Neidio i'r cynnwys

Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf, testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf, testun cyfansawdd)

gan Goronwy Owen


golygwyd gan Isaac Foulkes
Nodiad
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Barddoniaeth Goronwy Owen
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Goronwy Owen
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Isaac Foulkes
ar Wicipedia





BARDDONIAETH


GORONWY OWEN




(WYTHFED ARGRAFFIAD).




LIVERPOOL:

Cyhoeddwyd gan H. Evans a'i Feibion, 356-8 Stanley Rd.


1924

NODIAD.

UN o effeithiau mwyaf nodedig y deffroad addysg diweddar yng Nghymru fu'r diddordeb a enynwyd yng ngweithiau Goronwy Owen. Addefir yn gyffredinol, a chan yr athrawon mewn Cymraeg yn ein hysgolion a'n colegau, fod Llythyrau a Barddoniaeth Goronwy yn parhau yn eu gwerth, ac yn addas fel testyn-lyfr i efrydwyr ein hen iaith odidog, yng nghyfoeth geiriau, ceinder arddull, a thanbeidrwydd awen. Rhaid addef ddarfod i lawer o'r beirdd Cymreig, wedi amser y Bardd o Fôn, ddirywio, i raddau helaeth, oddiwrth ei arddull cryno a'i briod-ddull gwir Gymreig ef. Ac mae'r un mor wir ddarfod i gyfarwydd-deb amryw o'r beirdd diweddar â gweithiau beirdd estronol ddwyn i'w gwaith ormod o'r ddelw efelychiadol, ac anghydnaws âg awen naturiol y Cymru. Ond bydd efrydiaeth drwyadl o weithiau ardderchog Goronwy Owen yn foddion i ddiwygio'r ddau ddrwg—llacrwydd arddull ac efelychiad estronol. I geisio cyflenwi'r alwad am y Llythyrau a'r Farddoniaeth y cyhoeddir yr argraffiad hylaw a rhad presennol.

Y CYHOEDDWYR.

CYNHWYSIAD.






GORONWY OWEN

(BYWGRAPHIAD).


MEWN bwthyn distadl ar fin y Rhosfawr, yn mhlwyf Llanfair Mathafarn Eithaf, Mon, y ganwyd Goronwy Owen, a hyny Ddydd Calan, 1722—Calan yn ol yr hen ddull, ond Ionawr 13 yn ol y dull presenol o gyfrif. Ei dad, Owen Goronwy, oedd eurych meddw a diddaioni, meddir; a'i fam, Sian Parri, yr hon, yn ol arfer gwlad yn ei hoes, a adwaenid ar ol priodi wrth ei henw morwynol, oedd wraig ddiwyd, ac yn helpu ei bachgen yn ei ymdrechion am wybodaeth. Rhedeg o'r, ac nid i'r ysgol, y bydd plant yn gyffredin. Yr olaf ddarfu'r bachgen Gronwy: neu Gronow, canys felly y sillebid ei enw ac y gelwid ef yn mhob gweithred gyfreithiol y rhan gyntaf o'i oes. A'r ysgol agosaf i Rhosfawr ar y pryd, meddir, oedd yn Llanallgo—pellder o ddwy filldir. I'r ysgol hono y rhedodd y bachgen, a buasai ei dad wedi ei guro, onibai i Sian Pari godi'r hwyl fawr. Felly, fe aeth y llanc yn mlaen gyda'i fyfyrion tan nawdd ei fam dlawd a chefnogaeth cymydogion yr oedd ei anian ryfeddol. i ddysgu wedi tynu eu sylw ac enyn eu hedmygedd. Y penaf o'r rhai hyn oedd teulu Pentref Eirianell— cartref Lewis, Richard, a William Morris—y "tri-mab o ddoniau tramawr," a'u mam, y "wraig ddigymhar Marged," y canodd y llencyn tlawd wed'yn y farwnad dlosgain iddi a welir ar dudalen 34 o'r llyfr hwn. Bu y Morysiaid yn dra charedig wrtho, ac anhawdd eredu y buasai genym Oronwy Fardd o gwbl oddieithr am y nawdd a gafodd ganddynt hwy. Cydnebydd y bardd eu haelioni mewn geiriau tyner a diolchgar, y rhai a welir yn ei Farddoniaeth ac yn wasgaredig hyd ei Lythyrau.

Wedi dysgu yr hyn oedd i'w ddysgu yn Llanallgo, aeth i Ysgol Ramadegol Bangor, lle y bu o 1737 hyd 1741. Y syniad cyffredin ydyw mai Lewis. Morris oedd yn talu traul yr ysgol, neu yn hytrach yn helpu'r fam ymdrechgar tra bu hi; canys erbyn i'r bachgen orphen ei gyfnod yn Mangor, yr oedd ei fam wedi marw a'i dad di-lun wedi ail briodi. Nid oedd yno gartref mwy iddo ef; ac yr oedd yn gyfyng arno. Yn ei gyfyngder danfonodd lythyr Lladin at "Owen Meyrick o Fodorgan, Ysw.," yn dweyd ei hanes, ac yn apelio am ei gymhorth fel ymddiriedolwr dwy ysgoloriaeth yn Môn i gynal dau wr ieuanc yn Rhyd— ychen neu Gaergrawnt. Nid ymddengys i'w gais lwyddo, ar y pryd, beth bynag: a chawn ef yn nesaf yn athraw cynorthwyol Ysgol Ramadegol yn Mhwllheli. Yno yr oedd yn 1742, pan ganai ei "Latin Ode" i Mr. Richard Rathbone—gweler tudal. 114; a "Chalendr y Carwr," tudal. 18, er y dywedir mai tua 1743 y cyfansoddodd y cywydd hwnw. Mehefin 3, 1742, a hyny trwy gymhorth Edward Wynne, Ysw., o Fodewryd, derbyniwyd ef i Goleg Iesu, Rhydychen. Mewn cyfarfod o Ymddiriedolwyr "Elusen William Lewis," a gynaliwyd Medi 1, 1743—Owen Meyrick ac eraill yn bresenol—gwnaed yr archeb a ganlyn:—" Ordered that Gronow Owen, now of Jesus Colledge, Oxford, be, and is, hereby admitted to receive the said Charity in the room of Mr. Langford, who has received the same for five years." Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1745—nid yn Mangor na Llanelwy—mae sicrwydd am hyn; tybir mai yn Rhydychen. Yna, ac ini ddyfynu geiriau'r bardd ei hun, "fe ddigwyddodd fod ar Esgob Bangor eisiau curad y pryd hyny yn Llanfair Mathafarn Eithaf; a chan nad oedd yr Esgob ei hun gartref, ei Chaplain ef a gytunodd â mi i fyned yno." Yn naturiol iawn yr oedd hyn wrth fodd calon y clerigwr ieuanc cael myn'd i Fôn, i'w blwyf genedigol, ac i blith ei hen gyfeillion. Ond, "Ni cheir mo'r melys heb. y chwerw. Dyma lythyr yn dyfod oddiwrth yr Esgob (Dr. Hutton) at ei Gappelwr yn dweyd fod a young clergyman of very great fortune wedi bod yn hir daergrefu am ryw le yn yr esgobaeth, a rhaid oedd i hwnw gael y lle os dymunai."

Chwedl yntau, "Beth a wnai drwstan ?" Cefnu; beth arall? Ac o hyny allan, ni welodd ac ni throediodd ymylau Mon, nac un cwr arall o Gymru, onid unwaith, pan orfu iddo fyned i Lan Elwy i gael urdd offeiriad. Llawer cais a wnaeth am fywoliaeth yn Mon, neu ryw ran arall o Gymru, yn niffyg Mon; llawer ochenaid drom esgynodd o'i fynwes, a deigryn hallt ddisgynodd o'i lygaid, am gael sangu yr "ardd wen." Ond bu pob ochenaid a deigryn, a chân a chywydd, o'i eiddo yn gwbl ofer. "Nid oedd y Bardd Du yn ddigon da," ebe rhai; "arno ef ei hun yr oedd y bai," meddynt. Hach! ac i ni gredu y gwaethaf am Oronwy, a'r goreu am ei gydoeswyr offeiriadol, yr oedd haner pwlpudau Eglwys Loegr yn Nghymru yn cael eu llenwi gan ddynion annhraethol waeth nag ef.

Hwn oedd argyfwng mawr bywyd y Bardd. Trodd ei wyneb tua sir Ddinbych, lle yr oedd rhai o deulu ei fam a fuasent garedig wrtho droion o'r blaen; a chyda hwy y bu yn llechu (gresyn na ddywedasai yn mha gwr o sir Ddinbych) nes y cafodd hanes curadiaeth yn ymyl Croes Oswallt; ac meddai (gwel LLYTHYRAU, tudal. 8) " tuag yno y cyfeiriais. . . Mi fum yn Gurad yn nhref Groes Oswallt yn nghylch tair blynedd, ac yno y priodais yn Awst, 1747."

Dywed y Parch. R. Jones mai curadiaeth Selattyn, plwyf tua dwy filldir o Groesoswallt, a gafodd, ond nid yw'r Bardd ei hun yn son am Selattyn o gwbl, hyd yn nod mai yno y priodwyd ef, yr hyn sydd ddiamheuol, fel y prawf y cofnod canlynol a godwyd o Register y plwyf hwnw:—

Mar. The Revernd Gronow Owen and Mrs. Elen Hughes both of Owaldstree were married 21st day [of August, 1747].

Ac wedi dechreu son am ei briodas, ni waeth gorphen Gweddw ieuanc oedd ei wraig, medd y Parch. R. Jones; merch i Mr. Owen Hughes, aldramon yn Nghroesoswallt, gwr lled gefnog arno; ond ni fu'r Bardd fawr elwach o hyny, fel y tystia yn rhai o'i Lythyrau. Dywed y Parch. Rossendale Lloyd, rheithor presenol Selattyn, ac i hynawsedd yr hwn yr ydym yn ddyledus am y copi uchod, fod y registers yn cael ei cadw yn annhrefnus yn y misoedd hyny oblegyd afiechyd y rheithor. Tybed fod Goronwy yn gweinyddu yn Selattyn pan fyddai'r offeiriad yn rhy wael? Yn ol Cofrestrau Llanelwy, Awst 8, 1747, y trwyddedwyd ef yn gurad Croesoswallt, a thranoeth (Awst 9) yr urddwyd ef yn offeiriad. Dichon ei fod yn rhy dlawd i dalu am drwydded pan offeiriadai yn gynorthwyol, ac yn rhaid iddo ei chael i fod yn gurad Croesoswallt. Fe ddywed y Parch. R. Jones hefyd fod y Bardd yn un o athrawon Ysgol Ramadegol Croesoswallt.

Gadawodd Groesoswallt yn Medi, 1748, gan dderbyn curadiaeth Uppington, sir Amwythig, a chael gyda hyny y swydd o feistr ysgol fechan waddoledig yn Donnington, lle y trigianai. Ysgotyn calongaled a chribddeilgar oedd ei rector o'r enw Douglas, yr hwn a ddyrchafwyd yn olynol yn Esgob Carlisle a Salisbury. Gwaith anhawdd enbyd oedd dwyn deupen y llinyn yn nghyd yn Donnington. Tua £26 yn y flwyddyn a dderbyniai oddiwrth y ddwy swydd; ac yr oedd ei ofynion teuluaidd yn cynyddu. Flwyddyn wedi iddo fyned i'r porfeydd gwelltog hyn, ganwyd ei fab hynaf, Robert, y rhodd bert bach;" a deuddeg mis yn ddiweddarach, daeth iddo ail fab, sef Goronwy. Ond ymdrechodd y Bardd ei oreu i gadw ei ben uwchlaw'r dwfr, ac er amled ei ddyledswyddau, mynodd hamdden i ddysgu cryn lawer ar yr ieithoedd Syriaeg ac Arabaeg. Yma hefyd, yn nghanol Lloegr, y cyfansoddodd ei "Gywydd y Farn Fawr." Y mae'n cwynaw ei fyd yn dost,—a chwynwr doniol ydoedd. (Gweler LLYTHYRAU, tudal. 21,.)

Ond fel y dywed ef ei hun, "Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf gan Dduw." Llwyddodd ei gyfaill, Wm. Morris o Gybi, i gael lle iddo fel curad Walton, ger Lerpwl, lle y dechreuodd ar ei orchwyl Ebrill 29, 1753. Yr oedd Walton o gryn lawer yn well iddo na Donnington, canys nid oedd lai ei gyflog yma na £35; heblaw tâl fel meistr Ysgol Rad o £13, a Thŷ'n y Fynwent i fyw ynddo.

Tua dwy flynedd fu hyd ei drigfan yn Walton. Yma ysgrifenodd y nifer luosocaf o'i lythyrau sydd ar gael a chadw. Dichon na fu ei awen firain mor gynyrchiol ag yn Donnington, a phriodola un o'r Morysiaid hyny i'w agosrwydd at dref fawr Lerpwl, a'r temtasiynau yr oedd yn agored iddynt trwy fynych gyfarfod capteniaid llongau a chyfeillion eraill o Gymru. Gwell genym ni gredu mai ei aml ddyledswyddau mewn plwyf mawr, y mynych wasanaethau i'w cyflawni yn Eglwys y Plwyf, a hyny heb gymorth y Rector glwth, fu'r prif achosion na chanodd yma gymaint ag a fuasid yn disgwyl. Yn gynar yn 1755, bu yn glaf iawn tan y cryd; ac Ebrill 17, bu farw ei unig eneth, yr hon oedd yn dra anwyl gantho." Archoll lem i'w deimladau tyner oedd ei cholli. Meddai mewn llythyr at Wm. Morris:—

Mae fy holl dylwyth i yma [Llundain] bod y pen, ond fy merch fach a fynai aros yn monwent Walton, o fewn deurwd neu dri at y fan y ganwyd hi.

Nid ydym yn sicr beth barodd i Oronwy symud i Lundain. Rhai a ddywedant mai bwriad y Cymmrodorion i godi Eglwys Gymraeg yn y Brifddinas; ac yntau yn awyddus am y gaplaniaeth, a daflodd guradiaeth Walton i fynu. Modd bynag, treuliodd rai misoedd yn Llundain yn segur; a dyna'r adeg y cyfansoddodd "Gywydd y Nenawr" (gwel tudal 85). Cyrhaeddodd Goronwy a'i deulu i'r Brifddinas ddechreu Mai, 1755. Ond siom oedd yn ei aros yno. drachefn. Methwyd cael eglwys i gynal gwasanaeth Cymraeg ynddi, ac nid oedd yno felly gaplaniaeth iddo yntau. Bu y Morysiaid ac amryw gyfeillion eraill yn dra charedig wrtho ef a'i deulu hyd nes agorodd drws ymwared yn mhen rhyw ddeufis neu dri trwy iddo gael curadiaeth Northolt, plwyf gwledig rhyw ddeuddeg milldir o Lundain. Ei gyflog yno oedd £50, a thy, a gardd helaeth. Rhwng pobpeth, gydag ychydig gynildeb a darbodaeth, gallasai fod yn ddigon clyd arno; ac felly yr oedd am gryn amser. Gwahoddai Lewis a Richard Morris i ymweled â Northolt gan addaw lletty cysurus a phorthiant gweddaidd i'w sefyllfa; a danfonodd "Gywydd Gwahawdd" godidog at "Parry o'r Mint." Ymroddodd i fyfyrio yn nhawelwch ei neullduedd, a thorai ar ddiflasdod y fyfyrgell trwy bysgota yn yr afon Brent gerllaw. Ond ymwelai'n achlysurol â'r Brifddinas, lle cyfarfyddai rai o'i hen gymdeithion, yr hyn a'i taflai oddiar ei echel yn lân a chollai bob llywodraeth arno ei hun. Yr oedd, er hyny, yn fôd mor frac a llawn o athrylith fel mai hawdd maddeu iddo. Nid oes le i gredu fod undyn wedi digio drwyddo wrtho ond Lewis Morris; ac ar dudal. 127 o'r LLYTHYRAU ceir awgrym gynil paham. Mae desgrifiad L. Morris o'r bardd, sydd yn dechreu, "I wonder how the poor d——l of an offeiriad," wedi ei ddyfynu ar yr amlaf, ac ni fuasem yn ei grybwyll ond er dangos fod ochr arall i'r darlun a geir yn "Cywydd y Diawl." Ni chafodd bardd erioed ffyddlonach cyf- eillion na Goronwy yn y Morysiaid, waeth beth ddywed neb i'r gwrthwyneb.

Bu ddwy flynedd yn Northolt; a chan weled nad oedd ond gobaith gwan iddo byth am bersoniaeth yn Nghymru, penderfynodd dderbyn cynyg o £200 yn y flwyddyn am fyned i Williamsburgh, Virginia, fel athraw ysgol. Ond pa fodd yr oedd ef, ei briod, a'i dri phlentyn i gyrhaedd yno? Ugain punt a ganiatai'r llywodraeth at y gost. Apeliodd at y Cymmrodorion am help yn yr anerchiad a welir yn y LLYTHYRAU, 133; a chyfranodd Mr. Richard Morris ac ychydig o gyfeillion eraill iddo bum' gini. Dechreu Rhagfyr, 1757, hwyliodd yr hunan-alltudiedig a'i deulu o Lundain, nid, fel y dywed yntau, am wlad newydd ond am fyd newydd. Golygfa gyffrous oedd gweled yr hen Gymro gwladgar Richard Morris a Goronwy yn ffarwelio ar lan y Dafwys byth i weled eu gilydd mwy. Trial oedd enw ei long, ac ysgubion cymdeithas yn cael eu hel i'w halltudiaeth oedd ei gyd-fordwyaid, a'r capten yr adyn mwyaf ysgeler ohonynt. Felly y mae pob sicrwydd mai mordaith orlawn o annghysur a gafodd; ac yn ben ar y cwbl, bu farw ei briod hoff a'u bachgen ieuengaf cyn cyrhaedd yr ochr draw.

Nid llawer a wyddis o'i hanes yn Williamsburgh. Ond daeth newydd i'r wlad hon yn fuan ei fod wedi priodi drachefn; mai Mrs. Blayton, chwaer i Brifathraw y Coleg, oedd ei wraig; ac iddo ei cholli hithau wed'yn o fewn llai na blwyddyn i'w briodas. Hanes arall a ddywed ei fod yn bur lwyddianus fel athraw ond mai rum, yr hwn a ddyfethodd fwy na'r cleddyf, oedd. ei brofedigaeth; iddo ymadael â'r coleg tan dipyn o gwmwl-fe aeth i chwareu ystranciau direidus trwy anos myfyrwyr y coleg a llanciau'r dref i ymladd â'u gilydd, am yr hyn y diswyddwyd ef ac un o'r Proffeswyr. Nid yw'r newyddion hyn yn hollol gyson â'i fod wedi cael bywoliaeth plwyf St. Andrew yn yr un dalaeth, yn union, os nid cyn yr amser y dywedir iddo adael y Coleg. Mewn gohebiaeth ddyddorol sydd yn taflu llawer o oleuni newydd ar fywyd y Bardd yn yr Amerig, a ymddangosodd yn y Geninen, 1889, o waith Isaled, dywedir mai ar y 15fed o Fai, 1760, y penodwyd ef yn rector Llanandreas, a hyny gan. Raglaw-lywodraethwr Talaeth Virginia. Yn yr un ohebiaeth, gan ddyfynu o lythyr gor-wyr i'r Bardd a ymddangosodd gyntaf yn y Drych Americanaidd, 1875, dywedir farw o Oronwy yn nhŷ ei frawd-yn-nghyfraith yn Blandford, Virginia, fis Gorphenaf, 1769, a'i gladdu ar ei etifeddiaeth ei hun, yn swydd Brunswick, a bod pobl yn fyw yn 1840 allent ddangos. yr ysmotyn. Yn yr un ohebiaeth fyth, ceir rhestr o'i blant o'r drydedd wraig, pedwar mewn nifer, sef Jane, Richard Brown (taid P. A. Owen, awdwr y llythyr a ddyfynir), Goronwy, a John Lloyd. Mae'n amlwg fod P. A. Owen wedi cymeryd trafferth lawer i olrhain hanes ei hendaid clodfawr; ac yr oedd ganddo frawd o'r enw Goronwy Owen yn feddyg parchus yn Mobile, yr hyn a ddengys fod yr hen enw yn dal yn y teulu. Y newydd-beth rhyfeddaf yn llythyr P. A. O. ydyw'r copi a rydd o lythyr a ddanfonodd Goronwy at ei wraig oddiar ei glaf wely yn deisyf arni brysuro ato o'r blanigfa, os oedd hi am ei weled yn fyw; llythyr ydyw dyddiedig "Blandford, Sadwrn, Mehefin 24ain, 1769, i Mrs. Jeaney Owen, yn Brunswick, gyda'r bachgen negroaidd Daniel." Nid yw yn hawdd deall beth oedd a wnelai ef na'i briod â phlanigfa, na phaham yr oedd hi tan yr angenrheidrwydd o fyw ar y blanigfa.

Bu Goronwy, ei ail fab, o'r briodas gyntaf farw yn mhell o flaen ei dad, ond yr oedd Robert ei fab hynaf, yn fyw yn 1796. Y llythyr olaf o'i eiddo sydd ar gael yw'r un a ddanfonodd at Richard Morris gyda'r farwnad benigamp i Lewis Morris), ac a welir yn y LLYTHYRAU, 135.

Gwnaed aml gais i gyhoeddi barddoniaeth Goronwy cyn ei fyned i'r Amerig, a pharhaodd ei gyfeillion ar ol ei fyned i hyrwyddo'r amcan hwn; ac yn 1763, ymddangosodd tan y teitl canlynol:-

DYDDANWCH TEULUAIDD; y Llyfr Cyntaf; yn cynnwys Gwaith y Parchedig Mr. GORONWY OWEN, Lewis Morris Esq., a Mr. Huw Huws, etc., Beirdd Mon Mam-Gymru, ac aelodau o Gymdeithas y Cymmrodorion. O Gasgliad Huw Jones o Langwm, C.C.C. Llundain: Argraphwy gan William Roberts, Printiwr y Gymdeithas, M.DCC.LXIII.

Cyhoeddwyd ail argraphiad o'r Dyddanwch Teuluaidd yn Nghaernarfon, yn 1817. Yn 1860, daeth Gronoviana allan, sef casgliad o'i farddoniaeth a'i lythyrau (yr olaf yn benaf o gasgliad Owen Williams o'r Waenfawr) o wasg John Jones, Llanrwst; a than olygiad ei fab, y Parch. Edward Jones, M.A., Ficer Llanrhaiadr-yn-Mochnant. Yr oedd Gronoviana yn taflu y Dyddanwch i'r cysgodion, fel y taflwyd Gronoviana, yn 1876, gan argraphiad rhagorol y Parch. Robert Jones, B.A., Rotherhithe. Pris y Dyddanwch (arg. laf) oedd 2s.; 2il arg. 3s. 6ch. ; arg. Llanrwst, 5s. 6ch.; arg. Rotherhithe, £1 10s. Yn 1877, cyhoeddwyd BARDDONIAETH Goronwy Owen mewn llyfr swllt, yn rhif 5 o Gyfres y Ceinion, yn y swyddfa hon; a'i LLYTHYRAU, tan olygiad yr Athraw Morris-Jones, M.A., yn 1895, fel rhif 18 o'r un Gyfres.

ISAAC FOULKES.
"I'N chwaeth ni," ebai y diweddar Dr. Lewis

Edwards, "mae canmawl barddoniaeth Goronwy yn un o'r pethau mwyaf diangenrhaid a allai fod, ac yn dwyn i'n cof yr hen ddywediad am baentio y lili." (Gwel Y Traethodydd, Ionawr, 1876, tudal. 77). Yn hollol felly ac nid ein hamean yn yr ychydig sylwadau hyn yw canmol, nac ychwaith feirniadu, gwaith y bardd, eithr yn unig alw sylw at un neu ddau o'i nodweddau. Diau y gwel. pawb a'i darlleno fod amrywiaeth cyfoethog yn nghyfansoddiadau Goronwy—yn codi i raddau helaeth o amrywiaeth cyfnodau oes a dadblygiad bywyd, cystal ag o'r amgylchiadau neillduol yr äi'r bardd drwyddynt.

Wrth gwrs, nis gallai awen Goronwy guddio ei hun pan ddechreuodd ysbrydiaeth wynfydig y "carwr," ei feddianu; ac y mae ei gywydd "Calendr y Carwr," yr hwn a gyfansoddodd yn y cyfnod hwnw, yn llawn o awenyddiaeth chwareus, ac yn addurnedig â'r gelfyddyd gynghaneddol fwyaf cain. Dyddorol iawn sylwi ar nwyfiant edmygol rhai o'r Prif—feirdd Cymreig wrth ganu i'r Rhyw Deg. Cymerer, er engraipht, Dafydd ab Gwilym, Dewi Wyn o Eifion, a Goronwy. Mae'n hysbys mai ei "Forfudd" gafodd oreu, ac agos y cwbl, o farddoniaeth D. ap Gwilym, Nid yw Dewi Wyn yn fwy hapus yn unman na phan yn nghymdeithas ei "Elen." A gwisgodd Goronwy rai o emau gwerthfawrocaf ei awen am ei "Fari fwyn;" a chredwn ef pan ddywed:—

Gwir yw i mi garu merch;
Trosais hyd holl ffyrdd traserch.

Desgrifia ei hun yn glaf o gariad, a'i fron wedi ei briwio:—

Wyf glwyfus, nid â gleifwaith,
Gwnaeth meinwen â gwên y gwaith.

Nid anfad—ddyn creulawn a frathodd ei galon â chledd, eithr gwên merch a'i trywanodd hi! A'r fath syniad barddonol a haner ymguddia yn y cwpled. nesaf:—

Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy dêg i wenu.

Beth mwy ellid ddweyd am degwch naturiol wyneb merch na bod yn amhosibl i wên ychwanegu ato? Mae y cywydd hwn yn llawn o bethau cyffelyb, ac yn cynwys y symudiadau mwyaf medrus. Mor sydyn a tharawiadol y trydd oddiwrth degwch gwedd ei gariad i edliw iddi ei bod yn defnyddio ei harddwch i'w dwyllo, ac oherwydd hyny y dymunasai fod ei glendid yn llai:

Adwyth fod it', ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn
Chwidrach, anwadalwch dyn.

Y dyb gyffredin yw mai cywydd Y Farn Fawr yw gorchestgamp Goronwy; ac y mae yn debyg fod y dyb hon yn gywir. Yr oedd y fath destyn cyffrous â hwn yn gofyn am y nerthol a'r arswydlawn yn y portread o hono, yr hyn, yn ddiau, a gaed gan ein bardd. Cywir iawn, i'n bryd ni, y sylwa y diweddar Dr. Lewis Edwards-yn yr erthygl y cyfeiriwyd ati eisoes-na chymerodd Goronwy Owen yr elfen bersonol i fynu yn ddigon helaeth yn ngweithrediadau y Farn-nad ymwthiodd i fewn i feddyliau a theimladau gwahanol gymeriadau. Ac fel na ddarfu i'r bardd roddi nemawr o le i'r personol yn ei gerdd, ni threiddiodd i fewn at yr egwyddorion a roddent ystyr i'r "Ymweliad Mawr " ag y gelwid dynolryw iddo. Y canlyniad fu iddo. roddi i ni ddarlun mawreddog o'r olygfa ofnadwy, heb roddi i ni fawr o oleuni ar yr egwyddorion nad oedd yr olygfa onid gwisg iddynt. Ond yr hyn a wnaeth Goronwy, fe'i gwnaeth yn y fath fodd ag i hawlio iddo anfarwoldeb. Ond credwn, er hyny, fod ganddo gyfansoddiadau eraill ydynt, yn ol eu rhywogaeth a'u hansawdd, eu golygiad a'u gweithiad allan, yn agos iawn, beth bynag, i "Gywydd y Farn." Tra nad ydym yn tybio fod y cyfansoddiad ardderchog hwnw wedi cael gormod o sylw, dywedwn yn ddibetrus fod rhai o'i gyfansoddiadau eraill wedi cael rhy fychan, megys "Y Maen Gwerthfawr," "Y Cynghorfynt," "Y Nenawr," ac yn arbenig ei "Gywydd Ateb i Anerch Huw ap Huw "-lle y barddona ei hiraeth am ei anwyl Fon." "Dedwyddwch," mewn gwirionedd, yw testyn "Y Maen Gwerthfawr." Nid yw yn faith, ond y mae yn wir farddonol. Mae ganddo beth lled brin mewn cyfansoddiadau prydyddol Cymreig, sef golygwel (conception) barddonol: heblaw fod ei syn-. iadau yn odidog, a'i gynghaneddion yn naturiol a tharawiadol. Try allan i'r byd i chwilio am y "gêm gwerthfawr":—

Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr.

Ymwibia i bob cwr o'r greadigaeth, drwy dir a môr daear ac wybren, ond yn ofer :—

Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi.
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gêm, a chael gwmon.

Ond o'r diwedd, wedi ei siomi yn mhob man arall, daw o hyd i'r "gêm" a geisiai yn "Efengyl Duw." Mor odidog y gesyd allan olud y nef yn y llinellau hyn:—

Fan deg yw nef fendigaid,
Tlws ar bob gorddrws a gaid.

Ymfoddlona ei ysbryd ymofyngar yn Nuw:—

Dyma gysur pur heb ball,
Goruwch a ddygai arall,

"Gem" oedd y testyn; gêm hefyd yw y cyfansodd- iad arno. Pair darllen "Cywydd i Ddiawl" ini synu at allu calon i gashau, a medr awen i watwor. Amlwg yw fod yma ddau wrthrych dan lygad y bardd; y naill yn Satan ei hun, a'r llall, fel y bernir yn gyffredin, yn un o gydwladwyr Goronwy, â'r hwn y syrthiasai allan. Gallesid meddwl ei fod wedi dihysbyddu ei allu duchanol yn ei ddesgrifiad o ddiafol. Nid hawdd dychmygu diafol hyllach na hwn! Er hyny, pan ddeuwn at y llinellau a ddechreuant gyda—

Gŵr y sy', gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion.

gwelir yn wahanol. Cymaint oedd dyfais a medr y bardd fel y gallodd wneud Satan yn foneddwr o'i gymharu â'r gŵr" y cwerylasai âg ef. Mor gyflym a deheuig y teifl y naill bicell ar ol y llall, fel y gorfodir ni i dosturio wrth yr hwn sydd yn nôd iddynt, yn fwy nag i edmygu yr hwn sydd yn eu bwrw. Y syniad mwyaf eithafol a goleddir fel rheol am ddyn drwg yw y dylid ei gyflwyno i Satan"; ond yr oedd Goronwy yn ddigon athrylithgar fel ag i feiddio cynghori Satan rhag ymgyfeillachu â'r "gŵr " a ddesgrifid ganddo:—

Nid oes modd it' ei oddef,
Am hyn na 'mganlyn âg ef,
Nid oes i'r diawl, bydawl bwyll,
Ddiawl genyt a ddeil ganwyll.

Ond, oddiwrth yr arwyddion hyn o gâs, gallwn droi at arwyddion diamheuol o gariad. Mor dyner yw yr ysbryd a anadla hiraeth am ei wlad a'i genedl mewn amryw gywyddau o eiddo'r bardd! Y mae ei "Ateb i Annerch Huw ap Huw," yn ein tyb ni, cystal a nemor ddim a gyfansoddodd, yn enwedig mewn cynllun, ac angerddoldeb. Dyma gerdd ymadawol Cymro diledryw i wlad ei dadau, a'r Ynys yr hiraethodd gymaint am gael dychwelyd iddi. Siomiant a gafodd ar ddechreu ei yrfa, a dyna a'i dilynodd drwy ei oes. Bu yn preswylio yn Lloegr, a'i galon yn Môn! Bu am flynyddoedd yn disgwyl i ffawd ei arwain yn ol dros y Fenai. Ond Ow! chlywodd hi mo'i ocheneidiau, ac ni wrandawodd ei gri. Erbyn hyn mae ei obaith wedi blino'n disgwyl, ac ymollynga i'w dynged. Dechreua ei gerdd mewn ymostyngiad gerbron Duw, gan ei gydnabod Ef fel ffynonell pob da a pherchen. pob clod:—

O farddwaith ôd wyf urddawl,
Poed i wau emynau mawl,
Emynau'n dâl am einioes
Ac Awen i'r Rhên a'u rhoes.

Anadla y dymuniadau mwyaf difrif—ddwys am allu cyflawni ei weinidogaeth yn iawn, ac edrycha tua'r Farn gydag arswyd wrth sylweddoli ei gyfrifoldeb i ddynion a Duw:—

 
Ateb a fydd rhyw—ddydd rhaid
I'r Ion am lawer enaid.

Mae ei eiriau yn llosgi mewn sel dros ogoniant Duw, ac yn erbyn balchder dynion a fynent ladrata y clod dyledus iddo Ef:—

Ein Perchen iawn y parcher:
Pa glod sy'n ormod i Nêr?
*****
Gwae rodres gwyr rhy hydron!
Gwae leidr a eirch glod yn Ion!


Llefara y bardd fel prophwyd o dan ysbrydoliaeth o'r nef, ac edrycha ar bobpeth oddiar safbwynt uchel un yn gweled Duw, gan ymostwng iddo am y sydd, ac ymddiried iddo am a ddaw. Beth bynag allai fod ei ofid ef oherwydd colli ei Fon, ni fyn gredu ei bod yn anffawd i Fon ei golli ef:—

Achos nid oes i ochi,
Wlad hael, o 'madael â mi.
Cerais fy ngwlad geinfad gu—
Cerais, ond ofer caru!

Cyfyd o flaen ei feddwl y llu enwogion fuont o dro i dro yn ogoniant i'r Ynys:—

Pwy a rif dywod Llifon?
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Môn?

Ond mae angau wedi ateb yr her gyda'r nifer luosocaf o'r cewri hyn. Eto, y mae Mon yn derbyn "eppil" y mawrion o hyd, a'i gogoniant yn parhau. Cyfyd y bardd o'r diwedd i'r fath uchelbwynt mewn teimlad hiraethlawn, fel ag y geilw ar y dòn i ddystewi, er mwyn i Fon glywed ei eiriau olaf wrthi! Gwna i ni sylweddoli distawrwydd synllyd, a chlywn yntau, gyda galar yn ei galon, a dagrau ar ei rudd, a chryn— dod yn ei lais, yn llefaru:—

Henffych well, Fôn, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir.

Yn mhen ysbaid, teimla ei ysbryd yn llesgau, a llewyg yn d'od drosto:—

Bellach, f'ysbryd a ballawdd.

Modd bynag, cafodd nerth i orphen ei anerchiad ymadawol i'w fam-ynys gyda llinellau a fyddant byw am lawer oes. Bu yn hir yn gobeithio cael byw yn ei Fon; ond erbyn hyn nis gall obeithio cael bedd ynddi:—

Poed yt hedd pan orweddwyf
Yn mron llawr estron lle'r wyf!
Gwae fi na chawn enwi nod,
Ardd wen i orwedd ynod!

Eto, ymeifl mewn dymuniad uwch na chael bedd yn naear Mon, ac y mae ei ffydd yn enill iddo fuddugol—

iaeth ar ei hiraeth am ei wlad, gan ddangos iddo "dŷ i'r enaid:—

Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur, yn fflam dân.

Mor ddwys-dyner yw yr olwg ar Oronwy, yn fuan wedi gorphen ohono y cywydd hwn, yn cychwyn i'w daith helbulus, ys dywed Ioan Madog:—

"O'r dwyrain hyfryd araul,
I waelod tir machlud haul."

Credwn nad yw Goronwy, fel bardd, ond megys yn ngwawr ei boblogrwydd, ac y gwirir eto y cwpled:

Ceir yn son am Oronwy,
Llonfardd Mon, llawn fyrdd a mwy.


BARDDONIAETH

GORONWY OWEN.


ENGLYNION I DDUW.

A ganwyd ychydig cyn myned i Rydychen, 1741.

Duw Tad, un (o'th rad) a thri,—Duw anwyl,
Daionus dy berchi;
Duw unig y daioni,
Clau yw fy nghred—clyw fy nghri.

Dy eiriau, Ion clau, clywais,—yn addo
Noddi pawb a'th ymgais;
Ymagored (mi gurais)
Y Nef wrth fy llef a'm llais.

Gellaist (i'th nerthog allu—nid yw boen)
Wneud y byd a'i brynu,
Yn D'wysog, un Duw Iesu,
Ti sydd, Ti fydd, Ti a fu.

Da gwyddost wrando gweddi—Dy weision,
Dewisaist eu noddi;
A minau wyf, o mynni,
Duw Iesu dêg, dy was Di.

Gwaelaidd gynt yn bugeilio—fu Moesen[1]
Ym maesydd hen Jethro;
Di roddaist hyder iddo,
A braint, a rheolaeth bro.


A'r Salmydd, cynydd[2] Duw cu,— cof ydyw,
Cyfodaist i fynu;
O fugail, heb ryfygu,
Aeth Dafydd yn llywydd llu.

Minau, Duw Nef, o mynni,—anerchaf
Hyn o archiad iti;
Bod yn fugail cail[3] Celi[4];
A doed im' dy eglwys Di.

Ni cheisiaf gan Naf o nefoedd—gyfoeth,
Na gofal breninoedd;
Ond arail[5] ŵyn ei diroedd,
Duw a'i gwnel, a digon oedd.

(A bendigaid fo'i enw, fo'i gwnaeth)

CALENDR Y CARWR.

CYWYDD SERCH, a gânt y Bardd yn Mhwllheli, ynghylch y flwyddyn 1743; ac a ddiwygiawdd ychydig arno 1753.

[Treuliodd y Bardd flwyddyn neu ddwy fel cynorthwywr yn Ysgol Ramadegol Pwllheli; ac yn y cyfamser syrthiodd tros ei ben i gariad âg un o rianod glandeg Eifionydd. Barna y Parch. Robert Jones, Rotherhithe, gan gasglu oddiwrth y gân Ladin sydd ar dudalen 114, mai'r Philippæ ydoedd, perthynas agos i Mr. Richard Rathbone o Lanystumdwy].

GWIR yw i mi garu merch,
Trosais hyd holl ffyrdd traserch;
Gwelais, o'r cwr bwygilydd,
Cyni a gresyni sydd.
Nwyfus fu'r galon afiach
Ow! galon sâl, feddal, fach!
Wyd glwyfus, nid â gleifwaith,[6]
Gwnaeth meinwen â gwen y gwaith;
Ow'r dòn anhoywfron hyfriw!
Ow, rudda'i llun, hardd ei lliw!

Teg yw dy wên, gangen gu,
Wyneb rhy dêg i wenu;
Gwenferch wyt, gwae fi ganfod
Dy rudd! a di fudd dy fod.
Mwynach a fych, fy meinwen,
Archaf i Dduw Naf, ddyn[7] wen;
Mwynach (pe Duw a'i mynnai)
Neu fid it' o lendid lai.
Da, ddyn fain, y'th gywrainiwyd,
Hygar o ffurf, hoywgorph wyd;
Adwyth fod it' ddyn wiwdeg,
Ogwydd i dwyll â gwedd dêg.
Odid y canfu adyn
Chwidrach anwadalach dyn;
Seithug[8] a gefais wythwaith
Gan fain ei hael—gwael y gwaith;
Siomaist fi'r wythnos yma:—
Nos Sadwrn ni chawn dwrn da,
Dyw Sul y deuais eilwaith,
Dydd Llun y bu'n dywydd llaith;
Dyw Mawrth da im' ei wrthod,
Dydd Merchur garw gur ac ôd;
Dydd Iau diau a fu deg,
Och, Wener! gwlaw ychwaneg;
Ail Sadwrn a fu swrn sych,
Oerwynt im' oedd, ddyn eurwych;
Rhew ydoedd a rhuadwynt—
O berfedd y gogledd, gwynt.
Trwy gorph nos yr arhosais
(Dwl im') ac ni chlywn dy lais.
Cnithio'n[9] gras ar y glaswydr
A'm bys, gydag ystlys gwydr;
Llwyr egru llawer awgrym,
Disgwyl i'r ddôr egor ym'.
Yno gelwais (â llais llwfr,
Rhag cwn a pheri cynhwrf):—
"Mari fwyn, mawr yw f'anwyd,
Oer ydyw, O clyw, o'th clwyd;

Mawr yw fy nghur, lafur lwyth,
Deffro, gysgadur diffrwyth."

Galwad ond heb ateb, oedd;
Mudan fy nyn im' ydoedd.
Symudaw'n nes, a madws,
Cyrhaedd dol dryntol[10] y drws:
Codi'r glicied wichiedig,
Deffro porthor y ddôr ddig;
Gan ffyrnig wŷn uffernol
Colwyn[11] o fewn, cilio'n f'ol.
O'r barth yn cyfarth, y caid,
Ail agerdd tân o'i lygaid,
Chwyrn udaw, och! oer nadu
Yn ddidor, wrth y ddôr ddu.
Yno clywn swrth drwmswrth dro
Goffrom, rhwng cwsg ac effro,
Bram uchel, ac ni chelaf,
Erthwch fal yr hwch ar haf,
A beichiaw, a'm bwbachai,
Ac anog ci heriog, "Hai "!
Llemais, â mawr ffull, [12] ymaith
Yn brudd, wedi difudd daith;
Ac anferth gorgi nerthol,
Llwyd, yn ymysgwyd o'm ol;
Cyrhaedd twyn y clogwyni,
Perthfryn, lle na'm canlyn ci.
Bwriais gyrch hyd Abererch,
(Llan yw hon wrth Afon Erch);
Cerdded rhag ofn gweled gŵyll[13]
Grebach (na bo'nd ei grybwyll! )
Neu gael i 'mafael â mi
Goeg ysbryd, drygiawg aspri.
Tori ar draws tir i'r dref,
Ar ddidro cyrhaedd adref;
Wrthyf fy hun eiddunaw,[14]
Yn frau, i wellhau rhag llaw;

Cefais o'm serch ddyferchwys,
Oer fraw, ac nid af ar frys
I'w chyfarch, on'd arch, nid af.
Diowryd[15] yw a doraf,
Af unwaith i Eifionydd—
Unwaith? Un dengwaith yn 'dydd.
Oerchwith gaeth gyflwr erchyll!
Ai Af, ai Nag af a gyll?
Bwriadu'n un bryd a wnaf,
Ac â'r ffon y gorphenaf;[16]
Dodaf fy ffon unionwymp
Ar flaen ei goflaen, hi gwymp;
Aed lle'r êl, ni ddychwelaf—
Ar ol y dderwen yr af.

ENGLYN AR DDYDD CALAN.

Dydd Genedigaeth y Bardd, 1746.

HYNT croes fu i'm hoes o hyd,—echrysawl,
A chroesach o'm mebyd;
Bawaidd fu hyn o'm bywyd;
Ond am a ddaw—baw i'r byd!


CYWYDD I'R CALAN.

(Sef dydd genedigaeth y Bardd a'i fab hynaf), yn y flwyddyn 1752.

CYN bod gwres i'r tesfawr,
A gorphen ffurfafen fawr,
Difai y creawdd Dofydd[17]
Olau teg a elwid dydd;

A Duw, gan hyfryted oedd,
Dywedai mai da ydoedd,
Cywraint fysedd a neddair! [18]
Gywir Ion, gwir yw ei air.
Hardd gweled y planedau,
A'u llwybr yn y gylchwybr gau;
Tremiadau tramwyedig,
A chall yn deall eu dig. [19]
Canfod, a gwych eurddrych oedd,
Swrn nifer o ser nefoedd,
Rhifoedd o ser, rhyfedd son!
Crogedig uwch Caergwydion, [20]
Llun y Llong, [21] a'i ddehonglyd,
Arch No, [22] a'i nawdd tra bawdd byd,
A'r Tewdws,[23] dwr ser tidawg,
A thid[24] nas rhifid y rhawg.
Er nifer ser y nefoedd,
Nifer fawr o wychder oedd;
Ac er lloer wen ysplenydd,
Nid oes dim harddach na dydd,
Gwawl unwedd a goleunef,
Golau o ganwyllau nef.
Oes a wâd o sywedydd
Lle dêl, nad hyfryd lliw dydd?
Dra bostio hir drybestod;[25]
Mor rhyfedd rhinwedd y rhod,
Oer syganed wres Gwener[26]
Pan êl i ias oerfel ser.
Duw deg lwys! da yw dy glod,
Da, Wirnaf, yw pob diwrnod;
Un radd pob dydd o naddynt,
Pob dydd fal eu gilydd gynt;
Uchder trenydd fal echdoe,
Nid uwch oedd heddyw na doe;

Nes it' draw neillduaw dydd
Dy hunan, da Wahanydd,—
Dy'gwyl, yn ol dy degwaith,
Yn gorphen ffurfafen faith;
Na chwynwn it, Ion, chwenych.
Dydd o saith, wedi'r gwaith gwych;
Yn talmu da fu dy fod,
Sabboth ni chai was hebod
Mawr yw dy rad, wiwdad Ion,
Da oedd gael dyddiau gwylion;
Da'r tro it' eu gwylio gynt,
Duw awdwr, a da ydynt;
Da dy Grog dihalogwyl, [27]
Dy Grog oedd drugarog wyl;
Er trymed dy gur tramawr,
Penllad yw'th Gyfodiad fawr.
Da fyg dy Nadolyg, Dad,
Da iawn ydoedd d'Enwaediad.
Calan fy ngwyl anwyl i,
Calan, a gwyl Duw Celi.
Da, coeliaf, ydyw Calan,
A gŵyl a ddirperai gân;
Ac i'r Calan y canaf,
Calan well na huan haf!
Ar ddydd Calan y'm ganwyd,
Calan, nid anniddan wyd,
Gwaeth oedd genedigaeth Io,[28]
Diwrnod a gwg Duw arno.
Calan wyt ni'th cwliai[29]
Naf, Dwthwn wyt nas melldithiaf,
Nodwyl fy oedran ydwyt,
Ugeinfed a degfed wyt; [30]
Cyflym ydd â rym yr oes,
Duw anwyl, fyred einioes!
Diddan a fum Galan gynt,
A heinif dalm o honynt;
Llawn afiaeth a llon iefanc,
Ddryw bach, ni chaid llonach llanc;
Didrwst ni bu mo'm deudroed
Ymhen un Calan o'm hoed,

Nes y dug chwech ar hugain
Fab ffraeth i Fardd meddfaeth main;
Er gweled amryw Galan,
Gofal yn lle cynal cân,
Parchaf, anrhydeddaf di,
Tymhor nid drwg wyt imi.
Cofiaf Galan, am danad,
Un dydd y'm gwnaethost yn dad;
Gyraist im' anrheg wiwrodd,
Calenig wyrenig[31] rôdd.
Gwiwrodd, pa raid hawddgarach
Na Rhobert, y rhodd bert bach?
Haeddit gân, nid rhodd anhardd
Rhoi im' lân faban o fardd
Hudol am gân, hy' ydwyt,
O b'ai les gwawd, blysig wyt;
Dibrin wyf, cai dy obrwy,
Prydafi yt'; pa raid fwy?
A chatwyf hir barch iti,
Wyl arab fy mab a mi.

Aed y Calendr yn hendrist,[32]
Aed cred i ammau oed Crist,
Syfleda[33] pob mis o'i safle,
Ac aed a gŵyl gyd ag e;
Wyl ddifai, di gai dy gwr,
Ni'm neccy almanaciwr;
Cei fod ar dal y ddalen,
Diball it' yw dy bill hen:
Na syfl fyth yn is, ŵyl fawr,
Glŷn yna, Galan Ionawr;
Cyn troi pen dalen, na dwy,
Gweler enwi Gwyl 'Ronwy
A phoed yn brif ddigrifwyl
I'r beirdd, newydd arab ŵyl;
A bid ei phraff argraphu
Ar dalcen y ddalen ddu;
Llead[34] helaeth, lled dwylain,
Eangffloch, o liw coch cain.[35]

AWDL Y GOFUNED.[36]

A ganwyd 1752, cyn gwybod beth oedd awadl.

O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,
Dyma archiad im' a erchwn,[37]
Un rodd orwag ni ryddiriwn o ged;
Uniawn ofuned, hyn a fynnwn.

Synhwyrfryd doeth, a chorph anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes, heb ry nac eisiau,
Ym Mon araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.

Rhent gymedrol, Plwyf da 'i reolau,
Tŷ is goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res, a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin[38] rywiog olau.

Gardd i minau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd[39] o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.

Ac uwch fy mhen, ym mysg canghenau,
Bêr baradwysaidd lwysaidd leisiau
Ednaint[40] meinllais, adlais odlau—trydar
Mwyn adar cerddgar—lafar lefau.

A thra bo'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cydgais â'r côr meinllais manllu—fy nghân,
Gwiw hoyw a diddan gyhydeddu.


Minau, a'm deulanc mwyn i'm dilyn,
Gwrandawn ar awdl, arabawdl Robyn,
Gan dant Goronwy gywreinwyn,[41]—os daw
I ware dwylaw ar y delyn.

Deued i Sais yr hyn a geisio;
Dwfr hoff redwyllt, ofer[42] a ffrydio
Drwy nant, a chrisiant (a chroeso),—o chaf
Fon im'; yn benaf henwaf hono.

Ni wna f' arwyrain yn fawreiriog,
Gan goffau tlysau, gwyrthiau gwerthiog,
Tud,[43] myr,[44] mynydd, dolydd deiliog,—trysor
Yr India dramor, oror eurog.

Pab a gâr Rufain, gywrain gaerau;
Paris i'r Ffrancon, dirion dyrau;
Llundain i Sais, lle nad oes eisiau—son
Am wychder dynion; Mon i minau.

Rhoed Duw im' adwedd iawnwedd yno,
A dihaint henaint na'm dihoeno,
A phlant celfyddgar a garo—eu hiaith,
A hardd awenwaith a'u hurdduno.


CYWYDD Y FARF. 1752.

[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 4].

CEFAIS gystudd i'm gruddiau,
Oer anaf oedd i'r ên fau;
Oerfyd a gair o arwfarf,
A dir[45] boen o dori barf;
Mae goflew im' ac aflwydd,
A llwyni blew llai na blwydd;
Crynwydd, fal eithin crinion,
Yn fargod—da bod heb hon;

Trwsa'n[46] difwyno traserch;
Athrywyn[47] mwynddyn a merch;
Mynych y ffromai meinwen
Wrth edrych ar wrych yr ên;
Difudd oedd ceisio'i dofi,
"Ffei o hon, hwt!"—ffoi wna hi.
Caswaith (er daed cusan)
Ymdrin â merch â'm drain mân.
Briwio'i boch wrth ei llochi,
Och i'r rhawn ! ac ni châr hi;
Ac aflwydd êl â'r goflew;
Sofl a blyg, ond di syfil blew.
Cas gan feinwar ei charu
O waith y farf ddiffaith ddu.
Pwn ar ên, poen i wr yw,
Poenus i wyneb benyw;
Pleidwellt na laddai pladur,
Rhengau o nodwyddau dur:
Dreiniach, fal pigau draenog,
Hyd ên ddu, fal danedd og;
Brasgawn, neu swp o brysgoed,
Picellau fa! cangau coed;
Ffluwch[48] lednoeth, yn boeth y bo;
Gwyll hyllwedd, gwell ei heillio
Ag ellyn, neu lem gyllell,
Farf ddiffaith, ni bu waith well.
Ond gwell rhag y gyllell gerth,
Enyn gwale yn wen goelcerth;
Mindrwch gwlltr gweindrwch, gwandrwm,
Dyrnwr a'i try, dwrn hwyr trwm;
Ellyn â charn cadarn coch,
Hwswi bendrom sebondroch,
Tan fy marf, ar bob arfod,
Y—rhydd ei hannedwydd nôd—
Briw cyfled, â lled ei llafn,
Llun osgo law anysgafn;
O'm grudd y rhed y rhuddwaed,
Bydd lle craf wanaf[49] o waed;

Gwelid, o glust bwygilydd,
Ddau ben yr agen a rydd,
Hifio fy nghroen a'm poeni,
Llwyr flin yw ei min i mi.
O mynai Nef im' unwaith
En iach, heb na chrach na chraith,
Yn ddifrif rhown ddiofryd
Holl hifwyr a barfwyr byd.
Rhown ddinidr[50] iawn eidduned,
Llw diau, myn creiriau cred,
Na fynwn i fau wyneb.
Un ellyn noeth, na llaw neb,
Medrusaidd im' ei drawswch,
A gwynfyd yw byd y bwch—
Odid filyn, barfwyn bach,
Y gellid cael ei gallach;
A chywilydd, o choeliwch,
I ddyn na b'ai ddoniau bwch;
Hortair[51] na thybiai hurtyn
Ddawn ei Dduw'n addwyn i ddyn.

Croesaw y farf, wiwfarf, yt,
Cras orthwf, croesaw wrthyt;
Na fid digrif yn ddifarf,
Na'i fin heb lathen o farf.
Bid pawb oll i'w harfolli,[52]
Arfollaf a harddaf hi,
A dioddefaf dew ddufarf,
Rhag eillio, gribinio barf.


CYWYDD I'R AWEN.

Ar ddull HORAS, Lib. IV., Ode III.

Quem tu, Melpomene, etc., 1752.

O CHAI fachgen wrth eni
(Wyd Awen dêg) dy wên di,
Ni bydd gawr na gwr mawrnerth,
Prydu a wna, pa raid nerth?
Ni châr ffull na churo ffest,
Na chau dwrn, o chaid ornest;
O b'ai'n agwrdd benigamp,
Ni chais glod, gorfod y gamp.
Yn ei ddydde ni ddiddawr
Gael parch am yru march mawr;
Ni chyrch drin[53] na byddinoedd,
Ni char nåd blaen—gad a bloedd;
Ni chaiff elw o ryfelwaith,
Na chlod wych hynod ychwaith;
Na choryn hardd, ddigardd[54] ddyn,
Draw i gil o droi gelyn.
Mawl a gaiff am oleu gerdd,
A gwiw sein-gan gysongerdd,
Barddwawd fel y gwnai beirddion
Defnyddfawr o wlad fawr Fon.
Cymru a rif ei phrif-feirdd,
Rhifid ym Mon burion beirdd;
Cyfran a gaf o'u cofrestr,
A'm cyfrif i'w rhif a'u rhestr ;
Mawrair a gaf ym Meirion
Yn awr, a gair mawr Gwyr Mon;
Llaesodd, ar aball eisoes,
Cenfigen ei phen a ffoes.

O, f'Awen dêg! fwyned wyt,
Di-odid dawn Duw ydwyt:
Tydi roit, â diwair wên,
Lais eos i lysowen!
Dedwydd o'th blegyd ydwyf,
Godidog ac enwog wyf.
Cair yn son am Oronwy,
Llonfardd Mon, llawn fyrdd a mwy;
Caf arwydd lle cyfeiriwyf,
Dengys llu â bys lle b'wyf.

Diolch it', Awen dawel;
Dedwydd wyf, deued a ddel;
Heb Awen, baich yw bywyd,
A'i rhodd yw rhyngu bodd byd.


IEUAN BRYDYDD HIR.[55]

A brydws FARWNAD I FFREDRIG TYWYSAWG CYMRU, ac Offeiriad Tregaron a ddywawd, Nad oedd ynddi nac iaith na chynghanedd; am hyny yr heriawdd yr Ieuan ef; a chanu o Oronwy i'r IEUAN fal hyn. 1752.

CWYNFAN a fu o'r cynfyd,
Gan y beirdd ar goegni byd;
Tra fo llên ac awenydd,
A chân fwyn, achwyn a fydd.
Gwyfyn, du elyn dilyth
Awen, yw Cenfigen fyth;
Cenfigen ac awenydd
Yn mhob llin, finfin a fydd;
O dwf llawn, dwy efell y'nt,
O chredi, dwy chwaer ydynt;
Dwy na wnaed i dynu'n ol,
Dwy ydynt, pwy a'u didol?
Ni wneir o fron anaraul
Ond cysgod, er rhod yr Haul.

A diwad ydyw, Ieuan,
Bron sydd na chydfydd â chân.
Wrth Homer wiw, gerddber gynt,
Gwyddost mor eiddig oeddynt;
Hurtaf o ddyn a'i hortiai,
Miwail[56] ei fydr, aml ei fai;
Gwael oedd ei gerdd, pencerdd per
Os coeliwn Soyl[57] ysceler.
Maro[58] a orug mowrwaith,
Bas y gwyl Bawas[59] y gwaith;
Ni pharchwyd gradd o naddun,
Mawr oedd cas Horas ei hun.
Er Dafydd, pwy'n wr difai
A fu 'rioed, na feiai rai?
Bu gylus gwaith Mab Gwilym,"[60]
A'i gerdd gref, agwrdd ei grym.
Pawb a'i cenfydd, o bydd bai,
A bawddyn, er na byddai:
A diau, boed gau, bid gwir,
Buan ar fardd y beiir.
E geir, heblaw'r Offeiriad,
Gan' bron yn dwyn gwŷn a brad,
Milweis eiddig, mal Suddas,
Heb son am Dregaron gas.
Dos trwy glod, rhagod er hyn,
Heria pob coeg ddihiryn,
A dilyn fyth hyd elawr
O hyd y gelfyddyd fawr.
Od oes wyr â drygfoes draw,
Afrywiog i'n difriaw,
Cawn yn hwyr, gan eu hwyrion,
Na roes y ddihiroes hon.


CYWYDD MARWNAD

MARGED MORYS[61], gwraig Morys ap Rhisiart Morys, o
Bentre Eirianell ym Mon, 1752.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 17, 19, 20, 23, 24 a 74].

MAWR alar, trwm oer wylaw,
A man drist sydd ym Mon draw,
Tristyd ac oerfryd garwfrwyn,[62]
Llwyr brudd, a chystudd a chŵyn;
Tristaf man, Pentre' Rianell,
Ni fu gynt un a f'ai gwell.
Ni fu chwerwach, tristach tro
I Fon, nag a fu yno.
Lle bu ddien lawenydd,
Ubain a dwys ochain sydd;
Digroyw lif, deigr wylofain,
Am Farged y rhêd y rhai'n;
Didaw am Farged ydynt,
Marged law egored gynt;
Bid hapus haelionus law,
Ffrawddus[63] i fil ei phriddaw!
Rhy fawr san[64] ar Forys yw,
Oer adwyth i'w gwr ydyw;
Deuddyn un enaid oeddynt,
Dau ffyddlon, un galon, gynt.
Mâd enaid ! chwith am dani,
A phrudd hwn o'i phriddo hi,
Ac o'i herwydd dwg hiraeth
Ormod, ni fu weddwdod waeth!

Toliant[65] ar lawer teulu
Ar led, am Farged a fu;
Ymddifaid a gweiniaid gant
Uchenawg,[66] a achwynant
Faint eu harcholl, a'u colled,
Farw gwraig hael, lle bu cael ced.

Llawer can-torth o borthiant
Roe hon, lle b'ai lymion blant;
Can' hen a ddianghenodd,
I'r un ni bu nâg o rodd;
Gwiw rodd er mwyn goreu-Dduw,
Gynes weinidoges Duw.
Gwraig ddigymhar oedd Marged
I'w plith am ddigyrith ged;
A ched ddirwgnach ydoedd,
Parod, heb ei danod oedd.

Di ball, yn ol ei gallu,
Rhwydd a chyfarwydd a fu,
Rhyfedd i'w chyredd o chaid
Ing o unrhyw angenrhaid;
Rhoe wrth raid gyfraid i gant,
Esmwythai glwyfus methiant;
Am gyngor Doctor nid aeth
Gweiniaid, na meddyginiaeth;
Dilys, lle b'ai raid eli,[67]
Fe'i caid; nef i'w henaid hi.

Aeth i nef a thangnefedd,
Lawenfyd, hawddfyd a hedd;
Nid aeth mad wraig deimladwy
O'n plith a gadd fendith fwy:
Bendith am ddiragrith rodd,
Hoff enaid da y ffynodd;
Os oes rhinwedd ar weddi,
Ffynu wa mil o'i hil hi.

Pa lwysach epil eisoes?
Ei theulu sy'n harddu'n hoes;
Tri mab doethion tirionhael,
Mawr ei chlod merch olau hael;
Trimab o ddoniau tramawr,
Doethfryd a chelfyddyd fawr;
LEWIS wiwddysg,[68] lwys addwyn,
Athraw y gerdd fangaw[69] fwyn,

Diwyd warcheidwad Awen,
Oreu gwaith, a Chymraeg wen.
RHISIART, am gerdd ber hoywsain
Hafal ni fedd Gwynedd gain;
Anhebyg tra bo'n hybarch
Y Beibl[70] na bydd iddo barch,
Allai fod (felly ei fam)
Deilen na nodai WILLIAM?[71]
Chwiliai ef yr uchelion,
Y môr, a thir, am wyrth Ion.
Tradoeth pob brawd o'r tridyn,
Doeth, hyd y gall deall dyn;
Tri gŵraidd frawd rhagorawl,
Haeddant, er na fynant, fawl.
Da'r had na newid eu rhyw,
D'wedant ym Mon nad ydyw
Cyneddfau, doniau dinam,"
ELIN, ei merch, lai na'i mam.

Da iawn fam! diau na fu
Hwnt haelach perchen teulu;
Rhy dda i'r byd ynfyd oedd,
Iawn i fod yn nef ydoedd;
Aeth i gartref nef a'i nawdd,
Duw Iesu a'i dewisawdd;
Uniawn y farn wna fo,
Duw Funer,[72] gwnaed a fyno.
Dewisaf, gan Naf, i ni
Oedd ddeisyf iddi oesi,
Hir oesi, cael hwyr wŷsiad.
Adref i oleunef wlad.

Gwae'r byd o'r enyd yr aeth!
Oer bryd oedd ar Brydyddiaeth;
Achles i wen Awen oedd,
A nesaf i'r hen oesoedd.
Cynes i feirdd tra cenynt
Oedd canu ffordd Gymru gynt,

Cael braint cân, o ddadanhudd,
A chlêr er yn amser Nudd ;
Boed heddwch a byd dyddan
Byth it', ti a gerit gân;
Ac yna'n entrych gwiwnef,
Cydfydd â cherdd newydd nef;
Ni'th ludd cur, llafur na llid,
Da, yn Nuw, yw dy newid ;
Newidio cân (enaid cu !)
Monwysion am un Iesu;
Clywed llef y côr nefawl,
Gwyn dy fyd-hyfryd dy hawl!
Lleisiau mowrgerth llesmeirgerdd,
Côr y saint, cywraint eu cerdd,
Cu eu hodlau cyhydlef.
Gwynion delynorion nef;
Canllef dwsmel tra melys,
Fal gwin ar bob ewin bys.
Dedwydd, O! enaid ydwyt,
Llaw Dduw a'n dyco lle'dd wyt!
A'n hanedd, da iawn hono,
Amen, yn nef wen a fo.[73]


CYWYDD I LEWIS MORYS, Ysw.

O Allt Fadog, yn Ngheredigon, yn dangos nad oes dim a
geidw goffadwriaeth am Ddyn, wedi angeu, yn well na
gwaith Bardd, ac na ddichon na Cherfiwr na Phaentiwr
roi cystal Portread o Wr ag a rydd Prydydd awenyddol.
Y Cywydd hwn sydd ar ddull HORAS, Lib. IV., Ode VIII.


Donarem pateras grataque, &c.

RHODDWN ariant a rhuddaur,
Rhown yt gawg gemawg ac aur;
I'r cyfeillion mwynion mau
Deuai geinion deganau,

Genyf o b'ai ddigonedd—
(A phwy wna fwy, oni fedd?)
I tithau, y gorau gaid,
Lewis fwyn, lwysaf enaid,
Pe ba'i restr o aur-lestri
O waith cýn Maelgyn i mi,
Ti a gait, da it' y gwedd,
Genyf yr anrheg iawnwedd.

Odid fod o fychodedd[74]
Rhodd dreulfawr; rhai mawr a'i medd
Tithau, nid rhaid it' weithion,
Ni'th ddorodd[75] y rhodd aur hon;
Caryt gywyddau cywrain,
Rhynged dy fodd rhodd o'r rhai'n;
Rhodd yw cyhafal rhuddaur,
A chan gwell; uwch yw nag aur.

Onid ofer iawn dyfais
I fynu clod o faen clais?[76]
Naddu llun eilun i wr
Dewrwych—portreiad arwr;
Llunio'i guch,[77] â llain gochwaed,
A chawr tan ei dreisfawr draed.
Pond[78] gwell llên ac awenydd?
Gwell llun na'r eilun a rydd.
Dug o eryr da'i gariad,
Gwrawl udd[79] a gâr ei wlad,
Llyw yn arwain llon aerweilch,
Teirf yn nhrin[80] fyddin o feilch.
Wrth a gâr yn oen gwaraidd;
Yn nhrin llyw blin, llew a blaidd;
Araf oen i'w wyr iefainc,
Llew erchyll, a ffrewyll Ffrainc.
Pwy âg arfau? pa gerfiad
A rydd wg golwg ei gâd?
Trefi yn troi i ufel
O'i froch, a llwyr och lle'r êl!

Pwy a gai, oni b'ai bardd,
Glywed unwaith glod iawnhardd?
Tlws ein hiaith, Taliesin hen,
Parodd goffhau Ap Urien;[81]
Aethai, heb dant a chantawr,
Ar goll hanes Arthur Gawr.
Cân i fad a rydd adwedd
O loes, o fyroes, o fedd;
Cerdd ddifai i rai a roes
Ynill tragywydd einioes,
Nudd, Mordaf, haelaf helynt,
Tri hael ior[82], ac Ifor gynt;
Laned clod eu haelioni
Wrth glêr, hyd ein hamser ni!
Ac odid, mae mor gadarn,
Eu hedwi fyth hyd y farn.
Rhoddent i feirdd eu rhuddaur,
A llyna rodd well na'r aur,
Rhoid eto (nid raid atal)
I fardd, ponid hardd y tâl?
A ddêl o'i Awen ddilyth
O gyfarch, a bair barch byth.

CYWYDD Y FARN FAWR.

[ODDIWRTH fynych gyfeiriadau y Bardd yn ei Lythyrau, gellir casglu ei fod yn ystyried y Cywydd hwn yn orchestwaith ei Awen. (Gweler y LLYTHYRAU, tudal. 3, 9, 10, 11, 12, 13, 16, 17, 52, 64, 65, 66, 67, 74, 80, a 99). Y mae ei noddwr, Lewys Morys, yn ol ei sylwadau ar y gwaith, o'r un syniad; a dyna yn ddiau, ydyw barn mwyafrif edmygwyr yr awdwr ac efrydwyr manwl ei waith. Yr oedd yn mwriad Goronwy ganu arwrgerdd orchestol, fel y dywed yn ei lythyr at William Morris, dyddiedig "May 7, 1752 "; ond daeth helbulon bywyd yn gawodydd mor drymion ar ei ben, fel na chafodd hamdden i ddim ond bwriadu hyn fel llawer cynllun arall o'i eiddo. Pa gyhyd cyn Mai, 1752, y cyfansoddwyd Cywydd y Farn, nid yw'n hawdd dirnad; efallai mai yn nechreu y flwyddyn honno a phan oedd efe yn adfer o glefyd y Cryd fel y dywed yn y LLYTHYRAU, tudal. 12. Bu cryn ymdrafod rhyngddo ef a'i gyfeillion parth argraphu'r cywydd hwn ac eraill, er na ofynid ond dwy bunt neu dair at y gwaith. Gellir casglu oddiwrth rai cyfeiriadau i rhyw lyfryn bychan ymddangos, ond ni nodir hyny mewn modd uniongyrchol. Cyfansoddodd dau fardd Cymraeg arall ar y testyn aruchel hwn, sef Rhys Jones o'r Blaenau, a William Wyn o Langynhafal. Mae gwaith y prif-fardd olaf yn hafal i'r campwaith hwn, os nid yn rhagori arno yn nhanbeidrwydd llachar rhai o'i ddesgrifiadau; ond fod y Gwyn o Glwyd yn canu yn fwy anwastad na'r Du o Fon. Yn y Traethodydd 1876, ceir erthygl gan Dr. Lewis Edwards yn cymharu ac yn cyferbynu y ddau gywydd.

Gwaith Llewelyn Ddu ydyw'r holl Nodiadau Eglurhaol. sydd yn ngodreu'r dail, oddieithr y rhai sydd rhwng [ ].

DOD[83] ym' dy nawdd, a hawdd hynt,
Duw hael, a deau helynt;
Goddau[84] f'armerth,[85] o'm nerthyd,
YW DYDD BARN a diwedd byd;
Dyddwaith, paham na'n diddawr,[86]
Galwad i'r ymweliad mawr!


Mab Mair â gair yn gwiriaw
Y dydd, ebrwydded y daw;
A'i Saint cyttun yn unair
Dywedant, gwiriant y gair;
A gair Duw'n agoriad in',
Gair Duw, a goreu dewin;
Pan'd'[87] gwirair y gair a gaf ?
Iach rad, a pham na chredaf?
Y dydd, diogel y daw—
Boed addas y byd iddaw;
Diwrnod[88] anwybod i ni,
A glanaf lu goleuni;
Nid oes, f'Arglwydd, a wyddiad
Ei dymp, onid Ef a'i Dad.

Mal cawr aruthr yn rhuthraw,
Mal lladron[89] dison y daw:
Gwae'r[90] diofal ysmala;
Gwynfyd i'r diwyd ar da!
Daw angylion, lwysion lu,
Llym naws â lluman[91] Iesu!
Llen o'r ffurfafen a fydd,
Mal cynfas, mil a'i cenfydd,
Ac ar y llen wybrenog,
E rydd Grist arwydd[92] ei grog.

Yno'r Glyw,[93] Ner y gloywnef,
A ferchyg yn eurfyg Nef!
Dyrcha'n uchel ei helynt,
A gwân adenydd[94] y gwynt;
A'i angylion gwynion, gant,
Miloedd yn eilio moliant.
Rhoir gawr[95] nerthol, a dolef,
Mal clych, yn entrych y nef;
Llef mawr goruwch ll'f môr—ryd,
Uwch[96] dyfroedd aberoedd byd.

Gosteg[97] a roir, ac Ust! draw,
Dwrf rhaiadr, darfu rhuaw;
Angel a gân, hoywlan lef,
Felyslais, nefawl oslef;
Wrth ei fant,[98] groywber gantawr
Gesyd ei gorn, mingorn mawr ;
Corn anfeidrol ei ddolef,
Corn[99] ffraeth o saerniaeth nef.
Dychleim,[100] o nerth ei gerth gân,
Byd refedd,[101] a'i bedryfan;
Pob cnawd, o'i heng, a drenga,
y byd yn ddybryd ydd a;
Gloes oerddu'n neutu natur,
Daear a hyllt, gorwyllt gur!
Pob creiglethr crog a ogwymp,[102]
Pob gallt[103] a gorallt a gwymp:

Ail i'r âr ael Eryri,[104]
Cyfartal hoewal[105] a hi.
Gorddyar[106] bâr, a berw-ias
Yn ebyr,[107] ym myr,[108] ym mas;[109]
Twrdd ac anferth ryferthwy,
Dygyfor ni fu för fwy-
Ni fu ddylif yn llifo
Ei elfydd yn nydd hen No.[110]
Y nef yn goddef a gaid,
A llugyrn[111] hon a'i llygaid,
Goddefid naws llid, nos llwyr,
Gan[112] lewyg gwýn haul awyr;
Nid mwy dilathr ac athrist
Y poen-loes cryf pan las Crist.
Y wenlloer[113] yn oer ei nych,
Hardd leuad, ni rydd lewych:

Syrth nifer y sêr, arw son!
Drwy'r wagwybr[114] draw i'r eigion;[115]
Hyll ffyrnbyrth[116] holl uffernbwll
Syrthiant drwy'r pant[117] draw i'r pwll;
Bydd hadl[118] wal[119] ddiadlam[120]
Y rhawg, a chwyddawg[121] a cham;
Cryn y gethern[122] uffernawl,
A chryn, a dychryn[123] y diawl;
Cydfydd y fall[124] â'i gallawr[125]
Câr lechu'n y fagddu[126] fawr.


Dyfyn a enfyn Dofydd,[127]
Bloedd erchyll, rhingyll a'i rhydd:—
"Dowch y pydron[128] ddynionach,
Ynghyd, feirw byd, fawr a bach:
Dowch i'r farn a roir arnoch,
A dedwydd[129] beunydd y bo'ch."

Cyfyd[130] fal yd o fol âr
Gnwd tew eginhad daear;
A'r môr[131] a yrr o'r meirwon
Fil myrdd[132] uwch dyfnffyrdd y dòn:
Try allan ddynion trillu[133]
Y sydd, y fydd, ac a fu,
Heb goll yn ddidwn hollol,
Heb un o naddun yn ol.
Y dorf[134] ar gyrch, dirfawr gad!

A'n union ger bron Ynad.[135]
Mab Mair ar gadair a gaid,
Iawn Naf gwyn o nef gannaid,
A'i osgordd,[136] welygordd[137] lân,
Deuddeg ebystyl diddan.
Cyflym y cyrchir coflyfr,
A daw[138] i'w ddwy law ddau lyfr;
Llyfr bywyd, gwynfyd y gwaith,
Llyfr angau, llefair ingwaith.
Egorir a lleir[139] llith
O'r ddeulyfr amryw ddwylith:
Un llith o fendith i fad;[140]
A'r diles air deoliad.
Duw gwyn[141] i le da y gyrr
Ei ddeiliaid a'i addolwyr.
I'r euog, bradog eu bron,
Braw tostaf; ba raid tystion?

Da, na hedd Duw[142] ni haeddant,
Dilon yrr, delwi a wnant.
Y cyfion[143] a dry Ion[144] draw,
Dda hil, ar ei ddeheulaw;
Troir y dyhir, hyrddir hwy,
I le is ei law aswy:
Ysgwyd[145] y nef tra llefair
IESU fad, a saif ei air:—
"Hwt![146] gwydlawn felltigeid lu
I uffern ddofn a'i fiwrn ddu,
Lle ddiawl, a llu o'i ddeiliaid,
Lle dihoen, a phoen na phaid;
Ni chewch ddyben o'ch penyd,
Diffaith[147] a fu'ch gwaith i gyd;
Ewch, ni chynnwys y lwysnef
Ddim drwg, o lân olwg nef,

At wyllon[148] y tywyllwg,
I oddef fyth ei ddu fwg."
O'i weision, dynion dinam,
Ni bydd a adnebydd nam;
Da'n ehelaeth a wnaethant,
Dieuog wyr, da a gânt.
Llefair yn wâr y câr cu,
Gwâr naws y gwir Oen Iesu:—
"Dowch[149] i hedd, a da'ch haddef,[150]
Ddilysiant anwylblant Nef,
Lle mae nefol orfoledd,
Na ddirnad ond mad a'i medd:[151]
Man hyfryd yw mewn hoywfraint,
Ac amlder y ser o saint,
Llu dien[152] yn llawenu,
Hefelydd[153] ni fydd, ni fu;
O'm traserch, darfum trosoch[154]
Ddwyn clwyf fel lle bwyf y bo'ch,
Mewn ffawd didor, a gorhoen,
Mewn byd heb na phyd[155] na phoen."

Gan y diafl ydd â'r aflan,
A dieifl[156] a'u teifl yn y tân.

Try'r Ynad drawi'r wiwnef,
A'i gâd gain â gyd ag ef,
I ganu mawl didawl da,
Oes hoenus! a Hosanna.
Boed im' gyfran o'r gân gu,
A melysed mawl IESU!
CRIST fyg a fo'r Meddyg mau,
Amen -a nef i minau

CYWYDD

I'w gyflwyno i DYWYSAWG CYMRU, Wyl Dewi, 1753, ar y
testyn sy'n canlyn, sef, Reget patriis virtutibus orbem.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 33, 34, 44.]

Pwy ddysg im'? Pa dduwies gain
Wir araith, i arwyrain
Gŵraf[157] edlin[158] brenhinwawr,
Blaenllin Cymru fyddin fawr?
Ai rhaid awen gymengoeg
O drum Parnassus, gwlad Roeg?
Cyfarch cerddber Bieriaid,[159]
Am achles hoff-les a phlaid?
Ni cheisiaf, nid af i'w dud,
Glodo elltydd gwlad alltud;
Ofer y daith, afraid oedd,
Mwyneiddiach yw'n mynyddoedd,
Lle mae awen ddiweniaith,
Gelfydd ym mhob mynydd maith,
Na wna'n eglur, neu'n wiwglod,
Ond da, a ryglydda glod.

Pan danwyd poenau dunych,
A braw du'n ael Brydain wych,
Pan aeth Ffredrig[160] i drigias
Da iawn fro Duw Nef a'i ras,
Rhoe Gymru hen uchenaid.
A thrwm o bob cwm y caid
Trystlais yn ateb tristlef
Prydain, ac wylofain lef.

O'r tristwch du-oer trosti
Nid hawdd y dihunawdd hi,
Fal meillion i hinon haf
O rew-wynt hir oer auaf

Iach wladwyr eilchwyl ydym,
Oll yn awr a llawen y'm,
Ni fu wlad o'i phenadur
Falchach, ar ol garwach gur.

Llyw o udd[161] drud, llewaidd draw,
I ni sydd; einioes iddaw;
Udd gwrawl, haeddai gariad,
Por dewr a ddirprwy ei dad;
Ni bu ryfedd rinweddau,
Ym maboed erioed ar Iau,
Arwr a fydd, ddydd a ddaw,
Mawreddog. Ammor[162] iddaw!

Hiroes i wâr Gaisar gu,
Di-orn oes i deyrnasu;
A phan roddo heibio hon
I gyrhaedd nefol goron-
Nefol goron gogoniant
Yn oediog, lwys enwog sant,
Poed Trydydd Sior, ein ior ni,
O rinwedd ei rieni,
Yn iawnfarn gadarn geidwad,
I'w dir, un gyneddf a'i dad.

Am a ddywaid, maddeuant
A gais yr awen a gânt
Hyn o'ch clod mewn tafodiaith,
A dull llesg hen dywyll iaith;
Mawr rhyddid Cymru heddyw,
Llawen ei chân, llonwych yw,
Trwy ei miloedd tra molynt
Eu noddwr, hoyw gampwr gynt;
Llyw diwael yn lle Dewi,
Ior mawr wyt yn awr i ni;
Ti ydyw'n gwârlyw gwirles,
Ti fydd ein llywydd a'n lles.
Os dy ran, wr dianhael,
A wisg y genhinen wael,
Prisiaf genhin brenhinwych.
Uwch llawrydd tragywydd gwych.

AWDL BRIODASGERDD

ELIN MORYS, merch Lewis Morris, Ysw., o Allt Fadog
ac yn awr gwraig Rhisiart Morys, o Fathafarn, 1753.

[Yn mhob argraphiad o'r blaen, dywedir mai yn 1754 y cymerodd
y briodas hon le, ond cyfeiria'r bardd at y Briodasgerdd mewn
llythyr at R. Morris, dyddiedig Rhagfyr 17, 1753, ac at W. Morris,
Rhagfyr 18. Gweler LLYTHYRAU, tudal. 66, 67, 74.]


UST! tewch oll! arwest[163] a chân.
Gawr[164] hai, ac orohian!
Melus molawd,
A bys a bawd,
Llon lwysawd llawen leisiau,
Aml iawn eu gwawd,[165] mil yn gwau,
Wawr hoywaf, orohian
A cherdd y chân.

Tros y rhiw tores yr haul,
Wên bore, wyneb araul;
Mae'n deg min dydd,
Tawel tywydd,
O'r nentydd arien[166] untarth,
Ni cheidw gŵydd o chaid gwarth;
"Dwyre,[167] ddyn wenbryd eirian,"
Yw'n cerdd a'n cân.

"Na âd le i gwsg yn d'ael, Gwen,
Disgleiria, dwywes[168] glaerwen,
Fein ais fwyn wâr,
E'th gair a'th gâr,
Dyn geirwar (dawn a gerych)
Ag e'n bâr; Gwen wiw, y bych
I'r hoyw walch orohian,"
Yw'n cerdd a'n cân.

Na arhô hwnt yn rhy hir,
Waisg Elin, e'th ddisgwylir ;
Dwg wisg, deg ael,
Dda-wisg ddiwael;
Dwg urael,[169] diwyg eurwerth,
Na fo gael un o fwy gwerth;
Aur osodiad ar sidan
I'r lwys wawr lân.

Ar hyd y llawr, y wawr wych,
Cai irddail ffordd y cerddych,
Gwiwryf gwyros,[170]
A rhif o'r rhos,
Da lios, deuliw ewyn,[171]
Brysia, dos; ber yw oes dyn;
Du'ch ellael,[172] deuwch allan,
Yw'n cerdd a'n cân.

O chlywi, wenferch Lewys,
Dwyre[173] i'r Llan, draw o'r llys,
Canweis cenynt
O'th ol i'th hynt,
A llemynt â'u holl ymhwrdd,
Felly gynt fe ae llu gwrdd
I'r Eglwys, wawr rywioglan,
A'r glwys wr glân.

Wedi rhoi yn rhwydd sicrwydd serch
I'r mwynfab, orau meinferch,
Hail[174] i'n hoyw-wledd,
Dwg win, deg wedd;
Dwg o anedd digynil,
Ddogn o fedd, ddigon i fil,
A chipio pib a chwpan
Yw'n cerdd a'n cân.


Rhodder, a chlêr a'i haeddant,
Bwyd a gwin, be deuai gant,
I gyd ni gawn
Iechyd wych-iawn
Y ddau nwyfiawn ddyn iefanc,
O bott llawn, byd da, a llanc;
Gwr gwaraidd a gwraig eirian,
Par glwys pêr glân.

A fedro, rhoed drwy fodrwy
Deisen fain, dwsin neu fwy,
Merched mowrchwant,
I'w ced a'u cânt,
Dispiniant[175] hwy does peinioel[176],
Rhwy maint chwant rhamant a choel,
Cysur pob gwyrf yw cusan-
Yw'n cerdd a'n cân.

Y nos, wrth daflu'r hosan,[177]
Cais glol y llancesau glân,
O chwymp a'i chael,
Eurwymp urael,
Ar ryw feinael wyrf unig,
Gweno ddu-ael, gwn ni ddig,
Rhyned os syr ei hunan.
Yn wyrf hen wan.

Yn iach cân i'r rhianedd,
Dêl i'r rhai'n dal wŷr a hedd,
Mae bro mwy bri[178]
Eto iti,
Gyr weddi, gu arwyddiad,
I Dduw Tri, e ddaw it' rad,
Byd hawdd, a bywyd diddan.
A cherdd a chân.

Dod i'th wr blant, mwyniant mawr,
Dod wyrion i'th dad eurwawr,
A he o hil
Hapus hepil,

Dieiddil, Duw a wyddiad,
Ie, gan mil, egin mad;
Llaw Duw iddynt, llu diddan,
Hil glwys, hael glân.

Gyr sin[179] i wan gresynol,
I Dduw a wnair, e ddaw'n ol;
Afiaeth ofer
Y sydd îs ser;
Goreu arfer, gwawr eurfain,
Moli dy Ner mal dy nain,[180]
Gwiwnef it' hwnt, gwynfyd da;
Amen yma.

BONEDD A CHYNEDDFAU'R AWEN.

[Gweler LLYTHYRAU, tudai. 52, 65, 67, 84.]

Bu gan HOMER gerddber gynt
Awenyddau, naw oeddynt;
A gwiw res o dduwiesau,
Tebyg i'w tad, iawn had Iau;
Eu hachau, O Ganan gynt,
Breuddwydion y beirdd ydynt.

Un Awen a adwen i,
Da oedd, a phorth Duw iddi;
Nis deiryd,[181] baenes dirion
Naw merch cler Homer i hon.[182]

Mae'n amgenach ei hachau;
Hŷn ac uwch oedd nag âch Iau.
Nefol glêr[183] a'i harferynt,
Yn nef y cae gartref gynt;
A phoed fàd i wael adyn
O nef, ei hardd gartref gwyn!

Dod, Ion, im' ran ohoni,
Canaf ei chlod hoywglod hi:
Llwyddai yn well i eiddil
Borth tau na thafodau fil.

Dywaid, pa le caid Awen
Cyn gosod rhod daear hen,
A chael o'r môr ei ddorau,[184]
A thyle[185] dŵr o'th law dau,
A bod sail i'th adailad,[186]
Ein Creawdr, Ymerawdr mad?

I'r nef ar air Naf yr oedd,[187]
Credaf pand cywir ydoedd ?
Ser bore a ddwyr ynt
Yn llu i gyd ganu gynt;
Canu'n llon, hoywlon, eu hawdl,
Gawr floeddio gorfoleddawdl!
Ac ar ben gorphen y gwaith,
Yn wiwlan canu eilwaith;
Caid miloedd o nerthoedd nef
Acw'n eilio cân wiwlef;
Meibion nef yn cydlefain
A'u gilydd mewn cywydd cain:—

"Perffaith yw dy waith,[188] Duw Ion,
Dethol dy ffyrdd a doethion,
A mâd ac anchwiliadwy,
Dduw mawr! ac ni fu ddim mwy!"
Per lefair cywair eu cân,
Pob ergyr[189] fal pib organ,
Cân mil—ddwbl acen aml-ddull,
Llawn hoen, heb na phoen na ffull."[190]

Gwanai eu gwiwdeg hoenwawr,
Ewybr eu llef, wybr a llawr;
Fe'i clywai'r ser disperod,"[191]
Llemain[192] a wnae rhain i'w rhod.

Ffurfafen draphen a droe,
Ucheldrum nef a chwildroe;
Daeth llef eu cân o nefoedd,
Ar hyd y crai fyd, cryf oedd;
Adda Dad, ym Mharadwys,
Clywodd eu gawr, leisfawr lwys;
Hoffai lef eu cerdd nefawl,
Ac adlais mwynlais eu mawl;
Cynhygiai eu cân hoywgerdd,
Rhoe ymgais ar gais o'r gerdd.
Difyr yw. goflaid Efa
Glywed ei gân ddiddan dda;
Canai Efa, deca' dyn,
Canai Adda, cain wiwddyn;
Canent i'w Ner o bêr berth;
O'r untu, hyd awr anterth;
Ac o chwech ymhob echwydd,[193]
Pyncio hyd nad edwo dydd.
Cân Abel oedd drybelid,
Diddrwg, heb hyll wg na llid.
Anfad ei gân, bychan budd
Acen lerw-wag Cain lawrudd,―
Ni chydfydd Awenydd wâr
A dynion dybryd, anwar:
Ion ni rydd hyn o roddiad
Wiwles, ond i fynwes fad.

Cynar o beth yw canu,
Awen i Foesen[194] a fu;
Awen odiaeth iawn ydoedd,
Wrth adaw'r Aifft anghraifft oedd,
Cant, cant, a ffyniant i'w ffydd,
Cyn dyfod canu Dafydd;
Pyncio wnae fe fal pencerdd
Nefol a rhagorol gerdd;
Prydodd dalm o ber Salmau,
Fwyned im' ynt, f'enaid mau;
Canu dwsmel,[195] a thelyn,
Yn hardd a wnai'r gwiwfardd gwyn,


Gyda'i law ydd ae'r awen,
Wi Wi! i'r llaw wisgi wen.
Ewybr oedd y boreuddydd,
Ei lais ym min dichlais dydd.

"Deffro fy nabl, parabl per!
I ganu emyn Gwiwner;
I'm Ion y rhof ogoniant,
A chlod a thafod a thant."

Am ganu ni fu, ni fydd,
Hoyw ei fawl, ei hefelydd.

Awen bêr wiwber ei waith,
Oedd i Sélyf, ddisalw eilwaith,
Fe gant gân, gwiwlan yn gwau,
Cân odiaeth y Caniadau;
Pwy na char ei Ros Saron,
Lili, a draenllwyni llon?
Y mae'n ail y mwyn eiliad
I gywydd Dafydd ei dad.

Dygymydd Duw ag emyn,
O awen dda a wna ddyn.
Prawf yw hon o haelioni
Duw nef, a da yw i ni.
Llesia gân yn llys gwiwnef,
Mawr gerth yw ei nerth yn nef;
Pan fo'r côr yn clodfori,
Cydlef llu nef oll â ni,
Ag ateb cân yn gytun,
Daear a nef a dry'n un.

Dyledswydd a swydd hoyw sant,
Yw gwiw gân a gogoniant;
Dysgwn y fad ganiad gu,
Ar fyr awn i'w harferu;
Cawn awenlles cân unllef
Engyl â ni yngolau nef,
Lle na thaw ein per Awen,
Sant, Sant, Sant! moliant." Amen.


CYWYDD Y MAEN GWERTHFAWR. 1753.

CHWILIO y bum, uwch elw byd,
Wedi chwilio, dychwelyd;
Chwilio am em bêrdrem bur,
Maen iasbis, mwy annísbur;
Hynodol em wen ydoedd
Glaerbryd, a Dedwyddyd oedd.
Mae (er Naf) harddaf yw hi,
Y gemydd a'i dwg imi?
Troswn, o chawn y trysor,
Ro a main daear a môr;
Ffulliwn[196] hyd ddau begwn byd,
O'r rhwyddaf i'w chyrhaeddyd;
Chwiliwn, o chawn y dawn da,
Hyd rwndir daear India,
Dwyrain, a phob gwlad araul,
Cyfled ag y rhed yr haul;
Hyd gyhydlwybr yr wybren,[197]
Lle'r a wawl holl awyr wen;
Awn yn noeth i'r cylch poethlosg,
Hynt y llym ddeheuwynt llosg.
I rynbwynt duoer enbyd
Gogledd, annghyfanedd fyd.
Cyrchwn, ni ruswn, oer ôd,
Rhyn, oerfel, rhew anorfod,
A gwlad yr ia gwastadawl,
Crisian-glawdd na thawdd, na thawl.[198]
Od awn i'r daith drymfaith draw,
Ofered im' lafuriaw!
Gwledydd ormod a rodiais,
Trwy bryder ac ofer gais,
Llemdost i mi'r bell ymdaith;
A phellaf, gwacaf y gwaith!
Chwilio ym man am dani,
Chwilio hwnt heb ei chael hi.
Nid oes dwr na dwys diredd,
Na goror ym môr a'i medd.

Da gwyr Iesu, deigr eisioes
Dros fy ngrân[199] drwstan a droes,
Pond tlawd y ddihirffawd hon,
Chwilio gem, a chael gwmon!

Anturiais ryw hynt arall
O newydd, yn gelfydd gall;
Cynull (a gwael y fael fau)
Traul afraid, twr o lyfrau,
A defnyddion dwfn addysg,
Sophyddion dyfnion eu dysg;
Diau i'r rhai'n, o daer hawl,
Addaw maen oedd ddymunawl—
Maen a'i fudd uwchlaw rhuddaur,
Maen oedd a wnai blwm yn aur;
Rhoent obaith ar weniaith wag
O byst aur, â'u bost orwag.
Llai eu rhodd, yn lle rhuddaur,
Bost oedd, ac ni chawn byst aur.
Aur yn blwm trathrwm y try,
Y mae son mai haws hyny;
Ffuant yw eu hoff faen teg,
Ffol eiriau a ffiloreg.

Deulyfr a ddaeth i'm dwylaw
Llawn ddoeth, a dau well ni ddaw:
Sywlyfr[200] y Brenhin Selef,[201]
A Llyfr pur Benadur Nef.
Deufab y brenhin Dafydd,
Dau fugail, neb ail ni bydd.
Gwiwfawr oedd un am gyfoeth,
Brenhin mawr, dirfawr, a doeth;
Rhi'n honaid[202] ar frenhinoedd
Praff deyrn, a phen prophwyd oedd.
Ba wledd ar na bu i'w lys?
Ba wall o b'ai ewyllys?
Ba fwyniant heb ei finiaw?
Ba chwant heb rychwant o braw'?

Ar ol pob peth pregethu,
"Mor ynfyd y byd!" y bu.
Gair a dd'wedai, gwir ddidwyll,
"Llawn yw'r byd ynfyd o dwyll,
A hafal ydyw hefyd
Oll a fedd, gwagedd i gyd."
O'i ddwys gadarn ddysgeidiaeth
Wir gall, i'm dyall y daeth,
Na chaf islaw ffurfafen
Ddedwyddyd ym myd, em wen!
Ni cheir yr em hardd-drem hon
Ar gyrau'r un aur goron,
Na chap Pab, na chwfl abad,
Na llawdr un ymerawdr mâd.

Llyna sylwedd llên Selef
Daw'n ail efengyl Duw nef:
D'wedai un lle nad ydoedd,
A'r ail ym mha le yr oedd.
Daw i ddyn y diddanwch
Yn nefoedd, hoff lysoedd fflwch-
Fan deg yw nef fendigaid,
Tlws ar bob gorddwrs a gaid;
Pob careg sydd liwdeg lwys,
Em wridog ym Mharadwys;
Ac yno cawn ddigonedd
Trwy rad yr Ion mâd a'i medd.
Duw'n ein plith, da iawn ein plaid,
F'a'n dwg í nef fendigaid.
Drosom Iachawdwr eisoes
Rhoes ddolef, daer gref, ar groes;
Ac eiddo ef, nef a ni,
Dduw anwyl, fa'i rhydd ini.

Molaf fy Naf yn ufudd;
Nid cant, o'm lladdant a'm lludd.
Dyma gysur pur, heb ball,
Goruwch a ddygai arall ;
Duw, dy hedd rhyfedd, er hyn,
Bodloni bydol annyn.

Boed i angor ei sorod;
I ddi-ffydd gybydd ei god;
I minau boed amynedd,
Gras, iechyd, ha wddfyd, a hedd.


CYWYDD HIRAETH AM FON.

Ateb i Gywydd Huw Huws (y Bardd Coch), o Lwydiarth-Esgob
ym Mon, a ganwyd yn Walton yn Lancashire, 1753.

PAHAM i fardd dinam doeth,
Pergerdd, celfyddgar, purgoeth,
Ofyn cân a chynghanedd
Gan ddigrain[203] was main nas medd?
Duw nef a ŵyr, dyn wyf fi
Dirymiant, Duw'n dwŵr imi!
Dieithryn adyn ydwyf,
Gwae fi o'r sud! alldud wyf.
Pell wyf o wlad fy nhadau,
Och son ac o Fon gu fau;
Y lle bum yn gware gynt
Mae dynion na'm hadwaenynt;
Cyfaill neu ddau a'm cofiant,
Prin ddau, lle'r oedd gynau gant;
Dyn didol dinod ydwyf,
Ac i dir Mon estron wyf;
Dieithr i'n hiaith hydriaith hen,
Dieithr i berwawd awen.
Gofidus, gwae fi! ydwyf
Wrth son, a hiraethus wyf;
Gan athrist frondrist fraendroch,
Ni chyngan hoyw gân âg och;
Mewn canu namyn cwynaw
Ni chytgais na llais na llaw.

Pobl anwar Pabyloniaid,
Dreiswyr blin, draws arw blaid,
O'u gwledydd tra dygludynt
Wyr Seion yn gaethion gynt.

Taergoeg oedd eu gwatworgerdd :
"Moeswch, ac nag oedwch, gerdd."
"Gwae ni o'r bryd dybryd hwn,"
Cwynent,[204] "Pa fodd y canwn,
Gerdd Ion mewn tir estronol,
A'n mâd anwylwlad yn ol?
Ni bu, dref sorth,[205] tan orthrech,
Fy nhrem am Gaersalem sech[205]
Os hawdd yr annghofiais hi,
Dêl ammorth yn dâl imi;
Anhwylied fy neheulaw,
Parlys ar bob drygfys draw,
A'm tafod fials gwamalsyth,
Ffered yn sych baeled byth."

Llyna ddiwael Israeliad!
Anwyl oedd i hwn ei wlad;
Daear Mon, dir[206] i minau
Yw, o chaf ffun i'w choffhau.
Mawr fy ngwynfan am dani;
Mal Seion yw Mon i mi;
O f'einioes ni chaf fwyniant
Heb Fon, er na thôn na thant;
Nid oes trysor a ddorwn,
Na byd da'n y bywyd hwn,
Na dail llwyn, na dillynion,
Na byw'n hwy, onibai hon.
Troi yma wnaf, tra myn Ner,
O'm hedfa, oni'm hadfer;
Duw nefol a'm deoles,
Duw'n rhwydd im', a llwydd, a lles;
Crist, D'wysog, Eneiniog nef,
Ced-rwydd,[207] a'm dyco adref.


CYFIEITHIAD

O ail awdl ANACREON, 1754.

NATUR a wnaeth—iawn ytyw,
Ei rhan ar bob anian byw;
I'r cadfarch dihafarchwych
Carnau a roes; cyrn i'r ych!
Mythder[208] i'r ceinych[209] mwythdew;
Daint hirion llymion i'r llew;
Rhoes i bysg nawf ym mysg myr:[210]
I ddrywod[211] dreiddio'r awyr;
I'r gwŷr rhoes bwyll rhagorol;
Ond plaid benywaid—bu'n ol;
Ba radau gânt? Pryd a gwedd:
Digon i fenyw degwedd,
Rhag cledd llachar, a tharian,
Dor yw na thyr dŵr na thân:
Nid yw tân a'i wyllt waneg,
Fwy na dim wrth fenyw deg.


Yn ol y copi oedd gan William Morris, Caergybi, o'r cywydd hwn, mae y ddwy linell gyntaf yr un fath, ond o'r drydedd linell yn mlaen, darllená fel hyn:—

I lew swrth hoewal o safn;
Esgud ceinach ac ysgafn;
I'r aig rhoes nofiaw'r eigiawn;
A dir i'r adar ou dawn,—
Rhoes iddynt helynt hylwybr,
Uchel ar awel yr wybr;
Rhoes i wŷr rym llym a llwyr,
Goreu senedd! a gwir synwyr!
Gwae i'r merched! arbedodd
Rannu i'r rhai'n yr un rhodd.
Pa rodd i'r glân rianedd
Ynteu a geid? Ond teg wedd;
Digon i fenyw degwch,
Rhag byddinoedd, trinoedd trwch,
Rhag cledd llachar na tharian:
Dur yw na thyr dŵr na thân;
Dŵr na thân ni wna 'chwaneg
Na dim, wrth wna fenyw deg.


ARALL.

O'r eiddo ANACREON, 1754.

MAE'N ddiau, myn y ddaear,
Yfed a wlych rych yr âr;
Dilys yr ŷf coed eilwaith
Y dw'r a lwnc daear laith;
Awyr a lwne môr a'i li ;
Yf yr haul o fôr heli;
Ar antur, f loer yntau;
Yfont, a d'unont eu dau:
Y mae'n chwith i mi na chaf
Finau yfed a fynaf!
Gwarthus iwch ddigio wrthyf,
Nid oes dim o'r byd nad ŷf.


ODLIG ARALL.

I ANACREON 1754.Proest Cyfnewidiog.

HOFF ar hen yw gwên a gwawd;
Bid llanc ddihadl, drwyadl droed:
Os hen an-nien[212] a naid,
Hen yw ei ben, lledpen llwyd,
A synwyr iau sy'n yr iad.[213]



ENGLYNION.

I ofyn Cosyn Llaeth-geifr gan WILLIAM GRUFFYDD o
Ddrwsycoed yn Eifionydd, dros Domos Huws, mab Huw
ab Ifan o Landygai, oedd yn Liverpool, neu Nerpwl, 1754.


DYNYN wyf a adwaenoch—er enyd,
A yrr anerch atoch;
Rhad a hedd ar a feddoch,
I'ch byw, a phoed iach y bo'ch.


I chwi mae, i'ch cae, uwch cyll,
Geifr, hyfrod, bychod, heb wall,
Llawer mynyn, milyn mwll,
Rhad rhwydd a llwydd ar bob llill.[214]

Mae iwch gaws liaws ar led—eich anedd,
A'ch enwyn[215] cyn amled;
Y mwynwr, er dymuned,
Rhowch im' gryn gosyn o ged.

Cosyn heb un defnyn dwfr,
Cosyn ar wedd picyn pefr,
Cosyn o waith gwrach laith, lofr,
Cosyn o flith[216] gofrith gafr.

Blysig, anniddig ei nâd,—yw meistres,
A mwstro mae'n wastad;
Ni fyn mwy un arlwyad,
Na gwledd ond o gaws ein gwlad.

Myn Mair onis cair y caws
Ar fyr, y gwr difyr dwys,
Ni bydd swydd, na boddio Sais,
Na dim mwy hedd i Dwm Huws.

Os melyn gosyn a gaf,—nid unwaith
Am dano diolchaf;
Milwaith, wr mwyn, y'ch molaf,
Hau'ch clod ar bob nod a wnaf.

ENGLYN A SAIN GUDD YNDDO.

Pwy estyn bicyn i bwll—trybola,
Tra bo i'w elw ddeuswllt ?
Trasyth fydd perchen triswllt,
Boed sych a arbedo swllt.


ENGLYN I JOHN DEAN.[217]

Y Llongwr melynaf yn y deyrnas yma, 1754.

MOLIANT am bob peth melyn,—am yr haul,
A merhelyg dyfrllyn;
Am Sion Den, a chwyr gwenyn,
Am mad aur, petai 'maw dyn.


MARWNAD

I'r elusengar a'r anhebgor wrda, Mr. JOHN OWEN, o'r
Plas yng Ngheidio, yn Lleyn, 1754.

[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 77.]

1. Unodl union.
GWAE Nefyn, gwae Leyn gul wedd!—Gwae Geidio,
Gwae i giwdawd[218] Gwynedd!
Gwae oer farw gwr o fawredd!
Llwyr wae ac y mae ym medd!

2. Proest Cyfnewidiog.
Achwyn mawr, och in' y modd!
Nid ael sech, ond wylo sydd;
Gwayw yw i bawb gau y bedd
Ar Sion Owen, berchen budd.

3. Proest Cadwynog.
Cadd ei wraig bêr drymder draw,
Am ei gwaraidd, lariaidd lyw;
A'i blant hefyd frwynfryd[219] fraw;
Odid un fath dad yn fyw.

4. Unodl Grwcca.
Mawr gwynaw y mae'r gweinion,
"Gwae oll y sut golli Sion."
Ni bu rwyddach neb o'i roddion,—diwg,
Diledwg i dlodion.


5. Unodl Gyrch.
Llyw gwaraidd llaw egored,
Rhwydd a gwiw y rhoddai ged;
Mwynwych oedd (y mae'n chwith!)
Digyrith da ei giried.[220]

6. Cywydd Deuair hirion.
Gwrda na phrisiai gardawd,
Ond o les a wnai i dlawd.

7. Cywydd Deuair byrion—8. Awdl Gywydd—
9. Cywydd Llosgyrnawg.—a 10.Toddaid ynghyd.
Ni bu neb wr,
Rhwyddach rhoddwr:
A mawr iawn saeth ym mron Sion,
Cri a chwynion croch wanwr.
Llawer teulu (llwyr eu toliant,
A'u gwall !) eusus a gollasant,
Sin[221] addiant Sion i'w noddi.
Bu ŷd i'w plith, a bwyd i'w plant,—eu rhaid
Hyd oni ailgaid yn y weilgi.[222]

11. Gwawdodyn Byr.
Sion o burchwant (os un) a berchid,
Synwyr goreu, Sion wâr a gerid,
Sion a felus iawn folid:—pan hunodd
Sion Owen gufodd, syn yw'n gofid.

12. Gwawdodyn Hir.
Chychwi y gweiniaid, och eich geni!
A marw'ch triniwr, mawr yw'ch trueni!
Pwy rydd luniaeth, pa rodd yleni
Yn ail i Sion, iawn eleuseni?
Oer boed achos i'r byd ochi,—nis daw,
Er gofidiaw awr i gyfodi.


13. Byr a Thoddaid.
Ar hyd ei fywyd o'i fodd,—iawn haelwas,
Yn helaeth y rhanodd,
A'i Dduw eilwaith a addolodd,
Wiw ban dethol, a'i bendithiodd.
Diwall oedd, a da y llwyddodd,
Am elw ciried[223] mil a'i carodd;
Hap llesol, pwy a'i llysodd?[224]—Duw un—tri,
Ei Geli, a'i galwodd.

14. Hira Thoddaid.
Wiwddyn cariadus, i Dduw Ion credodd,
Hoff oedd i'w Geidwad, a'i ffydd a gadwodd;
A'i orchymyn, i wyraw o chwimiodd,[225]
Da fu y rheol, edifarhaodd.
Ym marwolaeth, e 'moralwodd[226] â'i Ner,
A Duw, oreu Byw-ner, a'i derbyniodd.

15. Hupynt Byr.
Os tra pherchid
O mawr eurid
am arwredd,
Deufwy cerid
Mwy yr enwid
am ei rinwedd

16. Hupynt Hir.
Am ei roddion,
Hoyw wr cyfion,
A'i 'madroddion,
hir y cofier:
Ei blant grasol,
Gan Dduw nefol,
Fwyn had ethol,
a fendithier.

17. Cyhydedd Fêr.
Cu hil hynaws, cael o honynt,
Duw'n dedwyddwch, Di'n Dad iddynt;
Yn ymddifaid na 'moddefynt
Gyrchau trawsder; gwarchod trostynt.


18. Cyhydedd hir.
I'w gain fain, fwynhael, briod, hyglod hael,
Duw tirionhael, dod Ti hir einioes;
Rhad ddifrad ddwyfron, amledd hedd i hon
I hwylio'i phurion hil hoff eirioes.

19. Cyhydedd Nawban.
Am a wna Wiliam[227] mwy na wyled,
Diwyd haelioni ei dad dilyned;
A digas eiriau da gysured
Och a mawrgwyn ei chwaer Marged.

20. Clogyrnach.
Os rhai geirwyr sy wŷr gorau,
I fyd saint e fudes yntau;
Draw, ddifraw ddwyfron,
I fâd lwysgad lon
Angylion yn ngolau.

21. Cyrch a Chwta.
Yn wych byth, ddinych y bo,
Yn iach wiwddyn, och iddo!
Mae hi'n drist am hyn o dro,
Wir odiaeth wr, ei ado:
Ni wiw i ddyn waeddi, O!
Och! wâr Owen ! a chrio,
Dal yn ei waith, dilyn ef
I'r wiwnef, fe'i ceir yno.

22. Gorchest y Beirdd.
Nid oes, Ion Dad,
Na'n hoes, na'n had,
Na moes, na mâd,
na maws mwyn;

Dy hedd, Duw hael,
Main fedd, mae'n fael,
A gwedd ei gael,
e gudd gŵyn.


23. Cadwyn Fyr.
Yn iach, wrol oen awch araf,
I'r hygaraf wr rhagorol;
Ef i'w faenol a fu fwynaf,
Un diddanaf, enaid ddoniol.


24. Tawddgyrch Cadwynog, o'r hen ddull gywraint,
fel y canai'r hen Feirdd; ac ynddo mae godidowg
rwydd gorchestwaith, a chadwyn ddidor trwyddo.


Dolur rhydrwm! dramawr benyd,
Boenau dybryd, ebrwydd ddidol:
Dwl Llŷn a llwm, llai mael Gwyndud,
Gan doi gweryd gwr rhagorol:
Dirfawr adfyd, oedfa ddyfryd,[228]
Ddifrif oergryd, fyd anfadol:
Dygn i'w edryd,[229] adrodd enyd,
Ddwyn eu gwynfyd cyd, un cedol.


Arall o'r ddull newydd drwsgl, ar y groes gynghanedd,
heb nemawr o gadwyn ynddo, ac nid yw'r fath yma
amgen na rhyw fath ar gadwyn fyr gyfochr, a
hupynt hir ynglyn a'u gilydd.


Doluriasant, dwl oer eisiau
Ei rinweddau, wr iawn noddol,
Llai eu ffyniant oll i'w ffiniau
Heb ei radau, bu waredol:
Cofiwn ninau ddilyn llwybrau
Ei dda foddau, oedd wiw fuddiol:
Cawn, fal yntau, i'n heneidiau
Unrhyw gaerau, Oen rhagorol.


CYWYDD I OFYN FFRANCOD,

Gan WILLIAM FYCHAN,[230] Esq., o Gors-y-Gedol, a Nannau,1754.[231]

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 106, 109.]

Y GWR addwyn, goreuddeddf,
Ni wn wr oll yr un reddf;
Gwr ydych gorau adwaen,
Och b'le y cair un o'ch blaen?
Yn ail i chwi ni welais,
Naws hael, o Gymro na Sais.
Gwr od,[232] Ysgwier, ydych
Ar bawb, a phoed hir y bych,
Ym Meirion lwys, am roi'n lân
Haelaf achau hil Fychan;
Hael yn unwedd, hil Nannau;
Dau enwog hil dinaghau;
Hil glân, a ŵyr heiliaw gwledd,
Blaeniaid ar holl bobl Wynedd,
O chyrchent, rho'ech i eirchiaid
Ddawn a rhodd ddien i'w rhaid;
Ni bu nâg i neb yn ol,
Na gwâd o Gors-y-gedol;
Gwir ys henwi'r Gors hono
Yn Gedol, freyrol[233] fro;
Cors roddfawr, o bwyf awr byw
Un gedol ddinag ydyw;
Gras a hedd yn y Gors hon,
Lle hiliwyd llu o haelion!
Yn y dir[234] 'rwy'n ymddiried,
A gwn y cair ynddi ged;
A ched a archaf i chwi,
A rhwydd y bych i'w rhoddi.

Ior[235] mau, os wyf o rym sal,
Dyn ydwyf dianwadal,
O serchog, dylwythog lin,
Dibrinaf ddeiliaid brenin;
Ail llanw môr yw y llin mau,
Ceraint i mi 'mhob cyrau,
Ym Mon a Llanerch-y-medd,
A Llyn, a thrwy holl Wynedd,
Yn llinyn yno llanwent,
Hapus gylch Powys a Gwent,
Diadell trwy'r Deaudir,
Rhaid oedd, a thrwy bob rhyw dir.
Ein hynaif iawn wahenynt
Bedair rhan o'r byd ar hynt;
Dwy oludog, dew, lydan,
Duw Ion a ŵyr, a dwy'n wan;
O gyfan bedair rhan byd,
Dwyran i mi y deiryd;
Ac aml un yn dymunaw
Waethaf o'u llid! waith fy llaw;
A rhwydd wyf i'r rhiaidd yrr
Llwythawg i yru llythyr,
Ond na fedd dyn, libyn lu,
Diles mo'r modd i dalu.

Gwyn ei fyd egwan a fedd
Wr o synwyr o'r Senedd,
A'i dygai'n landdyn digost
I selio ffranc, ddisalw ffrost!
Minau, fy mawr ddymuniad
Yw cael gan wr hael yn rhad,
Ffrancod eglur, Mur Meirion,
O ran mael i 'Ronwy Mon.

Hefyd nid Ffrainc anhyfaeth,
Dyn o dir Ffrainc, dwndwr ffraeth;
O'r rhwyddaf i'm y rhoddech
O'r lladron chwidron naw chwech;

Er mai gormodd, wr noddawl,
Yw rhif deg rh'of fi a diawl;
Deuddeg o chaf ni'm diddawr,
Ni'ch difwyn, y gwr mwyn mawr;
Hyny dâl, heb ry sal bris,
Lawer o Ffrancod Lewis,[236]


PROEST CADWYNODL BOGALOG,

A math o watworgerdd yw, ar yr hen Englyn bogalog, O'i wiw wy i weu e a, &c.

O'i wiw wy a weu a e,
Ieuan o ia, ai e, yw?
Ai o au weuau a we
A'i au i wau ei we wyw?



CYWYDD Y CYNGHORFYNT,[237] NEU'R GENFIGEN.

[Mewn llythyr at Lewis Morris, dyddiedig "Salop. July 30, 1752," dywed y Bardd:—"I am infected with a contagious distemper, called Scribendi cacoethes; for I make bold to trouble you with one more cywydd—the subject I thought of writing upon ever since Cottyn was pleased to accuse me of plagiar- ism; but I reserved it till I should have some new measure to write in; but, despairing of that, I am resolved to put it together in some sort of cywydd none of the best, I am sensible, for I had no time."]

COFIO wna hoglanc iefanc,
Yn llwyd[238] hyn a glybu'n llanc;
Gelwais i'm côf, adgof oedd,
Hanesion o hen oesoedd ;
Ganfod o rai hergod hyll
Du annillyn dân ellyll;[239]

Drychiolaeth ddugaeth ddigorff,
Yngwyll yn dwyn canwyll corff;
Amdo am ben hurthgen hyll,
Gorchudd hen benglog erchyll;
Tylwyth Teg ar lawr cegin
Yn llewa aml westfa win;
Cael eu rhent ar y pentan,
A llwyr glod o bai llawr glân;[240]
Canfod braisg widdon baisgoch
A chopa cawr a chap coch;
Bwbach llwyd a marwydos
Wrth fedd yn niwedd y nos.

Rhowch i'm eich nawdd, a hawdd hyn,
Od ydwyf anghredadyn;
Coelied hen wrach, legach lorf[241]
Chwedlau hen wrach ehudlorf;
Coeliaf er hyn o'm calon,
A chred ddihoced yw hon,
Fod gwiddon, anhirionach
Ei phenpryd, yn y byd bach;
Anghenfil gwelw ddielwig,[242]
Pen isel ddelw dduddel ddig,
Draig aeldrom, dera guldrwyn,
Aych gan gas dulas i'w dwyn;
Ac o rhoe wên ddwy-en ddu,
Gwynfyd o ddrwg a ganfu;
Uwch ei gran[243] y mae pannwl,[244]
Dau lygad dali pibddall pwl;
Golwg, a syll erchyll oedd,
A gaid yn fwy nag ydoedd.
Ni wýl o ddrwg un wala;
Ni thrain[245] lle bo damwain da.
Gwynfydu bydd ganfod bai;
Llwyddiant di drwc a'i lladdai.
Gwenai o clyw oganair;
O rhoid clod, gormod y gair.

Rhincan y bydd yn rhonca,
Ai chrasfant, arwddant, ar dda.
Daint rhystyll,[246] hydryll, a hadl,
Genau gwenwynig anadl;
Ffy'n yd a fai ffynadwy
O chwyth ni thŷf fyth yn fwy,
Lle cerddo llesg ei hesgair,
Ni chyfyd nac ŷd na gwair.
Mae'n ei safn, hollgafn, hyllgerth,
Dafod o anorfod nerth
Difyn, a ffugfawr dafod,
Eiddil, a gwae fil ei fod;
A dwyfron ddilon dduledr,
Braen yw o glwyf ei bron gledr;
Dibaid gnofeydd duboen,
A'i nych, a chrych yw ei chroen
Gan wewyr, ni thyr, ni thau,
Eiddo arall oedd orau
Hi ni wna dda, ddera[247] ddall,
Ni erys[248] na wna arall;
Ein hamorth sy'n ei phorthi,
A'n llwydd yw ei haflwydd hi.
Merch ffel, uffernol elyn
Heddwch a dedwyddwch dyn;
A methiant dyn a'i maethodd,
O warth y bu wrth ei bodd.
E ddenwyd Adda unwaith,
O'i blas, a bu gas y gwaith;
A'i holl lwyth, o'u hesmwythyd,
Trwy hon i helbulon byd;
Llamai lle caid llygaid llawn
Dagrau diferlif digrawn.
Aml archoll i friwdoll fron,
Ac wylaw gwaed o galon;
Gwaedd o ofid goddefaint,
Wyneb cul helbul a haint;
Rho'wn ar ball, hyd y gallom,
Ddiche!l y wrach grebach grom.
Ceisiwn, yn niffyg cysur,

Ceisiwn, yn niffyg cysur,
Ddwyn allan y gwan o gur,
A rhoddwn a wir haeddo
I fâd, pwy bynag a fo;
A'r byd, fel y gwynfyd gynt,
Dieifl i annwn diflenynt:
A Chenfigen, a'i gwenwyn,
Diffrwyth, anfad adwyth dyn;
Ddraig ffyrnig, ddrwg uffernol,
A naid i uffern yn ol.

Aed i annwfn,[249] ei dwfn dwll
Gas wiber, i gau sybwll;
A gweled, ddraig, ei gwala,
Mewn llyn heb ddifyn o dda;
Caiff ddau ddigon, a llonaid
Ei chroen, o ddu boen ddi baid.


CYWYDD I'R CALAN.
Yn y flwyddyn 1755, pan oedd glaf y BARDD yn Walton.
[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 112.]

Ow! Hen Galan, hoen gwyliau,
Cychwynbryd fy mywyd mau;[250]
On'd diddan im' gynt oeddit
Yn Ionor? Hawddamor it'!
Os bu lawen fy ngeni.
On'd teg addef hyn i ti?
Genyt y cefais gynydd
I weled awr o liw dydd;
Pa ddydd a roes im' oesi,
Trwy rad Ion ein Tad, ond ti?
Adrodd pob blwydd o'm hoedran,
O ddiwyd rif, oedd dy ran.

A gwelwyd, ben pob Gwyliau,
Mae tycio wnaeth y maeth mau;
Er yn faban gwan gwecry,[251]
Hyd yn iefanc hoglanc hy';
O ddiofal hydd iefanc
Yn wr ffraw,[252]. goruwch llaw llanc.
Ac ar Galan (yn anad
Un dydd) bu'm o wr, yn dad;
Finau ni bu'm yn f'einioes
Eto'n fyr it' o iawn foes.
Melys im' ydoedd moli,
A thra mawrhau d'wyrthiau di,
Ac eilio ti, Galan,
Ryw geliydd gywydd neu gân.

Dy gywyddau da gweddynt
A'th fawl, buost gedawl gynt;
Weithion paham yr aethost,
Er Duw, wrthyf i mor dost?
Rhoddaist im' ddyrnod rhyddwys
O boen, a gwae fi o'i bwys;
Menaist o fewn fy mynwes
A chlefyd o gryd a gwres,
A dirwayw'r poethgryd eirias, Y
nglŷn â phigyn a phas.
Ai o ddig lid ydd wy' glaf?
(Bernwch) ai cudab arnaf?
Od yw serch, nawdd Duw o'i swm!
Ai cudab[253] yw rhoi codwm,
A chystudd di fudd i f'ais
I'm gwanu am a genais ?
Ar hwrdd[254] os dy gwrdd a gaf
Eilchwyl, mi a ddiolchaf.
Ni chaf amser i 'mdderu;[255]
Diengaist yn rhydd, y Dydd du;
Rhedaist, fal llif rhuadwy
I'r môr, ac ni'th weler mwy;

A dygaist ddryll diwegi,
Heb air son, o'm beroes i
Difwynaist flodau f'einioes,
Bellach pand yw fyrach f'oes?
O Galan hwnt i'w gilydd,
Angau yn neshau y sydd;
Gwnelwyf â Nef dangnefedd
Yn f'oes, fel nad ofnwyf fedd;
A phoed hedd cyn fy medd mau,
Faith ddwthwn rh'of a thithau;
Dy gyfenw ni ddifenwaf,
Os ei gwrdd yn l'oes a gaf,
Ni thaeraf annoeth eiriau,
Gam gwl,[256] er fy mygwl[257] mau.
Bawaidd os hyn o'm bywyd,
Rhwy[258] fu'r bai rh'of fi a'r byd;
Addefer di yn ddifai,
Rhof fi a'r byd rhwy fu'r bai.
Duw gwyn a'm diwygio i,
A chymod heddwch imi
A ddel, cyn dy ddychwelyd,
A llai fyddo bai y byd;
Yna daw gwyliau llawen
I mi, ac i bawb. Amen.


UNIG FERCH Y BARDD,

Yr hon oedd dra anwyl gantho, a fu farw yn Walton[259] yn Lancashire, Ebrill y 17, 1755, yn bum mis a blwydd o oed, ac yntau a gant y Farwnad hon iddi. [Gweler cyfeiriad at ei genedigaeth yn y LLYTHYRAU, 65; ac at ei marwolaeth yn tudal. 119.]


MAE cystudd rhy brudd i'm bron—'rhyd f'wyneb
Rhed afonydd heilltion;
Collais Elin, liw hinon,
Fy ngeneth oleubleth lon!


Anwylyd, oleubryd lân,
Angyles, gynes ei gwên,
Oedd euriaith mabiaith o'i min,
Eneth liw ser (ni thâl son):
Oedd fwyn llais, addfain ei llun,
Afieuthus, groesawus swn,
I'w thad, ys ymddifad ddyn!

Ymddifad ei thad, a thwn[260]
Archoll yn ei friwdoll fron,
Ynghur digysur, da gwn,
Yn gaeth o'm hiraeth am hon.

Er pan gollais feinais fanwl,
Gnawd yw erddi ganiad awrddwl,
A meddwl am ei moddion;
Pan gofiwyf poen a gyfyd,
A dyfryd gur i'm dwyfron,
A golyth[261] yw y galon
Erddi ac am dani'n donn,
A saeth yw son,
Eneth union.
Am anwyl eiriau mwynion—a ddywaid,
A'i heiddil ganaid ddwylo gwynion.

Yn iach, f'enaid, hoenwych fanon,
Neli,'n iach eilwaith, lân ei chalon,
Yn iach, fy merch lwysfach lon,—f'angyles,
Gorphwys ym mynwes monwent Walton,

Nes hwnt dy gynull at saint gwynion,
Gan lef dolef dilyth genhadon;
Pan roddo'r ddaear ei gwâr gwirion,
Pan gyrcher lluoedd moroedd mawrion,
Cai, f'enaid, deg euraid goron—dithau,
A lle yn ngolau llu angylion.

CYWYDD Y CRYFION BYD.[262]

Pwy fal doethion farddoni,
Neu pa faint na wypwyf fi?
Os hylon a fu Selef,[263].
Mi a wn gamp mwy nac ef;
Dwys yw 'r hawl diau sy rh'om,
Bernwch uniondeb arnom;
Mynnwn gael dadl am ennyd,
A barn yn nghylch Cryfion Byd.

Tri chryf i Selyf y sydd,
Ie diriaid bedwerydd:
Llew anwar, hyll ei wyneb,
Preidiol, [264] na thry 'n ol er neb;
Milgi hirsafn, ysgafndroed,
Heb wiwiach[265] ci; a Bwch coed.
Ner trech o rwysg na 'r tri chryf,
Os holwn, fu i Selyf;
Brenin a phybyr wyneb,
Erfai, na 's wynebai neb.
Dyna, boed cof am danynt,
Ei bedwar; rhai anwar ynt.

Ni chelaf, gwn na choeliech,
Myfi a wn dri sydd drech:
O honynt dau a henwaf,
Didol un yn ol a wnaf,
O chwant caffael rhoi i chwi
Ddameg i'w hadrodd imi.

O gadarn pwy a gydiaf,
Am gryfder certh, â nerth Naf?
Nis esguswn na's gesyd
A'i gwnaeth yn bennaeth i'r byd.
Er ised oedd yr Iesu,
O inged yw Angau du!

Dilys i'r Angau dulew
Heb ymladd yn lladd y Llew.
Y Milgi llym, miweilgoes,
A red, ond ni chaiff hir oes;
Uthr Angau—hw!a threngi;
Ei hynt a fydd cynt na'r Ci.
Bwch gwyllt yn ebach gelltydd,
Ba hyd i'w fywyd a fydd ?
E gyrraedd Angau gorwyllt
Ebach a gwâl y Bwch gwyllt.
I Dad y dychryniadau
Diflin, beth yw Brenin brau?
Mae Selyf, mwyaf seiliad?
Mae'r llywydd Dafydd ei dad?
Pa gryfach gadarnach dau
I'r ingaf arwr Angau?
Bwriodd ef eu pybyrwch
Mewn un awr i'r llawr a'r llwch!
Nycha[266] Ner, byw 'n wych wna 'r byd?
Hyfawr yw Angau hefyd.
Dduw y gras, wrth y ddau gryf
Saled yw Cryfion Selyf!
O'i helaeth ddysgeidiaeth gynt
Gwyddai mor nerthog oeddynt;
A honai ef eu hynni,
Y Llên maith, yn well na mi.

Y trydydd certh anferthol
Ei nerth y sydd eto 'n ol.
Mi a wybum o'm maboed
Ei rym; ef nis gwybu 'rioed.
Y rhyfeddod hynod hon
Gweddai nad yw ond gwiddon;
A chewch, os dyfelwch hi,
Ei hanes, yn lle 'i henwi.
Eiddil henwrach grebach,[267] grom,
Nythlwyth o widdon noethlom,
Cynddrwg—oes olwg salach?—
O bwynt a llun angau bach.

Bwbach wyw bach yw heb wedd,
Swbach heb salach sylwedd—
Sylwedd na chanfu Selef,
Na gŵr un gyflwr ag ef;
Gwiddon eiddilon ddwylaw,
A llem pob ewin o'i llaw;
Blaenau cigweiniau[268] gwynias,
Blaen llymion rhy greision gras.
Er eiddiled yw 'r ddwylaw,
Ni bu henwrach drymach draw;
Trom iawn a thra ysgawn yw,
Gwrthdd wediad rhy gerth ydyw.
Och! anaf yw ei chynnwys;
O ffei! mi a wn ei phwys.
Beth yw Llew tan ei ffrewyll?
Nis ofna hon ei safn hyll.
Beth yw nerth a phrydferthwch?
Neu beth yw Milgi na Bwch?
Os hwnt ymddengys hi,
Truan nerth un teyrn wrthi;
Tyr dyrrau, caerog cerrig,
Yn deilch lle'r enyuno 'i dig.
Anghynnes ddiawles ddileddf,
Ni erbyd hi dorri deddf.
Hi ferchyg, ddihafarchwaith,
Hen gwan; pand dihoen ei gwaith?
Gnawd gwrach yn trotian tani;
Gwae hên a farchogo hi!
Ni rydd—mae 'n g'wilydd ei gwaith—
Wilog afrwydd le i gyfraith.
Dir y myn, pand oer i mi?
Gloff arthes, gael ei phorthi.
Ac ni ddiyleh, gne dduwg,
Un mymryn i'r dyn a'i dwg.

O chawn nerth a chynorthwy,
Ni ddygwn 'y mhwn ddim hwy;
Mor fall oedd, mawr yw fy llid
Hirlawn i gael ei herlid;
Tynnu'r Awen o'm genau,
A'i dwyn hwnt o dan ei hiau!
Ochaf mae 'n amlwg ichwi—
Ochaf, ond ni henwaf hi;
Hawdd ei gwamal ddyfalu,
Poen yw ei dwyn, y pwn du!
Trom iawn yw; ond, tra myn Naf,
Yn ddigwyn hon a ddygaf.
Gnawd gwrach yn trotian tani;
Gwae hên a farchogo hi!
Ni rydd—mae 'n g'wilydd ei gwaith—
Wilog afrwydd le i gyfraith.
Dir y myn, pand oer i mi?
Gloff arthes, gael ei phorthi.
Ac ni ddiylch, gne dduwg,
Un mymryn i'r dyn a'i dwg.

O chawn nerth a chynorthwy,
Ni ddygwn 'y mhwn ddim hwy;
Mor fall oedd, mawr yw fy llid
Hirlawn i gael ei herlid;

Tynnu'r Awen o'm genau,
A'i dwyn hwnt o dan ei hiau!
Ochaf mae 'n amlwg ichwi—
Ochaf, ond ni henwaf hi;
Hawdd ei gwamal ddyfalu,
Poen yw ei dwyn, y pwn du!
Trom iawn yw; ond, tra myn Naf,
Yn ddigwyn hon a ddygaf.[269]


EPIGRAM

I'w dori ar gaead Blwch Tobacco. 1755.

CETTYN yw'n hoes, medd Cattwg,[270]
Nid ŷm oll onid y mwg
Gan hyn, ys mwg yw'n heinioes,
Da iawn oni chair dwy oes?
Mygyn o'r cetyn cwta
Wnai o un-oes ddwy-oes dda.



DAU ENGLYN O GLOD I'R DELYN, 1755:

TELYN i bob dyn doniawl,—ddifaswedd,
Ydoedd fiwsig nefawl;
Telyn fwyn-gan ddiddanawl!
Llais Telyn a ddychryn ddiawl.

Nid oes hawl i ddiawl ar ddyn—mwyn cywraint,
Y mae'n curo'r gelyn;
Bwriwyd o Saul Yspryd syn,
Diawlaidd wrth ganu'r Delyn.


CYWYDD AR WYL DDEWI, 1755,

I'w gyflwyno i'n Frenhinol Uchelder FFREDRIG Tywysawg Cymru, gan yr urddasol Gymdeithas o GYMRODORION yn Llundain.

GLYW[271] digamrwysg gwlad Gymru,
A'i chynydd, Llywydd ei llu;
Por odiaeth holl dir Prydain,
Penteulu hen Gymru gain
Llyw unig ein llawenydd,
Mwy cu in' ni bu ni bydd;
Eich anerch rhoddwch ini,
Ior glân, a chyngan â chwi;
Gwaraidd fych, D'wysawg eirioes,
Wrth ein gwâr ufuddgar foes.
Dychwelawdd (dan nawdd Duw Naf)
Dyddwaith in' o'r dedwyddaf
Diwrnod (poed hedd Duw arnynt)
Na fu gas i'n hynaif[272] gynt;
Diwrnod y câd iawnrad yw
Ym maniar[273] Dewi Mynyw,[274]
Pan lew arweiniodd Dewi
Ddewr blaid o'n hynafiaid ni,
I gyrch gnif, ac erch y gwnaeth
Ar ei alon wrolaeth.
Ni rodd, pan enillodd, nod
Ond cenin yn docynod,
Cenin i'w fyddin fuddug
Nodai i'w dwyn, a da'u dug
Hosanna,[275] ddiflina floedd
Didawl ei amnaid ydoedd,

Gan Ddewi, ag e'n ddiarf,
Trech fu cri gweddi nag arf,
A Chymru o'i ddeutu ddaeth,
I gael y fuddugoliaeth;
Hwyntau, gan lwyddo'u hantur,
A glân barch o galon bur,
Er oesoedd a barasant
Addas wyl i Ddewi Sant
Ac urddo'r cenin gwyrddion
Yn goffhâd o'r hoywgad hon,
A bod trwy'n cynnefod ni,
Diolch i DDUW a Dewi.

Dewi fu'n noddwr diwael,
Chwi ydyw ein hoywlyw hael,
Mae'r hanes im', Ior hynod,
A fu, y geill eto fod
Ar Dduw a chwi, rwydd eich iaith,
Yn gwbl y mae ein gobaith,
Pan gyrch Naf eich dewraf daid[276]
I fynu, Nef i'w enaid,
I newid gwlad lygradwy
Am berffaith a milwaith mwy;
Iwch gael, pand yw hyfael hyn?
Rheoli pob rhyw elyn,
Gorchfygu talm o'r Almaen,
Taraw 'spêr[277] hyd dir Yspaen,
Cynal câd yn anad neb
Tandwng,[278] yn ddigytuneb,
I ostwng rhyfawr ystawd
Llyw Ffrainc, fal nad allo ffrawd;
A difa, trwy nerth Dofydd,
Ei werin ffals, a'r wan ffydd;
Danod eu hanudonedd
Yn hir cyn y rhoddir hedd.


Yn ol dial ar alon,[279]
Rhial hardd yw 'r rheol hon,
Gorsang y cyndyn gwarsyth,
Bydd wlydd[280] wrth y llonydd llyth,[281]
Milwaith am hyn y'ch molir,
A'ch galwad fydd TAD EICH TIR,[282]
Gwr odiaeth a gwaredydd,
Yn rhoi holl Ewropa'n rhydd
Ac am glod pawb a'ch dodant
Yn rhychor[283] i SIOR y Sant.


ARWYRAIN Y NENAWR

(The Garret Poem).
A wnaed yn Llundain, 1755.

CROESAW i'm diginiaw gell,
Gras Dofydd![284] gorau 'sdafell;
Golygle a gwawl eglur,
Derchafiad Offeiriad[285] ffur.
Llety i fardd gwell ytwyd
Na'r twrdd wrth y bwrdd a'r bwyd;
Mwy dy rin am ddoethineb,
Na gwahadd i neuadd neb:
Hanpwyf foddlon o honod,
Fur calch, on'd wyf falch dy fod?
Diau mai gwell y gell gu,
Ymogel na'th ddirmygu,
Nid oes, namyn difoes, da
Was taer, a'th ddiystyra;
Ai diystyr lle distaw
Wrth grochlef yr holl dref draw?
Lle mae dadwrdd gwrdd geirddad!
Rhwng puteiniad a haid hadl;

Torfoedd ynfyd eu terfysg,
Un carp hwnt yn crio pysg;
Tra arall, howtra hora!
Crio pys, ffigys, neu ffa.
Gwich ben, a trwy ymenydd,
Dwl dwrf, trwy gydol y dydd;
Trystiau holl Lundain trosti,
A'i chreg waedd ni charai gi.

Os difwyn (gwae ddi'sdafell!)
Clywed, nid oes gweled gwell;
Gweled ynfyd glud anferth
O'r wâr[286] a fynych ar werth;
Gwên y gŵr llys, yspys oedd,
Eddewidiwr hawdd ydoedd;
Cledd y milwr arwrwas,
Dwndwr yr eglwyswr glas:
Cyngor diffeith cyfreithiwr;
Trwyth y meddyg, edmyg wr;
Diod gadarn tafarnwas,
Rhyw saig gan ei frwysgwraig fras:
Rhad werthir pob raid wrthaw,
Corph, enaid, llygaid, a llaw:
Ond na cheir gan ddiweirdeb
Brisiau am eneidiau neb,
Ond enaid anudonwr
A'i chware fials, a chorph hŵr.

Dyna'r gair yn eu ffair ffol,
Dedwydd im' gell a'm didol;
Tua'r nen uwch eu penau,
Ammor it' ymogor mau!
Per Awen i nen a naid,
Boed tanodd i buteiniaid.
Tra fo'm cell i'm castellu,
Ni'm dawr a fo i lawr o lu.
Ni ddoraf neuadd arall,
Ni chlywaf, ni welaf, wall;

Heddyw, pond da fy haddef,
A noeth i holl ddoniau Nef?
Gwelaf waith Ion, dirion Dad,
Gloyw awyr a goleuad;
A gwiwfaint fy holl gyfoeth,
Yw lleufer[287] dydd, a llyfr doeth,
A phen na ffolai benyw,
Calon iach a chorph bach byw;
Deuryw feddwl di orwag,
A pharhaus gof, a phwrs gwag,
A lle i'm pen tan nenawr,
Rhyw fath, drichwe' llath uwch llaw.

CYWYDD Y GWAHAWDD.

Sent from Northolt, Middlesex, to MR. WILLIAM PARRY, Deputy-Comptroller of the Mint, 1755.
[Gwel LLYTHYRAU, tudal. 126, 136 etc.]

PARRI, fy nghyfaill puraf,
Dyn wyt a garodd Duw Naf;
A gwr wyt, y mwynwr mau,
Gwir fwyn a garaf inau.
A thi'n Llundain, wr cain cu,
On'd gwirion iawn dy garu?
On'd tost y didoliad hwn?
Gorau fai pe na'th garwn.
Dithau ni fyni deithiaw
O dref hyd yn Northol[288] draw,
I gael cân (beth diddanach ?)
A rhodio gardd y bardd bach;
Ond dy swydd hyd y flwyddyn,
Yw troi o gylch y Twr Gwyn,[289]
A thori, bathu arian,
Sylltau a dimeiau mân.

Dod i'th Fint, na fydd grintach,
Wyliau am fis, Wilym fach;
Dyfydd[290] o fangre'r dufwg,
Gad, er nef, y dref a'i drwg.
Dyred, er daed arian,
Ac os gwnai ti a gai gân,
Diod o ddw'r, doed a ddel,
A chywydd ac iach awel,
A chroeso calon onest,
Diddichell-pa raid gwell gwest?
Addawaf (p'am na ddeui ?)
Ychwaneg, ddyn teg, i ti;
Ceir profi cwrw y prif-fardd,
A 'mgomio wrth rodio'r ardd;
Cawn nodi, o'n cain adail
Gwyrth Duw mewn rhagorwaith dail
A diau pob blodeuyn
A ysbys ddengys i ddyn
Ddirfawr ddyfnderoedd arfaeth
Diegwan Ior-Duw a'i gwnaeth,
Blodau'n aurdeganau gant,
Rhai gwynion mawr ogoniant;
Hardded wyt ti, 'r lili lân,
Lliw'r eira, uwchllaw'r arian,
Cofier it' guro cyfoeth
Selyf,[291] y sidanbryf doeth.

Llyna, fy nghyfaill anwyl,
Ddifai gwers i ddof a gwyl,
Diffrwyth fan flodau'r dyffryn,
A dawl[292] wag orfoledd dyn;
Hafal blodeuyn hefyd
I'n hoen fer yn hyn o fyd;
Hyddestl blodeuyn heddyw,
Yfory oll yn farw wyw.
Diwedd sydd i flodeuyn,
Ac unwedd fydd diwedd dyn.
Gnawd i ardd, ped fai'r harddaf,
Edwi, 'n ol dihoeni haf.

Tyred rhag[293] troad y rhod,
Henu mae'r blodau hynod.
Er passio'r ddau gynhauaf,
Mae'r hin fal ardymyr haf ;
A'r ardd yn o hardd ddi haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrdd-ddail yn deg irdda
Eto, ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gauaf,
Y rhos a holl falchder haf.
Y rhos heneiddiodd y rhai'n,
A henu wnawn ni'n hunain;

Ond cyn bedd, dyma 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi :-
"Dybid i'n ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Myn'd yn ol, cyn marwolaeth
I Fon, ein cysefin faeth.
Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cyd-yrfa,
CRIST yn Nef a'n cartrefo,
Wyn fyd! a phoed hyny fo."

CYWYDD I DDIAWL.

[Mae efrydwyr gwaith Goronwy Owen yn barod i addef yn lled gyffredinol erbyn hyn mai Lewys Morys, ei hen gyfaill a'i noddwr, sydd ganddo tan ei fflangell yn y rhan o'r cywydd canlynol sy'n dechreu gyda'r llinell, "Gwr y sy gwae yr oes hon!" Yr oedd y ddau wedi digio'n enbyd wrth ei gilydd pan oedd y Bardd Du yn tario tua Llunden; ac os darllenir y LLYTHYRAU, tudal. 127, ceir awgrym led amlwg beth oedd yr achos. Yn y cywydd hwn rhydd Goronwy ei ochr ef i'r ffrwgwd; yn y Bywgraffiad sydd ar ddechreu'r gyfrol hon, ceir mynegiad Llywelyn Ddu o'i ochr yntau; ac anhawdd gwybod pa'r un ydyw'r mwyaf doniol yn dweyd ei gwyn a mwyaf ys. gorpionog ei fflangell. Tan ei fynych drallodau a'i aflwyddiant, mae lle i ofni i Oronwy droi i yfed yn y Brifddinas, yr hyn, yn naturiol, ni wnai ond chwanegu ei drybini ac oeri mwy ar ei gyfeillion. Ond ni bydd doeth, na beirdd, yn hir mewn dig; ac y mae'r Awdl Farwnad ysplenydd a ganodd Oronwy i'r "Pen Bardd, Hanesydd," etc., ddeng mlynedd ar ol y "Cywydd i Ddiawl" yn brawf digonol fod tân serch wedi ei ail-gyneu ar yr hen aelwyd.]

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 128.]

Y DIAFOL, arglwydd dufwg,
Ti, du ei drem, tad y drwg,
Hen Suddas, atgas utgi,
Gelyn enaid dyn wyt ti.
Nid adwaen—yspryd ydwyt—
Dy lun, namyn mai Diawl wyt;
Od wyt hyll, ys erchyll son
Am danat y mae dynion,
A lluniaw erchyll wyneb,
A chyrn it' na charai neb;
Ynghyrau'th siol[294] anghywraint
Clustiau mul (clywaist eu maint);
Ac ael fel cammog olwyn;
Hychaidd, anfedrusaidd drwyn;
A'th dduryn[295] oedd, waith arall,
Fal trwyn yr ab, fab y fall;
A 'sgyflfant rheibus gweflfawr,
Llawn danedd og miniog mawr;
Cammog o ên fel cimmwch;[296]
Barf a gait, fel ped fait fwch;
A'th esgyll i'th ddwy ysgwydd
Crefyll[297] cyd ag esgyll gwydd;
Palfau'n gigweiniau[298] gwynias;
Deg ewin ry gethin gas;
A'th rummen,[299] anferth remmwth,[300]
Fal cettog,[301] was rhefrog rhwth;
Wfft mor gethin y din dau!
Ffei o lun y ffolenau!

Pedrain[302] arth, pydru a wnel:
A chynffon, fwbach henffel,
Llosgwrn[303] o'th ol yn llusgo—
Rhwng dy ddau swrn llosgwrn llo;
A gwrthffyrch tinffyrch tanffagl,
Ceimion wrth y gynffon gagl;
A charnau'n lle sodlau sydd,
Gidwm, islaw d'egwydydd.
Er na nodawdd, o nawdd Naf,
Nemor un y mawr anaf;
Dyna'th bortreiad anwiw,
Anffurfiawg ddelw, leuawg liw;
Rhyw erthyl wyt rhy wrthun,
Diawl wyt, os cywir dy lun.

Y mae, os hwn ym mai sydd,
Lle i nodi truth lluniedydd.
Gwir ydyw rhai a gredynt
It' ddwrdio Angelo[304] gynt;
Sorri am i hurtni hwn
Ddiwyno mawredd Annwn;
A thrychu fyth o'r achos,
Hyn a wnai'n nydd yn y nos,
Nes gwneuthur parch, wrth d'arch di,
Satan, a llun tlws iti.

Minau, poed fel y mynych,
Dy lun, ai gwrthun ai gwych,
Rhof it' gyngor rhagorawl,
Na ddŷd nemawr un i Ddiawl:—

Gŵr y sy, gwae yr oes hon,
Blaenawr yr holl rai blinion,
Ac yna daw drwy'th genad,
Yna rhuthr, onide, 'n rhad;

Canys os hyn a fyn fo
Lewddyn, pwy faidd ei luddio?
Gwr cestog yw'r taerog tost,
Dinam ti a'i hadwaenost;
A pha raid nod a phryd neb?
Annwn ni dderbyn wyneb;
A godlawd yw coeg edliw
I'r un ddim o'i lun a'i liw;
Digon o chaid honaid hau,
Gostog[305] ryw faint o'i gastiau.

Dyn yw, ond heb un dawn iach,
Herwr, ni bu ddihirach;
Gŵr o gyneddf anneddfawl:
Lledfegyn,[306] rhwng dyn a diawl;
Rhuo gan wŷn, rhegi wna,
A damnio'r holl fyd yma:
Dylaith[307] i bawb lle delo,
Llawen i bawb lle na bo;
Ofnid ef fel Duw nefawl,
Ofnid ef yn fwy na diawl;
Ni chewch wyth yn y chwe chant,
O chuchia ef na chachant.
Cofier nad oes neb cyfuwch;
Nid oes radd nad yw SYR uwch;
Marchog oedd ef (merchyg ddiawl);
Gorddwy (nid marchog urddawl);
Marchog gormail, cribddail, cred,
Marchog y gwŷr a'r merched.

Nis dorai, was di-arab,
Na chrefydd, na ffydd, na Phab.
Cod arian y cyw diras
Yw crefydd y cybydd cas,
A'i oreudduw oedd ruddaur
A'i enaid oedd dyrnaid aur.
A'i fwnai yw nef wiwnod,
A'i Grist, yw ei gist a'i god;

A'i eglwys a'i holl oglud,
Cell yr aur a'r gloeyw-aur glud;
A'i ddu bwrs oedd ei berson,
A mwynhad ddegwm yn hon;
A'i brif bechod yw tlodi—
Pob tlawd sydd gydfrawd i gi;
A'i burdan ymhob ardal,
Yw gwario mwn, ac aur mâl;
A'i uffern eithaf aphwys,
Rhoi ei aur mân, gloywlan glwys.

Dyna yt, Suddas[308] dânwr,
Un neu ddau o gastiau'r gwr,
Rhyw swrn o'r rhai sy arnaw,
Nid cyfan, na'i draian, draw.
Os fy nghynghor a ddori,
Gŷr yn ol y gŵr i ni.
Nid oes modd it' ei oddef,
Am hyn na 'mganlyn âg ef:
Nid oes i'r diawl, bydawl bwyll,
Ddiawl genyt a ddeil ganwyll.
Yna os daw, nos a dydd,
Gwelwch bob drwg bwygilydd;
Diflin yw, o chaid aflwydd,
I drin ei gysefin swydd;
Gyr byth â phob gair o'i ben
Dripharth o'th ddieifl bendraphen,
Ac od oes yna gŵd aur,
Mál annwn er melynaur,
O gŵr ffwrn dal graff arnaw—
Trwyadl oedd troad ei law;
A'r lle dêl gochel ei gern,
Cau ystwffwl cist uffern;
Gyr i ffordd oddiwrth d'orddrws
A chur o draw, a chau'r drws;
A chrwydryn o chair adref,
Afreidiaw un diawl ond ef.

CANIAD

I'r hybarch GYMDEITHAS O GYMMRODORION YN LLUNDAIN; ac i'r hen odidawg Iaith Gymraeg. Ar y Pedwar Mesur ar hugain.

Sefydlwyd y Gymdeitnas hon yn mis Medi, 1751. Ei llywydd cyntaf oedd William Vaughan, Ysw., of Gors-y-gedol a Nannau, A.S. tros sir Feirionydd. Ei chadeiryd, Mr. Richard Morris o'r Navy Office, der- bynydd lluaws o Lythyrau oddiwrth y Bardd; trysorydd, Mr. D. Humphreys; Ysgrifenydd, Mr. Daniel Venables. Yr oedd gan Lewis Morris hefyd ran flaenllaw yn ei sefydliad a'i hyrwyddiad. Yn ol un o'i rheolau, yr oeddynt i brynu pob llyfr Cymraeg a llawysgrif ellid gael am bris rhesymol. Yr oeddynt i gyhoeddi pob Llawysgrif Gymraeg werthfawr. Un o'i bwriadau da oedd adeiladu, prynu neu ardrethu, eglwys i addoli ynddi yr yr iaith Gymraeg yn Llun- dain; ac awgryma y Parch. R. Jones, Rotherhithe, mai er mwyn cael bod yn gaplan yr eglwys hon y rhoddodd Goronwy Owen i fynu Guradiaeth Walton. Ond y mae amryw ffeithiau yn milwrio yn erbyn y dybiaeth hono.

[Gelwir yr awdl hon yn gyffredin "Arwyrain y Cymmrodorion. Gweler LLYTHYRAU, tudal. 77, lle y dywed y Bardd am y bai sydd yn y Tawddgyrch Cadwynog-y mesur olaf yn yr awdl.]

1. Englyn Unodl Union.

MAWL i'r Ion! aml yw ei rad,[309]-ac amryw,
I Gymru fu'n wastad:
Oes genau na chais ganiad,
A garodd lwydd gwŷr ei wlad.


2. Proest Cadwynodl.

Di yw ein Tŵr, Duw, a'n Tad,
Mawr yw'th waith yn môr a thud[310];
A oes modd, O, Iesu mad,
I neb na fawl, na bo'n fud?


3. Proest Cyfnewidiog.

Cawsom får llachar a llid,
Am ein bai yma'n y byd;
Tores y rhwym, troes y rhod,
Llwydd a gawn a llawn wellhad.


4. Unodl Grweca.

Rhoe nefoedd yr hynafiaid
Dan y gosp, a dyna gaid;
Llofr a blin oll a fu'r blaid—flynyddoedd,
Is trinoedd estroniaid.


5. Unodl Gyrch.

Doe Rufeinwyr, dorf, unwaith
I doliaw'n hedd, dileu'n hiaith,
Hyd na roes Duw Ion, o'i rad,
O'r daliad wared eilwaith.


6. Cywydd Deuair hirion.

Aml fu alaeth mil filoedd,
Na bu'n well, ein bai ni oedd.


7. Cywydd Deuair fyrion, ac—8. Awdl Gywydd ynghyd.

Treiswyr trawsion
I'n iaith wen hon,
Dygn adwyth digwyn ydoedd
Tros oesoedd tra y Saeson.


9. Cywydd Llosgyrnog, a 10—Toddaid ynghyd.

Taerflin oeddynt hir flynyddoedd,
Llu a'n torai oll o'n tiroedd
I filoedd o ofalon :
Yno, o'i rad, ein Ner Ion—a'n piau
A droe galonau drwg elynion.


11. Gwawdodyn byr.

Ion trugarog! onid rhagorol
Y goryw'r[311] Iesu geirwir, rasol ?
Troi esgarant[312] traws a gwrol,—a wnaeth,
Yn nawdd a phenaeth iawn ddiffynol.


12. Gwawdodyn Hir.

Coeliaf, dymunaf, da y mwyniant,
Fawr rin Taliesin, fraint dilysiant;
Brython, iaith wiwlon a etholant
Bythoedd, cu ydoedd, hwy a'i cadwant
Oesoedd rai miloedd, hir y molant ;-Ner
Moler; i'n Gwiwner rhown ogoniant.


13. Byr a Thoddaid.

A dd'wedai eddewidion-a wiriwyd
O warant wir ffyddlon,
Od âi'n tiroedd dan y teirion,
Ar fyr dwyre[313] wir Frodorion,
Caem i'r henfri Cymru hoenfron,
Lloegr yn dethol llugyrn[314] doethion,
Llawn dawn dewrweilch Llundain dirion,-impiau
Dewr weddau Derwyddon.


14. Hira Thoddaid.

Llwydd i chwi, eurweilch, llaw Dduw i'ch arwedd[315]
Dilyth eginau, da lwythau Gwynedd;
I yrddwe's Dehau urddas a dyhedd.
Rhad a erfyniwn i'r hydriw fonedd;
Bro'ch tadau, a bri'ch tudwedd, a harddoch,
Y mae, wŷr, ynoch emau o rinwedd.


15. Hupynt Byr.

Iawn i ninau
Er ein rhadau
Roi anrhydedd
Datgan gwyrthiau
Duw, Wr gorau
Ei drugaredd.


16. Hupynt Hir.

Yn ein heniaith
Gwnawn gymhenwaith
Gân wiw lanwaith
Gynil, union;

Gwnawn ganiadau
A phlethiadau
Mal ein tadau,
Moliant wiwdôn


17. Cyhydedd fer.

Mwyn ein gweled mewn un galon,
Hoenfryd eurweilch, hen frodorion,
Heb rai diddysg, hoyw brydyddion,
Cu mor unfryd Cymru wenfron.


18. Cyhydedd hir.

Amlhawn ddawn, ddynion, i'n mad henwlad hon
E ddaw i feirddion ddeufwy urddas
Awen gymhen, gu, hydr mydr o'i medru,
Da ini garu doniau gwiwras.


19. Cyhydedd Nawban.

Bardd a fyddaf, ebrwydd, ufuddol,
I'r Gymdeithas, wŷr gwiw a'm dethol,
O fry i'n heniaith, wiw, frenhinol,
Iawn, iaith geinmyg, yw ini'th ganmol.


20. Clogyrnach.

Fy iaith gywraint fyth a garaf,
A'i theg eiriau, iaith gywiraf;
Iaith araith eirioes, wrol, fanol foes,
Er f'einioes, a'r fwynaf.


21. Cyrch a Chwta.

Neud esgud[316] un a'i dysgo,
Nid cywraint ond a'i caro,
Nid mydrwr ond a'i medro,
Nid cynil[317] ond a'i cano,
Nid pencerdd ond a'i pyncio,
Nid gwallus ond a gollo
Natur ei iaith; nid da'r wedd,
Nid rhinwedd ond ar hono.


22. Gorchest y Beirdd.

Medriaith mydrau,
Wiriaith eiriau,
Araith orau,
wyrth eres.
Wiwdôn wawdiau,
Gyson geisiau,
Wiwlon olau,
lân wiwles.


23. Cadwyn fer.

Gwymp[318] odiaethol gamp y doethion,
A'r hynawsion wŷr hen oesol:
Gwau naturiol i gantorion
O hil Brython hylwybr, ethol.


24. Tawddgyrch Cadwynog.

O'ch arfeddyd[319] wŷch, wir fuddiol,
Er nef, fythol, wŷr, na fethoch:
Mi rof enyd amryw fanol,
Ddiwyd, rasol, weddi drosoch;
Mewn serch brawdol, diwahanol,
Hoyw-wyr doniol, hir y d'unoch;
Cymru'n hollol o ddysg weddol,
Lin olynol, a lawn lenwoch.


TRI ENGLYN MILWR.

Yn ol yr hen ddull.

Aм ai prydawdd o dawr pwy
Sef ai prydes Goronwy
Neud nid llith na llesg facwy.[320]

Ys oedd mygr iaith gysefin
Prydais malpai mydr merddin
Se[321] nym lle llawdd nym gwerin.

Neu nym doddyw[322] gnif¹ erfawr
Gnif llei no lludded echdawr
Am dyffo [323]clod gnif[324] nym dawr.


CYWYDD
AR ENEDIGAETH SIOR HERBERT, ARGLWYDD LLWYDLO,
Cyntafanedig fab ardderchawg Iarll Powys, 1756.[325]
[Am y gwreiddiol (Lladin) gweler tudal. 115; gweler hefyd LLYTHYRAU, tudal. 123, 126.]

MOES erddigan[326] a chanu;
Dwg in' gerdd dêg, awen gu;
Trwy'r dolydd taro'r delyn,
Oni bo'r ias yn y bryn,
O gywair dant, a gyr di
Awr orhoen i Eryri.

Dowch chwithau â'ch hymnau heirdd,
Ddiwair addfwyn Dderwyddfeirdd:
Ni cherdd a folianoch chwi
Dir angof, er ei drengi;

Prydyddwch, wŷr pêr diddan,
Anfarwol, ragorol gân,
Fel y cânt Corybantau
Y dydd pan y ganed Iau;[327]
Hawdd fodd i'w ddyhuddo[328] fu
O waith beirdd a thabyrddu.
Ganed i ninau gynnawr,[329]
Un a haedd gân, maban mawr!

Ein tynged pan ddywedynt
Bu wirdda gair y beirdd gynt;
Coeliaf, o ddyfnder calon,
Am yr oes aur eu mawr son.

Cynydd, y maban ceinwiw,
Hil mawrion, ŵyr gwychion, gwiw!
Cynydd, fachgen! gwên gunod,
I mi'n dâl am awen dôd.

Croesaw'm myd hefyd i ti,
Tirionwaed da rieni;
Gwrda fych, fel eich gwirdad,
A gwych y delych chwi'n dad!
A phoed i'w taid goflaidiaw
Eich meibion llon ym mhob llaw:
Ac yno boed rhwng gwiwnef
Gyd ddal a gofal âg ef.

Dengys, yn oed ieuangwr,
Tra fych a wnelych yn wr.
Ac ym mysg pob dysg y daw
Gweithred odidog athraw.
Os o hedd melys a hir
Lwyddiant y'ch gorfoleddir,
Neu os eirf iwch a wna son
A siarad yn oes wyrion,
Gwelwch, yn ol eich galwad,
Les dysg gan ofalus dad,
I ddilyn ffordd ydd elynt
Herbeirtion gwaew-gochion gynt;

O deg irdwf had gwyrda,
A gnawd[330] oedd, o egin da!
Nid oes gêl o'n disgwyliad
O'th achles a'th les i'th wlad.

Drwy ba orfod y codi—
Dylid aer[331] gan dy law di—
Pa esgar[332] pwy a wasgud?
Pwy wyra d'eirf? Pa ryw dud?
Duw wnel yt' roi Ffrainc dan iau,
Ciwdawd[333] rylawn hocedau;
Didwyll ar dafod ydyw,
Uthr o dwyll ar weithred yw:
Ciwed yw hon nas ceidw hedd,
Dilys y ceiff ei dialedd.

Diau na ladd rhydain[334] lew,
Adwyth[335] i dylwyth dilew;
Anog bygylog[336] elyn,
Afraid i Frutaniaid hyn.

Ai arwylion, oer alaeth
A fyn, giwed gyndyn gaeth?
Trychwaith a ddaw o'u trachwant,
O'ch o'r gwymp drachwerw gânt!
I'w llynges pond gwell angor
Na llu i ormesu'r môr?
Dan ddwylaw Prydain ddilorf[337][338]
Pa les a wna'u diles dorf ?
Torf yn ffwyr[339] gynt a wyrodd,
Torf anhy a ffy, a ffodd,
Ac a dâl â gwaed eilwaith
Ffrydiawg, am eu geuawg waith.

Os Sior,[340] oreubor, o rym
Rhyfelwyr, ac eirf Wilym,[341]
A âd ddim i do a ddaw
Deled bri Ffraine i'ch dwylaw;

A deled, Duw a iolaf,![342]
I chwi fyd hawdd, a nawdd Naf;
Er Iesu, hir yr oesoch
Wellwell yn eich Castell Coch[343]
Ac yno cewch deg enyd
I orphwys o bwys y byd,
I fwynhau llyfrau a llên,
Diwyd fyfyrdod Awen!
Ac oni feth y gân fau,
Syniwch a genais inau,
Fardd dwyiaith, dilediaith lin,
Lledwael Gymraeg a Lladin.
Trwy bau syw tir Bowys hen[344]
Hyfryd, tra rheto Hafren
Ac yno tra bo, trwy barch,
Llin Herbert yn llawn hirbarch,
Yr erys eich arwyrain
I'w ganu trwy Gymru gain.


PSALM CVII.

Dyledswydd a Doethineb Dyn yw ymfoddloni i ewyllys ei Greawdwr.[345]

Through all the various shifting scene
Of life's mistaken ill or good,
The hand of God conducts unseen,
The beautiful vicissitude, etc., etc.,

TRWY droiau'r byd, ei wên a'i wg,
Bid da, bid drwg, y tybier;
Llaw Dduw sy'n troi'r cwmpasgylch glân,
Yn wiwlan, er na weler.

O'i dadawl ofal Ef a rydd
Yr hyn y sydd gymhedrol,
O hawddfyd, adfyd, iechyd, cur
Ond da'i gymhesur fantol?


Pe rhoem ar geraint, oed, neu nerth,
Neu gyfoeth prydferth, oglud;
Os Duw a'i myn, Fe'n teifl i lawr,
A'n rhodres mawr, mewn munud.

Os yfaist gwpan lawn o'i lid,
A'th doi â gwrid a gw'radwydd;
Od wyt gyff cler[346] a bustl i'r byd,
Fe'th gyfyd i foddlonrwydd.

Fe weryd wirion yn y frawd,[347]
Rhag ynllib tafawd atcas:
Fe rydd orphwysfa i alltud blin,
Mewn annghynefin ddinas.

Ei gysur Ef sydd yn bywhau
Y penau gogwyddedig;
Fe sych â'i law y llif sy'n gwau
Hyd ruddiau'r weddw unig.

Oes dim nac yn, na than, y nef
Nad Ef sydd yn ei beri?
Ac Ef a rydd (gwnaed dyn ei ran)
Y cyfan er daioni.

Pa raid ychwaneg? gwnelwyf hyn;
Gosteged gwŷn a balchder:
Arnat Ti, Dduw, fy Ngheidwad glwys,
Bid fy holl bwys a'm hyder.


CYWYDD HIRAETH AM FON.

Ateb i Anerch Huw AP Huw'r Bardd,[348] o Lwydiarth Esgob, yn Mon, 1756.

[Adwaenir y Cywydd hwn fel un o gynyrchion goreu y Bardd. Sier fod ynddo frawddegau fyddant byw oesau lawer; a chryfach efallai nag a geir yn yr un o' gywyddau eraill.]

DARLLENAIS awdl dra llawn serch,
Wych enwog fardd, o'ch anerch,
A didawl eich mawl im' oedd.
Didawl a gormod ydoedd.

Ond gnawd mawl bythawl lle bo.
Rhyddaf i'r gwr a'i haeddo;
Odidog mi nid ydwyf,
Rhyw sâl un, rhy isel wyf,
Duw a'm gwnaeth, da im' y gwnel.
Glân Iesu, galon isel,
Ac ufudd fron, dirion Dad,
Ni oludd fy nwy alwad;[349]
O farddwaith od wyf urddawl
Poed i wau emynau mawl-
Emynau dal am einioes,
Ac awen i'r Rhen[350] a'i rhoes.
Gwae ddiles gywyddoliaeth,
Gwae fydd o'i awenydd waeth;
Dég Ion, os gweinidog wyf,
Digwl[351] y gweinidogwyf;
Os mawredd yw coledd cail,[352]
Bagad[353] gofalon bugail;

Ateb a fydd rhyw ddydd rhaid
I'r Ion am lawer enaid.
I atebol nid diboen,
Od oes "Barch," dwys yw y boen;
Erglyw, a chymhorth, Arglwydd,
Fy mharchus arswydus swydd;
Cofier, ar ol pob cyfarch,
Nad i ddyn y perthyn parch:
Nid yw neb ddim ond o nawdd
Y dinam Ion a'i doniawdd;
Tra'n parcher trwy ein Perchen.
O cheir parch, diolch i'r Pen;
Ein perchen iawn y parcher,
Pa glod sy'n ormod i Ner?
Parched pob byw ei orchwyl,
Heb gellwair â'i air a'i wyl,
A dynion ei dŷ annedd,
A'i allawr, Ior mawr a'i medd;
Dyna'r parch oll a archaf,
Duw Ion a'i gŵyr, dyna gaf.
Deled i'm Ior barch dilyth,
Ond na boed i un dyn byth
Nag eiddun[354] mwy na goddef,
Tra pharcher ein Ner o nef;
Gwae rodres gwyr rhy hydron,ref>Hyfion.</ref>
Gwae leidr a eirch glod yr Ion;
Gocheler, lle clywer clod,
Llaw'n taro lleu-haint Herod.

Ond am Fon hardd, dirion, deg,
Gain dudwedd, fam Gwyndodeg,
Achos nid oes i ochi,
Wlad hael o 'madael â mi :
Cerais fy ngwlad, geinwlad gu-
Cerais, ond ofer caru!
Dilys, Duw yw'n didolydd:
Mawl iddo, a fynno fydd.
Dyweded Ef na'm didol,
Gair o'i nef a'm gyr yn ol;

Disgwyl, a da y'm dysger,
Yn araf a wnaf, fy Ner.
Da ddyfydd Duw i ddofion
Disgwylied, na 'moded Mon;
Ac odid na cheiff gwedi,
Gan Ion, Lewis Mon[355] a mi :
Neu ddeuwr awen ddiell,[356]
I ganu gwawd[357] ugain gwell,
Lewis Mon a Goronwy,
Ni bu waeth gynt hebddynt hwy;
A dilys na raid alaeth
I Fon am ei meibion maeth;
Nac achos poen, nac ochi,
Na chŵyn, tra parhaoch chwi.

Brodir gnawd ynddi brydydd:
Heb ganu ni bu, ni bydd.
Syllwch feirdd o Gaswallon
Law-hir, hyd ym Meilir Mon;[358]
Mae Gwalchmai[359] erfai eurfawr?
P'le mae Einion[360] o Fon Fawr?
Mae Hywel[361] ap Gwyddeles—
Pen prydydd, lluydd a lles;
Pen milwr, pwy un moliant?
Enwog ŵr, ac un o gant,
Iawn genaw Owen Gwynedd,[362]
Gwae'n gwlad a fu gweinio'i gledd.
Bwy unfraint â'r hen Benfras?[363]
Gwae fe fyw, ei lyw a las.
Mae'r Mab Cryg oedd fyg pan fu
Ab Gwilym[364] yn bygylu?

Dau gydgwys, gymhwys gymhar,
Un wedd ag ychen yn âr.
Cafed ym Mon dduon ddau,
Un Robin[365] edlin odlau,
A Gronwy[366] gerddgar union,
Brydydd o Benmynydd Mon.
Mae Alaw[367] Mae Caw?[368] Mae cant?
Mae miloedd mwy eu moliant?
Pwy a rif Dywod Llifon?[369]
Pwy rydd i lawr wŷr mawr Mon?
Awenyddol iawn oeddynt,
Yn gynar, medd Ceisar, gynt.[370]

Adroddwch, mae'r Derwyddon,
Urdd mawr a fu'n harddu Mon?
I'r bedd yr aethant o'r byd,
O'ch alar, heb ddychwelyd.
Hapus yw Mon o'u hepil,
Ag o'r iawn had, gywrain hil.

Clywaf arial[371] i'm calon
A'm gwythi, grym ym Mon;
Craffrym, fel cefnllif cref-ffrwd
Uwch eigion, a'r fron yn frwd.
Gorthaw,[372] don, dig wrthyd wyf,
Llifiaint, distewch tra llefwyf:
Clyw, Fon, na bo goelion gau,
Nag anwir, fyth o'm genau;
Gwiried Ion a egorwyf,
Dan Ner, canys Dewin wyf:—

"Henffych well, Fon, dirion dir,
Hyfrydwch pob rhyw frodir:
Goludog, ac ail Eden,
Dy sut,[373] neu Baradwys hen:

Gwiwddestl y'th gynysgaeddwyd,
Hoffder Duw Ner, a dyn wyd;
Mirain wyt ym mysg moroedd,
A'r dŵr yn gan' tŵr it' oedd.
Eistedd ar orsedd eursail
Yr wyd, ac ni welir ail;
Ac euraid wyt bob goror,
Arglwyddes a meistres môr.
Gwyrth y rhod trwod y traidd,
Ynysig unbenesaidd.
Nid oes hefyd, byd a'i barn,
Gydwedd yt', ynys gadarn,
Am wychder, llawnder, a lles,
Mwnai 'mhob cwr o'th mynwes,
Dyffrynoedd, glynoedd, glanau,
Pob peth yn y toreth tau;
Bara a chaws, bir a chig,
Pysg, adar, pob pasgedig:
Dy feichiog ddeiliog ddolydd
Ffrwythlon, megis Saron, sydd;
A phrenau dy ddyffrynoedd,
Crwm lwyth, megis Carmel oedd.

"O! mor dirion, y Fon fau,
Dillad dy ddiadellau!
Cneifion dy dda gwynion gant,
Llydain, a'th hardd ddilladant,
Dawnus wyt, dien ei sail,
Prydferth heb neb ryw adfail;
A thudwedd bendith ydwyt,
Mawl dy Ner, aml ei dawn wyt.
Os ti a fawl nefawl Ner,
Dilys y'th felys foler;
Dawnol fydd pawb o'th dynion,
A gwynfyd 'y myd ym Mon!
Dy eglwyswyr, deg loywsaint,
A'th leygion sywion[374] saint,
Cryfion yn ffrwythau crefydd
Fyddant, a diffuant ffydd.

Yn lle malais, trais, traha,
Byddi'n llawn o bob dawn da,
Purffydd, a chariad perffaith:
Ffydd, yn lle cant mallchwant maith;
Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch;
Undeb, a phob rhyw iawnder,
Caru, gogoneddu Ner;
Dy enw a fydd, da iawn fod,
Nef fechan y Naf uchod;
Rhifir di'n glodfawr hefyd
Ar gyhoedd, gan bobloedd byd;
Ac o ran maint, braint, a bri,
Rhyfeddod hir a fyddi.

"Bellach f'ysbryd a ballawdd,
Mi'th archaf i Naf a'i nawdd.
Gwilia rhag ofergoelion
Rhagrith, er fy mendith, Mon.
Poed yt' hedd pan orweddwyf
Ym mron llawr estron lle'r wyf.
Gwae fi na chawn enwi nôd,
Ardd wen i orwedd ynod;
Pan ganer trwmp Ion gwiwnef,
Pan gasgler holl nifer nef,
Pan fo Mon a'i thirionwch
O wres fflam yn eirias fflwch,
A'i thorog wythi arian,
A'i phlwm a'i dur yn fflam dân!
Pa lês cael lloches o'r llaid?
Duw rano dŷ i'r enaid!
Gwiw ganaid dŷ gogoniant,
Yn nghaer y ser, yn nghôr Sant:
Ac yno'n llafar ganu,
Eirian eu cerdd i'r Ion cu,
Poed Gwyr Mon, a Goronwy,
Heb allael ymadael mwy:
Cyduned a llefed llu
Monwysion, "Amen, Iesu!"

PEDWAR ENGLYN MILWR.

Yn cyfarch y Bardd, o waith IEUAN BRYDYDD HIR,o Geredigion.

HANBYCH Well, Goronwy Ddu,
Y Dryw o Fon, fam Gymru:
Gwr prif y rhif am fydru.

Ni wybuum dy elfydd,
Am offrydiaw awenydd,
O Gybi Mon i Gaerdydd.

Yn yr oesoedd cyssefin,
Oeddynt feirdd prif: Taliesin,
Llywarch Hen, a'r ddau Ddewin.[375]

Daroedd heddyw arwyrain,
Etwa gwell nag un o'r rhain,
Y prif-fardd Gronwy Owain.


YR IEUAN.

Nid atepawdd mo'r Cywydd, t.d. 30, namyn gyru gyda WILLIAM FYCHAN, Esq., o Gorsygedol, yn mhen pedair blynedd, bedwar Englyn Milwr [uchod] i'm hanerch i Lundain; a'r Awdl hon a gafodd yn ateb iddynt, 1756.
[Dernyn a ganwyd gan fardd i fardd ydyw hwn a'r uchod; ac annyall eu geiriau i'r cyffredin.]

A'M rhoddes Rheen riaidd anrheg.
Anian hynaws, asgre faws fwyndeg,
Araf iaith aserw, ddichwerw chweg-awen,
A gorau llen, llefn Frythoneg.
Neat wyt gyfeillgar, car cywirdeg -ddyn,
Neud wyf gas erlyn, gelyn gysteg.

Mi piau molawd, gwawd Gwyndodeg,
Gnawd ir a folwyf fawl anhyfreg,
Haws ym llaweh hydr no chyhydreg-â mi,
Hanbyd om moli mawl ychwaneg.
Ceneist foliant fal nad attreg-ym hwnt
Dy foli, pryffwnt praff Gymraeg.

Wyt berchen Awen ben, baun hoendeg,
Wyt ynad diwad Deheubartheg,
Odid hafal, hyfwyn osteg,-i ti,
Blaenawr barddoni, bri Brythoneg.
Gwelais ofeirdd, afar waneg,-o wŷn
Yn malu ewyn Awen hyllgreg.

Neu mi nym dorfu dyrfa ddichweg
Beirdd dilym, dirym diramadeg;
Ciwed anhyfaeth, gaeth ddigoethdeg-leis,
Sef a'u tremygeis megys gwartheg;
Gweleis feirdd cywrein, mirein, mwyndeg;-lu
Moleis eu canu, cynil wofeg.

Er a ryweleis, ceis cysondeg,
Ny weleis debyg dy bert anrheg,
Ieuan, mwy diddan no deuddeg-wyt ym,
Fardd, erddrym, croywlym, grym gramadeg.

DARN O AWDL I DYWYSAWG CYMRU.

(Ar Ddydd Gwyl Dewi)

Ar fesur Gwawdodyn Hir.
DWYRE[376] wawr fore erfai,[377] arwain
Dymmawr dydd eurwawr, da ei ddwyrain,
Dyddiaith ar euriaith i arwyrain
Drudfawr briodawr, Eryr Brydain,
D'wysawg llyw aerawg llu mirain-Dewi
Dewr Ri Lloegr wedi llyw goradain.[378]

Dithau, 'r pôr gorau, ddirper gariad,
D'wysawg mawreddawg ymarweddiad,
Deyrnwalch, eurgeinwalch, o rhoi genad,
Dygwn, cynyrchwn cu anerchiad;
Derbyn ddwys ofyn ddeisyfiad—maon[379]
Drudion[380] dirolion dy oreuwlad.

Cymer, nid ofer yw ein defod,
Cymer, anhyber[381] gwyl in' hebod,
Cuaf wlad buraf ddyled barod
Cymru, rywioglu wir oreuglod;
Cymer, ein dewrner, fri'n diwrnod,—cymer
O ber hyfodd-der ein hufudd-dod.

D.S.-Yr achos na orphenwyd yr awdl hon ydoedd i
Oronwy gael ei daro yn glaf gan y Cryd, pan oedd yn
preswylio yn Walton.


AN BONA OPERA SINT MERITORIA?

QUIS sibi confidit coelum sua facta mereri?
Digna Dei veniâ quis sua facta putat?
Nemo caret vitiis, nemo sine crimine vivit;
Cui bona sunt, quamvis plurima, plura mala.
Ipse Deus bonus est, Deus est bonitatis origo;
Tota hominum bonitas est tribuenda Deo.
Facta igitur nequeunt hominum meritoria dici:
Quod figulo argilla est, sunt hominesque Deo
Num tantum, quæso, quisquam supererogat, inde
Quantum aliis vendat, qui bonitate carent?
Macte, papista, bonis factis ! te vindice colum,
Si sibi sit nummus quisque merere potest.



ON THE ESCAPE OF CAPTAIN FOULKES,

In the great storm of September 10th, 1741, when, driven by a hard gale from Elianus Point to the
North of Ireland, his sails and rigging were swept overboard.

QUID crepat? Haud intra ripas se continet æquor!
Numquid dejectum tecta feruntur aqua?
Væ misero nautæ pelago qui credere vitam
Sustinet, insanis jam periturus aquis.
Qualiter heu qualis fremitu furit Eurus in undas!
Qualiter oppositam verberat unda ratem!
Vertice jam coelum tangit, jam fertur in Orcum;
Spreta sibi quondam littora nauta cupit.
Iratum numen pelagi prece vexat inani;
Littus ut attingat millia vota vovet.
Stulte, nimis sero moriundus pectora plangis;
Sero nimis, periens æquore, littus amas.
Si semel attinges littus ne rursus ad æquor,
Vela daturus, eas; ne patiaris idem.
Kyboei templum petito cum vestibus udis,
Quas suspende, memor quanta pericla fugis.


SOME FURTHER THOUGHTS.

On the necessity, or non-necessity, of going to sea; written for the benefit of Admiral Coytmore and
some of the lady passengers in the voyage just mentioned.

Hoc fuit antiquè dictum, "Docet omnia venter";
Mortales pelagus, ventre docente, petunt.
Nam durum est telum duris in rebus egestas;
Vitæ profusos hæc facit esse viros.
Sed multos video, nihilo cogente, periclis
Se dantes, quis sunt res famulique domi;
Vivere qui possent felices rure paterno,
Almâ, sique velint, usque quiete frui.
Ille fuit certè ferro præcordia cinctus,
Qui se sustinuit credere primus aquis,

Quando Deucalion lapides jactavit in orbem,
Non illum lapides mollificâsse reor;
In cor durities lapidis migravit, et illic
Restat adhuc nullis mollificanda modis.
Audacis Japeti durum genus omnia tentat;
Non quidquam metuit; per scelus omne ruit


A LATIN ODE.

To Mr. Richard Rathbone, of Llanystumdwy, written at Pwllheli, in 1742.

O VIRO nullos mihi post sodales,
Musa, dilecto pariterque fido,
Gaudium, quæso, refer et salutem
Resque secundas.

Forte, si quærat, quid agam? resolves
Mente non firmum reliquis valere ;
At mihi memet minus esse gratum
Absque sodale.

Deinde, si causam-pudet ah! fateri-
Postulet; nomen tacitè Philippa
Auribus manda, simul et susurres,
"Flagrat amore."

Dic ut infirmum mihi pectus ardet
Anxio, quales patiorque luces,
Nocte qui somnus fugit, atque rodunt
Pectora curæ.

Regna narrabis Veneris superba,
Heu! nimis savos puerique lusus;
Adde-sed forsan liceat bibendo
Fellere curas.


IN NATALEM.

DOMINI GEORGII HEREBERTI Domini de Ludlow, Illustrissimi
POVISLE Comitis Primogeniti filii, Carmen gratulatorium.

NUNC juvat læto, resonare cantu,
Musa, nunc plectro, citharam canoram
Suscita, Eryri[382] recinat jocosa
Montis imago.

Vos et, O bardi,[383] Druidum propago,
Inclytos qui Laude viros perenni
Traditis fama, metuens perire
Dicite carmen;

Quale nascenti Corybantes[384] olim
Era quassantes, cecinere alumno
Natus est nobis, Jove dignus ipso,
Nobilis infans.

Aureum tandem rediisse sæclum
Credo, quod vates cecinere quondam
Ore dum sacro Britonum referrent
Fata nepotum.

Macte virtutum! puer alme, macte,
Magna magnorum soboles parentum!
Aque me blando, tibi gratulantem
Accipe risu.


Gratulor nato tibi, pulcher infans,
Ter beatorum decus, O, parentum,
Teque foelicem videant futura
Tempora patrem:

Teque virtutes decorent paternæ,
Ille avo dignos videat nepotes;
Hæc precor tantum, superis patrique;
Cetera mitto.

Ille præceptis teneram juventam
Imbuet rectis, monitisque dignum
Addet exemplum, trahet et sequacem
Laude paternâ.

Sive te pacis maneant honores
Inter augusti proceres senatûs,
Sive te partis, duce te, triumphis
Fama loquetur.

Senties quantum valeat paterna
Cura quid possit docilis juventus,
Si sequi magnos velit Herebertos
Emula virtus.

Optimis proles atavis creata
(Nam boni fortes generant bonosque);
Spem tuæ quantam patriæ dedisti
Talibus ortus!

Quo refulgebis nitidus tropao?
(Te nec imbellem licet ominari)
Quem terres hostem? tibi quæve debet
Terra triumphos?

Sit tuum infames domuisse Gallos,
Qui fide Panos[385] superare certant,
Punica, et Pacis specie dolosâ,
Bella minantur.


At quid infensos stimulant Britannos,
Hinnuli sævos pavidi leones?
Aut suæ quorsum lacrymosa quærunt
Funera genti?

Heu sibi quantam properat ruinam
Gallia, insanos meditans tumultus!
Quo ruit? quorsum est onerare tantis
Classibus quor.

Qid malis demens, avibus facessit
Sæpe devictas reparare turmas,
Foederis fracti luitura multo
Sanguine poenas.

Si quid audendum validus Georgi,
Miles augusti, duce Gulielmo,
Posteris linquet, tibi det subacta
Gallia nomen.

Detque; qui totum regit Unus orbem
Quicquid est usquam, vel erit bonorum;
Det diu Rubrum[386] decorare Castrum
Provisianum.

Hic tibi curis placidus, soluto
Publicis olim dabitur recessus,
Hic ages dulces, sociis Camænis,
Leniter horas.

Forsan et nostræ rude opus Camænæ
Perleges olim, vacuus negoti,
Quod tibi vates cecini bilinguis
Cambro-Latinum.


Dum lavat Rubrum Sabriana[387] Castrum,
Dumque stat magni genus Hereberti,
Te canent nostro celebrem futuri
Carmine Cambri.


Sic cecinit. Gronovius Ovinius Niger,
Ipsis Calendis Decembribus, 1755.

REGET PATRIIS VIRTUTIBUS ORBEM.

[Can yn Lladin o waith Cristopher Smart, cyfieithiad o'r hon a welir yn tudal. 48.]

PHOEBE pater, qui mellifluas Heliconis ad undas,
Dulcia divinæ fundis præcepta Thalia,
Linque sacras sedes, et jam majora canenti
Aspira, radiisque diem melioribus orna!
Sed quid opem hinc quæram, nostris in vallibus amnes
Dulce sonant, nostris in montibus augur Apollo
Regnat, et indigenas jactat quoque; Cambria Musas.

Salve, sancta dies, quo solvimus annua cuneti
Gaudia, adorantes nostrum de more patronum.
Et tu, qui patrem vitæ virtute redonas,
Quique ornas titulos, decus & superaddis honori,
O salve! ante omnes salve, celeberrime, Princeps!
O faveas populumque tuum, Britonumque tuorum
Accipias vota, et noster dignare vocari
Summe puer, quem fama vocat, quem gloria adoptat
Quem vasti pater oceani colit omnibus undis;

Tempus erit cum tu (non unquam indignus avorum
Ast atavos qui mente refers, et moribus æquas).
Ad Famæ templum porta virtutis adibis,
Atque infra positos regesque sophosque videbis :

Tenpus erit cum te (quâ gens nec inanior ulla)
Gallia tota colet, mixtoque timebit amore.
In manibus tibi erit mundis dare jura futuris
Et, nondum inventis populis imponere leges
Dum vestris læta auspiciis celeberrima floret
Cambria, jam prisci gens antiquissima mundi,
Tuque velut montes nostrates vertice colum
Sublimi feries, et cedet Laurea Porro.


AD APOLLINEM ET MUSAS.

O SMINTHEU! pater esuritionum,
Nugas tolle tuas ineptiasque ;
Vosque ite, O! procul hine novem sorores
Vobis non opus est mihi, Camænæ,
Indignatio quem facit poetam.
Longum, Pierides malæ, valete,
Euterpe meretrix Thalia macha,
Scortillum Polyhymnia invenustum,
Clio prostibulum, lutum lupanar,
Et quas prætereo malæ puellæ
Per quas non nisi mortuis poetis
Sero fama venit, famesque vivis!
Ah! vidi, et pudet heu! sed ipse vidi
Vestro de grege, pessimæ, poetam
Jucundum, facilem, probum, disertum,
Cordatum, verecundum et eruditum,
Et cultum satis et sat elegantem,
Et qui cederet unico Catullo,
Docto par tamen ipse Martiali,
Quem juxta Veneresque Gratiæque
Certabant sibi vendicare cunctæ;
Qui, si fortia bella personaret,
Magnum vivere crederes Homerum,
Seu Mopsi teneros referret ignes
Haud quidquam cecinit vel ipsa Sappho
Pulchro Lesbia mollius Phaoni:
Hunc vidi miserum, indignum, dolentem,
Squallente facie, horridâque barba.

Detritis quoque sordidum lucernis,
Et nudis pedibus, genuque nudo,
Hybernis Aquilonibus, rigentem,
Evi reliquias malas trahentem
Ægre, nec saturum offulis caninis.
O quanto melius beatiusque
Et cerdonibus est et architectis,
Saltatoribus atque pantomimis
Artes quique colunt pecuniosas!
Quid rodis, male livor, immerentes?
Et quid Zoilus invidet poetis?
At me Gronovium, tuum poetam,
Nugacissime Phoebe, perdidisti!
Si posthac numeris ineptiisque
Nostri ludere pruriant libelli
Claudi nec metuant Dei furorem,
Si nec tardipedi Deo dabuntur,
Sit durus mihi Plutus et Minerva,
At vos interea, novem sorores,
Longum, Pierides male, valete,
Et Smintheu, pater esuritionum.


BRUT SIBLI.

Awdl[388] yn ol dull Meilir Brydydd, pan gant i DRAHAIARN vab Caradawg, a MEILIR mab Rhiwallawn, yn iawn ysgrifenyddiaeth y Gogynfeirdd.

Y Bart du a gant yr Awdyl honn, yn y lluyt y llas,. . . . uap Hywel.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 89.]

YOLAFI naf o nef im noddi
Yolaf nys tawaf pa les tewi
Am vap hywel hael hywaet vyg kri
Tawel vap hy wel o hil cewri

Dypryd vym pryd ym pryderi lawer
Am goryw bryder brutieu Sibli
Mi os canaf a syganai hi[389]
Neut (namwyn kelwyt) ti nym coeli
Celwytawc euawc eu broffwydi
Bob nos a dyt a fyt yth siommi
Gorpwyni dank ken trank a Duw tri
Tawaf nys doraf onys dori
Vyg geneu diheu diheur vi ith wyt
Ys celwyt ni lwyt ny lut drychni
Map hywel gochel gyrch cymhelrhi
Er a doyttynt gynt geu broffwydi
Cyd bwynt hyd nenawr yth uawr voli
Gweckry eu geirieu geu a gwegi
Pan lat lat letir a llauyn llabir
Yno y gwelir pwy a goeli
"Cet[390] buyf gwir nyt goreu vi o nep dyn
Y disgogan hyn o gryn gredi
Mal marchawc berthawe yt ymborthi
Mal gwron dragon dreic eryssi
Yg gwynias lleas llew fethri
Ar yr asp yr yspys dyrcheui
Osswyt yn fwyr a lwyr lethi
Ny ryberis nef nep ith dofi
Nyth rybar amhar ymhwrt beri
Ny digawn kadyr cyhydrec a thi
Er gwythuawr reityawr ny roti uram
Neut ny maccwys mam map a dori."
Andaw di breityawr brytest Sibli
Rinyeu ei geneu diheu dybi
Yn a egorwyf gwirion wyv i
Yn ethryb casswir pam ym cessi
"Dieu[391] y dybyd dyt dynysgi
A rewin a thrin a thrwst ynni
A phan yssic lluric llwyr wae di
Can pan yssic lluric llaur a lyi
Diffeith woleith o wael dyli a gai

A chyn tervyn mei mawr egrygi
Neu dygyvyd llew llawn gwrhydri
Lleweit arwreit eryr cymmri
Yn wg digyurwg digyurag a thi
Titheu gan ei dwrf a lwrf lechi
Cyn nos gwener disgoganaf vi
Ucher yth later ti ny leti
A chan anreith gwoleith gwael dy uri
Diardwy abwy abar fyti
Esgyrn dy syrn hyd Sarn Teivi a grein
A byt lawen urein ar uraen weli."

Diwet yr Awdyl. A phocd gwir a vo,

hebai Oronwy Ddu, 1754.


ENGLYN O GYNGHOR.

Dywedir yn y Gwladgarwr, Tachwedd, 1840, mai G.O. a wnaeth yr englyn canlynol:—

COFIA y Duw byw tra bych—o galon:
A galw arno'n fynych;
Cofia y daw'r rhaw a'r rhych,
Oll yn wael, lle ni welych.



ENGLYNION

I ELIS ROBERTS, y Cowper; sef. Atteb, Annerch, a Chynghor y Bardd Coch o Fon i Elisa Gowper,Pastynfardd, Llanrwst, yn cynnwys athrawiaeth arbennig i ganu'n dincerddawl gymeradwy, yn ol rheol ac arfer y Gofeirdd godidocaf o'r oes; yn nghyd a thaflen o enwau'r holl drec, cér, offer, a pheiriannau angenrheidiol i'r gelfyddyd, na cheir mo'r fath mewn um Grammadeg a argraphwyd erioed; a'r cwbl wedi ei ddychmygu a'i gyfansoddi mewn modd eglur, hawdd ei amgyffred gan y gwanaf ei ddysg a'i ddeall.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 101, 112.]

Y BARDD fry ebrwydd ei froch,—Elisa
Gan na lysaf monoch,
E weddai, er na wyddoch,
Druan nad yw'ch cân ond coch.


Yn fardd os chwi a fyn fod,—o hirddysg
I harddu Eisteddfod,
I hwylio clêr a hel clod,
Ceisiwch yr holl drec isod:

Hyd rhaff rawn o lawn linyn—y seiri,
I fesuro'ch englyn;
A rhasgl a dyr bob rhisglyn,
Llif fras, a chwmpas, a chŷn.

Os hir y gwelir y gân,—y llafur
Fydd llifio darn allan;
Wrth y cwmpas gloywlas, glân,
Cofiwch rhaid rhasglio'r cyfan.

Dylech mewn prifodl ei dilyn—rhagoch,
Megis rhigol corddyn,
Heb wyro lled gwybedyn
A'r twybil wiw, gynil gŷn.

Yn fardd glân buan y b'och,—Elisa;
Hwylusaidd y dysgoch;
Doed a ddêl, bid dda gwneloch
Anhepgor gynghor Huw Goch.[392]

Ond deliwch sylw,


Os rhaid i byliaid gaboli—rhigwm,
Rhag im' ebargofi,
Gorau o'r cêr am beri
Cywreinio cân yw croen ci.[393]

ENGLYNION

Englynion proest cyfnewidiog wyth ban

I TWM SION TWM,[394] a'r arddwrn mawr.


Twм Sion Twm y cidwm cas,[395].
Twm Sion Twm, blerwm[396] heb les,
Twm, Twm, os codwm os cis,[397]
Twm achrwm a glwm ei glôs;
Twm Sion Twm, ruddlwm, ni rus,[398].
Twm Sion Twm, drwm droir i'r drws,
Twm Sion Twm, grwm yn ei grys,
Twm Twm y cawr hendrwm, hys![399].

Twm Sion Twm bendrwm mewn bâd,
Twm â rhwyf, ond twym y rhed?
Twm i'r lan hwnt à mawr lid,
Twm a nawf atom i'w nôd;
Twm yw'n tŵr bob tam o'n tud,
Twm o aine yrr Ffrainc i'r ffrwd,
Twm, Twm, a botwm i'r byd,
Twm freichdrwm, i Dwm dyd! dyd!
Twm Sion Twm, bonwm a'i bar,
Twm Sion Twm, gidwm a'i ger;
Twm lân yw tarian y tir;-
Twm, o thrŷ câd fad i fôr;
Twm yn un cwrwm a'i cur,
Twm ddistaw o daw o'r dw'r,
Twm fwyn yn addfwyn i'w nŷr:[400]
Twm ffraeth; i'ch gwasanaeth, Syr.


I GYFARCH Y CYMMRODORION.

Yn Llundain pan y cyflwynwyd iddynt Anerch—Gywydd
gan IEUAN BRYDYDD HIR.

[Y trylen Ganon Silvan Evans gafodd y Ddau Wawdodyn canlynol yn ddiweddar yn mysg ysgrifau'r Prydydd Hir, ac a'u trosglwyddodd i Mr. Jones o Rotherhithe, yn argraffiad yr hwn o waith Goronwy y rhoed hwy, am y gwyddom, gyntaf mewn argraff.]

CALAN Mehefin, hin yn hoeni,[401]
Cein[402] trydar adar, hyar[403] heli;
Cein rhawd cân wasgawd, trawd trwy erddi,
Cein tawel awel o wyrdd lwyni;
Ceinmyccach, mwynach i mi—oedd accen
Cân awen lawen lên barddoni.

Canfum ddillynion gysson gerddi,
Ceinfoes, cân eirioes, eres odli
Ceinfardd Deheudir Hir hoywfri,.
Cywyddwawd moliant a gânt ichwi;
Cyfarch hy barch heb eich coddi,—Frython,
Ceidr Gymmrodorion dewrwych ynni.


MARWNAD LEWIS MORRIS, Ysw.

Gynt o Fon, yn ddiweddar o Allt-Fadog yn Ngheredigion. Pen-bardd, Hanesydd, Hynafieithydd a Philosophydd yr oes a aeth heibio; gwir garwr ei frenin a lles cyffredin ei wlad; a hoffwr, hyfforddwr, a choleddwr ei iaith a'i genedl.

Yn yr awdl hon y mae pedwar mesur ar hugain Cerdd Dafawd; ac mae'r holl nodiadau ynddi o waith yr awdwr, oddieithr y rhai sydd rhwng [ ]

Englynion unodl union.

OCH dristyd ddyfryd ddwyfron!—Och Geli!
Och galed newyddion!
Och eilwaith gorph a chalon!
Och roi'n y bedd mawredd Mon!


Mawredd gwlad Wynedd, glod union,—ceinwalch,
Cynnor[404] presenolion;
A byw urddas y beirddion,
A'u blaenawr oedd Llew mawr Mon.

Cyd b'ai hirfaith taith o'r wlad hon—yno,
Hyd ewynawg eigion,
Trwst'neiddiwch trist newyddion,
Ni oludd tir, ni ladd ton.

Mae tonau dagrau digron[405]—i'm hwyneb,
Am hynaws gâr ffyddlon;
Llwydais i gan golledion;
Oer a fu'r hynt i'r fro hon.[406]

Bro coedydd, gelltydd gwylltion,—pau[407] prifwigs[408]
Pob pryfed echryslon;
Hell fro eddyl[409] llofruddion,
Indiaid, eres haid, arw son!

Soniais, sugenais gwynion,—do ganwaith,
Am deg Wynedd wendon;
Doethach im' dewi weithion;
Heb Lewys mwy, ba les Mon!

Galar ac afar gofion—mynych y'nt,
Man na chaid ond hoywon;
Nis deryw, ynys dirion,
Loes a fu waeth i lwys Fon.


Cywydd Llosgyrnog ac Awdl-gywydd yn nghyd

Ni fu'n unig i Fon ynys
Loes am arwyl Lewis Morys;
Ond erys yn oed ŵyrion
Ym mhob gwlad achwyniad chwith
O'i ran ym mhlith cywreinion.


Cywydd Deuair Fyrion a Deuair Hirion yn nghyd.

Cynal cwynion,
O dir i don,
Dan gaerau Prydain goron,
Yr ydis am Lewis lon.


Proest Cyfnewidiog Seith-ban.

Yn iach oll awen a chân!
Yn iach les o hanes hen,
A'i felys gaine o flas gwin!
Yn iach im' mwyach ym Mon
Fyth o'i ôl gael y fath un!
Yn iach bob sarllach[410] a sŵn,
Un naws â dail einioes dyn.[411]


Unodl Grweca,

Teiroes i'r mwynwr tirion,
O ras nef, a roisai'n Ion
O'i ddawn, o chawsai ddynion-eu meddwl
Ar fanwl erfynion.


Unodl Gyrch.

Er eidduned taer ddynion,
Er gwaedd mil, er gweddi Mon,
Ni adfer Ner amser oes;
Rhed einioes, nid rhaid unon.[412]


Proest Cadwynodl.

Duw a'i dug ef, dad y gân;
Cywir i'w ddydd, carodd Ion;
Yn ngolau gwledd engyl glân;
Yntau ä'n sant: tawn a son.


Clogyrnach.

Hawdd y gorthaw[413] ddifraw ddwyfron;
Erchyll celu archoll calon ;
O raen oer enaid,
Diau bydd di-baid
Uchenaid a chwynion.


Gwawdodyn Byr.

Cair och o'i hunaw, cur a chwynion,
A chaeth iawn alaeth i'w anwylion;
Parawdd i ddinawdd weinion,—o'u colled,
Drem arw eu gweled, drom oer galon.


Dau Doddaid.

Pa golled—gwared gwirion—o delmau[414]
Ac o hir dreisiau gwŷr rhy drawsion?[415]
O frwd ymddygwd ddigon—y diangodd
Gwên nef a gafodd gan Naf gyfion.


Gwawdodyn Hir.

A fyno gyrhaedd nef, wen goron,
Dwy ran ei helynt drain a hoelion,
Pigawg, dra llidiawg fawr drallodion,
Croesau, cryf—loesau, criau croywon,
Erlid a gofid i'w gyfion—yspryd,
Ym myd gwael bawlyd ac helbulon.


Byr a Thoddaid.

Er llid, er gofid, wir gyfion—ddeiliad,
Ef oedd ddilwgr galon;
Duw a folai, da'i ofalon;
Siôr a garai îs aur goron;
Lle b'ai gwaethaf llu bygythion,
Ni chai'r anwir drechu'r union;
Dra gallawdd, nadawdd[416] i anudon—dorf
Lwyr darfu'r lledneision.[417]


Dau Doddaid.

Bu'n wastad ddifrad ddwyfron,—ddiysgog,
I'w hydr eneiniog deyrn union;
Rhyngodd ei fodd â'i ufuddion—swyddau,
A chwys ei aeliau â chysulion.[418]


Gwawdodyn Byr.

Mesurai, gwyddai bob agweddion,
Llun daear ogylch, llanw dŵr eigion;
Amgylchoedd moroedd mawrion,—a'u cymlawdd,
Iawn[419] y danghosawdd, nid annghyson.


Dau Wawdodyn Hir.

Daear[420] a chwiliodd drwy ei chalon,
Chwalai a chloddiai ei choluddion,
A'i dewis wythi, meini mwynion:
A thew res euraid ei thrysorion,
A'i manylaf ddymunolion—bethau
Deuai i'r golau ei dirgelion.

Olrheiniodd, chwiliodd yr uchelion,
Llwybrau'r taranau a'r terwynion
Fflamawg fellt llamawg, folltau llymion,
Is awyr ganaid a ser gwynion;
Nodai'r lloer a'i newidion;—hynt cwmwl
O fro y nifwl[421] i fôr Neifion.


Dau Doddaid eto.

Ebrwyddaf oedd o'r wybryddion,—hyglod,
A llwyr ryfeddod holl rifyddion!
Traethai, fe wyddai foddion—teyrnasoedd,
Rhoe o hen oesoedd wir hanesion.


Gwawdodyn Hir.

Honni a gafodd o hen gofion,
Achoedd dewr bobloedd o dŵr Bab'lon,
Coffa[422] bri ethol cyff y Brython,
Gomer a'i hil yn Gymry haelion.

Teithiau da lwythau dilythion,-diwarth,
O du Areulbarth[423] i dir Albion.[424]


Gwawdodyn Byr.

A thrin a thrabludd, lludd lluyddion
Prydain a'i filwyr, pryd nefolion;[425]
A'r lladdiad, gâd ergydion-a oryw,
A gwaed a distryw 'r giwdawd estron.

Huppynt Byr.

Ni chaid diwedd O'i hynawsedd a'i hanesion;
Ni chair hafal Wr a chystal ei orchestion.

Tawddgyrch Gyfochrog.

Llon wr gwraidd llawn rhagorau,
Mawrdda 'i ddoniau mor ddiddanion,
Dof arwraidd, difyr eiriau,
Meddaidd[426] enau, wiw 'mddiddanion.


Huppynt Hir.

Glyw defodau
Eisteddfodau,
A'u hanodau,[427]
A'u hynadon;
Eu cyngreiriau,
A'u cyweiriau,
A chadeiriau
Uwch awduron.


Cadwyn Fyr

Uwch awduron a chadeiriawg,
Bur iaith rywiawg bêr athrawon,
A chelfyddon uchel feiddiawg,
A'r beirdd enwawg, eirbêr ddynion.


Huppynt Hir yn nglŷn â Gorchest y Beirdd.

Ef oedd Ofydd[428]
A dywenydd,
Hylwybr ieithydd,
Hil y Brython;
Gan wau gwynwaith,
Tlysau tloswaith,
Orau araith
Aur wron.


Hir a Thoddaid.

Goleuodd wedi ei gywleiddiadon[429]
A gwir hyfforddiant geiriau hoff heirddion;

Athrawai 'n fuddiol a thrwy iawn foddion;
E gaed moes wiwdda gyd à masweddion;[430]
Lle bu 'r diddysg hyll brydyddion,—brin ddau,
Fe rodd ugeiniau o hoywfeirdd gwynion.[431]


Cyrch a Chwtta.

Ar y sydd i'r oes hon
Yn fawrddysg Awen feirddion,
A gwiw les fryd i'w glwys fron,
Bryd arail i'w bro dirion,
Agos oll ynt, dêg weis llon
O ddysg abl, ei ddisgyblion;
A phoed maith goffhâd a mawl
I'w arglwyddawl ryglyddon.


Cyhydedd Naw Sillafog Chwe-ban.

A thra bo urddawl athro beirddion,
A mwyn dysg wiwles mewn dwys galon,
Gwiwdeb ar iaith, a gwaed y Brython,
Ac Awen Gwyndud, ac ewyn gwendon,[432]
Daear a nef a dŵr yn afon,
Ef a gaiff hoywaf wiw goffeion.


Cyhydedd Fer.

Aed, wâr enaid; aed, wr union;
Aed ragorwalch diwair, gwirion,
I fro Iesu fry a'i weision;[433]
I'w gain gaerau a gwen goron.


Cyhydedd Hir.

Ac uned ganu, sant, wiwsant Iesu,
Ef a'i leng wiwlu, fil angylion;"[434]
Ein dof Oen difai, lwys wawd EL SADAI,[435]
Musig[436] adwaenai ym mysg dynion.

Gwawdodyn Byr.

Uned ganiad eneidiau gwynion,
Llem araith wrol llu merthyron,
Ni ludd gweli, ni ladd gâlon[437]—ei grym,
Nac ing croywlym, nac angeu creulon.


Dau Wawdodyn Hir.

Gwedi caledi, cyni, cwynion.
Artaith, erchyllwaith ac archollion,

Gwaed ffráu,[438] a ffrydiau dagrau digron,
A chûr marwol, a chriau mawrion,
Gwyarlliw[439] fraenfriw oer frwynfron,—nid mud
Mawl cain côr astud mil can Cristion.

Eiddunaf finau, Dduw Naf union,
Allu im' uno â'u llu mwynion,
Prydu[440] i geisio perwawd[441] gyson
I lwyswawd eirioes Lewis dirion,
Cywyddau, cu odlau cydlon,—ganu,
Lle myno Iesu—lleu Monwysion.

Yr awdl hon a gant GORONWY OWEN, Person Llanandreas, yn swydd Brunswic, yn Virginia, yn y Gogleddawl AMERICA; lle na chlybu, ac na lefarodd hauach ddeng air o Gymraeg, er ys gwell na deng mlynedd.Gorphenaf 20, 1767.

Nodiadau

[golygu]
  1. Moses
  2. Heliwr
  3. corlan
  4. Enw ar y Goruchaf
  5. 'Bugeilio.
  6. Archoll erfyn
  7. "Dyn" arferid gan yr hen feirdd am y ddau ryw.
  8. Siom
  9. Cyffyrddiad tyner—"Ni th'rawai gnith â'r ewin, na bai lais gwell na blûs gwin."—TUDUR ALED i Delyniwr,
  10. Dryntol.—Gair arferedig ym Mon am handle drws.
  11. Cenaw ci.
  12. Brys.
  13. Enw ar un o ddrychiolaethau yr hen Gymry.
  14. Addunedu,
  15. Diowryd—Llw, neu gyfamod, a hunangosp yn dilyn ei dori.
  16. Hen Goel. Pan ddeuai ymdeithydd i groes- ffordd, a methu penderfynu pa ffordd i'w dilyn, dodai ei ffon ar ei phen, ac i ba gyfeiriad bynag y disgynai, y cyfeiriad hwnw a gymerai yntau.
  17. Enw ar y Creawd wr—y Dywedydd, neu y Perydd.
  18. Llaw—" A'i neddair, f'anwylgrair fwyn, y nyddodd fedw yn addwyn."—DAFYDD AB GWILYM.
  19. Talfyriad o digwydd.
  20. Enw yr hen seryddwyr Cymreig ar y Llwybr Llaethog.
  21. "Saith Seren Llong."
  22. Cydser.
  23. Twr Tewdws, neu Pleiades.
  24. Cadwen
  25. Ffwdan
  26. Venus
  27. Gwyl y Groglith
  28. Job
  29. Beiai
  30. 30 oed.
  31. Bywiog
  32. Cyfeiriad at symudiad y Calan o Ion. 12 i Ion. 1
  33. Symuded
  34. Darlleniad
  35. Red Letter Day
  36. Dymuniad
  37. Ddeisyfwn
  38. Elin oedd enw ei wraig gyntaf
  39. Tŷ haf (arbour)
  40. Perchenogion edyn
  41. Ei ddau fab
  42. Ffrwd o ddwfr croyw
  43. Tir
  44. Moroedd
  45. Dir—sicr
  46. Trws—a truss
  47. Ysgaru
  48. Cudyn o wallt
  49. Cynyrch ergyd pladur
  50. Ebrwydd
  51. Difri-air
  52. Croesawu
  53. Rhyfel—"Yr hon a beris yr ha', a thrin rhwng
    Groeg a Throia."—DAFYDD AB GWILYM, i Elen Lueddog
  54. Digaeth. Canmoliaeth—"Canaf it' a datganaf wawd,"—aralleiriad EDMwND PRYS o Salm cviii. 1.
  55. Y bardd gorchestol a'r llenor gwych hwn a anwyd yn 1730; ac wedi oes hafal i'w gyfaill Goronwy o ran helbul a fu farw yn 1789.
  56. Esmwyth.
  57. Zoilus.
  58. Bardd Lladin.
  59. Bavius.
  60. Dafydd ap Gwilym.
  61. Mam y brodyr enwog, Lewis, Richard, a William Morys.
  62. Brwyn-athrist.
  63. Dolurus.
  64. Syn.
  65. Tolliant
  66. Annghenog.
  67. Yr oedd Marged Morys yn lysieuwraig enwog.
  68. Yr amryddawn Lewys Morys, Mon.
  69. Celfydd.
  70. Golygodd ddau argraffiad o'r Bibl, 1746 a 1752.
  71. Llysieuwr rhagorol
  72. Cynhaliwr.
  73. Y mae y pedair llinell olaf hyn yn gerfiedig ar fedd M. Morys.
  74. Ychydig.
  75. Dyddorodd.
  76. Marmor.
  77. 'Cuwch—yr ael —"tan ei guwch."
  78. Onid.
  79. Arglwydd.
  80. Rhyfel.
  81. Urien Rheged.
  82. Llywydd, tywysog.
  83. The first two lines are a solemn invocation of the Almighty, desiring his assistance in the prosecution of this work; the two following lines show the groundwork and design of the Poem; and the fifth and sixth lines take occasion to engage the reader's attention from the importance of the subject.
  84. Bwriad.
  85. Yr hyn a ddarperir, neu a gymerir yn llaw; an undertaking.
  86. Dawr and diddawr, it concerns, &c. Pam na'n ddiddawr? hyny yw, Pam y byddwn ddifater o honaw? Pam na bai arnom ofal o'i blegyd? Once for all, I am to let the reader know, that it is not on account of obsoleteness, or obscurity in their meaning, that several words are explained in these notes, but that the British, like all other languages, hath its dialects; and that often what is very well understood in North Wales is not so in South Wales, or in Powys-land, and the contrary: our author therefore hath made use of all the dialects together in this Poem (as Homer hath done in Greek) and sometimes forms compounds, which the loftiness of his subject required, and which may not be very plain to any one of the dialects.
  87. Pa, ond—odid.
  88. MATT. xxiv. 36.
  89. 2 PET. iii. 10.
  90. MATT. xxiv. 45 i'r diwedd.
  91. Baner, standard.
  92. MATT. xxiv. 30.
  93. Llywydd.
  94. SALM xviii. 10.
  95. Bloedd.
  96. 10 DAT. xiv. 2.
  97. DAT. viii. 1.
  98. [Ei fin, ei enau.]
  99. So Homer calls his Hero's Armour, vevre Kpovicov. * * * μέγαν δ' ἐλέλιξεν όλυμπον; and Virgil that of Eneas," totum nutu tremefecit Olympum," and as there are manifest traces of the Hebrew idiom in the works of the Greek poets, it is not likely (notwithstanding the rest of the fable) that this way of speaking was borrowed of the Hebrews, who when they would represent a thing as superlatively great or excellent, usually join to it one of the names of God, El Elohim, or Iah. The mountains of God (El): in our English Bibles, great mountains, in the Welsh, mynyddoedd cedyrn, SALM Xxxvi, 6, GEN. xxx, 8. The wrestlings of God (Elohim) or great wrestlings: in the Welsh, ymdrechiadau gorchestol, and in SOLOMON'S SONG, viii. 6. The flame of God (Iah) or a most vehement flame in Welsh, flam angherddol. See SALM Ixxx. 10.
  100. [Ffurf i'r gair dychlamu—to throb.]
  101. Dr. Davies says that rhefedd is the same as rheufedd, riches; but erroneously, for rhefedd is formed of rhef, as tewedd is of tew, and both signifying the same thing, viz., thickness.
  102. Ogwymp, from gogwympo; the Welsh tongue is remarkable for these compounds, of which there are two in this couplet that make a pretty opposition, one upon the verb, and the other upon the noun, and which are great. helps in poetry.
  103. Gallt, in North Wales, signifies a steep hill, and in South Wales, a coppice of wood; but in South Wales they throw off the G, and pronounce it allt, in the plural elltydd.
    "Af yn wyllt o fewn elltydd:
    I eiste' rhwng clustiau'r hydd."
    says Lewis Glyn Cothi, an officer under Jasper, Earl of Pembroke, when he was forced to wander from place to place.
  104. Eryri, the range of mountains in Carnarvonshire, called in English Snowdon-hills, the highest of which, called, Y Wyddfa, is near a mile in perpendicular height.
  105. Hoewal, the stream of the sea or a river; i.e., in that great day of confusion all these will be level. [Y mân donau ar wyneb dwfr].
  106. Trwst, roaring, when spoken of the sea. See LUKE xxi. 24.
  107. Aberoedd
  108. Moroedd.
  109. Bas, lle bas.
  110. Noah, whose deluge was not to be compared to this.
  111. Goleuadau, luminaries.
  112. MATT. xxiv. 29. MARK xiii. 23, 24, 25. In this dark- ening of the sun's light, our Author hath made use of a very bold metaphor, that the sun would suffer in natural wrath an entire night by fainting away. Much after the same manner (he says) as the fit it was in when Christ was crucified.
  113. Our Author, in describing the moon's darkness, takes the opportunity of giving us both the names of the moon, lloer and lleuad, both seem to be of the same origin, which in the Celtic might possibly be lleu, the same with the latin lux; for we have several words framed from the same radix, lleuer, llewyrch, lleurwydd; goleu, goleuni, goleurwydd; lleueru, llewyrn; all signifying light, splendour, &ec.
  114. This conveys a noble idea of that empty space in the heavens, between the stars and that great abyss into which, our Author says, they will fall.
  115. Though eigion, at first sight, seems to be the same with the Latin oceanus, it is certain it is not borrowed from it, but formed from aig, the sea:—
    Ni thau fy mhen am Wenno,
    Mwy na'r aig ym min y ro.
  116. The terrible gates of hell furnaces.
  117. Pant is any hollow place; and here is used for the great hollow, or vacuum, between hell and the place it is to fall into.
  118. Adfeiliog, ruinous.
  119. Some critics would have the word gwal a corruption of the Latin vallum; but if Mons. Pezron's rule holds good, vallum is derived from the Celtic gwal, by adding um; as from gwin, vinum, &c.
  120. ['Diadlam—gair cyfansawdd grymus, yn arwyddo nas gellir llamu'r wal hono'n ol.].
  121. Serfyll, likely to fall; from cwyddo, to fall; hence gogwyddo, tramgwyddo, &c.
  122. Teulu uffern, furies, demons.
  123. 'Dychryn, o dy and crynu, i.e., to quake exceedingly for fear. This crynu, repeated three times, adds a vast strength to the expression, especially as the idea is augmented in the last.
  124. Satan, the prince of hell.
  125. "A caldron, or pot. Satan is glad to get into some mean corner of hell to hide himself.
  126. Fagddu, properly, utter darkness, from mwg and du, q.d., mygddu. Hell is so called in some parts of Wales; so our Welsh Translators have rendered Job x. 22, and ISAIAH lix. 9.
  127. Un o ddodenwau, neu ragenwau Duw, one of God's epithet, i.e., the Tamer.
  128. Pydron ddynionach is a most beautiful expression in the mouth it comes from, and carries an idea with it not to be expressed in other language.
  129. The charitable wish of the angel of a happy judgment puts him in a most lovely light.
  130. There is in Homer (Illiad B.) a simile not unlike this; and in Virgil, En. lib. 6.
  131. DAT. XX. 13.
  132. Myrdd is a myriad, or ten thousand; but it is used here for an undetermined number. Myrddiwn, in the plural myrddiynau, is a million, or ten hundred thousand.
  133. Llu is probably the ancient Celtic word from whence the Latin legio is derived, and the English legion, and in the plural is lluoedd, or lluon, vulgarly lion. Hence Caerllion ar Wysg, one of the cities of legions in Britain. The present, as well as the ancient meaning of the word llu, is an army of men (though here metaphorically used for a multitude), as appears by the book of Triades, "A llwyra lluydd a fu hwnw." Tr. Lluydd is the gatherer of an army, and Llewddyn Luyddawg is mentioned, in the same Triades, the name of a British Prince that had a vast army.
  134. Torf, and y dorf, is the ancient Celtic word for a multitude, from whence the Latin turma was borrowed; the root is twrf, which signifies noise, and the sound of thunder; and in some parts of South Wales thunder is called tyrfau, the plural of twrf. From the Latin turma, the provincial Brit ins formed the word tyrfa, which is now the common word for a multitude, or great meeting of people; if it is not formed from the word tyrru, to gather together.
  135. Ynad, is a Judge; and though Dr. Davies derives it, by transposition of letters, from the Chaldean and Hebrew, I am yet apt to think it takes its origin from hyn and hynaf, pl. hynafiaid, elders. So ynad might have been written at first hynad.
  136. Gosgordd signifies guards, but our critics have not been able to give any derivation of the word. In my opinion the word is derived from gweis (the plural of gwas, a servant) and cordd, q.d., gweisgordd, which seems to be the old Celtic word for a guard, the same with the French garde, the Italian gardia, and the Spanish guarda.
  137. [Teulu, llywyth, yn hanu megys o'r un gwely.]
  138. DAT. xx. 11.
  139. The common word is darllenir, and the author might have written here (Egorir darllenir llith), which would not have hurt the verse at all; but he chose to stick to the ancient primitive llen, to read, which, no doubt, is one of original Celtic roots, and from whence llyfr, a book. and the Latin liber might be derived; as is llen, doctrine, and darllain, to read.
  140. Da, good.
  141. Gwyn, white, is here metaphorically used for holy, clean, unspotted, and is a common epithet for God, when his sanctity is mentioned; as in Duw lwyd, which signi- fies grey, when his eternity is mentioned; as the Ancient of days.
  142. The word Duw, God, in the old Celtic, seems to have been formed from da yw, that is, he is good.
  143. MATT. XXV. 33, 34, &c.
  144. Ion is one of the names of God, perhaps the same with Jehovah. The name of a man, Ioan, which is the Latin Johannes, is ignorantly pronounced Ion, which should be Io an, in two syllables, as appears from that verse of Iolo Goch:—
    Ail yw IO AN lân lonydd.
  145. This is beautifully expressed by Homer (Illiad A. and elsewhere), though the fate is by him attributed to Jupit— er, who is said to do it with a nod of his immortal head. And after him Virgil (En. lib. IX.), and elsewhere. But much more beautifully and majestically by the great. Creator himself, &c., I will shake the heavens (make or cause to tremble) the heavens, &c., ISAIAH xiii. 13. See HAG. ii. 6, which expression our Author has followed.
  146. MATT. XXV. 41.
  147. Diffaith, from di and ffaith, evil, vile, literally not good. Ffaith was an old British, or Celtic word for good; and tho' the Cambro—Britons have lost the primitive, they retain it in the compound; and the Irish (a branch of the Celtic) use the word maith to this day for good, which the French Britains pronounce MAT. Here I must observe, that Dr. Davies should have wrote diffaith, a desert, with an (e) diffaeth; hence diffaethwch, a wilderness, from di and ffaeth,i.e., uncultivated, or not mellow.
  148. Epis. JUDE 13.
  149. MAT. xxv. 34.
  150. Trigfa, cartref,home.
  151. I COR. ii. 9.
  152. See a letter to the Cymmrodorion on the Prince of Wales' Motto, Ich Dien. The word here is used for eternal youth.
  153. Cyffelyb, tebyg, like.
  154. IOAN xiv. 3.
  155. [Pyd—perygl.]
  156. The Devil, this Diafl, as well as Diafol and Diafwl, are probably provincial words, framed from the Latin Diabolus. But the original Celtic name is Diawl, and which is compounded of the negative di and iawl, a prayer, request, or thanksgiving; a fit name for the enemy of mankind, i.e., void of prayer or thanks to God.
    Aed i Ddiawl dragwyddawl dro.—GR. GRYG.
    And though many nations use the same word for the same idea, yet it may be doubted whether there is one of them that can give it a rational derivation from its own language, as we do from the Celtic. Here it may not be amiss to inform persons who are not acquainted with the rigid rules of our Cambro—British Poetry, of the surprising fetters imposed upon it by the Ancients, for the security of their language, that it might not dance. beyond its bounds. These strict rules, it is certain, have cramped our geniuses, though they have preserved our language in such a manner that it is almost impossible that it should change a single letter, while the works of the poets are read. As for example, in the word Diaft, from the nature of the verse before us:—
    Gan y Diafol ydd a'r aflan.
    The three last letters of the word must be the same with the three first in the word aflan; and as the word aflan cannot possibly alter because compounded of af and glan, i.e., un and clean; so you cannot alter a word that the Poets have used without altering the whole language. The kind of verses quoted here is the loosest of any of the four different kinds used in composing this kind of poem, though, one would think, this hath difficulties enough; yet the last verse save two,
    A melysed mawl Iesu.
    hath far greater difficulties, m ls in the word melysed, on one side of the accent must answer to m ls in the words mawl Iesu, on the other side; and all the vowels on each side the accent must differ, in order to make the sound various and musical.
  157. Gwrolaf.
  158. Tywysog coronog—Anrhydeddusaf wedi'r brenin yw edling braint neu eni."—CYF. HYWEL DDA.
  159. Pierides—yr Awenau Groegaidd.
  160. Ffredrig, tywysog Cymru, farw o flaen ei dad, Sior II., ac felly ei fab ef Sior III., gwrthrych y cywydd, a olianodd ei daid
  161. Arglwydd.
  162. Hawddamor,
  163. Cerdd offerynol.
  164. Bloedd.
  165. Canmoliaeth.
  166. Barug.
  167. Tyred.
  168. Duwies
  169. Urael—lleianwisg deg a drudfawr.
  170. Dail bytholwyrdd.
  171. Ewyn y don
  172. Ael.
  173. Tyred.
  174. Cyfeiriad at hen ddefod Gymreig mewn priodasau. Gwasanaethu wrth fwrdd y wledd; o hyn y tardd y gair heilyn am butler.
  175. Ymddihatru, ymddiosg, ymddiblisgo.
  176. Eplesedig.
  177. LLYTHYRAU, 76.
  178. Yn nghopi W. Morris, "Mae rhodd mwy rhi."
  179. Elusen.
  180. Margred Morris; gweler tudal. 32.
  181. Cydmar.
  182. Yr Awenau.
  183. Clêr-dosbarth o Dderwyddon awenyddol gynt, wed'yn, gelwid eu gwehilion Bon y Gler-yna Clerfeirdd, math o grwydriaid cardotlyd.
  184. 1JOB Xxxviii. 8, 10.
  185. Mae hwn yn enw cyffredin ar drigfan yn y Deheubarth.
  186. JOB xxxviii. 7.
  187. JOB xxxviii. 4, 6.
  188. Salm xix. 1.
  189. Tarawiad.
  190. Brys.
  191. Ser crwydrol.
  192. Neidio,
  193. Y bore.
  194. Moses
  195. Dulcimer
  196. Brysiwn
  197. Equator
  198. Lleihau
  199. Grudd
  200. Llyfr doeth
  201. Solomon
  202. Enwog
  203. Crwydrol
  204. SALM cxxxvii
  205. 205.0 205.1 Y benywaidd am swrth a sych
  206. Sicr
  207. Rhodd rwydd
  208. Buandra
  209. Ysgafarnog.
  210. Moroedd
  211. Wrens
  212. Araf, trwsgl.
  213. Coryn y pen.
  214. Gafr
  215. Llaeth enwyn.
  216. Llefrith.
  217. John Dean, rhyw lyffant o Sais melyn.
  218. Llwyth
  219. Gofidus
  220. Elusen
  221. Rhodd
  222. Yn cyfeirio at y cyfyngder fyddai yn mysg pysgodwyr Lleyn a'u teuluoedd.
  223. Elusen
  224. Rhwystrodd
  225. Syflodd
  226. Taergeisiodd
  227. Mab i John Owen.
  228. Hiraeth
  229. Hir yn adfer
  230. Yr aelod seneddol tros Sir Feirionydd ar y pryd.
  231. Dau hen balas yn Meirion
  232. Rhagorol, "Od o dda"-Llafar Gwlad.
  233. Breyr-barwn
  234. Sicr
  235. Yr un modd a phe dywedid "Fy Ior," etc.
  236. Brenin Ffrainc.
  237. Malais eiddigedd
  238. Yn hen
  239. Ignis fatuus
  240. Hen goel am y Tylwyth Teg.
  241. Benywaidd am lwfr.
  242. Anelwig-afluniaidd.
  243. Y rudd, neu yn hytrach asgwrn y rudd.
  244. Tolc, twll, pant.
  245. Lwybra
  246. Crib ceffyl, ebe T. Richards,
  247. Ellylles.
  248. Ni all oddef.
  249. Annwfn, ac annwn-Uffern, hades, anhysbys, lle dyeithr, the unknown region.
  250. Dengys hyn mai ar yr Hen Galan (Ionawr 12) y ganed Oronwy, ac nid ar Ionawr 1af, fel y dywedir yn yr Almanaciau
  251. Gwael.
  252. Teg
  253. Serch, hoffder.
  254. Ar ddamwain; ar ruthr annheg
  255. Ymliw, herio.
  256. Bai
  257. Bygwth
  258. Hen ffurf i'r gair rhy
  259. Rhan o blwyf Walton oedd Lerpwl yn yr hen amser
  260. Toredig
  261. Gorlwythog.
  262. DIAR. XXX. 29.
  263. Solomon
  264. Crwydro am ysglyfaeth—Lladin, præda.
  265. Mwy gwiw-rhagorach
  266. Wele
  267. Yn crymu
  268. Cigwain-toasting fork
  269. Tylodi
  270. Cattwg Ddoeth, sant enwog am ei ddysg a'i ddoethineb yn ei flodeu tua dechreu y chweched ganrif. Mae tua phumtheg o Lanau yn Nghymru wedi eu cyflwyno iddo
  271. Llywydd
  272. Hynafiaid
  273. baner
  274. Dewi Sant
  275. Nodyn gan y bardd ei hun:—"A word very agreeable to the character of the holy Archbishop, signifying, Save us, O Lord and history tells us, that it was the SYMBOLUM, or watchword, etc."
  276. Sior II., brenin Lloegr.
  277. Llygriad o spear,
  278. Tan lw: tan ddiofryd.
  279. Gelynion.
  280. Hynaws.
  281. Llethedig.
  282. (Parcere subjectis, et debellare superbos, Vinu. Par Pae)
  283. Yr ych fo'n cerdded y rhych wrth aredig a elwid rhychor.
  284. Duw
  285. Gwawdiaeth lem ydyw y linell hon.
  286. Ware.
  287. Goleuni.
  288. 'Northolt, lle yr oedd yn trigiannu ar y pryd.
  289. Yn Twr Llundain, yr adeg hono, y gwneid arian bath.
  290. Dyred.
  291. Solomon.
  292. Tawlu-taflu,
  293. Cyn.
  294. Penglog.
  295. Trwyn, pig.
  296. Lobster.
  297. crafell—crafangau.
  298. A flesh fork.
  299. Y bola
  300. Glwth
  301. Satchel, i gadw ced
  302. Crupper, crwper.
  303. Enw arall ar gynffon.
  304. MICHAEL ANGELO, lluniedydd cywraint yn yr Eidal; ni a ddarllenwn am ffrwgwd a fu rhwng Diawl ag ef, am wneuthur ei lun mor wrthun; a'r caredigrwydd a'r teuluedd a dyfodd rhyngddynt ar ol i ANGELO wneuthur llun prydferth iddo yn ddadolwch am y sarhad o'r blaen.
  305. Gwerinaidd.
  306. Half-breed.
  307. Dinystr.
  308. Judas.
  309. Rhoddion
  310. Tir.
  311. Darfu.
  312. Gwrthwynebwyr
  313. Esgyn
  314. Goleuadau: "llewyga gwawl y llugyrn ebe awdl "Gwledd Balsassar" Glan Geirionydd.
  315. Arwain, neu dywys.
  316. Cyflym.
  317. Cynil yr hen ystyr oedd medrus.
  318. Smart, trim, fair.-Dr. PUGH.
  319. Bwriad.
  320. Gwas.
  321. Felly
  322. Ni ddaeth imi
  323. Delo
  324. Gofid
  325. Canghen o deulu clodfawr yr Herbertiaid ydyw Ieirll Powys.
  326. Cynghanedd gerddorol.
  327. Jupiter.
  328. Heddychu.
  329. Penaeth.
  330. Arfer.
  331. Aer, aerawg—yn perthyn i ryfel
  332. Gelyn.
  333. Tylwyth.
  334. Carwieuanc.
  335. Drwg.
  336. Dilwfr.
  337. Dilwfr.
  338. Bygythiol.
  339. Niweidiol.
  340. Sior II. oedd hwn.
  341. Duc Cumberland.
  342. Gweddiaf.
  343. Ger y Trallwng, ac a elwir yn awr Powis Castle.
  344. Rhenid Cymru gynt yn dair talaith-Gwynedd, Powys, a Deheubarth.
  345. Cyfieithiad o Saesneg Dr. SAMUEL COLLETT.
  346. Testyn dirmyg.
  347. Yn y farn.
  348. Y BARDD COCH. Boneddwr yn byw ar ei dir ei hun ydoedd, gerllaw Llanerchymedd. Heblaw ei fod yn fardd adnabyddus, cyfieithiodd amryw draithodau o'r Saesneg. Yr oedd yn gyfaill mawr hefo'r Morysiaid a thrwyddynt hwy daeth i gydnabyddiaeth â Goronwy. Bu farw yn 1776, yn 83 oed.
  349. Sef Bardd ac Offeiriad.
  350. Enw ar y Goruchaf.
  351. Diwael.
  352. Corlan.
  353. Lluaws.
  354. Deisyf.
  355. Lewys Morys.
  356. Diwall.
  357. Yr ystyr a roddid i'r gair gwawd hyd yn ddiweddar ydoedd mawl, clod.
    Medd yr Archddiacon Prys:—
    Parod yw fy nghalon, O Dduw,
    O parod yw fy nghalon;
    Canaf it' a datganaf wawd
    O fawl fy nhafawd ffyddlon
  358. Meilir ab Gwalchmai.
  359. Gwalchmai ab Meilir.
  360. Einion ab Gwalchmai.
  361. Hywel ap Owen Gwynedd.
  362. Tywysog Cymru.
  363. Madog Benfras.
  364. Dafydd ap Gwilym
  365. Robin Ddu o Fon
  366. Yr hen Goronwy Ddu o Fon.
  367. Dafydd Alaw, bardd, a brodor o Fon?
  368. Caw ab Geraint ab Erbyn, o'r Twr Celyn, ym Mon.
  369. Cantref ym Mon.
  370. Gweler Caesar's Commentaries, llyfr vi., pen. 13.
  371. Bywiogrwydd.
  372. Dystawa.
  373. Dy lun.
  374. Syw, doeth.
  375. Y Ddau Fyrddin.
  376. Dyred.
  377. Difai.
  378. Dyrchafedig.
  379. Deiliaid.
  380. Dewrion.
  381. Anniddan.
  382. Mons Cambriae.-G.O.
  383. Britannorum poetæ sic dicti. Bardi quoque apud veteres Britannos, cæterasque Gelticæ originis gentes, constituebant unum ex triplici druidicæ hierarchiæ ordine; druides, bardi, et ubates, sive ovates.
  384. Corybantes, qui et Idæi, Doctyli, sive Curetes, ejusdem fere fuerunt ordinis inter Silanes, cujus Druides inter Celtas, Silanum reliquias. Pezronum de Antiq. Ling. et Nat. Celt. Vide
  385. Poni a Romanis ob perfidiam male audiebant ut a nobis. Galli Ponorum vere imitatores.
  386. Comitis Provisiani magnificentissimæ ædes, in ea Cambriae regione site, quam veteres Povisiam dixere, nune vulgo Mons Gomericus, quas Cambri accola vocant, Castell Coch ym Mhowys.
  387. Sabriana fluvius, vulgo Sabrina, Anglis Severn, Cambris vero Hafren.
  388. Ymgais athrylith gref Goronwy i ddynwared geir- wedd a sillebiaeth Meilir Brydydd, bardd Cymreig of gryn deilyngdod, yn ei flodeu yn y 12fed ganrif, ydyw yr awdl hon. Bydd yn ddigon hawdd i'r darllenydd cywrain ddilyn rhediad y cyfansoddiad ond iddo ymgynghori hefo Geiriadur, yn enwedig yr eiddo Thomas Richards o Langrallo.
  389. Chwi a welwch nad oedd Sibli yn gwisgo dim clos; Sibylla oedd hi, mae yn debyg.-G.O.
  390. Geiriau gau broffwyd yw y rhai hyn.-G.O.
  391. Geiriau Sibli yw y rhai hyn.-G.O.
  392. Amcanai y bardd ddangos mai Huw Huws (y Bardd Coch) oedd awdwr yr englynion hyn.
  393. Ellis Roberts (Ellis y Cowper).—Brodor o ardal Llanrwst ydoedd Elis, ac yn Llanddoget y claddwyd ef (yn ol Y Dyddanwch Teuluaidd), Rhagfyr 4ydd, 1789. Yr oedd yn gyfaill â Huw Jones, Llangwm; Dafydd Jones, Trefriw; Twm o'r Nant; Jonathan Huws, etc. Cyhoeddodd luaws mawr o garolau, cerddi, a mân lyfrynau, fel y gwelir yn Llyfryddiaeth y Cymry. Prin yr oedd yn deilwng o gerydd awen Goronwy Owen.
  394. Paffiwr mawr yn Nulas, Mon, oedd y rhychor hwn, ebe Lewys Morys; dangos ei feistrolaeth ar y caeth-fesurau, mae'n dra thebyg, oedd amcan y bardd wrth ganu iddo.
  395. Ciaidd
  396. Haner call.
  397. Ergyd, tarawiad.
  398. Tynu'n ol, bacio
  399. Hysio ydyw anos cŵn
  400. Nyr-lluosog am ner-meistr.
  401. Ysgafnu.
  402. Tlws, prydferth.
  403. Hydrin, rhowiog.
  404. [Penaeth.]
  405. [O'r gair cronni.]
  406. Virginia yn America, lle mae'r Awdwr yn drigianol, wedi colli y rhan fwyaf o'i deulu ar y môr wrth fordwyo yno o Lundain, yn y flwyddyn 1757.
  407. [Gwlad]
  408. [Forest.]
  409. [Hiliogaeth]
  410. [Dyddanwch.]
  411. Cyffelybai Homer einioes dyn i ddail.
  412. [Amheu.]
  413. [Gorddystawrwydd.]
  414. [Telmau—math o faglau.]
  415. Hyn, a rhan fawr o'r hyn a ganlyn, sy'n penodi at ryw ddamweiniau a ddigwyddasant iddo enyd cyn ei farw; ac nid rhaid i'w gydnabyddiaeth wrth nodau amgen na'u coffadwriaeth eu hunain i'w hegluro.
  416. [Ni adawodd.]
  417. Lluosog am llednais, mwyn, tyner, gweddaidd.
  418. Ffurf i'r gair counsells.
  419. Gwel y Mapiau cywraint o arfordiroedd Cymru a wnaeth ar orchymyn y brenin.
  420. Sef pan oedd olygwr ar fwngloddiau'r brenin yn Esgair y Mwyn, yn Ngheredigion.
  421. Bro'r nifwl, neu fro'r tarth, yw yr hyn a eilw y philosophyddion Saesonig atmosphere.
  422. Efe a ysgrifenodd dwysgen ar y testyn hwnw; ond pa un ei bod dim o'r gwaith yn argraphedig, nis gwn.
  423. Areulbarth, sef y Dwyrain, neu godiad haul.
  424. Enw yr ynys cyn dyfodiad Prydain, oedd ynys Albion, hwnw a'i frawd Bergion a hanoeddynt (fe allai) o lin y Titaniaid neu Celta, cynfrodorion Ffrainc o Phrydain, a meibion oeddynt i Neptun, medd Pompenius, Mela, ac eraill awduron Rhufeinig; sof lyngesyddion dewrion, nc agatfydd mor-wylliaid dilesg; yn gymaint ag mai daw'r moroedd oedd Neptun, a'u gorchfygu eill dan a wnaed, medd yr un Awduron, gan ryw Erewlff (nen Hercules) nis gwyddis pa'r an, gan fod amryw o naddunt; of a allai mai pen lloyddwr Brewlff oedd Prydain, a gorchfygu o hono Albion Gawr, a goresgyn el ynys a'i galw with ei enw ei hun, YNYS PRYDAIN; fel na Li YNYS ALBION o'r blaen; ond coelled pawb y clawedl a fyno,
  425. Efallai y tybir hyn yn rhy eofn i'w dywedyd am ddyn daearol, er ei laned, eithr araith gynefin gan Homer tad yr awen oedd, Dæmonios, &c., a'r cyfryw; y rhai ydynt o'r un ystyr a phryd nefolion, ac y mae llyfr y Trioedd yn son am un a elwid Sanddef bryd Angel, oherwydd ei lendid.
  426. Meddaidd, hyny yw peraidd; o'r gair medd y daw.
  427. ['Haniadau.]
  428. Ofydd, sef yw hwnnw, P, Ofidius Naso, un o brydyddion godidocaf Rhufain.
  429. [Ei-gydwladwyr.]
  430. Miscuit utile dulci, &c., Hor. Nodwch yma nad yw'r gair 'maswedd," yn ei briod a'i gynefin ystyr, ddim yn arwyddocau serthedd neu fryntni; ond yn unig rhywbeth ysgafn, digrif, nwyfus, yn wrthwyneb i bethau dwysion pwysfawr."
  431. Mae'r awdwr, gyd â phob dyledus barch i goffadwriaeth Mr. Lewys Morys, yn tra diolchgar gydnabod, mai iddo ef y mae 'n rhwymedig am yr ychydig wybodaeth ym marddoniaeth Gymraeg a ddaeth i'w ran; ac yn ffyddlon gredu—nid er gwaith nac er gogan i neb—y gall y rhan fwyaf o feirdd Cymru, ar a haeddant yr enw, gyfaddef yr un peth. Ac er nad yw les yn y byd i'r Awdwr mewn dieithr wlad dramor, lle nas deall yn oed ei blant ei hun air o'r iaith Gymraeg, eto mae 'n ddywenydd ganddo goffhau iaith ei fam a'i wlad gynhenid yn ei hir alltudedd; a gresyn ganddo na bai lle y gallai wneuthur mwy o les a pharch i'w iaith a'i wlad;—ond a fynno Duw a fydd.
  432. In freta dum fluvii current, &c.-VIRG
  433. Cyffelybrwydd i gân y pedwar anifail, DAT. iv. 8., a arferent yn yr eglwys filwraidd ar y ddaear ym mhob oes, ac a hyderus obeithient gael yno a chôr saint bendigedig i'w chanu yn y nef yn oes oesoedd
  434. Arferol ym mhob ia'th yw rhoi rhif crwn, cyfan, yn lle rhif anwahanrhedol, megis cant yn lle bagad, mil yn lle lliaws mawr, a'r cyffelyb, pan fynid arwyddocau llawer, ond na wys pa nifer.
  435. "Un o enwau Duw yn Hebraeg, yn ateb yn union i'r gair Groeg Pantokrátor yn Datguddiad iv. 8 (cymhared Esay vi. 3), a Hollalluog neu Hollddigonol a arwyddocâ. Cof yw gennyf mewn rhyw ymddiddan â Mr. Lewis Morris y mynnai ef mai Cymraeg oedd ELL SADAI, sef A ALL SYDD DDA; ac yn wir nis gwn pa sut well y gellid ei gyfieithu."
  436. "Nid wyf yn tybied y ceir mo'r gair 'musig' yn nemawr o'r geirlyfrau Cymraeg; eithr nid wyf yn amau nad oedd yn arferedig yn yr iaith er yn amser y Rhufeiniaid. Pa ddelw bynnag, fe ei harferodd Lewys Morgannwg, er ys gwell na deucan mlynedd, yn ei awdl wrth Leision, abad Glyn nedd,—Arithmetic, music, grymusion
  437. [Lluosog am golyn].
  438. Gwaedlif.
  439. Lliw gwaed
  440. Prydyddu.
  441. [ Sweet praise.]

Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.