Neidio i'r cynnwys

Holl Waith Barddonol Goronwy Owen (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Holl Waith Barddonol Goronwy Owen (testun cyfansawdd)

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Holl Waith Barddonol Goronwy Owen
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Isaac Foulkes
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Goronwy Owen
ar Wicipedia



Holl
Waith Barddonol
Goronwy Owen

(Goronwy Ddu o Fon)



"CANAI Awdlau Cenedloedd,—ac iddo
Rhoed Cywyddau'r nefoedd:
Angel i wneud Englyn oedd—
Mawr-awdwr Cymru ydoedd."
——Dewi Wyn o Eifion




Liverpool:

CYHOEDDWYD GAN ISAAC FOULKES, 15, BRUNSWICK STREET

1878.

Y CYNWYSIAD.

BYWGRAFFIAD.

GANWYD ef mewn bwthyn distadl ar fin y Rhosfawr, yn mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, Ionawr 1, 1722. Mab i werinwr tlawd (eurych, medd un hanes) ydoedd, o'r enw, Owen Goronwy. Yr oedd ei rieni yn dlodion iawn; a'i dad, fel cyffredin bobl y pryd hwnw, yn dra gelynol i addysg Dianc a ddarfu iddo i'r ysgol y tro cyntaf, heb yn wybod i'w dad na'i fam; a'i dad a fynai ei guro, eithr ei fam nis gadawai iddo; a thrwy gynnwysiad ei fam, yn yr ysgol glynodd hyd oni ddysgodd enill ei fywyd. Nis gwyddis pa ysgol oedd hon, ond bu am rhyw yspaid yn ysgol Llanallgo; a thybir iddo fod amryw flynyddau mewn ysgol yn Ninbych, oblegyd oddiyno yr hanai cenedl ei fam. Daeth yn ieuanc i gydnabyddiaeth â theulu caredig ac athrylithgar Pentre Eirianell, sef y "Wraig ddigymhar, Marged" Morris; a'r "Trimab o ddoniau tramawr," sef Lewis Morris (Llewelyn Ddu) a'i frodyr Richard a William Morris. Bu y gydnabyddiaeth hon o fawr wasanaeth a chymhorth iddo mewn llawer modd, fel y gwelir yn ol llaw. Fel prawf o ymddadblygiad cynar ei feddwl, dywed golygydd y Gwyliedydd (1822) fyned o Goronwy gyda'i fam i Bentref Eirianell un diwrnod, a chael ohono frechdan o fêl, a gofyn o'i fam iddo pa le yr oedd ei ddiolch am dani; ac yntau, tan bwys teimladau diolchgar calon lawn, a ddywedodd, "Pe bai genyf gynffon mi a'i hysgydwn." Pan yn bumtheg oed, yr oedd yn is-athraw yn Ysgol Ramadegol Bottwnog, ger Pwllheli; ond pa ysgolion a fynychodd, a pha hyd yr arosodd ynddynt, er ei gyfaddasu i gymeryd y cyfryw swydd, sydd holiadau nas gellir yn bresenol eu hateb. Bu yn Ysgol Gyhoeddus Bangor o 1737 hyd 1741, ond pa sut yr ymdarawai am gynaliaeth yn y cyfwng hwnw sydd anhysbys. Dilys nas gallai ei riaint helbulus leddfu ond ychydig ar ei angenoctyd, ac y mae y llaw hael a fu yn "borth wrth raid iddo yn yr amgylchiad wedi cau yn yr angau heb i ni gymaint a gwybod enw ei pherchenog. Ar derfyn ei dymhor yn Mangor, dychwelodd adref; ac erbyn hyn yr oedd ei fam wedi marw, a'i dad yn briod âg ail wraig, a chwta mewn canlyniad oedd y croesaw a gafodd ar yr hen aelwyd. O tan bwys hiraeth a thrallod, danfonodd lythyr yn yr iaith Lladin at Owen Meirig, Ysw., o Fodorgan, yn traethu ei hanes; yn cwyno nad oedd yr addysg a gafodd yn ddim amgen na chwaneg o lewyrch i ganfod yn amlycach y trueni oedd o'i flaen; ac yn erfyn ei gymhorth i fyned i un o'r prif-ysgolion, gan fod Mr. Meirig yn arolygwr ar rhyw elusenau yn Mon i berwyl cyffelyb. Nid ymddengys i'w gais fod yn llwyddianus gyda'r boneddwr o Fodorgan; eithr trwy haelioni Mr. Edward Wynne, o Fodewryd, galluogwyd ef i fyned i goleg yr Iesu Rhydychain, lle y graddiwyd ef. Cafodd ei urddo yn ddiacon yn 1745. Nis gallwn adrodd digwyddiadau cyfnesol treigliad ei oes yn well nag yn ei eiriau ef ei hun, y rhai a ysgrifenodd mewn llythyr wedi ei ddyddio o Donnington, sir Amwythig, Mehefin 22, 1732, at y Mr. Richard Morris a grybwyllwyd eisioes:— "Fe'm hurddwyd yn ddiacon, neu yr hyn eilw'n pobl ni, Offeiriad haner pan: ac yna fe ddigwyddodd fod ar esgob Bangor eisiau curad y pryd hyny yn Llanfair Mathafarn Eithaf, yn Mon; a chan nad oedd yr esgob ei hun gartref, ei gaplan ef a gytunodd â mi i fyned yno, Da iawn oedd genyf gael y fath gyfleusdra i fyned i Fôn, (oblegyd yn sir Gaernarfon a sir Ddinbych y buaswn yn bwrw'r darn arall o'm hoes er yn un-ar-ddeg oed,) ac yn enwedig i'r plwyf lle'm ganesid ac y'm magesid; ac yno'r aethum, ac yno y bum dair wythnos, yn fawr fy mharch a'm cariad, gyda phob math, o fawr i fach; a'm tad yr amser hwnw yn fyw ac iach, ac yn un o'm plwyfolion. Eithr ni cheir mo'r melus heb y chwerw. Och! o'r cyfnewid! dyma lythyr yn dyfod oddiwrth yr esgob (Dr. Hutton) at ei gapelwr, neu gaplan, yn dywedyd fod un Mr. John Ellis, o Gaernarfon (a young clergyman of a very great fortune), wedi bod yn hir grefu ac ymbil ar yr esgob am ryw le, lle gwelai ei arglwyddiaeth yr oreu, o fewn ei esgobaeth ef; ac ateb yr esgob oedd, os Mr. Ellis a welai yn dda wasanaethu Llanfair (y lle y gyrasai y y capelwr fi) yr edrychai efe (yr esgob) am ryw le gwell iddo ar fyrder. Pa beth a wnai drwstan? Nid oedd wiw achwyn ar y capelwr wrth yr esgob, nac ymryson â neb ohonynt, yn enwedig am beth mor wael; oblegyd ni thalai'r guradaeth oddiar ugain punt yn y flwyddyn. Gorfu arnaf fyned i sir Ddinbych yn fy ol, ac yno y cefais hanes curadaeth yn ymyl Croesoswallt, yn sir Amwythig, ac yno y cyfeiriais; ac er hyny hyd y dydd heddyw, ni welais ac ni throediais mo ymylau Mon, nac ychwaith un cwr arall o Gymru, onid unwaith pan orfu i mi fyned i Lanelwy, i gael urdd offeiriad. Mi fum yn gurad yn nhref Croesoswallt, yn nghylch tair blynedd, ac yno y priodais, yn Awst, 1747. Ac o Groesoswallt y deuais yma, yn Medi, 1748. Ac yn awr, i Dduw y byddo'r diolch, y mae genyf ddau lanc teg, a Duw a roddo iddynt hwy ras, ac i minau iechyd i'w magu hwynt; enw'r hynaf yw Robert, a thair blwydd yw er dydd Calan diweddaf; enw'r llall yw Goronwy, a blwydd yw er y 5ed o Fai diweddaf. Am fy mywiolaeth, nid ydyw ond go helbulus, canys nid oes genyf ddim i fyw arno onid a enillwyf yn ddigon drud; pobl gefnog gyfrifol yw cenedl fy ngwraig i, ond ni fum i erioed ddim gwell erddynt, er na ddygais mo'ni heb eu cenad hwynt, ac na ddigiais mo'nynt chwaith. Ni fedr fy ngwraig i ond ychydig iawn o Gymraeg; eto hi ddeall beth, ac ofni'r wyf, onid âf i Gymru cyn bo hir, mai Saeson a fydd y bechgyn; canys yn fy myw ni chawn gan y mwyaf ddysgu gair o Gymraeg. Mae genyf yma ysgol yn Donnington, ac eglwys yn Uppington, i'w gwasanaethu; a'r cwbl am 26 punt yn y flwyddyn; a pha beth yw hyny tuag at gadw tŷ a chynifer o dylwyth, yn enwedig yn Lloegr, lle mae pob peth yn ddrud, a'r bobl yn dostion, ac yn ddigymwynas. Er hyny, na ato Duw i mi anfoddloni, oherwydd 'Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf gan Dduw.' Nid oes ond gobeithio am well troiad ar fyd."

Gadawodd Donnington yn nechreu 1753; ac wedi peth disgwyl, cafodd guradiaeth Walton, gerllaw Liverpool, Er na threuliodd ond tua thair blynedd yn y lle hwn, y mae yno ychydig adgofion am dano. Gellir gweled ei lawysgrif yn llyfr yr Eglwys; claddodd eneth fechan ddwy flwydd oed yn y fynwent, ond nid yw y llecyn yn hysbys; dangosid settle mewn tafarndŷ wrth borth y Fynwent ar ba un y byddai'r "Eminent Welsh Bard," ys dywedai y gwestwyr, yn tori ei syched ac yn mygu ei bibell. Y mae y darluniad canlynol o fynediad ein harwr gyntaf i Walton, mor nodweddiadol o ieithwedd gref a dysgrifiadol Goronwy, fel nas gallwn lai na'i gyfleu ger bron ein darllenwyr:-"Mi gyrhaeddais yma bore ddoe, yn nghylch dwy awr cyn pryd gwasanaeth, a'r person a'm derbyniodd yn groesawus ddigon; ond er maint fy lludded, fe orfu arnaf ddarllen y gwasanaeth a phregethu fy hun y bore, a darllen gosper y prydnawn, ac yntau a bregethodd. Y mae'r gwr yn edrych yn wr o'r mwynaf, ond yr wyf yn deall fod yn rhaid ei gymeryd yn ei ffordd; mae'r gwas a'r forwyn (yr hyn yw'r holl deulu a fedd) yn dweyd mai cidwm cyrrith, annynad, drwg anwydus aruthr yw. Ond pa beth yw hyny i mi? bid rhyngddynt hwy ac yntau am ei gampau teuluaidd; nid oes i mi ond gwneud fy nyledswydd, ac yna draen yn ei gap. Hyn a allaf ei ddywedyd yn hy am dano, ni chlywais erioed haiach well pregethwr na digrifach mwynach ymgomiwr. Climach o ddyn afrosgo ydyw-garan anfaintunaidd, afluniaidd yn ei ddillad, o hyd a lled aruthr anhygoel; ac wynebpryd llew neu rywfaint erchyllach, a'i drem arwguch yn tolcio yn mhen pob chwedl, yn ddigon er noddi llygod yn y dyblygion, ac yn cnoi dail yr India, byd oni red dwy ffrwd felyngoch hyd ei ên. Ond ni waeth i chwi hyny na phregeth, y mae yn un o'r creaduriaid anferthaf a welwyd erioed y tu yma i'r Affric. Yr oedd yn swil genyf ddoe wrth fyned i'r eglwys yn ein gynau duon, fy ngweled fy hun yn ei ymyl ef, fel bad ar ol llong."

Cadwai ysgol hefyd yn Walton, a rhwng y cwbl nid oedd ei gyflog onid tua £40 yn y flwyddyn. Treuliodd oddeutu tair blynedd, tel y dywedwyd, yn y lle hwn, tan gwyno'n dost yn ei lythyrau gyfynged ei amgylchiadau, ymbil ar ei gyfeillion am borth i rhyw le gwell yn enwedig yn Nghymru, ymgladdu i waith yr hen feirdd Cymreig, trwsio edyn ei awen ysplenydd, yn nghyda'i rhoddi i hedfan wrth ambell bwt o gywydd, er mwyn arfer ei nherth, a'i darpar at rhyw orchestwaith yn y dyfodol. Cyfansoddasai "Gywydd y Farn," pan yn Donnington, a bu yn perffeithio cryn lawer arno yn Walton. Tueddwyd ef i ymadael o Walton gan rhyw hudlewyn o addewid a wnaethid iddo gan gyfaill y cawsai fod yn offeiriad Cymreig yn Llundain; ac i'r Brifddinas yr aeth rywbryd tua Ebrill, 1753. Trodd yr offeiriadaeth Gymreig allan yn siomedigaeth, ond ni chafodd y bardd nemawr amser i gwynaw oblegyd hyn, gan iddo gael yn fuan guradiaeth Northolt, plwyf tua ddeuddeng milldir o Lundain, lle y derbyniai 50 o gyflog, a byd ddigon esmwyth, meddai ef, oedd arno yno. Wedi tario am tua dwy flynedd yn Northolt, cafodd gynygiad i fyned allan i'r America tan addewid o dderbyn £200 yn y flwyddyn o gyflog; ac yn ngwyneb ei drallodau dygn a'i fynych siomedigaethau yn y wlad hon, tueddwyd ef i'w derbyn.

Yn Rhagfyr, 1757, ysgrifenodd anerch-lythyr cwynfanus at Gymdeithas y Cymrodorion yn Llundain i erfyn eu hachles i'w gynorthwyo ef a'i dylwyth i fyned i Williamsburgh, America. Eithr ofnir mai ofer fu ei apel, gan i Mr. Richard Morris, llywydd y Gymdeithas, ysgrifenu ar gefn yr anerch-lythyr, "Ÿ Parch. Goronwy Owen yn gofyn cymhorth y Cymrodorion i fyned i Virginia. Ond nid gwiw darllen y llythyr iddynt." Er hyny, y mae'n hysbys ddarfod i rai o'i gyfeillion dosturio'n haelionus wrtho. Cychwynodd ef a'i deulu, sef ei wraig a'i "dri Chymro Bach," o Lundain yn nechreu Rhagfyr, 1757, ar y daith hirfaith a pheryglus. Danfonodd lythyr oddiar "fwrdd y llong Trial yn Spithead," at ei hen gyfaill calonbur Mr. Richard Morris; ac nid oes ond un llythyr o'i eiddo ar gael ar ol y pryd hwnw, yr hwn a ysgrifenwyd o Brunswick (America), Gorph. 23, 1766—bron ddeng mlynedd er pan adawsai Loegr. Y mae edrych ar y dynan hwn, ac yn ei ben swrn o'r dalent fwyaf diledryw, yn gadael ei wlad hoff, fel ffoadur truenus yn dianc o afaelion ei drallod, yn cael ei alltudio oddiwrth ddyddanwch cyfeillion doeth, a theleidion gwlad ei enedigaeth, ag yr oedd holl serch ei enaid wedi ei glymu wrthynt, yn un o'r darluniau mwyaf torcalonus sydd yn nghyfrol fawr hanes adfyd meibion athrylith. Ie, myned bellach, bellach, o Fôn, "hyfrydwch pob rhyw frodir," man y buasai yn dyheu am sugno ei hawyr bur, a rhodio ei daear laswerdd, ac y goddefasasai'n amyneddgar flynyddau o gyni yn y gobaith y buasai'r diwedd yn fywiolaeth fechan o'i mhewn. Yn awr, wele ddinystr breuddwyd dymunol ei fywyd, a phob awel deneu yn briwsioni'r gobaith a fuasai'n ateg iddo tan bwys aml a blin gystuddiau. Eithr er croesi'r Atlantig, nid ymddengys fod ond ychydig fêl yn ei gwpan, canys ansefydlog fu ei fywiolaeth hefyd yn myd pell y Gorllewin. Ar ol bod yn gwasanaethu un neu ddau o wahanol blwyfi, cafodd ei neillduo yn un o ddysgawdwyr coleg William a Mary, Williamsburgh, Virginia. Symudodd oddiyno a bu yn gwasanaethu mewn lle o'r enw St. Andrews, yn yr un dalaeth, o Rhag. 13, 1760, hyd Gorph. 22, 1769; a thybir iddo farw yn fuan ar ol y dyddiad olaf. Collodd ei wraig gyntaf, a phan yn ngholeg Williamsburgh priododd ail wraig, yr hon oedd chwaer i lywydd y coleg, ac yn weddw gyda phump neu chwech o blant. Hithau hefyd a fu farw, ac yr oedd ei brawd, y llywydd, yn pwyso ar Goronwy i gynal ei phlant allan o'i gyflog bychan. Pan yn ysgrifenu ei lythyr yn 1767, yr oedd yn briod â'i drydedd wraig, a'i holl deulu Seisnig wedi marw ond ei fab Robert. Yn 1798, rhai o edmygwyr Goronwy a ysgrifenasant at y Robert hwn, gan ddeisyf cael gwybod ganddo ychydig o hanes ei dad athrylithlawn; eithr yr oedd y gwr hwn wedi estroneiddio cymaint oddiwrth ei dad a'i genedl, fel mai yr unig ateb sarug a gafwyd oddiwrtho ydoedd gofyn pwy a dalai iddo ef am ei drafferth Oddiwrth ran o'i ewyllys, yr hon oedd yn meddiant rhai o'i ddisgynyddion yn Brunswick, dywedir ei fod wedi gadael o'i ol bedwar o feibion; eithr y mae ei holl deulu bellach wedi ymgolli yn ngweriniaeth fawr yr Unol Daleithiau. Nid yw y lle na'r pryd y bu farw, na'r man y claddwyd ef, yn adnabyddus.

O ran ymddangosiad allanol, dyn bychan o gorpholaeth ydoedd, bywiog ei dymher a'i ysgogiadau, pryd tywyll ac iddo ddau lygad du tryloew, ac athrylith i'w gweled trwyddynt.

Rhaid cydnabod nad oedd efe yn eithriad i'r cyffredin o'i gydfeirdd cydoesol mewn sobrwydd a gwastadrwydd buchedd; yr hyn mae'n ddiau fu'n un rhwystr ar ffordd ei ddyrchafiad yn yr eglwys. Pa un oedd yr achos, a pha un yr effaith, nis gwyddom; rhai a ddywedant mai ei feddwdod ef a barodd i'r esgobion wrthod ei ddyrchafu, ac eraill mai gwrthodiad yr esgobion a achlysurodd iddo ef feddwi. Dilys pe meddwasai pawb oblegyd nad oedd eu huchafiaid yn chwenych eu dyrchafu, y buasai haner y byd yn feddw; a diamheu pe na buasai esgobion yr oes hono yn dyrchafu rhywrai heblaw dynion sobr y buasai haner eu pwlpudau yn weigion. Pa fodd bynag, amlwg yw fod y Prif-fardd, druan, cyn ymadael â Lloegr, wedi ymollwng i ddiotta yn lled drwm, hyny wedi ei ddwyn i dlodi, tlodi yn peri iddo bwyso yn lled fynych am gymhorth ar gyfeillion, yn enwedig ar y Morysiaid, a rhwng y naill beth a'r llall, yr oedd hyd yn nod teimladau ei ben ffrynd, Lewis Morris, wedi suro'n dost tuag ato. Yn y Brython iv. 465, ceir copi o lythyr a ysgrifenodd Llywelyn Ddu, sef L. Morris, at gyfaill yn Mehefin, 1757; ac er mai caswir ydyw, yn tarddu oddiar deimladau digofus, eto nid ystyriem fywgraffiad o Goronwy yn gyflawn hebddo:

I WONDER how the poor d——l of an Offeiriad goes on now, I don't hear anything of his being turned out, I suppose they don't drink as much as they did, poverty hinders them, and the alehouse will not give them credit. Nawdd Duw rhag y fath ddyn! A surprising composition! What poet ever flew higher! What beggar, tinker, or sowgelder, ever groped more in the dirt! A tomturd man is a gentleman to him. The juice of tobacco in two streams runs out of his mouth. He drinks gin or beer until he cannot find his way home, and has not the sense of an ass; rowls in the mire like a pig, runs through the streets with a 1ot in his hand to look out for beer-looks like a mountain cat. And yet when he is sober, his good angel returns, and he writes verses sweeter than honey, and stronger than wine. How is this to be solved? His body is borrowed and descended from the dregs of mankind, and his spirit from the celestial choir-what a stinking, dirty habitation it must have.

Dianmheu na welodd Goronwy erioed mo'r llythyr hwn, onide prin y credwn y buasai yn tynu ei delyn oddiar yr helyg yn myd pell y Gorllewin i nablu yr awdl farwnad benigamp ar ol Lewis Morris, Ysw., "Pen Bardd, Hanesydd, Hynafiaethydd, a Philosophydd yr oes a aeth heibio," ys dywed efe yn mhenawd yr awdl. "Ar ni wêl y llygad ni phoena'r galon," medd yr hen ddiareb.

Fod Goronwy Owen yn ysgolor o'r radd uwchaf, ac wedi yfed yn ddwfn o ffynonau clasuriaeth, sydd eithaf amlwg oddiwrth ei lythyrau a'i farddoniaeth; ac os rhoddir coel ar hanesion, yr oedd ei gyflymder i ddysgu ieithoedd yn ymylu ar y gwyrthiol. Dywedir na bu onid rhyw dair wythnos yn meistroli yr Arabig; ond pa un a oes goel i'w roddi ar hyny neu beidio, diau am y Groeg, y Lladin, a'r Hebraeg, eu bod ar flaenau ei fysedd, ac mor hyddysg iddo âg iaith ei fam. Yn dissecting room yr ieithoedd meirwon yr ymlwybrai'n benaf pan yn ieuanc-gan ymddigrifo dodi asgwrn ohonynt wrth ei asgwrn, ac olrhain cysylltiadau dyrys a chywrain geiryddiaeth ymadawedig. Ac er y cydnebydd efe yn un o'i lythyrau fod prif gryfder ei athrylith yn gynwysedig mewn cyfachu geiriau, a threiddio i'w perthynasau gwahanredol; eto, nid ar drostan ieithyddiaeth y cerfiodd efe ei enw tros byth, nac y gosododd ddelweddau anniflant ei enwogrwydd. Mewn llythyr at Mr. Richard Morris, dywed mai yn Nadolig, 1751, y dechreuodd efe brydyddu; ac os felly, yr oedd "Cywydd y Farn" yn un o ffrwythau cynaraf ei awen, canys sonia am y gwaith hwnw mewn llythyrau dyddiedig yn y rhan gyntaf o'r flwyddyn 1752. Ymddengys fod y bardd yn gwneud cam âg ef ei hun, os oes cred i'w roddi ar ddyddiadau ei weithiau; canys yn ol y rhai hyny, cyfansoddasai "Gywydd Calendr y Carwr," yn Mhwllheli, tua'r flwyddyn 1743; a'r "Englynion i Dduw," ddwy flynedd cyn hyny. Nid yw hyn, pa fodd bynag, ond un o'r llawer gwrthddywediadau anesboniadwy sydd yn llythyrau y bardd. Llywelyn Ddu oedd ei athraw barddonol, a'i gyd-ddysgybl oedd y y trylen Ieuan Brydydd Hir; tuag at yr hwn y teimlai Goronwy gryn lawer o eiddigedd barddonol, ac awydd i dalu iddo, yn enw Mon, y ddyled ag oedd arni i Geredigion ar ran Rhys Meigen, oblegyd y gurfa a gafodd hwnw gan Ddafydd ab Gwilym. Pa fodd bynag, wedi iddo ddechreu ymgyfeillachu â'r awen, yr oedd ei gariad ati yn angherddol; a chyfansoddodd y rhan luosocaf o'i ddarnau barddonol yn ystod blynyddau ei gariad cyntaf, sef rhwng 1752 a 1756. Ac er mor fyr y cyfnod hwnw, cynyrchodd ynddo geinion mor uchelryw, nes ei restru yn "Brif-fardd Cymru." Mewn nerth a gorpheniad clasurol, y mae yn mhell uwchlaw pob bardd Cymreig; ac y mae ugeiniau o'i linellau mor gryno, cynwysfawr, a chymhwysiadol, â dim diarhebion sydd yn yr iaith, ac y mae amryw ohonynt bellach ar gôf a llafar gwlad fel diarhebion. Diau fod cyfansoddi diarhebion cenedl, deddfau cyfeillach a'r aelwyd, yr anrhydedd uwchaf y dichon i farwol ddyn byth ei gyrhaedd. Yn annibynol ar hyn, arucheledd ydyw prif deithi ei farddoniaeth; ac yn Nghywydd y Farn" y gwelir hyny arbenicaf. Yn hwnw, cyfodir ni ar fynydd uchel; dychrynir ni gan fellt; arswydir ni gan daranau; ymddengys arwydd y Grog ar ael y ffurfafen ddychrynedig; udgenir y "corn anfeidrol ei ddolef," sain yr hwn a fodda dwfr rhaiadrau byd, a "phob cnawd o'i heng a drenga;" gwelwa goleuadau y nefoedd, ac o'n cylch ac o tanom y mae'r greadigaeth yn briwsioni yn fil myrdd o ddarnau, Bwrir i lawr y wal ddiadlam, nes y mae distryw yn noeth ger ein bron; agorir y dorau tragwyddol, a dyna wynfydedd gwlad y gwynfyd ger bron ein llygaid. Ymddengys yr Ynad yn holl rwysg a mawredd ei swydd; gwysir y dorf ddirfawr i dderbyn ei dedfryd; ac mewn byr eiriau darllenir tynged dragwyddol pob dyn byw. Y mae y sylwedydd bellach wedi ymgolli mewn syndod, dychryn, ac addoliant; ac yn barod i gyduno yn neisyfiad y bardd ar derfyn y cywydd:—

Boed im' gyfran o'r gan gu,
A melused mawl IESU;
CRIST fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen, a Nef i minau,

Nid oes yn unrhyw iaith odid arwrgerdd ardderchocach; ac y mae y cyfan ohoni yn gynwysedig mewn ychydig tros 150 o linellau. Yn mysg eraill o'i gyfansoddiadau ceir darnau mor angerddol a thanbaid; er nad yw eu maint yn cyfateb i'w tryloywder. Cwynir weithiau ei fod yn arfer geiriau ansathredig, nes difwyno blas y darllenydd wrth ryfynych gyfeirio at y geiriadur; ond amcan y bardd yn hyn oedd ymgyrhaedd at ddiwylliad yr iaith, ceisio gloywi ei defnyddiau, helaethu ei therfyngylch, a dwyn ei thrysorau i lawn ymarferiad; yn lle ein bod yn ymfoddloni ar ychydig frawddegau undonol a chylch ymadroddion tlodion, tra y mae corph yr iaith yn gorwedd yn farw yn ngholofnau ein geiriaduron. Ysgrifenodd hefyd tua haner cant o Lythyrau at gyfeillion, yn enwedig at Richard a William Morris. Yn y rhai hyn, ceir twysged werthfawr o sylwadau beirniadol ar feirdd a barddoniaeth, yn nghyda hanes cyfeillachol o'i symudiadau, a threm ledradaidd i'w deimladau tan ddyblygion gofid a thristwch.

Cyhoeddwyd ei farddoniaeth, oddieithr "Marwnad Lewis Morris," "Darn o awdl i Dywysog Cymru," "Cywydd y Cynghorfynt, neu Genfigen," "Cywydd y Cryfion Byd," a'r "Englynion i Elis y Cowper," yn y Diddanwch Teuluaidd, neu waith beirdd Mon, gan yr hen brydydd Huw Jones o Langwm, yn y йwyddyn 1763; a'r darnau uchod a argraffwyd gyntaf yn Ngorph y Gainc, gan Ddafydd Ddu Eryri, yn 1810. Ailargraffwyd y Diddanwch, gyda'r chwanegiadau, tan olygiaeth Dafydd Ddu, yn 1817. Argraffwyd ei Lythyrau gyntaf yn Ngreal Llundain, y Cambrian Register, y Cambro Briton, a'r Gwyliedydd. Yn 1860, cyhoeddwyd argraffiad o'i waith gan J. Jones, Llanrwst, tan yr enw Gronoviana, Pris 5s. 6ch. Ac yn 1876, cyhoeddwyd y rhan gyntaf o "The Poetical Works of the Rev. Goronwy Owen, with his Life and Correspondence," gan y Cymro twymgalon a llengar y Parch. R. Jones, Rotherhithe, Llundain. Bwriedir gorphen y gwaith hwnw mewn pedair rhan 7. 6ch. yr un. Prin y rhaid dweyd mai nid yr amcan wrth ddwyn allan yr argraffiad hwn ydyw disodli na niweidio cylchrediad yr un o'r ddau uchod; ond yn hytrach dodi yn nghyrhaedd pob Cymro farddoniaeth un o brif-feirdd ein gwlad.

AWDL COFFADWRIAETH AM Y PARCHEDIG
GORONWY OWEN,

Gan DEWI WYN o Eifion.

GWNA, Awen, yn egniawl,—loyw weisgi,
Felus—gerdd hiraethawl,
I ORONWY ŵr unawl,
Gynt o Fôn, a gant wiw fawl.

Awdurol goffadwriaeth—o urddas
I arddwr Barddoniaeth ;
Addurn ei areithyddiaeth
Oedd ffrŵd o gynghanedd ffraeth.

Diwyd ydoedd yn deawr,—o'i fynwes,
Wiw feini tra gwerthfawr ;
O'i law wèn yn loyw ei wawr,
Mewn mynyd daeth maen mynawr.

Ei genedl a ddigonodd—almariau,
A mêr-wawd a huliodd ;
Mêl a gwin llawn rhîn yn rhôdd
O'i fronau a gyfranodd.

Ffynon o werthfawr hoff enaint—eilwaith
Ni welwyd ei chymaint ;
Tarddodd o hon (bron er braint)
Loyw foroedd o lifeiriaint.

Pum mwy addysg pe meddwn,—gwiw rinwedd
Goronwy mynegwn;
Ei fawl haeddawl cyhoeddwn,
Ar hyd yr holl-fyd mawr hwn.

Drwy'r ddoniawl dra hardd Ynys—gwiw arddel
Ei gerddi yr ydys:
Coel brenau (lampau di lŷs)
I dori dadlau dyrys.

Telyn oedd yn ein talaith,—a'i mesur,
A'i musig yn berffaith :
Ei gerddi gleiniawg urddwaith,
Blawd aur ynt, blodau yr iaith.

Pybyr abl iawn eryr bri blaenoriaeth,
In dewr i gyrhaedd hynod ragoriaeth :
Disglair, a dewis gadair dysgeidiaeth,
Campau a rinweddau'r awenyddiaeth.

Traethai GORONWY, trwy waith gwyrenig,
Am newidiadau mwya' nodedig;
Gwyddai gylchoedd y bydoedd gwibiedig,
A llewych y rhodau llacharedig.

A thynged daear galed, a'i dirgeloedd,
A naturiaethau hynota', a'r ieithoedd,
Rheolau'r lleuad; yr haul a'r holl luoedd,
Creaduriaid gloywon crwydredig leoedd.

Tra hanesiol fu am y teyrnasoedd.
A'u treigliadau, eu tir, a'u goludoedd :
Mewn gwir odlau am hen genedloedd,
D'wedai eu gwychion odidog achoedd,

Mwyn gain wawdydd, mynegai'n odiaeth,
Am y Derwyddon a eu medryddiaeth,
A'u haddas godiad i wiw ddysgeidiaeth,
Gan hoyw nofio uwch eigion hynafiaeth.

Hanesydd a phrydydd ffraeth,
Gloyw ddifeinydd celfydd coeth,
Gwiw a mŷg weinidog maeth,
Y dwyfol air dysglaer doeth.


A gwiw gain addurn gogoneddus,
F' eiliai lawenaf fawl haelionus
O ei ddwys galon ddiesgeulus,
I Dduw nefolaidd yn ofalus.

Ei ganiadau gwiw a hynodol,
Enwog o synwyr yn gysonol,
Ynt gyflawn o feriawn anfarwol,
A dewr hediadau awdurdodol.

Eiliai GORONWYy liwgar enwawg,
Odlau digoll diwael hedegawg,
Yn ail i ARTHUR ddoniol wyrthiawg,
Neu'n ail LLYWARCH HEN alluawg.

Celfydd dafodrydd fydrwawd,—lais anwyl
A seiniodd â'i dafawd;
Yn ddifai eiliai folawd
O ddwyfol sylweddol wawd.

Ffrwyth rhywiog osglog a gesglir—odiaeth
Dda oruchafiaeth a ddyrchefir:
Gwin melus a ganmolir—G'RONWY ffraeth
A'i wir Ofyddiaeth a ryfeddir.

Iaith Gomer a'i theg emau,—o bob iaith,
Tra bu byw yn orau,
Hon a garodd, enwog eiriau,
A'i godidog wiw gydiadau,
A'i choronog iach hoyw rinau,
Ei thêg ruddyn coeth a'i gwreiddiau,
Ei phrif oludoedd a'i phêr flodau—cain
Wir gywrain ragorau
Elfen ei Awen loyw fenywaidd,
Lon, eres, oleu, wen, risialaidd,
Oedd gwau sain foddog, iesin, feddaidd,
Bêr a dewisol baradwysaidd.

Ei gywir, wresog Awen,—loyw emog,
Dychlamai drwy'r wybren,
Seiniai, chwibianai uwch ben,
Fal eos nefol lawen.


Asgenawl ydd esgynai—yn ffrochwyllt,
Hoff wreichion gwasgarai,
Heb len drwy'r wybren yr ai,
Ar gerub hi ragorai.

Yn ei gân deg o'r lânâ'
Cair bryn goruwch dyffryn da,
A maenol gerllaw mynydd,
Weithiau'n fôr maith iawn hi fydd.

O, gu lem wiw golomen,—gèm aur dêg,
Cymer daith trwy'r wybren,
Manol chwilia, fy meinwen,
Am ail y Bardd hardd a hên.

Trwy ddyffryn tiredd Affrig—heb arddel,
Ond beirddion dysgedig,
Gwaelod Asia dda heb ddîg,
Cwm Ewrop ac Amerig.

Ydwyf wedi, dewr ymholi,
'N daer am haeledd,
Ond er teithio, neu er chwilio
'N hir, a choledd,

Ni cheir cydmar i'r bardd llafar,
Ar y ddaear i'w orddiwes:
Nid oes elfydd i'r awenydd,
O ymenydd hoyw a mynwes.

Bro Gwalia odidog, bêr, glodadwy,
Trwy ei hardaloedd tra rhêd Elwy.
Tra llef dwfr—dwfn, tra llifo Dyfrdwy,
Trwy oesawg genedl, tra sio Conwy,
Ni cheir, ofnir, meddir mwy—ysblenydd,
Wiw liwgar awenydd ail GORONWY,

Rhagorol seren olau,—huan mawr,
Yn mysg y planedau;
Cedrwydden aeg wen yn gwau,
Y'nghanol y canghenau,


O! lân wen gân yn gwenu,
Yn canlyn mae dychryn du,
Clwyf saeth! Och! clywaf ei sî,
A chyllaeth yn archolli.

Pôr da hynod, geirwir, Prydeiniaid a garodd,
Ond trwy naws ymadaw o'n teyrnas symudodd,
Tros Atlantic i dir Americ draw moriodd;
Goruwch eigion Neifion ewyngroch, gwiw nofiodd,
I wlad y Gorllewin, loyw dêg ŵr, llywiodd,
Trwy odiaeth Ragluniaeth ar y tir dieithr glaniodd.

Cymru flin ar fin mawr fôr,
Galarus ei gwael oror,

Ei haul hoff araul a ffodd,
O'r golwg draw e giliodd,
Machludodd a rhodd aur hin,
Iarll hoywaidd i'r Gorllewin.

O! G'RONWY deg o ran dysg,
Gwêl dir dy dad yn wlad lesg,
Cymru flin acw mor floesg,
A'i Barddoniaeth mewn gwaeth gwisg.

Tir Môn glau mewn trwm iawn glwyf
Duoer nŷch o'th fyn'd ar nawf;
Yn gaeth hi wnaeth yn ei nwyf
Wyneb prudd am ei maen prawf.
 
Diameu o'u fyn'd ymaith,—hynt wallus,
Tywyllwyd ein talaith,
O ddiffyg ei dda effaith,
Gwywo, marweiddio mae'r iaith.

Pan giliodd huan golau——e dd'rysodd
Yr iesin blanedau;
Yr wybren eglurwen glau
Wnai ollwng ei chanwyllau.

I'r urddedig dorf ddysgedig,
Loyw Wyneddig, lawen addas,
Ei brif odlau fyddent flodau
Eu da gyrddau, wiwdeg urddas.

Ond er gofwy, du safadwy,
Dwys ofidiant,
Yn deimladwy am ORONWY
Y merwinant.

O'i wir abl nodded rai blynyddau,
Enrhyg a yrodd yn rhagorau,
O wresog oludog eiliadau
Bywiol, adref o'i wiw belydrau.

Ond er's dyddiau, a ni'n dristeiddiol,
Mud yw'r hyddysg ŵr ymadroddol;
Ei eirioes hanes, mae'n resynol,
Yma ni feddwn, y'm anfoddol.

Ai gwyll du sy'n gallu dal,
Y gwresog loyw-lamp grisial?

Ai tymhestl o wynt ddamwain-adeiniog
Fu'n dwyn G'RONWY OWAIN,
Tra'r ym ni heb si ei sain,
Mor wywedig yn Mrydain?

O Fardd! am dano gwae fi
Fy nygiad i fynegi.

Am ORONWY OWAIN trwm yw'r newydd,
Sy gredadwy, goeliadwy drwy'r gwledydd;
Y gair du'n benaf a gredwn beunydd,
Heddyw marwol ydyw'r mawr wyliedydd.

Weithion fy nharo wnaethost,
O glywed hyn ceis glwy' tost.

O fynwes gan riddfanau—oer iawn yw,
A'r wyneb yn ddagrau;
Trwy iâs dost yr wy'n tristâu,
Merwino mae fy mronau.


Am farw G'RONWY, ŵr myfyrgar union,
Mawr o goddiant i'r holl Gymreigyddion;
Y mae eu cenedl yn drom eu cwynion,
A du oer alaeth daearolion,
Gwlŷb o'u dagrau yw'r Glôb dew-gron—gan gaeth
Gur hir, a chyllaeth, a geirw archollion,

Wedi huno'n hynodawl,—a darfod,
Ei yrfa ddaearawl,
O fro'r gŵg aeth fry i'r gwawl,
O rhoddes grêd gyrhaeddawl.

I noddfa awenyddfawr—ei thannau,
Aeth enaid y cantawr;
Rhoedd harddwch ei lwch i lawr,
Tir Amerig, trom orawr.

Mewn cauedig gell gloedig,
Lle egredig, yn llygradwy;
Yn mhriddellawg, waelod lleidiawg,
Bedd graianawg, bydd GORONWY,

Nes dêl yr Oen (naws dawel wyrenig)
I nôl ei ddyweddi anwyl ddiddig,
A'i air i'w chyfodi'n dderchafedig;
Yn Sion eglwyslon glau,
Yn anwyl caffer ninau,
Yn gyflawn o'r ddawn bêr ddoeth,
Adeiniawg a di annoeth,
Newydd feluslon Awen,
I wau emynau, Amen.

AWDL COFFADWRIAETH AM Y PARCH.
GORONWY OWEN,

Gan THOMAS EDWARDS o'r Nant.

1. Unodl union.

ОCH! Och o'n byd uwch erchwyn bedd,—torwyd
Pen tŵr y Gynghanedd,
Och! Ganwyr, yn iach Gwynedd,
Nid Arfon na Mon a'i medd.

Nid Dinbych ranwych, rinwedd,—na Meirion,
Mirain gerdd gyfrodedd;
Gwagle, Deheu a Gogledd,
Am hwn fu, mae heno i'w fêdd.

Ganwyd a magwyd ym Mon,—trafaeliodd
Trwy filoedd o Saeson;
Carodd, tra fu 'mhob cyrion,
Ag amryw barch Gymru'r bôn.

Llong oedd ê, garie'n gywre'n,—bell drysor,
O bwyll draserch Awen,
G'ronwy graff, haul-braff, hwylbren,
A llyw'r beirdd, llew aur ei ben.

Ca'dd Awen burwen yn berwi,—a thân,
Doethineb Duw ynddi,
Seraphim, roes er hoffi,
Farworyn i'w henyn hi.


O'r nefo'dd trefnodd Duw Tri,—i 'Ronwy,
Rinwedd cân goleuni,
Ac eilwaith at ei Geli,
Aeth mewn hedd oddi wrthym ni.

2. Proest gyfnewidiog.

G'ronwy ddu, gu rinwedd ŵr,
G'ronai Dduw'n gywrain wedd aer,
Gwehydd oedd, ar gyhoedd wir,
Gwell na neb, mae'n gwall ni'n oer.

3. Proest gadwynog.

Gwall i Feirdd, oedd golli fath,
Gwall i fod nas gwella fyth,
Gwall a briw, drwy gylla brath,
Golli congl—faen, sail—faen syth.

4. Unodl grwca.

Colled galed y gwelir,
Fawr a thost ar for a thir,
Am ŵr cywrain, mawr y cerir, ei waith,
Perffaith araith eirwir.

5. Unodl gyrch.

Bugeiliwyr heb argoelion,
O'i ras ef, sydd yr oes hon,
Mae mwy Babel gaf el gaeth,
Heno 'sywaeth na Sion.

6. Deuair hirion.

Rhedeg maent i'r anrhydedd,
Nerth yr aur, yn aruthr wedd.

7. Deuair fyrion.—8. Ac awdl gywydd, y'nghyd.

Cyf-wlith cyflawn,
O Dduw a'i ddawn,
Gem fwy gwych, na'u haur—ddrych hwy,
A wnai Ronwy n wr uniawn.

9. Cywydd llosgyrnog.—10. A thoddaid y'nghyd.

Gair Doethineb yw'r dêth Ynad,
Garai G'ronwy 'n gu arweiniad,
Mewn tywyniad daionus,
Ni chaid un, â cho dawnus, brydyddai,
Yn nhro y dyddiau, mor anrhydeddus.

11. Gwawdodyn byr.

Er y cafodd, ryw arwa cofion,
Ruthrau llidiog hir, a thrallodion,
Ef a dynai fywyd union,—mawl mydr,
Wir haul belydr, o'r helbulon.

12. Gwawdodyn hir.

Duw a'i dysgai, â diwyd osgedd,
Fal aderyn a'i folawd eurwedd,
Tan ei Nennawr,[1] tôn iawn anedd,
Bodlon enaid, heb edliw 'n un-wedd,
A'i glod yna, gael adanedd,—Duw
Uwchlaw diluw, a chlwy dialedd.

13. Byr a Thoddaid.

Maith, maith, a rhy faith, O! rhyfedd,—daith hên,
Doethineb Euw'r mawredd,
Dwyn y cyfiawn, doniau cyfwedd,
Cyn y drygau cwyn daer agwedd,

Cwympai Seren, campus arwedd,
Enwog eglur yn y Gogledd,
Sef G'ronwy, syw fŷg rinwedd,—gwymp gwâr,
I'r ddaear oer ddiwedd.

14. Hir a Thoddaid,

Afiaeth goleddwr, Ow! Ow! fe'th gladdwyd,
Piler iaith wreiddiol, Ow! pa le 'th roddwyd?
I fŵth ogof angeu, fe'th gyfyngwyd,
Dan dô dir estron, d'awen di rwystrwyd,
Och! fawr 'Ronwy, na chyfranwyd,—it' fedd,
Ryw fynwent Gwynedd, er faint a ganwyd.

15. Huppynt byr.

Trwm ochenaid,
Oer do dyniad,
ar dy donen;
Gan estroniaid,
'Mericaniaid,
Mawr eu cynen.

16. Huppynt hir.

'N Llan Andreas, Rwygiad rŷ-gas
Bwriwyd oer-ias, bridd daearen:
Ar y benglog, Anwyl enwog,
Lle bu rywiog, Llwybr i Awen.

17 Cyhydedd fer

Och Och! 'Ronwy 'n iach wŷch rinwedd,
Och! wae rywgiad, a chwerw agwedd,
Byr ddi—warthu'n Bardd eorthedd,[2]
Rhoi'n pôr addfwyn yn y pridd—fedd.

18. Cyhydedd hir.

Dawn gyflawn goflaid,
Grothawg blethawg blaid;
O'i wasg euraid, a esgorai,
Cawg mel oedd côg Môn;
Llawnder têr tirion,
Olew o'i fêrion a lifeiriai.

19. Cyhydedd nawban.

Gwin gwyn ydoedd ei gain ganiadau,
A'i gerdd fawledig, fel gardd flodau,
Wawr awdurdod, aur dewr didau,
Ddwbl, waith hoywdeg dda blethiadau.

20. Clogyrnach.

O! mor onest arwest eiriau,
Ei sain araul a'i synwyrau;
Caerog waith cywren,
Mydr maith, hoyw—iaith hên,
Wiw awen a wenai.

21 Cyrch a chwtta.

Duw Gronwy, dêg arweinydd,
'Roes y gâniad wrês gynydd;
A'r Duw hwn, Ior Dihenydd,[3]
Allai wanu'n llawenydd,
Dwyn Gronwy 'n dawn garenydd,
Sain fwyn i Sion fynydd;
I wau'n glîr wiw awen glau,
Er da ddoniau'r Diddanydd.

22. Gorchest y beirdd.

 Gweuad gywir, Gariad, geirwir,
Yna delir, yn deilwng;
I'r Iôr, wir hawl, Dda dôn, ddi-dawl,
Gyfion gu-fawl heb gyfwng.

23. Cadwyn fer.

Côr sy'n cyrhaedd, cair sain cariad,
Nef wir eiliad, nwyf araulwedd,
A dewr gynnedd, daear ganiad,
Wnan' ennyniad, yn Nuw'n unwedd.

24. Tawddgyrch gadwynog.

Iawn foladwy, awen flodau,
'Bo dafodau, byw'n dyfadwy,
Tra safadwy, tros fywydau,
Goeth gu ranau—fydd gwaith Gronwy:


A'i waith ethol, Yn dragwyddol,
I'r cor nefol, cywrain ofwy:
Rhan o'r unol, 'Wenydd wa'nol
I fyw'n ddoniol a feddianwy'

AWDL COFFADWRIAETH AM Y PARCH.
GORONWY OWEN,

Gan GUTYN PERIS.

BRIW! braw! brwyn![4] mawr gwyn gaeth!—bradwy,[5] yn awr,
Brydain wen, ysywaeth!
Dros Gymru llen ddu a ddaeth;
Anhuddwyd awenyddiaeth.

Och och ys gorthrwm ochain—mawr ynof
Am Oronwy Owain;
Pêr wawdydd, Prif fardd Prydain,
Sŷ ŵr mud, is âr a main.[6],

Carwr, mawrygwr Cymreigiaith—ydoedd;
Awdwr prif orchestwaith,
Wrth wreiddiol reol yr iaith,
Braw farw hwn, brofwr heniaith.

Meddianydd mwy o ddoniau—ac awen
Nag un yn ei ddyddiau
Prydai gerdd (pan'd[7] prid[8] y gwau?)
Gyson, heb ry nac eisiau.

Yn iâch awen a chywydd!
Darfu am ganu Gwynedd
Duw anwyl! rhoed awenydd
A doniau byd yn y bedd!

Ow! dir Mon, wedi rhoi maeth—i esgud[9]
Wiw osgordd[10] gwybodaeth
Och ing a nŷch angau wnaeth
I fro dewrion fradwriaeth.

Diwreiddiwyd ei Derwyddon,
A'i beirdd sad yn mae brudd sôn!
Gwae'r ynys, aeth Goronwy;
Ni bu ei fwy neb o Fôn.

Prif flaenawr mawr yn mhlith myrdd
O awduron hydron,[11] heirdd;
Bydd gwastad goffâd o'i ffyrdd
Yn oed byd, ynad y beirdd.

Gorawen[12] nef i'r gŵr nod
Uwch Homer cerddber y caid;
A chyson gath![13] uwch Hesiod,
Goreugerdd feirdd y Groegiaid.
Llyw barddas uwch Horas hên,
A Virgil gynil ei gân;
Er rhwysg Rhufein—feirdd a'u rhin,
Gŵr o enw mwy G'ronwy Mon,

Bu yn hyddysg arwyddfardd bonheddig
Coffai hen dreigliadau dirgeledig
Brython, a'u hachau, raddau mawryddig,
Chwith, hylaw athraw a'i chwe' iaith lithrig,
Bod yn ei ôl; byd anelwig! mwyach—
Yn iach! ni wys bellach hanes bwyllig.

Tlysach na gwawd Taliesin—yw ei waith,
Neu araith Aneurin;
Mwy ei urddas na Myrddin,
Ac uwch Dafydd gywydd gwin.

Edrychais, ymdreuliais dro,
Am raddol gymhar iddo,
Trwy fawr gyrch,—tra ofer gais:—
Ni welais:—traul anolo.[14]

Ni bu Frydain wèn heb fawr radau
Yr awen fawrwyrth er yn forau,—
A choffa hoenwawd[15] i'w chyffiniau
Gan dderwyddon, mwynion emynau,
A beirdd uniawn, ewybr[16] ddoniau;—enwog,
Syw,[17] aurdorchog, odidog deidiau.

Goronwy gŵr hynod o'r pendodau,
Ebrwydd lafurwyr yn eu beirddlyfrau
Odid o'r beirddion, diwydion dadau,
Y bu un awdwr yn ei benodau,
Mor ddestlus, fedrus fydrau,―mor berffaith
Mewn iaith, iesin[18] araith, a synhwyrau.

Manwl a digwl[19] y gweinidogodd;
Hud[20] a gorddwy[21] a phob gwyd[22] gwaharddodd;
Rhagfarn, rhagrith, a gaulith[23] ogelodd;
A mawl Iôn i blith dynion a daenodd;
Ac iddynt efe gyhoeddodd yn dwr
Enw y Creawdwr, i'r hwn y credodd.

Er trallodion, gofalon filoedd,
Bu lawen dirion mewn blinderoedd,
Gan wir gofiaw llaw a galluoedd
Duw Iôr i'w weision, hyd yr oesoedd:
Ei awen bêr o'r dyfnderoedd—isel
Ehedai'n ufel[24] hyd y nefoedd.

Bu tra chyweithas bob tro chwithig
Yn hynt ei fywyd, fyd tarfedig.[25]
Uthrol[26] dro nodol dirwynedig
Troi o'r blaenawr mawr i Amerig
Truenus beirddion, tra unig—o'i ôl:—
Tra niweidiol fu'r tro enwedig.

Yma y poenwyd am y penial;[27]
Yntau wrda hwnt[28] o'i ardal
Yn bwrw einioes mewn bro anial:—
Trwm o'r ddwyochr, tramawr ddial!

Trymaf tremiad,[29]
Breuddwyd irad,[30]
Briddo dewrwas
Yn Virginia
Llin hên Droia
'N Llan Andreas

Budd na chyfoeth na bêdd ni chafodd
O'r eiddo Mon, er a ddymunodd
A Duw er hyny da y rhanodd;
A f'ai oreu iddo ef rhoddodd
Duw eilwaith a'i didolodd—o'r bŷd trwch:—
Ei Nef i degwch nef a'i dygodd.

Yn iach anwyl wych ynad,—oedd ddichlyn
I'w ddwy uchel alwad;
Ffuraf[31] Fardd ac Offeiriad
A throm och am athraw mâd![32]
Pregeth ryfedd o'i ethryb[33]
In' och'lyd ein uchel dyb.
Daearwyd ei orwedd,
Lle yr awn oll yr un wedd.
Pa fodd hyn? pwy a fydd iach,
A'i dyfiad o waed afiach?
Un dawn rhag angau nid oes:—
Ei ran yw dwyn yr einioes.
Daear i ddaear ydd â:–
Ond awen, hi flodeua.

Er rhoi yn isel wir hanesydd,
Dewin dwnad, tyf dawn dywenydd
Yn egin o'i weryd, yn gain[34] irwydd;
Blodau'r iaith yw ei waith, wiw ieithydd;
Eirioes[35] gan bob oes bydd—ei ganiadau
I'w geneuau fal y gwin newydd.


Tra rhedo haul yn nen ysblenydd[36]
Y rhed ei fawl, wr di hefelydd;[37]
O dad i fab, dweud a fydd—moladwy
Am Oronwy, mawr ei awenydd!

Ofer o'i herwydd fawr hiraeth:—pwyllwn,
Na wylwn o'i alaeth
Llawer iawn gwell y lle'r aeth,—
Fro dirion ddi fradwriaeth.

Gwlad nef ei haddef[38] heddyw,—
Trefad[39] awen fad nef yw.
Anwylfardd yn ei elfen,
Ni thau a mawrhau y Rhên.[40]
Mae'n yspryd tanllyd, unllef,
Un llawen hoen a llu nef,
Yn gwau mawl i'r bythawl ben,
Duw y duwiau Dad awen.

GWAITH BARDDONOL
GORONWY OWEN.

CALENDR Y CARWR,

Cynydd Serch, a gânt y Bardd ym Mhwllheli, ynghylch y flwyddyn 1743; ac a ddiwygiawdd ychydig arno 1753.

GWIR yw i mi garu merch,
Trosais hyd holl ffordd traserch;
Gwelais, o'r cwr bwygilydd,
Cyni a gresyni sydd.
Nwyfus fu'r galon afiach,
Ow! galon sal feddal fach!
Wyd glwyfus, nid â gleifwaith,[41]
Gwnaeth meinwen â gwen y gwaith;
Ow'r dòn anhoywfron hyfriw!
Ow, rydda'i llun, hardd ei lliw!
Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy dêg i wenu;
Gwenferch wyt, gwae fi ganfod
Dy rudd! a di fudd dy fod.
Mwynach a fych, fy meinwen,
Archaf i Dduw Naf, ddyn[42] wen;
Mwynach (pe Duw a'i mynai)
Neu fid it' o lendid lai.

Da, ddyn fain, y'th gywrainiwyd,
Hygar ei ffurf, hoywgorph wyd;
Adwyth fod it', ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn,
Chwidrach anwadalach dyn;
Seithug[43] a gefais wythwaith
Gan fain ei hael, gwael y gwaith;
Siomaist fi'r wythnos yma,
Nos Sadwrn ni chawn dwrn da,
Dyw Sul y deuais eilwaith,
Dydd Llun y bu'n dywydd llaith;
Dyw Mawrth, da ym' ei wrthod,
Dydd Mercher garw gur ac ôd,
Dydd Iau diau fu deg,
Och Wener! gwlaw ychwaneg.
Ail Sadwrn a fu swrn sych,
Oerwynt im' oedd, ddyn eurwych,
Rhew ydoedd a rhuadwynt,
O berfedd y gogledd gwynt.
Trwy gorph nos yr arhosais
(Dwl im') ac ni chlywn dy lais,
Cnithio'n[44] gras ar y glaswydr
A'm bys, gyd ag ystlys gwydr,
Llwyr egru llawer awgrym,
Disgwyl i'r ddôr egor ym';
Yno gelwais (â llais llwrf
Rhag cwn, a pheri cynhwrf)
"Mari fwyn, mawr yw fanwyd,
Oer ydyw, O clyw, o'th clwyd;
Mawr yw fy nghur, lafur lwyth,
Deffro gysgadur diffrwyth.
Galwad, ond heb ateb, oedd,
Mudan, fy nyn im' ydoedd.
Symudaw'n nes, a madws,
Cyrhaedd dôl dryntol y drws.

Codi'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddôr ddig;
Gan ffyrnig wŷn uffernol
Colwyn,[45] o fewn, cilio'n f' ol.
O'r barth yn cyfarth y caid,
Ail agerdd tân o'i lygaid,
Chwyrn udaw, och! oer nadu
Yn ddidor, wrth y ddôr ddu.
Yno clywn swrth drymswrth dro
Goffrom, rhwng cwsg ac effro,
Bram uchel, ac ni chelaf,
Erthwch fal yr hwch ar haf,
A beichiaw, a'm bwbachai,
Ac anog ci heriog, hai!
Llemais, â mawr ffull,[46] ymaith
Yn brudd, wedi difudd daith,
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm ol;
Cyrhaedd trwyn y clogwyni,
Perthfryn lle na'm canlyn ci,
Bwriais gyrch hyd Abererch,
(Llan yw hon wrth Afon Erch),
Cerdded rhag ofn gweled gwyll
Grebach (na bo'nd ei grybwyll!)
Neu gael i 'mafael â mi
Goeg Yspryd drygiawg aspri,
Tori ar draws tir i'r dref,
Ar ddidro, cyrhaedd adref,
Wrthyf fy hun eiddunaws[47]
Yn frau, i wellhau rhag llaw
Cefais o'm serch ddyferchwys
Oer fraw, ac nid af ar frys,
I'w chyfarch, ond arch, nid af,
Diowryd yw a dorraf,
Af unwaith i Eifionydd,
Unwaith? un dengwaith yn 'dydd;

Oerchwith gaeth gyflwr erchyll!
Ai Af, ai Nag af a gyll?
Bwriadu'n un bryd a wnaf,
Ac â'r ffon y gorphenaf,[48]
Dodaf fy ffon unionwymp,
Ar flaen ei goflaen, hi gwymp,
Aed lle'r el, ni ddychwelaf,
Ar ol y dderwen yr af.

AWDL Y GOFUNED,[49]

A ganwyd 1752, cyn gwybod pa beth oedd Awdl.

O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,
Dyma archiad im' a erchwn,
Un rodd orwag ni ryddiriwn[50]—o ged,
Uniawn ofuned, hyn a fynwn.

Synhwyrfryd doeth, a chorph anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes, heb ry nag eisiau,
Ym Mon araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.

Rhent gymhedrol, Plwyf da 'i reolau,
Tŷ îs goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin[51] rywiog olau.

Gardd i minau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion.
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.


Ac uwch fy mhen, ym mysg canghenau,
Ber baradwysaidd lwysaidd leisiau,
Ednaint meinllais, adlais odlau—trydar
Mwyn adar cerddgar, lafar lefau.

A thra bo'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cydgais â'r côr meinllais manllu,—fy nghân,
Gwiw hoyw a diddan gyhydeddu.

Minau a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl, arabawdl Robyn;
Gan dant Goronwy gywreinwyn,[52]—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.

Deued i Sais yr hyn a geisio,
Dwfr hoff redwyllt ofer a ffrydio
Drwy nant, a chrisiant (a chroeso)—o chaf
Fon im', yn benaf, henwaf hono.

Ni wna farwyrain yn fawreiriog,
Gan goffau tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud,[53] myr,[54] mynydd, dolydd deiliog,―trysor
Yr India dramor, oror eurog.

Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau;
l'aris i'r Ffrancon, dirion dyrau,
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—son
Am wychder dynion; Mon i minau.

Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.

CYWYDD

Ateb i anerch HUW AP HUW'r Bardd,[55] o Lwydiarth—Esgob, yn Mon, 1756.

DARLLENAIS Awdl dra llawn serch,
Wych enwog Fardd o'ch anerch;
A didawl eich mawl im' oedd,
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd[56] mawl bythawl lle bo,
Rhyddaf i'r gwr a'i haeddo;
Odidog, mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf
Duw a'm gwnaeth, da im' y gwnel,
Glân IESU, galon isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad;
O farddwaith od wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl,
Emynau dâl am einioes,
Ac awen i'r Rhen a'i rhoes;
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'r awenydd waeth;
Dêg Ion, os gweinidog wyf,
Digwl[57]
 y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail,<ref>Corlan<ref>

Bagad gofalon bugail;
Ateb a fydd, rhyw ddydd rhaid,
I'r Ion am lawer enaid,
I atebol nid diboen,
Od oes barch, dwys yw y boen;

Erglyw, a chymhorth, Arglwydd,
Fy mharchus arswydus swydd;
Cofier, ar ol pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch;
Nid yw neb ddim ond o nawdd
Un dinam Ion a'i doniawdd;
Tra'n parcher trwy ein perchen,
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein Perchen iawn y parcher,
Pa glod sy'n ormod i Ner?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair â'i air a wyl;
A dynion ei dy anedd,
A'i allawr, Ior mawr a'i medd;
Dyna'r parch oll a archaf,
Duw Ion a'i gwyr, dyna gaf;
Deled i'm Ior barch dilyth,
Ond na boed í undyn byth,
Nag eiddun mwy na goddef,
Tra pharcher ein Ner o Nef;
Gwae rodres gwyr rhy hydron,
Gwae leidr a eirch glod yr Ion,
Gocheler lle clywer clod,
Llaw'n taro llau, háint Herod.

Ond am Fon hardd, dirion, deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael o 'madael â mi
Cerais fy ngwlad, geinwlad gu,
Cerais, ond ofer caru;
Dilys, Duw yw'n didolydd,
Mawl iddo, a fyno fydd;
Dyweded ef na'm didol,
Gair o Nef a'm gyr yn ol;
Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf, a wnaf, fy Ner;

Da ddyfydd Duw i ddofion,
Disgwylied, na 'moded Mon;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Mon a mi;
Neu ddeuwr awen ddiell,
I ganu gwawd ugain gwell.
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon, am ei meibion maeth;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chwyn, tra parhaoch chwi;
Brodir gnawd ynddi brydydd,
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch, feirdd, o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon;[58]
Mae Gwalchmai[59] ertai eurlawr?
P'le mae Einion[60] o Fon fawr?
Mae Hywel ap Gwyddeles?[61]
Pen prydydd, lluydd a lles;
Pen milwr, pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
lawn genaw Owen Gwynedd,[62]
Gwae'n gwlad a iu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?[63]
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg[64]. oedd fyg pan fu
Ab Gwilym[65] yn bygylu?
Dau gydgwys gymhwys gymhar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed yn Mon dduon ddau,
Un Robin[66] edlin odlau;
A Gronwy[67] gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon

Mae Alaw? Mae Caw? Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wyr mawr Mon?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynar, medd Ceisar gynt.

Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr, a fu'n harddu Mon!
I'r bedd yr aethant o'r byd,
Och alar, heb ddychwelyd!
Hapus yw Mon a'i hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.

Clywaf arial[68] i'm calon,
A'm gwythi, grym yni Mon;
Craffrym, fel cefnllif cref—ffrwd,
Uwch eigion, a'r fron yn frwd,
Gorthaw[69] donn, dig wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf;
Clyw, Fon, na bo goelion gau,
Nag anwir fyth o'm genau;
Gwiried Ion a egorwyf,

Dan Ner, canys dewin wyf:—
"Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir;
Goludog, ac ail Eden

Dy sut, neu Baradwys hen
Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd;
Mirain wyt ym mysg moroedd,
A'r dwr yn gan' twr it' oedd,
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail,
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres mor.
Gwrth y rhod trwod y traidd,

Ynysig unbenesaidd;
Nid oes hefyd, byd a'i barn,
Gydwedd yť, Ynys gadarn,
Am wychder, llawnder, a lles,
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes,
Dyffrynoedd, glynoedd, glanau,
Pob peth yn y toreth tau;
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig
Dy feichiog ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron sydd,
A phrenau dy ddyffrynoedd,
Crwm lwyth, megis Carmel oedd.

"O! mor dirion, y Fon fau,
Dillad dy ddiadellau!
Cneifion dy ddâ gwynion gant,
Llydain, a'th hardd ddilladant;
Dawnus wyt, dien ei sail,
Prydferth heb neb ryw adfail,
A thudwedd bendith ydwyt,
Mawl dy Ner, aml ei dawn wyt;
Os ti a fawl nefawl Ner,
Dilys y'th felys foler;
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd 'y myd ym Mon!
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
A'th leygion yn sywion saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd,
Fyddant, a diffuant ffydd;
Yn lle malais trais traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith,
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch;
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru, gogoneddu Ner;

Dy enw fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint braint a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

"Bellach f'yspryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd,
Gwilia rhag ofergoelion,
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yť hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nôd,
Ardd wen i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch,
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dûr yn fflam dân!
Pa lês cael lloches o'r llaid?
Duw rano dŷ i'r enaid,
Gwiw ganaid, dŷ gogoniant
Ynghaer y ser, ynghôr Sant
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed Gwyr Mon, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy
Cyduned a llefed llu
Monwysion, Amen, IESU.

CYWYDD Y FARF.

1752.

CEFAIS gystudd i'm gruddiau,
Oer anaf oedd i'r ên fau;
Oerfyd a gair o arwfarf,
A dir boen o dori barf;
Mae goflew im' ac aflwydd,
A llwyni blew, llai na blwydd;
Crynwydd, fal eithin crinion
Yn fargod, da bod heb hon;
Trwsa'n difwyno traserch;
Athrywyn[70] mwynddyn a merch;
Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr ên;
Difudd oedd ceisio'i dofi,
Ffei o hon, hwt! ffoi wna hi.
Caswaith (er daed cusan)
Ymdrin â merch â'm drain mân,
Briwio'i boch wrth ei llochi;
Och i'r rhawn! ac ni châr hi;
Ac aflwydd êl â'r goflew,
Sofl a blyg, ond ni syfl blew;
Cas gan feinwar ei charu
O waith y farf ddiffaith ddu.
Pwn ar ên, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw;
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd ên ddu, fal danedd og;
Brasgawn, neu swp o brysgoed,
Picellau fal cangau coed;
Ffluwch[71] lednoeth, yn boeth y bo,
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn, neu lem gyllell,
Farf ddiffaith, ni bu waith well.

Ond gwell rhag y gyllell gerth,
Enyn gwalc yn wen goelcerth;
Mindrwch gwlltr gweindrwch gwandrwm,
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm;
Ellyn a charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y rhydd ei hannedwydd nôd,
Briw cyfled â lled ei llafn,
Llun osgo llaw anysgafn;
O'm grudd y rhed y rhuddwaed,
Bydd lle craf wânaf[72] o waed,
Gwelid, o glust bwygilydd,
Ddau ben yr agen a rydd,
Hifio fy nghroen a'm poeni,
Llwyr flin yw ei min i mi.
O mynai Nef im' unwaith
En iach, heb na chrach na chraith,
Yn ddifrif rhown ddiofryd,
Holl hifwyr a barfwyr byd.
Rhown ddinidr[73] iawn eidduned,
Llw diau, myn creiriau cred,
Na fynwn i fau wyneb,
Un ellyn noeth, na llaw neb,
Medrusaidd im' ei drawswch,
A gwynfyd yw byd y bwch
Odid, filyn barfwyn bach,
Y gellid cael ei gallach,
A chywilydd, o choeliwch,
I ddyn na b'ai ddoniau bwch
Hortairs[74]
 na thybiai hurtyn
Ddawn ei Dduw'n addwyn i ddyn.
Croesaw y farf, wiwfarf, yt,
Cras orthwf, croesaw wrthyt,
Na fid digrif yn ddifarf,
Na'i fin heb lathen o farf.

Bid pawb oll i'w harfolli,[75]
Arfollaf a harddaf hi,
A dioddefaf dew ddufarf,
Rhag eillio, gribinio barf

CYWYDD I'R AWEN.
Ar ddull HORAS, Lib, IV. Ode III.
Quem tu, Melpomene, &c., 1752.

O CHAI fachgen, wrth eni,
Wyd Awen dêg, dy wên di,
Ni bydd gawr na gwr mawrnerth,
Prydu a wna, Pa raid nerth?
Ni char ffull na churo ffest
Na chau dwrn, o chaid ornest
O b'ai'n, agwrdd benigamp
Ni chais glod gorfod y gamp;
Yn ei ddydd e ni ddiddawr
Gael parch am yru march mawr,
Ni chyrch drin[76] na byddinoedd,
Ni char nâd blaen—gad a bloedd,
Ni chaiff elw o ryfelwaith,
Na chlod wych hynod ychwaith,
Na choryn hardd, ddigardd[77] ddyn,
Draw i gil o droi gelyn
Mawl a gaiff am oleu gerdd,
A gwiw sein—gan gyson—gerdd,
Barddwawd[78] fel y gwnai beirddion
Defnyddfawr o Wlad fawr o Fon.

Cymru a rif ei phrif-feirdd,
Rhifid ym Mon burion beirdd,
Cyfran a gaf o'u cofrestr,

A'm cyfrif i'w rhif a'u rhestr;
Mawrair a gaf ym Meirion
Yn awr, a gair mawr Gwyr Mon;
Llaesodd, ar aball eisoes,
Cenfigen ei phen a ffoes.

O f'Awen dêg! fwyned wyt,
Di-odid, dawn Duw ydwyt,
Tydi roit, â diwair wên,
Lais eos i lysŵen!
Dedwydd o'th blegyd ydwyf,
Godidog ac enwog wyf,
Cair yn son am Oronwy
Llonfardd Mon, llawn fyrdd a mwy
Caf arwydd lle cyfeiriwyf,
Dengys llu â bys lle bwyf.

Diolch yt, Awen dawel,
Dedwydd wyf, deued a ddel;
Heb Awen, baich yw bywyd,
A'i rhodd yw rhyngu bodd byd.

EPIGRAM

I'w dori ar gaead Blwch Tobacco. 1755.

CETTYN yw'n hoes, medd Cattwg,
Nid ŷm oll onid y mwg
Gan hyn, ys mwg yw'n heinioes,
Da iawn oni chair dwy oes?
Mygyn o'r cetyn cwta
Wnai o un oes ddwyoes dda.


CYWYDD I LEWIS MORYS, Ysw.,

O Allt Fadog, yng Ngheredigion, yn dangos nad oes dim a geidw goffadwriaeth am Ddyn, wedi angau, yn well na gwaith Bardd, ac na ddichon na Cherfiwr na Phaentiwr roi cystal Portreiad o Wr ag a rydd Prydydd awenyddol. Y Cywydd hwn sydd ar ddull HORAS, Lib. IV. Ode VIII.

Donarem pateras grataque, &c.

RHODDWN ariant a rhuddaur.
Rhown yt gawg gemawg ac aur;
I'r cyfeillion mwynion mau,
Deuai geinion deganau,
Genyf o b'ai ddigonedd
(A phwy wna fwy oni fedd?)
I tithau y gorau gaid,
Lewys fwyn, lwysaf enaid;
Pe b'ai restr o aur—lestri
O waith cyn maelgyn i mi,
Ti a gait, da it y gwedd,
Genyf yr anrheg iawnwedd.

Odid fod o fychodedd,[79]
Rhodd dreulfawr, rhai mawr a'i medd;
Tithau, nid rhaid it' weithion,
Ni'th ddorodd[80] y rhodd o'r rhai'n,
Caryt gywyddau cywrain,
Rhynged dy fodd rhodd o'r rhai'n,
Rhodd yw, cyhafal rhuddaur,
A chan gwell; uwch yw nag aur.

Onid ofer iawn dyfais
I fynu clod o faen clais?[81]
Naddu llun eilun i wr
Dewrwych, portreiad arwr,
Llunio'i guch,[82] a llain gochwaed,
A chawr tan ei dreisfawr draed?

Pond[83] gwell llên ac awenydd?
Gwell llun na'r eilun a rydd;
Dug o eryr da'i gariad,
Gwrawl Udd[84] a gâr ei wlad,
Llyw yn arwain llon aerweilwch,
Teirf yn nhrin[85] fyddin o feilch,
Wrth a gâr, yn oen gwaraidd,
Yn nhrin, llyw blin, llew a blaidd,
Araf oen i'w wyr iefainc,
Llew erchyll, a ffrewyll Ffrainc.
Pwy âg arfau? pa gerfiiad
A rydd wg golwg ei gad?
Trefi yn troi i ufel
O'i froch, a llwyr och lle'r êl!

Pwy a gai, oni b'ai bardd,
Glywed unwaith glod iawnhardd?
Tlws ein hiaith Taliesin hen
Parodd goffhau AP URIEN;
Aethai, heb dant a chantawr,
Ar goll hanes Arthur Gawr.
Cân i fad, a rydd adwedd
O loes, o fyroes, o fedd;
Cerdd ddifai i rai a roes
Ynill tragywydd einioes,
Nudd, Mordaf, haelaf helynt,
Tri hael Ior, ac Ifor, gynt,
Laned clod eu haelioni
Wrth glêr, hyd ein hamser ni!
Ac odid (mae mor gadarn)
Eu hedwi fyth hyd y farn,
Rhoddent i feirdd eu rhuddaur
A llyna rodd well na'r aur;
Rhoid eto (nid rhaid atal)
I fardd, ponid hardd y tál?
A ddel o'i awen ddilyth
O gyfarch, a bair barch byth.

CYFIEITHIAD

A ail awdl ANACREON, 1754.

NATUR a wnaeth, iawn ytyw,
Ei rhan ar bob aniau byw;
I'r cadfarch dihafarchwych,
Carnau a roescyrn i'r ych;
Mythder[86] i'r ceinych[87] mwythdew;
Daint hirion llymion i'r llew;
Rhoes i bysg nawf ym mysg myr;[88]
I ddrywod dreiddio'r awyr;
I'r gwŷr rhoes bwyll rhagorol;
Ond plaid benywiaid bu'n ol;
Pa radau gant? Pryd a gwedd
Digon i fenyw degwedd,
Rhag cledd llachar, a tharian,
Dôr yw na thyr dur na thân
Nid yw tân a'i wyllt waneg,
Fwy na dim wrth fenyw dêg.]


ARALL

O'r eiddo ANACREON, 1754.

MAE'n ddiau, myn y ddaear,
Yfed a wlych rych yr âr;
Dilys yr ŷf coed eilwaith
Y dwr a lwnc daear laith;
Awyr a lwnc môr a'i li;
Yf yr haul o fôr heli;
Ar antur, ŷf Lloer yntau;
Yfont, a d'unont eu dau
Y mae'n chwith i mi na chaf
Finau yfed a fynaf
Gwarthus iwch ddigio wrthyf,
Nid oes dim o'r byd nad ŷf.


ODLIG ARALL

I ANACREON, 1754. Proest Cyfnewidiog.

HOFF ar Hen yw gwên a gwawd,
Bid llanc ddihad), drwyadl droed,
Os hen an—nien a naid,
Hen yw ei ben, lledpen llwyd,
A synwyr Iau sy'n yr iad.


CYWYDD Y MAEN GWERTHFAWR, 1753.

CHWILIO y bum, uwch elw byd,
Wedi chwilio dychwelyd,
Chwilio am em berdrem bur,
Maen iasbis, mwy annisbur;
Hynodol em wen ydoedd
Glaerbryd, a DEDWYDDYD oedd.
Mae (er Naf) harddaf yw hi,
Y gemydd a'i dwg imi?
Troswn o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr,
Ffulliwn[89] hyd ddau begwn byd,
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd,
Chwiliwn o chawn y dawn da,
Hyd rwndir daear India,
Dwyrain a phob gwlad araul,
Cyffed ag y rhed yr haul,
Hyd gyhydlwybr yr wybren,
Lle'r a wawl holl awyr wen;
Awn yn noeth i'r cylch poethlosg,
Hynt y llym ddeheuwynt llosg;
I rynbwynt duoer enbyd
Gogledd annghyfanedd fyd,

Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisian—glawdd na thawdd, na thawl.
Od awn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im lafuriaw!
Gwledydd ormod a rodiais,
Trwy bryder ac ofer gais,
Llemdost i mi'r bell ymdaith,
A phellaf gwacaf y gwaith,
Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi;
Nid oes dwr na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.
Da gwyr IESU, deigr eisioes
Dros fy ngran drwstan a droes,
Pond dlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon!

Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall,
Cynull (a gwael y fael fau)
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddiau dwfn addysg,
Sophyddion dyfnion eu dysg;
Diau i'r rhai'n, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl,
Maen â'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur;
Rhoent obaith ar weniaith wâg
O byst aur, â'u bost orwag,
Llai eu rhodd, yn lle rhuddaur,
Bost oedd, ac ni chawd byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae son mai haws hyny;
Ffuant yw eu hoff faen teg,
Ffol eiriau a ffiloreg.


Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw,
Sywlyfr[90] y Brenhin Selef,[91]
A Llyfr pur Benadur Nef,
Deufab y brenhin Dafydd,
Dau fugail, neb ail ni bydd,
Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenhin mawr dirfawr a doeth,
Rhi'n honaid[92] ar frenhinoedd,
Praff deyrn, a phen prophwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall o b'ai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw'?
Ar ol pob peth, pregethu
Mor ynfyd y byd y bu,
Gair a dd'wedai gwir ddidwyll,
Llawn yw'r byd ynfyd o dwyll,
A hafal ydyw hefyd
Oll a fedd, gwagedd i gyd.
O'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
Wir gall, i'm dyall y daeth,
Na chaf islaw ffurfafen
Ddedwyddyd ym myd em wen;
Ni chair yr em hardd-drem hon
Ar gyrau'r un aur goron,
Na chap Pâb, na chwfl abad,[93]
Na llawdr[94] un ymerawdr mâd.

Llyna sylwedd llên Selef,
Daw'n ail efengyl Duw Nef
D'wedai un lle nad ydoedd,
Ar ail ym mha le yr oedd.
Daw i ddyn y diddanwch
Yn Nefoedd, hoff lysoedd fflwch,
Fan deg! yn Nef fendigaid,

Tlws ar bob gorddrws a gaid,
Pob careg sydd liwdeg lwys,
Em wridog ym Mharadwys;
Ac yno cawn ddigonedd
Trwy rad yr Ion mâd a'n medd.
Duw'n ein plith, da iawn ein plaid,
F'a'n dwg i Nef fendigaid.
Drosom, Iachawdwr, eisoes
Rhoes ddolef, daer gref, ar groes,
Ac eiddo ef, Nef a ni,
Dduw anwyl, fa'i rhydd ini.

Molaf fy Naf yn ufudd,
Nid cant, o'm lladdant, a'm lludd,
Dyma gysur pur heb ball,
Goruwch a ddygai arall;
Duw dy hedd rhyfedd, er hyn,
Bodloni bydol annyn.
Boed i angor ei sorod,
I ddi-ffydd gybydd ei gôd
I minau boed amynedd,
Gras, iechyd, hawddfyd, a hedd.

ENGLYN AR DDYDD CALAN

Dydd genedigaeth y Bardd, 1746.

HYNT croes fu i'm hoes o hyd,—echrysawl,
A chroesach o'm mebyd;
Bawaidd fu hyn o'm bywyd,
Ond am a ddaw, baw i'r byd.


CYWYDD I'R CALAN

(Sef dydd genedigaeth y Bardd a'i Fab hynaf,) yn y flwyddyn 1752.

CYN bod gwres i'r haul tesfawr,
A gorphen ffurfafen fawr,
Difai y creawdd Dofydd
Olau teg a elwid dydd;
A Duw, gan hyfryted oedd,
Dywedai mai da ydoedd.
Cywraint fysedd a neddair![95]
Gywir Ion, gwir yw ei air.
Hardd gweled y planedau,
A'u llwybr yn y gylchwybr gau;
Tremiadau tramwyedig,
A chall yn deall eu dig.[96]
Canfod, a gwych eurddrych oedd,
Swrn nifer o ser nefoedd,
Rhifoedd o ser, rhyfedd son!
Crogedig uwch Caergwydion,[97]
Llun y llong,[98] a'i ddehonglyd,
Arch NO,[99] a'i nawdd tra bawdd byd,
A'r Tewdws,[100] dŵr ser tidawg,
A thid[101] nas rhifid y rhawg.
Er nifer ser y nefoedd,
Nifer fawr o wychder oedd,
Ac er lloer wen ysplenydd,
Nid oes dim harddach na dydd,
Gwawl unwedd â goleunef,
Golau o ganwyllau nef.
Oes a wâd o sywedydd
Lle del, nad hyfryd lliw dydd?
Dra bostio hir drybestod;[102]

Mor rhyfedd rhinwedd y rhod,
Oer syganed wres Gwener[103]
Pan el i ias oerfel ser.

Duw deg lwys! da yw dy glod,
Da, Wirnaf, yw pob diwrnod,
Un radd pob dydd o naddynt,
Pob dydd fal eu gilydd gynt,
Uchder trenydd fal echdoe,
Nid uwch oedd heddyw na doe;
Nes it' draw neillduaw dydd
Dy hunan, da wahanydd,
Dy'gwyl yn ol dy degwaith,
Yn gorphen ffurfafen faith;
Na chwynwn yt, Ion, chwenych
Dydd o saith, wedi'r gwaith gwych;
Yn talmu da fu dy fod,

Sabbath ni châi was hebod.
Mawr yw dy rad, wiwdad Ion,
Da oedd gael dyddiau gwylion,
Da'r tro yt' eu gwylio gynt,
Duw awdwr, a da ydynt;
Da dy grog ddihalogwyl,
Dy grog oedd drugarog wyl,
Er trymed dy gur tramawr,
Penllad yw'th gyfodiad fawr.
Da fyg dy Nadolyg, Dad,
Da iawn ydoedd d'enwaediad;
Calan, fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gwyl Duw Celi,
Da, coeliaf, ydyw Calan,
A gŵyl a ddirperai gân
Ac i'r Calan y canaf,
Calan well na huan haf!
Ar ddydd Calan i'm ganwyd,
Calan, nid anniddan wyd;

Gwaeth oedd genedigaeth Io,[104]
Diwrnod a gwg Duw arno,
Calan wyt ni'th cwliai[105] Naf,
Dwthwn wyt na's melldithiaf.
Nodwyl fy oedran ydwyt,
Ugeinfed a degfed[106] wyt;
Cyflym ydd â rym yr oes,
Duw anwyl, fyred einioes!
Diddam a fum Galan gynt,
A heinif dalm o honynt,
Llawn afiaeth a llon iefanc,
Ddryw bach, ni chaid llonach llanc;
Didrwst ni bu mo'm deudroed
Ymhen un Calan o'm hoed,
Nes y dug chwech ar hugain
Fab ffraeth i Fardd meddfaeth main;
Er gweled, amryw Galan,
Gofal yn lle cynal cân,
Parchaf anrhydeddaf di,
Tymor nid drwg wyt imi.
Cofiaf, Galan, am danad,
Un dydd y'm gwnaethost yn dad,
Gyraist im' anrheg wiwrodd,
Calenig wyrenig[107] rôdd.
Gwiwrodd, pa raid hawddgarach
Na Rhobert, y rhodd bert bach?
Haeddit gân, nid rhodd anhardd,
Rhoi im' lân faban o fardd,
Hudol am gân, hy' ydwyt,
O b'ai les gwawd, blysig wyt;
Dibrin wyf, cai di obrwy,
Prydaf i yt' (pa raid fwy?)
A chatwyf hir barch iti,
Wyl arab fy mab a mi.

Aed y Calendr yn hendrist,[108]
Aed cred i ammau oed Crist,
Syfled pob mis o'i safle,
Ac aed â gŵyl gyd ag e;
Wyl ddifai, di gai dy gwr,
Ni'm neccy almanacwr,
Cei fod ar dal y ddalen,
Diball it' yw dy bill hen;
Na syfl fyth yn is, ŵyl fawr,
Glyn yno, Galan Ionawr;
Cyn troi pen dalen, na dwy,
Gweler enwi gwyl Ronwy,
A phoed yn brif ddigrifwyl,
I'r beirdd, newydd arab ŵyl
A bid ei phraff argraphu
Ar dalcen y ddalen ddu.
Llead[109] helaeth, lled dwylain,
Eangffloch, o liw coch cain.[110]


CYWYDD I'R CALAN

Yn y flwyddyn 1755, pan oedd glaf y BARDD yn Walton.

Ow! hen Galan, hoen gwyliau,
Cychwynbryd fy mywyd mau,
Ond diddan im' gynt oeddit
Yn Ionor? Hawddamor it'!
Os bu lawen fy ngeni,
On'd teg addef hyn i ti?
Genyt y cefais gynydd
I weled awr o liw dydd;
Pa ddydd a roes im' oesi,
Trwy rad Ion ein Tad, ond ti?
Adrodd pob blwydd o'm hoedran,

O ddiwyd rif, oedd dy ran,
A gwelwyd, ben pob gwyliau,
Mai tycio wnaeth y maeth mau,
Er yn faban gwan gweccry,[111]
Hyd yn iefanc hoglanc hy',
O ddiofal hydd iefanc
Yn wr ffraw,[112] goruwch llaw llanc;
Ac ar Galan (yn anad
Un dydd) bum o wr, yn dad
Finau ni bum yn f'einioes
Eto 'n fyr it' o iawn foes,
Melys im' ydoedd moli,
A thra mawrhau d'wyrthiau di,
Ac eilio iti, Galan,
Ryw gelfydd gywydd neu gân.

Dy gywyddau da gweddynt
A'th fawl, buost gedawl gynt;
Weithion paham yr aethost,
Er Duw, wrthyf i mor dost?
Rhoddaist i'm ddyrnod rhyddwys
O boen, a gwae fi o'i bwys,
Mennaist o fewn fy mynwes
A chlefyd o gryd a gwres,
A durwayw'r poethgryd eirias,
Ynglŷn â phigyn a phâs.
Ai o ddig lid ydd wy' glaf
(Bernwch) ai cudeb arnaf?
Od yw serch, nawdd Duw o'i swm!
Ai cudeb yw rhoi codwm,
A chystudd di fudd i f'ais, I'm
gwanu am a genais?
Ar hwrdd os dy gwrdd a gaf
Eilchwyl, mi a ddiolchaf.
Ni chaf amser i 'mdderu,
Diengaist yn rhydd, y dydd du;
Rhedaist, fal llu rhuadwy

I'r môr, ac ni'th weler mwy,
A dygaist ddryll diwegi,
Heb air son, o'm beroes i
Difwynaist flodau f'einioes,
Bellach pand yw fyrach f'oes?
O Galan hwnt i'w gilydd,
Angau yn neshau y sydd;
Gwnelwyf â Nef dangnefedd
Yn f'oes, fel nad ofnwyf fedd;
A phoed hedd cyn fy medd mau,
Faith ddwthwn rh'of a thithau;
Dy gyfenw ni ddifenwaf,
Os ei gwrdd yn l'oes a gaf,
Ni thaeraf annoeth eiriau,
Gam gwl,[113] er fy mygwl[114] mau.
Bawaidd os hyn o'm bywyd,
Rhwy fu'r bai rh'of fi a'r byd;
Addefer di yn ddifai,
Rhof fi a'r byd rhwy fu'r bai.
Duw gwyn a'm diwygio i,
A chymod heddwch imi
A ddel, cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yna daw gwyliau llawen
I mi, ac i bawb. Amen.


CYWYDD MARWNAD

MARGED MORYS,[115] Gwraig Morys-ap Rhisiart Morys, o Bentre Eirianell ym Mon, 1752.

MAWR alar, trwm oer wylaw,
A man drist sydd yn Mon draw,
Tristyd ac oerfryd garwfrwyn,[116]
Llwyr brudd, a chystudd a chwyn;

Tristaf man Pentre'rianell,
Ni fu gynt un a fa'i gwell,
Ni fu chwerwach tristach tro
I Fon, nag a fu yno.
Lle bu ddien lawenydd,
Ubain a dwys ochain sydd;
Digroyw lif, deigr wylofain,
Am Farged y rhed y rhai'n,
Didaw am Farged ydynt,
Marged law egored gynt;
B'd hapus haelionus law,
Ffrawddus[117] i fil ei phriddaw!
Rhy fawr san[118] ar Forys yw,
Oer adwyth i'w gwr ydyw;
Deuddyn un enaid oeddynt,
Dau ffyddlon, un galon gynt;
Mâd enaid! chwith am dani,
A phrudd hwn o'i phriddo hi,
Ac o'i herwydd dwg hiraeth
Ormod, ni fu weddwdod waeth!

Toliant[119] ar lawer teulu
Ar led, am Farged a fu,
Ymddifaid a gweiniaid gant
Ychenawg,[120] a achwynant
Faint eu harcholl, a'u colled,
Farw gwraig hael, lle bu cael ced.
Llawer cantorth o borthiant
Roe hon, lle b'ai lymion blant;
Can' hen a ddianghenodd,
I'r un ni bu nâg o rodd;
Gwiw rodd er mwyn goreudduw,
Gynes weinidoges Duw.

Gwraig ddigymar oedd Marged
I'w plith am ddigyrith ged,

A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei danod oedd.

Di ball yn ol ei gallu,
Rhwydd a chyfarwydd a fu,
Rhyfedd i'w chyrredd o chaid
Ing o unrhyw angenrhaid;
Rhoe wrth raid gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant,[121]
Am gyngor Doctor nid aeth
Gweiniaid, na meddyginiaeth,
Dilys, lle b'ai raid eli,
Fe'i caid; nef i'w henaid hi.

Aed i nef a thangnefedd,
Llawenfyd hawddfyd a hedd;
Nid aeth mâd, wraig deimladwy
O'n plith a gadd fendith fwy
Bendith am ddiragrith rodd,
Hoff enaid! da y ffynodd;
Os oes rhinwedd ar weddi,
Ffynu wna mil o'i hil hi.

Pa lwysach hepil eisoes?
Ei theulu sy'n harddu'n hoes?
Tri mab doethion tirionhael,
Mawr ei chlod merch olau hael,
Trimab o ddoniau tramawr,
Doethfryd a chelfyddyd fawr;
LEWIS wiwddysg, lwys addwyn,
Athraw y gerdd fangaw fwyn,
Diwyd warcheidwad awen,
Orau gwaith, a Chymraeg wen.
RHISIART am gerdd ber hoywsain,
Hafal ni fedd Gwynedd gain;
Annhebyg tra bo'n hybarch

Y Beibl[122] na bydd iddo barch.
Allai fod (felly ei fam)
Deilen na nodai WILIAM?[123]
Chwiliai ef yr uchelion,
Y môr, a thir, am wyrth Ion;
Tradoeth pob brawd o'r tridyn,
Doeth, hyd y gall deall dyn;
Tri gwraidd frawd rhagorawl,
Haeddant, er na fynant fawl.
Da'r had—na newid eu rhyw,
D'wedant, ym Mon, nad ydyw
Cyneddfau, doniau dinam
ELIN, ei merch, lai na'i mam.

Da iawn fam! diau na fu
Hwnt haelach perchen teulu;
Rhy dda i'r byd ynfyd oedd,
Iawn i fod yn nef ydoedd;
Aeth i gartref nef a'i nawdd,
Duw IESU a'i dewisawdd;
Uniawn y farn a wna fo,
Duw Funer,[124] gwnaed a fyno.
Dewisaf, gan Naf, i ni
Oedd ddeisyf iddi oesi,
Hir oesi, cael hwyr wŷsiad
Adref i oleunef wlad.

Gwae 'r byd o'r enyd yr aeth!
Oer bryd oedd ar Brydyddiaeth;
Achles i wen awen oedd,
A nesaf i'r hen oesoedd,
Cynes i feirdd tra cenynt,
Oedd canu ffordd Gymru gynt,
Cael braint cân, o ddadanhudd,
A chler, er yn amser Nudd;
Boed heddwch a byd diddan

Byth it', ti a gerit gân;
Ac yna'n entrych gwiwnef,
Cydfydd â cherdd newydd nef;
Ni'th ludd cur, llafur na llid,
Da, yn Nuw, yw dy newid;
Newidio cân, (enaid cu!)
Monwysion am un IESU
Clywed llef y Côr nefawl,
Gwyn dy fyd! hyfryd dy hawl!
Lleisiau mowrgerth llesmeirgerdd
Côr y saint, cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau! cyhydlef,
Gwynion delynorion nef;
Canllef dwsmel tra melys,
Fal gwin ar bob ewin bys.

Dedwydd o enaid ydwyt,
Llaw Dduw a'n dycco lle'dd wyt.
A'n hanedd, da iawn hono,
Amen, yn nef wen a fo.[125]


DAU ENGLYN O GLOD I'R DELYN, 1755:

TELYN i bob dyn doniawl,—ddifaswedd,
Ydoedd fiwsig nefawl;
Telyn fwyn-gan ddiddanawl!
Llais Telyn a ddychryn ddiawl.

Nid oes hawl i ddiawl ar ddyn—mwyn cywraint,
Y mae'n curo'r gelyn;
Bwriwyd o Saul Yspryd syn,
Diawlaidd wrth ganu'r Delyn.


AWDL BRIODASGERDD

I Elin Morys, Merch Lewis Morys, Ysw., o Allt Fadog; ac yn awr, gwraig Rhisiart Morys, o Fathafarn, 1754.

UST! tewch oll! Arwest[126] a chân,
Gawr[127] hai, ac orohian!
Melus molawd,
A bys a bawd,
Llon lwyswawd llawen leisiau,
Aml iawn eu gwawd,[128] mil yn gwau,
Wawr hoewaf, orohian
A cherdd a chân.

Tros y rhiw torres yr haul,
Wên boreu, wyneb araul;
Mae 'n deg min dydd,
Tawel tywydd,
O'r nentydd arien untarth;
Ni cheidw gwŷdd o chaid gwarth;
"Dwyre,[129] ddyn wenbryd eirian,
Yw 'n cerdd a'n cân.

Na ad le i gwsg yn d' ael; gwên,
Disgleiria, dwywes[130] glaerwen;
Feinais fwynwar,
E 'th gais a'th gâr,
Dyn geirwâr, dawn a gerych,
Age 'n bar, gwen wiw, y bych;
I'r hoew walch orohian,"
Yw'n cerdd a'n cân.

Na arho hwnt yn rhy hir,
Waisg Elin; e'th ddisgwylir;
Dwg wisg, deg ael,
Dda wisg ddiwael;

Dwg urael[131] diwyg eurwerth,
Na fo gael un o fwy gwerth:
Aur osodiad ar sidan
I'r lwys wawr lân.

Ar hyd y llawr, y wawr wych,
Cai irddail ffordd y cerddych;
Gwiwrif gwyros,[132]
A rhif o'r rhos,
Da lios, deuliw ewyn;[133]3
Brysia, dos; ber yw oes dyn:
Du 'ch ellael,[134] deuwch allan,"
Yw 'n cerdd a'n cân.

O chlywi, wenferch Lewys,
Dyre i'r llan draw o'r llys;
Canweis cenynt[135]
O'th ol i 'th hynt,
A llemynt â'u holl ymhwrdd ;
Felly gynt, fe ae llu gwrdd
I'r eglwys, wawr rywioglan,
A'r glwys wr glân.

Wedi rhoi 'n rhwydd sicrwydd serch,
I'r mwynfab, orau meinferch,
Hail[136] i'n hoew—wledd,
Dwg win, deg wedd;
Dwg o anredd digynnil
Ddogn o fêdd, ddigon i fil,
"A chipio pib a chwpan"
Yw'n cerdd a'n cân.

Rhodder a chlêr a'u haeddant—
Bwyd a gwin, be deuai gant;
I gyd ni gawn

Y ddau nwyfiawn ddyn iefanc,
O bod llawn, byd da, a llanc,
Gwr gwaraidd a gwraig eirian,
Pâr glwys per glân.

A fedro rhoed trwy fodrwy
Deisen fain, dwsin neu fwy,
Merched mawrchwant
I'w ced a'u cânt,
Dispiniaut hwy does peinioel;
Rhwy maint chwant rhamant a choel;
"Cysur pob gwyrf yw cusan,"
Yw 'n cerdd a'n cân.

Y nos, wrth daflu 'r hosan,
Cais glol y llancesau glân
O chwymp a'i chael,
Eurwymp urael,
Ar ryw feinael wyrf unig,
Gwenno ddu ael, gwn ni ddig;
Rhyned os syr ei hunan
Yn wyrf hen wan.

Yn iach cân i'r rhianedd,
Dêl i'r rhain dal wŷr a hedd!
Mae bro mwy bri
Eto iti;
Gyr weddi, gu arwyddiad,
I Dduw Tri, e ddaw it rad,
Byd hawdd, a bywyd diddan,
A cherdd, a chân.

Dod i'th wr blant, mwyniant mawr;
Dod ŵyrion i'th dad eurwawr,
A he o hil
Hapus hepil,
Dieiddil, Duw a wyddiad,
Ie, gan mil, egin mad;
Llaw Duw iddynt, llu diddan,
Hil glwys, hael, glân.


Gyr sin[137] i wan gresynol,
I Dduw a wnair; e ddaw 'n ol:
Afiaith ofer
Y sydd is ser;
Gorau arfer, gwawr eurfain,
Moli dy Ner mal dy nain;[138]
Gwiwnef it hwnt, gwynfyd da;
Amen yma![139]


UNIG FERCH Y BARDD

Yr hwn oedd dra anwyl gantho, a fu farw yn Walton[140] yn Lancashire, Ebrill y 17, 1755, yn bum mis a blwydd o oed, ac yntau a gant y Farwnad hon iddi.

MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'rhyd f'wyneb,
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!

Anwylyd, oleubryd lân,
Angyles, gynes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liw ser (ni thâl son):

Oedd fwyn llais, addfain ei llun,
Afieuthus, groesawus swn,
I'w thad, ys ymddifad ddyn!


Ymddifad ei thad, a thwn[141]
Archoll yn ei friwdoll fron,
Ynghur digysur, da gwn,
Yn gaeth o'm hiraeth am hon.

Er pan gollais feinais fanwl,
Gnawd yw erddi ganiad awrddwl,
A meddwl am ei moddion;
Pan gofiwyf poen a gyfyd,
A dyfryd gur i'm dwyfron,
A golyth yw y galon
Erddi ac am dani'n donn,
A saeth yw son,
Eneth union.

Am anwyl eiriau mwynion—a ddywaid,
A'i heiddil ganaid ddwylo gwynion,
Yn iach, f'enaid, hoenwych fanon,
Neli,'n iach eilwaith, lân ei chalon,
Yn iach, fy merch lwysfach lon,—f'angyles,
Gorphwys ym mynwes monwent Walton,
Nes hwnt dy gynull at saint gwynion,
Gan lef dolef dilyth genhadon;
Pan roddo'r ddaear ei gwâr gwirion,
Pan gyrcher lluoedd moroedd mawrion,
Cai, f'enaid, deg euraid goron—dithau,
A lle yngolau llu angylion.

CYWYDD,

I'w gyflwyno i DYWYSAWG CYMRU, Wyl Ddewi 1753, ar y testyn sy'n canlyn, sef, Reget patriis virtutibus orbem.

Pwy ddysg im'? Pa dduwies gain?
Wir araith i arwyrain,
Gŵraf[142] edlin[143] brenhinwawr,
Blaenllin Cymru fyddin fawr?
Ai rhaid awen gymengoeg
O drum Parnassus gwlad Roeg?
Cyfarch cerddber Bieriaid,[144]
Am achles hoff—les a phlaid?
Ni cheisiaf, nid af i'w dud,
Glod o elltydd gwlad alltdud,
Ofer y daith, afraid oedd,
Mwyneiddiach yw'n mynyddoedd,
Lle mae awen ddiweniaith,
Gelfydd yn mhob mynydd maith,
Na wna'n eglur neu'n wiwglod,
Ond da, a ryglydda glod.

Pan danwyd poenau dunych,
A braw du'n ael Brydain wych,
Pan aeth FFREDRIG[145] i drigias,
Da iawn fro, Duw Nef a'i ras,
Rhoe GYMRU hen uchenaid,
A thrwm o bob cwm y caid,
Trystlais yn ateb tristlef,
Prydain, ac wylofain lef.

O'r tristwch du-oer trosti,
Nid hawdd y dihunawdd hi,
Fal meillion i hinon haf,
O rew—wynt hir oer auaf;

Iach wladwyr eilchwyl ydym,
Oll yn awr, a llawen ŷm,
Ni fu wlad o'i phenadur
Falchach ar ol garwach gur.

Llyw o Udd[146] drud llewaidd draw,
I ni sydd, einioes iddaw,
Udd gwrawl, haeddai gariad,
Por dewr, a ddirprwy ei dad;
Ni bu ryfedd rinweddau,
Ym maboed erioed ar Iau,
Arwr a fydd, ddydd a ddaw,
Mawreddog,—Ammor[147] iddaw!

Hiroes i wâr Gaisar gu,
Di-orn oes i deyrnasu;
A phan roddo heibio hon
I gyraedd nefol goron,
Nefol goron gogoniant
Yn oediog, lwys enwog sant,
Poed TRYDYDD SIOR ein IOR ni,
O rinwedd ei rieni,
Yn iawnfarn gadarn geidwad,
I'w dir, un gyneddf a'i dad.

Am a ddywaid maddeuant
A gais yr awen a gânt.
Hyn o'ch clod mewn tafodiaith,
A dull llesg hen dywyll iaith;
Mawr rhyddid Cymru heddyw,
Llawen ei chân, llonwych yw,
Trwy eu miloedd tra molynt
Eu Noddwr, hoyw gampwr gynt;
Llyw diwael yn lle Dewi,
Ior mawr, wyt yn awr i ni;
Ti ydyw'n gwarlyw gwirles,
Ti fydd ein llywydd a'n lles,

Os dy ran, wr dianhael,
A wisg y genhinen wael,
Prisiaf genhin brenhinwych
Uwch llawrydd tragywydd gwych.


ENGLYNION

I ofyn cosyn llaeth-geifr gan William Gruffudd o Ddrws-y-coed yn Eifionydd, tros Domas Huws, mab Huw ab Ifan, o Landygai, oedd yn was yn Liverpool, neu Nerpwl, 1754.

DYNYN wyf, a adwaenoch—er enyd,
A yra anerch atoch;
Rhad a hedd ar y feddoch
I'ch byw, a phoed iach y bo'ch.

I chwi mae, i'ch cae, uwch cyll,
Geifr, hyfrod, bychod, heb wall,
Llawer mynnyn, milyn mwll,
Rhad rhwydd a llwydd ar bob llill.[148]

Mae iwch gaws liaws ar led—eich anedd,
A'ch enwyn cyn amled;
Y mwynwr er dymuned,
Rhowch i'm gryn gosyn o ged.

Cosyn heb un defnyn dwfr,
Cosyn ar wedd picyn pefr,
Cosyn o waith gwrach laith lofr
Cosyn o flith[149] gofrith gafr.

Blysig, anniddig ei nâd,—yw meistres,
A mwstro mae 'n wastad;
Ni fyn mwy un arlwyad,
Na gwledd ond o gaws ein gwlad.

Myn Mair, onis cair y caws
Ar fyr, y gwr difyr dwys,
Ni bydd swydd, na boddio Sais,
Na dim mwy hedd i Dwm Huws.

Os melyn gosyn a gaf,—nid unwaith
Am dano diolchaf;
Milwaith, wr mwyn, y'ch molaf,
Hau'ch clod ar bob nod a wnaf.


ENGLYN A SAIN.

Pwy estyn bicyn i bwll—trybola,
Tra bo i'w elw ddeuswllt?
Trasyth fydd perchen triswllt,
Boed sych a arbedo swllt.



ARWYRAIN Y NENAWR

A wnaed yn Llundain, 1755.—(The Garret Poem).

CROESAW i'm diginiaw gell,
Gras Dofydd![150] gorau 'sdafell;
Golygle a gwawl eglur,
Derchafiad Offeiriad[151] ffur.
Llety i fardd gwell ytwyd
Na'r twrdd wrth y bwrdd a'r bwyd;
Mwy dy rin am ddoethineb,
Na gwahadd i neuadd neb:
Hanpwyf foddlon o honod,
Fur calch, on'd wyf falch dy fod?
Diau mai gwell y gell gu,
Ymogel na'th ddirmygu,
Nid oes, namyn difoes, da

Was taer, a'th ddiystyra;
Ai diystyr lle distaw
Wrth grochlef yr holl dref draw?
Lle mae dadwrdd gwrdd geirddad!
Rhwng puteiniad a haid hadl;
Torfoedd ynfyd eu terfysg,
Un carp hwnt yn crio pysg,
Tro arall, Howtra hora!
Crio pys, ffigys, neu ffa,
Gwich ben, â trwy'r ymenydd,
Dwl dwrf trwy gydol y dydd;
Trystiau holl Lundain trosti,
A'i chreg waedd ni charai gi.
Os difwyn (gwae ddi'stafell!)
Clywed, nid oes gweled gwell,
Gweled ynfyd glud anferth
O'r war a fynych ar werth;
Gwên y gŵr llys, yspys oedd,
Eddewidiwr hawdd ydoedd;
Cledd y milwr arwrwas,
Dwndwr yr eglwyswr glas,
Cyngor diffeith cyfreithwr,"
Trwyth y meddyg, edmyg wr;
Diod gadarn tafarnwas,
Rhyw saig gan ei frwysgwraig fras;
Rhad werthir pob rhaid wrthaw,
Corph, enaid, llygaid, a llaw
Ond na cheir (gan ddiweirdeb)
Brisiau am eneidiau neb,
Ond enaid annudonwr
A'i chware ffals, a chorph hŵr.

Dyna'r gair yn eu ffair ffol,
Dedwydd im' gell a'm didol,
Tua'r nen uwch eu penau,
Ammor it', ymogor mau!
Per awen i nen a naid,
Boed tanodd i buteiniaid,

Tra fo'm cell i'm castellu,
Ni'm dawr a fo i lawr o lu;
Ni ddoraf neuadd arall,
Ni chlywaf, ni welaf wall;
Heddyw pond da fy haddef?
A noeth i holl ddoniau Nef?
Gwelaf waith Ion, dirion Dad,
Gloyw awyr a goleuad,
A gwiwfaint fy holl gyfoeth,
Yw lleufer[152] dydd, a llyfr doeth,
A phen na ffolai benyw,
Calon iach a chorph bach byw,
Deuryw feddwl di orwag,
A pharhaus gof, a phwrs gwag,
A lle i'm pen tan nenawr,
Ryw fath, drichwe' llath uwch lawr.


CYWYDD AR WYL DDEWI, 1755,

I'w gyflwyno i'n Frenhinol Uchelder FFREDRIG Tywysawg Cymru, gan yr urddasol Gymdeithas o GYMRODORION yn Llundain.

GLYW[153] digamrwysg gwlad Gymru,
A'i chynydd, Llywydd ei llu;
Por odiaeth holl dir Prydain,
Penteulu hen Gymru gain
Llyw unig ein llawenydd,
Mwy cu in' ni bu ni bydd;
Eich anerch rhoddwch ini,
Ior glân, a chyngan â chwi;
Gwaraidd fych, D'wysawg eirioes,
Wrth ein gwâr ufuddgar foes.
Dychwelawdd (dan nawdd Duw Naf)
Dyddwaith in' o'r dedwyddaf

Diwrnod (poed hedd Duw arnynt)
Na fu gas i'n hynaif[154] gynt;
Diwrnod y câd iawnrad yw
Ym maniar Dewi Mynyw,[155]
Pan lew arweiniodd Dewi
Ddewr blaid o'n hynafiaid ni,
I gyrch gnif, ac erch y gwnaeth
Ar ei alon wrolaeth.
Ni rodd, pan enillodd, nod
Ond cenin yn docynod,
Cenin i'w fyddin fuddug
Nodai i'w dwyn, a da'u dug
Hosanna,[156] ddiflina floedd
Didawl ei amnaid ydoedd,
Gan Ddewi, ag e'n ddiarf,
Trech fu cri gweddi nag arf,
A Chymru o'i ddeutu ddaeth,
I gael y fuddugoliaeth;
Hwyntau, gan lwyddo'u hantur,
A glân barch o galon bur,
Er oesoedd a barasant
Addas wyl i Ddewi Sant
Ac urddo'r cenin gwyrddion
Yn goffhâd o'r hoywgad hon,
A bod trwy'n cynnefod ni,
Diolch i DDUW a Dewi.

Dewi fu 'n noddwr diwael,
Chwi ydyw ein hoywlyw hael,
Mae'r hanes im', Ior hynod,
A fu, y geill eto fod
Ar Dduw a chwi, rwydd eich iaith,
Yn gwbl y mae ein gobaith,
Pan gyrch Naf eich dewraf daid
I fynu, Nef i'w enaid,

I newid gwlad lygradwy
Am berffaith a milwaith mwy;
Iwch gael, pand yw hyfael hyn?
Rheoli pob rhyw elyn,
Gorchfygu talm o'r Almaen,
Taraw 'spêr hyd dir Yspaen,
Cynal câd yn anad neb
Tandwng, yn ddigytuneb,
I ostwng rhyfawr ystawd
Llyw Ffrainc, fal nad allo ffrawd;
A difa, trwy nerth Dofydd,
Ei werin ffals, a'r wan ffydd;
Danod eu hanudonedd
Yn hir cyn y rhoddir hedd.

Yn ol dial ar alon,
Rhial hardd yw 'r rheol hon,
Gorsang y cyndyn gwarsyth,
Bydd wlydd wrth y llonydd llyth,
Milwaith am hyn y'ch molir,
A'ch galwad fydd TAD EICH TIR,[157]
Gwr odiaeth a gwaredydd,
Yn rhoi holl Ewropa'n rhydd
Ac am glod pawb a'ch dodant
Yn rhychor i SIOR y Sant.


CYWYDD I DDIAWL.

Y Diafol, arglwydd dufwg,
Ti, du ei drem, tad y drwg,
Hen Suddas, atgas utgi,
Gelyn enaid dyn wyt ti;
Nid adwaen, yspryd ydwyt,
Dy lun, namyn mai Diawl wyt;

Od wyt hyll, ys erchyll son
Am danat y mae dynion,
A lluniaw erchyll wyneb,
A chyrn it' na charai neb;
Yn nghyrrau 'th siol anghywraint
Clustiau mul (clywaist eu maint;)
Ac ael fel camog olwyn;
Hychaidd, anfedrusaidd drwyn;
A'th dduryn oedd, waith arall,
Fal trwyn yr ab, fab y fall;
A sgyflfant rheibus gweflfawr,
Llawn dannedd og miniog mawr;
Camog o ên fel cimwch;
Barf a gait fel ped fait fwch;
A'th esgyll i'th ddwy ysgwydd,
Crefyll cyd ag esgyll gwydd;
Palfau 'n gigweiniau gwynias
Deng ewin ry gethin gas;
A'th rumen, anferth rwmwth,
Fal cetog was rhefrog rhwth.
Wfft mor gethin y din dau!
Ffei o lun y ffolennau!
Pedrain arth, pydru a wnel
A chynffon fwbach henffel;
Llosgwrn o'th ol yn llusgo,
Rhwng dy ddau swrn llosgwrn o;
A gwrthrych, tinffyrch tanffagl
Ceimion, wrth dy gynffon gagl,
A charnau 'n lle sodlau sydd,
Gidwm, is law d' egwydydd,
Er na nodawdd, o nawdd Naf,
Nemor un y mawr anaf.
Dyna 'th bortreiad anwiw,
Anffurfiawg ddelw, leuawg liw.
Rhyw erthyl wyt rhy wrthun;
Diawl wyt os cywir dy lun.

Er na nodawdd o nawdd Naf,
Nemor un y mawr anaf.
Dyna'th bortreiad anwiw,
Anffurfiawg ddelw leuawg liw;
Rhyw erthyl wyt rhy wrthun,
Diawl wyt, os cywir dy lun,

Y mae, os hwn ym mai sydd,
Lle i nodi truth lluniedydd.

Gwir ydyw rhai a gredynt
Yt ddwrdio Angelol[158] gynt,
Sori am i hurtni hwn
Ddiwyno mawredd annwn;
A thrychu fyth o'r achos,
Hyn a wnai'n nydd, yn y nos,
Nes gwneuthur parch (wrth d'arch di,
Satan) a llun tlws iti.

Minau, poed fel y mynych,
Dy lun, ai gwrthun ai gwych,
Rhof it gyngor rhagorawl,
Na ddŷd nemawr un i Ddiawl:

Gŵr y sy (gwae yr oes hon!)
Blaenawr yr holl rai blinion,
Ac yna daw drwy'th genad,
Yna rhuthr onide'n rhad,
Canys os hyn a fyn fo,
Lewddyn, pwy faidd ei luddio?
Gwr cestog yw'r taerog tost,
Dinam ti a'i hadwaenost;
A pha raid nod a phryd neb?
Annwn ni dderbyn wyneb;
A godlawd yw coeg edliw
I'r un ddim o'i lun a'i liw;
Digon o chaid honaid hau,
Gostog ryw faint o'i gastiau.

Dyn yw, ond heb un dawn iach,
Herwr, ni bu ddihirach,

Gŵr o gyneddf anneddfawl,
Lledfegyn rhwng dyn a diawl;
Rhuo gan wyn rhegi wna,
A damio 'r holl fyd yma;
Dylaith i bawb lle delo,
Llawen i bawb lle na bo;
Ofnid ef fel Duw nefawl,
Ofnid ef yn fwy na Diawl,
Ni chewch wyth yn y chwe chant,
O chuchia ef na chachant;
Cofier nad oes neb cyfuwch
Nid oes radd nad yw SYR uwch;
Marchog oedd ef (merchyg Ddiawl);
Gorddwy (nid marchog urddawl),
Marchog gormail, cribddail cred,
Marchog y gwyr a'r merched.

Nis dorai was di-arab,
Na chrefydd, na ffydd, na phab,
Cod arian y cyw diras
Yw crefydd y cybydd cas;
A'i oreudduw oedd ruddaur,
A'i enaid oedd dyrnaid aur,
A'i fwnai yw nef wiwnod,
A'i Grist, yw ei gist a'i god,
A'i eglwys a'i holl oglud,
Cell yr aur a'r gloyw-aur glud,
A'i ddu bwrs oedd ei berson,
A mwynhad degwm yn hon;
A'i brif bechod yw tlodi,
Pob tlawd sydd gydfrawd i gi;
A'i burdan ymhob ardal,
Yw gwario mwn, ac aur mâl;
A'i uffern eithaf aphwys,
Rhoi ei aur mân gloywlan glwys;`

Dyna yt, Suddas' dânwr,
Un neu ddau o gastiau'r gwr

Rhyw swrn o'r rhai sy arnaw,
Nid cyfan na'i draian draw.

Os fy nghynghor a ddori,
Gyr yn ol y gwr i ni;
Nid oes modd it ei oddef,
Am hyn na 'mganlyn âg ef
Nid oes i'r Diawl bydawl bwyll,
Ddiawl genyt, a ddeil ganwyll;
Yna os daw, nos a dydd,
Gwelwch bob drwg bwygilydd,
Diflin yw o chaid aflwydd,
I drin ei gysefin swydd;
Gyr byth, â phob gair o'i ben,
Dripharth o'th ddie:fl bendraphen;
Ac od oes yna gŵd aur,
Mâl annwn er melynaur;
O gŵr ffwrn dal graff arnaw,
Trwyadl oedd troad ei law;
A'r ile del gochel ei gern,
Cau ystwffwl cist uffern;
Gyr i ffordd oddiwrth d'orddrws,
A chur o draw, a chau'r drws;
A chrwydryn o chair adref,
Afreidiawl un Diawl ond ef.


ENGLYNION I DDUW

A ganwyd ychydig cyn myned i Rydychen, 1741.

Duw Tad, un (o'th rad) a thri,—Duw anwyl,
Daionus dy berchi;
Duw unig y daioni,
Clau yw fy nghred, clyw fy nghri.


Dy eiriau, Ion clau, clywais,—yn addo
Noddi pawb a'th ymgais;
Ymagored (mi gurais)
Y Nef wrth fy llef a'm llais.

Gellaist (i'th nerthog allu—nid yw boen)
Wneud y byd a'i brynu,
Yn D'wysog, un Duw Iesu,
Ti sydd, Ti fydd, Ti a fu.

Da gwyddost wrando gweddi—dy weision,
Dewisaist eu noddi;
A minau wyf, o mynni,
Duw Iesu dêg, dy was Di.

Gwaelaidd gynt yn bugeilo—fu Moesen
Ym maesydd hen Jethro;
Di roddaist hyder iddo,
A braint, a rheolaeth bro.

A'r Salmydd, cynydd Duw cu,—cof ydyw,
Cyfodaist i fynu;
O fugail, heb ryfygu,
Aeth Dafydd yn llywydd llu.

Minau, Duw Nef, o myni,—anerchaf
Hyn o archiad iti;
Bod yn fugail cail[159] Celi;[160]
A doed im' dy eglwys Di.

Ni cheisiaf gan Naf o nefoedd—gyfoeth,
Na gofal breninoedd;
Ond arail ŵyn ei diroedd,
Duw a'i gwnel, a digon oedd.

(A bendigaid fo'i enw, fe'i gwnaeth.)


ATEB, I GYWYDD

HUW HUWS. (y Bardd Coch), o Lwydiarth-Esgob ym Mon, a ganwyd yn Walton yn Lancashire, 1753.

PAHAM i fardd dinam doeth,
Pergerdd, celfyddgar, purgoeth,
Ofyn cân a chynghanedd
Gan ddigrain[161] was main nas medd?
Daw Nef a ŵyr, dyn wyf fi
Dirymiant, Duw'n dwr imi!
Deithryn adyn ydwyf.
Gwae fi o'r sud! alldud wyf.
Pell wyf o wlad fy nhadau,
O'ch son! ac o Fon gu fau;"
Y lle bum yn gware gynt
Mae dynion na'm hadwaenynt;
Cyfaill neu ddau a'm cofiant,
Prin ddau, lle 'r oedd gynau gant;
Dyn didol dinod ydwyf,
Ac i dir Mon estron wyf;
Dieithr i'n hiaith hydriaith hen,
Dieithr i berwawd awen,
Gofidus, gwae fil ydwyf
Wrth son, a hiraethus wyf;
Gan athrist frondrist fraendroch,
Ni chyngan hoyw gân âg och,
Mewn canu namyn cwynaw,
Ni chytgais na llais na llaw.
Pobl anwar Pabyloniaid,
Dreiswyr blin, draws arw blaid,
Ou gwledydd tra dygludynt
Wyr Seion yn gaethion gynt,
Taergoeg oedd eu gwatworgerdd
"Moeswch ac nac oedwch gerdd."
"Gwae ni o'r byd dybryd hwn,"
Cwynent,[162]
"Pa fodd y canwn,

Gerdd Ion mewn tir estronol,
A'n mâd anwylwlad yn ol?
Ni bu, dref sorth, tan orthrech
Fy nhrem am Gaersalem sech;
Os hawdd yr anghofiais hi,
Del ammorth yn dâl imi,
Anhwylied fy neheulaw,
Parlys ar bob drygfys draw,
A'm tafod ffals gwamalsyth,
Ffered yn sych baeled byth.

Llyna ddiwael Israeliad!
Anwyl oedd i hwn ei wlad;
Daear Mon, dir[163] i minau
Yw, o chaf ffun, i'w choffau,
Mawr fy nghwynfan am dani,
Mal Seion yw Mon i mi;
O feinioes ni chaf fwyniant
Heb Fon, er na thôn na thant;
Nid oes trysor a ddorwn,
Na byd da 'n y bywyd hwn,
Na dail llwyn, na dillynion,
Na byw hwy, onibai hon.
Troi yma wnaf, tra myn Ner,
O'm hedfa oni'm hadfer,
Duw Nefol a'm deoles,
Duw'n rhwydd im', a llwydd a lles,
CRIST D'wysog, eneiniog Nef,
Cedrwydd,[164] a'm dyco adref.

CYWYDD Y GWAHAWDD,

Sent from Northolt, Middlesex, to Mr. William Parry, Deputy-Comptroller of the Mint, 1755.

PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf;
A gwr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf finau;
A thi'n Llundain, wr cain cu,
On'd gwirion iawn dy garu?
On'd tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.

Dithau ni fyni deithiaw
O dref hyd yn Northol draw,
I gael cân (beth diddanach?)
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd hyd y flwyddyn,
Yw troi o gylch y Twr Gwyn,
A thori, bathu arian,
Sylltau a dimeiau mân;
Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach;
Dyfydd o fangre'r dufwg,
Gad, er nef, y dref a'i drwg;
Dyred, er daed arian,
Ac os gwnai ti a gai gân,
Diod o ddwr, doed a ddel,
A chywydd, ac iach awel,
A chroeso calon onest,
Ddiddichell, pa raid gwell gwest?
Addawaf (pam na ddeui?)
Ychwaneg, ddyn teg, i ti;
Ceir profi cwrw y prif—fardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi o'n cain adail,

Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail;
A diau pob blodeuyn
A yspys ddengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan Ior, Duw a'i gwnaeth.
Blodau'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant;
Hardded wyt ti, 'r lili lân!
Lliw'r eira, uwch llaw'r arian,
Cofier it' guro cyfoeth
Selyf, y sidanbryf doeth.
 
Llyna, fy nghyfaill anwyl,
Ddifai gwers i ddof a gwyl;
Diffrwyth fân flodau'r dyffryn,
A dawl wag orfoledd dyn;
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd;
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Y fory oll yn farw wyw;
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn;
Gnawd i ardd, ped fai'r harddaf,
Edwi, 'n ol dihoeni haf.
Tyred rhag troad y rhod,
Henu mae'r blodau hynod;
Er pasio'r ddau gynhauaf,
Mae'r hin fal ardymyr haf,
A'r ardd yn o hardd ddi haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrddail yn deg irdda
Eto, ond heneiddio wna;
Mae'n gwywo, 'min y gauaf,
Y rhos a holl falchder haf;
Y rhos heneiddiodd y rhai'n,
A henu wnawn ni'n hunain;
Ond cyn bedd, dyma 'ngweddi

(Amen, dywed gyd a mi):—
"Dybid i'n ddyddiau diboen,
A dihaint henaint o hoen;
Myn'd yn ol, cyn marwolaeth,
I Fon, ein cysefin faeth;
Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau,
A'r dydd (Duw ro amser da)
Y derfydd ein cyd-yrfa,
CRIST yn Nef a'n cartrefo,
Wyn fyd a phoed hyny fo."


ENGLYN I JOHN DEAN,[165]

Y Llongwr melynaf yn y deyrnas yma, 1754.

MOLIANT am bob peth melyn,—am yr haul,
A merhelyg dyfrllyn;
Am Sion Den, a chwyr gwenyn,
A mad aur, petai 'maw dyn.



MARWNAD

I'r elusengar a'r anhepgor wrda, Mr. JOHN OWEN, o'r Plas yng Ngheidio, yn Lleyn, 1754.

1. Unodl union.

GWAE Nefyn gwae Leyn gul wedd!—gwae Geidio!
Gwae i giwdawd[166] Gwynedd!
Gwae oer farw gwr o fawredd!
Llwyr wae! ac y mae ym medd!


2. Proest Cyfnewidiog.

Achwyn mawr, och in' y modd!
Nid ael sech ond wylo sydd,
Gwayw yw i bawb gau y bedd
Ar Sion Owen berchen budd.


3. Proest Cadwynog.

Cadd ei wraig bêr drymder draw,
Am ei gwaraidd lariaidd lyw;
A'i blant hefyd frwynfryd[167] fraw,
Odid un fath dad yn fyw.


4. Unodl Grweca.

Mawr gwynaw y mae'r gweinion,
Gwae oll y sut golli Sion
Ni bu rwyddach neb o'i roddion,—diwg,
Diledwg i dlodion.


5. Unodl Gyrch.

Llyw gwaraidd llaw egored,
Rhwydd a gwiw y rhoddai ged;
Mwynwych oedd (y mae'n chwith!
Digyrith da ei giried.[168]


6. Cywydd Deuair hirion

Gwrda na phrisiai gardawd,
Ond o les a wnai i dlawd;


7. Cywydd Deuair byrion.—8. Awdl Gywydd.—9. Cywydd Llosgyrnawg.—a 10. Thoddaid ynghyd.

Ni bu neb wr,
Rhwyddach rhoddwr:
A mawr iawn saeth ym mron Sion,
Cri a chwynion croch wanwr.
Llawer teulu (llwyr eu toliant,
A'u gwall!) eusus a gollasant,
Syn addiant! Sion i'w noddi.

Bu ŷd i'w plith, a bwyd i'w plant,—eu rhaid
Hyd oni ailgaid yn y weilgi.


11. Gwawdodyn byr.

Sion o burchwant (os un) a berchid,
Synwyr goreu, Sion wâr a gerid,

Sion a felus iawn folid:—pan hunodd
Sion Owen gufodd, syn yw'n gofid.


12. Gwawdodyn hir.

Chwychwi y gweiniaid, och eich geni!
A marw'ch triniwr, mawr yw 'ch trueni!
Pwy rydd luniaeth (pa rodd y leni!)
Yn ail i Sion, iawn eleuseni?
Oer bod achos i'r byd ochi,—nis daw,
Er gofidiaw awr i gyfodi.


13. Byr a Thoddaid.

Ar hyd ei fywyd o'i fodd,—iawn haelwas,
Yn helaeth y rhanodd,
A'i Dduw eilwaith a addolodd,
Wiw ban dethol, a'i bendithiodd;
Diwall oedd, a da y llwyddodd,
Am elw ciried mil a'i carodd,
Hap llesol, pwy a'i llysodd?—Duw Un-Tri,
Ei Geli a'i galwodd.


14. Hir a Thoddaid

Wiwddyn cariadus, i Dduw Ion credodd,
Hoff oedd i'w Geidwad, a'i ffydd a gadwodd,
O'i orchymyn, i wyraw o chwimiodd,
Da fu y rheol, edifarhaodd,
Ym marwolaeth, e 'moralwodd[169]—â'i Ner,
A Duw, orau Byw-ner, a'i derbyniodd.


15. Hupynt byr

Os tra pherchid
O mawr eurid
Am arwredd
Deufwy cerid
Mwy yr enwyd
Am ei rinwedd


16. Hupynt hir.

Am ei roddion, a'i 'madroddion,
Hoyw wr cyfion, hir y cofier:
Ei blant grasol, Gan Dduw nefol,
Fwyn had ethol, a fendithier.—


17. Cyhydedd fer

Cu hil hynaws, cael o honynt,
Duw'n dedwyddwch, di'n Dad iddynt;
Yn ymddifaid na 'moddefynt
Gyrchau trawsder gwarchod trostynt.


18. Cyhydedd hir.

I'w gain fain fwynhael briod, hyglod hael,
Duw tirionhael, dod ti hir einioes;
Rhad ddifrad ddwyfron, amledd hedd i hon,
I hwylio'i phurion hil hoff eirioes.


19. Cyhydedd 9 ban.

Am a wna Wiliam[170] mwy na wyled,
Diwyd haelioni ei dad dilyned;
A digas eiriau da gysured,
Och a mawrgwyn ei chwaer Marged.


20. Clogyrnach.

Os rhai geirwir sy wŷr gorau,
I fyd saint e fudes yntau;
Draw, ddifraw ddwyfron,
I fâd lwysgad lon
Angylion yngolau.


21. Cyrch a Chwta.

Yn wych byth, ddinych y bo,
Yn iach wiwddyn (och!) iddo

Mae hi'n drist am hyn o dro,
Wir odiaeth wr ei ado;
Ni wiw i ddyn waeddi, O!
Och! war Owen! a chrio,
Dal yn ei waith, dilyn ef,
I'r wiwnef, fe'i ceir yno.


22 Gorchest y Beirdd.

Nid oes, Ion Dad, Na'n hoes, na'n had,
Na moes na mâd, na maws mwyn;
Dy hedd, Duw hael, Main fedd mae'n fael, .
A gwedd ei gael e gudd gŵyn


23. Cadwyn fyr,

Yn iach wrol oen awch araf,
I'r hygaraf wr rhagorol;
Ef i'w faenol a fu fwynaf,
Un diddanaf enaid ddoniol.


24. Tawddgyrch Cadwynog,
o'r hen ddull gywraint, fel y canai'r hen Feirdd; ac ynddo mae godidowgrwydd gorchestwaith, a chadwyn ddidor trwyddo.

Dolur rhy drwm! dramawr benyd,
Boenau dybryd, ebrwydd ddidol
Dwl Llyn a llwm, llai mael Gwyndyd,
Gan doi gweryd gwr rhagorol
Dirfawr adfyd, odfa ddyfryd,
Ddifrif oergryd, fyd anfadol
Dygn i'w edryd, adrodd enyd,
Ddwyn eu gwynfyd cyd, un cedol.


Arall o'r ddull newydd drwsgl, ar y groes gynghanedd, heb nemawr o gadwyn ynddo, ac nid yw'r fath yma amgen na rhyw fath ar gadwyn fyr gyfochr, a hupynt hir ynglyn a'u gilydd.

Doluriasant, dwl oer eisiau
Erinweddau, wr iawn noddol,

Llai eu ffyniant oll i'w ffiniau
Heb ei radau bu waredol
Cofiwn ninau ddilyn llwybrau
Ei dda foddau, oedd wiw fuddiol
Cawn, fal yntau, i'n heneidiau,
Unrhyw gaerau, Oen rhagorol.


CYWYDD I OFYN FFRANCOD,

GAN WILLIAM FYCHAN, ESQ.[171], O GORS-Y-GEDOL, A NANNAU,[172] 1754.

Y GWR addwyn, goreuddeddf,
Ni wn wr oll yn un reddf,
Gwr ydych gorau adwaen,
Och b'le y cair un o'ch blaen;
Yn ail i chwi ni welais,
Naws hael, o Gymro na Sais,
Gwr od,[173] Ysgwier, ydych
Ar bawb, a phoed hir y bych,
Ym Meirion lwys, am roi'n lần
Haelaf achau hil FYCHAN,
Hael yn unwedd, hil Nannau,
Dau enwau hil dinaghau;
Hil glân, a ŵyr heiliaw gwledd,
Blaeniaid ar holl bobl Wynedd?
O chyrchent, rho'ech i eirchiaid.
Ddawn a rhodd ddien i'w rhaid,
Ni bu nâg i neb yn ol,
Na gwâd o Gors-y-gedol,
Gwir ys! henwi'r Gors hono
Yn Gedol, freyrol[174] fro;
Cors roddfawr, o bwyf awr byw,
Un gedol[175] ddinag ydyw;
Gras a hedd yn y Gors hon,

Lle a hiliwyd llu o haelion!
Yn y dir[176] rwy'n ymddiried,
A gwn y cair ynddi ged,
A ched a archaf i chwi,
A rhwydd y bych i'w rhoddi.

Ior mau, os wyf o rym sal,
Dyn ydwyf dianwadal,
O serchog, dylwythog lin,
Dibrinaf ddeiliaid brenin;
Ail llanw môr yw y llin mau,
Ceraint i mi 'mhob cyrau,
Ym Mon a Llanerch-y-medd,
A Llyn, a thrwy holl Wynedd,
Yn llinyn yno llanwent,
Hapus gylch Powys a Gwent,
Diadell trwy'r Deaudir,
Rhaid oedd, a thrwy bob rhyw dir.
Ein hynaif iawn wahenynt
Bedair rhan o'r byd ar hynt;
Dwy oludog, dew, lydan,
Duw Ion a ŵyr, a dwy'n wan;
O gyfan bedair rhan byd,
Dwyran i mi y deiryd;
Ac aml un yn dymunaw
Waethaf o'u llid! waith fy llaw;
A rhwydd wyf i'r rhiaidd yrr
Llwythawg i yru llythyr,
Ond na fedd dyn, libyn lu,
Diles mo'r modd i dalu.

Gwyn ei fyd egwan a fedd
Wr o synwyr o'r Senedd,
A'i dygai'n landdyn digost
I selio ffranc, ddisalw ffrost!
Minau, fy mawr ddymuniad
Yw cael gan wr hael yn rhad,

Ffrancod eglur, Mur Meirion,
O ran mael i 'Ronwy Mon.

Hefyd nid Ffrainc anhyfaeth,
Dyn o dir Ffrainc, dwndwr ffraeth;
O'r rhwyddaf i'm y rhoddech
O'r lladron chwidron naw chwech;
Er mai gormodd, wr noddawl,
Yw rhif deg rh'of fi a diawl;
Deuddeg o chaf ni'm diddawr,
Ni'ch difwyn, y gwr mwyn mawr;
Hyny dâl, heb ry sal bris,
Lawer o Ffrancod Lewis,[177]


PROEST CADWYNODL BOGALOG,

A math o watworgerdd yw, ar yr hen Englyn bogalog, O'i wiw wy i weu e a, &c.

O'i wiw wy a weu a e,
Ieuan o ia, ai e, yw?
Ai o au weuau a we
A'i au i wau ei we wyw?



AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT,

Arglwydd Llwdlo, cyntafanedig fab ardderchawg Iarll Powys, 1756.

MOES erddigan a chanu,'
Dwg i'n gerdd dêg, awen gu,
Trwy'r dolydd taro'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.


Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd;
Ni cherdd a folianoch chwi
Dir angof, er ei drengi;
Prydyddwch, wŷr per diddan,
Anfarwol, ragorol gân,
Fel y cant Corybantau
Y dydd pan y ganed Iau[178]
Hawdd fodd i'w ddyhuddo fu
O waith beirdd a thabyrddu.

Ganed i ninau gynawr,
Un a haedd gân, maban mawr!
Ein tynged pan ddywedynt
Bu wirdda gair y beirdd gynt;
Coeliaf o ddyfnder calon.
Am yr oes aur, eu mawr son.

Cynydd, y maban ceinwiw,
Hil mawrion wŷr gwychion gwiw!
Cynydd, fachgen! gwen gunod,
I mi'n dâl am awen dôd.

Croesaw'm myd hefyd i ti,
Tirionwaed da rieni;

Gwrda fych, fel eich gwirdad,
A gwych y delych chwi'n dad,
A phoed i'w taid gofleidiaw
Eich meibion llon ymhob llaw
Ac yno boed rhwng gwiwnef
Gyd ddal y gofal âg ef.

Dengys, yn oed ieuangwr,
Tra fych a wnelych yn wr,
Ac ym mysg pob dysg y daw,
Gweithred odidog athraw;
Os o hedd melys, a hir
Lwyddiant y'ch gorfoleddir;

Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion;
Gwelwch yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaew-gochion gynt;
O deg irdwf, had gwyrda
A gnawd[179] oedd o egin da!
Nid oes gel o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.
Drwy ba orfod y codi?
Dylid aer gan dy law di,
Pa esgar, pwy a wasgud?
Pwy wyra d'eirf? Pa ryw dud?
Duw wnel yt' roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.

Diau na ladd rhydain[180] lew,
Adwyth i dylwyth dilew;
Anog bygylog elyn,
Afraid i Frutaniaid hyn.

Ai arwylion oer alaeth,
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant,
O'ch o'r gwymp drachwerw gânt!
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf
Pa les a wna'u diles dorf?
Torf yn ffwyr[181] gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,

Ac a dâl â gwaed eilwaith
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.

Os Sior, oreubor, o rym
Rhyfelwr, ac eirf Wilym,[182]
A âd ddim i do a ddaw
Deled bri Ffrainc i'ch dwylaw;
A deled, Duw a iolaf,[183]
I chwi fyd hawdd, a nawdd Naf;
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch;
Ac yno cewch deg enyd
I orphwys o bwys y byd;
I fwynhau llyfrau a llên
Diwyd fyfyrdod awen;
Ac, oni feth y gân fau,
Syniwch a genais inau;
Fardd dwy-iaith, dilediaith lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen,
Hyfryd, tra rheto Hafren.
Ac yno tra bo, trwy barch,
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymru gain.


BONEDD A CHYNEDDFAU'R AWEN.

Bu gan HOMER gerddber gynt
Awenyddau, naw oeddynt;
A gwiw res o dduwiesau,
Tebyg i'w tad, iawn had Iau;
Eu hachau, o ganau gynt,
Breuddwydion y beirdd ydynt.


Un Awen a adwen i,
Da oedd, a phorth Duw iddi,
Nis deirydd, baenes dirion,
Naw merch cler Homer i hon.

Mae'n amgenach ei hachau,
Hŷn ac uwch oedd nag âch Iau,
Nefol glêr[184] a'i harserynt,
Yn nef y cai gartref gynt
A phoed fâd i wael adyn
O nef, ei hardd gartref gwyn;
Dod, Ion, im' ran ohoni,
Canaf ei chlod hoywglod hi
Llwyddai yn well i eiddil
Borth tau, na thafodau fil.
Dywaid, pa le caid awen
Cyn gosod rhod daear hen,
A chael o'r môr ei ddorau,[185]
A thyle dŵr o'th law dau,
A bod sail i'th adailad,[186]
Ein Creawdr, Ymerawdr mad?

I'r Nef ar air Naf yr oedd,[187]
Credaf pand cywir ydoedd?
Ser bore a ddwyreynt
Yn llu i gyd ganu gynt;
Canu'n llon hoywlon eu hawdl,
Gawr floeddio gorfoleddawd!!
Ac ar ben gorphen y gwaith,
Yn wiwlan canu eilwaith;
Caed miloedd o nerthoedd nef
Acw'n eilio cân wiwlef,
Meibion Nef yn cydlefain
A'u gilydd mewn cywydd cain:—

"Perffaith yw dy waith,[188] Duw Ion,
Dethol dy ffyrdd a doethion,

A mâd ac anchwiliadwy,
Dduw mawr ac ni fu ddim mwy
Per lefair cywair eu cân,
Pob ergyr[189] fal pib organ,
Can mil—ddwbl acen amlddull,
Llawn hoen, heb na phoen na ffull.

Gwanai ei gwiwdeg hoenwawr,
Ewybr eu llef, wybr a llawr,
Fe'i clywai'r ser disperod,
Llemain[190] a wnae rhai'n i'w rhod;
Ffurfafen draphen a droe,
Ucheldrum nef a chwildroe;
Daeth llef eu cân o nefoedd,
Ar hyd y crai fyd, cryf oedd;
Adda Dad, ym Mharadwys,
Clywodd eu gwawr leiswawr lwys;
Hoffai lef eu cerdd nefawl,
Ac adlais mwynlais eu mawl;
Cynhygiai eu cân hoywgerdd,
Rhoe ymgais ar gais o'r gerdd;
Difyr i'w goflaid Efa,
Glywed ei gân ddiddan dda;
Canai Efa, deca' dyn,
Canai Adda, cain wiwddyn;
Canent i'w Ner o ber berth,
O'r untu, hyd awr anterth;
Ac o chwech ymhob echwydd,
Pyncio hyd nad edwo dydd.
Cân Abel oedd drybelid,
Diddrwg, heb hyll wg a llid.
Anfad ei gân, bychan budd
Acen lerw—wag Cain lawrudd,—
Ni chydfydd awenydd wâr
A dynion dybryd anwar
Ion ni rydd hyn o roddiad,

Wiwles, ond i fynwes fad.
Cynar o beth yw canu,
Awen i Foesen a fu;
Awen odiaeth iawn ydoedd,
Wrth adaw'r Aifft anghraifft oedd.
Cant, cant, a ffyniant i'w ffydd,
Cyn dyfod canu Dafydd;
Pyncio wnae fe fal pencerdd
Nefol, a rhagorol gerdd;
Prydodd dalm o ber Salmau,
Fwyned im' ynt, f'enaid mau!
Canu dwsmel, a thelyn,
Yn hardd a wnai'r gwiwfardd gwyn,
Gyd â'i law ydd ai'r awen,
Wi, wi, i'r llaw wisgi wen!
Ewybr oedd y boreuddydd,
Ei lais ym min dichlais dydd:—
Deffro fy nabl, parabl per!
I ganu emyn Gwiwner,
I'm Ion y rhof ogoniant,
A chlod, â thafod, â thant;
Am ganu ni fu, ni fydd,
Hoyw ei fawl, ei hefelydd.

Awen bêr wiwber ei waith,
Oedd i Selyf, ddisalw eilwaith,
Fe gant gân gwiwlan y gwau,
Can odiaeth y Caniadau;
Pwy na char ei Ros Saron,
Lili, a draenllwyni llon?
Y mae'n ail y mwyn eiliad
I gywydd Dafydd ei dad
Dygymydd Duw ag emyn,
O awen dda, a wna ddyn,
Prawf yw hon o haelioni
Duw Nef, a da yw i ni.
Llesia gân yn llys gwiwnef,

Mawr gerth yw ei nerth yn nef;
Pan fo'r côr yn clodfori,
Cydlef llu nef oll â ni;
Ac ateb cân yn gytun,
Daear a Nef a dry 'n un.

Dyledswydd a swydd hoyw sant,
Yw gwiw gân a gogoniant;
Dysgwn y fad ganiad gu,
Ar fyr awn i'w harferu;
Cawn awenlles cân unllef
Engyl â ni yngolau Nef,
Lle na thaw ein per awen,
Sant, Sant, Sant! moliant. Amen.


IEUAN BRYDYDD HIR

A brydw's FARWNAD I FFREDRIG TYWYSAWG CYMRU, ac Offeiriad Tregaron a ddywawd, Nad oedd ynddi nac iaith na chynghanedd; am hyny yr heriawdd yr Ieuan ef; a chanu o ORONWY i'r IEUAN fal hyn, 1752.

CWYNFAN o fu o'r cynfyd,
Gan y beirdd ar goegni byd;
Tra fo llên ac awenydd,
A chân fwyn, achwyn a fydd.
Gwyfyn, du elyn dilyth
Awen, yw cenfigen fyth;
Cenfigen ac awenydd
Ym mhob llin, finfin a fydd;
O dwf llawn, dwy efell ynt,
O chredi, dwy chwaer ydynt;
Dwy na wnaed i dynu'n ol,
Dwy ydynt pwy a'u didol?
Ni wneir o fron anaraul
Ond cysgod, er rhod yr Haul,

A diwad ydyw, Ieuan,
Bron sydd na chydfydd â chân.
Wrth Homer wiw, gerddber gynt,
Gwyddost mor eiddig oeddynt;
Hurtaf o ddyn a'i hortiai,
Miwail[191] ei fydr, aml ei fai;
Gwael oedd ei gerdd, pencerdd per,
Os coeliwn Soyl[192] ysceler.
Maro a orug mowrwaith,
Bas y gwyl Bawas[193] y gwaith;
Ni pharchwyd gradd onaddun,
Mawr oedd cas Horas ei hun.
Er Dofydd, pwy'n wr difai
A fu 'rioed, na feiai rai?
Bu gylus gwaith Mab Gwilym,
A'i gerdd gref, agwrdd ei grym.
Pawb a'i cenfydd, o bydd bai,
A bawddyn, er na byddai
A diau, boed gau, bid gwir,
Buan ar fardd y beiir.
E geir, heb law'r offeiriad,
Gan' bron yn dwyn gwŷn a brad,
Milweis eiddig, ma! Suddas,
Heb son am Dregaron gas.
Dos trwy glod, rhagod er hyn,
Heria bob coeg ddihiryn,
A dilyn fyth hyd elawr
O hyd y gelfyddyd fawr.
Od oes wŷr å drygfoes draw,
Afrywiog i'n difriaw;
Cawn yn hwyr, gan eu hwyrion,
Na roes y ddihiroes hon.


PEDWAR ENGLYN MILWR,

Yn cyfarch y Bardd, o waith IEUAN BRYDYDD HIR, o Geredigion.

HANBYCH Well, Goronwy Ddu,
Y Dryw o Fon, fam Gymru
Gwr prif y rhif am fydru.

Ni wybuum dy elfydd.
Am offrydiaw awenydd,
O Gybi Mo' i Gaerdydd,
 
Yn yr oesoedd cysefin,
Oeddynt feirdd prif, Taliesin
Llywarch Hen, a'r ddau Ddewin[194]

Daroedd heddyw arwyrain,
Etwa gwell nog un o'r rhain,
Y prifardd Gronwy Owain.


YR IEUAN

Nid atepawdd mo'r Cywydd, t.d, 104, namyn gyru gyda WILLIAM FYCHAN, ESQ., o Gorysgedol, ym mhen pedair blynedd, bedwar Englyn Milwr [uchod] i'm hanerch i Lundain; a'r Awndl hon a gafodd yn ateb iddynt, 1756.

A'M rhoddes Rheen riaidd anrheg,
Anian hynaws, asgre faws fwyndeg,
Araf iaith aserw, dichwerw chweg—awen,
A gorau llen, llefn Frythoneg,
Neut wyt gyfeillgar, car cywirdeg―ddyn,
Neud wyf gas erlyn, gelyn gysteg.

Mi piau molawd, gwawd Gwyndodeg,
Gnawd i'r a folwyf fawl anhyfreg,
Haws y'm llawch hydr no chyhydreg—â mi,
Hanbyd o'm moli mawl ychwaneg.

Ceneist foliant fal nad attreg—ym hwnt,
Dy foli, pryffwnt praff Gymraeg.

Wyt berchen awen ben, baun hoendeg,
Wyt ynad diwad Deheubartheg,
Odid hafal, hyfwyn osteg, i ti,
Blaenawr barddoni, bri Brythoneg,
Gwelais ofeirdd, afar waneg,—o wŷn
Yn malu ewyn awen hyllgreg,

Neu mi nym dorfu dyrfa ddichweg,
Beirdd dilym, dirym, diramadeg,
Ciwed anhyfaeth, gaeth ddigoethdeg—leis
Sef a'u tremygeis megys gwartheg;
Gweleis feirdd cywrein, mirein, mwyndeg—lu,
Moleis eu canu, cynil wofeg.

Er a ryweleis, ceis cysondeg,
Ny weleis debyg dy bert anrheg,
Ieuan, mwy diddan no deuddeg—wyt ym,
Fardd erddrym, croywlym, grym gramadeg:


ARWYRAIN Y CYMRODORION.

Ar y Pedwar Mesur ar Hugain, 1755.

1. Englyn Unodl Union.

MAWL i'r Ion! aml yw ei rad,—ac amryw
I Gymru fu'n wastad
Oes genau na chais ganiad,
A garo lwydd gwyr ei wlad?


2. Proest Cadwynodl.

Di yw ein Tŵr. Duw a'n Tad,
Mawr yw'th waith ym môr a thud;
A oes modd, O Iesu mad,
I neb na fawl, na bo'n fud?


3. Proest Cyfnewidiog.

Cawsom fâr llachar a llid,
Am ein bai yma'n y byd;
Tores y rhwym, troes y rhod,
Llwydd a gawn, a llawn wellhad.


4. Unodl grwcca.

Rhoe Nefoedd yr hynafiaid
Dan y gosp, a dyna gaid;
Llofr a blin oll a fu'r blaid,—flynyddoedd,
Is trinoedd estroniaid.


5. Unodl Gyrch.

Doe Rhufeinwyr, dorf, unwaith
I doliaw'n hedd, dileu'n hiaith,
Hyd na roes Duw Ion, o'i rad,
O'r daliad wared eilwaith


6. Cywydd Deuair hirion.

Aml fu alaeth mil filoedd,
Na bu'n well, ein bai ni oedd.


7 Cywydd Deuair fyrion, ac—8. Awdl Gywydd ynghyd.

Treiswyr trawsion
I'n iaith wen hon.
Dygn adwyth digwyn ydoedd
Tros oesoedd, tra y Saeson.


9. Cywydd Llosgyrnog, a—10. Thoddaid ynghyd.

Taerflin oeddynt hir flynyddoedd,
Llu a'n torai oll o'n tiroedd
I filoedd o ofalon:
Yno, o'i rad, ein Ner Ion—a'n piau
A droe galonau drwg elynion.


11. Gwawdodyn hir

Ion trugarogonid rhagorol
Y goryw'r[195] IESU geirwir rasol?
Troi esgarant[196]traws a gwrol—a wnaeth,
Yn nawdd a phenaeth iawn ddiffynol.


12. Gwawdodyn hir.

Coeliaf, dymunaf, da y mwyniant,
Fawr rin Taliesin, fraint dilysiant;
Brython, iaith wiwlon a etholant
Bythoedd, cu ydoedd, hwy a'i cadwant,
Oesoedd, rai miloedd, hir y molant—Ner
Moler; i'n Gwiwner rhown ogoniant.


13. Byr a Thoddaid.

A ddywedai eddewidion, a wiriwyd
O warant wir ffyddlon,
Od âi'n tiroedd dan y taerion,
Ar fyr dwyre[197] wir Frodorion,
Caem i'r henfri Cymry hoenfron,
Lloegr yn dethol llugyrn doethion,
Llawn dawn dewrweilch Llundain dirion,—impiau
Dewr weddau Derwyddon.


14. Hir a Thoddaid.

Llwydd i chwi, eurweilch, llaw Dduw i'ch arwedd,
Dilyth eginau, da lwythau Gwynedd;
I yrddweis Dehau urddas a dyhedd,
Rhad a erfyniwn i'r hydrwiw fonedd;
Bro'ch tadau, a bri'ch tudwedd,—a harddoch,
Y mae, wŷr, ynoch emau o rinwedd.


15 Hupynt byr

Iawn i ninau
Er ein rhadau
Roi anrhydedd
Datgan gwyrthiau
Duw, Wr gorau
Ei drugaredd


16. Hupynt hir.

Yn ein heniaith
Gwnawn gymhenwaith
Gân wiw lanwaith
Gynil union
Gwnawn ganiadau
A phlethiadau
Mal ein tadau,
Moliant wiwdôn


17. Cyhydedd fer.

Mwyn ein gweled mewn un galon;
Hoenfryd eurweilch, hen frodorion,
Heb rai diddysg, hoyw brydyddion,
Cu mor unfryd, Cymru wenfron


18. Cyhydedd hir.

Amlhawn ddawn, ddynion, i'n mad henwlad hon,
E ddaw i feirddion ddeufwy urddas,
Awen gymhen gu, hydr mydr, o'i medru,
Da ini garu doniau gwiwras.


19. Cyhydedd naw ban.

Bardd a fyddaf, ebrwydd ufuddol,
I'r Gymdeithas, wŷr gwiw, a'm dethol,
O fri i'n heniaith, wiw frenhinol,
Iawn, iaith geinmyg, yw ini'th ganmol.


20. Clogyrnach.

Fy iaith gywraint fyth a garaf,
A i theg eiriau, iaith gywiraf,
Iaith araith eirioes, wrol, fanol foes,
Er f'einioes, a'r fwynaf.


21. Cyrch a chwta

Neud, esgud un a'i dysgo,
Nid cywraint ond a'i caro,
Nid mydrwr ond a'i medro,
Nid cynil ond a'i cano,

Nid pencerdd ond a'i pyncio,
Nid gwallus ond a gollo
Natur ei iaith, nid da'r wedd,
Nid rhinwedd ond ar hono.


22. Gorchest y Beirdd.

Medriaith mydrau,
Wiriaith eiriau,
Araith orau,
Wyrth eres.
Wiwdon wawdiau,
Gyson geisiau,
Wiwlon olau,
Lân wiwles.


23. Cadwyn fer.

Gwymp odiaethol gamp y doethion,
A'r hynawsion wŷr hen oesol:
Gwau naturiol i gantorion
O hil Brython, hylwybr ethol.


24. Tawddgyrch cadwynog.

O'ch arfeddyd wŷch wir fuddiol,
Er nef, fythol, wyr, na fethoch:
Mi rof enyd amryw fanol,
Ddiwyd, rasol, weddi drosoch;
Mewn serch brawdol diwahanol,
Hoyw-wyr doniol, bir y d'unoch,
Cymru'n hollol o ddysg weddol,
Lin olynol, a lawn lenwoch.


TRI ENGLYN MILWR,
Yn ol yr hen ddull,

Am a'i prydawdd, o dawr pwy,
Sef a'i prydes Goronwy,
Neud nid lith na llesg facwy.[198]


Ys oedd mygr iaith gysefin,
Prydais malpai mydr Merddin
Se[199] nym lle, nym llawdd gwerin.

Neu, nym doddyw gnif[200] erfawr,
Gnif llei no lludded echdawr,
A'm dyffo[201] clod, gnif ny'm dawr.


CYWYDD Y CRYFION BYD.

Pwy fal doethion farddoni,
Neu pa faint na wypwyf fi?
Os hylon a fu Selef,
Mi a wn gamp mwy nac ef;
Dwys yw 'r hawl diau sy rh'om,
Bernwch uniondeb arnom;
Mynnwn gael dadl am ennyd,
A barn yn nghylch Cryfion Byd.
Tri chryf i Selyf y sydd,
Ie diriaid bedwerydd:
Llew anwar, hyll ei wyneb,
Preiddiol, na thry 'n ol er neb;
Milgi hirsafn, ysgafndroed,
Heb wiwiach ci; a Bwch coed.
Ner trech o rwysg na 'r tri chryf,
Os holwn, fu i Selyf;
Brenin a phybyr wyneb,
Erfai, na 's wynebai neb.
Dyna, boed cof am danynt,
Ei bedwar; rhai anwar ynt.

Ni chelaf, gwn na choeliech,
Myfi a wn dri sydd drech:
O honynt dau a henwaf,
Didol un yn ol a wnaf,
O chwant caffael rhoi i chwi

Ddameg i'w hadrodd imi.
O gadarn pwy a gydiaf,
Am gryfder certh, à nerth Naf?
Nis esguswn na 's gesyd
A'i gwnaeth yn bennaeth i'r byd.
Er ised oedd yr Iesu,
O inged yw Angau du!
Dilys i'r Angau dulew
Heb ymladd yn lladd y Llew.
Y Milgi llym, miweilgoes,
A red, ond ni chaiff hir oes;
Uthr Angau—hw!a threngi;
Ei hynt a fydd cynt na'r Ci.

Bwch gwyllt yn ebach gelltydd,
Ba hyd i'w fywyd a fydd ?
E gyrraedd Angau gorwyllt
Ebach a gwâl y Bwch gwyllt.
I Dad y dychryniadau
Diflin, beth yw Brenin brau?

Mae Selyf,[202] mwyaf seiliad?
Mae'r llywydd Dafydd ei dad?
Pa gryfach gadarnach dau
I'r ingaf arwr Angau?
Bwriodd ef eu pybyrwch
Mewn un awr i'r llawr a'r llwch!
Nycha[203] Ner, byw 'n wych wna 'r byd?
Hyfawr yw Angau hefyd.
Dduw y gras, wrth y ddau gryf
Saled yw Cryfion Selyf!
O'i helaeth ddysgeidiaeth gynt
Gwyddai mor nerthog oeddynt;
A honai ef eu hynni,
Y Llên maith, yn well na mi.

Y trydydd certh anferthol
Ei nerth y sydd eto 'n ol.

Mi a wybum o'm maboed
Ei rym; ef nis gwybu 'rioed.
Y rhyfeddod hynod hon
Gweddai nad yw ond gwiddon;[204]
A chewch, os dyfelwch hi,
Ei hanes, yn lle 'i henwi.
Eiddil henwrach grebach, grom,
Nythlwyth o widdon noethlom,
Cynddrwg—oes olwg salach?—
O bwynt a llun angau bach.
Bwbach wyw bach yw heb wedd,
Swbach heb salach sylwedd—
Sylwedd na chanfu Selef,
Na gŵr un gyflwr ag ef;
Gwiddon eiddilon ddwylaw,
A llem pob ewin o'i llaw;
Blaenau cigweiniau gwynias,
Blaen llymion rhy greision gras.
Er eiddiled yw 'r ddwylaw,
Ni bu henwrach drymach draw;
Trom iawn a thra ysgawn yw,
Gwrthdd wediad rhy gerth ydyw.
Och! anaf yw ei chynnwys;
O ffei! mi a wn ei phwys.
Beth yw Llew tan ei ffrewyll?
Nis ofna hon ei safn hyll.
Beth yw nerth a phrydferthwch?
Neu beth yw Milgi na Bwch?
Os hwnt ymddengys hi,
Truan nerth un teyrn wrthi;
Tyr dyrrau, caerog cerrig,
Yn deilch lle 'r enyuno 'i dig.
Anghynnes ddiawles ddileddf,
Ni erbyd hi dorri deddf.
Hi ferchyg, ddihafarchwaith,
Hen gwan; pand dihoen ei gwaith?

Gnawd gwrach yn trotian tani;
Gwae hên a farchogo hi!
Ni rydd—mae 'n g'wilydd ei gwaith—
Wilog afrwydd le i gyfraith.
Dir y myn, pand oer i mi?
Gloff arthes, gael ei phorthi.
Ac ni ddiyleh, gne dduwg,
Un mymryn i'r dyn a'i dwg.

O chawn nerth a chynorthwy,
Ni ddygwn 'y mhwn ddim hwy;
Mor fall oedd, mawr yw fy llid
Hirlawn i gael ei herlid;
Tynnu'r Awen o'm genau,
A'i dwyn hwnt o dan ei hiau!
Ochaf mae 'n amlwg ichwi—
Ochaf, ond ni henwaf hi;
Hawdd ei gwamal ddyfalu,
Poen yw ei dwyn, y pwn du!
Trom iawn yw; ond, tra myn Naf,
Yn ddigwyn hon a ddygaf.[205]


CYWYDD Y CYNGHORFYNT, NEU'R GENFIGEN.

COFIO wna hoglanc iefanc,
Yn llwyd hyn a glybu'n llanc;
Gelwais i'm côf, adgof oedd,
Hanesion o hen oesoedd ;
Ganfod o rai hergod hyll
Du annillyn dân ellyll;[206]
Drychiolaeth ddugaeth ddigorff,
Yngwyll yn dwyn canwyll corff;
Amdo am ben hurthgen hyll,
Gorchudd hen benglog erchyll;

Tylwyth Teg ar lawr cegin
Yn llewa aml westfa win;
Cael eu rhent ar y pentan,
A llwyr glod o bai llawr glân;[207]
Canfod braisg widdon baisgoch
A chopa cawr a chap coch;
Bwbach llwyd a marwydos
Wrth fedd yn niwedd y nos.

Rhowch i'm eich nawdd, a hawdd hyn,
Od ydwyf anghredadyn;
Coelied hen wrach, legach lorf[208]
Chwedlau hen wrach ehudlorf;
Coeliaf er hyn o'm calon,
A chred ddihoced yw hon,
Fod gwiddon, anhirionach
Ei phenpryd, yn y byd bach;
Anghenfil gwelw ddielwig,[209]
Pen isel ddelw dduddel ddig,
Draig aeldrom, dera guldrwyn,
Aych gan gas dulas i'w dwyn;
Ac o rhoe wên ddwy-en ddu,
Gwynfyd o ddrwg a ganfu;
Uwch ei gran y mae pannwl,
Dau lygad dali pibddall pwl;
Golwg, a syll erchyll oedd,
A gaid yn fwy nag ydoedd.
Ni wýl o ddrwg un wala;
Ni thrain[210] lle bo damwain da.
Gwynfydu bydd ganfod bai;
Llwyddiant di drwc a'i lladdai.
Gwenai o clyw oganair;
O rhoid clod, gormod y gair.
Rhincan y bydd yn rhonca,
Ai chrasfant, arwddant, ar dda.

Daint rhystyll, hydryll, a hadl,
Genau gwenwynig anadl;
Ffy'n yd a fai ffynadwy
O chwyth ni thŷf fyth yn fwy,
Lle cerddo llesg ei hesgair,
Ni chyfyd nac ŷd na gwair.
Mae'n ei safn, hollgafn, hyllgerth,
Dafod o anorfod nerth
Difyn, a ffugfawr dafod,
Eiddil, a gwae fil ei fod;
A dwyfron ddilon dduledr,
Braen yw o glwyf ei bron gledr;
Dibaid gnofeydd duboen,
A'i nych, a chrych yw ei chroen
Gan wewyr, ni thyr, ni thau,
Eiddo arall oedd orau
Hi ni wna dda, ddera ddall,
Ni erys na wna arall;
Ein hamorth sy'n ei phorthi,
A'n llwydd yw ei haflwydd hi.
Merch ffel, uffernol elyn
Heddwch a dedwyddwch dyn;
A methiant dyn a'i maethodd,
O warth y bu wrth ei bodd.
E ddenwyd Adda unwaith,
O'i blas, a bu gas y gwaith;
A'i holl lwyth, o'u hesmwythyd,
Trwy hon i helbulon byd;
Llamai lle caid llygaid llawn
Dagrau diferlif digrawn.
Aml archoll i friwdoll fron,
Ac wylaw gwaed o galon;
Gwaedd o ofid goddefaint,
Wyneb cul helbul a haint;
Rho'wn ar ball, hyd y gallom,
Ddiche!l y wrach grebach grom.
Ceisiwn, yn niffyg cysur,

Ddwyn allan y gwan o gur,
A rhoddwn a wir haeddo
I fâd, pwy bynag a fo;
A'r byd, fel y gwynfyd gynt,
Dieifl i annwn diflenynt
A chenfigen, a'i gwenwyn,
Ddiffrwyth anfad adwyth dyn;
Ddraig ffyrnig, ddrwg uffernol,
A naid i uffern yn ol
Aed i annwfn, ei dwfn dwll,
Gas wiber, i gau sybwll;
A gweled ddraig ei gwala,
Mewn llyn heb ddifyn o dda;
Caiff ddau ddigon, a llonaid
Ei chroen o ddu boen ddi baid.


DARN O AWDL I DYWYSAWG CYMRU.
(Ar ddydd gwyl Dewi.)
Ar fesur Gwawdodyn hir.

DWYRE wawr fore erfai, arwain
Dymawr dydd eurwawr, da ei ddwyrain,
Dyddiaith ar euriaith i arwyrain;
Drudfawr briodawr, Eryr Brydain,
D'wysawg llym aerawg llu mirain—Dewi
Dewr Ri Lloegr wedi llyw goradain.

Dithau, 'r Pôr gorau, ddirper gariad,
D'wysawg mawreddawg ymarweddiad
Deyrnwalch eurgeinwalch, o rhoi genad
Dygwn, cynyrchwn cu anerchiad;
Derbyn ddwys ofyn ddeisyfiad—maon[211]
Drudion dirolion dy oreuwlad.


Cymer, nid ofer yw ein defod,
Cymer, anhyber gwyl i'n hebod,
Cuaf wlad buraf ddyled barod
Cymru, rywioglu wir oreuglod;
Cymer, ein dewrner, fri'n diwrnod,—cymer,
O ber hyfodd—der ein hufudd-dod.


D.S.—Yr achos i'r awdl hon fod yn anorphen oedd i Oronwy gael ei
daro yn glaf gan y Cryd, pan oedd yn preswylio yn Walton.

DYLEDSWYDD A DOETHINEB DYN,
Yn ymfoddloni i ewyllys ei Greawdwr; a Translation of,—

Through all the various shifting scene
Of life's mistaken ill or good,
The hand of God conducts unseen,
The beautiful vicissitude, &c., &c.

TRWY droiau'r byd, a'i wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier;
Llaw Duw sy'n troi'r cwmpasgylch glân,
Yn wiwlan, er na weler.

O'i dadawl ofal, ef a rydd
Yr hwn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur,
Ond da'i gymhesur fantol?

Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud;
Os Duw a'i myn, Fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr mewn munud.

Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
A'th doi â gwrid a gw'radwydd;
Od wyt gyff cler a bustl i'r byd,
Fe'th gyfyd i foddlonrwydd.


Fe weryd wirion yn y frawd,
Rhag enllib tafawd atcas
Fe rydd orphwysfa i alltud blin,
Mewn annghynEfin ddinas.

Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y penau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.

Oes dim nac yn, na than, y nEf
Nad E sydd yn ei beri?
Ac Ef a roes (gwnaed dyn ei ran)
Y cyfan er daioni.

Pa raid ychwaneg? gwnelwyf hyn;
Gosteged gŵyn a balchder
Arnat ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder,


ENGLYNION I TWM SION TWM,[212]
A'r arddwrn mawr.
Englynion proest cyfnewidiog wyth ban.

Twм Sion Twm y cidwm cas,
Twm Sion Twm, blerwm heb les;
Twm Twm, os codwm os cis,
Twm achrwm a glwm ei glôs,
Twm Sion Twm, ruddlwm, ni rus,
Twm Sion Twm drwm droi'r draws,
Twm Siom Twm grwm yn ei grys,
Twm Twm! y cawr hendrwm hys,

Twm Sion Twm bendrwm mewn bad,
Twm â rhwyf ond twym y rhêd,

Twm i'r lan hwnt a mawr lid,
Twm a nawf atom i'w nôd,
Twm yw'n tŵr bob tam o'n tud,
Twm o ainc yrr Ffrainc i'r ffrwd,
Twm Twm a botwm i'r byd,
Twm freichdrwm, i Dwm dyd! dyd!

Twm Sion Twm bonwm a'i bar,
Twm Sion Twm gidwm a'i gêr,
Twm lân yw tarian y tir,
Twm o thrŷ câd fad i for
Twm yn un cwrwm a'i cur,
Twm ddistaw o daw o'r dw'r,
Twm fwyn yn addfwyn i'r Nŷr,
Twm flraeth i'ch gwasanaeth, Syr.


AN ODE
Written from Pwllheli to MR. RICHARD RATHBONE, at Llanystumdny,
about the middle of the year 1742.

O VIRO nullos mihi post sodales
Musa, dilecto pariterque fido,
Gaudium, quæso, refer & salutem
Resque secunhas.

Forte si quærat, quid agam? resolves
Mente non firmum reliquis valere,
At mihi memet minus esse gratum
Absque sodale.

Deinde, si causam (pudet ah! fateri),
Postulet, nomen tacite Philippæ
Auribus manda, simul & susurres,
Flagrat amore.


Dic ut infirmum mihi pectus ardet
Anxio, quales partiorque luces,
Nocte quî somnus fugit, atque, rodunt
Pectora curæ;

Regna narrabis Veneris superba,
Heu! nimis sævos puerique luses;
Adde, sed forsan liceat bibendo
Fallere curas.


REGET PATRIIS VIRTUTIBUS ORBEM.
Sef Cyfieithiad yn Lladin o waith Cristopher Smart.

Phoebe Pater, qui mellifluas Heliconis ad undas,
Dulcia divinæ fundis præcepta Thaliæ,
Lingua sacras sedes, & jam majora canenti
Aspira, radiisque diem melioribus orna
Sed quid opem hinc quæram, nostris in vallibus amnes
Dulce sonant, nostris in Montibus Augur
Apollo Regnat, & indigenas jactat quoq; Cambria Musas.

Salve, sancte dies, quo solvimus annua cuncti
Gaudia, adorantes nostrum de more pantronum.
Et tu, qui patrem vitâ virtute redonas,
Quique ornas titulos, decus & superaddis honori.
O salve ante omnes salve, celeberrime Princeps!
O faveas populumque tuum, Britonumque tuorum A
ccipias vota, & noster dignare vocari
Summe puer, quem fama vocat, quem gloria adoptat.
Quem vasti pater oceani colit amnibus undis;

Tempus erit, cum tu (non unquam indignus avorum
Ast atavos que mente refers, & moribus æquas)

Ad Famæ templum porta virtutis adibis,
Atque infra positos Regesque Sophosque videbis;
Tempus erit, cum te (quâ gens hec inanior ultra)
Galia tota colet, mixtoque timebit amore.
In manibus tibi erit mundis dare jura futuris
Et, nondum inventis populis imponere leges.
Dum vestris læta aupiciis celeberrima floret
Cambria, jam prisci gens antiquissima mundi,
Inque velut montes nostrates vertice cœlum
Sublimi feries, & cedet laurea Porro.


AD APOLLINEM & MUSAS.

O SMINTHEU! pater esuritionum,
Nugas tolle tuas ineptiasque,
Vosque ite, O, procul hinc novem sorores,
Vobis non opus est mihi, Camenæ,
Indignatio quem facit poetam.
Longum Pierides malæ, valete
Euterpe meretrix, Thalia mæcha,
Scortillum Polyhymnia invenustum,
Clio prostibulum, lutum lupanar,
Et quas prætereo malæ puellæ
Per quas non nisi mortuis poetis
Sero fama venit, famesque vivis!
Ah! vidi, & pudet heu! sed ipse vidi
Vestro de grege, pessimæ, poetam.
Jucundem, facilem, probum, dissertum,
Cordatum, verecundum & eruditum,
Et cultum satis & sat elegantem,
Et qui cederet unico Catullo,
Docto par tamen ipse Martiali,
Quem juxta Veneresque Gratiæque
Certabant sibi vendicare cunctæ,
Qui si fortia bella personaret,

Magnum vivere crederes Homerum,
Seu Mopsi teneros referret ignes
Haud quidquam cecinit vel ipsa Sappho,
Pulchro, Lesbia, mollius Phaoni
Hunc vidi miserum, indignum, dolentem,
Squallente facie, horridâque barba
Detritis quoque sordidum lacernis,
Et nudis pedibus; genuque nudo,
Hybernis Aquilonibus rigentem,
Ævi relliquias malas trahentem
Ægre, nec saturum offulis caninis.
O quanto melius beatiusque
Et cerdonibus est & architectis,
Saltatoribus atque pantomimis
Artes quique colunt pecuniosas!
Quid rodis, male livor, immerentes?
Et quid Zoilus invidat poetis?
At me Gronovium, tuum poetam,
Nugacissime, Phoebe, perdidisti,
Si posthac numeris ineptiisque
Nostri ludere pruriant libelli
Claudi nec metuant Dei furorem,
Si nec tardipedi Deo dabuntur
Sit durus mihi Plutus & Minerva.
At vos interea, novem sorores
Longum, Pierides male, valete,
Et Smintheu, pater esuritionum.


IN NATALEM.
DOM GEORGII HEREBERTI, Domini de Ludlow,
Illustrissimi PROVISIÆ Comitis Primogeniti filii,
Carmen gratulatorium.

NUNC juvat læto, resonare cantu,
Musa, nunc plectro citharam canoram
Suscita, Eryri[213] recinat jocosa
Montis Imago.

Vos &, O Bardi,[214] Druidum Propago,
Inclytos qui Laude viros perenni
Traditis famæ, metuens perire
Dicite Carmen;

Quale nascenti Corybantes[215] olim
Æra quassantes, cecinere Alumno
Natus est nobis jove dignus ipso
Nobilis Infans.

Aureum tandem rediisse seclum
Credo, quod vates cecinere quondam
Ore dum sacro Britonum referrent
Fata Nepotum.

Macte virtutum! puer alme, macte,
Magna magnorum soboles parentum!
Atpue me, blando, tibi gratulantem
Accipe risu.


Gratulor nato tibi, pulcher Infans,
Ter beatorum decus, O, parentum,
Teque fœlicem videant futura
Tempora patrem:

Teque virtutes decorent paterna,
Ille avo dignos videant nepotes;
Hæc precor tantum, superis patriq;
Cætera mitto.

Ille præceptis teneram juventam
Imbuet rectis, monitisque dignum
Addet exemplum, trahet & sequacem
Laude paternâ.

Sive te pacis maneant honores
Inter Augusti proceres senatûs,
S.ve de partis, duce te, triumphis
Fama loquetur.

Senties quantum valeat paterna
Cura, quid possit docilis juventus,
Si sequi magnos velit Herebertos
Æmula virtus.

Optimis proles atavis creata
(Nam boni fortes generant bonosq);
Spem tuæ quantam patria dedisti
Talibus ortus!

Quo refulgebis nitidus tropheo?
(Te nec imbellem licet ominari)
Quem terres hostem? tibi quæve debet
Terra triumphos?

Sit tuum infames domuisse Gallos
Qui fide Poenos[216] superare certant
Punica, & Pacis specie dolosâ,
Bella minantur.


At quid infensos stimulant Britannos,
Hinnuli sævos pavidi Leones?
Aut suæ quorsum lacrymosa quærunt
Funera grenti?

Heu sibi quantam properat ruinam
Gallia, insanos meditans tumultus!
Quo ruit? quorsum est onerare tantis
Classibus Æquor?

Quid malis demens, avibus facessit
Sæpe devictas reparare turmas,
Foederis fracti luitura multo
Sanguine pœnas?

Siquid audendum validus Georgi,
Miles Augusti, Duce Gulielmo,
Posteris linquet, tibi det subacta
Gallia Nomen.

Detq; qui totum regit unus orbem
Quicquid est usquam, vel erit bonorum;
Det diu Rubrum[217] decorare Castrum
Provisianum.

Hic tibi curis, Placidus, soluto
Publicis olim dabitur recessus,
Hic ages dulces, sociis Camænis,
Leniter horas.

Forsan & nostræ rude opus Camænæ
Perleges olim, vacuus negoiti,
Quod tibi vatas cecini bilinguis
Cambro—Latinum.


Dum lavat Rubrum Sabriana[218] Castrum
Dumque stat Magni Genus Hereberti,
Te canent Nostro celebrem futuri
Carmine Cambri.

Sic cecinit Gronovius Ovinius Niger,
Ipsis Calendis Decembribus, 1755.


ON CAPTAIN THOMAS FOULKES

Escape in a Great Storm, Sept. 10th, 1741, when he was drove by a hard gale at East from
Alanus Point to the north of Ireland, and had all his rigging and sails demolished.

QUID crepat! Haud intra ripas se continet æquor
Numquid dejectum tecta, feruntur aquæ?
Væ misero nautæ pelago qui credere vitam
Sustinet, insanis jam periturus aquis;
Qualiter! heu quali fremitu furit Eurus in undas
Qualiter oppositam verberat unda ratem?
Vertice jam cœlum tangit, jam fertur in Orcum,
Spreta sibi quondam littora nauta cupit
Iratum numen Pelagi prece vexat inani;
Littus ut attingat millia vota vovet.
Stulte, nimis sero moriundus pectora plangis,
Sero nimis, periens æquore, littus amas.
Si semel attinges littus, ne rursus ad æquor
Vela daturus eas, ne patiaris idem;

Kybæ[219] Templum petito cum vestibus udis
Quas suspende, memor quanta pericla fugis.


HOC FUIT ANTIQUE DICTUM.

Hoc fuit antiquè dictum, Docet omnio venter,
Mortales pelagus ventre docente petunt;
Nam durum est telum duris in rebus egestas,
Vitæ profas......hæc facit esse viros.
Sed multos video, nihilo cogente, periclis
Se dantes, queis sunt res famulique domi
Vivere qui possent felices rure paterno
Almâ, sique velint, usque quiete frui
Ille fuit certè ferro præcordia cinctus
Qui se sustinuit credere primus aquis,
Quando Deucalion lapides jactavit in orbem,
Non illum lapides mollificasse reor;
In cor durities lapidis migravit, & illic
Restat adhuc, nullis mollificanda modis,
Audacis Japeti dirum genus omnia tentat;
Non quidquam metuit; per scelus omne ruit.


CYWYDD Y FARN FAWR,

Ac Esponiad Llewelyn Ddu.

DOD[220] ym' dy nawdd, a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau[221] f' armerth,[222] o'm nerthyd,
YW DYDD BARN a diwedd byd;
Dyddwaith, pa ham na'n diddawr,[223]
Galwad i'r ymweliad mawr!

Mab Mair â gair yn gwiriaw
Y dydd, ebrwydded y daw;
A'i Saint cyttun yn unair
Dywedant, gwiriant y gair,
A gair Duw'n agoriad in',
Gair Duw, a gorau dewin;
Pan'd gwirair y gair a gaf?

Iach rad, a pham na chredaf?
Y dydd, diogel y daw—
Boed addas y byd iddaw
Diwrnod[224] anwybod i ni,
A glanaf lu goleuni;
Nid oes, f' Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid Ef a'i Dad.

Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron[225] dison y daw
Gwae'r[226] diofal ysmala!
Gwynfyd i'r diwyd a'r da!
Daw angylion, lwysion lu,
Llym naws â lluman[227] IESU;
Llen o'r ffurfafen a fydd,
Ma! cynfas, mil a'i cenfydd,
Ac ar y llen wybrenog,
E rydd GRIST arwydd[228] ei grog:

Yno 'r Glyw,[229] Ner y gloywnef,
A ferchyg yn eurfyg nef!
Dyrcha'n uchel ei helynt,
A gwân[230] adenydd y gwynt!
A'i angylion gwynion gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoi gawr[231] nerthol, a dolef,
Mal clych yn entrych y nef,
Llef mawr goruwch llif mor—ryd,
Uwch[232] dyfroedd aberoedd byd
Gosteg[233] a roir, ac Ust! draw,
Dwrf rhaiadr, darfu rhuaw;
Angel a gân, hoywlan lef,
Felyslais, nefawl oslef;
With ei fant, groywber gantawr,

Gesyd ei gorn, mingorn mawr;
Corn anfeidrol ei ddolef,
Corn[234] ffraeth o saerniaeth nef.
Dychleim, o nerth ei gerth gân,
Byd refedd,[235] a'i bedryfan;
Pob cnawd, o'i heng, a drenga,
Y byd yn ddybryd ydd â;
Gloes oerddu'n neutu natur,
Daear a hyllt, gorwyllt gur!
Pob creiglethr, crog, a ogwymp,[236]
Pob gallt[237] a gorallt a gwymp

Ail i'r âr ael Eryri,[238]
Cyfartal hoewal[239] a hi.
Gorddyar[240] bâr, a berw-ias
Yn ebyr,[241] ym myr,[242] ym mas;[243]
Twrdd ac anferth ryferthwy,
Dygyfor ni fu för fwy-
Ni fu ddylif yn llifo
Ei elfydd yn nydd hen No.[244]
Y nef yn goddef a gaid,
A llugyrn[245] hon a'i llygaid,
Goddefid naws llid, nos llwyr,
Gan[246]. lewyg gwýn haul awyr;
Nid mwy dilathr ac athrist
Y poen-loes cryf pan las Crist.
Y wenlloer[247] yn oer ei nych,
Hardd leuad, ni rydd lewych:

Syrth nifer y sêr, arw son!
Drwy'r wagwybr[248] draw i'r eigion;[249]
Hyll ffyrnbyrth[250] holl uffernbwll
Syrthiant drwy'r pant[251] draw i'r pwll;
Bydd hadl[252] wal[253] ddiadlam
Y rhawg, a chwyddawg[254] a cham;
Cryn y gethern[255] uffernawl,
A chryn, a dychryn[256] y diawl;
Cydfydd y fall[257] â'i gallawr[258]
Câr lechu'n y fagddu[259] fawr.


Dyfyn a enfyn Dofydd,[260]
Bloedd erchyll, rhingyll a'i rhydd:—
"Dowch y pydron[261] ddynionach,
Ynghyd, feirw byd, fawr a bach:
Dowch i'r farn a roir arnoch,
A dedwydd[262] beunydd y bo'ch."

Cyfyd[263] fal yd o fol âr
Gnwd tew eginhad daear;
A'r môr[264] a yrr o'r meirwon
Fil myrdd[265] uwch dyfnffyrdd y dòn:
Try allan ddynion trillu[266]
Y sydd, y fydd, ac a fu,
Heb goll yn ddidwn hollol,
Heb un o naddun yn ol.
Y dorf[267] ar gyrch, dirfawr gad!

A'n union ger bron Ynad.[268]
Mab Mair ar gadair a gaid,
Iawn Naf gwyn o nef gannaid,
A'i osgordd,[269] welygordd lân,
Deuddeg ebystyl diddan.
Cyflym y cyrchir coflyfr,
A daw[270] i'w ddwy law ddau lyfr;
Llyfr bywyd, gwynfyd y gwaith,
Llyfr angau, llefair ingwaith.
Egorir a lleir[271] llith
O'r ddeulyfr amryw ddwylith:
Un llith o fendith i fad;[272]
A'r diles air deoliad.

Duw gwyn[273] i le da y gyrr
Ei ddeiliaid a'i addolwyr.
I'r euog, bradog eu bron,
Braw tostaf; ba raid tystion?
Da, na hedd Duw[274] ni haeddant,
Dilon yrr, delwi a wnant.
Y cyfion[275] a dry Ion[276] draw,
Dda hil, ar ei ddeheulaw;
Troir y dyhir, hyrddir hwy,
I le is ei law aswy:
Ysgwyd[277] y nef tra llefair
IESU fad, a saif ei air:—
"Hwt![278] gwydlawn felltigeid lu
I uffern ddofn a'i fiwrn ddu,
Lle ddiawl, a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen, a phoen na phaid;

Ni chewch ddyben o'ch penyd,
Diffaith[279] a fu'ch gwaith i gyd;
Ewch, ni chynnwys y lwysnef
Ddim drwg, o lân olwg nef,
At wyllon[280] y tywyllwg,
I oddef fyth ei ddu fwg."

O'i weision, dynion dinam,
Ni bydd a adnebydd nam;
Da'n ehelaeth a wnaethant,
Dieuog wyr, da a gânt.
Llefair yn wâr y câr cu,
Gwâr naws y gwir Oen Iesu:—
"Dowch[281] i hedd, a da'ch haddef,[282]
Ddilysiant anwylblant Nef,
Lle mae nefol orfoledd,
Na ddirnad ond mad a'i medd:[283]
Man hyfryd yw mewn hoywfraint,
Ac amlder y ser o saint,
Llu dien[284] yn llawenu,
Hefelydd[285] ni fydd, ni fu;
O'm traserch, darfum trosoch[286]

Ddwyn clwyf fel lle bwyf y bo'ch,
Mewn ffawd didor, a gorhoen,
Mewn byd heb na phyd na phoen."

Gan y diafl ydd â'r aflan,
A dieifl[287] a'u teifl yn y tân.

Try'r Ynad draw i'r wiwnef,
A'i gâd gain â gyd ag ef,
I ganu mawl didawl da,
Oes hoenus! a Hosanna.

Boed im' gyfran o'r gân gu,
A melysed mawl IESU;
CRIST fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen, a nef i minau.


AWDL,[288]

Awdl yn ol dull Meilir Brydydd, pan gant i Drahaiarn fabCaradawc a Meilir mab
Rhiwallawn, yn iawn ysgrifenyddineth y Gogynfeirdd.

Y Bart du a gant Awdyl honn yn Llwyt y Llas Gwilym fab Hywel

YOLAFI Naf o nef im noddi
Yolaf nys tawaf pi les tewi
Am vap hywel hael hywaet vyg kri
Tawel vap hywel o hil cewri
Dypryd vym pryd ym pryderi lawer.
Am goryw bryder brutieu Sibli
Mi os canaf a syganai hi[289]
Neut (namwyn kelwyt) ti nym coeli
Celwytawc euawe eu broffwydi
Bob nos a dyt a fyt yth siommi
Gorpwyni dank ken trank a Duw tri
Tawaf nys doraf onys dori

Vyg geneu diheu diheur vi ith wyt.
Ys celwyt ni lwyt ny lut drychni
Map hywel gochel gyrch cymhelrhi
Er a droyttynt gynt geu broffwydi
Cyd bwynt hyd nemawr yth uawr voli
Gweckry eu geirieu geu a gwegi
Pan lat lat letir a llauyn llauyn llabir.
Yno y gwelir pwy a goeli
"Cet[290] buyf gwir nyt goreu vi o nep dyn
Y disgogan hyn o gryn gredi
Mal marchawc berthawe yt ymborthi
Mal gwron dragon dreic eryssi
Yg gwynias lleas llew a fethri
Ar yr asp yr yspys dyrcheui
Osswyt yn fwyr a lwyr lethi
Ny ryberis nef nep i'th dofi
Nyth rybar amhar ymhwrt beri
Ny digawn kadyr cyhydrec a thi

Er gwythuawr reityawr ny roti uram
Neut ny maccwys mam map a dori."
Andaw di breityawr brytest Sibli
Rinyeu ei geneu diheu dybi
Yn a egorwyf gwirion wyv i
Yn ethryb casswir pam ym cessi?
"Dieu[291] y dybyd dyt dynysgi
A rewin a thrin a thrwst ynni
A phan yssic lluric llwyr wae di
Can pan yssic lluric llaur a lyi
Diffeith woleith o wael dyli a gai
A chyn tervyn mei mawr egrygi
Neu dygyvyd llew llawn gwrhydri
Lleweit arwreit eryr cymmri
Yn wg digyurwg digyurag a thi
Tithau gan ei dwrf a lwrf lechi
Cyn nos gwener disgoganaf vi

Ucher yth later ti ny leti
A chan anreith gwoleith gwael dy uri
Diardwy abwy abar fyti
Esgyrn dy syrn hyd Sarn Teivi a grein
A byt lawen urein ar uraen weli."


MARWNAD LEWYS MORYS Ysw,

Gynt o Fon, yn ddiweddar o alltfadog, Yn Ngheredigion; pen-bardd, hanesydd, Hynafiaethydd, a Philosophydd yr oes a aeth heibio; gwir-garwr ei frenin a lles cyffredin ei wlad; a hoffwr a choleddwr ei iaith a'i genedl. Yn yr awdl hon y mae pedwar mesur ar hugain Cerdd Dafawd, yn nghyd a nodau yr Awdwr ar Rai pethau hynod.

Englynion Unodl Union.
OCH dristyd ddyfryd ddwyfron,—Och Geli,
Och galed newyddion,
Och eilwaith gorff a chalon,
Och roi 'n y bedd mawredd Mon.

Mawredd gwlad Wynedd, glod union—ceinwalch,
Cynnor presenolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.

Cyd bai hirfaith taith o'r wlad hon—yno,
Hyd ewynawg eigion,
Trwst'neiddiwch trist newyddion,
Ni oludd tir, ni ladd ton.

Mae tonnau dagrau digron—i'm hwyneb
Am hynaws gâr ffyddlon;
Llwydais i gan golledion;
Oer a fu'r hynt i'r fro hon.[292]


Bro coedydd, gelltydd gwylltion—pau prifwig
Pob pryfed echryslon;
Hell fro eddyl llofruddion,
Indiaid, eres haid, arw son!

Soniais, sugenais gwynion,—do ganwaith,
Am deg Wynedd wendon;
Doethach im dewi weithion;
Heb Lewys mwy, ba les Mon?

Galar ac afar gofion—mynych ynt,
Man na chaid ond hoywon;
Nis deryw, ynys dirion,
Loes a fu waeth i lwys Fon.


Cywydd Llosgyrnog ac Awdl—gywydd yn nghyd.

Ni fu 'n unig i Fon ynys
Loes am arwyl Lewys Morys;
Ond erys yn oed wyrion
Ym mhob gwlad achwyniad chwith
O'i ran ym mhlith cywreinion.


Cywydd Deuair Fyrion a Deuair Hirion yn nghyd.

Cynnal cwynion
O dir i don,
Dan gaerau Prydain goron,
Yr ydis an Lewis lon.

Proest Cyfnewidiog Saith—ban.

Yn iach oll Awen a chân!
Yn iach les o hanes hen,
A'i felus gainc o flas gwin!
Yn iach im' mwyach ym Mon
Fyth o'i ol gael y fath un!
Yn iach bob sarllach a swn!
Un naws â dail einioes dyn.

Unodl Grwca.

Teiroes i'r mwyawr tirion,
O ras nef a roesai 'n Ion
O'i ddawn, o chawsai ddynion—eu meddwl
Ar fanwl erfynion.


Unodl Gyrch.

Er eidduned taer ddynion,
Er gwaedd mil, er gweddi Môn,[293]
Ni adfer Ner amser oes:
Rhed einioes, nid rhaid unon.


Proest Cadwynodl.

Duw a'i dug ef, dad y gân,
Cywir i'w ddydd carodd Ion,
Yn ngolau gwledd engyl glân;
Yntau a 'n sant: tawn a son.


Clogyrnach.

Hawdd y gorthaw ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon;
O raen oer enaid,
Diau bydd dibaid
Uchenaid a chwynion.

Gwawdodyn Byr.

Cair och o'i hunaw, cur achwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.

Dau Doddaid.

Pa golled—gwared gwirion—o delmau
Ac o hir dreisiau gwŷr rhy drawsion![294]
O frwd ymddygwd ddigon—y diangodd,
Gwen nef a gafodd gan Naf gyfion.


Gwawdodyn Hir.

A fynno gyrraedd nef, wen goron,
Dwy ran ei helynt drain a hoelion,
Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion,
Croesau, cryf—loesau, criau croywon,
Erlid a gofid i'w gyfion—yspryd,
Ym myd gwael bawlyd ac helbulon.


Byr a Thoddaid.

Er llid, er gofid, wir gyfion—ddeiliad,
Ef oedd ddilwgr galon;
Duw a folai, da 'i ofalon;
Siôr a garai is aur goron;
Lle bai gwaethaf llu bygythion,
Ni chair anwir drechu 'r union;
Dra gallawdd, nadawdd i anudon—dorf
Lwyr darfu 'r lledneision.


Dau Doddaid.

Bu 'n wastad ddifrad ddwyfron,—ddiysgog
I'w hydr eneiniog Deyrn union;
Rhyngodd ei fodd a'i ufuddion—swyddau
A chwys ei aeliau â chysulion.


Gwawdodyn Byr.

Mesurai, gwyddai bob agweddion,
Llun daear ogylch, llanw dŵr eigion;
Amgylchoedd moroedd mawrion—a'u cymlawdd,
Iawn[295] y danghosawdd, nid anghysson.


Dau Wawdodyn Hir.

Daear[296] a chwiliodd drwy ei chalon;
Chwalai a chloddiai ei choluddion,
A'i dewis wythi, meini mwynion,
A thew res euraid ei thrysorion,

A'i manylaf ddymunolion—bethau ;
Deuai i'r golau ei dirgelion.

Olrheiniodd, chwiliodd yr uchelion,
Llwybrau 'r taranau a'r terwynion
Fflamawg fellt llamawg, folltau llymion,
Is awyr gannaid a ser gwynion;
Nodai 'r lloer a'i newidion ;—hynt cwmwl
O fro y nifwl[297] i for Neifion.

Ebrwyddaf oedd o'r wybryddion—hyglod,
A llwyr ryfeddod holl rifyddion.
Traethai, fe wyddai foddion—teyrnasoedd ;
Rhoe o hen oesoedd wir hanesion.


Gwawdodyn Hir.

Honni a gafodd o hen gofion,
Achoedd dewr bobloedd o dwr Bab'lon,
Coffa bri ethol cyff y Brython,[298]
Gomer a'i hil yn Gymry haelion,
Teithiau da lwythau dilythion,-diwarth,
O du Areulbarth[299] i dir Albion.[300]


Gwawdodyn Byr.

A thrin a thrabludd, lludd lluyddion
Prydain a'i filwyr, pryd nefolion;[301]
A'r lladdiad, gâd ergydion-a oryw,
A gwaed a distryw 'r giwdawd estron.

Huppynt Byr.

Ni chaid diwedd O'i hynawsedd a'i hanesion;
Ni chair hafal Wr a chystal ei orchestion.

Tawddgyrch Gyfochrog.

Llon wr gwraidd llawn rhagorau,
Mawrdda 'i ddoniau mor ddiddanion,
Dof arwraidd, difyr eiriau,
Meddaidd[302] enau, wiw 'mddiddanion.

Huppynt Hir.

Glyw defodau Eisteddfodau, A'u hanodau,
A'u hynadon;
Eu cyngreiriau, A'u cyweiriau, A chadeiriau
Uwch awduron.


Cadwyn Fyr

Uwch awduron a chadeiriawg,
Bur iaith rywiawg bêr athrawon,
A chelfyddon uchel feiddiawg,
A'r beirdd enwawg, eirbêr ddynion.

Huppynt Hir yn nglŷn â Gorchest y Beirdd.

Ef oedd Ofydd[303]
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd,
Hil y Brython;

Gan wau gwynwaith,
Tlysau tloswaith,
Orau araith
Aur wron.


Hir a Thoddaid.

Goleuodd wedi ei gywleiddiadon
A gwir hyfforddiant geiriau hoff heirddion;
Athrawai 'n fuddiol a thrwy iawn foddion;
E gaed moes wiwdda gyd à masweddion;[304]
Lle bu 'r diddysg hyll brydyddion,—brin ddau,
Fe rodd ugeiniau o hoywfeirdd gwynion.[305]


Cyrch a Chwtta.

Ar y sydd i'r oes hon
Yn fawrddysg Awen feirddion,
A gwiw les fryd i'w glwys fron,
Bryd arail i'w bro dirion,
Agos oll ynt, dêg weis llon
O ddysg abl, ei ddisgyblion;
A phoed maith goffhâd a mawl
I'w arglwyddawl ryglyddon.


Cyrch a Chwtta.

Ar y sydd i'r oes hon
Yn fawrddysg Awen feirddion,
A gwiw les fryd i'w glwys fron,
Bryd arail i'w bro dirion,
Agos oll ynt, dêg weis llon
O ddysg abl, ei ddisgyblion;
A phoed maith goffhâd a mawl
I'w arglwyddawl ryglyddon.


Cyhydedd Naw Sillafog Chwe-ban.

A thra bo urddawl athro beirddion,
A mwyn dysg wiwles mewn dwys galon,
Gwiwdeb ar iaith, a gwaed y Brython,
Ac Awen Gwyndud, ac ewyn gwendon,[306]
Daear a nef a dŵr yn afon,
Ef a gaiff hoywaf wiw goffeion.


Cyhydedd Fer.

Aed, wâr enaid; aed, wr union;
Aed ragorwalch diwair, gwirion,
I fro Iesu fry a'i weision;[307]
I'w gain gaerau a gwen goron.


Cyhydedd Hir.

Ac uned ganu, sant, wiwsant Iesu,
Ef a'i leng wiwlu, fil angylion;"[308]
Ein dof Oen difai, lwys wawd EL SADAI,[309]
Musig[310] adwaenai ym mysg dynion.

Gwawdodyn Byr.

Uned ganiad eneidiau gwynion,
Llem araith wrol llu merthyron,
Ni ludd gweli, ni ladd gâlon—ei grym,
Nac ing croywlym, nac angeu creulon.


Dau Wawdodyn Hir.

Gwedi caledi, cyni, cwynion.
Artaith, erchyllwaith ac archollion,
Gwaed ffrau, a ffrydiau dagrau digron,
A chur marwol, a chriau mawrion,
Gwyarlliw fraenfriw oer frwynfron,—nid mud
Mawl cain côr astud mil can Cristion.

Eiddunaf finnau, Dduw Naf union,
Allu im' uno â'u llu mwynion,
Prydu i geisio perwawd gyson
I lwyswawd eirioes Lewys dirion,
Cywyddau cu odlau cydlon—ganu,
Lle mynno Iesu, lleu Monwysion.


Yr Awdl hon a gant GORONWY OWEN, Person Llanandreas, yn swydd Brunswic, yn Virginia, yn y Gogleddawl America; lle na chlybu, ac na lefarodd hauach ddeng air o Gymraeg er ys gwell na deng mlynedd.

Gorffennaf 20, 1767.



I Foulkes, Argraffydd, Liverpool

Nodiadau

[golygu]
  1. Cywydd y Nennawr.
  2. Astudrwydd,
  3. Dan. 7. 9.
  4. Trymder.
  5. Drylliedig
  6. 3 Meini
  7. Pa ond
  8. Hoff
  9. Dyfal,
  10. Ceidwadon
  11. Cedyrn
  12. Llawenydd.
  13. Caniad.
  14. Anfuddiol.
  15. Llawengerdd.
  16. Cyflym.
  17. Dysgedig, doeth.
  18. Teg.
  19. Difai.
  20. Hudoliaeth.
  21. Trais.
  22. Pechod
  23. Gaugrefydd
  24. Tan
  25. Chwaledig
  26. Rhyfeddol
  27. Ffel-graff, a synwyrlym
  28. Draw
  29. Golygiad
  30. Gresynus
  31. Doethaf neu ddysgedicaf
  32. Da
  33. O'i herwydd
  34. Teg
  35. Hardd
  36. Disglaer
  37. Digyffelyb
  38. Cartref.
  39. Trigfa.
  40. Arglwydd
  41. Archoll erfyn.
  42. "Dyn" a arferid gan yr hen Feirdd Cymreig am y ddau ryw.
  43. Siom.
  44. Cyffyrddiad tyner—"Ni thrawai gnith a'r ewin, na bai lais gwell na blas gwin."—TUDUR ALED i Delyniwr.
  45. Cenaw ci
  46. Brys
  47. Addunedu
  48. Hen goel Pan y deuai ymdeithydd at groesffordd, a methu penderfynu pa ffordd i'w dilyn, dodai ei ffon ar ei phen, ac i ba gyfeiriad bynag y disgynai, y cyfeiriad hwnw a gymerai yntau.
  49. Dymuniad.
  50. Ddeisyfwn.
  51. Elin oedd enw ei wraig gyntaf
  52. Ei ddau ab,
  53. Rhandir
  54. Moroedd.
  55. Y BARDD COCH. Boneddwr yn byw ar ei dir ei hun ydoedd, gerllaw Llanerchymedd. Heblaw ei fod yn fardd adnabyddus, cyfieithodd amryw draethodau o'r Saesneg. Yr oedd yn gyfaill mawr hefo'r Morysiaid, a thrwyddynt hwy daeth i gydnabyddlaeth a Goronwy. Bu farw yn 1776, yn 83 oed.
  56. Arfer.
  57. Dieuog.
  58. Meilir ab Gwalchmai
  59. Gwalchmai ab Meilir.
  60. Einion ap Gwalchmai
  61. Hywel ap Owen Gwynedd
  62. Tywysog Cymru
  63. Madog Benfras
  64. Gruffydd Gryg
  65. Dafydd ap Gwilym
  66. Robin Ddu o Fon.
  67. Goronwy Ddu o Fon
  68. Bywiogrwydd
  69. Cyndyn
  70. Terfyn.
  71. Cudyn o wallt.
  72. Cynyrch ergyd pladur.
  73. Cynyrch ergyd pladur.
  74. Difriair.
  75. Croesawu.
  76. Rhyfel.—"Yr hon a beris yr ha', a thrin rhwng Groeg a Throia."—DAFYDD AB GWILYM, i Elen.
  77. Digrwydr.
  78. Canmoliaeth—" Canaf it' a datganaf wawd,"—aralleiriad EDMWND PRYS o Salm cviii. 1
  79. Ychydig.
  80. Dyddorodd
  81. Marmor.
  82. Cuwch—yr ael—"tan ei guwch."
  83. Onid.
  84. Arglwydd.
  85. Rhyfel.
  86. Buandra
  87. Ysgyfarnog
  88. Moroedd
  89. Brysiwn.
  90. Llyfr doeth
  91. Solomon
  92. Enwog
  93. Hwd yr Abad
  94. Unigol am lodrau
  95. Llaw—'A'i neddair, f'anwylgrair fwyn, y nyddodd fedw; yn addwyn.—DAFYDD AB GWILYM.
  96. Talfyriad o digwydd
  97. Enw yr hen seryddwyr Cymreig ar y Llwybr Llaethog
  98. Saith Seren Llong
  99. Cydser
  100. Twr Tewdws
  101. Cadwen
  102. Trafodaeth
  103. Y blaned Venus
  104. Job
  105. Beiai.
  106. 30 oed
  107. Bywiog
  108. Cyfeiriad at symudiad y Calan
  109. Darlleniad.
  110. Red Letter Day.
  111. Gwael
  112. Teg
  113. Bai
  114. Bygwth
  115. Mam y brodyr enwog Lewis, Richard, a William Morys.
  116. Brwyn—athrist
  117. Dolurus
  118. Syn
  119. Tolliant
  120. Annghenog
  121. Yr oedd M. Morys yn llysieuwraig enwog
  122. Golygwr dau argraffiad o'r Bibl, 1746, a 1752.
  123. Llysieuwr digymhar
  124. Cynaliwr.
  125. Y mae y pedair llinell olaf hyn yn gerfiedig ar fedd M Morys.
  126. Cerdd offerynnol
  127. Bloedd
  128. Canmoliaeth
  129. Tyred
  130. Duwies
  131. Urail—lleianwisg teg a drudfawr.
  132. Dail bytholwyrdd
  133. Ewyn y don.
  134. 4 Ael
  135. Cyfeiriad at hen defod Gymreig mewn priodasau.
  136. Gwasanaethu wrth fwrdd y wledd; o hyn y tardd y gair Heilyn am BUTLER.
  137. Elusen
  138. Margred Morys. Gweler t. d. 61
  139. NODAU AR Y BRIODASGERDD UCHOD.— Llemynt,' &c. alluding to the old custom of dancing a Morris-dance at a wedding. 'A fedro rhoed drwy fodrwy,' &c. Mae yn debyg y gwyddoch hyny o gast, a pha ddefnydd a wneir o'r deisen a dyner drwy y fodrwy. Y nos wrth daflur hosan,' mae'n gyffelyb y gwyddoch hyn hefyd; ond rhag nas gwyddoch, fel hyn y mae trin y dreth; sef pan ddel y nos, y briodasferch a a i'w gwely, a chryn gant o fenywiaid gyda'i chynffon yn esgus llawforwynion i'w helpu i ymddiosg; a phan dyno ei hosan hi a'i teifl dros ei hysgwydd, ac ar bwy bynag y disgyno, hono a gaiff wr gyntaf. Probatum est eto. Dyna'r ffordd yn Lloegr; ni wn i a ydyw yr un ffordd yn Nghymru ai peidio, ac nis gwaeth genyf.'—Llythyr GORONWY DDU at WILLIAM MORYS.
  140. WALTON—treflan y ngorwedd tua phedair milldir i'r gogledd o Lerpwl. Rhan o blwyf Walton ydoedd Lerpwl yn yr hen amser
  141. Toredig
  142. Gwrolaf.
  143. Tywysog coronog—" Anrhydeddusaf wedi'r brenin yw edling braint neu eni."—CYF HYWEL DDA.
  144. Pierides—yr Awenau Groegaidd
  145. Bu Ffredrig, tywysog Cymru, farw o flaen ei dad, George II., ac felly ei fab ef George III., gwrthddrych y cywydd, a olianodd ei daid,
  146. Arglwydd,
  147. Hawddamor,
  148. Gafr
  149. Llaeth
  150. Duw
  151. Gwawdiaeth lem ydyw y linell hon.
  152. Goleuni
  153. Llywydd
  154. Hynafiaid
  155. Dewi Sant
  156. A word very agreeable to the character of the holy Archbishop, signifying, Save us, O Lord and history tells us, that it was the SYMBOLUM, or watchword, &c.
  157. (Parcere subjectis, et debellare superbos, Vinu. Par Pae)
  158. MICHAEL ANGELO, lluniedydd cywraint yn yr Eidal; ni a ddarllenwn am ffrwgwd a fu rhwng Diawl ag ef, am wneuthur ei lun mor wrthun; a'r caredigrwydd a'r teuluedd a dyfodd rhyngddynt ar ol i ANGELO wneuthur l'un prydferth iddo yn ddadolwch am y sarhad o'r blaen.
  159. Corlan
  160. Enw ar Dduw
  161. Crwydrol
  162. SALM cxxxvii
  163. Hawdd
  164. Rhodd
  165. John Dean, rhyw lyffant o Sais melyn.
  166. Llwyth.
  167. Gofidus
  168. Elusen
  169. Taergeisiodd
  170. Mab i John Owen.
  171. Yr aelod seneddol tros sir Feirionydd ar y pryd.
  172. Dau hen balas yn Meirion.
  173. Rhagorol
  174. Breyr—barwn;
  175. Ced—elusen.
  176. Sicrwydd
  177. Brenin Ffrainc.
  178. Jupiter.
  179. Arfer
  180. Carw Ieuanc
  181. Niweidiol.
  182. Duc Cumberland
  183. Gweddiaf
  184. Dosbarth o Dderwyddon awenyddol gynt
  185. Job xxxviii. 8, 10.
  186. Job xxxviii, 4, 6
  187. Job xxxviii. 7.
  188. Salm xix. 1
  189. Tarawiad
  190. Neidio
  191. Esmwyth
  192. Zoilus
  193. Bavius
  194. Y ddau Fyrddin
  195. Darfu
  196. Gelynion
  197. Eler
  198. Gwas
  199. Felly
  200. Gofid
  201. Delo
  202. Solomon
  203. Wele
  204. Cawres
  205. Tylodi
  206. Ignis fatuus
  207. Hen goel am y Tylwyth Teg.
  208. Benywaidd am lwfr.
  209. Anelwig-afluniaidd.
  210. Lwybra
  211. Deiliaid
  212. Twm Sion Twm, was a noted Bruiser, near Dulas, Anglesey.
  213. Mons Cambriæ altissimus.
  214. Britannorum poetæ sic dicti. Bardi quoque apud veteres Britannos, cæterasque Celticæ originis gentes, constituebant unum ex triplici Druidicæ Hierarchiæ ordine; Druides, Bardi, & Eubates, sive Ovates.
  215. Corybantes qui & Idæi, Doctyli sive Curetes, ejusdem fere fuerunt ordinis inter Silanes, cujus Druides inter Celtas, reliquias. Vide pezronum de Antiq. Ling. & Nat. Celt.
  216. Pœni a Romanis ob perfidiam male audiebant ut a nobis Galli Pœnorum vere imitatores.
  217. Comitis Provisiani magnificentissimæ ædes, in ea Cambriæ regione sitæ, quam veteres Provisiam dixere, nunc vulgo Mons Gomericus, quas Cambri accola vocaut, Castell Coch ym Mhowys
  218. Sabriana fluvius, vulgo Sabrina, Anglis Severn, Cambris vero Hafren,
  219. Kybi is the Patron Saint of Holyhead, and the Church is called after his name. There is a Sea Quadrant hung up in the said Church in memory of seventeen voyages to the West Indies performed by the help of the said Quadrant by Jno. Wheldon, Mariner.
  220. The first two lines are a solemn invocation of the Almighty, desiring his assistance in the prosecution of this work; the two following lines show the groundwork and design of the Poem; and the fifth and sixth lines take occasion to engage the reader's attention from the importance of the subject.
  221. Amcan, design.
  222. Yr hyn a ddarperir, neu a gymerir yn llaw; an undertaking.
  223. Danr and diddawr, it concerns, &c. Pam na'n diddawr? hyny yw, Pam y byddwn ddifater o honaw? Pam na bai arnom ofal o'i blegyd? Once for all; I am to let the reader know, that it is not on account of obsoleteness, or obscurity in their meaning, that several words are explained in these notes, but that the British, like all other languages, hath its dialects; and that often, what is very well understood in North Wales is not so in South Wales, or in Powys-land, and the contrary our author therefore hath made use of all the dialects together in this Poem (as Homer hath done in Greek) and sometimes compounds, which the loftiness of his subject required, and which may not be very plain to any one of the dialects.
  224. MATT. xxiv. 36.
  225. 2 PET. iii. 10.
  226. MATT. xxiv. 45, i'r diwedd.
  227. Baner, standard.
  228. MATT. xxiv. 30.
  229. Llywydd
  230. SALM Xviii. 10.
  231. Bloedd
  232. DAT. xiv. 2
  233. DAT. viii. 1.
  234. So Homer calls his Hero's Armour, and Virgil that of Eneas, and as there are manifest traces of the Hebrew idiom in the Works of the Greek Poets, it is not likely (notwithstanding the rest of the fable) that this way of speaking was borrowed of the Hebrews, who when they would represent a thing as superlatively great or excellent, usually join to it one of the names of God, El, Elohim, or Iah. The mountains of God (El.) in our English Bibles, Great Mountains, in the Welsh, mynyddoedd cedyrn, SALM xxxvi. 6, GEN. xxx. 8. The wrestlings of God (Elohim) or great wrestlings in the Welsh, ymdrechiadau gorchestol, and in SOLOMON'S SONG, viii. 6. The flame of God (Iah) or a most vehement flame in Welsh, fflam angherddol. See SALM lxxx, 10.
  235. Dr. Davies says, that rhefedd is the same as rheufedd, riches; but erroneously, for rhefedd is formed of rhef, as teredd is of tew, and both signifying the same thing, viz. thickness.
  236. Ogwymp, from gognympo; the Welsh tongue is remarkable for these compounds, of which there are two in this couplet that make a pretty opposition, one upon the verb, and the other upon the noun, and which are great helps in poetry.
  237. Gallt, in North Wales, signifies a steep hill, and in South Wales, a coppice of wood; but in South Wales they throw off the G, and pronounce it allt, in the plural eltydd
    Af yn wyllt o fewn elltydd;
    I eiste' rhwng clustiau'r hydd,
    says Lewis Glyn Cothi, an officer under Jasper, Earl of Pembroke, when he was forced to wander from place to place.
  238. Eryri, the range of mountains in Carnarvonshire, called in English Snowdon-hills, the highest of which, called, Y Wyddfa, is near a mile in perpendicular height.
  239. Hoewal, the stream of the sea or a river; i.e., in that great day of confusion all these will be level.
  240. Trwst, roaring, when spoken of the sea. See LUKE xxi. 24.
  241. Aberoedd
  242. Moroedd.
  243. Bas, lle bas.
  244. Noah, whose deluge was not to be compared to this.
  245. Goleuadau, luminaries.
  246. MATT. xxiv. 29. MARK xiii. 23, 24, 25. In this dark- ening of the sun's light, our Author hath made use of a very bold metaphor, that the sun would suffer in natural wrath an entire night by fainting away. Much after the same manner (he says) as the fit it was in when Christ was crucified
  247. Our Author, in describing the moon's darkness, takes the opportunity of giving us both the names of the moon, lloer and lleuad, both seem to be of the same origin, which in the Celtic might possibly be lleu, the same with the latin lux; for we have several words framed from the same radix, lleuer, llewyrch, lleurwydd; goleu, goleuni, goleurwydd; lleueru, llewyrn; all signifying light, splendour, &ec.
  248. This conveys a noble idea of that empty space in the heavens, between the stars and that great abyss into which, our Author says, they will fall.
  249. Though eigion, at first sight, seems to be the same with the Latin oceanus, it is certain it is not borrowed from it, but formed from aig, the sea:—
    Ni thau fy mhen am Wenno,
    Mwy na'r aig ym min y ro.
  250. The terrible gates of hell furnaces.
  251. Pant is any hollow place; and here is used for the great hollow, or vacuum, between hell and the place it is to fall into.
  252. Adfeiliog, ruinous.
  253. Some critics would have the word gwal a corruption of the Latin vallum; but if Mons. Pezron's rule holds good, vallum is derived from the Celtic gwal, by adding um; as from gwin, vinum, &c.
  254. Serfyll, likely to fall; from cwyddo, to fall; hence gogwyddo, tramgwyddo, &c.
  255. Teulu uffern, furies, demons.
  256. 'Dychryn, o dy and crynu, i.e., to quake exceedingly for fear. This crynu, repeated three times, adds a vast strength to the expression, especially as the idea is augmented in the last.
  257. Satan, the prince of hell.
  258. "A caldron, or pot. Satan is glad to get into some mean corner of hell to hide himself.
  259. Uffern, properly, utter darkness, from mwg and du, q.d., mygddu. Hell is so called in some parts of Wales; so our Welsh Translators have rendered Job x. 22, and ISAIAH lix. 9.
  260. Un o ddodenwau, neu ragenwau Duw, one of God's epithet, i.e., the Tamer.
  261. Pydron ddynionach is a most beautiful expression in the mouth it comes from, and carries an idea with it not to be expressed in other language.
  262. The charitable wish of the angel of a happy judgment puts him in a most lovely light.
  263. There is in Homer (Illiad B.) a simile not unlike this; and in Virgil, Æu. lib. 6.
  264. DAT. XX. 13.
  265. Myrdd is a myriad, or ten thousand; but it is used here for an undetermined number. Myrddiwn, in the plural myrddiynau, is a million, or ten hundred thousand.
  266. Llu is probably the ancient Celtic word from whence the Latin legio is derived, and the English legion, and in the plural is lluoedd, or lluon, vulgarly lion. Hence Caerllion ar Wysg, one of the cities of legions in Britain. The present, as well as the ancient meaning of the word llu, is an army of men (though here metaphorically used for a multitude), as appears by the book of Triades, "A llwyra lluydd a fu hwnw." Tr. Lluydd is the gatherer of an army, and Llewddyn Luyddawg is mentioned, in the same Triades, the name of a British Prince that had a vast army.
  267. Torf, and y dorf, is the ancient Celtic word for a multitude, from whence the Latin turma was borrowed; the root is twrf, which signifies noise, and the sound of thunder; and in some parts of South Wales thunder is called tyrfau, the plural of twrf. From the Latin turma, the provincial Brit ins formed the word tyrfa, which is now the common word for a multitude, or great meeting of people; if it is not formed from the word tyrru, to gather together.
  268. Ynad, is a Judge; and though Dr. Davies derives it, by transposition of letters, from the Chaldean and Hebrew, I am yet apt to think it takes its origin from hyn and hynaf, pl. hynafiaid, elders. So ynad might have been written at first hynad.
  269. Gosgordd signifies guards, but our critics have not been able to give any derivation of the word. In my opinion the word is derived from gweis (the plural of gwas, a servant) and cordd, q.d., gweisgordd, which seems to be the old Celtic word for a guard, the same with the French garde, the Italian gardia, and the Spanish guarda.
  270. DAT. xx. 11.
  271. The common word is darllenir, and the author might have written here (Egorir darllenir llith), which would not have hurt the verse at all; but he chose to stick to the ancient primitive llen, to read, which, no doubt, is one of original Celtic roots, and from whence llyfr, a book. and the Latin liber might be derived; as is llen, doctrine, and darllain, to read.
  272. Da, good.
  273. Gwyn, white, is here metaphorically used for holy, clean, unspotted, and is a common epithet for God, when his sanctity is mentioned; as in Duw lwyd, which signifies grey, when his eternity is mentioned; as the Ancient of days.
  274. The word Duw, God, in the old Celtic, seems to have been formed from 'da yw, that is, he is good.
  275. MATT. XXV. 33, 34, &c.
  276. Ion is one of the names of God, perhaps the same with Jehovah. The name of a man, Ioan, which is the Latin Johannes, is ignorantly pronounced Ion, which should be Io an, in two syllables, as appears from that verse of Iolo Goch:—
    Ail yw IO AN lân lonydd.
  277. This is beautifully expressed by Homer (Illiad A. and elsewhere), though the fate is by him attributed to Jupiter, who is said to do it with a nod of his immortal head. And after him Virgil (Æn. lib. IX.), and elsewhere. But much more beautifully and majestically by the great. Creator himself, &c., I will shake the heavens (make or cause to tremble) the heavens, &c., ISAIAH xiii. 13. See HAG. ii. 6, which expression our Author has followed.
  278. MATT. XXV. 41.
  279. Diffaith, from di and ffaith, evil, vile, literally not good. Ffaith was an old British, or Celtic word for good; and tho' the Cambro—Britons have lost the primitive, they retain it in the compound; and the Irish (a branch of the Celtic) use the word maith to this day for good, which the French Britains pronounce MAT. Here I must observe, that Dr. Davies should have wrote diffaith, a desert, with an (e) diffaeth; hence diffaethwch, a wilderness, from di and ffaeth,i.e., uncultivated, or not mellow.
  280. Epis. JUDE 13.
  281. MAT. xxv. 34.
  282. Trigfa, cartref,home.
  283. I COR. ii. 9.
  284. See a letter to the Cymmrodorion on the Prince of Wales' Motto, Ich Dien. The word here is used for eternal youth.
  285. Cyffelyb, tebyg, like.
  286. IOAN xiv. 3.
  287. The Devil, this Diafl, as well as Diafol and Diafwl, are probably provincial words, framed from the Latin Diabolus. But the original Celtic name is Diawl, and which is compounded of the negative di and iawl, a prayer, request, or thanksgiving; a fit name for the enemy of mankind, i.e., void of prayer or thanks to God.
    Aed i Ddiawl dragwyddawl dro.—GR. GRYG.
    And though many nations use the same word for the same idea, yet it may be doubted whether there is one of them that can give it a rational derivation from its own language, as we do from the Celtic. Here it may not be amiss to inform persons who are not acquainted with the rigid rules of our Cambro—British Poetry, of the surprising fetters imposed upon it by the Ancients, for the security of their language, that it might not dance beyond its bounds. These strict rules, it is certain, have cramped our geniuses, though they have preserved our language in such a manner that it is almost impossible that it should change a single letter, while the works of the poets are read. As for example, in the word Diafl, from the nature of the verse before us:—
    Gan y Diafol ydd a'r aflan.
    The three last letters of the word must be the same with the three first in the word aflan; and as the word aflan cannot possibly alter because compounded of af and glan, i.e., un and clean; so you cannot alter a word that the Poets have used without altering the whole language. The kind of verses quoted here is the loosest of any of the four different kinds used in composing this kind of poem, though, one would think, this hath difficulties enough; yet the last verse save two,
    A melysed mawl Iesu.
    hath far greater difficulties, m ls in the word melysed, on one side of the accent must answer to m ls in the words mawl Iesu, on the other side; and all the vowels on each side the accent must differ, in order to make the sound various and musical.
  288. Ymgais athrylith gref Goronwy i ddynwared geirwedd a sillebiaeth Meilir Brydydd, bardd Cymreig of gryn deilyngdod, yn ei flodeu yn y 12fed ganrif, ydyw yr awdl hon. Bydd yn ddigon hawdd i'r darllenydd cywrain ddilyn rhediad y cyfansoddiad ond iddo ymgynghori hefo Geiriadur, yn enwedig yr eiddo Thomas Richards o Langrallo. yr hwn yn ol ei bris ydyw y goreu sydd genym -Cymraeg Saesneg
  289. Chwi a welwch nad oedd Sibli yn gwisgo dim clos; Sibylla oedd hi, mae yn debyg—YR AWDWR,
  290. Geiriau gau broffwyd yw y rhai hyn.-Yn Awdwr
  291. Geriau Sibli yw y rhai hyn.-Yr Awdwr
  292. Virginia yn America, lle y mae'r awdwr yn drigiannol, wedi colli y rhan fwyaf o'i deulu ar y môr wrth fordwyo yno o Lundain yn y flwyddyn 1757
  293. Felly Horatius:—
    Labuntur anni; nec pietas moram
    Rugis et instanti senectre
    Afferet, indomitaeque morti."
  294. Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy 'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo, ennyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau, amgea na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.
  295. Gwel y Mapiau cywraint o arfordiroedd Cymru a wnaeth ar orchymyn y brenin.
  296. Sef pan oedd olygwr ar fwyngloddiau'r brenhin yn Esgair y mwyn, yn Ngheredigion,
  297. Bro'r nifwl, neu fro'r tarth, yw yr hyn a ellw y philosophyddion Saesonig ATMOSPHERE.
  298. Cyffy Brython. Efe a ysgrifenodd dwysgen ar y testun hwnnw; ond pa un ai bod dim o'r gwaith yn argraphedig, nis gwn.
  299. Areulbarth, sef y Dwyrain, neu godiad haul.
  300. Enw yr ynys cyn dyfodiad Prydain, oedd ynys Albion, hwnw a'i frawd Bergion a hanoeddynt (fe allai) o lin y Titaniaid neu Celta, cynfrodorion Ffrainc o Phrydain, a meibion oeddynt i Neptun, medd Pompenius, Mela, ac eraill awduron Rhufeinig; sof lyngesyddion dewrion, nc agatfydd mor-wylliaid dilesg; yn gymaint ag mai daw'r moroedd oedd Neptun, a'u gorchfygu eill dan a wnaed, medd yr un Awduron, gan ryw Erewlff (nen Hercules) nis gwyddis pa'r an, gan fod amryw o naddunt; of a allai mai pen lloyddwr Brewlff oedd Prydain, a gorchfygu o hono Albion Gawr, a goresgyn el ynys a'i galw with ei enw ei hun, YNYS PRYDAIN; fel na Li YNYS ALBION o'r blaen; ond coelled pawb y clawedl a fyno,
  301. Efallai y tybir hyn yn rhy eofn i'w dywedyd am ddyn daearol, er ei laned, eithr araith gynefin gan Homer tad yr awen oedd, Dæmonios, &c., a'r cyfryw; y rhai ydynt o'r un ystyr a phryd nefolion, ac y mae llyfr y Trioedd yn son am un a elwid Sanddef bryd Angel, oherwydd ei lendid.
  302. Meddaidd, hyny yw peraidd; o'r gair medd y daw.
  303. Ofydd, sef yw hwnnw, P, Ofidius Naso, un o brydyddion godidocaf Rhufain.
  304. Miscuit utile dulci, &c., Hor. Nodwch yma nad yw'r gair 'maswedd," yn ei briod a'i gynefin ystyr, ddim yn arwyddocau serthedd neu fryntni; ond yn unig rhywbeth ysgafn, digrif, nwyfus, yn wrthwyneb i bethau dwysion pwysfawr."
  305. Mae'r awdwr, gyd â phob dyledus barch i goffadwriaeth Mr. Lewys Morys, yn tra diolchgar gydnabod, mai iddo ef y mae 'n rhwymedig am yr ychydig wybodaeth ym marddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'w ran; ac yn ffyddlon gredu—nid er gwaith nac er gogan i neb—y gall y rhan fwyaf o feirdd Cymru, ar a haeddant yr enw, gyfaddef yr un peth. Ac er nad yw les yn y byd i'r Awdwr mewn dieithr wlad dramor, lle nas deall yn oed ei blant ei hun air o'r iaith Gymraeg, eto mae 'n ddywenydd ganddo goffhau iaith ei fam a'i wlad gynhenid yn ei hir alltudedd; a gresyn ganddo na bai lle y gallai wneuthur mwy o les a pharch i'w iaith a'i wlad;—ond a fynno Duw a fydd.
  306. In freta dum fluvii current, &c.-VIRG
  307. Cyffelybrwydd i gân y pedwar anifail, DAT. iv. 8., a arferent yn yr eglwys filwraidd ar y ddaear ym mhob oes, ac a hyderus obeithient gael yno á chôr saint bendigedig i'w chanu yn y nef yn oes oesoedd
  308. Arferol ym mhob ia'th yw rhoi rhif crwn, cyfan, yn lle rhif anwahanrhedol, megis cant yn lle bagad, mil yn lle lliaws mawr, a'r cyffelyb, pan fynid arwyddocau llawer, ond na wys pa nifer.
  309. "Un o enwau Duw yn Hebraeg, yn ateb yn union i'r gair Groeg Pantokrátor yn Datguddiad iv. 8 (cymhared Esay vi. 3), a Hollalluog neu Hollddigonol a arwyddocâ. Cof yw gennyf mewn rhyw ymddiddan â Mr. Lewis Morris y mynnai ef mai Cymraeg oedd ELL SADAI, sef A ALL SYDD DDA; ac yn wir nis gwn pa sut well y gellid ei gyfieithu."
  310. "Nid wyf yn tybied y ceir mo'r gair 'musig' yn nemawr o'r geirlyfrau Cymraeg; eithr nid wyf yn amau nad oedd yn arferedig yn yr iaith er yn amser y Rhufeiniaid. Pa ddelw bynnag, fe ei harferodd Lewys Morgannwg, er ys gwell na deucan mlynedd, yn ei awdl wrth Leision, abad Glyn nedd,—Arithmetic, music, grymusion

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.