Neidio i'r cynnwys

Caniadau Barlwydon Llyfr 1 (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Caniadau Barlwydon Llyfr 1 (testun cyfansawdd)

gan Robert John Davies (Barlwydon)

I'w darllen pennod wrth bennod gweler Caniadau Barlwydon Llyfr 1

O ddarlun gan Mr. W. J. Roberts, Bl. Ffestiniog.

Caniadau
BARLWYDON:



LLYFR I.




Y BALA:
ARGRAFFWYD GAN DAVIES AC EVANS, SWYDDFA 'R "SEREN."
1896.



ANERCHIADAU BARDDONOL.

BARLWYDON; baril o hadau—iachus
Luchia dy GANIADAU;
Yma i ddolydd meddyliau
I dyfn ŷd i'w fwynhau.

Ydlan dawn yn llawn lluniaeth—saigabwyd
Leinw 'i 'sgubor helaeth;
Dewch i'w nol cewch fuddiol faeth
A cheirchen at eich archwaeth.
—ISALLT.


BRI leda i BARLWYDON—yn gnydiog
O'i Ganiadau tlysion;
Gwefrol hwyl ei gyfrol hon
Wna'r rhydlyd wên yn rhadlon.
—ALAFON.

TYRED, Ddarllenydd tirion,—yma cei
Emau cân BARLWYDON;
Er dy les, O! mor dlysion
Yw gemau 'r glir Gymraeg lon.

Hardd gyfrol o ddetholion—o feddwl
Foddia ben a chalon;
Addawaf i feirdd ëon
Fwnau o aur o fewn hon.
—DYFED.


CYNWYSIAD.


CANIADAU BARLWYDON.


AWDL: "MAM."
(Buddugol yn Abermaw, Pasg, 1893.)

ENW yw Mam sy'n anwyl—i deulu byd
Hawlia barch bob egwyl,
Gwir ddelwedd hygaredd gwyl
A phrysur yn ei phreswyl.

Ceir yn gylch o'i hamgylch hi
Ddeiliaid i'w phur addoli;—
Ceir ei meibion llon yn llu,
A'i hoft ferched i'w pharchu
A'i phriod hoff er y dydd
Eu hunwyd mewn llawenydd,—
Hwnw fêd ei wynfydedd
Yn ei chwmni hi a'i hedd.

Dduwiesaidd Fam urddasol,— em o wraig,
Mam yr holl hil ddynol,—
Fendigedig o hudol,
A'i bron rad heb rin ar ol.

Rhodd Ior i Adda eirian
Yn Eden gynt yn wen gán
Oedd Efa 'i wraig ddifyr, wyl—
Eiluned ddwyfol anwyl.
Diamhuredd gydmares,
Benodol teuluol les;
YR EM OLAF O'R MILIWN
I arbed hâd i'r byd hwn

Anhalog fam dynoliaeth
Y penwyd hi pan y daeth
Yn rhodd Ior i'r ddaearen,
I'w gwr yn hardd goron wen.

Efa anwyl fu unwaith-dan wen Duw
Yn un dêg a pherffaith,
Mewn hoen yn ddiboen heb iaith
Ochenaid, gwae na chwyniaith.

Felly 'r oedd nefoedd ddi-nam,
Unig hanfod i'n cyn-fam,
A'i phurdeb hoff a'i rhad hi,
A hitiodd ddiafol atti,
Ond er mor drwm y codwm cas,
Ddifreiniai 'i hardd fron o'i hurddas,
Rhoed o Dduw rad addewid
Am Waredwr—Prynwr prid;—
"Hâd y Wraig"—rhwymwr dreigiau
Dryllia hwn yn gandryll, iau
Pechod yn ddyrnod pan ddel
O'i ras i'r ddaear isel;
Ac "Had y Wraig"—awdwr hedd
Ry' adferiad i fawredd
Adfer y byd o fro bedd,
A benyw ddyrch i'w bonedd.

Dyfodfa duaf adfyd,
A mawr boen i famau 'r byd,
Ddygai pechod, a'i ddigoll
Alaeth i ddynoliaeth oll.

Gruddfan yr esgoreddfa—a phoenau
Yn ei phenyd yma,
Ond er ei phoen gor-hoen ga
Yn ddigoll pan ymddyga.


Ond er y farn daw arni—doriad gwawr
Drwy deg orwel geni;
Mawl yw ei hiaith—teimla hi
Hydreiddiol obaith drwyddi.

Er ei gwendid rhyw geinder—ar ei gwedd
Sy'n rhoi gwawr i londer;
Ac yn ei mynwes dyner
Ei "dyn bach" gofleidia'n bêr.

Ei mebyn—dyma obaith—ei mynwes;
Am hwnw fil canwaith
Meddylia—mae addoliaith
Cariad yn ei llygad llaith.

Yn ddyddan iawn ddydd a nos—hi a'i mag;
Dyma'i haul 'r ol dunos,
Ni oddef ing a'i ddu fâr,
I'r un hygar yn agos.

Cofleidia y cu flodyn——yn ei bron;
Dyna 'i braint amheuthyn;
A gwylia rhag pob gelyn
Ingol, ei gwâr angel gwyn.

Ar ei glin gwawr ei glanwedd—anwylyd
Sy'n hawlio edmygedd;
A gwyra uwch hygaredd
Ei wen dlôs ag anadl hedd.

Yn ei wydd fe ga'i hawddfyd—
Treiddia hoen trwyddi o hyd
Atto 'i hun mae yn tynu
Serch ei mynwes gynes, gu.
Nod ei chariad a'i choron,
A'i bri yw plentyn ei bron.

Dawnsia hoen trydana serch
Ei mynwes, wrth ymanerch
Uwch ei deg ddibechod wydd
Yn oedran diniweidrwydd.

Ei bendith ar ei fabandod—ag aidd
Gyhoedda 'n ddiddarfod;
Hyd lys ei Duw dilys dod
Wna 'i heirchion wrth ei warchod.

Gwynfyd Ior a'i geinaf dant
Yw dymuniant ei mynwes
I ran y bychan heb ball
Hyd oror y byd arall.
Eidduna iddo einioes
O rinwedd hyd ddiwedd oes;—
Oes o barch, oes o berchen,
Doniau Duw a'i hynod wên, –
Oes dda i gyd, oes ddi—gur,
Ac Iesu iddo 'n gysur.

Delweddu hudol loewddydd—i'w gyfran
A gwefriai llawenydd,
Hi wel yn nrych darfelydd
Ryw swynol ddyfodol fydd.

Gesyd yn fynych gusan—ar wyneb
Yr anwyl un bychan;
Rhed o'i radau ryw drydan,
A'i mynwes gynes rydd gân.

Edrych ar ddiniweidrwydd — cariadus
Yn y cryd diaflwydd;
A siglo 'i phlentyn sy'n swydd
Anwyla ei bron hylwydd,


Ei hwiangerdd yno gan—hoffus ferch,
Uwch gorphwysfa'r bychan;
A mynwes dwym ei hanian,
Gwylia hi ei mebyn glân.

Yn siriol dysga i siarad—ei barabl
Sy'n beraidd i'w theimlad;
Geiriau ei fin, hygar, fad,
Chwery ar danau 'i chariad.

A'i hanian hi—uniawn naws,
Dysga adnod sy' gydnaws
I'w phlentyn dillyn a del,
Di-ing o lendid angel.
Iddo dysg weddio Duw,—
I gerdded llwybrau'r Gwirdduw,—
A gochel llwybrau'r gelyn,
Drydd i wae a distryw ddyn,
Yn ei rawd pan gais rodio
Ei llaw wen a'i llywia o;
Yno digon diogel
Y teimla, i'w yrfa él.
Hudol swyn ei dlysineb
I'w chalon hi uwchlaw neb,
Yrr drydan—cariad wrida
Ei gwedd dlos fel rhôs yr ha',
Hoen iddi yn ei haddef
Yw gwel'd ei branc, hoewbranc ef
Ac adlais cu hyawdledd
Ei lais i'w chalon sy'n wledd.

O daw afiechyd a'i feichiau—i dŷ,
Pwy o dan ei donau
Nos a dydd—er ei mawr dristhau—
Wyla'r claf;—rhydd eli i'r clwyfau?

'N ail i fam—un o fil fydd,
Llaw hon sy'n rhoi llawenydd.

Gweinyddes a ddwg noddiant—un wir ddewr
Ni rydd hûn i'w hamrant.
Ei hanwyliaid a welant—ynddi hi
Angel i weini mewn ing wiw loniant.

Yno o fewn ei chalon fâd—y rhoes Duw
Ryw ystôr o gariad,
A ddel hwnt yn ddileihad
A'i fôr o bob cyfeiriad.

Ystyriol—llawn tosturi—yw ei bron,
Un fo'n brudd wna loni;
Rhad ei chydymdeimlad hi
Ar ei ddolur rydd eli.

Dros eraill yn dra siriol—yn gyfan
Mae 'i gofal beunyddiol;
Un ddihunan haeddianol
O barch yw—un bur ei chôl.

O daw angeu a'i dynged—ddiwyrni,
A'i ddyrnod ddiarbed.
I'w thy, ac ymaith ehed
Un o'i gwyl ryw awr galed.

Oni welwn hi'n wylo—a'i deigr brwd
O gûr bron yn treiglo?
Gan siarad y teimlad dwfn
Yn annwfn ei bron yno.

Arddu'i dwys fron yn gwysau—wna hiraeth
A'i erwin deimladau,
Arw wedd y cûr! herwydd cau—ei phlentyn
Pur oedd ddillyn o dan y priddellau.

Ei dagrau brwd gorbur ynt,
A chawodau serch ydynt;
Odlau yn llawn hyawdledd,
Yw ochain bwnc erchwyn bedd.
Ysgafnhâd gwasgfeuon yw,
Ochenaid o serch hanyw.
Nid yw araith iaith wrth hon,
Ond diystyr ei dwys—don,
A dirym oll wrth drom iaith,
Ochenaid leddf ei chwyniaith.

Hir y galar a goledd—am yr un
Roed yn mro y dyfnfedd;
O'r cof er dorau'r ceufedd,
Ni ddileir ei ddelw a'i wêdd.

Ei thylwyth fyth a wylia—am danynt
Mam dyner ofala;
Ar ei haelwyd rheola,
A'u llesio 'n nod ei llys wna.

Os cerydd, cerydd cariad—weinydda'n
Addas i'r amgylchiad;
Ei noddaeth a'i gweinyddiad
I eraill sydd er lleshad.

Yn ei thylwyth y wialen—yn addas
Ddefnyddia mewn angen—
A meiddia y fam addien
Ei llywio hi a'i llaw wen.

Ar aelwyd afreolus—gair o'i drwg
A grea drefn ddestlus:
Gwers reol ragorol gant,
Nes byddant yn weis boddus.


Ar aelwyd ddigwerylon—hynawsedd
Deyrnasa fel Banon,
A dyry y Fam dirion
Wers o ddysg o'i gorsedd hon.

Hon yw hynod frenhines—ei theulu
A'i thalent yn achles;
A nodded—deg weinyddes
I'w llu er daioni a lles.

Ceisio wna er eu cysur—eu gwisgoedd
Yn gysgod i'w natur;
A'i harfau tra llunia 'u llwydd—
Yn wniadur a nodwydd.

Ac hefyd ar eu cyfer—eu lluniaeth
I'w lloni bob amser
Drefna hi; dyry fwynhad
Yn wastad a'i melusder.

Hwylus yn ei deheulaw—yw allwedd
Porth ewyllys effraw;
A dorau llwydd dry a'i llaw
I'w llonnedd—wrth gynlluniaw.

Dylanwad mwy na dylanwad Mam—nid oes
Er y da a'r gwyrgam,
Cyferfydd dysg cyfeirfam
Hynt a nod ei phlant di—nam.

Dylanwadol ei nodwedd—ydyw hi
I dywys at rinwedd,
Ei rhai hoff hyd lwybrau hedd,
Gyfeiria rhag oferedd.


Byw ar addysg boreuddydd—eu heinoes
Hyd henaint wnant beunydd —
Addysg dda arweinia 'n rhydd
Hyd uniawn ftyrdd dywenydd.

Tyfu i fynu'n fwynion—(a hi 'mharch
Ei meibion a'i merched,)
Y ceir ei had ac i'r Ion
Hi a fâg bendefigion.

Dwyn i fynu dan faner—yr Iesu
Grasol—ei phlant tyner, —
Addurn i'w hoes ddyry Ner
A'i fendith a'i gyfiawnder.

Cynghorion doethion ei dysg—
Goreuddysg y wir wyddor,
Ddwg ei phlant i'w mwyniant mau
Trwy 'u hoesau'n benaf trysor.

Tynged ei phlant a hongia—ar y ddysg
Rydd hi'n moreu 'u gyrfa;
Yr aelwyd a reola—foesau'r byd,
Yn moreu bywyd mae euro bwa.

Yn nyddiau henaint dyddanwch—gå hon
Heb gyni a thristwch;—
Caiff wledd o addysg ei phlant
Gerddant mewn gwisg o harddwch.

Mwynhau y mae gwmni mêl
Duw a chydwybod dawel.

Ow! y galar rigola—ei mynwes
Am unig un wela
Yn rhoi 'i dysg a'i geiriau da
Yn wasarn—hyn a'i hysa.


I ras o'th gyflwr isel, —afradlon,
Cyn y frawdle dychwel,
Dyfod mae'r gawod, O! gwel!—
Rhag ei hawch a'i bar gochel.

Cynghorion Mam, ddinam dda,
A'i llais taer—pwyll ystyria!

Cofio'i haddysg a fyddo yn dy wneyd
Yn well, ac yn deffro
D' ystyriaeth i dosturio—wrth yr hon
A'i henaid hylon a fu'n dy wylio.

Na yrr einioes o rinwedd
Byth yn benllwyd fwyd i fedd,
Dyro barch i'r hon drwy boen—
Yn ddiarbed o ddirboen
Ofala'n dyner filwaith
Am danat a'i llygad llaith.

Nodded i'r Fam fo'n weddw—ry' Duw Ior
Ei darian a'i ceidw;
Hwn a'i gwel pan y geilw
Ni wyra llais "gair y llw."

Duw a wrendy o'i randir
Ar waedd hon a'r weddw wir;
Ior sydd ar yr orsedd wen—
Yno'i hing leinw'i hangen.

Cariad Mam, nid oes cariad mwy, —
Mae o hyd yn anmhlymiadwy
Yn y tân yn y tonau
Pur o hyd y mae'n parhau.


Cyflawna'r Fam dda ddiwyd
Yn nerth hwn wyrthiau o hyd.
Try chwerwedd drwy ryfedd rin,
A'i loesau yn felyswin.

Ond Dwyfol gariad Jehofa—ar hwn
A'i rinwedd ragora;
Yn ngwawl Croes, oes angel craff,
Neu Seraph a'i mesura?


Y BWTHYN YN NGHYSGOD Y BRYN.

'RWY'N cofio pan oeddwn yn blentyn
Am lanerch wrth odrau y coed;
Lle gwelais deg flodau y gwanwyn
Yn gwenu'r tro cyntaf erioed;
'Rwy'n cofio cerddoriaeth y ffrydiau
Ddisgynent hyd lethrau y glyn.
Mwy swynol i mi na'u per nodau,
"Yw'r bwthyn yn nghysgod y bryn.".

Eisteddais ar eithaf y dyffryn,
Myfyriais ar bethau a fu;
A llithrai adgofion diderfyn
I'm meddwl wrth edrych bob tu.
Ond acw i'r fangre lle'm ganwyd,
Fy llygaid a syllai yn syn;
Mewn hiraeth am weled hen aelwyd
"Y bwthyn yn nghysgod y bryn."

Ti ddyffryn lle treuliais fy mebyd,
Mae'th degwch yn aros o hyd;
Nid oes yr un cwmwd mor hyfryd
Pe chwiliwn holl wledydd y byd.

Fe welais, do, ganwaith dy ddarlun,
Yn nyfroedd tryloewon y llyn;
Rhagori ar bobpeth y dyffryn
"Wnai'r bwthyn yn nghysgod y bryn."

Distawodd y bywyd fu yno,
Mae'i gofio er hyn yn fwynhad;
A chanwn pe gallwn heb flino
I fwthyn fy mam a fy nhâd.
Ymglymu o amgylch ei furiau
Wna cadwyn fy serch yn fwy tyn;
Ond rhaid yw ffarwelio mewn dagrau
"A'r bwthyn yn nghysgod y bryn."


LLINELLAU CYFARCHIADOL

Ar yr achlysur o gyflwyniad Tysteb i R. Owen, Ysw.,
diweddar oruchwyliwr Chwarel y Welsh Slate.

MAE pobpeth yn symud—cyfnewid o hyd
Mae holl amgylchiadau a phethau y byd;
Mae ffawd weithiau'n gwênu—ond gwga drachefn,
Mae pawb ac mae pobpeth fel allan o drefn;
Ond rhaid i ni ddyoddef,—hen ffasiwn y byd
Yw lluchio'i breswylwyr ar draws ac ar hyd,
Y tlawd a'r cyfoethog, y drwg fel y da,
Mae'n ddiystyr o bawb a phobpeth a wna.

Ffestiniog sy'n symud, bu'n gafael yn dŷn
Am lawer hen gyfaill sydd heddyw'n y glyn;
Mae eraill yn symud, mae'n mynwes yn brudd,
Mae gruddiau cyfeillion yn newid bob dydd.
Mae'r creigiau yn symud, mae'u hadsain o draw
Yn llanw fy mynwes o ddychryn a braw;
Gofynaf y cwestiwn yn fynych i'r ne,'
Pwy nesaf symudir? Pa bryd? I ba le?


Mae brawd heno'n symud, mae'n calon yn friw,
Ond diolch i'r nefoedd mae'n symud yn fyw,
Mae'n symud a'i goron yn glir ar ei ben,
A mynwes pawb ato yn lan o bob sèn;
Bydd hyn i'r chwarelwyr, mi gredaf, yn glwy'—
Byd, eglwys sy'n teimlo, mae'n golled i'n plwy';
Bu'n noddwr diflino, dihysbydd ei ddawn,
Mae colli 'i ffraethineb yn golled fawr iawn.

Ond os yw yn symud, a hyny'n mis Mai,
Mae'n symud i olwg y llanw a'r trai,
Sy'n ddarlun o fywyd anwadal y byd,
Sy'n symud dynoliaeth i rywle o hyd.
Bu genych gyfeillion, mi wn hyny'n dda,
Ond llithrodd rhai i ffwrdd fel cymylau yr ha';
Ond symud, a symud mae'r byd—dyna'i fai—
Mae'n symud mor aml a llanw a thrai.

Er symud fe gofir eich henw yn hir, —
Fe gofir eich henw gan greigiau y sir;
Tra bo chwarelyddiaeth bro Meirion yn bod,
Cysylltir eich henw trwy'r oesoedd a'i chlod.
Ffestiniog a hoffa ei phlentyn dros byth,
Gofidia ei weled yn symud ei nyth;
Y nefoedd a'ch noddo rhag cam a phob clwy,
Nes symud i'r nefoedd heb symud byth mwy.


LLINELLAU BEDDARGRAFFYDDOL,

Am y diweddar Barch. T. Roberts, (Scorpion), Llanrwst.

YMA yn isel rhoed cymwynasydd,
Wr a rodiai yn bur i'w Waredydd;
Diwyd gweithiasai, ymboenai beunydd;
Yn was bu ini—ddyfal esbonydd,
Ei enw'n ddifarw fydd;—a'i deithi—
Athraw o yni a doeth athronydd.


ANERCHIAD BARDDONOL

I Gymdeithas y Cymmrodorion, Blaenau Ffestiniog, 1888.

MAE dyn heb wybodaeth
Fel crwydryn tylawd,
Ymguddia mewn cwmwl
O afael pob ffawd;
Ymdreigla yn mlaen
Fel y gareg ar graig,
A'i feddwl mor grychlyd
A stormydd yr aig.

I freichiau gwybodaeth
Ymdreigla, O ddyn, —
Mae'n barod i'th gerfio
A'i morthwyl a'i chûn;
Cymdeithas yw hon
Draidd at wraidd anwybodaeth,
A dengys i ddyn
Beth yw dyben bodolaeth.

Rhydd amwisg o urddas
O amgylch ei natur,
I'w ddwyn o'i ddinodedd
Yn berson byw eglur;—
Yn werth i gymdeithas,
Yn llenor gorchestol,
I ennill anrhydedd
Ac enw anfarwol.

'Rwy'n gwella, gyfeillion
Diolchaf o galon
Am i chwi mor ffyddlon fy nghofio;
Mae hyn yn llawenydd
I fynwes y prydydd,
A'r cystudd ar unwaith yn cilio,


Mi glywais fod "Glaslyn "—
"Ein tad "—dan y dwymyn,
A dychryn fu hyn imi'n dechrau;
Ond clywais am dano
Yn pybyr areithio
'N ddiguro a gwresog ei eiriau.

Mae'n Gymro twymgalon—
Yn dân ac yn wreichion,
A'r dewraf o'r holl Gymrodorion.
O'i sawdl i'w goryn
Mae'n Gymro bob mymryn
Ysgydwa bob "Sais" ac "Ysgotyn."

Waeth heb gadw dwndwr
Am "Wyddel" na "Ffrancwr,"
Y Cymro yw'r dyn sy'n cymeryd,
Mae'i serch wedi ennyn
At Walia a'i thelyn—
Rhydd argoel o hyn yn mhob ergyd.

Rhaid cofio at Dewi—
Un o brif-feirdd ein bro,
A "Bryfdir"— un hefyd
Fydd enwog ryw dro.
'R arweinydd "Treborfab"
Sy'n ffraeth ar bob pryd, —
"Cadwaladr Llanbedrog
Gwr llona'n y byd;
"Iago Twrog" a "Morfin"
A'r enwog "A. В."—
Fy nghofion caredig
A roddaf i'r tri.
A "W. R. Evans"
Y dyfal ŵr da,
A W. P. Evans
Os gwelwch yn dda,

Mae "Isallt" y Prif-fardd, a'r Meddyg mwyn cu,
Yn galw mor gyson a'r haul yn y ty;
"Robert Williams, Talweunydd,"
"John G. Jones, Llwynygell,"
Hysbyswch "Fferyllydd"
Mod i'n llawer gwell,
Y brawd "Evan Owen,"
"Asaph Gwaenydd "—ŵr call,
"G. Davies," " Rolando,"
"Richard Roberts" yw'r llall.


JONAH.

YMATTAL wnaeth mab Amittai—a'i waith,
Yna weithian fföai;
Odiaethol farn Duw aethai
A fo i fôr hefo'i fai.

Mor ód—yn mol pysgodyn—heb ei wên
Bu Jonah—wr cyndyn;
Un adeg daeth hwn wedy'n
Yn llaw ei Dad yn well dyn.



Y DDERWEN.

(Buddugol.)

HENAFOL ddurol dderwen—a godwyd
Yn gadarn frenhinbren;
Un fuasai yn fesen
Heno praidd sydd dan y pren.


Y LLANERCH DAN YR YW.

FE dyfai ywen brydferth
Ger bwth fy mam a 'nhad,
A threuliais oriau difyr
O dan ei changau mâd.
Mae hen chwareuon mebyd
I'm côf yn dod yn fyw,
Wrth wel'd y gysegredig
Hoff fangre dan yr Yw.

Bu'r Ywen hon yn noddfa
Rhag llawer drycin flin;
Bu'n dyst o lawer brawddeg
Ddiferodd dros fy min;
Awelon tyner natur
A wnaent delynau cerdd
O gangau heirdd godidog
Yr hoff hen Ywen werdd.

Pan mewn ystormydd geirwon,
A'r byd heb swyn na cherdd, —
Ehêd fy meddwl beunydd
O dan yr Ywen werdd,
Fe guddiodd hon a'i changau
Ofidiau byd o'm bron;
Adgofion fyrdd a erys
O'r llanerch ddedwydd hon.

Mae dyn yn cael ei symud
Gan amgylchiadau'r byd,
Ond para'r un er hyny
Yr ydwyt ti o hyd.
Cyn hir rhaid myn'd i orphwys
O gyraedd cân a cherdd,
O am gael llanerch beddrod
O dan yr Ywen werdd.


CYWYDD: "Y CWMWL."

CYNGHAN i'r cwmwl ganaf,
Accen i hwn yn bwnc wnaf;
Cerbyd y gwlaw'n nofiaw'r nen,
Ymrolia yn môr heulwen.
Weithiau 'n ganaid, danbaid wyn,
Neu o liw y du löyn;
Weithiau'n borphor loywfor liw
Yn mro heulwen amryliw:
Weithiau'n drwchus drefnus drin,
Draw acw yn faes drychin,
Neu fel gwawn nefol, a gwe
Ysbrydolweis—brid heulwe;
Neu ysgafn chwimwth wisgi
Foriawl long ar nwyfrol li'.
Fan draw ar aden awel
Drwy uchder yn dyner dêl;
Troella'n araf araf hyd
Y loew wybren oleubryd,
A gwiw fwynhad ysgafn êl,
Chwery'n mysg aur a chwrel.
O'i oriel gànt rhy' haul gwyn
I'w ymylwaith aur melyn,
Ac uchod mae'n rhuddgochi
Aml drem cymylau di-ri'.
Yn nôr y Dwyrain araul,
Cuaf drem, cyfyd yr haul;
Bywiol ddisgleirdeb huan
A lliw'r dydd rydd wyll ar dân.
Y dawelnos a'i dylni.
Wele, hwnt, encilia hi.
Pwyntel y dydd gloewddydd glân
Tra enwog baentiwr anian,
Cymylau'r nenaa mewn aur,
Myn eu rhoddi mewn rhuddaur,

Wedi hirfaith daith drwy'r dydd,
Gwelaf y gloewdeg wawlydd
Gerllaw dor y Gorllewin,
A'i hoff wedd yn croesi ffin
Hwyrol orwel i waered.
Dros binaclau creigiau cred
Yn ei unlliw wawr danllyd
Awyr gaf yn aur i gyd.
Beunydd dros wyneb anian,
Yr haul ter o'i oriel tân
Arllwys ei belydr eurllosg,
Yn frwd hafwres llifwres llosg
Drwy asur fel rhodreswaith
Cwmwl gwyn ar derwyn daith
Drwy y nefoedd draw nofia,
A'i geinder uwch gwynder îa.
Nofiawl ei reddf, nefol ran,
Eulun angel yn hongian,
Fry yn nwyfre y nefoedd
Y Crewr ei awdwr oedd.

Wyn gwmwl—awen gymer
Arno wib drwy nwyfre Ner;
Hudol yw gwmwl di laith,
Heulog amwisg fel gemwaith;
Ei lendid nefol wynder,
Sy'n arwydd sancteiddrwydd ter.
Tra tanbeidwres hafwres sydd
Annioddefol,—yn ddofydd
Ingol lymder ei angerdd,
Yn nheml y gwawl cwmwl gerdd
Fry'n asur cyfrin esyd
Gysgodlen uwchben y byd,
Rhag tanbeidiawl ysawl losg
Wyneb heulwen wemp hylosg.

O gawgiau'r llynau llonydd,—
O'r eigion a'r afon rydd,—
Gwres haul yn ageru sydd
Y gloewddwr mewn goleuddydd.
Dwfr y mor yn ddi-sorod
Huda'r haul o'i danbaid rod,
Wele 'i drem o'r hyli' dry
Yr hallter drwy'r fferylldy
Yn elfenol fyw anian,
Drwy wagle rhed y dwr glân
Yn dawchion; hwy dewychant,
Yn nheml y nef—cwmwl wnant.
Drysordy'r gwlaw, dros ardal
Gyr ddyferion, maethlon, mal
Y bywiol neithdar bywyd
Yn ngwres haf adfera fyd.
Cawodau dros losgedig
Grindir gerdd, yn werdd try'r wig.
Bywioledig yw'r blodau,—
Wele fil yn ail fywhau.
Cân adar cyneuedig
Fawl perflas drwy'r werddlas wig.
Dylifa 'i rydwel afon
Obry y llu ebyr llon.
Y dolydd dan gnwd welir
Yn llaw Duw, o laswellt îr.

Mor ddigoll i'r myrdd egin!
Wele rhydd y gwlaw a'i rin
Gynydd;—yr holl eginau
Acw ynt yn bywiocau.
Cawn doraeth acw'n darian
Rhag eisiau doniau ar dân
Selog a melus eiliant
Fawl Duw ar ddihafal dant.

Lle ystwr—llys y daran—
Yw'r cwmwl dyfnddwl, yn dân
O'i grombil hed milfil mellt
Yn derwyn fawr daranfellt.
O'i dywyllwch daw allan
A llidiog eirf felltiog dân—
Eirf a wanant ar antur
Yn fwy dwfn na chleddyf dur.
Rhed o'i oror y daran;
Dirgryna'r glob yn mhob man,
Rhû y fanllef, dromlef draw,
Wna i anian ddihunaw.
Agorir ffenestri'r nen,
Rhed obry o'i du wybren
Bistyllau fel dafnau'r don
Hyd i randir y wendon,
A llethrau bryniau bronydd,
Trochioni a berwi bydd
Ebyr fil—obry fe ant.—
Rhuawl, ferwawl lifeiriant.
Lonfawr amryliw enfys—
Cwmwl Ne' yw lle ei llys:
Breiniol lyw y wybren las
Haul belydr o'i loew balas
Eilw enfys i lonfyd—
Yn der hedd—faner i fyd,
Ni ddaw eilwaith ddialedd
Duw a'i farn, a dyfrllyd fedd
I ddirinwedd wŷr annuw
Dan lid dwyfol, damniol Duw.

Adeg gwywiant, y gauaf,
Ein daear werdd, wedi'r haf,
Yn wywlyd iawn a welir.—
Yngan hon, heb gangen ir.
Daw'r eira hyd yr orawr,
A rhwymau ing y rhew mawr;

Yn dra iesin a'i drysor,
Hardd iâ'n dameidiau rydd Ior.
I'r ddaear wyw rhydd yr Ion
Ogonawl fentyll gwynion
Canaid eira—cnwd arian,
Ail i wisg Caersalem lân.
Drwy wagle hed eira glan,
I lawr o'r cwmwl eirian,
Disgyn yn bluog dwysged
I'r ddaear liwgar ar led.

Hyd binaclau creigiau crog
Y cwmwl rydd wisg emog,
A myn gofleidio'r mynydd,—
Ei orwedd-fainc hardd a fydd,
Buan draw'n mraich yr awel
Y cwnmwl llaith ymaith êl;
Heb aros niwl y borau
Hwylia i ffwrdd fel i'w ffau.

Duw Ior, reola'r corwynt,
Ar Sinai ddisgynai gynt,
I hoeddi'r Ddeddf dragwyddawl
Y'nghlyw myrdd o engyl mawl.
Disgyn a thanllyd osgordd
Fil o'i gylch yn nefol gordd;
Trwch cwmwl dyfnddwl yn dô
Duw ei Hun rydd am dano.
Rhy lân ei anfeidrol wedd
I halog blant marwoledd.

I lwythau'r genedl ethawl
Drwy eu hynt i dir eu hawl,
Ior ei Hun fu'n Arweinydd—
Yn wawl dân—cwmwl y dydd
O'u blaen äi, bu i lu nef
Yn nodded ac yn haddef.


Iesu'n Ceidwad droes adref
Mewn cwmwl o nifwl nef;
Dyna 'i gerbyd hyfryd Ef
Olwyna hyd oleunef
Fry i Ddeheulaw'r Mawredd
A'i Brynwr, Barnwr uwch bedd.

Yn y cwmwl mainc gymer
Ynad Duw; yno ei der
Wenfainc gadarn wna'r Barnydd
Ddydd Barn, a'i reithfarn a rydd.
Holl blant dynion yno'n wir
Yn ddau deulu ddidolir.
Yma mae cymyl siomiant—
Heddyw'n nen yn bygddu wnant;
Gofidiau, trallodau'n llu
Ogylch a geir yn gwgu;
Ond fry'n asur y bur bau
Mae heulwen ddigymylau.


ENGLYNION

Ar briodas Mr. William Owen, 5, New Market Square, a
Miss Sarah Roberts, Isallt.

WEDI siarad a Sarah—fe welaf
William yn y ddalfa;
Ymgeledd ga'dd mi goelia',—
Drwy hiroes eu hoes fo'n ha'.

Oes ddi-loes, ddi-groes, ddi-graith—ddigymar
Oes ddi-gwmwl berffaith;
Oes o hedd hyd fedd, oes faith—
Yn felus bo'u nef eilwaith.

Oes euraidd fo i Sarah—a William,
Oes heulog drwy'u gyrfa;
Leiciwn ddweyd fy "lwc yn dda,"
A'u Hîon doeth a'u bendithia.


CYDYMDEIMLAD
a "Carneddog" ar farwolaeth ei Fam.

ANWYL gyfaill, ai'n y dyfnder
Y myn angau i chwi fod?
Ai wrth gwympo'r rhai hawddgaraf
Y derbynia hwn ei glod?
Pam'r anela hwn ei fwa,
A'i wenwynig farwol gledd?—
Eich anwylaf berthynasau
Deifl o un i un i'r bedd.

Rhaid fod teulu mwyn Carneddi
Mewn rhyw ffafr yn ngwlad yr hedd;
Rhaid mai llywodraethwyr ydynt
Yn y byd tu draw i'r bedd:
Gwel'd cyfyngdra gwlad y ddaear
Rhaid eu bod, fy nghyfaill cun,
Pan y galwant chwi fel teulu
Oddiyma o un i un.

Felly credaf nad yw angau
Ddim yn elyn i chwi, frawd,
Ond yn hytrach cymwynaswr—
Estyn teyrnas i un tlawd;
Ond yr ydym mor anianol—
Anhawdd ysbrydoli hyn;
Anhawdd sylweddoli pethau
Pan yn isel yn y glyn.

Gwir fod gofid, gwir fod galar,
Yn beth hysbys iawn i chwi;
Gwyddoch am Ddiddanydd hefyd,
Yn y bwlch all wrando 'ch cri;
Gwyddoch chwi fod "Tad 'r amddifaid"
Eto'n fyw; ac yn ei law
Llechu byddoch nes gwneir chwithau
'N dywysog yn y deyrnas draw.


Tuchangerdd:"Y TEITHIWR WRTH RAID."

(Bona Fide Traveller,)

Y TEITHIWR weithiau mewn enbydrwydd gawn,
A chyda hwn mae'r byd yn cydymdeimlo;
Pan fyddo rheidrwydd yn ei ystyr lawn,
A dyn yn gorfod rhoi ufudd—dod iddo.
Nid rhaid perthynas, na chymydog cun
Sy'n peri i hwn o'i ddinas gychwyn allan
Ond llais cuddiedig ynddo ef ei hun,—
Rhaid rhoi ufudd—dod iddo ef ei hunan.

Mae ufuddhau i raid yn orchwyl blin,
Er hyn ni cheir y teithiwr hwn yn cwyno;
Er bod yn ddioddefydd erchyll hin
Ni chlywyd hwn erioed yn ocheneidio.
Ymdeifl i'w orchwyl gydag yni byw
Yn mhlith y llu enwogion—dyma'r arwr,—
A'r mwyaf cydwybodol sydd yn fyw,
Anrhydeddusach ef na neb fel teithiwr.

Myn'd ar gyfeiliorn ni wnaeth hwn erioed,
Mae rhaid yn rhoi ei nod mor ddigamsyniol;
Ac yntau'n un cyfarwydd ar ei droed,
Mae'r amgylchiadau oll mor wir gymydogol.
Ni bu hapusach teithiwr mewn un wlad,
Ni chlywyd ef yn dweyd am erch beryglon;
I hwn mae pob enbydrwydd yn fwynhad;
I ben ei daith o hyd teifl ei olygon.

Ar gofrestr lyfrau anfarwolion byd,
Enillodd teithiwr safle anrhydeddus,
Yr arwr—deithiwr hwn a roes ei fryd
Ar fod y teithiwr mwyaf anrhydeddus,
Eithriadol mewn diwydrwydd ni a'i cawn,
Er bod yn deithiwr fe abertha'i fywyd
A'r dydd mae'r byd yn gorphwys—rhyfedd iawn
Mae ef gan asbri byw yn teithio'n ddiwyd


Fel H. M. Stanley yntau ar ei daith,
Gyferfydd amgylchiadau o dreialon,
Ac ar ei ruddiau gwelwyd llawer craith
Bregethai'n eglur am ei ddwfn beryglon.
Ah! dyma wron na fu'r byd erioed
Yn hysbys o'i orchestion a'i wrhydri;
Fe ddiystyra wobrau dan ei droed,
A chauai 'i glustiau rhag cael ei glodfori.

Mae hwn yn teithio nid i dderbyn clod,
Parch, ac anrhydedd a gogoniant dynion;
Mae llafur cariad uwchlaw cyraedd nôd
Ac enill teitl a ffafrau pendefigion.
A oes a sych yr eangforoedd llaith?
A phwy yspeiliai'r Huan o'i danbeidrwydd?
Y teithiwr diwyd diymhongar chwaith
Nis gall er ceisio guddio ei enwogrwydd.

Pan fyddo rhaid yn galw ufuddha,
Y dull o deithio sydd yn ddibwys ganddo,
Ond wrth ddychwelyd droion bu yn dda
Fod ganddo ryw gyfleustra i gael ei gario.
Ac er mai ber fu 'i ymdaith lawer tro,
Mae rhywbeth weithiau yn yr amgylchiadau,
Anhygyrch ddaearyddiaeth llawer bro
Fu'n cwympo llawer teithiwr ar ei liniau.

Anfoneddigaidd ydyw holi'r gwr,
Nid parod ydyw 'chwaith i ddweyd ei hanes,
Waeth heb ymholi gallwn fod yn siwr
Mai gwr pryderus yw am wneyd ei neges.
Mae'n cyraedd i gyffiniau'r pentref draw,
A chydag ef mae cyfaill yn cyd-deithio,
Mae'n taflu ei olygon ar bob llaw
Rhag ofn fod gwr yr "Heddwch" yn ei wylio.

Mae'n ymwroli—cofio'n sydyn wnaeth
Mai "teithiwr oedd wrth raid", ac aeth i'r gwesty,

Ac wedi ateb o ba le y daeth
Mae pawb yn wên i gyd wrth ei groesawu,
Cyn gall ein gwrthddrych enill iddo 'i hun
Y teitl o deithiwr yn yr ystyr orau,
Fe gaiff fod arholiadau wrthi'nglyn,—
Ond na ddychryned at yr anhawsderau.

Rhaid dweyd yn onest beth fydd hyd y daith,—
Rhaid teithio tair o leiaf o filldiroedd,
Ond na phetruser a fydd hyny'n ffaith,
Rhaid cydymdeimlo'n fwy a rhaid y cyhoedd.
Ceir yn y gwesty gydymdeimlad hael,
A gwir ddyngarwch gwerth ei efelychu,
Ac yma mae esboniad llawn i'w gael—
A holl ddirgelwch "rhaid" gaiff ei ddadblygu.

Mae'r daith ar ben, a rhaid ac yntau'n cwrdd
Fel arwyr ar y cadfaes ddydd y goncwest,
A gwenodd rhaid o'r jwg oedd ar y bwrdd
Nes enill swyn a serch y teithiwr gonest
I'r Expedition hon nid oes un sen,
A'r teithiwr bellach sydd yn llawn o afiaeth;
Anghofio wnaeth y Dydd, y Plant, a Gwen,
Pan sylweddolodd ef y Fuddugoliaeth.

Rhaid enill safle o enwogrwydd gwir
Cyn y cydnebydd byd eich gwir fodolaeth,
Ond cerfir enw'r teithiwr hwn yn glir
Yn mhlith enwogion dewraf y ddynoliaeth.
Y "rhaid" a'i gwnaeth yn deithiwr o'r fath fri
A fynodd wneyd o hono rywbeth arall,
A siomedigaeth erchyll oedd i ni
Wel'd gwr o'i safle wedi myn'd yn angall.
Wrth deithio yr enwogodd hwn ei hun,
Wrth deithio hefyd collodd ei gymeriad;
A dyma'r truenusaf o bob un
A weļais i yn dringo bryn dyrchafiad.


LLINELLAU O GYDYMDEIMLAD
Â'r cyfaill Mr. Owen Richard Owen (Llew Meirion), yr hwn sydd
mewn cystudd trwm er's amser maith. Wedi eu hymddangosiad
gwnaed Cyngherdd rhagorol i'r cyfaill O.R.O.


NI gawn y byd yn barod iawn
I gofio'r llawn—cyfoethog;
Ond caua 'i lygaid fel mewn gwawd
Uwchben y tlawd anghenog.

Mae eisiau rhywbeth ar y byd
Heblaw ei ddrud drysorau;
Diwerth a brau yw rhai'n mi wn
I'r hwn sydd mewn cystuddiau.

'Rwyt tithau bellach, Owen bach,
Yn afiach er's cryn enyd;
Cei lawer cysur, dyna 'm cred,
Mewn gweled hen wynebpryd.

'Does dim yn fwy ond gwella'r clwy
Pan yn yr adwy yma—
Na chydymdeimlad—dyma falm
A ddeil am dalm i'w goffa.

Llareiddia'r boen a thyn ei fin,
Gwna'r cystudd blin yn fwynder;
Er dyfned yw y dyn dan bla,
Ymdeimla fel mewn hoender.

Diamheu teimli lawer awr
Unigrwydd mawr a thristwch;
Ond pan gei gydymdeimlad llu
Bydd hyn i ti'n ddiddanwch.

Mae llydan fwlch yn "nghylch y gân,”
Dy lais mwyneiddlan dawodd;
Mae'r hen alawon bron yn rhŵd,
A'n cwmwd fel mewn anfodd,


Datgenaist lawer gyda "hwyl,"
A disgwyl 'r y'm am 'chwaneg;
Gobeithiwn daw dy delyn dlos
I 'mddangos yn ddiattreg.

Hyderwn os yw'th gorph yn llesg
Mai dilesg yw dy delyn;
I'r byd cerddorol gwn bydd hyn
Yn wledd o gryn amheuthyn.

Dy lais edmygais lawer tro
(Nid wy'n gwenieithio iti;)
Pan dewaist ti mae'r "gân dan sêl,"
A phawb fel wedi tewi.

Dy hen gyfeillion rif y ser—
Diddenaist lawer arnynt,
A gydymdeimlant mewn dwfn gri
Trwy holi am dy helynt.

Mae'r byd yn gwaeddi am dy gael
O afael pob afiechyd;
Ewyllys nef fo'n eilio'r cais.
Mewn adlais eglur hefyd.


CASTELL DEUDRAETH.
Cartref A. O. Williams, Ysw., U.H.

EDRYCH ar Gastell Deudraeth —a'i gaerau,
Llys gwron Rhyddfrydiaeth,
Adail odidog odiaeth,
A ry' drem ar fôr a'i draeth.


MAE CYMRU YN DEFFRO.

MAE Cymru yn deftro,
Bu'n hir yn breuddwydio,
Bydd wedi dinystrio pob gormes cyn hir;
Bu Hengist a'i deulu
Yn hir yn anelu
Ei fwa i saethu pob dirmyg i'n tir.

Mae Cymru yn deffro,
Mae'n cael ei goleuo,
Mae'n dyfod i deimlo ei safle'n y byd;
Bu oesau mewn cyffion
A blinion dreialon
Mae lleisiau ei dewrion yn gliriach o hyd.

Mae'r nefoedd yn gwenu
Ar gymoedd hen Gymru,
I'w chodi i fyny yn uwch, uwch o hyd;
Mae iaith ei henwogion,
Athrylith ei meibion,
Fel tyrfau ergydion yn ysgwyd y byd.

Mae Cymru yn deffro,
Mae addysg yn llwyddo,
A'i meibion yn dringo mewn mawredd a bri;
I fyny mae'r "Wyddfa,"
I fyny bo "Gwalia,"
Fel seren ddisgleiria am oesoedd diri.'

Boed nodded y nefoedd
Ar Gymru'n oes oesoedd,
Yw gweddi fy nghalon tra byddaf fi byw.


"DAETH YR AWR."

DAETH yr awr, y nef gynhyrfa;
Awr gyffelyb hon ni chaed
Ar y ddaear,—awr a gofir,—
Anfarwolwyd hon â gwaed.
Awr a welwyd yn yr arfaeth
Cyn bod uffern, dae'r a ne',
Pan y torodd Iesu'r geiriau
"Wele fi!"—" âf yn ei le!"

Dibwys ydyw oriau'r ddaear,
Dibwys holl gyfnodau byd,—
Dibwys meithder tragwyddoldeb
Wedi 'u rhoddi ell ynghyd.
Holl weithredoedd yr Anfeidrol
Bychain ydynt bob yr un,
Pan yn ymyl awr y marw,
Awr y caru a phrynu dyn.

Croga'r ddaear ar y gwagle,
Taenu'r nefoedd wnaed fel llen;
Bydoedd dirifedi hefyd
Grogwyd yn eangder nen.
Ond diflana 'u hardderchawgrwydd,
Dinod pobpeth ger ein bron
Pan gyflawnwyd y gweithredoedd
Yn yr awr doreithiog hon,

Awr mae'r Iesu yn rhoi heibio
Ei gyhoeddus lafur drud;
Awr mae'r Iesu'n rhoi ei einioes
Dros bechodau euog fyd.
Awr cyflawni y cysgodau
A'r prophwydi bob yr un;
Awr gorchfygu angau ydyw,
Awr dyrchafu "MAB Y DYN."


Hardd a llachar yw yr heulwen,—
Ond prydferthach ni a'i cawn
Wedi teithio'r eangderau,
Wrth fachludo y prydnawn;
Bywyd prydferth, pur dihalog,
Ydoedd bywyd Tywysog nen;
Ond mwy gogoneddus ydoedd
Pan yn marw ar y pren.

Dyma'r awr i'r Iesu roddi—
Rhoddi nes boddloni'r ne';
Tywallt allan mae ei enaid
Ar Galfaria yn ein lle.
Marwolaethu Awdwr bywyd
Er cymodi dyn â Duw,—
Awr dyrchafu'r floedd "Gorphenwyd "—
Awr y fuddugoliaeth yw.

Dyma'r awr bu'n mhlith angylion
Sôn am dani yn y nef:
Awr boddloni dwyfol ddigter,
Awr fawr Crist a'i angeu Ef.
Awr rhyddhau y carcharorion
Trwy ddioddef marwol glwy;
Am y fuddugoliaeth yma
Cana'r gwaredigion mwy.

Awr mae'r holl gysgodol ebyrth
Yn diflanu bob yr un—
Pan ddaeth Sylwedd y cysgodau—
Pan aberthodd Iesu ei hun.
Dyma'r aberth a foddlonodd
Holl ofynion cyfraith Duw;—
Trwy ei rinwedd, teulu'r codwm,
O farwolaeth ddaw yn fyw.


Awr mae'r Ddeddf yn llithro ymaith,—
Daw'r efengyl yn ei nerth
Gyda myrdd bendithion cariad,
Anmhrisiadwy yn eu gwerth;
Awr mae llen y Deml yn rhwygo—
Pob canolfur gwymp i lawr;
Bellach daw cenhedloedd daear
I addoli'r Ceidwad mawr.

Gwelwa'r haul wrth wel'd ei Grëwr
Dan y gollfarn ar y bryn;
Hollti mae y creigiau cedyrn,
Crynai'r ddaear gref pryd hyn.
Syndod leinw uffern obry,
Llawn o ddychryn yw pob bron;
Llawn yw'r nefoedd o ddyddordeb
Ar yr awr gynhyrfus hon.

Awr a gofir tra bydd daear;
Tra bydd dyn cyffelyb awr
Byth ni welir—hon a gofir
Oesoedd tragwyddoldeb mawr.
Awr gorphenwyd holl fwriadau
Addewidion Duw i ddyn:
Cariad digyffelyb welwyd
Yma'n aberth Mab y Dyn.


Datguddiwyd yma gariad Duw at ddyn,
Trwy fyn'd yn aberth yn ei le ei hun;
Do, rhoddwyd Iawn, mae'r euog heddyw'n rhydd,
Ac " Iddo Ef" dros byth yr anthem fydd.


CAN:

"Yr Eneth gerais gynta' 'rioed."

YR eneth gerais gynta' 'rioed!
Am dani mae adgofion fyrdd;
'Rwy'n caru'r llanerch lle bu 'i throed
Sydd eto ar ei hol yn wyrdd.
Pan welais gynta'r wylaidd fûn
Nid ydoedd hi ond deunaw oed;
Mi hoffwn eilwaith weled llun
Yr eneth gerais gynta' 'rioed.

'Rwy'n cofio gwel'd yr eneth dlôs
A'i gwen fel gwawr y boreu gwyn,
A'i gruddiau tlysion fel y rhôs
Pan gwrddais hi ar lethr y bryn.
Ei llais oedd yn felusber iawn
Fel llais yr eos yn y coed:
Mor bur a'r awel ydoedd dawn
Yr eneth gerais gynta' 'rioed.

Ar dant fy nhelyn canaf gân
I'r eneth hon mewn nodau pur
Enillodd hi fy serch yn lân,
Nes llwyr anghofiwn boen a chur.
Mi garwn weled mebyd llon,
A chael bod eto'n ddeunaw oed
Er mwyn cael cwmni anwyl hon—
Yr eneth gerais gynta' 'rioed.


Y LLUSERN.

MILENIR y goleuni—ar ein byd
Drwy'r llusern bach, wisgi;
Lle bu'r nos ar ein llwybr ni
Hi ddeil i'n dedwyddoli.


ELUSEN.
Buddugol yn Eisteddfod Cefnmawr, Nadolig, 1891.

HAEL gordial melus ydyw Elusen,
Wna le annedwydd yn lawen Eden
Hon dyn y rheidus dan ei haur aden,
O, rôdd garuaidd! oeraidd ddaearen
A welir o dan heulwen;—ffy niwloedd,
Edwina ingoedd cadwynau angen.


LLINELLAU
Ar Briodas o Duc York a'r Dywysoges May.
[1]

HAWDDAMOR, Briodas!—
Cyflymed y newydd
O ddinas i ddinas,
O fynydd i fynydd.
Mae Llundain yn dawnsio,—
Llawenydd feddiana
Galonau y miloedd
Rhwng creigiau Gwyllt Walia.
Mae'r Wyddfa yn dyrchu
Ei phen uwch y cymyl,
Ac fel pe yn sisial
Yn nghlustiau yr engyl
Ei bod yn balchio;
Ar Garnedd Llywelyn
Mae awel y nefoedd
Yn chwareu ei thelyn.
Pereidd-nôd dedwyddwch
A llonder a seinia,
A bloedd hyd y wybren
A ddyrch Ynys Mona,—
Ei hadsain chwareua
Yn nghreigiau gwlad Arfon

Er dathlu priodas
Tywysog y Brython.
Beilch drumau Eryri
Daranant y newydd
Yn nghlustiau yr Aran—
Brenhines Meirionydd.
Ar ael Cadair Idris
Y dymhestl ddystawa,
A rhuthrodd y fellten
Yn ol i'w gorphwysfa.
Llyn Tegid a welir
Fel palmant grisialog,
Murmura ei wendon—
"Byw fyddo'r Tywysog."


CYMRU A GARAF.

CYMRU A GARAF, fy hen wlad odidog,
Eden y Cymro yn ddiau wyt ti,
Aelwyd lle magwyd fy nhadau ardderchog,
Cartref enwogion ac arwyr o fri;
Erch gledd dialedd fu'n noeth yn dy wyneb,
Gwaed dy wroniaid fu'n lliwio dy rudd;
Erys dy gestyll yn dystion trychineb,
Cwynfan mae'r Brython a'i delyn yn brudd.

Cymru a GARAF, magwrfa prydferthion
Heirdd ei mynyddoedd a'i chreigiau llawn swyn,
Cestyll hen anian fu'n gwylio gelynion,
Cartref yr awel a gerddi y brwyn.
Caraf y WYDDFA fu'n dyst o bob gormes,
Tŵr amddiffynol fy nghartref erioed;
Gorwedd mae'r cymyl fel plant ar ei mynwes,
Chwery'r aberoedd o amgylch ei throed.


Cymru a GARAF, mae natur haelionus
Yn gwisgo pob dyffryn mor brydferth a hardd;
Dolydd meillionog, a chymoedd rhamantus
Enyn hyawdledd yn nhelyn y bardd.
Gloewon aforydd, a'i rheieidr ewynog,
Ei llynau yn dlysau addurnant ei bron,
Murmur ei nentydd sydd fiwsig cyfoethog,
Ei chwäon perorol wna'm hysbryd yn llon.

CYMRU A GARAF,—hoff fangre y beirddion,
Plethwyr hen gerddi godidog fy ngwlad:
Yr awen Gymroaidd a'i thlws gynghaneddion
Leinw bob cwmwd gan swynol fwynhad.
"Gwlad y gân," ydwyt ti, Gymru berorol,
Canu mae'th feibion cerddorol eu nwyf,
Megis telynau paradwys adlonol
Swynant fy nghlustiau lle bynag y bwyf.

Gymru a GARAF, nid am mai dy filwyr
Ymladdodd dy frwydrau a'r pylor a'r cledd;
Caraf di, Gymru, yn fwy am dy arwyr
A'th ddysgodd i feddwl,—newidiodd dy wedd.
Caraf di, Gymru, am ddeffro i'th hawliau,
A phaham, fy mam-wlad y cysgaist cyhyd?
Dy darian yw 'th feibion dysgedig eu doniau,
A chewri'r dyfodol sy'n awr yn dy gryd.

Cymru a GARAF,—edmygaf ei meibion,
Gerfiant eu henwau yn uchder y graig;
Erys eu hanes ymhlith anfarwolion,
Tra berwa dialedd ar wefus yr aig.
Megis ei chreigiau yn tori'r cymylau,
Felly aed Cymru trwy'r rhwystrau i gyd,
Bydded ei henw ar lenni yr oesau,
Yn Gymru addolgar,—yn Eden y byd.


Y DDWY WRAIG GERBRON SOLOMON.
Buddugol yn Eisteddfod y Llechwedd, 1881.

DWY wraig o isel rodiad
A ddaeth mewn pryder dwys,
At Solomon y brenhin
Ar neges fawr ei phwys.
Ar fynwes un o'r gwragedd
'Roedd baban bach di—nam;
A dyna'r holl ymryson—
Pa un oedd ei wir fam.

Y brenhin yn ddifrifol
Wrandawai'r achos syn,
A hwythau'n dadleu'r hanes
Yn drymaidd iawn fel hyn:
"Bu farw baban tyner
O fewn ein hanedd ni;"
A d'wedai un heb ddeigryn—
"Ond byw yw 'mhlentyn i."

Ond d'wedai'r llall yn eofn,
A'i serch yn llosgi'n fflam,
Er cymaint oedd ei gwaeledd,
"Mai hi oedd ei wir fam."
Cynhyrfodd hyn y brenhin,
A llidiodd wrthynt hwy,
Ac archai am y cleddyf
I'w ranu rhwng y ddwy.

Dolefai un yn erwin
Rhag ei drywanu ef;
Boddlonai'r llall yn dawel
I wrandaw ar ei lef.
A'r Brenhin yn ddioedi
Ganfyddai ffrwd o serch,
A chariad mam mewn ofnau
Rhag gwneyd y weithred erch.


Aeth hanes am y brenhin
Fel trydan trwy y fro,
A holl ddysgawdwyr Israel
Ryfeddent am y tro.
Dangosodd fawr ddoethineb;
Nid gyda'r ser na'r aig,
Ond yn ei ffordd anhysbys
Rhwng baban a dwy wraig.

Ni lwydda twyll anwiredd
Byth i gymylu'r gwir;
Er synu myrdd a'i ddichell
Fe wyra 'i haul cyn hir.
'Roedd Solomon yn gyflawn
Yn ei ddoethineb gref,
A chysgod egwan ydoedd
O Frenhin Mawr y Nef.


BETH FYNI FOD?

I gwrddais fachgenyn un prydnawn,
Deallgar ei wedd a bywiog iawn,—
Myfyrio yr oedd mewn llwyn o ddail;
Darllenai, siaradai bob yn ail;
Rhaid fod i fywyd fel hyn ryw nod;
Dywed fy machgen, "Beth fyni fod?"

Ebai'r bachgenyn hawddgar ei bryd:
"Gofyn 'rwyf finau y cwestiwn o hyd,
I mi fy hunan gofynais—ond mud
Yw pawb a phobpeth o fewn y byd,
Nis gallant ateb beth fynaf fod;
Cwmwl sydd heddyw'n cuddio fy nod,"

Llafuria yn ddewr, bydd ddyfal o hyd,
Cei weled dy nod yn eglur ryw bryd;
Llwyddiant sy'n dilyn llafur pob dyn,—
Mae Duw yn addaw hyn i bob un;
Edrych yn mlaen, cyrhaedd ryw nod,
Gofyn o hyd—" Beth fynaf fod?"


Lliosog yw breintiau Cymru yn awr,—
Addysg sy'n llwyddo—myn fod yn fawr;
Os am orchfygu, rhaid enill nerth
I ddringo dannedd y creigiau serth;
Ieuenctyd Cymru, beth yw eich nod?
Rhaid bod yn rhywbeth—" Beth fynwch fod?"

Disgwyl mae'r ddaear lonydd o hyd
Am i'r elfenau newid ei phryd;
Hawdd yw anadlu—byw ydyw bod
Wedi gorchfygu a chyraedd nod:
Os am enill enwogrwydd a chlod
Agorwch eich llygaid ar ryw nod.

Ofer yw bywyd, os yw heb nod;
Ofer yw enill enwogrwydd a chlod;
Ofer yw nod, ac ofer yw byw
Os na enillir Iesu yn Dduw:
Gofyn i'r nefoedd "Beth fyni fod?"
Ettyb yn eglur—Byw er Ei glod.


BREUDDWYD.

IAITH enaid wrtho 'i hunan—yn adrodd
Gwrhydri diamcan;
Bywiog ddychymyg buan
Heb sylwedd i'w ryfedd ran.


Y LLAM ANGEUOL:

Sef, Llinellau Coftadwriaethol am y diweddar Mr. David Ellis, yr
hwn a gyfarfyddodd a'i angeu trwy foddi yn yr Afon Teigil ar ei
ffordd i'r Chwarel.
(Cyflwynedig i'w rieni).

PAN oedd ffurfafen glir
Yn brydferth uwch eich pen,
A rhyw ddedwyddwch pur
O fewn eich anedd wen,—
Ar ael y nen yn dringo fry
Mi welaf gwmwl llwythog du.

O'i gôl mae'r dymhestl gerth
Yn gwgu ar y bryn,
A thorodd yn ei nerth
Uwchben eich bwthyn gwyn:
Y boreu oedd ddeniadol iawn,
Ond llawn gofidiau yw'r prydnawn.

Eich hoffus lencyn llon
Gychwynai at ei waith,
Heb dristwch yn ei fron
Na dwys ofalon chwaith;
Aeth encyd fer o dŷ ei fam,
A chroesodd yr angeuol lam.

Ni thybiai fod yr angeu erch
'N ei ddisgwyl ef ar fin y don,
Ond arno rhoes ei fryd a'i serch,
Gwnaeth ef ei frad y funyd hon:
Byrhau ei daith a fynai ef—
Byrhaodd hi o'r byd i'r nef.

O angeu! dywed im' paham
Y tynaist ef i'r dyfrllyd fedd?
Bydd hanes yr angeuol lam
Yn ddianrhydedd ar dy gledd;

Dygaist ofidiau—a dy frâd
A lanwodd ardal â thristâd.

Pe gallet ateb, byddai 'th lef
Yn falm i glwyfau tad a mam;
'R oedd eisieu David yn y nef,
Rhaid oedd myn'd trwy'r angeuol lam:
Aeth heb ofidiau drwy y don—
Y ffordd agosaf ydoedd hon.

Mewn byd o amser ber fu 'i daith—
Byr fu 'i ofidiau yn y glyn,
Mae heddyw'n seraph glân di—graith
Yn nghwmni'r Oen ar Seion fryn:
Yr oedd angylion fel mewn brys
Am ddwyn eich mab i'r nefol lys.

Yn brydferth fel rhosynau gardd
Ei heirdd rinweddau ddeil o hyd,
Ei fywyd bery'n wyn a hardd
I berarogli yn y byd:
Mae gweithred o ddaioni'n byw
Yn ddigyfnewid—fel mae Duw.

Ni chuddiwyd yn y beddrod llaith
Ond amwisg frau—yr enaid pur
Ehedodd fry i ben ei daith,
Tu hwnt i dristwch, poen a chur;
Pa fodd diengaist, David bach,
Heb ddweyd ffarwel a chanu'n iach?

'R oedd rhyw ddireidi yn ei wedd,
A rhyw sirioldeb ar ei rudd;
Edrychwn arno drwy y bedd—
O wlad y nos i wlad y dydd;
Neshau'ry'm ninau at y lan,
Cawn groesi'r afon yn y man.


Diengaist, do, yn gynar iawn,
Cyn gwel'd croeswyntoedd geirwon byd;
Y ddaear mewn galarwisg gawn,
Tra tannau'r nef yn llon i gyd;
Cawn eto 'th gwmni maes o law—
Cysgodau'r glyn a welwn draw.

Mae'r Teigil yn y cwm o hyd
Yn rhedeg ar ei thaith i'r môr,
Mae megis terfyn rhwng dau fyd—
Agorodd hon i ti y ddor
I dir paradwys pob mwynhad,
Heb afon ar goflyfrau'r wlad.

Rieni hoff, os llwythog iawn
Yw'ch bron gan ofid, poen a braw,
Chwi gewch esboniad helaeth, llawn
Ar droion Duw yr ochr draw;
Er holl groeswyntoedd byd a'i loes,
Glynwch yn dynach wrth y Groes.


Y BUGAIL.

[Y Gerddoriaeth gan Mr. Wilfrid Jones, R.A.M., Wrecsam. Cyhoeddedig gan Mri
Hughes & Son, Wrexham, a thrwy eu caniatad hwy y cyhoeddir y geiriau hyn.]

MI dreuliais flynyddoedd fy mebyd
Yn fugail rhwng bryniau fy ngwlad;
Fy niwyg oedd lom a diaddurn,
Fy mynwes yn llawn o fwynhad;
Fe 'm curwyd gan 'stormydd y gauaf,
Fe'm llethwyd gan boethder yr haf,
Hiraetha fy mron am y cyfnod
A'i gofio yn felus a wnaf.


Brefiadau y defaid a'r wyn
A lanwent fy mynwes â swyn;
Ac os ewyllysiech fy ngwel'd mewn mwynhad,
Rho'wch le imi'n fugail rhwng bryniau fy ngwlad.

'Rwy'n cofio pan oeddwn yn fugail,
Siaradwn ag anian pryd hyn,
Areithiai'r dyffrynoedd brydferthwch
Nes adsain yn ngwaelod y glyn;
Peroriaeth y goedwig a'm swynai,
A myrdd amrywiaethau y llwyn;
Fe'm denwyd gan natur, do ganwaith,
I adael y defaid a'r wyn.
Brefiadau y defaid a'r wyn
A lanwent fy mynwes â swyn;
Os crwydrodd y defaid yn mhell ar wahan,
Fe grwydrodd y bugail gan ysbryd y gân.

Mi geisiais ddynwared yr adar,
A hoffais gerddoriaeth a chân,
A cheisiwn farddoni a chanu
Bob hwyrnos wrth ochr y tân;
Mi roddais fugeilio o'r neilldu,
Yr hyn fu fy unig fwynhad;
Ond os nad wyf fugail,'rwy'n ddedwydd
Wrth ganu hen gerddi fy ngwlad.
Bum fugail i'r defaid a'r wyn,
Cerddoriaeth a'm denodd a'i swyn,
Ond eto'rwy'n ddedwydd mewn perffaith fwynhad
Wrth geisio datganu hen gerddi fy ngwlad.


INC.

INC esyd uwch tranc oesoedd—i gadw
Gedyrn weithiau lluoedd:
I gymdeithas cu was coedd
Arf yw yn llaw tyrfaoedd.


PROFIAD HEN 'SCOTWR.

PAWB at beth bo, ebra John Ty'n—y graig,
Pan welodd Tom Ifan yn curo ei wraig,
Pawb at beth bo, ebra Sian Gelli—gaer
Pan welodd Ann Edwards yn curo ei chwaer.
Pawb at beth bo, ebra'r saer wrth y crydd,
Pawb at beth bo, ebra rhywun bob dydd;
'Rwyf fi'n hoffi pysgod, a'u dal hefyd wna',.
A galwch fi'n 'Scotwr os gwelwch yn dda.

Myn rhai fod yn ganwrs er gwaetha pob dyn,
Er gwybod na'u hoffir gan neb ond nhw 'u hun.
Myn rhai gael areithio am nad oes eu bath,
Mae'u dawn a'u tafodiaith yn myn'd wrth y llath.
Os gwelwch rai'n dringo i ddangos eu hun
Mae coryn y rheiny yn weigion bob un.
Ond beth wnaf yn siarad am bobol o fri,
Chwi wyddoch o'r goreu mai 'Scotwr wyf fi.
Pysgotais bob afon a llyn yn y wlad
Pan oeddwn yn hogyn ar aelwyd fy nhad.
'Roedd'nhaid yn hen 'Scotwr di-ail ebra nhw,
A 'Scotwr wyf finau, mi gymra fy llw.
Mae rhai'n son am bysgod na wyddant ddim byd;
Gwn iam eu triciau, eu lliwiau a'u hyd.
Rhyfeddol o wag fydd y byd, coeliwch chwi,
Pan golla fo 'Scotwr mor enwog a fi.

Mi ddwedaf beth arall—os ydyw'n ddweyd mwy,
Mai fi ddysgodd 'scota i bawb yn y plwy;
Mae'r hen gymeriadau sy'n 'scota o hyd
Yn gwybod mai fi yw'r enwoca'n y byd.
Mae rhai'n myn'd i scota na ddaliant fawr iawn,
Fum i'rioed yn scota heb gawell yn llawn.
Ar ol imi farw rhowch golofn i mi,
Ac arni'n glir cerfiwch mai "'Scotwr ow'n i."


"Y DELYN DEIR-RHES."
(Buddugol.)

TELYN Deir-rhes gynes gerdd,
Dil awen-goeth delyn-gerdd
O danau hon ddaw'n don hedd,—
Offer swyn a pherseinedd.

Sain hudolus hen delyn
Cymru fy ngwlad,—teimlad dyn
Ogleisia hon; a glwys yw
Ei theg wefriaith ddigyfryw.

Yn llysoedd brenhinoedd hen
Gynhenid fro'r geninen,
Oesau'n ol swynol oedd sain
Hud—lawn iâs telyn wiwsain
Yn ngwleddoedd y llysoedd llon.
Tai seigiau tywysogion,
Y Delyn a'i hudoledd
Foesai gân yn fiwsig hedd.

Yn ngwyl y Beirdd yn Ngwalia,
I loni gwyr, telyn gâ
Uchel le, cyrchle awen
A'i mawrhau drwy Gymru hen.
Llais a llaw yn arllwys llon
Gydgordiau gydag eurdon,—
Dyna fwynhad enfyn hedd;—
A gwefredig hyfrydedd
O danau hon dyn iâs
Dania enaid yn wynias.

Cu awen-feib y cynfyd,
Cywrain gainc ar hon i gyd
Ganasant i gynoesoedd—
Dorus Awdl, un Deir-rhes oedd.

Duw yw hawlydd y Delyn—
Yn ei dy Ef pyncia dyn,
I'r Ion gynt ar hon gantawd,—
Ddilwgr, wech addolgar wawd.
Tlws weai teulu Seion
Alaw'r ddeheulaw ar hon.
Mawl i Dduw—moledd awen
Ei salm oedd yn Salem wen.
Dyfal bu'r diafol heb ball
Dan obaith dwyn i aball
Ogoniant hon, ac enill
Hygar bwnc ei dengar bill
Yn nhai rhysedd,—chwidredd chwant
Hon fu iddo'n drawsfeddiant.

Ond i fawredd adferir
Tonau y tant yn y tir:
Duw Ior ga'r Delyn Deir—rhes
Eto'n ol daw eto'n nes;—
Telyn ga'r saint i aros
Newydd un aur, gwlad ddinos.


CYMRU NEWYDD.

HEN Gymru hoff, mae creithiau brad
Ar fy ngwlad i'w gweled,
Yn hir gorweddodd yn ei gwaed
A llygad cil agored;
Hi fu am oesau yn tristhau,
Ond torodd gwawr, mae yn dyddhau.

Dan draed yr estron y bu'n sarn
Iawnderau'n gwlad am oesau,
Ac anwybodaeth megys barn
Yn huddo cenedlaethau;

Ond trodd y rhod—ei hawliau fyn,
Tra baner rhyddid ar bob bryn.

Bu llawer seren lachar, wen,
Ar ael ffurfafen Cymru;
A thrwy'r tywyllwch oedd fel llen,
Fe 'u gwelwyd hwy'n pelydru;
Bu'r tadau'n myn'd o lwyn i lwyn
Yn ngoleu gwan ganwyllau brwyn.

Mae adar dunos wedi ffoi,
Canwyllau cyrff ddiffoddwyd;
Mae Cymru wedi llwyr ddeffroi,
Tra niwloedd oesau chwalwyd;
Dylathra'r heulwen gwm a nant,
Rhydd fywyd newydd yn ei phlant.

Bu ofergoeledd megys pla
Yn difa nerth y tadau,
Ac anwybodaeth megys iâ
Yn oeri'r gwirioneddau;
YR UDGORN ARIAN wnaeth eu brad,
A'r encil ffoisant oll o'n gwlad.

Mae baner wen Efengyl hedd
Trwy gymoedd Cymru'n chwifio,
Ac yn ei wain mae'r gloew gledd,
Ein gwlad, mae Duw'n ei llwyddo;
Ymddyrch yr haul yn uwch i'r lan,
Daw Cymru'n harddach yn y man.

Mor brydferth ydyw temlau dysg
Sy'n britho'n gwlad arddunol,
Ceir enwau'n bechgyn dewr yn mysg
Prif arwyr athrofaol:
Dringo mae'r haul hyd ael y nen,
Dringo mae bechgyn Cymru wen.


Os tlawd y cydnabydda'r byd
Fy anwyl wlad odidog,
Mae'n fôr o gân er hyn i gyd
Os ydyw'n wlad anghenog;
O gân i gân yn mlaen yr ä
Mewn gorthrymderau canu wna.

Mae nentydd Cymru bob yr un
A'i rheieidr oll yn canu,
Gwna'r gwynt delynau iddo 'i hun
O hen fynyddoedd Cymru;
Mae 'i phlant yn swyno'r byd a'u llef
Ar lethrau ban wrth drothwy'r nef.

Mae awen Cymru'n bywiocau,
Mae 'i beirdd yn lluosogi,
Maent o rym awen yn mhob pau
Yn nyddu cywrain gerddi:
Yr awen rêd fel dwfr y nant
Yn wythen arian drwy ei phlant.

Mae Cymru'n hardd, edmyga'r byd
Ei chymoedd a'i llechweddau;
Edmygir hefyd yr un pryd
Ei meibion a'i llancesau;
Rhagori wnant mewn rhin a moes,
Prydferthir hwy wrth droed y Groes.

Mynyddoedd cedyrn Cymru'n glir
Bregetha sefydlogrwydd;
Safed ein cenedl dros y gwir—
Dros grefydd bur ein Harglwydd;
Y nef, yn hon gaiff wel'd ei llun,
Daw fel paradwys Duw ei hun.


Mae Cymru yn cusanu grudd
Y nefoedd hardd uwch ben,
A'i phlant yn cymdeithasu sydd
A'r wlad tu hwnt i'r llen;
Pan losgo Duw y byd a thân
Fy Ngwalia hoff fo'n Gymru lân.


SHON IFAN Y CYBYDD.

MI wyddoch am Shon Ifan,
Gwn yn siwr.
Sy'n byw yn Fotty Wylan,
Gwn yn siwr.
Mi wyddoch hefyd amcan,—
Ei fod yn werth cryn arian,
Neu fod o'n bur dda allan,
Gwn yn siwr!

Ni chadwai 'i arian adref,
Felly'n wir,
Ond yn Bank Jones y pentref,
Felly'n wir.
Ond holai hwyr a bore,
Am le i gael mwy o loge,
A chododd hwy oddiene,
Felly'n wir!

Fe glywodd gan gydymaith,
Ie'n siwr,
Am le ca'i gymaint deirgwaith,
Ie'n siwr.
Yr oedd o'n hapus wedyn,
A'i het ar dop ei goryn.
Yn disgwyl am ben blwyddyn,
Ie'n siwr!


Fe godai cyn brecwesta,
Diar mi,
I ddisgwyl am y lloga,
Diar mi.
Ond druan o Shon Ifan,
Daeth newydd hefo'r "weiran"
I ddweyd nad oedd dim arian,
Diar mi!

Daeth newydd gwaeth na hyny.
Gwarchod pawb!
"Cymdeithas wedi tori!"
Gwarchod pawb!
'R oedd golwg ar Shon Ifan,
O dan y boen yn gruddfan,
Y gwrthddrych mwyaf truan,
Gwarchod pawb!
Gwybydded pob darllenydd,
Mai dyma stori'r cybydd,
Boed hon dros byth yn rhybudd.
Bobol bach!


Y MAEN LLÓG.
(Buddugol.)

YN llywio canu mae'r Maen Llog ceinwedd,
A dena odlau dawn a hyawdledd;
Hen Faen geir ini'n llwyfan gwirionedd.
Ei finiog wersi gryfha ein Gorsedd;
Mainc Rhaith cân, cyhoeddfan hedd—beirdd ein gwlad,
Maes ei arweiniad yw Moes a Rhinwedd.


"Y NHW."

HEN deulu chwedlau a chodliaith—yw "Nhw,"
A'u cynllwyn yn anrhaith;
A rhugl oer eu dirgel iaith
Wna heddwch bro yn oddaith.


Y BYWYDFAD.

UWCH y bau mae Cwch Bywyd—yn herio
Cynddaredd storm enbyd;
Ac hwylia donau celyd
Y lli i fin arall fyd!



CUSAN JUDAS.

OERAF atgasaf gusan,—a roddwyd
Ar ruddiau Perffeithlan;
Argoel erch! y Prynwr glan
I'w dwyllwyr nodai allan.



"Y REGALIA."
(Buddugol.)

NOD amlwg iawn Demlydd—yw "Regalia"
Pur goler ysblenydd;
Rhoi astalch i ddirwestydd
Wna, a ffon i wan ei ffydd.


"NELLY."

'N mhlith rhianod "gwlad y gân,"
Nelly oedd yr harddaf;
Mi gerais hon â chalon lân,
Nelly eto hoffaf.
Ond O! mae'm calon bron yn ddwy,
Nelly wnaeth fy ngwrthod;
'Does neb na dim all wella 'm clwy',
Mawr a dwfn yw'm trallod.

Ti wyddost hyn, fy Nelly fwyn,
Fod fy serch yn llosgi,
Ac nad oedd neb allasai ddwyn
Calon bur i oeri;
Fe all yr haul, y lloer, a'r ser,
Llwybrau'r glyn egluro,
Beth ydoedd nerth dy gariad gynt
At y didwyll Gymro.

Os yw dy galon di yn wag,
Serch sy'n llenwi 'm calon;
A charaf di, fy Nelly fwyn,
Er oered fyddo'th ddwyfron;
Nelly,'rwyf am ofyn ffafr
Cyn rhoi'r ffarwel olaf,
A gaf fi gerfio cusan bach
Ar dy rudd anwylaf?


Y DYDD HWYAF.
(Buddugol.)

DDYDD! Y gogoneddus ddydd! Pa beth wyt ti?
Ryw ronyn bychan wyt o amser dyn;
Ac nid yw'r "hwyaf ddydd" ond cysgod gwan
O hirfaith dragwyddoldeb—cyfnod Duw,

Os swyna tragwyddoldeb deulu'r nef,
Cofleidia plant y llawr y cysgod, gan
Eiddilwch eu dirnadaeth am y wlad
Lle nad oes nos o fewn ei dyddlyfr hi.
O "hwyaf ddydd," rhagorach dydd nid oes,
A chreadigaeth i'th groesawu gawn
Mewn amwisg o brydferthwch, nis gall neb
Ond Duwdod fod yn Awdwr i'r fath un.
Eisteddais, do, dan oleu canaid loer
I weled geni'r hwyaf blentyn hwn.
Yr haul a'i bwyntel baentiai ddae'r a nef.
Cyfodai'r byd oddi ar orweddfainc cwsg
Yn adnewyddol eilwaith i fwynhau
'R afrifed ddoniau a gyfreni di.
Mae 'th gael dy hunan yn nodedig rodd
Mae trefn y rhod yn newid. Teyrn y dydd
Yn "Alban Hefin" gawnY tanllyd gawr
A'i lygad byw yn fflam o ufel poeth,
Ac amwisg o ogoniant sydd o'i gylch.
Mor lachar yw ei lygad treiddgar ef
Fel nas gall dyn ond crynu yn ei wydd,
A gwyro pen mewn rhyw wyleidd—dra mawr.
O! Hwyaf Ddydd! o'th ol daw tymhor hâf
A gwres i beri tyfiant cnydau'r byd.
Cynyrchion daear yn addfedu gawn,
I fod yn gymwys ymborth dynolryw
A dirifedi greaduriaid Naf.
O! Hwyaf Ddydd! bendithion fyrdd a ddaw
Fel ffrwyth blynyddol dy ymweliad di.
Cyfoethog yw dy fynwes lwythog, lawn
O drugareddau fyrdd at anghen byd.
Paradwys fydd ein byd dros enyd fer
Yn rhinwedd dy ddyfodiad, Hwyaf Ddydd,
Croesawol fyddi byth gan deulu'r llawr.


MAE DIRWEST YN LLWYDDO.
ALAW: "Hen wlad fy nhadau."

MAE Dirwest yn llwyddo, cydfiloeddiwn yn awr,
Daw cestyll y gelyn yn chwilfriw i lawr,
Ond eto gwahoddwn ein meibion i'r gad,
A mwynion lancesau ein gwlad.

CYDGAN—
Dewch, dewch, buddugoliaeth gewch,
Cawn wel'd ein tir yn glir a glan—
Heb fedd'dod try galar yn gan.

Mae Dirwest ar gynydd er fod llawer grudd
Dan greithiau gofidiau yn welw a phrudd,
Yn unol ymdrechwn i leddfu eu cur,
Gorchfygwn os byddwn yn bur.

Dewch, dewch, &c.

Mae Dirwest yn llwyddo er fod llawer gwraig
A'i dagrau mor heilltion a dyfroedd yr aig;
Os engyl mewn carpiau yw'r plant bach di—nam,
Gwna Dirwest eu gwylio rhag cam.
Dewch, dewch, &c.

Mae Dirwest yn llwyddo—rhaid ymladd er hyn—
Mae miloedd yn rhwymau caethiwed yn dỳn.
Sigledig yw teyrnas y gelyn yn wir,
Hi gwympa'n adfeilion cyn hir.

Dewch, dewch, &c.


INC.

NI feddodd un darganfyddwr—erioed
Well na'r INC fel gwlybwr;
Heibio ei gawg daw pob gwr—
Cofnodydd cyfan awdwr.


Y SPECTOL.

Y Spectol, wydrol loywdra,—i'r llygad
Mor lliwgar gweinydda,
Lawforwyn ddel, firain dda,
Gwanolwg a'i hanwyla.


Y DDEILEN.
(Buddugol.)

Bon roed yn wisg i'r goeden—hawddgar rodd
Y gwreiddyn i'r gangen;
Ac urdd y brig hardda bren
Yw'r ddihalog werdd ddeilen.



DUW YN ARWEINYDD.

ARWEINYDD llawn tirionwch—yw fy Nuw,
Yn fy nos a'm tristwch,;
A'i allu trydd y gwyll trwch
I lawn oleu anialwch.



Y BRITHYLL.

ADEINIOG, lwys bysgodyn glan,—hudol
Ydyw'r Brithyll buan;
Un geir y' mysg y gro mân
Saig oreu mewn gwisg arian,


Cywydd:BRYNIAU MEIRIONYDD.
(Testyn Eisteddfod Meirion 1893.)

ENWOG, fryniog Feirionydd—
Mûr erioed i Gymru Rydd;
Tŵr a chastell derch osteg
Ei llawer bryn, talfryn teg.
Gwylltinedd geillt ynddi gawn,
Iâs hyawdledd arswydlawn;
Erch olwg arucheledd—
O'i mewn taen rhamant a hedd
Ei chreigiau derch, rho 'i gwawd ar
Chwalu uchdyb a chlochdar
Annuw ffrostgar—feiddgar fod
Wada 'i Awdwr—y Duwdod,—
Wna genau rhai'n a'u sain sydd
Fawr lifeiriol leferydd;
Haedda Iôr a mawredd Hwn,
Wna 'u llafarddull i fyrddiwn;
A threch eu hiaith orwech hwy—
Arddysg urddas a gorddwy—
Na rhyfyg a dirmyg dyn
Ei enwogrwydd ä'n hygryn.

Ar alwad Ior, wele daetn
Meirion hen yn mrenhiniaeth
Anian arddun, dan urddas,
I'w brig le'n y bore glas;
I dawel ofnadwyedd,
Duw a roes hon yn gadr sedd.
Ei thyrau beilch, aruthr, bán,
Lanwodd a'i law ei Hunan;
Ac a dwrn ei gadarn—nerth
Ar seiliau cadr oesol certh,
Ior a'i daliai er dylif—
Nerthol ddialeddol lif,

A chwyrn fellt a dychrynfäu
Tân a chorwynt yn chwarau
Uchel areithfa'r daran—
Oriel y mellt, gloewfellt glân.
Chwareufwrdd erch rhyw fyrdd o
Ddreigiaid yn ymddyrwygo,—
Tramwyfa'r 'storm fawr ei stwŵr,
Froch anian fawr a'i chynhwrf,
Yw corynau coronog
Y bryniau a'r creigiau crôg.
A chan frochi nef wreichion,
Aruthr dwrf a rhuthr don,
Trydan a gwynt rhuadwy,
Cerhynt a mellt, corwynt mwy,
Crynu wna cyrau anian—
Meirion deg a'i muriau'n dân!

Ha! gedyrn feilch gadarnfau,
Er hynt treiswynt yr oesau.—
Er rhwysg tymhestloedd y rhod
A'u gerwinder heb gryndod—
Draw gwyliasant dreigl oesau
Lawr i'w bedd wylwyr y bau,
O'r cyfnod draw cofnod roed
Ar eu henwau er henoed.
Llaw fawr amser fu'n cerfio
A'i bin dur ei benod o,
Ar gruddlenau creigiau cred
Eu hanes er ei hyned,
Hanes treigl hen oesau draw
Yn olynol olwynaw;
Diymson rodiad amser
Ar len rhai'n gofnodai Nêr.

******
Y mae ar greigiau Meirion—
Ol dyrnod, dyrnod yn don

Erch iawn dan rychau henaint
Uthredd eu mawredd a'u maint.
Ysgythrog rwysg eu huthredd
A chlog o frawychol wedd,
Yn amdoi eu trumau derch
Ddystaw urddas Duw ardderch,
Mangre hedd meini a grug,
Unigeddau dan gaddug:
Unigeddau gyhoeddant
A chliriach, grymusach mant,
A chroewach don na chroch dwrdd
Eigion a tharan agwrdd,
Hanfod Duw Nef a daear,
Ei fawredd ef a'i urdd ar
Y cread oll, ac ar daen
Enw Duwdod i'w adwaen.

Yr haul têr o'i oriel tân
Gesyd ei farwol gusan
Hyd dranoeth i dirionwch
Meirion a'i fflam eirian fflwch.
Hir oeda 'i wrid ar ei hael.
Eurog, bywiog pob gloew—ael
Am deyrn dydd—am dirion dad,
Wyla hirnos alarnad.
Ac hyd y grug dagrau hon
Ddisgynant yn ddwysgeinion:
Lleni duon trwchion tros
Rudd anian daena'r ddunos:
Yn ystod nos gwlithos glan,
Hawddgar iawn ddagrau anian
Draw dywelltir hyd wylltedd
Ban fryniau gororau'r hedd,
I'w coryn derch ceir yn do
Am danynt, tra'n mud huno,
Niwliog len anelwig lwyd,
Is adenydd nos daenwyd.


Gyda llwydwisg dilladu
Bu'r nos ddwl o'i breinsedd ddu
Fryniau yr hen Feirionydd—
Iddynt clog fawreddog rydd.

Ha! wele draw haul a'i drem
Belydrog a byw loewdrem;
Yn gloewi wybr foreu glan,
Liwiau cwrel ac arian:
Lliwia 'i wedd ag eurlliw wawl
Ruddiau'r ddaear oedd ddi—wawl—
Mantelloedd niwloedd y nen
Giliant o olwg heulwen,
Dros yr Idris raiadrog
A'i gloriau gwlith rhydd glaer glog,
Gopaon teg, paentia haul
Aneirif fryniau'n araul.
Meirion hen, mirain yw hi
A gwynion ei chlogwyni;
Llathra haul holl lethrau hon
A'i rhaiadrau tra hydron.

Uchelbwynt rhynbwynt yr îa,
Gwynt a gwywiant y gaua',
Yw copaon Meirion merth,
Ar eu gwadnau mor gydnerth,
Dros yr Idris gwenwisg îa
Er ei addurn orwedda.
Er oered tô'r eira têr,
Teifl lendid dwyfol wynder
Led—led y wlad; hulia hon
Is helm fel eira'n Salmon
Chwareule erch rhuawl hin,
Goror y gauaf gerwin
Yw'r ucheldir—a chwyldaith
Byddinoedd tymhestloedd maith

A thrwy entyrch rhuthrwyntoedd
Geirwon blwng gerwin eu bloedd,
Dramwyant drum, mintai'r ia,
A stŵr mawr y storm eira,
Hydr iawn yw, a di-droi'nol
Grym ei hanrheithrym rhuthrol;
Oerlem yw'r awel a'i min,
Addoer acw yw'r ddrycin;
Ceidw mewn rhwymau cedyrn
Redlif neint a chorneint chwyrn.

Ton rhywyllt ewyn rhaiadr,
Yn ei gwymp rewir yn gadr,
Ond deheuwynt a'i hawel
I'w datod ryw ddiwrnod ddel,
Berwôl, lifeiriol foryn
A dros greig a'r Idris gryn;
Pob afon a wreichiona—
Tyrddiog i'w hynt orddig ä;
Llif ar lif yn fawrllif fydd—
Môr yn mryniau Meirionydd.

Dynesa'r haf, dawnsia'r haul,
Drwy oror pelydr araul;
Hudol yw bro dol a bryn;
Hoewed yw dan haul dywyn
Y firain ber, Feirion bau;
Chwâr ŵyn ar ei chorynau;
Ymwelwyr haf mil ar hynt
A moelydd hon ymwelynt.

O Loegr deg, ymchwilgar dorf
Ddaw i Walia yn ddilorf,
Yn llawn asbri llon ysbryd
Mintai gâr ramant i gyd.
Ag eofndra'n ysgafndroed,
Llon ber ânt lle na bu 'rioed

Rodiad troed ar hyd y trum,
Erch aeldref rhyw ucheldrum;
A lle na all yn ei wydd
Neb edrych gan enbydrwydd.
Meirion a'i bro mirain bryd,
Breiniau 'i bryniau, bêr enyd
Fwynha myrdd, hufen a mel
Golud iach ei gwlad uchel.
Gwel y gloywgu olygon
Draw yn mhell o drumau hon;—
Gloewdir gwlad eurog lydan,
Gwylltinedd a bonedd ban.
Fryniau derch hen Feirion dud,
Heulog Walia a'i golud.
Anadl i wau—enaid—wledd
A gwefredig hyfrydedd
Yw tremio o'r trumau hyn;
A thân barddoniaeth enyn
Pridaf wrtho prydferthwch
Yn fywiol fflam ufel fflwch.
Arddunedd dreiddia enaid,
Ca newydd bwnc yn ddibaid.
Ni cha teimlad ceiniad cu
Ei ddigonedd o ganu,
Na thremiad llygad lliwgar
Ddigon o wych edrych ar
Wiwdlos hudolus dalaeth
Amryw ei thrum, môr a thraeth.

Meini llech o'u mewn llocha—
I Walia teg olud da;
Lloches yn monwes mynydd
I haenau trysorau sydd,
Meirion dud yw'n golud gell:
Wythi cyfoeth, o'u cafell
A'u coluddion y cloddir
Lechi teg elwch y tir.

Dan-ddaearol dyn ddorau—
Cedyrn fyllt eu cadarnfau
Ddryllir a chloddir allan
Lu o drysorau i'r lan.
Pilerau deifl pylor dig—
Dryllia'n gandryll hen geindrig
Y gadarn graig, darnia gref
Gaerog dal—graig a deilgref
Ffrwydriadau fel ffraw drydan
Dirfawr yw twrf rhu eu tân;
A tharan nerth erwin hon
Darn o fynydd dry'n fanion.

Elwch mawr o lech Meirion
I'w lluoedd ddaw—allwedd Ion
I gellau'r trysorau sydd
Yn ei bryniau a'i bronydd;
Rhoed i Gymry digamrwysg
I godi rhai'n gyda rhwysg.

Di-seguryd weis gwrol
Yw'r chwarelwyr—gwyr o gol
Daear a'i chreig, drwy wychr hud
I'n talaeth ddygant olud,
Agor i'w hembyd grombil
Dramwyfeydd drwy drumau fil,
Er enill bara einioes
Gwymp a theg gampwaith eu hoes.

Deg, fawr oludog Feirion,
Haenau'r aur sy'n naear hon.
Yn mryniau hon mor wen wnai
Duw roes eurdeg drysordai—
Oll yn drig llawnder o aur,
Demlau hoewnod melynaur.


Llynau Meirion llawn mawredd,
Llynau dawr a'u llond o hedd,
Roes Ior drwy'r oror eirian
Yn heirdd byth drwy 'i bröydd ban.
Mewn hafnau rhwng creigiau crog
Ar fronau'r oror fryniog.
Llecha rhai' n a'u llachar wedd
Yn werddonau arddunedd.

Yn mryniau Meirion mawrwych
A'i bro gain tardd ebyr gwych,
Y loewdeg Ddyfrdwy lydan
Yn mryniau heirdd Meirion hân;
A llu eraill o eirian
Afonydd glwys fonedd glân.

******
Adrodd hanes dewr ddynion
"Cymru Fu"—Cymru o fón—
Wna olion lu yn y wlad,
Oesau eraill yn siarad.


Y WIALEN FEDW.

DIHAFAL deyrnwialen—reola
Yr aelwyd yw'r Fedwen,
Arf a lywia'r aflawen
Yw mân-frig y breinfrig bren.

Yn ofid i'r anufudd—y ceir hon,
Cryna rhag ei brigwydd;
Lleshad yn ei llaw hi sydd
A chariad yn ei cherydd.


"BLINEDIG WYF."
(Lled-gyfieithiad)

BLINEDIG wyf. Mae'm calon yn llesghau,
Arafu mae fy nghamrau a gwanhau;
Hiraethaf am orphwysdra i'w fwynhau.

Blinedig wyf. Chwareuais yn yr haul,
Ac hefyd yn y cysgod bob yn ail;
A gwelais lawer llwyn yn colli 'i ddail.

Blinedig wyf, er i mi lawer gwaith
Fwynhau pleserau bywyd ar fy nhaith:
Fe gerfiodd amser arnaf lawer craith.

Blinedig wyf. Mae heddyw yn brydnawn,
Enillwyd, collwyd, erys peth o'r grawn;
Am hyn nis gall y bywyd fod yn llawn.

Blinedig wyf, a hirnos bywyd ddaeth,
Caf fyn'd yn rhydd cyn hir o'm carchar caeth;
'Rwy'n sefyll yn llaw gobaith ar y traeth.

Blinedig wyf. Fy Nuw, rho imi ffydd
I farw heb un deigryn ar fy ngrudd;
Rho i'm gael huno yn ddiofn rhyw ddydd.

Blinedig wyf. Pan angeu arnaf chwyth
Caf orphwys fel aderyn yn ei nyth;
Y nef yw 'm cartref, lle gorphwysaf byth.


BOREU HAF

FOREU haf, mor ddifyr yw—gwiw wrandaw'r
Gywreindôn ddigyfryw,
A geincia'r adar bob rhyw—
Miwsig y goedwig ydyw.


TEULU'R GLEP.

DYMA deulu adnabyddus,
Yn mhob cwmwd maent yn bla:
Mae eu hymddyddanion oerllyd
Megis cenllysg ganol hâ'.
Yn blygeiniol iawn ymdyrant
Er rhoi pobpeth yn ei le,
A diweddu hyn o orchwyl
Uwch cwpanaid bach o dê.

Draw i'w cyrchle yn y pentref
Deuant megis llongau llawn,
Eto wedi clepian ganwaith
Gan bob un mae newydd ddawn.
Am y cyntaf yn llefaru
Draws eu gilydd clywir hwy,
Ac adroddant lu o chwedlau
A phob 'stori'n myn'd yn fwy.

Clywir un yn traethu hanes
Gyda rhyw fanylrwydd llawn,
Ond mae'r llall yn haeru'n gryfach
Nad yw hyny ddim yn iawn.
Gelfyddydwyr arluniadol
Cymeriadau pobl y fro,—
Daw'r iselradd a'r uchelradd
Dan eu sylwyn eu tro.

Clywodd un ryw air yn ddystaw
Am foneddwr yn y plwy',
Ond ni fynai ddweyd yr hanes
Wrth un cnawd ond wrthynt hwy.
Er rhoi rhybudd i'r frawdoliaeth
Rhag rhoi'r gair yn ngenau'r byd,
Haws na hyn fuasai disgwyl
Gwel'd y môr yn sychu 'i gyd.


Teulu'r Glep,—mae parchedigaeth
I ddynoliaeth dan eu traed;
Gwelwyd gan y teulu yma
Gymeriadau yn eu gwaed.
Iddynt hwy mae'n alwedigaeth,
Ac ymroddant iddi'n llwyr;
Ymddigrifant yn chwedleua
O'r boreuddydd hyd yr hwyr.

Teulu'r fall, creawdwyr chwedlau,—
Aflonyddwyr, atgas lu;
Eu chwedleuon megis lafa
Sy'n dinystrio ar bob tu.
Seirph gwenwynig pob cym 'dogaeth,—
Awdwyr gwrthun pob chwedloniaeth,—
Brysied dydd eu claddedigaeth
Yn nyfnderoedd beddrod du.


DINAS AR DAN.
(Buddugol.)
(Darn i'w Adrodd.)

OCH! gynhwrf! clywch dwrf cloch dân—yn galw
Y trigolion syfrdan;
O'u tai oll troant allan
I ferw mwy—fawr a mân.

Dirfawr dwrf—mae'r dref ar dân—i'w dymchwel
Caf loew ufel am wneyd cyflafan.

Trwy'r gwyll yn deryll ymdora—y fflam,
A pha le ceir noddfa?
Yn anrhaith i'r oddaith â
Mawr gampwaith—a'r mur gwympa!


O'r tân mawr—blyngfawr yw bloedd—a gwelw
Yw golwg minteioedd;
Galar a rodia'r ystrydoedd—ddyn, gwel
Hwnt wreichion ufel hyd entrych nefoedd.

Erch ymwau wna torchau mŵg,
Ac wele'r tân a'i gilwg
Yn treiddio fel mellt trwyddynt
A'i frwd gref ddifrodgar hynt.

Yn llwyr oddaeth, llawer haddef—welwn,
Anwyliaid heb gartref;
DDUW IOR, at ei orsedd Ef,
Heddyw dêl gwaedd a dolef!

Llu o dai gwych yn lludw gaf,
Ac fe wyla cyfalaf.
Ysir, dinystrir pob nwydd,
Dodrefn a phob diwydrwydd.
A cholled fawr, fawr a fydd
Dan astrus law'r dinystrydd!

Ha! meibion dewrion fel dur
Ddodant y diffoddiadur,
Awr ing i dori angerdd
Y tân llym yn gyflym gerdd
Taflant a lluchiant drwy'r lle
Ddylif o ddyfroedd, wele
Arafa rhwysg yr ufel,
O radd i radd yn llai'r êl.

Er ysu eu preswyl—rhoi mawl i'w Rhi
Y mae rhieni am eu rhai anwyl.
Eiliwn glod gan foli'n glau
Duw arbedwr bywydau.


Y CORWYNT.
(Geiriau Canig).

GWGU mae amrantau'r nefoedd,
Anian yn hylldremu sydd,
Gwisga'r nos ei thywell fantell—
Araf gilia teyrn y dydd;
Swn ystorom sydd yn rhuo
Yn y dyffryn dwfn is—law,
Ac mae'r gwyntoedd yn ymgodi
A'r cymylau'n llawn o wlaw.

Mae y corwynt mewn awdurdod—
Mor ofnadwy yw ei rym!
Mae yn gwatwar pob cadernid
Gyda 'i nerthol edyn llym;
Fel arwrol gawr herfeiddiol
Gwisg ddialedd ar ei wedd,
Rhycha wyneb llyfn yr afon,
Cwympa'r goedwig gyda'i gledd!

Y mae'r eigion mewn cynddaredd,
Chwery angeu yn mhob ton;
Heria'r corwynt bob celfyddyd,
Cerfia arswyd ar bob bron;
Y mae'r dyfnder yn ymagor
O flaen nerth y corwynt cryf,
A gwrthddrychau fyrdd arswydant
Pan darana'i ddinystr hyf.

Dacw belydr o oleuni
Draw yn nghol y t'w'llwch mawr,
Ffoi mae'r 'storm o flaen yr heulwen
Anian a groesawa'r wawr;
Chwifia'r goedwig ei banerau,
Aeth ei galar oll yn gân;
Sûa'r awel dyner eilwaith,
Siriol wena'r blodau mân,


Y "GWLITHYN."
(Buddugol.)

HA! Wlithyn gloew—deigryn nos
Dywalltodd hi am dad y dydd;
Dan foreu wên y wawrddydd dlos
Disgleirio megys perlyn bydd.
Os bychan yw yr huan mawr
Ymdrwsia yn ei loew ddrych,
A chyda 'i wres holl ddagrau'r llawr
Oddi ar ei gwlybion ruddiau sych.

Ar fryn a dôl—ar flodau'r ardd—
Ar ddail y coed disgleiria'r gem;
Mae'n ysbrydoli awen Bardd,
Tryloew iawn a hardd ei drem;—
Rhy hardd i aros yma'n hir,
Rhy lân i'r ddaear lychwin yw;
Y meusydd wna fel Hermon îr,
Heb hwn äi'r fro'n Gilboa wiw.

Tragwyddol ddeddf y cread mawr
A ddyry ffurf i'r Gwlithyn crwn,
A ffurf cyfangorff daear lawr
A'r bydoedd oll a geir yn hwn.
Ddiferyn bychan—hebddo ef
Ni byddai'n gyflawn gread Ior,
Fel Gwlithyn yn eangder nef
Cyll amser mewn tragwyddol for.

Fel pobpeth tlws, byrhoedlog iawn
Yw'r Gwlithyn bychan, gloew, glân,—
Diflanol megys gweoedd gwawn,
Ni ddeil tanbeidrwydd haul a'i dân.
Boed dylanwadau ysbryd Duw
I'r Eglwys yn ireiddiol wlith,—
Yn gwneuthur grasau'r saint yn fyw,
Fel Saron rộs yn heirdd ddi-rith.


JOHN YN FFARWELIO AI FAM.
Alaw:"Bugail Aberdyfi."

'RWY'N morio 'fory o fy ngwlad,
Gan roi ffarwel i Gymru fâd,
A chanu'n iach i fwth fy nhad
Yn un o gymoedd Cymru.
'Rwy'n myn'd yn groes i deimlad mam,
A'i chalon roddodd lawer llam,
Wrth ofyn imi "John, paham
Gadewi'th fam i drengu?
Ffarweliais, do, ti wyddost hyn
A'th frawd a'th chwaer sydd yn y glyn
A chan y boen mae'm pen yn wyn,
O aros, aros adrau."

Y boreu tywyll hwnw ddaeth,
A chyda 'i fam ffarwelio wnaeth,
A chyn yr hwyr ar fin y traeth
Mae John yn cael ei hunan.
Mae'n myn'd i'r porthladd draw yn llon
Wrth wel'd y llong ar war y don
Mae braw yn dechreu llanw 'i fron
Ar lan y weilgi lydan.
Mae'n myn'd i'r llong ac ar ei bwrdd,
Mae perthynasau hoff yn cwrdd
I ddweyd ffarwel cyn myn'd i ffwrdd,
A chlywir John yn gruddfan.

Mae'r teithwyr yn bryderus iawn
Am wenau'r heulwen y prydnawn,
Pan oedd y llong a'i llwyth yn llawn,
Ar groesi'r cefnfor brochus,
Mae John yn teimlo dwys bruddhad
Wrth roi ftarwel i fryniau 'i wlad,
A chofio wnaeth am fwth ei dad
A'i weddw fam bryderus,

Gofynai'n fynych, "Beth a ddaw
"O f' anwyl fam yr ochr draw,
"Mi af yn ol i ysgwyd llaw
"A f' anwyl fam ofidus."


Y DYN SORLLYD.

DYN bach—hen gorach di-gariad—hynod
Hunanol ei deimlad;
E fyn hwn yn brif fwynhad,
Sori a pheidio siarad.



Y SERONYDD.

WYBRAU Ion i'r Seronydd a'u dwyf hoen
Ynt rodfeydd ysblenydd;
I drumau draw, ei drem drydd
A'i Dduw wêl—try'n addolydd.



"Y NHW." (2)

"NHW" yw'r Papyr Newydd—a waeddant
Yn ddyddiol drwy'n broydd,
Deulu Baal dweyd chwedlau bydd
Y giwaid yn dragywydd.



Y CYBYDD.

HEN gybydd, nid oes gobaith—i gynull
Digonedd i'w anrhaith;
Ond obry mewn llety llaith
Ei ddigonedd ga' unwaith!


CYMDEITHAS HEN LANCIAU BLAENAU FFESTINIOG:
Ar briodas dau o'r aelodau—sef, Mri, Robert R. Edwards ac Humphrey Jones.

BU hon yn bod, yn hynod o flodeuog,
DA'i hamcan yn oruchel ac ardderchog;
Fe dd'wedai'r llywydd hyn mewn araeth drylen,
Pan brofodd pa mor wagsaw amod Eden.

Rhaid myn'd yn ol at adeg ei sefydliad,
Pan oedd yr hâf yn mron a chau ei lygad.
Nid gweithred "gwyneb haul a llygad y goleuni,"
Ond adeg rhoi'r gymdeithas ar sylfaeni;—
Rhaid cael y nos cyn dêl rhai o'u llochesau,
Mae rhyw wyleidd-dra greddfol mewn Hen Lanciau;
Fe gawsom wan ddatguddiad o'u bwriadau—
Temtasiwn gref oedd gwylio 'u symudiadau
A'u gwel'd yn myn'd, os byddai'n noson dywell,
O un i un i chwilio am ystafell;
Mae'n rhaid cael hon mewn heol brivate hefyd,
Oblegid gwyddom oll pa mor gysetlyd
Yw pob Hen Lanc,—nid oes a'i cyfnewidia
Ond gwraig yn unig; ond pwy byth a feiddia
Son dim am wraig wrth ddynion penderfynol,
Ynt mor ddiysgog ag yw'r creigiau oesol?

Edrychwch ar Hen Lanc, cewch mewn amrantiad
Fod penderfyniad byw yn nghil ei lygad;
Mae fel gwyliedydd i'w holl symudiadau,
Yn gwylio ystafelloedd ei serchiadau.
Mae pawb yn adwaen nodwedd yr Hen Lencyn,
Mae'n hawdd adnabod hwn oddi wrth ei fwthyn
A'i ymddygiadau gyda 'i wisgoedd afler,
Llinyna 'i umbarell fe! "Ally Slopper."


Os ydyw'r pâr a wisga'n bâr trwsiadus
Mae byrdra 'i drousers gyda'r pytiau brases
A wnaeth ei hunan gyda'r darnau hyny
Fel pe bai'r troed a'r goes am ymwahanu;
Ond nid yw'r llall mor ddrwg—rhaid dweyd gwirionedd,
Mae hono'n llaesach o ryw bedair modfedd;
Ond nid yw hyn o'i le, mae'r wasgod isa'
Yn matchio rywfodd gan fod rhai botyma'
Ar goll yn hono, gyda'r tyllau hefyd,
Ac os yw felly hawdd yw camgymeryd.
Un ochr rywfodd sydd i'w wel'd o'r goler,
Un ochr i'r wasgod gyfyd i'r uchelder,
Ond waeth hi felly meddai'r Hen Lanc siriol,
Difetha'r goler yw ei golchi'n fisol!

Mae'n hawdd dweyd llawer mwy am ddull Hen Lanciau,
Ond tawaf wedi crybwyll rhai nodiadau;
Mae un neu ddau yn ddigon mewn cym'dogaeth
Wrth wel'd cymdeithas! mae rhyw ofnadwyaeth
Fel trydan byw yn myned trwy'r ddynoliaeth;
Mae ladies hardda'r fro yn dwfn bryderu,
Anobaith ar eu gruddiau sy'n cartrefu.
Ond mynai bechgyn harddaf y gym'dogaeth
Er hyn i gyd gofleidio Hen Lancyddiaeth.
Rhaid cael rheolau, cedyrn anmhlygadwy,
Heb le i ddianc trwy na bwlch nac adwy;
Rhaid oedd cael hyn, mae Humphrey Jones yn chwyrnu,
A Robert Edwards wrth y bwrdd yn dyrnu
Yn erbyn ffurfio ffüg reolau rhyddion
Er fod Hen Lanciau'n burach nac angylion!

Ond ah! fe wawriodd diwrnod ei galanas,
Mae heddyw'n chwilfriw—torodd y gymdeithas;
Aeth naw o'i chyfarwyddwyr mwyaf pybyr
I dori deddfau oedd yn groes i'w natur,
Ac Humphrey Jones fu'n chwyrn dros gaeth reolau
Oedd un o'r cynta' 'i dori drwy y rhengau,

A Robert Edwards a fu'n curo 'i ddyrnau,—
Mae'r ddau am hyn yn rhwym o fewn gefynau!

Mae'r gweddill o'r Hen Lanciau fel ynfydion
A'u llygaid fel y ser sefydlog gloewon;
A metha'u calon gredu eu golygon
Gan mor andwyol ydyw eu hanffodion.
'Does dim'n eu haros mwy ond liquidation
Or make it bankrupt, that is in the fashion,
Each member thus must stand examination.

Pan glywodd rhai o'r hen frawdoliaeth enwog
Fod hyn yn debyg, mae 'u gwynebau cuchiog
Yn dechreu rhychu, rhag bydd cost o geiniog,—
Mae lads y gyfraith yn hen foys cynddeiriog
Medd un Hen Lencyn dawnus a galluog
Y ni raid dalu'r gost i gyd pob ceiniog,
A gwell i ni yw bod yn bur dawedog
Mae dau o'r brodyr eisoes yn y cyffion
Bydd angen casgliad ar y rhai'n yn union;
"Fferenfab" ydwyf fi—Hen Lencyn gonest,
Mae ar fy nwylaw olion llawer gornest,
'Rwy'n llawn athrylith, gallaf wneyd englynion,
Ac er fod Bob ac Humphrey'n tori 'm calon
Nis gallaf byth eu gweled yn ngafaelion
Ac yn nghrafangau tlodi—mewn anghenion,
Er mwyn eu helpu gwerthaf fy nghynyrchion!

Mae DAVID WILLIAMS ar ei draed fel ergyd,
Gan synu at y bardd a'i bethau ynfyd;
Son am athrylith meddai, beth am dani?
Mae dysg ac awen wedi myn'd yn ffwlbri.
"FFERENFAB," ceidwad castell Hen Lancyddiaeth,
Ddymunet tithau wadu yr athrawiaeth
A myned gyda'r ffug-Hen Lanciau hyny
I'r commins tlodaidd lle mae myrdd yn trengu?


Mae JOHN LLOYD WILLIAMS ar ei draed yn araf,
A thystia ef mai dyma'r araeth chwerwaf
A glywodd ef am ddynion anrhydeddus
Er pan sefydlwyd y gymdeithas barchus.
Mi wn fod David Williams braidd yn bybyr,
Ond ni ddylasai ef insultio 'i frodyr:
I bob Hen Lanc mae rhyddid, os dewiso,
I fod yn aelod yn yr urdd neu beidio.

Ha! ha! meddai JOHNNY PRITCHARD, clywch yr hen ffrynd,
Bydd yntau'n fuan hefyd wedi myn'd;
'Rwyt tithau bron a thori rhai rheolau—
'Rwy'n meddwl i'm dy wel'd rhwng twyll a golau.
Cyn rhoddi'r cyhuddiad o'ch blaen yn glir,
Mi ofynaf i hono yw hyny yn wir ;
Os bydd hyny yn wir, myn cebyst i boys,
Rhaid John Lloyd Williams gymeryd y goes.

Mae JOHN H. JONES yn codi drachefn,
Gan ddechreu cystwyo a dweyd y drefn;
Gofynai:"Ai nid oedd hawl gan bob dyn
I ddewis a gwrthod fel gwelai ei hun?
Os yw 'Fferenfab' am eu cynorthwyo,
A David Williams am eu llwyr anrheithio ;
Os ydyw John Lloyd Williams am amddiffyn,
A Johnny Pritchard awydd achwyn tipyn,
Gadewch i bawb gael rhyddid barn gyfeillion,
Paham gollyngir allan gudd ergydion?"

Mae JOHN O. JONES yn ysu er's 'smeityn,
Mae'n arllwys araeth gref fel rhaiadr Berwyn.
Muntumiai ef mai bradwyr a briodai,
I farn "Fferenfab" byth nid ymostyngai;
Fe wyddai Robert Edwards pan ymunai,
Fe wyddai Humphrey Jones pan boeth ddadleuai
Mai angeu'n unig oedd i dori'r amod,
Ac nad oedd neb i roi ei fryd ar sorod

A gadael Hen Lancyddiaeth,—'rwy'n protestio
I beidio caniatau i neb ymuno ;
Ond, os gwna pawb ymuno i chwilio am wraig,
Mi daflwn Hen Lancyddiaeth dros y graig.
I'r perwyl hwn fe basiwyd penderfyniad,
A thynwyd y Gymdeithas i derfyniad.


YR HAUL.

O! Haul gogoneddus, ffynhonell gwawl cread,
Cyhoeddus was bydoedd heb arwydd dirywiad ;
Wyt ffyddlawn i'th Grewr—ymwelydd beunyddiol
Yn nghylchdro dy ymdaith, mewn urddas brenhinol.

O Haul! Wyt ardderchog, ti gwmpawd y bydoedd
O'th ogylch yn cylchdroi a gawn yn niferoedd ;
Dy lygad sydd lachar, dy wisg sydd yn fflamllyd;
Ein daear ymlona yn ngwên dy wynebpryd.

Tydi wyt gynyrchydd pob diwrnod a dreulir,
A noddwr pob bywyd daearol a welir;
Wyt arwr cryf nerthol, a llywydd gwarcheidiol
Yn taflu dy fantell o'n hamgylch yn ddyddiol.

Os daw rhew ac eira fel byddin ormesol,
I guddio prydferthwch ein daear arddunol ;
Gan wres dy wynebpryd ymdoddant o'r golwg,
A ffrwythau toreithiog ddaw eilwaith i'r amlwg.

Pan guddi dy wyneb mae pobpeth yn gwywo,
A'r byd yn ei fyrdd amrywiaethau'n gorphwyso ;
Ond yn adlewyrchiad dy lygad boreuol
Y byd a ymddeffry mewn gwedd adnewyddol.

Dy urddas godidog yn myd yr eangder
A deifl egwan gysgod o "Haul y Cyfiawnder;"
Bendithion afrifed gyfreni yn wresog,—
Difesur yw rhoddion dy fynwes gyfoethog.


PRIODAS BRYFDIR.

GYDA pharch y cyfarchir—yr hynaws
A'r awenol Bryfdir,
Cynhes iddo y cenir
Ddyn têg, gan feirddion y tir.

Ac iddaw alaw eilaf—ryw ganig
Bur gynes gordeddaf;
Ef a'i wenferch anerchaf
A'u mwyn oes dymuno wnaf.

Yn nghwmni mêl Mary Ellen,—mwyach
Ymhoewi wna 'i awen,
Dedwydd ysgydwa 'i haden
Yn uwch yn y farddol nen

Felly mwy y cyfaill mâd
Dreilio 'i oes drwy wawl o hyd,
Hufen ei oes a'i fwynhad
Fo'n serch ei geinferch i gyd.

Ffestiniog hoff os dawn cân
I'w noddi fedd—anedd fwyn,
Eilio'n awr wna mawr a mân—
Llwydd Bryfdir seinir a swyn.

Ar uniad yr awenydd—a'r feinir
Fwynaf yn ein broydd—
Côr serch yn cyweirio sydd
Delynau cyd lawenydd.


YR AFAL.

HA! bêr afal, ei brofi—yn Eden
Niweidiai'n rhieni;
Ond a'i nôdd mae'n rhodd ein Rhi,
A theg urddol ffrwyth gerddi.


Y MILWR.
(Y Gerddoriaeth gan Mr, Wilfrid Jones, R, A. M, Wrecsam,)

NOD fy mywyd, beth yw hwnw,
Bod yn filwr dros fy ngwlad ;
Bod yn ddewr a gwisgo'r cleddyf
Dania 'm hysbryd o fwynhad.
Mae rhyw hiraeth cryf aflonydd
Yn cyniwair drwy fy mron;
'Rwy'n dirmygu saethau'r gelyn,—
Cerddaf tua'r gad yn llon.

Cychwyn wnaf, ond rhaid ffarwelio,—
Rhaid wrth ddewrder i wneyd hyn ;
Mae fy nghalon yn glymedig
O fewn rhwymau serch yn dyn.
Dagrau gloywon fy Anwylyd
Ydynt saethau i fy mron:
Dyma allu i'w orchfygu
Mwy ei nerth na'r waew—ffon.

Os gorchfygais ddagrau cariad,
Nid oes gelyn mewn un gâd
All lesgâu fy mhenderfyniad
"Bod yn filwr dros fy ngwlad."
Gwnaf, ymladdaf a gorchfygaf,
Rhag pob gormes byddaf bur;
Cerfiaf "Fuddugoliaeth" eglur
Ar fy nryll a'm cleddyf dur.


YR HEIDDEN.

CEINCIOG, îr d'wysen siriol,—un beraidd,
Ffon bara beunyddiol
Yw'r Heidden; mor arwyddol
Ydyw rhodd Duw ar rudd dôl.


BEDDARGRAPH
Y diweddar Mr Thomas Jones (Jones Bach).

IS hon, "Jones Bach"—y Cristion tangnefeddus,
A dawel orphwys wedi taith flinderus ;—
Y doeth fasnachwr a'r cymydog tirion—
Dirwestwr cadarn—priod tyner galon.
Y ffraethbert wr—ei wlad barha i'w gofio,—
'R oedd nôd ei chrefydd yn gerfiedig arno;
Os fel un bychan ei hadwaenid yma,
Mae'n mhlith y cedyrn ar orielau Gwynfa.


DYFODIAD Y GWANWYN.

CYDGANU wnawn ag ysgafn fron,
Fe ddaeth y gwanwyn tyner llon,
Mae'r blodau'n gwenu'r fynyd hon.
O amgylch bŵth fy nhad.
Mae'r gwcw ar y pren yn canu, canu, canu.
A'r heulwen yn y nen yn gwenu, gwenu, gwenu,
Mae hyn yn wir fwynhad.

Ar lethr y bryn chwareua'r wyn,
Perora'r adar yn y twyn,
A llawn prydferthwch yw pob llwyn
Ar foreu'r gwanwyn gwyn.
Mae'r meillion ar y ddôl dan berlau, berlau byw,
A chor y goedwig werdd sy'n adsain ar ein clyw,
Ar ddyffryn dôl a bryn.

O swynol, swynol wanwyn hardd,
Prydferthu'r wyt bob bryn, a gardd,
Ac enyn wnei mewn ysbryd bardd
Lawenydd a mwynhad.
Cydunwn gyda hwyl i ganu, ganu, ganu,
Mae anian ar bob llaw yn gwenu, gwenu, gwenu,
Am ddoniau Duw yn rhad.


Y "BAY OF BISGAY."
(Cyfieithiad.)

CROCH rua'r erch daranau, daw'r gwlaw yn llif i lawr,
A holltir y cymylau gan fellt o fflamllyd wawr,
Mor erch a du yw'r nos, a'n llestr eiddil wan
Mor ddi—hedd uwch oer fedd yn y "Bay of Bisgay O!"

Y tonau arni gurent, dirgryna drwyddi draw,
Y dyfroedd iddi ruthrent, a llenwir pawb a braw,
Pob morwr yn y fan, gais ddringo'r hwylbren ban
Tra mae'r llong ar y dón, yn y "Bay of Bisgay O!"

O'r diwedd gwawria'r boreu, y disgwyliedig ddydd,
Yn ddistaw yn eu trallod pawb ocheneidiai'n brudd ;
Y gandryll long islaw, a leinw bawb a braw
Tra mae hon ar y dón yn y "Bay of Bisgay Ο!"

Mae'r llong ar fin ymhollti, mae'n gwegian ar y dón,
Ond enfyn nef ymwared, o'i hen drugaredd lon
Mae hwyl i'w gwel'd fan draw, ymwared i ni ddaw,
Hyfryd iawn forio wnawn, hwnt i fôr y "Bisgay O!"


SAIS-ADDOLIAETH
(Seiliedig ar ysgrif Alafon yn y "Geninen," Gorphenaf 1887.)
TESTYN CYMDEITHAS CYMMRODORION FFESTINIOG.
(Darn i'w Adrodd.)

WAETH heb na dweyd mai "Gwalia Wen"
A "Gwlad y Gan" yw Cymru,
A ninau'n lluchio am ei phen
Ynfydrwydd i'w dirmygu;
Mae llu o Gymry a fu gynt
Yn bybyr fel ei noddwyr,
I'w cael yn awr yn enwad mawr
A elwir Sais-addolwyr.


Mi gwrddais gynt â gwr ar daith,
A thybiais fod o'n Gymro;
'Roedd symledd Cymru yn ei wedd,
A gwisg Gymreig am dano;
Mi ddwedais wrtho "Boreu da'wch,
Y'ch chwi yn myn'd at Gorris?"
"I dunno know what do you say,
:I ciannot spake but Englis."

Mi holais am y Sais 'rol hyn;
A chefais, er fy syndod,
Mai ffermwr bychan oedd y dyn
Fu'n byw yn fferm yr Hafod;
Ond 'roedd yn awr yn "bailiff" bach
I dipyn o foneddwr
A llithro wnaeth yn ara'deg
I fod yn Sais-addolwr.

Mae'r Sais yn hoffi d'od am dro
I wel'd prydferthion Cymru,
Ac yn ei ŵydd mae'r Cymro tlawd
A'i arau'n egwan grynu;
A gwaeddi "Syr" y mae o hyd—
Efallai wrth ryw deiliwr;
A thrwy'r gwaseidd-dra rhyfedd hwn
Fe ddaeth yn Sais-addolwr.

Os bydd rhyw Sais mewn unrhyw fan
Yn werth ychydig arian,
Yn rhoddi swllt at hyn a'r llall,
Mae pawb a'u tafod allan
Yn gwaeddi "Abrec" ger ei fron,
A'i godi hyd yr awyr,
Gan "Syrio" fel y medr y ffol
Eiddilaidd Sais-addolwyr.

Rnown dro i'r orsaf—beth sy'n bod?
Mae'r cludwyr wrthi'n fywiog

Yn rhoi 'u gwasanaeth gyda gwên
I'r Saeson beilch a chobog;
Waeth pa mor enwog, pa mor dda,
Os Cymry fydd y teithwyr,
Fe'u hanwybyddir gyda gwawd
Gan gludol Sais-addolwyr.

Eis i gerbydres dro yn ol,
I blith rhyw ddeg o ddynion;
'Roedd dau o'r cwmni'n digwydd bod
O genedl falch y Saeson;
Dechreuais siarad gyda hwyl,
A hyny yn bur ddibris;
Ond gwaeddodd Cymro nerth ei gêg
"Please will you talk in English?

"It's very rude to talk in Welsh
While English gent's are here,—
Excuse me, friend, for saying this—
You see it very clear."
Mi ffromais dipyn wrth y gwalch—
Edrychai fel boneddwr!
Beth bynag oedd—mi wn i hyn,
Ei fod yn Sais-addolwr.

Canolbwynt pob cymdeithas bron
A welwn yr oes yma
Yw Sais neu Saesnes—Dacw un
Ar Sul mewn cynulleidfa;
Mae'r blaenor hynaf gyda brys
Yn gofyn i'r pregethwr
I ddweyd yn Saesonaeg—dipyn bach—
A throi yn Sais-addolwr.

Mae'r rhai sy'n tyrfu'r dyddiau hyn,
Yn enwog iawn mewn Saesonaeg;
Nid yw'r Gymraeg a'i phethau i gyd
Ond pentwr o ffiloreg:

"We hate," medd rhai'n, "the Welsh to read,
To talk it is so clumsy:
In Welsh we can't express ourselves—
It is somehow so ugly."

Awn i'r Eisteddfod,—"'rachlod fawr!"
Mae'n fwrn i bob gwladgarydd,
I wel'd y Sais yn llond y lle—
Yn llywydd ac arweinydd:
Mae'r hen Eisteddfod, rhaid yw dweyd,
Er's blwyddi fel mewn gwewyr;
Bydd farw hefyd cyn bo hir
Yn mreichiau'r Sais addolwyr.

Beth 'ddyliech chwi yw'r dosbarth hwn
Ond Sais—addolwyr gwrthun;
A dyma'r dosbarth gwyr y wlad
Sydd wacaf yn y coryn:
Yn mhlith y llu o sectau sy'
I'w cael yn Ngwalia ddifyr,
Y gasaf sect i'r Cymro pur
Yw sect y Sais-addolwyr.


"DOT" (Ci bach y Bardd.)

MAE genyf gi o'r enw Dot,
Un hynod mewn anwyldeb;
Un bychan llwyd heb un yspot—
Ond cwmwl ar ei wyneb.

'Rwy'n cofio'r diwrnod pan y daeth
O dref yn Arfon yma,
O'r "Hamper" neidio wnaeth fel saeth
I ganol ieir a gwydda'.


Fe glywsom lawer gwaith cyn hyn
Mai gelyn oedd i gathod;
Ar draws y ddol, a thros y bryn,
Ymlidia hwy yn gawod.

Os bychan yw, mae'n ffyddlawn iawn,
A llawn o bob direidi;
Ac ar yr aelwyd ni a'i cawn
Mor anwyl bron a "babi."

Mae 'Dot' yn ffafryn yn y ty,
Mae megys un o'r teulu;
Mae'n bur fel cyfaill cywir cu,
Ac yn un hawdd ei hoffi.

Bob dydd mae'n treulio llawer awr
Ar gadair fawr y gegin;
Os daw dieithrddyn mae fel cawr
Yn chwrnu'n groch a gerwin.

Y mae'n warchodwr heb ei fath,
Mae'n fanwl fel clustfeiniwr,
Pan glyw ysgrech neu swn y gath
Mae'n myn'd mor wyllt a sowldiwr.

Os daw y gath ar amser bwyd
I'r aelwyd i "rwbela;"
Mae'n neidio iddi heb ymdroi
Gan ddechreu cnoi ei chlustia'.

Ei gwylio wna rhag bwyta'r cig
A golwg ddig sydd arno;
Mae'n neidio weithiau haner llath
Pan gyda'r gath yn ffraeo.

Ac os caiff hi rhyw asgwrn bach
Mae'r gelach yn ei gwylio;
Mae'n dwyn yr oll heb adael dim
Un chwim yw ef am fegio,


Aiff wedi ciniaw bob prydnhawn
I ffenestr front y bwthyn,
Ac ar y bwrdd nyni a'i cawn
Yn cael ei felus gyntun.

Daw llawer heibio yn eu tro
I weled 'Dot' yn cysgu,
Mae'n hysbys iawn i blant y fro
A phawb sy'n ei edmygu.


BREUDDWYDION IEUENCTYD.
(Y Gerddoriaeth gan Mr. Wilfrid Jones, R.A.M., Wrexham.)

COFIAF y bwthyn yn nghanol y coed,
A'r llethrau lle cerddais i gyntaf erioed;
Cofio'r chwareuon wnai i ddwndwr y byd
A'i chwerwon ofidiau ymgolli i gyd.

Cofio'r wyf hefyd gerddoriaeth y berth,
A rhuad diflino'r hen geunant du, serth;
Cofio y dolydd a'r bryniau bob un,
A'r miloedd adgofion sydd wrthynt yn nglyn.

Tegan'r ol tegan ollyngai fy llaw,
A theimlais fod amser pwysicach im' draw;
Teimlwn fy meddwl yn deffro o'i hün,
Proffwydais mod inau i ddyfod yn ddyn.

Gwelwn gyfandir yn agor o'm blaen,
Yn fyd o ddedwyddwch heb ynddo un draen;
Awyr ddigwmwl broffwydwn pryd hyn,
A heirdd lwybrau esmwyth heb groesi un glyn.

Ar gysgodleni dyfodol fy oes
'Roedd llwyddiant digymysg heb gystudd na chroes;
Cestyll godidog a welwn draw, draw,
Y man y cartrefwn ryw amser a ddaw.


Breuddwyd fu'r cyfan, yn groes bu pob cam,
Heddyw'rwy'n unig, heb dad ac heb fam:
Yn yr anialwch y crwydraf yn brudd,
Dagrau hiraethus a olchant fy ngrudd.

Er y blinderau'rwy'n llawn o fwynhad
Wrth geisio canu alawon fy ngwlad.


LLINELLAU PRIODASOL

Ar yr achlysur o briodas Mr. Griffith Owen (gynt o'r Dinas, Blaenau Ffestiniog),
a Miss Maggie Evans, Denbigh Street, Llanrwst, yn awr o Bryn Dinas, Cernarfon.

O AWEN, dyfera gynwysiad fy nghalon,
Yn hyawdl gwna draethu fy meddwl yn awr;
Mae berw y byd a chwrs ei dreialon
Yn creu chwildroadau 'mhlith teulu y llawr:
Mae genym ddau heddyw'n teilyngu cyfarchiad
Ar adeg eu huniad mewn hoender yn un;
Ac felly, O! awen, rho ffurf i'th amlygiad,
Trwy ddatgan dy lwyddiant i Griffith a'i fûn.

Cysylltwyd cryn lawer er dyddiau'r hen Adda
I fod dros eu gyrfa yn un i gyd-fyw;
O'r diwedd mae Griffith a Maggie'n y dyrfa,
Eu bywyd fo'n hedd o dan fendith eu Duw:
Mae'r ddau'n gymeriadau sy'n haeddu derbyniad
I gylch gwyr a gwragedd urddasol ein gwlad,
Y ddaear a'r nefoedd groesawo eu huniad
Mewn myrdd o fendithion a môr o fwynhad.

Bu gofal Rhagluniaeth yn dyner o honoch,
Yn cynal a gwylio o'ch amgylch bob pryd,
A chwithau eich dau fel dau wrthddrych serenog
Yn deilwng i'ch dangos yn ngolwg y byd:

Hardd rodio a wnaethoch eich gyrfa'n ddilychwin,
Ond wele symudiad o'r bywyd a fu;
Os daw amgylchiadau mewn stormydd o ddrycin,
Fe'ch nerthir o'r nef pan fo'r ddaear yn ddu.

Os daw amgylchiadau rydd ofid i chwithau
Yn mhlith y pleserau, y mwynder a'r bri,
Na foed i un siomiant anurddo'r rhinweddau
Na dwyn y coronau a roddwyd i chwi:
Blinderau a chroesau y byd fo'n ymdoddi
Dan dyner belydrau haul cariad mewn hedd,
Trwy hyn ymddyrchefwch uwchlaw pob trueni,—
Pob dalen fo'n ddedwydd o fôdrwy hyd fedd.

Gadawaf chwi'n awr o dan ofal Rhagluniaeth,
I dyner amddiffyn holl gamrau eich oes,
A bydded pob dawn yn dylifo yn helaeth,
A chwithau gynyddu mewn rhinwedd a moes;
A phan y bydd Duw yn gwasgaru yr undeb,
Boed tawel ymostwng i'w drefn y pryd hyn,
Ceir eilwaith briodi ar fryn anfarwoldeb—
Heb ofni un eisiau—mewn rhwymyn mwy tỳn.


ALICE.

ALICE anwyl a swyna—fy enaid;
Yn fynych fe 'i mola;
Ior doeth drwy gymeriad da
Uwch adwyth a'i gwarchoda.

Deuddeg oed! Ha, diddig awr—yw heddyw
Heb gystuddiol dymawr;
Drwy ei hoes caed yn drysawr
O ras mwyn yr Iesu mawr.

Eiddunaf am ddaioni—i Alice,
Heb helynt na chroesni;

Rhag cwyn a blinder cyni
Arbed Ior ei bywyd hi!

Drwy fy enaid erfyniaf—i rinwedd
Ei chlaerwynu'n dlysaf:
Iddi yn nerth, caed nawdd Nâf—yn helaeth,
A diwedd alaeth a fo 'i dydd olaf!


YR ADERYN BACH.

I aderyn bychan tlws,—
Cenaist ganwaith wrth fy nrws;
Dywed im, y cerddor bychan
Pwy a wnaeth dy gywrain organ?

Canu'r ydwyt ti erioed,
Fel dy deulu yn y coed;
Ti ganiedydd bychan melus,
Pwy dy ddysgodd di mor fedrus?

Ganwaith yn y goedwig werdd,
Fe wrandewais ar dy gerdd;
Er a geni arni beunydd,
Mae dy gân bob tro yn newydd.

Lleddfaist lawer calon friw,
A dy alaw uchel—ryw;
Myrdd ddiddenaist mewn gofidion—
Dyma un o'th negeseuon.

Fel aderyn ar y pren—
Os bydd awyr las uwchben
Ceisiwn ninau weithiau ganu,
Ond daw discord cyn diweddu,


Fywiog hoew gerddor pur,
A oes yn dy galon gur?
Wyddost ti am ryw ofidiau
All effeithio ar dy nodau?

Mewn edmygedd lawer gwaith
Syllais ar dy siaced fraith;
Dywed i'm y tlws caruaidd
Pwy a wnaeth dy edyn euraidd?

Pell uwchlaw ein daear ni
Ymbleseru gwelais di;
A oes i ti ryw gyfrinion
A gororau gwlad angylion?

Pe'n aderyn awn a chân
Fry i fro'r angylion glân;
Canu wnawn trwy'r eangderau,
Uwch y ddaear a'i blinderau.

Fry yn uwch ar aden gref,
Esgyn wnawn trwy byrth y nef;
Yno canwn uwch gofidiau
Byth yn ngwlad yr aur—delynau..

Fel aderyn bach o hyd,
Ceisiwn esgyn uwch y byd,
Er mwynhau a chael cymundeb
A sylweddau tragwyddoldeb.


YR YSGRIFBIN.

YSGRIF-BIN—hyddysg arf bach—lywia'n deg
Len, celf a masnach;
At raid chwedl, cenedl ac âch
Ni feddwn ei ufuddach.


Y CRWYDRYN.
(Darn i'w adrodd.)

AR foreu oer un gauaf du
Daeth crwydryn tlawd at ddrws fy nhŷ;
'R oedd creithiau stormydd ar ei wedd,
A'i ben a ŵyrai tua'r bedd.
Yn araf iawn adroddai 'i gais,
'R oedd swn gofidiau yn ei lais;
Bu gwawd ac anmharch a phob sen
Yn gwlawio dirmyg ar ei ben.

O!'r crwydryn llwm—gwrandewch ei gri,
Areithia 'i ddagrau wrthym ni;
A d'wed ei wisg mewn eglur iaith
Mai dyn yw ef sydd ar ei daith.
Ni fedd un cyfaill dan y nef,
Na neb i wrando 'i gwyn a'i lef.
O b'le y daeth?——Pa le mae 'i nod?—
'Does gartref iddo dan y rhod.

Mae'r crwydryn tlawd yn ddarlun byw
O long heb angor ac heb lyw;
Mae'n myn'd yn mlaen yn mraich y gwynt,
Ac wrth y storm mae'n dweyd ei hynt
Pan giliodd pawb. Mae angeu erch
Yn syrthio arno fel mewn serch;
Ac os bu'n dlawd a gwael ei wedd,
Mae'n dirfeddianwr yn ei fedd.


Y GWYFYN.

LLAW adwyth ar ddilledyn—ddidostur
Rydd y distadl bryfyn,
Dwyn, er gofid, wna'r "Gwyfyn,"
Lwgr i deg wisg liwgar dyn.


SIARADWCH YN DYNER.
(Efelychiad.)

HARADWCH yn dyner, mae'r byd hwn mor ddreiniog
Mae eisoes yn llawn o ofidiau;
Siaradwch yn dyner, mae iaith gas a phigog
Bob amser yn chwerwi teimladau.

Siaradwch yn dyner, wrth sibrwd mae cariad
Yn gwneyd ei orchestion bob amser;
Mae iaith cyfeillgarwch yn llawn o eneiniad,—
A'i geiriau yn nodau melusber.

Siaradwch yn dyner, chwi dadau a mamau,—
Mor dyner mae'r baban bach tirion;
Mil gwell na theganau i leddfu 'i ofidiau
Yw geiriau tynerwch i'w galon.

Siaradwch yn dyner wrth ddysgu y bychan.—
Gwnewch bobpeth i'w wneuthur yn ddedwydd;
Wrth deithio'r anialwch caiff ddigon o gwynfan—
O alar, a phoen, ac enbydrwydd.

Siaradwch yn dyner wrth gyfarch henafgwr,
Mae creithiau gofidiau i'w gweled
Yn rhychu ei wyneb, ac yntau fel milwr,
A'i fywyd bron treulio gan ludded.

Siaradwch yn dyner wrth dlawd ac anghenus,
Na roddwch un loes i'w teimladau,
Mae geiriau caredig i'r rhai sydd helbulus
Yn heulwen i sychu eu dagrau.

Siaradwch yn dyner, tynerwch oedd nodwedd
Amlycaf yn hanes yr IESU;

Siaradodd dynerwch nes lleddfu tymhestloedd,—
A'r môr wrth ei arch fu'n llonyddu.

Mae geiriau tynerwch fel dafnau ireiddiol
I galon sychedig yn disgyn;
'Does ond tragwyddoldeb esbonia'n derfynol
Effeithiau'r dedwyddwch sy'n dilyn.


FY ELEN DLOS

HOLL rianod glân y byd
A welais i erioed,
Mwy swynol wyt na hwy i gyd,
'R wy'n caru ol dy droed.
Mae holl guriadau'nghalon i
Yn curo er dy fwyn,
Fy mywyd rof, beth allaf mwy
O! gwrando di fy nghwyn.

Fe genais iti lawer cân
Fy anwyl eneth wen,
Mae'th galon di mor bur a glân
A'r nefoedd uwch dy ben.
Nis gallaf ameu serch y ferch
Ei charu fynaf fi;
Dwy galon bur yn llawn o serch
Fedd Elen dlos a fi.

O gad i mi fy ngeneth dlos
Gael gwybod iaith dy fron,
Mae'th ruddiau'n dlysion fel y rhos,—
Fy anwyl Elen lon.
Dymunaf heddyw o fy nghur——
Os nad wyf yn dy hedd;
Gael marw ar dy fynwes bur
Cyn myn'd yn brudd i'r bedd.


DR. ROBERTS, U.H., (Isallt).

I FRODOR clodforedig—daionus
Fu'n Ffestiniog ini;
Gwas in, eto, frenin o fri
Gwau i hwnw wnaf ganig.

Gwiw feddyg, efe haedda—ein mawl llon,
Mel lles a gyfrana:
Archoll blin ac erchyll bla
A'i law addfwyn a leddfa.

Naturiolaf wr trylen—fwyneiddiaf
Foneddwr llawn awen;
Ei law hael a'i siriol wen
Leiha ing teulu angen.

Gwron mewn cyfeillgarwch—yw ISALLT,
Asiwr llawn prydferthwch';
Athraw yw, a barn lawn ei thrwch
Ac addurn i Fainc heddwch.

Ynad enwog llawn doniau—a noddwr
Llenyddiaeth a'r celfau;
Coethaf saer caeth fesurau
Deheuig wydd ydyw i'w gwau.

Ei ymson sydd bob amser—yn gweini
I gynydd meib Gomer;
Awen Gwalia byncia'n ber—ei glodydd
Ar wawl adenydd ei fri ledaener.


Y MWSWGL.

FWSWG' llysieudwf isel—hyd waenydd,
Sidanwisg creig uchel;
Dinod yw, ond enaid wel
Yn nhwf hwn law Naf anwel.


TANCHWA CILFYNYDD.

CILFYNYDD—clywaf anadl
Alaeth a loes, nid oes dadl,
Draw o'r fro, daeth difrod erch
Yn lle hoen dros y llanerch.

Ardal dawel—hyfrydle y diwyd—oedd,
Bro llwyddiant diadfyd
Ond heddyw'n lle dedwyddyd
Galar—gân glywir i gyd.

Pybyr ei glowyr glewion—anturiant
I oror peryglon;
A hwyliant a llon galon
I'r dyfnder, heb bryder bron.

Bob egwyl, i'w hanwylion—drwy 'u llafur,
Draw llifai cysuron;
Lloniant a byrddau llawnion
Ydoedd ar aelwydydd hon.

Ond arnynt y doi un diwrnod—nodawl
Ac ofnadwy ddyrnod,—
Dirybudd, diarwybod
Ochain dwys,—mae'r Danchwa'n dod!

Taro gwyr dewr trwy y gwaith—wnai hono
A'i hanadl ar unwaith,
Och yr ing, galar a chraith—leinw'r bau
Athrist wynebau, a thrwst anobaith!

Tra gweithwyr trwy y gwythi,—yn y dwfn
Gyda'u heirf yn tori,
Mae'n dod dychryndod a chri—
Tery anadl trueni.

Tyn pawb at enau y pwll,
Ond diobaith yw'r dûbwll

I dorf fawr—darfu eu hedd
Yn mor alaeth marwoledd.

Mewn gofid wyla mamau—yn eu plith
Wyla plant am dadau;
Tros y tir, mae sŵn tristhau—i'w glywed;
O! dduaf dynged yn ngwyddfod angau.

Y Danchwa darfa dorfoedd,—cynnud ing,
Cenad angau ydoedd;
A thon adfyd enbyd oedd
Olchai drwy'r holl amgylchoedd.

Heddyw'n weddwol ddinodded—yn llaw ing
Y mae llu i'w gweled;
Ac wylant ar awr galed,
Brwd ddagrau hyd ruddiau rêd.

Ar aelwydydd marwol adwyth—ddygodd
I egin y tylwyth;
Angau lle bu manau mêl,
A dwsmel a byd esmwyth.

Calon gwlad mewn teimlad dyr,—
Ei llogell a'i llaw egyr;
Dyngarwch ar d'wllwch du
A'i law addfwyn fyn leddfu
Loesion, ac ingol eisiau;
Och, ing! pwy all iachau
Archollion dyfnion y dydd—
Clwyfau enaid Cilfynydd?

Cofir flynyddau hirion—y mawr rwyg
Yn mro'r glowyr dewrion,
Galanastra'r Danchwa'n dòn
Gauai byth ddrws gobeithion.


Y MORWR.

ARWR dewr yw Morwr y dón—difraw
El uwch dyfroedd dyfnion;
A rhwyga war yr eigion,—
Eofn frawd ysgafn ei fron.

Yn llaw ing wrth gell angau—drwy ei oes
Mae ei drig yn ddiau;
Yn gylch o'i amgylch mae'n gwau
Adenydd gwyrddion donau.

O bob goror, trysorau—y gwledydd
Gludir yn ei longau;
Wele wâs gwych dilesghâu,
Llyw'r oes—diwallwr eisiau.


YMSON Y BARDD.

O mor felus ydyw cofio
Dyddiau dedwydd boreu oes,
Cyn i flinder amgylchiadau
Chwerwi'r fron ag awel groes.
Llithro wnaeth yr hen chwareuon
A'r teganau bob yr un:
Dringais inau'n ddiarwybod
Risiau oes nes d'od yn ddyn.

O na bawn yn ddyn meddylgar,—
Dyn o synwyr—dyn o ddawn,—
Dyn o feddwl athrylithgar,—
Dyn caredig, parod iawn—
Parod iawn i fyw i eraill,
Parod i ddyrchafu 'i wlad;
Byw yn dduwiol i gymdeithas,—
Dyna'r dyn gâ wir fwynhad.


Byw yn seren oleu eglur
Yn fturfafen "gwlad y gân,'
Yw fy nôd a'm penderfyniad—
Teimlaf fod fy mron yn dân,
Canaf glodydd gwlad y delyn,
Codaf urddas Gwalia Wen;
Er fy marw, Cymru fyddo
Yn obenydd dan fy nhen.


Y GWLAW.
(Buddugol yn Eisteddfod Gadeiriol y Llechwedd, 1884.)

CARTRE'r gwlaw yw'r cwmwl prydferth
Lywir fry gan ddeddf yr Ior;
Ar ei daith wrth nofio'r wybren
Yfa ddyfroedd heillt y mor.
Croywa hwy yn ddwfr puredig.
Ceidw'i gawg yn lân o hyd;
Bron na thybiwn fod angelion
Yn ei ogrwn ar ein byd.

Heb y gwlaw fe drenga'r ddaear,
Gwywa'r rhos oddiar ei grudd;
Sugno'i bywyd oll i'w fynwes
A wna gwresog deyrn y dydd.
Edrych wna'r mynyddoedd uchel
Dros y dyffryn eang draw,
Fel mewn hiraeth am gofleidio
Hen gostrelau mawr y gwlaw.

Ond pan welir cwmwl bychan
Yn ymgripio ael y nen,
Ac yn graddol ledu ei aden
Nes gorchuddio'r nef uwchben;
Cawn y ddaear yn sirioli,
Myrdd o lygaid syllant fry,
Mewn awyddfryd i groesawu
Bywiol ddafnau'r cwmwl du,


Fel arsyllwyr yn yr wybren
Mae'r cymylau llwythog hyn,
Sydd yn hidlo eu bendithion
Nes adfywio bro a bryn.
Y mae'r coedydd fel yn gwenu,
Bywyd ddawnsia ar bob llaw;
Egin, llysiau ledant freichiau

I gofleidio'r dafnau gwlaw.
Dyner wlaw—mae hwn yn fywyd,—
Gwaed y greadigaeth yw;
Ei arianaidd ddiferynau
Sy'n aileni anian wyw.
Llona heirdd wynebau'r dolydd,
Trwsia wallt mynyddau'r byd;
Ac wrth yfed o'i ddefnynau

Gwisga'r blodau ddwyfol wrid.
Werthfawr wlaw—tad y llifddyfroedd
Olchant wyneb anian fawr,—
Ceir ei bywyd yn ei raddau'n
Disgwyl wrth ei borth bob awr.
Gwrando, ddyn sy'n anystyriol,—
Oni chlywi iaith y gwlaw?
Dywed mai y Duw trugarog
Ddalia'r cwmwl yn ei law.


YR HAF.

GLASU mae'r dolydd yn glysion,—ceir cerdd
Ar geinciau'r coed gwyrddion,
Fwyngar haf, drwy'r fangre hon
Wynebledu wna blodion.

Awelon mel yn ymwau—a gludant
Glodydd y perlysiau;
Tyner chwareuant danau
Heibio y coed i'w bywiocau.


MARWOLAETH A CHLADDEDIGAETH MOSES.

MEWN henaint teg, yn gant ac ugain mlwydd,
Mae Moses mewn ufudd—dod idd ei Dduw,
Yn araf ddringo mynydd Nebo hardd
I farw yno; fry o dwrf y byd.
Arweinydd Israel oedd i Ganaan deg,
Ond ni cha'dd ef ond golwg ar y wlad
O ben y mynydd—rhiniog drws y nef.
Pan gauai 'i lygaid ar y golygfeydd,
Agorai hwynt o fewn y Ganaan fry—
A dyna ydoedd marw iddo ef.
Os na cha'dd ef fwynhau y darlun gwan,
Mae'n cael mynediad helaeth byth o fewn
Y Ganaan nefol—Canaan Duw ei hun.
Bu farw, do, heb neb yn dyst ond Duw,
A'r llu nefolaidd archodd ef i ddod
I roddi iddo gladdedigaeth wych,
A phwy ymffrostia mewn un angladd mwy?
Ei gorff a gladdwyd gan angylion glân;
Y gysegredig fan nis edwyn neb—
Does maen na mynor yno'n traethu dim.


CADEIRIAD ELFYN
Yn Eisteddfod Dalaethol Pwllheli, 1895.

FILIAF i "Fardd yr Afon,"—un greodd
Groywaf gynghaneddion,
Ei genedl yn ddigwynion
Fwynha lif ei awen lon.

Drwy ei gân i GADAIR GWYNEDD—y daeth
Hyd i wir anrhydedd,
A rhoi clod, tra'n gweinio'r cledd
Wneir i odlwr hyawdledd.


BEDDARGRAPH DR. EDWARDS[2]

YSBEILIODD angeu drysor penaf Gwalia,
Sef Dr. Edwards—'r Athraw mawr o'r Bala;
Bu'n seren lachar yn mhlith Duwinyddion,
A seraph gloew fel gweinidog Seion.
Goleuodd Gymru gyda'i bur lenyddiaeth;
Dihysbydd fŵnglawdd fu yn mhob gwybodaeth,
Athrawiaeth fawr yr Iawn yw'r hardd gofgolofn,
Ac ar ei phwys i'r bywyd aeth yn eofn.


GALANAS Y FELLTEN.
Y Gerddoriaeth gan Mr. E. D. Lloyd, R.A.M., Organydd, Bethesda.

MEWN bwthyn clyd yn Nghymru lân
Roedd teulu'n ymgom wrth y tân,
Son am helyntion mân y dydd
Yr oedd pob un yn llon a rhydd.
Ond dyma fellten oleu'n gwau
Ac am y teulu mae'n amgau
Tramwya'r fflam hyd nen y ty
Ac ysu'r oll mae'r elfen hy'.

Y tân ddiffoddwyr ddaeth i'r lle
Gan chwyrn garlamu draw o'r dre',
Yn ffroenau'r meirch'roedd arogl tân,
Tra hwy mewn rhwysg yn myn'd yn mlaen.


Os gwenu bu'r nefoedd, mae'n gwgu yn awr,
A'r 'storm mewn enbydrwydd ymdywallt i lawr,
Mae eirchion y teulu yn esgyn trwy'r dellt
At Dduw am eu noddi yn nghanol y mellt,
O Arglwydd! ti rwymaist adenydd y fflam,
A chedwaist yn ddiogel y teulu dinam
O cadw ni, Arglwydd, a cadw ni 'i gyd
Rhag byth gael ein difa gan fflamau dy lid,


Ymddyrch y fflamau hyd y nef
Ac ynddynt mae y weddi gref
Yn esgyn hyd at orsedd Duw
Am ddwyn o'r tân y teulu yn fyw.
Galanas erch y fellten wnaeth
Ond Duw a gadwodd hon yn gaeth
Rhag peri niwed i'r rhai hyn.
Anfonodd Duw ei angel gwyn.

Aeth heibio'r storm ar noswaith brudd
Ar danau'r awel fin y dydd,
Mae anthem waredigol fyw
Yn esgyn fry at orsedd Duw.


Y MYNYDD

LLE unig, ban, a llonydd—heulog fan
Golygfeydd yw'r mynydd;
Mwynder hoen i'm henaid rydd—
Doniol bwlpud awenydd.

Am ei goryn myg wyro—wna' cwmwl,
Cymer ei sedd arno;
Gwynfaol, deg nifwl dô
Draw estyn orchudd drosto.

Hyd ei oror y daran—ddaw eilwaith,
Gyrr ddolef drwy bobman;
Llidiog dwrf y melltiog dân
Enyna galon anian.

Wele fan tarddle afonydd,—tudwedd
Gwyllt adar yw'r mynydd;
Aros ar ei uchder sydd
Yn rhwym hoelio'r ymwelydd.


CERDDORIAETH.
(Buddugol.)

CERDDORIAETH bêr! llonder llu
Yw pwnc hon—nid poen canu;
Greddfol yw ei graddfa lon
Y'ngwlad engyl di-ingon:
Rhyw dorf fawr geinwawr eu gwedd
Chwâr eursain gylch yr Orsedd.

Lluniodd Ior yn llonwedd ddyn,
Cord hwyliog grëai 'i delyn;
Ac a hoender ein cyn—dad,
Eiliai dôn i'w nefol Dad.

Ond A! lleddfwyd, torwyd tant
Ei bêr gan—bur ogoniant;
A thrwy bechod isod daeth
Rhyw lewyg ar alawiaeth.

Rhua'r dón, cân afonydd,
Per dwsmel yr awel rydd;
Y cread rydd gainc ruol,
Ond er hyn mae cord ar ol.

Ymlid poen,—rhoi hoen a hedd
A wna 'i swynol berseinedd:
Adlais hon, hudolus yw—
Nefoledig fawl ydyw.

Ei seiniau'n nghynteddau'r Tad
Glywir, a'u myg alawiad,
Byrdon addolyddion lu
Yn ei gysegr ga Iesu.

Miwsig yn Salem Iesu
A chywair llon chwar y llu
Yno cenir cainc unol
I RAD RAS, heb gord ar ol.


YR ANUDONWR.

DUW yn dyst, dyna 'i destyn—oganwr
Gyda genau di-gryn,
O flaen ei Dduw—aflan ddyn—
Ei wadu a wna wed'yn.

Un â genau drygionus,—llunia dwyll
Llawn o dawch afiachus;
Ond ei iaith nid yw ond ûs—
Celwyddog, cywilyddus.

Ei weflau ffiaidd, aflan—gair Duw Ion
Geir danynt yn gruddfan;
Genau twyll yn cyneu tân
Yn ei enaid ei hunan.


DUW YN NODDFA.

DERFYDD holl rwysg daearfyd,—di-aros
Yn mwynderau bywyd;
Brau yw'n hoes, ber iawn ei hyd,
Gwyro mae pawb i'r gweryd.

Ond Duw erys yn darian—i'r duwiol
Drwy 'i dywydd yn mhobman;
O! loches gynes fe gân
Uwch drygfyd mewn iach drigfan.

Doed dylif, dued heuliau,—o'i gyraedd
Gwasgared planedau,
Noddfa glyd mewn haddef glâu—yn yr Ion
Rhag gelynion ga'r pur eu calonau.



Y DAWELNOS.

A! Dawelnos a'i dylni,—yn fynych
F'enaid wrendy ynddi;
Yn nystaw, fain, sain ei si
Eiddilyn gâr addoli,


Y DDEILEN.

Ddeilen yn arwydd a welaf—o
Fywyd wedi gauaf;
Ei gwerdd olwg arddelaf
Flaenredydd i hirddydd haf.

Lifrai'r pren a'i ganghenau,—bywiol led
Mhlith blodion a ffrwythau;
Ac yn eu mysg yn ymwau
Ni gawn hudol ganiadau.

Eiddil yw hon—arwyddlunia—fer oes
Farwol bywyd yma;
Fe gwymp i'r bedd ddiwedd ha'
Y Ddeilen lwydwedd ola'.


EMYN
(Dymuniad am yr Ysbryd Glan,)

YN yr anial blin, sychedig,
Mae fy ysbryd yn llesgau,
Nid oes ond y gwin puredig
Wnai f'enaid lawenhau,
O! am ddafnau
I ireiddio'nghalon wyw.

Mae pleserau'r byd yn denu
Fy myfyrdod bob yr awr;
Ceisio 'th garu eto'n methu,
Rho dy Ysbryd Arglwydd mawr;
Os caf hyny
Boddlawn fyddaf yn y byd.

Dyro'r dafnau byw grisialaidd
Sydd yn moroedd gras yn llawn;

Mae dy ysbryd dwyfol, sanctaidd
Yn gyfoethog o bob dawn,
Lân Ddiddanydd,
Cymer f'enaid yn dy law.


LLINELLAU CYFARCHIADOL
Ar Gyflwyniad Tysteb o 100p. i Mr. Hughes,
Postfeistr, Blaenau Ffestiniog.

HAWDD yw anrhydeddu arwr,
Hawdd yw anrhydeddu dyn,
Hawdd gan awen wel'd boneddwr,
A myn weithiau dynu'i lun,
Felly heddyw
Hi ga'dd gymhorth gan yr haul.

Tyr'd fy awen i'r Llythyrdy,
Yno cyfarfyddir dyn;
Mangre lle bu'n ymddadblygu
Yno mae'n ei le ei hun,
Ti gei yno
Ddarlun perffaith iawn o'r dyn.

A pha bryd y gwelodd awen
Ei anrhydeddusach ef?
Siriol, heini, bywiog, llawen,
Llenor o athrylith gref,
Dyma'r arwr
Anrhydeddwn ni yn awr.

Gwr gyd-dyfodd gyda'i ardal
Gwr a garodd les ei blwy',
Os bydd bywyd—pwy a'i hatal?—
Rhaid i fywyd fyn'd yn fwy,
Fel y dderwen,
Yntau ymddadblygu wnaeth.


Edrych yn ei lygaid hawddgar,
Caredigrwydd yno sydd;
Ac mae'i galon gymwynasgar,
Fel yr haul ar ganol dydd,
Yn ymarllwys
Geiriau tyner wrth bob un.

Gwasanaethodd blwyf Ffestiniog
Ac fe'i dygodd hyd yn hyn;
O ddinodedd llwyd anghenog
Megis dinas i ben bryn,"
Fel mae bellach
Drwy y byd yn hysbys iawn.

Dyma lenor craff, meddylgar,
Mae'i leferydd ar ein clyw
Megis nodau clychau seingar—
Ac mae'n meddu awen fyw,
Lle athrylith
Ydyw brig y pren o hyd.

Mae'n ddiddanwch i'w gyfeillion,
Mae'n hapusrwydd i bob bron,
Weled un a gar ein calon
Heno'n cael yr anrheg hon,
Mwy pleserus
Fuasai cael bod yn ei le.


ENGLYN.
A argraffwyd ar Gerdyn Coffadwriaethol fy anwyl Dad,
yr hwn a fu farw Ionawr 22, 1881,

FY Nhad hawddgaraf nodwedd—a nofiodd
I'r nef wen o'i waeledd;
Wedi'r boen câ hoen a hedd,
Gwir felus mewn gorfoledd.


PEN BLWYDD "ARTHUR MADOG,"[3]
(Mebyn Dr. Jones, Bl. Ffestiniog.)

EGINYN tlws ei gynydd,—heddyw'n flwydd
Ddaw'n ei flaen yn 'splenydd;
Arwydda hyn daw ryw ddydd
Yn deilwng o ardalydd.

Barn gwlad am Arthur Madog—yw y dêl
Fel ei dad yn enwog:
Caed oes faith a thaith o hedd,
A rhinwedd yn goronog.


"FALL" fawr Chwarel y Welsh Slate, Ffestiniog, Chwefror, 1883.

Cyfansoddwyd y llinellau hyn Chwefror 16eg, 1883, diwrnod y daeth y FALL (cwympiad)
fythgofiadwy i lawr yn y chwarel uchod. Ychydig amser cyn hyn cauwyd pump o'r Miners gan y
FALL, fel y tybiwyd eu bod wedi eu claddu yn fyw; ond trwy ymdrech digyftelyb eu cyd-weithwyr
rhyddhawyd yr oll o'u carchar du.

DARN I'W ADRODD.

'R OEDD degau o'r chwarelwyr er's amser maith ol
Yn gweithio mewn peryglon mawr o dan y ddirfawr fall;
'R oedd ofnau yn cyniwair—pob mynwes oedd mewn braw,
Wrth sŵn y disgyniadau mawr a glywid ar bob llaw:
Rwy'n clywed swn craciadau, medd rhyw chwarelwr craff
A welaf ar yr uchel graig yn rhwym o fewn y rhaff,
Ond gweithio wnai y dewrddyn o dan yr uthrawl le,
Hylldremiai angeu arno'n awr, ond eilwaith gwena'r ne'.

Ond diwrnod bythgofiadwy o brudd-der i bob bron
Oedd adeg cloi yn nghôl y graig ryw bump o'r miners llon;
Mae braw yn argraffedig, a dwysder ar bob grudd,

Wrth wel'd eu hoff gydweithwyr dewr o dan y graig yn nghudd:
Mae angeu fel yn syllu, a d'wedai wrtho'i hun,
"Oes gobaith imi gael y rhai'n yn eiddo i'm bob un?
Gwnaf wylio uwch eu penau'n awr, er gweled beth ddaw o hyn,
Os chwaneg ddaw o'r graig i lawr, fe'u llyncaf yn y glyn.

Ond ah! mi welaf luoedd ar ffrwst yn d'od i'r fan,
Gan ymbalfalu yn y fall, er cael y pump i'r lan:
Pob gewyn ar ei eithaf, yn ufudd ynddo'i hun,—
Ymafla rhai mewn caib a rhaw, a'r lleill mewn gordd a chun:
Gwel dreiglo, hyrddio'r meini, gwel luchio'r clai a'r baw;
A thremia bywyd yma'n hyf yn ngwyneb brenin braw;
O frwydr, pwy orchfyga? O oriau prudd a dwys;
Oes gobaith ceir y truain hyn i'r lan sydd tan y gwys?

Pwy draetha fyfyrdodau y carcharorion hyn,
A phwy all sylweddoli 'u gwedd o fewn y carchar tyn?
Pob calon geir yn curo—mor welw yw pob grudd;
Cyn hir canfyddir gobaith gwan o'u cael i oleu dydd
O'u dudew garchar cadarn—clustfeinient—wele wawr?
A chyda bloedd groesawol daeth y pump o'r dyfnder mawr:
Trugaredd ragluniaethol a'u dug o'r fall yn fyw
Boed iddynt hwy a ninau mwy, folianu'r uchel Dduw.

Os cafwyd gwaredigaeth o safn yr angeu du,
Ac er rhybuddion ar bob llaw, caed rhai'n ddiofn a hy';
Y graig a'i hymysgaroedd yn dadgymalu sydd,
A thrwst y disgyniadau mawr i'w clywed nos a dydd:
Pileri trwchus, mawrion, fu gynt fal dewrion lu,
Fel pe am herio pwysau'r graig a stormydd o bob tu;
Ond ha! mi welaf foreu, y graig oedd ddigon cryf
I gwympo'r dewr bileri hyn, a'u gwasgar megys plyf.


O! clywch y twrf ofnadwy, llithriadau'r graig a'u rhu,
Cynhyria'r dyfnder gyda rhôch—enbydrwydd o bob tu;
Cwympiadau fel taranau—ymsuddai'r mynydd mawr,
Fel cawr ardderchog gwel ei drem, mae'n d'od! mae'n d'od i lawr!!
O fynyd o ddifrifwch, wnai dristwch ar bob grudd,
Gan ofn llewygawl rhag bod rhai o dan y fall yn nghudd,
Ond noddai'r nef y gweithwyr, o'u dwfn beryglon mawr;
A saif dyddordeb byth yn nglyn a fall y CHWAREL FAWR.


PRYDDEST: "YR IORDDONEN."

IORDDONEN hoff fydd gysegredig byth;
Mor swynol yw dy enw ar fy nghlust!
Mawrygaf dithau Hermon, fynydd hardd,
Am noddi mangre 'i genedigol fro;
Can's wrth dy droed, o groth yr ogof ddofn,
Y ganwyd hi yn ffrydiau gloewon byw—
Nes ffurfio'r afon lydan, loew, hardd.
Ymlithra'n heini mewn ieuenctyd byw
Mewn dull chwareus o fewn ei gwely gro
Mae'n chwyddo beunydd ymgryfha mewn nerth,
Fel ieuanc wr ar ddechreu gyrfa byd.
Ymlithra'n mlaen rhwng dyryslwyni erch
Yr ewyn gwyn ar flaen ei thonog li'
Areithia rym ei phenderfyniad cryf;
Mynyddoedd heirddion Palestina deg,
Fel am yr uchaf ymddyrchafu wnant
I weled hon fel cadwen arian glaer
Yn byw ddolenu trwy'r dyffrynoedd heirdd.


Myrdd o ffrydiau Cesarea
Huda'n ddistaw idd ei chol,
Yno gyda hwy mae'n rhedeg
Ymaith, byth ni dd'ont yn ol.

Yn ei dyfroedd gloewon dysglaer
Dawnsia delwau tlysion fyrdd;
Chwerthin mae y rhos a'r lili;
Cedrwydd gurant ddwylaw gwyrdd.

Llithro wna trwy'r dyffryn ffrwythlawn
Fel mewn ymgom a mwynhad,—
Fel y teithiwr pereriniol
Hoffai olygfeydd y wlad.
Lliwia'r heulwen ar ei gwyneb
Gyda 'i bwyntel dlysni byw;
Natur welir ar ei glanau
Teg yn gogoneddu Duw.

Llifo mae yn ffrwd o fywyd
Trwy'r dyffrynoedd fel eu gwaed.
Gan eu nerthu a'u hysgogi
Oll i godi ar eu traed.
Enfyn ei ddylanwad bywiol
Fel rhyw hylif trwy y wlad,
Nes ei gwneyd yn Ganaan ffrwythlon,
Cartref heddwch a mwynhad,

Natur ruthra at ei glanau
Fyth i sugno 'i maethlon fron,—
Ac i edrych ar ei delw
Yn nisgleirdeb dênol hon.
Adlewyrchir yn ei dyfroedd
Harddwch blodau—mawredd coed
Gurant ddwylaw yn yr awel—
Fel mewn drych perffeithiarioed.

Ymddolena mewn distawrwydd
Gyda gwyneb siriol iawn,
Nes daeth anhawsderau—yna
Newid gwyneb yma gawn.
Ond y newid wyneb hwnw
Yw rhaiadrau'r afon hon,

Wisgir ganddi megis tlysau
Bythol wynion ar ei bron.

Tòna i ffordd yn benderfynol
Rhwng prysglwyni geirwon erch;
Lle mae anhawsderau fwyaf
Mwyaf hefyd gawn o serch.
Pan yn disgyn trwy'r ceunentydd
Cawn y canu mwyaf clir:
Darlun gwan yw'r hen Iorddonen
O hardd fywyd Cristion gwir.

Dyfroedd Merom a gyrhaedda
Yr Iorddonen yn y man—
Dyfroedd ydynt anfarwolwyd
Gan y frwydr fu ar ei glan.
Duw fu yma'n nerthu Israel—
Cadw 'i etholedig hâd,
Pan oedd myrddiwn o'r gelynion
Bron ar etifeddu'r wlad.

Cyfoethoga ddyfroedd Merom—
Ymgryfha mewn nerth o hyd;
Llifa o hono mewn gwrhydri
Nes gwneyd enw yn y byd.
Mae'n dyfrhau'r dyffrynoedd breision;
Darlun gwan i f'enaid yw
O hen "afon bur y bywyd"
Lifa o orseddfainc Duw.

Hen fôr enwog Galilea
Egyr ei groesawol fron,
A chofleidia'r hardd Iorddonen
Gwaed ei galon ydyw hon.
Mae ei glenydd heirdd a ffrwythlawn
Yn anfarwol bob yr un—
Tystion ydynt o weithredoedd
Nerthol, gwyrthiol Mab y Dyn.


Os oes paradwys ar y ddaear hon
Rhaid dweyd mai dyma'r fangre lle bu'r nef
Yn hael brydferthu ei llanerchau cain.
Cyfoethog, ffrwythlawn yw'r gwinllanoedd têg,
Toreithiog ynt o bob amryfal ffrwyth.
Chwareua'r awel mewn hoenusrwydd byw,
O frigau'r goedwig gwna delynau fil.
Mae côr y wig fel côr y Wynfa wen—
Ymgolli wnaf yn llwyr mewn pur fwynhad,
Mewn dwfn addoliad plygaf yn eu gwydd;
Os hwn yw'r darlun—Beth yw'r nef ei hun?
Ac os caf ddod trwy byrth y Ganaan fry,
Pa fodd y syllaf ar brydferthwch bro,
Sef Canaan ogoneddus Duw ei hun.
Er hyn ffarwelio raid a'r golygfeydd,
Mae gwrthddrych arall heddyw'n denu'm bryd,
Sef swn cerddoriaeth yr Iorddonen gref;
Brenhines yw yn mhlith afonydd byd.
O! gysegredig afon, teimlais fod
Rhyw barchedigaeth ynwyf atat ti:
Prydferthaist Ganaan â dy ddyfroedd clir,
Fel braich trugaredd ymestynaist trwy,
Haelionus iawn dy gostrel fuost ti;
Gwasgeraist roddion, llifodd llaeth dy fron
Yn ffrydiau bywyd trwy'r dyffrynoedd teg.
Meillionog ddolydd ledant ar bob llaw,
Mynyddoedd cedyrn gyda'u gwyrddion draed
A ymestynant at dy lenydd di.
Iorddonen hael—myrddiynau rif y dail
Ddiodaist ti o greaduriaid Naf;
O gymwynasgar afon, balm i glust
Yr Iuddew ydyw'th enw swynol di.


O afon freintiedig—
Cael rhedeg trwy Ganaan—
Trwy wlad yr addewid,
Paradwys bereiddlan;

Y wlad a ddewisodd
Y Duw bendigedig
I amlygu ei hunan
I genedl syrthiedig.
Iorddonen furmurol!—
Dy lenydd a dystiant
I wyrthiol weithredoedd
Y Dwyfol Ogoniant.
Ufuddaf Iorddonen—
Mi'th welaf yn cilio;
Dy wely yn brif—ffordd,
A'r genedl yn rhodio
Trwy'th ganol yn eon,
A'r dyfroedd yn bentwr—
Yr arch yn blaenori,
A Duw yn Achubwr.
Mae'r dyfroedd yn tori,
A'r afon yn agor
Wrth arch ei Chreawdwr:
Fe sych y gagendor,
A chroesa y genedl
Yn fuddugoliaethus;
A chauodd Duw ddrws
Y fynedfa ramantus.


Yr afon hon fu megis canolbwynt—fan
Lle bu'r Jehofa yn amlygu 'i hunan;
A dyma roddes iddi anfarwoldeb,
Ac nid prydferthwch a dysgleirdeb gwyneb.


Cofiwn fyrdd o gymwynasau
A gyflawnaist ar dy daith;
Duw fu'n ffurfio'th ddyfroedd gloewon
Yn heolydd lawer gwaith.
Cofiwn am Elias ffyddiog
Groesodd unwaith trwy dy li';

Eliseus ei was dderbyniodd
Groesaw tebyg genyt ti.
Ti amlygaist allu'r Duwdod
Oedd i'r saint fel cyfaill cun,
Miloedd olchwyd yn dy ddyfroedd
Heblaw Naaman, halog ddyn.


Iorddonen buredig—
Dy ddyfroedd grisialaidd
Gysegrwyd gan lu
Ymweliadau angylaidd.
Un mwy nag un angel
A rodiodd ei glenydd—
Gwaredwr pechadur,
A Duw ei Chynllunydd.
Fe glywodd leferydd
Y Pur a'r Dihalog,
Bu'n dyst o fyrddiynau
Gweithredoedd trugarog.
Efengyl y deyrnas
Mewn nerth a grymusder
Glybuwyd gan Ioan,
Pregethwr cyfiawnder.
Dy lenydd gysegrwyd
Gan sain cân a moliant,
"Hosana i Fab Dafydd"
Fu'r peraidd fynegiant.


O na allwn dynu darlun
O olygfa ryfedd iawn,
Pan oedd Iesu yn cyfeirio
At dy ddyfroedd un prydnawr,
Edrych—gwel ei drem urddasol
Pan gyfeiriai at y fan,
Mynai'r afon dynu'i ddarlun
Pan y safai ar y lan,


Bron na welaf ryw wyleidd—dra
Ar dy wyneb, afon dlos,
Pan ddynesai'th Grewr atat—
Gwridai'th wyneb fel y rhos.
Iesu mewn ufudd—dod perffaith,
I orch'mynion pur ei Dad,
Ddeuai yma i'w fedyddio
Yn ol arfer pobl y wlad.

Wele'r nefoedd yn agored—
Presenoldeb Ysbryd Duw
Sy'n arianu'r afon loew—
Drych mor ogoneddus yw.
Llef o'r nefoedd yn hysbysu
"Hwn yw f' anwyl Fab fy Hun,
Yn yr Hwn y'm llwyr foddlonwyd,"
Addas Geidwad yw i ddyn.

Os gall afon wisgo teitl
Anfarwoldeb ar ei bron,
Nid oes un deilynga'r enw'n
Fwy na'r hardd Iorddonen hon.

Os yw'r dyfroedd a fu'n dystion
O'r gweithredoedd nerthol gynt,
Wedi llifo o fodolaeth
Neu i ryw grwydredig hynt;
Credaf bydd y gwyrthiau rhyfedd,
A'r gweithredoedd rif y dail,
Bythol ar ddalenau amser
Tra bo'r ddaear ar ei sail.

Hoff Iorddonen—rhaid ffarwelio,
Cyflym suddo mae dy li'
I'r "Mor Marw"—môr o anghof
A fydd hwnw byth i ti,


Rhyw ddarlun yw o'r hen Iorddonen draw,
A raid i minau groesi maes o law;
Yr ochr draw mae gwlad addewid Duw
I'r rhai sydd yma ar ei ddelw'n byw.
Gelynion fyrdd o'm hamgylch sy'n crynhoi;
Gad imi'n ddiogel, Arglwydd, rhagddynt ffoi.
Mae afon fawr y glyn yn ddofn a du,
Yn ddiogel cynal fi, fy Iesu cu;
Caf yna ganu am dy farwol glwy'
Mewn gwlad lle na raid croesi afon mwy.


Awdl—"Y GWEITHIWR.'
Testyn Eisteddfod Gadeiriol y Llechwedd, 1890.

PWY yw'r gweithiwr? gwr dan goron—urddas,
Arddel Duw yn wron;
Da ei ddawn i'w gyd—ddynion,
Tarian i'r byd—teyrn i'r bôn.

Ië, teyrn uwchlaw teyrnedd—a segur
D'wysogion gwag fawredd;
Mewn gwlad minia ei gledd—i dori pen
Y gêlyn angen a'i golyn ingedd.

Awen cân, mola'n milwr—sy' galed
Ddiesgeulus weithiwr;
Ag eirf droes yn arloeswr—anial fyd
Heb seguryd—wir bwysig arwr.

Hen yw gwaith; onid gweithiwr—oedd Adda
Yn ei ddyddan gyflwr?
Yn Eden ardd dyna wr
Yn foreu oedd lafurwr.


Gwaith sydd fâd ordeiniad Duw,
Hynach na phechod annuw;—
Ordeiniad er daioni—
Haeddfawl fraint dan Ddwyfol fri.

I'n cyn—dad yn nydd ceinder—draw mewn hedd
Dôr mwynhad a phleser;
A dyfal, ond diflinder
Fu dyn yn y Wynfa dêr.

Daearen ni ddwg doraeth—o honi
Ei hun er cynhaliaeth;
Llonder mwyn, llawnder a maeth
Ni ddaw'n elw i ddynoliaeth.

I ddyn ni ddaw o honi—drwy 'i hwyneb
Ond drain a mieri;
A thrwy waith rhaid ei throi hi—
Dir anial, o drueni.

Bywyd dyn a'r byd o hedd—fwynhawyd,
A weddnewidiwyd yn ddu ei nodwedd.

Hawddfyd, esmwythyd a moethau—ni cheir,
Ond chwerwedd trwy'r oesau,
A llafurwaith, c'ledwaith clau;
Mor ddi-wên yw myrddiynau!

Llusgo drwy 'u gwaith mewn llesgedd—a lludded
Yn lladd yr hyfrydedd,
Ceir mil a dengmil di—hedd
A'u henaid mewn anhunedd.

Un mawr yw hwn—mwy'i rinwedd
Na dewrion y gloewon gledd;
Un yw a frwydra'n eon
Mewn câd o drefniad yr Ion;

A dwrn a wna gadarnwaith
Yw dwrn hwn—mae'n deyrn ei waith.
Dorau allweddau llwyddiant
I'n gwron hwn agor wnant;
Dewr iawn yw a di—droi—'n ôl,—
Heb waith ni lwyddir bythol.
I deulu'r llawr, teler llwydd
Ydyw hoywdra diwydrwydd.
Llwydd byd i'r diwyd sydd dâl—
I segurdod 'does gordial,
Na swmbwl i'r dwl di—wên
Namyn ing a min angen.

Gwneyd ei waith â gewyn dur,
A llaw hyf, wna mab llafur;
A drwy y byd oer ei ben,
Drwy ing a brwydrau angen.
Ar waith pob gewin a rydd—
Gwron, ac nid segurydd
Yw efe, a'i holl fywyd
Yn awr o waith ar ei hyd.

Mawl i'r gweithiwr—hyrwyddwr gwareiddiad,
Enaid trafnidiaeth, helaeth ei hwyliad;
Arloeswr daear, arlesiwr di-wâd,
Cynyddwr elw—ceindda yr alwad:
Saerniwr, lluniwr pob llâd—orchestwaith,
Arwr cry' hywaith er boreu'r cread.

Gwisgwr y noeth—darparydd moethau,
Llywiwr oesoedd, diwallwr eisiau;
Adeilydd enwog di ail ddoniau,
Arwr hyson gampwri'r oesau.

Drwy ei galedwaith, dorau goludoedd
Eurwawr lewyrch agorir i luoedd;
A rhed o'i lafur i'r byd ffrydlifoedd
I dori eisiau bywyd yr oesoedd;

A'i law gwna anial—leoedd yn Eden
I deulu angen y byd a'i lengoedd.

Enill ei fara wna y llafurwr—
Drwy chwys ei wyneb—ymdrechus hoenwr,—
Ar wlaw a hinon, yn wrol lonwr
A ddilyn ei waith fel ffyddlawn weithiwr;
Yn nydd ei allu'n ddiwylliwr—llawn sêl—
I hwn nid oerfel na gwres sy'n darfwr.

A i'r maes yn rymuswr—yno 'i ôl
A wna fel arloeswr;
Ag yni gwych gwna y gwr
Wrhydri fel aradrwr.

I'r ddaear, yn wir ddiwyd,—bwria had
Yn ddi—brin ail—gyfyd
Yn doraeth helaeth o ŷd—
Wir rawn, yn mhen ryw enyd.

Yn fawr ei hoen, pan fo'r wawr
Yn y dwyrain fyd eurwawr
Yn agor dôr i Gawr dydd—
Eilun mawl—lon ymwelydd;
O'i fwthyn gwelaf weithiwr
Yn myn'd i'w daith—hywaith wr.
Yr hedydd ar ei aden
Byncia fawl nwyfawl drwy'r nen,
I'w hir hynt y gweithiwr â
Yn llawn awch llawenycha;
I'w fyw ireiddaf ruddiau
Rhed hoen gwir i donog wau.

Wedi 'i ddiwrnod, ei ddewrnerth
Ddiflana—gwanha ei nerth,
A dynesiad ei noswyl
Iddo a fydd ddedwydd ŵyl.


Ar aelwyd ddigwerylon—cu, fin hwyr
Ca fwynhau cysuron,
Yn mynwes ei blant mwynion,
A'i anwylyd lânbryd lon.

Serchog a gwresog roesaw
I'w babell hon ar bob llaw
Ga efe; a'i drigfa hon—
Hedd—lanerch ddi—elynion,
Haddef llonder, mwynder mâd,
Coron a gorsedd cariad,
Ydyw hi—fangre dawel,
Heb rwydau câs na brâd cêl.

Nid oes yno ond swynion,—hedd-foroedd
O ddifyrwch calon;
Ar ol ei waith, rhyw ŵyl lon
Ddwg ei anedd ddi-gwynion.

Ar aelwyd lân hawdd canu, ac euraidd
Wên cariad o'i ddeutu;
Tra lleni'r nos ddylnos ddu
Tu allan yn tywyllu.

Yn ei wyn fwthyn, nef fach
A ga yno;—amgenach
Na hoff lysoedd a ph'lasau
Gorwychaf, penaf pob pau
Yw'n ei olwg—ni welir
Llety i ail yn yr holl dir.
Mawredd addurnedd arno
Ni roddwyd—ond harddwyd o
A glendid, chwaeth a gleinder,
Hydrydlon swynion rif sêr.

Heibio yn ddiarwybod—oriau'r hwyr
A ant, a daw cyfnod
Gorphwysaw dystaw nes dod
Loewaidd ernes ail ddiwrnod.


A gwell i'r gweithiwr na gwin,
Melusach na'r melus—win
Yw hyfryd gwsg,—gwsg o hedd
Hyd hyfrydaf awr adwedd
Y boreu glwys a'i wybr glir,
Awr awen pan ddeffröir.
I'r gwr parlyswr loesau
Yw cwsg, tra'r emrynt yn cau;
Drwy hawddfyd ei orweddfa
Oddi wrth bob pwys gorphwys gâ;
Adlonol dawel enyd
Heb boen na thrafferthion byd.

Nid trwy sidan trwsiedig—na mân blu
Y mwyn blant boneddig,
Unrhyw dro denir i drig
Gwsg hudol i'r gwasgedig.

Difraw gydwybod dawel—wna fwthyn
Difoethau'n llys angel;
Lludded gwaith, allwedd di-gêl
Hûn dyner a'i nawd anwel.

Y gweithiwr sydd dŵr, sydd darian—a dâl
I dylwyth ei drigfan;
Er eu mwyn yn ngrym anian
Oni thỳr trwy ddŵr a thân?

Nid drycin erwin eira—
Nid oerwynt rhynwynt yr iâ,
Oera 'i serch at y rhai sydd
Hygar anwyl garenydd.

Nid tyrfau taranau'r Ion,—
Na gwlaw na fflamfellt gloewon,—
Erch ddiluw na chroch ddolef
A'u rhwystrant—a'u tarfant ef.


I wyneb perygl parod
Yn anturgar feiddgar fod—
I fyn'd yw'r gweithiwr pan fo
Galwad, ac ni fyn gilio.

Y morwr dewr—moria'r don,
Nid ofna ddyfroedd dyfnion
Yn ei wib baidd wynebu
Tramawr rôch y 'storm a'i rhu,
A thramwy'r don a'i thrumell
Hyd ddyfroedd moroedd yn mhell.
Gedy ei wlad,—ei wlad lon
Yn ol, a'i rai anwylion,
Er enill i'w rai anwyl
Gynhaliaeth a helaeth hwyl.

Denol drysordai anian—archwilir,
O'i choludd ceir allan
Amgylch y glob yn mhob man
Drysorau'r aur a'r arian.

Y mwnwr glew o'i mynwes
Fyn ei phrid feini a'i phres,
A'i heiyrn o'i hesgyrn hi,
A'i llachar blwm a llechi.
Tyn ddorau tan—ddaearol
Agor wna y gwr i'w nhol,
A thyn o wythi anian
Elw i fyrdd o'i gel fan.
Arwyr yw'r glowyr glewion,
Ac allan tynant o hon
Drysor du—eirias o dân
Gyneu ei hylosg anian.

Chwarelwr, wych wrolwas,
O wythen y lechen lâs,
Llech fil o grombil y graig—
Y gref adeilgref dalgraig,

Allan dyn yn ddillyn do
Noddfa'n haddef a'n heiddo.

Teilwng i ddyn yw taliad,—onid dydd
Y tâl sy'n symbyliad
I'w lafur hir di—lwfrhad
A'i amryddull ymroddiad.

Nos Sadwrn ddaw—daw o'r diwedd
Y saib a thâl,—a Sabbath hedd
Yn dilyn—y dihalog
Foreu Gras i gofio'r Grôg.
Curiedig lluddedig ddyn
Iach dawelwch a'i dilyn;
Ac i'w enaid, berl ceinwerth,
O nawdd Nâf ca newydd nerth.

Ond yr enaid arweiniol—trwy amchwant
Ar ymchwil gwastadol,—
Ymhoena hwn yn mwynhad
Gweithrediad Gweithiwr hudol.

Y meddwl dynol hudol ei rodiad,
Ar ei hoffuswaith yn ddiorphwysiad
Rhydd ei fwriadau a'i hardd efrydiad
I Gelf a Gwyddor, gloywaf agweddiad
Hyd yr oesoedd a'i drwsiad—a roes hwn,
A mŷg folianwn ei ymgyflwyniad.

Arlwyodd holl seigiau byrddau'r beirddion,
A llên canrifoedd ac oesoedd cyson,
A holl adnoddau cell duwinyddion;
Carodd goronwaith, creodd gywreinion:
A'i ddifesur ddyfeision—llesia fyd
Yn ddiseguryd ddiysig wron,

Aelodau Seion pob gwlad is awyr,
Ymhoewant hwythau—mintai o weithwyr;

Yn rhôl anfarwol y gwir lafurwyr
Yn mhlaid y Gwir mal hoywdeg arwyr;
Coronog iawn ceir enwau gwyr—ffyddlon,
Eu gwobr fydd coron—coron concwerwyr.

Digryn dros deg Wirionedd
Yw ffyddlon genhadon hedd,
Yn cyhoeddi cu heddwch—
Deler llon, i deulu'r llwch;
A bywiol ffordd y bywyd
I bawb o feirwon y byd.

O'u di—lwfrhad lafur hwy
Dêl gwiwbrid dâl a gwobrwy.

Eu taith gyfeiriant o hyd
Draw i bau rhandir bywyd.

Dringant drwy randir angau—o wlad gwaith
I wlad gwyl a gwobrwy
I nef y nef i'w mwynhau
I fonedd heirdd drigfanau.

Dihafal ei waith yw'r Dwyfol Weithydd
Eirian ei ddoniau—"Yr Hen Ddihenydd,"—
Y pell, forëol fythol Arfaethydd,
Da 'i waith goreudeg fel doeth Greawdydd;
Alluog Dduw a Llywydd—nefoedd fawr,
I'w llu eirianwawr di—ball arweinydd.

Ei law a gynal geinwech
Ffurfafen y wybren wêch.
Bodau bob gradd o naddun
Heb ball a gynal bob un:—
Bodau fyrdd bywyd o fêl,
Lliaws rheng llys yr angel;
A'r Seraph tân gân ei gerdd—gylch y fainc,
Nefol eosgainc awen felysgerdd.


Hen drefn y cadw i dorf ein Ceidwad
Weithiodd allan ei hunan o'i hâniad—
Drwy'i oes ddihalog, ei Grôg a'i rwygiad
Adeg gofidiau, a'i adgyfodiad,
A'i ogonawl esgyniad—uwch teyrn braw
I fro'r Ddeheulaw dan fawr arddeliad.

Drwy gur a gwaith deuai'r goron—i'n Brawd,
A bri a gwobrwyon;
Iesu yw Brenhin Seion,
Ar dant "IDDO EF" yw'r dôn.


Hir a Thoddaid: "TAWELWCH."

Ha fwyn Dawelwch a'i fan di—alar,
A mwyn gryd Awen yn mangre daear;
Eden myfyriol galon addolgar
Ydyw—lwyfan hyawdledd di-lafar;
Cryd cwsg; caredig gâr—myfyrdodau;
Amwisg y beddau; miwsig y byddar.



Hir a Thoddaid: "YR HAF."

A DEG hinon yw'r Haf gyda'i geinwedd,
Ennyd ddwg ini gnydau ddigonedd;
Swyn a gwir felus seiniau gorfoledd
Leinw y frodir sydd lawn hyfrydedd:
Mor a thir sydd yn mhyrth hedd—ca myrdd Ion,
Weled rhagorion Ei hael Drugaredd,


"BETH FYDD Y BACHGEN HWN?"
(Cyflwynedig i Master Robert Ellis Owen, Bryn Dinas, Caernarfon).

BETH fydd y bachgen hwn
Gofynais uwch ei gryd?
Beth fydd y bachgen hwn
Ofynaf fi o hyd?

Cyn tori geiriau'n glir,
Cyn gallu cerdded cam,
Cwestiynau celyd roes
Bob dydd i'w dad a'i fam.

Byd y teganau ddaeth
Cyn hir i ddenu 'i fryd ;
Fel gwr ar fin y traeth
Myfyriai ef o hyd.

Fel dwfn athronydd doeth
Ni fynai droi ei gefn,
Nes i'w cyfrinion hwy
Ei godi'n uwch drachefn.

Hyd goleg dysg y daeth,—,
Llawn addewidion yw,
Clod fo i'w fam a'i dad,
Yn nghyd a'i wlad a'i DDUW.

Er dysgwyliadau byd
Ddaw 'rhai'n i ben?—nis gwn
Mewn pryder gofyn mae
Beth fydd y bachgen hwn








Y BALA:


ARGRAFFWYD GAN DAVIES AC EVANS, Berwyn St.




Nodiadau

[golygu]
  1. Duc York=George Frederick Ernest Albert, (Siôr V) ail fab (ond yr hynaf dal ar dir y byw) Edward Albert, tywysog Cymru.
    May=Y dywysoges (brenhines wedyn) Mair o Teck
  2. Dr Lewis Edwards, penaeth cyntaf Coleg y Bala
  3. Dr Arthur Madock Jones 1889-1961. Bu'n uwchgapten yn yr RAMC (adran feddygol y fyddin) yn y ddau ryfel byd ac yn feddyg teulu yn Llandudno. [Erthygl coffa North Wales Weekly News, Mehefin 1961]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.