Beirdd y Bala (testun cyfansawdd)
← | Beirdd y Bala (testun cyfansawdd) golygwyd gan Owen Morgan Edwards |
→ |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Beirdd y Bala |
Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader
ARGRAFFWYD I AB OWEN GAN R. E. JONES A'I FRODYR,
CONWY
Rhagymadrodd
ARDAL dawel, ac ardal lenyddol a darllengar, yw ardal y Bala—Saif y Bala ei hun ar gwrr dau blwyf, sef Llanfor a Llanycil. Ohoni, dros Lyn Tegid, gwelir dau blwyf arall, sef Llangower a Llanuwchllyn. Pumed plwy Penllyn yw Llandderfel. A'r Bala yw’r man cyfarfod Yn y gyfrol hon, ni roddir gwaith beirdd yr ardaloedd cylchynol. Ni roddir gwaith beirdd Llandderfel, megis Bardd y Brenin, Huw Derfel, a Dewi Hafesb. Ni roddir dim o waith beirdd niferus Llanuwchllyn, megis Fychaniaid Caer Gai, Sion Dafydd Las, ac Ap Fychan. Cyfyngir y gyfrol i feirdd anwyd yn y Bala, fu’n byw ynddi, neu fyddent beunydd yn ei heolydd. Y mae i’r Bala lawer o hanes. Y mae ci Llyn Tegid, meddir, yn cuddio tref hŷn, a foddwyd am ei phechod. Ỳ mae amlder y blaenau saethau cerrig o’i chwmpas yn dwyn ar gof gyfnodau hela a rhyfela. Y mae ei Thomen, yn ôl pob tebyg, er y cyfnod Rhufeinig o leiaf. Yn yr hen ramantau, cysylltir hi ag enw Goronwy Befr ; ac y mae Aber Gwenwynfeirch Gwyddno, lle tlws, teilwng le i bair Ceridwen, ar lan y llyn gerllaw. Yr oedd ynddi gastell yn amser y tywysogion; a chan ei bod yn sefyll ar derfynau Gwynedd a Phowys, bu llawer o ymladd o'i hamgylch. Cafodd siarter gan yr Edwardiaid, ond mae'n debyg na fu erioed yn rhyw annibynnol iawn ar y wlad oddi amgylch. Ynddi y cynhaliai’r goron Court Leet Penllyn. Yn amser gweu gartref yr oedd yn hynod am ei marchnad hosanau, oherwydd eu gwead manwl esmwyth. Ynglŷn a hanes meddwl Cymru, er hynny, y mae’r Bala enwocaf. Hi yw cartre’r Ysgol Sul. Ohoni hi y daeth syniad am Gymdeithas Beiblau i’r holl ddaear ; un o'i beirdd hi oedd wedi dymuno “ Beibl i bawb o bobl y byd.” Bu ci Sasiynau'n gyrchfa i Cymry am flynyddoedd lawer. Y mae’n gartref Cyfarfodydd Llenyddol er’s cenedlaethau. Gwnaeth gwasg Saunderson ac ereill ohoni ddaioni i Gymru nas gellir ei fesur. Ac yn ddiweddarach, bu'n gartref i golegau dau o enwadau pwysicaf Cymru. Yn y gyfrol hon ceir trem ar hanes meddwl y dref o ddechrau’r ddeunawfed ganrif ymlaen. Ym Morus ab Rhobert ceir adlais o'r Diwygiad Puritanaidd a chyfoeswyr Morgan Llwyd. Yn Rowland Huw a Robert William y Pandy ceir cyfuniad o effaith y Diwygiad Puritanaidd ar lenyddiaeth, oedd megis yn fore i ddydd o ddiwygiad Cymreig, ac effaith y deffroad Eisteddfodol ddaeth a’r mesurau caethion i fri newydd. Pan ddaeth y Diwygiad Methodistaidd, clywodd y Bala ei lais yn ei phregethwyr, Simon Lloyd a Dafydd Cadwaladr, ac yn ei gwehyddion Wiliam Jones a William Edwards. Ac yn y dyddiau hynny daeth Charles i’r Bala Pan ddaeth y Deffroad Llenyddol, cynrychiolir ei wahanol gyfnodau gan Ioan Tegid, Siarl Wyn, Tegidon, a Roger Edwards. Mae beirdd eto yn y Bala.
- OWEN M. EDẄARDS.
- Llanuwchllyn.
Cynhwysiad
MORRIS AB RHOBERT.—1723.
Cywydd Llyn Tegid
LLYN TEGID
(Edward Samuel)
EISTEDDFOD Y BALA—1738
Annerch y Beirdd
Y Beirdd yn moli
Canmol y Bala
G ab Ieuan|G. AB IEUAN
Gaeaf ar y Berwyn
Cywydd yr Haf
ELIN HUW
Daw terfyn ar fy ngofid
ROWLAND HUW.—1714—1802
Y Graienyn
Arwyrain yr Awen
Awdl y Dannodd
Englynion y Maip
Ystyriaethau
RHOBERT WILLIAM.—1744—1815
Y Beibl
Blinder ac Ymddiried
Yr Esgyrn Sychion
Cywydd y Farn
Englynion
Y Delyn
Bedd Genethig
Amcan y Bardd
CHARLES O'R BALA
Dyfais fawr
DAFYDD CADWALADR—1752—1836
Marwnad Charles o'r Bala
WILLIAM JONES.—1764—1822.
Cwymp Babilon
Y Gwlaw Graslawn
Llafur Enaid
WILLIAM EDWARDS.—1733—1853
Cysgod Ion
Awelon Ne
Iesu
Gobaith Seion
Yr Efengyl
Gweled Iesu
Aberth y Groes[1]
Tyrfa Waredig
IOAN TEGID.—1792—1828.
Ymweliad y Bardd
Llyn Tegid
Hiraeth Cymro
Marwad Robert William
Ardeb fy Mam
Merch ieuanc
Cân i gariad
Morwynion glân Meirionydd
Llyn Tegid (3)
D. Silvan Evans
Ateb i Daniel Ddu
Yr Iaith Gymraeg
Ymladd Cressi
Amser
Dydd y Farn Fawr
Galar y Bardd
SIARL WYN-1819-1832
Ioan Tegid
Ysgol Rad y Bala
Bedd John Evans
Hiraeth
Doli
Ty fy Nhad
Gadael Gwlad
TEGIDON.-1810-1877.
Siarl Wyn
Sul yn y Bala
Dinistr Cartref
Heddwch fel yr Afon
JOHN PAGE.-l832-1852.
Wedi'r Cwymp
ROGER EDWARDS -1811-1886.
Yr Afonig
Yr Asyn Anfoddog
IOAN PEDR.-1833-1877.
Daeareg
MYFYRWYR Y BALA.
Prydnawn Sadwrn yn y Bala (Glan Alun)
Green y Bala (Huw Myfyr)
Darluniau gan y diwddar John Thomas
POBL Y BALA YN 1792.
CEIR rhestr o brif drigolion y Bala yn yr "Universal British Direetory of Trade, Commerce, and Manufacture " am 1792. Yn y gwahanol lyfrau teithwyr, gelwir sylw at ei Thomen, at y coed sydd ar ochreu ei stryd, at ei hen freintian a'i Hysgol Rad, at y gwyniad yn y Llyn, ac at ei marchnadoedd hosanau a menyg gwlan.
Yn 1792 y prif foneddigion enwir fel rhai a chartrefi yn ei hymyl oedd Syr W. W. Wynn yng Nglan Llyn a Chaer Gai; Richard Tav. Price yn y Rhiwlas, a William Dolben yn Rhiwedog. A dyma'r lleill,—
- CLERGY
- Anwyl Rev. Rice, Rector of Lanyckil
- Charles, Rev. Mr. Methodist Preacher
- Lloyd Rev. Simon (F.)
- Thomas Rev. Mr. Dissenting Minister
- PHYSIC
- Evans Evan, Surgeon
- Hughes , Surgeon and Apothecary
- Lancaster. Mr. Inoculator of Small-Pox
- LAW.
- Pierce J. Attorney
- Rowland David, Recorder
- TRADERS, &c.
- Cartwright John, EVictualler
- Charles-Grocer, &c
- Davies Thomas (F.) Victualler (Siwan)
- Davies Morris, Grocer, &c.
- Davies John, Sadler
- Davies Ellis, (F.) Farmer
- Davies Gabriel, Grocer, &c.
- Eaglas Ellis, Victualler (Principal Inn)
- Edwards Roger, Baker
- Edwards David, Joiner
- Edwards Richard, Grocer
- Edwards Humph. Tinman and Glazier
- Edwards Robert. Peruke-maker
- Evans Peter, Farmer and Victualler
- Evans John, Chandler
- Evans John, Baker and weaver
- Hughes Hugh
- Hughes John, victualler
- Issac Thomas. Shoe-maker
- Jones Robert, Glover,
- Jones William, Smith
- Jones Hugh, Victualler
- Jones Lewis, Taylor
- Jones Robert, Glover
- Jones David, Master of the Free School
- Jones Evan, Shopkeeper
- Jones Griffith, Smith
- Jones Moses, Smith
- Jones J. Schoolmaster
- Jones J. Grocer, &c.
- Jones Eileanor. Victualler
- Jones David, Gardener
- Jones Margaret, Gardener
- Jones John, Baker
- Jones Richard. Chester Carrier
- Jones Hugh. Victualler and Glaser
- Jones Thomas, Skinner
- Jones Evan, Skinner and Glover
- Jones Hugh, Sadler
- Jones Robert. Glover
- Jones Evan, Web merchant
- Jones William, Peruke maker
- Jones Eward, Shoe maker
- Jones Rowland, Cooper
- Jones J. Postmaster and Farmer
- Lloyd Robert, Corn-dealer
- Lloyd David, Slater
- Lloyd Robert. Skiner
- Lloyd William. Butcher
- Morris William. Peruke maker
- Morris Robert. Cooper
- Owen Thomas, Peruke maker
- Owen Thomas. Cooper
- Owen Richard, Shoe maker
- Owen James, Currier
- Prichard David, Cordiwainer
- Randles —Peruke maker (White Lion)
- Richards Anne, Victualler
- Robert John, Victualler
- Robert Hugh, Taylor
- Robert Edward, Turner and Victualler
- Roberts Henry. Tanner
- Roberts Edwaed, Butcher
- Roberts Griffith, Victualler
- Rowland David, Shoe maker
- Williams James Tinman and Glazier
—————————————
Llyn Tegid.[2]
Maint Llyn Tegid
MYFI ar lan hafan hir
Dŵr rhyfedd. diau rhifir
Tair mílldir o dir da,
Wych iawn fodd, o'i gychwnfa
'R hyd aber, rwy'n rhyw dybied,
A milldir a lwfir o led.
Tonnau'r lan
Daethum, wrth ryw ymdeithio
Ar ddrycin, i'w fin fo;
Gwelwn donn, geulan dene,
Yn troi i'r lan tan oer le;
A thonn o'i hol, ffrwythol ffres,
Ar ddwad i'w gorddiwes;
A'r drydcdd oedd, floedd flin
Nod aiaith, yno i'w dilin;
Bob yn un, bu boen anian,
Tra mawr lu, yn tramwy i'r lan
Pan elai, mewn poen eilwaith,
Dau naw mil o donnau maith;
'Roedd rhyfedd arwydd rhyfawr
Yr ugain mwy o'r eigion mawr.
Y donn olaf.
Tair ias drom, teriais dro
Yn hwyr iawn yn hir yno
I weled gwedd a diwedd da,
Weithian, y donn ddiwaetha;
Tariwn i hyd hwyr nos
O'i herwydd yno i'w haros;
Nid oedd, orfaith helaeth hynt,
Ddu ddyrnod, ddiwedd arnynt.
Llyn Arall.
Ag ar hyn o gywir hanes,
Cyfleusdra ag odfa a ges
I fyfyrio, tro trwch,
Dyddie'r annedwyddwch
A geiff y dyn cyndyn cas,
A soddwyd gyda Suddas.
Dull y llyn hwnnw.
Gwyliwn byth, gwae el o 'r byd,
I ddalfa tragwyddolfyd
Lle mae'r boen, llwm arw bant,
Archoll gwŷn, erchyll geunant;
Llyn du o dân, llanw di-dorr,
Gwae gan dyn y gagendor;
Llwyr wael fodd, lle'r ail fyd,
Llithrigfa llwyth o ddrygfyd;
Pwll y diawlied, pell y delom,
Bob un draw o'i boen drom;
Pair o dân, pwy red yno,
Dan y gwae, ond dyn o'i go?
Gwae a rediff, garw ydyw,
I gefn tân digofaint Duw;
Wylofain, llefain hyll wedd,
Rhwnc yn dynn, rhincian dannedd
Oerfel trwm ar fil tru,
A rhew anwyd i'w rhynnu;
A gwres byth, lle cras boethan,
Uthrol a dieithrol dân;
A'u dwylaw a'u traed, dial trwm,
Yno i'w cael yn un cwlwm;
Mewn tân, brwmstan, a braw,
Cythreuliaid yn caeth riwliaw;
Yn suddo'n syth byth tra bôn,
Dyna fisdiff, dan y faesdon;
Heb liw dydd, heb le diddan,
Heb lawnt teg, heb wely ond tân;
Heb loer, heb ddŵr oer, aruth',
Heb ffrwyth ŷd funud fyth.
Galar y Llyn Tan
Wylant hwy fwy na môr,
A'u llyged fel hyll ogor,
Yn hidlo dagre'n hedli,
Tragwyddol a greddfol gri
Enaid a chorff heb orffwys,
A'u barn fydd arnynt yn bwys.
"Byth" a Chydwybod.
Ond dau beth, i'm tyb i,
Swydde pen, sydd i'm poeni,—
Y gair "Byth," gwae oer 'u bod,
Och didwyll, a Chydwybod.
Gofynnant, yn gyfan gaeth,
I Gydwybod mawr nod-maeth,—
"Ai byth y rhoddwyd ein barn
O cywir gadael cwyn gadarn?"
Cydwybod fel mil yn ddilyth,
Ddiwid boen, a ddywed "Byth."
"Ti wyt yn siwr yn datsain
Crug lef fel carreg lefain;
Cwyno raid mai cnoi'r ydwyt,
Cry fwystfil di-eiddil wyt,
Blaenllym llais, yn llawn dig,
Blin waew heb le i'w newid,
Na gobaith, Duw sy'n gwybod,
Draw er hyn droi y rhod."
" Gweli yn hir, galon haearn,
Odfa ferr wedi'r farn,
Munudie fel dyddie ar donn,
Ag orie fel misoedd geirwon,
A phob mis, gwyddis ar goedd,
Blin addfed, fel blynyddoedd,
A blynyddoedd fel oesoedd ysig
Dan wialen Duw yn llawn dig,
Ag oesoedd yn filoedd a fâi,
A'u tyniad fel y tonnau;
Godde'n dynn, gweiddi'n dost,
Melldithio'r man lle daethost;
Rhegi'r dydd, oer ludd, ar led.
A'th einioes gynta i'th aned;
Rhegi'th fam, rhy gaeth fodd,
Was gerwin, a'th esgorodd;
Crêu am angeu tene tau,
Er dibenu dy boenau;
Ni wna Ange a'i gledde glas
Gam yno o gymwynas;
Ond byw sydd raid, fy enaid, fyth,
Distyrrwch sy dost aruth;
Angylion, a dynion da,
A'th Dduw wedi, a'th wawdia
Am wrthod dydd rhydd rhad
Ei drugaredd a'i gariad."
Apel y Bardd.
Clyw, ddyn, rhag cwilydd wyneb,
Weithian wyt waeth na neb;
Ai carreg dan freudeg fron,
Dew galed, yw dy galon?
Ai cyff o bren, coffa heb raid,
Plwm dinerth, ple mae d' enaid?
Ai 'nifel gwâr isel gresyn,
Arwydd dost, ar wedd dyn?
Ystyria yn awr, os dyn wyd,
A dewis yn fwy diwyd;
Ofna'r boen yn fawr byth,
Uffern erwin a'r ffwrn aruth';
Ofna Dduw yn fwy, O ddyn,
A dechre cyn amser dychryn;
Gwylia ymroi, galw am ras,
Cei feddyg fo cyfaddas;
Rhed ato, mae'n rhaid iti,
Galw'n llym, ag wyla'n lli;
A dwed,—"Arglwydd rhwydd rhoddfawr,
O madde i mi 'meie mawr;
Clyw weithian un cla athrist
Yma yn crêu, er mwyn Crist,
Am f'achub o'm haflan fuchedd
Cyn y bwy acw'n y bedd;
Na ollwng fi o'th law allan
I uffern dost a'r ffwrn dân."
Morris ap Rhobert a'i Cant.
Llyn Tegid. |
Eisteddfod y Bala [5]
Dydd Llun y Sulgwyn, 1738.
—————————
i. ANNERCH Y BEIRDD.
Mr. Edward Wynne a'i Cant.
HARRI PARRI.
HARRI fab Harri, purion—yw d' odlau,
Didlawd gynghaneddion;
Dealldwrus, gweddus, gwyddon,
Am seiniad a llusgiad llon.
ROWLAND O'R PANDY
Rowland Sion dirion d' araith —da gwn i
Dy ganiad sydd berffaith;
Mwyn y medri mewn mydrwaith
lawn hwylio ac eilio gwaith.
JOHN JONES, LLANFAIR.
Sion ab Sion, heb ddim swn,—mae'n brydydd
Bwriadol digwestiwn;
Ag undyn ar y gwndwn
Yn dra hardd fo dreia hwn.
DAFYDD IFAN HYNAF
Dafydd, da 'wenydd ei waith—a doethedd
Hyd eitha prydyddiaeth,
Pur eiriau, pôr yr araith
A pher iawn i'w phurion iaith.
GWILYM AB IORWERTH, LLANFOR
Cynghanedd dda sylwedd, nid sal,— heddyw
Nid hawdd gael ei gystal,
Na'i thebig, mae'n waith abal,
Llwyra deyd, llawer a dâl.
ELIS CADWALADR.
Cynghanedd groewedd bob gris,—a geiriau
Rhagorol i'w dewis;
Pe'i chwiliech, ni fynnech, fis,
l'm bryd, ail i'ni brawd Elis.
Athronddysg gronddysg gywreinddoeth,—Meirionddysg
Gyflonddysg gyflawnddoeth;
Nid gwirionddysg, gŵr iawnddoeth,
Tirionddysg, llonddysg, llawnddoeth.
DAFYDD AB IFAN IEUENGAF.
D. ab Ifan fwynlan fant,—y prydydd
Pur odl di-fethiant,
A geiriau da, mae gwarant
Da iawn ei go, dyn o gant.
SIAN ACH IFAN.
Canmoliaeth i'r eneth a ro—beunydd,
Ble bynnag yr elo;
A llwyddiant i'w holl eiddo.
Dedwydd fyd yn y byd tra bo.
Y BEIRDD OLL.
Diolchaf a chanaf i chwi—trwy gilydd
Tro i galon ddiwegi;
Fe ddaw inni ddaioni
Byth yn' Nuw tra bytho ni.
—————————————
ii. Y BEIRDD YN MOLI.
I MR. EDWARD WYNNE
Pen bugel Duw Daniel, dad union—yw Wynn
Ddiwenieth ei foddion;
Oleu eiriau, ail i Aaron,
A'i sylwedd mae fel Solomon.
I JOHN LLWYD RHIWEDOG.
Pen siri inni, enwog,—oes gywir,
Yw sgwiar Fachddeiliog,
A gwir aer i'r glaer aur glog,
Rhi odieth, a Rhiwedog.
Edward Jones, Bodffari
Perl pur lle ei adwaenir, Llwyd enwog,—paen siriol,
Pen siri galluog;
Wr ara glân, aur ar ei glog,
Yw'r aer odiaeth o Riwedog.
David Evans
Pedwerydd John, llon ddull enwog,—o wres dawn,
Aer stad Riwedog;
Tri eryr natur eurog,
Siwra glain, sydd ar ei glog.
Ellis Cadwaladr.
I SYR WATKIN WILLIAMS WYNN.
At Watcin, brigin ein bro,—glau wyneb,
A'r glana o Gymro;
Ceidwad gwych gwlad, a'i chlo,
Deg hyder, Duw a'i cadwo.
Ellis Cadwaladr.
At iechyd hyfryd hwn,—Watcyn
Yw utgorn, debygwn;
Di-faswedd a da ei fosiwn,
O gariad mewn tyniad twn.
Sian Evans.
I JOHN MORGAN.
Cydfolwn, canwn er cynnydd,—i Sion,
A seiniwn fawl newydd;
Paen parodwych, pen prydydd.
Gwir aer ffel' o r cywir' ffydd.
Gwilym ab Iorwerth.
I SIAN EVANS.
Croeso, Sian, hoewlan hawl,—aur belydr,
I'r Bala le grasawl;
Sian wyr maeth synwyr mawl,
Sian Evans, dwysen nefawl.
Ellis Cadwaladr.
SIAN LAURENCE.
Sian, loer oleulan, liw'r lili,—dwyscn,
Dewisol ei chwmni;
Mwyna dynes mewn daioni,
Fel y glain hardd, glân yw hi.
Harri Parri.
I WLLLIAM PRICE Y RHIWLAS.
Yn Rhiwlas mae gras yn gry—i'r Preisiaid,
Pur rasol drwy Gymru;
Mae'r faenol yn dal i. fyny,
Drwy wyrthiau da call un Duw cu.
John Jones, Llanfair.
Mr. Price mewn dyfais da,—o'r Rhiwlas,
Rheolwr mwyneidd-dra;
Mewn awch cu melus mi'ch camola,
Naws heno heb gudd os hynny a ga.
CORBED OWEN.
Aer Rhiw Saeson, lon lwyn,—sy gynnes,
Ac Ynys y Maengwyn;
Rhoed Duw Tad, dygiad digwyn,
Lân aeres i'w fynwes fwyn.
Mae'n barchus weddus wawr,—byw les,
Gyda'i blasau gwerthfawr;
Megis angel hyd elawr,
Perl mwyn sir Drefaldwyn Fawr.
Ellis Cadwaladr.
I'r Gwin Coch.
Potel gron wiwlon a welaf,—ar y bwrdd
Rhwng y beirdd mwyneiddfiaf;
Y gwin coch, gwn o caf,
Fwya gwir, ef a garaf.
Gwilym ab Iorwerth
Apel Ddifri.
Beirddion dyfnion, nad ofnwch—mo'r canu
Mêr cynnydd diddanwch;
Mewn synwyr y mwyn seiniwch,
Ow, un fflam o awen fflwch.
Nid mawl dethawl a doethedd—i ddynion,
O ddeunydd anwiredd;
Ond mawr-glod, trwy wiw-nod wedd,'
I Dduw a'r Oen o ddewr rinwedd.
Robert Lewis.
Cydymdeimlad.
Bardd hwylus, ddawnus ei ddydd,—wyt Robert
At hybarch awenydd;
Nid ofer onid Dafydd,
A genyf fi, egwan fydd.
David Jones' o Drefriw.
Gwahoddiad.
Dowch, Dafydd, gelfydd galon,—a Robert
Oreubarch o foddion;
I dy'r sir, difir dôn,
Bryd addas at brydyddion.
Ellis Cadwaladr.
I Ellis Cadwaladr.
Llawen dda awen ddiwair—wna i Ellis
Iawn eilio dewisair;
A chelfyddyd, groew-bryd grair,
Gorau i gyd gŵr y gadair.
Edward Wynne.
iii. CANMOL Y BALA A LLYN TEGID
Tre'r Bala, llonna llannerch,—tre oediog,
Tre odiaeth ei thraserch;
Tre hynod, tro i'w hannerch,
Trwy eiriau sain troiau serch.
Dwy ffynnon digon degwawr,—daith cydwedd,
Daeth cydiad ffrwyth dirfawr;
Dewr ennwyd y dŵr unwawr,
Difri da fodd, Dyfrdwy fawr.
I Benllyn, irwyn oror,—y rhediff
l'r rhydau sy ym Maelor;
Gyrr longau i Gaer le angor.
Oddiyno mae ei ddwy'n y môr.
Edward Jones, Bodffari.
Tre farchnad y wlad loewdeg,—tre'r Brynllysg
A Bronllwyn eglurdeg;
Tre'r Bala i dyrfa deg,
Tre'r llwyn gwawd, tre'r llyn gwiwdeg.
Ellis Cadwaladr
Dwy ffynnon ddyfnion ddiofnwaith,—radol,
A redan ar unwaith;
Ac i'w galwyd, deg eilwaith,
Dwfwr dwy, diofer daith.[6]
Rowland Sion o'r Pandy.
Serchog ddyfrog ddaufryn—llawn tegwch,
Llyn Tegid, gyferbyn;
Rhwyddgar le'r hawddgar lyn,
Mewn mur panlle mae môr Penllyn.
David Evans
Tre'r Bala brofìa ger bron,—tre gannaid,
Trwy gynnal prydyddion;
Tref enwog tyrfa union,
Mynwes aur am hyn o son.
Tre Rhirid ddilid dda lon,—Flaidd arglwydd,
Floedd eurglod ei ddwyfron;
Gwyrdd arail i gerddorion,
Iraidd gre ar ddaear gron.
Tre Degid enwid union—gardd ganu,
Gerdd Gwynedd, gymdeithion;
Y gân irwydd, gain aeron,
Swydd iawn hedd, sy heddyw'n hon.
Tre Benllyn, gwiwlan galon,—ardderchog
Urdd archiad brodorion,
Rhagorol dan y goron
I hulio cerdd Helicon.
Tre Uwchlyn gyfun gofion,—o bur ddawn
Aber-ddysg athrawon
Hofieiddlwys, hy, a ffyddlon,
Oreuliw bryd ar ael bron.
Tre Ycil, beryl burion,—fan werthfawr,
Fwyn o wyrthiau mawrion;
I'w phennu yn hoew ffynnon,
O rad y ffydd eurad ffon.
Tre Gywer dyner, dynion—a'i galwant,
Galant yw, a thirion;
Trefnus wastad ty weston,
Am eiliad aur mal had onn.
Tre Lanfor agor eigion—dysgeidiaeth,
Dwys gadarn merthyron;
Yn golwg lleng o angylion
Mwy'n ne'n wiw mae nhw yn Ion.
Tre Dderfel dawel Deon—Edmwnd Prys
Diamond prif wir Gristion,
Gorchwyl Duw, goruchel dôn,
Fryd arwydd, frawd i Aron.
Tre dramwy Dyfrdwy deifrdon,—rhedegog
Rhyd ogwydd Caerlleon;
Man dethol am win doethion,
Gwawr ebrwydd i gaer Ebron.
Tre weddedd fawredd Feirion—sir odieth.
Siwr ydyw, disgyblion;
Caer degwych caredigion,
Bair addysg o Beryddon[7]
Tre Eisteddfod hynod hinon,—mwy hylwydd,
Mi alwaf hi Banon;
Bun Gwynedd yn ben ganon,
Modd dyb sydd, medd D. ab Sion.
Dafydd Jones, Trefriw.
G. AB IEUAN.
[Dyma ddarnau o un o ysgriflyrau Rowland Huw. Ysgrifenwyd ar ddiwedd Cywydd yr Haf—'G. ab Ieuan, Bala, a'i cant; yr unfed flwyddyn ar bymtheg o'i oedran']
i. GAEAF AR Y BERWYN
BERWYN, glaerwyn ei glog—gan eira
Gwyn-oer, mae'n afrywiog;
Helaeth, heb fawr le haulog,
Ni chan gan eos na chog
Llydan yw’r mynydd lledoer—maith unig,
Amwyth iawn a phuroer;
Nid rhywiog ennyd rhew-oer
Bwrw niwl ar y Berwyn oer
Oer ddwl oedd nifwl y nos,—a minnau
Am ennyd o ddiddos ;
Oer iawn wg eira ’n agos,
A rhew ar fynydd a rhos.
ii. DIWEDD CYWYDD YR HAF.
Er bod rhai am y gaeaf,
Minnau o hyd mynna haf;
Am y gwanwyn mi gwynaf
Er h'wn daw'n fuan yr haf;
Duw, am hynny dymunaf
Yma o hyd imi haf;
Duw, it geinwych datganaf
Gerdd hyfryd ar hyd yr haf;
A melus dant y molaf
Yr Hwn sy'n rheoli'r haf;
A thant a nabl parablaf
I'r Hwn sy’n goleuo'r haf;
Cynnes i Dduw y canaf
Os rhydd i’m Iesu, a’r haf.
ELIN HUW
[Cyfansoddwyd y ddau bennill hyn gan Elin Huw, chwaer Rowland Huw o'r Graienyn, ar ddiwedd dwy flynedd o afiechyd, Rhag. 31, 1762.]
I
DAW terfyn ar fy ngofid,
Cai fynd yn goncrwr llawn,
Waith Iesu ar Galfaria,
Fu'n talu troswy 'r iawn;
Er teimlo ynw i luoedd
O bob rhyw lygredd llym,
Mi gana i dragwyddoldeb
Er pechod mawr ei rym.
II.
Er bod gofidiau yma,
A'r tonau mawr eu stwr,
Yn rhoddi f'enaid egwan
Yn fynych tan y dŵr;
Er maint yw rhwydau Satan,
A'i saethau mawr eu llid,
Cai lechu yn mynwes Iesu
Tra byddwyf yn y byd.
ROWLAND HUW Y GRAIENYN,
[Ganwyd Rowland Huw yn 1714. Amaethair Graienyn, ar y llethr ar ochr Llangower i'r llyn. Ys oedd yn ystiward hefyd i'r Fach Dddeliog a Rhiwedog. Yr oedd yn enwog ymysg llenorion ei oes, yn athro i feirdd ardaloedd y Bala, ac yn gasglydd llawer o brydyddiaeth ei oes. Aeth Robert Saunderson a rhai o'i ysgrif lyfrau i'r Amerig tuag, 1850. ac wedi boddi hwnw yn afon Alabama, collwyd rhai o'r ysgriflyfrau drwy dan. Ond y mae llawer iawn o'i waith yn aros eto. Claddwyd yn Llangower. ochr y llyn i'r eglwys, Rhag, 16. 1802. Gwel Cymru., 108–197.
Anfonodd rhyw fardd yr englynion hyn iddo.—
Hyn sydd mwyn brydydd mewn bri—oganiad
I gynnig dy holi
Dy enaid a'th daioni
O'm gwir fodd a garaf fi
A'i gwenu a'i gwgu mae gogwydd—rhad byd
Rhaid bod diwydrwydd
A deall gwâr cyfarwydd
I drin dy cysefin Swydd
Adwaen, y cywrain ŵr cu—dy wyneb
A'th ddoniau'n prydyddu
Ni chefais hanes wyf hy
A'i da lot yw dy lety
Ai dedwydd dy dyddyn—a gwelltog
A'i gelltydd ai dyffryn
Ar achos dangos y dyn
A gair o enw y Graienyn
Yn dilyn ceir ateb Rowland Huw.
i. Y GRAIENYN.
GAIR a gefais o gariad—goreu dawn
A gair dwys ymholiad,
Gair prydydd a dedwydd dad,
Gair o annerch gwir ynad.
Hawdd it gael ansawdd gwael unswydd,—nodais
I'th wneyd yn gyfarwydd,
O gyflwr euog aflwydd,
Di-les ac ychydig lwydd.
Tir ac annedd trigianol—ti wyddost
Mai tyddyn ardrethol
Sydd iddo, ansawdd weddol,
Nid mewn bryn, dyffryn, na dôl.
Drysni a meini lle mynnir,—a choed
A chydig weirglodd-dir,
Puraf ardal porfardir,
Lleiat yw'r dorth llafur dir.
Coedydd a derwydd llawn dail,—oer loches
Ar lechwedd, yw'r adail;
Gwael gewyll serfyll eu sail,
Dyrys-gae a drws gwiail.
Galwad sydd yn gyhoeddus—i wemi
Gwr enwog a pharchus;
Nid oeddwn Frytwn, a'i frys,
Llaw ddinerth, yn llwyddiannus.
Gofalon ddigon a ddug—achosion,
A chwysu gan ddiffyg,
A gofal fel pel mewn pyg,
Wr ceulus yn mrig helyg.
Mae'r enw, er mor anial—y lle
A'r lluest cyfartal,
Fel cerbyd ar ergyd âl,
Wawr groendew ar y growndwal.
Un o'r mân raian[8] a rodd—yr enw,
A'r annedd a'i cafodd;
Cai ar gân od yw anodd
Dull ei faint, deall ei fodd.
Mae naw deg yn myn'd o'i ogylch,—troedfedd
Tro edef o'i amgylch;
Llawn iawn gorff llinyn ei gylch
Ef yw eurgain ei fawrgylch.
Uchder o nifer yn wir—tros ethol,
Tri seithwaith a rifir,
Troedirddau golau gwelir,
Iacha lein teg uwchlaw'r tir.
Llyna faen teg, raen digryn,—diamau
Mai dyma'r Giraienyn;
Carreg o'r gwarn i'r coryn,
A ger llaw i gwrr y llyn.
ii. ARWYRAIN YR AWEN.
Ei dull godidog gan dduwiolion yn y wir eglwys, gydag
ychydig o ansawdd y cenhedloedd yn ei cham-ddefnyddio.
i.
Deffro, ddawn uiawn enwawg—boreuol
Ber awen odidawg,
Ymadrodd y beirdd mydrawg,
Fry ar hyn myfyria rhawg.
Nefawl ser, mor bêr y borau—cynnar
Y canant fwyn odlau;
Cae Adda ddawn cywyddau,
Gân wiw glod ag awen glau.
ii.
Doniau rhad, Duw on a'u rhodd,
Un Enos a eneiniodd,
Ac Enoc gynt a ganodd fawl llafar
Oes gynnar esgynnodd.
iii.
Yma bu'n dyst meibion Duw,
Can deilwng cyn y diliw;
O lin i lin meithrin mawl,
Yn briodawl un bri-Duw.
Iob a'i gadarn alarnad,
Aml gwynion a mawl ganiad ;
Hediadau mydr, ddiwydr ddawn,
Gŵr uniawn a gwir ynad.
iv,
Bu badrieirch ddwyfawl eirchion,
Ar brif eglwys loew lwys lên;
Llaws cataidd llais cytun,
Pura côr in per wau cân.
Taflwyd y march i'r gwarch gurf,
Y marchog, tacog, a'u torf;
Cerbydau mewn tonnan twrf,
Llwyra tâl, llaw Ior a'u tarf.
Ond Israel, Duw hael a'u dug,
Trwy ddwfr a thân, â chân chweg;
Cloddiant lyn a'u ffyn heb ffug,
Ffynnon tywysogion teg.
v.
Diau Barac a Debora
Canant emyn gytun gu;
Cawn hanes canai Hanna,
A Dafydd, pen llywydd llu.
vi.
Solomom, sail
Wiwdeg adail,
Olau eiliawd
Fil o folawd.
vii.
Rhodd Duw yw rhwyddwawd Awen
O'i ras hael er yr oes hen,
I rai ethol rhoi weithian
Ag a rydd dragywydd gan;
Ei ysbryd Ef sy'n llefain
Trwy lân awen gymen gain,
Effeithiol ragorol gân
Yn yr eglwys rywioglan;
Brenhinoedd bronnau hynaws,
A lenni nwyd llawn o naws,
Uchelwyr mwyaf achlan,
A phob gradd a gadd y gân;
Canai wragedd rhinweddawl,
Un dull a'u beirdd, fwyn-geirdd fawl;
Cyson adsain llancesau
Emyn i'w mysg i'm Ion mau.
Arddelwyd yr addoliant
Yn eu plith o enau plant.
viii.
Caniad eurwerth cenadwri
O rad enwog a roed ini,
Proffwydi, pur hoff ydoedd;
Llyma geiriau llawn o gariad
A chysgodau i achos Geidwad
Mabwysiad ym mhob oesoedd.
ix.
Angylion eang olud
I'r byd a roe wybodaeth,
Hedd ganwyd, hedd ganan,
Ewch darian iechawdwriaeth;
Yno 'roedd iawn arwyddion
Can gyson cynnyg Iesu;
Etifedd nef y nefoedd,
Gŵr ydoedd i'n gwaredu.
x
Can Simon loewfron wiwlwys,—ac Ana
A iawn arogla yn yr eglwys;
Gair Brenin, deufin gledd dwys—saeth cariad
Bwa, a'i rediad o Baradwys.
Apostolion a'u hapus dalent,
Gywir fawl Addaf gorfoleddant,
Mewn pur addas mwyn pereiddiant—odlau,
Mal un genau mawl Ion a ganant.
xii.
Bu doniau nifer dan y nefoedd,
Mydrau cain odlau, ir cenhedloedd,
Firsil wawdydd a'i fawr sel ydoedd.
A Horas gu addas gyweddodd;
Homer, Pindar pond oedd—i'w gân
Dall dduwinsau dywyll—ddu oesoedd.
xiii
Palfalu canu fal cynt—i'r bydoedd
A'r bodau a welynt;
Achwyn a fydd na chanfyddynt
Y Bod oedd yn llywio hyd iddynt ;
Ond braidd ydoedd y breuddwydynt
I'r Oen addwyn, er na wyddynt
Moi anian hoewlan helynt.—enwedig
Duw unig ni 'dwaenynt.
xiv.
Felly 'r oen ninnan all o'r un anian,
Ymroi i bechu bob mawr a bychan,
Caniadau diflas yn al cnawd aflan
Oedd o goeg agwedd eiddig a gogan;
Estroniaid i'n caid a'u cân—i feddiant
Neu fawl gogoniant y nefol Ganan.
A ni yn dynion lon a luniodd
Drosom o'i gariad, drws a agorodd;
Ei fwyn fugeiliaid, Fle a'u galwodd;
Iawn edifeirwch i ni adferodd,
Mabwysiad ei rad a'i rodd,—Trugaredd
Gras ei rinwedd gwir Iesu a rannodd.
Duniau ardderchog, dyner dda orchwyl,
Bwriad daionus ysbryd Duw anwyl,
Glan achawdwriaeth glynwch hyd arwyl,
Wele ferch Seion, purion ddarparwyd,
Ai thympan hoewlan mewn hwyl—i ganu
Araith i'w dysgu, hiraeth o'i disgwyl.
xv.
Caniad Seion,
Mawr sain aeron,
Mor soniarus;
Dawn gynghanedd,
A gorfoledd
Gywir felus.
Llais y durtur,
Bibau eglur
I bob egliad;
Gair efengyl,
Sain digweryl
Sy'n dy gariad.
xvi.
Dall priodferch,
Unig annerch,
Dinam draserch;
I gyfarfod
Ei gwir briod
Ar ryw ddiwrnod
I'w addurno.
Pob alltudion,
Bychain, mawrion,
Oedd a chalon
I ddychwelyd;
Rhoes Duw nefol
Ras ysbrydol
Edifeiriol
I'w hadferyd.
xvii.
Nawr gwell awen na'r galluoedd,
Addurn ufudd i Dduw'r nefoedd,
Digaeth ryddid a gweithredoedd,
Cyfnewidiad cyfan ydoedd.
xviii.
Dyma (wyn dynier,
Ansawdd o nawdd Ner,
Eur feirdd yn arfer
Gwiwber ganiad;
Oedd awen dduwiol,
Bridwerth ysbrydol,
O ddinam wreiddiol
Ymarweddiad.
xix.
Och, nid felly mae canu cynnen,
Ond dreigiau euog yw drwg awen;
Celwyddog ddiaíol, hudol hoeden,
Dad ei herwyr diwyd a'u harwen.
—————————————
xx
Byd am ryfyg bod ymrafel,
Cynnyg ebyrth Cain ac Abel,
Seion Ion enwog
Rhag saethau gan Gog
A Magog ymogel.
xxi.
Dewis wyryf, dy seren
Wawr a dorrodd o'r dwyren;
Efengyl na fae angen,
Gras Duw a gwersi dien;
Cariad eurwerth cred aren
Ysbrydol is wybr Eden;
Pob duwiol ddawn yn llawn llwydd
Iawn Lywydd anwyl awen.
xxii,
Dod, Ior, dad iaith,
Mwyn gôr mewn gwaith,
Mal môr mawl maith,
A mil mwy
Mwynhau mewn hedd
Ter fau tirf wedd
Dy glau deg wledd,
A di glwy.
xxiii.
Mwy ni flinant, mae yn flaenor
Iesu maelor, weis a'i molant;
Naf a garant, nef yw goror
Caer tŵr Ifor cu cartrefant.
xxiv.
Gwiw Ne gannaid, gynau gwynion
Llys duwiolion, llais dialaeth,
Byrddau euraid a beirddorion,
O newyddion awenyddiaeth;
Telynorion, palmwydd gleision,
Ebyr oerion, wiw beroriaeth;
Dedwydd Seion, gwaredigion,
A chyd aeron iachawdwriaeth.
Cân Moses, felus folant,— cân yr Oen
Cawn rinwedd ei haeddiant;
Cân y ffydd sydd i bob sant
Ar a ddel i'r addoliant.
Dy glod mawr hanfod mor hen,—o newydd
Fy Nuw, a'm gwir berchen,
Tragywyd y trig awen
A llais mawl i'th llys. Amen.
iii. AWDL Y DDANNODD.
Phisygwyr a gwyr o geraint—Brydain
A'm brodyr uchelfraint,
Dewch, mynnwch im enaint,
A dwfr da i adfer daint.
Lluddio hun a lladd henaint—edwindod
Yn dwyn dydd iselfraint.
Diau dyfod dioddefaint
A chwys dwys o achos daint.
Pa greyr, pwy fethyr, pa faint—poenodrist,
Pa nadroedd a llyffeint.
Pa ryw chwil sydd mewn cilddaint
Yn gwywo dyn gan waew daint?
Rhyw gŷn gronyn fel gwraint—o drallod
Yn dryllio fy merddaint,
Cenau aelddu canolddaint
Gwenwyn dart i gonyn daint.
Locust, bry athrist mewn braint,—a llew byw
Yn lleibio fy merddaint;
Bloedd calon ddelff mal celffaint,
Un cenau dig, yn cnoi daint.
Palfog wadd a gadd geuddaint,—i'w dirio
Fel dera neu farchwraint;
Brad arnaf, briw di-enaint,
Cwlwm wŷn dost, clwy mewn daint.
Mwy cryd naws gofid na sgyfaint—poenus,
Ar pen yn anghywraint;
Byrbwyll ag anwyll gymaint,
Cwyn ddir dost cynddaredd daint.
Arafwn, sobrwn fel saint—gwell ydyw
Rhag llid a digofaint;
I'n cyfwrdd, wanna cwfaint,
Mwy ffin ddwys na phoent y ddaint.
iv. I GRUFFYDD HUW AM FAIP.
Cymydog hafog a'i heufaip,—gwiw lwys,
Ymgleddwr melyn-faip,
Rhoddodd, anfonodd im faip,
Rhywiog erfai rhagor-faip.
Gruffydd a orfydd wir-faip,— un hylaw
Yn hulio llafur-faip;
Boreu'n arfer braenar-faip,
A chyn mis yn chwynnu maip.
Cyfaill a rhandir at faip—llawn gwyrddddail,
A gerddi mamogfaip;
Goreu gwr, ffurfiwr ffeirfaip,
Am ymdrin a meithrin taip.
Aed ar led lifed oleufaip—had ferw,
Ryd Feirion yn frasfaip,
Ac yn Arfon gynnar-faip,
A gwlad Fon yn glwyd o fap.
Cal had afrifiad o freu-faip,—a dwg
Im ddigon o goch-faip,
Tirfiaf yn pori ter-faip,
Cael maeth wrth yfed cawl maip.
Ar eu canfed y bo cyn-faip—Gruffydd,
Gŵr hoffus ei blan-faip,
Gwnawn geirdd, wych-feirdd, i'w iachfaip.
Ebrwydd fawl am beraidd faip.
v. YSTYRIAETHAU
Ar addewidion Duw i Israel am Ganan, ac yn ysbrydol pererindod y Cristion i'r Ganan nefol.
Pererin gwael wyf fi o'r llwch
Yn teithio anialwch Paran.
Yn ffoi i'r Aifit rhag Pharo a'i lid,
Ac ennill rhyddid Canan.
Yr hyn nis gallaf ar fy nhaith
O'm nerth a'm gwaith fy hunan,
Y Prenin sydd i'm galw'n nes
I mewn i'w gynnes Ganan.
Efe a draethodd act y gras,
Pan oeddwn gas ac aflan;
Cawn fynd er maint y storm a'r stwr
Drwy ganol wr i Ganan.
Efe a'r dug drwy nerth ei fraich,
Er maint fy maich a'm tuchan,
I gael yr etifeddiaeth rad,
A'm cynnal yng ngwlad Canan.
Fe wna'r dyfnderoedd yn dir sych,
O'r graig fe wlych bob safan,
Nes mynd o'i etholedig blant
I wlad gogoniant Canan.
Chwychwi had Abram oll i gyd,
Plant yr addewid burlan.
Yw'r rhai sydd gennych lygad ffydd
I weled cynnydd Canan.
Y rhai sydd wael heb hawl neu werth,
O'u grym a'u nherth eu hunan;
Ond sydd a'u hetifeddiaeth rad,
Ddigonol, yng ngwlad Canan.
O Seion, irion yw dy wraidd,
Er bod a'th braidd yn fychan
Derbynaist addewidion llawn
Yn gymnar iawn am Ganan.
Etifedd ydwyt i'r wraig rydd,
Mae gennyt fydd yn darian;
Am hyn cei fynd, yng Nghrist a'i hawl.
I ganu mawl i Ganan.
Fy enaid, gorfoledda'n fawr,
Er bod yn awr yn egwan;
Rhoes iti flas o'i ras a'i rin.
Fel sypian gwin o Ganan.
Dy gariad sydd heb dor na thrai,
Tuag at y rhai a'th ofnan;
Pan ddygit fi, gan wrando nghwyn,
Y gwanna o'r wyn, i Ganan.
O Cynnal fenaid gwael yn ol
Dy serch a'th unol anian;
Dwg i trwy'r byd o hyd mewn hedd
I'th wir ogonedd Ganan.
Fydd y Cristion, sef nerth Duw a berffeithir mewn gwendid.
Yr Arglwydd yw fy rhan a'm nerth,
Fe aeth yn aberth drosof;
Ni ad fy Nuw, fy nerth a'm rhan,
Fy enaid gwan yn angof.
Myfi sydd gyfnewidiol iawn,
A'm cnawd yn llawn o bechod;
Sel ddigyfnewid sydd i'm gwawdd,
Fy Nuw, fy nawdd, a'n priod.
Gwan fel Moses yn yr hesg,
A llwfr a llesg fy llusern;
Ond braich fy Mhrynwr sydd fwy cry
Na'r Ddraig a gallu unffern.
Er bod fy nhaith drwy'r moroedd trwch,
A'r tew anialwch niwliog;
Cal fynd i Ganan ddydd a ddaw
Drwy nerth y llaw alluog.
Mae'r Oen a laddwyd ar fy mhlaid,
Boed sicr i'm henaid egwan;
Fe'm dwg i'r lan er gwartha llid
Ac nawd, y byd, a Satan.
Dy arfaeth di, fy Mugail da,
Drwy gariad a thrugaredd;
Sy'n gweithio'm biachawdwriaeth ddrud
O'r dechreu hyd y diwedd.
Tydi a'm ceraist cyn fy mod,
Fy Nhad a'm priod teilwng;
A gwedi'm rhwymo â phechod caeth,
Tydi a ddaeth i'm gollwng.
O llanw fi a'th Ysbryd rhad,
Fy Nuw, fy Nhad, a'm Cyfell,
A thyn fy enaid ar dy ol
O'r hen ddaearol babell.
Yr Arglwydd yw fy rhan a'm nerth,
Fe aeth yn aberth drosof;
Ni ad fy Nuw, fy nerth a'm rhan,
Fy enaid gwan yn angof.
RHOBERT WILLIAM Y PANDY.
[Amaethwr yn y Pandy, ger y Bala, oedd Robert William. Ganwyd ef yn 1744; claddwyd ef yn Llanfor, Medi 1. 1815. Yr oedd yn ddisgybl i Rowland Huw, ac yn athro i Ioan Tegid. Codwyd y darnau sy'n canlyn o ysgrif-lyfr trwchus yn ei Law ef ei hun (dechreuodd ysgrifennu yn 1768), sy'n awr yn meddiant ei deulu. Gwel Cymru II., 21—23.]
i. Y BEIBL.
TYRED, Awen naturiol,—i gynnig
Rhyw ganiad ysbrydol;
Gwan iawn wyt i ganu'n ol
Sail addysg gwyr sylweddol.
Llyfr doeth yn gyfoeth i gyd,—wych lwyddiant
A chleddyf yr ysbryd,
A gair Duw Nef yw hefyd,
Beibl i bawb o bobl y byd.
Maes helaeth mwya sylwedd,—iawn fedrus
Anfeidrol ei rinwedd;
Gair anwyl y gwirionedd
Byd yw hwn, bywyd a hedd.
Rheol ryfeddol o foddion.—dwysgall
Yn dysgu pob dynion;
Goreu braint roddwyd ger bron,
Yn nwylaw annuwiolion.
Perl nefol pur lawn afiaeth,—gwir amod
A grymus ddysgeidiaeth;
'Rhwn oedd, sydd, a fydd iawn faeth,
Yn dirwyn iechydwriaeth.
Gair iawn di ysgog, goreu in dysgu,
Union a grasol, yn ein gwir Iesu
Deuwn o'n gw'radwydd, da i ni gredu
O gyd wiw fwriad, ag edifaru;
Boed in Nef i gartrefu—yn diwedd,
Mwya dawn rinwedd mae Duw'n ei rannu,
ii. BLINDER AC YMDDIRIED.
Rwy'n dechre blino'n awr ar bethau'r ddaear hon
Does wrthrych rhwng y nef a'r llawr a'm gwna f'n llon,
Gwlad well tu draw i'r bedd 'rwy yn ddymuno gael,
A'm henaid mewn tragwyddol hedd, da wedd, di wael.
Rhyw ryfel yma sydd mewn byd rwy'n awr yn byw,
A minne'n siwr o godi'r dydd heb nerth fy Nuw;
Addewid Un a Thri yw nghysur a fy nghân,
Y bydd ei hunan gyda mi, mewn dŵr a thân.
Fe ddwedodd Crist Mab Duw mai gorthrymderau a gawn
Ac O! na byddwn ynddo'n byw, fe yw fy iawn;
Nid ofnwn ar un pryd drallodau mawr a ddaw,
Ond cael, er allo cnawd a byd, fod yn ei law.
Er amled yw fy nghri tan ryw amheuon mawr,
Ac anghredinieth sy' ynnof i'm taflu i lawr;
Disgwyliaf gryfach ffydd, i godi f'ysbryd gwan,
A mwy o nerth yn ol y dydd i nofo i'r lan.
Gweddio wnaf o hyd gael cyn terfynu f'oes
Dystiolacth fadde meiau i gyd, trwy Oen y Groes;
Ei waed ar Galfari sydd digon i'm glanhau,
Par i'm holl glwyfau marwol i gael eu hiachau.
Wrth draed y Meddyg da 'rwy yn dymuno bod,
'Does unlle gwell i enaid cla', caiff ynte'r clod;
Mae'r Iesn'n eiriol fry, a'i hen drugaredd rad,
Yn enw hwn dof finnau'n hy i dy fy Nhad.
iii. GWELEDIGAETH YR ESGYRN SYCHION
Rhyw son an esgyrn sychion cawn, os awn i 'mofyn:
Ac wele hwynt yn amal law, ar wyneb dyffryn;
"Ha fab dyn, fydd byw rhai hyn? yw'r gair ofynnwyd,
Ac er bod mewn myfyrdod syn, ni wyddai'r proffwyd.
Proffwyda am yr esgyrn hyn, a dywed wrthynt,
Er bod yn feirwon sychion syn bob un o honynt—
"Clywch air yr Arglwydd sydd yn dweyd 'Rhof anadl ynnoch,
Fel trwy yr hyn 'rwyf yn ei wneyd mai byw a fyddwch.
Fel hyn y parai'r Arglwydd gynt i'r anadl yma—
Tyr'd oddiwrth y pedwar gwynt, ac anadla
Ar y lladdedigion hyn, a byw a fyddant,
A rhai gânt eto'n cannu'n wyn a orfoleddant.
A phan broffwydodd, swn a fu, a chynnwr hefyd,
A'r anadl a dlaeth i'r holl lu, mewn byr ennyd;
A safent yno ar eu traed yn llu lliosog;
A minne saif, drwy rinwedd gwaed ein brawd trugarog.
iv. Y FARN FAWR[9]
Duw, er mael dyro i mi
Hwyl union o'th haelioni;
Par fywyd, pura f'awen,
Addwyn yw hi, y ddawn hen,
I wau gwiwdeg we gadarn
Yng nghylch y dydd y bydd barn.
Hwn yw'r dydd sydd yn neshau
Draw eisoes wrth y drysau;
Dydd echrys, arswydus son,
Niwlog i annuwiolion;
Dydd chwerwedd dialedd diluw,
Dydd blinder, a digter Duw;
Llid oer naid, fal lleidr y nos,
Mynegwyd mae yn agos;
Dydd o brofiad ofnadwy,
Diwedd mawr, ni bu dydd mwy.
A phwy wyr ai'r hwyr, er hyn,
Y dechreu amser dychryn?
Cof ofnog, ai y cyfnos?
Cynnil nawdd, ai canol nos?
Ai ar y wawr, ddarfawr ddydd?
Cwyn wael ddwys, ai canol-ddydd?
Geirian Naf sy'n gwiriaw,
Goreu dyst, mai gwir y daw;
Gair Iesu mor gu a gaf,
Iach helaeth, pam nva choeliaf?
Daw i bob parth ar wartha
Drwg di-rôl, duwiol a da;
Cynnwrf, a thwrf a therfysg,
Foddau mawr, a fydd ym mysg
Cenhedloedd ag ieithoedd gwâr,
Ddeuant gyrrau'r ddaear;
Annuwiol blant, toddant hwy
Yn gyfan ddydd eu gofwy:
Pob wyneb glân cyfan cu
Heb urddas a gasgl barddu;
Syndod rhyfeddod a fydd
Cwynfawr, a phawb a'i cenfydd;
Ac yna y crynna cred,
Gad gyngraff gyd ag anghred;
A'r holl ddaear fyddar fud,
Gron hoew-fawr, a gryna hefyd.
A'r defnyddiau, geiriau gwir,
Di-dadm gan wres a doddir;
Daear a'i gwaith, dewr faith dw
Anobaith, a lysg yn ulw;
Tywelltir, teflir fel tân
Ar led oll, oer lid, allan;
A'r creigiau, bryniau pob bro,
O gwmpas yn ymgwympo;
Y greadigaeth gry degwch
Cyffry, ag a dry yn drwch;
Natur frau, ddiau ni ddal,
A ddetyd yn ddiatal;
Twrw, wae maith, hyd tir a môr
Ag ing a chyfyng gyngor;
Dynion fydd ar y dydd da
Hyll agwedd, yn llewygu,
Gan ofn a braw draw yn drwm.
A gwarthudd euog orthrwm.
A wedi yr aniddanwch,
Gorthrymder, a'r trymder trwch
Ni rydd haul o'i draul a'i dro
Ei lewyrch i oleuo;
A'r lloer wen uwch ben byd,
Rhyfedd a d'wllir hefyd;
Ser y nef, siwr yw i ni,
Serth adeg, a syrth wedi;
A nerthoedd nefoedd yn wir,
Esgud waith, a ysrydwir.
Yna gwelant Oen gwiwlan,
Ar ei Orsedd loewedd lân.
Gyda ei blaid euraidd wedd,
Llawn o fawl, llu nefoledd;
Yn dwad, codiad cadarn,
Ar y byd i wir roi barn;
Clywir bloedd y cyhoeddwr
O bedwar gwynt byd o'i gwrr;
Galwad i bob gwlad glir,
At gannoedd a utgenir;
E gyrraedd i bob goror
Daear faith, mawr waith, a môr;
Perir i bawb ympiriaw,
A'r meirwon ddynion a ddaw;
Gwelir pawb yn y golwg,
Diau o drem da a drwg;
A rhennir oll y rheini,
Gwir yw, medd y gair i mi;
Ein Rhi eglur yn rhaglaw.
A'r ddau lu ar ei ddwy law;
Rhai cyfon di-drawsion draw,
Dda helynt, ar ddeheulaw;
A'r anauwial o'u hol hwy,
Wawr isel, ar yr aswy.
A'r llyfrau a'u geiriau gwir,
Gu arwydd, a agorir;
A llyfr gair Mab Mair mau,
Gwirionedd gywir enau;
Llyfr ffraeth creadigaeth Duw
I dylwyth cyn y diluw;
A diball lyfr cydwybod
Yn blaen iawn, blin yw ei nod!
I'r rhai euog llwythog llawn,
Cof-lyfr pechodau cyflawn
I'r dieuog pwyllog pur,
Gesyd anrhaethol gysur;
Pob un grasol nefol nod
A burir yma'n barod,
Fodd enwog, a feddianna
Fawr urddas y Ddinas dda;
A gwyn eu byd hyfryd hwy,
Nerthol yw eu cynhorthwy:
Ni ddeall dyn o ddull doeth,
Cofiwn, pa faint y cyfoeth
A rydd Duw Ior, blaenor ei blaid,
Yn wiw elw i'w anwyliaid;
A'r anufudd yn suddaw
Yn fudan mor druan draw;
Gwae ddynion a gwedd anwir,
Nid hwy a safant eu tir;
Anadl yr Ion cyfion cu,
Fodd chwithig, fydd i'w chwythu,
Fely mauus hysbys hynt,
Flina cur, o flaen corwynt.
Y Barnwr, rheolwr hylaw.
Barn gyfion o'i ddwyfron ddaw;
Dywaid wrth y rhai duwiol
Yn fwyn iawn, fo yn ei ol,—
"Dewch chwi, fy mhlant di-wael,
O'r byd mae gwynfyd i'w gael;
Mae'r Deyrnas roed, hel oedi
I'w chael, bartowyd i chwi;
Hoew-fraint ardderchog hyfryd,
Di ball er seiliad y byd;
Meddiennwch mewn modd union
Dirion swydd y Deyrnas hon;
Am mai da gwnaethoch i mi,
Diochel bydd da i chwi."
A'r rhai anwir rhoddir hwy
I fyneliad ofnadwy;
Dywaid Ef,—"Ewch, ni chewch chwi,
Gelynion y goleuni,
Ond uffern gethern i gyd,
Ddalfa dro dragwyddolfyd;
Tywyllwch caeth annrhaethol
O ddig barotowyd i ddiawl."
Yna yr ant, coddiant caeth
Dygyn, i gosbedigaeth;
Annoethedd drwg a wnaethant,
A drwg, oer gilwg, a gânt.
Y duwiol lu di-wael oll
Ddygir i'r nef yn ddigoll,
I ganu clod, a bod byth,
Mewn addoliad mwyn ddi-lyth,
I'w Prynwr a'u carwr cu
Dewisol a'r Duw Iesu:
Sylwedd y Ddinas oleu,
Por yw hwn byth yn parhau;
Boed inni ran gyfan gu,
Da olud, yn ei deulu;
Byw bwy yno bob ennyd
I ganu mawl, gwyn y myd.
v. Y DELYN
Gwledd gorfoledd gwir felus—yw miwsig
A moesau cysurus;
Naturiol, llesol mewn llys,
A'i sain curaid soniarus.
vi. BEDD GENETHIG.
Gwel fedd gu ieuengedd gangen—gynnar-dwf—
Gan irder ei deilen;
Genethig fel gwenithen,
Gwers yw hi i'r gwŷr sy hen.
vii. AMCAN Y BARDD.
Fy amcan i, gan hynny,
Oedd ceisio llwyr wrth'nebu
Meddyliau gweigion o bob rhyw,
Os cawn gan Dduw fy helpu.
CHARLES O'R BALA.
[Ganwyd Thomas Charles yn Longmoor, Llanfihangel Abercywyn, Hyd. 14. 1755. Pan yn Rhydychen daeth ir Bala gyda Simon Lloyd (1756-1836), cyd-efrydydd iddo. Yn 1783 priododd Sally Jones o'r Bala: yn 1784. wedi hir geisio lle yng Nghymru "fyth yn anwyl", cafodd guradiaeth Llan-ym-Mawddwy. Yn y Bala bu byw wedi priodi; oddi yno—gyda chymorth rhai fel Simon Lloyd, George Lewis, Thomas Jones o Ddinbych, Robert Jones, Rhoslan creodd gyfnod newydd yn haness meddwl Cymru. Y mae ei gysylltiad â'r Ysgol Sul, Y Beibl Cymraeg, y Gymdeithas Feiblau ac Ordeiniad 1811 yn rhan o hanes Cymru. Yn 1789 daeth yr Hyfforddwr allan yn ei ffurf gyntaf yn Ebrill 1799 ymddangosodd y rhifyn cyntaf y Drysorfa Ysbrydol yn 1801 daeth rhifyn cyntaf y Geiriadur. Yn ei ymgais a'i ynni dygodd Thomas Charles lu o wyr athrylithgar i weithio. Deffrodd Howell Harris gydwybod Cymru, deffrodd Thomas Charles ei meddwl. Yr oedd swyn rhyfed yn ei enw pan fu farw, Hydref 5, 1811. Claddwyd ef ym mynwent Llanecil, wrth dalcen dwyreiniol yr eglwys. Cyhoeddwyd Cofiant cynhwysfawr gan y Parch. D E Jenkins yn 1908.]
DYFAIS TRAGWYDDOL GARIAD.
DYFAIS fawr tragwyddol gariad
Ydyw'r iachawdwriaeth lawn,
Cyfamod hedd yw'r sylfaen gadarn
Yr hwn nis derfydd byth mo'i ddawn;
Dyma'r fan y gorffwys f'enaid.
Dyma'r fan y byddaf byw',
Mewn tangnefedd pur heddychol,
Ymhob rhyw stormydd gyda'm Duw.
Syfled iechyd, syfled bywyd,
Cnawd a chalon yn gytun
Byth ni syfla amod heddwch
Hen gytundeb Tri yn Un;
Dianwadal yw'r addewid,
Cadarn byth yw cyngor Duw,
Cysur cryf sy i'r neb a gredo
Yn haeddiant Iesu i gael byw.
Bum yn wyneb pob gorchymyn,
Bum yn wyneb angeu glas;
Gwelais Iesu ar Galfaria
Yn gwbl wedi cario'r maes;
Mewn cystuddiau rwyf yn dawel,
Y fuddugoliaeth sydd o'm tu,
Nid oes elyn wna i mi niwed,
Mae'r fordd yn rhydd i'r nefoedd fry.
Pethau chwerwon sydd yn felus,
T'wyllwch sydd yn oleu clir,
Mae'm cystuddiau imi'n fuddiol,
Ond darfyddant cyn bo hir;
Cyfamod hedd bereiddia'r cwbl
Cyfamod hedd a'm cwyd i'r lan,
I gael gweld fy etifeddiaeth,
A'i meddiannu yn y man.
Gwelais 'chydig o'r ardaloedd
Yr ochr draw i angeu a'r bedd
Synnodd f'enaid yn yr olwg,
Teimlais anherfynol hedd;
Iesu brynnodd imi'r cwbl,
Gwnaeth â'i waed anfedrol iawn
Dyma rym fy enaid euog.
A fy nghysur dwyfol llawn.
DAFYDD CADWADR
[Ganwyd Dafydd Cadwaladr yn 1752. yn Erw Ddinmael, Llangwm daeth ardal y Bala i wasanaethu yn ieuanc dysgodd y wyddor oddiwrth lythrennau nod ar ochrau defaid: cafodd fwyd i'w ddychymyg yn Nhaith y Pererin a Gweledigaethau Bardd Cwsg. Wedi oes o lafur egniol fel efengylydd, bu farw Gor. 9, 1834. Cyhoeeddwyd cyfrol a gofnodau a dano yn y Bala yn 1836. Claddwyd ef yn Llanecil, ac y mae golygfa ardderchog oddi wrth ei fedd ar Lyn Tegid a'r Aran.]
MARWNAD CHARLES O'R BALA.
O SEION ofnog, paid ag wylo,
Nad im' glywed mwy mo'th lef;
Ca'dd Charles fynd i berffeithiach eglwys,
'Nawr mae'n gorffwys yn y nef
Y cnawd a'r galon oedd yn pallu,
Duw oedd ei ran a'i nerth yn awr;
Fe ymadawodd mewn tangnefedd.
Yn ffrwd yr iachawdwriaeth fawr.
Roedd ei farwolaeth i ni'n golled,
Ond iddo ef yn ennill mawr;
Cawn ninnau fedi o ffrwyth ei lafur,
Tra bo'm ni'n aros ar y llawr:
Yr Egwyddorion ga'dd e' o'r Bibl,
Maent gyda ni heb ddim gwahan:
Caiff myrdd o blant eu maethu drwyddynt,
Hyd onid elo'r byd ar dân.
Mae ei Drysorfa'n llawn danteithion,
I borthi'r ofnog gwan ei ffydd;
Y mae'r Geiriadur mawr fel allwedd,
I ddwyn i'n golwg bethau cudd.
Ei 'madrodd rhwydd, a'i adysg yn uchel,
Egwyddor iach, nefoldeb llawn;
Mae'n cario perlau disglair inni,
Wna bobl Cymru'n brydferth iawn.
Cyfododd un o deulu Gomer,
Wnaeth fwy na neb er dechreu'r byd,
I yrru'r Bibl i bob ieithoedd.
I gasglu eiddo Crist ynghyd;
A hwn dan seiliau teyrnas anghrist,
Er uched yw ei brig yn awr;
Y garreg eifi yn llond y ddaear,
Mae'n rhaid i'r delwau gwympo i lawr.
Dyma'r seren a ddisgleiriodd,
O flaen bore'r Jubil fawr;
Disgwyliwn bellach i'r wawr godi,
Mae'r seren wedi mynd i lawr:
Gwybodaeth Duw a doa'r ddaear.
Bydd mawl yr eglwys yn ei rym.
Cynhulliad pobloedd at y Siloh,
A Babel wedi cwympo'n ddim.
Ca'dd yn ei gorff gystuddiau trymion,
O dan y rhai'n fe gadwai'i le;
A phob dadleuon yn yr eglwys,
A flinai 'i feddwl tyner e;
Ac annuwioldeb ei gym'dogion,
Oedd iddo ef yn ofid llym:
'Nawr fe drow'd y groes yn goron
'D rhaid iddo mwyach ddioddef dim.
'N awr 'rwy'n colli'm golwg armat,
'D wy'n 'nahod din o honot fry
Nid wyt ti swm yr un o'r tywod,
Nid wyt ti bwysau'r un o'r plu';
Nid tebyg wyt i un creadur,
A welwyd mewn daearol fyd;
'Does armat liw, na dull, na mesur,
Er hynny sylwedd wyt i gyd.
A wyt ti'n gweled peth yr awrhon,
O ddwfn ddirgelion Tri yn Un?
P'a fath olwg sy'n y nefoedd,
Ar a gym'rodd natur dyn?
A ydyw rhyfeddodau'r Duwdod,
Yn dod i'th olwg heb ddim rhi',
Neu ynte wyt yn gweld efengyl,
Yn llenwi conglae'n daear ni?
Ai 'n ol darluniad Watts new Baxter
Mae gwaith y nef yn mynd ymlaen:
Gweddio, ymddiddan, a phregethu,
Neu ynte dim ond c'lymu cân?
A yw 'difeirwch, ffydd, a gobaih,
Wedi ymadaw'n llwyr yn awr,
A dim ond cariad yn teyrnasu.
O boethder fflam yr eirias fawr?
A wyt ti'n ysgog fel y fellten,
Ynghanol yr eangder mawr?
A ydyw t'wysogauthau'r netoedd,
Yn adnabyddus it yn awr?
A wyt ti'n 'nabod pawb o'r seintian,
A rhif angylion sydd wahân;
Ai am gre'digaeth neu am brynnu,
Mae'r nifer fwya'n seinio cân?
A wyt ti'n cofio geiriau'r Bibl,
Dy bleser penna! gyda ni?
A yw 'madroddion y proffwydi,
Yn llonni byth dy ysbryd di?
A ydyw gweledigaeth Ioan
Yn awr yn eglur o dy flaen?
Ai ynte wyneb y Jehofah,
Yn unig yw d'orffwysfa lan?
A wyt ti'n gweld dy gorff yn huno
Ym mynwent Beuno dan v pridd?
Oes arnat hiraeth yn y nefoedd
Am weld yr adgyfodiad ddydd?
A wyt ti'n cymhell yr angylion
I gasglu'r saint o gyrrau'r byd;
Ai ynte bod yn ddistaw lonydd,
Ym mynwes Abr'am 'r wyt o hyd?
Chwi'r angylion ddaeth yn lliaws,
A'r n'wyddion da o'r nef i lawr,
Derbyniwch genadwri dirion,
I'w ddwy yn ol i'r nef yn awr:
Cymanfa'r Beibl sydd yn llwyddo,
Gair Duw sy'n seinio i bob lle,
Ysgolion Sabboth sy'n cynbyddu;
Cyhoeddwch hynny iddo fe.
Boed bendith byth ar Sir Gaerfyrddin,
Am tagu'r impyn mawr ei ddawn;
Boed bendith byth ar deulu'r Bala,
Lle cadd ei godi'n uchel iawn:
Boed bendith Duw a'i ras yn helaeth,
Yn dilyn ei hiliogaeth ef,
A llwyddiant i'r efengyl dawel
Ymhlith pob cenedl dan y nef.
Goddefwch bellach air o'm hofnau,
':Rwy' yn ei dd'wedyd gyda braw,
I'r cyfiawn hwn gael dianc ymaith,
O flaen rhyw ddrygau mawr a ddaw.
Yn y wlad neu yn yr eglwys,
Y tyrr rhyw bla fel fflamau byw!
Ond d'wedai'n uchel wrth ymadael,
Mai noddfa dawel iawn yw Duw.
WILLIAM JONES.
[Ganwyd William Jones yng Nghynwyd yn 1764. Daeth i'r Bala yn fachgen, a daeth yn feistr ffactri drwy gymhorth y Parch. Simon Lloyd. Bu farw Mai 2, 1822].
CWYMP BABILON.
MAE'R dydd yn neshau,
Ceir gweled yn glau
Daw Babilon gadarn i lawr;
Mae'r taliad mor ddrud,
Teyrnasoedd y byd
A'n eiddo Emmanuel mawr.
Hen anghrist sydd fawr
Falurir i lawr,
Mae'r garreg a'i threigliad yn rhydd;
Er gorfod cael briw
Daw'r tystion yn fyw,
Haleliwia Bron gwawrio mae'r dydd.
Er cymaint yw'r llid,
Daw'r gaethglud i gyd
C ddyfnder caethiwed yn rhydd;
Fe ddaw'r Jiwbili
I fyny'n llawn rhi,
Haleliwia Bron gwawrio mae'r dydd.
Mae'r dyad yn neshau
Pan ddryllir yr iau,
Oherwydd eneiniad y Pen;
Mae'r amser gerllaw,
Iddewon a ddaw
I garu'r Hwn fu ar y Pren.
Y GWLAW GRASLAWN.
O fy Nuw, a'm tirion Arglwydd,
Rho'r cawodydd pur i lawr,
I ireiddio f'eiddil ysbryd,
Sydd yn sychlyd iawn yn awr;
Dyro'r dylanwadau nefol,
Ennyn bob rhyw ddwyfol ddawn,
Rho dy gariad a'th ymgeledd,
Difa'r llyrgedd sy' ynwy'n llawn.
LLAFUR ENAID.
"O lafur Ei enaid y gwel."
Y Meichiau a wêl,
Ei lafur dan sel
Fe'u mynn hwy o afael y llid,
Hwy garwyd yn rhad,
Fe'u prynnwyd â gwaed,
Fe'u gelwir, fe'u golchir i gyd.
Ar Galfari fryn,
Yn haeddiant Duw-ddyn,
Caed trysor, am dano bydd sôn;
Mae'n gyfoeth mor ddrud,
Fe leinw'r holl fyd;
Clodforedd am rinwedd yr Oen.
WILLIAM EDWARDS.
[Ganwyd William Edwards yn 1773. Nai a disgybl oedd i Robert Wiliam y Pandy; gwehydd wrth ei grefft, ac yn byw dan yr unto a'i dad yng nghyfraith. John Evans. Gwnaeth lawer i helpu Mr. Charles gyda'r Ysgol Sul; ac y mae ei emynnau'n adlais o waith yr Ysgol a gorfoledd y Sasiynau. Bu farw yn 1853. Gwel Cymru III., 77, 96, 162]
CYSGOD ION
Y RHAI o dan dy gysgod, Ion,
Yn gyson a arhosant,
Dan lewyrchiadau'th wyneb pryd
Y rhain fel yr adfywiant.
Blodeuant, tyfant tua'r nen
Fel y winwydden ffrwythlon,
A bydd eu harogl wrth eu trin
Mor bêr a gwin Lebanon.
Lledant eu gwraidd mewn daear fras,
Wrth afon gras y bywyd,
Eu ceinciau gerdd, eu tegwch fydd
Fei olewydd yn hyfryd.
AWELON NE
Ewch ymlaen, awelon grymus,
Chwythwch ar yr anial fyd,
A dadwreiddiwch ar eich cyfer
Gedrwydd cryfa'r ddraig i gyd;
Fel bo'r ddaear
Oll yn eiddo'n Harglwydd ni.
Y mae f'enaid gwan yn gwenu
Wrth eich swn, awelon ne,
Yn gwasgaru anwybodaeth
IESU. Does neb ond Ef, fy Iesu hardd,
GOBAITH SEION. A heibio'r nos gymylog hon, Cei ar dy fronnau fagu plant
YR EFENGYL. Mae'r iachawdwriaeth glir O flaen y wawr nefolaidd wiw;.
GWELED IESU. Mae byw mewn gobaith am y dydd
TYRFA WAREDIG. Mae tyrfa hardd eu gwedd
IOAN TEGID [Ganwyd John Jones (Ioan Tegid) yn nhref y Bala, Chwefror 10, 1792. Yr oedd yn ddisgybl i Robert William y Pandy. Bu yn ysgol y Parch. D. Peter, Caerfyrddin, cyn mynd i Goleg yr Iesu, Rhydychen, yn 1814. Yn 1819 daeth yn gaplan Eglwys Crist, ac wedyn yn gurad Eglwys St. Thomas. Tra yn Rhydychen gwnaeth lawer o waith dros eglwys a mynwent ac ysgol. Rhwystrwyd ef rhag mynd yn genhadwr i India gan hiraeth am Gymru. Gweithiai dros Gymru hefyd. Golygodd argraffiad newydd o'r Testament Newydd, a buasai wedi golygu'r Beibl i gyd oni bai i'w orgraff,—oherwydd ni ddyblai ei lythrennau,—gedi storm. Cyfieithodd lyfr Esay o'r Hebraeg i'r Saesneg, a bwriadai ei gyhoeddi yn Gymraeg hefyd. Cydolygodd waith Lewis Glyn Cothi â Gwallter Mechain, ac ysgrifennodd ragymadrodd hanesyddol llafurus i'r gwaith. Hiraethai am Gymru o hyd. O'r diwedd, yn 1841, cafodd le, nid ym Meirion fel y dymunai, ond yn Nanhyfer, lle bach tlws megis yn ymnythu uwchben afon Hyfer, yn sir Benfro. Carai ei wlad a'i iaith â holl serch ei galon gynnes. Yr oedd yn wr hoffus, diddan, caredig a chroesawgar. Bu farw Mai 2, 1852; ac y mae ei fedd yn Nanhyfer.] YMWELIAD Y BARDD. I dref y Bala yr aeth y Bardd, Ni chlywaf lais, mawr yw fy mraw,
LLYN TEGID. Awn i rodio at y Llyn, Tesawg yw yr haul uwch ben, HIRAETH CYMRO AM EI WLAD. Hiraeth ysywaeth y sydd—i'm dilyn Ni fu fwy glwy' o fewn gwlad Os wy i ar farw am hen sir Feirion,
MARWNAD ROBERT WILLIAM. Bardd ac Amaethwr o'r Pandy Isaf, Trefrhiwedog, ger y Bala, ac athraw barddonol yr awdwr. Bu farw Awst, 1815. O Robert, mae oer uban Ochain sydd im o'th achos O trymaidd a fydd tramwy
ARDEB FY MAM. Ardeb fy mam, fwynfam fach,
MERCH IEUANC YN Y DARFODEDIGAETH. Pan welais hi ar ben yr allt,
Edrychai dro, ond meddwl prudd,
CAN I GARIAD. (Anacreon.) Cariad unwaith aeth i chwareu
Gwaeddai, Mam! yr wyf yn marw:
MORWYNION GLAN MEIRIONNYDD. "But what Bala is most famous for is the beauty of its women, and indeed I saw there one of the Morwynion glân Meirionnydd! Yn more f' oes ym Meirion, Iaith deg, iaith y duwiau gynt,
LLYN TEGID. Bysgodwyr llennwch eich basgedau—'n llawn
O Benllyn! i'th Lyn maith o luniad—teg, Ac o'r tir gwelir yn gwau
I DANIEL SILVAN EVANS. (Daniel Las) ar ei fynediad i Goleg Dewi Sant. Llonna byth o'th fodd yn Llanbedr—asgen A Llewelyn, llew olwg,
ATEB TEGID.[13] "I mi bu cyfeillion lawer, rhywiog a chywir, yn deall cyfreithiau
Daniel Daniel! paid a'th gyngor, D'wedais awn; ond eto hiraeth Nid oes mwynach peth na chlywed Am ei bod yn cael magwraeth
YR IAITH GYMRAEG[14] Gelyn yr iaith Gymraeg, dywed im' pa ham
"Iaith y Sais, iaith prynu a gwerthu yw." Pregetha gartref, a phan y bo ar daith,
YMLADD CRESSI, A.D. 1346. I like the Leeke above all hearbes and flowers;
Yn ymladd Cressi gwnaed gorchestion Gan roddi iddo'r grib tair pluen, Maes pais arfau Owen Tudur
AMSER. Tempus edax rerum.—OVID. Amser a ehed—a ehed— Amser, amser, sydd yn hedeg, Ysbryd Sanctaidd,
DYDD Y FARN FAWR. Dydd barn fydd hwnnw, pan fo'r tân Gwybodus fydd i'r Barnwr mawr
GALAR Y BARDD. Wylaf dro; tawaf wedi.—LLYWARCH HEN. Hiraeth y sydd i'm haros Elen fy chwaer yn wylaw
"Ail cwrel ar yr eira gwyn oedd rhosyn tlws dy rudd, Bu farw o'r geri marwol,[16] yn New Orleans, Hydref 24, 1832.]
IOAN TEGID. IOAN, wr o iawn araith, Iaith ei wlad a'i theleidion, Nid o ddig neu gynfigen
YSGOL RAD Y BALA. A fyfyriwyd wrth ymweled ag Ysgol Rad y Bala, yn ol marwolaeth fy hen athraw, Mil henffych iti, orhoffusaf dud! Un athraw mwynach, gyfaill purach, gwn BEDD JOHN EVANS. A gyfansoddwyd ym Mynwent Llanecil, Ionawr, 1829, wrth weled beddrod yr hybarchus a'r
Pan y dychwel rhyw ariannog
Yma gorwedd un mwy 'i urddas HIRAETH Bum dan amryw boenau o ddolur meddyliau,
DOLI. Tôn: "MORWYNION GLAN MEIRIONNYDD. Hardd ar fore haf—ddydd teg Hoffus yw cael gwely gwych,
TY FY NHAD. Er byw mewn anrhydedd, digonedd deg wawr,
Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad.
Er bod aur ac urddas ym mhalas gwr mawr,
Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad, Di-ail Tŷ fy nhad.
Tŷ fy nhad—Tŷ fy nhad,
Di-ail Tŷ fy nhad. GADAEL GWLAD. Ar y dôn "AR HYD Y NOS." Yn fy mron y mae trychineb,
TEGIDON. Ganwyd John Phillips (Tegidon) yn y Bala, Ebrill 12, 1810; prentisiwyd ef yn argraffydd gyda Mr. Saunderson; yna bu yn arolygu swyddfa y Parch. John Parry, o Gaer; tua 1850 symudodd i Borthmadog i arolygu swyddfa cwmni llechau, ac yno bu farw, Mai 28, 1877. "Yr oedd ei fywyd," ebe Glaslyn, "yn llawn o beroriaeth, a diweddodd fel y diweddid anthem, mewn amen dyner a dwys." Rhowd ef i huno ym mynwent Llanecil, dan yw y gorllewin—"Dyma orweddfan y talentog Tegidon." Gwel Cymru VI. 111. SIARL WYN. OCH! fyd y gofidiau! man cerdda yr angau, Pan ydoedd enwogrwydd, a pharch, ac anrhydedd— Ow! Ow! a anhuddwyd y'ngwlad y distawrwydd, SUL CYMUNDEB YN Y BALA. Mae'r bregeth bwysigawl yn awr wedi gorffen,— Fel gwenith teg, llawndwf, dan awel cynhaea. "Gwych sain
DINISTR CARTREF. "Cartref!" O enw fu'n swynol flynyddau,
Cartref fy mhlant, y tlysion anwyliaid,
HEDDWCH FEL YR AFON. Ar fin Iorddonen ddofn a gwyllt O do, rhyw air a gipiodd hi IOAN DYFRDWY. [Y mae hanes y bardd ieuanc hwn ar garreg ei fedd yn Llanecil fel hyn:— ER COFFADWRIAETH AM JOHN PAGE,—Ioan Dyfrdwy,—B.B.D. ac un o sylfaenwyr CYMDEITHAS LENYDDOL MEIRION, yr hwn a fu farw Mehefin 17eg, 1852, Yn 20 mlwydd oed. Perchen yr awen wiw rydd—oedd Ioan Diau hynotach daw Ioan eto,
DOCHAN FARDD.]
WEDI'R CWYMP. (Dyfyniad o'r gân "CREFYDD.") YR awel a ddywed o frigau y llwyni,— Gresynant dros Eden a'r mawr godwm erchyll. ROGER EDWARDS. [Ganwyd Roger Edwards yn y Bala yn 1811. Bu farw, wedi bywyd o weithio ac arwain, yn y Wyddgrug, yn 1886. Meddai athrylith i gynllunio pethau newyddion, a nerth i weithio'n ddygn. Efe, yn ei Cronicl yr Oes, gychwynodd lenyddiaeth boliticaidd Cymru'r dyddiau hyn; yn 1845. gyda Dr. Lewis Edwards, cychwynodd y Traethodydd; yn 1846 daeth yn olygydd y Drysorfa. Yr oedd a fyno pobl y Bala lawer a'r Geiniogwerth, gyhoeddid yn Ninbych o 1847 i 1851; ynddi tarawyd tant hollol newydd, fwy naturiol a byw, yn y ddwy gân sy'n dilyn.] YR AFONIG AR EI THAITH. AFONIG fechan, fywiog, fad, "Er mynydd mawr ni lwfrhaf, Mae'r eigion yn ddirgelwch prudd; YR ASYN ANFODDOG. Yn ei gut yn nhrymder gaeaf O na ddeuai y cynhaeaf IOAN PEDR. [Ganwyd John Peters yn y Bala, Ebrill 10, 1833. Bu gyda'i dad yn saer melinau, a gweithiodd yn galed i gael addysg. Ymhoffai yn enwedig mewn llysieueg, daeareg, a hynafiaethau. Yn 1859 daeth yn athro i Goleg yr Anibynwyr yn y Bala. Yr oedd yn hoff iawn gan ei ddisgyblion. Bu farw Ion. 17, 1877; hûn yn Llanecil.] DAEAREG. (Ovid, Metamorphoses. Liber xv.) O'R llydan fôr y ganwyd sychdir gwyrdd, MYFYRWYR Y COLEGAU. [Bu'r Bala yn gartref i golegau gweinidogion yr Anibynwyr a'r Methodistiaid er dyddiau Lewis Edwards a Michael D. Jones. Y mae Coleg y Methodistiaid yno eto. Tynnodd y colegau hyn wyr fel John Parry, Ap Vychan, Ioan Pedr, Thomas Lewis, Thomas Charles Edwards, a Hugh Williams, i fyw i'r Bala. Tynasant hefyd lu o efrydwyr, llawer o honynt yn feirdd da. Y mae llawer o'r rhain, ac o bregeth— wyr ddeuai ar bererindod i'r fro, wedi canu i'r Bala. Detholir dwy gân; un ddigrif ddireidus, ac un ddwys urdd— asol. Awdwr y gân ddireidus yw Glan Alun. Ganwyd ef, sef Thomas Jones, yn y Wyddgrug yn 1811, bu farw yn 1866. Yr oedd yn llenor gwych, ac y mae ei lyfrau,— Fy Chwaer." a'r Ehediadau Byrion"—yn adnabyddus iawn. Yr oedd yn wr cyhoeddus o rym a dylanwad. Awdwr y gan ddwys i Green y Bala yw Huw Myfyr. Ganwyd ef, set Hugh Jones, yn Llanfihangel Glyn Myfyr yn 1845. Daeth i'r Coleg yn 1867. Bu yn Llanrhaiadr—ym— Mochnant ac yn Llanllechid, lle bu farw yn 1891. Yr oedd yn fardd melus a dwys.] PRYDNAWN SADWRN YN Y BALA. Cyfansoddwyd y llinellau hyn gan y bardd wrth groesi y Berwyn, lle y cyfarfu âg amryw o'r myfyrwyr yn myned i'w taith Sabothol. "Mor hyfryd ar y mynyddoedd FEL yr amgylchid Salem draw, A bryniau llai yn dringo'r ne, Wynebant oll i'r bi yniau ban
GLAN ALUN.
GREEN Y BALA. Y BALA, Salem wen, Maes cysegredig yw, Pery yr enw pan Ond heddyw dyma yw
HUW MYFYR.
|
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.
- ↑ Nid yw'r gerdd hon wedi ei gynnwys yn y llyfr
- ↑ Ar ddechreu'r ddeunawfed ganrif yr oedd y saer crefyddol a llengarol Morris ab Rhobert y cynrychioli yn y Bala deimlad. y Diwygiad Puntanaidd, i ddeffro drachefn, wedi ei farw of yn 1723. gyda'r diwygwyr Methodistaidd, —ei fab yng nghyfraith John Evans, &c. Gweler ychwaneg o'i waith yng nghyfrol Beirdd y Berwyn. Ni pheidiodd ei ddylanwad dwys ar feirdd y Bala, y maent bron oll wedi ysgrifennu peth o'i waith yn eu llyfrau.
- ↑ Dywedir fod yr hen Fala dan Lyn Tegid, ac y clywir swn y clychau'n dod drwy'r tonnau. Mae hen ddarogan hefyd y daw'r llyn dros y dref eto,
Y Bala aeth, a'r Bala aiff,
A Llanfor aiff yn llyn.'
. - ↑ Gwelodd Edward Samuel (1674-1748) Lyn Tegid aml dro, mae'n ddianeu, pan yn berson yn Metws Gwerfil Goch a Llangar. Cefais yr unglynion hyn gan Myrddin Fardd.
- ↑ Codwyd yr englynion hyn o fysg liaws rai eraill yn llyfr ysgrif J. Lloyd, twrne llengarol o'r Bala, Rhoddir hwy yma i ddangos beth ganai beirdd Eisteddfod pan oedd Goronwy Owen yn llanc un ar bymtheg oed.
- ↑ Cyfeiria'r beirdd at gam esboniad ar y gair Dyfrdwy sef "dwfr dwy" o herwydd ei bod yn tarddu o ddwy fynnon ar y Garneddwen. Ond "dwfr dwyf," sef dwfr dwyfol, yw'r wir ystyr. Addolid yr afon hon gynt.
- ↑ Dyfrdwy
- ↑ Cymer y Graienyn ei enw, meddir, oddi wrth faen anferth sydd ar y tir.
- ↑ Codwyd y cywydd hwn o un o ysgriflyfrau Rowland Huw. Y mae'r hen fardd wedi rhoddi cywydd ei ddisgybl gyda chywydd ar yr un testyn gan William Wynn, a chydag un o gywyddau Goronwy Owen.
- ↑ Llanuwchllyn, Llangower, Llanecil, Llanfor, Llandderfel, —sef pumplwy Penllyn.
- ↑ Credid fod afon Dyfrdwy yn rhedeg drwy'r llyn heb ymgymysgu â'i ddwr.
- ↑ Dywedir fod yr hen Fala wedi ei llyncu gan y llyn.
- ↑ I Ddaniel Ddu o Geredigion, yr hwn yn 1819 a ysgrifennodd benhillion i ofyn i Degid beidio mynd i'r India Ddwyreiniol
- ↑ Ar ol clywed cyfaill o esgobaeth Llandaf yn lladd ar y iaith Gymraeg, ac yn gweddio am ei difodiad
- ↑ 1809 sy'n gywir
- ↑ Colera
- ↑ Y mae carreg yn awr wedi ei gosod wrth ben beddrod yr henafgwr parchedig hwn.
- ↑ Y Parch. John Elias o Fôn.
- ↑ Y Parch. Simon Lloyd, B.A., awdwr yr Amseryddiaeth.
- ↑ Pennill o waith y Parch. John Roberts, Llangwm (1753— 1834).
- ↑ Y Garneddwen yw, yn briodol, ac nid y Garnedd Wen. Croesir hi'n awr gan ffordd haearn o Lanuwchllyn i Ddrws y Nant.