluog, Dr. Thomas, Blackburn, mai ei ddyledswydd ef oedd hysbysu Mr. Williams, fod yn rhaid iddo adael y dref yn fuan, a dychwelyd yn ol i Gymru, yn amgen nad oedd un pelydryn o obaith am ei wellhad ef na Miss Williams. Yr oedd ufuddhau i'r gorchymyn hwnw yn anhawdd, oblegid yr oedd hyny yn golygu datod y cysylltiad anwyl oedd rhyngddo ef â'r eglwys yn y Tabernacl, yr hwn, mewn anwyldeb o'r ddeutu a gynyddai yn barhaus, ac nid rhyfedd hyny, canys fel hyn yr ysgrifenodd y Parch. Thomas Pierce, i gofiant Mr. Williams, gan Dr. W. Rees, tudalen 34—36, am nodwedd gweinidogaeth lwyddianus ein gwrthddrych yn Liverpool:—"Effeithiodd ei ddyfodiad i'n plith ar y cynulleidfaoedd yn rhyfeddol, ac er y dywedai rhai mai fflam a ddiffoddai yn fuan ydoedd, eto mae yn ddigon amlwg ei bod yn parhau hyd heddyw, a phob arwyddion y pery hefyd hyd ddiwedd amser, ïe, i dragwyddoldeb. Achosodd ddeffroad, gorfoledd, a phryder mawr yn yr eglwysi, a bu o fendith a llesâd mawr i grefydd yn y dref hon, ac i lawer o eneidiau, teimladau lluaws o'r rhai sydd yn gynhes iawn at ei enw, ac a barchant ôl ei draed mewn diolchgarwch i'r Arglwydd am ei anfon yma, a chael eistedd dan ei weinidogaeth.

Ni ddangosodd yn ei weinidogaeth gyhoeddus ond ychydig o'r hyawdledd a'r tanbeidrwydd a'i hynodent flynyddau yn ol, eto, yr oedd y fath nerth yn ei eiriau, awdurdod yn ei ymresymiadau, a'r fath blethiad o ddifrifoldeb a mwyneidd-dra yn ei ysbryd, fel y byddai yn sicr o gael gafael yn meddwl yr holl gynulleidfa. Nid boddloni cywreinrwydd, na goglais tymherau dynion, a amcanai efe, ond cael gafael ddifrifol yn eu teimladau a'u cydwybodau oedd ei unig ymgais; a braidd bob amser y llwyddai yn hyny. Nid anfynych y gwelid y dagrau tryloewon yn treiglo dros ruddiau hyd yn nod y rhai caletaf yn y gynulleidfa. Bu yn foddion i ddwyn yr eglwys dan ei ofal i wisgo ei blodeu yn fuan, a blodeuo yn fwy-fwy yr oedd tra y bu aros gyda ni; a dilys y gellir dweyd heb betruso, mai ffrwythau toreithiog dilynol i'r blodeu hyny oedd y diwygiad nerthol a fu yma yn fuan ar ol ei ymadawiad, ac y mae yr eglwys hyd heddyw yn parhau i fod yn llawen fam plant, ac arwyddion o foddlonrwydd Ior ar ei hymdrechiadau. Yr oedd Mr. Williams yn llawn o ysbryd yr hen ddiwygwyr; gwrthsafai bob math o gadwynau gorthrwm, yn wladol a chrefyddol. Gwyddom yn dda fod llawer o'r ysbryd hwn ynddo trwy ei oes, ond wedi dyfod yma bu yn ddiwygiwr mwy cyflawn nag erioed; torodd drwy a thros yr hen ffurfioldeb a'r gwastadrwydd oeddynt fel cadwynau yn llyffetheirio crefydd yn yr eglwysi. Dangosai y mawr bwys a'r angenrheidrwydd o fod pob aelod yn yr eglwys wrth ei waith—chwiorydd yn gystal a brodyr; torodd waith i bawb, a bu yn foddion i raddau helaeth i godi pawb at ei waith. Nid oedd ef yn cyfyngu ei ddefnyddioldeb i'r pulpud yn unig, ond yr oedd ei holl fywyd yn pregethu, ac megys yn gysegredig at lesâu dynion yn mhob man: tanbeidiai Cristionogaeth yn ei holl gyfeillachau; seiniai gras yn ei eiriau, a phelydrai efengyl yn ei wedd. Yr oedd ei fywyd santaidd, a'i ysbryd hynaws, yn enill iddo barch a chariad oddiwrth y rhai mwyaf anystyriol, ac effeithiodd trwy ei ymddyddanion personol er llesâd tragwyddol i lawer o eneidiau. Sefydlodd a chefnogodd amrywiol o gymdeithasau daionus, y rhai sydd eto yn flodeuog a llwyddianus yn ein plith; a thra y byddo y rhai hyn ar draed, byddant yn ddysglaer gof-golofnau o lafur, ymdrech, a doethineb yr Hybarch Mr. Williams. Mynych goffheir ei enw gyda theimladau hiraethlon yn Nghymdeithas y Mamau hyd heddyw, yr hon gymdeithas a sefydlodd ac a bleidiodd efe; yr hon hefyd sydd wedi bod o fendith fawr, ac sydd hefyd a'i heffeithiau daionus yn amlwg mewn llawer o deuluoedd. Felly, nid yn unig y mae ei ôl ef ar yr eglwysi, ond hefyd yn nhai ac aneddau ugeiniau o Gymry Llynlleifiad. Sefydlodd hefyd Gymdeithas y Merched leuainc, yr hon sydd eto yn parhau yn flodeuog, gweithgar, a defnyddiol iawn. Anogai ef y merched ieuainc i fywiogrwydd a ffyddlondeb, ac y mae ôl ei gynghorion i'w weled ar y gymdeithas, ac yn cael eu cadw mewn ymarferiad yn ymddygiadau ac ymdrechiadau ei haelodau hyd heddyw; ïe, dylaswn ddywedyd hefyd yn eu gweddiau taerion a'u dagrau. Diau y gellir edrych ar y cymdeithasau hyn fel rhyw gynorthwyyddion (auxiliaries) neillduol i'r eglwysi. Efe a sefydlodd hefyd Gymdeithas y Dynion Ieuainc. Ar hon hefyd y mae argraffiadau amlwg o'i gynghorion a'i gyfarwyddiadau tadol, y rhai ni ellir yn hawdd eu dileu o feddyliau blodeu y cynulleidfaoedd. Pleidiai sobrwydd a dirwest yn wresog a chadarn, eto yn foneddigaidd, ac yn deilwng o hono ei hunan. Yr oedd ei holl ymresymiadau yn hynaws ac yn ddengar, heb gablu neb. Yr oedd tynerwch ei feddwl, haelwychder ei farn am, a'i ymddygiadau tuag at y rhai nad oeddynt yn hollol o'r un farn ag ef, yn rhagori ar bawb a welais i erioed; llwyddodd felly er enill llawer iawn o feddwon a diotwyr i dir sobrwydd; a llawer hefyd i roi cam yn mhellach yn mlaen, sef i dir crefydd a duwioldeb. Mewn gair nid oes un sefydliad, na changhen o grefydd yn ein plith, fel enwad o Annibynwyr Cymreig yn y dref hon, nad oes ei ôl ef arnynt oll, er eu gwellhad a'u cadarnhad. Rhedai ei ysbryd ef trwy bob peth y rhoddai ei law arno. Mae eangder a chysondeb ei olygiadau duwinyddol, nefolrwydd awenyddawl ei ehediadau, tanbeidrwydd a gwreiddioldeb ei ddrychfeddyliau, &c., yn bethau mor adnabyddus, fel nad oes eisieu i mi ddweyd dim am danynt yn y llythyr hwn. Yr oedd yn rhagori hefyd fel athronydd ar bawb a adwaenais i erioed. Adwaenai ddynion o ran eu tueddiadau a'u hegwyddorion yn fuan iawn; a dewisai ei brif gyfeillion o ddynion, nid wrth eu siarad a'u tafodau teg, ond dynion o egwyddorion cywir, a sefydlogrwydd meddwl; yn rhai wedi profi eu hunain felly yn y tywydd, a than y croesau. Nid ymddiriedai un amser i ddynion poethlyd, y rhai a redent mewn sel benboeth o flaen pob gwynt." Pwy a all amgyffred yn gywir y golled a gafodd eglwys y Tabernacl yn ymadawiad y fath weinidog ag ydoedd Mr. Williams iddi, yn ol y portread a roddir i ni o hono gan Mr. Pierce? Yn sicr, anafus nodedig oedd yr ysigdod, a dolurus iawn ydoedd yr archoll, y gorfodwyd yr eglwys a'r gynulleidfa i'w dyoddef yn ei ymadawiad oddiwrthynt. Er na bu yn wiw gan eglwysi y Wern a'r Rhos geisio gan Mr. Williams i aros gyda hwy, pan dderbyniodd efe yr alwad o Liverpool, eto pan ddeallasant am ei fwriad i ddyfod yn ol i Gymru, gan eu bod heb weinidog er ei ymadawiad oddi wrthynt, darfu iddynt, a hyny er eu bythol anrhydedd, anfon gwahoddiad unol a charedig iddo i ddychwelyd yn ol atynt hwy, y rhai oeddynt eisioes wedi cyfranogi yn helaeth o hufen ei weinidogaeth faethlawn yn mlynyddoedd mwyaf grymus a nerthol ei fywyd defnyddiol. Derbyniodd yntau eu gwahoddiad yn ebrwydd a siriol. Terfynodd ei weinidogaeth yn Liverpool nos Sabbath, Hydref 20fed, 1839, pryd y traddododd ei bregeth ymadawol i dyrfa fawr a galarus. Ei destun oedd Ephes. iv. 10—13, "Yr hwn a ddisgynodd yw yr hwn hefyd a esgynodd goruwch yr holl nefoedd, fel y cyflawn—ai bob peth; ac efe a roddes rai yn apostolion, a rhai yn brophwydi, a rhai yn efengylwyr, a rhai yn fugeiliaid ac yn athrawon, i berffeithio y saint i waith y weinidogaeth, i adeilad corff Crist. Hyd oni ymgyfarfyddom oll yn undeb ffydd, a gwybodaeth. mab Duw, yn wr perffaith, at fesur oedran cyflawnder Crist." Rhoddwn yma y crynodeb byr a ganlyn o'r bregeth hono, fel y mae yn Nghofiant Mr. Williams gan Dr. W. Rees, tudalen 45— "I. Sefyllfa bresenol yr Eglwys:—Y mae mewn cyflwr o wasgariad. 1. Mae yn wasgaredig iawn mewn ystyr Ddaearyddol (Geographical), a rhaid iddi fod felly tra yn y byd hwn. Y mae y saint yn wasgaredig ar hyd wyneb y ddaear, ychydig yma, ac ychydig acw.

2. Mewn ystyr Ragluniaethol. Mae llawer yn gorfod gadael y cyfeillion crefyddol yr unasant gyntaf â hwy, a myned i blith dyeithriaid. Mae mawr wahaniaeth yn amgylchiadau bydol y naill a'r llall o honynt.

3. Mewn ystyr Sectaraidd. Mae y gwahaniad hwn yn llawer mwy nag y dylai fod. II. Sefyllfa bresenol Crist, "Goruwch yr holl nefoedd." Y mae yn y sefyllfa fwyaf manteisiol i gynull yr eglwys at ei gilydd, a'i gwneud yn un.

1. Y mae mewn lle ag y gall oruwchreoli holl amgylchiadau Rhagluniaeth i ateb y dyben hwn.

2. Y mae yr holl ddylanwadau Dwyfol yn ei feddiant, i'r dyben i gymhwyso a gosod yr amrywiol swyddwyr yn yr eglwys, ag y mae eu gwasanaeth yn angenrheidiol er perffeithio y saint, "Ac efe a roddes rai yn apostolion, &c., i berffeithio y saint, hyd oni ymgyfarfyddom oll,' &c.

III. Sefyllfa yr eglwys yn y byd a ddaw.

1. Cyferfydd yr holl saint â'u gilydd yn yr un man, er mor wasgaredig ydynt yn bresenol.

2. Cyfarfyddant mewn perffaith undeb ffydd.

3. Mewn perffeithrwydd gwybodaeth.

4. Yn berffaith rydd oddiwrth bechod a gofid.

5. Nid ymadawant â'u gilydd byth drachefn. Ystyriwn, beth a gawn ni wneud mewn trefn i ymbarotoi erbyn y cyfarfod mawr hwnw?

(1.) Cyrchu yn mlaen gymaint âg a allom, myned rhagom at berffeithrwydd.

(2.) Helpu ein gilydd yn mhob modd galluadwy i ni.

(3.) Ymdrechu ein goreu i gael eraill gyda ni.

(4.) Cydweithredu â'n gilydd yn mhob peth y gallwn gyduno yn ei gylch. Cyfarfod wrth yr un orsedd, yfed yr un ysbryd, ymolchi yn yr un ffynon, a chymeryd ein cyfarwyddo gan yr un seren.

(5.) Pa beth a gaf i'w ddywedyd wrth y rhai nad yw yn debyg y cawn eu cyfarfod yn y nefoedd?"

Er fod llygaid y gynulleidfa yn llawn dagrau pan y pregethai efe ei bregeth ymadawol iddi, eto ymddengys ei fod ef ei hun, er syndod i bawb, fel pe wedi ymsirioli llawer, a phregethodd am dros awr, a hyny yn amlwg o dan yr eneiniad nefol. Teimlai llawer o'i wrandawyr y noson hono yn ddwys iawn, am y gwyddent bron i sicrwydd eu bod yn ei wrando am y tro olaf am byth iddynt hwy; ac yr oedd wedi dyfod yn bwnc pwysig gan y rhai gwir ystyriol o honynt, pa ddefnydd oeddynt hwy wedi wneuthur o'r pethau ardderchog a glywsent, gan yr un a allasai eu cyfarch ar ei ymadawiad oddiwrthynt yn ngeiriau yr apostol, "Am hyny gwyliwch, a chofiwch, dros dair blynedd na pheidiais i nos na dydd a rhybuddio pob un o honoch â dagrau. O herwydd paham yr ydwyf yn tystio i chwi y dydd heddyw, fy mod i yn lân oddiwrth waed pawb oll, canys nid ymataliais rhag mynegu i chwi holl gynghor Duw." Yr oedd y ffaith mai nid yn ofer ac am ddim y rhybuddiodd efe hwynt, yn gysur ac yn orfoledd i'w enaid ar ei ymadawiad oddiwrthynt, canys yr oedd yr eglwys a gafodd efe yn 1836 yn rhifo ond 256, yn awr yn fwy na 400 mewn nifer, a'r achos yn ei holl ranau yn llewyrchus a blodeuog iawn.

Symudodd ef a'i deulu yn ystod yr wythnos hono i'r ty a elwid y pryd hwnw yn Rose Hill, ond yn awr a adnabyddir wrth yr enw White House. Saif yr anedddy prydferth hwn ar lanerch nodedig o

hyfryd, ychydig yn uwch i fyny na phentref tlws Bersham, gerllaw Wrexham. Derbyniwyd ef yn ol gan yr eglwysi fel angel Duw; ac ar y Sabbath, Hydref 27ain, wele ef eto yn llewyrchu yn mysg y rhai y bu yn goleuo o'r blaen am dros naw mlynedd ar hugain.

Gofynodd Mr. Williams i wr ieuanc ag oedd wedi dechreu pregethu dan ei weinidogaeth, a fuasai yn ddoethineb ynddo ef i bregethu oddiar yr un testun, wrth ail ddechreu yn ei hen faes, ag oedd ganddo yn destun pregeth ffarwel yn Liverpool y Sabbath blaenorol? Wedi cael atebiad cadarnhaol, felly y gwnaeth efe. Gofynodd hefyd i'r pregethwr ieuanc, yr hwn oedd yn anwyl iawn yn ei olwg, a fuasai efe yn dechreu yr oedfa iddo yn y Rhos y boreu Sabbath hwnw? Wrth gwrs, ufuddhaodd ar unwaith i'r cais, gan deimlo fod ei hen weinidog enwog yn ei anrhydeddu yn fawr wrth ofyn hyny 'ganddo. Adnabyddir y gwr ieuanc hwnw heddyw, fel yr Hybarch Samuel Evans, Llandegla. Adwaenir Adwaenir y Sabbath hwnw gan eglwysi y Wern a'r Rhos, fel un hynod yn eu hanes, canys pregethodd Mr. Williams yn effeithiol tuhwnt i ddesgrifiad, a hyny er gwaethaf holl anfanteision llesgedd dirfawr. Profodd ei symudiad i hen faes ei lafur, yn foddion effeithiol i atal ychydig ar rwysg a difrod ei afiechyd, a daeth yntau i deimlo yn gryfach am enyd fechan beth bynag, nag y buasai er dechreuad ei gystudd; eto, ni chawsom allan i sicrwydd, ddarfod iddo allu pregethu ond un Sabbath yn unig, ar ol ei ddychweliad o Liverpool, ond bu yn nghapeli y Wern a'r Rhos mewn gwahanol gyfarfodydd amryw weithiau ar ol hyny. Cynhyrfid yr eglwysi yn ddaionus y pryd hyny gan y diwygiad crefyddol nerthol oedd wedi ymweled â'n gwlad, yr hwn a ysgubai bob peth o'i flaen yn y Wern fel mewn ardaloedd eraill yn ein Talaeth. Llawenydd mwy na chael ymweliad amlwg o eiddo Duw â'r eglwysi, nis gallasai Mr. Williams ei ddymuno. Tua diwedd mis Tachwedd y flwyddyn hono, cynaliwyd Cyfarfod Pregethu yn y Wern. Pregethwyd ynddo gan y Parchn. W. Rees, Dinbych, ac R. Jones, Rhuthyn; ac yr oedd rhyw nerthoedd dwyfol a grymus iawn yn cydfyned â gweinidogaeth y gwŷr enwog, ac effeithiau bendigedig yn dilyn yn nychweliad pechaduriaid at Dduw. Yr oedd Mr. Williams yn bresenol yn y cyfarfod hynod hwnw, ac fel hyn y dywedir yn ei gofiant gan Dr. W. Rees, tudalen 46ain:—"Yr oedd ei weddiau a'i anerchion yn hynod ddwysion a gafaelgar yn y cyfarfod hwn. Yr oedd ei deimladau yn methu dal yn y gymdeithas eglwysig ar ol y moddion cyhoeddus yr hwyr olaf, wrth anerch y dychweledigion ieuainc. Yr wyf yn gweled yma lawer o wynebau,' meddai, 'na feddyliais y cawswn eu gweled byth yn eglwys Dduw, rhai o honoch ag y bu'm yn amcanu at eich dychweliad flynyddau lawer, ac yn methu; treuliais hyny o ddoethineb a dawn a feddwn i geisio cyrhaedd ac enill eich calonau, ond yn ofer; gorfu i mi eich gadael yn annychweledig; ond cefais fy arbed a'm dychwelyd yn ol i'ch gweled yn ddychweledigion yr Arglwydd, gobeithio. Y mae fel breuddwyd genyf weled rhai o honoch. O! mor ddiolchgar y dymunwn fy mod am gael byw i weled y pethau a welaf heno." Yr uchod ydoedd y cyfarfod olaf iddo ef ar y ddaear, a chafodd ynddo brawf ychwanegol, cyn ei symud, na ddarfu iddo lafurio yn ofer yn ngwinllan ei Arglwydd, canys bu yn llygad-dyst yn y cyfarfod hwnw o weled llawer o'i hen wrandawyr yn troi at yr Arglwydd eu Duw. Gwanychu yn barhaus yr oedd ei anwyl Elizabeth, fel yr oedd yn amlwg i bawb fod tegwch ei phryd hi yn cyflym golli, a hithau yn gwywo ymaith fel glaswelltyn. Gobeithid yn gryf am ei adferiad ef, canys yr oedd yn graddol gryfhau, ond yn sydyn ar noson Rhagfyr 20, tra yn ymddyddan gyda'i anwyl gyfaill, y Parch. T. Jones, Ministerley; yr hwn a ddaethai i ymweled âg ef, dechreuodd besychu yn galed, pryd y torodd llestr gwaed (blood vessel) o'i fewn, ac y rhedodd oddi wrtho yn agos i lonaid cwpan o waed yn y fan. Yr oedd Dr. Lewis, Wrexham; meddyg y teulu, yn y ty ar y pryd ar ymweliad à Miss Williams, yr hon erbyn hyn oedd yn rhy wael i allu codi o gwbl o'i gwely. Rhoddwyd ef yn ei wely ar unwaith, a gorchymynodd y meddyg ar fod iddo ymgadw yn hollol lonydd, a pheidio symud na siarad dim a neb; ac fel y dywed Dr. Rees, "Yr oedd y dyrnod hwn yn farwol yn ei ganlyniadau." Erbyn hyn, yr oedd y tad tyner ac enwog, a'i ferch hoff ac athrylithlawn wedi eu cyd—gaethiwo yn eu gorweddfanau. Daeth Mr. Williams ychydig yn well wedi hyn, yn gymaint felly, fel y gallodd godi o'i wely a dyfod i lawr i'r ty, ond nid oedd yr olwg arno yn pelydru un llewyrch o obaith am ei adferiad. Cydgyflyment megys am y cyntaf i ben eu taith, ac arferent gydymddyddan llawer â'u gilydd am hyny, fel y prawf yr hanesyn canlynol am danynt, yr hwn a welir yn y Dysgedydd 1840, tudal. 164, "Rhoddwyd llawer o arwyddion gan Mr. Williams a'i ferch yn eu hafiechyd, yn gystal a chyn hyny, eu bod yn cael eu haddfedu yn gyflym i'r trigfanau tragwyddol yn y nef. Ymddengys eu bod yn arfer ymddyddan â'u gilydd am farw, ac am fyned i'r nef, fel pe buasent wedi cynefino â hyny, ac yn ymhyfrydu yn y meddwl o gael eu datod, a bod gyda Christ, gan gredu mai llawer iawn gwell ydyw. Byddai Mr. Williams pan godai y boreu yn myned at ei gwely i edrych am dani; ac un tro gofynai iddi, 'Wel, Eliza., pa fodd yr ydych chwi heddyw?' Atebai, 'Gwan iawn, fy nhad.' Ebe yntau, Yr ydym ein dau ar y race, pwy â gyntaf i'r pen, debygech chwi?' 'O!' meddai hithau, 'dysgwyliaf mai myfi, ty nhad fod genych chwi waith i'w wneuthur eto ar y ddaear.' 'Na,' ebe yntau, 'Meddyliwyf fod fy ngwaith inau agos ar ben.' Ebe hithau, 'dysgwyliaf mai myfi a aiff gyntaf.' 'Wel,' meddai yntau, 'hwyrach mai felly y mae hi yn oreu—fy mod i ychydig yn gryfach i ddal yr ergyd.' Eb efe drachefn wrthi, 'A ydych yn hiraethu am weled pen y daith?' 'Ydwyf,' meddai hithau, 'o'm calon.' 'Paham hyny?' eb efe. 'Wel,' meddai hithau, 'Mi gaf weled llawer o'm hen gydnabyddion, a chaf weled fy mam, a mwy na'r cwbl, caf weled Iesu.' 'Ho!' meddai yntau, 'Wel, dywedwch wrthynt fy mod inau yn dyfod.' Un tro arall, pan oedd yn ymweled a'i ferch, dywedodd, 'Y mae genych gartref da, nid oes arnoch eisieu dim.' 'Nac oes,' meddai hithau; 'Ond y mae genyf gartref can' gwell, ie, can' gwell, can' gwell,'" &c., &c.

Yn nechreu mis Chwefror 1840, cynaliodd eglwys y Rhos gyfarfod pregethu. Yn mysg y rhai a bregethasent ynddo, yr oedd y Parchn. W. Rees, Dinbych, ac R. Jones, Rhuthyn. Teimlwyd rhyw nerthoedd rhyfedd ac ofnadwy yn y cyfarfod hwnw, ac yr oedd lluoedd "dan gerdded ac wylo yn ymofyn y ffordd tua Seion" ar ei ddiwedd. Pryderai Mr. Williams yn ddwys iawn am lwyddiant y cyfarfod dan sylw, ac anfonodd aml genadwri iddo, yn anog ei frodyr yn y weinidogaeth a'r eglwys yn y lle, i weddio yn daer am ei lwyddiant, ac hefyd dymunodd ar iddynt weddio drosto ef a'i deulu.

Tranoeth wedi y cyfarfod, aeth y gwŷr Parchedig a enwyd i edrych am Mr. Williams. Cawsent ef wedi codi, ac yn eistedd wrth y tân yn ei ystafell—wely. Yn fuan ar ol iddynt hwy gyrhaedd y ty, daeth y Parch. William Griffith, Caergybi, a Joseph Jones, Ysw., drosodd o Lynlleifiad y boreu hwnw i ymweled âg ef, ac fel hyn y dywedir am y cyfarfyddiad hwnw yn nghofiant Mr. Williams, gan Dr. W. Rees, tudalen 48—49:—"Nid anghofiwn byth yr olwg a gawsom arno pan aethom i'r ystafell! Pan welodd ni, cyfododd ar ei draed, a'i wyneb yn dysgleirio fel wyneb angel; tybiem fod holl alluoedd ei enaid a'i deimladau fel wedi ymgodi i'w wynebpryd; ei ddau lygad oeddynt yn gyffelyb i feini tanllyd, ac ar yr un pryd fel dwy ffynon o ddwfr yn bwrw allan eu haberoedd gloywon. Dilynodd pob llygad yn yr ystafell esiampl yr eiddo ef, ac wylasom yn nghyd. 'O fy mrodyr anwyl,' eb efe, mor dda yw genyf eich gweled yn dychwelyd o faes y frwydr. Cawsoch fuddugoliaeth ogoneddus ddoe, a minau yma, yn hen filwr methedig yn swn y frwydr, ond yn methu dyfod i gymeryd rhan ynddi. O! fel y dymunaswn fod gyda chwi, ond nid felly y gwelodd fy Nhywysog yn dda; rhoddodd fi o'r neilldu, ond gwnaeth hyny yn dirion iawn, ni chymerodd fy nghoron oddiar fy mhen—ni fwriodd fi i'r domen. O! pe buaswn yn yr ysbryd a'r teimladau yr wyf ynddynt y dyddiau hyn bump ar hugain o flynyddau yn ol, pa faint mwy o ddaioni wnaethwn nag a wnaethum! Mi a gefais amser, talentau, a dylanwad, y gallaswn, ond eu hiawn ddefnyddio, ysgwyd yr holl Dywysogaeth; ond och! darfu i minau chwareu â hwynt, a pheth rhyfedd iawn ydyw na buasai fy Meistr mawr yn fy mwrw ymaith oddi ger ei fron, fel llestr heb hoffder ynddo!' 'O,' ebe un o honom, 'yr ydym yn mawr hiraethu, ac yn gobeithio am eich gweled yn ail ymddangos eto.' 'Nid oes genyf fi nemawr o obaith am hyny,' ebe yntau, ond pe y bae hyny i fod, yr wyf yn gobeithio y byddwn yn llawer gwell milwr nag y bu'm erioed.' Yr oedd ei anwyl Elizabeth ar gyffiniau y glyn yr amser hwn; aethom gydag ef i ymweled â hi cyn ymadael, ni allai hi wneud nemawr ond siriol wenu arnom, yr hyn a ddangosai ei phrofiad, ac agwedd gysurus ei meddwl. Wedi ei gorchymyn i'r Arglwydd mewn gweddi fer, ymbaratoisom i ymadael, ac O! fynudau cysegredig! Edrychodd arnom gyda golwg nad yw yn bosibl ei ddesgrifio, a dywedodd, 'Wel, feallai, ac y mae yn debyg ein bod yn myned i ymadael y tro diweddaf, ond os na chawn weled wynebau ein gilydd ar y ddaear mwy, gadewch i ni dyngu ein gilydd yn y fan hon, y funyd hon, y bydd i ni gydgyfarfod yn y nefoedd.' Mewn gwirionedd, yr oedd y lle yn ofnadwy iawn! Llefarai y geiriau uchod gyda'r fath ddwysder a phwys, a greai deimladau ag oeddynt yn mhell tuhwnt i ddagrau. Yr oeddynt yn rhy sobr—ddwysion i ddagrau, ac felly ymadawsom." Yn fuan wedi hyn, yn yr un mis, pan ar ei daith yn y wlad hon, ymwelodd y Parch. B. W. Chidlaw (Dr. Chidlaw wedi hyny), o America âg ef. Dywedodd Mr. Williams wrtho gyda mawr deimlad, a'r nefoedd yn llon'd ei enaid, "Dyma fi fel hen huntsman methedig yn swn yr helfa, ond yn methu canlyn. Mae fy nghalon gyda hwy, a mawr lwydd ar eu holl ymdrechiadau i achub eneidiau. O! pe y buasai yr ysbryd hwn yn mhlith gweinidogion ac eglwysi ugain mlynedd yn ol, buasem heddyw yn canu caniadau buddugoliaeth." Erbyn hyn yr oedd ef a'i ferch anwyl yn cydaddfedu yn brysur i'r nefoedd, ac yn ol dymuniad y ddau, hi gyrhaeddodd ben yr yrfa gyntaf. Yn ei dyddiau a'i munydau olaf, cedwid hi mewn tangnefedd heddychol, canys y geiriau diweddaf a ddiferasent dros ei gwefusau oeddynt, Tangnefedd, Tangnefedd; ac ar Chwefror 21ain, 1840, yn 22ain oed, hi a aeth i dangnefedd bythol. Claddwyd hi Chwefror 26ain, yn yr un bedd a'i mam yn mynwent y Wern. Er fod Mr. Williams megys yn edrych, ac yn dysgwyl am yr alwad, yr hon oedd i gymeryd ei ferch anwyl oddi-wrtho; eto, pan y daeth, effeithiodd ei marwolaeth arno i'r fath raddau, fel y gollyngodd ei afaelion o bob peth daearol ar unwaith wedi ei cholli hi. Yr oedd i'w weled yn cyflymu ar ei hol, ac yr oedd yr holl wlad yn ofni bob moment, glywed y newydd am ei ymadawiad yntau hefyd. Yn yr adeg hon, pan yr oedd newydd orphen trefnu ei amgylchiadau bydol, galwodd ei gymydog, y Parch. J. Pearce o Wrexham i'w weled, a gofynodd iddo pa fodd yr ydoedd, atebodd yntau, "Yr wyf yn awr wedi cwbl ddarfod â'r ddaear, dim ond y nefoedd bellach. Wedi deall nad oedd un gobaith am ei adferiad, brysiodd ei chwaer Catherine i dalu ymweliad âg ef. Cymerodd hyny le ddydd Sadwrn, Mawrth 14eg, 1840. Buom yn meddwl llawer am ei thaith o'r Wyddgrug i Bersham y dydd hwnw. Diau fod hen adgofion am gychwyniad gyrfa grefyddol ei brawd enwog a hithau, ac am helyntion y daith of hyny hyd y dydd hwnw, yn deffroi yn ei mynwes tra yr elai hi yn mlaen. Wedi iddi gyrhaeddyd i'r White House, a myned i fyny i'w ystafell-wely, cafodd ef yn eistedd mewn cadair esmwyth wrth y tân. Hunai bob yn ail a bod yn effro yn ystod y dydd hwnw. Wrth ei weled mor llesg, ac yn cyflymu ymaith mor gyflym, nis gallasai ei chwaer hoff ymatal heb golli llawer o ddagrau; a phan yr oedd hi yn wylo felly unwaith, deffrodd yntau o'i gwsg, ac edrychodd arni yn llymdreiddiol, ac erfyniodd arni ymatal rhag wylo, a sicrhaodd hi ei fod ef yn myned i wlad lle nad oes dagrau o'i mewn, ac mai buddiol fyddai iddynt hwy y dydd hwnw, ymdynghedu eu dau yn ngŵydd Duw, y byddai iddynt gyfarfod eu gilydd yn y nefoedd. Plygasent eu gliniau i lawr o flaen gorsedd gras, i erfyn am y nerth oedd yn angenrheidiol arnynt er cyfarfod eu gilydd yn y nefoedd. Yn sicr, yr oedd yr olygfa hon yn ddigon effeithiol i swyno angylion i syllu arni. Ymadawodd ei chwaer am ei chartref, gan adael ei brawd yn mhorth y nefoedd, ac ni welodd ef mwy ar y ddaear. Meddienid Mr. Williams drwy ei oes gan deimlad dwys iawn yn achos eneidiau ei gyd—ddynion, ac fel yr oedd efe yn nesau i'r nefoedd, cynyddai y teimlad hwnw yn ei fynwes. Ar un noswaith, ychydig cyn ei farwolaeth, ocheneidiai yn ddwys iawn. Wrth glywed hyny, gofynodd Mrs. Edwards, Cadwgan, yr hon a fu yn gweini yn dyner a gofalus arno ef a'i ferch yn eu cystudd, "Beth oedd yr achos ei fod yn ocheneidio felly?" Atebodd yntau drwy ddywedyd mai "achos eneidiau dynion; a oes dim a fedrech chwi wneud at achub eneidiau Mrs. Edwards?" Dywedodd hithau, "Feallai y gallwn wneud mwy pe byddwn fwy yn y goleu." "Ië, ïe," meddai yntau, "mwy yn y goleu am gwerth." Gallodd gyfodi am ychydig y Sabbath cyn ei farwolaeth, eto yr oedd yn hynod wan. Nos Lun, Mawrth 16eg, dymunodd am gael gweled diaconiaid eglwysi y Wern a'r Rhos, ac wedi eu cael ato, buont yn ymddyddan llawer â'u gilydd yn nghylch amgylchiadau yr eglwysi, a rhoddodd lawer o gyfarwyddiadau a chynghorion gwerthfawr iddynt at ddwyn yn mlaen achos yr Arglwydd, wedi iddo ef fyned ymaith. Buasai yn dda genym allu rhoddi yma yr ymddyddan pwysig hwnw a fu rhyngddynt, ond nis gallwn wneuthur hyny. Yn fuan wedi i'r swyddogion fyned ymaith, gwelwyd ei fod yn colli ei ymwybyddiaeth, ac felly y bu hyd naw o'r gloch boreu dydd Mawrth, Mawrth 17eg, 1840, pryd y rhoddodd ei dabernacl daearol heibio, ac efe ond 59 mlwydd oed, gan fyned i mewn i dragwyddol deyrnas ei Arglwydd a'i Achubwr Iesu Grist. Ymledodd y newydd am ei farwolaeth gyda chyflymder y fellten dros wyneb yr holl Dywysogaeth. Effeithiodd yr amgylchiad mor ddwys ar lawer, nes y methasent a bwyta eu hymborth naturiol fel arferol am dalm o ddyddiau.

Dygwyddodd un peth nodedig yn hanes y Parch. Moses Ellis, Mynyddislwyn (un o feibion Mr. Williams yn y ffydd), yn nglŷn â breuddwyd hynod o'i eiddo, yr hwn a gymerodd le bron yn gyfamserol â marwolaeth Mr. Williams; ac nis gallwn ymatal heb ei gofnodi yma, fel y ceir ef yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyf. 1. tudal. 100 "Yn mhen ychydig wythnosau wedi iddo symud i Fynyddislwyn pan ydoedd yn lletya yn nhy yr hen Gristion anwyl Phillip Williams, breuddwydiodd un boreu ei fod yn nghwmni Mr. Williams o'r Wern, a'u bod yn cerdded rhagddynt fraich yn mraich nes iddynt fyned yn mlaen at y Palas prydferthaf a welsai erioed. Yr oedd rhodfeydd ardderchog o flaen y Palas, a phan oeddynt yn dynesu at y drws, daeth dau was ardderchog eu gwisgoedd a'u hymddangosiad, yn mlaen atynt ac ymaflasent yn mreichiau Mr Williams, gan ei arwain yn mlaen, a phan oeddynt wrth y drws, agorodd gweision eraill oeddynt oddimewn y drws, ac aeth Mr. Williams rhag ei flaen i'r Palas, ond dywedodd un o'r gweision wrth Mr. Ellis, 'Nid wyt ti i gael dyfod i mewn yma heddyw.' Ar hyny deffrodd. Pan ddaeth i lawr adroddodd ei freuddwyd wrth y teulu. Yn mhen ychydig ddyddiau wedi hyny cawsant y newydd fod Mr. Williams wedi marw ar y boreu y breuddwydiasai Mr. Ellis, a chyn pen dwy awr ar ol y pryd yr ydoedd yn breuddwydio.". Wrth gofio am yr anwyldeb a fodolai cydrhwng Mr. Ellis a Mr. Williams, ac am nefolrwydd eu teimladau, nid rhyfedd oedd i'r blaenaf gael y fraint mewn breuddwyd o ddanfon yr olaf, a'i weled yn myned i mewn drwy y pyrth i'r ddinas sanctaidd. Esbonier uchod fel y myner, erys y ffaith yr un. Rhaid i ninau bellach adrodd fel yr hebryngwyd corff Mr. Williams i'r bedd. Dydd Iau, Mawrth 25ain, daeth yn nghyd dyrfa anferthol mewn lluosawgrwydd, yn cynwys bob gradd o ddynion of bell ac agos i dalu eu teyrnged olaf o barch i "Dywysog Duw." Wrth y tŷ darllenodd y Parch. A. Jones, D.D., Bangor; a gweddiodd y Parch. T. Raffles, D.D., Liverpool; yna cychwynodd yr orymdaith hirfaith a galarus yn araf tua'r Wern. Wedi cyrhaedd yno, aed a'r corff i'r capel. Dechreuwyd y gwasanaeth drwy ddarllen a gweddio gan y Parch. Samuel Roberts, M.A., Llanbrynmair; ac anerchwyd y gynulleidfa gan y Parchn. J. Pearce, Wrexham; M. Jones, Llanuwchllyn, a C. Jones, Dolgellau. Wrth y bedd drachefn traddodwyd anerchiadau gan y Parchn. W. Rees, D.D., a T. Raffles, D.D., a diweddwyd drwy weddi gan y Parch. R. Roberts, o Danyclawdd, gweinidog perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd. Dygwyd y gwasanaeth angladdol yn mlaen gydag arwyddion o alar cyffredinol a dwysder mawr. Yr oedd oddeutu pymtheg ar hugain o weinidogion yn—bresenol, ac yr oeddynt oll yn alarus iawn wrth orfod troi ymaith, a gadael yr enwocaf o weinidogion yr enwad Annibynol yn Ngogledd Cymru yn ei fedd. Pregethwyd yn y Wern y noson hono gan y Parchn. J. Parry, Machynlleth; ac A. Jones, D.D., a phregethwyd pregethau angladdol iddo y Sabbath dilynol gan yr holl weinidogion oeddynt yn ei angladd, a chan lawer eraill. Pregethwyd ei bregeth angladdol y Sabbath hwnw yn y Wern a'r Rhos, gan yr anwylaf a'r enwocaf o'i gyfeillion, y Parch. W. Rees, D. D., a hyny i gynulleidfaoedd lluosog a galarus iawn oddi wrth y geiriau, 2 Sam. i 19, "O ardderchawgrwydd Israel, efe a archollwyd ar dy uchelfäoedd di: pa fodd y cwympodd y cedyrn!" Dylem hysbysu yma ddarfod i Eglwysi y Wern, y Rhos, a'r Tabernacl, Liverpool, gyd-ddwyn yr holl dreuliau cysylltiedig a'r angladd eu hunain yn anrhydeddus. Gadawodd ddau fab, ac un ferch, heb dad na mam i ofalu am danynt, ac yr oedd y cymylau i ddychwelyd ar ol y gwlaw, i dduo awyrgylch deuluaidd yr hyn oedd yn weddill o'r teulu hawddgar hwn, canys pan yr oedd y mab hynaf, Mr. James Williams, yn nghapel y Rhos, nos Sabbath yn gwrando pregeth angladdol ei dad, tarawyd ef gan waew poenus yn ei goes. Boreu dranoeth aeth gyda Dr. W. Rees i gyfarfod pregethu i Lanuwchllyn, gan obeithio cael esmwythâd oddiwrth y boen, ond cynyddu yr oedd ei ofid yn barhaus, a chwyddo yn fawr yr oedd ei aelod. Dychwelodd adref, ac yn lle gwella, myned yn waeth waeth yr ydoedd. Gwelwyd arwyddion amlwg fod y darfodedigaeth wedi cymeryd meddiant sicr o hono. Bu yn nychu dan boenau llymion hyd Mawrth 31ain, 1841, pryd y rhyddhawyd ef oddiwrth ei holl ofidiau chwerwon, ac yr aeth i wlad y llawenydd tragwyddol, ac efe ond 21ain oed. Claddwyd ef yn yr un bedd a'i rieni a'i chwaer. Diau fod priddellau y dyffryn yn felus iddynt. Nodweddid bywyd Mr. James Williams gan wyleidddra prydferth a gochelgarwch mawr. Dywedodd ychydig cyn ei ymadawiad, fod ofn cael ei gyfrif fel un yn ceisio ymddangos yn y cyhoedd yr hyn nad ydoedd mewn gwirionedd, wedi ei atal lawer tro rhag mynegu yr hyn a deimlai. Yr oedd y tawelwch a'i nodweddai yn ei fywyd, i'w weled yn amlwg ynddo yn ei oriau olaf. Ymorphwysai yn gwbl ar Grist, fel yr unig sylfaen gadarn yn awr marwolaeth. Yn mhen amser wedi hyn, ymfudodd y mab a'r ferch oeddynt eto yn fyw, ac aethant i Awstralia. Priododd Miss Williams â boneddwr o'r enw Mr. Rand yn y wlad bellenig hono. Erbyn hyn y mae hi wedi marw, ac yn sicr wedi cyfarfod ei rhieni yn y "wlad well." Ond y mae yn dda genym ddeall fod y mab ieuengaf eto yn fyw, canys fel hyn y dywed y Parch. Owen Edwards, B.A., Melbourne, mewn llythyr o'i eiddo atom, dyddiedig Mawrth 6ed, 1893, "Da iawn genyf allu anfon i chwi yr hyn a ofynasoch parthed mab yr enwog William Williams, Wern. Mae y mab er's amser yn awr wedi ychwanegu yr hen enw Wern at ei enw gwreiddiol ei hun. Yr wyf yn adnabod Mr. Williams-Wern er pan wyf yn y wlad hon. Mae ef yn arfer galw gyda mi unwaith bob blwyddyn pan y daw i lawr i Gymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid yn Melbourne bob mis Tachwedd. Yr oedd yma Tachwedd diweddaf, ac yn dechreu yr oedfa un boreu Sabbath, ac y mae wedi addaw pregethu yma Tachwedd nesaf. Gweithio mewn maes cenadol, dan ofal yr eglwys Bresbyteraidd y mae Mr. Williams-Wern, ac y mae ganddo chwech o leoedd pregethu, yn dwyn yr enwau Dartmoor, Strathdownie, East Strathdownie, Drik Drik, The Dairy, The Wilderness. Felly y mae efe yn weinidog yr eglwys yn yr anialwch. Mae Mr. Williams—Wern yn gymeriad ar ei ben ei hun, ac yn hynod am ei dduwioldeb y mae hyny yn ddiamheuol, ac y mae mor dda genym ei weled fel yr ydym yn edrych yn mlaen gyda dyddordeb at ei ymweliad blynyddol." [23]

Yn mhen ychydig gyda thri mis wedi derbyn yr úchod, derbyniasom a ganlyn oddiwrth fab ein gwrthddrych Parchedig, a dodir ef yma yn yr iaith yr ysgrifenwyd ef:—

THE MANSE,

DARTMOOR, VICTORIA.

AUSTRALIA.

Wednesday, June 14th, 1893.

MY DEAR SIR,

Your letter of April 13th, I received May 19th. I was fifteen years in the Colony before I heard a word of Welsh. Now at rare intervals I do. It stirs my heart to hear the dear old sounds of the land of my Fathers. I have led a very retire life in the Australian Bush, and supposed I was entirely unknown 'by any of my country men, or indeed to be living. My dear, very dear sister, died Nov. 4th, 1883. She was married to a Squatter John Rand. He sold his station and went to live near Sydney. They had a son and daughter. The latter is maried to Kelso King, manager of the Mercantile and Mutual Insurance Co., Sydney, and they wish to be near them. I have for many years been engaged in the work of my master Christ Jesus the Lord. He has been very gracious and willing to me in all life's way. He surely, for my beloved Father's sake, has been pleased to cause 'Mercy and goodness to follow me all the days of my life.' The district I occupy is a very extensive one—near in some parts to South Australia boundary. Dartmoor is one centre with two subsidiary Churches Both about attached—Dairy and Drik Drik. eleven miles from the Manse, via Dartmoor. Then the Wilderness is another part of my parish. It is twenty five miles from Dartmoor with two Churches attached, about ten miles from the Wilderness. Once a month for a weekday service, I go to Nelson, thirty seven miles from the Manse. There are few roads, mostly tracks, and these going through swamps, some of which take five minutes to ride through. The water pretty well up to the horse's belly. I came to the Colony a stranger. No one knew me. Yet 'my Lord, whom I serve, has been pleased to deal with me as with Joseph, and found grace in his sight,' for I have many kind friends. On all my journeys I ride. I will try and send you a Photo of my horse Duncan Gray II. He is a thorough bred and fine horse. I am mounted on him, but you cannot see my features. When I can get a 'photo of myself I will send you one. The nearest town is about thirty miles. I get my mail once a week. When from home, it is longer before I get my letters. When at home I have to read up, and then study on horse back when the track is clear, so that I need not fear going astray. I enclose a Time Table' for the services of the present year, which pray accept. It is past eleven o'clock, so I must say, Nos da i chwi'—Is that right? and I beg of you to receive my kind regards.

I am faithfully yours,

W. WILLIAMS-WERN.

"THE REV. D. S. JONES,

"CHWILOG, CARNARVONSHIRE."
Gwyddom y bydd yn dda gan holl ddarllenwyr y gwaith hwn ddarllen yr uchod, a gweled darlun o'r awdwr. Yr ydym hefyd yn llawenhau yn ddirfawr wrth gael ar ddeall fod yr unig fab sydd yn fyw i'n gwrthddrych enwog, yn llafurio gyda'r gwaith cenadol—gwaith ag oedd mor anwyl ac agos at galon ei dad Parchedig, a gwyddom y bydd yn dda gan holl genedl y Cymry gael gwybod hyn. Bydded i ewyllys yr Arglwydd lwyddo yn ei law, ac na phalled i William Williams, Wern, wr i sefyll gerbron yr Arglwydd yn dragywydd.

PENNOD XV.

NODWEDDION NEILLDUOL EIN GWRTHDDRYCH.

Y CYNWYSIAD.—Y Dyn, y Cristion, a'r Pregethwr—Talu ymweliad a Thy Newydd, Chwilog Hunanfeddiant yn. ngwyneb tro trwstan wrth fwrdd ciniaw—Yn gyfaill i werin ei wlad—Cynadledd Cymanfa Bethel— Cefnogi y symudiad dirwestol—Adnabyddiaeth drwyadl Mr. Williams o'r natur ddynol—Natur yn datguddio iddo ei chyfrinach—Ei ymweliad a Phenlan—Ei wybodaeth dduwinyddol—Ei enwogrwydd fel pregethwr—Newid ei arddull bregethwrol a'i olygiadau duwinyddol yn gyfamserol— Y "system newydd"—Cyfodiad Mr. Williams yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes y weinidogaeth efengylaidd yn Nghymru—Ymdrechu am syniadau cywir am Berson Crist—Gweled y Beibl a natur yn gyson â'u gilydd yn eu dysgeidiaeth—Yn athronydd gwych—Trafod pynciau tywyll mewn dull eglur a goleu—Gallu arbenig i ddefnyddio cymhariaethau yn ei bregethau Gweithiau y Parch. Jacob Abbott—Pregethau gwahanol ar yr un testynau Tystiolaeth yr Hybarch Thomas Hughes, gynt o Fachynlleth, am Mr. Williams fel pregethwr—Adgofion gan yr Hybarch William Roberts, Penybontfawr—Englynion Coffadwriaethol gan yr Hybarch Gwalchmai.

DILYNASOM ymdaith bywyd ein gwrthddrych Parchedig mor ffyddlawn ag y gallasem o'i gychwyniad yn Nghwmeisian Ganol, hyd ei derfyniad yn y Wern; ac ymddengys nodweddion ei gymeriad yn ei hanes yn brydferth odiaeth. Ond er i ni ddilyn pob peth mor ddyfal ag yr oedd yn bosibl, y mae genym eto i sylwi yn helaethach ar ei nodweddion arbenig fel dyn, Cristion, a phregethwr, mewn trefn i'w fywgraffiad fod yn gyflawnach. Yn ol y darluniad a roddir i ni gan Dr. Owen Thomas, [24] "Nid oedd dim nodedig iawn yn ei ymddangosiad allanol. Yr oedd, ni a dybiem, tua phum' troedfedd ac wyth modfedd o daldra; ei gorff yn lluniaidd, ac wneuthuriad cadarn, ond yn lled deneu; yn ei ieuenctyd yn wridgoch a theg yr olwg, ond er's blynyddoedd lawer wedi colli y gwrid yn gwbl o'i wynebpryd. Yr oedd ganddo dalcen lled uchel a llawn, ond nid llydan; trwyn ag ychydig bach o godiad ar ei ganol, ac yn camu ychydig at yr ochr dde; genau prydferth anghyffredin, a'r llygaid mwyaf barddonol ac awgrymiadol a welsom ni odid erioed." Gallasai yn nyddiau ei ieuenctyd ymffrostio yn ei gryfder corfforol, oblegid cyflawnodd orchestion yn yr ystyr hono, na wnaeth neb arall o blant y Cwm eu cyffelyb. O ran nodweddion ei feddwl, gwyddys ei fod yn gryf fel cawrfil, yn wrol fel llew, yn dreiddgar fel eryr, yn addfwyn fel oen, ac yn dyner fel mam; yn gyfiawn heb fod yn llym, yn llariaidd heb fod yn wasaidd.

Ychwaneger at yr uchod ei dduwioldeb diamheuol, ei ddoethineb amlwg, ei wybodaeth eang, a'i lais, yr hwn oedd yn anghymharol o ran ei bereidddra, yn nghyda'r eneiniad santaidd a ddisgynai arno yn ei gyflawniadau cyhoeddus, fel wrth gymeryd hyn oll i ystyriaeth, nid rhyfedd fod arbenigrwydd a swyn arosol yn perthyn i'w enw. Fel dyn, yr oedd yn gyfryw un ag y gallesid rhoddi ynddo yr ymddiriedaeth lwyraf. Casâi dwyll a ffalsder a châs cyflawn. Ceir llawer o ddynion athrylithlawn ydynt yn hollol amddifad o'r cywirdeb, y sefydlogrwydd, a'r ffyddlondeb sydd yn angenrheidiol, cyn y gall eu cydddynion roddi arnynt hyder disigl, a chyn y gallant hwythau hawlio y parch a'r edmygedd hwnw sydd yn unig yn eiddo i ddynion ffyddlawn a chywir. Yr oedd ein gwrthddrych Parchedig yn gyfoethog o'r elfenau hyny sydd yn gosod gwir werth ac urddas ar y neb sydd yn eu meddu. Nid rhyw fynach ffug santeiddiol, ond dyn a Christion hollol rydd a dirodres ydoedd efe. Methodd unwaith a chyrhaedd yn brydlon i'r Bala at ei gyhoeddiad, a phan y daeth, yr oedd arno chwant bwyd, ond gan ei bod eisoes wedi myned yn hwyr, nis gallodd aros yn nhy'r capel i orphen bwyta ei frechdan, oblegid yn y pulpud y cwblhaodd efe y gwaith hwnw. Pa ryfedd oedd i ddyn deallus wneud y sylw, nad oedd neb ond Iesu Grist a Mr. Williams a allasent wneud peth felly gyda good grace. Byddai hefyd yn gydostyngedig â'r rhai iselradd, ac yn hollol hawdd i'w foddloni mewn aneddau cyffredin pan ar ei deithiau pregethwrol ar hyd a lled y wlad. Talodd ymweliad â Thy Newydd, Chwilog, unwaith ar awr giniaw, a hyny heb fod neb yn ei ddysgwyl. Ofnai mam yr enwog Sion Wyn o Eifion, nas gallai ei foddhau â'r ymborth oedd ganddi ar y pryd. Ymaflodd Mr. Williams mewn bowlen, a gosododd hi rhwng ei ddwylin, a dechreuodd bilio y tatws iddi yn gyflym, gan ddywedyd, "Fel hyn y byddwn i yn gwneud gartref er's talwm." Ymlidiodd ei ddull cartrefol a dirodres holl ofnau gwraig y Ty Newydd ymaith fel niwl o flaen yr awel. Byddai ambell i dro trwstan yn dygwydd weithiau yn ei hanes yntau pan ar ei deithiau. Adroddai Mr. Morgan Edmunds, Ucheldref, ger Corwen, yr hwn gyda llaw oedd yn gefnder i Mr. Williams, fel y bu ef yn cydginiawa âg ef mewn lle neillduol unwaith, a hyny rywbryd tua'r Nadolig, pryd yr oedd ar y bwrdd ŵydd wedi ei choginio. Gosodwyd ar Mr. Williams i'w thori, ond nid oedd ef yn rhyw fedrus ar waith felly, nac yn gofalu nemawr am ragori yn y gelfyddyd hono; ac oblegid hyny, nid rhyw foddlon iawn ydoedd efe i ymaflyd yn y gwaith a osodwyd arno i'w gyflawni, ond o'r diwedd ufuddhaodd. Yn anffodus, llithrodd yr ŵydd oddiar y ddysgl ddwy waith, a'r tro diweddaf, disgynodd ar y llawr, pryd y dywedodd Mr. Williams yn dawel ac yn hollol hunanfeddianol, "Wel, wel, mae yn debyg genyf y bydd yn rhaid i ti gael myned o'r diwedd i'r llyn." Buasai dygwyddiad o'r fath yn ddigon i achosi i lawer o ddynion golli eu hunanfeddiant, ond yr oedd ef mor ddigyffro yn nghanol y cwmni urddasol, a phe na buasai dim yn ddigrifol wedi cymeryd lle o gwbl. Ond ei ogoniant ef ydoedd, fod ei rasusau a'i rinweddau fel Cristion, yn llewyrchu yn ddysglaer nodedig yn mha dŷ bynag y byddai yn aros ynddo. Pwy a all draethu, nac ysgrifenu yn gywir, am faint y daioni a gyflawnodd efe, a'r argraff ddaionus a gynyrchodd mewn aneddau yn ein gwlad? Gweithredai cariad Crist mor gryf ar ei feddwl, fel mae ei nôd gwastadol oedd gwneuthur daioni yn ei fywyd i ddynion dros ei Arglwydd, drwy eu dwyn i undeb âg ef. Yn wir, yr oedd wedi ymgymeryd âg achos dyn, nes ei wneuthur yn achos iddo ei hunan yn mhob agwedd arno, Yr oedd yn gyfaill i werin ei wlad, fel y dengys y dyfyniad a ganlyn o lythyr y Parch. C. T. Thomas, Groeswen; yr hwn yn garedig a anfonwyd ganddo i ni: "Bu fy mam mewn Private School yn Wrexham; ac yn yr hon, yr un adeg a hi, yr oedd rhai o blant Mr. Williams, Wern. Y mae yn cofio yn dda weled Mr. Williams yn dyfod i'r dref, gyda llu mawr iawn o lowyr o'r Rhos a'r amgylchoedd, i gymeryd rhan mewn cyfarfod gwleidyddol oedd i'w gynal yn Wrexham. Areithiai yn angerddol dros ddiddymu treth yr yd, ac o blaid cael 'torth fawr, rad, ar fwrdd y dyn tlawd.' Er mai ieuanc ydoedd fy mam ar y pryd, eto, tynodd Mr. Williams gyda'i naturioldeb anghymharol ei sylw i'r fath raddau, nes y mae yn ei gofio byth, er wedi anghofio pawb arall, ag oedd yn cymeryd rhan yn y cyfarfod poblog a chynhyrfus hwnw." Cymerai blaid y gwan a'r ofnus bob amser. Fel un oedd wedi ei ddysgu yn mhethau teyrnas nefoedd, gallai lefaru gair mewn pryd wrth y diffygiol, a'r hwn a fyddai ar ddarfod am dano. Hysbyswyd ni gan Mr. Owen Williams, Bethel, ddarfod i'r Parch. Benjamin Jones o Bwllheli, dori allan i wylo yn hidl mewn Cynadledd Cymanfa yn Bethel, a hyny oblegid ei fod yn ofni nad oedd efe "wedi ei alw gan Dduw at y gwaith o bregethu Crist." Cododd Mr. Williams ar ei draed, a dywedodd gyda thynerwch mam wrth y trallodus, "Gadewch rhyngddo ef a'r galw, iddo ef y perth—yn hyny, a bydded i ninau wneud ein goreu i alw pawb ato. Yr wyf fi yn penderfynu cysegru fy mywyd i'r amcan hwnw." Bu ei eiriau fel olew ar donau meddwl cythryblus Mr. Jones, a bu tawelwch mawr. Ni fynai Mr Williams ddolurio teimlad neb, yn enwedig deimlad y Cristion lleiaf, ac ar yr egwyddor hono y daeth efe allan gyntaf fel cefnogydd yr achos dirwestol, sef rhag tramgwyddo brawd gwan; ond yr oedd efe wedi cerdded rhagddo lawer erbyn cyfarfod dirwestol Llanerchymedd, pan y dywedodd—"Nad oedd wiw i neb o honynt feddwl am gusanu y ddiod feddwol, wedi iddynt 'briodi a dirwest, ond bod dyledswydd yn galw arnynt oll i gadw eu hunain yn bur i ddirwest.'

O ran cryfder ei synwyr, ei adnabyddiaeth drwyad o'r natur ddynol, nid oedd neb yn ei oes yn rhagori ar Mr. Williams. Casglodd ei wybodaeth a'i syniadau nid yn gwbl drwy ddarllen yn barhaus, ond hefyd drwy fyfyrio a sylwi llawer ar wrthddrychau o'i gylch. Yr oedd natur iddo ef yn fath o whispering gallery yn sibrwd ei chyfrinion yn barhaus yn ei glust. Yr oedd yr haul y dydd yn traethu wrtho ymadrodd, y lloer a sêr y nos yn dangos iddo wybodaeth. Yr oedd y dyffryn a'r mynydd, y môr a'r afon, y coed a'r blodau, y gwlaw a'r gwlith, y corwynt a'r awel, y fellten a'r daran, fel pe yn datguddio iddo ef fwy o'u cyfrinach nag i neb arall o'i gydoeswyr yn y weinidogaeth. Cymerai anifeiliaid y maes, bwystfilod yr anialwch, ehediaid yr awyr, pysg y môr, ac ymlusgiaid y llwch yn wrthddrychau ei astudiaeth, ac yr oedd yn sylwedydd manwl iawn ar ddynion yn eu harferion, fel mai gyda phriodoldeb y gallasai ddywedyd, "Mi a roddais fy nghalon hefyd i wybod doethineb." Gan mor helaeth ydoedd ei wybodaeth gyffredinol, mynych yr apelid ato am gynghorion ar bob math o faterion, ac nid yn ofer y gwneid hyny. Ar un o'i ymweliadau â Phenlan, gerllaw Corwen, hysbyswyd ef gan Mr. H. Davies, gwr y ty, fod yn ei ardd ef bren afalau, ar yr hwn gynt y ceid cyflawnder o afalau peraidd, ond erbyn hyny oedd wedi myned yn anffrwythlon. Aethent i'w weled, a gofynodd Mr. Davies i Mr. Williams, beth oedd i'w wneuthur iddo? Atebodd yntau, "Cymerwch ebill a thyllwch ef yn agos i'w waelod hyd at ei riddyn, a llenwch y gwagle â blawd brwmstan, a seliwch ef yn ddiogel, ac ond i chwi wneuthur felly, cewch arno eto ffrwyth." Yn gwrando ar yr ymddyddan yn yr ardd, yr oedd merch fechan i Mr. Davies, yr hon heddyw a adwaenir fel Mrs. Jones, Coed moelfa, Llandrillo. Yn yr amser priodol gwnaethpwyd â'r pren fel y gorchymynodd Mr. Williams, ac yn ol tystiolaeth Mrs. Jones, cafwyd arno y flwyddyn ganlynol ffrwyth lawer. Gwelir ei fod fel Solomon, yr hwn a lefarai am brenau o'r cedrwydd yn Libanus hyd at yr isop a dyf allan o'r pared. Ond ei wybodaeth dduwinyddol oedd ardderchawgrwydd pob gwybodaeth o'i eiddo ef, yr hon a brofid ganddo yn ol safon Gair Duw. Darllenai a myfyriai weithiau awduron dysgedig, ond oddiar faesydd yr Ysgrythyrau y casglai efe ei dywysenau brasaf. Er fod rhagoriaethau Mr. Williams fel dyn, Cristion, a duwinydd, yn lluosog ac yn amlwg, eto cydnebydd pawb, mai yn y cymeriad o bregethwr dihafal yr enillodd efe enwogrwydd cenedlaethol, yr hwn a erys megys yn y graig dros byth. Ar ddechreuad ei weinidogaeth, yr oedd ei arddull bregethwrol yn dwyn arni ei hun, mewn gwylltineb ac arucheledd, nodau ardal ei enedigaeth, ond wedi hyny daeth i ddwyn mwy o ddelw dyffryn ceinwych Maelor, mewn prydferthwch a ffrwythlondeb. Newidiodd ei arddull bregethwrol, yn nghyda'i olygiadau duwinyddol bron yn gyfamserol, a bu orfod iddo o herwydd hyny oddef swm mawr o erledigaeth. Ond er iddo gael ei atal i bregethu mewn manau, yn wobr am ei waith yn cofleidio Calfiniaeth gymhedrol, yn gyfnewid am uchel—Galfiniaeth, eto ni throdd efe yn ol er neb na dim, ond glynodd yn ffyddlon wrth yr hyn a elwid yn "System Newydd," gan gwbl gredu fod y system hono yn fwy cyson âg efengyl Crist na'r uchel—Galfiniaeth a bregethid bron gan bawb am gyfnod wedi dyfodiad Wesleyaeth i'n Talaeth. Bu cyfodiad Mr. Williams yn ddechreuad cyfnod newydd yn hanes y weinidogaeth efengylaidd yn Nghymru. Efe ydoedd y cyntaf o bregethwyr ei enwad i osod math o unoliaeth gyson yn nghyfansoddiad a thraddodiad ei bregethau gwerthfawr, heb wibio o'r naill beth i'r llall, yn ol arfer y tadau gynt. Yr oedd cysondeb a threfn yn nodau amlwg ar ei bregethau gorchestol. Ymdrechodd yn galed er mwyn meddu syniadau cywir am berson Crist, a'i Iawn anfeidrol, a gwaith yr Ysbryd Glan yn achubiaeth pechaduriaid. Barnai nad oedd neb yn gymhwys i bregethu yr efengyl, heb yn gyntaf geisio deall llawer am y pynciau pwysig a nodwyd. Fodd bynag, yr oedd ef ei hunan wedi cyrhaedd sicrwydd deall yn nirgelwch efengyl Crist, fel yr oedd ei gwirioneddau yn wirioneddau cyson a sicr iddo ef. Gwelai hefyd gysondeb rhwng natur a'r Beibl yn eu dysgeidiaeth, heb ynddynt ddim yn gwrthwynebu eu gilydd, ond yn berffaith gyson, fel y maent yn gynyrch yr un Awdwr Hollalluog a doeth. Yr oedd efe yn athronydd gwych, yn enwedig gellid ei gyfrif felly, wrth gymeryd i ystyriaeth brinder ei fanteision addysgol; ac fel athronydd—bregethwr rhagorai ar bawb o'r cedyrn cyntaf. Rhyw egwyddor bwysig a ganfyddai efe yn ymwthio i'r golwg yn mhob testun, a byddai wrth fodd ei galon pan yn ymdrin âg egwyddorion mawrion yr efengyl. Trafodai ef y pynciau tywyllaf gyda'r fath eglurder a goleuni, nes y deallid ef gan y rhai cyfyngaf eu gwybodaeth. Pan y byddai ef ei hunan yn petruso, ac yn methu a deall yn glir yr athrawiaeth a gynwysai ei destyn, ceisiai amgyffred beth a fyddai tuedd ymarferol (practical tendency) yr athrawiaeth hono yn ei gwaith, a thrwy hyny galluogid ef i benderfynu y pwnc yn derfynol, ac i'w roddi yn oleu ac eglur yn neal y rhai a wrandawent arno. Nid cipio pethau amlwg yr efengyl allan o olwg ei wrandawyr, ond dwyn o'r dyfnderoedd ei thrysorau cuddiedig i oleuni y byddai efe. Yr oedd yr anrhydedd sydd yn eiddo i'r hwn sydd yn chwilio peth allan, a'r gwynfydedigrwydd hwnw sydd yn eiddo i'r hwn sydd yn dwyn deall allan, yn eiddo arbenig iddo ef. Cymerai ei gymhariaethau allan o'r Beibl, ac oddiwrth natur, ac amgylchiadau cyffredin bywyd, y rhai oeddynt yn hollol adnabyddus i'w wrandawyr oll. Eto, ni theimlid byth y byddai yn disgyn at bethau rhy isel, ond teimlid y byddai rhyw dignity yn nodweddu yr oll o'i gyflawniadau crefyddol yn wastadol. Arferai ddywedyd mai gwaith illustration yw goleuo fel y fellten, ac yna ddiflanu allan o olwg. Yr oedd ef yn ddigyffelyb am ei allu i ddefnyddio cymhariaethau er egluro ei faterion. Gwerthfawrogai weithiau y Parch. Jacob Abbott yn fawr, yn enwedig "Y Gonglfaen," a gresynai am na cheid mwy i bregethu fel yr ysgrifenai y gwr mawr hwnw. Trwy fyfyrdod gwastadol, yr oedd ei gelloedd yn llawnion, er trefnu yn ei weinidogaeth bob rhyw luniaeth, i'r rhai a wrandawent arno. Pan y byddai yn pregethu ar yr un testynau mewn lleoedd cyfagos, nid yr un pregethau a fyddai ganddo. Rhyfeddid at gyfoethogrwydd ei feddwl, yn enwedig gan y rhai fyddent yn cael y fraint o'i wrando yn fynych. Bu yr Hybarch Thos. Hughes, Caergybi, (gynt o Fachynlleth), yn gwrando llawer ar ein gwrthddrych enwog yn pregethu, ac fel y canlyn y dywed ef am dano, "Yr oedd Mr. Williams i mi y pregethwr goreu a'r mwyaf poblogaidd a glywais erioed. Ni byddwn yn gofalu pwy fyddai yn d'od i'r Gymanfa, os byddai ef yno, byddwn ar ben fy nigon, a byddai miloedd eraill hefyd, canys miloedd fyddai yn d'od i'r uchelwyl yn y dyddiau hyny i wrando ar feistriaid y gynulleidfa, ac yr oedd yr anwyl Williams yn feistr ar y cwbl. Yr oedd ef yn wahanol i bob pregethwr arall a glywais erioed, ac yn y gwahaniaeth oedd rhyngddo ac eraill, y gwelid ei ragoriaethau. Wrth ei wrando ef, nid oedd angen pin ac inc, na choflyfr i roddi ei sylwadau i lawr, er gallu eu cofio. Nis gellid byth anghofio yr hyn a ddywedai efe. Ysgrifenai ei eiriau gyda'i dafod ar galon a chydwybod ei wrandawyr. Byddai yr argraff yn annileadwy, a gellid dywedyd am dano fel am Whitfield, 'Ac ysgrifenodd Duw â'i dafod.' Clywais i rai brawddegau ganddo oeddynt yn syml, ond yn nodedig o gyrhaeddgar, a phwy a fedrai eu gollwng yn anghof. Brawddegau hollol naturiol, eto yn finiog, ac mor fyw a bywyd ei hun. Yr oedd pob ystum o'i eiddo yn dweyd pan y safai yn y pulpud o flaen cynulleidfa o bobl yr oedd yn ymddangos yn hollol fel un wedi dyfod yno yn un pwrpas i drosglwyddo cenadwri bwysig dros Dduw; ac yn sicr, achub eneidiau oedd ei brif amcan yn ei holl bregethau. Clywais ddywedyd fod gwraig unwaith wedi ei hargyhoeddi wrth weled difrifoldeb yr enwog Robert Roberts o Glynog. Dywedaf finau, fy mod wedi gweled cynulleidfaoedd yn sobri wrth weled dwys ddifrifoldeb gwrthddrych eich Cofiant. Yr oedd Mr. Williams yn fawr gan y bobl, am ei fod yn dywysog gyda Duw. Bu'm yn diolch lawer gwaith fy mod wedi cael cymaint o'i gymdeithas, er na chefais gymaint ag a hoffaswn gael, ond gwnaeth hyny a gefais o'i gymdeithas a'i gynghorion fwy o les i mi fel pregethwr, nag eiddo un dyn arall, ac nag un llyfr a ddarllenais erioed. Gofynodd i mi unwaith, beth oedd fy syniad am bregethu? a rhoddodd y cynghor hwn i mi, 'Peidiwch a dibynu ar waeddi, y mae y bobl yn sicr o flino ar hyny. Cloch y Llan ydyw gwaeddi felly, ac nid oes ar y bobl eisieu gwrando yn hir arni hi, ond siaradwch yn ddifrifol â hwynt, ac yn agos atynt.' Dyna oedd ei nodwedd ef, ac yr oedd yn fwy pregethwr bob tro y gwrandawn ef. Yr oedd yn un a garwn, ac a edmygwn a'm holl enaid, ac y mae genyf y parch dyfnaf i'w goffadwriaeth. Bum heibio y Wern lawer gwaith ar ol ei gladdu, ond ni bum erioed heibio heb droi i ollwng deigryn ar fedd 'gwr Duw.' Y tro diweddaf y bum heibio, yr oedd tua throedfedd o eira ar ei fedd, a gofynais i hen wr oedd gerllaw, a wnai efe glirio yr eira, er mwyn i mi gael darllen yr ysgrifen sydd ar y gareg, er fy mod wedi ei darllen lawer gwaith o'r blaen, ond cododd y darlleniad y tro hwnw y fath hiraeth ynof am dano, fel yr wylais wrth fyned yn mlaen am fwy na dwy filldir o ffordd. O na chawn eto glywed ei lais, fel y clywais ef gynt; ond o ran hyny, ofer dymuno y fath beth, er hyny, hyderaf ei weled mewn gwlad well. Cyfoded yr Arglwydd fwy o rai tebyg iddo i lanw pulpud yr Annibynwyr, a phulpudau yr holl enwadau."

Ychwanegwn yma adgofion yr Hybarch William Roberts o Benybontfawr, drwy ba rai y galluogir ni i weled yn gliriach rai o nodweddion ein gwrthddrych:—

"Yr oeddwn yn adwaen y Parchedig William Williams, Wern, yn dda. Clywais ef yn pregethu laweroedd o weithiau, teimlais yn ddwys lawer tro dan ei weinidogaeth rymus, ac erys llawer o'r hyn a ddywedodd yn fy nghlyw, yn ddwfn yn fy nghof hyd y dydd hwn. Mewn Cymanfa yn Dinas Mawddwy y gwelais ac y clywais ef gyntaf. Nid oeddwn ar y pryd ond ieuanc—o saith i naw mlwydd oed. Yr oeddwn i a dau neu dri o'm cyfoedion, adeg yr oedfa y pregethai efe, yn eistedd ar gainc coeden a ymdaflai uwchben yr esgynlawr lle y pregethid yn y Gymanfa hono. Wedi i Mr. Jones, Treffynon, bregethu o'i flaen, cyfododd Mr. Williams, a darllenodd yn destun, Rhuf. v. 21, 'Fel megys y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.' Er mor ieuanc oeddwn, yr wyf yn cofio ei ragymadrodd mor dda a phe buaswn wedi ei glywed neithiwr. Dywedai—Tri brenin a fu yn teyrnasu yn ein byd ni erioed, brenin diniweidrwydd, brenin pechod, a brenin gras. Nid hir y bu brenin diniweidrwydd ar yr orsedd, na chododd brenin pechod i'w ddiorseddu; wedi hyn, fe gododd brenin gras i fyny i ddiorseddu brenin pechod, 'Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwydddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.' Am y bregeth nid wyf yn cofio dim o honi, ond yn unig ei bod yn cario dylanwad rhyfedd ar y gynulleidfa fawr oedd yno yn gwrando. Mewn Cymanfa arall yn y Dinas ar ol hyn y clywais ef yr ail waith yn pregethu. Pregethai Mr. Owen, Bwlchnewydd, o'i flaen ar y geiriau, Os pan oeddym yn elynion y'n heddychwyd â Duw trwy farwolaeth ei Fab ef; mwy o lawer wedi ein heddychu y'n hachubir trwy ei fywyd ef.' Yna Mr. Williams ar ei ol ar y geiriau, 'A hefyd fy ngelynion hyny, y rhai ni fynasent i mi deyrnasu arnynt, dygwch hwynt yma, a lleddwch hwynt ger fy mron.' Cosbedigaeth yr annuwiol oedd ei bwnc y tro hwnw. Dywedai mai nid oddiar hoffder i boeni ei elynion, yr oedd Duw yn eu cosbi, ond yr amcan mewn golwg yw gosod ofn ar feddyliau holl ddeiliaid moesol ei lywodraeth rhag pechu yn ei erbyn. Yr oedd Cymanfa i gael ei chynal yn Llanidloes, ac yr oedd Mr. Williams i fyned yno. Gwybum i a chyfaill i mi hyny, a phenderfynasom ein dau, er yn fechgyn ieuainc iawn, ac heb fod yn aelodau eglwysig ar y pryd, i ysgrifenu llythyr at Mr. Williams, Wern, yn enw Mr. Richard Evans, un o ddiaconiaid ffyddlon yr eglwys, i ofyn iddo a fyddai efe mor garedig a rhoddi ei wasanaeth iddynt hwy yn y Dinas y Sabbath canlynol i Gymanfa Llanidloes. Ysgrifenwyd y llythyr, a phostiwyd ef, ond ni feddyliwyd am dalu y postage. Daeth yr atebiad at Mr. Richard Evans yn ddioedi, yn dweyd nas gallai ddyfod, am fod yn rhaid iddo ddychwelyd adref, a hyny oblegid fod cymundeb i'w weinyddu yn ei eglwysi y Sabbath hwnw, ond y rhoddai oedfa ganol dydd ddydd Gwener yn y Dinas wrth ddychwelyd, os ewyllysient ei chael. Cwynai hefyd o herwydd fod postage y llythyr heb ei dalu. Synai a rhyfeddai Mr. Richard Evans uwchben y llythyr, a methai a deall y dirgelwch, ond llawenychai yn fawr yr un pryd i gael cyhoeddiad Mr. Williams. Cafodd allan ryw dro mai nyni ein dau oedd wedi anfon, a gofynai, 'Paham na buasech yn talu y postage?' 'Pa faint ydoedd,' ebe'm ninau. 'Pedair ceiniog,' ebai yntau. Talasom hwy yn y fan. Daeth Mr. Williams at ei gyhoeddiad, a phregethodd ar Salm 1xxviii. 4—7, 'Rhwymedigaeth rhieni at eu plant.' Cofus genyf fy mod yn dywedyd yn fy meddwl wrth ei wrando, 'Wel, wel, nid oes ganddo ddim i ni eto, er i ni ysgrifenu ato i'w gael ef yma.' 'Cyn terfynu,' meddai Mr. Williams, 'mae genyf air i'w ddweyd wrth ddau ddosbarth, y cyntaf yw plant rhieni digrefydd. Dywedir wrthym weithiau mewn ambell dŷ, 'A wnewch chwi roddi cynghor i'r bachgen yma, Mr. Williams, mae efe yn troi yn fachgen drwg ac anufudd i ni?' 'A wnei di ddim ufuddhau i dy fam?' Bu cyfnod ar dy fywyd di, pe buasid yn dy roddi i orwedd yn nghanol ymborth, y buasit yn marw o newyn cyn y buasit yn gallu rhoddi un tamaid of hono yn dy enau, ond fe ofalodd dy fam am dy borthi di yn llawen y pryd hwnw; ac er hyn, anufudd wyt ti iddi, a wnei di ddim ufuddhau i dy fam? Bu cyfnod ar dy fodolaeth, pe y buasid yn dy roddi i orwedd ar ddillad, buasit yn rhynu i farwolaeth cyn y buasit ti yn gallu gwisgo am danat, ond fe ofalodd dy fam am dy wisgo di hyd at glydwch y pryd hwnw, ai anufuddhau a wnei di yn ad-daliad i dy fam am ei charedigrwydd i ti?' Cofiaf byth y teimladau yr oeddwn danynt wrth ei wrando yr adeg hono, wylwn yn chwerw dost. Pregethai un tro mewn cyfarfod blynyddol yn y Dinas ar Daniel xii. 2. 'A llawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.' Traethai am yr adgyfodiad, a sefyllfa ddyfodol, yn y bregeth hono, a cherddai rhyw ddylanwad rhyfeddol drwy y gynulleidfa, nes bod y bobl fel pe bron gwallgofi, ac yntau yn y ffenestr lle y safai i bregethu, a rhyw olwg goruwchddynol Yr oedd yn yr oedfa ddyn oedd yn byw gyda dwy chwaer iddo mewn fferm ar brydles yn ymyl Mallwyd, ac oes y brawd hwn oedd hyd y brydles; ac wedi hyny yr oedd yn terfynu. Dychrynodd y dyn hwnw gymaint dan y bregeth, fel y bu yn glaf iawn yn ei wely am rai dyddiau, ac ofnid mai marw a wnelai y pryd hwnw, ond arbedwyd ef am ryw ysbaid wed'yn. Bob tro ar ol hyn y clywai y ddwy chwaer fod cyhoeddiad Mr. Williams, Wern, yn y Dinas, dywedent mewn ysbryd sarug nodedig, 'O! y fo yr hen—sydd yn d'od eto drwy y wlad; bu agos iddo a thori ein lease ni pan oedd ffordd yma ryw dro o'r blaen.' Clywais ef yn pregethu y bregeth hono flynyddau ar ol hyny mewn Cymanfa yn Aberystwyth. Mewn cyfarfod pregethu perthynol i'r Ysgolion Sabbathol yn Bethel, Llandderfel, clywais ef yn pregethu ar Salm cii. 13, 14. Pregethai Mr. Jones o'r Waen, Llanidloes (a Phenmain ar ol hyny), o'i flaen y noson gyntaf. Pan oedd Mr. Jones yn pregethu, yr oedd drws y pulpud yn agored, a llwyddodd ci y Ty Uchaf i fyned i fewn i'r pulpud at y ddau bregethwr, a chyfodai ei ddau droed blaen, gan eu gosod ar astell y pulpud, er digrifwch neillduol i'r gynulleidfa, ond er dyryswch mawr i'r pregethwr. Gwenodd Mr. Williams yn siriol, ac ymaflodd yn ngwar y ci, a dywedodd, 'Wel, aros di, nid dy le di ydyw y fan hon beth bynag, dos di allan;' ac allan y cafodd fyned, nid yn unig o'r pulpud, ond o'r capel hefyd, gan gofio yr Ysgrythyr sydd yn dweyd mai oddi allan y mae y cŵn i fod. Yr oedd Mr. Williams ryw dro yn croesi mynydd, ond nid oedd yn gwybod y ffordd agosaf i fyned i'r man y cyrchai ato. Cyfarfu â bugail, a gofynodd iddo, 'Sut yr äf fi agosaf i'r fan a'r fan?' Edrychodd y bugail yn ei wyneb, a gofynodd iddo cyn ateb ei ofyniad, Pwy ydych chwi?' Nid oedd Mr. Williams yn hoffi ei ofyniad, a gofynodd eilwaith, Pa fodd yr äf fi agosaf i'r fan a'r fan?' 'O ba le yr ydych yn dyfod,' meddai y bugail? Waeth o ba le yr wyf fi yn dyfod, pa fodd yr af fi yno yw y pwys.' 'O!' ebe y bugail, 'os nad gwaeth o ba le yr ydych yn dyfod, ni waeth i ba le yr eloch chwaith.' Chwarddodd Mr. Williams yn iachus, er wedi ei orchfygu gan y bugail, a chyfeiriwyd ef i'r man yr ydoedd efe yn myned iddo yn gywir. Adroddai y diweddar Barch. John Lewis (M.C.), Llanrhaiadr Mochnant, yr hwn oedd yn enedigol o'r Rhos, yr hanesyn canlynol wrthyf: 'Un tro,' meddai, 'ar adeg o eira mawr, yr oeddym fel plant y Rhos, yn mobio ein gilydd âg eira, pryd y daeth Mr. Williams, Wern, heibio i ni ar ei farch wrth ddychwelyd o'i daith bregethwrol. Canfu fi yn gwasgu eira yn fy nwylaw rhwng fy ngliniau i galedu y belen. 'O, Jack, Jack,' ebai efe, 'Paid a gwneud fel yna fy machgen i,' ac ar hyn, disgynodd oddiar ei farch, ac ymwasgodd yr holl blant o'i gylch, canys yr oedd y naill a'r llall yn hynod hoff o'u gilydd. Cododd Mr. Williams lonaid ei law o eira rhydd, a thaflodd ef i gyfeiriad rhai o honom, gan ofyn, 'A wnewch chwi wneud fel yna fy mhlant i?' 'Gwnawn Mr. Williams' oedd yr ateb unol. Yna taflodd y ffrwyn ar ei fraich, a cherddodd yn mlaen, gan arwain yr anifail. Dechreuodd y plant godi yr eira yn rhydd, gan ei daflu at Mr. Williams. Codai yntau cape ei fantell i gadw ei war rhag i'r eira fyned iddo. Rhedai y bobl i ddrysau eu tai, gan waeddi, 'Welwch chwi y plant mewn difri, yn lluchio Mr Williams âg eira.' Wedi iddynt flino, aethent ato, a dechreuasant ei lanhau oddi wrth yr eira, a chanmolai yntau hwynt, gan ofyn iddynt, 'Chwi a wnewch fel yna a'ch gilydd, oni wnewch?' 'Gwnawn Mr. Williams.' 'O, da blant, plant yn iawn ydych chwi wedi y cwbl.' Un o hoffus bynciau Mr. Williams i bregethu arnynt oedd dyledswyddau rhieni at eu plant. Y tro cyntaf i mi fod yn Llundain, yr oedd yno yr un pryd amrai weinidogion o Gymru, yn casglu at yr amcan daionus o chwyddo y drysorfa er talu dyledion addoldai Annibynol Cymru. Yr oedd Mr. Williams yn un o'r casglwyr. Aethum i wrando arno yn pregethu un boreu Sabbath i'r Boro', a'i destun yno oedd, Diarhebion xxxi. 1—2, 'Geiriau Lemuel frenhin, y brophwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo. Pa beth fy mab? pa beth mab fy nghroth? Ie, pa beth mab fy addunedau?' 'Pregeth y mamau' ydoedd y bregeth hono. Tybiai mai Solomon ei hun oedd y Lemuel hwn, ac mai enw o hoffder oedd Lemuel, a roddai ei fam arno, fel y gwneir eto gan lawer o rieni. Flynyddau ar ol hyn, yr oeddwn mewn cyfarfod urddiad gweinidog yn Salem, ger Aberystwyth; ac mewn ymddyddan â'n gilydd fel gweinidogion rhwng yr oedfaon, crybwyllai Mr. Saunders, Aberystwyth, am ymweliad Mr. Williams â Llundain y waith hono. Soniai am dano yn pregethu 'Pregeth y mamau,' yn Saesonaeg, yn nghapel eang Dr. Fletcher o Stepney. Yr oedd amrai o'r gweinidogion Cymreig wedi myned gydag ef i'r oedfa, ac yn eu plith Mr. Saunders. Yn y vestry o flaen y bregeth dywedodd Mr. Williams, 'We may as well go and commence the meeting.' 'O, no Mr. Williams, it is too soon yet,' ebai y gweinidog enwog. 'Very well,' ebai yntau. Yna ymaflodd yn ymylon gown du y Dr., yr hwn oedd am dano ef yn awr, gan ddywedyd—‘Beth pe bai Rebeccah yn fy ngweled i yn y gown du yma, beth a ddywedai hi wrthyf tybed.' 'Synais,' meddai Mr. Saunders, glywed y dyn yn son am ei Rebeccah mewn lle o'r fath, a hyny pan ar fyned i bregethu Saesonaeg i'r fath gynulleidfa.' Teg yw hysbysu na wyddai Mr. Saunders ddim am deimladau gwr at ei wraig, oblegid ni bu efe erioed yn briod. Fodd bynag, dangosodd Mr. Williams hunanfeddiant anghyffredin yn yr amgylchiad. O'r diwedd dywedodd Dr. Fletcher, 'We shall now go if you please, Mr. Williams, the time is up,' ac i mewn yr aethpwyd, lle yr oedd cynulleidfa fawr, gyfoethog, a respectable, wedi ymgynull yn nghyd. Dywedai Mr. Saunders na welodd efe erioed y fath wylo cyffredinol mewn pregeth ag a welodd y tro hwnw. Yr oedd cadachau llogellau y boneddigesau a'r boneddigion yn wlybion gan ddagrau. Gwnaeth lawer o blunders yn yr iaith, ond yr oedd y nerth a'r dylanwad y fath, fel nad oedd yno neb yn meddwl am y camsyniadau, ond pawb yn synu ac yn rhyfeddu at ardderchawgrwydd y pethau a draddodai. Clywais ef yn pregethu ar y geiriau, 'Ac anfon ei Fab i fod yn Iawn dros ein pechodau ni.' Ni ysgrifenais hodiadau o'r bregeth hon, ond yr wyf yn cofio yn dda y modd y dosranai ei bwnc:—

I. Iawn yn ei berthynas â llywodraeth Duw.
II. Iawn yn ei berthynas âg arfaeth a gras Duw.
III. Iawn yn ei berthynas â Christ ei hun.
IV. Iawn yn ei berthynas â phechadur.

Mewn Cymanfa yn Llanuwchllyn, clywais ef yn pregethu yn yr hen ysgubor ddegwm. Yr oedd yn ddiwrnod gwlawog iawn, a gwnaed apeliad at yr 'Hen bobl' am fenthyg y capel, ond ni chaniateid hyny heb ymrwymiad pendant, na sonid gair am y System Newydd.' 'Wel,' ebai Mr. Williams, y mae hyny yn ormod o aberth, ac felly, nid oes ond i ni fyned i'r ysgubor, ac yno yr aethpwyd, a phregethodd yntau yn nodedig o effeithiol yn erbyn y pechod o rwgnachrwydd, oddiar I Cor. x. 10.

Y tro cyntaf i mi fod yn Mhenybontfawr oedd mewn Cymanfa. Yr oedd Caledfryn yno, ac yn pregethu oddiar y geiriau, 'Os yw Crist ynoch y mae y corff yn farw o herwydd pechod.' Ar ei ol pregethodd Mr. Williams oddiar y geiriau, 'Oblegid nyni a wnaethpwyd yn ddrych i'r byd, i angylion, ac i ddynion.' Ei bwnc oedd, 'Y Cristion yn chwareu ei gamp.' Dywedai fod pleidiau lluosog a phwysig yn edrych arno, ac yn cymeryd dyddordeb ynddo, 'Y byd, yr angylion, a dynion.' Os gofynai neb paham y tynai y fath sylw pryderus ato, gellir ateb yn mysg pethau eraill, fod anghyfartalwch y pleidiau sydd yn ymdrechu â'u gilydd yn un rheswm am hyny. Tybiwch,' meddai, 'fod brwydr i gymeryd lle yfory yn Llanfyllin, rhwng llew ac oen, a bod pob sicrwydd mai yr oen bach a enillai y fuddugoliaeth. Dylifai yr holl bobl o Benybontfawr, Llangynog, Llanrhaiadr, ac o'r holl gylchoedd cyfagos, i weled oen bach yn gorchfygu llew. Yr un modd y mae y pleidiau pryderus yn edrych ar y Cristion gwan yn brwydro, ac yn llawenhau wrth ei weled yn gorchfygu y cryf arfog.' Er fod Mr. Williams yn ei fedd er's pedair blynedd ar ddeg a deugain, nid yw yr hiraeth am dano wedi cilio o'm mynwes hyd y dydd heddyw, ond i ba beth yr hiraethaf, ddychwel efe ataf fi." Myfi a äf ato ef, ond ni

Terfynwn y benod hon gyda'r Englynion Coffadwriaethol canlynol o eiddo yr Hybarch Gwalchmai, y rhai a gyfansoddodd efe ar gyfer y gwaith hwn:—

Williams yn mhlith duwiolion—a helpodd
Bulpud y cenadon;
I lwydd cynadleddion,
Llywydd aeth, yn lluoedd Ion.

Gwrandawyr o gryn duedd—er oedi
Yr adeg i'r diwedd;
Blygai yn gwbl i agwedd
O'r fan hon i erfyn hedd.

Iechydwriaeth pechaduriaid—yn dân
Dywynai o'i lygaid;
Geiriau'r Ion, a'r gwir o raid
Daranodd i droi enaid.

Ef fu ryfedd ddifrifol—o wadd dyn
I ŵydd Duw'n wastadol;
Codai nerth rhag gado'n ol
Un byth yn anobeithiol.

Angel Duw yn ngoleu dydd—a redodd
I'r adwy'n achubydd;
Dwyn euog fel dyn newydd
A wnai o'i holl faglau'n rhydd.

Dyger ei weinidogaeth—in' eto
Yn natur gwasanaeth;
Y mawr nod i Gymru wnaeth
At neges Cristionogaeth.


PENNOD XVI.

NODWEDDION ARBENIG EIN GWRTHDDRYCH FEL PREGETHWR.

Y CYNWYSIAD—Un o ragoriaethau Mr. Williams fel pregethwr Darluniad o hono gan y Parch. William Rees, D.D. Ysgrif y Parch. Owen Thomas, D.D.— Nodiadau gan y Parch. Robert Roberts, Rhos.

YN ychwanegol at yr hyn a nodir yn y benod flaenorol am ein gwrthddrych fel pregethwr, gallwn sylwi ei fod yn gallu cynyrchu effeithiau dwysion ar ei wrandawyr, heb un ymdrech ymddangosiadol i ymgyrhaedd at hyny—dim ond wrth siarad yn dawel â hwy; ac yr oedd hyny yn un o'i ragoriaethau arbenig fel pregethwr, ac yn ei wahaniaethu oddiwrth bregethwyr ei oes. Pan y gofynwyd i Raphael unwaith, pa fodd yr ydoedd efe yn gallu paentio ei ddarluniau mor ardderchog? Dywedodd "I dream dreams, and see visions, and then I paint my dreams and my visions." Breuddwydiai Mr. Williams hefyd freuddwydion, a gwelai weledigaethau, ac yr oedd yn gallu eu dangos yn ogoneddus yn yr areithfa, ond nid oedd yn gallu eu hysgrifenu ar y llen yn y fath fodd fel ag i'w dangos i'r fantais oreu, ac oblegid hyny, nid yw y pregethau a ysgrifenodd ef ei hunan i'r wasg, mewn un modd yn ddangosiad cywir o'r hyn oeddynt mewn arucheledd a dylanwad yn y traddodiad o honynt. Dywed Dr. W. Rees, yn ei Gofiant i Mr. Williams, fel y canlyn am dano fel pregethwr:—

"Yr ydym bellach yn dyfod at y gamp uchaf ei fywgraffiad, sef i geisio gwneuthur portreiad o'i nodwedd fel pregethwr, oblegid mai yr hyn a ddywedir am dano dan y pen hwn, yn ddiau, a fydd yn brif destun beirniadaeth. Nid ydys yn dysgwyl y gellir boddloni pawb, ond ymdrechir i wneuthur cyfiawnder hyd y gellir â'r gwrthddrych hyglod, heb ddysgwyl canmoliaeth ar un llaw, nac ofni difrïaeth ar y llaw arall. Dywed fy nghyfaill, Mr. D. Hughes o St. Sior, fel hyn:—Ystyriwyf y gwaith o dynu darlun o'r hen seraph Williams o'r Wern, y fath ag y gellir dywedyd am dano wrth yr oes a ddel, un fel yna yn gymhwys oedd efe, yn orchest—gamp fawr. Yr oedd cymaint o unigoledd a hynodrwydd yn perthyn iddo o dullwedd ei feddwl, tarawiad ei ddawn, ac eglurder ei amgyffredion, fel y gofynid gradd helaeth o chwaeth athrylithaidd i adnabod ei gywir nodwedd, ond y mae yn llawer anhaws darlunio nag adnabod unrhyw wrthddrych. Y mae yn deilwng i bawb gael tynu ei ddarlun yn ei ddillad goreu, felly yntau. yn ddiau. Ymddangosai yn hynod, ïe, yn dra rhagorol brydferth, pe byddai yn bosibl ei gywir bortreiadu ar foreu Cymanfa, fel ei gwelwyd lawer gwaith, wedi esgyn y Rastrum o flaen rhai miloedd o wrandawyr, yn traethu ar ryw favourite topic, megys mawredd, trugaredd, cariad, neu amynedd Duw, &c., pan y byddai ei olwg, ei lais, ei loywon ddrychfeddyliau, yn nghyd â mawredd y testun, wedi caethiwo pob meddwl trwy yr holl dorf, nes berwi y teimladau, gwlychu pob grudd â dagrau, a llanw pob mynwes à syndod. Byddai picture yr hen Williams, ar ddydd Cymanfa, yn ogoniant i'r wlad a'i magodd, yn hyfrydwch i filoedd a'i clywodd, ac yn glod i'r darluniedydd.'..... Wrth wrando Williams yn pregethu, gallasech ei gyffelybu i delynor medrus, yr hwn cyn dechreu chwareu ei dôn a drinia, ac a gywreinia danau ei delyn, ac wedi cael pob tant i gywair priodol, a chwery ei fysedd ar hydddynt, nes y clywid y gyd-gerdd bereiddiaf a melusaf yn dylifo megys oddirhwng ei ddwylaw. Cymerai yntau ei destun megys y cerddor ei delyn, ac wedi pum' munyd feallai o gyweirio ei danau mewn rhagymadrodd a dosbarthiad, dechreuai chwareu arnynt, gan dywallt allan y fath beroriaeth seinber, fel os byddai rhywun o'r rhai a fyddent yno yn bresenol heb ei gynhyrfu dan ei ddylanwad, rhaid ei fod wedi cau ei glustiau, fel y neidr fyddar, rhag gwrando ar lais y rhiniwr a'r swynwr cyfarwydd hwn. Rhoddi y fath ddesgrifiad o hono ag a grybwyllai y cyfaill rhag-grybwylledig pan y safai uwchben tyrfa Cymanfa neu gyfarfod, sydd orchwyl pell uwchlaw fy ngallu i. Byddai yn hawdd i'r rhai cyfarwydd âg ef, frudiaw oddi-wrth ei ddull a'i agwedd cyn pregethu ar y cyfryw achlysuron pa fodd y byddai arno pan elai ati. Pan fyddai yn llawn ysbryd pregethu, a'i feddwl yn cydio yn ei fater yn y rhagolwg arno, nes y byddai ei enaid wedi chwyddo gan ddrychfeddyliau, byddai ei wefusau a'i eiliau yn ymsymud ac yn crychu, gan gyfnewid eu dull a'u ffurf yn barhaus; byddai ei lygad megys yn chwyddo, ac yn mynych newid ei ddynodiant (expression) megys pe buasai drychfeddyliau ei enaid yn saethu allan trwyddo, y naill ar ol y llall, a phob un yn argraffu ei ddelw ei hun arno yn ei fynediad drwyddo, a'r naill yn dinystrio gwaith y llall mor gynted ag y gorphenai ef. Edrychai weithiau yn hynod o absenol oddiwrtho ei hun, fel un wedi llwyr soddi, o ran ei feddwl, i ryw fater; pan orphenai yr hwn a bregethai o'i flaen, cyfodai i fyny mewn agwedd a dull a ddangosai bod ei holl deimladau wedi eu hadsefydlu, a bod y gwaith ag oedd yn myned yn mlaen yn y peiriant mewnol yn awr wedi sefyll, i'r dyben i'w ail osod i droi yn rheolaidd, er bwrw allan ei gynyrch i'r cyhoedd. Wedi darllen ei destun, yn lled afler yn gyffredin, a rhagymadroddi yn fyr, fel y crybwyllwyd, cydiai yn ei fater, a dosbarthai ef yn gryno ac yn fyr, a dechreuai ei osod allan a'i egluro mewn trefn, gan gadw perffaith lywodraeth ar ei deimladau a'i lais, fel un a fyddai yn gwbl feistr arno ei hun, ar ei fater, ac ar ei wrandawyr; fel y byddai yn myned i mewn iddo, ac yn cynesu ynddo, dechreuai delweddau ei feddwl godi drachefn i'w wynebpryd a'i lygaid, a'r drychfeddyliau ysblenydd hyny a fuasent o'r blaen yn berwi yn ei galon, a ddechreuent ddylifo allan, gan gymeryd eu hadenydd oddiar ei wefusau, y naill ar ol y llall, nes y byddai yn fuan wedi hoelio pob clust wrth ddôr ei enau, pob llygad o'r dorfa fyddent dano wedi ei sefydlu arno, a phob meddwl wedi ei glymu wrth ei fater. Weithiau byddai yr holl gynulleidfa yn gwrando mewn dystawrwydd syn, pob un megys yn arswydo gollwng nac ochenaid nac anadliad uwch na'u gilydd allan, a phob gair o'i enau, fel y disgynai ar y glust, yn taro y deigryn dystaw allan o'r canoedd llygaid a fyddent wedi eu sefydlu arno, ac yn gwylio symudiad ei wefusau. Bryd arall, byddai ocheneidiau, gwenau, a dagrau, i'w clywed a'u gweled, y naill yn dyrchafu o'r fynwes, y lleill yn argraffedig ar y wedd, y lleill yn dylifo o'r llygaid, yn cydgymysgu â'u gilydd, fel ag y byddai holl deimladau y natur ddynol wedi eu cynhyrfu a'u galw i weithrediad gan Feistr y gynulleidfa.' Yr oedd ei lais yn hyglyw i bawb, pa mor luosog bynag fyddai y gynulleidfa, a'i dôn yn beraidd anghyffredinol, pan fyddai yn ei lawn hwyliau yn traddodi; ac ymddangosai yn myned trwy ei waith yn naturiol, esmwyth, a diboen, heb gymaint a gwlithyn o chwys ar ei wyneb. Nid trwy ymladd, gorchest, a gorthrech, y byddai byth yn dryllio teimladau ei wrandawyr, ond eu denu, eu henill yn esmwyth a naturiol, eu tymheru a'u toddi, yn gyffelyb i ddylanwad yr haul ar y cwyr.

Gwyddem fod y Parch. Owen Thomas, D.D., wedi cael llawer o gymdeithas Mr. Williams yn bersonol, a'i fod hefyd yn edmygwr mawr o hono, ac oblegid hyny, awyddem am y fraint o'i weled, a chael ymddyddan âg ef ar y mater. Yr oedd y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth, a ninau yn dygwydd bod yn Liverpool prydnawn dydd Sadwrn, Mehefin 13eg, 1891, a galwasom yn nhŷ y gwr Parchedig. Cawsom y pregethwr enwog yn llesg a gwanaidd iawn, ond wedi codi o'i wely, ac yn eistedd yn ei lyfrgell ardderchog. Yr oedd haul ei fywyd dysglaer a defnyddiol yn nesu tua'r gorwel yr adeg hono, ond yn myned i lawr yn ogoneddus iawn yr ochr hyn, ac i godi yn ogoneddusach yn y byd lle nad ä byth i lawr mwyach. Dywedodd lawer o bethau wrthym, y rhai nas anghofir genym byth. Teimlem ein dau ei fod yn siarad megys un ar drothwy tragwyddoldeb. Cyn i ni fyned ymaith, dywedodd wrthym ni:—"Yr oedd fy mrawd John yn dweyd wrthyf, eich bod chwi yn parotoi Cofiant i Mr. Williams, Wern." Dywedasom ein bod, a gofynasom am ei ganiatad i adgyhoeddi ei ysgrif werthfawr ar Mr. Williams fel pregethwr, yr hon yn gyntaf a ymddangosodd yn Nghofiant rhagorol John Jones, Talysarn. "Cewch a chroesaw," oedd ei atebiad caredig. Trwy ganiatad ychwanegol y Mri. Hughes a'i fab, Wrexham, rhoddwn yr ysgrif hono yma, yr hon a welir ar tudalen 960—964 o'r gwaith pwysig a nodwyd:—"Yr oedd Mr. Williams yn ddiddadl, yn un o brif bregethwyr ei oes.........Yr oedd oedd rhywbeth yn ei olwg yn dynodi dyn a mesur anghyffredin o chwareugarwch ynddo. Ac yr ydym yn tybied mai un felly yn arbenig ydoedd yn naturiol. Yr ydym yn darllen ei fod 'er yn blentyn, yn hynod o ran ei dymher lawen, fywiog, a chwareus; fel yr arferai ei dad ddywedyd yn aml am dano, na wyddai yn y byd pa beth i'w feddwl o hono, a'i fod yn ofni y byddai yn od ar holl blant y gymydogaeth.' Dywedai ei hunan, medd Mr. Richard Parry, Llandudno, ei fod, pan yn ddyn ieuanc, yn agored i ysgafnder; ac i ryw hen wraig rywbryd ei gyfarch, ar ol ei bregeth, a dywedyd wrtho, Yr ydych yn bregethwr da, ond y mae yn rhaid i chwi roddi heibio y cellwair yna, onide ni wnewch fawr o les. Ac yn ol y diweddar Mr. Cadwaladr Jones, Dolgellau, yr oedd ei ddull a'i agwedd, pan y dechreuodd bregethu, yn lled annerbyniol gan lawer......Golwg hyf, lled ysgafn, a chellweirus oedd arno pan y dechreuodd bregethu; a byddai yn dueddol i ddywedyd lluaws o ymadroddion a dueddent i yru ei wrandawyr yn ysgafn a chwerthinllyd.' Nid ydym yn amheu dim nad hyny oedd y mwyaf naturiol i'w ddawn ef. Yr oedd y bregeth gyntaf erioed a glywsom ni ganddo, yr hyn oedd yn ein capel ni yn Nghaergybi, tua'r flwyddyn 1821, oddiar Weledigaeth yr esgyrn sychion, yn un dra difrifol. Yr ail dro i ni ei glywed, yr oedd yn dra gwahanol. Yr oedd hyny drachefn yn Nghaergybi, ar yr achos Cenadol, yn y flwyddyn 1825, pryd ar ol pregeth nodedig o ddifrifol gan y diweddar Mr. Roberts, Llanbrynmair, oddiar Zechariah iv. 6, y pregethodd Mr. Williams oddiar Esther iv. 14, 'O herwydd os tewi a son a wnei di y pryd hyn, esmwythdra ac ymwared a gyfyd i'r Iuddewon o le arall, tithau a thy dy dad a gyfrgollir. A phwy sydd yn gwybod ai o herwydd y fath amser a hwn y daethost ti i'r frenhiniaeth. Yn y rhan gyntaf o'r bregeth hon, tra ond yn myned dros yr hanes megys y mae yn llyfr Esther, gan wneuthur rhai sylwadau arno, nid ydym yn gwybod i ni erioed, beth bynag, mewn capel, weled y fath olygfa. Yr oedd y pregethwr ei hunan yn hollol sobr; ond yr oedd y bobl yn methu ymatal, ac yn ymollwng gyda'u teimladau i chwerthin allan dros y capel, heb feddwl dim yn mha le yr oeddynt. Parhaodd hyny, ni a dybiem, am tuag ugain munyd. Ond wedi dyfod at y testun, ac at y mater neillduol oedd ganddo oddiwrtho—Gofal am achos Duw yn mylchau ei gyfyngder,' yr oedd yno le pur wahanol. Nid yn fynych y gwelsom gynulleidfa wedi ei dwyn i fwy o ddifrifwch nag oedd hono, yn y rhan olaf o'r bregeth. Dyma yr unig dro erioed i ni ei glywed yn tueddu at ddim a allasai yru y bobl yn ysgafn, ac yr ydym yn meddwl mai dyma y tro diweddaf iddo wneud hyny. Ni a glywsom o leiaf fod Mr. Roberts, Llanbrynmair, wedi siarad yn ddifrifol iawn âg ef ar ol yr oedfa y pryd hwnw; a bod Mr. Williams wedi addef iddo ei fod ef ei hunan wedi teimlo pan y canfu y fath ysgafnder ar y bobl, ac wedi addaw iddo hefyd na chymerai y fath gyfeiriad byth ar ol hyny. Pa fodd bynag, yn ystod y blynyddoedd diweddaf o'i oes yr oedd ei weinidogaeth o nodwedd hollol wahanol; yr oedd yn wir, mor ddifrifol, ac felly bob amser, ag odid ddim a glywsom ni erioed, a chymhwysder arbenig ynddi i ddwyn ei holl wrandawyr i deimlo yn gyffelyb. Yr oedd ei feddwl o nodwedd athronyddol, ymhoffai mewn 'chwilio o'r naill beth i'r llall i gael allan y rheswm,' ac ni byddai yn teimlo ei hunan yn dawel gyda golwg ar unrhyw adnod yn y Beibl a ddygid i'w sylw, ac yn enwedig a gymerid ganddo yn destun pregeth, hyd oni byddai wedi cael allan, neu dybied ei fod wedi cael allan yr egwyddor neillduol, neu y gwirionedd mawr a ddysgir ynddi. Yr oedd, nid yn unig yn credu yn ddiysgog fod natur a datguddiad wedi dyfod oddiwrth yr un Awdwr, ond fod yr un egwyddorion yn rhedeg trwy, ac i'w canfod yn y naill ag sydd yn y llall; a bod pob cynydd ar ein hadnabyddiaeth o'r naill, yn fantais wirioneddol i ni i ddeall ac i egluro y llall. Yr oedd cyffelybrwydd nodedig rhyngddo yn hyn â'r diweddar Barch. Richard Humphreys o'r Dyffryn, sylwadau yr hwn oeddynt o'r un nodwedd athronyddol a'r eiddo yntau, ac yn hytrach, mewn ffurf fwy arwireddol (apharistic), er nad oedd un gymhariaeth rhwng

rhwng Mr. Humphreys ag ef yn nerth ei ddychymyg, nac yn enwedig yn ei allu areithyddol. Ond yr oedd y ddau yn nodedig o debyg am eu hymchwil i'r egwyddor a orweddai yn eu testun, yn gystal ac yn eu hamcan i ddangos fel yr oedd eu gwrandawyr yn deall, ac yn cydnabod yr egwyddor hono mewn cysylltiadau eraill. Fe fyddai gan Mr. Williams, yn arbenig, braidd yn mhob pregeth, ryw un egwyddor fawr yn cael ei chodi gerbron ei wrandawyr, ac fe gymerai y fath drafferth i'w hegluro, i ddangos ei phwysigrwydd, ac i roddi engreifftiau o honi yn ngwahanol ddosbarthiadau natur, neu o fewn cylch y gymdeithas ddynol—nes ei gwneuthur mor amlwg, fel nid yn unig y gallai pawb ddeall, ond y gallesid meddwl y buasai yn anmhosibl i neb beidio deall. Er esiampl, yr ydym yn ei gofio yn pregethu ar foreu dydd gwaith yn Mangor, yn haf y flwyddyn 1835, oddiar 2 Tim. iii. 13:"Eithr drwg ddynion a thwyllwyr a änt rhagddynt waeth-waeth, gan dwyllo, a chael eu twyllo." Nid oedd y gynulleidfa ond bechan wrth ystyried pwy oedd yn y pulpud, ac eto yr oedd yn weddol a chofio mai dydd gwaith ydoedd. Darllenai y testun yn hytrach yn afrwydd, ond yn dra difrifol. Siaradai y tro hwn yn y rhagymadrodd, yn rhwyddach, ac yn gywirach nag y byddai braidd un amser yn gwneud yn y rhan hono o'r bregeth. Wedi sylwi ar y geiriau yn y cysylltiad y dygir hwynt i mewn gan yr apostol, a'u golygu megys awgrym i Timotheus, y gallai fod erlidiau mwy yn ei aros yntau, a'r pwys iddo gan hyny fod yn benderfynol i fod yn ffyddlon i'r efengyl, ac aros yn y pethau y dysgwyd ef ynddynt—fe ddisgynodd ar y gwirionedd y dymunai ei ddwyn i'n sylw oddiwrthynt, "Fod egwyddor ddrwg, tra yn y llywodraeth, yn enill nerth mwy yn meddwl dyn." Yna fe ddangosodd mai dyma y ddeddf fawr gyffredinol trwy yr holl greadigaeth, gan nodi amryw engreifftiau, yna dangosodd fod yr un peth yn perthyn i'r meddwl dynol, yn ei arferion deallol, ac yn ei dueddiadau moesol, gan egluro yr egwyddor, yn arbenig yn ei pherthynas â chynydd gras a santeiddrwydd yn y dyn duwiol, a hyny mor ddeheuig ac effeithiol, nes yr oedd teimlad hyfryd yn meddianu y gynulleidfa i gyd. Yna, yn y modd mwyaf difrifol, fe droes i gymhwyso yr egwyddor at ddynion drwg—y meddwyn, yr aflan, y cybydd, y balch, &c., gan adrodd y testun gyda llais difrifol, yn niwedd ei ymdriniaeth â phob cymeriad, "drwg ddynion a thwyllwyr a änt rhagddynt waeth-waeth." Wedi dangos cynydd nerth y drwg yn y byd hwn, fe aeth rhagddo i ddangos, gan mai dyna natur yr egwyddor, y bydd yr un briodoledd yn perthyn iddi yn y byd a ddaw, ac felly y bydd y dyn drwg yno—byth, byth, byth—yn myned yn "waeth-waeth." Yr oedd rhyw sobrwydd ofnadwy pan gyda hyn, yn ei edrychiad, ac yn ei lais, yn gystal ag yn y pethau a draddodid ganddo. "Mae yna ddyn yn eistedd yn y seat yna yrwan. Y mae yn annuwiol y boreu yma er y bregeth hon, a chanoedd o bregethau o'r blaen, nid oes ynddo un meddwl difrifol i adael ei annuwioldeb. Parhau yn annuwiol a wna. Ryw ddiwrnod fe fydd farw yn annuwiol. Ac wrth farw fe ä a'i holl annuwioldeb yn y byd hwn gydag ef i'r byd hwnw. Ac mi a welaf ryw bwynt, draw, draw, draw, yn y tragwyddoldeb pell, pan y bydd y dyn yna wedi casglu i'w galon ei hunan fwy o elyniaeth at Dduw nag sydd heddyw yn nghreadigaeth Duw i gyd. 'Drwg ddynion a thwyllwyr a änt rhagddynt waeth-waeth.'" Terfynodd gydag apeliad dwys at ei wrandawyr i edifarhau a dychwelyd ar unwaith. Wedi y fath bregeth, nid oedd ryfedd i lawer o honom fyned i Beaumaris y noswaith hono i wrandaw arno drachefn, lle y pregethodd oddiar Hosea xiii. 13, ac o'r hon y mae crynhoad gwerthfawr yn ei gofiant. Yr oedd y nodwedd meddyliol y cyfeiriasom ato uchod, hyd yn nod ar ei ddychymyg ef. Yr oedd ei ddychymyg yn gryf ac yn gyfoethog iawn. Ond dychymyg yr athronydd oedd yn hytrach na dychymyg y bardd; dychymyg Bacon, ac nid Milton. Nid gallu i roddi bod i greadigaethau o'i eiddo ei hunan, trwy, ac eto uwchlaw tiriogaethau ffeithiau a synwyrau corfforol, yn gymaint a gallu i ganfod cyffelybrwydd yn y ffeithiau hyny, i'r gwirioneddau moesol ac ysbrydol a ddygid ganddo gerbron ei wrandawyr. Dychymyg y gymhariaeth yn arbenig ydoedd. Yr oedd yn nodedig o hapus yn ei gymhariaethau, y rhai a gymerid ganddo, braidd yn ddieithriad, oddiwrth bethau ag yr oedd y cyffredin o'i wrandawyr yn hollol gynefin â hwynt, ac oll yn amlwg wedi eu bwriadu nid i addurno y cyfansoddiad, ond i ddwyn y gwirionedd y traethai arno yn nes atynt, ac yn fwy eglur iddynt. Ac felly y cymerid hwynt yn wastadol ganddynt. Er y byddai yn dywedyd llawer o bethau a fuasent yn cael edrych arnynt yn bethau tlysion iawn, pe dywedasid hwynt gan ereill; eto, rywfodd, nid ar eu tlysni y sylwid gydag ef, ond ar bwysfawrogrwydd y materion a eglurid drwyddynt. Ni ogoneddid y gymhariaeth o'i enau ef, oblegid gogoniant mwy rhagorol y gwirionedd a wasanaethid ganddi. Dodi hwnw yn neall, ac yn nghydwybod a chalon y bobl, oedd ei amcan mawr. Dygai bob peth dan ddarostyngiad i hyny. Aberthai bob peth er mwyn cyrhaedd hyny. Ac nid llawer erioed a fuont yn fwy llwyddianus yn y cyfeiriad hwnw. O ran symledd, eglurder, naturiolder, ac effeithiolrwydd, yr oedd arbenigrwydd nas anghofir yn ngweinidogaeth William Williams o'r Wern.'

Ystyriwn fod yr hyn a ganlyn o eiddo y Parch. R. Roberts, Rhos, am ein gwrthddrych fel pregethwr, yn hawlio lle yn y benod hon, "O'i gymharu â chewri ei oes, sef John Elias a Christmas Evans, tybiwn mai llinellau gwahaniaethol Mr. Williams arnynt hwy, oeddynt ei naturioldeb, ei graffder, ei dreiddgarwch, ei adnabyddiaeth helaeth o'r natur ddynol, a'i wybodaeth fanwl o'r paham a'r pa fodd. Mewn gair, yr oedd wedi ei eni yn athronydd. Diau fod John Elias yn areithiwr hyawdl, a byddai cyfaredd ei areithyddiaeth nerthol yn swyno ac yn synu y miloedd ar ddydd mawr y Gymanfa, ac yn hyn yr oedd cuddiad ei gryfder. Tra y codai Christmas Evans fel eryr cryf ar edyn dychymyg fywiog i fro y cymylau fry, nes y byddai ei wrandawyr ar adegau yn colli golwg arno, ac nid anfynych y byddai yntau yn croesi llinell chwaeth bur a barn aeddfed, nes y byddai ef ei hun ar ymddyrysu gan mor dewed oedd yr awyr. Ond cerddai Mr. Williams yn arafaidd ac yn urddasol, a chyda nerth cawr, symudai ymaith haenau trwchus anwybodaeth, anystyriaeth, a rhagfarnau dynion. Dangosai i'w wrandawyr natur a chanlyniad pechod, seiliau cyfrifoldeb dyn a'i rwymedigaeth i Dduw. Gogoniant yr efengyl fel ffrwyth cariad, bwriad, doethineb a graslonrwydd yr Anfeidrol yn Nghrist Iesu, a'i chyfaddasder i godi dynoliaeth o'r dyfnder isaf i uchder gogoniant, oeddynt y gwirioneddau a eglurai gydag eglurebau mor syml ac agos at y bobl, fel y byddai yr argraff ar eu meddyliau yn annileadwy. Dyma y rheswm yn ddiau fod llawer mwy o'i ddywediadau a'i sylwadau ef yn cael eu cofio na'r eiddo y ddau wr enwog arall. Yr oedd hyawdledd a barddoniaeth Mr. Williams yn ei bethau. Yn ei amser ef bu dadleuon duwinyddol brwd yn Nghymru. Uchel-galfiniaeth a bregethid gan amlaf o'n pulpudau yn y cyfnod hwnw. Cydnabyddir yn awr ar bob llaw gan ddynion teg o bob plaid fod amryw o'r tadau yn eu gorsel, wedi cario yr athrawiaeth a nodwyd i eithafion pell a pheryglus. Ymddangosodd plaid o Galfiniaid mwy gofalus a chymedrol. Gelwid eu daliadau hwy yn system newydd. Credai y rhai hyn yn mhenarglwyddiaeth ac arfaeth Duw, ac etholedigaeth gras, ond rhoddent bwys ar ddyledswydd a chyfrifoldeb dyn, a bod gwahoddiadau yr efengyl yn gyffredinol a didwyll, a bod iawn Crist yn anfeidrol ddigon i gadw pwy bynag a gredai. Bu rhai o hen Galfiniaid culion y cylch hwn yn lled chwerw wrth Mr. Williams am ddwyn o hono y ddysg newydd hon i'w clustiau. Edrychai rhai arno yn fwy na haner heretic, a dywedir y byddai rhai o geidwaid yr athrawiaeth yn rhybuddio eu pobl rhag myned i wrando arno yn pregethu. Ond ei ddysgeidiaeth ef a orfu, ac erbyn heddyw dysgir hi yn ddiwahardd o bulpudau ein gwlad yn gyffredinol. Yr oedd dylanwad Mr. Williams fel dyn, Cristion, a phregethwr ar ddynion rhyfygus yn y gymydogaeth hon yn anhygoel. Ac er wedi marw, y mae yn llefaru eto. Yn mhen amser maith wedi ei gladdu, dywedai un hen feddwyn ei brofiad ar ol ei ddychwelyd at Dduw, Pan y byddwn,' meddai, 'yn dyfod adref, ysywaeth, dan ddylanwad y ddiod feddwol, byddai pasio mynwent y Wern yn waith anhawdd iawn i mi. Un tro, mi a'i cofiaf byth, fel yr oeddwn yn nesâu at y capel, a phan ar gyfer bedd Mr. Williams, dechreuais ofni, crynu, a chwysu. Tybiwn ei weled fel y gwelswn ef ganoedd o weithiau yn y pulpud, a dychmygwn fy mod yn clywed ei lais yn cymhell dynion i ffoi rhag y llid a fydd. Erbyn hyn, nid oedd nerth ynof. Yr oeddwn wedi llwyr sobri, ond yr oedd dychrynfeydd angeu wedi fy nal, gwewyr marwolaeth wedi fy ngoddiweddyd, a meddyliwn fod cyrff y rhai a hunant yn y fynwent yn sefyll yn eu beddau, ac yn fy hwtio am fy nghaledwch, ar ol mwynhau gweinidogaeth mor odidog. Ymlusgais adref heb wybod sut y gwnaethum hyny, ond teimlwn fy hun wedi fy ngorchuddio gan warth a chywilydd, ac yr oedd yn ffiaidd genyf fi fy hun. Ond llewyrchodd goleuni o'r nef ar fy nghyflwr, ac ni welwyd, ac ni welir, mi a hyderaf, mo honwyf yn pasio mynwent y Wern, nac un lle arall chwaith, yn y cyflwr hwnw byth mwy.' Wrth wrando profiad y gwr uchod, nis gallesid peidio meddwl am y gwr hwnw a ddadebrodd, wedi i'w esgyrn ef gyffwrdd âg esgyrn Eliseus. Erys enw Mr. Williams yn etifeddiaeth, ac yn symbyliad i ddaioni hyd y dydd hwn. Nid yw Annibyniaeth Gymreig ond ieuanc mewn cymhariaeth yn y cylchoedd hyn. Tua phedwar ugain a deg o flynyddoedd sydd er y planwyd y fesen fach sydd erbyn hyn wedi tyfu yn bren mawr canghenog, ac adar y nefoedd yn nythu yn ei ganghenau ffrwythlawn. Nid oes gylch yn Ngogledd Cymru, lle y mae yr enwad Annibynol wedi gwreiddio yn ddyfnach ynddo, a chael gafael gryfach arno na'r cylch hwn; ac er fod cyfnewidiadau mawrion yn mhob ystyr wedi cymeryd lle, er yr adeg y bu farw Mr. Williams, eto, y mae yr eglwysi yn lluosogi mewn rhif, ac yn amlhau yn eu haelodau, a'r achos drwy ewyllys da preswylydd y berth,' yn myned rhagddo o flwyddyn i flwyddyn. Gwir na bu yn y cylchoedd hyn yr un gweinidog ar ol Mr. Williams, yn meddu ar ei holl nodweddion a'i ragoriaethau ef, ac y mae yn bosibl na bu yr un yn Nghymru chwaith, eto, bu yma o bryd i bryd ddynion gwir ffyddlawn i Grist—awyddus am gadw eneidiau a cheisio llesâd llaweroedd. Gwelodd yr Arglwydd yn dda fendithio eu llafur, fel y gwelir y dydd hwn; ond rhaid cofio ddarfod i bob un o honynt hwy fedi o ffrwyth llafur dibaid William Williams o'r Wern,'

PENNOD XVII.

NODIADAU AR ATHRYLITH EIN GWRTHDDRYCH.[25]

NID hawdd darlunio athrylith na byddo meddianydd y cyfryw wedi dodi un engraifft o honi ar glawr. Mae y neb a geisio wneud hyny yn gorfod gweithio heb un defnydd, ond yn unig yr hyn a fyddo yn ei gof; ac eto, nid oes un dosbarth o ddynion athrylithgar ag y mae cymaint o angen darlunio eu hathrylith a'r rhai sydd heb ysgrifenu dim; canys y mae ysgrifenwyr yn gadael darluniadau mewn argraff ar eu hol o'r peth ydynt mewn gwirionedd, fel nad oes achos ymdrafferthu yn eu cylch. Yr oedd codi y gofgolofn ddiweddar i Dr. Isaac Watts, yn Abney Park, yn ymddangos fel peth hollol ddiangenrhaid, ag yntau eisoes yn cael cymaint o le yn nghof pawb, o'r baban sydd "yn dechreu bloesgi ei wers gyntaf hyd at ddarllenydd goleuedig Malbranche a Locke, yr hwn na adawai natur gorfforol nac ysbrydol heb eu chwilio; yr hwn a ddysgai y gelfyddyd o ymresymu â gwyddoniaeth y ser."[26] Nid oes cystal mantais ychwaith gan y rhai a fuont yn gwrando ar y gwrthddrych a ddarlunir i gydfarnu am gywirdeb y darluniad, ag a fuasai ganddynt pe buasai meddylddrychau y cyfryw mewn argraff. Treuliai Mr. Williams o'r Wern ei oes heb ysgrifenu dim o werth sylw erioed; a gesyd hyny ni dan. anfantais i osod ei ardeb yn berffaith gywir o flaen y darllenydd. Colled fawr i'r byd oedd iddo ef fyned drwyddo heb ei fod yn llefaru eto;" nid am ryw ddeng mlynedd ar hugain, neu ddeugain mlynedd mewn oes y mae athrylith i lefaru, ond dylai gael ei thafod yn rhydd fel y clywer ei llais hyd gyfnod trancedigaeth anian. Nid ydys yn ymaflyd yn y gorchwyl o geisio darlunio athrylith Mr. Williams heb ystyried ein bod yn dueddol i farnu llefarwr cyhoeddus yn ol fel y byddo y pethau a draddodo yn taraw ein chwaeth ni, ac yn effeithio arnom yr amser y caffont eu traddodi; gan hyny, rhyfyg fyddai i ddyn, wrth ddywedyd ei farn am bregethwr hoff ganddo ef, geisio honi mai hwnw yw unig a phrif bregethwr yr oes, ac y dylai pawb ystyried ei benderfyniad ef yn oracl ar y pwnc. Onid oes gan eraill hawl i farnu yn y mater yn gystal ag yntau. Onid ydyw pregethwr, fel gwaith awdwr, yn eiddo y cyhoedd? Ac megys y gall yr hwn a bryno lyfr, ei farnu, a chyhoeddi ei feirniadaeth arno, os myn, felly gall yr hwn a wrandawo ar bregethwr adrodd ei farn am dano; ond dylai gofio mai ei farn bersonol ef fydd hyny wedi cwbl, ac fod gan ei gymydog hawl i wahaniaethu oddiwrtho os dewisa. Nid oes neb yn rhwym o gredu mai fel y bydd ef yn dywedyd y bydd y peth mewn gwirionedd, am mai efe sydd yn ei ddywedyd; ac os clywir rhyw un yn honi anffaeledigrwydd yn nghylch y mater, byddir yn chwanog i ofyn, "Pwy a'th osododd di yn farnwr?"... Nid ydyw yr ysgrifenydd heb ystyried yr anhawsder o ddarlunio athrylith Mr. Williams yn foddhaol gan bawb; er fod y gwr enwog hwnw, yn ei dyb ef, yn un o ragorolion y ddaear; canys dywed amryw eisoes fod gan amgylchiadau law fawr yn ei wneuthur ef y peth ydoedd, ac na fuasai yn gymaint pe cychwynasai allan i'r byd yn bresenol, pan y mae cymaint o ddynion o athrylith a chymhwysderau mawrion ar y maes. Nid ydys heb deimlo grym yr honiad hwn i raddau; a rhaid addef nad oedd ond ychydig o weinidogion yn bod pan dorai ef allan; ac fod y pethau a draddodent, a'u dull o'u traddodi, yn wahanol. Ychydig iawn a dramwyai yr hen bobl o gymydogaeth y "pum pwnc;" byddent yn ofalus neillduol, bob oedfa, am i bawb wybod mai Calfiniaid oeddynt; canys yr oedd y Wesleyaid wedi dyfod i'r wlad oddeutu 1800. Yr oedd dull hen weinidogion yr Annibynwyr o draddodi yn wahanol iawn hefyd i'r hyn oedd yn mhlith y Trefnyddion Calfinaidd ar y pryd, y rhai oeddynt yn meddu gafael cryf yn meddyliau y werin. Addefid fod gweinidogion yr Annibynwyr yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, ac yn iach yn y ffydd; ond nid oedd dim swyn yn eu dawn na'u dull o bregethu; go sychlyd oeddynt. Ychydig a dramwyent ar hyd y wlad hefyd, nac a newidient â'u gilydd ar y Sabbathau. Byddai y gweinidog Annibynol fel offeiriad yn ei blwyf, a'r bobl o'i gwmpas yn cael newid dawn amryw weithiau yn yr wythnos. Gan nad oedd corff y gwrandawyr yn darllen nac yn meddwl ond ychydig drostynt eu hunain, yr oedd newid dawn bob Sabbath yn cyd-daraw â'u chwaeth yn rhagorol, yn enwedig os byddai digon o gloch yn llais y pregethwr. Nid oedd dim fel hyn i'w gael gyda'r Annibynwyr yn y Gogledd, ond cymerai Mr. Williams ddull gwahanol i'w hen frodyr, ac elai allan i'r prif—ffyrdd a'r caeau; tramwyai y wlad ar ei hyd, ac ar ei lled; pregethai nes synu cynulleidfaoedd mawrion. Bu yr ysgrifenydd yn gofyn iddo pan ar ei daith yn Nghaernarfon ychydig cyn ei farwolaeth, beth fyddai yr hen bobl yn ddywedyd wrtho wrth weled y byd yn myned ar ei ol? "O," ebai yntau dan wenu, "byddent yn dywedyd fy mod i o ngho'." Er yr holl fanteision a grybwyllwyd, y mae'n rhaid addef fod Mr. Williams yn ddyn o athrylith cyn y daethai i'r peth y daeth, o herwydd yr oedd efe megys ar ei ben ei hun yn nghanol yr hen bobl, heb dderbyn ond y gwrthwynebiad penaf oddiwrthynt. Y mae gan bregethwyr ieuainc yr oes hon gynlluniau o'u blaenau, a phob anogaeth i fod yn ddoniol; a pherchir pob dyn ieuanc doniol a theilwng. Yr oedd yr ysgrifenydd yn gynefin â dawn Mr. Williams er pan oedd yn blentyn, ac yn ol yr argraff a adawodd ei athrylith fawr arno o'r pryd hwnw hyd ddiwedd ei oes, y ceisia efe ei ddarlunio yn y llinellau canlynol, ond nid ydyw yn dysgwyl i neb gymeryd ei farn ef fel oracl, bydded i bob un a glywodd Williams o'r Wern farnu drosto ei hun. Y mae pob dyn cyhoeddus yn gyffredin, yn rhagori mewn rhyw beth, ac ni ddysgwylir i holl ragoriaethau y ddaear gyfarfod yn yr un lle. Ond y mae ambell un yn rhagori mewn mwy o bethau na'r llall. Y mae un yn ysgrifenydd da, ond yn areithiwr gwael; un arall yn areithiwr hyawdl, ond yn ysgrifenydd trwsgl; un yn feddyliwr cryf, ond yn adroddwr gwanllyd; un arall yn adroddwr hylithr, ond heb byth ddywedyd dim byd i daraw clust na chydwybod. Anfynych y ceir llawer o wreiddioldeb, meddyliau cryfion, iaith rymus, llais dymunol, agwedd ddillyn, chwaeth dda, a llithrigrwydd dawn yn yr un person. Y mae y naill beth yn gorfod gwneud i fyny am y diffyg o'r llall. Ond y dyn y cyfarfyddo ynddo fwyaf o tagorion gyda'u gilydd yw y tebycaf i fod o fwyaf o ddefnydd cyffredinol na'r hwn a ragoro mewn un peth neu ddau. Nid ydyw dyn o feddwl mawr a chryf heb dafod hylithr, ond mawr iddo ei hun yn unig; y mae fel masnachwr y byddo ganddo gyflawnder o'r defnyddiau mwyaf gwerthfawr, ond heb ffenestr na drws ar ei fasnachdy; nid ellir cael golwg ar ei nwyddau ond drwy yspïeindwll (peep hole). Nid all amryw ond cyrhaedd un gyneddf yn unig o'r enaid, sef y deall, neu y serch; bydd y lleill yn segur, ac bob amser allan o waith, ond bydd pregethwyr sych y deall yn ddig iawn am na baent hwythau yn gallu gwneud mwy gorchest na hyn, a chan nad allant, collfarnant bob un a allo wneud hyny. Dywedai y Parch. Robert Hall mewn cyfeillach, am Barrow fel y canlyn:—"Pregethwr anmherffaith iawn ydoedd. bregethau yn ddarlithiau rhagorol ar anianddysg foesol, ond gallesid eu gwrando gan ddyn am flynyddau heb iddo gael un golwg ar ei gyflwr ei hun fel pechadur, na golygiadau eang ar brif athrawiaethau yr efengyl. Yr oedd ei holl apeliadau yn cael eu cyfeirio at un gyneddf i'r enaid, nid ydoedd efe ond yn anerch y deall yn unig, yr ydoedd yn gadael y serchiadau heb eu cyffwrdd. Dyma yr achos fod ei waith yn cael ei ddarllen gyda'r fath ddiflasdod poenus." Dywedai rhyw un yn y gyfeillach ei fod yn llwyr waghau (exhaust) pob testun a gymerai mewn llaw. "Ydoedd," ebai Mr. Hall, "Ac yn llwyr waghau ei wrandawyr hefyd ar yr un pryd." Gan mai goleuo y meddwl, ac effeithio ar y galon yw rhai o brif anhebgorion pregethu, dylai materion a drinir, a'r dull a gymerir, fod yn dueddol i wneud hyny. Gwaith ofer fyddai treulio amser i ddywedyd llawer am nerth a rhagoroldeb llong, pe byddai gymaint a'r Great Britain, os yn ngodre y Wyddfa neu y Gader Idris y byddai wedi ei hadeiladu, oblegid ni byddai na gwynt nag agerdd i'w symud oddiyno byth. Yn ei gwaith y mae rhagoroldeb pob llong yn gynwysedig. Ni fyddai dyn o feddwl arddansoddawl Jonathan Edwards, o ddyfnder Dr. Paley, o alluoedd ymresymiadol Andrew Thomson, ac o helaeth rwydd a chylchedd meddwl John Howe, yn bregethwr o fawr o fudd heb gyfran o esmwythder a nerth ieithyddol, darfelyddiad cyfoethog ac eglurhaol, a melusder deniadol yn ei lais. Y mae y llais mwyn, tyner, a chrynedig yn effeithiol; ond os bydd yn cael ei godi yn rhy uchel ac undonol (monotonous), cyll ei effaith ar y glust wrth fynych ddisgyn arni. Y mae y natur ddynol yn hoffi amrywiaeth yn mhob peth; gwell ganddi hi drwst y daran, rhuthriad crynedig y rhaiadr, swn cydgordiol yr afon ddofn, miwsig rhygnog ffrwd y mynydd-dir, neu ymhwrdd y dòn yn erbyn safn yr ogof, neu y clogwyn daneddog na pharhaol ddyferiad mêl o'r graig.[27] Nid lle i ddyn drin llawer ar ei offer gweithio yw y pulpud. Yn y llyfrgell y mae y rhai hyny i gael eu hogi a'u harfer. Gwaith gorphenol a ddylai efe ddangos i'r lluaws. Diflasdod fyddai gorfod gwrando ar y darluniwr medrusaf yn darlithio ar natur y llian i dynu y darlun arno, lliw y paent, nifer y pwynteli, maint y pallet, ac uchder yr easel; gwell fyddai genym weled y darlun na gwrando arno, ac na'i weled yn ei offer. Y mae rhai pregethwyr fel pe byddent yn y llyfrgell yn barhaus, a'r gwaith byth heb ei orphen. Y maent yn meddu agos bob cymhwysder ond y cymhwysder angenrheidiol anhebgorol o fedru y ffordd at y gydwybod. Gwelir hwy yn fawr eu llafur yn ceisio dringo y bryn, ond nid ydynt byth yn gallu cyrhaedd ei gopa, nac yn gallu canfod beth sydd yr ochr arall iddo. Yr oedd gwrthddrych ein sylw ni yn un o'r rhai y cydgyfarfyddodd ynddo fwyaf o anhebgorion pregethwr poblogaidd a buddiol o neb yn ei oes. Un o'r dynion hyny a gyfodir megys bob rhyw gan' mlynedd ydoedd Mr. Williams o'r Wern. Yr oedd yn annichonadwy cynefino â'i ddawn ef, oblegid yr oedd ganddo y fath gyflawnder o feddyliau, ac yr oedd y fath newydd-deb yn ei ddull yn eu traddodi. Nid o'r un llanerch y byddai efe yn edrych ar ei wrthddrychau bob amser, yr oedd yn rhaid iddo gael golwg arnynt o bob pwynt.[28]

Ni waeth i rai pregethwyr beth fyddo y testun, yr un fydd y bregeth, a'u clywed hwy unwaith yw eu clywed hwy am byth, ond nid felly Mr. Williams. Mae golygfeydd gwahanol i'w cael ar y Wyddfa o wahanol fanau; ac y mae yn anhawdd eu darlunio yn deg heb fynegu pa sut y mae yn edrych o'r gwahanol barthau y darlunir hi o honynt. un rhan a'i chopa yn weladwy o'r ystafell lle yr ysgrifenir y llinellau hyn, eithr nid allai yr ysgrifenydd ond rho'i darluniad salw o honi oddiyma; ond pe yr elai ar gylchdaith drwy Gapel Curig, Beddgelert, a thrwy Lanberis yn ol, byddai ganddo lawer mwy i'w ddywedyd am dani. Yr oedd Mr. Williams yn Yr oedd yn wr fawr o ran ei alluoedd naturiol. craff, gwelai i egwyddor pob peth a gynygid i'w sylw ar unwaith. Nid oedd neb mwy cymhwys nag ef i'w osod ar y fainc pan fyddai rhyw faterion pwysig i gael eu trafod. Y mae llawer dyn da heb feddu y cymhwysderau hyn i raddau anghyffredin. Y mae llawer dyn duwiol na wnai y tro i'w ddodi ar y fainc. Y mae llawer a ystyrir yn ddynion o alluoedd cryfion na feddant ar gymhwysderau cyffelyb iddo ef yn hyn. Wrth y llyw yr oedd ei le, yr oedd Rhagluniaeth wedi ei ddarparu i hyny; llywodraethai ef heb i neb wybod ei fod yn cymeryd arno y fath waith. Yr oedd ei gynghor a'i gyfarwyddyd o werth mawr. Nid oedd gwell dyddiwr nag ef yn yr oes. Teimlir colled fawr ar ei ol yn ein cymanfaoedd a'n cyfarfodydd o bob natur, oblegid ni adawodd ei gyffelyb ar ei ol. Nid oedd un gangen o wybodaeth fuddiol nad oedd ganddo ef ryw gyfran o honi. Gwnâi bob awdwr a ddarllenai yn eiddo iddo ei hun. Yr oedd pob peth wrth law ganddo yn feunyddiol. Yr oedd efe fel crefftwr cywrain a'i offerynau yn ei gyrhaedd. Y mae llawer gweithiwr da, ond bydd yn hir iawn yn cael hyd i'w bethau. Wrth ymdrin â phob mater hefyd, gwyddai efe yn mha le i'w adael. mae llawer un wedi cael gafael mewn meddylddrych ardderchog yn ei faeddu, ac yn ei anurddo gymaint, fel y bydd yn boen genych wrando arno; nid dywedyd pob peth a wyddai ac a allai y byddai efe, ond detholai y pethau mwyaf pwysig a nodedig yn mhob testun, dangosai y rhai hyny i'w wrandawyr, a gadawai ddigon o le i'r meddwl weithredu. Byddai ei ergyd bob amser ar y gydwybod, ni foddlonai ar oglais tymherau dynion, a gadael y gydwybod yn anargyhoeddedig, ac yn dywyll. Y mae llawer o bregethwyr na feddant un ymgais uwch na chyffwrdd â'r dymher; os gwelant ambell ddeigryn yn treiglo dros ruddiau rhai o'r gwrandawyr, byddant wedi cyrhaedd eu nôd uwchaf; ond nid felly ein cyfaill, achub y dyn o afael y perygl oedd ei amcan ef. Nid oedd neb yn ei oes wedi astudio mwy ar y natur ddynol a thwyll y galon nag ef; byddai yn arfer dweyd, "Y mae natur yn sicr o darawo natur." Yn ei bregethau, dilynai y pechadur i'w holl lochesau, cyfarfyddai â'i holl esgusion, dynoethai ei holl aunoddfaoedd, daliai ef ar bob tir, a gorfyddai fyned yn fud. Byddai cynulleidfaoedd yn plygu fel coedwig o flaen gwynt nerthol yn wyneb dylanwad ei resymiadau anwrthwynebol. Yr oedd ef yn athronydd gwych; galwai gynorthwy holl anian at ei wasanaeth, ac yr oedd pob peth fel yn ufuddhau iddo; nid oedd dim mewn natur na chelfyddyd nad allai efe gael rhyw help oddiwrthynt wrth ymdrin à chyflwr pechadur. Anaml y sylwai ar unrhyw wrthddrych nag ar unrhyw achos, heb dynu rhyw addysg oddiwrtho, Yr oedd ei lygaid yn agored yn mhob man, ac yn mhob amgylchiad. Wrth rodio yn y maes, wrth deithio ar y môr, wrth gerdded heolydd dinasoedd, ac wrth gyfeillachu yn yr ystafell, sylwedydd ydoedd ef, yr oedd yn cymeryd rhywbeth i mewn yn wastadol. Yr oedd natur a chelfyddyd yn gweini fel llaw forwynion iddo yn mha le bynag y byddai. Un gadwyn fawr oedd ei oes; nid ellir dweyd fod nemawr oriau segur wedi myned dros ei ben erioed, yr oedd efe yn wastad mewn gwaith, casglu gwybodaeth oedd ei brif ymdrech, a hyny yn enwedig yn llyfr Duw. Yr oedd efe fel meistr y gynulleidfa yma; plymio i ddyfnderoedd hwn oedd y dyben wrth sylwi ar bob peth arall, yr oedd ei holl wybodaeth mewn pethau eraill yn is—wasanaethgar i hyn. Ni adawodd egwyddor heb ei chyffwrdd, na changen o athrawiaeth heb ei thrafod; ni chymerai bethau mawrion y Beibl yn ganiataol, ond mynai farnu drosto ei hun; chwiliodd y prif awdwyr adnabyddus, tramwyai feusydd helaeth prif dduwinyddion yr oesau, a chloddiai fŵn pur o honynt i'w wrandawyr, a deuai allan mor newydd oddiwrtho a phe na buasai neb erioed wedi meddwl na dywedyd felly o'r blaen. Nid ydoedd byth yn ymddangos yn yr areithfa fel pe buasai llwyth mawr amrosgo o dduwinyddion ar ei gefn, ac yntau yn cael ei lethu dan y baich, ond ymddangosai yn nghanol y cyfryw yn ymadroddwr ffraethlym, a hwythau fel cedyrn Dafydd yn ei gefnogi. Yr oedd ei dafod fel pin ysgrifenydd buan. Y mae amryw a dawn rhwydd ganddynt i lefaru, ond ni fydd dim o werth ganddynt yn yr hyn a leferir. Clywir llawer a ystyrir yn ddawnus gan y werin yn llefaru, efallai am haner awr neu awr, heb ddywedyd dim i dynu sylw y gwrandawyr gymaint ag unwaith......ond yn hollol i'r gwrthwyneb i hyn yr oedd Mr. Williams; tynai ef sylw y gynulleidfa gyda'i fod yn dechreu llefaru, ac ni fyddai neb na theimlai o dan ei athrawiaeth ef—yr athronydd yn gystal a'r hen wraig ddwl; byddai yr olwg arno hefyd, mor gysurus nes y byddai yn hyfrydwch i'r gynulleidfa edrych arno yn trin ei faterion mor naturiol ac mor hwylus. Yr oedd cymaint o ragor rhyngddo ef o ran dawn a llawer a ystyrir yn boblogaidd, ag sydd rhwng y cerbyd ager ar ffordd Birmingham, a char—llusg ar un o fynyddoedd Eryri. Y mae rhai pregethwyr poblogaidd a'u holl ragoroldeb yn eu dull o draddodi yn unig; pan ddarfyddont draddodi, derfydd yr hyfrydwch; y maent fel pe byddai rhyw swyn yn ysgogiad y llaw, ac yn null y wynebpryd; difyrir y gynulleidfa dan yr athrawiaeth, ond pan eir i geisio galw i gof pa beth a ddywedwyd, bydd y cwbl wedi myned i golli. Gallai dyn feddwl ei fod ef yn dal y rhan fwyaf tra yn yr oedfa, ond wrth fyned i adolygu, diflana fel niwl, a phe yr eid i ddarllen pregethau a draddodir dan ddylanwadau fel hyn, ni cheid un math o adeiladaeth ynddynt, nid oes ar y papyr ond y gelain noeth, y mae y bywyd wedi myned i gerdded; ond nid felly Mr. Williams, y pethau a draddodai ef oeddynt yn argraffu ar y meddwl fel nad oedd dim modd eu dileu. Nid ydys yn amheu pe byddai modd casglu ei gynulleidfaoedd ef i'r un lle, na cheid holl bethau rhagorol Mr. Williams yn nghyd rhwng pawb, nid oedd neb gwrandawr na ddaliai ar ryw ranau o'i bregethau, a'r achos o hyny oedd, am ei fod yn ymdrin mwy âg egwyddorion pethau, ac yn trin y rhai hyny yn oleuach na neb yn ei oes. Nid oedd dim gorfodaeth yn ei ddull ef o draddodi. ffordd sy gan lawer i ddwyn y bobl i deimlo yw eu gorchfygu drwy rym llais, a nerth llifeiriant geiriau, ond gweithio yn raddol y byddai ef, ac yn syml—pob peth yn naturiol, nes y byddai dylanwad ei fater drwy ei hyawdledd rhagorol ef, yn disgyn fel gwlith, a'r dagrau tryloywon yn llithro dros bob grudd. Ni flinai efe byth y gynulleidfa â hirfeithder a sychder diflas; ystyriai hwnw yn ergyd rhy ddrud y costid dal y gwrandawyr am awr neu awr a haner i ddysgwyl am dano; byddai efe yn ngafael â'r bobl yn ddiatreg, ac yn dywedyd i bwrpas wrthynt. Ni chaent amser i edrych o'u deutu, nac i feddwl mai wrth ryw rai eraill y byddai efe yn llefaru, ond byddai pob un drosto ei hun yn sylwi am ei fywyd ar yr hyn a leferid. Y mae llawer pregethwr y cewch dri chwarter awr o amser y bregeth ganddo i brynu a gwerthu, planu ac adeiladu, ac i deithio môr a thir, ond nid felly Mr. Williams. Yr oedd eglurder ei ddawn yn nodedig hefyd. Ni fyddai byth yn ymwisgo mewn cymylau, nac yn dwyn ei wrandawyr i niwl a thywyllwch. Ni ddywedid wrth ddyfod o'i wrando ef, y mae efe yn bregethwr dwfn iawn, ond canmolid ef gan bawb am ei eglurder. Yn ymyl ei wrandawyr yr oedd efe o hyd; pregethu ar yr Iawn, ac ar Gyfiawnhad pechadur, fel y gallai yr hen wraig ei ddeall yr ydoedd. Os soniai rywbeth am allu a doethineb Duw fel crewr y byd, nid pensyfrdanu dynion drwy ddywedyd wrthynt am faint Jupiter, Mercury, a Sadwrn yr ydoedd, a'u byddaru drwy son am eu troadau a'u pellder oddiwrth eu gilydd, &c., ond yr ydoedd fel math o delescope—tynai y pethau hyn i ymyl y dyn, gael iddo gael cyfleusdra i farnu drosto ei hun, a rhyfeddu doethineb a gallu Duw yn y cwbl. Nid oes dim haws na dallu y werin anwybodus os arferir geiriau swnfawr, ac os sonir digon am bethau uwchlaw eu hamgyffred, fel nad allant ffurfio un math o farn am danynt, ond eu goleuo yr ydoedd ef, gwneud athronydd o'r bugail ar lethr Cader Idris, a duwinydd o'r cloddiwr yn ngodre y Wyddfa. Pregethu etholedigaeth nes yr oedd pawb yn ei chofleidio, a rhwymedigaeth foesol nes y gorfyddai waeddi allan, "Och fi, darfu am danaf."

Yr oedd ei gymhariaethau hefyd yn naturiol ac yn agos, llewyrchent ar feddwl y gwrandawyr mewn amrantiad. Gwael yw y gymhariaeth y bydd eisieu ei hesbonio; ac os dygai ffraethair i fewn i daflu goleuni ar rywbeth, nid fel ffwl y ffair (Merry Andrew) y gwnai hyny i gynhyrfu uchel-chwerthiniad ynfyd a llygredig; ei ddywediad bob amser am ffraethair oedd y dy esid ei arfer fel halen. gyda bwyd. Y mae ambell un yn boblogaidd yn mysg y werin anwybodus ar y cyfrif ei fod yn ddigrif, ac yn dywedyd hen storïon i beri chwerthin; ond ffieiddir y cyfryw gan y duwiol a'r dysgedig. Nid lle i gellwair yw y pulpud, sobrwydd a difrifoldeb oedd yn nglŷn â phob peth o eiddo ein cyfaill ymadawedig. Arferai eiriau lled arw weithiau, yr hyn a fuasai yn anfaddeuadwy mewn eraill, ond yr oedd ganddo ef gynifer o bethau rhagorol i orbwyso hyny, fel yr oeddynt yn gweddu iddo; ond ni fyddai efe byth yn isel nac yn ddifoes. Y mae amryw yn yr areithfa gyda phob enwad mor isel ac mor ddifoes fel y gallai y gwrandawyr dybio eu bod hwy wedi preswylio yn nghymdeithas eurychod a 'sgubwyr mwgdyllau ar hyd eu hoes; bydd y rhan fwyaf tyner o'r cynulleidfaoedd yn gwrido wrth eu gwrando, a phob dyn o chwaeth yn ei ffieiddio; ond gwelid y gwr boneddig a'r dyn a chwaeth ynddo ef yn nghanol yr iaith fwyaf bratiog a arferai, byddai ei feddylddrychau yn gywir ac yn darawiadol. Y mae llawer o ddynion o ddoniau hyawdl, a'u doniau yn drech na'u barn; cymerant eu cipio ganddynt i siglenydd a chorsydd nes y byddant wedi glynu yno, ac yn methu gwybod y ffordd i droi yn ol; ond nid felly Mr. Williams. Nid oedd neb cywirach o ran ei farn nag ef; yr oedd yn fwy felly, ysgatfydd, nag odid bregethwr poblogaidd yn ei oes. Gochelai ormod o wylltineb dychymygol ar un ochr, a phendantrwydd a sicrwydd anffaeledig o'r ochr arall; ymdrechai hwylio ei gerddediad ar hyd canol llwybr barn. Yr oedd ganddo ddawn ehediadol rhagorol hefyd; yr oedd yn gynefin iawn, gallesid tybio, â phreswylwyr y fro anfarwol. Dywediad un gwr am dano oedd, wedi ei glywed yn pregethu am y "Wlad well," ei fod wedi son cymaint am Abraham, Isaac, Jacob, &c., nes yr oedd ef yn meddwl ei hun wedi dyfod yn eithaf cydnabyddus â hwynt. Yr oedd ei ddarluniadau bob amser yn naturiol ac yn nerthol; yr oedd yn fath o Raphael Cymreig ac yn Filton Ni anghofir byth, mae yn ddiamheuol, ei bregeth ragorol ar Fawredd Duw gan y canoedd a'r miloedd a'i clywsant. Yr oedd hono y darluniad mwyaf ardderchog o ddim a glywyd yn yr iaith. Y mae ei bregeth ar y "Wlad well" hefyd yn meddyliau miloedd; tybiodd llawer, wrth ei glywed yn traddodi hono yn Nghymanfa Llanerchymedd, eu bod hwy wedi eu cipio i dalaeth uwchlaw y ddaear hon, yr oeddynt yn debyg o ran eu dymuniad i Pedr ar fynydd y gweddnewidiad, pan ddywedai, "Gwnawn yma dair pabell." Ei bregeth ar Barodrwydd Duw i faddeu oedd yn ddigon effeithiol i doddi y gareg; ac ugeiniau eraill a allesid eu crybwyll. Nid ydyw Cymru eto wedi dangos rhagorach dyn yn mhob peth na Mr. Williams. Dichon y gellid cael rhesymydd cadarnach nag ef mewn un, duwinydd mwy dyfn—dreiddiol ac arddansoddawl (metaphysical) nag ef yn y llall, gwell dychymygwr nag ef yn y trydydd, a threfnusach areithiwr nag ef yn pedwerydd; ond gallai na fyddai ond un o'r rhagoriaethau hyn wedi dyfod i ran yr un person; ond yr oedd ef wedi cyrhaedd cymaint o wybodaeth a medrusrwydd yn yr holl bethau a grybwyllwyd ag a'i gwnaeth yn bregethwr goleu, effeithiol, defnyddiol, a llwyddianus. Yr oedd y pethau hyn i raddau anghyffredin hefyd ynddo. Pan eir i dynu y llinell rhwng y naill a'r llall, y mae gormod o duedd ynom i benodi ar ryw un cymhwysder mewn pregethwr, ac i'w gyhoeddi yn flaenaf o bawb ar y cyfrif hwnw yn unig; ond mwy teg fyddai chwilio hyd a lled, uchder a dyfnder y cyfryw, ac edrych pa faint ydyw o fesur sylweddol. Gall dyn fod yn rhesymwr cryf heb ddim yn neillduol ynddo i dynu sylw y cyffredin. Nid cynulleidfaoedd o ymresymwyr dysgedig sydd genym yn Nghymru. Gall arall fod yn un arddansoddol, a byddai yn briodol iddo, efallai, arfer ei fedrusrwydd yn hyn, pe caffai gynulleidfaoedd o alluoedd Edwards o'r America, John Howe, Robert Hall, a Dr. Wardlaw, i'w wrando. Dichon un arall fod yn gryf ac yn fywiog o ran ei ddychymyg, ond os na fydd ganddo rywbeth heblaw hyny ni phorthir dim llawer ar ei gynulleidfa â gwybodaeth ac â deall. Nid all dynion fyw ar flodeu, ebai Robert Hall. Gall dyn fod yn areithiwr trefnus, celfyddgar, a manwl, yr hyn sydd ganmoladwy; ond efallai pe byddai y pethau a ddywedid wedi eu dodi ar bapyr y byddent mor anhrefnus a'r tryblith ei hun. Y mae tramynychiad o'r un peth yn cael ei ddywedyd gan areithwyr o'r fath yma; sef, dynion nad ydynt wedi ymgeisio at ddim ond trefnusrwydd ymddangosiadol yn eu hareithiau. Ychydig o feddylddrychau a geir ganddynt, a'r ychydig hyny yn rhai cyffredin a gwael yn fynych, ond fel y byddont hwy yn eu gweithio i fyny â'u dawn, eu hamneidiau, ac âg ystumiau y corff. Nid ydoedd Mr. Williams wedi mabwysiadu unrhyw ffurf i'w dilyn wrth draddodi o ran dull; nid oedd unrhyw ragfwriad i'w weled yn ei ddullwedd; nid oedd ganddo unrhyw arwyddion ffordd yn amlwg i'r gynulleidfa, na chanllawiau i gerdded rhyngddynt, ond yr oedd pob peth yn naturiol. Yr oedd fel llong yn nghanol y môr a f'ai yn cymeryd ei hysgogi gan y gwynt a'r llanw. Pan elai i ddywedyd am bechod a'i ddrygedd, yr oedd rhyw awdurdod anarferol yn cydfyned â'i eiriau, yr oedd oll yn gyffro santaidd; ond ei destun hoff oedd Dyoddefiadau y Cyfryngwr, dyna y lle y byddai gartref. Calfaria oedd y man y dymunai sefyll arno i gyhoeddi gwaredigaeth i fyd o golledigion, ond os äi i Sinai, yr oedd y mynydd yn mygu, taranau yn rhuo, mellt yn llewyrchu, ac yntau oddiar ei gopa, fel mab y daran, yn cyhoeddi y melldithion uwchben yr anwir, nes y byddai y pechaduriaid caletaf yn crynu; ond pan äi i gopa y bryn lle yr hoeliwyd ysgrifenlaw yr ordeiniadau, i son am bigau y goron ddrain, llymder yr hoelion, y tywyllwch, y ddaeargryn, dolefiadau y Cyfryngwr, "A'r gwaed yn llifo ar y groes," byddai pawb wedi cydymollwng mewn ffrydiau o ddagrau. Rhoddai efe foddlonrwydd cyffredinol i bawb, yr oedd ganddo rywbeth i bob math a chyflwr. Caffai yr athronydd a'r diddysg wledda ar yr un bwrdd ganddo ef, oblegid yr oedd ganddo y fath gyflawnder o amrywiaeth. Un mawr ydoedd mewn haelfrydedd; nid oedd byth am orfodogi neb i fod o'r un farn ag ef mewn athrawiaeth na dim arall. Casai y golygiadau cul a rhagfarnllyd goleddir gan lawer o broffeswyr o wahanol enwadau am eu gilydd, a gwnaeth ei oreu drwy ei oes i ladd pob teimladau annymunol felly. Rhoddai ddeheulaw cymdeithas i bawb a welai am wneud daioni i eneidiau pechaduriaid, gan nad i ba enwad y perthynent, a phregethai Iesu Grist wedi ei groeshoelio yn mhob addoldy y caffai efe ei ddrws yn agored i'w dderbyn. Y mae rhai yn ei hystyried yn beth mawr a phwysig eu cael hwy, neu yr enwad y perthynant iddo, i gydnabod proffeswyr o enwadau eraill yn saint, fel pe byddai iechydwriaeth eneidiau y cyfryw yn dibynu ar y meddyliau fydd ganddynt hwy am danynt, ond y mae y cyfryw o ysbryd gwahanol iawn i'r diweddar Mr. Williams o'r Wern. Dangosodd ef ei hun yn nghychwyniad ei weinidogaeth yn wr rhydd, caredig, o'r nifer hyny sydd yn tybied eu gilydd yn well na hwy eu hunain. Pan ddaeth llwyrymataliaeth i Gymru, bu ef yn gymedrol iawn yn ei nodiadau. Yr oedd pob peth a ddywedai yn tueddu yn hytrach i enill dynion at yr egwyddor nag i'w tarfu oddiwrthi. Yr oedd am i'r egwyddor lwyr—ymataliol sefyll ar ei sylfaen ei hun, ac nid ei chymysgu â'r efengyl; nid oedd yn foddlawn ei gwneuthur yn amod derbyniad i'r eglwys, nag yn gymhwysder (qualification) i'r areithfa. Dywedai wrth gyfaill oddeutu mis cyn marw fel hyn:—"Nid oes genyf fawr o feddwl am y pregethwyr oeddynt yn eu swydd, ac yn meddwi, fod dirwest wedi rhoi principle newydd iddynt; ond dynion ag oeddynt yn feddwon, ac a aethant yn ddirwestwyr, a ddaethant yn broffeswyr, y mae genym gymaint o feddwl am y cyfryw a neb." Ni welid byth mo hono yn arfer un math o dwyll na hoced i geisio dyrchafu ei hun. Nid ei hunan oedd ganddo mewn golwg, ond gogoniant Duw a lles pechadur. Yr oedd yn foddlawn i ddwyn ei holl gofnodau goruwchafiaeth (trophies) at droed y groes, i gysegru pob dawn a dylanwad a feddai at ogoniant ei Feistr. Yr oedd yn hawdd ei drin. Y mae ambell hen bregethwr na chyrhaeddodd erioed y filfed ran o ragoriaethau na defnyddioldeb Mr. Williams, y byddai yn haws i chwi gael ymddyddan â'r Tywysog Albert nag ag ef. Y mae wedi ei chwythu i fyny â meddyliau mawr am dano ei hun, a bydd raid i bawb nesâu i'w wyddfod fel y bydd caethion yn myned o flaen eu gormeswyr; ond fel plant yn nesâu at eu tad y nesâi pregethwyr ieuainc at Mr. Williams. Byddai fel un o honynt, pob gwahaniaeth wedi ei golli, i raddau mawr, ac yntau yn gwneuthur ei hun yn hyfryd yn y gyfeillach. Nid oedd yr holl godiad a'r dyrchafiad oedd yn gael wedi effeithio arno er niwed, ond yr oedd efe yn gydostyngedig â'r rhai iselradd. Nid oedd neb yn fwy rhydd nag ef ychwaith oddiwrth goeg—ysgolheigiaeth. Yr oedd efe yn fwy dysgedig o lawer nag y cymerodd arno fod erioed; gallesid meddwl wrth edrych ar ei ddiofalwch gyda'r Gymraeg a'r Saesonaeg, nad oedd ei wybodaeth yn hyn ond canolig; ond yr oedd y neb a dybiai hyny yn llafurio dan gamgymeriad; nid arwyddion dyn annysgedig oedd ar ei bregethau; ei feddylddrychau ef, mae yn wir, oedd fwyaf yn y golwg; ychydig a ymdrafferthai yn nghylch y dull o'u gosod allan, ond gwelid arwyddion o athrylith a dysg yn mhob peth yr ymdriniai efe ag ef. Y mae llawer, os byddant wedi cyrhaedd gradd o fedrusrwydd i osod geiriau wrth eu gilydd yn lled reolaidd ac ysgolheigaidd yn Gymraeg neu Saesonaeg, yn meddwl fod y gwaith ar ben, pe byddai y darnau a gyfansoddant mor amddifad o athrylith ag yw copa y Wyddfa; ond nid ymdrafferthai Mr. Williams gymaint gyda'r wisg; mynai ef egwyddor i'r golwg; y mae yn wir y gallasai efe dacluso mwy ar amryw o'i ymadroddion, ond gwell oedd ganddo gloddio mŵn i'w wrandawyr, er ei fod yn lled arw weithiau, na cheisio eu difyru âg ymddangosiad o beth. Nid ydoedd efe yn ymdrafferthu byth i gael gan y werin dybied ei fod yn dduwiolach nag ydoedd mewn gwirionedd; yr oedd yn berffaith rydd oddiwrth rodres a hoced. Nid ymadawai âg un teulu, lle y dygwyddai letya, heb fod yn eu meddyliau ryw barch anarferol tuag ato. Ystyrid ef gan bawb yn ddyn didwyll, a'i ymgaisam wneuthur llesad. Yr oedd pwys yn ei gymeriad, pa le bynag y byddai, fel nad oedd angen arno am ffug ymddangosiadau. Trwy ei fod yn wr o dymherau siriol a rhydd, prin yr ystyrid ef yn dduwiol gan rai rhagfarnllyd o wahanol farn iddo gynt; byddent yn dywedyd ei fod ef "yn pregethu yn rhy iach o ran ei ysbryd; ac mai dyn heb wybod dim am ddrwg pechod ydoedd." Caffai wrandawiad mawr y pryd hwnw; ond yr oedd y bobl graff hyny sydd yn gwybod mor sicr pwy sydd yn dduwiol, a phwy sydd heb fod, yn foddlawn iddo yntau gael bod yn dduwiol er ys blynyddau bellach. Bu ei godiad yn foddion i roi ail fywyd yn achos yr Annibynwyr yn Ngogledd Cymru. Adfywiwyd yr hen eglwysi a phlanwyd eglwysi newyddion. Llafuriodd yn ngwyneb digalondid; a goddefai lawer gair bach oddiwrth amryw o'i hen frodyr, hyd nes o'r diwedd y gorchfygwyd eu rhagfarn trwy lafur di-ildio. Y peth tebycaf i fai ynddo oedd treulio cymaint o'i feddianau bydol i gynorthwyo eglwysi yn eu diogi a'u diffrwythder. Y mae gwneud hyn yn tueddu yn ddrwg bob amser, yn mhob man, lle y byddo dynion yn alluog i wneud rhywbeth at yr achos. Y mae pobl mor wirionllyd ac mor gybyddlyd mewn eglwysi, nes yr ystyrient "hi yn fraint" i ddyn gael talu o'i boced ei hun am gael pregethu iddynt. Y mae yn debygol nad ydoedd Rhagluniaeth wedi ei fwriadu ef i fod yn yr un fan am ei oes, ond yr oedd i fod yn ddefnyddiol yn gyffredinol. Y mae anhawsder mawr ar ffordd dynion fyddo yn teithio llawer i lafurio llawer; y maent, yn gyffredin, yn byw ar hen bethau, ac yn myned dros y pethau hyny yn barhaus; gwyddir am rai pregethwyr poblogaidd yn traddodi yr un bregeth ar ddeuddeg o wahanol destynau, yn yr un addoldai, ac i'r un pobl! ond nid felly y byddai Mr. Williams. Gan nad pa mor fynych y deuai efe i'r un fan, byddai ganddo bregeth newydd bob amser, a meddylid wrth ei wrando na lefarodd dyn erioed fel y dyn hwn. Y mae yn ddiamheuol fod canoedd o wrandawyr a saethau a daflwyd oddiar ei fwa ef yn eu cydwybodau hyd y dydd hwn. Llafuriai lawer i geisio dangos yr angenrheidrwydd o grefydd deuluaidd, ac ni fu ei lafur yn ofer. Cafodd weled ei blant ei hun gyda chrefydd, a bu ei gynghorion yn fendith i filoedd. Syrthiodd i'r bedd yn nghanol ei ddefnyddioldeb. Yr oedd efe yn canlyn, neu yn hytrach yn blaenu yr oes yn ei gwelliantau ac yn ei chyfnewidiadau. Ni bu erioed yn fwy defnyddiol nag oedd yn ei ddyddiau diweddaf. Yr oedd ei arfogaeth am dano. Ni bu cwmwl ar ei gymeriad. Ni wnaeth aberth erioed ar egwyddor i brynu ffafr neb, nag i enill gwên ei uwchafiaid; ond safai at ei egwyddorion dilynai y llwybr oedd Rhagluniaeth wedi dori iddo, ac fel Ymneillduwr cydwybodol, yn ddiwyrni hyd y diwedd. Y mae llawer un defnyddiol ar y maes na fyddai y golled am dano ond lleol, ond teimla Cymru oll ar ei ol ef. Efe oedd prif golofn ein Cymanfaoedd am flynyddau; ystyrid y cyfarfodydd megys drosodd wedi y llefarai ef, oblegid yr oedd ynddo gynifer o ragoriaethau wedi cydymgyfarfod. Yr oedd ei boblogrwydd ef o'r iawn ryw; canys yr oedd felly yn nghyfrif prif wrandawyr yr efengyl yn Nghymru, sef y rhai mwyaf dysgedig a gwybodus o'r cynulleidfaoedd, a pherchid ef gan yr anwybodus sydd yn meddwl fod poblogrwydd dyn yn gynwysedig mewn llais ac agwedd gorfforol yn unig. Yr oedd ynddo rywbeth ar gyfer pob gradd ac oedran; ac y mae ei goffadwriaeth yn anwyl gan bob graddau, a chan dduwiolion o bob enwadau." Diangenrhaid yw unrhyw esgusawd o'r eiddom ni, yn rheswm dros ein gwaith yn adgyhoeddi yr ysgrif hon o eiddo beirniad mor graff, ac ysgrifenydd mor fedrus ag ydoedd Caledfryn.

PENNOD XVIII.

NODWEDDAU PREGETHWROL EIN GWRTHDDRYCH, GAN DRI O DYSTION.

Y CYNWYSIAD.—Ysgrif y Parch. David Morgan, Llanfyllin— Anerchiad y Proff. H. Griffith, F.G.S., Barnet—Nodiad gan Dr. David Roberts (Dewi Ogwen), Wrexham

NIS gallwn ymatal heb roddi yma yr hyn a ganlyn o eiddo y Parch. David Morgan, Llanfyllin, am ein gwrthddrych, allan o Hanes Ymneillduaeth, tudalen 551—555—"Ymdrechwn daflu ychydig berarogl ar allor coffadwriaeth ein cyfaill ymadawedig; oblegid nid oes neb yn bresenol (1855) a gyddeithiodd fwy gydag ef drwy Gymru a Lloegr na ni. Cawsom gyfle i adnabod ysgogiadau a gweithrediadau dirgel ei feddwl, a gwahanol dueddiadau a theimladau ei galon, yn ngwyneb gwahanol amgylchiadau a'i cyfarfyddodd. Nid oedd Mr. Williams yn un anhawdd ei adnabod; oblegid yr oedd yn ddyn syml, ac yn Gristion unplyg. Nid oedd unrhyw dwyll na hoced yn perthyn iddo, ond byddai ei olwg, ei eiriau, a'i ymddygiad, yn arddangosiad gwir o egwyddorion ei galon. Yr oedd ei hynawsedd, ei addfwynder, ei ffyddlondeb, a'i gydymdeimlad parod, ac yn enwedig tynerwch ei gydwybod, a'i ofal mawr rhag pechu yn erbyn yr Arglwydd, yn ei wneud yn gyfaill hoffus a rhagorol. Hoffai gyfeillgarwch yn fawr, ac yr oedd mor barod i dderbyn cynghor daionus ag ydoedd i gyfranu. Gallai un ymddiried ynddo, a thywallt ei holl deimladau i'w fynwes, heb ofni unrhyw niwed mewn canlyniad. Yr oedd yn fawr ei ofal am fod yn un â'i air. Yr oedd ei feddwl mor doreithiog o bethau daionus, fel yr oedd ei gyfeillach yn fuddiol, adeiladol, a hyfryd, i'r Cristion profiadol. Cydgyfarfyddai y fath amrywiaeth o ragoriaethau yn ei nodweddiad fel Cristion a phregethwr, fel mai annichonadwy yw tynu darlun cywir o hono. Yr oedd yn un gwir fawr a boneddigaidd, heb ddim coegni, mursendod, na hunanoldeb yn perthyn iddo. Arferai fyw yn dduwiol iawn, ac agos at Dduw, heb wneud ymddangosiad ffugiol o hyny. Yr oedd yn siriol, heb fod yn ysgafn a chellweirus. Ceryddai yn llym yr hyn a farnai yn feius, a hyny heb fod yn sarug a chwerw. Daliai i'w godi a'i fawrhau heb ymchwyddo ac ymddyrchafu yn ei olwg ei hun. Pan y byddai tyrfaoedd mawrion yn ymdyru i wrando arno, hyd na annent yn yr addoldai helaethaf, a phan y caffai yntau hwylusdod i draethu y genadwri nes y byddai yn gwneud yr argraff ddwysaf ar feddyliau y gwrandawyr, ni chlywid byth mo hono yn clochdar ar ol hyny. A phan y cyfeirid at hyny mewn ymddyddan, byddai mor bell o ymddyrchafu, fel y byddai yn ymsuddo i'r llwch, gan ddywedyd, "Pwy ydym ni pan y gwneid felly â ni? Nid i ni, nid i ni, ond i arall y mae y mawl yn ddyledus." Nid oedd Mr. Williams mor helaeth darllenwr ar weithiau dynion a llawer; ond yr oedd yn astudiwr mawr ar naturiaeth, anianyddiaeth, Rhagluniaeth a'r Beibl; ac yr oedd o feddwl mor fywiog, cyflym, a gweithgar, fel y medrai sugno gwybodaeth o bob peth a'i hamgylchynai. Pa destun bynag yr ymaflai ynddo, treiddiai iddo yn gyflym nes ei ddeall, trwy ryw ddarluniau neu gilydd, a hyny yn lled ddiboen a didrafferth i olwg eraill. Er fod Mr. Williams yn Ymneillduwr cydwybodol, ac yn bleidiwr gwresog i egwyddorion Annibyniaeth mewn trefn a llywodraeth eglwysig; eto yr oedd yn mhell o fod o ysbryd cul a rhagfarnllyd tuag at eraill o wahanol olygiadau iddo, a gallasai ddweyd yn hyf, "Cyfaill wyf fi i'r rhai oll a'th ofnant." Dangosodd hyn yn eglur yn ei barodrwydd i fenthyca ei ddoniau, ei dalentau, a'i amser, i wasanaethu enwadau eraill pan alwent am danynt. Ni adwaenem un yr oedd achos y Gwaredwr, ac achubiaeth eneidiau yn gorphwys yn ddwysach ar ei feddwl na'n cyfaill ymadawedig; na neb parotach i aberthu ei gysuron, ei esmwythder, ei elw, a'i lesiant personol, i ddwyn yn mlaen yr amcanion hyny. Amlygodd hyn drwy ei ymglymiad gwirfoddol â'r achos goreu yn gyffredinol; oblegid teithiodd lawer, a llafuriodd yn ddibaid i'w ddwyn yn mlaen, nid yn unig yn y lleoedd hyny oedd dan ei ofal neillduol, ond yn mhob man y gelwid am ei gymhorth, yn enwedig yn Ngogledd Cymru. Pan yn teithio o'r naill le i'r llall, nid teithio fel pregethwr yn unig y byddai, ond byddai mewn llafur am lwyddiant yr achos yn y lleoedd yr ymwelai â hwynt, fel y gwnai ei hun yn bobpeth i hyny. Un parod i bob gweithred dda ydoedd, er y byddai y cyflawniad yn aml yn gofyn aberth lled fawr oddiwrtho. Y mae y nifer mawr o addoldai y bu ganddo law mewn cysylltiad âg eraill i'w hadeiladu, a'r canoedd punau a dalwyd o'u dyledion trwy ei offerynoliaeth ef, yn brawf eglur o hyn. Y mae lluaws yn teithio llawer yn mhell ac agos i bregethu, ond dangosent yn eglur mai traddodi y bregeth ydyw y cwbl; nid oes ynddynt na phryder na gofal, ac ni wnant unrhyw ymdrech i godi achos crefydd mewn lleoedd gweiniaid, na dangos y parodrwydd lleiaf i anturio i unrhyw draul ac ymrwymiad personol i adeiladu addoldai, na rhoddi dim help mewn lleoedd y byddo gwir eisieu cymhorth. Nid un felly oedd ein cyfaill ymadawedig. Aeth yn mlaen drwy lafur caled, a thros fynyddau o rwystrau, heb un golwg am na thâl na gwobr oddi—wrth ddynion am ei wasanaeth; ond gweithredai mewn ffydd, gan ymwroli fel un yn gweled yr Anweledig. Llawer gwaith y dywedodd pan y clywai fod rhyw gwmwl tywyll wedi ei ddwyn ar yr achos trwy gamymddygiad, "Y mae y fath beth, meddai, "Yn ddigon i achosi na byddo yr un wên ar ein hwyneb tra byddom byw." Bod Mr. Williams yn bregethwr rhagorol iawn a addefir gan bawb a'i clywsant, ond anhawdd iawn ydyw darlunio ei ragoriaethau yn gywir, na'u holrhain i'w gwir achosion. Diau fod ei ffraethder a'i hyawdledd fel ymadroddwr, grym a pheroriaeth ei lais, y cyflawnder geiriau a feddianai, a'r ystwythder gyda pha un y traddodai bob amser, yn gwasanaethu er iddo fod yn bregethwr mawr a phoblogaidd; ond nid hyn yn unig oedd yn ei wneuthur felly; ond rhaid priodoli ei ragoroldeb penaf i'r pethau canlynol:—Ei nodweddiad dysglaer a digwmwl, ei wybodaeth o egwyddorion pethau yn gyffredinol, fel yr oedd ganddo gyflawnder o ddefnyddiau priodol wrth law i osod ei feddyliau allan yn eglur a tharawiadol—ac i'r modd y byddai yn deall yn drwyadl y mater a ymdriniai âg ef, fel y byddai yn gallu traddodi ei sylwadau yn oleu a grymus ger bron ei wrandawyr. Gwnai ddefnydd o bob peth o'i amgylch, ac o bob amgylchiad a'i cyfarfyddai, er cyfoethogi a galluogi ei feddwl i osod allan ei feddylddrychau mewn modd eglur a nerthol. Yr oedd ei sylwadau yn bethau ag oedd yn ymyl pawb o honom, a byddem yn synu na buasem wedi eu gweled a'u defnyddio o'i flaen. Yr oeddynt yn llawn o sylweddau, yn rhoddi goleuni i'r deall, a theimladau bywiog i'r galon. Yr oedd yn fedrus yn holl ranau gwaith yr areithle. Yr oedd yn fedrus yn nghyfansoddiad ei bregethau—safai ar brif bwnc ei destun, ac elai i mewn i ysbryd ei destun. Yr oedd yn fedrus ac yn dlws yn ei frawddegau a dewisiad ei eiriau; ac ymdrechai ar fod ysbryd ei bwnc, a theimladau ei galon, yn cydlewyrchu â'i ymadroddion, fel y byddent yn danllyd ac yn enynol i feddyliau eraill. Dywedai yn fynych, "mai pregethau diwaed byw ynddynt oedd pregethau amddifad o'r peth hwn.' Byddai ganddo nôd neillduol i gyrchu ato yn mhob pregeth, ac ymgadwai at un llinell o ymdrafodiad er cyrhaedd y nôd hwnw. Dywedai yn aml ei fod yn gofidio yn fawr wrth glywed pregethwyr yn pentyru geiriau mawreddog ar eu gilydd, na wyddai neb pa nôd a fyddai ganddynt mewn golwg, na pha deimlad daionus a amcanent gynyrchu drwyddynt. Cyffelybai efe bregethu o'r natur yma i "ddyn mewn llestr ar y môr, heb yr un llyw, nac aber mewn golwg yn unman; ac er ei holl ymdrech a'i orchest yn wyneb y tònau, nid oedd fawr o debygrwydd y byddai y fordaith hono o fawr o elw nac o gysur i neb; felly yn neillduol y mae pregethau diamcan." Er fod ein cyfaill yn traddodi ei bregethau yn frwdfrydig, ac yn llawn o deimladau bywiog a thanllyd; eto, yr oedd ganddo feddiant a llywodraeth gyflawn arno ei hun yn ei holl eiriau, ei ddull, a'i ysgogiadau. Pregethai oddiar adnabyddiaeth helaeth o hono ei hun, o bla ei galon, o druenusrwydd ei gyflwr wrth naturiaeth, ac o dueddiadau ei natur anmherffaith ei hun, fel yr oedd yn alluog i bregethu i eraill yr hyn a deimlent yn brofiadol. Prif ganolbwynt ei bregethau oedd "Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." Dygai allan ei holl athrylith, a holl drysorau ei wybodaeth, i osod allan Iesu Grist yn mawredd ei berson fel digonol Geidwad i bechaduriaid. Gwnai yr Arglwydd Iesu yn bobpeth yn nghadwedigaeth pechaduriaid. Gosodai allan nad oedd cyflawniad o unrhyw ddyledswydd o un gwir lesâd i neb, oni byddent yn seiliedig arno Ef a'i aberth; ac mai y peth cyntaf oedd i bechadur wneud oedd ei dderbyn, a ffoi ato am ei fywyd. Nid yn unig yr oedd ei fedrusrwydd fel pregethwr yn dyfod i'r golwg yn ei ddull yn medru pregethu athrawiaethau dyfnaf yr efengyl mewn eglurdeb, ond hefyd yr oedd yn gallu eu pregethu yn eu cysylltiad â rhwymedigaeth i fywyd santaidd, ac ymarferiadau crefyddol, a'u dylanwad bywiol i gynyrchu y pethau hyn yn mhawb a'i hadwaenent. Nid oedd graslonrwydd athrawiaethau yr efengyl yn cael eu cuddio o'r golwg ganddo wrth osod i fyny rwymedigaeth dynion i'r dyledswyddau gorchymynedig; ac ni theflid o'r neilldu ddyledswyddau crefydd, er i raslonrwydd y nef ymddysgleirio; ond cydlewyrchent yn hardd yn ei weinidogaeth bob amser. Ni adwaenem neb yn medru pregethu y ddeddf yn ei hundeb â'r efengyl yn fwy goleu, na phregethu yr efengyl yn fwy gogoneddus mewn cysylltiad â deddfau y nef. Un hynod o fawr ydoedd mewn gweddi. Er na byddai ond byr yn ei weddiau cyhoeddus, fel y byddai yn gyffredin yn ei holl gyflawniadau crefyddol; eto, yr oedd ddifrifol ac yn gymhwysiadol iawn ynddynt bob amser. Yr oedd braidd uwchlaw neb a wyddom am fedru dweyd llawer mewn ychydig eiriau, ac mewn ychydig o amser. Yr oedd fel pe buasai yn pregethu gyda phelydr y goleuni a gwres yr haul. ....... Dywedir am Mari, brenhines Lloegr, ei bod yn dweyd cyn marw, pe byddai iddynt edrych ar ei chalon ar ol ei marwolaeth, y caent weled Calais yn argraffedig arni. Gellir dywedyd fel hyn am Mr. Williams, ond gyda mwy o sicrwydd, fod llwyddiant ac achubiaeth eneidiau yn argraffedig yn ddwfn ar ei galon, oblegid hyny oedd yn llenwi ei holl feddyliau wrth fyw, a'i holl ymddyddanion wrth farw."

Trwy ganiatad parod y Parch. Owen Jones, M.A., gynt o'r Drefnewydd, ond yn awr o Oakland, Cal., U.S.A., rhoddwn yma y dyfyniad canlynol allan o "Some of the Great Preachers of Wales," tudalen 344—351. Da genym allu cyflwyno i'r darllenydd y dyfyniad a ganlyn o araeth a draddodwyd gan y Parch. Athraw Henry Griffith, yn nghyfarfod yr haf, 1882, yn Ngholeg Cheshunt, "Drwy gysylltiadau teuluaidd pur ffodus, dygwyddodd i mi yn fy mywyd boreuol weled cryn lawer ar yr enwog Williams o'r Wern, enw llai adnabyddus yn Lloegr nag allesid ddymuno, ond enw teuluaidd drwy hyd a lled y Dywysogaeth, ac yn fy marn ostyngedig i, yr oedd yn anghymharol fwy effeithiol ac uwchraddol ei arddull nag unrhyw bregethwr y cefais erioed. y fraint o'i wrando! Yn fuan wedi fy sefydliad fel gweinidog yn East Cowes, cefais yr anrhydedd o'i groesawu i'm ty, a'i letya am ragor i bymthegnos, ac yn yr ysbaid hwn o amser pregethodd yn agos yr oll o'r capelau Cynulleidfaol yn Ynys Wyth (Isle of Wight). Prin y rhaid dweyd fod ei Saesonaeg yn bur derfynedig, ac yn dra thoredig ar y goreu, er hyny, cynyrchai y fath argraff yn mhob lle, nes dal a chadwyno, a pherswyno y gweinidogion a'r bobl fel eu gilydd. Hyd y dydd hwn, er fod yn agos i haner canrif er hyny, cofir ei bregethau yn dda, ac adroddir llawer o'i sylwadau a'i gymhariaethau air am air, gyda hoffder a brwdfrydedd nas gwelais ei gyffelyb yn un man! Y mae hyn yn fwy hynod o gymaint nad oedd dim o'r dynwaredol yn ei ddull o draddodi nac o'r gwrthatebol yn ei ddull o frawddegu. Ni byddai byth yn rhwygo nwyd yn garpiau' er mwyn effaith. I'r gwrthwyneb yr oedd ymdeimlad dwys—dawel o nerth yn yr oll a ddywedai o'r dechreu i'r diwedd. Fel rheol, er yn cael eu dwysbigo yn eu calonau, ni byddai ei wrandawyr yn ymwybyddol o unrhyw gyffroad anghyffredin, ac eto rywfodd, teimlent fel pe buasai am ryw enyd wedi cymeryd meddiant personol o honynt, ac yna yn eu hanfon ymaith i'w cartrefi gryn lawer yn ddoethach, ac yn fwy parod yn mhob modd i amcanu ac ymdrechu am 'ba bethau bynag sydd ganmoladwy.' Clywais eich Robert Hall, Chalmers, Irving, McAll, Melville, James Parsons, a'ch tanllyd Billy Dawson, a thro ar ol tro y bu'm yn crynu ac yn ymnyddu dan eu hyawdledd, ond yr wyf yn ystyriol argyhoeddedig fod effaith pregethau Mr. Williams yn llawer dyfnach, yn llawer mwy parhaol, ac yn gyfangwbl o nodwedd fwy dwyfol! Ond er mor hoff genyf feddwl a siarad am dano, nid yw fy mwriad i geisio rhoddi portreiad llawn o hono ar yr achlysur presenol; gofynai hyny ddetholiad gofalus a chydbwysiad ansoddeiriau sydd yn anfesurol tuhwnt i'm gallu mewn araeth o'r fath hon. Yr oedd mor berffaith naturiol, ac yn ddieithriad felly, fel nad hawdd yw cyfleu syniad cywir am ei arddull ar fyr eiriau; natur ei hunan ydoedd yn llefaru yn yr ymadroddion mwyaf eglur, er hyny ymadroddion llawn o oleu a thân y nef ei hun! Gyda'ch caniatad, pa fodd bynag, hoffwn alw sylw ein cyfeillion ieuainc sydd yn parotoi am y weinidogaeth at yr hyn a ystyriwyf fi oedd ei brif arbenigrwydd, ac yn wir ddirgelwch ei gyflawniadau mwyaf gorchestol. Wrth gwrs, yr oedd ei ymddangosiad yn ddymunol, a'i lais yn ddeniadol, yr oedd yn feistr ar ymadroddi, a chyfunai ynddo ei hun holl hanfodion gwir areithyddiaeth. Ond yr oedd ynddo rywbeth tuhwnt ac uwchlaw i hyn oll, rhywbeth nad oes neb o'i gofiantwyr, hyd yr ymddengys i mi, wedi gwneud llawn gyfiawnder âg ef. Y mae hyn i'w ofidio yn fwy o gymaint a'i fod yn rhywbeth a ddibynai i raddau helaeth ar feithriniad rheolaidd a chyson, ac felly i fesur mawr yn nghyraedd eraill, o'i geisio gyda'r dyfalbarhad a'r ymroddiad priodol. Nis gallaf roddi gwell desgrifiad o hono na gallu rhyfeddol i wneud syniadau arddansoddol yn weladwy, ac i wisgo egwyddorion noethion (abstract), hyny yw, i roddi ffurf, i roddi llun a bywyd i ba beth bynag a ddelai ger ei fron, ac i beri iddo siarad drosto ei hun yn ei iaith naturiol ei hun. Nid ystordy gwybodaeth oedd ei feddwl yn gymaint ag oriel o arluniau ysbrydoledig rhyw wawl—leni ardderchog yn gosod allan y rhwystrau a'r rhagolygon ar yrfa bywyd y Cristion. Nid oedd yn honi dysg, ond yr oedd yn efrydydd dwys o foeseg; ac fel rheol, gallai ddal ei dir yn dda mewn unrhyw ddadl yn y pwnc hwnw. Ond ei hoff destun oedd duwinyddiaeth, eithr duwinyddiaeth o nodwedd eangach a mwy rhyddfrydig nag a gydnabyddid yn ei amser ef. Yn ol ei addefiad ei hun, Baxteriaeth ydoedd o ran egwyddor, ond wedi ei thymheru âg Uchanianaeth John Locke, a'r Hybarch Dr. Williams o Rotherham. Yn ei bregethau y rhai, gyda llaw, oeddynt yn wastad yn fyrion—dechreuai yn gyffredin drwy osod i lawr mewn dull tawel a syml ryw wirionedd neu athrawiaeth sylfaenol, yr hon bortreiadai ac a arliwiai mor fedrus fel nad oedd modd camgymeryd ei feddwl. Tra cyflymai ychydig fel yr elai yn mlaen gyda chyfres o gymhariaethau cartrefol, gan raddol ymgodi mewn urddas, mewn tynerwch, ac mewn dylanwad ymwybyddol ar y gynulleidfa; ac yna, gyda fflachiad llygad bythgofiadwy, a llais crynedig, treiddgar, chwyrndaflai allan ryw gymhwysiad ymarferol pwysig a gyffroai ac a barai i bob calon ddychlamu, fel sydyn sain udgorn yn galw i ryfel. Ac ar hyny, cyn i'r argyhoeddiadau gael amser i droi'n darth, a'r ystyriaethau yn niwl, gollyngai'r gynulleidfa ar unwaith, nid i feirniadu nac i ganmol, ond i ddechreu ceisio bod a gwneud yr hyn a gymhellasai efe arnynt. Nid oedd ganddo ond ychydig gred yn y teimladrwydd trystfawr, ymdaenol, a nodwedda yr hyn a elwir yn Ddiwygiad; yr oedd ei ffydd yn unig yn ngwirionedd Duw fel y'i datguddir yn a thrwy Iesu Grist. Nid oedd neb a ddeallai yn well wirionedd y gosodiad mai gwreiddyn byw iawn—gymeriad yw iawn—feddwl, ac felly y mae yn amheus genyf a ragorodd neb arno ef mewn apeliadau uniongyrchol at synwyr cyffredin a chydwybod a chalon, heblaw yr Athraw mawr ei hun. Wedi y crynodeb hwn o'i nodweddion, goddefer i mi anturio ychydig esiamplau geirwon o'i arddull gyffredin, ac yn enwedig ei ddull hapus o drafod egwyddorion. Tra yn gwneud hyny, rhaid i mi ofyn caniatad i wneud defnydd helaeth o'm nodiadau, oblegid mai dyfynu yn syml y byddaf gan mwyaf o hen ddyddiadur na fwriadwyd mo hono erioed i lygad y cyhoedd. Ar yr un pryd, hoffwn i chwi gofio mai fel 'gwreichion oddiar eingion' y bwriedir y dyfynion hyn, ac nid mewn un modd fel engreifftiau o'i gyfansoddiadau gorphenedig, oblegid ar yr achlysuron y cyfeiriwyd atynt teimlai y pregethwr ei fod mewn hualau creulawn o herwydd yr hyn a alwai efe yn 'felldith Babel' hyny yw, yr oedd yn gorfod siarad yn Saesonaeg tra yn meddwl yn Gymraeg. Dechreuwn gydag un o'i gyflawniadau cyntaf yn y Brifddinas. [29] Yr oedd i bregethu i gynulleidfa orlawn yn nghapel Dr. Fletcher yn Stepney. Ychydig eiliadau cyn i'r gwasanaeth ddechreu, daeth gwraig arw yr olwg arni i mewn, gan arwain geneth fechan bump neu chwe' mlwydd oed, a dangoswyd hwynt i eisteddle heb fod nebpell oddi—wrth y drws. Yn ystod y darllen a'r gweddio, yr oedd y plentyn mor aflonydd nes poeni'r fam o'r braidd tuhwnt i bob dyoddef. Golygfa boenus, galongaled, ydoedd. Cymerodd Mr. Williams ei destun: Geiriau Lemuel frenin, y broffwydoliaeth a ddysgodd ei fam iddo.' Wedi brawddeg neu ddwy o ragymadrodd, dywedodd fod y Creawdwr, yn ei awydd i brydferthu y bydysawd âg amrywiaeth, wedi penderfynu gwneud byd yn yr hwn y gellid gweled y peth rhyfedd hwnw nas clywsid ac nas dychymygasid am dano hyd yn hyn, ond a adwaenir genym ni dan yr enw mam! Ac mewn canlyniad, Efe a luniodd y morgrugyn bychan, doeth, darbodus, a serchoglawn. Parai cyflawniadau y morgrugyn gryn ddyryswch i'r angylion ar y cyntaf. Gwylient gyda dyddordeb eu dull o fagu a phorthi eu rhai bach, a theimlent nas gallent ganmol gormod yn ngwyneb yr effeithiau. Y cam nesaf oedd dangos y gallesid gwneud yr un peth yn yr awyr. Felly, efe a wnaeth yr eos, yn nghyflawniadau yr hwn aderyn y gellid gweled dirgelion yn ffurf adeiladu nythod a deoriad, yr hyn a ofynent gryn amser ac amynedd, tra y clywid y gwr yn canu yn beraidd ar y gainc, i loni'r fam a'i rhai bychain hyd nes y tyfai eu hedyn ddigon i'w galluogi i ddechreu bywyd ar eu traul eu hunain. (Erbyn hyn, yr oedd y wraig arw yr olwg arni wedi gafael yn llaw ei phlentyn afreolus a'i nesu ati ei hun). Wedi y rhyfeddodau hyn ar y ddaear, ac yn yr awyr, y mae Duw yn gweled yn dda ddangos beth allesid wneud yn y dyfroedd mawrion; ac ar hyny efe a luniodd y morfil, ac a'i gadawodd i roddi sugn i'w rhai bach, ac i'w serchog wylio yn eu chwareuon plentynaidd, ac i wneud eu goreu i'w hamddiffyn rhag y morgi (shark), a physgodyn y cledd sydd yn tramwy oddiamgylch fel llewod rhuadwy gan geisio y neb a allont eu llyncu. (Yr oedd yn dechreu poethi erbyn hyn, a'r wraig arw ei gwedd yn dechreu tyneru fel y mae yn cymeryd ei geneth fach afrywus ar ei glin). Ac yn awr, dyna'r climax wedi ei gyrhaedd. Y mae Duw yn penderfynu dangos i'r bydysawd y gallai ymddiried i'r natur famaidd hon hyd yn nod un o'i blant anfarwol ei Hun. Efe a greodd fam resymol, dduwiol; dylanwodd ei natur â greddfol serch, dododd faban digymhorth dan ei gofal i'w feithrin a'i addysgu i'r nef, anrhydedd pell tuhwnt i gyrhaedd yr angel anrhydeddusaf oll! Pa le yr oedd y wraig nad ymogoneddai yn y fath ymddiriedaeth, ac nad aberthai yn llawen unrhyw beth a phobpeth i gyfiawnhau yr ymddiriedaeth a osodasai y byth-fendigedig Dduw ynddi! (Erbyn hyn yr oedd yr eneth fach yn mreichiau ei mam arw ei gwedd, yr hon a'i tyner-wasgai i'w mynwes, tra y llifai y dagrau brwd dros ei gruddiau. Synais lawer beth ddaeth o honynt ar ol hyn; nis gallwn. ond gobeithio y goreu). Cymerir yr ail enghraifft o'm hadgofion am ei bregeth gyntaf yn fy lle yn Cowes. Y pwnc oedd, Cydweithio â Duw.' Dechreuodd gyda'r gosodiad fod yr holl ymwneud Dwyfol â'n byd ni wedi ei fwriadu fel gwrthglawdd rhag pechod, neu ynte fel moddion i adfer y difrod a achosid gan bechod. Fel prawf o hyn, cyfeiriodd yn gyntaf at hanesiaeth, at y cyfnod ag Adda, y diluw, y trefniant Lefiticaidd, y prophwydi, yr ymgnawdoliad, yr aberth ar y groes, a gweinidogaeth y Dyddanydd. Dilynid hyn gan draethiad ardderchog ar oruchwyliaethau Rhagluniaeth, galwadau yr efengyl, ac ymrysoniadau yr ysbryd, oll a'u hamcan i'n gwneud yn wŷr a gwragedd o gymeriad da. I bob un o honom, gan nad pa mor gyffredin o ran talent neu amgylchiadau, fe gynygir yr anrhydedd o fod "yn gydweithwyr âg ef." A pha arwydd o bendefigaeth a allai fod yn uwch na hyny? Deuwch allan, ynte, o ganol tyrfa y segurwyr, a dangoswch eich colours i'r byd. Na hidiwch ddim pa un a yw y gwasanaeth y'ch gelwir iddo yn ymddangos yn fawr neu yn fach. Dyna'r plentyn claf yna y gellwch helpu i weini arno, neu yr hen wraig orweddiog y gellwch helpu i'w chysuro a'i dyddanu, neu ynte y dosbarth yn yr Ysgol Sul sydd mewn perygl difodiant o eisieu athraw. Na chollwch un awr. Ymroddwch i'r gwaith ar unwaith; dichon na chewch byth gynyg ar y fath gyfleusdra eto. Y mae Mab Duw am i chwi ymrestru yn ei fyddin, ac y mae wedi fy anfon i'ch galw wrth eich enw, John, Thomas, Jane, ac Elizabeth! Pa ateb a roddaf iddo? Y mae angen am bob math o help, a'r eiddo chwithau yn eu plith, yn yr anturiaeth bwysig hon. Yn y darlun o'r fuddugoliaeth yn Llyfr Datguddiad, cofiwch mai nid cael ei lethu i'r pydew dan bwysau mynydd mawr y mae Satan, ond ei gadwyno i'w ffau drwy gyfuniad o ddalenau aneirif, rhai o honynt mor fychain a distadl a'r mân ddalenau a wasgerir gan gymdeithas y Traethodau Crefyddol! Ië, ni a'i rhwymwn â darnau o bapyr, gweddillion a sylwedd hen garpiau, a chaiff weled i'w warth nas gall na thori na chnoi'r gadwyn drwodd mewn mil o flynyddoedd! Nac ofnwch ddim, ond ewch at eich gwaith gydag ewyllys, gan wybod y cewch gymeradwyaeth a bendith y nef arnoch! Yr wyf wedi llwyddo mor anmherffaith gyda'r ail enghraifft fel yr wyf yn ymatal mewn anobaith rhag anturio â'r drydedd enghraifft. Cysegr-ysbeiliad fuasai ceisio cyfleu ei sylwedd ond yn ei eiriau ef ei hun yn unig; ond ysywaeth, nis gallaf alw y geiriau hyny i'm cof, er fod eu miwsig eto'n adsain yn fy nghlustiau! Pwnc y bregeth hono ydoedd "Cyfryngdod Crist." O'i chymeryd oll yn oll, dyma'r bregeth fwyaf arddunol, ymresymiadol, ac anghymharol gyffrous a glywais ganddo erioed! Ar gais arbenig, traddododd hi drachefn a thrachefn mewn gwahanol ranau o'r Dywysogaeth; a chredaf nad gormodiaeth yw dweyd fod eto ganoedd, ac efallai rai miloedd o Gymry, nas gallant gyfeirio at y bregeth hono heb deimlo rhyw gynhyrfiad yn eu hysbryd nad achosid gan enw neb arall. Wrth derfynu, hoffwn gyflwyno un enghraifft arall, am yr hon nis gwn ddim ond yr hyn a adroddwyd i mi gan gyfeillion oeddynt yn bresenol ar yr achlysur. Dygwyddodd fod ciniaw yn cael ei roddi yn nglŷn â chyfarfod urddiad y diweddar Mr. Birrell o Liverpool, ac ar ol ciniaw cymerodd Dr. Raffles y gadair, a thraddodwyd amryw anerchiadau, ac er dychryn i Mr. Williams, galwodd Dr. Raffles arno ef i siarad. Yr oedd gwrid dwys gwyleidddra, a chariad at y brodyr ar ei wynebpryd pan gododd; sylwodd mai ychydig oedd ganddo i'w ddweyd, ond ei fod wrth wrando ar y siars i'r gweinidog yn methu peidio portreadu iddo ei hun y Meistr bendigedig yn y gwaith o esgyn i'r nef. Yr oedd yn dwyn i'w gof yr hyn a welsai yn fynych yn y wlad; y fam yn myned allan i dreulio'r hwyr yn nhy rhyw gymydog, ond yn gadael ei chalon ar ol yn y nursery gyda'r plant. Pan wedi cyrhaedd y glwyd fechan o flaen y ty, y mae yn rhedeg yn ol yn sydyn, yn taflu'r drws yn haner agored, ac yn galw yn uchel ar y forwyn gydag acen bwysig, serchoglawn, Mary! beth bynag wnewch chwi, gofalwch am y plant hyd nes y deuaf fi yn ol! Ac felly am galon gariadlawn y bendigedig Iesu. Yn awr ei ymadawiad nis gallasai lai na throi yn ei ol i ddweyd, Pedr! portha fy ŵyn! Pedr! uwchlaw pob peth, gofala am y plant, hyd oni ddychwelaf i'w cymeryd ataf fy hun! Dyna ddigon feddyliwyf i egluro yr hyn a olygwn wrth wneuthur gwirioneddau ysbrydol yn weladwy a chofiadwy, yn yr hon gelfyddyd y rhagorai Mr. Williams ar bawb eraill a gyfarfyddais. Pe bai hwn y lle priodol i siarad am danynt, y mae genyf adgofion dymunol, nid ychydig, am ei gydoeswyr enwog, John Elias a Christmas Evans; y cyntaf yn ymresymwr manwl, yn frawddegwr penigamp, ac yn feistr ar areithyddiaeth; a'r ail yn rhyw Boanerges ardderchog, yn ddarluniwr digyffelyb, nwydau yr hwn a gludent bobpeth o'i flaen, a dychymyg yr hwn a wawdiai derfyn lle ac amser. A'u cymeryd oll yn oll, yr oedd y tri wyr hyn yn gyfryw ag y gallai unrhyw oes a gwlad yn hawdd ymfalchio ynddynt, y tri hyn—Elias, Evans, a Williams! O'r tri hyn i'm tyb i, y mwyaf ydoedd Williams."

Gwyddom y bydd i'r dyfyniad blaenorol o eiddo y diweddar Broffeswr Griffith, F.G.S., Barnet, ychwanegu yn ddirfawr at werth y gwaith hwn fel cyfraniad llenyddol tra gwerthfawr, a rhoddi boddlonrwydd anghyffredin, yn enwedig i'r rhai hyny o'n darllenwyr na chawsant y fraint o ddarllen y gyfrol Seisonig ragorol a elwir "Some of the great preachers of Wales."

Bod yn ddefnyddiol oedd prif amcan ein gwrthddrych. Defnyddioldeb oedd arwyddair mawr ei fywyd. Er na byddai yn hoffi pregethu yn Saesonaeg, eto o herwydd ei awydd i wneuthur daioni ar raddfa eangach, ni omeddai wneuthur hyny, a byddai fel y gwelsom yn pregethu yn aml yn yr iaith hono. Hysbyswyd ni gan yr Hybarch D. Roberts, D.D. (Dewi Ogwen), Wrexham, ddarfod i Mr. Williams wrth bregethu Saesonaeg yn Nghapel Preshenlle, ddywedyd, "No one would think to compare the light of a 'ffyrling' candle with the light of the sun." Wrth fyned allan o'r capel dywedodd ei gyfaill enwog Dr. Jenkin wrtho, "You have put your foot in it again today with your English." "What did I today Jenkin?" gofynai yntau. "You said 'ffyrling' instead of farthing." "Oh! is that all, they all understand here what a 'ffyrling' is. The controversy between us is not of great importance, only a farthing." Yn un o'r rhai oedd yn gwrando ar Mr. Williams yn Preshenlle yr adeg hono, yr oedd bachgen ieuanc o ôf deallus iawn, yr hwn hefyd a gafodd y fraint y dydd hwnw o eistedd wrth yr un bwrdd a'r pregethwr enwog i gydginiawa âg ef, ac ystyriai y gwr ieuanc ei fod drwy hyny wedi ei anrhydeddu yn fawr. Daeth y bachgen ieuanc hwnw wedi hyny i gael ei adwaen drwy holl Gymru, fel y Parch. Robert Thomas (Ap Vychan), yr hwn yn ddiau, oedd yn un o bregethwyr enwocaf ein cenedl. Byddai effeithiau dwysion iawn i'w gweled ar ein brodyr y Saeson yn gyffredinol o dan ddylanwad gweinidogaeth Mr. Williams. Yr oedd rhywbeth yn swynol hyd yn oed yn ei wallau Seisonig, fel y mae yn hawdd deall oddiwrth ymofyniad rhyw foneddiges o gynulleidfa Dr. Fletcher yn Llundain wedi ei glywed y tro y cyfeiria Proffeswr Griffith ato, yr hon a ofynodd yn bryderus i'r Dr., "Where is that preacher, who in preaching on the religious instruction of the young, told us to give them good shampl"[30] Yr oedd y fath swyn yn ei weinidogaeth, fel yr hiraethai y Saeson fel y Cymry am ei glywed yn traethu iddynt eiriau y bywyd tragwyddol.

PENNOD XIX,

NODIADAU CYFFREDINOL AC AMRYWIOL.

Y CYNWYSIAD.—Mr. Williams yn pregethu yn yr Efail Newydd Ei ysbryd cyhoeddus—Hoffder at blant—Oedfaon hynod o'i eiddo yn Machynlleth, Penystryd, Llangwm, Nannerch, Ynysgau, Caergybi, Bodffordd, a Cana—Rhestr o'i destynau—Ei Hiraethgan

BU yr Annibynwyr a'r Methodistiaid yn cydgynal Ysgol Sabbathol yn yr Efail Newydd, Lleyn, ar un cyfnod. Ceid yno hefyd ambell bregeth gan weinidogion perthynol i'r ddau enwad a nodwyd. Yn y cyfamser ar ryw Sabbath neillduol, fel yr hysbyswyd ni gan y Parch. H. Hughes (M.C.), Brynkir, dysgwylid Mr. Williams yno i bregethu, ond er dysgwyl llawer, nid oedd un arwydd ei fod yn d'od erbyn yr awr benodedig. Fodd bynag, dechreuwyd yr oedfa gan hen bregethwr parchus perthynol i'r Methodistiaid, o'r enw Mr. Thomas Pritchard, y Nant; a chan nad oedd y pregethwr dysgwyliedig wedi ymddangos erbyn iddo orphen gweddio, cymerodd ei destun a dechreuodd bregethu, ond cyn iddo orphen rhagymadroddi, daeth Mr. Williams i fewn i'r ty. (Nid oedd yno gapel y pryd hwnw.) A phan welodd y llefarwr ef, daliwyd ef gan yr ofn hwnw, sydd bob amser yn dwyn magl gydag ef, a disgynodd ar ei eistedd ar unwaith, a hyny heb gymaint a dweyd "Amen" yn ddiweddglo i'w sylwadau. Pregethodd Mr. Williams yn hynod iawn y tro hwnw yn yr Efail Newydd, ond ni chlywsom beth ydoedd ei destun y waith hono. Nid ydym yn gwybod beth a barodd i'r Annibynwyr roddi yr Efail Newydd i fyny? Credwn eu bod hwy wedi dangos gormod o barodrwydd i roddi lleoedd i fyny ar fwy nag un achlysur. Boddlonai llawer o'r hen dadau Annibynol ar gasglu tyrfa i un lle canolog, ac y mae ffrwyth hyny i'w weled yn amlwg hyd heddyw, yn arbenig yn Lleyn ac Eifionydd. Buasai sefydlu achosion mewn lleoedd newyddion yn fwy bendithiol na Jerusalemeiddio rhyw un lle neillduol. Ceir enghraifft o hyn yn ngwaith y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli, yn cwyno yn dost wrth Mr. Rowland Hughes, Rhosgillbach; fod y gwr da hwnw "yn gwasgu yn rhy drwm ar ei wynt ef," a hyny oblegid ei fod wedi penderfynu codi capel yn Rhoslan; er mwyn arbed cerdded i Bwllheli; a chofier fod oddeutu wyth milldir o ffordd rhwng y ddau le. Pe y buasai cy doeswyr Mr. Williams, o'r un ysbryd cyhoeddus âg ef, buasai ein henwad yn llawer cryfach yn y Gogledd heddyw nag ydyw, ond y mae genym i ogoneddu Duw am yr hyn a wnaeth Mr. Williams a'r Parchedigion William Hughes, Dinasmawddwy; Owen Thomas, Carrog; William Hughes, Saron; David Griffith, Bethel; William Ambrose, Porthmadog, ac eraill yn y ffordd hon. Elai Mr. Williams o amgylch y wlad, ac yr oedd fel udgorn floedd, yn galw y tyrfaoedd yn nghyd i wrando yr efengy 1. Ond ymfoddlonai llawer o'r tadau ar athrawiaethu yr efengyl yn dawel i'w pobl eu hunain, gan "warchod gartref yn dda wrth gwrs, ond heb erioed deimlo awydd myned i'r prif—ffyrdd a'r caeau, fel y gwnaeth ein gwron. Yr oedd un peth neillduol yn nodwedd amlwg yn Mr. Williams, na welir ond mewn ychydig o'n pregethwyr mwyaf poblogaidd, sef ei hoffder arbenig o blant. Ymhyfrydai mewn chwareu gyda hwy ar adegau am oriau. Clywsom Mr. W. Rogers, Bryntirion, Coedpoeth, yn adrodd am dano yn chwareu felly gyda nifer o blant pan ar ei ffordd i'r gyfeillach grefyddol, ac wedi iddynt orphen â'r chwareu, aethant gyda'u gilydd i'r capel. Rhoddir hefyd enghraifft o'r nodwedd yma oedd ynddo, gan y Parch. S. Roberts, Nant, mewn ysgrif ragorol o'i eiddo yn y Dysgedydd, 1892, tudalen, 277, 278, dywed, ddarfod i Mr. Williams roddi haner coron i un o blant yr ardal, yr hwn a bregethai y dydd hwnw i'w gyd—blant pan oeddynt yn "chwareu capel." Ie, "tal da yn yr oes hono. Diamheu i Williams ei hun bregethu am lai lawer tro." Onid oedd Henry Ward Beecher a Mr. Williams, yn hyn o beth, yn tebygu i'w gilydd. Gwyddai y gwyr enwog os gallent lwyddo i enill calonau y plant, mai nid hir y byddent heb enill yr eiddo eu rhieni hefyd. Os deallai Mr. Williams am ryw eglwys wanach na'i gilydd yn rhywle, ymdroai lawer gyda hono er mwyn ei maethu a'i chalonogi. Llafuriodd yn galed, a hyny heb dderbyn dim byd tebyg i dal teilwng am ei wasanaeth gwerthfawr. Treiddiodd ei ysbryd rhyddfrydig ef yn ddwfn i'w enwad, ac effeithia yn ddaionus arno hyd heddyw, yn y rhyddfrydigrwydd a arddengys at enwadau eraill. Yr oedd undeb yr enwadau crefyddol â'u gilydd yn hen syniad yn ei feddwl ef, ac fel pob gwir arweinydd, yr oedd yn mhell o flaen ei oes, canys gweithiodd yn egniol o blaid rhai o'r symudiadau pwysig, sydd heddyw, fel pe ar fedr cymeryd ffurf ymarferol yn ein gwlad. Pan y byddai yn myned drwy y wlad, telid iddo warogaeth fel i dywysog, a gallasai ddywedyd, "Pan awn i allan i'r porth trwy y dref, pan barotown fy eisteddfa yn yr heol, llanciau a'm gwelent ac a ymguddient, a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny; tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a tosodent eu llaw ar eu genau." Pregethai Mr. Williams unwaith yn Machynlleth, ar ddyfodiad y Barnwr i'r farn. Yn mhlith y dyrfa fawr oedd yno yn gwrando, yr oedd Mr. Rowland Hughes, yr hwn a ddaeth wedi hyny yn bregethwr parchus gyda'r Annibynwyr yn Nolgellau, ond y pryd hwnw, oedd yn fachgen bychan yn llaw ei dad. Darluniai y pregethwr ddyfodiad y Barnwr i farnu y byd gyda rhyw sobrwydd anghyffredinol. Y fath ydoedd ei ddarluniad byw a chyffrous, nes y trodd y bachgen bach at ei dad gan ofyn iddo yn ddychrynedig, "Ddaw o heddyw nhad?" Byddai yn pregethu yn aml nes newid cyfeiriad bywyd llawer o'i wrandawyr. Methodd Sian Ellis o Faentwrog ag aros i gadw y ffair wedi ei wrando yn traethu ar Ffelix a ddychrynodd. Yr oedd y ffair ar ei meddwl yn rhwystr iddi wrando y bregeth, ac yr oedd y bregeth yn rhwystr iddi gadw y ffair dranoeth, a'r bregeth a orchfygodd, ac aeth hithau adref o'r ffair, wedi methu ymryddhau oddiwrth y saethau a lynasent yn ei chalon oddiar fwa gweinidogaeth rymus Mr. Williams yn Mhenystryd y nos Sabbath blaenorol. Teyrnasodd dychryn yn ardal Llangwm am dalm o ddyddiau wedi i'n gwrthddrych fod yn pregethu yn Nhyddyn Eli ar y geiriau, "Canys eu pryf ni bydd marw, a'u tân ni ddiffydd."

Yn Nhyddyn Eli, yn un o'r rhai oedd yn gwrando y bregeth uchod, yr oedd dyn, yr hwn oedd heb fod feddianol ar synwyr fel y cyffredin o ddynion, a dywedai 'Amen' yn fynych ar ddechreu y bregeth, a hyny mewn lle hollol anmhriodol. Wrth glywed hyny, dymunodd Mr. Williams ar i bawb ymatal rhag dweyd Amen,' a llwyddodd yn yr amcan oedd ganddo drwy hyny i'w gyrhaeddyd. Yn fuan wedi yr oedfa hono, darfu i'r dyn hwnw, o herwydd y diffyg meddyliol oedd arno, arwyddo gweithred (deed) i drosglwyddo ar ei ol eiddo i ddyn nad oedd ganddo hawl gyfreithlawn i'w drosglwyddo iddo. Achosodd hyny gryn derfysg yn mhlith y rhai oeddynt yn dal cysylltiad â'r mater. Dygwyd yr achos i'w brofi mewn llys cyfreithiol. Gwysiwyd hen forwyn i Dr. George Lewis, Llanuwchllyn, yr hon oedd yn yr oedfa i dystio ddarfod iddi glywed Mr. Williams, Wern, yn Nhyddyn Eli, yn erfyn ar i bawb ymatal rhag dweyd 'Amen' a hyny er ceisio atal y dyn crybwylledig rhag gwneud hyny. Bu ei thystiolaeth yn foddion i gynorthwyo y rheithwyr i benderfynu o blaid cyfiawn berchenog yr eiddo.

Fel y canlyn y dywed Mr. R. Jones (Penrhyn), Wern, am oedfa o eiddo ein gwrthddrych yn Nannerch: "Y mae yn gofus i mi glywed fod Mr. Williams yn pregethu ryw noson waith yn nghapel Nannerch, hen gapel sydd yn aros hyd heddyw, a bod yno yn gwrando hen wr duwiol, yr hwn oedd yn aelod gyda'r Wesleyaid, a elwid yn gyffredin Yr hen Josua,' nid o anmharch, ond yn hytrach o ryw fath o anwyldeb. Yr oedd ef yn un o hen gymeriadau gwresog y dyddiau gynt, ac arferai waeddi O diolch,' 'bendigedig,' a 'gogoniant' bron yn mhob oedfa. Darluniai Mr. Williams gyda difrifwch dwys, gyflwr anobeithiol y colledigion yn uffern, pryd y cododd yr hen Josua,' ei ddwylaw i fyny, gan waeddi, 'O diolch, diolch.' Ymataliodd Mr. Williams am enyd, a thremiodd ar yr hen frawd, a dywedodd, 'Wn i ddim frawd a ddylid diolch am beth fel hyn ai peidio.' 'O, dylid,' meddai yntau, ' diolch yr ydwyf nad wyf fi ddim yno, machgen i.' Trydanodd hyny yr holl gynulleidfa. Oedfa i'w chofio am byth oedd yr oedfa hono. Cafodd Mr. Williams ei foddhau yn fawr yn atebiad yr hen Josua,' a'i lwyr argyhoeddi o'i ddidwylledd." Bu tro hynod yn Ynysgau, Merthyr Tydfil, yn nglŷn â phregeth o'i eiddo oddiar y geiriau, "A llawer o'r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol.' Pregethai yn y ffenestr, yr hon a wynebai at y fynwent sydd yn nglŷn a'r capel. Yr oedd yr effeithiau yn rhai hynod iawn, fel yn wir yr arferent fod yn aml o dan y bregeth hono. Rhedodd dyn annuwiol mewn dychryn mawr allan o dafarn oedd yn ymyl y capel, i wrando ar y pregethwr. Yr oedd y fath sobrwydd yn teyrnasu ar bob wyneb yn y lle, fel yr oedd yn amlwg fod arswyd y farn wedi eu dal oll am enyd, beth bynag. Tyner ac effeithiol tuhwnt i ddesgrifiad oedd ei bregeth yn Nghaergybi, oddiar y geiriau, "A chwychwi yw y rhai a arhosasoch gyda mi yn fy mhrofedigaethau." Sylwodd ar brofedigaethau personau unigol, phrofedigaethau teuluol, a bod gan yr Arglwydd Iesu ei brofedigaethau yn ei achos gwan yn y byd; a'i fod yn canmol y rhai a arosant gyda'i achos yn ei brofedigaethau. Yn ei wrando y noson hono, yr oedd dynes grefyddol, yr hon oedd newydd briodi, a newid ei henwad, gan fyned i ganlyn ei phriod at enwad arall. Wedi iddi ddyfod adref o'r oedfa dan sylw, dywedodd wrth ei phriod, "Rhaid i mi fyned yn ol i fy hen gapel, gan mai yr achos yno sydd yn awr yn wan, ac mewn profedigaethau;" a hi a ddychwelodd i aros gyda'r Iesu yn ei "brofedigaethau" yn y lle hwnw dros weddill ei hoes. Fel pob pregethwr athrylithgar, byddai Mr. Williams weithiau yn ddihwyl, ac yn y pant. Arferai Mr. John Evans, arweinydd y gân yn Nghapel y Wern, ddywedyd, am dano, na chlywodd efe neb yn gallu rhoddi yr emynau allan mor effeithiol ag efe, a hyny yn wastadol. Ond darllenwr gwallus ydoedd, a braidd yn drwsgl y cyflawnai yr adran hono o'i waith cyhoeddus. Nid pob Sabbath ychwaith y ceid ganddo bregethau arbenig yn ei gylch cartrefol, oblegid nid oedd yntau ond dyn, ac yr oedd yn rhaid iddo fel eraill ddyoddef y boen sydd yn canlyn bod yn yr iselderau ar adegau. Ond yn lled fynych, ceid ganddo bregethau gwir ysblenydd yn ei gylch cartrefol, a dywedai bethau yn y pregethau hyny, y cofid am danynt byth. Byddai felly hefyd ar ei deithiau cyhoeddus. Yn wir, clywsom y Parch. Henry Rees, Bryngwran, yn dweyd iddo glywed ei ddiweddar dad yn nghyfraith, Edeyrn Mon, yn adrodd fel y bu ef yn cyrchu Mr. Williams o Gaergybi, ar ryw ddydd gwaith, erbyn deg ar y gloch, i bregethu yn Salem, Bryngwran. Dywedodd Edeyrn Môn wrtho ar y ffordd, fod llawer iawn o bobl i'w gweled yn myned i'r oedfa, ond ni wnaeth ef nemawr ddim sylw o hyny, ond yn unig ocheneidio yn llwythog. Cyrhaeddwyd i'r capel, a phregethodd Mr. Williams, ond yn hynod ddieffaith, y boreu hwnw. Yr oedd i bregethu yn Bodffordd am ddau ar y gloch prydnawn yr un dydd. Penderfynodd Edeyrn Môn fyned yno hefyd i wrando arno. Pregethodd yn Bodffordd mor anghyffredin ac effeithiol, a dim a glybuwyd erioed o bulpud, yn gymaint felly, fel na buasai neb o'r bron yn credu mai yr un dyn oedd yn pregethu yn Bryngwran y boreu ag oedd yn Bodffordd y prydnawn. Onid yw hyn yn cadarnhau dywediad yr enwog Thomas Binney, sef mai nid yn fynych yr anrhydeddir neb â rhwyddineb i bregethu ddwywaith yr un dydd.

Ar un o'i deithiau olaf yn Lleyn ac Eifionydd, ymwelodd Mr. Williams âg Abererch, a phregethodd yno ar nos Sabbath, ar y geiriau, "A chyfrifwch hir amynedd ein Harglwydd yn iachawdwriaeth, megys ag yr ysgrifenodd ein hanwyl frawd Paul atoch chwi, yn ol y doethineb a rodded iddo ef. Megys y mae yn ei holl epistolau hefyd, yn llefaru ynddynt am y pethau hyn, yn y rhai y mae rhyw bethau anhawdd eu deall, y rhai y mae yr annysgedig a'r anwastad yn eu gwyrdroi, megys yr Ysgrythyrau eraill, i'w dinystr eu hunain." Yn nghwrs ei bregeth dywedodd, "Buasai yn beth rhyfedd iawn gweled saer yn naddu ei ffon riwl i gyfateb i gamedd ei waith, oblegid unioni ei waith i gyfateb i'r ffon riwl y bydd ef, ond ysywaeth y mae llawer yn naddu yr Ysgrythyrau santaidd i gyfateb i'w syniadau ceimion hwy, a hyny er dinystr iddynt eu hunain." Yr oedd y capel a'r pentref yn llawn o bobl o bell ac agos, a phregethodd ein gwrthddrych yn y ffenestr. Clywsom Robert Williams, Abererch, yr hwn oedd yn yr oedfa, yn dweyd fod yr effeithiau o dan bregeth hono yn rhai hynod mewn dwysder a difrifwch ar yr holl dyrfa fawr. Adroddodd Mr. Thomas Martin, pregethwr parchus yn Cana, Mon, wrthym, am bregeth hynod iawn o eiddo Mr. Williams yn Cana, sef yr un y cyfeirir ati yn flaenorol yn y gwaith hwn gan yr Hybarch Robert Hughes, Gaerwen. Ymddengys mai testun Mr. Williams y tro hwnw ydoedd Exod. xiii. 17—18. Pan yr oedd yn darlunio y tywyllwch yn yr Aipht, teimlai y bobl fel pe y buasai y tywyllwch hwnw yn amgau am danynt, nes yr oedd y lle yn ofnadwy mewn gwirionedd, ond pan y dechreuodd ddarlunio gwaredigaeth y genedl o'r Aipht, dan arweiniad Duw, llenwid pob calon â gorfoledd.

Dengys y rhestr ganlynol o'i destynau, yr hon yn garedig a anfonwyd i ni gan y Parch. T. E. Thomas, Coedpoeth. Gwelir mor amrywiol a chyfoethog oedd ei faterion yn ei weinidogaeth sefydlog.

  • Datguddiad xxii. 20.
  • Gen. xii. 2.
  • Diarhebion iii. I.
  • Salm cxxxvii. I.
  • Zechariah viii. 21.
  • Ephesiaid iv. 10-13.
  • Jeremiah vi. 10.
  • Ephesiaid i. 19.
  • Esaiah xlii. 21.
  • Philemon 10-19.
  • 2 Petr iii. 10-12.
  • Mathew i. 23.
  • Hosea xiii. 13.
  • Marc x. 21-22.
  • Exodus xiii. 17, 18.
  • Daniel xii. 2.
  • 2 Corinthiaid vi. 18.
  • Salm cxviii. 22-23.
  • Judas 15.
  • Hebreaid ii. 16.
  • Philippiaid iii. 9.
  • Luc xii. 24.
  • Actau xxiv. 25.
  • Job xxii. 23.
  • I Petr i. 18-19.
  • Hebreaid xi. 16.
  • Luc x. 38-42.
  • Mathew xvi. 26.
  • 2 Thessaloniaid v. 13.
  • Hebreaid x. 26, 27.
  • 1 Corinthiaid xi. 24.
  • Luc xxiv. 5-6.
  • Rhufeiniaid v. 21.
  • 2 Timotheus iv. 2.
  • Rhufeiniaid ix. 30-31.
  • Actau xiii. 15.
  • Rhufeiniaid x. 30.
  • Nehemiah iv. 6.
  • Rhufeiniaid v. II.
  • Jeremiah xxiii. 6.
  • Luc iv. 10.
  • Mathew v. 29, 30.
  • Haggai i. 2-6.
  • Mathew xiv. 13.
  • 1 Ioan v. 7.
  • Mathew xxii. 30.
  • Luc xxiv. 48.
  • Mathew xxiii. 30.
  • 2 Corinthiaid i. 14.
  • Philippiaid i. 27.
  • Mathew vi. 13.
  • Joel ii. 28-29.
  • Mathew xx. 30.
  • Ioan i. 19.
  • Mathew xxii. 5.
  • Luc xiv. 7-10.

Cydnebydd pawb fod Mr. Williams yn feddianol ar y galluoedd, a'r cymhwysderau naturiol cryfaf i'w wneuthur yn dywysog—bregethwr ei oes. Ond yr oedd yn perthyn iddo ef hefyd odidawgrwydd nad yw yn addurno gweinidogaeth neb ond y rhai hyny sydd yn tynu eu nerth oddiwrth Dduw, ac yn ddiau, yma y trigai prif gryfder a gogoniant ein gwrthddrych fel pregethwr, ac y mae rhoddi darluniad cywir o hono yn yr areithfa pan wedi ei wisgo â nerth o'r uchelder, yn orchwyl nas gallwn ei gwblhau. Ymhyfrydai Mr. Williams mewn adrodd yr hanesyn am y Parch. John Griffith o Gaernarfon yn ymneillduo i weddio cyn pregethu. Mewn llythyr o'i eiddo atom, dywed yr Hybarch D. M. Davies, Talgarth, iddo ef ei glywed yn adrodd yr hanesyn hwnw unwaith wrth bregethu yn Aberystwyth, pryd y dywedodd:—"Clywais am Mr. Griffith, tad y gwr yma," meddai, gan roddi ei law ar ysgwydd y Parch. William Griffith, o Gaergybi, "Ei fod i bregethu mewn ty anedd un noson, ac iddo ddymuno cael ymneillduo i ystafell wrtho ei hun cyn dechreu y cyfarfod, yr hyn a ganiatawyd iddo ar unwaith. Gan nad oedd yn dychwelyd erbyn yr amser penodol i anerch y gynulleidfa oedd wedi dyfod yn nghyd, anfonodd gwr y ty y forwyn i'w ymofyn, yr hon, pan aeth at ddrws yr ystafell, a dybiai ei bod yn clywed dau yn ymddyddan â'u gilydd, ac un yn dywedyd wrth llall, Nid af oni ddeui gyda mi, nid af oni ddeui gyda mi.' Dychwelodd y forwyn yn ol at ei meistr, a dywedodd, 'Y mae rhywun gyda Mr. Griffith, ac y mae yn dywedyd wrth hwnw na ddaw ef ddim os na ddaw hwnw gydag ef, ac ni chlywais i y llall yn dywedyd un gair wrtho, felly nid wyf fi yn meddwl y daw oddi acw heno.' daw, daw,' ebe y meistr, ac fe ddaw y llall gydag ef mi wrantaf, os ydyw wedi myned felly, ni a ganwn ac a ddarllenwn i aros y ddau." O'r diwedd daeth y pregethwr allan o'i ystafell, a daeth ei Dduw gydag ef hefyd. Bu yno oedfa nerthol, yr hon a fu yn ddechreuad diwygiad yn yr ardal, ac yn foddion dychweliad llawer o eneidiau at Dduw. Yr oedd yr effaith a ddilynodd yr adroddiad o'r hanesyn o enau Mr. Williams y pryd hwnw yn orthrechol ar y dyrfa fawr yn Aberystwyth. Barnwn mai am y credai yn ddiysgog, mai drwy orchfygu gyda Duw yn gyntaf, y gellir gorchfygu hefyd gyda dynion, oedd y rheswm ei fod mor hoff o adrodd yr hanesyn uchod, yn gystal a'i fod am wasgu yr angenrheidrwydd ar i bob pregethwr wneuthur yn yr un modd. Gweddïai y pregethwyr gynt lawer yn eu pregethau hefyd. Teimlwn fod y sylw a ganlyn o eiddo Dr. Probert, yn ei draethawd buddugol ar "Y Weinidogaeth yn Nghymru," tudalen 98, yn un llawn o ystyr:—"Gellid meddwl fod y gweinidogion gynt yn gweddio mwy yn eu pregethau, ac yn pregethu llai yn eu gweddiau na'r rhai presenol. Ni orphenent hwy braidd yr un sylw heb offrymu gweddi fer am fendith, ac ni ellir beio llawer ar weddi mewn pregeth, beth bynag ellir ddweyd am bregeth mewn gweddi." Fodd bynag, gallasai Mr. Williams orchymyn fel Constantine, ar fod i'w gerflun gael ei gerfio mewn agwedd gweddi ar ei liniau, er dangos mai drwy weddi yr enillodd ef ei fuddugoliaethau a'i enwogrwydd anfarwol. Rhoddwn yma Hiraethgan y Parch. W. Rees, D.D. (Gwilym Hiraethog), ar ol ein gwrthddrych. Byddai yn rhyfyg ynom ni i ddweyd dim am ei theilyngdod, ond yr ystyrir hi yn mysg goreuon y dosbarth hwn o farddoniaeth, ac hefyd, yr ystyriwn ninau hi yn coroni pob peth a ysgrifenwyd am Mr. Williams; ac er ei bod wedi ymddangos mewn pump o leiaf o lyfrau gwahanol yn flaenorol, eto buasai yn anfaddeuol ynom i amddifadu darllenwyr y cofiant hwn o'r fath wledd anghydmarol:—

"WRTH im' eiste' i lawr i ddechreu
Ysgrifenu'r ganiad hon,
Mae rhyw lawer o deimladau
'N ymgynhyrfu dan fy mron,
Fel am redeg draws eu gilydd,
Am y cynta'i flaen y bys;
Ar y papyr, maent mewn awydd
Cael ymddangos gyda brys.

Cariad, hiraeth, tristwch calon,
Digter, llonder, yn gytun,
Ni fedd iaith ar eiriau ddigon
I roi enw ar bob un;
Buont fel yn gwresog ddadlu
Enw p'un roid ar y gân; R
Rhoddwyd ar yr awen farnu—
Hiraeth aeth â'r dydd yn lân.


'R achos barai'r ymrysonfa
Ddwys, ddiniwed, ddystaw hon,
Ydoedd colli tad anwyla',
Gormod yw ei enwi 'mron;
"Ardderchowgrwydd Israel" glwyfwyd
Frathwyd gan angeuol gledd—
Holl ffurfafen Cymru dduwyd,
Pan roed Williams yn ei fedd.

Dyna'r testyn! canu arno
Sydd yn orchwyl caled, trwm;
Anhawdd canu—haws yw wylo
Pan fo'r galon fel y plwm;
Pan fo gwrthdeimladau 'n berwi
Yn y fynwes, megys pair,
Ton ar ol y llall yn codi,
Anhawdd iawn rhoi gair wrth air.

Hoffai cariad gael desgrifio
Rhagoriaethau'r athraw cu;
Hiraeth, yntau fynai lwytho
'R gân, drwy adrodd pethau fu;
Mynai tristwch droi'n gwynfanau
Gwlychu'r gân â dagrau i gyd;
Ceisiai digter senu angeu,
Am ei waith yn 'speilio'r byd.

Teimlad arall ymresymai
Gan wrth'nebu'r lleill yn nghyd;
D'wedai mai llawenydd ddylai
Sain y gân fod trwyddi'i gyd;
"A fyn cariad genfigenu
Wrth ddedwyddwch Williams gu?
Fynit, hiraeth ffol, ei gyrchu
Eto 'nol i'r ddaear ddu?

Dig wrth angeu am drosglwyddo
Aeddfed sant i'r nefoedd wen!
Beio arno am ei gludo
At ei Brynwr hwnt y llen;
Dig fod Williams uwch pob gelyn
Wrth ei fodd yr ochr draw;
Dig ei fod yn awr â thelyn
Buddugoliaeth yn ei law!

Dristwch, fynit tithau wylo,
Gwisgo llaes wynebpryd prudd,
Pan mae'r hwn y wyli am dano
Heb un deigryn ar ei rudd?
Pan mae ef mewn môr o wynfyd,
Ac heb arno unrhyw glwy'?
Cadw, sycha'th ddagrau ynfyd,
Taw, a phaid a chwyno mwy.

Ust! dystawrwydd! fy nheimladau,
Cewch bob un gyfiawnder glân,
Os caiff awen iaith a geiriau,
I'ch cyfleu chwi yn y gân;
Rhaid i Gariad dynu darlun
Williams; Hiraeth ddweyd ei gwyn;
Goddef raid i Dristwch wedy'n
Dywallt deigryn er ei fwyn.

Anhawdd myned heibio angeu,
Heb ro'i iddo air o sen;
Rhy anhawdd yn wir yw maddeu
Lladd gwrolion Seion wen;
Rhaid yw llawenychu hefyd,
Wrth alaru'r golled hon—
Cafodd Williams goron bywyd,
Pwy all beidio bod yn llon?


"Haeddai Williams," meddai cariad,
'Ryw gofgolofn uchel iawn,
Rhagoriaethau ei nodweddiad
Wedi'u cerfio arni'n llawn;
Haeddai'i enw ei drosglwyddo
Draw i oesau pell i dd'od,
Fel bo parchus son am dano,
Tra bo Cymru a Chymro'n bod.

Pan ei ganwyd yn Nghwmhwyswn
Nid oedd gan ei fam a'i dad
Fawr o feddwl, mi dybygwn,
Fod fath fendith fawr i'w gwlad;
Hwy ni wyddent, wrth ei fagu,
Fod rhyw drysor mawr o ddawn
Ynddo, dorai'n llif dros Gymru,
I ddylanwad nerthol llawn.

'Roedd y nef â'i llygad arno
Pan yn sugno bron ei fam,
Angel wrth ei gryd yn gwylio
Rhag i William bach gael cam;
Pan fel Samson wedi tyfu
'N fachgen gynt yn ngwersyll Dan,
Ysbryd Duw ddechreuai'i nerthu
A chynhyrfu'i feddwl gwan.

Ca'dd ei ddwyn yn more'i fywyd,
Cyn ei lygru â beiau'r oes,
Dan yr iau, i brofi hyfryd
Wleddoedd crefydd bur y groes;
Taran Sinai a'i dychrynodd,
A'r cymylau'n duo'r nen,
Ffodd yn nghysgod Craig yr Oesoedd
Cafodd fan i guddio'i ben.


Eglwys Penystryt, Trawsfynydd
Ga'dd y fraint o'i dderbyn ef,
Ac i fod yn famaeth ddedwydd
Un o gedyrn gwych y nef;
Prin y tybiai, pan yn derbyn
William bach i'w breichiau, 'i fod
Yn un y byddai'n fuan wedy'n
Drwy eglwysi'r wlad ei glod.

Pan agorodd ei alluoedd,
Ac y lledodd hwyliau'i ddawn,
Aeth y son drwy'r holl ardaloedd
Am ei enw'n gyflym iawn;
'Roedd swynyddiaeth yn ei enw,
A phan y cyhoeddid e',
Gwlad o ddynion y pryd hwnw
A gydgyrchent tua'r lle.

O! 'r fath olwg fyddai arno,
Pan uwchben y dyrfa fawr—
Delw'i enaid yn dysgleirio
Yn ei wedd ac ar ei wawr;
Myrdd o glustiau wedi'u hoelio
Wrth ei enau'n ddigon tyn,
A phob llygad syllai arno
Pawb yn ddystaw ac yn syn.

Yntau'n tywallt allan ffrydiau
O'r hyawdledd pura'i flas,
Agor ger eu bron wythienau
Hen drysorau Dwyfol ras,
Arg'oeddiadau'r nef yn cerdded,
Cydwybodau deimlent loes—
Ni chai'r euog un ymwared
Nes y deuai at y groes.


Egwyddorion gair y bywyd
A bregethai'n hyfryd iawn,
Cymhariaethau bywiog hefyd,
Er ei eglurhau yn llawn;
Natur fawr, a'i holl wrthddrychau,
Oedd agored iddo ef;
Gwnai forthwylion o'i helfenau
Oll i hoelio'r gwir i dref.

Byddai'r galon ddynol hithau,
Megys telyn yn ei law;
Chwarae'i fysedd ar ei thanau
Wnai, a'i holrhain drwyddi draw;
Fel y gwlith disgynai'i eiriau,
Mor effeithiol oedd ei ddawn,
Nes bai'r dyrfa'n gwlawio dagrau
Dan ei weinidogaeth lawn.

Weithiau byddai yn ymwisgo
A chymylau Sinai draw—
Mellt yn saethu, t'ranau'n rhuo,
Nes y crynai'r dorf mewn braw;
Wedi hyny, i Galfaria,
Enfys heddwch am ei ben, Yna'r storom a ddystawa,
T'w'na'r haul yn entrych nen.

Fe ddynoethai gellau'r galon
Gyda rhyw ryfeddol ddawn—
Pethau celyd, tywyll, dyfnion,
Wnelai'n oleu eglur iawn;
Llosgai'n ulw esgusodion
Y pechadur oll i gyd,
Nes gorfyddai blygu'n union,
Neu fod dan ei warth yn fud,


Oedd ei ofal dros yr achos
Yn cyrhaeddyd i bob lle,
Yr eglwysi pell ac agos
Fyddent ar ei galon e';
Oedd fel tad i'r rhai amddifaid,
Fe wrandawai ar eu cwyn,
I'r canghenau t'lodion gweiniaid,
Ef oedd gyfaill pur a mwyn.

Bugail diwyd a gofalus,
Anwyl iawn o ŵyn y gail,
Doeth geryddwr, athraw medrus,
Cyfarwyddwr heb ei ail,
Ymgeleddwr gweiniaid Sion,
Cydymdeimlad lon'd ei fron;
Esmwythau y trwm ei galon
Wnai, a'i godi uwch y don.

Addfwyn, siriol, gostyngedig,
Gonest, gwrol, yr un pryd;
Cyfaill cywir, eangfrydig,
Oen, ac ych, a llew yn nghyd;
Natur fu fel ar ei goreu
'N ffurfio ei gyneddfau ef,
Cawsant wed'yn eu tymheru
A dylanwad gras y nef.

Byddai'n blentyn wrth weddïo,
Ai at draed ei Dad i lawr;
Symledd, taerni, ffydd yn cydio,
Yn y drugareddfa fawr;
Breichiau'i enaid yn dyrchafu
Megys i gofleidio'r nen,
Hithau arno yntau'n gwenu,
Tynu'i llaw ar hyd ei ben!


"Gad i minau le," medd Hiraeth,
"Yn fy mynwes teimlaf dan;
Hawl sy' genyf 'does amheuaeth,
F'enw i sydd ar y gân;
Gallwn adrodd myrdd o bethau
Sy'n dylifo i'm cof yn awr,
Ydynt megys llym awelau
Yn cynhyrfu'r tan yn fawr.

Delw'i wedd sy'n argraffedig
Ar fy nghof yn berffaith lawn;
Ac mae llygad fy nychymyg
Yn ei wel'd yn amlwg iawn;
Cofiaf dôn ei lais pereiddgu,
Clust dychymyg fyth a'i clyw,
Nes y'm hudir bron i gredu
I fod Williams eto'n fyw.

Myn'd i ganlyn fy nychymyg
Wamal, tua'r Wern a'r Rhos;
Dysgwyl cael yn anffaeledig,
Weled Williams cyn y nos;
Holi'r areithfaoedd wyddynt
Ddim o'i hanes, gyfaill cu,
Ni chawn un atebiad ganddynt,
Awgrym roddai'r brethyn du!

Gwel'd y Beibl mewn galarwisg
Ar yr astell, fel yn syn;
Ato â theimladau cymysg
Awn dan holi, Beth yw hyn?
Wedi'i agor, gwelwn olion
Dwylaw Williams ar y dail—
Gwel destynau, meddai'r plygion,
'Hen bregethwr heb ei ail!"


Y mae rhywbeth wedi dygwydd,
Meddwn, ag y sy' o bwys—
Mae y brethyn du yn arwydd
Colled fawr, a galar dwys;
Ofni 'rwyf i fod gwirionedd
Yn y son ei farw ef,
Ac nad ydyw ond oferedd
Ceisio'i wel'd tu yma i'r nef.

Ac fel hyn dan ddwys fyfyrio,
I dŷ cyfaill oedd gerllaw—
Awn, ond ofnwn holi am dano,
Rhag cael dyfnach clwyf a braw;
Coffa'i enw wnaethum unwaith,
A deallwn ar y pryd
I mi gyffwrdd tanau hiraeth,
Yn nghalonau'r teulu i gyd.

Tua'r Talwrn yn fy mhryder,
Y cyfeiriwn ar fy hynt,
Lle treuliaswn oriau lawer
Yn ei gwmni'n ddedwydd gynt
Myn'd yn mlaen dan ymgysuro
At y ty, fel lawer gwaith
Gynt; ond erbyn cyrhaedd yno,
Och! nid oedd ef yma chwaith.

Aethum wed'yn i Lynlleifiad,
Dyeithr holi hwn a'r llall—
Taflent ataf syn edrychiad,
Tybient hwy nad oeddwn gall;
Aeth oddi yma'n ol i Gymru,
'Clywsoch hyn a gwyddoch chwi,
Ei fod wedi——— tewch a haeru,
Meddwn, yna ffwrdd â mi,


O gyfarfod i gyfarfod
Awn dan holi yn mhob lle,
Ydyw Williams wedi dyfod,
Yma'n wastad gwelid e'?
Gwel'd ei le yn mhlith y brodyr
Heb ei lanw gan yr un,
Ail ymholi mewn trwm ddolur,
'I b'le'r aeth yr anwyl ddyn?'
 
Dyfod adref yn siomedig
Wedi'r daith drafferthus hon;
Eiste'i lawr yn dra lluddedig,
Codi cyn gorphwyso 'mron;
Myn'di chwilio fy mhapyrau
Rhag y gallai oddiwrtho dd'od
Lythyr, pan o'wn oddicartre'
Gwelais hyny'n dygwydd bod.
 
Wedi troi a chwilio gronyn
Ar y rhei'ny yma a thraw,
Gwelwn yn y man lythyryn,
Meddwn, 'Dyma'i 'sgrifen—law!'
Ei agoryd wnawn yn fuan,
Och! y chwerw siom a ges,
Yr oedd hwnw'n ddwyflwydd oedran
Mi nid oeddwn ronyn nes.
 
Yna i'r gwely i orphwyso
Wedi'r drafferth flin yr awn,
Cwsg yn fuan ddaeth i'm rhwymo,
Gorwedd yn ei freichiau wnawn;
Gwelwn Williams draw yn dyfod
Tuag ataf yn ei flaen,
Rhedwn inau i'w gyfarfod
Fel yr ewig ar y waun.


Gwenai ef, a gwenwn inau,
At ein gilydd wrth neshau,
Estynwn i, estynai yntau,
Ddwylaw i ymgofleidio'n dau;
Pan yn agor fy ngwefusau
I'w gyfarch ef â llawen floedd,
Cwsg ddatodai'n rhydd ei g'lymau,
Och! y siom! can's breuddwyd oedd !

Williams, ni chaf mwy dy weled
Byth yr ochr yma i'r bedd;
Byth y pleser o dy glywed
Mwy ni cheir, hen angel hedd;
Ofer teithio i chwilio am danat
Mwyach ar y ddaear hon,
Ofer yw breuddwydion anfad,
Ni wnant ond archolli'r fron.

"Gwn lle mae ei gorff yn huno,"
Ebai Tristwch, "minau äf
Yno uwch ei ben i wylo,
Gwlychu'i fedd â'm dagrau wnaf;
Yn y Wern gerllaw'r addoldy,
Lle bu'n efengylu gynt,
Rhoes ei ben i lawr i gysgu
Islaw cyrhaedd haul a gwynt.

Dyna'r fan mae'r tafod hwnw,
Gynt ro'i Gymru oll ar dân;
Wedi'i gloi yn fudan heddyw,
Yn isel—fro'r tywod mân;
Ar y wefus fu'n dyferu
Geiriau fel y diliau mel,
Mae hyawdledd wedi fferu,
Clai sydd arni, mae dan sel.


Cwyno wna dy frodyr gweiniaid,
Williams, heddyw am danat ti,
Megys eiddil blant amddifaid,
Am eu tad yn drwm eu cri;
Mae dy enw'n argraffedig
Ar galonau myrdd a mwy,
Mae dy goffa'n fendigedig
Ac yn anwyl ganddynt hwy.

Son am danat mae'r eglwysi
Bob cyfarfod d'ont yn nghyd;
'R hen bregethau fu'n eu toddi
Gynt, sydd eto yn eu bryd;
Merched Seion, pan adgofiant
D'enw a'th gynghorion call,
Ceisiant adrodd, buan methant,
Wyla hon, ac wyla'r llall.

Pe bai tywallt dagrau'n tycio
Er cael eilwaith wel'd dy wedd,
Ni chait aros, gallaf dystio,
Haner munyd yn dy fedd;
Deuai'r holl eglwysi i wylo,
A gollyngent yn y fan,
Ffrwd ddigonol i dy nofio
O waelodion bedd i'r lan.

Williams anwyl! llecha dithau
Mewn dystawrwydd llawn a hedd—
Boed fy neigryn gloyw inau
Byth heb sychu ar dy fedd;
Haul a gwynt! mi a'ch tynghedaf,
Peidiwch byth a'i gyffwrdd ef,
Caffed aros haf a gauaf
Nes rhydd udgorn barn ei lef.


Cysga gyda'th blant a'th briod,
Yn 'stafellau'r dyffryn du,
Melus fydd priddellau'r beddrod,
Mwyach i chwi, bedwar cu;
Minau dawaf—teimlad arall
Sydd yn dysgwyl am fy lle,
Gwn ei fod mewn awydd diwall—
Dig wrth angeu ydyw e'.

Nid oes gen'i ond gair i'w dd'wedyd
Wrthyt, angeu creulon, mawr,
Hen anghenfil brwnt a gwaedlyd,
Ceir dy gopa dithiau i lawr;
Dydd sy'n d'od, cawn weled claddu
Dy ysgerbwd hyll ei wedd,
Minau ddeuaf yno i ganu
Haleluia ar dy fedd.

Dydd sy'n d'od i'th laddedigion
Ydynt dan dy draed yn awr,
Godi'n fyw, a sathrant weithion
Dithau dan eu traed i lawr;
Ni bydd wed'yn son am farw,
Gair o son am frenin braw,
Nid oes m'o lyth'renau d'enw
Yn ngeirlyfrau'r byd a ddaw.

"Nawr 'rwy'n gweled,' medd Llawenydd,
'Mai myfi a bia'r gân,
Fi yw'r môr, chwi yw'r afonydd
Rhedech i mi'n ddiwahan;
Cariad ddystaw 'mdoddai'n Hiraeth,
Hiraeth yntau'n Dristwch trwm,
Tristwch droes yn Ddigter eilwaith,
At y bedd ac angeu llwm.


Digter droai'n ddiarwybod
Iddo 'i hun, y gân i mi;
Pan yn senu angeu—syndod!
Llawen gân y troes ei gri;
Yn llawenydd pur ei Arglwydd
Y mae Williams heddyw'n byw,
Nid ä galar yn dragywydd
Ato i'r trigfanau gwiw.

Darfu'r llafur a'r gofalu,
Teithio drwy y gwlaw a'r gwynt,
Fel bu wrth bregethu a chasglu
At addoldai Cymru gynt;
Darfu'r llafur, darfu'r cystudd,
Darfu'r peswch, darfu'r boen,
Darfu marw—ond ni dderfydd
Ei lawenydd gyda'r Oen.

Ca'dd yr orsedd, ca'dd y goron,
Ca'dd y delyn yn ei law;
Byth y bydd wrth fodd ei galon
Gyda'r dyrfa'r ochr draw;
Caiff ei gorff o'r bedd i fyny,
Foreu 'r adgyfodiad mawr,
Bydd ar ddelw'i briod Iesu,
Yn dysgleirio fel y wawr.


PENNOD XX.

PREGETHAU.


PREGETH I.

"UNOLIAETH Y DRINDOD."

"Oblegid y mae tri yn tystiolaethu yn y nef, y Tad, y Gair, a'r Ysbryd Glan: a'r tri hyn un ydynt."—1 Ioan v. 7.

MATER a gadarnheir gan chwech o dystion yn yr adnod hon a'r un ganlynol ydyw, gwirionedd yr efengyl, neu ynte yn ol geiriau Ioan yn adnod 11, fod Duw yn gwneuthur cynygiad diffuant o fywyd tragwyddol i fyd o bechaduriaid drwy gyfryngdod ei Fab. Y tyst cyntaf o wirionedd hyn yw y Tad yn ei waith yn danfon ei Fab i'r byd (Ioan iii. 10); yn ei ddryllio am ein pechodau ni, ac yn ei dderbyn drachefn i'r nef i eistedd ar ei ddeheulaw. Yr ail dyst ydyw, y Gair tragwyddol a wnaethpwyd yn gnawd, yr hwn yn ei fywyd, ei angeu, ei adgyfodiad, a'i esgyniad i'r nef, sydd yn cadarnhau yr un gwirionedd. Y trydydd tyst o hyn ydyw yr Ysbryd Glan, yr hwn sydd yn gosod ei sel wrth weinidogaeth Crist a'i apostolion. Y mae hefyd, "dri ar y ddaear" yn profi gwirionedd yr efengyl. Yn gyntaf, ei "hysbryd," sef y cyfnewidiad y mae yn ei wneuthur ar ysbrydoedd dynion pan y mae yn cael ei phriodol effaith arnynt. Y mae yn gwneuthur y llew yn addfwyn fel oen. Yr ail yw, "y dwfr," sef purdeb yr efengyl. Y mae yn taro at wraidd pob pechod. Y trydydd yw, "y gwaed," sef y tangnefedd y mae yr efengyl yn ei ddwyn i'r gydwybod drwy ddal allan Iawn addas a digonol ar gyfer y penaf o bechaduriaid. Yn y tri pheth hyn y mae y grefydd Gristionogol yn rhagori ar bob crefydd arall yn y byd, sef yn yr ysbryd rhagorol y mae yn ei fagu yn ei deiliaid yn y santeiddrwydd y mae yn ei gymhell arnynt—ac yn yr heddwch y mae yn roddi i'r gydwybod drwy waed Crist; ond i ddychwelyd at y testun, yn

I. YMDRECHAF BROFI O'R YSGRYTHYRAU DWYFOL FOD TRI O BERSONAU YN Y DUWDOD.

Wrth Berson yr wyf yn deall, un yn ymwybodol o hono ei hun, yr hwn y mae ei ddewisiad a'i weithrediadau yn eiddo iddo ei hun, ac nid i arall, neu yn ol y Drd. Paley a Wardlaw, person yw un a chyneddfau personol ganddo, megys gallu i feddwl, dewis, bwriadu, caru, casâu, &c., oblegid y mae y galluoedd hyn yn cyfansoddi Personoliaeth; a rhaid fod yr hwn sydd yn eu meddu yn Berson. [31]

1. Sonir am Dduw yn yr Ysgrythyrau santaidd yn y rhif luosog. Dywed awdwyr fod y gair Elohim, y gair Hebraeg am Dduw, yn y rhif luosog, ac yn cael ei arfer yn yr Hen Destament ddwy fil o weithiau, megys "Cofia yn awr dy greawdwyr yn nyddiau dy ieuenctyd, " Preg. xii. 1. Llawenhaed Israel yn ei wneuthurwyr," Esa. liv. 5, &c.

2. Cynwysa y Beibl lawer o ymddyddanion personol fu rhwng y personau dwyfol, megys "Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain," Gen. i. 20. "Wele y dyn sydd megys un o honom ni," Gen. iii. 22. "Deuwch, disgyn wn, a chymysgwn yno eu hiaith hwynt," Gen. xi. 7. "Pwy a anfonaf, a phwy a ä drosom ni?" Esa. vi. 8, a xli. 22, 23. "Dywedodd yr Arglwydd eistedd ar fy nheulaw," Salm cx. 1; Heb. i. 13; Gen. xix. 24, &c.

3. Y mae enwau personol yn cael eu rhoddi i bob un o'r personau dwyfol, megys Tad, Mab, a'r Ysbryd Glan. Nid enwau iddynt eu hunain ydyw y rhai hyn, i ymwahaniaethu y naill oddiwrth y llall, o herwydd y mae y personau dwyfol yn tragwyddol adnabod eu gilydd heb un enw, ond enwau i ni ydynt, wedi eu rhoddi yn Meibl pechadur i ddangos dull y personau o weithredu yn nhrefn iachawdwriaeth. Nid ydym i ddeall yr enwau, Tad, Mab, ac Ysbryd Glan, yn yr un modd a'r enwau Jehofa a Duw, &c. Y mae yr enwau hyn mor briodol i'r naill berson ag i'r llall, ac yn fynych yn cael eu priodoli i bob un o honynt, o herwydd mai enwau ydynt i ddarlunio, nid eu swyddau, ond eu natur ddwyfol, yr hon sydd yn perthyn i bob un o'r personau fel eu gilydd. Ond y mae'r enwau Tad, Mab, ac Ysbryd Glan, yn enwau personol—pob un yn perthyn i un person yn unig, ac yn dangos ei swydd yn holl weithredoedd Duw, ond yn neillduol yn iachawdwriaeth dyn, yr hon yw y benaf o ffyrdd Duw. Mae yr enw Tad yn dangos ei fod ef yn gweithredu yn ei swydd fel y person cyntaf, mai efe ydyw y ffynonell a'r achos cyntaf o holl weithredoedd y Duwdod, ei fod yn cynal, ac yn gofalu am ei deulu, gan amddiffyn iawn lywodraeth yn eu mysg, a'i fod fel Tad, yn barod i dosturio wrth ei blant afradlon. Mae yr enw Mab yn dangos fod yr ail berson o'r un natur a'r Tad, ei anwyldeb gan y Tad, ei barodrwydd i ufuddhau i ewyllys y Tad, ac mai efe oedd yr unig berson addas i fod yn Gyfryngwr rhwng Duw a dynion, ei unig Fab ydyw. Gelwir y trydydd person yn Ysbryd Glan, nid am ei fod yn lanach neu yn fwy ysbrydol ei natur na'r personau eraill, ond i ddangos mai efe yw bywyd crefydd, a phob rhinwedd yn yr enaid, fel y mae yr ysbryd naturiol yn fywyd i'r corff, ac mai glanhau a phuro pechaduriaid yw ei waith yn nhrefn iachawdwriaeth. Y mae yr enw Duw yn cael ei roddi yn amlach yn yr Ysgrythyrau i berson y Tad nag i'r personau eraill, o herwydd ei fod ef yn Dduw mewn natur ac mewn swydd. Y mae y Mab yn Dduw mewn natur, ond Cyfryngwr ydyw mewn swydd. Felly hefyd, y mae yr Ysbryd Glan yn Dduw mewn natur, ond Argyhoeddydd, Dyddanydd, a Santeiddydd ydyw mewn swydd. [32] Diddadl fod gan y personau dwyfol reswm anfeidrol deilwng o honynt eu hunain am ddewis gweithredu fel y maent yn nhrefn iachawdwriaeth, ond nid amlygwyd hyny i ni.

4. Mae y rhagenwau personol, myfi, tydi, efe, &c., yn cael eu rhoddi mor aml iddynt yn yr Ysgrythyrau, fel na raid i mi eich cyfeirio atynt.

5. Mae gweithredoedd personol yn cael eu priodoli iddynt i'r Tad garu y byd, a rhoddi ei Fab i fod yn iachawdwr i'r byd; i'r Mab ddyfod i'r byd, marw dros bechaduriaid, adgyfodi o'r bedd, eiriol ar ddeheulaw y Tad, a dyfod i farnu y byd. Fod yr Ysbryd Glan yn cael ei ddanfon

gan y Tad yn enw y Mab, i argyhoeddi, dyddanu, a thywys ei bobl i bob gwirionedd.

II. UNOLIAETH Y DRINDOD.

1. Maent yn un mewn natur. Yn gyd-ogyfuwch a chyd-dragwyddol. Er fod lluosogrwydd o bersonau dynol yn y byd, eto nid oes ond un natur ddynol. Felly, er fod tri o bersonau yn y Drindod,. nid ydynt yn dair dwyfoliaeth. Un natur ddwyfol sydd yn bod, a hono yn perthyn i bob un o'r tri pherson yn yr un modd.

2. Y maent yn un mewn gwybodaeth. Y mae pob un o'r tri yn gwybod, ac yn adnabod pob peth yn berffaith yr un modd a'u gilydd; a chan nad yw eu gwybodaeth yn gwahaniaethu mewn dim, un ydyw; eithr pe y buasai yn gwahaniaethu, yna ni buasai yn un.

3. Y maent yn un o ran agwedd calon. Maent o'r un golygiadau moesol am bob peth, ac yn berffaith o'r un syniad calon am danynt eu hunain, a phob peth a fu, y sydd, neu a ddichon fod, o ganlyniad, un ydynt.

4. Y mae yn rhaid eu bod yn un mewn ewyllys'. A chan nad ydynt yn gwahaniaethu yn eu hewyllys mewn dim, ond yn berffaith gyd-ewyllysio pob peth yr un modd; felly un ewyllys yw, er fod tri a gallu ganddynt i ewyllysio.

5. Y maent yn berffaith unol mewn arfaeth a bwriadau.

6. Y maent yn un mewn meddianau ac achos. "A'r eiddo fi oll sydd eiddo ti, a'r eiddo ti sydd eiddo fi," Ioan xvii. 10. Er fod gan y personau bendigaid wahanol swyddau yn nhrefn iachawdwriaeth, eto, un achos mawr ydyw, yn perthyn i bob un fel eu gilydd; ac y mae y naill yn gogoneddu y llall ynddo; "Y Tad, daeth yr awr, gogonedda dy Fab, fel y gogoneddo dy Fab dithau," Ioan xvii. I. "Efe a'm gogonedda i, canys efe a gymer o'r eiddof, ac a'i mynega i chwi," Ioan xvi. 14.

7. Y maent yn un mewn cariad. Mae pob un o honynt yn caru y lleill yn berffaith, ac i'r un graddau ag y mae yn ei garu ei hun, a rhaid of ganlyniad mai un cariad 'yw.

8. Y maent yn un mewn gogoniant. Pan yr ydym yn anrhydeddu y Tad a'r Ysbryd Glan; ac wrth anrhydeddu yr Ysbryd Glan, yr ydym yn anrhydeddu y Tad a'r Mab; o herwydd un orsedd, ac un goron sydd gan y tri pherson. Ac os ydym yn rhoddi gogoniant i un o'r personau dwyfol, yr ydym yn rhoddi gogoniant i'r holl natur ddwyfol, o herwydd un natur ddwyfol sydd yn bod.

Crybwyllaf bellach rai o'r pethau ag y mae athrawiaeth y Drindod yn ei dysgu i ni.

(1.) Mai undeb y Drindod yw yr undeb anwylaf ac agosaf yn yr holl fydysawd. Nid yw pob undeb arall ond megys arliw gwan o hono, ac yn diffoddi fel canwyll ganol dydd wrth ei gymharu âg ef. Y mae mor hawdded i ni gynwys y Duwdod ag ydyw i ni amgyffred agosrwydd ac anwyldeb yr undeb hwn. Tragwyddol ymfwynhad y personau Dwyfol, eu hymddigrifiad a'u hymhyfrydiad y naill yn y llall oedd eu nefoedd ddiddechreu cyn bod y byd, "Yna yr oeddwn i gydag ef megys un wedi ei feithrin gydag ef, ac yr oeddwn yn hyfrydwch iddo beunydd, yn ymlawenhau ger ei fron ef bob amser," Diar. viii. 30.

(2.) Mai o undeb y Drindod y mae pob undeb rhinweddol yn tarddu. Ymhyfrydodd y Personau Dwyfol gymaint yn eu gilydd, nes y dywedant,

Gwnawn ddyn ar ein delw ni, wrth ein llun ein hunain," Gen. i. 26.

Gen. i. 26. Gwnawn ef yn greadur cymdeithasgar a chymhwysderau ganddo i garu ac ymhyfrydu ynom ni, ac yn ei gyd-readuriaid.

(3.) Mai undeb y Drindod yw y cynllun gogoneddus yn ol pa un y mae yr Ysbryd Glan yn dwyn yn mlaen undeb yr eglwys, "Fel y byddont oll yn un megys yr wyt ti y Tad ynof fi, a minau ynot ti, fel y byddont hwythau un ynom ni," Ioan xvii.

Dyma y cynllun mawr wrth ba un y mae yr eglwys i gael ei pherffeithio yn un, Ioan xvii. 23; nes y bydd "yn wr perffaith at fesur oedran cyflawnder Crist," Eph. iv. 13.

(4.) Y mae athrawiaeth y Drindod yn dysgu y dylem ninau ymgyrhaedd at undeb, fel y byddom yn ol ein graddau yn tebygoli i'r personau dwyfol.

(5.) Ei fod o bwys mawr i ni gael golygiadau eglur a chywir ar athrawiaeth y Drindod, o herwydd nas gallwn heb hyny gael golygiadau cyson ar drefn yr iachawdwriaeth. Y mae llawer yn meddwl nad yw yn ddyledswydd arnynt i chwilio na phregethu yr athrawiaeth hon; ac mai peth dirgelaidd ydyw, ac na pherthyn i neb dynion ei gwybod. Pe felly, ni buasai Duw yn ei datguddio ni yn ei Air, ond gan i Dduw ei datguddio, ein dyledswydd ni ydyw ei chwilio. Y mae yn wir ei bod uwchlaw ein hamgyffred ni, ond felly y mae pob peth sydd yn perthyn i'r Duw anfeidrol. Pethau amlwg i ni a'n plant yw pethau y datgudd—iad dwyfol; ac y mae yn perthyn i bob dyn ar y ddaear eu gwybod. Pe na buasai Duw am i ni eu gwybod, ni buasai yn son gair am danynt. Dylem ochelyd gwneuthur dirgeledigaethau o'n dychmygion, yn gystal a cheisio gwybod pethau na ddat—guddiwyd. Na fyddwn Babyddion—Beibl i bawb yw y Beibl, a phethau i bawb eu chwilio sydd yn gynwysedig ynddo. Gweddiwn am i'r Ysbryd Glan ein tywys i bob gwrionedd

PREGETH II.

"CYSYLLTIAD CYFATEBOL RHWNG IAWN YMARFERIAD O FODDION A LLWYDDIANT."

"A hyn yr wyf yn ei ddywedyd, yr hwn sydd yn hau yn brin, a fed hefyd yn brin; a'r hwn sydd yn hau yn helaeth, a fed hefyd yn helaeth' 2 Cor. ix. 6.

Y MAE cysylltiad o ddau fath rhwng hau a medi. Un yw cysylltiad rhywogaeth, " canys beth bynag a hauo dyn, hyny hefyd, a fed efe," Gal. vi. 7, 8. Y llall yw cysylltiad graddau, a dyna y cysylltiad a olygir yn y testun. Oddiwrth y geiriau sylwaf yn

I. FOD CYSYLLTIAD CYFATEBOL RHWNG YMARFERIAD O FODDION A LLWYDDIANT.

1 Yn gyfatebol i'r cyflawn ymarferiad o foddion yr ydym yn dysgwyl llwyddiant. Pa mor dda y mae yr amaethwr yn deall y gyfundraeth hon, efe a ŵyr nas gall efe ddysgwyl ei gnwd i'w ydlan heb arfer yr holl foddion a drefnodd awdwr natur i hyny; eto, mae dynion mewn pethau ysbrydol yn dysgwyl bendith pan y maent yn esgeuluso mwy na haner y moddion, drwy ba rai y mae Duw yn bendithio ac yn llwyddo. Mae'n rhaid fod ansawdd calonau dynion yn ddrwg, onide hwy a ddeallant mor dda y cysylltiad sydd rhwng arfer moddion yn nhrefn yr iachawdwriaeth a bendith, ag sydd yn ngwaith yr amaethwr yn nhrefn Rhagluniaeth. Pe na byddai yr amaethwr yn arfer mwy o foddion tuag at gael cnwd, nag y mae y rhan fwyaf yn ein gwlad yn ei arfer yn ysbrydol tuag at gael bendith, efe a ystyrid yn dra ynfyd.

2. Yn gyfatebol i'r amserol ymarferiad o foddion yr ydym yn dysgwyl am lwyddiant. Hynod mor ofalus yw yr amaethwr i ddefnyddio yr adeg oreu, o herwydd efe a ŵyr fod cysylltiad angenrheidiol rhwng hyny a'i lwyddiant. Pa faint sydd wedi colli eu defnyddioldeb, ïe, a'u heneidiau am byth, o eisieu na buasent yn amserol yn ymaflyd yn yr adeg! Faint o blant sydd yn tyfu i fyny yn annuwiol o eisieu na buasai eu rhieni a'r eglwys yn amserol yn arfer pob moddion er eu hachub. mae y meddyg yn ymddibynu yn fawr am lwyddiant i iachau y claf, ar ei fod yn cael cyfleusdra i arfer ei foddion yn amserol. Ond nid llai y mae symud ymaith afiechyd pechod ynom ni ein hunain, ac eraill hefyd, yn ymddibynu ar yr amserol ymarferiad o foddion.

3. Yn gyfatebol i'r diwyd a'r gwastadol ymarferiad o foddion y llwyddwn. Hen egwyddor gyffredin a phrofedig yw, "Llaw y diwyd a gyfoethoga," Diar. x. 4. "Enaid y diwyd a wneir yn fras," Diar. xiii. 4. Pe yr arferid yr un diwydrwydd mewn pethau crefyddol ag a welwn yn gyffredin mewn pethau naturiol, byddai wyneb ein daear yn fuan yn debyg i wyneb y nefoedd.

4. Yn gyfatebol i'r diragrithrwydd yn yr ymarferiad o foddion y gallwn ddysgwyl am lwyddiant. Yr oedd y Phariseaid yn ymarfer â llawer o foddion, ond yr oeddynt mor llawn o ragrith a hunanglod, fel nad oedd ganddynt le cyfreithlawn i ddysgwyl am fendith. Mynych y dywedodd yr Arglwydd wrth Israel, "Ceisiwch fi hefyd, a chwi a'm cewch, pan y'm ceisiwch â'ch holl galon."

5. Yn gyfatebol i'r teimlad fyddo ynom o'n hymddibyniad ar ddwyfol ddylanwadau yn yr ym—arferiad o foddion y llwyddwn. Y mae y rhai'n mor angenrheidiol er ein hachub ag oedd i Grist farw drosom. Y mae yr Arglwydd wedi bod yn ofalus iawn drwy oesoedd y byd er argyhoeddi ei bobl, "mai nid drwy lu, ac nid drwy nerth, ond drwy ei ysbryd ef y maent i lwyddo," Zech. iv. 6. Mae yn rhaid i bob Cristion ddysgu y wers hon, er gorfod prynu ei ddysg yn lled ddrud, "Canys nid â'u cleddyf eu hun y goresgynasant y tir, nid eu braich a barodd iachawdwriaeth iddynt, eithr dy ddeheulaw di, a'th fraich, a llewyrch dy wyneb, o herwydd i ti eu hoffi hwynt," Salm xliv. iii.

6. Bydd ein llwyddiant yn gyfatebol i'r lle a fyddwn yn roddi i Grist yn ein holl ymarferiad o foddion. Os ychydig o Grist a fydd yn nghyfundraeth ein moddion, ychydig fydd ein llwyddiant cyn y byddo pethau yn myned yn mlaen yn iawn, rhaid iddo ef gael y flaenoriaeth yn mhob peth, Col. i. 13.

Yn ol y lle a fyddo Crist yn ei gael yn ein gweddiau y llwyddant; yn ol y lle a gaiff yn ein pregethau y llwyddant; a thyna y prif achos fod yr apostolion mor llwyddianus Crist wedi ei groeshoelio. Y mae un o Indiaid America, o'r enw Tschaap yn rhoi hanes ei ddychweliad fel y canlyn:—"Yr wyf wedi bod yn hen bagan," ebai efe, ac mi a wn pa fodd y mae paganiaid yn arfer meddwl; daeth cenadwr unwaith atom, a dywedodd am y drwg o ladrad, celwydd, a meddwdod, nid oedd hyny yn effeithio dim arnom, oblegid ni a wyddem o'r blaen fod hyny yn bechod. Ond wedi rhyw gymaint o amser daeth y brawd Henry Rauch atom, ac a ddechreuodd ddywedyd am gariad Crist, a'i fod wedi marw dros bechaduriaid, a bod ei waed yn abl i lanhau oddi wrth bob pechod. Yr oedd hyn yn wahanol iawn i'r hyn a glywsom o'r blaen ac yn effeithio ar fy nghalon yn fawr. Yr oedd y pethau hyn yn fy meddwl yn barhaus pan yn effro, a breuddwydiwn am danynt pan yn fy nghwsg. Mi a'u cyfieithais i'r Indiaid eraill, yr hyn a effeithiodd yn yr un modd arnynt hwythau hefyd, a hyn a fu drwy ras, yr achos cyntaf o ddeffroad yn ein mysg. Yna, meddai wrth y cenadon, os ydych am i'r gair lwyddo yn mhlith y paganiaid, pregethwch Grist a'i ddyoddefiadau yn Waredwr i'r penaf o bechaduriaid. [33] Mae yn dra sicr mai i'r graddau y pregethir Crist, yn ysbryd Crist y llwydda pawb.

7. Yn gyfatebol i daerineb ein gweddiau y llwyddwn; "Llawer a ddichon taer weddi y cyfiawn." Pa daeraf y byddo'r weddi, mwyaf i gyd a fydd y llwyth o fendithion a dyn i lawr. Yn ol ei daerineb y llwyddodd Jacob. Fe lwyddodd taerineb gyda'r barnwr anghyfiawn, er nad ofnai Dduw ac na pharchai ddyn.

Pa faint mwy y llwydda taerineb gyda'r hwn sydd yn ffynon y cariad, a'r tosturi sydd yn mynwes pob Cristion. Yr ydym ni yn fynych yn gweddio yn rhy debyg i blant tre' yn chwareu, y rhai heb un neges, ond o gellwair a gurant wrth ddrws eu cymydog, a chyn y caffo neb amser i agor rhedant ymaith, felly nid ydyw gweddiau llawer ond megis chwareu plant. Ond y mae'r gweddiwr taer yn penderfynu aros wrth ddrws trugaredd hyd farw, ei iaith yw "Safaf ar fy nysgwylfa ac ymsefydlaf ar y twr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf," Hab. ii. I.

8. Bydd ein llwyddiant,, yn gyfatebol i hyder ein gweddiau. Y mae sail ein hyder yn gwbl allan o honom ein hunain. Duw, yr hwn a addawodd yw sail ein llwyddiant, ac nid yr hyn y'm ni. Pan y mae genym addewid gwr, ei garictor sydd genym i ymwneud ag ef er cynyrchu hyder ynom, ac nid beth y'm ni. Efe oedd i edrych ar hyn cyn addaw, Y mae hyder pechadur mewn gweddi fel ffenestr fechan mewn tŷ, yn ol maint y ffenestr y bydd y goleu yn dyfod i mewn; felly yn ol maint ein hyder y llwyddwn ninau yn ein gweddiau drosom ein hunain, a thros eraill; y mae y geiriau "yn ol dy ffydd bydded i ti," yn eu grym heddyw yn gystal ag erioed. Gweddi y ffydd a egyr y llaw sydd yn dal y bydoedd, ac a ddetyd gloion pyrth y nefoedd ac a dyn y nefoedd i lawr i'r ddaear, ac a gyfyd y ddaear i fyny i'r nefoedd.

II. I DDANGOS PA MOR BELL Y MAE'R CYSYLLTIAD YN EFFEITHIO.

1. Mae yn effeithio ar ein crefydd bersonol yn ol fel y byddom yn ymarferyd â moddion, fel a nodwyd o'r blaen, y llwyddwn i gael cymdeithas â Duw, ac felly y cynyddwn ar ei ddelw, ac mewn cysur a dedwyddwch. Yna "bydd ein heddwch fel afon, a'n cyfiawnder fel tònau y môr," Esa. xlviii. 18.

2. Mae yn sicr o effeithio ar ein teuluoedd. Os prin a fyddwn yn yr ymarferiad o'r moddion a drefnodd Duw i wellhau ein teuluoedd, prin fydd y llwyddiant. Y mae yr Arglwydd wedi addaw bod yn Dduw i'w bobl, ac i'w had, Gen. xvii. 7, "Had y cyfiawn a waredir," Diar. xi. 21, "Tywalltaf fy ysbryd ar dy had, a'm bendith ar dy hil—iogaeth," Esa. xliv. 3. Ni bu Duw erioed yn anffyddlon i'w addewidion, ond ni a fuom anffydd—lon i'w gyfamod ef, gan ei bechu ef allan o'n teuluoedd. Mae Duw yn ymhyfrydu bod yn Dduw y teulu, am hyny mae yn fynych yn cyfenwi ei hun yn Dduw Abraham, Isaac, a Jacob. Ni bydd iddo byth ymadael o'r teulu, oddieithr i ni ei yru ef ymaith â'n pechodau.

3 Gwna effeithio ar yr eglwys i ba un yr ydym yn perthyn, a'r gymydogaeth yn mha un yr ydym yn byw. Yn of fel yr arferom y moddion a drefnodd Duw i wellau y byd y llwyddwn er diwygio yr eglwys yr ydym yn aelodau o honi, a'r wlad yr ydym yn preswylio ynddi. Pa faint o ddaioni a wnaeth un Paul, un Luther, un Whitfield, un Wesley, un Brainerd, a llawer eraill o enwogion mewn duwioldeb a defnyddioldeb a allesid enwi. Pa beth a'u gwnaeth hwy yn fwy defnyddiol nag eraill? Ai o herwydd fod ganddynt gryfach galluoedd eneidiol nag eraill? Nage, mwy duwiol oeddynt nag eraill, ac am hyny y gwnaethant well defnydd nag eraill o'r moddion trefnedig i wellhau y byd. Gallasent hwythau fod yn fwy defnyddiol pe y buasent yn fwy duwiol. Hefyd, gallai pob un o honom ninau fod mor ddefnyddiol a hwythau yn ol ein manteision a'n sefyllfaoedd, pe y byddem mor dduwiol a hwy. Mae pob dyn duwiol yn tystiolaethu y dylai fod yn fwy defnyddiol, a'i alar yw na byddai felly.

4. Fe effeithia ein dull ni o ymarfer y moddion a drefnodd Duw er diwygio y byd ar yr oes sydd yn cyfodi i fyny, ac oddi yma yn mlaen hyd ddiwedd y byd. Mae yr had da a hauodd Abraham, Moses, Samuel, a'r prophwydi, ie, yr apostolion hefyd, y merthyron, a'r diwygwyr, yn ffrwytho yn doreithiog yn y byd hyd heddyw; yr un modd y gwna ein llafur ninau effeithio oddiyma hyd y farn. Unrhyw gynhyrfiad a wnawn yn nheyrnas y Messiah er ei chychwyn hi yn mlaen, a bery yn ei effeithiau arni hyd ei ail—ddyfodiad ef. Fe fydd medi oddiwrth yr Ysgolion Sabbathol, Cymdeithasau y Beiblau, a'r Cymdeithasau Cenadol a ffurfiwyd yn ein hoes ni, hyd ddiwedd amser. Pe buasem ni ag eraill yn yr oes hon yn hau yn helaethach yn y pethau hyn, buasai mwy o gnwd o dduwiolion yn yr oes nesaf, ac felly yn mlaen hyd ddiwedd y byd.

5. Fe effeithia ar ein sefyllfa ddyfodol yn y nefoedd am byth. Dangos hyn ydyw prif amcan dameg y punoedd (Luc xix. 12—20). Ond nid yr un amcan sydd i ddameg y talentau (Matthew XXV. 14—30). Amcan y ddiweddaf yw dangos nad yw pawb yn cael yr un manteision, ac mai yn ol ein manteision y bydd y Barnwr yn gofyn oddi-wrthym yn y farn; ond amcan y llall yw dangos fod rhai yn gwneuthur gwell defnydd o'u breintiau nag eraill, ac yn ol hyny y byddant yn cyfodi mewn graddoliaeth yn y nefoedd byth. Wrth yr hwn a enillodd ddeg punt y dywedodd ei Feistr, "Bydded i ti awdurdod ar ddeg dinas;" ac wrth yr hwn a enillodd bump punt y dywedodd, "Bydd dithau ar bump dinas." Yr oedd hwn bump o raddau am byth yn is na'r hwn a wnaeth ei bunt yn ddeg punt. Rhoddi i bob un yn ol fel y byddo ei waith a wna Crist yn y byd hwnw. Bydd rhagor rhwng seren a seren mewn gogoniant. Pob modfedd o dir yr ydym yn golli yn bresenol drwy ein hesgeulus—dod, yr ydym yn ei golli am byth; ac fe fydd pob gronyn o ffyddlondeb yn y byd yma yn ein cyfodi i raddau anrhaethol o fwynhad mewn byd arall. I derfynu—

Mae yr hyn a draddodwyd yn berffaith gyson âg athrawiaeth gras, ac ag arfaeth. Oblegid gras a gyfansoddodd y moddion, gras sydd yn rhoddi cyfleustra i ni ddefnyddio y moddion, a gras hefyd sydd yn cynhyrfu dynion i'w hymarfer, "Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch, ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. gall fod ychwaith yn erbyn arfaeth; oblegid yr un arfaeth ag sydd wedi arfaethu y dyben, sydd hefyd wedi arfaethu y moddion i gyrhaedd y dyben. Os yw Duw wedi arfaethu mwy o dduwiolion i fod yr oes nesaf nag sydd yn yr oes hon, mae yr un Duw wedi arfaethu i ni wneuthur mwy tuag at ddwyn hyny i ben na'r oes o'r blaen. Yr un llwybr sydd genym i wybod am arfaeth yn nhrefn gras, ag yn nhrefn Rhagluniaeth. Pe gofynid i ni am ddarn o fynydd, A arfaethwyd i wenith dyfu yno, ni fedrwn byth wybod hyny drwy rym penddysg (theory); yr unig ffordd i wybod hyny fyddai arfer y moddion a drefnodd Duw i gael cnwd ar y fath le; a'r casgliad diwrthddadl a wnaem, os ceid cnwd ar ei gyffelyb, y ceid cnwd arno yntau hefyd trwy arfer moddion priodol, gan wybod fod cysylltiad annatodadwy rhwng yr ymarferiad o foddion a llwyddiant. Yr un modd yr ydym i wybod am arfaeth yn nhrefn gras. Mae Duw wedi arfaethu na chaiff neb arfer y moddion a drefnodd efe yn ofer. Dyben Duw yn datguddio ei arfaeth i ni ydyw ein cynhyrfu at ein dyledswydd; os na fedrwn ni ei phregethu hi gystal a phob athrawiaeth arall yn y Beibl, yn anogaeth i bechaduriaid i wneuthur eu dyledswydd, y mae yn sicr nad ydym yn ei phregethu yn iawn; oblegid nid oes yr un gwirionedd yn y Beibl wedi ei ddatguddio er mwyn boddio cywreinrwydd dynion, ond er mwyn ymarferiad, er ein hanog ni at ein dyledswydd.

2. Dichon rhai dybied fod yr hyn a draddodwyd yn taro yn erbyn ffeithiau (facts). Ymddengys felly o herwydd ein hanwybodaeth o holl amgylchiadau pethau. Gallai llawer feddwl fod Noah yn fwy aflwyddianus na llawer a fu yn llai eu ffyddlondeb a'u diwydrwydd. Yma mae yn anghenrheidiol ystyried yr anfantais o dan ba un yr oedd Noah yn llafurio; y pryd hwn yr oedd yr holl fyd yn un ffrwd yn myned i uffern; yr oedd yn fwy peth iddo ef fod yn offeryn i achub un enaid, nag a fyddai i ni yn yr oes hon fod yn offerynau i achub bob un ei ganoedd, Dichon i eraill feddwl fod Pedr yn fwy llwyddianus na Christ; ond dylem gofio mai myned i mewn i lafur Crist ac eraill a fu o'i flaen a wnaeth Pedr a'i frodyr; fe fu y prophwydi yn braenaru y tir, ac Ioan Fedyddiwr megys yn eu rhagflaenu, a Christ ei hun megys yn ei fwydo â'i chwys a'i ddagrau; ie, ac a'i waed; ac felly y dywedodd Crist am eu llwyddiant, "Canys yn hyn y mae'r gair yn wir, mai arall yw yr hwn sydd yn hau, ac arall yw yr hwn sydd yn medi. Myfi a'ch anfonais chwi i fedi yr hyn ni lafuriasoch; eraill a lafuriasant, a chwithau a aethoch i mewn i'w llafur hwynt," Ioan iv. 37, 38. Diamheu mai un o brif ancanion dydd y farn fydd dangos fod Duw wedi llwyddo pawb fel y darfu iddynt ymarfer y moddion i hyny, a bod pob un wedi gwneud drwg yn y byd yn ol fel y darfu iddo esgeuluso neu gamarfer y moddion, er nad ydyw yn ymddangos i ni felly yn mhob amgylchiad yn bresenol, o herwydd diffyg adnabyddiaeth o'n gilydd ac o amgylchiadau pethau. Bydd yn ddigon amlwg yn y farn, paham y mae plant llawer o broffeswyr a phregethwyr yn awr mor annuwiol. Ymddengys hyn pan ddelo'r holl ddirgeloedd i'r amlwg.

3. Mae yn dangos mai wrth ein drysau ni y mae yr achos o'r aflwyddiant, ac nid wrth ddrws Duw. O herwydd pe buasem ni wedi gwneud ein dyledswydd tuag at ein perthynasau a'n cymydogion, buasai gwell agwedd arnynt heddyw; pe buasem ni yn fwy fel halen, buasai y byd yn bereiddiach heddyw; pe buasem ni fel canwyllau yn rhoddi gwell goleu, buasai y byd yn oleuach nag ydyw. Mae Duw yn llawn mor alluog i achub ag oedd, ac yn llawn mor barod ag oedd "Wele ni fyrhawyd llaw yr Arglwydd fel na allo achub; ac ni thrymhaodd ei glust ef, fel na allo glywed; eithr eich anwireddau chwi a ysgarodd rhyngoch chwi a'ch Duw, a'ch pechodau a guddiasant ei wyneb oddiwrthych fel na chlywo," Esa. lix. 1, 2. Bydd hyn yn wirionedd eglur yn y farn, nad ataliodd Duw ddylanwadau ei Ysbryd oddiwrth neb ond mewn cyfiawn farn, pa un bynag ai oddi wrthym ni yn bersonol ai oddi wrth ein teuluoedd.

4. Cofied y rhai annuwiol nad yw bod eraill yn peidio gwneud eu dyledswydd tuag atynt yn rheswm digonol i'w hesgusodi hwynt am eu hannuwioldeb, oblegid nid ydynt yn defnyddio y breintiau sydd ganddynt.

5. Mae hyn yn anogaeth gref i ni wneud ein dyledswydd, oblegid nid oes achos i ni betruso na lwyddwn yn ol fel yr ymarferwn â'r moddion a drefnwyd i hyny. Felly ymroddwn i wneud ein dyledswydd gan ymnerthu yn y gras sydd yn Nghrist Iesu, a chredu na bydd ochr Duw byth ar ol.

PREGETH III.

"YR IAWN."

"Ac anfon ei Fab i fod yn Iawn dros ein pechodau," I Ioan iv. 10.

MEWN ffordd o arweiniad i mewn i'r hyn a ganlyn, cawn sylwi ar y pethau canlynol:—

1. Y Person a anfonwyd ydoedd y Mab, yr hwn oedd yn gyd-dragwyddol ac yn ogyfuwch a'r Tad. Yr oedd hyn yn angenrheidiol mewn trefn iddo fod yn hunanfeddianydd, heb hyny ni buasai ganddo hawl ar ei einioes i'w roddi dros eraill; ni byddai'n gyfiawn i'r naill ddyn roddi ei einioes dros y llall, oblegid nad ydyw yn hunanfeddianydd. Yr oedd pob urddasolrwydd yn ei berson ef i wneuthur Iawn, fel yr oedd anrhaethol werth yn yr hyn a wnaeth efe yn lle a thros bechaduriaid.

2. Yr hwn a anfonodd y Mab oedd y Tad. Er fod Crist ynddo ei hun yn berffaith gyfaddas, eto ni buasai'r hyn a wnaeth yn ateb y dyben oni buasai i'r Tad, y Llywydd goruchaf ei anfon, neu ei osod i fod yn Iawn.

3. Yr hyn a wnaeth Iawn oedd ufudd-dod a dyoddefiadau yr Arglwydd Iesu Grist mewn cysylltiad anwahanol â'u gilydd.

4. Yr achos i Dduw ddanfon ei Fab i fod yn Iawn oedd ei gariad. "Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni." Nid amcan yr Iawn oedd rhwymo Duw y cariad i drugarhau wrth ryw nifer o bechaduriaid, nid oes eisiau ar ras ei roi dan rwymau i weithredu, dim ond yn unig cael ffordd addas i weithredu. "Felly y carodd Duw y byd, fel y rhoddodd ei uniganedig Fab,"..."ac anfon ei Fab." Oddiwrth y geiriau amcanwn sylwi ar Iawn Crist yn ei wahanol berthynasau megys yn

I. YN EI BERTHYNAS A'R LLYWODRAETH FOESOL.

Y mae yn wir nad yw llywodraeth foesol yn enw (term) Ysgrythyrol, er fod ei gynwysiad yn y Beibl, mwy na deddf foesol. Ond er mwyn ei gwahaniaethu oddiwrth ddeddfau eraill, ac i ddangos mai â moesau ac ag ymddygiadau dynion y mae a wnelo hi, fe'i gelwir yn ddeddf foesol, a gwaith Duw yn llywodraethu dynion yn ol natur y ddeddf hon, ydyw llywodraeth foesol. Er mwyn gwahaniaethu, gelwir y rheol wrth ba un y mae yn llywodraethu y greadigaeth afresymol, ei lywodraeth naturiol, sylfaen hon yw perffaith wybodaeth o naturiaeth pob peth, ac anfeidrol allu sydd yn ei dal i fyny; nid gwiw cymeryd anogaethau a deniadau (motives) i lywodraethu y môr na'r elfenau eraill, ond nerth braich Hollalluog sydd raid ei gael i'w rheoli. Ond nid beth a ŵyr Duw, na pha beth a all ef, yw sylfaen ei lywodraeth foesol, ond sylfaen hon yw iawnder tragwyddol, neu yr hanfodol wahaniaeth sydd rhwng da a drwg, a deniadau, ac anogaethau sydd i'w dal i fyny, ac nid nerth; gwnai y radd leiaf o orfod (force) yn y llywodraeth hon ei dinystrio am byth, a chan mai anogaethau (motives) sydd yn dal i fyny y llywodraeth foesol, y mae yn anhebgorol angenrheidiol i'r llywodraethwr eu cynal yn eu llawn nerth mewn ymherodraeth mor eang ag yw y bydysawd. Wrth iawn i berson unigol (private person) y deallir y boddlonrwydd, neu'r atdaliad a dderbynir am y cam a gafodd yn ei eiddo, neu a ddyoddefodd yn ei gymeriad (character), fel nad ydyw yn golledwr, ond yn un a phe y buasai heb gael ei gamweddu erioed yn y mesur lleiaf. Ond wrth Iawn i gyfiawnder cyhoeddus (public justice), neu i lywodraeth, y deallir yr hyn a atebo ynddi holl ddybenion cosp; dyben cosp yw cadw iawn drefn yn y llywodraeth, ac nid llid personol at y troseddwr, neu aberthu iawn drefn yn y llywodraeth (yr hyn a fyddai aberthu ei holl ddedwyddwch ar unwaith), neu ynte gael rhywbeth a atebo yr un dyben a a chospi y troseddwr. Nid yw yn hanfodol i gyfiawnder i gospi y troseddwr yn ei berson ei hun, onide ni buasai lle i dros-osodydd (substitude), ond buasai raid i'r troseddwr ddyoddef, ac nid neb arall. Gofyniad cyfiawnder yw cospi yr euog, neu rywbeth a atebo yr un dyben a hyny yn y llywodraeth. Y mae cyfiawnder mor foddlon a thrugaredd i beidio a chospi y pechadur, ond iddo gael yr hyn a atebo yr un dyben a'i gospi; hyd yma y mae cyfiawnder yn dyfod, naill ai cospi y troseddwr, neu dros-osodydd cyfaddas. Y mae bywyd ac angeu Emanuel, nid yn unig yn ateb cystal dyben a chospi yr holl droseddwyr, ond anrhaethol well; rhoddodd gryfach anogaethau i iawn-drefn na phe cawsent eu dinystrio oll; felly, y mae cyfiawnder wedi cael mwy nag oedd yn ei ofyn yn aberth y Cyfryngwr, yr hyn a gawn ei ddangos eto yn helaethach yn y sylwadau canlynol:—

1. Y mae'r Iawn yn gwneuthur i garictor y deddfwr ymddangos yn ddiduedd ac anghyfnewidiol er maddeu i'r troseddwyr. Y mae gweinyddiad anwadal yn sicr o ddinystrio pob llywodraeth, pa un bynag a'i teuluaidd, gwladol, eglwysig, a'i moesol fyddo; os cospir heddyw yn y teulu am ryw drosedd, ac yfory yr unrhyw drosedd yn myned heibio yn ddisylw, cesglir yn fuan gan yr aelod lleiaf mai ar fympwy, ac nid ar iawnder y mae y llywodraeth wedi ei seilio. Pe cospid un troseddwr, ac arbed un arall, fe fernid y gweinyddiad yn bleidgar, ac mai llid personol a achosodd gospi rhai, ond bod yn well ganddo aberthu'r llywodraeth na chospi eraill. Ond

Ond y mae dyoddefiadau y Cyfryngwr yn berffaith ddiogelu carictor Duw, er maddeu i'r euog; ynddo ef y dangosodd ei fod yn berffaith ddiduedd a digyfnewid yn ei benderfyniadau i gospi pechod, a hyny yn yr uchaf o fodau, "Yr hwn nid arbedodd ei briod-fab, ond a'i traddododd ef trosom ni oll, ac os gwnaed hyn yn y pren îr, nid oes lle i ddysgwyl yr arbedir y crin, eithr yr Arglwydd a fynai ei ddryllio ef, efe a'i clwyfodd pan osododd efe ei enaid yn aberth dros bechod.

2. Y mae Iawn yn ei berthynas a'r llywodraeth, yn gwneuthur nad ydyw gweinyddiad maddeuant yn dirymu'r gyfraith, o herwydd mae cospi'r troseddwr yn hanfodol i gyfraith, neu gael yr hyn a fyddo yn gyfiawn gyfateb i hyny. Dyma y gwahaniaeth rhwng cyfraith a chynghor, sef nad oes un gosp yn gysylltiedig â'r naill, ond yn hanfodol i'r llall. Yr oedd yn rhaid i un o dri pheth gymeryd lle naill a'i cospi'r troseddwr, neu i'r gyfraith hono, "Ti a geri yr Arglwydd dy Dduw a'th holl galon, ac â'th holl enaid, ac â'th holl nerth, ac â'th holl feddwl, â'th gymydog fel ti dy hun," gael ei throi am byth yn gynghor gwan a dirym, drwy holl ymerodraeth y Jehofah, neu ynte gael Iawn. Pan oedd dyn yn y bwlch cyfyng hwn y daeth Crist, gan ddywedyd (os oedd ei fywyd ef yn ddigon i ddiogelu y gyfraith, ac arbed y troseddwr), "Wele fi, anfon fi. Gwnaeth ef y fath Iawn, gan ddangos cyfiawnder ac anghyfnewidioldeb gofyniadau a bygythion y gyfraith yn fwy grymus ac anrhydeddus wrth faddeu i'r euog, nag a fuasai suddo yr holl droseddwyr i ddinystr am byth.

3. Y mae Iawn yn gwneuthur nad yw gweinyddiad trugaredd a maddeuant ddim yn lleihau'r argraffiadau o ddrwg pechod. Y mae maddeuant ynddo ei hun yn tueddu i wneud hyny ar feddwl y troseddwr, yn nghyd a phawb a glywo'r hanes, heb rywbeth i wrthbwyso ar gyfer hyny; y mae hyn yn fynych i'w weled mewn teuluoedd; bydd y rhai hyny yn fynych yn dangos gwg yn eu gwedd, pan y mae eu calon yn llawn parodrwydd i faddeu, eto y mae arnynt ofn dangos hyn, rhag i'r bychan gasglu nad oes dim drwg yn y trosedd. Yn angeu y Cyfryngwr y mae drwg pechod yn ymddangos i'r graddau eithaf, y mae mwy o ddrwg pechod yn ymddangos wrth faddeu drwy angeu Crist nag wrth gondemnio y troseddwr anedifeiriol. Yma y mae pechod yn cael ei gondemnio, a'r pechadur yn cael ei gyfiawnhau.

4. Y mae yr Iawn yn gwneuthur gweinyddiad cyfiawnder a thrugaredd yn gyson a'u gilydd. Buasai raid i gyfiawnder heb Iawn rwystro gweinyddiad trugaredd, neu i drugaredd ddinystrio gweinyddiad cyfiawnder am byth; heb Iawn, nis gallasai trugaredd weithredu i achub pechadur heb ddinystrio y gyfraith, ac nis gallasai cyfiawnder amddiffyn y gyfraith heb ddinystrio y pechadur; ond yn yr Iawn y mae trugaredd yn rhedeg at ei gwrthddrychau, a chyfiawnder yn myned law yn llaw, gan hyfryd a chyson gydweithredu, ac ymgusanu yn nghyd wrth gofleidio y pechadur yn ei waed, Salm lxxxv. 10. Un yn datod ei rwymau a'r llall yn rhoddi olew a gwin yn ei glwyfau—

"A'r priodoliaethau mewn hedd,
O ochr trugaredd i gyd."

Yn yr Iawn y mae Duw yn gyfiawn ac yn achubydd, gan ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu, Rhuf. iii. 26.

II. IAWN YN EI BERTHYNAS A GRAS AC ARFAETH.

Gras ydyw ffynonell achub, ac nid yw arfaeth ddim yn amgen na chynllun (plan) gras. gwahaniaeth rhwng bod rhesymol yn gweithredu a pheiriant (machine) sydd fel hyn y mae y cyntaf yn gweithredu yn ol cynllun, a'r olaf heb yr un. Pa beth bynag y mae Duw yn ei wneuthur mewn amser, sydd yn ol ei gynllun tragwyddol. Cyfrwng ydyw yr Iawn i sicrhau dyben gras ac arfaeth. Yr oedd gras erioed yn gyflawn o barodrwydd i achub, ond heb Iawn nid oedd ganddo fodd i sicrhau ei ddybenion. Yr oedd digon o barodrwydd mewn gras i ymgeleddu plant angen yn y carchar, ond ni feiddiai dori y cloion. Yr oedd digon o agerdd (steam) cariad ynddo i gyfodi pechadur o bwll llygredigaeth, ond heb Iawn ni feddai gras un cyfrwng i fyned ato. Y mae'r Iawn yn gyfrwng deublyg i sicrhau dybenion gras ac arfaeih, sef yn

1. Cyfrwng gweinidogaeth moddion. Heb Iawn ni chawsem byth Feibl, byth weinidogaeth y cymod, byth Sabbath, nac unrhyw foddion i achub. Pa fodd bynag—

2. Y mae'n sicrhau gweinidogaeth yr ysbryd i ddwyn dynion i wneuthur iawn ddefnydd o weinidogaeth moddion, er eu hiachawdwriaeth; canys Crist a ddywedodd, "Canys onid af fi, ni ddaw y Dyddanydd atoch; eithr os mi a äf, mi a'i hanfonaf ef atoch," Ioan xvi. 7. Yn y cyfrwng hwn y mae holl ddybenion arfaeth yn sicr ddiffael o gael eu cyflawni yn nghadwedigaeth yr eglwys, fel na bydd un o'i gwrthddrychau ar goll yn y dydd diweddaf.

III. YR IAWN YN EI BERTHYNAS A CHRIST EI HUNAN.

I. Yr Iawn oedd sail ei ddyrchafiad. Mynych y priodolir dyrchafiad Crist i'r Iawn boddhaol a roddes efe i Dduw, megys yn y geiriau canlynol:—"Gan fod yn ufudd hyd angeu, ie, angeu y groes. O herwydd paham, Duw a'i tra dyrchafodd yntau, ac a roddes iddo enw, yr hwn sydd goruwch pob enw," Phil. ii. 8, 9. Trwy ei aberth y cyrhaeddodd efe yr orsedd fawr, lle "rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed," I Cor xv. 25.

2. Yr Iawn yw sicrwydd llwyddiant ei deyrnas, "O lafur ei enaid y gwel ac y diwellir; fy ngwas cyfiawn a gyfiawnha lawer drwy ei wybodaeth, canys efe a ddwg eu hanwireddau hwynt. Am hyny y rhanaf iddo ran gyda llawer, ac efe a rana yr yspail gyda'r cedyrn; am iddo dywallt ei enaid i farwolaeth," Esa. liii. II, 12. Y mae ei Iawn wedi rhoddi y fath foddlonrwydd i Dduw fel y mae'n sicr o gael meddiant o'r noddfeydd cryfaf yn nheyrnas y diafol.

IV. YR IAWN YN EI BERTHYNAS A PHECHADUR.

Iawn yw yr unig sail i'r pechadur penaf nesau at Dduw, am faddeuant a gras i fyw yn dduwiol gyda hyder, Heb. iv. 16. Beth pe buasai yn rhaid i bechadur nesau at orsedd Llywydd y bydoedd am faddeuant a gras, a'r teimladau canlynol yn ei fynwes: Os gwrandewir fy ngweddi, y mae yn rhaid i Dduw aberthu ei garıctor drwy ei holl ymerodraeth am byth, a rhoddi ar ddeall i'w holl ddeiliaid, mai yn ol mympwy a phleidgarwch y mae yn gweinyddu llywodraeth, ac nid ar egwyddorion iawnder tragwyddol. Ac yn ganlynol, y byddai yn rhaid iddo faddeu ar draul diddymu y ddeddf; ac yn nesaf y byddai maddeu yn dileu argraffiadau o ddrwg y trosedd oddiar feddwl pawb a glywai'r hanes, a pheri anghydfod tragwyddol rhwng y priodoliaethau. Pa fodd y buasem byth yn gallu nesau at orsedd trugaredd ar y tir yma? Yn wir, ni feiddias—ai yr un dyn gonest byth ddyfod; ond i Dduw y byddo'r diolch, y mae'r holl gymylau tywyll hyn wedi eu chwalu, a'r holl rwystrau wedi eu symud o'r ffordd. Y mae cymeriad y Jehofah yn ymddysglaerio yn fwy gogoneddus wrth faddeu i'r euog drwy aberth y Cyfryngwr, nag wrth ei ddamnio. Y mae maddeu mewn Iawn yn tueddu i gynyrchu mwy o barch i'r gyfraith, a gadael argraffiadau dyfnach o ddrwg pechod ar feddyliau dynion ac angylion, nag a fyddai damnio yr holl fyd. Gall y pechadur penaf fyned at orsedd trugaredd mewn hyder duwiol, a gofyn i Dduw wneuthur iddo yr hyn a fyddo fwyaf er ei ogoniant. Dyma ddadl werthfawr i'r euog yn ngwyneb anghrediniaeth, ar ben dau lin wrth grefu am drugaredd.

2. Iawn yw'r anogaeth gryfaf i edifeirwch dioed a bywyd duwiol. Pwy a ddichon edrych ar Grist yr hwn a wanasant, heb alaru am eu beiau; yma y mae cariad Crist yn ein cymhell ni i fywyd santaidd a defnyddiol yn fwy grymus na holl felldithion y gyfraith, ac na holl boenau'r uffernolion; pwy all garu pechod a meddwl am ddyoddefiadau anrhaethol Emanuel dros ein pechodau ni, y cyfiawn dros yr anghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw. Os na lwydda pregethu Crist wedi ei groeshoelio i enill pechaduriaid ato, nis gellir dysgwyl y llwydda unrhyw foddion eraill. Casgliadau:—

1. Ei fod o bwys mawr i gael golygiadau Ysgrythyrol ar Athrawiaeth yr Iawn yn ei holl berthynasau. Ystyria un hi yn ei pherthynas â'r llywodraeth yn unig, fel pe na byddai un berthynas rhyngddi a gras ac ag arfaeth; ac eraill a siaradant am dani yn ei pherthynas a gras ac arfaeth yn unig, ac fel cyfrwng i sicrhau cadwedigaeth yr Eglwys, heb ei golygu yn ei holl berthynasau eraill. Diau y bydd pob un yn dweyd y gwir, ond nid yr holl wir.

2. Dylai athrawiaeth yr Iawn gael y lle blaenaf a phenaf yn ein gweinidogaeth. Yn gyfatebol i hyn y bydd ein llwyddiant fel gweinidogion.

3. Dylai fod yn beth blaenaf mewn crefydd ymarferol. Yn gyfatebol i'r lle a gaiff yr athrawiaeth hon ar ein meddyliau y cynyddwn yn mhob rhinwedd crefyddol, tuag at Dduw a dynion; y mae cymdeithas dyoddefiadau Crist yn sicr o'n dwyn i gydymffurfio â dyben ei farwolaeth.

PREGETH IV.

"FFYDD ELIPHAZ Y TEMANIAD."

"A wna gwr lesâd i Dduw, fel y gwna y synwyrol lesâd iddo ei hun? Ai digrifwch ydyw i'r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd."—JOB xxii. 2—3.

MAE y geiriau hyn wedi eu llefaru gan un o gyfeillion Job—Eliphaz, fel yr ydys yn barnu, un o hiliogaeth Teman ŵyr Esau. Yr oedd efe yn athrawiaethu yn dda, yn nghyda'r lleill o'i gyfeillion, ond yr oedd yn cyfeirio ei saethau yn gamgymeriadol a chyfeiliornus, yr hyn sydd yn dra hawdd wrth gyfeirio at bersonau neillduol. Yr oedd ef yn barnu Job yn rhagrithiwr, pryd yr oedd ef yn wr duwiol. Yr oedd yn cymeryd achlysur oddi wrth rai daliadau o eiddo Job, i farnu ei fod yn cyfiawnhau gormod arno ei hun ac yn golygu Duw dan rwymau i ymddwyn yn wahanol i fel yr oedd yn gwneuthur. A thuag at ei argyhoeddi ef o hyny, y mae Eliphaz yn dwyn yn mlaen eiriau y testyn, ac yn gofyn y fath ofyniadau ag sydd yn eglur brofi nad yw Duw yn ddyledwr i neb o'i greaduriaid o herwydd dim a allent hwy ei wneuthur iddo. Fe all y synwyrol fod o les mawr iddo ei hun, ac i eraill a fydd yn dal perthynas âg ef, ond nid i Dduw. Nid ar ein hymddygiadau cyfiawn ni y mae digrifwch Jehofa wedi ei sylfaenu, ond ynddo ei hun; ac ni all dyn fod o un elw i Dduw trwy ei onestrwydd neu berffeithrwydd, na gosod rhwymedigaeth ar y Goruchaf i'w wobrwyo am ei wasanaeth, fel y mae meistr gyda'i was gonest a diragrith am ei waith ef. Yr athrawiaeth a gaf fi ei hegluro ar bwys y geiriau, ydyw, na all dyn fod o un elw i Dduw trwy ei wasanaeth, ac felly nad yw Duw yn ddyledwr i neb.

I. MI GAF ENWI RHAI AMGYLCHIADAU NEU BETHAU AG Y MAE DYNION YN BAROD I FEDDWL EU BOD O ELW I DDUW DRWYDDYNT, AC YN EI WNEUTHUR EF YN DDYLEDWR IDDYNT AM DANYNT, MEGYS—

1. Gwaith rhai yn rhoddi blaenffrwyth eu hieuenctyd i wasanaeth Duw. Mae llawer yn eu henaint yn meddwl pe y buasent wedi rhoddi boreu eu dyddiau i wasanaeth Duw, y buasent wedi bod o gymaint elw iddo, ag a fuasai yn ei osod dan rwymau i'w derbyn i ddedwyddwch yn niwedd eu hoes, megis hen filwyr wedi bod yn hir yn ngwasanaeth y Llywodraeth, i gael tâl-wobr (pension) yn y rhan olaf o'u tymor bywyd. Drachefn, mae yr ieuenctyd yn golygu y dylent gael blaenffrwyth a goreuon eu dyddiau iddynt eu hunain. Pe amgen, y cawsai yr Arglwydd ormod o elw oddiwrthynt, os byddai iddynt roddi eu holl ddyddiau yn ei wasanaeth ef; eithr bod ychydig weddill eu dyddiau yn ddigon i Dduw; er nad ydynt yn dywedyd felly mewn geiriau, eto hyny yw iaith eu hymddygiad hwynt, tra byddont heb roddi boreu eu dyddiau i'r Arglwydd.

2. Mae eraill yn meddwl fod eu doniau a'u defnyddioldeb o elw mawr i Dduw a'i achos yn y byd; maent yn tybied mai prin y gall achos Duw fyned yn mlaen yn y lle y maent heb eu cynorthwy hwy; ac yn barod i dybied y dylid rhoddi llawer o barch iddynt er mwyn eu doniau, a myned heibio i lawer o bechodau ynddynt hwy na ddylid myned heibio iddynt yn eraill. Ond da a fyddai i ni gofio y gall Duw fyned a'i achos yn mlaen hebom ni; a chodi eraill a fyddant o lawer mwy o ddefnydd na ni, ac na allwn ni ddim bod yn wir ddedwydd ac anrhydeddus ond gydag achos Duw.

3. Y mae rhai yn medddwl eu bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr iddynt drwy eu helusenau, a'u cyfraniadau o'u meddianau at achosion crefyddol. Maent yn oferdybio y dylai Duw dalu iddynt naill ai yn y byd hwn, neu yn yr hwn a ddaw; a phrin y meddyliant y byddai Duw yn gyfiawn pe y byddai iddo eu hamddifadu o'u meddianau wedi iddynt roddi cymaint at achosion crefyddol, eithr yn gyffelyb i'r Pharisead hwnw a aeth i fyny i'r deml i weddio, Luc xviii. 12. Yr oedd yn golygu fod cyflwyno y ddegfed ran o'i holl eiddo at ddybenion crefyddol yn nghyda phethau eraill ag oedd efe wedi eu gwneuthur, yn haeddu pethau mawrion oddi ar law Duw, ac yn ddadl gref mewn gweddi. Yn gyffredin fe glywir y rhagrithiwr yn udganu yn uchel pan y byddo yn cyfranu at achosion crefyddol, Mat. vi. 2. Y mae am i Dduw a dynion sylwi ar yr hyn y mae yn ei wneuthur.

4. Mae eraill yn tybied eu bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr i'w hunan-gyfiawnderau. Wrth hunan-gyfiawnder y byddaf yn deall pa beth bynag a fyddo dyn yn ei gymeryd i esmwythau ei gydwybod pan y byddo yn ei gyhuddo am ei bechod, ac yn ei gymeryd yn sail i ddysgwyl cymeradwyaeth gyda Duw er ei fwyn, neu yn radd o gymhorth i'w gymeradwyo o flaen Duw, heblaw yr hyn a wnaeth ac a ddyoddefodd yr Arglwydd Iesu Grist.

Mae hunan—gyfiawnder yn newid ei ddull yn ol gwahanol amserau ac amgylchiadau dynion, eto yn parhau yr un o ran ei natur. Yn nyddiau Crist a'i apostolion, ei ddull yn fwyaf cyffredin oedd cadw at y gyfraith seremoniol a thraddodiadau y tadau. Yn erbyn y dull hwn o hunan-gyfiawnder yr oedd Paul yn fynych yn milwrio yn ei ysgrifeniadau. Wedi iddo gael ei orchfygu gan yr efengyl i raddau lled helaeth yn oesoedd cyntaf Cristionogaeth, efe a ymnewidiodd drachefn i ddull pabaidd, yr hwn ddull y milwriodd yr hen ddiwygwyr yn unol yn ei erbyn; ond ei dull mwyaf cyffredin yn ein dyddiau ni o ymwisgo ydyw y deddfol a'r efengylaidd. Wrth y dull deddfol yr wyf yn meddwl, dull y rhai hyny sydd yn ceisio byw bywyd dichlynaidd; ac i ateb i lythyren y ddeddf foesol, y mae rhai yn meddwl yn ddirgel eu bod wedi gwneuthur cymaint o les i Dduw ag y dylai roddi y nefoedd iddynt; er y soniant am drugaredd, ac am Iesu Grist o ran arfer. Wrth y dull efengylaidd yr wyf yn meddwl yr un peth, dull y rhai hyny sydd yn meddwl eu bod yn gwneud Duw yn ddyledwr i roddi ychwaneg o ras iddynt am yr hyn y maent yn ei alw yn ymgais diragrith. Yr hyn sydd yn esmwythau cydwybodau eraill yw eu bod wedi rhoddi eu hunain yn aelodau eglwysig mewn rhyw fan, ac nid gwaed Crist; eithr y maent yn gwneuthur hunan—gyfiawnder o'u proffes. Mae y lleill yn ymorphwys ar eu grasau, neu yr hyn y maent yn feddwl eu bod yn rasau, am gymeradwyaeth gyda Duw, yn fwy nag ar aberth Crist. Yr hyn sydd yn rhoddi yr hyder cryfaf ynddynt i fyned o flaen Duw, a'r hyn y maent yn cael y cysur mwyaf oddiwrtho, yw meddwl eu bod yn dduwiol, ac nid gwaed Crist, ac felly yn gwneuthur hunan-gyfiawnder o'u grasau, trwy eu gosod i wasanaethu yn lle ei aberth ef. Felly iaith hunan-gyfiawnder yn mhob dull, yw bod dyn o elw i Dduw, a Duw yn ddyledwr i ddyn.

II. YMDRECHAF BROFI GWIRIONEDD YR ATHRAW—IAETH, SEF NA ALL DYN FOD O ELW I DDUW, NA DUW YN DDYLEDWR I DDYN.

1. Mae fod Duw yn Dduw tragwyddol yn profi gwirionedd yr athrawiaeth hon. Mae yr Ysgrythyr yn fynych yn priodoli tragwyddoldeb i Dduw. Mae Abraham yn ei alw yn Dduw tragwyddol, Gen. xxi. 33. Hefyd yn Esa. lvii. 15, y darllenwn am y goruchel a'r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb. Dywed y Salmydd ei fod yn Dduw o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb Salm xc. 2. Gan hyny, os yw Duw yn dragwyddol, hawdd a rhesymol yw tynu y casgliad hwn, gan ei fod wedi byw cyhyd yn anfeidrol ddedwydd heb ein gwasanaeth ni, y gall fyw felly eto hebom ni a'n gwaith. Dywediad cyffredin gan ddynion "Mi a fum hyn a hyn o flynyddoedd heb'ot ti, ac mi allaf fyw eto heb'ot ti." Ond fe fu Duw fyw drwy annherfynol dragwyddoldeb hebom ni, gan hyny fe all fyw eto hebom yn yr un modd.

2. Mae anymddibyniaeth Duw ar yr oll o'i greaduriaid, yn profi gwirionedd yr athrawiaeth. Mae ei ddedwyddwch a'i holl ogoniant ef yn gwbl ynddo ac o hono ei hun, yn annerbyniedig oddi wrth neb arall. Gall Duw fyw a bod hebom ni, ond nis gallwn ni na byw na bod hebddo ef. Gall ef fod yn ddedwydd byth hebom ni, ond ni allwn ni fod yn ddedwydd am un foment hebddo ef. Gall Duw fod yn ddedwydd heb ein gwasanaeth ni, ond ni allwn ni fod yn ddedwydd heb ei wasanaethu ef. Gall Duw fyned a'i achos yn mlaen trwy y byd hebom ni, ond fe gollwn ni ein braint os na chawn ni fod gydag achos Duw yn y byd. Mae yn haws i Dduw fyw a bod yn ddedwydd hebom ni a'n gwasanaeth, nag a fyddai i'r haul barhau yn ei oleuni a'i wres heb un o'r blodeu, nac un o laswellt y meusydd. Nid yw Duw yn cael mwy o les oddiwrth ein gwasanaeth ni, nag y mae yr haul yn ei gael o les oddiwrth y llygaid y mae yn eu goleuo; oblegid y Duw yn anfeidrol uwchlaw i'n drwg ni wneud niwaid iddo, nac i'n da ni wneud lles iddo. Elihu a ddywed yn Job xxxv. 6, 7, 8, "Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? Os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef? Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? Neu pa beth y mae yn gael ar dy law di? I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all rywbeth."

3. Mae anfeidroldeb Duw yn profi yr athrawiaeth. Peth anfeidrol yw yr hyn na ellir ei wneud yn fwy wrth roddi ato, na'i wneud yn llai wrth gymeryd oddiwrtho. Mae Duw mor fawr fel na all rhoddion neb ei wneuthur yn fwy mewn un ystyr, na'i gyfraniadau yntau i neb ei wneuthur yn llai mewn un ystyr. Mae Duw yn rhy alluog i neb fod yn gynorthwy iddo; yn rhy ddoeth i neb fod yn wr o gynghor iddo; ac yn rhy dda i neb ei wneuthur yn well, Rhuf. xi. 34. Mae Duw mor fawr, fel nas gall un gwasanaeth o'n heiddo ni, ddim bod o gymaint lles iddo ef, ag a fyddai canwyll i'r haul ar haner dydd, neu ddafn o ddwfr i'r cefnfor i nofio y llongau mawrion. Mae yr haul yn rhy fawr i ganwyll fod o les iddo; ac felly mae y môr yn rhy fawr i un dafn o ddwfr fod o les iddo, eto nid ydynt hwy ond meidrol; ond am ein Duw ni, y mae efe yn anfeidrol, yr hwn a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd. â'i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau a'r bryniau mewn clorianau. Wele y cenedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y clorianau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny. Yr holl genedloedd ydynt megys diddym ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd y cyfrifwyd hwynt ganddo. Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a'i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a'i lleda fel pabell i drigo ynddi," Esa. xl. 12, 15, 17, 22. Os yw Duw y fath fod a hyn, mae yn amlwg na all ein gwasanaeth gwael ac anmherffaith ni ddim ei wneud ef yn ddyledwr i ni.

4. Yr ydym ni a'r oll a feddwn yn eiddo Duw, am hyny nis gallwn wneud Duw yn ddyledwr i ni â'i eiddo ei hun. Mae Paul yn gofyn mewn dull buddugoliaethus, "Pwy a roddes iddo ef yn gyntaf, ac fe a delir iddo drachefn? Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth. Iddo ef y byddo gogoniant yn dragywydd, Amen," Rhuf. xi. 35, 36. A thrachefn y mae yn gofyn,

Pwy sydd yn gwneuthur rhagor rhyngot ti ag arall, a pha beth sydd genyt a'r nas derbyniaist, ac os derbyniaist, paham yr wyt ti yn gorfoleddu megys pe bait heb dderbyn,' I Cor. iv. 7. Os y meddylia neb fod Duw yn ddyledwr iddo am ei fod yn well nag eraill, ac wedi gwneuthur mwy o ddaioni nag eraill, fe ddylai y cyfryw gofio mai gan Dduw y mae wedi derbyn galluoedd i weithredu yr hyn sydd dda; ac mai Duw yn unig sydd yn tueddu ei alluoedd at yr hyn sydd dda, " Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. Mae pob da yn wreiddiol oddiwrth Dduw; a pha dda bynag a fyddom ni yn ei gyflwyno i'r Arglwydd—pa un bynag ai ein gweddiau, ein mawl, ynte ein meddianau at ei achos, gallwn ddywedyd yn ngeiriau Dafydd, "Canys oddiwrthyt ti y mae pob peth, ac o'th law dy hun y rhoisom i ti, I Cron. xxix. 14. Nid ydyw y môr yn ddyledus i'r afonydd am eu dyfroedd, ond y maent hwy yn ddyledus i'r môr—nid yw y ffynnon yn ddyledus i'r ffrydiau, ond y mae y ffrydiau yn ddyledus i'r ffynnon; nid yw y gwreiddyn yn ddyledus i'r canghenau am ei nodd, ond y mae y canghenau yn ddyledus i'r gwreiddyn: felly nis gellir gwneuthur neb yn ddyledus â'i eiddo ei hun. Pa dduwiolaf y byddom, a pha oreu y byddo ein hymddygiadau; yn lle gwneuthur Duw yn ddyledus i ni, mwyaf oll yw ein dyled ni i Dduw am y fraint o gael bod felly.

5. Pa beth bynag yr ydym yn ei wneuthur, nid ydym yn gwneuthur dim ond yr hyn sydd ddyledus arnom ei wneuthur yn ol natur pethau. Wrth "natur pethau" y byddaf yn deall yr hyn yw Duw, a'r hyn yw dyn, a'r hyn yw y naill ddyn i'r llall. Nid yw plentyn yn haeddu cyflog am anrhydeddu ei dad a'i fam, oblegid nid yw yn gwneuthur dim ond yr hyn sydd ddyledus arno yn ol natur y berthynas sydd rhyngddo a'i rieni; ac nis gall y gwr ddysgwyl cyflog am garu y wraig, na'r wraig am barchu y gwr, oblegid nad ydynt yn gwneuthur ond yr hyn sydd ddyledus arnynt yn ol natur pethau. Felly, nid yw ein gwasanaeth i Dduw yn ei osod dan rwymau i dalu cyflog i ni am ein gwaith, oblegid nid ydym yn gwneuthur ond yr hyn sydd ddyledus arnom yn ol natur y berthynas sydd rhyngom ag ef, fel ei greaduriaid, a pha beth bynag y mae Duw yn ei addaw i ni am ein gwaith, gwobr o ras ydyw, ac nid o ddyled, "Felly chwithau hefyd, gwedi i chwi wneuthur y cwbl oll ag a orchymynwyd i chwi, dywedwch, Gweision anfuddiol ydym; oblegid yr hyn a ddylasem ei wneuthur, a wnaethom," Luc xvii. 10.

6. Os nad yw ein gwasanaeth crefyddol o ddim lles nac elw i Dduw, mae yn rhaid gan hyny mai elw a lles i ni ein hunain ac eraill ydyw, megis y dywed Solomon, "Os doeth fyddi, doeth fyddi i ti dy hun," Diar. ix. 12. Ac y mae y Salmydd yn dywedyd, "Fy nâ nid yw ddim i ti, ond i'r saint sydd ar y ddaear, a'r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch," Salm xvi. 2—3. Mae ein dedwyddwch a'n gogoniant ni yn ymddibynu ar iawn wasanaethu Duw; ond nid yw dedwyddwch Duw yn ymddibynu dim ar ein gwasanaeth ni; a chan mai ni ein hunain, sydd yn cael yr elw oddi wrth ein gwasanaeth, ac nid Duw, ni all fod dyled ar Dduw i dalu i ni am elwa i ni ein hunain. Pe byddai ein gwaith yn dwyn rhyw elw i Dduw, fe fyddai yn ddyledus ar Dduw, i dalu i ni am ein gwaith.

7. Mae ein dyledswyddau yn llawn o anmherffeithrwydd a phechod; ïe, yr ydym ni wedi pechu digon i'n damnio byth, yn y ddyledswydd oreu a wnaethom erioed, pe buasai Duw yn craffu yn fanwl ar anwiredd, oblegid "Yr ydym ni oll megys peth aflan, ac megys bratiau budron yw ein holl gyfiawnderau; a megys deilen y syrthiasom ni oll; a'n hanwireddau, megys gwynt a'n dug ni ymaith,' Esa. Ixiv. 6. Felly mae ein dyledswyddau goreu, a'n gwaith, yn anghymeradwy gyda Duw; ond drwy aberth Crist a'i eiriolaeth, yr hwn sydd yn sefyll wrth yr allor aur, a chanddo arogldarth lawer fel yr offrymai ef gyda gweddiau yr holl saint.

III. ODDI WRTH YR ATHRAWIAETH, GWELWN:—

1. Os nad yw Duw yn ddyledwr i neb, fod ganddo hawl i fod yn Benarglwydd grasol i roddi i'r neb y myno, a'r peth y myno, heb wneuthur anghyfiawnder na cham â neb; canys y mae yn gyfreithlon iddo i wneuthur a fyno a'i eiddo ei hun, Mat. xx. 15; "A oes anghyfiawnder gyda Duw? na ato Duw, canys y mae yn dywedyd wrth Moses, mi a drugarhaf wrth yr hwn y trugarhawyf, ac a dosturiaf wrth yr hwn y tosturiwyf," Rhuf. ix. 14, 15, "Felly gan hyny y neb y myno y mae efe yn trugarhau wrtho, a'r neb y myno y mae efe yn ei galedu," adn. 18.

2. Mae bod Duw heb fod yn ddyledwr i neb, eithr bod ganddo hawl i roddi i'r neb y myno, yn athrawiaeth dra chysurus i bechadur heb ganddo ddim ond pechod ac annheilyngdod; oblegid pe na byddai Duw yn rhoddi i neb ond yn ol eu teilyng—dod a'u haeddiant, nis gallai neb o honom ni ddysgwyl dim byth oddiar law Duw mwy na'r angylion na chadwasant eu dechreuad, ond gan mai trugarhau y mae wrth y neb y myno, pwy a wyr na thrugarha efe wrthym ninau. Mae arnaf fi rwymau annrhaethol i ddywedyd yn dda am Ben—arglwyddiaeth rasol, oblegid nid oes genyf ond hi am fywyd fy enaid. Buasai fy nghyflwr mor anobeithiol a phe buaswn yn uffern eisioes, oni buasai fod Penarglwyddiaeth gras yn trugarhau wrth y neb y myno. Pwy na ddywedai yn dda am dani? Oblegid ni wnaeth ddrwg i neb erioed, y mae yn gwneud daioni i bawb, nid yw yn damnio neb, ond y mae yn cadw miloedd; o'r ffynnon rasol yma, y mae pob rhoddiad daionus, a phob rhodd berffaith yn deilliaw; ac nid oes dim ond da yn unig yn dyfod o'r ffynon hon; am hyny, yn lle grwgnach a beio ar Dduw am drugarhau wrth y neb y myno, ymostwng yn edifeiriol a ddylem wrth ei draed, gan ddywedyd, os cedwi fi yn fyw, trugaredd i gyd a fydd hyny; os fy namnio a wnei, mi a gaf yr hyn yr wyf yn ei gyfiawn haeddu.

3. Ni a welwn natur rhad ras, pan y byddom ni yn rhoddi elusen i rywun; mae natur y berthynas sydd rhyngom ni a gwrthddrych ein helusen, yn ein rhwymo i wneuthur felly. Ond nid oes dim rhwymau ar Dduw i wneuthur dim o'r pethau mawr ag y mae yn eu gwneuthur i ni.

Pan y byddo dynion yn gwneuthur rhyw gymwynas, mae yn hawdd ganddynt ddysgwyl cael eu talu mewn rhyw fodd neu ddull; ond O! y pethau mawrion a wnaeth Duw i ni heb ddysgwyl byth dâl genym am yr hyn a wnaeth, dyma ras y mae yn deilwng ei alw felly byth.

4. Ni a welwn yr angenrheidrwydd sydd arnom i fod yn ostyngedig a hunanymwadol am yr hyn sydd genym ac ydym, yn lle ymffrostio a meddwl ein bod yn gwneuthur Duw yn ddyledwr i ni am ein rhinweddau. Pe y byddem ni yn gweled yn gywir, meddyliem, pa fwyaf ein rhinweddau, mai mwyaf ein dyled i Dduw am danynt; ac yn lle dywedyd bod Duw yn ddyledus i ni am ein gwedd—iau, dywedem fod arnom ni ddyled i Dduw am gael gweddio; ac yn lle dywedyd fod Duw yn ddyledus i ni am ein duwioldeb, a'n sancteiddrwydd, dywedem ein bod ni yn ddyledus i Dduw am gael bod felly; a pha fwyaf fyddom felly, mwyaf fydd ein dyled i Dduw am y fraint.

5. Ni a welwn natur gwobr y trigolion yn y nefoedd; mai nid talu yn ol eu haeddiant y mae Duw, ond gwobr o ras yw; ffrwyth ei ras yw eu holl rinweddau, a'u gweithredoedd da; ac wrth eu gwobrwyo, y mae efe yn gwobrwyo ei waith ei hun a'i ras ei hun; un llaw yn gwobrwyo yr hyn a wnaeth y llaw arall, "Canys ti hefyd a wnaethost ein holl weithredoedd ynom ni," Esa. xxvi. 12.

6. GWRTHDDADL.

Os nad yw ein gwasanaeth ni o un lles i Dduw, paham y mae Duw yn ein bygwth ni mor llym am esgeuluso ein dyledswydd? I hyn atebaf; nid am fod ar Dduw eisieu un hunan-elw oddiwrth ein gwasanaeth ni, ond o herwydd mai peth anfeidrol uniawn a chyfiawn ydyw i ni wasanaethu a gogoneddu Duw. Pe buasai ein gwasanaeth ni o ryw elw i Dduw, gallasem amheu a oedd un egwyddor o hunan yn ei gymhell ef i ofyn ein gwasanaeth, ond gan nad yw ein gwasanaeth o un elw iddo, mae yn rhaid mai egwyddor o gyfiawnder yn unig sydd yn ei gymhelli ofyn ein gwasanaeth—eisieu ymddwyn yn gyfiawn tuag atom ni, a thuag ato ei hun sydd ar Dduw, ac nid eisieu elwa oddi arnom ni, pan y mae yn gofyn ein gwasanaeth.

7. GWRTHDDADL ARALL.

Onid yw yr athrawiaeth uchod yn gwrthwynebu i Dduw wneuthur ei ogoniant ei hunan yn ddyben penaf ei holl waith, ac yn erbyn y mynych ddywed—iadau hyny; "Er mwyn fy ngogoniant," ac "Er mwyn fy mawl," &c. Mae yn yr wrthddadl hon ddau beth i'w hystyried.

(1.) Mai nid diffyg gogoniant a dedwyddwch yn Nuw sydd yn peri iddo weithredu, a chyfranu rhoddion fel y mae; ond dangos y maent fod anfeidrol lawnder yn Nuw. Nid profi diffyg yn y ffynnon y mae y ffrydiau sydd yn dyfod o honi, ond profi ei chyflawnder y maent; felly nid diffyg yn y ffynnon, ond ei chyflawnder sydd yn peri iddi fwrw allan ei ffrydiau; felly nid diffyg yn y Jehofah, ond anfeidrol gyflawnder o ddedwyddwch a gogoniant sydd yn peri iddo weithredu.

(2.) Mai nid dyben hunanol sydd gan Dduw wrth wneuthur ei ogoniant yn ddyben penaf ei holl weithredoedd; ond y mae yn rhaid iddo wneuthur felly os ymddwyn a wna at fodau yn ol eu gwerth. Y mae yn rhaid iddo ymddwyn ato ei hun fel y mwyaf a'r gwerthfawrocaf o bawb, ac felly wneuthur ei ogoniant ei hun a'i fawl yn ddyben penaf ei holl weithredoedd. Pan y mae Duw yn dywedyd—"Er mwyn fy enw—Er mwyn fy ngogoniant—Er mwyn fy mawl;" nid er mwyn cael yr hyn a fyddwn ni yn ei alw yn hunan-glod, y mae Duw yn dywedyd hyn, ond er mwyn gwneuthur cyfiawnder â'i enw, ac â'i ogoniant, ac â'i fawl, y mae efe yn dywedyd felly, a thrachefn, pe buasai ein gwasan—aeth ni o ryw elw i Dduw, fe fuasai yn deilwng i ni gael rhan o'r clod yn gyfatebol i hyny; ond gan mai "O hono ef a thrwyddo ef y mae pob peth," (Rhuf. xi. 36); y mae yn rhaid mae iddo ef yn unig y mae yr holl ogoniant a'r mawl yn gyfiawn, ac yn deilwng yn dragywydd. Amen.

"Pe ba'i i mi dreulio'r creigiau,
Wrth i'm roddi ngliniau i lawr;
Gwneud afonydd o fy nagrau,
Llenwi hefyd foroedd mawr.
Rhanu trysor y mwngloddiau
Rhwng tylodion yn mhob man,
Anhaeddianol fyddwn wed'yn,
Byth i gael fy nghodi i'r lan.'


PREGETH V.

"CYSYLLTIAD GRAS A DYLEDSWYDD."

"Eithr y mae Esaias yn ymhyfhau ac yn dywedyd, Cafwyd fi gan y rhai nid oeddynt yn fy ngheisio; a gwnaed fi yn eglur i'r rhai nid oeddynt yn ymofyn am danaf," Rhuf. x. 20.

Gofynwch, a rhoddir i chwi; ceisiwch, a chwi a gewch; curwch, ac fe agorir i chwi," Mat. vii. 7.

GELLID meddwl ar yr olwg gyntaf, fod anghysondeb rhwng yr adnodau hyn; ond nis gall fod un ran o air Duw yn gwrthddywedyd y rhan arall. Y mae yn cael ei alw yn air, fel pe na byddai ond un gair i arwyddo ei gysondeb; felly y mae y ddwy adnod hyn yn eithaf unol a chyson—y gyntaf yn gosod allan yr hyn y mae Duw yn ei ras yn ei wneud; a'r olaf yn dangos yr hyn sydd ddyledus ar ddyn i'w wneuthur.

I. YMDRECHAF BROFI MAI DUW O'I RYDD-RAS SYDD YN YMOFYN YN GYNTAF AR OL PECHADUR; NEU, YR ANGENRHEIDRWYDD ANHEBGOROL AM NEILLDUOL WAITH YR YSBRYD AR GALON PECHADUR ER EI DDYCHWELYD AT DDUW.

1. Y mae cyflwr andwyol dyn yn profi hyn. Mae yn amlwg oddiwrth air Duw a phrofiad, fod dyn wedi myned mor ddwfn i bechod a thrueni, ac wedi ymgynefino i'r fath raddau a gwneuthur drwg, fel nas gall wneuthur da. Y mae yn dywyll, ïe, yn dywyllwch, ac nis gall tywyllwch weithredu arno ei hun i gynyrchu goleuni; y mae yn farw, ac nis gall marwoldeb weithredu bywyd; y mae syniad y cnawd yn elyniaeth yn erbyn Duw, ac nis gall gelyniaeth greu cariad.

2. Y mae y moddion goreu a mwyaf tebygol o lwyddo wedi methu filoedd o weithiau, pan y byddai moddion gwaelach yn llwyddo. Mae hyn yn profi mai llaw anweledig ysbryd Duw, ac nid y moddion allanol, sydd yn gwneud y gwaith. Gallesid meddwl y buasai y gogoniant a'r mawredd a amlygodd y Jehofah ar Sinai wrth gyhoeddi y ddeddf, yn effeithio cymaint ar feddwl y bobl, fel na buasent byth yn ei throseddu. Ond methodd hyny—methodd rhuad y taranau a dychrynllyd oleuni y mellt atal y bobl i eilunaddoliaeth; ïe, er i Dduw ei hun gyhoeddi, "Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i."

Yn yr un modd, yr oedd pregethau efengylaidd, taer, gwresog, hyawdl, a ffyddlawn, Esaiah, Jeremiah, a Phaul; ïe, gweinidogaeth Iesu Grist ei hun yn aml yn aneffeithiol. Ond darfu i bysgotwr Môr Galilea (Petr) argyhoeddi mewn oddeutu haner awr, fwy nag a argyhoeddodd ei Feistr yn oes. Yr hyn sydd yn eglur ddangos i fy meddwl i, fod yr Ysbryd Glan o'i ras yn gwneuthur rhywbeth yn rhagor ar rai nag eraill.

3. Y mae priodoli y dechreuol achos o ddychweliad pechaduriad, i rywbeth heblaw i Ysbryd Duw, yn gosod y mater mewn tywyllwch a gwrthddywediadau. Nid ydyw dywedyd "fod pawb wedi cael talent o ras," neu fod yr Ysbryd yn ymryson â phawb fel eu gilydd, ond fod rhai yn defnyddio hyn yn well nag eraill, yn gwella dim ar y mater, a chaniatau i hyny fod. Y gofyniad yw, Beth oedd yr achos i rai ddefnyddio eu talent neu ymrysoniad yr Ysbryd ar eu meddwl mwy nag eraill? Os dywedir mai dewis y mae rhai, pan nad ydyw eraill a gafodd yr un fantais yn dewis, y mae hyny yn wir; ond y gofyniad drachefn yw, Beth a fu yr achos iddynt ddewis felly mwy nag eraill? Pa beth bynag oedd yr achos, dyna ffynonell wreiddiol eu duwioldeb, ac a ddylai gael yr holl glod. Mae yn ymddangos i mi fod yn rhaid mai un o'r pethau canlynol oedd yr achos i benderfynu y dewisiad.

1. Fod y naill ddyn yn well wrth natur na'r llall, ac felly yn rhoi lle yn rhwyddach i ymrysoniad yr Ysbryd ar ei feddwl, os felly yr achos fod rhai yn dduwiolach nag eraill ydyw, nad yw eu natur ddim wedi dirywio mor ddwfn drwy y cwymp; ond y mae y Beibl yn eglur yn dangos fod pawb wedi myned i'r un gradd o ddirywiad, "A megys deilen y syrthiasom ni oll," Esa. Ixiv. 6. Gwel Rhuf. iii. 9—12. Hefyd os cyfansoddiad natur rhai sydd dynerach nag eraill, a thrwy hyny, eu bod yn defnyddio ymrysoniadau yr ysbryd yn well nag eraill, nid yw y lleill i'w beio, oblegid amlwg yw nas gall neb wrth gyfansoddiad ei natur ynddo ei hun.

2. Os dywedir mai rhyw amgylchiad mewn rhagluniaeth yw yr achos, rhaid gofyn, Pa fodd na bai yr un amgylchiad yn effeithio yn yr un modd ar bawb? yr hyn nid ydyw mae yn ddigon amlwg.

3. A all mai rhyw ddamwain ddall a fu yr achos i benderfynu ei ddewisiad? Nid wyf yn tybied fod yr un Cristion a briodolai yr achos dechreuol iddo ddyfod yn dduwiol i ryw ddamwain.

4. Y mae Paul wedi ateb y gofyniad hwn i bob boddlonrwydd, "Canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch ewyllysio a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 13. Felly y mae holl rediad yr Ysgrythyrau yn cyd-brofi mai o Dduw y mae. Eph. ii. 10, "Canys ei waith ef ydym." Eph. ii. 1, "A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddych feirw mewn camweddau a phechodau." Eph. ii. 8, "Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hyny nid o honoch eich hunain: rhodd Duw ydyw." Nis gellir gwadu hyn heb wadu Gair Duw.

5. Y mae esiamplau eglur y Gair yn dangos mai gweithrediadau neillduol a grymus Ysbryd Duw, ydyw y gwir achos o droedigaeth pechaduriaid, a hyny yn flaenorol i un weithred o eiddo y pechadur, megys pe y byddai yn paratoi ei hun i'r cyfryw weithrediadau. Pwy all sylwi ar droedigaeth Paul, ceidwad y carchar, Zacheus, Mathew, meibion Zebedeus, Lydia, ac eraill, heb ganfod llaw neillduol Duw yn y gwaith.

6. Y mae cydunol ymarferiad a phrofiad duwiolion yn profi hyn. Yr wyf yn meddwl fod pob dyn duwiol yn arfer gweddio, a diolch am droedigaeth pechaduriaid, yr hyn sydd yn gydnabyddiaeth ymarferol fod yr Arglwydd yn gwneuthur rhywbeth ar y rhai hyny yn fwy nag ar eraill; a dyma yw profiad y dyn duwiol pan y mae ei feddwl fwyaf ysbrydol a sanctaidd, mai Duw o'i ras a wnaeth ragor rhyngddo ef ag arall, ac nid efe ei hun. II. Ymdrechaf ddangos, ER MAI DUW SYDD YN GWEITHREDU AR GALON DYN TRWY EI YSBRYD FEL Y DECHREUOL A'R GWIRIONEDDOL ACHOS O'I DROEDIGAETH ATO, NAD YDYW HYNY MEWN UN GRADD YN RHYDDHAU DYN ODDIWRTH EI DDYLEDSWYDD I GEISIO DUW, o herwydd—

1. Nid ar waith Ysbryd Duw y mae dyledswydd dyn wedi ei sylfaenu. Ni ddarfu pechod Adda, na'n pechodau gweithredol ninau dynu sylfaeni dyledswydd i lawr, oblegid buasai tynu sylfaeni dyledswydd i lawr, yn tynu ar unwaith sylfaeni cyfrifoldeb hefyd i lawr; ac os felly, nid oes neb o ddynolryw yn gyfrifol i'w Barnwr.

Y mae eu gwrthryfel wedi tori iau y llywodraeth oddiarnynt, ac nid oes arnynt rwymau mwyach, hyny yw, y mae gwrthryfel y creadur, wedi llwyr ddadym—chwelyd llywodraeth y Creawdwr, ond byddai dweyd hyn yn gabledd o'r mwyaf. Hefyd, pe byddai gras neu waith Ysbryd Duw yn y galon, yn sylfaen dyledswydd, byddai y diras yn rhydd, ïe, Belzebub a fyddai ryddaf o bawb; ac felly, yr hyn y mae gras yn ei wneud, ydyw rhoddi sylfaen i ddynion bechu; a bod heb ras, ydyw bod mewn sefyllfa anmhosibl i bechu, yr hyn eto sydd yn gabledd. Nid amcan Duw ynte wrth roddi

gras i bechadur ydyw codi sylfaen dyledswydd, ond ei dueddu i wneuthur yr hyn sydd ddyledus o'r blaen. Nid gras sydd yn ei gwneud yn ddyledswydd ar ddynion garu Duw a chredu yn Nghrist, ond gras sydd yn eu dwyn i wneud felly, yr hyn oedd rwym—edig arnynt yn flaenorol. Nid ydyw anallu pechadur ychwaith, neu ddiffyg tuedd at yr hyn sydd dda, yn rhyddhau neb oddiwrth ei ddyledswydd, nac yn lleihau ei rwymau fel creadur cyfrifol i Dduw. Y mae cyfrifoldeb a dyledswydd dynolryw wedi ei sylfaenu ar y pethau canlynol:—

(1.) Y berthynas sydd rhwng dyn â Duw fel ei Greawdwr a'i Gynalydd, ac felly yn ymddibynu ar Dduw am bob peth bob mynudyn, ac o ganlyniad anocheladwy yn un o ddeiliaid ei lywodraeth.

(2.) Galluoedd naturiol, addas i wneuthur yr hyn y mae Duw yn ofyn. Nid eisieu gwell cof, neu well deall, gwell ewyllys, &c., fel cyneddfau, ydyw yr achos fod neb yn annuwiol, ond eisieu iawn ymarfer y galluoedd hyn sydd, er mwyn bod yn well.

(3.) Y moddion digonol sydd genym i wybod am Dduw, ac am ein dyledswydd tuag ato, sef creadigaeth, rhagluniaeth, a'i air.

(4.) Fod dyn yn weithredydd rhydd, hyny yw, yn rhydd i wneud a dewis yr hyn a ymddangoso oreu iddo, ac a fydd yn unol â'i natur, ac nad oes dim tu allan iddo yn ei yru i wneud y drwg, ond ei duedd ei hun, nac yn ei atal i wneuthur y da, ond diffyg ei duedd at y da. Pe medrai dynion, a hyny yn rhesymol a chyfreithlawn wadu y pethau uchod, ïe, un o honynt, gallent trwy hyny, ddadsylfaenu pob dyledswydd tuag at Dduw, dinystrio eu cyfrifoldeb, a dyfod yn wyr rhyddion yn

y farn ddiweddaf. Os gall unrhyw un yn y farn brofi na bu un berthynas rhyngddo à Duw fel ei Greawdwr a'i Gynalydd, ac yn ganlynol, na bu erioed yn un o ddeiliaid ei lywodraeth, gall ddyfod yn rhydd o flaen gorsedd ei Farnwr. Neu, os medr brofi na chynysgaeddwyd ef âg enaid addas i gyflawni ac ateb yr hyn oedd Duw yn ei ofyn iddo—na allodd ddim erioed, na chofiodd ddim erioed, na ddeallodd ddim, nad ewyllysiodd ddim, &c., byddai hyn yn ddigon i'w ryddhau o fod yn ddeiliad barn! Neu pe gallai brofi na bu erioed yn feddianol ar foddion o un math, na natur i wybod am Dduw a'i ewyllys, na chreadigaeth, na rhagluniaeth, na'r gair; yna gallai ddyfod yn rhydd, "Oblegid cynifer ag a bechasant yn ddiddeddf, a gyfrgollir hefyd, yn ddi—ddeddf; a chynifer ag a bechasant yn y ddeddf a fernir wrth y ddeddf," Rhuf. ii. 12.

(1.) Neu yn ddiweddaf, pe gallai brofi nad oedd yn weithredydd rhydd, ond mai cael ei lusgo yn groes i'w duedd i bechu a wnaeth, a chael ei rwystro garu ei Greawdwr, er fod tuedd ei galon at hyny; byddai hyn eto yn ddigon i'w wneud yn rhydd o flaen y frawdle. Ond heb allu profi y pethau hyn, nis gall ddyfod byth yn rhydd. Dyma bedair craig fawr a chadarn yn sylfeini dyledswydd a chyfrifoldeb dynion, nad oes modd eu dadymchwelyd yn dragywydd, ond parhant yr un drwy bob cyfnewidiad fu ar ddyn; a pharhant felly tra bo dyn yn ddyn, a Duw yn Dduw.

(2.) Amcan grasol Duw yn gweithredu ar galon dyn ydyw ei ddwyn at ei ddyledswydd, "Am hyny, fy anwylyd, megys bob amser yr ufuddhasoch, nid fel yn fy ngŵydd yn unig, eithr yr awrhon yn fwy o lawer yn fy absen, gweithiwch allan eich iachawdwriaeth eich hunain trwy ofn a dychryn, canys Duw yw yr hwn sydd yn gweithio ynoch, ewyllysio, a gweithredu o'i ewyllys da ef," Phil. ii. 12, 13.

(3.) Os bydd i ni aros heb garu Duw hyd nes y cawn sicrwydd fod Duw wedi dechreu gwaith cad—wedigol ynom, ni bydd i ni byth ddechreu; oblegid nid oes modd i ni adnabod ei waith ef ynom, ond wrth yr effeithiau, a dyna ydyw yr effeithiau, sef ein dwyn ni i ofyn, ceisio, a churo wrth borth trugaredd. Nid y peth cyntaf y mae Duw yn ei wneud ydyw dangos i ddyn ei fod wedi cael gras, ond dangos iddo ei fod mewn mawr angen am dano, a rhoi ysbryd i'w daer geisio.

(4.) Nis gallwn dreulio ein hoes i well perwyl nag i geisio trugaredd, pe byddem marw hebddi y diwedd; oblegid ni bydd neb yn dyoddef yn uffern am wneuthur yr hyn y mae Duw yn orchymyn, ond am eu camddyben gyda'i waith, ond bydd yr esgeuluswyr yn dyoddef am eu gwaith yn esgeuluso, ac am eu dyben drwg hefyd. Ond ni bydd neb yn cwyno yn uffern eu bod wedi cymeryd gormod o lafur i geisio trugaredd, ond bydd miloedd yn gruddfan am eu bod wedi cymeryd rhy fach o lafur. Y mae rhai wedi penderfynu nad änt i uffern y ffordd unionaf, ond y bydd iddynt amgylchynu Gethsemane a Chalfaria, ac yno ymdroi i syllu ar ddyoddefiadau Crist, ac oddiyno at orsedd trugaredd, a phenderfynu trengu yno os bydd raid.

(5). Mae bod Duw wedi ei gael gan y rhai nad oeddynt yn ei geisio, yn galondid mawr i ni geisio gofyn a churo wrth ei borth.

ADLEWYRCHIADAU:—

1. Yn y sylwadau uchod, gwelwn brawf-reol (maxim) i'r athrawiaeth. Os clywn ni am ryw athrawiaeth yn tueddu i ryddhau dyn oddiwrth ei ddyledswydd, y mae hono yn sicr o'n harwain i le drwg; o'r tu arall, os bydd rhyw athrawiaeth yn tueddu i ddangos nad yw cadwedigaeth pechadur yn gwbl o ras, y mae yn sicr fod rhyw ddrwg yn hono hefyd. O'm rhan fy hun, nid oes arnaf ofn un athrawiaeth a fyddo yn dangos iachawdwriaeth pechadur o ras yn gwbl ac ar un pryd yn ei rwymo fel y cyfryw at ei ddyledswydd.

2. Gwelwn fod calondid mawr i weinidogion y gair i fyned yn mlaen gyda'r weinidogaeth, er cymaint yw caledwch eu gwrandawyr; ac i benau teuluoedd i fyned yn mlaen gyda y grefydd deuluaidd er holl gyndynrwydd y rhai a fyddo yn wrthddrychau eu gofal. Gan mai Duw o'i ras sydd yn dechreu gweithredu ar galonau pechaduriaid, y mae genym galondid i'w cynghori a gweddio drostynt, tra fyddont o fewn terfynau gobaith; ac oni bai eu bod felly buasem wedi rhoddi y gwaith i fyny gan wybod nad yw ond llafur ofer. Byddwn ffyddlawn, a dysgwyliwn wrth yr Arglwydd am fendith.

PREGETH VI.

"SANCTEIDDRWYDD YN GYMHWYSDER I DDEFNYDDIOLDEB."

"Pwy bynag gan hyny a'r glanhao ei hun oddiwrth y pethau hyn, efe a fydd yn llestr i barch, wedi ei sancteiddio, ac yn gymhwys i'r Arglwydd, wedi ei ddarparu i bob gweithred dda," 2 Tim. ii. 21.

SANCTEIDDRWYDD bywyd a chalon yw y prif gymhwysder i fod yn ddefnyddiol.

1. Y mae troedigaeth pechadur yn waith o anrhydedd mawr, ac nid yw yn debyg y gwna Duw osod yr anrhydedd hwnw ar ei elynion. Ni wna neb ddewis gelyn i ddadleu ei achos, neu fradychwr i fod yn llysgenadydd. Ni wna Crist ymddiried parthed ei wyn i neb ond y rhai hyny sydd yn ei garu, Ioan xxi. 15.

2. Heb dduwioldeb personol ni thycia pob cymhwysderau eraill ddim. Y mae fel peiriant heb allu, neu adeilad heb sylfaen dda. Bydd yn sicr o roddi ffordd rywbryd neu gilydd.

3. Y mae defnyddioldeb dyn yn fwy cysylltiedig â gweddi nag â dim arall. Nis gall dyn ansanctaidd fod yn weddiwr, o leiaf, nid yw ei weddi yn gymeradwy. Prawf ffeithiau fod y dynion defnyddiolaf yn mhob oes yn ddynion mawr mewn gweddi. Felly y dywed yr Arglwydd, "Nid ä y rhywogaeth hyn allan, ond drwy weddi ac ympryd.". Gallant chwerthin am ben eich dysgeidiaeth, eich ymresymiad cadarn, eich hyawdledd mawr, a'ch ieithoedd ardderchog. Y mae y rhai hyn yn rhagorol yn eu lle, ond ni wnant y tro yn lle gweddi.

4. Heb dduwioldeb personol, ni wna dynion eu dyledswydd fel y dylent. Ni fydd eu calon yn eu gwaith. Gwnant ef rywfodd, ac mor ysgafn ag y byddo modd, dim ond i gadw i fyny eu poblogrwydd, ac i gadw i gydwybod yn dawel. Nis gallant ddysgwyl i Dduw eu gwobrwyo am waith mor arwynebol.

5. Sancteiddrwydd yn ein personau ein hunain yw y ris gyntaf tuag at ei wasgaru yn mhlith eraill. Y rheol fawr ydyw, "Bwrw allan yn gyntaf y trawst o'th lygad dy hun;". . ." y meddyg, iacha dy hun." Nis gall yr hwn na fedr berswadio ei hun i fod yn sanctaidd lwyddo gydag eraill.

6. Sancteiddrwydd personol ydyw un o'r moddion apwyntiedig i ddychwelyd y byd, 1 Pedr ii. 15; iii. 12.

Dichon pregeth sanctaidd barhau am awr, ond pregeth barhaus yw bywyd sanctaidd, a gall hen wraig dlawd bregethu y cyfryw bregeth cystal a'r dyn mwyaf ei ddoniau, "Llewyrched felly eich goleuni ger bron dynion, fel y gwelont eich gweithredoedd da chwi, ac y gogoneddont eich Tad yr yr hwn sydd yn y nefoedd. Gall pawb ddeall y fath bregeth a hon yna, ac nis gall gael neb i'w gwrthddywedyd.

7. Y mae sancteiddrwydd er mwyn bod yn wrol a diysgog yn nghyflawniad ein dyledswydd yn angenrheidiol, "Y cyfiawn sydd hyf megys llew," oblegid y mae ganddo gydwybod dda. Gwna cydwybod euog lwfriaid o honom oll—"Mi a ofnais," meddai un, "ac aethum, ac a guddiais dy dalent." Pa fodd y ceryddwn eraill am y pethau yr ydym ein hunain yn euog o honynt? Dywedodd Dafydd, "Cerydded y cyfiawn fi yn garedig, fel pe na fedrai oddef hyny gan neb arall. Y rhai ysbrydol sydd i adgyweirio y dyn a oddiweddwyd ar fai.

8. Os na allwn fod o wasanaeth i eraill heb sancteiddrwydd, yn sicr, nis gallwn fod o unrhyw leshad i ni ein hunain. Byddwn fel dyn, yr hwn, o herwydd esgeuluso ei orchwyl, a aeth yn fethdalwr. Trwy hyn clwyfai ei gyfeillion a'i berthynasau. Teifl ei hun bendramynwgl i dlodi a thrueni. Nid oes ganddo oleuni ei hunan, ac ni rydd oleuni i eraill. Nid yw yn halen iddo ei hun nac i eraill. [34]

[Wele restr ychwanegol o destynau a phenranau nifer o bregethau Mr. Williams, y rhai a ysgrifen—wyd wrth ei wrando, gan y Parch. William Roberts, Penybontfawr. Er nad oes yma ond y testynau a'r penranau wedi eu copio, eto yr ydym yn sicr y bydd yn dda gan y darllenydd eu cael fel y maent, ac yr ydym yn ddiolchgar iawn am danynt.]

PREGETH VII.

"PARHAD MEWN GRAS."

"Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnw a fydd cadwedig," Mat. xxiv. 13.

Y PWNC y sylwn arno yw, Parhad mewn gras, neu os dewisir yn hytrach, parhad mewn sancteiddrwydd.

I. Y MAE TYSTIOLAETH Y BEIBL YN SICRHAU EI BARHAD.

1. Dyma ni yn awr yn groes i drefn ymresymu, yn dwyn y rheswm cryfaf yn mlaenaf. Gwneir rhyw—beth tebyg i hyn weithiau. Wedi rhoddi ergyd mor drom i'r gareg nes ei chracio drwyddi, gwna ergyd ysgafnach y tro er ei chwalu oddiwrth ei gilydd.

2. Nid oes dim yn natur y gwaith a ddechreuwyd, yn sicrhau ei barhad heb ddylanwad yr Ysbryd Glan.

3. Mae ei barhad yn gysylltiedig â diwyd ymarferiad â moddion gras.

4. Nid yw dylanwad yr Ysbryd Glan wrth sicrhau ei barhad yn dinystrio dim ar ryddid dyn.

5. Yn y parhad mewn gras y ceir y prawf cryfaf o wirionedd gras.

6. Y mae parhau mewn gras yn angenrheidiol er sichau ein cadwedigaeth.

7. Mae yr athrawiaeth hon yn gymhelliad i ddiwydrwydd, ac yn galondid i'r gweiniaid.

PREGETH VIII.

"Y SAINT YN OLEUNI Y BYD."

"Chwi yw goleuni y byd. Dinas a osodir ar fryn, ni ellir ei chuddio," Mat. v. 14.

I. FOD DUW WEDI ORDEINIO I DDYNION GYNORTHWYO EU GILYDD I FYNED I'R NEFOEDD.

1. Mae yr oll a all dyn ei wneud wedi ei adael i'r dyn ei hun.

2. Mae y gwahanol dalentau a roddodd Duw i ddynion, wedi eu rhoddi i'w defnyddio er llesâd y naill a'r llall.

3. Y mae y gwahanol sefyllfaoedd y gosododd Duw ddynion ynddynt yn profi ein gosodiad.

4. Mae dynion wedi eu cyfansoddi yn y fath fodd, fel ag i effeithio ar eu gilydd.

5. Mae Duw yn ei air yn gorchymyn hyn, ac yn cyhoeddi bygythion uwchben y rhai a esgeulusant y gwaith hwn.

II. HELAETHRWYDD YR ORDINHAD HON. —"Goleuni y byd."

1. Nid oes un carictor yn y byd, na ddylem geisio ei lesoli.

2. Nid ydym i gyfyngu ein hymdrechion i un lle, nac i ryw adegau neillduol.

3. Nid ydym i atal ein llewyrch tra y byddo un enaid heb ei achub.

III. GWEDDUSDER A PHRIODOLDEB YR ORDINHAD HON..

1. Mae yn tueddu i gynyrchu teimladau o ofn a phryder am a thros ein gilydd.

2. Teimladau o undeb a chariad y naill tuag at y llall.

3. Am fod Duw yn elynol i segurdod.

4. I'r dyben i'n gwneud yn debyg i Dduw ei hun. 5. Dyma y modd tebycaf i sicrhau ein dedwyddwch ein hunain.

6. Tuedda hyn i felysu y nefoedd

yn y diwedd. (1.) Gwelwn fod math o gysylltiad moesol rhwng dynion â'u gilydd o ddechreuad y byd, a phery felly hyd y farn.

(2.) Dengys hyn yr angenrheidrwydd am farn gyffredinol.

(3.) Duwioldeb a ddylai reoli ein holl ymddygiad. Dylem fod yn ofalus rhag i ddim ddinystrio ein defnyddioldeb. Yr ydym oll yn cynorthwyo it achub neu i ddamnio ein gilydd.

PREGETH IX.

"EDRYCH AR OGONIANT YR ARGLWYDD."

"Eithr nyni oll âg wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megys mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megys gan Ysbryd yr Arglwydd," 2 Cor. iii. 18.

EDRYCHWN ar gymeriad yr Arglwydd yn y dat—guddiad y mae efe wedi ei roddi o hono ei hun.

I. MAE CYMERIAD YR ARGLWYDD YN DDEUBLYG—sef y naturiol a'r moesol.

1. Ei gymeriad naturiol ef. Golyga hyn ei Hollalluawgrwydd, Hollbresenoldeb, Hollwybodaeth, Hollgyfoethogrwydd, a'i Anghyfnewidioldeb.

2. Ei gymeriad moesol ef. Golyga hyn ei fod yn gyfiawn, yn sanctaidd, yn drugarog, maddeugar, a graslawn.

II. MAI PRIF OGONIANT DUW YDYW EI GYMERIAD MOESOL.

1. Dyma brif wrthddrych cariad a chysur pechadur.

2. Mai drwy yr efengyl y mae y cymeriad hwn yn cael ei egluro i ni. Y drych sydd yn ei ddangos gyflawnaf ydyw yr efengyl.

III. FOD EDRYCH AR GYMERIAD MOESOL YR ARGLWYDD YN Y DRYCH HWN YN EIN NEWID I'R UNRHYW DDELW, NEU I'R UN ANSAWDD FOESOL A DUW EI HUN.

1. Gwelir hyn oddiwrth natur enaid.

2. Oddiwrth natur gweinidogaeth moddion.

3. Oddiwrth natur gweinidogaeth yr ysbryd.

IV. GWREIDDIOL AWDWR Y GWAITH HWN, "MEGYS GAN YSBRYD YR ARGLWYDD."

1. Efe sydd wedi rhoddi, ac sydd yn dal y drych.

2. Efe sydd yn dwyn yr enaid i edrych yn y drych.

Dylem ninau wneud ein goreu i ddal y meddwl i edrych yn y drych, ac i weddio am yr Ysbryd Glan.

PREGETH X.

ENILL ENEIDIAU."

"Canys beth a wyddost ti, wraig, a gedwi di dy wr? A pheth a wyddost tithau, wr, a gedwi di dy wraig?" I Cor. vii. 16.

I. FOD IACHAWDWRIAETH O'R PWYS A'R CANLYNIADAU MWYAF. PECHADURIAID

1. Am fod Duw yn dangos fod achub eneidiau yn agos at ei galon.

2. Gwaith yr Arglwydd Iesu yn dyfod i'r byd yn profi hyny.

3. Yr aberth a wnaeth efe dros y byd yn profi hyny hefyd.

4. Y siars ddifrifol a roddodd efe i weinidogion yr efengyl yn profi yr un peth.

5. Mae y pethau sydd yn ddichonadwy i enaid eu mwynhau, neu eu dyoddef yn y byd tragwyddol, yn profi pwysigrwydd y gwaith.

II. Y GALLWN NI FOD YN FODDION I ACHUB EIN GILYDD, 'CANYS BETH A WYDDOST TI, WRAIG, A GEDWI DI DY WR."

1. Mae Duw wedi ordeinio iddi fod fel hyn.

2. Y mae genym enghreifftiau lawer o hyn.

3. Pa agosaf y berthynas, mwyaf oll yw ein rhwymedigaeth.

4. Ni ddylem ni ystyried neb yn rhy ddrwg i geisio ei achub.

III. CYFARWYDDIADAU AT DDWYN DYNION I AFAEL CREFYDD.

1. Gwnawn grefydd y peth penaf i ni ein hunain.


2. Dangoswn nas gallwn fod yn foddlon nes eu henill hwythau hefyd at grefydd.

3. Ymdrechwn roddi yr esiamplau goreu iddynt. 4. Gofalwn am geisio eu henill drwy addfwyn—der.

5. Gweddiwn lawer iawn drostynt.

[Ymddengys ddarfod i'r Parch. E. Davies (Derfel Gadarn), Trawsfynydd, wrth wrando Mr. Williams yn eu pregethu, ysgrifenu y braslinellau canlynol mewn cofnod-lyfr o'i eiddo. Daeth y llyfr hwnw i feddiant y Parch. T. Roberts, Wyddgrug, yr hwn yn garedig a'u copiodd o hono, ac a'u hanfonodd i ni, ac yr ydym yn ddiolchgar i Mr. Roberts am danynt].

PREGETH XI

.

"GLYNWN YN EIN PROFFES."

"Gan fod wrth hyny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i'r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes," Heb. iv. 14.

I. CYNWYSIAD Y BROFFES O GRIST. Mae yn cynwys—

1. Hunanymgyflwyniad i fyny i Dduw—fel Jacob yn Bethel.

2. Hunanymroddiad i bobl Dduw—Fel Ruth, Moses, &c.

3. Ufudd-dod cyhoeddus i holl ordinhadau Duw. 4. Cyhoeddus ofal am achos Duw yn mhob peth.

II. ANOGAETHAU I LYNU YN EIN PROFFES.

1. Ystyriwn fawredd y person yr ydym yn ei broffesu. Mab Duw, person o'r un natur à Duw, un anwyl ganddo.


2. Y peth mawr a wnaeth Crist drosom—"i ni," rhoddi ei hun drosom—yn aberth.

3. Archoffeiriad mawr ydyw yn wyneb mawredd ein pechodau.

4. Mae wedi myned i'r nefoedd. Gan fod y nefoedd yn ei arddel, arddel dithau ef.

5. Ar ein hachos ni y mae efe yno, yn paratoi lle i ti.

6. Gan ei fod wedi myned i'r nefoedd, cei yr ysbryd i dy gynal, i dy arwain, a'th sancteiddio.

7. Gan fod Iesu wedi myned i'r nefoedd, y mae'r gelynion oll wedi eu gorchfygu.

8. Y mae yn weithred ofnadwy iawn wadu y fath berson gogoneddus ag ydyw Iesu Grist.

Addysgiadau:—1. Anerchaf y rhai sydd heb ei arddel. 2. Y rhai sydd yn ei arddel, ymddygwch yn addas. 3. Y rhai sydd wedi gwrthgilio, deuwch yn ol gyda brys.

PREGETH XII.

"GWERTH Y BEIBL."

"Mi a ysgrifenais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithr—beth y cyfrifwyd," Hos. viii. 12.

I. GWERTH Y BEIBL.

1. Datguddiad goruwchnaturiol ydyw.

2. Mae yn anffaeledig.

3. Datguddiad o bethau y mae arnom ni eu heisieu ydyw, pethau addas i ni.

4. Datguddiad o'r pethau mwyaf eu pwys ydyw, ein pethau tragwyddol.

5. Mae effeithiau da yn perthyn iddo.

II. MAI BRAINT YW EI FOD WEDI EI YSGRIFENU.

"Mi a ysgrifenais iddynt," &c.


1. Mae yn sicrach nag un ffordd arall.

2. Mae ei ledaeniad yn fwy helaeth.

3. Mae yn burach.

4. Mae ei barhad yn hwy.

5. Mae yn fwy cyfleus.

III. CYNWYSIAD Y GWYN. "Ac fel dyeithr—beth y cyfrifwyd."

1. Ei gyfrif fel pe na bae un berthynas rhyngom âg ef.

2. Nid oes dim cymdeithas neu gyfeillach âg ef.

3. Peidio ag ymddiried iddo.

4. Gwybod ond ychydig am agwedd ysbryd y Beibl.

Sylwadau:—1. Dylem ddiolch i Dduw am dano. 2. Gwnawn ein goreu i'w anfon i eraill. 3. Edrychwch na bo neb heb ei ddysgu. 4. Mae genyt gyfaill, sef y Beibl, a ddaw gyda thi i bob bwlch cyfyng.

PREGETH XIII.

"Y PECHOD O ANGHOFIO DUW."

"Y rhai drygionus a ymchwelant i uffern, a'r holl genedloedd a anghofiant Dduw," Salm ix. 17.

I. NATUR Y PECHOD O ANGHOFIO DUW.

1. Pechod yn erbyn gwybodaeth ydyw.

2. Pechod yr holl ddyn, trwy ei holl gyneddfau ydyw.

3. Mae y cwbl ag ydyw Duw yn cael ei anghofio.

II. Y DRWG O'R PECHOD YMA.

1. Mae yn rhwystro pob peth duwiol ar unwaith o ran gweithrediadau yr enaid.

2. Mae yn codi oddiar ddrwg ansawdd y galon, neu o herwydd anghrediniaeth y galon o Dduw.

3. Mae yn agor y drws i bob pechod arall.


4. Yr angharedigrwydd a'r anghariad mwyaf tuag at Dduw ydyw.

5. Didduwiaeth ymarferol ydyw.

6. Y ffolineb mwyaf. Mae rhyw bethau yn ein meddwl y bydd yn dda cael ymadael â hwynt wrth farw, ond nis gelli farw yn iawn heb Dduw.

III. CANLYNIAD Y PECHOD—"A ymchwelant i uffern."

1. Bywyd ar fin dibyn ydyw bywyd o anghofio Duw.dontistes

2. Fe fydd yn anocheladwy.

Addysg: 1. Wrth ystyried hyn gallwn wybod am wirionedd ein crefydd. 2. Achos galaru gerbron Duw. 3. Yma yn unig y mae anghofio Duw yn bod.

Cyfarwyddiadau i wella:—1. Cysegra dy hun yn boreu i Dduw. 2. Cadw yn barhaus wyliadwriaeth i alw dy feddwl yn ol. 3. Dod rywbeth da iddo i'w wneud. 4. Treia fyw yn agos at y groes.

PREGETH XIV.

{{c|"CHWI YW HALEN Y DDAEAR." "Chwi yw halen ddaear: eithr o diflasodd yr halen, â pha beth yr helltir ef? ni thâl efe mwy ddim ond i'w fwrw allan, a'i sathru gan ddynion," Mat. v. 13.

I. MAI YR UNIG FODDION I DDYFOD A'R BYD I DREFN YW CRISTIONOGRWYDD—Sef athrawiaeth yr efengyl, a dynion yn byw yn ol yr athrawiaeth.

1. Dyma yr unig beth a wrthwyneba bechod yn y byd.

2. Dyma'r peth a dreiddia yn fwyaf effeithiol at y galon.


3. Dyma yr unig beth a bereiddia y byd, a gyfyd rinwedd.

II. MAE IESU GRIST YN DYSGWYL I NI YMDDWYN FEL HALEN.

1. Dyma'r prif ddyben i'n gadael ar y ddaear—i halltu.

2. Mae yn dysgwyl i ni halltu am ein hoes.

3. Mae hyn yn orchwyl ar bawb yn ei le.

III. MAI Y PROFFESWR DIDDEFNYDD YDYW Y MWYAF ANOBEITHIOL O BAWB. "A pha beth yr helltir ef."

1. Mae yn berygl iddo ymorphwys ar ei broffes.

2. Mae wedi ymarfer cymaint â'r moddion nes ydyw wedi myned yn aneffeithiol.

3. Nid oes neb yn galw yn fwy am i Dduw ei roi i fyny.

IV. PROFFESWR DIDDEFNYDD YDYW Y MWYAF DILES O BAWB.

1. Mae yn fwy o rwystr i'r gwaith na neb arall.

2. Nid oes neb yn rhoi mwy o waradwydd i'r achos.

3. Nid oes neb yn caledu mwy ar y byd.

V. NID OES NEB YN FWY DIRMYGEDIG NA'R PROFFESWR DIDDEFNYDD.

1. Nid yw mewn parch gan eglwys Dduw.

2. Nid oes gan y byd barch iddo.

Addysg:—1. Hunanymhola. 2. Cydymostyngwn. 3. Dylem fod yn ddiolchgar i Dduw, ac yn barchus o dduwiolion. Gwrthddadl:—Ond mi beidiaf a chymeryd ei enw. Ond mae hi yn rhy hwyr, yr wyt wedi ei gymeryd.

PREGETH XV.

"DUW YN BENDITHIO ABRAHAM."

"A mi a'th wnaf yn genedlaeth fawr, ac a'th fen—dithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith," Gen. xii. 2.

I. CYNWYSIAD YR ADDEWID,—"Ac a'th fendithiaf."

1. Gwnaf di yn deimladwy o ddrwg pechod a thruenusrwydd dy natur.

2. Gwnaf di yn deimladwy nad oes dim yn y byd i wneud dy angen i fyny.

3. Dygaf di i gymeradwyo trefn y cadw trwy Grist.

4. Rhoddaf i ti galon barod i blygu i'm hordinhadau a'm gorchymynion.

5. Rhoddaf i ti galon i ymhyfrydu ynddi, ac i'm caru ar hyd dy fywyd.

6. Rhoddaf aden fy rhagluniaeth drosot nos a dydd.

II. EFFAITH YR ADDEWID. "A thi a fyddi yn fendith."

1. Nid achos heb i neb wybod am dano.

2. Maent yn fendith yn eu pethau bydol.

3. Yn llafur dy gariad, yn dy gynghorion, yn dy addysg, yn dy ymddyddanion.

4. Yn eu hesiamplau.

5. Yn eu gweddiau.

III. FOD CYSYLLTIAD RHWNG Y FENDITH A'I HEFFAITH.

1. Dyben Duw yn rhoi gras i ddyn yw dwyn dynion eraill i'r nefoedd.

2. Pa le bynag y rhoddo Duw ras mae yn rhaid i hwnw fod o ryw les.

3. Cysylltiad o amlygrwydd, nis gall neb brofi ei fod yn dduwiol os nad yw yn amcanu gwneud eraill yn dduwiol.

4. Cysur i'r enaid ei hun feddwl ei fod am wneud lles i eraill.

IV. Y SEFYLLFA Y MAE'R FENDITH YN GOSOD DYN. "Mawrygaf hefyd dy enw."

1. Codaf dy enw yn fawr ar y ddaear.

2. Cei goffadwriaeth barchus am danat ar ol marw.

3. Cei enw mawr yn y nefoedd.

PREGETH XVI.

"DIYSTYRU Y BRIODAS."

"A hwy yn ddiystyr ganddynt, a aethant ymaith, un i'w faes, ac arall i'w fasnach," Mat. xxii. 5.

I. CAWN YMOFYN PA BRYD Y MAE DYNION YN DIYSTYRU Y BRIODAS.

1. Pan yn meddwl yn anfynych am dani.

2. Nid ydyw dynion yn siarad fawr am bethau. diystyr.

3. Nid yw pethau diystyr yn effeithio fawr ar feddyliau dynion.

4. Ni wna dynion ymdrafferthu fawr gyda phethau diwerth.

5. Ni hunanymwada dynion fawr gyda golwg ar bethau diwerth.

6. Nid yw dynion yn gofidio fawr fod eu teulu heb feddu pethau diwerth.

II. TRUENUSRWYDD A PHECHADURUSRWYDD YR YMDDYGIAD.

1. Maent yn gwrthod y peth goreu fedd Duw, sef Crist.

2. Gwrthod unig foddion cadw.


3. Wrth ystyried mawr garedigrwydd a llafur Iesu Grist yn dwyn oddiamgylch drefn y cadw.

4. Wrth ystyried y pethau a ddewiswyd yn lle y briodas—"Un i'w faes, ac arall i'w fasnach.

5. Dyma y sarhad mwyaf ar Dduw o bob peth arall.

6. Dyma y pechod a rydd glo ar ddynion o tan euogrwydd pob pechod arall.

Addysgiadau: 1. Mae y briodas heb ddarfod, ac y mae y gweision yn gwahodd? 2. Mae yma bob calondid i ymbriodi â Iesu Grist. Cymera ef nyni fel yr ydym ond i ni ei gymeryd ef fel y mae. 3. Os ydym am gael gwledda gyda Iesu yn y nef, rhaid ymbriodi âg ef yma. Os ydych am fyned i'r nefoedd i gadw y neithior, rhaid priodi yn mhlwyf y wraig.

PREGETH XVII.

"YR ENAID HAEL A FRASEIR.

"Yr enaid hael a fraseir; a'r neb a ddyfrhao a ddyfrheir yntau hefyd," Diar. xi. 25.

I. RHAI PETHAU Y GALLWN NI FOD O DDAIONI A LLES I ERAILL.

1. Yn eu hamgylchiadau tymhorol yn y byd.

2. Trwy gynal achos crefydd a duwioldeb i fyny yn y gymydogaeth yr ydym yn byw ynddi i'r oes a ddel.

3. Trwy wneud ein goreu i anfon yr efengyl i eraill trwy yr holl fyd.

4. Trwy addysgu eraill, megys yn yr Ysgol Sabbathol, &c.

5. Trwy gynghorion a rhybuddion.

6. Trwy gyfranu llyfrau a'u benthyca.

7. Trwy esiamplau da.

8. Trwy weddio dros eraill,


II. PA FWYAF LLESOL A FYDDWN I ERAILL, MWYAF LLAWN A FYDDWN I NI EIN HUNAIN. "Yr enaid hael a fraseir; a ddyfrhao a ddyfrheir yntau.

1. Pa fwyaf o drafferth a gymerwn at eraill, mwyaf o gariad a deimlwn atynt. Felly cyflawni cyfraith Duw, "Car dy gymydog fel ti dy hun."

2. Pa fwyaf o drafferth a gymerwn at eraill, mwyaf o dduwioldeb fydd genym ni ein hunain; pan fyddwn am dynu dynion i'r nefoedd, cyntaf yn y byd y byddwn yno ein hunain.

3. Pa fwyaf o drafferth a gymerwn at eraill, mwyaf yn y byd o hyfrydwch a dedwyddwch a deimlwn.

4. A ddyfrheir â heddwch cydwybod.

5. A ddyfrheir â thystiolaeth sicr o'i dduwioldeb ei hun.

6. Dyma y dystiolaeth oreu i eraill, dy fod yn dduwiol, a dyma benderfyna dy gyflwr yn y farn.

7. Dyma fel y byddi yn fwyaf tebyg a mwyaf cymeradwy ganddo.

8. Trwy hyn cei gydwledda gyda y rhai y buost yn offernynol i'w hachub.

Addysg:—1. Ni wiw i neb ddweyd nad ganddo ddoniau i wneud daioni. 2 Peidiwn a chysylltu llwyddiant â dyledswydd. 3. Dylem gywilyddio gerbron Duw o herwydd ein diogi. 4. A gawn ni benderfynu diwygio.

PREGETH XVIII.

"CASGLU GYDA CHRIST."

"Y neb nid yw gyda mi, sydd yn fy erbyn; a'r neb nid yw yn casglu gyda mi, sydd yn gwasgaru, Mat. xii. 30.

I, NEGES IESU GRIST YN Y BYD Casglu. Pan ddaeth pechod i'r byd chwalodd bobpeth oddiwrth eu gilydd.

1. Daeth Crist i gasglu dynion at Dduw. Yr un farn, yr un deimlad a Duw.

2. I gasglu dynion at eu gilydd, mewn serch, undeb, cariad i gario yn mlaen yr un achos da.

3. I gasglu dynion o'r eglwys i'r nefoedd.

4. I gasglu holl ogoniant Duw at eu gilydd i'w eglwys.

II. FOD CRIST YN DYSGWYL I BAWB GYDWEITHIO GYDAG EF.

1. Dyma ddyben creadigaeth dyn.

2. Mae Iesu wedi ymddiried y casglu i ddwylaw ei eglwys.

3. Mae pob peth yn cydweithio ond dyn a diafol. 4. Am nad oes posibl myned i mewn heb fod gyda chynhauaf Iesu Grist.

5. Oblegid caredigrwydd mawr Iesu Grist efo ein cynhauaf ni.

6. Mae gan bawb rywbeth a fedront wneud yn y cynhauaf.

7. Mae y cynhauaf mor fawr, ac y mae eisiau pawb ato fo.

III. MAE IESU YN EDRYCH AR BAWB NAD YW GYDAG EF YN ELYNION A RHWYSTRWYR.

1. Mae peidio gweithio gydag unrhyw beth yn ddigon i'w ddinystrio am byth.

2. Trwy yr effaith ddrwg y mae dy esiampl yn gael ar eraill.

3. Trwy eu bod yn gwanhau breichiau y rhai sydd yn gweithio.

4. Mae natur dyn mor weithgar na bydd ef byth yn llonydd.

5. Ni ddyoddef y gwaith ddim anmhleidwyr.

Casgliad:—1. Mae pawb yn taro rhyw ochr. Pawb yn gweithio rhywbeth. 2. Mae yn llawn bryd penderfynu myn'd i'r maes.

PREGETH XIX.

"CYFADDEFIAD O BECHOD."

"Addefais fy mhechod wrthyt, a'm hanwiredd ni chuddiais: dywedais, Cyffesaf yn fy erbyn fy hun fy anwireddau i'r Arglwydd, a thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod," Salm xxxii. 5.

I. NATUR Y CYFADDEFIAD. "Cyffesaf yn fy erbyn fy hun," &c. Pa bryd y gellir dweyd fod dynion yn cyfaddef eu pechod?

1. Pan yn cymeryd y bai arnom ein hunain, ac nid ei roi ar y temtiwr.

2. Pan y mae dynion yn beio eu hunain, ac nid eu sefyllfa.

3. Pan yn cydnabod na wthiodd dim mo honynt at bechod ond eu blys eu hunain.

4. Pan yn cydnabod mai diffyg blas at bethau sanctaidd oedd yr achos eu bod yn byw mewn pechod.

5. Pan yn cydnabod bod eu pechod gymaint, ac y byddai yn gyfiawn i Dduw eu gadael am byth.

II. Y FRAINT. Maddeuant. Beth yw maddeuant? Beth a gynwysa?

1. Bod Duw yn peidio ein cosbi yn ol ein haeddiant.

2. Mae yn cynwys derbyniad i ffafr Duw.

3. Mae yn weithred gwbl gydunol âg anrhydedd y llywodraeth.

4. Gweithred rad ydyw.

5. Gweithred ddialw yn ol.

6. Mae sicrwydd cyfamodol lle bynag y mae Duw yn maddeu un pechod y maddeua y cwbl.

III. FOD YR ARGLWYDD YN SICR O FADDEU I DDYNION O'R AGWEDD HON, AC NID I NEB ARALL. "A thi a faddeuaist anwiredd fy mhechod,"

1. Byddai maddeu i'r anedifeiriol yn erbyn llywodraeth Duw.

2. Byddai yn erbyn trugaredd. Ni byddai trugaredd ond twyll.

3. Byddai yn erbyn Iawn Crist.

4. Nis gall neb fwynhau maddeuant ond yr edifeiriol.

PREGETH XX

"MYFYRDOD.

"Myfyria ar y pethau hyn, ac yn y pethau hyn aros; fel y byddo dy gynydd yn eglur i bawb," 1 Tim. iv. 15.

I. NATUR MYFYRDOD.

1. Peth perthynol i'r enaid ydyw.

2. Peth yn perthyn i'r holl enaid ydyw.

3. Nid oes dim tu allan i ddyn all rwystro myfyrdod.

4. Gall y dyn ei hun ei lywodraethu trwy weddi, gwyliadwriaeth, a pharhau ymarferiad.

5. Ni bydd byth yn llonydd.

6. Mae yn annherfynol o ran ei wrthddrychau.

7. Peth sydd yn nodweddu dyn yn dduwiol, ac annuwiol ydyw.

8. Nid yw i ymddiried iddo y saif ar wrthddrychau da heb yr Ysbryd Glan.

II. ANOGAETHAU I FYFYRIO.

"Myfyria ar y pethau hyn."

1. Prif gyfrwng troedigaeth yw myfyrdod.

2. Prif gyfrwng gwybodaeth ydyw.

3. Prif gyfrwng y cof ydyw.

4. Dyma y prif foddion i gadw rhag pechod.

5. Yn maes myfyrdod y mae ein holl aberthau crefyddol yn cael eu magu.

6. Dyma sylfaen ein defnyddioldeb.


7. Trwy fyfyrio y defnyddir ein bywyd oreu.

8. Dyma y paratoad goreu erbyn marw.

III. CYFARWYDDIADAU I FYFYRIO.

1. Yn y boreu, agor ddrws myfyrdod â gweddi, a chau ef yr un modd.

2. Dod bethau da i'r meddwl i'w wneud.

3. Cadw wyliadwriaeth arno trwy'r dydd.

Casgliad:1. Diffyg myfyrio yw y rheswm fod y byd mor dywyll.

2. Mae genym achos cywilyddio na byddem yn myfyrio mwy ar bethau da.

PREGETH XXI

.

CYFIAWNHAD TRWY FFYDD

.

"Beth gan hyny a ddywedwn ni? Bod y Cenedloedd, y rhai nid oeddynt yn dilyn cyfiawnder, wedi derbyn cyfiawnder, sef y cyfiawnder sydd o ffydd. Ac Israel, yr hwn oedd yn dilyn deddf cyfiawnder, ni chyrhaeddodd ddeddf cyfiawnder. Paham? Am nad oeddynt yn ei cheisio trwy ffydd, ond megys trwy weithredoedd y ddeddf: canys hwy a dramgwyddasant wrth y maen tramgwydd," Rhuf. ix. 30—32.

I. NATUR Y FRAINT—sef cymeradwyaeth gyda Duw, neu gyfiawnhad. Cyfeiria hyn at lys barn. Edrychwn mewn pa bethau y mae cyfiawnhad mewn llys gwladol a chyfiawnhad trwy ffydd yn anghytuno, ac mewn pa bethau y cytunant.

Y pethau y maent yn anghytuno:—1. Dieuog—rwydd a ryddha mewn llys barn wladol. Yn llys ffydd rhyddheir yr euog.

2. Mewn llys gwladol y mae dynion yn dyfod yn rhydd weithiau mewn anwybodaeth, methir profi eu heuogrwydd. Ond ni ddaw neb yn rhydd felly gyda Duw, 3. Mae yn annichonadwy maddeu a chyfiawnhau mewn llys gwladol. Nid i hyny y gosodir ef i fyny. Mae yn ddichonadwy yn llys yr efengyl.

4. Gwneud prawf yr ydys yn y llys gwladol. Ond a ddamniwyd eisoes ydyw yn llys yr efengyl.

5. Yn gyfatebol i fel y mae y carcharor yn cael ei gyfiawnhau y mae y cyhuddwr yn cael gwarth mewn llys gwladol; nid felly yn llys yr efengyl.

6. Peth annichonadwy yw cyfrif cyfiawnder mewn llys gwladol, neu gyfrif dyn yn rhydd er mwyn arall. Mae hyn yn bosibl yn llys yr efengyl.

Y pethau y maent yn cytuno:—1. Dieuogi a gollwng yn rhydd. 2. Cael ei godi i barch a bri. 3. Gweithred gyhoeddus yn y llys yw y ddwy. 4. Gweithred ddialw yn ol yw y ddwy.

II. PA FODD Y COLLODD ISRAEL Y FRAINT.

1. Trwy ymarfer â'r ordinhadau i ddyben gwahanol ag oedd gan Dduw. Edrych arnynt fel amcan ynddynt eu hunain, ac nid fel moddion i'w cymhwyso i dderbyn Crist.

2. Trwy bwyso ar yr ymarferiad o'r moddion yn lle troi trwyddynt i dderbyn Crist.

3. Trwy fod yn ormod o hunanymwadiad ganddynt ymadael â phob peth er mwyn Crist.

III. PA FODD Y CYRHAEDDODD Y CENEDLOEDD Y FRAINT?

1. Trwy benderfynu taflu eu hunain ar Grist heb ddim.

2. Trwy foddloni cymeryd Crist yn ei bob peth.

3. Trwy foddloni ymadael â phob peth er mwyn Crist.

4. Trwy benderfynu mai dyma y noddfa olaf a dreient am byth.

BRIWSION ODDIAR FWRDD Y PARCH. W. WILLIAMS, WERN.

Yn y Dysgedydd am Hydref 1866, tudalen 355, o dan y penawd uchod, fel y canlyn y dywed y Parch. Josiah Jones, Machynlleth:—"Yr ydym yn ddyledus am y briwsion dilynol i'r Parch. Edward Edwards, Manchester, yr hwn ar gais, ac o enau Mr. Williams ei hun a'u hysgrifenodd."

SYLWADAU ER EGLURO Y SEITHFED BENNOD O'R RHUFEINIAID.

1. Fod gan bob dyn ei dueddiad llywodraethol.

2. Fod cymeriad pob dyn yn cael ei wneud i fyny o'i dueddiad llywodraethol, "Eto nid myfi," &c.

3. Fod dyn yn fynych yn gweithredu am dymhor yn groes i'w dueddiad llywodraethol.

4. Nad ydyw un dyn, pa un bynag fyddo a'i da a'i drwg, yn ymddwyn i fyny yn gwbl i'w dueddiad llywodraethol tra yn y byd hwn.

5. Yna, wrth reswm, nis gall y da fod yn hollol ddedwydd yn y byd hwn.

6. Mai yr unig sylfaen o gysur sydd gan y Cristion yw yr hyn ydyw Duw yn Nghrist.

Tybiai Mr. Williams fod y sylwadau blaenorol yn cynwys yr egwyddorion angenrheidiol er iawn esbonio y bennod ddyrys hon. Yn canlyn y mae amlinelliad o bregeth a bregethwyd ganddo yn Manchester, Mai 22, 1836, ond a baratoisid ganddo ar gyfer y Sabbath blaenorol, sef y 15fed, pryd y cymerodd diffyg mawr le ar yr haul,

Ac yr ydoedd hi yn nghylch y chweched awr, a thywyllwch a fu ar yr holl ddaear hyd y nawfed awr, a'r haul a dywyllwyd; a llen y deml a rwygwyd yn ei chanol," Luc xxiii. 44, 45.

I. Ni a ddangoswn fod y tywyllwch hwn yn or-uwchnaturiol.

1. Cymerodd le ar y llawn lloer, ac nis gall diffyg naturiol gymeryd lle ond pan fyddo y lleuad yn newid.

2. Nis gallasai y tywyllwch hwn barhau am dair awr pe na buasai yn oruwchnaturiol.

II. Ni a sylwn fod marwolaeth Crist mor bwysig fel ag i effeithio ar y greadigaeth weledig.

1. Ymddangosai yr haul a'r ddaear fel yn cyd-ymdeimlo â'u Creawdwr ar yr amgylchiad hwn. Ymddangosai yr haul, y cawr mawr yna ydoedd bedair mil o flynyddoedd o oed, fel mewn llesmair, ac ymysgydwai y ddaear.

2. Ymddangosai yr haul fel mewn cywilydd o'r weithred, ac ataliodd ei oleuni.

3. Ymddangosai yr haul mewn trallod mawr am ddrygioni dyn. Ymddangosai mewn galar, a rhoddodd ei handkerchief du dros ei wyneb.

4. Ymddangosai yr haul fel am ddangos drwy atal ei oleuni beth a fuasai ystad pechadur pe buasai Duw yn cadw oddiwrtho oleuni ei wynebpryd.

III. Gan i farwolaeth Crist gael y fath effaith ar y greadigaeth ddireswm, beth raid ddarfod iddi gael ar y resymol a'r foesol?

1. Ar drigolion y nefoedd. Ymddangosai angylion mewn dyddordeb mawr yn ngwyneb yr amgylchiad. Felly hefyd y gwaredigion oddiwrth ddynion. Ymddibynai eu tragwyddol ddedwyddwchar ganlyniad ei farwolaeth. Derbyniasid hwynt i'r nefoedd ar drust, a safai yn awr a ydoedd y weithred i gael ei hadnewyddu ai nad ydoedd?

2. Ar drigolion y fagddu, "Yn awr y mae eich awr chwi, a gallu y tywyllwch." Gwyliasant Grist am ddeng mlynedd ar hugain, a thybient yn awr fod y fuddugoliaeth o'u tu.

3. Ar drigolion y ddaear. "Yn wir Mab Duw oedd y dyn hwn.'

4. Ar ddeiliaid marwolaeth. Llawer o feddau a agorwyd, a llawer o'r meirw a gyfodwyd. Ymddangosent mewn cyffro. Gofynai Abraham i Sarah ei wraig yn ogof Machpelah, A ydyw y nos drosodd? mor felus y darfu i ni gysgu. Gad i ni edrych allan o'r ogof hon. Edrychasent allan a thybiasent weled o honynt frenin y dychryniadau wedi ei daro agos yn farw a'i golyn wedi ei dynu ymaith.

Awgrymiadau:—1. Mor fawr y rhaid fod drwg pechod. 2. Mor galed y rhaid fod calonau pechaduriaid. Nid ydynt yn toddi yn ngwyneb marwolaeth Crist. Maent yn galetach na'r creigiau—holltasent hwy.

Nid yw ardderchogrwydd Mr. Williams fel pregethwr i'w weled yn y pregethau blaenorol, oblegid nid oedd ei feddwl a'i law yn gallu dilyn eu gilydd yn rheolaidd wrth ysgrifenu. Ymddyrysai gyda'r gwaith hwnw. Er hyny, galluogir ni drwy ei bregethau ysgrifenedig i weled nodwedd meddwl y pregethwr enwog, yr hwn a fu yn dysgu gwybodaeth i'r bobl am ddeugain mlynedd. Gresyn na buasai rhywun wedi ymgymeryd wrth ei wrando, âg ysgrifenu nifer o'i bregethau mewn llaw fer. Gallesid felly eu cael yn llawn, a buasent yn drysorau gwerthfawrocach na'r aur, canys yr oeddynt yn cynwys yr athroniaeth buraf, ac yn llawn o'r drychfeddyliau godidocaf.

PENNOD XXI.

SYLWADAU ARBENIG.

Y CYNWYSIAD—Dyfodiad pechod i'r byd—Llywodraeth foesol—Dim ond tri chwrt yn y mil blynyddoedd—"Gan ddechreu yn Jerusalem"—Yn ol eich ffydd—Ffurfio cymeriad cariad: nad yw y priodoleddau dwyfol ond gwahanol agweddau arno.

DYFODIAD PECHOD I'R BYD.

NID ydyw pechod yn hanfodol i greadur rhesymol, oblegid y mae creaduriaid rhesymol heb bechod, megys angylion ac ysbrydoedd y cyfiawn.

2. Y mae achos pechod yn gwbl yn y creadur, yr hyn ydyw ymddibyniaeth y creadur, a'i ryddid mewn cysylltiad â'u gilydd. Mae rhyddid yn dda naturiol, ac nid oes drwg moesol mewn ymddibyniaeth, ac nis gallai creadur cyfrifol fod hebddynt, oblegid gwneuthur creadur yn anymddibynol a fyddai gwneuthur Daw o hono, a bod Duw yn creu Duw sydd yn anmhosibl. Pe y byddai heb ryddid nis gallai fod yn gyfrifol, neu yn weithredydd moesol. Y ddau beth hyn gyda'u gilydd a gynyrchai bechod yn yr angel sancteiddiaf yn y nef, heb gyfryngiad dwyfol ras, os na allai y creadur fod heb yr achos o bechod, ni ddylai Duw gael ei feio o'i herwydd.

Y peth nesaf ydyw, pa un a yw Duw yn rhwym yn ol cyfiawnder i atal pechod yn y creadur; os ydyw, y mae yr holl bechod yn yr holl greadigaeth, i'w osod wrth ei ddrws ef, ac nid wrth ddrws y creadur—na ato Duw! Byddai y fath haeriad yn sarhad ar synwyr cyffredin. Ond os gweithred o ras ydyw atal pechod mewn unrhyw berson ar unrhyw bryd, yna, y mae yr holl anhawsdra yn cael ei ddad-ddyrysu ar unwaith, o herwydd fod pob gweithred rasol yn weithred a ellir ei gwneud neu beidio, heb un achos beiad ar nodweddiad neb yn ei chylch, o herwydd byddai beio ar un am beidio gweithredu, yn rhagdybied ei fod dan rwymau i weithredu.

3. Nis gall Duw ewyllysio pechod mewn ffordd, o herwydd byddai ei ewyllysto mewn modd yn gariad ato, oblegid bod yr ewyllys yn ddangoseg o natur pob bod rhesymol. Holl weithredoedd ac ymddygiad Duw oeddynt i atal pechod i'r byd yn nghyda'i rwysg.

4. Gan hyny, nis gallasai Duw arfaethu pechod, o herwydd y mae ei weithredoedd yn ddangoseg o'i arfaeth, fel y mae ei ewyllys yn ddangoseg o'i natur. Y mae pedwar o gylchoedd megys yn troi yn eu gilydd. Y cylch mwyaf ydyw gwybodaeth gwrthddrychau, yr hon ydyw pob peth galluadwy i Dduw, ac i'r creadur, y rhai sydd ddirifedi, ac nas cymerent byth le; yr ail gylch ydyw rhagwybodaeth gwrthddrychau.

Ymddengys i ni ein bod yn gyfrifol am y pechod. cyntaf yr un modd ag yr ydym yn gyfrifol am bob pechod ar ol hwnw. Pa beth ydyw pechod gwreiddiol yn amgen na bod gweithgar a rhesymol yn dyfod i'r byd yn amddifad o ddwyfol ddylanwadau, neu gywir archwaeth foesol? Yr un ydyw ffeithiau (facts) pob peth a wna Duw, ac a wna y creadur. Y trydydd ydyw arfaeth; gwrthddrychau yr hon ydyw yr hyn a wnaeth ac a wna Duw yn unig. Mae Duw wedi arfaethu ei weithredoedd ei hun, ac y mae wedi rhagwybod holl weithredoedd ei greaduriaid hefyd. Y pedwerydd cylch ydyw etholedigaeth; gwrthddrychau yr hon ydyw holl ddynion ac angylion da. Gwybodaeth ydyw y llenllian ar yr hon y mae Duw wedi tynu ei holl gynlluniau. Pa le bynag y tynodd efe ei bwyntil (pencil) ar hyd—ddo, cyn belled a hyny y mae ei arfaeth yn cyrhaedd a dim pellach. Dywedyd fod Duw wedi arfaethu, gadael neu oddef, rhyw ran o'r papur, neu'r llenllian, i fod yr un lliw ag ydoedd cyn iddo gyffwrdd âg ef, a fyddai dweyd geiriau heb ystyriaethau iddynt, a dweyd fod Duw wedi arfaethu goddef pechod ydyw yr un peth a phe y dywedid ei fod wedi arfaethu y cyfwng, neu'r gwagder sydd rhwng ser y nef â'u gilydd. Gwrthddrychau arfaeth ydoedd creadigaeth y bydoedd hyny, pe amgen, buasai y cyfan yn wagder tragwyddol.

Wrth lywodraeth foesol yr wyf yn deall, dull Duw yn llywodraethu moesau neu ymddygiadau creaduriaid rhesymol. Yr ydym yn ei henwi felly er ei gwahaniaethu oddiwrth lywodraeth naturiol Duw, sef y modd y mae yn llywodraethu yr elfenau a'r creaduriaid direswm drwy gyfreithiau natur a greddfau. Y dull y mae moesau y rhan ddeallawl o'r greadigaeth yn cael eu llywodraethu yw drwy weinidogaeth moddion moesol, sef cymhelliadau, deniadau, a bygythion. Iaith Duw yn y llywodraeth yw, "Dangosaf i ti ddyn yr hyn sydd dda." Er egluro natur y llywodraeth hon, gellir golygu:

1. Fod yr holl fodau deallawl yn y bydysawd yn cyfansoddi un gymdeithas fawr, ac fod y fath gysylltiad rhyngddynt â'u gilydd, fel y mae ymddygiad pob un o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd yn effeithio yn dda neu yn ddrwg ar gymdeithas oll, yn ol y sefyllfa y maent yn sefyll ynddi. Y berthynas hon sydd rhwng dynolryw â'u gilydd ydyw un o'r dangosiadau cryfaf o'r angenrheidrwydd am farn gyffredinol. Y mae rhai wedi dechreu ymarferiadau drwg, ac eraill wedi eu trosglwyddo yn mlaen o genedlaeth i genedlaeth; pan o'r tu arall y mae rhai wedi ymdrechu codi arferiadau da, ac wedi llafurio i'w cynal o oes i oes er lles cymdeithas. Yn awr, tuag at i bob un gael derbyn yn ol ei weithredoedd, rhaid galw rhyw gyfarfod cyffredinol i osod holl aelodau y gymdeithas, o ddechreu y byd hyd ei ddiwedd, i sefyll wyneb yn wyneb.

2. Yr hyn sydd yn cyfansoddi un yn aelod o'r gymdeithas hon yw, yn gyntaf, mwynhad gweinidogaeth moddion moesol; yn ail, gallu i amgyffred natur y gwrthddrychau a osodir gerbron; yn drydydd, gallu i garu yr hyn sydd brydferth, a chasâu yr anmhrydferth; yr hyn yn yr Ysgrythyr a elwir "calon," am mai hon yw ffynonell gweithrediad yr enaid, fel y mae y galon naturiol yn ffynonell gweithrediad y gwaed. Ac yn bedwerydd, rhyddid i ddewis, heb fod dim o'r tu allan yn gwthio y galon i ddewis y drwg na dim yn ei rhwystro i ddewis y da. Dyma sylfaeni cyfrifoldeb dyn. Y maent fel pedair craig dragywyddol nas dichon i bechod eu dadymchwelyd, ac na bydd byth eisieu gras i'w hadgyweirio.

3. Gan mai Duw ffurfiodd y gymdeithas hon, ac mai efe yw y rhan bwysicaf o honi yn nghlorian bodolaeth, fod hyn o angenrheidrwydd hanfodol yn ei osod yn llywydd iddi. Y mae efe i ofalu am ddedwyddwch y gymdeithas; o ganlyniad nis gall fod yn edrychwr difater ar ymddygiadau ei haelodau heb fod yn anffyddlon i'w ymddiried.

4. Y ddeddf foesol ydyw rheol dedwyddwch y gymdeithas. Cydymffurfiad â'r erthyglau cynwys—edig ynddi ydyw dedwyddwch y gymdeithas, ond y mae anghydffurfiad yn milwrio yn uniongyrchol yn erbyn ei dedwyddwch. 5. Rhaid fod pechod yn taro yn erbyn dedwydd—wch a bodolaeth y gymdeithas, ac yn erbyn pob aelod o honi yn ol maintioli ei fodolaeth. Ond yn

6. Mae pechod, mewn dwy ystyr yn taro mwy yn erbyn Duw nag yn erbyn neb arall, am ei fod ef yn anfeidrol fwy na phawb yn nghlorian bodol—aeth, a'i fod hefyd o ran swydd yn llywydd y gymdeithas. Fel pen llywydd bodolaeth y mae bob amser yn gweithredu yn enw a thros yr holl gymdeithas; ac y mae o bwys mawr i ni ystyried mai nid sarhad dirgelaidd (private injury) yn erbyn Duw yw pechod, ond ei fod sarhad cyhoeddus yn taro yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol.

7. Fel Penllywydd bodolaeth y mae Duw yn cospi troseddwyr anedifeiriol, ac yn amddiffyn a gwobrwyo yr ufudd edifeiriol, yn yr un ystyr ag y mae Barnwr gwladol yn gweithredu yn enw y wladwriaeth; ac nid yn ei gymeriad dirgelaidd fel person unigol.

8. Fod yn hanfodol er dedwyddwch y gymdeithas i'r rhan leiaf wasanaethu y rhan fwyaf. Byddai aberthu dedwyddwch y rhan fwyaf er mwyn y rhan leiaf yn ddinystyr ar bob dedwyddwch, ac yn groes i bob trefn. Yr ydym oll yn deall hyn yn ei berthynas a phethau naturiol. Pe byddai i wladwriaeth aberthu ei rhyddid er boddio mympwy un gormeswr troseddai reolau dedwyddwch. Yn awr, Duw yw y rhan fwyaf a'r rhan oreu o fodolaeth, a rhaid iddo ofalu yn benaf am ei ogoniant ei hun, a byddai peidio gweuthur hyn yn drosedd ar reolau dedwyddwch bodolaeth. Y mae pob un a amcano yn gywir i ogoneddu y Pen—llywydd mawr yn sicr o fod yn ddedwydd; ond y mae bod dyn yn gwneuthur ei ddedwyddwch ei hun yn ddyben penaf ei amcanion, yn wrthryfel yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol. Crybwyllaf yn awr rai addysgiad—au oddiwrth yr uchod. Gwelwn


1. Rhagoroldeb y llywodraeth foesol. Nid yw yn rhwymo y creadur i wneuthur dim ond yr hyn sy'n tueddu i'w les ei hun, a dedwyddwch yr holl gymdeithas; ac nid yw yn gwahardd dim ond yr hyn sydd yn tueddu at ei anghysur ef, ac annedwyddwch bodolaeth yn gyffredinol. Gwelwn yn

2. Fawr ddrwg pechod. Y mae yn milwrio yn erbyn gwynfydedigrwydd personol dyn, ac ar yr un pryd yn erbyn bodolaeth yn gyffredinol. Bod yn gyfaill i bechod yw bod yn elyn i'r holl fydysawd.

3. Gwelwn y rheswm paham na allasai Duw faddeu pechod heb Iawn, fel y mae yn ein cymhell ni i'w wneuthur; o herwydd yn ol y chweched sylw y mae pechod yn taro yn erbyn Duw, nid fel person unigol, ond fel Llywydd bodolaeth ac amddiffynydd rheolau dedwyddwch y bydysawd. I egluro hyn gellir dweyd, fel y dengys Mathew Henry oddiar Salm li. 4, fod pechod Dafydd yn taro yn erbyn Bathsheba ac Urias, yn erbyn ei gorff a'i enaid ei hun, yn erbyn ei deulu, ei deyrnas, ac eglwys Dduw, ond nid yn erbyn neb fel yn erbyn Duw. Byddai maddeu pechod heb gyfaddas iawn mewn effaith yn ddadymchweliad o reolau dedwyddwch y gymdeithas, ac yn gwneuthur ei herthyglau yn fympwyol anwadal a dirym. Byddai cospi un ddoe am droseddu, a maddeu i arall heddyw am yr un trosedd, yn ddigon i ddinystrio unrhyw lywodraeth. Gallai barnwr gwladol faddeu pechod dirgelaidd yn ei erbyn ei hun yn bersonol, ond yn ei swydd fel gweinyddwr iawnder dros y wladwriaeth nid allai faddeu i ddrwgweithredwr heb ddirymu rheo'au dedwyddwch cymdeithas.

4. Ar ba egwyddorion y mae Duw yn gofyn iawn. Nis gall fod ar egwyddor cyfiawnder masnachol (commutative justice), oblegid yn 1. Nid yw pechod yn ddyled ond mewn ystyr gymhariaethol. Y mae yn fwy o natur gwrthryfel na dyled. Y mae dyledwr yn rhwymedig i'w echwynwyr fel person unigol, ac am hyny gellir maddeu iddo heb iawn. Ond peth yw trosedd yn erbyn cymdeithas yn gyffredinol; gan hyny, ni ellir gwneud iawn am dano ar egwyddorion masnachol, ond ar egwyddorion moesol. 2. Nid yw yr Ysgrythyr mewn un man yn darlunio yr etholedigion fel wedi eu prynu o law y Tad heb ganddo ddim i ddywedyd wrthynt, a'u rhoddi i fyny i Grist fel eiddo wedi talu llawn werth am danynt, ond yn hollol i'r gwrthwyneb—"A rhoddaf y cenedloedd yn etifeddiaeth i ti," Salm. ii. 8, "A thi a'u rhoddaist hwynt i mi," Ioan xvii. 6, 9, II, 12.

"Ac a'n prynaist ni i Dduw," nid oddiwrth Dduw, Dat. v. 9. Yn 3. Y mae yr etholedigion yn cael eu darlunio yn yr un cyflwr ag eraill hyd nes y credont, "Wrth naturiaeth yn blant digofaint megys eraill," Eph. ii. 3, yr hyn nis gall fod ar egwyddorion masnachol, o herwydd y mae y dyledwr mewn gwirionedd yn rhydd y funyd y talwyd ei ddyled, ac nid oes arno eisieu dim ond adnabyddiaeth o'r hyn a wnaed drosto. Y gwahaniaeth i gyd sydd yn ei deimlad ei hun.

Yr un peth yw yn llygad y gyfraith cyn cael adnabyddiaeth ac ar ol hyny. Gobeithiaf nad oes nemawr yn Nghymru a gofleidiant yr egwyddorion Antinomaidd sylfaenedig ar y golygiad masnachol am Iawn Crist. 4. Mae golygiadau masnachol ar Iawn Crist yn dadymchwelyd athrawiaeth maddeuant a chyfiawnhad drwy ras; o herwydd mae gan ddyledwr hawl gyfreithlawn i'w ryddid wedi i'r meichiau dalu ei ddyled; nid oes achos iddo ostwng pen na diolch i'w echwynwr am ei ryddid. Ond y mae hyn yn gwbl groes i rediad yr Ysgrythyr a phrofiad y Cristion, yr hwn sydd yn dyfod at orsedd trugaredd i ofyn maddeuant yn y modd gostyngeiddiaf fel erfynydd heb un hawl ganddo. Y mae y Dr. Priestley a'i frodyr bob amser yn darlunio Iawn Crist mewn ystyr fasnachol, ac yna dangosant fod yn anmhosibl cysoni hyn âg athrawiaeth rhad ras yn nghyfiawnhad pechadur, gan ofyn mewn dull buddugoliaethus, Pa le yr ymddengys gras a maddeuant yn rhyddhad y dyledwr wedi i'r meichiau dalu drosto yr hatling eithaf? Hawdd y gallont ofyn felly ar egwyddorion masnachol? Ond yr ydym yn hollol ddiarddel y fath egwyddorion; ac y mae yn ddrwg genyf fod neb o amddiffynwyr athrawiaeth yr Iawn yn rhoddi achlysur i neb i'w darlunio felly. Y mae yn amlwg hefyd mai nid yn ol egwyddorion cyfiawnder haeddianol y gwnaethpwyd iawn; oblegid rhoddi i bob un yn ol ei weithredoedd fuasai hyn. Diddadl na chafodd Crist yr hyn a haeddodd oblegid dyoddefodd y cyfiawn dros yr anghyfiawn; ac nid yn ol ei haeddiant chwaith y mae'r credadyn yn derbyn. Rhaid gan hyny, os na wnaethpwyd iawn yn ol egwyddorion masnachol, na haeddianol, ei fod wedi cael ei wneuthur yn ol egwyddorion cyfiawnder llywydd—ol, neu gyfiawnder cyhoeddus. Boddlonir cyfiawnder cyhoeddus os ca y fath iawn ag a wna y llywodraeth yr un mor anrhydeddus a'r gyfraith yr un mor rymus a phe gweinyddid cyfiawnder haeddedig ar y troseddwr. Eithr os bydd yr iawn o'r fath ag a ddygo fwy o anrhydedd i'r llywodraeth na gweinyddiad cyfiawnder haeddedig, y mae ysbryd a dyben gweinyddiad cyfiawnder haeddedig wedi cael eu perffaith ateb, a hyny yn fwy na phe y cosbid y troseddwr; ac ar yr un pryd gall trugaredd a gwirionedd ymgyfarfod yma, a chyfiawnder a heddwch gydymgusanu," Salm lxxxv. 10. Dyma drefn deilwng o anfeidrol ddoethineb. Gellir yn ol egwyddorion cyfiawnder cyhoeddus wneuthur iawn i'r gyfraith o ran yr ysbryd o honi heb gyflawni y llythyren, megys yn yr hanes am y deddfroddwr Seleucus, yr hwn a gydsyniodd i golli un o'i lygaid ei hun, er mwyn arbed un o lygaid ei fab, yr hwn, drwy droseddu y gyfraith, ydoedd yn agored i golli y ddau. Ni allasai hyn fod ar egwyddor cyfiawnder haeddianol, o herwydd ar—bedwyd un llygad ag a ddylasai yn ol haeddiant, gael ei dynu, a rhoddwyd un i'r Llywodraeth, nad allesid, yn ol haeddiant, ei ofyn. Y mae yr un mor amlwg mai nid ar egwyddorion masnachol yr oedd yr ymddygiad yma. Nid prynu a gwerthu ydoedd. Y mae yr enghraifft hon, cyn belled ag y mae yn myned, yn dderbyniad o natur cyfiawnder llywyddol. Ond y mae pob peth dynol yn rhy fyr i ddangos pethau Duw. Ar yr egwyddor hon cafwyd modd i arbed y troseddwr, a chyfiawnder a thrugaredd yn ymgyfarfod ar yr un weithred, a'r gyfraith wedi ei chadarnhau yn fwy na phe tynesid dau lygad y troseddwr; y trosedd yn ymddangos yn ei liw gwaethaf, a'r troseddwr yn cael ei osod dan y rhwymau mwyaf i garu ei lywydd, a'r holl ddeiliaid yn cael y cymhelliadau cryfaf i ufudd—dod. Ar yr un egwyddor y mae'r apostol Paul yn egluro natur a dyben iawn Crist. "Yr hwn a osododd Duw yn Iawn trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddyoddefgarwch Duw, i ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu," Rhuf. iii. 25, 26. Nid amcan yr Iawn oedd i rwymo Duw i achub rhyw nifer o ddynolryw. Byddai meddwl hyn yn annheilwng o Dduw, ffynonell hunangynhyrfiol achubiaeth pechaduriaid, Ioan iii. 16, 17. Amcan Iawn anfeidrol y groes oedd agor ffordd i Dduw i beidio a chosbi y gwrthryfelwyr, a'u dyrchafu i uchel fraint meibion Duw, heb agor drws i wrthryfel, a dadymchwelyd ei gyfreithiau, fel ag y byddai cyfiawnder a thrugaredd yn cydlewyrchu yn achubiaeth dynion. Yn Iawn gogoneddus Emmanuel mae y llywodraeth wedi ei chadarnhau yn fwy, a drwg pechod wedi ei ddangos yn eglurach, a chymhelliadau i ufudddod cryfach holl ddeiliaid llywodraeth y Goruchaf, na phe y buasai yn cosbi pob pechadur yn ol ei haeddiant personol. Ymddengys i mi mai ar y pegwn yma y mae y ddadl rhwng yr uwch-Galfiniaid a'r is-Galfiniaid yn troi, sef pa un ai ar egwyddorion masnachol ai egwyddorion llywyddol yr oedd Crist yn rhoi Iawn? Os ar egwyddorion masnachol, mae yn rhaid mai yr uchel-Galfiniaid sydd yn eu lle. Yn ol yr egwydd—orion hyny, mae yn rhaid fod neillduolrwydd yn natur yr Iawn yn ddigonol i ryw nifer yn unig. Ond o'r tu arall, os ar egwyddorion cyfiawnder llywyddol yr oedd Iesu Grist yn gwneuthur Iawn, y mae yn rhaid mai yr is-Galfiniaid sydd yn eu lle, ac mai yn y bwriad a'r cymhwysiad y mae'r neillduolrwydd, ac nid yn natur yr Iawn, ond bod yr Iawn ag sydd yn ddigonol ac yn gyfaddas i un, mor ddigonol a chyfaddas i'r holl fyd. Yr un peth ag sydd yn ei wneuthur yn addas ac yn ddigonol i un pechadur, sydd yn ei wneuthur yn addas ac yn ddigonol i bob pechadur, fel y dywed y bardd W. W.—

"Ni was'naethai Iawn oedd lai, Tros un pechadur, tros un bai."

Dysged pawb i fod yn gymedrol yn eu barn, gan chwilio beunydd yr Ysgrythyrau a yw y pethau hyn felly.

DIM OND TRI CHWRT YN Y MIL BLYNYDDOEDD.

Wrth bregethu unwaith ar y mil blynyddoedd, dywedai Mr. Williams, "Rhyw dri chwrt fydd yn y mil blynyddoedd—dim ond tri! Ië, y cyntaf fydd, "Dos ac argyhoedda ef rhyngot ti ag ef ei hun." Beth a wneir os methir yn hwn? Myn'd i'r ail—Galw dau neu dri o'r eglwys; ac os methir a chytuno yno, myn'd i'r trydydd, sef gerbron yr holl eglwys. Pa gwrt fydd wed'yn i apelio iddo? Ni bydd yr un ond hwn. O ddyddiau dedwydd, addoli y byddant bron o hyd yn y mil bynyddoedd. Byddant yn myn'd yn yroedd gyda'u gilydd i gadw cyfarfodydd gweddiau o'r naill ddinas i'r llall. Byddant yn myned oddiyma i Fangor a Pwllheli, ac felly bydd bywyd mewn addoli yn barhaus. Tarawant wrth ambell hen wr yn malu ceryg ar ochr y ffordd fawr, 'P'le yr ewch,' meddai yr hen wr, 'awn i Fangor i gadw cyfarfod gweddi,' ac ar hyn teifl yr hen wr y morthwyl o'i law a gwaedda, 'Arhoswch, ddo'i gyda chwi'—minau a äf hefyd."

"GAN DDECHREU YN JERUSALEM."

Yn mhentref Bersham, gerllaw i'r fan yr wyf yn byw, y mae tawdd-dŷ haiarn (foundry), lle y toddir ac y llunir cyflegrau. Ar ol eu toddi, gwneir prawf arnynt, yn gyntaf oll drwy roddi un ergyd ynddynt; ac os cariant hono, yna dodant ddwbl ergyd, ac os cariant hono heb ffrwydro, yna cyhoeddir hwynt yn gymhwys i'w dodi ar fwrdd llong rhyfel neu i faes y gwaed. Offeryn newydd ac anmhrofedig oedd yr efengyl. Rhaid oedd ei rhoddi dan brawf, ac yn mha le ar wyneb daear y ceid man cyfaddasach i wneud yr arbrawf cyntaf arni nag yn Jerusalem. Os profid yr efengyl yn offeryn effeithiol er troedigaeth pechaduriaid yn Jerusalem, nis gallai fod unrhyw amheuaeth yn ei chylch byth ar ol hyny. Pedr oedd y gwr ddewiswyd i wneud y prawf ar yr offeryn newydd. Efe a'i llwythodd ac a'i taniodd, ac argyhoeddwyd tair mil yr un dydd. Wedi'r fath arbrawf llwyddianus, aeth pysgotwyr Galilea allan i bob man gan bregethu'r Gair gyda phob hyfder, yn gwbl sicr na cheid yn unman ar y ddaear bechaduriaid caletach na'r rhai a labyddiasant ac a laddasant y prophwydi, ac a gyrhaeddasant eithaf bwynt euogrwydd drwy roddi Etifedd y nef ei hun i farwolaeth. Da y gallai apostol mawr y cenedloedd ddatgan ei barodrwydd i bregethu yr efengyl yn Rhufain hefyd, gan y gwyddai ei bod yn allu Duw er iachawdwriaeth i bob un a gredai. Nid oedd ganddo gywilydd o'r hyn a brofasai ei hunan yn allu mor fynych.

YN OL EICH FFYDD.

"Yn ol eich ffydd bydded i chwi." Yn ol maint a rhifedi y ffenestri mewn ty y bydd mesur y goleu a ddaw iddo. Yn ol maint y llestri a ollyngir i'r ffynon y bydd y dwfr a godir i'r lan.

FFURFIO CYMERIAD.

Mewn pregeth a draddododd yn y Bala, lle y dibynai y dosbarth tlotaf ar wau hosanau gofynai—Pa fodd y ffurfir cymeriad? Yn raddol iawn, onide? Yn gymhwys fel y bydd gwragedd y Bala yma yn gwau hosanau—un pwyth ar unwaith.

CARIAD: NAD YW PRIODOLEDDAU DWYFOL OND
GWAHANOL AGWEDDAU ARNO.

Duw cariad yw. Un darn o ddwfr yw y cefnfor mawr llydan; ond fel y mae yn golchi glanau gwledydd gwahanol y mae yn myned dan wahanol enwau. Nid yw y priodoleddau a'r perffeithderau sydd yn Nuw ond gwhanol agweddau ar yr un egwyddor, a hono yw cariad. Yr un egwyddor ag sydd yn adeiladu ysbytty sydd hefyd yn codi carchar.[35]

PENNOD XXII.

CYNGHORION A DYWEDIADAU NEILLDUOL.

Y CYNWYSIAD—CYNGHORION O EIDDO MR. WILLIAMS MEWN AMGYLCHIADAU NEILLDUOL, GAN YR HYBARCH R. PARRY (GWALCHMAI)—DYWEDIADAU O'I EIDDO, GAN PARCH. E. DAVIES (DERFEL GADARN)—TRI HANESYN AM DANO, GAN Y PARCH. Z. MATHER, ABERMAW.

CYNGHORION O EIDDO MR. WILLIAMS MEWN AMGYLCHIADAU NEILLDUOL, GAN YR HYBARCH GWALCHMAI.

Y MAE ei sylwadau, ei ymadroddion, a'i ymddygiadau, weithiau, ar amgylchiadau a ymddangosant ar ryw gyfrif yn ddibwys yn gystal mynegai am ei gymeriad â'r hyn a ddangosodd i'r byd mewn achosion cyhoeddus oedd yn tynu sylw pawb. Y mae amryw o'i ddywediadau ar gof a chadw gerbron y byd yn barod; a dichon fod llawer o addysgiadau pellach a ellir eu casglu oddiwrthynt megys, ei sylw ar

Y TRI CYTHRAUL.

Sef cythraul y canu, cythraul gosod eisteddleoedd, a chythraul dewis swyddogion eglwysig, y rhai nad yw ympryd a gweddi yn ddigon nerthol i'w bwrw allan. Bu raid i Mr. Williams ddyoddef hyd y galon oddiwrth yr olaf o'r cythreuliaid hyn. Yr oedd bwriad yr eglwys lle y llywyddai unwaith am ethol chwech o ddiaconiaid, yn ychwanegol at y rhai oedd yn y swydd yn barod. I'r dyben o roddi cyfeiriad i feddwl yr eglwys, ac i ragachub yr aelodau rhag rhedeg allan o derfynau priodoldeb yn eu dewisiad; a phenodi ar rai heb un math o gymhwysder at y swydd, nododd ddeuddeg o bersonau, ac erfyniodd ar y bobl ddethol y chwech a farnent deilyngaf o honynt, ac mai y rhai y byddai y nifer mwyaf yn pleidleisio drostynt a ddewisid. Felly fu, a'r canlyniad annedwydd ydoedd i'r chwech a adawyd yn y lleiafrif droi allan yn ddynion chwerw iddo ef, heb ei arbed â'r cableddau bryntaf. Dywedai un o honynt y goddefai ef y peth, ar yr amod fod i benderfyniad gael ei ysgrifenu yn llyfr yr eglwys, na byddai i'r fath etholiad gael ei ddwyn yn mlaen yn yr eglwys hono byth mwy; a'i atebiad ef iddo ydoedd, "O! ai cymaint a hynyna wyt ti yn ei ddeall o Annibyniaeth eglwysig eto?" Ai tybed na bydd gan y bobl a fydd yma yn mhen pymtheng mlynedd eto cystal cymhwysder a hawl i farnu drostynt eu hunain? Yr oedd yn alarus wrth feddwl iddo ef gael archolli ei deimlad, lle nad oedd un math o achos am hyny.

Yr oedd yn deall llawer am y natur ddynol, ond nid oedd wedi rhagweled digon i eithafion dichellion dynion cnawdol. Os nad oedd efe wedi tremio yn ddigon trwyadl i ragachub niwed trwy gyfrwysdra dynion hunanol y tro hwn, gallwn weled mor ragolygus ydoedd mewn amgylchiad arall, ac yn ei fedr i ddwyn byrbwylldra dynion da i'w le, pan yn

GWEDDIO DROS SIAC WRTH EI DDIARDDEL.

Yr oedd dyn yn ei eglwys unwaith fel aelod, ac yr oedd yr holl swyddogion yn unol am ei ddiarddel, pan yr oedd Mr. Williams yn barnu y buasai rhoddi cerydd llym iddo yn ateb holl ddybenion dysgyblaeth. Nid oedd y dyn yn un o feddwl cyflym, gwyddai pawb fod graddau o wendid yn perthyn iddo. Pa fodd bynag, yr oedd ef rywfodd wedi ymwthio yn lled ddwfn i serchiadau Mr. Williams. Yr oedd ei ffyddlondeb yn ol ei allu yn ddiarhebol; yr oedd ei holl hyfrydwch mewn gweini ar Mr. Williams, a gofalai am nol a danfon ei farch gyda dyfalwch mawr. Ond daeth dydd ei brawf o amgylch yn fuan, ac yr oedd yr holl frawdoliaeth yn benderfynol am ei ddiarddel. Ni wrthwynebodd efe ddim y penderfyniad, ond dywedodd, "Feallai y byddai yn well i ni fyned i weddi drosto cyn iddo fyned allan. "Ie, ïe," ebai pawb, ac felly fu, a gweddi ryfedd ydoedd, yn rhedeg yn y dull canlynol:—"Wel, Arglwydd mawr, dyma ni yn myned i ddiarddel Siac; yr ydym yn credu fod gan Siac, druan, enaid i'w gadw neu ei golli byth; gwelsom ef a'i ddagrau ar ei ruddiau yn troi ei wyneb am dŷ yr ymgeledd; gwelsom ef mewn galar edifeiriol, yn nesâu'n grynedig at fwrdd y cymundeb, buom yn estyn deheu-ddwylaw cymdeithas iddo mewn teimlad gobeithiol am dano, ond dyma ni heno yn myned i'w daflu allan o'r cysegr i'r ffordd fawr. Cangen heb ddwyn ffrwyth a dorir ymaith, ac a deflir yn tân. Llawer cangen a daflwyd allan ar y llwybr cyhoeddus nos Sabbath, ac fe ddeuai rhyw hen wraig foreu dydd Llun, ac a'i codai, ac a'i taflai yn tân. Arglwydd mawr, paid a gadael i ryw gythraul ddyfod heibio a chodi Siac, druan, a'i daflu yn tân, wedi i ni ei fwrw allan," &c. Erbyn hyn, yr oedd yr holl gynulleidfa yn foddfa o ddagrau, ac yn nghanol ocheneidiau a galar, anghofiwyd y cyfan, ac ni soniwyd am ddiarddel Siac. Dyma eglurhad neillduol o ddylanwad ei ysbryd cariadlawn, a'i ddoethineb i arwain cymdeithas i'r iawn.

Yr oedd ei ofal yn arbenig am adael rhyw argraffiadau teilwng ar ei ol, pa le bynag yr elai, fel y gwelir oddiwrth yr hanesyn am

Y FORWYN A'R PREN AFALAU.

Adroddir yr hanesyn canlynol am ei ymweliad â chyfeillion o amaethwyr yn Sir Ddinbych. Ar adeg neillduol y boreu, wedi y noswaith y lletyai yno, gofynai i'r forwyn, "Wel, Mary, a fyddwch chwi yn meddwl rhywbeth am grefydd, am eich enaid, am y Gwaredwr, yn y dyddiau hyn?" "Na fyddaf yn wir, Syr, yn awr," oedd yr atebiad. Gofynai eilwaith, "A fuoch chwi erioed yn meddwl dim am bethau felly?" "O! do, yn wir Syr, lawer gwaith, ond y mae pob peth felly wedi eu colli yn llwyr erbyn hyn." Yr oedd ffenestr wynebol y ty yn lled agored. "Wel, Mary, meddai ef, "A welwch chwi y pren afalau yna sydd allan ger eich bron yn ei flodeu tlysion a gobeithiol." "Gwelaf," ebai hithau. "Wel, pe yr elech chwi yna, ac ysgwyd y pren nes y cwympai y dail, ni ddeuai yna ddim ffrwyth; yr wyf yn ofni mai ysgwyd y teimladau ymaith a wnaethoch chwithau. Os byth y teimlwch y fath argraffiadau eto, gochelwch rhag eu hysgwyd ymaith, ond magwch a meithrinwch hwy." Yna yr oedd yr ymwelydd yn myned ymaith i'w ffordd. Yn fuan wedi hyny, sylwai ei meistres ar yr eneth yn sychu ei dagrau yn ddystaw, a gofynai iddi, "Beth sydd arnoch chwi, Mary, ai nid ydych yn gwbl iach?" "O! ydwyf fi yn gwbl iach, meistres." "Wel, y mae rhyw ddwysder neillduol arnoch ynte. Dywedwch ar unwaith beth yw y mater?" "Wel, a dweyd y gwir i chwi, meistres, gair a ddywedodd Mr. Williams wrthyf cyn ymadael y boreu heddyw sydd wedi glynu ar fy meddwl, drwy fy nghynghori i ofalu rhag lladd unrhyw deimlad crefyddol a allai ddyfod ar fy meddwl, a minau wedi lladd miloedd o honynt." "Wel, Mary fach," meddai y feistres, "penderfynwch ar unwaith, yn gwbl oll, yn achos eich enaid a'ch Gwaredwr." Ac felly fu, rhoddodd yr eneth brawf o wir ddychweliad mewn bywyd hollol gyflwynedig i anrhydedd crefydd Iesu Grist, a'i chysur tymhorol ei hunan dros ei hoes.

Amgylchiad tra hynod yn ei fywyd oedd y pryd yr amlygodd ei syniadau a'i deimladau wrth nifer o'i

FRODYR YN Y WEINIDOGAETH UNWAITH YN NHREF DINBYCH.

Yr oedd hyn amser adagoriad y Capel Cynulleidfaol yno. Nid oedd efe yn ddigon iach ar y pryd i ddyfod i'r addoliad er nad oedd wedi myned i afael nychdod mawr. Yr oedd yn lletya yn nhy boneddiges garedig yno, ac yr oedd mewn ystafell eang a chynes. Yr oedd wedi amlygu dymuniad am gael gweled yr holl weinidogion yno cyn ymadael o honynt o'r dref; a phenodwyd ar awr neillduol boreu dranoeth ar ol y cyfarfod; a chynullodd y brodyr oll yn brydlawn, yn ol ei ddymuniad. Eisteddai wrth y tân, â gwrthban am ei war. Er ei fod yn ymddangos yn hynod o siriol, eto gallesid yn hawdd ganfod arwyddion fod afiechyd wedi gafael yn ei natur. Yr oedd cyhyrau ei wyneb wedi ymollwng i raddau; safai ei drwyn, yr hwn a ymddangosai yn rhy Rufeinig, yn rhy amlwg rhwng ei ruddiau; yr oedd ei wefusau fel pe buasent yn lled grynu weithiau, ac yr oedd ei wedd ar y cyfan yn lled welw; ond yr oedd ei lygaid yn fflam, a'i lais yn glir, a'i yni yn lled hoyw, er pob peth. Yr oedd yn hawdd deall fod ei enaid yn orlawn o feddyliau, ac fel pe buasai yn llawenhau wrth feddwl am gael cyfle i gyfeillachu a'i frodyr, cyn iddynt ymadael bawb i'w daith. Wedi i bawb gymeryd eu lle yn rhes o'i amgylch, dechreuodd fynegu mor dda oedd ganddo eu gweled; ac os byddai ganddo unrhyw gynghor caredig a allai roddi iddynt, y byddai yn barod i'w roddi, yn gystal a gwrando arnynt hwythau yn eu tro yn adrodd eu golygiadau. Dechreuodd trwy awgrymu fel y dylasai fod teimladau y frawdoliaeth oll yn cysgodi fel tarian, y naill dros y llall, fel y dywedai yr apostol, "y gofal sydd arnaf dros yr holl eglwysi." Y mae cynal teimladau da, yn ofn Duw, yn werthfawr mewn cymdeithas fel hon. Yr oeddwn yn meddwl y cymerwn fy rhyddid i gyfeirio gair at amgylchiad neu ddau. Yr oedd dadleu lled chwerw yn nghylch dirwest yn y wasg ar y pryd. "Dyna y symudiad newydd am sobrwydd sydd yn y wlad yn awr," meddai ef, "ni ddywedais i air erioed yn erbyn dadl deg ar y pwnc, gan nad pa mor benderfynol y byddai pob ochr; ond byddai yn dda iawn genyf pe gellid dangos mwy o foneddigeiddrwydd ar bob llaw, a gochel pob ymosodiad personol, yr hyn nad yw yn ateb nemawr ddyben heblaw chwerwi teimladau mewn cymdeithas, a magu cynhenau mewn gwlad." Ni enwodd neb wrth wneud ei nodiadau, ond gwyddid yn lled dda at ba bwynt yr oedd cyfeiriad y saethau. Yr oedd yn awyddus i gyfeirio gair at amgylchiad arall hefyd. Yr oedd un o'r gweinidogion wedi trechu holl helwyr cedyrn y wlad fel saethydd gyda y dryll ar y maes. Ni allai ef oddef cysylltu y fath enwogrwydd mewn un modd âg urddas y weinidogaeth. Bu yn ddigon gochelgar rhag cyfeirio at enw neb, ond datganodd yn groew pa mor ddedwydd y teimlasai, ond i'r awgrymiadau hyn gael derbyniad caredig. Tystiai yn ddifrifol nad oedd ganddo un amcan wrth wneud y sylwadau mewn golwg, ond anrhydedd y frawdoliaeth a lles yr achos. "Yr wyf wedi bod fel arweinydd gyda chwi lawer gwaith," meddai yn wylaidd, "Ac y mae gan y cadfridogion, fel y gwyddoch, eu cynrychiolwyr ar y maes yn gwylio ysgogiadau y byddinoedd, ac yn cludo pob hanes iddynt. Felly yr wyf finau wedi bod er dechreu y cyfarfod yma; yr wyf wedi cael pob boddlonrwydd am eich cenadwri, ac yn dawel hollol i adael yr achos mawr yn eich dwylaw. Pe buasai genyf ddifrifoldeb yr apostol, buaswn yn dueddol i roddi cynghor caredig i chwi, yn enwedig pan y dywedai, "Yr ydwyf fi, gan hyny, yn eich gorchymyn ger bron Duw a'r Arglwydd Iesu Grist, a'r etholedig angylion, yr hwn a farna y byw a'r meirw yn ei ymddangosiad o'i deyrnas, ar i chwi gyflawni eich gweinidogaeth modd y byddoch yn lân oddiwrth waed pawb oll, pregethwch y gair, byddwch daer mewn amser ac allan o amser, argyhoeddwch, ceryddwch, anogwch gyda phob hirymaros ac athrawiaeth." Dechreuai edrych yn llym iawn, a thremiai ar a thrwy y brodyr oll; yr oeddynt fel pe buasent yn ei ofni, ac yn ei garu ar yr un pryd. "Na chymerwch yn angharedig ynof," meddai, "am wneud fy hun yn lled rydd gyda chwi am dro fel hyn. Yr oeddwn yn meddwl am gyfarfod tebyg i hwn, yn enwedig mewn tref boblog a chyhoeddus fel hon, lle mae lluaws yn dyfod i wrando arnom, na ddeuant ond ar amgylchiad fel hyn. Bob tro y deloch ar y fath achlysur gofalwch am ddyfod yn eich dillad Sabbathol, y pregethau goreu, a'r cyfansoddiad mwyaf trwyadl, a'r testynau mwyaf detholedig a chymhwys y rhai a fyddo oreu ar eich cof, eich tafod, a'ch ysbryd. Y mae nifer mawr yn dyfod i wrando arnoch o gywreingarwch, ac yn ffurfio eu barn am yr enwad wrth eich gwrando. Ni fynwn i chwi fod yn ol i neb am eich prydferthwch allanol, mewn iaith na thraddodiad. Pwy a ŵyr pa argraff a ellwch ei wneud ar ddosbarth fel hyn o wrandawyr. Ond o drugaredd, y mae genych lawer yn dyfod i'ch gwrando o barch at grefydd, ac o serch at yr efengyl. Bydded eich holl enaid yn y gwaith. Deuwch i'r cyfarfod wedi ymgyfamodi ar ben deulin a'ch Meistr mawr, i ymdrechu gadael rhyw argraff teilwng ar eich ol; mynwch gymeryd y dref—take the city by storm. Y mae yn ddiau genyf, ond i chwi gael eich dwyn i'r agwedd a'r ysbryd hwn, na adewir mo honoch yn unig, ond y cewch eich gwisgo â nerth o'r uchelder, ac y bydd udgorn bloedd brenin yn eich plith. Yr oedd yr apostol—ion yn rhoddi gliniau i lawr i weddio cyn ymaflyd mewn pob gorchest fawr, ac yr oedd Duw hefyd yn cyd—dystiolaethu trwy arwyddion a rhyfeddodau, ac amryw nerthoedd a doniau yn Ysbryd Glan, yn ol ei ewyllys ei hun." Teimlai pob un wrth ymadael fel pe buasai wedi bod yn bur agos i Fynydd y Gweddnewidiad, ac nid yn fuan y dileir yr argraffiadau oddiar feddwl yr ychydig weddill sydd wedi eu gadael yn fyw hyd heddyw oedd yno.

DYWEDIADAU O EIDDO MR. WILLIAMS, GAN Y PARCH.
E. DAVIES (DERFEL GADARN.)

Gallesid meddwl wrth wrando ar Mr. Williams yn traethu, na byddai wedi astudio un llwybr i fyned yn mlaen, ond ei fod yn ymddibynu yn gwbl ar yr hwyl a gaffai ar y pryd; ond wrth ei ddilyn yr oedd yn eglur ei fod wedi rhagdrefnu ei fater gyda'r medrusrwydd a'r gofal mwyaf. Y mae yn gofus genyf am dano unwaith yn cadw cyfarfod yn Mhwllheli yn nglŷn â chymdeithas y Beiblau. Rhyw ddydd hynod oedd y dydd hwnw; yr oedd pedwar o brif bregethwyr Cymru wedi eu gwahodd i'r cyfarfod. Yr oedd Mr. Williams i areithio yn nghapel Penlan, a chan fod yno ormod o bobl i'r capel allu eu cynwys, aeth ef a safodd yn y ffenestr, ac yr oedd yn edrych o'i gwmpas mor ddigyffro a difeddwl, fel y gallesid tybio na wyddai yn y byd pa beth i'w ddywedyd; ond o'r diwedd, cyn dywedyd dim, edrychodd at ei draed ar waelod y ffenestr, a chanfu yno Destament, ymaflodd ynddo a chododd ef i fyny, a dywedodd, "Byddwn yn arfer edrych tu fewn i'r llyfr hwn am destynau i'n hareithiau, ond y mae yma destun oddiallan i hwn a wna y tro yma heddyw," yna darllenodd y geiriau tuallan—

BRITISH AND FOREIGN BIBLE SOCIETY—
BEIBL GYMDEITHAS FRUTANAIDD A THRAMOR.

Traethodd am fawr werth cymdeithas, ac nad oedd dim braidd yn ormod i gymdeithas allu ei gyflawni. Cymdeithas o fân ronynau yw y ddaear, y goleuni, a'r dwfr. Sylwodd ar ddisgyniad y dwfr yn ronynau mân oddiwrth bigau y brwyn yn y mynyddoedd; a phe y buasai rhywun yn gofyn iddynt, "I ba le yr ydych yn myned? Yr ateb a gawsid eu bod yn myned i nofio llongau. Pa fodd, trwy ymuno a'u gilydd yn gymdeithas; ac erbyn hyn, y maent yn fôr, ac felly yn alluog i nofio llongau. Pe byddai eisiau symud rhyw wrthddrych mawr, a holl wŷr cryfion y wlad yn myned at y gorchwy! bob yn un ar wahan, ni allent byth gyflawni y gwaith; ond gadewch iddynt fyned gyda'u gilydd, cyflawnant y gwaith yn rhwydd. Nid yw y gymdeithas hon yn adnabod plaid na pherson mwy na'u gilydd, ac nid yw yn meddwl gorphwys tra byddo un heb Feibl. Meddyliodd rhyw uchel-Eglwyswyr unwaith nad oedd yn weddus cymeryd dim gan Undodiaid, a rhyw deulu felly at Gymdeithas y Beiblau; ac y mae yn debygol pe cawsent eu pwrpas y buasent yn cau eraill allan bob yn dipyn, ac felly yn dinystrio amcan y Gymdeithas, ond rhoddodd Mr. Rowland Hill derfyn ar hyn mewn byr eiriau drwy ddywedyd yn Exeter Hall, nad oedd waeth ganddo ef gan bwy y caffai Feibl, y cymerai ef Feibl pe buasai y cythraul yn ei gario iddo â gefail dân.

Yr oedd Mr. Williams, a chyfaill enwog iddo unwaith ar daith yn y Deheudir, ac yn cyd-bregethu yn aml, ond byddent weithiau yn gorfod ymwahanu, yn enwedig ar y Sabbathau; ond pa le bynag y byddai Mr. Williams, yno y cyrchai corff y bobl. Gofynodd ei gyfaill iddo unwaith, "Paham y mae hyn yn bod? oblegyd gallwn feddwl fod genyf fi gystal pregethau a chwithau." "Ho," meddai, yntau, "Gallai fod eich pregeth chwi yn well na'r eiddo fi, ac nid hyny yw yr achos. Yr ydych chwi yn myned a'ch gwrandawyr i

YSTAFELL YN LLAWN O DDARLUNIAU PRYDFERTH,

ac yn dangos yr oll iddynt ar unwaith, byddaf finau yn ymaflyd yn handle y drws ac yn dweyd fod genyf ddarlun prydferth iawn oddifewn, ac yn ymdrechu cynyrchu awydd yn y bobl am ei weled, yna byddaf yn agor y drws, ac yn dywedyd, dyma fo, edrychwch arno; felly byddant yn gweled un genyf fi, a byddant yn gweled llawer genych chwi, ond heb weled dim un mwy na'i gilydd." Dywedai Mr. Williams unwaith, "Yr wyf yn cofio clywed un hen frawd yn cwyno mewn cynadledd, ac yn dywedyd ei fod yn ofni nad ydoedd ef ddim wedi cael ei anfon i bregethu, a hyny oblegid nad oedd ganddo ddim llawer o

DDEFNYDDIAU PREGETHAU

o'i eiddo ei hun, ond rhyw bethau a gaffai wrth ddarllen o eiddo rhywrai eraill. "Wel, frawd," meddai Mr. Williams, "Yr wyf yn cofio am hen wreigan dlawd yn fy hen gymydogaeth, a fyddai yn myned oddiamgylch bob dechreu haf i gasglu ychydig wlan, a byddai yn cael ychydig gan hon a'r llall, ac ambell dusw yn y perthi, a byddai yn rhoddi y cwbl yn yr ysgrepan gyda'u gilydd, yna dygai ef adref, a thriniai ef gan ei gribo a'i nyddu, a myned âg ef i dŷ y gwehydd, ac oddiyno i'r Pandy; a byddai rhywun yn ei wneud yn ddillad iddi; ac edrychai yr hen wreigan mor gryno ac mor glyd, a phe buasai y gwlan wedi tyfu i gyd ar gefn ei defaid ei hun, er na feddai lwdn dafad ar ei helw, felly chwithau, na ofelwch gymaint pa le y caffoch ddefnydd eich pregethau, ac ond i chwi drin y cyfryw ddefnyddiau fel yr hen wraig gyda'r gwlan, bydd y cwbl yn eiddo i chwi eich hunan.

Y WESLEYAID YN LAMP YCHWANEGOL YN Y LOBBY.

Ystyriai Mr. Williams, mai mewn tywyllwch anwybodaeth, a diffyg cydnabyddiaeth â'n gilydd, y megir rhagfarn bob amser. "Yr oeddwn," meddai, "tua Llanfachreth a Thrawsfynydd acw, yn meddwl pan ddaeth y Wesleyaid gyntaf i'r wlad, eu bod yn ddynion mor ryfedd a phe y buasai cyrn ar eu penau, ac y dylesid ymgadw oddiwrthynt, fel pe buasent yn wahanglwyfus, ond erbyn edrych, nid oedd y cwbl ond dychymyg gwag a disail, ac nid oeddynt hwythau ond lamp ychwanegol yn y lobby. Gwnaethant lawer o les, a phe y codai rhyw enwad newydd o Gristionogion eto byddai hyny yn sicr o gynyrchu daioni. [36]"

Y MAWR YN GALLU BOD YN OSTYNGEDIG.

GAN Y PARCH. Z. MATHER, ABERMAW. Dyma ni mewn dychymyg er's mwy na haner can' mlynedd yn ol, ar hwyr prydnawn dydd hyfryd yn nechren mis Mehefin, yn sefyll o flaen amaethdy henafol o'r enw Dolymynach, yn nghwr dyffryn prydferth yn un o siroedd y Gogledd. Nid ydyw yr adeilad yn wych ei ymddangosiad, ond y mae yn gadarn, fel y prawf ei furiau trwchus o feini mawrion. O'i flaen, o fewn tua phymtheg llath i'w gilydd, mae dwy dderwen gadarn gauad—frig, y rhai ydynt wedi ei gysgodi rhag gwres yr haf ac ystormydd y gauaf am dymhorau lawer. Yma dysgir i blant dynion eu rhwymedigaeth i adeiladu tai, a phlanu coed i'r oesoedd a ddeuant. Onid ydyw adeiladu yn ysgafn ac addurniadol, a phlanu coed ffawydd, yn dangos gwanc anniwall dynion am gael holl fwynderau y byd iddynt eu hunain. Nid ydym yn cael bod yma ond ychydig funydau, cyn i ni glywed llais i ni glywed llais y feistres yn dweyd wrth y forwyn, "Gwna frys i roi bwyd i'r moch, Mari bach, maent yn gwaeddi er's meityn."

"Af 'rwan, meistres," meddai; ac ymaith â hi mewn brys, fel y prawf clinc ei chlocs ar y palmant; ac mewn moment, dyma yr oernadau mochyddawl wedi troi yn rhyntiau boddhaus. Y fath ddylanwad llonyddawl sydd gan ymborth yn nghylla pob creadur... Gyda hyn, clywir trwst y llestri godro, a gwelir y gwartheg o un i un yn dyfod i'r buarth, a Mari y forwyn, Ned yr hogyn, a Dafydd y cowman yn llawen a dedwydd yn myned at y gorchwyl o odro. Clywch chwi Ned yn myned o'i hwyl, gan waeddi, "Bydd llonydd di, Cochen, pwy ddewin al d'odro di?" Ond mae Mari yn ysgafn ei chalon yn canu yn ddedwydd wrth odro Brithen, a hithau, dan gnoi ei chil, yn rhoddi ei llaeth mor dirion a thiriondeb. Mae yn mysg gwartheg, fel yn mysg dynion, rai yn gwasanaethu eu cenedlaeth yn fwy didwrw a rhadlawn o lawer nag eraill. Dyma y gorchwyl hwn eto drosodd y llaeth wedi ei hidlo, a'r gwartheg yn dechreu meddwl am barotoi i dalu eu teyrnged laethawl y boreu dilynol. Yr ydym yn teimlo fod gofalon a thrafferthion amaethdy yn lleng; ond eto, os ceir deupen llinyn amgylchiadau at eu gilydd i'w hwylus glymu, mae yn sicr o fod ar y cyfan yn fywyd pur ddedwydd, bywyd iach ac agos i drefn natur. Gyda golwg ar ei drafferthion, pa beth geir yn y byd yma o werth heb drafferth? Ac i'r hwn sydd a'i galon yn ei waith, oni ellir dweyd mai yn nhrafferthion ei waith mae yn cael ei fwynhad uwchaf.

Heb ymdroi yn hwy gyda'r anifeiliaid, gadewch i ni fyned i'r ty. Cyn i ni eistedd i lawr, tynir ein sylw gan y dodrefn henafol a chryfion. O flaen y ffenestr mae hen fwrdd braf a chryf, oddiar yr hwn mae gweision a morwynion, am genedlaethau rai, wedi bod yn cyfranogi o iachusfwyd y wlad. Tynwyd ein sylw mewn cwr arall gan hen gwpwrdd press o riddyn derw, ac wedi ei gerfio arno gan law-gelfydd y flwyddyn 1696, yr hwn sydd wedi bod yn dra gwasanaethgar i gadw dillad brethyn cartref teulu am dymhor hir. Ac i'r ystyriol a'r meddylgar, mae yr hen gwpwrdd press yn ei iaith, yn llefaru yn effeithiol, ond rhaid gadael yr hen ddodrefn i ddyfod at y teulu. Mae y teulu presenol yn gynwysedig o hen wr o'r enw Rolant Dafydd, wedi gadael ei bedwar ugain, ei wallt gan wyned a'r eira, a chwareugarwch plentyn ar ei wedd; ei fab Evan, a'i hawddgar a gofalus wraig Martha, a saith o blant, pump o fechgyn, a dwy o enethod, y rhai oll, fel y dengys eu bochau cochion, ydynt gan iached a iechyd, mor chwareus a'r oen, ac mor llawen a'r gog. Mae yr hen wr yn eistedd yn ei gadair ddwy fraich wrth ochr y tân, a'r Hen Feibl mawr yn agored wrth ei benelin ar y pentan, lle y gosododd ef tra bydd yr hyn ddarllenodd yn myned trwy felin myfyrdod. Tra y myfyriai fel hyn, dyma ei hen gyfaill Lewis Llwyd, yr Hendre, sef y fferm nesaf, yn dyfod i mewn, yr hwn a ddywedai wrth ddyfod yn mlaen, "Nid ydyw o un gwahaniaeth pa bryd y deuaf yma, Rolant Dafydd, yr ydych chwi yn sicr o fod gyda'ch Beibl, mae yn rhaid eich bod yn cael hyfrydwch mawr ynddo." "Ydwyf, Lewis Llwyd anwyl," meddai yntau, "Yr wyf yn cael yr hyfrydwch penaf yn a thrwy hwn; yr oeddwn yn darllen cyn i chwi dd'od i mewn, y geiriau hyny, "Canys ni a wyddom, os ein daearol dŷ o'r babell hon a ddatodir fod i ni adeilad gan Dduw, sef ty nid o waith llaw, tragwyddol yn y nefoedd. Canys am hyny yr ydym yn ocheneidio, gan ddeisyfu cael ein harwisgo â'n ty sydd o'r nef, os hefyd wedi ein gwisgo, nid yn noethion y'n ceir." "Wel, yn wir," meddai Lewis Llwyd, "Os oes neb yn meddu y sicrwydd bendigedig yna, yr ydych chwi yn ei feddu Rolant Dafydd." "Os nad wyf yn twyllo fy hun yn fawr," meddai yntau, "yr wyf yn meddwl fy mod yn ei feddu er's llawer blwyddyn bellach, ond eto, nis gallaf ddweyd fy mod yn berffaith foddlawn i'r daearol dŷ gael ei dynu i lawr. Fel y gwyddoch, rhoddwyd ar ddeall i ni beth amser yn ol, fod y meistr tir yn rhyw feddwl am chwalu yr hen dŷ yma, a chyfodi un newydd yn ei le, ac nis gallwch ddychmygu mor rhyfedd y teimlais. Rhedodd fy meddwl yn ol at yr amser pan yr oeddym yn chwech o blant ar yr aelwyd yma yn ddedwydd gyda'n gilydd. Meddyliais fod fy nhad a fy nhaid wedi eu geni yma, ac wedi eu hebrwng i'r fynwent yna, a theimlais fod yr hen dŷ mor gysegredig i mi ag oedd y deml i genedl Israel gynt, ac nis gallwn am foment oddef y syniad o'i chwalu, a dywedais, Os oes ty newydd i fod, o na ellid ei adeiladu am yr hen dŷ rywfodd. Ac O, mor ddedwydd y teimlais pan y deallais fod yr hen dŷ i gael ei adael fel y mae am beth amser eto. Wel, rhywbeth yn debyg ydyw fy nheimlad gyda golwg ar y daearol dŷ yma, fel yr apostol, Lewis Llwyd, rhyw ddymuniad am gael fy arwisgo." "Yr wyf yn teimlo yr un modd a chwi yn gymhwys," meddai Lewis Llwyd, "Ac yn wir, yr wyf yn meddwl fod yn anmhosibl i neb hoffi y diosg yma welwch chwi, Rolant Dafydd." "Wel, mae yn rhaid i minau gychwyn tua chartref bellach, er mor felus ydyw yr ymddyddan, oblegid bydd yn bryd swper yn union, a dyma y plant yn dyfod i mewn wedi bod yn chwareu yn ddedwydd druain. Beidiwch chwi a chael pobl ddyeithr, d'wedwch?" "Pa'm, beth sydd yn peri i chwi feddwl Lewis Llwyd?" gofynai Martha Davies. "Gweled yr hen gath ddu yn ymolchi ei goreu yr ydwyf fi," meddai yntau. Gydag iddo gychwyn tua chartref, dyma y plant ieuengaf yn dechreu gwaeddi am eu swper.

"Gan ein bod ni ychydig yn brysur heno,' meddai y wraig wrth y forwyn, "dyro y crochan uwd ar lawr iddyn' nhw gael eu swper i fyn'd i'w gwelyau oddiar y ffordd." A dyna hwy mor brysur o gylch y crochan a nifer o berchyll. Iechyd i'w calonau, dyma y ffordd i gael cyfansoddiadau cryfion, bochau cochion, a meddyliau bywiog. Dyma Mot y ci yn rhoddi cyfarthiad yn sydyn. "Yr wyf yn meddwl," meddai y wraig, "fod yna rywun wrth y drws; 'dos i edrych pwy sydd yna Mari." Wedi i'r forwyn agor y drws, deallodd nad oedd yno neb llai enwog na'r anfarwol Williams o'r Wern, a gwaeddodd, "Mr. Williams y Wern, Meistres." Gyda hyny rhedodd y wraig i'w gyfarfod wedi cyffroi yn ddirfawr, a dywedodd, "O Mr. Williams anwyl, mae yn ddrwg gen i, i chwi ddyfod i le mor annhrefnus, a'r plant yn bwyta uwd o'r crochan fel yma. Ni fyddwn yn gwneud fel hyn bob amser, ond ein bod wedi ei roddi yn y ffordd rwyddaf heno, o herwydd ein bod ychydig yn brysur." Gwelodd y pregethwr mawr ac athrylithgar mewn moment fod ei ddyfodiad annysgwyliadwy wedi llanw y lle â chyffro; mae y forwyn wedi dianc o'r golwg; Ned yr hogyn yn llechu yn nghongl y tân, ac yn edrych gyda chil ei lygad, a'r wraig druan yn methu gwybod pa beth i'w ddywedyd na'i wneud. Yn y cyffro mae y plant yn dal y llwyau i fyny yn eu dwylaw, ac yn sylldremu yn ngwyneb y gwr dyeithr. Ond profodd Mr. Williams ei hun i fyny â'r achlysur. Edrychai yn foddhaus ar y plant, a dywedai, "Wel, mae yn dda genyf eu gweled, rhoddwch i mi fenthyg llwy. "Beth wnewch chwi â llwy Mr. Williams?" gofynai y wraig yn synedig. "Rhoddwch chwi fenthyg llwy," meddai yntau drachefn, ac o'r diwedd caniataodd y wraig iddo ei ddymuniad, a chyda hyny dyma ef ar ei liniau yn nghanol y plant yn ddedwydd yn bwyta uwd o'r crochan gyda hwy. Torodd y wraig allan i chwerthin yn galonog gan ollwng ei hun i'r gadair oedd gerllaw. Wedi chwerthin allan ei holl drallod, dywedai, "Wel, yr ydach chwi yn un rhyfedd Mr. Williams." Fel hyn, llwyddodd y gwr enwog hwn, nid yn unig i dawelu y cyffro a achlysurodd, ond troes y cyffro yn ddigrifwch a mwynhad i'r teulu oll, ac yn yr amgylchiad daw mawredd y pregethwr i'r golwg mewn modd amlwg. Pwy na wel ei fawredd yn mhlygiad hwylus ei liniau a'i fwynhad wrth gyfranogi o gynwysiad y crochan gyda'r plant. Yr oedd rhaid cael dyn mawr i wneud hyn, ac nid ydym yn rhyfeddu y byddai y gwr allai fyned ar ei liniau wrth y crochan uwd yn gallu swyno y miloedd oddiar esgynlawr y gymanfa. Dangosodd ei hun yn fawr wrth wneud ei hun yn blentyn. Un o'r profion amlycaf o wir fawredd ydyw gostyngeiddrwydd, ac y mae graddau y naill yn cyfateb i raddau y llall. Mae y dyn balch a hunanol i'r gwrthwyneb, yn edrych arno ei hun yn dalach na phawb, oblegid nid ydyw un amser yn dyrchafu ei lygaid. Nid oes angen i mi ddweyd, debygwyf, mai yn ffugyrol yr wyf yn golygu hyn. Ond dylid cofio mai nid am nad ydyw yn gweled ei fawredd mae dyn mawr yn ostyngedig, oblegid mae pob dyn athrylithgar yn ymwybodol o'i fawredd, fel y mae pob cawr yn ymwybodol o'i nerth. Ond y mae dynion mawr yn ostyngedig, fel y dywed un, eu bod yn ymwybodol fod eu mawredd drwyddynt ac nid ynddynt. Pan gyfododd Mr. Williams o fysg y plant oddiwrth y crochan uwd, mae yr henafgwr urddasol a duwiolfrydig yn cyfodi o'i gadair ddwyfraich, ac yn ymaflyd yn ei fraich i'w arwain iddi, ac nid oes ond gadael i'r darllenydd ddychmygu yr ychydig amser dreuliodd Mr. Williams a'r teulu caredig gyda'u gilydd yn ystod ei ymweliad annysgwyliadwy. Yr wyf yn teimlo fod yn yr amgylchiad dyddorol hwn addysg i bob pregethwr ddichon alw yn annysgwyliadwy gyda theuluoedd caredig. Yr wyf wedi rhoddi i lawr y rhan sydd yn son am y crochan uwd mor gywir ag yr wyf yn cofio i mi ei glywed yn cael ei adrodd, a thraethais fy nychymyg am y gweddill i fod yn frame i'r darlun godidog o fawredd yn cael ei ddangos trwy ostyngeiddrwydd.

PREGETH AR Y COF.

Clywais hen wr crefyddol yn dweyd iddo fod yn gwrandaw ar yr anfarwol Williams o'r Wern yn pregethu yn hen gapel yr Annibynwyr yn Nolgellau ar y cof. Nid ydoedd yn cofio ei destun, ond yr oedd darluniad y pregethwr athrylithgar o bobl yn achwyn ar eu cof yn fyw yn ei feddwl.

Efe a ddywedai, yr wyf yn cofio fy mod i yn galw un tro gyda hen wr a hen wraig, ac fod yr hen wr yn achwyn ar ei gof yn fawr, dywedai nad oedd yn cofio dim bron, "wyt ti ddim yn cofio Sion," meddai yr hen wraig, "yr amser y torodd torchres yr hen gaseg wen ar y rhiw yn y fan a'r fan, pan yr oeddit ti yn dyfod adref gyda'r llwyth mawn, ac y bu yn agos i ti gael dy anafu?" "Cofio, ydwyf, Sian, fel pe y buase fo wedi dygwydd ddoe.". Felly y mae y rhai sydd yn achwyn ar eu cof mewn cysylltiad â phethau crefyddol yn cofio pethau eraill yn burion. Mae cof y rhai nad ydynt yn talu sylw i bethau da yn debyg iawn i boced bachgen. "Dos i dy wely Will," meddai mam wrth ei bachgen, ac y mae yntau yn ufuddhau. Wedi iddo fyned, mae y fam wrth roddi ei ddillad ef o'r neilldu yn taro ei llaw yn erbyn ei boced, yr hon sydd yn llawn o ryw bethau dyddorol a gwerthfawr gan y bachgen. Mae yn ei theimlo, ac yn gofyn iddi ei hun, yn enw yr anwyl, beth sydd gan yr hogyn yma yn ei boced? Yna y mae hi yn rhoddi ei llaw i mewn, ac yn dechreu tynu y cynwysiad allan, ac yn cael yno ddarnau o bapyr, hoelion, botymau, marbles, a llinyn, bid a fyno. Ond er fod y boced yn llawn, nid oedd y cwbl ond pethau diwerth. Felly mae cof dynion yn naturiol yn llawn o bethau diwerth, fel y mae yn anmhosibl iddynt allu cofio pethau da. Dangosai y pwysigrwydd o gadw pethau diwerth o'r cof, ac ymdrechu trysori ynddo bethau sylweddol a da; a dywedai yr hen wr fod ei naturioldeb yn tynu ei sylw mewn modd neillduol.

DYSGU MORWYN Y DAFARN I WEDDIO.

Er fod dros haner can' mlynedd wedi myned heibio er pan aeth y dyn mawr hwn i dangnefedd yr orphwysfa nefol gan ddweyd, "Tangnefedd, tangnefedd." Mae ei ddylanwad yn aros eto, ac y mae rhai o'r sawl gawsant y fraint o'i weled a'i wrandaw yn pregethu yn aros hyd y dydd hwn. Mae gwrandaw ar y cyfryw yn adrodd eu hadgofion am dano yn un o'r pethau mwyaf dyddorol i mi. Teithiodd drwy Dde a Gogledd Cymru, a buasai yn resyn i'r fath weinidogaeth gael ei chyfyngu i gylch yr eglwysi dan ei ofal. Ond clywais un o hen aelodau y Wern yn dweyd na fyddent yn cael bob Sabbath y byddai gartref bregethau cyffelyb i rai y Cyfarfodydd mawr a'r Cymanfaoedd. Pregethai am Sabbathau yn olynol heb fod dim anarferol yn y pregethau, er y byddai bob amser yn dda.

Ond o'r diwedd, byddai "gwn mawr" o bregeth yn cael ei danio nes synu a swyno pawb, ac edrychid ar hyn fel arwydd bob amser ei fod ar gychwyn i daith. Yna äi drwy y wlad am wythnosau gan wneud bylchau yn rhengoedd y gelyn gyda'r gwn mawr" newydd. Derbynid ef yn mhob man lle yr elai fel angel Duw, a mawrheid y fraint gan deuluoedd o gael ei letya yn adeg ei ymweliadau â threfi ac ardaloedd. Pan an yr ymwelai âg un dref, yn Ngogledd Cymru, arferai letya mewn tafarndy yn nghwr y dref, i'r hwn y perthynai ychydig dir, a'r hwn oedd felly yn gyfuniad o dafarndy ac amaethdy. Yr oedd yn gwasanaethu yno eneth ieuanc ddymunol a charedig, yr hon a wnai bob peth yn ei gallu i wneud Mr. Williams yn ddedwydd yn ystod tymhor ei arosiad yn y lle. Heb fod yn nepell oddiwrth y ty yr oedd planigfa o goed, lle yr oedd ffynnon ddwfr, o'r hon y cyrchid dwfr at wasanaeth y ty. Un nos Sabbath dyma gyhoeddiad Mr. Williams i bregethu ar noswaith benodedig, a mawr oedd y dysgwyl am yr oedfa. Daeth Mr. Williams yno o rywle brydnawn diwrnod yr oedfa, ac aeth fel arfer i'r hen lety, lle y derbyniwyd ef yn siriol a llawen. Ar ol te aeth i'r blanigfa wrtho ei hun i fyfyrio ei bregeth, lle y cerddai yn araf ol a blaen, ac ymddangosai fel un yn teimlo pwysigrwydd y genadwri yr oedd ganddo i'w chyhoeddi dros ei Feistr Dwyfol. Tra yr oedd yno fel hyn yn myfyrio, a'r tan yn enyn, oedd i dori allan fel ffrwydriad mynydd tanllyd cyn pen ychydig amser yn yr oedfa, daeth y forwyn gyda'i dwfr-lestr at y ffynnon i gyrchu dwfr. Plygodd ar ei gliniau ar gareg o flaen y ffynnon, a llanwai y dwfr-lestr gydag un llai, Tra yr oedd yn codi dwfr, daeth Mr. Williams yn mlaen, a safodd uwch ei phen. Ehedodd meddwl y pregethwr wrth ei gweled at hanes y wraig o Samaria, a dywedodd wrth y forwyn, "Os gwnei di ddweyd gweddi fach wna i ddysgu i ti bob tro y deui di yma i godi dwfr ar dy liniau fel hyn, mi roddaf haner sofren i ti pan ddeuaf yma nesaf." "Os gallaf ei dysgu, mi wnaf, Syr," meddai y for—wyn. "O, nid ydyw ond ychydig eiriau, sef 'Ar—glwydd dyro i mi y dwfr bywiol fel na sychedwyf.' Os byddi di yn siwr o ddweyd y weddi fer hon bob tro byddi yn myned ar dy liniau ar y gareg yna i godi dwfr, mi fydda i'n siwr o gyflawni fy addewid." Wedi llenwi y dwfr—lestr dychwelodd y forwyn gydag ef i'r ty, gan benderfynu gwneud fel y dysgodd y pregethwr hi. Yn mhen tua blwyddyn ar ol hyn daeth Mr. Williams heibio drachefn i roddi oedfa, ac wedi myned i'r llety arferol gwelai nad oedd yr hen forwyn yno, a gofynai pa le yr oedd. "Mae yn ddrwg genyf ddweyd, Mr. Wil—liams bach," meddai gwraig y ty, "ein bod ni wedi gorfod ymadael â hi." "Mae yn ofidus iawn genyf glywed hyny," meddai Mr. Williams. "O," atebai y wraig, "ni wnaeth ddim drwg, ac y mae hi yn gwasanaethu gyda theulu parchus yn y dref yma, ac mewn parch mawr ganddynt. Y rheswm i ni ymadael â hi oedd ei bod hi wedi myned i bregethu wrth bawb ddeuent i'r ty i gael glasiad ar niweidiau yr arferiad o yfed diodydd meddwol. buasem yn ei chadw, buasem yn sicr o golli ein cwsmeriaid i gyd." Yr oedd dweyd y weddi fer pan ar ei gliniau ar y gareg oer yn codi dwfr, wedi ei gwneud yn genad dros Grist mor selog a'r wraig o Samaria gynt. Nis gallasai Mr. Williams beidio llawenychu yn fawr wrth glywed hyn, a galwodd yn y ty lle yr oedd yr eneth ieuanc selog hon yn gwasanaethu, i ddatgan ei lawenydd ei bod wedi gwneud ei ddymuniad, ac i roddi yr haner sofren iddi yn ol ei addewid. Buasai hanes ei ymweliad â hi yn sicr o fod yn ddyddorol iawn, ond nid oes genyf gymaint a gair ar hyn i'w ddweyd, a rhaid i'r darllenydd geisio dychmygu cyfarfyddiad dedwydd gwr Duw â'r forwyn grefyddol oedd wedi gorfod gadael ei h en feistres oblegid ei ffyddlondeb i Grist. Wele yr hanes mor gywir ag y medrai hen chwaer dduwiol o'r Wern ei adrodd ychydig flynyddau yn ol.

PENNOD XXIII,

ANRHYDEDDU EI GOFFADWRIAETH.

Y CYNWYSIAD.—GOSOD COF-FAEN YN NGHAPEL Y WERN—RHODDI COFGOLOFN AR EI FEDD—DIWEDDGLO.

 EIMLAI y frawdoliaeth yn y Wern, ac yn arbenig y Parch. J. Thomas, gweinidog yr eglwys ar y pryd, y dylesid mewn

rhyw ffordd anrhydeddu coffadwriaeth Mr. Williams, ac yn mis Mai, 1865, gosodwyd cof-faen hardd o fynor gwyn uwchben y pulpud yn nghapel y Wern, ac y mae yr uchod yn ddarlun cywir o hono, Cafwyd digon o arian i ddwyn y gwaith i orpheniad oddiwrth gynyrch darlith o eiddo y Parch. J. Thomas, ar "Hanes yr achos Annibynol yn y Wern," ac y mae clod yn ddyledus iddo ef yn neillduol am ymgymeryd â dwyn hyn oddiamgylch Ond er gosod y Dablet Goffadwriaethol oddifewn i'r capel, ac er fod yr addoldai heirdd a lluosog sydd gan yr enwad yn y cylch yn gof-golofnau i lafur Mr. Williams, eto, teimlid y dylesid bod ar ei fedd hefyd gof-golofn a welid gan bawb a elai heibio. Soniwyd llawer am gael hyny, a diweddai y cwbl yn unig mewn son, ac oedid y gwaith. Ond ar ol llawer o ddyddiau, dygwyd yr amcan clodfawr i ben, a chafwyd Cof-golofn deilwng, ac arni yr argraff syml:—

ERECTED

IN MEMORY OF WILLIAM WILLIAMS

OF WERN;

Who died March 17th, 1840; Aged 59 Years.

Ceir cofnodiad ar y tri wyneb arall i'r Gof-golofn am ei briod, ei ferch, a'i fab, fel y canlyn:—

ALSO REBECCA, Wife of said

WILLIAM WILLIAMS;

Who died March 3rd, 1836;

Aged 53 Years.

ALSO

ELIZABETH,

THEIR ELDEST DAUGHTER;

Who died February 21st, 1840;

Aged 22 Years.

ALSO

JAMES,

THEIR ELDEST SON;

Who died March 31st, 1841;

Aged 21 Years.

Dydd Mawrth, Medi 16eg, 1884, dadorchuddiwyd y Gof-golofn, a chan fod adroddiad gwerthfawr a chyflawn o'r gweithrediadau wedi ymddangos yn y Tyst a'r Dydd am ddydd Gwener, Medi 26ain, 1884, rhoddwn ef yma yn llawn:—

"Mae bellach tua 44 o flynyddau wedi myned heibio er pan y casglwyd y Parchedig William Williams at ei dadau. Yn ddiddadl, yn mysg Annibynwyr Cymru, ni chododd prophwyd mwy na Williams o'r Wern. Cyfrifir ef drwy gydsyniad cyffredinol yn un o gedyrn cyntaf Ymneillduaeth yn y Dywysogaeth. Er fod yr oes hono wedi myned heibio, y gweinidogion talentog a gydlafuriai âg ef gan mwyaf wedi gorphwys oddiwrth eu llafur, a'r aelodau a dderbyniwyd ganddo wedi myned yn ychydig fel lloffion grawnwin cynhauaf gwin, eto mae ei fywyd pur, ei lafur hunanaberthol, a'i dalentau dysglaer, y tân sanctaidd a losgai yn ei enaid yn fyw, ac yn dyfod yn fwy byw bob blwyddyn. Mae ei ddylanwad ef fel pob gwir gymeriad arall yn gryfach ar ei genedl heddyw nag erioed o'r blaen. Oes, y mae gwyrddlesni tragywyddol yn nghoffadwriaeth Williams o'r Wern. Nid oedd ond beddfaen gyffredin i nodi man fechan ei fedd, ac yr oedd y gwaith dan hono wedi adfeilio, a hithau wedi gwyro, fel rhwng pob peth, yr oedd yn berffaith annheilwng o fedd gwr Duw. Teimlai dyeithriaid a ddeuent i weled ei fedd yn dra siomedig wrth weled yr olwg arno mor ddinod ac adfeiliedig. Yn y sefyllfa yma ar bethau, ymgynghorodd nifer o gyfeillion â'u gilydd, a phenderfynasant godi Cof-golofn deilwng ar ei fedd. Dechreuwyd ar y gwaith yn ddioed, a gorphenwyd ef yn anrhydeddus, a dydd Mawrth yr 16eg cyfisol, yr oeddys yn myned drwy y seremoni o ddadorchuddio y Gof-golofn. Yr oedd newydddeb y peth, a phoblogrwydd Mr. Williams yn y cylchoedd hyn, yn peri fod dysgwyliad mawr am y dydd, a dyddordeb dwfn yn enynu llawer calon. Cafwyd diwrnod o'r fath a garem. Agorai y dydd mewn tawelwch hafaidd, ac erbyn canol dydd, tywalltai yr haul ei belydrau siriol ar feddau anfarwolion mynwent y Wern. Oddeutu un yn y prydnawn, gwelid cerbydau lawer yn llawn o bobl barchus, a llawer o wŷr ar draed yn cyrchu i'r hen lanerch gysegredig. Hawdd oedd deall wrth eu dwysder a'u difrifwch fod teimladau cymysg yn rhedeg trwy eu calonau wrth nesâu at fedd gwr Duw, a lle hefyd yr hunai llu o'u cyfeillion, a'u perthynasau. Haner awr wedi dau oedd yr amser penodedig i ddechreu ar y gwaith, a phan oedd y dorf yn araf symud oddiwrth dŷ Mr. E. Daniell i'r fynwent, pwy a ddaeth i'r golwg yn eu cerbyd hardd yn cael ei dynu gan feirch porthianus, ond Syr George Osborne Morgan, A.S., a Lady Osborne Morgan, Brymbo Hall; a chawsant dderbyniad serchog, ond perffaith gydweddol â natur y cyfarfod. Yr oedd y gorchudd ar y golofn a guddiai o olwg y dyrfa yr enw anwyl y daethid i'w anrhydeddu y dwthwn hwnw, wedi ei barotoi yn ofalus gan Mrs. Roberts y Rhos. Cymerwyd yr arweiniad ar yr achlysur gan y Parch. S. Evans, Llandegla, fel y gweinidog hynaf yn y cylch. Wedi canu emyn yn dra effeithiol, darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch. J. Roberts, Brymbo. Yr oedd ei gyfeir—iadau tyner, a naws hyfryd ei ysbryd yn peri fod pob calon yn teimlo, a phob llygad yn ffrwd o ddagrau. Yna galwyd ar Mr. Griffiths, King's Mill, yr hwn sydd dros 84 mlwydd oed, i ddadorchuddio y golofn. Tra yr oedd yr henafgwr parchus a'i ddwylaw crynedig yn cyflawni y gorchwyl dyddorol, yr oedd llygaid pawb yn craffu arno, a phan dynwyd y llen ymaith yn llwyr, ac y tywynai yr haul ar y maen caboledig, a'r llythyrenau euraidd, a hysbysant pwy a hunai yno, dywedodd Syr George Osborne Morgan, wrth Lady Osborne Morgan, "It is a most beautiful thing." Yna yn ol trefniad blaenorol, aed i'r capel i wrandaw anerchiadau y cyfeillion a ddaethant yno ar yr achlysur, ac yn ebrwydd yr oedd capel yn llawn. Wedi canu emyn, dywedodd y cadeirydd na buasai ef yn dymuno anrhydedd mwy na chael bod yn gadeirydd y diwrnod hwnw. Yr oedd ei anwyldeb o Mr. Williams yn fawr, a'i adgofion o'i ddywediadau, a'i bregethau, yn lluosog, ac yr oedd yn credu yn ddiysgog mai efe ar lawer ystyr oedd y pregethwr mwyaf a welodd Cymru. Ond gan fod yno gynifer o wŷr parchus i anerch y cyfarfod, byddai yn annoethineb iddo ef fyned a'u hamser. Yna galwyd ar y Parch. R. Roberts, Rhos, i ddweyd gair o hanes y mudiad. Dywedodd Mr. Roberts, fod y meddylddrych wedi cychwyn gyda nifer o gyfeillion oedd yn teimlo yn ofidus o herwydd sefyllfa adfeiliedig bedd Mr. Williams. Dywedai rhai mai oferedd oedd gwario y fath swm o arian mewn lle fel y Wern. Dywedai eraill mai cael ysgoloriaeth yn dwyn ei enw yn un o'r Colegau fuasai fwyaf bendithiol, a thybiai eraill nad oedd angen y fath beth a chof-golofn ar Mr. Williams, gan fod ei fywyd a'i lafur yn gof-golofn iddo ef na ddileuir mo honi tra bo Cymru yn bod. Ond yr oedd y cyfeillion wedi gwneud eu meddwl i fyny, ac nid oedd troi yn ol arnynt. At y £50 a roddwyd gan Mr. Griffiths, King's Mill, cafwyd symiau gan eraill, a chyfranodd rhai o bob enwad, heb eithrio yr Eglwys at addurno bedd gwr Duw. Yn awr, dyma y gwaith wedi ei orphen, ac fe erys y golofn hon i ddynodi bedd Mr. Williams, pan y byddwn ni oll sydd yma heddyw yn llechu yn llwch y bedd. O na chaem ei ysbryd ef i symud yn nghalonau y gweinidogion a'r eglwysi y dyddiau hyn.

Y nesaf oedd y Parch. J. H. Hughes (Ieuan o Leyn), Gardden House. Dywedai ef ei fod yn credu fod Mr. Williams wedi codi cof-golofn ei hun, er hyny, da gwnaeth y cyfeillion yn codi y golofn brydferth hon i wr mor deilwng. Nid ydyw y gwaith hwn ond datganiad o'r serch cryf sydd yn y genedl Gymreig tuag at ei gweinidogion.

Yna galwyd ar Dr. J. Thomas, Liverpool. Dywedai, Yr ydwyf yn cofio Mr. Williams yn dda. Nid oedd neb yn deall natur yn well nag ef. Er na byddai byth yn son am athroniaeth, eto yr oedd efe yn athronydd. Er na byddai yn gwneud ymdrech mawr wrth bregethu, eto gwyddai sut i gyffwrdd â holl danau y natur ddynol. Yr oedd bachau yn ei bregethau. Edmygai pawb farddoniaeth hedegog Christmas Evans, ac areithyddiaeth hyawdl John Elias, ond dywediadau Mr. Williams a goffeid fynychaf ar lafar gwlad. Duw a godo luaws o'i fath eto yn Nghymru.

Yna cododd Syr George Osborne Morgan, A.S. Dywedai ei fod yn wir falch o gael bod gyda'i gyfeillion y dydd hwnw i anrhydeddu coffadwriaeth un o feibion penaf Cymru. Yr oedd yn cofio ei dad yn dweyd fod John Elias, Christmas Evans, a Williams o'r Wern, yr un peth i grefydd efengylaidd yn Nghymru ag oedd John a Charles Wesley yn Lloegr. Ni byddai yn rhaid i Ymneillduaeth Cymru ofni yn ngwyneb cyfnewidiadau y dyfodol, os byddai yr ysbryd rhagorol oedd yn ysgogi y dynion hyn yn fyw yn y wlad.

Yn nesaf cafwyd gair gan yr Hybarch. Ddr. Rees, Abertawe. Dywedai ei fod wedi cael y fraint o ddechreu yr oedfa i Mr. Williams dair gwaith pan ar daith yn y Deheudir. Cofiai yn dda y dylanwad rhyfeddol oedd yn cydfyned à'i weinidogaeth yn y daith hono. Nid oedd Mr. Williams, wedi ysgrifenu llawer, ond nid oedd un llinell yn yr hyn a ysgrifenodd efe a allasai beri gofid iddo wrth farw. Dyn llawn o dynerwch oedd efe, heb geisio poeni neb, ond cysuro pawb. Galwyd yn nesaf ar Mr. Jenkins, Liverpool. Dywedai mai nid llawer o gof-golofnau a godir yn Nghymru, ond i weinidogion a dynion da eraill. Arwydd dda mewn cenedl ydyw, ei bod yn gallu gweled, teimlo, a pharchu y rhinweddol a'r da. Un o'r anogaethau cryfaf i ddaioni ydyw, fod cymeriadau da yn d'od i fwy o barch fel y mae yr oesau yn treiglo, a chymeriadau gwael yn darfod ac yn diflanu. "Enw yr annuwiol a bydra, ond coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig." Credai ef mai Mr. Williams oedd Shakespeare, ac mai Dr. William Rees oedd Milton y pulpud Cymreig.

Wedi hyny galwyd ar Mr. Rees, Caer. Nis gwyddai ef yn iawn paham y gelwid arno i ddweyd dim ar yr achlysur hwn, oddieithr am yr anwyldeb a deimlai ei dad at Mr. Williams. Nid oedd efe yn gallu cofio Mr. Williams, a theimlai braidd yn ofidus am hyny. Ond yr oedd wedi ei fagu ar aelwyd lle y perchid ef yn fawr. Dysgwyd ef o'i febyd i feddwl am dano fel angel Duw. Dylai teuluoedd ofalu am feithrin teimladau uchel a siarad yn deilwng am weinidogion y gair. longyfarchai ef y pwyllgor ar orpheniad y gwaith, a gwyddai am un, oni bai i'r nefoedd ei gymeryd ymaith, fuasai yn sicr o fod yn eu plith y diwrnod hwnw. Cafwyd ychydig eiriau hefyd, gan Mr. Roberts, Wyddgrug, a Mr. Lester, J. P., Adwy'r Clawdd, a nifer o'r hen aelodau o'r Wern, Nant, a'r Rhos. Terfynwyd drwy weddi gan Mr. Jones, Chwilog. Yr oedd amryw o weinidogion o enwadau eraill yn bresenol; yn wir, yr oedd y cynulliad o ran rhif a pharchusrwydd tuhwnt i ddim a ddysgwyliasom, ac yr oedd y teimlad a'r urddas a nodweddai yr holl weithrediadau y fath na cheir ond anfynych. Bu Mr. a Mrs. Daniell yn dra charedig yn croesawu y dyeithriaid. Yr oedd eu ty yn llawn drwy y dydd, ac yr oedd eu cerbyd at wasanaeth y gweinidogion. Dyma un o'r teuluoedd goreu yn y cylchoedd hyn, a dylem fod yn falch o honynt. Pregethwyd yn yr hwyr fel y canlyn:—Salem, Coedpoeth, Parchn. T. Roberts, Wyddgrug, a T. Rees, D. D.; Adwy r Clawdd, (Saesonaeg), Parch. D. M. Jenkins, Liverpool; Rhostyllen, Parch. H. Rees, Caer; Rhosllanerchrugog, Parchn. D. S. Jones, Chwilog, a J. Thomas, D.D. Yr oedd yr holl gapelau uchod wedi eu gorlenwi, a chafwyd pregethau nerthol. Parhaed yr amddiffyn ar yr holl ogoniant."

Fel y gwelir oddiwrth y darlun, y mae y gof-golofn, o ran gwerth, uchder, a harddwch, yn bob peth ellid ddymuno, ac yn hollol gyfaddas i'r lle. Dylid hysbysu yma, mai eiddo y Parch. R. Roberts, Rhos, yn benaf, yw yr anrhydedd sydd yn gysylltiedig â chyfodiad y gof-golofn, oblegid efe oedd cychwynydd ysbryd a bywyd y symudiad teilwng.

Wrth edrych unwaith ar ddarluniau y tri chedyrn, dywedodd yr anrhydeddus William Ewart Gladstone, fod eu hwynebau yn arddangos nerth digonol i ysgwyd creigiau Cymru. Gwir o frenin, canys darfu iddynt drwy eu Duw, ddymchwelyd mynyddoedd cedyrn hen arferion pechadurus o'r gwraidd, y rhai oeddynt yn anhawddach eu diwreiddio na hyd yn nod symud mynyddoedd Gwyllt Walia. Colledwyd Cymru yn ddirfawr, a hyny megys ar unwaith, drwy gymeryd oddiarni y tri chedyrn mor fuan y naill ar ol y llall, canys nid oedd ond ysbaid pedair blynedd rhwng marwolaeth y cyntaf, nad oedd yr olaf o honynt wedi diosg ei arfogaeth. Ond cysur Sion y pryd hwnw, yn gystal a'r pryd hwn, yw, fod "cadarn Dduw Israel" yn aros yn breswylfa iddi yn mhob cenedlaeth. Tra y mae genym achosi ddiolch i Dduw, am iddo gyfodi gwrthddrych y Cofiant hwn i fod y fath addurn i'n henwad, ac i grefydd yn gyffredinol, nis gallwn wrth sychu ein hysgrifell, ymatal heb amlygu yn mhellach ein diolchgarwch i'r Arglwydd, am anrhydeddu ein henwad â'r fath nifer o bregethwyr galluog, y rhai sydd yn awr ar y maes, y rhai ydynt wedi eu donio, eu haddurno, a'u dysgu, nes eu bod mor gymhwys i drin yr arfau gofynol at waith yr oes hon, ag ydoedd y Parchedig William Williams o'r Wern at waith ei oes ef; ac yn sicr, nis gall neb ddeisyfu anrhydedd uwch mewn unrhyw oes, na bod yn

"FILWR DA I IESU GRIST."

DIWEDD.

RHESTR O'R TANYSGRIFWYR.

ABERAERON.

  • Parch. T. Gwilym Evans
  • Dr. Jones

ABERDARE.

  • B. Llewellyn, Superintendent
  • W. Parker, Sculptor
  • J. Williams, Collier
  • David Price, Ll. Y.F.S.A.

ABERERCH.

  • Thomas Jones, Bryn Ynys.
  • W. Williams, Glanymorfa bach
  • O. Elias, Rhedynog
  • Hywel Owen Jones, Gwyndy
  • William Hughes, Broom Hall
  • Ellis Williams, Lôn 'Berch.
  • Griffith Roberts, Eisteddfa
  • Miss. Jones, Tyddynmeilir

ABERGELE.

  • Parch. E. T. Davies
  • John Samuel Jones, The Gas Works
  • Isaac Roberts, 3, Bryntition terrace.
  • Pierce Davies, Watchmaker

ABERGYNOLWYN.

  • Parch. W. Davies,
  • R. R. Ellis
  • Hugh Roberts, Meirion house
  • Edward Griffiths
  • Richard Morgans
  • A. E. Jones
  • D. O. Jones
  • Robert Hughes
  • W. Edwards
  • W. Jones
  • W. O. Griffiths
  • W. Roberts
  • L. L. Lewis
  • Isaac Jones

ABERMAW.

  • Parch, Gwynoro Davies, Bro dawel. (2)
  • Mrs. Owen
  • R. P. Hughes

ARTHOG.

  • Cadwaladr Roberts, Ynysgyffylog
  • Eliza, Richards, Tynygraig,
  • Edward Edwards, Ynysgyffylog
  • Thomas Ellis, Erwgoed
  • David Jones. Stationmaster

BALA.

  • Prifathraw M. D. Jones (2)
  • Parch. T. T. Phillips, B.D.
  • John Parry, C.C.

BANGOR.

  • Parch. Ellis Jones
  • R. D. Thomas, Frondeg place
  • L. D. Jones, 3, Edge Hill, Garth
  • Thomas Hugh Lewis, Market place
  • A. D. Thomas, Bryn myfyr
  • H. Roberts, Bryn Tegla
  • ::COLEG BALA-BANGOR.
  • Prifathraw Dr. Herber Evans, (2)
  • Proff. J. E. Lloyd, M.A.
  • Proff. John M. Davies, M.A.
  • John Williams,
  • T. D. Thomas
  • T. Eli Evans
  • D. M. Davies
  • Llewellyn Williams
  • J. William Davies


BARGOED.

  • W. Jonathan Williams, J.P.
  • Parch. D. L. Evans
  • D. Ithys Morgan.
  • D. Richard Williams.
  • John Williams
  • John Davies
  • Mrs. Evans, Bookseller
  • David Jones
  • E. Rhys Morgan

BEREA.

  • W. Thomas, Graig fawr Farm, Gaerwen
  • Miss Thomas, Holland Arms Hotel, do

BETHEL.

  • Parch. R. W. Griffith,
  • Parch, E. R. Thomas
  • R. W. Parry, Bath
  • Hugh T. Hughes, Cremlyn.
  • O. W. Jones, "Corra Linn."
  • BETHESDA.
  • Parch, D. Adams, B.A.
  • Parch. R. Rowlands, Treflys

LLANLLECHID, (CARMEL:)

  • Parch. T. Dennis Jones
  • Parch. W. Griffiths, Amana
  • Richard Evans, Grocer, 'Rachub
  • Henry Jones, Tanyrallt, do
  • George H. Buckland, Llandegai
  • Robert H. Evans, Talybont
  • Mrs Catherine Williams, Cochwillan

BIRKENHEAD.

  • Parch. H. P. Thomas, 12, Price street
  • Thomas Johnson, 53, Lord street

BLAENAU FESTINIOG.

  • R. J. Thomas
  • John J. Jones, Manod Road
  • Ephraim Jones, do
  • John Pugh, Bethesda terrace
  • John Ellis, Tan rhos
  • Robert Humphreys, Manod road

BRYNBOWYDD:

  • Parch. W, Parri Huws, B.D.
  • Joseph J. Jones, Blaenbowydd house.
  • John Davies, 4, Church street
  • D. Lewis, Ty'n twll
  • Thomas Jones, New Square
  • O. W. Owen, Bryntirion
  • Evans, Grocer, New Square
  • John O. Williams, 28 & 29 Church-st.
  • Griffith Parry, Maenofferen
  • G. G. Davies, Glan Deulyn
  • Robert Edmunds, Dorvil road.
  • Evan Evans, Taliesin terrace.
  • Griffith Jones, Mill's Row

TANYGRISIAU:

  • Parch. J. Hughes.
  • Cadwaladr Roberts, Bodlondeb
  • John R. Williams, Bronyfoel
  • Evan Griffith, Meirion house
  • W. S. Roberts do
  • William Williams, West end
  • William Jones, Ivy house.
  • John Jones, Factory
  • William Lewis, Gwyndy

SALEM:

  • E. G. Thomas
  • J. Humphreys.

LLAN.

  • Parch. R. T. Phillips,
  • David Roberts, Llyfrwerthy

BONTNEWYDD.

  • William Jones. Caemawr (2)

BORTHYGEST.

  • Parch. W. Ross Hughes
  • Lewis Jones, Post Office

BRITON FERRY.

  • William Lodwick, 16, Regent street.
  • Jacob H, Lewis, 16, Regent street


BRYNTEG.

  • Ellis Roberts (Talfardd)

BRYMBO.

BRYN SEION.

  • Parch. J. Rhydderch
  • Petr Williams
  • Charles Edwards
  • Janett Harrison
  • Richard Price
  • William R. Williams
  • Robert Pritchard
  • Edward J, Pritchard
  • John Humphreys
  • John Hughes

CAERDYDD.

  • Parch. H. M. Hughes (2)

CAERFYRDDIN.

  • H. S. Williams, Presbyterian College
  • W. Emrys Lloyd,

CAERGYBI.

  • Parch, R. P. Williams
  • Parch, W. Lloyd.
  • Thomas Williams, 64, London Road
  • Thomas Roberts 5, Queen's terrace
  • W. E. Bughes, 73, Newry street
  • G. Jones, 5, Trearddwr square
  • R. P. Davies, 37, Vulcan street
  • W. Lewis, 15, Williams street
  • W. Williams, 1, Park terrace

CAERNARVON.

  • Parch. Ll. B. Roberts
  • J. R. Pritchard, Y.H., Bryn Eisteddfod
  • A. Frazer, North Road
  • W. H. Williams, Rose Hill
  • John Thomas (Eifionydd)

CANA, MON.

  • Parch. J. G. Jones
  • T. Martin
  • O, Griffiths, Tyddyn yr Eurych
  • W. Edwards, Felin
  • J. R. Thomas, l'enrhyngwyn
  • J. Griffiths, Rhosbothan
  • H. Roberts, Tai newydd
  • H. Roberts, North End
  • T. Williams, Ty newydd
  • Jeremiah Williams, North End
  • E. Williams, Cae rhos
  • W Williams, Plashen
  • Rees Williams, Court
  • Mrs. Williams, Tyddynllywarch
  • Williams, Post Office
  • Mrs Jones, Plashen
  • Mrs Roberts, Ty'r defaid
  • Mrs Jones, Bakehouse
  • Mrs Williams, Pen yr allt
  • Miss M. E. Jones, Perth y ber

CAPEL HELYG.

  • Parch, T. Williams
  • Parch. D. Jones, Brynllefrith
  • Capt. R. Roberts, Soar
  • T. H. Jones, Corsyceiliau
  • R. Roberts, Brynbychau
  • Henry 'ones, Ty'nllan
  • Miss Jane Parry, Ty'ny fron

COEDPOETH. SALEM.

  • Parch. T. E. Thomas
  • B. Harrison, C.C.
  • T. Williams, Tabor bill
  • Joseph Smith, Penygelli
  • Samuel Moss, Contractor
  • John Richards, Cemetery lodge
  • Robert Rogers, Salem house
  • Robert Roberts, High street
  • Robert Roberts, Nant
  • T. Williams, Penygelli
  • Roger Pritchard, Waen road
  • George Williams, Assembly Room road
  • Owen Jones, Liverpool Stores
  • T. Ellis, High street
  • Evan Jones, do
  • Robert Thomas Hughes, do
  • William Rogers, Bryntirion
  • Edward Evans, Plas Buckley
  • Simon Hughes, Church street
  • Miss Hannah Rogers, Nant
  • Edward Jones, Tabor bill
  • Ellis Jones, do
  • Edward Griffiths, Penrhos
  • John Griffiths, Nant
  • Isaac Hughes, High street
  • Llewellyn Hughes, Nant
  • Edward Roberts, Tabor hill

TALWRN.

  • John William Griffiths, Vron
  • John Davies, Ty'nycoed
  • Joseph Wilcoxon, Post Office
  • Morris Davies, Pentre'r vron
  • Mrs. Lewis, Gelli'r cynan
  • John Davies, Dafarn Dywyrch
  • Abraham George

COLWYN.

  • Isaac Price, Church walks
  • Mrs. Rowlands, Glyn Farm
  • D. O. Williams, 1, Church walks

CILCENIN.

  • Parch. D. C. Davies
  • Parch. Jenkin Rees
  • William Rees, Post Office
  • Timothy Jones, Bwlchcastell

CILFYNYDD.

  • David Evans
  • David Davies
  • Edward Edwards
  • William Gronwy
  • Jonah Morris
  • T. B. Evans

CORRIS R.S.O.

  • Walter Davies, Glasfryn house (2)

CORWEN.

  • D. Davies, 3 Plas terrace (3)
  • Parch. L. Davies
  • W. Ffoulkes Jones, Y.H.
  • CRICCIETH.
  • Parch W. B. Marks
  • R. Roberts (Llew Glas)
  • J. W. Bowen, Medical Hall
  • W. George, Cyfreithiwr
  • Capt. Jones, Cliff
  • David Roberts, Merllyn
  • G, W. Roberts, Ednyfed house
  • R. Williams, 3, Castle Square
  • J. Jones, Shoe maker, The Square
  • Owen Williams, Wellington terrace
  • Robert Williams, Brynhyfryd

CHWILOG.

  • Parch, J. H. Rowlands, B.A
  • Richard Owens, Frondeg
  • Robert Williams, Tyddynmawr
  • Evan Jones, Plas
  • Robert Jones, Bronygadair
  • John Jones, Crossing
  • John Williams, Bodalaw
  • John Griffiths, Clogwyn
  • David Owen, Crossing
  • Morris Jones, Murewtlloer
  • William Jones, Penybont
  • Evan Roberts, Glan y wern terrace
  • Robert Jones, Ty'r capel
  • John Thomas Jones, Pentre ucha'
  • Capt. H. Parry, Madryn terrace.
  • R. H. Jones (Cenin), Brookside
  • E. LI, Jones, Pest Office
  • Morris Elias, Compton house
  • D. Roberts, Maesog Mill, Clynog (2)
  • John Morris Jones, Madryn Arms hotel.
  • John Jones, Plas
  • Owen Hughes, Rhosgill bachi

CWMAMAN.

  • George Jones, 77 Glanaman road
  • Tom Jones, Brynhyfryd DINBYCH.
  • Parch. James Charles,
  • William Roberts, 12, Park street

DOLGELLAU.

  • E, Griffith, Ysw., Springfield,
  • Thomas Price, Coed,
  • Miss Roberts, Brynmair
  • John Evans, Corn Merchant.
  • John Evans, The Cliffe
  • John Meyrick Jones, Ysw.
  • Richard Jones, Bryngwin Farm
  • John Jones, Butcher, Bridge street.
  • Miss Elizabeth Evans, Upper Mill
  • Mrs. Williams, Idris Terrace
  • E. P. Williams, London House. (2)
  • R. G. Williams, New Shop.

DOWLAIS.

  • Edward Jones, Hill
  • Benjamin Jones
  • John Prosser Davies

GANLLWYD.

  • Hugh Humphreys, Canycoed
  • Francis Jones

GLANDWR.

SILOH:

  • T. Roberts, Schoolmaster, Brynhyfryd
  • T. D. Hughes, Cwm Level road do
  • T. W. Hughes, Sidney street do
  • W. Williams, Wern house, Landore
  • A. Williams, do do
  • John Lewis, Mysydd road, Landore

GLYNCEIRIOG.

  • William Davies, Bookseller (7)

GROESWEN.

  • Parch. C. T. Thomas
  • Hugh D. Jones, Coedymoelfa
  • Thomas Thomas, Tynywern
  • Dr. T. W. Thomas, Caerphilly
  • Parch. J. Grawys Jones, Aberdare
  • Parch John Prys, Llanover
  • Parch D. Gwynfryn Evans, Glantaf
  • Thomas Price, Hawthorn School
  • Joseph Millward, Bronyrallt, Nantgarw
  • T. Thomas, Post Office, do
  • David Thomas, Senghenydd
  • Edward Thomas, Caerphilly
  • Mrs. Jones, Tyllwyd
  • Parch. H. Morgan, B.A. Vicer
  • E, Thomas Ysw., Aberfawr house.
  • E. Evans, The Schools

LIVERPOOL.

Y TABERNACL:

  • Parch. R. Thomas, 22 Fitzclarence St,
  • Josiah Thomas, Rutherglen, West Derby

KENSINGTON:

  • Parch. J. O. Williams (Pedrog)
  • Thomas Roberts
  • John Williams, 15 Taylor street
  • Edward Davies
  • Edward Jones
  • Miss Jane Griffiths
  • Miss Anne Griffiths

MARSH LANE:

  • Parch. Thomas D. Jones
  • Edward Roberts, Bank house
  • Robert Jones
  • Robert J. Griffiths
  • Richard Williams
  • Miss Ellen Roberts
  • Miss Mary Williams
  • ::GREAT MERSEY STREET:
  • R. Jones, 52, Commercial road
  • W. A. Lloyd, Northumberland terrace.
  • W. Roberts Veramore street
  • H. Parry, Sefton road.

GROVE STREET.

  • Edward Lloyd, 31, Falkner square
  • John Evans, 85, Smithdown road
  • J. Edwards (ieu.), 49, Dacre Hill, Rock Ferry
  • Richard Simon, 57, Brownlow Hill
  • Daniel Morris, 189, Falkner street
  • W. R. Owen, 11, Montpelier terrace
  • Henry Denman, 59, Cedar Grove
  • Ezra Denman, 69, Cedar Grove
  • Aaron Davies, 3a Church Hill street.
  • Rowland Roberts, Harrowby street
  • James Thomas, Foxhill street
  • John Williams, 85, Northbrook street
  • John Jones, 17, Hemans street.
  • Owen Griffiths, 35, Mulliner street
  • Anthony Mathews, 68, Upper Hope place.
  • David Roberts, 192, Queen's road.

PARK ROAD,

  • Robert Davies, Claribel street
  • Elias P. Pagh, 16, Thackeray street
  • John Roberts, 6, Admiral St.
  • John Davies, (ieu.) 70, Coltart Road.

LLANBEDROG.

  • Parch. Evan Jones
  • Robert Twist
  • Richard Williams, Bodwrog

LLANBERIS.

  • Cadwaladr Penny, Bryn
  • John Roberts, Bryngoleu
  • Wm. Lloyd Jones, Water street
  • John M. Williams, Leeds house.
  • W. Deiniol Jones, Newton street.
  • Abel Thomas, Llain wen
  • John D. Jones, Victoria terrace
  • John W. Griffiths, Tyddyn Eilian
  • Hugh T. Williams, Blaenyddol
  • Thos. Ebenezer Williams, Bryn madog,Llanddeiniolen.

LLANDILO.

  • Parch. W. Davies, The Walk
  • Mrs. W. Davies, Towy Villa

LLANDEGLA.

  • Parch. S, Evans
  • Ellis Hughes, Llidiard fawr
  • T. D. Jones, Pontystyllod.
  • Daniel Jones, White horse
  • Dan Roberts, Rhuthyn
  • Robert Roberts, Clothier
  • J. Jones, Plas du, Llanarmon
  • Isaac Williams, Bwlchgwyn
  • Maurice Roberts, Brymbo
  • Miss Eliz. Jones, Llan
  • Miss S. A. Cottrell, Graianrhyd

LLANELLI.

  • Parch. Thomas Johns
  • Parch. H. Elvet Lewis
  • LLANFACHRETH
  • Griffith Pagh
  • Evan Jones
  • John Pagh
  • Griffith Price, ieu.
  • H. Humphreys

LLANGWM.

  • W. Jones Ellis, Auctioneer
  • Thomas Roberts, Post Office
  • LLANUWCHLLYN.
  • L. J. Davies, Post Office
  • Miss E. Jones, Bryncaled

LLANWRDA.

  • Parch, Thomas Thomas, Llangadock
  • John Davies, Merchant

LLANYMAWDDWY.

  • Richard Davies
  • Catherine Evans

LLITHFAEN.

  • Parch. J, Davies
  • John Jones, Bodhyfryd
  • R. Edmunds (Moel y Glo).

LLUNDAIN.

  • B. Rees, Ysw., 3, Carthusiin street
  • W, Pagh, 50, Gower place
  • L. Evans (Llewellyn), 26, Union street MAESTEG.

SARON:

  • Parch. T. James
  • Rhys Evans, Pieton Square
  • D. Davies, Twmpathmawr
  • Job Griffiths, 20 Picton street
  • John Evans, 58 High street
  • Dr. Davies, Brynllynvi

MANCHESTER.

  • Parch D. John, 105 Plymouth Grove
  • John Jones, 71 Park street, Greenheys.
  • Evan Roberts, 1 Denmark Road
  • John Williams, 6 Cottenham street
  • William Jones, 66 Booth street, West
  • Hagh Owen, 16 Clarendon Road
  • E. M. Lloyd, 29 Cedar street
  • J. Jones, 59 Heywood street
  • Miss Thomas, Swetford Road
  • Miss Pritchard, Palygon Ardwick
  • Miss Hughes, Brooklands
  • Miss Williams, New Home

MOUNTAIN ASH.

  • Parch, Owen Jones
  • D. H. Davies, 32 Phillip street
  • NANT, COEDPOETH.
  • Paroh. S. Roberts
  • E. Daniell, Wern Farm
  • Isaac Roberts, Grocer
  • T. E. Hughes,
  • William Pritchard, Tabor Hill
  • David Rogers, do
  • Mrs. S, Price, Caemynydd House

NEFYN,

  • Parch, E. James, Morfa (4)
  • Owen Williams, Board School
  • W. Roberts, Shop Glan'rafon

OSWESTRY.

  • Parch. David Rees, 64 Park Avenue
  • R. H. Parry (Pont Robert)
  • R. Thomas (Voel)
  • Parch L. M. Davies (Sarnau)
  • T. E. Roberts
  • E. Davies, Builder, Oak street
  • W. Jones, Fern Cottage
  • Maurice Lodwick, Victoria Place
  • W. Mills, 56 Castle street, do
  • S. Davies, Victoria house
  • W. Hughes, 10 Park Avenue.
  • P. H. Minshall, Esq, Bronwylfa
  • John Roberts, Coed y Go'
  • E. Humphreys, 72 Swan Crescent
  • E. R. Jones, Porkington Terrace
  • R. T. Jones, Glasgow house
  • D. Roberts, Tower Brook street
  • R. Morris, Park street
  • D. H. Bennett, Glasgow house
  • D. Askin, Gas Works
  • H. Edwards, The Cross
  • J. Jones, 3 Victoria Place
  • Mrs. M. Davies
  • Miss L. Davies, Oak street

PENNAL.

  • Evan Jones, Cwrt
  • Griffith Pugh Bryniau Bychan

PENMAENMAWR.

  • Parch. D. P. Davies, Elm Villa
  • Thomas Jones, Penmarian
  • Evan Evans, Bodafon
  • Hugh Edwards, Chapel street
  • Thomas Edwards, 36 High street
  • John Jones, Siriolfan
  • Robert Williams, Hyfrydle
  • Miss Nellie Edwards, do
  • Henry Roberts, Stanley house
  • Owen E. Roberts, Chapel street
  • Thomas O. Edwards, Llwynderw
  • Seth Thomas, Crimea
  • Matthew Rowlands, New York
  • David Davies, Bell Cottages
  • Thomas Evans, Westminister house
  • Owen Morris, Glaneigion
  • John Roberts Is-y-coed
  • John Jones, Craig mair
  • David Foulkes, Min-y-Don
  • Thomas Jones, Tanyrallt, Dwygyfylchi
  • Robert Griffiths, Picill, do
  • Richard Roberts, Groesffordd
  • Hugh Jones, Dolerwm, Roe Wen
  • John Jones, do do
  • Owen Owens, Tanygraig, Llangelynin
  • William Roberts, Glan'rafon, Trefriw
  • Robert Davies, Y Gloch

PENMORFA.

  • William Parry, Tynewydd.
  • Evan Humphreys
  • Ellis Jones, Plasisaf, Glanmorfa

PENRHYNDEUDRAETH.

  • John Parry, High street
  • David Roberts, Church street
  • Griffith Jones, Bethel Terrace
  • Thomas Morgan, High Gate
  • J. Dendraeth Jones
  • J. D. Jones, Brynegryn
  • Hugh Hughes, Cae Valley
  • Edward Jones, (Asaph Collen) Festiniog
  • Miss Margaret Ellis, School Street

PENYGROES.

  • Parch. J. Machreth Rees
  • Parch. J. Williams (B.)
  • Thomas Williams, Shoe warehous
  • E. Roberts, Yswain, M.D.

PONKEY.

  • Parch. R. Jones (M.C.), Rhos
  • Parch. R. Williams (M.C.), Hill street
  • Parch. O. J. Owens, Ponkey, Ruabon-
  • D. Griffith do
  • John Williams do
  • William Jonesm do
  • Joseph Griffiths do
  • Cadwaladr Morgan, Johnstown

PONTYPRIDD.

  • Paich, W. I. Morris, Norfolk House
  • W, Williams, Ysw., J.P.
  • Lewis Lloyd, Draper
  • T. H. Maddocks
  • David Williams (Llew Llan)
  • Evan Evans
  • Llewellyn Thomas, Llantrisant road
  • William Davies, High street
  • John Davies, Coedpenmaen road
  • Gomer Davies, Pantygraigwen
  • Gwilym Morgans, Berw road
  • William Jones, Pencerrig street
  • John Williams, Gelliwyon Farın
  • John Phillips, Arcade.

PORTHMADOG.

CAPEL COFFADWRIAETHOL:

  • Parch. H. Ivor Jones
  • Capt. David Richards.
  • John Williams, 11 Garth.
  • Owen Jone, 24 New street
  • Richard Owen, Farm yard
  • E. Williams, (Eifion Wyn)
  • Capt. Joseph Roberts, Snowdon street
  • W. E. Morris, 5 High street
  • O. H. Roberts, Percy house (2)

SALEM.

  • Parch. W. J. Nicholson
  • Thomas Jones, (Cynhaiarn)
  • John Williams, Snowdon street
  • Henry Roberts, Bodawel
  • J. Jones Morris, Lombard street
  • R. Me'Lean, Bank place
  • Daniel Morris, Druggist
  • R. Owen, Belle Vue
  • A. M. Timothy, Madoc street

PORTH.

  • Job Thomas, Tanyrefail
  • W. Morgan, do
  • Thomas Mathews
  • William Lloyd
  • William Williams
  • Robert Evans
  • Joseph Granville PWLLHELI.
  • Parch. O. L. Roberts (6)
  • Richard Roberts, Ysw (2)
  • Edward Jones, Ysw., Y Maer
  • Isaac Morris, Ysw., U.H. The Lodge
  • W. Anthony (2)
  • Richard Jones, Carnarvon house
  • Owen Owen, N. & S. Wales Bank
  • Richard Evans, Metropolitan Bank
  • W. G. Owen do do
  • Thomas Hughes, Sand street
  • David Roberts, 9 Church street.
  • Morris Roberts, Iorwerth House

FOURCROSSES.

  • Robert Griffiths, Plas Belle
  • D. R. Daniel
  • H. Jones, Newborough Arms Hotel
  • Griffith Roberts, Lleiniau

RHES-Y-CAE.

  • Parch. H. U. Jones
  • Arthur Roberts, Gadlys rd., Bagillt (2)

RHOS.

  • Parch. R. Roberts
  • William Roberts, Mountain street.
  • Edward Ellis, Campbell street
  • Samuel Roberts, Mountain street
  • David Roberts, do
  • William Jenkins do
  • John Hughes do
  • Absalom Jones do
  • William Price do
  • William Phillips, Bank street
  • Edward Thomas do
  • John Williams, Wesley street
  • Edward Bennet do
  • Charles Bennet, Owen's Croft
  • James Edwards, Campbell street.
  • Edward Williams do
  • William Jones do
  • Mary Thomas, Hanover street
  • George E. Griffiths, Hall street
  • Edward Jenkins do
  • John Price do
  • William Thomas, Church street
  • William E. Price do
  • Daniel Thomas. do
  • Joseph Owen, School street
  • E. W. Bellis do
  • W. M. Jones do
  • Humphrey Jones do
  • Robert Parry do
  • Llewellyn Jones, Hall street
  • Richard Thomas, Brook strert
  • William Williams, Hill Street
  • Robert Williams, Gerddi
  • Joseph Bellis do
  • John Edwards do
  • John Griffiths Powell, Market street
  • John Smith, High street
  • John Jones do
  • William Williams, Hall street
  • Thomas Pritchard, Johnson street
  • Robert Thomas, Jones street
  • Robert Davies, Princess road
  • Richard Jones, High street
  • Edward Yates, Mountain street

RHOSTRYFAN.

  • Parch. H. Davies, Moeltryfan
  • John Williams, Hen Gapel, Moeltry fan
  • Hugh O. Hughes, Gors do
  • William Owen, Coedy brain
  • Richard R. Hughes, Tanydderwen
  • Richard R. Griffith, Tanybryn
  • Cadwaladr R. Cadwaladr, Pantycelyn
  • William R. Job, Cefn Horeb
  • Peter Bracegirdle, Maenhir
  • Griffith R. Williams, Blaenywaen.
  • R. O Parry, Frondeg, Rhostryfan

RHUTHYN.

  • Parch. W. Caradoc Jones

RHYL.

  • Parch D. Lewis
  • Arthur Rowlands
  • Hughes, Hugh High street, Rhyl. SCIWEN.
  • J. Evans Jones (Tabernacl).

SHERRY, LLANERCHYMEDD

  • Parch. Robert Hughes, Sherry
  • R. T. Williams, Tanybwlch

TRAWSFYNYDD.

  • Parch Henry Jones
  • W. W. Owen, B. School
  • John Richards, Shop, Fronwnion.
  • Rees Jones, Ardwy terrace
  • David Edwards, Penystryd
  • Robert Roberts, Glasgoed
  • Evan Lewis, Erwgoed
  • John Hughes, Station Shop
  • Edward Jones, Bedd y coedwr
  • Richard Jones, Penystryd
  • Griffith Roberts, Dolgain
  • Robert Jones, Erwddwfr
  • David Jones, Gelligain
  • John Roberts, Dwyryd house
  • Owen Williams, 1 Tyllwyd Terrace
  • John Hughes, Railway Shop
  • William Owen Tyddynmawr
  • R. Williams, Guard
  • Mrs. Elizabeth Evans, Ynys Thomas

TREALAW.

  • David Jenkin 7 Coedeau terrace (6)

TREFFYNON.

  • William Parry, Bagillt
  • Richard Rees, Treffynon

TREFOR.

  • Parch. P. Lumley
  • Thomas Davies, Ty Capel
  • J. Roberts, Morfa
  • Mrs Jones, do
  • D. Griffith Gwydr bach
  • Ellis Roberts, Farren street
  • John McCleinent, do
  • Miss A. J. Hughes, Penmaen house
  • TRE'RDDOL, CORWEN.
  • Thomas Evans, Druid mill
  • John Morris, Berth Ddu
  • John Edmunds, Ucheldre'
  • John Jones, Druid cottage
  • Robert Davies, Druid Mill
  • John Evans, (Llundain)
  • D. Ellis, Brithdir. Bettws Gwerfil goch
  • R. E. Humphreys, Ty'nycefn.
  • Henry Jones, Rug Kennel
  • Walter S. Davies, The Druid Farm

WERN,

  • David Hughes
  • John Hughes
  • Ellis Abraham
  • David Roberts, Stryt Minera
  • Thomas Hughes,
  • Benjamin Hopwood
  • Samuel Pickering
  • John Hywel Hughes
  • Benny Robert Jones
  • Miss Barbara Evans.

WREXHAM.

  • Parch. D. Roberts, D.D. (Dewi Ogwen)
  • J. Francis, Nythfa
  • Thomas Jones, 57, Hope street
  • Hugh Jones, Trevor villa
  • Joseph Evans, Ruabon Road
  • Edward Jones, 2 Ruthin road

YNYSHIR.

  • Parch. E. C. Davies
  • John Price, Schoolmaster
  • John Evans, 10 Western terrace.
  • Julius Moore, Thomas's Place
  • Job Herbert, Ynyshir road
  • Daniel James, 19 South street
  • Daniel Jones, South street
  • Abraham Davies, 20 Witting street.
  • William James Williams, 1 Penlan ter.
  • Willie Thomas, Brynawel
  • Jenkin Evans, Dyffryn house
  • Evan M. Thomas, 1 Penlan terrace.
  • Dewi Heulwen
  • John Davies, 16 South street

ENWAU Y DERBYNWYR O LEOEDD GWAHANOL.

  • A Friend
  • Arnfield, Mrs. Dolgelley
  • Bryan, S. Printer &c., Llanfyllin
  • Davies, Parch. John, Bethesda, Pentyrch
  • Davies, Parch, E. C., M. A.,Menai Bridge
  • Davies, T., Glan Tegid, Llanuwchllyn
  • Davies, D. Ffynonlas, Maesllyn.
  • Davies, Samuel, Abercwmboy
  • Davies, Parch. D. Llanharan,
  • Davies, Parch. B. C., Troedyrhiw, Llan-
  • ybyther, Aberteifi, S. W
  • Davies, Parch. O., Bethel, Llandderfel.
  • Davies, Parch. T. Eynon, 7 Eton
  • Gardens, Hillhead, Glasgow
  • Davies, Mr J. D., Park y pheasant, Coedmor, near Cardigan
  • Davies, Mrs. O., Ynys heli, Rhoslan, Criccieth
  • Davies, Parch. J. M., Talgarth
  • Edmunds, E. M., Ruabon (2)
  • Edwards, Mr. John, Frondeg, Talysarn, Carnarvon
  • Evans, Parch. E. Wnion, Derwenlas
  • Evans, Parch. Thomas, America
  • Evans, William, Carpenter, Llanover
  • Evans, W. C.. Treharris, R.S.O. Glam,
  • Evans, Parch. E., Lampeter, Car,
  • Evans, Parch. T., Frohenlog, Amlwch.
  • Evans, Parch. J., Nelson, Treharris,
  • Evans, Parch. O., D.D., 28 Freegrove
  • Road, Halloway, London, N.
  • Evans, Parch. Jonathan, Buckley. Chester
  • Evans, Mr. D., Dinorwic house, Portdinorwic
  • Eifion, Cyfaill o
  • Ffoulkes, Parch. J., Aberavon, Port Talbot
  • Hamer, Miss Esther, Denmark Lodge,
  • Clapham Common, London, S.W.
  • Hopkins, W. & E. Book'er, Llandilo (2)
  • Hagbes, Samuel, Printer, Bangor, (2)
  • Hughes, Richard, 7 Water st., Bethesda
  • Hughes, Parch. R. O., Plasmarl,Swansea
  • Hughes, Mr Thomas, Penybont, Rhuddan, Rhyl
  • Hughes, Parch. H., Brynkir station, Garn, R.S.O.
  • Hughes, Parch. Thomas, (Machynlleth), Caergybi
  • James, Parch. W., Swansea
  • James, Parch. J. Lloyd (Clwydwenfro), March, Cambs.
  • Jehu, Mr. Thomas, High st., Llanfaircaereinion, Welshpool
  • Jenkins, Parch. D. M., Liverpool
  • Jones, Benjamin, Llandyssil
  • Jones, Evan (Ieuan Ionawr), Van, Llanidloes
  • Jones, David, Waun Newydd, Cray, Breconshire
  • Jones, R. P., Bookseller, Maengwyn St. Towyn
  • Jones, R. Bookseller, Aberangell (12)
  • Jones, John, Bookseller, Bethesda (4)
  • Jones, D), Libanus Road, Ebbw Vale, Mon
  • Jones, C. R., Ysw., Llanfyllin.
  • Jones, l'arch, John, Llangiwc
  • Jones, R. Tynymynyd 1, Brithdir
  • Jones, Mrs., 61, Everton Brow, L'pool.
  • Jones, Parch. T. Towyn, Cwmaman, R.S.O., S. W
  • Jones, Parch. J. C., Llanfyllin, Mont.
  • Jones, Parch, O., Mountain Ash, S. W.
  • Jones, Parch. W. W., Pisgah, Groeslon
  • Jones, Parch. T., Eisteddfa Criccieth
  • Jones, Mrs., Coedmoelfa, Corwen
  • Jones, Miss M., Post Office, Rhuthin
  • Jones, Miss Bryntirion, Llandderfel, Corwen.
  • Jones, Mr. T. Cârno, Pembroke house, Harrogate
  • Jones, Mr. J., Frinter, Llanerchymedd
  • Jones, Mr. Samuel, Cefn, Bwlchgwyn
  • Jones, Mr. Walter S., Tegid House, Khayadr, S.W.
  • Jones, Parch. J. M., Caergwrle, Wrexham.
  • Jones, Mr. J. Hughes, U.11., Aberdovey
  • Jones, Mr. John R., Box 122, Water Villa, New York, America
  • Jones, Mr J. R. (Gerallt), Maentwrog, Tanybwlch, R.S.O.
  • Jones, Mr D., The Gardens, Hartsheath Mold
  • Lloyd, Mr D., Pant, Llanegryn, Towyn, Merioneth
  • Lloyd, Mrs. Hersedd, Hendre, Mold
  • Lloyd, D., Cymer, R.S.O., Port Talbot
  • Lloyd, W., & Son,Publishers, &c. Aberdare
  • Lewis, D. W. Brynaman, R.S.O.
  • Michael, Price, Bethel, Cae'rgwrle
  • Miles, Pareh. Job., Aberystwyth
  • Morgan, Parch. J. M., 80 Worcester
  • street, Stourbridge
  • Morris, Parch, T., Porth, S, W.
  • Morgan, Mr. Thomas W., Llwynwarmwood, Brecon road, Llandovery.
  • Owen, Parch. O. R., Glandwr, Hebron, R.S.O.S W.
  • Owen, Parch. R. H. (Monafab), 3 Mill Road, Blaenau Ffestiniog
  • Owen, Parch J. Evans, Llanberis
  • Owen, Mr. H, C.C., Snottyn, Conway
  • Owen, Parch. O. R., New Quay, Aberystwyth.
  • Parry, Parch. J. Hywel, Llansamlet
  • Parry, Parch. G., Llanbadarn, Aberystwyth
  • Parry, Parch. R. (Gwalchmai), Llandudno
  • Pearson, Mr. L. J., Post Office, Llangollen
  • Pughe, Mrs., Nant Lewis Alun, Denbigh
  • Phillips, Parch. J. Tegryn, Hebron, R.S.O., Pembrokeshire
  • Price, Mr R. Friog, Llanfachreth, Dolgellau
  • Price, Parch, Peter, Trefriw
  • Peate, G. H., 19, Berwick St. Oxford St., London, W.
  • Pritchard, Parch. J, Druid, Corwen.
  • Rogers, John, Farmer, Summer Hill, Wrexham
  • Roberts, W. Ll., Penyceunant, Penybontfawr
  • Roberts, W. Ysw., Miomanton, C'von.
  • Roberts, R. Moffat, Glanafon Uchaf,
  • Penybontfawr, Llanrhaiadr.
  • Roberts, Hugh, 9, Osborne Avenue, Newcastle on Tyne
  • Richards, D. M., 9, Gadlys Ter, A'dare
  • Roberts, G. Bookseller, 85, High street, Bethesda.
  • Rees, Parch. W., Tregaron, Cardigan
  • Roberts, Parch. E. Garmon, Clinton.
  • Villa, Gobowen, Oswestry.
  • Rees, Parch. Henry, Bryngwian, The Valley, Anglesea
  • Roberts, Mr S., Postman, Llanystumdwy, Criccieth
  • Roberts, Parcb. T., Wyddgrug
  • Roberts, Parch. W., Penybontfawr
  • Richards, Parch. D. Didymus, Nantglyn, Denbigh
  • Scourfield, Mr. W., Whitlaud, S. W.
  • Thomas, Parch. D. S., Llanrwst
  • Thomas, Parch. W. Gwenffrwd, Mold
  • Thomas, Parch. R., Penrhiwceibr, Mountain Ash, S. W.
  • Thomas, Parch. O., M.A., Dalston; London, N.
  • Thomas, E, Fiynon Oswallt, Holywell.
  • Thomas, Capt O., Bryndu, Llanfechell
  • Thomas, Mrs., Neuadd, Cemmaes, Mon.
  • Williams, Mr Mathew, Castell, Glan Conwy
  • Williams, Mr W. T., (Tawenfryn), 47
  • Blaengarw Road, Blaengarw, Near Bridgend, R.S.O., S. W.
  • Williams, Parch. R. (Hwfa Môn), Llangollen
  • Williams, Mr. Cadwaladr, Llandwrog.
  • Williams, Parch. R, Nazareth, Penygroes, R.S.O.
  • Williams, Parch. R. J., Llandudno
  • Williams, Parch, W., Pwllerwn.
  • Williams, Parch. D. H., M.A., Ebenezer, near Caernarfon
  • Williams, Parch. R., Towyn, Abergele
  • Williams, Mr. J., 10 Upper Hermon,
  • Bodorgan, R.S.O., Anglesea (2)
  • Williams, Joseph, Merthyr (3)
  • Williams, William, Gwersyllt,
  • Williams, William E. (Gwilymn Eden).
  • Williams, Thos, Ysw, Gwaelodygarth
  • Williams, W. Llangeilach, Llandrillo
  • Walters, Pareb, J. Brithdir
  • Watkin, Job, Glasgoed, Welshpool
  • Walters, Miss M. Vardre uchaf, P'pridd
  • Williams, Parch. W. P., Waenfawr



Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan W. Hughes, Dolgellau.




Nodiadau

[golygu]
  1. R.S.O.=Railway Sorting Office y man lle roedd trên y post yn gadael llythyrau i'w didoli ar gyfer ardal
  2. Gwel ysgrif y Prifathraw, M. D. Jones, Bala, yn y Cronicl Mawrth, 1877.
  3. Cofrestrwyd Brynllinbach i bregethu ynddo cyn i gapel Penystryd gael ei adeiladu.
  4. Wedi i ni ysgrifenu yr uchod. bu Mr. Evans yntau farw Tachwedd 15fed, 1892, yn 91 mlwydd oed.
  5. Cofiant Mr. Williams, gan Dr. Rees, tudal, 91—92.
  6. Cofiant Mr. Williams, gan Dr. Rees, tudal. 109, 110.
  7. Gwel Gofiant y Parch. John Jones, Talsarn, tudalen 291,
  8. Allan o'r Evangelical Magazine.
  9. Allan o Ryddweithiau Hiraethog drwy ganiatad Mr Isaac Foulkes (Llyfrbryf) Liverpool.
  10. Tyst Cymreig, Medi, 1870.
  11. Cofiant y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau
  12. Mae copi ar gael i bawb cael ei gweld ar Cylchgronau Cymru LlGC
  13. Testun Mr. Williams yn yr oedfa hon oedd 1 Pedr i. 18—19. Dichon mai yn y Gymanfa a gynaliwyd yn Llanerchymedd yn 1828 y pregethodd efe oddiwrth y testun uchod.
  14. Gwel Cofiant y Parch. Cadwaladr Jones, Dolgellau, tudal. 157—158.
  15. Yn fuan wedi ysgrifenu yr uchod, bu yr Hybarch Humphrey Ellis farw ddydd Iau, Medi 7fed, 1893, yn ei 83 mlwydd o'i oedran.
  16. Ar y dyddiau Mehefin 6ed a'r 7fed, 1832, y cynaliwyd y Gymanfa hon,
  17. Gwel Cofiant y Parch. John Roberts, o Lanbrynmair, tudalen 28—30.
  18. Cofiant Mr. Williams, gan Dr W. Rees, tudal 32, 33.
  19. Gweler Llenyddiaeth Fy Ngwlad/Hanes y Newyddiadur Cymreig Tud 13
  20. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru—Cyfrol v. tudalen 16.
  21. Cofiant Mr. Williams, gan Dr. Rees, tudalen 39—40.
  22. Gwel ail ddarlun Mr. Williams yn nechreu y gyfrol hon.
  23. Bu y Parch Owen Edwards, B. A., farw boreu dydd Mawrth, Mai 23ain, 1893, sef yn mhen ychydig gyda dau fis wedi iddo ysgrifenu yr uchod. Heddwch i'w lwch yn Melbourne bell.
  24. Gwel Cofiant John Jones, Talysarn,
  25. Ysgrif yw y benod hon o eiddo Caledfryn, yr hon a ymddangosodd yn y Dysgedydd, 1846, tudalen 321—327.
  26. Dr. Johnson.
  27. Gilfilan.
  28. Gwel Gofiant Seisonig Mr. Williams,
  29. Bu Mr. Williams yn pregethu yn y Brifddinas amrai droion yn flaenorol i hyn
  30. Gwel" Enwogion y Ffydd" tudalen 445.
  31. Gwel Paley's Natural Theology, Chap. xxiii. tudalen 408. Dr. Wardlaw's Discourses on the principal points of the Socinian Controversy, tudalen 281, 282.
  32. Gwel Bellamy's True Religion Delineated, tudalen 228.
  33. Gwel Mr. Burder's Missionary Anecdotes.
  34. Cyfieithiad yw yr uchod o gopi a gymerwyd o lawysgrif Mr. Williams yn y flwyddyn 1852 gan Lloffwr. Gwel y Diwygiwr am Awst, 1889, tudalen 277—278
  35. Gwel The Homilist, vol. iii., New Series.
  36. Gwel "Y Dydd" am Hydref, 1868.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.