Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia (Testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia

gan Abraham Mathews

I'w darllen pennod wrth bennod gwelerr Hanes y Wladfa Gymreig yn Patagonia

HANES

Y

WLADFA GYMREIG

YN

PATAGONIA

GAN Y

PARCH. A. MATTHEWS

UN O SEFYDLWYR CYNTAF Y WLADFA

—————————————


ABERDAR:

ARGRAFFWYD GAN MILLS AC EVANS, SWYDDFA'R DARIAN.

1894

RHAGYMADRODD.

YR oeddwn wedi cael fy anog er's blynyddoedd i ysgrifenu hanes y Wladfa, ond gan y gwyddwn fod MR. EDWIN CYMRIC ROBERTS yn casglu defnyddiau, gadawswn y gwaith iddo ef.

Pan fu farw MR. ROBERTS yn Bethesda, Arfon, Medi 1893, pan ddim ond dechreu dyfod a hanes y Wladfa allan o'r Wasg yn rhanau, a deall nad oedd y teulu yn bwriadu cario y gwaith yn mlaen, penderfynais fyned ati ar unwaith i gasglu yr holl ffeithiau a allwn, dan yr amgylchiadau, a gwneud llyfr bychan o honynt, rhag i'r oll o'r fintai gyntaf syrthio, a'r gwaith heb ei wneud.

Cofied y darllenydd nad wyf yn honi fod yr hanes mor fanwl, nac ychwaith mor gywir ag y dylasai fod, ond nid wyf yn meddwl fod ynddo ddim a gamarweinia ddarllenydd y dyfodol. Gan mai yn Nghaerdydd, Deheudir Cymru, yr oeddwn yn ei ysgrifenu, ac nid yn y Camwy, nid oeddwn yn gyfleus i ymgynghori ag ereill, nac ychwaith i apelio at unrhyw gofnodion oedd ar gael yn y Camwy.

Fy unig esgusawd dros ddyfod ag ef allan mor anmherffaith yw, yn un peth am fy med yn Nghymru, ac felly yn gyfleus i'w gyhoeddi; a pheth arall, rhag i'r peth gael ei oedi, a bod heb ei wneud o gwbl. Y mae yn wir nad oes llawer o angen am yr hanes ar hyn o bryd, ac feallai ond ychydig yn teimlo dyddordeb ynddo, ond bydd ei eisieu can mlynedd i heddyw, ac ni bydd neb y pryd hwnw mewn ffordd i'w wneud.

Nid oedd genyf na medr nac amser i'w wneud yn waith llenyddol difyr, dim ond yn unig roi yn nghyd ychydig ffeithiau yn frysiog, yn y gobaith, os caf fyw, ei berffeithio, ac os na chaf, y daw rywdro yn y dyfodol y llenor medrus, gyda chrebwyll y bardd a dychymyg y nofelydd, i wneud hanes byw o'r esgyrn sychion hyn.

YR AWDWR.

Y WLADFA GYMREIG.

PEN. I.—HANES Y SYNIAD AM WLADFA.

Mor bell ag yr wyf yn deall, dyn o'r enw Morgan Rhys, cyhoeddwr y greal cyntaf yn Gymraeg—"Y Cylchgrawn Cymreig 1793"—oedd y cyntaf i roi y syniad o Wladfa Gymreig mewn ffurf, trwy gymell ymfudwyr Cymreig i fyned allan i rywle yn Ohio, a myned allan ei hun. Wedi hyny bu John Mills, y cenhadwr at yr Iuddewon, yn son am Wladfa Gymreig yn Ngwlad Canaan; William Jones, brawd John Jones, Talysarn, wedi hyny am gael Gwladfa yn rhywle yn yr Unol Dalaethau; ac Evan Evans, Nantyglo, ac ereill gydag ef, am gael Gwladfa yn Brazil, De America, yr hyn a orphenodd drwy i fintai o Gymry fyned allan o Bryn- mawr a'r cylchoedd tua'r flwyddyn 1850. Os wyf wedi cael fy hysbysu yn gywir, sefydlodd y rhai hyn mewn lle a elwir Pilates, yn nhalaeth Rio Grande de Sul. Y mae yn ymddangos mai yn yr Unol Dalaethau y bu y syniad gryfaf ar y dechreu. Y mae genym hanes am Gymdeithasau Gwladfaol yn cael eu sefydlu yno o 1850 hyd sefydliad y Wladfa yn Patagonia. Bu cymdeithasau yn Oshkos, Wisconsin, New York, Philadelphia, ac yn San Francisco, California. Bu y cymdeithasau hyn yn awgrym gwahanol leoedd, megys Oregon yn y Talaethau Unedig, Vancouver's Island, rhanau o Awstralia, New Zealand, Uruguay, Brazil, a Phatagonia.

Nifer o Gymry yn San Francisco a enwodd Patagonia gyntaf fel lle i sefydlu Gwladfa Gymreig. Y rheswm paham yr oedd pobl yr Unol Dalaethau mor flaenllaw a brwd yn nghylch cael Gwladfa Gymreig ydoedd, mai nhw wyddai trwy brofiad yr anfantais i Gymry ymfudo bob yn un, neu yn fân ddyrneidiau i ganol cenhedloedd ereill, nes colli eu harferion a'u hiaith.

Wedi i'r Parch. M. D. Jones (Bala yn bresenol) orphen cwrs ei addysg athrofaol, aeth i'r Talaethau Unedig am dymor, a bu ei waith ef yn teithio yma a thraw yn mysg ei gydgenedl yno yn foddion i agor ei lygaid ar anfanteision y dull annhrefnus a gymerid i ymfudo. Gwelodd fod gwaith y Cymry uniaith yn cymysgu a chenhedloedd ereill yn peri iddynt golli eu crefydd, a thrwy hyny syrthio i gyflwr mor isel, fel yr oedd eu harferior yn rhy frwnt i'w hadrodd.

Dychwelod Mr. M. D. Jones i Gymru, a bu am dymor yn weinidog yn Bwlchnewydd, Sir Gaerfyrddin, ac yna dilynodd ei dad fel Athraw yn Ngholeg Annibynol y Bala; ond yn 1858 rhoddwyd gwahoddiad iddo gan y cyfeillion Gwladfaol yn yr Unol Dalaethau i ddyfod drosodd yno i areithio ar y pwnc o Wladfa Gymreig, am mai efe oedd yr unig ddyn o ddylanwad yn Nghymru y pryd hwnw oedd yn teimlo dyddordeb yn y pwnc. Cydsyniodd a'u cais, a bu yno am tua thri mis, ac yn ystod yr amser hwnw teithiodd lawer, a thraddododd ugeiniau o ddarlithoedd. Yr hyn a amcenid ato oedd cael gwlad wag, heb fod o dan lywodraeth dalaethol— tiriogaeth heb ei phoblogi, lle y gallai y Cymry sefydlu a llywodraethu eu hunain, a ffurfio a pharhau eu harferion cenedlaethol, a bod yn elfen ffurfiol yn lle yn elfen doddol yn eu gwlad fabwysiedig—cael gwlad ag y gallai Cymry ymfudo iddi yn ddigon lluosog i ffurfio cnewyllyn Llywodraeth Gymreig yn ddigon lluosog er cael cynulleidfaoedd Cymreig, ysgolion Cymreig, ac i gael meddiant digon llwyr o'r wlad, fel na lyncid hwy i fyny gan genhedloedd ereill o'u deutu.

Yr oedd yn Oshkos, Wisconsin, mab fferm gerllaw y dref, ddyn ieuanc o'r enw Edwin C. Roberts. Yr oedd hwn yn benboeth dros Wladfa Gymreig, ac yn y flwyddyn 1860 penderfynodd fyned allan i Patagonia ei hunan, os na chelai neb arall i'w ganlyn. Ond yn lle ymgymeryd a'r anturiaeth eithafol hono, perswadiwyd ef i fyned drosodd i Gymru, i weled a oedd yno ddim nifer o rai oedd o'r un feddwl ag ef ag a fuasai yn myned allan i ddechreu Gwladfa yn Patagonia. Daeth drosodd i Gymru, ac yn bur fuan daeth i gysylltiad a'r Parch. M. D. Jones, Bala, yr hwn, yn nghyd ag ereill, a drefnasant iddo fyned ar hyd a lled Cymru i areithio ar y buddioldeb o gael Gwladfa Gymreig yn Mhatagonia. Yr oedd gan y dyn ieuanc hwn allu i ymadroddi yn llithrig, a chan fod ei ysbryd yn angherddol dros Gymry a Chymraeg, llwyddai i godi y teimlad Gwladfaol yn uchel iawn yn mhob man lle yr elai.

Erbyn hyn yr oedd y Parch. M. D. Jones wedi llwyddo i ffurfio Pwyllgor Gwladfaol, yr hwn a gyfarfyddai yn Llynlleifiad. Y rhai a gyfansoddent y Pwyllgor hwn oeddynt y rhai canlynol:—Parch. M. D. Jones, Bala; y Meistri Morgan Page Price, Aberdar; Edward Cymric Roberta, Oshkos; John Peters. Caergybi; Thomas Davies, Dowlais; Matthew Williams, Castellnedd; Thomas Hopkins, Mountain Ash; William Thomas, Llanelli; William Jones, Aberystwyth; W. P. Williams, Birkenhead; John Edwards ac Owen Edwards, Lewis Jones, Hugh Hughes, Cadvan, a Robert Janes—y pump diweddaf o Lerpwl. Yr oedd yna hefyd fân gymdeithasau a phwyllgorau yma a thraw yn Ne a Gogledd Cymru yr adeg hon, pa rai oeddynt yn ymdrechu i godi ysbrydiaeth Gwladfa Gymreig yn yr ardaloedd lle yr oeddynt yn byw.

PEN. II. PENDERFYNU AR PATAGONIA FEL LLE I SEFYDLU.

Erbyn hyn yr oedd y syniad a'r angen am sefydlu Gwladfa Gymreig wedi dyfod yn lled aeddfed, a'r Gwladfawyr wedi dyfod yn bur unol am Patagonia fel y lle mwyaf cyfaddas, ag ystyried pob peth ag a allesid gael. Yr hyn oedd wedi tynu mwyaf o sylw at Patagonia oedd tystiolaeth y Llyngesydd Fitzroy, yr hwn oedd wedi bod yn arolygu arfordir America Ddeheuol yn y flwyddyn 1833, ac wedi rhoi canmoliaeth uchel i ddyffryn y Camwy, neu Chubat, fel ei gelwid y pryd hyny. Rhoddodd hefyd dystiolaeth ffafriol iawn i Borth Madryn (New Bay) fel lle i angori llongau.

Mr. Phibbo oedd y Trafnoddwr Archentaidd yn Lerpwl yr adeg hon, a Dr. Wm. Rawson y Prif-weinidog yn Buenos Ayres, ac yr oedd y ddau foneddwr hyn yn awyddus i gael ymfudwyr allan i'r weriniaeth, ac yn neillduol i Patagonia. Yna dechreuwyd gohebu a'r Llywodraeth Archentaidd trwy y boneddwyr hyn. Syniad cyntaf y Gymdeithas Ymfudol Gymreig ydoedd cael breinlen ar ddarn eang o dir yn Patagonia, ar yr amod ei bod i roi ar y lle o fewn deng mlynedd o ddwy i dair mil o deuluoedd, ac y mae yn ymddangos oddiwrth y gobebiaethau a fu rhwng y Gymdeithas a Dr. Rawson ei fod ef yn ffafriol iawn i'r cynllun hwn.

Yn yr adeg hon dewisodd y Gymdeithas Ymfudol Brwyadaeth i weithredu drosti a'r Llywodraeth Archentaidd. Gwnaed y Brwyadaeth i fyny o'r boneddigion canlynol:—J. E. Whalley, Ysw., A.S., David Williams, Ysw., Uchel Sirydd Arfon; Robert Jones, Ysw., Masnachwr, Lerpwl; Proffeswr M. D. Jones, Bodiwan, Bala; a'r Captain Love D. Jones Parry, Castell Madryn. Rhoddwyd awdurdod i'r Brwyadaeth hon i dynu allan adlun o gytundeb a'r Llywodraeth Archentaidd yn nghylch dyffryn y Camwy, a'i arwyddo. Tynwyd allan y cytundeb, ac arwyddwyd ef dros y Brwyadaeth o un tu gan y Captain Love D. Jones Parry a Mr. Lewis Jones (yr hwn hefyd a benodasid yn Brwyad) o un tu, a Dr. William Rawson ar y tu arall i'r dyben i wneud y cytundeb uchod, yr oedd Dr. Rawson yn gweled fod yn angenrheidiol i'r Gymdeithas Ymfudol anfon allan ryw un neu rai i edrych y wlad, a dewis y lle yn gystal ag i arwyddo y cytundeb. Gan nad anturiaeth arianol oedd y symudiad, ond yn unig nifer o ddynion brwdfrydig dros les eu cenedl a pharhad yr iaith Gymraeg wedi ymuno i gefnogi a chynorthwyo ymfudiaeth mewn ffordd drefnus, yr oedd yn anhawdd cael arian i dalu i gynrychiolwyr i fyned allan i wneud y gwaith uchod.

Er nad oedd yn y Gymdeithas Wladfaol hon ddynion arianog, eto trwy ffyddlondeb a chydweithrediad, ac yn benaf trwy haelfrydedd y Parch. M. D. Jones, Bala, a'r brodyr John ac Owen Edwards, Lerpwl, penderfynwyd anfon allan y boneddigion Captain Love Jones Parry, Madryn, a Lewis Jones, argraffydd yn Lerpwl. Aethant allan yn Rhagfyr 1862. Buont mewn llong i lawr yn y Camwy, a buont ychydig bellder i fyny i'r afon, a chawsant gipdrem ar ran o'r dyffryn. Y mae yn rhaid addef na fuont yno ddigon o amser, ac na theithiasent ddigon i roddi adroddiad boddhaol o'r lle. Nid ydyw yn iawn beio, am nad ydym yn gwybod yn ddigon manwl yr amgylchiadau. Dychwelasant i Buenos Ayres, wedi cael eu boddloni yn fawr yn y lle, ac arwyddasant y cytundeb y cyfeiriwyd ato uchod. Dealled y darllenydd mai adlun o gytundeb ydoedd hwn i'w gynyg i'r Gydgyngorfa; nid oedd eto yn gytundeb cyfreithiol i ddibynu arno hyd nes y cytunid arno gan y Gydgyngorfa, a'i arwyddo gan y llywydd.

Ond pan gyfarfu y Gydgyngorfa, methodd y cynygiad uchod a derbyn cymeradwyaeth digon cyffredinol; ac felly syrthiodd i'r llawr, fel nad oedd gan y Gymdeithas un sicrwydd am ddim ond y ddeddf dirol a wnaed yn y flwyddyn 1862, yr hon oedd yn darparu rhoddi 124 o erwau o dir i bob teulu. Dychwelodd y Brwyadwyr Captain Love Jones Parry a Mr. Lewis Jones i Gymru cyn i'r cytundeb a nodasom uchod gael ei roddi o flaen y Gydgyngorf, am nad oedd yn amser iddynt gyfarfod ar yr adeg hono. Yr oedd sel Dr. Rawson dros y peth yn peri i'r Brwyadwyr fod yn ffyddiog iawn y buasai y cynygiad yn cael ei wneud yn gyfraith, ac felly gweithredwyd yn Nghymru fel pe buasai wedi ei basio yn orphenol. Wedi cael tystiolaeth y ddau Ddirprwywr am y wlad, at am deimlad caredig ac addawol y Prifweinidog, teimlai y Pwyllgor Gwladfaol yn Lerpwl yn galonog i fyned yn mlaen i alw mintai, ac i wneud darpariadau ar gyfer dechreu anfon allan ymfudwyr. Y mae yn iawn i mi roddi gair bach o eglurhad yn y fan hon. Fe gyhuddwyd y Parch. M. D. Jones, Bala, o dwyllo dynion, a hyny yn fwriadol, i ymfudo i Patagonia, ar y dealldwriaeth fod y cytundeb cynygiedig wedi ei dderbyn gan y Gydgyngorfa, ac yntau yn gwybod nad ydoedd. Y mae adroddiad swyddogion y llong ryfel Brydeinig, "Y Triton," a ymwelodd a'r Wladfa ar y Camwy yn 1867 yn camliwio Mr. Jones yn y peth hwn. Y mae yn wir fod Mr. Jones yn llwyr gredu, yn ol tystiolaeth y Brwyadaeth, y buasai y cytundeb yn cael ei wneud, ond eto ni addawyd i neb o'r ymfudwyr ond yr 124 erwau ag oedd deddf 1862 wedi ei sicrhau, heblaw addewid Dr. Rawson am nifer o wartheg a cheffylau, badyd, ac ychydig offerynau amaethyddol, canys yr oedd ysgrifenydd yr hanes hwn yn un o'r fintai gyntaf, ac felly yn un o'r rhai oedd yn cael yr addewidion, ac yn gorphwys ei ddyfodol arnynt mor belled ag yr oedd y dynol yn myned. Os oedd bai yn bod yn rhywle, ar y dirprwywr, Mr. Lewis Jones, yn benaf yr oedd, ond pan gofiom mai dyn icuanc dibrofiad mewn gwleidyddiaeth gwledydd newyddion ydoedd, ac yn ddyn o dueddfryd obeithiol, ac heb un gallu i weled anhawsderau nes myned iddynt, y mae yn hawdd i ni basio heibio ei or hyder a'i areithiau swynol. Y mae yn iawn i mi sylwi yn y fan hon hefyd i'r Llywodraeth ymddwyn yn mhell tu hwnt i lythyren ei chyfraith, mewn haelfrydedd i'r dyfudwyr. Er nad oedd cyfraith 1862 yn addaw dim ond tir yn unig, eto cafwyd anifeiliaid, bwyd, a badyd ddeng waith mwy nag a addawyd yn Nghymru, a mwy nag a ddysgwyliodd hyd yn nod y rhai mwyaf brwdfrydig ac eithafol eu gobeithion, fel na ddyoddefodd neb o herwydd cael eu siomi yn yr addewidion a roddwyd, ond o herwydd oediad pethau, a hyny yn codi o safle anghysbell y lle.

Pen. III.—PAROTOI MINTAI A LLONG I FYNED ALLAN.

Yr oedd areithiau Mr. Edwin C. Roberts wedi bod yn foddion i greu ysbrydiaeth wladfaol yn bur gyffredinol trwy Gymru, ond peth arall hollol oedd cael pobl yn barod i dori i fyny eu cartrefleoedd, a gwneud eu hunain yn barod i gychwyn i fordaith o agos i saith mil o filldiroedd, i sefydlu gwlad newydd, mewn man nad oedd yr un dyn gwyn o fewn tua dau can' milldir iddo, a dim ond môr yn ffordd rhyngddynt. Yn ystod y flwyddyn 1864, y mae Mr. Lewis Jones yn teithio De a Gogledd Cymru i areithio ar Patagonia, ac yn mynegu yr hyn a welodd ac a wnaeth. Y mae Mr. H. Hughes (Cadfan Gwynedd) yn cyhoeddi math o Lawlyfr bychan ar Patagonia, hefyd y Parch. M. D. Jones yn cyhoeddi llyfryn bychan ar Ymfudiaeth, ac y mae y naill a'r llall yn cael eu gwasgaru trwy yr ardaloedd gweithfaol yn gyffredinol. Y mae y Parch. M. D. Jones yntau, mor bell ag y mae ei amser fel athraw yn caniatau iddo, yn areithio ac yn cynllunio tuag at godi mintai i fyned allan. Yr oedd y teithio a'r areithio hyn yn golygu costau mawrion, a'r cwbl yn cael ei ddwyn gan y Gymdeithas Ymfudol trwy y pwyllgor yn Lerpwl. Ond yr oedd y peth pwysicaf o r cwbl eto ar ol, mor bell ag yr oedd arian yn angenrheidiol, sef cael llong i fyned a'r fintai allan i Patagonia. Yr oedd Patagonia yr adeg hon, yn gydmarol ddyeithr hyd yn nod i forwyr. Y mae yn wir fod llongau yn pasio Patagonia i fyned i Chili a Chalifornia tu allan i Cape Horn,—ond nid oedd un llong fasnachol wedi bod i fewn yn yr afon Camwy, nac ychwaith yn Porth Madryn, felly nid peth hawdd oedd cael Captain yn foddlon i fentro ei long i le mor anadnabyddus. Peth arall, yr oedd angen llawer o arian i dalu y llong log angenrheidiol. Gan mai dynion o amgylchiadau cyffredin oedd aelodau a phwyllgor y Gymdeithas Wladfaol bron i gyd, fe syrthiodd y baich. hwn bron i gyd ar y Parch. M. D. Jones, Bala, yr hwn oedd, trwy gyfoeth ei wraig, mewn ffordd i gael arian ac ymddiriedaeth. Cytunwyd am long o'r enw "Horton Castle," i gychwyn allan gyda'r ymfudwyr yn Ebrill, 1865. Yr oeddynt wedi cael enwau tua dau cant i fyned allan gyda'r llong hon. Ond pan oedd y parotoadau yn cael eu gwneud, codwyd cri mawr yn erbyn Patagonia fel lle i ymfudo iddo gan un a alwai ei hun yn "Garibaldi," yn y Drych ac yn yr Herald Cymraeg. Yr oedd y Drych yn cael ei gyhoeddi yn Utica, yr Unol Dalaethau, a'r Herald Cymraeg yn Nghaernarfon, Gogledd Cymru. Yr oedd yn ddealledig y pryd hwnw, ac ni chlywais neb byth wed'yn yn ameu, mai golygydd y Drych, John William Jones, oedd yr hwn a alwai ei hun "Garibaldi." Yr adeg hono yr oedd Kansas, Nebraska, a Missouri yn weigion, a'r Americaniaid yn awyddus iawn i gael dynion allan i'w poblogi, ac y mae yn bur debyg—ac o ran hyny yn sicr —mai nid gofal am fan cymwys i Gymry i ymfudo iddo oedd mewn golwg gan "Garibaldi," ond cael sylw Cymru oddiwrth Patagonia at y Talaethau Unedig, ac yn enwedig at y manau uchod, am fod cael dynion allan iddynt yn dwyn elw i rywrai ag yr oedd "Garibaldi" mewn dealldwriaeth a hwynt. Gwnaeth y llythyrau hyny niwed enbyd i'r symudiad, trwy ddigaloni lluaws mawr. Yr oedd mantais fawr gan elynion y symudiad, am fod pob hanes oedd i'w gael y pryd hwnw mewn llyfrau ar ddaearyddiaeth yn rhoi anair i Patagonia, i'w thir, ac hefyd i'r Indiaid oedd yn byw yno ; yr unig lyfr oedd yn dweyd yn dda am dani oedd y South American Pilot, gan y Llyngesydd Fitzroy—llyfr nad oedd o hyd cyrhaedd pobl yn gyffredin. Creodd y drwgliwiadau a gyhoeddwyd lawer o waith ychwanegol i'r pwyllgor, ac yn benaf i'r Parch. M. D. Jones, Bala, er cadarnhau yr ymfudwyr oeddynt wedi rhoddi eu henwau i gychwyn yn yr "Horton Castle." Ond fel y bu yn fwyaf ffodus, methodd yr "Horton Castle" a chyraedd Lerpwl yn yr adeg yr oedd wedi ymrwymo i wneud, ac felly cafwyd ychwaneg o amser i ail gasglu enwau, gan i gytundeb y llong hon syrthio i'r llawr.

Wedi hyn cytunwyd am long arall o'r enw "Mimasa," yr hon oedd i fod yn barod i gychwyn allan yn Mai. Nid oedd y llong hon wedi ei gwneuthur i gario ymfudwyr, ac felly yr oedd gwaith mawr ei gwneud yn gymwys i hyny, a disgynodd y gwaith hwnw o ran ei ofal a'i gost ar y pwyllgor Gwladfaol, neu yn hytrach ar y Parch. M. D. Jones, Bala. Prynwyd coed, a chytunwyd â dynion cyfarwydd i osod yn y llong yr holl ddodrefn angenrheidiol tuag at gynwys 153 o ymfudwyr, megys gwelyau, byrddau, meinciau, cypbyrddau, ac ystafelloedd at gadw yr ymborth. Yr oedd y pwyllgor yn gyfrifol hefyd i roddi ar y bwrdd ddigon o ymborth a dwfr am fordaith o chwech mis, am fod y fordaith a'r porthladd mor anadnabyddus. Prynwyd hefyd fywydfad cryf i fod at wasanaeth y Gwladfawyr. Ar ol glanio, costiodd llogiad y llong, a'i gosod hi i fyny yn briodol mewn dodrefn ac ymborth tua £2,500, a disgynodd y baich hwn bron yn gyfangwbl ar y Parch. M. D. Jones, Bala, mewn gofal ac arian. Wedi cytuno am y llong, yr oedd yn rhaid cael rhywun neu rywrai i fyned allan i Buenos Ayres, ac oddiyno i'r Camwy neu Borth Madryn, i wneud darpariadau ar gyfer yr ymfudwyr. Penderfynwyd ar y Meistri Lewis Jones, Lerpwl, ac Edwin C. Roberts, o Wisconsin, yr hwn oedd yn aros yn awr yn Wigan. Hwn yw yr Edwin C. Roberts ag y cyfeiriwyd ato o'r blaen yn nglyn a'r symudiad Gwladfaol yn America, ac wedi hyny yn Nghymru. Y pwnc yn awr oedd cael yr ymfudwyr yn barod. Yr oeddys wedi bwriadu i ran luosocaf o'r ymfudwyr i dalu £12 o arian cludiad am bob un mewn oed, a haner hyny dros bob un o dan ddeuddeg oed hyd ddwy flwydd, ond erbyn cael gwybodaeth fanwl, cafwyd allan mai nifer fechan iawn oedd yn alluog i dalu eu cludiad yn llawn, a nifer fechan drachefn yn alluog i dalu rhan o'u cludiad —y rhan luosocaf yn analluog i dalu dim. Ond yr oedd y Parch. M. D. Jones, Bala, a'r pwyllgor mor benderfynol, fel nad oedd dim a'u digalonai i roddi cychwyniad i fudiad oedd eisioes wedi costio cymaint o feddwl, llafur, ac arian iddynt. Fel hyn gwel y darllenydd mai dynion o weithwyr tlodion gan mwyaf oedd y fintai gyntaf hon a aeth allan i ffurfio Gwladfa Gymreig yn Patagonia. Yr oedd y pwyllgor wedi hysbysu fod yn rhaid i bob un ofalu am wely llong, a dillad gwely, a llestri o bob math ag oedd eu hangen ar y fordaith, heblaw fod i bob un ddarparu cymaint ag oedd yn ei allu ar gyfer dechreu byw mewn gwlad newydd—gwlad lle nad oedd dim i'w gael heb fyned dros 170 o filldiroedd o fôr i'w gyrchu. Tua dechreu Mai y mae y rhan luosocaf o'r ymfudwyr yn Lerpwl, ond nid yw y llong yn agos yn barod, a chan fod y bobl wedi gwario eu harian i brynu pethau angenrheidiol rheidiol i'r fordaith, ac ar ol glanio, nid oedd ganddynt ddim ar gyfer eu cynal yo Lerpwl i aros i'r llong fod yn barod, ac yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd yn rhaid iddynt droi i enill eu bywioliaeth, neu ynte i rywrai roddi arian a'u cadw yno yn ystod yr oediad. Disgynodd y gorchwyl costus a phoenus hwn eto ar y Parch. M. D. Jones, Bala, a mawr yr helynt a gafodd. Peth ofnadwy ydyw gosod dynion o ddiwylliad cyffredin i ddechreu dybynu ar ereill; nid oes byth foddloni arnynt. Felly yr oedd yn Lerpwl y pryd hwnw. Ni chafodd un bwrdd gwarcheidiol erioed y fath drafferth ag a gafodd y Parch. M. D. Jones, Bala, ac ychydig gyfeillion iddo oedd yn cynorthwyo y pryd hwnw.

Yr oedd cychwyn mintai y "Mimasa" yn wahanol iawn i gychwyn mintai o ymfudwyr cyffredin; nid yn unig yr oedd angen parotoadau ar gyfer mordaith hir, a glanio mewn lle anial, ond yr oeddid yn gorfod parotoi ar gyfer y sefydliad cyntaf mewn gwlad newydd oedd yn gwbl ar wahan i bob trefniadau cymdeithasol. Yr oedd yn rhaid ffurfio cnewyllyn cymdeithas, a Llywodraeth. I'r dyben hwn etholwyd yn Lerpwl o blith y fintai ymfudol trwy y tugel Gyngor o ddeuddeg, a llywydd, ysgrifenydd, a thrysorydd (Gwel yr atodiad). Dyma ni yn fintai o 153, o wahanol Siroedd Cymru, yn cael ein gwneud i fyny o'r ddau ryw, o bob math o oedran—o'r baban ychydig wythnosau oed hyd yr hen wr 60 oed—yn wyr, gwragedd, a phlant, a dynion sengl—dynion o bob math o alwedigaeth—y teiliwr, y crydd, y sadler, y saer coed a'r saer maen, y naddwr ceryg a'r gwneuthurwr priddfeini, y bwyd—nwyddwr a'r dilledydd, y fferyllydd a'r argraffydd, y meddyg, yr ysgolfeistr a'r pregethwr, yr amaethwr a'r bugail, y mwynwr a'r glowr—y crefyddwr a'r digrefydd, wedi dyfod o wahanol enwadau Cymru— dyma ni oll yn ymdoddi i'n gilydd er ein holl amrywiaeth i ffurfio un gymdeithas er sefydlu Gwladfa Gymreig.

IV.—Y CYCHWYN A'R FORDAITH.

Mai y 24ain, 1865, dyma ni oll yn barod i fyned i'r llong, a'r llong yn barod i ninau. Yn barod a ddywedasom? na choeliai fawr; nid oes modd bod yn barod, a

phe bussem heb gychwyn hyd y dydd heddyw, ni fuasai pawb yn barod. Nid oes modd cael mintai o ymfudwyr yn barod i gychwyn mordaith; y mae rhyw un wedi anghofio rhywbeth hyd y diwedd. Ond parod neu beidio, y mae eisieu i bob peth a phawb fyned i'r llong heno. Cyn cychwyn, yr oedd yn ofynol i bob un nad oedd wedi talu ei gludiad yn llawn i arwyddo Note of Hand i'r Parch. M. D. Jones am yr hyn oedd yn ddyledus arno, a bu cryn helynt i gael pob un yn barod ac yn gyfleus i wneud hyn. Bu y Parch. David Rhys, Talybont, yn awr o Gapel Mawr Mon, yn ffyddlon iawn i helpu dwyn y gorchwyl hwn oddiamgylch, yn nghyda llawer o ysgrifenu arall oedd yn angenrheidiol. Gwr arall oedd wedi cymeryd dyddordeb mawr yn ddiweddar yn y mudiad oedd y Parch. D. Ll. Jones, Ffestiniog, ond yn y Wladfa yn awr er's ugain mlynedd, a bu yntau o help mawr i'r Parch. M. D. Jones ar yr adeg hon. O'r diwedd, dyma ni oll ar y bwrdd, a phob un yn cael ei roddi yn ei le ei hun, mor bell ag y gallai doethineb ar y pryd drefnu. Cysgwyd y noson hono ar y bwrdd, a dyma y tro cyntaf i'r rhan luosocaf o honom i gysgu ar fwrdd llong, ond ni chyfodwyd yr angor y noson hono. Boreu dranoeth, Mai y 25ain, dyma ni yn barod i wneud rhyw fath o gychwyn. Yr oedd yno ganoedd o bobl ar y lan wedi crynhoi i'n gweled yn cychwyn. Canasom "Duw gadwo y Frenhines" ar eiriau Cymraeg pan yn barod i godi yr angor, a phan yr oedd y llong yn dechreu symud allan o'r porth, yr oedd amryw yn gollwng degrau yn bur ddiseremoni. Wedi symud ychydig, er mwyn, mae'n debyg, cael y bobl o gyrhaedd y lan, rhoddwyd yr angor i lawr, canys nid oedd pob peth yn barod eto—papyrau y llong a phethau felly ddim yn hollol orphenedig, ac felly y buom hyd brydnawn Sul, Mai yr 28ain, 1865. Am chwech o'r gloch prydnawn y dyddiad uchod, codwyd yr angor eto i beidio ei roddi i lawr mwyach hyd yn Mhorth Madryn——dau fis i'r dyddiad y cychwynasom. Cawsom fordaith dda a chysurus at ei gilydd, er nad oeddym yn meddwl hyny ar y pryd, am fod y rhan luosocaf o honom yn ddyeithr i deithio ar y môr; ond wedi cynefino a môr-deithio, ac edrych yn ol ar y fordaith hono, gwelaf ei bod yn bur debyg i fordeithiau yn gyffredin. Grwgnachwyd llawer am y peth hyn a'r peth arall, ond gwyr pob un sydd wedi mordeithio gydag ymfudwyr nad yw hyn ond peth i'w ddysgwyl hyd yn nod o dan y trefniadau mwyaf perffaith. Cafwyd hefyd ambell i ffrae ddiniwed yn awr ac yn y man. Y mae bron yn anmhosibl ysgoi hyn yn ol fel y mae dynoliaeth hyd yn hyn. Peth digon anhawdd yw cael heol o deuluoedd heb fod yno bwt o ffrae rhwng rywrai yn awr ac eilwaith, llawer llai y gellir ysgoi y path hyn ar fwrdd llong, pan y mae llond heol o deuluoedd yn byw yn yr un ty, ac yn cael coginio eu bwyd ar yr un tân, ac yn byw trwy y dydd a phob dydd yn yr un ystafell fawr. Cafwyd tipyn o ofid oddiwrth y ffaith mai lle pur brofedigaethus i ferched ieuaine anwyliadwrus ydyw bwrdd llong, ond wedi'r cwbl, wrth gydmaru y fordaith hono a mor-deithiau ereill a welsom, yr ydym yn gweled i bethau gael eu cario yn mlaen yn bur drefnus ar y cyfan. Cadwyd genym ddosbarth darllen ac esbonio ar y bwrdd bob dydd ag y caniataai y tywydd trwy y fordaith, cyrddau gweddi, ac ambell gyfeillach y nosweithiau, a dwy bregeth ac Ysgol bob Sul, os na fyddai y tywydd yn anffatriol. Wedi teithio cryn lawer erbyn hyn ar y môr, fy mhrofiad yw na welais un genedl mor selog am foddion gras, ar for yn gystal ag ar dir, a'r Cymry.

Yr oeddym yn Lerpwl yn rhifo 153 o eneidiau. Bu farw un plentyn yno cyn cychwyn, claddwyd dau ar y mor (babanod), a bu farw dwy ferch fechan ereill ar y mor, ond claddwyd hwynt yn naear Porth Madryn. Ganwyd dau ar y mor. Yn mhen triugain niwrnod dyma ni wedi myned i mewn i enau Porth Madryn, a thir Patagonia yn y golwg ar bob tu, a mawr oedd ein llawenydd. Yr ydym yn hwylio yn araf i fyny y porthladd. Y mae y porthladd hwn a elwid gynt, yn Saesonaeg, New Bay, ond yn bresenol Porth Madryn fel teyrnged o barch i Captain Love Jones Parry, o Gastell Madryn, Arfon. Y mae y porthladd hwn tua 36 milldir o hyd, ac yn cynwys dau neu dri o leoedd cymwys iawn i angori llongau ynddynt.

PEN. V.—Y GLANIAD A'R BYW YN PORTH MADRYN.

Glaniasom Gorphenaf yr 28ain, 1865. Y mae y darllenydd yn cofio i ni wneud cyfeiriad mewn penod arall at anfoniad allan y Meistri Lewis Jones, Lerpwl, ac Edwin C. Roberts, gynt o Wisconsin, i wneud y trefniadau yn orphenol yn Buenos Ayres. a phrynu lluniaeth, ac anifeiliaid, a threfnu yn Porth Madryn nifer o fythod i dderbyn y teuluoedd. Er ein mawr lawenydd pan aethom i fyny i ben uchaf y porthladd— i'r angorfa apwyntiedig, cawsom fod yn ddau negesydd yno—Mr Roberts ar y tir gyda'r anifeiliaid, a Mr Jones newydd ddyfod i mewn gyda'r ail lwyth, ac yno ar fwrdd y llong yn barod i'n derbyn; a phan y daeth mewn cwch i fwrdd ein llong, cafodd fanllefau lawer o hwre,' nes yr oedd y bryniau o bab tu yn diaspedain. Yr oedd Mr Roberts wedi adeiladu nifer fechan o fythynod coed ar y lan yn ymvl y mor, er cael ychydig gysgod i'r gwragedd a'r plant. Yr oedd Mr Roberts wedi bod yma am rai wythnosau cyn i ni lanio, ac wedi bod yno yn cael ei gynorthwyo gan nifer o haner Indiaid a ddaethai gydag ef o Patagones i fugeilio yr anifeiliaid, ac adeiladu y bythynod. Rhyw ddiwrnod pan oedd efe a'r dynion hyn oedd gydag ef yn cloddio ffynon i geisio cael dwfr croew, Mr Roberts yn y gwaelod yn cloddio, a'r dynion yn codi y pridd i fyny mewn tybiau, ymadawodd y bobl y noson hono heb godi Mr Roberts i fyny, ac yno y gorfu iddo fod hyd rhywbryd dranoeth, pryd y darfu iddynt ail feddwl, a'i godi oddiyno.

Prydnawa y dydd y glaniwyd, aeth dyn sengl o'r enw David Williams, brodor o Aberystwyth, am dro i fyny llethr bryn oedd yn codi oddiwrth y mor, er mwyn edrych beth a welai, ond ni ddychwelodd byth yn ol. Y tebygolrwydd ydyw iddo fyned dros y bryn, a cholli ei olwg ar y mor, a dyrysu, a cholli ei gyfeiriad, a theithio nes myned yn rhy wan, a marw o newyn. Cafwyd gweddillion o'i esgyrn, a rhanau o'i ddillad, yn nghyda darnau o bapyrau heb fod yn mhell o ddyffryn y Gamwy yn mhen llawer o flynyddau, a dygwyd hwynt i'w claddu yn mynwent y sefydliad. Yr oedd y ddau negesydd wedi sicrhau nifer o ychain arferol ar iau, ac fel yr oedd yn dygwydd, yr oedd gyda ninau an dyn oedd wedi arfer a gweithio ychain, sef Mr Thomas Davies, o Aberdar, teulu yr hwn wedi hyny a ddaeth yn bwysig yn y sefydliad. Chwiliwyd am ddarn o'r tir hawddaf i weithio gerllaw y porthladd, a hauwyd ynddo wenith, heb wybod y pryd hwnw nad oedd yn y wlad ddigon o wlaw i'w egino, a'i ddwyn yn mlaen i berffaithrwydd. Fel hyn ni chollwyd dim amser, heb fod bron pawb yn gwneud rhyw beth. Rhai yn clirio y darn tir, ac yn gosod y drain a dynid yn fath o wrych mawr i gau y lle i mewn, rhag yr anifeiliaid, ereill yn bugeilio y gwartheg, y defaid, a'r ceffylau, ereill yn dechreu clirio y mângoed a'r draun, er dechreu ffordd rwydd o Borth Madryn i ddyffryn y Camwy. Yr ydym yn dweyd y pethau hyn er cywiro adroddiad Mr Ford, y Gweinidog Prydeinig yn Buenos Ayres ar y pryd. Yn yr adroddiad hwnw am 1867, dywed fod aflwyddiant y sefydlwyr y flwyddyn gyntaf i'w briodoli i'w segurdod yn Mhorth Madryn am wythnosau wedi glanio, yn nghyda'u anwybodaeth o amaethyddiaeth, ac felly adael yr had yn rhy agos i'r wyneb; ond y mae yn amlwg, heb wybod beth yr oedd yn ei ddywedyd. Gwna hefyd gyfeiriad at Guano, a'r ynysoedd oedd yn gyfleus i'r bobl ei weithio, a gwneud â'r iau mawr o hono, oni buasai eu diogi. Y mae yr adroddiadau hyn oll yn ffrwyth anwybodaeth o'r lle a'r amgylchiadau.

Cafwyd llawer o ddifyrwch y pryd hwn gyda'r gwartheg. Yr oeddid wedi prynuy gwartheg hyn yn Patagones. Nid oedd Yspaeniaid De Ameriea y pryd hyn yn gwneud nemawr arferiad o odro, a gwneud caws ac ymenyn, ond eadwent y gwartheg wrth y canoedd a'r miloedd ar y paith i fagu, a lladdent hwynt er mwyn eu crwyn a'u gwêr.

Felly yr oedd y gwartheg hyn yn hollol wylltion, gan nad oeddid byth yn ei bwydo, na'i dal, na neb byth yn myned yn agos atynt ond ar geffyl, ac nid wyf yn meddwl iddynt erioed weled gwraig o'r blaen. Coffa da am Mrs. Eleanor Davies priod Thomas Davies y soniasom o'r blaen am dano—dynes wedi cael ei magu ger llaw Aberteifi, ac wedi arfer a gwartheg ar hyd ei hoes. Un diwrnod aeth allan a phiser godro yn ei llaw ar fedr godro cwpl o'r gwartheg oedd a lloi ieuaine ganddynt. Cerddai ar eu holau gan geisio tynu eu sylw trwy ddweyd, "Dere di morwyn i, dere di morwyn fawr i," ond edrychai y buchod arni fel pe buasai fwystfil ysglyfaethus mewn ofn a syndod, ond ambeli i un dewrach na'i gilydd yn galw i fyny ei gwroldeb i sefyll er gwneud ymosodiad pan yr oedd y rhan luosocaf yn dianc am eu heinioes. Cerddau Mrs. Davies yn mlaen at un o'r rhai oedd yn sefyll, yn ddigon di feddwl ond dyma y fuwch yn rhuthro ati, a thaflodd Mrs. Davies y piser tuag ati a gwnaeth y goreu o'i thraed i ffoi, gan ddweud wrth y bobl oedd ger llaw, "Dyma andras o wartheg, dyn a'n cato ni, dyma wartheg ar yspryd drwg ynddynt." Diwrnod arall yr oedd hen wr o'r enw John Jones, o Mountain Ash, yn cerdded yn ddifeddwl heibio rhai o'r gwartheg, a dyma un o honynt yn rhuthro arno ac yn ei daflu i lawr, ond pan yr oedd hi yn ceisio ei guro a'i phen a'r lawr, cydiodd yr hen wr dewr yn ei dau gorn a'r gefn ar lawr, a chiciau hi yn ei thrwyn, nes yr oedd yn dda ganddi gael ei gollwng. Wedi ymgynghori dipyn a'r haner Indiaid oedd wedi dyfod i ganlyn y gwartheg o Patagones, deuwyd i ddeall mai arferiad y wlad oedd, os oedd eisieu dal buwch neu geffyl, fod dyn ar geffyl yn arfer taflu rhaff ledr am ben y creadur ac yna arwain y fuwch at bost oedd wedi ei sicrhau yn y ddaear, ac yna ei rhwymo yn dyn wrtho, cyn cynyg ei godro, ac os byddai yn wyllt iawn byddid hefyd yn clymu ei thraed ol. Bob yn dipyn daethpwyd yn gyfarwydd ar drefn hon, ac felly llwyddwyd i gael llaeth ac ymenyn.

PEN. VI.-SYMUD I DDYFFRYN Y CAMWY.

Daethpwyd i ddeall yn fuan nad oedd yn Porth Madryn le i sefydlu ynddo, o herwydd diffyg dwfr croew, ac felly ofer oedd gwneuthur un gwaith parhaol yn y lle. Tir tywodog a graianog sydd oddeutu Porth Madryn; nid oes yma na dyffryn, nac afon, na nant, nac yn wir un math o darddiad yn un man—tir gwael, yn llawn o fân lwyni o ddrain Yn lle colli dim amser, trefnwyd fod y dynion sengl a'r penau teuluoedd mwyaf llawrydd i fyned drosodd ar unwaith i'r Camwy. Yr oedd rhwng Porth Madryn a Dyffryn y Camwy lawn deugain milldir, ond nid oedd yma na ffordd na llwybr o fath yn y byd, am nad oedd neb erioed, mor belled ag y gwyddys, wedi bod yn teithio y ffordd hon heblaw Indiaid ar rhyw ddamwain. Yr oeddid yn gwybod pwynt genau yr afon Gamwy, yn ol y mapiau y pryd hwnw, ond nid oedd un o honynt yn gywir, ond môrlen Fitzroy. Beth bynag, trefnwyd i fyned yn finteioedd o ddeg neu ddeuddeg yr un; rhoddwyd i bob mintai un ceffyl i gario clud, cwmpawd i gymeryd y cyfeiriad priodol, ac ymborth a dwfr at y daith. Trefnwyd hefyd i lwytho ein bywydfad a lluniaeth, a'i anfon yn ngofal morwr medrus o'r enw Robert Neagle ac ychydig ddwylaw ereill ag oedd wedi arfer ar fôr. Yr oedd gan y cwch hwn tua 70 milldir o for o'r porth lle yr oeddym i enau yr afon. Yr oeddid wedi trefnu fod y minteioedd i gychwyn un diwinod ar ol eu gilydd, ac yr oeddid yn tybied na chymerasai iddynt ond dau ddiwrnod yn y fan pellaf i fyned o Borth Madryn i Ddyffryn y Camwy. Rhywfodd neu gilydd, ni chafedd y minteioedd hyn y cyfeiriad iawn, a bu iddynt golli y ffordd, a chrwydro, ac yn lle cyrhaedd yno mewn deuddydd, buont agos i bedwar niwrnod ar y paith. Dyoddefodd y minteioedd hyn galedi ar eu teithiau, yn benaf mewn angen dwfr ar y paith, wedi cyraeddo, ddiffyg ymborth. Er i'r cwch fyned allan o'r porthladd yn ddyogel, ac amgylchu pwynt Ninffas, trwy rhyw anffawd rhedwyd ef i'r lan, a methwyd ei gael allan drachefn i'r mor, a churwyd ef gan y tonau nes ei anmharu, ac wedi rhoi ei gynwysiad ar y traeth, a rhoddi hwyl drostynt, dychwelodd y dynion ar eu traed i Porth Madryn. Gwelir felly fod y minteioedd oedd wedi myned i'r Camwy, yno heb ddim bwyd, ond a allent bwrcasu eu hunain gyda'u drylliau. Buont yn byw ar rywbeth a allent saethu—llwynogod, ac adar ysglyfaethus creaduriaid nad oeddynt gyfreithlon dan gyfraith Moses, ond oedd yn gwneud y tro dan yr amgylchiadau, ac yn ddiameu genyf yn oddefedig gan yr Hwn sydd mor drugarog ag ydyw o santaidd. Yn mhen ychydig ddyddiau, cyrhaeddodd y fintai oedd yn dyfod ag oddeutu 800 o ddefaid drosodd o'r porthladd i'r dyffryn, felly cafwyd digon o gig defaid, ond nid oedd genym halen na dim arall i'w fwyta gydag ef, ond byddid weithiau yn ei ferwi yn nwfr y mor, neu ynte yn tywallt dwfr hallt arno wedi ei rostio. Wedi clywed y newydd am y cwech, penderfynwyd yn Porth Madryn anfon lluniaeth drosodd ar gefnau ceffylau, ond yr oedd y ffordd hon yn rhy anniben i gyflenwi angen y nifer ydoedd ar y Camwy, ac felly dychweledd amryw o'r penau teuluoedd yn ol i Borth Madryn, lle yr oedd yr ystordy a'r ymborth. Yr oedd y gwragedd a'r plant o hyd yn Mhorth Madryn, a llawer o benau teuluoedd erbyn hyn wedi dychwelyd o'r Camwy, a rhai heb fyned oddiyno o gwbl. Yr oedd rhai yn ystod yr amser hwn yn gweithio yn gyson ar y ffordd o'r porthladd i'r Camwy, a gwnaed tuag wyth milldir o honi y pryd hwnw. Erbyn hyn yr oedd yn y porthladd y llong "Ellen," eiddo Captain Wood, wedi dyfod yno gyda llwyth o geffylau. Penderfynwyd llogi y llong hon i gludo y clud a'r ymborth, a'r gwragedd a'r plant dros y dwfr i'r Camwy.

Yn ystod yr arhosiad hwn yn Mhorth Madryn, bu farw un wraig o'r enw Catherine Davies, o Landrillo, ger Corwen, priod Robert Davies, a rhoddodd Elizabeth, priod Mr. Morris Humphreys, enedigaeth i ferch, yr hon a elwid Mary, ac enwyd bryn ar y ffordd o Porth Madryn i'r dyffryn ar ei henw yn Fryniau Mary, am i rywun gael y newydd am ei genedigaeth pan yn croesi y bryniau hyn.

Cafodd y llong "Mary Ellen," wynt croes, a methodd ddyfod i mewn i'r afon am 17 niwrnod, ac yn ystod yr amser uchod, bu yn teithio llawer yn ol ac yn mlaen, a dyoddefodd y gwragedd a'r plant yn fawr iawn, a dyfethwyd llawer o'r ymborth. Yr achos penaf o'r dyoddefiadau ar fwrdd y llong hon oedd prinder dwfr i yfed ac i wneuthur bwyd, ac felly llawer o'r rhai gwanaf yn suddo i wendid o eisieu ymborth priodol. Collwyd baban neu ddau ar y fordaith hon. Methwyd cael lle i bawb ac i'r holl glud y tro hwn, ac felly gorfu gwneud ail fordaith, ond llwyddwyd y waith hon i ddyfod i mewn i'r afon mewn ychydig ddyddiau, ac heb golli neb na dim.

PEN VII. CODI Y FANER ARCHENTAIDD AR DDYFFRYN Y CAMWY.

Yn ystod yr wythnosau hyn, daeth atom mewn llong o Patagones ddau swyddog, yn nghyd a'u gweision, perthynol i'r Llywodraeth Archentaidd. Swyddog milwrol oedd un, Captain Marga, o Patagones, ac un Mr. Diag, tir-fesurydd o Buenos Ayres, oedd y llall. Yr oedd Captain Marga wedi d'od yma dros y Llywodraeth Archentaidd, i godi baner y Weriniaeth Archentaidd ar y lle, ac i roi caniatad ffurfiol i ni gymeryd meddiant o'r lle a'i sefydlu. Daethant drosodd o Borth Madryn ar geffylau, y rhai a ddygasent i'w canlyn yn y llong a'u cludai. Dygwyddodd wneud wythnos neu naw diwrnod o wlaw y pryd hyn, a thrwy fod nifer luosog o honynt yn teithio yn llinyn ar ol eu gilydd dros y paith pan oedd yn wlyb, gwnaethant lwybr amlwg, ar hyd yr hwn wedi hyny y gwnaed y ffordd, canys hyd hyny nid oedd pawb yn cadw at yr un llwybr. Y mae gallu mawr gan bobl wedi eu codi mewn gwledydd newyddion i dynu cyfeiriad syth hyd yn nod mewn lle hollol ddyeithr iddynt, ac felly gwnaeth y bobl hyn lwybr lled syth y tro hwn, er nad oeddynt erioed wedi bod yno o'r blaen.

Ar y 15fed dydd o Fedi, codwyd y Faner Archentaidd ar Ddyffryn y Camwy, ar lanerch gerllaw yr afon, tua phedair milldir i'r mor. Wedi i seremoni codi y Faner fyned drosodd, a chael tipyn o orphwys, dychwelodd y swyddog milwrol a'i weision yn ol i Patagones, ond arosodd y tir-fesurydd gyda ni i wneud ei waith. Codasid y Faner ar le a alwem ni yr Hen Amddiffynfa," darn o dir wedi cael ei gau i mewn a ffos gron ydoedd, ac yn mesur o 60 i 100 llath ar ei draws. Y mae hanes gwneuthuriad y ffos hon ar dafod leferydd, ond nid ydwyf yn gwybod am ddim yn ysgrifenedig ar y mater, ac felly nid wyf yn honi rhoddi hanes hollol fanwl am dani, na'r amgylchiadau. Yr hyn a glywais ydyw, i foneddwr o'r enw Jones ddyfod yma mewn llong, a nifer o ddynion i'w ganlyn tua'r flwyddyn 1853, gyda'r bwriad i ladd gwartheg gwylltion, er mwyn eu crwyn a'u gwer. Yr oedd Fitzroy yn ei hanes o Ddyffryn y Camwy yn dweyd fod y dyffryn yn llawn o wartheg gwylltion, ond y mae yn ymddangos i'r Indiaid glywed rhyw sibrwd am anturiaeth y dyn hwn, ac iddynt ddyfod i lawr a hel a gyru o'u blaen i'r Andes bron yr oll o honynt, cynifer, with reswm, aga allesent gael gafael arnynt, a llwyddo i'w gyru i'r coedwigoedd. Dywed yr hanes mai rhyw haner dwsin a welodd y boneddwr hwn a'i weision o gwbl. Yr oeddynt wedi cloddio y ffos y cyfeiriwyd ati, ac wedi taflu y pridd i'r ochr mewn, a phan fyddai y llanw i fyny, byddai y ffos yn llawn o ddwfr er dyogelwch, am fod chwedl ar led nad oedd Indiaid Patagonia byth yn croesi dwfir i ymosod.

Pan aethom ni yno yn mhen y deuddeg mlynedd, yr oedd yno ddau neu dri o fythynod, a ffwrn o briddfeini yn aros. Yr oedd y tai bychain hyn wedi eu gwneud o goed a herg, a llawer un o honynt wedi ei wneuthur o briddfeini wedi eu llosgi. Dywedir i'r bobl hyn ymrafaelio a'u gilydd a suddo eu llong yn yr afon, gweddillion yr hon oedd yno pan aethom ni yno, ac iddynt fyned ymaith dros y tir i Patagones. Nis gallaf dyngu i wirionedd manwl yr hanes uchod, ond mae yn sicr fod yna gnewyllyn o ffeithiau iddo. Beth bynag, ar yr ysmotyn hwn y dechreuwyd adeiladu, ac y mae o fewn terfynau ein Prif Ddinas heddyw. Dyma ni yn awr oll gyda'n gilydd unwaith eto. Yr oedd y dynion ieuainc, a'r penau teuluoedd, wedi bod yn bysur yn adeiladu bythod i fyw ynddynt yn ac oddeutu yr Hen Amddiffynfa, cyn i'r gwragedd a'r plant ddyfod trosodd o Porth Madryn, Yr oedd rhai o'r bythed hyn wedi eu gwneud o goed wedi eu dwbio a chlai; ereill wedi tori ystafell yn ochr clawdd ffos yr Hen Amddiffypfa, pob un yn dyfeisio pa fodd i wneud ei dy gyflymaf, a chyda lleiaf o waith. Yr oeddid wedi adeiladu math o ystordy yma hefyd i gadw y gwenith, y blawd, a'r nwyddau gwahanol oeddid wedi eu dwyn o Buenos Ayres, fel moddion lluniaeth. Yr oedd rhai o'r ymfudwyr wedi dod a swm da o ddefnydd ymborth i'w canlyn o Lerpwl, Yr oedd genym ddwy felin flawd i'w gweithio a llaw neu gyda cheffyl, wedi eu pwrcasu cyn gadael Cymru, a gosodwyd y rhai hyny i fyny yn yr Hen Amddiffynfe, er bod yn gyfleus i bob un fel eu gilydd. Erbyn hyn yr oeddym yn teimlo yn bur gysurus, rhywbeth tebyg i ddynion fu mewn ystorm, a hono yn awr wedi mynad heibio. Y mae genym hamdden yn awr i edrych o'n deutu i gael gweled pa fath le sydd yma, a beth yw adnoddau tebygol ein gwlad fabwysiedig. Y mae y dyffryn yn ymddangos yn un braf iawn o bob tu i'r afon, ac yn edrych yn hollol wastad, a'r afon yn ymddolenu fel neidr trwyddo nes ffurfio mân or-ynysoedd yma ac acw. Y mae yr afon gyferbyn a'n pentref o 80 i 100 llath o led, a choed helyg yn tyfu ar y glanan yn bur gyffredin, Rhyw olwg grinllyd, a diffrwyth sydd ar y dyffryn at ei gilydd, oddeithr yn y torfeydd a nodasom, y rhai sydd yn derbyn lleithder gan yr afon. Y mae dyffryn y Camwy oddeutu 50 milldir o hyd ac yn am. rywio o 3 i 4 milldir o led, weithiau fwy ac weithiau lai. Y mae y dyffryn hwn fel yn cael ei dori yn ddau trwy fod yr afon yn taro ar yr uchelder tua 25 milldir o'r mor ar yr ochr ogleddol, a thrachefn yn taro ar ucheldir deheuol rhyw 5 milldir yn uwch i fynu. Y mae o bwys i'r darllenydd gadw y ffaith hon mewn cof, am y byddaf yn nghorff yr hanes hwn yn cyfeirio at y sefydliad, fel dau ddyffryn sef yr isaf a'r uchaf, yn enwedig yn nglyn a'r camlesi dyfriol.

Yr oedd erbyn hyn dau neu dri mis wedi pasio, ac felly yr oedd yn rhy ddiweddar i fyned ati i hau, pe buasai genym y moddion priodol at hyny, ond gan ein bod bron i gyd wedi dod a hadau man, neu hadau gerddi fel eu gelwir hwynt yn gyffredin, aeth llawer ati i hau ychydig o'r rhai hyny, mewn lleoedd cyfleus a hawdd. Ond gan ein bod yn hollol anwybodus o natur eithafol sych y tir aoc o'r hinsawdd diwlaw, hauasom mewn lleoedd hollol anmhriodol, a'r canlyniad fu, ni thyfodd dim. Byddai yn well i ni cyn myned yn mhellach egluro ychydig yn nglyn a'r tymhorau. Y mae tymhorau Patagonia bron yn hollol gyferbyniol i dymhorau Cymru; mis Mai yw dechreu y gauaf, a Tachwedd ydyw dechreu yr haf. Arferiad Deheudir America ydyw hau yn Mai a Mehefin, a thrwy ei bod yn awr arnom ni yn ddiwedd Hydref, nid oedd dysgwyl i bethau dyfu cystal hyd yn nod pe bussem wedi ei hau yn y tir priodol. Dylid cofio pan yn adolygu dechreuad y Wladfa, a'r methiantau yn y blynyddoedd cyntaf, fod yn anhawdd iawn cael dynion oedd wedi arfer a gwlad mor wlyb a gwlawog a Chymru, ddod i ddeall ar unwaith pa fodd i amaethu gwlad berffaith sych, a bron hollol ddiwlaw, a'r ychydig wlaw hwnw yn hollol ddamweiniol, ac nid yn dymhorol fel yn ngwledydd y Dwyrain.

PEN. VIII.—EDRYCH I MEWN I'N SEFYLLFA A'N RHAGOLYGON.

Dymna ni yn awr wedi hel pob peth at eu gilydd; y cwbl sydd i'w ddysgwyl wedi cyraedd—yn wartheg, ceffylau, ac ymborth. Y mae yr unig long sydd o fewn ein cyrhaedd yn yr afon yn barod i gychwyn i ffwrdd tua Buenos Ayres, ac yna byddwn wedi ein gadael yn hollol ar ein penau ein hunain, a rhyw 170 o milldiroedd rhyngom a'r sefydliad nesaf atom, felly gwelir fod o bwys i ni beth yw ein sefyllfa i wynebu y dyfodol. Y mae yn awr yn ddechreu Tachwedd, ac felly, a chaniatai y byddwn yn llwyddianus i gael cynhauaf y flwyddyn nesaf—canys ni cheir cynhauaf y flwyddyn hon—y mae genym flwyddyn a phedwar mis cyn y gallwa ddysgwyl cael defnydd bara o'n hamaethiad ein hunain. Cyfarfu y Cyngor i edrych i mewn i'n hadnoddau. Cymerwyd amcangyfrif mor fanwl ag y gellid beth oedd gan bob un mewn ffordd o luniaeth, a pha faint oedd o luniaeth o bob math yn yr ystordy cyffredinol, a chafwyd allan nad oedd yn y lle o gwbl ond digon o ddefnydd ymborth am saith neu wyth mis, a'i ranu yn gynul iawn i bob un. Galwyd ar ein cynrychiolydd, Mr. Lewis Jones, i gael gwybod beth oedd ei syniad ef am y dyfodol, gan mai efe oedd wedi bod yn ymwneud a'r Llywodraeth, ac wedi pwrcasu yr oll oedd genym mewn llaw. Ond nid oedd gan Mr. Lewis Jones nemawr o oleg i'w roi ar y mater, gan nad oedd gandde olwg am gael ychwaneg o Buenos Ayres. Yr oedd yr oll o'r trefniadau a wnaed wedi eu gwneud ar y dybiaeth y buasema yn y lle yn ddigon buan i hau y tymor hwn, ac felly nad oedd angen darparu ond hyd Mawrth neu Ebrill, 1866; ac heblaw hyn, yr oedd yr holl eiddo oeddid wedi eu cael wedi eu prynu gan fasnachwyr yn Buenos Ayres a Phatagones ar goel gan Mr. Jones, gan nad oedd y Llywodraeth eto wedi addaw dim; a chan nad oedd golwg am fodd i dalu am yr eiddo oeddid wedi eu cael eisoes, nid oedd fawr calon gan Mr. Lewis Jones i fyned i geisio ychwaneg. Yn ngwyneb hyn, galwodd y Cyngor gyfarfod o'r holl fintai, er mwyn rhoi ar ddeall i bob un ei sefyllfa, a chael barn y llaws beth oedd oreu i'w wneud, a rhoi hefyd gyfle i'r goruchwyliwr, Mr. Lewis Jones, i roi adroddiad o'r hyn ydoedd wedi ei wneud, a'i fwriad yn nglyn a'r dyfodol. Cyfarfod dipyn yn ystormus fu hwn. Yr oedd tuedd greft yn y cyfarfod feio y goruchwyliwr am na fuasai y trefniadau yn helaethach, a rhai yn barod i'w gyhuddo o gamarwain yn yr addewidion a addawsid yn Nghymru, y rhai y dywedid y buasai y Llywodraeth yn eu cyflenwi Achosid y geiriau chwerwon a ddywedwyd o bob tu, gan anwybodaeth o du y bobl o'r gwaith o ymwneud a swyddogion y Llywodraeth, a chan ddiffyg profiad o du y goruchwyliwr o'r wlad, ae hefyd pa fodd i drin pobl mewn amgylchiadau o'r fath. Mewn canlyniad i'r anghydwelediad hwn, rhoddodd Mr. Jones ei swydd i fyny fel llywydd ac fel goruchwyliwr, yr hyn a achosodd ddiflasdod mawr, a phenderfynodd ef a'i briod, a brawd iddo ymadael gyda'r llong oedd yn barod i ymadael a'r lle. Mewn canlyniad i hyn, etholodd y Cyngor lywydd a goruchwyliwr newydd, yn mherson an Mr. William Davies, o Lerpwl—dyn o feddwl cryf, clir, ac o wybodaeth eang—dyn pwyllog a phenderfynol, ac yn selog a gweithgar gyda'r symudiad Gwladfaol. Penderfynwyd ei fod yntau hefyd i fyned i fyny i Buenos Ayres gyda'r llong uchod, er cael dealldwriaeth helaethach gyda'r Llywodraeth, a chael ychwaneg o ddefnyddiau lluniaeth i'r lle, yn nghyda gwenith a haidd tuag at hau. Ymadawodd gyda'r llong hon hefyd y personau canlynol, Dr. Green (ein hunig feddyg), Mri. William Williams, Lerpwl; John M. Thomas, Merthyr Tydfil; a'r Surveyor oedd wedi dyfod atom i fesur y dyffryn. Achosodd y sefyllfa hon ar bethau gryn anesmwythder mewn rhai pobl anmhwyllog ac ansefydlog ac ymunodd nifer o honynt i dynu allan ddeiseb a'i hanfon gyda'r llong hon at Raglaw y Falkland Islands, yr hwn oedd brwyad Prydeinig, yn erfyn am i'r Llywodraeth Brydeinig ymyraeth a chael rhyw foddion i'n symud o'r lle i ryw diriogaeth odditan Faner Prydain. Yr oedd y ddeiseb hon yn camliwio pethau yn anghyffredin, ac mewn canlyniad i hon, bu gohebiaeth hir rhwng swyddogion Prydeinig y Falkland Islande, y Prif Lyngesydd yn Monte Video, a'r Cenhadwr Gwleidyddol yn Buenos Ayres, yr hyn a orphenodd mewn long ryfel Brydeinig gael ei hanfon i lawr o Monte Video yn mis Gorphenaf 1866 i edrych i mewn i sefylla y sefydliad ar y Camwy. Nid oedd ond nifer fechan wedi arwyddo y ddeiseb hon yn weithredol, ond yr oedd yr anesmwythwyr wedi ffugio rhai, a rhoi i lawr hefyd enwau nifer o fabanod. Yr hwn a flaenorai yn y mater hwn oedd dyn o'r enw Robert Williams, yr hwn oedd weinidog gyda'r Bedyddwyr gwr gweddw, ac un mab ieuanc gydag ef, a chan fod eu morwyn wedi eu gadael, a neb ganddynt i edrych ar ol eu ty, yr oedd ganddynt beth achos i gwyno ar yr amgylchiadau. Yn mhen tua blwyddyn, ymadawodd saith o'r deisebwyr, ond arosodd y gweddill; yn mysg y rhai a arosodd, y mae mab y Robert Williams y cyfeiriwyd ato. Y mae y ddeiseb, a'r enwau wrthi, ar gael yn adroddiad y llong ryfel Triton," am y flwyddyn 1866, yn nghyda llawer o ffeithiau ereill, ac y maent, y rhan luosocaf, yn gywir, ond lle y mae yr ysgrifenwyr yn gwneud sylwadau o'u heiddo eu hunain.

PEN. IX—Y GORUCHWYLIWR YN BUENOS AYRES.

Cafodd Mr. William Davies, ein goruchwyliwr, dderbyniad a sylw caredig oddiar law y Llywodraeth Archentaidd yn Buenos Ayres. Gan i'r bywydfad a fwriadwyd i fod wrth law i redeg i Patagonia, os byddai rhyw angen neillduol, fyned yn ddrylliau ar draeth y mor yr wythnos gyntaf wedi i ni lanio, nid oedd gan y Wladfa un math o gyfrwng cymundeb a'r byd bellach, gan nad oedd ffordd dros y tir wedi ei chael allan eto. Felly un cais at y Llywodraeth oedd, ar iddynt gael llong fechan at wasanaeth y sefydliad. Caniataodd y Llywodraeth 140p. tuag at brynu llong fechan, a rhoddodd boneddwr Seisnig o'r enw Mr. Denbigh, yr hwn oedd mewn cysylltiad a thy masnachol pwysig yn Buenos Ayres £100. Penderfynodd y Llywodraeth yn garedig iawn roddi 140p yn fisol i'r sefydliad tuag at gael lluniaeth a hadyd, a bod y rhodd hon i barhau hyd y cynhauaf yn nechreu 1867. Fel hyn, wedi bod yn Buenos Ayres am amryw fisoedd, a bod yn hynod lwyddianus yn ei neges, dychwelodd Mr. W. Davies yn ol yn y llong oedd yn dwyn y lluniaeth, a'r llong fechan a brynwyd hefyd i'w ganlyn, yn ngofal rhai o ddwylaw y llong arall. Cafodd Mr. Davies, fel y gellir dysgwyl, dderbyniad calonog a chroesawgar lawn gan y Gwladfawyr wedi gweled ei lwyddiant, yn enwedig wedi gweled y llong oedd ganddo erbyn hyn yn eiddo y sefydliad yn gyfangwbl, ac i fod with law mewn adeg o daro. Yn ystod absenoldeb Mr. Davies yn Buenos Ayres, yr oedd rhai yn rhy bryderus i ddechreu gwneud dim, dan yr esgus na wyddid eto beth a ddelai o honom, ond ereill mwy ffyddiog, ac o duedd fwy weithgar, a aethant o ddifrif i wneud tipyn o drefn ar bethau, er bod yn alluog i ddechreu trin y tyddyn mor fuan ag ydoedd modd. Yr oedd y tirfesurydd wedi mesur mapio y dyffryn ar yr ochr ogleddol i'r afon, ond nid oedd wedi mesur ar yr ochr ddeheuol ond yn unig dair fferm, am i'r afon orlifo, fel nad allai fyned yn mlaen gyda'r gwaith, ond yr oedd yma ddigon, a digon yn weddill, o dyddynod i bawb. Penderfynodd y Cyngor fod y tyddynodd i'w rhoddi allan i'r dyfodwyr trwy goelbren, neu roi tocynau mewn blwch, a rhif y tyddynod arnynt, a phob un gael y rhif a dynai allan. Ni roddwyd tocynau am yr holl dyddynod, ond y rhai hyny oeddynt o fewn y pymtheg milldir nesaf i'r mor.

Sefydlodd pawb fel rheol bron, yn nesaf at eu gilydd, fel ag i beidio bod yn rhy wasgafedig pe y dygwyddai rhyw ymosodiad oddiwrth Indiaid. Yn gynar yn y gwanwyn, aeth y rhan luosocaf o'r rhai oedd yn alluog i weithio, i barotoi y tir yn nechreu yr haf oedd yn dilyn. Nid oedd genym yr adeg hon ond nifer fechan o erydr, a nifer llai drachefn o geffylau a fedrai weithio yn rheolaidd. Nid oedd ond ychydig geffylar yn Neheudir America y pryd hwnw a fedrai weithio, am nad oeddid yn eu harfer, am mai ychain a ddefnyddid i weithio bron yn gyffredinol; felly nid oedd dim i'w wneud ond cymeryd y gaib a'r bâl i barotoi darnau o dir yn barod i'w hau. Nid oeddys y pryd hwnw, nid yn unig ddim yn deall yr hinsawdd yn briodol, ond nid oeddys ychwaith yn deall ansawdd a phosiblrwydd gwahanol ranau o'r dyffryn Felly dewiswyd y tir i'w drin oedd a thyfiant arno yn barod, am fod y rhan fwyaf o'r tir yn hollol ddidyfiant, a thybiem nad oedd hwnw fawr werth, gan nad oedd dim yn tyfu yn naturiol arno, beb wybod y pryd hwnw mai diffyg lleithder oedd yr achos o'r diffrwythder hwnw. Gydag offerynau oedd yn gofyn y fath lafur caled, ac amser mor hir i wneud hyd yn nod ychydig, gellir meddwl nad allodd y rhai cryfaf wneud ond ychydig erwau. Tir trofeydd yr afon a barotowyd bron i gyd, am ei fod yn dyfadwy, ac felly yr oedd yn gryf, ac yn anhawdd iawn ei balu ai geibio; ond trwy ddiwydrwydd a dyfalbarhad, yr oedd bron pawb erbyn dechreu Mehefin wedi hau ychydig erwau—rhai fwy, a rhai llai. Yn ystod Mehefin, cafwyd gwlaw tyner a thyfol anghyffredin, ac eginodd y gwenith ar bob llanerch, fel yr oedd golwg ddymunol iawn arnynt, a phob, un yn obeithiol a chalonog. Pan ddaethom yma gyntaf, ac am rai misoedd wed'yn, yr oeddid yn bur bryderus yn nghylch yr Indiaid. Pan yn teithio y nos, neu yn cysgu allan ar y paith, byddid bron myned i lewyg wrth glywed yegrech ambell i aderyn, gan dybio yn siwr mai swn mintai o Indiaid oedd. Buwyd felly mewn ofn a dychryn yn awr ac yn y man am rai misoedd, ond dim hanes am an Indiad yn ymddangos, nes oeddid bron myned i'r eithafion arall i gredu nad oedd yr Indiaid yn y wlad. Ond dyma ddyn yn carlamu i lawr y dyffryn, ac i'r pentref, ac yn dweyd, a'i anadl yn ei ddwrn, "Mae yr Indiaid wedi d'od," a thranoeth dyma hen wr a hen wraig, a dwy ferch, wedi gwisgo eu hunain mewn crwyn guanaco, yn gwneud eu hymddangosiad. Yr oedd ganddynt babell (tent), wedi ei gwneuthur o grwyn ac ychydig bolion, a nifer luosog o geffylau, cesyg, a chwn. Yr oeddynt hwy a ninau y naill mor ochelgar a'r llall, ac yn methu a gwybod beth i'w wneud o'n gilydd, gan nad oeddym yn deall un gair a ddywedai y naill wrth y llall. Yr oedd yr Indiad wethiau yn siarad eu iaith ei hun, a phryd arall yn siarad yr Yspaenaeg, ond yr oedd y naill bron mor ddyeithr i ni a'r llall, oddieithr ein bod yn clywed ambell i air yn bur debyg i ambell i air Lladin oedd ambell un yn ei gofio. Yr oedd yr Indiaid wedi arfer myned i Patagones—Sefydliad Yspeinig —i fasnachu, ac fel hyny wedi pigo i fyny ychydig o Yspaenaeg siarad cyffredin. Bob yn dipyn, daethom i allu deall yn weddol, mewn rhan trwy arwyddion, ae hefyd trwy fod y naill a'r llall o honom yn pigo i fyny ambell i air Yspaenasg, ac ambell i air hefyd o iaith y brodorion. Yr oedd pob peth mor belled ag y deallem ni yn heddychol a charedig oddeutu y teulu hwn, ond y pryder oedd rhag mai ysbiwr bradwrus ydoedd, ac y gallai fod yna fyddin gref i'w dysgwyl; ond wrth weled mis ar ol mis yn myned heibio, a dim cyfnewidiadau mewn dim, aethom i gredu, ac yr oeddym yn gywir, mai hen bobl ddiniwed oedd y rhai hyn, ac erbyn deall y cwbl, efe oedd un o brif lywyddion y wlad, o'r hon yr oedd Dyffryn y Camwy yn rhan, ac felly perchenog cyfreithlon y tir.

Bu ymweliad y teulu Indiaidd hwn yn fanteisiol iawn i'r Wladfa yn yr amgylchiadau yr oedd ynddynt y pryd hwnw. Yr oedd cigfwyd yn brin iawn ar y pryd, am nad oedd genym ddigon o anifeiliaid eto fel ag i allu lladd dim at ein gwasanaeth, a thrwy ryw anffawd, neu yn hytrach trwy ein hanfedrusrwydd o herwydd diffyg profiad, a'n dyeithrwch yn y lle, yr oeddym wedi colli yr oll o'r defaid yr wythnos gyntaf wedi cyraedd y dyffryn. Nid oedd ond nifer fechan o honom ychwaith wedi ymarfer a dryll, ac felly yn methu a chael gafael ar yr adar a'r anifeiliaid gwylltion oedd mewn cyflawnder o'n deutu, ond pan ddaeth y llywydd Indiaidd Francisco (canys dyna ei enw) i'n plith gyda'i gwn a'i ceffylau cyflym, yn nghyd a'i fedrusrwydd i hela, byddem yn cael llawer iawn o gig ganddo yn gyfnewid am fara a phethau eraill. Heblaw hyny dysgodd lawer ar ein dynion ieuainc pa fodd i drin ceffylau a gwartheg anhywaeth, trwy ddefnyddio y laso ar bolas (gwel yr atodiad) i'w trafod. Cawsom wersi pwysig hefyd yn y gelfyddyd o hela anifeiliaid gwylltion, ac mewn canlyniad daeth amryw o'n pobl ieuainc yn fuan yn helwyr cadarn.

PEN, X.-YMWELIAD Y "TRITON" A'R WLADFA

.

Yn nechreu Gorphenaf 1866, ymwelwyd a ni gan un o longau rhyfel Prydain o Monte Video, o'r enw "Triton," fel y cyfeiriasom eisioes, mewn canlyniad i ddeiseb gamarweiniol a ddanfonwyd o'r Wladfa gan nifer fechan o'r sefydlwyr i Raglaw y Falkland Islands. Yr oedd y llong hon dan reolaeth Lieutenant Napier, R.N., ac ar ei bwrdd Captain Watson, ysgrifenydd y Swyddfa Brydeinig yn Buenos Ayres, Mr. Arenales, swyddog Archentaidd, heblaw swyddogion ereill y llong a'r dwylaw. Bu y llong wrth angor yn Mhorth Madryn am amryw ddyddiau, a bu Captain Watson a Mr. Arenales, meddyg y llong, ac ereill o'r swyddogion, drosodd ar y Camwy rai dyddiau, yn edrych ansawdd y tir a sefyllfa y sefydlwyr, er mwyn rhoi adroddiad cyflawn i'r Llywodraeth Brydeinig trwy y gweinidog yn Buenos Ayres. Yr ydym eisioes wedi gwneud sylw o'r adroddiad hwn, fel na raid i ni ychwanegu. Bu ymweliad y llong hon a ni yn fanteisiol i'r sefydliad mewn mwy nag un ystyr. Symudodd i raddau y teimlad o unigedd oedd yn ein meddianu o angenrheidrwydd, trwy roi ar ddeall i ni eu bod wedi cael gorchymyn swyddogol i beidio bod yn ddyeithr i'r sefydliad, ac heblaw hyny, rhanwyd llawer iawn o esgidiau a arferir ar fwrdd y llongau hyn yn mysg y rhai oedd fwyaf anghenus yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd y bobl oedd wedi cerdded llawer, ac wedi bod yn defnyddio llawer ar y bal wedi treulio llawer o esgidiau mewn amser byr, a bu y rhodd hon yn werthfawr iawn iddynt. Hefyd, casglodd y morwyr yn eu plith eu hunain ddigon i dalu am 1,000 o latheni wlanen oedd gan y llong at wasanaeth y dwylaw, a rhanwyd hono drachefn rhwng y rhai mwyaf anghenus. Yr oedd golwg pur ffafriol ar y llanerchau yd pan oedd y llong hon yn y lle, am ein bod wedi cael gwlaw maethlon iawn ychydig yn flaenorol i'w dyfodiad atom, ac felly yr oedd adroddiad y bobl hyn at eu gilydd yn lled fafriol, yr hyn fu fel dyfroedd oerion i enaid sychedig i bleidwyr y mudiad yn Nghymru.

Ymweliad yr Indiaid a ni.

Gyda bod y "Triton" wedi myned allan o'r porthladd, ymwelwyd a ni gan ddau lwyth o Indiaid. Yr oedd hyn tua chanol Gorphenaf, sef canol ein gauaf ni. Yr oedd teulu yr hen lywydd Francisco yn ein plith o hyd, a phob peth yn myned yn mlaen yn gysurus, a neb yn meddwl am ychwaneg o honynt i ddyfod atom, o lelaf hyd nes y byddai hwn yn ymadael i ddweyd pa fodd yr oedd efe wedi ymdaro. Ond rhyw ddydd Sul, pan oedd yr ysgrifenydd mewn ty anedd i fyny rhyw naw milldir o'r pentref yn pregethu tua thri o'r gloch y prydnawr, dyma ddegau o Indiaid oddeutu y ty. Hwn oedd y ty uchaf yn y dyffryn y pryd hwnw. Daeth rhai o honynt i mewn o'r tu fewn i'r drws, ac ereill o honynt yn edrych i mewn trwy y ffenestri. Gallwch feddwl i ddyfodiad sydyn cynifer beri cryn gyffro yn y cynulliad bychan, ac i'r ymwelwyr gael mwy o sylw ar unwaith na'r pregethwr, yr hwn a deimlai ar unwaith mai goreu pa gyntaf y tynai yr oedfa i derfyniad, canys nid oedd yntau mwy na'r gynulleidfa a'i galon yn broof i ofn. Barnwyd yn ddoeth i yru rhyw un ar unwaith i lawr i'r pentref i roi hysbysrwydd o'u dyfodiad, gan alw wrth bob ty oddiyno i lawr i ddweyd y newydd. Er fod corff y sefydlwyr yn byw yn y pentref, eto yr oedd rhai wedi adeiladu tai ar eu tyddynod, ac wedi myned iddynt i fyw. Daeth dau o'r Indiaid i lawr i'r pentref y noson hono i ganlyn yr ysgrifenydd, sef llywydd y llwyth a'i was, ond gwersyllodd y llwyth tua chwech milldir o'r pentref. Bu siarad mawr y noson hono o dy i dy yn y pentref, a phenodwyd ar nifer i gadw gwyliadwriaeth trwy ystod y nos, ac yn wir, nid wyf yn meddwl i neb gysgu yn drwm y noson hono. Daeth y boreu o'r diwedd, a phob peth yn dawel fel arfer ond cyn amser ciniaw yr oedd yr holl lwyth wedi codi eu pabellau gerllaw y pentref. Yr oedd yma 60 neu 70 o eneidiau, yn meddu deuddeg neu bymtheg o babellau, ugeiniau o geffylau, os nad canoedd rai, a llawer iawn o gwn. Yn mhen ychydig ddyddiau yr un wythnos, daeth llwyth arall i lawr ar yr ochr ddeheuol i'r afon (ar yr ochr ogleddol yr oedd y lleill), a gwer- syllasant hwythau gyferbyn a'r rhai blaenaf, ond fod yr afon cydrhyngddynt. Adwaenid y llwythau hyn fel llwythau Chiqi Chan, a Galatts, sef enwau y llywyddion, neu y penaethiaid. Yr oedd Chiqi Chan yn perthyn, efe a'i lwyth, i'r Indiaid a adnabyddid fel y Pampa Indiaid, a Galatte i'r rhai a adnabyddid fel y Tuweltchiaid, neu Indiaid y De. Yr oedd genym erbyn hyn o gant i gant a haner o Indiaid cydrhwng gwragedd a phlant yn ein mysg, felly wedi ein cau i fyny, ac yn hollol ddiamddiffyn, trwy fod y môr o un tu i ni, a'r ddau lwyth Indiaidd, un o bob tu i'r afon, rhyngom a'r wlad. Byddent yn ymweled a'n tai bob dydd, ac yn begio bwyd, yn ac treio gwneud maanach a ni trwy gyfnewid math o wrthbanau breision o'u gwaith eu hunain, amryw fathau o grwyn, pluf estrysod, ac weithiau yn cynyg ceffylau, cesig, ac offer marchogaeth, megys cyfrwyau o'u gwaith eu hunain, ac weithiau y rhai Yspaenig. Yr oeddynt wedi arfer marchnata a'r Yspaeniaid yn Patagones, ac mewn lle i'r de a elwir Santa Cruz, ac yr oedd llawer o'r dynion yn medru ychydig o Yspaenaeg. Yr oeddynt wedi arfer cael diodydd meddwol gan yr Yspaeniaid uchod, ac fel ereill wedi cael blas ar ddiodydd poethion, a'r swyn sydd mewn meddwdod, un o'r pethau cyntaf a ofynent am dano oedd Connac neu frandi, canys dyna yr enw a roddent hwy ar bob math o wirodydd poethion. Nid oedd yn y sefydliad ar y pryd ond tair potelaid o gin ac ychydig frandi a gedwid yn y stor fel meddyginiaeth. Y mae llawer wedi bod yn beio y Gwladfawyr am ddechrau rhoi gwirodydd i'r Indiaid, heb wybod dim am yr amgylchiadau. Nid ydym mewn un modd yn cyfiawnhau ein gwaith mewn blynyddoedd wed'yn yn rhoi gwirodydd iddynt, ond ar y cychwyn, yn enwedig y tro cyntaf y daethant i lawr, yr oedd yn anhawdd iawn eu gwrthod o unrhyw beth a ofynent, gan ein bod mewn tipyn o ofn, ac yn hollol ddiamddiffyn, ac yn awyddus iawn o'u cadw yn gyfeillion. Er boddio cywreinrwydd y darllenydd, caniataer i mi ddweyd, mai yn meddiant yr ysgrifenydd yr oedd y tair potelaid gin, wedi eu gadael iddo gan y tir fesurydd, a rhoddodd hwynt yn rhodd ac yn rhad i'r penaeth Chiqi Chau, ond teg yw dweyd ei fod wedi cael ychydig o'r stor cyn hyny. Wedi iddynt yfed cydrhyngddynt y gwirod hwn, ac nid oedd ond fel dim cydrhyngddynt, daeth y penaeth a chaseg dlos iawn i'r ysgrifenydd yn bresant, yn gydnabyddiaeth, mae'n debyg, an y gwirod. Dyna y cwbl o wiredydd a gawsant y flwyddyn hon, am mai dyna yr oll oedd yn y lle; ond pan welwyd eu bod mor daer am y gwirod, ac yn cynyg bargeinion da am dano, ymdrechodd rhai gael swm pur fawr o hono erbyn y tymor nesaf y deuent i dalu ymweliad a ni, ac y mae yn iawn i ni addef i'r gwirodydd yn y dyfodol fyned yn brofedigaeth fawr yn nglyn a'r fasnach Indiaidd.

Er i'r minteioedd Indiaid hyn fod o dipyn o rwystr i'r sefydlwyr, trwy eu bod yn barhaus yn y tai, ac yn begio rhywbeth neu gilydd yn gyson, eto buont yn fantais dirfawr i ni ar yr adeg hon, trwy ein cyflenwi â cheffylau a ger marehogaeth, a rhoddi i ni lawer o gigfwyd yn gyfnewid am fara a phethau ereill. Gwerthent eu nwyddau y flwyddyn hon yn hynod o rad, y mae yn debyg am eu bod yn gweled nad oedd gan y Gwladfawyr nemawr ddim i roi am danynt. Prynid ceffylau yn rhad ceffyl am ychydig dorthau o fara ac ychydig aiwgr, pryd arall am ychydig latheni o gotwm a thorth neu ddwy. Wedi bod yn ein mysg fel hyn am rhyw ddau neu dri mis, ymadawsant, pob llwyth i'w fangre ei hun, gyda'r dealldwriaeth gereu cydrhyngom. Ond er i ni ymadael mewn heddwch, eto cawsom ar ddeall nad oeddynt i'w hymddiried fel dynion gonest, ond yn hytrach i'w gwylied yn barhaus, yn y ty ac yn y maes. Y mae fel yn ail natur iddynt ladrata, er yn gwybod nad yw yn gyfreithlon, canys cyflawnent eu lladradau yn y modd mwyaf cuddiedig a chyfrwys. Eto y mae yn iawn i ni gyfaddef fod rhai o honynt—rhai o'r prif ddynion— am roi ar ddeall eu bod yn rhy anrhydeddus i ladrata, a hyny yn fwy o falchder nag o dueddiad gonest.

Lladrataodd rhai o Indiaid yr ochr ddeheuol nifer o geffylau y flwyddyn hon, a diangasant i ffwrdd o flaen y gweddill, ond bu penaeth Galatts yn ddigon anrhydeddus i roi benthyg ceffylau, a rhoi arweinwyr i'r sefydlwyr i erlid ar eu holau, a buont yn llwyddianus i'w dal, a'u dwyn yn ol i'r sefydliad, ond yr oedd hyn i'w briodoli i raddau pell i ymddygiad ein llywydd ni ar y pryd, Mr. Wm. Davies, trwy iddo fod yn ddigon gwrol i ddangos nad oedd arnom ddim o'u hofn; ac os nad oedd y penaeth yn ymyraeth ac yn gweithredu i ddal y lladron, y byddai iddo ef a'i deulu gael eu cadw yn garcharorion, felly gwnaed pob peth i fyny mewn heddwch, ac ymadawyd yn gyfeillion.

PEN. XI.-METHIANT Y CYNHAUAF.

Aeth Awst, Medi, a Hydref heibio heb nemawr ddim gwlaw, ac erbyn canol Tachwedd yr oedd y tywydd yn boeth ac yn ddeifiol, fel y mae yn arferol a bod yr adeg hon, ac felly erbyn diwedd y mis hwn yr oedd y rhan luosocaf o'r llanerchau gwenith wedi gwywo a chrino, oddieithr darnau bychain oedd mewn pantau, yn derbyn llaithder o'r afon, neu ynte y darnau hyny oeddynt yn ddigon agos i'r môr i'r llanw wthio dwfr yr afon yn ol, nes llifo drostynt; daeth y rhai hyn i addfedrwydd, ond yn gnydau teneuon ar y goreu. Parodd hyn ddigalondid cyffredinol. Yr oedd hyn diwedd Tachwedd 1866. Yr oeddys, fel yr awgrymwyd o'r blaen, wedi hau ar y darnau, a'r unig ddarnau tir o ran gweryd oedd yn debygol o ddwyn ffrwyth, am mai ar y llanerchau hyn yr oedd tyfiant naturiol, ac wrth weled fod yr hinsawdd yn rhy sych i gynyrchu cnydau ar y tir hwn, teimlai pawb yn ddigalon ac anobeithiol iawn. Galwyd cyfarfod o'r holl sefydlwyr yn y pentref, neu Drefrawson. Wedi rhoi cyfle i bob tyddynwr ddweyd ei brofiad yn nglyn a'r cnwd, a'i farn ar y tir, gwelid yn fuan mai yr argyhoeddiad oedd, nad oedd y rhanbarth hwn yr oeddym wedi sefydlu arno yn gymwys i neb feddwl byw arno, am, fel y bernid y pryd hwnw, nad oedd yma ddigon o dir cynyrchiol hyd yn nod pe buasai yn cael digon o wlaw. Ond beth oedd i'w wneud? A oeddym i ymadael a'r lle heb unrhyw brawf nac ymchwiliad pellach? Penderfynwyd ein bod i benodi ar nifer o'r amaethwyr mwyaf profiadol i fyned i fyny i ddilyn yr afon mor belled ag y barnent yn angenrheidiol, i edrych allan am dir gwell a ffrwythlonach. Gwnaeth y dynion hyn eu hunain yn barod yn ddioed, ac ymaith a hwynt, ac wedi teithio i fyny i ganlyn yr afon am tua chan' milldir, fel y tybient y pryd hwnw, daethant at greigiau mawrion yn cyraedd hyd at yr afon, lle nad oedd un dyffryn o gwbl, na lle i basio ar geffylau i fyned yn uwch i fyny. Gadawsant eu ceffylau yn y pant ar lan yr afon, a dringasant ar eu traed i ben y creigiau hyn, er cael gweled a oedd yno wlad yn agor yn uwch i fyny, ond ni welent ddim ond creigiau yn mhob man, a dychwelasant yn ol yn fwy digalon ne anobeithiol na phan gychwynasent, yn sicr yn eu meddyliau nad oedd Patagonia, mor belled ag y gallasent hwy farnu, yn gymwys i'w phreswylio. Wedi eu dychweliad, galwyd cyfarfod eto dderbyn eu tystiolaeth, ac wedi clywed eu hadroddiad digalon, penderfynwyd fod i'r Cyngor weithredu ar unwaith i drefnu rhyw foddion i ni gael ein symud o'r lle i rywle arall yn y Weriniaeth, lle y gallem godi cnydau. Y pwnc cyntaf i'w ystyried oedd, pa fodd i fyned oddiyma o gwbl, am fod ein llong fechan wedi derbyn niweidiau trymion wrth ddyfod i mewn i'r afon wrth ddychwelyd o'i mordaith diweddaf, ac yn gorwedd yn ddrylliedig ar y traeth. Yr oedd genym yn ein mysg rai seiri oedd yn gyfarwydd a chychod a llongau, ac felly penodwyd ar ddau neu dri o honynt i fyned i'r traeth i edrych am y llong fechan, i weled a ydoedd modd ei hadgyweirlo yn gymwys i wneud mordaith i Buenos Ayres. Cafwyd ganddynt dystiolaeth ffafriol ar y fater, ac felly penderfynwyd myned ati o ddifrif ar unwaith. Yr oedd gerllaw genau yr afon, ac felly yn ymyl y llong ddrylliedig, amryw ddarnau o longau oedd wedi myned yn ddrylliau rhyw dro heb fod yn mhell, ac felly daeth coed a haiarn y rhai hyny yn ddefnyddiol i adgyweirio ein llestr ni. Galwodd ein llywydd bawb at y gwaith— rhai i gasglu coed i'w llosgi, i wneud charcoal at wasanaeth y gof, ereilli lifo darnau o'r trawstiau oedd ar y traeth, ac ereill i'w gweithio, a'r dynion nad oedd grefftwyr i gynorthwyo fel labrwyr, a thrwy gydweithrediad a diwydrwydd, erbyn canol Ionawr yr oedd y llong fechan wedi ei thrwsio i fyny, ac yn weddol gymwys i fordaith eto unwaith. Pwnc yr ymddyddanion y misoedd hyn ydoedd i ba le i fyned? Pob un yn darllen pob peth a gelai ar ddaearyddiaeth gwahanol wledydd, megys Awstralia, California, Brazil, Banda, Oriental, a hanes gwahanol dalaethau y Weriniaeth Archentaidd. Ond yr oedd ein tlodi yn rhwystr i ni feddwl am unrhyw. wlad tuallan i'r Werinaeth Archentaidd, am nad oedd obaith i ni gael unrhyw Lywodraeth yn barod i gostio ein symud. Pan oedd ein llong fel hyn bron yn barod, etholwyd mewn cyfarfod cyhoeddus ddau ddirprwywr i fyned at y Llywodraeth Archentaidd i geisio ganddynt ein symud i ryw ran arall o'r Weriniaeth, ac hefyd chwech o'r dynion mwyaf cymwys, yn ol ein barn ni, i fyned i edrych y tir a gynygid i ni, rhagi ni gael ein siomi y tro hwn eto. Gwnaed pobpeth yn barod. Y dirprwywyr oeddynt Mr. William Davies, ein llywydd, ac ysgrifenydd yr hanes hwn, a'r personau i edrych y tir oeddynt y Meistri Edwin C. Roberts, John Morgans, Griffith Price, John Roberts, Thomas Ellis, a Richard Eliis, a dwylaw y llong oeddynt Captain Robert Neagle, Mri. R. J. Berwyn, David Jones, a George Jones. Dyma bob peth yn barod, ac aethom allan o'r afon yn llwyddianus Ionawr 25, 1867, ac yr oeddym wrth angor o flaen dinas Buenos Ayres yn mhen wyth niwrnod. Aeth y ddau ddirprwywr i'r ddinas i aros yno mewn gwesty, er mwyn bod yn gyfleus i ymwneud a'r Prif Weinidog, Sef Dr. Rawson, ond arosodd y lleill i gyd ar fwrdd y llong, a chynaliwyd hwynt yno ag ymborth, trwy garedigrwydd y Prif Weinidog. Y mae y darllenydd yn cofio i mi adrodd, yn mhellach yn ol yn yr hanes hwn, am Mr. Lewis Jones, ein cyn—lywydd, yn ymadael o'r Wladfa o herwydd rhyw anghydwelediad rhyngddo a'r sefydlwyr, a hyny yn mhen tua thri mis wedi y glanio yn y wlad, ac o hyny hyd yr adeg hon, yr oedd wedi aros yn Buenos Ayres, gan fod yn arolygydd gwasg Seisnig yn y ddinas, sef Swyddfa y Buenos Ayres Standard"—papyr a gyhoeddir yn y ddinas hyd heddyw gan un Mr. Mulhall. Cafodd y dirprwywyr wrthwynebydd cadarn ynddo ef, sef Mr. Lewis Jones, yn eu hymwneud a'r Prif Weinidog yn nghylch symud y Wladfa. Gan mai efe, yn nghyda Captain Love Jones Parry, Madryn, oedd y rhai a anfonasid i edrych y wlad, ac iddynt hwythau ddwyn tystiolaeth mor ffafriol ir lle, ond yn awr y sefydlwyr am ymadael am nad oedd yn lle, yn ol eu barn hwy, yn gymwys i sefydlu ynddo, gellid tybio yn naturiol iawn y buasai efe yn gwrthwynebu, ac felly y gwnaeth yn egniol iawn. Trwy fod Dr. Rawson wedi bod mor awyddus o'r cychwyn i sefydlu Gwladfa ar y Camwy, ac wedi bod mor ffyddlon a charedig i'r sefydlwyr er cychwyniad y sefydliad, a hyny ar draul derbyn cryn anghymeradwyaeth oddiar law ei Lywodraeth, nid oedd yn anhawdd ei berswadio i goelio y goreu am y lle, a theimlo yn anfoddlon i symud Wladfa. Y ddadl ydoedd, nad oeddyn wedi gwneud digon o brawf, ac mai blwyddyn eithriadol oedd yr un a basiodd, a bod tymhorau sychion o'r fath yn dygwydd ar adegau mewn gwahanol barthau o Dde America. Yr oeddym ninau o'r tu arall yn tybio ein bod yn gwybod yn llawer gwell na'r Prif Weinidog a Mr. Lewis Jones, ac felly yn ddi-droi yn ol yn ein cais am gael ein symud. Y canlyniad o hyn fu i'r Prif Weinidog benderfynu anfon rhyw ddau o honom i lawr eto at y sefydlwyr, er cael sicrwydd trwy ddeiseb wedi ei harwyddo gan bob un mewn oed beth oedd ei ddymuniad, am ei fod yn ameu, fe allai, mai rhyw nifer fechan oedd yn anesmwytho. Buon fel hyn yn Buenos Ayres am tua thri mis cyn dyfod i un penderfyniad. Yn ystod yr adeg hon, buom yn gohebu a Llywydd Talaeth Santa Fe am ddarn o dir i fyny yno, mewn lle a elwid Bajaro Blanco, ac aethpwyd yno i'w edrych, ac yr oeddid yn bur foddhaus arno fel tir da, ond ei fod yn rhan o'r Dalaeth, ac felly yn anghymwys i ni gario allan y symuad o Wladfa Gymreig. Gofynodd Dr. Rawson i Mri. R. J. Berwyn ac Edwin C. Roberts, a'r ysgrifenydd i fyned i lawr i'r Camwy i ymofyn barn y sefydlwyr, a chydsyniasom ninau a'i gais. Yr oedd Mri. R. J. Berwyn a Edwin C. Roberts yn myned i lawr gyda chais oddiwrth Dr. Rawson am i'r sefydlwyr wneud un prawf ychwanegol, ac y caent ymborth am flwyddyn arall, ac hadau o wahanol fathau i'w rhoddi yn y tir, ac yr oedd yr ysgrifenydd yn myned i lawr gydag addewid llywydd Santa Fe, Mr. Orono, am dir yn Bajaro Blanco, ac yr oedd tynged y Camwy yn dibynu ar pa un o honom a gelai fwyaf o enwau.

PEN. XII.—Y DEISEBU A HELYNT Y SYMUD.

Y cwestiwn yn awr oedd pa fodd i fyned i lawr? Y mae yn wir fod ein llong fechan o hyd wrth angor yn y porthladd o flaen y ddinas, ac yr oedd Dr. Rawson am i ni fyned i lawr yn hon, ond yr oedd rhai o honom yn ameu a oedd y llestr bychan, oedd wedi myned dan adgyweiriad gyda defnyddiau a chyfleusderau mor wael, yn gymwys i ddychwelyd, yn enwedig gan ein bod bellach o fewn cyraedd digon o longau dyogel, fel nad oedd angen peryglu bywydau mewn llestr mor amheus; ac er mwyn bod yn ddyogel ac yn sicr, gofynwyd genym i'r gweinidog Prydeinig yn Buenos Ayres a anfonai efe saer llongau oddiar un o'r llongau rhyfel i wneud archwiliad arni, a rhoddi ei dystiolaeth i Dr. Rawson. Gwnaed hyn, a barnodd y swyddog hwnw ei bod yn anghymwys i fordaith ar y môr, ac mewn canlyniad, cytunwyd am ein cludiad ag agerlong oedd yn teithio rhwng Buenos Ayres a Patagones, yn ngbyda gorchymyn i swyddog y Llywodraeth yn Patagones ein danfon i lawr i'r Camwy mewn llong hwyliau oddiyno. Sefydliad yw Patagones o Yspaeniaid ac Italiaid, wedi ei ddechreu tua chan' mlynedd o flaen y sefydliad ar y Camwy. Erbyn i ni gyraedd Patagones, a thra yn aros am i'r llong hwyliau fod yn barod, cawsom wahoddiad gan foneddigion oedd yn dal tiroedd a meddianau mawrion yn y lle, i fyned i weled dyffryn yr afon Negro, gyda'r bwriad i'n henill i symud yno fei mintai, yn hytrach nag aros ar y Camwy na symud i Santa Fe. Y boneddigion hyn oeddynt Captain Murga y soniasom am dano eisioes, a brawd-yu-nghyfraith iddo, o'r enw Augirie, yr hwn oedd perchenog yr agerlong y daethom i lawr ynddi, a pherchenog y llong y bwriadem fyned gyda hi i'r Camwy. Rhoddodd y boneddwyr hyn i ni geffylau ac arweinydd at ein gwasanaeth, ac wedi teithio oddeutu can' milldir i fyny yr afon ar yr ochr ogleddol, dychwelasota ar yr ochr ddeheuol, wedi bod i ffwrdd dri diwrnod. Y mae y dyffryn hwn yn un pur fawr, yn fwy na dyffryn y Camry, ond yn ddigon tebyg o ran gweryd- yn sych a didyfiant, ond y trofeydd mawrion gerllaw yr afon. Dyma ni yn awr ar fwrdd y llong hwyliau a elwid "Bio Negro," Captain Summers yn llywydd arni, a dyn ieuanc o'r enw Lee hefyd yn dyfod i lawr dros y boneddigion uchod i dreio perswadio y bobl ar y Camwy i fyned i'w tiroedd hwy i sefydlu ar labnau y Negro, Cyrhaeddasom Porth Madryn yn ddiweddar yn Ebrill 1867. Yn ystod yr amser uchod, nid oedd neb o'r sefydlwyr ar y Camwy wedi gwneud dim ond meddwl pharotoi ar gyfer myned ymaith i rywle, er na wyddent eto i ba le. Y pethi cyntaf i'w wneud wedi i ni ddyfod i lawr oedd galw cyfarfod, a rhoi y tri chynygiad o flaen y Gwladfawyr, sef cynygiad Dr. Rawson i wneud prawf ychwanegol o'r Camwy, cynygiad llywydd Santa Fe i'n symud i Bajaro Blanco, a chynygiad Augirie a Murga i'n symud i'w tiroedd hwy yn Patagones. Gall y darllenydd feddwl fod y bobl wedi cael eu taflu i sefyllfa anfanteisiol iawn i farnu yn briodol beth oedd oreu iddynt wneud—wedi eu taflu bron yn gyfangwbl at ewyllys y siaradwr fedrai osod pethau allan yn y wedd fwyaf boddhaus, ac felly yn gywir yr oedd, am nad oeddynt yn gwybod y nesaf peth i ddim am Bajaro Blanco, na Phatagones. Yr unig beth yr oeddynt yn sicr o hono oedd cael eu cadw ag ymborth am flwyddyn yn y Camwy, yn ol cynygiad Dr. Rawson. Wedi cael amryw gyfarfodydd brwd iawn, deuwyd i arwyddo y deisebau, a'r canlyniad oedd,—tri theulu am aros yn y Camwy, tri theulu am fyned i Patagones, a'r gweddill am fyned i Bajaro Blanco, Santa Fe. Gwelir fod corff y sefydlwyr am fyned i Santa Fe, ac felly yn gofyn am i'r llywodraeth anfon llong i lawr i Porth Madryn i'w cludo i Buenos Ayres, ac oddiyno i Bajaro Blanco. Yn awr yr oedd y tri dirprwywr a anfonasid i lawr i fyned yn ol gyda chanlyniad pleidleisiad y gwladfawyr, a Mr Lee yntau gyda dau deulu yn dychwelyd i Patagones, ond methodd y trydydd teulu a bod yn barod, ac y mae hwnw yn y Wladfa hyd heddyw. Yr oedd y bobl erbyn hyn yn prysur symud o'r. Camwy i Borth Madryn, er mwyn bod yn gyfleus i long i'w cymeryd ymaith, am nad allasai long fawr ddyfod i mewn i'r afon, Wedi wyth neu naw diwrnod o fordaith arw ac ystormus iawn, cyrhaeddasom yr afon Negro—y dirprwywyr cofier, gan fod yn rhaid i ni fyned i Buenos Ayres gyda'n tystiolaeth cyn y buasid yn anfon llong i gyrchu y fintai. Pan oeddym yn hwylio yn araf i fyny yr afon Negro, o herwydd fod ein llong wedi ei hysigo yn yr ystorm, beth a welem yn dyfod i fyny yn gyflym ar ein holau, ond ein llong fechan o Buenos Ayres, gyda Mr Lewis Jones, a boneddwr arall o'r enw John Griffith, Hendrefeinws, ger Pwllheli, yr hwn oedd Wladfawr selog er ys blynyddoedd, ac wedi bod yn Buenos Ayres yn cadw defaid am rai blynyddoedd. Yr oedd Mr Lewis Jones wedi llwyddo i gael gan y Cadben Neagle i fentro y llong fach i'r mor eto, er iddi gael ei chondemnio y dydd o'r blaen, am ei fod ef, Mr L. Jones, mor awyddus i gael gan y bobl aros ar y Camwy. Deallodd yr ysgrifenydd fod Mr Lewis Jones yn benderfynol i fyned i lawr i'r Camwy, er iddo gael gwybod fod corff mawr y Gwladfawyr am ymadael, a'u bod yn Mhorth Madryn yn aros y llong i ddyfod i'w hymofyn; a gwyddai yr ysgrifenydd, os elai Mr Lewis Jones i lawr, a rhoddi addewidion teg ac esmwyth o flaen y bobl, y byddai yn debyg iawn o lwyddo i berswadio rhai i aros ar y Camwy, ac felly wneud y gweddill yn rhy fychan o nifer i'w cyrchu i sefydlu mewn lle newydd. Teimlai yr ysgrifenydd mai y peth pwysicaf o bob peth oedd cadw y gwladfawyr rhag rhanu, fel ag i'w gwneud yn analluog i ffurfio cnewyllyn sefydliad newydd, ac os felly nid oedd dim yn eu haros ond cael eu gwasgaru yma a thraw yn Neheudir America, yn mhlith cenhedloedd o ieithoedd dyeithr, ac arferion paganaidd. Teimlai, er nad oedd Mr Lewis Jones ac yntau yn cydweled, nac yn gyfeillion, fod dyledswydd arno i roddi o'r neilldu bob teimlad personol, a gwneud yr hyn oedd oreu er lles dyfodol ei gydwladwyr ar y Camwy. Wedi rhai dyddiau a nosweithiau o feddwl a phryderu beth oedd oreu, penderfynodd yr ysgrifenydd fynu gweled Mr Jones, a chael siarad ac ystyried y mater yn ddifrifol, ac felly y bu; ac ar ol llawer o siarad ar y mater o bob tu, ac i bob un o honom foddloni i ymgysegru i les y sefydlwyr, penderfynwyd dychwelyd eto gyda'r llong fach i'r Wladfa, ac uno i berswadio y bobl i dderbyn cynyg Dr Rawson i wneud prawf o'r lle am un flwyddyn yn ychwaneg; ae os na lwyddid 'y flwyddyn hono, y celem long i'n cyrchu yn brydlon y tymor hwnw i Bajaro Blanco. Yr oeddym yn gweled fod yr amser wedi rhedeg yn mhell yn barod trwy yr oediadau uchod, ac erbyn yr elid a'r ddeiseb i fyny i Bueros Ayres, ac i'r llywodraeth ystyried y mater, a pharotoi llong i fyned i lawr ar fordaith yno, ac yn ol i Buenos Ayres, ac oddi- yno wed'yn i Santa Fe, ac i'r Gwladfawyr setlo lawr yno, y byddai yn beryglus iddi fyned yn rhy ddiweddar i hau y tymhor hwn, ac felly ein taflu i'r un sefyllfa ag y buwyd ar y Camwy. Yn wir yr oedd wedi myned yn rhy ddiweddar yn barod. Anfonwyd llythyr i Buenos Ayres at Dr Rawson i ddweyd yr amgylchiadau, ac hefyd lythyr at ein cydwladwyr oedd yn aros yno i ddysgwyl penderfyniad terfynol y Gwladfawyr. Dyma ni oll' eto ar fwrdd ein llong fechan yn troi yn ol i Porth Madryn; ac erbyn cyrhaedd yno, yr oedd yr holl Wladfawyr wedi gadael y Camwy, a d'od yno i ddysgwyl llong i'w cyrchu ymaith, yn ol fel yr oeddid wedi penderfynu. Galwyd cyfarfod cyhoeddus eto, a gosodwyd pethau fel yr oeddynt yn sefyll, mor deg a doeth ag y medrem o flaen y Gwladfawyr. Ar y dechreu yr oeddynt yn teimlo yn gynhyrfus, ac am fyned i rhywle yn hytrach nag aros, mewn rhan am eu bod wedi tori eu cartrefi ar y Camwy i fyny, a symud i'r porthladd, ac hefyd am eu bod drwy hir siarad a dadleu am y lle, wedi cael cas arno, ac yn gweled pob peth yn waeth nag ydoedd; ond wedi ail ystyried y mater, a gweled fod y tymor wedi myned yn ddiweddar i symud, a chan fod addewid am gynhaliaeth rad am y flwyddyn ddyfodol, daethent i feddwl mai gwell oedd aros, a gwneud rhyw esgus o brawf er cyfarfod â llythyren y cais, ac yna parotoi yu brydlon y flwyddyn ddyfodol i symud i Santa Fe.

Ond yr oedd yma rai yn ystyfnig am ymadael i rywle yn hytrach nag aros, ac yr oedd rhai ereill yn awyddus am fyned i Patagones, gan y buasent trwy hyny yn cael cadw yr hen enw Patagonia yn nglyn a lle eu preswylfod, ac felly penderfynwyd anfon nifer o bobl i Patagones yn y llong fach, i edrych y tir, a chael gwybod yn sicr beth fuasai amodau Augirie a Murga; ac felly bu, ac ni fuont yn hir cyn dychwelyd yn ol gyda'u hadroddiad. Nid oedd adroddiad y bobl hyn eto yn unol, ac nid oeddynt yn edrych yr un modd ar y tir, nac ar yr amodau a gynygid, a'r diwedd fu i dri theulu symud i Patagones, a'r gweddill benderfynu symud yn ol i'r Camwy, mewn cydffurfiad â chais Dr Rawson. Pan oedd ein llong fechan yn troi yn ol o Patagones y tro hwn, daeth atom deulu o naw, sef teulu Mr Rhys Williams, rhan o weddill y sefydliad hwnw yn Brazil y cyfeiriwyd ato yn barod. Felly anfonwyd y penderfyn iad hwn i fyny i Buenos Ayres at y llywodraeth, ac at y rhai oedd yn aros yno, ond digiodd y rhai hyny wrth y fintai am eu penderfyniad, a gwrthodasant ddychwelyd i'r Camwy, ac aethant i fyny i sefydlu i Bajaro Blanco, Santa Fe, ac yno y mae rhai o honynt hyd heddyw. Dyma ni yn awr yn mhen y ddwy flynedd ar ol y glaniad yn Mhorth Madryn eto, yn yr un lle, a bron yn yr un sefyllfa, yn barod i ddychwelyd yn ol i'r Camwy. Yr oedd y Gwladfawyr wedi bod yn Mhorth Madryn am tua deufis, ac yn cychwyn yn ol dechreu Awst, 1867. Yr oedd rhai o'r sefydlwyr wedi lladd eu hanifeiliaid, a halltu eu cig, gan nad oedd modd myned a hwy, i'w canlyn oddiyno; ereill wedi bod yn fwy pwyllog, ac wedi d'od a hwynt i'w canlyn i Borth Madryn. Tra yr oedd y Gwladfawyr yn Mhorth Madryn, daeth yr Indiaid i lawr fel arfer, ac wrth weled y tai ar y Camwy wedi eu gadael, rhoddasant dân ynddynt, er mwyn y difyrwch o'u gweled yn llosgi, fel erbyn i ni ddychwelyd nid oedd yno ond y gwelydi moelion, oddigerth nifer fechan nad oeddynt wedi rhoddi tan ynddynt. Aeth y penau teuluoedd eto unwaith drosodd i'r dyffryn, o flaen y gwragedd a'r plant, er gwneud tipyn o drefn ar y tai, a myned a'r clud a'r anifeiliaid drosodd; ac erbyn diwedd Awst yr oedd bron bawb wedi dychwelyd, ac yn eu cartrefi fel cyn iddynt ymadael. Wrth reswm yr oedd genym well ffordd o lawer y tro hwn na'r tro cyntat, ac wedi cyfarwyddo â'r wlad ac a'r ceffylau, fel na bu y dychweliad mor flin ac annyben a'n dyfodiad yma y tro cyntaf. Gan mai y bwriad oedd aros am rhyw naw mis, ac yna symud ymaith i Santa Fe, nid oedd neb yn teimlo fod y chwalu fu ar bethau, a'r lladd fu ar yr anifeiliaid, yn neillduol y gwartheg, yn rhyw golled fawr, ond yn unig dipyn o anfantais yn nglyn a llaeth ac ymenyn; ond fel y trodd pethau allan, colled fawr iawn fu y symud a'r chwalu hyn, ac effeithiodd ar rai am flynyddoedd.

PEN. XIII. ADOLYGIAD Y DDWY FLYNEDD A BASIODD.

Dwy flynedd ryfedd oedd y rhai hyn, ac wrth edrych yn ol arnynt, y maent yn ymddangos fel breuddwyd neu ffug chwedl. Nis gellir dweyd eu bod yn ddwy flynedd o ddyoddef mawr, ond eto yn llawn o ddygwyddiadau rhyfedd ac annysgwyliadwy, blynyddoedd anesmwyth, yn lawn o bryder yn gymysgedig o ofn a gobaith o'r cych- wyniad o Le'rpwl hyd yr Awst hwn. Yr oeddym wedi colii 44 trwy ymadawiadau i wahanol fanau, megys Buenos Aires, Santa Fe, ond yn benaf i Patagones. Collasom hefyd 16 drwy farwolaethau. Collwyd dau o'r rhai hyn ar y paith, trwy golli eu ffordd a marw o newyn, sef David Williams, o Aberystwyth; a James Davies, o Bryn Mawr; ac un Jobn Davies, o Mountain Ash, trwy foddi yn yr afon with ddyfod i fyny wedi nos mewn cwch, a syrthio drosodd. Ganwyd 21 yn ystod y ddwy flynedd, a daeth deg atom.

Er mai dwy flynedd lawn o helyntion ac o helbul fuont, eto gwnaed llawer o waith ynddynt y naill ffordd a'r llall, megys gweithio ffordd rhwng Porth Madryn a'r dyffryn, codi tai, trin y tir drwy geibio a phalu, heblaw y teithio a'r chwilio fu ar y wlad. Yr ydym yn crybwyll y pethau hyn am y cybuddir y Gwladiawyr yn Adroddiad y Llywodraeth Brydeinig am y flwyddyn 1866 o fod yn ddiog, ac o herwydd hyny yn aflwyddianus. Y mae ysgrifenydd y llinellau hyn wedi darllen holl adroddiadau y llywodraeth Brydeinig, ac y maent yn awr o'i flaen; a chan ei fod yn y sefydliad o'r cychwyn cyntaf, ac yn llygad—dyst o'r cyfan, y mae mewn ffordd i weled y camesniadau a'r camadroddiadau, ac yn dymuno sicrhau hanesydd y dyfodol, mae y ffeithiau fel eu hadroddir yn yr hanes hwn ellir dibynu arnynt.

Ein sefyllfa Gymdeithasol yn ystod yr adeg hon.—Er holl helyntion ac anffodion y tymor hon, diargedd y Wladfa rhag unrhyw alanastra gofidus mewn ymafaelio nac ysbeilio. Cadwyd heddwch a threfn i fesur belaeth a chanmoladwy iawn, ac nid anghefiodd y rhan luosocaf eu rhwymedigaethau i grefydd a moesau da. Cyfeiriwyd yn barod at y Cyngor amryw weithiau. Ein furflywodraeth oedd llywydd, deuddeg o gyngor, ynad heddwch, yegrifenydd, trysorydd, a chofrestrydd. Yr oedd genym ddau lys barn, sef Llys Rhaith, a Llys Athrywyn. Yr oedd genym hefyd gnewyllyn cyfansoddiad gwladol gwerinol, ac ychydig o gynseiliau deddfwrol, neu mewn iaith gyffredin, yr oedd genym ychydig o reolau sylfaenol, wrth ba rai y gallem o dro i dro, fel y byddem yn cynyddu a thyfu, wneud cyfreithiau, a threfnu cosbau wrthynt. (Gwel attodiad). Bu y trefniadau syml uchod yn gymhorth mawr i gadw trefn, a chymydogaeth dda. Yr oeddid hefyd cyn cychwyn o Lepwl wedi argraffu nifer luosog o arian papyr yn y ffurf o nodau punt, deg swllt, a phum swllt. Wele isod adlun o honynt :—

RHIF 169.——————16/12/65.
Mae Gwladychfa Gymreig Patagonia yn cydnabod
y Nodyn hwn am un Bunt o Arian Cylchredol.
Y WLADFA
Thomas Ellis.
GYMREIG.

Yr oedd geiriau y Wladfa Gymreig wedi eu rhoddi, a Stamp ar enw yr ysgrifenydd gydag ink glas. Bwriedid i'r nodau hyn fod yn gyfryngau cyfnewid yn y Wladfa am dymor, hyd nes y byddai i'r Cyngor, fel yr amcenid y pryd hwnw, gael hamdden i ymgymeryd a rhyw waith cyhoeddus, a roddai elw iddo, megys gweithio guano, neu rywbeth arall, ac wedi cael arian caled i'w ddwylaw, galw i mewn y nodau papyr, a rhoddi eu gwerth, neu yn hytrach y swm a nodid arnynt, yn arian caled i'r sefydlwyr, am mai at wasanaeth y Cyngor yr oedd y nodau hyn, fel y gallent dalu am lafur cyhoeddus o bob math. Gyda'r arian papyr hyn y telid am weithio ffordd, am weithio y llong a'r cychod, a phob gwasanaeth cyhoeddus a wnaed, ac â'r arian hyn y prynid yn ystordy y Cyngor. Ond bu y methiantau a ddilynodd y Wladfa am y blynyddoedd cyntaf yn rhwystr i'r Cyngor allu gwneud dim o'r pethau fwriadai, ac felly syrthiodd yr arian papyr i'r llawr yn hollol ddiwerth. Ond gan fod bron bawb wedi bod yn prynu yn ystordy y Cyngor y misoedd cyntaf, a chan fod y gwaith cyffredinol yn fantais i bob un oedd yn y wlad, nid oedd gan neb nemawr achos i gwyno, am na chafodd arian caled yn eu lle. Y mae yn wir i rai weithio mwy nag ereill o'r gwaith cyhoeddus, fel yr oedd y rhai hyny wedi rhoi mwy nag ereill i'r lles cyffredinol; ond fel hyny y mae yn mhob gwlad, ond nad yw mor amlwg a phendant. Y mae y dyn sydd yn gweithio ac yn cynhyrchu yn rhoi i'r lles cyffredinol, pan nad yw yr hwn sydd yn cardota yn rhoi dim. Masnach. Nid oedd genym yn ystod y ddwy flynedd hyn fawr drefn ar fasnachu, cyfnewid oedd pob peth mewn ffordd o fasnachu. Nid oeddym wedi cynyrchu dim ein hunain ond ychydig o wenith gan rhyw haner dwsin o deuluoedd, ddechreu 1867, ond yr oeddym yn cynilo y gyfran a roddid i ni gan y llywodraeth, mewn ffordd o ymborth, er gallu masnachu âg ef a'r Indiaid, trwy gyfnewid bwyd am bluf a chrwyn, a chyfnewid y rhai hyn drachefn am ddefnyddiau dillad, a phethau priodol i fasaachu â'r brodorion. O'r nwyddau hyn oedd genym, megys nwyddau Indiaidd, defnyddiau ymborth a dillad, y byddem yn talu am waith ein gilydd, ac yn newid y naill nwydd am y llall. Fel hyn y telid y crydd, a'r teiliwr, a'r sadler,—rhoddai un bluf am ymenyn, ac arall wenith am drwsio ei esgidiau, ac felly gyda'n holl anghenion.

Ein Sefyllfa Grefyddol.—Yr oedd corff y fintai gyntaf yn proffesu crefydd, a'r oll o honi wedi arfer a mynychu lleoedd o addoliad tra ya Nghymru. Yn yr ystordy gwenith yr arferem ymgynull yn Sabbothol ac wythnosol, a'r sacheidiau gwenith oedd yr eisteddleoedd. Yr oedd yn y fintai gyntaf dri phregethwr, dau yn perthyn i'r enwad Annibynol, sef y Parch Lewis Humphreys, myfyriwr yn Ngholeg y Bala, (genedigol or Ganllwyd, ger Dolgellau), ac ysgrifenydd yr hanes hwn, ac un yn perthyn i'r Bedyddwyr, sef Robert Meirion Williams, yntau yn enedigol o Feirionydd. Annibynwyr a Methodistiaid Calfinaidd oedd y rhan luosocaf o'r dyfodwyr cyntaf, ond yr oedd yn ein mysg eithriadau o Fedyddwyr, Trefnyddion Wesleyaidd, ac aelodau o'r Eglwys Wladwriaethol yn Nghymru. Cynelid genym ar y Sul dri chwrdd, sef dwy bregeth, ac Ysgol Sul yn prydnawn, ac yn gyffredin cedwid cwrdd gweddi a chyfeillach grefyddol yn yr wythnos; ond yr oedd llawer o'r bobl yn mhen eu helynt yma a thraw o'r pentref, fel yr aeth y cyfarfodydd wythnosol yn anaml, a bychan eu rhif. Cafwyd prawf neillduol y tymor hwn ar y dylanwad sydd gan amgylchiadau ar ddynion, hyd yn nod yn nglyn a'u crefydd Y mae canoedd o ddynion mewn hen wledydd Cristionogol yn grefyddol fel o arferiad, am eu bod wedi cael eu dwyn i fyny o'u mebyd i gydymffurfio âg arferion defosiynol y wlad. Dysgir y plentyn. i fyned ar ei liniau wrth ochr ei wely, ac y mae hyny yn d'od yn ail natur iddo pan gerbron ei wely; dysgir pobl i ofyn bendith ar eu bwyd wrth y bwrdd, ac y mae hyny yn d'od fel ail natur iddynt pan welant yr ymborth ar y bwrdd; ac y mae llawer wedi eu harfer gyda'r ddyledswydd deuluaidd ar yr aelwyd, nes teimlo mor naturiol i fyned trwy y gwasanaeth hwnw, a rhyw orchwyl arall beunyddiol o'u heiddo. Y mae myned i'r capel dair gwaith y Sul hefyd yn d'od yn fath o angenrhaid i lawer. Ond tynwch chwi yr allanolion cylchynol hyn oddiwrthynt, fe'u teflir fel oddiar eu llwybr, ac ni wyddant yn iawn pa fodd i ymddwyn. Rhoddwch y dyn i gysgu yn yr awyr agored ar y ddaear, neu ar fatras ar y llawr, ac anghofia ddweyd ei bader; rhoddwch ef i fwyta ei bryd bwyd ar ei arffed, ac anghofia ofyn bendith; a gadewch iddo fyw mewn bwth heb na bwrdd na chader, ni fydd yn awyddus iawn i gadw dyledswydd deuluaidd; a rhoddwch ef i addoli y Sul mewn rhyw yagubor o le, fe dyn lawer oddiwrth ei sel a'i grefyddolder. Cafodd y Wladfa ar ei chychwyniad deimlo yn fawr oddiwrth ddylanwad amgylchiadau newyddion fel hyn yn nglun a defosiyaau crefyddol, ac wrth gollu y defosiwn yn colli llywodraeth ddysgybliol ac ataliol crefydd arnynt. Ond er yr holl anfanteision uchod, nid aeth cyflawniadau crefyddol i lawr yn hollol yn ein mysg, er eu bod ar adegau fel llin yn mygu."

Ymadawodd Mr Lewis Humphreys a ni yn mhen y flwyddyn, am fod rhyw anhwyldeb yn ei wddf, ac yn effeithio ar ei lais; daeth yn ol i Gymru, ac yno yr arhosodd hyd y flwyddyn 1887, pryd y dychwelodd ef a'i briod i'r Wladfa. Yr oedd Mr Robert Meirion Williams hefyd wedi ymadael cyn pen y ddwy flynedd, ac wedi d'od i Gymru, yr hwn sydd wedi marw er's blynyddoedd. Fel hyn gwelir fod y sefydliad wedi ei adael heb ond un pregethwr, sef ysgrifenydd yr hanes hwn, a gadawyd ef ei hunan hyd y flwyddyn 1874, pryd y daeth dau weinidog ereill yma, fel y cawn gyfeirio pan ddeuwn at y cyfnod hwnw. Nid oedd y gweinidog yn cael ei dalu am ei wasanaeth yr adeg hon, ond yn gweithio a'i ddwylaw fel pawb ereill tuag at ei fywioliaeth, ac yn cymeryd rhan yn holl weithrediadau y Sefydliad, yn gymdeithasol, bydol, gwladol, a chrefyddol,

fel rhyw Wladfawr arall.

PEN. XIV.—YR AIL GYFNOD, SEF O AWST 1867 HYD AWST 1874.

Dyma ni unwaith eto ar ddyffryn y Camwy, yn dechreu parotoi ychydig o dir i hau ynddo, er mwyn myned drwy ryw ffurf o wneud prawf ychwanegol o'r lle. Yr ydym yn dweyd trwy ffurf, am nad oedd yn brawf gwirioneddol, am un peth—ei bod yn rhy ddiweddar i hau; a pheth arall, am nad oedd gan neh ffydd yn y lle, ac felly ddim yn teimlo dyddordeb i wneud dim yn iawn a thrwyadl. Cyfarfod â llythyren amod y llywodraeth i roi cynaliaeth am y flwyddyn oedd amcan uwchaf pob un, a phawb yn bwriadu symud i Santa Fe yn gyrar y flwyddyn ddyfodol. Fel y gellid dysgwyl, ni ddaeth nemawr gynyrch o'r hyn a hauwyd y flwyddyn hon, am y rhesymau a nodasom ucbod. Bu yr Indiaid yn ein plith yn hir iawn y flwyddyn hon, a buont yn gynorthwy mawr ni mewn ffordd o gigfwyd a cheffylau, y rhai a brynem ganddynt yn gyfnewid am fara a phethau eraill. Trwy fod rhai wedi lladd eu gwartheg, ac ereill wedi colli rhai yn helynt y symudiad, yr oedd cryn brinder llaeth ac ymenyn yn ein plith yr adeg hon. Trwy fod cryn amser yn angenrheidiol i anfon i Buenos Ayres, ac i'r llywodraeth benderfynu, ac yna edrych am long a'i pharotoi i ddyfod i lawr gydag ymborth erbyn Medi a Hydref y flwyddyn hon, yr oedd yr ymborth wedi myned yn brin iawn, a rhai yn dyoddef eisieu, a bron pawb wedi rhedeg allan o fara, oddieithr ambell i un oedd dipyn yn humangar, ag oedd yn gallu cadw bara a defnydd bara yn guddiedig oddiwrth y lluaws. Yr oedd yr ymborth wedi rhedeg allan yn gynt nag y buasai, pe na buasid wedi bod mor hael arno i'r Indiaid yn gyfnewid am bethau ereill, yn yr hyder y daethai cyflenwad atom o Buenos Aires yn brydlon. Nid oedd dim i'w wneud ond i'r dynion ieuainc, a llawer o benau teuluoedd, fyned allan i'r paith, i fanau cyfleus i ddala helwriaeth gyda'u cwn a'u ceffylau, a byw yno yn gyfangwbl, ond fod ganddynt negeswyr yn cario cig i'r teuluoedd oedd ar y dyffryn. Yr oedd rhai wedi aros gyda'u teuluoedd, ae yn treio byw ar saethu hwyaid a gwyddau gwylltion. Er i'r rhan luosocaf o'r Sefydlwyr gael digon o ryw fath o ymborth, cigfwyd yn benaf, eto, y mae yn ddiamheu i rai dynion a'u teuluoedd ddyoddef graddau o newyn yr adeg hon—dynion gweiniaid a diymadferth, nad oedd yn gallu myned i'r paith, nac ychwaith yn alluog i saethu ond ychydig, ond y mae yn ddymunol hysbyeu yma na newynodd neb, ond y mae yn ddiamheu i rai ddyoddef i'r fath raddau fel ag yr effeithiodd ar eu cyfansoddiadau byth wed'yn, fel ag i'w gwneud yn analluog i ddal caledwaith a phwl o afiechyd. Yn Tachwedd cawsom ymwared trwy i long fechan o Patagones ddyfod atom, gyda rhan o gymorth y llywodraeth, ac yr ydoedd ar ei bwrdd hefyd fasnachwr o Patagones gyda gwahanol nwyddau i'w gwerthu neu i'w cyfnewid am bluf a chrwyn. Tua'r wythnos olaf yn Rhagfyr daeth atom long arall o Buenos Aires gyda chyfran arall o rodd y lywodraeth, ac ar ei bwrdd deulu o Americaniaid, sef gwr a gwraig, a phlentyn. Y penteulu oedd Mr David Williams, Durbamville, Oneida, E.N.—Cymro o waedolaeth ac iaith, ond yn briod âg Americanes o Georgia. Yr oedd gan y gwr hwn eiddo a thir yn yr Unol Daleithiau, a bu yn gaffaeliad i'r Sefydliad yn y dyfodol drwy ddwyn i mewn i'r wlad offerynau amaethyddol Americanaidd. Y mae ef a'i briod wedi eu claddu yn naear y Camwy, a'i blant yno hyd heddyw yn barchus a llwyddianus. Daeth hefyd gyda'r llong hon un o'r enw Cadivor Wood, o Gaer—dyn ieuanc o Sais wedi dysgu Cymraeg, ac wedi cymeryd dyddordeb mawr yn y mudiad Gwladfaol, ac yn ysgrifenydd y Cwmni Ymfudol a Masnachol ydoedd newydd gael ei ffurfio yn Nghymru. Yn Ionawr, 1868, aeth ein llong fach i Patagones ar neges, i ymofyn gweddill yr ymborth oedd yno ar ein cyfer; Cadben Neagle, gyda chwech o ddynion cryfion ar ei bwrdd. Mr Cadivor Wood fel teithiwr yn dychwelyd yn ol wedi gorphen ei neges dros y Cwmni yn ein plith, Meistri James Jones, Thomas Evans (Dimol), David Davies, David Jones, a George Jones fel dwylaw y llong. Cyrhaeddodd Patagones yn ddyogel, a rhoddwyd yr ymborth, a dau ych gwaith ar ei bwrdd, a chychwynodd yn ol Chwefror yr 16eg, 1868, ond ni chlywyd gair am dani byth wed'yn, ac ni welwyd olion neb, na dim oedd ar ei bwrdd; y dyb ydyw, trwy ei bod yn wan, i'r anifeiliaid oedd o'i nmwn beri amhariad arni, neu achosi ei throi yn ormodol ar un ochr, fel achosi ei suddiad trwy ei llanw o ddwfr, ond nid yw hyn ond dyfaliad noeth; yn wir nid oes genym un ddirnadaeth beth a ddaeth o honi.

Cyn i unrhyw long arall ddyfod atom, bu peth prinder drachefn, ond nid i'r un graddau a'r prinder yn yr Hydref blaenorol. Yn Mai, 1868, daeth atom long eto o Buenos Aires gydag ymborth, hadyd, ac anifeiliaid, yn nghyda 36 o rychddrylliau (rifles).

Y mae y darllenydd erbyn hyn yn barod i ofyn, Beth am y symud i Santa Fe? Yr ydym yn awr yn myned i adrodd pa fodd y cafwyd o hyd i'r allwedd agorodd ddrws llwyddiant y Sefydliad.

Yr oedd yma yn ein mysg ddyfudwr o'r enw Aaron Jenkins, o Troedyrhiw, Merthyr Tydfil, D.C. Yr oedd efe o'r cychwyn wedi bod yn un o'r rhai mwyaf di-ffydd yn nglyn a'r wlad, ac wedi bod yn hynod o awyddus i ymadael o'r lle i rywle. Cafodd yntan fel ereill sm o hadyd i'w rhoddi yn y ddaear wedi troi yn ol, ond gan nad oedd ganddo foddion priodol tuag at aredig, a dim yn teimlo i fyned i geibio na phalu, penderfynodd daflu hadyd i'r tir du, di-groen, a llyfnodd ychydig arno, heb ddysgwyl gweled dim mwy o hono nac oddiwrtho. Yn Tachwedd y tymor hwn (1867), yr oedd yr afon yn uchel iawn, ac fel yr oedd Aaron Jenkins rhyw ddiwrnod yn sefyll ar lan yr afon gyferbyn a'r llanerch dir ydoedd wedi ei hau, a gweled fod yr afon bron at ben y geulan, ac yn tybio hefyd fod peth rhediad tuag at y llanerch tir oedd wedi ei hau, barnodd pe buasai yn agor ffos fechan yn ngheulan yr afon, y buasai y dwr yn rhedeg i'w dir. Penderfynodd fyned ati, a gwneud; ac erbyn iddo dori rhyw 20 neu 30 llath o ffos fechan, daeth y dwfr oedd yn ei dynu ar ei ol yn y ffos i wyneb y tir, a lifai yn haenen deneu dros ei dir gwenith. Wedi gweled fod y tir wedi ei fwydo yn dda, ataliodd y dwfr i redeg; a thrwy fod y tywydd yn gynes, yn mhen tua wythnos, yr oedd y gwenith yn egin glas dros y llanerch dir, ac yn mhen tua saith wythnos rhoddodd ddwfr iddo drachefn, a daeth yn mlaen yn wenith braf, ac yn gnwd toreithiog erbyn diwedd Chwefror. Torodd ef, a rhwymodd ef, a chasglwyd a dyrnwyd ef, a chafodd rai sacheidiau o'r gwenth harddaf a welsid yn unman. Cyn hyn yr oeddid yn tybied nad oedd y tir du di-groen yn werth dim, am nad oedd dim yn tyfu arno yn naturiol, heb wybod mai rhy sych ydoedd i fwrw allan egin yr hadau oedd ynddo wrth natur. Y mae yn y tir yn naturiol hadau amrywiol fathau o weiriau, a dim ond iddo gael lleithder eginant, a thyfant yn gnydau toreithiog. Yr oedd ar y dyffryn, a hyny ar y tyddynod oeddis wedi eu cymeryd, rai miloedd o erwau o dir fel hyn, ac wedi cael y prawf hwn arno, barnwyd y byddai yn well rhoi un prawf ar y lle eto drwy ddyfrhau y tir hwn cyn rhoddi y goreu iddo, ac ymadael. Felly anfonwyd hyn at y llywodraeth, a boddlonodd Dr Rawson estyn y cymhorth yn mhellach er mwyn gwneud y prawf hwn eto, ac yn Mai 1868, fel y nodwyd eisoes, anfonwyd i lawr hedyd, ymborth, a gwartheg, fel yr oedd pawb yn galonog i fyned yn mlaen i hau at y flwyddyn ganlynol.

—————————————

Gan mai ar y tir du, digroen, yr hauwyd y tymor hwn nid oedd yn gofyn cymaint o lafur ac amser, am nad oedd angen ond yn unig taflu yr had i'r ddaear, a'i lyfnu, ac yns tori ffosydd bychain o'r afon iddo i'w ddyfrhau pan byddai yr afon wedi codi yn ddigon ushel. Hauodd rhai y flwyddyn hon ar raddfa a ystyrid y pryd hwnw yn eang, ac hauodd pob un ryw gymaint. Cododd yr afon yn brydlon, a chafodd pawb ddwfr i'w wenith, ac yr oedd golwg ardderchog ar y cnydau yn mhob cyfeiriad, a daeth y cnydau i aeddfedrwydd yn gynar yn Ionawr 1869, am ein bod wedi gallu hau yn gynar. Pan yr oedd pawb wedi gorphen tori ei wenith, a'r rhan luosocaf wedi ei godi yn stycanau, ac ambell un wedi dechreu cario i'r ddas, daeth yn wlaw cyson am tua naw diwrnod, ond nid oedd yn wlaw trwm. Yr oedd yr afon wadi bod yn bur uchel trwy y tymor, ac wedi codi drachefn yn ystod y gwlaw hwn, nes yr oedd bron at ymylon y torlanau. Yr adeg hon, ar brydnawn Sul tua diwedd Ionawr, pan yr oedd y rhan luosocaf o'r sefydlwyr yn y capel, daeth yn ystorm o fellt a tharanau, ac yna wlaw bras mawr, fel pe buasai cwmwl wedi tori, nes yr oedd pob pant a fos wedi eu llanw o ddwfr, a'r llechweddi yn llifo fel nentydd y mynyddoedd, ae erbyn boreu dydd Llun, yr oedd yr afon wedi codi dros el cheulenydd, a bron yr oll o'r dyffryn wedi ei orchuddio â dwfr. Gan fod y dyffryn yn wastad, a'r tywydd yn dawel, ni chariwyd y cnydau ymaith gyda'r llif, ond gellid gweled y stycanau yn sefyll a'u penan allan o'r dwfr fel llwyni o frwyni, neu hesg mewn cors. Ond y Sul yn mhen yr wythnos wedi yr ystorm uchod, pan oedd y wlaw wedi peidio er's dyddiau, a'r awyr wedi clirio, a'r lle wedi dechreu trio ychydig, a phawb yn hyderus y bussid yn cael y cnwd heb fod yn rhyw lawer gwaeth wedi i'r dwfe gilio, am y gwyddid y buasai y ddaear a'r yd yn sychu yn gyflym wedi i'r dwfr gilio, am fod y tywydd mor boeth. Ar y Sul hwn, cododd yn wynt cryf o'r Gorllewin, fel y cynhyrfwyd y dwfr oedd megys llyn ar y dyffryn, nes codi tonau uchel arno, a'r gwynt yn gryf, fel y taflwyd yr holl stycanau i lawr, ac yna eu cario yn ysgubau rhyddion i ganlyn y llifeiriant i'r mor. Bu nifer fechan o'r tyddynwyr, trwy egni ac ymroad, yn llwyddianus i achub ychydig, ond collwyd corff mawr y cnwd, ac yr oedd yr ychydig a allwyd arbed yn gwaethygu yn fawr. Dyma eto y flwyddyn fwyaf lwyddianus a gobeithiol oeddym wedi ei gael o'r cychwyn wedi troi allan yn fethiant ac yn siomedigaeth fawr. Hefyd, heblaw colli y cnwd, collwyd tua 60 o aneri oeddid newydd eu cael, trwy iddynt, wrth ddianc o ffordd y llif oedd ar y dyffryn, grwydro ar hyd y paith, nes myned yn rhy bell i gael gafael arnynt, ac ni chafwyd byth mo honynt, am iddynt fyned i gyfeiriad yr Andes, ac felly i gyraedd yr Indiaid. Profiad tanllyd oedd hwn i'r sefydlwyr. Wedi i ni dybio ein bod wedi cael allwedd llwyddiant y wlad, a chael y fath gynhauaf addawol, dyma nodwedd newydd ar y wlad yn dod ger ein bronau. Y cwestiwn yn awr ydoedd, Pa mor aml y gallesid dysgwyl gorlifiad fel hwn? Yr oeddym wedi bod yma er's yn agos i bedair blynedd, a dyma y tro cyntaf i ni weled peth fel hwn, ond beth os oedd i ddod bobrhyw bedair neu bum' mlynedd, a hyny yn barhaus. Yr oedd un peth yn peri i ni beidio gwangaloni, sef nad oedd arwyddion fod y fath orlifiad wedi bod er's llawer o flynyddoedd meithion. Ar yr adeg hon, yr oedd rhai yn byw ar eu tyddynod, ac wedi gorfod cilio o'u tai, a myned i fyw mewn math o babellau ar fryn bychan oedd gerllaw, ond trwy fod y tywydd mor desol, ni oddefodd neb unrhyw niwed oddiwrth hyny. Ond wrth fod y rhan luosocaf o'r boblogaeth yn byw yn y pentref, a hwnw wedi ei adeiladu ar fryn graiarog, ni achosodd y gorlifiad lawer o golled na thrafferth yn yr ystyr hyn.

PENOD XV.

Yn nechreu y flwyddyn 1869, cafodd Mr. Lewis Jones long eto gan y Llywodraeth at wasanaeth y sefydliad, yr hon a enwyd "Mary Ann," a chafodd hefyd arian i brynu gwartheg eto yn Patagones, ac â rhan o'r arian prynwyd melin flawd i'w gweithio gyda marchrym. Ond y fordaith gyntaf hon o eiddo y "Mary Ann," ysigwyd hi yn ddrwg iawn wrth ddyfod i mewn dros y bar i'r Camwy, fel na chafodd ond cael a chael gyraedd yn ol i Buenos Ayres, a chan nad oedd genym fel Gwladfa fodd i dalu am ei hadgyweirio, gorfu i Mr Lewis Jones ei gwerthu yn Buenos Ayres am bris bychan iawn. Yn Ebrill yr un flwyddyn, aeth Mr. Jones yn ol i Gymru i ymofyn ei deulu, yr hwn oedd wedi dychwelyd yn Dechreu 1866. Dyma y Wladfa unwaith eto wedi ei gadael heb un cyfrwng cymundeb ag unman tu allan iddi ei hun. Er ein bod fel hyn yn aflwyddo y naill flwyddyn ar ol y llall trwy ryw anffawd neu gilydd, eto oedd y sefydlwyr wedi credu fod y dyffryn o ran ei dir yn amaethadwy a chynyrchiol, ond i ni allu gor-fyw yr anffodion hyn, fel nad oedd bron neb yn son yn awr am fyned ymaith. Hauwyd y tymor hwn eto, trwy i ni gael cyflenwad o hadyd gan y Llywodraeth yn y " Mary Ann," ond os daeth yr afon dros ei cheulanau y tymor o'r blaen, ni chododd y tymor hwn mor uchel ag yr arferai, ac felly yn Chwefror 1870, ni chafwyd ond cnwd rhanol, am i'r afon fyned yn rhy isel i ddyfod i mewn i'r ffosydd pan yr oedd angen ail a thrydydd dwfr ar y gwenith. Yr oedd hyn eto yn wedd newydd ar bethau i ni, am nad oeddym, er pan yn y lle wedi sylwi fod yr afon yn codi mor lleied, ac yn myned i lawr mor gynar yn y tymor.

"Y Cwmni Ymfudol a Masnachol Cyfyngedig."—

Gwnaethom gyfeiriad damweiniol yn barod at y Cwmni hwn yn nglyn a cholliad y llong fach yn yr hon yr oedd Mr. Cadivor Wood. Nid yw yn perthyn i amcan yr hanes hwn i ymdrin a helynt y Cwmni hwn, ond eto y mae yn anmhosibl egluro rhai pethau yn nglyn a'r Wladfa yn y Camwy heb grybwyll ychydig am y Cwmni hwn. Y mae yn ymddangos i rai o gyfeillion a phleidwyr y mudiad Gwladfaol yn Nghymru, yn gystal ag yn yr Unol Dalaethau, ffurfio bob un Gwmni gyda'r amcan i brynu tir, llogi neu brynu llongau i gludo ymfudwyr a nwyddau i Patagonia, a gwneud masnach a manau ereill, a chludo nwyddau i ac o wahanol wledydd, ond yn benaf gwledydd De America. Galwyd y Cwmni Cymreig "Cwmni Ymfudol a Masnachol Cyfyngedig;" y Parchedigion M. D. Jones, Bala; D. Lloyd Jones, Ffestiniog; ac R. Mawddwy Jones, Dolyddelen, oedd a'r llaw flaenaf yn ffurfiad y Cwmni hwn yn Nghymru. Prynwyd llong newydd, a galwyd hi "Myfanwy," yr hon a gostiodd tua thair mil o bunau. Hwyliodd y "Myfanwy" o Casnewydd am Patagonia yn ngwanwyn 1870, gyda Mr. Lewis Jones a'i deulu ar ei bwrdd, a dau deulu ereill fel ymfudwyr. Yr oedd un o'r penau teuluoedd hyn yn ôf medrus, ac anfonwyd allan yn ei ofal swm o haiarn, a llawer o arfau amaethyddol defnyddiol, a bu efe a'r arfau yn gaffaeliad mawr i'r sefydliad, am i'r gof oedd genym wedi dod allan yn y fintai gyntaf ymadael i Patagones. Glaniasant yn Mhorth Madryn yn mis Mai, ac wedi dadlwytho ac aros ychydig, ymadawodd y "Myfanwy," a dyna yr unig fordaith a wnaeth i'r Wladfa. Boneddwr ieuanc o'r enw Griffiths oedd Captain y llong hon, ac o herwydd rhyw annibendod a diofalwch, os nad twyll mawr o du rhyw un neu ryw rai, bu y llong hon yn golled o'r dechreu i'r diwedd i'r Cwmni, ond gan mai y Parch. M. D. Jones, Bala, trwy eiddo Mrs. Jones, oedd y mwyaf tan ei ddwylaw, bu helynt y llong hon yn golled ac yn sarhad mawr iddo ac arno, er ei fod yn hollol ddiniwed yn nglyn a'r holl helynt. Gwerthwyd y llong trwy arwerthiant gan y gofynwyr, a phrynwyd hi gan yr un rhai am un rhan o dair o'i gwerth, a hyny yn mhen y flwyddyn wedi ei hadeiladu, a gwerthwyd y Parch. M. D. Jones i fyny am y gweddill o'r arian. Nid oes hanes am bleidiau wedi ymddwyn yn fwy creulon ac anonest na'r gofynwyr hyn ar ddu a gwyn. Peth hawdd iawn yw pigo i fyny ddiffygion, y mae yn wir, ond y mae yn ddiameu pe buasai cyfeillion y mudiad Gwladfaol yn ymgynghori a'r sefydlwyr ar y Camwy cyn cymeryd cam mor bwysig, gallesid ysgoi golled fawr hon.

Nid oedd y sefydliad y pryd hwnw wedi cyrhaedd safle o lwyddiant digon helaeth a sicr i fentro cymaint arno, ac nid oedd y boblogaeth yn ddigon lluosog fel ag i allu derbyn llwyth o nwyddau, heb son am allu i dalu am danynt. Ond y mae hyn i'w ddweyd fel esgusawd, yr oedd y Sefydliad mor bell o Gymru, a'r cymundeb â Chymru mor anaml, a'r Gwladfawyr yn Nghymru mor awyddus i yru allan Ymfudwyr, a gwneud y Wladfa yn Patagonia yn llwyddiant buan ac amlwg, fel nad oedd yn eu golwg hwy ddim amser i'w golli. Ond y mae yn bur debyg i'r hyn a fwriadwyd i fod er mantais, droi allan i fod yn anfantais trwy i helynt y cwmni hwn ddwyn anair i'r Sefydliad, am fod ei enw wedi ei gysylltu ag ef, pan na wyddai y Sefydlwyr ddim yn ei gylch, nac yn meddu unrhyw fuddianau ynddo, ac ni dderbyniodd y Sefydliad unrhyw elw oddiwrtho, ond mor bell ag y gwnaeth dyfodiad y gof hwnw hwylusdod iddo. Y mae hanes y Cwmni hwn yn rhybydd i bawb nad ymyront a phethau nad oes ganddynt gymhwysder atynt, na phrofiad o honynt.

Ymadawodd y llong "Myfanwy" fel y crybwyllasom mor fuan ag y dadlwythodd, ond diangodd pedwar o'r dwylaw i'r tir, a buont yn guddiedig hyd nes iddi fyned allan o'r porthladd. Hauwyd y flwyddyn hon eto ar y tir du digroen, yn y gobaith y buasai yr afon yn codi yn brydlon, ac yn dal i fyny, fel y byddai yn arferol o gwneud hyd y flwyddyn ddiweddaf. Ymwelwyd a ni gan nifer luosog iawn o Indiaid y gauaf hwn, sef o Mehefin hyd Medi; ac er fod ymweliadau yr Indiaid yn fuddiol iawn i ni, eto byddent yn gryn rwystr i'r penau tealuoedd i yru yn mlaen gyda llafurio y tir, am nad oeddid yn teimlo i adael y teuluoedd wrthynt eu hunain pan y byddai llawer o'r Indiaid oddeutu. Aeth yr hau braidd yn ddiweddar y flwyddyn hon, ond cododd yr afon yn brydlon, a dyfrhawyd y tir yn drefnus, ac yn mis Hydref yr oedd golwg obeithiol ar y cnydau; ond aeth yr afon yn isel eleni eto pan oedd angen ail ddyfrhad ar y gwenith; ac er na fethodd yn hollol, eto cnwd teneu a gwan ydoedd; ac erbyn Chwefror 1871, pan ddaeth y cynhauaf, nid oedd genym ond cnwd rhanol iawn. Yn wir dwy flynedd sych a chrynllid iawn oedd y rhai hyn, a deallasom wedi hyny eu bod wedi bod felly trwy ranau helaeth o Ddeheudir America, fel nad oedd y Camwy yn eithriad i fanau ereill.

PENOD XVI.-DIFFYG CYMUNDEB, AC YMWELIAD Y "CRACKER."

Rhaid i mi ofyn i'r darllenydd droi yn ol gyda mi i ddiwedd y flwyddyn 1870. Fel y cyfeiriwyd, galwodd y "Myfanwy" yma yn Mai, a daeth atom drachefn long o Buenos Ayres yn Mehefin gydag ymborth, ond wedi hyny nid oedd genym un addewid am un long i alw, ac yr oedd y gyfran olaf o'r hyn a addawsai y Llywodraeth i ni wedi dod gyda'r llong yn Mehefin, ond gan mai cynhauaf rhanol oedd wedi bod y flwyddyn ddiweddaf, a'r rhagolygon y flwyddyn hon eto yn wael, yr oeddid yn teimlo yn bryderus am gymundeb a Buenos Ayres, neu a Patagones. Felly yn niwedd y flwyddyn hon, a dechreu 1871, gwnaeth y Meistri Lewis Jones, David Williams, America, fel y galwent ef, Edward Price, a dau forwr a ddiangasant o'r "Myfanwy," wneud cynyg ar fyned dros y tir i Patagones. Llwyddasant i gael gan Indiad cyfarwydd i fyned yn arweinydd iddynt, ond wedi teithio rhyw 150 o filidiroedd i fyny i'r gogledd orllewin, o herwydd rhyw reswm neu gilydd, nid oedd yr Indiad am barhau y siwrne, ac felly y gorfu iddynt droi yn ol. Ond er methu o honynt yn y cynyg hwn, eto nid oeddynt am roddi i fyny eu nod, sef cael ffordd dros y tir i Patagones. Penderfynasant wneud cynyg i fyned gyda glan y mor hyd yr afon Negro, ar lan yr hon y mae tref Patagones, neu Del Carmen. Trwy fod y tymhorau wedi bod mor sychion, a hithau yn awr yn ganol haf poeth, gwyddent nad oedd dim dwfr i'w gael ar y glanau, ac felly trefnasant i wneud peiriant byehan i groewi dwfr y mor. Yr oeddynt yn bedwar neu bump mewn nifer, a cheffyl gan bob un, ac felly yn gofyn cryn lawer o ddwfr. Beth bynag, cychwynasant, ond wedi teithio tua deuddydd o Porth Madryn gyda glan y mor, profodd eu peiriant yn annigonol i groewi digon o ddwr iddynt, ac wedi cryn ddyoddef syched, gorfu iddynt roi i fyny yr anturiaeth, a throi yn ol. Yn awr, dyma ni wedi ein cau i fyny heb un cymundeb a'r byd masnachol. Y llong ddiweddaf o Buenos Ayres oedd wedi ymweled a ni ydoedd yr un yn Mehefin 1869. Ond pan oedd y sefydliad bach unig ar y Camwy yn teimlo fod y byd mawr tuallan wedi ei anghofio, yr oedd rhai pobl dda o Saeson ac Yspaeniaid yn Buenos Ayres yn meddwl am danom. Boneddwr o'r enw H. G. Macdonell oedd is-genhadwr Prydain yn Buenos Ayres yr adeg hon, ac y mae darllen ei ohebiaethau a Captain Bendingfeld, y llynges Brydeinig yn Monte Video, yn dangos ei fod yn ddyn oedd yn meddu dynoliaeth dyner a charedig. (Gwel adroddiad y "Cracker" am 1871). Y mae yn ymddangos fod math o ryfel cartrefol yn nhalaeth Entre Rias ar y pryd hwn, a bod y Llywodraeth Archentaidd mewn llawn gwaith o'r herwydd, fel nad oeddynt yn gallu talu sylw i fawr o ddim arall. Ar yr un adeg hefyd yr oedd Indiaid y rhan ddeheuol o dalaeth Buenos Ayres yn gwneud ymosodiad ar Bahia Blanca, ac yn peri cryn anesmwythder yn Buenos Ayres yn mhlith y boblogaeth Seisnig, am fod amryw ddinasyddion Prydeinig yn sefydlu yn Bahia Blanca ar y pryd. Felly teimlai Mr. Macdonell bryder yn nghylch y Wladfa rhag ein bod ninau yn dyoddef oddiwrth ymosodiad cyffelyb, gan nad oedd ond rhyw dri chan' milldir cydrhyngom. Cafodd Mr. Macdonell ymgom gydag un o'r enw M. Carrega, y masnachwr oedd wedi ymgymeryd ag anfon yr ymborth a roddai y Llywodraeth i gynorthwyo y Wladfa. Dywedai hwn fod cymorth y Llywodraeth wedi peidio er Mehefin 1869, a'i fod ef wedi derbyn cais oddiwrth Mr. Lewis Jones i'w roddi i'r prif weinidog yn gystal ag i lywydd y Weriniaeth yn Mai 1870 am ychwaneg o gymorth i'r sefydlwyr, ac hefyd i'r Indiaid, ond nad oedd dim wedi ei wneud. Mewn canlyniad, bu gobebiaeth faith rhwng Mr. H. G. Macdonell a'r Captain Bendingfeld yn nghylch anfon un o'r llongau Prydeinig yn Monte Video i lawr i edrych hynt y sefydliad ar y Camwy. Wedi hir ohebu, yn Ebrill 1871 y mae y Captain Bendingfeld yn cydsynio, ac yn anfon i lawr y llong "Cracker" a'r Cadlyw R. P. Dennistoun i dalu ymweliad a ni, a gallaf sicrhau y darllenydd fod ymweliad y llong hon a ni fel dyfroedd oerion i enaid sychedig. Bu dyfodiad y "Cracker" yn fantais fawr i ni yr adeg hon. Fel y gellir dysgwyl, mewn byd mor llawn o amrywiaeth a hwn, y mae cryn wahaniaeth rhwng gweision ei Mawrhydi y Victoria a'u gilydd ar y llongau hyn, ac y mae cymeriadau y dynion hyn i'w gweled yn amlwg yn yr adroddiadau a wnaed ganddynt o'r sefydliad a'r sefydlwyr o dro i dro. Y tro hwn fel y tro o'r blaen, buom yn ffodus i gwrdd a swyddogion o synwyr, dysg, a dynoliaeth ragorol. Dynion caredig iawn oedd y Cadlyw Dennistoun, Dr. Turnbull, a'r Is—lywydd Richards, a chasglasant adroddiad cyflawn a chywir iawn o'r sefydliad tra yn y lle. Gwnaeth Dr. Turnbull hefyd wasanaeth mawr i'r sefydliad trwy arolygu y gist feddygol oedd genym, a rhoddi ar y moddion physigol oedd ynddi enwau Seisnig yn lle yr enwau estronol oodd arnynt, a nodi arnynt hefyd at ba anhwylderau yr oeddynt wedi eu bwriadu. Bu y Cadlyw Dennistoun hefyd yn garedig iawn trwy roddi llawer iawn o wahanol fathau o ddefnyddiau ymborth o drysorfa y llong at wasanaeth y rhai mwyaf anghenus, a chaniataodd gludiad rhad i'r ddau foneddwr Lewis Jones a D. Williams, America, yn y llong i Monte Video. Yr oedd Mr. Jones eisieu ymweled a'r Llywodraeth unwaith eto ar ran y sefydliad, er cael ychydig gymorth mewn ymborth a hadyd am y flwyddyn ddyfodol, a cheisio eto am ryw foddion i ddal cymundeb rhwng y Wladfa a Buenos Ayres. Yr oedd Mr. David Williams am fyned i Buenos Ayres i gyfarfod nwyddau a ddysgwyliai o'r Unol Dalacthau—offer ac arfau amaethyddol yn benaf. Y flwyddyn hon yr oedd y Yellow Fever yn dost iawn yn Buenos Ayres, fel y gorfu i Mr. Jones a Mr. Williams aros yn hir yn Monte Video cyn bod yn alluog i wneud dim busnes yn Buenos Ayres. O'r diwedd, llwyddodd Mr Jones gael llong unwaith eto, a bu hon yn Patagones unwaith, a daeth a nifer o wartheg i lawr i'r boneddwr D. Williams, America. Wedi hyny trefnodd Mr. Lewis Jones iddi fyned am lwyth o Guano i rai o'r ynysoedd i'r de o'r Camwy, a dychwelodd i Buenos Ayres gyda'i llwyth i beidio a dychwelyd mwy, a methiant a cholled a fu yr anturiaeth hon i Mr. Lewis Jones, am i'r ty yr oedd mewn undeb ag ef yn nglyn a'r Guano dori i fyny, a symud o'r lle, fel erbyn i Mr. Lewis Jones fyned i fyny yn mhen tua blwyddyn, nid oedd yno i'w ran un ddimai o arian am y llwyth Guano. Y mae yn wir iddi fod yn fantais i'r Wladfa i ddod a chymorth y Llywodraeth i lawr, yn nghyd ag eiddo Mr. Williams, a dyma y rhodd olaf a dderbyniwyd gan y Llywodraeth hyd flwyddyn 1876, pryd y daeth i mewn tua 500 o ddyfudwyr bron ar unwaith.

PEN. XVII.—TYMHOR HAU 1871, A LLADRATA Y CEFFYLAU

Yr oedd codiadau bychain yr afon am y ddwy flynedd diweddaf wedi siglo ychydig ar ein ffydd yn nghysondeb codiadau yr afon, ac felly yr oeddid yn treio dyfeisio pa fodd i gael dwfr pe na buasai yn codi fel yr arferai wneud. Y mae yn rhedeg trwy ddyffryn y Camwy, y ddwy ochr i'r afon, ddwy gamlas naturiol un o bob tu i'r afon, neu fel y byddem ni yn eu galw, dau hen wely afon. Y mae yn ymddangos fod yr afon rhyw adeg yn mhell yn ol, wedi bod yn canghenu fel yn dair afon, neu fe allai yn fwy cywir, yn un afon a dwy gangen afonydd. Yr oedd genau y rhai hyn wedi llanw i fyny, fel nad oedd yr afon yn rhedeg i mewn iddynt ond ar godiadau uchel. Barnodd rhai y buasai yn fantais agor genau yr un ar yr ochr ogleddol er mwyn cael dwfr i ddyfrhau y rhan isaf o'r dyffryn pan y byddai yr afon yn rhy isel i gael dwfr i ffos gyferbyn a'r darnau a hauwyd. Trwy fod rhediad yn y dyffryn i gyfeiriad y mor, ac wrth gael dwfr o'r afon i'r hen wely ugain milldir yn uwch na'r man ei defnyddid, yr oedd cyfuwch a'r tir yn y man hwnw pan nad oedd y dwfr yn yr afon gyferbyn yn ddigon uchel, am y rheswm fod rhediad yr afon ar yr un raddeg a rhediad y dyffryn. Felly agorwyd genau yr hen wely afon ar yr ochr ogleddol, ac wedi i'r afon godi ychydig, daeth y dwfr i mewn, a threfnwyd i bron pawb hau ar ddarn o dir (addas y pryd hwnw) heb fod yn mhell o waelod y dyffryn. Yr oedd y tir hwn yn ddigroen, ac felly yn hawdd gydmarol i'w drin, ond yr oedd pob un yn treio aredig ychydig arno, am fod ychydig dyfiant arno yma a thraw.

Yr Indiaid yn lladrata ein ceffylau.—

Pan oeddym newydd ddechreu trin y tir hwn, rhyw noswaith pan yr oedd pawb yn ddiofal a difeddwl am ddrwg gerllaw, daeth mintal o Indiaid ysbeilgar i lawr tua naw neu ddeg o'r gloch, a chasglasant yr holl geffylau oeddynt gyfleus ar y dyffryn, ac aethant ymaith, heb ond i ryw ychydig nifer o'r sefydlwyr wybod dim am y peth. Ond yr oedd rhyw un neu ddau wedi gweled nifer o Indiaid, ac wedi clywed twrf gyru anifeiliaid, ac aethant i roi tro am eu ceffylau, ond nid oedd un i'w gael. Yna galwyd gyda'r cymydog nesaf, ac aeth yntau i edrych, ac felly o dy i dy, ond nid oedd un ceffyl i'w weled yn unman, a chyn haner nos yr oeddid wedi cael sicrwydd fod dros 60 o geffylau wedi eu cymeryd ymaith. Codwyd cri mawr trwy y sefydliad, ac yn foreu iawn tranoeth, aeth nifer luosog o'r Gwladfawyr ar eu holau, ond rywfodd, o ddiffyg trefn a phwyll, methasant gael yr anifeiliaid yn ol. Y mae yn wir fod gan yr holl sefydlwyr oedd mewn oed rychddrylliau (rifles), ond nid oedd llawer o honynt mewn trim, ac amryw o'r rhai a'u meddianent yn bur anwybodus y pryd hwnw pa fodd i'w defnyddio, a thrwy y naill beth a'r llall, nid oeddym yn rhyw gymwys iawn i erlid mintai o Indiaid na wyddent pa faint oedd eu nifer. Anhawsder arall oedd diffyg ceffylau, am fod y ceffylau oedd yn gyfleus gan mwyaf wedi eu lladrata, ac yna yr oedd yn gofyn amser i chwilio am y lleill mewn gwlad ddigraian fel yr oedd y Wladfa y pryd hwnw. Yr oedd rhai wedi cychwyn mor fyrbwyll, fel yr anghofiasant eu cad-ddarpariaeth (ammunition), ac er i rai o'r erlidwyr dd'od i olwg yr ysbeilwyr rhyw haner can' milldir i fyny y wlad, eto yr oeddynt mor lleied o nifer, ac mor amharod yn eu darpariadau, fel y teimlent yn rhy ddigalon i'w gwynebu mewn brwydr, os byddai hyny yn ofynol. Fel hyn, trwy ein diffyg profiad a'r fath beth, yr hyn a wyddai yr Indiaid yn dda, gadawyd 65 o geffylau yn ysbail iddynt. Bu yr ysbeiliad hwn yn golled dirfawr i'r sefydliad, yn enwedig y tymor hwn ar y flwyddyn pan oeddym ar ganol trin ein tir, nid am nad oedd gan y sefydlwyr, braidd bawb o honom, geffylau ereill, ond y ceffylau oedd arferol a gweithio a gymerwyd ymaith am mai hwy oedd yn fwyaf cyfleus. Önd er y golled hon, a'r rhwystr a achosodd i'r tyddynwyr, eto hauwyd cryn lawer y flwyddyn hon ag ystyried yr amgylchiadau. Yn fuan wedi hau y flwyddyn hon, gwnaeth wlaw trwm, ac eginodd y gwenith, nes oedd y llanerchau yn wyrddion, ond bu yr afon yn hir iawn cyn codi, ac hefyd codiad bychan a gafwyd, a chyn i rai gael dwfr, yr oedd y gwenith a eginodd gyda'r gwlaw wedi dechreu gwywo a chrino, fel nad oedd yn werth rhoi dwfr iddo. Cafodd rhai ychydig gnwd, ond ar y cyfan, gellir dweyd mai methiant fu y flwyddyn hon eto, sef cynhauaf Ionawr a Chwefror 1872. Yn ystod y flwyddyn hon 1871, daeth ar ymweliad a'n porthladd yn ngenau yr afon long fawr o'r Alban, yn ngofal un Robert Stephens, ac aeth yn ddrylliau yn ngenau yr afon trwy anffawd neu esgeulusdra, ac wedi iddi gael ei thafu i'r lan, cymerodd dân, a llosgwyd y rhan oedd allan o afael y llanw. Cafwyd yn y llong hon amryw bethau defnyddiol at ein gwasanaeth, ond yn benaf cafwyd modd i ail gychwyn magu moch, a'r rhai hyny o fryd Seisnig. Cafwyd hefyd lawer o goed o'r llong ddrylliedig hon tuag at adeiladu a phethau ereill.

PEN. XVIII—DECHREU MASNACH GYSON YN Y WLADFA YN 1872

Er nad oedd y sefydliad hyd yn hyn wedi llwyddo i godi digon o yd i'w allforio i Buenos Ayres nac unman arall, eto yr oeddym yn codi digon i wneud masnach go fawr a'r Indiaid, trwy gyfnewid blawd a bara am grwyn a phluf estrysod. Gan nad oedd yn y lle fasnachdy na masnachwr yn byw ar fasnachu, yr oedd pob teulu, fel rheol, yn gwneud tipyn o fasnach a'r brodorion. Yn y flwyddyn hon, daeth un o'r enw Carl Brown gyda schooner fechan a nwyddau ynddi i mewn i'r afon, er mwyn gwneud masnach a ni. Yr oedd gan hwn ystor o nwyddau defnyddiol at ein gwasanaeth, ond ar raddfa fechan, a rhoddai hwy yn gyfnewid am ymenyn, caws, pluf, a chrwyn. Yr oedd ein gwartheg godro ni yn ddigon lluosog fel ag i alluogi bron bob teulu i wneud mwy nag a ddefnyddiai o gaws ac ymenyn. Yr oeddid wedi allforio peth caws ac ymenyn o'r blaen i Buenos Ayres gyda y llong ddiweddaf a ddaethai yma gan Mr. Lewis Jones. Cyn diwedd y flwyddyn hon hefyd, daeth yma un Captain Cox o Monte Video gyda llong fechan a nwyddau ynddi er gwneud masnach a ni. Yr oedd llong hwn yn fwy na llong Carl Brown, a dygai ynddi fwy o amrywiaeth nwyddau, a gwell nwyddau at eu gilydd, a rhoddai yntau ei nwyddau yn gyfnewid am yr hyn a feddem i'w roddi yn eu lle. Awgrymasom yn nes yn ol yn yr hanes hwn fod pleidwyr y symudiad Gwladfaol yn yr Unol Dalaethau yn gystal ag yn Nghymru wedi ffurfio cwmni er hyrwyddo ymfudiaeth i'r Wladfa Gymreig yn Patagonia. Yr oedd yn New York, ac mewn rhai manau ereill yn y Talaethau Unedig, nifer o ddynion brwdfrydig iawn dros y mudiad Gwladfaol, ond nid yw enwau yr oll yn adnabyddus i mi ar hyn o bryd, ond y rhai mwyaf blaenllaw ac amlwg oeddynt y Parch. Jonathan Jones, Meistri William Jeremiah, William ap Rhys, y tri o New York, a'r Parch. D. S. Davies (yn awr o Gaerfyrddin) ond y pryd hwnw yn weinidog yn yr Unol Dalaethau. Trwy ymdrechion y cyfeillion hyn, a rhoddion arianol Jonathan Jones, a William Jeremiah yn benaf, prynwyd ac anfonwyd allan y Brigantine "Rush" i'r Wladfa. Ni ddygodd hon ynddi na nwyddau nac ymfudwyr i'r Wladfa, oddieithr un dyn o'r enw Edward Jones, o Dinas Mawddwy, yr hwn oedd yn Buenos Ayres, yn aros am gyfle i ddyfod i lawr i'r sefydliad. Trwy ryw anffawd neu gilydd, ni fu yr anturiaeth hon eto yn llwyddianus. Y mae yn wir iddi wneud rhai mordeithiau bychain yn South America, a bu yn y Wladfa ddwywaith neu dair, ond y diwedd fu, o herwydd rhyw drosedd o gyfreithiau y wlad yn nglyn a llongau a gyflenwasid gan y Captain, cymerwyd hi yna contraband gan y Llywodraeth Archentaidd yn y flwyddyn 1873, a gwnawd hi yn light-ship ar yr afon Plate, lle y mae yn aros hyd heddyw. Ond er na fu y llong hon ond colled i'r cwmni yn New York, eto bu yn beth mantais i'r Wladfa fel cyfrwng cymundeb a'r byd tuallan i ni. Yn yr ail fordaith iddi i Porth Madryn, dygodd gyda hi un o'r enw Thomas Bembo Phillips atom o Brazil. Dyma y Phillips a aethai allan gyda'r fintai hono o Brynmawr, gyda'r bwriad o ffurfio Gwladfa Gymreig yn Pelates Rio Grande do Sul. Ei neges ef oedd er cael gweled beth oedd rhagolygon y Wladfa ar y Camwy, gan fod y Wladfa yn Brazil wedi hen dori i fyny, a'r Cymry oll ond tri theulu wedi gwasgaru. Pan oedd y "Rush" yn dychwelyd y tro hwn, sef dechreu 1873, bu yn gyfleusdra i'r Meistri Lewis Jones, David Williams (America), Captain Cox, ac ysgrifenydd yr hanes hwn, i fyned gyda hii Patagones. Yr oedd y Captain Cox y soniasom am dano fwy nag unwaith eisioes wedi colli ei long yn ngenau yr afon wrth dreio myned allan, ac felly yn gorfod gadael dwylaw y llong yn y sefydliad, a myned ei hunan i ymofyn llong arall, er cael y nwyddau oedd ganddo yn y Camwy a'r dwylaw i Monte Video.

Hauwyd ar dir cydmarol isel y flwyddyn 1872, a chododd yr afon yn bur ffafriol, a chafodd amryw gnydau pur dda. Yr oedd yma ddau ddyn ieuanc pur anturiaethus wedi cytuno i fyw gyda eu gilydd, a chydweithio a'r naill fel y llall yn gyfartal yn y llafur a'r elw. Ar yr ochr ogleddol i'r afon yn unig yr oeddid hyd yn hyn wedi arfer a hau, ond y flwyddyn hon penderfynodd y ddau ddyn ieuanc hyn groesi yr afon, a thrin darn helaeth o dir ar yr ochr ddeheuol i'r afon, a chawsant gnwd toreithiog anghyffredin cnwd trymach nag yr oeddid wedi arfer ei gael ar yr ochr ogleddol, a'r cnwd hwn oedd y gwenith cyntaf o'r sefydliad i farchnad Buenos Ayres yn y flwyddyn 1873; ond gan ein bod yn bwriadu galw sylw yn mhellach yn mlaen at werthiad y gwenith hwn, gorphenwn hanes y cyfnod hwn yn y fan hon.

PEN XIX.—ADOLYGIAD AR YR WYTH MLYNEDD CYNTAF.

Y Dadblygiad Amaethyddol.—Fe wel y darllenydd mai araf iawn fu y dadblygiad hwn, ac mai trwy lawer o anffodion a helyntion y gallwyd cael rhyw fath o fywioliaeth, a hyny yn rhanol hyd y flwyddyn 1871, fel yr ydym wedi dangos yn barod. Aeth y tair blynedd gyntaf heibio cyn i ni allu codi cnwd o gwbl, hyny yw, ddim gwerth ei alw yn gnwd, ond yn niwedd y drydedd flwyddyn, cafwyd allan ddirgelwch yr aflwyddiant yn gystal ag allwedd y llwyddiant oedd i fod yn y dyfodol, trwy gael allan y posiblrwydd i godi cnydau trwy ddyfrio. Ond er cael allan y posiblrwydd hwn, eto cafwyd allan yn fuan nad oedd codiadau uchel yr afon i ddibynu arnynt fel pethau cyson a difwlch, ac eri ni dori ffosydd, nad oedd y rhai hyny yn ddigon dyfnion ar ambell i flwyddyn. Dichon fod son am y ffosydd hyn o'r afon i ddyfrhau y tir yn beth braidd anhawdd i'w ddeall gan y darllenydd sydd yn anghyfarwydd a dullwedd arwynebedd y wlad. Y mae rhai daearegwyr yn barnu fod Patagonia tan ddwfr y mor rhyw fil neu bymtheg cant o flynyddoedd yn ol. Bu y mor rhyw dro yn curo ei donau yn erbyn godrau yr Andes, ac wedi hyny gadawodd yn gyntaf yr uchdir a alwn ni y paith, a chyfyngodd ei hun i wastadedd is a alwa ni yn awr yn ddyffryn. Y mae yn debyg fod y dyffryn y pryd hwnw ya fath o borthladd mawr, yn rhedeg i mewn i'r tir am tua haner can' milldir, a bob yn dipyn ciliodd y mor o hono yntau, ond fod y dyfroedd croew oedd yn llifo o'r Andes yn ymdaenu drosto wrth fyned i'r mor. Bob yn dipyn, llanwai y gwastadedd hwn, a chodai o radd i radd gan laid, trwy fod llanw y mor bob dydd yn gwthio y dwfr croew yn ol, ac felly yn atal y llaid a gerid ganddo rhag myned i'r mor, nes o'r diwedd codi y gwastadedd hwn y fath, fel yr oedd yn rhaid i ddyfroedd yr Andes dori gwely iddynt eu hunain yn nghanol y gwastadedd. Fel hyn, yn ol pob tebyg, y ffurfiwyd y dyffryn o bob tu i'r afon. Ond gan fod yr afon ar rai adegau yn uwch lawer nag ar adegau ereill, y mae yn amlwg, pan y byddai yn isel, fod yna draethau pur fawr o bobtu iddi, a thrwy fod dyfroedd yr afon yn llifo dros greigiau tywod ar eu ffordd o'r Andes, y mae yn amlwg mai tywod fyddai y gwaddod a adewid ar y traethau o bob tu iddi. Yn awr, pan fyddai yr afon yn isel, a gwynt cryf yn chwythu, fel y mae yn fynych yn y rhan hon o'r wlad, yna codid y tywod hyn gan y gwynt i'r tir o bob tu i'r afon yn eu tro yn ol cyfeiriad y gwynt ar y pryd, a chydag amser, codai tir ymylon yr afon o bob tu yn uwch na'r gweddill o'r dyffryn. Fel hyn yn raddol daeth ceulanau yr afon latheni yn uwch na'r dwfr yn yr afon pan y byddai yn isel. Trwy fod y tywod hyn yn cael eu chwythu yn barhaus i'r ceulenydd o bob tu, ac yna drachefn yn cael eu chwythu ychydig yn mhellach i mewn i'r tir, y mae y dyffryn o bob tu i'r afon yn uwch yn ymyl yr afon, ae yn llithrio yn is-is fel mae yn pellhau oddiwrth yr afon, nes o'r diwedd colli effaith y llwch tywodog hwn, ac oddiyno tuag at yr ucheldir bron yn hollol wastad. Fel hyn byddai y ffosydd a dorem yn rhai llatheni o ddyfnder yn hymyl yr afon, ac yn myned yn fasach-fasach fel y byddent yn pellhau oddiwrth yr afon, nes o'r diwedd na byddent ond ychydig fodfeddi o ddyfnder, ac yn y diwedd y dwfr yn rhedeg yn denau ar wyneb y tir. Y blynyddoedd cyntaf fel y cyfeiriwyd, codai yr afon yn uchel iawn ae yna ni thorwyd y ffosydd cyntaf yn ddyfnion, am y byddai yr afon yn codi bron i ben y ceulenau ac felly yn uwch o lawer na'r tir isel oedd i mewn yn y dyffryn Ond daethom wedi hyny i weled yr afon yn codi yn rhy fychan i ddod i mewn i'r ffosydd, ac erbyn hyny yr oedd yn rhy ddiweddar i ddyfnhau y ffosydd y tymor hwnw, ac fel'y collid y cnwd, a dysgwyd ni gan godiadau bychain yr afon i wneud y ffosydd mor isel ag y caniatai y tir i ni eu gwneud, a chael dwfr iddynt. Fel hyn buom am flwyddyn ar ol blwyddyn yn ngwyneb codiadau bychain yr afon yn dyfnhau ein ffosydd, ac ambell i waith, ond eithriad ydoedd hyn, byddai yr afon yn codi yn rhy fychan i ddyfod i mewn i'r ffosydd dyfnaf. Ond er yr holl siomedigaethau a'r methiantau, yr oeddem erbyn dechreu 1873 yn teimlo yn sicr fod ar ddyffryn y Camwy le i filoedd o bobl i gael bywioliaeth wrth amaethu gwenith a haidd, a phethau ereill. Yr angen mawr yn awr oedd cael digon o bobl fel ag i gynyrchu cyflawnder digonol i hawlio llong neu longau, i gludo y gwenith i farchnad Buenos Ayres, neu rhyw le arall.

Ein Sefyllfa Gymdeithasol y cyfnod hwn.—

Yn niwedd yr wyth mlynedd hyn, nid oedd ein nifer ond tua'r un faint ag oeddym pan laniasom gyntaf yn Mhorth Madryn, ac yn cynwys llai o ddynion mewn oed. Yr oedd hyn yn anfantais fawr, nid yn unig am lafur anianyddol, ond hefyd fel gallu amddiffynol, cymdeithasol, gwladol crefyddol, ac addysgol. Yr oeddym wedi codi capel bychan yn Nhrerawson er 1868—capel o briddfeini wedi eu sychu a'u caledu yn yr haul Yn Rawson yr oeddem yn byw yn y blynyddoedd cyntaf, er fod gan bob teulu fel rheol dy ar ei dyddyn, a byddai y pen—teulu yn byw yno o foreu Llun byd ddydd Sadwrn yn ystod y tymhorau hau, dyfrhau, a medi, ond yr oedd y gwragedd a'r plant yn byw yn y dref. Yr achos ein bod yn byw fel hyn gyda ein gilydd yn y dref oedd, mewn rhan rhag ofn gorlifiad, ac hefyd er mwyn bod yn fwy cryno pe dygwyddasai ymosodiad oddiwrth yr Indiaid. Yr oedd ein hanifeiliaid y pryd hwnw yn porfau yn gymysg lle y mynent, a byddai y gwartheg yn dod adref i'r pentref hwyr a boreu i'w godro. Bu ein gwaith yn byw gyda'n gilydd fel hyn yn fantais i'n bywyd cymdeithasol, pan y buasai byw yn wasgarog yn ei gwneud yn anhawdd iawn i ni gyfarfod yn Sabbothol ac wythnosol, yn enwedig lle yr oedd teulu mân. Yr oeddym yn cynal tri moddion bob Sabboth yn y capel bychan yn y dref, sef dwy bregeth ac Ysgol Sul, ac ambell gyfeillach yn yr wythnos, yn ol fel y byddai cyfleusdra. Coffa da am yr amseroedd hyn: llawer gwaith y bu yr Ysgrifenydd yn pregethu i haner dwsin ar foreu Sul, ac yn treio cael dau neu dri dosbarth yn y prydnawn. Yr oedd y cymundeb ar un adeg wedi bod mor ddiffygiol, fel yr oedd yn anhawdd iawn cael dilladau, a llawer o honom hefyd yn rhy dlawd i'w prynu pe buasent o fewn ein cyrhaedd, ac felly yr oedd llawer wedi myned yn brin iawn o ddillad gweddus i ymddangos mewn cyfarfodydd Sabbothol. Bu hyn yn anfantais i'n cynulliadau crefyddol, a bu i lawer oeri a difateri wrth hir arfer bod o'r moddion, ac wrth gadw draw oddiwrth ddylanwadau yr efengyl yn llacio yn eu moesau; ond wedi y cwbl glynodd rhai yn ffyddlon wrth eu crefydd trwy bob diflasdod ac anghyfleusdra, o'r rhai y mae ychydig nifer yn aros hyd heddyw yn golofnau yn ol y gras a roddwyd iddynt.

Ein Sefyllfa Wleidyddol.—Nid oedd y Weriniaeth Archentaidd wedi ymyraeth dim a ni eto mewn ffordd o lywodraethiad lleol. Yr oeddym fel sefydlwyr wedi ffurfio cnewyllyn llywodraeth cyn cychwyn o Lerpwl, fel yr ydym wedi cyfeirio o'r blaen. Yr oedd y Cyngor yn eistedd yn fisol, neu yn amlach os byddai angen. Gwaith y Cyngor oedd gwneud deddfau neu gyfreithiau yn unol a math o gyfansoddiad gwladol oedd genym wedi cytuno arno; hwy hefyd oedd i drefnu gwneud unrhyw waith cyhoeddus, a chyflogi unrhyw swyddwyr, megys heddweision. Gwaith y llywydd oedd arwyddo y deddfau a wnelai y Cyngor, a gofalu eu bod yn cael eu cario allan. Gwaith yr ynad oedd derbyn cwynion am droseddau neu gamweddau, a rhoddi gwysion allan, a galw llys Athrywyn neu lys Rhaith, yn ol fel y byddai y galwad, bod yn gadeirydd y llysoedd, holi y tystion, symio i fyny, a rhoddi y ddedfryd mewn grym. Math o lys cyflafareddol mewn achosion o gamweddau oedd ein llys Athrywyn, a byddai ein llys Rhaith yn gynwysedig o 12 o reithwyr, y rhai a fyddent nid yn unig yn barnu y gwysiedig yn euog neu yn ddieuog, ond hefyd yn penderfynu beth oedd y ddirwy neu y gosp i fod, fel na byddai yr ynad yn gwneud dim ond yn unig cyhoeddi yr hyn a wnelai y rheithwyr, a gofalu bod y ddirwy yn cael ei thalu, neu y gosp yn cael ei gweinyddu. Os methai yr ynad a chario allan y ddirwy neu y gosp o herwydd ystyfnigrwydd y camweddwr neu y troseddwr, yna apeliai at y llywydd, ac os methai yntau trwy foddion tyner, yna yr oedd yn y sefydliad nifer o heddlu neu wirfoddolwyr at wasanaeth y llywydd, y rhai a elwid ganddo i roi y gyfraith mewn grym. Y mae yn dda genyf allu cofnodi na fu galwad am wasanaeth yr heddlu hyn ond un waith yn ystod y blynyddoedd y bu y ffurf hon o lywodraeth genym. Gwaith yr ysgrifenydd oedd cofnodi y cyfreithiau a wneud gan y Cyngor, a gwneud pob gohebiaeth fewnol a thramor. Gwaith y cofrestrydd ydoedd cofrestru genedigaethau a marwolaethau, a chynorthwyo mewn priodasau, a rhoddi y drwydded angenrheidiol. Y mae yn ddyledswydd arnaf yn y fan hon goffhau mai Mr. R. J. Berwyn, o New York, ond brodor o Glyn Ceiriog, fu ysgrifenydd a rhestrydd y Wladfa yn ystod y blynyddoedd y bu y ffurf hon ar lywodraeth y lle, a chyflawnodd hi yn ffyddlon a manwl, a chanmoladwy dros ben, yn neillduol fel rhestrydd.

Ein Masnach.—Yr ydym wedi dangos eisioes yn yr hanes hwn beth oedd ein sefyllfa yn fasnachol, ond gadawsom allan ffaith neu ddwy sydd yn teilyngu sylw. Daeth allan yn mysg y fintai gyntaf foneddwr o'r enw John Ellis, dilledydd o Lerpwl, a daeth i'w ganlyn gyflenwad bychan o nwyddau amrywiol, y rhai a werthodd i'r sefydlwyr yn awr ac yn y man, fel y byddai y galw, yn gyfnewid am bluf a chrwyn. Hefyd yn 1870, anfonwyd allan gyda'r "Myfanwy," swm cymedrol fawr o amrywiol nwyddau i'r John Griffiths, Ysw., y soniasom o'r blaen am dano—mab G. Griffiths, Ysw., Hendrefinws, ger Pwllheli, yr hwn sydd bellach er's blynyddoedd wedi dyfod yn ol i gymeryd lle ei dad ar y fferm. Bu y nwyddau hyn drachefn yn fuddiol ac amserol iawn i'r sefydlwyr. Gwelir felly ein bod hyd y flwyddyn ddiweddaf 1872 heb fasnach gyson, yn unig pan ddamweiniai llong fod yn ein porthladd, gwnaem ninau ein goreu o'r hyn oedd genym, a'u cyfnewid am bethau hanfodol.

PEN XX.—YR YSGRIFENYDD YN MYNED I GYMRU.

Er fod y Gwladfawyr erbyn hyn yn teimlo fod y Camwy yn lle i wneud bywioliaeth gysuras, eto yr oedd yr unigedd yr oeddym ynddo yn peri i ni amheu a ydoedd cael lle i enill bywioliaeth yn rhwydd a didrafferth yn ddigon o iawn am y bywyd a dreuliem mor ddigymdeithas. Y mae i nifer fechan o ddynion fyw ar eu penau eu hunain yn gyfangwbl—byw i weled yr un gwynebau a chymdeithasu a'r un meddyliau, ac ar un ffurfo fywyd yn barhaus, yn rhoi dylanwad dirywiol ar ddynoliaeth. Ond beth oedd i'w wneud? Yr oedd ein hanffodion o flwyddyn i flwyddyn wedi cael eu cyhoeddi yo Nghymru, ac nid yn unig eu cyhoeddi fel yr oeddynt, ond wedi eu camliwio i ateb rhagfarn dosbarth o bobl oedd yn anffafriol i'r symudiad Gwladfaol, fel yr oedd pawb yn arswydo rhag y syniad o ymfudo i'r fath le. Y mae yn wir fod cyfeillion y mudiad yn darllen pob peth, ac yn mesur a phwyso y da a'r drwg, ac yn gweled yn glir mai llwyddo yn raddol yr oedd y Wladfa, ond nid oedd wiw iddynt ddweyd hyn wrth neb ar feddwl cael eu credu. Yr oeddym ninau yn y Wladfa yn deall mai fel hyn yr oedd pethau yn Nghymru, ac nad oedd modd cael ychwaneg o ddyfudwyr allan heb i rywun neu rywrai fyned yno i symud y rhagfarn, a rhoi goleu clir ar bethau fel yr oeddynt. Teimlem hefyd nad oedd yn werth i nifer mor fychan alltudio eu hunain i fyw yma, os nad oedd gobaith am ereill i ddod atom o Gymru neu yr Unol Dalaethau er creu eymdeithas dda, a masnach yn y lle. Fel y crybwyllais o'r blaen, nid oedd yn ein mysg alian cylchredol yn ystod y blynyddoedd hyn am i'r arian papyr y soniwyd am danynt syrthio yn ddiwerth, am na chafodd y Cyngor eiddo cyhoeddus yn gyfwerth a hwynt, felly yr oedd diffyg arian yn anfantais i neb o honom ymadael i unrhyw wlad tu allan i'n cylch ein hunain, am mai a chrwyn, pluf, ymenyn a chaws yr oeddym yn masnachu, ac nad oeddym braidd byth yn derbyn arian am danynt. Crybwyllais o'r blaen am long Captain Cox oedd yma yn nechreu Ionawr 1873, a phenderfynodd yr Ysgrifenydd fyned gyda hi i Monte Video, ac oddiyno i Lerpwl, er gweled beth ellid wneud yn nglyn a chael pobl i'r Wladfa. Yr oeddwn wedi dod i'r penderfyniad hwn yn gwbl o honof fy hun, ac yn myned ar fy nhraul a fy nghyfrifoldeb fy hun, heb neb yn fy anfon na neb yn danfon am danaf. Wedi talu fy nghludiad mewn ymenyn, dyma ni yn barod i gychwyn allan dros y bar, oud rhywfodd neu gilydd, o ddiffyg gwynt digon teg, methodd ein llong a chroesi y bar, a chwythwyd hi yn ol i'r traeth, a methwyd ei nofio y llanw dilynol; a chan i'r gwynt droi i'r mor, chwythwyd hi yn ddrylliau ar y bar. Nid oedd dim i'w wneud yn awr ond troi yn ol hyd nes y galwai rhyw long arall, yr hyn oedd hollol anwybyddus i ni ar y pryd. Fel y cyfeiriwyd yn barod, ar yr adeg ddigalon hor ymwelodd y "Rush" a ni yr ail waith, ac ar ei bwrdd, fel y crybwyllwyd eisioes, Mr. T. B. Phillips, o Brazil, yn dod i weled ansawdd y Camwy, ac wedi i'r boneddwr hwn gael tipyn o hamdden i edrych o'i ddeutu, aeth ef a'r Meistri Lewis Jones, David Williams (America), Captain Cox, a'r Yegrifenydd i fwrdd y "Rush" gyda'r bwriad i fyned i Buenos Ayres. oedd y llong hon i alw yn Patagones am lwyth o halen i fyned i Buenos Ayres. Wedi aros yn Patagones am fis i'r llong gael ei llwyth, dyma ni yn cychwyn i ffwrdd, ond wrth fyned i lawr yr afon Negro er myned allan i'r mor, tarawodd ein llong ar graig o glai caled, ac aeth yn ffast ar y bryn claiog, nes ei hysigo i raddau, a thrwy fod y "Patagones Steamer" yn myned allan or afon ar y pryd, gadawsom y llong hon eto, ac aethom gyda'r Steamer i Buenos Ayres. Wedi ymdroi am ryw bythefnos yn Buenos Ayres, aeth yr Ysgrifenydd ar fwrdd yr "S. S. Newton Lampert & Hall Co." am Lerpwl, ac ar Mai y 15fed, glaniasom yno. Aethum oddiyno ar fy union i'r Bala i weled y Parch. M. D. Jones, canys efe oedd y prif symudydd yn nglyn a'r Wladfa yn Nghymru ar y pryd, ac er iddo fod yn golledwr o dair neu bedair mil o bunau o herwydd y mudiad a'i gysylltiadau, eto ni phallodd ei sel, ac ni oerodd ei gariad at y mudiad, ac y mae yn parhau felly hyd y dydd hwn. Wedi ymgynghori a'r Parch. M. D. Jones, penderfynwyd fod i mi fyned trwy Dde a Gogledd i ddarlithio ar y Wladfa Gymreig yn Patagonia fel lle i ymfudo iddo. Y mae yn ddyledswydd rhoi yma ar gof a chadw i mi gael derbyniad caredig iawn i ddarlithio yn yr wythnos a phregethu ar y Sul yn mhob man y bum, trwy Dde a Gogledd. Wedi treulio tua thri mis yn Nghymru, aethum i'r Unol Dalacthau. Cefais alwad i fyned yno i Gymanfa Talaeth New York, ac hefyd i fyned trwy rai o'r talaethau i ddarlithio ar Patagonia. Yr oedd y Parch. D. S. Davies yn yr Unol Dalaethau yr adeg hon, ac yn dal yn selog iawn dros y Wladfa er pob siom a cholled oedd ef ac ereill wedi ei gael yn nglyn a'r "Rush" a chynlluniau ereill, ac yr oedd efe yn frwdfrydig iawn am i mi fyned drosodd. Wedi bod yno rhyw dri mis, a theithio rhanau o chwech talaeth, ac areithio neu bregethu bob nos, ac weithiau yn y dydd, dychwelais yn ol i Gymru yn niwedd Tachwedd. Cafodd yr Ysgrifenydd dderbyniad gwresog a charedig iawn gan yr Americaniaid, yn enwedig i bregethu, canys rhaid addef nad oedd yr Americaniaid yn rhyw foddlon iawn y pryd hwnw i neb ganmol un lle ond eu gwlad hwy. Y mae yn wir mai gwlad eang, gyfoethog iawn yw Gogledd America, ond eto nid ydyw i'w chydmaru a Deheudir America o ran ei hinsawdd, a ffrwythlondeb y tir. Y mae pethau wedi newid yn fawr yn yr Unol Dalthau yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf—y wlad wedi llanw yn fawr, a diameu y ca unrhyw un well gwrandawiad yno heddyw i siarad am leoedd newyddion i ymfudo iddynt nag oedd i'w gael y pryd hwnw. Daethum yn ol i Gymru tua diwedd Tachwedd 1873, a pharheais i ddarlithio a phregethu yno hyd ddiwedd Mawrth 1874. Yn ystod y misoedd hyn, yr oedd dwy fintai yn cael eu casglu —un yn Nghymru, dan nawdd a gofal y Parch. D. Ll. Jones, Rhuthin, a'r llall yn yr Unol Dalaethau, yn ngofal y Parch. D. S. Davies—y naill a'r llall i fod yn barod i gychwyn ddechreu Ebrill. Cafwyd 49 yn Nghymru yn barod i gychwyn, a thua 35 yn yr Unol Dalaethau. Nid oedd modd y pryd hwnw, fel sydd yn awr, gael gan un cwmni i gymeryd mintai, a'i rhoddi i lawr yn Porth Madryn, ac felly nid oedd dim i wneud ond myned yn un o'r lluaws agerlongau oedd yn teithio rhwng Lerpwl a Buenos Ayres, a byw trwy ffydd y cawsem ryw long i fyned a ni i lawr oddiyno i'r Camwy. Cychwynasom o Lerpwl ar fwrdd y S.S. "Hipparchus" Ebrill yr 20fed, 1874, a glaniasom, wedi mordaith gysurus, yn Buenos Ayres yn mhen y mis. Yr oedd Cymry America wedi bod yn fwy anturiaethus, ac wedi prynu llong iddynt eu hunain, ac wedi ei ffitio hi i fyny eu hunain ag ymborth a dwylaw, ac a Chaptain o fysg y fintai. Yn anffodus iddynt, er fod eu Captain yn forwr medrus, y mae yn ymddangos nad oedd ei wybodaeth forwrol yn ddigon i fordaith mor bell, ond beth bynag, aeth eu llong i'r lan ar dueddau Brazil, a chollasant y cwbl bron a feddent ond eu bywydau. Cawsant garedigrwydd mawr gan Saeson a chenedloedd ereill yn y parthau hyny, fel trwy y naill long ar ol y llall, cyraeddasant Buenos Ayres, lle y cyfarfyddasant a'r fintai o Gymru; yr oedd yr olwg arnynt yn gystuddiol a drwg eu cyflwr pan ddaethant atom, ac yn wrthddrychau tosturi mewn gwirionedd. Yr oedd rhai o honynt wedi cychwyn yn gefnog, un teulu a chanddo beiriant dyrnu ae amryw offerynau amaethyddol ereill, ond collasant y cyfan ond ychydig olwynion, ac yn wir collodd pawb bron yr oll ond y dillad oedd am danynt pan redodd y long i'r traeth. Derbyniodd rhai honynt garedigrwydd mawr yn Buenos Ayres.

PENOD XXI.—1873-1874, A'N HAROSIAD YN BUENOS AYRES

Gan fy mod yn absenol o'r sefydliad yn ystod y rhan fwyaf o 1873 a haner cyntaf 1874, nis gallaf fod yn fanwl yn nglyn a hanes y Wladfa yn yr adeg uchod. Y mae yn ymddangos i Captain Cox ddyfod yn ol gyda llong arall i ymofyn y llwyth a'r dwylaw a adawsai yno ar ol, ac iddo ddyfod a rhyw gymaint o nwyddau i'w gwerthu. Ymwelwyd a'r sefydliad y flwyddyn hon gan Esgob Sterling, perthynol i Gymdeithas Genhadol yr Eglwys Esgobaethol Seisnig yn Ne America. Gelwid eu llong "Allen Gardener." Yr wyf yn deall i'r Esgob bregethu yno, bedyddio rhai plant, a phriodi un par ieuanc. Fel y sylwasom o'r blaen, cafodd y ddau ddyn ieuane John Griffiths ae Edmund Price gynhauaf toreithiog iawn y flwyddyn hon, fel yr oeddynt mewn ffordd i allforio swm pur fawr.

Ymwelwyd a'r Wladfa gan un Captain Wright yn y llong "Irene," a llwyddwyd ganddo i gymeryd y gwenith uchod i Buenos Ayres, ac hefyd rhoddwyd cludiad i Mr. Edward Price i fyned gydag ef i'w werthu. Dyma y tro cyntaf i wenith y Wladfa fyned i'r farcbnad, ac erbyn sefyll y farchnad yn Buenos Ayres, cyrhaeddodd uwch pris nac un gwenith arall. Wedi'i E. Price werthu ei wenith, a chael hamdden i edrych tipyn o'i ddeutu yn y ddinas, daeth o hyd i foneddwr ieuanc o Gymro o'r enw William Parry, yr hwn oedd fasnachwr parchus yn y ddinas, yn perthyn i dy a adnabyddid wrth yr enw Rook Parry & Co. Boneddwr o Lanrwst ydyw y Parry hwn, ac y mae yn Buenos Ayres hyd heddyw wrth yr enw Parry & Co, ae y mae yn Gymro twymgalon yn gystal ag yn fasnachwr anturiaethus. Wedi iddo gael ymgon a Mr. E. Price yn nghylch y Wladfa, tybiai fod yno le gobeithiol i agor masnach. Mewn canlyniad, prynodd ty Rook Parry yr. "Irene," a danfonasant hi i lawr yn ngofal yr un Captain gyda llwyth o nwyddau amrywiol o dan ofal Mr. E. Price, gydag awdurdod i agor masnach dy yn y Camwy. Felly y bu, adeiladwyd ar unwaith ystordy bychan heb fod yn mhell o lan y môr, ac yno y gwerthid y nwyddau, ac y prynid gwenith, caws, ymenyn, pluf, a chrwyn yn gyfnewid am danynt. Dyma ddechreu masnach ar radd eang a sefydlog yn y Wladfa yn y flwyddyn 1874. Pan ddaeth y ddwy fintai i Buenos Ayres, yr oedd y llong "Irene" i lawr yn y sefydliad, ae felly buom yn aros yn Buenos Ayres am ei dychweliad, er cael myned i lawr gyda hi y daith nesaf. Buom yno hyd Gorphenaf ac yn y diwedd, pan yr oedd y llong yn barod i ail gychwyn, deallasom, er ein gofid, na fedrai ond tua haner y dyfudwyr fyned i lawr ar unwaith, a chan nad oedd llong arall i'w chael, fod yn rhaid i'r gweddill aros eto yn Buenos Ayres hyd ei dychweliad drachefn. Teg yw i mi yn y fan hon ddwyn tystiolaeth i haelioni, caredigrwydd, ac ymddygiad anrhydeddus y Llywodraeth 'Archentaidd trwy ei Bwrdd Ymfudiaeth. Yr oedd gan y Bwrdd hwn le neillduol i roi ymfudwyr, a elwid "Cartref yr Ymfudwr," yn yr hwn y byddai ymfudwyr yn cael eu bwydo a'u lletya yn ddigost hyd nes y celent waith, neu ynte gyfle i fyned i'r man hwnw o'r Weriniaeth a fwriadent fyned wrth gychwyn. Gan ei bod yn debygol y buasem yn gorfod aros yn hwy na dyfudwyr yn gyffredin, barnodd y Bwrdd yn garedig iawn y buasni yn well ein rhoddi ar ein penau ein hunain, mewn ty mawr a logwyd ar y pryd ar ein cyfer. Cawsom yma bob chwareu teg mewn lle cysurus, ac ymborth blasus yn ystod ein harosiad yn y ddinas, yr hyn a fu tua thri mis i rai o honom. Yr oedd yr oediad hwn yn ddiflas a phoenus i ddynion oedd wedi arfer bod yn weithgar, diwyd, ac enillgar, fel yr aeth rhai o honynt i weithio rhyw waith a fedrent wneud yn y dref i aros y llong i ddychwelyd. Wrth ddewis y rhai oedd i fyned i lawr i'r sefydliad yn ei siwrne gyntaf, cymerwyd y rheol i anfon dynion sengl, a'r penau teuluoedd mwyaf llawrydd, fel ag iddynt allu parotoi mewn hau a phethau ereill ar gyfer y teuluoedd. Yr oedd y dynion sengl yn gallu lletya mewn teuluoedd yn y Camwy heb orfod edrych am dai iddynt eu hunain, ac felly yn gallu myned i weithio ar unwaith, canys yr oedd yn awr yn nghanol tymor trin tir a hau. Cyrhaeddodd y llwyth cyntaf hwn y Camwy Awst yr 2il, 1874, ac mor fuan ag y glaniasant, aethant ati ar unwaith i agor ffosydd, a thrin a hau llanerchau o dir, y rhai a droisant allan fel rheol yn llwyddianus iawn mewn cnydau toreithiog. Dychwelodd y llong yn ol i ymofyn gweddill y minteioedd heb ymdroi dim, a daethant hwythau i lawr erbyn diwedd Medi neu ddechreu Hydref yr un flwyddyn. Dyma ni bellach, y ddwy fintai wedi dod i lawr, ac edrychir arnynt mwyach fel un fintai, sef mintai 1874, ac weithiau cyfeirir atynt fel minteioedd D. Ll. Jones a D. S. Davies.

Mintai 1865 a Mintai 1874.—

Yr oedd y fintai hon yn dra gwahanol i fintai y "Mimosa" yn 1865. Mintai oedd un y " Mimosa" o'r dosbarth gweithiol a llawer o honynt yn rhai tra anghenus. Nid yw dweyd hyn yn anfri arni, am fod cyflogau gweithwyr yr adeg hono yn isel iawn, fel nad oedd hyd yn nod y gweithiwr mwyaf diwyd a chynil yn gallu arbed nemawr ddim, ond erbyn 1874, yr oedd cyflogau gweithwyr yn Nghymru wedi cyfnewid yn fawr, ac feallai na fu cyflogau pob math o weithwyr—o'r ffermwr i lawr i'r labrwr isaf—mor uchel yn Nghymru erioed ag y bu yn 1874—5. Fel yr ydym wedi dangos yn barod, pobl heb ddim arian yn eu llogellau oedd corff y fintai gyntaf, ac wedi dyfod allan ar draul y Parch. M. D. Jones, Bala; ond wrth edrych yn ol ar yr amgylchiadau, yr ydym yn cael ein tueddu i gredu mai mintai gymwys oeddynt wedi y cwbl. Nid ydym yn gallu darllen rhagluniaeth yn mlaen llaw un amser, ond bob amser wrth edrych yn ol. Pan yn edrych ar y fintai gyntaf yn Lerpwl yn cychwyn tua Phatagonia, gallesid meddwl mai mintai anghymwys iawn ydoedd, ac yn wir, dyna oedd barn pobl am danynt pan yn cychwyn, ac wedi iddynt lanio, fel y prawf y llythyrau a ysgrifenid ar y pryd, a dyna hefyd oedd barn y Llywodraeth Archentaidd am danynt. Ond wrth edrych yn ol, yr ydym yn gweled mai ei thlodi oedd ei phrif gymwysder i gyfarfod a'r amgylchiadau cyfyng, boddloni ar fyd mor wael yn y blynyddoedd cyntaf, gan deimlo fod y byw hwnw, er cymeryd ei anfantais, i'w ddewis o flaen y caethiwed diobaith yr oeddynt ynddo yn Nghymru. Peth arall, pe buasent yn ddynion ag arian yn eu llogellau, buasent oll wedi ymadael, pob un i'w ffordd ei hun yn ngwasgfeuon a digalondid y tymhorau methiantus, ac felly ni fuasai y Wladfa wedi ei pharhau, na dyffryn y Camwy wedi ei boblogi, na'r wlad wedi ei harchwilio, na mwnau yr Andes wedi eu darganfod. Pethau distadl a ddewisir yn barhaus i gynyrchu y pethau mawr, er profi mai Duw, ac nid dyn, sydd yn trefnu ac yn llywodraethu yn nadblygiad amgylchiadau dyrys y byd hwn. "Tawed pob cnawd ger ei fron Ef." Mintai wahanol iawn oedd un 1874. Yr oedd yn y fintai hon amryw ddynion pur gefnog o weithwyr—dynion oedd wedi manteisio ar gyflogau uchel i roddi cryn dipyn o'r neilldu. Yr oedd yn eu plith hefyd rai ffermwyr profiadol a deheuig. Yr oedd yn y fintai hon hefyd dri gweinidog yn perthyn i'r Annibynwyr, heblaw yr Ysgrifenydd, yr hwn oedd yn dychwelyd yn ol at ei deulu.

Yn mysg y fintai Americanaidd, yr oedd y Parch. D. S. Davies ar ymweliad a'r Wladfa, yr hwn cyn cychwyn oedd wedi bod a gofal yr eglwys Gymreig yn New York arno. Bu yni a gwroldeb y dyn hwn o fantais fawr i'r fintai anffodus ar ol y llongddrylliad, hyd nes cyraedd Buenos Ayres. Gweinidog arall oedd y Parch. J. C. Evans, Cwmamar, Aberdar, Deheudir Cymru. Yr oedd efe yn gredwr mawr mewn ymfudiaeth cenedl y Cymry a Gwladfa Gymreig, a bu yn fantais fawr i'r sefydliad fel Gwladfawr solog, gobeithiol, a chalonog ei ysbryd ar lawer adeg ddigalon, yn gystal ag fel gweinidog a phregethwr poblogaidd, ac y mae o dro i dro wedi dal prif swyddi y sefydliad, ac wedi bod yn flaenllaw gyda phob symudiad a dueddai at lwyddiant y Wladfa Gymreig yn y diriogaeth. Gweinidog arall yn y fintai hon oedd y Parch. David Lloyd Jones, Rhuthin, Gogledd Cymru. Yr oedd y boneddwr hwn wedi bod a rhan flaenllaw yn y symudiad Gwladfaol o'r cychwyn cyntaf yn Nghymru, ac wedi bod yn gydweithiwr ffyddlon a'r Parch. M. D. Jones, Bala, trwy y blynyddoedd. Pan yn weinidog defnyddiol a hynod boblogaidd mewn dwy eglwys Annibynol yn Ffestiniog, Gogledd Cymru, rhoddodd yr eglwysi i fyny a bu am ddwy flynedd yn teithio ac yn areithio ar ymfudiaeth i Patagonia, ac hefyd i ffurfio Cwmni Masnachol ac Ymfudol Cymreig. Wedi hyny, ail ymgymerodd a gweinidogaeth yn Manceinion am bedair blynedd, ac wedi hyny, er mwyn bod yn nes er cydweithio a'i gyfaill, y Parch. M. D. Jones, Bala, ymgymerodd a gweinidogaeth yn Rhuthin. Bu y rhan fwyaf o'r flwyddyn 1872-3 yn cymeryd lle y Parch. M. D. Jones fel athraw yn y Bala, pan oedd y boneddwr uchod yn yr Unol Dalaethau yn casglu tuag at dalu dyled Colegdy yr enwad yn y Bala. Daeth y Parch. D. Ll. Jones allan i'r Wladfa yn 1874 yn genhadwr anfonedig i wneud cynyg ar Gristioneiddio Indiaid Patagonia, ond yr oedd eu bywyd mor grwydrol, fel yr oedd yn anmbosibl gwneud dim a hwy, a chyn hir Symudodd y Llywodraeth Archentaidd hwy i wahanol ranau y Weriniaeth, er eu cael o dan warcheidiaeth, ac hefyd er cael y wlad yn agored i'w phoblogi a'i hamaethu. Y mae y boneddwr hwn wedi bod o ddefnydd mawr i'r Wladfa o adeg ei ddyfodiad hyd heddyw, ar gyfrif ei dalent a'i ddysg, yn gystal a'i sel a'i ymroddiad di-ildio o blaid llwyddiant y Wladfa. Y mae wedi dal y swydd o ynad yn y sefydliad bron yn ddi-fwlch o'r ail flwyddyn ei sefydliad yn y lle hyd heddyw, a chan ei fod o feddwl dadansoddol ac elfenol, bu yn alluog iawn i drin materion gwleidyddol a chyfreithiol yn ein plith. Nid oes na bwrdd na chyngor o bwys nad yw efe wedi eistedd ynddo er pan yn y lle, ac y mae y Wladfa yn fwy dyledus iddo nag i un person unigol arall am ei phrif ddadblygiadau yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, a dymuniad y sefydlwyr yw iddo gael llawer o flynyddoedd eto i wasanaethu ei genedl mewn llwyddiant a hapusrwydd. Yr oedd yn y fintai hon hefyd amryw leygwyr a fu yn ychwanegiad mawr at ein llwyddiant amaethyddol a masnachol, cymdeithasol a chrefyddol, ac fel y rhai blaenaf, gallwn enwi D. D. Roberts, o'r Unol Dalaethau; E. Jones, Dinas Mawddwy, Gogledd Cymru; E. Owen, Tyucha, ger Bala; John S. Williams, Hawen, Sir Aberteifi; a John W. Jones, o Tanygrisiau, Ffestiniog. Wrth enwi y personau uchod, nid ydym yn awgrymu nad oedd yn y fintai amryw ddynion gweithgar a medrus ereill, y rhai a fu yn gymorth mawr i ddadblygiad y lle mewn mwy nag un ystyr. Gwelir erbyn hyn i'r fintai hon fod nid yn unig yn ychwanegiad at nifer y llafurwyr, a bod hyny yn bwysig iawn, ond hefyd yn waed newydd, ac yn allu mawr

yn nglyn a phob cylch o fywyd.

PENOD XXII.—DECHREU CYFNOD NEWYDD.

Yr ydym erbyn hyn bron wedi dyblu rhif ein gweithwyr, ac felly mewn ffordd i wneud cymaint mwy o waith. Ar yr ochr ogleddol yn unig hyd yn ddiweddar yr oedd y sefydlwyr cyntaf wedi arfer hau, ond yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf yr oeddynt wedi cael allan fod y tir ar yr ochr ddeheuol llawn mor hawdded i'w drin, ac yn debyg o roi gwell cnwd, felly yr oedd sylw y dyfudwyr newydd wedi ei dynu at yr ochr hon, ac yn awyddus i gael eu tyddynod yr ochr hon i'r afon. Mewn canlyniad i hyn, y mae y Cyngor yn penodi y boneddwr Edward Owen, Tyucha, ger Bala, i wneud rhyw fath o ranu ar y tir trwy dynu llinellau bob rhyw saith cant a haner o latheni o ogledd i dde o'r afon i'r bryniau ar yr ochr ddeheuol, am fod y rhan hon o'r dyffryn heb ei fesur, fel y cyfeiriwyd yn barod. Yn Chwefror 1875, cafwyd cynhauaf toreithiog, ac yr oedd pawb yn gefnog, a'r fintai newydd yn awyddus am rhyw lanerch o dir i ddechreu amaethu arno ar gyfer y flwyddyn ddyfodol. Yr oedd y rhan luosocaf o'r fintai newydd yn byw yn y dref hyd yn hyn, ond yn ymadael o un i un i'w ffermydd fel yr oedd y penau tenluoedd yn gallu dod yn barod gyda rhyw fath o dy i fyw ynddo. Yr oedd rhwng yr hyn a alwn ni y ddau ddyffryn yr ochr ogleddol lain gul o dir gwastad ar lan yr afon, a chraig o dywodfaen tu cefn iddo, ond gan ei fod morgul, nid ydoedd wedi ei fesur i fod yn ffermydd, ac felly yn cael eu ystyried fel comin; felly barnodd rhai o'r fintai newydd fod y lle hwn yn gyfleus i adeiladu tai arno, ac felly y gwnaethant, ac aeth dau deulu yno i fyw, sef y Parch. J. C. Evans, Cwmaman, a Mr. D. D. Roberts, o'r Unol Dalaethau. Gelwir y lle hwn Gaiman, yr hen enw Indiaidd a gawsom gyntaf arno.

Ail ffurfio yr eglwys.—

Yr oedd yr achos crefyddol wedi dyoddef, fel pob cylch arall, yn y blynyddoedd diweddaf. o angen gwaed newydd, a bu dyfodad y fintai hon fel ail. gychwyniad i'r achos erefyddol hefyd. Tua chanol Hydref 1874, cynaliwyd yn yr hen gapel bach diaddurn yn Nhrerawson gyfarfod pegethu, ac hefyd i sefydlu yr eglwys, pryd y pregethwyd gan y Parchedigion D. Ll.. Jones, J. C. Evans, a D. S. Davies. Derbyniwyd llythyrau y fintai newydd, a gwahoddwyd unrhyw un o'r hen fintal yn gystal ag o'r newydd i ddyfod yn mlaen i ofyn am aelodaeth, am fod llawer wedi rhyw lacio a chilio yn ol. Wedi rhifo i fyny yr enwau, yr oedd yr eglwys wrth ail gychwyn yn rhifo 45, a dewiswyd yr Ysgrifenydd i fod yn weinidog, yr hwn oedd wedi bod yma o'r cychwyn. Gwel y darllenydd ein bod yn barod wedi hanesyddu yr amgylchiadau yn mlaen hyd tua chanol 1875. Wedi cael cynhauaf da a thoreithiog y tymor diweddaf, a phawb wrthi yn egniol yn parotoi ar gyfer y dyfodol—rhyw fath o ranu wedi ei wneud ar yr ochr ddeheuol, ac amryw wedi meddianu a phenderfynu ar le eu preswyliod, ac ereill wedi dewis eu tiroedd ar yr ochr ogleddol—rhai yn uwch i fyny, a rhai yn is i lawr—pob un yn ol ei archwaeth a'i farn. Yr ydoedd erbyn hyn mlaen yn Awst a Medi 1875, a dim argoelion i'r afon godi, ac felly yr Deddym oll yn teimlo yn dra phryderus, yn enwedig y fintai newydd, am nad oeddynt hwy eto wedi cynefino a siomedigaethau y tymorau.

Cyn myned yn mhellach yn mlaen i hanes y flwyddyn hon, y mae genyf i roi hanes y wedd oedd y symudiad Gwladfaol yn gymeryd yn mysg ein cydgenedl yn Nghymru a'r Unol Dalaethau. Yr oedd y Parch. D. S. Davies wedi dychwelyd yn ol i Gymru er diwedd y flwyddyn o'r blaen, 1874, ar ei ffordd i'r Unol Dalaethau at ei deulu, gan nad oedd efe wedi bwriadu aros yn y Wladfa yn barhaus. Wedi dod i Gymru, trefnwyd iddo fyned trwy Dde a Gogledd i areithio ar y Wladfa, ac wedi bod felly am rai misoedd yn Nghymru, dychwelodd at ei deulu i'r Talaethau Unedig, a bu yn teithio ac yn areithio llawer yno drachefn ar y Wladfa. Tua Mai neu Mehefin 1875, aeth dau sefydlwr arall am dro i Gymru, sef y Meistri E. C. Roberts a Lewis Davies, o Aberystwyth. Hwn yw yr Edwin C. Roberts, Oshkos, y soniasom am dano amryw weithiau yn barod. Yr oedd y sel Wladfaol yn para ynddo ef o hyd, ac wedi cyraedd Cymru, aeth atau i areithio ar y Wladfa, a chan i'r brodyr hyn, a hefyd y Parch. D. S. Davies ymadael cyn ei bod yn wybyddus nad oedd yr afon yn codi y fwyddyn hon, a ninau wedi cael y fath gyuhauaf toreithiog y flwyddyn o'r blaen, yr oedd yn naturiol i ddynion brwdfrydig fel D. S. Davies, ac E. C. Roberts, i osod pethau allan yn oleu a chalonog dros ben, ac felly y bu, ac mewn canlyniad berwyd y gweithfeydd yn nglyn a'r mudiad. Yr oedd peth arall yn ffafriol i ymfudiaeth diwedd y flwyddyn hon. Yr oedd y gweithfeydd yn ddiweddar wedi bod yn fywiog dros ben, a'r cyflogau yn anarferol o uchel, ond tua rhan olaf o 1875 yr oedd arwyddion gwaethygu ar bethau, ac yn niwedd y flwyddyn hon y bu y cloiad allan trwy bron yr holl weithiau. Mewn canlyniad i'r areithiau brwdfrydig, ac yn ngwyneb yr argoelion tywyllion oedd yn mlaen yn nglyn a'r gweithfeydd, penderfynodd lluaws mawr werthu allan, a dyfod i'r Wladfa, ac o fewn tri neu bedwar mis yn niwedd 1875 a dechreu 1876, daeth i mewn i'r sefydliad ar y Camwy yn ymyl 500 o ddyfudwyr o wahanol barthau o Gymru a'r Unol Dalaethau, ond yn benaf o ardaloedd y Rhondda ac Aberdar. Daeth mintai y Talaethau Unedig y tro hwo eto allan mewn llong fechan o'u heiddo eu hunain, ond ychydig, ond nid llawer mwy ffodus na'r fintai o'r blaen. Y mae yn wir iddynt lwyddo y tro hwn i ddyfod a'u llong i mewn i'r Camwy, ond nid heb lawer o helynt ar y ffordd, a thrwy rhyw ddyryawch aeth y llong wedi cyraedd yn gwbl o'u meddiant, ond nid oedd y golled yn fawr. Y mae yma yn awr yn nechreu 1876 tua 500 o ddyfudwyr newyddion yn ein plith, a dim haner digon o fara yn y sefydliad ar eu cyfer, am nad oedd yma gynhauaf y tymor hwn o herwydd na chodasai yr afon. Er ein bod wedi cael cnwd toreithiog y flwyddyn flaenorol, yr oeddid wedi ei werthu allan yn llwyr iawn cyn gwybod na chawsid cynhauaf y flwyddyn wed'yn, a chan fod y sefydlwyr a ymwelasant a Chymru wedi ymadael cyn gwybod hyn, a'r cymundeb a Chymru y pryd hwnw yn anghyfleus iawn, trwy nad oedd llong yn galw gyda ni ond anfynych, nid oedd neb i'w feio am yr anffawd hon. Y mae yn wir fod corff y minteioedd hyn yn weddol gefnog, ac yn perchen modd i brynu defnydd lluniaeth iddynt eu hunain ond ei gael i'r lle; ond ar yr un pryd, yr oedd yma amryw yn eu plith yn gystal ac yn mysg y rhai oedd yma o'r blaen, heb fod yn alluog i brynu cynaliaeth blwyddyn neu bymtheg mis. Mewn canlyniad i hyn, penderfynwyd anfon at y Llywodraeth unwaith eto i ofyn i'r Llywodraeth echwyna swm o arian i'r sefydlwyr hyn er iddynt allu pwrcasu lluniaeth iddynt eu hunain, a'u teuluoedd heb lymhau eu hunain yn ormodol. Yr oedd y Llywodraeth yr adeg hon wedi trefnu gyda Chwmni Lampert & Holt, Lerpwl, i roddi cludiad rhad i deuluoedd tylodion i ddyfod allan i'r Camwy o Gymru, a chyda'r cludiad rhad hwnw yr oedd rhai wedi llwyddo i ddod allan. Trwy fod y minteioedd diweddaf hyn wedi dod trwy Buenos Ayres, canys nid ar unwaith y daethant ond yn fan finteioedd i Buenos Ayres, ac yna y Llywodraeth yn cytuno a llong i'w cymeryd i lawr i'r Camwy. Trwy eu bod yn dod trwy Buenos Ayres fel hyn, yr oedd yr awdurdodau yno erbyn hyn yn hysbys o sefyllfa y Wladfa, ac yn dechreu dod yn fyw i bwysigrwydd y sefydliad. Felly, cydsyniodd y Llywodraeth a'r cais am echwyn, ac anfonasant gyflawnder o ddefnydd ymborth i lawr. Yr oedd hefyd ystordy arall wedi ei godi yn y sefydliad gan Mr. J. M. Thomas, gynt o Merthyr Tydfil, ond a ymadawsai a'r sefydliad y flwyddyn gyntaf, ac a fuasai yn Buenos Ayres o hyny hyd yr adeg hon. Yr oedd y dyn ieuanc hwn wedi bod yn ysgrifenydd, ac wedi hyny yn arolygwr masnach i un Mr. F. Yonger, Ysgotiad cyfoethog yn Buenos Ayres, a thrwy gymorth ei feistr wedi dechreu masnach ar raddfa eang yn y Wladfa. Yr oedd ganddo ystordy mawr yno wedi ei wneud o goed, yr hwn a gymerodd dân yn y flwyddyn 1876, trwy yr hwn y dinystriwyd gwerth tua thair mil o bunau. Bu y ty masnachol hwn, yn nghyd a thy masnachol Meistri Rook Parry yn gyfleusdra mawr i'r sefydliad i gael nwyddau a'u llongau yn gyfryngau cymundeb a Buenos Ayres. Yn yr adeg hon hefyd yr oedd y Llywodraeth Archentaidd yn ymdrin a deddf ymfudiaeth, ac yn gweled fod yn rhaid iddynt wneud rhyw gyfnewidiad yn y ddeddf a wnaed yn 1862-3 yn nglyn a rhoddi tir i ddyfudwyr. Yr oedd y Parch. D. LI. Jones yn ystod ei arosiad hir yn Buenos Ayres, ar ei daith i'r Wladfa, wedi cael haundden i siarad llawer a Dr. Rawson yn nghylch y Wladfa, ae wedi bod yn awgrymu iddo amryw bethau yn nglyn a'r hyn a dybiai efe ddylasai fod deddf dirol y gwladfaoedd fod, ac y mae yn amlwg fod y Llywodraeth wedi mabwysiadu yn ei deddf newydd amryw o'r egwyddorion a awgrymodd. Nid oedd deddf 1862-3 yn rhoddi i'r dyfudwr ond 124 o erwau, yr hyn oedd yn llai nag a roddid gan unrhyw Lywodraeth mewn gwledydd newyddion, yn enwedig yr Unol Dalaethau, ond yn Medi 1875, pasiodd y Gydgyngorfa ddeddf newydd, yr hon oedd yn caniatau hyny allan 248 o erwau i bob dyfudwr mewn oed, heb wahaniaeth yn nglyn a rhyw. Yr oedd y ddeddf hon yn cymeryd i mewn hefyd yr holl sefydlwyr oedd yn y lle ar y pryd, &c hefyd eu bod hwy i gael yr 124 erwau oedd ganddynt eisioes yn ychwanegol fel gwobr am sefydlu y lle. Mewn canlyniad i hyn, penderfynodd y Llywodraeth ffurfio yn y Wladfa fath o gynrychiolaeth iddi, canys hyd yn hyn, fel yr ydys wedi awgrymu yn barod, nid oedd y Llywodraeth Archentaidd wedi ymyraeth dim a'r sefydliad yn nglyn a'i lywodraethiad. Ar hyn o bryd, yr oedd amryw bethau yn galw am hyny, megys yr echwyn y cyfeiriasom ato, y cyfnewidiad yn neddf y tir, a'r angenrheidrwydd am ail fesuriad, yn nghyda chynydd cyflym y boblogaeth. Yr oedd y Llywodraeth er's rbai blynyddau cyn hyn wedi rhoi rhyw fath allu llywodraethol yn llaw Mr. Lewis Jones fel ei chynrychiolydd, ond ni ddaeth dim o hyny ar y pryd. Ond yn awr y mae yn penodi math o is-raglaw i fod a'i swyddfa yn y Wladfa. Italiad o genedl yw y swyddog hwn, o'r enw Antonio Oneto, ac yr ydoedd i fod yn gynrychiolydd y Llywodraeth yn y lle, ac yn gadeirydd y ddau fwrdd a benodid. Amcan y ddau fwrdd ydoedd, un i arolygu mesuriad y tir, rhoddiad allan y tyddynod i'r dyfudwyr, ae edrych fod y sefydlwyr yn dod i fyny ag amodau y Llywodraeth er hawlio gweithredoedd; ac amcan y bwrdd arall oedd arolygu yr echwyn oedd i'w roi i'r rhai mwyaf anghenus. Cynwysai y byrddau byn bump o aelodau bob un, a'r is raglaw yn gadeirydd yn y naill a'r llall. Penododd y Llywodraeth hefyd ynad heddwch a llywydd y Cyngor, ac er mwyn i bethau eistedd yn esmwyth a'r bobl oedd wedi arfer gwneud pob peth eu hunain mewn ffordd o ethol eu swyddogion, penododd y Llywodraeth i'r swyddau uchod y Cymry oedd ynddynt o'r blaen o benodiad y Gwladfawyr Cymry hefyd oedd aelodau y byrddau. Anfonodd y Llywodraeth hefyd i lawr ddyn ieuanc i fesur yr holl ddyffryn o bob tu i'r afon, yn ol y trefniadan newyddion, ond trwy ei ddiofalwch ef a goddefgarwch y bwrdd tirol, gwnaeth waith llibynaidd, anghywir, ac anorpheredig iawn, yr hyn a achosodd gryn lawer o anfoddlonrwydd yn mysg yr hen sefydlwyr, a llawer o helbul o bryd i bryd byth wed'yn, am na fu yn ddigon gofalus wrth dynu y llinellau, a gosod i lawr y pegiau terfyn. Ond o'r diwedd, daeth i ryw fath o derfyniad, a chafodd y dyfudwyr oll eu gosod ar eu tyddynod mesuredig. Nid oedd yr hen sefydlwyr hyd yn hyn wedi cael gweithredoedd ar eu tiroedd, er eu bod wedi sefydlu arnynt er's dros ddeng mlynedd, ond yr oedd y bwrdd tirol wedi ei awdurdodi i roi i'r oll o'r sefydlwyr oedd yn y lle Medi 1875, hawl-len i'w harwyddo, ac yna i'w danfon i fyny i Buenos Ayres er cael gweithred gyfreithiol. Nid gweithred fel un Prydain yw un y Weriniaeth Archentaidd, ond un lawer symlach, sef math o dystysgif, neu adlun (copi) o'r Cofrestriad Cenedlaethol a gedwir yn y Gofnodfa Genedlaethol, a rhoddir stamps y Llywodraeth arni, ac nid yw yn costio i'r sefydlwr ond dwy ddoler am y stamps. Cafwyd y gweithredoedd cyntaf hyn yn y flwyddyn 1877, a'r gweithredoedd ar ol hyny yn mhen y ddwy flynedd ar ol i'r sefydlwyr dderbyn yn hawl-len, yn unol ag amodau y Llywodraeth.

PENOD XXIII.—Y MINTEIOEDD NEWYDDION AR EU FFERMYDD

Erbyn Mai 1876, yr oedd y rhan luosocaf o'r teuluoedd wedi sefydlu ar eu ffermydd, neu or hyn leiaf wedi derbyn eu ffermydd. Yr oedd y dyffrynoedd isaf o bob tu i'r afon wedi eu meddianu, ac i fyny i haner y dyffryn uchaf yr ochr ogleddol, a phentref bychan yn dechreu cael ei ffurfio yn y Gaiman. Parodd i iselder anghyffredin yr afon y flwyddyn flaenorol i'r sefydlwyr fyned ati o ddifrif i dori ffosydd dyfnach i'r afon nag oeddynt hwy wedi arfer a gwneud o'r blaen. Yr oeddis yn awr yn talu mwy o sylw i ddisgyniad y tir trwy lefeliad cywir nag o'r blaen, ac felly yn cael allan fod modd cael dwfr i rai rhanau o'r dyffryn hyd yn nod pan fyddai yr afon yn isel iawn. Torwyd ffosydd anferth o fawr y flwyddyn hon. Yr oedd yma rai yn credu befyd fod modd gwneud argaeon ar yr afon fel ag i groni y dwfr, nes ei godi yn ddigon uchel i ddyfrhau bron unrhyw dir, pa mor uchel bynag y byddai ar y dyffryn. Er fod y minteioedd, y rhan luosccaf o honynt, wedi dewis manau eu preswylfed. eto yr oeddynt wedi ymffurtio yn fan gwmniau er tori y ffusydd mawrion y cyfeiriwyd atynt, y rhai oeddynt yn arwain y dwfr i ddarn mawr o dir gerllaw o bob tu ildynt, ac felly yr oedd y cwmniau hyn yn uno i hau darn mawr o dir, ac yna rhanu y cynyrch yn gyfartal. Yn y flwyddyn hon, 1876, gwnaeth un o'r cwmniau hyn, yn cynwys un-ar ddeg mewn rhif, gynyg ar wneud argae ar yr afon ychydig yn uwch i fyny na chanol y dyffryn isaf, rhyw 15 milldir o'r mor. Yr oeddynt eisioes wedi tori ffos ddofn a hir i gyraedd darn helaeth o dir, ac wedi trin a hau yn bur helaeth, ac wedi cael dwfr iddo, ac yna yn gweithio yn brysur gyda'r argae. Yr ydoedd yn ddiweddar iawn ar lawer y flwyddyn hon cyn cael v tir yn barod, a rhoddi yr had yn y ddaear, ac felly yn rhoi y dwfr cyntaf pan y dylasent roi yr ail, ac yr oeddym y peyd hwnw yr cael cnydau da o'r ddau ddwfr mewn tirwedd newyddion. Costiodd yr argae y soniwn am dani, rhwng y coed ar haiarn, oddentu mil o bunau y llafur, a phan yr oeddid bron a'i gorphen, a'r dwfr yn croni ac yn dechreu myned drosti, profodd y coed yn rhy weiniaid, a thorasant fel pibau pridd, ac ysgubwyd bron yr oll ymaith gyda'r llif. Bu y golled hon yn faich trwm, ac yn ysigdod ar y cwmni hwn am rai blynyddoedd; y mae yn wir iddynt gael ychydig o'r adfeilion-y gwaith coed, ond ni buont o ryw lawer o wasanaeth iddynt. Yn Chwefror 1877 y cafwyd cynhauaf yr hyn oeddid wedi ei hau mor ddiweddar y flwyddyn o'r blaen, a chan mai un dwfr oedd llawer o hono wedi ei gael, nid ydoedd ond cnwd ysgafn ac ail raddol o ran ei nodwedd. Erbyn canol y flwyddyn hon, er fod yma rai o'r cwmniau yn cadw yn mlaen i hau yn unol, yr oedd y rhan luosocaf o lawer wedi myned i hau pob un ar eu cyfrifoldeb ei bunan, ac yn byw ar eu tyddynod eu hunain. Bu y ddwy flynedd diweddaf hyn yn atalfa ac yn falldod ar fasnach y lle. Yr oedd genym, fel y sylwasom yn barod, ddau ystordy a dwy long, y rhai a berthynent i'r Meistri Rook Parry a J. M. Thomas a'i bartner, a thrwy fod y ddau dy hyn fel yn cystadlu a'u gilydd, yr oeddynt am y parotaf i roi nwyddau allan ar goel, yn y gobaith pan wellhai yr amgylchiadau, y celent eu harian. Yr oedd y coel diderfyn hwn y peri fod y nwyddaa yn ddrudion iawn, ac felly yn gyru y prynwr yn ddyfnach ddyfnach i ddyled yn barhaus. Y mae llawer o feio wedi bod ar y masnachwyr hyn am roddi y fath goel, ac am godi y fath bris afresymol am eu nwyddau. Y mae yn ddigon gwir mai dull afiach o fasnachu ydyw rhoddi coel pen-agored a diamodol fel hyn, er nad yw o ran egwyddor ond y masnachwr yn sefyll yn fath o Fanc i'r prynwr, ond nad yw ar ffurf Banc, ac yn lle nodi y llog i'r benthyciwr, yn rhoi y llog i mewn yn mhris y nwyddau, ac felly yn gwneud i'r prynwr sydd yn talu i lawr am ei nwyddau dulu llog fel y benthyciwr, neu yr hwn sydd yn cael y coel. Yr hyn sydd deg yw gwerthu y nwyddau ar elw rhesymol i bawb, a gwneud i'r hwn sydd yn prynu ar goel dalu llog ar yr arian. Ond er i'r dull hwn o fasnachu wneud niwed anferth-niwed i'r prynwr ac i fasnach iachus yn y lle, eto y masnachwyr gafodd y niwed a'r golled fwyaf yn ddiameu. Wrth i ni edrych yn ol ar y cyfnod hwn, y mae yn anhawdd genyf ddirnad pa fodd y gallasai cynifer o ddynion tlodion ddechreu eu byd, a chael pethau angenrheidiol at drin eu tiroedd oni buasai i'r masnachwyr uchod roddi coel iddynt. Y mae yn wir fod yn mysg y sefydlwyr rai ag arian ganddynt wrth gefn, ond gan mai pobl ddyeithr i'w gilydd oedd y dyfudwyr, yr oedd yn anmhosibl i'r tlawd gael fenthyg, am nad oedd ganddo ddim tan ei ddwylaw, na neb yn gefn iddo, ac oni buasai fod y masnachwyr hyn yn rhyfygus o hyderus, ni fuasent byth yn rhoi cymaint o eiddo gwerthfawr allan yn nwylaw dynion heb un geiniog ar eu helw. Beth bynag ddywedir am y coel, ac am fasnachwyr y dyddiau hyny, rhaid i ni addef fod dadblygiad y Wladfa yn y blynyddoedd hyny i'w briodoli i raddau helaeth iddynt hwy, trwy eu gwaith yn rhoddi allan offerynau ac arfau amethyddol, yn gystal a nwyddau ereill, i ddyfudwyr tlodion i'w galluogi i ddechreu byw a thrin eu tiroedd. Gwnaed parotodau at hau yn gynarach y flwyddyn ganlynol, a llwyddwyd i gael gwell cnydau, ac felly yn Chwefror 1878, cafwyd llawer gwell a helaethach cynhauaf na'r flwyddyn flaenorol. Erbyn hyn yr oedd y sefydlwyr yn dechreu cael eu cefnau atynt, fel y dywedir, a'r minteioedd newyddion yn dechreu magu hyder yn y wlad. Pris isel oedd ar y gwenith y blynyddoedd hyn, a thrwy fod y nwyddau yn yr ystordai yn uchel, a llawer wedi myned i ddyled y blynyddoedd o'r blaen, yr oedd rhai eto heb ddim ond dechreu cael y ddau pen yn nghyd. Yn nhymor hau y flwyddyn hon, cododd yr afon yn amserol, a pharhaodd yn uchel trwy yr holl dymor, fel y cafwyd cyflawnder o ddwfr yn mbob man trwy y dyffryn, ac yn Chwefror 1879, cafwyd cynhauaf toreithiog, ac ar raddfa eangach nag erioed o'r blaen. Yr oeddis erbyn hyn wedi dwyn i mewn i'r sefydliad rai peirianau medi bychain, ond gyda phladuriau y torid y rhan fwyaf hyd yn hyn. Yr oedd y sefydlwyr erbyn hyn wedi dod yn weddol fedrus fel amaethwyr, er nad oeddynt yn Nghymru wedi arfer llawer ar dir, yn enwedig wedi iddynt dyfu i fyny, am mai mwnwyr a glowyr oedd y rhan luosocaf o honynt. Yn y blynyddoedd oedd wedi pasio, dyrnu yr yd oedd y drafferth fwyaf. Nid oedd yn y Wladfa, ac nid oes yno eto ysguboriau, ac yr oedd y syniad o ddyrnu â flyst allan o'r cwestiwn, mewn rhan, am ei fod yn waith caled iawn, ac hefyd yn waith annyben iawn, pan yr oedd angen dyrnu mor fuan ag yr oedd modd er mwyn cael yr yd i'r farchnad. Deuwyd yn fuan i wybod ychydig am arferiad De America yn nglyn a dyrnu, ae yr oedd rhai o honom wedi bod yn darllen an arferiad a dull pobl Affrica o ddyrna. Y dull a fabwysiadwyd yn y Wladfa i gychwyn oedd dull Affrica, a rhai manau yn Ne America. Gwnelid cyleh crwn, dyweder yn ddeuddeg llath ar ei draws, a dodid polyn yn y ddaear yn nghanol y cylch, ae yna rhoddid yr ysgubau yd frig yn mrig oddeutu yr ochr nesaf allan i'r cylch, a chyplysid tri neu bedwar o geffylau a thenyn a dolen arno, o benffrwyn y ceffyl nesaf i mewn am y polyn yn y canol, ac yna gwnelid i'r ceffylau hyn redeg ar hyd yr ysgubau hyn o amgylch, nes y llwyr ddyrnent y gronynau yd allan o'r tywysonau. Byddid yn aros yn awr ac yn y man er mwyn cael troi yr ysgubau neu y gwellt. Wedi dyrnu yr hyn a alwem lloriaid neu ddau fel hyn, yna ysgydwid y gwellt â phicfforch, a chodid yr yd i'r gwynt a phadell neu ogr i'w nithio. Cofied y darllenydd mai dull rhan gyntaf ac yn mlaen i ychydig dros haner y ganrif hon oedd y dull hwn yn Ne America, pan nad oeddid yn hau ar raddia eang, dim ond pob un yn cael digon o yd at ei wasanaeth ei hun, ac ychydig feallai dros ben. Yn niwedd y flwyddyn 1876, neu ddechreu 1877, anfonodd Rook & Parry i lawr beiriant ager o waith Clayton and Shuttleworth, ac yn y flwyddyn ganlynol daeth J. M. Thomas a pheiriant ager arall yma. Bu y peirianau hyn o wasanaeth mawr ac yn hwylusdod anghyffredin i'r sefydliad.

Ond er fod genym erbyn hyn ddau beiriant yn cael eu gweithio âg ager, buwyd y flwyddyn hon hyd canol Medi cyn gorphen dyrnu, felly gwelir fod tymor hau wedi ein dal cyn i ni orphen dyrnu cnwd y flwyddyn flaenorol. Cododd yr afon yn gynar y tymor hwn eto; yn wir yr oedd erbyn diwedd Awst y flwyddyn hon yn uwch na chyffredin, fel y bu galwad ar y rhan luosocaf o'r sefydlwyr ddyfod allan i gryfhau a chadw manau gweiniaid ac isel yn ngeulan yr afon, rhag iddi dori drosodd a boddi y dyffryn o bob tu i'r afon. Yn y dyffryn uchaf, er pob ymdrech fe orlifodd y rhan fwyaf o'r dyffryn, a gorfu ar yr amaethwyr edrych am dir i hau arno y tymor hwnw ar y dyffryn isaf. Ond trwy fod cnwd y flwyddyn o'r blaen wedi ei ddyrnu cyn y gorlifiad rhanol hwn, ni chafwyd colled, ond yn unig achosi anhwylusdod i amaethwyr y dyffrvn uchaf yr ochr cgleddol. Wrth weled yr afon mor ffafriol, gwnaed ymroad y flwyddyn hon i hau yn helaeth, a buwyd yn hynod o ffodus trwy y tymor, ac yn Chwefror 1880, cafwyd cynhauaf ardderchog iawn mewn ansawdd ac mewn swm. Isel iawn, fel y nodwyd yn barod, oedd y gwenith wedi bod y ddwy flynedd, os nad y tair blynedd oedd wedi pasio, ond yn ffodus i ni cododd pris y gwenith y flwyddyn hon yn uchel iawn. Yr achos o'r cyfnewidiad sydyn hwn yn mhris y gwenith oedd methiant y cynhauaf y flwyddyn hon yn Patagones, ac yn nhalaethau gogleddol y Weriniaeth Archentaidd. Nid oedd y Weriniaeth Archentaidd y pryd hwn yn arfer allforio yd, yn enwedig gwenith, am nad ydoedd eto ond yn codi digon i gyflenwi ei hangen mewnol ei hun, felly nid oedd pris y gwenith y pryd hwnw fel y mae yn awr, yn cael ei lywodraethu gan farchnad fawr y byd, ond gan brinder neu lawnder cartrefol. Byddent y pryd hwnw, fel y maent eto ar brydiau, yn cael tymorau sychion yn rhai o dalaethau y Weriniaeth fel ag i achosi methiantau, gan nad oes ganddynt hwy fodd i allu dyfrio eu tir, fel y mae genym ni. Y mae y talaethau hyn hefyd yn agored i ystormydd dinystriol iawn ar ambell i dymor, a phrydiau ereill byddant yn cael colledion mawrion oddiwrth ymweliadau locustiaid; fel os dygwyddai y naill neu y llall o'r pethau hyn, byddai y gwenith yn uchel ei bris y flwyddyn hono. Cododd pris y gwenith y flwyddyn hon, ac i ran o'r flwyddyn ddilynol, o bedair punt a deg swllt i naw, deuddeg, a hyd ddeunaw punt y dynell. Bu i'r cnydau toreithiog diweddaf hyn, a'r pris uchel am dano, greu awydd yn y sefydlwyr i hau mwy bob blwyddyn, ac felly bu gorfod arnom alw i mewn wahanol beirianau ar lleihau llafur dwylaw. Yr oedd genym yn y blynyddoedd 1880, a 1881, chwech o beirianau medi bychain, y rhar yr oedd yn rhaid rhwymo ar eu holau, a thri o fedelrwymwyr, neu beirianau yn tori y gwenith ac yn ei rwymo, a dau beiriant ager at ddyrnu, a dau beiriant dyrnu bychain yn gweithio gyda cheffylau. Achosodd methiant hollol 1876, a methiant rhanol 1877 i lawer o finteioedd 1875-6 ddigaloni a myned ymaith o'r lle, a llawer ereill yn anfon yn ol i Gymru achwyn ar eu byd, ac yn rhoi anair i'r wlad, ond bu llwyddiant y blynyddoedd dilynol ail godi hyder yn mhobl Cymru yn nglyn a'r Wladfa, fel y daeth minteioedd bychain allan drachefn yn 1880-1 Erbyn diwedd 1881 yr oedd bron bob tyddyn mesuredig ar ddyffryn y Camwy wedi eu cyneryd, a rhai yn sefydlu ar ddarnau o dir ydoedd hyd yn hyn heb eu mesur, o herwydd diofalwch ac anwybodaeth y tir-fesurydd yn benaf, ond a fesurwyd wedi hyny, ac a droisant allan yn dyddynod enillfawr. Yn Chwefror 1882, fe'n siomwyd eto gan yr afon, fel na chafwyd y tymor hwn ddim cynhauaf, ond rhyw nifer fechan o dynelli yn y dyffryn isaf, a godwyd gan un tyddynwr, trwy iddo allu codi dwfr o'r afon gyda pheiriant ager a sugnedydd.

PENOD XXIV.—ADOLYGIAD AR Y CYFNOD DIWEDDAF o 1874 i 1881.

Y Dadblygiad Amaethyddol.—Dechreuwyd yn 1874 gyda chymaint arall o weithwyr ag oedd genym cyn hyny, ac yn mhen tua phymth mis lluosogwyd y gweithwyr i fod yn gymaint bedair gwaith, ac wedi hyny yn y blynyddoedd 1880 ac 1881, lluosogwyd ni i gryn raddau. Hefyd, yr oedd rhai o'r plant a aned yn y sefydliad yn y blynyddoedd cyntaf wedi tyfu erbyn hyn i fod yn llanciau cryfion. Fel yr oedd y gweithwyr yn cynyddu, cynyddai cyfalaf hefyd, ac felly dygid i mewn offer ac arfau amaethyddol. Am lawer blwyddyn yn nechreuad y Wladfa, nid oedd genym na throl, gwagen, na cherbyd ond rhyw droliau bychain anhylaw a wnaem ein hunain, ond yn y cyfnod hwn dygwyd i mewn droliau a gwageni Americanaidd, ac ereill yn cael eu gwneud yn y Wladfa. Yn y blynyddoedd o'r blaen, byddai bron bob teulu yn cadw melin law fechan yn ei dy taag at falu gwenith at wasanaeth ei deulu, er fod genym un felin o feini yn cael ei gweithio gyda cheffyl, ond yr oedd cymaint o amser yn myned i gludo y gwenith yn ol ac yn mlaen i'r felin hon, ac weithiau yn gorfod aros yn hir am eich tro, nes yr oedd yn ateb yn well i deuluoedd pell falu â'u dwylaw â'r felin fechan oedd yn y ty. Ond yn ystod y cyfnod hwn, cafwyd melin yn gweithio wrth ager, ac un arall wrth wynt. Y dull y byddid yn malu y pryd hwnw oedd, malu y gwenith trwyddo fel y galwem ni ef, sef ei falu heb dynu y bran o hono, ac yna byddai gan y gwragedd yn eu tai ograu rhawn, neu o wifrau tuag at ogrynu y blawd, fel ag i dynu y bran o hono. Byddai y gograu hyn ya amrywio—rhai yn fanach, a rhai yn frasach, yn ol chwaeth y teulu yn nglyn a bara.

Masnach. Fel y gellid tybio, cynyddodd y fasnach fel yr oedd cynyrchu yn cynyddu, ac fel yr oedd y boblogaeth yn lluosogi. Yr ydym wedi gweled eisioes nad oedd yn y sefydliad yn 1873 a dechreu 1874 un fasnach reolaidd yn cael ei gwneud, nac un masnachdy o fewn y Wladfa, na chymundeb cyson rhyngom ag un lle tu allan i ni ein hunain, ond erbyn 1881 yr oedd genym wyth masnachdy heblaw y mân fasnachu a wnelid a'r Indiaid, er fod corff y fasnach Indiaidd wedi syrthio i ddwylaw perchenogion yr ystordai. Yr oedd genym hefyd ddwy long yn rhedeg yn gyson rhwng y Wladfa a Buenos Ayres heblaw llongau ereilla elwid i'n gwasanaeth pan y byddai galwad mawr am fyned a gwenith i'r farchnad. Yr oedd pethau yn bur ddrudion yn masnachdai y Wladfa y dyddiau hyny, a thrwy mai perchenogion yr ystordai oedd perchenogion y llongau, nid oedd modd myned i lygad y ffynon i Buenos Ayres i brynu heb i gludiad y prynwr ai nwyddau fwyta i fyny y fantais. Yr oedd pris cludo tynell o wenith i Buenos Ayres y pryd hwnw yn bum' swllt ar bugain; yr oeddym yn talu yn agos gymaint arall am gario tynell o wenith i Buenos Ayres, rhyw saith can' miildir, ag ydoedd cludiad yr un faint o Buenos Ayres i Lerpwl, yr hyn oedd dros chwe mil o filldiroedd. Yr oedd y blynyddoedd llwyddianus diweddaf wedi dwyn i mewn i'r sefydliad lawer o arian, a rhai yn dechreu troi tipyn o'r neilldu. Ein harian treigl y pryd hyn fel yn awr ydoedd arian papyr y Weriniaeth Archentaidd y ddoler a'r cent, new ddime. Y peth gwaethaf yn nglyn a'r rhai hyn yw eu bod yn newid yn eu gwerth yn ol fel y bydd safle y Llywodraeth yn arianol, hyny yw, yn ol fel y bydd y Llywodraeth yn meddu ymddiriedaeth, neu na bydd. Gwelsom cyn hyn y ddoler bedwar swllt wedi myned i lawr yn ei gwerth mor isel a dwy geiniog, a gwelsom hi yn codi wedi hyny i'w phris priodol.

Y Wladfa yn Wleidyddol—

Am yr wyth mlynedd gyntaf, fel y sylwasom yn barod, gadawyd y sefydliad i wneud fel y mynai yn nglyn a'i lywodraethiad, ond ar ol y lluosogiad yn 1875—6, anforwyd i lawr atom y prwyad Antonio Oneto. Bu efe yn ein mysg am bedair neu bum' mlynedd, ac ymddygodd ar y cyfan yn bur ddoeth. Yr oedd yn ddyn o ddysg, ac yn feddianol ar synwyr cyfiawn, ac yn meddu craffder yr eryr. Buom yn ffodus iawn i'r dyn hwn ddamweinio cael ei anfon i'n mysg dan yr amgylchiadau yr oeddym ynddynt ar y pryd. Peth pur anhawdd a chynil oedd tori pobl oedd wedi arfer llywodraethu eu hunain am ddeg mlynedd—eu tori i mewn i lywodraethiad estronol. Yn ystod y chwe' blynedd rhwng 1876 ac 1882, llywodraethid y sefydliad gan fath o lywydd o honom ein hunain, deuddeg o Gyngor, Ynad Heddwch, ysgrifenydd, a chofrestrydd, a'r prwyad Archentaidd. Yr oedd y llywydd, neu fel yr ystyrid ef, cadeirydd y Cyngor a'r ynad yn cael eu cydnabod gan y Llywodraeth Genedlaethol, ond yr oedd y Cyngor a'r swyddogion hyn yn ddarostyngedig i'r prwyad; yn wir, yn ystod y tymor trawsffurfiol hwn yr oedd gweinyddiadau y swyddwyr uchod yn fwy o oddefiad y prwyad nac o awdurdod. Ymddygodd y prwyad er hyny mor ddoeth a diymyraeth, fel ra theimlodd y swyddogion uchod unrhyw anfantais oddiwrtho yn eu gweinyddiadau; ymfoddlonodd ef ar fyw yn dawel, a gadael i'r sefydlwyr wneud y gwaith, ac iddo yntau dderbyn y tâl, i'r hyn nid oedd gan neb wrthwynebiad. Wedi ymadawiad Mr. Oneto, bu gyda ni ddau neu dri o brwyadwyr gweiniaid ac annoeth am ychydig amser, ond cadwyd heddwch cydrhyngddynt a'r sefydlwyr, a chariwyd pethau yn mlaen ar y cyfan yn bur ddidramgwydd. Tua diwedd y cyfnod hwn, cymerodd amgylchiad torcalonus iawn le yn ein mysg. Dygwyddodd i gymeriad amheus ddyfod i'n plith, yr hwn a drodd allan i fod yn ffoadur o un o'r carcharau perthynol i Chili. Yr oedd hwn wedi llwyddo i gael ceffyl, ac wedi teithio canoedd lawer filldiroedd dros y paith i ddyfod atom. Pan ddamweiniai cymeriadau ambeus ddyfod i'n plith, byddem yn ofalus i'w cymeryd i'r ddalfa, a chadw math o brawf arnynt, ac os methent a chyfiawnhau eu hunain, byddem yn eu hanfon ymaith gyda'r llong gyntaf a adawai y porthladd i Buenos Ayres. Yr oedd yn ein plith ddyn o'r enw Aaron Jenkins, o Troedyrhiw, Merthyr Tydfil, Deheudir Cyniru. (Y mae ei enw wedi cael ei goffhau yn barod). Dyn hynod barod a chymwynasgar i wneud unrhyw beth a allai mewn ffordd o wasanaethu y cyhoedd, a phawb arall a fyddai mewn angen. Penodwyd ar y dyn hwn i fyned i'r Gaiman, a chymeryd i'r ddalfa y crwydryn uchod. Wrth ddod i lawr tua Threrawson, mewn lle unig ar y ffordd, gan nad oeddid wedi rhoi ei ddwylaw mewn gefynau. llwyddodd i fratbu yr heddwas Aaron Jenkins â chyllell o'r tu ol, a syrthiodd i lawr yn farw, a diangodd y llofrudd ar geffyl y llofruddedig. Mor fuan ag y daeth y ffaith alarus yn hysbys, cododd yr holl wlad yn ddigofus i erlid y llofrudd, ac yn mhen deuddydd cafwyd ef yn ymguddio mewn trofa ar lan yr afon, lle yr oedd besg tewion, ac mor gynted ag ei gwelsant, yr oedd y teimladau mor ddigofus, fel y saethwyd ef yn y fan, a chladdasant ef lle y syrthiodd. Claddwyd Aaron Jenkins yn barchus ar ei dyddyn, yn ol ei ddymuniad, a chodwyd colofn o farmor ar ei fedd, ac arni yn gerfiedig pa fodd y syrthiodd.

Y Wladfa yn Gymdeithasol.—Yr oedd cynydd masnach, a chynydd y boblogaeth wedi effeithio yn ddaionus ar gymdeithas, fel y gellid dysgwyl. Yn ystod y naw mlynedd gyntaf, yr oedd y sefydliad wadi bod mor unig a digymundeb, fel yr oedd yr yni cymdeithasol yn gystal a'r yni anianyddol wedi ei bylu a'i barlysio, ysbryd anturio wedi myned i gysgu, neb bron yn meddwl am ddim uwch ni chael tamaid o fwyd rhyw fodd, mewn rhyw fath o dy, a chyda rhyw fath o gelfi a dillad. Yr adeg hyny yr oeddid yn cael ein cigfwyd bron yn gyfangwbl trwy hela anifeiliad gwylltion ar y paith, ac yr oedd tuedd yn y gwaith hwn i greu yn y tô ieuane hoffder at fywyd rhydd a diwaith, ac felly yn magu segurdod mewn corff a meddwl. Ond wedi i'r minteioedd ddyfod i mewn, a'r boblogaeth gynyddu o 150 i 1,000 nau 1,500, a gwaith ddyfod yn rheidrwydd er cael gwenith i'w yru i'r farchnad, a'r anifeiliaid gynyddu yn filoedd mewn rhifedi, gadawyd yr hela bron yn llwyr, ond yn unig fel adloniant yn awr ac yn y man. Dygodd y cyfnewidiad hwn eto yr elfen o sefydlogrwydd i mewn, ac felly cymwyso y bobl i fod yn fwy meddylgar, ac felly yn well aelodau cymdeithas. Yn lle ymddifyru mewn helwriaeth, dygwyd i sylw yr ieuenctyd ddifyrwch uwch, yr ysgol gân a'r cwrdd llenyddol, ac ambell i eisteddfod, er nad oedd y Wladfa o'i chychwyniad wedi bod yn hollol amddifad o'r pethau hyn. Yr oeddym hefyd yn gwella yn ein hadeiladaeth fel yr oedd y bobl yn gwella yn eu hamgylchiadau, a gwisgent yn well, ac ymgystadleuent mewn harddu y ty a gwisgo. Y mae yn dda genyf ddweyd nad oedd moesau y sefydliad wedi myned yn isel iawn trwy y blynyddoedd geirwon hyn. Nid oedd yn ein mysg ond un plentyn Anghyfreithlon, er fod gyda ni rai cymeriadau amheus. Nid oedd meddwdod a cymladdau, na iaith isel wedi arfer ffynu yn eiu mysg. Ond erbyn hyn, yn lle un capel yn ngwaelod y sefydliad, yr oedd genym amryw leoedd i addoli. Yr oedd tua chwe' milldir at ei gilydd rhwng y cipelau hyn. Nid oedd yr adeiladau hyn ar y cyntaf ond rhai syml iawn, oud cyn hir adeiladwyd rhai llawer gwell ac eangach. Am y deng mlynedd cyntaf, nid oedd son am enwadaeth yn ein plith, ond pawb yn cyfarfod yn yr un lle, ac yn addoli yn yr un ffurf, a dim ond yr ysgrifenydd yn weinidog, ac yr oeddym bron ag anghofio i ba enwad y perthynai y naill a'r llall o honom. Ond wedi dyfodiad y minteioedd newyddion, newidiodd pethau yn fawr yn yr ystyr hwn. Yr oedd y minteioedd diweddaf mor llawn o ysbryd enwadaeth yr Hen Wlad, fel nad allent feddwl am uno. Y rhai cyntaf i droi allan ydoedd nifer o Fedyddwyr, ac wedi hyny y Methodistiaid Calfinaidd. Ffurfodd y rhai hyn bob un eglwys yn ol eu ffurf eu hunain. Nid oedd gan y ddau enwad hyn weinidogion yn eu mysg, ond yr oedd gan yr Annibynwyr bedwar o weinidogion, sef y Parchu. D. Ll. Jones, J. C. Evans, a W. Morris, myfyriwr o Goleg y Bala, a ddaethai i'r lle yn nechreu y flwyddyn 1876. Daeth atom hefyd yn nechreu y flwyddyn 1882 weinidog Annibynol arall—y Parch. R. R. Jones, Newbwrch, Môn. Ni fu y ddau enwad arall yn hir cyn cael pob un weinidog i'w plith, sef yn gyntaf y Parch. W. C. Rhys at y Bedyddwyr, a'r Parch. William Williams at y Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd y boneddwr blaenaf yn frodor o'r Taibach, ger Port Talbot, ond cyn ei ddyfod allan, yn weinidog gyda'r Saeson yn Pembroke Dock, a'r olaf yn frodor o Môn, ac wedi bod yn fath o genhadwr cartrefol ar gyffiniau clawdd Offa. Gan mai eglwysi bychain sydd yn y Wladfa, a hyny am fod y boblogaeth yn deneu, o herwydd fod y ffermydd yn fawrion, y mae un gweinidog yn cymeryd gofal dwy neu dair o eglwysi. Y mae y gweinidogion fel rheol hyd yn hyn hefyd yn berchen pob un ei fferm fel rhywun arall, ac yn byw yn benaf ar elw ei lafur ar y fferm, ac yn gadael i'r eglwysi roi rhywbeth iddynt a welont yn dda. Yr oedd yn ein nysg hefyd cyn diwedd y cyfnod hwn dair neu bedair o ysgolion dyddiol. Yr oedd un, ac weithiau ddwy o honynt yn cael eu cynal gan y Llywodraeth Genedlaethol, a'r cwbl ynddynt yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr Yspaenaeg, ond y lleill yn cael eu cynal trwy roddion gwirfoddol y sefydlwyr, vn y rhai y dysgid pob peth trwy y Gymraeg.

Iechyd y Wladfa.—Y mae y sefydliad ar y Camwy wedi bod yn hynod o iach fel rheol. Y mae sychder yr awyr, a sychder y tir yn peri fod yr awyr yn glir, a'r haul yn wastad yn y golwg haf a gauaf, fel yr ystyrir Patagonia yn un o'r lleoedd iachaf ar y ddaear. Nid oes hanes ar faes llenyddiaeth am ddynion wedi myned trwy gynifer o wasgfeuon, ac mor lleied o farwolaethau wedi cymeryd le, ac wedi byw hefyd mor iach trwy y blynyddoedd. Y mae yn wir i Ddoctor ddyfod allan gyda'r fintai gyntaf, ond ymadawodd yn mhen tri mis, ac o hyny hyd yn ddiweddar, ni fu genym feddyg proffesedig yn ein mysg. Yr oedd yn ein mysg o'r cychwyn ddyn o'r enw Rhydderch Huws, a ddaethai allan o Fanceinion, yn arfer cynorthwyo mewn afiechyd trwy feddyginiaethau llysieuol. Bu y Parch. D. LI. Jones hefyd yn ddefnyddiol iawn yn y cyfeiriad hwn am flynyddoedd, ac hefyd un o'r enw John Williams, saer wrth ei alwedigaeth, genedigol o Dolwyddelen. Yr oedd y ddau foneddwr diweddaf yn ffodus iawn i drin esgyrn a doluriau. Un anfantais fawr i iechyd y lle fu dull y sefydlwyr o ddarparu eu bwydydd. —rhy fychan lawer o amrywiaeth yn y goginiaeth. Y mae hyn i'w briodoli mewn rhan ar y dechreu o herwydd prinder defnyddiau amrywiaeth, am fod y sefydlwyr ar rai adegau wedi gorfod byw bron yn hollol ar gigfwyd, ac wedi hyny am flynyddoedd heb nemawr o lysiau. Y prif ymborth oedd bara ac ymenyn, a chig wedi ei ffrio, a the. Y mae yn wir fod genym gyflawnder o laeth, ond ychydig mewn cydmariaeth o fwyd llaeth a arferid, ac yn wir a arferir eto yn y sefydliad, ac oni buasai am hinsawdd iach y wlad, y mae yn ddiameu y buasai llawer mwy o afiechyd yn y lle. Ni fu yn ein plith hyd ddiwedd y cyfnod hwn unrhyw glefyd na haint, ond y pas a'r frech goch, ond ni fu y rhai hyn yn farwol i neb, mor belled ag y cofiwn. Y mae y Wladfa wedi bod yn llesiol iawn i bobl a'r fogfa wlyb arnynt, ac yn lle rhagorol rhag darfodedigaeth a chryd cymalau.

PEN. XXV.—CYFNOD Y TRYDYDD O 1882 I 1887.

Dyma ni yn awr wedi dod i'r ail flwyddyn ar bymtheg er dechreuad y Wladfa ar y Camwy. Rhaid i ni o hyn allan beidio ymdroi gyda manylion, ond cymerwn dan sylw y prif ddygwyddiadau. Yr ydym wedi awgryma yn barod i gynhauaf dechreu 1882 fyned yn fethiant yn y dyffryn isaf o ddau tu i'r afon. Nid oedd pobl y dyffryn uchaf yr ochr ogleddol yn gallu cael ffosydd yn uniongyrchol o'r afon gyferbyn a'u tyddynod mor hawdded a phobl y dyffryn isaf, ac felly yn cael colledion yn amlach. Parodd hyn iddynt benderfynu i gael camlas i arwain dwfr i'w tyddynod o ben uchaf y dyffryn, ac wrth weled nad oedd argoelion codi ar yr afon yn gynar yn 1881, aethant ati o ddifrif i ddechreu ar y gwaith. Yr oedd ganddynt, fel yr awgrymasom o'r blaen, fath o hen wely afon i fanteisio arno, ond fod darn mawr i'w dori o'r lle y cychwynid y ffos o'r afon hyd nes y deuai i'r wyneb yn yr hen wely hwn. Beth bynag, trwy weithio caled dan anfanteision mawr, llwyddasant i gael dwfri mewn i afael yr hen wely, ac o hono drachefn i afael ffosydd naturiol ereill oedd ganddynt yma a thraw, fel y cawsant gynhauaf gweddol yn 1882, ond ei fod dipyn yn ddiweddar. Pan ydoedd wedi myned dipyn yn bell yn mlaen yn y tymor, a gweled nad oedd yr afon yn codi, aethai rhai o'r dyffryn isaf i fyny i gynorthwyo y tyddynwyr hyn, er mwyn iddynt gael ychydig dir i hau a dwfr iddo trwy y gamlas y soniwn am dani. Wrth reswm, nid oedd y gwaith a wnaed y flwyddyn gyntaf ar y gamlas hon ond digon yn unig i gael dwfr i ranau o'r dyffryn uchaf hwn, ac felly ni roddwyd i fyny nes ei gwneud mewn ffordd i ddiwallu yr holl ddyffryn â dwfr. Gwaith mawr fu gwneud hyn, canys ar yr adeg hon nid oeddis wedi dwyn i mewn i'r sefydliad y march raw (horse-shovel), ac felly a phalau, ceibiau, a rhawiau y gwnaed yr holl waith. Yn ngwyneb i'r afon beidio a chodi yn 1881, ac mewn canlyniad, i'r dyffryn isaf golli ei gynhauaf, penderfynwyd gan amryw wneud cynyg eto i adgyweirio yr argae geryg yn y Gaiman. Yr oedd darn mawr o'r argae hon yn sefyll, ond y dwfr yn pasio bob ochr, fel nad oedd yn croni dim. Yr oeddid wedi dechreu ar yr argae hon er 1876-7. Rhoddwyd gwaith a chostau mawr arni eto, a thua chanol 1882 yr oeddis wedi llwyddo wneud rhyw fath o orpheniad arni. Yr oedd pobl y dyffryn isaf yr ochr ddeheuol hefyd wedi ymuno i agor camlas o'r argae bon i arwain dwfr i ranau helaeth o'r dyffryn, ond pan oedd y ffos hon tua'i haner, cododd yr afon yn sydyn a chyflym, a chan nad oedd digon o wadn i droed yr argae, tyllodd y dwfr ar ei ddisgyniad o dan ei throed, fel y llithrodd darn o'i chanol ymaith, nes ei gwneud bron yn hollol ddiwerth. Ond os dyfethodd codiad sydyn yr afon yr argae, yr oedd felly yn ddigon uchel i ddyfod i mewn i'r ffosydd oedd genym gyferbyn a'n tyddynod, ac felly cafwyd cynhauaf pur gyffredinol a llwyddianus yn Chwefror 1883, yn enwedig yn y dyffryn uchaf, lle yr oedd y gamlas erbyn hyn wedi ei pherffeithio fel ag i roi dwfr yn gyffredinol. Nid oedd y dyffryn isaf yr ochr ogleddol eto yn llwyddianus, am fod eu camlas yn rhy uchel, hyny yw, nid oedd yn ddigon dwfn an rai milldiroedd o'i chychwyniad o'r afon.

Dyfodiad y Parch. M. D. Jones ar Parch. D. Rees, Capel Mawr, Mon, i'r lle.—

Yn Ebrill 1882, ymwelwyd a ni gan sylfaenydd y Wladfa, sef y Parchedig a'r Prifathraw M. D. Jones, Bala, ac yn ei ganlyn ei gyfaill fyddlon, y Parch. D. Rees, Capel Mawr, Mon. Yr oedd y Gwladfawyr, ychydig flynyddoedd cyn hyn, wedi gwneud tysteb fechan iddo, sef oddeutu £300, ond nid ydoedd wedi'r cwbl ond swm bychan iawn o'r hyn oedd ddyledus iddo er sylfaeniad y Wladfa. Y mae yn wir mai ychydig o'u cydmaru a phoblogaeth y Wladfa y pryd hwnw oedd yn ddyledwyr cyfreithiol i'r Hybarch Athraw, eto yr oedd pob un oedd wedi llwyddo ar ei dyddyn yn y Wladfa yn ddyledus foesol iddo am ei lwyddiant, am mai trwy ei arian ef y cafwyd y lle, ac y gosodwyd y fintai gyntaf arno, er cael hawl ar y dyffryn heb dalu dim am dano. Yn wir, y minteioedd a ddilynodd y fintai gyntaf a gafodd y fantais, am iddynt gael y lle wedi ei gychwyn, a'i ddwyn mewn rhan i gymundeb a'r byd trwy naw mlynedd o galedi ac unigedd, ac hefyd cawsant hwy brofiad y fintai gyntaf i gychwyn. Y mae yn wir nad oed y fintai gyntaf wedi gwneud rhyw lawer o gynydd mewn ystyr gadarnhaol, ond eto yr oedd ei methiantau yn fantais i'r rhai a'i dilynodd fel profiad. Yr ydym yn credu felly y dylai y sefydliad, fel sefydliad mewn rhyw ffordd neu gilydd, naill ai mewn tanysgrifiadau gwirfoddol neu ynte mewn fordd o dreth, ddigolledu y boneddwr hunanaberthol uchod. Cafodd Mr. Jones a Mr. Rees dderbyniad tywysogaidd yn ein mysg, a buont yn ein plith am tua thri mis—weithiau yn teithio y wlad, a phrydiau eraill yn cynal cyfarfodydd pregethu yma a thraw ar hyd y sefydliad, a gadawsant argraff ac adgof ddymunol iawn ar eu holau yn mhob man fel dau foneddwr o waith Cristionogaeth, yn gystal a natur.

Gadewch i ni droi yn ol eto at yr amaethu. Er fod y sefydlwyr wedi cael amryw flynyddoedd llwyddianus er 1874, eto yr oedd methiantau, fel y gwelir, yn cymeryd lle yn awr ac eilwaith fel ag i ladd yni a gweithgarwch sefydlog. Yr oedd yr ansicrwydd am gynhauaf; yn atal yr amaethwr i roi gwaith na chostau ar ei dyddyn yn gynar yn y flwyddyn, rhag na chodai yr afon y flwyddyn hono. Er mwyn i'r anghyfarwydd ddeall, y mae yn angenrheidiol i ni sylwi fod trin y tir yn y Wladfa, a'i adael yn segur, yn golled, yn enwedig pan fyddo yn ei gyflwr cynhenid. Y mae y tir mor fraenarol, fel os ca ei aredig, ac heb ei hau a chodi cnwd arno, y mae yn agored i'r gwynt chwythu ymaith fodfeddi o'i wyneb, fel mai y ffordd i atal hyn yw ei adael yn ei gyflwr cynhenid, neu ynte dyfu sofl arno. Yn ngwyneb hyn, ni byddai calon gan neb i wneud dim ar ei dir nes gweled yn gyntaf fod yr afon yn codi, ac felly yn rhoi gobaith iddo am gynhauaf. Ni byddai calon gan neb ychwaith i gyflogi gwas neu weithiwr, rhag y byddai raid iddo ei gadw yn segur, a thalu cyflog iddo, ac yntau ei hun heb enill dim. Felly, os byddai yr afon yn ddiweddar yn codi, a'r tir heb ei drin, ní byddai amser gan y tyddynwr i ddarparu rhyw lawer. Yr oedd yr ansicrwydd hwn yn effeithio hefyd ar fasnach y lle. Nid oedd calon gan y masnachwr ddod ag offerynau a pheirianau amaethyddol i'r lle, rhag feallai y byddent ar ei law am flwyddyn neu ddwy, a'r un modd gyda llawer o nwyddau ereill. Nid oedd y sefydlwyr mwyaf egniol ac anturiaethus yn foddlawn ar y sefyllfa ansicr hon, a llawer oedd y siarad a'r cynllunio pa fodd i gael pethau yn fwy sefydlog chyson. Yr oedd pobl y dyffryn isaf erbyn hyn, o leiaf pobl yr ochr Ddeheuol, wedi colli pob ymddiried mewn argaeon; ac yn gweld fod camlas y dyffryn uchaf yn gweithio yn dda, daethant hwythau i feddwl am wneud camlas. Cadwyd nifer o gyfarfodydd yn nghylch y peth. Yr oedd rhai am i'r ddau ddyffryn—yr uchaf a'r isaf— gael pob un ei gamlas ei hun, am fod peth anhawsder i gael y gamlas trwy y lle creigiog oedd rhwng y ddau ddyffryn, ac hefyd yn gweled fod cyrchu dwfr o ben uchaf y dyffryn uchaf i ddyfrhau yr isaf yn wastraff ar lafur. Yr oedd ereill yn dadleu yn dyn iawn dros i'r ddau ddyffryn uno, er mwyn bod yn fwy o allu i wneud y gwaith, ac felly ei gael yn gynt i ben ar gyfer y ddau ddyffryn. Wedi cryn drin a dadrys y peth, unwyd i wneud un gamlas. Dechreuwyd hi yn nechreu 1883, and gan i'r afon godi yn ffafriol y flwyddyn hon fel ag i ni gael cynhanaf llwyddianus yn Chwefror 1884, ni weithiwyd ond ychydig ar y gamlas hyd ddechreu 1885, pan na chafwyd ond cynhauaf rhanol yn y dyffryn isaf o bob tu i'r afon. Penderfynwyd myned at y gamlas o ddifrif y flwyddyn hon. Yr oedd genym hen wely afon eto yr ochr hyn i'r afon, ae felly penderfynwyd agor y gamlas i fyny rhyw 50 milldir o'r môr, a'i harwain i afael yr hen wely uchod. Hon oedd y ffordd hawddaf i ddechreu, er fod yna lawer waith yn y blynyddoedd oedd i ddod i berffeithio yr hen wely hwn, weithiau trwy gryfhau manau gweiniaid yn y cenlenydd, ac weithiau trwy unioni mewn manan ereill. Erbyn byn yr oeddym wedi trefnu i gael math o farch—raw. Peiriant Americanaidd yw y march—raw, wedi ei ddyfeisio i symud pridd rhydd wedi ei aredig, gyda cheffylan yn ei weithio. Y mae yn cael ei weithio gan un dyn a dau geffyl, ac yn symud o bridd rhydd gymaint ag a wnelai deg a ddynion gyda rhaw fach, neu raw law. Nid oedd yr un o'r marchrawiau hyn yn y Wladfa, ond yr oeddym wedi clywed am danynt, ac wedi gweled eu lluniau mewn llyfrau. Boneddwr o'r enw T. S. Williams oedd y cyntaf— ffermwr egniol a medrus—efe oedd y cyntaf i wneud rhyw fath o efelychiad o'r rhaw hon, o ddefnyddiau cyffredin—coed, haiarn, a thin. Bob yn dipyn, cymerodd crefftwyr y lle y gwaith o wneud y rhawiau hyn mewn llaw, ac o'r diwedd llwyddwyd i gael y rhai "Americanaidd" i lawr o Buenos Ayres. Y mae yn glod i ysbryd anturiaethus y Wladfa Gymreig ein bod yn alluog i ddweyd, yn ol tystiolaeth ty masnachol pwysig yn Buenos Ayres, nad oedd dim un march—raw yn cael ei defnyddio yn Ne America ond yn y Wladfa Gymreig ar y Camwy. Gyda'r march—rawiau hyn yn benaf y torwyd camlas yr ochr Ddeheuol, a thrwy gydweithrediad ac yni tyddynwyr y ddau ddyffryn hyn yr ochr Ddeheuol, llwyddwyd i gael y gamlas i weithio y flwyddyn hon, a chafwyd cynhauaf toreithiog yn Chwefror 1886. Pan yn son cymaint am y camlesi, y mae yn naturiol i'r darllenydd ofyn pa fodd yr oedd yn gweithio y rhai hyn, hyny yw, pa gynllun oedd genym i gyd—ddwyn yn mlaen y gweithiau mawrion hyn. Wel, byddem yn galw cyfarfod cyhoeddus o'r holl dyddynwyr a fyddai yn debyg o fuddio oddiwrth y gamlas a amcenid ei hagor, yna pasio i ffurfio cwmni cyfyngedig, pendodi y sawd a'r rhaneion. Yna byddai pob un i gymeryd o raneion yn y gamlas yn ol ei allu i weithio, canys mewn gwaith yr oedd yn rhaid i bob un dalu ei raneion, ac nid mewn arian; ac os nad allai dyn weithio ei hun, yr oedd yn rhaid iddo edrych allan am rywun arall i wneud. Ÿr amcan wrth wneud y trefniadau i dalu y rhaneion yn y modd hwn oedd er sicrhau fod y gwaith yn cael ei wneud am fod llafur yn fwy prin nag arian, heblaw ei fod yn fwy uniongyrchol i'r pwrpas o gael y gamlas wedi ei hagor, a phawb i gael dwfr i'w dir. Nid oeddym y flwyddyn gyntaf na'r ail yn gallu gwneud y camlesi hyn yn orphenol a pherffaith, ond yr ydym wedi bod o adeg eu dechreuad yn eu perffeithio yn barhaus, ac nis gellir dweyd fod yr un o honynt hyd yn nod eto wedi ei gwneud yn orphenol, am fod rhyw welliantau angenrheidiol yn dod i'r golwg yn barhaus. Dyma ni yn awr yn y dyffryn uchaf yr ochr ogleddol, a'r ddau ddyffryn ar yr ochr Ddeheuol wedi gwneud camlesi, ac wedi llwddo i gael dwfr i'r rhan luosocaf o lawer o'r tyddynod yn yr ardaloedd hyn, ond yr oedd yma rai tyddynod yn ngwaelod y dyffrynoedd hyn, ac yn wir y mae nifer fechan hyd beddyw yn dyoddef yn awr ac eilwaith o herwydd prinder dwfr. Yr achos o'r dyoddef hyn yw, nad yw y gamlas yn ddigon mawr yn mhob man i gario cyflawnder o ddwfr pan fyddo feallai bron bawb yn gofyn am ddwfr yr un pryd, ac hefyd pan fyddo yr afon yn isel arghyffredin, nid oes digon o ddwfr yn dyfod i mewn yn ngenau y ffos, am nad ydyw yn ddigon dwfn i gyfarfod ag adegau eithriadol felly.

Caniataer i ni ddweyd gair eto yn nglyn a'r ochr ogleddol, sef y dyffryn isaf yn yr ochr hono i'r afon. Yr ydys wedi deall, y mae yn debyg, nad yw camlas y dyffryn uchaf eto yn dod i lawr trwy y lle cul, creigiog hwnw y buom yn son am dano, lle y mae pentref y Gaiman wedi ei adeiladu arno, ac felly nid yw yn gwasanaethu y dyffryn isaf. Fel y buom yn son o'r blaen, y mae gan dyddynwyr y dyffryn hwn gamlas, ond nid ydyw yn ddigon dwfn ond pan y mae codiad gweddol yn yr afon, ac felly ar rai blynyddoedd yn hollol sych, ac felly y dyffryn hwn yn colli ei gynhauaf. Cawn alw

sylw at y rhanbarth hwn yn mhellach yn mlaen.

PENOD XXVI.

Yr oedd corff mawr y sefydlwyr erbyn hyn yn teimlo fod y rhwystr mawr ydoedd ar ffordd eu llwyddiant wedi eu symud, ac felly yn teimlo yn fwy calonog ac anturiaethas. Wedi i ansicrwydd cael dwfr bob blwyddyn ddarfod, yr ydis yn gallu ymdaflu i weithio yn fwy egniol a gwastad ac yn gallu mentro cyflogi llafurwyr a thalu cyflogau da iddynt, a hau ar raddfa eang. Yr ydys hefyd yn gallu anturio i brynu offerynau amaethyddol gwell, a pheiriansu i weithio yn gynt ac i arbed llafur, fel y mae ambell i un yn hau can' erw o wenith, a'r cant hyny yn cynyrchu can' tynell o wenith, ac yn cynyrchu yn y farchnad rhwng pump a saith cant o bunau y pryd hwnw. Ond nid oedd masnach y lle yn foddhaus o gwbl. Yr oedd holl allforiad gwenith y lle yn llaw tri neu bedwar o fasnachwyr, y rhai hefyd a berchenogent y llongau oedd yn rhedeg cydrhyngom a Buenos Ayres. Yr oedd y masnachwyr hyn felly yn gallu rhedeg y llongau fel y mynent, a chodi y pris a fynent am gludo nwyddau neu wenith ynddynt. Yr oeddynt hefyd yn gallu rhoddi y y pris a welent hwy yn dda am y gwenith, a chodi pris a fynent am eu nwyddau eu hunain am nad oedd gan y gwladfawyr un lle i farchnata. Mae yn 'wir eu bod yn boddloni cario y gwenith yn eu llongau i Buenos Aires a chludo nwyddau i ninau i lawr, ond yr oeddynt yn gofalu cadw y fath bris am y cludiad fel yr oedd eich mantais chwi yn ngwerthiad y gwenith ac yn mhryniad y nwyddau rhad yn Buenos Aires yn myned i gyd, fel nad oeddych ond yn yr un man a phe buasech yn gwerthu ac yn prynu gyda hwy. Erbyn hyn, yr oedd pa fodd i gael masnach deg wedi dod yn brif bwnc y dydd ac yn destyn siarad yn mhob cynulliad o ddynion b'le bynag y cyfarfyddent. Yr oedd amryw ddyfeisiau yn cael eu cynyg. Yr oedd nifer fechan ya credu mewn cael rhyw gynllun i gael maanach a Lerpwl, ond yr anhawsder oedd cael llongau i alw yn ein porthladdoedd ni, am fod geneu yr afon yn rhy fas i longau mawrion i ddyfod i mewn iddi, ac yr oedd Porth Madryn ddeugain milldir oddiwrthym. Mae yn wir fod yn Porth Madryn angorfa ardderchog i unrhyw long beth bynag ydyw ei maint, ond y dyryswch yw pa fodd i gysylltu y dyffryn a'r porthladd hwn gan fod yma ddeugain milldir o baith diddwfr cydrhyngddynt. Yr oedd rhai am gael agerddloug fechan i redeg rhwng geneu yr afon a Porth Madryn i lwytho a dadlwytho y llong fawr yno, ond deuwyd i weled wrth edrych yn fanylach i'r mater y byddai yr agerddlong hon yn rhy gostus. Yr oedd ereill yn selog iawn dros gael ffordd haiarn o'r dyffryn i Porth Madryn, ond neb yn cael gweledigaeth eglur pa fod i iw chael, am nad oedd yn y sefydliad ddigon o gyfalaf i wneud yr anturiaeth. Barnai ereill mai ffurfio cwmni cydweithiol fuasai y goreu—cwmni i fasnachu, llogi, neu brynu llongau fel ag i fod yn hollol anibynol ar y masnachwyr. Beth bynag, yr oedd yma dri o ddynion yn y sefydliad yn credu mewn cael ffordd haiarn, sef Mri Lewis Jones, Thomas Davies, Aberystwyth; ac Edward Williams, o Mostyn, Gogledd Cymru. Mae y darllenydd yn hen gyfarwydd bellach ag enw Mr. Jones, ond mae yn angenrheidiol i mi ddweyd gair am y ddau foneddwr arall, Adeiadydd o Aberystwyth yw Mr. Thomas Davies, yr hwn oedd wedi bod er's blynyddoedd cyn ei ddyfodiad i'r Wladfa, yn gredwr ac yn bleidiwr y mudiad gwladfaol. Dyn ieuanc o ardal Mostyn oedd Mr. E. Williams, mab i Mr. William Williams o'r un lle, yr hwn a ddaethai allan efe a'i deulu yn y flwyddyn 1880 nen 1881. Yr oedd yn ddyn o feddianau pur helaeth, y rhai a enillasai yn y gwaith aur yn British Columbia. Yr oedd y mab, Mr. E. Williams, wedi cael ei ddwyn i fyny yn beirianydd. Trwy fod Mr. Davies yn ddyn ymarferol mewn gwaith, a Mr. Williams, yn beirianydd, a Mr. Jones yn llawn o ysbryd anturiaethus, aeth y tri ati i wneud rhyw fras lefeliad o'r dyffryn i Porth Madryn er cael rhyw amcan beth fuasai y gost i'w gwneud. Wedi hyn aeth y boneddwyr hyn ati o ddifrif i osod y mater ger bron y sefydlwyr ac i egluro yr anturiaeth i'r dyben o gael cydsyniad a chydweithrediad y bobl yn gyffredinol, ond ryw fodd, nid oeddynt eto yn aeddfed i'r peth, ac felly ni chawsant ond ychydig o gefnogaeth. Ond nid dyn oedd Mr. Lewis Jones i roi i fyny ar hyn, ac felly aeth i Buenos Ayres at y Llywodraeth Archentaidd, a roddodd y mater o'u blaen, a gofynodd am ganiatad i'w gwneud ac hefyd gofynodd am ddarn o dir y paith o bob tu iddi yn rhodd gan y Llywodraeth fel ag i fod yn gefnogaeth i'w gwneud. Cafodd y caniatad a'r rhodd uchod gan y Llywodraeth yn 1885, ae felly aeth yn ei flaen o Buenos Ayres i Gymru er treio gwerthu y rhoddiad hwn o eiddo y Llywodraeth i ryw sawdwyr yn Nghymru neu Lloegr er cael y ffordd haiarn i weithrediad. Wedi iddo deithio ac areithio llawer yma a thraw trwy ranau o Ogledd a De Cymru a rhanau o Loegr heb gael fawr llwyddiant, na llawer o glust i'r mater gan ei gydgenedl, o'r diwedd tarawodd with foneddwr o Sais o'r enw Mr. Bell, ac y mae yntau yn ymgymeryd a ffurfio cwmni, yn byr a wnaeth yn ddiymdroi, yr hwn a alwyd-"Cwmni Ffordd Haiarn Chubat." Boneddigion o Lerpwl yn benaf oedd ac ydynt aelodau y cwmni hwn, ac wedi ffuifio yu gwmni aethant ati ar unwaith i bartoi i ddyfod allan i wneud y gwaith. Gan nad oedd gweithwyr i'w cael yn y Camwy I weithio y ffordd hon, yr oedd yn rhaid, o ganlyniad, cael dynion allan o Gymru neu rywle i wneud y gwaith. Er mwyn cael gweithwyr ar unwaith cyhoeddodd y cwmni hwn yn Nghymru fod pob gweithiwr ddeuai allan i weithio y ffordd haiarn i gael ei gludiad allan am ddim a chyflog tra ar y ffordd, a chyflog dda tra daliau y gwaith, ae wedi gorphen fod i bob dyn mewn oed gael tyddyn o 248 erw yn rhad ac am ddim gan y Llywodraeth Archentaidd. Fel yr ydym eisoes wedi awgrymu, yr oedd tir y ddau ddyffryn mesuredig wedi ei gymeryd i gyd oddieithr nifer fechan o dyddynod israddol o ran gwerth eu tir, ac felly nid oedd modd i'r cwmni gyflawnu yr addewid hon yn nghylch y tir. Nid ydym yn cyhuddo y cwmni o dwyllo yn fwriadol, ond mae yn ddiamen ei fod wedi bod yn rhy hyf i gyhoeddi addewidion yn nglyn a'r tir cyn ymgynghori digon a'r Llywodraeth yn nghylch y peth. Yn Gorphenaf, yr 28ain, 1886, daeth i Porth Madryn long o'r enw Vista gyda phum cant o ddyfudwyr yn nghyd a darpariaethau tuag at weithio y ffordd haiarn a dan arolygaeth y Mr. Bell y cyfeiriasom ato yn barod. Wedi i'r dyfudwyr hyn aros ychydig yn y lle a deall nad oedd yma dir fel y cyhoeddwyd bu cryn anfoddlonrwydd a grwgnach yn eu plith. Mae yn wir fod yn nhiriogaeth y Camwy gyflawnder o dir i'w gael, ond ei fod yn rhy bell i fyny yn y wlad fel na fuasai modd i'r sefydlwyr ddyfod a'u cynyrch i afael marchnad a gwneud iddo dalu. Buwyd yn hwy yn gwneud y ffordd hon nag y bwriadwyd ar y cychwyu, mewn rhan o herwydd diffyg yn yr arolygiaeth ac mewn rhan hefyd o herwydd yr anghyfleusdra yn nglyn a chael dwfr ac ymborth yn gyfleus i'r gweithwyr. Yn niwedd y flwyddyn 1887 yr oeddid wedi gorphen y ffordd haiarn fel ag i redeg wageni arni, ac yn gynar yn 1888 yr oedd pob peth yn orphenedig, ac yr oeddynt yn prysur gludo y gwenith i Porth Madryn. Yr oeddid hefyd wedi gwneud yn Mhorth Madryn math o orsaf tuag at lwytho a dadlwytho llongau. Yr oedd llawer o wenith wedi ei ystorio y flwyddyn cynt i ddysgwyl y ffordd i fod yn barod er sicrhau gwaith iddi ar unwaith. Wedi ei chael yn barod, penodwyd pris y cario yr hyn oedd un bunt y dynell or orsaf yn y dyffryn i'r long ya Mhorth Madryn, ac erbyn talu pris y llong wedy'n am ei gario i Buenos Aires, daethom i ddechreu meddwl, a gweled nad oedd y ffordd haiarn yn fêl i gyd. Mae yn ddiameu nad oedd y pris uchel hwn ddim yn ormod er mwyn gwneud i'r ffordd dalu llogau yr arian a wariwyd arni, ond yr oedd yn rhy uchel i ateb ffordd fer o ddeugain milldir, ac yn rhy uchel hefyd fel ag i alluogi y tyddynwyr gael mantais ar eu gwenith. Costiodd y dernyn ffordd hon oddeutu £150,000, yr hyn oedd gymaint arall, a dweyd y lleiaf, ac a ddylasai, canys yr oedd y tir yn gydmarol wastad yr holl ffordd oddigerth ychydig rediad yn y ddau ben iddi, ac heb na phont na thynel. Achoswyd y gost fawr hon y rhan fwyaf trwy ryw ddiffyg yn yr arolygiaeth a hefyd mewn rhan o herwydd gweithwyr ac arfau anmbriodol. Cawn ddychwelyd eto yn mhellach yn mlaen i sylwi ar y modd y gweithiwyd ac y cariwyd yn mlaen y ffordd hon.

Cwmni Masnachol y Camwy.—Yr un adeg ag yr oedd Mr. Lewis Jones yn brysur gyda chael cwmni i wneud ffordd haiarn, yr oedd yma hefyd nifer fechan yn rhoi eu penau yn nghyd i dreio cael math o gwmni cydweithiol yn ein mysg er gwneud i ffwrdd os oedd modd ar cwlwm masnachol oedd yn y lle. Dechreuwyd y cwmni hwn gan nifer fechan o dyddynwyr anturiaethus yn mhentref, neu fel y cawn ei alw o hyn allan—yn nhre y Gaiman. Y rhai a symudodd gyntaf yn yr achos hwn oeddynt y Mri. D. Ď. Roberts, J. C. Evans, gweinidog, a W. Williams, Mostyn, ac wedi iddynt gael ychydig gydymddyddan penderfynaaant alw sylw nifer fechan at y peth a ffurfiasant yn gwmni. Tynwyd allan math o gyfansoddiad bychan iddo, ae yna galwyd am randdalwyr. Amcan y cwmni hwn oedd llogi llongau, prynu a gwerthu gwenith a chynyrchion ereill y Sefydliad, a masnachu yn mhob nwyddau angenrheidiol yn gyfanwerth a manwerth, a rhanu yr elw yn flynyddol ar y pryniadau. Anfonwyd cynrychiolydd i fyny i Buenos Ayres i edrych am long i ddyfod i lawr i ymofyn gwenith, a chytuno a dirprwywr masnachol yno i werthu a phrynu dros y cwmni, yr hyn a wnaeth yn ddiymdroi. Penodwyd Cymro o'r enw D. M. Davies, brodor o Castellnedd, Deheudir Cymru, yn ddirprwywr, yr hwn sydd wedi dal y swydd yn anrhydeddus hyd heddyw. Yr oedd aelodau y cwmni hwn wedi cario i lawr i Rawson lawer o wenith i fod yn barod erbyn dyfodiad y llong i'w ymofyn, ac ereill yn barod, ar ddiwrnod o rybudd i wneud yr un peth. Daeth y long i lawr ac yr oeddid wedi trefnu fod dwy ereill i ddilyn yn olynol fel y buasai y galwad. Felly, gwnaed dechreuad llwyddianus dros ben i'r mudiad hwn, canys cludwyd ymaith yn y llongau hyn y gwenith a'r haidd, a phob cynyrch arall oedd farchnadol yn Buenos Ayres mewn ychydig fisoedd, y rhai oeddynt o'r blaen yn gorwedd yn farw yn y lle. Cafwyd prisiau da yn Buenos Ayres am yr holl gynyrchion, a dygwyd i lawr yn gyfnewid lawer iawn o nwyddau yn rhatach lawer nag yr arferent a bod. Goruchwyliwr eyntaf y cwmni hwn oedd Mr. T. T. Awstin, genedigol o Merthyr Tydfil, ond a ddaethai allan gyda'r fintai gyntaf yn blentyn amddifad, yr hwn a weithiodd yn egniol a chanmoladwy ar gychwyniad y cwmni. Yr oedd y camlesi wedi dwyn i mewn yni uchelgais i hau a chodi llawer o wenith, ond yr oedd gorfod ei gadw am fisoedd yn y lle trwy fethu ei yra i'r farchnad ac hyd y nod wedi ei yru yn cael mor lleied am dano, yn peru diflasdod mawr. Er fod rhai yn codi llawnder mawr o yd, gan eu bod yn gorfod ei werthu i'r masnachwyr yn y lle, a chymeryd nwyddau am dano, nid oedd fawr neb yn gallu cael nemawr o arian, ond pan ddechrenodd y cwmni hwn, daeth pobl i gael arian am eu eynyrchion ac felly yn gallu rhoi tipyn o'r neilldu, ac nid byw ar gael ymborth a dillad yn unig. Erbyn hyn byddai ambell i un yn anfon haner cant neu dri ugain tynell o wenith i Buenos Ayres, ac yn cael yn ol am dano dri neu bedwar cant o bunau, ac fel y dywed y Llyfr,- "Yr hwn a garo arian ni ddigonir âg arian," ac felly y bu gyda ninau, fel y mae yn ein plith hyd heddyw, rai yn casglu yn barhaus. Fel y gellir tybied, parodd y symudiad hwn golled fawr i'r cyn-fasnachwyr. Yr oeddynt yn ddiau yn haeddu cerydd am eu cribddeiliaeth, ond eto, ymddygodd rhai atynt yn rhy wael os nad yn anonest trwy uno a'r cwmni newydd a chludo eu gwenith iddo cyn talu eu dyledion i'r masnachwyr, canys ar bwy bynag y cafodd y masnachwyr hyn fantais, y mae yn bur amlwg nad oes neb wedi cael fawr fantais erioed ar y rhai na bydd yn talu eu dyledion. Yr ydym oll fel Sefydliad yn gyffredinol erbyn hyn yn bur galonogol ond y dyffryn isaf, yr ochr Ogleddol. Mae y rhanbarth hwn eto heb gael modd i gael dwfr parhaus a chyson. Tua chanol y dyffryn hwn yr oedd gorsaf y ffordd haiarn, ac felly y dyffryn hwn oedd fwyaf cyfleus i gludo eu gwenith i fyned gyda'r ffordd haiarn i'r porthladd, ac felly penderfynodd cwmni y ffordd haiarn wneud argae i ddyfrio y dyffryn hwn. Cytunwyd fod cwmni ffordd haiarn i roi y defnyddiau (argae goed ydoedd) a bod y tyddynwyr i roi y gwaith oedd o fewn cylch eu medr hwy. Cyn bod yr argae hon eto wedi eu hollol orphen, llwyddodd y dwfr i weithio ei ffordd heibio un ochr iddi, ac felly aeth yn hollol ofer, er fod yma werth canoedd o bunau o goed a haiarn ynddi heblaw misoedd o lafur caled i'r tyddynwyr. Gwnaed ail a thrydydd gynyg i adgyweirio yr argae hon, ond bob tro yn aflwyddianus fel y gadawyd y dyffryn hwn yn niwedd y cyfnod y soniwn am dano heb un ffordd sicr a cbyson i ddyfrhau y tyddynod.

PENOD XXVII—ADOLYGIAD Y CYFNOD HWN, O 1882 I 1887.

YN mlynyddoedd cyntaf y cyfnod hwn, cyn i gamlas yr ochr Ddeheuol gael ei gwneud, a thyddynwyr y dyffryn isaf yr ochr Ogleddol heb gael dwfr, bu cryn anesmwythder yn mysg rhai yn yr ardaloedd hyn, a gwerthodd rhai eu tiroedd, ac aethant ymaith. Yr oedd yr adeg hono yn Buenos Ayres foneddwr Gwyddelig, o'r enw Mr. Casey, wedi cael math o hawl amodol ar ddarn mawr o dir i'r De o Buenos Ayres , a elwid Curumalan , neu Sausi Corte. Hysbysiadai y boneddwr hwn lawer yn nghylch y lle, ac addawai freintiau a manteision mawrion i bwy bynag a gymerai ran neu ranau o'r tir hwn ar ei amodau ef. Daeth y son am y lle hwn i glustiau y Gwladfawyr anfoddog ar y Camwy, a thybient fod ac ymaith a hwy- rhai yn gwerthu eu tiroedd am y nesaf peth i ddim, ac ereill yn fwy gofalus, yn eu gadael, ond yn cadw meddiant ynddynt. Ymadawodd y pryd hwn o wyth i ddeg o deuluoedd; ond er na pherthyn i amcan yr hanes hwn ymhelaethu ar Curumalan, eto gallwn ddweyd mai aflwyddianus ar y cyfan fu y sefydliad hwn hyd yn hyn, ac mai rhai a fu yn ddigon anlwcus i werthu eu tiroedd ar y Camwy, a myned yno, wedi dyfod yn ol er's blynyddoedd, yn nghydag ereill oedd wedi bod mor lwcus a chadw eu tiroedd ar eu henw. Gwerthwyd tyddynod ar y Camwy y pryd hwnw am ychydig ugeiniau o bunoedd, ac yn mhen ychydig flynyddoedd, yr oedd eu prynwyr yn eu hail werthu am ganoedd o bunau, ac y mae ambell i un o honynt erbyn heddyw yn werth £1,500, neu ddwy fil o bunau. Y peth pwysicaf yn nglyn a dadblygiad y sefydliad, yn ddiamheu, fu y gyfundrefn ddifriol trwy y Camlesi, ac feallai y nesaf at hyny y cwmni masnachol, a'r ffordd haiarn. Cododd y tiroedd y blynyddoedd hyn tuag wyth cant y cant yn y man lleiaf. Fe gyhoeddwyd gan gwmni y ffordd haiarn fwy nag unwaith mai y ffordd haiarn oedd wedi codi pris y tyddynod; ond nid oedd hyny yn gywir, am y deuwyd i weled yn fuan nad oedd y ffordd haiarn mor rhated a'r llongau oedd yn myned allan o'r afon. Teg yw dweyd fod y ffordd haiarn wedi hyrwyddo peth yn nglyn a masnach, trwy leihau cludiad y tyddynwyr pellenig, ac hefyd alluogi llongau i lwytho a dadlwytho yn Mhorth Madryn, ac felly ysgoi yr oediad yr ydys yn agored iddo yn ngenau yr afon. Prynodd cwmni y ffordd haiarn hefyd agerlong i redeg rhwng Porth Madryn a Buenos Ayres, a bu hono yn hwylusdod mawr i ni fel moddion cymundeb; ond o ddiffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth, gorfu arnynt i wneud i ffwrdd â hi, am nad oedd yn talu wrth ddibynu yn unig ar drafnidiaeth y lle. Credwn i'r llywodraeth Archentaidd fod yn ngoleu ei hun yn fawr wrth beidio rhoi cymhorth cyson i hon, i gadw yn mlaen i redeg rhwng y sefydliad a Buenos Ayres.

Symudiad yr Indiaid o'r lle.—Fel yr oedd ein sefydliad ni ar y Cemwy yn llwyddo, yr oedd Patagonia fel gwlad yn dyfod yn fwy—fwy adnabyddus, a theimlai y llywodraeth nad oedd y dydd ddim yn mhell pan fyddai galw am diroedd Patagonia; ac er mwyn gwneud y tir yn fwy marchnadol, tybient y byddai gwaghau y wlad o'r Indiaid yn ateb y dyben hwnw. Y mae mwy o ofn Indiaid ar yr Yspaeniaid nac ar y Cymry, ac y mae hyny wedi codi yn ddiamheu oddiwrth hen hanesion am ymosodiadau creulon Indiaid mewn gwahanol barthau o'r wlad, Yr oedd creulondeb yr Yspaeniaid tuag at frodorion South America yn ddiarhebol, ac felly yr oedd yn naturiol i'r Indiaid ddial arnynt bob tro y caent gyfle, ac felly y gwnaent; ond yr oeddym ni fel Cymry wedi bod yn garedig i'r Indiaid o'r cychwyn cyntaf, ac wedi enill eu hymddiried, a'u hewyllys da. Beth bynag, yn 1884 anfonodd y Llywodraeth Archentaidd fyddin o filwyr i lawr o Buenos Ayres, trwy Bahia Bonca a Rio Negro, a than odreu yr Andes i lawr i Santa Cruz, a daliasant a chymerasant ymaith yr oll a roddai eu hunain i fyny iddynt, a lladdasant y lleill, oddigerth nifer fechan a allodd eu hosgoi, ac ymguddio rhagddynt. Yn yr adeg hon, dygwyddodd tro pur ofidus yn ein plith fel Gwladfawyr. Yr oedd pedwar o'r Sefydlwyr wedi myned ar wibdaith archwiliadol i fyny i'r wlad, rhyw ddau can' milldir o'r sefydliad; ac wrth ddychwelyd tuag adref, pan oeddynt rhyw gant neu chwech ugain milldir o'r sefydliad, rhuthrodd nifer o Indiaid arnynt yn ddisymwth, a lladdasant dri o honynt mewn modd barbaraidd iawn; ond diangodd y llall fel yn wyrthiol. Teithiodd y dihangol hron yr holl ffordd uchod gydag un ceffyl, a hyny heb aros mynud yn unlle, ac unwaith trwy le bron anhygoel i unrhyw ddyn a cheffyl i deithio trwyddo. Cymerodd y ddamwain alarus hon le mewn canlyniad i waith y milwyr y flwyddyn hono yn erlid yr Indiaid, fel yr oeddynt wedi mileinio cymaint, wrth y dynion gwynion fel nad oeddynt yn prisio hyd yn nod am eu hen gyfeillion y Cymry. Wedi i'r dihangol dd'od i'r Sefydliad, a dweyd yr hanes, ffurfiwyd mintai o wirfoddolwyr i fyned i fyny er cael gwybod yn sicr pa fodd yr oedd pethau, am nad oedd yr hwn a ddiangasai yn gwybod yn fanwl pa fodd yr oedd pethau wedi troi allan. Wedi cyrhaedd y man, cawsant er eu gofid y tri chorff, ond wedi eu anmharchu mewn modd barbaraidd iawn, a chladdasant hwy yno mor barchus ag y caniatai yr amgylchiadau iddynt wneud.

Gwleidyddiaeth y Cyfnod Hwn.—Yr oedd y Llywodraeth Archentaidd wedi ymyraeth fel y gwelsom er 1876, pryd yr anfonwyd i lawr y prwyad Antonio Oneto. Bu efe yn ein mysg am tua phedair blynedd, ac yn ystod y ddwy flynedd ddilynol bu dau neu dri ereill pur ddinod, y rhai na wnaethant ddim i dynu sylw nac i adael argraff y naill ffordd na'r llall. Ond yn 1881 anfonodd y Llywodraeth i lawr weinyddiaeth newydd, mwy cyfan a threfnus na'r un o'r rhai fu genym o'r blaen. Anfonwyd i lawr brwyad, ysgrifenydd, meistr y porthladd, meistr y dollfa, a nifer o heddgeidwaid. Cymerodd y prwyad hwn, sef Juan Finoquetto afael eangach a thynach yn ei swydd na'r un fu o'i flaen, er mai dyn anwybodus ydoedd. Meddai ar lawer o synwyr cyffredin, ond yr oedd yn uchelgeisiol iawn, ac yn hollol amddifad o'r syniad, ei bod yn bwysig gwneud yr hyn oedd iawn, os na ddygwyddai yr hyn oedd iawn a'i les yntau ddygwydd bod yn cydgordio. Ar y cychwyn cyntaf meddyliodd y gallai lywodraethu y sefydlwyr a llaw uchel, fel yr oedd swyddogion o'r fath yn arfer a gwneud mewn rhanau ereill o'r weriniaeth, ond bu yn ddigon craff i weled na lwyddai fel hyn gyda'r Cymry a newidiodd ei ddull yn bur fuan. Yn nechreu y brwyadaeth hon o eiddo Mr Finoquetto bu tipyn o annealldwriaeth cydrhyngddo a'r sefydlwyr, ac anfonodd ddau o'r sefydlwyr mwyaf selog wladfaol yn garcharorion i Buenos Ayres amanufuddhau i rai o'i drefniadau, sef Mri. Lewis Jones a R. J. Berwyn. Ni buont yno ond cwpl o ddyddiau am i gyfeillion yn y Brif Ddinas ymyraeth ar eu rhan, ac o hyny allan aeth pethau yn mlaen yn llawer mwy esmwyth. Y prwyad yn awr oedd yr unig swyddog gwleidyddol ac ynadol yn y lle yn ol y gyfraith, ond yr oedd y gwladfawyr yn parhau eu ffurf lywodraeth gyntefig yn eu plith eu hunain, ond pe buasai rhywun yn dewis, fel y dygwyddai weith iau anwybyddu dyfarniad yr ynad neu y cyngor gwlad— faol, yna yr oedd yn rhaid apelio at y prwyad cenedlaethol. Ond er fod y dyn hwn yn hunangeisiol ddiderfyn, eto, yr oedd yn weithgar iawn, ac yn ei amser ef y cafwyd y rhan luosocaf o'r gweithredoedd ar y tyddynod, a hefyd, adlun o Fap gwreiddiol yr holl ffermydd. Er mwyn cael llonydd i aros yn ei swydd, i allu helpu ei hun mewn gwahanol ffyrdd, bu yn ddigon call i adael i'r Sefydlwyr drin eu materion eu hunain, yn eu mysg eu hunain a pheidio ymyraeth a hwynt yn eu trefniadau, ond yr oedd ei adroddiadau i'r llywodraeth genedlaethol yn rhoi gwedd anffafriol ar y gwladfawyr yn barhaus, i'r dyben, mae yn debyg, i roi ar ddeall fod ganddo ef waith mawr i'w wneud yn eu plith. Felly buy prwyad hwn yn gweinyddu o 1881 hyd ddiwedd 1885. Fel y gellid meddwl nid oedd y Sefydlwyr yn foddlon ar ryw drefniadau goddefol a dirym fel hyn, a buom yn deisebu y Llywodraeth ar iddynt basio deddf trwy y Gydgyngorfa er ein ffurfio yn Diriogaeth, fel ag i'n galluogi i ethol ein swyddogion o'n plith ein hunain a gwneud ein deddfau ein hunain yn gystal a'u gweinyddu. Anfonwyd y Parch. D. Ll. Jones i fyny i Buenos Ayres yn 1882 yn nglyn a'r mater hwn. Ac wedi hir erfyn a dysgwyl pasiodd y Llywodraeth ddeddf y tiriogaethau yn y flwyddyn 1885— Tan y ddeddf hon rhanwyd Patagonia yn wahanol Diriogaethau, yn mysg y rhai yr oedd ein Sefydliad ni o'i gylchoedd yn cynwys un, dan yr enw Tiriogaeth y Camwy, yr hon oedd i gyrhaedd o Ledred 42 hyd Ledred 46 Deheuol gyda y mor, ac o'r mor i gopa uchaf yr Andes i'r Gorllewin. Apwyntiwyd hefyd Raglaw ar y Diriogaeth, sef Lewis George Fontana, Lieutenant— Colonel. Trefnwyd hefyd fod Barnwr Cenedlaethol i breswylio yn Rawson yr hon fwriedir i fod yn Brif Ddinas y Diriogaeth, neu feallai y Dalaeth rhyw ddiwrnod. Mae cyfraith y Tiriogaethau yn trefnu fod pob Tiriogaeth i ethol ei Chyngor ei hun, ei hynadon ei hun, gwneud ei chyfreithiau ei hun, a llywodraethu ei hun yn fewnol yn gyfangwbl, ond fod troseddau mawrion, megys ysbeiliadau, a miwrddriadau, i'w dwyn tan sylw yr Ynad Cenedlaethol cyn y byddent yn derfynol. Y gallu gwladol yn mhob Tiriogaeth ydyw Cyngor o bumb aelod wedi eu hethol gan y trigolion, un ynad wedi ei ethol yr un modd, a hyny yn mhob rhanbarth (section). Y mae y Cyngor i wneud y cyfreithiau lleol, rhoddi trwyddedau, gosod y trethoedd angenrheidiol, arolygu addysg y lle, a gwneud a gofalu am weithiau cyhoeddus, megys ffyrdd a phontydd, yn nghyd a threfniadau ereill a allai fod yn angenrheidiol. Dyma ni o'r diwedd wedi cael furf y Llywodraeth iachus beth bynag, ond diffyg mewn Tiriogaethau a Thalaethiau ieuainc ydyw bod yn wan yn y gweinyddiad. Buom am y deng mlynedd gyntaf yn llywodraethu ein hunain yn gyfangwbl am nad oedd neb yn ymyraeth a ni, a buom am tua deng mlynedd drachefn yn llywodraethu ein hunain fel yn oddefol, ond heb un gallu cyfreithiol tu ol i ddim a wnelem, am mai y swyddogion oedd yn y lle o apwyntiad y Llywodraeth oedd yn dybiedig i fod yn llywodraethu, ond dyma ni yn awr yn diriogaeth gyfansoddiadol yn y Weriniaeth ac ar y ffordd i ddyfod rhyw ddiwrnod yn Dalaeth, a Rawson yn brif ddinas. Wrth adolygu ein llywodraethiad am yr ugain mlynedd yr ydym wedi myned drosto teimlwn y byddai yn anhawdd gael sefydliad mewn unrhyw barth o'r byd a lywodraethodd ei hun mewn modd mor dawel, a chyda mor lleied o droseddau; yn wir yr oedd troseddau yn ystyr fewnol o'r gair yn anadnabyddus i ni yn y cyfnod hwn, ond fyddai genym rhyw fan gynghawsau, a chamweddau i'w gwastadhau yn awr ac eilwaith.

Y Wladfa yn Gymdeithasol a Chrefyddol.—

Rhifai y boblogaeth tua diwedd y cyfnod hwn oddeutu 1,600, ac yr oedd y boblogaeth hon wedi ei gwasgaru ar hyd a lled y ddau ddyffryn o bob tu i'r afon. Erbyn hyn y mae cyfleusderau addysgol lle wedi newid yn fawr, ond nid ydynt eto yn agos y peth y dylent fod. Yn niwedd y cyfnod hwn, y mae genym chwech o ysgolion dyddiol, dwy genedlaethol yn cael eu dwyn yn mlaen yn yr Yspaenaeg, a'r pedair ereill yn cael eu cario yn mlaen trwy roddion gwirfoddol, a'r cyfan yn cael eu dysgu trwy y Gymraeg. Y mae yr ysgolion hyn wedi eu lleoli yn weddol ganolog fel ag i gyfarfod a'r holl boblogaeth, oddieithr bwlch neu ddau ag sydd hyd y hyn heb eu llanw yn gyson. Rhaid i ni addef mai araf iawn yr ydym fel cenedl yn dod i dalu y sylw dyladwy i addysg. Yr ydym ar ol yn y peth hyn i'r Ysgotiad a'r Americanwr, os nad i'r Saes. Y mae genym fel Cymry, Saeson ac Americaniaid ein nodweddion neillduol.

Crefydd sydd yn nodweddu y Cymro, masnach y Sais, ac addysg yn un o'r pethau cyntaf i'r Americanwr. Pan sefydla haner dwsin o deuluoedd o'r olaf, codant ysgoldy yn y fan, ond pan welir nifer fechan o Saeson wedi ffurfio Gwladfa, y siop fydd un o'r pethau cyntaf, ond pan el y Cymro allan i wladychu, un o'r pethau cyntaf a wna efe fydd codi capel, a threio cael cwrdd gweddi, cyfeillach, ac Ysgol Sul, a rhywun i bregethu, Os bydd modd yn y byd. Felly, fel yr ydym wedi gweled yn barod, y bu yn Patagonia. Yr oedd genym ein capeli yn gyfleus iawn dros yr holl ddyffryn. Erbyn diwedd y cyfnod hwn, y mae genym dri-ar-ddeg o gapeli a thri ysgoldy. Y mae yn y tri chapel ar ddeg hyn eglwysi corfforedig a thri gwasanaeth bob Sabboth, sef dwy bregeth fel rheol, ac Ysgol Sul, a phan na fydd pregeth, cynelir cwrdd gweddi. Y mae yn yr ysgoldai hefyd Ysgol Sul yn gyson, ac weithiau gwrdd gweddi. Yr ydym erbyn hyn yn bedwar enwad,—Annibynwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Bedyddwyr, a'r Eglwys Esgobaethol Seisnig, neu fel y gelwir hi yn gyffredin, yr Eglwys Sefydledig Brydeinig, ac y mae yr enwadau uchod yn sefyll o ran rhif yn gydmarol i'w gilydd yn ol fel y maent wedi eu gosod i lawr yma. Yr oedd genym er y cyfnod o'r blaen, fel yr ydys eisioes wedi dangos y tri enwad cyntaf, 4 o weinidogion yn perthyn i'r blaenaf, ac un i'r olaf, ond nid oedd gan y Methodistiaid Calfinaidd weinidog yn ystod y cyfnod hwnw. Yn gynar yn y cyfnod diweddaf hwn y sefydlodd yr Eglwys Esgobaethol gangen o honi ei hun yn ein plith. Anfonwyd offeiriad allan, o dan nawdd Cymdeithas Genhadol De America, perthynol i'r Eglwys Esgobaethol. Caniataer i mi yn y fan hon gywiro adroddiad Captain Musgrave y llong ryfel Brydeinig. "Cleopatra" am Mawrth 31, 1890, lle y dywedir dan y penawd "Religion,"—"Chiefly Dissenters. No Church of England clergyman there." Yr oedd y Parch. H. Davies, o esgobaeth Bangor, wedi dyfod yma naill yn 1893 neu 1894. Daeth yma hefyd yn nechreu y cyfnod hwn, fel y cyfeiriasom o'r blaen, weinidog i'r Methodistiaid Calfinaidd, o'r enw William Williams, broder Gwalchmai, Mon, ond rhywfodd nen gilydd ni fu nemawr lwyddiant ar ei lafur, mewn rhan yn ddiameu herwydd diffyg doethineb o'i du ef. Ni bu ei arosiad yn hir yn ein mysg, am iddo ymadael i Buenos Ayres. Tua diwedd y cyfnod hwn, 1887, ymwelwyd a ni gan y Parch. W. Roberts, Llanrwst, Gogledd Cymru. Yr oedd efe wedi cael ei anfon allan gan y Corff Methodistiaid yn Nghymru, er gweled sefyllfa eu henwad ar y Camwy. Bu y boneddwr hwn yn ein plith am tua chwech mis, a gwnaeth ei hun yn ddefnyddiol iawn trwy ystod ei arosiad, trwy bregethu gyda nerth a dylanwad daionus, a gadawodd ar ei ol berarogl Crist yn mhob man ag y bu ynddo. Yn 1882, daeth atom y Parch. R. R. Jones, Newbwrch, Mon, gweinidog Annibynol, ac yn 1886 dychwelodd atom y Parch. Lewis Humphreys, wedi bod oddiwrthym yn Nghymru am 20 mlynedd. Gwelir fod genym yn niwedd y cyfnod hwn wyth o bregethwyr yn y lle, a phymtheg o leoedd i addoli, a'r rhai hyny wedi eu lleoli y fath, fel nad oedd gan y pellaf ychwaneg na dwy neu dair milldir i'r capel nesaf ato.

Amrywiaeth. Yn mlynyddoedd diweddaf y cyfnod, bu cryn archwilio ar y berfedd—wlad gan wahanol bersonau. Yr oedd y Meistri Lewis Jones a John M. Thomas wedi teithio llawer o'r wlad i'r De, Gogledd a Gorllewin cyn hyn, ond yn ddiweddar bu Mr. Bell, goruchwyliwr y ffordd haiarn, gyda mintai i fyny i gyfeiriad yr Andes, i'r Gorllewin a'r Gogledd, yn chwilio am dir cymwys i'w sefydlu, ac mewn canlyniad prynodd cwmni o Saeson— yr un pobl a chwmni y ffordd haiarn—prynodd y cwmni hwn ranbarth eang i'r Gorllewin—Ogledd gan y Llywodraeth Archentaidd, ac y maent o hyny hyd yn awr yn ei ddefnyddio i fagu arno anifeiliaid, megys ceffylaw, gwartheg, a defaid. Hefyd, ffurfiodd y Rhaglaw Fontana, J. M. Thomas, a Mayo fintai o 25 o ddynion sengl i fyned i fyny i archwilio y wlad i'r Gorllewin, ac wedi bod i ffwrdd am rai misoedd, dychwelasant oll yn fyw ac yn iach, wedi cael eu boddloni yn fawr yn y wlad. Yr oedd y rhaglaw, cyn cychwyn y daith archwiliadol hon, yn addaw i'r fintai oedd yn ganlyn y buasai yn apelio at y Llywodraeth i roddi iddynt 50 llech o dir am yr anturiaeth, coll amser, yn nghyda chostau y daith, yr hyn a gyflawnodd yn ffyddlawn wedi hyny. Y dealldwriaeth oedd, fod i'r 25 dynion sengi gael llech (league) o dir bob un, a bod y 25 llech ereill i gael eu rhanu yn gyfartal cydrhwng arweinwyr y fintai. Erbyn hyn yr oedd y sefydlwyr ar y Camwy yn awyddus i gael agoriad newydd, fel ag i allu cymell dyfudwyr i ddyfod atom eto, am fod yr holl dir mesuredig ac amaethadwy oll wedi ei gymeryd eisioes. Hefyd yr oedd plant yr hen sefydlwyr erbyn hyn wedi codi i fyny yn ddynion, a rhai o honynt wedi priodi, ac yr oedd eisieu ffermydd arnynt hwythau. Yr oedd y sefydliad ar y Camwy hefyd wedi cynyddu mewn anifeiliaid, fel yr oedd yn anhawdd eu porfau ar gyffiniau y dyffryn, am nad oedd y tyddynod hyd yn hyn wedi eu cau i mewn, ac felly y cnydau yd, yn agored i'r anifeiliaid, ond fel yr oeddid yn bugeilio. Byddid yn bugeilio yr anifeiliaid hyn, nid ar y dyffryn yn ymyl yr yd, ond ar y paith oedd yn nghefn y dyffryn. Meddianai sefydlwyr y Camwy ar ddiwedd y cyfnod hwn chwe' mil o ddefaid, 1,500 o geffylau, ac oddeutu wyth mil o wartheg. Wedi clywed tystiolaeth yr archwilwyr am diroedd godrau yr Andes, yn enwedig am y lle a enwasid ganddynt yn Cwm Hyfryd, yr oedd amryw o'r teuluoedd ieuangaf yn awyddus i fyned i fyny er meddianu tiroedd iddynt eu hunain a'u hiliogaeth. Soniasom yn nes yn ol yn yr hanes hwn am yr Indiaid yn cael eu hymlid o'r wlad. Gwasgarwyd hwynt yma a thraw i wahanol barthau o'r Weriniaeth, ond nid i gyd, crynhowyd cryn nifer o honynt i le a elwir Valchita, ac ereill mewn lle yn uwch i fyny i'r Gorllewin. Y maent yn y lleoedd hyn yn derbyn cymorth bywioliaeth gan y Llywodraeth, a than warcheidiaeth filwrol, ac yn cael rhyddid i fyned i hela marchnata trwy fath o drwydded gan swyddogaeth y lle, fel y mae yr hen frodorion wedi dod yn heddychol a diddig unwaith eto; ac yn lle bod yn beryglus ac yn drafferth, y maent yn gyfryngau elw nid bychan i fasnachwyr y Camwy a'r Andes.

Adeiladaeth.—Erbyn diwedd y cyfnod hwn yr oedd cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lle yn nglyn ag adeiladaeth. Yr oedd genym lawer o dai heirdd yn awr briddfeini llosgedig, a'r dodrefn wedi newid yn fawr. Y mae genym hefyd yr adeg y soniwn am dai dri phentref, neu fel yr ydym yn eu galw, trefydd, sef Rawson, Trelew, a'r Gaiman. Tai o briddfeini llosgedig sydd yn Rawson, a hon yw y brif dref, am mai yma y mae swyddfeydd y Llywodraeth. Hon, fel yr ydym wedi crybwyll yn barod, oedd ein tref gyntaf, yr hon a ddechreuwyd ger yr hen amddiffynfa, o fewn rhyw dair milldir i'r môr. Y dref nesaf yn y dyffryn yw Trelew. Y mae hon yn cynwys llawer o dai ceryg, y rhai a giudir gan y ffordd haiarn o chwarel rhyw ddeuddeg milldir i gyfeiriad Porth Madryn. Galwyd y dref hon yn Trelew oddiwrth enw Lewis Jones, yr hwn a arferir ei alw yn "Llew Jones," neu Llew," am mai efe fu y prif symudydd er cael cwmni i wneud y ffordd haiarn. Yn Trelew y mae y ffordd hon yn cychwyn, ac yno felly y mae yr orsaf, a holl swyddfeydd ac ystordai y cwmni, ac ar eu tir hwy y mae y dref wedi ei hadeiladu, yr hwn a werthir yn lotiau i'r neb a fyno adeiladu. Ond y cwmni ei hun sydd wedi adeiladu y rhan luosocaf o'r tai. Yma hefyd y mae prif ystordy y Cwmni Masnachol a'r brif swyddfa, yn nghyda changen- fasnachdy. Y mae camlas ddyfriol yn awr yn dod trwy y dref hon. Y dref nesaf yw y Gaiman. Y mae hon o ran oedran yn nesaf at Rawson, ac yn debyg o ddyfod y luosocaf ei phoblogaeth. Y mae Trelew tuag wyth milldir yn uwch i fyny i'r dyffryn na Rawson, a'r Gaiman tua deuddeg milldir yn uwch drachefn, neu tua 23 o'r môr. Gan fod y dref hon yn sefyll ar lain gul o dir rhwng yr afon a'r uchdir, yn yr hwn y mae cyflawnder o dywodfaen, y mae y tai yma yn amrywio rhai o. briddfeini, a rhai o geryg—yr un modd a Trelew. Yr oedd yma yn niwedd y cyfnod hwn fasnachdy neu ddau. Cawn cyn gorphen yr hanes gyfeirio eto at sefyllfa y trefydd hyn.

PEN. XXVIII.-CYFNOD Y PEDWERYDD, NEU YR OLAF.

Dyma ni yn awr wedi dod hyd y cyfnod diweddaf yn hanes ein Gwladfa. Fel y mae y sefydliad yn heneiddio, y mae yn llyfnhau fel pob sefydliad arall—llai o bethau anghyffredin yn cymeryd lle, a phethau yn llithro yn mlaen yn fwy unffurf, a'r naill flwyddyn ar o y llall yn meddu mwy o debygrwydd i'r un o'i blaen nac yn mlynyddoedd cychwyniad y sefydliad. Er. fod y prif weithiau dyfrhaol wedi eu gwneud, eto yr oedd ac y mae hyd yn awr waith perffeithio arnynt. Nid oedd camlas y dyffryn uchaf yr ochr Ogleddol yn alluog i roi dwfr i bawb pan y byddai yr afon yn dygwydd bod yn isel iawn. Yr oedd y tyddynwyr oedd nesaf at enau y gamlas, ac oddiyno i lawr am lawer o filldiroedd, yn cael digon o ddwfr bob amser, am eu bod yn ei gymeryd pan yr oedd arnynt ei eisieu, heb gymeryd un ystyriaeth o'u cymydogion oeddynt yn is i lawr a'r un faint o hawl a hwythau iddo. Felly byddai pobl pen isaf y dyffryn yn dyoddef pan na byddai cyflawnder o ddwfr i bawb. Nid oedd camlas yr ochr Ddeheuol ychwaith yn rhoi cyflawnder o ddwfr ar bob adeg, er fod hon yn ddyfnach nag un yr ochr Ogleddol, eto yr oedd yn rhy gul mewn rhai manau i gario cyflawnder, yn enwedig pan y byddai llawer yn galw am ddwfr yr un pryd. Yr oedd, ac y mae eto yr un gwyn yn erbyn pobl rhanau uchaf a chanolbarth y gamlas hon ag ydoedd yn erbyn tyddydwyr yr ochr Ogleddol, sef eu bod yn gwneud cam a thyddynwyr gwaelod y dyffryn pan y byddai y dwfr yn brin—yn lle ei ranu yn deg, yn cymeryd eu digon eu hunain pan y byddai eu cymydogion yn is i lawr yn methu cael dim, a thrwy hyny yn cael colledion anferth. Yr ydys er's rhai blynyddau hellach yn treio cael gan y cwmni hwn i ledu y gamlas, a'i gwneud yn briodol i gyflenwi pawb â digon o ddwfr, ond ni rydd y bobl hyny sydd yn cael digon o ddwfr glust o gwbl i'r mater, ac y mae y nifer sydd yn dyoddef yn rhy fychan i allu gwneud y gwaith, hyd yn nod pe buasai yn deg iddynt ei wneud. Buom yn meddwl lawer gwaith wrth weled yr ysbryd hunangar hwn, mai ychydig iawn o honom sydd yn adnabod ein hunain yn briodol. Pan yr oedd y bobl hyn yn Nghymru yn cael eu gwasgu gan oruchwylwyr a meistri gweithiau, mawr fel y condemnient ysbryd treisiol a gorthrymus, a gallesid meddwl eu bod hwy yn ddynion teg a thosturiol anghyffredin. Ond wedi iddynt hwy newid esgidiau y gwas am rai y meistr, newidiasant yr un pryd ysbryd y gorturymedig am un y gorthrymwr. Heblaw fod y camlesi hyn yn anorphenedig, yr oedd tyddynwyr y dyffryn isaf yr ochr Ogleddol heb un ddarpariaeth briodol i ddyfrio eu tyddynod. Gwelsom i'r argae a wnaethid gan gwmni y ffordd haiarn mewn undeb a'r tyddynwyr dori, ac felly fyned yn hollol ddiwerth. Yr oedd y bobl erbyn hyn wedi eu hargyhoeddi yn dra llwyr nad oedd gwiw gwneud argae, a bod yn rhaid iddynt hwythau gael camlas. Yr anhawsder gyda. hwythau oedd cael y dyffryn i gyd i weled yr un fath yn nghylch y lle i gychwyn y gamlas. Os yn mhen uchaf y dyffryn isaf y byddai y genau, yna byddai tyddynod nesaf i'r genau am tua thair neu bedair milldir yn cael eu difuddio, am y buasai y gamlas ormod yn y ddaear, ond buasai y tyddynod oddiyno i lawr yn sicr, ac yna nid oedd y rhai hyny yn foddlon i fyned yn uwch i fyny i geisio eu dwfr. Buont fel hyn yn anghytuno fel ag i fethu gwneud dim am rai blynyddoedd. Yn yr adeg hon, yr oedd pobl yr ochr hon i'r afon, er cael yd iddynt hwy a'u teuluoedd, yn rhentu tir yn yr ochr Ddeheuol, ac felly yn cadw eu hunain allan o ddyled, ond yn bur dlodion fel rheol. Yn gynar yn y cyfnod hwn, cafodd y Rhaglaw Fontana addewid gan y Llywodraeth am y 50 llech dir y soniasom am dano i fyny yn ngodrau yr Andes, ar yr amod fod y rhai a'i hawliai i fyned yno i fyw, a rhoddi arno anifeiliaid, a chodi ty arno, a thrin cyfran fechan o hono. Mewn canlyniad, aeth amryw ddynion sengl, a rhai penau teuluoedd heb eu teuluoedd i fyny yno gydag anifeiliaid, er enill iddynt eu hunain ddarnau helaeth o dir. Yn 1890-1, aeth rhai teuluoedd cyfain i fyny, fel erbyn diwedd 1891 yr oedd yno sefydliad bychan cysurus o tua 70 o eneidiau. Y mae y sefydliad newydd hwn tua 300 milldir i'r Gorllewin o'r Camwy, neu dyweder o Rawson. Ar y dechreu, teithio y byddid ar geffylau yn ol ac yn mlaen. Cymerai tua 15 neu 20 niwrnod y pryd hwnw i wneud y daith ar geffyl. Ond o'r diwedd penderfynodd mintai o ddynion cryfion fyned i fyny gyda gwagen, a gwnaent y ffordd wrth fyned yn mlaen, lle byddai angen, megys tori lle mewn craig neu ar ryw lethr serth, a llwyddasant i fyned a'r wagen i fyny bob cam i Cwm Hyfryd, lle y bwriedid i'r Sefydliad fod. Mewn canlyniad i hyn, gwnaed yn bosibl i deuluoedd gwragedd a phlant fyned i fyny gyda'u clud ac ymborth. Wrth deithio yn fynych ar geffylau, daethpwyd i wneud y ffordd yn fyrach yn barhaus, nes y maent erbyn heddyw yn gallu d'od i lawr o'r Sefydliad yn yr Andes i Rawson mewn saith neu wyth niwrnod ar geffylau, ond y mae y wagen yn cymeryd cymaint arall o amser. Yn 1890, penderfynodd Mr. Edwin C. Roberts ffurfio mintai fechan i fyned i fyny i gyfeiriad yr Andes i'r dyben o chwilio am fwnau, ond aur yn benaf. Yr oedd yr hen syniad yn ein plith fod mwnau aur ac arian a chopr yn y wlad. Yr oedd amryw o dro i dro wedi bod yn dilyn yr afon i fyny am rai ugeiniau o filldiroedd, ac wedi bod yn codi y tywod oedd ar ei thraethau, ac yn cael peth aur, ond nid oedd mewn cyflawnder fel ag i dalu am ei weithio; ond nid oeddid yn gallu rhoi i fyny y syniad am aur yn y wlad. Y mae y cwmni bychan hwn o saith yn gwneud parotoadau ar gyfer bod i ffwrdd am tua chwech mis. Y mae ganddynt, heblaw nifer o geffylau bob un, un wagen tuag at gario eu harfau a phethau angenrheidlol tuag at olchi aur, yn nhyd a'u hymborth. Yr oedd yn eu plith un dyn o brofiad mewn cloddio a golchi aur, ac yn meddu graddau helaeth o yni, ond nid oedd un o honynt yn meddu ar wybodaeth fferyllol a gwyddonol. Wedi bob i ffwrdd am bump neu chwech mis, dychwelasant gyda newyddion calonogol iawn. Galwyd cyfarfodydd er cael adroddiad ganddynt o'r hyn a welsent ac a wnaethent, ac er cael gweled yr aur oedd ganddynt i'w ddangos. Yr oedd Mr. Edwin C. Roberts, ac un neu ddau ereill yn siarad mor galonogol a brwdfrydig am yr hyn a welsent ac a gawsent, fel y codwyd brwdfrydedd mawr yn y lle, ac yr oedd amryw am fyned i fyny yn ddioedi i weled a chael drostynt eu hunain. Mae clefyd aur yn un twym a heintus iawn, ac felly yn Hydref y flwyddyn hon, mae yma o 60 i 70 yn ffurfio yn finteioedd i fyned i archwilio yn mhellach am yr aur, ond ni buont yn hir cyn dychwelyd gyda drygair i'r aur, ac yn wir, heb fawr o dda i'w ddweyd am ddim. Yn wir, yr oedd yn anmhosibl i'r bobl hyn gael eu boddloni, canys yr oeddynt wedi creu iddynt eu hunain weledigaethau euraidd nad oedd eu bath erioed wedi bod mewn bywyd mwnawl—tybient fod yr aur i'w gael ddim ond yn unig ddisgyn oddiar y ceffyl a'i bigo i fyny. Yn ystod yr amser hwn, yr oedd y cwmni saith, fel eu gelwid, yn ddiwyd yn trefnu i gael math o hawl gan y Llywodraeth i fyned i chwilio ac i ffinio allan yr ysmotyn a farnent hwy oreu i'w weithio. Anfonwyd y newydd i Gymru, ac aeth fel tân gwyllt trwy y Dywysogaeth, ac mewn canlyniad, mae dau ddyn o brofiad mwnawl yn dod allan —un o Gymru a'r llall o New York, sef Captain D. Richards, yr hwn oedd aur—gloddiwr profiadol, a Mr. R. Roberts, yr hwn oedd yn fferyllydd yn nglyn a mwnau, ac yn gyfarwydd a dadansoddí ac elfenu. Yr oedd y cwmni o saith wedi ffurfio eu hunain yn gwmni rheolaidd erbyn hyn, ac wedi cymeryd atynt y ddeuddyn uchod ac amryw ereill ar amodau neillduol. Aethant i fyny eto wedi cyflenwi eu hunain â phob peth angenrheidiol tuag at weithio ar raddfa fechan. Gweithiasant yn galed am rai wythnosau, a dychwelasant gyda nifer luosog o samplau o aur yn yr ysbwriel, a rhyw gymaint wedi ei olchi. Trefnwyd yn awr fod y Mri. D. Richards a J. G. Thomas i fyned i Buenos Ayres er cael sicrwydd am y tir, a bod D. Richards i fyned yn ei flaen i Gymru naill ai i werthu hawliau y cwmni neu ynte i gael Syndicate a chyfalaf ganddo er galluogi y cwmni i weithio yr aur. Gan mai Mr Edwin C. Roberts oedd y prif symudydd fel yr ydym eisoes wedi dangos yn nglyn a mater yr aur, efe hefyd oedd yn cymeryd mwyaf o ddyddordeb ynddo, a mwyaf selog drosto, ac er mwyn bod mewn ffordd i allu gwneud rhywbeth yn effeithiol yn nglyn ag ef, y mae yn nechreu 1892 yn gwerthu ei dyddyn am tua £2,000, a daeth ef a'i deulu drosodd i Gymru, mewn rhan er mwyn rhoi addysg i'w blant, ac hefyd er mwyn treio cael cyfalaf i weithio yr aur yn nghodre yr Andes. Wedi iddo ef a Captain D. Richards ddyfod drosodd, a rhoddi y samplau aur oedd ganddynt o dan archwiliad neu brawf fferyllol llwyddasant i ffurfio Syndicate. Anfonodd y Syndicate hwn allan aur—gloddiwr profiadol a hefyd elfenwr dysgedig o'r Brif Ddinas, ac y maent wedi cyrhaedd y Sefydliad yn nghanol 1893, ac mor belled ag y mae pethau yn ymddangos y flwyddyn uchod, yn ol hyny o brawf sydd wedi cael ei wneud ymddengys pethau yn dra gobeithiol. Yn y flwyddyn, hon y mae Mr. R. Roberts y soniasom am dano uchod, yn gadael y Cwmni Aur ac yn ymuno a J. M. Thomas i fyned i fyny i odre yr Andes i chwilio am fwn arian, ac y mae yn ymddangos eu bod hwythau wedi llwyddo yn eu hymgais, ac wedi cael mwn arian mewn cyflawnder mawr. Y maent hwythau wedi ffurfio yn gwmni ac wedi cael hawliau ar y lle gan y Llywodraeth. Heblaw y rhai uchod yr ydym yn deall fod amryw ereill yn brysur ffurfio eu hunain yn gwmniau er treio cael aur, arian, a mwnau ereill.

PENOD XXIX.—Y SEFYDLIAD AR Y CAMWY.

Nid oes angen i ni mwyach fanylu yu nglyn a'r cynhauafau, gan ein bod bellach yn cael cynhauaf da bob blwyddyn. Y mae y Sefydliad bellach er's blynyddau wedi cael ei gefn ato, oddieithr y dyffryn isaf yr ochr Ogleddol. Y mae y tyddynwyr fel yn ymgais am ragori y naill ar y llall mewn codi llawer o wenith, ac y mae y prisiau wedi bod yn hynod o ffafriol. Crybwyllasom o'r blaen nad oedd camlas y dyffryn uchaf yr ochr Ogleddol yn ddigon dwfn i gyfarfod â gostyngiadau anghyffredin yn yr afon, ac felly penderfynodd y tyddynwyr ymdrechgar hyn fyned yn uwch i fyny eto i agor genau newydd i'w camlas, a hono yn ddyfnach na'r gyntaf. Wedi rhai wythnosau o weithio caled, llwyddasant i orphen y genau newydd, ac i arwain y dwfri'r hen gam- las, ac o hyny hyd yn awr, y mae y dyffryn hwn yn cael cyflawnder o ddwfr ar bob adeg. O'r diwedd y mae y dyffryn isaf yr un ochr i'r afon yn cytuno i ranu yn ddau er cael dwfr i'w tyddynod. Y mae tyddynwyr y canol- barth, ac oddiyno i lawr at Rawson, yn cytuno i agor camlas yn mhen uchaf y dyffryn hwn, ac y mae y tyddynwyr o'r canolbarth i fyny yn cytuno i barhau camlas y dyffryn uchaf, a dyfod a hi i lawr trwy y Gaiman, a'r lle cul, fel y gelwir ef, a chroesi y gamlas arall yn mhen uchaf y dyffryn isaf gyda chafn. Bu gweithio caled ar y camlesi hyn y rhan olaf o 1891 hyd ganol 1892, pryd y llwyddwyd i'w gorphen, fel ag i gael dwfr i'r tir y flwyddyn hone, ond fod angen perffeithio y rhai hyn eto mewn rhai manau. Gwelir yn awr fod yr holl ddyffryn o ddau tu i'r afon yn meddu ar gamlesi dyfriol, ac felly fod yr holl ddyffryn yn ngafael dwfr, oddieithr rhyw ychydig o eithriadau nad yw y camlesi wedi d'od o hyd cyrhaedd iddynt, ond a ddeuant fel ereill gydag amser. Nid gwaith bychan ydyw d'od a dyffryn o 50 milldir hyd, wrth dair neu bedair milldir o led-dod a rhyw 450 o dyddynod mawrion i afael dwfr parhaus. Yr ydys yn dra hyderus y bydd y camlesi hyn yn fuan wedi eu perffeithio y fath fel na fydd un tyddyn na llecyn trwy yr holl ddyffryn heb fod yn ddyfradwy, ac hyd yn nod gerddi y trefydd yn cael eu dyfrhau gan ffosydd yn rhedeg ar hyd ymylon yr ystrydoedd. Yr ydys wedi cyfeirio o'r blaen fod yr holl dir mesuredig ac amaethadwy yn y rhanbarth hwn o'r diriogaeth wedi ei gymeryd, fel nad oes yma le mwyach i gymhell dyfudwyr, oddigerth ambell un yn d'od at berthynas iddo. Y mae yn wir nad oes ar y dyffryn eto ond prin y bedwaredd neu y bumed ran o'r boblogaeth a ddichon gynal, ac a gynalia rhyw adeg sydd yn d'od. Y mae y ffermydd hyd yn hyn yn fawrion; ond fel y cynydda ac y tyf teuluoedd, fe dorir y ffermydd hyn i fyny yn ddwy a thair fferm i'r meibion.

Y Cnydau. Y mae y darllenydd wedi deall eisoes, wrth ddarllen yr hanes hwn, mai gwenith yw prif gnwd y lle. Gwenith fel rheol oedd wedi arfer a thalu oreu am ei godi, er fod haidd ambell i waith yn uwch ei bris, eto gwenith ydoedd y peth sicraf o farchnad dda bob tymhor at ei gilydd. Y mae y tir mor briodol i haidd ag ydyw i wenith, ac y mae yn cnydio llawn cystal, ac y mae amryw yma a thraw yn y sefydliad yn codi haidd; ac yn wir y mae bron bawb yn codi ychydig o hono, i'r dyben o fwydo ceffylau a moch. Y mae y sefydliad wedi bod o'r cychwyn ar ol mewn codi llysiau gerddi, a thatws. Y prif achos, yn ddiamheu, oedd diffyg dwfr cyson wrth law tuag at eu dyfrhau. Y mae llysiau gerddi yn gofyn dwfr yn amlach na gwenith a haidd; a chyn i'r tyddynwyr gael ffosydd priodol i bob rhan o'r fferm, yr oedd yn anmhosibl iddynt wneud llawer o gynydd mewn codi mân lysiau. Yr oedd prinder amser hefyd wedi arfer bod ar y tyddynwyr i dalu llawer o sylw i erddi, pan nad oedd mewn teulu, efallai, ddim ond un dyn i wneud pob peth, yr oedd yn anhawdd iawn talu sylw i ddim ond y cawd hwnw oedd yn d'od a swm o arian i mewn yn dâl am y llafur, heblaw y sylw ydoedd raid ei dalu i fân angenrheidiau y teulu, megys gofalu am yr anifeiliaid, gofalu am dânwydd, a myned a gwenith i'r felin er cael blawd, a man negeseuau ereill. Ond yn y blynyddoedd diweddaf, yr oedd y rhwystrau hyn wedi eu dileu gyda'r rhan luosocaf o'r amaethwyr. Yr oedd y ffosydd ganddynt yn arwain dwfr i bob cwr o'r tyddyn, a phawb yn byw ar ei dyddyn. Yr oedd y plant hefyd yn codi i fyny, ac yn d'od i gynorthwyo y tad, fel ag i'allu rhanu y gwaith, ac ambell i un yn cadw gwas yn gyson, neu ynte weithiwr ar adegau prysur. Wedi cael pethau i drefn fel hyn, y mae y Gwladfawyr erbyn hyn yn bur gyffredinol yn gwneud gerddi, ac yn codi tatws, a phâ, a phys, moron, a maip. Y mae ambell un hefyd yn cau i mewn, ac yn planu perllan; a chyn hir fe welir wrth bob ty afalau, eirin, a grawnwin.

Anifeiliaid.— Yr ydym wedi awgrymu yn barod fod ucheldir o bob tu i'r dyffryn. Tir rhydd fel comin ydyw hwn hyd yn hyn, oddieithr y darn a roddwyd i gwmni y ffordd haiarn. Tir graianog, tywodog ydyw, gyda llawer o dwmpathau o fân-ddrain ar hyd iddo mewn rhai manau, a phorfa dyswog yn tyfu arno. Bu y tir hwn o wasanaeth mawr i ni yn mlynyddoedd cychwyniad y Wladfa fel tir porfau anifeiliaid, pan oeddym yn byw yn mron yn gyfangwbl ar yr anifeiliaid; ac y mae wedi para i fod yn wasanaethgar hyd heddyw i'r rhai sydd yn cadw gwartheg, ceffylau, a defaid ar raddfa eang. Y mae y paith hwn yn le da i gadw anifeiliad ar dymhorau ffafriol mewn gwlaw, ond ar dymhorau sychion, di-wlaw, feallai am flynyddoedd ar ddim ond ambell i gafod. Ar dymhorau fel hyn nid yw ond gwael iawn, am nad oes modd dyfrhau hwn. Bydd braidd bob amaethwr yn gyru ei anifeiliaid i'r paith hwn ar rai tymhorau o'r flwyddyn; ond gan ei fod oll yn agored i'r anifeiliald i fyned i ba le bynag y mynont, y mae dipyn o drafferth yn fynych i chwilio am danynt. O herwydd y drafterth hon, y mae amryw dyddynwyr erbyn hyn wedi cau i mewn nifer o erwau o'r fferm gyda wire fence, a hau Alffalffa (Lucerne) ynddo. Math o wair glas, bras, ydyw yr Alffalffa, tebyg i high grass, neu feallai yn debycach i fetses Prydain. Y mae hwn yn tyfu yn gyflym, ond iddo gael dwfr yn ddigon aml, ac yr ydys yn cael tri neu bedwar cnwd yn y flwyddyn o hono. Nid oes angen ei hau ond unwaith, ac yna y mae yn tyfu trwy y blynyddoedd o'r gwraidd, y rhai sydd yn myned i lawr o ddwy i dair llath o ddyfnder. Y mae hwn yn ymborth cryf a maethlon i'r gwartheg a'r ceffylau, ac y mae llawer erbyn hyn, —yn wir bron pawb sydd yn byw ar amaethu gwenith yn unig ar gyfer marchnad, wedi rhoi i fyny cadw ond digon o anifeilieid, yn wartheg ac yn geffylau, at wasanaeth y teulu, a thrin y tir, ac yn eu cadw ar y fferm y rhan fwyaf o'r flwyddyn, gan eu porthi â'r gwair hwn. Y mae marchnad dda ar hadau y gwair hwn yn Buenos Ayres, ac y mae rhai yn ei godi ar raddfa eang, er mwyn yr hadau, yn gystal a'i gael yn fwyd i'w hanifeiliaid. Wedi dechreu tori y ffermydd i fyny fel hyn yn gaeau, y mae golwg fwy cartrefol yn d'od ar y lle. Yn y blynyddoedd hyn, gwelir gyffredin gerllaw y ty blanhigfa o goed poblar, cae nen ddau o Alffalffa, a gardd, ac ambell i waith berllan. Nodwedd arall ag sydd braidd yn un ddiweddar yn ein mysg, ydyw y tyddyn wedi ei gau i mewn a wire fence. Hyd yn ddiweddar yr oedd amryw yn oedi gwneud hyn, am nad oedd sicrwydd a fuasid yn gadael llinellau ffiniau y ffermydd fel yr oeddynt, am fod cwyn mawr gan lawer nad oedd y ffiniau fel y dylasent fod yn ol y map a'r gweithredoedd. Yn ddiweddar cymerodd y Cynghorau y mater mewn llaw, a phenderfynasant apwyntio mesurydd trwyddedig, sef Mr Llwyd ap Iwan, mab hynaf sylfaenydd y Wladfa—M. D. Jones, Bala, i ail fesur yr holl ddyffryn, a gosod y terfynau yn iawn; ac erbyn hyn y mae y gwaith wedi ei orphen. Y mae yn wir fod yma dyddyn yma ac acw wedi ei gauad i mewn o'r blaen, ond yn awr y mae y rhwystrau wedi eu symud, a bydd llawer o hyn allan yn cau eu ffermydd i mewn.

Ansawdd a nerth y tir.—Wedi cael 29 mlynedd o brofiad yn y lle, y mae genym rhyw gymaint o fantais i roi barn ar natur a nerth ein gweryd. A chymeryd yr holl ddyffryn gyda'i gilydd, gellir dweyd mai tir trwm o natur gleuog ydyw, er ei fod yn amrywio llawer iawn. Tir priodol i wenith a haidd yn benaf, yn ol ein profiad ni hyd yn hyn. Y mae yn wir nad oes yn ein mysg eto ffrellydd amaethyddol yn alluog i elfenu y tir, ac felly nid ydym yn sicr ai y cnydau a arferwn godi ydyw y rhai mwyaf priodol yn mhob man. Hyd yn hyn nid ydym wedi codi ceirch yn y dyffryn, ond y mae ein cydwladwyr yn Sefydliad yr Andes wedi llwyddo i godi ceirch rhagorol. Y mae yn ein dyffryn rai ffermydd a ystyrir hyd yn hyn yn dir gwael iawn—thai ffermydd o dir du, cleiog, glydiog, ac yn caledu yn fawr wrth sychu wedi cael dwfr. Nid ydys yn gallu codi cnydau trymion ar y tir hwn, am ei fod yn rhy amddifad o elfenau brynarol. Y mae yma dir arall, o natur ysgafnach, ond yn halenaidd, neu fwy cywir, yn cynwys cryn lawer o ryw fath o nitre, ac y mae y peth hwn yn wenwynig i wenith a haidd beth bynag, er fod y tir hyn yn codi cnydau ysgeifn. Ond pwy a wyr,—pe celem elfenwr amaethyddol medrus i roi ei farn ar y tiroedd hyn na ellid eu darostwng i godi pethau ereill mewn cyflawnder. Fe ofynir y cwestiwn yn aml, A ydyw y tir yn rhedeg allan? Y mae yn anhawdd ateb y cwestiwn hwn yn foddhaol, ond yr ateb cyffredinol cywir iddo ydyw, nac ydyw. Eto y mae ystyr ag y gellir dweyd ei fod yn rhedeg allan, am ei fod wrth ei hau y naill flwyddyn ar ol y llall am lawer tymor yn rhoi yn y diwedd ysgafnach a gwanach cnwd. Yr achos o hyn, mor belled ag yr ydym yr deall yw, am ei fod yn myned yn fwy clydiog a chleiog wrth ei ddyfrhau yn barhaus, ac felly yn caledu, a myned yn llai agored i awyriad. Fe ddywedir yn y blynyddoedd hyn gan ddysgedigion amaethyddol, mai un o brif angenion tir er codi cnydau da, yw marliad neu fraenariad trwyadl, fel ag i alluogi y tir i dderbyn y rhinweddau angenrheidiol iddo ag sydd yn yr awyr. Beth bynag, nid ydym ni hyd eto wedi gwrteithio dim mor belled ag y mae gwrteithio yn golygu rhoi unrhyw fath o dail i'r tir. Yr unig ffordd gyda ni hyd yn hyn i gadw y tir i roi cnydau da ydyw, rhoi gorphwysdra iddo. Nid y gorphwysdra a feddylir yn Nghymru a manau ereill, megys newid y cnwd, ond ei adael yn hollol segur heb hau dim ynddo, na'i ddyfrhau, ac yna y mae yn sychu i fyny mewn gwlad ddi—wlaw fel yr eiddom ni, ac yn mhen dwy neu dair blynedd bydd wedi sychu a myned mor chwal a thomen ludw, a phan yr hauir ef nesaf, rhydd gnwd cyfartal ag a roddai er's deng mlynedd yn ol. Yr ydym ni yn credu hefyd fod y dwfr a gerir yn y camlesi o'r anfon i ddyfrhau y tir, yn gadael rhyw gymaint o wrtaith ar ei ol, fel y mae ein hyder y ceidw y tir ei nerth trwy y blynyddoedd ond iddo gael gorphwys i fraenaru. Y mae hefyd y sofl a droir i lawr wrth aredig yn rhyw gymaint o fraenariad i'r tir, ac yr ydym yn credu, pe celem y peiriant medu hwnw sydd mewn rhai manau yn Awstralia yn tori yr yd yn uchel, bron yn ymyl y dywysen, ac yn ei gario yr un bryd i'r peiriant dyrnu, credwn pe celem hwn i dori ein gwenith, ac yna aredig y gwellt hwn i lawr, y byddai yn elfen farliol ardderchog i'n tir ni, gan fod cymaint o duedd i glydio a chaledu ynddo.

Ein peirianau. —Yr wyf yn meddwl y gellir dweyd nad oes un Wladfa na sefydliad o'i faint yn Ne America yn meddu cynifer o beirianau amaethyddol â'n Sefydliad ni ar y Camwy. Y mae ein hoffer amaethyddol ni yn ysgafnach na rhai Prydain. Am y rhesymau, yn un peth fod y tir yn hawddach ei drin ac yn ddi—geryg, ac hefyd am fod ein ceffylau yn ysgafnach, ac hefyd y mae y ffyrdd yn llai tolciog na ffyrdd geirwon Cymru, ac yn hollol wastad a ddi—geryg. Ni phwysa y wagen ond oddeutu haner tynell, ac yna rhoddir tynell a haner neu ddwy dynell arni, a theithir gyda llwyth bedair milldir yr awr. Y mae genym hefyd bob math o erydr, o'r aradr gerbydol i lawr—yr aradr deir cwys, dwy gwys, hyd yr aradr un gwys fwyaf syml. Pob math o ograu, march rawiau, a hauwyr. Y mae genym hefyd o ddeuddeg i bymtheg o beirianau dyrnu yn cael eu gweithio gydag ager, ac yn dyrnu o bymtheg i bum' tynell ar hugain mewn diwrnod.

Ein ffyrdd a'n pontydd.—Buom am flynyddoedd heb benu ein prif—ffyrdd na'n ffyrdd cymydogol ychwaith, ond yn awr er's rhai blynyddoedd, y mae genym ddwy brif—ffordd awdurdodedig wedi eu mesur, eu lefeli, a'u gwastadhau. Y mae y ddwy ffordd hyn yn rhedeg un bob ochr i'r dyffryn, ac yn canlyn troed y bryniau hyd y gellid eu trefnu, er mwyn peidio tori y tyddynod. "Y mae yn wir fod llawer o deithio hyd yn hyn ar hyd yr hen ffyrdd oedd yn dilyn glanau yr afon, ond goddefiad yw hyny, ac y mae yn ddiamheu nad yw yr adeg yn mhell pan y bydd y rhai hyn wedi eu cau i fyny. Y mae genym hefyd ffyrdd cymydogol. Y mae y rhai hyn yn amgylchu dau dyddyn, sef blocyn o dir yn agos i dair mil o latheni o hyd, a haner hyny o led. Y mae y ffyrdd hyn eto wedi eu mesur a'u gwastadhau. Mesura y brif ffordd bum' llath ar hugain o led, a'r ffordd gymydogol haner hyny. Nid oes ceryg yn y tir, fel yr ydym wedi awgrymu yn barod, ac felly y mae yn anhawdd cadw y ffyrdd hyn heb dyllu wrth hir deithio ar hyd-ddynt; ond fel rheol, trwy fod y tir o natur gleiog, y maent yn caledu ar ol cafod o wlaw, a lle y bydd rhai llecynau tywodog, ein dull o wella y tyllau ydyw cario gwellt a'i roddi ar hyd-ddynt, ac yna wrth hir deithio ac ambell i gafod o wlaw, y mae yn caledu ac yn gwneud ffordd weddol dda. Cyfyngir yr holl deithio gyda wageni troliau a cherbydau i'r ffyrdd hyn, ond hyd yn hyn y mae llawer o groesu tyddynod, yn ol cyfleusdra, ar draed ac ar geffylau, ond yn y lleoedd y mae y tyddynod wedi eu cau i mewn, ac fe wneir i ffwrdd a'r arferiad hwn fel y bydd y naill dyddyn ar ol y llall yn cael eu gauad i mewn. Y mae ein hafon, fel rheol, yn rhy ddwfn i'w chroesi ond trwy bont neu mewn cwch.

Y mae yn wir fod yma rydau ynddi pan y bydd yn gydmarol isel, fel y gellir ei chroesi yn y manau hyny mewn cerbydau neu ar geffylau. O gychwyniad y Sefydliad hyd o fewn ychydig o flynyddoedd yn ol gyda chychod yr arferid groesi. Yr oedd dyn wrth ei alwedigaeth yn Rawson yn cadw cwch at y pwrpas am fod y dref o bob tu i'r afon. Yr oedd hefyd gwch gan rywun gyferbyn a phob capel ac aml i dyddynwr yn cadw cwch wrth ei dy at ei wasanaeth ei hun, ac ereill yn uno i gael cwch cydrhyngddynt mewn man cyfleus iddynt. Pan wnaed y ffordd haiarn gwelodd y cwmni fod yn fantais iddynt er mwyn denu tyddynwyr yr ochr ddeheuol i'r afon ddyfod a'i cynyrch i'r ffordd haiarn er ei gludo i Porth Madryn, fod yn angenrheidiol iddynt adeiladu pont mewn lle cyfleus, ac felly y gwnaethant. Pont o goed ydyw hon gyferbyn a Trelew rhyw naw milldir o Rawson. Yn ddiweddarach, ymunodd trigolion Rawson, i wneud pont yno i uno y ddwy ochr i'r afon o'r dref yn gystal a bod yn gyfleusdra i bobl y wlad. Pont goed ydyw hon eto, ac wedi ei hadeiladu trwy roddion gwirfoddol ac yn rhydd i bawb. Dylaswn ddweyd nad yw pont cwmni y ffordd haiarn yn rhydd a didal ond i gario gwenith neu unrhyw gynyrch arall i fyned ymaith gyda'r ffordd haiarn. Mae hefyd bont-droed grogedig yn croesi yr afon yn y Gaiman. Adeiladwyd hon eto gan y cymydogaethau cylchynol trwy roddion gwirfoddol, ond er iddi dori ddwy waith adgyweiriwyd hi ac y mae yn aros yn wasanaethgar byd heddyw.

Cyfalaf y Wladfa.—Un nodwedd arbenig perthynol i'r Wladfa Gymreig yw nad oes o'i mewn ddim cyfalaf estronol, ond yn unig yr hyn a wariwyd i wneud y ffordd haiarn. Mae yr holl weithiau cyhoeddus wedi eu gwneud a llafur ac arian y Sefydlwyr. Dyna y camlesi mawrion a'r canghenau mawrion sydd yn arwain o honynt——oll yn eiddo y Gwladfawyr, a gellir rhoddi arnynt amcan. brisiad a dweyd eu bod yn werth o gant i gant a haner o filoedd o bunau (€100,000 i £150,000), eto, dyna'r holl beirianau—y peirianau medi, neu fel y gelwir hwy genym medel—rwymyddion, y rhai sydd genym wrth yr ugeiniau, ac yn costio oddeutu £50 yr un, a hefyd y peirianau dyrnu y cyfeiriwyd atynt yn barod. Mae pob un o'r rhai hyn erbyn erbyn cyrhaedd y dyffryn yn costio tua £600, heb son am yr holl offer amaethyddol llai eu pris sydd yn meddiant pob tyddynwr. Anaml y bydd cymaint ag un ffermwr heb drol neu wagen, ac yn fynych y ddwy, ac heblaw y wagen a'r drol, cerbyd bychan at farchnata, a myned a'r teulu i'r cwrdd ar y Sul ac adegau ereill. Mae y pethau hyn oll yn eiddo y Sefydlwyr. Mae y peirianau dyrnu yn eiddo y Sefydlwyr yn yr un ffordd ag y mae y camlesi, sef trwy i nifer o'r tyddynwyr ffurfio yn gwmni i'w prynu.—Cwmniau yn rhifo o dri neu bedwar i fyny i haner cant neu dri ugain.

PENOD XXX.—SEFYLLFA BRESENOL Y SEFYDLIAD (PARHAD).

Masnach.—Yr ydym fwy nag unwaith yn ngorff yr hanes hwn wedi galw sylw at fasnach y lle, fel nad oes genym yn bresenol ond dweyd gair ar sefyllfa masnach ar yr adeg yr ydym yn terfynu yr hanes hwn. Nid ydyw nifer ein masnachdai wedi cynyddu, y blynyddoedd diweddaf, ond yn hytrach yn tueddu at leihau. Er's ychydig flynyddoedd yn ol rhedodd masnach yn wyllt iawn yn y lle—rhyw fasnachwr newydd yn dod i'r lle bron gyda phob llong. Wedi i'r Cwmni Masnachol Cydweithiol ddyfod i weithrediad a chael gafael pur gyffredinol yn y lle, gorfu ar rai o'r masnachwyr roi eu busnes i fyny am nad oedd yn talu iddynt. Bu yma ar un adeg nifer o Italiaid yn codi busnes y naill ar ol y Hall, ond wedi bod wrthi yn treio enill cwstwm am ychydig flynyddoedd yn gorfod rhoi fyny. Mae yn wir fod yn ein plith hyd heddyw nifer fechan o estroniaid yn rhyw hongian cadw busnes, ond ni wyddom am ond un yn gwneud ond ychydig iawn o gynydd, sef un Captain Louis. Mae hwn wedi bod yn ein mysg er's blynyddoedd ao mewn undeb a Mr. Edward Owen yn cadw llong i redeg rhwng yma a Buenos Ayres, ac y mae efe yn gwneud busnes pur fawr ac yn sefydlog. Heblaw y Cwmni Masnachol Cydweithiol y mae yma ddau neu dri Chymro yn gwneud masnach ar raddfa pur helaeth, sef Mri. E. Owen, R. A. Davies, a H. Davies, a gellir enwi ereill o'r Cymry sydd yn gwneud busnes ar raddfa llai, megys Mr. J. S. Williams, Mr. Edward Jones a'r Mri. Hughes ac Owens. Dynion yw y rhai hyn oll ag sydd wedi gwneud eu harian yn y Wladfa yn y pymtheg mlynedd diweddaf, a rhai o honynt yn ddiweddarach. Erbyn heddyw, mae pob peth sydd yn angenrheidiol mewn sefydliad amaethyddol yn cael ei werthu, yn y naill neu y llall o'r ystordai sydd yn ein plith. Mae y rhan fwyaf o'r cynyrch yn awr yn myned i'r farchnad trwy Trelew a chyda y ffordd haiarn i Porth Madryn. Mae pris y ffordd hon wedi dyfod i lawr o un bunt i ddeuddeg swllt y dynell, ond bydd yn rhaid iddo ostwag eto yn ngwyneb pris isel y gwenith, neu ynte bydd yn rhaid i'r ffermwyr edrych am ryw ffordd ratach i gludo eu cynyrch i'r farchnad. Mae y Cwmni Masnachol Cydweithiol wedi gwneud lles mawr i'r Sefydliad yn y blynyddoedd cyntaf fel yr ydym wedi awgrymu yn barod, ac wedi bod yn hynod lwyddianus, ond yn y blynyddoedd diweddaf nid ydyw wedi cyrhaedd cystal dyben. Mae rhyw ddiffyg yn nglyn a'r Cwmniau hyn yn mhob man, ac nid yw y Wladfa yn eithriad. Credwn mai un o'u hanfanteision yw, nad yw cyflog i'r rhai a gariant y busnes yn mlaen, yn enwedig y prif swyddogion, yn ddigon o gymhelliad iddynt i daflu eu hunain i'r busnes fel pe byddai yn eiddo iddynt hwy eu hunain. Feallai nad yw y prif swyddogion yn cael cyflogau digon mawr fel ag i hawlio gwasanaeth dynion uwchraddol, ac hefyd fel ag i'w codi uwchlaw awyddu gwneud ceiniog lle cant gyfle. Anfantais arall yw costau mawrion. Mae sawd y cwmni yn cael ei wneud i fyny o raneion yr aelodau, a thrwy fod arian yn uchel eu pris mewn gwledydd newyddion, y mae y rhanddalwyr yn dysgwyl llogau uchel ar eu harian, fel cydrhwng y cyflogau a'r llogau uchel ar y cyfalaf y mae yn anmbosibl gwerthu yn rhad, ac felly yn colli yr atdyniad mawr at y shop.

Mae y masnachwr unigol yn gallu osgoi y pethau hyn, trwy ei fod ef ei hun yn arolygu, ar llog a'r profit yn dod i'r un man. Peth arall a deimlir yn nglyn a'r cwmniau hyn yw, fod yr aelodau ar un llaw yn rhy hyf ar y fusnes, fel ag i brynu llawer ar goel, a bod yn ddifraw i dalu, ac ar y llaw arall y cyfarwyddwyr a'r arolygydd yn rhy lac a goddefus i roi mewn grym y reolau a'r penderfyniadau. Wedi'r cwbl, nid ydym yn gweled unrhyw gynllun arall ond y cwmniau hyn i atal llyman masnachol i ormesu ein sefydliadau a'n hardaloedd, a hyderwn mai ymroi i wella y cwmniau hyn a wneir yn hytrach na'u rhoi i fyny.

Ein Sefyllfa Gymdeithasol.—Yr ydym erbyn hyn o ran ein nodwedd gymdeithasol yn ddigon tebyg i ardaloedd amaethyddol Cymreig Cymru, ond fod y tyddynwyr at eu gilydd yn fwy dibryder. Mae y boblogaeth yn fyw, pob un ar ei dyddyn ei hun, oddieithr y bobl sydd yn byw yn y pentrefydd y rhai a ddibyna am eu bywioliaeth wrth wasanaethu yr amaethwyr yn y gwahanol bethau sydd angenrheidiol arnynt, a'r amaethwyr hwythau yn eu ffordd yn gwasanaethu y crefftwyr a'r masnachwyr. Mae yn y pentrefi neu fel eu gelwir genym ni, y trefydd,— mae yn y trefydd hyn wahanol grefftwyr, megys y crydd, y teiliwr, y saddler, y saer maen, a'r saer coed, y gof, a'r tinman, a hefyd rhai yn byw ar fân alwadau i weithio yma a thraw heblaw y gwahanol fasnachwyr. Mae y dull o fyw yn hytrach gyntefig, hyny yw, nid oes yn ein plith eto fel Gwladfawyr nemawr o'r starch a'r stiffidra ag sydd i'w ganfod yn yr hen wiedydd. Pawb yn teimlo yn rhydd a chartrefol, yn nhy ei gymydog bron fel cartref: ymborth a llety i'w cael yn ddyeithriad yn mhob man yn hollol ddiseremoni, heb feddwl dim o hyny heb son am gael tal am danynt. Trwy fod yr hinsawdd mor wastadol sych yn ein mysg, nid yw amaethwyr yn gorfod colli dyddiau yn awr ac eilwaith o herwydd y tywydd, ac felly yn feistri ar eu gwaith yn mhob tymor fel rheol, ac felly ag amser wrth law ganddynt pryd y mynont. Mae gan bawb hefyd ddigon o geffylau marchogaeth at eu gwasanaeth, fel y mae yr holl deithio, naill a'i ar gefn y ceffyl neu mewn math o gerbyd ysgafn. Bydd y dynion ieuainc o'r ddau ryw fel rheol yn marchogaeth ar geffylau, a'r penau teuluoedd a phlant mân yn y cerbydau. Fel hyn, gwelir nad yw teithio ugain neu ddeg milldir ar ugain ond peth bychan yn ein mysg gan ein bod yn gallu ei wneud trwy farchogaeth a hyny yn ddigost.

Y canlyniad o hyn yw fod cryn dipyn o ymweled a'n gilydd yn ein mysg,—pobl bell yn y wlad yn d'od i lawr i'r pentrefydd ac aros noson mewn amaethdy gerllaw, a phobl y trefydd yn myned i'r wlad i dreulio wythnos, trwy fod noson yma ac acw yn mysg eu cyfeillion. Peth cyffredin iawn hefyd yn ein mysg ydyw gwyliau tê a gwig—wyliau (picnics). Cedwir y rhai hyn weithiau yn y capelau, mewn cysylltiad a Chyrddau Undebol ein Hysgolion Sul, ac weithiau mewn cysylltiad a'n hysgol— ion dyddiol, ond ar brydau ereill cedwir hwy mewn coedwigoedd neu ar lan y mor. Y mae ein bywyd crefyddol yn ddigon tebyg i fywyd crefyddol ardaloedd amaethyddol Cymru. Y mae genym ein pregethu a'n hysgolion Sul ar ein Sabbothau, a'n cyrddau gweddi a'n cyfeillachau yn yr wythnos. Y mae genym ein hundebau yn nglyn a'n hysgolion Sul, a'n Cyrddau Mawr Pregethu yn y gwahanol gapeli yn flynyddol; ac hefyd ein hysgolion canu, ein cyfarfodydd llenyddol, ein cymdeithasau dirwestol a diwylliadol, a'n heisteddfodau lleol a chyffredinol. Gellir dweyd fod y Cymry ar Ddyffryn y Camwy, ac edrych yn gyffredinol arnynt, yn foesol, sobr, a chrefyddol. Y mae yn wir fod yn ein mysg bob amrywiaeth o ddiodydd meddwol, ond nid yw ein tai yfed, neu yn fwy priodol, ein tai gwerthu diodydd, fel tafarndai Cymru, yn cynwys lle i ddegau eistedd i lawr ynddynt o fore hyd hwyr i yfed, ond yn hytrach lle i nifer fechan eistedd, a hyny yn yr ystafell lle y gwerthir y ddiod dros y counter yn laseidiau neu yn botelau. Y brofedigaeth fawr mewn lle tawel o fath ein lle ni, ydyw angen rhywbeth i gyfarfed a bywiogrwydd yr ieuenctyd, ac yn absenoldeb dim arall, temptir hwy i fyned i'r Fonda neu y tafarndy, i chwaren billiards neu rhywbeth tebyg. Y mae y wlad at eu gilydd yn sobr, a gellir dweyd am danom fel y dywedid am y Sidoniaid hyny yn nyddiau y Barnwyr, ein bod "yn trigo mewn dyogelwch, yn llonydd a diofal, heb fedru o neb yru cywilydd arnom mewn dim."

PEN. XXXI.-RHAGOLYGON Y DIRIOGAETH.

Gofyniad a roddir i ni yn fynych y blynyddoedd hyn gan ddyeithriaid yw, Pa beth ydyw eich rhagolygon? Rhaid i ni addef nad ydym yn hollol bendant ar ein rhagolygon, nid am ein bod yn ofni unrhyw fethiant yn nglyn a'n dyffryn ni; y mae rhagolygon dyffryn y Camwy ei hun yn eithaf addawol, ond y mae sicrwydd ein llwyddiant mewn modd eang yn dybynu ar bosibilrwydd y tiroedd o'n deutu. Y mae digon o dir o'n deutu, y mae yn wir, ar y dde ac ar yr aswy, ac i'r Gorllewin, ond y mae corff y tir hwn yn anamaethadwy o herwydd ei sychder, ac hefyd ei fod yn rhy uchel i allu dwyn dwfr yr afon i'w ddyfrhau. Y mae yn wir y gellir cadw nifer luosog o anifeiliaid arno, ond nid yw bugeilio a magu anifeiliaid wrth y miloedd yn casglu poblogaeth fel ag i ffurfio cymdeithas lle y ceir yr arferion a'r breintiau hyny ag y mae calon y Cymro yn glymedig wrthynt, ond eto, nid ydym am fod yn rhy bendant ar bosibilrwydd y tir hwn. Y mae celfyddyd a gwyddoniaeth yn nghyd yn gwneud camrau breision iawn yn nghyfeiriad diwylliant a darostyngiad tiroedd anial a diffrwyth iawn y blynyddoedd hyn. Ond y mae o'n deutu ni hefyd ddyffrynoedd mawrion amaethadwy, ond nad ydynt yn gydiol a'n dyffryn ni nac a'u gilydd, ond yn cael eu tori gan ddarnau mawrion o ucheldiroedd, ac felly yn rhy bell oddiwrth eu gilydd fel ag i fod yn gynorthwy cymdeithasol y naill i'r llall, ac hefyd y maent yn rhy bell o'r môr i allu dwyn ein cynyrch i afael marchnad. Gwelir felly fod ffordd haiarn yn hanfodol er cydio a dwyn y manau hyn i ymyl eu gilydd. Yr hyn sydd yn ansicr ar hyn o bryd ydyw, o ba borthladd yr arweinir ffordd haiarn i fynu i'r berfedd wlad. Os estynir y ffordd haiarn sydd genym yn barod o Borth Madryn i'r dyffryn hwn-os estynir hon yn mlaen dros yr ucheldir i fyny i gymydogaethau godre yr Andes, ac felly heibio pob dyffryn oddiyma i fyny, yna fe gydir ein dyffryn ni a'r holl ddyffrynoedd ereill a'u gilydd, a Phorth Madryn fydd y porthladd, a Rawson y brifddinas, ond pe dygwyddai i'r ffordd haiarn gychwyn o ryw bortbladd arall i fyny i'r Andes, a chydio y dyffrynoedd yno a'u gilydd, ac a'r portbladd y rhedai y ffordd haiarn iddo, yna gadawyd ein dyffryn ni am lawer blwyddyn faith ar ei ben ei hun. Yr ydym yn hyderu yn fawr mai y ffordd flaenaf a nodasom a gymerir, ac yna y mae yn ddiameu genym fod llwyddiant mawr yn aros ein dyffryn a'r dyffrynoedd cylchynol. Y mae yn y diriogaeth, fel yr ydys wedi awgrymu yn barod, amryw ddyffrynoedd i'r De ac i'r Gorllewin, ond yn hollol weigion hyd yn hyn. Y mae i'r De oddiwrthym yn y pellder oddeutu can' milldir lyn mawr a elwir Colwapi, ac ar lanau hwn y mae tiroedd gwastad eang iawn, ac y mae yn ein mysg amryw ar hyn o bryd yn selog dros fyned a dechreu sefydliad yn y lle hwn.

Sefydliad Cwm Hyfryd.— Y mae genym, fel yr ydym eisoes wedi coffhau, sefydliad bychan yn y lle uchod yn ngodre yr Andes. Fe ddywedir mai lle prydferth ydyw y cwm hwn, fel y mae ei enw yn arwyddo; lle amrywiog o wastadeddau, a llethrau, a mynyddoedd, yn cael ei brydferthu â cqoedwigoedd, nentydd, ffrydiau, ffynonau, ac amryw ffrwythau pêr yn tyfu yn wyllt yn y lle. Mae yno erwau lawer yn nghyd o fefys yn tyfu, ac amryw fathau o gyrens, ac heb fod yn mhell berllanau mawrion o goed afalau. Nid oes angen dyfrhau y tir hwn fel ar ddyffryn y Camwy, am fod yma fwy o wlaw yn disgyn. Y mae y Sefydlwyr, y rhai a rifant o 70 i 80 o eneidiau erbyn hyn, yn gallu codi pob peth at eu gwasanaeth yno. Mantais fawr yn perthyn i'r Sefydliad hwn ydyw, fod yno gyflawnder o goed yn gyfleus, a choedwigoedd mawrion mynydd yr Andes heb fod yn mhell, lle y mae y pine, y ffawydd, a'r bedw mewn cyflawnder. Mae y Sefydliad hwn ar bwys y gweithiau aur a'r arian, a diamheu fod daear y Sefydliad yn llawn mwnau, ond nad ydynt eto wedi gwneud digon o brawf. Y mae y Sefydliad hwn yn agosi 300 milldir o borthladd y Camwy; a thrwy nad oes eto ffordd haiarn wedi ei hagor hyd yno, y mae y Sefydlwyr yn gorfod boddloni ar godi cnydau yn unig at eu gwasanaeth eu hunain, oddieithr eu bod yn cael gwerthu ychydig i'r aur—gloddwyr sydd gerllaw. Y maent yn cadw gwartheg a defaid, ac yn gwneud ymenyn a chaws, ac ar dymhorau ant a'r cynyrchion hyn, yn nghyda chrwyn a gwlan i lawr i'r Camwy, i'w rhoddi yn gyfnewid am ddefnyddiau dillad a groceries. Fel hyn y mae y Sefydlwyr hyn yn byw—mewn unigedd y mae yn wir, ond yn nodweddiadol o Gymry, yn byw yn heddychol, ac yn meddu eu Hysgol Sul, a'u Cyrddau Gweddi. Yr ydym yn credu fod dyfodol ardderchog o flaen y Sefydlwyr hyn, am eu bod drwy sefydlu fel hyn yn ddigon buan, wedi d'od i feddiant o diroedd eang, ag sydd yn sicr o ddyfod gydag amser, a hyny cyn hir iawn, yn werth mawr iawn. Y mae rhagolygon gobeithiol o flaen holl ddyffrynoedd a thiroedd godre yr Andes yn gyffredinol, yn enwedig os profa y gwahanol fwnau yn llwyddianus. Y mae y dydd yn d'od pan y bydd tiriogaeth y Camwy yn rhifo ei degau o filoedd o boblogaeth, a'n dymuniad yw y bydd i genedl y Cymry fod yn ddigon anturiaethus i gymeryd meddiant llwyr o'r lle."

PENNOD XXXII.—INDIAID PATAGONIA.

Y mae yma dri dosbarth o Indiaid—Indiaid y De, y Gorllewin, a'r Gogledd. Y mae Indiaid Deheudir y wlad yn ddynion mawrion, yn dal ac yn llydain. Indiaid y Gogledd yn llydain ac yn dewion, ond heb fod mor daled a rhai y De. Nid yw Indiaid y Gorllewin ond dynion bychain fel rheol, heb fod yn dal nac yn llydain—dynion bychain bywiog. Melynwyn yw eu lliw, yn debyg i liw hufen goleu. Y mae eu crwyn yn edrych yn seimlyd, eu gwallt yn ddu ac yn ei adael i dyfu yn hir, ac yn ei ranu ar y talcen, a'i godi i fyny i gopa y pen, ac yna ei rwymo gyda neisied, neu rwymyn. Nid ydynt yn cadw barfau. Nid eillio y maent, ond yn tynu y blew â pinsiwr bychan. Nid oes fawr wahaniaeth i'w weled rhwng gwyneb a gwisg y merched a'r bechgyn, a'r dynion a'r gwragedd. Yr hen wisg, cyn iddynt ddechreu cymysgu â dynion gwaraidd, oedd mantell o groen—mantell fawr fel cwilt gwely, a hono yn cuddio y corff i gyd, o'r coryn i'r sawdl. O grwyn gwahanol greaduriaid gwylltion y maent yn gwneud y mantelli hyn. Y maent yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaf wedi dyfod i ddefnyddio peisiau a chrysau cotwm, ac ambell i un yn d'od i wisgo dillad fel chwi a minau; ond yr hen wisg oedd y fantell groen, dim het, dim hosanau nac esgidiau, dim ond y fantell ar y croen noeth, a math o rwymyn weithiau wedi ei wau o wlan, ac weithiau wedi ei wneud o groen, yn ei dal am danynt.

Yr ydym yn darllen yn y Beibl am Elias yn gwisgo mantell flewog o groen, a gwregys croen am ei lwynau; a gwisg felly oedd gan Ioan Fedyddiwr, onide? Wedi i'r Indiaid ddyfod i fysg dynion gwaraidd, a gweled esgidiau, daethant i ganfod eu bod yn bethau defnyddiol iawn, yn enwedig i farchogaeth trwy goed a drain. Ac yn ddiweddar y maent wedi myned i wneud math o fotasau tebyg i hosanau. Gwnant y rhai hyn o grwyn coesau ol ceffylau. Tynant y croen i ffwrdd oddiar y glin, fel y tynir hosan, nes bo y tu chwith allan, trwy ddechreu yn môn y glin, a d'od i lawr i feinder y goes. Feliy y mae gar y ceffyl yn ffurfio sawdl—y goes yn gwneud y traed, a'r glin yn gwneud coes y fotasen, a hono yn d'od i fyny fel hosan hir dros y pen lin, ac yn cael ei rhwymo yno gyda charai o groen. Y mae eisieu i chwi gofio fod yr Indiaid yn fedrus iawn i ystwytho pob math o grwyn. Y mae crwyn y fantell a'r esgidiau mor ystwyth nes ydynt fel maneg. Y mae y gwregys croen wedi tynu y blew ymaith, a'i wneud mor ystwyth a rhwymyn plentyn bach. Tynir y blew weithiau oddiar y botasau, ac ystwythir hwy nes y byddant fel hosan wlan. Bryd arall gadewir y blew heb eu tynu, i fod yn gynhesrwydd yr ochr fewn.

Ei Dull o Fyw.—Er's rhai canoedd o flynyddoedd yn ol nid oedd gan yr Indiaid hyn ddim un creadur dof yn meddiant ac at eu gwasanaeth. Teithient ar eu traed ar hyd glan y môr, a bywient ar bysgod bychain a gaent mewn cregyn. Bob yn dipyn daethant i arfer bwa saeth, a chymerent ddarn miniog o ffint neu gareg dân i'w roddi flaen y saeth ac felly daethant i allu lladd am bell greadur gwyllt ar y paith neu y diffaethwch. Daethant hefyd i weithio y ceryg celyd hyn ar lun picell, a rhoddent hwynt ar flaen ffon hir cyhyd a gwialen bysgota. Defnyddient y ceryg llymion hyn hefyd yn lle cyllyll, ac hefyd gwnaent hwy ar lun bwyeill i naddu coed. Mae rhywun yn barod i ofyn,—Pa fodd y daethant i wybod sut i wneud bwa saeth, picell, cyllell, a bwyell? Yr ydych wedi bod yn darllen, mae'n debyg, am rai hen genedloedd yn arfer bwa saethau. Sonir yn y Beibl oni wneir am fwa saethau. Sonir am dynu yn y bwa, a sonir hefyd am gawell saethau, ac am saeth lem. Byddai yr hen Gymry yn arfer y bwa saeth, ac y mae yn bur debyg mai un o arfau rhyfel cyntaf braidd bob cenedl yn ei sefyllfa anwaraidd oedd y bwa saeth. Am yr arfau ereill, mae'n debyg mai dyfod o hyd iddynt a wnaethant yn awr ac yn y man ar lanau y môr, wedi eu colli o long neu longau wedi myned yn ddrylliau yn yr ystorm, ac yna yn cymeryd y rhai hyny yn batrwn i wneud rhai yr un fath a hwynt. Daethant bob yn dipyn i allu saethu creaduriaid gwylltion gyda bwa saeth, a chael cyfle ar ambell un arall gyda'r bicell. Dywedir eu bod yn llechu o'r golwg yn nghysgod llwyni ar ochr llwybrau y creaduriaid gwylltion, ac yn cael cyfle ar ambell i un felly trwy ruthro arnynt fel cath ar lygoden. Wedi i Ysbaen oresgyn neu orchfygu De America, danfonodd yr Eglwys Babaidd offeiriad allan i dreio gwareiddo a dysgu, a rhoi gwybodaeth am Iesu Grist i'r Indiaid hyn. Mae eisieu i ni gofio, er mai crefydd a llawer o ddrwg ynddi ydyw Pabyddiaeth, eto fod llawer o'r Pabyddion yn ddynion da. Ffurfiau eu crefydd sydd yn ddrwg, ac yn rhoi mantais i bobl ddrwg gamddefnyddio crefydd; ond y maent yn credu yn yr un Duw a ninau, ac yn credu yn Iesu Grist fel ninau. Ond y maent yn credu gormod mewn dynion wedi meirw, ac mewn llawer o ddynion sydd yn fyw yn awr. Ond fel y dywedasom o'r blaen, mae yn eu mysg lawer o ddynion da. Yr oedd er's canoedd o flynyddoedd yn ol rai felly. Aeth llawer o honynt allan o'u gwlad gan adael eu teuluoedd a'u cysuron, a myned i anialdiroedd i dreio rhoi gwybod. aeth am Iesu Grist i'r Indiaid tlodion ac anwybodus hyn. Chwareu teg iddynt, onide? Mae peth fel hyn yn debyg iawn i Iesu Grist. Daethai y bobl hyn ac anifeiliaid dofion allan gyda hwynt, sef gwartheg, ceffylau, defaid, a geifr. Daeth yr Indiaid yn fuan i weled gwerth ceffylau, a daethant yn fuan i'w marchogaeth. Yr oedd hyn yn welliant mawr rhagor cerdded ar eu traed ar hyd a lled yr anialwch, a daethant hefyd i ddeall cyn hir fod ambell i geffyl mor gyflymed a'r cyflymaf o'r creaduriaid gwylltion.

Fe allai y byddai yn well i mi cyn myned yn mhellach ddweyd gair wrthych chwi am y gwahanol greaduriaid gwylltion sydd yn Patagonia. Mae acw dri bwystfil ysglyfaethus, sef y llew, y gath wyllt, a'r llwynog. Yr anifeiliaid ydynt, y gwanaco, yr estrys, a'r ysgyfarnog, ac hefyd amryw fan greaduriaid. Rhyw fath o ddafad fawr a gwlan melyn arni yw y gwanaco, o dylwyth y camel. Mae o faintioli asyn bychan, corff bychan a choesau hirion, pen bychan a gwddf hir, llygaid mawrion a chlustiau hirion. Maent yn gallu gweled yn mhell, a rhedeg yn gyflym iawn, ac yn gallu dal i redeg yn gyflym am oriau lawer. Yr ydych yn gyfarwydd a gweled llun yr estrys, ond nid yw estrysod Patagonia mor fawrion a'r estrysod y sonia y Beibl am danynt. Maent hwythau yn gallu rhedeg yn gyflym iawn. Y mae iddynt adenydd, ond nis gallant ehedeg; ond y mae eu hadenydd yn gynorthwy iddynt redeg pan y byddont yn myned yr un ffordd a'r gwynt. Ni raid i mi fanylu wrth y darllenwyr am yr ysgyfarnog na'r creaduriaid bychain ereill. Y mae yr ysgyfarnog yn llawer mwy nag un Prydain, ac am y creaduriaid bychain, mae rhai o honynt yn ddiniwaid, ac ereill yn filain iawn. Wedi i'r Indiaid gael ceffylau, ni welir mo honynt byth yn cerdded— pawb yn marchogaeth, yn wyr, gwragedd, a phlant. Gwnant ryw fath o gyfrwyau eu hunain o goed, a dodant yr estyll yn nghyd gyda chareiau o groen. Y mae eu cyfrwyau yn debyg i'r cyfrwyau coed a arferid yn Nghymru er's llawer dydd i gario pynau i'r felin gan ffermwyr, ond eu bod yn llai o faint. Maent hefyd yn gwneud math o glustogau o frwyn a gwlan wedi eu rhwymo i fyny mewn croen gwanaco, neu groen dafad; a chylymant y rhai hyn ar gefn y ceffyl a math o linyn llydan ystwyth o groen. Wel, yr ydych erbyn hyn yn barod i ofyn,—Pa fath dai sydd gan yr Indiaid?

Tai yr Indiaid.—Gan mai crwydro o fan i fan y maent, a byw wrth hela creaduriaid gwylltion, nid oes ganddynt dai arosol yn un man. Y maent yn byw mewn pebyll fel y gelwir hwy yn y Beibl—rhywbeth yn debyg fel yr oedd yr Israeliaid yn yr anialwch. Y mae y babell yn cael ei gwneud o bolion coed, a'r rhai hyny yn cael eu toi â chrwyn gwanacod. Y mae yn gwnio y crwyn wrth eu gilydd nes cael dernyn mawr o groen gymaint a phe gwniech dri neu bedwar o gwiltiau gwely wrth eu gilydd. Y mae gan bob teulu, fel rheol, ei dy neu ei babell ei hun, ond y mae yn dygwydd weithiau fod ychwaneg nag un teulu yn yr un babell. Pan yn symud o fan i fan, tynant y tô i lawr, a phlygant ef yn blygion fel y gallont ei roddi i'w gario ar gefn ceffyl. Yna tynant y polion o'r ddaear a chylymant hwy yn fwndeli â chareiau o groen, a rhoddant ddau fwndel ar un ceffyl, un bob ochr iddo. Eu dillad gwely ydynt fath o wrthbanau breision o'u gwaith eu hunain, a chrwyn gwanacod heb dynu y gwlân oddiarnynt. Gwnant hefyd fatresi o frwyn a gwlân i orwedd arnynt.

Eu dodrefn.—Nid oes ganddynt, fel y gallech feddwl. ddodrefn fel sydd gyda ni yma. Nid oes ganddynt fwrdd, na chadair, nac ystol, na chwbwrdd, na chest of drawers, na dim o'r fath. Ni oes ganddynt ychwaith lestri fel sydd genym ni. Yn yr hen amser, yr oeddynt yn gwneud cwpanau o geryg wedi eu cafnu trwy eu curo â darn o haiarn. Gwnant hefyd blatiau o geryg. Gan mai cig yw eu prif ymborth, nid oes arnynt angen am lawer o lestri. Y mae yna ryw fachgen bach bywiog yn darllen y llinellau hyn, ac yn meddwl a oes ganddynt dan, a sut y maent yn cyneu tân. A ganddynt matches? Oes, y mae ganddynt dân, ond nid oes ganddynt matches. Y ffordd y maent yn cyneu tân ydyw trwy rwbio dau bren helyg ir yn eu gilydd nes y byddont yn cyneu. Gwnant eu tân ar y ddaear tu allan i'r babell, neu y tu fewn os bydd yn wlaw, yr hyn nid yw yn dygwydd yn aml, am mai gwlad sych debyg i wlad yr Aifft ydyw Patagonia. Wedi cyneu tân mawr o goed, torant ddarn o gig estrys, neu gig gwanaco, a holltant ef yn deneu, ac yna chwiliant am bren gyda fforch ynddo, a dodant y darn cig ar y fforch, a rhodd— ant y pen arall iddi yn y ddaear yn ymyl y tân, ac yna bydd y cig yn gogwyddo ychydig tua'r tân, ac felly y rhostiant ef. Brydiau ereill rhoddant y dernyn cig ar y marwor noeth i rostio. Wedi i'r cig rostio digon, yna eistedda y teulu i gyd ar eu sodlau, neu ar y ddaear, yn gylch oddeutu y fforch a'r cig, a bydd pob un mewn oed yn bwyta gyda'i law a'i gyllell, ac yn tori darnau i ddwylaw y plant. Gwelsom cyn hyn ambell i deulu mewn lle mynyddig yn y wlad, a'r plant yn bwyta tatws a chig moch, neu datws ac ysgaden gyda'u dwylaw, heb na chyllell na forch. Wedi i'r Indiaid ddyfod yn ddiweddar i gyffyrddiad â dynion gwynion gwaraidd, a chael ambell saucepan a chrochan, y maent yn berwi eu cig ambell waith, ond fel rheol ei rostio y maent. Gwnant botelau mawrion o groen i gadw saim ac i gario dwfr pan yn teithio trwy leoedd sychion. Pan yn cael tipyn o wenith yn rhywle, malant ef trwy ei roddi mewn cwpan careg, ac yna ei guro â chareg arall, yn debyg fel y gwelsoch y druggist yn malu gwahanol bowdrau. Wedi ei falu, cymysgant y blawd mewn dwfr, a gwnant deisen groew o hono, a rhoddant hono yn nghanol lludw poeth i'w chrasu. Ai nid coginiaeth debyg i hyn oedd gan y patriarchiaid, tybed? Y mae y darllenydd yn cofio am Abram yn gwneud croesaw i'r dynion dyeithr hyny er's llawer dydd, y rhai a drodd allan i fod yn angylion. Y mae Abram yn lladd myn neu oen yr afr, ac yn ei goginio, ac y mae Sarah yn tylino teisen, ac yn ei phobi, ac y mae y pryd yn barod yn y fan.

Moddion eu cynaliaeth.—Bu adeg ar yr Indiaid hyn pryd y gellid dweyd am danynt fel y dywedir am adar y to a'r brain,—nid oeddynt nac yn llafurio nac yn nyddu, a gellir dweyd hyny eto bron yn hollol am y dynion, canys nid ydynt yn llafurio y tir o gwbl. Moddion eu cynaliaeth ydyw helwriaeth. Y maent yn dal yr estrysod a'r gwanacod, a'r mân greaduriaid ereill, ac yn bwyta eu cig, ac yn gwneud math o fantelli o'r crwyn, ac yn gwerthu pluf yr estrysod i wneud brushes i fod mewn tai pobl fawr, ac yn siopau dillad y trefi a'r dinasoedd mawrion. Defnyddiant wlan y gwanacod i wneud math o wrthbanau, megys y dywedasom o'r blaen, i'w defnyddio yn ddillad gwely, ac i'w defnyddio o dan eu cyfrwyau coed ar gefnau eu ceffylau, ac y maent yn gwerthu canoedd o honynt i'w rhoddi o dan y cyfrwyau. Y mae ganddynt droell fach o'u heiddo eu hunain i nyddu eu gwlan wedi iddynt ei chwalu â'u dwylaw. Ar ol gwneud yr edafedd, y maent yn ei roddi bob yn edefyn ar fath o ffram goed, tebyg i'r ffram sydd gan ein gwragedd ni i wneud cwiltiau, ac yna y maent yn gweithio y gwrthban yn debyg fel y plethir basged â'r llaw gyda math o nodwydd bren fawr. Neu, efallai y deallai y merched yn well pe dywedwn eu bod yn gwneud y gwrthbanau hyn yn debyg fel y mae y mamau yn trwsio hosanau. Y maent yn gwneud y mantelli y buom yn son am danynt o grwyn gwanacod bychain tua phythefros oed. Gwnant rai ereill o grwyn estrysod a mân—greaduriaid ereill. Y mae oddeutu 18 o grwyn yn un o'r mantelli hyn, ac weithiau fwy. Y maent yn gwerthu llawer o'r crwyn neu y mantelli hyn am bris uchel, ac yn prynu yn ddiweddar ddefnyddiau cotwm a gwahanol ddefnyddiau bwydydd am danynt. Y dynion sydd yn hela, a'r merched a'r gwragedd yn gwneud y mantelli a'r gwrthbanau. Yn wir, y merched sydd yn gweithio galetaf, am mai arnynt hwy y mae gofal casglu tânwydd, coginio, codi y babell a'i thynu i lawr, heblaw llawer o ofalon ereill perthynol i famau.

Yr Indiaid yn Hela.—Cyn dechreu eu desgrifio yn hela, byddai yn well i mi ddweyd gair wrthych am eu gêr, eu taclau, a'u cyfryngau hela. Y cyfrwng pwysicaf oll yn nglyn a'r hela ydyw y ceffyl. Y mae gan lwyth o Indiaid o 60 i 80 o eneidiau, oddeutu 500 o geffylau— hyny yw o bob math, rhwng ceffylau, cesyg, ac ebolion bach. Nid ydynt yn arfer marchogaeth ond ychydig ar y cesyg, cadwant hwy yn unig i fagu. Y mae gan bob Indiad o 17 i fyny un neu ychwaneg o geffylau hela, yn cael eu cadw i ddim ond hyny. Y mae ganddynt hefyd geffylau y rhai hynaf a thrymaf yn gyffredin—i gario eu clud o wersyll i wersyll. Gelwir hwynt yn gludwyr, neu yn yr Yspaenaeg, yr hon a arferir ganddynt hwy, yn cargeros, ond y mae y ceffylau goreu, mwyaf dinam—y rhai cyflymaf yn cael eu cadw at hela.

Y cyfrwng nesaf at y ceffyl mewn pwysigrwydd ydyw y ci. Y mae ganddynt lawer iawn o gwn, rhai go dda, a llawer o rai diwerth. Rhyw gymysg breed yw eu cwn, o'r mastiff a'r greyhound at y ci defaid cyffredin. Offeryn pwysig iawn yn nglyn a mater yr hela ydyw y bolas, neu fath o belen wedi ei gwneud o geryg, plwm, haiarn, neu ryw fetel caled arall; gorchuddir y defnydd caled â chroen gwlyb, a rhoddir llinyn trwyddo i'w gyrchu yn nghyd fel y byddai hen bobl yn cyrchu eu pyrsaul, neu fel a roddir ar lawes plentyn bach. Rhoddir tri llinyn main, wedi eu gwneud o ewynau coesau estrysod, wedi eu plethu fel y plethir chwip; rhoddir y tri llinyn hyn wrth y belen, a chydir hwynt yn nghyd trwy fath o blethglwm. Y mae y llinynau hyn ychydig dros lathen o hyd bob un. Y mae gan bob heliwr ddau neu dri phar o'r rhai hyn, ac weithiau fwy, ac wedi eu dodi o gylch ei ganol. Pan yn hela y mae yn gafael yn un belen, ac yn gadael i'r ddwy arall swingio, a thry hwynt oddeutu ei ben nes bydd en swing wedi casglu nerth, ac yna teifl hwynt nerth ei fraich am draed ol y creadur fyddo yn rhedeg o'i flaen: ac os bydd yn lwcus yn ei dafliad, cylyma y ddwy goes yn dyn wrth eu gilydd, a magla y creadur nes y syrthia i lawr. Pan yn taflu y bolas, bydd y ceffyl yn rhedeg mor gynted ag y medr chwip o'r fath oreu wneud iddo fyned. Teflir y belen o 60 i 100 llath o bellder fel rheol. Y mae mewn hela yn fedrus dipyn o gelfyddyd. Ceisiwn yn awr roddi desgrifiad o nifer o'r Indiaid yn hela ar y paith neu ddiffaethwch uchel Patagonia. A deg neu bymtheg o Indiaid allan ar brydnawn. Teithiant bump neu chwe milldir o'r man y byddont yn gwersyllu. Wrth fyned yn hamddenol, feallai y dalient gwpl o estrysod neu ysgyfarnogod, ac yna chwiliant am le porfaog i gael bwyd, i'r ceffylau, a lle y bydd ychydig ddwfr iddynt hwy a'u hanifeiliaid. Tynant i fawr eu beichiau cig, os bydd peth, a'u cyfrwyau ; rhoddant garcharau am draed y ceffylau, rhag iddynt fyned i grwydro yn mhell yn y nos, yna torant gig i'r cwn; cyneuant dân coed, a rhostiant arno gig iddynt eu hunain, yfant ddwfr, taenant eu gwrthbanau ar y ddaear. o dan gysgod llwyn, a gorweddant a chysgant hyd y boreu, wedi iddynt yn gyntaf gael mygyn neu ddau. Breuddwydiant, feallai, am yr hela, a gwelant rai yn dal, ac ereill yn methu. Gyda'r wawr bore dranoeth, dacw golofn o fwg yn dyrchafu o'r gwersyll. Y mae pawb wedi codi, a phob un yn ymofyn ei geffyl, ac yn rhoi dwfr iddo, ac yna yn ei gyfrwyo. Yfant gwpanaid o mati, neu fath o dê yn dwym, torant ddarnau o gig i'r cwn, mygyn neu ddau, ac yna dyna bob peth yn barod. Y mae gan bob un gyllell fawr yn ei wregys, dau neu dri phar o bolas, dau neu dri o gwn, a dacw bob un ar gefn ei geffyl. Safant yn gylch. Penodant bointer neu ddau i arwain y cylch sydd i'w wneud. Cymerant, dywedwn, ddwy filldir o led, wrth bump neu chwech o hyd. A dau yn mlaen-y ddau bointer-un bob ochr i'r ddwy filldir o led; ant ar garlam fach, gyda dau neu dri o gŵn bob un. Dywedwn fod y fintai hela yn 14 o nifer. Dyna ddau wedi myn'd, ac yna â y ddau chwech ereill, bob yn un ac un, y naill ar ol y llall bob ochr, dim ond eu bod yn ngolwg eu gilydd, ac yn cau y cylch o'r tu ol. Y mae gan bob un geffyl, nifer o gwn, bolas, chwip, ac yspardyn. Dyna nhw yn awr wedi ffurfio cylch hirgrwn, canys y mae y ddau flaenaf erbyn hyn wedi troipen ar y cylch yn y fan draw, yn ngolwg eu gilydd, ac yn troi yn eu holau. O fewn y cylch yna, os yn lwcus, bydd degau, fe all ugeiniau, o greaduriaid gwylltion, yn cynwys gwnacod, estrysod, ac ysgyfarnogod, ac feallai Buma neu ddau (Llew Patagonia). Mae yr helwyr yn eu gweled ac yn nesi yn nes at eu gilydd nes y mae y creaduriaid yn teimlo eu bod yn myned yn gyfyng arnynt ac am ddianc allan. Wedi cael arwydd gan y pointers, mae pob un a'i wn, a'i geffyl, a'i bolas, yn ymosod arnynt. Dacw ddau neu dri o gwn yn ngafael y gwanaces, ac i lawr a hi, dyna un arall yn y fan acw, ac yn y fan yna dacw haner dwsin o folas yn saethu trwy'r awyr, a dacw estrys wedi ei faglu, ac un arall, ac un arall, a gwanaces yn y fan acw. Dyna'r marchogwyr oddiar eu ceffylau, a'u cyllyll o'r waen, a dacw laddfa fawr. Y mae yna rhai wedi rhedeg allan o'r cylch ar ol rhyw greadur neu gilydd, bob yn dipyn maent hwythau yn dod yn ol, rhai wedi dal, ac ereill wedi methu, Rhoddir y cig i gyd gyda'u gilydd, canys nid yw eto yn eiddo neb mwy na'u gilydd. Torant ef i fyny yn ddarnau mawrion yn y croen, a rhanant ef mor gyfartal ag sydd modd, ac yna ca pob un ei ran trwy goelbren. Y mae pob un yn cael rhan pa un bynag a fydd wedi dal neu beidio. Rhoddir ychydig ychwaneg o rhan i'r Casice neu lywydd y llwyth, ac i ambell i un fyddo a cheffyl da neu gwn da, neu yn fwy medrus gyda'i folas. Y dyn galluog, medrus, fel rheol, sydd yn dod yn mlaen yn myd bach yr Indiaid fel yn mhob man arall. Os byddant wedi cael llwyddiant yn y cylch cyntaf, troant adref bob un gyda'i faich yn llawen, ac os na lwyddant, gwnant gylch arall, ac un arall, nes llwyddo, nes i'w cwn a'u ceffylau flino a methu. Os methu wedi pob cynyg, nid oes dim i'w wneud ond troi adref gyda chylla gwag, ceffyl blin, a gwynebu teulu o fam a phlant, heb feallai damaid o ddim yn y tent. Feallai y delir dulog neu ddau, neu ysgyfarnog wrth fyned adref, neu ynte eir allan dranoeth gyda rhyw hen nag o geffyl i dreio am rywbeth, pob un drosto ei hun. Ond teg yw dweyd na oddefir i neb ddyoddef os bydd cig gan rywun. Dyna fywyd Indiaid.

Eu defodau.—Rhoddaf yma fraslun o dair defod yn eu plith ag sydd wybyddus i mi. Ystyrient fod merch yn dod i'w hoed pan yn 16 oed, hyny yw, y mae merch yn mysg yr Indiaid yn rhydd i briodi wedi pasio 16 oed. Ar ben ei blwydd yr adeg hon cedwir gwyl gan y perthynasau a'r cymydogion, ac weithiau, os bydd yn ferch i deulu enwog, bydd yr holl lwyth yn uno. Ar gyfer yr amgychiad yma bydd y fam wedi darparu, trwy ei llafur ei hun, amryw gwiltiau, wedi eu gwneud o wlân gwanacod, ac yn cynwys amryw liwiau. Ar ddydd yr wyl, pwythir amryw o'r rhai hyn yn nghyd fel ag i fod yn ddigon i wneud to ar babell (tent) fechan. Gosodir hon i fyny ychydig o'r neilldu i'r pabellau ereill. Gelwir y babell hon casa lindo. Dau air Ysbaenaeg yw y rhai hyn am dŷ tlws yn Gymraeg. Nid oes gan Indiaid Patagonia air yn eu hiaith am dŷ nac am fara, am nad oedd ganddynt dŷ na bara. Ac felly am lawer o bethau ereill; ac yna, yn ddiweddar wedi d'od i gyffyrddiad â'r pethau hyny yn mysg yr Ysbaeniaid, arferent yr enwau Ysbaenaeg am danynt. Ond i fyned yn ol at yr wyl. Wedi gosod y babell hon i fyny, yna gwisgant y ferch a phob peth goreu a feddant mewn dillad. Gwisgant hi hefyd â chadwyni, clust—dlysau, a modrwyau wedi eu gwneud o'r defnyddiau goreu yn eu meddiant, megys copr ac arian. Nid ydynt byth yn defnyddio aur. Y maent yn bur gywrain (rai o honynt) i weithio y pethau uchod o ddarnau o arian neu gopr. Wedi gwisgo ac addurno y ferch fel hyn, gosodant hi i eistedd ar glustog— au ei hunan yn y babell fechan, a gadewir un wyneb iddi yn agored; yna lleddir nifer o gesyg, ond bydd y nifer yn ateb i gyfoeth y teulu—weithiau dim ond un, pryd arall haner dwsin. Torir y rhai hyn i fyny yn debyg i fel y tyr y cigydd eidion neu ddafad i fyny, a rhenir y darnau cig rhwng y perthynasau a'r cymydogion, a bydd pawb yn gwledda arno. Tua prydnawn y dydd cyneuir tân mawr yn nghanol cylch wedi ei farcio allan, ac yna cesglir yr offerynau cerdd yn nghyd. Pethau syml iawn, gallwch feddwl, ydyw y rhai hyn. Y mae ganddynt fath o tumbarin neu symbal, rhywbeth tebyg i badell din fach, wedi amgylchu ei hymyl â chlychau bychain, ac yna bydd un o'r gwragedd yn curo ac yn ysgwyd hon. Y mae ganddynt fath o symbal arall wedi ei wneud o groen, ac wedi ei roi ar gylch pren, nes ydyw yn debyg i ogr, ond nad oes tyllau ynddo. Yn ddiweddar hefyd y mae rhai o'r dynion ienainc wedi dysgu chwareu tipyn ar y cordian: Y peth nesaf ydyw i'r dynion ieuainc ffurfio yn gylch oddeutu y tân i ddawnsio, tra y mae nifer o'r gwragedd yn brysur gyda'r offer cerdd. Mae y difyrwch hwn yn cael ei gario yn mlaen yn ngwydd y ferch ieuainc, yr hon sydd wrthi ei hun yn eistedd yn y casa lindo. Ac os byddant o fewn cyrhaedd, ymdrechir cael ychydig o wirodydd meddwol i godi tipyn ar eu hysbrydoedd i orphen yr wyl, fel y gwna y Gwyddel, a rhai Cymry a Saeson, fel y mae gwaethaf. Y mae yn drueni fod pobl gwlad efengyl hefyd yn myned i lawr i lefel Indiaid anwaraidd. Yn mlaen tua haner nos bydd y gluniau yn pallu a'r ysbryd yn trymhau, ac felly tynir pen ar yr wyl, ac a pawb i'w gaban i orphwys, a dyna ddiwedd ar y ddefod hono.

Defod arall yw priodas. Nid ydynt yn meddu unrhyw ddefod, mor belled ag y gwn, i briodi; hyny yw, unrhyw ddefod o roi modrwy ar y llaw, neu neidio dros yr ysgub, neu rhyw ddefod arall. Y maent yn priodi yn debyg fel y mae genym hanes am y patriarchiaid Isaac a Jacob. Rhyw fath o gytundeb â'r rhieni, wedi i'r par ienanc ddeall eu gilydd. Y mae yn rhaid i'r mab ieuanc dalu i'r tad mewn cesyg am ei wraig y bore y bydd yn ei chymeryd ymaith. Byddus yn cynal gwyl ar ddydd y briodas bron yn hollol yr un fath a diwrnod y casa lindo, ond yn unig na leddir cynifer o gesyg i wasgar rhoddion, ond gwneir gwledd, a chedwir y ddawns. Cyn terfynu ar y pen hwn, teg ydyw i wneud yn hysbys i'n darllenwyr nad oes yn mysg Indiaid Patagonia blant anghyfreithlon, na neb yn cydfyw fel y dywedir. Y maent yn ddynion diwair, a chymer y rhieni ofal mawr am eu merched. Ac am eu bywyd teuluaidd, y mae yn cael ei nodweddu gan deimladau da a heddwch. Nid oes yn eu plith enghreifftiau o wyr yn curo eu gwragedd, ac ni chlywir terfysg nwydau drwg yn eu pabellau.

Marw a Chladdu.—Mae yr Indiaid fel rheol yn ddynion pur iach, ond fel y maent yn d'od i gyffyrddiad â gwariddiad a chael gwirodydd meddwol, y mae llawer o honynt wrth yfed gwirodydd meddwol yn cael anwyd, a gwelir yn ddiweddar, yma ac acw, Indiad yn y darfodedigaeth. Mae yna glefyd arall pur dueddol iddynt, ac feallai yn glefyd arbenig perthynol iddynt hwy, sef math fol—rwymedd. Mae y plant yn bur dueddol iddo, ac mae yn cael ei achosi, feallai, gan fwyta gormod o gig, a hwnw ddim yn cael ei goginio yn briodol. Ni chlywais Indiad erioed yn cwyno am y ddanodd, nac am grydcymalau. Eto, mae yr Indiad fel pawb ereill, ag iddynt amser terfynedig ar y ddaear. Gosodwyd i Indiad farw, ac wedi hyny bod barn, fel pob dyn arall. Pan fo Indiad yn sal, neu mewn afiechyd, y mae y perthynasau yn garedig yn gwneud eu goreu i dreio ei wella, ond pan welant nad oes dim gobaith am dano, a'i fod bron tynu yr anadl ddiweddaf, cymerant gadach ystwyth o sidan neu rhyw ddefnydd arall, a gwasgant ef ar ei ffroenau ai safn i'w rwystro i anadlu, mewn gwirionedd mygir ef. Ni ddaethum erioed i wybod i sicrwydd pa'm y gwnant hyn, ond fy nghred yw, mai rhag i'r aelodau oeri gormod, os gadewir iddo farw yn raddol fel nad allant eu trafod cystal. Yr arferiad yw, mor gynted ag yr â yr anadl o hono, plygir y coesau ar yn ol yn y pen glun, a gwasgir y pen a'r frest i lawr at y gliniau nes yw y corff yn rhyw dalp crwn debyg i lab o wellt, ac yna rhwymir ef a chareiau ystwyth o groen er ei gadw yn y ffurf hon nes iddo oeri. Rhoddir y ffurf hwn i'r corff, mae yn bur debyg, am ei fod fel hyn yn cadw llai o le, ac felly yn haws ei gladdu i ddynion nad oes ganddynt arfau pwrpasol at dori beddau fel sydd genym ni. Mor gynted ag y gorphenir gyda'r corff, ceir gweled un neu ychwaneg o'r dynion yn anarchogaeth ymaith i'r paith i gasglu yn nghyd at y gwersyll holl geffylau a chesyg yr ymadawedig. Os bydd yn ddyn cyfoethog, bydd ganddo luaws mawr o honynt. Delir hwy bob yn un ac yn un, a rhoddir cwlwm rhedeg ar raffau, un o bob tu am ei wddf, ac yna bydd nifer o ddynion cryfion yn tynu yn groes i'w gilydd nes ei dagu, a syrthia i lawr yn farw, ac felly y gwneir a phob un y naill ar ol y llall, nes eu lladd oll. Wedi hyny, leddir ei gwn trwy eu taro ar eu penau nes y byddant feirw. Torir y ceffylau ieuengaf a'r cesyg i fyny yn ddarnau, a rhenir hwynt i'r cymydogion, a rhoddir y gweddill i'r cwn.

Wedi hyny, cyneuir tân coed mawr a chesglir holl eiddo llosgadwy yr ymadawedig—ei gêr marchogaeth a hela, ac hyd y nod ei babell, a llosgir y cyfan yn lludw; pob peth nad oedd yn llosgadwy, teflir ef i'r dwfr neu i ryw le o'r neilldu o'r golwg. Wedi gwneud y difrod hyn ar bethau bydd yn rhaid i'r teulu fydd ar ol, os bydd teulu hefyd, fyned ati ar unwaith i osod pabell fechan iddynt eu hunain. Tra bydd y dynion yn cario yn mlaen y lladd a'r llosgi y buom yn son am dano, bydd y gwragedd henaf yn myned trwy ddefod o alaru. Mae y galaru yn ddefod yn mysg yr Indiaid fel yn mysg y Dwyreinwyr. Mae genym hanes yn y Beibl am bobl yn cadw galar mawr, ac am alarwyr. Dynion yn cael eu talu am alarnadu. Yr oedd y galarwyr wedi dyfod i mewn i dy Jairus cyn i'r Gwaredwr gyrhaedd, ac wedi dechreu ar eu gwaith. Bydd y gwragedd hyn, yn enwedig y perthynasau, yn tori eu gwalltau yn fyr o gylch eu penau nes bydd fel bargod to gwellt. Byddant hefyd yn cymeryd darnau o wydr neu rywbeth miniog arall ac yn tori eu gwynebau, nes y bydd y gwaed yn llifo nes gwneud rhychiau ar hyd eu gwynebau, ac weithiau byddant yn lliwio eu gwynebau. Maent bron yn llythyrenol fel y dysgrifia y Beibl drigolion Canaan, ac y gwahardda cenedl Israel i'w hefelychu. Darllener Lefiticus xix. 27—18, ac os troir i Feibl a chyfeiriadau ynddo, ceir gweled fod cyfeiriad at yr un arferiad yn Deuteronomium, Esiah, a Jeremiah, os nad mewn manau ereill. Mae yr arferion a'r defodau tebyg hyn yn myned yn bell i brofi mai teithio wnaeth yr hil ddynol o'r Dwyrain i wahanol wledydd y ddaear, ac mai

"Brodyr o'r un bru ydym (ar y cyntaf)
Yn Adda un oeddym,
Ni gyd oll un gwaed y'm,
Un cnawd, ac anadi, ac un Duw genym."


Y mae ganddynt dri gair bach i'w canu wrth alarnadu— "Ga-la-le." Maent yn canu y rhai hyn mewn ton leddf hirllais, ac yn eu hail adrodd drosodd drachefn trwy gydol y dydd, ac weithiau am ddyddiau lawer. Ni ddaethum erioed i ddeall beth oedd ystyr y geiriau hyn. Yr oeddynt yn dawedog iawn yn nglyn a'u defodau. Byddai y galar-wragedd hyn yn cerdded oddeutu y gwersyll, ac yn galarnadu tra y byddai y dynion yn casglu y pethau, ac yn eu taflu yn dyner i'r tân, ond ni byddai yr hen chwiorydd hyn yn rhy drwm eu calonau i gipio ambell i beth o'r tân a'u daro o tan eu hugan, os gallent wneud hyny heb i neb o'r perhynasau eu gweled, ac y mae yn bur debyg eu bod yn deall eu gilydd yn aml. Yr un yw y natur ddynol yn mhob gwlad a chenedl a than bob amgylchiad. Mae rhyw rai yn mhob man yn treio gwneud tipyn o broffit hyd y nod ar ddyfodiad angeu i deulu. Claddent y corff dranoeth wedi iddo farw; cedwir dillad yr ymadaw edig a lapir hwy am dano i'w gladdu. Rhoddir hefyd ei bibell a'i arian a beeds gydag ef yn y bedd. Cerir y corff wedi ei rwymo, fel y rhwymir pwn ar gefn ceffyl. Cleddir ef mewn twll crwn wedi ei dori â rhyw ddarn o haiarn ac a'r dwylaw; nid yn ddwfn ond fel y gallent guddio y corff.

Eu Crefydd.— Y mae Indiaid Patagonia yn credu mewn dau fôd anweledig—un da ac un drwg—Duw a diafol. Y maent yn talu mwy o sylw i'r bôd drwg nac i'r Bôd da. Dywedant nad oes angen gwneud fawr o helynt gyda'r Bod da, am, meddant, y mae efe yn rhy dda i wneud drwg i neb; ond am yr un drwg, y mae eisieu ei gadw ef yn foddlon, a bod mewn heddwch âg ef, rhag iddo wneud drwg iddynt. Y maent yn credu mai efe sydd yn ben a llywodraethwr ar ddrygau y byd. Y mae genymi le i gredu fod syniad tebyg yn y byd yn amser Job, ac onid yw y Testament Newydd yn rhoi lle i ni gredu mai efe yw tywysog byd yr anffodion, ond ei fod wrth gadwen gan Iesu Grist, fel nas gall wneud fel y myno. Beth bynag, creda Indiaid Patagonia mai y diafol yw "tad y drwg." Ni chefais i erioed allan yn glir beth yw eu haddoliad i'r Bod da neu i Dduw. Yr ydym wedi sylwi fod rhai o'u dynion goreu—y dynion mwyaf ystyriol—yn arfer syrthio ar eu hwynebau y peth cyntaf yn y boreu, wedi iddynt godi, i gyfeiriad y dwyrain. Rhoddant gwrlid dros eu penau, a gorweddant felly yn llonydd am rai mynydau, a phan godant i fyny, edrychant yn sobr ac yn syn, fel dynion wedi bod yn dal cymundeb â mawrion bethau byd yr ysbrydol. A ydynt yn y dull hwn yn talu rhyw fath o warogaeth i'r haul, nis gwyddom, ond braidd na thybiem eu bod. Feallai eu bod yn ystyried yr haul yn fendith mor fawr, fel y tybiant feallai nad yw y Bod da ddim yn bell oddiwrtho. Fe ddywed y Beibl hefyd, "Goleuni yw Duw." Nis gwn am un ddefod arall o addoliad i'r Bod da o'u heiddo. Ond am y bod drwg, sef y diafol, y mae yn cael llawer iawn o sylw ganddynt. Y maent aberthu cesyg, ac yn offrymu yn fynych iddo ef. mae a fyno y lleuad hefyd rywbeth â'u haddoliad i'r un drwg. Byddant yn aberthu iddo ar y newydd loer. Onid yw yn ffaith fod holl genhedloedd y byd ar wahan i'r Datguddiad Dwyfol yn cysylltu eu haddoliad a'r haul a'r lleuad. Dywedir yn llyfr Job, "Os edrychais ar yr haul pan dywynai, neu pan godai, a'r lleuad yn cerdded yn ddysglaer;" dywedai gwr y Sunamees hono, " Paham yr ei di ato ef heddyw," gan nad yw hi na newydd loer na Sabbath." Darllener hefyd Deut. iv. 19; Jer. xliv. 17; Esa. viii. 16; a manau ereill. Byddant yn myned a chesyg i ben bryn neu fynydd i'w lladd, ac yna eu llosgi. Weithiau, byddant yn tynu calon y creadur allan, ac yn gwneud ryw seremoni gyda hi, ac yna yn ei llosgi. Y mae yr Indiaid yn credu mewn dewiniaeth a witsio, ac y maent yn credu fod y dynion hyn yn dal cymundeb â'r ysbryd drwg. Y mae eu syniad am witsio yn debyg iawn i syniad yr hen bobl yn Nghymru er's llawer dydd-rhyw hen fenyw hyllach na'i gilydd yw y wits bob amser. Y mae yn eu mysg hefyd gonsurwyr-dynion yn gallu dweyd dirgelion. Y mae y meddyg a'r consurwr, neu y dewin, yn yr un person, ac y mae y feddyginiaeth yn cynwys dewiniaeth yn gystal a rhyw gyffyr o'u heiddo hwy eu hunain. Onid fel hyn yr oedd hi yn Nghymru er's tua chan' mlynedd yn ol, a chyn hyn Pan y bydd afiechyd mewn teulu, bydd yr Indiaid yn credu fod a fyno y diafol ag ef, a bydd y gwragedd yn myned oddiamgylch y babell gyda'r padelli croen a'r clychau o'u deutu, ac yn gwneud swn byddarol er gyru yr ysbryd drwg i fwrdd, a bydd y dynion yr un pryd yn aberthu iddo. Y mae yr Indiaid hefyd yn credu mewn byd ar ol hwn. Y mae yn wir fod eu syniad am dano yn bur gynhenid a phaganaidd, ond y mae cnewyllyn y gwirionedd ganddynt, ond fod yna wisg faterol iawn am dano. Credant fod dynion pan yn marw yn myned drosodd i ryw fyd arall anweledig iddynt hwy, a'u bod yn byw yno yn bur debyg ag yr oeddynt yma cyn marw. Os bydd Indiad yn ddyn da, credant y caiff fyned i wlad dda am helwriaeth, lle y bydd cyflawnder o ysgyfarnogod, estrysod, a gwanacod i'w cael, ac na fydd yno ddim prinder, a dyfod yn ol heb ddal. Credant hefyd fod y ceffylau a'r cesyg, a'r cwn a laddwyd ddydd marwolaeth y dyn, yn myned drosodd i'r byd arall gydag ef, a'r holl bethau a losgwyd ac a daflwyd i'r dwfr, ac a roddwyd gydag ef yn y bedd.

Os bydd dyn yn un drwg, bydd hwnw yn myned i wlad wael, lom, ddiborfa, a dihelwriaeth, lle y bydd yn rhaid iddo deithio yn mhell trwy leoedd diffaith i dreio cael ei gynaliaeth, ac yn methu dal wedi yr holl deithio blin, ac mai byw i haner newynu y bydd. ac ar y goreu byw o'r llaw i'r geneu. Yr ydych yn gweled yn awr esboniad o'r lladd y ceffylau a'r cwn y buom yn son am danynt o'r blaen: Wel, dyma ni wedi rhoddi braslun o hanes Indiaid Patagonia. Y mae yn bur debyg eu bod ar un adeg yn genedl gref, ond y maent yn darfod yn gyflym trwy y naill ffordd a'r llall, ac yn fuan iawn ni bydd un o honynt. Diolchwn am i ni gael ein geni yn ngwlad y Beiblau a'r

efengyl, a byddwn ofalus i fyw yn deilwng o'n breintiau.

ATODIAD.

Yr oeddwn wedi bwriadu, pan yn dechreu yr hanes hwn, roddi yn yr Atodiad enwau holl lywyddion ac ynadon y Sefydlad o'r dechreu hyd yn awr, yn nghyd ag enwau y pwyllgor cyntaf, ond methais a chael yr holl enwau, ac felly gadewais hwynt allan yn hytrach na'u rhoi i lawr yn anghyflawn. Os byddaf byw i ddwyn allan ail—argraffiad, byddant yn hwnw, yn nghyd ag amryw bethau ereill.

Rhoddais yma enwau y fintai gyntaf fel yr oeddynt yn L'erpwl cyn cychwyn. Yr ydym wedi roddi gyda eu gilydd y rhai a ddaethai o'r un lle, yn nghyd ag enw y lle hwnw wrth yr enwau. Lle eu preswylfod pan yn cychwyn a roddir yma, ac nid lle eu genedigaeth a'u magwriaeth. Yr oeddwn yn meddwl y buasai hyny yn rhwyddach llwybr i olrhain y personau hyn ar i 'nol hyd at eu cyn achau a lle eu genedigaeth.

ENWAU Y FINTAI GYNTAF YN CYCHWYN O GYMRU.

O Mountain Ash.—John Jones, Elizabeth Jones, Ann Jones, Margaret Jones, Richard Jones, John Jones (ieu.), Mary Jones, Thomas Harries Jones, Sicilia Davies, John E. Davies, Aaron Jenkins, Rachel Jenkins, Richard Jenkins, Daniel Evans, Mary Evans, John Evans (ieu.), Elizabeth Evans, William Awstin, Thomas Awstin, James Jones, Sarah Jones, James Jenkins (baban), Thomas Jenkins, Mary Jones, Mary Lewis, William Jenkins, Elizabeth Jones, John Davies, Mary Williams, Thomas Williams, William Richards, David John, Thomas Harris, Sarah Harris, William Harris, John Harris, Thomas Harris (ieu.), Daniel Harris, Thomas Thomas.

O Aberdar.—A. Matthews, Gwenllian Matthews, Mary Annie Matthews, Thomas Davies, Eleanor Davies, Evan Jones, Thomas Jones, David Jones, Elizabeth Jones, David Davies, Hannah Davies, Ann Davies, Elizabeth Davies, Mary John.

O Liverpool.—George Jones, David Jones, Hugh Hughes (Cadfan). Jane Hughes (Cadfan), David Hughes (Cadfan), Llewelyn Hughes (Cadfan), Jane Williams, Edward Price, Martha Price, Edward Price (ieu.), Martha Price (ieu.), William Davies, Doctor Green, William Williams, Lewis Jones, Eleanor Jones, Thomas Ellis, John Ellis, Ann Owen, Elizabeth Wood.

O Bangor. Robert Thomas, Mary Thomas, Mary Thomas (ieu.), Catherine Thomas, Anos Williams, Eleanor Williams, Elizabeth Williams,

O Manchester.—Rhydderch Hughes, Sarah Hughes, Meurig Hughes, Jane Hughes, Thomas Evans (Deinol).

O Birkenhead.—John Williams, Elizabeth Williams, Elizabeth Williams (ieu.), John Williams (ieu), William Wesley Williams, Watkin Wesley Williams, Louiza Williams, Catherine Williams, Catherine Hughes, Robert Neagle.

O'r Bala—William R. Jones, Catherine Jones, Jane Jones, Mary Ann Jones.

O Aberystwyth.—Lewis Davies, Rachel Davies, Thomas Davies, David Williams, John Morgans, Pwllglas, ger Aberystwyth.

O'r Ganllwyd, ger Dolgellau.—Morris Humphreys, Elizabeth Humphreys, Lewis Humphreys, John Humphreys.

O Gaernarfon. Richard Hughes, Stephen Jones.

O Gaergybi.—Elizabeth Pritchard,

O Aberdar.—Josuah Jones, Cwmaman, Evan Davies ac Ann Davies, Aberaman.

O Rhosllanerchrugog, G.C.—John Hughes, Elizabeth Hughes, William Hughes, John Hughes (ieu.), Mary Hughes, Griffith Hughes, Mary Hughes, Jane Hughes. Griffith Hughes (ieu.), David Hughes.

O Festiniog.—Griffith Price, James Benjamin Rees, Griffith Solomon, Elizabeth Solomon, John Moelwyn Roberts, Elizabeth Solomon (ieu.), John Roberts, Mary Roberts, John Roberts (ieu.), Mary Roberts (ieu.).

O Llandrillo.—Robert Davies, Catherine Davies, William Davies, Henry Davies.

O Seecombe.—William Roberts.

O Llanfair Fechan.—Robert Meirion Williams, Richard Howell Williams.

O Fôn.—William Hughes, Jane Hughes, Jane Hughes (ieu.)

O Brynaman.—James Davies.

O Llanfechan,—Maldwyn.—Richard Ellis, Frances Ellis.

O Ddinbych.—Joseph Seth Jones.

O New York.—Richard Jones, Berwyn.

O Bethesda.—Grace Roberts.

O Benybont—ar—Ogwy.—John M. Thomas.

O Wigan.—E. C. Roberts.



ARGRAFFWYD GAN MILLS AC EVANS, ABERDAR.

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.