Gwaith Huw Morus (testun cyfansawdd)
← | Gwaith Huw Morus (testun cyfansawdd) gan Huw Morus (Eos Ceiriog) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Gwaith Huw Morus |
HEN EGLWYS LOEGER.
Gwaith
Huw
Morus
CYFROL I.[1]
Llanuwchllyn:
Ab Owen.
S.Maurice Jones (arlunydd)
Argraffwyd i Ab Owen gan R. E. Jones a Frodyr
CONWY
Rhagymadrodd
Ganwyd Huw Morus yn amaethdy Pont y Meibion, Glyn Ceiriog, yn 1622; bu farw yno, Awst 31, 1709, a chladdwyd ef wrth fur eglwys Llansilin.
Ychydig o ffeithiau sicr ei fywyd sydd ar gael; ond casglwyd, o dro i dro, lawer o hanesion am dano oddiar lafar gwlad.
Bu'n brentis i farcer yn Owrtyn, ar wastadedd sir Fflint; ond dychwelodd i drin tyddyn ei dad, ac ym Mhont y Meibion y treuliodd ei oes faith.
Yn ol un traddodiad, yn ystod ei brentisiaeth ym Maelor Saesneg yr ymwelodd yr awen gyntaf ag ef. Cysgodd, ryw hirddydd haf, dan Iwyfen gysgodol. Pan gysgodd, nid oedd ond prentis barcer; pan ddeffrôdd, teimlai fod yr Awen wedi cyffwrdd ei wefusau, a'i fod yn fardd.
Yr oedd ei awen yn ffrwythlon nodedig. Dywedodd lolo Morgannwg wrth David Samwell[2] fod Gwilym Hywel o Lanidloes wedi casglu tri chant o i ganeuon. Ar lafar gwlad ac mewn ysgrif y cedwid y rhain hyd yn gydmarol ddiweddar.[3] Ymddanghosodd pedair yn y "Carolau a Dyriau Duwiol " yn 1720; chwech a deugain yn y Blodeugerdd," yn 1779; deunaw o gwyddau, 130 o gerddi, a 229 o englynion, yn "Eos Ceiriog," casgliad Gwallter Mechain, yn 1S23. Y mae llawer eto, yn cynnwys rhai o'r cerddi tlysaf, heb eu cyhoeddi.
Eu melusder hyawdl yw prif swyn cerddi Huw Morus. O'r dechreu i'r diwedd nid oes ball ar felodedd "y gân rwyddlan ireiddlwys." At eu canu yr ysgrifenwyd hwy; wrth godi y rhai sydd yn y gyfrol hon o ysgrif lyfrau, cofiwn am danynt, linell ar ol llinell, fel y clywais eu canu gan hen bobl ryw chwarter canrif yn ol. Apeliai Huw Morus yn rymus at y serch ac at y gydwybod,— nid rhyfedd fod ei gerddi'n aros mor hir ar gof gwlad. Canodd gerddi serch nad oes eu tlysach yn yr iaith; addolai ferch dlos o bell, ond ni phriododd yr un. Condemniodd bechod, yn enwedig trachwant ac oferedd, ar adeg yr oedd cydwybod gwlad eto 'n dyner oherwydd y deffroad Puritanaidd, ac ar adeg y gwneid trawsder oherwydd cyfleusterau'r cyffroadau a'r ansicrwydd gwleidyddol. Daeth cerdd Huw Morus yn llais bywyd goreu ei wlad; fel y dywed Edward Samuel yn ei farwnad,[4]—
"Gwae Bowys ffracthlwys ffrwythlawn,
Ei bod heb dafod y dawn."
Cydoesodd Huw Morus a phob teyrn o lin Stuart,—James I, Charles I, Charles II, James II, William a Mary, ac Anne. Yr oedd yn Freniniaethwr ac Eglwyswr cyson, a thueddai at Doriaeth os nad at Jacobyddiaeth. Dengys y gerdd "Yr Hen Eglwys Loeger " mai gwir a ddywedai Edward Samuel,—
"Gwrth'nebydd dedwydd ei dôn,
Cry dig-, i'r Caradogion;
A gelyn cyndyn ei caid,
Clau fynwes, i'r Calfìniaid."
Y mae'r cerddi yn nhafodiaith Powys, fel yr ysgrifennodd Huw Morus hwy, ac fel y cenid hwy ar lafar gwlad. O leiaf, y mae pob cân fel y cefais hi yn y llawysgrif hynaf. Dywedai Huw Morus "ened " ac "eneidie", ond defnyddiai ffurfiau llyfr ambell dro. Nid yw yn hawdd bob amser wybod sut i ysgrifennu llinell, megis
"A cheisiwch anghenred i'r ened ych hun."
Byddaf yn dilyn y llawysgrif, sut bynnag y bydd, os yn gynharach na 1750. Gwelir mai cerddi serch a marwnad, cerddi'n desgrifio bywyd pob dydd, yn hytrach na cherddi ar faterion pwysig a chyffrous y cyfnod hynod y bu Huw Morus byw trwyddo, welir yn y gyfrol hon. Dengys cerddi ereill, i ymddangos yn y gyfrol nesaf, beth oedd ei feddwl o gwestiynau politicaidd ei ddydd,—megis y Werinlywodraeth, dechreuad Ymneillduaeth, adferiad y brenin, prawf Algernon Sidney, gwladlywiaeth eglwysig lago, a gwladlywiaeth dramor William y Trydydd.
Dymunaf ddiolch yn wresog am gynhorthwy, trwy gael benthyg ysgriflyfrau neu wybodaeth am danynt, i Richard Williams, F.R.H.S., y Drefnewydd; J. Gwenogfryn Evans, M A., D.Lit., Rhydychen; R. H. Evans, Arosfa, Llanrhaiadr ym Mochnant; J. Glyn Davies, y Llyfrgell Gymraeg, Aberystwyth; Carneddog, Nantmor, Beddgelert; a'r Parch. J. T. Alun Jones, y Coleg Duwinyddol, y Bala.
OWEN M. EDWARDS
- LLanuwchlyn .
- Medi i5 1902.
Darluniau
"Hen Eglwys Loeger."—Arthur E. Elias.
Ti a fuost gyfannedd,
Yn cynnal trefn santedd." Tud. 56
"Dyffryn Ceiriog"—S. Maurice Jones.
Pont y Meibion—
O wawl-arlun yn yr Oriel Gymreig,
gan John Thomas.
"Anwylyd y Bardd"—Gan Arthur E. Elias.
" Fy nghariad i
Teg wyt ti." Tud. 9.
Cipolwg ar Lyn Ceiriog—
O wawl-arlun, a dynnwyd yn ddiweddar,
gan John Thomas, i'r Oriel Gymreig.
"Llaw y Marw."—Arthur E. Elias.
"A chymrwch Faelor i chwi'n ddrych,
A rhybudd clych Rhiabon." Tud.66
Ffair Llanrhaiadr—
O wawl-arlun yn yr Oriel Gymreig,—gan John Thomas.
Tynnwyd yn ail hanner y ganrif ddiweddaf.
Cynhwysiad
Dynoda'r seren fod y gerdd wedi ymddangos, yn gyfan neu yn rhannol, yn y Blodeugerdd (1759); dynoda'r dagr ei bod wedi ymddangos yng nghasgliad Gwallter Mcchain (1823). Y mae y lleill, hyd y digwyddodd i mi weled, yn cael eu hargraffu yn awr am y tro cyntaf.
Cerddi.
- †Fy nghariad i
- †* I ofyn feiol
- Y ferch o'r Plas Newydd
- Etifedd y Pant Glas
- Liw alarch ar y llyn
- Cân y Weddw
- Y gwir Gymro glana
- Stifn Parri
- Arglwyddes y Tegwch
- Cerdd i ofyn caseg
- Mawl Merch
- Y Serchog wr enwog
- Codi Nant y Cwn
- Fy nghangen urddasol
- Richard Miltwn
- Siriolwych wyt
- Myfyrio rwy'n fwyn
- †*Yr Hen Eglwys Loeger
- Cerdd Owen o'r Pandy
- †Cerddi Tir y Taerion
Englynion
- Cynghor i'r Gweithiwr
- Bedd Sara
- Bore Gauaf
- Gwen Parri
- Gwahoddiad i'r eglwys
- Ysgoldy
- Glanaf, hawddgaraf
- Gwel gaethed
Carolau
Yn aml iawn nid oes teitlau i'r cerddi yn y llawysgrifau welais
Tonau
- Anodd Ymadel (Loth to depart), 19, 25,39, 78, 91.
- Armeida, 31, 45.
- Brynie'r Werddon, 89.
- Consymsiwn, neu " Gorweddwch eich Hun," 22.
- Difyrrwch Gwyr Dyfi, 53, 87.
- Gadel Tir (Leave Land), 29, 33, 56, 61, 95, 107, 110.
- Gwledd Angharad (Charity Mistress), 49.
- lanto o'r Coed, neu " Spanish Bafin," 65.
- lechyd o Gylch, 83.
- Llafar Haf, 102.
- Mesur Triban, 41.
- Per Oslef (Sweet Richard), 10.
- Swllt am Garu, neu Armeida.
- Y Ddeilen Werdd, 81.
- Y Galon Drom (Heavy Heart), 14, 17, 27, 37. 47. 99. 105
Clywais ganu y tonau hyn laweroedd o weithiau gynt. Ond
nid oes gennyf glust ddigon teneu i fedru barnu eu gwerth, ac
nid oes gennyf ddigon o ddysg i ddweyd o ble y daethant. Mae'n
debyg mai tonau Seisnig ydynt. Os felly, cyfansoddwyd hwy
yn oes aur cerddoriaeth yn Lloegr, cyn i gyflawnder yr amser
ddod i'r Almaenwr Handel ddod i roi ffurf iddi ar ei goreu a'i
chyflawnaf.
HUW MORUS.
FY NGHARIAD I.
Tôn,—"PER OSLEF."
FY nghariad i,
Teg wyt ti,
Gwawr ragori, lili lawen,
Bêr winwydden, fwynedd feinwen,
Y gangen lawen lun;
Blode'r wlad,
Mewn mawrhad,
Hardd i hymddygiad, nofiad nwyfus,
Bun gariadus, haelwen hwylus,
Y weddus foddus fun;
Lloer wiw i gwedd, lliw eira gwyn,
Yn sydyn rhoes fy serch,
Ar f' enaid fain,
Sydd glir fel glain,
Rywiog riain irfain yrfa,
Na chawn ata ddyn ddiana,
I'w meddu, mwyna merch;
Ond, blode rhinwedd croewedd, cred,
Er teced ydwyt ti,
Y galon fach
A gadwa'n iach,
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Dere yn nes,
Lloer y lles,
Iredd aeres gynnes geinwen,
Ail i Elen, feindw, burwen,
Y gangen lawen liw;
Mae gen i
Fryd teg i ti,
Ffyddlon ffansi yleni olynol,
Dan fron freiniol, baunes weddol,
O raddol reiol ryw;
Gwen fel blode, donie dydd,
Anufudd yn dy nerth,
Pe baswn i
Yn coelio i ti,
Gwawr ddiwegi, yleni linon,
Aethe nghalon yn ysgyrion,
Moddion wirion werth;
Er llewyrch bryd lliw aur i byd,
Er tebyg neb i ti,
Y galon fach
A gadwa'n iach,
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a tryinion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Rhois ffansi ffol
Heb droi'n ol,
Arnat, weddol ddon'ol ddynes,
Hyd y galles, liwdeg lodes,
O wres y fynwes fwyn;
Pe rhoiswn i
Serch rhy ffri,
Y fwynlan Bessi, fel y baswn!
I glefyd methiant mi a aethwn,
Rhy hwyr y ceisiwn gwyn;
Tafod o aur yn tyfu'r dydd
Sydd beunydd yn dy ben,
Am hyn, lliw'r od,
Y mynna i mod
Trwy bur aniod hynod heini
I'th fwyn gwmni, y lana yleni,
Y gofled wisgi wen;
Er llwyred clod hyd llawr y glyn
I ti, lliw ewyn lli,
Y galon fach
A gadwa'n iach
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Er maint a fo
Drwy druth ar dro
Draw i'th rwydo drwy athrodion,
Gwen lliw'r hinon, gwylia'th galon
Goelio i ffeilsion ffydd;
Ond rho im hedd,
Teg i gwedd,
Y mun rywiogedd ffraethedd ffrwythlon,
Gwybydd, gwenfron, mor bur ffyddlon
Ydi'r galon gudd;
Os blode'r wlad a'm gad i'm gwydd,
Na throtho'n rhwydd y rhod!
Er teced fon,
Na phoena son,
Cywir galon foddion fydda,
Er i gwaetha, i liw'r eira
Yn bura mynna i mod;
Er bod fy ffansi yleni hyd lawr,
Yn fawr nych awr i chwi,
Y galon fach
A gadwa'n iach
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron,
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Cariad mawr
Sydd yn awr
Gen i'n ddirfawr gwyn ddiddarfod,
Nes cael gwybod, trwy bur amod,
Y bennod hynod hon,
Beth a wna,
Blode'r ha;
Ac oni ystyrri hyn o stori,
Fe fydd gen i ddwyfron ddifri,
Yleni, lili lon;
Meingorff gwisgi 'n gloewi gwlad,
Hardd droiad yn y drych,
A hon, pe cawn,
Yn drech ymdrawn,
Gyda gwiwlawn gyflawn gofled,
Blode'r merched, moes gael gweled,
Eured, fwyned fych;
Os rhoi im naca, gwynna i gwedd,
Os chwerwedd fyddwch chwi,
Y galon fach,
A gadwa'n iach,
Pe baet glanach, gwynnach gwenfron
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
Mae gen i ffydd,
Gwen lliw'r dydd,
Beunydd dedwydd fel y dweda
O foddion fydda i Wen lliw'r eira,
O rhodda mwyna maeth;
Ac onid e,
Ni wn i ble
Trwm yw'r modde, y tro i y meddwl,
Daw arna i 'n gwbwl am liw'r wmbwl
Trwbwl cwmwl caeth;
Cofia baenes, ddiwies dda,
Y byrdra o fwyndra a fu,
A mentra, bun,
Oleuwedd lun,
I'r mwyn rwymyn, gorffyn gwirffel,
Feindw dawel, yn lle ymadel,
Dal mewn gafel gu;
Os ateb mwyn a chwyn ni cha,
Ni chlwyfa, brafia i bri,
Mo'm calon fach,
Mi a'i cadwa'n iach,
Pe haet glanach, gwynnach gwenfron
Nid a trymion caeth ochneidion
Dan fy nwyfron i.
CYNGOR I'R GWEITHIWR.
WEITHIA waith yr ha i'th ran,—clyw addysg,
Coledda dy hunan;
Nid gwyn i fyd, gwae'n y fan,
Wario i lafur Wyl Ifan.
Yr hwsmon, digllon, nid da—oni wthir
I weithio 'r cynhaua,
Heb fwyd y bydd, mewn dydd da,
I'w gywion erbyn gaua.
I OFYN FEIOL.
I William ap Roger, oddiar Mr. Salisbury, o Rug.
Tôn,— "Y GALON DROM."
YR ysgweiar a'r wisg eured,
Salsbri enwog, sail barwnied,
Ni bu, nid oes, un cymar ichwi,
Meister William, yn meistroli;
Ni bydd byth, am bod daioni
O dad i dad, hir i gariad, yn rhagori.
Llyfodraethwr, gwladwr clydwych,
Mwyn caredig, dwyfoledig, da i fil ydych.
Colofn bonedd mawredd Meirion,
A chadernid yn Edeyrnion,
Mae'ch rhyw odieth a'ch mawrhydi,
O flaen erill i flaenori;
Yn anad un, mewn enw dawnus,
Boneddica, o had Adda anrhydeddus,
I chwi, benneth taleth teilwng,
Dewr cariadus, mwya ustus, rwy'n ymostwng.
Canu ar redeg, cwyno 'r ydwy
Tros hen gerddor o Lyndowrdy,
William Robert wrth i henw,
Sydd yn cynnig miwsig masw,
Gore dyn y gweirie danne,
At bob cynhanedd lon arafedd lwysedd leisie,
Yn sir y Mwythig, wlad Sasnigedd,
Pe arhose, aur y fase ar i fysedd.
Ni wnaeth o erioed mo'r anonestrwydd,
Yn dwyllodrus ond anlladrwydd,
Ni bu mo'i fath am wincio llyged
Mewn gwlad a marchnad ar y merched;
Ffeind y medre â'i law a'i dafod,
Borthi natur ofer synwyr ar fursenod;
Gŵr penchwiban er yn blentyn,
Gwyddech arno fod rhyw bendro 'n gwyro i goryn.
Mae fo rwan yn heneiddio,
Fe ddarfu'r grym a'r gwres oedd ynddo,
Fe aeth i ddeupen yn lledfedded,
Drwg y mae fo 'n dal mewn diod;
Ymhen pob twmpath cael codyme,
Syrthio yn glyder ar fol y dyner feiol dene;
Da 'r ymdrawodd, dirym droiad,
Safio i wddw ar ol y cwrw a rheiol cariad.
Torri'r drebel isel leisie,
Gwaith nid llesol, dryllio i 'stlyse,
Sigo i dwyfron, torri i lengig,
Ac anrheithio moese 'r miwsig;
Ceisio meddyg, casa moddion,
Er ys dyddie i drwsio'r tanne a'r esgyrn tynion;
I lliw a'i llun a'i llais anynad
Sydd aflawen, ail hwyaden, wael i hediad.
Er bod y cerddor per leferydd
Yn medru chwalu a chwilio i choludd,
Mae diffyg anadl yn i ffroene,
A dwyn i swn o dan i senne;
Mi gyffelyba fwa i feil
I lais lluddedig gwydd ar farrug, gwedd foreuol;
Llesg iawn ydi, llais ci 'n udo,
Fel llais olwyn, ne lais morwyn ar lesmeirio
Llais hwch ar wynt, llais lli yn hogi,
Llais padell bres yn derbyn defni,
Llais hen gath yn crio am lygod,
Tiwnie diflas tan y daflod;
Oer i pharabl yw'r offeryn,
Yn llefaru, gwycha ganu, i gychod gwenyn;
Ni chlywyd gwraig erioed yn grwgnach,
Ped fae'n gruddlan ne'n ystytian, anwastatach.
Ni wrendy neb mo'i lais anhawddgar,
Ond un feddw ne un fyddar,
Haws nag ennill ceniog wrthi
O fewn y plwy gael dwy am dewi,
Di-ddealltus i ddwy ddellten,
Ar wahanu 'n llusgo canu llais cacynen,
Fo gân mwy difai â phric edafedd,
"Hailwlwian," ne ryw driban ar y drybedd.
Caned ffarwel i'w gymdeithion,
Darfu i goel, fe dyrr i galon,
Ni ddoiff o byth ar feddwl serchog,
Oni ddaw dwy ych llaw alluog;
A geiri William gu, er i waeled,
Drebel newydd, a llawenydd ynddi i llonned?
Fo ddaw i'r llan a'i drwstan dristwch,
Os ceiff o, gelfydd was da i ddeunydd, gist diddanwch.
Mae'ch calon hael am fael i filoedd,
A'ch dwy ddwylo'n llwyddo lluoedd,
Mwyn gorff gwrol, a thrugarog,
I gyd ydych, a godidog;
Rhowch er dyn, blodeuyn Cymru,
Ymwared reiol iddo, feiol i'w ddiofalu,
Ac ynte a haedde i rwymo i heddwch,
Rhag iddo i llethu, mae'n hawdd i gyrru i anhawddgarwch.
Y FERCH O'R PLAS NEWYDD.
Galarnad am y Ferch o'r Plas Newydd yn Llansilin.
Tôn,—"Y GALON DROM
FARWEL i flaenffrwyth tylwyth deilwng,
Darfu i dristwch yn darostwng,
Awu i dristwch yn datostwng.
Ofer byth i'm fawr obeithio,
Aeth pob perffeth obeth heibio,
Er bod mewn lle o'r llawena'n tario,
Rwyf fi er Gwyl Ifan yn hir glwyfo,
Nid oes achos imi chwerthin,
Bruddach, bruddach, yw'r ysbleddach er ys blwyddyn.
Ogo wag yw cneuen wisgi,
Heb gynhwyllun peredd ynddi,
Nid yw dwyfron deg ond ceubren,
A gwael iawn heb galon lawen,
Fe aeth y nghalon er ys dyddie,
Blin iawn beunydd, oer i cherydd, yn ddi-chware;
Rhyfedd gen i pam na thorrodd,
Mewn caeth garchar, rwydda galar, hir y daliodd.
Colli meistres, baunes benna,
O reiol rith y gwenith gwynna,
A wnaeth y nghalon yn ddryl iedig,
Difri naws, mewn dwyfron ysig,
Nid oes bleser ar ddaiaren,
Mewn goleuad dan y lleuad nad yn llawen,
Wna i mi anghofio awr o ennyd,
Ail angyles, gwen i mynwes, nag un munud.
Ces i chwmni, hardd orchafieth,
Wawr wen anwyl, er yn eneth,
I bath ni bu, ni bydd, yng Nghymru,
Afiach ludded gofio i chladdu;
Pan aeth y camrig gwyn i'r ddaear,
Fel y melfed, cofus weled, cefes alar,
Gwell i mi oedd golli mywyd,
Na llwyr golli i chwmpeini, Och o'm bywyd.
Blin yw bod yn y byd drwy brudd-der,
Gwell yw marw yn loew o lawer,
Nid all gŵr y gyfreth ore.
Daflu galar o'r meddianne,
Nid all cryfdwr physygwrieth
Nag arf cadarn, dur na haiarn, dorri hireth,
Da imi dorri 'mhen am hynny,
O wir bwrpas, amod addas, i'm diweddu.
Nid oes mo'r help, mae'n rhaid bodloni,
Fe fyn hireth gael rheoli,
Marw yw'r marw, er galw ac wylo,
Blode'r dyffryn nid yw'n deffro;
Ni wybum i erioed mo'm geni,
Na pheth oedd hireth, du elynieth, hyd yleni.
Diodde a archodd Duw yn dirion,
Deuda finne bob dydd gole,—"Diodde, galon."
BEDD SARA.
GWELED deced ar dir—oedd Sara,
Loew seren y ddwy-sir,
Gwae oedd fod, gwaew-nod gwir,
Graian mân ar groen meinir.
Melusber dyner oedd dôn—i pharabl,
A'i pheredd fadroddion;
Ond dychryndod, syndod son,
Gau'r min ar i geirie mwynion?
ETIFEDD Y PANT GLAS
Ymddiddan rhwng y byw a'r marw, sef Elin Prys a'i mab
Thomas Edward, etifedd Pant Glas.
Tôn.—"ANODD YMADEL."
DUW unig daionus, doeth rymus, a thri,
Ti roddest ormodedd o amynedd i mi,
A Duw a ddug ymeth holl obeth fy lles,
Gwae finne o'r cyfnewid a'r gofid y ges.
Er darfod drwy ferthyr dy ddolur dy ddwyn,
I esmwytho ar fy mhennyd un munud, oen mwyn,
Fy anwyl etifedd, oedd fawredd i fam,
Os galla i dy godi, di gerddi di gam?
"Nid canu, nid cynnwr, nid cryfdwr, ond Crist,
Nid swyddog calonnog a'm cyfyd o'm cist,
Pa gwynfan sydd gennych, pa hireth, paham,
Na chymrech yn fwynedd amynedd, y mam?
Amynedd y gymrwn pe gallwn i gael,
Naturieth sy'n peri mawr weddi mor wael,
Gwendid meddylfryd, a breuddwyd heb rol,
I'th aros bob munud, f anwylyd, yn ol.
"Dwys rwyd, nid oes rydid na munud i mi
I gymryd mân gamre i chware atoch chwi,
Mae'n siwr i chwi ddyfod, gŵyn hynod, cyn hir,
Ata i yma i leteua i'r un tir.'
Rhy gaeth yw dy lety, y ddaiar ddu oer,
Heb gynnydd haul gynnyrch, na llewyrch y lloer;
Cei farch i'w farchogeth, yn berffeth i bâs,
A'th garia di 'n hoew, pwynt gloew, i'r Pant Glas.
Mi golles i feddiant a llwyddiant y lle,
Pen golles ni cholles, enilles y ne;
Er claddu had Adda o'r pridd yma, prudd yw,
Ger bron y ffyddlonied mae fened i 'n fyw."
Ond wyt mewn lle nefol, dedwyddol dydi,
Mae'r ddwyfron a'r galon yn oerion gen i,
Dy dad a'th chwiorydd, byw beunydd bob un,
I'th aros di o'th orwedd, di lesgedd dy lun.
"Gwagedd o'r gwagedd, a'r agwedd yr wy,
Yw galw arna i godi, na'm holi ddim hwy,
Bodlonwch, na ddigiwch Dduw'r heddwch a'm rhoes,
Heb oede na meichie i chwithe am ych oes."
Os dyddie'n dedwyddwch ni 'n dristwch a droed,
Pa na waeth i ni feirw fel ceirw'n y coed,
Na byw yn alarus anafus nyni,
A cholli prydferthwch da degwch dydi?
"Pwy sy yn preswylio heb arno ryw bwn,
Yn pwyo tra botho fo byw'n y byd hwn?
A garo Duw nefol anfeidrol yn fawr,
O gystudd i gystudd fe a'i gistwng o i lawr."
Rwy'n ddigon digystudd, heb awydd yn byw,
Ond hireth drom drwbleth, cydymeth cas yw;
Pe base dy einioes di 'n hiroes o hyd,
Mi faswn cysurus a melus y myd.
"Ond eiddo Duw oeddwn pe baswn i byw,
Er bod yn etifedd iach rhyfedd o'ch rhyw;
A'm prynnodd ni'm collodd, ymwelodd â mi,
Ni roes ond y menthyg ryw ychydig i chwi."
Rhy fychan o'th gwmni, di-wegi dy wedd,
Ni gawsom dy garu di a'th fagu i'th fedd;
Ow tyred i'r golwg, ertolwg i ti,
A darllen yn llawen, y machgen, i mi.
"Ar Grist, y Gair union, yn dirion gwrandewch,
Er gofyn, yn erbyn gorchymyn ni chewch;
Na ofynnwch, dychwelwch at heddwch cytun,
A cheisiwch angenrhaid i'ch enaid ych hun."
Rhaid yw bodloni, dan ofni Duw ne,
Er gweled â'm llyged dyloted dy le;
Pe cynhygiwn y feddwn, ni phrynswn i â phris,
Dy hoedel di ar hyder dy fwynder di fis.
"Pe gwyddech ddiddaned a glaned, heb glwy,
Yw'r santedd gyfannedd a'r annedd yr wy,
Chwi ddeudech mai dedwydd, ie purffydd o'ch pen,
Fy magu i, a'm derchafu i fyny i'r nef wen."
Os cefest orchafieth a heleth fawrhad,
Yn gysur, le esmwyth, i'th dylwyth a'th dad,
Y mendith i'th ganlyn, gwiw rosyn y gras,
Mae'n siwr nad oes yna na chyffro na chas.
"Mae yma fodlonrwydd tragywydd i'w gael,
Drwy ymborthi ar berffeithrwydd yr hylwydd Dad hael,
Heb ddim anllyfodreth na hireth na haint,
Na neb a'm gwrthnebo i ymrwyfo am fy mraint."
Daionus fu d'eni at roddi i ni 'r fath radd,
Mewn lle nad oes golled na lladrad na lladd,
Mab Duw, fy Iachawdwr, a'm Rhoddwr, a'm rhan,
A ddelo i'r wledd ole a minne i'r un man.
"Yrwan yr ydech chwi'n edrych yn iawn,
Fel morwyn gall addas, ar deyrnas y dawn,
Yno mae'r iechyd, a'r hawddfyd, a'r hedd,
A Christ a'ch gwahoddo i arlwyo i'r un wledd."
LIW ALARCH AR Y LLYN.
Tôn,—"CONSYMSIWN."
LIW alarch ar y llyn,
Lliw eira gwynna gwyn,
Lliw lili, heini hyn,
Yn siwr rwy'n syn o'th serch;
Prydferthol, nerthol nwy
A drodd yn drachwant drwy
Fy nghalon, a mawr yw 'nghlwy,
Ni bu mo'i fwy am ferch.
Gwae fi weled teced yw,
Yn glws dy lun, a glas dy liw,
Yn wych, yn wen winwydden wiw,
I beri briw i'm bron;
Cynnyrch cariad, codiad cais,
Yw dy dyner lwysber lais,
Dyna fiwsig mwyn dan f ais,
Hyfrydlais llednais llen.
Dy lwys baradwys bryd,
A'th ddonie gole i gyd,
Sydd ore o bethe'r byd,
Aur bwysi, 'r hyd y bwy,
Sidanedd iredd ael,
Digonedd im dy gael,
Yn hylwydd gan Dduw hael
Ni fynnwn fael oedd fwy.
Fy niwies wyt, fy newis un,
O chai fy hawl, fachâ fy hun,
Mewn diwyg da di-gla wrth dy glun,
Y mynna i, mun, fy mod;
Bendigedig, bun deg yw,
Dy risian gôl a'th rasol ryw,
Byth heb wad tra bythwy byw,
Pob gwlad a glyw dy glod.
Llawenydd, wenydd wych,
Yw byw a bod lle bych,
Os sefi ar ddaiar sych
Y ffordd y glych y glaw,
Be cawn i y peth nis ces,
Iawn draserch yn dy wres,
Fel perl mewn llestr pres
Y llenwe lles fy llaw;
Rwy yn hiraethus fel yr hydd,
Am fod ger bron y rasol rudd,
Am ddwr y nant i fawr chwant fydd,
Yn gystudd hirddydd ha,
Felly minne, y mine medd,
Mawr flys sydd flin fel glaswr gwedd,
Heb wybod prun ai gwaelod bedd
Ai gole i gwedd a ga.
Fy niwies gynnes gain,
Mor glir a'r gloch ne'r glain,
Bydd bur er cysur cain
I dreinglo 'r drain o'r drws;
Er athrod sorod sydd,
Na sorra, seren ddydd,
Ca weled fwyned fydd
Dy lawen ddwyrudd dlws;
A'th frig a'th fron fel meillion Mai,
Ne wenith gwyn i un a'th gai,
Câr a'th garo, er rhuo rhai,
Di-feth, di-fai dy fyd,
I'w magle drwg 'mogela droi,
Gwel fi yn ffyddlon, gwylia ffoi,
Da dy-di, dywêd y doi,
Rwy wedi ymroi 'n y mryd.
Ni roddir, ac ni roed,
O rinwedd fwy erioed,
I un ferch ifanc oed,
I'm dwylo doed y dawn,
Disgleirder, doethder dysg,
A'i mwynder yn yn mysg,
Fel purion wynwydd wrysg,
O'u cymysg pur y cawn;
Yn anad un mae f' ened i,
Mewn niwya poen am M. a P.
Howddgarach gradd fy lladd â lli
Na'th golli, eneth gain.
Os gwael os gwych, os gwyllt os gwâr,
Pawb a'th gwel ni'th gel a'th går,
Lunieddgar, liwgar, lon.
Fy ngwynfyd yn fy ngwaith
Naturiol ymhob taith,
Cynhyrfu'r meddwl maith
Dy gofio, 'r fwynwaith ferch,
Fy angyles yn fy ngwydd,
Os rhed y rhod yn rhwydd,
I gael yn llinyn llwydd,
Nid ofer swydd fy serch;
Fel am feddyg at y cla',
I'm bron mae brys am d'wyllys da,
Yn gry fy nerth, dy grefu wna,
O gur a gafai 'n gwyn,
Fy newis rosyn yn yr ardd,
Am dy gwmni heini hardd
Trymach wy, tro yma, chwardd,
Na Merddin fardd, un fwyn.
PONT Y MEIBION.
"Dychwelodd i drin tyddyn ei dad." Tud. 5.
CAN Y WEDDW.
Gwen Owens yn galaru am i Gwr.
Tôn,—"ANODD YMADEL."
Fy ffrins a'm cymdeithion, yn dirion gwrandewch,
Holl feddwl fy mynwes ar gyffes y gewch,
Fy nghyflwr ystyriwch, 'mofynnwch yn fwyn,
Mai Duw sydd yn rhoddi daioni, ac yn dwyn.
Yn nyddie fy ifienctid di-fewid y fum,
Diofal, diafiach, gwae bellach, gwybûm
Nad ydoedd diddanwch yn dristwch y droes,
Ond peth darfodedig drwy lithrig drael oes.
Bum ysgafn droed wisgi, yn heini fy nhaith,
Chwimwth, a cheimied f ymweled am waith,
Yrwan yn gorwedd yn llesgedd fy llun,
Heb allu yn fy ngwely fy helpu fy hun.
Er colli fy iechyd, oedd wynfyd i ddyn
I'm porthi ac i'm dofi fel dafad ynglŷn;
Yr ydw i'n fodlongar dan garchar Duw caeth,
Ond colli 'ngwr priod oedd ddiwrnod oedd waeth.
Tri deg o flynyddoedd ar gyhoedd yn gu,
Ac wyth yn ychwaneg yn burdeg y bu
Yn cadw i byriodas, gu urddas, yn glau,
Drwy gariad ymlyniad, un dyniad a dau.
Nid rhaid imi ddeudyd y gwynfyd y ges,
Mae digon a wyddant y llwyddiant a'r lles,
Er maint fy nghyflawnder o'm cader i'm cell,
Roedd mwynder f' anwylyd bob munud yn well.
Pob peth a chwenyches a gofies i gael,
A pheredd ymgeledd dda weddedd ddi-wael,
Roedd hyn yn rhy fychan i ddiddan fwyn dda,
Heb gwmni Sion Arthur naws cysur nis ca.
Er maint i ffyddlonder a'i gellwer yn gall,
A'i ofal, a'i wyllys da bwyllus di-ball,
Rhyfedda rhyfeddod a nychdod di-nwy,
Na hollte fy nghalon heddychlon yn ddwy.
Rhyfeddu fy hunan yrwan yr wy,
Rhwng gwendid a galar, anghlaiar y nghlwy,
Pa fodd wrth heneiddio, marweiddio mor wan,
Y ceres fodlonrwydd mor hylwydd fy rhan.
Duw a roes bower di-brinder a bri,
A dyn a roes gerydd o gariad i mi,
A chalon fodlongar, dioddefgar i'w ddwyn,
Dedwydda dedwyddyd fydd i ddiodde er i fwyn.
I'r Arglwydd rwy'n diolch, a'm dwylo ynghyd,
Am roi imi fodlonrwydd heb arwydd i'r byd,
Duw cyfion a'm cofio, yn y cyflwr yr wy,
Nid gweddus im gwyno a dymuno dim mwy.
Caniadodd yr Arglwydd, drwy aflwydd di-ri,
Gystuddio lob hefyd, oedd ddau-well na m'fi,
I ffydd ni ddiffodded, er blined i bla,
A maint i golledion, i ddynion, a'i dda.
Bodloni, a chydnabod, er nychdod, y wna,
Nad ydi Duw'n f' erbyn, mae'n f'arbed i'n dda;
Er pallu 'm diwallu, fy helpu fy hun,
Mae'm lant i'm didd nu, a'm teulu'n gytun.
Ni ddarfu fy ngobeth er darfod fy nerth,
Ac er na cheir iechyd un munud o werth,
I esmwytho ar bob trallod rwy'n gwybod y gwir,
Fod addo Duw'n dirion, nid erys yn hir.
Lle bo dioddefgarwch, diddanwch y ddaw,
Mae Crist yn drugarog alluog bob llaw;
A'm ffydd yn gyfforddus rho ffarwel i chwi,
Pan fynno Duw deled i ymweled â mi.
Y GWIR GYMRO GLANA.
Cerdd i ymadel medd-dod, i'r Jeiner Coch.
Tôn,−"Y GALON DROM"
GWIR Gymro glana ar lannerch,
Claerwen fynwes, darllen f'annerch,
O wir wyllys da a ch'redigrwydd
Hyn o gariad, rhywiog arwydd.
Gobeithio fod ych corff mewn iechyd,
A'ch cymhares, wawr hoff hanes, o'r un ffunud,
A'ch bod yn hwsmon da gofalus,
Fy nghydymeth, cywir odieth, wr cariadus.
Rwy'n dymuno arnoch, Morgan,
Madws bellach eiriach arian,
Rhag i chwi fod mewn gormod syched
O wir arfer ofer yfed,
Ynfyd anferth, gwedi casglu,
I wr tirion fel gwas gwirion, i gwasgaru;
Oni fedrwch, dysgwch weithian,
Oddiwrth erill gadw'ch ynnill i chwi ych hunan.
Trafferth fawr, a'r fael yn fechan,
Twymno'r dŵr, a'i daflu fo allan;
Drwg ar les y corff a'r enaid,
I weithiwr ufudd wneuthur afraid;
Heibio i'r tai tafarne chwannog
Cerrwch, glydwr iach ych cyflwr, ewch a'ch cyflog
brynnu gartre gig a chwrw,
Rhag twyll tafarn, mawr-waith cadarn, Martha a'i ceidw.
Er codi 'n fore, er gweithio 'n boenus,
Yr anghynnil fydd anghenus,
Pa fodd y gellwch fyw yn ddiwall
Er lliw arian mewn llaw arall?
Os gwraig y dafarn deg a ddigia,
Ych gwraig ych hunan a gâr arian a'ch goreura,
Chwi gewch ymgeledd a diddigrwydd,
Mewn llyfodreth fwynedd odieth i fyw'n ddedwydd.
Ymrowch i ddiolch i Dduw nefol
Am ych rhoddiad mawr rhyfeddol,
Am fanylwaith gwych celfyddgar
Nis gwn i ple y ceir ych cymar;
Tra bo chwi 'n ifanc ac yn ystwyth,
Ymrowch i storio gwaith ych dwylo ymhlith ych tylwyth;
Lle bo cymdeithion da, rhag gogan,
Weithie i yfed dae i chwi fyned, dowch yn fuan
Pan dderfyddo 'r awch a'r iechyd,
Bydd gwan y goel os gwan y golud;
Ni chewch mo'r croeso mewn tafarne,
Mwy na'r cybydd cauad gode ;
Gwnewch hwsmoneth o'ch celfyddyd
I fyw'n drefnus, wych gariadus, yn ych rhyddid
Yn ych rhaid a'ch rhan ych hunan,
Rhowch lle caffoch hynny ynilloch o hyn allan.
BORE GAUAF.
TEW glog sydd hyd dai y Glyn—gwêr awyr
Yn go-rewi 'r dyffryn;
Cnwd barrug hyd gnawd Berwyn
Yn hulyn a gwedd halen gwyn.
STIFN PARRI.
Tôn,−"GADEL TIR."
JAMS IFANS barchedig, fy ffrind etholedig,
A'r galon garedig, di-sarrug, da serch,
Mae'r gŵr a gâr feddwi tra gallo fo godi,
Ai drwyn yn gwreichioni, 'n dy annerch.
Os mynnech i henwi, hwn ydi Stifn Parri,
Gŵr mwy na'r pen siri yn siarad yn dre,
Mi draetha i bortreiad, a'i hanes o'i ddeuad
Fel ustus anwastad yn eiste.
Mae Stifin was diofal a'i goese'n byst anial
A'i draed heb un cymal i gynnal y gŵr.
A'i gorff yn fawr gethin fel mwdwl o eithin,
Mae bontin mawr melin i'r milwr.
Mae ganddo deg dalcen, a digon o siolben
I fod yn Bab Rhufen, mawr warden ar wŷr,
Mae cwmpas i goryn beth mwy na chwch gwenyn,
Heb ynddo friwsionyn o synwyr.
Yfwr cry cadarn, a hoew ben haiarn,
Od yf o'n y dafarn, diofer yw hyn;
Be gallwn am garol gael cylch am i ganol,
Fo fydde ragorol o gerwyn.
Mae'r dyn ym marn dynion mor gadarn ag eidion,
Am yfed yr afon ne'r ffynnon a'r ffos,
Os yf o nhw'n sychion, mae lwc i'w gymdogion
Fod dŵr y môr eigion mor agos.
Roedd bagad o gowri, o Gaer i Gilgwri,
Yn treio llancesi, drygioni draw gynt,
Mae'n hawdd i chwi wybod i fod ynte'n dyfod,
Yn hanner cawr hynod ohonynt
I'w drefn i'n bendefig myn gael gynnoch ferwig,
I wisgo 'n galennig, mae'n llymrig y lle,
Mwng ceffyl melyn, a'i wnio ar groen mochyn,
Y wedde ar i goryn o'r gore.
Os dowch i Dreffynnon chwi ai cewch o'n hael ddigon
A'i gwrw gwan gwirion yn burion lle bo;
Er cael ohono i lonned, mae hynny'n gryn hocsied,
Myn eilweth gunoged gin Iago.
Un Tomos Huws lawen, ych ffrind a gadd awen,
Wrth ddwad o Lunden yn gymen mewn gwin;
Os cenes i 'n fusgrell, cewch gin i glod well-well
Pen ddeloch i stafell Ystifin.
GWEN PARRI.
GWEN glau, gwen fronnau, gwn fri—Gwen anwyl,
Gwenynen, i'w moli;
Gwin puredd yw Gwen Parri,
Gwyddis hyn, gweddus yw hi.
O fonedd geinwedd y ganwyd—Gwen loer,
Ac yn lwys y magwyd;
A'r ganwyll aur ag enw Llwyd
Yn wenithber a wnaethbwyd.
ARGLWYDDES Y TEGWCH.
Tôn,−"ARMEIDA."
ARGLWYDDES y tegwch, hawddgarwch i gyd,
Fel Elen oleuwen, braf irwen o bryd,
Helaethrwydd ych donie wrth fesure fy serch
A'm rhwymodd mewn cariad difwriad am ferch;
Blin imi yeh digio wrth gofio maith gur,
A blinach yw diodde rhyw boene rhy bur;
Nid all y môr hallt, ond ydwy fi 'n dallt,
Ond boddi, 'n yr eitha, lliw'r eira ar yr allt.
Mi glywes afiaethus wyr moethus i maeth
Yn achwyn rhag Ciwpid, dwys ergyd i saeth,
A minne,'n lle coelio, yn beio ar bob un,
Nes imi gael cerydd o'i herwydd fy hun;
Ac am i mi ame, yn nyddie fy nwy,
Fo a'm tare à saeth eured, clo ened yw'r clwy;
Fel pig gwaew ffon, hi a'm brathodd i'm bron,
O'ch blaen rydw i 'n blino ac yn cwyno rhag hon.
Ped faswn heb weled â'm llyged mo'ch lliw,
Mi faswn di-angen, y gangen deg wiw;
Ped faswn heb glywed llareiddied ych llais,
Mi faswn iach hefyd, heb glefyd, heb glais;
Fy nwyglust a'm golwg yw'r mowrddrwg i mi,
A'm gwnaeth mor garedig, wych ewig, i chwi;
Mae nghalon i 'n brudd, fel lleuad dan gudd,
Yn gorwedd mewn cwmwl dan feddwl di-fudd.
Weithie'n llawn hyder, yn ofer, main ael,
Rhoi ffansi ar aur bwysi di-bosib i'w gael;
Ac weithie mor wladedd, gwael agwedd, gwyl iawn,
Heb feiddio mo'r ceisio o'r cwyno pe cawn;
Ni waeth imi ddringo a syrthio, lliw'r ser,
Na marw o flys anial y syrth afal per;
Os plygu y wna'r pren, y winwydden wen,
Caf flode holl Gymru i'm harddu ar y mhen.
Wrth ddringo'r pren teca a'r uniona ar wnaed,
Mae llawer i'm d'rogan i'n druan ar draed,
A chwithe sydd, meinir, yn darllen bob dydd,
Yn llyfre'r athrodion, anffyddlon i ffydd;
Mae llawer gwers ynfyd, anhyfryd, yn hwn,
Rhwng cas a chynysgeth a gwenieth, mi gwn;
Na choeliwch mo rai anianol a wnai
Ddehongli'n ddianghlod y bennod y bâi.
Fo a'm gwnaethe'r Gorucha fi'n rhydda fy rhodd,
Ped fase'n fy ngwneuthur, ferch bur, wrth ych bodd;
Eisie mwy mawredd a rhinwedd i'm rhan,
Er cryfed yw f'willus awyddus, rwy'n wan;
Dy lendid, f angyles a'm diwies, a'm dwyn,
Mewn dialedd di-elw, i farw er dy fwyn;
Dau gwell gin i hyn, y gweddedd gorff gwyn,
Na byw gydag un daiog, anserchog, a syn.
Ped faech mor drugarog, yn glau, enwog lon,
A thynnu saeth Ciwpid, friw enbyd o'm bron,
Gwir fawl a gorfoledd, rheoledd y rhyw,
Yn ddilyth a ddylech tra byddech chwi byw;
Gweithred anghenrhed i'ch ened ych hun,
A hir oes i minne, iach fodde, i chwi, y fun;
Am wrando ar fy nghwyn a'm f'einioes yn fwyn,
A rhoddi'n rhinweddol amserol im swyn.
ANWYLYD Y BARDD.
Yn hoew fenyw feinwasg,
Fel gwridog ddamasg ros.
CERDD I OFYN CASEG.
Tôn,−"GADEL TIR."
CARW o Lyn Ceiriog, gu lan-wych calonnog,
Grudd wridog, odidog, a brigog mewn braint,
Y weles i'n ole, da i ddysg a da i ddonie,
Yn flode braf, gore brif geraint.
Blode'r ifienctid, oblegid dy lendid,
A'th lon dda galondid, da oeddid bob dydd;
Cydymeth mawledig, cariadus, caredig,
Mwyn diddig mewn di-ddig lawenydd.
Glan ymhob moddion y golwg a'r galon,
Cwmpeini bonddigion, wyr gwychion, y gech,
Y llancie 'n ych moli, a'r merched i'ch hoffi,
Hardd bwysi, fy ngweddi deg oeddech.
Morus Huw dirion, der gariad i'r gwirion,
A doeth ymhlith doethion fel Sol'mon fawl serch,
Mae cariad naturiol yn gweithio'n gynhyddol,
Drwy awen berthynol i'th annerch.
Y'ch twyso wnaeth ffortuni dario i lawr dyffryn
Yng ngwlad sir Dyrfaldwyn mewn tyddyn man teg,
Mi glowa ganmolieth a chlod i'ch llyfodreth,
Bywolieth lew odieth oleudeg.
Marchnatwr ufuddol yn prynnu'n rhinweddol,
A gwerthu'n synhwyrol, wr deddfol air da;
A fedro bothmoneth yr ha mewn rheoleth,
Geil fyw wrth i goweth y gaua.
Chwi gowsoch gywely o'r gwaed gore 'Nghymru,
Oedd lân i'w moliannu a'i chrefu 'n i chrys,
Oherwydd lloer degwch cewch fwynder a heddwch,
A pharch o chymerwch chwi, Morus.
Am wneuthur yn llawen luosog elusen,
Ni thyfodd is wybren winwydden wen well;
I fod yn wybodol drwy haelder rhinweddol,
Ni orfydd mo'i chamol na'i chymell.
Mae'n rhyw i'ch ymgeledd, wiwddoeth fwyn weddedd,
A chadw tangnefedd yn beredd i barn,
Hi heudde i moliannu a'i gwir anrhydeddu,
Oherwydd i thyfu ym Mathafarn.
Mae imi gymydog yn canu fel celiog,
Ych mawl yn rhedegog; ond enfog i don?
Ffasiar Huws henw yr hynod wr hwnnw
Fel carw o bren derw a bron dirion.
Mae fo gin gryfed a march, medd y merched,
A'i dynged yn cerdded i fyned ar feth,
Fo feder beth gweithio, ceibio a bytingo,
Dadwreiddio, siwrneio, a syrnieth.
Fo feder wau sane, gwneuthur tegane,
Porthmoneth ieir weithie, mae i gampie fo'n frys,
Prynnu cywenod, a rhain fel piogod,
Yn prifio 'n geliogod gylfygus.
Ni chadd o erioed ogan o feddwi 'n ufudd-wan
O eisio bod arian, ond trwstan yw'r tro?
Ni feder o ronyn o waith yr oferddyn,
Ond ymlŷn â chetyn, a choetio.
Medelwr o'r gwycha, yn chwysu'r cynhaua,
A mawnwr o'r mwyna i'r mynydd y ddel,
Er cael i gyflogi i ymladd à diogi,
Mewn tylodi mae'n oesi yma'n isel.
Lle byddo trueni, bydd weithie fusgrellni,
Er cimin i egni yleni'n y wlad,
Mae i fawn o 'n y fawnog a'i blant yn anwydog,
A'i briod yn dyllog i dillad.
Mae Ffasiar anghenus yn disgwyl, da i esgus,
O'ch haelder chwi, Morus, air cofus, wr cu,
Gael gynnoch chwi 'n anrheg ryw geffyl ne gaseg,
Y ddeil fel y garreg i gyrru.
Cael caseg oedd ore, yn chwyrn ar i charne,
I gludo'r mawn adre yn dyrre at i dy,
Er bod yn o lybion, gwnan fwg a gwres ddigon,
Ymysg y coed crinion, rhag rhynnu.
A'i chael yn ddi-gloffni, a danredd da i bori,
A chwithe'n bodloni i'w rhoddi hi 'n rhwydd,
Ceiff lond i bol weithie os dringiff hi gaue,
A neidio gwiw furie'n gyfarwydd.
Rheidiol y fydde i chael hi 'n un gefngre,
A ffurfion aelode; di-foethe ydi fo,
A Mari i gymhares mor drymed a chowntes,
A chimint a chowres i'w chario.
A'i chael hi'n dda i chalon, heb arswyd ysbrydion,
A'i llyged didrawsin yn llyfnion i'w lle,
Yn chwimwth heb wingo, yn ystwyth heb dripio,
Pan el yn nos arno 'n i siwrne.
Nid hwyrach i'r gaseg, ond gostwng i bloneg,
Fagu meirch glandeg i redeg yr allt,
A gore cynghorion, pen fo'n yn ebolion,
I gwerthu nhw i Saeson Croesoswallt.
Pawb o'r un geirie a ddywed yn ddie,
Pan ddelo hi adre i chware'n ddi-chwys,
Nid oes, er i glaned, yr un o'r Brytanied
Gin laned i ymwared a Morus.
GWAHODDIAD I'R EGLWYS
TYRED, mae trwydded at ras—ein un Duw,
Yn dy wisg briodas';
Odieth gamp, na'd o'th gwmpas,
Draws gamwedd, chwerwedd, a chas.
Ddyn diffaith, unwaith yth anwyd—o wraig
Drwy wegi'th anrheithiwyd;
Dewr a gwaedwyllt, drwg ydwyd,
Drain oll o drueni wyd.
Ti ferni, gweli fai gwan—dyn arall,
Dan yrru gair gogan;
Er nad oes iawn foes un fan
Da ohonot dy hunan.
Na ddisgwyl ddydd rhydd i ddwyn rhad—'fory
I edifeiriol droiad;
Heddyw yw dydd hoew-Dduw Dad,
Diwedd mawl dydd ymweliad.
Cyn loesion dwysion, cyn di-oesi—pwyll,
Cyn pallu dy egni,
Cyn darfod cau d'enau di,
Cysgu mud, cais gymodi.
A fynnych i fyw ennyd—gan undyn
Ag uniondeb glanfryd
Dyro i bawb ar dir y byd,
Dawn hoff onest, un ffunud.
Gwrando di'n ddifri ddi-afrol—growndia
Ar gowreindeb nefol;
Gwir Duw yw'r geiriau duwiol,
Gwin yw'r rhain, gwna ar eu hol.
MAWL MERCH.
Tôn,−"I GALON DROM"
GWINWYDDEN a'r wedd weddedd,
Burwawr anwyl, bêr o rinwedd,
Diwiol agwedd dy olygiad
A hawddgarwch heudde gariad,
Y fi a'th geres, fwy-fwy i'th gara,
Heb wrthwyneb i foli d' wyneb fel Diana,
Caredigrwydd serch hoff ffansi
A m bron ddidwyll, y gu ganwyll, y gei genni.
Tro yma, nghowled, trwm yw nghalon.
Yn dy gofio, f' enaid gyfion,
Y pryd na byddych, fwyn-wych fynwes,
Yn 'y ngolwg, wen angyles,
Caf dy weled wrth freuddwydio,
Llwyn llawenydd, megis arwydd i'm cysuro;
Fel gwiw leuad yn goleuo
Fis Mehefin, ne des glaerwyn yn disgleirio.
Fy ngwenithen lawen liwus,
Er dy ddaed rwy'n dy ddewis,
Nid am ddiwrnod hynod heini
Y dymunwn gael dy gwmni,
Nid am fis, ne ddau, ne flwyddyn,
Drwy gymhendod ar wâr dafod rwy'n dy ofyn,
Tra bo f einioes heb derfynu
Mynnwn beunydd, difai ddeunydd, dy feddiannu.
Wrth ystyried oered arian
Yn gywely, ewig wiwlan,
Mwy o gynnull y ddymunes,
Downus geni yw dynes gynnes;
Lle bo cynhesrwydd gwiwrwydd gariad,
Fe ddaw coweth yn gynhalieth, difeth dyfiad,
Mel i mi yw'r lili oleulan,
Per win parod, dod a gosod imi gusan.
Ystyria dithe ystori y doethion,
Y glana i'w gael gŵr glân i ga'on,
Mwy na mow redd yw boddlonrwydd
Yn y man y bo diddigrwydd ;
Lle byddo dau o gywir galon,
Gyda heddwch, ufudd degweh, fe fydd digon;
Gwell iti ar les dy gorff a'th ened
Landdyn serchog na gŵr tiriog ar gowrt eured.
Os a'th gâr a'th geiff, lloer ole,
Mae yn ddalar, meinedd aele,
Mai fi fydd, drwy drefn cyfiawnder,
I'th folia nu, perl y purder;
Moddus afieth, mi ddeisyfa
Gael gwir union mwyn o'th galon, minne a'th goelia;
Llunia amod llawen imi,
Fanwl feinwen, gu dywysen, i gyd-oesi.
YSGOLDY.
HEOLDAD ysgol dŷ dysgu—costfawr,
Cistfaen ieithoedd Cymru;
Congl y beirdd, cywyddfeirdd cu,
Tŵr y cynnyrch, ty'r canu.
Annedd y Groeg, neuadd gron—cynhwysfawr,
Cynhesfa prydyddion;
Caer dreiddiog, côr derwyddon,
Clydle teg, clod y wlad hon.
Y SERCHOG WR ENWOG.
Tôn,—"ANODD YMADEL."
Y SERCHOG wr enwog, di euog, da i air,
A aeth i Landegla ar ddygwyl y ffair,
I werthu dau eidion, yn dirion gwrandewch,
Ei hanes ddifales a'i gyffes y gewch.
Ac er nad oedd undyn i 'mofyn am ych,
Ni fedre ddwad adre o'i siwrne'n fin sych,
Fo dynnodd i'r dafarn yn gadarn i god,
Lle bydde rinweddol arferol o fod.
Y march y gymerodd, fe i lediodd o'i law,
Lle bu fo'n dwyn pennyd a drygfyd hir draw,
Ai adel mewn odyn, a'i dduryn oedd ddel,
Ni base waeth iddo i dwyso i'r Breidwel.
A mynd i gwmnieth drwy orchafieth drachefn,
Rbag iddynt roi anghlod o gysgod i gefn,
A mynnu llawenydd yn efrydd y wnaen,
A chwrw rhedegog a digon o'i flaen.
Er cimin difyrrwch oer, gwelwch, er gwaeth,
Dechre ymlyferydd yn efrydd y wnaeth,
Am ffordd i fynd adre gofynne fo'n fwyn,
Heb goffa am i geffyl, oedd anwyl, i'w ddwyn.
Pen ddaeth o ddydd Sadwrn yn dalwrn i'w dy,
I deulu di-waeledd a'i holodd o'n hy;
Mae'r ceffyl y gowsoch? Digysur oedd hyn,
Ych gweled yn cerdded mor swrth ac mor syn.
Er iddo garcharu, ond gwadu nid gwiw
Nis gwydde fo weled â'i lyged mo'i liw;
Os gwydde, fo daere yn dirion i iaith
I ddyfod tuag adre, ond dche oedd i daith?
I chwilio am y ceffyl drwy helbul dro hir
Marchogeth a cherdded, er teced y tir
Ni welodd fo mono, dew gono di-gul,
Na migwrn nac asgwrn na Sadwrn na Sul.
Pyrnhawn, ar ol gosber, i grio fo wnaed
Mewn pump o fynwentydd, anedwydd i'w nad,
A'r ceffyl yn'r odyn heb rydid i ffoi,
A gwaew i'w dynewyn gan newyn i'w gnoi.
Daeth mab i berchennog, oedd enwog i ddawn,
Heibio ar gefn hobi a bron heini byrnhawn;
A'r march yn y gwarche, gweryre, gwir yw,
Pan ganfu drwy rigol yr ebol o'i ryw.
Esmwytha ar garcharwr, mewn angar a mŵg,
Oedd ymron pasio ne drigo ar lawr drwg,
Fe ŵyr a'i ame 'leddodd na welodd o fawr wair,
Na chyrchen i'w phrofi, na fferins o'r ffair.
I groeso fo oedd graswellt yn gonwellt y gadd
Mewn basged, rhag syrthio a'i ben tano bwytâdd;
A chwedi cnoi i greie, gwiw frilie go frau,
Caed un o'r gwrthafle'n i wefle fo'n iau.
Pe medre fo siarad, anynad i noes.
O ddig wrth i fistar rhoi grasder yn groes;
Am iddo i garcharu, a'i nychu mewn nyth,
Rwy drosto'n cyfadde na fadde fo fyth.
A garo farchogeth yn berffeth i barch,
Da iddo lle'r elo fyfyrio am i farch,
Os cwrw Llandegla a synna'n i siad,
Geill fynd yn estronddyn ar dyddyn i dad.
CIPOLWG AR LYN CEIRIOG.
Fel y mae yn awr; yn dangos Eglwys Llan Sant Ffraid a'r chwareli.
CODI NANT Y CWN.
Cerdd i ofyn help i wneuthur ty i Roger Huw, o Nant y Cwn, yn Rhiwlas.
AR FESUR TRIBAN.
FI a'm holl gymdeithion,
Os gwir yw gwers y person,
Y droed i ffwrdd o'r nefoedd gu
I'w adeiladu i dlodion.
Drwy gariad a chymdeithas
Dymunwn i gynwynas,
Lle mae coed, a cherrig dwrr,
Yn rhywle 'nghwrr y Rhiwlas.
Lusen i chwi ystyried
Wrth Roger Huw ddiniwed,
Am godi 'r plas yn Nant y Cwn,
Mae hwn mewn cwlwm caled.
Er fod i eirie'n fyrion,
Yn growsdi mae fo'n Gristion,
Gwedi pydru'r croen a'r cig,
Yn cario cerrig geirwon.
Mae'r wraig fel hen gynhilin,
Mae yspryd byw 'mhob ewin,
O ceisio casglu i godi'r plas
Heb gael byd bras un briwsyn.
Cael saith ne wyth un diwrnod,
Cyn pydru y pedwar aelod,
A chyn gorffen crino'r croen
A'i tynn o'i boen a'i nychdod.
A henwa i rwy'n i ddeffol.
O heini seiri siriol,
I godi'r adeilad, na nacewch,
Gwnewch gymorth, cewch ych camol.
Y Meistar Tomas Rogar,
Nid oes mewn down dy feistar
I weithio y ffordd i'r mŵg a'r fflam,
Drwy'r simdde gam mo'i gymar.
Edward Morus dyner,
I'r mitin at y mater,
Y fo fydd y meistar maith
I gynnal gwaith ddydd Gwener.
Tomos ab Tomos Dafydd
Ai lygad maith y genfydd
Morteisio a thyllu a hoelio'n sad,
I wnio'r 'deilad newydd.
Huw Morus fwyn o'r Pentre
A ddysgodd godi cyple,
Da i ri wedd, daw i'r Nant,
Caiff yno gant o swydde.
Humffrey Morus sychgras,
Os byrion yw'r ysbaras,
Nid oes neb well am elio clôg
Ar gaban del og dulas.
Fe a esyd garreg aelwyd,
Gwneiff ar y canol gronglwyd,
Oni chaiff o lond i getyn gwyn,
Fo aiff adre cyn pyrnhawnyd.
Phylip Edward lysti,
Gwrol gâr i gowri,
Mawr i barch ym marn y byd,
A'r gore i gyd am godi.
Mae clochydd Llangydwalad
Yn enw Duw yn dywad,
A chorff a chalon wedi ymroi
A dwylo i doi'r adeilad.
Hwmffre Huw sydd landdyn,
A feder doi'n ddiderfyn,
Gwellt a grug a brwyn yn bro,
A rhidyll o do rhedyn.
Tomos fwyn ab Wmffre,
Mae gin i swydd i chwithe,
Eiste 'n ty ac estyn tân,
A llenwi glân bibelle.
Y seiri difesure,
Mae llyged yn ych penne,
Os medrwch siarad yr un iaith,
Chwi wnaethoch waith o'r gore.
Nid oes ond ffwl rhy ddichlyn
Yn gweithio wrth ffon ne linyn,
Tra botho enw Duw'n ych mysg,
Na dawn na dysg yn disgyn.
Mae'n rhaid cael Hwmphre Owen,
Gyfarwydd gorff, cyn gorffen,
Ni chymre'r un o'r lleill wyth muwch
Er dringo 'n uwch na'r nenbren.
Wel dyma'ch dysg chwi, Wmffre,
Gwnewch gowrain gorn i'r simdde,
Nid ellen furio honno o hyd
Gin wendid pennyd penne.
Pen weloch feie'r seiri,
Ymogelwch i cyhoeddi,
Rhag taflu'r neuadd wych i'r nant
A maint y chwant i'w chodi.
Gwaith heb gel a wneler
I dynnu'r ffrind o'i flinder,
Ufudd harddwch y fydd hyn
I'r llechwedd gwyn ddydd Gwener.
Hin urddol i'ch cymdeithas
Mi gaf gyflawni y mhwrpas,
A Duw a fytho'n llwyddo llawr
Y neuodd fawr newyddfras.
GLANAF, HAWDDGARAF.
(Mrs. Anwyl, o'r Parc.)
GLANAF, hawddgaraf i gyd—o rinwedd,
Yw'r Anwyl wawr hyfryd;
A mwynaf gwraig, bob munud,
O wragedd bonedd y byd.
Trwy'r wlad, clyd fwriad, clodfora—hi byth,
Am ei bod yn rhydda,
Yn nod teg, ac yn waed da,
A llaw aur, a lliw eira.
Poed gras llawn urddas yn llon—i hoewgyrff
Ei hegin boneddigion;
Bywyd hardd yw bod o hon,
Ddifai obaith, ddau feibion.
FY NGHANGEN URDDASOL.
Tôn,—"ARMEIDA."
FY nghangen urddasol, hoff rasol i phryd,
Fel Judeth, am berffeth wybodeth y byd,
Ych rhadlon gynheddfe yw rhwyde mawr hud,
Sy i'm dal fel aderyn gwael edyn mewn glud;
Ni weles, ni cheres, o'i choryn i'w throed,
Un forwyn yn ymddwyn mor addfwyn erioed:
Tra byddoch ar sail lwys ddaiar las ddail,
Ni phoenaf breswylio mwy chwilio am ych ail.
Hawddgarwch eich corffyn eglurwyn fel glain,
A wnaeth im dderchafu i'ch caru, ferch gain,
A chwithe oedd yn disgyn, heb ronyn o bris,
I ostwng meddylion fy nwyfron yn is;
Fy ffansi rois i arnoch, ni wyddoch mo'i werth,
A'm serch diwahanol, anianol o nerth;
Fy meddwl, fy mun, a'm twyllodd fy bun,
Mae'ch calon yn galed er llonned ych llun.
Pawb a gydnebydd o'ch bedydd ych bod
Am bopeth ond hynny yn glynu'n y glod;
Mae ynnoch gar'digrwydd, mwyn arwydd, main ael,
Yn gyflawn o'ch glendid, pe gellid i gael;
Nid ydyw l'eferydd yn gelfydd heb gân,
Ne gynnud mewn aelwyd ond oerllyd heb dân;
Nid yw dim a roer i lanw, gan loer,
Heb gariad pur ffyddlon o'i dwyfron, ond oer.
Ni waeth imi geisio drwy dreio â gordd driw
Falurio 'r graig galed, gwawr addfed, gwir yw,
Na cheisio 'ch ail impio, a'ch llareiddio, lliw'r od,
I wneuthur trugaredd i'r clafedd er clod;
Er hynny, rhianer, fel glân glomen glau,
Cai gennych fy ngwrando, a chwyno i'm iachau ;
Nid ydyw'ch gair call, heb ewyllys di-ball,
Ond megis yspectol ne ddeiol i ddall.
Ond mynych gymynu, a mynnu'r un marc,
Fo gwympa'r pren teca a'r pura'n y parc,
Y fedwen, a'r onnen, a'r hen fesbren fawr,
A'r beredd winwydden oleuwen hi ai i lawr;
A chwithe, sydd gangen glws irwen yn siwr,
Heb osio gogwyddo na gwyro at un gŵr,
Rhyfeddod y fydd, a minne a'm llaw'n rhydd,
Na chawn gennych blygu ne nyddu yn y nydd.
Er maint fy ffyddlondeb i'ch wyneb, iach wedd,
Nid mawredd fy mwrw er mwyn benyw mewn bedd;
Cyfreithlon, perffeithlon, a chyfion i chwi
Oedd roi mwy gorchafieth am afieth i mi;
Ych glendid a'ch coweth hudolieth nid yw,
O rym i roi imi 'r ymedi yn y myw;
Na dim ar a gawn i dyfu mewn dawn,
Ond purdeb am burdeb mewn undeb yn iawn.
Os gwnewch chwi drugaredd lawn fwynedd, lân ferch,
I dalu i mi 'n hollol gysurol am serch,
Cariad am gariad, mewn teg fwriad da,
Yw'r cu amod cymwys yn gyd-bwys a ga,
Wel dyna'r maen gwerthfawr a rhoddfawr, wawr hael,
Hwn all fy modloni a'm digoni ond i gael;
Chwi am cewch yn ych cell, fel perl o le pell,
Ni ymgleddodd arglwyddes i'w mynwes ddim well.
RICHARD MILTWN
O'r Plas Newydd, ym Mhlwyf Llansilin.
Tôn,—"Y GALON DROM."
ER bod yn byw ymysg dieithried,
Lle'r ordeiniodd Duw i'm dynged,
Er cael cariad a chredigrwydd,
A byd heleth, bywyd hylwydd,
Meddylion mwynion sy'n fy mynwes,
Wrth fyfyrio a wna i mi wylo am y weles,
Colles y rhai a geres fwya,
Ber yw byr oes, marw heb hiroes mae y rhai pura.
Rwy'n cario meddwl trwm i'm dwyfron,
Lle bu llawenydd heb ofalon,
Nid all calon drom alarus
Gan anhunedd ganu'n hoenus;
Er bod bob dydd mewn difai helynt,
Trist anianol yw fy nghalon am fy ngherynt ;
Am un câr heb gymar iddo,
Aeth i'r ddaear yn rhy gynnar, rwy'n hir gwyno.
Richard Miltwn oedd i henw,
Yr angel gwyn, eglurwyn, gloew;
Canwyll cenedl y Miltwnied,
Gŵr hoff inni i gorff a'i ened;
Mwyna mwynwalch, difalch dyfiad,
Gwaredd fuchedd llawen gwyredd llawn o gariad ;
Ni wela i fyth y fath bendefig,
Amlwg eglur, mawr Greawdwr, mr garedig.
Er mynych gwynfan, dan ochneidio,
I farwoleth, ofer wylo,
Rhy dda oedd i gael i gwmni,
Hoew resyn, i hir oesi;
Nid gwiw galw'r gŵr i godi,
Mae'r gŵr bonddigedd iredd eurwedd wedi oeri,
Aur o beth, a byth i'w gofio
Oedd bob cymal i'r glain grisial, glân i groeso.
Lle lluosog fel llys brenin
A fu'r Plas Newydd yn Llansilin;
Tra bu i berchennog enwog yno,
Baen daionus, gras oedd ynddo ;
Haelder, mwynder, per air parod,
A geir o'i wirfodd, aur a dyfodd ar i dafod,
Haws i mi a pawb a'i 'dwaene,
I fon'ddigrwydd a'i gredigrwydd, wylo dagre.
Glain Duw ydoedd, glân odidog,
A glân i roi â'i galon rywiog,
Glân erioed mewn glân anrhydedd,
Yn wr di-gymar a di-gamwedd;
Gwr da i alw, o'i gryd i'w elor,
Pur pob amod fedd, dawn rywiog yn dwyn rhagor;
Ffarwel, ffarwel, Richard Miltwn,
Aeth yn hyfryd. Fath anwylyd fyth ni welwn.
GWEL GAETHED.
Ar garreg fedd yn Llan Gadwaladr.
WEL gaethed, saled fy seler,—ystyr.
I ostwng dy falchder;
A chofia, ddyn iach ofer,
Nad oes i fab ond oes fer.
SIRIOLWYCH WYT.
Tôn,—"GWLEDD ANGHARAD."
SIRIOL-WYCH wyt, a chlaerwen,
Braf eured bryd,
Bron o hud;
Er hyn ym llwyr ddifethest,
Ti'm bwriest i o'r byd.
Ni chollesi ond hanner
Fy nghalon bur, sy'n cario cur,
Rwy'n madde y mriwie mawrion
Fel dannedd hoelion dur;
Y dlysedd ferch ireidd-deg,
Na ddwg chwaneg, fwyndeg fun,
Rwy'n disgwl hon, yn galon gron,
I'm hanwyl fron fy hun;
Ond gormod sydd o honno
Gwedi gwreiddio 'n dy eiddo di,
Mae'n gysur gwan na cha i, lli a'r can,
Naturiol ran gin ti.
Ac er dy fod yn ifanc,
Fel y nefoedd wawr
I oleuo i lawr,
Dy dafod ffraeth di-ofer
Sy'n arwen mwynder mawr;
Pob gair per o'th ene
Sy'n abal nerth is awyr serth
Er dotio, twyso teirgwlad,
Trwy ymweliad cariad certh,
Dy fagle oll nid allant
Cael mwy o feddiant ynddo fi,
Rhaid i mi drwy anianol nwy
Gael cysur mwy gin ti;
Cydnebydd er dy laned
Nad alla i fyned yn ddioed,
Ac na'd fy rhoi mewn clwy i'm cloi
I hir ymdroi wrth dy droed.
"By credwn, fab cariadus,
Ych geirie i gyd,
Hwyrfrydig fryd,
Mi fyddwn balchach lawer,
Bai ofer gwyr y byd;
Nid ydw i o bryd mor brydferth,
Oliw na llun ail Fenws fun,
Ac a alla i'ch gorchfygu,
Chwi a wyddoch hynny 'ch hun;
Os collodd rhan o'ch calon,
Och i chwi son, o'm hachos i,
A than fy mron mae un lawen lon,
Cewch hanner hon i chwi;
Bydawn i'n chwilio 'ch mynwes
Am galon ffres ar fales bach,
Mi cawn hi draw, a than fy llaw,
Heb ronyn braw,'n bur iach.
"Mae'n hawdd gin lances lithro
Gerddo gefn
Y garreg lefn,
Mae llawer mab twyllodrus,
Madroddus, glân i drefn.
Haul cynnes o flaen cafod
Yw gwenieth gŵr wrth garu'n siwr,
Gair mawr un bwys a phluen
Ar donnen arw'r dŵr;
Anodd yw adnabod dyn,
A diwrnod, derwen las,
Troi wna rhin y pren yn grin,
A'r dyn yn flin ddi-flas;
Y fi nid ydw i chwi
Mewn ffansi na gwan ffydd,
Ond ffol erioed ac ifanc oed,
Mae'n dda gin i 'n nhroed yn rhydd."
Nid fel gŵr di-fetel,
Lle'r el, lliw'r od,
Y mynna i mod,
Fae 'n myned yn y diwedd
Heb wedd, heb gledd, heb glod;
Marw chwaith nid alla
Ne dario'n ol ar ffordd yn ffol,
Fel bustach fai 'n dychrynnu
Pen wele i ddenu i'r ddôl;
A hanner calon hoenus
Ai ffwrdd ar frys i'r ddyrys daith,
I ddeisyf swyn y deca ar dwyn,
Swydd fwyn, sydd faith,
Na ddichon mo'r rhan arall
O'r galon ddiball glau na ddêl
Air hir o hyd at ddisglaer bryd
Sy'n mynd trwy'r byd a'r bel.
"By gwyddwn i, impin gweddus,
Ych bod mor bur
Yn cario cur,
Mi fyddwn inne aurwyn air,
Heb un gair sorrair sur,
Rhag bod yn ddrwg ar f ened
Ni fynnwn ladd y cyfryw radd,
Rwy'n dallt fod cerydd cariad
Fel curfa carreg nadd,
Er dyn, od ydw i luniedd,
Na foliennwch fi fel pab,
Os teg yw ngrudd, mae ynwy 'nghudd,
Ddau fwy o fudd i fab;
Mae gen i ewyllys ffyddlon
Yn fy nwyfron gyda nwy,
Mi a'i cadwa 'n glir, ni eill dyn ar dir
Mo'i bennu'n wir i bwy."
Y DEALLWR.
(Edward Morus fel cyfieithydd.)
Y DEALLWR da i wyllys—diysgog,
Di wisgaist yn drefnus
Degan iaith, di-graith i grys,
Da i rad mawr, Edward Morus.
Medaist, bwriedaist, bri awdwr—nithiaist
Wenithau diamhur;
Rhennaist, iawn bennaist yn bur,
Diwiol ofal dy lafur.
Llyfr annerch, llafur enaid,—llawenydd
A lluniaeth ffyddloniaid;
Lluddio'n rhwysg, llaw Duw i'n rhaid,
A all agor ein llygaid.
Am waith dilediaith adeiladwy—cryf
Crefydd ansigliadwy;
Uchel ydwyd, anchwiliadwy,
Ni bu yn fardd neb yn fwy.
MYFYRIO RWY'N FWYN.
Tôn,—"DIFYRRWCH GWYR DYFI."
MYFYRIO rwy'n fwyn,
Fel eos dan lwyn,
Am gamol merch weddol am ddiwiol ymddwyn;
Fy ffyddlon gorff aeth
Yn gul ac yn gaeth,
Dy weddedd air peredd gwenithedd a'm gwnaeth
Un diwrnod nid oes,
Mi wn, funud yn f oes,
Nad ydwy 'n dy hoffi, mewa drysni mi droes;
A hireth sydd fawr,
Bun burwen, bob awr,
I'm dysgu rhag cysgu yn fy ngwely, fy ngwawr.
Cariad yw'r cur
A borthest ti 'n bur,
Heb lid na chenfigen, i'm seren ddi-sur;
Fe brifiodd yn hy
Lle gwreiddiodd yn gry,
Er llidiog drallodion athrodion ni thry;
Fy niwies, fy nod
Da fydde dy fod
A'th friwie fel finne, lloer ole lliw'r od;
Ni fynnwn i fwy
Na'th gael di o'r un glwy
Cawn fwynder am fwynder yn amser fy nwy.
Fy nghalon i sydd
Yn danfon bob dydd
At frig blode tansi, lon ffansi lân ffydd;
Ond brawd yw dy bryd,
I gowslobs i gyd,
Ne'r lafant, ne'r lili, ne deg bwysi'r byd?
Dy gusan di-gel
Yw'r mwsg ar y mel,
Cynhwyllyn dy ddeufin, i'm dilyn y dêl;
Mwy braint a mwy bri
Ymwasgu a thydi,
Na choweth brenhinieth, gwen eneth, gin i.
Nid ydi da byd,
Chwi welwch, ond hud,
I wyr ac i wragedd ond gwagedd i gyd;
Mawr serch a hir sai,
Yn drysor di-drai,
Yn hwy o flynyddoedd na thiroedd na thai;
Cei draserch heb droi,
A chalon i'w chloi,
Os wyt ti, fanwylyd, yn deudyd y doi;
Os tynni di 'n groes,
Mae perigl am f oes,
O gariad, mwys drawiad, 'madawiad nid oes.
Dy harddwch dy hun,
Lon bur lana bun,
A'm gyrrodd mewn gofid am lendid dy lun;
I'm bron i mae briw,
Fy ng hangen deg wiw,
Os lleddi dy gariad a'th lygad a'th liw
Rwy'n meddwl, M. I.
Mai gogan y gei,
O gormod o bechod mewn anghlod y wnei;
Di fyddi, da i rhyw,
Gwawr ole, gwir yw,
Os lleddi fo i'th garu, yn 'difaru 'n dy fyw.
Rhag clywed pob gradd
Yn lliwied fy lladd
Dan ddeudyd "Gwae honno" er ceisio, a'm nacâdd,
Moes gusan, moes gael
Mwyn eirie, main ael,
A phardwn a phurdeb diweirdeb di-wael;
Moes galon lwys lawn
Garedigrwydd a dawn,
Tiriondeb, ffyddlondeb, uniondeb yn iawn;
Ystyria, moes di,
Lliw ewyn y lli,
Drugaredd gyfannedd, M waredd i mi.
OFERGOEL AC ATEB.
YR OFERGOEL.
RHYW loer a enir ar lân—osodiad,
Ddydd Sadwrn pasg bychan;
Yr ail Iau ar ol Ieuan,
Uwch y tir, gwyliwch y tân.
ATEB.
Dyma'r dyw-Iau clau teg glân—oleudes,
Ail gwedi gwyl Ieuan;
Mae'r gelwyddog ddarogan?
Mae'r famiau dur? Mae'r fflam dân?
Ni wyr dynion son ond y SYDD—neu y FU,
Na wnawn fost o'n gwagffydd;
Duw Ior cun, awdwr cynnydd,
A'i wir Fab, a wyr a FYDD.
YR HEN EGLWYS LOEGER.
Ymddiddan rhwng gwir Brotestant a'r eglwys wedi dienyddu y brenin, Charles I.
Tôn,–"GADEL TIR"
Rhen Eglwys Loeger, mae'n ofid gen lawer
A daed oedd d' arfer, a'th burder, a'th barch,
Fod temel Crist Iesu yn cael i dirmygu
I amcanu i dirymu drwy amarch.
"Rhai gwyr ymhob goror ant allan o ordor,
Ni chymrant hwy gyngor gan ddoctor o ddysg,
Gwell gennyn nhw wrando gwenieithwr, gau athro,
I'w gwyro a'u gogwyddo i goeg addysg."
Ti a fuost gyfannedd, yn cynnal trefn santedd,
Ac athro'r gwirionedd, cysonedd i sain,
Nod camwedd, nid cymwys, amberchu'r brif eglwys,
A thithe'n baradwys i Brydain.
"Mi gefes fy henwi'n deg addas dŷ gweddi,
A phawb yn fy mherchi, trueni ydi 'r tro;
Mae 'rwan gaseion na charan ferch Seion
Yn mynd i dy Rimon i dremio."
C'wilyddus i Gymry fod yn dy ddirmygu,
Mae rhai yn rhyfygu i dynnu dy dop;
Gwell na gwin cynnes ydi sugno dy fynwes,
A thithe'n ben aeres yn Ewrop.
"Mi gefes anrhydedd dros lawer can mlynedd,
Nes torri pen rhinwedd, oedd luniedd i'w le,
Hawdd heddyw fy hebgor, mae ambell ysgubor
Yn gystal am onor a minne."
Nid ydoedd gyfreithlon i grefftwr ne hwsmon
Mo'r bod yn athrawon, fel Aron i'w lu;
Ple cawson awdurdod i'w teie cyfarfod,
Nac esgus yn gysgod i ymgasglu?
"Gwr cymen i dafod, ac ysgafn fyfyrdod,
A gymer awdurdod heb wybod i bawb,
Fo geiff fod yn urddol i'r secte neillduol,
Heb droedio o fewn ysgol un esgawb."
Hwy ffrostian o'u crefydd, a'u ffydd, a'u ffordd newydd,
Gan farnu'r Difeinydd, rheolydd yr hen;
Mae "ysbryd" bwriadus i'w dysgu'n ofalus,
Sy well na rhad iachus Rhydychen.
"Gwylia gamgym'ryd, a choelia fi'n dwedyd,
Mae'n debyg fod ysbryd rhy ynfyd i'w rhan;
A llawer croes lwybyr i falcio'r Ysgrythyr
A gawsan drwy synwyr draws anian."
Y lan eglwys ole, ti a fuost mewn blode,
A ffraeth i ddwyn ffrwythe difryche'n dy fron;
Pa fodd y dae'r efre i blith dy wenithe,
In twyllo ni am lysie melusion?
"Chwynn gw'lltion i dyfu, pan oeddech chwi'n cysgu,
A gawsan gynyddu, am i chwynnu mae'n chwith;
Pan aethan yn amal, heb neb yn i hatal,
Nhw wnaethon ddrwg anial i'r gwenith."
Rhai'n rhith Protestanied a drodd lawer siaced,
Wrth droi gen fynyched y rhwyged yr hedd;
Troi heddyw, troi fory, troi drennydd i ynfydu,
A gwadu, tan grynnu,'r gwirionedd.
Ti a welest, yr henddyn, pan oeddit yn llencyn,
Yr ŵyn yn dwyn newyn ar dyddyn mawr da;
A'r bleiddied, gau ddeilied, yn drech na'r bugeilied,
Yn erlid y defed i'w difa."
Mi weles ddiystyrwch, blin oedd, heb lonyddwch
Na chân o ddiddanwch, anharddwch i ti;
Gen lais adar llwydion, a'u hesgyll yn gryfion,
Yn gyrru y rhai duon i dewi.
"Daeth help gwedi hynny, drachefn i'm derchafu,
Er perffeth bregethu trwy Iesu bob tro,
I gorlan y defed ni ddae un o'r bleiddied,
A enwid y Rowndied, i wrando."
Pan oeddwn i'n fachgen mi weles fyd llawen,
Nes codi o'r genfigen flin filen yn fawr,
I ladd yr hen lywydd, a dewis ffydd newydd,
Ac arglwydd aflonydd yn flaenawr.
"Gan ddynion afradlon, un fath a hil Amon,
A garen y goron, a gawson fawr gas;
Fy mhen i a wahanodd, a'm ffydd a ddiflannodd,
Ymrannodd a darniodd y deyrnas."
Mae'n berig fod anras yn digwydd i'r deyrnas,
Llid llydan o'n cwmpas yn ddiras a ddaeth,
Wrth ysgwyd y cledde ti a wyddost y dechre,
A lenwe galonne â gelynieth.
"Awdurdod o Annwn a gafodd ddrwg nasiwn
I gadw, ni a gofiwn, oer sesiwn ar si;
Er claddu'r corff graddol, rwy'n ofni'r gwaed reiol
Na phaid o'n dragwyddol a gweiddi."
Gweiddi mae fo eto, a'r ddaear sy'n cwyno
A'r awyr yn duo, a dial gerllaw;
Er hir gysgu'n esmwyth, ar Ahab a'i dylwyth
Digwyddodd ewymp adwyth cyn peidiaw.
O waith y gwyr gwaedlyd yn Llundain 'r un ffunud
Rhaid ydoedd dwyn pennyd anhyfryd yn hir;
Yn ddialedd na ddelo a fo gwaeth i'n caethiwo,
Mae'n hawdd i ni wylo am y welir.
Fe ddaeth rhyw sur wreiddyn aflesol o Lasfryn [5]
A dyfod yn sydyn mewn blwyddyn yn bla,
I dwyllo golygon rhyw dinerth rhai dynion,
Oedd weinion, mor oerion a'r eira.
"Fe dyfodd tair cangen, siwr felly, o sur 'fallen,
A ffrwythe cenfigen, a chynnen, a chas;
Mae'r sorod aflesol yn lle'r grawn ysbrydol
Trwy'n gwlad yn gynyddol anaddas.
"Morafiad amryfus, a'r Methodist moethus,[6]
A'u llid yn drallodus, rai bregus heb rol,
Disenter anghelfydd, wr tradoeth, yw'r trydydd,
Yn gwadu'r eglwysydd gwiw lesol."
Fe dyfodd ymryson yn awr rhwng athrawon,
A rhai o'u disgyblion. anoethion i nad,
Dan obeth i chwithe gael llonydd yn llanne
Heb wrando mo'u geirie digariad.
"Fe'm rhoed yn briodol i ddynion Cristnogol
Rai taerion naturiol, yn siriol nesau,
Fe ddaeth ordderchadon, fel caeth wragedd Sol'mon,
I'w cael yn gariadon, goeg rwydau."
Dydi fydd fam ufudd i fagu gwir grefydd,
A pher dy leferydd am newydd o'r ne;
Os awn i dai estron, draw heibio i dŷ Aron,
Ple cawn ni'n gofynion, gwae finne?
"Dere i dŷ Aron, mae anwyl ddisgyblion
Ith aros, a thirion athrawon wrth raid;
Daioni gei di yno, digonedd heb gwyno,
Am ddim a berthyno, 'n borth enaid.
Y demel urddedig, i'th alw'n gatholig,
A fo byth bendigedig, i gadarn barhau,
A'th byrth yn agored i bawb o'r ffyddlonied,
Hardd gweled dy lonned ar liniau.
WRTH FYND I'R EGLWYS.
I BORTH yr ymborth yr awn—i geisio
Y gwir gysur ffrwythlawn;
Bwyd enaid, bywyd uniawn,
I'r bobl gu o'r Beibl a gawn.
CERDD OWEN O'R PANDY.
Tôn,—"GADEL TIR."
Os mynnwch hysbysrwydd o hanes ynfydrwydd,
Chwi ellwch yn hylwydd heb gelwydd i gael,
Mi gymres boen lawer, drwy drafferth a blinder,
A hynny'n rhy ofer fy nhrafel.
Ni ddichon aderyn fawr hedeg heb edyn,
Pa fodd y tro i'n gerlyn—oferddyn y fum;
Llawer bai hynod, ym marn fy nghydwybod,
Mewn bythod, wyw nythod, y wnaethum.
Mi fum yn marchnata o'r Mwythig i'r Bala,
Ar feder cael helfa trwy elwa 'mhob tre;
Er bod yn gyfarwydd, anfynych heb aflwydd
Y down mewn parodrwydd pur adre.
Cychwynnwn yn gynnar, fel clomen feddylgar
Ag ymborth i'w hadar, gan redeg yn chwyrn;
Rhyfeddol y fydde er Mercher y bore
Fynd adre cyn Difie gan defyrn.
Pan fyddwn ofalus, a'm bryd a'm llwyr wyllys,
Fynd yn ddi-rwystrus, wir drefnus, o'r dre,—
Rhyw hanner cydymeth, os medre beth gwenieth,
Mewn cwlwm hudolieth a'm dalie.
Gwyr cedyrn feddylie a fedrent fynd adre,
I galw i goeg fagle ni phoene rhai ffol;
Yn feddwon pan fydden, a male ymhob talcen,
Hwy alwen ar Owen yn reiol.
Pob math ar ddyn llawen, brau amarch a brwynen,
A'm twyse at y fflagen, fin fursen fain fer;
Nid alle ond llaw gadarn, fy nhynnu a thid haiarn
Ffwrdd allan o'r dafarn wawd ofer.
Hir aros i wario, dan botio, nes dotio,
Cael weithie fy nghogio, dan socio yn y saws,
Y wraig yn cam gyfri, a rhai o'r cwmpeini,
Yn cecru drwy egni 'n y drygnaws.
Talu'n rhy lithrig, rhoi f' arian ym menthyg,
A minne'n bendefig malledig o'm lle;
Os coeliwn i am danyn, rhaid bod yn hir hebddyn,
Ac ambell ddyn gwydyn a'u gwade.
Ffeirio cyffyle, rhy sal i cymale,
Pob math a'm boddlone, o bydde fo byw,
A'r anfad fargenion a'm trodd mewn anghenion
Trwy amal golledion, gwall ydyw.
Troi 'r gwenith yn hedion, a throi 'r fale perion
Yn grabas rhy chwerwon, arferion oer fâr;
Troi 'r gwlan yn flew garw, dall a di-elw
A fyddwn i, 'n feddw ac yn fyddar.
Er bod yn cam weled, da medres i gerdded,
Hyd lwybyr y ffylied, i fyned ar feth;
Tristau ngharedigion, a gwneuthur yn union
Wrth fodd fy nghaseion ysyweth.
Rhoi ffarwel i'r ffeirie, anfuddiol a fydde,
Troi 'r syllte 'n fân ddarne, gwae finne o'r gwaith;
O'r diwedd troi 'r pyrse i chwilio am genioge,
A ffaelio cael weithie, coel waeth-waeth.
Nid all un cydymeth roi dig farnedigeth
Am ochel coeg ddiffeth gwmnieth yn hwyr;
Ni chymra i mo'r ennyd, heb i mi ddwyn pennyd,
Yn nghwmni rhai ehud yn rhyhwyr.
Fy nghorff aeth yn wannach, a'r pwrs yn ysgafnach,
Wrth yfed, waith afiach, heb eiriach, a'i par;
Pwy gwyne i ddyn ynfyd? Nid oes i mi i'w gymryd,
Am iechyd a golud ond galar.
Hawdd fydd dadwreiddio pren a fo'n crino,
Rwy'n dechre heneiddio, marweiddio fy mrig;
A'm henaid am hynny, mewn ofn yn dychrynnu,
Rhag haeddu barn Iesu, bwrn ysig.
Gwrando di, ngharwr, os ei di 'n farchnatwr,
Na ad i'r oferwr, maith heliwr, mo'th ddal;
Canlyn y cotyn, rhag mynd yn gardotyn,
O botyn i botyn heb atal.
Yr hwsmyn rhadlonedd, nid yfant ormodedd,
Clod a thymhoredd ddigonedd a gân;
O aros i feddwi, ceir trwstan fusgrellni,
A diwedd i gwegi fydd gogan.
Mi a fwries fy ennill, ar redeg drwy ridyll,
Yn siampli erill i gynnull yn gall;
A hauo'n dda ddichlyn a fed yn ddi-newyn,
I lafur ni oresgyn yr ysgall.
Y dyn a deif arian i'w hau lle na thyfan,
Geill fod ar ry fychan i hunan yn hen;
Mae hynny 'n fai hynod, mor gas a chybydd-dod,
A hawdd iddo wybod i ddiben.
Madws amode ymadel a'r magle,
A dianc drwy'r trapie 'n well adre ar fy lles;
Ar bawb rwy'n dymuno na cheisiont mo'm rhwystro
O'm hanfodd i grwydro ac i rodres.
I gael i drugaredd i'm hachub rhag dialedd,
Oddiwrth fy ngorwagedd yn druanedd mi dro;
Yn enw Duw nefol, mi gadwaf well rheol,
Mewn buchedd rinweddol, rwy'n addo.
Crist yn gadernid, prif Arglwydd y glendid,
A nertho fy ngwendid a'm rhydd-did i'm rhaid;
I dalu nyledion i Dduw ac i ddynion,
Rhag bod yn ofynion ar f'enaid.
Drud iawn y prynnes yr addysg y gefes,
A llwyr y difleses ar y geres i gynt;
Plesere didoreth yw pob anllyfodreth,
Yn niwedd rheoleth yr helynt.
PEDR CADWALADR.
Rhingyll meddw Mochnant.
PEDER, gwael arfer, gwel orfod—peidio,
Peder lwth fyfyrdod;
Peder yrr nifer o'r nod,
Peder ddu, paid a'r ddiod.
LLAW Y MARW.
"Gymeryd llaw oer gŵr oedd yn farw yn ei arch, a gwneyd iddi arwyddo ewyllys."
CERDDI TIR Y TAERION.
Tôn,—"IANTO O'R COED."
I.
MAE Duw yn danfon rhoddion rhwydd,
Nyni a'u gwelwn yn yn gwydd,
Pob peth sydd iawn, ar lawn wir lwydd,
Ond anial awydd dynion;
Er da, a dŵr, a daear deg,
O flaen trachwant rhwth i geg,
Nid yw i ddyn yr un o ddeg yn ddigon.
Y rhai llwyddiannus yn y byd,
Sy aniwiola, gwaetha i gyd,
Medd geirie Dafydd ddiwiol fryd,
A rhodio ar hyd anrhydedd;
I finder fo oedd i llwyddiant llawn,
Nes mynd i dŷ Dduw da i ddawn,
Ac yno dalltodd ef nad iawn i diwedd.
Cynnydd hylwydd gen Dduw hael,
A gadd Usia, mawrdda a mael,
Ac o fawrhydi gwedi i gael,
I ddiwedd wael a welir;
Derchafu a wnaeth pan aeth yn gry,
A chodi i galon yn anhy,
I'w ddistriwio i hun fel pry fe'i profir.
Y rhain ymddengys fel yr wyn,
Yn araul deg, yn ole ar dwyn,
Ac fel llwynogod yn y llwyn,
Cyd-ddwyn yn fwyn a fynnan;
Taflu a wnan drwy Satan swydd,
I ffwrdd yr union o'u ffordd rwydd,
A'r gwydyn gam ag aden gŵydd a godan.
Er dichell dyn, pob gweithred fraith,
A'i sail ar gamwedd fuchedd faith,
Honno a dyrr. drwy hynod iaith,
I gwddw o'i gwaith i hunan;
A'r sawl a'i gwnel sy'n gwrthed gras,
Drwg y ceidw y diawl i was
Yn yr un modd a Suddas gas i gusan.
Yn nghantref Maelor, cyngor caeth,
Y gwnaed y pechod, syndod saeth
Trwy wenieithus dafod ffraeth,
Ac ysbryd gwaeth yn gweithio;
Nid mawr y synwyr oedd i'w gap,
Er bod mor hwylus ar i hap,
Ar sylwedd drwg y seiliodd drap i'w dripio.
Swydd y Waen, hen orsedd wych,
Sylfaenwch, sefwch ar dir sych,
A chymrwch Faelor i chwi'n ddrych,
A rhybudd clych Rhiabon;[7]
Chwi gewch weled cyn y bo hir,
Os ydi 'r Sgrythyr lân yn wir,
Ryw arwydd tost oherwydd tir y taerion.
Rhai sy'n ceisio ymgadw'n gall,
Gan daflu'r drwg o'r naill i'r llall
Fe pe bydde Dduw yn ddall,
Ne'n ddwl heb ddeall ynddo;
Fo ddaw y rhain gerbron ryw bryd,
Am wneuthur beie i anrheithio'r byd,
Fel Adda ac Efa a'r sarff i ym-gyd-gyhuddo.
Mae rhain yn ail i rheini a wnaeth
Ag uffern geuffos gynghrair ffraeth,
Gan rwymo Ange ag amod caeth
I ddal i saeth a'i ddwylo;
Gan dybio, a'u meddwl mall mewn mwg,
Na wna Duw na da na drwg,
I'r sawl a garo gario gwg i gogio.
Os daw gofidie yn d'rane drwy
Y perthynase a'r plase a'r plwy,
Gwych y gosodasant hwy,
I gadw'n fwy a ymgodant,
Gobeth ar anwiredd trwch,
A than aden ffalsder fllwch,
Lle wrth i llaw, rhag llithro ir llwch, y llechant.
Pan ddel Mab Mair a'r mawrair mwys,
I roi cyfiawnder wrth iawn bwys,
A barn wrth linyn dichlyn dwys,
Bydd anodd gorffwys yno;
Cenllysg digter Duw a'i nerth
A 'sguba noddfa'r celwydd certh
A siwr fydd lloches ffalsder serth o syrthio.
Fo dyrr yr amod cymod caeth
Ceiff Ange 'n rhydd i law a'i saeth,
Ni sai'r cynghrair, hyn sy waeth,
Eiff hoew obeth heibio;
Mae'r fwyall fawr ar fon y pren,
Nhw a ddylen ddiolch yn lle sen,
Am gofio i'r gwŷr eu bod ar ben cribinio.
Chychwi benaethied ddewrblaid ddysg,
Chwynnwch y drwg i ffwrdd o'ch mysg,
Sy'n tyfu megis gwylltion wrysg,
Ni thycia addysg iddynt;
Lle mae taerni, a gwyrni, a gwŷn,
Heb ofni Duw na pherchi dyn
Ni waeth na bydde un henw ar un ohonynt.
Mae Duw yn danfon dial dwys,
Distriw bywyd bennyd bwys,
Ar y mawrion gloewon glwys,
Ysgymun rhyddwys gamwedd;
Am fynd ar ol aniwiol naws,
I ymdurfeisio, i dreisio ar draws;
Er daed yw'r saig, nid ydyw'r saws ond chwerwedd.
Na rowch hyfder cryfder croes
Ar un tywysog, enwog oes,
Nac un mab dyn, gan hwn nid oes,
Am iachus einioes warant,
I anadl eiff o'i ene 'n rhydd,
A'i gorff i'r bedd anfalchedd fydd,
A'i holl amcanion yn 'r un dydd a doddant.
Y gŵr synhwyrol yn i fryd,
Y blysiwr balch am bleser byd,
Doeth y dysgest gasglu nghyd
Mewn taer feddylfryd diried;
A bod yn gyfrwys ymhob man,
I borthi 'r corpws, gwplws gwan,
Nid wyt ond ffwl roi llai na'i ran i'r ened.
Mae gennyt enw o fod yn gall,
A chraff ar led yn gweled gwall,
Er nad wyt ond marw a mall,
Ni bu un dall dywyllach;
Ira d' olwg sy'n gwanhau,
Ag eli llygaid i'th wellhau,
Fel y gwelech gario'r iau 'n gywirach.
Er bod dy bechod fel y mel,
O ran dy gorph i'w roi dan gel,
A'i ddwyn yn gudd, heb ddyn a'i gwel,
Dan lechu i'w ddirgel loches;
Nef a daear, bore a hwyr,
A'i dadguddia oll yn llwyr,
Trwy fawredd Duw, yr hwn a ŵyr yr hanes.
Achan chwannog a rôi 'nghudd
Yr aur a'r fantell, werthfawr fudd,
Am hyn digwyddodd diwrnod prudd,
A ch'wilydd grudd a chalon;
Y guddfa gel i'r gole a gaed,
Ac ynte a'i blant, aniwiol waed,
Ynghyda'r diofryd bethe a wnaed yn boethion.
Ni chadd Dafydd fawr i ras
A alwe Duw 'n ddewisol was
Am waed Ureias, hwn a las,
Mo'i giedd gas i'w guddio:
Gwedi i Nathan, lân i liw,
I gondemnio â dameg wiw,
Rhoes farn i hun gyhoeddus i'w gyhuddo.
Ni chadd meibion Jacob chwaith
Ond c'wilydd mawr o'u celwydd maith,
Twyllo u tad a'r siaced fraith
A wnai iddo ganwaith gwyno;
Gwerthu i brawd i'r Aifft a wnaen,
A gorfod gwedi ymgrymu o'i flaen,
Fel caeth weision, cyn y caen i cinio.
Os gwnei di gam â'r gwaela erioed
Er dringo i'r gangen ucha o'r coed.
Gwylia syrthio dan i droed
Ar ddiwedd oed dy ddyddie;
Na fwrw yno fai ar yr un,
Ond ar d'anwiredd di dy hun,
O anfodd Duw, mewn perffeth lun a'th lunie.
Os dynion chwannog, drygiog drais,
A ddont i'th ddenu à thyner lais,
Na chytuna, cilia, cais
O rwyde malais rodio;
Cydwybod glir a chywir law
A wnant lawenydd ddydd a ddaw
I'r galon brudd, heb golyn braw 'n i briwo.
Y call diball, drwy bwyllus fraw,
A wel y drwg aniwiol draw,
Ac a ymguddia i gadw i law,
Yn nerthol daw oddiwrtho;
A phob un ffol, heb rol, heb raid,
Yn ol ni thry, ni ffy, ni phaid,
Nes i gosbi ymhen y naid i neidio.
Coelia Dduw oni choeli fi,
Dy weithredoedd oll dan ri
Fydd eglur yn dy dalcen di,
Drygioni a brynti a breintied;
Mae'r nos yn ole fel y dydd,
A phob peth cuddiedig fydd
I'r Gwr a'u rhoes, a'i gŵyr, yn rhydd agored.
Y diwiol glân, blodeuol glod,
Ac Ysbryd Duw byw ynddo'n bod,
Sydd hawdd i adnabod dan y rhod,
Oherwydd nod i anwyde;
Ni cheir twyll drwy amhwyll droi,
Na ffug, na ffalsedd, gnafedd gnoi,
Nac un gair drwg, anfoesol, o'i wefuse.
Os wyt mewn eisie'n wan dy blaid,
Gen Dduw, bob dydd, trwy ffydd, na phaid,
Cais, ti a gei bob angen rhaid,
I'th gorff a'th enaid hefyd;
Cura'r porth, fe ddaw Mab Mair,
I'th ddwyn i'r wledd wen groew-wedd grair,
Daw Crist i hun ar hanner gairi agoryd.
Mae Duw yn estyn i law gref,
I'n gwahodd olli deyrnas nef,
Y sawl sydd yn i wrthod ef,
A'i fwyn rywioglef eglur;
Am ddirmygu i gyngor da,
I gado 'n ol, a'u gwawdio a wna,
Pan font mewn distryw dwylledd bla, nid ystyr.
Ymendiwch, ac na fernwch fi,
Gwellhewch ych ffyrdd, gwrandewch ar gri
A pheredd lais yn Harglwydd ni,
Gwybyddwch chwi 'ch rhybuddio;
Oblegid mai anfuddiol fydd
Ych diflannu o ddydd i ddydd,
Gweithredoedd y tywyllwch sydd i'ch twyllo.
Cyd-ddychwelwch yr awr hon,
Oddiwrth gamwedde a bryche bron,
Fel na lidio, â phig y ffon
I rwygo'r galon galed;
Edifarhawn, fe drugarha,
Os trefnwn waith yn dwylo'n dda,
Mae i Air yn addo i ni na wna ddim niwed.
II.
Pob teulu trist sy'n talu treth,
A farnant fynd y byd ar feth,
A throi o'r rhod, heb wybod beth
Sy'n dwyn gor chafieth dynion;
Beth, ond gwaith cenfigen, chwant,
A fu, ac a fydd, yn gerydd i gant,
Wrth ddial pechode'r tade ar y plant a'r wyrion?
Nid oes dim yn temtio'r un
Yn waeth na i felus chwante i hun,
Pen lithier gennynt yn gytun,
I ddonie a'i lun ddiwynned;
Chwant yw'r fam a'r fameth fwyn,
I fagu anwiredd ynddo i ymddwyn,
Nes amlhau, fel dail ar dwyn, i lonned.
Chwant a wnaeth i Efa'n siwr
Wrando ar y sarff, a thwyllo 'i gŵr,
A digio i Cheidwad, cadarn dŵr,
Llywiawdwr, awdwr Eden;
Am geisio mwy na'i hordinhad
Cael i melldithio, hil a had,
A cholli'r cwbwl oedd leshad yn syden.
Wrth chwant, Ahab ehud fu
Yn chwennych gwinllan geinlan gu,
A thwyll y wraig ar ddichell ddu
Yn traws fwriadu'r weithred;
Trwy gau dystioleth gwyr y fall,
I gael y berllan bur ddiball,
Gwiricn-waed Naboth gywir gall a golled.
Y winllan, Ahab, pan y cadd,
Ynddo'i hun fo ymlawenhadd,
Ond sen Elias a'i tristâdd,
Lle y cofie ladd y cyfion,
Y lleddid lesebel heb wad,
Ai holl epil, hil, a had,
Nid yw rhai drwg ger bron Duw Tad ond hedion.
Ac er i'r brenin mawr i fraint
Edifarhau fel diwiol saint,
I'w gadw i hun rhag drwg a haint,
Nes mynd digofaint heibio,
Lladd i blant, i ddial a wnaed,
A mathru lesebel dan draed,
Lle cadd y cwn frenhinol waed yn honno.
Trachwant gwas y proffwyd pur
I gyfoeth Naman, oedd mewn cur,
A wnaeth Eliseus yn sur
I'w droi mewn dolur duloes;
Gorchmynnodd iddo'r gwahan glwy,
Fel na bai drachwantus mwy,
Ac felly bu fo'n wan ddi-nwy'n i einioes.
Trachwant Haman euog liw,
A'i gyrre'n ddig, gwirionedd yw,
Ni fynne adel un dyn byw
O ddynol ryw'r Iddewon;
Gwedi codi cadarn aed,
A'u llym arfogi i golli gwaed,
Trwy synwyr gwraig ag ef y gwnaed yn gyfion.
Y genfigen ddi-lesâd
A ladd i pherchen ymhob gwlad,
Derchafu i hun drwy dwyll a brad
Oedd ddiried fwriad Haman;
Crogbren newydd celfydd caeth,
I grogi Mordecai, a wnaeth,
Ac i gysegru hwnnw'r aeth i hunan
Haras sydd yn yr oes hon,
Fel yn amser Jeremi bur i fron,
Rhai'n rhy lidiog, rhai'n rhy lon,
Ynfydion foddion fyddan;
Eisie i adnabod, Duw a'u casa,
Rhag i gwŷn a'i gwenwyn cwyno a wna,
Yn ddoeth ar y drwg, ond gwneuthur da nis medran.
Dull wynebe ffeilsion rhai
Sy'n tystiolaethu llawer bai,
Eu gweithredoedd drwg heb drai
Yn hyddysg hwy a'i cyhoeddan;
Gwae eneidie y hain ryw awr,
Gwedi tyfu i fyny'n fawr
Ym mhwll anwiredd swrth i lawr hwy syrthian.
Y rhai sy'n synieth heleth hud
Ar bethe bydol marwol mud,
Yn fwy na'r nefol drysor drud
Lle mae'r gwir olud gore;
Ymogoneddant yn i rhwysg
A'i cwilydd ffiedd fraisgedd frwysg,
Gan fynd ymlaen i'w poeni 'n wysg i penne.
Mae rhai 'n y golwg fel y gwlan,
Tu allan megis llestri glân,
A'u bolie 'n dduon fel y frân,
Mawr ddryge wnan yn ddirgel;
Fel bedde gwedi i gwynnu'n ddrych,
Pob un o'i fewn yn aflan rych,
Wel dyna'r dynion gwychion, gwych i gochel
Mae llawer un yn deg i rith,
A'i eirie 'n glaiar fel y gwlith,
Ac er hynny 'n plannu i'n plith
Orchwylion brith frycheulyd;
Felly y gwelaf rai a wn,
Pe bawn i 'n henwi Hwn a Hwn,
Bychan a fydde roi arna i bwn o bennyd.
Chwi gribddeilwyr, be sy 'n ych bryd
Gwedi cribinio ar draws ac ar hyd,
Y gowsoch chi reles dros fyth yn y byd,
A gwarant iechyd i chwi?
Ple mae'r ange, ai marw wnaeth o?
Mynd i wlad bell a'ch mynd dros go?
Nid ofna 'r dewr. O daw fo ar dro, fo dery.
Fe chwardd yr Arglwydd, awdwr gras,
Am ben y drygddyn cyndyn cas,
Am dynnu i gledd min-dene glas,
Mewn 'wyllys atgas allan,
I ladd y tlawd ag ergyd gwn
Dwed gwrda doeth, à gair di dwn,
Y cledde hir a ynghalon hwn i hunan.
Eleiaphas a ddwede'n ddwys,
Hy y gweles yn y gwys,
A arddo anwiredd fliedd ffwys
Mewn modd anghymwys yma,
Ac a hauo ar wag had
Chwyn drygioni i lenwi'r wlad
I'w ran i hun heb rad na mad i meda."
Gwae rhai sydd yn nydd i nerth
Yn llunio deddfe ceimion certh,
A gwae scrifenyddion sy ar werth
Yn britho'r drafferth rwystrus;
I droi un gwirion, druan gwael,
Oddiwrth farn union, er mwyn cael
I dynnu o'i feddiant, dene fael anfelus.
Y sawl a fu'n dyfeisio'r gwaith,
A'r gŵr a wnaeth y weithred fraith,
Yn nydd mawr yr ymweliad maith,
Ar ol yr anrhaith ryfedd,
I ble y ffowch, mewn ofn a braw,
I geisio cymorth cadarn law,
Pen ddel distriw? Siwr y daw fo o'r diwedd.
Yna cofiwch chwi'ch ffyrdd drwg,
A'ch cyfeiliorni, a'ch gwyrni, a'ch gwg,
Yn dallu r dwl mewn niwl a mŵg,
Fo ddaw i'r golwg eto;
Wrth ystyried i ble'r ewch,
Ych ffieiddio 'ch hun yn wir a wnewch,
A dangos ych cwyn y pryd nas cewch mo'ch gwrando.
Pam yr wyt, y treisiwr cry,
Yn rheoli'r gwan mor hy,
I'w ddiystyrru a'i daflu o'i dy?
Dy Farnwr sy'n dy weled;
Oddiarno erioed ni ddiangodd 'r un,
Y dyn aniwiol, gan Dduw cun
Mewn rhwyd o waith i ddwylo i hun a ddalied.
"A lecha un mewn dirgel le,
Fel nas gwelw I efe?'
Medd yr Arglwydd Dduw o'r ne,
Wel dyma'r geirie 'n gwirio;
Ond ydyw 'n llenwi 'r nefoedd faith,
A'r holl ddaear liwgar laith?
Ymhle ceiff dyn ddieithrol daith oddiwrtho ?
Nid oes dywyllni o fewn y byd,
Na thŵr, na chell, na chastell clyd,
Nad yw angylion Duw bob pryd
Mewn gole i gyd yn gwylio;
Nac un cyfle caeth na rhwydd,
I'r anwireddus, ofer swydd,
Er dyfeisio, i geisio o'u gwydd ymguddio.
Gen nad oes mo'r ffordd i ffoi
I'r un gŵr traws, on'd gore yw troi?
Tristhaed dy galon drwy gyffroi,
Yn dda ti a ddoi 'n dy ddiwedd;
Cais gan Grist iachau dy glwy,
Fel y caffech einioes hwy,
Paham y byddi farw drwy oferedd?
Ag oni fwriwch heibio draw
Ych holl ddrygioni'n llwythi o'ch llaw
Mor ddisymwth ag oedd glaw
Dwr diliw y daw'r dialedd;
Fel afon wyllt pen lifo'n lli,
Nid ellir dal na'i hatal hi
Ych pechod a'ch goddiwedda chwi 'n y diwedd.
A dybi di a'r gydwybod wan,
Tydi sy'n barnu rhai 'mhob man,
Oherwydd rhyw lygredig ran
Yn gwneuthur aniwioldeb,
A thithe a th feie un fath ne fwy,
Y diengi di, er na ddiengan nhwy,
Oddiwrth farn Duw, sy'n barnu drwy uniondeb?
A ddychwelo oddiwrth i chwant,
A'i ddrwg gamwedde lawer cant,
Trwy i adnewyddu i hun fel sant,
Fo a ddaw i lwyddiant diwyd;
Hwnnw a geidw'n gadarn fyw,
I anwyl ened, eured yw,
Nid rhaid i undyn ame Duw am i addewid.
Hyn a ddywed Un a Thri,-
"Nid oes ewyllys gennyf fi,
I'r marw farw'n wael i fri,
Gan hynny, chwi, dychwelwch;
Fel y byddoch byw trwy ffydd,
Ni wyddir pwy yfory a fydd,
Clywch ych gwahodd, heddyw yw dydd
dedwyddwch."
DIC Y DAWNS.[8]
Tôn,—"ANODD YMADEL."
POB glanddyn cariadus afiaethus yn fwyn,
Gwrandewch ar fy hanes a'm cyffes a'm cwyn;
Rwy'n dangos hysbysrwydd, wych bylwydd, i chwi,
Na welsoch chwi haiach ynfytach na myfi.
Mi fum yn oferedd yn hoewedd yn hir,
Ac weithie'n awyddus, argoeddus yw'r gwir,
Er ennill y geniog mor gefnog a'r gwynt,
Er cynted eillwn, mi a'i gwariwn hi'n gynt.
Llawer celfyddyd, wr ynfyd, erioed,
Yn ufudd fy nyfes, a dreies ar droed;
Pob campie, pob castie, rhag gostwng fy ngradd,
A phob math ar afrad, ond lladrad a lladd.
Pan oeddwn gyweuthog, er gwaethed fy nghwrs,
Ac arian yn gorwedd ym mherfedd fy mhwrs,
Pawb fydde'n fy mostio, yn treio pob tric,
Nid oedd neb ynfytach na doethach na Dic.
Yn nghwmni'r ifienctid ni welid neb well,
Cân fydde yn fy nhafod yn barod o bell;
Llawer cydymeth drwy fawr wenieth draw,
Mewn ufudd lawenydd, a lyne'n fy llaw.
Fo ddeude'r cybyddion mor oerion a'r ia,
Fy mod i'n gymydog godidog o'r da;
Cawn ganddyn fy nghoelio, a rhodio'n wr rhydd,
Tra bum yn gofalu am dalu'n y dydd.
Tra bu gen i geffyl mi gawn fenthyg march,
Tra galles i ganlyn, gan bob dyn cawn barch;
Cawn groeso a chymeriad a chariad a chŵyn,
"Nosdawch," a "Dydawch," a deudyd yn fwyn.
Anwadal fynediad wrth rediad y rhod,
Y golud a giliodd, newidiodd y nod;
Y parch a'r helaethrwydd a lithrodd yn is,
A Dic aeth yn hitin heb ronyn o bris.
Tra bum i'n wr cynnes, a'm lloches yn llawn,
Fy marnu'n synhwyrol ragorol a gawn,
Gan bawb ffwl oedd hitin pen aethum i 'n ol,
Di-ras a di-reswm, a phendrwm a ffol.
Yr anwyl gymdeithion a droison yn ddrych,
Yrwan nis gwelan, ysgogan was gwych,
Heb un gair o gellwer pe gallen, yn rhwydd,
Yng nghysgod rhedynen nhw ymguddien o'm gwydd.
Ni cheir un gymwynas gyweithas fel gynt,
Ni roir imi garre lle gwaries i bunt;
O ganol y gwenith, fy mendith i'w mysg.
Fe am gyrred i'r branar i brynnu fy nysg.
Yn hwyr byrnhawn gynne, nid bore, gwybûm,
Mai di-fudd a diofal, benfeddal, y fum;
Ni orffwys yr iachus ar erchwyn y cla,
Cardigrwydd a ddiffydd o derfydd y da.
Er blined fy ngherdded, a lleied fy lles,
Adnabod rhai dynion yn gyson y ges;
Pen gaffw i gynheddfe a rhinwedd y rhain,
Y fale ga i 'n felus mewn dyrus lwyn drain.
Ni welwn mo'r pethe yn nyddie fy nwy,
Er lledu fy llyged gen lleted a llwy;
Yrwan rwy'n canfod, wrth hynod waith hael,
Nad ydyw cydymeth digoweth ond gwael.
Llawer y heues, ni fedes i fawr,
A heues mi a'i tenes, gollynges i'r llawr;
Os medru wna i gasglu, rhag ail methu mwth,
Ni fynnai roi f' ennill mewn rhidyll mor rhwth.
'Rwy'n dallt wrth gydnabod ar gafod y ges,
Mai oerllyd yw aelwyd heb gronglwyd na gwres,
Gwell imi na chastell gorchestol yr un,
Dŷ bychan ben erw ar fy helw fy hun.
FFAIR LLANRHAIADR.
"Y dyn a deif arian i'w hau lle na thyfan,
Gall fod ar ry fychan i hunan yn hen."
Y MERCHED GLAN HOENUS.
Merch yn achwyn ar i chariad am briodi un arall.
Tôn,—Y DDEILEN WERDD."
MERCHED glân hoenus, di boenus, da i byd,
Cyd nithiwch wenithe, mae efre 'n yr yd;
Os dewis cnau llawnion yn wirion a wnewch,
Rhai gwisgi melynion yn goegion a gewch;
Fel bresiach blodeuol, ne dafol ar dir,
Mae llawer o'r meibion yn weigion yn wir,
Er teced i llyged, er gwyched i gwallt,
Mewn afieth mwyn wenieth, mae'n anodd i dallt;
Roedd impin nodedig, rwy'n dwedyd i chwi,
Yn dangos mawr gariad drwy ymweliad à mi,
Er bod fel glas fedwen, braf irbren, o bryd,
Fe brifiodd fel gwernen yn geubren i gyd.
Gwnae felin, gwnae eglwys yn gymwys y gwaith,
Gwnae dŷ ar i dafod mewn diwrnod o daith,
Gwnae blas ar i dyddyn mewn deuddydd ne dri,
A'r byd gen esmwythed a'r melfed i mi ;
Aur ar i eirie a fydde 'n i fin,
Ai fwynder yn seigie fel siwgwr a gwin;
Myfi oedd yr ore a gare fo i gyd,
A'i ddewis gywely i'w 'mgleddu fo 'n glyd;
Nid oedd un cardotyn am ofyn, mi wn,
Mor daer ar i dafod a'r hynod wr hwn,
Ac oni chae i wyllys ae allan o'i go,
Gen wyllted a'r carw, ne farw a wnai fo.
Wrth glywed i duchan, nid iachus i gri,
Roedd calon dosturiol gyneddfol gen i,
O anfodd fy ngherent, mae'n gywrent y gwir,
Mi gedwes gwmpeini 'r dyn heini, do'n hir;
Er ofni priodi, puredig yw merch,
Ni fedrwn mo'i fario, 'n bwys arno bu serch;
Am wrando ar i bratio, yn bragio hyd y brig,
Ces garu, ces gerydd i'm dwyrudd, a die;
Er gwrthod i amgenach, gwn bellach gen bwyll,
Er digter o'i achos rwy'n dangos i dwyll,
Er taered y glanddyn i ganlyn i gŵyn
Fe brifiodd o'r diwedd yn fudredd an-fwyn.
Troi wnaeth i feddylie 'n ddolenne ddwy lath,
Oddiwrth i ffals golyn, na welwy mo'i fath;
Cyflybwn i feddwl i gwmwl y gwynt,
Anwadal fynediad yw hediad i hynt;
Yn niwedd y broffes mi a golles y gŵr,
Ag arall ymrwyme, rhoes eirie rhy siwr;
Heb son am i drafel i 'madel â mi,
Ffei oerwr a'm ffeiriodd, drwy ffarwel y ci;
Er gwylio rhag llithro i chwith dripio wrth i droed,
Ni thafles i garreg i'w goryn erioed,
Gallase wrth roi heibio, nid cilio fel clown,
Roi un siwrne ofer—i ofyn a ddown.
Ni bu fo oddiar deirawr yn dirwyn y llall,
Ni ddeallodd a'i cipiodd fod Ciwpid yn ddall;
I ganlyn byr feddwl, yn drwbwl blin draw,
Medd hai mai hir ofal yn ddial a ddaw;
Pe base wrth fy newid yn dwedyd i daith,
Ni baswn yn prisio, na chwyno dim chwaith;
Er bod merched anghall yn diane i goed,
Ni chlywes i ddianc o wr ifanc erioed ;
Rhoi siampli ferched diniwed a wnai,
Bydd meibion cariades a'i credyd yn llai;
Gen ddigwydd 'madawiad, mawr siarad mor sych,
Ni cholla i mwy nghysgu'n gwir garu gŵr gwych.
TRAWS NAWS NWY.
Cwynfan un claf am i gariad.
Tôn,—IECHYD O GYLCH."
TRAWS naws nwy, drud glud glwy,
Yn ddiddig rwy i'w ddiodde,
Prudd gudd gyw, dwys bwys byw,
Rhyfeddol yw i fodde;"
Swp o ffansi ffyddlon
Ymgasgle 'nghilie nghalon,
Wrth ganfod Gwenfron burion bwriad;
O'i hachos mi feichioges,
Yn weddw ddelw ddiles,
A mi a guries o'i mawr gariad.
Pel gel gur, fel pig ddig ddur,
I'm dwyfron bur a dyfodd,
Trwm swm serch, o hud mud merch,
Gŵyl annerch a'i rhagluniodd;
Marwoleth wanbeth enbyd
A genhedlodd Ciwpid,
Asbri ysbryd ynfyd anfad;
Pa fodd y caf, er cwyno,
Dro addas i'w dadwreiddio?
Yr wyf yn blino 'n cario cariad.
Ias gas gyw, heb lun heb liw,
Brwd eilun, briw hudolieth,
Am fin gwin Gwawr a bair bob awr
Fy nhorri i lawr gan hireth ;
Fy meddylie a ddaliodd,
Fel clip ar haul rheolodd.
Calon oerodd, tynnodd tano,
Ni eill y traed mo'r cerdded,
Ni eill y llaw na'r llyged
I unlle fyned ond lle a fynno.
Blys brys bron, brad llygad llon,
I'r gwirion eirian gariad,
Rhwydd chwydd chwant, i lladd cadd cant,
Ó drachwant maith edrychiad;
Gwae finne yn gyfannedd,
Lle tyfe'r ffol etifedd,
A'm gyrre i orwedd, ddialedd ddolur;
Mi a'i clywn ar f ystumog,
Yn ymdroi fel draenog,
Arwydd euog fradog frwydyr.
Nwy clwy claer, o naturiaeth taer,
Am feinir, chwaer i Fenws,
Gwedd weddedd wen, gain beredd ben,
Genhedlog gangen hoew-dlws;
Ffarwel, mi a i'm bedd cuddiedig,
Ac oni fyddi feddyg
I'r anweledig ysig asiad,
Er clywed hwn i'm clwyfo
Ni welir, meinir, mono,
Myfi sy'n gwyro f'oes o gariad.
Mawl hawl hir, nod clod clir
A gei di'n wir dan warant,
Os doi, rhoi 'n rhad wir lles wellhad
I'r mwythus gariad methiant;
O datod dy gydwybod,
Tyrd imi ag eli o'r gwaelod,
Cywir serch syndod gafod gofal,
Nid oes un meddyg moddus,
Un rinwedd yn yr ynys,
Na dim cysurus co-tus cystal.
Y fun lun lwys, fe sai 'r bai 'n bwys,
Iaith galed ddwys, i'th ganlyn:
Gwedd weddedd wiw, hoff ore i ffriw,
Fy angyles yw fy ngelyn:
Dy degwch hyd gladigeth,
Dy gariad yw'r magwreth,
Yn etifeddieth afieth ddyfal;
Nid oes ar wyneb daear
Un esgob, mi wn, all ysgar
Rhyngo i a'm hygar gymar gwamal.
Llwyn twyn tes, dawn llawn lles,
Yw'th fynwes, duwies dawel,
Seirian wawr ser, gain berllan bêr,
Moes fwynder hyder hoedel;
Addo, dyro'n dirion,
Gyffyrie i gilie'r galon,
Cusane swynion, ffraethlon ffrwythe;
Cei dithe gariad perffeth,
Was onest i'th wasaneth,
Yn etifeddieth odieth,—hwde.
Prif rhif rhan, fy nhynged i sy wan,
I'm nesu yn anian isel,
Traul sal swydd, f'oes rhois yn rhwydd,
I gogwydd sy ar dy gogel;
Ede 'nyddie nyddest,
Fy einioes a ddirwynest,
Llwyr wahanest, lluniest, llawnfryd;
Bellach tor y bellen,
A gwna di-ebwch diben
Am dana, meinwen, mewn un munud.
BRAD Y POWDWR GWN.
OND trist i Bapist ar bob pen—y dydd,
Yn y dwyll genfigen,
Amcanu mwya cynnen,
A dwrn y Pab dorri'n pen?
Mawr, mawr, nod rhyfawr i blant Rhufen—gas
Geisio brig brenhin—bren;
Lladd llywydd y llwydd llawen,
Llew a gâr wyr holl Loegr wen.
Beth a dâl dyfal weddi deufin—gŵr
Heb gariad yn wreiddyn?
Ni thal i ffydd beunydd bin,
Heb wir fron bur i'w frenin.
Da yw i'r doethryw, di-athrist—galon,
Gilio oddiwrth Anghrist,
Gwrthsefyll Pab a'r Pabist,
Yn enw cryf eneiniog Crist.
SWN CORDDI.
(I'w glywed yn y llaethdy o ystafell wely.)
TRWST â gordd, trystio du-gell dychryn-gwsg,
Trwm trwbl-gwsg, trem trebl-gell,
Twrw plethgwlm, tripa laeth-gell,
Twrw naw cawr, taranau cell.
Y GU ENETH GAIN.
Tôn,—DIFYRRWCH GWYR DYFI.
Y GU eneth gain, a'r goleuni glain,
Benodol bun wiw-dlws, liw Fenws ael fain;
Ych tegwch a'ch dawn, rhy loew a rhy lawn,
Am gyrrodd dan gurio i dramwyo'n drwm iawn;
Ciwpid a'i gwnai, fe fu arno fai,
Na wnaethai ar gariad na throiad na thrai;
Os serch a hir sai, fel llwydrew fis Mai,
Mi dodda 'n y diwedd, modd rhyfedd, medd rhai.
Fy llyged fy hun, a'm clustie'n gytun,
A wnaethon gam hwythe, bu beie ar bob un,
Am graffu ar ych lliw, y win-wydden wiw,
A gwrando'ch ymadrodd a'm brathodd i'm briw;
Rwy'n diodde ac yn dwyn pur gariad heb gwyn,
Oblegid fod glendid yn f' erlid yn fwyn,
Ni fase dan f'ais na thrallod na thrais
Pe baswn heb weled na chlywed ych llais.
Cardigrwydd rwydd radd mewn cwlwm a'm cadd,
Rwy'n ofni mai cariad i'm lleuad a'm lladd,
Os tegwch am dwg i'r ddaear ddi-wg
Fe fydd i chwi ogan a'i ddrogan yn ddrwg;
Ystyriwch mewn pryd mai gwagedd i gyd
Yw coweth, hudolieth, bywiolieth y byd;
Llareiddiach, lliw 'r od, i fyw ac i fod,
Yw twymyn ffyddlonddyn na cherlyn â chod.
Dyn wyf fi dan ia, nis gwn beth a wna,
Am wres a chynhesrwydd rhywiogrwydd yr ha,
Y chwi a'm hiacha, os dyfn 'wyllys da,
O'ch tyner glaiarwch hawddgarwch a ga;
Mi fydda, fy lloer, di-ana a di-oer,
Yn llon ac yn llawen fel clomen mewn cloer;
Mwy mawredd i mi yeh hardd wyneb chwi,
Liw Efa, na lifin mawr frenin a'i fri.
Canmolieth a gewch os chwi drugarhewch,
Rhoi purdeb am burdeb mewn undeb a wnewch;
Rhowch imi serch lefn, drych afieth drachefn,
A chariad am gariad, di-droiad da i drefn.
Wel dyna'r tri pheth na phlyg, teg i phleth,
I gynnal diddanwch difyrrwch di-feth;
Gwell i barhau yw dwy galon glau
Na dwyfil o bunne yn dyrre rhwng dau.
Dymunwn cyn hir, wen seren y sir,
O waelod cydwybod gael gwybod y gwir,
Oes fodd i mi, 'r fun, ych cael wrth fy nghlun,
Y wiwloer ddi-welw, ar fy helw fy hun?
S gynnes os ca, y wawrddydd awr dda,
Iawn ddwedyd,-- Rwy'n ddedwydd," yn ufudd a wna,
"Meillionen y lles yn gowled a ges,
Lân ethol wenithen, sef twysen y tes."
AR GARREG FEDD SIAN JONES.
Gwraig Richard Foulkes, o Ben y Graig, Llansilin.
FERCH wych, edrych. Dan odre—'r garreg,
Oer guriodd fy mronne;
Yr un fath, i ddwy lath le,
Diau daith, y doi dithe.
ARWYRAIN RHIAN Y RHIANOD.
Tôn,—"BRYNIE'R WERDDON."
MEILLIONEN burwen beredd, o fonedd rinwedd ryw,
A luniodd Duw yn lana, hawddgara, fwyna'n fyw,
Gwech raddol, rasol rosyn, lliw blisgyn irwyn wy,
Un dyner, cofia am dana, bryd Efa, noddfa nwy;
Yn hardd fel gardd deg urddol, o lesol nefol nod,
Ail Fenws, ole fwynwar, lon glaiar, lawn o glod.
Rhian yr holl lendid, gnawd hyfryd, gain wyt ti,
Diana i daflu hudolieth mewn afieth o'm blaen i,
Well-well fel Siwsanna, a'th eirda wela'n wych,
Fy angyles yn fy ngolwg, dda drefnus yn y drych;
Yr wyt ti, meinir odieth, yn berffeth beth i'r byd,
Hawddgara a'r fwyna, fenaid, deg euraid wyt i gyd.
Dy fân-wallt dros dy fynwes sy'n tanu'n llaes fel llin,
Pob modfedd, rinwedd raenus, yn drefnus wrth i drin;
Tra byddo ffansi ffyddlon yng nghalon gyfrin gŵr,
Cei gariad di-derfyniad, drwy sail osodiad siwr;
Tra byddo adar oediog yn rhodio brigog bren,
Bydd hynod glod y gwledydd, iach beunydd, uwch dy ben.
Tydi sydd phenix ffyniant, tydi yw seren serch,
Tydi sydd bêr winwydden, o foliant, irwen ferch;
Tydi sydd hylaw heulwen, eglurwen, glaerwen, glir,
Dy lendid sy'n disgleirio i sirio llancie'r sir;
Gwen eneth fel gwenynen, a'i min yw mwynen mel,
Dy gorff, dy gnawd, dy fwynder, mun dyner, i mií y del.
Rwy'n danfon serch a chariad a chaniad atoch chwi,
I 'smwytho caeth ochneidion sy'n 'nafu nwyfron i,
Chwi gawsoch wraidd fy meddwl yn gyfan gwbwl, gwawr,
A chwithe, gangen heini, a'ch serch yn oeri'n awr,
Rhyw ofal sy'n rheoli, rwy'n ofni am wen lliw'r od,
Gan hireth a gorthrymder, cyfyngder y ca i fod.
Trwy fy hun mi'ch gwelwn, bun addfain, gefn y nos,
Yn hoew fenyw feinwasg fel gwridog ddamasg ros,
Ow, ow, na chawn yn effro, pan fawn yn nofio o nwy,
Mor hawdd ych nawdd i'm noddi, i ddiffodd cledi clwy;
Sala swydd yw seilio serch, a marw am ferch mor fwyn.
Ac oni cha ych 'wyllys da, fe ddarfu am dana ar dwyn.
CLYWN LAIS.
Llais peraidd ceiliog yn y bore.
CLYWN lais, nid gwaglais, ond gwiw—gloch-y bore,
Beraidd iawn blygein-gloch,
Awch o ben-glog, chwibian-gloch,
Mab iar, fawl clauar fel cloch.
РOB MAB SYDD MEWN CARIAD.
Mab yn achwyn ar i gariad am i droi fo heibio, a'r ferch yn ateb, bob yn ail bennill.
Tôn,—"ANODD YMADEL."
POB mab sydd mewn cariad, a'i fwriad ar ferch,
Drwy lwysfwyn ddeisyfiad yn siarad am serch,
Na roed ar liw lili mo'i ffansi'n rhy ffri,
Cymered athrawieth carwrieth gen i.
"Y carwr trwm gyflwyr, myfyriwr am ferch,
Sy 'n canu ac yn cwyno i ddiswyddo o serch,
Gwybyddwch mai ofer o bleser i blant
Ddadguddio cyfrinach y gilfach i gant."
Ceres fun hafedd, fwyn brafedd o bryd,
I chwmni oedd ddiddanwch hawddgarwch i gyd,
Nid oedd un ar aned cin fwyned a'r ferch,
Yr awron yn rhyw fodd hi a'm siomodd am serch.
"Troi 'r diwrnod aeth heibio dan wylo eto 'n ol,
Yw son am hen ffansi, a phorthi peth ffol;
Mae serch ar y dechre yn cynne fel carth,
Pan dderfydd hi a ddiffydd heb gwilydd na gwarth.
Mynych gyfarfod lliw'r mân-od a wnawn,
I wrando ar i mwynder, i doethder, a'i dawn;
Deu gwell po fynychaf, yn awchus i'r daith,
Y cwrddem yn gilydd, heb gwilydd o'n gwaith.
"Na ddwedwch mo'ch siomi na cholli dim chwaith,
Er maint a fu 'ch trallod, a'ch tafod, a'ch taith;
Nid oedd fy nghymdeithas gen haelwas yn hir
I'w fwrw 'n oferedd, anweddedd yn wir."
Bum yn hir siarad a'r seren dda'i sail,
Hawddgara i geirie, wedd ole ddi-ail;
Cu'r oeddwn i'w charu, ran haeddu 'roedd hi,
Nid dau mwy ffyddlongar oedd meinwar i mi.
"Tra ceres i'n ffyddlon, bum dirion heb dwyll,
Yn cadw pob amod mwyn parod mewn pwyll;
Mi a welwn ych tegwch, na farnwch ar ferch,
A'ch gwawr yn rhagori, nes oeri fy serch."
Pan weles i hynny, mynegi wrthi a wnawn
Fy meddwl yn gwbwl, ac ateb a gawn,
'R oedd hithe wrthyf finne'r un modde'n fy mryd
Yn adrodd i hamcan yn gyfan i gyd.
"Rwy'n clywed ych geirie a'ch dadle mod i
A'm serch yn ffyddlonach, awch wychach, na chwi;
Finne gaf ddannod, cewch anghlod i'ch oes,
Ych bod wrth wenieithio 'n rhagrithio 'n rhy groes."
Yn ddidwyll hi ddwede, ni cheisia i mor gwad,—
"Pe gyrrech chwi rywun i'm gofyn i'm tad,
Cytunwch os gellwch, treiwch y tro,
A phrun bynnag hefyd, rwy'n dwedyd y do."
"Ni wadaf, ni wades na cheres i chwi,
A chwithe ddwys dyngech na fynnech ond fi;
Mae bagad yn chwennych yn fynych 'r un fael,
Haws ceisio'n garedig, a chynnyg, na chael."
Meddyliwn yn llawen o'm seren mor siwr,
Nad aethum yn sydyn i'w gofyn i'r gwr;
Ni bum i chwaith gartre dros dridie' n ymdroi
Nes darfod i'r onix, wen phenix, fwyn ffoi.
"Er cimint ych afieth, ych gwenieth, a'ch gwawd,
Ni'm dalied, ni'm rhwymed mewn rhwymyn pen bawd;
Ac er nad wyf onix, na phenix i'ch ffair,
Y dynged lle diangodd a'm gyrrodd o'm gair."
Fel hyn ymadawodd, hi giliodd o'r gwaith,
Nid gwiw oedd i gofyn, na chychwyn ychwaith;
Ni ddoe yn fy nghyfyl, anghofiodd y fun
Gynt yr addewidion a ddwedodd i hun.
"Os cawsoch addewid, mawr wendid, am rodd,
Os troell fy meddyliau, oedd drymion, a drodd,
Ond iawn i bob rhiain o Lundain i Leyn,
Os ca i llawn ewyllys, gael dewis i dyn?"
Nis gwn i mo'r achos i'r linos wen lwys
Fel hyn fy nhroi heibio, gan ddigio mor ddwys;
Nid oedd neb yn crefu am feddu 'r wen fun,
Na'r addewidion a ddwedodd o'i hanfodd i hun.
"Mae'r gwynt wrth i reol naturiol yn troi,
A'r haul at i fachlud hoff hyfryd yn ffoi;
Rhai merched a fiaethus, rai trefnus, sy'n troi,
Mwy o lawer o feibion anffyddlon sy'n ffoi."
Gyrru cenhadon at Wenfron yn iawn,
Ni ddaeth â mi i siarad er dim ar a wnawn;
A mwyned a fydde i phwyntmanne hi gynt,
Ond galw doi i'm gweled gin gynted a'r gwynt.
"Os ydych wr cymwys a chyfrwys a chall,
Nid ydyw gwaith Ciwpid ond ynfyd a dall;
Fy nghlwyfo pan geisiodd, fe syrthiodd i saeth,
Mi a gedwes fy mynwes, nid ofnes fod waeth."
Nid oes achos eto i ddigio wrthyf fi,
Gan gofio a gwir goelio llwyr gilio ohoni hi;
Pe rhoise mewn undeb i hateb i hun,
Ni base raid dangos yr achos i'r un.
"Och i chwi achwyn ar forwyn o ferch,
Fel un a fae 'n meiddio fy siwio am serch;
Heb sel am addewidion, na dynion yn dyst,
Mewn cyfreth carwrieth ai perffeth yw pyst?"
Mae'n debyg mai i meddwl yn drwbwl a drodd,
At arall wr tirion oedd burion i'w bodd;
Mi glywa i 'r fun lana, hoff iawna i choffhau,
Er hardded i glendid roi addewid i ddau.
"Er dangos ych maswedd air marwedd i mi,
Ni rodda i fyth ogan na chusan i chwi;
Camol ych awen yn gymen a gaf,
A'ch galw'n hen gariad anynad a wnaf."
Nid ydw i'n goganu mo'r fwyngu wen ferch,
Er iddi fy nrysu a'm siomi am serch;
Ond eto rwy'n tybied, heb fyned i bell,
Cael gystal a hithe, fealle, ne well.
"Chwi ddwedwch, ni chelwch, y gellwch gael gwell,
Heb gyrchu mo 'ch cowled wen beillied o bell;
Cymerwch a phrofwch, na 'mffrostiwch yn ffraeth,
Rhag cael i'ch ymgleddu gywely a fo gwaeth."
Y WEDDUS WINWYDDEN.
Can i ofyn ceffyl gan Ann Badda, dros Gynfrig Sion.
Ton-"GADEL TIR."
Y WEDDUS winwydden, bereiddia 'mhlwy Collen,
Am wneuthur yn llawen elusen o les,
Mae bendith Duw nefol yn tario'n gartrefol
Ynghanol ych maenol a'ch mynwes.
Am burder Siwsanna, y Meistres Ann Badda,
A'i diwair weddeidd-dra, mwys eirda, mae son;
A chwithe'r un ffunud, o enaid ac ysbryd,
A chorff difrycheulyd, a chalon.
Ych harddwch a'ch urddas am ddiwair gymdeithas
Sy debyg i Dorcas, gweithas i gwaith;
Gwnaeth gweddi 'r tylodi i Dduw i chyfodi
O farw i'w fyw foli fo eilwaith.
Am wneuthur syberwyd o flaenffrwyth ych golud
A chredu cymeryd ych golud o'ch cell,
Crist a'ch chwenycho, a'ch parch a chwanego,
A'ch cyfoeth ni chollo, ewch well-well.
Casglasoch fendithion i'ch plant ac i'ch wyrion
I'w cadw rhag blinion helbulon y byd,
Am helpu'r tylodion, ceraint, cymdogion,
Yn well yn ych calon na golud.
Ych hepil sydd beunydd yn ben i'w carenydd,
Yn dwyn ffrwyth fel gwinwydd mawr gynnydd i gant,
Nid oes dan y brenin well Ficar Llansilin,
Mor deilwng yn dilyn i dalent.
John Jones a fendithied, fel Eli fo Lefied,
A Marged dda i ymwared, aur seinied yw Sian;
Am ymddwyn yn weddedd, yn bur ac yn beredd,
Anrhydedd yn gydwedd a gadwan.
Naturieth pob impyn ddwyn ffrwyth ar i frigyn
Os pur fydd i wreiddyn i'w feithrin yn faeth:
Had y rhai cyfon a fydd, yr un foddion,
Flaenorion ar weigion rywogeth.
Mae pawb yn ych canmol, ych bod yn wybodol,
Fel Anna foliannol ddigonol dda gynt;
Rby hir fydd fy nghaniad i adrodd ar draethiad
Gyrhaeddiad ych cariad i'ch cerynt.
Y wreigdda drugarog, dda i helynt, ddi-halog,
Mae i chwi gymydog anwydog i wedd;
Cynfrig Sion ydyw, diolud i elw,
O'i aele yn fasw hyd i fysedd.
Gwybyddwch, Ann Badda, na cherdd ond yn ara,
Drwy haelder i'ch coffa rhowch geffyl i'r llanc;
Ond dysgu marchogeth gall ennill gorchafieth
Wrth ganlyn i afieth yn ifanc.
Ceffyl di-ddiffyg, yn rhodd, nid ymenthyg,
A fynna i 'n galennig i Gynfrig dan go,
Yn bybyr bob asen, yn esmwyth i bedren,
I gymryd merch irwen i'w chario.
Ceffyl croen-gyfan, lliwdeg cefn llydan,
A'i flew fel y sidan, eglurlan i glod,
Yn gledion i garne, yn union i arre,
I ddiodde rhai flatie ar i ffwtog.
Yn ffrom, yn galonnog, a'i wddw fel camog,
'R un drwyn a phen llwynog, mor chwannog a chi;
Os neidia fel carw, i bori, bob erw,
Bydd hawdd iddo i gadw fo a'i godi.
Yn fawrion i lyged, a'i ffroen yn agored,
Fo gerdd ar i wared â charred yn chwyrn;
A'i bynio a wna beunydd, fel ceffyl melinydd
Os bydd i egwydydd yn gedyrn.
Os rhowch fel y dwedes, ryw farch ne ryw farches,
Fe geiff yn gymhares ryw baunes à buwch;
Cyn pen y deng mlynedd, ymgodi a wna'n rhyfedd,
Bydd anodd i gyrredd, bydd goruwch.
Fo garia bob traffig o Gaer ac o'r Mwythig,
A fale o wlad Saesneg, a phenweg, a ffa;
Bydd ufudd ac ystwyth i'w gadw ar waith esmwyth
Gwraig ddidwyll a thylwyth wrth elwa.
I gyffes a gefes, mae'n caru pedleres,
I'w gadw'n gefn-gynnes y ddynes sydd dda;
Os ffeilia fo'n weithiwr, ond chware'r gwenieithwr,
Fo all fod yn farsiandwr o'r sowndia.
Pan elo fo'n gerlyn fe'i bernir yn burwyn,
Er dued i goryn, aderyn y dŵr;
Cawn weled yn wiwlan, mewn camrig a sidan,
Y merched yn sipian y siopwr.
Pan gaffo fo'r negyn, fe'i ceidw'n ddi-newyn
Bydd yn wrthun i landdyn i ganlyn yn gul;
Myn wair yn i sgubor, a cheirch yn i ogor,
A bara yn i goffor i'w geffyl.
Yn gynnil fo gynnull ddigonedd a gweddill,
Ni ddyry 'r hir ennill yn rhidyll yr ha;
Ond gwneuthur hwsmoneth, marchnata a phorthmoneth,
Gall fyw wrth i goweth y gaua.
Pawb a ryfeddan i fod yn llawn arian,
A dwedan yn fuan, nid truan y tro,
"Rhodd y wraig berffeth a brifiodd yn heleth,
Gocheled o'i choweth falchio."
Rhodd o law ddedwydd yn ddigoll a ddigwydd
Gwellwell ar gynnydd, ni dderfydd yn ddŵr;
Mae Duw wedi 'ch nodi i helpu'r tylodi
Cyn sicred a chodi 'r Iachawdwr.
Y weddw rinweddus, a haedde fawl felus,
Gwnewch i'r anghenus ych wyllys ych hun;
Bendith yr hollfyd, a bendith Dduw hefyd,
A gewch am ych golud i 'ch canlyn.
AR FEDD.
A fydd falch, eurwalch, o arian—nag aur;
Er gorwedd mewn sidan,
Y dyn reiol, dan raian,
Doi fel fi, i'r di-ofal fan.
Er cariad, rhediad mawrhydi—dawnus,
A dynion i'm perchi,
I'r ddaear i ddu oeri,
Yr hen fam, yma rhoen fi.
Na chwerddwch, gwelwch mai gwaeledd—fy lle,
Ar ol llawn anrhydedd;
Chwithau i ogof, chwith agwedd,
Dychryn wae, dewch yr un wedd.
Y PENDEFIG PENNA D'AFIETH.
Cyngor i Mr. John Llwyd o Blas Ifan.
"Tồn,—Y GALON DROM."
PENDEFIG penna d' afieth,
Pur a didwyll, parod odieth,
Mi glywa'ch bod chwi ar hyd tafarne,
Yn rhy barod hwyr a bore,
Madws bellach eiriach arian,
A chynhilo, peidio a chipio pot a chwpan,
Chwi welwch fod yr hwsmyn gore
N cael i gwynfyd gyda'u credyd a'u cariade.
Os bai yw bod yn anghymdogeth,
Bai ar hael yw byw'n rhy heleth,
Yfed cwrw a brandi chwilboeth,
Ac yfed sucan, druan, drannoeth,
A pheth a geir o anllyfodreth,
Gogan, blinder, isel faeler, sal fywolieth,
A'r peth a geir o fyw'n ofalus
Yw parchedigeth, a byd heleth bywyd hwylus.
Ffei o lynu mewn ffolineb,
Gwrid i ddyn a gwaradwydd wyneb,
Gado i'r dafarn, iawn-farn ynfyd,
Ysbeilio'r ty a'r tylwyth hefyd;
A llawer gwestiwr sal ysmala,
Ai bwys arnoch, a ddaw atoch i ddiota,
A chwithe a chalon ry garedig
I gydyfed â'r gormesied garw i miwsig.
Chwi fedrwch droi corone crynion
I fynd yn fân ddimeue cochion,
Ond mawr na fedrwch yrru'r ddime,
Gwanna gwaith, yn geniog weithie;
Dysgwch fyned i farchnata
Lle mae pleser, a gore cellwer y gwyr calla;
Ni cheir o fynd i ffair y ffylied,
At rai barus, i dai gwallus, ond y golled.
A fuoch chwi 'rioed yn rhwyd y Trallwm,
Lle bu llawer cyfell cefn-llwm?
Os buoch chwi yn y fagal honno,
Fe fu'ch cost yn fwy na'ch croeso;
Yno galle blode uchelwyr,
Llawen serchog, ne brins enwog, brynnu synwyr;
A rhoi diofryd fynd ond hyny
I dy'r caethiwed, a thyloted y fath lety.
Ymrowch, a dowch drwy ofn a dychryn,
Rhodiwch beth hyd ffordd y cerlyn,
Ac oni wnewch, gwae ni o'n hachwyn,
Fo eiff fy Meistr Sion yn Sionyn;
A phawb a ddywed yr un geirie,
Mai cymhesur yn ddigysur efe a ddug eisie,
Ni alle dir i dad mo'i gadw
O waith afred, cam osodiad cymwys ydyw.
Diniwed fyned nid wyf finne,
Difarn waith, i'r dafarn weithie,
Ond aros yno i socio 'n sicir
Yn rhy ehud ac yn rhy-hir,
Nes mynd o'r pen a'r pwrs yn weigion,
A'r corff hefyd, oedd a'r golud, yn ddi-galon,
Wrth ddilin medd-dod yn rhy fynych,
Yr aeth llawer gloew feister fel gwael fustych.
Cymrwch ddrych i edrych oedran,
Rhag bod i bawb yn ynfyd faban.
Mae'ch oed yn dangos achos i chwi,
Y ffri wr tyner, syber sobri;
Chwi wyddoch fod yn waith anghenrhaid,
Gymryd gofal craff i gynnal corff ac enaid;
Llawer gŵr a gadd yn feddw
Ddrwg ddihenydd, eitha cerydd, o waith y cwrw.
Fe geir addysg o ben ynfyd,
Os bydd 'wllus i'w gymeryd
Mae pob ffrind a châr a'ch caro,
A Duw, yn disgwyl i chwi ymendio;
Chwi ellwch yfed gartre ddigon
Gyda'ch tylwyth tirion esmwyth, ond troi'n hwsmon;
A gado'r dafarn, ych hen gariad,
F'enaid anwyl, goreu gorchwyl gŵr yw gwarchod.
MAI-GAN.
Yn amser rhyfel.
Tôn—"LLAFAR HAF."
Y DIWIOL deulu mwynion,
A'r gonest ferched gwynion,
Fe ddarfu'r dyddie blinion,
Cawn dirion hinon Ha;
Daw Clame teg i flode,
Bob dydd a deunydd donie,
Ac iechyd i'r dwyfronne
Lle bu calonne cla.
Agorwch yn drugarog,
Fe ddaeth yr Ha at y rhiniog,
Mae dail ar goedydd brigog,
A'r haul yn wridog wres;
I borthi'r buchod blithion
Ymysg briallu a meillion
Daw Duw a theg fendithion,
Gwlith Hermon, glaw a thes.
BYRDWN.
Duw, cadw Eglwys Loeger
I fyny tan dy faner
Un ffydd a Phaul a Pheder
Ar ddiwiol arfer dda;
A'n Brenin William eglur
I fynd o flaen i filwyr
Yn erbyn i wrthnebwyr
Drwy synwyr Josua.
Y Gaua a'r Gwanwyn caled.
Oedd filen i 'nifeilied,
I'r gweinied 'roedd y carlied
Di-ymwared yr un modd;
Er cymaint fu'r cyfyngdra,
Mae'r Arglwydd di-gybydd-dra
I borthi'r byd â bara
Yn rhannu rhwydda rhodd.
Mae achwyn mawr yleni
Rhag talu teyrnged trethi,
A rhegi'r sawl sy'n peri
Tylodi'n codi cas;
Fe fydde haws i'r brenin
Yn ddigost yn hamddiffyn
Pe ceisie pawb ar ddeulin,
Blanhigyn gwreiddyn gras.
Os barnwn drwy gyfiawnder,
Mae'r byd yn well o lawer
Na'r bobol sydd i'w arfer
Drwy drawster, eger yw;
Mae'n well gen rai ragrithio
A byw drwy wan obeithio,
Na cholli awr o weithio
I bur weddio ar Dduw.
Dychwelwch, ac na phechwch
Mewn gole na dirgelwch,
Gweddiwch, chwi gewch degwch,
Duw'r heddwch a dry'r hin;
I arwen y cenhedloedd
I ofni Brenin nefoedd
Mae'n rhaid, ar dir a moroedd,
Fod rhai blynyddoedd blin.
Y merched dowch i'r dyrfa
A'r meibion oerion ara,
Gwres yr Ha 'ch cynhesa,
A minne a gana gaine;
Diofalach pe dae filoedd
Gyd chware ym min mynyddoedd,
Na 'myrryd ar y moroedd
I ffrwyno lluoedd Ffrainc.
Y gŵr a gâr ddiddigrwydd,
A'r wreigdda'n un gardigrwydd,
Duw ro i chwi flwyddyn ddedwydd
Ar dawel dywydd da;
Yr Arglwydd a'ch bendithio,
Ych ty, a'ch tylwyth ynddo,
Lle cawsom ni barch a chroeso
Cyn heno'n canu Ha.
I OFYN CORON
o arian gan Risiart Tomas, garddwr Syr Wiliam Wiliams yn
y Glasgoed, a cherddor cyfarwydd, tros i frawd Morus, i brynnu Beibl.
Ton,—"Y GALON DROM."
SYNHWYROL urddol arddwr,
Mawr uchelwaith am orchwyliwr,
Glain i'w nodi, glân weinidog,
Gloew i ddonie i'w arglwydd enwog,
Rhisiart Tomas, haelwas hylaw,
Teg ddisegur, wr di-ddolur, yw dy ddwylaw.
Paun cywirddysg, penna cerddor,
O flaen bonedd, dyn rhywiogedd yn dwyn rhagor.
Am bob Seisnig fiwsig foese,
A Gwyddelig, agwedd ole,
A phob dawnsiade, camre Cymru,
Cei di 'r gynnes gader ganu ;
Cwafrio a fedri, i'th hoffi a'th ddeffol,
Eos mwynder, ymysg nifer, miwsig nefol;
I gynllwyn merch mewn gwinllan marchog,
A fo 'n disgwyl di-rus orchwyl, wyd ry serchog.
Rhyfedd gennyf, hael gydymeth,
Ych bod mor hwylus mewn rheoleth,
Am gasglu coweth odieth ydych,
Cadw arian lond cod eurych;
Gwyliwch fynd yn falch o'r rheini,
Hawdd gan garlied rythu llyged wrth i llogi;
Os prynnwch dir chwi dalwch drethi,
Gore ystyr, rheol synwyr, yw rhoi luseni.
O egni taerni rwy'n atwrne
Dros ych brawd i ddidlawd ddadle;
Wrth gadw ty, a charu'n ehud,
Fo ffaeliodd ganddo gasglu golud:
Llawen oedd, nid llew aniddig,
Oen o natur, dawn creadur, dyn caredig;
Gwan a gwyw i liw a'i lewyrch,
Yr un grechwen a gŵydd felen yw'r gwydd o Foelyrch.
Fo fu'n edrych dros i ysgwydd,
Mawredd odieth, am awr ddedwydd,
Fel pe bae Ffortun wedi addo
Rhodd digwyddiad hardd-deg iddo;
Hiri haros, ni ddaeth eto
A'i chynysgieth, à noeth obeth hon aeth heibio;
Ni chadd gan Ffortun ffals mo'i bwrpas,
Mae'n ymofyn am ras twymyn, Morus Tomas.
I chwilio am ras mae'n anghyfarwydd,
Rhaid iddo brynnu Beibl newydd;
Ni chaiff mo hwnnw, Rhisiart fwynlan,
Galonnog wr, heb goel nag arian,
Ewch i'r god ne'r gist fel Cristion,
Da 'ch cyfraniad, o rwydd gariad roi iddo goron.
Pan gaffo'r llyfr ceiff weled ynddo
Fod gwlad nefol i'r rhai grasol, a hir groeso.
Yn i Feibl fo geiff wybod
Fod Duw yn Dduw i ddial pechod,
A bod gweithredoedd da'n angenrhaid
I brofi ffydd, lawenydd enaid,
Ac nad yw'r gweithredoedd gore
Yn rhoi yn gyfion y ref i ddynion yn feddianne,
Trwy Grist i hun, nid barn y gyfreth,
Y daeth heddwch, barn o degwch, brynedigeth.
Ond cael y pumswllt o'ch cardigrwydd,
Ni gawn Forus yn gyfarwydd;
Trwy wir fwriad try'r oferwr,
Hen was didwyll, yn astudiwr;
Mi wn y medr, er ys dyddie
Gydag ugen, ddwy lythyren, ddilith eirie;
Nid oes gen un gŵr i bregethu
Ond dwy erill gwedi hennill gyda hynny.
CYD-GENWCH.
CAROL GWYL YSTWYLL YN Y FLWYDDYN 1697
Tôn,—"GADEL TIR.
CYD-GENWCH y plygen ar gywer ag awen
Fawl a chlod llawen i berchen y byd,
A gododd hil Adda o'r dyffryn truana
I noddfa'r bri ucha,—bro iechyd.
Pan oedden mewn aflwydd, wedd egwan o ddigwydd,
Crist o gardigrwydd, yn sicrwydd a'n sel,
O'r nef a ddantonwyd, a'i waed a dywalltwyd,
I'n cadw rhag caeth-rwyd y cythrel.
Cymerodd gnawdolieth o'r forwyn lan berffeth,
Mair dda i llyfodreth, bur odieth i braint,
I fod yn Dduw cyfon, a dyn er mwyn dynion,
I ennill y goron i'w geraint.
Bu hysbys yr arwydd i gofio'n dragywydd
Pan anwyd y'n Harglwydd a'i gynnydd yn gain,
Seren o'r nefoedd a wele'r brenhinoedd
Yn dirion ar diroedd y dwyrain.
Hwy glywsent broffwydo am seren i'w sirio
Pan enid y Seilo, groeshoeliwyd yn drwch,
A'r doethion yn disgwyl i eni'n Dduw anwyl,
I'w addoli ar ddygwyl i degwch.
Y ffordd nid adwaenen, ond canlyn y seren,
A hithe'n i harwen, wen bellen y bwyll,
Nes dangos yn eglur lle'r oedd y Penadur,
A'i fam, yn ddi-rwystr yr Ystwyll.
Y bachgen addolen, ac iddo offrymen,
A Herod a siomen, rhy filen oedd fo,
I fwriad ysgeler a'i feddwl oedd eger
Ar feder ar fyrder i fwrdro.
Herod ddihirwas, pan welodd i luddias,
Gorchmynnodd trwy'r ddinas yn adgas i nod
Ddifa pob maban hyd ddwyflwydd o oedran,
I geisio 'n Duw bychan di-bechod.
Joseph a'i cadwodd, a Mair a'i meithrinodd,
A'r mab a gynhyddodd, iawn dyfodd yn deg,
A'i wyrthie diragrith gwnai 'r bresiach yn wenith.
A'r felldith yn fendith gyfiawn-deg.
Efengyl i ene sydd seren i ninne,
A'r Ysbryd Glân gole, i'n galw ger bron;
Offrymwn ar linie, addoliad a ddyle,
A serch y'n calonne, coel union.
Na chymrwch hyfrydwch o rodio 'r anialwch,
Os rhodiwch, chwi syrthiwch i dristwch di-ras;
Mae'r byd a'i wag flode yn hudo o'r gole
I golli 'r ffordd ore; ffair ddiras.
Mae'n rhaid i bob Cristion ffrwyno i feddylion,
Os myn y ffordd gyfion yn union i'r ne',
Tra byddo'r cnawd ynfyd yn drechach na'r ysbryd,
Mae'r dyn yn cam-gymryd i gamre.
Wrth ddyfod o'r bregeth, yn harfer, ysyweth,
Yw son am hwsmoneth a'n coweth i'n co,
A'r had bendigedig yn syrthio i blith cerrig,
Heb gael mo'r lle i gynnyg egino.
Ystori o drwst arian ydi'r bregeth sy rwan,
A'r ffordd ore amcan a hwylian i'w hel,
Ac ofni pob blinder, a dderfydd ar fyrder,
A siarad mawr ofer am ryfel.
Nac ofnwch erlidwyr, fel Hered a'i fwrdrwyr,
O bobl ry bybyr i brwydyr, heb raid;
Er dwyn y corff ceinfoes o fwriad i fyrroes,
Ni allan ddwyn einioes un enaid.
Ofnwch a cherwch Dduw, frenin yr heddwch,
Mewn gole a dirgelwch ymdrechwch â'r drwg,
A chofiwch fod Iesu ag awdurdod i dawlu
Y dyn wedi dallu i dwllwch.
Os byddwch fabanod, i orffwys mewn pechod,
Chwi gollwch y cymod a'r amod o ras;
Y diwiol i ymdeithio, a'i sail ar ffordd Seilo,
A fydd a'i nôd arno 'n i deyrnas.
Duw o'i drugaredd a'n dyco 'n y diwedd
I gael i dangnefedd a'i 'mgeledd yn gu;
Nid allwn gael cennad i fynd at yr hedd-Dad,
Trwy rad na mabwysiad, heb Iesu.
CAROL PLYGEN.
I'w GANU AR DDYDD NADOLIG CRIST.
Ton,—GADEL TIR."
DYMUNA ddistawrwydd i ddadgan mawl newydd
I'n Harglwydd ben llywydd, clau arwydd, a'n clyw,
Amser nodedig i'w enw parchedig
I ganu'n gyhoeddedig yw heddyw.
Nefoedd a daear, nifeilied ac adar,
A fydd yn ufuddgar ddiolchgar i Dduw,
Mwy achos i ddynion roi mawl am i roddion,
Bob cam ar a gerddon, i'r gwir Dduw.
O'r ddaear yn cododd, o'r ddaear yn porthodd,
A'i fab a ddanfonodd, ni arbedodd, i'r byd;
A thrwyddo bodlone lwyr fadde'n pechode
Rhag diodde byth boene o boeth bennyd.
Angylion blygeinddydd o'r nef a ddoe'n ufudd,
Yn bêr i lleferydd, a'r newydd da i ni,
O eni Messeia ym Methlem ludea,
Yn Dduw, a dyn glana, i'r goleuni.
Bugeilied a'i clybu yn traethu ac yn canu,
"Ewch, gwelwch foliannu yr Iesu 'n ddi-rus,
Tangnefedd Duw cyfion, ac wyllys da i ddynion,'
A gane'r nefolion yn felus.
Bugeilied o'r meusydd aeth chwap i dre Ddafydd,
Cyn dwedyd yn ddedwydd y newydd i neb,
Cael Joseph heb gysgu, a Mair heb un gwely,
Yn ymgleddu'r pur Iesu 'n y preseb.
Crist Iesu a gynyddodd, a'i rinwedd a rannodd,
Pob un a'i gofynnodd a gafodd fawr ged,
Bywhau y rhai meirwon, y cleifion, a'r deillion,
Oedd dystion o'r mawrion ymwared.
Ag un gair o'i ene gwnaeth lawer o wyrthie,
Fe wydde am a fydde feddwl pob bron,
A'r diawled a dafle i'w haflan drigfanne
Heb gael i'w meddianne mo'i ddynion.
Fo ddug y cenhedloedd, oedd ddrwg i gweithredoedd,
I briffordd y nefoedd, da ydoedd y daith;
Er cimin i camwedd, fe i trodd i fyw'n santedd,
A'i rinwedd, gyfannedd gyfion-waith.
Ond mawr oedd trugaredd y Cyfion di-gamwedd,
I ymostwng mor waredd i'r trowsedd rai trwch,
A'i dygodd i laddfa, drwy ddirmyg a thraha,
I gael i lin Adda lonyddwch?
Er cael i groeshoelio, trugaredd oedd ynddo,
I fadde, nid addo rhoi dial a wnaeth,
Ychydig o ddynion a fydd yn ufuddion
I fadde i'w caseion ysywaeth.
Er claddu y gwir Seilo mewn bedd, a maen arno,
A milwyr yn gwilio, yn gryno blaid gre,
Y bedd a ymegorodd, a Christ a gyfododd,
Perchnogodd a nododd eneidie.
Fe brynnodd byth bardwn i Adda ac i'w nasiwn,
Credwn, na amheuwn, eglurwn i glod;
Gorchfygodd y nerthol, y bwystfil uffernol,
A dwyllodd y bobol heb wybod.
Crist fy nghyfryngwr, a'm nawdd, yn creawdwr,
Nid oedd yr un dyddiwr, cytunwr, ond hwn,
I eirie fydd warant yn bod yn i feddiant
I foliant a'i ogoniant a ganwn.
Drwy wir edifaru a chredu 'n yr Iesu,
A gadd i ddirmygu a'i geryddu ar y groes,
Ni a gawn iechydwrieth, a chyfion orchafieth,
Sydd well na brenhinieth i'n heinioes.
Rhoes gymun a bedydd i gofio i ni beunydd
Yn himpio ni o newydd ar grefydd y gras,
I wyllys a wnelom, a pharod a fyddom
Pan alwo Duw arnom i'w deyrnas.
Os gofyn dyn diwiol pwy luniodd y carol,
O fawl i Dduw nefol, orseddol i swydd,-
Hen ddyn a phen baban, a'r awen yn fechan,
A'i gorff yn oer egwan ar ogwydd.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Nis cyhoeddwyd cyfrolau pellach
- ↑ O ysgrif David Samwell yn y " Cambrian Register," Cyf. I. (1795) tudalennau 426—439, y codir bron bob ffaith am Huw Morus nad awgrymir gan ei gerddi ef ei hun. Yr oedd David Samwell yn fardd ei hun, yn orwyr i Edward Samuel, ac yr oedd g'yda'r Capten Cook pan laddwyd ef yn Ynysoedd Môr y De.
- ↑ Gydag ychydig eithriadau. Ymddanghosodd rhai yn "Llyfr Ffoulk Owen" (Rhydychen, 1686); cyhoeddodd Thomas Jones rai ereill yn y Mwythig, yn 1696. (" Eos Ceiriog." Cyf. I. xvii).
- ↑ Ymddangosodd yn llyfr Hugh Jones o Langwm. Dewisol Ganiadau yr Oes Hon " (tud. 73—78). Cwyna David Samwell fod cywydd ei daid wedi ei hargraffu yn dra anghywir.
- ↑ Os oes yma gyfeiriad at yr Anghydffurfiwr William Pritchard, o'r Glasfryn, a anwyd yn 1702, rhaid fod y pennill hwn a'r ddau sy'n dilyn wedi eu hychwanegu gan rywun ar ol dyddiau Huw Morus. Nid ydyw'r pennill hwn, na'r tri dilynol, yn y "Blodeugerdd" nac yn "Eos Ceiriog."
- ↑ Codwyd y penhillion hyn o lawysgrif un yn ysgrifennu tua 1750. Erbyn hynny yr oedd John Wesley wedi bod yng Nghymru, a Howell Harris wedi pregethu, a Williams Pant Celyn wedi canu a chyhoeddi emynnau. Cymerodd y gair "Methodist" le y gair Presbyteriad": gwelais of llaw ddiweddarach yn newid y gair a'i ansoddair mewn amryw ysgriflyfrau. Ond gweler y nodyn blaenorol ar Lasfryn.
- ↑ Dywedir i ryw rai ym Maelor gymeryd llaw oer gŵr oedd yn farw yn ei arch, a gwneyd iddi arwyddo ewyllys, ac yna tyngu mai ysgrifen y gŵr marw oedd. Credid fod clychau Rhiwabon wedi canu, ohonynt eu hunain, yn nyfnder nos, pan wneid y weithred ysgeler.
- ↑ Dywed rhai llawysgrifau mai Richard Abram a ganodd y gerdd hon,
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1925, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.