Cerddi'r Bwthyn (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cerddi'r Bwthyn

gan Dewi Emrys

Rhagair
I'w ddarllen dalen wrth ddalen gweler Cerddi'r Bwthyn

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Dewi Emrys
ar Wicipedia



Dyma gyfrol o farddoniaeth a werthfawrogir yn y coleg a'r bwthyn, oblegid y mae'n gynnyrch bardd sy'n gyfuniad o ddysg a dawn.

Un o rinweddau'r gyfrol yw amrywiaeth ei chynnwys,— awdlau, telynegion, sonedau, englynion, hir a thoddeidiau etc., a'r cwbl wedi eu saernio'n ofalus gan grefftwr berchir fel athro beirdd lle bynnag y siaredir yr iaith Gymraeg.

Bydd yn dda gan ei ddisgyblion a'i ffrindiau oll feddiannu'r llun ohono a gyhoeddir drwy ganiatâd caredig Hughes a'i Fab, Wrecsam.

PRIS 5/-

Y darlun ar y siaced lwch gan

E. MEIRION ROBERTS









CERDDI'R BWTHYN



Cerddi'r Bwthyn



Dewi Emrys



1948


ARGRAFFIAD CYNTAF—HYDREF, 1948



—————————————

AT BWYLLGORAU EISTEDDFODAU, ETC.

Ni ellir argraffu'r un o'r darnau hyn heb ganiatâd y Cyhoeddwyr

—————————————



ARGRAFFWYD GAN J. D. LEWIS A'I FEIBION, CYF.,

GWASG GOMER, LLANDYSUL




I'M CEFNDER,

DAVID JOHN JAMES, PANTYFEDWEN,

A DROES EI GYFOETH YN FENDITHION

I LAWER O BLANT CYMRU.









RHAGAIR

CODWYD y rhan fwyaf o gynnwys y gyfrol hon o gasgliad helaeth o gerddi, rhydd a chaeth, a wobrwywyd yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych (1939). Caiff y cynhyrchion hynny "olau dydd" heddiw am y tro cyntaf. Pa werth bynnag sydd iddynt fel barddoniaeth, ni ellir taflu arnynt y sarhad o'u galw yn ddarnau "eisteddfodol," sef pethau a luniwyd yn beiriannol, fel dannedd gosod, ar gyfer cystadleuaeth. Fe'u cyfansoddwyd dan orfod yr ysfa a enfyn gerflunydd at ei gŷn a bardd at ei bwyntil. Ar ôl hyfrydwch eu creu, yr unig dâl materol a ddisgwyliwn oedd cydnabyddiaeth rhyw gyhoeddwr a allai weld ynddynt ddeunydd cyfrol gymeradwy. Eithr fe'm temtiwyd gan y sialens a ganlyn yn rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol: "Casgliad o gerddi, caeth neu rydd, neu gymysg, o waith y cystadleuydd ei hun, a heb eu cyhoeddi'n llyfr, tua mil o linellau." Diddanwch nid bychan imi oedd tystiolaeth y beirniad, yr Athro W. J. Gruffydd, bod yn y casgliad ddarnau,—hir a thoddeidiau yn bennaf,—"sy'n debyg o fyw yn ein llenyddiaeth." A wireddir y broffwydoliaeth honno?

Gwir yw'r gair mai rhaglen eisteddfod, yn addo cadair dderw gerfiedig gwerth pymtheg punt, a'm cymhellodd i ganu hanner dwsin o sonedau i'r Hafnos. Ond a roddwyd erioed destun mwy hudolus i naturiaethwr a gâr droi'r hafnos yn wynfyd genweirio ar lan afonydd dyfroedd? Y mae cadair Bethel, Arfon, yn deilwng o sedd tywysog; ond nid ynddi hi y cefais "daledigaeth y gwobrwy," eithr, yn hytrach, yn y profiadau a droes yn fiwsig sonedau nes ennill calon y beirniad, Cynan, a pheri iddo ddywedyd bod yr awdur "yn fardd Natur gyda'r gorau."

Gallai adroddwr da,—un yn medru tynnu darluniau â'i lais a'i ystum,—ennill calon cynulleidfa â'r sonedau hyn. Yn wir, darnau disgrifiadol o'r fath,—yn gofyn am amrywiadau priodol yng nghwmpas y llais,—yw meini prawf yr adroddwr. Pethau dychrynllyd o hawdd a beichus yw'r darnau fflamychol hynny na hawliant nemor ddim heblaw megin fel ysgyfaint bustach.

Gwn mai'r adroddwr sydd dan sylw yn awr, credaf y gellir addo iddo lawer o ddefnyddiau cyfaddas yn y gyfrol hon. Bu "Ffos y Clawdd" a detholiad o awdl "Y Ddrycin' (a enillodd wobr ariannol a medal aur Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1926) yn brif ddarnau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd "Breuddwyd Glyndŵr" wobr sylweddol a gynigiwyd yn Eisteddfod Cymry Llundain am ddarn adrodd newydd. Disgrifiwyd y cyfansoddiad gan y beirniad, Dyfnallt, fel darn rhagorol a roddai gyfle i holl adnoddau yr adroddwr dramatig. Dyna "Di, Ddeddf," hefyd a "Murddun Hen Addoldy," heb sôn am ddarnau eraill.

Yn llys y cyhoedd, wrth gwrs, y rhoddir y farn derfynol ar werth y gyfrol o ran ei chynnwys. Cydnebydd y beirniad llymaf harddwch ei diwyg allanol; a mawr yw fy nyled i'r Cyhoeddwyr a gredodd ei bod yn haeddu gwisg orau'r argraffdy. Pan gofiwyf hynny a'u hir amynedd, hawdd yw maddau iddynt am beri imi roddi heibio'r enwair a glynu wrth fy ysgrifbin nes gorffen y gwaith.

DEWI EMRYS

Y Bwthyn,
Talgarreg, Llandysul
HYDREF, 1948

CYNNWYS

FY NHAID

YN ei waed oerodd nwydau,—a darfu
Cynnar derfysg hafau.
Ei rin, â'i gam yn byrhau,
Ydyw hedd llawnder dyddiau.

Mae'n edrych draw, draw i dref—lle ni wêl
Na llwyn noeth, na dioddef.
Dilwgr ei ddrud olud ef,
A'i oedran fel yr Hydref.

Â'i hoen yn brin, rhyw nawn braf—a wêl ef
Lle'r ymlusg yn araf.
Yn y glyn, a'r blodau'n glaf,
Heulog ei filltir olaf.

Daw tân mwyn y llwyn llonydd—i'w wyneb
Fel gwawr einioes newydd;
Hen sant gwyn ar derfyn dydd,
Â'i ogoniant ar gynnydd.

Iddo ef ni bydd llefain—llwyndir moel,
Ond llawnder maes mirain.
Ni bydd bedd ond cyntedd cain,
Rhyw fyrgam i Dref eurgain.

Rhoddwyd nerth pob prydferthwch—i'w hydref,
Aeddfedrwydd hawddgarwch.
Yn ŵr llon y plyg i'r llwch,
A'i ddydd hen yn ddiddanwch.


Y PORTHLADDOEDD PRYDFERTH

PAN ddêl awr dduaf hirnos afar,
 llefain gwylain fel sŵn galar,
Diau, gwyrth yr enaid gwâr—a'u ceisio
Ydyw mordwyo ym merw daear.

Wrth hwylio atynt, yn bêr y sieryd
Ei ymestyn hir am asbri'r ysbryd:
Cyrchu'r gorwel rhag carchar y gweryd,
A sôn am ryw gilfach harddach o hyd.
Na chlywid banllef hefyd,—ambell dro,
Neu eglur grio iddo gyrhaeddyd!

Ond odid, melysach trais eu ceisio
Na bywyd ar ffin byd a orffenno;
Dwyn erddynt gri'r heliwr a ymwrio,
A'i wynias aidd yn flys einioes iddo ;
Coledd, a hwythau'n cilio,—ar lif noeth
Nwyd awen boeth a chyndyn obeithio.

O! enaid bach aflonydd!—Ai dyheu
Fydd dy hoen dragywydd?
Mae'r ysfa am rodfa rydd
Yn dy boeni di beunydd.

Eurodd byd hafaidd oriau—dy hiraeth
Â'i derydr a'i flodau;
Ond yn dy gell, rhyw bell bau
A bair it rwygo'r barrau.


Ar dy wib, ai dechrau dawn—dy gynnydd
Yw dy gwyno tristlawn,
Ernes gorfoledd eurnawn
Y Cariad Llwyr a'r Cord Llawn?

Hanes dy yrfa yn nos daearfyd
Yw troi o hafan i hafan o hyd;
Ceisio dy lwysnef, a phrofi hefyd
Winoedd y duwiau gan aidd dihewyd;
Hedfan rhag chwalfa'r adfyd—a'r ymladd
O borthladd i borthladd mewn tecach byd.

Bu lleisio mewn chwedl a chân amdanynt,
Rhinio a harddu cyrff meirwon erddynt,
Breuddwydio yn nhiroedd y gadfloedd gynt
A gwyll fforestydd am wynddydd ynddynt.
Ym mhob cur, ym mhob corwynt,—drwy'r oesoedd,
Oni lŷn nerthoedd hen lewion wrthynt?

Valhala, tref adfod cadweilch Odin,
Ei urddo a drengo yn nhwrf y drin;
Ail ennyn miri hen gewri gerwin,
Rhoi iddynt benglogau yn gawgiau gwin.
Gan amlder nerth, bydd chwerthin—mawr yno
A dwyn yr eildro hen dân yr heldrin.

Yr Heldir Hapus, coedle'r plesera,
Tir esmwyth luest a gloddest gwledda;
Rhoddi i heliwr cawraidd ei wala
Ar ros a mynydd heb gur hwsmona.
Ar drywydd yr hydd yr â—fel ysbryd,
 hyder ei fywyd ar ei fwa.


Nirfana, hafn gydryw rhwng byw a bod,
A'i hen dawelwch yn ddwfn diwaelod.
Yn hon y try glewion, â'u marw yn glod,
O wyll anobaith i gell anwybod.
Hedd eu cwsg fydd eu cysgod,—hedd perffaith,
A'u diwedd hirfaith yn falm diddarfod.

Elysium, bro liwiog dan heulog nen,
A'i thiroedd yn lleoedd beirddion llawen.
Fel tegwch gardd ei choetgae a'i chardden,
A swyn ei heurffyrdd yn ias anorffen.
Ni thry i'w llannerch berchen—llawryfoedd
Na ddaw i wynfaoedd nwyf ei awen.

Afallon, ynys pob hud yw honno,
Ynys Arthur heb wae arni'n syrthio.
Hafan ei enaid, â'i laif yn huno,
Llain heb liw henaint, na phall, na blino.
Gan rin nad yw'n llychwino—purdeb bron,
Mae'r hen farchogion yn wynion yno.

El Dorado. Bydd yno ddinas,
A'i nos gan aur yn llosgi'n eirias,
Tân ei meini'n gwreichioni'n wynias,
Ei gemau'n oddaith mewn brodwaith bras,
A'i golau aur, uwch môr glas—a'i ebyr,
Yn rhuddo gwely'r dyfroedd golas.

Paradwys, tawelfro'r gorffwys a'r gân,
Noddfa rhinweddau a dyddiau diddan,
Lle rhoir i'r sant llwyd, a dynnwyd i dân
Yr hen, hen aflwydd, goron anniflan.
A ddwg yr efrydd egwan—faich a thid
Na fawl o'i ofid y Nefol Hafan?


Er honno y llosgodd anniffodd nwyd
Hen arwyr preiffion ym more'r proffwyd;
A'i golud rhyfedd yw'r hedd a roddwyd
I alltudion Cred ar dyle dulwyd.
'Roedd ei Hun ar ruddiau llwyd—merthyri
A lwybrai iddi yng ngolau breuddwyd.

Fel dall a gais wên y ceisiaf heno
Weld hardd gymdeithas y Wenwas honno,
Neu gaethfab dyfal a ymbalfalo,
 muriau cyndyn yn dynn amdano,
Neu heliwr a ddisgwylio—ymwared
O hen bwll abred lle ni bu llwybro.

Na cheisied Hiraeth ddullwedd ei thraethau
Na llun tenantiaid ei heuraid erwau,
Cans ni ddaeth yn ôl drwy'r dwfn anolau
Nebun a gefnodd ar boen ac ofnau.
Ymgyll ein gweiddi ninnau—mewn llynclyn
Yn nyfroedd hygryn hen fôr o ddagrau.

Gwelir, gan daerni gweddi a gwaith,
Ambell wên hybell yn troi'n obaith,—
Rhyw sant a ŵyl, uwch drysni talaith,
Yn rhoi trem enaid i'r llygaid llaith;
Gweld gwawr fwyn, a dal mwyniaith—gwynnach byd,
A dychwelyd i'r duwch eilwaith.

Hwylio'n ôl, yn flin gan ddrycinoedd,
Ar för dilewych o'r hyfryd leoedd;
Dihuno yn nhlodi'r anialdiroedd,
Colli'r gerddi a llwyni gwinllannoedd;
Colli hedd heirdd gynteddoedd gan drallod
Ym merw difrod y fflamau a'r dyfroedd.


Gweld ffrwyth cymhelri a'i ynni anwar,—
Hir ochain a gwae a throchion gwyar,
Ynfydu heol, troi nef a daear
Yn ffwrn o lid gan uffernol adar,
Ysgwyd y byd a gwasgar—dinasoedd,
Taro miloedd gan storom o alar.

Plant yn gyrff gŵyrgam, trefydd yn fflamio,
Oesau o werthoedd dwyfol yn syrthio;
Tŷ Gweddi yn garn heb nenbren arno,
Eithr myglyd dduwch yn dristwch drosto;
Heddwch y byd yn suddo—gyda'r Grog
I greision halog . . . a'r Iesu'n wylo!

Baradwys lwys! Lle bu pêr leisio
Ei henw annwyl, mae'n uffern heno,
Tlysni'r "Hyfryd Wlad" yn ymado,
A'i chenhadon yn ocheneidio.
Fel lle'r chwain a'r puteinio,—pentwr llwyd
Yw'r fan lle cysegrwyd breuddwyd bro.

Try'r sant, o'i anfodd, a'r byd yn oddaith,
I wyll anhyder ar dyle'r dalaith;
Amau'r hen gred a leddfodd galedwaith
A'i ddwyn i uchelion gwynion ganwaith;
Holi, â'r caddug eilwaith—ar bob crib,
Ai seren wib oedd llusern ei obaith.


BREUDDWYD GLYNDŴR

AR gastell uwch dyfroedd, syllu'r oeddwn,
Dan fawrygu Glyndŵr, gŵr a garwn.
Hen her ei faner ar gaer a fynnwn,
Ond tyrau niwlog, nid teyrn, a welwn.
Ar waun lwyd, lle breuddwydiwn—am henddydd
Aerwyr y moelydd, taer yr ymholwn:

"A guriodd oes hen gewri?—A welir
Eilwaith ei gwrhydri?
Aeth ei chryfder o'r deri,
O'r eithin aur ei thân hi.

"Mae Owain Fawr? Man ei fedd—a guddiwyd
Dan gaddug diddiwedd.
Iddo gerwin oedd gorwedd
 hyder gwlad ar ei gledd.

"Annibyniaeth ein bannau—a gollwyd,
Hualwyd ein hawliau.
O! na ddôi ef i'n rhyddhau
A thorri'r llyffetheiriau!"

Pallodd fy araith weithian,—a minnau
Am ennyd yn syfrdan.
Yr oedd i'r tir ruddwawr tân,
A mawr fwrlwm ar forlan.


Gwelwn hyd orwel amlder banerau,
Ar foeldir agos ymrafael dreigiau,
Tryblith seirff gwibiog ar wridog rydiau,
A Ílafnau porffor yn taro'r tyrau,
Nwyd eirias uwch dyfnderau—môr llidiog,
A'i genlli niwlog yn llyn o olau.

Ar gwr draw, i gaer druan,—rhoed eilwaith
Ru dilesg y daran.
Mawrwych ei llun uwch marian,
A'i thyrau fel torchau tân.

Ar ei gwelydd, trôi gwyliwr,—â'i lurig
Fel arian y gloywddwr,
A'i noeth gledd, hardd lueddwr,
Yn dal digofaint Glyndŵr.

A mi'n swrth ddisgwyl wrtho
Am fawr her fel storm y fro,
Tawelodd y llid hoywlym,
gwelwodd llafn ei gledd llym;
A llais tad oedd llais y tŵr,
Llais ceidwad, nid llais cadwr:

"Fy mab! Bu cadlef i mi,—ond gofid
A gefais cyn tewi.
Dos draw i'r ddôl dan holi:
A brŷn y cledd ei hedd hi?

"Ehedodd dydd gorhyder—o'r muriau
Gyda'r mawredd ofer.
Daeth gorffwys dwys wedi her,
Tristwch lle bu trahauster.


"Ond bydd i'r gwelydd sŵn gwell—na rhu oer;
Cyfyd bref o'r castell;
A lle'r esgyn penrhyn pell,
Dedwydd y dring diadell.

"Cei weld tangnef y nefoedd—hyd y maes
Wedi mellt rhyfeloedd.
Derfydd gwae'r drin a'r flin floedd
A stŵr nosau teyrnasoedd.

"Diwyd eirf gwŷr diderfysg—a weli,
Hynt addolwyr hyddysg,
Mwyn farchogion, dewrion dysg,
Llueddwyr cestyll addysg.

"O'u galw dan faner eu gwlad, ni fynnant
Wgu ac ennill rhyw wag ogoniant.
Harddu byd anwar, hynny a garant,
Dwyn i'w dywyllwch dân eu diwylliant.
Ar heolydd lle'r hawliant—oleuni,
Nid heb wrhydri hen saint y brwydrant.

"Prydferth, gan anterth eu nwyd,—y dygant
Degwch lle bu arswyd,
A rhoi addurn fy mreuddwyd
I'r anial oer a'r waun lwyd."

***
Mal adain yr ymledodd—dyrys wawn
Dros ei wedd pan dawodd.
Ei wyneb a ddiflannodd,
A dur ei lurig a dôdd.

GWENNOL WEN

[Ym Mhont-Nedd-Fychan]

SŴN tanio cyson ar leindir glas,
A minnau'n fy 'stafell yn holwr syn.
Rhag cymaint y clecian a'r gweiddi cras,
Tybiwn fod rhyfel yng nghoed y glyn.

Weithian, uwch cynnull anelwyr lu,
Agorais fy ffenestr led y pen.
Fel hwythau, edrychais i'r awyr fry
A gweld mai'r targed oedd gwennol wen.

Rhuthrai gwrageddos o fwth a gardd,
Crochlefai'r saethwyr, cyfarthai'r cŵn,
A'r hon a ddwg benyd ei phechod hardd
Yn gwibio'n frawychus rhag y sŵn.

Syrthiodd, â bwrlwm rhuddliw'r loes
Yn cochi'r fron a fu'n wen gyhŷd.
Gwae'r neb a leisio yng nghynnull oes
A'i liw'n wahanol i'r lleill i gyd!


HAFNOS

DIGYFFRO, wedi'r tes, yw coed y dyffryn,
Diog yr afon hithau ar y ddol,
Ond cyfyd brithyll gwancus at y gwyfyn
A ddawns ymysg y clêr fel hoeden ffôl.
Syllaf o'r ffridd dros erwau'r hedd diarswyd
Heb weld na beddrod, na phererin claf,
Tremio a chilio draw i bellter breuddwyd
Yn gaeth gan hudoliaethau hwyrddydd haf.
Rhydd eurlliw'r cyfnos ddrych ei hen ogoniant
I'r briw fynachlog obry rhwng y llethrau,
A chyfyd tarth aroglus uwch y ceunant,
Onid wyf syrthlyd braidd gan sawr perlysiau.
Ni synnwn ddim pe gwelwn abad crwm
Yn chwifio'i thuser rhwng y muriau llwm.

Hawdd i fugeilfardd heno fyddai casglu
Ei ddefaid oll a'u llocio mewn caethiwed,
Ond gormod gorchest iddo yw corlannu
Mwynderau'r hafnos hon rhwng ffiniau soned.
Er suddo o'r haul, cân mwyalch nes pereiddio
Awr tranc y dydd a chwalu cysgod loes,
Ac megis chwedl pob dim a fedrai staenio
Daear a ddwg hawddgarwch euraid oes.
Dacw ysguthan ddiofn yn dychwelyd
I'w hundy yn y ffawydd uwch fy mhen,
Ond wele'i throi gan walch crafangog, tanllyd
A ddisgyn megis bollt o uchder nen.
Darfu ei hafddydd hi mewn ceuffos ddofn,—
Cyflymach asgell gwanc nag asgell ofn.


Daeth rhyw weddnewid dwys dros faes yr awron,
Ac nid adwaenaf mwy na lliw na llun,—
Cipiodd y machlud, draw dros gant yr eigion,
Holl degwch haf i'w goelcerth fawr ei hun.
Fel delwau milod anferth yw'r clogwyni
Gan ryw gyfaredd od a fedd dechreunos,—
Yr hesg fel byddin ddistaw rhwng y twyni,
A'r coed ar lechwedd megis torf yn aros.
Diau, genweiriwr sydd wrth odre'r goedwig
Yn taer anelu ei lith ar draws y ffrwd,—
Ni thrôi neb arall wyll hen geunant unig
Yn ddiofnusrwydd ag ysgorn mor frwd!
Traidd drwy uffernau'r drain a'r gwibed brathog
Heb deimlo dim ond ysfa'r heliwr ffyddiog.

Gwân chwilen heibio'n wyllt, fel edn yn ffoi,
A grŵn hen sturmant lleddf i'w thonnog si,
Yna llonyddwch nos yn ail grynhoi
A llenwi rhigol gam ei gwibio hi.
Geilw tylluan gan ddwysáu'r tawelwch,
A'i gwaedd fel colledigaeth ar fy nghlyw,
A thros y ceunant dwfn ymled tywyllwch
A gladd o olwg byd y marw a'r byw.
Meddyliaf am y curyll didrugaredd,
Â'i dwyll yng nghryndod ei adenydd braf,
A chais fy enaid athrist y gynghanedd
A gollais pan ystaeniwyd tegwch haf.
Gyda'r gylfinir effro ar y rhos,
Chwibanaf ymaith ddrychiolaethau'r nos.


Croesaf y cwm heb weld melynlliw'r eithin,
Na thân porfforlliw'r grug, na gwrid y rhos,
Cans dwg pob perth a llwyn, y banadl eurin
A'r pabi ysgarlad yntau bygliw'r nos.
Huned y lili wen heb blygu'n isel
At ddrych y dŵr i syllu arni'i hun,
Cans ni bydd tegwch mwyach oni ddychwel
Dydd heulog cynganeddu lliw a llun.
Ust! Dyna lais, fel llais seraffaidd, clir,
A'r hoen soniarus yn dwyfoli'r hedd,—
Eurllais yr eos! Derfydd cwsg y tir,
A derfydd sôn am lendid pryd a gwedd.
Safaf yn nuwch llwyn yn wyn fy myd,
A sisial: O! na byddai'n nos o hyd!

Tau'r lleisio nefol, ond ni phaid yr effaith,
A thybiaf fod y coed yn anesmwytho,
Megis y cyffry torf pan dderfydd araith
Rhyw ddewin o lefarwr a'i syfrdano.
Try sêr i wibio eilwaith rhag caethiwed,
Hyglyw drachefn ystwrio'r nant gerllaw,
A minnau'n methu symud gam nes clywed
Cyfarth hen ffrind a lam o'r gweundir draw.
Af rhagof bellach tua'm bwth croesawgar,
 phersawr mwsg a gwyddfid yn fy ffroen,
Gan ddiolch am seraffiaid nosau'r ddaear
A rydd felyster cerdd i wermod poen.
Dyma'r genweiriwr yntau'n llawen iawn,
Heb iddo fendith fwy na basged lawn!


HYDREF

'M hafod lonydd syllaf draw,
Â'r bore'n gloywi'r glyn.
Tros wyneb daear hyd ymhell,
Daeth rhyw weddnewid syn.

Lle gwelaf heddiw deyrn y dydd
Yn gyrru'r gwyll ar ffo,
Ni welaf gyffro geni dail
Yn llonni coed y fro.

Ym maes y gwenith mwy nid oes
Na baich, na llwytho trwm,
Ond brain a drudwy'n lloffa'n llu
Lle bu'r medelwyr crwm.

Nid gwyrddion y fforestydd mwy,
Na hwythau'r perthi mân;
Distaw y saif holl goed y maes,
Â'u brigau'n mynd ar dân.

Rhyfedd yw gweled dyddiau oer
Yn ysu doldir bras,
A gwrid marworyn dan y berth
Yn cochi'r borfa las.

Acw lle casglwyd ffrwyth y cyll
A chnwd perllannau braf,
Mi welaf odidowgrwydd lliw,
Mi welaf dranc yr haf.


Os miloedd o alarwyr mud
Sydd yno'n tyrru'n awr,
Fel tyrfa mewn cerbydau aur
Y dônt i'r angladd fawr.

Nid prudd-der du a wisgant hwy,
Eithr rhyw ogoniant syn.
Ond odid, "marw i fyw o hyd"
Yw cred y gweddwon hyn.

Ni cheir i'r llwyn na chorn, na ffliwt,
Ond gwyrth y lliwiau drud.
Mae'r nyth yn gandryll yn y berth,
A'r seiri ffraeth yn fud.

Na ddigalonned gwylwyr maes,
Ni chiliodd côr y tir;
A cherdd danbeitiach yn y man
Fydd ffrwyth y llafur hir.

Mae'n wir i'r gwcw wamal ffoi
A mynnu canu'n iach.
Nid syn nad yw ei hoffrwm hi
Ond deunod bitw bach.

Yr edn a deimlodd oerni'r hin
Yw seraff cangau'r coed;
A'r bardd a wybu ruddiau llaith
Yw'r cethlydd pêr erioed.


Dychweled cog i gyngerdd haf,
A gwennol ennyd awr,
Pan gilio'r eira, pwy a gân
Fel plant y cystudd mawr?

Cyn hir bydd noeth holl lwyni'r maes,
A'r gaeaf yn y bau.
O! gwyn ei fyd a gofiodd hyn
Ar dalar amser hau!

Nac ofned ef na'r eira trwm,
Na phrinder haul prynhawn;
Bydd iddo fendith fawr y Nef,—
Diddanwch ydlan lawn.

Aed gwrid yr Hydref dan y rhew,
A gwynned gardd a dôl,"
Ar afal bochgoch yn ei fwth
Bydd fflam yr haf ar ôl.

A hawdd fydd diolch gyda'r hwyr,
Ar aelwyd heuwr doeth,
Bod tymor medi'n dilyn haf
Cyn dyfod gaeaf noeth.

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Pwll Deri
ar Wicipedia

PWLLDERI

[Yn nhafodiaith Dyfed].

Fry ar y mwni mae 'nghartre bach
Gida'r goferydd a'r awel iach.
'Rwy'n gallid watwar adarn y weunydd,—
Y giach, y nwddwr, y sgrâd a'r hedydd;
Ond sana i'n gallid neud telineg
Na nwddi pennill yn iaith y coleg;
A sdim rhocesi pert o hyd
Yn hala goglish trwyddw'i gyd;
A hinny sy'n y'n hala i feddwl
Na sdim o'r awen 'da fi o gwbwl;
Achos ma'r sgwlin yn dala i deiri
Taw rhai fel 'na yw'r prididdion heddi.

'Rown i'n ishte dŵe uwchben Pwllderi,
Hen gatre'r cryr a'r arth a'r bwci.
'Sda'r dinion taliedd fan co'n y dre
Ddim un llefeleth mor wyllt yw'r lle.
'All ffrwlyn y cownter a'r brethin ffansi
Ddim cadw'i drâd uwchben Pwllderi.

'Ry'ch chi'n sefyll fry uwchben y dwnshwn,
A drichid lawr i hen grochon dwfwn,
A hwnnw'n berwi rhwng creige llwydon
Fel stwceidi o lâth neu olchon sebon.
Ma' meddwl amdano'r finid hon
Yn hala rhyw isgrid trwy fy mron.


Pert iawn yw 'i wishgodd yr amser hyn,—
Yr eithin yn felyn, a'r drisi'n wyn,
A'r blode trâd brain yn batshe mowron
Ar lechwedd gwyrdd fel cwmwle gleishon;
A lle ma'r gwrug ar y graig yn bwnge,
Fe dingech fod rhywun yn tanu'r llethre.
Yr haf fu ino, fel angel ewn,
 baich o ribane ar ei gewn.
Dim ond fe fuse'n ddigon hâl
I wasto'i gifoth ar le mor wâl,
A sportan wrth hala'r hen gropin eithin
I allwish sofrins lawr dros y dibin.
Fe bange hen gibidd, a falle foddi
Tae e'n gweld hinny uwchben Pwllderi.

Mae ino ryw bishin bach o drâth,—
Beth all e' fod? Rhyw drigen llâth.
Mae ino dwad, ond nid rhyw bŵer,
A hwnnw'n gowir fel hanner llwer;
Ac fe welwch ino'r crechi glâs
Yn saco'i big i'r pwlle bâs,
A chered bant ar 'i fagle hir,
Mor rhonc, bob whithrin, â mishtir tir;
Ond weles i ddim dyn eriwed
Yn gadel ino ôl 'i drŵed;
Ond ma'n nhw'n gweid 'i fod e', Dai Beca,
Yn mentro lawr 'na weithe i wreca.
Ma'n rhaid fod gidag e' drâd gafar,
Neu lwybir ciwt trwy fola'r ddeiar.
Taw'n i'n gweld rhywun yn Pwllderi,
Fe redwn gatre pentigili.


Cewch ino ryw filodd o dderinod,—
Gwilanod, cirillod a chornicillod;
Ac mor ombeidus o fowr yw'r creige
A'r hen drwyn hagar lle ma' nhw'n heide,
Fe allech wrio taw clêrs sy'n hedfan
Yn ddifal o bwti rhyw hen garan;
A gallech dingi, o'r gribin uwchben,
Taw giar fach yr haf yw'r wilan wen.

A'r mowcedd! Tina gimisgeth o sŵn!—
Sgrechen hen wrachod ac wben cŵn,
Llefen a whiban a mil o regfeydd,
A'r rheini'n hego trw'r ogofeydd;
A chithe'n meddwl am nosweth ofnadwi,
A'r morwr, druan, o'r graig yn gweiddi,—
Yn gweiddi, gweiddi, a neb yn aped,
A dim ond hen adarn y graig yn clŵed;
A'r hen girillod, fel haid o githreilied,
Yn weito i'r gole fynd mâs o'i liged.
Tina'r meddilie sy'n dwad ichi
Pan foch chi'n ishte uwchben Pwllderi.

Dim ond un tŷ sy'n agos ato,
A hwnnw yng nghesel Garn Fowr yn cwato.
Dolgâr yw ei enw, hen orest o le,
Ond man am reso a dished o de,
Neu ffioled o gawl, a thina well bolied,
Yn genin a thato a sêrs ar 'i wmed.
Cewch weld y crochon ar dribe ino,
A'r eithin yn ffaglu a chretshan dano.


Cewch lond y lletwad, a'i llond hi lweth,
A hwnnw'n ffeinach nag un gimisgeth;
A chewch lwy bren yn y ffiol hefyd,
A chwlffyn o gaws o hen gosin hifryd,
Bara gwenith yn dafell lidan,
A chig ar drenshwn mor wyn â'r arian.

Cewch ishte wedyn ar hen sciw dderi
A chlwed y bigel yn gweid 'i stori.
Wedith e' fowr am y glaish a'r bwen
A gas e' pwy ddwarnod wrth safio'r ŵen;
A wedith e' ddim taw wrth tshain a rhaff
Y tinnwd inte i fancyn saff;
Ond fe wedith, falle, â'i laish yn crini,
Beth halodd e' lawr dros y graig a'r drisi;
Nid gwerth yr ŵen ar ben y farced,
Ond 'i glŵed e'n llefen am gâl 'i arbed;
Ac fe wedith bŵer am Figel Mwyn
A gollodd 'i fowyd i safio'r ŵyn;
A thina'r meddilie sy'n dwad ichi
Pan foch chi'n ishte uwchben Pwllderi.

Y NADOLIG

[1940]

HAWL

Ple mae'r angylion a ganodd gynt,
A'u hanthem yn llenwi orielau'r gwynt ?
A ffoesant a gadael y Nefoedd Wen
I'r dychrynfeydd sy'n ysgubo'r nen?

ATEB.


Na, lleisio y maent ym mhob calon lân
A fawl yr Iôr yn y twrf a'r tân.
Pob haleliwia, pob emyn byw,
Darn o'u peroriaeth anosteg yw.

HAWL.


Pa le mae'r bugeiliaid a glybu gynt
Y Newydd Da yn pereiddio'r gwynt,
A'r disgwyl hir am y Nefol Wawr
Yn llifo'n addewid glir i lawr ?
Mewn beudy oer, lle'r oedd Baban Gwyn,
A hwythau'n plygu'n addolwyr syn,
Ai rhith y Rhyfeddod a welsant hwy?
Ai breuddwyd tlws na ddychwelodd mwy ?

ATEB.


Na, gwelwch, â'r eira ar fryn a rhos,
Hosana hen fugail yn gwynnu'r nos.
Daeth iddo yntau o'r Nef i lawr
Y "Newydd Da o lawenydd mawr."

Mae iddo gymrodyr mewn llawer bro
Yn dlodion cyfoethog ar lawr y gro;
A dwys eu hedliw mai gwellt a gwair
Oedd cwrlid eu Harglwydd ar fynwes Mair.
Lle plyg hen fugeiliaid ar foelydd byd,
Yno mae'r preseb o hyd, o hyd.

HAWL.


Pa le mae'r doethion a hudwyd gynt
Gan seren lwys ar addolgar hynt?
A giliodd y golau a welsant hwy
Rhag llewych disgleiriach rhyw olau mwy?

ATEB.


Na, gwelwch ddysgodron ein hocs o hyd
Yn ceisio'r hedd sydd uwch gwybod byd,
A phlygu'n blant bychain, â'u gwedd yn awr
Yn wyn gan daerni'r ymofyn mawr.
Lle perchir yr Athro sy'n Fab y Nef,
Yno mae llewych Ei seren Ef.

***
Mae Herod yntau yn fyw o hyd,
A'i ddyrnau heyrn yn malurio'r byd.
Mae lliw ei fryntwaith yn cochi'r nant,
A Rahel yn wylo ar ôl ei phlant;
Ond mallu ni chawsant yn gyrff di-lun,—
Fe'u casglwyd i freichiau Mair bob un;
A diwedd Herod, a'i fyddin gref,
Fydd cwrdd â'r Mab Bychan sy'n fwy nag ef.

WRTH FURDDUN HEN ADDOLDY

HENDY'R pwerau dwyfol! Trist dy weld
 baich mudandod ar dy feini hen,
A difaterwch byd yn ddycnach haint
Na'r malltod sydd yn turio dan dy ffrâm.

Yma y plygodd yr hen dadau gŵyl,
A'u taerni'n rhwygo'r cwmwl onid oedd
Dy furiau'n crynu gan yr angerdd mawr,
A'r galon graig yn toddi yn y tân.

Yr hen ganhwyllau syml! Diffoddodd chwyth
Gwamalwch oes eu llewych difost hwy,
A'th ado ar fin y ffordd yn ddarn o'r nos,
A'th borth yn gyniweirfa'r glaw a'r gwynt ;
A lle bu'r weddi'n tynnu'r Nef i lawr,
Nid erys onid trawstiau moel uwchben,
A'r moelni yn dwysáu'r distawrwydd oer.
Cacodd twf anial am y llwybr i'r deml,
A chuddio olion traed hen deulu'r Ffydd.

Distaw dy gewri heno fel tydi,
A'u henwau'n mallu ar feddfeini gŵyr
Nad ydynt mwyach onid tystion mud
Yr Angau a roes ddiwedd ar y mawl.

Anghymen hithau'r fynwent, hundy'r saint,
A hyfdra twf Anghofrwydd drosti'n drwch;
A lle bu'r adnod yn llythrennau aur,
Collwyd ei neges dan hen gramen werdd

Malpai holl gynllwyn y diffeithder salw
Yn bwrw ei ddirmyg ar dy olud di
A throi sancteiddrwydd hen bwerau'r Nef
Yn watwar dan lywodraeth Brenin Braw.

Acw ar fin y palmant, gwelaf fflam
Plas y pleserau'n euro'r heol fawr,
A mintai ar ôl mintai'n cyrchu'r pyrth
A dirwyn trwyddynt yn llinynnau hir;
A chlywaf uwch chwerthinog dwrf y dref
Rwnan eryrod rhyfel yn y nen,—
Mawrth a'i osgorddlu'n heidio'r awyr fry,
A theml Tywysog Hedd yn furddun gwag.
Peidiodd y sêl a ysai deulu Duw,
A phallodd sacrament yr enaid taer;
A Île bu'r emyn yn pereiddio'r gwynt,
Ymledodd esgyll dinistr uwch y fro.

Heno, â thithau mwy ar fin y ffordd
Fel hen ysgerbwd yn y gwellt a'r drain,
A ffoes yr anadl a fu gynt i ti
Fel ymchwydd dwyfol hoen yn nydd dy nerth?
Os aeth dy blant i grwydro yma a thraw,
Fe aeth yr hen ymbiliau gyda hwy;
Canys ni ddianc nebun rhag y nwyd
Sydd ynddo'n gri anosteg ddydd a nos,—
Y newyn nas diwellir yn y wledd,
Y syched sydd yn fwy na'r ffiol lawn.
Os aeth y gog a'r wennol dros y lli,
A gollwyd hoedl y cyrn a'u geilw yn ôl?
Os aeth gogoniant haf yn chwalfa grin,
A drengodd hoen y gwanwyn gyda'r dail?


Mae ysbryd y dadeni yn y tir
Yn brwydro â'r ddunos a'r cadwyni rhew;
Ac yn y man, bydd asbri newydd wyrth
Ac aberth moliant lle bu noethni'r coed.
Felly dy angerdd dithau, gysegr gwag,
Nid llonydd mono fel dy feini mud.

Boed it dy wacter heno, gapel bach,
A balchder hefyd am a roist i'r byd;
Cans nid wrth fesur dy hen furiau briw
Y gweithia dylanwadau'r "pethau cudd."
A suddodd cawod i briddellau'r cwm
Na chyfyd yng ngrymuster tonnau'r môr?
Felly y cyfyd eilwaith, er dy glod,
Y nerth a roed yn allu Duw i ti;
A bydd dy weddi goll a'th nodyn crwydr
Yn gord yn anthem y Dyrchafael Mawr.

Y GARREG

MI ddeuthum heddiw ar fy nhaith
At hendre ddistaw'r gorffwys maith.
Gorffwysais innau ennyd awr
Mewn man lle tariai tyrfa fawr;
Ond nid oedd yno gâr na brawd
A ddôi i'm canlyn ar fy rhawd;
Cans troesant oll o ffordd y plwy
I orwedd heb drafaelu mwy.

Tesog a thrymllyd oedd yr hin,
A minnau yn bererin blin;
A da oedd troi o'r heol wen
I gysgod claear deiliog bren.

Eisteddais ar hen garn o fawn,
Â'm golwg ar y fynwent lawn;
A gweled yno dorf o feini,
Pob un wrth olaf wely'n gweini.

Safent fel hen forynion syw
I gadw enwau'r meirw'n fyw,
Pob un yn stumio'n ôl y bri
A ddug y sawl a wyliai hi ;
A lle gorweddai'r bach a'r mawr
Yn gydradd mwy â llwch y llawr,
Gwelwn na fethodd Angau'i hun
Gymodi'r rhain a'u gwneud yn un


'Roedd yno ambell faen o fynor
Yn sôn am orchest cun a chynnor;
Ac ambell garreg lwyd, ddi-raen
Yn ffaelu'n lân â dweud yn blaen.
Eithr tystion huawdl oeddynt hwy
I rai na allent siarad mwy.
Hwy safent yno'n syth a sobr,
Pob un yn sôn am waith a gwobr,
A minnau'n wyliwr swrth a syn
Yn gwrando'u traith dan lesni'r ynn.

Cyn hir, rhyw gynnull distaw iawn
A welwn yn y fynwent lawn.
Mud safai'r meini'n dorf gytûn,
Oll yn unionsyth namyn un,—
Honno yn oedfa'r sobraf fil
Ar ogwydd fel hen grwydren chwil;
A gwelwn ryw ysmaldod bron
Yn nhrem ac osgo'r garreg hon.
Disgwyliwn iddi syrthio'n llorf
A gyrru arswyd drwy y dorf;
Ac yn fy myw ni fedrwn i
Osgoi ei hystum simsan hi.

Ond odid, hen werinwr bro
A gysgai dani yn y gro,
A gwellt y gors yn twmlo'n drwch
O anystyriaeth ar ei lwch.
Gogwyddai hithau uwch ei fedd
 chen blynyddoedd ar ei gwedd,
A'r cen yn gramen werdd fel crach
Ar wyneb megis wyneb gwrach;

A lle bu'r enw a'r adnod gynt,
Nid oedd ond sgrifen glaw a gwynt,
A hithau'n hyll ei threm yn awr
Yn gŵyro'n bendrwm tua'r llawr;
A'r foment honno ger fy mron,
Rhoed hacrach drych i'r garreg hon,
Ei throi yn wrachan groengrych, hen,
 gwawd ellyllaidd yn ei gwên.

Dau smotyn oedd ei llygaid hi,
Y naill yn wincio arnaf fi,
A'r llall yn llawn o wawd ofnadwy,
Yn llawn o ddannod anwadadwy;
Ac yn fy myw, ni allwn i
Osgoi ei threm gellweirus hi.

Ni synnwn ddim ei gweld yn rhocian,
A'i chlywed hefyd yn fy mocian.
Eisoes yr oedd yn hanner llamu
A smicio arnaf a mingamu;
Ac yn fy mraw, mi fentrais siawnsio
Y gwelwn yr hen wrach yn dawnsio,
A chlywed esgyrn sych y meirwon
Yn clecian yn ei dwylo geirwon.

Neidiais i fyny'n ddiymdroi,
A thremio draw gan awydd ffoi;
Ond symud gam ni allwn i
Rhag taered ei dewiniaeth hi;
Ac yn y man, a mi'n rhyfeddu,
Dechreuodd glebran a chordeddu
Rhyw odlau oer fel grŵn y gwynt
A glywswn yn y fynwent gynt.


Hi a droes i fydru'n hanner llon,
A'i mydr mor gam â hithau bron;
A dyma'r truth, os cofiaf fi,
A ddaeth o'i gweflau sychlyd hi:

"Gwych ydyw sefyll, fy machgen clên,
A minnau'n crymu'n nychlyd a hen;
Sefyll, torsythu am dipyn bach,—
Paid â malio smaldod hen wrach.
Safasant hwythau, rai er cyn co,
Ond cryf yw'r Medelwr. Ho! ho! Ho! ho!
Casglodd fawrion byd i'w gofl,
Gwnaeth y balch yn is na'r sofl.
Dos i'r fan a fynych, weithian,
Yno bydd ei law a'i gryman.
Gwelais gedyrn yn y plwy,—
Dyma lwch eu mawredd hwy.
Sefyll, torsythu am dipyn bach,—
Paid â malio rhigwm hen wrach.

"Gwn it synnu a rhyfeddu
It fy ngweld fel hyn yn crymu.
Onid fel hyn y dylwn sefyll
Ynghanol dy gymdeithion serfyll?
Diau, rhyw chwidryn dwl, ysmala
A godai'i ben yn uchel yma,
Â'i amgenach ef, o dipyn mawr,
O'i amgylch yn gydradd â llwch y llawr.


"Ond nid yw'r gŵr a orwedd danaf
Yn hidio dim pa fodd y safaf.
Caf ŵyro fel hen dderi'r fro,
Union fydd ei enw o.
Druan o'r hwn a ofyn faen
I gadw ei enw yn ddiystaen!

"A weli di'r golofn uchel, syth
Acw fel tŵr nas cwympir byth?
Edrych arni yn ymunioni
Er mwyn y gŵr sy'n llechu dani!
A weli di'r farnais wen a'r sglein?—
Rhyw dipyn bach o gelwydd ffein!
A chofia di fod hynny'n eitha,—
Nid dyma'r fan i ddweud y gwaetha.

"Ho! Pwy wyf fi i godi 'mhen
A sythu'n ffroenfalch hyd y nen?
A wasanaethais am ganrif bron
Heb adnabod fy lle ar yr aelwyd hon?
Dyma dre'r Archgwympwr Mawr
Nad yw'n ddiorchest am ennyd awr,—
Cwympwr cewri'r gad a'u harfau,
Cwympwr teyrnedd a'u gorseddau.
Pa sawl bwriad dan y nef
A deimlodd fin ei bladur ef?
Pa sawl breuddwyd gyda'r wawr
A gasglwyd i'w gynhaeaf mawr?
Rhyw anhyful forwyn fyddwn
Yn ei dŷ ped ymunionwn.


"Dichon y carit gael fy hanes,
A deall nychdod mwrl druanes.
Bu i minnau raenus wedd
Fry uwch cyrraedd llwydi'r bedd;
Ac ni fedrai oedran chwaith
Osod arnaf grych na chraith.
Taflai'r mynydd, hafa gaeaf,
Ei gadernid mawr amdanaf;
A chawn fantell werddlas, dlos
Imi'n gwrlid ddydd a nos.
Heddiw, yn y gwynt a'r glaw,
Gwasanaethaf Frenin Braw.
Oni weli yn fy nhro
Ei ffraethineb rhyfedd o?

"Cludwyd fi o'r fan hawddgaraf,
Rhoddes yntau'i fysedd arnaf.
Dyma finnau'n gaethes iddo,—
Pwy a ddichon ddianc rhagddo?
Yma gyda'r llys a'r beddau,
Aeth fy nrych mor hyll ag yntau.
Cadwodd fi yn nhawch y glyn,
Gwthiodd fi ar dro fel hyn.
Oni ddylai'i forwyn of
Blygu'n bendrwm tua'r gro?
Och ! Mae mynas oer y bedd
Yn ystumio yn fy ngwedd!"

Aeth oerni'r wawch ofnadwy hon
Fel picell angau drwy fy mron;
Ac er i'r wrach am ennyd dewi,
Mi deimlwn waed fy ngwythi'n rhewi;

A theimlwn ddafnau oer o chwys
Yn rhedeg dros fy nhâl fel pys.
Ac ebr y wrach: "Mae'r dydd yn darfod,
A gwn im eisoes glebran gormod.
Dos! Mae'r heol yn dy alw
Draw o ŵydd hen widdon salw.
Tro dy gefn yn gwmwl arni,
Paid â chofio'i threm na'i stori.
Ie, dos i chwarae dro,—
Ti ddeui'n ôl. Ho! ho Ho! ho!"

Daeth niwlen weithian dros ei gwedd,-
Rhyw niwlen laith o dir y bedd;
A gwelais innau'n ddiymdroi
Fod imi gyfle braf i ffoi;
Ond-ow!-rhag cymaint oedd fy mrys,
A'm cnawd yn swp o rew a chwŷs,
Mi lithrais ar hen fencyn serth
A rholio yn fy hyd i'r berth;
A dyna'r syndod mwyaf wedyn
Fan honno yn y brwyn a'r rhedyn,
Chwerthin gan ofn a gwylltio mawr
A syllu i fyny ac i lawr.

Fe garai llawer gael fy llun
O'm gweld lle'm cefais i fy hun,—
Yn grug wrth odre'r pentwr mawn
Yn methu deall pethau'n iawn.
Rhwbiais fy llygaid lawer gwaith
Hyd oni fedrwn weled ffaith,—
Y dydd yn duo uwch fy mhen,
A'r sêr yn dechrau gemu'r nen.


Esgud y codais i drachefn
A'm rhoi fy hun mewn taclus drefn;
A da oedd gennyf ado'r fan
A throi fy nghefn ar furiau'r llan.
Diolchais am yr heol wen,
Am awyr las a sêr uwchben;
Ac ni bu miwsig gwell erioed
Na rhwdl y cerrig dan fy nhroed;
Cans pan arafwn ennyd awr
A goddef y distawrwydd mawr,
Dilynai llais o bellter bro,—
"Ti ddeui'n ôl. Ho! ho! Ho! ho!"

MEISTR Y CLOEAU

[Ar ôl ei weld, mewn brawdlys, yn trafod gwahanol gloeau, a'i glywed yn eu disgrifio].

DI, heriwr clymwaith dyrys,—y glewaf
At gloeau anhysbys!
Dy arfer mewn llawer llys
Ydyw edrych a'u dadrys.

Od oes it ddiball allwedd—a egyr
Byrth agos dy dudwedd,
O'th ddinas ferw a'th annedd
Dos at borth distaw y bedd.

Hen ddôr gadarn, haearnaidd,—gwal hiraeth,
Mur galarwyr llwydaidd;
Er cri enfawr gwŷr cawraidd
A'u pwyo trwm, pwy a'i traidd?


YR ADAR

O bu ddifeth eu plethwaith,—a erys
Cryndai'r seiri perffaith?
Yn y gwynt, murddun eu gwaith,
Anial eu holl gywreinwaith.

Os yw'r nyth yn sarn weithian,—o'i llunio
Cyfyd llawnach cytgan,
Huodledd dôl a choedlan,
Haelioni mawl yn y man.


CWRT YR YSGOL

LANNERCH y filltir gyntaf,
Nefoedd plentyndod yw;
Llamu cyn gweld y ffordd ymlaen,
Chwarae cyn dechrau byw.

Terfyn y byd yw'r gorwel
I'r deiliaid bychain, llon;
Ac ni ddring ofn, nac atgof hen
Dros fur y llannerch hon.

Undydd yw amser yno
Heb iddo gyfrif oed.
O! druan bach o'r hen dad cu
Na fu yn llanc erioed!

Ar daith sy'n arwain obry
At ffrindiau hen a ffoes,
Diolch am ddechrau nad yw'n dwyn
Cysgodion diwedd oes.


PONT Y PENTREF

DIFYR eu clebran ar y bont
Cyn dyfod dydd y treisio,—
Mor ddifyr fel na chlywai neb
Yr afon wyllt yn lleisio.

Dai, Wil a Shors â'u cellwair ffraeth,
A Ned â'i fwmian sobor,
Un oeddynt gynt yn oedfa'r hwyr,
A'r un yw maint eu gwobor.

Ar fur Tŷ Cwrdd ein pentref bach,
Eu henwau oll a naddwyd;
A saif croesbrennau hwnt i'r môr
I nodi'r fan lle'u claddwyd.

Ond erys cofeb iddynt hwy
Sy'n fwy na'r holl ddyfeisio,—
Distawrwydd beunos ar y bont,
A'r afon wyllt yn lleisio.


PORTH YR EGLWYS

PORTH olaf hen bererin
Po Â'i drem ar arall fyd,
A'r hafau a'i diddanai gynt
Yn grinddail mân i gyd.
Mae yno'n cyrchu Nefol Wawr,
A throi ei gefn ar bethau'r llawr.

Caiff gwmni hen gyfoedion,
Oll yn eu dillad parch;
A bydd, pan rodder heibio'i ffon,
Ysgwyddau dan ei arch.
Try porth y cysegr bach yn awr
Yn borth y Tragwyddoldeb Mawr.


HIRAETH ALLTUD

[Wrth glywed seindorf yn canu "Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech."]

CENWCH hen ardal fy serch i'm calon,
Pob llyn a gofer a pob llwyn ac afon!
Gelwch yn ôl glych hen ei hawelon,
Hudlais ei moelydd a'i gelltydd gwylltion!
Erddi, a'i dolydd gwyrddion—a'i llwyd gaer,
Awn i ferw yr aer i farw yr awron.

O! na chawn eilwaith, o'r daith adwythig,
Awr o ddiddanwch ar ffriddoedd unig,
Gweled tawelfro'r pinaglau talfrig,
Ail ddringo'i chreigiau a'i llethrau llithrig,
Drachtio'i hoen gyda'r oenig—a'r chwa bur,
A chladdu cur dan ei chloddiau cerrig!


YR AFRADLON

PAHAM y gŵyraf dan y baich
Sy'n fwy nag wylo mawr?
Nid am fy nghloi rhwng muriau cell
Sy'n nos pan dorro'r wawr.

Nid am na fedraf ddwyn y gosb
Sy'n gyfiawn dâl i'm bryd;
Nid am na feddaf ffrind, fy nhad,
Na cheiniog yn y byd.

Nid am im ddwyn dy aur a throi
Dy rudd yn boethder hallt,
Ond am na fedraf wario fyth
Yr arian sy'n dy wallt.


MAM A'I BABAN.

Yn ei lun a swyn ei lef,—hi a wêl
Olau ar bob dioddef;
A hawdd heddiw yw addef
Na bu dydd fel ei ddydd ef.

Coffáu'r disgwyl wrth ei anwylo,
A'i ddwrdio'n dirion am hir dario;
Ei foli wedyn a'i gofleidio,
Hwian ei werth a glynu wrtho;
Rhoi nodded dwyfron iddo,—nos a dydd,
A chael nawnddydd ei chalon ynddo.

Ei wyneb, pwy a'i lluniodd ?—Y dwylo
Dilin, pwy a'u naddodd ?
Ei rannau mwyth, yr un modd,
A'i eurfin, pwy a'u cerfiodd?

Diau, hwn oedd dyhead—oriau haf,
Eisiau'r haul a'r lleuad.
I dymor ing rhoed mawrhad,
A gwerth cur yw gwyrth cariad.


BUGAIL

Bûm gydag ef yn llamu'r perthi brigog,
A'i weld,—ymhell o'm blaen ymhen y daith,—
Yn gollwng oen yn rhydd o wifren bigog
A redai'n derfyn dros y bryndir maith.
Gadewais ef, a'r oen yn cilio'n hoenus,
Yn wyliwr yn nhawelfro'r nant a'r brwyn,
Ei ddwylo'n waedlyd wedi'r drafferth boenus,
A gwên gwaredwr ar ei wyneb mwyn.
Bûm gydag ef, â'r gynnau mawr yn tewi,
Yn rhuthro'n bendrwm, chwil drwy'r tawch a'r mwg,
A'i weld drachefn o'm blaen ar ros Llanddewi
Yn cyrchu ffin o wae heb arf na gwg.
Gadewais ef yn nharth y tyllog rosydd
Ymhlyg ar wifren bigog rhwng y ffosydd.


MUR

NI soniaf am fy ieuanc nwyf,
Torraist fy malchder a'th gadernid du,
A'm dysgu mai carcharor beunydd wyf
Heb ryddid onid atgof am a fu.
Os gwelaf eto nef fy mebyd ffri,
A honno'n ymbellhau o hwyr i hwyr,
Rhagof ni syllaf ennyd nad wyt ti
Yn tragwyddoli fy nallineb llwyr.
Bu holi dwys a'th guro, faen ar faen,
A gwag ddychmygu er esmwytho cur,
Ond clawdd o gerrig beddau sydd o'm blaen,
Caer o fudandod, ansymudol fur.
Felly y gorfydd arnaf, druan caeth,
Ddyrchafu 'nwylo at yr Hwn a'm gwnaeth.


GWYLAN UWCH CAE GWENITH.

GWYLAN deg, eilun y don,—hi a wêl
Fôr heulog yr awron.
Del y nawf cysgodlun hon
Ar ei wenyg claerwynion.

Ai si lleddf y tywys llaes—a'i hudodd
I fro'r cnydau hirllaes?
Morwyn y môr yn y maes
Yma'n hedfan mewn ydfaes!

Sudda'i hesgyll. Cais ddisgyn—ar wynllif
Arianlliw, troi wedyn;
Yna deall nad ewyn
Yw lledrith y gwenith gwyn.


YMFFROST BRENIN BRAW

"Oes dim help rhag Angeu Gawr,
Y Carnlleidr, Mwrdriwr mawr,
Sy'n dwyn a feddom, ddrwg a da,
A ninnau i'w Gigfa gegfawr."—Y Bardd Cwsc.


YMROWCH a chloddiwch, chwi drigolion daear!
Derfydd ffwdanu, a bydd gorffen gwaith.
Caf weld eich planed, fel y lloer, yn nofio
Yn gromen ridyll drwy'r gwagleoedd maith.

Trowch i'r gorffennol eang gan ymwrando!
Peidiodd cyniwair brwd a mynd i'r oed.
Gwacter yw diwedd cyrchu, drwy'r canrifoedd,
A'r hyn a fu fel peth na fu erioed.

Ewch rhagoch yn finteioedd i'r dyfodol!
Difancoll fydd i chwithau yn y man;
A lle bu'r tramwy a'r dyheu, nid erys
Nac argraff troed, na rhigol carafan.

Fel y manylwch oll, mewn teml a brawdle,
Am bethau union, pethau gŵyr!
Dileaf eich rhinweddau a'ch troseddau,
Diddymaf eich graddfeydd yn llwyr.

Yma'n y pridd, a'ch dwg yn ddiwahaniaeth,
Mae ffiniau'r drwg a'r da, y gwir a'r gau?
Yng ngenau'r dwfn a'ch llwnc, mae'r chwerw a'r melys?—
Cythraul a sant, yr un yw blas y ddau!


Y bloeddiwr croch a heriai ormes mawrion
Ac addo euraid oes i'w blaid.
Teflais fy nrain chwerthinog dros ei wyneb,
Llenwais ei enau gwag â llaid.

Mynnwch fod sŵn y cefnfor yn y gragen
A daflwyd, rywfodd, i'r mynydd-dir draw.
Dyma i chwi benglog hen feddyliwr dyfal
A soniodd lawer am y Byd a Ddaw.

Rhowch wrth eich clust y "gragen" hon a gwrando
Dan glawdd cysgodol lle ni thery gwynt.
A glywch chwi furmur tragwyddoldeb ynddi?
A glywch chwi sŵn yr hen obeithion gynt?

Chwi soniwch am ehedeg fel eryrod,
A chwithau'n blino ar ffyrdd nad ydynt serth.
Try eich hynafgwyr yn fabanod eilwaith,—
Ai felly y dring eich hil o nerth i nerth?

Pa les eich rhedeg a'ch ymryson chwannog
A'ch brwd gystadlu ar lwyfannau'r tir?
Yr un yw gwobrwy pawb ar ben yr yrfa,—
Dibennu'n gydradd mewn distawrwydd hir.

Pa les cynilo a threulio bys i'r asgwrn?
Ni chelir undim rhag fy mysedd i.
Pan gefnoch ar eich llafur, mi ofalaf
Na bydd dimeiwerth yn eich dwylo chwi.


Wele fwth tyllog hen dyddynnwr diwyd
A grafodd lawer ar ei ardd a'i ddôl.
Yn waglaw yr aeth ymaith yn fy ngherbyd,
A gado drain ac ysgall ar ei ôl.

Dyma orweddfan hen amaethwr cefnog
Na roddodd gyflog byw erioed i was.
Tynnais y ffiol lawn o'i afael yntau,
A'i gloi'n ysgerbwd dan dywarchen las.

Chwi, gadfridogion hy â'ch meirch rhodesgar,
A'ch cleddau'n fflachio'n danbaid megis mellt!
Syllwch yn ôl am ennyd fel y gweloch
Nad yw eich balchder chwithau onid gwellt.

Mae'r teyrn a safodd gynt ar flaen ei fyddin,
A'i longau'n rhesi ar fin y traeth?
Fel arglwydd daear oll y sythodd yno;
Fel truan tlawd, i'r llwch yr aeth.

Cyn myned un o'm myrdd canrifoedd drosto,
I lawr o'i thrôn y daeth, efô a'i rwysg;
Gŵyro i'r gweryd fel hen gyff a fallodd,
Pendrymu i'r ddaear fel creadur brwysg.

Tan garreg nadd a cholofn lathr y gorwedd,
Heb i'w wynepryd mwy na gwg na gwên;
A'r hedd a elwch chwi'n dawelwch sanctaidd,
Onid yw acw yn fy ogof hen?


Mae Hannibal a drechodd lengoedd Rhufain,
A'i fawrthig nwyd yn ddychryn yn ei wedd?
Rhedodd fy llyngyr drwy ei ymysgaroedd,
Tyllodd fy rhwd newynog ddur ei gledd.

A'r balch ymerawdr a ostyngodd wledydd,
A'i wersyll ar bob lleindir dan y nef;
Ei aerwyr, ei osgorddlu a'i buteiniaid,
Crugiais eu hesgyrn gyda'i esgyrn ef.

Adfail ei sedd yn noethni'r Coliseum,—
Gwarwyfa waedlyd y pencampwyr gynt ;
A'i deigr, ei lew, ei banther a'i ornestwyr,
Fel us yr aethant oll o flaen fy ngwynt.

Mi welais daflu ei gaethion i'r bwystfilod,
Ei grechwen yntau a'i ddifyrrwch mawr.
Mi a'i tynnais bendramwnwgl o'i uchelfan,
A'i ado'n dom anghyffwrdd ar y llawr.

Mae Cleopatra, degwch gerddi'r Dwyrain?
Mae chŵydd y bronnau hael, y gwrid a'r gwres?
Mae'r corff gosgeiddig a wirionai deyrnedd?
Chwilier amdanynt yn niddymdra'r tes.

Lle ciliodd Alecsander Fawr a Darius,
Daeth dwndwr gynnau mawr a bom a thanc.
Diflannant, yr un ffunud, i dir angof,
Ac yno ni bydd diwedd ar fy ngwanc.


Gwelsoch y môr yn llyncu gwaith eich dwylaw,
Felly y llyncais innau er cyn co'.
Gadewais garn anhysbys lle bu dinas,
Anghyfanedd-dra lle bu balchder bro.

A geisio wychder Babylon a'i mawrion,
Sylled i'r gwacter a adewais i.
Llwch ei gogoniant, megis Tyre a Sidon,
A'i seiri'n llwch dienw gyda hi.

Ddinas y Rhosyn, a'i rhialtwch trythyll,[1]
A'i heirdd lancesi fel duwiesau noeth;
Hen bentwr o lonyddwch yw, a'r madfall
Yn wincio'n ddioglyd rhwng ei meini poeth.

A esyd pensaer heddiw lun ar femrwn,
Gan addo godidogrwydd teml a thref,
Nad yw fy mysedd anwel ar ei bwyntil,
A'm cynllun innau ar ei gynllun ef?

Syllwch ar wyrthiau'r gof a'r adeiladydd!
Ceir yno rywun sy'n ddyfeisydd mwy.
Y mae fy mhryf wrth fôn pob trawst a philer
Yn turio'n gyfrwys dan eu cryfder hwy.

Boed goch dy rudd, benadur llon, am ennyd,
A'r gwledda'n hwylus wrth dy fyrddau di!
Mor wyn â'r pared gwyn oedd grudd Balsasar
Pan welodd arno fy ysgrifen i.


Galw dy frudwyr a'th astronomyddion
Pan welych arwydd a achoso fraw!
Ni feddant na pherswâd, na swyngyfaredd,
Na thâl a bair im dynnu'n ôl fy llaw.

Tro, yn dy gystudd, at dy hen ffisigwr
A ddofodd, lawer gwaith, dy ddolur di!
Ei lymaid olaf ef, rhag poen a blinder.
Fydd dracht marweiddiol o'm hen gostrel i.

Rhag fy anochel afael ar yr einioes,
Pa wibiad a "ymgêl pan ddêl ei ddydd?"
Nid angof gennyf nebun a dramwyo,
Ffroenaf bob treiglwr fel bytheiad rhydd.

Pan gydiwyf ynoch, yn eich aml drigfannau,
Diffydd eich anadl fel y diffydd llaig.
I'r babell ar y tywod y dynesaf,
I'r gaer a orffwys ar sylfeini'r graig

I bellter y diffeithwch mawr, anghyffin
A ddianc Arab rhag fy asgell gref?
Pan oero'r poethwynt gan ei frys carlamog,
Cyflymach wyf na'i farch cyflymaf ef.

Adeiniog wyf a throediog wrth fy newis,
Chwiliaf yr wybr, y tir a'r cefnfor maith.
Ni ffoes chediad rhag fy erlid dyfal,
Na rhedwr chwim, na nofiwr buan chwaith.


Ieuanc y tariaf yn y castell hynaf
Hyd oni ddêl pob maen i lawr.
Nid yw'r hen dderwen im ond rhith cadernid,
Na chanrif onid ennyd awr.

Pwy rydd i lawr fy oedran anhraethadwy?
Ni'm deil na'ch triliwn, na'ch cwadriliwn chwi;
A phwy a rif ar lechres hen amseroedd
Y cewri fyrdd a gwympais i?

Crugiais fwystfilod yn domennydd distaw,
Teflais y mamwth hyll o fysg y byw.
Hunllef y Naosaur a'r Moa heddiw,
A'r Dinotherium yntau, bwgan yw.

Crynodd y sêr pan ddeuthum ar eu gwarthaf,
Siglodd planedau megis tonnau'r lli.
Diflannodd bydoedd mawrion megis crinddail
O flaen rhyferthwy fy nherfysgoedd i.

Trois o'r dieithrwch pell i'r oesoedd clasur,
A llorio'u doethion pennaf hwy.
Pythagoras a Homer, enwau ydynt,
A'u lle nid edwyn monynt mwy.

Cyrchais guddfeydd yr aur a'r gemau tanlliw
Rhag colli neb a fentrai'r enbyd daith.
Dilynais hen arloeswyr y mwngloddiau,
A'u gado'n dlodion llonydd ar y paith.


Pentyrrais dwf fy niffeithleoedd drostynt
Ymhell o fangre'r yw a'r mynor drud.
Lle cysgant hwy, nid oes na pharch, na galar,
Dim ond gerwinder hen glogwyni mud.

Aeth eraill draw ar gyrch i'r Gogledd unig,
Ac ni bu teithio daear mwy.
Taenais ddistawrwydd eira dros eu hesgyrn,
A phwy a wêl eu hundy hwy?

Myfi'r Gwyliedydd Mawr, myfi sydd yno
A'r creigiau crisiant unlliw'r lloer;
A'r sêr diglywed, pan gyfartho'r morlo,
Yn syllu ar dragwyddoldeb oer.

***
Clyw, fyd rhyfelgar, ddiolch dy goncwerwr !
Dofaist yr unig ofn a'm blinodd i.
Rhag her bedd gwag a sialens maen a dreiglwyd,
Cefais yn darian dy anffyddiaeth di.

GWYLAN FARW

AR ŵyr y nawf yr awron—heb osgo
Byw i'w hesgyllgwynion.
Llaes ei dull, iarlles y don,
Morwyndod marw y wendon.

Ni bu hedd ar wib iddi—yn y maes,
Galwai'r môr amdani;
A rhoed ei chlaerwynder hi
Yn ôl i'r trochion heli.

CLADDU BARDD

ER rhoddi'r bardd dan briddyn—heb aur byd,
Bu aur byw i'w linyn;
A thrwy ei glod, aeth i'r glyn
Yn gyfoethog o'i fwthyn.

A fydd rhyw gân ryfeddol—i'r hoff ŵr
Hwnt i'r ffin ddaearol?
A erys nwyf sy ddwyfol,
A thwf rhyw wyrth fwy ar ôl?


BEDDARGRAFF AREITHIWR

LLEFODD ar lawer llwyfan,—a'i arawd
Eirias yn llawn trydan.
Ei le'n awr yw llawr y llan,—
Byd oer i fab y daran.

Ysodd a'i chwyrn ymosod—nwyd gwerin;
Arf deufin ei dafod.
Yn nawn ei ddawn, prudd ei ddod
I hendy oer mudandod.


BEDDARGRAFF GWERTHWR GWIN

DIYSTŴR y gwerthwr gwin—a noddodd
Holl rinweddau'r grawnwin.
Wedi gorwedd, nid gerwin
Y suraf ias ar ei fin.

Silffoedd ei winoedd ni wêl,—noswyliodd
Mewn seler rhy isel.
Mae heb ddafn, a'i safn dan sêl,—
Iechyd da i'w lwch tawel!


BEDDARGRAFF CLEPWRAIG

MAE hon heb air am unwaith,—wedi stŵr
Daeth distawrwydd perffaith.
Ar gleber ofer afiaith
Rhoed clo Amen,—Amen maith.


BEDDARGRAFF MORWR

DYRCHAFER cri o'r môr maith,—ni chlyw ef
Na chloch na gwynt diffaith;
Ac ni chwâl yr eigion chwaith
Angorfa'r angau hirfaith.



DYN ANWADAL.

CYFNEWIDIOL addolwr,—un heb wraidd,
Un heb ruddin carwr;
Ansefydlog, oriog ŵr,
Ddoe yn frawd, heddiw'n fradwr.


Y GRAIG

YM merw llid y môr llydan,—hi a chwâl
Donnau chwyrn heb wegian;
Ond uwch twrf y cynnwrf can,
Dyry aelwyd i'r wylan.


BRYNACH

ER ei ddwyn dan glawr o ddôr—ei annedd
I le'r meini mynor,
Hir dystia'i waith na roed stôr
Ei athrylith ar elor.



LLWYBR Y MYNYDD

Er hanes yn y mynydd—yw uno
Hwsmonaeth a chrefydd,
Dirwyn a dwyn beichiau'r dydd
I le'r mawl ar y moelydd.



YR ALARCH

NAWF fel hud yn fud wrth fanc,—a'i wenwisg
Fel manod diddianc;
Ond clyw'r llif a'r lloer ifanc
Ei awen drist yn ei dranc.


Y BEDD

HYD yno'r awn dan y rhod—yn llu dall
Gan wyll dwfn, diddarfod;
Hen geubwll lle paid gwybod,
Ceulan y byw, llynclyn bod.


MOLIANT.

LLE bo llonder aderyn—a lliw Mai
A llam oen ar lasfryn,
Fe glyw Iôr, uwch twrf y glyn,
Fawl Ei dawel flodeuyn.



YR YWEN

FEL nos rhwng coed yn oedi—y saif hon
A'r dwysaf faes dani.
Mae cwsg y bedd i'w hedd hi,
A'i gaddug yn frig iddi.



Y GORWEL

WELE rith fel ymyl rhod—o'n cwmpas,
Campwaith dewin hynod;
Hen linell bell nad yw'n bod,
Hen derfyn nad yw'n darfod.


Y LLWYDREW

HAEN O wynder dros weryd,—Anian lom
O dan len o dristyd;
Arianlliw bore rhynllyd,
Oer ias y bedd dros y byd.


YR UCHEDYDD

GWYRTH ei osgo wrth esgyn,—â'i arawd
Yn diferu'n llinyn;
Yna dylif yn dilyn,
Fel glaw aur, dros foel a glyn.



Y GALILEAD

O, GRIST llwydwedd! Rhyfeddod—yr oesau,
Drylliog Rosyn dyndod;
Y glanaf, addfwynaf Fod,
Gwrthodedig wyrth Duwdod.


DI, DDEDDF!

AERAIST y dryllit ti fy nerth gwrthnysig
A gyrru trwy fy ngwythi fraw.
Tyngaist y'm plygit megis corsen ysig
A'm troi fel pabwyr yn dy law.

Mi wn it daflu cadwyn drom amdanaf,
A'm llusgo'n friw dros lwch y llawr;
Mi wn it lawenychu yn fy anaf,
A'i alw yn fuddugoliaeth fawr.

Eithr cyn it ddwyn fy rhyddid a'm carcharu
A dannod imi faint fy mhall,
Dynesodd ataf un a fentrodd garu
Y truan gwael heb gyfri'r gwall.

Ni fedrodd yngan geiryn. Eto gliried
Oedd cenadwri'r edrych mawr!
Cans yn ei threm llefarodd rhyw ymddiried
Na fu ar wefus ennyd awr.

Hir, hir y syllodd, a chan fawr dynerwch,
Estynnodd lili wen i mi.
Ond odid, gwelodd ynof, drwy'r aflerwch,
Ryw fymryn gwyn nas gwelaist ti.


Ar ôl it droi fy wyneb at y pared
A'm cloi o olwg popeth gwell,
Disgwylit imi ganfod dydd ymwared
Lle nad oedd im ond nos fy nghell.

Disgwylit imi weled llun fy ffaeledd
Lle nad oedd im ond gwaetha'r byd.
Disgwylit i droseddwr weld ci waeledd
Â'i lygaid ar y gwael o hyd.

Noethaist fy nghefn i dderbyn grym dy fflangell,
A dieflig oedd dy ddial di.
Ni wyddit pan ddadebrais yn dy gangell
Nad oedd ffyrnicach diawl na mi.

Mae'n wir na fentrais godi fy lleferydd,—
Gwyddwn it roddi clust i'r mur;
Ond cronnodd ynof wenwyn berw dy gerydd,—
A dyna ffrwyth dy ddwrn o ddur!

Disgwylit imi doddi'n edifeiriol
A gwasgu'r ffrewyll at fy min.
A welaist ti'r clogwyni rhew yn meiriol
Pan wawdio Ionor noethni'r pin?

Torrodd dy forthwyl haearn cyn fy malu,
Ond sernaist lawer dernyn da.
Ni ddysgaist mai tynerwch haf sy'n chwalu
Cadernid y mynyddoedd ia. —


Eithr lle caledais dan y llaw a'm clymodd,
Hynny, O! Ddeddf, a ddysgais i.
Mi gwrddais ag addfwynder a ddirymodd
Y nerth oedd drech na'th waethaf di.

Ymffrostia di it dorri grym fy mrwydro,
Adnabu f'enaid goncwest well;
A gŵyr o hyd i'm bysedd nerfus grwydro
At lili wen ar lawr fy nghell.

Addefaf imi waedu dan dy ddwylo,
Eithr gwaedais heb na chŵyn na chri.
Diau y synnit i'th garcharor wylo
O fethu dal ei mwynder hi.

Ba les im edliw bellach im d'orchfygu?
Onid yw'r brwydro hir ar ben?
Lle methaist ti â'th ddwrn o ddur fy mhlygu,
Toddais dan gerydd lili wen!—

Y PYSGOTWR A'R BARDD

AR ddiwrnod teg, yng nghwmni bardd,
Mi euthum i bysgota;
Ond gan mor fwll yr hafaidd hin,
Fy nhynged oedd pencawna.
Gwag oedd fy masged drwy'r prynhawn,
A'm llygaid ar y dyfroedd,
A'r bardd yn medi'n hael o'r swyn
A lifai trwy'r dyffrynnoedd.

Gorffwysais oriau rhag y tes,
A'r afon hithau'n ddiog,
A'r chwilod a'r gwyfynod byw
Ar wib fel fflur adeiniog.
Edmygwn innau liw a llun
Fy mhluog glêr fy hunan,
A'r bardd yn moli lliwiau'r berth
A llun y twyn a'r goedlan.

Ond daeth gweddnewid gyda'r hwyr,
A'm llygaid yn ymlonni,—
Yr haul i'w wely'n mynd i lawr,
A'r pysgod pert yn codi.
Bu gwledd i ddau ar derfyn dydd
Yn llawn o swyn a syndod,—
Y bardd yn dal gogoniant hwyr,
A minnau'n dal brithyllod.


YR AFON

CYFRIN ei glwysiaith ar dalaith dolau,
Ail sibrwd isel asbri duwiesau,
Neu barabl nymffod, ddireidus fodau,
Â'u hafiaith anwel yn nhwrf ei thonnau;
Ac ail i gryman golau,—adeiniog
Y llam yr eog o'i gwridog rydiau.

Naid dros ddibyn, a'i chwymp, gan daranu,
Yn ceuo'r wenallt, a'r llethrau'n crynu.
Ar ruthr hedlam hi a ddeil i lamu,
Rhuo a lluwchio, a'r dwrgi'n llechu,
Cynnwrf ewynlliw'n cannu—agendor,
Rhwyg yn ymagor, a'r graig yn mygu.

Obry, fel diog deyrn yn ymogel
Rhag gwŷn a'i hysodd, a'r caeau'n isel,
Hi a arafodd. Paid gwynlliw'r ufel,
Y rhuo brochus a'r berwi uchel;
A goris awyr gwrel,—teifl y cyll
Eu lliwiau tywyll i'w phyllau tawel.


HEN FWTHYN

CEFAIS yno ddrws agored
Yn y dyddiau gynt.
O! na allwn heno'i gaead
Rhag y glaw a'r gwynt!

Dyma'r lloer yn lamp i'r aelwyd
Lle bu'r gannwyll frwyn;
Ond ni roir ei llewych heno
I'r hen fugail mwyn.

Yma yr atebodd, droeon,
Lef o nos y ffridd;
Yma y penliniodd yntau
Ar yr hen lawr pridd.

Tros ei olaf wely heno
Chwyth yr awel gref;
Ac mor hy yw'r drain a'r ysgall
Lle penliniodd ef!


UNIGEDDAU

LLE brysiai llaweroedd heibio,
A'm rhwystro bob ennyd awr,
Trwy wacter y cerddwn, fugeilfab dwys,
Ar balmant y ddinas fawr.
O! na chawn ddilyn hen lwybrau'r ffridd
A phlannu fy nhraed yn y sofl a'r pridd!

Clywn dorf yn addoli'n llafar,
A'r lleisiau'n ddwy fil neu fwy,
A phibau'r organ yn rhuo clod
Y duw a adwaenent hwy,
A minnau'n cofio am wlithog lain
A hen gyfrinfa'r "llef ddistaw fain."

Aed esgob dan gromen euraid,
Aed mynach i nos ei gell,
I minnau adfered y lloer a'r sêr
Sancteiddrwydd y bryndir pell!
A baid organau a lleisiau byw
Na bydd huodledd i'r neb a glyw?


Y MEDELWYR

[Yn ôl darlun Millet].

AR leindir aur lle plygant wrth eu tasg,
Ag iddynt fedel sy'n ddirgelwch im,
Gŵyrant dan bwys rhyw orfod trwm a wasg
Eu trem i'r ddaear fel na choller dim.
Eithr gyda'r taer ymestyn, drem a braich,
A'r lloffa nad yw'n llaesu ennyd awr,
Onid oes iddynt hwy amgenach baich
Nag ofn ysgubor wag a thlodi mawr?
Bron na ddaw gwayw i'm gwar o weld y rhain
Yn crymu heb esmwythyd cefnau syth
Malpai i'w hymchwil, rhwng y tywys main,
Drysor a'u ceidw o dan ei ormes byth.
Diau pe plygwn fel y plygant hwy,
Y doi i'm gafael innau olud mwy.


DOE

O I un a gladdwyd lun a goleddwn,
Yn unig, anniddig yr heneiddiwn
Dan frithliw'r gorffennol a addolwn.
Eilwaith ein nef a welwn—fel carn lwyd
Annedd a chwalwyd, ond ni ddychwelwn.


DAIL YR HYDREF

TARIANT, lu syn, uwch y ddôl ddifoliant
Yn dorf allwynig lle darfu lloniant.
Yn nwyster rhyw angerdd tlws y trengant,
A fflam eu lliwiau yn cynnau ceunant.
Gleiniog hyd gwymp y glynant—wrth lwyni;
Cain eu geni, a'u tranc yn ogoniant.



Y LLOSGFYNYDD

HEN ffwrn naturiol, uffern y tiroedd,
A'i chorun ufel yn cochi'r nefoedd ;
Mygdwll yr uchder, pair yr aberoedd
A lam yn oddaith o le mynyddoedd.
Is ei goelcerth, mae'r nerthoedd—a dry'n ôl
Her ei dân ysol, gladdwr dinasoedd ?


Y DDRYCIN

I rhiain ddwys sy'n crio—yn ei phoen
A Dan fy ffenestr heno?
Ni chais air i'w chysuro,
Ni ofyn hedd dan fy nho.

Yr awel oer, alarus—ydyw hon
Lle bu'r dydd soniarus.
Darfu'r hedd gorfoleddus,
A chladd y lluwch leoedd llus.

Syllaf yn ofnus allan,—moel yw'r wig,
Moel yw'r ardd a'r berllan.
Rhewin noeth yw'r waun weithian,
Tyllau i'r gwynt yw lle'r gân.

Ger y mur lle gŵyrai Men,—a'i gwrid teg
Fel gwawr tân ar wybren,
Trwy noethni truan aethnen
Daw oerllyd wawr lleuad wen.

Ai hon a deifl golfenni—oer eu drych
Acw ar draws y cenlli?
Lledwyr a llwyd ar y lli
Y llunir moeledd llwyni.

Mae'r dail a emai'r dolydd—yn nychu
Yn sŵn ochain coedydd,
Yntau'r haf dan hyrddwynt rhydd
Yn adfeilion hyd foelydd.


Ysbryd dwys sy'n sibrwd hynt—yr angel
A drengodd mewn corwynt.
Daw murmur cur i'r cerrynt,
A sŵn gwae yw sain y gwynt.

Y rhewynt biau'r heol,—y rhewynt
A rhyw druan crwydrol.
Ceir allwyn ar dwyn a dôl,
A'r gyrwynt lle bu'r garol.

Glaw creulon weithion a ylch—yr heol,
Rhua'r storm o'm hamgylch.
A ddaw i dwlc na ddîylch
Heno'n daer am gaer o'i gylch?

Dua'r nos ar y rhosydd,—a llewych
Y lleuad a ddiffydd.
Fel chwil dyrfa, gŵyra gwŷdd,
Llefa eigion llifogydd.

Deffroes yr araf afon—i neidio'n
Nwydwyllt dros erchwynion.
Hyd erwau llus dryllia hon
Lethrau uchel â'i throchion.

Ewynna ar ewinallt,—a'i gwynllif
Dros ganllaw'n ymdywallt;
Hyrddia'n chwyrn hen gedyrn gallt
Ail brwyn hyd lwybr y wenallt.


Trychineb yn trochioni—yw ei grym,
A'r graig yn wêr iddi.
Yn null y môr y llam hi—dros fawnog
I'w hynt drystiog heb oddef pont drosti.

Ednod a milod y moelydd—a wasg
I gysgod magwyrydd.
Mae'r deri'n ddellt, gwellt yw'r gwŷdd,
Dylif yw hendre'r dolydd.

Rhua'r dŵr gyda'r daran,—a'i yrru'n
Eirias fflam gan drydan.
Mae oer erwau'r môr arian
A dorau'r dydd draw ar dân.

Lle bu erddigan ceir gwegian gwigoedd,
A lle bu eurwawd, chwyrn gantawd gwyntoedd,
Cryndod pinaglau, taranau trinoedd,
Ysgrech eryrod uwch difrod dyfroedd.
A geir glew ar greigleoedd—Eryri
Na ddenfyn weddi o'i hen fynyddoedd?

Eithr a fedr sant droi anterth—y llym wae
Lle med y storm anferth?
Yn y ddrycin, mor ddinerth
Yw cwyn y binc yn y berth?

A eilw gwaedd ryw nefol gôr—i ganu
Ar gynnwrf y cefnfor?
Heno yng nghyngerdd Ionor,
Rhua mil organau'r môr.


Y môr mawr ! Mae'r murmuron—a glywsom?
Mae'r gogleisiol suon?
Ba rhyw gawr a dry'r awron
Daranau braw drwy ein bron?

Od yw'r Iôr yn Dad a rif—Ei rai bach
Ym merw byd a'i genllif,
Ei law fo heno ar lif,
A'i ddeheulaw ar ddylif.

Rhoed i'r twyn anadl fwynach—na'r mawrwynt ;
Rhoed i'r morwr gilfach,
Hyder hefyd i'r afiach,
A thirion berth i'r oen bach.

****
Diau y daw wedi hyn—y gwanwyn,
A'i gynnwrf diddychryn,
I gynnull gwull coch a gwyn
A miloedd o'i sêr melyn.

Agorir pyrth y gweryd—â'i law werdd,
A chlyw'r lluoedd cysglyd.
Yn ei afiaith, cân hefyd
Ei gyrn aur uwch beddau'r byd.

Bydd carolau clychau clod—yn y llwyn,
Lloniant lle bu trallod,
Chwarae ŵyn lle lluwchiai'r ôd,
Mwyniaith lle chwyrnai'r manod.


Araith y fronfraith fireinfryd—a draidd
Draw i'r tangnef hyfryd ;
A'r hoff seraff a sieryd
Iaith Eden uwchben y byd.

Ei cherdd o lannerch irddail—a ddwg wledd
I glust llanc o fugail;
A'i hawen deg yn y dail
A rydd gywydd i'r gwiail.

Daw soned yr uchedydd—i waered
Yn eirias i'r moelydd.
Hwn yw cerub y ceyrydd,
Llais seinber yr uchder rhydd.

Yn y gwawl, uwch sŵn gelyn,—dring yn uwch,
Dring yn nerth yr emyn.
Ei dasg o hyd yw esgyn
A glawio aur Duw i'r glyn.

Ymlêd tangnefedd, fel mwynedd meinwar,
A gemwaith heulwen dros gwm a thalar;
A lle bu'r gwae yn aredig daear,
A'r twrf yn ddychryn i'r bryn a'r braenar,
Dychwel yr hud, a chlyw'r âr,—am ddyddiau,
Hwyl deffro blodau a pharabl adar.

Rhoir cawod bêr i'r caeau,—a'i harddwch
Yn fyrddiwn o liwiau;
Yr Amaethon Iôn yn hau
Ei feysydd ag enfysau.

FFOS Y CLAWDD

PWY yw hon sydd ymhlyg fan yma,
A'i hwyneb nychlyd fel marmor gwyn?
A weli di'r crinddail yn disgyn arni,
A'i gwallt fel anialwch dan lwydrew'r glyn?

A weli di'r haint lle bu gorne'r gwyddfid,
A staen y gwin lle bu gwrid y rhos?
Yn anhrefn ei gwallt cei lun y dibristod
A'i gyrrodd yn ieuanc i noddfa'r ffos.

Yn ieuanc? Pwy a banylodd y gruddiau?
Ba fysedd oerion a wasgodd yr ên ?
Distaw, fy mrawd, rhag it darfu'r breuddwyd,—
Nid y blynyddoedd a'i gwnaeth yn hen.

Edrych arni, ond paid â'i deffro,—
Tirionach ei chwsg na'th drugaredd di ;
Gad i'r druanes anghofio ennyd
Mai Magdalen yw ei henw hi.

Os oer yw'r chwa ar y gruddiau llwydion,
Rhy fuan y derfydd y trymgwsg gwin.
Na, paid a'i deffro. Bydd pang ei sobrwydd
Yn fil creulonach nag oerni'r hin.

A weli di'r wên sy'n goleuo'r wyneb,—
Y wên na ddiffydd dan farrug nos?
Ai'r perl a gollwyd sydd yma'n lleueru,
Yma'n lleueru yn llaid y ffos?


Gad iddi chwerthin yn nefoedd mebyd,
A phaid â sôn am y rhew a'r gwynt ;
Gad iddi goledd yn nos ei thlodi
Y trysor teg a fu iddi gynt.

Gad iddi ddianc o'r gwter ennyd,—
Rhy fuan y dychwel i'r boen a'r baw.
Sang ar y glaswellt rhag it ei deffro
A'i galw yn ôl o'i pharadwys draw.

Gad iddi ail—brofi'r llawenydd cynnar
A'r diniweidrwydd na wybu nam;
Gad iddi ddawnsio ym maes lilïod
A thaflu ei lludded i freichiau mam.

Edrych arni, ond paid â'i dihuno,
Gad iddi wynfyd ei llygaid cau;
Rhy fuan y chwelir ei breuddwyd melys,—
Mae'r wawr annhirion yn agosáu.

Tyred, fy nghyfaill, mae'r sêr yn dianc,
A'r nos garedig yn gado'r tir.
Mae'r mwyalch yn chwythu'r gwlith o'i bibell
Cyn deffro'r ddaear a'i chwiban clir.

Cyn deffro'r ddaear? A'i deffro hithau
A'i galw yn ôl o'i pharadwys draw.
Pe medrwn, mi fynnwn ddistawrwydd heddiw,
Ac ni ddôi trydar o'r llwyn gerllaw.

O, tyred! Diffoddodd y wên angylaidd,
A darfu gwynfyd morwynig wen.
Mae'r mwyalch ynfyd yn chwiban eisoes,—
Druan ohoni!—Magdalen!

Y CHWYNNWR

TRWY'R manwellt, try i'r mynydd
Ergydiwr dewr gyda'r dydd,
Hen dreisiwr drain a drysi,
Hen deyrn iach ein daear ni.

Ar ei ôl, droediwr yr âr,
Ni bydd gwae, ni bydd gwyar,
Eithr tir fel gardd, â harddwch
Haf a'i geinion drosto'n drwch.
Ei rymuster ar weryd
Yw'r boen sy'n prydferthu'r byd.

Ymesyd ar haint meysydd,
A'i law ar wreiddyn y gwlydd.
Mae'n derfysg i wrysg y gro,
Yn dranc i'w henwanc yno.
Trewir perth, torrir heb ball
Yr hesg, y cyrs a'r ysgall;
A'r hen efrau anhyfryd,
Dihoenant, gwywant i gyd.
Difrodir hendwf rhedyn,
Tynnir a chwelir y chwyn;
A'r prysgoed diffrwyth hwythau,
Â'u trais trwm uwch cwm yn cau,
Dirymir eu mall dramwy,
Rhwystrir eu taith ddiffaith hwy.
Ar lasfron chwyfio ni chânt,
Yn swrth o'i flaen y syrthiant.


Deyrn cadarn! Syllwch arno,
Wanwr brwyn, gymhennwr bro,
Fel y teifl y tw aflan
A thrueni'r tir i'r tân;
Rhoi i boethwal raib eithin,—
Lu colynnog heulog hin.
Cyfyd ei drem o'u cofio
Yn fflam aur ar fryniau'r fro.
Ai rhyw wall yn swyddfa'r wawr
A fileiniodd felynwawr?

***
Gwelwch wedd y tir heddiw,
Gorchfygwr yw'r gweithiwr gwiw.
Gwenyg aur yw grynnau'r grawn,
Haf a'i redli hyfrydlawn.
Cenir godidog hanes
Y triniwr taer yn y tes.
I'r maes, lle bu'r ymosod,
Daeth tafodau clychau clod,
Si mawl y tywys melyn,
A bendith y gwenith gwyn,
Rhin ei ddolur yn ddilyw,
Rhin ei boen yn arian byw.

Try ef, fab awen, hefyd
I'r boen sy'n prydferthu'r byd.
'Rôl maith anfodd y rhoddir
Ei ddidlawd eurwawd i'w dir.
Sawl pennod a ddifrodwyd
Gan ei ysol, nefol nwyd,

A'r fflam gain a'u llosgai'n llwch
Yn dwyfoli dyfalwch?
Yna daeth rhyw ddarn dethol,
Darn o wyrth, swyn di-droi'n-ôl,
A'r boen a fu'n hir benyd
Yn aur glân drwy'r gân i gyd.

Gwyn ei fyd a ganfu wall,
Â'i wawr mewn cynnig arall!
Diau ni bydd Eden bêr
Na cheinwaith oni chwynner.

EUOGRWYDD

BERW fy ymennydd malpai seirff cordeddog
Yn gwau'n aflonydd drwy fy mhenglog boeth,
A chyfyd bysedd uwch fy nghorff gorweddog,
Oll yn anelu at fy enaid noeth.
Ni throf i'r maes na bydd rhyw law arswydus
Yn cerfio llun fy nhrosedd yn y clai,
A'r dail, fel milfil o dafodau nwydus,
Yn llenwi'r gwynt â'u clebran am fy mai.
Ofer y ceisiaf gwsg, â hi'n tywyllu,
Rhag gweld a gleddais draw o olwg byd,
Rhaid aros ar ddihûn a dal i syllu
Ar hyllbeth sy'n ysgerbwd byw o hyd.
Rho im, O Dduw, falm unnos o anghofrwydd,
Neu loches tragwyddoldeb o wallgofrwydd!


SION PHYLIP O BENNAR

I'w angladd ef, angel o ddyn,—nid aeth
Ei ddawn dwym na'i delyn.
Rhoed llwch i lwch, ond ni lŷn
Ei bereiddiaith wrth briddyn.

I'w gofio nid af ar gyfyl—y bedd,
Mae'r ffrind byw yn ymyl.
Her i Angau droi engyl
I hirnos ei geuffos gul.

DIWEDD MEDI

TROES y lasfro'n llun llonydd,
A newydd swyn iddi sydd
Y rhedyn yn dân gwridog,
Anniffodd lle canodd cog,
Lloffion llawnion berllannau
Ar fin ffrwd gyda'r cnwd cnau,
Crugiau aur dan gloddiau'r glyn,
Miloedd o grinddail melyn,
Eraill yn borffor eirias
Ar ddreindir a gloywdir glas,
A'u gwaedliw yn y goedlan
Fel gwawr effro'r marwor mân.

Ni cheir mwy na chorau maes,
Na chariadferch ar ydfaes,
Eithr rhigol y fen olaf
A rhwysg cynhebrwng yr haf.
Darfu gwawd seindorf y gwŷdd
A dylif trydar dolydd.
Huodledd Anian heddiw
Yw hedd cytûn llun a lliw,
A mwy na threigl maniaith rwydd
Yw ystôr y distawrwydd.
A dawelodd y dilyw
Na bu gwledd i'r neb a glyw?

Od aeth o baradwys dail
Egni hardd geni irddail,
Ceir coelcerth perth ym mhob pant,
Rhed o'r garn wrid i'r gornant.


Tawer lle beier bywyd
A gofyn haf, haf o hyd;
Boed i'r ddôl aberth moliant,
Aberth mwy nag aberth mant,
A'i rym yn yr eurfflam gref
A rydd addurn ar ddioddef.

Os yw'r nyth yn sarn weithian,
Difeth y cwyd afiaith cân.
Bydd dydd llawenydd llawnach
Wedi'r boen i'r adar bach,
A'u gwawd, lle chwalwyd eu gwaith,
Yn coroni cywreinwaith.

Darfydded yr haf addwyn
A llais peroriaeth y llwyn.
Rhag hin galed, cilied cog
Yn ôl i'w hafan heulog.
Aed y wennol dros donnau
I ryw hin bêr o'r hen bau,
A welwyd trafod talar
Nad arhoes golud yr âr?

I'r neb a ranno'i obaith
Rhwng taerni gweddi a gwaith,
Harddaf wobrwy'r haf eurddawn
Yw annwyl hedd ydlan lawn.

Felysed ydyw credu,
A'u lliw hen yn chwerwi llu,
Y daw rhin cyflawnder hedd
A'i win da yn y diwedd!


Fel fy nhaid, enaid uniawn,
Â'i wên lwys a'i ydlan lawn,
Unwedd y mynnwn innau
Ado'r hendir wedi'r hau,
Dwyn golud ei hen galon,
Yr hedd sy'n tawelu bron,
A throi'n fwyn dan addwyn nef
I aeddfedrwydd fy hydref.





J. D. LEWIS A'I FEIBION CYF.

ARGRAFFWYR, ETC.

GWASG GOMER

LLANDYSUL




Dewi Emrys

ER mai yng Nghei Newydd, Ceredigion, y ganed Dewi Emrys, magwyd ef ym Mhencaer, ardal amaethyddol yng Ngogledd Penfro. Yno, dan gysgod y Garn Fawr, y mae Pwll Deri a anfarwolwyd ganddo mewn cân dafodieithol a gyfrifir yn un o drysorau ein llenyddiaeth. Cafodd ei addysg elfennol yn Ysgol yr Henner, Pencaer, Ysgol Ramadeg Jenkins, Abergwaun, ac Ysgol Ganolradd Abergwaun. Prentisiwyd ef yn gysodydd a newyddiadurwr yn swyddfa'r County Echo yn yr un dref. Cyn ei fod yn ugain oed, penodwyd ef yn Olygydd Cymraeg y Carmarthen Journal; yn Heol Awst, Caerfyrddin, y dechreuodd bregethu. Erbyn hyn, yr oedd ei enw yn hysbys fel un o brif adroddwy y Deheadir. Aeth trwy gwrs o addysg, ar gyfer y pulpud Annibynol, yn Ysgol yr Hen Goleg, Caerfyrddin, a Choleg Presbyteraidd Caerfyrddin. Daeth wedi hynny i amlygrwydd ar faes y gymanfa ac ar lwyfan; ac ni laesodd y ddawn a'i gwnaeth yn un o ddarlithwyr mwyaf poblogaidd ei genedl.

Ymunodd a'r fyddin yn ystod Rhyfel Mawr 1914-18. Bu wedi hynny yn Fleet Street; ac ymddangosodd ei gyfraniadau yn John O' London's Weekly, Everybody's Weekly, G.K's Weekly, Nation and Athenaeum, Royal Magazine, etc. Ond dewisodd Dewi Emrys wneuthur yr iaith Gymraeg yn brif gyfrwng ei grefft fel llenor: a saif heddiw yn rheng flaenaf prifeirdd hyddysg ei wlad. Enillodd y Goron Genedlaethol a'r Gadair (bedair gwaith): a daeth i'w ran lawer o wobrau eraill yn y Brifwyl. Y mae heddiw, ers naw mlynedd, bellach, yn ddarlithydd yn Adran Efrydiau Allanol Coleg y Brifysgol, Aberystwyth. Rhifir ei ddisgyblion wrth y cannoedd fel Golygydd Barddol Y Cymro. Bu ei Babell Awen yn athrofa i'r werin ddigoleg: ac nid gormod yw dywedyd, yng ngeiriau Dr. T. Gwynn Jones, iddi roddi "bywyd newydd" i'n llenyddiaeth. Cydnabu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym, Rhydychen, ei wasanaeth trwy ei ddewis yn ŵr gwadd ar achlysur dathlu Gwyl Dewi 1918. Anrhydeddwyd ef yn yr un modd gan fyfyrwyr y Coleg Coffa, Aberhonddu. Penodwyd ef yn un o feirniaid awdlau'r Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau (1949). Gwasanaethodd eisoes fel beirniad pryddestau'r Goron a chyfansoddiadau eraill; a bu rhai o'i gynhyrchion yn brif ddarnau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol.





Nodiadau[golygu]

  1. Cyfeirir ati gan T. E. Lawrence yn ei lyfr, "The Seven Pillars of Wisdom."

Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.