Neidio i'r cynnwys

Profedigaethau Enoc Huws (1939 testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Profedigaethau Enoc Huws (1939 testun cyfansawdd)

gan Daniel Owen


golygwyd gan Thomas Gwynn Jones
I'w darllen pennod wrth bennod gweler Profedigaethau Enoc Huws (1939)

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Daniel Owen
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Enoc Huws
ar Wicipedia
Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Thomas Gwynn Jones
ar Wicipedia



PROFEDIGAETHAU

ENOC HUWS

PROFEDIGAETHAU

ENOC HUWS

GAN

DANIEL OWEN

Awdur Y Dreflan, Rhys Lewis, Gwen Tomos, etc.




ARGRAFFIAD NEWYDD

WEDI EI OLYGU GAN

T. GWYNN JONES

——————




WRECSAM

HUGHES A'I FAB

GWNAED AC ARGRAFFWYD YNG NGHYMRU

CYNNWYS

PROFEDIGAETHAU

ENOC HUWS

PENNOD I

Cymru Lân.

MAB llwyn a pherth oedd Enoc Huws, ond nid yn Sir Fôn y ganwyd ef. Yr oedd man ei enedigaeth yn nes i Loegr, a'r trigolion yn siarad meinach Cymraeg, yn fwy diwylliedig, a chaboledig yn eu tyb eu hunain, er nad yn fwy crefyddol. Ni chanwyd y clychau ar ei enedigaeth, ac ni welid ac ni chlywid dim arwyddion o lawenydd o unrhyw natur. Ni chododd y ffaith mai bachgen ac nid geneth ydoedd gymaint â gwên ar wyneb un o'r perthnasau pan glywsant am ei ddyfodiad. Yn wir, maentumiai rhai o'r cymdogion na wyddid, am rai dyddiau, i ba ryw y perthynai. Y rheswm am yr holl ddifrawder hwn oedd nad oedd neb yn ei ddisgwyl, nac ar neb eisiau ei weled. Dywedais ormod: yr oedd un yn ei ddisgwyl. Pa nifer o nosweithiau digwsg-o ofid, o gyni ac arteithiau meddwl, o edifeirwch chwerw a gwirioneddol, ac o hunanffieiddiad, a gostiodd y disgwyliad hwnnw, Duw yn unig a ŵyr! Gwn fod hyn yn bwnc tyner a llednais i'w grybwyll, ac mai mwy hyfryd yw gwrando ar leisiwr da yn canu "Cymru lân, gwlad y gân," a rhoi encore iddo, ac iddo yntau roddi i ni "Hen wlad y menyg gwynion." Ond ynfytyn fyddai'r dyn a dybiai fod holl hanes Cymru yn y ddwy gân. Pan oeddwn hogyn, byddai'r gŵr duwiol hwnnw, Abel Huws, pan fyddai yn yr hwyl yn y capel, yn cau ei lygaid, yn enwedig pan fyddai'n canu, nes i mi fynd i gredu bod cau'r llygaid yn arwydd sicr o dduwioldeb. Yr wyf wedi newid fy meddwl. Nid yw cau'r llygaid yn un arwydd o santeiddrwydd. A chwarae teg i Abel Huws, ni chaeai yntau ei lygaid ond pan fyddai yn yr hwyl. Yr oedd mor llygadog â neb, ac yn galw pethau wrth eu henwau priodol. Sicr fod Abel Huws, fel yr hen dadau, dipyn yn rhy blaen ei siarad; ond mae lle i ofni mai'n perygl ni yw peidio â galw pethau wrth eu henwau Cymraeg, os nad peidio â'u henwi o gwbl. A ydyw'r pethau wedi peidio â bod? Neu a ydym wedi cael rhyw oleuni newydd arnynt? A oes y fath beth ag anniweirdeb? Byddwn yn clywed weithiau am "achos anhyfryd." Ond diau fod y byd yn dyfod yn foneddigeiddiach, a bod eisiau cymryd gofal sut i siarad ag ef.

Nid oedd, fel y dywedwyd, ond un yn disgwyl am Enoc i'r byd, ac nid oedd ar neb ei eisiau. Ni wyddai Enoc, druan, mo hynny, a phe gwybuasai, mae yn amheus ai ni buasai'n cyflawni hunanladdiad yn hytrach nag wynebu ar y fath fyd. Ond ei wynebu a wnaeth Enoc yn hollol ddiniwed a diamddiffyn. Tystiai'r meddyg ei fod yn un o'r bechgyn brafiaf a welodd erioed, ac nad oedd ond un amherffeithrwydd ynddo, sef bod tri o fysedd ei droed chwith yn glynu yn ei gilydd, fel troed hwyaden. Ond nid oedd hynny nac yma nac acw. Cyn bod Enoc yn fis oed-pe buasai'n ddigon synhwyrol, a phe na buasai'n cysgu yn hapus wrth ochr ei fam— gallasai fod yn llygad-dyst o olygfa na buasai byth yn ei hanghofio.

Yr oedd yr ystafell wely yn eang a chymfforddus, peth a ddynodai fod ei pherchen mewn amgylchiadau uwch na chyffredin. Nos Sadwrn ydoedd, neu yn hytrach fore Sul, oblegid yr oedd y cloc newydd daro hanner nos. Yr oedd y meddyg newydd adael yr ystafell gan fwriadu dychwelyd yn fuan â rhyw feddyglyn i gynorthwyo mam Enoc i groesi'r afon, mewn geiriau eraill, i farw. Cyn gadael y tŷ dywedasai wrth ei thad, oedd ŵr uchel-falch: "Mi ddof yn ôl ymhen ychydig funudau, Mr. Davies, ond y mae arnaf ofn na wěl Elin. druan,

mo'r bore. Gwell i chwi fynd i'w golwg. Ewch, Mr. Davies, ewch, neu byddwch yn edifarhau ar ôl hyn."

Nid oedd Mr. Davies wedi gweled Elin er y dydd y ganwyd Enoc. Elin oedd ei uniganedig, ei gysur, a'i eilun. Ond y diwrnod y ganwyd Enoc, gwnaeth Mr. Davies lw na siaradai â'i ferch yn dragywydd. Pan ddywedodd y meddyg wrtho na welai Elin mo'r bore, teimlodd ei du mewn yn rhoi tro, a'i waed fel pe'n fferru ynddo. Cerddodd yn ôl a blaen hyd y parlwr hanner dwsin of weithiau, a dywedai cip-dyniadau ei wyneb arteithiau dwfn ei galon falch. Cychwynnodd i fyny'r grisiau, a throdd yn ôl. Cychwynnodd eilwaith, a throdd yn ôl. Oedd, yr oedd wedi gwneud llw na siaradai â hi byth. Ond cofiai—a da ganddo gofio—na ddywedodd nad edrychai arni. Cychwynnodd drachefn, ac ni throdd yn ôl y waith hon. Yr oedd Mr. Davies yn ŵr lluniaidd, hardd a chadarn, ac ni theimlodd erioed cyn hyn un anhawster i ddringo'r grisiau; ond, y tro hwn, teimlai ei goesau bron ymollwng. Yr oedd dwy nurse yn yr ystafell yn ymgomio yn ddistaw, a brawychwyd hwy gan ei ym- ddangosiad annisgwyliadwy, ond nid ynganodd un ohonynt air. Yr oedd Elin â'i llygaid yn gaeedig, a'i hwyneb cyn wynned â'r gobennydd, a'i gwallt hir, oedd cyn ddued â'i phechod, yn llanast o'i chwmpas. Gafaelodd Mr. Davies, megis o angenrheidrwydd, ym mhost y gwely, ac edrychodd yn ddyfal ar wyneb ei annwyl ferch. Y fath gyfnewidiad a welai! Ai Elin, ei annwyl Elin oedd hon? Anhygoel! Nid oedd hi ond megis cysgod o'r hyn a fuasai. Eto, tybiai Mr. Davies, er yr holl gyfnewidiad, nad oedd hi wedi colli dim o'r prydferthwch y teimlai bob amser mor falch ohono, ac, yn wir, yr oedd Elin yn debycach nag y gwelsai hi erioed i'w mam, a gladdasai ryw flwyddyn cyn hynny. Edrychodd yn ddyfal ar ei hwyneb gwelw, a dechreuodd ei galon feddalhau. Ond trodd ei lygaid a chanfu Enoc, â'i wyneb pinc, ei drwyn fflat, a'i ben moel, a dychwelodd digofaint a balchder clwyfedig Mr. Davies, ac ocheneidiodd yn drwm.

Agorodd Elin ei hamrantau, gan ddatguddio pâr o lygaid yr edrychasai ei thad arnynt fil o weithiau gydag edmygedd. Nid ei thad oedd yr unig un oedd wedi edmygu'r llygaid hynny. Oherwydd gwynder ei hwyneb, ymddangosai llygaid Elin yn dduach, disgleiriach, a phrydferthach nag erioed. Ond yr oedd Elin, a olygai ef yn gynllun o berffeithrwydd, heb arni na brycheuyn na chrychni, fel y goleuni ei hun, yr oedd Elin wedi pechu. A chwarae teg i'w thad, ei phechod, ac nid y gwarth—er y teimlai hwnnw yn dost—oedd fel cancr yn ysu ei galon, oblegid yr oedd Mr. Davies yn ŵr manwl, crefyddol, a duwiol yn ei ffordd ei hun. Agorodd Elin ei hamrantau, fel y dywedwyd, ac edrychodd yn ymbilgar, er yn dawel,. yn llygaid ei thad. Wedi munud o ddistawrwydd, ebe hi yn floesg:

"'Nhad, 'newch chi ddim siarad â mi?"

Nid atebodd Mr. Davies air, ond dangosai gweithiadau ei wyneb a'i wddf mai ef oedd y dioddefydd pennaf.

"'Nhad," ychwanegai Elin, "yr ydw i wedi gofyn filoedd o weithiau i Iesu Grist fadde i mi, ydech chi'n meddwl y gneith o, 'nhad?"

Edrychodd Mr. Davies ar Enoc, a gafaelodd yn dynnach ym mhost y gwely, ond ni thorrodd ei lw. Dywedodd Elin eilwaith:

"Bydase mam yn fyw—a mae hi'n fyw, mi gweles hi neithiwr—a mae hi wedi madde i mi. 'Newch chi fadde i mi, 'nhad bach? Yr ydw i wedi bod yn eneth ddrwg, ddrwg, ddrwg; ond 'newch chi fadde i mi, 'nhad bach?"

Gollyngodd Mr. Davies ei afael ym mhost y gwely, gwegiodd fel meddwyn, aeth gam ymlaen, gŵyrodd, a chusanodd ei ferch unwaith ac eilwaith, a chiliodd yn ôl i'w hen sefyllfa heb dynnu ei lygaid oddi ar ei ferch, ond ni ddywedodd air. Gwenodd Elin yn hapus, ac yna trodd ei llygaid at Enoc. Megis wrth reddf, deallodd un o'r nurses, oedd fam, ei dymuniad, a gosododd wyneb y plentyn wrth wefusau oer ei fam. Ni wnaeth Enoc ond rhochian yn gysgadlyd pan gusenid ef am y tro olaf gan ei fam. Wedi gwneud hyn, ymddangosai Elin fel pe buasai wedi darfod â phawb a phopeth, ac edrychai i fyny yn ddidor. Ni thynnodd Mr. Davies ei olwg oddi arni, a hyd yn oed pan ddaeth y meddyg, nid ymddangosai ei fod yn ymwybodol o'i ddyfod. Deallodd y meddyg ar unwaith fod Elin, druan, ar ymadael, ac ni cheisiodd ganddi gymryd y meddyglyn. Am rai munudau parhaodd Elin i edrych i fyny, yna dywedodd yn hyglyw:

"Yr ydw i'n dwad yrwan, 'mam, yrwan."

Ar ôl un dirdyniad, un ochenaid hir, ehedodd ei hysbryd ymaith.

"Mae hi wedi mynd," ebe'r meddyg yn ddistaw, gan afael ym mraich Mr. Davies a'i arwain i lawr. Da gan y meddyg oedd cyrraedd y gwaelod yn ddiogel, oblegid pwysai Mr. Davies arno yn drwm. Yr oedd gofid y tad yn arteithiol, a phan syrthiodd yn swrth i'r gadair, gwasgodd ei ben rhwng ei ddwylaw, a dolefodd yn uchel :

"O Elin! Elin! f'annwyl Elin!"

Yn ebrwydd neidiodd ar ei draed yn gynhyrfus, a thrawodd y bwrdd amryw weithiau, nes oedd y gwaed yn ffrydio o'i ddwrn; ac, fel pe buasai'n annerch y bwrdd, dywedodd yn ffyrnig:

"Enoc Huws! os nad wyt eisoes yn uffern, bydded i felltith Duw dy ddilyn bob cam o'th fywyd!"

Ail-adroddodd y geiriau ffôl amryw weithiau. Arhosodd y meddyg gydag ef nes iddo ymdawelu. Nid oedd Mr. Davies, o ran oedran, ond cymharol ieuanc—prin ddeugain mlwydd oed. Edrychid arno yn y dref fel un mewn amgylchiadau cysurus, a pherchid ef yn fawr. Yr oedd ei ferch Elin, cyn yr amgylchiad, yn ffafr pawb, hyd yn oed gan ei chydryw, peth sydd yn "ddweud mawr." Bu ei chwymp yn ergyd i ugeiniau o'i chyfeillesau a'i chydnabod, ac nid arwyddodd neb, hyd y gwyddys, foddhad yn ei gwarth. Nid felly, ysywaeth, y digwydd bob amser. Yr oedd cydymdeimlad à Mr. Davies yn ddwfn a chywir, a'r amlygiad ohono yn ddibrin. Ond ni chododd ef byth mo'i ben. Yr oedd y saeth wedi myned yn syth i'w galon, ac ni allai neb ei thynnu oddi yno. Gwerthodd ei holl dda; a'r gŵr olaf o'i hen gymdogion y bu Mr. Davies yn siarad ag ef oedd Dafydd Jones, a fyddai'n arfer torri llythrennau ar gerrig beddau.

"Dafydd Jones," ebe fe, "rhowch y geiriau yma ar y garreg sydd uwchben fy ngwraig—na hidiwch am yr oed a'r date:

Hefyd
ELIN DAVIES,
'Piser a dorrwyd ger llaw'r ffynnon.'"

A heb gymaint â chanu'n iach â'i hen gyfeillion, gadawodd Mr. Davies y wlad.


PENNOD II

Gweithdy'r Undeb.

AR farwolaeth ei fam, gosodwyd Enoc dan ofal Mrs. Amos, un o'r maethwragedd y cyfeiriwyd atynt yn barod, a dywedid i Mr. Davies roddi swm mawr o arian iddi am gymryd Enoc "allan o'i olwg ac edrych ar ei ôl." Am rai dyddiau ofnid am fywyd Enoc, a churiodd ei gnawd yn dost. Tebyg nad oedd yfed llefrith gwahanol wartheg trwy beipen India rubber yn cyfarfod â'i chwaeth nac yn dygymod â'i gyfansoddiad. Ac er na phryderai neb am hynny, meddyliwyd bod y plentyn ar fedr cychwyn i'r un wlad ag yr aethai ei fam iddi. Yr unig beth a achosai dipyn o flinder i Mrs. Amos oedd ei fod heb ei fedyddio. Buasai iddo farw heb ei fedyddio yn drychineb ofnadwy! yn ei golwg. Ac yn fawr ei ffwdan, aeth at weinidog eglwys y Methodistiaid, lle yr oedd mam Enoc yn aelod. Yr oedd y gŵr hwnnw newydd orffen ei swper, a newydd roi tân ar ei bibell. Derbyniad oer a garw a roddodd efe i Mrs. Amos. Gwrthododd yn bendant symud o'i dŷ, ac ymgroesodd wrth feddwl am gyffwrdd â'r fath lwmp o lygredigaeth ag Enoc. Yna dychwelodd at ei bibell, oedd agos cyn ddued ag Enoc, ac aeth Mrs. Amos ymaith gan sibrwd, "Bydase Mr. Davies heb fynd i ffwrdd, fase fo fawr o wrthod, mi gwaranta fo," a rhoddodd iddo ei bendith, yn ôl ei dull hi o fendithio. Ond ni wyddai Mrs. Amos ddim am y Gyffes Ffydd a'r rheolau disgyblaethol. Wedi hyn, prysurodd y famaeth i dŷ'r gweinidog Wesleaidd gyda'r un apêl. Yr oedd John Wesley Thomas yntau yn berffaith hysbys o'r holl amgylchiadau, ac yn garedig iawn aeth ar unwaith gyda Mrs. Amos a gweinyddodd y sacrament ar y plentyn, gan ei alw ar enw ei dad, yn ôl cyfarwyddyd Mrs. Amos, sef ENOC HUWS. Teimlai'r famaeth yn rhwymedig iawn i Mr. Thomas am y gymwynas hon, ac i ddangos ei theimlad, cynigiodd iddo wydraid o chwisgi fel cydnabyddiaeth fechan am ei drafferth. Gwrthododd Mr. Thomas y moesgarwch gan roddi anogaeth iddi ddilyn esiampl y baban Enoc—gadael llonydd i'r botel. Diolchodd Mrs. Amos yn gynnes i'r gweinidog. "Os byth y bydd angen arna' i fynd i'r capel, i'ch capel chi, Mr. Thomas, y dof i," meddai, "ond am y gydwff arall ene, wn i ddim sut y mae neb yn mynd ar 'i gyfyl o."Aeth Mr. Thomas ymaith dan chwerthin, ac ni fu "angen" ar Mrs. Amos byth am fynd i gapel nac eglwys nes cariwyd hi i'r lle olaf gan bedwar o ddynion.

Er dirfawr siomedigaeth i Mrs. Amos, darfu i'r bedydd, neu rywbeth arall, ddwyn cyfnewidiad rhyfedd yn iechyd. Enoc. Pe buasai yn "fedydd esgob," ni allasai ei effeithiau fod yn fwy gwyrthiol. Dechreuodd Enoc edrych o gwmpas yn ddigon hen ffasiwn, a phan osododd Mrs. Amos ffroen y beipen India rubber yn ei safn, sugnodd mor eiddgar a hoyw ag oen bach, a phe buasai ganddo gynffon, buasai yn ei hysgwyd, ond gwnaeth iawn am y diffyg drwy ysgwyd ei draed, a chodi ei ysgwyddau i ddangos ei ddirfawr foddhad. Yn wyneb yr amlygiadau hyn o fywyd yn Enoc, yr oedd Mrs. Amos wedi monni drwyddi, a mynych y galwodd hi ef yn "hen chap drwg, twyllodrus." Ond gan mai byw a fynnai yr "hen chap drwg," nid oedd mo'r help.

Aeth amser heibio; ac oherwydd nad oedd Enoc yn gwneud dim—dim, o leiaf, gwerth sôn amdano—ond sugno'r botel lefrith, a Mrs. Amos, hithau, heb fod yn ddiystyr o gwbl o'r botel chwisgi, buan y diflannodd y "swm mawr o arian" a roddodd Mr. Davies iddi am gymryd Enoc "allan o'i olwg." Ffaith ydyw, cyn bod Enoc yn llawn ddeuddeng mis oed, fod ei famaeth mewn dygn dlodi. Mewn canlyniad, aeth at y relieving officer, a rhoddodd ar ddeall iddo mewn eithaf Cymraeg, nad oedd hi am gadw plant pobl eraill ddim yn hwy—na allai fforddio hynny, ac er bod yn ddrwg ganddi ymadael â'r plentyn, oblegid, meddai, yr oedd ef, erbyn hyn, yn ddigon cocsin, eto nid oedd dim arall i'w wneud. Yr oedd hi wedi disgwyl a disgwyl clywed rhywbeth oddi wrth Mr. Davies, ac ni allai aros i ddisgwyl dim yn hwy. Os âi hi allan am hanner diwrnod i olchi, rhaid rhoi hyn a hyn o lodom i Enoc i wneud iddo gysgu, ac yr oedd hynny yn costio pres. Ac am dad y plentyn, wel, yr oedd hwnnw wedi rhedeg y wlad cyn geni Enoc, y syrffed. Wedi llawer o siarad a llawer o oedi, a mynd o flaen y Board of Guardians, a chant o bethau, llwyddodd Mrs. Amos o'r diwedd i gael Enoc oddi ar ei dwylo, a'i drosglwyddo yn ddiogel i ofal y workhouse.

Pallai amynedd y darllenydd, mae arnaf ofn, pe dilynid hanes Enoc tra bu yn y tloty, ac nid ydyw hynny yn angenrheidiol. Sicr yw iddo fod yno nes cyrraedd tair ar ddeg oed, pryd y bu raid iddo droi allan i ennill ei damaid, ac y dodwyd ef dan ofal grocer mewn tref gyfagos. Yr oedd yn ymddangos, pan ddaeth Enoc Huws o'r tloty, ei fod wedi cael addysg led dda mewn darllen, ysgrifennu a chowntio; a phe coelid ei fochau, ei fod wedi cael ymborth iachus hefyd. Yr oedd ei gorff yn fain a thenau, a'i wyneb yn fawr a glasgoch, y tebycaf dim a welwyd erioed i wnionyn â'i wraidd i fyny. Pa ddyfais sydd gan awdurdodau'r tloty i fagu bochau? Clywais mai'r cynllun a arferir ganddynt ydyw hwn: Wedi i'r bechgyn fwyta eu powlaid sgili—uwd mewn darfodedigaeth arweinir hwynt i'r buarth, a gosodir hwynt yn rhes â'u hwynebau at y mur. Yna, gorchmynnir iddynt sefyll ar eu pennau am yr hwyaf, a'r sawl a enillo fwyaf o farciau yn ystod y flwyddyn, a gaiff blataid extra o blwm pwdin ddydd Nadolig—yr unig ddiwrnod y gwneir pwdin yn y tloty—hynny ydyw i'r tlodion. Fe welir ar unwaith mai effaith naturiol yr ymarferiad hwn ydyw peri i faeth y sgili (y peth nesaf, medd meddygon, o ran ansawdd i ddwfr glân) redeg i'r bochau a'u chwyddo allan, gan adael i rannau eraill y corff gymryd eu siawns. Os bydd rhai o'r bechgyn dipyn yn afrosgo, neu fod cur yn eu pennau, ac oherwydd hynny eu bod yn methu mynd drwy'r ymarferiad hwn, rhoddir iddynt glewtan ar y foch yma heddiw, ac ar y llall yfory, a thrwy barhau'r oruchwyliaeth, dygir oddi amgylch yr un canlyniad dymunol, sef bochau chwyddedig, a argyhoedda bob guardian rhesymol fod y bechgyn yn cael digon o fwyd maethlon. Gan nad yw'r cynllun hwn-oherwydd rhes- ymau penodol-yn ymarferadwy gyda'r genethod, mabwysiedir un arall, dipyn mwy costus, a chedwir hwnnw yn secret.

Pa fodd bynnag, dyna'r olwg oedd ar Enoc pan ddaeth allan o'r tloty. Yr oedd ei wyneb yn fawr a chrwn, fel llawn lloned, neu yn ôl cynllun cais cyntaf hogyn i dynnu llun dyn ar ei lechen. Yr oedd yr olwg arno yn peri i un feddwl am uwd-wyneb uwd-pen i ddal uwd—edrychiad syndrwm uwd, mewn gair, deallai plant y dref ar unwaith. mai "bachgen y workhouse" oedd Enoc. Llwyddasai'r tloty i berffeithrwydd i osod ei nod a'i argraff ar ben ac wyneb Enoc, ond methodd yn lân a newid natur ei feddwl. Yr oedd Enoc yn perthyn i ystoc rhy dda i'r tloty allu gwneud niwed i'w ymennydd.

Yn ffodus iddo ef, yr oedd ei feistr newydd yn ŵr synhwyrol a charedig, a thoc gwelodd yn Enoc ddefnydd bachgen medrus. Gydag ymborth sylweddol, caredig- rwydd, a hyfforddiant, dechreuodd Enoc yn fuan golli ei fochau chwyddedig a magu corff a choesau. Pan ym- deimlodd fod ganddo ryddid i adael i'w wallt dyfu yn ddigon o hyd i allu rhoi crib ynddo, dechreuodd ym- dwtio, a gwisgodd ei lygaid fwy o fywiogrwydd a sylw. Mor gyflym oedd y newid ynddo fel, ymhen chwe mis, pan ddaeth un o'r guardians i ymorol a oedd Enoc yn cael chwarae teg, mai prin yr oedd yn ei adnabod. Yr oedd y bochau chwyddedig wedi curio cymaint, a'u glesni wedi eu gadael mor llwyr, nes peri i'r guardian feddwl nad oedd Enoc yn cael digon o fwyd, a gofynnodd yn ffrom i'w feistr:

"Mr. Bithel, lle mae bochau'r bachgen wedi mynd?"

"I'w goesau, syr, a rhannau eraill ei gorff. Er pan welsoch chwi Enoc o'r blaen, y mae yma redistribution of seats wedi cymryd lle, a mi af i'r tŷ, syr, tra byddwch chwi yn holi Enoc a ydyw'n cael chwarae teg," ebe Mr. Bithel.

Wedi holi a stilio, cafodd y gwarcheidwad ei lwyr fodloni nad oedd Enoc yn cael cam, ond prin y gallai gredu nad oedd ganddo fymryn o hiraeth am y workhouse, y lle dedwyddaf ar y ddaear, yn nhyb y gwarcheidwad.

PENNOD III

Llwyddiant.

FEL yr oedd Mr. Bithel wedi rhagweled, daeth Enoc yn fachgen rhagorol, dysgodd ei fusnes yn gyflymach na'r cyffredin. Ond mynych y dywedodd Mr. Bithel wrtho ei fod yn ofni na wnâi byth feistr, am ei fod yn rhy swil, anwrol, a hygoelus. Yr oedd gormod o wir yn hyn, fel y ceir gweled eto. Nid oedd Enoc heb ymwybod o hyn, a pharai lawer o boen iddo. Anodd ganddo wrth-ddywedyd neb; lawer pryd byddai fel pe'n cydsynio â'r hyn oedd mewn gwirionedd yn gwbl groes i'w feddwl. Cofiai bob amser, ac weithiau atgofid ef gan eraill, mai" bachgen y workhouse oedd, a dichon fod â wnelai hynny gryn lawer â'i ledneisrwydd. Yr oedd ef, wrth natur, o dymherau tyner, ac wrth feddwl am ei ddechreuad, fel yr adroddwyd y manylion iddo fwy nag unwaith, yn y tloty, rhag iddo ymfalchio, mynych y gwlychodd ei obennydd â dagrau. Fel y cynyddai mewn gwybodaeth a diwylliant, mwyaf poenus iddo oedd cofio'r hyn a adroddwyd wrtho, yn enwedig cofio nad oedd ei hanes yn ddieithr i'w gyfeillion. Mewn cwmni ac yn y capel, lawer pryd, tybiai Enoc fod pobl yn meddwl am ei ddechreuad, er na byddai dim pellach o'u meddyliau. Hoffid ef gan bawb, a gwerthfawrogid ei wasanaeth gan ei feistr. Pa fodd bynnag, pan enillodd ei ryddid, wedi bod chwe blynedd gyda Mr. Bithel, penderfynodd Enoc fyned i dref ddieithr, lle gallai gadw ei hanes iddo ef ei hun. Ac felly bu; ac i dref enedigol Rhys Lewis a Wil Bryan yr arweiniwyd Enoc gan ragluniaeth.

Digwyddodd fod angen am gynorthwywr yn Siop y Groes. Ceisiodd Enoc am y lle a chafodd ef. Cedwid a pherchenogid Siop y Groes gan wraig weddw a fuasai yn hynod anffortunus yn ei chynorthwywyr. Cawsai mai eu cynorthwyo eu hunain y byddai'r nifer fwyaf ohonynt, nid ei chynorthwyo hi. Ond yn Enoc Huws daeth o hyd i lanc gonest, medrus ac ymdrechgar. Rhoddodd Enoc wedd newydd ar y siop, a bywyd newydd yn y fasnach. Digwyddodd hyn pan oedd Hugh Bryan yn dechrau mynd i lawr yr allt. Er nad ydyw Rhys Lewis yn sôn am hynny yn ei Hunangofiant, yr wyf yn lled siŵr fod â wnelai dyfodiad Enoc i Siop y Groes gryn lawer â chyflymu methiant "yr hen Hugh," chwedl ei fab. Gan ddisgwyl "y plwm mawr " oedd o hyd mewn addewid, yr oedd Hugh Bryan, ers blynyddoedd, yn cario ei arian i waith mwyn Pwll y Gwynt, ac ar ôl cario ei arian ei hun yno, dechreuodd gario arian pobl eraill. Dan yr amgylchiadau, tra yr oedd Hugh Bryan yn mynd ar i waered, yr oedd Enoc Huws yn gwthio ymlaen, ac eisoes wedi cael y gair ei fod yn un garw am fusnes. Cenfigennid wrth y weddw ei bod mor ffortunus yn ei chynorthwywr. Gwyddai Wil Bryan hyn ers amser, ond yr oedd yn rhy gyfrwys i adael i neb wybod ei fod yn cenfigennu at lwyddiant Enoc, a'r unig sylw angharedig a glywais o'i enau, hyd yr wyf yn cofio, oedd hwn:

"'Does dim isio genius, wyddost, i wneud grocer llwyddiannus—second a third rate men ydyn nhw i gyd. Yn wir, mae pob genius o siopwr a weles i 'rioed yn torri i fyny yn y diwedd; a 'rydw i'n mawr gredu mai rhw successful provision dealer oedd y confounded Demas hwnnw y mae Paul ne Ioan, 'dwy i ddim yn cofio prun, yn sôn amdano."

Yr oedd popeth fel pe buasai'n gweithio i ddwylaw Enoc, ac yr oedd y weddw ac yntau cyn bo hir yn chwip ac yn dop. Yr oedd ar y weddw y fath arswyd rhag i Enoc anesmwytho drwy i rywun gynnig iddo gyflog mawr, nes iddi, heb ei gofyn, roddi iddo gyfran yn y fasnach, peth a barodd i Enoc ddyblu ei ymdrechion. Drwy hyn heliodd Enoc, nid yn unig dipyn o arian iddo ef ei hun, ond ychwanegodd gryn lawer at ffortun y weddw. Aeth misoedd lawer heibio, a bu'r weddw farw. Ond cyn marw gwnaeth ddarpariaeth yn ei hewyllys fod i Enoc Huws gael y cynnig cyntaf ar y siop a'r fasnach, a chael amser rhesymol i dalu i'r ysgutorion. Neidiodd Enoc i'r cynigiad; ac yr oedd pob awel fel pe'n chwythu o'i du.' Yn fuan iawn yr oedd ei lwyddiant yn destun ymddiddan llaweroedd.

Nid oedd Enoc Huws yn chwannog am swyddau cyhoeddus, ac nid oedd natur wedi ei ddonio â'r cymwysterau at hynny. Ond y mae rhyw reddf yn y natur ddynol yn ei gorfodi i gredu, os bydd dyn yn llwyddiannus yn y byd, y dylai dorri ffigur yn y capel, pa gymwyster bynnag fydd ynddo. Ac felly y bu gydag Enoc Huws. Nid oes dim, mewn byd nac eglwys, yn peri llwyddo fel llwyddiant. Cynyddodd masnach Enoc yn ddirfawr. Y mae pobl, fel defaid, yn hoff o dynnu i'r unfan. Ar ddiwrnod marchnad byddai siop Enoc Huws yn orlawn, tra'r oedd ambell fasnachwr, oedd cystal dyn ag yntau, a heb fod yn byw ymhell oddi wrtho, yn ddiolchgar am gwsmer yrwan ac yn y man. Taener y gair fod hwn-a-hwn

yn ei gwneud hi'n dda," a thyrra pobl i'w gynorthwyo i wneud yn well; sibryder bod un arall mewn trafferth yn cael y ddeupen ynghyd, a gadewir ef gan y lliaws, ac weithiau gan ei gyfeillion, er mwyn gyrru'r ddeupen ymhellach fyth oddi wrth ei gilydd. Dyna'r gwir, yn dy wyneb, amdanat ti, yr hen natur ddynol!

Ond yr oedd Enoc Huws yn haeddu llwyddo-yr oedd yn ddyn gonest, peth mawr i'w ddweud amdano, ac ni byddai byth yn taenu celwyddau mewn hysbyslenni ar y parwydydd, ac yn y newyddiaduron. Ond yr oedd yn byw yn ei ymyl ddynion cyn onested ag yntau, yn yr un fasnach ag yntau, yn methu talu eu ffordd. Nid oedd y dŵr wedi dechrau rhedeg at eu melinau hwy—yr oedd agos i gyd yn mynd i droi olwyn fawr Siop y Groes, a gwnaent hwythau, druain, eu gorau i ddal y trochion oddi wrth yr olwyn fawr pan drôi gyflymaf. Fel y cynyddai ei fasnach, cynyddai dylanwad Enoc yn y capel. Cyfrannai yn haelionus. Er nad oedd ynddo lawer o elfennau dyn cyhoeddus, gwnaed ef yn arolygwr yr Ysgol Sul, ac ychydig fu'n fwy llwyddiannus nag ef i gael athraw- on ar ddosbarthiadau. Yr oedd rhywbeth mor ddymunol yn ei wyneb fel na feiddiai neb ei wrthod. Credid fod Enoc yn gyfoethog, a dyweder a fynner, y mae i gyfoeth lawer o fanteision. Nid y lleiaf yw bod yn anos i'w berchen gyfarfod ag anufudd-dod. Byddai Pitar Jones, y crydd, yr arolygwr arall, er ei fod yn alluocach dyn, ac yn un o farn addfetach, yn methu'n glir yn fynych â chael athro ar ddosbarth, ond nid oedd gan bobl nerf i wrthod Enoc. Mynych y teimlodd Pitar i'r byw, ond yr oedd yn anghofio'r gwahaniaeth oedd yn ei sefyllfa. fydol, a'r ymwybyddiaeth ym meddyliau pobl, na wyddent pa mor fuan y byddai arnynt angen am gynhorthwy Enoc Huws.

Gallesid meddwl nad oedd dim yn fyr yn amgylchiadau Enoc Huws at ei wneud yn ddyn dedwydd. Ond cyn lleied a wyddom am ddirgel ddyn calon ein gilydd. Yr oedd syniad Enoc Huws amdano ei hun mor wylaidd, a'i duedd mor ddi-uchelgais, fel nad oedd swydd na pharch yn cyfrannu ond ychydig, os dim, at ei ddedwyddwch. Dyn sengl ydoedd, ac yn hynny yn unig yr oedd llu o ofidiau a phrofedigaethau na chyfaddefir monynt gan hen lanciau ond pan fônt yn adrodd eu profiad y naill i'r llall. Ond, hyd yn oed yn y wedd honno, nid ysgafnha- odd Enoc ddim ar ei fynwes. Cadwodd ei holl gyfrinach iddo'i hun. Yng ngwaelod ei galon diystyrai'r syniad ei fod yn perthyn o gwbl i'r clwb, ond nid oedd ganddo'r gwroldeb y dynoldeb-i'w ddiaelodi ei hun. Paham? Oherwydd ei fod wedi gosod ei serch yn rhy uchel ar wrthrych anghyraeddadwy. Unig ferch ydoedd hi i'r Capten Trefor, Ty'n yr Ardd, a hwyrach mai yma y dylwn ddwyn teulu Ty'n yr Ardd i sylw.

PENNOD IV

Capten Trefor.

YR oedd Capten Richard Trefor wedi bod yn troi yn ein mysg ers amryw flynyddoedd, ond nid oedd, mwy nag Enoc Huws, yn frodor o'r dreflan. Pan ddaeth gyntaf atom, yr oedd agos ar ei ben ei hun, am ei fod yn gadael i'w farf dyfu a heb eillio dim, peth a greodd ragfarn gref yn ei erbyn ar y dechrau ym mynwesau rhai pobl dda a duwiol. Edrychai hyd yn oed y gŵr call hwnnw, Abel Huws, braidd yn gilwgus arno. Yr oedd yn eithaf amlwg, meddai'r rhai oedd yn cofio ei ddyfodiad cyntaf, nad oedd ganddo'r pryd hwnnw "fawr o ddim o'i gwmpas," ac mai dyn ac mai dyn "yn jyglo bywoliaeth" ydoedd. Trôi o gwmpas y gweithfeydd, ac yn fuan iawn, er na wyddai neb pa sut, yr oedd ganddo law yn y peth yma a llaw yn y peth arall. Credid yn gyffredinol mai dyn yn byw ar ei wits oedd Richard Trefor, ac yn sicr, nid oedd yn brin ohonynt. Meddai allu neilltuol i'w introdiwsio'i hun i bawb, ac yn fuan iawn gwelid ef yn ymddiddan â phersonau nad oedd llawer o'r hen drigolion erioed wedi torri Cymraeg â hwynt. Siaradai Gymraeg a Saesneg yn llyfn a llithrig, a chordeddai eiriau yn ddiddiwedd os byddai raid. Yr wyf yn cofio clywed Wil Bryan yn cymryd ei lw bod Trefor, rywdro, wedi llyncu geiriaduron Johnson, Webster, a Charles, fel dyn yn llyncu tair pilsen. Beth bynnag am Johnson a Webster, nid ydyw'n beth anhygoel i Trefor lyncu Geiriadur Charles yn ei grynswth, oblegid yr oedd ef yn hynod gyfarwydd yn athrawiaethau crefydd, ac yr oedd yr Ysgrythur ar flaen ei fysedd. Yn y dyddiau hynny byddai cryn ddadlau ar bynciau crefydd—“ Etholedigaeth" a "phar- had mewn gras" a'r cyffelyb, ac ystyrid Trefor yn un o'r rhai "trymaf" mewn dadl, a medrus ar hollti blewyn. Nid oedd ef y pryd hwnnw yn aelod eglwysig, nac ychwaith yn neilltuol o fanwl ynghylch ei fuchedd, oblegid dywedid gan rai ei fod weithiau yn "cymryd tropyn gormod." Nid rhyw uchel iawn y safai Trefor ym meddwl mam Rhys Lewis, canys y mae'n gof gennyf ei chlywed yn dweud:

"Yr ydw i'n 'i weld o'n debyg arw, wel-di, i Ifans y syfêr; mae hwnnw yn byticlar iawn am gadw'r ffordd fawr yn 'i lle ac yn daclus, ond anamal y bydd o'i hun yn 'i thrafaelio hi. Ac felly y mae Trefor; mi 'ddyliet 'i fod o'n ofalus iawn na fydd na charreg na phwll ar y ffordd i'r bywyd, ond mae gen i ofn nad ydi o'i hun byth yn ei cherdded. Mi glywes Bob yma'n deud bod y Beibl ar benne'i fysedd o, ond mi fase'n well gen i glywed fod tipyn o hono yn 'i galon o."

Ond nid hir y bu Trefor heb ddyfod i'r Seiat, ac yr oedd yn hawdd deall ar waith Abel Huws yn ei holi mai syniad cyffelyb i'r eiddo Mari Lewis oedd ganddo yntau amdano. Nid oeddwn y pryd hwnnw ond hogyn, ond yr wyf yn cofio'r noswaith yn burion, ac o hynny hyd yn awr ni welais neb, wrth ei dderbyn i'r seiat, yn cael ei holi mor galed; ac yr wyf yn sicr, pe holid rhai yn gyffelyb yn y dyddiau hyn, ac iddynt wybod hynny ymlaen llaw, na ddôi neb byth yn aelod eglwysig. Ni welais fam Rhys Lewis, cynt nac wedi hynny, yn dangos y fath fwynhad â phan oedd Abel yn trin Trefor. Daliai ei phen yn gam, a chadwai gil ei llygaid yn sefydlog ar Abel, fel pe buasai hi'n ceisio dweud wrtho, "Dene, Abel, gwasgwch arno fo." Ond pa gwrs bynnag a gymerai Abel Huws, nid oedd ball ar Richard Trefor-atebai bob cwestiwn yn llithrig a llathraidd. Cof gennyf fy mod i a Bob Lewis yn cerdded gyda'i fam ac Abel o'r capel y noswaith honno, ac ebe Mari Lewis:

Abel, ddaru chi 'rioed 'y mhlesio i'n well na heno." Aie, ym mha beth, Mari?" ebe Abel.

Wel, ond wrth wasgu'r feg ar y dyn ene," ebe Mari. "Yr ydw i'n ofni, Abel, nad ydi'r gŵr ene ddim wedi torri asgwrn 'i gefn, a bod cryn waith cwaliffeio arno eto, er mor llithrig ydi'i dafod o."

Nid yr un amcan sydd gan bawb ohonom, Mari, wrth ddwad i'r seiat," ebe Abel.

"Wel, ond oeddwn i'n dallt yn burion ar ych siarad chi, Abel, y'ch bod chi'n 'nelu at rwbeth felly, a fyddwch chi byth yn siarad dan y'ch dwylo. 'Doedd ene lychyn o dinc yr enedigaeth newydd yn'o fo, a oedd 'rwan?" ebe Mari.

Rhyfedd mor graff oedd yr hen bobl i wahaniaethu rhwng y lleidr a'r ysbeiliwr a'r sawl a ddeuai drwy'r drws i gorlan y defaid. A oedd concert pitch crefydd yr hen bobl yn uwch na'r eiddom ni, ac felly fod yn haws pigo'r ysgrechiwr allan yn y côr?

Pa fodd bynnag, nid oedd Richard Trefor yn llawn mis oed fel crefyddwr cyn i'r gair fyned allan ei fod ef a Miss Prydderch—merch ieuanc grefyddol a diniwed, yn cael y gair fod ganddi lawer o arian—yn mynd i'w priodi. Gwiriwyd y gair yn fuan—hynny yw, gyda golwg ar y priodi, ond am yr arian, ni wiriwyd mo hwnnw byth, oblegid yr oedd Miss Prydderch cyn dloted â rhywun arall, ond ei bod yn digwydd gwisgo'n dda. Nid oedd Trefor uwchlaw meddwl am arian, ond os priododd er mwyn arian, cafodd gam gwag. Yn wir, clywais ef ei hun, ymhen blynyddoedd, pan oedd wedi cyrraedd sefyllfa uchel yn y byd, yn dweud nad oedd ef yn ddyledus i neb am ei sefyllfa, ond i'w dalent a'i ymdrechion personol, ac mai'r cyfan a gafodd ef fel cynysgaeth gyda'i wraig oedd—wyneb prydferth, calon lawn o edmygedd ohono ef ei hun, a llond cist o ddillad costus. Ac nid oedd le i amau ei eirwiredd, oblegid clywais fwy nag un o'i hen weithwyr yn dweud mai golwg digon tlodaidd oedd arno ef a'i wraig am blwc ar ôl priodi. Ond yr oedd llwyddiant a phoblogrwydd mewn ystôr i Richard Trefor. Yn ôl natur pethau, nid oedd bosibl cadw goleuni mor ddisglair yn hir o dan lestr. Fel teigr yn cymryd llam ar ei ysglyfaeth, felly, un diwrnod, rhoes Trefor naid ar wddf ffawd— cydiodd ynddi, a daliodd ei afael am flynyddoedd lawer. Clywodd Cymru benbaladr am waith mwyn Pwll y Gwynt. Ond hwyrach na ŵyr pawb mai Richard Trefor a'i cychwynnodd, mai ef oedd darganfyddwr y "plwm mawr." O'r dydd hwnnw yr oedd dyrchafiad Trefor yn eglur i bawb. Nid Richard Trefor oedd ef mwyach, ond Capten Trefor, os gwelwch yn dda. Dechreuwyd edrych ar y Capten Trefor fel rhyw Joseph oedd wedi ei anfon gan ragluniaeth i gadw yn fyw bobl lawer. Bu cyfnewidiad sydyn yn syniadau pobl amdano. Buan y gwelodd y rhai a arferai edrych yn gilwgus arno mai tipyn o guldra oedd hynny o'u tu hwy, ac ni chollasant amser i ad-drefnu eu meddyliau amdano. Y pethau a elwid o'r blaen yn bechodau yn Richard, nid oeddynt ond gwendidau yn Capten Trefor. Yr oedd rhyw fai ar bawb, ac ni ellid disgwyl bod hyd yn oed y Capten Trefor yn berffaith. Nid oedd gwendidau'r Capten ond gwendidau naturiol, gwendidau hawdd iawn, erbyn hyn, i roddi cyfrif amdanynt, a'u hesgusodi, mewn gŵr yn ei sefyllfa ef. Yr oedd y Capten yn well dyn o lawer nag yr oeddid wedi arfer synied amdano, ac yr oedd ef, yn sicr, yn fendith i'r gymdogaeth. Mewn gair, yr oedd y Capten yn enghraifft deg mor dueddol ydyw'r natur ddynol i ffurfio syniad anghywir am ddyn pan fo'n dlawd, ac mor anobeithiol ydyw i neb gael ei iawn brisio nes cyrraedd rhyw raddau o lwyddiant bydol. Pe proffwydasai rhywun am y Capten, fel y gwnaethai Mr. Bithel am Enoc Huws, sef na wnâi ef byth feistr, gau broffwyd fuasai hwnnw yn sicr. Ar ysgwyddau'r Capten gorweddai swydd ac awdurdod yn rasol a gweddeiddlwys ddigon. Amlwg ei fod wedi ei eni i fod yn feistr. Nid am ei fod yn dangos unrhyw dra-awdurdod arglwyddiaethus a gorthrymus. Na, yr oedd yn rhy dirion a chyweithas i hynny. Meddai ffordd ragorach, a dull o ddweud trwy ei ymddygiad wrth bawb oedd dan ei awdurdod: "Gwelwch mor fwyn ydwyf, ac mor frwnt y gallwn fod pe bawn yn dewis. Gwyliwch gamarfer fy mwyneidd-dra. 'Dydw i ddim yn gofyn i chwi dynnu eich het i mi, ond chwi wyddoch mai diogelaf i chwi wneud hynny."

Yn y capel ni chymerai ef un amser ran gyhoeddus yn y gwasanaeth, ond yr oedd rhywbeth yn ei ymddangosiad—ar fore Sul, er enghraifft—a dynnai allan o bob aelod o'r gynulleidfa "good morning, Capten Trefor " (yn ddistaw).

PENNOD V

"Sus."

FEL y dywedwyd eisoes, gwraig ddiniwed oedd Mrs. Trefor; ac yn eithaf naturiol a phriodol hyhi, o bawb, a edmygai ei gŵr fwyaf. Ni byddai hi byth yn croesi'r Capten; ac yr oedd yntau yn hynod o fwyn tuag ati. Credai Mrs. Trefor fod dedwyddwch hanner yr hil ddynol yn dibynnu ar ei gŵr, ac ni ddidwyllodd yntau moni erioed, na'i blino mewn modd yn y byd â manylion ei amgylchiadau a'i amrywiol ofalon. Yn wir, yr oedd ar Mrs. Trefor arswyd rhag i'r Capten ddatguddio iddi gyfrinach a phwysigrwydd ei safle gymdeithasol, rhag y buasai hynny'n peri iddi ei edmygu yn ormodol a pheri iddi anghofio Duw. Gwyddai Mrs. Trefor fod y Capten yn ŵr digyffelyb, a bod bywoliaeth ardal o bobl yn dibynnu ar ei air, a chredai hefyd fod yn y Capten ogoniant y tu hwnt i hynny na wyddai hi ddim amdano, ac na fuasai'n lles i'w henaid ei wybod chwaith. Nid oedd ganddi hi un syniad am faint ei gyfoeth—ond yn unig y gallai hi dynnu'n ddiderfyn oddi arno.

Digon gan Mrs. Trefor oedd fod enw y Capten yn dda ym mhob siop yn y dref. Y peth a barai nid ychydig o bryder i Mrs. Trefor ar hyd y blynyddoedd oedd ei hofn i amrywiol ofalon y Capten, a'i waith yn astudio geology mor galed, beri i'w synnwyr yn y man ddrysu, oblegid nid oedd y Capten, wedi'r cwbl, ond dyn. Yr unig ffordd, neu o leiaf, y ffordd fwyaf hwylus, dybiai hi, y gallai hi fod yn wraig deilwng o'r Capten, a chadw urddas ei gŵr, oedd drwy ymwisgo orau fyth y gallai. Yn wir, yr oedd hi wedi arfer gwneud hynny pryd nad oedd ganddi foddion cyfartal i'w dymuniadau, ond yn awr, nid oedd cythlwng ar ddeisyfiad ei llygaid. Eto yr oedd Mrs. Trefor yn grefyddol, a gadewch i ni obeithio, yn dduwiol hefyd. Nid oedd neb ffyddlonach na hi ym moddion gras. Yr oedd hi yn un o aristocracy Ymneilltuaeth, y rhai sy'n creu edmygedd ynom am eu bod wedi cael nerth i lynu wrth grefydd a pheidio â mynd i'r Eglwys neu anghofio'u Cymraeg a mynd at yr achos Saesneg.

Yr oedd i'r Capten a Mrs. Trefor ferch—eu hunig-anedig. Susan Trefor oedd eilun ei thad a channwyll llygaid ei mam. Dygwyd hi i fyny yng nghanol moethau llwyddiant ei thad, a chafodd holl fanteision yr addysg oedd i'w chael yn yr ardal y dyddiau hynny. Nid wyf yn cymryd arnaf, ar hyn o bryd, ddweud pa ddefnydd a wnaeth hi o'r manteision. Ond yr wyf yn cofio'n burion, pan oeddwn i yn hogyn, y golygid mai Susan Trefor oedd y ferch ieuanc fwyaf prydweddol, ffasiynol, a dysgedig, a'r fwyaf unapproachable a berthynai i'n capel ni. Hi oedd safon ein holl ferched ieuainc. Hi (ar ôl marw Abel Huws) oedd y gyntaf a smyglwyd yn gyflawn aelod heb ei holi. Ac y mae'n ffaith fod gwisg Miss Trefor wedi tynnu mwy o ddagrau o lygaid merched ieuainc y capel nag a dynnwyd gan yr holl bregethau a draddodwyd yn eu clyw yn y cyfnod hwnnw. Ychydig o bobl gyfrifol— hynny yw respectable—a berthynai i'n cynulleidfa—rhai ar eu gorau oeddynt agos i gyd. Oblegid hynny, prin y golygai Miss Trefor fod neb o "bobl y capel" yn gymwys gymdeithion iddi hi, ac nid oedd un o'n merched ieuainc mor uchelgeisiol ag ymgyrraedd at hynny. Ond caent y fraint o'i gweled ar y Sul, a mawrhaent y fraint. Yn ddigon naturiol, yr oedd yr ychydig a gawsai'r fraint o siarad â Miss Trefor yn edrych yn ôl at y troeon hynny fel y llygadau mwyaf heulog yn hanes eu bywyd. Nid âi Miss Trefor i'r Ysgol Sul, ond gwnâi iawn am hynny drwy roddi te rhad i blant bach tlodion, ac ar y cyfryw achlysuron, byddai hi ei hun hyd yn oed yn tywallt te i'r cwpanau, a dywedid ddarfod iddi fwy nag unwaith roddi ei llaw wen dan ên ambell hogyn bach pengrych yn garuaidd.

Dywedai rhai, oedd dipyn yn genfigennus, mai merch ieuanc benwag a ffolfalch oedd Miss Trefor—ymwybodol o'i phrydferthwch ac anymwybodol o'i diffygion. Ond prin y gallai hynny fod yn wir, a phrin y mae eisiau gwell rheswm dros ddweud fel yna na bod Wil Bryan yn edmygydd mawr ohoni. Nid un oedd Wil i edmygu hoeden ddisynnwyr, ac ni byddai ef byth yn blino sôn am "Sus," chwedl yntau. Gallai Wil oddef i ni yr hogiau ddweud y peth a fynnem am Capten Trefor, ac weithiau, ni phetrusai ef ei hun siarad yn frwnt amdano, am ei fod wedi perswadio ei dad i "speciletio nes mynd yn dlawd. Ond ni feiddiai un ohonom sibrwd casair am Sus," heb ei osod ei hun yn agored i ddangos mai un llwfr ydoedd, neu ynteu ddangos pa berffeithrwydd a gyraeddasai yn y noble art of self-defence. Ac y mae gwir arall y dylid ei ddweud yn y fan hon, sef nad oedd Miss Trefor, hithau, yn diystyru Wil. Dywedodd Wil ei hun wrthyf yn gyfrinachol un tro: "Yr wyf yn dallt y natur ddynol yn ddigon da i dy sicrhau nad small beer ydw i yng ngolwg Sus." Er, fel y mae Rhys Lewis yn yr Hunangofiant yn adrodd geiriau Wil " nad oedd dim byd definite rhyngddo ef a Sus," eto, yr oedd y peth yn eithaf hysbys i ni, fechgyn y capel, fod gan Wil ddylanwad mawr arni. Gwyddem hefyd fod y Capten, gyda'i lygad barcud, wedi canfod nad annerbyniol oedd Wil gan ei ferch, a'i fod wedi dangos ei anfodlonrwydd hollol i hynny. Pan soniais un tro am hyn wrth Wil, ebe fe, gyda'i rwyddineb arferol:

Fel hyn y mae hi, wyddost; mae'r Capten, ar ôl i 'nhad gario'i holl bres i Bwll y Gwynt, yn gwybod yn o lew be ydi hi o'r gloch yn ein tŷ ni—fe ŵyr o'r gore nad oes acw fawr o obeth am five hundred a year. Mae o'n meddwl, wyddost, y meder o 'neud gwell match, ac mewn ffordd, fedra i mo'i feio fo. Ond bydae hi yn dwad i pitched battle rhyngof i â'r Capten am Sus, mae gen i idea go lew sut y trôi pethe.

PENNOD VI

Cyffes Ffydd Miss Trefor

PAN aeth Wil Bryan oddi cartref, wedi rhagweled sut y byddai hi ar ei dad, llawenhaodd calon un dyn gonest yn ei ymadawiad, sef yr eiddo Enoc Huws. Yr oedd Enoc, druan, yn un o'r dynion diniweitiaf a mwyaf difalais ar wyneb daear, ond ni allai oddef mo Wil Bryan. Ni wnaethai Wil erioed ddim niwed iddo, ond yn unig beidio â chymryd sylw ohono. Ac eto, pe clywsai Enoc fod Wil wedi ei ladd, neu ei fod wedi ymgrogi, prin y gallasai ymatal rhag gwenu, onid llawenhau. Yr oedd cael gwared o Wil, heb i'r naill amgylchiad na'r llall ddigwydd, yn rhoi modd i Enoc lawenhau'n ddirfawr, heb anesmwythyd cydwybod. Yn ystod y blynyddoedd y bu Enoc yn mynd a dyfod yn ein plith, ni buasai ugain gair rhyngddo â Miss Trefor. Ac eto, amdani hi y meddyliai y dydd ac y breuddwydiai y nos. Er na olygai Enoc, yng ngwyleidd—dra ei ysbryd, ei fod yn gymar teilwng i Miss Trefor, ac er na choleddai'r gobaith gwannaf y dôi dyheadau ei galon byth i ben—yn wir, yn ei funudau synhwyrol, canfyddai mai ffansi wyllt wirion oedd y cwbl—eto carai adael i'w ddychymyg droi fel gwenynen o gwmpas a hofran uwchben gwrthrych ei ddymuniad di-nâg, ac yr oedd gwybod bod rhywun arall yn mwynhau cymundeb nes, yn ei lenwi ag eiddigedd, ac yn ei wneud yn druenus dros ben. Weithiai teimlai'n enbyd o ddig wrtho ef ei hun, a phryd arall chwarddai am ben ei ffolineb; ond fel y dywedodd wrtho'i hun ugeiniau o weithiau, nid oedd ei feddyliau yn niweidio neb, ac ni wyddai neb amdanynt.

Yr oedd Enoc yn llawen iawn am fod Wil Bryan wedi mynd oddi cartref; ond ni chymerasai ganpunt am hysbysu ei lawenydd hyd yn oed i'w gyfaill pennaf. Bellach, nid oedd un gacynen i fynd rhwng y wenynen a'r blodyn, a phe cawsai Enoc sicrwydd na ddôi un gacynen arall, o'r braidd na fuasai'n ddyn dedwydd. A mwynhaodd y dedwyddwch cymharol hwn am dymor lled faith, drwy roi ffrwyn i'w ddychymyg i godi castelli yn awyr Siop y Groes. Ond pe gwybuasai Enoc am "gastelli" Miss Trefor, prin y buasai ei rai ef nemor uwch na phridd y wâdd.

Llanwai Wil Bryan le mawr yng nghalon Miss Trefor. Hoffai hi ei gwmni y tu hwnt i bopeth. Byddai gan Wil bob amser rywbeth i'w ddweud, a'r rhywbeth hwnnw yn wastad at y pwrpas. Ni byddai hi byth yn blino arno, a phan fyddai gydag ef, ni byddai'n gorfod dyfeisio am ba beth i sôn nesaf, fel y byddai gyda'r "baboons erill." A hyd yn oed pan ddeallodd hi fod ei thad wedi cyrraedd gwaelod shwmp" poced Hugh Bryan, ni pharodd hynny unrhyw ddiflastod ar gwmni Wil, nac unrhyw leihad yn ei hedmygedd ohono. Yr oedd y Capten, fwy nag unwaith, wedi rhoi ar ddeall iddi ei anghymeradwy— aeth o'i hoffter hi o Wil, ond ni wnaeth gwahardd yr afal i ferch Efa ond peri iddi ei ddymuno'n fwy. Teimlodd Miss Trefor oddi wrth ymadawiad Wil fwy nag y dymunasai hi i neb ei wybod, fwy nag a gyfaddefai wrthi hi ei hun. Am amser, collodd hyfrydwch ym mhopeth, ac yr oedd meddwl am fynd i'r capel yn gas ganddi. Ond am amser yn unig y bu hyn. Er yr holl sylw a dalodd Wil iddi, a'r holl garedigrwydd a ddangosodd, a'r difyrrwch diderfyn a barodd iddi am gyhyd o amser, nid oedd yn bosibl, ymresymai Miss Trefor, fod Wil, wedi'r cwbl, yn hidio rhyw lawer ynddi, onid e, ni buasai'n mynd ymaith heb gymaint â sôn gair wrthi, na gyrru llinell ati. Ac fel geneth gall a synhwyrol, eisteddodd Miss Trefor i lawr i ail—gynllunio program ei bywyd, ac ail-ffurfio'i hegwyddorion, yn ôl y rhai y byddai iddi weithredu yn y dyfodol. Ni chymerodd iddi lawer o amser i ffurfio'i chredo a chyffes ei ffydd. Yr hyn a arferai gyniwair drwy ei meddwl a'i chalon yn afluniaidd, amhenodol a gwâg, fe'i dygodd yn ebrwydd i drefn a dosbarth, a phe gofynnai rhywun iddi wrth ba enw y galwai hi'r pethau hyn, ei hateb fuasai "Fy ideas." O'r ideas gellir enwi'r rhain : mai hi oedd y ferch brydferthaf yn y wlad (yr oedd Wil Bryan wedi ei sicrhau o hynny, cystal judge â neb y gwyddai hi amdano). Fod prydferthwch yn dalent, ac y dylai ennill deg talent ati wrth ei gosod yn y fasnach orau. Fod yn well i ferch ieuanc brydweddol fyw ar un pryd yn y dydd am dri mis, na gwisgo bonet allan o'r ffasiwn. Hyd yr oedd yn bosibl, na chymerai hi sylw o neb islaw iddi hi ei hun, oddieithr pan wyddai hi yr edrychid ar hynny fel ymostyngiad rhinweddol a Christnogol. Na ddifwynai hi, hyd y gallai, byth mo'i dwylaw gydag un gorchwyl isel a dirmygedig, megis cynnau tân, golchi'r llestri, glanhau'r ffenestri, cyweirio'r gwely, a'r cyffelyb, ac os byddai raid iddi wneud rhywbeth yn y ffordd honno, na chai llygad un estron ei gweled. Yr arhosai yn amyneddgar a phenderfynol heb briodi hyd bump ar hugain oed, oni ddeuai rhyw ŵr bonheddig cyfoethog i'w gynnig ei hun iddi, ond oni ddeuai erbyn yr oed hwnnw, nad arhosai hi yn hwy yn sengl, ond yr ymostyngai i gymryd y masnachwr gorau y gallai hi gael gafael arno, os byddai yn ariannog. Nad edrychai hi ar bregethwr ond fel un i dosturio wrtho, fel dyn prudd a thlawd, ond os caffai hi gynnig ar gurad, a fyddai o deulu da, ac yn un tebyg o gael bywoliaeth dda, y cymerai hynny i ystyriaeth— hynny ydyw, y teulu a'r fywoliaeth, a hefyd, os byddai'r curad yn good-looking, na wnâi wahaniaeth yn y byd pa mor llymrig a dienaid a fyddai—po fwyaf felly, gorau yn y byd, gallai ei drin fel y mynnai. Pwy bynnag a briodai hi, a phriodi a wnâi yn sicr ddigon, ac nid gwaeth fyddai ganddi fod yn Hottentot nag yn hen ferch—pwy bynnag a briodai hi, mynnai gael ei ffordd ei hun—neu, a defnyddio ymadrodd isel—yr oedd wedi gwneud diofryd y mynnai "wisgo'r clôs."

Dyna ychydig o ideas Miss Susan Trefor. Yr oedd ganddi eraill, a fuasai'n gosod Miss Trefor mewn gwedd fwy dymunol o flaen y darllenydd. Ac nid yw ond cyfiawnder â hi i mi ddweud bod ganddi un idea oedd i raddau helaeth yn rhoi lliw a llun ar y cwbl, a hwnnw oedd ei chred ddiysgog a pharhaus fod ei thad yn gyfoethog. Cafodd Miss Trefor amser maith—amryw flynyddoedd—i anwesu a magu'r ideas hyn.

PENNOD VII

Dedwyddwch Teuluaidd.

NOSWAITH ym mis Tachwedd ydoedd—noswaith ddigon oer a niwlog, ac yr oedd pobl y frest gaeth â'u trwynau wrth y pentan yn ymladd am eu hanadl, ac, yn ddigon naturiol, yn meddwl mai hwy yn unig oedd mewn trueni y noswaith honno. Ond y mae'r fath beth weithiau ag asthma ar feddwl ac amgylchiadau dyn, pryd na ŵyr i ba le i droi ei ben i gael gwynt.

Wrth fyned heibio i Dŷ'n yr Ardd, preswylfod Capten Trefor, cenfigennai ambell fwynwr tlawd, byr ei anadl, at ei glydwch, a dedwyddwch ei breswylydd. Dywedai ynddo ei hun, "Mae'r Capten yn bwyta'i swper, neu wedi gorffen ei swper, yn smocio ei bibell, ac yn estyn ei draed mewn slipars cochion at ei dân gwresog, a minnau, druan gŵr, yn gorfod gadael fy nheulu a mynd i weithio stem y nos ym Mhwll y Gwynt, bydae yno wynt hefyd. Gwyn fyd y Capten! Ond 'does dim posib i bawb fod yn Gapten, a'r neb a aned i rôt ddaw o byth i bum ceiniog."

Ond pe gwybuasai'r mwynwr y cwbl, mae'n amheus a newidiasai ddwy sefyllfa â'r Capten. Y ffaith oedd, nad oedd y Capten yn bwyta ei swper, nac yn smocio, nac yn estyn ei draed at y tân, ond yn hytrach, yn eistedd wrth ben y bwrdd ac yn ceisio ysgrifennu. Gorffwysai ei ben ar ei law chwith, â'i benelin ar y bwrdd, a daliai ei bin yn segur yn ei law dde, ac ymddangosai ei fod mewn myfyrdod dwfn a phoenus. Yn ei ymyl, ar y bwrdd, yr oedd llestr yn cynnwys Scotch Whisky, ac yr oedd y Capten, yn ystod hanner awr, wedi apelio at y llestr hwn amryw weithiau am help a swcwr. Wrth ben arall y bwrdd yr oedd Mrs. Trefor yn brysur gyda rhyw wnïad— waith, ac mewn cadair esmwyth wrth ei hochr, ac yn ymyl y tân eisteddai Miss Trefor, yn diwyd weithio rhyw gywreinwaith gyda darn o ifori tebyg i bysgodyn bychan, ag edau wen. Yr oeddynt ill trioedd cyn ddistawed â llygod, oblegid ni chaniateid i'r fam a'r ferch siarad tra byddai'r Capten yn ysgrifennu ei lythyrau. Taflai'r ddwy ers meityn edrychiad dan eu cuwch ar y Capten am yr amen ar y llythyrau, ac yr oedd ei waith yn dal ei bin yn segur am ddeng munud yn boenus iawn i'r fam a'r ferch, oedd bron hollti eisiau siarad. Rhôi'r ferch edrych— iad ar y fam, a'r ystyr oedd, "Ond ydi o'n hir?" Rhôi'r fam edrychiad ar y ferch, " Tria ddal tipyn bach eto." A thipyn bach y bu raid iddi ei ddal, oblegid ymhen dau funud, taflodd y Capten y pin ar y bwrdd, cyfododd ar ei draed, a cherddodd yn ôl a blaen yn ddiamynedd hyd yr ystafell. Edrychodd y fam a'r ferch braidd yn frawychus, oblegid ni welsant erioed olwg mor gynhyrfus arno, ac ebe'r Capten:

Fedra i ddim ysgrifennu, a thria i ddim chwaith, 'rwyf wedi blino a glân ddiflasu ar y gwaith, byth na 'smudo i!" "Tada," ebe Miss Trefor, "ga' i ysgrifennu yn ych lle chi?

"Cei" ebe fe ("Cewch " a ddywedasai oni bai ei fod wedi colli ei dymer, ac felly ei fod yn fwy naturiol). Cei," meddai, os medri di ddweud mwy o gelwyddau na fi."

"The idea, dada!" ebe Miss Trefor.

"The idea, faw!" ebe'r Capten, "be wyddoch chi eich dwy am yr helynt yr ydw i ynddi o hyd yn ceisio cadw pethe i fynd ymlaen? Be sy gynnoch chi eich dwy i feddwl amdano heblaw sut i rifflo arian i ffwrdd, a sut i wisgo am y crandia, heb fawr feddwl am yfory? Ond, y mae hi wedi dwad i'r pen, ac mi fydd diwedd buan arna i ac ar ych holl ffa—lal chithe, byth na 'smudo i, a mi fydd!

O, Richard bach!" ebe Mrs. Trefor, oblegid yr oedd clywed y Capten yn siarad fel hyn yn newyddbeth hollol iddi. O, Richard bach! 'roeddwn i'n disgwyl o hyd iddi ddwad i hyn. Mi wyddwn o'r gorau y bydde i chi ddrysu yn ych synhwyre wrth stydio cimint ar geology. Susi, ewch i nôl y doctor ar unweth!"

"Doctor y felltith!" ebe'r Capten yn wyllt, "be sy arnoch chi, wraig? Ydech chi'n meddwl mai ffŵl ydw i? Drysu yn fy synhwyre yn wir! fe ddrysodd ambell un ar lai o achos."

Ac yr ydech chi wedi drysu, ynte, Richard bach? Wel, wel, be 'nawn ni 'rwan! Susi, ewch i nôl y doctor yn y munud!" ebe Mrs. Trefor yn wylofus.

Ac i nôl y doctor yr aethai Miss Trefor y foment honno, oni bai i'r Capten droi pâr o lygaid arni, a barodd iddi arswydo rhag symud, ac a'i hoeliodd wrth y gadair. Ebe'r Capten eilwaith, gan gyfarch ei hanner orau :

"Wyddoch chi be, wraig? mi wyddwn eich bod wedi cysgu'n hwyr pan oedden nhw'n rhannu ymennydd, ond feddyliais i 'rioed fod gennych chi cyn lleied ohono. 'Does fawr beryg i chi ddrysu yn eich synnwyr, oblegid byd a'i gŵyr, 'does gynnoch chi ddim ohono."

"Nag oes, siŵr, nag oes, 'does gen i ddim synnwyr, 'dydw i neb, 'dydw i ddim byd. Dydw i'n dallt dim geology, a mi faswn yn licio gweld y wraig sydd yn dallt geology. 'Rydw i'n cofio amser pan oedd rhwfun, oedd yn cyfri'i hun yn glyfar iawn, yn meddwl bod gen i synnwyr, a 'chawn i ddim llonydd ganddo. Ond rhaid nad oedd gen i ddim synnwyr yr adeg honno, ne faswn i ddim yn gwrando arno fo. A 'does gen i ddim synnwyr yrwan, dim, nag oes dim!" ebe Mrs. Trefor, a dechreuodd wylo, a chuddiodd ei hwyneb yn ei ffedog.

Rhaid bod calon dyn mor galed â maen isaf y felin, onid effeithia dagrau ei wraig arno.

Pa nifer o ymresymiadau anatebadwy a wnaed yn chwilfriw gan ddagrau gwraig? Ac nid oedd hyd yn oed Capten Trefor yn anorchfygol o flaen dagrau ei wraig, yn enwedig pan ddaeth Miss Trefor, hithau, gyda'i dagrau i ymosod ar y gelyn. Gorchfygwyd y Capten mewn byr amser, ceisiodd amodau heddwch drwy eistedd i lawr wrth y pentan; a dechrau mygu. Wedi gwneud hyn, ebe'r Capten, yn llawer mwyneiddiach :

Sarah, maddeuwch i mi; mi wn mai ffŵl ydw i, a 'mod i wedi f'anghofio fy hun. Mi ddylaswn wybod na wyddech chi na Susi ddim am fusnes. Ond bydaech chi'n gwybod am yr helynt yr ydw i ynddi o hyd, hwyrach y maddeuech i mi. Sarah, peidiwch â chrio, dyna ddigon, dyna ddigon, gwrandewch arna i."

"Tada," ebe Susi, "gobeithio nad ydech chi ddim yn mynd i sôn am fusnes, am syndicate, a Board of Directors, a geology, a phethe felly, achos mi wyddoch na dda gan 'y mam a finne mo bethe felly."

"Efo'ch mam yr ydw i'n siarad, Susi. Sarah, 'wnewch chi wrando arna' i?" ebe'r Capten.

"Os gwnewch chi siarad fel rhw ddyn arall, a pheidio â cholli'ch tempar," ebe Mrs. Trefor, gan sychu ei llygaid, ac ail afael yn ei gwnïadwaith.

"Wel, mi driaf," ebe'r Capten, ac erbyn hyn yr oedd wedi oeri digon i siarad yn lled fanwl a gramadegol. Chwi wyddoch, Sarah," meddai, "fy mod mewn cysylltiad â Gwaith Pwll y Gwynt ers llawer iawn o flynyddoedd. Y fi fu'n offeryn i gychwyn y Gwaith— y fi, gydag un arall, a ffurfiodd y cwmpeini. Ac y mae'n rhaid i bawb gyfaddef fod ugeiniau o deuluoedd wedi cael bywoliaeth oddi wrth y Gwaith, a bod y Gwaith wedi bod yn help mawr i gario achos crefydd yn ei flaen yn y gymdogaeth. Yn wir, wn i ddim beth a ddaethai o'r achos oni bai am Waith Pwll y Gwynt. Rhaid i chwithau, Sarah, gydnabod na fuoch yn ystod yr holl amser yn brin o gysuron bywyd nac o foddion gras. Yr ydym fel teulu, yn y tymor hwnnw, wedi'n codi ein hunain yng ngolwg ein cymdogion, ac yn cael edrych arnom yn lled barchus. Mi newch gydnabod hynny, Sarah? 'Does dim eisiau i mi eich atgofio am ein sefyllfa cyn i mi ddod i'r cysylltiad yr wyf yn sôn amdano. Gwyddoch pa fath dŷ oedd gennym y pryd hwnnw. Nid tŷ a stabal a coach-house oedd o, ai e? 'Doedd gennym yr un ceffyl a thrap, na gwas na morwyn. yn y sêt orau yn y capel yr oeddem yn eistedd y pryd hwnnw, ai e? Nid yr un un oeddwn innau yr adeg honno ag ydw i heddiw. Nid yr un un oedd Richard Trefor, Williams' Court, a Capten Trefor, Ty'n yr Ardd. Yr oedd gan Richard Trefor, pan eisteddai ar y fainc yn y capel, dipyn o gydwybod—câi dipyn o flas ar foddion gras. Faint o flas sydd gan Capten Trefor ar yr Efengyl yn y sêt â'r glustog arni? 'Ddaeth o 'rioed i'ch meddwl chi, Sarah, faint a gostiodd i Richard Trefor ddyfod yn Gapten Trefor! Mi wn fy mod wedi cadw'r cwbl oddi wrthoch chwi ar hyd y blynyddoedd, rhag eich blino. Yr oeddwn ar fai. Ond fedra' i mo'i gadw ddim yn hwy. 'Does dim ond dinistr yn ein haros," a dechreuodd y Capten ysgafnhau ei gydwybod. Ond cyn gwneud hynny cymerodd ddogn cryf o'r Scotch Whiskey.

PENNOD VIII

Ysgafnhau ei Gydwybod.

PAN gychwynnais Bwll y Gwynt," ebe'r Capten, 'mae'r nefoedd yn gwybod fy mod yn gobeithio iddo droi allan yn dda, ac yr oedd y miners mwyaf profiadol yn credu y gwnâi. Yr oedd yn y Gwaith olwg " ragorol. Ni chefais, fel y gwyddoch, unrhyw anhawster i hel cwmpeini. Gyda chymorth Mr. Fox, o Lunden, fe ddarfu i ni berswadio llawer o bobl ariannog i ymuno â'r cwmpeini, a chwi wyddoch, Sarah, fel y darfu i amryw o'n cymdogion, megis Hugh Bryan ac eraill, eu tlodi eu hunain er mwyn cael shares yn y Gwaith, ac yr oeddwn innau yn rhoi ar ddeall iddynt fy mod yn gwneud ffafr fawr â hwynt drwy adael iddynt gael shares am unrhyw bris. Mor lwcus oeddwn yng ngolwg pobl, ac yn fy ngolwg fy hun! Mor fuan y dechreuodd y rhai fyddai'n fy ngalw yn Richard fy syrio a'm galw yn gapten! Mewn ffordd o siarad, mi eis i'r gwely un noswaith yn feinar cyffredin, a chysgais a deffroais yn y bore yn Gapten Trefor!—yn ŵr o barch a dylanwad—yn un yr oedd pobl yn ceisio dyfod i'w ffafr—yn un â llawer o ffafrau yn ei law i'w cyfrannu i'r neb a fynnwn—yn un yr oedd pobl yn cymryd yn garedig arnaf dderbyn anrhegion gwerthfawr ganddynt! Nid oedd brin undyn yn y dref a wrthodai unrhyw beth a ofynnwn ganddo. Yr ydych yn cofio, Sarah, i mi ddweud, dim ond dweud, wrth Mr. Nott, yr Ironmonger, fy mod yn hoffi ei geffyl, a thrannoeth, gwnaeth anrheg i mi ohono, oblegid gwyddai Mr. Nott yn burion y gallwn roddi ambell geffyl yn ei ffordd ef os dymunwn. Talodd yr anrheg honno yn dda i Mr. Nott. Nid oedd eisiau i mi ddim ond edrych ar wn neu debot arian yn siop Mr. Nott, a byddai yma drannoeth with Mr. Nott's compliments! A llawer eraill yr un modd. Pan aeth Ty'n yr Ardd yn wag, yr oedd amryw yn ceisio amdano; ond Capten Trefor a’i cafodd. Sarah, fedrwch chi ddweud faint o'r furniture yma a gafwyd fel anrhegion? a phaham? Am mai fi a ddisgyfrodd y plwm mawr ym Mhwll y Gwynt, ac am i mi, drwy fy nghyfrwystra, gymryd takenote yn ddistaw bach a'm gwneud fy hun yn gapten ar y gwaith. Meddyliai pawb ei fod yn ddarganfyddiad ardderchog. Ond ofnwn i o'r dechrau mai troi allan yn dwyllodrus a wnâi, ond cedwais hynny i mi fy hun, a gobeithiwn y gorau. Yr oeddwn yn adnabod Mr. Fox, o Lunden, ers blynyddoedd—mi wyddwn hyd ei gydwybod a'i fod yn gwybod yn dda sut i weithio'r oracl. Mi ddropies lein iddo, ar iddo ddwad i lawr. Yr oedd Mr. Fox yma yn union, heb golli amser, fel dyn am fusnes. Cymerais ef i weld Pwll y Gwynt. Bu agos iddo ffeintio pan welodd yr olwg,' ac oni bai fod ei galon fel maen isaf y felin, buasai'n crio fel plentyn. Yr oedd o wedi darn wirioni, ac yn gweiddi ac yn neidio fel ffwl. Mor falch a llawen oedd o, fel y gallasai, mi gymra fy llw, fy nghario ar ei gefn am ddeng milltir! Gwyddwn i o'r gorau pa fath ddyn oedd genni i ymwneud ag ef, ond ni wyddai ef ddim amdanaf fi. Yr oedd wedi cael allan yn yr hotel cyn i ni gychwyn i weld Pwll y Gwynt fy mod yn Fethodist, ac ni wyddai yn iawn sut i siarad â mi. y dechrau yr oedd yn wyliadwrus ryfeddol pa beth a ddywedai. Mr. Fox oedd ei enw, ac yr oedd yn ateb i'w enw i'r dim. Yr oedd yn grefyddwr mawr yn ei ffordd ei hun y diwrnod hwnnw, ac ar ôl bod yn gweld Pwll y Gwynt, pan oeddem yn cael cinio, ar ôl iddo ofyn bendith, holodd gryn lawer am hanes crefydd yng Nghymru, a chymerodd gryn lawer o drafferth i ddangos mai yr un pethau oedd y Scotch Presbyterians â'r Methodistiaid Calfinaidd. Gwyddwn o'r gorau mai yr un peth oedd o a minnau, ac ebe fi wrtho, Mr. Fox, nid dyna'r pwnc heddiw. Yr wyf yn gwybod amdanoch chwi ers blynyddoedd, ond ni wyddoch chwi ddim amdanaf i. Mi wn, pan fydd gwaith mwyn yn y cwestiwn, na chaiff crefydd, gyda chwi, fod ar y ffordd i'w rwystro i'w wneud yn llwyddiannus. Mae'ch profiad—nid eich profiad crefyddol yr wyf yn ei feddwl—yn fawr. Ein pwnc ni heddiw ydyw sut i wneud sôn a siarad am Bwll y Gwynt, i ffurfio cwmni cryf a chael digon o arian i'n dwylo. Chwi wyddoch fod yn y Gwaith 'olwg' ardderchog, a chwi ydyw'r dyn yn Llunden, a minnau ydyw'r dyn yma—beth bynnag fydd hyd eich cydwybod chwi yn Llunden, yr un hyd yn union fydd hyd f'un innau yma!' Wedi i mi siarad fel yna, ysgydwodd Mr. Fox ddwylo â mi a galwodd am botel o champagne, ac o'r dydd hwnnw hyd heddiw ni fu gair o sôn am grefydd rhyngom. Yr ydech chwi'n 'nabod Mr. Fox, onid ydech chi, Sarah? Bu yma fwy nag unwaith i ginio, ac am grefydd y soniai bob amser gyda chwi, onid e? a byddai'n crio gyda'r llygad nesaf atoch chi, ac yn wincio gyda'r llall arnaf innau. Scotchman ydyw Mr. Fox, a'r rhagrithiwr mwyaf melltigedig a adnabûm erioed—oddieithr fi fy hun! Sarah, bydawn i'n mynd dros yr holl hanes yn fanwl, fe fyddai ei hanner yn Latin i chwi, a'r unig beth a welech yn eglur a fyddai y fath ŵr cydwybodol sydd gennych! Ond 'doedd dim Latin rhwng Mr. Fox a minnau—yr oeddem yn dallt ein gilydd i'r dim. Yr oeddym ein dau'n gobeithio, o waelod ein calonnau, i waith Pwll y Gwynt droi allan yn dda, ac yn credu o waelod ein calonnau mai fel arall y trôi, ond, fel gwir feinars, ni ddarfu i ni sibrwd ein crediniaeth i neb byw bedyddiol.

"Ydech chi'n 'y nghanlyn i, Sarah? Fe ddarfu i ni, fel y gwyddoch, ffurfio cwmpeini cryf, a thalwyd i lawr filoedd o bunnau. Fe ddarfu i ni ei wneud yn point i beidio ag agor ond cyn lleied ag a fedrem ar y Gwaith, rhag i'w dlodi o ddwad i'r golwg, a chymryd gofal i wario cymaint o arian ag a fedrem ar y lan mewn buildings a machinery ac yn y blaen. Achos pan fydd pobl wedi gwario llawer o arian gyda gwaith mwyn bydd yn anos ganddynt ei roi i fyny. Ac fe ddaeth y dŵr i'n helpio i gadw'r Gwaith i fynd ymlaen, ac i fod yn esgus am bob rhwystr ac oediad. Cyfaill mawr fu'r dŵr i Mr. Fox a minnau. Fe foddwyd ambell fil o bunnau yn y dŵr. Fe ddarfu i ni newid y machinery deirgwaith, er mwyn cyfarfod â dymuniadau ein cyfaill ffyddlon Mr. Dŵr. Bob tro y ceid machinery newydd yr oedd hynny yn gwacáu cryn lawer ar bocedau'r cwmpeini, ac yn rhoi tipyn bach ym mhocedau Mr. Fox a minnau, oblegid yr oedd y cwmpeini yn ymddiried i farn Mr. Fox a minnau fel prynwyr, ac nid oedd ond peth iawn a phriodol i ni gael tâl am ein barn. Ond nid y cwmpeini, dalltwch, oedd yn talu i ni, ond y bobl oedd yn gwneud y machinery, achos yr oedd yn rhaid i'r llyfrau ddangos fod popeth yn straightforward ac nad oedd dim twyll yn cael ei arfer. Commission, wyddoch, y byddai'r makers yn ei alw, gair a ddyfeisiwyd i dawelu cydwybodau capteiniaid gweithydd mwyn. Ond erbyn hyn y mae'r gair yn nicsionari'r Canhwyllwr, yr Ironmonger, y Timber Merchant, y dyn sydd yn gwerthu powdwr, a chant a mil eraill."

Yn y fan hon, eto, apeliodd y Capten am swcwr at y botel.

"Ydech chi'n 'y nallt i, Sarah? Mi wn na wnewch chi mo 'nghrogi i. Wel, fel yr oeddwn yn dweud, yr oeddem yn cymryd gofal i beidio ag agor y gwaith ond mor araf ag y medrem. Pan gaem bob sicrwydd fod tipyn o blwm mewn rhan neilltuol o'r gwaith, fe fyddem yn gadael llonydd iddo fel arian yn y banc, ac yn ei gadw nes byddai'r cwmpeini bron torri ei galon, a phan ddeallem eu bod ar fedr rhoi'r Gwaith i fyny, fe fyddem ninnau'n mynd i'r banc ac yn codi digon o blwm i roi ysbryd newydd yn y cwmpeini i fynd ymlaen am sbel wedyn. Wedi cael y cwmpeini i ysbryd go dda, fe fyddem yn ail ddechre cynilo, ac felly o hyd, ac felly o hyd ar hyd y blynyddoedd a minnau'n gorfod reportio fel hyn a reportio fel-arall dyfeisio'r celwydd yma un wythnos a'r celwydd arall yr wythnos wedyn, er mwyn cadw pethau i fynd, nes ydw i wedi mynd heb yr un celwydd newydd i'w ddweud, a thâl i mi ddim mynd dros yr hen rai, achos y mae'r cwmpeini yn eu cofio'n rhy dda. Mae'r shareholders trymaf wedi glân ddiflasu a chynddeiriogi ac wedi penderfynu nad ânt gam ymhellach. Ond fe all Mr. Fox a minnau ddweud ein bod wedi gwneud ein dyletswydd, a'n bod wedi gwneud ein gorau i gadw'r Gwaith i fynd ymlaen."

"Wel, Richard," ebe Mrs. Trefor, wedi ei syfrdanu ac yn methu penderfynu pa un ai wedi drysu yn ei synhwyrau yr oedd y Capten ai wedi cymryd tropyn gormod yr oedd.

Wel, Richard, ydech chi ddim yn deud nad oes yno blwm ym Mhwll y Gwynt? Mi'ch clywes chi'n deud gannoedd o weithiau wrth Mr. Denman fod yno wlad o blwm ac y byddech chi'n siŵr o ddwad ato ryw ddiwrnod."

Rhyngoch chi a fi, Sarah," ebe'r Capten," mi gymraf fy llw nad oes ym Mhwll y Gwynt ddim llond fy het i o blwm. Ond wneith hi mo'r tro, wyddoch, i bawb gael gwybod hynny. 'Dydi ddim llawer o bwys am bobl Llunden, ond y mae'n ddrwg gen i dros Denman. Mae o'n gymydog, ac wedi ei dlodi ei hun yn dost. Yn wir, mae gen i ofn y bydd Denman cyn dloted â finnau rai o'r dyddiau nesaf yma."

Cyn dloted â chithe, Richard? ydech chi ddim yn deud ych bod chi yn dlawd?" ebe Mrs. Trefor mewn dychryn.

Cyn dloted, Sarah, â llygoden eglwys, ond just yn unig y pethau a welwch o'ch cwmpas. Yr oeddwn yn ofni eich bod chi a Susi—Susi! sut y medrwch chi gysgu tra mae'ch mam a minnau'n sôn am ein hamgylchiadau?" ebe'r Capten yn wyllt.

"Mi wyddoch, tada," ebe Susi, dan rwbio'i llygaid, na dda gen i ddim clywed sôn am fusnes."

"Fe fydd raid i chi, fy ngeneth," ebe'r Capten," ymorol am fusnes i chi'ch hun rai o'r dyddiau nesaf. Ie, Sarah, yr oeddwn yn ofni eich bod chi a Susi yn byw mewn fools' paradise. Yr ydym yn dlawd, dalltwch y fact yna. Mae dialedd o arian wedi mynd trwy fy nwylo; ond 'does dim bendith wedi bod arnynt—maent wedi mynd i rywle, a chwi wyddoch eich dwy lle mae llawer ohonynt wedi mynd. Waeth i ni edrych ar y ffaith yn ei hwyneb—yr ydym yn dlawd, ac fe fydd Pwll y Gwynt â'i ben ynddo cyn pen y mis."

“O mam!” gwaeddai Miss Trefor.

"Mamiwch chi fel y mynnoch," ebe'r Capten, rhyngoch chi a fi, miss, fe ddylsech chi fod yn fam eich hun cyn hyn, yn lle rhoi'r fath airs i chwi eich hunan. Rhaid i chi ddyfod i lawr beg neu ddau a chymryd rhywun y gellwch gael gafael arno, pe na byddai ond miner cyffredin."

The idea, tada!" ebe Miss Trefor.

The idea'r felltith! ydech chi ddim yn rialeisio eich sefyllfa? oes dim posib pwnio dim yn y byd i'ch pen chwiban chi?" ebe'r Capten, wedi colli ei dymer eilwaith.

Richard," ebe Mrs. Trefor yn bwyllog, "cedwch eich tempar. Os dyna ydi ein sefyllfa—os tlawd yden ni, ar ôl yr holl flynyddoedd o gario 'mlaen, be ydech chi'n feddwl neud?"

'Dyna chi, yrwan, Sarah," ebe'r Capten, " yn siarad fel gwraig synhwyrol. Dyna ydyw'r cwestiwn, Sarah. Wel, dyma ydyw fy mwriad—cadw yr appearance cyd ag y medraf, a dechrau gwaith newydd gynted ag y gallaf."

Ar hyn curodd rhywun ar y drws.

PENNOD IX

Cyfrinachol.

"WEL, dyma Mr. Denman!" ebe'r Capten," soniwch am —— ac y mae o'n siŵr o ymddangos. Yr oeddem just yn siarad amdanoch yrwan."

"Beth wnaeth i chi siarad amdana' i?" gofynnai Mr. Denman.

"Wel," ebe'r Capten, "deud yr oeddwn i—ond dyma chwi, Mr. Denman, fe awn ni i'r smoke room, fe fydd yn dda gan y merched yma gael gwared ohonom."

Wedi i'r ddau fyned i'r smoke room, ychwanegai'r Capten :

"Ie, dyna'r oeddwn i yn 'i ddeud, Mr. Denman, cyn i chwi ddyfod i mewn, mai campus o beth a fyddai eich gweled chwi—sef yr unig un o'n cymdogion sydd wedi dal i gredu ym Mhwll y Gwynt—mai campus o beth fydd eich gweled ryw ddiwrnod yn ŵr bonheddig. Yr ydych yn haeddu hynny, Mr. Denman, mi gymraf fy llw, os haeddodd neb erioed."

"Os na ddaw hynny i mi yn fuan," ebe Mr. Denman, yr wyf yn debycach o lawer o ddiweddu f'oes yn y workhouse. A oes gennych chi ryw newydd am Bwll y Gwynt? fath olwg sydd acw yrwan?

"Wel," ebe'r Capten, "'does gen i ond yr hen stori i'w hadrodd wrthych, Mr. Denman, ac nid yr hen stori chwaith. Mae acw well golwg yrwan nag a welais i ers tro. Ac eto, mae gen i ofn deud gormod, rhag y cawn ein siomi. Mae'n well gen i bob amser ddeud rhy fychan na deud gormod. Ond, fel y gwyddoch, yr ydym yn gorfod ymladd â'r dŵr yn barhaus—mae'r elfennau yn ein herbyn—a phe buasai'r directors wedi cymryd fy nghyngor i, sef cael machinery digon cryf yn y dechre, fe fuasem wedi cael y gorau arno ers talwm. Ond nid bob amser y medr dyn gael ei ffordd ei hun, yn enwedig pan na fydd ond gwas. Mi ddwedaf hyn, ac wrth gwrs, nid wyf yn cymryd arnaf fod yn anffaeledig, ond cyn belled ag y mae gwybodaeth ddynol yn mynd—ac y mae gennyf dipyn o brofiad erbyn hyn—cyn belled, meddaf, ag y mae gwybodaeth ddynol yn mynd, mae acw well golwg yrwan nag a welais i o'r blaen. Hwyrach—ond ydw i ddim yn meddwl y bydd—ond hwyrach y bydd raid i ni fod dipyn yn amyneddgar. Chwi wyddoch eich hun fod y plwm a gawsom—'doedd o ddim llawer o beth mi addefaf—ond chwi wyddoch fod y plwm a gawsom yn dangos yn eglur fod yno ychwaneg ohono. Y cwestiwn ydyw—a'r unig gwestiwn—a fydd gan y cwmpeini amynedd, ffydd, a dyfalbarhad, i ddal nes dwad o hyd i'r cyfoeth. Pe buasai pawb o'r cwmpeini fel chwi, Mr. Denman, sef yn ddynion a ŵyr rywbeth am natur gwaith mwyn, fe fuasai rhyw obaith iddynt ddal ati. Ond pa fath ddynion ydynt? Mi ddywedaf i chwi dynion wedi gwneud eu harian mewn byr amser, megis merchants, ac felly yn disgwyl i waith mwyn dalu proffit mawr mewn ychydig amser—pobl ddiamynedd, os na thâl rhywbeth ar ei union. Ond nid peth felly ydyw gwaith mwyn. Mae'n rhaid aros weithiau flynyddoedd, ac y mae llawer, fel y gwyddoch, ar ôl gwario miloedd, yn rhoi gwaith i fyny am nad oes ganddynt amynedd i aros. Ac yna y mae eraill yn dyfod ymlaen, a heb ond y nesaf peth i ddim o gost, yn cymryd y cyfoeth a adawyd. Yr ydym wedi bod dipyn yn anlwcus ym Mhwll y Gwynt, ac mi wn ei fod yn beth profoclyd disgwyl a disgwyl a chael ein siomi, yn enwedig pan fo cymaint o arian caled yn cael eu talu i lawr o hyd. Yr wyf yn gobeithio'n fawr y gwêl y cwmpeini ei ffordd yn glir i gario'r gwaith ymlaen am dipyn bach o leiaf, pe na byddai ond er mwyn fy ngharitor i, ac er mwyn profi fy mod wedi dweud y gwir. Ond rhyngoch chwi a fi, fyddai ddim yn rhyfedd gennyf bydae'r Saeson yna yn rhoi'r gwaith i fyny, a hynny pan ydym o fewn dim i gyrraedd y plwm, ac fe fyddai hynny yn bechod o beth. Pe digwyddai peth felly i Bwll y Gwynt, mi wnawn lw nad awn byth wedyn dan Board of Directors na dim arall, ond y mynnwn gael fy ffordd fy hun o drin y gwaith."

"Wyddoch chi be, Capten," ebe Mr. Denman," bydae'r Saeson yna, fel yr ydech chi'n eu galw, yn rhoi'r gwaith i fyny fory, fydde hynny ddim yn ddrwg gen i, mewn ffordd o siarad. Nid am nad ydw i'n credu fod yno blwm—na, mae gen i ffydd o'r dechre ym Mhwll y Gwynt. Ond bydaswn i'n gwybod y buasai raid i mi wario cymaint o arian faswn i 'rioed wedi ymuno â'r cwmpeini. Feddyliais i 'rioed y buasai raid i mi wario mwy na rhyw gant neu ddau, ond erbyn hyn mae agos y cwbl sy gen i wedi mynd, a mi fydd raid i mi, beth bynnag am y Saeson, roi'r lle i fyny—fedr 'y mhoced i ddim dal."

"Yr wyf yn gobeithio," ebe'r Capten, "nad ydych yn meddwl y gwnawn i eich camarwain yn fwriadol, fodd bynnag? Ac am eich poced, wel, yr ydym yn gwybod yn o lew am honno. Pe buasai gan Capten Trefor boced Mr. Denman, fe fuasai'n cysgu'n llawer tawelach heno. Mae gennych dai a thiroedd, Mr. Denman, ac os rhowch i fyny eich interest yn y Gwaith, chwi edifarhewch am bob blewyn sydd ar eich pen. Nid ydyw ond ynfydrwydd sôn am roi i fyny yrwan, pan ydym ymron cael y gorau ar yr holl anawsterau. Chwi wyddoch fod gen innau shares yn y Gwaith; ond cyn y rhown i i fyny yrwan, mi werthwn fy nghrys oddi am fy nghefn."

"Mae gen i bob ffydd ynoch chi, Capten," ebe Mr. Denman. "Yn wir, faswn i 'rioed wedi meddwl am gymryd shares yn y Gwaith oni bai 'mod i yn eich adnabod chi, a'n bod ni'n dau yn aelodau yn yr un capel. Na, beth bynnag a ddaw o Bwll y Gwynt, mi ddwedaf eich bod chi yn onest. Ond mater rhaid fydd arna' i roi i fyny. Waeth i mi ddeud y gwir, mae mortgage ar y tai a'r tiroedd agos i'w llawn werth, oddieithr y tŷ'r ydw i'n byw ynddo, a ŵyr y wraig acw mo hynny. Bydae hi yn gwybod, fe dorre 'i chalon. Fe ŵyr ar y prinder arian sydd acw 'mod i wedi cario dialedd i Bwll y Gwynt, a mae hi yn rhincian, rhincian, o hyd, ond bydae hi'n gwybod y cwbl, mi fydde raid i mi hel 'y mhac."

Mae'n ddrwg gennyf eich clywed yn deud fel yna," ebe'r Capten, "a hwyrach y bydd yn anodd gennych gredu, ond yr wyf wedi colli ambell noswaith o gysgu, mae Sarah 'n gwybod, wrth feddwl am yr aberth mawr yr ydych yn ei wneud. Ond yr wyf yn gobeithio, ac yn credu, y gwelaf y dydd pan fyddwch yn deud y cwbl wrth Mrs. Denman, ac y bydd hithau yn eich canmol. Ond y mae'r cwbl yn dibynnu ar a fydd gan y cwmpeini ffydd ac amynedd i fyned ymlaen.'

"Bydae'r cwmpeini yn rhoi'r Gwaith i fyny, be 'naech chi, Capten, ai mynd i fyw ar eich arian?" gofynnai Mr. Denman.

"Nid yn hollol felly, Mr. Denman, ond yn hytrach ailgychwyn," ebe'r Capten.

"Pwll y Gwynt?" gofynnai Mr. Denman.

"Ie, Pwll y Gwynt," ebe'r Capten, pe buasai gen i ddigon o arian. Pe buasai gen i foddion mi fuaswn yn prynu Pwll y Gwynt. Ond gan nad oes gen i ddim quite ddigon i hynny yn wir, ddim yn agos ddigon—mi fuaswn yn cychwyn mewn lle arall. Mae fy llygad ar y lle ers tro, rhag ofn i rywbeth ddigwydd i Bwll y Gwynt. Eithaf peth, Mr. Denman, ydyw bod yn barod ar gyfer y gwaethaf. A 'Ngwaith i y câi o fod, gydag ychydig ffrindiau, ac ni châi pobl Llunden roi eu bys yn y brywes hwnnw. Gwaith a fydd o ar scale fechan, heb lawer o gost, ac i ddwad i dalu yn fuan. Ond fe fydd raid i mi gael ychydig ffrindiau o gwmpas cartre i gymryd shares. Un o'r ffrindiau hynny fydd Mr. Denman. Rhyngoch chwi a fi, yr wyf wedi cymryd y takenote yn barod, ac, yn wir, yr oedd eich lles chwi yn fy ngolwg yn gymaint â'm lles fy hun. Yr ydych wedi gwario cymaint, Mr. Denman, fel yr wyf wedi bod yn pendroni pa fodd y gallwn roi rhywbeth yn eich ffordd."

"Lle mae eich llygad arno, Capten, 'mod i mor hy â gofyn?" ebe Mr. Denman yn llawn diddordeb.

"Wel," ebe'r Capten, yr ydych chwi a minnau yn hen ffrindiau, ac mi wn na wnewch chwi ddim gadael i'r peth fynd ddim pellach, ar hyn o bryd, beth bynnag. Cofiwch nad yrwan y mae'r lle wedi dyfod i'm meddwl gyntaf; na, mae o yn fy meddwl i ers blynyddoedd—yr wyf wedi breuddwydio llawer yn ei gylch. O ran y meddwl y mae'r peth yn hen—mae'r bydle'n fywiog— mae'r engine yn chwyrnu—mae'r troliau yn cario'r plwm i Lannerch-y-môr—ac eto y mae'r borfa yn las ar wyneb y tir! Yr ydych yn deall fy meddwl, Mr. Denman? —Yn y meddwl y mae'r Gwaith yn hen, ond mewn reality y mae'r dywarchen heb ei thorri. Yn fy meddwl (a chaeodd y Capten ei lygaid am funud), yr wyf yn gweled y cwbl ar lawn waith—mae'n hen, hen, yn fy meddwl i, ond yn newydd i'r byd—yn wir, yn anhysbys—yn ddirgelwch hollol!"

Hwyrach," ebe Mr. Denman, "fy mod yn rhy hy, ond 'dydech chi ddim wedi deud eto—"

"Mr. Denman," ebe'r Capten, gan dorri ar ei draws, peidiwch ag arfer geiriau fel yna. 'Does dim posib i chwi fod yn rhy hy arnaf. Fel y dywedais, yr ydym yn hen ffrindiau, a 'does gen i ddim eisiau cadw dim oddi wrthych—dim, dim. Ni fuaswn yn siarad fel hyn â neb arall. Os oes rhywun mwy na'i gilydd yn gwybod fy secrets, Mr. Denman ydyw hwnnw. Mi ddywedaf beth arall, ddarfu i mi erioed feddwl am y Gwaith y crybwyllais amdano—yr wyf yn ei alw yn 'Waith' er nad ydyw wedi ei ddechre, am nad ydyw ond pwnc o amser yn unig—ddarfu i mi erioed feddwl am y fentar y mae fy llygaid arni heb eich bod chwithau yr un pryd yn fy meddwl. Mi fyddwn yn dweud fel hyn: Richard Trefor, ŵyr neb arall, ond fe wyddost di, fod yna blwm ddialedd yn y fan a'r fan. Pwy sydd i gael bod yn gyfrannog â thi yn y cyfoeth? Wel, os oes rhywun, Mr. Denman,' meddwn."

"Yr wyf yn bur ddiolchgar, Capten," ebe Mr. Denman, "ond y mae arnaf ofn na allaf i fentro dim chwaneg. Nid oes gennyf ddegpunt arall i'w gwario heb wneud cam â'r teulu."

"Yr ysytriaeth yna yn bennaf, er nad yn hollol," ebe'r Capten, "sydd yn fy ngorfodi i'ch gosod ar yr un tir â mi fy hun gyda'r fentar newydd. Cofiwch, fydd yno ddim Saeson i'n rheoli. Yr ydych chwi a minnau hyd yn hyn wedi gwario ein harian i blesio Saeson anwybodus, ac, fel y dywedais, fyddai ddim yn rhyfedd bydaen nhw yn taflu'r Gwaith a'r gost i gyd i fyny yn y diwedd, ac y mae'n bryd i chwi a minnau droi ein llygaid i rywle lle y gwyddom y cawn ein harian yn eu holau. Gwaith fydd—arhoswch, ddarfu i mi ddim dweud eto wrthych enw y lle y mae fy llygad arno?—Naddo? Wel, dyna ydyw'r lle—'d eith o ddim pellach, ar hyn o bryd, Mr. Denman? Wel, dyna'r lle—Coed Madog! Coed Madog!! Coed Madog!!! (ebe'r Capten, gan ailadrodd yr enw yn ddistaw a chyfrinachol, pan welodd ar wyneb Mr. Denman arwyddion fod pob llythyren yn yr enw fel pe buasent yn treiglo i lawr ei gefn rhwng ei gig a'i groen). Ie, Gwaith fydd Coed Madog i ennill arian ac nid i'w taflu i ffwrdd ar bob anialwch. Yr ydych chwi a minnau, Mr. Denman, wedi gwario digon, ac y mae'n bryd i ni ddechre ennill. Rhyngoch chwi a fi, 'does gen innau yr un deg punt i'w taflu i ffwrdd, ond 'does dim eisiau i bawb wybod hynny. Wrth gwrs, fe fydd raid gwario rhyw gymaint cyn y daw'r Gwaith i dalu, a dyna pam yr oeddwn yn dweud y byddai raid i ni gael ychydig ffrindiau gyda ni. Yn awr, Mr. Denman, edrychwn ar y mater fel hyn: Y chwi a minnau, mewn ffordd o siarad, biau Waith Coed Madog—yr ydym ar yr un footing. Nid oes gan un ohonom arian i'w taflu i ffwrdd. Mae'n rhaid gwario rhyw gymaint. Felly y mae'n rhaid i ni gael rhywun neu rywrai i gymryd shares. Yr ydych chwi yn adnabod pobl yn well na mi, ac yn gwybod am eu hamgylchiadau. Os gallwn wneud daioni i gyfeillion y capel, gore oll, ond os bydd raid mynd at enwadau eraill, eraill, fydd mo'r help. Pwy fyddant, Mr. Denman?"

"Wel, Capten," ebe Mr. Denman, "o'n pobol ni fedra i feddwl am neb tebycach na Mr. Enoc Huws, Siop y Groes, a Mr. Lloyd, y twrne."

Rhyfedd!" ebe'r Capten, "fel y mae ein meddyliau yn cydredeg. Am Mr. Huws y meddyliais innau gyntaf. Wn i beth am Mr. Lloyd, ond y mae Mr. Huws, fe ddywedir yn ddyn sydd wedi gwneud llawer o arian. Mae'n ŵr ieuanc parchus ac o safle uchel fel masnachwr, ac yn ddiamau yn grefyddol, ac os gallwn roi rhywbeth yn ei ffordd gyda'r Gwaith, fe fyddwn ar yr un pryd yn gwneud daioni i'r achos, oblegid yr wyf i fy hun yn cyfrif mai Mr. Huws ydyw'r dyn gorau a feddwn yn y capel— hynny ydyw, fel gŵr ieuanc. Y pwnc ydyw a allwn ni ei gael i weled lygad yn llygad â ni. Mae mining, yn ddiau, yn beth dieithr iddo, a chyda rhai felly nid gwaith hawdd ydyw dangos pethau yn eu lliwiau priodol. A allech chi ei weled, Mr. Denman?"

"Yr wyf yn meddwl," ebe Mr. Denman, "mai'r cynllun gore fyddai i chwi anfon amdano yma yrwan."

"Mae'r dalent o daro'r hoel ar ei phen gennych, Mr. Denman," ebe'r Capten, a chan eistedd i lawr wrth y bwrdd, ysgrifennodd y Capten nodyn boneddigaidd at Enoc Huws yn gofyn iddo ddyfod cyn belled â Thŷ'n yr Ardd. Tra bo'r Capten yn ysgrifennu'r nodyn, a'r forwyn yn ei gymryd i Siop y Groes, hwyrach mai gorau i mi fyddai rhoi i'r darllenydd gipolwg ar amgylchiadau a sefyllfa meddwl Enoc, druan.

PENNOD X

Marged.

NID oedd Enoc Huws ond naw ar hugain oed, ond yr oedd eisoes yn teimlo ei fod yn hen lanc, ac yn etifeddu holl anghysuron y sefyllfa ddiwarafun honno. Yr oedd ef yn llanc o deimladau tyner a gwyliadwrus iawn o'i gymeriad. Wrth ddewis ei housekeeper, gofalodd am un lawer hŷn nag ef o ran dyddiau. Ei henw oedd Marged Parri. Yr oedd Marged wedi gweled goleuni dydd ugain mlynedd, o leiaf, o flaen ei meistr—ffaith y rhoddai hi gryn bwys arni pan ddeuai cwestiwn dyrys ac anodd ei benderfynu rhyngddynt, megis, Pa un ai nos Sadwrn ai bore Sul y dylid pilio tatws? Pa un ai berwi ai rhostio darn o gig fyddai orau? a chwestiynau dyrys eraill cyffelyb. Gwir dieithriad ydoedd na soniai Marged un amser am ei hoedran oddieithr pan amheuid cywirdeb ei barn. Ar adegau felly dywedai, Mistar, yr ydw' i yn hŷn na chi, a fi ddylai wbod ore." Ni bu Marged erioed yn briod—nid am na chafodd gynigion gwerthfawr lawer gwaith, meddai hi, ond am fod yn well ganddi fywyd sengl. Ond tybiai ei meistr, Enoc Huws, ei fod yn canfod rheswm arall am sefyllfa ddibriod Marged, a'r rheswm hwnnw oedd ei chymhwyster pennaf yn ei olwg fel housekeeper—sef anserchowgrwydd ei hwynepryd. Yr oedd un olwg ar wyneb Marged yn ddigon i argyhoeddi pob dyn rhesymol na chusanwyd mohoni erioed oddieithr iddi daro ryw dro ar ddyn dall o'i enedigaeth. Ac nid ei hwyneb oedd yr unig reswm tybiedig am ei sefyllfa ddibriod; oblegid nid oedd ffurf ei chorff yn un o'r rhai mwyaf gweddeiddlwys, nac yn debyg i un a fuasai yn ennyn edmygedd unrhyw ŵr ieuanc o chwaeth uchel, neu aflonyddu dim ar ei gwsg. Yr oedd yn fer a llydan, ac yn peri i un feddwl bod Marged, ar un adeg, wedi gorfod cario pwysau anferth ar ei phen, nes iddi suddo cryn lawer iddi hi ei hun, a byrhau ei gwddf a'i choesau, a lledu ei hysgwyddau, ei gwasg, a'i chluniau. Ni fuasai llawer o waith cŷn a morthwyl yn angenrheidiol ar Marged i'w gwneud yn gron, a phe digwyddasai iddi syrthio ar ymyl crib Moel Fama, ar y cwr deheuol, ni pheidiasai â throelli nes cyrraedd Rhuthyn.

Ni bu erioed gamp na byddai rhemp, a hwyrach na bu erioed remp na byddai camp. Yn ei ffordd ei hun yr oedd Marged yn ddiguro. Buasai'n well ganddi dorri ei bys nag i rywun awgrymu bod unrhyw aflerwch yn y ty. Yr oedd pob peth oedd dan ei gofal yn hynod o lanwedd, a phe buasai rhywun yn awgrymu yn wahanol buasai'n drosedd anfaddeuol yn erbyn Marged. Anffaeledigrwydd oedd rhinwedd pennaf Marged, a'r sawl a amheuai hynny oedd y pechadur pennaf. Nid ar unwaith y darganfu Enoc Huws yr anffaeledigrwydd hwn. Gwir iddo gael cymeriad rhagorol i Marged cyn ei chyflogi, ond, fel yr awgrymwyd, ei rhinwedd pennaf yn ei olwg y pryd hwnnw oedd ei bod yn annaearol o hyll. Nid oedd ganddo syniad yr adeg honno am anffaeledigrwydd Marged. Yn ystod yr wythnosau cyntaf y bu hi yn ei wasanaeth ni allai Enoc wneud na phen na chynffon ohoni. Os cwynai ef am rywbeth, âi Marged i'w mwgwd, ac ni siaradai ag ef am ddyddiau. Fel cais olaf cyn ei throi ymaith, meddyliodd Enoc am ei chanmol, i edrych pa effaith a gaffai hynny. Un diwrnod, pan oedd Marged wedi paratoi iddo ginio na allai un Cristion o chwaeth ei fwyta, ebe fe:

Marged, mae'n biti o beth fod fy stumog mor ddrwg heddiw, achos yr ydech chi wedi gneud cinio splendid—fase dim posib iddo fod yn well. Bydaswn i 'n gwbod y basech chi'n gneud cinio mor dda mi faswn wedi gwadd rhwfun yma, ond y mae gen i ofn y bydd raid i mi fynd. at y doctor i gael rhywbeth at fy stumog."

"Ydi," ebe Marged, "mae'r cinio yn syffisiant i undyn byw, a mi wna dipyn o de wermod i chi, mistar, achos i be 'rewch chi at y doctor pan fedra i neud cystal ffisig ag yntau a gwell?"

Ni bu raid i Enoc byth ond hynny gwyno rhyw lawer yn erbyn yr ymborth. Ac felly gyda phob rhan o wasanaeth Marged: pan fyddai yn ddiffygiol nid oedd eisiau ond ei ganmol, a byddai yn lled agos i fod yn iawn. y tro nesaf. Yr oedd canmoliaeth ei meistr wedi peri i Marged ffurfio syniad uwch o lawer am ei rhinweddau nag a feddai hi cynt, a gwneud iddi reoli a rhoi ei bys ym mhob brywes o'r eiddo, oddieithr y siop. Y siop oedd yr unig ran o ymerodraeth Enoc Huws nad oedd Marged wedi ei goresgyn. Mor llwyr y rheolai hi ei dy, fel yr ofnai Enoc, ar adegau, gael mis o notis ganddi—iddo ef fyned ymaith. Ond pa help oedd ganddo? Os cwynai, âi Marged i'w chidwm, ac ni wnâi na rhych na gwellt; o'r ochr arall, os gadawai iddi gael ei ffordd ei hun, odid na byddai pethau'n lled agos i'w lle. Yr oedd cadw Marged mewn hwyl a thymer dda yn cymryd cymaint o'i feddwl, bron, â'i holl orchwylion eraill gyda'i gilydd. Er ei fod, erbyn hyn, yn deall ffordd Marged yn lled dda, ni allai lai na theimlo ei sefyllfa, wrth ystyried ei fod ef, oedd yn fasnachwr llwyddiannus, yn un yr edrychid i fyny ato gan lawer o'i gymdogion, ac a berchid gan ei gyd-aelodau yn y capel am ei ddefnyddioldeb a'i haelfrydedd—ei fod, er y cwbl, dan ryw fath o raid i gymryd Marged i ystyriaeth ac i fanwl chwilio pa fodd y gallai gadw y ddysgl yn wastad gyda hi. Oni buasai fod calon Enoc wedi ei meddiannu yn hollol gan Miss Trefor, buasai ar lawer pryd yn troi allan i chwilio am gymar bywyd heb ofalu pa beth fuasai sefyllfa fydol yr un honno. Fel un wedi ymroddi i fasnach, nid oedd ganddo amser i wneud cyfeillion. Yr adeg hapusaf ar Enoc oedd pan fyddai'n berffaith sicr fod Marged yn cysgu. Yr oedd ganddo ystafell fechan ynglŷn â'r siop wedi ei throi'n fath o offis, a'i llenwi o bwrpas â chistiau a phethau eraill fel nad oedd ynddi le ond i un gadair. Yno yr âi Enoc ar ôl swper, er mwyn cael llonydd. Os âi i'r parlwr deuai Marged i gadw cwmpeini iddo, ac mewn cadair esmwyth syrthiai i gysgu mewn dau funud, a chwyrnai fel mochyn tew hyd adeg mynd i'r gwely. Os gwarafunai Enoc iddi wneud hynny, âi Marged allan o'i hwyl am dridiau. I arbed y trychineb hwn, âi Enoc i'r offis yn gyson dan yr esgus fod ganddo fusnes." Tra byddai Enoc yn yr offis byddai Marged wrth y tân yn y gegin yn chwyrnu am ddwy, ac weithiau dair awr, oblegid nid âi hi byth i'r gwely yn gyntaf am na allai "drystio" ei meistr i gloi'r drysau. Mewn gwirionedd, yr oedd sefyllfa Enoc yn un druenus iawn, ac arswydai rhag i neb wybod gymaint oedd awdurdod Marged arno. Am hynny ychydig o gyfeillion a wahoddai i'w dŷ.

Y noswaith hon aethai Enoc i'r offis ar ôl swper. Yr oedd yn noswaith oer a niwlog. Buasai Enoc yn brysurach nag arfer, a theimlai yn hynod flinedig. Yr oedd yn rhy ddifater i ymolchi ac ymdrwsio. Eisteddodd o flaen tân i synfyfyrio ar ei sefyllfa. A phe gwelsai merched ieuainc y capel ef, a gwybod am ei feddyliau prudd, diamau y buasai ambell un yn barod i gymryd trugaredd arno. Yr oedd ei gynorthwywyr yn y siop yn lletya allan, am na fynasai Enoc iddynt wybod gymaint yr oedd ef dan lywodraeth Marged. Tynnodd ei esgidiau a gwisgodd ei slipars. Yr oedd yn rhy ddiysbryd i ddarllen, er bod y papur newydd yn ei boced. Pe buasai'r papur yn ei law neu dan ei gesail buasai Marged yn y man yn ei ddilyn i holi beth oedd y newydd. Gwnaethai hynny lawer gwaith, ac yntau'n gorfod adrodd rhywbeth iddi gydag wyneb siriol, er mai ei ddymuniad fuasai ei hannerch: "Ewch i'r —— a gadewch lonydd i mi." Wedi eistedd yn llonydd am ryw bum munud, ymddangosai'n fwy cynhyrfus nag arfer—crychai ei dalcen a gwthiai ei ddwylo i waelod ei bocedau. Cododd ar ei draed, estynnodd ei bibell, gan ei llenwi yn dynn, a mygodd yn galed. Yna poerodd yn sarcastic i lygad y tân. Pwysleisiodd yn bendant â'i ben, a phoerodd eilwaith, fel pe buasai yn gwneud rhyw benderfyniad cadarn yn ei feddwl, ac yn rhoi'r diffoddwr yn dragwyddol ar rywun neu'i gilydd. Buasai yr olwg arno yn peri i estron gredu ei fod yn ŵr penderfynol a meistrolgar iawn. Ond ar unwaith, fel pe buasai'n cofio pwy ydoedd, cyfododd Enoc yn wyliadwrus—agorodd gil y drws yn ddistaw, a gosododd ei glust ar y rhigol i wrando a oedd Marged yn cysgu; wedi ei sicrhau ei bod, gwenodd, a chaeodd y drws yn esmwyth, ac, wrth ail eistedd, ebe fe wrtho ei hun: "All right, Jezebel! Ond mae byw fel hyn yn humbug perffaith. Dyma fi wedi bod wrthi fel black drwy'r dydd, ac i beth? Mae pob gwas sy gen i yn fwy hapus na fi. Diolch na ŵyr neb sut fyd sydd arna i. Bydae pobl yn digwydd dwad i wybod, fedrwn i byth ddangos f'wyneb—mi awn i'r America, mi gymra fy llw. A pha raid iddi fod fel hyn? 'Dydw i ddim yn dlawd—yr ydw i'n gneud yn well nag ambell un; a rydw i'n meddwl bydawn i'n cynnig fy hun—wel, 'rydw i agos yn siwr y medrwn i gael—ond waeth heb siarad! Onid ffŵl o'r sort waetha ydw i? Onid 'y mod i'n pendroni bob nos, ac yn adeiladu castelli yn yr awyr ynghylch Miss Trefor ydi achos fy holl anghysuron? Digon gwir! Ond mi rof ben ar hynny heno—pen am byth bythoedd. I beth y pendrona i? ddaw byth ddim byd o hynny, am—wn—i. Bydase gen i dipyn mwy o wroldeb ac wynebgledwch—ond waeth—tewi—'does gen i 'run o'r ddau. Base ambell un wedi mynnu gwybod cyn hyn, a fase rhyw obeth iddo, ac os na fase, yn rhoi clec ar ei fawd. Ond sut y mae Enoc wedi gneud? Caru yn ei ddychymyg, ar ei ben ei hun, heb symud bys na bawd. Yr hen het gen i! Y fath drugaredd na ŵyr neb am feddyliau dyn! Ond y mae rhywbeth i'w ddeud dros Enoc,—mae hi'n uchel— ie, waeth rhoi'r enw iawn arno—mae hi'n falch. 'Dydi hi ddim yn siarad â rhai mwy ymhongar na fi, a mwy respectable, yn ystyr fydol y gair. Er ein bod yn mynd i'r un capel, ac yn 'nabod ein gilydd ers blynyddoedd, 'neith hi brin edrach arna i. Bydawn i ddim ond yn sôn am y peth wrthi,—wel, mi gwela hi! fydde fychan ganddi roi slap i mi yn f'wyneb! Mae'n siŵr ei bod—er nad oes dim sôn am hynny—yn edrach am rywun llawer uwch na grocer yn ŵr. Fe ŵyr pawb—ac fe ŵyr hithau—ei bod yn brydferth, a bod hyd yn oed ei balchder yn gweddu iddi. Piti na faswn i yn ŵr bonheddig! Mae'i thad, fe ddywedir, yn gyfoethog, ac yn meddwl llawer ohoni. Digon naturiol. Felly 'rydw inne. Capten Trefor, faint o bris yr ydech chi'n i roi ar Miss Susi? Felly. Enoc Huws ydi'r highest bidder! Ond golygwn fod hynny'n bosibl, a hyd yn oed yn debygol, a hyd yn oed yn ffaith,. be fydde'r canlyniad? Yn y lle cyntaf, fe fyddai raid troi Marged i ffwrdd, a bydde raid cael dau blismon at hynny. Yn y lle nesa, ail ddodrefnu'r tŷ os nad cael darn newydd ato. Yn nesa at hynny, fe âi'r tipyn arian sy genni, a holl broffit y busnes, i gadw style! Am ba hyd y medrwn i ddal? am flwyddyn, hwyrach. Ond, ie, dyna ffaith sobr i'w deud,—pe byddai hynny'n bosibl, fe gâi pob ffyrling fynd am fyw gyda hi a'i galw yn Mrs. Huws ddim ond am flwyddyn, ac os bu fiŵl erioed, Enoc Huws ydyw hwnnw! Ond aros di, Enoc, 'chei di ddim bod yn ffŵl ddim yn hwy—mi rown ben ar y meddyliau gwag yna ar ôl heno. Ni awn i feddwl am rywun arall mwy tebyg a chyfaddas i 'neud gwraig i siopwr——rhwfun na 'neith hi ddim creu revolution, ac na fydd ganddi gywilydd mynd y tu ôl i'r counter, a rhwfun a fydd yn ymgeledd ac yn gysur i mi. Ond yr wyt wedi deud fel yna lawer gwaith o'r blaen; do; ac yr ydw i am neud ar ôl heno, deued a ddelo! Holo! pwy sydd yna rwan? Ydi'r siop ddim wedi bod yn agored trwy'r dydd, tybed? Ond mae'n rhaid i ryw bobol gael blino dyn ar ôl adeg cau. A'r un rhai bob amser . . . "

Felly y siaradai Enoc ag ef ei hun.

PENNOD XI

O Boptu'r Gwrych.

RHOES у curo ar y drws ben ar ymson Enoc. Clywid Marged yn ei llusgo ei hun ar hyd y lobi, gan rwgnach. Gwrandawai Enoc yn astud gan ddisgwyl clywed Marged yn cyhoeddi'r ddeddf uwch ben Mrs. Bennet neu Murphy am aflonyddu ar ôl adeg cau. Yn lle hynny clywai hi yn dweud: “ Dowch i mewn," ac yn ebrwydd agorodd Marged ddrws yr offis, yn ôl ei harfer, heb guro, ac ebe hi:

"Dowch i mewn 'y ngeneth i. Mistar—O! 'r annwyl dirion! rydech chi wedi bod yn smocio yn ddigydwybod—. rydech chi'n siŵr o'ch lladd ych hun rw ddiwrnod! Dyma lythyr oddi wrth Capten Trefor, a ma'r eneth yma isio ateb."

Da i Enoc oedd fod haen o flawd ar ei wyneb, oblegid oni bai hynny buasai Marged a'r eneth yn sylwi ei fod wedi gwelwi y foment y crybwyllwyd enw Capten Trefor. Gyda dwylo crynedig agorodd Enoc y llythyr, a darllenodd ef. Ni chynhwysai ond ychydig eiriau:

TŶ'N YR ARDD.

ANNWYL SYR,—Os nad ydyw yn ormod o'r nos, ac os nad ydych yn rhy flinedig ar ôl eich amrywiol orchwylion, ac os nad oes gennych gwmni na ellwch yn gyfleus eu gadael, teimlwn yn dra rhwymedig i chwi pe cerddech cyn belled ag yma, gan fod arnaf eisiau ymddiddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau. Disgwyliaf air gyda'r gennad.

Yr eiddoch yn gywir,
RICHARD TREFOR.

Gyda chryn anhawster y gallodd Enoc ysgrifennu gair i'w anfon gyda'r eneth i ddywedyd y deuai i Dŷ'n yr Ardd ymhen hanner awr. Cafodd ddigon o bresenoldeb meddwl i nodi "hanner awr" er mwyn cael amser i ymolchi ac ymwisgo. Gofynnodd Enoc i Marged am gannwyll.

"Be sy gan y Capten isio gynnoch chi, Mistar?" gofynnai Marged gyda'i hyfdra arferol.

"Busnes," ebe Enoc yn frysiog, gair a arferai actio ar Marged fel talisman. Ond nid oedd ei effeithiau, y tro hwn, lawn mor foddhaol, ac ebe hi:

"Busnes, yr adeg yma o'r nos? pa fusnes sy gynnoch chi i'w 'neud rwan?

"Mae'r Fly Wheel Company wedi mynd allan o'i latitude, a mae rhywbeth y mater efo'r bramoke," ebe Enoc yn sobr.

Nid oedd gan Marged, wrth gwrs, ddim i'w ddweud yn erbyn hyn, a chyrchwyd y gannwyll ar unwaith. Ond yr oedd meddwl Enoc yn gynhyrfus iawn, a'i galon yn curo'n gyflym, a'i nerfau fel ffactri. Wedi iddo ymolchi, gorchwyl mawr oedd gwisgo ei ddillad gorau, a phan geisiai roi coler lân am ei wddf tybiodd na allai byth ddyfod i ben, gan mor dost y crynai ei ddwylo. Meddyliodd, fwy nag unwaith, y buasai raid iddo alw ar Marged i'w helpu. Llwyddodd o'r diwedd, ond nid cyn bod y chwys yn berwi allan fel pys o'i dalcen. Wedi ei dwtio ei hun orau y gallai prysurodd i lawr y grisiau, ac er ei syndod y peth cyntaf a welai oedd Marged gyda nodyn Capten Trefor yn ei llaw ac yn ei simio fel pe buasai yn ceisio ei ddarllen, er na fedrai hi lythyren ar lyfr. Pleser Enoc a fuasai rhoi bonclust iddi, ond fe'i ffrwynodd ef ei hun fel y gwnaethai gannoedd o weithiau o'r blaen.

"Mi faswn inne'n licio bod yn sgolor, Mistar, gael i mi ddallt busnes," ebe Marged yn ddigyffro wrth roi'r nodyn ar y bwrdd a gadael yr ystafell.

"Yr ydych chi'n ddigon o sgolor gen i, yr hen gwtsach," ebe Enoc rhyngddo ag ef ei hun wrth roi ei esgidiau.

Cyn cychwyn allan darllenodd Enoc lythyr Capten Trefor eilwaith, a phan ddaeth at y geiriau—nad oedd wedi sylwi'n fanwl arnynt o'r blaen: "Mae arnaf eisiau ymddiddan â chwi ar fater pwysig i chwi ac i minnau," gwridodd at ei geseiliau. Beth allai fod ystyr y geiriau hyn? gofynnai Enoc. A oedd yn bosibl fod ei feddyliau am Miss Trefor, drwy ryw ffordd nas gwyddai ef, wedi dyfod yn hysbys i'r Capten? Teimlai Enoc yn sicr nad ynganasai air am hyn wrth neb byw. Ac eto rhaid bod y Capten wedi dyfod i wybod y cwbl. A oedd ei wyneb neu ei ymddygiad wedi ei fradychu? neu a oedd rhywun wedi darllen ei du mewn ac wedi hysbysu'r Capten o hynny? Yr oedd y Capten ei hun yn ŵr craff iawn, ac, efallai, yn dipyn o thought reader. Tybed ei fod wedi ei gael allan, ac yn ei wahodd i Dŷ'n yr Ardd i'w geryddu am ei ryfyg? A oedd ef ei hun wedi bod yn siarad yn ei gwsg, a Marged wedi ei glywed, a hithau wedi bod yn clebar? A chant a mwy o gwestiynau ffolach na'i gilydd a ofynnodd Enoc iddo ei hun, ac edifarhaodd yn ei galon addo mynd i Dŷ'n yr Ardd. Meddyliodd am lunio esgus dros dorri ei addewid, ac anfon nodyn gyda Marged i'r perwyl hwnnw. Ond cofiodd yn y funud na allai hi wisgo 'i hesgidiau oherwydd bod ei thraed yn chwyddo tua'r nos, ac na ddeuent i'w maint naturiol hyd y bore. Yr oedd yr hanner awr ar ben, ac yr oedd yn rhaid iddo fynd neu beidio. Edrychodd yn y drych a sylwodd fod ei wyneb yn edrych yn gul a llwyd, ac yn debyg o wneud argraff ar y neb a'i gwelai na byddai ei berchen fyw yn hir. Rhwbiodd ei fochau, a chrynhôdd hynny o wroldeb a feddai, a chychwynnodd. Gobeithiai pa beth bynnag arall a ddigwyddai, na welai Miss Trefor mono y noson honno. Teimlai mai dyma'r ymdrech fwyaf a wnaethai erioed, a bod ei ddedwyddwch dyfodol yn dibynnu'n hollol ar yr ymweliad hwn. Arferai ei alw ei hun yn "hen gath," ond ni ddychmygodd ei fod y fath hen gath hyd y noswaith hon, oblegid pan gurai ddrws Ty'n yr Ardd teimlai ei goesau'n ymollwng dano, a bu raid iddo bwyso ar y mur rhag syrthio. Arweiniwyd ef i'r smoke room; ac nid anhyfryd gan Enoc oedd canfod nad oedd neb yno ond y Capten a Mr. Denman. Yr oedd Mr. Denman wedi ei ddwyn yno yn ddiamau, meddyliai Enoc, fel tyst, a theimlai fod y mater wedi cymryd gwedd bwysig ym meddwl y Capten, ac ni fu well ganddo erioed gael cadair i eistedd arni.

"Rhaid," ymsyniai Enoc, "fod y Capten yn edrych yn ffafriol ar y peth, neu ynte y mae yn rhagrithio er mwyn cael y gwir."

"Yr wyf yn gobeithio, Mr. Huws," ebe'r Capten, "eich bod yn iach, er, mae'n rhaid i mi ddweud—'dydi hynny ddim yn compliment, mi wn—fy mod wedi'ch gweled yn edrych yn well. Gweithio'n rhy galed yr ydych, mi wn. Yr ydych chwi, y bobl yma sy'n gwneud yn dda, mae arnaf ofn, yn gosod gormod ar yr hen gorffyn. Mae'n rhaid i'r corff gael gorffwys, neu mae'n rhaid talu'r dreth yn rhywle. Rhaid edrych, fel y byddant yn dweud, ar ôl number one. Mae'ch busnes yn fawr, mi wn, ac mae'n rhaid i rywun edrych ar ei ôl. Ond byddwch yn ofalus, Mr. Huws. Mi fyddaf bob amser yn dweud nad gwneud arian ydyw popeth yn yr hen fyd yma; ac er bod yn rhaid eu cael (Mae arno isio gwbod faint ydw i werth,' ebe Enoc ynddo ei hun), mae eisiau i ni gofio bob amser fod byd ar ôl hwn, onid oes, Mr. Denman? Er mai'n dyletswydd yw gwneud y gorau o'r ddau fyd, mae eisiau i ni gymryd gofal o'r corffyn, fel y dywedais, a pheidio, pan fo'r haul yn gwenu arnom, â syrthio i fedd anamserol. Yr wyf yn meddwl, Mr. Huws—maddeuwch fy hyfdra—mai dyna ydyw eich perygl chwi. Mae'r byd yn gwenu arnoch (Mae o'n trio pympio,' meddyliai Enoc), ond cofiwch na ddeil eich natur ond hyn a hyn o bwysau, ac os rhowch ormod o power ar y machinery mae'n siŵr o dorri."

"Yr wyf—yr wyf yr wyf—wedi— prysuro—tipyn—achos 'doedd arna i ddim—isio'ch—cadw chi, Capten Trefor—yn aros amdanaf. Yn wir—'rwyf—wedi colli 'ngwynt—allan o bwff—fel y byddan nhw'n deud—a minnau ddim—yn rhw Samson o ddyn," ebe Enoc gydag anhawster.

"Chwi fuoch yn ffôl, Mr. Huws," ebe'r Capten, "achos nid ydyw hanner awr nac yma nac acw yr adeg yma ar y nos. Nid oedd eisiau i chwi brysuro o gwbl; yn wir, y fi ddylasai ddyfod atoch chwi, Mr. Huws, oblegid y mae â fynno'r peth yr wyf am gael ymddiddan â chwi yn ei gylch fwy â mi—yn yr oed yr ydw i ynddo—nag â chwi. Yn y gwanwyn nesaf, os Duw a'i myn, mi fyddaf yn—wel, yn f'oed i fe ddylai dyn wybod rhywbeth— mae ei feddwl wedi ei wneud i fyny, ac nid ychydig wneith ei droi" ("Mae hi'n edrach yn ddu arna' i,' sibrydai Enoc yn ei galon).

"Mae'r mater, Mr. Huws," ychwanegai'r Capten, "y mae arnaf eisiau ymddiddan difrifol â chwi yn ei gylch yn agos iawn at fy nghalon, fel y gŵyr Mr. Denman. Mewn ffordd o siarad, dyma f'unig blentyn, a pha beth bynnag a fydd eich penderfyniad chwi nid wyf am ollwng fy ngafael ohono. (Mae hi yn y pen arna' i,' meddyliai Enoc). Mae Mr. Denman, fel y gwyddoch, Mr. Huws, yn dad i blant, a rhaid iddo ef, fel finnau, gymryd y dyfodol a chysur ei deulu i ystyriaeth, ac y mae ef o'r un meddwl à mi yn hollol ar y pwnc yma. 'Dydi'r mater, Mr. Huws, ddim yn beth newydd i mi—nid rhywbeth er doe neu echdoe ydyw. (Digon gwir,' meddyliai Enoc, ond sut yn y byd y daeth o i wybod?') Na, yr wyf wedi colli llawer noswaith o gysgu o'i herwydd, er na chrybwyllais i air am y peth hyd yn oed wrth Mrs. Trefor, y dylaswn fod wedi ei hysbysu gyntaf, gan ei fod yn dwyn cysylltiad â hi lawn cymaint â mi fy hun, cyn belled ag y mae cysur teuluaidd yn y cwestiwn. Ond chwi wyddoch, Mr. Huws, er mai hen lanc ydych—begio'ch pardwn, 'dydech chi ddim yn hen lanc eto, nac yn meddwl bod yn un, gallwn dybied—ond er mai dyn dibriod ydych, chwi wyddoch nad ydyw merched yn edrych ar bethau fel mae dynion yn edrych. Edrych y mae merched trwy eu calonnau—sentiment ydyw'r cwbl ond y mae'n rhaid i ni, y dynion, edrych ar bethau trwy lygad rheswm. Sut yr wyf yn teimlo? ydyw gofyniad merch, ond sut y dylai pethau fod? ydyw gofyniad dyn. ('Mi liciwn bydae o yn dwad at y pwynt, a darfod â fo,' meddai Enoc yn ei frest). Ond dyna yr oeddwn yn ei ddweud, 'dydi'r mater y mae arnaf eisiau ymddiddan â chwi yn ei gylch ddim yn beth newydd i mi, a Mr. Denman ydyw'r unig un y soniais i air erioed wrtho amdano, onid e, Mr. Denman?"

"Ie," ebe Mr. Denman, " ac y mae'n rhaid i mi ddweud bod y Capten yn ddyn llygadog iawn. Prin yr oeddwn yn credu'r peth yn y dechrau ; ond y mae'r Capten o ddifrif, ac yn benderfynol gyda golwg ar y peth, a fi ddaru ei annog i anfon amdanoch yma heno. Yr oeddwn yn meddwl mai gwell oedd iddo eich gweled, Mr. Huws, ar y mater, nag ysgrifennu llythyr atoch."

"Yn hollol felly," ebe'r Capten. "Yr oeddem ein dau yn cydfeddwl mai gwell oedd i ni ddyfod i wynebau'n gilydd er mwyn cael dealltwriaeth briodol ar y pwnc. Hwyrach, Mr. Huws, yn wir, mae'n ddiamau, y bydd raid i ni yn y drafodaeth hon—hyd yn oed os byddwch yn cydymffurfio â'm cais—gael rhywun arall i mewn, megis Mr. Lloyd, y twrne, er y dymunwn ei gyfyngu i'r cylch lleiaf sydd yn bosibl. (Marriage Settlement mae o'n 'i feddwl, 'ddyliwn,' ebe Enoc yn ei frest, a churai ei galon yn gyflymach). Yr wyf, gyda thipyn o gyfrwystra, Mr. Huws," ychwanegai'r Capten, wedi sicrhau'r virgin ground, fel y dywedir. (Diolch! os ydi hi yn fodlon, ond yr wyf just a ffeintio,' ebe Enoc ynddo'i hun). Ond y cwestiwn ydyw a fyddwch chwi, Mr. Huws, yn fodlon i ymgymryd â'r anturiaeth, hynny ydyw, os llwyddaf i ddangos i chwi'r fantais o hynny?

Yr oedd Enoc ar fedr dweud y byddai'n fodlon, pryd yr ychwanegodd y Capten, "Mae arnaf ofn, Mr. Huws, nad ydych yn teimlo yn iach—mae'ch gwedd yn dangos hynny yn eglur—dowch ymlaen yma, syr, a gorweddwch ar y soffa am funud—yr ydych wedi gwneud gormod, a'r ystumog, hwyrach, allan o order. Gorweddwch, Mr. Huws, mi geisiaf rywbeth i'ch dadebru."

Teimlai Enoc ei hun yn hollol ddiymadferth, ac ufuddhaodd i anogaeth y Capten. Er ei fod yn ddig enbyd wrtho'i hun am ei fod y fath "hen gath," teimlai'n sicr ei fod yn llesmeirio. Agorodd y Capten ddrws yr ystafell a gwaeddodd yn uchel:

"Susi, dowch â thipyn o frandi yma ar unwaith."

"Na, na," ebe Enoc, oblegid nid oedd yn llesmeirio, "mi fyddaf yn iawn yn union deg."

"Mae'n rhaid i chwi, Mr. Huws, gymryd rhywbeth i'ch dadebru—yr ydych wedi gwneud gormod," ebe'r Capten.

Gan dybied mai ar ei thad yr oedd angen y brandi, daeth Susi yn frysiog i'r ystafell gyda'r quantum arferol, oedd, a dweud y lleiaf, yn "stiff." Synnodd Susi yn fawr pan welodd Enoc Huws ar y soffa, a'i wyneb cyn wynned â'r galchen, a chynhyrfwyd ei chalon, oblegid yr oedd gan hyd yn oed Miss Trefor galon, ac ebe hi yn dyner :

"O, Mr. Huws bach! 'rydech chi'n sâl. O! mae'n ddrwg gen i ydi'n wir! Cymerwch hwn, Mr. Huws bach, dowch," a rhoddodd ei braich am ei wddf i'w gynorthwyo i godi ei ben.

Yr oedd Enoc yn Nasaread o'r groth; ond sut y gallai ef wrthod? Crynai ei law gymaint fel na allai ddal y gwydryn yn wastad, a chymerodd Susi y llestr yn ei llaw ei hun, gan ei osod wrth ei enau. Mor boeth oedd y gwirod, ac Enoc yntau heb erioed o'r blaen brofi'r fath beth, fel y neidiodd y dagrau i'w lygaid wrth iddo ei lyncu.

"Peidiwch â chrio, Mr. Huws bach, mi ddowch yn well toc; dowch, cymerwch o i gyd," ebe Susi yn garedig neu yn ystrywgar.

A'i gymryd a wnaeth; a phe buasai cynhwysiad y gwydryn yn wenwyn marwol, ac yntau'n gwybod hynny, ni allsai ei wrthod o'r llaw wen, dyner honno.

"Gorweddwch yrwan, Mr. Huws bach, ac mi ddowch yn well yn y munud," ebe Miss Trefor.

"Diolch," ebe Enoc yn floesg. Yn y man, teimlai ei hun yn hapus dros ben. Ymhen ychydig funudau, teimlai yn awyddus i roi cân, a lled—ddisgwyliai i rywun ofyn iddo ganu, a dechreuodd sugno ei gof pa gân a fedrai orau, a phenderfynodd ar Aderyn Du Pigfelyn," os gofynnid iddo. Gan nad oedd neb yn gofyn iddo ganu, ni thybiai yn weddus gynnig ohono ei hun. Wedi hir—ddisgwyl, daeth drosto deimlad o syrthni, ond ofnai gau ei lygaid rhag y buasai'n cysgu, oblegid cofiai ei fod yn chwyrnwr, ac ni fynasai am fil o bunnau i Susi wybod ei fod yn perthyn i'r rhyw hwnnw o greaduriaid. Tybiai, weithiau, ei fod mewn clefyd, a phryd arall, mai breu— ddwydio yr oedd. Ond ni allai fod yn breuddwydio, canys yr oedd yn sicr fod Susi, Capten Trefor, a Mr. Denman, yn edrych arno. Weithiau ymddangosent ymhell iawn oddi wrtho, ac yn fychain iawn; bryd arall, yn ei ymyl—yn boenus o agos—yn enwedig y Capten a Mr. Denman. Teimlai'n awyddus i siarad â Susi, a dweud ei holl feddwl wrthi, a gwyddai y gallai wneud hynny yn hollol ddiofn a hyderus, oni bai ei fod yn gweled ei thad a Mr. Denman o flaen ei lygaid. Yr oedd yn berffaith sicr yn ei feddwl ei fod ar delerau da â phob dyn ar wyneb daear, ac y gallai wneud araith ar unrhyw bwnc yn hollol ddifyfyr! Am ba hyd y bu yn y cyflwr hwn ni fedrodd byth gael allan, ac ni hoffai gofio'r amgylchiad. Gwylid ef yn fanwl gan y Capten, Susi, a Mr. Denman, a phan welsant arwyddion ei fod yn dyfod ato ei hun, ebe'r Capten:

"Sut yr ydych yn teimlo erbyn hyn, Mr. Huws?"

"Yn iawn," ebe Enoc.

"Mi wyddwn," ebe'r Capten, "y gwnaethai dropyn ddaioni i chwi; a chan ei fod wedi gwneud daioni i Mr. Huws, paham, Susi, na wneith o ddaioni i minnau? ac wedi i chwi ei estyn i mi, chwi ellwch chwi, Susi, fynd, gael i ni orffen y busnes, hynny ydyw, os ydyw Mr. Huws yn teimlo yn barod i fynd ymlaen." "Certainly," ebe Enoc yn fywiog, " yr ydw i yn barod i entro i unrhyw arrangement rhesymol; ac yr ydw i yn addo i chi, Capten Trefor, pan ddown i berthynas agosach, os byth y down, na chewch y drafferth a gawsoch gyda fi heno. Fûm i 'rioed yn teimlo 'run fath o'r blaen. Yn gyffredin, yr ydw i'n ddyn lled gryf, ac yn gweithio cyn gleted ag odid neb, ond fedrwn i rywfodd mo'i —

"Dyna ydyw eich bai, Mr. Huws," ebe'r Capten, cyn i Enoc gael gorffen y frawddeg—" gweithio yn rhy galed yr ydych, a dyna pam y dylai gŵr fel chwi—(thank you, Susi, chwi ellwch chwi fynd yrwan)—ie, dyna pam y dylai gŵr fel chwi gael rhywun i gymryd rhan o'ch baich. a'ch gofal, ac i edrych ar ôl eich cysuron. Dyma ydyw eich angen mawr, Mr. Huws, ac ond i chwi wneud yr angen yna i fyny, chwi fyddech yn ddyn dedwydd. Beth a ddaethai o honof i, syr, oni bai am Mrs. Trefor? Buaswn yn fy medd ers llawer dydd. Maddeuwch y sylw, Mr. Huws, ond, fe ddylai dyn sydd wedi cyrraedd ei—wel, dyweder f'oed i, fod yn dipyn o philosopher. 'Dydw i fy hun yn gweled dim diben, nac amcan teilwng o ddyn, mewn bywyd sengl. Chwi wyddoch, Mr. Huws— oblegid yr ydych chwi, fel fy hunan, yn un sydd wedi darllen llawer—pan fo dyn yn ymdroi ynddo ei hun, mewn ymchwiliad am ddedwyddwch, ei fod bob amser yn methu ei gael; ond pan gyfeiria ei ymdrechion at wneud eraill yn ddedwydd, mai dyma'r pryd yr enilla hunan—ddedwyddwch. Er enghraifft—oblegid nid oes dim yn well nag enghraifft—pe buaswn i wedi gwneud hunan—ddedwyddwch yn brif amcan fy mywyd, a phe buasai Mrs. Trefor wedi gwneud yr un modd, buasem ein dau yn rhwym o fod wedi aflwyddo. Ond gan mai amcan mawr bywyd Mrs. Trefor a minnau ydyw gwneud y naill y llall yn hapus, yr ydym wedi ennill ein dedwyddwch yn ein gilydd. Ac y mae hyn yn hollol gyson â dysgeidiaeth ein Harglwydd am hunanymwadiad, pa mor hwyrfrydig bynnag ydyw'r byd i gredu yr athrawiaeth honno. Onid felly y mae pethau'n bod, Mr. Denman?"

"'Chlywes i neb yn gosod y peth yn fwy teidi. Un garw ydech chi, Capten," ebe Mr. Denman, er ei fod yn meddwl ers meityn am y derbyniad a gaffai gan Mrs. Denman pan âi adref.

"Na," ebe'r Capten, "'does dim eisiau i ddyn fod yn un garw i ddarganfod y gwirionedd yna, ac yr wyf yn mawr hyderu y bydd Mr. Huws ei hun yn brofiadol o'r peth cyn nemawr o fisoedd. (Mae o am hyrio'r briodas ond waeth gen' i pa mor fuan,' ebe Enoc ynddo'i hun.) Ond y mae'n bryd i mi ddyfod at y pwnc," ychwanegai'r Capten.

"Ydi," ebe Enoc, "ac yr ydw i'n berffaith barod, a gore po gyntaf y down ni i understanding efo'n gilydd."

"Wel," ebe'r Capten, "yr wyf wedi ymdroi yn lled hir cyn dyfod at y pwnc (Gynddeiriog,' ebe Enoc yn ei frest), ond buaswn wedi dyfod ato yn gynt oni bai— wel, 'does dim eisiau sôn am hynny eto. Ond dyma ydyw'r pwnc, Mr. Huws (daliai Enoc ei anadl). Chwi wyddoch—nid oes neb a ŵyr yn well—ac eithro Mr. Denman, a mi fy hunan, hwyrach—fod Gwaith Pwll y Gwynt wedi, ac yn bod, yn brif gynhaliaeth y gymdogaeth y gwelodd rhagluniaeth yn dda i'ch llinynnau chwi a minnau ddisgyn ynddi. Ac efallai "—ac yn y fan hon yr ymollyngodd y Capten i lefaru.

PENNOD XII

Dechrau Amgyffred y Sefyllfa.

YMOLLYNGODD y Capten i lefaru, fel y dywedwyd, ac ebe fe:

"Efallai, Mr. Huws, a chymryd popeth i ystyriaeth, y gellwch chwi a minnau ddweud fod ein llinynnau wedi disgyn mewn lleoedd tra hyfryd, a dichon y gall Mr. Denman fynd lawn cyn belled â ni yn y ffordd yna. Er bod gennyf lawer o destunau diolch, hwyrach fwy na'r cyffredin o ddynion, nid y lleiaf, Mr. Huws, ydyw fy mod, fel offeryn gwael yn llaw Rhagluniaeth, wedi cael y fraint o fod mewn cysylltiad, a'r cysylltiad hwnnw heb fod yn un dirmygus, â gwaith a fu yn foddion— os nad yn uniongyrchol, yn sicr, yn anuniongyrchol— i roddi tamaid o fara i rai cannoedd o'n cydgenedl, ac i helpu eraill i ddarparu ar gyfer diwrnod glawog—ymhlith y rhai olaf yr wyf yn eich ystyried chwi, Mr. Huws,—a hefyd cysylltiad a fu'n foddion, nid yn unig i ddarparu ar gyfer y corff, ond, mewn ffordd o siarad, ac yn wir, fel mater o ffaith, a fu'n gefn ac yn swcwr i anghenion ysbrydol y gymdogaeth, drwy ein galluogi mewn gweinidogaeth gyson a difwlch—beth bynnag a ddywedwn am ei hansawdd,—i ddiwallu, neu o leiaf, i roddi cyfleustra i ddiwallu, anghenion yr enaid, yr hyn, mae'n rhaid i ni oll gydnabod, ydyw'r peth pennaf, pa un a ystyriwn ni bersonau unigol neu gymdeithas fel cymdeithas." ("I b'le yn y byd mawr mae o'n dreifio 'rwan?" gofynnai Enoc iddo ei hun.) Hwyrach," ychwanegai'r Capten, "na byddwn ymhell o'm lle pe dywedwn mai Pwll y Gwynt ydyw asgwrn cefn y gymdogaeth hon mewn ystyr fasnachol, a hwyrach na chyfeiliornwn pe dywedwn hefyd eich bod chwi, ymysg eraill, wedi manteisio nid ychydig oddi wrth y Gwaith. Wel, syr, ffordd hir ydyw honno nad oes tro ynddi, fel y dywed y Sais, ac, fel yr wyf eisoes wedi egluro i Mr. Denman, orau y gallwn i, cyn i chwi ddyfod i mewn, nid peth amhosibl, nac, yn wir, annhebygol, y gwelwch chwi a minnau'r dydd, er ein bod yn gobeithio'r gorau, pan fydd Pwll y Gwynt, mewn ffordd o siarad, a'i ben ynddo—nid am nad oes yno blwm, ac nid—er mai fi sydd yn dweud hynny—am nad ydyw'r Gwaith yn cael edrych ar ei ôl—cyn belled ag y mae'n bosibl edrych ar ei ôl pan fo dyn dan reolaeth estroniaid, nid yn unig o ran iaith, ond o ran profiad a gwybodaeth ymarferol, fel y gŵyr Mr. Denman. Mi welaf ar eich gwedd, Mr. Huws, eich bod wedi'ch cymryd by surprise, fel y dywedir, a hynny'n ddigon naturiol. Ond cofiwch nad ydwyf yn hysbysu hyn i chwi fel mater o ffaith; yn wir, yr wyf yn gobeithio na chymer hynny le yn eich oes chwi a minnau. Ond, fel y dywedais cyn i chwi ddyfod i mewn, fyddai ddim. yn rhyfedd gennyf—yn wir, mae gennyf sail i ofni mai i hynny y daw hi—fyddai ddim yn rhyfedd gennyf bydae'r Saeson yna—a chwi wyddoch, Mr. Huws, mai Saeson ydyw'r cwbl o'r cwmpeini, oddieithr Mr. Denman a mi fy hunan, fel mae'r gwaethaf, ac fe ŵyr Mr. Denman pam yr wyf yn dweud fel mae'r gwaethaf,'—fyddai ddim yn rhyfedd gennyf, meddaf, bydae'r Saeson yna yn rhoi'r Gwaith i fyny cyn pen y mis, er y byddai hynny yn un o'r pethau ffolaf ar wyneb daear, ac yn groes iawn i'm meddwl i—nid yn unig am y dygai hynny deuluoedd lawer i dlodi, ac y teimlai'r gymdogaeth oddi wrtho yn dost, ond am y byddai'n sarhad, i raddau mwy neu lai, ar fy ngharitor i yn bersonol, oherwydd fy mod ar hyd y blynyddoedd, fel y gwyddoch, yn dal i ddweud, ac mi ddaliaf eto i ddweud, bod ym Mhwll y Gwynt blwm, a phlwm mawr, pe cymerid y ffordd iawn i fynd ato. (Beth sydd â wnelo hyn i gyd â Susi a minnau?' gofynnai Enoc iddo ei hun.) Nid oes amser heno, Mr. Huws, i fynd i mewn i fanylion, ac nid oes eisiau i mi ddweud bod hyn i gyd in confidence, ar hyn o bryd, beth bynnag. Ond y tebygolrwydd ydyw y bydd diwedd buan ar Bwll y Gwynt, a phryd bynnag y digwydd hynny—hwyrach, ymhen y mis, neu ymhen y flwyddyn ond pa bryd bynnag, fe ellir crynhoi'r rheswm amdano i hyn—fel y gŵyr Mr. Denman—am na allaf gael fy ffordd fy hun, a bod y Saeson sydd yn byw yn Llunden yn meddwl y gwyddant sut i weithio Pwll y Gwynt yn well nag un sydd wedi treulio hanner ei oes dan y ddaear. I mi, Mr. Huws, ei roi i chwi mewn cneuen, mae'r cwbl yn dyfod i hyn—na allaf gael fy ffordd fy hun o drin y Gwaith. Fy ffordd i a fuasai cario'r Gwaith ymlaen, a hynny ar ddull hollol wahanol i'r ffordd y cerrir ef ymlaen yn awr, nes dyfod o hyd i'r plwm, sydd yno mor sicr a'ch bod chwi a minnau yma Ond ffordd pobl Llunden fydd, mae arnaf ofn, rhoi'r Gwaith i fyny, am nad oes ganddynt amynedd i aros. Mi welaf, Mr. Huws, y bydd raid i mi brysuro, er y buasai yn dda gennyf fyned i mewn yn fanylach i'r pethau. Y pwnc ydyw hwn: 'does dim yn well na bod yn barod ar gyfer y gwaethaf.” (Yr oedd Enoc yn dechrau canfod i ba gyfeiriad yr oedd y gwynt yn chwythu, ac yr oedd wedi oeri gryn raddau.) Rhag ofn mai'r gwaethaf a ddaw—rhag ofn mai â'i ben ynddo y cawn Bwll y Gwynt, a hynny ar fyrder, ac er mwyn, os digwydd hynny, gwneud rhyw ddarpariaeth ar gyfer y degau o deuluoedd sydd yn dibynnu'n hollol ar y Gwaith, ac, yn wir, er mwyn masnachwyr ac eraill, yr wyf wedi sicrhau—nid gyda golwg ar hunan—les, cofiwch, oblegid mi gaf i damaid, tybed, am yr ychydig sydd yn weddill o'm hoes i, ac fe ddylai pob dyn yn f'oed i fod uwchlaw angen nid er fy mwyn fy hun, meddaf, yr wyf wedi sicrhau'r virgin ground—neu, mewn geiriau eraill, lle y gallwn, gydag ychydig gynhorthwy, agor Gwaith newydd—nid ar yr un scale, mae'n wir, â Phwll y Gwynt—ond Gwaith, gydag ychydig gannoedd o bunnau o gost, a ddôi i dalu amdano ei hun mewn byr amser, ac, yn y man, a roddai foddion cynhaliaeth i rai ugeiniau o weithwyr, a gwell na'r cwbl, yn fy ngolwg i, Gwaith na byddai gan Saeson na phobl Llunden ddim i'w ddweud wrtho, a lle gallwn gael fy ffordd fy hun o'i ddwyn ymlaen ; ac fe ŵyr Mr. Denman pe cawswn i fy ffordd fy hun gyda Phwll y Gwynt ym mha le y buasem erbyn hyn. Yn awr, Mr. Huws, fe ddarfu i Mr. Denman a minnau ben— derfynu rhoddi'r cynigiad cyntaf i chwi oddi ar yr eg— wyddor nes penelin nag arddwrn!' Os gallwn wneud lles i rywrai yr oeddym yn ystyried y dylem roddi'r cynnig cyntaf i'n pobl ni ein hunain. Beth meddwch chwi, Mr. Huws? A ydych yn barod—oblegid mi wn fod y moddion gennych—a ydych yn barod er eich mwyn eich hun er mwyn y gymdogaeth ac yn bennaf oll er mwyn achos crefydd—i ymuno â Mr. Denman a minnau i gymryd shares yn y Gwaith newydd? Yr ydych—os na ddarfu i mi eich camddeall eisoes wedi datgan eich parodrwydd, os gallwn lwyddo i ddangos y byddai hynny er eich lles personol a lles y gymdogaeth yn gyffredinol. Ond peidiwch ag addo'n rhy fyrbwyll— cymerwch noswaith i gysgu dros y mater, oblegid ni ddymunwn am ddim ar a welais arfer dylanwad amhriodol arnoch—yn wir, byddai'n well gennyf i chwi wrthod, os na fedrwch ymuno â ni yn yr anturiaeth hon o wirfodd eich calon."

Tra'r oedd y Capten yn llefaru'r rhan olaf o'i araith yr oedd Enoc Huws mewn tipyn o benbleth yn ceisio galw i'w gof bob gair a ddywedasai ei hun yn ystod yr ymddiddan, ac a oedd wedi ei fradychu ei hun, a rhoddi ar ddeall mai am rywbeth arall y meddyliai tra'r oedd y Capten yn sôn am waith mwyn. Teimlai Enoc yn sicr ei fod wedi dweud rhywbeth am fod yn "barod i entro i arrangement â chynigion y Capten cyn gwybod pa beth oeddynt, a phan ddeallodd ei fod ef a'r Capten un o bobtu'r gwrych, teimlai anhawster mawr i'w esbonio ei hun a dyfod allan o'r dryswch. Yr oedd anhraethol wahaniaeth, meddyliai Enoc, rhwng cymryd shares mewn gwaith mwyn, a chymryd merch y Capten yn wraig. A theimlai yn enbyd o ddig wrtho'i hun am na ddeallasai rediad ysgwrs y Capten yn gynt. Arbedasai hynny iddo hanner llesmeirio, ac, yn sicr, ni fuasai wedi dweud ei fod yn barod "i entro i unrhyw arrangement rhesymol," nac wedi sôn am "berthynas agosach," phethau ffôl felly, pe gwybuasai am ba beth y siaradai'r Capten. Pan ofynnodd y Capten y cwestiwn yn syth iddo, nid oedd Enoc yn gweled ei ffordd yn glir i ddyfod allan o'r dryswch, ac er mwyn cael amser i fyfyrio, anogodd y Capten i egluro'n fanylach, yr hyn a wnaeth y gŵr hwnnw mewn brawddegau hirion, baglog a chwmpasog am ystod chwarter awr arall. Yna ebe Enoc—a theimlai ei fod yn torri ar ei arferiad cyffredin, oblegid ei arfer a fyddai dweud y gwir yn syth a gonest:

"Yr oeddwn yn dyfalu o'r dechrau, Capten Trefor, mai Gwaith mwyn oedd gennych mewn golwg, ac, fel y dywedais, pan fydd pwnc o fusnes ar y bwrdd, yr wyf bob amser yn barod i entro i unrhyw arrangement rhesymol hynny ydyw, os bydd rhywbeth yn ymddangos yn rhesymol, ac yn debyg o droi allan yn llwyddiannus—ni byddaf yn ôl o'i daclo. Ond y mae'n rhaid i'r peth ymddangos i mi yn rhesymol cyn yr ymyrraf ag ef. Hyd yn hyn, gyda busnes, nid ydwyf wedi gwneud llawer o gamgymeriadau, ac ni fûm erioed yn euog o roi naid i'r tywyllwch. Ar y llaw arall, y mae rhyw gymaint o dywyllwch ynglŷn â phob anturiaeth (cofiai Enoc o hyd am Susi), oblegid heb hynny ni fyddai yn anturiaeth o gwbl; ac weithiau, mae'r tywyllwch ym meddwl yr anturiaethwr ac nid yn yr anturiaeth ei hun. Gall y 'fentar' yr ydych yn sôn amdani fod yn dywyll iawn i mi, nid, hwyrach, am ei bod felly ynddi ei hun, ond am nad wyf i'n meddu llygaid Capten Trefor i'w gweled yn ei holl rannau. Hwyrach, pan ddown i berthynas agosach, os byth y daw hi i hynny, fel y dywedais o'r blaen, y bydd y 'fentar' yn ymddangos yn olau i minnau. Wrth gwrs, y mae gwaith mwyn yn beth hollol ddieithr i mi, ac felly y bu i ugeiniau o'm blaen, mi wn, cyn iddynt ymgydnabyddu â'r peth. Mi gymeraf eich cyngor, Capten Trefor, mi gysgaf dros y mater, a chawn siarad am hyn eto. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed am sefyllfa Pwll y Gwynt, ac y mae'n bwysig i mi, ac i eraill, fod rhywbeth yn cael ei ddarparu ar gyfer y gwaethaf, fel y dywedasoch."

"Mae'n dda gennyf eich clywed yn siarad fel yna, Mr. Huws," ebe'r Capten. "Mae'n well gennyf eich clywed yn deud yr ystyriwch y mater na phe buasech yn datgan eich parodrwydd i gymryd shares cyn deall pa beth yr oeddych yn ei wneud. Pan welaf ddyn amharod i roi naid i'r tywyllwch, fel yr ydych yn eich ffordd hapus eich hun yn ei eirio, ond sydd â'i glust yn agored i wrando ar reswm, mi fyddaf yn teimlo mai dyn fydd gennyf i ymwneud ag ef, ac nid hyn a hyn o bwysau o gnawd, ac mi wn, y pryd hwnnw, sut i fynd o gwmpas fy ngwaith. Pa beth a roeswn i heno, syr, pe buasai pobl Llunden, neu, mewn geiriau eraill, pe buasai Cwmpeini Pwll y Gwynt o'r un ysbryd ac ansawdd meddwl â chwi, Mr. Huws? hynny ydyw, yn agored i wrando ar reswm? Mi roddwn fy holl eiddo, syr, ffrwyth fy llafur caled am lawer o flynyddoedd, pe byddai'n bosibl eu cael i'r un dymer meddwl â chwi, Mr. Huws. Ond ni adawn y mater yn y fan yna heno."

Ac felly y gwnaethpwyd, er i'r Capten lefaru cryn lawer tra'r oedd Enoc yn rhoi ei het am ei ben ac yn paratoi i fyned ymaith. Galwodd y Capten ar Susi "i ddangos Mr. Huws allan," a phan ddaeth hi ysgydwodd y Capten ddwylo ag Enoc, a chiliodd yn ôl i orffen y busnes gyda Mr. Denman.

PENNOD XIII

Carwr Trwstan.

YR oedd yn noswaith oer a niwlog, a phan agorodd Miss Trefor y drws i ollwng Enoc allan, teimlai'r olaf yr awel fel pe buasai yn cymryd croen ei wyneb ymaith.

Cymerwch ofal rhag cael annwyd, Mr. Huws, a 'rydw i'n gobeithio eich bod, erbyn hyn, wedi dwad atoch eich hun yn dda," ebe Miss Trefor.

"Cystal ag y bûm erioed," ebe Enoc, a meddyliai fod y cyfleustra wedi dyfod iddo ddweud tipyn o'i feddwl iddi. "Mi wn, o hyn allan, lle i ymorol am y doctor os digwydd i mi fynd yn sal. Wn i ddim be ddaeth drosto i—hwyrach mai hyrio gormod ddaru mi. Cymerwch chwithe ofal, Miss Trefor, a pheidiwch â dyfod allan i'r awyr oer—mi fedraf ffeindio'r gate yn burion." "O," ebe Miss Trefor, gan gerdded o flaen Enoc ar hyd llwybr yr ardd—" 'dydw i ddim yn delicate."

Teimlodd Enoc y colyn, ac ebe fe yn gyflym:

'Dydw innau ddim chwaith, fel rheol, ond faddeuwn i byth i mi fy hun pe cymerech chwi, Miss Trefor, annwyd wrth ddyfod i agor y gate i mi."

"Gobeithio," ebe Susi, "na chewch chwi byth achos i fod mor anhrugarog atoch eich hun. Os ydw i heb yr un fonet, mae gen' i ben caled, wyddoch, Mr. Huws."

"Gobeithio na ellir dweud yr un peth am eich calon, Miss Trefor," ebe Enoc, gan geisio torri'r rhew.

"Fydd 'y nghalon i, Mr. Huws, byth yn gwisgo bonet—achos 'dydi hynny ddim wedi dwad i'r ffasiwn eto," ebe Susi.

"Nid y fonet oedd yn fy meddwl, Miss Trefor, ond y cledwch," ebe Enoc.

"Mae hynny yn bur resymol, Mr. Huws, achos y mae'n haws dychmygu am gledwch yn y meddwl nag am fonet yn y meddwl," ebe Susi.

"Un arw ydech chi, Miss Trefor," ebe Enoc, heb atebiad arall yn ei gynnig ei hun i'w feddwl.

"Thank you, Mr. Huws, un arw' fyddwn ni, yn sir Fflint, yn galw un fydd yn nodedig o hyll—neu wedi ei marcio yn drwm gan y frech wen—tebyg i Marged, eich housekeeper chwi," ebe Susi.

"Digon gwir, Miss Trefor," ebe Enoc, "ond chwi wyddoch fod i rai geiriau ddau ystyr, ac nid yr ystyr —"

"Dau ystyr, Mr. Huws?" ebe Susi, cyn i Enoc gael gorffen y frawddeg—" dywedwch fod i bob gair hanner dwsin o ystyron gennych chwi, y dynion, achos 'dydech chi byth yn meddwl y peth fyddwch chi'n 'i ddeud, nac yn deud y peth fyddwch chi'n 'i feddwl, pan ddaw'ch geirie a chithe i wynebe'ch gilydd."

"Mi ddywedaf hyn," ebe Enoc, gan alw hynny o alantri oedd yn ei natur i weithrediad, "mai angel ydech chi, Miss Trefor."

"Hy!" ebe Susi, angel syrthiedig, wrth gwrs, ydech chi'n 'i feddwl, achos y mae dau ystyr i'r gair. Wel, bydaswn i yn gwybod y basech chi, Mr. Huws, mor gas wrtha i, 'chawsech chi ddiferyn o frandi—a mi gawsech farw ar y soffa, y dyn brwnt gynnoch chi. Nos dawch, Mr. Huws," a rhedodd Susi i'r tŷ.

"Wel, yr hen jaden glyfar! A bydase hi heb 'i gloywi hi, wn i ddim be faswn i'n medryd i ddeud mewn atebiad iddi," ebe Enoc wrtho ei hun, fel y cerddai yn brysur tua chartref, a'i syniadau am Miss Trefor yn uwch nag erioed. Ni feddyliodd am neb na dim ond amdani hi nes ei fod o fewn decllath i'w dŷ, pryd y croesodd Marged ei ddychymyg. Fel bachgen drwg wedi aros allan yn hwyr heb ganiatâd ei fam, teimlodd Enoc yn anghyfforddus wrth feddwl am wynebu Marged, a dechreuodd ddychmygu am ryw air melys i'w rhoi mewn tymer dda.

Dianghenraid yw dweud nad oedd dwy awr o gysgu wrth y tân wedi lliniaru na phrydferthu dim ar Marged. Pan gâi awr neu ddwy o gyntun wrth y pentan, glynai ei hamrantau wrth ei gilydd fel pe buasent wedi eu sicrhau â chŵyr crydd, a byddai raid iddi ddefnyddio ei migyrnau yn egnïol am ennyd cyn y gallai agor ei llygaid. Wedi'r oruchwyliaeth, a ffroeni'n anwydog, meinhaodd Marged ei llygaid, crychodd ei thalcen, ac edrychodd ar y cloc, ac ebe hi:

"Wel, yn eno'r rheswm annwyl, mistar, lle buoch chi tan 'rwan? Be bydaswn i ddim wedi rhoi digon ar tân, oni fase 'ma le cynnes i chi! A wn i ddim be naeth i mi feddwl am neud tân da, achos feddylies i 'rioed y basech chi allan dan berfedd nos fel hyn.'

"Yr ydech chi bob amser yn feddylgar iawn, Marged," ebe Enoc. Yn wir, mae'n biti mawr, Marged, na fasech chi wedi priodi—mi 'neuthech wraig dda, ofalus."

Edrychodd Marged yn foddhaus, ond buasai yn well i Enoc dorri ei fys a dioddef ei thafod drwg na siarad fel y darfu. Teimlai Enoc yn y dymer orau y buasai ynddi ers llawer blwyddyn. Yr oedd, o'r diwedd, wedi llwyddo i gael ei big i mewn yn Nhy'n yr Ardd, a chredai na byddai dim dieithrwch rhyngddo a Miss Trefor mwyach, ac yr oedd mwyneidd—dra Marged yn dwysáu ei ddedwyddwch nid ychydig. Awyddai'n fawr am i Marged fynd i'w gwely er mwyn iddo gael mwynhau a gloddesta ar ei feddyliau mewn unigrwydd, ac adeiladu castell newydd sbon. Ond nid oedd Marged landeg yn troi cymaint â chil ei llygaid at y grisiau. Yn hytrach, eisteddodd fymryn yn nes at ei meistr nag erioed o'r blaen, a dangosodd duedd ddigamsyniol i ymgomio yn garuaidd. Ni allai Enoc amgyffred y cyfnewidiad sydyn a dymunol a ddaethai dros ysbryd Marged. Meddyliodd fod ffawd yn dechrau gwenu arno, a bod dyddiau dedwydd eto yn ei aros. Parod iawn a fuasai i wneud heb gwmni Marged, ond nid oedd hi yn gwneud osgo at fynd i glwydo. Yn union deg aeth Enoc i'w wely, er y dywedai Marged "nad oedd hi ddim yn rhyw hwyr iawn, wedi'r cwbl, a bod y cloc dipyn o flaen y dre."

PENNOD XIV

Pedair Ystafell Wely.

RHIF I. "Na, 'dydi hi ddim mor unapproachable ag yr oeddwn i'n meddwl. Ydi o ddim ond rhyw ffordd sy ganddi. Yn wir, y mae hi'n garedig—mi weles ddigon heno i brofi hynny. Ac mae hi'n glyfar hefyd yn sharp. Wel, oni fûm i'n ffwlcyn! Tybed ddaru'r Capten ddallt mai am Miss Susi yr oeddwn i'n meddwl tra'r oedd o'n siarad am waith mwyn? Bu agos i mi 'i henwi hi fwy nag unweth. Y fath lwc na ddaru mi ddim! Y fath joke fase'r peth! Y fath joke ydi'r peth! Be bydae rhai o'r chaps yma yn cael gwynt ar y 'stori! Y fath wledd fydde hi! Ac eto 'dydw i ddim yn hollol dawel fy meddwl—fedra i ddim peidio ag ofni bod yr hen dderyn wedi spotio 'mod i'n meddwl am Miss Trefor, tra 'roedd o yn sôn am waith mwyn. Ac mor debyg! Ond, pwy, tu yma i'r haul, fase'n dallt at be 'roedd o'n dreifio efo'i yn wir,' ac mewn geiriau eraill,' ac' fel mater o ffaith?' Mae pob brawddeg ganddo cyd â blwyddyn, ac yn cymryd gwynt dyn yn lân. Mae un peth yn 'y mlino i'n sobor,—' Peidiwch â chrio, Mr. Huws bach,' medde hi. Ymhell y bo hyna! Crio! dyn yn f'oed i yn crio! am 'i fod o'n sâl! Dyna ddaru hi feddwl, mi wn. Dario hyna! Ond y felltith brandi hwnnw 'naeth i'r dagrau ddwad i'm llygaid i! Bydaswn i'n marw fedrwn i mo'u stopio nhw. Wel, ond oedd o cyn boethed â lwmp o dân uffern, mi gymra fy llw! a hithe'n meddwl mai rhyw fabi yn crio am 'i fam oeddwn i. Os lladdith rhywbeth fi yn 'i golwg hi—y crio 'neith. Rhaid i mi gael egluro iddi eto. Ymhell y bo! mi fase'n well gen i na chanpunt dase'r crio yna heb hapno. Mi gymra fy llw i bod hi'n edrach arna' i fel rhw lwbi—labi! Ond aros di, Enoc, yr wyt ti 'rwan ar delerau efo'r teulu i fynd yno yn ôl a blaen, a mae o fel breuddwyd gen i. Ond fe fydd raid i mi gymryd shares yn y fentar newydd, neu mi fyddaf yn yr un fan ag o'r blaen. Bydase'r fentar yn Jericho mi fase'n dda gen i! I be yr âf i daflu 'mhres i ffwrdd ar rywbeth na wn i ddim amdano? Swindle ydi'r rhan fwya o'r gweithydd yma. Ac eto, mae'r Capten yn dad i Susi, ac yn ddyn gonest ac anrhydeddus—am—wn—i. Bydae o'n deud mai yn y lleuad y mae o am fentro—fe fydd raid i mi gymryd rhyw chydig o shares. Ond mi driaf fod yn wyliadwrus yn y dechre, nes cael gweld a fydd rhyw obaith i mi am Susi. Heb Susi—dim mentro; Susi—ac mi fentraf yn Jupiter—byth o'r fan yma.'

*****

RHIF II. 'Rydw i'n bump ar hugain oed—a 'dydi'r gŵr bonheddig ddim wedi dwad eto! Ddaw o ddim bellach, ne mi fase wedi dwad cyn hyn. Hwyrach eu bod nhw wedi dallt, o 'mlaen i, fod 'y nhad yn dlawd. O'r brenin annwyl! y fath suck! Sobor! Pam na fase fo'n deud yn gynt, yn lle cadw 'mam a minne yn y twllwch? A gadael i ni gario 'mlaen ar hyd y blynyddoedd! Ond y mae 'nhad bob amser mor glos. Be ddeudith pobol? a be 'nawn ninne? Wel, fe gewch chi fynd i gadw 'rwan—wisga i monoch chi eto, gan mai tlawd yden ni. Humbug,' fel y bydde Wil, druan, yn deud, ydi ymddangos, heb ddim ond ymddangos. A 'dydw i ddim am 'neud hynny, waeth genni be ddeudith 'mam. Os tlawd yden ni—tlawd y dylen ni ymddangos. Mi wisga ffroc gotwn—neith pobol ddim ffeindio cymin o fai pan ddaw'n tlodi ni i'r golwg. Mae genni flys lluchio'r watch aur yma allan drwy'r ffenest. Dim chwaneg ohonoch chi, bracelets a gold brooch! 'Dydech chi ddim yn gweddu i bobol dlawd. Ac eto, 'rydech chi yn bur bropor! a dyma i chi gusan o ffárwel! Gorweddwch yn eich wadding nes bydd raid eich gwerthu i gael bwyd! Y pethe bach tlws! un cusan eto, a dyna'r caead dros—eich—wyneb! O!—yr ydw i—fel 'roedd 'y nhad yn deud, wedi rhoi airs i mi fy hun. Ond dim chwaneg. Yr ydw i am fod yn eneth gall—heb ddim humbug, chwedl Wil. Ond faswn i ddim wedi cario 'mlaen bydase 'nhad wedi deud yn gynt mai tlawd oedden ni. Sut yr edrycha i, tybed, mewn ffroc gotwn? Mae 'ma un i fod yn rhywle. Mae hi dipyn allan o'r ffasiwn erbyn hyn, 'ddyliwn, ond mi fedraf ei haltro. Lle mae hi? Weles i moni ers gwn i pryd. Mi triaf hi i weld tebyg i be fyddai'n edrach. Sealskin? Wel, rhaid dy droi dithe'n bres rw ddiwrnod, 'ddyliwn. Lle mae'r hen ffroc yma? 'Ddylies i 'rioed fod genni gymin o ddillad! Fi fydd y cwsmer gore a gafodd Mr. Lefiticus, y pawnbroker, ers blynyddoedd! Yn eno'r annwyl, ddaru mi 'i rhoi hi i rwfun? Na, dyma hi! Wel, yr hen ffroc, should old acquaintance be forgot? Mae 'nhad yn licio 'nghlywed i'n canu honyna—ond dim chwaneg o ganu i mi! Wyt ti'n 'y nghofio i, yr hen ffroc? 'Rwyt ti'n edrach yn o rinclyd, ond yfory rhown di ar gefn cader o flaen tân. Be ddyliet, yr hen ffroc, o gael mynd i'r capel unweth eto? 'Rwyt ti wedi d'amddifadu o foddion gras ers talwm, ond wyt ti? Rheswm annwyl! prun ai fi sy'n dewach ai ti sy wedi rhedeg i fewn? Wel, erbyn i mi fyw ar frywes, ac i tithe gael d'ollwng allan, mi ddown at ein gilydd eto. Rheswm! mae 'ma le i mi fyw yn dy lewys di, a mae dy wasg di tua milltir yn rhy hir? Ond sut na fotymet ti? Ond oes golwg sobr arna' i! Ond na hidia, Susi, os ydi'r glass yna'n deud y gwir, 'dwyt ti ddim yn perfect fright eto! Ond dyna, yr hen ffroc, lle'r wyt ti'n 'y nghuro i—pan â i yn hen, fydd o ddim diben fy rhoi ar gefn cader o flaen tân i dynnu'r rhyche o'r wyneb! Yr idea! Ie, 'y nhad yn sôn am i mi gymryd miner cyffredin. Na 'na byth! na 'na'n dragywydd! bydawn dloted â Job. Be oedd y babŵn gan Enoc yn 'i feddwl wrth ddeud mai angel oeddwn i? Oedd o'n meddwl rhywbeth? Ond dda gen i mo'r sant—mae o'n rhy dduwiol yn rhy lonydd. Bydase fo'n hanner dyn, mi fase'n trio cael cusan gen i wrth y gate; ond bydase fo'n gneud hynny, mi faswn yn rhoi slap iddo yn 'i wyneb. Ond rois i ddos iawn i'r hen Rechabite! Mi fu agos iddo dagu! Y babŵn! A finne'n deud—'peidiwch â chrio, Mr. Huws bach.' Hwyrach 'mod i'n ddrwg; ond mi fyddaf yn licio deud rhwbeth i flino hen lancie—rhwbeth—bydawn i'n medrud a dynne waed o'u calon nhw. Ond mae Enoc yn well na miner cyffredin.Poverty has no choice, bydae hi'n dwad i hynny. Mae gynno fo bres, lot, mae'n nhw'n deud. Dyna un good point. Ond mae o mor hen ffash! A mae hi wedi dwad i hyn, Susi? Wel! wel! Fy idea i wastad—os na phriodwn i er mwyn arian—oedd bod dros 'y mhen a 'nghlustie mewn cariad â rhwfun, a 'nhaflu fy hun drwy'r ffenest i'w freichie dri o'r gloch y bore, a rhedeg i ffwrdd i briodi hefo special licence! 'Does gen i ddim 'mynedd hefo rhai sy'n priodi'n sad yn y capel—mae'n gas gen i eu gweld nhw. Ac eto, hwyrach mai felly y bydd hi hefo finne. Efo miner cyffredin'? Byth bythoedd! bydae raid i mi 'moddi fy hun! Be oedd ar y nhad isio, tybed, hefo Enoc? I sugno fo i fewn, 'ddyliwn, 'run fath â Hugh Bryan, druan! a Mr. Denman. Ond mae'n rhaid gwneud rhywbeth rhag llwgu. 'Dydw i ddim yn cofio'r munud yma a ddeudes i'mhader? Pa ods—y pader gore i mi heno ydi good cry yn 'y ngwely!"

***** RHIF III. "Ydech chi'n effro, Sarah? neu, mewn geiriau eraill, ddaru chi gysgu?"

"Y?"

"Sarah, deffrowch, deffrowch. Mae gen i eisie cael siarad â chi."

"Be ydi hi o'r gloch, Richard?"

"Wel, mae hi tua hanner nos, neu, efallai, dipyn gwell. Fel mae'r amser yn mynd! Ydech chi'n effro, Sarah? Mae gen i—ydech chi'n effro? Ho. Wel. Mae gen i ofn 'y mod i wedi'ch synnu a'ch brifo heno, Sarah. Ond y mae gen i gymaint wedi bod ar 'y meddwl yn ddiweddar —mae'r pressure wedi bod mor fawr, mewn ffordd o siarad, nes oeddwn i 'n ofni i'r boiler fyrstio, ac yr oedd yn rhaid agor y falf yn rhywle, a ph'le y gallwn i wneud hynny ond yn fy nheulu? Wrth bwy y gallwn ddeud fy helynt ond wrthoch chi a Susi? Ond erbyn i mi ail ystyried pethau—peidiwch â chrio, Sarah, peidiwch, 'rwyf yn crefu arnoch erbyn i mi ail ystyried pethau, fel y dywedais, hwyrach fy mod—yn wir, yr wyf yn sicr fy mod—wedi gorliwio ein sefyllfa, a'i gosod allan, dan gynhyrfiad y foment, yn waeth nag ydyw. Fase raid i chwi ddim, Sarah, redeg i'ch gwely mewn digalondid. Na, gyda bendith y Brenin Mawr ni gawn damaid eto. Yn wir, efallai y bydd hi'n well arnom nag y bu hi erioed. Hyd yn oed bydae pethau yn dyfod i'r gwaethaf, mae gen i olwg ar rywbeth, ac y mae gen i eisiau i chwi, Sarah, roi Susi dan ei warnin i beidio â sôn gair wrth neb am ddim a ddywedais i heno mewn tipyn o fyrbwylltra. Wedi i chwi fynd i'r gwely fe fu Mr. Huws, Siop y Groes, yma. Gŵr ieuanc rhagorol iawn ydyw Mr. Huws—wedi gwneud yn dda—ac yr wyf yn meddwl, yn wir, yr wyf yn siŵr, y bydd ef yn fodlon i ymuno â ni yn y fentar newydd. Un neu ddau eraill fel Mr. Huws, a ni fyddwn yn all right. Mae o'n wan—yn wan iawn—wedi gorweithio ei hun yn ddiamau.—Wnewch chwi ddim siarad, Sarah?"

"I be y gna i siarad? 'does gen i ddim synnwyr."

"Dyna ddigon, dyna ddigon, Sarah, peidiwch a sôn am hynyna eto. Yr oeddwn yn ofni fy mod wedi eich brifo, Sarah, ac y mae'n ddrwg gen i am hynny, neu, mewn geiriau eraill, yr wyf yn edifarhau, ac mae'r Gair yn dweud, 'Na fachluded yr haul ar eich digofaint,' ac fe ddylem, yn wir, yr wyf yn gostyngedig feddwl eich bod chwi a minnau, hyd yn hyn, wedi ceisio, hyd yr oedd ynom, gadw at reolau'r Gair, a hyd yn oed yn yr amgylchiad hwn, er mor anhyfryd ydyw, i mi yn neilltuol, yr wyf yn meddwl y gellwch gadw at y rheol a grybwyllwyd, yn gymaint â bod yr haul wedi machludo cyn i chwi ddigio, ac na chaiff, mi obeithiaf, fachludo ar eich digofaint. A ydech chi wedi maddau i mi, Sarah, yn ôl fel y mae'r Gair yn annog?

"Dydw i ddim wedi madde i chi, Richard, am 'y nghadw i yn y twllwch sut yr oedden ni'n sefyll yn y byd. a be ddeudith pobol pan ddôn nhw i wybod am ein tlodi ni, a ninne wedi cario 'mlaen fel ryden ni?"

"Wel, chwi wyddoch, Sarah, mai dyna ydyw fy natur i—'dallai i ddim wrtho. Mae o ynof erioed er yn blentyn sef gordynerwch—gor-dynerwch. Fedrais i erioed ladd hyd yn oed wybedyn, ac yr ydw i yn cofio'n burion pan—welsoch chwi mo 'nghap nos i, Sarah? O, dyma fo!—yr ydwyf yn cofio yn dda, meddaf, pan fyddai 'nhad yn lladd cyw iâr, neu yr hyn oedd waeth, yn lladd mochyn, y byddwn yn gorfod mynd oddi cartref nes i'r creulondeb fynd trosodd, ac er nad oedd â fynnof i, yn uniongyrchol, ddim â lladd y mochyn, mi fyddwn yn teimlo rhyw fath o euogrwydd am wythnosau, ac nid heb lawer o gymell o du fy mam y gallwn gymryd dim o'r bacwn pan ddeuai yn gymwys i'w fwyta. Chwi wyddoch eich hun, Sarah, fel y crugais pan laddwyd Job Jones, druan! ym Mhwll y Gwynt. Fe ddywedid y pryd hwnnw fod tipyn o esgeulustra, ond allwn i ddim wrth hynny, er mai dan fy ngofal i yr oedd yr holl waith, a'm bod yn wyneb y gyfraith, yn gyfrifol, mewn ffordd o siarad, am farwolaeth Job, druan! Chwi wyddoch, Sarah, fel y darfu i mi grugo, meddaf, a mi ddeudaf i chwi beth na ddeudais erioed o'r blaen, sef i mi fod fwy nag unwaith ar fin gwneud amdanaf fy hun, a hynny yn cael ei gynhyrchu gan ordristwch am farwolaeth y llanc. Ac, mewn rhan, mi roddais y bwriad hwnnw mewn gweithrediad, oblegid, chwi wyddoch i mi, yn yr amgylchiad hwnnw, golli mwy na deugain pwys yn fy mhwysau. I ba le yr aeth y deugain pwys hynny, yr hyn oedd yn rhan wirioneddol ohonof i fy hun? Wel, mewn ffordd o siarad, fe ellir dweud fy mod wedi comittio suicide arno, neu, mewn geiriau eraill, wedi ei offrymu ar allor calon drist neu or-dynerwch. Ac, hwyrach y bydd yn anodd gennych fy nghredu, Sarah, ond y gwir yw—ni fyddaf byth yn cyfarfod â mam Job heb ddweud ynof fy hun: Dyma fam y bachgen y darfu i mi ei ladd!' Yr ydych cyn hyn, Sarah, wedi bod yn fy ngheryddu am nad ydwyf yn mynd i'r seiat ond an—fynych, gan awgrymu fy mod yn dirywio yn fy nghrefydd; ond, a wyddoch chwi mai'r prif reswm am hynny ydyw tynerwch fy nghalon, ac am na allaf edrych ar fam Job heb deimlo rhyw fath o euogrwydd, er bod y peth yn afres—ymol i'r eithaf. A ydych yn gweled erbyn hyn, Sarah, paham y darfu i mi gadw oddi wrthych ein gwir sefyllfa? Gor—dynerwch ydyw'r rheswm am y cwbl. Yn hytrach na'ch gwneud chwi'n anhapus, yr oedd yn well gennyf gadw yr holl bryder a'r helynt i mi fy hun—hyd yr oedd yn bosibl. Nid am nad oedd gennyf ymddiried ynoch chwi, Sarah, y buasech yn ei gadw i chwi eich hun, ac nid am fy mod yn anghofio'r cyfarwyddyd ysbrydoledig y dylem ddwyn beichiau ein gilydd, ond er mwyn arbed eich teimladau a pheidio â thorri ar eich dedwyddwch. Ond y mae gennyf hyn i'w ddweud—fod gennyf gydwybod dawel, a'm bod wedi gwneud fy nyletswydd."

"Sut yr ydech chi wedi gneud eich dyletswydd, Richard, a chithe'n gwybod nad oedd ene ddim llond eich het o blwm ym Mhwll y Gwynt?

"Y mae dyletswydd a dyletswydd, Sarah. Fy nyletswydd i, fel Capten, oedd gweithio dros y Cwmpeini, a rhoi prawf teg a gonest ar y gwaith,—a oedd yno blwm ai peidio. Yrwan yr wyf yn gallu dwêud nad oes llond fy het o blwm ym Mhwll y Gwynt, ond, o drugaredd, ni wyddwn hynny flynyddoedd yn ôl. Mae busnes, Sarah, yn beth dieithr i chwi, ac ofer fyddai i mi geisio ei egluro. Gadawn y peth yn y fan yna heno. Ond y mae gennyf eisiau sôn gair wrthych am beth arall, er fy mod yn teimlo yn bur gysgadlyd. Chwi wyddoch fod Susi yn dechrau mynd i oed, ac fe ddylasai'r eneth fod wedi priodi cyn hyn.. Ydych chwi ddim yn meddwl, Sarah, y buasai Mr. Enoc Huws yn gwneud purion gŵr iddi? —Sarah?

Peidiwch â boddro, da chi!"

"Wel, fe ddylai'r eneth feddwl am rywun erbyn hyn, ac y mae perygl iddi aros yn rhy hir. Os nad ydyw fy ngolwg i yn dechrau pylu, yr wyf yn meddwl na fyddai gan Mr. Huws—hynny ydyw, Sarah, fe ddylech chwi grybwyll y peth wrth yr eneth—lle'r fam ydyw gwneud hynny. Beth.meddwch chwi, Sarah?—Sarah?

"Cysgwch, a pheidiwch â chodlo, da chi."

Wel, mae'n ddrwg gennyf eich blino, ac y mae'n bryd i ni feddwl—hwyrach am orff—a chysgu—ŷch—chŷ —ŷch—chŷ."

Ene, chwyrnwch, 'rwan, fel mochyn tew. Ond fe geir taw bellach arnoch chi, tybed. O diar mi! mae rhw gath yng nghwpwrdd pawb, fel y clywes i 'mam yn deud. Ond 'ddylies i 'rioed y base hi'n dwad i hyn. Mi fase'n dda gan 'y nghalon i daswn i 'rioed wedi priodi."

*****

RHIF IV. "Wel, Denman! Denman sut mae gynnoch chi wymed i ddwad i'r tŷ 'r adeg yma ar y nos?" "Oeddech chi'n disgwyl i mi ddwad heb yr un wyneb?"

Oes arnoch chi ddim cwilydd, mewn difri, Denman, fod yn colma hyd dai pobol tan berfedd nos? Fyddwch chi'n gweld rhwfun arall yn gwneud hynny?"

"Lot."

"Lot? pwy ydyn nhw, ys gwn i? Ydyn nhw'n rhwfun â rhyw gownt ohonyn 'u hunen?"

"Ydyn."

"Ydyn, 'ddyliwn, rhwfun 'run fath â chi'ch hun. Ydyn nhw'n rhwfun yn hidio rhwbeth am 'u gwragedd a'u teulu?"

"Ddaru mi ddim gofyn iddyn nhw."

"Naddo, 'ddyliwn, mi wn hynny heb i chi ddeud i mi. Ydech chi'n meddwl 'y mod i'n mynd i aros dan berfeddion arnoch chi ddwad i'r tŷ?

"Ddaru mi 'rioed ofyn i chi neud hynny."

Naddo, a bydae chi'n gofyn, 'dydw i ddim am neud."

"Purion."

Symol purion. Oes gynnoch chi 'run tŷ 'ch hun i fod ynddo'r nos?"

Eighty—two, High Street."

"Diar mi! mor dda 'rydech chi'n cofio'r number! Fyddwch chi ddim yn misio'r tŷ weithie?"

"Fumi 'roed mor lwcus."

'Lwcus?' ydech chi'n deud yn 'y ngwymed i, Denman, ych bod chi wedi blino arna i?

"Blino ar un mor ffeind â chi?"

"Ie, deudwch yn blaen, Denman, achos mi wn mai dyna ydi'ch meddwl chi—deudwch yn blaen nad ydech chi'n hidio dim amdana i. 'Dydw i dda i ddim ond i slafio, fel 'rydw i wiriona. Welsoch chi fi rw dro yn mynd i dai'r cymdogion i golma?"

Erioed; fuoch chi 'roed yn nhŷ Mrs. Price dan un ar ddeg o'r gloch y nos! Diar mi, naddo!"

"Am unweth—unweth yn y pedwar amser—yr eis i dŷ Mrs. Price i gael 'paned o de, ydech chi'n edliw hynny i mi, Denman? Ydech chi am i mi fod â'm pen wrth y post ar hyd y blynydde?"

"Dim o gwbl; mi faswn yn licio i chi fynd i edrach am Mrs. Jones, y Siop, hanner dwsin o weithiau yn y mis, ond fyddwch chi byth yn mynd."

"Ydech chi'n edliw hynny i mi hefyd, Denman? Mi gymra fy llw na fûm i ddim ond dwywaith yn nhŷ Mrs. Jones ers pythefnos. Os â î i rywle, mi gaf hynny' ar draws fy nannedd yn syth!"

"Draws y'ch dannedd?"

"Llai o'ch speit chi, Denman, 'roedd gen i gystal dannedd â chithe hyd yn ddiweddar. A be ddisgwyliech chi i fam i bump o blant? Ydech chi'n disgwyl i mi fod yn ferch ifanc o hyd? Ond 'does gynnoch chi ddim parch i mi—mae hynny'n ddigon plaen. A lle 'rydech chi wedi bod heno, Denman? Lle—y—buoch—chi?

"Efo 'niod, wrth gwrs, ydech chi ddim yn 'y ngweld i wedi meddwi?"

"Na, mi wn na fuoch chi ddim efo'ch diod, ond fase waeth i chi fod efo'ch diod na bod efo'r hen Gapten y felltith ene, achos mi wn o'r gore mai yno y buoch chi. Ai nid yno buoch chi, Denman?

"I be 'rydech chi'n gofyn, a chithe'n gwbod?

"Mi gymra fy llw mai yno buoch chi. Deudwch y gwir, Denman, ai nid yno y buoch chi?'

"Twbi shwar, ddaru chi 'roed gymryd llw drwg."

"Oni wyddwn i gystal â daswn i efo chi mai efo'r hen felltith Gwaith mein ene 'roeddech chi. 'Rydw i wedi deud a deud, nes mae 'nhafod i'n dwll—

"Be? eich tafod yn dwll?"

"Beiwch chi fel y mynnoch chi, yr ydw i wedi deud digon, os digon ydi llawer, am i chi roi pen ar yr hen fentro felltith ene. Os ydi pobl erill sydd yn 'u sidane yn medrud rifflo'u pres ar fentro, 'does dim isio i chi—dyn ar 'i ore—hel pob ceiniog a'u taflu nhw i Bwll y Gwynt na welwch chi byth wymed y delyn ohonyn nhw. A 'rydech chi wedi'n gneud ni cyn dloted nad oes gynnon geiniog i ymgrogi. Be ydech chi'n 'i feddwl, Denman? Pryd yr ydech chi'n meddwl stopio hel pob ceiniog i'r hen Gapten y felltith ene? A dyma chi' rwan yn dwad i'ch gwely heb fynd ar ych glinie! Crefyddwr braf yn wir! "

"Hwdiwch, ddynes, os gwnewch chi addo cadw'r tafod yna yn llonydd am ddau funud, mi af yn ôl i ddeud 'y mhader?"

"O, 'dydw i, 'ddyliwn, i gael deud dim! Rhaid i mi fod yn ddistaw a diodde'r cwbwl, fel bydawn i garreg. Wel, mae hi wedi dwad i rwbeth ydi; 'dydw i neb, nag ydw, neb, er 'y mod i'n fam i bump o blant. Ie'r plant, druen! 'Does neb yn hidio dim amdanyn nhw. Mae'n dda fod gynnyn nhw fam, ne be ddeuthe ohonyn nhw? Mae rhw bobol yn gallu bod yn ddigon diofal, fel bydae nhw'n perthyn dim byd iddyn nhw! Wel, fe ddaw rhwbeth ar ôl hyn, daw, daw, ond mi wn hyn, na fydda i ddim yma yn hir. Wrth hir guro ar y garreg mae hi'n siŵr o dorri, bydae rhwfun yn hidio am hynny! Ond hwyrach y gwelan nhw 'ngholli i, er saled ydw i! Mae Rhwfun yn gwbod y cwbwl, a mi geiff pawb gyf—iawnder yn y diwedd. Ceiff, ceiff! Mae rhw rai yn gallu cysgu gynted y gorweddan' nhw fel bydae ddim byd yn 'u blino nhw. Mi fase'n dda gen i fedrud gneud hynny. Ond y Brenin Mawr a ŵyr—ie, y Fo sy'n gwbod—uff, uff."

PENNOD XV

Eglurhad.

NID oedd Capten Trefor yn perthyn i'r dosbarth hwnnw o ddynion na wyddant yn y bore beth a ddigwyddodd y noson cynt. Y mae dynion felly, rhai fydd, pan adroddir iddynt hanes y noson cynt, heb ddim i'w wneud ond ysgwyd eu pennau, cyfaddef eu hanwybodaeth, eu galar, a chydnabod eu bod fel ar fel, ac felly, mewn ystyr, nad oeddynt yn gyfrifol. Ni pherthynai Capten Trefor i'r dosbarth hwnnw. Byddai ei gorff, " mewn ffordd o siarad," chwedl yntau, "yn gwneud defnydd helaeth o Scotch Whiskey," ond yr oedd ei feddwl yn llwyrymwrthodwr, os nad yn areithio ar ddirwest. Yr oedd meddwl y Capten yn abl, drannoeth ar ôl y gyfeddach, i roddi cyfrif manwl am bopeth a ddigwyddodd.

Y bore hwn deffrôdd y Capten yn lled blygeiniol, a'i ben, nid yn unig yn rhydd oddi wrth gur, ond yn berffaith glir. Credai'r Capten mai i bobl gryfion yn unig y bwriadwyd diod gadarn, ond am y lleill, mai eu dyletswydd oedd ymgadw ymhell oddi wrthi. Fel darpariaeth ar gyfer y dosbarth hwn, ystyriai'r Capten y Gymdeithas Ddirwestol yn sefydliad rhagorol iawn, ni buasai'n petruso, pe gofynasid iddo, gymryd y gadair mewn cyfarfod dirwest, heb ei ystyried ei hun yn euog o un anghysondeb.

Adolygai'r Capten yn ei feddwl ddatguddiedigaethau'r noson flaenorol gyda llawer o foddhad. Yr oedd, ers llawer o amser, yn canfod ei bod yn tywyllu ar ei amgylchiadau, a bu fwy nag unwaith ar fedr paratoi meddwl ei wraig a'i ferch gogyfer â hynny. Gwyddai o'r gorau yr achosai hyn gryn gynnwrf a thrwst yn Nhy'n yr Ardd. Byddai yno dipyn o synedigaeth, o grio ac o fonni. "Mewn ffordd o siarad," chwedl yntau, yr oedd wedi torchi ei lewys at y gorchwyl amryw weithiau, ond wrth feddwl am ei effeithiau pallai ei wroldeb. Ond yn awr, yr oedd yr ystorm drosodd, a'i wraig a'i ferch yn gwybod am ei sefyllfa cystal ag yntau. Serch hynny, meddyliai'r Capten ei fod, wrth roi'r datguddiad, wedi gwneud un camgymeriad; a hwnnw oedd y darluniad cywir a roddasai o'i fywyd twyllodrus. Nid oedd wedi rhagfwriadu gwneud y fath beth. Gwyddai'r Capten yn burion fod Mrs. Trefor yn edrych arno fel cynllun o ddyn da, anrhydeddus. Ond, erbyn hyn, teimlai ei fod wedi andwyo'r gyfaredd honno, ac nid oedd y fath gamgymeriad, cyfaddefai wrtho ei hun, yn deilwng o Capten Trefor. Nid addefai am eiliad fod a wnelai'r chwisgi ddim â'r camgymeriad, er ei fod wedi ei gael o le newydd. "Na," ebe'r Capten wrtho'i hun, mae'n rhaid mai cael blas a ddaru mi ar wneud clean breast—'roedd y peth mor amheuthun i mi! A pheth garw ydyw dechrau, yr un fath â gwraig wedi dechre glanhau'r tŷ, a chael blas—rhaid iddi gael gorffen."

Pan ddaeth y Capten at y bwrdd brecwest, gwyddai ynddo'i hun ei fod yn greadur newydd yng ngolwg Mrs. Trefor, a phe na buasai'n gwybod felly, yr oedd y peth yn rhy amlwg yn ei hwyneb hi. Yr oedd tristwch anobeithiol yn ei doi, yn lle'r serch a'r edmygedd arferol.

Tra'r oedd Mrs. Trefor yn tywallt y coffi mewn dis—tawrwydd prudd, a'i hwyneb fel cwmwl ar fin glawio, yr oedd y Capten â'i ddau benelin ar y bwrdd, a'i ddwylo ymhleth, yn lefel â'i drwyn, yn gwylio am gyfle i ofyn. bendith—peth nis gwnaethai o'r blaen ers tro byd. Ebe fe wrth y forwyn :

"Gellwch chi, Kitty, fynd yrwan, mi wnawn y tro yn burion." Wedi ychydig ddistawrwydd, gan droi wyneb hawddgar at Mrs. Tefor, ychwanegodd: "Sarah, mi wn ar eich gwedd eich bod wedi cymryd yr hyn a ddy—wedais neithiwr yn ormodol at eich calon. Dylem gofio bod y teuluoedd gore a'r Cristionogion mwyaf gloyw, weithiau, yn cyfarfod â phethau chwerwon yn eu ham—gylchiadau. Yn wir, y mae enghreifftiau yn yr Ysgrythur Lân—megis Jacob, Job, a Dafydd. Ac yr wyf wedi bod yn meddwl, Sarah, y gall fod rhywbeth ynom ni yn galw am yr oruchwyliaeth hon, ac y bydd, yn y diwedd, er ein lles ysbrydol. 'Dydw i fy hun, mi wn, ddim wedi bod hanner digon diolchgar am y daioni a'r llwyddiant y gwelodd Rhagluniaeth yn dda ei gyfrannu i mi am gynifer o flynyddoedd, ac yr wyf yn tueddu i feddwl mai cerydd oddi wrth yr Arglwydd ydyw hyn i'm dwyn i roi mwy o bris ar bethau ysbrydol nac ar bethau daearol. Beth meddwch chwi, Sarah?

Torrodd Mrs. Trefor allan i wylo, ac yn y cyfamser helpiodd y Capten ei hun gydag ychydig ychwaneg o'r bacwn. Wedi gwneud hyn, ebe fe:

"Sarah, Sarah, peidiwch, peidiwch ag ymollwng yn eich ysbryd. Mi wn fod y peth yn gryn shock i chwi, ac erbyn hyn, mae'n ddrwg gennyf na bawn wedi gadael i chwi wybod yr amgylchiadau yn raddol, fel yr oeddwn i fy hun yn dyfod i'w gwybod; ond buasech felly wedi eich gwneud yn druenus ers llawer o amser, a'r trueni hwnnw heb fod yn gwella dim ar yr amgylchiadau, ond yn hytrach yn eu gwaethygu. 'Dydw i yn beio dim arnoch, Sarah, am grio—mi fyddwch yn well ac ysgafnach. Nid ydyw natur, ysywaeth, wedi fy nghynysgaeddu i â'r outlet hwnnw i'r teimladau—yr wyf yn gorfod cadw fy ngofid i gyd oddi mewn, yr hwn sy'n fy mwyta'n raddol, ond yn sicr. Pa fodd bynnag, Sarah, rhaid i chwi wneud ymdrech i ymgynnal, a rhoi'ch hyder ar Dduw, a minnau gyda chwi."

'Rydech chi wedi 'nhwyllo i Richard," ebe Mrs. Trefor, gan sychu ei llygaid.

Sut felly, Sarah? Yr wyf wedi eich arbed, mi addefaf, ond y mae twyllo yn air cryf," ebe'r Capten.

"Fel hyn," ebe Mrs. Trefor, gan wneud ymdrech i'w meddiannu ei hun: yr ydech wedi peri i Susi a finne gredu ei bod hi'n dda arnoch—'rydech chi wedi gadel i ni gael popeth oedden ni'n 'i ddymuno—'rydech chi wedi'n dysgu ni—nid mewn geiriau, mi wn, ond yn y'ch ymddygiad i edrach i lawr gyda thosturi ar dlodion, a hyd yn oed ar bobol well na ni'n hunen, a gneud i ni feddwl yn bod ni'n rhwbeth mwy na chyffredin,—y gallen ni gymdeithasu â phobl uchel eu sefyllfa, a chadw oddi wrth bobol erill, a dyma chi, yn y diwedd, heb i ni feddwl dim byd, yn deud yn bod ni'n dlawd, a bod y cwbwl drosodd. 'Rydech chi wedi bod yn greulon aton ni, Richard."

"Yr oeddwn yn meddwl, Sarah," ebe'r Capten, "fy mod, neithiwr, wedi rhoddi i chwi reswm digonol am f'ymddygiad a hwnnw oedd tynerwch fy nghalon, a'r awydd oedd ynof i beidio ag amharu dim ar eich dedwyddwch. Ac eto dyma chwi yn galw hynny'n greulondeb! Mae hyn yn wendid ynof, mi wn, sef gorawydd am wneud eraill yn hapus, er i hynny gostio'n ddrud i mi fy hun. Mae o ynof erioed. Ond y mae hyn o gysur gennyf, sef nad ydwyf ar fy mhen fy hun yn hyn o beth. Oni chlywais i chwi eich hun, Sarah, yn dweud, a hynny yn eithaf priodol, mor ddoeth a da ydyw'r Brenin Mawr, yn cadw oddi wrthym ragwybodaeth am ddyddiau tywyll, ac amgylchiadau anghysurus? Mae'n rhyfedd, Sarah, fod doethineb yn y Llywodraethwr Mawr, yn greulondeb yn ei greadur gwael. Mae'r pethau sydd o'n blaen, megis dydd ein marwolaeth, yn anhysbys i ni. Ai trugaredd ai creulondeb fu'n trefnu hynny?

'Mi wyddoch o'r gore, Richard, nad ydi'r Brenin Mawr yn twyllo neb, ac os ydi o'n ein cadw yn y twllwch am bethe sydd i ddwad, mae o wedi'n rhybuddio i fod yn barod ar eu cyfer. 'Ddaru chi ddim gneud hynny."

"Naddo, Sarah, naddo; am y rheswm da nad ydwyf i, mwy na rhyw greadur meidrol arall, yn gwybod dim am y dyfodol. Pe buaswn yn sicr, dyweder flwyddyn. yn ôl, mai fel hyn y diweddai pethau, a ydych yn meddwl, Sarah, na fuaswn yn eich rhybuddio? Mae'n wir fy mod yn ofni iddi ddyfod i hyn ers talwm; ond pa sawl gwaith y bûm yn ofni, ac wedi'r cwbl, fy holl ofnau'n troi allan yn ddisail? Pe buaswn wedi hysbysu f'ofnau i chwi, Sarah, buasech, gan mor wahanol i'r ofnau yr oedd pethau'n troi allan, wedi mynd i gredu mai nervous character oeddwn, ac ni fuasech yn credu peth sydd, erbyn hyn, yn ffaith, sef ein bod yn dlawd, a bod Pwll y Gwynt ar ddarfod amdano."

Wyddoch chi, Richard," ebe Mrs. Trefor, "nid y meddwl yn bod ni'n dlawd sy'n 'y mlino fwya, er y bydd hynny yn change mawr i ni ar ôl yr holl gario 'mlaen ; na, mae'n gwell ni wedi dwad i dlodi cyn hyn. Trefn Rhagluniaeth ydi peth felly. Yr hyn sy'n torri 'nghalon i ydi'r peth ddaru chi ddeud amdanoch ych hun. Mi wyddwn ych bod chi'n cymryd diod—ond rhaid i mi ddeud na weles i 'rioed arwydd diod arnoch—mi wyddwn ych bod chi'n dwad i gysylltiad â phob math o ddynion; ond 'roeddwn i bob amser yn credu'ch bod chi'n ddyn gonest, geirwir, a duwiol, a dene oedd cysur penna 'mywyd i. Ond ar ôl neithiwr, fedra' i ddim meddwl felly amdanoch 'rwan."

"Rhaid i mi gydnabod, Sarah," ebe'r Capten, "mai chwi, o bawb, ond yr Hollwybodol, sy'n f'adnabod i ore, a phe na bawn yn f'adnabod fy hun, mi wn at bwy yr awn i gael syniad cywir pa fath un ydwyf. Yr ydych, am hanner oes, wedi cael y cyfle gore i'm hadnabod, allan ac allan, fel y dywedir, ac o dan bob amgylchiadau. Ac mae'n rhyfedd meddwl, Sarah, fod y syniad oedd gennych amdanaf—syniad a gymerodd hanner oes, fel y dywedais, i'w ffurfio a'i gadarnhau, wedi ei ddymchwelyd mewn un awr yn wir, mewn hanner awr, neu lai na hynny. Yr wyf yn dueddol, mi wn—mae o ynof erioed, er yn blentyn—i'm dibrisio fy hun, ac i osod allan fy meiau—neu, os mynnwch, fy mhechodau—mewn gwedd, a dweud y lleiaf, dipyn yn eithafol. Mewn geiriau eraill, y mae mwy o'r publican ynof nag o'r Pharisead. Ac eto, Sarah, fe addefwch nad yw cyfaddef beiau yn beth dieithr i dduwiolion. Yn wir, yr wyf yn meddwl y gellir dweud—a'm cadw fy hun allan o'r cwestiwn yn y wedd yma y gellir dweud bod cyfaddefiad bai yn arwydd ac yn nod o dduwioldeb. Heb i mi nodi mwy nag un—mi gymeraf dipyn chwaneg o fara, Sarah—thank you—heb i mi nodi mwy nag un enghraifft Ysgrythurol—er bod amryw yn dyfod i'm meddwl—pe meddyliem am Dafydd, pêrganiedydd Israel. Pa syniad a ffurfiai ambell ddyn annuwiol—neu, fel y dywedir weithiau—ddyn heb feddu'r ddirnadaeth ysbrydol—am ŵr fel Dafydd pan ddarllenir rhai—rhai, meddaf, o'i Salmau? Fe gredai mai'r dyhiryn gwaethaf yn y byd ydoedd, pryd, mewn gwirionedd, mai gŵr wrth fodd calon Duw ydoedd Dafydd. Fel y dywedais neithiwr, Sarah, wrth edrych yn ôl ar fy mywyd, tra'r oeddwn, ar y cyfan, yn ceisio cadw cydwybod ddirwystr, mae'n rhaid i mi gyfaddef nad ydwyf wedi bod yn berffaith. Ac eto, wrth ystyried nifer crochanau'r byd drwg presennol, yr wyf, o angenrheidrwydd—nid o ddewisiad—wedi troi yn eu mysg, mae'n syndod cyn lleied o'u parddu sydd wedi glynu ynof. Wyddoch chwi, Sarah, y nesaf peth i ddim am demtasiynau'r byd, y cnawd, a'r diafol. Yr ydych chwi yma megis mewn private life yn gallu myfyrio ar y pethau, a heb lychwino dim ar eich ysbryd, tra yr wyf i yn gorfod troi ymhlith pob math o ddynion, ac, fel yr Apostol, yn gorfod bod yn bopeth i bawb, nes byddaf, weithiau, yn teimlo, fel yr oeddwn neithiwr, wrth gymharu fy mywyd â'ch bywyd chwi, yn edrych arnaf fy hun fel rhagrithiwr twyllodrus, er nad wyf yn un felly. Ond pwy ŵyr na chedwir finnau! Wnaed mohonom i gyd i fyw bywyd private, a mi fyddaf yn meddwl bod yn yr Efengyl ddarpariaeth ar gyfer pob dosbarth ohonom, a bod ei Hawdwr yn cymryd i ystyriaeth ein gwahanol amgylchiadau."

"Mae'n dda gan 'y nghalon i 'ch clywed chi'n siarad fel ene, Richard," ebe Mrs. Trefor, wedi iacháu cryn lawer. "Doeddwn i prin yn credu mai chi oeddech chi neithiwr. Mi ddaru chi 'nychrynu i yn arw, Richard, a mi feddylies yn siŵr mai dyn digrefydd oeddech chi, a'ch bod chi wedi 'nhwyllo i ar hyd y blynydde."

PENNOD XVI

Gŵr a Gwraig.

TEIMLAI'R Capten yn llawen iawn ei fod unwaith eto wedi ennill ymddiried ei wraig, ac ebe fe:

"Nid oeddwn heb ofni, Sarah, eich bod wedi ffurfio syniad anghywir amdanaf—a hynny mewn tipyn o frys. Mewn llawer o bethau yr ydym ni bawb yn llithro. Ond er bod dyn yn aml, fel y mae gennym amryw enghreifftiau, yn cael crefydd mewn noswaith, nid oes gennym, hyd yr wyf yn cofio, sôn am neb yn ei cholli mewn noswaith. Mae amgylchiadau, weithiau, yn peri i ddyn siarad amdano ei hun mewn gwedd na fynnai ei harddel yn ei funudau mwyaf tawel. Ond yr wyf yn hyderu, Sarah, ein bod, erbyn hyn, yn deall ein gilydd; ac er eich bod chwi, am foment, megis, wedi fy ngholli yn y fintai, yr wyf yn hyderu, meddaf, eich bod yn argyhoeddedig, erbyn hyn, mai yr un ffordd yr ydym ein dau yn ei cherdded. Ond, fel y mae'n digwydd yn rhy fynych, yn y fuchedd hon, rhaid i ni adael y pethau gwir bwysig—hynny ydyw pethau yr ysbryd, a dyfod i lawr i ystyried' ein hamgylchiadau bydol. Mi ddywedais wrth Kitty am beidio â galw ar Susi i godi er mwyn i mi gael hamdden i siarad gair â chwi, Sarah. Nid ydyw pobl ifanc ddi-brofiad bob amser yn gall, ac er nad oes fawr berygl iddi wneud, mae arnaf eisiau i chwi, Sarah, roi Susi ar ei siars i beidio â sôn gair am ddim a ddywedais neithiwr, a'i chyfarwyddo, yn eich ffordd eich hun, yn yr eglurhad yr wyf wedi ei roi i chwi, Sarah. Yr adeg yma ddoe yr oedd y dyfodol yn ymddangos i mi yn dywyllwch perffaith; ond erbyn bore heddiw yr wyf yn credu, Sarah, fy mod yn gweled cwmwl megis cledr llaw gŵr, er nad ydyw'r' gymhariaeth, hwyrach, yn briodol, ond yr ydych yn deall fy meddwl, Sarah. Mae'r posibilrwydd i mi allu cadw cartref cysurus yn dibynnu yn hollol ar a allaf i ddechrau gwaith newydd, ac y mae'r posibilrwydd hwnnw yn dibynnu i raddau mawr ar Mr. Enoc Huws, Siop y Groes. Os ymuna Mr. Huws â ni, ac yr wyf yn mawr gredu y gwna, mae gennyf obaith am fywoliaeth. gysurus eto; ond os gwrthyd Mr. Huws, nid oes gennyf, ar hyn o bryd, neb arall mewn golwg. Mae gennyf bob lle i gredu fod gan Mr. Huws lawer o arian, ac y mae cael un o'i fath ef i gychwyn gwaith yn well na chael cant o dlodion. Mewn gair, mae fy ngobaith am ddyfod allan o'r dryswch presennol yn dibynnu'n hollol ar Mr. Huws. Yn awr, Sarah, mi grybwyllais neithiwr, mewn byr eiriau, am beth arall. Mae'r cwestiwn yn un delicate, mi wn, ond, fel y gwyddoch, mae Susi yn dechrau mynd i oed, a dylasai yr eneth fod wedi priodi cyn hyn, a gwneud cartref iddi ei hun, oblegid 'does neb ŵyr beth all ddigwydd i mi, yn enwedig gan nad ydyw fy rhagolygon—er nad ydynt yn ddiobaith—mor ddisglair ag y buont. Wel, yr wyf yn meddwl, Sarah, fy mod yn adnabod dynion yn weddol. Os nad wyf yn camgymryd ac yr wyf yn meddwl y cewch fy mod yn iawn,—amser a ddengys, y mae gan Mr. Huws feddwl am Susi. Hwyrach nad ydyw Mr. Huws ddim y peth y darfu i ni un tro feddwl i Susi ei gael—hwyrach nad ydyw'r peth y buasai hi ei hun—heb ei chyfarwyddo yn gosod ei bryd arno. Ond y mae'r amgylchiadau wedi newid, a hyd yn oed pe na baent wedi newid, yr wyf, o'm rhan fy hun, yn methu gweld pam na wnâi Mr. Huws burion gŵr i'r eneth. Beth ydych chi'n 'i ddweud am hyn, Sarah? Yr ydych yn dallt fy meddwl?"

"Ydw, Richard," ebe Mrs. Trefor, " yr ydw i'n dallt ych meddwl chi'n burion; ond ddymunwn i ddim fforsio'r eneth i gymryd neb. A pheth arall, hwyrach, pan ddaw Mr. Huws i ddallt yn bod ni'n dlawd na feddylith o ddim chwaneg am Susi."

"Yr ydych yn dallt calon merch, Sarah," ebe'r Capten —"'does neb, hyd y gwn i, yn ei dallt yn well, ond 'dydech chi ddim yn dallt calon mab. Yr ydych yn cofio'n burion, Sarah, pan ymserchais i ynoch chwi, i minnau fod dan yr argraff eich bod yn meddu tipyn o arian—yn wir, eich bod yn gyfoethog; ond—maddeuwch y crybwylliad—'ddaru mi ddim sôn am y peth o'r blaen, hyd yr wyf yn cofio, ond unwaith, a hynny'n gynnil—chwi wyddoch, meddaf, faint o eiddo a gefais hefo chwi, ond a ddarfu i hynny leihau un iota, fel y dywedir, ar fy serch i atoch? Dim, Sarah, dim. Yn wir, erbyn hyn, mae'n dda gennyf gofio na chefais ddim gyda chwi, ond yr hyn oedd ynoch chwi eich hun—ac yr oedd hynny'n ddigon. Cofiwch, Sarah, fy mod yn crybwyll hyn gyda'r unig amcan o ddangos i chwi pan fydd gŵr ieuanc wedi gosod ei fryd ar ferch ieuanc, na bydd dyfod i wybod nad yw gwrthrych ei serch yn meddu ar gyfoeth, yn newid ei fwriadau tuag ati, na lleihau dim ar ei serch, ond yn hytrach i'r gwrthwyneb. O leiaf, dyna fy mhrofiad i, ac yr wyf innau o'r un defnydd â'r hil ddynol yn gyffredin. Heblaw hynny, yr wyf yn methu gweld bod yn rhaid i Mr. Huws, na neb arall, wybod ein bod yn dlawd, ar hyn o bryd, fodd bynnag."

"Mae gen i ofn, Richard," ebe Mrs. Trefor, na fydd gan Susi feddwl yn y byd o Mr. Huws. 'Does gen i fy hun ddim yn y byd i'w ddweud am y dyn—mae o'n riol, am wn i—ond mi fydd yn od gen i os leicith Susi o."

Dyletswydd rhieni, Sarah, fel y gwyddoch," ebe'r Capten, ydyw cyfarwyddo eu plant, a dyletswydd plant ydyw ufuddhau, heb ofyn cwestiynau. A sôn am licio a licith hi, tybed, fynd i wasanaeth? licith hi olchi'r lloriau hefo pob math o Mary Ann a Mary Jane, ac ymgymysgu â phob math o strwt? Mae'n rhaid i chwi, Sarah, egluro iddi, mewn iaith na all ei chamgymryd, nad oes dim ond menial work o'i blaen, os na bydd hi'n gall a synhwyrol yn yr amgylchiad hwn. Pa fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ofyn hyn gennych chwi a chan Susi, sef rhoddi pob parch a chroeso a sylw dyladwy i Mr. Huws pan ddaw o yma. Mae'n bywoliaeth, fel teulu, yn dibynnu ar ei ie neu ei nage ef. Ydech chi'n dallt fy meddwl, Sarah? Ond dyma Susi yn dwad i lawr, a dyma finnau yn mynd i'r Gwaith. Cofiwch, Sarah, fy mod yn disgwyl y byddwch wedi gwneud pethau'n straight cyn i mi ddod yn f'ôl."

"Mi 'na 'ngore, Richard," ebe Mrs. Trefor.

"Very good," ebe'r Capten, ac ymaith ag ef cyn i Susi gyrraedd gwaelod y grisiau.

PENNOD XVII

Y Fam a'r Ferch.

WEDI treulio blynyddoedd mewn llwyddiant a llawnder—wedi hanner oes o fwynhau cysuron bywyd yn ddibrin ac yn ddibryder, peth digon annymunol yw bod yr amgylchiadau'n dechrau cyfyngu—y cysuron yn graddol leihau, a hyd yn oed dlodi yn ein haros yn y fan draw. Ond mwy gofidus, gallwn feddwl, yw dyfod ar unwaith i ddeall ein bod yn dlawd a llwm.

Druan oedd Susan Trefor! Ac eithrio'r tipyn helynt fu rhyngddi a'i thad ynghylch Wil Bryan, ni wyddai hi, hyd yn hyn, ddim am brofedigaeth a chroeswynt gwerth sôn amdano. Yr oedd wedi byw gan mwyaf ar "ideas" a gogoniant dyfodol, heb na phryder na phoen. Pa beth bynnag oedd ddiffygiol yn ei chymeriad, yr oedd ei rhieni mor gyfrifol amdano, os nad yn fwy felly, na hi ei hun. Nid oedd hi, wrth natur, heb dalent, a phe cawsai well magwriaeth, diau y buasai hi'n eneth bur wahanol. Ystyrid Susan Trefor yn ferch ieuanc hynod o brydferth. Cydnabyddid hynny gan y rhai nad oeddynt yn ei hoffi. Yr hyn a amharai fwyaf ar ei phrydferthwch oedd ei bod hi ei hun yn rhy ymwybodol ohono. Ni byddai byth yn esgeuluso gwneud defnydd o bopeth i ymharddu. Yr wyf yn mawr gredu, pe na bai llygaid i edrych arni, mai ychydig fuasai'r gwahaniaeth yn ei hymddangosiad, oblegid gwisgai yn fwy i'w boddhau ei hun nag i foddhau neb arall.

Ond y bore y cyfeiriwyd ato yr oedd newid yn ymddangosiad Susan Trefor—newid mor amlwg nes tynnu sylw ei mam y foment yr edrychodd arni. Ymwisgasai yn nodedig o blaen, a'r "hen ffroc gotwn" yn hongian ar ei braich. Amlwg ydoedd fod hynny o gwsg a gawsai wedi ei wasgu i'r ychydig oriau cyn codi, yr oedd ei llygaid yn chwyddedig a chlwyfus.

"Be ydi nene sy gen ti, dywed? Wyt ti'n mynd i'w rhoi hi i rwfun?"

"Nag ydw, 'mam; 'rwyf am ei haltro i mi fy hun."

"Hon ene! Be sy arnat ti, dywed, wyt ti'n gwirioni?"

"Hwyrach 'y mod i, wir, mam. Mi wn 'y mod i wedi bod yn ddigon gwirion am lawer o flynyddoedd, ond 'dydi hi ddim yn rhy hwyr i mi drio gwella."

"Am bewt ti'n sôn? 'Dydw i ddim yn dy ddallt di."

"Ddim yn 'y nallt i? ar ôl y peth ddeudodd 'y nhad neithiwr? 'Rydw i, erbyn hyn, yn fy nallt fy hun yn burion—mai Humbug fûm i ar hyd y blynyddoedd, yn rhoi airs i mi fy hun, fel y deudodd 'y nhad. Ond 'dydw i ddim am fod yn Humbug ddim chwaneg. Os geneth dlawd ydw i, fel geneth dlawd 'rydw i am wisgo.'

"Paid â moedro, 'ngeneth bach i. 'Doedd dy dad ddim yn meddwl hanner y pethe 'roedd o'n eu deud neithiwr. 'Roedd o wedi cynhyrfu, wyddost, achos mae gynno fo gimin o bethe ar i feddwl.'

"Bydase fo wedi deud tipyn o'i feddwl i ni yn gynt, mi fase ganddo lai ar ei feddwl. 'Dydw i ddim yn ystyried fod 'nhad wedi bod yn onest efo ni—os bu o'n onest efo rhwfun."

"Susi! rhaid i mi ofyn i ti beidio â siarad fel ene am dy dad—wyddost ti ddim byd am fusnes nac am y profedigaethe y mae dy dad wedi bod ynddynt. Yn wir, erbyn i mi gysidro pethe, mae'n syn gen i sut mae o wedi gallu cadw.'i grefydd. Mae'n rhaid 'i fod o wedi cael help oddi uchod. Ac mor garedig arno fo! yn cadw'r helynt i gyd iddo fo'i hun rhag yn gwneud ni'n anghyfforddus."

Sut bynnag, gwyddom yrwan, 'mam, am ein gwir sefyllfa—gwyddom ein bod wedi'n twyllo'n hunain a thwyllo'n cymdogion—gwyddom ein bod yn dlawd, ac y byddwn yn dlotach yn y man, a 'dydi o ddim ond Humbug i ni ymddangos fel arall. Mae'n well gen i gael deud fy hun wrth bobol ein bod yn dlawd nag iddyn nhw ddeud. wrtha i."

"Dim ffasiwn beth! paid â gwirioni, eneth! Oni ddeudes i nad oedd dy dad ddim yn meddwl hanner y pethe'r oedd o'n eu deud neithiwr? Wedi cynhyrfu 'roedd o, a 'does dim isio i ti sôn gair am y peth wrth neb. Gwyddost mor glyfar ydi dy dad, yn wir, rhy glyfar ydi o, a dene sut nad ydi pobol ddim yn i ddallt o. A bydae Pwll y Gwynt yn darfod, mi feder dy dad ddechre gwaith arall ar unwaith. Yn wir, y mae o'n mynd i ddechre un rai o'r dyddie nesa 'ma, fel y cei di weld, a mi fydd cystal arnom ni ag y bu hi 'rioed."

"Wyddoch chi, 'mam? 'rydw i'n teimlo'n rhyfedd—fedra i ddim deud mor rhyfedd 'rydw i'n teimlo. 'Rydw fel bydawn i wedi bod yn breuddwydio ar hyd f' oes, ac newydd ddeffro i realeisio sut y mae pethe. Wrth feddwl sut yr ydw i wedi byw, sut yr ydw i wedi ymddwyn at bobol gan mil gwell na mi fy hun, ac am fy airs, chwedl fy nhad, wn i ddim sut i ddangos wyneb i neb, a mae gen i'r fath gwilydd nes 'y mod i bron a marw! Meddyliwch be ddeudith pobol! y fath sport wnân nhw ohonom ni! A fedra i byth eu beio nhw am hynny. 'Chysges i winc dan saith o'r gloch y bore, a 'rydw i'n credu 'y mod wedi meddwl mwy neithiwr am bethe y dylaswn i fod wedi meddwl amdanyn nhw o'r blaen nag a feddylies drwy fy holl oes, a 'rydw i'n gobeithio 'mod i 'n dipyn callach nag y bûm i 'rioed."

"Mae'n dda gen i dy glywed di'n siarad fel ene, Susi. 'Roedd gen i ofn mai rhyw ymollwng a thorri dy galon y baset ti. Yn wir, mae dyn yn cael help yn rhyfedd, ond 'rydw i'n ofni dy fod di wedi cymryd atat yn ormod o lawer y peth a ddeudodd dy dad neithiwr. Mi ddeudith dyn yn 'i ffrwst bethe na ddyle fo ddim, ac y mae'r calla'n colli weithie. Erbyn i dy dad 'sbonio i mi neithiwr a bore heddiw, 'dydw i ddim yn gweld y bydd raid i ni—yn ôl fel y mae pethe'n edrach—newid dim ar yn ffordd o fyw, achos mae isio i ni gofio pwy yden ni o hyd, a bydae ni'n altro mi 'naen ddrwg i dy dad ac i ni'n hunen, a mi âi pobol i siarad yn bethma amdanon ni. 'Does harm yn y byd bod yn gall, fel 'roeddet ti'n sôn, a hwyrach y dylen ni drio peidio â bod mor strafigant, ond, hyd y gwela i, 'does dim isio i mi altro 'n ffordd o fyw, eto, beth bynnag."

"Pa ole rydech chi wedi'i gael, 'mam, ar y pethe ddeudodd y nhad neithiwr? A sut 'roedd o'n 'sbonio am fod mor gas hefo chi? Ai swp o glwydde oedd y cwbl ddeudodd o?"

"Nage; nid dyn i ddeud celwydd ydi dy dad, a phaid â gadel i mi dy glywed di'n siarad fel ene eto. Mi wyddost o'r gore 'mod inne wedi cael y nychrynu a 'mrifo efo'r peth ddeudodd o. A mae amgylchiade, weithie, yn newid mewn 'chydig orie. Pan oedd dy dad yn siarad neithiwr 'roedd bron wedi drysu efo cymin ar 'i feddwl. A mi fùm yn synnu lawer gwaith 'i fod o heb ddrysu, a rhaid bod ganddo synnwyr mwy na dyn i fedru dal y cwbwl. Ie, fel 'roeddwn i'n deud, 'roedd hi'n edrach yn ddu iawn arno fo. Ond mi ddôth Mr. Huws, Siop y Groes, yma, a mae Mr. Huws am joinio dy dad i gael gwaith mein newydd, a mae gen i barch calon iddo, a mi dria ddangos hynny hefyd. 'Rydw i bob amser yn deud mai dyn clên iawn ydi Mr. Huws, ac erbyn i mi feddwl, 'rydw i'n synnu 'n bod ni wedi gwneud cyn lleied ohono fo. Ddaru mi fawr feddwl mai Mr. Huws fase ffrind penna dy dad. Er i mi glywed mai fo ydi siopwr gonesta'r dre, ddaru mi rywsut 'rioed ddelio efo fo, ond yno 'rydw i am ddelio'r cwbwl o hyn allan, wired a 'mod i'n y fan yma. Erbyn meddwl, mae'n rhyfedd fod Mr. Huws heb briodi, achos 'roedd dy dad yn deud fod o'n gefnog iawn. Ond 'ddyliwn na ddaru'r dyn ddim meddwl am briodi, ne, mi wn y base'n dda gan ambell un i gael o'n ŵr."

"Rydw i'n methu gweld, 'mam, os bydd gan ddyn lawer ar ei feddwl, pam y dyle hynny 'neud iddo siarad yn gas ac insulting â neb. 'Roedd 'y nhad yn ffiedd o gas efo chi a finne neithiwr, a 'roeddwn i'n credu 'i fod o'n feddw ne'n drysu yn 'i synhwyre. Ond 'doedd o ddim yn feddw, ne fase fo ddim yn gallu mynd dros hanes 'i fywyd mor fanwl."

'Rydw i'n cyfadde, Susi, na chlywes 'rioed mo dy dad yn siarad 'run fath, ac ar y pryd mi ddaru 'mrifo i'n arw. Ond 'rydw i'n madde'r cwbwl iddo ar ôl i glywed o'n 'sbonio 'i hun. Yn wir, mi fase'n werth i ti glywed o bore heddiw 'n deud 'i deimlad—'roedd yn ddrwg gynno fo. Wydde fo ddim be i'w 'neud iddo fo'i hun. 'Chlywes i neb erioed—hyd yn oed yn y seiat—yn deud 'i brofiad yn fwy rhydd a melys. Wrth sôn am y seiat, mi fase'n dda gen i bydase dy dad yn fwy rhydd yn y seiat, fel 'rydw i wedi deud wrtho lawer gwaith. Mae ganddo ddawn at hynny, a mi fydde'n drêt 'i glywed o, a mae isio mwy o hynny yn y dyddie yma, yn sicir ddigon."

"Mi fydde gan 'y nhad brofiad rhyfedd."

Bydde, wel di, a mi fydde. Mae o wedi gweld cymin, ac wedi cymysgu cymin efo pobol annuwiol, ac wedi cael ei demtio gymin gan y byd, y cnawd, a'r diafol, fel 'roedd o'n deud, ac eto wedi cael nerth i ddal trwy'r cwbwl."

"Be bydae o'n digwydd deud y profiad a gawson ni ganddo neithiwr, 'mam?"

"Paid â siarad yn wirion, da ti. Mi wyddost o'r gore nad oedd dy dad ddim fel y fo'i hun neithiwr, a 'rydw i'n fecsio 'nghalon na faset ti'n i glywed o'n rhoi rheswm am bopeth. 'Roedd yn biti gen 'i glywed o mor edifeiriol, a 'roedd ganddo 'Sgrythur ar bopeth. Ond dene oeddwn i yn mynd i'w ddeud—rhaid i ni 'neud yn fawr o Mr. Huws, achos 'roedd dy dad yn deud y bydde'r cwbwl yn dibynnu arno fo wrth gychwyn y gwaith newydd, gan fod Mr. Huws mor gefnog. Ond mi ofalith dy dad, mi wn, i Mr. Huws gael 'i arian yn eu hôl gydag interest."

"Os oes gan Enoc Huws arian, fel y mae'n ddiame fod, mi faswn i'n ei gynghori i gymryd gofal ohonynt, 'mam."

"Llawer wyddost ti am fusnes. Be ddoe o'r byd, fel y clywes i dy dad yn deud, bydae pawb yn cadw 'u harian a neb yn mentro? A wyt ti'n meddwl bod dy dad a Mr. Huws mor wirion â dechre gwaith newydd a gwario'u harian, oni bae eu bod nhw'n siŵr y can' nhw'u harian yn ôl a llawer chwaneg?"

"Mi wn hyn, 'mam, nad oes gan 'y nhad, yn ôl 'i eirie 'i hun, ddim arian i'w gwario na'u colli, ac os bydd Enoc Huws yn ddigon dwl i godlo hefo gwaith mein, y bydd ynte'n fuan yr un fath, neu mae'n rhyfedd gen i."

"Be sydd arnat ti, dywed? on'd oes ene lawer wedi 'u gneud yn fyddigions wrth fentro?"

"Oes, dyna Hugh Bryan a William Denman!"

Nage, nid Hugh Bryan a William Denman, er mor sharp wyt ti! Rhaid i rwfun golli, ne mi fydde pawb yn fyddigions. A mi glywes dy dad yn deud nad oedd gan Hugh Bryan ddim busnes i fentro."

"Ie, ar ôl iddo wario'r cwbwl."

Arno fo 'roedd y bai am hynny; a be wydde dy dad faint oedd 'i gwbwl o."

Gwydde o'r gore."

Dyma ti, Susi; bydae dy dad yn dy glywed di'n siarad fel ene, mi gnocie dy ben di yn y pared!"

"Mi gnocie beth digon gwag yn y pared, byd a'i gŵyr."

Wyddost ti be, Susi, 'rwyt ti'n siarad fel ffŵl!" Thank you, 'mam" (Susan yn crio'n hidl).

"Susi, mae'n ddrwg gen i mi arfer y gair ene. Paid â chrio a bod yn wirion. Ond yn wirionedd, mae rhw gyfnewidiad rhyfedd wedi dwad drostot ti: 'chlywes i 'rioed monot ti o'r blaen yn siarad yn amharchus am dy dad. Mi wyddost na fu 'rioed glyfrach tad na gwell tad, a mae o'n 'y mrifo i fwy nag a fedra i ddeud dy glywed di'n siarad fel ene. Gweddïa am ras i weld dy ffolineb, 'y ngeneth bach i. Mi wn fod gen ti flys wastad, bydae ti'n gwbod sut, rhoi Hugh Bryan ar draws dannedd dy dad, a 'rydw i'n meddwl y gwn i'r rheswm am hynny, ond 'roeddwn i'n credu dy fod ti bron ag anghofio'r gwiriondeb hwnnw."

Anghofia i byth mono, 'mam. Ac erbyn hyn 'rydw i wedi cael gole newydd ar y cwbwl. Mi wn na ddaru mi 'rioed gymryd interest ym Mhwll y Gwynt—wyddwn i ddim amdano ond fel 'roeddwn i'n digwydd gwrando ar ambell air a ddywedai 'nhad wrth bobl eraill. Ond 'roedd 'y nghalon bron torri pan dorrodd Hugh Bryan i fyny ar ôl colli 'i arian i gyd yn y Gwaith. Ond 'roeddwn i'n credu nad oedd dim bai ar fy nhad. Ond be ddeudodd o neithiwr? ddeudodd o ddim 'i fod o'n gwybod o'r dechrau nad oedd ene ddim plwm ym Mhwll y Gwynt? Ac eto 'roedd o'n gallu edrach ar Hugh Bryan yn taflu ei arian i ffwrdd nes iddo golli'r cwbwl, a mae o'n dal i adael i Mr. Denman 'neud yr un peth o hyd. Ydi peth fel hyn yn onest, 'mam?"

"Mi wela, fy ngeneth, dy fod tithe fel finne wedi camddallt dy dad, a mi wn mai ni ddaru gamddallt, ac nid y fo gamddeud. Yrwan y mae o'n gallu deud nad oes ene ddim plwm ym Mhwll y Gwynt, ond wydde fo mo hynny hyd yn ddiweddar. Sut y galle fo wybod? rho dy reswm ar waith. Er mor glyfar ydi o 'does dim rheswm i neb ddisgwyl i hyd yn oed dy dad wybod be sydd ym mherfedd y ddaear nes iddo fynd yno i chwilio a chwilio'n fanwl. Ac er bod gynno fo idea go lew—gwell na neb arall, mi wn—lle mae plwm i'w gael, mae dyn fel fo yn misio weithie."

"Peth rhyfedd iawn, 'mam, i ni'n dwy gamddallt 'y nhad. Ond mae'n dda gen i glywed mai fel yna 'roedd hi—os fel yna 'roedd hi hefyd."

"'Does dim os amdani, Susi, ond oedd dy dad yn deud â'i dafod 'i hun mai fel yna yr oedd, a sut y medri di feddwl fel arall? Bydae pawb yn y byd 'ma mor onest â dy dad, fe fydde golwg arall ar bethe yn bur fuan, a mi fydde. 'Does gynnon ni, mwy na neb arall, wyddost, ddim lle i ddisgwyl cael popeth fel yden ni'n dymuno. Ac yn y long run fydde fo ddim er ein lles. 'Cheir mo'r melys heb y chwerw, medde'r hen air, ac y mae'r cwbwl er ein lles ysbrydol, fel 'roedd dy dad yn deud. Os cei di fyw i f'oed i ——

Ar hyn daeth y forwyn i mewn.

PENNOD XVIII

Curo'r Twmpath.

"IE," ebe Mrs. Trefor, wedi i'r forwyn fynd allan, "os cei di fyw i f'oed i—a 'rydw i'n gobeithio y cei di, ac yn llawer hŷn—mi gei lawer o bethe na lici di monyn nhw." "Yr ydw i wedi cael llawer o'r rheini heb ddwad i'ch oed chi, 'mam."

"Wyddost di mo d'eni eto, weli di, yn enwedig erbyn y doi di i ddechre byw, hynny ydi, pan ddaw gofal tŷ a theulu arnat ti. Ac yn wir, Susi, mi liciwn dy weld di wedi setlo i lawr—wedi priodi a gneud cartre i ti dy hun, achos, yn ôl trefn natur, fydd dy dad a finne ddim hefo ti am byth, wyddost. 'Rydw i wedi meddwl llawer am hyn yn ddiweddar."

"'Dydi'r prospect ydech chi wedi 'i dynnu ddim yn ddymunol iawn, 'mam, ac os peth fel yna ydi setlo i lawr,' mae'n well gen i beidio â gwybod 'y ngeni. A ddaru chi 'rioed o'r blaen, mi wyddoch, 'mam, siarad yn y dôn yna am setlo i lawr. Ddaru chi 'rioed sôn am ofal tŷ a theulu ac am wybod 'y ngeni, a phethe felly. Onid am beidio â'm taflu fy hun i ffwrdd—am beidio ag edrach ar neb ond rhai gwell na mi fy hun—am gofio pwy oeddwn—am ddal 'y mhen i fyny—ac aros f'amser, onid am bethe felly y byddech chi byth a hefyd yn siarad?"

"Mae tipyn o wir yn y peth 'rwyt ti'n 'i ddeud, Susi, ond mi wyddost mai dy les di oedd gen i mewn golwg bob amser, a 'does gen i ond deud 'run fath â dy dad—nad ydw inne ddim wedi bod yn berffaith ym mhopeth. A mi rof eto yr un cyngor i ti—'does dim isio i ti dy dawlu dy hun i ffwrdd, fel y byddan nhw'n deud. 'Rwy'n adde nad ydi pethe ddim yn edrach mor bethma efo ni ag y buon nhw, a hwyrach na chei di ddim gŵr mor respectable ag y baswn i'n dymuno i ti i gael. Ond bydae ti'n rhoi dy feddwl ar hynny, a bod yn gall, a pheidio, hwyrach, â chadw cweit mor ddustant at rai tebyg i ti dy hun, a bod yn ffri, mae digon eto, wel di, o ddynion da i'w cael."

"Ymhle, 'mam? Wn i am neb mor wirion. A be wnawn i yn wraig i ddyn da?' rhyw ddoli fel fi! heb erioed arfer gwneud dim ond segura, gwisgo, a'm dangos fy hun? Pe cawn i'r cynnig fydde gen i mo'r gydwybod i dwyllo un dyn da. 'Rydw i wedi newid 'y meddwl am bopeth, 'mam, er neithiwr."

'Ddyliwn i wir! Mae gen i ofn fod gormod o natur dy dad ynot ti—meddwl rhy fach ohonot dy hun. Felly mae dy dad; fel y deudes i wrtho lawer gwaith, a 'ddyliwn dy fod tithe'n mynd ar 'i ôl o. A be ydi dy feddwl di'n d'alw dy hun yn ddoli? Mi fase'n o arw gen ti glywed neb arall yn deud hynny, mi dy wranta."

"Dim o gwbwl, 'mam. Be ydw i ond doli? Mi wyddoch o'r gore na ddaru mi 'rioed bobi, na golchi, cwcio, na smwddio, cynne'r tân na golchi'r llestri. 'Ches i 'rioed 'y nysgu i 'neud pethe felly, ond codlo efo miwsig—gwneud slipper tops—antimacassars, a rhw faw felly, a chael rhoi ar ddeall i mi o hyd fod rhywun mawr i ddwad i 'neud lady ohonof, ac yn y diwedd 'y nhad yn deud y bydde raid i mi ddwad i lawr beg neu ddau, a chymryd rhwfun y medrwn i gael gafael arno—miner cyffredin ne rwfun! O, 'mam, mae gen i gwilydd ohonof fy hun—'rydw i'n libel ar enw merch!

Wyddost ti be? 'roeddet ti'n deud gynne dy fod ti'n ofni bod dy dad yn drysu'n 'i synhwyre, ond yr ydw i agos yn siŵr dy fod ti'n drysu. Ond oes ene gannoedd o ferched sy wedi'u magu yn respectable na wyddan nhw ddim am y pethe'r wyt ti'n sôn amdanyn nhw. Gwaith morwyn ydi'r pethe ene, er nad oes dim harm fod pawb yn 'u medryd nhw. A siŵr ddigon, pwy bynnag a briodi di, na chei di forwyn?

"'Dydi miners ddim yn cadw morynion, mam."

Paid â chyboli, da ti, a phaid â harpio ar y gair, ene ddeudodd dy dad yn 'i wylltineb neithiwr. Mi fydde'n o arw gen i dy weld di'n priodi meinar, a mi fydde hefyd. Ond oes ene ddigon o ddynion mewn busnes y bydde'n dda gynnyn nhw gael geneth fel ti, wedi cael education. Ac, yn wir, bydawn i'n mynd yn ferch ifanc yn f'ôl, mi fydde'n well gen i gael dyn mewn busnes yn ŵr na'r peth y maen nhw'n i alw'n ŵr bonheddig. Mwya ydw i'n 'i weled ohonyn nhw sala yn y byd ydyn nhw yn 'y ngolwg i. Ond y mae dyn o fusnes yn ddyn o fusnes a llai o lol o'i gwmpas o. Er enghraifft 'rwan, dene rwfun fel Mr. Huws, Siop y Groes, mi fase'n well o lawer gen i briodi rhwfun fel fo na lot o'r rhai sy'n galw'u hunen yn fyddigions."

"At be 'rydech chi'n dreifio, 'mam? I beth 'rydech chi'n sôn am Enoc Huws wrtha i? Ydech chi'n meddwl gneud match rhyngof i ac Enoc Huws? Be ydi'r dyn i mi? Be waeth gen i am Enoc Huws, bydae o gan mil mwy cefnog? Mae'r dyn yn eitha, am wn i, ond dda gen i mono, a dyna ben ar hyna."

"Be haru ti, dywed; be 'naeth i ti feddwl 'mod i'n trio gneud match rhyngot ti a Mr. Huws? 'Doeddwn i ddim ond yn 'i enwi o fel enghraifft. A phaid â bod mor binco! mae'n debyg arw na 'dryche Mr. Huws ddim arnat ti! Mi feder dyn fel fo sy'n dda arno gael y neb a fynno. Paid â meddwl! 'dydi gwragedd ddim mor brin â hynny, ŵyr dyn! Mae'n arw o beth na feder un sôn am rwfun fel Mr. Huws heb i ti fynd i feddwl bod ar un isio gwneud match. Dim ffasiwn beth, 'y ngeneth i! ymgroesa! Mae digon o ferched cystal â thithe y bydde'n dda gynnyn nhw gymryd Mr. Huws, heb i ti roi pont dy ysgwydd o'i lle! Oes, yn eno'r annwyl! Mi fase rhwfun yn meddwl ar dy siarad di 'rwan dy fod ti am wisgo sachlian a lludw. Ond sefwch o'r gole! pwy ond y ni!"

"'Dydw i'n deud dim, 'mam, am Enoc Huws. Mae'r dyn yn eitha—yn ganwaith gwell na fi. Deud yr ydw i na dda gen i mono." Pwy sy'n hidio pwy sy'n dda gen ti a phwy sy ddim? A rhaid i mi gael gen ti beidio â galw'r dyn yn Enoc ac yn Enoc o hyd. Mae'i sefyllfa, tybed, yn haeddu iddo gael ei barchu a'i alw'n Mistar cystal ag yr wyt tithe'n haeddu d'alw'n Miss."

"Yn llawer mwy, 'mam. 'Dydech chi ddim yn 'y nallt i. Mae Enoc Huws—neu Mistar Huws, fel yr ydech chi'n dymuno 'i alw—yn anhraethol well na fi, ond dda gen i mo'r dyn. A be ydech chi'n sôn am i mi briodi? 'Does gen i ddim eisiau priodi, a 'dydw i ddim am briodi, pe cawn i'r cynnig, nes bydda i'n ffit i briodi. 'Chaiff yr un 'meinar cyffredin' na 'dyn o fusnes achos i edifarhau ynof i byth, 'mam."

"O, felly! Be bydae Mr. Huws yn newid 'i feddwl ac yn gwrthod joinio dy dad gyda'r fentar newydd? A liciet ti fynd i wasanaeth?

"Liciwn, 'mam, os cawn i felly ddysgu gneud rhywbeth, a pheidio â bod yn Humbug. A 'dydw i'n hidio dim pa un ai newid ei feddwl ai peidio a wneith En—Mr. Huws. Er ei fwyn ei hun, mi fydde'n well iddo newid 'i feddwl, mi gymra fy llw."

"Be sy'n dy gorddi di, dywed? Wyt ti wedi glân hurtio? Os nad oes gen ti barch i ti dy hun, oes gen ti ddim parch i dy dad a minne? Susi, 'weles i 'rioed monot ti'n dangos yr ysbryd ene o'r blaen. Mae gen i ofn, 'y ngeneth i, nad wyt ti ddim wedi d'ail eni. Gweddïa am ras, 'y ngeneth bach i, a chymer ofal na chlyw dy dad monot ti'n dangos yr ysbryd ene, ne mi fydd yn y pen arnat ti. A chofia—gwrando be 'r ydw i'n 'i ddeud 'rwan—cofia ddangos pob parch i Mr. Huws pan ddaw o yma, a bod yn suful efo fo, ne fydd yn fychan gan dy dad dy roi di ar tân."

"Bydae o'n gneud hynny, fydde ene fawr o fat nac o golled i neb. Ond peidiwch â phryderu, 'mam. O hyn allan, yr ydw i am barchu pawb, a 'rwyf yn gobeithio na chewch chi na 'nhad le i gwyno 'y mod i'n amharchus o un creadur byw. 'Rydw i am lyfu'r llwch."

'Rwyt ti am fod yn rhwbeth digon gwirion, mi wranta. Ond ddaru mi 'rioed ddisgwyl dy glywed di'n siarad fel hyn, Susi. 'Rwyt ti wedi f'ypsetio i'n arw, a 'rwyt ti bron gneud i mi gredu na wyddost ti ddim am ddylanwad crefydd ar dy galon. Yr ydw i wedi deud lawer gwaith wrth dy dad y dylase fo fod wedi cymryd mwy o drafferth i dy ddysgu di mewn egwyddorion. crefydd, a mae hynny'n ddigon amlwg erbyn hyn. A beth i'w feddwl ohonot ti, ni wn i ddim. Ond y mae hyn yn ddigon plaen er cymin o siamplau da 'rwyt ti wedi eu gweld, fod dy ysbryd di yn ddiarth iawn i bethau crefydd, ne faset ti byth yn siarad fel 'rwyt ti wedi gneud."

"Yr ydech chi'n quite right, 'mam. Wn i ddim am ddylanwad crefydd y Beibl. Os ydw i'n dallt y Beibl—hunanymwadiad, cariad at Dduw, gostyngeiddrwydd, a gweithredoedd da ydi crefydd, a mae 'mywyd i, hyd yn hyn, wedi bod mor ddieithr i bethe felly â bywyd Lwsiffer ei hun. A deud fy meddwl yn onest wrthoch chi, 'mam, 'does dim mwy o debygrwydd rhwng y grefydd a ddysgwyd i mi a chrefydd y Beibl, nag sydd rhwng Beelsebub a Gabriel."

Susi, be sy arnat ti, dywed? Wyt ti mewn sterics, dywed? i fod yn tyngu ac yn rhegi ac yn enwi'r pethe hyll ene? ydi'r ysbryd drwg wedi dy feddiannu di, dywed?"

"Dydw i ddim nac yn tyngu nac yn rhegi, ac am sterics, wn i ddim beth ydi hwnnw."

"Wel, be ydi—dy—feddwl—di—dywed?"

"Fy meddwl i ydi hyn—os gwêl yr Arglwydd yn dda i mi gael byw, na fydda i byth eto yn Humbug. Er neithiwr, 'mam, yr ydw i wedi cael gole newydd ar bopeth, a mae gen i gwilydd ohonof fy hun."

Felly y gelli di, os gwn i be ydi be. Er clyfred ydi dy dad, 'naeth o 'rioed fwy o fistêc na sôn am 'i helyntion yn dy glyw di neithiwr, achos wyddost ti ddim byd am fusnes, a 'does dim posib rhoi dim yn dy ben di, a feder neb dy droi di os byddi di wedi cymryd at rwbeth. Mae gystal gen i ag wn i ddim be nad ydi dy dad yn dy glywed di. A 'rwyt ti wedi f'ypsetio i gymin fel na wn i yn y byd mawr sut i fynd cyn belled â'r London House, ac eto mae'n rhaid i mi fynd, achos 'roedden nhw'n deud y bydde'r ddres yn barod i'w ffitio fore heddiw. A bydase tithe yn rhwbeth tebyg i ti dy hun faswn i'n hidio dim ag ordro dres newydd i tithe, er nad oes mis er pan gêst un o'r blaen. Ond ni gawn weld tebyg i be fyddi di pan ddoi'n ôl. Gobeithio y byddi di wedi dwad atat dy hun, ac y caf weld tipyn o edifeirwch ynot ti. 'Rydw i'n mynd 'rwan, Susi—Susi, 'rydw i'n mynd."

"Purion, 'mam."

"Rheswm annwyl! beth yden ni fel teulu?" meddai Susi wrthi ei hun. "Mae 'mam neu fi wedi glân ddrysu. Wela i yn 'y myw ddim ond tlodi a gwarth o'n blaene ni. Mae'n rhaid 'y mod i wedi bod yn breuddwydio hyd heddiw. 'Roedd yn gas gen i bob amser glywed sôn am fusnes,' y farchnad,' y cwmpeini,' a phethe felly. 'Roedd yn boen i mi feddwl amdanynt. Pethe i ddynion oedden nhw, yn ôl 'y meddwl i. 'Y mhwnc i bob amser oedd byw, mwynhau fy hun, a gwisgo a chodlo. Mi wyddwn fod 'y nhad yn glyfar, a 'roeddwn i'n wastad yn credu ei fod yn gyfoethog. 'Rydw i wedi byw mewn balŵn, ac wedi dwad i lawr fel carreg. Ddaru mi 'rioed feddwl—ie, dyna lle 'roedd y drwg—ddaru mi 'rioed feddwl am bethe felly, na meddwl bod isio i mi feddwl. Ddaru fy meddwl i erioed ddeffro tan fore heddiw. Ond diolch i Dduw, yr ydw i'n credu fod gen i feddwl eto, fel rhw eneth arall. A rhyfedd na faswn i wedi golli o, a finne heb i ddefnyddio am gyd o amser! Ydi 'nhad yn ddyn gonest? 'Ddaeth y cwestiwn erioed i'm meddwl i o'r blaen, a 'dydi o ddim wedi dwad i feddwl 'y mam eto. Tybed ai fi sy'n methu dallt? Ai'r peth yr oeddwn i'n arfer 'i alw'n anonestrwydd ydi'r peth y mae eraill yn i alw'n fusnes? Wn i ddim beth ydi busnes. 'Roedd gen i idea mai rhywbeth syth, above board—rhywbeth na fedrai neb ei edliw oedd gonestrwydd. A dene be ydi o hefyd, neu 'rydw i'n idiot. 'Roeddwn i'n meddwl bod 'y nhad yn berffaith onest, a mi fydde'n well gen i farw na ffeindio nad ydi o ddim. Ond y mae rhywbeth yn 'y nghorddi i, chwedl 'y mam—mae meddyliau drwg lond 'y nghalon i. Gobeithio 'y mod i'n methu. Ddaru mi gamddallt? Gobeithio. Ond mi wnes un mistake—mi feddylies fod 'y nhad a 'mam wedi bod yn planio gneud match rhyngof i ac Enoc. Wn i ddim o b'le daeth 'y meddwl i mi os nad o vanity."

vanity. O, vanity felltith! os caf fyw, mi'th groga di gerfydd corn dy wddw, mi gymra fy llw! Beth bynnag ddaw ar ôl hyn—beth bynnag fydd ein hamgylchiadau ni—fydd ene ddim chwaneg o Humbug yn Susan Trefor. Na, dim Humbug, chwedl Wil, druan."

PENNOD XIX

Pwll y Gwynt.

YMHLITH amrywiol ragoriaethau Capten Trefor, nid y lleiaf, yn ddiamau, oedd ei allu i ragweled digwyddiadau pwysig. Ac ni thrawodd ef yr hoel yn ei phen yn fwy cywir nag yn ei broffwydoliaeth am Bwil y Gwynt. Oblegid cyn pen nemawr o wythnosau yr oedd yr hen Waith yn sefyll yn llonydd, neu, yng ngeiriau proffwyd—oliaeth y Capten—yr oedd " Pwll y Gwynt â'i ben ynddo." Nid yn unig nid oedd y "bydle yn fywiog," "a'r troliau yn cario'r plwm i Lannerch y Môr" (peth na ddigwydd—odd erioed ym Mhwll y Gwynt), ond nid oedd hyd yn oed yr "engine yn chwyrnu."

Yn sŵn engine Pwll y Gwynt yr oedd llawer o'r plant wedi eu geni a'u magu—wedi bod yn chwarae yn mynd i'r ysgol ac i'r capel. Yr oedd rhieni a phlant wedi arfer gweiddi wrth siarad er mwyn bod yn glywadwy. Yr oedd Bob Mathews, y daliwr adar, yn cael chwe—cheiniog y pen ychwaneg am bob nico a ddaliai yn agos i'r engine, am fod yn sicr fod yr adar yn canu'n uwch a chliriach nag adar o gymdogaethau eraill. Sul, gŵyl a gwaith, yr oedd trwst yr engine wedi bod yn rhan mor wirioneddol o fywyd yr ardal ag ydyw trwst afon neu raeadr. Wedi i'r Gwaith sefyll, teimlai'r bobl oedd wedi arfer byw yn ei ymyl fel pe buasent wedi newid eu trigfod; hyd nes iddynt gynefino, teimlent yn rhyfedd, gan ymholi o hyd achos y teimlad., Edrychai'r gwragedd ar y cloc—a oedd wedi sefyll? Am ysbaid, teimlai'r trigolion anhawster i gysgu'r nos. Yr oedd engine y Gwaith wedi gwasanaethu fel crud iddynt, a phan beidiodd y crud â rhoncian, agorodd pawb ei lygaid yn effro iawn. Ond nid oedd hyn ond peth bychan a dibwys, mewn cymhariaeth. Buan y sylweddolodd y trigolion wir ystyr y distawrwydd.

Tu allan i gylch y gymdogaeth, peth bychan oedd fod Pwll y Gwynt wedi sefyll. Prin y cyrhaeddodd y newydd i gyrion y sir. Dichon, ar ddamwain, i'r newydd ddisgyn ar glyw rhywrai ddeng milltir oddi yno, a dichon iddynt ddweud, "Piti mawr!" Ond i'r mwynwyr truain oedd wedi arfer dibynnu ar Bwll y Gwynt am eu cynhaliaeth, yr oedd i'r Gwaith sefyll yn amgylchiad prudd a chwerw iawn. Yr oedd eu cyflogau, ŵyr dyn, ar hyd y blynyddoedd wedi bod yn druenus o fychain, prin yn bedwar swllt ar ddeg yr wythnos, ond dyna'r gorau y gallai Capten Trefor, dan yr amgylchiadau, ei fforddio iddynt. Wrth lunio'r gwadn fel bo'r troed, yr oeddynt hwythau wedi gallu byw ar hynny. Trigent tu allan i gylch y bwrdd lleol, ac felly, er bod y cut yn fynych o fewn llai na phum llath i'r tŷ, yr oeddynt yn gallu cadw mochyn, a dalai'r rhent. Yr oedd Thomas Bartley wedi pregethu iddynt am lawer o flynyddoedd —yn enwedig ar ddyddiau ffair, mai buddiol i ddyn tlawd gadw mochyn, ac yr oedd ffrwyth amlwg i'w weinidogaeth. Er mai rhyw ddau, neu dri fan bellaf, o foch a brynai Thomas yn ystod y flwyddyn, yr oedd ei bresenoldeb ym mhob ffair yn anhepgor. Anfynych y rhyfygai neb o'r cymdogion brynu porchell neu 'storyn mewn ffair heb ymgynghori â Thomas Bartley, ac os gwnaent, odid na chanfyddent yn fuan mai bargen ddrwg oedd. Yr oedd Thomas fel hyn yn colli chwe diwrnod clir mewn blwyddyn i wasanaethu ei gymdogion heb un geiniog o dâl. Rhaid cydnabod y byddai Thomas, ar adegau, yn sylweddoli gymaint o amser yr oedd yn ei golli i wasanaethu pobl eraill, ac yn penderfynu weithiau nad âi byth i ffair ond i brynu mochyn iddo ef ei hun. Ond pan ddeuai diwrnod ffair dechreuai ei gydwybod ei gyhuddo, dywedai: "Barbra, fedra i yn 'y myw las fod yn gyfforddus heb fynd i'r ffair," ac i'r ffair yr âi yn sionc ddigon.

"Mi glywi rw bobol yn deud mai'r peth gwriona ar chwyneb y dduar ydi cadw mochyn," meddai Thomas, un diwrnod," ac yr ydw i wedi notisio wastad ma pobol ddiog, ddi—sut at fyw, ydi'r rheini sy'n deud felly. Doe ddiwaetha'n y byd 'roedd yr hen Feti William yn gofyn i mi: Tomos Bartle,' medde hi, ydech chi'n meddwl bod cadw mochyn yn talu i chi?' a 'be finne: Bydae pawb yn talu cystal â'r mochyn mi 'naen y tro, Beti. Weles i 'rioed fochyn na thale fo, ond mi weles ambell wraig na thale hi byth.' 'Roedd arni ddeuswllt i mi am drwsio pâr o sgidie es gwn i bryd, wyddost, a mi ges siawns i roi pwyth i'r hen feuden, a welest ti 'rioed mor chwim y trodd hi'r stori. Ond rhyngot ti a fi, 'dydw i ddim yn meddwl bod cadw mochyn yn talu, os ei di gyfri popeth a rhoi pris ar bob peth 'rwyt ti'n 'i neud. I ddechre, 'dydi o ddim yn talu i ddyn sy'n rhy falch i nôl baich o wellt ac i garthu'r cut. A 'dydi o ddim yn talu i ddyn heb gydwybod i roi bwyd priodol iddo fo; achos ma'n rhaid i'r mochyn, wyddost, fel rhw ddyn arall, gael bwyd priodol cyn y daw o byth yn 'i flaen. Ond dyma ydw i'n ddeud i ddyn tlawd—dyn wrth 'i ddiwrnod gwaith—na neith o byth ddim byd gwell na chadw mochyn, yn enwedig os bydd tipyn o foron y maes a dalan poethion yn tyfu yn agos i'w dŷ o. Yn ôl 'y meddwl i, a rydw i, o ddyn cyffredin, wedi magu cymin o foch â neb yn y wlad ma—ma cadw mochyn yn talu'n well o lawer na'r sefins banc. Dyma ti'n meddwl am ddyn yn pendrafynu byw yn gynnil a rhoi ei arian yn y sefins banc. Dywed fod o'n safio swllt yr wsnos. O'r gore. Ambell wsnos mi fydd wedi colli diwrnod—ne brynu rhwbeth na fydd mo'i isio, a mi geiff y banc gymryd 'i siawns, a weles di 'rioed lai fydd yno erbyn diwedd y flwyddyn. Ond, bydase gan y dyn fochyn a chydwybod i'w ffidio'n dda, mi fase'n bownd o morol am fwyd iddo dros iddo fod ar lai 'i hun. Peth arall—'dydi dyn ddim yn licio mynd â rhw dreifflach i'r banc, ac os trîth o'u cadw nhw yn y tŷ, mae rhw aflwydd o hyd yn dwad i'w cymryd nhw i ffwrdd. Glywest di am Ned Jones es talwm yn trio cadw arian yn y tŷ? Naddo? Wel, i ti, mi bendrafynodd, un tro, roi'r baco heibio a hel tipyn heb yn wbod i'r wraig. Deuddeg swllt odd 'i gyflog o, a than bost y gwely roedd Ned yn cadw'i gelc. Rodd o wedi bod wrthi am bymtheng wsnos, ac wedi casglu—'bygse fo—saith a chwech—hanner coron dan dri phost y gwely. Ond un diwrnod, ar ôl i'r wraig fod yn glanhau'r llofft, fe bowdrodd Ned i edrach oedd 'i gelc o'n sâff. Wel, i ti, mi gododd un post. 'Ho,' 'be Ned, ma'r hanner coron ene wedi mynd,' a mi â'th at y post arall, a 'roedd hwnnw wedi'i gloywi hi. Felly 'roedd y tri, a welodd Ned byth mo'u lliw na'u llun nhw. Ond mi fu 'no dipyn o row, fel y gelli di feddwl, a maen 'nhw'n deud i mi na fuon nhw byth 'run fath fel gŵr a gwraig, a bod Ned yn smocio mwy nag yrioed. Ie, 'dydi dyn ddim yn licio mynd â rhw dreifflach i'r banc, achos wrth 'i weld o'n mynd yn amal mi eith pobol i ddeud 'i fod o'n werth 'i filoedd, a mi fydd pawb yn mynd ato i ofyn benthyg, ac os daw hi'n binch ar y dyn 'i hun fydd ene ddim cydymdeimlad â fo. Ond dyma ddyn yn cadw mochyn mae o'n hel rhw dipyn i'w fol o deirgweth yn y dydd o leia, a dydi o'n gwbod fawr oddi wrtho, ac o dipyn i beth mae o'n dwad yn rhwbeth yn y diwedd. Maen 'nhw'n deud i mi ma dene sut y mae'r Gwyddelod ene'n hacio byw, ag y bydde'n well gynyn nhw fod heb hôm riwl nag heb gut mochyn. Ond mae llai o fagu moch gan bobol dlawd nag a fydde, yn enwedig yn y trefydd. A'r rheswm am hynny, meddan nhw, ydi fod y Locol Bord yn 'u stopio nhw, ac am fod bacwn y Merice mor rhad. Dene'r felltith fwya ddaeth erioed i'n gwlad ni ydi'r Locol Bord a bacwn y Merice—yn ôl y meddwl i. Ma'r Locol Bord yn stopio'r tlodion gadw mochyn, ac oherwydd hynny, dene lle maen 'nhw'n sychglemio ar hyd y flwyddyn, ac yn rhedeg i'r siop i nôl cnegwerth o facwn y Merice a chnegwerth o datws—yn lle bod, fel y bydde pobol es talwm, a dwy hog o datws yn 'r ardd a mochyn yn nhop y tŷ. Wn i am ddim sy'n porthi diogi gymin â'r Locol Bord. Es talwm, mi fydde dyn, ar ôl dwad o'i waith, a molchi, yn mynd i'r cae tatws, ne ynte i lanhau tan y mochyn. Ond i'r tafarne y ma'r bobol yn mynd rwan. A chlywi di byth sôn y dyddie yma am swper tir tatws.' A'r cwbwl i gyd o achos y Locol Bord. Be ddeudest ti?—er mwyn cadw'r ffefars i ffwrdd? Lol i gyd! Ma nhw'n deud os bydd cut y mochyn o fewn pum llath i'r tŷ y bydd y ffefar yn bownd o ddwad, ond os bydd y cut bum llath a dwy fodfedd oddi wrth y tŷ y bydd pawb yn saff! Glywest di erioed siarad gwirionach yn dy fywyd?"

Ond yr wyf yn crwydro. Y ffaith oedd fod agos bob un o weithwyr Pwll y Gwynt yn magu mochyn ac yn plannu tatws. Mae'n syndod meddwl ar cyn lleied o arian y mae llawer o weithwyr Cymru wedi gallu byw a magu teuluoedd lluosog. Mewn llawer amgylchiad yr oedd nifer y geneuau ymron yn gyfartal i nifer y sylltau a enillid mewn wythnos gan y penteulu. Nid oeddynt yn llwgu, nid oeddynt yn noethion. Yn wir, yr oeddynt fel teulu yn gallu dyfod yn daclus i'r capel; ac nid hynny yn unig, ond yn gallu rhoi ychydig at yr achos. Pa fodd yr oeddynt yn gallu gwneud hynny—y nefoedd fawr a ŵyr! Rhaid bod eu hanghenion anhepgor yn fychain iawn, a'n bod ni y dyddiau hyn yn gwario llawer am bethau y gellir gwneud hebddynt.

Gyda chyflogau truenus o fychain, yr oedd mwynwyr Pwll y Gwynt wedi gallu byw, magu plant, a rhoi chydig ysgol iddynt. Eglur yw na allai'r rhai mwyaf darbodus roddi dim o'r neilltu ar gyfer diwrnod glawog. Fel yr aderyn sy'n byw o ddydd i ddydd heb ddim darpariaeth ar gyfer yfory, yr oeddynt hwythau yn byw o sist i sist, a phan safodd Pwll y Gwynt yr oedd eu tlodi a'u trueni yn fawr arnynt. Er bod y cyfyngder wedi dyfod ar y nifer mwyaf o'r gweithwyr yn hollol ddiddisgwyl, nid oedd rhai o'r hen ddwylo heb weled yn eglur na allai unrhyw Gwmni ddal i wario arian yn barhaus heb dderbyn ond y nesaf peth i ddim yn ôl. Heblaw hynny, yr oedd gan Capten Trefor ei gymeriad a'i enw da i'w gadw, ac yr oedd wedi cymryd rhai o'r gweithwyr mwyaf profiadol i'w gyfrinach ers tro.

Perthynai i Bwll y Gwynt ŵr o'r enw Sem Llwyd. Heblaw ei fod yn grefyddwr ac o gymeriad dichlyn, ystyrid Sem yn oracl ar y dull gorau o weithio. Cyndyn iawn a fyddai Sem i ddweud ei farn ar unrhyw beth oni byddai'n siŵr o'i fater. Pan benderfynid gyrru mewn cyfeiriad newydd yn y Gwaith, cadwai Sem ei farn hyd nes ceid prawf teg, ac yna datganai ei syniad yn ddi-floesgni, a byddai, wrth gwrs, bob amser yn gywir. Ni wybuwyd erioed i Sem fethu yn ei farn. Pan wesgid arno gan Capten Trefor, am ei syniad ymlaen llaw, gofalai Sem am roi digon o os o'i gwmpas, fel, pa fodd bynnag y trôi'r anturiaeth allan, y byddai barn Sem yn iawn. Ynglŷn â gweithiad Pwll y Gwynt ni phetrusai Sem ddweud ei farn yn groyw ar un peth, a da y gwyddai nad oedd y peth hwnnw o fewn terfynau posibilrwydd i'r Cwmni byth ei gario allan. Pan gyfarfyddai'r gweithwyr yn dwr i gael mygyn—yr hyn a wnaent yn fynych—oblegid nid oeddynt yn credu mewn gorweithio, ac yr oeddynt oll yn gydnabyddus â'r pennill:

Y mae chwech o oriau'n ddigon
I bob un o'r miners mwynion,
I fod rhwng y dyrys greigiau
Mewn lle myglyd yn llawn maglau.

Pan gyfarfyddent felly, mynych y rhoddai Sem y wedd fwyaf doeth ar ei wyneb, ac y datganai ei farn yn glir i wrandawyr llawn edmygedd ar yr hyn y dylasai'r Cwmni fod wedi ei wneud.

Yr oedd Sem Llwyd yn un o'r rhai a gymerasai'r Capten i'w gyfrinach, ac nid oedd heb wybod am ddrych-feddyliau gwyllt Sem. Pan gaffai'r Capten Sem ar ei ben ei hun, rhedai'r ymddiddan rywbeth yn debyg i hyn : Wel, Sem, beth ydyw'ch barn am yr hen Waith yma erbyn hyn?"

"Yn wir, Capten, mae'n anodd deud, a bod yn siŵr." "Yr wyf yn credu, Sem, eich bod chwi a minnau'n synio yn lled debyg am Bwll y Gwynt. Pe cawswn i fy ffordd fy hun, mi fuaswn wedi gwneud fel hyn ac fel hyn." Ac yna awgrymai'r Capten ryw gynlluniau cyffelyb i'r rhai y clywsai fod Sem yn eu gwyntio. "Ond waeth tewi, Sem, mae gen innau fy meistar, ac os fel hyn y mae'r Cwmni yn dewis gwneud, eu look out nhw ydyw hynny. Ond mi ddywedaf hyn, nid oes dim posib cario 'mlaen fel hyn yn hir."

"Ddaru chi 'rioed, Capten, ddeud mwy o wir, a 'rydw i wedi deud 'run peth laweroedd o weithiau, mae'r dynion yn gwybod. A mae o'n andros o beth, Capten, na châi dyn fel chi, sy'n gwybod sut i weithio mein, ei ffordd ei hun."

"Sut bynnag, Sem, felly y mae pethau."

Ar achlysuron penodol, proffwydai Sem yn ddoeth am ddiwedd buan Pwll y Gwynt, ac eglurai'r rheswm am hynny—sef na allai'r Capten gael ei ffordd ei hun. Pan safodd Pwll y Gwynt nid oedd neb yn rhoi'r bai am hynny wrth ddrws Capten Trefor. Dywedai Sem Llwyd, ac eraill, erbyn hyn, fod y Capten wedi eu rhybuddio, a phe cawsai'r Capten ei ffordd ei hun y buasai popeth yn dda.

Y Cwmni yn Llunden oedd yr achos o'r holl ddrwg. Ac fel hyn yr oedd y Capten, er ei fod wedi colli ei gyflog, wedi llwyddo i gadw ei enw da ymhlith ei gymdogion. Credai'r ardalwyr yn lled gyffredinol pe cawsai'r Capten ei ffordd ei hun y buasai Pwll y Gwynt yn fforddio gwaith cyson am oes neu ddwy o leiaf. Aw—grymai'r Capten wrth y rhai y digwyddai ymddiddan â hwy fod" dialedd o gyfoeth "wedi ei adael yn yr hen Waith, ac o dipyn i beth yr oedd y mwynwyr eu hunain, oedd wedi bod flynyddoedd yn chwilio am y plwm heb ei gael, wedi dyfod i gredu'r un peth, ac ymhen ychydig amser tystiai ambell un o'r hen weithwyr fod ym Mhwll y Gwynt "blwm fel gwal," yn gorwedd, erbyn hyn, dan y dŵr! Edrychid ar Capten Trefor fel merthyr, ac oni bai fod y mwynwyr mor dlawd buasent yn gwneud tysteb iddo. Gan na allent hynny, bu raid iddynt fodloni ar felltigo Cwmni Llunden, a rhoi eu goglyd am y dyfodol yn nhiriondeb, gallu, a dyfeisgarwch Capten Trefor. Chwarae teg i'r Capten, nid oedd yntau yn fyr o drwsio lampau eu gobaith. Prin y gallai fyned o'i dy na chyfarfyddai â rhyw weithiwr neu'i gilydd, a drôi lygad pryderus ato, gan ddisgwyl rhyw air o obaith. Edrychai'r Capten arno gyda llygad tosturiol—cymerai afael yn gartrefol yn lapel ei got a dywedai yn fwyn :

Wel, Benjamin bach, mae pethau'n ddifrifol onid ydynt? Ond mi wyddwn ers tro mai i hyn y dôi hi. Beth arall oedd i'w ddisgwyl, gan na chawn fy ffordd fy hun o drin y Gwaith yn y modd gorau? Ond peidiwch â rhoi'ch calon i lawr, Benjamin, mi dry rhywbeth i fyny rai o'r dyddiau nesaf yma. Gawsoch chwi fwyd, Benjamin, heddiw? Wel, wel,—rhoswch—cymerwch y nodyn yma ac ewch at Miss Trefor," a thynnai'r Capten ddarn o bapur o'i boced ac ysgrifennai arno: "Dear Susi—give this poor devil a bite of something to eat." Digwyddai peth fel hyn bron bob dydd. Ymdrechai'r Capten godi ysbryd y gweithwyr, ac anfynych y methai loywi gobaith ambell un oedd ar ddarfod amdano. Mynych y cyterchid ef gan y masnachwyr oedd wedi ac yn trystio 'r gweithwyr am ymborth, Capten Trefor, ydech chi'n meddwl bod gobaith i Bwll y Gwynt ail gychwyn?" Syr," atebai'r Capten, "ni fynnwn er dim a welais greu gobeithion gau. Nid peth amhosibl ydyw i Bwll y Gwynt ail gychwyn, ond y mae hynny yn bur annhebyg. Os ail gychwynnir ni fydd â wnelwyf i ddim ag ef ond ar un telerau—sef y caniateir i mi fy ffordd fy hun, a chwi wyddoch, Mr. Jones, mor anodd ydyw i ddyn—pan na fydd ond gwas i'r Cwmpeini—gael ei ffordd ei hun er i'r ffordd honno fod yr un orau. Fel mater o ffaith, syr, pe cawswn i fy ffordd fy hun, fe fuasai Pwll y Gwynt heddiw nid yn unig yn mynd, ond hefyd yn talu yn dda i'r Cwmpeini. Ond rhyngoch chwi a fi—dim pellach just yrwan, Mr. Jones?—rhyngoch chwi a fi, mae fy llygad nid ar Bwll y Gwynt, ond ar rywle arall. Cewch glywed rhywbeth rai o'r dyddiau nesaf. Mewn cymdogaeth fel hon, sy mor gyfoethog mewn mwynau, fe egyr Rhagluniaeth ryw ddrws o ymwared yn fuan. Mewn ffordd o siarad, nid ydyw hynny, i mi yn bersonol, nac yma nac acw. Ar ôl yr holl helynt, y pryder a'r siomedigaethau, mae'n bryd i mi gael gorffwys. Ond sut y medraf orffwyso tra na allaf fynd allan o'm tŷ heb gyfarfod â degau o ddynion truain yn segura, ac nid hynny yn unig, ond yn dioddef angen? Na, syr, er fy mod wedi cyrraedd yr oedran hwnnw pryd, mewn ffordd o siarad, yn ôl trefn natur, y dylai dyn gael gorffwys a hamdden i feddwl am bethau pwysicach ac ymbarotoi ar gyfer y siwrnai fawr sy'n ein haros oll—pa fodd y medraf orffwyso? Nid wyf yn anghofio, syr, eich bod chwi, ac eraill sydd yn y cyffelyb amgylchiadau, o'ch caredigrwydd, wedi coelio 'r gweithwyr, druain, â digon o ymborth i gadw corff ac enaid wrth ei gilydd—nid wyf yn anghofio, meddaf, fod arnoch eisiau eich arian—hynny ydyw, nid am na ellwch wneud hebddynt—ond am fod yn iawn i chwi eu cael. Na, syr, gyda thipyn o ysbryd anturiaethus ar ran y rhai sydd wedi llwyddo tipyn yn y gymdogaeth, a bendith Rhagluniaeth, fe fydd golwg arall ar bethau ymhen ychydig wythnosau, Mr. Jones."

Fel hyn, yn wyneb yr amgylchiadau cyfyng a'r tlodi mawr, yr oedd y Capten yn cadw'r mwynwyr ac eraill ar flaenau eu traed mewn disgwyliad am rywbeth. Yn y cyfamser, ymwelai Enoc Huws yn fynych â Thy'n yr Ardd, ac ni chaeodd y cymdogion eu llygaid rhag gweled hyn. Sylwyd fod Enoc mewn byr amser wedi ymdwtio ac ymloywi cryn lawer. Yr oedd y gŵr difrifol, y masnachwr cefnog, ond diofal ynghylch ei wisgiad, wedi sythu, ymhoywi, ac ymdecáu nid ychydig. A rhyfeddach fyth, gwelwyd fod Miss Trefor hithau, wedi dofeiddio, sobreiddio, ac wedi taflu ymaith ei holl addurniadau. Pa gasgliad arall y gallai'r cymdogion ddyfod iddo heblaw fod Enoc Huws a Miss Trefor yn eu cymhwyso eu hunain i'w gilydd? Am ddyddiau rai ni bu i'r fath fynd a dyfod i yfed te ymhlith y cymdogesau er mwyn cael cyfle i drin yr achos. Dechreuid pob ymdrafodaeth a fu ar achos Enoc drwy gymryd yn ganiataol ei fod ef a Miss Trefor wedi eu dyweddïo. Cydolygid yn gyffredin fod Miss Trefor yn llawer mwy ffortunus yn ei dewisiad nag Enoc. Cyfaddefid gydag unfrydedd fod Enoc yn gefnog, ac yn un tebyg o wneud gŵr da, tra na feddai Miss Trefor ddim i'w ganmol ond prydferthwch canolig, nad oedd wedi'r cwbl o un gwerth tuag at fyw, a hefyd "ideas" ffôl—neu, mewn geiriau eraill—falchder penwan. Pryderai'r cymdogesau hyn a allai diwydrwydd ac ymroad a llwyddiant masnachol Enoc gyfarfod â drych—feddyliau Miss Trefor. Ysgydwai ambell hen ferch anobeithiol ei phen, "er nad oedd hi yn dweud dim, nac yn hidio dim pwy a gymerai Enoc Huws yn wraig iddo." Ni phetrusai ambell fam â thyaid o ferched anfarchnadol ganddi ddatgan ei meddwl yn groyw "ei bod wedi ei siomi yn fawr yn Enoc Huws—ei bod wedi arfer edrych arno fel dyn o farn, ac yn sicr fel dyn oedd yn grefyddol. Ond mai felly y digwydd yn aml—y rhai yr oeddid yn meddwl mwyaf ohonynt oedd yn ein siomi fwyaf.' Dywedid bod rhai o'r mamau hyn hyd yn oed wedi newid eu barn am y te a werthid gan Enoc, ac yn dweud y byddai raid iddynt "drio rhyw siop arall." Yr oedd Enoc wedi gwneud enw iddo'i hun am de da, ac wedi i'r mamau "drio rhyw siop arall," dychwelasant wedi'r cwbl o un i un i Siop y Groes.

PENNOD XX

Doethineb Sem Llwyd

MI gredaf fod Sem Llwyd cystal teip o'r mwynwr ag a gyfarfûm i erioed. Yr oedd yn fyr ac eiddil o gorff—ei wyneb yn felyn—llwyd a thenau—ei gefn yn crymu tipyn—ei fynwes yn bantiog, a'i anadl yn brin ac afrwydd—yntau'n pesychu'n dost—yn ysmocio o getyn byr—yn bwysig, gwybodus, a hunan—ddoeth, ac yn hen ŵr, o ran yr olwg, cyn cyrraedd ei drigain mlwydd oed. Yr oedd gan Sem doreth o wallt llwytgoch, nad oedd yn llaes, ond y gellid tybio na phrofodd erioed fin y siswrn, ond a ddeifid bob gaeaf gan y gwynt a'r rhew, yr un fath â'r gwrychoedd. Yr oedd ei lais yn gras—gryf, anghymesur, fel pe na buasai'n perthyn iddo ef ei hun, neu fel pe buasai wedi ei etifeddu yn ôl ewyllys rhyw berthynas ymadawedig, yr un fath â'r gôt a wisgai ar y Sul, oedd yn rhy fawr iddo o lawer. Oni bai y gwyddid yn sicr beth oedd oedran Sem, buasid yn tybied mai rhywun ydoedd o'r cynoesoedd a adawyd gan angau fel un rhy ddiwerth i'w gynhaeafu. Cofus gennyf fod rhyw syniad ffôl yn fy meddwl mewn perthynas i Sem—sef na fyddai farw, ac mai adfeilio o dipyn i beth a wnâi nes cyrraedd diddymdra. Yr oedd Sem yn hoff iawn o gymdeithas—nid yn gymaint er mwyn derbyn ag er mwyn cyfrannu addysg, ac fel pawb o'r hil ddynol, hoffai ymweled â'r teuluoedd a chymdeithasu â'r bobl a edmygai fwyaf ei ddoethineb. Tra'r oedd Pwll y Gwynt yn mynd," nid oedd Sem yn brin o gyfleusterau i ysgafnhau ei fynwes, er y byddai ymhlith ei gydweithwyr yn wyliadwrus iawn fel y dywedwyd eisoes. A pho fwyaf a fyddai'r newyn am wybodaeth, dyfnaf yn y byd y ceisiai Sem roi'r argraff fod digon o ŷd yn ei Aifft ef ei hun. Byddai hyn, weithiau, yn brofoclyd iawn, oblegid pan amlygid chwilfrydedd mwy na chyffredin am wybod rhywbeth, rhoddai Sem awgrymiad digamsyniol y gallai pe buasai'n dewis roddi'r holl wybodaeth a ddymunid, ac yna syrthiai i ddistawrwydd doeth, gan dynnu mwy o fwg o'i getyn a throi clust fyddar at bob cais a chwestiwn. Wedi i Bwll y Gwynt sefyll, deuai ambell fwynwr o eithafion y gymdogaeth—fel y daeth brenhines Seba gynt at Solomon, i wrando doethineb Sem, ac er na ddychwelai gyda'r un argraff ag a adawyd ar feddwl yr hen chwaer o Seba, nid oedd hyder Sem Llwyd yn adnoddau ei wybodaeth a'i ddoethineb fymryn yn llai nag eiddo Selyf.

Yr annedd nesaf i dŷ Sem Llwyd oedd y Twmpath, preswylfod hen gydnabod y darllenydd, sef Thomas Bartley. Drwy fod Sem, erbyn hyn, yn segur, nid an—fynych yr anrhydeddai y Twmpath â'i bresenoldeb. Gallasai gŵr heb fod mor syml â Thomas Bartley briodoli amcanion hunanol i ymweliadau Sem. Yr oedd Thomas, fel y cofia'r darllenydd, yn ŵr diddysg, difeddwl—ddrwg, ond hynod gydwybodol a darbodus. Ar yr olwg gyntaf gadawsai argraff ar y dieithr nad oedd yno i gyd." Ond yr oedd yn Thomas Bartley ryw fath o graffter anymwybodol a diffuantrwydd eglur i bawb a'i hadwaenai. Ei nodweddion mwyaf arbennig oedd cariad at yr hyn oedd syth, union, a theg, a charedigrwydd di-ben-draw. Yr hyn oedd yn Thomas a ddeuai allan, ac nid oedd ganddo ddim stoc wrth gefn, fel y tybid fod gan Sem Llwyd. Yn wir, anfynych y gallesid cael dau ŵr mor wahanol, fel y gwelir oddi wrth yr ymddiddan canlynol, a ddigwyddodd yn ystod un o'r ymweliadau y cyfeiriwyd atynt. Yr oedd Thomas, pan ddaeth Sem i mewn, newydd orffen rhoi clem ar esgid, ac yn prysur roddi black ball arni, gan wasgu sawdl yr esgid yn erbyn ei gylla, ac yn rhwbio yn egniol nes oedd gwythiennau ei dalcen cyn dewed â bys. Gan godi ei ben a chau un llygad, a dal ymyl yr esgid rhyngddo a'r gannwyll, ebe Thomas:

"Wel, Sem, lle buoch chi'n cadw, ddyn? 'Rydw i wedi bod yn ych disgwyl chi drw'r dydd. A chithe ddim yn gweithio, fase waeth i chi roi'ch clun i lawr yma na phendwmpian gartre. Ewch at y tân, Sem, mi fydda wedi gorffen yr esgid yma mewn dau funud, ag ono mi gawn smogen a mygòm."

"Raid i ddyn sy'n medru darllen, er i fod o allan o. waith, ddim pendwmpian, Thomas," ebe Sem.

"Twbi shwar," ebe Thomas, 'rydw i'n rhy at o feddwl bod pawb 'run fath â fi fy hun. Os na fydda i'n gweithio, ne'n smocio, ne'n byta, mi fydda'n cysgu; dyna'r pedwar peth ydw i'n neud yn yr hen fyd yma.

Rhw fyd go sâl fydde fo bydae pawb 'run fath â chi, Thomas," ebe Sem.

"Siampal!" ebe Thomas, "ac eto, 'rydw i reit cyfforddus, a 'dydw i ddim yn gweld y rheini sy'n sgolars yn rhw helynt o bethe—'rydw i lawn gystal fy off â'r rhan fwya ohonyn nhw—diolch i'r Brenin Mawr am hynny. Achos os ceiff dyn fwyd a diod ac iechyd, be chwaneg sy gynno fo isio?"

"Rydech chi'n anghofio, Thomas," ebe Sem, "fod gan ddyn feddwl ac enaid, ac y mae isio porthi'r enaid cystal â'r corff."

"Twbi shwar, ydech ddim yn meddwl 'y mod i mor ddwl â hynny, Sem? Achos i be 'ryden ni'n mynd i'r 'capel, 'blaw i gael profijiwns i'r ened? Deud yr ydw i, Sem, na feder dyn ddim byw ar ddoethineb. Achos dyma chi a finne, 'rwan, y fi'n ddyn dwl a chithe'n sgolor, ac er 'y mod i'n blwc hŷn na chi, mi gymra fy llw y pwysa i ddau ohonoch chi, Sem, er ych holl ddoethineb, achos 'rydech chi'n edrach mor dila, ddyn, a bydaech chi'n byw ar bot pâst," ebe Thomas.

Yn y fan hon goddiweddwyd Sem gan bangfa ofnadwy o besychu, a chyn i'r bangfa fynd drosodd yr oedd Thomas wedi rhoi ei waith o'r neilltu ac wedi eistedd gyferbyn â Sem, yr ochr arall i'r tân, ac yn edrych arno yn syn, ac ebe fe:

"Wyddoch chi be, Sem? 'daswn i ddim yn ych nabod chi, a gwbod bod ych chi 'run fath ddeng mlynedd yn ôl ag ydech chi 'rwan, faswn i'n rhoi'r un ffyrling am ych bywyd chi. Wel, ond ydech chi'n pesychu, ddyn, fel bydae chi'n mynd i farw. Cymrwch smogen, Sem, gael i'r pwl fynd trosodd. Barbra, gwna paned o goffi i ni, a thipyn o facwn i iro tipyn ar du mewn Sem yma, ne chawn ni ddim byd ohono fo, gei di weld. Sem, wyddoch chi pwy roth y blwch baco ene i mi? Darllenwch y peth sydd ar y caead."

"Mi wela," ebe Sem, gan ddarllen yr argraff ar y caead: "Presented to Thomas Bartley, Esq., by his —humble admirer, W. Bryan."

"Pry garw oedd y bachgen hwnnw," ebe Thomas, "ysgwn i lle mae o 'rwan? Sem, 'rydw i wedi meddwl gofyn i chi gantodd o weithie, ond 'y mod i'n anghofio—pwy ddisgyfrodd y baco? 'Ddyliwn fod chi'n gwbod, Sem?"

"Indigo Jones," ebe Sem.

"Ai e!" ebe Thomas. "Rhw enw go od hefyd, mae fel bydae 'i hanner o'n Gymro. Ai Cymro oedd o, Sem?"

"Ie, debyg," ebe Sem.

"Wel, bendith ar 'i ben o, meddaf i! Oes gynnoch chi rw aidî, Sem, faint o amser sy er hynny?" gofynnai Thomas."

"Rhw aidî?—'ddyliwn fod gen i—tua phymtheg cant o flynyddoedd yn ôl," ebe Sem.

"Dyn fo'n gwarchod!" ebe Thomas, a mae cymin â hynny, Sem? Wyddoch chi be, mae ambell i smogen wedi'i chael er hynny!"

"Oes, Thomas, i mae. Ie, tuag amser batel Waterlw y disgyfrwyd y baco," ebe Sem.

"Rhoswch chi, Sem, ydech chi'n peidio â'i phonsio hi 'rwan? Ond oedd brawd i 'nhad ym matel Waterlw pan oedden nhw'n ymladd yn erbyn Boni?"

"Hwyrach hynny," ebe Sem, "sôn yr ydw i am y fatel yn erbyn Polion, bymtheg cant o flynyddoedd yn ôl."

"Ho, deudwch chi hynny," ebe Thomas, 'chlywes i 'rioed sôn am y fatel honno. Pwy aeth â hi, Sem?"

Y ni, debyg," ebe Sem.

"Ie, 'ddyliwn," ebe Thomas. "Ond gan yn bod ni efo'r pwnc, ai gwir ydi'r stori, Sem, fod gwas yr Indigo Jones 'ma, pan welodd o'i fistar yn smocio'r tro cynta, wedi tawlu bwceded o ddŵr am 'i ben o?"

"Mae traddodiad felly'n bod, Thomas," ebe Sem, "ond welis i 'run hanesydd o ymddiried yn sôn am hynny."

"Mi greda hynny'n hawdd," ebe Thomas, "achos pwy fase'n ffasiwn ffwl? Peth arall ydw i isio 'i ofyn i chi, Sem, ym mha wlad y daru'r Indigo Jones 'ma ddisgyfro'r baco?—'ddyliwn mai yn rhai o'r gwledydd tramor ene?"

"Ie, Thomas, yn Bristol," ebe Sem.

"Ho, felly," ebe Thomas, dene sut mae cymin o o sôn am faco Bristol, ond 'dydw i'n hidio fawr amdano fo—well gen i fy hun faco Caer, ond pawb at 'i ffansi, fel y deudodd y dyn wrth roi cusan i'r gaseg. Ond dene ddigon ar nene. Y gwaetha arna i ar ôl i mi gael gwybodaeth i sicrwydd ar bethe fel hyn, ydi 'mod i'n 'u hanghofio nhw'n union. Ond deudwch i mi,—mae o'n taro i'm meddwl i—oedd ene ddim rhw saer maen go glyfar es talwm o'r enw Indigo Jones, ddaru neud tŵr Llunden, Pont Lanrwst, Castell Rhuddlan, Castell Caernarfon, a lot o bethe fel ene, mae rhw aco gen i glywed am ddyn tebyg arw i'r Indigo Jones 'ma?"

"Mae'r pethe 'r ydech chi'n sôn amdanyn nhw, Thomas," ebe Sem, "wedi 'u gneud cyn y cyfnod Cristionogol o dan yr hen oruchwyliaeth—rai miloedd o flynyddoedd cyn i Indigo Jones gael ei eni, ac felly 'does dim sail i gredu'r hanes."

"Gwarchod pawb!" ebe Thomas, "ac fel y clywch chi bobol yn siarad sy ddim yn sgolors, nac yn gwbod dim am hanesyddiaeth! Ond dowch i ni ddwad yn nes gartre, Sem, achos yr ydw i wedi sylwi pan eith pobol i sôn am bethe sy cyn co dyn nad ydyn nhw ddim yn byticlar yr ôl am rhw fil neu ddwy o flynyddoedd. Deudwch i mi, oes ene rw sein i Bwll y Gwynt ene ail gychwyn?"

"Dim, Thomas, cyn belled ag y gwn i, ac yr ydw i'n gwbod cymin â neb ar y pen ene," ebe Sem.

"Nag oes, 'ddyliwn," ebe Thomas, "y syndod ydi fod o wedi dal cyd. Wyddoch chi be, Sem, mae'n rhaid bod yr hen Waith ene wedi costio dialedd o arian i rwfun, a mi wranta fod lot ohonyn nhw, erbyn hyn, yn rhegi'n braf ac yn barod i dawlu'r hen Drefor i lawr y siafft, achos mi gymra fy llw mai fo sy wedi 'u boddro nhw."

"Boddro nhw, Thomas? be 'dech chi'n i feddwl? Bydase'r Capten wedi cael 'i ffordd ei hun—a fy ffordd inne hefyd, o ran hynny—mi fase Pwll y Gwynt yn talu'n iawn, achos y mae yno wlad o blwm, bydasen nhw'n mynd ato yn y ffordd iawn," ebe Sem.

"Gwlad o blwm, Sem? Peidiwch â siarad nonsens, ddyn glân. Os oes yno wlad o blwm, pam na fasech chi'n dwad â thipyn ohono fo i'r lan? Wyddoch chi be, Sem, 'dydw i ddim yn meddwl fod lot o bobol mwy twyllodrus na meinars ar chwyneb y ddaear. Weles i 'rioed waith mein na ddeude'r meinars fod yno wlad o blwm, ond eu bod nhw heb fynd ato, ne fod y dŵr yn 'u rhwstro nhw, ne rhw godl fel ene. Ac os bydd Gwaith wedi stopio, mi fydd y bai ar bawb 'blaw nhw 'u hunen, fforsŵth. Wyddoch chi be, Sem, mi fydd gynnoch chi'r meinars 'ma aped mawr i'w roi rw ddiwrnod. A 'rydw i'n credu yn 'y nghalon fod yr hen Drefor ene, er 'i fod o'n aelod efo ni, cyn waethed sort â'r un a welis i, ond 'i fod dipyn yn respectol. Creuddwch at y bwyd, Sem."

"Pob parch i chi yn ych tŷ'ch hun, Thomas," ebe Sem, "ond wyddoch chi fawr am waith mein. Hwyrach y synnwch chi, Thomas, pan ddeuda i fod meinars yn amal yn gwbod i sicrwydd fod digon o blwm yn y fan a'r fan, ond na fedran nhw ddim mynd ato, ac yn amal er y gwyddan nhw y gallan nhw fynd ato, na chân nhw mo'u ffordd eu hunen i fynd ato gan rwrai eraill sy'n 'u rheoli nhw, a'r rhai hynny 'n amal na wyddan nhw ddim mwy na chithe am waith mein. A chyda golwg ar Capten Trefor mi ddeuda hyn na welis i neb erioed—a 'rydw i wedi gweld llawer—y sydd gystal meistr ar 'i waith. Fe ŵyr i'r dim sut i weithio gwaith mein, pe cai o'i ffordd 'i hun, a mae'r Capten a finne bob amser o'r un meddwl."

"Mae'n well gen i," ebe Thomas, "i chi fod o'r un meddwl â fo, na fi. Rhyngoch chi a fi, licies i 'rioed mo'r dyn. 'Wnaeth o 'rioed ddim byd i mi, ond edrach dipyn yn sgiwedd arna i, ond dda gen i mono, waeth gen i bydae 'i ddwy glust o'n clywed. Rhw ŵr bonheddig heb 'run stad ydw i'n i weld o. Mi weles ambell un o'i sort yn f'oes—dynion yn mynd ar gefn 'u ceffylau ar gost y cwmpeini, ac yn dwad i'w clocsie yn y diwedd. Peth arall, licies i 'rioed mo'r dyn yn y capel; mae o'n dwad yno fel bydae o'n gneud ffafar i'r Brenin Mawr, ac, fel bydae, y torre'r Brenin Mawr i fyny bydae o'n cadw oddno. 'Dda gen i mo'r sort, Sem. Mae isio i ni gyd fod 'run fath yn y capel, a phawb i'w le ar ôl mynd allan. A pham na weddïe'r dyn? dyn gwbodus a thafodog fel fo? Ond welis i 'rioed mo'r dyn ar 'i linie, a mae hynny'n ddigon o brŵff gen i fod rhwbeth y mater efo cydwybod y dyn, achos 'dydi o ddim yn nerfus, mi ŵyr pawb hynny. Gewch chi weld, Sem, os byddwn ni byw ac iach, y cawn ni weld y dyn ene wedi colli 'i blu."

"Thomas," ebe Sem, "'rydw i'n synnu atoch chi'n siarad fel ene am ddyn parchus fel y Capten—dyn sy wedi gwneud cymin i'r ardal yma. Be ddeuthe ohonom ni 'blaw am ddynion fel Capten Trefor? Mi fasen wedi llwgu."

"Llwgu ne beidio, Sem," ebe Thomas, "'rydw i'n mawr gredu y base'n gwlad ni yn well off o'r hanner heb rw wag ladron fel ene sy'n byw ar foddro a thwyllo poblach ddiniwed ar hyd y blynyddoedd. Ond mi rown stop arni yn fan ene, Sem, ne mi awn i ffraeo. Deudwch i mi, oes ene rw wir yn y stori fod merch y Capten ac Enoc Huws yn codlo rhwbeth?"

Wel," ebe Sem, "hwyrach y medrwn i roi tipyn o oleuni ar hynny bydawn i'n dewis, ond y mae pobol yn amal yn siarad dan 'u dwylo, Thomas."

"A mae rhwbeth yn y peth ynte?" ebe Thomas.

"Ddeudes i mo hynny," ebe Sem.

"A chelwydd ydi'r cwbwl ynte?" gofynnai Thomas. "'Ddeudes i mo hynny chwaith," ebe Sem.

"Wel, be ydech chi'n 'i ddeud, ddyn? Wyddoch chi be, Sem, 'rydech chi'r meinars ma wrth siarad am y pethe mwya sumpl yn trio 'u gneud nhw cyn dwlled â bol y fuwch ddu, na ŵyr neb ar chwyneb y ddaear lle 'rydech chi o'i chwmpas hi."

'Dydi'r pethe sy'n ymddangos yn sumpl i rai pobol ddim yn sumpl i bawb, Thomas," ebe Sem. "A 'dydi dyn ddim i ddeud popeth a ŵyr o, ne mi fydde pawb cyn galled â'i gilydd. A heblaw hynny, Thomas, y mae i bethe eu hamser ac i amser ei bethe."

"Wel, wyddoch chi be, Sem, yr ydech chi'n un doeth hefyd! Mi fydda inne, fel ffwlcyn, yn deud popeth wn i'n ffrwt, a mi fûm yn synnu lawer gwaith na faswn i wedi dwad i scrâp cyn hyn," ebe Thomas.

""Thale hi ddim i bawb fod felly, Thomas," ebe Sem. "Pe baswn i'n un felly mi fase ambell i gynllun wedi'i andwyo cyn iddo addfedu. Mi fydd ambell un yn trio tynnu oddi arna i, ond mi fydda'n cymryd pwyll, ac yn cadw'r cwbwl i mi fy hun nes daw'r amser priodol."

'Rydech chi felly, Sem," ebe Thomas, " yn meddwl bod rhwbeth yn y stori am ferch y Capten ac Enoc Huws, ond bod yr amser heb ddwad i ddeud hynny?"

"'Ddeudes i ddim ffasiwn beth, Thomas," ebe Sem, "ond mi ddeuda hyn, fod o'n biti o beth pan ddeudith rhwfun rwbeth wrthoch chi na fasech chi wedi dysgu 'i gadw fo i chi'ch hun. Ond mae hynny i'w briodoli, yn ddiame, i ddiffyg addysg ym more'ch oes." "Digon tebyg, wir, Sem, achos pan ddeudith rhwfun rwbeth wrtha i, ac yn enwedig os deudan nhw wrtha i am beidio â deud hynny wrth neb arall, mae o'n dechre llosgi yn 'y mrest y munud hwnnw."

"Piti mawr ydi hynny, Thomas," ebe Sem. "A chyda golwg ar y peth yr yden ni wedi hintio ato, mi ddeuda hyn: mai'r rhai sy'n gwbod lleiaf am y peth sydd yn siarad yn fwya ffri yn 'i gylch, a'r rhai sy'n gwbod y cwbwl sy'n deud dim."

"Ho!" ebe Thomas.

"Be bydae ni'n deud fel hyn, 'rwan," ebe Sem, "mae Enoc Huws yn un sydd wedi gwneud llawer o arian, a mae arno angen am wraig. Mae Miss Trefor yn ferch ifanc sydd wedi cael addysg dda, a fydde raid i neb fod â chwilydd ohoni. Purion. Be bydae'r ddau'n priodi, be fydde gan neb i'w ddeud am hynny? Ne be bydae ni'n deud fel hyn na ddaru Enoc Huws erioed feddwl am Miss Trefor na hithe amdano yntau. Be fydde hynny i neb arall? Ydech chi'n 'y nallt i, Thomas?"

"Digon prin yr ydw i'n ych canlyn chi, Sein. Ai deud yr ydech chi nad oes dim byd yn y peth?" gofynnai Thomas.

"'Ddeudes i ddim ffasiwn beth, Thomas," ebe Sem.

"Ho," ebe Thomas, "deud yr ydech chi, ynte, fod rhwbeth yn y stori?

"'Ddeudes i ddim o'r fath, Thomas, a pheidiwch â deud wrth neb 'y mod i wedi deud ffasiwn beth," ebe Sem.

"Give it up, ynte," ebe Thomas. "Ond deud y gwir yn ych wyneb chi, Sem, yr ydw i'n licio'ch sgwrs chi yn anwêdd bob amser, ond yr ydw i'n medru dallt pawb, 'rwsut, yn well nag yr ydw i'n ych dallt chi, Sem. 'Wn i ddim be ydi'r achos o hynny, ond dene'r gwir amdani. Mi wn 'y mod i'n ddwl, siampal."

"Wel," ebe Sem, "be bydae ni'n edrach ar y peth fel hyn, ynte: mae gan Enoc Huws arian—'does neb yn ame hynny. Mae gan Capten Trefor wybodaeth a phrofiad; a be os ydi'r ddau'n consyltio â'i gilydd gyda golwg ar ryw fentar newydd?"

"Ai gesio 'rydech chi, Sem?" gofynnai Thomas yn wyliadwrus.

"Gesio? nage, fydda i byth yn gesio, Thomas, a dda gen i mo'r bobol sydd yn gesio heb sail yn y byd am y pethe 'y maen' nhw'n 'u deud," ebe Sem.

"A mae hi'n ffact, ynte, fod y Capten ac Enoc ar gychwyn mentar newydd?" ebe Thomas.

"'Ddeudes i ddim fod o'n ffact, Thomas," ebe Sem, pan fydd rhywbeth yn ffact 'does dim isio 'i ddeud o—mae o'n eglur i bawb. Ond y mae rhw bethe nad oes neb ond y rhai sy'n gallu gweled ym mhellach na'u trwynau yn 'u gwybod nhw. Mi wyddoch hyn, Thomas, nad oes neb yn gwybod cymin o feddwl y Capten â fi? Ydech chi'n 'y nallt i, Thomas?"

"Wel ydw, os ydw i hefyd," ebe Thomas. "Ych meddwl chi ydi hyn, Sem—fod y Capten o'i chwmpas hi yn trio cael Enoc Huws i mewn i gychwyn rhw fentar newydd?"

"Dim ffasiwn beth, Thomas, a chymerwch ofal na ddeudwch chi wrth neb 'mod i'n deud hynny," ebe Sem.

"Mae'n dda gen i glywed hynny, Sem," ebe Thomas, "achos y mae gen i barch calon i Enoc Huws. 'Rydw i'n credu bob amser mai dyn syth a gonest ydi Enoc Huws. Mae o'n fachgen sy wedi dwad yn 'i flaen yn ods, a hynny mewn ffordd gyfiawn. Wyddoch chi be? yr ydw i wedi prynu dialedd o fwyd moch gan Enoc, a weles i 'rioed ddim o'i le arno. Maen' nhw'n deud i mi, Sem, y medre Enoc Huws fyw ar 'i arian pan fynne fo. A dene sy'n od—mae o'n un o'r rhai gore yn y capel. Wn i ddim sut mae hi efo chi, y Sentars acw, ond efo ni, os bydd dyn yn dwad yn 'i flaen dipyn efo'r byd 'ma, welwch chi gip arno yn y capel, ond tipyn ar y Sul. Ond am Enoc, anamal y mae o'n colli moddion. Gobeithio'r annwyl nad ydi o ddim yn mynd i ddechre. mentro, achos er mor dda y mae o wedi gwneud, fyddeʼr hen Drefor fawr o dro yn lluchio 'i bres o i gyd i lawr siafft gwaith mein, na wele fo byth 'u lliw na'u llun nhw, 'run fath ag y gnath o efo pres Hugh Bryan, druan. Wyddoch chi be, Sem, 'rydw i'n cofio Hugh cystal off â neb yn y fan yma, cyn iddo fynd i grafanc yr hen Drefor." "Peth garw iawn, Thomas," ebe Sem, "ydi i ddyn siarad am rwbeth allan o'i lein. 'Dydw i'n ame dim, Thomas, nad y chi ydi'r crydd gore yn y wlad yma, ac fel judge ar fochyn, mi wn na churith neb monoch chi. Ond y mae gwaith mein allan o'ch lein chi, mi 'newch adde hynny, Thomas?"

"Be haru chi ddyn?" ebe Thomas, gan godi tipyn ar ei lais. "Ond oedd gen i chwarter owns o waith y Top, ag oni waries i bump punt ar hugen yno na welis i byth wyneb y delyn ohonyn nhw, heblaw be waries i am ddiod! Oni fydde gynnon ni gyfarfod yn y Brown Cow bob nos Lun cynta o'r mis i edrach dros bethe ac i dalu'r arian, a hyd i'r noswaith ddwaetha yr oedd y meinars yn dweud ar 'u gwir fod yno well golwg ar y Gwaith nag a fu 'rioed, ag y bydde ni i gyd yn fyddigions, a finne fel ffŵl yn talu am rownd wrth feddwl mor gyfoethog fyddwn i. Yr hen geriach!"

"Thomas," ebe Sem, gan godi ar ei draed i ymadael, "ddeudes i ddim gantodd o weithie na chaech chi ddim plwm yng Ngwaith y Top?"

"'Doeddech chi, Sem," ebe Thomas, ddim yn gweithio yn y Top nac yn cyfarfod yn y Brown Cow. Bydase chi yn un ohonyn nhw, 'does neb ŵyr be fasech chi'n 'i ddeud. Ond 'dawn ni ddim i ffraeo. Ydech chi ddim am 'i chychwyn hi mor gynnar, ydech chi, Sem?"

Ydw, Thomas, mae hi'n dechre mynd yn hwyr," ebe Sem.

"Wel, brysiwch yma eto," ebe Thomas, gan agor y drws, ac wedi edrych allan, ychwanegodd, Be neith hi heno, 'ddyliech chi, Sem, ai rhewi?"

"Nage, os na thry'r gwynt fwy i'r gogledd, ac eto, hwyrach mai rhewi 'neith hi," ebe Sem.

"Thomas," ebe Barbara, wedi i Sem fyned ymaith—a hwn oedd y gair cyntaf iddi ei yngan er pan ddaeth Sem i'r tŷ, Thomas," ebe hi, "be ddeudodd Sem am y siarad sy am ferch y Capten ac Enoc Huws?"

"Y nefoedd fawr a ŵyr," ebe Thomas. "Mi ddeudodd barsel o bethe y ddwy ochor fel dase, ac eto wn i ddim ar chwyneb y ddaear be ddeudodd o. Mi ddyffeiwn Eutun y twrne i wbod be fydd Sem wedi 'i ddeud, a bod yn siŵr. Ond y mae gan Sem, wel di, lawer yn 'i gropa."

"Mae gynno fo lawer o facwn yn 'i gropa heno beth bynnag. A waeth gen i heb ddyn na wyddoch chi ddim be fydd o wedi'i ddeud," ebe Barbara.

"Waeth i ti befo," ebe Thomas, "mi fydda i'n cael llawer o ddifyrrwch wrth drio gesio beth fydd o'n 'i ddeud. Mae Sem yn ddyn gwbodus iawn. Welest ti mor handi 'r oedd o'n rhoi hanes y baco i ni? Ond yr ydw i wedi anghofio'n barod sut y deudodd o. Be oedd enw'r dyn ddisgyfrodd y baco, dywed?"

"Wn i ddim, na waeth gen i chwaith," ebe Barbara.

'Rydw i'n meddwl yn siŵr mai Bendigo Jones y galwodd Sem o, dae fater am hynny. Y peth gore i ni 'rwan ydi 'nhuddo'r tân a mynd i gadw," ebe Thomas.


PENNOD XXI

"Vital Spark"

GADAWODD bugeiliaeth Rhys Lewis argraff dda ar feddwl yr eglwys a'i galwodd i'w gwasanaethu. Ac ni allai lai; oblegid heblaw ei fod yn ŵr ieuanc galluog ei feddwl a grasol ei galon, meddai ystôr helaeth o synnwyr cyffredin—nwydd anhepgor i fugail, ac, yn wir, i bob un y bydd a wnêl â thrin dynion o wahanol fathau. Ni fu ei wendid corfforol o nemor, os bu o ddim, anfantais i'w ddylanwad. Hwyrach i'w wendid maith ddiarfogi'r rhai oedd wrth naturiaeth dipyn yn bigog, ac ennyn cydymdeimlad cywir a chynnes eraill. Beichiodd ei hun â chymaint o waith ag a allai ei ysgwyddau ei ddal, a rhyfeddai llawer pa fodd yr oedd yn gallu paratoi pregethau mor rhagorol. Yr oedd ei feddwl yn ysgogi mor nerthol a phenderfynol fel na pheidiodd â mynd yn ei flaen pan ballodd ei iechyd. Parodd hyn i'w farwolaeth ymddangos yn sydyn i laweroedd, er nad oedd felly.

Wedi marw Rhys Lewis ymgysurai'r eglwys fod ganddi un dyn synhwyrol a chrefyddol, ac abl i'w harwain ym mherson Dafydd Dafis. Hynny ydyw, yr oedd Dafydd Dafis yn un a allai gadw seiat cystal â nemor bregethwr. Dyn yr un llyfr, bron, oedd ef. Anfynych y byddai'n gweled newyddiadur, ac ni byddai'n ceisio dilyn yr amseroedd; ond yr oedd yn dilyn y Cyfarfodydd Misol a'r Cymanfaoedd yn gyson. Ni welid Dafydd byth mewn cyngerdd nac eisteddfod, ond, hyd y gallai, byddai ym mhob cyfarfod gweddi a seiat. Nid ymyrrai â gwleidyddiaeth, ac ar adeg etholiad rhoddai ei lais, mewn ffydd, dros yr un a gefnogid yn fwyaf cyffredinol gan grefyddwyr. Yn ei olwg ef nid oedd bywyd yn dda i ddim ond i fod yn grefyddol, ac yn grefyddol yn yr ystyr a roddai ef i grefydd. Yr oedd ef yn gul ryfeddol, ac ar yr un pryd yr oedd rhyw fath o ddyfnder ynddo. Ffarmwr digon gweddol oedd, ac onid oedd Dafydd yn grefyddol, nid oedd yn ddim yn y byd, y truanaf o'r holl greaduriaid ydoedd. Yr oedd yn gul, fel y dywedwyd, ond nid yn sarrug. Yr oedd ei grefydd wedi ei wneud yn sad mewn mwyneidd-dra. Ni welais mohono erioed yn chwerthin ond gyda deigryn yn ei lygaid, a hynny o dan y pulpud. Fel yr wyf yn heneiddio, ac yn fy oriau mwyaf prudd, byddaf bron yn meddwl mai bywyd fel yr eiddo Dafydd Dafis ydyw'r unig fywyd gwerth ei fyw, ond i'r dyn â'r meddwl iach, effro, dichon mai bywyd hunanol yr ymddangosai un fel yr eiddo Dafydd Dafis. Hen lanc oedd ef, ac efallai fod yr elfen hunanol yn ymddatblygu yn ddiarwybod i'w pherchen ym mywyd dyn sengl. O ran hynny, onid hunan sydd yn llywodraethu pob dyn, ond ei fod yn gwisgo gwahanol weddau?

Ond yr wyf yn crwydro. Cysurus gan Eglwys Bethel oedd cofio na châi'r cyfarfodydd wythnosol, megis y seiat a'r cyfarfod gweddi, ddioddef rhyw lawer tra byddai Dafydd Dafis yn fyw.

Ni byddai'r blaenor arall, Alexander Phillips (Eos Prydain), ond anfynych yn y cyfarfodydd hyn. Yn ei gylch ei hun fel dechreuwr canu, ac fel un oedd yn gofalu am lyfrau'r eglwys, yr oedd yr Eos yn gampus. Ond prin y gwelid ef unwaith yn y chwarter yn y seiat a'r cyfarfod gweddi. Ar y Sul, byddai fel un yn lladd nadredd, neu'n bwrw pridd ar gorff fel y dywedir. O'r braidd y cymerai hamdden i fwyta. Byddai ganddo gyfarfod canu am un o'r gloch y prynhawn, ac am bump o'r gloch, ac un wedyn ar ôl oedfa'r nos, ac yr oedd mwy o sŵn yn ei dŷ nag oedd yno o lestri gweigion. Un o'r pethau a roddai fwyaf o fodlonrwydd meddwl a thawelwch cydwybod i'r Eos wrth edrych yn ôl, oedd ddarfod i gôr Bethel o dan ei arweiniad ef ganu "Vital Spark" yn effeithiol ar ôl marw Rhys Lewis. Os rhaid dweud y gwir, yr oedd yr Eos a'i gôr, â rhagwelediad canmoladwy, wedi bod yn ymarfer rai misoedd cyn marwolaeth y gweinidog. Nid yn y capel, wrth gwrs, y byddai'r practices—buasai hynny'n rhy awgrymiadol, ond yn nhŷ'r Eos ei hun. O ganlyniad, pan ddaeth y digwyddiad galarus yr oedd yr Eos a'i gôr yn barod.

Byth wedi hynny byddai'r Eos—gan wybod ei fod ef ei hun a'i gôr yn barod i ganu dernyn rhagorol o gerddoriaeth, na allent â phriodoldeb ei ganu ond ar achlysuron neilltuol—nid yn anfynych, pan fyddai'r pregethwr yn llefaru, yn edrych a oedd rhyw arwyddion yng ngwedd rhywun fod y gelyn diwethaf wedi ei farcio. Os byddai pawb yn edrych yn iach a hoyw, trôi'r Eos ei fyfyrdod at y dôn oedd i'w chanu ar ddiwedd yr oedfa, a hawdd oedd gweled ar ei geg ei fod yn ei chwibanu yn ei frest. Ni waeth i mi gyfaddef—bûm am amser yn aelod o gôr detholedig yr Eos, a dyna sut yr wyf yn gwybod yr holl fanylion. Yr oedd yn ddealledig yn ein plith ni ein hunain os byddai rhywun o aelodau cynulleidfa Bethel yn gwaelu o ran iechyd, fod private practice i'w gynnal yn nhŷ Eos Prydain bob nos Sul, ond os byddai pawb yn iach, cai "Vital Spark" lonydd am dymor. Yr wyf yn cofio'r Eos mewn penbleth fawr un tro. Perthynai i gynulleidfa—nid i eglwys Bethel—ŵr hynaws, call, a chlyfar yn ei ffordd ei hun, o'r enw Tom Jones. Byddai Tom yn gyson iawn fel gwrandawr, ond yr oedd yn herwheliwr enbyd. Bu "o flaen ei well" fwy nag unwaith. Un noson daliwyd ef yn herwhela ar ystad y Plas. Nid oedd Tom yn fodlon i golli ei ysglyfaeth. Llwyddodd i ddyfod yn rhydd o'u gafaelion; ond oherwydd ei fod wedi gorfod ymladd yn erbyn dau, dioddefodd ysigiad tost, o'r hwn y bu farw. Yn awr, y cwestiwn a flinai'r Eos oedd a oddefid—nid a ddylid—canu "Vital Spark." Fodd bynnag, cawsom practice, a rhoddwyd y cwestiwn o flaen Dafydd Dafis. Penderfynodd Dafydd y cwestiwn mewn eiliad, a gofidiai'r Eos na buasai Tom farw dan amgylchiadau gwahanol. Tra'r oeddwn yn aelod o gôr yr Eos, llawenhawn nad oedd Wil Bryan gartref, oblegid gwyddwn na buasai ef yn arbed dadlennu ein hymbygoliaeth.

Gwrthgiliais o gôr yr Eos, ac fel hyn y bu. Cymerwyd fi yn wael gan y slow fever. Trigai'r Eos yn y tŷ nesaf ond un i'n tŷ ni. Oddeutu deg o'r gloch, y nos Sul cyntaf o'm hafiechyd, yr oeddwn yn wael iawn, a neb ond fy mam yn fy ngwylio. Yr oedd yn noswaith dawel, ac, erbyn hyn, nid oedd neb yn tramwy'r heol. Darllenai fy mam ei Beibl iddi hi ei hun. Yn y man clywn sŵn canu, ac er na allwn glywed y geiriau, gwyddwn ar y gerddoriaeth mai

Lend, lend your wing,
I mount, I fly;
O grave, where is thy victory,
O death, where is thy sting?

oedd y geiriau a genid.

"Oes rhywun o bobl y capel yn sâl heblaw fi?" gofynnais i'm mam.

"Nag oes, 'ngwas i, pam 'rwyt ti'n gofyn?" meddai fy mam.

"O, dim," ebe fi. Ond truenus iawn fu arnaf y noswaith honno, oblegid gwelwn fod yr Eos a'i gôr am fy nghladdu ar unwaith. Yr oedd arwyddion gwella arnaf cyn y Sul wedyn, ac er i mi wrando'n ddyfal, ni chlywn ddim o "Vital Spark." Pan ddeuthum o gwmpas, dychmygwn fod yr Eos yn edrych yn siomedig, ac nid euthum byth wedyn yn agos i'w gôr.

PENNOD XXII

Y Bugail

Ar hyn yr wyf yn cyfeirio ers meitin, ond fy mod fel ci Gwilym Hiraethog yn rhedeg ar ôl pob pryf ac aderyn a ddaw ar draws fy llwybr. Gadawodd bugeiliaeth Rhys Lewis argraff mor dda ar feddyliau aelodau eglwys Bethel, fel, yn fuan iawn ar ôl ei farwolaeth, y dechreuasant anesmwytho am fugail arall. Ac nid hir y buont cyn syrthio ar y gŵr. Digwyddodd ddyfod pregethwr na bu yno o'r blaen ar gyhoeddiad i lenwi pulpud Bethel. Yr oedd ganddo ddawn ymadrodd rhwydd a thinc ddymunol yn ei lais. Gydag Eos Prydain y digwyddai letya. Cyn myned i'r gwely y nos Sul hwnnw, ar ôl maith ymgom, gwnaeth yr Eos yn hy ar y gŵr dieithr, a gofynnodd iddo a oedd yn barod i dderbyn "galwad pe buasai un o eglwysi'r sir yn meddwl amdano fel bugail. Wedi petruso chydig, atebodd y gŵr ei fod ef yn hollol yn llaw Rhagluniaeth, os yn y cymeriad o fugail y dymunai hi iddo weithio dros ei Arglwydd, ei fod yn eithaf parod i ymgyflwyno yn hollol i'r gwaith; mewn gwirionedd, mai dyna oedd dymuniad pennaf ei fywyd. Dywedodd yr Eos wrtho fod gwir angen ar eglwys Bethel am fugail, a bod yr eglwys, dybiai ef, yn lled aeddfed i chwilio am olynydd teilwng i Rys Lewis, ond ei fod yn rhoddi'r cwestiwn, wrth gwrs, yn hollol ar ei gyfrifoldeb ei hun. Ar yr un pryd, rhoddai ar ddeall i'r pregethwr ei fod yn tybied fod ganddo farn, ac y gwyddai beth oedd barn yr eglwys, ac mai purion peth oedd gwybod pwy oedd yn agored i dderbyn galwad a phwy oedd heb fod felly erbyn yr eid ati i ddewis.

Rhag i neb feddwl fod yr Eos wedi arfer prysurdeb annoeth drwy grybwyll hyn wrth ŵr nad oedd erioed wedi ei weled o'r blaen, ac na wyddai ddim amdano, priodol ydyw hysbysu bod y gŵr dieithr wedi gwneud sylwadau hynod o ffafriol ar ganu cynulleidfaol Bethel, ac wedi dangos yn eglur, yn nhyb yr Eos, ei fod yn gwybod y gwahaniaeth rhwng crotchet a demi-semi-quaver. Yr oedd hyn, ym mryd yr Eos, yn beth nas ceid ond yn anfynych mewn pregethwr, ac ni allai lai na meddwl y fath gaffaeliad fuasai i eglwys Bethel gael gweinidog, nid yn unig yn gwerthfawrogi cerddoriaeth, ond yn gerddor hefyd. A chyda'r rhagolwg hwn yn llosgi yn ei fynwes, ni bu yr Eos yn brin o grybwyll y mater wrth nifer luosog o aelodau Bethel, yn enwedig y dosbarth ieuanc ohonynt. Cyn y Sul dilynol yr oedd Obediah Simon—canys dyna oedd enw y gŵr—wedi ei bwyso a'i fesur ar aelwydydd yr aelodau, ac nid yn anffafriol. Cydnabyddid yn lled gyffredinol ei fod yn bregethwr rhagorol, a derbynnid tystiolaeth yr Eos fod yn Mr. Simon ogoniant mwy nag a amlygwyd eto. A mwyaf y meddylid amdano, gorau oll a chymhwysaf oll yr ymddangosai Mr. Simon i fod yn olynydd teilwng i Rys Lewis. Dibriod oedd Mr. Simon, a heb fod yn ddirmygus o ran ymddangosiad, ac erbyn clustfeinio siaredid yn hynod ffafriol amdano gan ferched ieuainc Bethel a chan amryw o'r mamau (nid yn Israel). Bu oedran Mr. Simon yn destun cryn drafodaeth ymhlith y dosbarth a enwyd, a chytunid yn lled unfryd ei fod dan ddeg ar hugain oed. Tueddai'r gwŷr ieuainc mwyaf meddylgar a chraff i gredu ei fod yn nes i ddeugain oed, ond addefent yn rhwydd y gallai mai'r merched ieuainc oedd yn eu lle, yn gymaint â bod astudiaeth galed yn peri i ddyn edrych yn hŷn nag a fydd mewn gwirionedd, ac amlwg ydoedd fod Mr. Obediah Simon wedi bod yn fyfyriwr ymroddgar, canys gwisgai sbectol.

Ond yr oedd yn eu plith un o'r enw Thomas, a arferai ysgrifennu i'r wasg, ac a adnabyddid wrth y ffugenw Didymus." Ni chredai ef y buasai Mr. Simon yn fyfyriwr caled, a phrotestiai mai bochau tatws laeth oedd ganddo, ac na welodd ef erioed fyfyriwr caled â bochgernau mor wridog. Ffaith hynod ydoedd fod enw y Parchedig Obediah Simon wedi ei droi a'i drafod yn nheuluoedd naw o bob deg o aelodau eglwys Bethel, fel gŵr tebygol o wneud bugail rhagorol, cyn i Dafydd Dafis glywed na siw na miw am y peth. Ac mewn Cyfarfod Misol y clywodd Dafydd gyntaf am y sôn.

Ai gwir ydi'r stori, Dafydd Dafis," ebe brawd o flaenor wrtho, "ych bod chi'n debyg o alw Mr. Obediah Simon yn fugel acw?"

"Chlywes i neb yn sôn am y fath beth," ebe Dafydd. "Peidiwch â bod mor slei, Dafydd Dafis," ebe ei gyfaill," achos yr oedd Mr. Simon ei hun yn deud wrtha i ddoe ddwaetha'n y byd fod ei achos o'n debyg o ddwad o flaen eglwys Bethel yn fuan."

Trawyd Dafydd â mudandod a phoenwyd ef yn fawr. Pan ddaeth Dafydd adref, pwy oedd yn ei dŷ yn ei ddisgwyl ond y Didymus y cyfeiriwyd ato yn barod, a gyfrifid gan rai o'r brodyr fel gŵr o ymadroddion caled. Pan ddeallodd Didymus fod y sôn yn ddieithr i Dafydd Dafis, adroddodd iddo'r cwbl a wyddai am yr helynt. Cafodd Dafydd waith peidio â llesmeirio. Yr oedd bron yn anhygoel ganddo y gallasai'r siarad fod mor gyffredinol ar bwnc mor bwysig, a'r cyfan, megis, tu ôl i'w gefn ef. Arferai dybied bod yr eglwys yn gwerthfawrogi ei wasanaeth fel blaenor, ac er na choleddai syniadau uchel am ei alluoedd, yr oedd ganddo ymwybyddiaeth nad oedd yn ôl i neb am ffyddlondeb ac o wneud ei orau. Pruddhaodd, ar y pryd, wrth wrando ystori Didymus, a dechreuodd feddwl nad oedd iddo le ym marn na serch ei gydswyddog, nac yn eiddo'r eglwys. "Beth a ddywed y cyfeillion sydd yn meddu barn ar y mater?" gofynnai Dafydd i Didymus.

"Chwi wyddoch," ebe'r anghredadun, "y gellwch gyfrif y rheini ar fysedd un o'ch dwylo, a chwi ydyw'r cyntaf ohonynt i mi siarad ag ef ar y mater."

Bydae'r achos yn dwad o flaen yr eglwys, be ydi eich barn chi, Thomas, am y gŵr?" gofynnai Dafydd.

"Fy marn i ydyw," ebe Didymus, "fel y byddan nhw'n dweud mewn 'Steddfod, nad ydi o ddim yn deilwng o'r wobr, ac mai gwell ydyw gadael y pwnc i ymgeisio arno eto, os ydech chi'n dallt fy meddwl i. Beth ydyw eich barn chwi, Dafydd Dafis?

"Tueddu yr ydw i i synio 'run fath â chi," ebe Dafydd. Ond hwyrach ein bod 'n dau 'n gwneud cam â'r gŵr. Nid ydyw'n iawn barnu dyn wedi ei glywed ddim ond unwaith. Dichon fod Mr. Simon yn ŵr rhagorol, ac na allwn gael ei well, ond, a dweud y lleiaf, yr wyf yn meddwl bod Phillips wedi bod yn rhy brysur—yn rhy brysur o lawer. Nid chware plant ydi galw dyn i fugeilio eglwys. Mae isio cymryd pwyll mawr, a gweddïo mwy na mwy am gyfarwyddyd. Gwell ydi'r drwg a wyddom na'r drwg nas gwyddom. 'Wnaeth y dyn ddim argraff neilltuol ar fy meddwl i, ond hwyrach mai arna' i 'roedd y bai. Mi wn 'mod i'n rhy dueddol i sylwi ar bethe bychain, ddaru mi ddim licio i weld o'n gwisgo modrwy am ei law. Ddaru chi sylwi ar hynny?

"Do, debyg," ebe Didymus.

"Yr oedd y wisg orau wedi ei dwyn allan, ac yr oedd y fodrwy am ei law, ac oni bai i mi ddarganfod fod y llo pasgedig heb ei ladd, mi faswn wedi dwad i'r casgliad mai Mr. Simon oedd y Mab Afradlon, y clywsom ni gymaint o sôn amdano."

"Wn i ddim a ydw i'n ych dallt chi," ebe Dafydd yn ei ddiniweidrwydd, "ai'ch meddwl chi ydi wrth ddeud bod y llo pasgedig heb ei ladd, mai pregethu'n sâl yr oedd Mr. Simon?"

"Nid hynny'n unig," ebe Didymus, "ond eglur ydyw na allasai fo bregethu bydase fo wedi ei ladd, oblegid, mi gymra fy llw, nad ydyw Mr. Simon yn awr, ac na fydd o byth, yn un o'r rhai hynny y dywedir amdanynt eu bod wedi marw yn llefaru eto.'

'Rydech chi'n rhy at o fod yn llawdrwm, Thomas," ebe Dafydd. "Mae'n bur amlwg fod y dyn wedi pasio'n dda yma gyda'r bobol. os ydi'r siarad amdano mor ffafriol ag yr ydech chi'n deud. Ac y mae o wedi 'i ordeinio hefyd rhaid fod rhwbeth ynddo, ne chawse fo mo'i ordeinio."

"Chwi wyddoch, Dafydd Dafis," ebe Didymus, “fod llawer sgil i gael Wil i'w wely. Nid ydyw'r ffaith fod Mr. Simon wedi ei ordeinio yn profi ei fod na Phôl na Pholos. Mi wn am ambell un digon dienaid a gysegrodd flynyddoedd, ac a aberthodd bopeth, o'r aderyn to at y bustach, i ennill y corn olew, ac wedi ei gael, na wnaeth ddim ond dibynnu ar gorn gwddw; ac un o'r rheini ydyw Obediah Simon—dyn yn dibynnu ar nerth corn gwddw. Ond, wrth gwrs, mae'r dyn yn dibynnu ar y peth gorau sydd ganddo. Ac am ei ddwyn o flaen yr eglwys, y mae hynny cystal â bod wedi digwydd, oblegid y mae'r Eos wedi seinio ei glodydd yng nghlust pob aelod o'r eglwys, ac wedi glân ddrysu arno, a'r rheswm am yr holl sêl ydyw fod Obediah Simon yn gerddor. Dafydd Dafis, os na rowch chi'ch wyneb yn benderfynol yn erbyn y symudiad yma, mi af i berthyn i Seintiau'r Dyddiau Diweddaf."

Prin yr oedd y gair olaf allan o enau Didymus na ddaeth Eos Prydain i mewn. Ni byddai ef un amser yn mynychu'r Cyfarfodydd Misol, ond, fel Methodist a diacon, byddai'n arferiad dieithriad ganddo ymweled â Dafydd Dafis bob mis, er mwyn cael hanes y Cyfarfod Misol. A diamau mai gyda'r amcan hwn y daethai i dŷ Dafydd Dafis y noson hon. Ni wyddai wrth gwrs, fod Didymus yno o'i flaen, onid e, hwyrach, y buasai yn aros hyd nos drannoeth.

PENNOD XXIII

Didymus

BUASAI yn well gan yr Eos le Didymus na'i bresenoldeb, ac eto ysgydwodd ddwylo yn garedig ag ef oddi ar yr egwyddor—"Dawch, mistar, rhag eich ofn." Ceisiai'r Eos, druan, fod ar delerau da â phob dyn, ac yr oedd yn naturiol o dymer hynaws. Nid ymddangosai Dafydd Dafis mor gyfeillgar ag arferol y noson hon, a rhwng popeth, nid oedd yr Eos mor gysurus ei feddwl ag y dymunasai fod. Pa fodd bynnag, ceisiai ymddangos ac ymddwyn fel pe buasai yn y dymer orau, ac ebe fe:

"Fath Gyfarfod Misol gawsoch chwi, Dafydd Dafis?"

"Rhagorol iawn," ebe Dafydd yn sychlyd.

"Felly'n wir; oedd yno rwbeth neilltuol?" gofynnai 'r Eos.

"Oedd," ebe Dafydd, "'roedd ysbryd doethineb a phwyll yn nodweddu pob ymdrafodaeth, a gwedd wyneb yr Arglwydd ar y weinidogaeth."

"Felly'n siŵr," ebe'r Eos.

"Hyfryd ydi clywed hynny. Fu yno rw sylw ar y gymanfa ganu?"

"Naddo," ebe Dafydd, "hyd yr ydw i'n cofio, ac os bu, ddaru mi ddim sylwi."

"Felly," ebe'r Eos. "Mae'n rhyfedd bod y naill Gyfarfod Misol ar ôl y llall yn mynd heibio heb sylw yn y byd ar beth mor bwysig a'r gymanfa ganu. Pa bryd, tybed, y daw cerddoriaeth i gael y sylw a ddylai gan y Cyfarfod Misol?"

"Yr wyf wedi bod yn meddwl lawer gwaith, Dafydd Dafis," ebe Didymus, "nad idea dwl a fyddai cael côr heb neb yn perthyn iddo ond aelodau Cyfarfod Misol. Yr wyf yn siwr na roddai dim fwy o bleser i mi na gweld rhes o hen gonos fel chi, Dafydd Dafis, yn canu alto, ac 'rwyf yn siŵr, pe ffurfid côr felly, y cae chwi weld lot o flaenoriid cerddorol nad ânt byth yrwan i Gyfarfod Misol, yn cyrchu i'r cyfarfodydd gyda chysondeb. A hwyrach y gallai'r côr gipio ambell wobr mewn 'Steddfod, a drychwch chi fel y codai hynny yr achos yn y sir?"

Bu agos i Dafydd Dafis chwerthin wrth feddwl am res o rai tebyg iddo ef ei hun yn canu alto, ac ebe'r Eos braidd yn sur:

"Rhaid i chi, Thomas, gael gneud gwawd o bopeth yn wastad. Ond waeth i chi heb siarad, 'does dim posib cael gan bregethwyr gymryd diddordeb mewn canu cynulleidfaol, ac o'u rhan nhw mi fase'r canu wedi mynd i'r cŵn ers talwm."

"Mae'n rhaid i mi gyfaddef," ebe Didymus, "fod pregethwyr y Methodistiaid yn y blynyddoedd diweddaf wedi dirywio'n fawr yn eu canu. 'Rwyf yn cofio'r amser y gallai bron bob un ohonynt ganu, ac na allai'r cynulleidfaoedd oddef pregethwr, os na fyddai'n gantwr. Ond erbyn hyn y mae'n gweinidogion fel rheol yn ymfodloni ar draethu i ni wirioneddau mawr yr Efengyl heb fod ar gân. Wrth gwrs, y mae eithriadau. Dyna wythnos i'r Sul diweddaf, yr oedd gennym bregethwr oedd hyd yn oed yn canu'r bennod."

Ni wnaeth yr Eos sylw o eiriau Didymus, a chan gyfeirio at Dafydd Dafis, ebe fe eilwaith:

"'Ddyliwn fod sylw wedi bod ar y fugeiliaeth, achos y mae'r pwnc hwnnw mewn blas gan y pregethwyr bob amser?"

"Wel, naddo; fu yno yr un gair o sôn am y fugeiliaeth yn gyhoeddus," ebe Dafydd.

"Pam yr ydech yn pwysleisio'r gair cyhoeddus'?" ebe Didymus.

"Mi ddeudaf i chi'r rheswm," ebe Dafydd. "Fe ofynnwyd cwestiwn i mi yno ddaru fy synnu a 'mrifo. Fe ofynnodd brawd i mi ai gwir oedd yr hanes fod Mr. Obediah Simon yn debyg o gael ei alw yn fugail ar eglwys Bethel; ac ni chredai'r brawd pan ddwedes na chlywis i air o sôn am hynny. Ond erbyn dwad gartre, a boli tipyn, 'rwyf yn dallt fod cryn siarad wedi bod am y gŵr heb yn wybod i mi." "Yr ydech, fel finne, dipyn ar ôl eich oes," ebe Didymus. "Ond yn hyn yr wyf dipyn o'ch blaen chi, ac wedi clywed ers dyddiau fod amryw o aelodau eglwys Bethel wedi syrthio mewn cariad â Mr. Simon. Chwi wyddoch, Dafydd Dafis, fod cariad yn ddall, ac yn yr achos hwn, yn ddallach nag erioed, a phe buasai eich golwg chwithau dipyn byrrach, hwyrach y buasech chwithau wedi syrthio mewn cariad â'r gŵr. Sut bynnag, er mai hen lanc ydech, mi fuaswn yn disgwyl i chi, fel hen gyfaill Bethel, wybod yn un o'r rhai cyntaf pwy oedd hi'n ei garu a phwy nad oedd hi'n ei garu."

"'Does neb, tybed, a faidd wadu," ebe'r Eos, "nad ydym mewn gwir angen am fugail? Mae'n bryd i rywun symud yn y mater. Ac fel 'rydech chi wedi hintio, y mae yma lawer o sôn wedi bod am Mr. Simon er pan fu o yma'n pregethu—mae pawb wedi ei licio. Yn wir yr oeddwn i'n hoffi'r dyn yn fawr fy hun, a welais i 'run dyn cleniach na fo yn tŷ erioed."

"'Ddymunwn i," ebe Dafydd, "ddweud dim am y gŵr i awgrymu nad ydi o'n bopeth sydd arnom ei eisiau. Ac am fod yma angen am weinidog, 'does dim yn fwy amlwg. Yr wyf wedi blino ar fy sŵn fy hun yn y seiat, a 'dydech chithe, Phillips, ddim yno ond rhyw unwaith bob deufis i roi help llaw.. Mae'n bryd gwneud rhywbeth. Ar yr un pryd y mae eisiau cymryd pwyll mawr, a gweddïo llawer am gyfarwyddyd ysbryd Duw. 'Dydi dewis bugail ddim yn rhywbeth i ruthro iddo fel buwch i gogwrn.

"Does neb yn meddwl rhuthro, Dafydd Dafis,' ebe'r Eos. "'Does neb yn meddwl setlo'r cwestiwn yfory na thrennydd. Ond y mae'n bryd dwad â'r peth o flaen yr eglwys. Tybed nad ydym, er yr amser y bu Rhys Lewis farw, wedi cael digon o amser i gymryd pwyll ac i ofyn am gyfarwyddyd?"

"Phillips," ebe Dafydd, os da 'rwyf yn cofio, gyda chi yr oedd Mr. Simon yn aros pan fu yma. A ddaru i chi roi rhyw le i'r gŵr feddwl y byddai i'w enw gael ei ddwyn o flaen yr eglwys, ac a wyddoch chi rywbeth o hanes y gŵr?"

"Y cwbwl a wnes i," ebe'r Eos, "oedd siarad yn gyffredinol am ein sefyllfa fel eglwys, ac am yr angen yr oeddym ynddo am rywun i'n bugeilio. A mi ddigwyddais hefyd ofyn i Mr. Simon a oedd yn agored i dderbyn galwad pe buasai un o eglwysi'r sir yn meddwl amdano."

"Ddaru chi ddim ych comitio'ch hun, na rhoi un math o addewid ynte, Phillips?" gofynnai Dafydd.

"Dim o'r fath beth," ebe'r Eos.

"Mae'n dda gen i glywed hynny," ebe Dafydd.

"Mae'n dda gen innau," ebe Didymus, " achos 'ddyliwn. mai'r rheol ydyw, os bydd blaenor wedi rhoi ei air i bregethwr y dewisir ef yn fugail, fod yr eglwys, fel mater o anrhydedd, yn rhwym o gynnal i fyny air y blaenor. Ac y mae hynny yn eithaf rhesymol, oblegid os ymddiriedir i'r blaenor ddewis pregethwr ar gyfer pob Sabboth, ac os ydyw yr eglwys a'r gynulleidfa, wrth ddyfod i wrando'r pregethwr, megis yn codi eu llaw i ddangos eu cymeradwyaeth o'i ddewisiad, paham hefyd na ellir ymddiried i'r blaenor ddewis y bugail? Ar yr un pryd yr wyf yn credu y dylai'r blaenor, wrth ddewis bugail, fod in touch efo pob chwaeth yn yr eglwys. Yn awr, a chaniatáu fod Mr. Simon yn ŵr ymadroddus, ac yn fedrus ar gadw seiat, nid wyf yn meddwl y rhown i fy vote iddo, os nad ydyw'n gerddor gweddol."

Edrychodd yr Eos am foment yn wyneb Didymus, i'w sicrhau ei hun a oedd yn peidio â bod yn cellwair, a chan nad oedd gewyn yn symud i arwyddo dim amgen na'r difrifwch mwyaf, atebodd yr Eos yn hoyw:

"Cerddor gweddol!—gallaf eich sicrhau bod Mr. Simon yn gerddor campus. Cefais ymgom hir ag ef ar gerddoriaeth gysegredig, ac ni welais bregethwr erioed mor gyfarwydd yn y pwnc. Yr oedd canu Bethel wedi ei foddhau yn fawr, ac yr oedd yn dweud ei fod wedi bod yn help iddo bregethu, a ches ambell awgrym ganddo sut i'w wella eto. Pe buasai pob pregethwr yn cymryd cymaint o ddiddordeb mewn cerddoriaeth â Mr. Simon, fe fuasai gwedd wahanol ar ganu cynulleidfaol ein gwlad."

"Siwr iawn," ebe Didymus. "Gresyn na fuasai'r pregethwyr a phawb ohonom yn gerddorion. Yr oeddwn yn edmygwr mawr o Rys Lewis, ond yn ôl ei gyfaddefiad ef ei hun, ni wyddai fwy am gerddoriaeth na brân. Y gŵr gorau, yn ddiau, fel bugail, fyddai un y byddai'r nifer fwyaf o ragoriaethau yn cydgyfarfod ynddo. Mae'n perthyn i eglwys Bethel nifer fechan—a gresyn na fuasai yn fwy o wŷr ieuainc â thipyn o chwaeth ynddynt at lenyddiaeth, a da a fyddai i'r bugail fod yn dipyn o lenor. Tybed a oes tuedd yn Mr. Simon at lenyddiaeth?

"'Rwyf yn siŵr ei fod yn llenor," ebe'r Eos, er na ddaru o ddim dweud hynny wrthyf. Yn ddamweiniol fe ddywedodd fod arno eisiau mynd adre yn gynnar, am fod ganddo waith beirniadu rhyw draethawd mewn tipyn o 'Steddfod."

"Ddaru Mr. Simon, mae'n debyg," ebe Didymus, "ddim digwydd dweud beth oedd testun y traethawd? Fe fuasai hynny yn fantais i ni ddeall ym mha gangen o lenyddiaeth yr ystyrir Mr. Simon yn feirniad."

"Do, 'neno dyn, os medra 'i gofio fo," ebe'r Eos. "Rhwbeth am y Dilyw, ac ar y cwestiwn a oedd yr Eliffant yn yr arch ai nad oedd—rhwbeth fel ene."

"Testun rhagorol, a dyrys hefyd," ebe Didymus, "'rwyf wedi pondro llawer ar y pwnc yna fy hun. Ond gresyn na fuasent wedi ychwanegu—pa un a oedd y morfil yn yr arch ai nad oedd. Mae cryn ddryswch ynghylch y cwestiwn yna hyd yn hyn, a phe gellid ei benderfynu, taflai lawer o oleuni ar faint yr arch, a'r hyn a feddylir wrth' gufydd.' Ond mae hyn yn eglur—yr ystyrir Mr. Simon yn ei gartre yn naturiaethwr ac yn hanesydd, os nad yn ddaearegwr hefyd. Faint oedd y wobr a gynigid ar destun fel yna, tybed? Ddaru Mr. Simon ddim digwydd sôn hwyrach?

"Fe ddangosodd i mi'r program, ac os ydw i'n cofio'n dda, pum swllt oedd y wobr," ebe'r Eos.

"Dyna hi eto," ebe Didymus, "ar destun o'r natur yna, fe ddylase'r wobr fod yn saith a chwech. Sut y gellir disgwyl i'n llenorion gorau gystadlu ar destun o'r fath, pan na chynigir ond pum swllt o wobr? Ond mae'n amlwg fod pethau yn gwella. Mae'n dda gen i ddeall fod Mr. Simon yn llenor, ond fasen ni ddim yn gwybod hynny oni bai i chwi sôn."

"Yr oedd Dafydd Dafis yn fud, ac ni allai ddyfalu amcan Didymus yn siarad yn y modd yma, pryd yr ychwanegodd Didymus:"

"Mantais fawr ydyw cael ymddiddan â gwr fel Mr. Simon i gael allan dueddiadau ei feddwl a'i ragoriaethau personol. Yn y pulpud 'does dim ond y pregethwr yn dwad i'r golwg, ac yn aml nid ydych yn canfod hwnnw. Rhaid dyfod at ddyn a chymdeithasu ag ef, i gael allan adnoddau ei feddwl. Ac oddi wrth y pethau yr ydym wedi eu clywed gennych chwi, Phillips, mae'n rhaid i mi gyfaddef fod Mr. Simon yn amgenach dyn nag y darfu i mi feddwl ei fod wrth ei wrando yn pregethu. Mae'n ddrwg gen i na ddois i acw i gael ymgom ag ef."

"Mae'n ddrwg gen innau hefyd, ac yr oeddwn yn eich disgwyl o hyd," ebe'r Eos.

"'Dydi o ddim diben rhoi coel ar first impressions," ychwanegai Didymus. "A oedd Mr. Simon yn gwneud argraff arnoch, Phillips, ei fod wedi troi tipyn mewn cymdeithas hynny ydyw, a oedd o'n dangos fod ganddo barch iddo ef ei hun—yn ofalus am ei ymddangosiad—ac a allech chwi ymddiried yn ei ymddygiad mewn cymdeithas respectable? oblegid, erbyn hyn, y mae peth felly yn bwysig."

"Wel," ebe'r Eos, "'roeddwn i braidd yn meddwl bod Mr. Simon yn rhy mannerly——."

"Does dim posib i ddyn fod yn rhy mannerly yn y dyddiau hyn," ebe Didymus, cyn i'r Eos orffen y frawddeg.

"Hwyrach hynny, wir," ebe'r Eos, " ond dyna oeddwn i braidd yn 'i ofni, fod Mr. Simon yn rhy foneddigaidd i ni—bobl Bethel.".

"'Does dim rhy foneddigaidd i fod," ebe Didymus drachefn.

Wel, dyna ydw i'n 'i feddwl wrth ddweud ei fod yn rhy foneddigaidd yr oedd o rywfodd yn diolch gormod gen i. 'Daswn i ddim ond yn estyn y pot mwstard iddo, neu yn ei helpio i roi ei gôt ucha amdano, yr oedd o'n deud, "Thank you," ebe'r Eos.

"Very good"—arwydd o good breeding," ebe Didymus. Ddaru chi ddim sylwi, Phillips, i Mr. Simon roi rhywbeth yn llaw'r forwyn cyn mynd i ffordd?"

"Weles i mono'n rhoi dim iddi," ebe'r Eos.

"Mi wyddwn hynny," ebe Didymus, "fydd yr un boneddwr yn gadael i nêb ei weld yn rhoi dim i'r forwyn, ond gofynnwch chi iddi pan ewch adref, a mi gewch, 'rwy'n siŵr, ei fod wedi rhoi chwech neu swllt iddi."

Synnwn i ddim," ebe'r Eos. "A chyda golwg ar y peth arall yr oeddech chi'n 'i ofyn—a oedd o'n ofalus o'i ymddangosiad—yr oedd, meddai, yn shafio bob bore Sul, a 'rydw i'n cofio, wrth i ni fynd i oedfa'r nos, pan oedden ni wedi mynd cyn belled â siop Start, y druggist, i Mr. Simon gofio ei fod wedi gadael ei fenyg ar y bwrdd yn y tŷ, ac er ein bod dipyn ar ôl yr amser, fe fynnodd fynd yn ôl i'w cyrchu. 'Roeddwn i braidd yn ddig wrtho am hynny. Ac yr ydw i'n cofio hefyd iddo wneud y sylw fod un diffyg yn festri'n capel ni—sef nad oedd yno yr un glass, crib, a brws gwallt."

"Dafydd Dafis," ebe Didymus, gwnewch note o 'nyna, 'dydw i ddim wedi nodi'r diffyg yna ers talwm? Ond gadewch i ni fynd ymlaen. Mor hawdd ydyw camfarnu dyn o bell. Mae Mr. Simon yn amgenach dyn o lawer nag y tybiais i ei fod. Yr ydych chwi, Phillips, wedi cael mantais i'w 'nabod yn drwyadl. Goddefwch i mi ofyn cwestiwn neu ddau arall—a chadw mewn cof amrywiol nodweddion a thueddiadau aelodau a chynulleidfa Bethel—a ydyw Mr. Simon—ag i chwi roi barn onest—yn hoff o parties? a oes ganddo lygad at wneud arian? a fedr o chware cricket? a fedr o chware cardiau? a fedr o chware billiards? neu, mewn gair, a ydi o'n perfect Humbug?"

Neidiodd yr Eos ar ei draed, gafaelodd yn ffyrnig yn ei het, a chan edrych yn ddirmygus ar Didymus, ebe fe: "Yr Humbug mwya adwaenes i ydech chi, Thomas. Wyr neb lle i'ch cael chi, a phan fydd rhwfun yn meddwl ych bod chi'n fwya difrif, yr adeg honno y byddwch chi'n cellwair fwya. 'Rydech chi'n trin pobol cystal a gwell na chi'ch hun, fel bydae nhw blant, ac yn ych meddwl ych hun yn rhwfun. Mi gymra fy llw bydasen ni'n meddwl am gael yr Apostol Paul yn fugail i Bethel, y buasech chi'n gneud gwawd o'r idea. (Certainly, ebe Didymus.) 'Rydech chi'n sôn llawer am hymbygoliaeth, ond er pan ydw i'n flaenor, 'does neb wedi fy hymbygio i fel chi, a dalltwch, 'dydw i ddim am ddiodde dim chwaneg o hynny, ac os ydi Dafydd Dafis am ddal i'ch cefnogi chi—wel, boed felly—" a rhuthrodd yr Eos allan o'r tŷ, a chwarddodd Didymus yn uchel.

"Thomas," ebe Dafydd Dafis, "'wn i beth i'w feddwl ohonoch chi. Mae gen i feddwl uchel o'ch galluoedd chi, a mi wn ych bod chi'n llawer mwy craff na fi, ac y gallech chi fod yn llawer mwy defnyddiol gyda'r achos bydae chi'n dewis—er ych bod chi'n ddefnyddiol iawn yrwan efo'r Ysgol Sul. Ond rywfodd yr ydech chi'n chware efo popeth—yn chware efo'r pethe mwya difrifol, a mi wn eich bod wedi brifo Phillips yn dost heno. Yr ydech chi ar fai, Thomas."

"Chware, Dafydd Dafis?" ebe Didymus, "onid chware y mae pawb? onid chware ydyw popeth y bywyd yma?"

"Na ato Duw!" ebe Dafydd yn gyffrous. "Nid chware ydi popeth, ne be ddaw ohonof i! Ydech chi ddim yn meddwl deud mai chware ydi crefydd? mai chware ydi'r byd mawr sydd o'n blaen? 'Rwyf yn synnu atoch chi, Thomas, yn siarad fel yna."

"Yr wyf yn meddwl fy mod mor ddifrifol â'r rhan fwyaf ohonom y dyddiau hyn," ebe Didymus, "ond bod llai o ragrith ynof. 'Rwyf wedi laru ar hymbygoliaeth pobol. Mi gymraf fy llw fy 'mod gystal Methodist, ac mor ffyddlon i'r Hen Gorff â neb sydd yn fyw. 'Does dim ag yr wyf yn teimlo mor falch ohono y funud hon, ag i mi gael y fraint o lanhau esgidiau Henry Rees pan oeddwn yn grymffast o hogyn. Ac y mae degau, anhraethol lai na Henry Rees, y teimlwn hi yn anrhydedd gael glanhau eu hesgidiau. Ond 'allai i ddim dioddef Humbugs. Ddyn annwyl! ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, nodweddion pregethwr oedd—gostyngeiddrwydd, sêl, duwioldeb, ac awydd angerddol am achub pechaduriaid, ond yn awr, yr uniform ydyw'r nodwedd, ac y mae pechaduriaid yn eu hadnabod ac yn ffoi oddi wrth eu gwisgoedd. Yr wyf yn sicr mai un o ddynion yr uniform ydyw Mr. Simon, a thra bydd ef yn edmygu ei fenyg, a'i frethyn, a'i drimins, y bydd pechaduriaid yn dianc."

"Mae llawer o wir yn y peth yr ydech chi'n 'i ddeud, ond ydi pob gwir ddim i'w ddeud bob amser," ebe Dafydd.

"Athrawiaeth gyfeiliornus ydyw honyna, Dafydd Dafis," ebe Didymus, "ond athrawiaeth ffasiynol iawn y dyddiau hyn. Ddoe ddiweddaf yn y byd yr oeddwn yn siarad efo un o flaenoriaid Salem ynghylch y gŵr ifanc sydd wedi cael caniatâd i ddechre pregethu yno, ac ebe fe: Wyddoch chi, Thomas, 'rwyf yn siŵr na fwriadodd Duw i'r bachgen yna bregethu.' Ddaru chi ddeud hynny pan oedd achos y bachgen yn cael ei drin?' gofynnais innau, ac ebe fo: 'Wel, naddo, welwch chi, achos bydaswn i'n deud hynny, mi faswn yn tynnu pobol yn 'y mhen, ac yn wir, yn gneud niwed i mi fy hun, achos y mae rhai o deulu'r bachgen yn delio yn y siop Humbug, Dafydd Dafis, ac y mae mwy o'r sort nag o ddynion gonest."

"Wn i beth am hynny," ebe Dafydd. "A mi ddeuda beth arall, 'does gan yr un blaenor hawl i ddeud be mae Duw wedi'i fwriadu. Mae eisiau cymryd pwyll cyn rhoi caniatâd i fachgen ddechre pregethu, ac y mae eisiau gofal hefyd rhag rhwystro un o'r rhai bychain hyn. Ac er mai dyletswydd dyn, yn ddiau, ydyw dweud ei feddwl yn onest, a bod yn ddoeth wrth wneud hynny, gwell gen i a fyddai methu ar yr ochr dyneraf."

"Mae methu ar yr ochr dyneraf agos â bod yn adnod erbyn hyn," ebe Didymus. "Mae pobol yn od o dyner y dyddiau hyn. A wyddoch chi be, pe deuai rhyw Ioan Fedyddiwr i'n plith, i ddweud y gwir, fyddai dim eisiau gwasanaeth na Herod na Herodias—fe fyddai crefyddwyr am y cyntaf i ddwyn ei ben ar ddysgl i ffrynt y sêt fawr!"

"Thomas, Thomas!" ebe Dafydd. "Yr ydech chi'n mynd yn fwy eithafol bob dydd. Mae arnaf ofn fod gormod o'r ysbryd torri pennau ynoch chwithe, Thomas bach. Mae goddef ein gilydd mewn cariad, yn gymaint dyletswydd â dweud y gwir. Ond yr yden ni wedi crwydro oddi wrth y pwnc ers meitin. Mae gen i ofn oddi wrth siarad Phillips y bydd o, fel 'roeddech chi'n dweud, yn dwyn enw Mr. Simon o flaen yr eglwys."

"Mae hynny cystal â bod wedi digwydd," ebe Didymus. "Wel," ebe Dafydd, "os i hynny daw hi, gofalwch, Thomas, am fod yno, a dwedwch eich meddwl yn rhydd ac mewn ysbryd llednais."

"Ddof i ddim ar y cyfyl, Dafydd Dafis, gwnaed eglwys Bethel ei photes," ebe Didymus.

"Dyna hi yn y pen," ebe Dafydd, mae arnoch chi isio i bobl fod yn onest a dweud y gwir, a phan ddaw hi i'r pen yr ydech chi am droi'ch cefn."

"Chwi wyddoch, Dafydd Dafis," ebe Didymus, pe deuwn i yno, mai'r gwir a ddywedwn heb flew ar fy nhafod. Mi wn mai dafad ddu ydwyf yng nghyfrif llawer ohonynt, a phe bawn yn dweud fy meddwl yn onest, edrychid arnaf fel un yn rhegi Israel."

"Gadewch i hynny fod," ebe Dafydd. "Dowch chi yno, a dwedwch eich meddwl yn onest ac mewn ysbryd priodol. A da chi, Thomas, pediwch ag ysgrifennu dim ynghylch y peth i'r papur newydd. 'Tydw i byth yn gweld y papur fy hun, ond maen' nhw'n dweud i mi eich bod yn ysgrifennu pethe hallt iawn weithiau."

"Mae ysgrifennu i'r papur," ebe Didymus, "yn rhan o 'musnes i, fel y mae hau maip yn rhan o'ch busnes chwithau, a phobl gignoeth sydd yn dweud fy mod yn ysgrifennu pethau hallt—'dydi'r croeniach yn cwyno dim."

"Waeth i chi befo, Thomas," ebe Dafydd, "'dydi codi godre crefyddwyr ddim yn waith y baswn i yn hidio am ei wneud. Mae digon yn barod at y gwaith hwnnw heb i ni ei wneud o."

"Mae llawer, hefyd," ebe Didymus, "yn ddigon parod i roi clog dros bopeth. Ond hwyrach—fyddaf i ddim. yn cyfaddef fy meiau wrth bawb—hwyrach i mi fod yn ddigon annoeth lawer gwaith wrth ysgrifennu i'r papur newydd. Mae fy natur dipyn yn arw, mi wn; ond eto 'rwyf yn credu fy mod yn teimlo gwir ddiddordeb yn yr achos yn Bethel. 'Rwyf yn siŵr o hyn—na byddaf yn cael cymaint pleser yn unlle ag yn y capel, ac er bod gennyf fy syniad am Mr. Simon—rhywbeth na allaf ei ysgwyd ymaith—yr wyf yn credu yr un pryd na allaf i, na chwithau, na'r Eos lywodraethu'r amgylchiadau yr ydym ynddynt yrwan, a bod rhyw law anweledig yn eu llunio ac yn eu llywio er ein gwaethaf, a hynny, yn ddiamau, i ryw ddiben da. A 'rwan, dyma fi yn dweud nos dawch i chwi."

"Mae'n rhyfedd," ebe Dafydd wrtho ei hun, "fod y dyn yna yn cael ei ddrwgleicio gymaint gan y cyfeillion. Mi fydda i'n gallu gneud yn burion efo fo. Os ydi o dipyn yn arw, mae ganddo rywbeth dan ei ewin bob amser. Os daw'r cyfeillion i ddeall fod Thomas yn erbyn Mr. Simon, maen' nhwthe yn siwr o fynd yn selog o blaid y gŵr. Ond gobeithio y cawn ni'n harwain."

PENNOD XXIV

Dafydd Dafis a'r Seiat Brofiad

WEDI clywed Didymus yn adrodd hanes yr ymgom a groniclwyd yn y bennod ddiwethaf, tybiais y buasai Dafydd yn teimlo yn friwedig, ac euthum i ymweled ag ef. Nid oedd Dafydd yn rhyw hen iawn, ac eto yr oedd rhywbeth yn ei olwg oedd yn peri i mi feddwl am yr oes o'r blaen, a phan feddyliwn am rai o'i syniadau, yr oedd yn ymddangos i mi fel un wedi ei adael yn rhy hir yn y byd i allu bod yn gyfforddus ynddo.

Er nad oedd yn deall ond y nesaf peth i ddim Saesneg, camgymeriad a fuasai ei alw yn ddyn dwl. Nid wyf yn sicr na fu ei anfedrusrwydd yn yr iaith Saesneg o beth mantais iddo, yn enwedig gyda'i fistar tir. Un tro—yr oedd hyn cyn bod sôn am "ryfel y degwm "—yr oedd Dafydd wedi bygwth y Person na thalai ef y degwm. Wrth wneuthur hynny, gwyddai y cynhyrfai lid y mistar tir, ac y byddai yn sicr o ymweled ag ef rai o'r dyddiau nesaf i'w ddwrdio. Nid oedd ar Ddafydd eisiau ymddadlau na ffraeo ag ef, ac yr oedd yn cadw golwg amdano. Ac un bore dacw my lord yn dyfod yn ysbardunog a brochus ar gefn ei geffyl glas. Gwelodd Dafydd ef yn dyfod, ac ebe fe wrth ei nith:

"Mary, cerdd i'r llofftydd yna i edrach weli di rwbeth isio'i wneud, a phaid â dwad i lawr nes gweli di'r gŵr acw yn troi pen ei geffyl tuag adre," ac allan ag ef i gyfarfod â'r mistar tir.

Ymholiad cyntaf y mistar oedd am Mary i gyfieithu, a dywedodd Dafydd ei bod wedi mynd i rywle ar i fyny, yr hyn, wrth gwrs, ni ddeallai'r mistar tir, a dechreuodd dywallt allan ffrwd o Saesneg. Yr oedd y gair tithe yn cael ei fynychu yn ddidor, a phan gafodd Dafydd le i roi ei big i mewn, atebodd yn hamddenol:

"'Dydw i'n gwybod dim byd, syr, am eich' tai' chi, oddieithr y Tŷ Coch yma, a mae ar hwn, byd a'i gŵyr, isio ripârs yn enbyd."

Deallodd y landlord fod Dafydd yn sôn rhywbeth am repairs; crafodd ei du mewn am hynny o Gymraeg a feddai, a gwaeddodd yn ffyrnig:

"Pam chi Sasneg, Dafydd?"

"Pam chi Cymraeg, syr?" atebodd Dafydd.

Pan welodd y meistr tir mai ofer iddo faldordd iaith na ddeellid gan ei denant, ysbardunodd ei geffyl glas ac ymaith ag ef. Dychwelodd Dafydd i'r tŷ yn ddigyffro. Gwaeddodd yng ngwaelod y grisiau: "Mary, tyrd i lawr at y 'menyn yma, 'nei di."

Be 'roedd y dyn yn sôn am ei dai wrtha i? be wn i am ei dai o?" ebe Dafydd.

"Nid' tai 'oedd o'n ddeud, fewyrth, ond tithe'—y degwm, wyddoch," ebe Mary.

"O!" ebe Dafydd, "ond hidia befo."

Dywedais mai camgymeriad a fuasai galw Dafydd Dafis yn ddyn dwl; ond yr oedd dodrefn ei feddwl nid yn annhebyg i ddodrefn ei dŷ. Yr oedd y "pethau heb ond ychydig gyfnewidiad yno ers oes—yr hen setl wrth y tân—yr hen dreser a'r platiau piwtar arni—yr hen gadeiriau, a'r bwrdd mawr wrth y ffenestr, oll yn dderw cadarn. Yr unig ddernyn ag yr oedd amser yn gadael ei ôl arno ydoedd yr hen gloc wyth niwrnod. Yr oedd "tipyn o natur colli ynddo," meddai Dafydd.

Yr oeddwn yn ofni fod Didymus wedi ei ddigaloni, ac euthum yno. Noswaith seiat ydoedd, ac yr oeddwn yn y Tŷ Coch cyn i Dafydd ddychwelyd. Canfûm ei fod mewn ysbryd rhagorol, ac er mwyn taro ar ei hoff bwnc, dywedais:

"Mi welaf, Dafydd Dafis, eich bod yn parhau i fynd i'r seiat."

"Ydw, debyg, a mi fydde'n burion i tithe ddwad yno'n amlach nag 'rwyt ti," ebe fe.

"Chwi wyddoch," atebais, "am f'amgylchiadau—anodd iawn i mi—yn enwedig ym misoedd yr haf—adael y siop am saith o'r gloch a mynd i'r capel, heb wneud cam â mi fy hun. Hawdd iawn i chwi'r ffermwyr, fyned i'r seiat a'r cyfarfod gweddïo, ond byddai raid i ni, y siopwyr, golli'r râs yn fuan, pe baem yn mynd yn gyson i gyfarfodydd canol yr wythnos."

"Pa râs 'r wyt ti'n cyfeirio ati?" gofynnai Dafydd. "Wel, y râs efo'r byd—râs masnach," ebe fi.

"Ho," ebe fe, "ai dyna dy râs di? Ai am y cynta efo'r byd ydi dy bwnc mawr di?"

"Dyletswydd pawb, Dafydd Dafis," ebe fi, "ydyw edrych ar ôl ei fywoliaeth."

"Gwir," ebe Dafydd, "ond y mae dyletswydd fwy na honno yn bod. Rhaid i ddyn edrych ar ôl ei fywoliaeth; ond fe ddylai edrych mwy ar ôl ei fywyd. Mae arnaf ofn, mai pwnc pobol y dyddiau yma ydyw bywoliaeth ac nid bywyd."

"'Dydech chi ddim yn dweud, Dafydd Dafis, fod mynd i'r seiat yn anhepgor i gael bywyd tragwyddol?" gofynnais.

"Na, ydw i ddim lawn mor ddwl â hynny. Mae miloedd a miliynau, mi obeithia, wedi cael bywyd tragwyddol na fuont erioed mewn seiat, fel y deëllir seiat ymhlith Ymneilltuwyr Cymru. Mi glywais ambell ffarmwr yn dweud y gallai ef wneud yn burion heb fynd i'r ffair a'r farchnad; ond chydig o raen a welais i ar neb ohonyn nhw. Mae rhywbeth tebyg iawn, mae arnaf ofn, wedi meddiannu meddwl llawer o grefyddwyr y dyddiau hyn maent yn tybio y gallant fyw yn grefyddol heb fynd i foddion gras canol yr wythnos. Os ydynt yn gallu gwneud hynny, yr wyf yn cenfigennu atynt—rhaid eu bod yn well pobol na ni sydd yn ceisio dilyn y moddion yn weddol gyson—oblegid mi wn mai profiad y rhai sydd yn dilyn y moddion ydyw, mai pell iawn ar ôl y maent yn eu cael eu hunain—nid yn unig yn yr hyn y dylent fod o ran eu bywyd ysbrydol, ond hefyd yn yr hyn y dymunent fod. Dyna fel y byddai yn clywed pobol y seiat yn siarad, a dyna ydyw fy mhrofiad i fy hun. Ond y mae'r nifer fwyaf o grefyddwyr y dyddiau hyn yn gallu byw y bywyd ysbrydol, ac ar delerau da â hwy eu hunain—yn berffaith hunan—ddigonol a hapus eu meddyliau—heb ddangos wyneb unwaith yn y flwyddyn mewn cyfarfod gweddïo na seiat. Ac y mae amryw ohonynt wedi cyrraedd yr ystad honno o berffeithrwydd fel y gallont, heb deimlo niwed na cholled, hepgor oedfa bore Sul. Ac os cynyddant mor gyflym yn y dyfodol—ac y mae pob lle i gredu y gwnânt—gallant yn fuan iawn wneud heb unrhyw foddion o gwbl—yn unig anfon eu cyfraniadau efo Sali'r forwyn. Yr wyf yn cenfigennu atynt!"

"Yr ydech yn siarad yn gas, Dafydd Dafis," ebe fi. "Mi wn fod dau feddwl i'ch geiriau. Ond arhoswch; yr wyf yn bur sicr fy meddwl fod amryw o'r rhai y cyfeiriwch atynt yn gofidio yn fawr am na allant ddilyn moddion canol yr wythnos."

"Wel," ebe fe, " gan dy fod yn un ohonyn nhw, yr wyt yn debycach o wybod eu meddyliau na fi."

"Arhoswch! 'does bosib," ebe fi, "eich bod yn fy rhoi i ymhlith y dosbarth yr oeddech yn ei ddarlunio yrwan? Mi fyddaf yn mynd i'r seiat yn achlysurol, ac ni bûm erioed mewn seiat ac edifarhau am fynd. Ond goddefwch i mi ofyn i chwi, a pheidiwch â meddwl fy mod yn awgrymu dim wrth ei ofyn—a chymryd popeth i ystyriaeth cyfnewidiadau yr amseroedd—y cynnydd mewn manteision addysg—mewn diwylliant a moesoldeb—gymaint mwy gwybodus ydyw ein cynull—eidfaoedd, a chymaint uwch ydyw sefyllfa fydol llawer o'n haelodau eglwysig—a ydech yn meddwl fod y seiat y peth i ni yn y dyddiau hyn?"

Edrychodd Dafydd Dafis arnaf mewn mudandod, fel pe buasai'n petruso. Edrychodd arnaf drachefn a thrachefn, yna llwythodd ei bibell. Perthynai iddo y gwendid hwnnw, a phan fyddai rhaid arno feddwl yn galed, trôi at y bibell am gynhorthwy. Ymsythodd ychydig yn ei gader, ac ebe fe:

"Mae'r amseroedd, chwedl tithe, wedi newid yn fawr hyd yn oed o fewn fy nghof i fy hun—er gwell mewn llawer o bethau, er gwaeth mewn pethau eraill. Mae addysg wedi cynyddu yn ddirfawr, ac y mae hogiau bach erbyn hyn yn gwybod mwy am bethau cyffredin nag a wyddai dynion mewn oed ers talwm. Ond hyd yr ydw i yn dallt, 'does yr un Datguddiad newydd o bethau ysbrydol wedi ei gael. 'Chlywais i am yr un proffwyd wedi ei anfon oddi wrth Dduw i gyhoeddi fod y cyfarfod eglwysig yn afreidiol. 'Glywaist di? A chyda golwg ar y seiat fel sefydliad ag y gwnaed ac y gwneir lles dirfawr drwyddi i eneidiau dynion, nid wyf yn meddwl fod angen ei hamddiffyn; ond yn unig fel yr amddiffynnir yr Efengyl ei hun yn wyneb ymosodiadau dynion annuwiol. A hyd yn oed pe buasai'r seiat ar yr un tir â'r Ysgol Sul, sef heb yr un esiampl na gorchymyn ysgrythurol o'i phlaid, buasai rhesymoldeb a naturioldeb ei sefydliad yn cael cymeradwyaeth calon a deall pob Cristion goleuedig. A glywaist di ryw dro am ryw symudiad, neu ryw deimlad cryf ag yr oedd llawer yn cyfranogi ohono, na byddai'n diweddu mewn seiat, lle y gallai pobol drin a thrafod eu pethau cydymgynghori a chyfnewid meddyliau? Dyna'r teimlad cenedlaethol sydd wedi ei ddeffro yrwan; yr wyt ti'n un ohonyn nhw, mi dy wranta. Ond wnewch chi ddim byd ohono heb eich seiat. Ac yr ydech chi wedi dallt hynny, ac yr ydech chi, fel yr ydw i'n clywed, yn sefydlu eich seiadau ym mhob cwr o'r wlad. Os fel yna y mae hi gyda phethau cyffredin bywyd, oni ddylai crefydd gael ei seiat, ac oni ddylai pob crefyddwr fod yn aelod selog ohoni?"

"Pa nifer, Dafydd Dafis," gofynnais, "sydd o'r rhai y mae eu henwau ar lyfr yr Eglwys gyda ni yma, sydd yn rhoi eu presenoldeb yn y seiat?

"Oddeutu un rhan o dair, neu ychydig bach gwell," atebodd.

Yna," ebe fi, "pa fodd yr ydech yn rhoi cyfrif am amhoblogrwydd y seiat?" Wedi meddwl tipyn, ebe fe:

"Os nad wyf yn camgymryd, mae ein seiat ni, y Methodistiaid, cyn hyned â Methodistiaeth ei hun. Sefydlwyd hi pan oedd ein cenedl mewn dygn anwybodaeth, ond eto wedi ei deffroi gan ddynion wedi eu hanfon gan Dduw—dynion yn llawn o'r Ysbryd Glân. Yr wyf yn meddwl bod i'r seiat, ar ei chychwyniad, ddau amcan o leiaf—sef profi gwirionedd argyhoeddiad y dychweledigion, a'u cyfarwyddo mewn gwybodaeth o bethau ysbrydol. Yr oedd yr amcanion hyn yn dda a gwerthfawr. O ran ffurf, nid rhyw lawer o newid sydd wedi digwydd yn ein cyfarfodydd eglwysig. Byddaf yn meddwl bod ar yr Ysgol Sul fwy o ôl newid yr amseroedd y cynnydd mewn addysg fydol—diwylliant a moesoldeb. Ond yn ysgafn a dibwys, mi gredaf, y mae cyfnewidiadau allanol wedi cyffwrdd â ffurf ein seiat, a hwyrach fod a wnelo hyn rywbeth â'i hamhoblogrwydd. Seiat brofiad y gelwid hi ar y 'dechre, ac am brofiad yr ymofynnir eto, ac anfynych y mae i'w gael. Yr wyf yn credu bod i'r gair profiad ystyr ar y dechre na cheir mohono ond yn anaml yn awr. Ar y dechre yr oedd yn meddwl dirdyniadau'r enaid dan argyhoeddiad dwfn o bechod, neu ynte lawenydd mwynhad cymod â Duw. Mi gredaf hefyd fod i'r gair ystyr ychydig yn wahanol gan y Wesleaid ragor y Methodistiaid Calfinaidd. 'Profiad yn yr ystyr Wesleaidd ydyw—pa mor agos y bydd dyn wedi mynd i'r nefoedd, ac yn yr ystyr Galfinaidd, pa mor bell fydd o'r lle dedwydd hwnnw. Profiad y Wesley ydyw, fel y bu iddo goncro'r diafol, a phrofiad y Calfin, yn rhy fynych ydyw, fel y bu i'r diafol ei goncro ef, neu ynte nad oes ganddo ddim neilltuol ar ei feddwl. Nid oes un ohonynt, 'ddyliwn i, yn iawn, ac eto, y mae'r ddau yn iawn. Mae gan bob dyn brofiad bob dydd o'i fywyd, oblegid profiad ydyw'r hyn y bydd dyn yn ei brofi—gwir 'stad ei feddwl a'i galon gyda golwg ar bethau ysbrydol. Mae lle i ofni mai temtasiwn y Wesle ydyw, gwneud profiad dymunol, nad ydyw, mewn gwirionedd, yn ei fwynhau, ac mai temtasiwn y Calfin ydyw, ei osod ei hun yn y bocs, o flaen y fainc, a hynny mewn ffug, am y gŵyr mai yno y dylai fod. Temtasiwn un ydyw, ceisio hedeg yn uchel heb esgyll, a themtasiwn y llall ydyw, ei berswadio ei hun ei fod yn llyfu'r llwch, ac yntau yr un pryd yn ddigon cefnsyth. Pechod parod i amgylchu'r naill a'r llall ydyw peidio â bod yn onest.

"Mi ddwedais fod gan bob dyn brofiad, ond rhaid i mi alw'r geiriau yn ôl. Mae'n wir mewn un ystyr, ond nid yn wir yn yr ystyr grefyddol i'r gair. Os gall dyn fyw am wythnos heb deimlo gofid oherwydd ei bechod a'i ddiffygion—heb fod mewn ymdrech ag amheuon—heb i ddirgelwch ac amcan ei fodolaeth groesi ei feddwl—a heb i ofnadwyaeth y dyfodol ymyrryd dim â'i fyfyrdodau prin y gellir dweud bod gan y dyn hwnnw brofiad o gwbl, mewn ystyr grefyddol—mae'n perthyn i'r un dosbarth â'r bydol—ddyn di-Dduw. Ond fy mhwnc ydyw hyn—mae'r seiat, yn ôl fy meddwl i, yn sefydliad hynod fanteisiol, nid yn unig i wrando profiad, ond hefyd i'w greu a'i feithrin. Yr un peth ydyw argyhoeddiad o bechod yn awr ag ydoedd gant a hanner o flynyddoedd yn ôl. Mae'r un gwahaniaeth hanfodol yn bod yn awr, fel bob amser, rhwng dyn duwiol a dyn annuwiol. Hwyrach nad ydyw'r gwahaniaeth lawn mor amlwg ag y bu. Mae'r dyn digrefydd wedi dyfod i fucheddu yn debycach i'r dyn crefyddol, a'r dyn crefyddol, yn rhy fynych, yn bucheddu yn debycach i'r dyn anghrefyddol. Mae lle i ofni, mewn llawer amgylchiad, fod rhyw fath o fargen wedi ei tharo rhwng y byd a'r eglwys. Mae tröedigaethau hynod, ysywaeth, erbyn hyn, yn anaml, a bod o fewn ychydig i fod yn Gristion yn ffasiynol. Mae hyn, o angenrheidrwydd, wedi rhoi gwedd wahanol ar ein cyfarfodydd eglwysig. Rhai wedi eu dwyn i fyny er yn blant gyda chrefydd ydyw mwyafrif mawr ein haelodau, a chan amlaf, rhai na allant gyfeirio at unrhyw hanner dydd ar y ffordd i Damascus. Ac y mae'r rhai a ddychwelir o'r byd, oherwydd eu bod yn flaenorol, fel rheol, ymhlith ein gwrandawyr cyson, ac yn ddynion bucheddol, yr un mor analluog i ddatgan dim mwy nag argyhoeddiad graddol nes cyrraedd rhyw bwynt o berswadiad i'w cynnig eu hunain i'r eglwys. Beth y mae hyn yn ei ddysgu i ni? Wel, mi allwn feddwl, ei fod yn dysgu na allwn ddisgwyl, ond yn anfynych, am brofiadau cyffrous a thanllyd fel a geid ers talwm; ond, yn sicr, fe ellir disgwyl am brofiad dwfn a distaw. Heblaw hynny, y mae'n ein dysgu mai prif amcan ein cyfarfodydd eglwysig, erbyn hyn, a ddylai fod creu meddylgarwch, myfyrdod ac ymchwiliad beunyddiol i wirioneddau ysbrydol, a hynny yn y fath fodd ag a greai ddiddordeb ym mhob dosbarth o'n haelodau. Ni ddylem adael y cyfarfod mwyaf cysegredig a feddwn i siawns a damwain. Dylai'r mater sydd i fod dan sylw, fod yn hysbys i'r aelodau cyn mynd i'r cyfarfod. Mae toreth o faterion teilwng at ein galwad—maent yn hen, ond bob amser yn newydd i'r rhai sydd yn teimlo pryder am eu cyflwr—megis y rhai canlynol: Pa rai yw nodau gwir argyhoeddiad? Ym mha bethau y mae'r eglwys a'r byd yn debyg ac yn annhebyg? Pa rai yw arwyddion cynnydd a dirywiad ysbrydol? Pa fodd y gellir cyrraedd sicrwydd gobaith bywyd tragwyddol? a llu o faterion cyffelyb. Nid wyf fi'n credu mai'r ffordd orau i gadw seiat ydyw ymgystadlu am gofio pregethau. Os adroddir rhywbeth o'r pregethau, adrodded y brawd sylw aeth yn syth i'w galon ef ei hun—sylw a wnaeth iddo symud yn ei sêt—ac nid adrodd llarp hir, yn llawer mwy annhaclus nag yr adroddwyd ef gan y pregethwr. Cwestiwn o bwys ydyw, pa beth ydyw'r achos fod nifer mor fychan yn mynychu'r seiat. Un rheswm, yn ddiamau, ydyw'r ofn sydd yn mynwesau rhai gwylaidd eu hysbryd, y gofynnir iddynt ddweud rhywbeth. Pe câi'r dosbarth hwn sicrwydd y caent fod yn wrandawyr yn unig, deuent yn lled gyson, hwyrach, i'r seiat. O'm rhan fy hun, er y buaswn yn rhoi cyfleustra ac anogaeth i bawb ddweud yr hyn fyddai ar ei feddwl, ni fuaswn yn gwasgu am brofiad na dim arall gan y rhai y gwyddys mai gwell ganddynt fod yn ddistaw, oddieithr fod rhyw reswm neilltuol yn galw am hynny. Rheswm arall, mae'n debyg, ydyw diffyg gwroldeb ynom ni, y swyddogion, i wneud ein dyletswydd tuag at yr aelodau. Dylid rhoi ar ddeall y disgwylid i bob aelod, hyd y mae ynddo ef, fynd i'r seiat o leiaf yn achlysurol os nad yn gyson, ac nad ystyrid y rhai sy'n esgeuluso'n wirfoddol, mwyach yn aelodau o gwbl. Ond y rheswm pennaf, yn ddiau, fod cyn lleied yn dyfod i'r cyfarfod eglwysig ydyw, diffyg chwaeth grefyddol, os nad diffyg hollol o grefydd. Mae'r byd rywfodd, erbyn hyn, wedi cael y llaw uchaf arnom. Yr ydym wedi ffurfio a llunio ein hamgylchiadau fel nad ydyw'n bosibl i grefydd gael chware teg. Rhaid edrych. ar ôl yr amgylchiadau, fel yr oeddit ti'n dweud, ond yr wyf yn meddwl bod yn bosibl eu trefnu yn well. Mae nifer o'n pobol ifainc dan gaethiwed oriau masnach, fel na allant ddyfod i foddion canol yr wythnos pe dymunent. Ni ddylai'r pethau hyn fod felly. Crefyddwyr, mewn enw, ydyw'r nifer mwyaf o fasnachwyr trefi Cymru; a phe byddai tipyn o ynni ynddynt, gallent gael gan bawb gau eu siopau fan hwyraf am saith o'r gloch. Yr ydym yn rhy fydol i ddweud nos dawch wrth y byd am saith o'r gloch, a thra parhao pethau fel hyn, nid ydyw 'n bosibl i gyfarfodydd crefyddol gael chware teg. A phwy bynnag a ddaw yma fel bugail, pa un ai Mr. Obediah Simon ai rhywun arall, os na all ddwyn oddi amgylch ddiwygiad yn y peth yma, fe fydd ei lafur yn ofer."

Ni chynigiais un wrthddadl yn erbyn yr hyn a ddywedai Dafydd Dafis, am nad oeddwn yn dewis ei flino, a hefyd am fy mod yn cydweled â llawer o'r hyn a ddywedai.

PENNOD XXV

Enoc a Marged.

SEFYDLWYD Y Parchedig Obediah Simon yn fugail ar eglwys Bethel. Ar ôl yr ymgom yn nhŷ Dafydd Dafis, ni chollodd Eos Prydain un cyfle i osod rhagoriaethau Mr. Simon gerbron pob aelod o'r eglwys y digwyddodd gyfarfod ag ef. Nid ei reswm lleiaf dros alw Mr. Simon yn fugail oedd, fod arnynt eisiau rhywun a fedrai roi taw ar Didymus. Am ryw reswm yr oedd Didymus yntau wedi penderfynu bod yn fud. Wrth weled bod y teimlad yn gryf a chyffredinol ym mhlaid Mr. Simon, ni fynegodd Dafydd Dafis ei deimlad personol, yn unig anogai bawb i weddïo yn ddyfal am arweiniad. Ymhen tri mis yr oedd Mr. Simon yn weinidog Bethel.

Prin yr oedd Mr. Simon wedi troi yn ein plith bythefnos pryd y taenwyd y newydd galarus fod gwaith Pwll y Gwynt wedi sefyll. Yr oedd hyn yn ddigwyddiad anffortunus iddo ef ac i eglwys Bethel, a phe gwybuasid yn gynt fod y fath anffawd wrth y drws, mwy na thebyg y buasai'r rhai mwyaf selog o bleidwyr Mr. Simon yn petruso nid ychydig, yn gymaint â bod nifer mawr o aelodau Bethel yn dibynnu ar Bwll y Gwynt am eu cynhaliaeth. Yr oedd y cwrs wedi ei gymryd, ac nid oedd mwy ddim ond gwneud y gorau ohono. Ond yr oedd rhai gwrthfugeilwyr bron ag awgrymu nad oedd yr holl anffawd ond barn ar Bethel am yr hyn a wnaeth. Tipyn o beth, hefyd, oedd fod eglwysi eraill, a hyd yn oed Eglwys Loegr, yn gorfod dioddef oddi wrth y farn honno.

Ni bu Capten Trefor, oherwydd amgylchiadau, yn y cyfarfodydd eglwysig ers rhai misoedd, ac felly yr oedd yr eglwys wedi gorfod dewis bugail heb ei gynorthwy ef. Câi'r Capten holl fanylion trafodaethau'r seiat gan Mrs. Trefor, oedd yn hynod ffyddlon yn y moddion. Nid anfynych y gresynai Mrs. Trefor na allai'r Capten gynorthwyo'r brodyr, ond atebai'r Capten:

"Chwi wyddoch, Sarah, er bod amgylchiadau bydol, mewn ffordd o siarad, yn cymryd fy holl amser, oherwydd fod bywoliaeth llawer teulu yn dibynnu arnaf, chwi wyddoch, meddaf, fod fy nghalon gyda chwi—'rwyf yn bresennol yn yr ysbryd, er yn absennol o ran y corff, ac 'rwyf yn meddwl na pherffeithir chwithau hebof finnau hefyd." Ac ychwanegai'r Capten, oherwydd fy mod yn cydweled yn hollol â'r hyn y mae eglwys Bethel wedi ei wneud—sef dewis Mr. Simon i'n gwasanaethu, nid wyf yn gweled, meddaf, y buasai'n wahanol, hyd yn oed pe buaswn yn yr holl gyfarfodydd, oblegid fe ŵyr pawb fy mod bob amser yn bleidiol i fugeiliaeth eglwysig, a'm bod, ar fwy nag un achlysur, wedi dangos yr afresymoldeb i ni, mwy nag un enwad arall, fod yn amddifad o weinidog—cwbl rydd oddi wrth ofalon bydol—i edrych ar ôl lles ysbrydol yr aelodau a'r gymdogaeth yn gyffredinol."

Rhoddai'r mynegiad hwn a'r cyffelyb fodlonrwydd i Mrs. Trefor fod eglwys Bethel wedi ei chadw rhag gwneud camgymeriad, er nad oedd y Capten wedi ei helpu â'i gynghorion.

"Sarah," meddai'r Capten ryw ddiwrnod, "er nad yw'n hamgylchiadau y peth fuont, nid gweddus i ni ddangos un math o oerfelgarwch tuag at ein gweinidog, a gwell a fyddai i chwi ofyn i Mr. Simon ddyfod yma i gael tamaid o swper gyda Mr. Huws a Mr. Denman."

Hyfrydwch gan Mrs. Trefor ydoedd gwneud hyn, ac nid annifyr gan Mr. Simon gydsynio, oblegid clywsai fod Capten Trefor yn ŵr o ddylanwad yn y gymdogaeth, a hyd yn hyn, ni feddai ond cydnabyddiaeth amherffaith iawn ag ef a'r teulu. Mae'n wir ei fod wedi sylwi ar Miss Trefor, ac wedi bod yn siarad unwaith neu ddwy â Mrs. Trefor.

Nid drychfeddwl yn unig, erbyn hyn, oedd y fentar newydd, sef gwaith Coed Madog. Yr oedd y Capten wedi gosod amryw ddynion ar waith i sincio, ac eisoes. wedi gwneud allan y planiau, ac mewn gohebiaeth am beiriannau. "Oblegid," meddai, "yr oedd yn rhaid edrych ar y ffaith yn ei hwyneb wrth gychwyn, y bydde'r hen elyn, sef dŵr, yn sicr o ddangos ei ddannedd, ac y bydd raid i gwmni Coed Madog ddangos iddo yntau fod dyfais dyn yn drech nag ef. "Yn wir," meddai'r Capten, "lle bynnag y mae plwm mawr, y mae yno hefyd ddŵr mawr. Mae i bob trysor, syr," meddai, "mewn natur a gras ei wyliwr eiddigus, a gwyliwr y plwm ydyw DŴR. Ond, gyda bendith a rhwydeb, ni ddygwn y caffaeliad o law'r cadarn. Medrusrwydd, amynedd, ffydd, a chalon i fentro, ac nid oes arnaf ofn na'r amheuaeth lleiaf na welir y gymdogaeth eto'n llwyddiannus, a dynion, oherwydd cyflawnder gwaith, ar ben eu digon."

Yr oedd Enoc Huws, erbyn hyn, yn ymwelydd cyson â Thy'n yr Ardd, ac wedi gorchfygu llawer ar ei swildod, a magu mwy o wroldeb nag y tybiasai erioed ei fod ganddo. Yr oedd yn iechyd i galon dyn sylwi ar y newid dymunol a ddaethai drosto. Yn lle bod â'i holl fryd ar y siop—y cyntaf yn agor a'r olaf yn cau, ac wedi cau, yn ei lusgo ei hun yn flinedig yn ei ddillad blodiog i'r offis i fygu ei getyn byr i aros amser gwely—yr oedd ef yn awr, fel masnachwr parchus ac annibynnol, yn gorchymyn cau'r siop cyn gynted ag y clywai'r gloch wyth. Yna âi'n syth i'r llofft i eillio ac ymolchi—deuai i lawr fel pin mewn papur—gosodai rosyn, os gallai gael un, yn nhwll lapel ei got; taniai ei sigâr, cymerai ffon â phen arian iddi yn ei law, ac âi am dro i Dŷ'n yr Ardd. Codai ei het yn foesgar pan gyfarfyddai â merch ieuanc a adwaenai, ac yn ad-daliad, derbyniai wên gydnabyddgar, a addfedai i chwerthiniad wedi iddo ef fyned heibio. Er y dydd y daeth Enoc gyntaf i Siop y Groes, cydnabyddid ef gan bawb. fel gŵr ieuanc da, gwylaidd, a chrefyddol, ond yr oedd gorfoesgarwch yn rhywbeth cwbl newydd yn ei gymeriad. Nid ystyriai ei gymdogion y ffaith—oedd ddigon adnabyddus erbyn hyn—sef bod Enoc yn bartner yn y fentar newydd, yn rheswm digonol am y newid sydyn a thrylwyr a ddaethai drosto, ac nid oedd modd cyfrif amdano—yn enwedig gan y merched—ond drwy ddweud fod Enoc yn ei baratoi ei hun i fod yn ŵr i ferch y Capten Trefor. Anghwanegid eu ffydd yn ddirfawr yn y grediniaeth hon gan ffaith amlwg arall sef y newid cyfamserol yng ngwisg, dull, ac ymddygiad Miss Trefor. Yr oedd yr eneth, meddent, yn prysur ddyfod i'w hadnabod ei hun, ac yn dechrau bod fel rhyw eneth arall nid oedd yn dangos "airs "—nid oedd yn dal ei phen mor uchel—yr oedd yn dyfod i'r capel yn gyson—yn sylwi ar bawb, tlawd a chyfoethog,—yn weddus ei gwisgiad—yn ostyngedig ei hysbryd. Amlwg ydoedd, meddai ei chyfeillesau, ei bod wedi anobeithio am ŵr bonheddig yn ŵr, a'i bod yn ei chyfaddasu ei hun i fod yn wraig i fasnachwr, ac yn paratoi magl i ddal Enoc Huws, druan gŵr. Eglur ydoedd, meddai'r un awdurdodau, mai egwyddor Miss Trefor oedd lefelu i lawr, ac mai egwyddor Enoc oedd lefelu i fyny, ac mai'r canlyniad naturiol yn y man fyddai—cyd-ddealltwriaeth —canu'r clychau—taflu reis a gweiddi hwrê! Yr oedd y mater wedi ei setlo gan y cymdogesau—nid oedd dim arall yn bosibl.

Ar y cyfan yr oedd Enoc yn lled lon ei ysbryd—o leiaf yn ymddangos felly—ond da fuasai ganddo pe cawsai weledigaeth mor eglur â'i gymdogion. Prin yr âi diwrnod heibio heb i rywun neu'i gilydd ei longyfarch am ei ragolygon. Ar y dechrau, byddai hyn yn boenus iawn iddo, yn enwedig pan soniai rhai o'i gwsmeriaid diseremoni am y peth yng ngŵydd ei gynorthwywyr yn y siop. Byddai enw Miss Trefor yn peri iddo deimlo fel torth newydd ddyfod o'r popty. Ond y mae dyn yn dyfod i ddygymod â phopeth, bron, ac o dipyn i beth teimlai Enoc yn siomedig os âi diwrnod heibio heb i neb gyfeirio at deulu Ty'n yr Ardd. Yr oedd rhai o'i gwsmeriaid—mwy gonest na chall—yn beiddio siarad yn anfwyn am wrthrych ei serch, ac er na ddywedai Enoc ddim (yr oeddynt yn gwsmeriaid da) tystiai ei wyneb nad hyfryd oedd ganddo glywed eu hymddiddan, ac yn ei galon, yr oedd yn casáu pob un a sibrydai air amharchus am Miss Trefor. Deuai un wraig dafodrydd i Siop y Groes bob nos Sadwrn pan fyddent ar fin cau. Tystiai'r wraig hon fod Enoc a Miss Trefor yr un ffunud â'i gilydd, ac er bod Enoc yn cymryd arno ei fod wedi blino ar ei stori, sylwai'r cynorthwywyr y byddai bob amser yn rhoi melysion i blant y wreigan hon.

Er mor gyffredin oedd y gred yng ngharwriaeth Enoc a Miss Trefor, yr oedd un na allai oddef sôn am y peth, ond fel chwedl ffôl a disynnwyr, a'r un honno oedd Marged, housekeeper Enoc ei hun. Cyfaddefai Marged fod ei meistr yn mynychu Tŷ'n yr Ardd yn lled gyson, ond yr oedd yn gorfod gwneud hynny, meddai hi, am ei fod wedi bod mor ffôl a dechrau mentro." Ond nid oedd hi wedi bod yn Siop y Groes am gyhyd o amser heb wybod meddwl ei meistr, ac yr oedd sôn am i'w meistr hi briodi rhyw ddoli a ffifflen anfedrus fel Miss Trefor yn groes i synnwyr cyffredin yng ngolwg Marged. Byth ar ôl y noson y dywedasai Enoc wrthi y gwnaethai hi wraig ragorol, a'i fod yn resyn o beth ei bod hi heb briodi, yr oedd y ddau wedi byw ar delerau hynod o hapus. Yr oedd Marged mor dirion a chyweithas, ac mor ofalus am ei gysuron ac am gario allan ei ddymuniadau, a hyd yn oed ei awgrymiadau, fel na allai Enoc ddyfalu rheswm am y newid dymunol hwn yn ei hymddygiad, oddieithr ar yr ystyriaeth ei bod wedi ei breintio â synnwyr newydd sbon. Rhoddai Enoc y fath bris ar y gwelliant hwn, fel y darfu iddo, un noswaith, ohono ei hun, grybwyll wrth Marged am godiad yn ei chyflog. Ond ni fynnai Marged glywed am y fath beth—yn wir, 'doedd ganddi hi, meddai, eisiau dim cyflog ond just ddigon i gael dillad symol teidi." Sylwasai Enoc, gyda phleser, fod Marged, yn ddiweddar, wedi ymdecáu cryn lawer. Tipyn o slyfen a fuasai hi bob amser, a difyr gan Enoc oedd sylwi ar geisiadau Marged i fod yn fain ei gwasg ac yn fin-gaead. Ond er gwneud ei gorau yn y ffordd hon, lled aflwyddiannus a fu ymdrechion Marged—yn enwedig gyda'r wasg—oblegid wedi tynnu a thynnu, nid oedd fawr well yr olwg na phe rhoid gardas am ganol sached o datws. Ac ni allai Marged, gyda diogelwch, ychwanegu bustle neu dress improver, canys yr oedd y rhannau a addurnir â'r cyfryw bethau eisoes o faintioli mor anghymedrol fel, pe rhoesid rhyw atodiad y buasai hynny'n golygu gorfod lledu allan furiau Siop y Groes. Er hynny, hyfryd odiaeth gan Enoc oedd gweled y gwelliant hwn yn niwyg Marged, oblegid yr oedd yr olwg aflawen gynt fyddai arni, yn rhy fynych wedi bod yn brofedigaeth fawr iddo fwy nag unwaith, ac wedi peri iddo ofni i bobl gredu nad oedd ef yn rhoi o gyflog iddi ddigon i gael dillad gweddus. Wrth weled Marged wedi ymdwtio cymaint, ni allai Enoc lawer pryd beidio â'i chanmol a'i llongyfarch. Yr oedd Enoc yn ŵr mor dirion a hael-galon, fel y bu i waith Marged yn gwrthod yn bendant godiad yn ei chyflog, achosi poen mawr iddo. Gresynai at ei diniweidrwydd, ac yr oedd yn ddyn rhy gydwybodol i gymryd mantais ar hynny. Ni allai Enoc gael tangnefedd i'w feddwl heb wobrwyo Marged mewn rhyw ffurf neu'i gilydd.

Meddai Marged dymer mor rhyfedd, fel yr ofnai ei meistr gynnig anrheg o ddilledyn iddi; ac eto, pa ffordd arall y gallai ddangos ei werthfawrogiad o'i gwasanaeth? Mentrodd un diwrnod, gydag ofn, gynnig iddi anrheg o brooch. Boddhawyd Marged yn ddirfawr—yn wir, gorchfygwyd hi gan ei theimladau, ac ni allai beidio â cholli dagrau. Wrth ganfod ei mawr foddhad, anrhegodd Enoc hi, o dro i dro, ag amryw ddarnau o ddilladau, cyfartal o ran gwerth i swm y codiad yn y cyflog y bwr—iadasai ei roddi iddi. Yr oedd llonder Marged ar dderbyniad yr anrhegion, a'r effeithiau daionus oedd yn dilyn, yn fforddio pleser mawr i Enoc. Un diwrnod, tybiai Enoc fod gwobr yn ddyledus i Marged—yn fwy felly, am ei bod wedi gwrthod yn benderfynol ei chwarter cyflog, gan ddweud wrtho am ei gadw hyd ryw dro arall. Gofynnodd Enoc i Marged beth fuasai hi yn ei ddymuno yn y ffurf o rodd; synnwyd ef gan ei hatebiad, ac ni allai beidio â chwerthin yn ei lewys. "Wel, gan ych bod chi mor geind, mistar," ebe Marged, "mi faswn yn licio'n anwêdd gael modrwy debyg i honna sy gynnoch chi, ond heb fod mor gostus."

Yr oedd ffyddlondeb Marged mor fawr, ei diniweidrwydd plentynnaidd mor amlwg, fel na feiddiai Enoc wrthod ei chais, ac ebe fe: "Wel, gan mai dyna liciech chi, ewch i siop Mr. Swartz i brynu un, a deudwch wrtho y dof i yno i dalu. Mi gewch fodrwy go lew, Marged, am rhw bum swllt ar hugain." "Yr ydech chi'n bur garedig, mistar," ebe Marged, ac i siop Mr. Swartz â hi heb golli amser. Ond er trio llawer ni feddai Mr. Swartz fodrwy ddigon ei hamgylchedd i fys Marged, a phe buasai ef yn fasnachwr anonest, anfonasai yn ddirgel i siop yr ironmonger am fodrwy cyrten gwely. Ond ni wnaeth hynny, eithr yn hytrach cymerodd fesur ei bys i gael gwneud modrwy yn arbennig iddi. Pan glywodd Enoc gan Marged am hyn, teimlai awydd angerddol i chwerthin, ond ni feiddiai. Pa fodd bynnag, yr oedd y ddau yn cyd-fyw yn " ffamws," a dechreuai Enoc fwyn gredu, os digwyddai iddo fod yn llwyddiannus i ennill llaw a chalon Miss Trefor—ei phriodi, a'i dwyn i Siop y Groes, na fyddai raid troi Marged i ffwrdd fel yr ofnasai. Hwyrach," ebe Enoc, rhyngddo ag ef ei hun, "ei bod hithau, fel llawer eraill, yn meddwl bod popeth wedi ei wneud i fyny rhyngof fi a Miss Trefor, a'i bod hi yn ymbaratoi erbyn y bydd Miss Trefor yn Mrs. Huws; a diolch am hynny. 'Rwyf yn cofio'r amser pan fyddwn yn dychrynu wrth feddwl be ddeude Marged pe baswn yn sôn am briodi. Druan ydi Marged! Yr hen greadures ddiniwed a ffyddlon, mi licie 'ngweld i wedi priodi a setlo i lawr."

Gan fod bron bawb o'i gydnabod, yn eu tro, wedi crybwyll wrtho—rhai yn chwareus, eraill yn ddifrifol—enw Miss Trefor, synnai Enoc, weithiau, na soniodd Marged erioed amdani, nac awgrymu dim am y siarad oedd mor gyffredin yn y gymdogaeth. A llawer tro pan ddigwyddai iddo aros yn hwyr yn Nhŷ'n yr Ardd, y disgwyliai Enoc i Marged led—awgrymu rhywbeth am yr argoelion. Ond y cwbl a ddywedai Marged fyddai: Sut mae'r gwaith mein yn dwad ymlaen, mistar? a dywedai Enoc ynddo ei hun: "Dydi hi ddim yn licio cymryd hyfdra arna i."

Aethai pethau fel hyn ymlaen yn hynod o gysurus yn Siop y Groes am amser. Yr oedd Enoc wedi gwario cryn lawer i brydferthu ei dŷ, oddi mewn ac oddi allan, a phob teclyn newydd a chwanegwyd at y dodrefn wedi derbyn cymeradwyaeth wresog Marged, ac nid oedd ond un peth yn ôl yng ngolwg Enoc i wneud ei fywyd yn berffaith gysurus. Ond byr ei barhad yw dedwyddwch dyn syrthiedig ar y gorau, ac yn aml pan fydd y cwpan yn ymddangos bron yn llawn at yr ymyl, a ninnau ar fedr drachtio gydag aidd, bydd rhyw ffawd ddrwg yn ei thorri'n deilchion yng ngwydd ein llygaid. A gorau bo'r dyn, tebycaf yn y byd ydyw i'r aflwydd hwn ddigwydd iddo, fel pe bai'r nefoedd yn rhy eiddigus i ddyn fwynhau gormod ar y byd hwn, rhag siomi ei ddisgwyliadau yn y nesaf. Gwirwyd hyn yn rhy fuan yn hanes Enoc a Marged—y ddau fel ei gilydd.

PENNOD XXVI

Torri Amod

YR oedd terfyn i amynedd a hirymaros hyd yn oed Marged. Un noson, tra'r oedd ei meistr yn aros yn hwyr yn Nhŷ'n yr Ardd, a'r nos i Marged—nid i Enoc—yn ymddangos yn hir a thrymaidd a digysur, penderfynodd yn ei meddwl y siaradai â'i meistr pan ddeuai gartref, oblegid yr oedd hi wedi blino ar fyw fel hyn, a gwnaeth ddiofryd y mynnai ddealltwriaeth glir ar y mater. Ac wedi i Marged benderfynu ar rywbeth, dyna oedd i fod heb ail siarad. Mae'n wir y teimlai hi ei bod yn cymryd cam pwysig, a phan glywodd hi ei meistr yn canu'r gloch, pe buasai gan Marged nerfau, buasai'n teimlo oddi wrthynt, ond gan na feddai hi bethau felly, y peth tebycaf y gallai hi gymharu ei theimlad iddo oedd ei theimlad pan fyddai ambell ddiwrnod yn methu pen—derfynu pa un ai pobi ai golchi a wnâi. Cyn gynted ag y daeth Enoc i'r tŷ canfu nad oedd Marged yn edrych lawn mor fywiog ag arfer, a thybiodd ei bod wedi hepian yn drymach na chyffredin, a'i bod heb ddeffro yn hollol. Am unwaith, er mawr ryfeddod i Enoc, ni ofynnodd Marged "pa fodd yr oedd y gwaith mein yn dyfod ymlaen," ond gyda'i fod ef wedi tynnu ei esgidiau, a hithau wedi estyn ei slipars iddo, edrychodd Marged ym myw llygad Enoc gyda chymaint o ddifrifwch nes ei atgofio am ei hen ffyrnigrwydd, ac ebe hi:

Wel, mistar, be ydech chi'n meddwl 'i 'neud?"

Edrychodd Enoc am foment braidd yn yswil, a meddyliodd fod Marged, o'r diwedd, yn mynd' i sôn am Miss Trefor. Nid annifyr oedd hynny ganddo, ac ebe fe, gyda gwên ar ei wyneb: "At be'r ydech chi'n cyfeirio, Marged?"

"At be'r ydw i'n cyfeirio?" ebe Marged, "ond wyddoch chi o'r gore at be'r ydw i'n cyfeirio. Isio gwbod sy arna i be 'dech chi'n feddwl 'neud, achos y mae'n bryd i chi neud rhwbeth."

"Wel," ebe Enoc, dipyn yn wyliadwrus, " yr ydw i braidd yn gesio at be'r ydech chi'n cyfeirio, ac mi addefaf fod yn bryd i mi wneud rhywbeth, a gobeithio na fydd hi ddim fel hyn o hyd. Ond fedr dyn ddim cael ei ffordd ei hun bob amser, chwi wyddoch hynny, Marged."

"Be sy'n rhwystro i chi gael ych ffordd ych hun? 'Rydech chi wedi cael ych ffordd ych hun ers gwn i pryd, a be sy'n rhwystro i chi gael ych ffordd ych hun 'rwan?" ebe Marged.

"Dydech chi ddim yn gwybod popeth, Marged," ebe Enoc.

"Mi wn hynny'n burion," ebe Marged, "mi wn nad ydw i'n dallt dim am fusnes; a welsoch chi rwfun rw dro oedd yn gwbod popeth? 'Rydw i'n meddwl y gwn i sut i gadw tŷ cystal â neb â welsoch chi eto, beth bynnag.'

"'Rwyf bob amser yn dweud, fel y gwyddoch chi, Marged," ebe Enoc yn fwyn, "nad oes eisiau eich gwell i gadw tŷ. Ydw i ddim wedi deud hynny laweroedd o weithiau, Marged?"

"Be arall fedrech chi ddeud?" ebe Marged, mwy na heb yn dawel.

"Gwir iawn," ebe Enoc. "Ond dyna'r oeddwn i yn mynd i'w ddeud: 'rydech chi wedi hintio 'mod i'n hir yn gwneud rhywbeth, ac felly yr ydw i. Ond fedr dyn ddim gwneud popeth y mae'n 'i ddymuno. Mi wn eich bod yn teimlo'n unig yn yr hen dŷ mawr yma ar eich pen eich hun, yn enwedig er pan ydw i wedi dechre mynd i Dy'n yr Ardd, ac yn aros allan yn hwyr. Ac y mae hynny'n ddigon naturiol. Nid da bod dyn ei hunan, medde'r Beibl, ac nid da bod merch ei hunan chwaith. Ond pa help sy gen i am hynny? Mi wn eich bod wedi blino'n disgwyl i mi briodi. Ond y gwir amdana i ydi hyn—waeth i mi siarad yn blaen—'dydw i ddim wedi son am hyn wrth neb arall—mae'n digwydd weithiau i ddyn fod am flynyddoedd cyn llwyddo yn ei gais, a'r gwir ydyw 'newch chi ddim sôn am y peth wrth neb, 'newch chi, Marged?"

"Na, soniais i air wrth neb erioed," ebe Marged.

"Wel," ebe Enoc, "y gwir ydyw, 'dydw i damed nes efo Miss Trefor heddiw nag oeddwn i yn y cychwyn. Mae hi'n eneth anodd iawn i'w hennill. Yr wyf, mi gyfaddefa, yn ei charu yn f——."

Nid ynganodd Enoc air arall. Dychrynwyd ef gan yr olwg oedd ar Marged. Y peth cyntaf a'i trawodd â syndod oedd ei llygaid, fyddai'n gyffredin mor ddi-fynegiad â llygaid mochyn tew; ond yn awr, agorent arno led y pen gan wreichioni tân fel llygaid teigres. Teimlai Enoc fod eu fflamau bron â'i gyrraedd, a gwthiodd ei gadair yn ôl yn ddiarwybod. Yna gwelai ei gwefusau yn glasu, a'r glesni'n ymledu dros ei holl wyneb, ond ni symudai gewyn yn ei chorff. Yr oedd Enoc wedi ei syfrdanu yn gymaint fel na allai ofyn beth oedd yr anhwyldeb oedd arni, ond credai'n sicr fod Marged wedi gorffwyllo ac ar fin rhoi llam arno a'i dynnu yn gareiau, neu ynteu ar fin cael strôc, ac nid oedd mwyach nerth ynddo, pryd y rhoddodd Marged ysgrech annaearol, megis ysgrech mil o gathod gwylltion, ac y syrthiodd fel marw ar lawr. Mewn dychryn a fu agos â bod yn angau iddo, rhuthrodd Enoc at y drws ar fedr ymofyn cynhorthwy, ond cyn agor y drws, cofiodd ei bod yn hanner nos, ac y gallai Marged druan farw tra byddai ef yn ceisio rhywun yno. Crynai ei liniau ynghyd tra'r oedd yn cymhwyso dŵr oer at wyneb Marged, ac er cymaint oedd ei fraw, ni allai Enoc, wrth edrych yn ddialiu a syfrdan ar ei gruddiau hagr, beidio â meddwl am y darlun hwnnw o Apolion oedd ganddo mewn argraffiad o Daith y Pererin. Yr oedd Enoc yn sicr yn ei feddwl—beth bynnag oedd clefyd Marged—na allai curiadau ei chalon fod yn gyflymach na'r eiddo ef ei hun, a meddiannodd, yn y man, ddigon o nerth i wneud cymhariaeth, a chafodd ei fod yn gywir. Tra'r oedd ef yn teimlo curiad gwaed Marged, yn hollol sydyn, hi ddechreuodd gicio'n enbyd, a thaflu allan ei breichiau preiffion, nes argyhoeddi Enoc mai mewn ffit yr oedd Marged druan. Cadarnhawyd yr opiniwn hwn yn ei feddwl gan y ffaith ei bod yn rhincian ei dannedd yn gynddeiriog. Gwelsai Enoc o'r blaen rai yn yr un cyflwr, ac yr oedd yn gyfarwydd â'r moddion a ddefnyddid. Rhag iddi gnoi ei thafod, llwyddodd Enoc, ar ôl mawr drafferth, i roddi llwy yn ei safn. Edifarhaodd wneuthur hyn, ond pe buasai ef yn ddigon tawel ei feddwl i fwynhau'r amgylchiad, fe chwanegodd gryn lawer at ddiddordeb yr olygfa, oblegid cydiodd Marged â'i dannedd yn y llwy fel y bydd hen ysmygwr danheddog yn cydio mewn cetyn pan fydd chwant mygu arno. Fel y sylwyd o'r blaen—o ran nerth corfforol (nid wyf yn awr yn sôn am ei feddwl) nid oedd Enoc ond eiddilyn; ond fel gwir ddyngarwr, yr oedd am wneud ei orau, yn ôl ei allu, i gael Marged yn iach o'r anhwyldeb, a dechreuodd yn egnïol—fel y gwelsai rai yn gwneud o'r blaen—guro cledrau ei dwylo. Gŵyr pawb pa mor gryfion ydyw pobl mewn gwasgfa; a phan ddechreuodd Enoc guro cledrau ei dwylo, dechreuodd Marged luchio allan ei braich dde gyda dwrn caeedig, a thrawodd Enoc ym môn ei drwyn nes oedd ef yn llechan ar lawr a'i waed yn llifo. Yn llawn tosturi at y dioddefydd, a heb falio dim yn yr ergyd a gawsai, neidiodd Enoc ar ei draed yn chwimwth, ond yr oedd y dyrnod wedi ei ddinerthu mor dost, a Marged hithau'n parhau i gicio a lluchio a baeddu, fel y gwelodd Enoc yn amlwg y byddai raid iddo ymofyn cymorth o rywle. Rhuthrodd allan, ac er ei lawenydd, pwy a ganfyddai, fel pe buasai newydd ddyfod i'r fan a'r lle, ond Jones y plismon.

"Dowch i mewn ar unwaith, Mr. Jones bach," ebe Enoc.

"Beth ydi'r helynt, Mr. Huws?" gofynnai Jones yn araf a digyffro, "beth ydi'r gweiddi sydd yn eich tŷ chi?"

"Ond Marged yma sy mewn ffit, dowch i mewn, dowch i mewn ar unwaith," ebe Enoc.

Cerddodd Jones i mewn yn hamddenol a thrwm ei droed, ac wedi dyfod i'r goleuni, synnwyd ef yn fwy gan yr olwg oedd ar wyneb gwaedlyd Enoc, na chan yr olwg annaturiol oedd ar Marged â llwy yn ei safn. Yr oedd Marged wedi llonyddu, ac edrychodd Jones yn wyneb Enoc, ac ebe fe:

"Mae'n ymddangos, Mr. Huws, mai chi gafodd y gwaethaf yn yr ysgarmes," a chyn i Enoc gael ateb, neidiodd Marged ar ei thraed, a chan edrych yn ffyrnig ar Enoc, ebe hi:

"Y dyn drwg gynnoch chi" ond gwelodd fod rhywun arall yn yr ystafell, a chan droi at y plismon, ebe hi yn eofn :

"Be sy arnoch chi isio yma? be 'dech chi yn busnesu? ewch allan oddma mewn wincied, ne mi rof ole trwoch chi efo'r procer 'ma—ydech chi'n mynd?"

Gwenodd y plismon yn wybodus hynod, ac amneidiodd Enoc arno i fyned ymaith, a dilynodd ef at y drws. "Yr hen game, Mr. Huws, yr hen game," ebe'r plismon wrth adael y tŷ, ac yr oedd Enoc yn rhy ddychrynedig i'w ateb.

Druan gŵr yr oedd bron llewygu, a'i wyneb, oddieithr y rhan a orchuddid gan waed, yn farwol welw, pan syrthiodd i'r gadair o flaen Marged eilwaith. Wrth weled yr olwg resynus oedd arno, lliniarodd Marged am oddeutu pum eiliad, ac yna dechreuodd lefaru. "Be oedd arnoch chi isio efo'r syrffed ene yma? oeddech chi'n meddwl 'y nghymryd i i'r rowndws? Mi dyffeia chi! Ydi o ddim yn ddigon i chi 'nhwyllo i a gneud ffŵl ohono i, heb nôl plismon yma?"

"Marged," ebe Enoc yn grynedig, oblegid y munud hwnnw y canfu wir sefyllfa pethau, "Marged," ebe fe, peidiwch â gweiddi—yr wyf yn crefu arnoch." (Credai Enoc fod y plismon yn gwrando wrth y ffenestr.)

"Peidio â gweiddi? peidio â gweiddi?" ebe Marged ar dop ei llais, "mi waedda faint a fynna i, a chewch chi mo fy stopio i. Oes gynnoch chi ofn i bobol glywed? oes mi wn! Ond mi geiff pawb glywed—mi'ch 'sposia chi i bawb, a chewch chi ddim gneud ffŵl ohono i—mi'ch dyffeia chi!"

"Sut yr ydw i wedi gneud ffŵl ohonoch chi, Marged?" ebe Enoc, a'i dafod cyn syched bron nes glynu yn nhaflod ei enau.

"Sut? sut? sut?" gwaeddai Marged, "ym mhob sut! Ddaru chi ddim dweud bod yn biti 'mod i heb briodi, ag y baswn i'n gneud gwraig splendid?—ddaru chi ddim deud gantoedd o weithiau na fasech chi byth yn dymuno gwell housekeeper?"

"Do," ebe Enoc, "a mi ddeudaf hynny eto, ond sut yr ydw i wedi gneud ffŵl ohonoch chi?

"Y dyn drwg gynnoch chi," ebe Marged, "sut mae gynnoch chi wymed i ofyn ffasiwn gwestiwn i mi? Oeddech chi ddim yn rhoi ar ddallt i mi'ch bod chi'n meddwl amdana i? Ac os nad oeddech chi, pa fusnes oedd gynnoch i ddeud ffasiwn beth?"

Heliodd Enoc at ei gilydd gymaint o wroldeb ag a feddai, ac ebe fe:

"Marged, yr ydech chi wedi'ch twyllo'ch hun—rois i 'rioed sail i chi feddwl y fath beth, mi gymra fy llw, a feddylies i 'rioed fwy am eich priodi nag am briodi boa-constrictor."

Wel y dyn melltigedig!" ebe Marged, "be yn y byd mawr oeddech chi'n i feddwl wrth roi i mi'r holl bresante, heblaw gneud ffŵl ohono i? Ond y mae nhw gen i i gyd, a mi ddôn i gyd i'ch gwymed chi eto! Peidiwch â meddwl y cewch chi 'nhrin i fel ene—mi wnâ i o'r gore â chi, a mi wnâ i chi sticio at ych gair. Ac i be y baswn i'n gwrthod codiad yn 'y nghyflog 'blaw'ch bod chi wedi cystal â deud mai fi fase'ch gwraig chi? Peidiwch â meddwl y cewch chi droi yn ych tresi fel ene! Ac am edliw i mi Boas y conductor, neith nene mo'r tro, Mr. Huws. Mi wn, pan oeddwn i'n perthyn i'w gôr o, 'i fod o wedi meddwl amdana i, ond 'dryches i 'rioed arno fo, a faswn i ddim yn edrach arnoch chithe 'blaw 'mod i'n dechre mynd dipyn i oed, achos yr ydw i wedi gwrthod ych gwell chi. Ond mi gewch chi sefyll at ych gair, syr, ne mi fydd yn difar gynnoch chi. A deud yn 'y ngwymed i ych bod chi'n caru'r hen lyngyren ene o Dŷ'n yr Ardd? Y ffifflen falch, ddiddaioni! Mi ddeuda i iddi pwy a be ydi hi pan wela i hi nesa, a mi wna! A mi geiff glywed ffasiwn un ydech chithe hefyd, y dyn twyllodrus gynnoch chi! Y chi'n galw'ch hun yn grefyddwr? Crefyddwr braf yn wir, pan fedrech chi dwyllo geneth myddifad a digartre! A 'ddyliwn ych bod chi wedi trio twyllo'r llyngyren ene o Dŷ'n yr Ardd? Oedd twyllo un ddim yn ddigon gynnoch chi? Ond 'rhoswch dipyn bach! mi geiff pawb wybod ych hanes chi, a mi gewch dalu'n ddrud am hyn! Os na sefwch chi at ych gair, mi fynna'ch torri chi allan o'r seiat, a mi'ch gna chi cyn dloted â Job, na fydd gynnoch chi 'r un crys i'w roi am ych cefn—a mi wna—cyn y bydda i wedi darfod â chi, y dyn dau-wymedog gynnoch chi."

Nid yw dweud bod Enoc, ar y pryd, yn druenus, ond disgrifiad gwan o'i sefyllfa. Agorai mil o waradwyddiadau posibl a thebygol o flaen ei feddwl, nes bod Enoc yn teimlo y buasai marw yn y fan a'r lle, bron, yn fwy dymunol yn ei olwg na byw; ac yn berffaith ddiystyr o'r canlyniadau, a chydag ehofndra a dynoliaeth nas dangosodd erioed o'r blaen, ebe fe, gydag ynni a theimlad:

Marged, mi fydde'n well gen i i chi blannu'r gyllell yna (yr oedd cyllell fara fawr ar y bwrdd yn ymyl Marged) yn 'y nghalon i na gwrando un gair amharchus am Miss Trefor. Deudwch y peth a fynnoch amdana i—neu trewch fi yn fy mhen â'r procar yna os liciwch, ond peidiwch â deud yr un gair—yr un sill am Miss Trefor. Y hi ydi'r eneth ore a phrydferthaf yn y byd, mi gymra fy llw! Mae ei henw yn rhy bur i'ch anadl llygredig chi ei swnio, a difai gwaith i chi fyddai glanhau ei hesgidiau. A sôn 'y mod i wedi gneud ffŵl ohonoch chi!—'Drychwch —gwrandewch be rydw i'n 'i ddeud wrthoch chi—bydase neb ond y chi a finne ac un wranwtang yn y byd, ac i mi orfod priodi un ohonoch, fe gawsech chi, Marged, fod yn hen ferch! 'Dydw i'n hidio 'r un daten amdanoch chi, a dalltwch, 'dydw i ddim am ddiodde dim chwaneg o'ch tafod drwg chi, a fe fydd raid i chi hel eich pac oddi yma ar unwaith!"

Pensyfrdanwyd Marged gan eiriau ac ehofndra Enoc. Yr oedd yn beth newydd hollol yn ei gymeriad a'i hanes, a chafodd effaith ddirdynnol arni. Gweithiai ei hwyneb i bob ffurf, lliw a llun—weithiau yn fygythiol, bryd arall yn resynus—agorai ei genau i siarad, a chaeai hi drachefn cyn dweud gair. Wedi mynd drwy gyfres o ystumiau annaearol ac ellyllaidd gollyngodd Marged ei hun i freichiau natur ddrwg—neu, mewn geiriau eraill—cafodd ail ymosodiad o'r hyn a olygai Enoc, yn ei ddiniweidrwydd, yn wasgfa, ond yr hyn, mewn gwirionedd, nad oedd yn ddim amgen na hysteria. Syrthiodd Marged ar ei chefn ar lawr, a dechreuodd gicio a bytheirio fel o'r blaen. Nid estynnodd Enoc un help iddi—ni ddychmygodd am roi llwy yn safn Marged. Yn hytrach, goleuodd gannwyll ac aeth i'w ystafell wely.

Byd a'i gŵyr! yr oedd Enoc Huws yn ddyn da, a chanddo galon mor dyner fel na ddarfu iddo erioed ladd gwybedyn neu gacynen yn ei siop heb deimlo pangfa yn ei gydwybod. Ond y noswaith honno, tra'r oedd ef yn esgyn y grisiau i'w ystafell wely, gobeithiai o waelod ei galon y byddai i Marged gnoi ei thafod yn yfflon cyn y bore!

PENNOD XXVII

Penbleth

NID cynt y cyrhaeddodd Enoc ei ystafell wely nag y daeth i deimlo mai Enoc Huws oedd eto. Prin y gallai gredu ei fod wedi bod mor eofn gyda Marged, Marged, a ofnai yng ngwaed ei galon! Dechreuodd ei gydwybod hefyd ei gyhuddo am ei gadael ar ei phen ei hun yn y fath gyflwr. Meddyliodd mai ei ddyletswydd oedd mynd yn ôl a cheisio gweinyddu rhyw ymgeledd iddi. Ond cofiodd am y mileindra a welodd yn ei gwedd y noswaith honno—yr oedd yn sicr yn ei feddwl fod mwrdrad yn llechu yng nghonglau ei llygaid! Mae bywyd yn werthfawr, ac y mae gan ddyn afael dynn ynddo. Dechreuodd Enoc ofni a chrynu, a phenderfynodd gloi drws ei ystafell. Nid oedd y drws wedi ei gloi ers blynyddoedd; ac oherwydd hynny, pan aeth Enoc at y gorchwyl, cafodd fod yr allwedd wedi rhydu yn y clo—ni allai ei symud. Beth oedd i'w wneud? Ni fu erioed mor nerfus, oddieithr y noswaith pan aeth gyntaf i Dŷ'n yr Ardd. Gosododd ei gist ddillad yn erbyn y drws, a hynny o gadeiriau oedd yn yr ystafell. Eto ni theimlai Enoc yn ddiogel rhag y gelyn. Yr oedd yn berffaith ymwybodol nad oedd hyn oll ond megis dim o flaen nerth Marged. Fel cadlywydd deallgar, agorodd Enoc y ffenestr rhag ofn y byddai raid iddo ddianc. Yn gymaint â bod un pen i'w bren gwely gyferbyn â drws yr ystafell, ac er mwyn cadarnhau'r amddiffynfa, gosododd Enoc ei gefn yn erbyn y gwely a'i draed yn erbyn y bocs dillad, ac arhosodd am yr ymosodiad. Yr oedd yn edifar ganddo yn ei galon siarad fel y gwnaethai â Marged, oblegid, meddyliai nad oedd neb yn y byd a wyddai pa ddial a gynhyrchai ei eiriau yn ei chalon. Arhosodd yn hir yn y sefyllfa amddiffynnol, ac er nad oedd ymosodiad gweithredol, gwasgai ei draed â'i holl nerth yn erbyn y bocs. Teimlai'n sicr, yn ôl yr amser, mai rhaid oedd fod Marged allan o'r ffit ers meityn, a meddiannwyd ef gan y meddwl arswydus ei bod wedi rhoi'r procer yn y tân, a'i bod yn aros iddo fod yn eirias. Crebychai ei gnawd, a theimlai ei groen drosto fel croen gŵydd wrth feddwl am ias y procer yn ei ffrïo!

Yn y man clywai ryw gynhyrfiad yng ngwersyll y gelyn, ac yn ddiatreg clywai'r grisiau'n clecian dan bwysau Marged. Deallodd ei bod yn dyfod i fyny yn nhraed ei 'sanau, oblegid yr oedd ei throediad yn ysgafn ac araf, a chredai Enoc yn ei galon ei bod yn bwriadu gwneud rhuthr annisgwyliadwy arno. Gan nad oedd drws ei lofft yn cau yn glos, pan ddaeth Marged i'r troad yn y grisiau gwelai Enoc lewych ei channwyll trwy rigol y drws, a meddiannwyd ef gan y fath ddychryn fel y gadawodd ei amddiffynfa, ac y dihangodd i gyfeiriad y ffenestr. Gwnaeth ei geg ar ffurf O yn barod i weiddi O Mwrdwr y foment yr ymosodai Marged ar ei amddiffynfa. Curai ei galon fel calon aderyn newydd ei ddal, a rhedai dafnau chwŷs oer cymaint â phys gleision i lawr ei wyneb. Yr oedd Marged wedi cyrraedd drws ei ystafell!—ond yn mynd heibio yn araf a distaw, fel pe buasai yn ofni deffro plentyn! Pan glywodd Enoc—ac yr oedd yn glust i gyd—ddrws ystafell wely Marged yn cau gollyngodd ochenaid hir, ddiolchgar, o waelod ei galon, a thaflodd ef ei hun ar y gwely i geisio'i adfeddiannu ei hun ychydig, heb esgeuluso cadw gwyliadwriaeth ar yr un pryd. Wedi cyfnerthu fymryn, a chyfrif y dylasai Marged, o ran amser, fod bellach rhwng y cynfasau, cododd ac aeth at y drws, gan osod ei glust ar y rhigol. Dywedwyd eisoes fod Marged yn chwyrnreg ddigyffelyb, a gwyddai Enoc o'r gorau os cysgai hi y gallai glywed ei hebychiadau hyd yn oed o'r seler—dyna oedd y prif, os nad yr unig reswm gan Enoc dros wrthod cymryd "mis pregethwyr," ond cadwodd y rheswm iddo ef ei hun. Gwrandawai Enoc yn ddyfal am godiadau, ymchwyddiadau, a thagiadau Marged, a phan ddechreuodd y rhai hyn ddisgyn ar ei glyw teimlai bellach radd o ddiogelwch, ac wedi ymddiosg a myned i'r gwely, cafodd hamdden i ystyried "y sefyllfa."

Nid paradwys hollol fuasai ei fywyd yn flaenorol, a gallai alw i'w gof lawer bwlch cyfyng ac ambell amgylchiad profedigaethus y buasai ynddynt. Ond nid oedd y cwbl gyda'i gilydd yn ddim o'u cymharu â'i sefyllfa bresennol. Yr oedd y meddwl fod Marged wedi tybied ei fod ef wedi dychmygu gwneud gwraig ohoni yn atgas ac anghynnes ganddo. Ac eto, gwelai nad oedd ganddo neb i'w feio am hyn, ond ef ei hun. Nid oedd neb yn adnabod cysêt Marged yn well nag ef ei hun, ac er mwyn cymdogaeth dda a thangnefedd yn ei dŷ, yr oedd yntau wedi ei borthi ers amser. Deuai'r holl eiriau tyner a charuaidd a arferasai o dro i dro gyda Marged er mwyn ei chadw yn ddiddig—deuent yn ôl i'w gof yn awr fel ysguthanod i'w clwydi—geiriau na rôi ef un pwys arnynt wrth eu llefaru, ond a dderbynnid gan Marged, fel y gwelai yn awr, fel geiriau cariadfab. Ac, erbyn iddo ystyried, pa beth oedd yn fwy naturiol nag iddi roddi iddynt ystyr benodol. Da oedd ganddo gofio nad oedd gan Marged un tyst ei fod ef wedi dweud pethau felly. Ond nid oedd hyn ond gwelltyn y dyn wrth foddi, ac ni allai Enoc feddwl am wadu ei eiriau. A dyna'r anrhegion ni allai wadu'r rhai hynny—yr oedd ef ei hun wedi talu amdanynt, ac ni byddai Marged yn brin o dystion i brofi hynny. Cofiai am y difyrrwch a gawsai wrth wrando ar Marged yn adrodd helynt Mr. Swartz yn cael modrwy i'w ffitio. Nid mater chwerthin oedd y digwyddiad hwnnw erbyn hyn. Yr oedd ganddo ryw atgof gwan hefyd o glywed Marged yn galw'r fodrwy yn "migag'd ring." Yr oedd y pethau hyn, wrth eu troi yn ei feddwl, yn anferthol o wrthun, ac ar yr un pryd yn ofnadwy o ddifrifol. Wrth fyned tros ac ail fyned tros y pethau, trôi Enoc yn ei wely o'r naill ochr i'r llall fel anifail â'r cnoi arno.

Megis y tu cefn i'w fyfyrdod, ac yn anferthu'r holl bethau hyn a redai trwy ei feddwl, safai Miss Trefor yn ei phrydferthwch a'i holl swynion diail—yr unig wrthrych daearol yn ei olwg oedd yn werth byw erddo! Wedi'r cwbl, ni buasai'n malio rhyw lawer am y darganfyddiad a wnaethai'r noson honno, oni bai amdani hi. Ni allai na ddeuai hi i wybod am yr holl helynt. Yn wir, meddyliai Enoc, yr oedd yn eithaf amlwg, oddi wrth fygythion Marged, mai ef a'i amgylchiadau a fyddai siarad y gymdogaeth ymhen ychydig ddyddiau os nad ychydig oriau. A pha mor wrthun ac annhebygol bynnag oedd y peth ynddo'i hun, yr oedd digon o bobl bob amser yn barod i gredu pob stori o'r fath, a phan ddangosai Marged yr anrhegion, na allai ef mo'u gwadu—yr oedd yn ddigon posibl y credai pawb y chwedl ffôl. A gredai Miss Trefor? Pa un a gredai hi ai peidio, gwelai Enoc yn eglur y byddai i'r helynt beri iddi ei ddiystyru, os nad ei gasáu, a rhoi pen bythol ar brif amcan ei fywyd. Er mwyn ennill syniadau da, ac os oedd yn bosibl, ennill serch Miss Trefor, yr oedd ef eisoes wedi ymwadu cryn lawer, ac wedi gwario crynswth o arian. Yn ôl cais Capten Trefor, yr oedd yn barod wedi gwario cannoedd o bunnau ar Waith Coed Madog, ac nid oedd ond gwario i fod am beth amser o leiaf.

Heblaw hynny, yr oedd ef wedi prynu ceffyl a thrap a rhoi pris mawr amdanynt, ac wedi eu gosod at wasanaeth Capten Trefor i gymryd Mrs. Trefor—nad oedd yn gref iawn—allan yn awr ac yn y man am awyr iach. Ni buasai ef yn dychmygu am roddi ei arian mewn gwaith mwyn, nac am geffyl a thrap—nad oedd arno eu heisiau—oni bai ei fod yn gobeithio y diweddai'r cwbl drwy ennill ffafr Miss Trefor, ac yr oedd yn barod i wneuthur aberthau mwy os gwelai fod hynny'n paratoi'r ffordd i wneud iddo le yn ei chalon hi. A thybiai, ar adegau, gyda boddhad anhraethol, ei fod yn canfod arwyddion gwan fod ei ffyddlondeb a'i ym—gyflwyniad llwyr i'r amcan neilltuol hwn yn graddol sicrhau iddo fuddugoliaeth hapus. Ond och! dyma'r deml a adeiladodd yn dyfod yn bendramwnwgl am ei ben! a'r trychineb yn dyfod o gyfeiriad na freuddwydiodd ef erioed amdano! Ni allasai ysgorn y Jerichoaid fod yn fwy mingam wrth weled eu caerau ardderchog yn syrthio ar ddim ond chwythu mewn corn hwrdd, na'r eiddo Enoc wrth feddwl fod ei ragolygon gwerthfawr yn cael eu gwneud yn chwilfriw gan lances o forwyn hagr, anwybodus ac anghoeth.

Nid unwaith na dwywaith y meddyliodd Enoc a fyddai'n bosibl, tybed, prynu Marged? A gymerai hi swm go lew o arian am atal ei thafod a mynd ymaith? Prin y gallai Enoc gredu fod hynny'n bosibl, oblegid yr oedd ei gwaith yn gwrthod ei chyflog yn dangos nad oedd hi'n rhoi pris ar arian—hynny yw, fel peth cyfwerth â bod yn wraig iddo ef. Ar yr un pryd, meddyliai Enoc, hwyrach y buasai cynnig iddi hanner cant o bunnau yn peri iddi newid ei thôn. Ond buasai hynny'n ymddangos fel cyfaddef ddarfod iddo ei thwyllo. Eto buasai'n fargen rad pe buasai'n sicr y llwyddai. Yn wir ni buasai'n aros ar hyd yn oed ganpunt ond cael setlo'r mater am byth. Yr oedd Marged yn anllythrennog—a hyd yn oed pe na buasai felly byddai raid cael tyst, a dygai hynny rywun arall i'r gyfrinach—rhywun, hwyrach, a daenai'r stori hyd y gymdogaeth, neu y byddai ef dan ei fawd tra fyddai byw. Ond beth arall oedd i'w wneud? Nid oedd un llwybr arall yn ei gynnig ei hun i feddwl Enoc i ddyfod allan o'r helynt. Gwelai'n eglur nad oedd bosibl ysgoi dwyn rhywun arall i mewn. Rhedai ei feddwl dros restr ei gyfeillion, pryd y cofiodd gydag ing fod Jones, y plismon, eisoes wedi cael cip ar ei sefyllfa. A beth oedd y dyn yn ei feddwl wrth ddweud "yr hen game, Mr. Huws?" A oedd o yn awgrymu rhywbeth am ei gymeriad? "Mae'n sicr bod y dyn yn meddwl rhywbeth felly," ebe Enoc gyda dychryn, ac ymollyngodd yn ei ysbryd i anobaith truenus am allu byth ddyfod o'i brofedigaeth yn anrhydeddus. Er ei fod yn meddu cydwybod bur, yr oedd yr ymddangosiadau o bob cyfeiriad yn ei erbyn, a phrin y gallai ddisgwyl i'w gyfeillion pennaf gredu yn ei ddiniweidrwydd. Teimlai Enoc yn dost hefyd oddi wrth beth arall, sef y byddai ef, oherwydd gwendid ei nerfau, yn sicr o ymddangos yn llipa ac euog, er ei fod yn berffaith ddiniwed, ac ni allai beidio â gofyn eilwaith pa ffawd ddrwg oedd yn ei ddilyn? Tybiai Enoc fod ambell un mewn amgylchiadau llai profedigaethus wedi gwneud amdano'i hun. A ddaeth y syniad am roddi terfyn ar ei fywyd i'w feddwl? Do, yn sicr ddigon, am foment, a chuddiodd Enoc ei ben dan ddillad y gwely—teimlodd ef ei hunan yn poethi drwyddo, ac yn oeri fel rhew y funud nesaf. Daeth y meddwl iddo, yn ddiamau, o uffern, o'r lle y daw meddyliau felly yn gyffredin, ond i Enoc bu o fendith. Hyd yn hyn yr oedd ei feddyliau wedi ymdroi o'i gwmpas ef ei hun a'i gymdogion; ond yn awr daeth Duw i'w feddwl. Yn wyneb yr amgylchiadau ynglŷn â'i gymdogion teimlai fel un oedd ar gael ei gamddeall a'i gamfarnu. Ond pan ddaeth y meddwl drwg i'w galon cafodd ei hun wyneb yn wyneb â Duw. Gwnaeth hyn i'w feddwl redeg ar linell newydd hollol, a dechreuodd ei holi ei hun onid oedd rhywbeth ynddo ef ei hun yn galw am farnedigaeth? oblegid yr oedd Enoc yng ngwraidd ei galon yn grefyddol yn anad dim. Dechreuodd ei gydwybod edliw iddo ei bechodau. Atgofiodd iddo'r amser pan nad esgeulusai un cyfarfod crefyddol ganol yr wythnos, er ei holl brysurdeb; pan ddarllenai ac y myfyriai lawer ar y Beibl, ac y ceisiai wneud ei orau, yn ei ffordd, dros achos crefydd. A oedd ef wedi cadw at y llwybr hwnnw? Na, yr oedd ei fyfyrdodau bron yn gyfangwbl ers misoedd wedi bod yn ymdroi ynghylch Miss Trefor, Gwaith Coed Madog, a phethau felly. Pan fyddai'r capel a Thŷ'n yr Ardd yn croesi ei gilydd, yr oedd ers amser bellach yn ddieithriad yn ochri at Dŷ'n yr Ardd. Pan fyddai Miss Trefor a chrefydd yn y cwestiwn, Miss Trefor oedd wedi cael y flaenoriaeth. Nid hynny'n unig, ond yr oedd yn ymwybodol ei fod wedi colli llawer o'i ddiddordeb ym mhethau crefydd yn gyffredin, ac oherwydd ei fod wedi gwario llawer ar ei dŷ, Gwaith Coed Madog, a phethau eraill, yr oedd wedi cwtogi ei gyfraniadau yn y capel ac at achosion elusennol. Ni châi gymaint o ddifyrrwch yng nghwmni pobl grefyddol, ac erbyn iddo ystyried, ni edrychid arno gyda'r parch a'r hoffter y bu unwaith yn falch ohonynt. Yr oedd amryw o'i gyfeillion wedi pellhau oddi wrtho. Ar y Sul, yn y capel, yr oedd yn ddiweddar yn teimlo bod y gwasanaeth yn rhy hir, ac os byddai cyfarfod brodyr neu gyfarfod athrawon, ni allai feddwl am aros ynddo. Y ffaith oedd—addefai Enoc wrtho'i hun yn ei wely y bore hwnnw—oni byddai'r bregeth y Sul yn hynod gynhyrfus, byddai ei feddyliau ef o ddechrau'r gwasanaeth i'w ddiwedd yn cyniwair ynghylch Miss Trefor, ac yr oedd yn rhoi mwy o bris ar gael cyd-gerdded â hi adref ar fore Sul nag ar y bregeth odidocaf.

Meddyliodd Enoc am yr holl bethau hyn, a meddyliodd yn ddwfn, ac wylodd ddagrau o edifeirwch pur. "Nid rhyfedd," meddai wrtho'i hun, "fod Duw wedi digio wrthyf a'i fod yn fy nghosbi'n llym yn ei ragluniaeth drwy fy ngwaradwyddo yng ngolwg fy nghymdogion a pheri iddynt edrych arnaf mewn gwedd nad wyf yn ei theilyngu." Ond y mae dyn da 'n gallu ymgadarnhau yn holl-wybodaeth Duw, ac er bod Enoc yn teimlo'n euog a phechadurus, cafodd nerth i ymfodloni ychydig yn y ffaith fod Duw'n gwybod y cwbl o'i hanes. Ni fyddai iddo Ef ei gamfarnu na rhoddi yn ei erbyn yr hyn nad oedd yn euog ohono. Canfyddai ynddo ei hun ddirywiad dwfn—dirywiad yr oedd wedi syrthio iddo yn hollol anfwriadol. Wrth garu Miss Trefor yn fawr nid oedd ef wedi bwriadu caru Duw a'i achos yn llai. Ac erbyn hyn, er ei fod yn llym deimlo ei fai—bai na allai beidio ag edrych arno ond fel gwrthgiliad ysbrydol—canfyddai fod y ffordd megis wedi ei chau rhag iddo allu diwygio. Gwelai'r tebygolrwydd, y sicrwydd bron y câi ei ddiarddel. Yr oedd Marged wedi tystio y mynnai ei dorri o'r seiat. Credai'r holl ferched ei thystiolaeth noeth pe na buasai ganddi ddim arall yn ei erbyn. Ond gallai Marged ddwyn ymlaen amryw bethau eraill oedd, ar yr wyneb, yn cadarnhau ei chyhuddiad. Ni byddai ganddo ef i wrthbrofi ei chyhuddiad ond ei air yn unig. A chaniatáu y byddai i ychydig o ddynion call ei gredu, yn sicr byddai'r mwyafrif o ddigon yn ochri gyda Marged. Byddai rhai yn fwy parod i gredu'r hyn a roddid yn ei erbyn am ei fod yn ddiweddar wedi dirywio yn ei ffyddlondeb yn y capel, gan briodoli fel rheswm am hynny iddo gydwybod euog. Gwelai Enoc yn ei fyfyrdodau yr holl bethau hyn cystal ag wedi digwydd. Pa fodd i wynebu'r amgylchiadau, ni wyddai, a suddai ei galon ynddo, a gofynnai: "A oes gofid fel fy ngofid i?" Pe buasai rhyw eneth ddeallgar, olygus a phrydferth yn ei gyhuddo o dorri amod â hi, buasai rhyw fymryn o gredyd ynglŷn â hynny er na fuasai sail iddo; ond yr oedd y meddwl bod Marged—wel, yr oedd hynny yn annioddefol.

Yn wyneb yr ystorm oedd o'i flaen er ei fod yn teimlo'n euog ac edifeiriol gerbron Duw am lawer o esgeulusterau—ni allai Enoc gael bai ynddo'i hun am ymserchu ym Miss Trefor—yr oedd hyn yn beth na allai ddim oddi wrtho, a heb fod yn fater o ddewisiad o gwbl. Ond yn awr gydag ochenaid a fu agos â chymryd ei enaid ymaith, ffarweliodd byth â'i hoff freuddwyd o wneud Miss Trefor ryw ddydd yn Mrs. Huws. Ond protestiodd ynddo ei hun—ac yr oedd ysbryd a nerth llw yn y protest—pa le bynnag y byddai ei drigfan—pa beth bynnag a ddigwyddai iddo y carai hi hyd y diwedd, ac y bendithiai hi â'i anadl olaf. "Ie," ebe Enoc, pa le bydd fy nhrigfan? Mae aros yn y gym—dogaeth hon allan o'r cwestiwn—fedra'i byth ddal y gwarth! Mae'r meddwl am fynd drwy'r holl helynt bron a 'ngyrru i'n wallgof! Beth fydd i mi yma ar ôl colli'r gobaith amdani hi? Dim! yr un llychyn, mi gymra fy llw! Mi werthaf bob scrap sy gen i ar fy helw, ac mi af i rywle—waeth gen i i b'le," a rhoddodd Enoc y canfed tro yn ei wely y noswaith honno.


PENNOD XXVIII

Jones y Plismon

HEN lwynog oedd Jones y Plismon, callach na'r cyffredin o lwynogod; oblegid er bod ganddo gynffon hir a thusw braf arni, yr oedd rywfodd yn medru ei chuddio fel na allai'r ŵydd fwyaf craff a phrofiadol wybod mai llwynog oedd nes teimlo ei chorn gwddf yn ei geg a'i chorpws wedi ei daflu ar draws ei gefn. Yr oedd gan ei dad feddwl lled uchel am Jones er yn hogyn, ac yn rhagweled y byddai iddo ryw ddydd, os câi fyw, dorri ffigiwr nid anenwog yn y byd, fe roddes dipyn o ysgol iddo. A llawer tro y dywedodd ei dad na byddai raid i'w fab ef byth orfod gweithio "ond â'i ben." Er na ddarfu i Jones, tra fu yn yr ysgol, gyflawni disgwyliadau ei dad yn hollol, eto gwnaeth ei farc yno yn y ffurf o graith ar wynebau amryw o'i gydysgolheigion—canys yr oedd Jones yn hogyn cryf, esgyrniog, ac yn meddu ffrâm gymwys iawn i roi cnawd arni pan ddeuai cyfleustra iddo gael ei wala o fwyd a diod, yr hyn na châi y pryd hwnnw yn ei gartref. Meddai amryw oedd yn yr ysgol yr un adeg â Jones atgofion melys amdano fel un na wrthododd erioed rodd i neb na sarhau neb drwy gynnig rhodd iddo. Yn wir, cofiai ei gyfoedion ddarfod i Jones, yn yr ysgol, weithredu'n ewyllysgar fel trysorydd iddynt oll, ac ni wybuwyd i ddim a ymddiriedwyd iddo adael ei ddwylaw. Crydd, wrth ei grefft, ydoedd tad Jones, ac er ei fod yn argyhoeddedig fod Jones wedi ei fwriadu i alwedigaeth uwch, gorfodwyd ef gan amgylchiadau i ddyfod i'r penderfyniad y byddai raid i'w fab ddilyn yr un grefft ag yntau. Ond ni allasai hynny o gŵyr oedd yn siop ei dad gadw Jones wrth y stôl. Yr unig adeg y gwelid Jones yn eistedd yn naturiol ar y stôl oedd pan fyddai'n darllen y papur newydd. Hyn a wnâi weithiau am hanner diwrnod. Da gan ei dad fuasai gweled Jones yn cydio yn ei grefft nes dyfod rhywbeth gwell, ond er hynny difyr oedd ganddo glywed Jones yn darllen hanes mwrdradau a lladradau o'r papur newydd. Yr oedd diffyg tuedd Jones at waith yn cadarnhau syniad yr hen ŵr ei dad na fwriadwyd Jones i weithio "ond a'i ben." Bu cyd-oddefiad ei dad â dieithrwch Jones i bob caledwaith yn fantais fawr i'w " ddynol natur" ymddatblygu ar raddfa helaeth, heb yr arwydd lleiaf ynddi o grebachdod, a buan yr edrychid arno fel siampl ragorol o'r hil. I ddangos nad oedd yn tueddu at ddiogi nac heb ymwybod â'i nerth, nid anewyllysgar fyddai Jones, ar adegau neilltuol, i gario llwyth o lo i dy gŵr bonheddig, neu i ddadlwytho gwagenaid o flawd i rai o'r siopwyr, ac ni ddisgwyliai un amser fwy na swllt am ei drafferth. Ac wedi cyflawni'r gorchwyl, i ddangos ymhellach nad oedd ef yn ariangar, âi Jones yn syth i'r Brown Cow i wacáu hanner peintiau hyd y parhai'r swllt, ac os digwyddai fod yn y Brown Cow angen troi dyn afreolus a thrystfawr i'r heol, gwnâi Jones hynny hefyd am gydnabyddiaeth isel o geiniog a dimai—neu yn hytrach eu gwerth mewn cwrw, oblegid nid oedd ef yn gofalu am bres. Ac er bod Jones yn fab i grydd, nid oedd dim balchder na ffroenuchelder yn perthyn i'w gymeriad. I brofi hyn, ni ddiystyrai ddal pen ceffyl y ffarmwr mwyaf distadl, er na allai ddisgwyl am ei wasanaeth—"yn wyneb sefyllfa isel amaethyddiaeth "—fwy na cheiniog yn dâl.

Amlygodd Jones yn fore fel hyn rinweddau dinesydd defnyddiol. Yn gymaint a'i fod yn ysgolhaig, gweithredai Jones fel dirprwywr a rhaglaw i'r criwr pan ddigwyddai'r swyddog hwnnw fod oddi cartref neu'n afiach. Ac mor rhagorol y gwnâi'r gwaith fel yr anogwyd ef yn daer gan amryw wŷr dylanwadol i gymryd y busnes hwnnw ar ei wadnau ei hun. Pwyswyd mor drwm ar Jones un tro fel na allai ar ôl dwys ystyriaeth, droi clust fyddar at gais ei gyd—drefwyr heb fod yn euog o anfoesgarwch a dibristod o'u syniadau da amdano. Cydsyniodd. Ond wedi ail ystyried, gwelodd fod yr anturiaeth yn golygu suddo hyn a hyn o arian yn y busnes. Canfu y byddai raid iddo gael cloch, a honno yn un soniarus, a gostiai, o leiaf, wyth swllt. Gwyddai pawb nad oedd ef wedi bod yn ŵr ariangar, na hyd yn oed yn neilltuol o ddarbodus. Yr oedd Jones, fel y dywedwyd, yn ysgolhaig, a gwnaeth apêl ysgrifenedig at ei gymhellwyr am danysgrifiadau. Ni bu ei apêl yn ofer; ond wedi iddo hel saith swllt—trawyd ef gan ei gydwybod. A oedd ef yn mynd i ddisodli'r criwr cydnabyddedig, oedd yn ŵr priod ac amryw blant bach ganddo? A oedd ef am gymryd ei fwyd oddi ar ei blât? "Na," ebe Jones, " nid y fi ydi'r dyn i 'neud peth felly," ac aeth yn syth i'r Brown Cow—rhoddodd lyfr yr apêl yn y tân a'r saith swllt mewn cylchrediad masnachol, ac aeth adref gyda chydwybod dawel.

Dywedai rhai mai i'w dueddiadau astronomyddol y gellid priodoli'r arfer oedd gan Jones i aros allan yn hwyr y nos. Ac yr oedd уг arferiad hwn wedi mynd yn fath o ail natur ynddo, fel na allai ymryddhau oddi wrtho hyd yn oed ar nosweithiau tywyll pryd na byddai sêr na lloer yn y golwg. Credai eraill a dybiai eu bod yn adnabod Jones yn dda, mai ei ofal am eiddo ei gymdogion a'i cadwai allan hyd oriau mân y bore, a'i fod fel gwir gymwynaswr i gymdeithas yn rhoddi ei wasanaeth yn rhad ac am ddim i geisio glanhau'r gymdogaeth oddi wrth garn-lladron oedd yn prowla yn y tywyllwch. Ni chymerai Jones y credyd hwn iddo ef ei hun, oblegid nid oedd un amser yn gwneud bost o'i wasanaeth ewyllysgar. Ar yr un pryd mae'n rhaid nad oedd ei gymdogion mwyaf cefnog heb ystyried ei wyliadwriaethau oblegid, er esiampl, ni fyddai Jones un amser yn brin o gwningen, neu hwyaden dew i'w gwerthu am bris isel i'w gyfeillion—pethau a roddid iddo, yn ddiamau, gan ŵr y Plas am y gwasanaeth a grybwyllwyd. Ar adeg etholiad profai Jones ei hun yn ŵr defnyddiol iawn fel arweinydd y bobl, ac os digwyddai mewn cyfarfod cyhoeddus fod rhyw un yn aflonyddu ac yn gwrthod cymryd ei argyhoeddi gan resymau teg, a thybied o'r blaid arall mai allan oedd y lle gorau i'r aflonyddwr, nid oedd eisiau ond rhoi awgrym cil llygad i Jones, a byddai'r gorchwyl wedi ei gyflawni.

Wedi hir gloffi, tybiodd Jones un diwrnod ei fod yn canfod yn eglur lwybr y bywyd a fwriadwyd iddo. Yr oedd bys Rhagluniaeth yn amlwg yn y peth, ac ni phetrusodd yn hwy. Ymdaflodd â'i holl enaid i fasnach—hynny yw—i werthu burum Germanaidd. Ond buan y canfu mai gwell fuasai iddo wrando ar gyngor a gawsai gan ei dad, a rhoddi mwy o ystyriaeth cyn ymgymryd â'r fasnach. Yr oedd Jones wedi cwbl esgeuluso ystyried un wedd ar y fasnach furum—sef mai yn y bore y byddai eisiau burum, tra mai mwy dewisol ganddo ef ei hun a fuasai trin y drafnidiaeth gyda'r nos. Teimlai Jones nad oedd y fasnach ac yntau yn cylymu â'i gilydd yn dda. Heblaw hyn, er bod y nwydd a werthai, o dan amgylchiadau ffafriol, yn cynhyrchu codiad, ni allai Jones obeithio am godiad iddo ef ei hun. Rhoddodd Jones y fasnach heibio. Daeth i ddeall nad oedd neb yn gweithio dan y Llywodraeth yn arfer dechrau ar eu gorchwyl yn gynnar ar y dydd, a gwelodd y byddai raid iddo yntau yn y dyfodol droi ei lygaid i gyfeiriad y Llywodraeth. I dorri'r stori'n fer, yr ystyriaeth hon a barodd i Jones, yn y man, fynd yn blismon, ac yr wyf yn meddwl y cydnebydd pawb a adwaenai Jones ei fod wedi ei dorri allan i'r gwaith. Yn y lle cyntaf yr oedd yn ddwy lath a dwy fodfedd yn nhraed ei sanau, a chyn sythed â phost llidiart. Yr oedd ei ysgwyddau yn llydain ac ysgwâr, a'i frest yn taflu allan fel ceiliog. Mor gadarn a nerthol oedd fel yr oedd yn gallu hepgor cario staff a handcuffs. Ffaith adnabyddus oedd ei fod un tro, wedi cymryd y straffwr mwyaf yn y dref i'r carchar wrth ei law. Pan ddangosai'r straffwr wrthwynebiad, gwasgai Jones ei law nes bod y dyn yn gweiddi fel porchell, a chlywais y dyn ei hun yn dweud ar ôl hynny mai gwell fuasai ganddo roi ei law dan olwyn gwagen goed na'i rhoi yn llaw Jones.

Gwelir oddi wrth y byr nodion hyn fod Jones, o ran corff, wedi ei gymhwyso gan natur i fod yn blismon, ac y mae y darllenydd eisoes, mi gredaf, wedi tynnu ei gasgliadau ei hun beth ydoedd o ran galluoedd ei feddwl. Yr oedd ei fynwes yn ystordy o gyfrinachau, a'r cwbl dan glo. Oherwydd hyn yr oedd Jones yn boblogaidd iawn, yn enwedig ymhlith y rhai a ddylai ei ofni fwyaf. Nid oedd ganddo bleser mewn dinoethi gwendidau pobl. Er enghraifft, os byddai tuedd mewn rhyw ŵr ieuanc, a fyddai o deulu parchus, at ryw ddrygioni penodol, cadwai Jones ei lygad arno nes ei ddal ar y weithred, ac yna, wedi bygwth yn enbyd achwyn arno wrth ei rieni, gostyngai Jones ei lais a siaradai yn ddifrifol a chyfrin—achol—rhoddai'r gŵr ieuanc ei law yn ei boced—ond, na, ni fynnai Jones dderbyn dim, ar un cyfrif, nes ei orfodi.

Ond gyda throseddwyr nad oedd ganddynt gymeriad i'w golli, na theulu na pherthynas i deimlo oddi wrth y dinoethiad, ni ddangosai Jones unrhyw drugaredd, ond bwriai hwynt i garchar, a dygai hwynt o flaen yr ustusiaid yn ddiarbed, a mynych y llongyfarchwyd ef gan yr ynadon am gyflawni ei ddyletswydd mor drylwyr a di-dderbyn-wyneb. Yr oedd y gymdogaeth oedd dan ofal Jones yn lled rydd a glân ar y cyfan oddi wrth y mân ladradau y clywir amdanynt yn rhy fynych mewn cymdogaethau eraill, a phan ddigwyddai lladrad ar awr neilltuol ar y nos, gallai Jones dystio ei fod ef yn y fan honno ychydig funudau cyn i'r lladrad ddigwydd (yr hyn fyddai'n ffaith), ac felly na ellid priodoli'r lladrad i'w ddieithrwch ef i'r gymdogaeth. Cof gennyf i Jones, ar fwy nag un achlysur, alw sylw y cyhoedd at y perygl i ddyn feddwi nes ei fod "yn farw feddw," fel y dywedir, oblegid ei brofiad ef yn ddieithriad oedd pan gaffai ddyn yn y cyflwr gresynus hwnnw, fod ei logellau yn wag, yr hyn, meddai Jones, oedd yn dangos yn eglur fod y dyn wedi ei ysbeilio gan rywun neu'i gilydd, canys nid oedd un rheswm mewn dweud bod pob meddwyn wedi gwario pob dimai.

Y noswaith y galwyd Jones i Siop y Groes yr oedd ei ddyletswyddau i ddibennu am bedwar o'r gloch y bore, ond gan ei fod ef yn tybio mai buddiol fuasai iddo gael ymgom gyda Mr. Enoc Huws yn gynnar ar y diwrnod, ni thybiodd yn werth y drafferth iddo fyned i'w wely nes iddo'n gyntaf gael gweled Enoc. Synfyfyriodd lawer am yr hyn a welodd ac a glywodd yn Siop y Groes y noson honno, a chredai y gallai ei wasanaeth fod o ddefnydd i'r pleidiau. Adwaenai Enoc Huws yn ddaadwaenai ef fel un o'r dynion diniweitiaf a phuraf ei gymeriad a welodd erioed. Credai yn sicr ei fod yn analluog i gyflawni dim oedd ddianrhydeddus, ac ni allai ddyfalu'r rheswm am yr hyn a welsai ac a glywsai, ac ni allai orffwyso nes ei wneud ei hun yn gyfarwydd â'r holl ddirgelwch. Yr oedd dirgelwch yn beth na allai Jones ei oddef.

Er na chysgodd Enoc winciad y noson honno, arhosodd yn ei ystafell wely heb leihau dim gwerth sôn amdano ar y baricâd nes clywed Marged yn mynd i lawr y grisiau. Yna symudodd yr atalgaer mor ddistaw ag y medrai. Wedi ymolchi, pan aeth at y drych ar fedr cribo ei wallt, dychrynodd wrth yr olwg oedd ar ei wyneb. Yr oedd yn sicr ei fod yn edrych ddeng mlynedd yn hŷn nag ydoedd y dydd cynt. Ond gwaeth na hynny, yr oedd clais du dan ei ddau lygad, effaith y dyrnod a gawsai gan Marged. Yr oedd poenau enaid Enoc wedi bod mor dost ar hyd y nos nes peri iddo gwbl anghofio'r dyrnod hyd y funud yr edrychodd yn y drych. Dygodd hyn, am y canfed tro, holl amgylchiadau'r noson i'w feddwl. Pa fodd y gallai ddangos ei wyneb i neb? Suddodd ei ysbryd yn is nag ydoedd eisoes, os oedd hynny yn bosibl. Wedi cerdded ôl a blaen hyd yr ystafell am ysbaid, a phendroni nid ychydig, gwelodd Enoc na allai wneud dim oedd well na mynd i lawr y grisiau—syrthio ar ei fai o flaen Marged—siarad yn deg â hi—addo popeth iddi (ond ei phriodi) er mwyn ei thawelu a chael amser iddo ef ei hun i hel ei bethau—eu gwerthu— a gadael y wlad. Yr oedd yn glamp o orchwyl, ond rhaid oedd ei wneud, ac i lawr ag ef. Pan gyrhaeddodd waelod y grisiau llescaodd ei galon, ac yn lle troi i diriogaeth Marged, sef y gegin, trodd i'r parlwr, a phan oedd yn codi llen y ffenestr, y gŵr cyntaf a welodd ar yr heol oedd Jones y Plismon. Pan godir llen ffenestr, y peth mwyaf naturiol i ddyn fydd yn digwydd myned heibio ar y pryd fydd edrych i'r cyfeiriad hwnnw. Felly y gwnaeth Jones. Rhoddodd Enoc nod arno, ystyr yr hwn oedd—" Bore da, Mr. Jones." Camgymerodd Jones y nod a rhoddodd iddo yr ystyr—" Hwdiwch," a chyflymodd at y drws. Gwelodd Enoc fod Jones wedi tybied ei fod yn ei alw. Agorodd Enoc y drws. "Oeddech chi'n galw, Mr. Huws?" gofynnai Jones.

Nac oeddwn," ebe Enoc, "ond dowch i mewn." Aeth y ddau i'r parlwr a chaeodd Enoc y drws.

PENNOD XXIX

Marged o Flaen ei Gwell

"MADDEUWCH fy nghamgymeriad," ebe Jones, wedi i Enoc gau'r drws, "mi feddyliais eich bod yn fy ngalw, a bod arnoch eisiau siarad â mi am yr helynt neithiwr." Yr oedd hynny yn ddigon naturiol," ebe Enoc, mewn penbleth fawr. Ar ôl ychydig ddistawrwydd, ychwanegodd Enoc, "Ddaru chi sôn am yr helynt wrth rywun, Mr. Jones?"

"Dim peryg, Mr. Huws," ebe Jones, "'neith hi mo'r tro i blismon sôn am bopeth y bydd yn ei weld ac yn ei glywed yma ac acw, na, dim peryg.'

"Ddaru chi ddeud dim wrth ych gwraig," gofynnai Enoc.

"Wrth fy ngwraig, Mr. Huws? Na, fydda i byth yn dweud dim wrth unrhyw wraig ond pan fydd arnaf eisiau arbed talu i'r town crier," ebe Jones.

"Mae'n dda gen i glywed hynny; ond yr wyf yn hynod o anffortunus," ebe Enoc yn drist.

"Peidiwch â blino dim ynghylch y peth, 'dydi o ddim ond common case, Mr. Huws," ebe Jones. "Chwi synnech pe dywedwn i wrthoch chi'r cwbl a wn i am bethau sy'n digwydd mewn teuluoedd respectable, na ŵyr y byd ddim amdanynt. Mae plismon, syr, yn gweld ac yn clywed mwy nag a feddyliai neb, ond mi fyddaf bob amser yn deud na ddylai'r un dyn sydd mewn busnes, ac yn enwedig os bydd yn cadw tŷ, fod heb briodi. Y natur ddynol ydyw'r natur ddynol dros yr holl fyd, syr."

Edrychodd Enoc ym myw llygad y plismon fel pe buasai'n ceisio dyfalu gwir ystyr ei eiriau, a chan na allai gael bodlonrwydd, rhoddodd ei galon dro ynddo, ac ebe fe gyda theimlad:

"Mr. Jones, ydech chi ddim yn beiddio awgrymu dim am burdeb fy nghymeriad, ydech chi?"

"'Rwyf yn eich adnabod ers blynydde, Mr. Huws," ebe Jones, a byddai'n ddrwg gennyf awgrymu dim o'r fath beth, byddai'n ddrwg iawn gennyf orfod credu'r peth a ddywedodd y llafnes forwyn yna neithiwr, sef eich bod yn ddyn drwg melltigedig, ond yr ydym ni, y plismyn, yn gweled cymaint nes byddaf, ar adegau, bron colli ffydd ym mhawb, a bron a dweud nad oes un cyfiawn, nac oes un. Ar yr un pryd, byddaf yn gwneud ymdrech i gredu'r gore am bob dyn nes profir tuhwnt i amheuaeth ei fod yn euog."

Er gwneud ei orau i ymddangos yn ddigryn, teimlai Enoc yn sicr fod Jones yn edrych arno fel dyn euog. Fel y gŵyr y darllenydd, dyn gwan ei nerfau oedd Enoc, a gorchfygwyd ef gan ei deimladau, a thorrodd allan i wylo yn hidl, a theimlai yr un pryd fod Jones yn edrych ar ei ddagrau fel dagrau edifeirwch, ac nid fel dagrau diniweidrwydd. Gwelodd y llwynog fod yr ŵydd yn ei feddiant, ac ebe fe yn galonogol:

"Mr. Huws, peidiwch â bod yn ffôl, raid i chi ofni dim yr eith y stori ddim pellach o'm rhan i."

Wedi meddiannu ychydig arno'i hun ebe Enoc braidd yn alaethus ei dôn:

"A allaf i wneud cyfaill ohonoch? a allaf i ymddiried ynoch, Mr. Jones, os dywedaf y cwbl wrthych? "

Datododd Jones dri botwm ar ei got las, gan ddangos darn o hen wasgod ddarfodedig, a botymodd hwynt drachefn yn arwyddluniol o'i allu i gadw cyfrinach, ac ebe fe:

"Pan fydd rhywun yn ymddiried secret i mi, syr, mi fyddaf yn ei roi yna (gan bwyntio ei fys at ei fynwes) ac yn ei gadw yna dan glo."

Yna adroddodd Enoc ei holl hanes ynglŷn â Marged—y byd tost a gawsai gyda hi, gymaint yr oedd wedi gorfod ei oddef a chyd-ddwyn â hi, soniodd am ei thymherau drwg a'i gormes, fel yr oedd ef, er mwyn tangnefedd, wedi rhagrithio drwy ei moli—mewn gair, datguddiodd y cwbl, heb adael allan sôn am Miss Trefor, ac fel yr oedd ei garedigrwydd at Marged wedi arwain i'r olygfa yr oedd Jones ei hun wedi bod yn dyst ohoni. Yr unig beth a adawodd Enoc allan o'i adroddiad oedd ei waith yn baricadio drws ei ystafell wely, yr oedd ganddo gywilydd sôn am hynny. Wedi gorffen ei stori, teimlai Enoc fel un wedi cael gollyngdod mawr, ac ebe fe wrth Jones:

"Yn awr, pa gyngor ellwch chi ei roi i mi? mi roddaf unrhyw beth i chi, Mr. Jones, os gellwch fy helpio allan o'r helynt yma."

Drwy ystod yr adroddiad, gwrandawai Jones yn astud ac yn llawn diddordeb. Ni chlywsai'r fath hanes yn ei fywyd, a phrin y gallai ymgadw rhag chwerthin. Ni wyddai pe crogid ef, pa un i ryfeddu fwyaf ato, ai ffolineb ai difrifwch Enoc Huws. Gwyddai Jones o'r dechrau fod Enoc cyn ddiniweitied â phlentyn, ac nid oedd oherwydd hynny yn llai diddorol yn ei olwg. Gwelsai ambell ŵydd yn ei oes, ond Enoc oedd yr ŵydd frasaf a welodd erioed, ac eisoes yr oedd aroglau saim yn ei ffroenau. Wedi cymryd arno bwyso'r mater yn ddifrifol yn ei feddwl a gosod ei ben yn gam a synfyfyriol am ychydig eiliadau, ebe Jones yn bwyllog:

"Yr wyf yn gwenieithio i mi fy hun, Mr. Huws, y gwn i pan fydd dyn yn dweud y gwir. Yr wyf wedi cael tipyn o brofiad yn y ffordd yna, ac y mae gwirionedd i'w weled ar wyneb eich stori. Mae'n ddrwg iawn gen i drosoch chi, Mr. Huws, ac os medraf wneud rhywbeth i'ch cael allan o'r helynt yma, mi a'i gwnaf gyda phleser. I ddyn anrhydeddus nid oes dim yn fwy gwerthfawr yn ei olwg na'i garitor. Nid ydyw arian yn ddim i'w gymharu â chymeriad dyn. Fe ŵyr pawb—o leiaf y mae pawb yn gesio erbyn hyn, fod rhywbeth rhyngoch chi a Miss Trefor, ac y mae'n bosibl i ryw helynt fel hyn andwyo eich dyfodol a newid eich program yn hollol. A pheidio â sôn dim am eich cysylltiad â'r capel—y chi ŵyr orau am hynny ni all peth fel hyn beidio ag effeithio ar eich masnach a'ch position yn y dref. Pwy ŵyr, syr, beth a ddywed llances aflawen o forwyn? Mi ddywedaf i chi beth arall, Mr. Huws, 'dydi o ddim ods beth fydd cymeriad dyn, fe gred y mwyafrif y stori waethaf amdano, a gwaetha bo'r stori, mwyaf parod ydyw rhai pobl i'w chredu. Ond y mae'n rhaid i mi ddweud hyn—esgusodwch fi am ei ddweud—fod peth bai arnoch chi eich hun yn y mater yma. Mae rhai merched, fel y mae rhai ceffylau, na wna dim y tro iddynt ond y chwip, dyna'r unig beth ddaw â nhw atyn eu hunen. Mae ambell geffyl, os rhowch chi gerch iddo, nad oes dim trin arno—rhaid ei gadw ar wair. Mewn ffordd o siarad, Mr. Huws, mae'n bur amlwg i mi eich bod wedi rhoi gormod o gerch i Marged. Bydase chi, pan ddangosodd hi dymer ddrwg gyntaf, wedi dangos y drws iddi, a bygwth ffurfio cydnabyddiaeth rhwng blaen eich troed â rhan neilltuol o'i chorff, 'does dim amheuaeth yn fy meddwl na fase'r llances yn burion erbyn hyn, ac na chawsech chi ddim helynt na thrafferth efo hi o gwbl, yn lle hynny yr ydech chithe wedi rhoi pob moethau iddi fel na 'neith dim y tro ganddi 'rwan ond eich cael chi'n ŵr, neu ynte andwyo eich caritor. Mae hi'n llances ddeugain oed, mi wranta, erbyn hyn, ac anodd iawn, fel y gwyddoch, ydyw tynnu cast o hen geffyl. Ond a wnewch chi ymddiried y mater i mi, Mr. Huws? Mi ddymunwn yn fy nghalon fod o ryw wasanaeth i chi, ond a wnewch chi, Mr. Huws, roi eich case yn fy llaw i?"

"Yr ydech chi'n hynod o garedig, Mr. Jones," ebe Enoc, ac os medrwch chi roi help i mi ddwad allan o'r trybini yma, mi dalaf i chi'n anrhydeddus."

"Peidiwch â sôn am dâl, Mr. Huws," ebe Jones. "Mae rhyw bobl—'dydw i ddim yn awgrymu eich bod chi yn un ohonyn nhw, cofiwch, dim o'r fath beth—ond y mae rhyw bobl yn meddwl mai tâl sydd gan bob plismon o flaen ei lygad bob amser. Maent yn camgymryd, syr. 'Dydw i ddim yn deud, cofiwch, Mr. Huws, na ches i fy nhalu, a fy nhalu yn anrhydeddus ambell waith, am helpio hwn a'r llall allan o helynt, ond ddaru mi erioed ofyn am dâl—erioed yn fy mywyd, er bod cyflog plismon, fel y gwyddoch, yn fychan, yn rhy fychan o lawer pan feddyliwch am ei ddyletswyddau llawer ohonyn yn ddigon anhyfryd—ac yn enwedig pan fydd ganddo deulu go fawr i'w gadw. Ond 'does dim eisiau i mi ddeud pethau fel hyn wrthoch chi, Mr. Huws. Fy mhwnc mawr i yrwan, fel cyfaill a chymydog, ydyw bod o ryw wasanaeth i chi yn eich helynt. 'Dydw i ddim yn deud y galla i lwyddo, ond y mae gen i dipyn o brofiad efo pethau fel hyn. A wnewch chi, Mr. Huws, adael i mi gael fy ffordd fy hun?

"'Rwyf yn fy rhoi fy hun yn eich llaw chi, Mr. Jones, gan eich bod mor garedig," ebe Enoc.

"Purion," ebe Jones. "Mae gen i idea. A ydi'r llances yn ymyl? Ydi hi wedi codi?"

"O ydi, ers meityn, mae hi yn y gegin," ebe Enoc.

"'A ydi hi yn anllythrennog?" gofynnai Jones.

"Feder hi lythyren ar lyfr," ebe Enoc.

"O'r gore," ebe Jones. Arhoswch chi yma nes 'mod i'n galw amdanoch, ac os llwyddith yr idea, ac os bydda i'n galw amdanoch i'r gegin, cofiwch edrych yn filain a phenderfynol, os gellwch."

Agorodd Jones ddrws y parlwr, a chaeodd ef ar ei ôl, ac wrth gerdded ar hyd y lobi hir i gyfeiriad y gegin, oedd â'i drws yn llydan agored, dywedodd â llais uchel, fel y gallai Marged ei glywed: "Waeth i chi heb siarad, Mr. Huws, mae'n rhaid i'r gyfraith gael ei ffordd."

Yr oedd Marged wrthi'n lluchio ac yn trystio, a'r hen dymer ddrwg yr oedd hi wedi ei chadw danodd ers amser yn berwi ynddi, a brws llawr yn ei llaw, pan syrthiodd geiriau Jones ar ei chlyw. Safodd yn sydyn, a buasai'r olwg wyllt, hagr, aflawen a bygythiol oedd arni yn peri i ŵr llai dewr na Jones betruso. Ond nid ofnai Jones ymosodiad, ac ni fwriadai wneud ymosodiad. Cerddodd i'r gegin yn dawel, ond penderfynol, clodd y drws, a dododd yr agoriad yn ei boced. Yna eisteddodd wrth y bwrdd, palfalodd yn ei logellau am bapur. Wrth balfalu tynnodd allan bâr o handcuffs gloyw (nid arferai Jones gario rhai, yn gyffredin, ond digwyddai'r diwrnod hwnnw fod yn review day,") a gosododd hwynt yn hamddenol ar y bwrdd, a'i staff yr un modd. Hyn oll a wnaeth Jones cyn yngan gair nac edrych ar Marged ond â chil ei lygad. Gwelodd fod ei "idea" yn argoeli yn dda, canys yr oedd Marged fel pe buasai wedi rhewi wrth lawr y gegin, a'i hwyneb yn welwlas gan ofn neu gynddaredd. Wedi lledu darn o hen lythyr ar y bwrdd, a rhoi min ar ei bensil plwm, cododd Jones ei ben, ac edrychodd fel llew ar Marged, ac ebe fe:

"Yrwan am y gyfraith ar y mater. Eich enw ydyw Marged Parry, onid e?"

"Mi wyddoch o'r gore be ydi f'enw i," ebe Marged, gan geisio ymddangos yn ddiofn.

"Purion," ebe Jones. "Beth ydyw eich oed, Marged Parry?"

"Pa fusnes sy gynnoch chi efo f'oed i?" ebe Marged.

"Marged Parry," ebe Jones, "wyddoch chi'ch yn bod llaw'r gyfraith? a bod yn rhaid i chi ateb pob cwestiwn cyn mynd o flaen y magistrate ddeg o'r gloch fore heddiw? Faint ydi hi o'r gloch yrwan (gan edrych ar y cloc)—O, mae digon o amser."

"Be sy nelo'r gyfraith â fi?" ebe Marged, gan bwyso yn drymach ar y brws.

"Beth sydd a nelo'r gyfraith â chi, yn wir?" ebe Jones. "Oni wyddoch chi eich bod wedi torri'r gyfraith, a elwir Act of Parliament for the prevention of cruelties to animals?"

"Be wn i bedi hynny?" ebe Marged.

"Dydw i, cofiwch," ebe Jones, "ddim yn mynd i gyfieithu i chi. Mi gewch ddyn i gyfieithu i chi pan ewch o flaen Gŵr y Plas. Atebwch chi fi, beth ydyw eich oed?"

"'Rydw i'n bymtheg ar hugen," ebe Marged, yn anewyllysgar.

"A'r rest," ebe Jones. "Dwedwch i mi'r gwir, Marged Parry, onid ydych yn bump a deugen?"

Nid atebodd Marged air, ac ebe Jones:

"Mi wyddwn. Very good," a chan adrodd megis wrtho'i hun wrth ysgrifennu ychwanegodd—" I, Marged —Parry,—aged—forty—five—years—last—birthday, etc. Purion. Yrwan, Marged Parry, gwrandewch chi arna i. Wedi gweled a chlywed yr hyn fu yn y tŷ hwn neithiwr, rhwng un ar ddeg a hanner nos, fy nyletswydd fel plismon oedd chwilio i'r mater, gan ei fod yn ôl cyfraith Prydain Fawr ac Iwerddon yn breach of the public peace. Yn awr, ar ôl bod yn siarad â Mr. Huws, yr wyf yn hysbys o'r holl amgylchiadau, ac wedi i mi gael ychydig eiriau gyda chi, Marged Parry, byddwn yn barod i ddwyn yr holl achos o flaen Gŵr y Plas yn y County Hall. Ond i ddechre, eisteddwch i lawr, Marged Parry, achos mi fydd raid i chi sefyll mwy na digon pan ewch i'r Hall. Yr wyf yn deall eich bod yng ngwasanaeth Mr. Hughes, Grocer, Siop y Groes, ers rhai blynyddoedd. Yn ystod y tymor hwnnw—gofalwch chi sut yr atebwch 'rwan—yn ystod y tymor hwnnw a gawsoch chi ryw gam dro gan Mr. Huws?"

"Ddeudes i 'rioed 'mod i wedi cael cam gan Mr. Huws," ebe Marged.

"Purion. Ond gadewch i mi roi hynny i lawr mewn ysgrifen," ebe Jones, gan nodi rhywbeth ar y papur, a brygawthan rhywbeth yn Saesneg. "Yna," ebe fe, "be gwtrin oedd eich meddwl wrth alw Mr. Huws, yn fy nghlywedigaeth i neithiwr, yn ddyn drwg melltigedig? Mae eich casewedi ei benderfynu yn barod—yr ydech yn euog o defamation of character—cyfraith a wnaed yn amser George the Fourth, a'r gosb am ei thorri ydyw dwy flynedd o garchar gyda llafur caled. Ond 'dydi hynny ond rhan fechan o'r gŵyn sydd yn eich erbyn. Yn ystod yr amser y buoch yng ngwasanaeth Mr. Huws, buoch yn euog o anufudd-dod, ac nid hynny yn unig, ond o geisio temtio'ch meistr i ddefnyddio geiriau y gallech wneud defnydd anghyfreithlon ohonynt ar ôl hynny, a hefyd wedi ei orfodi i brynu'ch iawn ymddygiad â gwobrau, ac yr ydech hyd yn oed wedi gwrthod codiad yn eich cyflog, ac, yn wir, eich cyflog dyledus, gydag amcan neilltuol—mewn geiriau plaen, yr ydych wedi rhyfygu meddwl, ac nid yn unig meddwl, ond cystal â dweud bod Mr. Huws â'i lygad arnoch i wneud gwraig ohonoch. Yr idea! Hen wrach aflawen, ddiolwg fel chi yn beiddio meddwl—yn beiddio dychmygu bod gŵr bonheddig fel Mr. Huws, gŵr ieuanc a allai gael y foneddiges harddaf yn y dref yn wraig—gŵr ieuanc cefnog, hardd, respectable, yr idea! meddaf, fod gŵr felly wedi gwario un rhan o ugen o eiliad i feddwl amdanoch chi! Mae'n rhaid eich bod wedi drysu—wedi glân ddrysu yn eich synhwyrau. Ac wrth gofio'r olwg a ges i arnoch neithiwr, â llwy yn eich ceg, yr wyf yn sicr mai wedi drysu yr ydech, ac oherwydd hynny, yr wyf yn tueddu i dosturio wrthych. Marged Parry, gwrandewch beth yr ydw i yn 'i ddweud yrwan. Mae'ch meistr yn gwybod y gallai am y camddefnydd yr ydech wedi ei wneud o'i garedigrwydd, eich rhoi yn y jail, a hynny dan Act of Parliament a elwir Act of Toleration for the High Court of Chancery. Ond y mae'n dda i chi fod gynnoch chi feistr tyner—nid ydyw Mr. Huws yn dymuno'ch carcharu, a'm cyngor i iddo ydyw eich rhoi yn Seilam Dinbech. Ond y mae Mr. Huws yn erbyn gwneud hynny, os addewch chi'ch bihafio'ch hun yn y dyfodol, a seinio cytundeb. Mae'n ymddangos eich bod ar adegau neilltuol—megis pan fydd y lleuad yn ei gwendid—yn gadael i'r ysbryd drwg eich meddiannu, a'r Seilam ydyw'r unig le i giwrio rhai felly. 'Rwyf wedi cymryd ambell un yno, ac y maent yn gwybod sut i'w trin yno. I ddechre, y maent yn eu rhwymo draed a dwylo, ac yn eu rhoi yng nghafn y pwmp, ac yn pympio dŵr arnynt am awr a hanner, ac felly bob dydd, nes iddyn nhw ddwad atyn 'u hunen Ond y mae Mr. Huws yn ddyn trugarog, ac nid ydyw'n fodlon i mi'ch cymryd i'r Seilam, ac y mae'n barod i roi un treial eto arnoch. Yn awr, Marged Parry, a ydech chi'n barod i addo—os bydd i Mr. Huws drugarhau wrthoch chi, fod yn ufudd i'w orchmynion, peidio â rhoi lle i'r ysbryd drwg yn eich calon, edrych ar ôl ei dŷ a'i gadw yn deidi, a gofyn maddeuant Mr. Huws am i chi ddychmygu ei gael yn ŵr, ac am ei alw yn ddyn drwg melltigedig? Cofiwch y bydd raid i chi fod mewn un o dri lle—yn Siop y Groes yn eneth dda edifeiriol, neu yn y jail, neu yn Seilam Dinbech. Ym mha un o'r tri lle yr ydech am fod, Marged Parry?"

Yr oedd arwyddion o edifeirwch a braw ers meityn ar Marged, ac ebe hi yn drist:

"Well gen i fod yma, a 'dwy'n siŵr na 'neith Mr. Huws mo 'ngyrru i ffwrdd."

"Purion," ebe Jones, "ond rhaid gwneud cytundeb," ac agorodd y drws gan weiddi yn uchel ar Mr. Enoc Huws.

Daeth Enoc i mewn yn llipa a chrynedig—mor grynedig fel y dymunasai Jones yn ei galon roi rhegfa dda iddo.

PENNOD XXX

Amodau Heddwch

DAETH Enoc i'r gegin yn llipa ddigon, ac ebe'r plismon wrtho:

Yn awr, Mr. Huws, yr wyf wedi bod yn egluro'r gyfraith i Marged Parry—cyfraith Prydain Fawr ac Iwerddon—mewn perthynas i helynt a all ddigwydd mewn tŷ o fusnes fel eich tŷ chwi. Mae Marged Parry erbyn hyn yn gwybod lle y byddai hi yr adeg yma bore fory oni bai eich bod chwi yn ddyn trugarog, ac y mae'n edifarhau am ei throsedd, ac yn addo seinio cytundeb y bydd iddi hi o hyn allan fod yn ufudd i'ch gorchmynion, teidi yn y tŷ, gofalus am eich cysuron, ac adnabod ei lle, mai morwyn ydyw ac nid meistres, ac na chaiff hi byth fod yn feistres yn y tŷ hwn, hynny ydyw, os byddwch mor garedig â maddau'r hyn sydd wedi pasio, a rhoi ail dreial arni. A ydech chi, Mr. Huws, yn teimlo y gellwch wneud hynny? A ellwch chi edrach dros yr hyn sydd wedi digwydd? Yr insult, y cam yr ydech chi wedi'i gael oddi ar law un sydd wedi derbyn cymaint o'ch caredigrwydd?"

"Yr wyf yn meddwl y medraf," ebe Enoc, heb wybod yn iawn pa fodd i ateb Jones.

"Yr ydech chi'n un o fil, syr," ebe Jones. "Mi welais rai dwsinau yn cael eu rhoi yn y jail am ddwy flynedd am drosedd llai na'r un y mae Marged Parry yn euog ohono. Yn awr, Marged Parry, gan fod Mr. Huws mor drugarog, a ydech chi yn edifarhau am eich pechodau, ac yn gofyn maddeuant Mr. Huws am wel, am beth sydd yn rhy atgas i'w enwi?"

Ni ddywedodd Marged ddim, ond sobian crio. "Mae'n rhaid i mi gael ateb, Marged Parry, neu wneud fy nyletswydd," ebe Jones, a chododd ar ei draed a gafaelodd yn yr handcuffs.

"Mr. Jones," ebe Enoc, ar fedr cymryd plaid Marged, ond atebodd Jones yn union:

"Mae'n rhaid i'r gyfraith gael ei ffordd, Mr. Huws. Os nad ydyw Marged Parry yn barod i ofyn eich maddeuant, ac addo'i bihafio 'i hun, 'does dim ond jail neu Seilam Dinbech i fod. Be ydech chi'n ei ddeud, Marged Parry? Un gair amdani."

"Ydw," ebe Marged rhwng gweiddi a chrio, a threiglodd deigryn dros rudd Enoc o dosturi ati.

"Purion," ebe Jones. "Un o'r pethau casaf gen i ar y ddaear, Mr. Huws, ydyw cymryd neb i'r carchar, yn enwedig merch, ac y mae'n dda gen i weld Marged Parry yn ddigon call i edifarhau am ei bai ac addo diwygio. Mi ddeuda i chi beth arall, Mr. Huws, welais i 'rioed ferch yn cael ei chymryd i'r jail na fydde hi farw yno'n fuan, achos y maen' nhw'n eu trin yn ddychrynllyd—'choeliech chi byth. Yrwan," ychwanegodd Jones, gan eistedd wrth y bwrdd—"dowch yma a seiniwch y papur yma, achos mae'n rhaid gwneud popeth fel y mae'r gyfraith yn gofyn."

"Fedra i ddim sfennu," ebe Marged.

"Mae'r gyfraith yn caniatáu i chi roi croes," ebe Jones. Daeth Marged at y bwrdd o hyd ei—hynny ydyw, o'i hanfodd, ac wedi i Jones roi ei fys ar fan neilltuol ar y papur, gwnaeth Marged globen o groes agos cymaint â melin wynt.

"Yrwan, Mr. Huws," ebe Jones, " faint o gyflog sydd yn ddyledus i Marged Parry?"

"Pum punt a chweigen, 'rwy'n meddwl," ebe Enoc. "Dowch â nhw yma bob dime," ebe Jones.

"'Beth am y codiad?" ebe Marged, wedi iacháu nid ychydig.

"Yr ydech chi wedi fforffedu'r codiad drwy gam-ymddygiad, ac mae'n rhaid i chi ennill eich caritor yn gyntaf cyn sôn am y codiad," ebe Jones.

"Hwyrach" ebe Enoc.

"Mr. Huws," ebe Jones, oblegid gwelai fod Enoc yn toddi, "talwch chi'r arian sy ddyledus i'r forwyn, achos mae'n rhaid mynd ymlaen yn ôl y gyfraith."

Estynnodd Enoc yr arian i Jones, a chyflwynodd Jones hwynt i Marged, ac ebe fe:

"Yn awr, Mr. Huws, mi wn eich bod yn ddyn tyner a thrugarog. ac na ddymunech chi ddim gwneud niwed i hen ferch ddigartre, na thorri ei charitor; a wnewch chi addo peidio â sôn gair byth wrth neb am yr helynt yma, ar eich gwir yrwan?"

"Sonia i air byth wrth neb, os —," ebe Enoc. "'Does dim os i fod am y peth, Mr. Huws," ebe Jones, yr wyf yn crefu arnoch er mwyn hen greadures fel eich morwyn i beidio â menshon y peth byth wrth neb, achos bydae'r hanes yn mynd allan fe fydde Marged Parry, druan, yn sbort gan bawb. Fydd y llygaid duon yna ddim yn hir yn mendio, a rhaid i chi wneud rhyw esgus—eich bod wedi taro eich pen ym mhost y gwely, neu rywbeth arall, a pheidio â deud ar un cyfrif mai eich morwyn a'ch trawodd pan oedd yr ysbryd drwg yn ei meddiannu. Wnewch chi addo, Mr. Huws? Dowch, byddwch yn ffeind? 'Rwyf yn gwybod nad ydi hi ddim yn haeddu hynny, ond wnewch chi addo cadw'r peth yn ddistaw?"

"Gwnaf," ebe Enoc.

"Yr ydech chi'n un o fil, meddaf eto," ebe Jones. "A 'rwan, Marged Parry, gofalwch chithe arwain bywyd newydd, a pheidio â themtio'ch mistar i adael i'r sôn am yr helynt yma fynd allan, achos bydae o unwaith yn mynd allan, mi fyddech yn sbort i'r plwy, a bydde holl blant y dref yn gweiddi ar eich ôl. A chofiwch chithe, Mr. Hughes, os bydd gennych y gŵyn leia yn erbyn eich morwyn—dim ond y smic lleia—just deudwch wrtha i—yr ydw i'n pasio'ch tŷ bob dydd—a mi ofala i am gael trefn ar bethe—achos cyfraith ydyw cyfraith, ac ni wn i ddim be ddeuthe ohonom ni oni bai am y gyfraith. Wrth gofio, os bydd arnoch eisiau morwyn, y mae gen nith sydd yn First-class housekeeper—yn ysgolores gampus, a ddaw atoch ar ddiwrnod o rybudd, bydae chi'n digwydd bod mewn angen am un. Wel, yrwan, y mae'n rhaid i mi fynd, ond y mae arna i eisiau siarad gair â chi'ch hun, Mr. Huws, ynghylch y gyfraith sy'n rheoleiddio tŷ o fusnes fel eich tŷ chi."

Teimlai Enoc unwaith eto yn obeithiol ac yn llawer ysgafnach ei fynwes. Edrychai ar Jones fel ei angel gwarcheidiol. Wedi i'r ddau fyned eilwaith i'r parlwr, ebe Enoc, gan rwbio ei ddwylo, a gwenu'n siriol:

"Wyddoch chi be, un garw ydech chi, Mr. Jones. Wn i ddim be faswn i wedi'i wneud oni bai i chi ddigwydd dwad yma."

"Mr. Huws," ebe Jones, "'rwyf wedi cael llawer o brofiad mewn pethau fel hyn, ac yr wyf yn meddwl fy mod wedi eich gosod ar dir diogel unwaith eto. Bydd eich cysur dyfodol yn dibynnu'n hollol arnoch chi eich hun—hynny ydyw, ar y modd yr ymddygwch at eich morwyn. Mae hi mor ignorant â meipen, ac ar yr ignorance y daru mi weithio—dyna oedd yr idea. A 'mhrofiad i ydyw hyn Weles i 'rioed lances o forwyn anwybodus a drwg ei thymer, os trowch chi'r min ati, na chewch chi weld mai coward hollol ydyw. Yn awr, Mr. Huws, os ydech chi am heddwch a chysur yn eich tŷ, dangoswch mai chi ydi'r mistar. Mi gymra fy llw, syr, bydae chi'n troi'n dipyn o deirant am wythnos y bydde'r hen Wenhwyfar fel oen i chi. A dyna fydd raid i chi wneud. Bloeddiwch arni 'rwan ac yn y man, a gwnewch iddi wneud pethe nad oes angen am eu gwneud, just i ddangos mai chi ydi'r mistar. Oni bai'ch bod yn grefyddwr mi faswn yn eich annog i roi ambell regfa iddi nes bydd hi'n dawnsio. Ond 'does dim eisiau i chi fynd lawn mor bell â hynny. Ond mi ddeuda hyn, os na ddangoswch chi'r dyn, os na chodwch eich cloch a deud iddi pwy ydi pwy, fyddwch chi damed gwell. Yr ydw i wedi bwrw yr ysbryd aflan allan ohoni—ac mi fase'n drêt i chi weld 'i hwyneb hi pan oeddwn i'n deud y drefn wrthi—ond os na actiwch chi'r dyn, Mr. Huws, a dangos eich awdurdod fe ddaw saith ysbryd aflan arall i mewn i'r llances, ac mi fydd yn waeth arnoch nag erioed, coeliwch chi fi."

"'Rydech chi'n deud y gwir, Mr. Jones," ebe Enoc, ac mae'n rhaid i mi geisio, er y bydd yn anodd, bod yn fwy o fistar. 'Rydw i wedi dioddef mwy nag a goeliech chi, a mae hithe wedi mynd yn hy arna i."

"Mi ddof i mewn yrwan ac yn y man," ebe Jones, "megis i edrych fydd popeth yn mynd ymlaen yn iawn, mi gedwith hynny hi danodd."

Pan oedd Jones yn llefaru'r geiriau olaf gwelai Enoc forwyn Ty'n yr Ardd yn croesi'r heol at ei ddrws a nodyn yn ei llaw, ac wedi gofyn i Jones ei esgusodi am foment, rhedodd Enoc i'r drws, gan guddio ei lygaid â'i law rhag i Kit weled y cleisiau, i dderbyn y nodyn, a dychwelodd yn y funud. Wedi agor y nodyn a'i ddarllen iddo ef ei hun, ebe Enoc:

"Wel, dyma hi eto!"

"Beth sydd yrwan, Mr. Huws? ychwaneg o brofedigaethau? "ebe Jones.

"Ie," ebe Enoc yn alaethus, "gwahoddiad oddi wrth Mrs. Trefor i fynd yno i swper heno i gyfarfod â'r gweinidog, a sut y medra i fynd â dau lygad du gen i? Yr ydw i'n anlwcus—fu neb erioed mor anlwcus!"

"Fe ellwch fynd yno yn ddigon hawdd," ebe Jones. "A oes gynnoch chi biff heb ei gwcio yn y tŷ?"

Oes, 'rwy'n meddwl," ebe Enoc.

"O'r gore," ebe Jones. "Mi wn na ddaru chi gysgu fawr neithiwr, ac wedi i chi gael eich brecwast, torrwch ddau ddarn o biff cul, ac ewch i'ch gwely—mi fedr y llanciau yn y siop 'neud heboch yn burion—a rhowch un darn ar bob llygad, ac arhoswch yn eich gwely dan ganol dydd—ie, hyd ddau o'r gloch—ac os medrwch chi gysgu, gore oll. Erbyn un neu ddau o'r gloch, mi gewch y bydd y cleisiau duon dan eich llygad wedi diflannu'n lân, ac erbyn yr amser y bydd eisiau i chi fynd i Dy'n yr Ardd, mi fyddwch yn all right. Rhag gwastraffu, bydd y biff yn burion cinio i'r gath wedyn."

Chwarddodd Enoc at gynildeb Jones, ac ebe fe:

Wel, yn wir, un garw ydech chi, Mr. Jones, weles i 'rioed eich sort chi. Mi 'i triaf o beth bynnag."

"Mae o'n siŵr o ateb y diben," ebe Jones, " a 'rwan mae'n rhaid i mi fynd, Mr. Huws, achos mae hi'n review day."

"Arhoswch, wn i ddim pryd y dof allan o'ch dyled chi—cymerwch hon 'rwan," ebe Enoc, gan roddi sofren yn llaw Jones.

Edrychodd Jones ar y sofren ar gledr ei law, a throdd lygad cellweirus ar Enoc, ac ebe fe:

"'Rydech chi'n rhy haelfrydig, Mr. Huws. Ydech chi am i mi reteirio o'r force ar unwaith? Wel, 'does gen i ond diolch yn fawr i chi, a chofiwch fy mod at eich gwasanaeth, Mr. Huws."

"Peidiwch â sôn, fe gawn siarad eto, bore da," ebe Enoc.

PENNOD XXXI

Breuddwyd Enoc Huws

BWYTAODD Enoc ei frecwest mewn distawrwydd. Edrychai Marged yn swrth, diynni, a digalon, fel pe buasai wedi tynnu ei pherfedd allan, neu fel cath wedi hanner ei lladd. A pha ryfedd? Yr oedd y gobaith hapus yr oedd hi wedi ei fynwesu ers llawer dydd, sef y câi hi fod yn feistres yn Siop y Groes, ac y gelwid hi yn "Mrs. Huws," wedi ei lofruddio. Ac nid hynny yn unig, ond yr oedd hi wedi ei bygwth a'i thrin yn enbyd gan blismon, oedd bellach i'w gwylio a'i chadw mewn trefn. Yn wir, ystyriai Marged na fu ond y dim iddi hi gael ei chymryd i'r carchar. Yr oedd ei hwyneb yn fudr gan ôl crio, ac nid oedd wedi crio o'r blaen er yr adeg y bu farw ei mam, a dim ond ychydig y pryd hwnnw, ac ni fuasai wedi crio o gwbl, oni bai ei bod yn credu bod crio yn gweddu i'r amgylchiad. Nid oedd colli ei mam yn ddim yn ei golwg o'i gymharu â cholli'r gobaith am briodi ei meistr. Nid oedd wahaniaeth ganddi bellach pa un ai byw ai marw a wnâi. Ar ôl y gurfa a gawsai gan Jones y plismon, a thra'r oedd Jones ac Enoc yn ymddiddan yn y parlwr, nid unwaith na dwy—waith y meddyliodd hi am Boas, y conductor. Da iddi, meddyliai Marged, pe buasai wedi ffafrio edrychiadau Boas. Teimlai yn awr yn sicrach nag erioed, wedi i Enoc ei edliw iddi, fod Boas yn meddwl rhywbeth amdani pan edrychai mor fynych arni. Druan oedd Marged! Y rheswm fod Boas yn troi ei lygaid mor fynych ar Marged yn y côr oedd ei bod yn discordio mor ddychrynllyd, a mynych y dywedodd Boas wrth y ferch flaen yn y trebl (a briododd ef yn y man): "Jennie, wn i beth i'w feddwl o Marged Parry, mae hi'n gneud nâd lladd mochyn, ac yn andwyo'r canu. 'Dydw i ddim yn licio deud hynny wrthi, a mi liciwn bydae rhai ohonoch chi, os ydi o'n bosibl, yn ei digio, gael iddi gadw draw."

Ni allai Enoc beidio â chanfod ar yr olwg oedd ar Marged ei bod wedi ei thorri i mewn i raddau mawr. Ond a barhâi hi yn y cyflwr dedwydd hwn oedd yn amheus ganddo. Yr oedd Enoc yn berffaith ymwybodol o wirionedd yr hyn a ddywedasai Jones wrtho, sef y byddai raid iddo ddangos y dyn os oedd am gadw Marged i lawr. Oni wnâi ef hynny, teimlai Enoc yn berffaith sicr y byddai Marged mewn cyflawn feddiant o'i thymherau drwg erbyn trannoeth. Wrth fwyta'i frecwest synfyfyriai pa fodd y gallai ddechrau ar y gorchwyl hwn. Ychydig ffydd oedd ganddo yn ei allu. Yn wir, ni fedrai fod yn gas wrth neb, a gwell ganddo oddef cam na bod yn frwnt a meistrolgar. Erbyn hyn, gwelai y byddai raid iddo geisio dangos ei awdurdod. Wedi gorffen brecwest, aeth yn syth i'r pantri, lle na buasai o'r blaen ers llawer o amser, a theimlai lygaid Marged yn llosgi ei gefn wrth iddo gymryd y fath hyfdra. Torrodd ddwy dafell o biff cul yn ôl cyfarwyddyd Jones, ac wrth fyned i'r llofft, dywedodd, braidd yn nerfus:

"Marged, 'rydw i'n mynd i'n gwely, a 'does neb i 'nistyrbio i tan ganol dydd," a rhag i Marged ei atal, cerddodd yn gyflym i'r llofft cyn clywed beth a ddywedai hi.

Ni ddywedodd Marged air; yn unig edrychodd yn synedig ar y biff oedd yn ei law. Gofynnai iddi ei hun a oedd ei meistr wedi drysu? I beth yr oedd yn cymryd biff i'r llofft, yn enw pob rheswm? A oedd y plismon wedi dod â mastiff iddo, i'w gadw yn y llofft, i edrych ar ei hôl hi? Neu a oedd yn bwriadu yn y dyfodol—yn hytrach na bwyta yn y gegin, gymryd ei ymborth yn y llofft, a hwnnw heb ei goginio? Neu a oedd ar fedr ei rheibio hi â'r biff, fel y clywsai fod rhai yn trin dafad wyllt? Yr oedd Marged wedi ei drysu a'i hanesmwytho nid ychydig.

Aeth Enoc i'w wely, ac yn ôl y cyfarwyddyd, gosododd y biff ar ei lygaid, gyda saeth weddi am i'r feddyginiaeth ateb y diben dymunol. Nid rhyfedd ar ôl yr hyn yr aethai drwyddo'r noson cynt a'r bore hwnnw, ei fod yn teimlo wedi gorwedd yn ei wely, braidd yn gwla. Teimlai ei frecwest, er nad oedd ond bychan, yn pwyso'n drwm ar ei stumog, ac fel pe buasai am newid ei le. Ni allai roddi cyfrif am ei salwch. Gwaethygai ei glefyd, a thrawyd Enoc gan y syniad arswydus—a oedd Marged, tybed, wedi ei wenwyno? Nid oedd dim haws, oblegid, yn wahanol i hen ferched yn gyffredin, ni allai Marged oddef cathod—yn wir, yr oedd hi wedi lladd tua hanner dwsin—ac fel dirprwy cath defnyddiai Marged "wenwyn llygod" yn helaeth. Beth, meddai Enoc, os oedd hi wedi rhoi peth o'r gwenwyn hwnnw yn ei frecwest? Teimlai yn sâl iawn. Os oedd Marged wedi ei wenwyno—nid oedd mo'r help—yr oedd yn rhaid iddo farw—canys ni allai alw ar neb i'w gynorthwyo—a chymryd popeth i ystyriaeth, ni buasai marw yn rhyw anffawd fawr iawn. Fel hyn yr ymsyniai Enoc pryd y syrthiodd i gwsg trwm—mor drwm fel na ddeffroes am bedair awr. nid oes neb â ŵyr pa bryd y deffroesai, oni bai iddo gael breuddwyd ofnadwy. Meddyliai, yn ymdaith ei enaid, ei fod wedi bod yn afiach a gorweiddiog am fisoedd lawer, a bod Marged wedi cadw ei afiechyd yn ddirgelwch i bawb, oblegid nid ymwelsai na meddyg na chyfaill ag ef yn ystod holl fisoedd ei glefyd. Yr oedd mewn poenau arteithiol yn barhaus, nos a dydd, ac os cwynai ychydig, trawai Marged ef yn ei dalcen â rhyw offeryn, nes dyblu ei boenau. Lawer pryd, pan na byddai Marged yn yr ystafell, carasai allu codi a churo'r ffenestr ar rywun a ddigwyddai fyned heibio a hysbysu ei gyfeillion, ond yr oedd yn rhy wan i godi. Trwy ryw ffordd, nas gwyddai ef, yr oedd Marged wedi gwerthu ei siop a'i holl eiddo, ac wedi sicrhau'r arian iddi hi ei hun. `Weithiau dygai Marged yr holl arian ar fwrdd bychan o flaen ei lygaid, a chyfrifai hwynt yn fanwl lawer gwaith drosodd, yna cadwai hwynt yn ofalus a herfeiddiol. Gwyddai mai disgwyl iddo farw yr oedd Marged, a'i bod yn bwriadu ei gladdu yn ddirgel yn yr ardd wedi nos. Ar adegau, trawai Marged ef yn ei ben â morthwyl mawr nes pantio ei dalcen, ac yna gafaelai'n ffyrnig yn ei wallt, codai ei ben oddi ar y gobennydd, a thrawai ef yn ei wegil â'r morthwyl, nes dôi ei dalcen i'w le yn ei ôl. Os gwaeddai ef "O!" rhoddai Marged iddo gnoc arall, flaen ac ôl. Synnai ef ei hun weithiau ei fod yn gallu byw cyhyd dan y fath driniaeth chwerw, a chanfyddai ar wyneb Marged ei bod hithau wedi glân flino disgwyl iddo farw. Ar brydiau, cedwid ef am wythnosau bwygilydd heb damaid o fwyd. Mor dost oedd ei newyn yr adegau hynny, fel y tybiai, pe gallasai symud ei ben y gallasai fwyta post y gwely, ond ni allai hyd yn oed droi ei lygad yn ddiboen. Pan fyddai fwyaf ei newyn, deuai Marged i'r ystafell â dysglaid o'r ymborth mwyaf persawrus—eisteddai o fewn troedfedd i'w drwyn, a bwytâi'r cyfan, a llyfai'r ddysgl heb gynnig gwlithyn iddo; ac eto, yr oedd yn byw. Ar amserau ceisiai farw, ond bob tro y ceisiai, âi angau ymhellach oddi wrtho a dyfnhâi ei boenau. Un diwrnod, daeth Marged i'r ystafell â chyllell fain finiog yn ei llaw, a gwelodd Enoc ei bod ar fedr ei lofruddio, ac nid drwg digymysg oedd hynny yn ei olwg, canys yr oedd wedi blino. ar fyw. Nid oedd Marged wedi siarad ag ef ers llawer o fisoedd yn unig tynnai wynebau ellyllaidd arno am oriau bwygilydd weithiau. Ond yn awr siaradodd, gan ei hysbysu nad oedd hi yn bwriadu ei ladd am fis neu ddau, ond mai ei gorchwyl y diwrnod hwnnw a fyddai tynnu ei lygaid allan. Cyn gynted ag y siaradodd Marged, teimlai Enoc yr un foment ei fod ef ei hun wedi colli'r gallu i barablu. Gwnaeth ymdrech galed, ond ni fedrai symud ei dafod, peth oedd yn ymddangos fel pe buasai'n cydsynio i Marged dynnu ei lygaid, peth a wnaeth hi yn ddeheuig â blaen y gyllell. Rhyfeddai Enoc nad oedd tynnu ei lygaid yn achosi cymaint o boen iddo â chael ei daro yn ei dalcen â'r morthwyl. Gwelai Marged yn gosod ei lygaid ar y bwrdd, ac yn eu gadael yno, ac yna yn mynd i lawr y grisiau. Ni phrofai Enoc ryw lawer o anghyfleustra oherwydd colli ei lygaid, ond teimlai dipyn yn anghyfforddus wrth eu gweled yn edrych arno o hyd, ac un ohonynt ei lygad chwith—fel pe buasai yn gwneud sbort am ei ben, ac felly y gallai, meddyliai Enoc, oblegid gwyddai fod ganddo dyllau dyfnion, hyllion, o boptu i'w drwyn. Ar yr un pryd, yr oedd yn bur galed fod un o'i lygaid ef ei hun yn cymryd ochr Marged yn ei erbyn, a phrotestiai ynddo ei hun, os gallai ddyfod drwy'r aflwydd hwn, nad anghofiai byth mo'i lygad de am fod yn drwmp iddo hyd y diwedd. Tra oedd ef yn synfyfyrio ar y pethau hyn, wele Marged drachefn yn dweud wrtho ei bod, ar ôl tynnu ei lygaid, wedi anghofio crafu'r tyllau, a phan ddechreuodd hi grafu, neidiodd Enoc yn ei wely a deffrôdd. Deallodd ei fod wedi breuddwydio. Ceisiodd agor ei lygaid, ond ni allai. Dechreuodd amau ai breuddwyd ydoedd. Teimlodd ei lygaid, ac—wel, cofiodd am y biff cul, a dehonglodd hynny ei freuddwyd iddo. Llosgai ei lygaid yn enbyd, ond yr oeddynt yn ei ben, ac nid ar y bwrdd; ac ni theimlodd yn ei fywyd mor ddiolchgar. Neidiodd i'r llawr, ac ymolchodd, a chafodd fod meddyginiaeth Jones wedi ateb y diben.

Am y gweddill o'r prynhawn, ceisiai Enoc ymddangos yn fywiog a phrysur, eto yr oedd yn amlwg i'w gynorthwywyr yn y siop ei fod yn derfysglyd ac absennol ei feddwl. Ni allai lai na'i longyfarch ei hun am y wedd oedd ar ei amgylchiadau o'i chymharu â'r hyn a ofnodd y noson cynt. Teimlai ei fod yn ddyledus i Ragluniaeth am anfon gŵr o fedr a phrofiad Jones i'w dynnu allan o helynt a ymddangosai ychydig oriau yn ôl yn anochel—adwy. Rhedai ei feddyliau yn barhaus i Dŷ'n yr Ardd, ac edrychai ar ei oriawr yn fynych. Nid oedd heb ofni i'r Parch. Obediah Simon wneud argraff ffafriol ar feddwl Miss Trefor, ac felly ei daflu ef ei hun rwd neu ddau ymhellach oddi wrth y nod a osodasai o flaen ei feddwl. Yr oedd Enoc yn ymwybodol yn boenus felly—fod Mr. Simon yn fwy golygus nag ef, ac er nad hynny'n unig a barodd iddo roi ei fôt yn ei erbyn pan oedd galwad Mr. Simon o flaen yr eglwys, eto yr oedd yn rhan o'r swm a barodd i Enoc benderfynu yn ei feddwl nad Mr. Simon oedd y dyn gorau y gellid ei gael fel gweinidog. Oddi ar yr ychydig ymddiddan a gawsai â Mr. Simon, nid oedd yn fodlon i gydnabod bod ei wybodaeth yn helaethach na'r eiddo ef ei hun, ond gwyddai fod y gweinidog yn fwy parablus nag ef yn fwy diofn a hy, neu fel yr ymsyniai Enoc ynddo ei hun, "mae gen i gystal stoc ag yntau, ond y mae ganddo ef well ffenest." A beidiai Miss Trefor ag edrych ar y ffenest—dyna a flinai Enoc. Nid oedd ef wedi celu oddi wrthi, mewn ymddygiad nac un ffurf, onid mynegiad pendant mewn geiriau, ei hoffter ohoni. Yn wir, yr oedd mewn cant o amgylchiadau wedi dangos ei fod yn gaethwas iddi, gan ddisgwyl yn bryderus, wrth gwrs, iddi hithau ddangos rhyw argoelion ei bod yn gwerthfawrogi ac yn croesawu ei ddiofryd a'i ddefosiwn cyn iddo roi datganiad eglur o'i serch. Ond hyd yn hyn, nid oedd hi wedi rhoi ond ychydig le iddo gasglu ei bod yn deall ei ddyfalwch na'i deimladau tuag ati. Yr unig arwydd er daioni a gawsai Enoc—ac yr oedd yn werthfawr yn ei olwg—oedd na byddai hi'n ddiweddar yn ysgoi ei gymdeithas, nac, ar y cyfan, yn amharchus ohono. Prin yr ymddygai hi felly ato pan ddechreuodd fyned i Dy'n yr Ardd, yn wir, cofiai amser pryd na chollai hi unrhyw fantais i roi ergyd iddo, os gallai sut yn y byd, yr hyn a ddygai arni wg Capten Trefor. Hynny ni wnâi hi yn awr, ond ymddygai ato fel cyfaill i'r teulu. Ond prin y golygai Enoc fod y cyfnewidiad hwn yn ei hymddygiad yn ddigon o gymhelliad i beri iddo wneud ei feddwl yn hysbys iddi, oblegid ystyriai pe gwrthodai hi ei gynigiad—pe dywedai'n bendant nad oedd iddo obaith —wel, yr oedd y meddwl yn gyfryw na allai ei oddef, a gwell a fuasai ganddo dreulio'i oes i fynd a dyfod i ac o Dŷ'n yr Ardd os gallai felly gadw pawb arall draw, serch na allai ef ei hun lwyddo yn ei gais. Ond pa sicrwydd oedd ganddo ef na ddeuai rhywun a chipio ei eilun tra byddai ef yn adeiladu ei allorau? Dim. A hwyrach mai'r Parch. Obediah Simon oedd y gŵr a wnâi hynny.

PENNOD XXXII

Darganfyddiad Sem Llwyd

AR ei ffordd i Dŷ'n yr Ardd yr oedd mynwes Enoc Huws yn llawn eiddigedd. Yr oedd ynddo deimlad anghyfforddus y byddai i'r Parch. Obediah Simon ymddisgleirio ar y swper a'i daflu ef i'r cysgod, a gwneud ei obaith—oedd eisoes yn ddigon gwan—yn wannach nag erioed, a phe buasai Mr. Simon yn y lleuad y noswaith honno yn lle bod yn Nhŷ'n yr Ardd, nid gwaeth fuasai hynny yng ngolwg Enoc. Meddyliasai Enoc lawer y prynhawn hwnnw yn wir, fwy nag erioed—am Mr. Simon, ac wrth ymwisgo orau y gailai cyn cychwyn oddi cartref, ni allai yn ei fyw beidio â'i ddal ei hun o hyd mewn cyferbyniad ag ef. Nid oedd ei syniadau yn uchel am y gweinidog, ond yr oedd Enoc yn ddigon gonest i gydnabod wrtho ei hun nad ydoedd yn feirniad diragfarn. Ar yr un pryd, pan oedd yn cerdded yn gyflym tua Thŷ'n yr Ardd, nid unwaith na dwywaith y dywedodd ynddo ei hun: Wn i ddim yn y byd mawr be mae pobol yn 'i weld yn y dyn—licies i 'rioed mono."

Hwyrach mai tipyn mwy nag arfer o ofal am ei ymddangosiad oedd y rheswm fod Enoc braidd ar ôl yr amser penodedig yn cyrraedd Tŷ'n yr Ardd. Pan agorodd Kit, y forwyn, y drws iddo, ebe hi:

Wel, Mr. Huws, lle 'rydech chi wedi bod tan 'rwan?—mae Miss Trefor yn gofyn o hyd ydech chi ddim wedi dwad."

Yr hen genawes! gwyddai Kit yn burion fod y gair yn werth swllt iddi'r noswaith honno, ac yr oedd yn werth canpunt yng ngolwg Enoc, os ffaith a fynegai Kit. Rhwng Kit a'i chydwybod am y ffaith. Agorodd Kit ddrws y smoke—roam, lle yr oedd Capten Trefor, Mr. Denman, Mr. Simon, Miss Trefor, yn ei ddisgwyl, ac yn eistedd wrth y pentan yn ei ddillad gwaith yr oedd Sem Llwyd, a phawb oddieithr Sem, yn ymddangos fel pe buasent wedi hanner meddwi. Ar ymddangosiad Enoc cododd pob un—oddieithr Sem—ar ei draed, i ysgwyd llaw ag ef, a Miss Trefor oedd y gyntaf i wneud hynny, ffaith y cymerodd Enoc sylw manwl ohoni, a dangosai pawb, oddieithr Sem, lawenydd na allai Enoc mo'i amgyffred. Ond nid hir—er ei fod dipyn yn hir—y bu ef heb gael rheswm am yr holl lawenydd. Hyfdra digywilydd, tra oedd y Capten yn bresennol, fuasai i neb ond ef ei hun hysbysu Enoc am yr hyn oedd wedi eu rhoi yn y fath hwyl. Wedi i bawb ymdawelu, ac i Enoc eistedd, ebe'r Capten:

"Mi wranta, Mr. Huws, eich bod yn canfod ein bod dipyn yn llawen heno, ac nid ydym felly heb reswm, ac mi wn, pan glywch y rheswm, y byddwch chwithau yn cydlawenhau â ni. Mae'n digwydd weithiau ein bod yn llawenhau wrth glywed am newydd da i eraill, ond heno yr ydym yn llawenhau, nid am fod gennym newydd da i eraill, er, mewn ffordd o siarad, ei fod yn newydd da i eraill hefyd, ond heno yr ydym yn llawenhau am fod gennym newydd da i ni ein hunain, ac nid i neb yn fwy nag i chwi eich hunan, Mr. Huws, ac nid oes yn ôl—ac i mi siarad yn bersonol, a chwi faddeuwch oll i mi am grybwyll y peth—nid oes dim yn ôl, meddaf, ond un peth i wneud fy llawenydd yn gyflawn heno, a'r peth hwnnw ydyw—(ac yn y fan hon rhwbiodd y Capten ei drwyn â'i gadach poced), a'r peth hwnnw ydyw, wel, nid oes gennych chwi, Mr. Huws, na chwithau, Mr. Simon, brofiad ohono, ond, hwyrach, rywdro, y byddwch mewn sefyllfa y gellwch ei ddeall—y peth hwnnw ydyw, meddaf, nad ydyw Mrs. Trefor yn alluog o ran ei hiechyd i fod gyda ni heno i gydlawenhau, ac y mae Mr. Denman yn gallu deall yr hyn yr wyf yn ei ——"

"O! tada, yr ydech chi'n hir yn deud y newydd wrth Mr. Huws," ebe Miss Trefor.

"Susi," ebe'r Capten, "'dydw i ddim wedi byw i'r oed yma, tybed, heb wybod sut i siarad a sut i ymddwyn yng nghwmni boneddigion. Ond dyna'r oeddwn yn mynd i'w ddweud, yr unig beth sy'n amharu tipyn ar fy llawenydd i yn bersonol ydyw yr hyn a grybwyllais, sef nad ydyw Mrs. Trefor gyda ni heno, a hynny oherwydd afiechyd—afiechyd, mi obeithiaf, nad ydyw'n beryglus. Ond chwi ddeallwch fy nheimlad—mae dyn, rywfodd, wedi cyd-fyw am gynifer o flynyddoedd, yn rhy barod, hwyrach, i ofni'r gwaethaf. Ond rhag i mi eich cadw yn rhy hir, Mr. Huws, mewn disgwyliad, er y gwn eich bod chwi, yn anad neb, yn cymryd diddordeb yn iechyd Mrs. Trefor rhag eich cadw yn rhy hir, meddaf, a rhag i mi gael fy ngalw i gyfrif eto gan fy merch fy hun, er y byddaf yn hoffi mynd o gwmpas pethau yn fy ffordd fy hun, mi dorraf fy stori yn fer—mae gennym newydd da, Mr. Huws, mae Sem Llwyd wedi dod â newydd i ni gwerth ei glywed—maent wedi taro ar y faen yng Nghoed Madog!"

"Beth?" ebe Enoc mewn syndod mawr, "wedi dod i blwm yn barod?"

"Dyna'r ffaith, syr, onid e, Sem?" ebe'r Capten.

Rhoddodd Sem nod doeth, a arwyddai fod ganddo lawer i'w ddweud ond ei fod yn ymatal rhag na allent ei ddal.

"Hwre! brafo ni, Cwmni Coed Madog," ebe Enoc mewn llawenydd mawr, yn yr hwn y cyfranogodd pawb oddieithr Sem.

"Esgusodwch ein ffolineb, Mr. Simon," ebe'r Capten gan annerch y gweinidog, "ac nid ffolineb chwaith, oblegid nid oes dim yn fwy naturiol, syr, nag i rai fel fy hunan a Mr. Huws a Mr. Denman, y rhai, nid gydag amcanion hunanol a bydol, ond gyda golwg ar wneud lles i'r gymdogaeth, a chyda golwg ar gadw achos crefydd i fyny—sydd wedi gwario llawer o arian—mwy nag a goeliech chwi—naturiol, meddaf, iddynt lawenhau pan ddônt o hyd i'r trysor cuddiedig—mor naturiol ag oedd i Columbus lawenhau pan welodd y ddeilen ar y dŵr."

"Perffaith naturiol, ac yr wyf yn cydlawenhau â chwi, Capten Trefor," ebe Mr. Simon.

"Mi'ch credaf," ebe'r Capten, "just y peth y buaswn yn ei ddisgwyl oddi wrth ŵr o ddiwylliant a dysg fel chwi. Ar yr un pryd, mae'n bosibl, yn wir, yn eithaf naturiol, i rai fel chwi sydd yn ymdroi gyda phethau ysbrydol, ac heb ymyrraeth rhyw lawer â phethau'r byd a'r bywyd hwn—mae'n bosibl, meddaf, i ni, yr antur—iaethwyr yma, wneud argraff arnoch mai creaduriaid y byd a'r bywyd hwn yn unig ydym—hynny ydyw, mai pobl ydym â'n bryd yn hollol ar wneud arian. Ond nid dyna'r ffaith, syr,—mae ochr arall i'n natur, ac mi fentraf ddweud bod i ddarganfyddiadau yn y byd natur—iol, fel yn y byd moesol ac ysbrydol, eu charm, a bod y charm lawn cymaint yn y darganfyddiad ag yn yr hyn a ddarganfyddir. Er enghraifft (gadawodd Miss Trefor yr ystafell wedi diflasu), meddylier am Syr Isaac Newton—ni fuasai ei lawenydd yn llai pe darganfyddasai mai rhywbeth arall ac nid gravitation a barai i'r afal syrthio oddi ar y pren—y darganfyddiad ei hun oedd yn rhoi boddhad iddo—os nad ydwyf yn camgymryd. Yr un modd, syr, yn y case presennol; ac yn y peth hwn yr wyf yn mynegi fy nheimlad fy hun, ac, yr wyf yn credu, deimlad Mr. Huws a Mr. Denman—yn y case presennol, meddaf, nid yr unig bleser, nac ychwaith y mwyaf, ydyw y byddwn ryw ddydd yn feddiannol ar lawer o eiddo yr wyf yn addef bod pleser yn y drychfeddwl yna—ond, ac i mi siarad yn bersonol—mae'r pleser mwyaf yn y ffaith fod plwm—bydded fawr neu fach—wedi ei ddarganfod, yr hyn sydd yn gwirio fy rhag—ddywediad—sef fy mod yn sicr fod plwm yng Nghoed Madog. Neu, i mi ei roi mewn ffurf arall, meddyliwch yn awr, pe cawn fy newis, naill ai i berthynas i mi, dyweder oblegid nid wyf ond yn tybio case—fod i berthynas adael i mi yn ei ewyllys ugain mil o bunnau, neu ynte i mi gael yng Nghoed Madog werth pymtheng mil o bunnau o blwm, pa un a ddewiswn? Yr olaf, syr, heb dreulio munud uwch ben y cwestiwn. Gallai hyn ymddangos yn ynfyd i ryw bobl, ond yr wyf yn credu fy mod yn mynegi calon a theimlad Mr. Huws a Mr. Denman—dynion sydd yn gwybod rhywbeth am y charm o fentro ac am y charm uwch o ddarganfod. Onid felly y mae pethau'n sefyll, Mr. Huws?"

"Ie," ebe Enoc, "ond gadewch glywed am y darganfyddiad, faint ydech chi wedi ei ddarganfod, Sem Llwyd?"

"Esgusodwch fi, Mr. Huws," ebe'r Capten, "mi af i lawr i'r Gwaith fy hun yn y bore, a chewch report cyflawn. Mae'n ddiamau gennyf fod Sem wedi rhedeg yma â'i wynt yn ei ddwrn y foment gyntaf y gwelodd lygad y trysor gloyw, ac nid ydyw mewn position, mi wn, i roi idea briodol i chwi, Mr. Huws, am natur y darganfyddiad, ac fel y dywedais, mi af i lawr i'r Gwaith fy hun yn y bore, D.V. Ond hyn sydd sicr, pe na bai'r darganfyddiad ond cymaint â nodwyddaid o edau sidan, ac, yn wir, nid wyf yn disgwyl, yn ôl natur pethau, iddo fod yn fawr, mae'r ffaith fod Sem Llwyd a'i bartner wedi darganfod ei fod yno—bydded cyn lleied ag y bo—yn dangos yn eglur fod toreth ohono allan o'r golwg. Onid dyna ydyw'n profiad ni fel practical miners, Sem?"

"'Rydech chi yn llygad ych lle, Capten," ebe Sem.

Yn y fan hon daeth Miss Trefor i mewn gan hysbysu bod y swper yn disgwyl amdanynt, ac aeth y cwmni i'r parlwr, ond arhosodd y Capten i gael gair neu ddau yn gyfrinachol â Sem Llwyd. Nid oedd yr ymgom ond ber, sef fel y canlyn:

Dydi o fawr o beth, mi feddyliwn, Sem?"

"Nag ydi, syr," ebe Sem, "prin werth sôn amdano, fel y cewch chi weld yfory, ond 'roeddwn i'n meddwl na fase fo ddrwg yn y byd i mi ddwad yma i ddeud."

"Chwi wnaethoch yn iawn, Sem," ebe'r Capten. "Y gwir ydyw, ddaeth newydd erioed mewn gwell amser, achos, rhyngoch chwi a fi, mae Denman bron â rhoi i fyny'r ysbryd. 'Does gan Denman, druan, mae arnaf ofn, fawr o arian i'w sbario, ac y mae'n gorfod cyfyngu arno ei hun i wneud yr hyn y mae yn ei wneud. Ond 'does dim dowt, Sem, fod eich newydd wedi codi llawer ar ei ysbryd. Mae hi'n wahanol gyda Mr. Huws, mae ganddo fo bwrs lled hir. Gobeithio'r tad y cawn ni rywbeth acw yn fuan, bydae o ddim ond er mwyn Denman. Ond rhyngoch chwi a fi, 'dydw i ddim yn disgwyl dim acw 'rwan, ond rhaid ceisio cadw'r gobaith i fyny, er, mewn ffordd o siarad, fod yn edifar gen i ddechre yng Nghoed Madog, a faswn i 'rioed wedi dechre—mi faswn yn trio byw ar y tipyn oedd gen i—oni bai 'mod i'n meddwl beth ddaethai ohonoch chwi, y gweithwyr a'ch teuluoedd."

"'Wn i ddim be ddeuthe ohonom ni 'blaw am Goed Madog," ebe Sem.

"Digon gwir," ebe'r Capten, "ond beth ydyw eich barn chwi, Sem, a beth ydyw barn y dynion am y lle?", "Wel, syr," ebe Sem, "mae gan y dynion, a mae gen innau, ffydd y cawn ni blwm yno ryw ddiwrnod."

"Gweddïwch ynte," ebe'r Capten, "am i'ch ffydd droi yn olwg, a'ch gobaith yn fwynhad, oblegid y mae gan Ragluniaeth lawer i'w wneud â phethau fel hyn. A pheth arall, y mae gwaelod, chwi wyddoch, i byrsau'r ychydig ohonom sy'n gorfod dwyn y gost. Mi ddof i lawr acw fore fory, Sem, os byddaf byw ac iach. A 'rwan, rhaid i mi fynd at y cyfeillion yma. Peidiwch â chodi, Sem, mi ddwedaf wrth Kit am ddwad â pheint o gwrw i chwi a thipyn o fara a chaws."

"Thanciw, syr," ebe Sem.

PENNOD XXXIII

Y Swper

PE buaswn yn ysgrifennu i'r Saeson bwyteig, buaswn yn ceisio disgrifio'r arlwy a huliai fwrdd Capten Trefor noswaith y swper yn Nhŷ'n yr Ardd; ond nid ydyw'r Cymry yn gofalu cymaint am ddisgrifiad o wledd (gwell ganddynt gyfranogi ohoni). Yr oedd yno bopeth angen—rheidiol ar gyfer ystumog dyn rhesymol. Ac nid ydyw ond teg â Miss Trefor ddweud mai hi ei hun oedd wedi paratoi'r danteithion, canys yr oedd hi, yn ddiweddar, wedi ymroi i ddysgu coginio a gwneud pob math o waith tŷ, ac wedi dyfod yn lled fedrus ar y gorchwylion hyn. Gofalodd y Capten am hysbysu ei gyfeillion mai Susi oedd y gogyddes. Wedi i'r gweinidog ofyn bendith, ac i'r Capten daflu golwg ar hydred a lledred y bwrdd a'r hyn oedd arno—fel y bydd llywydd cyfarfod cyhoeddus yn taflu ei olwg dros y program cyn codi i wneud araith—ebe fe:

"'Rwyf yn hyderu, gyfeillion, y gwnewch yn harti o'r peth sydd yma, fel ag y mae o, ac os bydd rhywbeth heb fod yn iawn, nac yn unol â'ch archwaeth, ar fy merch, Susi, y bydd y bai, achos hi sydd gyfrifol am y cwcri."

"'Dydech chi ddim yn fodlon, dada," ebe Susi, "ar ofyn bendith ar y bwyd heb wneud apology dros yr hon a'i paratôdd."

"Maddeuwch i mi, Miss Trefor," ebe'r gweinidog, "yr ydych yn camesbonio geiriau Capten Trefor—rhoi sicrwydd i ni y mae'ch tad y bydd popeth yn berffaith."

"Diolch i chi, Mr. Simon, am revised version o eiriau 'nhad," ebe Susi.

("Conffowndio'r dyn," ebe Enoc yn ei frest," gobeithio y tagith o.")

"Pa fodd bynnag am hynny," ebe'r Capten, gan drefnu yn helaeth ar gyfer ystumog ei westeion, "mi obeithiaf y gwnewch gyfiawnder â'r hyn sydd yma. Y rhai salaf yn y byd, Mr. Simon, ydym ni, teulu Tŷ'n yr Ardd, am gymell, ac os na wnewch y gorau o'r hyn sydd o'ch blaen, arnoch chwi y bydd y bai, Mr. Simon."

"Ni byddaf yn euog o'r bai hwnnw, Capten Trefor," ebe'r gweinidog.

("Mi gredaf," ebe Enoc ynddo'i hun.)

"Purion," ebe'r Capten. "Mr. Simon, beth gymerwch chwi i'w yfed? Yr wyf fi fy hun wedi arfer cymryd cwrw, hwyrach ei fod yn fai ynof, ac mi fyddaf yn meddwl weithiau, wrth ystyried y mawr ddrwg sydd o'i gamarfer, y dylwn, er mwyn esiampl, ei roi heibio, er y gwn y byddai hynny, yn yr oed yma, yn niweidiol iawn i mi. A ydych yn ddirwestwr, Mr. Simon?"

"Ydwyf," ebe Mr. Simon, "yn yr ystyr Ysgrythurol i'r gair. Mi fyddaf yn cymryd cwrw yn gymedrol, a phan fyddaf yn credu ei fod yn fwy llesol i mi na the neu goffi, ond ni fynnwn friwio teimladau neb wrth ei gymryd."

"Dyna just f'athrawiaeth innau," ebe'r Capten, ac ychwanegodd: "Susi, dwedwch wrth Kit am ddod â chwrw i Mr. Simon a minnau, a choffi i Mr. Huws a Mr. Denman. Maent hwy eu dau, Mr. Simon, yn ddirwestwyr, ond heb fod yn rhagfarnllyd. Felly, chwi welwch, a chyfrif fy merch, y bydd tri yn erbyn dau ohonom."

Yr oedd hyn braidd yn annisgwyliadwy i'r gweinidog, ac ebe fe:

"Rhydd i bob meddwl ei farn."

"Ac i bob barn ei llafar," ebe'r Capten.

"Os rhydd i bob barn ei llafar," ebe Enoc, "fy marn i ydyw y dylem ni, sydd yn gymharol ieuanc, yn anad neb, ymwrthod yn llwyr â'r diodydd meddwol. Yr ydym ar dir diogelach, ac yn meddu cydwybod dawelach i annog y rhai sydd yn yfed i ormodedd i ymwrthod â'r arferiad."

"Wel, Mr. Simon," ebe'r Capten, "sut yr atebwn ni hynyna."

"O'm rhan fy hun," ebe Mr. Simon, "ni byddaf un amser yn hoffi ymddadlau ynghylch mân reolau a dynol osodiadau. Gwell gen i ddilyn esiampl y Testament Newydd. Yr ydych wedi sylwi, yn ddiamau, Capten Trefor, nad ydyw'r Datguddiad Dwyfol, ag eithrio'r ddeddf seremonïol, yn ymostwng i osod i lawr fân reolau ynghylch bwyd a diod. Nid yw teyrnas nefoedd fwyd a diod. Egwyddorion hanfodol a ddatguddir i ni yn y Gair Santaidd, un o'r rhai, yn ôl fy meddwl i, ac yr wyf wedi ceisio meddwl tipyn yn fy oes—ydyw rhyddid cydwybod. Mae gan bob dyn ryddid i ddarllen y Datguddiad, a hawl i'w ddeall yn ôl ei feddwl ei hun. Os ydyw un dyn yn darllen llwyrymwrthodiad yn yr Ysgrythur Lân, purion—dyna'i feddwl ef; ac os ydyw un arall, sydd yn meddu'r un manteision, o ran dysg a gallu meddyliol, yn methu canfod llwyrymwrthodiad, mae ganddo yntau hawl i feddwl felly. Ond fy syniad i yn bersonol ydyw hyn—a gallaf eich sicrhau nad ydwyf wedi dyfod iddo heb lawer o ymchwiliad a myfyrdod—fod hanes y gymdeithas ddynol yn gyffelyb i hanes dyn yn bersonol. A chyda llaw, y mae hynny yn eithaf naturiol gan mai personau sydd yn gwneud cymdeithas ddynol. Mae pob dyn yn ei faboed dan lywodraeth mân reolau, ac yn y cyfnod hwnnw maent yn angenrheidiol a llesol, ond, wedi cael addysg a chyrraedd oedran gŵr, insult i'w ddynoliaeth a fyddai ei rwymo wrth reolau o'r fath. Mae hyn i'w weled yn eglur yn y Datguddiad. Yn yr ysgol yr oedd y gymdeithas ddynol dan y ddeddf seremonïol, ond dan y Testament Newydd y mae wedi cyrraedd oedran gŵr, ac wedi taflu y seremonïau o'r neilltu."

"Wel, Mr. Huws," ebe'r Capten, gan wacáu ei wydraid, "dyna bilsen go gref i chwi, beth ddwedwch chwi yn ateb i hynyna?"

"Nid wyf yn cymryd arnaf," ebe Enoc, "fod yn ddadleuwr, yn enwedig gyda gŵr dysgedig fel Mr. Simon. Ond yr wyf yn meddwl y gallaf ateb yr wrthddadl i'm bodlonrwydd fy hun. Os ydwyf yn deall dysgeidiaeth y Testament Newydd—yn enwedig dysgeidiaeth Iesu Grist ei hun, nid oes dim y mae Ef yn rhoi mwy o bwys arno na hunanymwadiad a hunanaberthiad. Yr oedd yn ei ddysgu i eraill, ac yn ei gario allan yn ei fywyd ei hun. Nid beth yr oedd ganddo hawl iddo, neu ryddid i'w wneud, oedd cwestiwn mawr Iesu Grist, ond beth oedd ei ddyletswydd. Yr oedd ganddo Ef hawl i barch a chysuron pennaf y byd—yr oedd ganddo hawl i fyw, os bu hawl gan neb erioed. Ac eto, er mwyn eraill, yr oedd Ef yn mynd i gyfarfod croesau, ac yn rhoddi ei einioes i lawr. Ac, erbyn meddwl, mor rhyfedd, yr Un oedd yn meddu'r rhyddid mwyaf—rhyddid na feddai neb arall ei gyffelyb—rhyw unwaith neu ddwy y mae yn sôn amdano—ond y mae'n sôn yn feunyddiol am y rheolau ddyweda i ddim 'mân reolau '—yr oedd wedi eu gosod arno ei hun. Ac os nad ydyw Teyrnas Nefoedd fwyd a diod, eglur yw nad ydyw ymarfer â'r diodydd meddwol yn rhan ohoni. Ac yr wyf yn meddwl y gellir dyfod â rhesymau cryfach o lawer dros ——."

"Mr. Huws," ebe'r Capten, "esgusodwch fi. Yr ydym erbyn hyn yn ddigon o gyfeillion i mi gymryd hyfdra arnoch. Mae o'n taro i'm meddwl i mai tipyn o bad taste ynof oedd cyffwrdd â'r cwestiwn dirwestol, yn enwedig ar achlysur fel hwn, ac yr wyf yn meddwl mai'r peth gorau y gallwn 'i wneud, wedi i Mr. Denman ddweud just un gair ar y ddadl fel diweddglo, ydyw troi'r ymddiddan at rywbeth arall. Yrwan, Mr. Denman."

"Yr wyf wedi sylwi," ebe Mr. Denman, "fod merched, hynny ydyw, merched o'r dosbarth gore, yn cael eu harwain megis gan reddf i benderfynu cwestiynau amheus—cwestiynau y bydd dynion yn ymddrysu uwch eu pennau. Mi rof y cwestiwn mewn ffurf ymarferol, gan apelio at Miss Trefor. Yn awr, Miss Trefor, golygwch fod dau ŵr ieuanc, cyfartal o ran pryd a gwedd, ffortun, a phob rhagoriaeth arall, yn ceisio am eich ffafr, ond bod un yn ddirwestwr, a'r llall yn ymarfer â'r diodydd meddwol, ar ba un o'r ddau y gwrandawech?"

"'Wrandawn i ar y naill na'r llall," ebe Susi.

"Ie," ebe Mr. Denman, "ond golygwch y byddai raid i chwi briodi un o'r ddau."

"Wel," ebe Susi, "pe byddai raid i mi briodi un ohonynt, neu gael 'y nghrogi, mi briodwn, wrth gwrs, y dirwestwr, ac nid yn ôl greddf' ond yn ôl fy rheswm."

"Clywch! clywch!" ebe Enoc, "mae'r cwestiwn wedi'i setlo."

"Gyda phob dyledus barch," ebe Mr. Simon, "'dydi'r cwestiwn ddim wedi'i setlo, oblegid yn ôl tystiolaeth Capten Trefor y mae Miss Trefor yn ddirwestreg, ac felly y mae ganddi ragfarn. A phe apelid at ryw ferch arall, dichon yr atebai honno yn wahanol."

"Ond y mae Mr. Denman yn golygu i chwi apelio at y dosbarth gore o ferched," ebe Enoc.

"Mae peth arall i'w ddweud," ebe'r Capten. "Pan ddywed fy merch na wrandawai hi ar yr un o'r ddau, y mae'n amlwg nad ydyw'n dweud yr hyn y mae hi yn ei feddwl; ac os nad ydyw yn dweud yr hyn y mae yn ei feddwl yn y rhan flaenaf o'i hatebiad, mae lle i gredu nad ydyw'n dweud yr hyn y mae yn ei feddwl yn y rhan arall."

"Campus!" ebe Mr. Simon, "rhesymeg berffaith. Nid anfynych y clywir merched ieuainc prydweddol yn dweud yn bendant na phriodant byth, ac mai mwy dewisol ganddynt fod yn hen ferched, a phan welir hwynt ryw ddiwrnod yn cael eu harwain at yr allor, nid oes neb yn ddigon dideimlad i'w beio am dorri eu gair. Gyda thipyn o strategy, gellir cymryd y ddinas fwyaf caerog."

"Mae'n debyg mai adrodd eich hyder a'ch profiad yr ydech chwi 'rwan, Mr. Simon," ebe Susi, gyda thipyn o gnoad yn ei geiriau," ond yr wyf yn meddwl yr addefwch fod ambell ddinas eto heb ei chymryd, ac na chymerir byth mohoni."

"Fy argument i ydyw hyn," ebe Mr. Simon, "os cymerwyd Jericho, paham na ellir cymryd pob dinas?"

"Dydi'r ffaith," ebe Susi, "fod Jericho wedi ei chymryd drwy chwythu cyrn hyrddod ddim yn profi y gellir cymryd hyd yn oed bentref eto drwy chwythu corn dafad Gymreig, er i'r chwythwr fod yn offeiriad."

"Susi," ebe'r Capten, gan droi llygaid arni oedd braidd yn geryddol, "eich perygl, fy ngeneth, ydyw bod dipyn yn rhy ffraeth, yn enwedig pan na bydd hir gydnabyddiaeth—fel gyda Mr. Huws a Mr. Denman—yn rhoi gwarant i chwi arfer eich ffraethineb. Pan ddeuwch i adnabod fy merch yn well, Mr. Simon, dowch i ddeall nad ydyw yn bad sort; ond, fel hen lanc, bydd raid i chwi ddioddef ergyd yrwan ac yn y man. Dyna ei phechod parod i'w hamgylchu—ymosod ar wŷr dibriod."

"Dyna'r ail apology dros eich merch heno, dada," ebe Susi; "y gyntaf oedd na wyddwn sut i gwcio; a'r ail na wn sut i'm byhafio fy hun. Rhaid eich bod wedi esgeuluso fy education, dada. Ddywedais i rywbeth vulgar, Mr. Simon?"

"Dim o gwbl, Miss Trefor. Ni rown i 'run ffig am ferch ieuanc os na fedrai ateb drosti ei hun," ebe Mr. Simon.

"Debyg iawn," ebe Susi, "rown innau 'run ffig am ŵr, er iddo fedru ateb drosto'i hun."

"Mae arnaf ofn, fy ngeneth," ebe'r Capten, " y bydd raid i mi wneud trydydd apology drosoch, os ewch ymlaen yn y ffordd yna. Nid ydyw siarad yn amharchus am ddynion yn un arwydd o education, ac yr ydych yn anghono mai dyn ydyw eich tad."

"Present company excepted, chwi wyddoch, tada," ebe Susi, a 'dydw i, fel y gwyddoch, ddim wedi cyfarfod ond ychydig o ddynion,—dim ond Cwmni Pwll y Gwynt, pobl Bethel, a 'chydig o bregethwyr Methodus, a 'mhrofiad gwirioneddol i ydyw mai windbags ydyw naw o bob deg o'r dynion a welais i—creaduriaid yn. ——"

"Susi," ebe'r Capten, "mae'n ymddangos fod pawb wedi gorffen. Cenwch y gloch yna am Kit, i glirio'r pethau, ac 'rwyf yn meddwl mai gwell i chwi fynd i edrych sut y mae hi ar eich mam, druan. Mae hi, poor woman, wedi ei gadael yn unig heno."

"O!" ebe Susi, "mi wela, yr ydech chi am fy nhorri o'ch seiat, tada. Well i chi ofyn arwydd,—pawb sydd o'r un meddwl na ellir ystyried Susan Trefor yn aelod mwyach o'r seiat hon, coded ei law."

Ni chododd neb ei law ond y Capten, a chanodd Susi'r gloch am Kit, a rhedodd ymaith dan chwerthin.

"Mae gennych ferch fywiog, Capten Trefor," ebe Mr. Simon.

Oes," ebe'r Capten, "mae digon o fywyd ynddi, ond byddaf yn ofni yn aml iddi wneud argraff anffafriol ar feddyliau dieithriaid. Hwyrach fy mod yn euog o adael iddi gael gormod o'i ffordd ei hun. Ond y mae'n rhaid i mi ddweud hyn, ac mae'r cyfeillion yma'n gwybod mai gwir yr wyf yn ei ddweud—fod rhyw gyfnewidiad rhyfedd wedi dod dros feddwl fy merch yn ddiweddar. Amser yn ôl, syr, yr oedd yn peri llawer o boen a phryder meddwl i mi, oblegid yr oedd yn rhoi lle i mi gredu nad oedd yn meddwl am ddim ond am ymwisgo, darllen novels, a rhyw wag—freuddwydio ei hamser gwerthfawr heibio. Nid oedd yn diwyno ei dwylo o'r naill ben i'r wythnos i'r llall, ac er ei bod wedi cael dygiad i fyny crefyddol—cyn belled ag yr oedd addysg ac esiampl ei rhieni yn mynd—yr oedd gennyf le i ofni nad oedd yr adeg honno yn meddwl dim am fater ei henaid, ac yr oedd hyn, fell y gellwch feddwl, yn achosi poen i mi nid ychydig. Er yn hogen yr oedd ei dychymyg yn fywiog, a thrwy ryw anffawd, fe aeth ymlaen i'w phorthi fel yr oedd pethau cyffredin bywyd, megis gwaith tŷ, trafferthion bywyd, ac yn y blaen, mor ddieithr iddi a phe buasai'n byw mewn byd arall. Gan fy mod wedi dechre, waeth i mi orffen. Y pryd hwnnw, syr, nid wyf yn meddwl fod fy merch yn ymwybodol fod yma fyd o drueni o'i chwmpas. Ni wyddai hi ei hun beth oedd eisiau dim, ac ni allai ddychmygu, ar y pryd, fod neb arall mewn angenoctyd neu yn dioddef. Nid oedd ei chalon erioed wedi ei chyffwrdd. Heblaw hynny, nid oedd ganddi syniad am werth arian—yr oedd papur pumpunt yn ei golwg fel hen lythyr, heb fawr feddwl fod pob punt yn tybied hyn a hyn o lafur ymennydd i'w thad. Yr oedd hi rywfodd yn byw ynddi hi ei hun, ac er gwneud llawer cais nid oedd bosibl ei chael allan ohoni ei hunan i sylweddoli realities bywyd. Ai rhaid i mi ddweud bod hyn wedi peri i mi golli llawer noswaith o gysgu? Ond ers amser bellach, nid yw'n gofalu dim am wisgoedd—mae'n well ganddi, syr, fynd i'r capel mewn ffroc gotwn nag mewn gown sidan—ac y mae hi fel gwenynen gyda gwaith y tŷ o'r bore gwyn tan nos. Mewn gair, y mae hi wedi mynd i'r eithafion cyferbyniol. Mae'n well ganddi olchi'r llawr na chwarae'r piano, a hwyrach y bydd yn anodd gennych fy nghredu, ond ddoe ddiweddaf yn y byd pan oeddwn yn dyfod adref o'r Gwaith, beth welwn ond Susi yn golchi carreg y drws, a Kit y forwyn, yn edrych arni â dwylo sychion! Wrth gwrs, y mae peth fel hyn yn ridiculous, ond y mae'n mynnu cael gwneud y pethau y dylai'r forwyn eu gwneud yn wir, erbyn hyn, sinecure ydyw morwyn yn ein tŷ ni, syr. Raid i mi ddim dweud wrthoch chi, Mr. Simon, nad ydyw peth fel hyn yn gweddu i'w sefyllfa, ond yr wyf wedi mynd i'r drafferth o'i ddweud rhag ofn y digwydd i chi ddod yma ryw ddiwrnod a chael shock i'ch nerves wrth weled fy merch â ffedog fras o'i blaen yn glanhau esgidiau, a'r forwyn yn eistedd wrth y tân yn darllen nofel. Ac wrth sôn am ddarllen, y mae'r un cyfnewidiad wedi dod dros ei meddwl yn hyn hefyd, yr hyn sydd wedi fforddio cysur mawr i mi ac i'w mam. Welir byth mohoni yn awr yn gafael mewn llyfr gwagsaw. Ei hoff lyfr, wrth gwrs, ydyw'r Beibl, a chwi synnwch pan ddywedaf i mi ei dal y nos o'r blaen dros ei phen a'i chlustiau yng Nghyfatebiaeth Butler, ond dyna'r ffaith, syr, ac, os nad wyf yn camgymryd, y mae wedi benthyca amryw gyfrolau o'r Traethodydd gan fy nghyfaill yma, onid ydyw, Mr. Huws? (Rhoddodd Enoc nod cadarnhaol.) Ac os nad ydwyf yn eich blino, cyfnewidiad arall y dylwn gyfeirio ato ydyw ei ffyddlondeb ym moddion gras. Yr ydych wedi sylwi eich hun, Mr. Simon, nad oes neb yn fwy ffyddlon yn y capel, mi gredaf. gair, yr wyf yn credu bod fy merch wedi cael cyfnewidiad calon a chyflwr, a chwi faddeuwch i mi, Mr. Simon, am siarad cymaint yn ei chylch. Mae gennyf ddau reswm dros wneud hynny y cyntaf ydyw fy mod yn ystyried ei bod yn fantais i chwi, fel ein gweinidog, feddu'r adnabyddiaeth lwyraf sydd yn bosibl o wir stad meddwl a chalon pob aelod o'ch eglwys, fel y galloch iawn gyfrannu iddynt air y gwirionedd. A'r rheswm arall ydyw—fel cysur a chymhelliad i chwi—os byth y deuwch yn ben teulu—i ddwyn eich plant i fyny yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd yr hyn, yr wyf yn sicr, a wnewch. Ac er, hwyrach, na welwch ffrwyth eich llafur yn uniongyrchol, eto, mor sicr â'ch bod yn fore wedi hau eich had, fe ddwg ffrwyth ar ei ganfed, yn ei amser da Ef ei hun. Mae gennyf ofn fy mod wedi siarad gor——"

Ar hyn dychwelodd Miss Trefor, ac ebe hi:

"Mr. Huws, mae 'mam yn crefu arnoch beidio â mynd i ffwrdd cyn dwad i edrach amdani."

"Mi ddof y munud yma," ebe Enoc, ac ymaith ag ef.

"Mae'n rhyfedd," ebe'r Capten, "y ffansi y mae Mrs. Trefor wedi ei chymryd at Mr. Huws. Bydasai'n fab iddi nid wyf yn meddwl y gallasai ei hoffi yn fwy; ac eto, erbyn ystyried, nid ydyw mor rhyfedd, oblegid ni chyfarfûm â dyn erioed haws i'w hoffi, ac y mae Mrs. Trefor ac yntau o'r un teip o feddwl—maent yn naturiol grefyddol, a'u myfyrdodau'n rhedeg ar yr un llinellau. Mi fyddaf yn meddwl nad yw gamp yn y byd i rai pobl fyw'n grefyddol, ac 'rwyf yn meddwl bod fy ngwraig a Mr. Huws—beth, Mr. Denman, ydech chi yn hwylio mynd adre? Wel, yr wyf yn deall eich brys eisiau dweud y newydd da i Mrs. Denman, onid e? 'Wna i mo'ch rhwystro—nos dawch, nos dawch. Dyn clên iawn ydyw Mr. Denman, Mr. Simon, ac yr ydych yn siŵr o ffeindio fy mod yn dweud y gwir amdano. Ond deudwch i mi, ydech chi ddim yn cael y cwrw yma yn galed o'i hwyl? Mae o'n dechre mynd, mae arnaf ofn. Cael gormod o lonydd y mae, trwy nad oes neb yn ei yfed. Peidiwch ag yfed chwaneg ohono—change is no roguery—mae gen i dipyn o Scotch whiskey, sydd yma ers gwn i pryd, gan mai anaml y byddaf yn edrych arno, ac os ydi o cystal ag oedd o fis yn ôl yr ydych yn sicr o'i licio. Esgusodwch fi tra byddaf yn nôl tipyn o ddŵr glân, achos bydawn i yn canu'r gloch ar y forwyn, fe ddealle'r titots yn y llofft ein bod yn galw am chwaneg o gwrw neu yn newid ein diod.

"Yrwan, syr, yr wyf yn meddwl y liciwch hwn,—say when. 'Run fath â finnau yn union,—mae gormod o ddŵr yn andwyo whiskey. Llwyddiant i'r achos dirwestol. 'Neith o'r tro, Mr. Simon?"

"Prime, prime," ebe Mr. Simon.

"Mi wyddwn," ebe'r Capten, "y buasech yn ei licio, a phaham y mae'n rhaid i ddyn ei amddifadu ei hun o bethau da'r bywyd hwn? 'Does na rheswm na 'Sgrythur yn gofyn iddo wneud hynny, cyd â'n bod ni yn cymryd popeth gyda diolchgarwch. Ond y mae'n rhaid i mi ddweud hyn, na fedraf fwynhau glasaid o wisgi ym mhresenoldeb fy merch, am y rheswm ei bod yn ddiweddar yn rhagfarnllyd ofnadwy yn ei erbyn—ym mha le y cafodd ei notions dirwestol, nis gwn.'

"Hwyrach," ebe Mr. Simon, "mai gan Mr. Huws, oblegid er ei fod yn ddyn da yn ddiamheuol, mae o yn ymddangos i mi dipyn yn ancient yn ei ffordd. Ac y mae'n resyn o beth fod ymysg ein dynion gore wmbreth o cant a chuldra meddwl, ac y mae hyn i'w briodoli o bosibl i ddiffyg addysg ac ymgydnabyddiaeth â'r byd gwareiddiedig."

"Mi welaf," ebe'r Capten," eich bod yr hyn yr oeddwn wedi tybio eich bod, sef yn ddyn wedi sylwi ar fywyd a chymeriadau; ac, fel yr oeddych yn dweud, mae'n resyn pan eith Cymro dipyn yn grefyddol, ei fod yr un pryd yn mynd yn gul ei syniadau, ac yr wyf yn siŵr mai i hyn y gellir priodoli gelyniaeth anghymodlawn fy merch at bob math o wirod, oblegid y mae hi yn grefyddol, ac yr wyf yn ddiolchgar am hynny. Yn awr, syr, goddefwch i mi ddweud bod yn dda gennyf gyfarfod â dyn eang ei syniadau, ac y bydd yn dda gennyf gael eich cwmni yn aml, pan na fydd hynny yn tolli ar eich myfyrgell a'ch llafur ar gyfer y weinidogaeth. Mewn lle fel Bethel, mae'n amheuthun cael cwmni gŵr o gyffelyb syniadau â mi fy hun. Hwyrach y synnwch pan ddwedaf na fu ond ychydig gymdeithas rhyngof a'ch rhagflaenydd, Mr. Rhys Lewis. Fel y clywsoch, yn ddiamau, yr oedd Mr. Lewis yn ŵr rhagorol, yn bregethwr da, sylweddol, ac yn hynod o dduwiol. Ond yr oedd yn gul ei syniadau ar rai pethau,—nid oedd wedi troi llawer yn y byd, ac er fy mod yn ei edmygu fel pregethwr, ac yn ei barchu fel bugail a gwas yr Arglwydd, nid oeddwn, rywfodd, yn gallu bod yn rhydd a chartrefol yn ei gwmni. A synnwn i ddim nad oedd yntau yn teimlo yn gyffelyb ataf innau,—yn wir, y mae gennyf le i gredu y byddai yn edrych arnaf braidd yn amheus, ac yn ofni, hwyrach, nad oedd gwreiddyn y mater gennyf; a'r cwbl yn tarddu oddi ar ein dull gwahanol o feddwl ac o edrych ar bethau. Yr oedd ef, syr, wedi troi mewn cylch bychan, a ninnau mewn cylch mawr."

"Hynny, yn ddiau," ebe Mr. Simon, "oedd yn rhoi cyfrif am y peth, ac, fel y dywedais o'r blaen, mae'n resyn o beth fod rhai o'n dynion gore yn gul. Ond, beth bynnag arall ydwyf, nid ydwyf yn gul, diolch i'm hadnabyddiaeth o'r byd; ac er fy mod yn mwynhau eich cwmpeini yn fawr, ac yn gobeithio y caf lawer ohono, mae'n hen bryd i mi droi adref wedi i mi ddiolch i chwi am eich hospitality."

"Peidiwch â sôn am hospitality," ebe'r Capten, wyddoch yn awr lle 'rydw i'n byw, a bydd yn dda gennyf eich gweled yn fuan eto. Buaswn yn galw fy merch i lawr, ond chwi esgusodwch hynny heno, a'r tro nesaf y dewch yma, mi obeithiaf y bydd Mrs. Trefor yn ddigon iach i'ch croesawu."

"Mae'n ddrwg iawn gennyf am ei hafiechyd, a chofiwch fi ati. Ac yrwan, nos dawch, Capten Trefor," ebe Mr. Simon wrth adael y tŷ.

"Nos dawch," ebe'r Capten, ac wedi cau'r drws, ychwanegodd rhyngddo ac ef ei hun: "Nos dawch, ŵr da. Yr ydech chi, syr, yr wyf yn meddwl, yn hen stager, neu ni cherddech chwi adref lawn cyn sythed ag y daethoch yma. Ond hwyrach mai da i chwi, Mr. S., lawer tro fel y bu yn dda i minnau, nad oedd post y gwely ymhell. A dyna ydyw'r beauty—nid yn y peth ei hun y mae'r drwg, ond yng nghael ein dal. Hym! Gwell i mi yrwan glirio olion y gyfeddach, oblegid yr hyn na wêl y llygad ni ofidia'r galon. Bydae hynny o ryw ddiben, achos y mae Susi yn siŵr o wybod fod y botel wedi ei hanrhydeddu. Mae ganddi ffroen fel retriever. Ond, siŵr ddyn, nad ydwyf yn feistr yn fy nhŷ fy hun. Ac yrwan, wedi i mi gymryd llond gwniadur o ffárwel, ni awn i fyny. Yn wir, hwyrach y deudith yr hen wraig—a hithau mor sâl—fy mod yn ddifater yn ei chylch, gan na fûm i fyny er rhywbryd yn y prynhawn. Ond ni all dyn fod ym mhobman. Yrwan, ni awn i edrych sut y mae pethau'n sefyll," a cherddodd y Capten i'r llofft heb afael yn y ganllaw. Rhoddai hynny, bob amser, dawelwch cydwybod i'r Capten.

PENNOD XXXIV

Ystafell y Claf

MOR wahanol, yn fynych, fydd arweddion bywyd, yr un amser, a hyd yn oed yn yr un tŷ. Tra bo rhywrai, hwyrach, mewn un ystafell yn mwynhau digrifwch a hapusrwydd, yn yr ystafell nesaf, heb ddim ond lled bricsen rhyngddynt, bydd rhywun arall â'r galon yn brudd, a meddyliau am y dyfodol yn gwasgu ar ei enaid. Ac felly, yr oedd yn Nhŷ'n yr Ardd y noswaith y buwyd yn sôn amdani. Aeth Enoc a Miss Trefor i fyny'r grisiau. Cyn agor drws ystafell ei mam, dywedodd Miss Trefor yn ddistaw:

"Mae fy mam, Mr. Huws, yn salach o lawer nag yr oeddwn yn meddwl ei bod. Ni feddyliais fod dim mwy arni na thipyn o bilious attack. Mae wedi bod yn cysgu ers oriau, ac yr oeddwn yn credu y buasai wedi dwad ati ei hun pan ddeffrôi. Ond y mae hi yn wael iawn, a 'dydw i ddim, rywfodd, yn licio'i golwg hi."

"Oni byddai'n well gofyn i Mr. Simon ddwad i'w golwg? Hwyrach y gallai ei chysuro, a hwyrach y carai eich mam iddo weddïo gyda hi," ebe Enoc.

"Na," ebe Susi, "'does gen i ddim ffydd mewn gweddi dyn ag arogl cwrw arni," ac agorodd ddrws yr ystafell. Ai gwael iawn ydech chi, Mrs. Trefor?" gofynnai Enoc.

"Ie, Mr. Huws, ond y selni olaf ydi o," ebe Mrs. Trefor. "Dyn annwyl, peidiwch â siarad fel yna; mi'ch gwelais chi yn llawer salach ac yn mendio, Mrs. Trefor," ebe Enoc.

"Naddo, Mr. Huws, naddo. 'Rydw i'n teimlo'n rhyfedd—fûm i 'rioed yn teimlo 'run fath, a fedra i mo'i ddeud o. 'Roedd Susi yn meddwl 'y mod i'n cysgu ers oriau, ond 'doeddwn i ddim, achos 'roeddwn i'n 'i chlywed hi'n dwad i mewn bob tro, ac yn ych clywed chithe i lawr yn siarad, yn enwedig Richard. A 'doeddwn i ddim yn effro chwaith. 'Roeddwn i'n meddwl 'y mod i ar ryw afon braf, lydan,—nid mewn cwch. 'Doedd gen i ddim byd i 'nal i, ac eto 'roedd rhwfun neu rwbeth yn 'y nal i rhag i mi suddo. 'Roedd yr afon yn mynd yn gyflym, a neb ond y fi arni. 'Roeddwn i'n gweld bod y tir o boptu'r afon yn symud yr un ffordd ond nid mor gyflym â'r afon. 'Roeddwn i'n pasio llawer o bobol ar lannau'r afon—rhai yr oeddwn i'n eu 'nabod, ond y rhan fwyaf yn ddiarth i mi. A dyna'r oeddwn i'n synnu ato 'doeddwn i ddim yn colli golwg ar y rhai 'roeddwn i'n eu 'nabod, ond eu bod nhw'n mynd ymhellach oddi wrtha i, ond 'roeddwn i'n colli'r rhai diarth o hyd, a rhai newydd yn dwad yn eu lle nhw. A 'rydw i'n teimlo 'rwan, er 'y mod yn reit effro, fel bydawn ar yr afon,—rhw deimlad fel bydawn i'n mynd o hyd, a 'rydw i'n meddwl, Mr. Huws, mai angau ydi o."

"Dim o'r fath beth, Mrs. Trefor," ebe Enoc, yn gysurol, "'dydi o ddim ond tipyn o wendid. 'Dydi angau ddim yn beth mor hyfryd, mae arnaf ofn, a'r teimlad yr ydech chi yn ei ddisgrifio, Mrs. Trefor."

"Sut y gwyddoch chi, Mr. Huws? achos fedr neb adael ei brofiad ar ôl i ddweud beth ydi angau fel ag i'r byw ei 'nabod. Mae'n rhaid bod y teimlad yn newydd i bawb erbyn y daw ato, a hwyrach ei fod yn hollol wahanol i'r peth y daru ni feddwl ei fod," ebe Mrs. Trefor.

"Yr ydech chi quite yn philosopher, 'mam. 'Chlywes i 'rioed monoch chi'n siarad mor dwt. 'Dydech chi ddim i farw'n siŵr i chi," ebe Miss Trefor.

"Mi glywes dy nain yn deud," ebe Mrs. Trefor, "y bydde rhai pobol fydde dipyn yn ddwl yn ystod eu hoes yn sharpio'n anwêdd cyn marw, a hwyrach 'y mod inne felly. Mae ene rwbeth yn deud wrtha i na choda i ddim o'r gwely 'ma eto. 'Does ene ddim rhw air yn deud, Mr. Huws, am rwfun yn cael ei gymryd ymaith o flaen drygfyd?"

"Oes," ebe Enoc, "fe ddwedir fod y cyfiawn yn cael ei gymryd ymaith o flaen drygfyd. Ond nid oes drygfyd yn debyg o ddigwydd i chwi, Mrs. Trefor. Yr ydech chi'n gryno efo'ch gilydd fel teulu,—mae Rhagluniaeth wedi bod yn dda wrth Capten Trefor,—nid oes gennych le i bryderu am eich amgylchiadau, beth bynnag a ddaw o'r gymdogaeth hon, ac nid oes gennych le i ame daioni Duw yn y dyfodol."

"'Dyden ni ddim wedi byw fel y dylasen ni, Mr. Huws," ebe Mrs. Trefor, "a mae gen i eisio cael deud rhwbeth wrthoch. Mi wn ych bod chi yn ddyn da a chrefyddol. Ac am yr amgylchiade, wel, fe ddaw amgylchiade pawb i'r golwg yn hwyr neu hwyrach. Mae o wedi costio llawer o boen a gofid i mi'n ddiweddar wrth feddwl i mi fod am flynydde yn rhoi rhw bris mawr ar y peth y mae nhw'n 'i alw'n yn respectability—rhw feddwl ein bod ni'n well na phobol erill. Ond 'rydw i'n credu, Mr. Huws, fod Duw wedi madde i mi'r ffolineb, a fedra i byth ddiolch digon fod Susi wedi cael gras i ddiystyru'r lol ddaru mi ddysgu iddi. O diar! O diar! mae gen i gwilydd na wn i ddim be i'w neud wrth feddwl mor wirion fûm i. Wyddoch chi be, mae gen i ofn 'y mod i un amser yn meddwl cymin am fod yn respectable fel bydase'r Gwaredwr Mawr yn dwad i'r byd fel y bu o'r blaen, y buaswn i'n rhy respectable i onio 'mod i'n perthyn iddo. Oes wir. Ond mi gefes drugaredd, 'rydw i'n meddwl. A Susi, yr eneth 'roeddwn i wedi pwnio 'run syniade i'w phen hi, fu'n offeryn i 'nwyn i weld fy ffolineb. Mor fychin ydi'n pethau ni wrth edrach arnyn nhw o ymyl angau.'

Bychain yden ni ein hunain, bawb ohonom, Mrs. Trefor," ebe Enoc, "a mi fyddaf yn meddwl bod Duw yn edrach gyda thosturi maddeugar arnom pan fyddwn yn rhoi pris mor fawr ar bethe mor fychain. Mae Ef yn cofio mai llwch yden ni."

"Ie, ie, Mr. Huws, ond llwch aur a gostiodd waed y Meichiau mawr rhag iddo fynd ar goll. Pa beth a rydd dyn yn gyfnewid am ei enaid? Weles i 'rioed gymaint o werth bod yn gadwedig ag yr ydw i'n 'i weld heddiw, a 'rydw i'n synnu 'y mod i wedi meddwl cyn lleied am hyn, a rhoi cymaint o bris ar bethe darfodedig, a Duw yn ei Air wedi deud mor blaen."

"Nid ydi hynny," ebe Enoc, "ond profi mai pechaduriaid yden ni. Pe basen ni wedi gneud popeth a ddylasen eu gneud, angylion fasen ni, ac nid pechaduriaid. Ac y mae cael golwg glir ar ein colliade yn dangos mai pechaduriaid wedi ein hargyhoeddi yden ni, a mae bod yn feddiannol ar awydd gwirioneddol am fod yn lân yn profi mai pechaduriaid wedi'n hachub yden ni. Nid ydi'r awydd hwn yn codi o'n natur lygredig ni'n hunen—nid ydyw'n cael ei roi ynom gan y byd na chan y diafol, ac felly mae'n rhaid mai oddi wrth Dduw y mae'n dwad. A pha mor chwerw bynnag fyddo'r oruchwyliaeth a'n dygo i'r stad hon o feddwl a theimlo, dylem fod yn ddiolchgar amdani. Os bydd llwyddiant bydol ac iechyd yn peri i ni anghofio Duw a byd arall, dylem weddïo am dlodi ac afiechyd. Ond 'rwyf yn ych 'nabod chi, Mrs. Trefor, ers rhai blynydde bellach, ac yn ych holl lwyddiant bydol a'ch cysuron yr oedd pethau crefydd yn uchaf yn ych meddwl, a 'rwyf lawer tro wedi bod yn cenfigennu at ych ysbryd."

"Pawb ŵyr gwlwm 'i gwd, Mr. Huws bach," ebe Mrs. Trefor. "Wyddoch chi ddim byd am 'y mhechod i. Ond'rwyf yn meddwl y medra i ddeud hyn yn onest—na wn i ddim am adeg yn ystod yr ugen mlynedd diwedda nad oedd gen i ryw gymaint o gariad at Grist a'i achos. Ond mi adewes i'm meddwl ramblo, a mi ymserches mewn pethe y bydde'n gwilydd gen i eu henwi i chi. Ond ers tro, yrwan, 'rydw i wedi ffarwelio â nhw, ac yn meddwl y liciwn i gael mynd o'r hen fyd 'ma, a chael mynd i wlad heb ddim trwbleth, ac y medrwn i fod yn gyfforddus a hapus mewn lle nad oes dim pechod o'i fewn, na dim balchder—dim ond cariad at Grist. Hwyrach 'y mod i'n fy nhwyllo fy hun, ond mi fydda'n meddwl fel ene y dyddie yma.'

"A be sydd i ddwad ohonom ni, mam?" ebe Susi. "Nid dyna'r ffurf ucha ar grefydd, yn ôl 'y meddwl i."

Wel," ebe Mrs. Trefor, "be ydi'r ffurf ucha ar grefydd yn ôl dy feddwl di, Susi? 'Rwyt ti wedi cael rhw ole rhyfedd yn ddiweddar."

"'Dydw i ddim yn credu," atebai Susi, "mai llechian i'r nefoedd, a gadael i bawb arall gymryd eu siawns ydi'r ffurf ucha ar grefydd, os ydw i'n dallt be ydi crefydd."

"Wel, be ydi crefydd, 'y ngeneth i, fel 'rwyt ti yn 'i dallt hi? Mae perygl i ni gamgymryd, a mi wn dy fod di wedi cael gole mawr yn ddiweddar ar bethe crefydd," ebe Mrs. Trefor.

"Naddo, 'mam," ebe Susi, "ches i ddim mwy o ole na phobol eraill, ond 'y mod i, hyd yn ddiweddar, wedi cau fy llygaid rhag ei weld. Fel y gwyddoch, 'mam, myfi fy hun oedd fy mhopeth ar hyd y blynydde—arnaf i fy hun yr oedd fy holl feddwl—byw i 'mhlesio fy hun yr oeddwn ac yn methu. A'r peth yr ydech chi, 'mam, yn 'i alw yn ole'—oedd nad peth felly oedd crefydd, ond rhywbeth hollol wahanol—rhywbeth a barai i mi f'anghofio fy hun yn hollol. Ac yr wyf yn fwy argyhoeddedig bob dydd mai hunan ydi damnedigaeth pawb, ac mai anghofio hunan ydi'r daioni mwya'. 'Rwyf yn ofni—hwyrach fy mod yn methu—fod gormod o hunan mewn pobol dduwiol. Maent beunydd a byth, yn y seiat, yn dweud eu bod yn ofni nad ydynt yn gadwedig yn ofni na chânt byth fynd i'r nefoedd; a chyn gynted ag y teimlant yn symol parod i fynd yno, maent ar frys am gael marw. Gwneud ein dyletswydd heb ofalu dim am y canlyniadau—yn ôl fy meddwl i—ydi'r ffurf ucha ar grefydd. Beth a fynni di i mi ei wneuthur? a ddylai fod ein hymofyniad bob dydd, heb bryderu dim am ein cadwedigaeth na'n colledigaeth—Duw fydd yn penderfynu hynny, ac nid y ni. Mae gen i ofn ein bod yn rhy dueddol i feddwl mwy am ein cadwedigaeth—am fod yn sâff yn y diwedd—nag am wneud ein dyletswydd. Onid hunan wedi cymryd gwisg crefydd ydi peth fel yna? Ydw i ddim yn iawn, Mr. Huws?"

"Yr ydech chi bob amser yn iawn, Miss Trefor," ebe Enoc.

"Na, nid bob amser, Mr. Huws," ebe Susi, "ond 'allai i lai na meddwl fy mod yn iawn ar hyn yna. Yn wir, fe ddaru chi'ch hunan wneud yr un sylw, mewn ffordd arall, wrth Mr. Simon. Ac fe'm trawodd pan oeddech chi'n gneud y sylw—onid llafur enaid Iesu Grist oedd ei hunanymwadiad er mwyn eraill, ac onid dedwyddwch pennaf Iesu Grist ei hun yn awr ydyw ei hunan—ymwadiad a'i ganlyniadau? 'Rwyf wedi darllen yn rhai o'r llyfrau ges i fenthyg gynnoch chi, Mr. Huws, y buase Duw yn dragwyddol ddedwydd ynddo ef ei hun pe na buasai wedi creu un creadur. Tybed 'y mod i'n pechu wrth ddweud 'y mod i'n ame hynny? Ydi o'n rhyfyg ynof ddweud bod hyd yn oed Duw wedi blino arno'i hun, ac mai dyna oedd y rheswm iddo greu?"

"Mae arnaf ofn nad ydech chi ddim yn iawn gyda hynyna, Miss Trefor, ac eto mae rhywbeth yn y peth ydech chi'n 'i ddweud," ebe Enoc.

"Rhaid i chi gofio, Mr. Huws," ebe Susi," mai newydd ddechre meddwl yr ydw i—newydd ddechre pondro ynghylch pethe. Ond a fedrwch chi ddweud wrtha i be wnaeth i Dduw greu o gwbl, os oedd o'n berffaith ddedwydd ynddo ef ei hun?"

"Na fedraf," ebe Enoc. "Mae'ch cwestiwn yn awgrymu bod rhyw deimlad o ddiffyg yn y Bod Mawr cyn iddo greu. Ond y mae'n rhaid i ni gofio bod yn Nuw bob perffeithrwydd, ac ni wiw i ni gymharu ein hymwybyddiaeth ni ag ymwybyddiaeth y Perffaith."

"Yna fe ddaru i'r Perffaith greu yn amherffaith er mwyn—be?" gofynnai Susi.

"Er ei fwyn ei hun, medd y Beibl," ebe Enoc.

Ar hyn torrwyd ar yr ymddiddan gan ymddangosiad Capten Trefor, yr hwn a ddwedodd:

"Wel, be sy'n mynd ymlaen? Tipyn o seiat, mi wranta? Sut mae hi arnoch chi erbyn hyn, Sarah?"

"Pur gwla, Richard, ac oni bai 'mod i'n gwbod fod gynnoch chi gwmpeini, mi faswn yn meddwl ych bod chi'n o ddifeind o honna i," ebe Mrs. Trefor.

"Dyna'r unig reswm, Sarah, ni buasai yn weddus i mi adael Mr. Simon, er bod fy meddwl i gyda chwi yn barhaus, a 'nghalon i yn llosgi eisiau dwad i ddeud y newydd da i chi, a glywsoch ers meityn, mi wn, gan Susi neu Mr. Huws," ebe'r Capten.

"Na, ddaru ni sôn dim, dada, wrth 'y mam," ebe Susi. "'Does bosib!" ebe'r Capten, "eich bod heb ddweud wrth eich mam am yr hyn sydd wedi ein llenwi â llawenydd a gorfoledd heno?

"Beth ydi o, Richard? Oes ene ddiwygiad wedi torri allan? gofynnai Mrs. Trefor.

"Na," ebe'r Capten, "nid newydd o'r natur yna sydd gennym heno; er, mae'n rhaid i mi gyfaddef, fod llwyr angen am ddiwygiad, ac ar neb yn fwy nag arnaf i fy hun, ac, os nad ydwyf yn fy nhwyllo fy hun, fe fuasai'n fwy peth yn fy ngolwg, ac yn fforddio mwy o lawenydd i mi, glywed am ymweliad grymus mewn ystyr grefyddol, na'r llawenydd a gynhyrchwyd yn fy nghalon gan y newydd da a swniodd ar ein clyw ychydig oriau yn ôl, oblegid mae'n rhaid i ni, os bydd ystad y galon a'r ysbryd yn eu lle, roddi'r flaenoriaeth i bethau ysbrydol a chrefyddol, beth bynnag, mewn ffordd o siarad, ydyw"

"Mae Sem Llwyd, 'mam, yn deud ei fod wedi taro ar y faen yng Nghoed Madog—dene'r newydd," ebe Susi.

Edrychodd y Capten yn geryddol ar ei ferch, ond cyn iddo ddweud dim yn gas, cofiodd fod Enoc yno, a lliniarodd ei olwg, ac ychwanegodd Susi:

"Mae hi yn dechre mynd yn hwyr, dada."

"Quite right," ebe'r Capten. "Dyna fo, Sarah, mae Susi wedi dweud y newydd da i chi mewn un gair."

Yr oedd Mrs. Trefor wedi clywed gynifer o weithiau yn ystod ei hoes am "daro ar y faen," fel na ddarfu i'r newydd effeithio rhyw lawer arni, a'r unig beth a ddywedodd oedd, "Ho!"

Cododd Enoc i ffarwelio â Mrs. Trefor, ac i fyned adref. Aeth Miss Trefor i'w ddanfon, gan adael ei thad i ymehangu ar y newydd da i'w mam. Ond nid dyna oedd y peth pwysicaf a fu y noson honno.

PENNOD XXXV

Datguddiad

RHWNG dodi ei het am ei ben, a'i gôt uchaf amdano, a chwilio am ei ffon—pa mor hwyr bynnag ar y nos fydd hi—gall dyn siarad cryn lawer a dweud cryn dipyn o'i feddwl, os bydd hynny ar ei galon. Ac yr oedd Enoc Huws y noson honno wedi ymddiofrydu y dywedai rywbeth o'i feddwl wrth Miss Trefor, hyd yn oed pe buasai farw yn yr ymdrech. Yn wir, yr oedd hyn yn pwyso cymaint ar ei feddwl fel na ddarfu i "newydd da Sem Llwyd" leihau dim ar ei ddwyster. Ebe fe:

"Nid wyf yn meddwl, Miss Trefor, fod llawer o sail i'ch ofnau am eich mam. Mae hi'n siarad yn bert ryfeddol."

"Gobeithio nad oes, Mr. Huws," ebe Susi, "ond y mae gen i presentiment cas na fydd fy mam fyw yn hir. Fedr hi ddim dioddef profedigaethau na dal dim gwynt croes. Fel y gwyddoch, y mae hi wedi cael bywyd esmwyth, ac wedi arfer cael digon o bopeth, ac y mae chydig adfyd yn ei tharo i lawr. Mae'n ddiame eich bod wedi sylwi, Mr. Huws, fod rhai pobol, yn enwedig merched, yn disgwyl i fywyd fod yn dywydd teg o hyd, ac, fel y gwenoliaid, pan welant y gaeaf yn nesáu, maent yn dechrau taclu eu hedyn i fynd i ryw wlad gynhesach. Un o'r rheini ydi mam, fel y gwelsoch heno. Pan fo'r byd heb fod wrth ei bodd, y mae yn gollwng ei gafael ohono fel pe bai yn haearn poeth, ac y mae'n hiraethu, mi wn, yrwan, am gael mynd i'r nefoedd, a 'rydw i'n meddwl y caiff hi fynd yno ryw ddydd, oblegid mi wn ei bod yn caru Iesu Grist. Ond yr ydw i'n meddwl 'y mod i fy hun wedi dysgu cymaint â hyn, yn ddiweddar, beth bynnag, sef na ddysges i ddim nes i mi ddysgu dioddef, a diodde'n ddistaw."

"'Wybûm i ddim, Miss Trefor," ebe Enoc, "eich bod wedi dioddef—'roeddwn bob amser yn meddwl eich bod yn berffaith iach."

"Ac felly 'rydw i," ebe Miss Trefor. "Ond yr ydech chi'n cofio dwediad Gurnal? Mi wn innau rywbeth am ddioddefiadau enaid. 'Rwyf wedi diodde tipyn o'ch achos chi, Mr. Huws."

"O'm hachos i, Miss Trefor?" ebe Enoc mewn syndod, a daeth mil o feddyliau i'w galon.

"Ie," ebe hi. "Mi wn eich bod yn gwario llawer o arian yn barhaus ar Waith Coed Madog, ac mai 'nhad sydd yn eich perswadio i neud hynny. Ac er i chi fod yn gyfoethog, mae'n hawdd iawn i chi, mewn amser, wario'r cwbl sy gynnoch chi ar waith mine a heb gael dim yn ôl, fel y daru Hugh Bryan, druan, ac fel y mae Mr. Denman agos â gneud. A fedra i ddim bod yn dawel, Mr. Huws, heb eich rhoi chi ar eich gwyliadwriaeth. Peth ofnadwy ydyw i ddyn, ar ôl iddo weithio'n galed a hel tipyn o'i gwmpas, ac ennill safle barchus ymhlith ei gymdogion, ac wedyn, yn y diwedd, golli'r cwbwl a mynd yn dlawd. 'Rwyf yn 'nabod rhai felly, a 'rydech chithe, Mr. Huws, yn eu 'nabod nhw."

"Mae arnaf ofn, Miss Trefor," ebe Enoc, "eich bod mewn tymer brudd heno, a'ch bod wedi anghofio'r newydd a gawsom gan Sem Llwyd."

"Na," ebe Susi, "'dydw i ddim wedi anghofio newydd Sem Llwyd; ac os ydi o'n wir, 'rwyf yn llawenhau er mwyn 'y nhad a chithe a Mr. Denman. Ond peidiwch â rhoi llawer o bwys arno—'rwyf wedi clywed llawer o newyddion tebyg a dim byd yn dwad ohonynt. Cymerwch ofal, Mr. Huws. Goddefwch i mi ofyn i chi faint ydech chi wedi 'i wario'n barod ar Goed Madog, os gwyddoch chi?"

"O, rhywbeth fel tri chant o bunnau, 'rwyf yn meddwl," ebe Enoc.

"Gwarchod pawb! 'roeddwn yn ofni hynny," ebe Miss Trefor.

"Ond 'dydw i ddim ond un o dri, Miss Trefor," ebe Enoc.

"Ie," ebe hi, "yr un o'r tri sydd yn 'morol am yr arian—y chi, Mr. Huws, ydi'r banc."

"Nid wyf yn dallt ych meddwl, Miss Trefor," ebe Enoc.

"Fy meddwl ydi hyn, Mr. Huws," ebe hi, "ac mae'n rhaid i mi gael ei ddweud—fedra i ddim bod yn dawel 'y nghydwybod heb ei ddweud—mai chi sydd yn ffeindio'r arian ac mai 'nhad sydd yn 'u gwario nhw, achos 'does gan 'y nhad yr un bunt o'i eiddo'i hun i'w gwario."

"Rydech chi'n 'smalio, Miss Trefor," ebe Enoc.

"Fûm i 'rioed yn fwy difrifol, Mr. Huws," ebe Susi. Yr oeddwn yn ofni o hyd eich bod yn credu ein bod yn gyfoethog, ond y gwir ydyw ein bod yn dlawd—ac yn dlawd iawn, a dyna, mi wn, sydd yn lladd 'y mam. Yr yden ni am flynydde wedi byw mewn llawnder a moethau, ond er pan stopiodd Pwll y Gwynt yr yden ni'n dlawd, ac erbyn hyn, mae gen i ofn ein bod ni'n byw ar eich arian chi, Mr. Huws. 'Does gen i ddim idea faint y mae Mr. Denman wedi 'i wario er pan gychwynnodd Coed Madog, ond mi wn hyn—na wariodd 'y nhad ddim, achos 'doedd ganddo ddim i'w wario. Fedrwn i ddim bod yn dawel 'y nghydwybod heb gael dweud y cwbwl i chi, Mr. Huws. A chyda golwg ar newydd da Sem Llwyd, 'does gen i ond gobeithio ei fod yn wir er eich mwyn chi. Ond 'dydw i'n rhoi dim pwys ar yr hyn a ddywed Sem. Mae o wedi dweud llawer o bethau tebyg o'r blaen, a'r cwbwl yn troi'n ddim yn y byd."

"Miss Trefor," ebe Enoc, wedi ei hanner syfrdanu, "yr ydech chi'n 'smalio—dydech chi ddim yn meddwl deud wrtha i nad ydi'ch tad yn dda arno?"

"Mae fy nghalon yn rhy brudd i 'smalio, Mr. Huws," ebe Miss Trefor, "nid yn unig nid yw fy nhad yn dda arno, ond y mae mewn dyled, ac os na ddaw gwawr o rywle, wela i, ar hyn o bryd, ddim gobaith iddo allu talu ei ddyled. Ond 'dydi'r ffaith ein bod ni ein hunain yn dlawd, ddim yn ddigon o reswm dros i ni wneud eraill yn dlawd. 'Rwyf agos yn sicr na fydd fy mam fyw yn hir,—fedr hi ddim dal tlodi. Be sydd o'm blaen i, 'wn i ddim; ond 'rwyf yn benderfynol na byddaf byw ar dwyll a rhagrith, deued a ddelo. Os try Coed Madog allan yn dda, mi ddiolchaf i Dduw am hynny; ond os fel arall, wel, wn i ddim be ddaw ohonon ni. 'Rwyf yn gwybod o'r gore eich bod wedi ymddiried y cwbwl i 'nhad, a dyma finne wedi deud y cwbwl wrthoch chi, ac yr oeddwn wedi bwriadu ei ddeud ers wythnosau, ond fy mod yn methu torri trwodd. Chi wyddoch 'rwan sut mae pethe'n sefyll, ond bydae 'nhad yn gwybod 'y mod i wedi deud hyn wrthoch chi, fydde fychan ganddo fy mwrdro."

"'Rydech chi wedi fy synnu, Miss Trefor, ac eto 'rwyf yn teimlo'n llawen," ebe Enoc, â'i wyneb yn eglur ddangos ei fod yn dweud y gwir o'i galon.

"Yn llawen, Mr. Huws? Ydi clywed ein bod yn dlawd yn fforddio llawenydd i chi? Syr, 'dydech chi ddim y dyn ddaru mi feddwl ych bod," ebe Miss Trefor yn gynhyrfus.

"Hwyrach hynny," ebe Enoc, "ond mi obeithiaf y cewch fi yn well dyn nag y daru chi 'rioed synio amdanaf. Fe allai ei fod yn ymddangos yn greulon ynof ddweud, ond, mewn ystyr, mae'n dda iawn gennyf ddeall eich bod yn dlawd, os ydech chi'n dlawd hefyd."

Nid atebodd Miss Trefor air, ond gydag ysgorn dirmygus ei hwyneb, cyfeiriodd tua'r drws. Cyrhaeddodd Enoc y drws o'i blaen, a chan ei gau a gosod ei gefn arno, ebe fe:

"Arhoswch i mi f'esbonio fy hun."

"Nid oes angen i chi neud hynny," ebe Miss Trefor, 'rwyf yn gweld trwoch fel trwy ffenest. 'Roeddech chi, mi wn, yn credu bob amser ein bod yn weddol dda arnom, 'rydech chi'n cofio'n dda fel y bydde 'nhad yn ych patroneisio, ac fel y byddwn inne, yn fy ffolineb, yn ych dibrisio; ond,' meddwch 'rwan, mae'r byrdde wedi troi—mae 'nhro inne wedi dwad—mi wna iddyn nhw newid eu tôn. Wel, mae hynny yn eitha naturiol— 'dydi o ddim ond y peth yr yden ni'n 'i haeddu am ein hymbygoliaeth, ond y mae, Mr. Huws, yn dro sâl mewn dyn fel chi. 'Roeddwn i wedi disgwyl am eich cydymdeimlad—a 'doeddwn i ddim chwaith—achos f'amcan—f'unig amcan—yn dweud wrthoch am sefyllfa fy nhad oedd eich lles chi eich hun,—eich rhoi ar eich gwyliadwriaeth rhag i chi ddwad i'r un sefyllfa eich hunan. Bydaswn i yn hunanol, mi fuaswn yn ych gadel yn y twllwch. Ond cymerwch eich fling. 'Rwyf yn meddwl fy mod yn ofni Duw, ond 'dydw i'n hidio 'run botwm am opiniwn nac ysgorn un dyn ar wyneb y ddaear. Gadewch i mi fynd, Mr. Huws, os gwelwch yn dda."

"Nid cyn y byddwch mewn gwell tymer," ebe Enoc. "Gyda'ch holl insight, ac er mor graff ydech chi, 'rydech chi wedi cam—"

"Susi? Lle'r ydech chi, 'ngeneth i?" gwaeddai Capten Trefor wrth ddyfod i lawr y grisiau, ac ychwanegai, "Mae ar ych mam ych eisie, Susi."

Er bod rheg yn beth hollol ddieithr i Enoc, aeth rhywbeth tebyg i reg trwy ei fynwes pan glywodd lais y Capten, a phan ysgubodd Susi heibio iddo heb gymaint â dweud "nos dawch" wrtho.

"Holo, Mr. Huws," ebe'r Capten, "'roeddwn yn meddwl eich bod wedi mynd adref ers meityn, ond pobl ifainc ydyw pobl ifainc o hyd. 'Rydw innau'n cofio'r amser, syr, ha! ha! ha! Arhoswch, Mr. Huws, hidiwn i ddim byd a dwad i'ch danfon adref,—mae arnaf eisiau tipyn o awyr iach."

Teimlai Enoc yn flin iawn ei ysbryd, fel y cymerai'r Capten afael yn ei fraich gan ei arwain tuag adref. Gallasai sylwedydd craff ganfod fod gwir angen ar y Capten am gymorth braich Enoc, canys nid oedd yn cerdded lawn mor hysaf ag arfer, ond ef ei hun fuasai yr olaf i gydnabod hynny, ac Enoc fuasai'r olaf o bawb i ganfod hynny, yn enwedig pan oedd ei feddwl bron yn hollol gyda Miss Trefor. Er hynny, yr oedd y Capten yng nghanol ei gof, a'i feddwl cyn gliried â phe na phrofasai ddiferyn o wisgi.

PENNOD XXXVI

Capten Trefor

WEDI i'r Capten ac Enoc gyrraedd y ffordd fawr, ebe'r blaenaf:

"Yr wyf yn cofio, Mr. Huws, pan oeddwn dipyn iau nag wyf yn awr, y byddwn yn cael difyrrwch nid bychan wrth gerdded allan yn nhrymder y nos ar fy mhen fy hun, pan fyddai trwst y byd a masnach wedi distewi, a dim yn bod, mewn ffordd o siarad, i aflonyddu ar fy myfyrdodau. I un o duedd fyfyrgar, fel fy hunan, mewn ffordd o siarad, nid oes dim yn fwy hyfryd i'r teimlad, nac, yn wir, yn fwy llesol i'r enaid, na thro wedi bo nos, pryd y gall dyn, mewn dull o ddweud, ymddiosg oddi wrth bob gofalon a thrafferthion bydol ac ymollwng, megis, i gymundeb â natur fel y mae, yn ôl fy syniad i, yn fwy impressive yn y nos,—nid oes gair Cymraeg yn 'i gynnig ei hun i mi ar y foment—yn fwy impressive, meddaf. Hynny ydyw, mi fyddaf yn meddwl—hwyrach fy mod yn camgymryd ond yr wyf yn wastad yn agored i gael f'argyhoeddi mi fyddaf yn meddwl, meddaf, fod yn haws yn y nos, yn enwedig ar noson dawel fel heno, i'r ysbryd, megis yn ddiarwybod, ymlithro i fyfyrdod ar bethau ysbrydol a thragwyddol. Y ffaith ydyw, Mr. Huws, mae fy meddwl, fel y gwyddoch, wedi ei gymryd i fyny mor llwyr, yn ddiweddar, gyda phethau daearol a darfodedig, fel yr wyf yn teimlo angen mewnol, a hwnnw yn ddwfn, am seibiant, pe na byddai ond hanner awr, i ymollwng, fel y dwedais, i fyfyrdodau cwbl wahanol o ran eu natur, ac yn fwy felly, yn gymaint â'm bod, fel y gwyddoch, newydd ddyfod oddi wrth glaf wely fy ngwraig, a'm bod, i ryw raddau, o leiaf, wedi fy nwyn i deimlo gwagedd pethau'r byd a'r bywyd hwn, hynny ydyw, o'u cymharu â phethau tragwyddol. Ar adegau, Mr. Huws, mi fyddaf yn meddwl—oni bai fod yr hen fyd yma wedi bod mor greulon wrthyf, a chymryd, bron, fy holl amser, er bod yn rhaid i rywrai fod gyda'r byd—mi fyddaf yn meddwl, meddaf, mai yn ffilosoffydd y bwriadwyd fi. Oblegid, cyn gynted ag y caf ddeng munud o hamdden oddi wrth orchwylion bydol, bydd fy myfyrdodau yn rhedeg ar ôl y pethau mawr—pethau'r enaid. Ond hwyrach fy mod yn camgymryd."

"Yn ddiame," ebe Enoc, oblegid nid oedd yn gwrando ond ychydig, ac yn deall llai o'r hyn a ddwedai'r Capten. Ac nid oedd y Capten heb ganfod bod meddwl Enoc yn rhywle arall, ac er mwyn ei ddwyn gartref, ebe fe:

"Beth ydyw eich syniad, erbyn hyn, Mr. Huws, am ein gweinidog—Mr. Simon?"

"Fy syniad yw ei fod yn gerddor gweddol," ebe Enoc. "Ie, ond beth yr ydech yn ei feddwl ohono fel gweinidog?" gofynnai'r Capten.

"Wn i ddim a ydw i'n abl i roi barn," ebe Enoc. "Ac yn wir, 'dydi o ddim yn waith hoff gen i farnu dynion, yn enwedig pregethwyr. 'Na ddywed yn ddrwg yn erbyn pennaeth dy bobl.' Mae rhyw air tebyg yn rhywle. Ond gan eich bod yn gofyn, mi ddwedaf wrthoch chi—nid fy marn, ond fy nheimlad, wrth gwrs, ac ni fynnwn i chi wneud un defnydd ohono, oblegid ni fynnwn er dim greu rhagfarn yn ei erbyn. Ond fy nheimlad, o'r dechre, ydyw nad oes gan Mr. Simon ddim dylanwad ysbrydol arnaf—dim i ddyrchafu fy syniadau am bethau crefyddol—dim i gynhesu fy nghalon at Grist. 'Dydw i ddim yn teimlo bod ei bregethau, na'i anerchiadau yn y seiat, na'i ymddiddanion mewn cwmni, yn gwrthweithio dim ar y dylanwad sydd gan y byd a masnach i fferru teimladau dyn. A buase yn haws gen i fadde hyn iddo pe buasai'n goleuo rhyw gymaint ar fy neall, ond, yn wir, 'dydw i byth yn teimlo damed gwell o'i herwydd. Mae rhyw syniad gennyf y dylai gweinidog yr Efengyl ddiddyfnu tipyn ar ddyn oddi wrth y byd, a gwneud pethau crefydd a byd arall yn fwy dymunol yn ei olwg. Ni theimlais i erioed felly dan weinidogaeth nac yng nghwmni Mr. Simon. Ond yr wyf yn barod iawn i gydnabod y gall mai ynof fi fy hun y mae'r diffyg."

"Mr. Huws," ebe'r Capten, " yr ydech yn f'argyhoeddi fwy—fwy bob dydd eich bod wedi'ch cynysgaeddu â thalent neilltuol i adnabod cymeriadau, a hynny, megis ar drawiad. Wrth fynegi'ch barn—neu fel y mynnech chwi ei osod, eich teimlad—yr ydech wedi rhoi mynegiad i 'nheimlad innau hefyd, er, hwyrach, na allaswn ei ddangos mor gryno ac mewn cyn lleied o eiriau, oblegid yr ydech, mewn ffordd o siarad, wedi ffotograffio cymeriad Mr. Simon fel y gallaf ei adnabod ar unwaith."

"Nid wyf yn siŵr am hynny," ebe Enoc, "na'm bod wedi gwneud chware teg â Mr. Simon, oblegid, a dweud y gwir i chi, mae gen i ragfarn o'r dechre yn ei erbyn. Ond gallaf ddweud yn onest o waelod fy nghalon fy mod yn gobeithio fy mod yn meddwl yn rhy isel ohono, a'i fod yn llawer gwell ac amgenach dyn nag yr ydw i wedi arfer meddwl ei fod."

"Syr," ebe'r Capten, "ni ddaw rhagfarn o'r pridd mwy na chystudd—mae'n rhaid bod rhyw reswm am eich rhagfarn, rywbeth ddarfu ei achosi. Yr wyf yn credu—cewch fy nghywiro os wyf yn camgymryd—mai'r rheswm am ragfarn, mewn dynion goleuedig, wrth gwrs, ydyw eu bod yn feddiannol, er yn anymwybodol, ar ryw ysbryd proffwydol sydd yn eu galluogi i ffurfio syniad cywir am alluoedd a chymeriad dyn cyn cael y cyfleusterau y bydd dynion cyffredin yn ffurfio barn wrthynt. Nid yw'r gallu hwn yn eiddo i bawb. Na, syr, mae arnaf ofn eich bod gyda llawer o ledneisrwydd mi addefaf—wedi gosod allan, mewn byr eiriau, wir gymeriad Mr. Simon, ac, os ydwyf wedi cymryd i mewn gyda graddau o gywirdeb wir ystyr eich geiriau, eich syniad—neu eich teimlad ydyw hyn—nad ydyw Mr. Simon—fel yr arferai'r hen Abel Huws ddweud—coffa da amdano —nad ydyw Mr. Simon, meddaf, wedi profi'r pethau mawr, neu, mewn geiriau eraill, ei fod yn fwy o ddyn y byd hwn na'r byd a ddaw."

"Dyna fy nheimlad, ond gobeithio fy mod yn methu," ebe Enoc.

"Mae arnaf ofn, syr," ebe'r Capten, eich bod gyda hyn, fel gyda phopeth arall, wedi taro'r hoel ar ei phen, ac yr wyf yn fwy argyhoeddedig o hyn yn gymaint â bod Susi acw wedi awgrymu fwy nag unwaith syniadau cyffelyb. Yn wir, yr ydech fel pe byddech wedi bod yn cynnal cyngor ar achos y gŵr gan mor debyg ydyw'ch syniadau."

"Ni chefais ddim ymddiddan â Miss Trefor, hyd yr wyf yn cofio, ynghylch Mr. Simon," ebe Enoc.

"Nid yw hynny," ebe'r Capten, " ond yn profi'ch bod yn dra thebyg o ran cyfansoddiad meddwl, a gallaf eich sicrhau, syr, nad un yw Susi i gadw ei llygad yn gaead. Ond goddefwch i mi ofyn hyn—a oes gennych le i gredu fod gan Mr. Simon eiddo? Mae ei ymddangosiad yn peri i mi feddwl bod ganddo rywbeth mwy wrth ei gefn na'r tipyn cyflog y mae yn ei gael gennym ni, ac yr wyf yn meddwl ei fod wedi awgrymu wrthyf fwy nag unwaith ei fod o deulu da, ac yr oedd Susi yn dweud wrthyf na chostiodd y fodrwy sydd ganddo ar ei fys lai na deg punt. Fy rheswm dros ofyn y cwestiwn i chwi ydyw hyn—yr oeddwn braidd yn meddwl ar olwg Mr. Simon heno ei fod yn cymryd cryn ddiddordeb yng ngwaith Coed Madog, ac na fuasai ganddo wrthwynebiad, pe buasem yn gofyn iddo gymryd shares yn y Gwaith. Beth ydyw'ch syniad chwi?"

'Dydw i'n gwybod dim am sefyllfa fydol Mr. Simon," ebe Enoc, "ond prin y buaswn yn meddwl bod ganddo eiddo. Mae gweinidogion dan ryw fath o angenrheidrwydd i wisgo'n dda, ac i ymddangos yn respectable. Mi welais cyn hyn ambell bregethwr ifanc yn cychwyn i'w daith ar ddydd Sadwrn mor drwsiadus ag un gŵr bonheddig yn y wlad, ac fel yr oedd y gwaethaf, heb fwy na cheiniog a dimai ar ei elw wedi talu am docyn ei drên, a phe digwyddasai i'r blaenor lle y pregethai anghofio rhoi'r degwm iddo, buasai raid iddo gerdded yr holl ffordd adre neu fenthyca arian. A hyd yn oed pe buasem yn siŵr fod gan Mr. Simon arian wrth ei gefn, prin yr wyf yn meddwl y buasai yn ddoeth gofyn iddo gymryd shares yng Nghoed Madog. Mwy priodol fuasai ei annog i gloddio a myned yn ddwfn i bethau'r Beibl, nag i gloddio am blwm, fel chwi a minnau. Ac, yn wir, 'dydw i ddim yn credu y bydd arhosiad Mr. Simon yn hir yn Bethel. Mae o eisoes yn ymddangos i mi wedi mynd trwy ei stoc, ac yn ailadrodd pethau ers tro. Ond hwyrach mai fy rhagfarn i yn erbyn y dyn ydi hyn i gyd."

"Wyddoch chi beth, Mr. Huws?" ebe'r Capten, mi rown lawer am eich gallu i adnabod cymeriadau. Yr wyf yn meddwl y byddai yn amhosibl i'r un dyn yn y byd gael yr ochr ddall i chwi—yr ydech fel—fel yr anifail, onid e?—y mae'r Ysgrythur yn sôn amdano yn llawn llygaid—a 'does ryfedd yn y byd eich bod wedi llwyddo cymaint. Rhaid i mi ofyn eich maddeuant—achos 'doedd o ond tipyn o ysmaldod—mi dries dipyn o dric arnoch, ond fasai waeth i mi heb, ac nid yw'n bosibl, fel y dywedais, ddwad o hyd i'r ochr ddall i chwi. Y gwir ydyw hyn yr oeddwn yn sylwi eich bod yn canfod bod Mr. Simon yn cymryd diddordeb mawr yn newydd da Sem Llwyd, ac yr oeddwn yn ofni yn fy nghalon. i chwi, yn ddifeddwl, ofyn iddo gymryd shares, ond mi welaf, ac mi ddylaswn wybod, nad oedd raid i mi ofni. Nid pregethwyr na phersoniaid ydyw'r bobl i ni, Mr. Huws. Yn wir, pwy bynnag gymerwn yn bartneriaid, —os cymerwn rywrai o gwbl,—bydd raid iddynt—yrwan wedi i ni ddarganfod y plwm—ystyried ein bod yn gwneud ffafr fawr â hwynt—fe allwn fforddio bod yn independent, syr, a dweud wrthynt os nad ydynt yn fodlon i roddi hyn a hyn o arian i lawr, a ninnau wedi profi bod plwm yng Nghoed Madog,—ni allwn ddweud, meddaf, wel, peidiwch, ni fedrwn wneud heboch, a hynny'n burion. Wyddoch chi beth? mae 'n dda gennyf ein bod wedi taro ar y faen, er mwyn Denman, druan, oblegid, rhyngoch chwi a fi, mae arnaf ofn ei fod wedi gwario agos gymaint sy ganddo."

"Mae'n wir ddrwg gen i glywed hynny, ond tybed na chaiff o'r cwbl yn ôl ryw ddiwrnod," ebe Enoc.

"Y cwbl yn ôl, syr? Caiff, fel y cawn ninnau, a llawer ychwaneg," ebe'r Capten, ac ychwanegodd, "Ond dyma ni yn awr wedi dwad at eich palatial residence a noble residence ydyw mewn gwirionedd. A chymryd y tŷ a'r siop efo'i gilydd, nid llawer o rai gwell sydd, os oes un, yn y dref, yn ôl fy meddwl i. Ond dyna'r oeddwn yn cychwyn ei ddweud—oni bai fod fy llygaid wedi syrthio ar eich tŷ ardderchog—dyna'r oeddwn yn mynd i'w ddweud,—fy mod am ofyn cymwynas gennych, ac nid peth arferol, fel y gwyddoch, ydyw hynny i mi. Yn wir, yr wyf wedi gofyn cyn lleied o gymwynasau fel yr wyf yn teimlo'n bur anfedrus gyda'r gwaith. Ond dyna'r oeddwn yn mynd i'w ddweud—chwi wyddoch ein bod wedi gwario tipyn ar Goed Madog, er nad oes un geiniog wedi ei gwastraffu. Hwyrach y dylaswn fod wedi eich cymryd, Mr. Huws, i'm cyfrinach deuluol cyn hyn, ond tipyn yn glos yr wyf wedi arfer bod,—yn wir, ni ŵyr fy nheulu ond ychydig am f'amgylchiadau. Yr wyf ar fai, mi wn. Ond y ffaith ydyw, fod yr ychydig arian a gesglais yn ystod blynyddoedd fy llafur—a llafur nid bychan ydyw wedi bod, fel y gwyddoch, wedi eu suddo mewn lle diogel, oblegid yr oeddwn bob amser yn ceisio cofio am fy nheulu. Peidiwch ag agor y drws, Mr. Huws, cyn i mi orffen fy stori,—yr oeddwn bob amser yn ceisio cofio am fy nheulu, meddaf, ac yn ceisio paratoi ar eu cyfer, pe digwyddasai i Ragluniaeth ddoeth fy nghymryd i ymaith yn sydyn, fel na fyddai raid iddynt, wedi i mi fynd, ddibynnu ar na phlwy na pherson. Yr wyf, erbyn hyn, braidd yn ofni i mi fod yn rhy ofalus am y dyfodol, ond, ar yr un pryd, nid wyf yn awr yn teimlo'n barod iawn i aflonyddu ar yr hyn a wnes. Wel, y canlyniad ydyw, fel y gallech gasglu, nad oes gennyf erbyn hyn lawer o arian wrth law, a mi a'i hystyriwn yn gymwynas—yn gymwynas fawr iawn—pe gallech, heb achosi dim anghyfleustra i chwi eich hun, roddi benthyg can punt i mi—nid i gario'r Gwaith ymlaen, deallwch, ond i mi yn bersonol, oblegid y mae gennyf dipyn wrth gefn i gario'r Gwaith ymlaen, ond yr wyf yn gofyn am hyn fel ffafr, i'r diben fod gennyf, fel y dywedais, heb aflonyddu ar bethau eraill, dipyn o arian yn tŷ, achos y mae arnaf ofn iddynt gredu fy mod yn dlawd, ac ym—ollwng yn eu hysbryd acw. Rhoddaf i chwi fy I.O.U., a chewch hwy yn ôl gydag interest ymhen mis, dau, tri, pedwar, neu flwyddyn—just yn ôl y ffordd y penderfynaf alw pethau i mewn. Ni buaswn yn beiddio gofyn y ffafr hon—yn wir, yr oeddwn wedi penderfynu galw rhyw bethau i mewn—oni bai am y newydd da a gawsom heno gan Sem Llwyd."

"Cewch yn eno dyn, â chroeso; dowch i mewn, syr," ebe Enoc, ac i mewn yr aethant. "Gwarchod pawb! 'does yma ond twllwch yr Aifft," ychwanegai Enoc wedi agor y drws, ac ni ddywedai ef lawer o ormodiaith, oblegid yr oedd Marged wedi diffodd y gas, a gadael i'r tân fynd yn isel yn y grât, ac yn ôl pob golwg, wedi mynd i'r gwely ers meityn.

"Mae'n ddrwg gen i," ebe Enoc wrth danio'r gas, "eich dwyn i le mor anghyfforddus, ond gwelwch sut fyd sydd ar hen lanc."

"Just so," ebe'r Capten, "ond pwy sy gyfrifol? Mae'n ymddangos i mi, Mr. Huws, eich bod yn hoffi'r trueni fel yr oedd Diogenes yn hoffi ei dwb, oblegid mi wn—nid wyf yn tybied, ond mi wn—y gallech yn y fath gartref ac yn y fath sefyllfa, dim ond wrth godi eich bys bach, swyno'r ferch ieuanc orau a phrydferthaf yn y plwyf i gynhesu a dedwyddoli eich aelwyd. Self-imposed misery ydyw'r eiddoch chwi, Mr. Huws."

"Wn i beth am hynny," ebe Enoc, "ond mi wnaf y cheque i chwi 'rwan, Capten Trefor."

"Os nad ydyw yn rhyw wahaniaeth i chwi, Mr. Huws," ebe'r Capten, "byddai yn well gennyf eu cael mewn aur neu notes, ond peidiwch ag achosi dim anghyfleustra" i chi'ch hun. Ond chwi wyddoch, Mr. Huws, fel y mae gan foch bychain glustiau mawr, felly y mae gan rai bankers bychain lygaid mawr; ond fel y mae fwyaf cyfleus i chwi."

"'Rwyf yn meddwl y gallaf eu rhoi i chi mewn notes," ebe Enoc.

"Very good," ebe'r Capten, "ond arhoswch—ydech chi ddim yn peri rhyw anghyfleustra i chwi'ch hun wrth wneud hynny?"

"Dim o gwbl," ebe Enoc wrth fynd i'r offis i gyrchu'r nodau, a thra bu ef yn yr offis edrychai'r Capten yn foddhaus i'r tân—hynny o dân oedd yno, gan chwibanu yn isel yr hen dôn "Diniweidrwydd."

Daeth Enoc yn ôl gyda'r papurau, gan eu gosod bob yn un ac un ar y bwrdd, a chymerodd y Capten hwynt yn rasol, gan eu dodi yn ofalus yn ei logell—lyfr.

"Diolch i chwi, syr," meddai, "os byddwch mor garedig â rhoi i mi fymryn o bapur a phin ac inc, mi roddaf i chwi gydnabyddiaeth amdanynt, Mr. Huws."

"Na hidiwch," ebe Enoc.

"Na, syr, busnes ydyw busnes," ebe'r Capten, "er, rhaid cyfaddef, nad ydyw peth felly ond amddiffyniad i ddyn gonest rhag ystrywiau dyn anonest, ac nid ydyw'n anhepgor, mewn ffordd o siarad, rhwng pobl o gymeriad. Ar yr un pryd,—wel, mi gofiaf am y peth yfory. Ac yn awr, Mr. Huws, wrth edrych ar y cloc yna mae'r gair hwnnw'n dwad i'm meddwl,—tempus fugit, ac er mwyn cadw gweddusrwydd, mae'n rhaid i mi ddychwelyd, er y buasai yn dda gennyf gael parhau'r gymdeithas."

"A gaf i ddwad i'ch danfon adre, syr," gofynnai Enoc.

"Na chewch, Mr. Huws," ebe'r Capten, "nid am na fuasai'n dda gennyf am eich cwmni, ond chwi wyddoch, yn ein hamgylchiadau presennol, pe deuech, mai llithro a wnaem i ymddiddan am v byd a'i bethau, ac y mae gennyf innau, fel yr awgrymais gynnau, eisiau ychydig funudau o seibiant ar fy mhen fy hun i feddwl a myfyrio, os gallaf, am bethau uwch. Ond diolch i chwi, Mr. Huws, yr un fath."

Wedi ysgwyd dwylo yn garedig, aeth y Capten ymaith yn hollol fodlon ar lwyddiant ei neges.

PENNOD XXXVII

Adeiladu Cestyll

WEDI ei adael ei hunan, tynnodd Enoc ei gadair at y mymryn tân oedd yn y grât—llwythodd a thaniodd ei bibell, ac fe'i gosododd ei hun yn yr agwedd gorfforol fwyaf manteisio i adolygu'r holl sefyllfa. Ond rhaid i mi ei adael yn ei fyfyrdodau am ychydig amser.

Ni ddarfu i'r Capten Trefor ond rhoi prawf arall at brofion dirifedi a gafwyd o'r blaen o'i adnabyddiaeth o'r natur ddynol, pan ddywedodd, wrth weled Mr. Denman yn troi adref mor gynnar ar ôl y swper y noswaith honno yn Nhŷ'n yr Ardd, mai brys oedd arno am gael dweud y "newydd da" i Mrs. Denman. Dyna oedd y ffaith. Hon oedd y noson hapusaf a brofasai Mr. Denman ers llawer o amser. Y creadur! mewn ffydd ddiffuant yng ngalluoedd, rhagwelediad, a gonestrwydd y Capten Trefor, yr oedd ef wedi fforffedu'r cwbl oedd ar ei helw, a hynny megis am y pared â'r wraig, oblegid er ei bod hi yn dyfalu ei fod wedi gwario wmbredd ar weithydd mwyn, ni ddychmygai fod y cwbl wedi mynd "i lawr siafft gwaith mein," chwedl Thomas Bartley. Rhwng Pwll y Gwynt a Choed Madog, byd truenus iawn a gawsai Mr. Denman er ys talm. Yr oedd gan y Capten ddylanwad swyn gyfareddwr arno. Cofiai Mr. Denman amser pryd yr oedd ganddo ychydig dai, ychydig diroedd a thipyn o arian, a phryd y golygai ei fod mewn sefyllfa led glyd. Ond erbyn hyn, yr oedd y cwbl, bron, wedi mynd drwy ddwylo'r Capten a'u claddu ym mherfeddion y ddaear heb obaith atgyfodiad. A mwyaf a wariai mwyaf anodd oedd rhoi heibio i "fentro," oblegid ni chlybuwyd erioed am neb wedi dyfod i " blwm mawr" ond y rheini oedd yn mentro, ac mewn gobaith am "lwc," y toddodd eiddo Mr. Denman fel iâ ar lechen yng ngwres yr haul. Heblaw hynny, yr oedd Mr. Denman wedi dioddef am flynyddoedd rinc feunyddiol ei wraig, oedd yn ei fyddaru ac yn ei boenydio â'i hedliwiadau am ei ffolineb yn cario ei arian "i'r hen Gapten y felltith ene." Yr oedd hyn wedi dinistrio ei gysur teuluaidd, a rhawg cyn i Bwll y Gwynt sefyll, yr oedd Mr. Denman wedi peidio â chymryd ei wraig i'w gyfrinach, ac yr oedd yn byw mewn arswyd beunyddiol rhag iddi ddyfod i ddeall gymaint yr oedd wedi ei wario, a chyn lleied oedd ganddo o'r hyn a allai ei alw yn eiddo iddo ef ei hun. Pe gwelsai ef ei ffordd yn glir i ddyfod dros yr helynt o ddatguddio ei sefyllfa i Mrs. Denman, buasai yn eithaf bodlon i daflu'r cwbl i fyny ac ail ddechrau byw. Dyfeisiai ddydd a nos pa fodd y gallai fynd dros y garw a dweud y gwaethaf wrth ei wraig, ac yr oedd y peth yn dyfod i bwyso yn drymach arno bob dydd am ei fod yn gweld yn eglur y byddai raid i'r terfyn ddyfod yn y man. Teimlai fod cadw hyn i gyd yn ei fynwes ei hun yn ei nychu ac yn ei fwyta ymaith yn raddol, a mynych y dywedai ei gymdogion fod Mr. Denman yn heneiddio yn dost. Ychydig a wyddent hwy am ei bryderon a'i ofnau.

Ond ffordd hir yw honno na bo tro ynddi, a'r noson yr wyf wedi bod yn sôn amdani—wedi clywed newydd da Sem Llwyd, yr oedd gwên foddhaus ar wyneb Mr. Denman a'i ysbryd wedi bywiogi drwyddo. Prin y buasai neb yn adnabod ei gerddediad pan gyfeiriai'n gyflym tuag adref. Cerddai fel llanc. A pha ryfedd? canys, fel pererin Bunyan, yr oedd y baich oedd agos a'i lethu wedi syrthio i'r llawr. Cofiai Mr. Denman eiriau proffwydoliaethol y Capten y noson y cytunodd ef i ymuno yng Ngwaith Coed Madog: "Mr. Denman "—dyna oedd geiriau'r Capten—" mi welaf amser pryd y byddwch yn dweud y cwbl i Mrs. Denman, ac y bydd hithau yn eich canmol." Synnai Mr. Denman at allu rhagweledol y Capten. "A'r fath lwc," ebe fe wrtho 'i hun—" na ddaru mi ddim torri 'nghalon! Y fath fendith! Mi fase cannoedd wedi torri'u calonne a rhoi'r cwbl i fyny ers talwm. Ond 'roedd gen i ffydd o hyd fod y Capten o'i chwmpas hi. Pwy arall fase'n gwario'r cwbwl oedd ganddo, os gwn i? Ond mi ga'r cwbwl yn ôl, 'rwan, ar ei ganfed. A diolch y medra i fynd adre a dangos wyneb llawen, a deud y cwbl i gyd i'r wraig! A mi gaf dipyn o gysur teuluaidd 'rwan, tybed, peth na ches i mono ers blynydde. Yr Arglwydd a roddodd,' etc." A chyda geiriau Job ar ei wefusau, yr aeth Mr. Denman i'w dŷ yn llawen.

Wrth natur, nid oedd Mrs. Denman yn flinderog, ond yr oedd mynych hir—ddisgwyl am ei gŵr gartref hyd ddeg, un ar ddeg, ac weithiau hanner y nos, a'r ffaith, oedd ddigon amlwg iddi, erbyn hyn, eu bod yn mynd yn dlotach bob dydd, wedi rhoddi ffurf ddreng i'w hwyneb a thôn gwynfannus i'w llais. Yr oedd y plant newydd fynd i'r gwely, a hithau, Mrs. Denman, wedi ei gosod ei hun mewn cadair wrth y tân i bendwmpian i aros ei gŵr gartref. Hi a synnodd pan welodd Mr. Denman yn dyfod i mewn yn fywiog a hoyw, cyn iddi dynnu mig efo'r cyntun cyntaf, a deallodd ar ei olwg fod rhywbeth mwy na chyffredin wedi digwydd, ac ebe hi, dipyn yn wawdlyd:

"Diar mi! be sy'n bod?"

"Mi ddeuda i chi, Mary bach, cyn gynted ag y byddaf wedi tynnu fy 'sgidie," ebe Mr. Denman. Ac wedi gwneud hynny a thynnu ei gadair at y tân, a gosod ei draed ar y stôl haearn, edrychodd yn foddhaus ar ei wraig, ac ebe fe:

"O'r diwedd! o'r diwedd! Mary."

O'r diwedd be! Denman?" gofynnai Mrs. Denman. "Wedi—dwad—i blwm—wedi—dwad—i blwm, Mary, —wedi taro ar y faen, Mary, o'r diwedd! Ac yr ydw i fel y gog—'rydw i wedi f' ail 'neud. Mi wn 'y mod i wedi achosi llawer o flinder i chi wrth fentro, a mentro am gymin o flynydde, a gwario cymin o arian, a mi fasech yn blino mwy o'r hanner bydasech chi'n gwbod y cwbl. Ond mi wyddwn o hyd—'roedd rhywbeth yn dweud wrtha i y cawn i blwm yn fuan, a dyma fo wedi dwad, diolch i'r nefoedd amdano—achos 'roedd hi agos â mynd i'r pen arna i—'roeddwn i just a thorri fy nghalon, a bron meddwl y byddwn i farw yn ddyn tlawd. Ond diolch i'r nefoedd, meddaf eto.'

"Deudwch yn fwy plaen wrtha i, Denman, 'dydw i ddim yn ych dallt chi," ebe Mrs. Denman.

"Mi 'na, Mary bach, mor blaen â haul hanner dydd. Mi wn 'y mod i wedi'ch cadw chi yn y twllwch, Mary, ac na wyddoch chi fawr am waith mein. 'Roeddwn i ar fai, a 'rwan mi fedra ofyn i chi faddau i mi, a mi wn y gwnewch chi faddau i mi pan ddeuda i'r cwbl. Yr ydw i wedi gwario ar weithydd mein, Mary, fwy nag y daru chi 'rioed freuddwydio. Wel, waeth i mi 'rwan gyfadde'r gwir—'rydw i wedi gwario hynny oedd gen i—mae'r tai a'r tir a'r cwbl wedi mynd, heblaw y tipyn stoc sydd yn y siop, ac erbyn heno, 'dydi ddim yn 'difar gen i—yn wir, yr ydw i'n teimlo'n ddiolchgar 'mod i wedi dal ati, achos daswn i wedi rhoi i fyny ddim ond wythnos yn ôl, mi faswn wedi colli'r cwbl. Ond mi ga'r cwbl yn ôl 'rwan, a llawer chwaneg. Fedrwn i yn 'y myw ffrwytho i ddeud wrthoch chi cyn heno, Mary, ond y mae popeth yn all right 'rwan. A llawer gwaith yr ydech chi wedi galw Capten Trefor yn hen Gapten y felltith' yntê, Mary? Ond alwch chi byth mono felly eto. Dyn iawn ydi'r Capten. Ond a dwad at y pwnc a siarad yn blaen—mae Sem Llwyd wedi taro ar y faen yng Nghoed Madog, Mary, hynny ydi, wyddoch, wedi dwad i blwm, a ŵyr neb be fydd ein cyfoeth ni, achos y Capten a finnau a Mr. Huws, Siop y Groes, bia'r holl waith. Na, ŵyr neb eto be fydd ein cyfoeth ni, Mary."

"Ond ydi o'n wir, Denman? Be os celwydd ydi'r cwbl a chithe wedi gwario'ch eiddo i gyd? O, diar! 'rydw i just yn sâl, ydi o'n wir, Denman?"

Yn wir, wraig bach? ydech chi'n meddwl na ŵyr Sem mo'r gwahaniaeth rhwng plwm a baw? Yn wir? mae cyn wired â'ch bod chithe'n eistedd yn y gader ene. Mi wn fod y newydd mor dda fel y mae'n anodd ei gredu, ond y mae'n eitha gwir—yr yden ni wedi'n gneud i fyny am ein hoes, Mary, a diolch i Dduw am hynny! A wyddoch chi be, Mary, 'roeddwn i just yn meddwl ych bod chi a finne'n dechre mynd i oed, ac mae'r peth gore i ni 'rwan, hynny ydi, ymhen ychydig wythnosau, fydd rhoi'r busnes yma i fyny, achos 'dydi o ddim ond poen a blinder. Ac i be y boddrwn ni efo busnes pan fydd gynnon ni ddigon o fodd i fyw yn respectable? Fydde fo ddim ond ynfydrwydd. Mi bryna ferlen a thrap just i redeg i'r Gwaith ac i gnocio tipyn o gwmpas, ac i'ch cymryd chithe allan dipyn ar ddiwrnod braf. Mae'n rhaid i ni feddwl am hyn—sef rhoi addysg dda i'r plant yma—y pethe bach! Yr ydw i'n meddwl y gneith Bobi bregethwr ne dwrne, mae o mor siarp, ac wedi iddo gael ysgol dda, mi gyrrwn o i'r Bala, i'r Coleg. Ac am Lusi, rhaid i ni ddysgu miwsig iddi, achos y mae o yn yr eneth yn amlwg i bawb. Mi gawn gysidro eto am y plant eraill," ebe Mr. Denman.

"O! Denman, mae o fel breuddwyd gen i'ch clywed chi'n siarad!" ebe Mrs. Denman.

"Ydi, mae o, ond yn ddigon gwir er hynny, Mary. Mae ffordd Rhagluniaeth yn rhyfedd, ydi yn rhyfedd! Ond deudwch i mi, Mary, oes gynnoch chi ddim rhywbeth yn y tŷ gawn ni'n damed blasus i swper? Achos, deud y gwir i chi, er bod gan y Capten swper ffyrs clas, fedrwn i yn 'y myw 'neud dim byd ohono rwsut ar ôl dallt eu bod nhw wedi dwad i blwm yng Nghoed Madog, a mi faswn yn licio bydase gynnon ni rw damed blasus i ni efo'n gilydd 'rwan."

"Mae 'ma dipyn o steaks, Denman, ond 'roeddwn i wedi llunio cadw hwnnw erbyn cinio fory," ebe Mrs. Denman.

"Hidiwch befo fory, Mary, 'dewch i ni 'i gael o.

"Raid i ni, bellach, ddim cynilo, mi gawn ddigon o bopeth, a mwy na digon. O 'dewch i ni gael tamed cyfforddus efo'n gilydd, a siarad tipyn dros bethe, sut y gwnawn i, ac felly yn y blaen, achos mi wn na chysga i ddim heno, mae fy meddwl i'n rhy gynhyrfus," ebe Mr. Denman.

Prin y gallai Mrs. Denman gredu mai Mr. Denman oedd yn ymddiddan â hi, gan mor fwyn a hawddgar oedd ei eiriau, ac mor wahanol oedd ei ysbryd. Am dymor hir ni chawsai hi ganddo ond atebion byrion a chrabed, a thymer sur a phigog. Teimlai fel pe buasai wedi ei thaflu'n ôl i'r chwe mis cyntaf ar ôl priodi, ac yr oedd hi wedi ei hyfryd syfrdanu. Ni fuasai ganddi un amser lawer o ffydd y deuai dim daioni o waith Mr. Denman yn "mentro cymaint, ond yr oedd rhywbeth mor newydd yn ei ysbryd, a'i eiriau mor amddifad o os ac oni bai y noswaith hon, a hynny mor wir amheuthun iddi, fel yr oedd bron â chredu bod tymor o lawnder a dedwyddwch wedi gwawrio arnynt. Ac eto yr oedd yn methu cwbl gredu, ac yn methu, er ceisio, ymollwng i lawenhau yr un fath â Mr. Denman. Teimlai fil o obeithion yn ymddeffro yn ei mynwes, ac ar yr un pryd amheuaeth, na allai roddi cyfrif amdano, yn ei rhwystro i roddi rhaff iddynt i chwarae. A thra'r oedd Mrs. Denman, druan, yn hwylio " tamed o swper blasus," yn ôl dymuniad ei gŵr, a'i gestyll dirifedi, buasai'n anodd dyfalu ei gwir deimladau. Oblegid pan oleuid ei hwyneb gan wên siriol, dilynid hynny yn union gan ochenaid drom. Yr oedd hi yn obeithiol ac yn ofnus—yn llawen ac yn brudd bob yn ail, a mwy nag unwaith y gofynnodd hi i Mr. Denman: "Ond, Denman, ydech chi'n credu fod o reit wir?" a phan brotestiodd Denman ei fod o cyn wired â'r pader, wel, ni allai mwyach ond ei gredu, a theimlai Mrs. Denman, o'r diwedd, ei bod hithau wedi ei hail—falu. Yn wir, mor llwyr y meddiannwyd hi gan yr un ysbryd â'i gŵr fel, oherwydd rhyw air digrif o eiddo'r diwethaf, y chwarddodd hi dros y tŷ. Ni chwarddasai o'r blaen ers blynyddoedd, ac yr oedd y chwerthiniad hwn mor uchel ac aflafar nes deffro Sami, eu bachgen ieuengaf. Digwyddodd hyn pan oedd Mrs. Denman newydd roi'r wynwyn yn y badell ffrio gyda'r steaks. Wedi deffro, gwrandawodd y crwt yn astud, a chlywodd lais uchel a llawen ei dad yn siarad yn y gegin. Yn nesaf daeth aroglau peraidd y wynwyn a'r steaks i'w ffroenau. Llithrodd yn ddistaw o'r gwely ac i lawr y grisiau. Pan oedd Denman yng nghanol ei afiaith, a sŵn y badell ffrio ar ei uchaf, ac er dirfawr fraw i'w rieni, safodd Sami yn ei grys nos ar ganol llawr y gegin, ac ebe fo:

"Ga i gig, dada?"

Pe digwyddasai i Sami godi yn y cyffelyb fodd y noson cynt, cawsai "gweir" y cofiasai amdano. Ond yr oedd yr amgylchiadau'n wahanol—yr oedd ei dad wedi dyfod i blwm, ac ebe Mr. Denman yn groesawus:

"Cei, 'y ngwas gwirion i, tyrd yma ar lin dada, 'y mhwt aur melyn annwyl i. Gei di gig? Cei gymin fyw fyth ag a lici di. Ac mi gei bopeth arall y meder dy galon annwyl ddychmygu amdano, oni cheiff o, Mary?"

Ac felly nes iddi fynd yn fore y treuliodd Mr. a Mrs. Denman amser dedwydd yn cynllunio mil o bethau a wnaent wedi cael y plwm mawr. Ac nid cyn i'r ceiliog cochin china ganu ar ei glwyd yn y buarth cefn y dywedodd Mr. Denman:

"Wel, Mary, mae'n rhaid i ni fynd i'r gwely—just o ran ffasiwn, ond am gysgu, mae hynny allan o'r cwestiwn."

Mae'n rhaid i minnau yn awr ddychwelyd at wrthrych fy hanes, a adewais yn synfyfyrio o flaen ei fymryn tân.

PENNOD XXXVIII

Cariad Newydd

TRA synfyfyriai Enoc Huws o flaen ei dipyn tân—oedd erbyn hyn bron diffoddi—ai'r "newydd da" gan Sem Llwyd am ddarganfod y plwm yng Nghoed Madog a lanwai ei feddyliau? 'Choelia i fawr! Cyn hyn y mae dyn wedi anghofio ei ymborth angenrheidiol—wedi herio cyngor a fforffedu serch ei rieni—wedi diystyru ei etifeddiaeth, a gwneud yn fach o'i einioes ei hun—a'r cwbl am fod rhyw elfen, neu egwyddor, neu deimlad yn ei galon a eilw yn GARIAD. Mae'r ffaith yn ddigrif ei gwala, ond ffaith ydyw er hynny. A phan gofiom nad ffyliaid y byd a orchfygwyd ganddo, ond, weithiau, goreuon a phigion ein hil, mae'n rhaid, ac yn weddus i ni, yr hen lanciau, dynnu ein het iddo, a chydnabod bod rhyw ddirgelwch llawer mwy ynddo nag y gallwn ei ddirnad na'i blymio. I un fel Enoc Huws, oedd, os oedd yn rhywbeth, " yn ddyn o fusnes," ac mor llygadog ag undyn, i wneud arian, gallesid tybio y buasai'r ffaith a wnaed yn hysbys iddo y noswaith honno—sef eu bod "wedi taro ar y faen" yng Nghoed Madog, yn ddigon i lenwi ei feddwl am bythefnos o leiaf. Ond, rhyfedd dweud, tra'r oedd ef yn myfyrio o flaen y tân, ni ddaeth "newydd da Sem Llwyd " unwaith ar draws ei feddwl. Nid oedd iddo le yn ei galon. Nid oedd ganddo ond un meddwl mawr—yn torri allan, y mae'n wir, i amryw gyfeiriadau a hwnnw oedd, i'r de ac i'r aswy, ôl a blaen—SUSAN TREFOR. Erbyn hyn hyhi oedd yn bopeth ganddo, ac ar wahân iddi hi, nid oedd gwerth mewn dim yn ei olwg. A mwyaf a welai ohoni, mwyaf y cymdeithasai â hi, tecaf, hawddgaraf, a gwerthfawrocaf yr âi hi yn ei fryd. Ar un adeg edrychasai arni fel trysor rhy werthfawr iddo ef byth allu gobeithio ei feddu. Ond yr oedd yr amgylchiadau wedi newid cryn lawer oddi ar hynny. Yr oedd ef ei hun yn gyfoethocach nag y bu erioed, a'i fasnach yn parhau i gynyddu—yr oedd ei ymdrafodaethau â Chapten Trefor wedi ei ddwyn i gysylltiad nes â'i eilun, ac nid oedd agosrwydd, fel y digwydd yn fynych, wedi lleihau dim ar y gyfaredd, eithr yn hytrach wedi ei dwysáu. Yr oedd ennill serch a chalon Miss Trefor yn ei olwg erbyn hyn o fewn terfynau posibilrwydd, os nad tebygolrwydd. Gwelai nad oedd ef yn amharchus yn ei golwg—cytunai'r ddau yn gyffredin yn eu golygiadau, ac, ar adegau, tybiai Enoc ei bod hi'n edmygu rhyw bethau ynddo. Yr oedd ef o'r dechrau wedi amcanu ennill syniadau da ei mam, ac wedi llwyddo y tu hwnt i'w ddisgwyliad, canys gwyddai fod iddo le cynnes yng nghalon Mrs. Trefor. Os oedd ymddygiad cwrtais y Capten Trefor â choel arno, nid dirmygus oedd yn ei olwg yntau. Teimlai Enoc yn sicr erbyn hyn ei fod wedi ennill yr amgaerau, ac yr oedd wedi llwyr arfaethu'r noson honno wneud cais egnïol i feddiannu'r castell. Ond nid cynt, fel y cofia'r darllenydd, nag y dechreuodd ef ei ymosodiad, nag y cilgwthiwyd ef yn ddirmygus, a hyn i gyd oherwydd un anap. A siarad yn eglur—heb ddameg—tybiai Enoc na chawsai erioed well cyfleustra nag a gawsai'r noson honno i wneud yn hysbys i Miss Trefor ei wir deimladau tuag ati. Yr oedd ei stori am gyfyngder amgylchiadau ei thad yn gyfle rhagorol yn ei olwg iddo ddangos mawrfrydedd ei natur a diffuantrwydd ei edmygedd ohoni—ohoni hi ei hun—yn annibynnol ar eiddo a sefyllfa. Ond yr oedd ei eiriau wedi ei dolurio a'i chythruddo yn dost, a chyn iddo gael amser i egluro iddi eu hystyr, yr oedd y Capten—pla arno! wedi dyfod ar ei draws.

"Y newydd gore," ebe Enoc wrtho ei hun, "a ges i ers gwn i bryd, oedd 'i chlywed hi'n deud eu bod nhw'n dlawd. Yrwan, meddwn, mae hi'n fwy tebyg o wrando ar fy nghynigiad. Yrwan, ni bydd amddiffynnydd a sicrwydd rhag angen yn ddibris yn 'i golwg, ac, o dan yr amgylchiade, bydd fy nghariad ati yn rhwym o ymddangos yn fwy disinterested. A dyna oeddwn yn mynd i'w ddeud wrthi 'daswn i wedi cael amser. Ond dyna'r hen Gapten i lawr y grisiau! Dau funud fuase'n gneud y tro. Fu neb erioed mor anlwcus â fi, mi gymra fy llw. A mi ddaru gamddallt 'y ngeirie i—mi'i brifes hi, druan, ac erbyn hyn, mi fase'n dda gan 'y nghalon i 'daswn heb ddeud yr un gair. Bychan y gŵyr hi y base'n well gen i dorri 'mys i ffwrdd nag achosi'r boen leia iddi. Mae hi'n teimlo'n ddig ata i heno, mi wn. A be fydde ore i mi 'i neud? Mae gen i flys ysgrifennu llythyr ati i egluro a deud y cwbl. Ond bydde hynny yn wrthun, a finne yn 'i gweld hi mor amal. Mi af yno 'fory, achos rhaid i bethe ddwad i bwynt yrwan—mae'n rhaid i mi egluro pam 'roeddwn i'n deud fod yn dda gen i glywed eu bod nhw'n dlawd. Ond y gwaetha ydi, 'dydyn nhw ddim yn dlawd. 'Roedd yn hawdd dallt hynny ar eirie'r Capten heno. Wedi eu twyllo nhw y mae o—wedi cadw'i amgylchiade oddi wrthynt y mae'r hen lwynog. Mi wyddwn fod y peth yn amhosibl. Ac eto, mi fase'n well gen i bydase'n nhw'n wir dlawd, oblegid 'dase hi felly arnyn nhw, mae gen i le i obeithio y base hi, hwyrach, yn fwy parod i dderbyn fy nghynigiad, a mae'r nefoedd yn gwybod y base'n dda gen i roi'r cwbl sy gen i at 'i gwasanaeth hi, a chadw'r hen bobol hefyd, os base raid. Ond tybed nad 'y nhrio i 'roedd hi? 'Does dim posib na ŵyr hi 'mod i'n meddwl amdani, a hwyrach mai 'nhestio i 'roedd hi. 'Does neb ŵyr. Ond mae'n rhaid iddi ddwad i rywbeth yn fuan, achos fedra i ddim byw fel —."

Curodd rhywun ar y ffenestr yn ysgafn, ac edrychodd Enoc mewn braw i'r cyfeiriad hwnnw, a chanfu yr hyn nad oedd wedi sylwi arno o'r blaen, sef nad oedd Marged wedi tynnu'r gorchudd i lawr. Tu ôl i'r gwydr gwelai Enoc helm loyw ac wyneb siriol o dani—sef yr eiddo Jones, y plismon, yn gwenu arno. Agorodd Enoc y drws, ac ebe Jones:

"Brown study! brown study! Mr. Huws, 'doeddwn i ddim ond just galw'ch sylw i fod y blind heb ei dynnu i lawr."

"Diolch i chwi," ebe Enoc, "'doeddwn i ddim wedi sylwi. Sut fu, tybed, i Marged anghofio! Dowch i mewn, Mr. Jones."

"Dim ond am funud, syr, achos rhaid i mi fynd ynghylch fy musnes," ebe Jones. "Sut y dôth hi 'mlaen yn Nhŷ'n yr Ardd? ddaru chi fwynhau'ch hun yno? Wrth gofio, sut y mae'r llygaid? O! mi welaf, maent yn iawn. Mi wyddwn y base'r biff yn 'u mendio nhw."

"'Rydech chi'n ddoctor campus, Mr. Jones," ebe Enoc, "ddaru neb sylwi fod dim o'i le arnyn nhw, i mi wybod. Wel, fe gawsom nosweth bur hapus, a newydd da hefyd. Mae'n dda gen i ddeud, Mr. Jones, a mi fydd yn dda gynnoch chithe glywed, ein bod ni wedi dwad i blwm yng Nghoed Madog.'

"Ffact, Mr. Huws?" gofynnai Jones.

"Ffact i chi. Mae Sem Llwyd wedi taro ar y faen heno," ebe Enoc.

"Sem Llwyd, ai e?" ebe Jones. "Hidie Sem yr un blewyn a chymryd tipyn o blwm yn 'i boced i lawr y siafft—mae Sem yn hen stager, Mr. Huws. Glywsoch chi am Elis, y Batis, ers talwm? Naddo? Wel, i chi, 'roedd Elis ac un neu ddau arall yn chwilio am blwm yn rhwle tua Phen y Boncyn ene, ac yn gweithio bob yn ail 'Roedden nhw wedi bod wrthi am fisoedd, ac 'roedd Elis bron rhoi i fyny'r ysbryd, a helbul garw oedd hi arnyn nhw i gael Elis i weithio 'i stem. Un diwrnod, be ddaru un o'i bartnars—'roedd o'n gwbod mai tro Elis oedd y stem nesa—ond cymryd lwmp o blwm gymin â'i ddwrn, a'i guddio yn y fan yr oedd Elis i fynd ati. Wrth fynd adre, wedi gorffen 'i stem, fe alwodd yn nhŷ Elis, a 'bre fo: Ydech chi'n hwylio ati, Elis? Wyddoch chi be, mae acw well golwg nag a weles i 'rioed, Elis.' 'I mae?' ebe Elis, sut 'rydech chi'n deud hynny?' 'Wel,' ebe'r partnar, 'fedra i ddim deud wrthoch chi'n iawn, ond ewch yno a barnwch drostoch ych hun.' 'Wel,' ddyliwn y bydd raid i mi fynd unweth eto er 'y mod i just a gwanobeithio,' ebe Elis. A ffwrdd â fo yn 'i siaced wlanen a'i het galed. Ond 'doedd o ddim wedi bod i lawr ddeng munud, na redodd o i fyny'r 'sgolion na ŵyr o hyd y dydd heddiw sut; ac i lawr i'r dre â fo a'i het yn 'i law, a'r plwm yn 'i law arall, ac wedi hanner colli 'i wynt, yn gweiddi: Yr Arglwydd a roddodd, â'r Arglwydd a ddygodd ymaith! A dyna hynny o blwm a gafodd Elis ym Mhen y Boncyn. Ond digrifwch y peth oedd hyn: toc ar ôl y tric ar Elis fe ddaeth rhw bregethwr diarth i gapel y Batis, a'i destun o oedd, 'Yr Arglwydd a roddodd,' ac felly yn y blaen, a dyna bawb yn troi eu llygaid ar Elis, ac fe'i gloywodd Elis hi allan o'r capel. Bydawn i chi, Mr. Huws, mi fynnwn weld drosof fy hun. Ewch i lawr y Gwaith yfory."

"Be? y fi fynd i lawr, Mr. Jones? 'Chymrwn i ddim mil o bunne am fynd," ebe Enoc.

"Ha! ha!" ebe Jones, "un braf ydech chi, Mr. Huws, i fentro! Sut y gwyddoch chi ydi'r meinars yn deud y gwir wrthoch chi? 'Choeliwn i byth feinar.'

"Bydaen nhw'n deud celwydd wrtha i am oes," ebe Enoc, "'dawn i byth i lawr y siafft, achos mi wn yr âi 'y mhen i'n ysgafn, ac y byddwn yn y gwaelod cyn farwed â hoelen cyn i mi gyfri dau, a pha les i mi wedyn fydde'r plwm na dim arall?"

"Dim," ebe Jones, " ond y byddech yn sefyll siawns dda i gael arch blwm fel gŵr bonheddig. Ond deudwch i mi, oedd o ddim yn rhyfedd fod y Capten allan mor hwyr heno?"

"O! welsoch chi'r Capten?" gofynnai Enoc.

"Do," ebe Jones, "o Dŷ'n yr Ardd y dois i 'rwan,—'rwyf wedi bod yn lloffa ar ôl ych cynhaea chi, a mi ges rywbeth yno na chawsoch chi, y titots, mono—mi ges lasaid o wisgi hefo'r hen ŵr."

"Lle daru chi daro ar y Capten?" gofynnai Enoc.

"Yn bur od," ebe Jones, " 'roeddwn i just yn dwad i gornel y stryd fawr, a mi glywes gnocio ar ddrws, a be welwn i ond rhwfun yn curo ar ddrws Lloyd, y twrne. 'Roedd Lloyd yn cychwyn i'w wely, achos yr oedd gole yn ffenest y llofft. 'Doeddwn i ddim yn gallu gweled pwy oedd yn curo, ond fe aeth i mewn, ac mi feddylies y mynnwn i wybod pwy oedd o. Fu o ddim i mewn yr un pum munud, a phwy oedd o ond y Capten. 'Roedd yn reit dda ganddo 'ngweld i, a mi es i'w ddanfon o adre. Mae'r hen ŵr yn torri,—'roedd o'n cerdded yn simsan heno. Ond be allase fod arno 'i eisiau gan yr hen Lloyd yr adeg yma ar y nos, os gwn i?"

"Rhyw fusnes, mae'n debyg," ebe Enoc yn fyfyrgar.

"Felly 'roedd o'n deud," ebe Jones, ac wrth weled Enoc yn edrych yn lled syn, ychwanegodd,—" A 'does gynnoch chi ddim idea, Mr. Huws?"

"Ddim o gwbl," ebe Enoc, a meddyliai fod Jones, ar cyn lleied o gydnabyddiaeth, dipyn yn wynebgaled ac ymholgar.

"Hy," ebe Jones, ac ar ôl ychydig ddistawrwydd, ebe fe," Wyddoch chi be, Mr. Huws, 'dydw i ddim yn meddwl bod y Capten mor dda arno ag y mae pobl yn credu ei fod."

"Be sy'n peri i chi feddwl hynny?" gofynnai Enoc. "Wel," ebe Jones, "fedra i ddim deud wrthoch chi'n iawn, rywsut, ond be ydech chi'n feddwl am hynny, Mr. Huws?"

("Wel, y gwynebgaled," ebe Enoc ynddo ei hun, ac ychwanegodd yn hyglyw):

"Mae sefyllfa fydol Capten Trefor yn ddieithr hollol i mi, a 'dydi o ddim llawer o bwys gen i beth ydi ei sefyllfa—pa un ai cyfoethog ai tlawd."

"A!" ebe Jones, "mae hi'n debyg arw i law. Prin y galla i'ch coelio chi 'rwan, Mr. Huws.'

"Pam?" gofynnai Enoc.

"Oherwydd," ebe Jones, "fod pobol yn gallach 'rwan nag y bydden nhw ers talwm. Mi briodes i pan oeddwn i'n dair ar hugen oed, a mi briodes eneth dlawd. Bydaswn i wedi cymryd 'mynedd, yr un faint o drafferth a fase i mi briodi geneth â dwy neu dair mil o bunne ganddi— fase'r person yr un munud hwy yn myned dros y wers, a mi faswn inne'n safio gwisgo'r lifre 'ma. Ond yrwan y mae dynion yn cymryd amser i edrach o'u cwmpas, ac yn cymryd gofal fod y wraig yn dwad â rhywbeth i'r tŷ heblaw tafod drwg. Quite right hefyd. Ac er, y mae 'n rhaid i mi gyfadde, fod yno brydferthwch, dysg, a sens, yn ddiame, 'rwyf yn meddwl na fase rhwfun ydw i'n 'i 'nabod mor ddyfal yn Nhŷ'n yr Ardd, oni bai 'i fod o'n credu fod yno rywbeth arall."

"Nid yw'r un y cyfeiriwch ato, Mr. Jones, mor fydol ac ariangar â hynny, a phe buasai rhywbeth mwy na chyfeillgarwch rhyngddo ef a Miss Trefor, ac iddo gael allan nad oedd ei thad yn dda arno, neu hyd yn oed ei fod yn dlawd, ni fuasai hynny yn newid mymryn ar ei fwriadau tuag ati," ebe Enoc.

Dyn rhyfedd ydech chi, Mr. Huws, yr ydech chi cweit yn eithriad yn y peth yna," ebe Jones.

"Wn i beth am hynny," ebe Enoc, "ond mi wn hyn, nad ystyriwn i gariad yn gariad o gwbl pe bai i amgylchiadau'n newid dim arno."

"Mi welaf," ebe Jones, "mai'r syniad hen ffasiwn sy gynnoch chi, Mr. Huws, am gariad y cariad y mae'r nofelau yma yn sôn amdano. Ond erbyn y dowch chi i actual life, welsoch chi 'rioed lai fydd ohono hyd yn oed gan y rhai oedd yn tybied ei fod ganddynt; ac yr ydech chi'n cofio am y ddihareb: Pan ddaw tlodi i mewn trwy'r drws y mae cariad yn ffoi allan drwy'r ffenest."

"Fu 'rioed ddihareb fwy celwyddog, yn ôl 'y meddwl i," ebe Enoc. "Mae'n ddiame bod tlodi wrth ddwad i mewn trwy'r drws wedi bod yn wasanaethgar i ddangos lawer tro na fu yn y tŷ erioed wir gariad. Pan fydd dyn yn syrthio dros ei ben a'i glustiau mewn cariad at brydferthwch a theilyngdod, ac yn cael ei daro megis gan fellten yn fud ac yn fyddar, fedr o byth ysgwyd hwnnw i ffwrdd—waeth faint o bethau ddaw i'r golau, os na fyddant yn milwrio'n uniongyrchol yn erbyn yr hyn y syrthiodd mewn cariad ag ef—ni fedrant newid dim arno, yn ôl fy syniad i. Anffawd ac nid drwg ydyw tlodi, a damwain ydyw cyfoeth, ac ni all y naill na'r llall dynnu rhyw lawer oddi wrth nac ychwanegu at wir werth geneth brydferth a rhinweddol. Dyna 'meddwl i, Mr. Jones."

"'Rydech chi'n mynd y tu hwnt i mi 'rwan, Mr. Huws," ebe Jones, "wn i fawr am bethau fel yna. Ond fasech ch.'n synnu pe deudwn i wrthoch 'i bod hi'n galed ar y Capten?"

"Baswn, wrth gwrs," ebe Enoc.

"Be ddeudech chi pe dwedwn i fod y Capten wedi derbyn gwrit am bum punt ar hugain?" gofynnai Jones.

"Mi ddwedwn fod rhywun wedi dweud celwydd wrthoch," ebe Enoc.

"Be bydawn i'n deud fy mod yn gwybod bod hynny'n wir?" gofynnai Jones.

"Mi ddwedwn," ebe Enoc, "'y mod innau'n gwybod nad ydyw'r Capten heno yn fyr o ddau na thri phum punt ar hugain. Mae rhyw gamgymeriad yn bod, Mr. Jones.'

"Nac oes, syr, ddim camgymeriad. Ac os oedd gan y Capten ddau bum punt ar hugian, mi wn ei fod wedi partio â'u hanner nhw heno," ebe Jones.

Gwenodd Enoc, a dywedodd ynddo ei hun:

Y maen nhw'n dlawd wedi'r cwbl, a diolch am hynny."

"Yr oeddwn yn meddwl," ebe Jones, "ei bod yn ddyletswydd arnaf, fel cyfaill, ddweud hyn wrthoch, Mr. Huws, achos peth garw i chi fyddai cael cam gwag, a bydaswn i yn ych lle chi, mi faswn yn gneud fy hun yn conspicuous by my absence yn Nhŷ'n yr Ardd. 'Dydw i ddim yn ame na wnân' nhw 'u gore i'ch cael chi i'r trap i briodi'r ferch yna, ond bad look out fyddai hi i chi, Mr. Huws."

"'Dydi'r ffaith," ebe Enoc, "os ffaith ydyw, fod y Capten wedi cael gwrit ddim yn profi ei fod yn dlawd. Dyn od ydi'r Capten, a hwyrach ei fod wedi cymryd yn 'i ben i beidio â thalu'r arian nes licie fo'i hun. Ond sut y deusoch chi o hyd i hyn Mr. Jones?"

"Fedra i ddim ateb y cwestiwn yna, Mr. Huws, heb fradychu ymddiried. Mae plismon yn dwad o hyd i fil o bethau na wiw iddo eu dweud. Ond y mae'n ddigon gwir, coeliwch chi fi, a mi fedrwn ddweud chwaneg wrthoch chi, ond mi wn ar eich wyneb nad ydych yn coelio," ebe Jones.

Ni fedrai Enoc gelu ei lawenydd, a chododd Jones i fyned ymaith, ac ebe fe:

"Amser a ddengys, Mr. Huws, ond byddwch ofalus a llygadog, ac yr ydech chi'n siŵr o ffeindio fy mod Beth oedd y trwst yna? oes gynnoch chi gathod yma?

"Nac oes," ebe Enoc, "mae yma fwy o lygod nag o gathod—mae Marged yn lladd pob cath a ddaw 'ma. Ond yr oedd yna ryw drwst, ond oedd? Beth oedd o, tybed?

"Yn y rŵm gefn yr oedd o, gadewch i ni fynd i edrach. rhag ofn fod yma ladron," ebe Jones.

Goleuodd Enoc gannwyll, ac nid yn ddiofn, wedi clywed enwi lladron, yr aeth tua'r ystafell gefn, ond yr oedd yn weddol gefnog hefyd, gan fod Jones wrth ei sawdl. Agorodd Enoc y drws gan ddal y gannwyll ar hyd ei fraich, a chan gadw ei gorff cyn belled yn ôl ag y medrai. Cyn gynted ag yr estynnodd Enoc y gannwyll ymlaen i'r ystafell, ceisiwyd ei chwythu allan gan rywun o'r tu ôl i'r drws, a neidiodd Enoc yn ôl mewn dychryn gan daro yn erbyn ystumog Jones. Cipiodd Jones y gannwyll o'i law, a gwthiodd Enoc o'i flaen i'r ystafell yn erbyn ei waethaf, ac yn y ffrwgwd, clywent rywun yn dweud yn ddistaw: "Y fi sy 'ma, mistar."

"Ie, a phwy arall?" ebe Jones, gan ddal y golau i bob cyfeiriad.

Datguddiodd y goleuni olygfa ddiniwed dros ben—rhy ddiniwed i achosi'r fath fraw i Enoc, oblegid yr oedd ef wedi dychrynu yn enbyd—crynai fel deilen, ac yr oedd ei wyneb mor welw â marwolaeth. Yn yr ystafell hon yr oedd mainc oddeutu dwylath o hyd, a ddefnyddid gan Marged ar ddiwrnod golchi i ddal y padelli. Pan aeth Jones ac Enoc i mewn, eisteddai Marged ar un pen i'r fainc hon, a'i gên yn pwyso ar ei bron a'i bys yn ei safn, gan edrych ar y llawr yn yswil ac euog. Y tu ôl i'r drws yr oedd cymeriad adnabyddus o'r enw Tom Solet yn sefyll, neu'n hytrach, yn osgo un ar ganol codi oddi ar ei eistedd. Gwisgai Tom drywser cord, oedd fyr i fyny ac i lawr. Yn y gwaelod yr oedd wedi ei godi y tu ucha i'r fferau a'i rwymo â llinyn dan bennau'r gliniau, ac yn y top wedi ei droi drosodd a'i sicrhau â strap a bwcl, a chrys unlliw yn gweflo yn llanast dros ei ymylon. Unlliw fyddai crys Tom bob amser—lliw peidio â dangos baw—a chloben o goler arno fel coler côt—rhag gwisgo cadach. I arbed gwasgod gyffredin—gwisgai Tom wasgod lewys, ac er ei bod yn ddwbl—brest a botymau mawr arni, byddai bob amser yn agored—haf a gaeaf. Dyna oedd diwyg Tom yn dyfod i garu. Nid hwn oedd y tro cyntaf iddo fod wrth y gorchwyl—canys yr oedd wedi claddu tair o wragedd, ac nid oedd Tom yn gweled bod angen am ddim extra yn ei wisg y noson hon. Ond dyn gonest oedd Tom, ac yr oedd wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd dan y Local Board, ac wedi hwylio cymaint ar y ferfa, fel na byddai byth yn sefyll yn syth, ond, fel y dywedwyd, megis ar ganol codi oddi ar ei eistedd. Ni ddangosai Tom, pan ddaliwyd ef yn yr ystafell gefn gan Jones ac Enoc, ddim byd tebyg i'r benbleth yr oedd Marged ynddi, ac yr oedd mwy o ddireidi i'w ganfod yn ei wyneb nag o fraw. Gofynnodd Jones iddo:

"Wel, Tom, be ydi'ch busnes chi mewn tŷ fel hyn yr adeg yma ar y nos?"

Gwenodd Tom, ac amneidiodd â'i ben a'i lygaid ar Marged—ystyr yr hyn oedd—"Mae 'musnes i efo hi."

"Beth?" ebe Jones, "ai wedi dwad yma i garu Marged yr ydech chi?"

Rhoddodd Tom nod cadarnhaol, a hwb i'w drywser.

"Ho!" ebe Jones, "ers faint o amser y mae'r busnes yma yn mynd ymlaen, Tom?"

Rhoddodd Tom nod dwbl ar Marged, ystyr yr hwn oedd—"Gofynnwch iddi hi."

"Ers pa bryd, Marged?" gofynnai Jones.

"Mae arno isio siarad efo fi ers talwm, ond chafodd o 'rioed ddwad i fewn tan heno," ebe Marged.

"Felly," ebe Jones. "Ond 'rhoswch chi, Tom, 'rydech chi wedi claddu'r wraig ddwaetha ers tro byd—gryn dri mis—ond ydech chi?"

Rhoddodd Tom nod triphlyg, yr hyn o'i gyfieithu oedd—" Do, druan, bach."

"'Roeddwn braidd yn meddwl hynny," ebe Jones, ac ychwanegodd—"Ac yr ydech chi'n meddwl closio at Marged a gwneud gwraig ohoni, Tom?"

Rhoddodd Tom nod amodol—"Os bydd hi'n fodlon."

"Wel, Marged," ebe Jones, "be ydech chi'n 'i ddeud am gynigiad Tom? Mae Tom yn ddyn gonest, sobr, mewn gwaith cyson—yn cael pymtheg swllt yr wythnos—a mae ganddo dŷ a dodrefn. Ydech chi'n fodlon, Marged?"

"Wn i ddim wir, ond hwrach na fedra i 'neud dim llawer gwell," ebe Marged.

"'Rwyf yn credu," ebe Jones, "y byddwch yn gneud reit dda—nid bob dydd y cewch y fath gynigiad. A mi ellwch chithe, Tom, ystyried eich hun yn lwcus dros ben os cewch Marged yn wraig, achos y mae hi'n lân, yn iach, yn fedrus, a gweithgar, heblaw bod ganddi dipyn o bres (llewyrchai wyneb Tom wrth glywed hyn), a pheth ffôl fyddai i chi golli dim amser efo'r peth—gore po gyntaf i chi fynd at eich gilydd. Be 'dech chi'n 'i ddeud, Tom?"

Rhoddodd Tom nod o gydsyniad hollol.

Be 'dech chi'n 'i ddeud, Marged?" gofynnai Jones.

"Just fel mae o'n licio," ebe Marged.

"Wel," ebe Jones, os bydd Mr. Huws yn fodlon i adael i Marged ymadael heb roi notis, y peth gore, Tom, fyddai i chi roi'r 'stegion allan y Sul nesa'."

Edrychodd Tom yn ymofyngar i wyneb Mr. Huws, ac ebe Enoc:

"Os ydi Marged yn dymuno hynny, wna i mo'i rhwystro hi. Yn wir, mi fydd yn dda gen i 'i gweld hi wedi gneud cartre iddi hi ei hun, er y bydd yn ddrwg gen i 'i cholli hi," ebe Enoc, ac yn hyn fe ddwedodd dipyn bach o gelwydd.

"'Rydech chi wedi stopio'n rhy sydyn, Mr. Huws," ebe Jones. "Yr oeddwn braidd yn disgwyl eich clywed yn dweud y basech yn rhoi'r brecwest priodas."

"Wel, mi wnaf hynny, a hwyrach y rho i dipyn o bresant iddi, achos y mae Marged wedi bod yn forwyn dda a gonest," ebe Enoc.

"Mi wyddwn," ebe Jones, "yr actiech fel gŵr bonheddig."

"Thanciw, syr," ebe Marged, a thrawodd Tom ei law wrth fargod ei wallt fel cydnabyddiaeth am y caredigrwydd.

"Yrwan," ebe Jones, " mi'ch gadawn ni chi, a hwyliwch chithe adre, Tom, ymhen rhw ddeng munud, a chofiwch chi, Tom, na chlywn ni ddim am breach of promise, achos mae 'ma ddau witnes, cofiwch."

Rhoddodd Tom nod yr ochr chwith i'w ben, cystal â dweud "dim peryg!"

Ac felly y gadawyd y cariadon gan Enoc a Jones. Wedi myned allan o'u clyw, ebe'r olaf:

"Dyna fusnes go fawr wedi 'i 'neud, onid e, Mr. Huws?"

"'Ddyliwn i wir," ebe Enoc. "A ffansïwch, ddeudodd y dyn yr un gair o'i ben!"

"Mi ddeudodd lawer â'i ben, ynte," ebe Jones. "Mae nod y dyn yna, syr, cystal â'i air. Mi gewch wared tragwyddol, 'rwan, â'r hen farcutan Marged yna. Wyddoch chi be, Mr. Huws, mae hi'n glawio trugareddau arnoch heddiw."

"'Dydi wiw i mi wadu," ebe Enoc, "na fydd yn dda gan 'y nghalon i gael gwared â Marged, a mae Tom Solet wedi cymryd baich mawr oddi ar 'y meddwl i."

"Mi'ch credaf," ebe Jones. A 'rwan mae'n rhaid i mi fynd ynghylch 'y musnes. Ond y mae gen i un gymwynas i'w gofyn gynnoch chi, Mr. Huws. 'Roeddwn i'n sylwi ddoe fod gynnoch chi hams cartre nobl anwêdd yn eich siop a 'newch chi 'nhrystio i am un hyd y pay day nesa? Mae hi dipyn yn brin arna i am bres yrwan, ond mi dala'n siŵr i chi y pay day nesa.'

"Wna i ddim o'r fath beth, Mr. Jones," ebe Enoc, "ond mi anfonaf i chi ham yn rhodd ac yn rhad yfory â chroeso, am eich caredigrwydd. Bydd yn eich tŷ cyn canol dydd."

"Yr ydech yn rhy haelionus, Mr. Huws, a 'does gen i ond diolch i chi o waelod 'y nghalon, a dweud nos dawch," ebe Jones.

PENNOD XXXIX

O'r Diwedd

YR oedd yr argoelion pendant fod Marged i gael gŵr, a hynny ar fyrder, yn fforddio llawer o gysur meddwl i Enoc, oblegid yr oedd y rhan fwyaf o'i ofnau a'i bryderon ynghylch y dyfodol yn gysylltiedig â hi, ac ni allai ef lai na synnu a rhyfeddu mor rhwydd a didrafferth yr oedd Tom Solet wedi cyrraedd ei nod, tra'r oedd ef ei hun yn yr helbul ers blynyddoedd, a chyn belled ag y gallai weled, nid oedd yn nes i'w nod yn awr nag yn y dechrau. Arweiniodd hyn fyfyrdodau Enoc i'w sianel naturiol, sef i gyniwair ynghylch Miss Trefor, lle'r aent bob amser ac o bob man. Nichysgodd bron ddim y noswaith honno.

Yr oedd Enoc, fel y gwelsom, wedi bwriadu amlygu i Miss Trefor fod ei serch tuag ati, ond gwnaethai ragymadrodd anhapus, a'i briwiodd hi'n dost. Golygai Enoc i'r bregeth egluro'r rhagymadrodd—dipyn yn groes i'r drefn gyffredin—a pheth mawr ydyw mynd yn groes i arferiad. Ni chafodd ef, fel y gwelwyd, ddweud y bregeth, ac felly'r oedd y rhagymadrodd yn dywyll. Ar yr un pryd, wedi clywed yr hyn a ddywedodd Jones y Plismon, ystyriai Enoc fod y rhagymadrodd yn burion, ac mai'r anap fu na chafodd gyfleustra i bregethu. Mewn geiriau eraill, wedi'r ymgom â Jones, methai Enoc weled ei fod wedi methu wrth ddatgan ei lawenydd pan hysbysodd Miss Trefor ef fod ei thad yn dlawd, gan y rhoddai hynny brawf iddi o uniondeb a dianwadalwch ei hoffter ohoni. Wedi'r anap a ddigwyddodd, ni allai ef orffwyso heb ei egluro ei hun i Miss Trefor, ac mor fore ag oedd weddus hwyliodd i Dŷ'n yr Ardd gyda'r esgus o ymholi am iechyd Mrs. Trefor.

Wrth gwestiyno Kit, y forwyn, cafodd allan fod Mrs. Trefor gryn lawer yn waeth,—eu bod wedi gorfod galw'r meddyg ati, a bod hwnnw wedi gorchymyn perffaith lonyddwch, a bod y Capten wedi mynd i'r Gwaith i chwilio ynghylch darganfyddiad Sem Llwyd. Nid oedd Enoc yn fodlon i droi'n ôl ar hyn, a gofynnodd i Kit hysbysu ei fod yn holi amdanynt. Dychwelodd y forwyn yn y funud gyda gair fod Mrs. Trefor yn rhy wael i neb ei gweled. Aeth Enoc yn ôl yn ben isel, a bwriadai roi ail gynnig yn yr hwyr. Er bod yn ddrwg iawn ganddo am waeledd Mrs. Trefor, eto yr hyn a'i gofidiai fwyaf oedd na chawsai gyfleustra i'w egluro'i hun i Miss Trefor. Pan oedd ar fin cychwyn i Dŷ'n yr Ardd yn yr hwyr, gan obeithio cael egwyl, pe na bai ond dau funud i siarad â Miss Trefor, daeth y Capten i mewn.

"Cheir mo'r melys heb y chwerw, Mr. Huws," meddai, ac ni theimlais i erioed hyd heddiw mor wir ydyw'r ddihareb. Yr oeddwn wedi bwriadu galw yma yn gynt i roi report i chwi am f'ymweliad â'r Gwaith, a buaswn wedi gwneud hynny oni bai fod profedigaeth deuluaidd, sef afiechyd Mrs. Trefor, sydd, fel y gwyddoch, 'rwy'n deall, gryn lawer yn waeth heddiw nag ydoedd neithiwr, wedi fy rhwystro. Ac y mae hi'n wael iawn mewn gwirionedd, er bod y doctor yn sicrhau nad oes berygl, ar hyn o bryd, beth bynnag. Mi wn, Mr. Huws, eich bod yn deall fy nheimladau ac yn cydymdeimlo â mi yn fy helynt, oblegid, er fy mod yn disgwyl trwy eich gweddïau chwi ac eraill yr adferir hi,—eto, meddaf, pe gwelai Rhagluniaeth ddoeth yn dda ei chymryd hi ymaith, byddai fy mhererindod i ar ben, gyda golwg ar y byd hwn a'i bethau, oblegid, mewn ffordd o siarad, ni fyddai gennyf ddim yn y byd yn werth byw er ei fwyn. Ond at hyn yr oeddwn yn cyfeirio, a rhaid i mi fod yn fyr,—ni allaf yn yr amgylchiadau presennol aros yn hir,—at hyn yr oeddwn yn cyfeirio,—y buaswn wedi galw yn gynnar yn y dydd oni bai'r hyn a grybwyllais, i roi i chwi report am wir werth yr hyn a hysbyswyd i ni neithiwr gan Sem Llwyd. Y mae'n dyfod i hyn, Mr. Huws, ag i mi ei roi i chwi mewn byr eiriau, y mae, fel y dywedais neithiwr, fel y ddeilen ar y dŵr yn dangos fod y cyfandir yn ymyl. Ynddo'i hun nid yw fawr,—yn wir, nid yw ond bychan, ond fel y mae'n arwydd sicr o bethau mwy. Dan amgylchiadau cyffredin, syr, fe fuasai hyn yn destun llawenydd mawr i mi; ond pan fydd un wedi cyrraedd hynny yw, i un yn f'oed i, ac yn y pryder yr wyf ynddo heddiw am fywyd fy ngwraig, nid yw nac yma nac acw, oblegid os cymerir hi ymaith (ac yn y fan hon chwythodd y Capten ei drwyn yn egniol), byddaf wedi fy ngadael yn unig yn hollol unig, syr."

"Yr ydych yn anghofio, Capten Trefor," ebe Enoc, hyd yn oed pe collech Mrs. Trefor—peth na ddigwydd, yr wyf yn gobeithio ac yn credu, am gryn amser—byddai gennych ferch rinweddol wedi ei gadael gyda chwi."

"Na," ebe'r Capten, nid ydwyf yn anghofio hynny, Mr. Huws, ond pa sicrwydd sydd gennyf na fydd i rywun—yn wir, dyna yw'r tebygolrwydd, y byddech chwi, neu rywun arall tebyg i chwi, yn ei dwyn oddi arnaf, dyna ydyw ffordd y byd, dyna ydyw trefn Rhagluniaeth."

Difyr gan Enoc oedd clywed y Capten yn siarad fel hyn, a fflachiodd i'w feddwl onid doeth ynddo fuasai crybwyll wrtho ei serch at y ferch, a'r awydd angerddol oedd ynddo am ei chael yn wraig. Ond cyn iddo allu ffurfio'r drychfeddwl mewn geiriau, ebe'r Capten:

"Ac yn awr, Mr. Huws, rhaid i mi ddweud nos dawch, a hyd nes bydd acw ryw gyfnewidiad, mae arnaf ofn na allaf roddi ond ychydig o sylw i Goed Madog, ac o dan yr amgylchiadau, mi wn yr esgusodwch fi," ac ymaith ag ef.

Unwaith eto yr oedd Enoc wedi colli'r cyfleustra—yr oedd bob amser yn ei golli—a dechreuai gredu bod rhyw ffawd ddrwg yn ei ddilyn, a'i fod wedi ei eni dan ryw blaned anlwcus. Credai Enoc dipyn mewn tynged, ac yn bendrist ddigon y noson honno yr adroddodd wrtho ei hun fwy nag unwaith hen bennill a welsai mewn rhyw gerdd neu'i gilydd:

Ni wiw mo'r tynnu yn erbyn tynged,
Mae'n rhaid i'r blaned gael ei ffors,—
'Rwyf wedi 'nhyngu ers pymthengnydd
I wasnaethu'r Brenin Siors.


Ond ychydig o gysur a allai ef ei dynnu o'r pennill; ac er iddo ymweled yn fynych yn y dyddiau dilynol â Thŷ'n yr Ardd, methodd yn lân â chael cyfleustra i siarad â Miss Trefor, ac egluro pethau iddi. Yr oedd gwaeledd mawr Mrs. Trefor yn rhwystr beunyddiol i Enoc hyd yn oed gael cip ar yr un a garai mor fawr. Aeth pythefnos heibio heb arwydd gwella yn ystad iechyd Mrs. Trefor, —pythefnos oedd cyhyd â blwyddyn yng ngolwg Enoc, yn gymaint â'i fod wedi ei amddifadu'n hollol o gymdeithas ei Forfudd. Gallasai oddef hyn yn lled lew oni bai'r ymwybod oedd ynddo bob awr o'r dydd a'r nos fod Susi yn coleddu teimladau angharedig tuag ato, a hynny wedi gwreiddio'n gwbl mewn camddealltwriaeth.

Er bod Marged yn hynod gyweithas a mwyn yn y rhagolwg ar ei phriodas, oedd i ddigwydd ymhen ychydig ddyddiau, ni allai Enoc fwyta na chysgu. Canfyddai Marged fod rhywbeth mawr yn blino'i meistr, ac ni allai ddychmygu bod dim yn rhoi cyfrif am hyn ond ei bod hi ar fedr ei adael, a mynych y dywedodd hi wrth ei weled yn methu bwyta: "Peidiwch â fecsio, mistar, mi gewch gystal morwyn â minne o rywle." Wn i ddim," oedd unig ateb Enoc. Yr oedd trueni Enoc mor fawr arno, fel na allai ddal yn hwy, ac ysgrifennodd at Miss Trefor i grefu arni am ychydig funudau o ymddiddan â hi ar fater pwysig. Er ei bod wedi cymryd arni ddigio'n enbyd wrtho, meddyliodd Miss Trefor, pan dderbyniodd nodyn Enoc, fod ei thad mewn rhyw drybini, ac mai ynfydrwydd fuasai ei niweidio drwy ymddangos yn ystyfnig gydag Enoc. Pennodd amser i Enoc ymweled â hi—sef. prynhawn drannoeth. Wedi cael y caniatâd, ni wnaeth Enoc ddim ond cyfansoddi yn ei feddwl eglurhad cyflawn ar yr hyn a ddywedasai wrthi bythefnos yn ôl. Cyfansoddodd ddatganiad eglur, cryno, ac effeithiol o'i deimladau tuag ati, ac aeth drosto gannoedd o weithiau, nes oedd yn ei fedru yn well na'i bader. Ond pan ddaeth yr amser, a phan ddaeth wyneb yn wyneb â Miss Trefor ym mharlwr Ty'n yr Ardd, ar ôl yr hir ddirwest o bythefnos heb weled ei hwyneb hawddgar,—teimlai fel dyn wedi bod yn rhy hir heb fwyd yn cael ei ddwyn at fwrdd y wledd. Canfu Enoc ar drawiad fod Miss Trefor yn edrych yn deneuach a llwtyach, ond ni welsai moni erioed mor swynol yr olwg. Glynai ei dafod yn nhaflod ei enau, ac aeth pob gair o'r hyn a baratoesai allan o'i feddwl yn llwyr. Ysgydwodd Miss Trefor law ag ef yn oer a ffurfiol, a dywedodd wrtho am eistedd, ac wedi aros munud mewn distawrwydd, ychwanegodd:

"Wel, Mr. Huws, be sy gynnoch i'w ddeud wrtha i?" Wedi pesychu a chlirio'i wddf nid ychydig, ebe Enoc, gan hanner tagu:

Mae gen i lawer o bethau isio'u dweud wrthoch chi, bydawn i'n gwybod sut. Y peth sy'n 'y mlino i fwya ydi 'mod i'n ofni i mi'ch clwyfo drwy ddweud bod yn dda gen i glywed fod eich tad yn dlawd, a chwi wyddoch na chefais amser na chyfleustra i esbonio'r hyn yr oeddwn yn ei feddwl wrth ddweud felly. Mi wn ei fod yn ddwediad rhyfedd —"

"Ewch ymlaen, Mr. Huws, achos 'does gen i ddim llawer o amser i aros," ebe Miss Trefor.

"Wel," ebe Enoc, a dechreuodd deimlo'i fod yn cael help, a mae help i'w gael yn rhyfedd," fel y dywedai Mrs. Trefor ar amgylchiad arall.

"Wel," ebe Enoc, mewn ystyr mi ddwedaf yr un peth eto, a gadewch i mi grefu arnoch i beidio â rhedeg i ffwrdd cyn i mi orffen fy stori. Syniad cyffredinol eich cymdogion, Miss Trefor, ydyw bod eich tad yn weddol gefnog, a dyna oedd fy syniad innau hyd yn ddiweddar iawn. Ond erbyn hyn yr wyf yn gorfod credu nad ydyw'ch tad, a dweud y lleiaf, yn gyfoethog. Mewn un ystyr, mae'n ddrwg iawn gennyf, ac mewn ystyr, y mae'n dda iawn gennyf ddeall mai dyna ydyw ei sefyllfa, fel y dywedais y noson o'r blaen. Mi wn pan ddywedais hyn o'r blaen—bythefnos yn ôl—fy mod wedi'ch brifo yn fawr, a hwyrach y bydd i mi eich digio'n fwy eto pan ddwedaf pam yr oeddwn, ac yr ydwyf eto, yn dweud felly. Ac nid ydwyf heb ofni, Miss Trefor, pan ddwedaf fy rheswm, y byddwch wedi digio wrthyf am byth."

"Ewch ymlaen, Mr. Huws, 'does neb efo 'mam ond Kit, a mi fydd yn galw amdanaf yn union," ebe Miss Trefor.

"Wel," ebe Enoc, " byddai'n anodd gennyf gredu nad ydech yn gwybod fy meddwl cyn i mi ei ddweud. 'Does dim posib nad ydech wedi deall ar f' ymddygiad ers llawer o amser bellach, fy mod yn coleddu rhyw deimlad tuag atoch nad ydyw cyfeillgarwch yn enw iawn arno. Mi wn ei fod yn rhyfyg ynof, ond ni allaf i ddim wrtho—yr wyf yn eich caru, Miss Trefor, ac yn eich caru mor fawr, fel na allaf ddychmygu bod yn bosibl caru yn fwy —."

Arhosodd Enoc am funud gan ddisgwyl iddi hi ddweud rhywbeth, ond ni ddywedodd air—yn unig edrychai'n dawel a digyffro yn ei wyneb. Ac ychwanegodd Enoc—dipyn yn fwy hyderus:

Dyna'r unig reswm oedd gennyf dros ddweud bod yn dda gennyf glywed am sefyllfa anghenus eich tad. Pe buasech yn gyfoethog—a gwyn fyd na fuasech—gallasech feddwl fod gennyf ryw amcanion hunanol, ond, yn wir, y chi eich hun yr wyf yn ei garu, ac nid dim sydd o'ch cwmpas. Mae'n ddrwg gennyf sôn am beth fel hyn a'ch mam mor wael, ond maddeuwch i mi—fedrwn i ddim dal ddim yn hwy. Rhowch i mi un gair—dim ond un gair o galondid, a byddaf yn ddyn perffaith ddedwydd. Ond os gwrthodwch fi—wel, y mae arnaf ofn y byddaf yn ddyn gwallgof."

"Mr. Huws," ebe Susi, a synnai Enoc sut y gallai hi siarad mor hunanfeddiannol, "mae'n ddrwg gen 'y nghalon i glywed eich stori—coeliwch fi. Mae'n ddrwg iawn gen i'ch clywed chi'n siarad fel yna. 'Rwyf yn cofio'r amser—pan oeddwn yn hoeden wirion ddisynnwyr —pryd y byddwn yn eich diystyru ac yn eich gwawdio yn fy nghalon. Maddeuwch i mi'r penwendid hwnnw—nid oeddwn yn eich 'nabod yr adeg honno. Wedi i mi'ch 'nabod yn iawn, a gweled eich gonestrwydd eich anrhydedd eich caredigrwydd di-ben-draw-yr wyf wedi dysgu'ch parchu, a'ch parchu yn fawr. Mi wn ers talwm fod pob gair a ddwedwch yn wir—neu fe ddylwn ddweud eich bod bob amser yn ceisio dweud y gwir. Yr ydech bob amser yn cario'ch calon ar eich llawes—mae'n amhosibl peidio â gweled hynny. 'Rwyf dan fil a mwy o ddyled i chi. 'Rydech chi wedi llenwi llawer ar 'y mhen gwag i—ydech yn wir. 'Rydech chi wedi gwneud i mi gredu bod y fath beth yn bod â dyn gonest a da. 'Dydw i'n gweled dim ond un gwendid ynoch chi—a hwnnw ydi—ych bod chi wedi bod mor ffôl â rhoi'ch serch ar hoeden ynfyd fel fi. A gadewch i mi geisio bod yr un fath â chi mewn un peth, Mr. Huws, sef bod yn onest a di-ragrith. Mi wyddwn ers llawer o amser eich bod yn meddwl rhywbeth amdanaf—fe fase raid i mi fod cyn ddalled â'r post i beidio â gweled hynny. Ac mi rois i chi gyfleustra ddegau o weithiau i ddweud eich meddwl. Ac er mwyn beth? Er mwyn i mi gael dweud hyn wrthoch chi, Mr. Huws, nad ydi o un diben i chi feddwl dim amdana i yn y ffordd yna—o un diben yn y byd."

"Miss Trefor," ebe Enoc, a'i galon yn i wddf, "ydech chi ddim o ddifrif wrth ddweud fel yna?"

"Mor ddifrif," ebe hi, "a bydawn yn y farn, a mae'n ddrwg iawn gen i orfod dweud fel yna, Mr. Huws, achos mi wn fydde fo ddim ond rhagrith ynof ddweud fel arall—fod hyn yn boen mawr i chi. Ond y mae gwrando ar eich cais, Mr. Huws, yn amhosibl yn amhosibl."

Pam? rhowch i mi reswm pam?" ebe Enoc yn drist.

"Fedra i ddim deud wrthoch chi pam, Mr. Huws," ebe Susi. "A chofiwch, 'dydi'r boen i gyd ddim o'ch ochr chi. Yr oedd gwybod—ac yr oedd yn amhosibl i mi beidio â gwybod eich bod wedi rhoi eich bryd arnaf yn fy mhoeni'n dost. Nid, cofiwch, am nad wyf yn ei ystyried yn compliment mawr. Mae i ferch gael ei hoffi—gael ei charu gan unrhyw ddyn—bydded ef cyn saled ag y bo—yn compliment iddi, a dylai ei werthfawrogi. Ond pan fydd un fel fi—ie, fel fi—un ydech yn ei 'nabod yn dda—yn cael ei charu gan un fel chi, Mr. Huws,—dyn, fel y dwedais o'r blaen, y mae gennyf y parch mwyaf iddo—wel, fe ddylai honno deimlo'n falch—ac yr wyf yn teimlo'n falch, a chofiwch na chaiff yr un glust byth—yn dra-gywydd glywed bod Susan Trefor wedi gwrthod Enoc Huws."

"Na chaiff, mi obeithiaf, achos fe fydd i Susan Trefor, ryw ddiwrnod, dderbyn cynnig Enoc Huws, ac wedyn ni chredai pobl pe dwedai hi hynny," ebe Enoc.

"Byth, Mr. Huws. A gadewch i mi grefu arnoch i roi'r meddwl heibio yn hollol ac am byth, a pheidio â sôn amdano eto. Dowch yma bob dydd—'does neb ag y mae mor dda gen i ei weld â chi. Mae 'mam yn meddwl y byd ohonoch, ac y mae 'nhad, mae arnaf ofn, yn byw arnoch, ond, Mr. Huws bach, peidiwch byth â sôn am beth fel hyn eto," ebe Susan.

"Pam? deudwch i mi'r rheswm pam?" ebe Enoc.

"Wel," ebe Susan, wedi petruso tipyn, "yr yden ni'n rhy debyg i'n gilydd. Yr yden ni wedi siarad cymaint â'n gilydd wedi cyfnewid meddyliau, a hynny am gymaint o amser, fel y byddaf yn dychrynu weithiau wrth geisio gwneud allan pa un ai Susan Trefor ai Enoc Huws ydw i. 'Ryden ni'n rhy debyg i'n gilydd i fod yn ŵr a gwraig. Nid dyna fy syniad i am ŵr a gwraig—fy syniad i ydyw y dylent fod yn hollol wahanol i'w gilydd, achos mi wn, bydae gen i ŵr tebyg i mi fy hun, yr awn yn y man i'w gasáu fel y byddaf yn fy nghasáu fy hun yn aml."

Gwenodd Enoc yn foddhaus, ac ebe fe:

"Mae'n dda gennyf ddeall, Miss Trefor, nad ydych yn fy nghasáu yn awr, a mi fyddaf yn hollol fodlon i gael fy nghasáu ryw dro eto fel rhan ohonoch chi'ch hun—mi gymeraf y risk."

"Mae'n fwy o risk nag yr ydech chi wedi'i ddychmygu, Mr. Huws, caech achos i edifarhau am eich oes. A 'rwan, rhaid i mi fynd, a pheidiwch â gwario munud i feddwl am y peth eto, Mr. Huws, yr wyf yn crefu arnoch," ebe hi.

"Yna," ebe Enoc yn ddwys, "rhaid i mi beidio â byw—mae peidio â meddwl amdanoch chi, Miss Trefor, yr un peth i mi â mynd allan o fod. A chyn i chi fynd—mae'n ddrwg gen i'ch cadw cyd—dwedwch y cymerwch wyth—nos, bythefnos, ie, fis, i ystyried y peth, a pheidiwch â dweud bod y peth yn amhosibl."

"Yr wyf wedi ystyried y peth yn bwyllog, Mr. Huws, cyn i chi ddwad ag ef ymlaen. 'Dydw i ddim yn cellwair â chi er mwyn eich tormentio—mae gen i ormod o barch i chi i wneud hynny. Yr wyf yn dweud fy meddwl yn onest, a 'wneith dim beri i mi newid fy meddwl. Cewch weld ryw ddiwrnod mai dyna'r peth gore i chi a minne. Gobeithio y cawn bob amser fod yn gyfeillion, ac yn gyfeillion mawr—ond popeth dros ben hynny—wel, yr ydech chi'n dallt fy meddwl, Mr. Huws. 'Rwyf yn awyddus i achosi cyn lleied o boen i chi ag sy bosibl—achos yr hyn fydd yn eich poeni chi fydd yn siŵr o 'mhoeni inne."

"Wel," ebe Enoc, "os dyna'ch penderfyniad, gellwch fod yn sicr y byddwch mewn poen tra fyddwch byw—neu'n hytrach, tra fydda i byw, oblegid mi wn na cha i bellach orffwystra na dydd na nos."

"'Rydech chi'n camgymryd, Mr. Huws," ebe Susan. "Ar ôl i ni ddeall ein gilydd, fe eith hyn drosodd fel popeth arall 'dydi cariad na chas y gore ohonom ond lletywr dros noswaith, ac fe ddaw rhywbeth arall yn ei dro i gymryd ein bryd, ac felly o hyd, ac felly o hyd, nes awn ni ein hunain i angof."

"'Ddwedech chi ddim fel yna, Miss Trefor," ebe Enoc yn athrist iawn, "pe gwyddech fel yr wyf yn eich caru. Duw a ŵyr mai chi yw fy mhopeth, ac nad ydw i'n rhoi pris ar ddim daearol ar wahân i chi. Ond a wnewch chi ateb un cwestiwn i mi cyn i chi fynd?"

"Wn i ddim, wir, Mr. Huws, achos mi fyddaf yn gofyn llawer o gwestiynau i mi fy hun, heb fedru eu hateb," ebe hi.

"Ond mi fedrwch ateb y cwestiwn yr wyf am ei ofyn," ebe Enoc.

"Mae ambell gwestiwn nad yw'n ddoeth ei ateb, ac na ddylid ei ateb," ebe hi.

"Cewch farnu drosoch eich hun am hynny," ebe Enoc. "Goddefwch i mi ofyn i chi—A ydech wedi rhoi'ch serch ar rywun arall?"

Am foment ac am y waith gyntaf yn ystod yr ym—ddiddan, ymddangosai Susan yn gynhyrfus, ac fel pe buasai wedi colli tipyn ar ei hunan—feddiant, ond ebe hi yn union:

"Ar bwy, Mr. Huws, y buaswn i yn rhoi fy serch? Chwi wyddoch nad oes un dyn yn dwad yn agos i Dŷ'n yr Ardd ond y chi."

"'Dydech chi ddim yn ateb fy nghwestiwn, Miss Trefor," ebe Enoc.

"Wel," ebe hi, gan fesur ei geiriau yn wyliadwrus, "ers rhai blynyddoedd 'dydw i ddim wedi cyfarfod ag un dyn i'w edmygu yn fwy na chi eich hun, Mr. Huws. 'Wneith hynny eich bodloni?

"Na 'neith," ebe Enoc. "Yr wyf yn bur hy, mi addefaf, ond 'dydech chi ddim wedi ateb fy nghwestiwn."

"'Rwyf wedi ei ateb ore y gallwn," ebe hi.

"A 'does gynnoch chi ddim gwell na dim mwy cysurus i'w ddweud wrthyf cyn i chi fynd?" ebe Enoc, gan godi ar ei draed, a lleithiodd ei lygaid yn erbyn ei waethaf.

"Dim, Mr. Huws bach," ebe hi, ac nid oedd ei llygaid hithau yn neilltuol o sychion. Ychwanegodd, gan estyn ei llaw i ffarwelio ag ef: "Brysiwch yma eto. Pan ddaw 'mam dipyn yn well, mi fydd yn dda gan ei chalon eich gweled."

Ac felly y gadawodd hi Enoc gan droi tuag ystafell ei mam. Ar ben y grisiau safodd yn sydyn, a throdd i mewn i'w hystafell ei hun, ac edrychodd i'r drych—y peth cyntaf a wna pob merch brydferth wrth fynd i ystafell wely. Yna fe'i taflodd ei hun i gadair, ac wylodd yn hidl. Ymhen dau funud, neidiodd i fyny ac ymolchodd heb anghofio twtio'i gwallt, a phe buasai rhywun yn ei hymyl, gallasai ei chlywed yn sibrwd:

"Poor fellow! mi wyddwn o'r gore mai fel yna yr oedd hi arno. Mae o'n ddyn da—da iawn—a mae o'n mynd yn well o hyd wrth ei 'nabod. Mae'n rhaid i mi addef fy mod yn ei licio'n well bob dydd—mae o'n ddyn upright ac yn honourable, a dim Humbug o'i gwmpas. A bydaswn i'n siŵr yn hollol siŵr—na ddoe—wel, mi faswn yn rhoi 'mreichiau am 'i wddf o, ac yn 'i gusanu, achos y mae'n rhaid i mi addef y gwir—yr ydw i'n ffond ohono fo. Na, faswn i ddim chwaith! Yr idea! Byth yn dragywydd! Er, wn i ddim be ddaw ohonof. Mi fydd raid i mi ennill 'y nhamed rywsut. Ond mi ddalia at fy llw, a mi gymra fy siawns. Ac eto, hwyrach 'y mod i'n sefyll yn fy ngole fy hun—sentiment ydi'r cwbl. Mor falch fase ambell un o'r cynigiad! O! bobl annwyl! y fath row sy'n y byd! A fyddwn ni yma fawr! Sut mae 'mam, druan, erbyn hyn?"

Ac i ystafell ei mam yr aeth cyn llawened â'r gog, fel pe na buasai dim wedi digwydd.

PENNOD XL

Llw Enoc Huws

NI buasai Enoc erioed (ond cof pob diwaethaf) mor druenus ei feddwl. Yn ei holl "brofedigaethau," yr oedd, ers llawer o amser bellach, wedi arfer cael rhyw gymaint o ddedwyddwch wrth freuddwydio amdano'i hun a Miss Trefor fel gŵr a gwraig. Yn wir, yr oedd y breuddwyd mor fyw iddo weithiau, ac yn rhychwantu mor bell i'r dyfodol, nes byddai'n ei weled ei hun, â'i wallt yn dechrau britho, yn dad i bedwar o blant—dau fachgen a dwy eneth—gydag enwau a phrydwedd pob un ohonynt yr oedd ef yn hynod gyfarwydd, ac yn neilltuol o hoff o'r ieuengaf! Ond erbyn hyn yr oedd ei freuddwyd wedi diflannu fel niwl y bore. Nid yn hollol felly chwaith, oblegid cyfaddefai wrtho'i hun, ei fod wedi torri ffigur truenus o wael wrth ei gynnig ei hun i Miss Trefor, a thybiai, ambell foment, pe buasai wedi gallu bod yn ddigon hunan—feddiannol i siarad â hi fel yr oedd wedi paratoi, y gallasai'r canlyniad fod yn wahanol. Ac eto ni allai anghofio mor benderfynol yr oedd hi wedi gwrthod ei gynigiad. Ar yr un pryd cofiai Enoc mor hynaws a charedig oedd hi hyd yn oed wrth wrthod ei gais. Yn wir, yr oedd hi wedi cydnabod ei bod yn ei barchu fwyfwy fel yr oedd ei hadnabyddiaeth ohono yn cynyddu, a phwy a wyddai, fel y deuai hi i'w adnabod yn well eto, na ddeuai yn y man i'w garu yn angerddol? Meddyliau fel hyn a lanwai galon Enoc, druan, ac, yn wir, ei ystumog hefyd, canys ni fwytâi ond y nesaf peth i ddim, a mynych y dywedodd Marged mai gwastraff oedd paratoi pryd o fwyd, ac na allai robin goch fyw ar yr hyn a fwytâi Enoc. Bychan y gwyddai hi mai bara angylion oedd ei ymborth ef y dyddiau hynny!

Nid oedd Enoc yn goegfalch na chymhengar, nac mewn un modd yn un oedd yn coleddu syniadau uchel amdano'i hun—yr oedd ei dueddfryd ffordd arall—yn feius felly. Ond bu ei aflwyddiant gyda Miss Trefor yn achlysur i gynhyrfu gwaelodion ei natur. Ac yr oedd hynny'n ddigon naturiol, oblegid nid oes dim a bair i ddyn deimlo fel pe bai 'n cael ei flingo'n fyw, fel cael ei wrthod gan ferch. Ac, o drugaredd, anfynych y digwydd y fath beth, canys y mae dynion, fel rheol, yn gall, ac fel y dyn da pan oedd yn cyfansoddi'r Rhodd Mam, yn gwybod yr ateb cyn gofyn y cwestiwn. A dyna lle camgymerodd Enoc—dylasai wybod yr ateb cyn gofyn y cwestiwn. Mae tipyn o hunan—barch yn y dyn mwyaf gostyngedig ac iselfryd, ac nid oes eisiau ond sathru ar ei droed i gael hynny allan. Mae sathru ar ei gorn yn gwneud iddo gau ei ddwrn y munud hwnnw. Ychydig o ddynion, yr wyf yn meddwl, oedd wedi meddwl llai ohonynt eu hunain, ac amdanynt eu hunain, nag Enoc Huws, ond bu gwaith Miss Trefor yn ei wrthod fel darpar gŵr, yn foddion iddo dreulio tipyn o amser i'w fesur a'i bwyso'i hunan. Ac wedi iddo wneud hyn, y casgliad y daeth iddo oedd ei fod yn well dyn nag yr oedd wedi tybied. ei fod. Barnai Enoc yn gydwybodol nad ydoedd yn ffŵl—nad ydoedd, o ran ymddangosiad, yn ddirmygedig— ei fod, mewn ystyr fydol, yn weddol gyfforddus,—o ran safle yn y dref, yn symol barchus—ac na buasai raid i Miss Trefor wrth dderbyn ei gynigiad "ddringo i lawr." Penderfynodd—ac yr oedd y penderfyniad hwn yn beth mawr iddo ef—syrthio ar ei anrhydedd, a gwnaeth lw yn ei fynwes nad âi byth mwy i Dy'n yr Ardd heb ei ofyn. Nid oedd y llw yn golygu—oblegid yr oedd ef yn gofalu am gael perffaith ddealltwriaeth rhyngddo ac ef ei hun—na byddai iddo ei gynnig ei hun eilwaith it Miss Trefor ryw dro,—yn wir, nid oedd ef eto'n ddi-obaith am lwyddo yn ei gais yn y man. Nid oedd y llw ond math o deyrnged ddyledus i'w urddas clwyfedig. Ac wrth roddi'r llw mewn gweithrediad, teimlai ei fod yn gofyn aberth mawr ar ei ran, a theimlai rhywun arall hefyd rywbeth oddi wrtho, ond ni wyddai ef mo hynny. Cadwodd Enoc ei lw am—wel, cawn weled am ba hyd. Rhaid cydnabod, er mai anfynych yr âi Enoc dros hiniog ei dŷ y pryd hynny, fod ei ysbryd yn fwy presennol nag erioed yn Nhy'n yr Ardd. Syrthiodd yn naturiol i'w hen arferiad o fyned, ar ôl swper, i'r offis, gan gymryd arno wrth Marged fod ganddo fusnes" i'w wneud. Yno yr arhosai am oriau bob nos, a'r unig "fusnes" a wnâi oedd mygu yn ddibaid, gan nodio a phoeri, fel cynt, yn sarcastic i lygad y tân. Ped ysgrifennid pob ymson a hunan—ymddiddan a fu yn yr offis y nosweithiau hynny, gwnaethent gyfrol drwchus.

I dorri tipyn ar unrhywiaeth ei fyfyrodau, daeth priodas Marged a Tom Solet ar warthaf Enoc heb iddo ddisgwyl. Mae'n wir fod Marged wedi crybwyll fwy nag unwaith am yr amgylchiad—megis drwy ei atgofio ei fod wedi addo rhoi'r brecwest, ac wedyn drwy ofyn iddo beth a gâi hi baratoi ar gyfer y brecwest, a phwy a pha nifer y câi hi eu gwahodd i ddyfod i'r wledd. Rhoddodd Enoc gennad iddi wneud fel y mynnai, ac i wahodd y neb a fynnai, ac ni feddyliodd fwy am y peth. Mor absennol ei feddwl oedd fel na lwyr sylweddolodd fod Marged yn mynd i'w adael, nes iddi hi, y prynhawn o flaen y briodas, ei wahodd i'r gegin gefn i weled â'i lygaid ei hun y darpariaethau. Yno yr oedd cwpl o gywion, ham gartre, tafod eidion, a lwmp o biff wedi eu coginio ac wedi oeri—y cywion wedi eu gwisgo â phersli, a mwnwgl yr ham wedi ei addurno â phapur gwyn a phinc yn ddestlus ddigon. Ni ddychmygasai Enoc y buasai Marged yn cymryd mantais ar y caniatâd a roesai iddi i fynd "i mewn" am bethau fel hyn. am bethau fel hyn. Ond er y gwyddai fod y cwbl ar ei gost ef ei hun, nid oedd ei galon yn gwarafun, oblegid credai Enoc fod yr hyn oedd yn werth ei wneud o gwbl, yn werth ei wneud yn iawn. Pan welodd Enoc y danteithion, gwenodd—y wên gyntaf fu ar ei wyneb ers dyddiau rai, ac ebe fe:

"Pwy fu'n cwcio i chi, Marged?"

"Y fi fy hun, debyg," ebe Marged. Ac ebe Enoc yn ei frest: "Lle bo ewyllys bydd gallu—welais i 'rioed moni'n troi pethau allan fel hyn o'r blaen," ac ychwanegodd, gan fwriadu i'r gair fod dipyn yn frathlym: 'Rydech chi wedi anghofio un peth pwysig, Marged,—lle mae'r gacen briodas?"

"Na, nid anghofio ddaru mi, mistar, ond 'doeddwn i ddim yn licio cymryd hyfdra i ordro gormod o bethe, a 'ddyliwn 'i bod hi'n rhy hwyr yrwan?" ebe Marged.

"Mae'n debyg ei bod rhaid i ni drio gwneud heb yr un," ebe Enoc, ac ychwanegodd: "Pwy sy'n dwad i fwyta'r pethe 'ma i gyd, Marged?"

"Wel," ebe Marged, "dene fi, a Tom, a chithe, a Betsi Pwel, a Robert Jones, a chithe, a'r dynion yn y siop, 'ddyliwn, a finne. O! mi fydd yma lot ohonom ni, a dene Tom hefyd."

"Fe ddylech," ebe Enoc, "ar bob cyfrif, ofyn i Mr. Brown, y person, ddwad yma, a Hugh, y clochydd, mae o wedi claddu llawer yn ei oes, a Jones, y plismon, ac, yn enwedig, Didymus, y reporter, ne' chewch chi ddim report o'r briodas yn y papur newydd."

"Mi faswn yn licio'n arw i'r hanes fod yn y papur newydd, ond fûm i 'rioed yn siarad efo Didymus," ebe Marged.

"Wel," ebe Enoc, "mi ofynna i i Didymus a Jones y plismon, a gofynnwch chithe i'r lleill, ac oni bai ei bod wedi myned yn rhy ddiweddar, mi faswn yn gwâdd Chairman y Local Board a Lord Lieutenant of the County. Mae Lord Mostyn a Syr Watcyn ar y cyfandir, neu fase fo harm yn y byd gofyn iddyn nhwthe!'

"Ffasiwn biti!" ebe Marged.

"'Does mo'r help," ebe Enoc, gydag wyneb difrif. 'Doedd o gamp yn y byd iddo gadw wyneb o'r fath y dyddiau hynny.

"'Rydech chi'n dallt, mistar," ebe Marged, pan oedd Enoc yn cychwyn ymaith, "mai chi fydd yn fy rhoi i?"

"Be 'dech chi'n i ddeud, Marged?" ebe Enoc, ac yr oedd ei wyneb yn ddifrif mewn gwirionedd erbyn hyn.

"Mai chi fydd yn fy rhoi i," ebe Marged.

"'Dydw i ddim yn ych dallt chi," ebe Enoc.

"Wel," ebe Marged, "'roedd Mr. Brown, y person, yn deud y bydde raid i mi gael rhwfun i'm rhoi i, a fedrwn i feddwl am neb 'blaw chi, mistar, a 'roedd Mr. Brown yn deud y gnaech chi'n iawn—'doedd isio neb gwell."

"Wn i ddim am beth felly, a mi fydde'n well gen i i rwfun arall 'neud y gwaith, Marged," ebe Enoc.

"Mae hi'n rhy hwyr i ofyn i neb arall, mistar," ebe Marged.

"Pa amser yfory y mae'r briodas i fod?" gofynnai Enoc.

"Gynted y canith y gloch wyth," ebe Marged. Petrusodd Enoc am funud, a meddyliodd na byddai neb o gwmpas yr adeg honno o'r dydd, a dywedodd:

"'Wel, mae'n debyg y bydd raid i mi drio gneud y job, ond cofiwch chi, Marged, fy ngalw yn ddigon bore."

"Trystiwch chi fi am hynny," ebe Marged.

Gan na welsai Enoc erioed briodas yn Eglwys Loegr, ni wyddai pa ddyletswyddau oedd ynglŷn â'r "rhoi," ac eto yr oedd rhyw argraff ar ei feddwl fod "rhoi i briodas" yn ymadrodd Ysgrythurol. Dechreuodd deimlo'n ofnus ac anghyfforddus; a rhag bod yn hurt, meddyliodd mai'r peth gorau iddo, ar ôl cau'r siop, fyddai rhedeg cyn belled â Mr. Brown, y person, i gael gwybod natur y dyletswyddau, yr hyn a wnaeth. Yr oedd Enoc a'r hen berson rhadlon ar delerau hynod gyfeillgar, a chafodd dderbyniad croesawgar, ac esmwythâd i'w feddwl, pan eglurodd Mr. Brown na ddisgwylid iddo wneud dim ond dweud, "y fi," pan ofynnai ef pwy oedd yn "rhoi"'r briodasferch. A 'rwan, Mr. Huws," ebe'r hen berson, yn llond ei groen, a hapus yr olwg,—yr oedd ef, erbyn hyn, wedi llwyr anghofio'r wers ofnadwy a gawsai gan fam Rhys Lewis , er nad oedd ei Gymraeg ronyn gwell—"'rwan, Mr. Huws,' ebe fe, "nid yn amal ydech chi'n dwad yma—newch chi cymyd glasaid o gwin?

"Dim, diolch i chwi, Mr. Brown, fydda i ddim yn arfer yfed peth felly,—'rydw i'n ddirwestwr," ebe Enoc.

"'Wyddoch chi, Mr. Huws, 'rydech chi, Calvins, yn pobol smala iawn—'rydech chi'n gwaeth na Pabyddion. 'Rydech chi'n meddwl ych hun yn rhy duwiol i cymyd y pethe da y ma'r Brenin Mawr wedi roi i'w creaduried gwael, ac yn meddwl y cewch chi mynd i'r nefodd o blaen pobol erill am hynny. Ond credwch chi fi, Mr. Huws, cewch chi ddim. Cewch chi ddim mynd yno cam gynt am beidio cymyd pethe da Duw—cewch chi gweld. A 'rydech chi wastad—fel y deudes i llawer gwaith wrth Abel Huws—Cristion da odd o—â'ch penne yn y plu 'run fath a giâr yn moultio. Ma digon buan i ni moultio pan ma raid i ni gadel y pabell hon. A ma o'n pechod hefyd i beidio cymyd y pethe gore medrwch chi cael mewn bywyd—a tynnu gwyneb hir 'run fath â daech trwyn chi ar y maen llifo pob amser. Ma o'n dangos ysbryd di-diolch a pechadurus, a cewch chi weld rhw diwrnod, Mr. Huws, ma fi sy'n right."

"'Rydw i bron â chredu'n barod mai chi sy'n right, Mr. Brown, achos y mae 'nhrwyn i wedi bod ddigon o hyd ar y maen llifo—byd a'i gŵyr," ebe Enoc.

"Mi gwyddwn hynny," ebe Mr. Brown, "ond gadewch i mi gweld—ond waeth i mi tewi—gwn ma Mr. Simon fydd yn ych priodi chi, ond gwneith hynny dim ods. Pryd y ma o i ddwad, Mr. Huws? Ma Miss Trefor yn geneth propor iawn, ac yn tebyg o gneud gwraig da. Pryd ma o i fod, Mr. Huws?"

"Y nefoedd fawr a ŵyr!" ebe Enoc gan godi i ymadael.

"Dyma chi, Mr. Huws," ebe Mr. Brown wrth ysgwyd llaw ag Enoc, "os gynnoch chi dim cwilydd? Tyma fi wedi priodi Tom Solet tair gwaith, a mynd i priodi o yfory y pedwar gwaith. Ma o'n cwilydd i chi! Cofiwch Mr. Huws, os na neith Mr. Simon priodi chi, mi na i, a hynny am dim—mi cowntia fo'n onar, a mi na i chi'n digon saff."

Nid oes dim yn well i ddyn mewn profedigaeth ac iselder ysbryd na chymysgu â phobl. Teimlai Enoc—ar ôl bod yn pendroni mewn unigrwydd am ddyddiau a nosweithiau—yn ysgafnach a hoywach ei ysbryd wedi cael ymddiddan â Mr. Brown. Er mor anobeithiol oedd Enoc, yr oedd gwaith Mr. Brown yn cyfeirio at Miss Trefor fel ei ddarpar gwraig, heb os nac oni bai, yn falm i'w glwyfau. Pam y mae pawb yn siarad fel hyn, os nad yw'r peth i fod?" meddai Enoc ynddo'i hun. Erbyn hyn, dechreuai deimlo tipyn o ddiddordeb ym mhriodas Marged, ac nid oedd yn ddrwg ganddo y byddai raid iddo gymryd rhyw fath o ran ynddi—rhoddai hyn dipyn o brofiad iddo erbyn y dôi ei dro yntau. Cyfeiriodd ei gamau tua phreswylfod Didymus i'w wahodd i'r brecwest, ond arbedwyd y siwrnai iddo. Ar ei ffordd trawodd ar Jones y Plismon. Yr oedd Jones—yn wahanol i'w frodyr—yn dyfod i'r golwg mewn rhyw fodd na allai Enoc roi cyfrif amdano bob amser pan fyddai ei eisiau, ac er nad oedd ef yn neilltuol hoff ohono, eto teimlai Enoc ei fod dan gymaint o rwymau iddo, a bod a wnelai Jones gymaint â'i dynged, fel na allai lai na'i edmygu a'i barchu.

"Hylo!" ebe Jones, "gŵr go ddiarth, onid e? Welais i monoch chi ers gwn i pryd, Mr. Huws. Deudwch i mi, ydech chi wedi peidio â mynd i Dŷ'n yr Ardd?"

"Fûm i ddim yno ers rhai dyddiau," ebe Enoc. "A!" ebe Jones, "mi wyddwn mai felly y bydde hi. Oeddwn i ddim yn right? Mae'n dda gen i 'ch bod chi'n dallt y cwbl erbyn hyn. Ond y mae'r hen wraig yn wael iawn, mi glywais?"

"Glywsoch chi rwbeth heddiw?" gofynnai Enoc. "Do, Mr. Huws,—mae hi'n llawer gwaelach. Mi fydd yno smash ryw ddiwrnod, ond y mae'n dda gen i 'ch bod chi'n dallt pethau yn o lew," ebe Jones.

"Fyddwch chi'n rhydd yn y bore? ddowch chi acw i frecwest priodas Marged? Mae hi wedi paratoi toreth o ymborth, ac fe fydde'n resyn iddo fod heb ei fwyta. Fedrwch chi ddwad?" gofynnai Enoc.

"Medra, 'eno dyn, a mi fydd yn dda gen i gael dwad," ebe Jones. "A mae'r hen Fari Magdalen yn ych gadel chi ynte? Y fath waredigaeth!"

"Ydi," ebe Enoc, "a mi liciwn bydae popeth drosodd. Ond deudwch i mi, welsoch chi mo Didymus heno? Mi faswn yn licio iddo yntau fod acw."

"Gadewch hynny i mi, Mr. Huws, mi 'i gwelaf o toc," ebe Jones.

"Diolch, a chofiwch fod acw erbyn yr amser," ebe Enoc, yn llawn pryder a allai ef ei hun godi yn ddigon bore i "roi" Marged.

PENNOD XLI

Priodi a Fynnant

Ni allai Enoc yn ei fyw las gysgu'r noswaith o flaen priodas Marged, yn wir, nid oedd ef, er y prynhawn y buasai ddiwethaf yn Nhy'n yr Ardd—yn abl i gysgu ond ychydig. Trôi a throsai yn ei wely, nes byddai agos yn bryd codi, ac yna pan gurai Marged ar ddrws ei ystafell wely saith o'r gloch y bore—yr hyn a wnâi hi bob bore trwy'r flwyddyn teimlai Enoc bron marw gan eisiau cysgu. Y noswaith cyn priodas Marged clywodd y cloc yn taro un, dau, tri, pedwar, pump, ac yntau heb gysgu winc,—ac yna cysgodd fel carreg. Am chwarter i chwech, curodd Marged ar ddrws ei ystafell yn galed. Atebodd Enoc drwy ei hun, ond mewn gwirionedd ni wyddai ef fwy am ei churo na phe buasai hi yn curo ymyl y lleuad. Arhosodd Marged i'r cloc daro chwech, ac aeth at y drws a gofynnodd yn foesgar: "Ydech chi'n codi, mistar?" Dim ateb. Curodd Marged drachefn, ond. nid oedd neb yn ystyried. Dychrynodd yn enbyd, a meddyliodd fod ei meistr wedi marw, a chychwynnodd Marged i ymofyn help, ond trodd yn ei hôl, a gosododd ei chlust ar rigol y drws. Mor rhyfedd! nid rhyw lawer o amser cyn hynny yr oedd Enoc yn gwrando'n ddyfal wrth yr un rhigol am chwyrniadau Marged, a dyma hithau yrwan, lawn mor bryderus, yn gwrando am chwyrniadau Enoc! Y fath bwys sydd mewn bod yn chwyrnwr! A'r fath ollyngdod a gafodd Marged pan glywodd hi Enoc yn chwyrnu'n drwm a chyson, a'r fath nerth a roddodd hynny yn ei braich i guro'r drws nes oedd bron oddi ar ei golynnau!

"Hylô! Be 'di'r mater?" ebe Enoc, a neidiodd i'r llawr gan feddwl bod y tŷ yn dyfod i lawr am ei ben. "Os na feindiwch chi, mistar, 'rydech chi'n bownd o fod ar ôl," ebe Marged.

"O'r gore, Marged," ebe Enoc, a dechreuodd sylweddoli lle 'roedd, a beth oedd i fod y bore hwnnw.

Edrychodd ar ei watch—pum munud wedi chwech—yr oedd digon o amser, ac eisteddodd ar ymyl y gwely—dim ond am funud—cyn dechrau ymwisgo. Caeodd ei lygaid dim ond am funud—yna ymddangosai fel pe buasai yn ceisio taro rhywbeth â'i ben yr ochr chwith, ac wedi methu ceisiai ei daro yr ochr dde, ond i ddim pwrpas. Newidiodd ei ffordd, ac fel bwch gafr, ceisiodd daro'r rhywbeth â'i dalcen, a bu agos iddo syrthio, peth a barodd iddo agor ei lygaid i'w cau drachefn, ac i fyned trwy'r un ystumiau laweroedd o weithiau, nes clywodd Marged yn dyfod i fyny'r grisiau'n drystiog, ac yn dweud: "Wel, yn eno'r annwyl dirion!" a phesychodd Enoc yn uchel fel pe buasai yn hanner tagu, a throdd Marged yn ei hôl. Yr oedd ef erbyn hyn wedi cwbl ddeffro, ac er mwyn argyhoeddi Marged o'r ffaith, gwnâi gymaint o drwst ag a fedrai, megis drwy godi caead ei gist ddillad a gadael iddo syrthio yn sydyn, a churo'r jwg dŵr yn y ddysgl ymolchi, fel pe buasai'n gwerthu potiau. Edrychodd ar ei watch—deng munud wedi saith! Lle yn y byd mawr yr oedd wedi bod er pum munud wedi chwech? Prin y gallai gredu ei lygaid. Rhaid ei fod wedi cysgu, oblegid o ran ei deimlad nid oedd wedi eistedd ar ymyl y gwely ond am ryw ddau funud. Cydymdeimlai Enoc â Marged yn fawr erbyn hyn, canys gwelai ei fod wedi achosi cryn bryder iddi, ac er mwyn ei llwyr argyhoeddi ei fod yn hollol effro, ac agos yn barod i fynd i lawr, aeth Enoc allan o'i ffordd a chanodd yn uchel, er nad oedd canu ar ei galon. Ymhen ychydig funudau yr oedd ef i lawr yn y gegin, ac wedi ymwisgo fel pin mewn papur, peth a roddodd derfyn ar bryder Marged oedd, gyda Betsi Pwel, yn barod ers meityn i fynd i'r Eglwys. Ebe Marged:

"Wel, mistar, 'roeddwn i just a meddwl na fasech chi byth yn codi, a dyma hi 'rwan yn ugen munud wedi saith."

"Mae digon o amser, a 'ddyliwn i na fuoch chi ddim yn ych gwely, Marged, i fod wedi paratoi'r brecwest fel hyn, ac wedi'ch gneud ych hun yn barod mor fuan," ebe Enoc.

"Do, memo diar," ebe Marged, ond yr ydw i wedi codi er pedwar o'r gloch ar gloc y llofft, a ma hwnnw hanner awr rhy fuan, a roedd popeth yn barod cyn i Betsi ddwad, a phryd y daethoch chi, Betsi?

"Hanner awr wedi pump ar y dre," ebe Betsi.

"Rhai garw ydech chi; mi liciwn i allu bod mor effro yn y bore," ebe Enoc.

Mi 'i gwranta chi y byddwch chi'n ddigon effro y bore y byddwch chi a Miss Trefor yn mynd i'ch priodi, oni fydd o, Betsi?" ebe Marged.

"Rhowch i mi 'paned o de, da chi, Marged, achos 'rydw i'n teimlo 'reit bethma," ebe Enoc.

"Wel, ond oes ma 'paned yn gweitied amdanoch chi ers awr, mistar. Ond cofiwch na chewch chi ddim ond rhw ddeilen o frechdan efo hi ne fedrwch chi ddim myjoyio'ch brecwest pan ddown ni'n ôl o'r Eglwys," ebe Marged yn fêl ac yn fefus. "A 'rwan," ebe hi ar ôl tywallt y te i Enoc, "wrth fod Betsi'n byw yn ymyl yr Eglwys, mi awn ni yno, a mi ddowch chithe i'r Eglwys erbyn y canith y gloch wyth, oni ddowch chi, mistar?

"Dof, wrth gwrs," ebe Enoc, ac aeth Marged a Betsi ymaith.

Yfodd Enoc "y 'paned te" heb gyffwrdd â'r ddeilen frechdan. Yna llwythodd ei bibell,—oblegid yr oedd digon o amser i gael mygyn cyn mynd i'r Eglwys, ac eisteddodd mewn cadair esmwyth o flaen y tân braf. Teimlai'n enbyd o gysglyd, ac felly y gallai, canys nid oedd, fel y dywedwyd, wedi cysgu ond ychydig ers wythnosau, ac nid oedd o un diben mynd i'r Eglwys yn rhy fuan. Dechreuodd Enoc ei fygyn, a synfyfyrio, a chollodd ei dân. Taniodd ei bibell wedyn ac wedyn—syrthiodd ei ên ar ei frest, syrthiodd ei bibell o'i law, ac yna—wel, cysgodd yn drwm. Deffrowyd ef gan ran—tan ar y drws. Neidiodd Enoc ar ei draed—edrychodd ar y cloc—chwarter wedi wyth! Trawodd ei het am ei ben a rhuthrodd i'r drws. Jones y Plismon, oedd yno wedi dyfod i'w nôl, ac yn protestio bod Marged agos â mynd i ffit, a Mr. Brown yn tyngu nad âi ymlaen gyda'r gwasanaeth os na ddeuai Enoc i "roi" Marged. Brasgamodd Jones ac Enoc tua'r Llan. Aeth Jones i'r festri i hysbysu Mr. Brown am ddyfodiad Enoc, ac aeth Enoc rhag ei flaen at yr allor. Ar un edrychiad gwelodd Enoc fwy nag yr oedd wedi bargeinio amdano. Yr oedd yn yr hen Eglwys o gant a hanner i ddeucant o bobl wedi dyfod i weled y seremoni, a phob un yn wên o glust bwygilydd, ac yn cil-chwerthin yn ddireidus. Ond yn fwy amlwg na phawb yn ymyl yr allor, ac yn edrych yn bryderus am ei ddyfodiad, gwelai Enoc wyneb Marged fel llawn lloned a chyn goched â chrib y ceiliog. Ni wyddai Enoc pa beth i'w wneud gan gywilydd, a chwysodd yn ddiferol, ac wedi eistedd yng nghymdogaeth yr allor, tynnodd ei law trwy ei wallt a chafodd ei fod fel cadach llestri gan chwys. Yn union deg daeth Mr. Brown ymlaen yn ei wisg glerigol, ac er ei fod, erbyn hyn, yn bedwar ugain oed, edrychai'n llyfndew a grasol. Yr oedd direidi diniwed lond ei lygaid y bore hwnnw. Cymerodd Mr. Brown drafferth i osod y cwmni mewn trefn, ac o dosturi at Enoc, gosododd Mr. Brown ef â'i gefn at y gynulleidfa. Teimlai Enoc yn ddiolchgar iawn iddo. Er cymaint oedd ffwdan Enoc, ni allai beidio â sylwi ar y dirfawr wahaniaeth oedd yng ngwisgoedd y briodas. Yr oedd Marged a Betsi Pwel wedi eu gwisgo mewn gwyrdd newydd danlli o liw porfa, a'u boneti o liw cyffelyb wedi eu trimio yn drwm â choch—mor goch nes codi cur ym mhen Enoc wrth edrych arno. Yr oedd Robert Jones, y gwas priodas, oedd yntau yn gweithio dan y Local Board, mewn côt a gwasgod o stwff cartre wedi ei weu yng Nghaerwys, ac wedi gweled ambell aeaf, a thrywser melyn, yn dechrau duo tua'i benliniau prawf eglur mai yn y trywser hwn yr âi Robert i'r capel ar y Sul, ac i'r cyfarfodydd gweddio ganol yr wythnos. Ond y priodfab—Tom Solet—a gymerodd fwyaf o sylw Enoc. Ystyrid Tom yn dipyn o gybydd, a gwyddai Enoc hynny yn burion. Ond canfu Enoc fod Tom (yn ddiamau ar ôl clywed Jones, y plismon, yn dweud bod gan Marged bres)—mewn trywser cord newydd—balog fawr a botymau corn gwynion arno. Yr oedd y trywser yn rhy hir o dair modfedd, ac wedi ei droi i fyny i'r mesur yn y gwaelod. Chwarae teg i Tom, nid oedd wedi ei roi amdano hyd y bore hwnnw, a pha fodd y gallasai gael ei altro? Am gefn Tom yr oedd côt o blue superfine West of England, a gwasgod o liw caneri a botymau pres arni; a pha beth bynnag oedd eu diffygion—ac nid oeddynt yn berffaith—yr oedd y teiliwr a fu'n eu cynllunio ac yn eu rhoi wrth ei gilydd wedi mynd "i'w aped" ers llawer blwyddyn. Y rhain oedd "côt a gwasgod wedin" Tom pan briododd y wraig gyntaf, ac yr oeddynt erbyn hyn yn gwrando'r wers briodas y pedwerydd tro, ac yn ei medru, yn ddi—amau, cystal â Mr. Brown ei hun. Trawyd Enoc hefyd gan ymddangosiad gwahanol y rhai oedd o'i flaen—yr oedd Marged a Betsi—yn enwedig Marged, â'u hwynebau fel ffwrnes, eto'n ddedwydd iawn. Robert Jones yn welw a difrif fel pe buasai ar ei dreial, a Tom yn eglur fwynhau ei sefyllfa, â'i wyneb tua'r llawr, ac yn edrych dan ei guwch fel mochyn yn bwyta pys. Teimlai Enoc wrthuni ei sefyllfa, a rhyfeddai beth oedd wedi ei lygad—dynnu i'w osod ei hun yn y fath gwmni. Er bod Mr. Brown yn cyflymu dros y wers, ymddangosai'n enbyd o hir i Enoc. Ac eto nid oedd y seremoni heb ryw gymaint o gysur a boddhad iddo. Yr oedd Enoc, fel y gŵyr y darllenydd, yn ŵr haelionus, ac wedi "rhoi" llawer yn ystod ei oes, ond "rhoi" Marged oedd y rhodd fwyaf ewyllysgar a ddaeth erioed o'i galon, a buasai'n dda ganddo fod wedi cael cyfleustra i'w "rhoi" yn gynt pe buasai rhywun wedi ei gofyn. Ni byddai Mr. Brown yn gwastraffu amser ar achlysuron fel hyn, a da gan Enoc oedd cael mynd i'r festri o olwg y gynulleidfa i orffen y busnes, ac i fod yn dyst o X y naill a'r llall. Estynnodd Mr. Brown y drwydded i Tom Solet, a thynnodd Tom ei bwrs o boced frest ei wasgod ar fedr talu am ei briodi, ond ataliwyd ef gan Mr. Brown.

"Hidiwch befo, Tom, fi ddim chargio chi y tro yma," meddai, "fi'n gneud hyn fel discount am y trôs o'r blaen, ond cofiwch chi, Tom, fi'n chargio chi tro nesa."

Am y gair hwn edrychodd Marged arno yn ddigofus, ac ni wahoddodd ef i'r brecwest, a bu raid i'r clochydd ddioddef yr un dynged.

Llithrodd Enoc adref ar hyd un o'r ystrydoedd cefn, ac ni welodd y cawodydd rice yn cael eu tywallt ar bennau'r cwpl dedwydd, er mai ei rice ef ei hun ydoedd, oblegid deallodd, wedi hyn, mai Marged oedd wedi cyflenwi'r cymdogesau a'r rice y noson cynt i anrhydeddu ei phriodas. Mae fy mhennod eisoes yn rhy faith i roi lle i ddisgrifiad o'r brecwest. Digon ydyw dweud bod ymgom Jones y Plismon, a Didymus, cystal â phregeth," ac yn eu cwmni anghofiodd Enoc am dri chwarter awr ei holl "brofedigaethau." Ar ddydd ei phriodas, ni chafodd Marged ond un anrheg, a honno gan ei meistr—sef set o lestri te hardd, anrheg a barodd i'r priodfab tawedog wneud un sylw—yr unig air a gaed o'i enau drwy ystod y brecwest: "Mi drychith y rhai ene 'n neis yn y cwpwrdd cornel acw." Ond yn yr adroddiad maith a manwl a anfonwyd gan Didymus i'r County Chronicle, dywedid "fod yr anrhegion yn rhy luosog i'w henwi." A dyna oedd y ffaith yn ddiamau, oblegid y mae'n lled sicr na chyfrifodd Didymus bob cwpan a swser, plât, bowlen, a thebot oedd yn y set. Ar ôl brecwest yr oedd y byd yn galw ar Jones y Plismon a Didymus, i fyned ymaith, ac ymhen rhyw awr, ffarweliodd Enoc â Marged a Thom Solet, a aeth i dreulio eu mis mêl—neu, yn hytrach, eu diwrnod mêl, i'r Coach and Horses—tafarndy ryw filltir o'r dref. Yn y dafarn hon yr oedd Tom wedi dathlu ei holl briodasau, ac wedi arfer gwahodd ei gyfeillion a'i ewyllyswyr da—y pennaf ohonynt oedd Isaac y Delyn—i gydlawenhau ag ef. Yn y Coach and Horses y buont y waith hon hyd hanner y nos, ac mewn handcart—felly yr adroddwyd i Enoc, ond ni ddarfu iddo chwilio i wirionedd yr hanes—mewn handcart y dygwyd Tom i'w gartref y noson honno—Robert Jones yn tynnu, a Marged yn gwthio o'r tu ôl. Nid y diwrnod hwnnw yn hollol y terfynodd ymdrafodaethau Enoc â Marged, canys ymhen ychydig ddyddiau cafodd hithau ei phrofedigaethau, ac at Enoc yr âi i adrodd ei chŵyn; ond dyna'r olwg olaf, am wn i, a gaiff y darllenydd ar Marged. Hwyrach hefyd, y dylwn ddweud bod Marged wedi byw'n hwy na Tom Solet. O'r diwedd yr oedd yntau wedi cyfarfod â'i drech.

Ar ôl y brecwest a'r miri y bore hwnnw, prin y mae eisiau dweud na theimlai Enoc mewn hwyl i fynd i'r siop, ac wrth edrych ar y bwrdd a gweled yno wmbreth o ymborth heb ei fwyta—yn unol â'i natur dda—anfonodd un o'r llanciau i wahodd hen wŷr a hen wragedd anghenus y gymdogaeth i'w dŷ, ac yno y bu yn eu porthi ac yn gwneud y te a'r coffi iddynt ei hun hyd nad oedd ond esgyrn moelion a briwsion wedi eu gadael. O'r diwedd gadawyd ef yn unig yng nghanol yr holl lanast—a dyna'r funud y cofiodd am y tro cyntaf ei fod heb yr un forwyn, a heb feddwl am ymorol am un. Ni wyddai pa le i droi ei ben a chywilyddiodd wrth ystyried mor ddisut ydoedd. Wedi iddo roi glo ar y tân, oedd ar ddiffodd, aeth Enoc i'r parlwr o olwg y llestri budron a'r llanast, gan obeithio gweled Jones y Plismon, ei swcwr ym mhob helbul, yn pasio. Credai y gallai Jones gael morwyn iddo ar unwaith. Edrychodd drwy'r ffenestr am oriau gan ddisgwyl gweled Jones, ond gallasai Jones fynd heibio lawer gwaith heb i Enoc ei weld, oblegid yr oedd ers meityn wedi anghofio am bwy yr oedd yn edrych a'i fyfyrdodau wedi eu meddiannu yn hollol gan Miss Trefor. Yr oedd yn dechrau prynhawnio, pryd y safodd o flaen ei ffenestr ferch ifanc drwsiadus a golygus. Edrychodd ar y ffenestr ac ar y drws—i fyny ac i lawr, fel pe buasai'n amau ai hwn oedd y tŷ a geisiai. "Pwy yn y byd mawr ydyw'r foneddiges hon?" ebe Enoc ynddo'i hun. Yna curodd y foneddiges ar y drws, ac aeth Enoc i'w agor.

"Ai chi ydi Mr. Huws, syr?" gofynnai'r foneddiges. "Ie, dyna f'enw i," ebe Enoc.

"Ga' i siarad gair â chi?" gofynnai hithau. "Cewch, 'neno dyn, dowch i mewn," ebe Enoc.

Estynnodd Enoc gadair iddi yn ymyl y ffenestr, er mwyn iddo gael llawn olwg arni, oblegid canfu ei bod yn werth edrych arni. Ar ôl eistedd, ebe hi gyda gwên, a chan ddatguddio set o ddannedd (nid rhai gosod) fel rhes o bys yn eu coden:

"Wedi galw yr ydw i, Mr. Huws, i ofyn oes arnoch chi eisio housekeeper?"

"Just y peth sydd yn eisie arna i," ebe Enoc, " ond y mae arnaf ofn na wneith fy lle i eich siwtio. Gan nad oes yma neb ond fi fy hun, ni byddaf yn cadw morwyn, a mae fy housekeeper yn gorfod gwneud popeth sydd raid ei wneud mewn tŷ."

"'Rydw i'n gwbod hynny, a neith o ddim gwahaniaeth i mi, achos yr ydw i wedi arfer gweithio, a mi wn sut i gadw tŷ," ebe'r ferch ifanc, a synnodd Enoc ei chlywed yn siarad felly, oblegid yr oedd ei gwisg yn drefnus a chostfawr yn nhyb Enoc.

"Da iawn," ebe Enoc. "Faint o gyflog ydech chi'n 'i ofyn?"

"'Ugen punt. Yr wyf wedi bod yn cael chwaneg," ebe hi.

"Mae hynny yn bum punt mwy nag yr ydw i wedi arfer 'i roi," ebe Enoc.

"'Rwyf yn gobeithio," ebe'r ferch ifanc, "y cewch y gwahaniaeth yn y gwasanaeth, achos yr ydw i wedi bod mewn lleoedd da, ac wedi gweled tipyn."

"Wel," ebe Enoc, "hidiwn i ddim â rhoi ugen punt os byddwch yn fy siwtio," canys credai fod golwg yr eneth hon, o'i chymharu â Marged, yn werth pum punt, ac ychwanegodd:

"Pryd y medrwch chi ddwad yma?"

"Pryd y mynnoch," ebe hi.

"Wel," ebe Enoc, "mi liciwn i chi ddwad ar unwaith, achos, â dweud y gwir i chi, 'does gen i neb yma yrwan, ac mae'r tŷ yn heltar sgeltar. Fedrwch chi ddwad yma yn y bore?"

"Mi ddof yma heno, naw o'r gloch, os caf," ebe'r ferch ifanc.

"Gore oll. Beth ydi'ch enw chi?" gofynnai Enoc.

"Miss Bifan ydi f'enw i," ebe hi.

"O'r gore, Miss Bifan, mi fyddwch yma erbyn naw ynte," ebe Enoc.. Ac felly terfynodd y cytundeb, a phan oedd Enoc yn agor y drws i Miss Bifan fynd allan, gwelai Kit, morwyn Tŷ'n yr Ardd, yn cyfeirio tuag ato gyda nodyn yn ei llaw! A oedd rhyw ysbryd wedi sisial yng nghlust Miss Trefor fod iddi hi yn awr gydymgeisydd?

PENNOD XLII

Wedi Mynd.

DARLLENODD Enoc y nodyn, oedd fel y canlyn, yn awchus:

TY'N YR ARDD.

ANNWYL MR. Huws,—Yr ydych wedi bod yn ddiarth iawn. Hyd yr wyf yn cofio, ni ddywedais ddim, pan fuom yn siarad ddiwethaf, i fod yn rheswm digonol am y dieithrwch hwn, ac os dywedais, mae'n ddrwg gennyf. Mae son mewn rhyw Lyfr am ymweled âg anwiredd y tadau ar y plant, ond nid wyf yn cofio bod sôn yn y Llyfr am ymweled ag anwiredd y ferch ar y rhieni. Hwyrach fod hefyd, ond nad wyf i ddim yn cofio. Pa fodd bynnag, chwi wyddoch eich bod yn werthfawr gan fy nhad, ac yn annwyl gan fy mam, a phrin y mae'n gyfiawn ynoch, nac yn deilwng ohonoch chwi eu cosbi am anwiredd eu merch. Mae fy nhad yn isel a blinderog ei ysbryd, a gwn ei fod yn credu mai fi sydd wedi'ch tramgwyddo. Druan ohonof; Yr wyf yn ceisio gwneud fy nyletswydd, yn ôl y goleuni sydd ynof, ac, er y cwbl, yn tramgwyddo pawb o'm cwmpas. Mae fy mam, mae'n ddrwg gennyf ddweud, yn gwaelu bob dydd. Yr wyf wedi gwneud fy ngorau iddi, Duw a ŵyr! ac y mae fy nghalon bron â thorri. Mae hi'n methu gwybod pam nad ydych yn dyfod i edrych amdani. Ddowch chi? Fydd hi ddim yma'n hir. Bu Mr. Simon yma droeon, ond nid ydyw hi fel bydae'n hidio rhyw lawer amdano. Ddowch chi i edrych amdani? Os bydd fy ngweled i yn rhyw rwystr i chwi ddyfod, mi addawaf wrthoch yr âf i'r seler tra byddwch yma.

Yr eiddoch yn gywir,
S. TREFOR.

"Dwedwch wrth Miss Trefor y dof acw toc," ebe Enoc wrth Kit.

"Mae arni isio'ch gweld chi'n arw, Mr. Huws," ebe Kit.

"Pwy?" gofynnai Enoc.

"Miss Trefor," ebe Kit, a wyddai sut i foddio Enoc.

"Sut y gwyddoch chi hynny, Kit?" gofynnai Enoc.

"Am 'y mod i'n gwbod," ebe Kit, "achos 'dydi hi ddim yr un olwg er pan ydech chi ddim yn dwad acw—mae hi fel bydae hi mewn breuddwyd. Ddaru chi ffraeo, Mr. Huws?"

"Mae'ch meistres yn sâl iawn, Kit, ac y mae gan Miss Trefor ddigon o helbul heb feddwl dim amdana i," ebe Enoc.

"Oes, byd a'i gŵyr," ebe Kit, "fwy nag a wyddoch chi. 'Dydi hi ddim wedi tynnu 'ddam dani ers gwn i pryd, a wn i ddim sut mae hi'n gallu dal. A mae gen i ofn na fendith 'meistres byth—mae hi'n od iawn, fel bydae genni hi rwbeth ar 'i meddwl. A mae mistar—'newch chi ddim cymyd arnoch 'mod i'n deud, Mr. Huws? —'dydi o ddim yn actio'n iawn."

"Wel, be mae o'n 'i neud, Kit?" gofynnai Enoc.

"Mae o—'newch chi ddim sôn 'mod i'n deud, Mr. Huws?—mae o'n yfed yn ddychrynllyd ddydd a nos, nes mae o reit wirion, a mae hynny'n fecsio Miss Trefor. Mae acw dŷ rhyfedd i chi, a mae hi wedi gofyn lawer gwaith i mi pryd y gweles i chi, a be ydi'r achos, tybed, nad ydech chi ddim yn dwad acw. Mi wn 'i bod hi'n sâl isio'ch gweld chi, syr."

"Cymerwch ofal, Kit," ebe Enoc, "i beidio â dweud wrth neb fod eich meistar yn yfed. Mae dyn yn gwneud llawer iawn o bethau mewn profedigaeth na ddylai eu gwneud, ac na wnâi ar un adeg arall, ac y mae afiechyd eich meistres, yn ddiame, wedi effeithio yn fawr ar Capten Trefor. Gofalwch, Kit, na ddwedwch chi ddim wrth neb."

"Y fi? 'chymrwn i mo 'mhwyse â deud wrth neb 'blaw chi, achos yr ydech chi fel un o'r teulu, Mr. Huws," ebe Kit.

"Da iawn, Kit, ewch yn ôl yrwan a dwedwch wrth Miss Trefor y dof acw toc," ebe Enoc.

"Mi fydd yn dda ganddi 'ch gweld chi," ebe Kit.

Yr oedd cael clywed rhywbeth oddi wrth Miss Trefor, ac yn enwedig gael gwahoddiad i Dŷ'n yr Ardd, fel eli ar friw i Enoc. Ar yr un pryd, penderfynodd beidio â dangos brys. Er ei fod yn llosgi o eisiau mynd, arhosodd am dros awr cyn cychwyn, a phan aeth, cerddodd yn hamddenol a hunanbarchedigol. Ar hyd y ffordd dyfalai pa fath olwg a gâi ar Susi, a pha beth a ddywedai hi wrtho. Gwnaeth lw yn ei fynwes na soniai air wrthi am yr hyn a fu rhyngddynt pan fuont yn siarad â'i gilydd ddiwethaf, oddieithr iddi hi sôn yn gyntaf. A chadwodd Enoc ei lw—oblegid cafodd rywbeth arall i feddwl amdano. Er nad oedd hi eto yn dywyll, yr oedd gorchudd ar bob ffenestr yn Nhŷ'n yr Ardd, a phan nesaodd Enoc at y tŷ, teimlai fod rhywbeth yn rhyfedd a dieithr yn yr olwg arno. Yr oedd yn rhy absennol ei feddwl i ganfod mai'r gorchudd ar y ffenestri oedd yn rhoi'r olwg ddieithr iddo. Curodd Enoc ar y drws, a daeth Kit i'w agor. Yr oedd llygaid Kit fel llygaid penwaig, ac ebe hi yn ddistaw:

"Mae hi wedi mynd, Mr. Huws."

"Pwy?" gofynnai Enoc.

"Meistres," ebe Kit.

"Mynd i b'le?" gofynnai Enoc.

"Mae hi wedi marw," ebe Kit.

"Wedi marw!" ebe Enoc, fel pe buasai wedi ei saethu gan y newydd, a phrin y gallai symud o'i unman. Nodiodd Kit a chaeodd y drws yn ddiesgeulus, ac arweiniodd Enoc i'r parlwr, lle'r oedd y Capten a Miss Trefor yn bendrist a distaw. Ar ei fynediad i'r ystafell, cododd Miss Trefor ar ei thraed, a heb ddweud gair, gwasgodd law Enoc yn dynn a nerfus, nes gyrru ias drwy ei holl gorff. A'r un modd y gwnaeth y Capten. Syrthiodd Enoc i gader wedi ei orchfygu gan ei deimladau, canys carai Mrs. Trefor yn fawr, er ei mwyn ei hun, heblaw ei bod yn fam i Susi, ac nid oedd wedi dychmygu bod ei hymddatodiad yn ymyl. Er mor ansylwgar fyddai Enoc yn gyffredin, ni allai beidio â chanfod bod y Capten yn drwm mewn diod. Edrychai'n swrth i'r tân, a rholiai dagrau mawr i lawr ei ruddiau.

Mae meddwdod yn gwneud dyn yn anwyliadwrus, ac mewn rhai amgylchiadau, yn foddion i ddwyn allan y tipyn daioni fydd wedi ei adael yn ei natur. Adwaenwn ddyn na welid byth mohono'n gweddïo ond pan fyddai wedi meddwi! ac mi adwaen ambell un nad ydyw'n bosibl cael rhodd nac elusen ganddynt ond pan fyddant yn eu crap." Nid oedd hyd yn oed Capten Trefor, oedd wedi byw ers blynyddoedd ar dwyll a rhagrith, yn hollol amddifad o ryw fath o deimlad. Cyffyrddodd gwir deimlad Enoc â'r ychydigyn teimlad oedd yn y Capten, ac wylodd yntau. Yr oedd teimladau Miss Trefor ers wythnosau wedi eu tynhau hyd eu heithaf, ac yn gwrthod llacio, a'i hwyneb yn sefydlog, heb yr un plic ynddo, ac yn welw wyn, fel pe buasai wedi colli pob dyferyn o waed. Nid anhyfryd ganddi oedd gweled Enoc yn dangos y fath deimlad,—yr oedd ei mam ac yntau wedi bod yn gyfeillion mawr,—a theimlai rywfodd fel pe buasai wyneb Enoc yn gyfieithiad o iaith farw ei hwyneb hi ei hun. Y Capten, fel arfer, oedd y cyntaf i siarad, ac ebe fe:

"Dyma ergyd drom, Mr. Huws, yn enwedig i mi, ac mewn ffordd o siarad, ergyd farwol, oblegid pan fydd dyn wedi cyrraedd hynny ydyw, mae colli cymar ei fywyd, a hynny heb i ddyn feddwl bod y peth yn ymyl, i un yn f'oed i, yr un peth, mewn dull o ddweud, ag iddo golli ei fywyd ei hun, oblegid hi oedd fy mywyd a fy mhopeth, a braidd na ddwedwn—a mi ddwedaf—y dymunwn fynd i'r bedd gyda hi."

"Bydase chi a finne, 'nhad," ebe Susi, "mor barod ag oedd 'y mam, dyna fase'r peth gore i ni—mynd efo'n gilydd ond y mae arnaf ofn nad yden ni ddim. Yr oedd 'y mam yn caru Iesu Grist; a fedrwn ni ddeud hynny? Mae marw yn beth ofnadwy, 'nhad, os na fedrwn ni ddweud ein bod yn caru Iesu Grist."

"Mae hynny'n ddigon gwir, fy ngeneth, a gadwch i ni obeithio y gallwn ddatgan hynny pan ddaw'r adeg," ebe'r Capten, oedd, pa mor ddifrifol bynnag a fyddai'r amgylchiad, yn abl i ragrithio, a pha mor feddw bynnag a fyddai, oedd â'i feddwl yn weddol glir.

"Mae'r adeg," ebe Susi, yn awyddus i wneud y gorau o'r amgylchiad, canys yr oedd buchedd ei thad yn ei phoeni yn dost, a rhyfeddai Enoc sut yr oedd hi'n gallu bod mor hunan—feddiannol: "Mae'r adeg, fel y gwyddoch, 'nhad, yn ansicr, fel y bu gyda 'mam."

"Mae'r Ysgrythur Lân yn ein dysgu am hynny, ac y mae amryw ymadroddion yn dyfod i'm meddwl y funud hon," ebe'r Capten.

"Ai'n sydyn, ynte, yr aeth eich mam yn y diwedd, Miss Trefor?" gofynnai Enoc.

"Yn hollol sydyn a diddisgwyl, Mr. Huws," ebe Susi. "Ie, yn hollol sydyn, ond gwnaethoch chwi a minnau ein gore iddi," ebe'r Capten.

"Ddaru mi ddim gwneud fy ngore iddi, 'nhad, a faddeua i byth i mi fy hun am f'esgeulustra. Yr oeddwn yn meddwl nad oedd yn ddim gwaeth nag oedd ers dyddiau, a gadewais hi am ddeng munud i ysgrifennu llythyr, ac erbyn i mi fynd yn ôl, yr oedd hi wedi marw—heb i mi gael gwneud dim iddi—dim cymaint â gafael yn ei llaw fach annwyl i'w helpio i farw. O! mor greulon mae o'n ymddangos iddi farw heb neb efo hi,—mae o'n 'y mwyta i tu mewn."

"Ewyllys yr Arglwydd, fy ngeneth," ebe'r Capten, "oedd cymryd ei was Moses ato'i hun heb un llygad yn gweled hynny, a'r un modd efo'ch mam."

"Ie," ebe Susi, gyda cholyn yn ei geiriau, "felly y cymerwyd Moses, tra'r oedd y bobl yn pechu, a hwyrach mai felly yr oedd yma."

"Mae yn ofid mawr i mi, Miss Trefor," ebe Enoc, na chefais weled eich mam cyn iddi farw."

"Sut y bu hynny, Mr. Huws? beth ydoedd y rheswm am eich holl ddieithrwch?" gofynnai'r Capten.

"Ddaru neb ohonom feddwl," ebe Susi, er mwyn cuddio anhawster Enoc i ateb, "fod 'y mam mor agos i angau. 'Does yma brin neb wedi ei gweled ond Mr. Simon a'r doctor. Mae'n dda iawn gen i 'ch bod chi wedi dwad yma heno, Mr. Huws, achos wn i ddim am y trefniadau y bydd raid edrych atynt ar amgylchiad fel hwn, ond mi wn y gwnewch chi, Mr. Huws, ein cynorthwyo. 'Does gynnon ni ddim modd i fynd i lawer o gostau."

"Dim modd?" ebe'r Capten, "beth ydech chi'n 'i feddwl, Susi? Dim modd? fe gaiff eich mam ei chladdu fel tywysoges, os bydd fy llygaid i yn agored. Ond nid ydyw'n weddus i ni fynd i gerdded at hwn ac arall—ac fe wna Mr. Huws hynny drosom, yn ôl ei garedigrwydd arferol."

"Gadewch y cwbl i mi, mi ofalaf am yr holl drefniadau angenrheidiol," ebe Enoc.

Ar hyn daeth Kit at y drws, a chododd ei bys ar Miss Trefor, a gadawodd hithau'r ystafell.

Ac ebe Enoc: "Capten Trefor, yr wyf am ofyn un gymwynas gennych, ac yr wyf yn gobeithio na wnewch fy ngomedd. Chwi wyddoch fod Mrs. Trefor a minnau'n gyfeillion mawr—yr oeddwn yn edrych arni fel pe buasai'n fam i mi. A wnewch chwi ganiatáu i mi—peidiwch â digio am fy mod yn gofyn y fath beth—wneud yr holl drefniadau ar gyfer y gladdedigaeth, a dwyn yr holl gost? Bydd yn dda gennyf gael gwneud hynny os caniatewch."

"Diolch i chwi, Mr. Huws," ebe'r Capten, "ond y mae hynny'n amhosibl, oblegid byddech felly yn cymryd oddi arnaf y fraint olaf. Fedrwn i ddim meddwl am i neb wneud y fath beth, o leiaf, heb ymgynghori â'm merch, a mi wn y byddai hi yr un mor wrthwynebol—yn wir yn fwy gwrthwynebol."

"Yr oeddwn wedi meddwl gofyn i chwi," ebe Enoc, pe buasech yn caniatáu, beidio â sôn gair wrth Miss Trefor nac wrth neb arall am y peth, ac ystyriwn hi'n fraint gael gwneud hyn i Mrs. Trefor. Gobeithio nad wyf wedi'ch briwio, ond mi ddymunwn gael gwneud hyn."

"Wel," ebe'r Capten, ac arhosodd am funud megis i synfyfyrio, "pe buasai rhywun arall, ie, hyd yn oed Syr Watcyn, yn cynnig y fath beth, mi fuaswn yn dweud, 'No, thank you.' Ond wrth gofio'r fath gyfeillgarwch oedd rhyngoch chwi a Mrs. Trefor, ac, yn wir, fy rhwymau personol i chi, ni fedraf ddweud, No, wrthych chwi, Mr. Huws, ar y telerau nad oes neb i gael gwybod hyn."

"Diolch yn fawr i chwi," ebe Enoc, "ac yrwan, mi af ynghylch y trefniadau, a pheidiwch chwi â phryderu dim."

Ceisiodd y Capten godi i ysgwyd llaw ag Enoc, ond syrthiodd yn ôl i'w gadair. Gwelodd nad oedd ei feddwdod yn guddiedig, ac ebe fe:

"Mr. Huws, maddeuwch i mi, yn fy mhrofedigaeth chwerw yr wyf wedi cymryd dau (ar bymtheg, a ddylasai ei ddweud) lasaid o wisgi, a thrwy nad ydwyf yn arfer llawer â fo, y mae wedi effeithio arnaf. Mi wn y gwnewch faddau i mi am y tro,—mae fy mhrofedigaeth yn fawr."

"Ydyw," ebe Enoc, " ac mae'n ddrwg gennyf drosoch, ond goddefwch i mi fod yn hy arnoch—cedwch oddi wrth y diodydd meddwol—am rai dyddiau, beth bynnag —mae gweddeidd-dra yn gofyn hynny."

"Quite right, mi wnaf; nos dawch, Mr. Huws bach," ebe'r Capten.

Ar ôl canu nos dawch â Miss Trefor, aeth Enoc ymaith; ac erbyn hyn yr oedd ganddo ddigon ar ei feddwl,—y forwyn newydd oedd i ddyfod i'w dŷ erbyn naw o'r gloch, a chario allan yr holl drefniadau ynglŷn â chladdedigaeth Mrs. Trefor.

"Susi," ebe'r Capten, "rhowch eich meddwl yn esmwyth, fe ofala Mr. Huws am yr holl drefniadau. Ac yrwan, ewch i'ch gwely, fy ngeneth. Fedra i fy hun ddim meddwl am wely heno—mi daflaf fy hun ar y soffa. Nos dawch, my dear girl."

Gadawodd Susi yr ystafell gydag ochenaid, ac fe'i "taflodd" y Capten ei hun ar y soffa, a chysgodd yn drwm. Wedi i'r "gwragedd" orffen rhyw seremoni ynfyd (sydd yn parhau hyd y dydd heddiw mewn amgylchiadau o'r fath) ar y corff marw, a myned ymaith, aeth Susi i'w gwely, gan gymryd Kit gyda hi i gysgu, oblegid meddyliodd na allai fod ar ei phen ei hun y noson honno. Ymhen deng munud yr oedd Kit yn cysgu'n ddistaw ac esmwyth. Ond ni allai Miss Trefor gysgu. Gwyddai fod ei thad yn chwyrnu ar y soffa, er na allai hi ei glywed. Yr oedd distawrwydd ar bopeth, a'r distawrwydd yn llethol iddi. Teimlai'n unig ac ofnus, ac ebe hi:

"Kit, Kit, ydech chi'n cysgu, Kit?"

Nid atebodd Kit, yr oedd hi wedi ymollwng i orffwyso, yr hyn, ar ôl yr holl redeg a mynd a dyfod, a haeddai yn dda. Ymwasgodd Miss Trefor ati, a sisialodd:

"Ie, cwsg Kit, 'dwyt ti, mwy na minnau, wedi cael fawr o orffwys ers wythnosau, a 'rwyt ti'n haeddu llonydd heno. Ond sut na fedrwn i gysgu? O! mae'r distaw—rwydd yma'n 'y nghadw i'n effro. Mor rhyfedd a dieithr ydyw popeth! Mor wahanol oedd popeth yr adeg yma neithiwr y rhedeg i fyny ac i lawr, a 'mam druan efo ni yn fyw, ond yn sâl iawn. Mor ddistaw ydi hi heno! Mor bell y mae hi wedi mynd! O dyn! mi feddylies 'i chlywed hi'r munud yma'n deud: Dyro i mi lymed, 'y ngeneth bach i.' Ai dychmygu 'roeddwn i? 'Rydw i bron yn siŵr i mi 'i chlywed hi. Mi wrandawa 'ngore eto. Gwan ydw i—a ffansïo. Mor anodd ydi credu na ddeudith hi byth yr un gair eto! 'Roedd hi yma gynne—heddiw'r prynhawn. Lle mae hi 'rwan? ie, hi, achos 'does dim ond ei chorff yn y rŵm nesa—lle mae hi? Yn y byd mawr tragwyddol! Lle mae'r byd tragwyddol? Ydi o 'mhell? Ydi hi wedi cyrraedd yno? 'Ddaeth rhwfun i'w nôl hi, i ddangos y ffordd iddi? neu a ydyw ei hysbryd hi'n crwydro ac wedi drysu mewn space? Fydd hi'n crwydro, tybed, am filoedd o flynyddoedd cyn dwad o hyd i'r byd tragwyddol? O! na faswn i wedi aros efo hi hyd i'r munud dwaetha, yn lle mynd i ysgrifennu at Enoc Huws! Hwyrach y base hi yn deud wrtha i os oedd Iesu Grist efo hi. Yr oedd hi'n adrodd yr adnod echnos: Pan elych trwy y dyfroedd, mi a fyddaf gyda thi.' 'Beidiodd o â'i hanghofio hi, tybed? 'Oedd arno fo ddim eisiau bod efo rhwfun arall just yr un amser? Mor wirion yr ydw i'n siarad! Ydw i'n peidio â drysu? Kit, ydech chi'n cysgu? O mor unig ydw i! ac a fydda i. 'Does gynnon ni ddim cyfeillion, a 'theimlais i 'rioed o'r blaen ryw lawer o angen am gyfeillion. Ond 'does gynnon ni neb neilltuol. Oes, y mae hefyd—mae Enoc Huws yn wir gyfaill—yr unig gyfaill sy gynnon ni. Mor wirion fûm i yn 'i wrthod o. 'Does dim gwell dyn na fo yn y sir, a mi wn ein bod ni'n dibynnu'n hollol arno ers talwm. 'Rwyf yn meddwl fy mod yn ei garu yn fawr, ac eto fedra i ddim dygymod â'r meddwl o'i briodi o. Bydae o'n cynnig ei hun i mi eto, wrthodwn i mono. Na! 'dydw i ddim yn meddwl y derbyniwn ei gynigiad chwaith—mi lyna wrth 'y nhad. O! na fase 'nhad yn dduwiol! Ond 'dydi o ddim—waeth heb wenieitho. Mae o'n slâf i'r ddiod, ac yn rhagrithio bod fel arall, fel bydae hyd yn oed y fi ddim yn gwybod. Fy nyletswydd, 'rwyf yn meddwl, ydi glynu wrtho hyd y diwedd. O! Dduw, bendithia'r amgylchiad hwn er ei iechydwriaeth! Mor chwith fydd bod heb yr un fam! Beth ddaw ohonof gyda'r fath dad! Mi geisiaf 'neud fy nyletswydd ac ymddiried yn Nuw. O! fel yr yden ni i gyd wedi gadel 'mam bach! ac mor fuan! Ei gadel ei hun yn y rŵm dywyll yna heb neb i gadw cwmpeini iddi, fel bydae ni ddim yn perthyn iddi! O! mae o'n greulon, mor fuan! 'Rydw i'n gwirioni—na 'dydw i ddim—'rwyf yn siŵr 'i fod yn galed, yn greulon ei gadel ar ei phen ei hun, a mi âf i gadw cwmpeini iddi, fedra i ddim aros yma."

Gwawriodd y bore. Deffrôdd Kit ar ôl deng awr o gwsg melys, oedd yn amheuthun iddi. Cododd ar ei heistedd yn y gwely. Cofiodd bopeth oedd wedi digwydd y diwrnod cynt. Edrychodd am Miss Trefor—yr oedd wedi codi o'i blaen, ac nid oedd hynny ond peth digon cyffredin. Ymwisgodd yn frysiog. Aeth i lawr i'r gegin, oedd yn oer a heb dân yn y grât. Aeth tua'r parlwr, yr oedd y drws yn gil-agored. Agorodd ef yn ddistaw. Yr oedd y Capten yn cysgu'n drwm ar y soffa, ond nid oedd Miss Trefor yno. Tynnodd y drws ati yn ofalus. Rhaid, meddai Kit, fod Miss Trefor wedi mynd allan. Chwiliodd y drysau; yr oeddynt yn gloedig fel y gadawsai hi hwynt cyn mynd i'r gwely. Dechreuodd hyd yn oed Kit deimlo'n ofnus. Ni fedrai feddwl am gynnau tân a gwneud twrw heb gael gwybod ym mha le yr oedd Miss Trefor. Tynnodd ei slipanau rhag gwneud trwst, ac aeth i fyny'r grisiau ac i'w hystafell hi ei hun. Na, nid oedd yno neb. Chwiliodd yr ystafelloedd eraill gyda'r un canlyniad. Nid oedd ond un lle arall i edrych amdani. A oedd hi wedi beiddio, ar ei phen ei hun, fynd i'r ystafell lle yr oedd corff marw ei mam yn gorwedd? Yr oedd drws yr ystafell hon yn hanner agored, a theimlai Kit rywbeth fel dŵr oer yn rhedeg i lawr ei chefn pan agorodd dipyn chwaneg arno ac yr ysbïodd i mewn. Ie, yno yr oedd hi. Wedi hanner ymwisgo, a shawl dros ei hysgwyddau, gorweddai Susan wrth ochr corff marw ei mam ar y gwely, a'i braich dde yn ei chofleidio, a'i phen wrth ei phen hithau ar y gobennydd. Gall hyn ymddangos yn anghredadwy, ond ffaith ydyw. Ac nid oedd llawer o wahaniaeth rhyngddynt yr oedd y ddau wyneb yn wyn fel yr eira—y ddau gorff yn berffaith lonydd—un mewn cwsg trwm ac yn anadlu, a'r llall mewn cwsg trwm ond heb anadlu.

PENNOD XLIII

Ymson Capten Trefor

Yr oedd Miss Bifan wedi cymryd ei lle yn Siop y Groes cyn i Enoc gofio nad oedd wedi gofyn dim am ei charitor, na hyd yn oed ymorol i bwy 'r oedd hi'n perthyn, na lle y buasai hi'n gwasanaethu ddiwethaf. Ac, erbyn hyn, yr oedd yn rhy hwyr i ymholi. "A pha bwys i bwy y mae hi'n perthyn na ile bu hi ddiwethaf," ebe Enoc, os etyb hi 'r diben i mi?" A heblaw hynny, yr oedd gan Enoc ddigon i feddwl amdano heb golli pum munud i feddwl am ei housekeeper newydd. Yr oedd ef wedi ymgymryd â chario allan y trefniadau ynglŷn â chladdedigaeth Mrs. Trefor, yr hyn a wnaeth heb arbed cost na thrafferth. Yn y cynhebrwng gweinyddwyd wrth y tŷ gan Mr. Simon, ac yn yr eglwys a'r fynwent gan Mr. Brown, a thystiai'r Capten Trefor fod popeth wedi pasio yn hapus dros ben. Ymhen diwrnod neu ddau, ar ddymuniad y Capten, anfonwyd yr holl filiau i mewn, ac yn absen Miss Trefor, cyfrifodd Enoc yr holl gost a chyflwynodd yr arian i'r Capten. Yna aeth y Capten o gwmpas a thalodd i bawb. Wrth setlo pob bil dywedai'r Capten ei fod yn synnu ei fod mor fychan—ei fod wedi disgwyl y buasai yn gymaint arall, ac yn wir, "mewn ffordd o siarad," pe buasai'n gymaint deirgwaith na fuasai ef yn grwgnach. Ac felly y dywedai wrth bob un wrth dalu'r arian, yr hyn a barai i'r derbynnydd—yn enwedig y dyn a wnaeth yr arch—ofidio na fuasai wedi codi chwaneg; a dywedai, wedi i'r Capten droi ei gefn: "Waeth be ddeudith pobol, y mae gan y Capten ddigon o bres."

Ymhen ychydig amser anghofiodd pawb—oddieithr rhyw ddau neu dri—fod y fath un â Mrs. Trefor erioed wedi bod yn y byd. Pregethodd Mr. Simon bregeth angladdol sych ei gwala, a chanodd Eos Prydain a'i gôr y Vital Spark, ac yna nid oedd ond un yn gwir deimlo fod pob man yn wag heb Mrs. Trefor. Bu agos i mi anghofio hefyd i un o feinars Coed Madog, oedd fardd, ac a adnabyddid wrth y ffugenw persain Llew Rhuadwy, anfon dau englyn i'r County Chronicle ar farwolaeth Mrs. Trefor; ond y mae'n rhaid i mi ddweud nad oeddynt yn fwy tebyg i englynion nag ydyw buwch i gogwrn. Mae'n wir eu bod y peth gorau a allai'r Rhuwr ei gynhyrchu, achos bu dair noswaith yn gwneud yr englynion, ac yr oeddynt wedi rhoi bodlonrwydd mawr i'w gydweithwyr, a hyd yn oed i'r Capten, a phan gyntaf y gwelodd ef y Llew rhoddodd iddo ddarn deuswllt.

Ac felly y terfynodd Mrs. Trefor ei gyrfa, ac ni chymerodd i'r Capten fawr o oriau i fwrw ei hiraeth. Ac yn awr yr oedd ganddo hamdden i roi ei holl sylw i Waith Coed Madog. Ond yr oedd un peth yn ei flino, ac yn ei flino yn fawr. Yr oedd ei sefyllfa rywbeth yn debyg i hyn Yr oedd yn dlawd a llwm. Credai, erbyn hyn, beth bynnag y bu yn ei gredu o'r blaen, nad oedd fymryn o obaith am blwm yng Nghoed Madog. Ac eto Coed Madog oedd ei unig swcwr; a phe darfyddai hwnnw, ni byddai ganddo afael ar swllt. Gwyddai ei gydwybod —os oedd ganddo un—mai arian Enoc Huws oedd yn cario'r Gwaith ymlaen, oblegid yr oedd Mr. Denman ers tro wedi methu ateb y galwadau, er ei fod mewn enw yn gyd-berchennog. Tybiai'r Capten hefyd ei fod yn ddigon craff i ganfod mai'r unig reswm fod Enoc yn parhau i wario cymaint ar y Gwaith oedd ei serch at Miss Trefor ei ferch—a'r munud y deuai rhyw anghaffael ar hynny y byddai ef a'i Goed Madog wedi mynd i'r gwellt. Yn wir, yr oedd ef wedi ofni pan beidiodd Enoc am amser ag ymweled â Thŷ'n yr Ardd fod yr aflwydd wedi dyfod arno, a dyna pam yr ymollyngodd i yfed mwy nag arfer. Ond yn awr ymgysurai fod ei ferch ac Enoc yn ymddangos ar delerau hynod gyfeillgar. Ystyriai'r Capten, os oedd ei ferch ac Enoc Huws yn debyg o briodi, y byddai, wrth gario'r Gwaith ymlaen, yn tlodi ei fab yng nghyfraith, ac felly, "mewn ffordd o siarad," yn ei dlodi ei hun, ac yn taflu arian i ffwrdd y byddai'n dda iddo wrthynt ryw ddydd i gadw corff ac enaid ynghyd. Yr adeg honno rhoesai'r Capten lawer am wybodaeth sicr am wir berthynas ei ferch ag Enoc Huws. Gyda'r amcan o gael allan a oedd Susi ac Enoc yn caru, arferodd y Capten bob dyfalwch a gwyliadwriaeth. Ymddarostyngodd gymaint â gwrando wrth dwll y clo pan fyddai Miss Trefor ac Enoc mewn ystafell ar eu pennau eu hunain, a hyd yn oed ymguddio yn yr ardd pan fyddai Enoc yn ymadael. Ar fwy nag un achlysur, pan fyddai'r Capten yn ymguddio yn yr ardd, siaradai ag ef ei hun i'r perwyl canlynol:

"Wel, Mr. Huws, mae hi tua'r adeg y byddwch chwi yn gyffredin yn troi adref—ac yr ydych, fel rheol, yn lled exact—ac mae Susi yn siŵr o ddwad i agor y giât i chi, ac i ddweud nos dawch. A phe gwelwn i'chi, syr, yn rhoi cusan iddi—a gwyn fyd na welwn hynny—mi ddywedwn wrthych yfory rywbeth fel hyn: Mr. Huws, mae fy ngobeithion wedi troi allan yn rhai gau—nid ydwyf ond dyn ffaeledig, ac yr wyf wedi fy siomi—ac y mae arnaf ofn nad oes obaith i ni gael plwm yng Nghoed Madog, a ffolineb fyddai i chwi a minnau wario chwaneg o arian. Yr wyf yn teimlo bod gonestrwydd yn galw arnaf i ddweud hyn wrthych. Ar yr un pryd, os ydych yn awyddus i gario ymlaen, mi sinciaf fy siawns gyda chwi, er—mae'n rhaid i mi gyfaddef, nad ydyw fy mhwrs lawn mor hir â'r eiddoch chwi, ac yr wyf eisoes yn dechre gweld ei waelod. Os cymerwch fy nghyngor i, yr wyf yn meddwl yn onest mai rhoi'r Gwaith i fyny fyddai ore.'"

Yn y man deuai Enoc allan a Susi gydag ef. Siaradent am y tywydd, ysgydwent ddwylo yn gyfeillgar, dywedent nos dawch, a dyna'r cwbl, a melltithiai'r Capten ddydd ei enedigaeth. Onid oedd mwy na chyfeillgarwch rhwng ei ferch ac Enoc, teimlai'r Capten mai ei ddyletswydd oedd cario'r Gwaith ymlaen cyhyd ag y medrai. Ond yn ei fyw ni allai beidio â chredu bod rhyw ddealltwriaeth rhwng y bobl ieuainc, ac os felly, gresyn oedd i Enoc wario ei arian yn ofer, a'i ddwyn ei hunan yn y man, efallai, i sefyllfa na allai fforddio priodi. Wedi cryn ymdrech meddwl a phendroni nid ychydig, pender—fynodd y Capten ofyn y cwestiwn yn syth i'w ferch. Ac un noswaith pan oedd hi ac yntau yn y parlwr, ac wedi gwlychu ei benderfyniad gyda dogn go lew o wisgi, ebe'r Capten:

"Susi, mae rhywbeth, ers tro, yn pwyso'n drwm ar fy meddwl, ac yn peri tipyn o bryder i mi—yn wir, yn peri i mi fyw megis rhwng ofn a gobaith, ac, mewn ffordd o siarad, yn f'anghymwyso i ryw raddau i roddi'r sylw a ddylwn i'm gorchwyliaethau—gorchwyliaethau, fy ngeneth, fel y gwyddoch, sydd yn gofyn fy holl sylw."

Be ydi hynny, 'nhad?" gofynnai Susi.

"Wel," ebe'r Capten, mae o'n gwestiwn delicate i'w grybwyll, mi wn, ond y mae'ch mam wedi'n gadael—a gwyn ei byd—ac oherwydd hynny fe ddylai fod mwy o confidence rhyngoch chwi a minnau, fy ngeneth. Y cwestiwn ydyw hwn, a mi wn y gwnewch ei ateb yn onest a digêl: A oes rhywbeth rhyngoch chwi ac Enoc Huws? Peidiwch ag ofni ateb, Susi, oblegid mi wn sut bynnag y mae pethau, eich bod wedi gwneud yn iawn."

Rhywbeth rhwng Mr. Huws a fi ym mha fodd, 'nhad?" gofynnai Susi.

"Wel," ebe'r Capten, "yr oeddwn yn disgwyl y buasech yn deall fy nghwestiwn heb i mi orfod ei sbelio, ond y peth yr wyf yn ei ofyn ydyw hyn, ac fel tad, yr wyf yn ystyried bod gennyf hawl i'w ofyn: A ydych dan amod i Mr. Huws?

Amod i beth, 'nhad?" gofynnai Miss Trefor.

Amod i'w briodi, wrth gwrs; yr ydych yn deall fy meddwl yn burion, Susi, ond eich bod yn dymuno fy nhormentio," ebe'r Capten yn ddigon anniddig.

"Gwarchod pawb! na, wnes i erioed amod â Mr. Huws, nac â neb arall," ebe Susi yn benderfynol.

"A 'does dim dealltwriaeth ddistaw rhyngoch chi'ch dau mai i hynny y daw hi rai o'r dyddiau nesaf?" gofynnai'r Capten, ac ychwanegodd: "Cofiwch, 'dydw i'n dweud dim yn erbyn y peth."

"Dim o gwbl, 'nhad, na dim tebygolrwydd i'r fath beth byth ddigwydd. Beth wnaeth i chwi feddwl am y fath beth?" ebe Susi.

"Wel," ebe'r Capten yn siomedig, "nid oeddwn yn meddwl bod y peth yn amhosibl, nac yn wir yn annhebyg, ond gan mai fel yna y mae pethau'n sefyll, purion; a mi wn nad ydyw o un diben i mi'ch cyfarwyddo i wneud fel hyn neu fel arall, mai eich ffordd eich hun a wnewch." "Mi geisiaf fy ngore wneud yr hyn sydd yn iawn, 'nhad, a'm penderfyniad ydi glynu wrthoch chi to the bitter end," ebe Susi.

"Bitter a fydd, y mae arnaf ofn, fy ngeneth," ebe'r Capten yn fyfyriol, ac yma y terfynodd yr ymddiddan, a diolchai Susi nad oedd ei thad wedi gofyn a oedd Enoc wedi ei gynnig ei hun iddi, oblegid buasai raid iddi ddweud y gwir, a gwyddai y buasai ei thad yn gynddeiriog wedi clywed y gwir.

Myfyriodd y Capten gryn lawer y noson honno. Gwenieithiai iddo'i hun bob amser ei fod yn adnabod y natur ddynol yn lled dda, ond yr oedd yn gorfod cydnabod bod ei ferch yn ddirgelwch iddo. Buasai'n cymryd ei lw fod rhywbeth rhyngddi hi ac Enoc Huws, ond yr oedd wedi methu. Ac eto teimlai'n sicr yn ei feddwl fod gan Enoc fwriadau gyda golwg ar Susi, ac ar yr un pryd yr oedd yn eithaf amlwg—oblegid ni ddywedai Susi gelwydd nad oedd ef wedi hysbysu ei fwriadau. A beth oedd meddwl y dyn? Os oedd wedi gosod ei fryd ar Susi, paham na ddywedai hynny wrthi, a darfod â'r peth?

"Oblegid," ebe'r Capten wrtho ei hun: "fyddai hi ddim gymaint ffŵl â'i wrthod o? Ac os byddai, mi 'i crogwn hi. A wyf wedi fy nhwyllo fy hun am gyhyd o amser gyda golwg ar fwriadau Mr. Huws? Mae'n bosibl. Hwyrach, wedi'r cwbl, fod medru deall hen lanc allan o'm lein i, er fy mod bob amser yn meddwl fy mod yn deall bron bopeth. A pha beth 'rwyf i'w wneud? Mae'n ddrwg gennyf ysbeilio Mr. Huws o'r holl arian yma, ac eto os rhown Goed Madog i fyny mi fyddaf ar y clwt. Ac y mae'n eglur ddigon y bydd i Enoc Huws dorri ei galon a thaflu'r cwbl i fyny—fedr o ddim dal—mae'n amhosibl iddo ddal—i wario hyd os na ddaw rhywbeth i'r golwg. Ac o ba le y daw? Yr oeddwn wedi meddwl y buasai Mr. Huws wedi'i gynnig 'i hun i Susi cyn hyn,—yn wir, y buasent wedi priodi ac arbed yr holl drafferth hon i mi, achos mi gawswn felly damaid yn eu cysgod. Ond mi welaf erbyn hyn y bydd raid i mi drio ffurfio rhyw fath o gwmpeini i Goed Madog—mae'n amhosibl i un dyn ddwyn yr holl gost, ac i minnau gael cyflog. Mae cael machinery a phethau eraill allan o'r cwestiwn—fe âi holl arian Mr. Huws—bob dimai goch, i gael y pethau angenrheidiol, a fedra i ddim ffrwytho i ofyn iddo wneud hynny, bydae o gymaint o ffŵl â gwneud er i mi ofyn. A fyddai'r cwbl da i ddim yn y diwedd. Ond y mae'n rhaid gwneud rhywbeth i gael tamaid. Ac am Denman, druan, y mae ef fel finnau cystal â bod up the spout unrhyw ddiwrnod. 'Does dim arall amdani, ond ceisio codi cwmpeini a thyngu bod yng Nghoed Madog faint fyd fyw fynnom o blwm, ond bod eisiau arian i fynd ato. Pe cawn i ryw ddeg neu ddeuddeg o rai go gefnog, mi allwn gario ymlaen am blwc eto, a 'does neb ŵyr yn y cyfamser beth a ddigwydd hynny ydyw yn rhywle arall, achos 'does yno fwy o blwm yng Nghoed Madog nag sydd ym mhoced 'y ngwasgod i. Bydawn i yn gallu ffurfio cwmpeini fe ysgafnhai hynny dipyn ar faich Mr. Huws achos mae'n ddrwg gen i robio cymaint arno, p'run bynnag a briodith o Susi ai peidio. Rhaid i mi roi Sem Llwyd ati i bylafro am ragolygon Gwaith Coed Madog, ac felly yn y blaen, ac felly yn y blaen. Mae Sem yntau, ar ôl deall 'i bod hi dipyn yn galed arna i, a'm bod yn analluog i iro ei ddwylo fel y bu, yn ddigon independent a sychlyd, ond rhaid iddo wneud yn ôl fy nghyfarwyddyd. Mi wn ei fod yn gwybod fy secret, y ffŵl dwl. Ond y mae Sem dan fy mawd, ac fe ŵyr hynny'n burion. Mi achubais gorn ei wddw pan laddwyd Job Jones, druan, ym Mhwll y Gwynt. Wn i beth wnaeth i Sem gymryd yn erbyn y bachgen clyfar hwnnw. Ond fel y dywedais i wrth Sem—mi gofith y noswaith tra bydd o byw—fe fuasai mor hawdd i mi ei wneud yn gyfrifol am wel, cyn sicred â bod f'enw i yn—ie, ond pwy ŵyr hwnnw oddieithr Sem! Yr ydym yn quits! Ond mae'n rhaid i mi feddwl am ffurfio rhyw fath o gwmpeini—pro. Tem., fel y dywedir, i 'ngalluogi i fynd dros y gamfa hon yn fy mywyd."

PENNOD XLIV

Y Parch. Obediah Simon

YR oedd Mr. Obediah Simon, y bugail, ac Eos Prydain yn gyfeillion mynwesol. Ni welsai Mr. Simon erioed ddyn mwy pur ac unplyg na'r Eos, ac ni welsai'r Eos bregethwr yn deall hanner cymaint o Sol-ffa ag a ddeallai Mr. Simon. Ac ni fu'r Eos yn fyr o fynegi hynny yn gyhoeddus fwy nag unwaith. Wedi clywed yr Eos yn canmol Mr. Simon am ei wybodaeth o Sol-ffa dro ar ôl tro, dywedai Thomas Bartley ei fod yn methu'n lân â dirnad beth oedd a wnelai gwybodaeth o sol-ffa â phregethu'r Efengyl, a chredai ef y dylasai Dafydd Dafis, oedd yn ffarmwr wrth ei grefft, wybod mwy o lawer na Mr. Simon am sol-ffa.

"Ac am bygethu," chwanegai Thomas, 'mae Mr Simon yn pygethu yn rhy ddyfn o lawer i fy sort i a Barbra, a well gynnon ni fil o weithiau wrando ar yr hen John Dafis, Nercwys. Mae'r pry hwnnw yn dallt ffordd cymdogion yn rhyfedd anwêdd, 'ddyliwn i. Wyddoch chi be, fydda i'n cael fawr o flas ar bygethu Mr. Simon, nes daw o dipyn at y diwedd. Mi wn ma arna i y ma'r bai, ac ma'r dyn yn ddyn digon clên hefyd, siampal. Ddaru mi ddeud wrthoch chi rw dro ffasiwn bygethwr fydda i'n licio? Naddo? Wel, dyna f'aidî i am bygethwr—hwyrach 'mod i'n methu—ond dyna'r sort fydda i'n licio—pygethwr ddeidith i dext yn ddigon uchel i bawb i glywed o. Yrwan, er pan ydw i'n dechre mynd dipyn i oed, a dim yn clywed cweit mor dda ag y byddwn i—'dydw i ddim yn clywed 'u hanner nhw'n deud 'u text, ac os collith dyn y text, mae o fel ci mewn ffair am blwc. Dyna beth arall fydda i'n licio mewn pygethwr, ydi 'i fod o'n fywus, a heb fod â'i ben yn 'i blu. Dda gen i un amser mo'r pygethwrs ara deg a thrwm yma—ma nhw wastad yn 'y ngneud i yn reit ddigalon. A dene lle bydda i'n deud y mae pygethwrS y Wesle yn yn curo ni—y Methodus. Wyddoch chi be, 'roeddwn i'n ddiweddar mewn cyfarfod Wesle, a chyfarfod siampal o dda oedd o hefyd, a 'doedd ene ddim cymin ag un o'r pygethwrs â'i ben yn 'i blu,—'roedden nhw i gyd wedi stripio ati o ddifri calon. Ond yr oedd ene bygethwr yn yn capel ni rw fis yn ôl—dyn nobl a threfnus anwêdd hefyd oedd o, a graen da ods arno, ond yr oedd o'n pygethu mor ddigalon fel y deudes i wrth Barbra acw wrth fynd o odfa'r bore, Wyddost ti be, Barbra, 'roedd y dyn ene yn deud pethe da iawn, ond mi gymra fy llw 'i fod o wedi colli'i wraig—a hynny yn bur ddi—weddar, 'roedd yn hawdd gweld arno, a maʼn ddrwg iawn gen i drosto.' Ond erbyn i mi holi Dafydd Dafis, mi ges allan, a 'roedd reit dda gen i glywed hefyd fod 'i wraig a'i blant o'n fyw ac yn iach, a bod y dyn yn werth 'i filoedd. Ond faswn i byth yn meddwl hynny wrth i wrando fo. Dene beth arall fydda i'n licio mewn pygethwr, 'i fod o'n rhoi pwt o stori i ni 'rwan ac yn y man, 'run fath â'r dyn ene o sir Drefaldwyn ne' rwle o'r Sowth ene.

Be ydi enw fo? Hoswch chi—o ie,—Jophes Tomos. Wyddoch chi be, dene'r pygethwr clenia glywes i erioed â'm dwy glust—mi fedrwn wrando arno am byth. Mae gynno fo faint fyd fyw fynnoch chi o straes, a phob un ohonyn nhw i'r dim, a ma gynno fo gymin ohonyn ym mhob pregeth, a phob un yn ffitio mor dwt, fel y bûm i'n dowtio weithie oedd o'n peidio â gneud rhai ohonyn nhw—'dase nhw waeth am hynny. Deudwch i mi be ydi'r achos fod y dyn ene heb i 'neud yn Ddoctor Difein? Ydi pobol y Merica ene ddim wedi clywed amdano fo? Ma ene rhw fistêc yn rhywle yn siŵr i chi. A mi glywes Didymus yn deud, a ma o'n gwybod popeth agos—fod ene rai sy wedi cael y teitl o Ddoctor Difein, wedi 'i gael o mewn mistêc. Ond fasen nhw ddim yn gneud mistêc wrth i roi o i'r hen Jophes, achos ma rhai callach na fi yn deud 'i fod o'n un o'r rhai gore. Ond dene oeddwn i'n 'i ddeud,—mi fydda i'n licio pygethwr tebyg iddo fo, a mi gerddwn beder milltir heno i'w glywed o. Dene beth arall fydda i'n licio mewn pygethwr ydi, fod o'n mynd yn well at y diwedd o hyd. Mi glywch ambell bygethwr 'run fath yn y diwedd ag yn y dechre. 'Dydi hynny ddim yn reit yn ôl y meddwl i. Fe ddyle popeth fod yn well yn 'i ddiwedd nac yn 'i ddechre, ne pa iws dechre yt ol? Dyma fi, 'rwan, wrth ddechre —Ond rhag i chi flino arna i, dene'r peth dwaetha ddeuda i ydw i'n licio mewn pygethwr ydi—fod o'n sôn digon am Iesu Grist. Wn i fy hun ar chwyneb y ddaear be ma pregeth da, os na fydd yn sôn am Iesu Grist, a ma Dafydd Dafis yr un feddwl a fi ar y pen ene, ac os gŵyr rhwfun be ydi pregeth, y fo ŵyr. Ac eto yn y dyddie yma, mi glywch ambell bregeth heb sinc na sôn am Iesu Grist, ond tipyn ar weddi. Ond efo hynny y cychwynnes i, fod Mr. Simon yn pygethu yn rhy ddyfn o lawer i fy sort i."

Prin yr oedd disgrifiad Thomas Bartley o Mr. Simon fel pregethwr yn gywir, canys nid oedd ei arddull yn neilltuol o "ddyfn." Dichon bod dull diweddaraf. Mr. Simon o bregethu yn rhy "ddyfn" i Thomas, oblegid yr oedd yn ffaith fod ein gweinidog ers tro bellach—gan roddi heibio ganu pregethu, a chan gyfeirio ei sylwadau yn fwyaf arbennig at y bobl ieuainc—wedi traethu cryn lawer ar evolution, negyddiaeth, ac anwybodyddiaeth, ac wedi sôn tipyn am agnosticiaeth, gyda'r amcan clodwiw o baratoi a chadarnhau meddyliau ieuenctid Bethel ar gyfer y llanw dinistriol oedd ar fin gorchuddio Cymru grefyddol. Yr oedd ef hefyd wedi gosod o'u blaenau gyda thipyn o fedr hefyd wrth—ddadleuon anghredwyr, ac wedi eu cnocio yn dipiau mân. Weithiau ffurfiai Mr. Simon fath o ymrysonfa, gan ddwyn anghredwr—un o'r rhai cryfaf—i'r ring; ac wedi rhoi pob mantais iddo, megis rhoi'r tir uchaf iddo, a gosod ei gefn at yr haul, dygai Paul i'r cylch fel ei wrthwynebydd, gan gymryd arno ei hunan edrych am gael chwarae teg a bod yn fath o referee neu umpire. Er bod Mr. Simon, fel gŵr canol, yn gwneud ei orau i fod yn amhleidgar, eto, ar derfyn pob round, yr oedd yn hawdd canfod ei fod yn dal Paul ar ei lin i roi gwynt iddo ac i guro ei gefn, ac yn gofalu, fel yr oedd yn briodol iddo wneud, am ei ddwyn allan yn fuddugoliaethwr yn y diwedd. Mae'n ddiamau mai'r "diwedd " hwn a hoffai Thomas Bartley. Mae'n amheus ai doeth yn Mr. Simon oedd sôn cymaint am wrthddadleuon anghredwyr wrth bobl Bethel, canys ni wyddai un o bob hanner cant ohonynt fod y fath wrthddadleuon wedi bod yn blino ymennydd neb erioed. Ond wedi clywed Mr. Simon yn eu traethu, dechreuodd rhai o'r ieuenctid—yn ôl tuedd lygredig y galon ddynol—eu coleddu a'u hanwesu. A digrif ddigon oedd clywed ambell ysgogyn pendew, na ddarllenasai gan tudalen o lyfr yn ei fywyd, yn cymryd arno fod yn dipyn o anghredwr, ac yn defnyddio geiriau a thermau na wyddai tu nesaf i lidiart y mynydd, mewn gwirionedd, beth ydoedd eu hystyr! Gyda'r amcanion gorau, yn ddiamau, yr oedd Mr. Simon wedi arfer ei holl ddawn i berswadio gwŷr ieuainc Bethel i beidio â darllen y llyfr yma a'r llyfr acw. Nid oeddynt, cyn hynny, erioed wedi clywed hyd yn oed enwau'r llyfrau, ac aeth dau neu dri ohonynt ar eu hunion i ymofyn amdanynt.

Daliai Didymus fod anerchiadau a chynghorion Mr. Simon i'r ieuenctid y moddion mwyaf effeithiol y gallai ef ddychmygu amdanynt i ddwyn oddi amgylch y canlyniadau gwrthgyferbyniol i'r rhai a ddymunid, a'i fod yn ei atgofio am yr ysgolfeistr hwnnw, cyn gollwng y plant o'r ysgol un prynhawn, a ddywedodd wrthynt: Blant, mae arnaf eisiau rhoi cyngor i chwi, ac yr wyf yn gobeithio y gwrandewch arnaf ac ufuddhau, a dyma fo: Cymerwch ofal wrth fynd adref o'r ysgol i beidio â rhoi cerrig mân yng nghlustiau'r mulod a welwch yn pori ar ochr y ffordd. Mae'r fath beth yn greulon, ac yn greulon iawn, a gofalwch na chlywaf fod neb ohonoch yn euog o'r fath weithred ysgeler." Ni chlywsai'r plant erioed cyn hynny am y tric, a'r mul cyntaf a welsant ar y ffordd wrth fynd o'r ysgol, llanwasant ei glustiau â cherrig mân, er mawr ddifyrrwch. Pan ddaeth y gorchymyn yr adfywiodd pechod. Pwy oedd y brenin hwnnw a waharddodd i'w ddeiliaid ysmygu? Cynyddodd nifer yr ysmygwyr yn enfawr y flwyddyn honno! Yr oedd amcan Mr. Simon, fel eiddo'r ysgolfeistr, yn ganmoladwy, ond y mae ffrwyth y pren gwaharddedig bob amser yn ddymunol a theg yr olwg. A bod yn onest, rhaid dweud. nad oedd gweinidogaeth Mr. Simon yn gyfaddas iawn i gynulleidfa Bethel, ac er y dangoswyd pob caredigrwydd tuag ato, ac na fu hyd yn oed Didymus, er chwerwed oedd ei natur, yn un math o graig rwystr iddo, dechreuodd Mr. Simon yn lled fuan deimlo'n anesmwyth. Gwelodd nad oedd yn Bethel ddigon o ddealltwriaeth i werthfawrogi ei dalentau. Ac nid hyn oedd ei siomedigaeth fwyaf. Nid peth anghyffredin, ymresymai Mr. Simon, oedd i ddyn fod heb ei adnabod a'i fawrhau gan gynulleidfa o weithwyr diddysg; ond buasai'n disgwyl i'r Cyfarfod Misol—lle'r oedd hufen cymdeithas grefyddol y sir wedi ymgyfarfod—roddi pris ar ei athrylith. Ond yr oedd hyd yn oed y Cyfarfod Misol—ar ôl rhoddi derbyniad croesawus iddo ar ei ddyfodiad cyntaf yno—wedi ei anghofio'n llwyr bron. Nid cysurus oedd hyn i ddyn ymwybodol ei fod yn feddiannol ar dalentau a galluoedd meddyliol uwchlaw'r cyffredin, oblegid hymbygoliaeth ydyw dweud mai pobl eraill sydd i farnu beth ydyw teilyngdod dyn a pha safle a ddylai gael mewn cymdeithas. Pwy sydd yn adnabod dyn cystal ag ef ei hun? Pwy sydd yn gwybod hyd, lled, uchder, a dyfnder ei adnoddau fel ef ei hun?

Yn ystod ei arhosiad yn Bethel, cadwodd Mr. Simon ei gymeriad yn lân, a gallasai ddiolch am hynny, i ryw raddau, i Eos Prydain. Wedi deall ei fod yn ymweled yn lled fynych â Thŷ'n yr Ardd, rhoddodd yr Eos yr awgrym iddo i fod ar ei wyliadwriaeth rhag i'r Capten ei andwyo. Parodd hyn i Mr. Simon fyfyrio ar y peth, a gwelodd nad dianghenraid oedd yr awgrym. Oblegid wedi deall nad oedd Mr. Simon yn ddirwestwr, ni phallai'r Capten gymell gwirod iddo bob tro yr âi yno, ac argyhoeddwyd Mr. Simon, yn y man, ei fod yn gwneud hyn gyda'r amcan o beri iddo, ryw ddydd, dorri'r drol, ac felly ei ddinerthu i roddi unrhyw gyngor i neb, na gweinyddu disgyblaeth ar neb a fyddai'n dueddol i yfed gormod. Yn ffortunus, gwelodd Mr. Simon hyn mewn pryd, ac er ei fod yn rhoi pris mawr ar ryddid, ac yn arfer edrych ar lwyrymwrthodwyr fel y bobl fwyaf anghymedrol yn y byd, credodd mai ei ddyletswydd fel gweinidog yr Efengyl oedd cymryd yr ardystiad. Ond, fel yr awgrymwyd yn barod, methai Mr. Simon weled fod digon o scope iddo yn Bethel, nac, yn wir, yng Nghymru, a phenderfynodd fyned i'r America. Pan wnaeth ei benderfyniad yn hysbys i'r eglwys, rhoddwyd credyd cyffredinol i'w ddoethineb, ac amlygwyd cryn lawer o alar (gan Eos Prydain a'i gôr). Diddanai'r Eos ei hun a'i gyfeillion y caffai Mr. Simon, yng ngwlad fawr y Gorllewin, ei wneud yn Ddoctor of Music, os nad yn Ddoctor mewn Diwinyddiaeth hefyd. Cymerodd yr Eos hefyd drafferth i sicrhau Mr. Simon y buasid yn gwneud tysteb iddo, oni bai fod cyflwr masnachol y gymdogaeth mewn ystad mor druenus o isel, a chynifer o bobl allan o waith. Felly nid oedd gan Mr. Simon ddim i'w wneud ond cymryd yr ewyllys am y gallu.

Mynegwyd yng nghorff yr hanes hwn y byddai Eos Prydain a'i gôr, pan fyddai un o aelodau eglwys Bethel wedi "darfod"—ymadrodd a ddefnyddid am un wedi marw—y byddai'r Eos a'i gôr yn canu Vital Spark yn y capel; ac yng nghyfarfod ymadawol Mr. Simon, cyn iddo gychwyn i'r America, tybiodd yr Eos—yn gymaint â bod Mr. Simon wedi "darfod" ag eglwys Bethel—nad amhriodol a fyddai canu Vital Spark—â'r hyn y cydsyniwyd. Ond gwrthododd yr Eos yn bendant aralleiriad Didymus o un pennill, oedd fel y canlyn:

Lend, lend your wing,
I sail; I fly;
Oh, wind, where is thy victory?
Oh sea, where is thy sting?


Cydnabyddai'r Eos briodoldeb yr aralleiriad, ond ofnai, gan nad oedd y côr wedi cael practice, mai drysu a wnâi; ac felly glynwyd wrth yr hen eiriau. Cafwyd cyfarfod cynnes iawn i ffarwelio â Mr. Simon. Siaradodd Dafydd Dafis yn effeithiol dros ben, a gobeithiai o'i galon y gallai Mr. Simon "wneud ei gartre" yn yr America. Ymhlith llawer o bethau da eraill, dywedodd yr Eos fod gwasanaeth Mr. Simon gyda dosbarth y Sol-ffa yn gyfryw na ellid byth roi pris arno, a'i fod yn hyderu na byddai iddo, wedi cyrraedd yr America, esgeuluso'r Sol-ffa. Digwyddwn fod yn eistedd wrth ochr Thomas Bartley, a phan wnaeth yr Eos y sylw hwn, ebe Thomas yn fy nghlust:

"Be ma'r dyn yn boddro, deudwch? Ond India corn maen' nhw'n i dyfu yn y Merica, a chlywes i 'rioed sôn 'u bod nhw'n gneud fawr efo ffa yno. Wyddoch chi be, ma'r Eos ene cyn ddyled â finne, 'blaw'r tipyn canu 'ma.'

Aeth yr Eos i Lerpwl i gael yr olwg olaf ar Mr. Simon, ac arhosodd ar y llong oedd i'w gludo i'r Gorllewin hyd y munud olaf, a thystiai gyda dagrau yn ei lygaid, wedi dychwelyd i Bethel, mai'r geiriau olaf a glywodd o enau Mr. Simon oedd—Sol-ffa!

Ac felly y diweddodd bugeiliaeth Mr. Simon yn Bethel. Pan oeddwn yn dechrau ysgrifennu'r hanes hwn, arfaethwn sôn cryn lawer am ei weinidogaeth, ac am yr achos crefyddol yn ei wahanol agweddau tra y bu ef mewn cysylltiad ag eglwys Bethel, ond, rywfodd, cymerais fy llithio i ysgrifennu am bethau eraill llai pwysig. Ar yr un pryd y mae arnaf ofn y gwnawn gam â Mr. Simon, pe gadawn ei hanes yn y fan hon heb sylw pellach arno. Mae arnaf arswyd bob amser ymdrin a beirniadu buchedd dynion cyhoeddus, yn enwedig pregethwyr, rhag i mi drwy anwybod gyfeiliorni. Oherwydd hynny, mi a roddaf i'r darllenydd grynodeb o ymgom rhwng dau sydd wedi bod yn ymgomio o'r blaen yn yr hanes hwn—dau oedd yn llawer galluocach i wneud adolygiad ar fywyd a llafur Mr. Simon nag ydwyf fi.

PENNOD XLV

Y Gohebydd

AR adegau neilltuol—adegau â thipyn o bwys ynddynt——. arferai Didymus ymweled â Dafydd Dafis. Ac nid anfuddiol fyddai'r ymweliadau hyn i'r ddau fel ei gilydd, oblegid yr oedd angen ar Dafydd am ysbardun, ac angen, weithiau, ar Didymus am ffrwyn. Câi Didymus fwy o les oddi wrth Dafydd nag a gâi Dafydd oddi wrtho ef. Fel gohebydd i'r newyddiadur—canys dyna oedd ei brif orchwyl—tueddai Didymus, fel ei frodyr yn gyffredin, i redeg i ormod rhysedd—gorliwio pethau—penderfynu pethau dyrys—pethau y byddai gwŷr pwyllog yn petruso yn eu cylch—a thraethu ei syniadau braidd yn oraclaidd ac awdurdodol. Lawer tro pan fyddai ar fin ysgrifennu adroddiad am ryw gyfarfod neu ddigwydd—iad, a'i feddwl yn llawn o frawddegau cyrhaeddgar ar hanner eu ffurfio, a phan fyddai'n dyfeisio sut "'i'w rhoi hi" i hwn neu arall, y bu ymgom â Dafydd Dafis yn foddion effeithiol i liniaru a chymesuro'r cwbl, ac weithiau i beri iddo daflu'r cyfan, fel y taflwyd Jonas, dros y bwrdd i'r môr.

Yr oedd cyfarfod ymadawol Mr. Simon yn "ddigwyddiad" yn Bethel, ac yn gyfleustra rhagorol, fel y tybiai Didymus, iddo ef fwrw golwg dros ei arhosiad yn ein plith, a heblaw y byddai i hynny lenwi tair colofn o'r County Chronicle, am yr hyn y câi dâl gweddol, y byddai hefyd yn fantais iddo yntau gael dweud ei feddwl ar bregethu a phregethwyr, ac ar hyn a'r llall oedd wedi bod yn cronni yn ei fynwes ers tro. Ond cyn ei arllwys ei hun ar bapur, da, yn ddiamau, y gwnaeth Didymus ymweled â Dafydd Dafis. Ac ebe Dafydd:

"Roeddwn i braidd yn ych disgwyl chi yma heno, Thomas, a mae'n dda gen i'ch bod chi wedi dyfod. 'Rydw i wedi bod yn meddwl llawer heddiw be ddeudech chi, tybed, yn y papur newydd am y cyfarfod neithiwr, achos mi wn y disgwylir i chi, yn ôl ych swydd, ddeud rhwbeth. A 'roeddwn i'n gobeithio, ac yn gweddïo hefyd, 'rwy'n meddwl, i chi gael doethineb i'ch cyfarwyddo."

Wel," ebe Didymus, "yr wyf am roi adroddiad verbatim et literatim o'ch araith chwi, Dafydd Dafis."

"Be ydech chi'n 'i feddwl wrth hynny, Thomas? gofynnai Dafydd.

"Rhoi yn y papur bob gair ddywedsoch chi, achos 'doedd yno ddim arall yn werth ei wrando," ebe Didymus.

"Twt lol," ebe Dafydd. "Na, mewn difri, be ydech chi am 'i ddeud am y cyfarfod? Rhaid i chi gofio, Thomas, nad pobl Bethel yn unig fydd yn darllen y papur, a mi liciwn i chi gymryd gofal."

"Beth fuasech chi yn ei ddweud pe buasech yn fy lle i, Dafydd Dafis?" gofynnai Didymus.

"Wn i ddim, yn siŵr," ebe Dafydd. "Braidd na feddyliwn mai peidio â deud dim y baswn i."

"Sut y caf fara a chaws wrth beidio â dweud dim? " gofynnai Didymus. "Mae hi'n fater rhaid arna i ysgrifennu hyn a hyn i'r Chronicle bob wythnos i fedru byw. A welsoch chi 'rioed yr helynt fydd hi arnaf weithiau yn nyddu clamp o hanes allan o ddim yn y byd. Mae'n rhaid i reporter mewn lle bach fel hwn fod wrthi hi yn creu o hyd. A chwi synnech gymaint o areithiau'r wyf yn gorfod eu gwneud yn ddiddiwedd na thraddodwyd erioed monynt. Dyna'r report o'r areithiau bob mis i'r Chronicle o'r Local Board, ydech chi'n meddwl bod eu hanner wedi eu traddodi yn y Board? Dim peryg! 'Does yno ddim tri aelod ar y Bwrdd fedr roi dwy frawddeg wrth ei gilydd yn ramadegol. Ond pob aelod agorith ei geg yn y Bwrdd mi fyddaf innau'n rhoi speech iddo yn y papur. Yn wir, cyn hyn mi fûm yn rhoi cloben o araith yn y papur gan aelod nad oedd wedi gwneud dim ar y Bwrdd ond rhoi nod o gydsyniad â rhyw benderfyniad neu 'i gilydd."

"Un garw ydech chi, Thomas, ond ydech chi'n meddwl ych bod chi'n gneud yn iawn, deudwch?" gofynnai Dafydd.

"Yn hollol iawn," ebe Didymus. A mae hi 'run fath yn union, wyddoch, yn y Board of Guardians. Dyna'r hen Lwyd, Wern Olau, yr wyf yn ei gofio un tro yn gwneud cais at speech, ac fel hyn y dechreuodd: Mistir Cheerman, I did remember when I am a boy,' etc. Ni buasai'n gwneud y tro i mi adrodd peth fel yna, wyddoch, yn y papur, a'r ffordd y reportiais i o oedd: Mr. Chairman, the subject now under discussion forcibly reminds me of my boyhood, etc., a mi roddais lafnes o speech iddo na thraddodwyd moni erioed. Ac yn y Board diweddaf, mi gymra fy llw, yr unig beth a ddywedodd yr hen Lwyd oedd: I beg to second resolution,' a mi chwysodd yn ddiferol wrth ddweud hynny, ond mi roddais dipyn o speech deidi iddo yn y Chronicle, achos mi wyddwn y buasai hynny yn ei foddio. A bydaswn i yn marw fedrwn i ddim peidio â gwenu pan gyfarfûm â'r hen Lwyd yn y ffair. Meddai, ac yn torsythu yn enbyd: Wyddoch chi be, Thomas, mi ddaruch roi port clên iawn o'r Bord y Gardians dwaetha—mi ddaru'ch ddeud bron air am air be oeddwn i wedi ddeud. Pryd y dowch chi acw i gael tamed o swper, deudwch?' Yr oedd hi yn andros o job cadw wyneb sobr wrth ddweud wrtho na allwn fynd i'r Wern Olau yr wythnos honno. A chyn sicred â'ch bod chi'n eistedd yn y gader yna dyma i mi chwiaden o'r Wern Olau bore drannoeth."

"Wel, 'chlywes 'r fath beth yn 'y mywyd," ebe Dafydd. "Ond deudwch i mi be fydd yr aelodau eraill yn 'i ddeud wrth ddarllen yn y papur am yr hen Lwyd wedi bod yn areithio?

Dim ar affeth hon y ddaear! Achos hwy wyddant i gyd bydawn i yn reportio areithiau'r rhai gore ohonynt fel y maent yn eu traddodi mai llun rhyfedd fyddai arnynt. Mae rhyw fath o Free Masonry yn eu plith—peidiwch chi â deud arna i ddeuda innau ddim arnoch chithau. Yn wir, 'chlywais i erioed mo'r chairman yn cwyno pan fyddwn wedi rhoi clamp o ddarn at ei araith."

"Wyddoch chi be, faswn i ddim yn licio rhw fusnes fel yna,—'dydi o ddim yn edrach yn syth a gonest, rwsut," ebe Dafydd.

"Pawb at y peth y bo—'pob tyladaeth rhag tlodi,' Dafydd Dafis. Gwaith reporter ydyw dyfeisio beth fydd ym meddwl dyn, a sut y buasai yn dweud ei feddwl pe medrai; ac os llwydda i ddirnad ei feddyliau annywededig, popeth yn dda," ebe Didymus.

Ond ffasiwn report ydech chi am 'i roi o gyfarfod ymadawol Mr. Simon?" gofynnai Dafydd.

"Wn i ar wyneb y ddaear," ebe Didymus. "Rhaid i mi ysbladdro rhywbeth, ac fe fuasai yn dda gennyf gael dweud wmbreth o'r hyn sydd ar fy meddwl, ac adolygu tipyn ar y cyfnod y bu Mr. Simon yn mynd a dyfod yn ein plith. Ond y mae un peth yn peri i mi betruso, a dyna'r rheswm i mi ddyfod yma heno. 'Ddymunwn i er dim a welais erioed niweidio'r fugeiliaeth yn y sir. Mae digon o ragfarn yn ei herbyn eisoes, a mi wn bydawn yn dweud fy meddwl yn syth yn y papur, y creai hynny fwy o ragfarn. Ond yn onest 'rwan, Dafydd Dafis, a atebodd bugeiliaeth Mr. Simon un amcan da tra y bu o yma?

"Do, yn ddiau," ebe Dafydd, "fe argyhoeddodd agos bawb, 'rwyf yn credu, o'r ffolineb o neidio i ddyn na ŵyr neb ddim amdano, a mi fu yn foddion, mi obeithia, i ni sicrhau dyn da y tro nesaf."

"Mi obeithiaf innau mai gwir a ddwedwch," ebe Didymus. "Mae dynion o stamp Mr. Simon—a mae llawer ohonynt yn diraddio ac yn damnio'r fugeiliaeth yn ein gwlad, ac yn lleihau cariad y bobl at y rhai sydd wir fugeiliaid. Yr wyf mor selog dros fugeiliaeth eglwysig ag Edward Morgan, Dyffryn, ond yr wyf yn ofni—nid bod gormod o gymell ar yr eglwysi i gael bugeiliaid—ond rhy fychan o gymell pa ryw fath ddynion a ddylent hwy fod. Yn y cychwyn cyntaf, mi gredaf, y mae'r drwg. Yr wyf yn credu o 'nghalon na ddylai un bachgen gael dechre pregethu os na fydd o'i ysgwyddau i fyny yn uwch na'i gyfoedion mewn gallu, gwybodaeth, a diwylliant, ac os na fydd wedi ei hynodi ei hun ym mhob cylch o fewn ei gyrraedd i'w wneud ei hun yn ddefnyddiol, ac i ddangos gonestrwydd ei sêl dros wneuthur daioni. Ac nid wyf yn credu mai oddi wrth y gŵr ieuanc y dylai'r cais am gael pregethu ddyfod, ond fel deisyfiad neu orchymyn oddi wrth eraill ato ef —y rhai fydd wedi sylwi arno, a chanfod ynddo gymwysterau i'r gwaith."

"Yr wyf yn cydweled â llawer o'r hyn 'rydech chi'n 'i ddeud, Thomas," ebe Dafydd, "ond mi wyddoch o'r gore bydase ambell un yden ni'n 'i 'nabod fel gwir bregethwr yn aros nes i'r eglwys ofyn iddo bregethu, y base heb ddechre hyd heddiw."

"Eithriad ydyw hynny, Dafydd Dafis," ebe Didymus. Mae dywediad fod bardd yn cael ei eni'n fardd, ac nid yn cael ei wneud yn fardd; ac y mae'n hollol wir. Pa nifer o feirdd a anwyd yn feirdd sydd yng Nghymru heddiw? Gellwch eu cyfrif ar bennau eich bysedd." "Ydech chi'n meddwl deud, Thomas, y gellwch chi gyfrif gwir bregethwyr Cymru ar benne'ch bysedd?" gofynnai Dafydd.

"Dim o'r fath beth," ebe Didymus, "o drugaredd y maent yn llu mawr. Mae ar Gymru fwy o angen am bregethwyr nag am feirdd, ac y mae Duw wedi creu mwy ohonynt. Ydech chi ddim yn meddwl, Dafydd Dafis, ein bod ni'n cael gormod o bregethu?"

"Gormod o bregethu, Thomas? 'Does dim gormod o bregethu i fod."

"Wel," ebe Didymus, "mi fyddaf i'n ofni 'n bod ni'n cael gormod o bregethu o'r hanner, o'r peth, ydi o. Ydi o'n ateb rhyw ddiben heblaw cynefino'r gwrandawyr â'r ffeithiau a'u hamddifadu o'u newydddeb, a pharatoi agwedd ddigyffro erbyn y daw un i ddweud yr hanes yn ei swyn a'i nerth?"

"Beth a ddeuai o'n holl gynulleidfaoedd—yn enwedig ein cynulleidfaoedd bychain yn y wlad—bydaech yn llwyddo i roi stop ar yr holl bregethwyr nad ydynt yn ein hargyhoeddi eu bod wedi eu geni neu eu bwriadu i fod yn bregethwyr?" gofynnai Dafydd.

"Beth sydd yn dyfod ohonynt yn awr?" gofynnai Didymus. "A oes ychwanegiadau atynt o'r byd? Onid yr unig beth sydd yn eu cadw heb leihau ydyw hiliogaeth yr eglwysi eu hunain?"

'Ydech chi ddim yn meddwl gneud i ffwrdd â phregethu, ydech chi, Thomas?" gofynnai Dafydd.

"Gwarchod pawb! nac ydwyf ar un cyfrif," ebe Didymus. "Ond pe medrwn, mi wnawn i ffwrdd â phob pregethwr nad ydyw wedi ei ddonio ag ysbryd y weinidogaeth y dosbarth sydd yn llenwi adwyon ac yn arbed cael cyfarfodydd gweddïo.'

"Ond pwy sydd i benderfynu pwy ydi'r gwir bregethwyr, a phwy ydi'r rhai sy'n llenwi adwyon?" gofynnai Dafydd.

"Yr eglwysi, wrth gwrs, drwy'r balot," ebe Didymus, "llawer gwell, yn ôl fy meddwl i, fyddai i ni fyw ar ein bloneg, hyd yn oed am fis, hyd nes deuai ein tro i gael y pregethwr, yn hytrach na chadw siop fach bob Saboth fel y gwneir yn awr."

"Byw go fain fyddai hi arnom ni," ebe Dafydd," a mi fydde'n bloneg ni wedi darfod yn lled fuan, mae gen i ofn. Mae gynnoch chi ryw ddrychfeddyliau gwylltion ac amhosib bob amser, Thomas. Ond gadwch i ni siarad sens, da chi. Be ydech chi am 'i ddeud yn y papur am y cyfarfod neithiwr? "

"Mae gennyf flys cymryd eich awgrym a pheidio â dweud dim," ebe Didymus, "hynny ydyw, rhoi rhyw baragraff bach diniwed. Achos y peth gore fedrwn i ddweud am Mr. Simon a fyddai mai dyn y lifrai oedd o. O! ie, cofiwch, y goler, dyna anhepgor gweinidog y dyddiau hyn, nid cadach gwyn ddwywaith o gwmpas y gwddw fel yr hen gewri gynt. Pa beth a gymerasai John Jones, Tal-y-sarn, am wisgo'r goler hon? Buasai'n ei gyfrif ei hun yn euog o dân uffern pe rhoesai hi am ei wddf."

"Gwarchod pawb! tewch, Thomas, yr ydech chi'n mynd yn fwy rhyfygus bob dydd," gwaeddai Dafydd.

"Geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf yn eu hadrodd, Dafydd Dafis," ebe Didymus. "Beth, yn enw pob rheswm, sydd yn gofyn am i bregethwr wisgo'n wahanol i bobl eraill. Pwy oedd yn gwawdio, ddeugain mlynedd yn ôl, fân guradiaid Cymru am eu gwisgoedd offeiriadol? Onid gweinidogion Ymneilltuol?"

Wel, wel, Thomas bach," ebe Dafydd, "yr ydech chi'n tramgwyddo wrth bethe bychain iawn, a phe basech chi'n ddyn dall, fel y Bartimeus hwnnw, mi gawsech lawer mwy o fendith ym moddion gras."

"Synnwn i ddim; ond yr wyf yn awr yn gweled, ac mae gweled pethau fel hyn yn fy ngwneud yn gwla. Ond swm y cwbl a glybuwyd yw hyn—un o wŷr y lifrai oedd Mr. Simon. Ac mi fuaswn yn leicio dweud tipyn arno yn y papur, ond mi gymeraf eich cyngor rhag i mi ddweud rhywbeth na ddylwn. Rhaid i mi geisio dwad o hyd i bytaten enfawr' neu hwch epilgar' yn rhywle i wneud i fyny newyddion yr wythnos. Da boch a dibechod."

PENNOD XLVI

Amrywiol

AETH wythnosau lawer heibio, ac er i Sem Llwyd "balu celwydd" gymaint ag a allai am ragolygon Gwaith Coed Madog, ac i'r Capten roddi pob gewyn ar waith i geisio cael gan ei gymdogion ariannog gymryd shares yn y Gwaith, ni choronwyd eu hymdrechion â llwyddiant. Ac, erbyn hyn, ystyriai'r Capten rhyngddo ac ef ei hun fod y dyfodol yn edrych braidd yn dywyll; ac i ddwysáu ei ofidiau, yr oedd Mr. Denman—ar ôl ymladd yn galed â'r byd, a hel cymaint o arian ag a allai i'r Capten, er mwyn cadw ei interest yng Nghoed Madog—yr oedd yntau, yn erbyn ei waethaf, wedi gorfod troi'n fethdalwr —wedi ei werthu i fyny—wedi gorfod symud i dŷ bach hanner coron o rent—a chymryd lle fel cynorthwywr am ddeunaw swllt yr wythnos, er mwyn cael rhyw lun o damaid. Dawn a ballai i adrodd yr hyn oll a ddioddefodd y creadur truan oddi wrth edliwiadau ei wraig; ac yn wir, wrth feddwl am y sefyllfa gysurus y bu ef unwaith yn ei mwynhau—pan oedd yn meddu tai a thiroedd, a stoc dda yn y siop—nid rhyfedd dod Mrs. Denman yn rhincian yn feunyddiol, ac yn ei atgofio'n fynych fel yr oedd wedi cario ei holl eiddo "i'r hen Gapten y felltith." Yr oedd Mr. Denman, druan, yn awr yn gorfod goddef yn ddistaw, ond yr hyn a'i blinai fwyaf oedd ei anallu i dalu ei ddyledion. Nid oedd ganddo obaith bellach am dawelwch a llonyddwch ond yn y bedd, i'r lle yr oedd yn prysur fynd. Ond trwy'r cwbl, yr oedd Mr. Denman yn parhau i fynd yn gyson i'r capel, ac ymddangosai ei fod yn cael mwy o fwynhad yn y moddion nag erioed; ac, fel y dywedai Dafydd Dafis, er bod Mr. Denman, ar ôl blynyddoedd o ymdrech ac aberth mawr, wedi methu cael plwm, yr oedd yn bur amlwg ei fod wedi dyfod o hyd i'r "perl gwerthfawr."

Ni allai'r Capten lai na synnu a rhyfeddu bod Enoc Huws yn dal i wario arian yn ddibaid ar Goed Madog, a hynny yn galonnog a siriol, a mynych y dywedodd ynddo ei hun: "Mae'n rhaid bod Mr. Huws yn gwneud busnes anferth i allu dal i wario cymaint. Mae'n greulondeb gadael iddo fynd ymlaen fel hyn. Ond beth a ddeuai ohonof i bydae o'n rhoi stop arni?" Ac felly yr oedd Enoc yn gwneud busnes anferth, ac nid oedd yn gofalu llawer am arian. Ac ni allai'r Capten lai na sylwi bod Enoc yn ymddangos yn hapusach a hoywach nag y gwelsai'r Capten ef ers blynyddoedd. "Diame," meddai'r Capten, "fod Mr. Huws yn cael mwy o gysuron gartref gyda'r housekeeper newydd. Wn i beth wnaeth iddo gadw yr hen gwtsach gan Farged honno cyhyd. Ond y mae'r Miss Bifan yma yn ymddangos yn superior. 'Does gennyf ond gobeithio na phriodith Mr. Huws moni. Mae'r merched golygus yma yn gymeriadau peryglus fel housekeepers i hen lanciau. Synnwn i lychyn nad dyna fydd y diwedd. Yn wir, y mae rhywbeth yn serch-hudol yng ngolwg y ferch. Bydaswn i yn ŵr ifanc fy hun wel."

Fe gofia'r darllenydd fod Enoc wedi cyflogi Miss Bifan heb ymorol dim am ei chymeriad, na gofyn iddi ym mha le y bu'n gwasanaethu ddiwethaf. Pan glywodd Jones, y Plismon, y chwedl hon, chwarddodd o eigion ei galon, ac ni allai beidio ag edmygu diniweidrwydd crediniol ei hen gyfaill Enoc. Ond ni orffwysodd Jones wedi hyn nes dyfod o hyd i holl hanes Miss Bifan,—fel y tybiai ef—ac wedi ei gael, nid oedodd ei hysbysu i Enoc. Yn ôl Jones, yr oedd caritor Miss Bifan yn rhywbeth tebyg i hyn: Unig ferch ydoedd hi i amaethwr gweddol barchus, oedd yn byw oddeutu pedair milltir o Bethel. Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn grefyddol, wedi cael ychydig addysg, a phan oedd yn hogen, wedi ennill amryw wobrwyon am ganu, darllen, ac ateb cwestiynau mewn cyfarfodydd cystadleuol, a chyfrifid hi yn llawer mwy talentog na'i chyfoedion. Edrychid ar Miss Bifan hefyd, er yn lled ieuanc, fel yr eneth brydferthaf yn yr ardal, peth a barodd i'w chyfeillesau genfigennu ati, ac i'r hogiau ymrafaelio yn ei chylch. Erbyn hyn, yr oedd Miss Bifan wedi bod yn gwasanaethu mewn amryw fannau, a chyda theuloedd parchus, a'r unig gŵynion a ddygid yn ei herbyn gan y "teuluoedd parchus y bu yn eu gwasanaethu, oedd yn gyntaf, ei bod yn gwisgo'n rhy dda; yn ail, ei bod yn peri i'w merched hwy ymddangos yn gomon, hagr, a diolwg; yn drydydd, fod ganddi bob amser gariad, a'i bod bob amser yn ffefryn gan feibion " y teuluoedd parchus "; ac yn olaf, fod ganddi ddwylo blewog. Pan. fynegodd y plismon hyn oll i Enoc, credodd yntau'r dystiolaeth am yr holl gŵynion oddieithr yr olaf, ac ebe fe yn selog:

"Wrth gwrs, y mae'r eneth yn gwisgo'n dda, a beth ydi hynny i neb arall, ac nid busnes meistr na meistres ydyw dweud wrth y forwyn sut a be i'w wisgo, os bydd hi'n talu am ei gwisg. Ac mae'r eneth hefyd yn bryd—ferth—'does dim dowt—ond 'dall hi ddim wrth hynny, a mi greda'n hawdd 'i bod hi'n gneud i ferched y teulu edrach yn gomon yn ei hymyl, a bod y meibion yn licio'i golwg hi,—beth oedd yn fwy naturiol? ond 'does dim eisio beio'r eneth am hynny, a 'dydi o ddim ond cenfigen sâl. Wyddoch chi be, mae ambell deulu'n meddwl nad oes gan forwyn ddim busnes i fod yn bropor, a bydaen' nhw'n medru, mi roen y frech wen arni, os nad hac yn ei gwefus. A 'dydi o ryfedd yn y byd os oes gan yr eneth gariad, ac os nad oes ganddi gariad—a mae hi'n deud nad oes ganddi 'run—mae o'n dangos bod bechgyn cyn ddalled â phost llidiart. Ac yn amal iawn, Mr. Jones, mi geiff geneth fel Miss Bifan hanner dwsin o gariadau, tra fydd merched y teuluoedd' yn gwefrio am gariad, a neb yn edrach arnyn nhw. Wel, ond 'dydw i ar fy ngore glas yn cadw gwyliadwriaeth ar hogiau'r siop yma—maen nhw'n gneud rhw esgus beunyddiol i ddwad i'r tŷ, ac mi wn mai'r amcan i gyd ydi cael golwg ar, a chael siarad gair â Miss Bifan. A beth sydd yn fwy naturiol—ond faswn i fy hun, oni bai am rywbeth y gwyddoch amdano? Ac am fod ganddi ddwylo blewog, 'chreda i byth mo hynny. Mae cannoedd o forynion, druain, yn cael cam dybryd. Pan fydd y sbrigyn mab wedi ponio ei gold studs i gael diod, O! y forwyn fydd wedi eu lladrata! Pan fydd y ferch wedi colli ei brooch neu ei chyffs, wrth galifantio, ac na wiw iddi ddweud wrth ei mam, y forwyn, druan, fydd wedi eu dwyn! Y forwyn ydyw bwch dihangol y teulu! Yr Humbugs! Mae Miss Bifan yn eneth splendid, Mr. Jones, y mae'r tŷ yma fel nefoedd o'i gymharu â phan oedd Marged yma."

Gwrandawai'r Plismon ar Enoc yn ddistaw, gan edmygu ei ysbryd ffyddiog a difeddwlddrwg, ond wrth edrych yn graff y tu draw i'w lygaid, gallesid darllen ei feddwl—"When ignorance is bliss 'tis folly to be wise."

Yr oedd dedwyddwch ei gartref, yn ddiamau, yn rhoddi cyfrif i ryw raddau am sirioldeb Enoc. Ond petai yn ei gartref yn unig y buasai ei ddedwyddwch yn gynwysedig, prin y buasai'n absennol oddi yno hyd un ar ddeg o'r gloch o'r nos, bedair neu bum noswaith yn yr wythnos. Rhaid bod Enoc yn cael rhyw gymaint o ddifyrrwch yn Nhŷ'n yr Ardd i fod yno mor aml. Ac nid oedd Coed Madog—nad oedd erbyn hyn yn rhoi gwaith ond i ychydig o ddynion—yn galw ar Enoc i ymgynghori â Chapten Trefor amryw weithiau yn ystod yr wythnos. A hyd yn oed, pe buasai ef yn ystyried bod hynny'n angenrheidiol, nid oedd y Capten, yn ddiweddar, ar gael yn Nhŷ'n yr Ardd bob noswaith o'r wythnos. Toc wedi marw Mrs. Trefor, yr oedd y Capten wedi dechrau myned i'r Brown Cow ar nosweithiau canol yr wythnos. Tybiai rhai mai'r rheswm am hyn oedd. ei fod, ar ôl colli Mrs. Trefor, yn teimlo'n unig, a'i fod yn cael tipyn o help mewn "cwmni" i fwrw ei hiraeth. Ac efallai fod ganddo amcan arall yn hyn—drwy adael Miss Trefor yn fwy unig, y rhoddai hynny iddi hi fwy o hamdden i ystyried ei sefyllfa a sylweddoli ei cholled, oblegid lled anystyriol ydyw pobl ieuainc yn gyffredin. Hwyrach y gwnâi unigrwydd les i Susi. Ond ni chymerai Miss Trefor yr olwg yna ar bethau, a theimlai hi fod gwaith ei thad—mor fuan ar ôl claddu ei mam—yn ei gadael ar ei phen ei hun yn y tŷ hyd berfeddion nos, yn ymddygiad angharedig i'r eithaf, ac oni bai fod Enoc Huws mor feddylgar a hynaws ag ymweled â hi mor fynych, buasai ei hunigrwydd bron yn annioddefol

Ers amser maith cyn marwolaeth ei mam teimlai Miss Trefor fod rhyw agendor rhyngddi a'i thad, a bod yr agendor yn ymledu beunydd. Achosai hyn boen mawr iddi. Cofiai adeg pryd yr edrychai ar ei thad gydag edmygedd diniwed, ac y golygai hi ef fel rhywun uwch a gwell na dynion yn gyffredin. Yr oedd hyn yn ei golwg ymhell, bell, yn ôl, ac edrychai gyda chalon hiraethus ar y cyfnod hwnnw. Gwnaeth lawer ymdrech egnïol i ail ennyn y fflam, ond ni ddeuai'r hen deimladau. yn ôl. Ar brydiau, meddyliai ei bod wedi ffurfio yn ei meddwl syniadau—na wyddai o ba le y cawsai hwynt—am uniondeb, cywirdeb, ac anrhydedd, na allai, nid yn unig ei thad, ond na allai unrhyw ddyn ddal i gael ei fesur a'i bwyso wrthynt, ond yn y funud cofiai am Enoc Huws—ni allai hi gael bai ynddo ef yn eu hwyneb. Lawer tro dychrynai a theimlai'n euog wrth feddwl am y syniadau a goleddai am ei thad. Ond er pob ymdrech, teimlai fod yr agendor oedd rhyngddi hi ac ef yn mynd yn lletach yn barhaus. Ond nid anghofiodd hi am foment ddau beth—sef ei fod yn dad iddi, a'i bod wedi gwneud llw y glynai wrtho tra byddai ef byw. Ni wnâi'r blaenaf ond ychwanegu ei phoenau wrth ganfod dirywiad cyson ei thad o'r dydd y bu farw ei mam, ac ni wnâi'r olaf ond peri iddi sylweddoli maint y trueni oedd o'i blaen. Ac eto cofiai fod ganddi gyfaill—cyfaill hyd y carn—ac ni allai hi, bellach, heb fod yn euog o'r anniolchgarwch mwyaf dybryd, a'r anffyddlondeb mwyaf i'w theimladau gorau hi ei hun, beidio â gwobrwyo ei ddyfalwch. "Dyletswydd" oedd arwyddair ei bywyd ers llawer o flynyddoedd, a chredai, yn wyneb y cyfnewidiad oedd wedi digwydd yn ei bwriadau, mai ei dyletswydd oedd hysbysu ei thad am y cyfnewidiad hwn. Yr oedd yn awr ers amser yn gwylio am gyfleustra i wneud hyn, ond yr oedd y Capten, pan fyddai gartref, yn gyffredin mewn tymer ddrwg, a phan ddychwelai yn hwyr o'r Brown Cow yn rhy swrth iddi feddwl am ddwyn y cwestiwn ymlaen.

PENNOD XLVII

Y Brown Cow

Y FFAITH oedd fod Enoc, o'r diwedd, wedi llwyddo yn ei gais—yr oedd Miss Trefor wedi addo bod yn wraig iddo. Ac os haeddodd rhywun erioed lwyddo, haeddodd Enoc, oblegid yr oedd ei ffyddlondeb wedi bod yn ddiball, a'i aberthau uwchlaw rhoddi pris arnynt. Pa fodd y dygwyd hyn oddi amgylch, nid wyf yn bwriadu adrodd, canys yn y cyfryw amgylchiadau ac y maent oll yn lled gyffelyb y mae cymaint o ffwlbri yn digwydd fel y mae gan bob dyn sydd wedi bod yn briod am chwe mis gywilydd o'i galon gofio ei fod yntau wedi mynd trwy'r amgylchiad digrif, ac nid ydyw'n hoffi sôn amdano. Am hynny ni soniaf innau amdano, oherwydd pe gwnawn, ni roddai fwynhad i neb ond i ychydig hogennod—ac nid i hogennod yr wyf yn ysgrifennu yr hanes hwn, ond i ddynion synhwyrol. Digon ydyw dweud bod Miss Trefor wedi addo priodi Enoc Huws, yr hyn a'i traws-symudodd yntau ar unwaith i'r seithfed nef, ac a barodd i Miss Trefor, fel y dywedwyd, ystyried ei bod yn ddyletswydd arni hysbysu ei thad.

Yr wyf wedi sôn fwy nag unwaith yn yr hanes hwn am y Brown Cow. Tafarndy oedd, hynod o hen ffasiwn, ar gwr y dref. Mae'r tŷ, erbyn hyn, wedi myned dan amryw gyfnewidiadau, ond fel yr oedd ers talwm yr wyf yn awr yn sôn amdano. Nid oedd neb yn fyw yn cofio ei fod yn ddim amgen na thafarn. Yr oedd yn dŷ helaeth a chyfaddas iawn i'r busnes, ac yno, yn yr hen amser, y byddai'r porthmyn yn lletya noswaith o flaen y ffair. Dywedid nad oedd seler yn y wlad debyg i seler y Brown Cow am gadw cwrw rhag suro, ac yn yr amser gynt, arferai'r teulu ddarllaw eu cwrw eu hunain. Uwchben y drws yr oedd astell, ac arni lun buwch wedi ei beintio gan rywun na wyddai neb pwy, ond a gedwid yn annirywiedig drwy ei farneisio bob blwyddyn. Eglur ydoedd, yn ôl y darlun, na fuasai y fuwch honno yn ennill gwobr mewn arddangosfa amaethyddol yn ein dyddiau ni, canys yr oedd ei hesgyrn fel pe buasent bron dyfod trwy ei chroen, a'i choesau mor stiff nes argyhoeddi pawb ei bod yn dioddef gan gryd cymalau. Heblaw hynny, yr oedd toreth o gyrls ar ei thalcen nes peri iddi ymddangos yn debycach i'w gŵr nag iddi hi ei hun. Ac eto mae'n rhaid bod rhyw swyngyfaredd yn perthyn i'r fuwch honno, oblegid y mae hanes ar gael i ŵr a gadwai'r dafarn un tro gymryd yn ei ben dynnu'r fuwch i lawr a gosod yn ei lle "Y Ceffyl Glas." Ymhen y pythefnos collodd ei holl fusnes, a bu raid iddo ail osod yr hen fuwch uwchben y drws, a dychwelodd y busnes, ac y mae'r tŷ 'n llwyddiannus hyd y dydd hwn. Yn y Brown Cow yr oedd dwy ystafell yn y ffrynt, a dwy yn y cefn. Ar yr ochr chwith wrth fyned i mewn yr oedd ystafell yr ysbrydion, neu'r bar. Ar yr ochr dde yr oedd y gegin fawr. Ar un ochr i'r ystafell hon yr oedd dreser dderw fawr, na wyddai neb ei hoedran, ac arni blatiau piwtar gloyw gwerthfawr, a edrychai yn urddasol ar noswaith aeaf, pan fyddai tân mawr yn y grât ar eu cyfer. Ar yr ochr arall yr oedd mainc lydan a chefn iddi yn rhedeg gyda'r wal, ac ar y drydedd ochr, yn lled agos i'r tân, yr oedd setl uchel, ac arni le i bedwar neu bump eistedd. Heblaw bwrdd mawr cadarn ar ganol y llawr, nid oedd nemor ychwaneg o ddodrefn yn yr ystafell hon. Mae'n wir bod gwn dau faril ar un o'r distiau, ac yn gyffredin, nerobau bacwn a ham neu ddwy ar ddist arall, a hwyrach, wrth ystyried bod cymaint o ysmygu yn yr ystafell, y gellid ei alw yn smoked bacon. Ond prin y gellid galw y pethau a enwid olaf yn ddodrefn. O! ie, yr oedd hefyd ar un o'r muriau ddarlun o'r hen Syr Watcyn, a darlun arall o hela llwynog, ac un o'r marchogion, wrth lamu dros lidiard, wedi syrthio ar ei gefn, a'r ceffyl wedi mynd encyd o ffordd heb farchog, ac yn edrych yn wyllt iawn. Yn y gegin fawr y cyfarfyddai cwsmeriaid cyffredin y Brown Cow—megis y mwynwyr, y cryddion, y melinyddion, a'r teilwriaid, a'r cyffelyb. Yn yr hen amser dedwydd gynt, cyn bod papur newydd Cymraeg mewn bod, a chyn bod sôn am ddirwest, âi hen "gojers" Bethel i gegin fawr y Brown Cow wedi nos—nid yn gymaint er mwyn yr home brewed diwenwyn —ond er mwyn ymgom ddiniwed, a chlywed rhyw newydd, os digwyddai fod yno ar ddamwain ryw bedlar teithiol neu brydydd yn aros dros nos. O leiaf, felly y dywedai fy nhaid wrthyf. A chyda pha fath awch y derbyniai'r hen "gojers safn—agored newyddion y pedlar, serch iddynt fod yn ddeufis oed! Yn niffyg y pedlar, llawer stori dda a adroddwyd yng nghegin fawr y Brown Cow. Nid dyna ydyw hanes y tafarnau yn awr, ysywaeth. Glas hogiau difarf, penwag, sydd yn eu mynychu erbyn hyn, a hynny fel anifeiliaid i yfed Kelstryn, ac yn mynd adref yn waeth eu sut na'r anifail.

Fel y dywedwyd, yr oedd dwy ystafell hefyd yn y cefn yn un yr oedd y teulu yn byw," a chedwid y llall fel math o barlwr i'r dosbarth gorau o gwsmeriaid, megis masnachwyr ac ambell grefyddwr fyddai'n hoffi peint heb i neb ei weled. Yn yr ystafell hon hefyd y byddai'r lletywr parchus a ddigwyddai aros yno dros nos, os na byddai'n well ganddo fyned i'r gegin fawr er mwyn y cwmni. A thorri'r stori'n fer, i'r ystafell hon yr arweiniwyd Capten Trefor gan Mrs. Prys, y dafarnwraig, pan ymwelodd gyntaf â'r Brown Cow. A rhaid dweud bod Mrs. Prys, pan roddodd y Capten ei big i mewn, yn ystyried bod hynny'n gryn anrhydedd i'w thŷ, oblegid yr oedd yn eithaf hysbys mai'r Llew Du oedd yr unig dŷ yn y busnes y talai'r Capten wrogaeth iddo. Mawr oedd ffwdan Mrs. Prys yn rhoi croeso i'r Capten, a mawr oedd ei llawenydd fod yn y parlwr—fel y digwyddai—gwmni parchus iddo am unwaith y daethai yno. Ni chynhwysai'r cwmni hwn y noson honno ond tri o fasnachwyr gweddol barchus, ond yr oedd y Capten wedi'i fwynhau ei hun gymaint gyda'r cwmni, fel y dywedodd, wrth ffarwelio â Mrs. Prys, nad âi mwy i'r Llew Du, ac nad hwnnw fyddai'r tro olaf iddo ymweled a'r Brown Cow. Yr oedd Mrs. Prys yn hen wreigan letygar a chroesawus, ac yn ei ffordd radlon ei hun, llusgodd y Capten gerfydd ei law i'r bar, a gwnaeth iddo yfed ei hiechyd da â gwydraid o mountain dew, er mwyn cael ei farn arno. Canmolodd y Capten y chwisgi, a chan ei fod yn ei hoffi, gorfu Mrs. Prys ef i gymryd gwydraid arall er ei mwyn hi. Ufuddhaodd y Capten, oblegid ni hoffai groesi menywod.

Bu'r Capten yn un â'i air (yr oedd bob amser felly), ac o'r noson honno ymlaen ymwelai deirgwaith, ac weithiau bedair gwaith yn yr wythnos â'r Brown Cow. Drwy ei fod yn ymddiddanwr campus, a'i fod yn un lled, gyfarwydd â'r modd yr oedd y byd yn mynd yn ei flaen, parodd ei ymweliadau â'r Brown Cow i gwmni'r parlwr gynyddu i bump, ac o'r diwedd i hanner dwsin, ac weithiau ychwaneg na hynny. Yr oedd y cwmni yn mawrhau ei gymdeithas, a Mrs. Prys yn mwynhau ei ymweliadau yn fwy na neb. Gwelai'r Capten hynny yn eglur ddigon, ac y mae'n naturiol i bob dyn dalu parch i'r cwmni fydd yn ei iawn brisio. Teimlai, heb ymffrost, ei fod o'i ysgwyddau yn uwch mewn gallu, doniau, gwybodaeth, ac yn enwedig dawn ymadrodd, na'r holl gwmni gyda'i gilydd, a gwyddai yr edrychid arno felly gan y cwmni. Mewn gwirionedd, oni bai ei fod yn ormod o ŵr bonheddig i ymostwng i hynny, ni buasai raid iddo wario dim am ddiod, canys yr oedd y cwmni bron ag ymrafaelio am gael talu'r shot. Cymaint oedd y sylw a delid i'r hyn a ddywedai, cymaint oedd y pris a roddid ar ei olygiadau, a chymaint oedd y boddhad a roddai hyn i gyd iddo ef ei hun, fel yr aeth cwmni'r Brown Cow yn angenrheidiol iddo bob nos drwy'r wythnos. A thawelai'r Capten ei gydwybod gyda'r syniad nad oedd iddo fwynhad mwyach yn ei gartref wedi colli annwyl briod ei fynwes. Yr oedd yn wir fod ganddo ferch, ond pa gymdeithas oedd rhwng yr ieuanc a'r hen—rhwng yr haf a'r gaeaf? Cyn iddo erioed ddechrau mynychu'r dafarn yr oedd y Capten yn yfwr trwm a chyson yn ei gartref, ac er na byddai un amser yn meddwi —hynny ydyw, meddwi nes methu cerdded—neu gael ambell godwm—nac, yn wir, un amser golli ei ben—eto yr oedd effeithiau'r hir ddiota i'w canfod yn amlwg arno. Nid oedd, ers tro, mor drwsiadus a thaclus ei wisg yr oedd ei ysgwyddau'n ymollwng, ei goesau'n mynd yn fwy anhysaf bob dydd, a'i wyneb—oedd gynt yn wyneb hardd iawn—yn prysur fyned yn unlliw, heb wahaniaeth rhwng y gwefusau a'r bochau—a phob rhan o'r wyneb megis yn ceisio dyfod i'r un lliw â'r trwyn, oedd y cyntaf i newid ei liw i liw nad oedd yn lliw yn y byd. Y lliw tebycaf y gallaf ddychmygu amdano ydyw iau llo wedi ei tharo gan fellten. Yr wyf yn siŵr na fuasai un o gyfoedion ieuenctid y Capten—heb ei weled er hynny yn ei adnabod o holl bobl y byd. Rhoddai'r Capten gyfrif gwyddonol am y lliw rhyfedd hwn oedd ar ei wyneb drwy ei briodoli i effeithiau rhyw gases tanddaearol y deuai, fel capten gwaith mwyn, i gyffyrddiad â hwy; a rhyw affinity yng nghroen ei wyneb a ddygai oddi amgylch ryw chemical process nad oedd mwynwyr eraill yn agored iddo. Ond y gwir yw, nid oedd llawer o waith wedi ei adael i'r Brown Cow i "orffen" y Capten, pan ddechreuodd fynychu'r tŷ. Canfyddai Miss Trefor hyn yn amlwg, ac yr oedd yn dyfod yn fwy amlwg iddi bob dydd. Pa ofid meddwl, pa gyni calon, a achosodd hyn i gyd iddi, ni wyddai neb ond hi ei hunan. Ofnai siarad ag ef ynghylch ei gyflwr, a gwyddai'n dda na fuasai hynny o un diben. Gwelai'n eglur na allai ei thad ddal yn hir i gerdded y ffordd a gerddai, a hwyrach i hynny beri iddi fod yn barotach i wrando ar gais Enoc Huws, ac, o'r diwedd, fynd i amod ag ef. Pa fodd bynnag, ystyriai mai ei dyletswydd oedd hysbysu ei thad am yr amod a wnaethai hi. Bu am adeg yn gwylio am amser cyfaddas ac i ddal ar y cyfleustra pryd y byddai ei thad yn y dymer orau, canys ni wyddai hi pa fodd y cymerai ef y newydd. Credai y byddai'r newydd yn dderbyniol ganddo, ond ofnai y byddai iddo fynd i natur ddrwg am nad oedd hi wedi ymgynghori ag ef cyn rhoi addewid mor bwysig, oblegid yr oedd gan y Capten syniad uchel am ei urddas. Yn y boreau a'r prynhawniau, pan fyddai ef yn berffaith sobr, yr oedd ei dymer yn afrywiog a blinderog, a'r tipyn lleiaf yn ei yrru yn gaclwm ulw; ac yn y nos drachefn, wedi dychwelyd o'r Brown Cow, byddai'n swrth a chysglyd, ac nid ystyriai Miss Trefor ei fod yn beth gweddus sôn am y peth ar y Sul. Ac fel hyn, aeth wythnosau heibio cyn iddi gael dweud ei stori. Cynigiodd Enoc fwy nag unwaith siarad â'r Capten, ond gwrthodai Miss Trefor ei wasanaeth, am y credai, yn gymaint â'i bod wedi addo priodi Enoc cyn ymgynghori â'i thad, a'i bod yn benderfynol o gadw ei haddewid beth bynnag a ddywedai ef, mai ei dyletswydd hi oedd ei hysbysu am y ffaith, ac wedi iddi unwaith gredu bod rhywbeth yn ddyletswydd arni, nid oedd modd ei symud oddi wrth ei bwriad.

Ond daeth y cyfleustra o'r diwedd, ac fel hyn y bu.. Un noswaith pan aeth y Capten i'r Brown Cow, cafodd yn y cwmni ŵr dieithr, ac nid yn y cwmni ychwaith, oblegid eisteddai ym mhen draw'r ystafell, wrth fwrdd bychan, yn ysgrifennu, fel y gwelir trafaeliwr yn gwneud yn fynych, a buasai'r Capten yn tybio mai trafaeliwr ydoedd oni bai iddo ganfod ar unwaith ei fod yn hen ŵr a'i ben yn wyn fel eira. Wedi edrych arno unwaith ni feddyliodd mwy amdano. Aeth popeth ymlaen fel arfer, a bu'r cwmni yno hyd adeg cau, a gadawsant yr hen foneddwr yn dal ati i ysgrifennu.

Yr oedd y gŵr dieithr yno nos drannoeth wrth ei fwrdd, ond yn darllen y noson honno a lled—ochr ei wyneb wedi ei throi at y cwmni, a heb ymddangos ei fod yn deall dim a siaradai'r Capten a'i gyfeillion yn y pen arall i'r ystafell, nac yn cymryd unrhyw ddiddordeb ynddynt. Cyn gadael y Brown Cow y noswaith honno, trodd y Capten i'r bar, a gofynnodd i Mrs. Prys pwy oedd yr hen foneddwr yn y parlwr. Ni allai Mrs. Prys roi mwy o wybodaeth ynghylch y boneddwr na'i fod yn Sais yn dyfod o'r 'Merica, ac yn ôl pob argoelion yn gyfoethog iawn,—yn bwriadu aros am ddiwrnod neu ddau,—nad oedd yn yfed dim diod feddwol,—yn dweud dim wrth neb oni fyddai raid iddo, ac yn darllen neu ysgrifennu o hyd. Ychwanegodd Mrs. Prys ei bod yn siŵr fod y dyn diarth yn ŵr bonheddig mawr, achos yr oedd ganddo aur lond ei bocedau.

"Just y dyn i mi," ebe'r Capten, ar ei ffordd adref, ond y mae o'n rhy hen i fentro, ac nid yw am aros yma ond deuddydd neu dri, ac y mae yn ditot. Welais i erioed ddaioni o'r titots yma oddieithr Enoc Huws. Maen nhw yn rhy cautious i fentro, ac felly, good bye, Yankee, not worth another thought."

Drannoeth, gwelodd y Capten yr hen foneddwr ar yr heol yn siarad â Jones y Plismon, fel pe buasai yn holi am y peth yma a'r peth arall: ac wedi edrych arno, cytunai â Mrs. Prys fod golwg boneddwr arno,—safai'n syth a chadarn ei wedd, er ei fod yn ddiamau yn ŵr pymtheg a thrigain os nad ychwaneg. Yr oedd ei wisg yn dda, a slouch hat am ei ben, ac yr oedd wedi eillio ei fochgernau yn lan, gan adael ei farf ar ei wefus uchaf a'i ên. "Real American," ebe'r Capten. Arhosodd yr hen foneddwr yn y Brown Cow amryw ddyddiau,—byddai yn ei gongl yn gyson yn darllen naill ai newyddiadur neu lyfr. Yn gymaint ag mai Sais Americanaidd oedd, ac mai Cymraeg a siaradai'r Capten a'i gyfeillion, ni theimlai'r cwmni fod ei bresenoldeb yn un cyfyngiad ar eu rhyddid. Yn gymaint hefyd â bod y gŵr dieithr yn ymddangos fel yn perthyn i gylch uwch o gymdeithas na hwy, ac yn hynod neilltuedig, ni theimlai neb o'r cwmni awydd agosáu ato, ac aeth popeth ymlaen fel arfer. Ond pe buasai un ohonynt yn ddigon craff, gallasai ganfod nad oedd y boneddwr mor hollol ddisylw o'r cwmni ag y tybid ei fod. Oblegid bob tro y byddai'r Capten yn siarad, gallesid gweled y boneddwr yn cau ei lygaid—nid i fyfyrio ond i wrando yn astud. Bryd arall tremiai ar y Capten dros ymyl y llyfr neu'r papur a ddarllenai. Hyn a wnâi bob tro y siaradai'r Capten, ond ni sylwai neb arno. Yr oedd y boneddwr wedi bod yn y Brown Cow wyth niwrnod. Rhwng ei brydau, cerddai yma ac acw yn y gymdogaeth. Ni wnâi gyfeillion o neb, ac ni welwyd ef yn siarad â neb oddieithr Jones y Plismon. Mae'n wir y byddai'n mynd i Siop y Groes bob dydd bron i brynu sigars, oherwydd yr oedd yn fygwr dibaid. Ond Jones, yn ôl pob ymddangosiad, oedd yr unig un oedd ar delerau cyfeillgar ag ef, ac yr oedd y Plismon wedi ei gynysgaeddu â hynny o wybodaeth a feddai am y gymdogaeth a'i phobl. Ond ni wyddai hyd yn oed Jones beth oedd busnes y boneddwr yn Bethel, ac ni wyddai Mrs. Prys hyd yn oed ei enw.

Un noswaith—nos Lun ydoedd yr oedd y Capten braidd yn hwyr yn ymuno â'r cwmni yn y Brown Cow. Tra'r oedd ef yn ymddiheuro i'r cwmni, ac yn esbonio iddynt y rheswm am ei ddiweddarwch, sef ei ohebiaethau lluosog, digwyddodd edrych i'r cyfeiriad lle'r eisteddai'r Americanwr, a gwelodd ei fod yn syllu yn ddyfal arno dros ymylon y llyfr a ddarllenai. Gostyngodd y gŵr dieithr ei lygaid ar y llyfr. Trawyd y Capten gan rywbeth, oblegid petrusodd yn ei ymadrodd a chollodd ei ddawn, peth dieithr iawn iddo ef. Wrth weled y Capten yn edrych i gyfeiriad y boneddwr, ac yn petruso, edrychodd pob un o'r cwmni i'r un cyfeiriad, ond canfyddent fod y boneddwr wedi ymgolli yn ei lyfr. Nid oedd y Capten fel ef ei hun y noson honno—yr oedd yn fwy tawedog, ac yn ymddangos fel pe buasai rhywbeth yn blino ei feddwl. Ac felly yr oedd, yn fwy cythryblus ei feddwl nag a ddychmygai neb. Ymhen ychydig funudau dywedodd yn ddistaw wrth ei gyfeillion y byddai raid iddynt ei esgusodi y noson honno—fod rhywbeth wedi dyfod drosto—nad oedd yn teimlo'n iach. Ychwanegodd fod yn rhaid ei fod wedi cael oerfel, neu ynteu ei fod wedi gweithio'n rhy galed y diwrnod hwnnw, oblegid," ebe fe, "mewn ffordd o siarad, yr wyf yn teimlo quite yn faintish." Cynigiodd un o'i gyfeillion ei ddanfon adref, ond ni fynnai'r Capten. Pan oedd yn gadael yr ystafell, edrychodd gyda chil ei lygad ar y boneddwr, ond nid oedd ei ymadawiad yn effeithio dim ar yr hen ŵr,—yr oedd ei lygaid yn sefydlog ar ei lyfr. Synnai Mrs. Prys fod y Capten yn troi adref mor gynnar, a phan ddywedodd ef nad oedd yn teimlo'n iach, gwthiodd yr hen wreigan, yn erbyn ei waethaf, botel beint o mountain dew i'w boced, gan ei siarsio i gymryd "dropyn cynnes cyn myned i'w wely."

"'Rwyf yn ffwl, yn berffaith ffŵl! Dychymyg ydyw'r cwbl! Mae'n amhosibl! Mae fy ffansi wedi chware cast â fi heno. Ond 'doedd gen i mo'r help, er nad ydyw ond nonsense perffaith. Beth na ddychmyga cydwybod euog? Mae gen i flys mynd yn ôl,—na, 'da i ddim yno eto heno, er mai nonsense pur ydyw."

Fel yna y siaradai'r Capten ag ef ei hun wrth fyned adref. Ac erbyn cyrraedd Tŷ'n yr Ardd yr oedd ei feddwl wedi ymdawelu, ac yn llwyr argyhoeddedig fod ei ddychymyg wedi chwarae cast ag ef; ac eto, teimlai'n awyddus i gael rhywun i siarad ag ef, oblegid yr oedd yn gwmni drwg iddo ef ei hun y noswaith honno. Nid oedd Enoc Huws yn Nhy'n yr Ardd y noson honno, ond yr oedd Susi yno, a diolchai'r Capten am hynny—ni fu erioed mor dda ganddo am ei chwmni.

PENNOD XLVIII

Cydwybod Euog

YR oedd gweled ei thad gartref rhwng naw a deg o'r gloch y nos heb ddim arwydd diod arno, a'i gael yn fwyn a charuaidd ei ysbryd, ac fel pe buasai'n ofni iddi ei adael am ddau funud, yn rhywbeth na allai Miss Trefor ond prin ei gredu, ac weithiau meddyliai mai mewn breuddwyd yr oedd hi. Rhedai ei meddwl yn ôl at yr amser pan oedd yn hogen, a phan feddyliai mai ei thad oedd y dyn gorau yn y byd, a phan garai hi ef â holl nerth ei chalon. Yr un un oedd ef o hyd, meddyliai, ond bod yr hen ddiod felltigedig yn peri iddo ymddangos fel un arall, a theimlai'n euog yn ofnadwy o euog—ei bod erioed wedi coleddu meddyliau gwahanol amdano ac wedi teimlo yn oer tuag ato. Yr oedd hynny yn amlwg; oblegid y noswaith honno yr oedd ef yn hollol fel y byddai ers talwm—yn siriol, caruaidd a chyweithas, ac yr oedd yn rhaid mai'r ddiod oedd yn ei wneud fel arall. Pa beth oedd wedi peri iddo ddyfod adref yn gynnar a sobr y noson honno—pa beth oedd wedi ei wneud fel ef ei hun—ni wyddai hi, ond deffrôdd ei holl serch tuag ato, a dyheai am roi ei breichiau am ei wddf a'i gusanu, peth na wnaethai ac na feiddiasai ei wneud ers blynyddoedd lawer, lawer. Bychan y gwyddai hi—ac yr oedd y ffaith yn rhyfedd ynddi ei hunan—mai'r cynnwrf oedd yn ei feddwl—yr ystorm oedd yn ei gydwybod, a barasai iddo ddyfod adref yn gynnar a sobr, ac a roddodd iddo ei hen fwyneidd-dra ydoedd hyn oll ond awydd dwfn am gydymdeimlad rhywun y gwyddai ei fod yn gywir, ac am rywbeth i yrru ei feddyliau oddi wrtho ef ei hun. Mewn gwirionedd, ni fu ar y Capten erioed y fath chwant ymfoddi mewn diod gadarn—yr oedd y chwant fel llew gwancus ynddo y noson honno. Ond teimlai fod angenrheidrwydd tost yn gorchymyn iddo gadw ei ben yn glir a'i galon yn ddigwsg nes iddo gael sicrwydd dios nad oedd sail i'w ofnau, a'i fod wedi ei dwyllo gan ei ddychymyg. Yr oedd Miss Trefor, fodd bynnag, yn hynod o hapus y noson honno, a meddyliai fod ei gweddïau yn dechrau cael eu hateb, ac y gallai ei thad, wedi'r cwbl, farw yn ddyn da a duwiol. Ond yr oedd ganddi beth arall yn pwyso ar ei meddwl ers wythnosau, fel y dywedwyd o'r blaen, sef ei haddewid i Enoc Huws, ac yn awr yr oedd ei thad mewn tymer y gallai hi anturio ei hadrodd wrtho. 'Wrth ei weled mor dyner a thadol bron nad ydoedd hi, erbyn hyn, yn edifarhau am nad ymgyngorasai ag ef cyn rhoi ei haddewid i Enoc Huws. Ond nid oedd mo'r help, ac ebe hi yn wylaidd ac ofnus:

"'Nhad, mae gen i isio deud rhywbeth wrthoch chi, 'newch chi ddim digio, 'newch chi?"

"Digio wrthoch, fy ngeneth bach? am ba beth y gwnawn i ddigio wrthoch? Mi wn nad oes gennyf, ar hyn o bryd, neb yn hidio dim amdanaf ond y chi, a mi wn nad ydech wedi gwneud dim drwg," ebe'r Capten.

"Mi obeithia nad ydw i wedi gwneud dim drwg," ebe Susi, "a heb i mi gwmpasu dim—yr wyf wedi addo priodi Mr. Enoc Huws."

Edrychodd y Capten arni yn synedig fel pe buasai'n methu credu ei glustiau, ac wedi edrych ac edrych arni mewn distawrwydd am hanner munud, ebe fe:

"Duw a'ch bendithio'ch dau! Pa bryd, Susi, y darfu i chwi roi'ch addewid iddo?"

"Mae rhai wythnosau, os nad misoedd, erbyn hyn," ebe hi.

'Hym," ebe'r Capten. "Nid wyf yn dweud dim yn erbyn y peth—'does gennyf yr un gwrthwynebiad pwysig i chwi briodi Mr. Huws. Ond, mewn ffordd o siarad, Susi, mi fuaswn yn disgwyl i chwi ymgynghori â'ch tad cyn entro i gytundeb mor ddifrifol. Ond na hidiwch am hynny."

"Yr oeddwn ar fai, 'nhad," ebe hi, "ac mae'n ddrwg gen i na faswn i wedi siarad â chi'n gyntaf. Ond y mae'r peth wedi ei wneud, a gobeithio y gwnewch chi fadde i mi, ac na wnewch chi ddim dangos dim gwrthwynebiad."

"Nid oes gennyf ond dweud, fy ngeneth, fel y dywedais o'r blaen," ebe'r Capten: Duw a'ch bendithio'ch dau. Ond, mewn ffordd o siarad, mi welais yr amser, do, mi welais yr amser, y buasai'n o arw gennyf i neb—pwy bynnag a fuasai—gael addewid gan ferch—unig ferch—Capten Trefor, heb yn gyntaf ymliw, ac ymliw drachefn, â'i thad. Ond nid Capten Trefor ydyw Capten Trefor erbyn hyn mae pawb, ysywaeth, yn gwybod hynny, a'i ferch ei hun heb fod yn eithriad, ac wedi ymddwyn felly. Ond y mae Mr. Huws yn ffortunus—mae yn rhaid i mi ddweud hynny yn eich wyneb, Susi, ydyw yn ffortunus iawn, a 'does gennyf i, bellach, ond byw ar atgofion—atgofion hyfryd, y mae'n wir, ond nid ydynt ond atgofion—a cheisio ymfodloni i'r hyn a elwir yn fallen greatness. Ac nid y fi ydyw'r unig un a syrthiodd o ben y pinacl i'r baw. Nage. Ond nid ydyw'r hen lew wedi marw eto, ac y mae ynddo fwy o fetel nag y mae llawer yn ei ddychmygu—'dydi o ddim yn gant oed eto—a hwyrach y gwelir y Capten—gyda bendith yr Hwn a'i llwyddodd flynyddoedd yn ôl, yn rhywun gwerth ymgynghori ag ef."

Nid oedd Susi wedi disgwyl am ymadroddion brathog fel y rhai hyn, ac ebe hi, a'i geiriau fel pe buasent yn glynu yn ei gwddf:

"'Nhad, ddaru mi ddim bwriadu'ch brifo wrth beidio ag ymgynghori â chi, a mae'ch geiriau'n fy lladd. A hyd yn oed yn awr, os byddwch bob amser fel yr ydech chi heno—yn sobr, yn garedig a mwyn, mi alwaf f'addewid yn ôl, os ydech chi'n deud wrtha i am wneud hynny."

"Beth?" ebe'r Capten, "merch Capten Trefor yn torri ei haddewid? Na, fy ngeneth annwyl, pe buasech wedi rhoi'ch addewid i'r meinar tlotaf sydd yn darn lwgu yng Nghoed Madog mi fuaswn yn eich gorfodi i'w chyflawni, os buasai hynny o fewn fy ngallu. Nid ydyw torri addewid yn hanes Capten Trefor, nac yn deilwng o prestige ei deulu. Ond y mae'n rhaid i mi ddweud eto fod Mr. Huws yn ddyn lwcus, ac o dan yr amgylchiadau hwyrach na allasech wneud yn well. Rhowch eich meddwl yn esmwyth, fy ngeneth annwyl, yr ydwyf, mewn ffordd o siarad, yn mawr gymeradwyo yr hyn yr ydech wedi ei wneud—yn wir, y mae'n dda gennyf feddwl y cewch fywoliaeth beth bynnag am sefyllfa, a pha beth bynnag a ddaw ohonof i, mi ymaberthaf—mae'r plwyf a'r tloty i bawb."

"'Dydw i ddim yn bwriadu'ch gadael, 'nhad, mae hynny yn ddealledig rhwng Mr. Huws a minnau. Cewch yr un fywoliaeth â minnau, ac mi wn y gellwch ddibynnu ar garedigrwydd Mr. Huws. Yn wir, yr wyf yn ystyried mai fi ac nid Mr. Huws sydd yn lwcus," ebe Susi.

"Yr wyf yn meddwl, Susi," ebe'r Capten, "os try pethau allan fel yr wyf yn disgwyl, na fydd raid i mi ddibynnu ar garedigrwydd neb pwy bynnag. Ar yr un pryd, peidiwch â meddwl fy mod yn diystyru'ch ymlyniad wrthyf, a'ch bwriadau caredig tuag ataf—hwyrach y bydd yn dda i mi wrthynt—'does neb ŵyr. Ac am Mr. Huws, yr wyf yn ei adnabod yn lled dda, ac ni bydd yn ddrwg gennyf edrych arno fel fy mab yng nghyfraith. Beth ydyw'r rheswm, Susi, na fuasai Mr. Huws yma heno? Oblegid ar ôl yr ymddiddan sydd wedi bod rhyngom, yr wyf, mewn ffordd o siarad, yn teimlo rhyw fath o hiraeth am ei weled."

"Yr oedd yn dweud bod rhywbeth yn galw amdano, ac na allai ddwad yma heno," ebe Susi.

"Wel," ebe'r Capten, "er bod yn chwith gennyf feddwl, 'does gennyf ond dweud fel o'r blaen, Duw a'ch bendithio."

Ac felly y terfynodd, yn ddigon diniwed, yr hyn yr oedd Miss Trefor wedi ei ofni yn fawr, ac wedi pryderu llawer yn ei gylch. Y gwir am y Capten oedd mai dyma'r newydd gorau y gallai ei gael—hyn yr oedd ef wedi ei ddymuno ers llawer blwyddyn, ac yr oedd ef a Mrs. Trefor wedi gwneud yr hyn oedd yn eu gallu i gyrraedd yr amcan hwn—sef dyweddïo Susi ac Enoc. Ar ôl marwol—aeth Mrs. Trefor, yr oedd y Capten wedi eu gwylio yn fanwl, gan geisio rhyw arwyddion o garwriaeth, ac ar ôl methu, fel yr adroddais, mor awyddus oedd ef am i'w ferch sicrhau Enoc yn ŵr, fel na allai oddef yr ansicrwydd yn hwy heb ofyn y cwestiwn yn syth i'w ferch. A mawr a dwys oedd ei siomedigaeth pan ddeallodd nad oedd dim mwy rhyngddynt na chyfeillgarwch, na thebygol—rwydd i ddim arall fod, ac felly, nid oedd dim i'w wneud ond parhau i waedu Enoc, druan. Yn ddiweddar yr oedd y Capten yn disgwyl bob dydd glywed Enoc yn dweud na wariai geiniog yn ychwaneg ar Goed Madog—ac yna pa beth a ddeuai ohono ef—y Capten? Pwysai hyn mor ddwys ar ei feddwl weithiau, nes byddai'n dyheu am fyned i'r Brown Cow i foddi ei bryder mewn Scotch whiskey. Ond yn awr, dyma'r hyn y buasai ei galon yn hiraethu amdano ers llawer dydd wedi ei gyrraedd. Yr oedd y Capten yn adnabod Enoc Huws yn ddigon da i allu dibynnu, os oedd ef wedi addo priodi ei ferch, mai ei phriodi a wnâi yn ddi nâg, a rhoddai hyn y fath foddhad iddo na allai ei ddisgrifio, hyd yn oed iddo ef ei hun. Ystyriai'r Capten, erbyn hyn, mai ei ddyletswydd fel dyn gonest—a phwy a feiddiai amau ei onestrwydd?—oedd dweud wrth Enoc mai oferedd oedd iddo ef ac yntau wario ychwaneg o arian ar Goed Madog.

"Mi ddywedaf hynny wrtho yfory," ebe'r Capten ynddo ei hun, fy nyletswydd fel dyn gonest ydyw dweud wrtho, oblegid y mae o a minnau wedi gwario gormod yno yn barod, a 'does yno fwy o olwg am blwm nag yng nghas y cloc yna. Mae'n dda gan 'y nghalon i fod pethau wedi diweddu mor dda. Ond nid ydyw, hyn ond prawf arall fy mod yn adnabod dynion yn weddol——mi wyddwn ers blynyddoedd fod gan Mr. Huws feddwl o Susi, a diolch i Dduw ei bod mor lwcus—yr oeddwn yn dechre pryderu beth a ddeuai ohoni, druan."

Fel yna yr ymgomiai'r Capten ag ef ei hun wedi i Susi fynd i'r gwely. Pe digwyddasai'r ymddiddan hwn rhyngddo ef a'i ferch y noson cynt, buasai'r Capten yn ei gyfrif ei hun yn ddyn perffaith ddedwydd. Ond nid oedd ef yn ddedwydd yr oedd rhywbeth gwirioneddol neu ddychmygol yn peri cnofeydd yn ei gydwybod. Edrychodd ar y cloc, nid oedd ond chwarter wedi deg. Cerddodd yn ôl a blaen hyd y parlwr am chwarter awr arall, yna safodd i wrando: Yr oedd Susi a Kit wedi cysgu ers meityn, meddyliai. Tynnodd ei slipanau a gwisgodd ei esgidiau—rhoddodd ei gob uchaf amdano, a'r cap, a wisgai o gwmpas y tŷ, am ei ben, ac aeth allan cyn ddistawed ag y medrai. Cerddodd yn gyflym a llechwraidd tua phreswylfod Sem Llwyd. Yr oedd Sem wedi mynd i'w wely, a phan glywodd rywun yn curo ar y drws, agorodd Sem y ffenestr, a dododd ei ben allan, a chlamp o gap nos gwlanen wedi ei glymu dan ei ên. Pan ddeallodd mai'r Capten oedd yno, daeth i lawr ar ei union. Arferai Sem, yn ddigon henlancyddol, anhuddo'r tân bob nos drwy'r flwyddyn, a rhag cadw y Capten i aros, daeth i lawr heb roi dim amdano ond ei ddrors a'i 'sanau. Bu cyngor rhwng y ddau am hanner awr—Sem yn eistedd yn ei gwrcwd ar ystôl isel, a'r Capten mewn cadair—un o bobtu'r tân anhuddedig. Buasai ffotograff o'r ddau yn ddiddorol. Eto yr oedd y ddau'n edrych yn ddifrifol. Siaradent yn ddistaw fel pe buasent yn ofni i neb glywed, ac, yn wir, dyna oedd y ffaith, er na fuasai raid iddynt ofni, pe buasent yn gweiddi yr adeg honno ar y nos. Er mor ddifrif oedd yr achos, ni allai Sem beidio â bod yn ymwybodol fod y Capten yn canfod mai canhwyllau Coed Madog a losgai ef i oleuo'i babell. Ar y fath achlysur, nid oedd hynny nac yma nac acw. Ar ôl yr ymgynghoriad, rhoddodd y Capten gyfarwyddyd pendant a manwl i Sem, ac yna aeth ymaith, a chymerodd Sem fygyn yn ei gwrcwd ac yn ei ddrors gwlanen i fyfyrio ar y peth. Ni fu golwg fwy doeth arno yn ei oes na'r noson honno.

Dychwelodd y Capten yn chwim i Dŷ'n yr Ardd, a buasai bron yn amhosibl ei glywed yn agor ac yn cau'r drws, ac yn mynd i'r parlwr. Wedi mynd i'r parlwr, y meddwl cyntaf a ddaeth iddo oedd estyn y botel chwisgi o'r cwpwrdd. Eithr er ei fod wedi bod yn gaethwas i'r ddiod, yr oedd gan yr hen Gapten nerth ewyllys anghredadwy, ac ebe fe, rhyngddo ac ef ei hun:

"Na, nid heno, rhaid i mi gadw fy mhen yn glir, am dipyn, beth bynnag. Yr un diferyn, nes i mi gael sicrwydd i'm meddwl. Mi gaf glywed yfory beth ddywed Sem—fe wneith o benderfynu'r cwestiwn. Mi af i 'ngwely—i beidio â chysgu winc, mi wn. Gobeithio gan Dduw nad oes sail i'm hofnau! Ond y mae o'n debyg ofnadwy! Eto yr wyf bron yn sicr mai dychymyg ffôl yw'r cwbl. Peth dychrynllyd, wedi'r cwbl, ydyw cydwybod euog! Ond mi gaf weld beth ddywed Sem. Mae gennyf le i fod yn ddiolchgar. A chaniatáu pethau, fydd ddim yn rhaid i mi bryderu mwy am Susi—mae hi'n saff—diolch i Dduw!"

Ni chysgodd y Capten winc y noson honno. Gan ragweled hyn, yr oedd ef wedi cymryd ei bibell a'i dybaco i'w ystafell wely, a mygodd lawer, ond ni phrofodd ddiferyn o ddiod feddwol, er bod ganddo ddigonedd ohono yn y tŷ—yr oedd yn rhaid iddo gadw ei ben yn glir, a'i feddwl yn effro fel y dywedai. Meddiennid ef gan ddau deimlad—hapusrwydd diderfyn yn y rhagolwg am gael Enoc Huws yn fab yng nghyfraith, ac ofn dirfawr i'r hyn a ddaethai ar draws ei feddwl y noson honno droi allan yn ffaith. Yr oedd ystad ei feddwl yn gyfryw na allai ef ei hun, er cymaint oedd ei allu disgrifiadol, roddi gwir ddarluniad ohono. Ond fe'i cysurai ef ei hun na byddai raid iddo ddioddef yr ansicrwydd hwn yn hir—byddai i Sem Llwyd benderfynu'r peth y naill ffordd neu'r llall.

Nid aeth Sem at ei waith i Goed Madog drannoeth. Ymwisgodd yn ei ddillad Sul, a gwelid ef yn gynnar yn y bore yn gwag-symera hyd y dref, ac yn ymdroi yng nghymdogaeth y Brown Cow. Yn wir, er bod Sem yn cymryd arno fod yn ddirwestwr, llithrodd fwy nag unwaith y bore hwnnw i'r Brown Cow am werth dwy geiniog pan nad oedd neb o'r Annibynwyr yn y golwg. Fel lifftenant i'r Capten Trefor yr oedd i Sem groeso mawr yn y Brown Cow, ac ymholai Mrs. Prys yn garedig am ystad iechyd y Capten. Ysgydwai Sem ei ben yn ddoeth, ac awgrymai nad oedd iechyd y Capten yr hyn y buasai ef na neb o'r mwynwyr yn dymuno ei fod, a rhoddai Mrs. Prys ochenaid a gwerth dwy geiniog i Sem am ddim.

PENNOD XLIX

Y Capten ac Enoc

Nr fedrai'r Capten brofi tamaid o frecwast, a chredai Miss Trefor fod ei thad yn gofidio ac yn pryderu yn ei chylch hi yn y rhagolwg fod Enoc Huws yn mynd i'w chymryd oddi arno, neu ynteu ei fod dan argyhoeddiad. Credai mai'r peth olaf oedd yn fwyaf tebygol, yn gymaint ag na welai hi y bore hwnnw ddim olion ei fod wedi bod yn yfed y noson cynt, wedi iddi hi fyned i'r gwely, fel y byddai'n gweled, bron bob bore drwy'r flwyddyn. Meddyliai ei fod, o'r diwedd, wedi cael tro, ac yr oedd ei chalon yn llawn o ddiolchgarwch; ac er y cymerai arni fod yn ddrwg ganddi ei weled yn methu bwyta, dychlamai ei chalon o lawenydd wrth fwyn gredu bod rhywbeth wedi digwydd i beri iddo weled pechadurus—rwydd ei fuchedd! Bychan y gwyddai hi beth oedd wedi amharu ar ystumog y Capten. Dywedodd y Capten wrth ei ferch ar ôl brecwest fod ganddo lawer o waith ysgrifennu y bore hwnnw, yr hyn oedd yn awgrymu iddi fod arno eisiau'r parlwr iddo ef ei hun. Nid ysgrifennodd air. Cerddodd yn ôl a blaen hyd yr ystafell am oriau, gan edrych yn bryderus drwy'r ffenestr yn fynych am Sem Llwyd. Yr oedd agos yn bryd cinio cyn iddo weled Sem yn y pellter yn cerdded yn frysiog tua Thŷ'n yr Ardd. Curai ei galon yn gyflym fel y gwelai Sem yn agosáu. Ofnai a dyheai am glywed beth oedd gan Sem i'w ddweud. Cyn i Sem agor llidiart yr ardd, yr oedd y Capten wedi agor drws y tŷ, ac yn ceisio dyfalu ar wyneb Sem beth fyddai ei adroddiad. Edrychai Sem yn llawen, ac esboniodd y Capten hynny fel arwydd dda. Wedi i'r ddau fyned i'r parlwr, a chau'r drws, ebe'r Capten, yn llawn pryder:

"Wel, Sem, beth ydech chi'n 'i feddwl?"

"Lol i gyd," ebe Sem, " dydi o ddim byd tebyg, ac eto y mae ene rwbeth yn debyg ynddo. Ond nid y fo ydi o, mi gymra fy llw, Capten."

Ydech chi reit siŵr, Sem?" gofynnai'r Capten. "Mor siŵr â'm od i'n fyw," ebe Sem. 'Dydi'r dyn ene fawr dros ddeg a thrigen, a mi wyddoch nad hynny fase'i oed o. Dim peryg—peidiwch ag ofni—rhowch y'ch meddwl yn dawel. Mae o yn amhosib. Just meddyliwch be fase 'i oed o erbyn hyn?

"Gwir," ebe'r Capten, "ond a ydech chi'n hollol sicr, Sem?"

"Yn berffaith sicr, Capten. Fedr neb 'y nhwyllo i. 'Dydi o ddim ond dychymyg gwirion ddaeth i'ch pen chi," ebe Sem.

"Yn ddiame, Sem," ebe'r Capten, a diolch i Dduw am hynny. Yr wyf wedi cael digon o helyntion heb hyn. Yr ydech chi wedi symud baich mawr oddi ar fy meddwl i, Sem, a mae gen i ofn i'r eneth yma sylwi bod rhywbeth wedi digwydd, neu mi fuaswn yn gofyn i chi aros yma i ginio. Hwdiwch, cymerwch y goron yma, 'rwan, ac ewch i'r Gwaith y prynhawn. Mae gen i rywbeth i'w ddweud wrthoch chi ryw ddiwrnod, Sem."

Aeth Sem ymaith yn synfyfyriol, oblegid nid oedd ef lawn mor sicr ei feddwl ag y cymerai arno wrth y Capten. Ond wrth ei weled mor bryderus a chythryblus, gwnaeth ei orau i ymlid ei aflonyddwch a rhoi tangnefedd iddo, a meddyliai Sem mai gwae iddo ef y dydd pan ddigwyddai rhyw anffawd i'w hen feistr a'i gyfoed. Ac, yn wir, meddyliai Sem yn onest—er nad oedd y peth yn amhosibl —fod y Capten wedi dychrynu yn hollol ddiachos—yr oedd yn un o'r pethau mwyaf annhebygol a allasai ddigwydd. Ar yr un pryd, ni allasai Sem beidio â phondro llawer y diwrnod hwnnw, a bu ymweliad y Capten ag ef y noson cynt yn achlysur i atgyfodi digwyddiadau yr oedd ef ers amser maith wedi eu claddu yn ei fynwes,—a bu eu claddu o fantais fawr i Sem yn ei gysylltiad â'r Capten.

Teimlai'r Capten yn ddyn gwahanol wedi cael adroddiad Sem Llwyd. Yr oedd, fel y dywedodd, wedi cymryd baich trwm oddi ar ei feddwl, a thybiai, erbyn hyn, y gallai gyda diogelwch gymryd glasaid o wisgi. Estynnodd y botel o'r cwpwrdd, ac yn hytrach nag i Susi gael gwybod ei fod yn ei gymryd drwy iddo alw am ddŵr, penderfynodd ei gymryd yn nêt, yr hyn, gyda llaw, nad oedd fawr gamp i'r Capten. Pa fodd bynnag, pan oedd ef wedi llenwi'r gwydr, ac ar fin ei draflyncu, daeth Susi yn sydyn i'r ystafell i ymofyn pa bryd y dymunai ef ei ginio. Edrychodd y Capten yn euog a ffwdanus, ac edrychodd ei ferch yn synedig a phrudd wrth ei weled yn ail gychwyn ar ei hen arfer felltigedig mor fore, a hithau wedi meddwl bod rhyw dro wedi digwydd iddo, a'i fod wedi penderfynu troi dalen newydd. Syrthiodd ei chalon ynddi pan welodd y botel ar y bwrdd, a'r gwydr wedi ei lenwi, ac ebe'r Capten—yn canfod yr hyn a redai drwy ei meddwl:

'Dydw i ddim yn hidio am ginio o gwbl, fy ngeneth, achos 'dydw i ddim yn teimlo, rywfodd, yn hanner iach. A dyna'r rheswm fy mod yn cymryd tropyn o whiskey yrwan i edrych a fydda'i dipyn gwell ar ei ôl. Yn wir, yr oeddwn wedi penderfynu neithiwr, er na ddwedais mo hynny wrthoch chi, peidio byth â chyffwrdd â fo. Ond y mae'r doctoriaid gorau yn tystio ei fod yn beryglus i un sydd wedi arfer cymryd tropyn bach bob dydd, ei roddi i fyny yn rhy sydyn; ac erbyn hyn yr wyf yn credu hynny, achos yr wyf yn siŵr mai dyna sydd wedi dwyn yr anhwyldeb sydd arnaf heddiw. A chyda golwg ar y cinio, yr wyf yn meddwl mai gwell i chwi wneud cwpanaid o goffi i mi; mae f'ystumog yn rhy ddrwg i gymryd dim arall. A bydaech chwi yn ffrïo tipyn o ham ac wy neu ddau—neu rywbeth arall, fy ngeneth." Gyda dweud, "O'r gorau," aeth Miss Trefor ymaith yn drist a siomedig, ac yn gwbl argyhoeddedig nad oedd "y tro mawr" wedi digwydd i'w thad eto. Ac yr oedd ei hargyhoeddiad yn berffaith gywir. Ar ginio, gofynnodd Miss Trefor i'w thad beth oedd achos ymweliad bore Sem Llwyd, ac ebe'r Capten yn barod ddigon: "Dod â newydd drwg i mi yr oedd Sem, druan. Y gwir yw, Susi, mae Sem a minnau erbyn heddiw yn hollol argyhoeddedig na chawn blwm yng Nghoed Madog. O ran amser a natur pethau, dylasem fod wedi ei gael cyn hyn, os oedd i'w gael o gwbl. Ond yn awr, er ein gwaethaf, yr ydym wedi rhoi pob gobaith heibio. Dyna'r penderfyniad y daeth Sem a minnau iddo'r bore heddiw. Pa fodd i dorri'r newydd i Mr. Enoc Huws, nis gwn, a mae o bron â gyrru i'n wirion, ond y mae'n rhaid ei wneud, a hynny ar unwaith. Mi wn y bydd Mr. Huws yn amharod i roi'r Gwaith i fyny, oblegid —welais i neb erioed â'r fath ysbryd mentro ganddo. Ond y mae'n rhaid i mi arfer fy holl ddylanwad i'w berswadio i roi'r lle i fyny, achos y mae fy nghydwybod yn dweud wrthyf mai dyna ydyw fy nyletswydd. Ac, yn wir, fedra i fy hun ddim fforddio gwario dim chwaneg—yr wyf yn teimlo ei fod yn dechre dweud ar f'amgylchiade. A fydde fo niwed yn y byd, Susi, bydae chwithau'n dweud gair wrtho i'r un perwyl."

Yr oedd Susi yn gweled drwy bethau yn well o lawer nag y tybiai ei thad. Canfu ar unwaith mai'r hyn a ddywedasai hi wrtho y noson cynt, sef ei bod wedi addo priodi Enoc Huws, oedd y rheswm dros roddi Coed Madog i fyny. Da oedd ganddi glywed hyn, oblegid credai ers llawer o amser na ddeuent byth i blwm yng Nghoed Madog. Ac wrth feddwl y byddai hi ac Enoc ymhen ychydig wythnosau yn ŵr a gwraig, yr oedd penderfyniad ei thad i daflu'r Gwaith i fyny yn dderbyniol iawn ganddi, canys gwyddai fod Enoc yn gwario wmbreth o arian bob mis ar y fentar. Cydsyniodd â phenderfyniad ei thad, a chanmolai yntau ei gallu i ganfod natur pethau.

Eglur ydoedd nad oedd llawer o amhariad ar ystumog y Capten, ac nid aeth ef allan o'i dŷ y diwrnod hwnnw, am nad oedd ynddo duedd i fynd i'r Brown Cow oherwydd rhesymau penodol, a hefyd am ei fod yn awyddus i gael siarad ag Enoc, a fyddai'n sicr o ymweled â Thŷ'n yr Ardd y noson honno. Daeth Enoc i'w gyhoeddiad yn ffyddlon ddigon, a synnodd braidd pan ddywedodd Miss Trefor wrtho fod ei thad gartref, a bod arno eisiau siarad ag ef ynghylch y Gwaith, oblegid anfynych y cawsai Enoc olwg ar y Capten gartref yn ddiweddar gyda'r nos. Pan aeth Enoc i'r parlwr, rhoddodd y Capten wedd bruddaidd ar ei wyneb, ac ebe fe:

"Yr wyf wedi bod yn dymuno'ch gweld, Mr. Huws, ers cryn bythefnos, ac yn ofni drwy waed fy nghalon eich gweled, ond yr wyf wedi penderfynu mynd dros y garw heno."

Chwarddodd Enoc, canys yr oedd ef mewn tymer ragorol y dyddiau hynny.

"Beth yn y byd mawr all fod y rheswm am eich bod yn ofni fy ngweled?" meddai.

"Mi ddywedaf i chwi," ebe'r Capten, "pa beth bynnag fydd y canlyniad. Mi obeithiaf, Mr. Huws, wedi i mi ddweud yr hyn na allaf deimlo'n dawel fy nghydwybod heb ei ddweud, mi obeithiaf, meddaf, nad edrychwch arnaf fel dyn anonest neu dwyllodrus, oblegid nid wyf na'r naill na'r llall. Mae'n bosibl i'r dyn cywiraf fethu yn ei amcanion ac yn ei farn, ac er, mewn ffordd o siarad, y gallaf, os goddefwch i mi ddweud felly, fy llongyfarch fy hun nad ydwyf neilltuol o hynod am fethu yn f'amcanion na'm barn, eto nid ydwyf yn myntumio fy mod yn gwbl rydd a glân oddi wrth y diffygion a grybwyllais. Yn wir, such men are few and far between, ac nid wyf yn hawlio bod yn un o'r few, er, mewn dull o ddweud, fy mod yn gwenieithio i mi fy hun, os nad ydwyf yn un ohonynt, fy mod, os nad ydwyf yn fy nhwyllo fy hun, yn byw yn lled agos i'w cymdogaeth. Yr wyf yn meddwl eich bod yn f'adnabod yn ddigon da i goelio amdanaf, pe gwnawn gamgymeriad, na fyddwn wedi ei wneud yn fwriadol, ac na ellid priodoli'r camgymeriad ychwaith, a siarad yn gyffredinol, i ddiffyg scientific knowledge, cyn belled ag y mae hwnnw yn mynd. Ond hwyrach, yn fy niniweidrwydd, fy mod yn cymryd gormod yn ganiataol—mae'r fath beth yn bosibl, mi wn. Ond rhag i mi eich cadw mewn disgwyliad yn rhy hir, a goddef arteithiau fy nghalon yn hwy nag a ddylwn—a goddefwch i mi ddweud mai'r hyn yr wyf ar fedr ei ddweud wrthych ydyw'r gofid mwyaf a gefais erioed, a chwi wyddoch fy mod yn gwybod am ofidiau lawer, ond hwn ydyw'r gofid mwyaf, coeliwch fi—rhag i mi eich cadw yn rhy hir heb ei wybod, fel y dywedais, mae'n dyfod i hyn, Mr. Huws—'newch chi ddim digio wrthyf yn anfaddeuol wedi i mi ei hysbysu i chi?"

"Ewch ymlaen, Capten Trefor," ebe Enoc yn sobr ddigon, oblegid credai, erbyn hyn, fod y Capten yn mynd i ddweud wrtho na chydsyniai iddo gael Miss Trefor yn wraig.

"Ond mi fuaswn yn dymuno cael addewid gennych—wrth feddwl y fath gyfeillion ydym wedi bod—na fydd i chwi ddigio yn anfaddeuol wrthyf. Ond rhaid i mi gydnabod pe gwnaech felly, na byddai ond fy haeddiant, er nad fy haeddiant chwaith, oblegid mi gymeraf fy llw fy mod, yn ystod ein trafodaethau, wedi bod yn berffaith onest cyn belled ag yr oedd fy ngwybodaeth yn mynd. Ond dyma ydyw, Mr. Huws, ac y mae bron â'm drysu, ond y mae ymdeimlad o ddyletswydd, ac ateb cydwybod dda, yn fy ngorfodi i'ch hysbysu ohono—yr ydym, bellach, wedi anobeithio y deuwn byth i blwm yng Nghoed Madog, ac wrth feddwl am yr holl bryder a'r helynt, ac mor sicr oeddwn yn fy meddwl y cawsem blwm yno, ac wrth feddwl am yr holl arian yr ydech chi a minnau wedi eu gwario—er y mae'n rhaid i mi ddweud nad yr hyn a weriais i, ond yr hyn a wariasoch chi, sydd yn fy mlino—wrth feddwl am hyn i gyd, meddaf, y mae bron â'm drysu, ac yr wyf yn gorfod gwneud y cyfaddefiad fy mod wedi gwneud camgymeriad yr unig gamgymeriad mewn mining a wneuthum yn fy oes, ond yr wyf yn gorfod ei gydnabod. Ac erbyn hyn, Mr. Huws, yr ydwyf yn erbyn fy ngwaethaf yn gorfod dyfod i'r penderfyniad mai oferedd fyddai i ni wario ffyrling arall ar y Gwaith, a mi ddymunwn allu'ch perswadio chwithau i ddyfod i'r un penderfyniad. Ond a ydych yn ddig wrthyf? a ydych yn fy ffieiddio ac yn fy nghasáu â chas perffaith a thragwyddol, Mr. Huws?

"Yr ydwyf wedi ymddiried ynoch o'r dechre, fel y gwyddoch, Capten Trefor," ebe Enoc, "ac os ydych yn credu mai taflu'r cwbl i fyny fyddai ore, popeth yn iawn. Mae'r gore ohonom yn gwneud camgymeriadau, a rhaid i'r dyn sydd yn mentro edrych am siomedigaethau a cholledion weithiau. 'Does dim help, os fel yna y mae pethau'n sefyll, a 'dydw i'n hidio 'run grôt am roi'r Gwaith i fyny os nad oes obaith yno am blwm."

"Yr ydych yn fy lladd â'ch caredigrwydd, Mr. Huws," ebe'r Capten, gan roddi ei wyneb rhwng ei ddwylo, ac fel pe buasai yn ceisio crio, "ond yr arian! wmbreth, yr ydych wedi eu gwario, Mr. Huws bach!"

"'Does dim help am hynny," ebe Enoc, " a pheidiwch â gofidio, 'dydw i ddim wedi gwario'r cwbl eto.'

"I Diolch i Dduw am hynny," ebe'r Capten, heb dynnu ei ben o'i ddwylo. "Yr oedd dinistrio Denman, druan, yn ddigon heb eich dinistrio chwithau hefyd. Ond yr wyf wedi bod yn onest ar hyd yr amser, Duw a ŵyr!"

"'Does neb yn amau hynny," ebe Enoc, "oblegid yr ydych wedi'ch colledu eich hun, ac y mae'r siomedigaeth yn gymaint i chwi ag i minnau. Nid y ni ydyw'r rhai cyntaf i fethu, ac ofer gofidio am yr hyn na all neb wrtho."

Yr oedd y Capten wedi cyrraedd ei amcan, ac ar ôl siarad cryn lawer yn yr un cwrs, gan ddatgan drosodd a throsodd drachefn ei ofid am fod ffawd wedi myned yn ei erbyn, nes llwyr ennill cydymdeimlad Enoc, ebe fe pan oedd Enoc ar fin cychwyn abref:

"Mr. Huws, mae Susi wedi dweud rhywbeth wrthyf sydd yn rhyw gymaint o olew ar friw fy siomedigaeth ynglŷn â'r Gwaith—hynny ydyw, yn fyr, rhag i mi eich cadw, eich bod wedi ymserchu yn eich gilydd, ac nid ydyw hynny yn beth i ryfeddu ato, ac y bydd hynny'n diweddu ryw ddiwrnod—fel y mae'r cyfryw bethau yn gyffredin yn diweddu—yn eich gwaith yn myned at eich gilydd. A pha beth bynnag a ddaw ohonof i yn fy hen ddyddiau, wedi fy ngadael yn unig, mae'n rhaid i mi ddweud bod yr hysbysrwydd wedi fy llonni nid ychydig, oblegid y mae'n rhy hwyr ar y dydd i mi astudio fy interest fy hun, a bydd gweled f'unig ferch yng ngofal dyn sobr, da, caredig a chwbl alluog i'w chadw uwchlaw angen, a dweud y lleiaf, yn help i mi pan ddaw'r adeg—ac o angenrheidrwydd ni all fod ymhell—i arfer y geiriau ysbrydoledig, os goddefwch i mi ddweud felly: Yr awr hon y gollyngi dy was mewn tangnefedd.' Bydd yn dda gennyf feddwl amdanoch fel fy mab yng nghyfraith a bod fy merch wedi digwydd mor lwcus, ond cofiwch y byddaf yn ystyried eich bod chwithau yr un mor lwcus."

"Diolch i chwi am eich syniadau da amdanaf," ebe Enoc, "mi wnaf fy ngore i fod yn deilwng ohonynt. Mi wn na ellwch ddweud dim yn rhy dda am Miss Trefor—y hi ydyw'r eneth ore yn y byd yn ôl fy meddwl i. A chyda golwg ar gael eich gadael yn unig, y mae hynny allan o'r cwestiwn. Os bydd hynny yn foddhaol gennych chwi, Capten Trefor, cewch gyd—fyw â mi weddill eich dyddiau, a mi wnaf yr hyn fydd yn fy ngallu i'ch gwneud yn ddedwydd."

"Yr ydych, meddaf eto, Mr. Huws, yn fy lladd â'ch caredigrwydd. Ond hwyrach na fydd arnaf angen rhyw lawer o ofal na charedigrwydd neb. Man proposes, God disposes'—ond cawn siarad am hyn eto."

A oedd y Capten ynteu, fel Saul, ymhlith y Proffwydi? Ar ôl treulio ychydig amser yng nghwmni Miss Trefor, aeth Enoc adref yn ddyn dedwydd—mor ddedwydd fel na wyddai pa fodd i ddiolch digon am ei ddedwyddwch.

PENNOD L

Y "Fentar" Olaf.

FORE drannoeth, anfonodd y Capten air at Sem Llwyd, yn ei orchymyn i hysbysu gweithwyr Coed Madog y byddid, oherwydd rhyw resymau penodol, yn rhoi terfyn ar y Gwaith ddiwedd yr wythnos honno, ac na byddai eu gwasanaeth yn angenrheidiol hyd nes y caent air ymhellach. "Ond cofiwch," ebe'r Capten mewn ôl nodyn, "na chewch chwi, Sem, fod mewn angen tra bydd gennyf i geiniog." Newydd drwg oedd hwn i'r gweithwyr, ond nid oedd ond yr hyn y buasent yn ei ddisgwyl ers tro, a synnent yn aml eu bod wedi cael mynd ymlaen am gyhyd o amser.

Ni wnaeth y Capten ddim, "mewn ffordd o siarad," am ddeuddydd ond myfyrio ar a chynllunio gogyfer â phriodas ei ferch. Ac yr oedd ganddo'r fath ffydd yn ei allu i drefnu pethau fel yr oedd yn benderfynol y mynnai gael ei ffordd ei hun i gario allan amgylchiadau'r briodas yn y fath fodd ag oedd weddus i sefyllfa'r briodas-ferch, ac a roddai anrhydedd ar y digwyddiad yng ngolwg ei gymdogion. Nid oedd am arbed cost na thrafferth. Yr oedd ei sefyllfa ef ei hun ymhlith ei gymdogion yn gofyn rhoi urddas ar yr amgylchiad, ac yr oedd gan Mr. Huws ddigon o fodd i dalu'r gost. Yr oedd ef yn hynod o ddedwydd ac yn neilltuol o fwyn gyda Miss Trefor, ac yn ei dretio ei hun yn fynych â gwydraid o wisgi—yr oedd hynny yn gweddu i'r amgylchiadau yn nhyb y Capten. Carasai fyned i'r Brown Cow at ei hen gymdeithion, a rhoi awgrym cynnil iddynt am y digwyddiad mawr oedd i fod yn bur fuan. Ond yr oedd am aros nes i'r dieithryn fynd ymaith, canys yr oedd yn gorfod cyfaddef, wrtho ei hun, fod wyneb y gŵr hwnnw yn ei atgofio am rywbeth y buasai'n well ganddo beidio â meddwl amdano. Gyda chryn aberth yr oedd y Capten wedi aros yn y tŷ am ddau ddiwrnod a dwy noswaith. Y drydedd noswaith daeth drosto'r fath hiraeth am gwmni'r Brown Cow, fel na allai ei wrthsefyll, "ac yn sicr," ebe'r Capten, "y mae yr hen ŵr hwnnw wedi mynd bellach." Ac i'r Brown Cow yr aeth, lle y cafodd groeso cynnes, a mawr oedd yr holi am ei iechyd. Ond er ei fawr siomedigaeth, yr oedd yr hen ŵr penwyn yn ei gongl, ac yn ymddangos yn hollol anymwybodol o ddyfodiad y Capten i'r ystafell, ac fel arfer, wedi ymgolli yn ei lyfr. Ar ôl cael tystiolaeth Sem Llwyd, ac, yn wir, wedi iddo ef ei hun ail edrych arno, nid oedd mor debyg ag y tybiasai'r Capten ei fod y tro cyntaf yr edrychodd arno. Eto yr oedd y gŵr dieithr yn ei atgofio am un arall, ac yn ei wneud yn anghyfforddus. Nid arhosodd y Capten yn hwyr yn y Brown Cow y noson honno, a phan ddaeth adref, sylwai Miss Trefor ei fod yn edrych yn brudd a phryderus—yn gwbl wahanol i'r hyn a fuasai ers deuddydd. Pan ofynnodd hi am yr achos o'i brudd-der, ebe fe:

"'Chlywsoch chwi mo'r newydd, Susi?"

"Pa newydd?" ebe hi.

"Mae'r hen Hugh Bryan, druan, wedi marw," ebe'r Capten.

"Beth? yr hen Mr. Bryan? O diar! O diar!" ebe Susi, a rhuthrodd i'w meddwl fil o bethau. Ond Wil Bryan oedd y gwrthrych cyntaf a ddaeth i'w meddwl. Pa le yr oedd ef? a ddeuai ef adref i gladdu ei dad? pa fath un oedd erbyn hyn? a oedd mor olygus? sut y gallai hi ei wynebu? Pan oedd y pethau hyn yn rhedeg drwy ei meddwl curodd rhywun ar y drws, ac aeth hithau i'w agor. Yr oedd yn noswaith leuad olau, a gwelai Susi, wedi iddi agor y drws, hen foneddwr parchus a phenwyn. Eisiau gweled Capten Trefor oedd arno. Arweiniodd Susi ef i'r parlwr at ei thad, a da oedd ganddi fod rhywun wedi dyfod i ymofyn amdano, er mwyn iddi gael amser i redeg i edrych am yr hen Mrs. Bryan, oblegid ni allai Susi anghofio'r amser gynt. A da iddi hefyd fod y meddwl hwn ganddi, onid e buasai'n rhwym o sylwi, pan aeth yr hen foneddwr i'r parlwr, fod wyneb ei thad wedi gwelwi fel y galchen, ac mai prin y gallai ei goesau ei ddal pan gododd i roddi derbyniad iddo.

Cipiodd Susi hugan a thrawodd ef am ei phen, fel na allai neb ei hadnabod, a rhedodd i edrych am Mrs. Bryan yn ei helynt blin. Bu yno yn hir—agos i awr—a chyn iddi redeg yn ôl, clywodd ddigon gan yr hen wreigan i beri iddi deimlo'n anesmwyth. Ond yr oedd wedi rhoi ei haddewid i Enoc, ac ni allai dim ddigwydd i beri iddi dorri'r addewid honno, deued a ddeuai. Wrth iddi droi am gongl heol pan oedd yn prysuro adref, safodd yn sydyn gwelodd ei thad a'r boneddwr yn dyfod i'w chyfarfod. Gwelodd y ddau yn sefyll gyferbyn â Siop y Groes, ac wedi cryn siarad, ei thad yn troi adref heb gymaint ag ysgwyd llaw â'r boneddwr, a'r olaf yn curo ar ddrws tŷ Enoc Huws. Eglurai hyn iddi'r nodyn a gawsai gan Enoc yn ystod y diwrnod, ei fod i gyfarfod â rhyw foneddwr y noson honno. Cyflymodd Miss Trefor ffordd arall er mwyn bod adref o flaen ei thad. Ac nid gorchwyl anodd oedd hyn, canys cerddai'r hen Gapten yn araf â'i ddwylo ar ei gefn, gan edrych tua'r llawr, fel pe buasai ei enaid wedi ei dynnu ohono. Cyfarfu Susi ag ef yn ddiniwed yn y lobi, a gofynnodd a oedd arno eisiau rhywbeth ganddi cyn iddi fyned i'w gwely.

"Nag oes, fy ngeneth," ebe'r Capten, ac yr oedd ei eiriau fel pe buasent yn dyfod o'r bedd, ond ni sylwodd hi ar eu tôn—yr oedd ganddi ei meddyliau ei hun i'w blino. Gan amlder ei meddyliau o'i mewn, ni chysgodd Miss Trefor am rai oriau, ac er gwrando'n ddyfal, ni chlywsai ei thad yn mynd i'r gwely. Ar adegau dychmygai ei glywed yn cerdded yn ôl ac ymlaen hyd y parlwr, ond meddyliai wedyn mai dychymyg oedd y cwbl. Drannoeth cyfododd yn lled fore fel arfer—yn wir yr oedd hi i lawr y grisiau o flaen Kit, y forwyn. Aeth yn syth i'r parlwr, a dychrynwyd hi'n ddirfawr gan yr hyn a welodd yno. Gorweddai ei thad ar y soffa, ac ymddangosai fel pe buasai'n cysgu'n drwm. Ar y bwrdd yn ei ymyl yr oedd dwy botel o Scotch whiskey—yn wag. Gwelodd hefyd y funud yr aeth i'r ystafell, lythyr ar y mantelpiece wedi ei gyfeirio iddi hi. Dododd y llythyr yn ei phoced, ac ysgubodd y potelau gweigion o'r golwg, oblegid nid oedd hi'n fodlon i hyd yn oed Kit wybod bod ei thad wedi bod yn yfed yn drwm yn ystod y nos. Wedi gwneud hyn, ni wyddai'n iawn pa un ai gadael ei thad i gysgu ei feddwdod ymaith ai ei ddeffro a fyddai orau. Ond beth pe buasai'n cysgu i farwolaeth? Penderfynodd ei ddeffro. Aeth ato. Yr oedd yn cysgu'n esmwyth, a phetrusodd rhag aflonyddu arno. Rhoddodd ei llaw yn ysgafn ar ei law ef, a chafodd ei bod cyn oered â darn o rew. Gosododd ei chlust wrth ei enau. Nid oedd yn anadlu. Yr oedd yr hen Gapten, "mewn ffordd o siarad," cyn farwed â hoel!

Yn gyffredin, yr oedd hunanfeddiant Miss Trefor yn ddiail, a chyn hyn, lawer tro, yn yr amgylchiadau mwyaf poenus, yr oedd wedi dangos nerth meddwl a'r fath feistrolaeth ar ei theimladau, nes peri i Kit edrych arni fel geneth galed, pryd, mewn gwirionedd, nad caledwch ydoedd o gwbl, ond cryfder. Ond y foment y sylweddolodd fod ei thad yn gorff marw, rhoddodd ysgrech dros yr holl dŷ, a syrthiodd i'r llawr mewn llesmair. Dygodd hyn Kit, ar hanner gwisgo amdani, i'r ystafell mewn eiliad, ac wrth ganfod yr olygfa ddieithr, a thybied bod y Capten a Miss Trefor—y ddau fel ei gilydd yn farw gelain, gwaeddodd hithau nerth esgyrn ei phen, a rhuthrodd allan gan barhau i weiddi. Dygodd hyn amryw bobl i'r tŷ ymhen ychydig funudau, a rhedodd rhywun am y meddyg. Cyn i'r meddyg gyrraedd—ac, fel y digwyddodd, yr oedd ef yn ymyl,—deallwyd mai mewn llewyg yr oedd Miss Trefor, ond bod y Capten mewn gwirionedd wedi marw. Pan ddaeth y meddyg, yr oedd yr ystafell, fel arferol, yn y cyfryw amgylchiadau, yn llawn o bobl awyddus i wneud unrhyw beth yn eu gallu, ond heb allu gwneud dim ond cyfyngu ar awyr iach. Wedi clirio pawb allan oddieithr rhyw ddau, troes y meddyg ei sylw at y gwrthrych pwysicaf, sef y Capten, a phan oedd wrth y gorchwyl dechreuodd Miss Trefor ddadebru, ac yn fuan daeth ati ei hun. Dywedodd y meddyg fod y Capten yn ddiamau wedi marw, peth a wyddai pawb, ac ychwanegodd beth na wyddai pawb, sef mai achos ei farwolaeth oedd clefyd y galon, wedi ei achlysuro gan orlafur meddwl. Ac wedi holi tipyn ar Miss Trefor am yr amgylchiadau, ac iddi hithau ddywedyd wrtho mai fel y gwelsai ef ei thad, y gwelsai hithau ef, aeth y meddyg ymaith. Ac yn y man aeth y cymdogion ymaith, a gadawyd Miss Trefor a Kit! am ysbaid yn unig. Yn ei phrofedigaeth lem, meddyliodd Miss Trefor am Enoc Huws, ac erfyniodd ar Kit fyned i'w alw, ac, os nad oedd ef wedi clywed eisoes, am iddi ddweud y newydd difrifol wrtho mor gynnil ag y gallai rhag ei ddychrynu. Tra'r oedd Kit yn myned i Siop y Groes, cofiodd Miss Trefor am y llythyr, ac mewn pryder ac ofn agorodd ef, ac y darllenodd:

FY ANNWYL SUSI,—Yr wyf yn ysgrifennu hyn o eiriau atoch rhag ofn na welaf mo'r bore, ac yn wir, mewn ffordd o siarad, nid wyf yn gofalu a gaf ei weld ai peidio, oblegid, erbyn hyn, y mae bywyd yn faich trwm arnaf. F'annwyl eneth, yr wyf yn eich caru'n fawr, ond ni wn beth a feddyliwch am eich tad ymhen ychydig ddyddiau, ac y mae arnaf awydd mawr cael fy nghymryd ymaith cyn gorfod eich wynebu ac wynebu fy nghymdogion—yr wyf yn teimlo yn sicr na fedraf, a gwell gennyf farw na gwneud. Y mae hi yn y pen arnaf,—mae f'anwiredd yn fawr ac atgas, a chwi synnech fy mod wedi gallu ei guddio cyhyd. Ond ni allaf ei guddio'n hwy—daw allan i gyd ac ar unwaith. Mae Duw yn f'ymlid, ac nid oes gennyf le i ffoi. Y mae'n galed arnaf, ac yr wyf bron â hurtio. Yr wyf wedi ceisio gweddïo, ond ni fedraf—ac ni wnâi un gwahaniaeth yn fy sefyllfa pa un ai yn y byd hwn ai yn y byd arall y byddaf cyn y bore. Y fath drugaredd fod eich mam wedi fy rhagflaenu. O na byddai'n bosibl i chwithau fy rhag—flaenu cyn i hyn oll ddyfod i'r golau. Ni allaf byth ddisgwyl i chwi faddau i mi—byddai'n wyrth i chwi allu gwneud hynny. F'annwyl eneth, mae cnofeydd yn fy nghydwybod fy mod wedi dwyn gwarth bythol ar eich enw pur. Mae fy mywyd wedi bod yn un llinyn o dwyll a rhagrith, a'm syndod yw bod y byd mor hawdd i'w dwyllo. Yr wyf wedi twyllo, do, hyd yn oed eich twyllo chwi, f'annwyl eneth. Yr unig ddaioni sydd wedi ei adael ynof, ers blynyddoedd, yw fy nghariad atoch chwi, f'annwyl Susi; a mi ddymunwn ar eich rhan allu wylo dagrau o dân, ond ni fedraf; a'r tipyn daioni hwn sydd wedi ei adael ynof ydyw fy nhrueni pennaf erbyn hyn. Hebddo buaswn yn teimlo rhyw fath o daring c —— Wel, nid enwaf y. gair. Nid arteithiaf eich teimladau, ac achosi poen afreidiol i chwi drwy ddisgrifio'r hyn a fûm, a'r hyn yw fy sefyllfa yn awr. Yn wir, yr wyf yn amau a ddylaswn ddweud cymaint â hyn wrthych, ond ni fedrwn ymatal heb ddweud rhywbeth wrthych, am y tro olaf, fel yr wyf yn gobeithio. Yr hyn sydd yn rhwygo fy nghalon waethaf os oes gwaethaf amdani—ydyw na all Mr. Huws, dan yr amgylchiadau a ddaw i'r golwg, mo'ch priodi; mae hynny'n amhosibl, ac y mae meddwl beth a ddaw ohonoch, f'annwyl Susi, yn rhoi fy enaid ar dân. Eto, yr wyf yn gobeithio y bydd ef yn garedig atoch—ni all beidio. Duw a'i bendithio ef a chwithau.

"Wrth gwrs, os byddaf byw yn y bore, ac yn fy synhwyrau, ni chewch weled y llythyr hwn; ond os marw fyddaf—a gobeithiaf mai felly y cewch fi—darllenwch o i chwi eich hun, a chedwch ei gynnwys i chwi eich hun, a llósgwch o. Ac yn awr, f'annwyl Susi, ffarwel am byth, mi obeithiaf.

Eich tad drwg ac annheilwng,
RICHARD TREFOR.

O.Y. Os bydd ar eich llaw, ryw dro, wneud rhyw gymwynas i Sem Llwyd, gwnewch; bu'n ffyddlon iawn i mi.—R.T.

Yr oedd llygaid Miss Trefor wedi pylu cyn iddi orffen darllen y llythyr, ac megis heb yn wybod iddi ei hun, taflodd ef i'r tân. Yr oedd y llythyr yn fflamio pan ddychwelodd Kit i gael Miss Trefor ar ei hyd ar lawr, ac yn sibrwd yn drist: "O! Mr. Huws, lle mae Mr. Huws, Kit bach? "

"Mae Mr. Huws yn sâl iawn yn ei wêly, a rhyw ŵr bonheddig a'r doctor wedi bod efo fo drwy'r nos," ebe Kit dan wylo.

Ergyd arall i Susi, druan, ac er cymaint oedd ei hunan—feddiant yn gyffredin, daeth niwl dros ei llygaid, ac ni wybu ddim oddi wrthi ei hun nes ei chael ei hun yn hwyr y prynhawn hwnnw yn ei gwely, a Kit a rhyw gymdoges yn ei gwylio.

Diwrnod prudd oedd hwnnw yn Bethel, fel yr adroddwyd yn ddoniol gan Didymus yn y County Chronicle yr wythnos wedyn, yr wyf yn cofio'n dda: Mewn un tŷ, gorweddai corff marw yr hen Huw Bryan,—gŵr a fuasai unwaith yn fasnachwr parchus a llwyddiannus, ond wrth fentro am blwm a wariodd ei holl eiddo, a llawer o eiddo pobl eraill, ond, wedi hynny, drwy ymroddiad a llafur mawr, a chynhorthwy ei fab caredig, a dalodd bob ffyrling o'i ddyledion, ac a fuasai fyw ar ychydig yn ddedwydd a dibryder. Mewn tŷ arall, gorweddai'r hyn oedd farwol o'r enwog Capten Trefor—gŵr hynod am ei uniondeb, ei garedigrwydd, a'i ddylanwad, ac un a wnaethai lawer o les i'r ardal drwy hyrwyddo specula—tions a rhoi gwaith i bobl,—gŵr ag yr oedd ei barch mewn rhai cylchoedd yn ddiderfyn, a disgwyliadau lluoedd yn hongian wrtho am flynyddoedd oedd i ddyfod, ond a gymerwyd yn sydyn oddi wrth ei waith at ei wobr! Ac mor brydferth! fel y dywedai rhai o'i edmygwyr,—ei gymryd ymaith yn ei gwsg! Sudden death, sudden glory! A pha ryfedd—gan mor sydyn fu'r amgylchiad—i'w ferch brydferth gael ei tharo i lawr, megis? A pha ryfedd, hefyd, fod yr hwn—pe buasai'r Capten wedi byw dim ond ychydig o wythnosau yn hwy—a fwriadai ei annerch fel ei dad yng nghyfraith, ei fod yntau, hefyd, wedi ei lorio gan y digwyddiad difrifol? Yr oedd gofid yr ardal a'r wlad oddi amgylch yn fawr a dwys. Ond ni allai na ddôi'r cyfryw anffodion weithiau—ni ellir eu rhwystro.

Drannoeth, o gryn bellter, yr oedd y trên yn cludo un i Bethel—nid i ddadwneud pethau, yr oedd hynny yn amhosibl—ond i roi ychydig o olew ar yr amgylchiadau adfydus.

PENNOD LI

Yr Americanwr

Yn awr, er mwyn egluro'r bennod ddiwethaf, ac, yn wir, er mwyn taflu ychydig oleuni ar holl ddigwyddiadau'r hanes hwn—hanes y mae'n bryd i mi bellach ei ddwyn i derfyniad rhaid i mi adrodd yr hyn a ddigwyddodd rhwng yr Americanwr ac Enoc Huws y noswaith y bu farw Capten Trefor. Yn ystod ei arhosiad yn y Brown Cow yr oedd y gŵr dieithr, fel y dywedwyd o'r blaen, yn arfer galw bron bob dydd yn Siop y Groes i brynu sigârs, a llawer ymgom ddifyr a fu rhwng Enoc ac yntau. Eglur oedd ei fod yn ŵr oedd wedi gweled cryn lawer o'r byd, a dysgai Enoc rywbeth ganddo bob tro y siaradai ag ef. Ond prif destun eu hymddiddan bob amser fyddai'r America, a chyda pha bwnc bynnag y dechreuent, gofalai'r hen foneddwr am ddiweddu gyda "gwlad fawr y Gorllewin." Yr oedd ef wedi siarad cymaint am y wlad, ac mor ganmoliaethol, nes bod Enoc bron ag anesmwytho am fynd yno, ac oni bai am ryw amgylchiadau gwybyddus iddo ef ei hun, diau mai penderfynu mynd i'r America a wnaethai. Yn gynnar fore'r diwrnod y buasai'r hen foneddwr yn ymweled â Chapten Trefor, yr oedd ef wedi amlygu dymuniad am gael awr o ymddiddan ag Enoc ar bwnc o fusnes wedi iddo gau'r siop. Ystyriai Enoc hyn yn gryn anrhydedd, a gwahoddodd y gŵr dieithr i swper y noson honno, a derbyniodd yntau'r gwahoddiad yn ddiolchgar. Yn ôl gorchymyn Enoc parotôdd Miss Bifan swper nad oedd eisiau ei well, oblegid yr oedd hi yn eneth fedrus. Fel yr adroddwyd, aeth yr hen foneddwr yn syth o Dŷ'n yr Ardd i Siop y Groes, ac yn ystod y swper ymgomiai Enoc ac yntau am y peth yma a'r peth arall, yn ddifyr ddigon. Wedi gorffen y swper, ac i'r ddau danio eu sigars, ebe'r boneddwr—a dyma'r gair cyntaf o Gymraeg a glywsai Enoc ganddo, ac agorodd ei lygaid mewn syndod pan ddeallodd mai Cymro ydoedd—ebe'r gŵr:

"Mi ddwedais wrthych fore heddiw, Mr. Huws, fod gennyf eisiau siarad gair â chwi yn gyfrinachol. Cymro ydwyf, fel y gwelwch, ac wrth ystyried leied o Gymraeg wyf wedi ei glywed ers cynifer o flynyddoedd, yr wyf yn credu y dywedwch nad ydwyf wedi Dic Siona rhyw lawer. Gadewais Cymru flynyddoedd lawer yn ôl—ers mwy o flynyddoedd nag a ellwch chwi gofio. Gyrrwyd fi o'r wlad hon gan amgylchiadau profedigaethus. Nid oeddwn yn dlawd—wel, yn wir, yr wyf yn meddwl yr ystyrid fi dipyn yn gefnog. Yr oeddwn, cyn mynd i ffwrdd, wedi claddu fy rhieni, a'm hunig frawd a'm dwy chwaer. Yr oeddwn yn briod ers llawer o flynyddoedd, ac yr oedd gennyf un ferch, ac yr wyf yn credu y gallaf ddweud nad oedd yn y gymdogaeth eneth brydferthach na mwy rhinweddol (yn y fan hon lleithiodd llygaid yr hen ŵr a daeth rhywbeth i'w wddf fel na allai fynd ymlaen am funud. Yn y man ychwanegodd): Esgusodwch fi, Mr. Huws, mae'r amser yn dyfod yn fyw i'm meddwl. Ar ôl afiechyd byr bu farw fy ngwraig. Yr oedd hynny yn ergyd ofnadwy i mi—teimlwn fy mod yn mynd yn fwy unig bob dydd, a bod fy nghyfeillion, oedd wir gyfeillion i mi, mewn byd arall, ac, ar adegau, hiraethwn am fynd atynt. Ond yr oedd gennyf wedyn fy merch, ac i mi, y pryd hwnnw, yr oedd o fwy gwerth na'r byd efo'i gilydd. Ac, fel y dywedais o'r blaen, mor annwyl oedd yn fy ngolwg fel y tybiwn nad oedd ei bath yn unlle. Yr oedd fy musnes yn lled fawr, ond yr oedd gennyf ŵr ieuanc—wel, rhyw bymtheng mlynedd ieuangach na mi—clyfar a medrus, yn edrych ar ei ôl pan nad oeddwn i, oherwydd profedigaethau, yn alluog i dalu nemor sylw iddo. Ymddiriedwn y cwbl iddo, ac yr oedd yn fy nhŷ fel un ohonom. Bûm am ysbaid mewn iselder ysbryd ac nid oeddwn yn gofalu am bethau'r byd hwn. Ymhen amser—ac o drugaredd y mae amser yn gwelláu dyn—mi ddois ataf fy hun, a dechreuais edrych i mewn i'm llyfrau. Gwelais yn union nad oedd. popeth wedi ei gario 'mlaen yn syth, a gwelodd y gŵr ieuanc y soniais amdano fy mod wedi canfod hynny. Ni ddaeth ef i'r offis fore drannoeth, a phan wneis ymholiad amdano, cefais ei fod wedi gadael y wlad. Creodd hyn amheuaeth ynof, ac ymroddais i chwilio ddydd a nos i'r amgylchiadau. Yn fuan iawn cefais allan fod y gŵr ieuanc yr oeddwn bob amser yn meddwl cymaint ohono wedi fy nhwyllo o dri chant o bunnau. Yr oedd yn hwyr ar y nos arnaf yn dychwelyd adref wedi darganfod hyn, ac yr oeddwn, fel y gellwch ddychmygu, wedi dychrynu a ffyrnigo, a'm bwriad oedd rhoi'r achos yn llaw'r plismyn ar unwaith. Dywedais y cwbl wrth fy merch, oblegid wrthi hi yn unig y gallwn siarad am y peth ar y pryd. Dychrynodd yn fawr, a rhoddodd ei breichiau am fy ngwddf a chrefodd dan wylo yn hidl am i mi beidio â sôn wrth neb am y peth—nad oedd tri chant o bunnau yn llawer i mi, ac am i mi gofio ei holl wasanaeth a'i ffyddlondeb. Gwrandewais arni, ond bychan a wyddwn i y pryd hwnnw y rheswm am ei phleidgarwch iddo. Winciais ar y cwbl, ac ni chlywodd neb air am y peth o'r dydd hwnnw hyd heddiw, oblegid ni allwn omedd unrhyw ddymuniad o eiddo fy merch—y hi oedd fy mhopeth yr adeg honno. Ond nid oedd cwpan fy ngofidiau wedi ei lenwi eto. Yr oedd y brofedigaeth chwerwaf—a'r hon oedd yn fwy, yn anhraethol fwy na'm holl brofedigaethau eraill gyda'i gilydd yn f'aros. Ni fanylaf. Ond ceisiwch ddychmygu fy nheimladau pan, un diwrnod, y deuthum i ddeall nad digon gan y gŵr ieuanc oedd lladrata tri chant o bunnau oddi arnaf, heb dwyllo a darostwng fy merch. Yr oedd ŵyr bach i mi wedi ei eni cyn i mi wybod na drwgdybio dim. Bu agos i mi ddrysu yn fy synhwyrau, a bûm yn diolch filoedd o weithiau nad oedd y dihiryn a fu'n achos o'r holl ddrwg o fewn fy nghyrraedd, onid e yr wyf yn sicr y buaswn wedi ei lindagu, hyd yn oed pe gwybuaswn y cawswn fy nghrogi drannoeth. Nid edrychais ar fy merch ac ni siaredais â hi am fis. Yr oeddwn yn ynfyd, mi wn, a pha boen a achosodd hynny iddi hi a minnau wedyn, Duw yn unig a ŵyr! Yn wir, achos rhaid i mi ddweud y cwbl wrthych, ni siaredais air byth â hi. Mi eis i'w golwg ychydig o funudau cyn iddi farw; ac mor brydferth oedd hi hyd yn oed yng nghrafangau angau! (ac yn y fan hon eto torrodd yr hen foneddwr i lawr, ac nid oedd Enoc damaid caletach). Crefodd arnaf faddau iddi, a dywedodd eiriau eraill na all fy nheimladau—er bod oddi ar hynny dair blynedd ar ddeg ar hugain—oddef i mi eu hadrodd. Yr oeddwn fel ffŵl, yn ystyfnig! Ond cusenais hi ddwywaith, ac yr wyf wedi diolch i Dduw filoedd o weithiau am i mi wneud hynny. Fy unig gysur, erbyn hyn, ydyw. Cymerodd fy merch hyn fel arwydd fy mod yn maddau iddi—ymdaenodd gwên nefol dros ei hwyneb annwyl, ac ehedodd ei hysbryd ymaith. Am beth amser yr oeddwn fel dyn gwallgof, ac yn fy ngwallgofrwydd gwerthais bopeth oedd ar fy helw. Wedi rhoi'r plentyn dan ofal rhyw hen wreigan, a rhoi rhywbeth iddi am ei thrafferth—dim chwarter digon—euthum i'r America. Ond methais adael fy ngofidiau ar ôl yng Nghymru—yr oeddynt gyda mi yno yr un fath yn union. Gwelais mai'r unig feddyginiaeth i mi oedd ymroi i fusnes,—yr oeddwn wedi arfer bod â'm holl fryd mewn busnes. Ymhen amser, bu hyn yn waredigaeth i mi oddi wrth fy nhristwch, oddieithr fel y deuai yn awr ac yn y man ar hyd y blynyddoedd fel cawod arnaf. Yr oedd gennyf dipyn go lew o arian yn mynd i'r America, a gwneis lawer yno gyda'm busnes. Oddeutu naw mis yn ôl, rhoddais y busnes heibio—yr oedd fy oed yn galw am i mi wneud hynny—teimlwn nad oeddwn fel cynt, gan fwriadu byw ar f'eiddo yn ddedwydd. Ond ni fedrwn; ac er gwneud pob dyfais, nid oeddwn yn hapus. Yr oeddwn yn cael mwy o amser i feddwl am yr hen bethau. O'r diwedd, penderfynais ddychwelyd i Gymru i ymholi am fy ŵyr, os oedd o'n fyw. Meddyliwn mai dyna'r unig ad-daliad a allwn ei wneud am fy ffolineb. Penderfynais na châi neb f'adnabod nes i mi ddyfod o hyd i'r ŵyr, ac os byddai'n werth ei arddel, y gwnawn ef yn etifedd. Gwelwch, Mr. Huws, fy mod wedi rhoddi'r penderfyniad hwnnw mewn gweithrediad, ac y mae'n dda gennyf eich hysbysu fy mod, ar ôl dau fis o ymchwiliad distaw—fy mod ers rhai wythnosau wedi dyfod o hyd iddo, ac wedi ei gael yn ddyn parchus ymhlith ei gymdogion—yn ddyn na bydd raid i mi gywilyddio o'i blegid pan ddaw gyda mi i'r America i fod yn gwmni i mi yn fy hen ddyddiau ac i etifeddu f'eiddo."

"Diolch i Dduw," ebe Enoc, o waelod ei galon. Gadewch. "Ond gadewch glywed, syr, pa fodd y daethoch o hyd iddo?"

"Caf ddweud hynny wrthrych rywdro eto, Mr. Huws. Y chwi eich hun ydyw fy ŵyr, myfi ydyw eich taid," ebe'r hen foneddwr, gan ddodi ei wyneb rhwng ei ddwylo ar y bwrdd.

Afreidiol dweud bod Enoc wedi ei syfrdanu, a phan gofia'r darllenydd, fel y gŵyr yn dda, mor wan oedd ei nerfau, afreidiol hefyd ydyw dweud bod yr amgylchiad yn fwy nag y gallai ei ddal. Yn y man, ychwanegodd y taid:

"Ond nid ydwyf wedi dweud ond un hanner o'r hanes. Pan ddeuthum yn ôl i Gymru nid oeddwn yn dychmygu nac yn dymuno dyfod o hyd i'ch tad. Yr oeddwn yn credu y buasai'r diafol wedi gwneud pac ohono ef ers talwm, oblegid mi a'i rhoddais i'w ofal cyn i mi fyned oddi cartref. Ond y mae'n hir iawn yn ei nôl. Eich tad ydyw'r dyn—os teilwng o'r enw dyn—sydd yn ei alw ei hun yn Capten Trefor. Nid dyna ydyw ei enw bedydd. Ei wir enw ydyw Enoc Huws, ac ar ei enw ef y galwyd chwithau gan yr hen Mrs. Amos. Adnabûm o y noson gyntaf y deuthum i'r Brown Cow. Ond er mwyn bod yn sicr, cymerais amser i holi ac ymofyn yn ddistaw, ac i sylwi yn fanylach arno. Ef ydyw eich tad, mae'n ddrwg gennyf ddweud; un o'r scoundrels gwaethaf ar wyneb y ddaear, fel y dywedais wrtho heno yn ei dŷ ei hun. Ac oni bai amdanoch chwi a'i ferch brydferth, mi 'i rhown o yn ddigon saff cyn nos yfory. Onid yw bysedd un troed i chwi yn glynu yn ei gilydd? Felly y mae'r eiddo yntau, os ewch i'w chwilio. Mae hyn, mi wn, yn ergyd ofnadwy i chwi, er fy mod, o'r ochr arall, yn edrych arno fel peth hynod Ragluniaethol i mi ddyfod yma i'ch atal rhag priodi eich chwaer. Ond peidiwch ag ymollwng, dangoswch eich bod yn ddyn—rhaid oedd i hyn ddyfod i'r golwg, a dylech fod yn ddiolchgar. Codwch eich pen i fyny, fy machgen annwyl, dowch, peidiwch â rhoi ffordd i'ch teimladau.'

Hawdd iawn oedd dweud am beidio ag ymollwng, ond teimlai Enoc ei fod wedi ei drywanu yn ei galon, ac ymollwng a wnaeth. Nid oedd Mr. Davies yn adnabod ei ŵyr nac yn gwybod mor nerfus ydoedd, onid e buasai yn gwneud y datganiad iddo yn gynilach. Bu raid i Enoc orwedd ar y soffa, ac edrychai mor glefydus nes peri tipyn o fraw i'w daid. Canodd y gloch am Miss Bifan, a gofynnodd iddi gyrchu meddyg yno ar unwaith, yr hyn a wnaeth. Cariwyd Enoc i'w wely, a bu ei daid, a Miss Bifan, a'r meddyg, yn gweini arno drwy'r nos.

PENNOD LII

Yr Olwg Olaf

FORE drannoeth, teimlai Enoc ychydig yn well, a diau y buasai yn abl i adael ei wely oni bai i Miss Bifan ddyfod i'r ystafell yn sydyn a'i hysbysu eu bod wedi cael y Capten Trefor yn farw ar y soffa y bore hwnnw. Yr oedd hyn yn ail ysgytiad i'w deimladau, ond derbyniodd Mr. Davies, ei daid, y newydd gyda syndod a gwên, a dywedodd yn ddistaw, megis wrtho ef ei hun: "Mi wyddwn y byddai farw yn ei ddillad." Am Susi y meddyliai Enoc o hyd, ac er bod ei serch ati—ar ôl deall mai ei chwaer ydoedd hi—wedi newid ei nodwedd, nid oedd ronyn yn llai. Yr oedd ei galon bron â thorri o gydymdeimlad â hi yn ei thrallod, ac amryw weithiau yn ystod y diwrnod hwnnw yr anfonodd ef Miss Bifan i Dy'n yr Ardd, i ymholi yn ei chylch. Yr hyn a arteithiai Enoc oedd pa fodd y gallai ef hysbysu Miss Trefor am eu perthynas, ac am yr hyn a ddywedwyd wrtho gan ei daid. Deallodd ei daid ei helynt, ac ebe fe: "Gadewch hynny i mi, fy machgen. Mi wn eich bod mewn trafferth a helbul blin, ond wedi priddo'r Capten Trefor yna, ni a awn o gwmpas y mater. Mae popeth yn siwr o ddiweddu'n dda, oblegid nid yw hyn i gyd ond ffordd Rhagluniaeth a ffordd Duw o ddyfod â phethau i'r amlwg ac i'w lle. Yr wyf yn teimlo'n fwy dedwydd y funud hon nag y bûm ers tair blynedd ar ddeg ar hugain."

Ni allai Enoc, druan, deimlo fel y teimlai ei daid. Edrychai arno gyda chymysg deimladau—yr oedd wedi dwyn arno brofedigaeth lem, ac eto ni allai beidio â meddwl mor rhagluniaethol oedd ei ddyfodiad i Bethel,—a phe buasai wedi aros fis neu ddau yn hwy heb ddyfod, y fath drychineb ofnadwy fuasai wedi digwydd. Tawelwyd cryn lawer ar feddwl Enoc pan ddywedodd ei daid wrtho:

"Nid oes un creadur byw yn gwybod am yr amgylchiadau yr wyf wedi eu hadrodd wrthych, fy machgen, ac y mae y Capten,' chwedl pobl yr ardal yma, wedi tewi am byth, ac er eich mwyn chwi, ac er mwyn ei ferch, rhaid i ni gadw y cwbl i ni ein hunain. Wrth gwrs, ni allwn beidio ag egluro rhyw gymaint, mewn ffordd ddoeth, i Miss Huws—hynny ydyw i Miss Trefor,—a rhaid i ni wneud rhyw ddarpariaeth ar ei chyfer oherwydd y cysylltiad sydd wedi bod rhyngoch chwi a hi. Mae'n dda gennyf ddeall ei bod yn eneth gall, ac y gŵyr pa fodd i ymddwyn pan ddaw i ddeall pethau, os nad ydyw ei thad wedi ei hysbysu ohonynt eisoes wedi i mi fod yno neithiwr."

Ceisiodd Enoc ymwelláu orau y gallai er mwyn mynd i gysuro Miss Trefor, a gwnâi ei daid hefyd ei orau iddo, oblegid, erbyn hyn, yn Siop y Groes yr arhosai'r hen ŵr. Methodd Enoc â bod yn ddigon cryf i fynd allan hyd ddydd claddedigaeth y Capten. Ond ni adawyd Susi yn unig. Yr oedd yno ŵr ieuanc arall ers deuddydd yn bur ofalus ohoni, ac er ei fod wedi dyfod adref ar amgylchiad galarus iddo ef, yr oedd wedi gweinyddu llawer o gysur iddi. A oedd Susi yn anffyddlon i Enoc? Dim perygl. Yr oedd ei gair cystal â chyfraith. Ond yr oedd Wil mor garedig, ac mor deg ei olwg, a chanddo gymaint i'w ddweud, ac mor, ac mor, etc., etc.

Yr oeddid wedi bwriadu claddu'r Capten a Hugh Bryan yr un dydd, ond oherwydd bod y cyntaf yn "chwyddo," bu raid ei gladdu ddiwrnod yn gynt. Gan adael ei daid gyda bocs o sigârs yn ei ymyl ym mharlwr Siop y Groes, ymlwybrodd Enoc gydag anhawster i Dy'n yr Ardd erbyn yr adeg yr oedd y cynhebrwng i fod. Wrth gwrs, gyda theimladau newydd a rhyfedd yr aeth ef yn ei flaen i edrych am Miss Trefor, ac ni synnwyd ef yn fwy yn ei fywyd na phan gafodd hi yn y parlwr bach yn eistedd ar y soffa fel delw a'i llaw yn llaw Wil Bryan, a eisteddai wrth ei hochr. Cyn gynted ag y daeth Enoc i mewn, tynnodd Susi ei llaw yn rhydd, ac edrychodd yn syth yn ei wyneb, fel pe buasai'n ceisio dweud: "Peidiwch ag amau, Mr. Huws, yr wyf yn dal yn ffyddlon i chwi." Gwasgodd ei law yn dynn a thorrodd i wylo'n hidl, ac ebe hi, dan hanner tagu, gan gyfeirio at Enoc: "Wil, dyma'r dyn gore yn y byd."

Ysgydwodd Enoc a Wil ddwylo yn garedig, oblegid, erbyn hyn, nid oedd mymryn o eiddigedd ym mynwes Enoc at Wil, ac yr oedd Wil yntau yn ddigon o foneddwr, wedi clywed gan ei fam fod Susi ac Enoc yn mynd i'w priodi, i deimlo yn dda a chynnes ato. Ond cyn iddynt gael siarad ychydig eiriau, dyna gythrwfl a thrwst cario'r arch i lawr o'r llofft, a rhywun yn 'nôl cadeiriau, a Mr. Brown, y person, gyda'i lyfr wrth y drws. Cerddai Wil ac Enoc gyda'i gilydd yn y cynhebrwng, a theimlai'r olaf mor eiddil a diolwg oedd ef yn ochr Wil, a chymaint gwell match i Susi a fuasai Wil nag ef. Meddyliai Wil am yr hen Gapten yr oeddynt y diwrnod hwnnw yn ei gludo i'w hir gartref y fath newid a fyddai iddo orfod bod yn ddistaw, ac os nad oedd wedi "altro yn arw" er yr amser yr adwaenai ef, teimlai Wil yn sicr mai'r peth cyntaf a wnâi yr hen Drefor—pa le bynnag yr ydoedd yn y byd arall fyddai ceisio perswadio rhywun i "specilêtio." Ysytriai Wil yn onest y byddai gwell siawns i'r giaffer—hynny ydyw ei dad, y byddid yn ei gladdu drannoeth—am promotion nag i'r Capten. Wrth gwrs ni ddywedodd hyn, ond pethau tebyg i hyn a redai drwy feddwl Wil yn y gladdedigaeth.

Pan oeddynt yn sefyll o amgylch y bedd, a Mr. Brown yn datgan gwir ddiogel obaith am fuchedd dragwyddol i'w annwyl frawd, digwyddodd Wil godi ei ben, a phwy a welai, yn ei lân drwsiad, ar ei gyfer, ond Thomas Bartley. Yr oedd Thomas, gan ystyried bod y gymdogaeth wedi cael gwaredigaeth fawr y diwrnod hwnnw, wedi dyfod allan yn ei orau i'r claddu—sef yn y siwt a wisgai pan aeth i'r Bala i edrych am Rys Lewis. Nid oedd y dres côt las yn edrych bin gwaeth, ac yr oedd y goler wen fawr cyn stiffed ag erioed. Pan edrychodd Wil arno, yr oedd Thomas yn dal ei het befar fawr ar ei glust dde, ac fel pe buasai yn gwrando beth oedd ganddi i'w ddweud, ac ymddangosai yn hynod ddefosiynol. Yr oedd yr olwg arno y trêt gorau a gawsai Wil ers blynyddoedd, a daeth mil o atgofion digrif i'w feddwl, fel y bu raid iddo guddio ei wyneb rhag i bobl feddwl ei fod yn cellwair ar amgylchiad mor ddifrif. Yr oedd Thomas yntau wedi canfod Wil, a chyn gynted ag yr aeth y gwasanaeth drosodd, brasgamodd ato, a chan ysgwyd llaw ag ef at y penelin, ebe fe:

"Wel, yr hen bry! a 'rwyt ti wedi dwad i'r fei o'r diwedd? Lle 'rwyt ti wedi bod yn cadw, dwed?"

"Yn Birmingham y bûm i ddiweddaf, Thomas, "ebe Wil.

"Debyg; mi wyddwn ma yn un o'r gwledydd tramor ene 'roeddet, ne y basen ni wedi clywed rhwbeth amdanat ti cyn hyn. Wyst ti be, 'rwyt ti wedi mynd yn strap o ddyn nobl anwêdd—wyt ti'n meddwl aros tipyn?"

"Mi fyddaf yma am dipyn, beth bynnag. Sut mae Barbara, Thomas?" gofynnai Wil.

Cwyno gan 'i lode o hyd, wel di 'n siampal. Mi ddoi acw on ddoi di? Ma gynnat ti lot i'w ddeud 'rwan, mi dy wranta. Ma acw fwyd yn y tŷ, cofia. Paid a bod yn ddiarth."

"Dim peryg, Thomas. Mi ddof acw gynted y bydd yr helynt yma drosodd," ebe Wil.

"Ie, helynt mawr ydi o hefyd, a ma'n lwc ma unweth mae o'n digwydd yn oes dyn, ne wn i ddim be fase'n dwad ohonom ni," ebe Thomas.

Ymhen deuddydd, hynny ydyw, drannoeth ar ôl claddu Hugh Bryan, aeth Enoc a'i daid i Dy'n yr Ardd. Ymgymerodd y taid â'r gorchwyl annifyr o egluro i Miss Trefor ei pherthynas ag Enoc. Cyn myned yno yr oedd Enoc a'i daid, er mwyn arbed teimladau Miss Trefor, wedi penderfynu peidio â sôn dim am anonestrwydd ei thad tra'r oedd ef yng ngwasanaeth Mr. Davies, oblegid nid oedd un amcan da yn cael ei gyrraedd wrth gicio ceffyl marw. Parhaodd y cyfarfod am rai oriau, ond nid buddiol fyddai i mi adrodd ei hanes, canys bu yno gryn wylo ac ocheneidio, ac nid dedwydd ydyw ysgrifennu am bethau felly. Gwnaeth Enoc un peth yno nad oedd er mor rhyfedd ydyw adrodd—wedi ei wneud o'r blaen—cusanodd Miss Trefor. Ac y mae popeth yn dda sydd yn diweddu'n dda.

Wedi rhai dyddiau gwerthodd Miss Trefor ddodrefn Ty'n yr Ardd a phopeth a berthynai i'w thad, ac aeth i fyw i Siop y Groes gan gymryd Kit gyda hi. Parhai Mr. Davies i fyw gydag Enoc, ac yr oedd Wil Bryan yn rhannu ei amser rhwng cysuro ei fam weddw a difyrru teulu—oblegid yr oedd yno deulu, erbyn hyn—Siop y Groes. Ymhen ychydig fisoedd dechreuodd Mr. Davies anesmwytho am ddychwelyd i'r America, ac eto nid oedd yn fodlon i wneud hyn cyn gweled pethau wedi eu rhoi ar dir diogel a pharhaol. Prysurwyd yr amgylchiadau. Un bore heb fod neb o'r cymdogion yn gwybod dim am y peth, gwnaed Wil a Sus yn ŵr a gwraig yn hen eglwys y plwyf. Gweithredai Enoc fel gwas a Miss Bifan fel morwyn briodas, a thaid Enoc yn "rhoi"'r briodasferch. Pan oedd y seremoni drosodd, cychwynnodd Wil a Sus ymaith, ond gwaeddodd Mr. Brown a Mr. Davies ar unwaith: "Arhoswch! 'dyden ni ddim wedi darfod eto," ac ebe Enoc: "Mae tro da yn haeddu un arall." Trawsffurfiwyd Wil yn was a Sus yn forwyn, a phriodwyd Enoc a Miss Bifan yn y fan a'r lle. Yr oedd hyn wedi ei gadw yn ddirgelwch hollol rhwng Mr. Brown, Mr. Davies, Enoc, a'i gariad newydd. Dychwelodd y cwmni, a Mr. Brown gyda hwynt, i Siop y Groes i fwynhau brecwest rhagorol. Nid oedd ond un diffyg yn y ddarpariaeth hyd yn oed yng nghyfrif Mr. Brown, a ddywedodd yn breifat wrth Enoc:

"Mi dylase bod yma tipyn bach o gwin, Mr. Huws, ar amgylchiad fel hon, yn ôl pob sens. Ond 'dydech chi, Calfins, erioed yn gwybod sut i gneud pethe yn first class, er bod gynnoch chi modd."

Teimlai Enoc ei hun fod rhywbeth yn fyr, ond prin y credai fod y byrdra yn y cyfeiriad y soniai Mr. Brown amdano. Aeth y ddau gwpl priod, a Kit a Mr. Davies gyda hwynt, ymaith gyda'r trên canol dydd. Ymhen yr wythnos dychwelodd Wil a'i wraig i Siop y Groes, ond ni welwyd Enoc a'i wraig, na Mr. Davies, na Kit, byth mwy yn Bethel.

Wil, erbyn hyn, oedd perchennog Siop fawr y Groes. Pa fodd y daeth y Siop yn eiddo iddo, ni pherthyn i neb wybod, ac nid wyf innau am adrodd. Cymerodd ei hen fam ato i gyd—drigo, a bu Sus yn hynod garedig ati tra bu hi byw. Fel ei ragflaenydd bu Wil Bryan yn fas—nachwr llwyddiannus, a daeth toc yn ŵr o ddylanwad yn y dref. Y gaeaf cyntaf ar ôl ei ddychweliad i'w hen gartref, traddododd yn ysgoldy yr Hen Gorff gyfres o ddarlithiau a wnaeth enw mawr iddo. Testun y darlithoedd oedd "Y ddynol natur." Defnyddiodd Wil y teitl "Y ddynol natur," yn hytrach na "Y natur ddynol," er mwyn cyfarfod â chwaeth lenyddol y gwa—hanol enwadau. Byddai'r ysgoldy yn orlawn bob nos y byddai Wil yn darlithio, er bod y mynediad i mewn trwy docynnau chwe cheiniog. Cymerai Thomas Bartley ddau docyn i bob darlith—un iddo ef ac un i Barbara—er na fedrai Barbara, druan, fynd dros yr hiniog gan "boen yn ei lode." Yr oedd ffyddlondeb Thomas i'r darlithoedd wedi bod mor fawr fel y mynnodd Wil ef yn gadeirydd i'r ddarlith olaf o'r gyfres, a theimlai'r hen frawd o'r Twmpath hyn yn gryn anrhydedd, a chreodd eiddigedd anfarwol ym mynwes yr hen Sem Llwyd tuag ato. Noswaith heb ei bath oedd honno pan oedd Thomas Bartley yn gadeirydd. Prynwyd saith gant o docynnau, er na ddaliai yr ysgoldy ond deucant. Mae darlithiau Wil, wedi eu hysgrifennu mewn llaw fer, i fod ymhlith fy mhapurau, yn rhywle, pe gallwn ddyfod o hyd iddynt.

Ond gan mai Profedigaethau Enoc Huws ydyw testun fy hanes, ac yntau, erbyn hyn, yn byw bywyd boneddwr yn Chicago, ac yn fawr ei barch, waeth i mi derfynu'r hanes yn y fan hon nag yn rhywle arall, a hwyrach y dywed rhywrai y dylaswn fod wedi ei derfynu ers talwm.

DIWEDD.

Nodiadau

[golygu]


Bu'r awdur farw cyn 1 Ionawr, 1954, ac mae y llyfr felly yn y parth cyhoeddus mewn gwledydd sydd â thymor hawlfraint bywyd yr awdur ynghyd â 70 o flynyddoedd neu lai.