Caniadau John Morris-Jones (testun cyfansawdd)
← | Caniadau John Morris-Jones (testun cyfansawdd) gan John Morris-Jones |
→ |
I'w darllen cerdd wrth gerdd gweler Caniadau John Morris-Jones |
Caniadau
GAN
JOHN MORRIS JONES
Rhydychen:Fox Jones
KEMP HALL 1907
"Y fun a wnaeth wayw yn f'ais,
"A garaf ac a gerais"
Pob cerdd a blethais erddi,
Pob cân serch i'w hannerch hi,
A'u cyflwyno i honno wnaf
A gerais ac a garaf.
AT Y DARLLENYDD
YMae'r rhan fwyaf o'r Caniadau hyn wedi ymddangos o'r blaen mewn gwahanol gyhoeddiadau. Ymddanghosodd llawer o Gathlau Heine yng Nghymru Fydd am 1890, ac amryw o honynt yng Nghymru ryw flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach. Cyhoeddwyd yr awdl "Cymru Fu : Cymru Fydd" yng Nghymru am Awst 1892. Argraffwyd rhai o'r dyrïau a'r mân gyfieithiadau o bryd i bryd ym Magazine Coleg y Gogledd. Diau i rai o'r darnau ymddangos hefyd mewn papurau wythnosol a mannau eraill; ond, hyd yn oed pe gallwn eu holrhain, nid yw o bwys yn y byd. Yn yr holl ddarnau hyn, ni phetrusais yn unman i newid gair neu ymadrodd, lle gwelwn angen, i ddiwygio'r iaith neu gywiro bai mewn mydr neu odl.
Ymysg y caniadau a ymddengys am y waith gyntaf yn y llyfr hwn y mae Awdl Famon a Phenillion Omar Khayyâm. Ysgrifennwyd Awdl Famon yn ddarnau digyswllt tua'r flwyddyn 1893 neu 1894; yr oeddwn yn darofun iddi fod yn hwy o lawer, ond wedi ei rhoi heibio am amser mi dybiais ei bod yn ddigon maith o watwargerdd o'r fath, ac mi lenwais y bylchau, gan ei gadael yn awdl o dair rhan fel y'i gwelir. Yn Nhachwedd 1898 (wedi bod yn dysgu ychydig Berseg rai blynyddoedd ynghynt) y meddyliais am geisio Cymreigio penillion Omar; cyfieithais ddeg neu bymtheg a thrigain o honynt y gaeaf hwnnw, ac ychwanegais ambell bennill pan gaffwn hamdden o dro i dro.
Dymunaf yma ddiolch i Mr. William Watson am ei ganiatad caredig imi i gyhoeddi'r aralleiriad o'i gân 'Duw cadw'n gwlad'; ac i Dr. Douglas Hyde am ei ganiatad caredig yntau i gyhoeddi'r cyfieithiadau o bedair o'r cathlau a gasglwyd ganddo oddi ar lafar y werin yn Iwerddon, ac a gyhoeddwyd gyda chyfieithiad Saesneg yn ei Love Songs of Connacht.
JOHN MORRIS JONES.
- Llanfair Pwll Gwyngyll,
- Gorffennaf 1907.
- Llanfair Pwll Gwyngyll,
CYNHWYSIAD
DYRÏAU
Cymru Rydd
Toriad y Dydd
Y Bachgen Main
Y Ddinas Ledrith
Y Seren Unig
Cwyn y Gwynt
Y Wennol
Fy Ngardd
Rhieingerdd
Cwyn yr Unig
Y Crythor Dall
Môn a Menai
Y Gwylanod
Yn y Cwch
Seren y Gogledd
Ar Hyd y Nos
Lili Lon
Yr Haul a'r Gwenith
Ti f'Anwylyd yw 'Mrenhines
Yr Afon yn y Coed
Seiriol a Chybi
Y Morgrug
Yr Afonig
Fy Mreuddwyd
Syr Lawrens Berclos
Pa le mae Gwen?
Y Cwmwl
Arianwen
Yr Hwyr Tawel
Duw Cadw'n Gwlad
LLYTHYRAU
At O.M.E. I.
" II
" III
ENGLYNION
Moes
Iaith y Blodau
Dafydd Llwyd Siôr
Ieuenctid
Henaint
CYWYDDAU
Cywydd Hiraeth
Cywydd Priodas Owen M. Edwards
Cywydd Priodas W. Llewelyn Williams
AWDLAU
Cymru Fu: Cymru Fydd
Salm i Famon
" Rhan 2
CYFIEITHIADAU
O'R ALMAENEG:
Cathlau Heine:
I. Codi'r bore wnaf a gofyn
II. Brydferth grud fy holl ofalon
III. Fy machgen, cyfod, dal dy farch
IV. O'm dagrau i, fy ngeneth
v. Ers myrddiwn maith o oesoedd
VI. Pe gwypai'r mân flodeuos
VII. Paham, fy nghariad deg, yn awr
VIII. E saif pinwydden unig.
IX. Er pan aeth fanwylyd i
X. I'r ardd ryw fore hafaidd
XI. Ymgrynhói y mae'r tywyllwch
XII. Drwy'r coed yn drist y rhodiwn
XIII. Ti ferch y morwr tyred
XIV. Pan fyddwyf yn y bore
xv. Pa fodd, a mi'n fyw eto
XVI. Mewn breuddwyd tywyll safaf
XVII. Breuddwydiwn weld y lloer yn brudd
XVIII. Fel y lloerwen oleu'n dianc
XIX. Yr ydwyt fel blodeuyn
XX. Dinistr iti fyddai 'ngharu
XXI. Eneth a'r perloywon lygaid
XXII. Mae iddynt gwmpeini heno
XXIII. O na allwn gynnwys mewn ungair
xxiv. Mae gennyt emau a pherlau
XXV. Fel rhyw freuddwydion tywyll
XXVI. Mae iar fach yr haf yn caru'r rhos
XXVII. Fel y lloer a'i delw'n crynu
XXVIII. Y lili ddwr freuddwydiol
XXIX. Rhyw adeg yr oedd hen frenin
xxx. Fry ar eurdroed ofnus esmwyth
XXXI. Crwydraf y freuddwydiol goedwig
XXXII. Mi wyddwn iti 'ngharu
XXXIII.Yr eneth ger y waneg
XXXIV. Ni soniais am dy ffalster
XXXV. Mae'r môr yn loyw'n nhywyn haul
XXXVI. Yn seren wen tywynni yn fy nos
XXXVII. Mor llon wyt yn fy mreichiau
XXXVIII. Mynyddgan—i
—ii
Dwy galon yn ysgaru.—Geibel
Pan ddiflanno gwrid.—Ernst Schulze
Can y Bedd.—Arndt
Colli'r Baban. —De La Motte Fouqué
Cathlau'r Hesg.—Lenau
Y Gaer sy ger y Lli.—Uhland
Blodeuyn yr Alaw.—Geibel
O'R FFRANGEG:
Cwyn y Gwrthodedig.—Alfred de Musset
Cynghorion Cariad.—De Jouy
O'R EIDALEG:
Cathlau Serch.—Vittorelli
Y Dymuniad. —Ugo Foscolo
Y Blodeuglwm.—Ugo Foscolo
Llateiaeth yr Awelon.—Ugo Foscolo
O'R LLYDAWEG:
Dychweliad y Gwanwyn,—F. M. Lusel
O'R WYDDELEG:
Cathlau Serch Connacht
O'R SAESNEG:
Cân.—Shakespeare
I Anthea.—Herrick
Eiddigedd y Saint.—Duke of Buckingham
Y Cusan.—Anhysbys
I Celia.—Ben Jonson
Ffyddlondeb.—Syr John Suckling
I'r Gog.—Wordsworth
Mary fy Mun.—John K. Casey
Annabel Lee.—Edgar Allan Poe.
Hoff Wlad.—Sliabh Cuilinn
Gobeithion Bore Oes.—Thomas Davis
Eisteddfod Aberffraw.—W. T. Parkins
Coelcerthi'r Mynydd.—Felicia Hemans
O'R BERSEG:
Penillion Omar Khayyam
Nodiadau ar Omar Khayyam a'i Benillion
DYRÏAU
CYMRU RYDD
Mi ganaf gerdd i'r wenwlad,
Y wlad y'm ganed i;
Gwlad fwynlan yw fy henwlad,
Heb ei chyffelyb hi.
Mae ysbryd dewr Llywelyn
Yn fyw, a byw yw'r delyn,
A'r iaith er pob rhyw elyn
Yn para yn ei bri.
Ei nentydd glän rhedegog
A ennill bennill bardd;
Ei bryniau gwyllt caregog,
Cyfoethog ŷnt a hardd;
A thanynt mewn tawelwch,
A hyfryd ddiogelwch,
Ei theg ddyffryndir welwch
Yn gwenu megis gardd.
Mae'n wir nad yw ei gwerin
Yn meddu o honi gwys,
Na'r Cymro ond pererin
Ar ddaear Cymru lwys;
Y trawsion a'i meddiannodd,
A mynych y griddfannodd
Y genedl a'i trigiannodd,
Mewn du gaethiwed dwys.
Er hyn i'm gwlad y canaf,
Oherwydd Cymru fydd
Ddedwyddaf gwlad a glanaf,
A dyfod y mae'r dydd
Pan na bydd trais i'w nychu,
Nac anwr i'w bradychu,
Na chweryl i'w gwanychu,
A phan fydd Cymru'n rhydd!
TORIAD Y DYDD
'Rwy'n hoffi cofio'r amser,
Ers llawer blwyddyn faith,
Pan oedd pob Cymro'n Gymro gwir
Yn caru'i wlad a'i iaith ;
Llefarai dewr arglwyddi
Ein cadarn heniaith ni,
Parablai arglwyddesau heirdd
Ei pheraidd eiriau hi;
Pan glywid yn y neuadd
Y mwynion dannau mân,
Mor fwyn yr eiliai gyda hwy
Ragorol iaith y gan.
Ond wedi hyn trychineb
I'r hen Gymraeg a fu,
Ymachlud wnaeth ei disglair haul,
Daeth arni hirnos ddu.
O'r plasau a'r neuaddau
Fe'i gyrrwyd dan ei chlais;
Arglwyddi, arglwyddesau beilch
Sisialodd iaith y Sais;
A phrydferth iaith y delyn
Fu'n crwydro'n wael ei ffawd,
Ond clywid eto'i seiniau hoff
Ym mwth y Cymro tlawd;
Meithrinodd gwerin Cymru
Eu heniaith yn ei chlwy',
Cadd drigo ar eu tafod fyth,
Ac yn eu calon hwy.
Gogoniant mwy gaiff eto,
A pharch yng Nghymru fydd;
Mi welaf ddisglair oleu 'mlaen,
A dyma doriad dydd!
Y BACHGEN MAIN
Lleddf y canai'r llanc ei delyn
Fel ochenaid brudd y gwynt;
Cofio'r oedd am bob rhyw fawredd
A fu 'n harddu Cymru gynt;
Meddwn wrtho, "Harddach eto
"Nag erioed fydd Cymru gain;
"Can obeithiol geinciau heini,
"Gwn y medri, fachgen main."
Canai'r bachgen main ei delyn,
Canai fyth yn lleddf ei sain;
Cofio'r oedd am bob anghydfod
Sydd yn rhannu Cymru gain;
Meddwn wrtho, "Dyma'r brwydro
"Sydd i buro gwlad y gân;
"Deffro beraidd leisiau'r delyn,
"'Tyn y mêl o'r tannau man.'
"Cymru fu! ni raid ochneidio
"Am a fu i Gymru gain;
"Cymru sydd! ni raid it ganu
"Am y sydd yn lleddf dy sain;
"Cymru fydd ! hi fydd yn lanach,
"Ardderchocach fyrdd na'r rhain;
“Boed dy gerdd yn llawen heno,
"Can am honno, fachgen main!"
Y DDINAS LEDRITH
Saf ennyd yma, f'annwyl,
A rho dy law i mi,
Ac edrych ar gyfaredd
Y dref sy dros y lli.
Mae niwlen ysgafn oleu
Yn do am dani hi:
Hi saif fel dinas ledrith
Ar lan y distaw li.
'R wyf innau'n dwyn rhyw fywyd
Cyffelyb ger y lli;
Yn llen oleuwen drosto
Y daeth dy gariad di.
Rhyw fywyd ysgafn oleu
Awyrol sydd i mi,
Mewn byd o hud a lledrith
Ar lan y distaw li.
Y SEREN UNIG
Y gwridog haul fachludodd,
Ac yn y nef uwchben
Y gwelir yn tywynnu
Ryw unig seren wen.
Mi sylwais ar ei llygad
Yn gloywi yn y nef,
Fel petai ddeigryn disglair
Yn cronni ynddo ef.
Mi glywaf ddeigr yn llenwi
Fy llygad innau'n awr;
'R wyf innau'n unig unig;
Fy haul a aeth i lawr.
CWYN Y GWYNT
Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno,
Dagrau ddaw ynghynt.
Wrth fy ffenestr yn gwynfannus
Yr ochneidia'r gwynt.
Codi'i lais yn awr, ac wylo,
Beichio wylo mae;
Ar y gwydr yr hyrddia'i ddagrau
Yn ei wylltaf wae.
Pam y deui, wynt, i wylo
At fy ffenestr i?
Dywed im, a gollaist tithau
Un a'th garai di?
Y WENNOL
Mae 'nghariad fel y wennol,
Hed honno dros y don,
A gado'i hen gynefin
Sydd yn yr ynys hon;
Ond nid a'r wennol dros y lli
Heb ei hanwylyd gyda hi.
Gadawwyd finnau 'n unig,
A'm llygaid fyth a deifi
Ryw olwg ddwys hiraethus
Dros leision drumau'r Eifl;
Tu hwnt i'r rhain mae'r môr a'i li,
A thros y môr mae 'nghariad i.
FY NGARDD
Mae gennyf fi ryw geinaf ardd
Bereiddied byth a breuddwyd bardd;
Ni welwyd dan yr heulwen,
Er Eden, un mor hardd.
Mae lili'n gylch o amgylch hon,
A rhos sydd ynddi'n llwyni llon,
A mefus aeddfed hefyd
Mor hyfryd ger fy mron.
Dwy ffynnon welir, glir a glan,
Yn loyw 'mysg y lili man;
O'u goleu, pan eu gwelais,
Y cefais ysbryd cân.
A goelit hyn pe gwelit ti
Y geinaf ardd sy gennyf fi?
Dy ddrych a rydd it ateb
Dy wyneb ydyw hi.
RHIEINGERDD
Main firain riain gain Gymraeg.—Casnodyn.
Dau lygad disglair fel dwy em
Sydd i'm hanwylyd i,
Ond na bu em belydrai 'rioed
Mor fwyn a'i llygad hi.
Am wawr ei gwddf dywedyd wnawn
Mai'r cann claerwynnaf yw,
Ond bod rhyw lewych gwell na gwyn,
Anwylach ynei liw.
Mae holl dyneraf liwiau'r rhos
Yn hofran ar ei grudd;
Mae'i gwefus fel pe cawsai 'i lliw
O waed y grawnwin rhudd.
A chlir felyslais ar ei min
A glywir megis cân
Y gloyw ddŵr yn tincial dros
Y cerrig gwynion mân.
A chain y seinia'r hen Gymraeg
Yn ei hyfrydlais hi;
Mae iaith bereiddia'r ddaear hon
Ar enau 'nghariad i.
A synio'r wyf mai sŵn yr iaith,
Wrth lithro dros ei min,
Roes i'w gwefusau'r lluniaidd dro,
A lliw a blas y gwin.
CWYN YR UNIG
Dacw'r coedydd gyda'i gilydd
Yn rhyw ddedwydd lu,
Minnau yma 'n gwywo'n ara'
Mewn unigedd du.
Draw mae'r adar man yn trydar
Oll yn llon eu llef;
Pob aderyn gan ei emyn
I'w anwylyd ef.
Dyna seiniau llawen leisiau,
Clywaf bawb yn llon;
Minnau'n ddistaw wedi 'ngadaw,
Trom a thrist yw 'mron.
Y CRYTHOR DALL
Pa fodd y cluda'r awel
Ryw leddf ac isel gainc
Trwy nwyfiant a llawenydd
Heolydd Paris Ffrainc?
Hen grythor dall ac unig
O ryw bellennig fro
Sy'n canu dwys acenion
Ei dirion henwlad o.
Fy nghyfaill, pe baut yno
Yn gwrando ennyd awr,
Ti glywit "Forfa Rhuddlan,"
Ti glywit "Gyda'r Wawr;"
Y dyrfa lon ddistawai,
Arafai ar ei hynt;
Erioed ni chlywsynt ganu
Mor brudd a pheraidd cynt.
Ond wele, at y crythor
Gwr ifanc hawddgar aeth,
A chymryd, gyda'i gennad,
Y crwth o'i law a wnaeth,
A seinio arno odlau
Mwy peraidd fyth a phrudd,
Fel sơn dyhead awel
Fwyn dawel fin y dydd.
"Fy machgen, O fy machgen,"
Dolefai'r henwr dall;
Ei anwyl fab crwydredig
Colledig oedd y llall;
A'r tad ei hun fu'n dysgu
I'w gynnil fysedd gynt
Y gainc wylofus honno
A suai yn y gwynt;
Ac ni bu law ar dannau
A seiniai byth mor brudd
A pheraidd ei chyffyrddiad
Hen ganiad "Toriad Dydd."
MÔN A MENAI
Llon y gwenaì
Afon Fenai
Gyda glennydd Môn ;
Coedydd tirion,
O, mor irion
Ddechreu'r haf y trôn'.
Mae dy wên fel tegwch Menai,
Tirf wyt ti fel gwanwyn Môn.
Yng nghanghennau
Irion brennau
Clir a phêr yw tôn
Adar llawen
Yn eu hawen
Gyda glennydd Môn.
Mae dy lais fel llais yr adar
Sydd yn canu 'nghoedydd Môn.
Mwy y'm denai
Môn a Menai
Nag y gallaf sôn ;
Mi ddychwelwn
Awn lle'r elwn
Fyth yn ol i Fôn.
Mwy y'th gerais di, f 'anwylyd,
Mwy na Menai, mwy na Môn.
Y GWYLANOD
Rhodio glan y mor yr oeddwn,
Meddwl fyth am danat ti;
Hedai cwmwl o wylanod
Buain llwyd uwchben y lli.
Troelli'n ebrwydd ar yr adain
Wnaeth yr adar llwyd-ddu hyn;
Yn y fan, yngoleu'r heulwen,
Gwelir hwynt yn ddisglair wyn.
Bu fy nyddiau gynt yn llwydaidd,
Ac heb lewych yn y byd;
Twynnodd gwawl dy gariad arnynt-
Gwyn a goleu ynt i gyd.
YN Y CWCH
Mewn cwch eisteddem, eneth wen,
Ar fynwes Menai dlos;
Tywynnai yn y nef uwchben
Frenhines loyw'r nos.
Rhyw briffordd arian ar y don
O'n blaen a daflai hi;
Ar hyd y briffordd honno'n llon
Y llithrem gyda'r lli;
A'r cwch a gurai'r tonnau mân
Onid adseiniai'r rhain
O’n hamgylch megis adlais cân
Rhyw glychau arian cain.
O, na chaem deithio byth ynghyd,
Dan wenau'r nef uwchben,
Yn sôn ariannaid glychau hyd
Ryw ffordd ariannaid wen!
SEREN Y GOGLEDD
Fe grwydra llawer seren wen
Yn y ffurfafen fry;
Ac i bob seren trefnwyd rhod,
Ac yn ei rhod y try.
O amgylch rhyw un seren wen
Y trônt uwchben y byd;
Ym mhegwn nef mae honno 'nghrog,—
Diysgog yw o hyd.
Mae gennyf innau seren wen,
Yn fy ffurfafen i;
Holl sêr fy nef sydd yn eu cylch
Yn troi o'i hamgylch hi.
AR HYD Y NOS
Er ty wylled ydyw'r ddaear,
Ar hyd y nos,
Gwelir llawer seren lachar,
Ar hyd y nos;
Bu ryw hirnos drom ar Gymru,
Ond bu iddi yn tywynnu
Lawer seren wen er hynny,
Ar hyd y nos.
Fel y gwyliwr ar y ceyrydd,
Ar hyd y nos,
Yn hiraethu am y cyfddydd,
Ar hyd y nos,
Felly yr hiraethodd Cymru
Am yr adeg i'w gwaredu
O'r tywyllwch fii'n ei llethu,
Ar hyd y nos.
Rhaid i'r dydd o'r diwedd wawrio,
Ar ol y nos;
Rhaid i haul y nef ddisgleirio,
Ar ol y nos;
Wele'r wawr ar Gymru'n torri,
Fe ddaw'r huan llon i'w llenwî
O lawenydd a goleuni,
Ar ol y nos.
LILI LON
Gwelais lwyni gwynion drain,
Pob blodeuyn gwyn mor gain;
Yn fy ngardd mae gennyf lili
Lanach, lanach na'r holl lwyni;
Lili lon ydyw hon,
Lili lon ydyw hon;
O, ni welais yn fy mywyd
Un mor hyfyd â hon.
Gwelais wledydd hardd eu drych,
A goludog wledydd gwych;
Tecaf, mwynaf im o unman
Ydyw f 'anwyl wlad fy hunan;
Cymru lon ydyw hon,
Cymru lon ydyw hon;
O, ni welais yn fy mywyd
Fro mor hyfryd â hon.
Dysgais lawer enwog iaith
Wedi llafur, myfyr maith; .
Godidocach iaith na'r cyfan
Yw fy heniaith i fy hunan;
Heniaith lon ydyw hon,
Heniaith lon ydyw hon;
O, ni ddysgais yn fy mywyd
Iaith mor hyfryd â hon.
Clywais gerdd a chlywais gân
Pob rhyw offer mawr a mân;
Telyn, telyn gwlad y bryniau,
Mwyna'i sain i'm mynwes innau;
Telyn lon ydyw hon,
Telyn lon ydyw hon;
O, ni chlywais yn fy mywyd
Ddim mor hyfryd â hon.
Gwelais Iwyni gwynion drain,
Pob blodeuyn gwyn mor gain;
Yn fy ngardd mae gennyf lili
Lanach, lanach na'r holl lwyni;
Lili lon ydyw hon,
Lili lon ydyw hon;
O, ni welais yn fy mywyd
Un mor hyfryd â hon.
YR HAUL A'R GWENITH
Un o ddychmygion Henry Rees
Ar gae o wenith tremiai'r haul i lawr:
"Wyt ddigon glas dy wedd," medd ef, " yn awr";
"Ond dal i edrych yn fy wyneb i,"
"Mi ddaliaf innau i edrych arnat ti;"
"Ac yna byddi'n gwenu ag wyneb cann"
"Un lliw a'm hwyneb innau, yn y man."
TI F'ANWYLYD YW 'MRENHINES
Ti, f'anwylyd, yw 'mrenhines,
Minnau yw dy deyrnas di;
O, f'anwylyd, dychwel ataf,
Gweddw hebot ydwyf fi.
Yn fy nghalon mae d'orseddfainc,
Gwag yw honno hebot ti;
Tyrd i lenwi'r gwagle anial
Sy'n diffeithio 'nghalon i.
Anllywodraeth sy'n dy deyrnas,
A rhyw gynnwrf hebot ti;
Eistedd eilwaith ar d’orseddfainc,
Estyn dangnef drosti hi.
Os dychweli, fe dry'r cynnwrf
Yn orfoledd ynof fi;
A dylifo wna'm serchiadau
Allan oll er d'arfoll di.
O, f'anwylyd dychwel ataf,
Gweddw hebot ydwyf fi;
Ti, f'anwylyd, yw 'mrenhines,
Minnau yw dy deyrnas di.
YR AFON YN Y COED
'R wy'n cofio'r nos y safem
Ar ben y bont bren draw,
A'r afon foch yn ddedwydd
Yn llithro is ein llaw.
Y coed yn dduon dduon,
A'r afon hithau 'n wen,
Lle twynnai'r lleuad arni
Trwy frigau'r coed uwchben.
Rhoist imi lân gusanau,
A'r lleuad wen yn dyst;
Sibrydais eiriau dedwydd
Yn glodrydd yn dy glust.
Breuddwydiaf eto'n fynych
Fy mod yn gweld y fan,
A'th wyneb annwyl dithau
Yngoleu'r lleuad gann;
Mi wela'r duon goedydd,
Mi wela'r glaerwen donn—
Ynghanol dyddiau duon
Rhyw orig wen oedd hon.
SEIRIOL A CHYBI
Seiriol Wyn a Chybi Felyn —
Mynych fyth y clywir sôn
Am ddau sant y ddwy orynys
Ar dueddau Môn.
Ynys Cybi'm Môr Iwerddon,
Trosti hi'r â'r haul i lawr;
Ynys Seiriol yn y dwyrain
Tua thoriad gwawr.
Seiriol Wyn a Chybi Felyn—
Cyfarfyddynt, fel mae'r sôn,
Beunydd wrth ffynhonnau Clorach
Yng nghanolbarth Môn.
Seiriol, pan gychwynnai'r bore,
Cefnu wnâi ar haul y nef;
Wrth ddychwelyd cefnai hefyd
Ar ei belydr ef.
Haul y bore'n wyneb Cybi
A dywynnai'n danbaid iawn;
Yn ei wyneb y tywynnai
Eilwaith haul prynhawn.
Wyneb Cybi droes yn felyn,
Wyneb Seiriol ddaliai'n wyn;
Dyna draetha'r cyferwyddyd
Am y ddeusant hyn.
Mi ni wn ai gwir yr hanes,
Ond mae'i faich yn wir o hyd;
Dengys anghyfartal dynged
Dynion yn y byd.
Caiff y naill, aed ffordd yr elo,
Mewn cysgodion rodio'n rhydd;
Rhaid i'r llall o hyd wynebu
Pwys a gwres y dydd.
Y MORGRUG
Aeth Culwch, cefnder Arthur,
At Ysbaddaden Gawr,
I erchi'i unig eneth,
Sef Olwen deg ei gwawr.
Erioed ni welwyd geneth
Mor lân â'r eneth hon—
Ei gwallt fel blodau'r banadl,
Ei gwddf fel ewyn tonn.
Ac Olwen deg y'i gelwíd
O ran, lle sangai'r ddôl,
Fe dyfai yno bedair
Meillionen wen o'i hôl
Edrychodd Ysbaddaden
Yn sarrug ac yn erch:
"Pa fodd y meiddi ddyfod
I erchi i mi fy merch?
"Ni cheffi byth mo'r eneth
"Heb wneuthur imi hyn:
"A wel' di megis braenar draw
"Yn goch ar ochr y bryn?
"Pan gyfarfûm i gyntaf
"Â dinam fam y fun,
"Had llin a hëwyd ynddo—
"Ni thyfodd eto'r un.
"Dwg hwn i'w hau bob hedyn
"(Mae'r cyfrif gennyf fi);
"A'i wau'n benllïain gwyn i'm merch
"Iw neithior hi a thi."
***
Rhyw ddiwrnod, pan oedd Gwythyr—
A marchog dewr oedd ef—
Yn rhodio'r bryn, fe glywai
Ryw wan wylofus lef.
Ac wedi syllu ennyd,
Fe welai'r grug ar dân,
A'r tan yn araf gropian
At nyth y morgrug mân.
Dadweiniodd yntau'i gleddyf,
A thorrodd dan y nyth;
A'i godi wnaeth a'i gludo i fan
Na ddelai'r fflamau byth.
"Boed iti," meddynt, " fendith
"Y nef, a'n bendith ni;
"A'r peth nis gallai dyn sy fy w
"A wnawn yn dâl i ti."
Ac yna'r aeth y morgrug
I'r cae yn fyddin gref,
A dwyn yr had a wnaethant
Yn gryno iddo ef.
Un hedyn oedd yn eisiau,
Nad oeddynt yno'n llwyr;
A'r hen forgrugyn cloffa ddaeth
A hwnnw cyn yr hwyr.—
Ar ddydd priodas Culwch
A'r feinir eglur wen,
'R oedd gwe o liain fel y gwawn
Gan Olwen ar ei phen.
YR AFONIG
Mae 'nghalon, lân afonig,
Yn dilyn dawns dy li;
A dedwydd iawn wyf innau—
Dy gân a'm llonnodd i.
A dedwydd iawn wyf innau
Yn canu gyda thi;
Mae llon feddyliau ynof
Yn dilyn dawns dy li.
Mae llon feddyliau ynof—
Dy gân a'm llonnodd i;
Mae 'nghalon, lân afonig,
Yn canu gyda thi.
FY MREUDDWYD
Breuddwydiais— paid a digio dro—
Fy mod yn caru dwy;
Ni welwn ragor yn fy myw,
Na dewis rhyngthynt hwy.
Ni charwn un yn llai na'r llall,
Ni charwn un yn fwy;
Ac mewn rhyw benbleth faith y bum
Y nos o'u hachos hwy.
Ond wedi deffro gyda'r dydd,
Mi chwerddais,— canys pwy
Dybygit oeddynt?— Wel, tydi
Dy hunan oedd y ddwy!
SYR LAWRENS BERCLOS
'R oedd Cymru wen yn dechreu 'mysgwyd
Dan gadwyni heyrn y Sais;
Od oes raid i'r Sais orthrymu,
Oes raid i'r Cymro ddioddef trais?
"Na raid," medd Glyn Dẁr yn flyrnig,
A chododd Cymru wrth ei lais.
Yr adeg hon, 'r oedd gwr bonheddig
Yn tramwy Cymru gyda'i was;
Gŵr anarfog oedd, ac estron,
Ond fe hoffai, ym mhob plas,
Glywed am Lyn Dŵr a holi
Pwy oedd ei ffrind a phwy ei gas.
Fe ddaeth i blas Syr Lawrens Berclos,
Llefarodd yn nhafodiaith Ffrainc;
A mawr y croeso gafodd yno,
Fe'i rhoddwyd ar yr uchaf fainc;
Hyfryd, hyfryd fu'r ymddiddan,
Llwyr y canwyd llawer cainc.
Cyn hir, 'r wy'n disgwyl," medd Syr Lawrens,
"Gweld Glyn Dŵr gynllwynwr mall;
Mae pawb o'm gwŷr dan dwng i'w ddala
"A'i ddwyn ef yma gynta' gall."
"Gwaith da fai diogelu hwnnw,
"Od oes a allo," medd y llall.
Ni chyfrifir Lawrens Berclos
 gẁr bonheddig, yn ei oes,
Ail i hwn ym mhob syberwyd,
Pob rhyw geinder, mwynder moes.
Deisyfodd arno'n daer i dario,
A phedwar diwrnod yr ymdroes.
Wedi rhodio, ymddifyrru
Yn y ddawns ac wrth y bwrdd,
Fe ddaeth yr awr i'r gŵr ymado—
Gobeithiai Lawrens eto 'i gwrdd;
Rhoes yntau 'i law a'i ddiolch iddo
Wrth gychwyn gyda'i was i fwrdd:
"Diolch am dy holl ledneisrwydd,
"Am bob rhyw fwyniant, pob rhy w fri;
"O barth i'th fwriad dithau ataf,
"Dyma'm llaw a'm llw i ti
"Na chofiaf mono, chwaethach dial—
"Yn iach," medd ef, "Glyn Dŵr wyf fi! "
Fel y gwelaist gysgod cwmwl
Yn diflannu dros y bryn,
Felly'r aeth Glyn Dŵr a'i gyfaill,
A Lawrens mewn mudandod syn;
Ac ni chadd Lawrens byth ei barabl,
Os gwir yr hanes, wedi hyn.
PA LE MAE GWEN?
Glas ydyw'r awyr,
A'r ddaear sy werdd,
A phob rhyw aderyn
Yn canu mwyn gerdd,
Tywynnu maeV heulwen
Yn gannaid uwchben,
A minnau'n pryderu
Pa le mae fy Ngwen.
Nid ydyw na'r awyr
Na'r ddaear i mi,
Na'r heulwen na'r adar
Yn ddim hebddi hi;
Nid oes yn eu lloniant
Ond somiant a sen,
A minnau'n pryderu
Pa le mae fy Ngwen.
A weli di, heulwen,
O'th awyr las di,
A ddwedi di, ddaear,
Pa fan y mae hi?
Ehed, yr aderyn,
O frigyn y pren,
A chân iddi 'nghwynion.—
Na, dacw fy Ngwen!
Glas fyddo'r awyr,
A'r ddaear fo werdd,
A phob rhyw aderyn
A gano 'i fwyn gerdd,
Tywynned yr heulwen
Yn gannaid uwchben;
Caf finnau ymlonni
Yng nghwmni fy Ngwen.
Y CWMWL
Mae 'r eigion fel yr arian draw
Gan belydr haul y nef,
A chwmwl ar yr haul ei hun
Yn cuddio'i wyneb ef.
F'anwylyd, pan ddaeth cwmwl gynt
Am ennyd rhyngom ni.
Tywynnai ar fy nghof o hyd
Dy hyfryd wenau di.
Daeth awel o ddeheuwynt teg,
A'r cwmwl dudew ffoes;
A goleu pur dy eglur wedd
Sy fyth yn heulo f'oes.
ARIANWEN
Pan ganai'r adar ar y pren
Y wen Arianwen roed
I orwedd mwy mewn pridd a main,
Yn rhïain ugain oed.
Ei thad a'i mam yn ymdristau,
Llifeiria'u dagrau dwys;
A llawer sydd yn llaith eu grudd
Roi honno'n gudd dan gŵys.
Ond ni wybuant archoll un,
Pan roed y fun i fedd;
Ar hwnnw 'n wir ni sylwodd neb
Na'i wyneb gwael ei wedd.
YR HWYR TAWEL
Mae'r ddaear yn tawelu,
A'r haul yn cyrchu 'i wely
Dros eang feysydd Môn;
A'r adar mân ni chlywir mwy,
Distawsant hwy a sôn.
Mae Menai'n huno'n dawel,
Ni chofìa am un awel
Fu gynt yn blino'i hi;
Heb arni ol na chraith na chrych,
Fel drych yr edrych hi.
A'r badau ar ei minion,
 hwyliau swrth a blinion
Yr hepiant hwy mewn hedd;
A thawel ydyw'r fynwent draw,
A distaw ydyw'r bedd.
Ac yno dan wyrdd gangau
Yn huno hun yr angau
Mae annwyl rai i mi;
Ac eflfro iawn, a'm dagrau'n Ilyn,
Wrth gofio hyn, wyf fi.
DUW CADW'N GWLAD
Ar ol William Watson
Duw, cadw'n hannwyl wlad,
Duw, cadw Gymru fad,
Duw, cadw'n gwlad;
Rhag newyn a rhag plâu,
Rhag cledd a'i ddychrynfâu,
Rhag gormes a phob gwae,
Duw, cadw'n gwlad.
Duw, dyro farwol glais
I bob cam fraint a thrais
Sy'n llethu'n gwlad;
Mae'r beilchion ym mhob man
Yn gwledda ar bwys y gwan;
Duw, dwg y tlawd i'r lan;
Duw, cadw'n gwlad.
Ni phery bri na nerth;
Cyfiawnder sydd o werth
I godi gwlad;
Os araf deg y daw,
Pan ddôl ni chilia draw;
Duw, llwydda'i flFordd rhag llaw;
Duw, cadw'n gwlad.
Duw, cadw'n hannwyl wlad,
Duw, cadw Gymru fad,
Duw, cadw'n gwlad;
Er myned heíbio i gyd
Deyrnasoedd mawr y byd,
Duw, cadw Gymru o hyd;
Duw, cadw'n gwlad.
LLYTHYRAU
AT O.M.E.[1]
I
Mehefìn 1886.
***
Mi wela'r Wyddfa draw yn las,
A glas yw'r awyr hithau,
Ac ar y chwith mae Menai'n las,
Gwyrddlasach tua'r glannau,
Lle teifl y coed eu glesni glwys
Ar lesni dwys y tonnau.
***
Gyr imi hanes, gynnes gân,
"Morynion glân Meirionydd,
Fel yr addewaist imi'r pryd
Y'u gweiit gyd a'i gilydd;
Mi ganaf innau ganig lon
Am lannau'r afon lonydd.
Ac hefyd am forynion Môn
Y clywaist "sôn am danynt,"
Pan gaffwyf brofi peth o'r gwin
Ar fin rhyw un ohonynt,
A mwy na darn o un prynhawn
I ganu'n iawn am danynt.
II
Rhagfyr 1886.
I Fynwy fawr o'r Fona fau,
O lannau Menai lonydd
I lannau Hafren lydan lon,
At union bert awenydd,
Cyfeirio cerdd am gerdd a wnaf,
Os medraf, megis mydrydd.
Yr oedd dy awen degwen di,
Pan ganai hi ers dyddiau,
Yn chware'n nwyfus ac yn llon
Ar hyd y tynion dannau,
 bysedd ysgeifn iawn, a'i llais
"Fel adlais nefol odlau.
Ond mae yr awen feinwen fau
Dan ocheneidiau 'n nychu—
Yr eira ar Eryri wen,
A'r awen bron a rhynnu;
Ac yn fy myw ni fedrwn i
Gael ganddi gynnig canu.
Hiraethu mae am dywydd braf,
Am haf a mis Mehefin,
A thyner chwa i gusanu'i min,
A'i hafaidd hin gysefin;
Er hyn, os gall, hi byncia dro
Ryw eco yn y ddrycin.
Pan geisiodd ddwaethaf eilio cerdd,
'R oedd daear werdd o'i hamgylch,
A Menai'n gwenu'n nhywyn haul,
Ac araul las awyrgylch;
Yr heulog haf amryliw cain
Ddisgleiriai'n wiwgain ogylch.
Nid oes yn awr ond daear wen,
A nen a Menai dduaf;
Fy Menai arian, lân, liw tes,
A'i chynnes wên Orffennaf—
Yn awr hi dremia gyda gwg,
Haearnaidd gilwg arnaf.
Er hyn i gyd, mi godais
Gyda'r wawr;
Trwy eira yr anturiais,
Gyda'r wawr;
A thrwy'r gaeafwynt oerddig,
Ac at y llyn cloëdig,
A gwelais deg enethig
Yn llwybro yno'n unig, gyda'r wawr.
Eisteddodd ennyd wrth y llyn
I siarad gair â mi;
Rhois innau'r llithrell dan ei throed,
Ysgafndroed, hoywdroed hi.
Ac yna gwibio freichfraich
Hyd wyneb llathr y llyn;
Ehedeg yma ac acw
Ar draws, ar hyd y llyn;
Anghofio oerwynt gaeaf,
Anghofio'r eira gwyn.
Ac wrth i ni brysuro'n
Gyflymach ar ein hynt,
Ei lliwddu wallt chwareuai
Yn ddifyr yn y gwynt,
A'r gwynt yn paentio'i deurudd
Yn gochach fyth na chynt.
Dywedodd, wrth ymado,
Na chawn mo'i gweled eto
Tan yr haf a than y caf
Droi adre'r amser honno.
A phan ddaw'r atgof imi
Na wela'i 'rhawg mohoni,
"Tros fy ngran, ledchwelan iif,"
Rhed dylif hylif heli.
***
III
Rhagfyr 6, 1889.
Aeth llawer diwrnod dros fy mhen
O heulwen a chymylau,
Mi welais wenau'r byd a'i ŵg—
Ond mwy o'i ŵg na'i wenau—
Er pan ges weld dy wyneb llon
I dirion wrando d'eiriau.
Ac yn y misoedd meithion hyn
Un emyn ni chylymais,
Na chân na salm ni chenais i,
Na rhigwm ni rigymais;
Anghofiodd fy neheulaw'n lân
Y gynnil gân a genais.
Pan oedd pob pren o brennau'r maes
Yn llaes ei fantell werdd,
A phob aderyn yn y llwyn
Yn gorllwyn melys gerdd,
A'r ddaear dan ei chwrlid gwyrdd
A'i myrdd o flodau mân,
Yr oeddwn i mewn cyni maith,
Heb afiaith chwaith na chân.
Distawodd cerdd y llwyn yn awr,
Diflannodd gwawr y rhos,
Fe gwympodd dail fe giliodd haf,
Daeth gaeaf a daeth nos.
Rhyw lili'r eira ydwyf fi,
Ond bod y lili'n dlos,
Neu eos, heb ei miwsig hi,
Yn canu yn y nos.
Pa fodd y canaf it fy hynt ?
Fy helynt a fu flin ;
Mi ges o wermod gwpan llawn,
A chydig iawn o win.
Ni wn paham y canwn am
Y wermod ar fy min;
Ac mae i ti athrylith gref
A wybydd am y gwin .
....
Gan hynny'n awr distewi wnaf,
Ni chanaf yn ychwaneg,
Ond imi gael gan fawr ei glod,
Wr hynod y ddwyfronneg,
Dy fod ar fedr ymweld ar frys
Â'r ynys ar y waneg.
Ac os i Ynys Fôn y doi,
(A pham na ddoi di weithion ?)
Mae aelwyd ŵyl a rydd i ti,
Os coeli, groeso calon;
Hyd hynny derbyn gyfarch cu
Dy gyfaill gyd a'i gofion.
ENGLYNION
MOES
Moes gusan mwynlan i mi;—ac ar hyn,
Rhag i'r rhodd dy dlodi,
Cei gan cusan am dani—
Dyna dâl am dy un di!
IAITH Y BLODAU
Pan rodiaf harddaf erddi,—e sieryd
Siriol flodau'r llwyni
Am dy wedd, fy nyweddi,
Hawddgared, teced wyt ti.
Dyna'r ddwys liwlwys lili,—hyawdl iaith
Am dy liw sydd iddi;
A'r rhos tan wrido'n honni
Hardded yw dy ddeurudd di.
Pob un yn teg fynegi—ei ganiad,
Ac yna'n ymroddi
Yn un côr i'th glodfori—
"Onid teg y lluniwyd hi?"
DAFYDD LLWYD SIÔR[2]
1903
Dafydd Llwyd a fedd y llu,—Siôr enwog
Sy arweinydd Cymru;
Dwyn ei genedl dan ganu
I'mosod ar ormes du.
Dafydd Llwyd a faidd y llu—a gyfyd
O ogofau'r fagddu;
Ni cha'r fall â'i holl allu
Ol ei garn ar Walia gu.
IEUENCTID
Llawn hyder llon ydyw'r llanc,—syberw yw
Yn ei asbri ieuanc;
Edrych am hoender didranc,
Heb un drwg, heb enw o dranc.
HENAINT
"Henaint ni ddaw ei hunan";—daw ag och
Gydag ef, a chwynfan,
Ac anhunedd maith weithian,
A huno maith yn y man.
CYWYDDAU
CYWYDD HIRAETH
a ganwyd ar gais Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
ar ol Cymdeithion a'i gadawsai, 1887
Dwyfol y canai Dafydd
Am y gog ac am y gwŷdd,
"A mwyn adar a'm carai,
"A merch a welais ym Mai";
Am Forfudd a'r gwallt rhuddaur,
Y gwallt melynach nag aur.
Hiraeth trwstan am dani
Oedd ei ddyri hebddi hi;
A'i gywydd yn y gaeaf,
Hiraeth am wên heulwen haf.
Amled yr ydoedd trymlef
Hiraeth yn ei araith ef—
"Hwn a'm gyr heno i'm gorwedd:
"Hiraeth, myn Mair, a bair bedd."
Hiraeth blin sydd i minnau
Am gyfeillion mwynion mau;
Hiraeth am yr Archdderwydd—
O, am wên yr awen rydd
I mi i ddisgrifio modd
Y medrus lyfn ymadrodd ;
Imi ganu am gynneddf
Y llais a'r parabliad lleddf,
A'r dull digrifbert o wau
Y dedwydd ddywediadau.
Ond pa un all adlunio,
Pa ddyn ei wymp ddoniau o?
Ni cheisiaf, ni fedraf fodd
I'w mydru; gwell im adrodd
Enghraifft o eiriau anghryg
Dafydd ar ol Gruffudd Gryg:
"Tros fy ngran, ledchwelan lif,
"Try deigr am ŵr tra digrif;
"Lluniwr pob deall uniawn,
"A llyfr cyfraith y iaith iawn."
Ond dan fy mron i'm llonni,
Y mae gobaith, a'i hiaith hi,
Yn ateb y cawn eto,
Ar ol ei daith hirfaith o,
Ganfod y teg awenfardd
Yn Rhydychen hên a hardd.
Dyfnach erchach ein harcholl
A'n cŵyn am gymdeithion coll.
I. O. Thomas aeth ymaith;
Do, do, gwelodd ben ei daith;
Ei drigfan sy'n y drygfyd,
Efô 'n sancteiddio'r hen fyd.
Ie, W. D. hefyd aeth;
Ond dilys erys hiraeth,
A'i Hiraethgan wiwlan o
Yn dôn er cof am dano.
Ymaith aeth Owen Bencerdd,
"Primas ac urddas y gerdd;
"Edn glwys ei baradwyslef,
"Aderyn oedd o dir Nef."
Collodd ein cerdd bencerddor
A'i lais mwyn fel su y môr.
Pwy wêl gantor hefelydd
I hen ganiad "Toriad Dydd"?
Pwy gân cyn fwyned wedyn
Unwaith gerdd "y Gwenith Gwyn"?.
Bellach, f'awen a ballawdd;
Yn hwy ni chanaf yn hawdd.
Bydded pob rhwydd-deb iddynt
I'w llwyddo oll, a hawdd hynt.
CYWYDD PRIODAS
OWEN M. EDWARDS
Mehefin 19eg, 1891
Llyna haf llon i hoywfardd,
A llyna fyd llon i fardd;
Llawen lawen, Owen, wyt,
O, ddedwydd ddedwydd ydwyt.
Llonned y wledd, llawn dy lys—
Mi 'n unig ym Môn Ynys,
A dychmygion llon a lleddf
Yn gwanu pob rhyw gynneddf:
Cofio am aur oriau'r Rhyd,
A dyddiau'r hen ddedwyddyd,
Oriau gwyliau Ap Gwilym,
Areithiau llon, ffraeth a llym ;
Hwyl dirion mewn gwlad arall,
Ac mor Gymreig ym mro all.
Arweiniwyd rhai o honom
O'r oreu dref ryw awr drom;
E fu wedyn ddyfodiad
I rai i lon dir y wlad
Gyrhaeddir wedi'r adwy—
Heddwch mawr dedwyddwch mwy.
D. M. a aeth—dyma un;
Gwelodd enethig wiwlun
A'i denodd a'i dewiniaeth,
Ac ef a'r fun yn un aeth.
T. G. hefyd, ti gofi,
Ganai ’n hên ganuau ni,
Bynciai ganiad "Toriad Dydd ”
Yn hwyliog ddihefelydd,
A dodi 'i brofiad wedyn
Yn iaith goeth "y Gwenith Gwyn."
Iddo torrodd dydd terwyn,
A Th. G. gadd wenith gwyn.
Dyna Bulston radlonair
Aeth o'u hôl, ŵr ffraeth ei air.
Nid yw'n eilio'r dôn “ Elwy”
Ar sain " y Bachgen Main" mwy;
Yn awr aeth yn ŵr i'w Wen,
A chawr bochgoch yw'r bachgen.
Gadawodd y wers bersain
Yn gân i mi, fachgen main.
Goreuddyn hygar heddyw
Aeth i'r wlad wen, Owen yw.
Pe'm holid pam mae heulwen
Heddyw i gyd yn hardd a gwen,
Ac anian, pam y gwena,
Pam mae'n llafar adar ha',
Buan iawn atebwn i,
'Eu brawd sydd i'w briodi,
'Adwaenai lendid anian,
'Garai'r adar mwynwar mân.'
Mae fy mron innau'n llonni,
Bu'n gyfaill mwyn, mwyn i mi;
A'i eiriau gwâr a gerais,
A'i wên lon, addfwyn, a’i lais.
Cofio'r wyf i mi'r hiraeth
A fu'n wir, yn hir, pan aeth
Ar led i dramor wledydd;
Erchais' wên yr awen rydd
'I mi i ddisgrifio modd
'Y medrus lyfn ymadrodd,
'I mi ganu am gynneddf
' Y llais a'r parabliad lleddf,
'A'r dull digrif bert o wau
'Y dedwydd ddywediadau.'
Cofiais iaith, "ddwbliaith ddyblyg,"
Dafydd wedi Gruffudd Gryg—
"Lluniwr pob deall uniawn,
"A llyfr cyfraith y iaith iawn."
Mwy, Elin, ïe, milwaith,
Na gair fy ngwan egwan iaith,
Nac amcanion dynion doeth,
A gefaist heddyw o gyfoeth.
Am aur clogwyni Meirion,
Neu blasau heirdd, ba les sôn?
Gyfoeth i'w ebargofi,
Werthid er dim wrth d'ŵr di.
Chwiliwch yn ystig ddigoll
Am ryw un drwy Gymru oll,
A geir un mwy rhagorol?
Nid ych yn nes. Dowch yn ôl.
Onid cyfion oedd lonni
Elin deg o'th galon di?
A thrysor i ragori
(O Elin deg, bydd lon di!)
Ar ei ddawn lawn goleuni,
Ar enw a dysg yw'th ran di.
Gwir gariad gwr a geri,
Decaf ystad, gefaist ti.
Oreu gŵr fe ŵyr garu,
Carodd ei "wlad, geinwlad gu";
Yn fore, rhoes i Feirion,
Euraid fro, gariad ei fron;
Gwelodd Wen liw goleu ddydd
Hyd fryniau gwlad Feirionydd,
Ac eilwaith ei holl galon
A'i carodd hi, lili lon.
Morynion bro Meirionydd—
Ba raid sôn?—yn hoywbryd sydd,
Yn hyfryd lân rianedd
Fal blodau'r drain, gain eu gwedd.
Ymysg y drain eiriain, hi,
Y loyw Elin, oedd lili.
Nid yw clod (cefaist glodydd—
Enw a saif, it, Owen, sydd),
Nid yw aur bath, na da'r byd
I'w ddymuno ddim ennyd;
Ac afraid yw ei gyfri
Wrth dy wyn flodeuyn di.
Wele Elin, dy lili,
Yn eiddo teg heddyw i ti.
Onid cyfion oedd lonni,
Owen, o'th fron dirion di?
A mwy fil na'i phryd lili,
A'i golwg ŵyl annwyl hi,
Oedd gariad merch a serchi;
Eithr hynny, daeth i’th ran di.
Gwyddost gyfrin ddoethineb
Lawer, yn llwyr, na ŵyr neb;
A oes dim a wyddost ti
Ar gariad yn rhagori?
Hyfryd yw y fro dawel,
Llyna fan yn llawn o fêl;
Y ddeuddyn hwyliodd iddi,
Hudol oedd, a'm gadael i.
Minnau i'r ddau ddymunaf
Fyth yno wên heulwen hâf;
Bydded tiriondeb iddynt,
A Duw yn nawdd, a hawdd hynt.
CYWYDD PRIODAS
W. LLEWELYN WILLIAMS
Gynt o Goleg y Trwyn Pres, Rhydychen, a chynt Arch-arogldarthydd
Cymdeithas Dafydd ap Gwilym; y pryd hynny yn Olygydd 'Seren y
Deheu'; yn awr yn Seneddwr dros Fwrdeisdrefi Sir Gaerfyrddin.
Rhyw lon newyddion heddyw
Yrrwyd im—a hyfryd yw.
O'm da ethol gymdeithion,
Ac ni bu un llu mor llon,
Y llonnaf oll ohonynt,
Heddyw llonnach yw na chynt.
A mi'n aros mewn hiraeth,
Mewn oer gwyn yma'n rhy gaeth,
Mewn hiraeth am hen oriau,
A chyfeillion mwynion mau,
Hiraeth am gwmni goroff,
A chŵyn am Rydychen hoff.
Oriau, dyddiau dedwyddion,
Rhy ddedwydd i brydydd bron!
O, hen ddyddiau rhy ddiddan—
Cofiaf yr addfwynaf fan;
Cyrddau gwyliau ap Gwilym,
A'u llond o ffraethineb llym;
Llu dfrif o fellt eiriau
O gylch y cwmpeini'n gwau;
Pob ystŵr, pawb a'i stori—
’D oedd neb mor ddedwydd a ni.
Siarad am hen amseroedd,
A beirdd byd, a hyfryd oedd;
A mwyn iawn darllennem ni
Gu harddaf rieingerddi.
O, pe gwelai Ap Gwilym,
Ennyd, y llon fwynhad llym—
Ap Gwilym, edlym odlau,
Fwyn ei gerdd, a fu'n eu gwau.
O bob rhyw hardd fardd a fu
Erioed yn diddan brydu,
Neu fwyn sôn wrth fun ei serch,
Neu gwynfan am ei geinferch,
Ni bu erioed neb o rym,
Neb o galibr Ab Gwilym.
Prydydd i'w lwys Forfudd fu,
Ac i hon bu'n hir ganu:
Prydydd i Forfudd f'eurferch
"I'm hoes wyf, a mawr yw'm serch ;
“Er yn fab, bryd eirian ferch,
"Y trosais iddi'm traserch."
A fu dyn o'n tyrfa deg
Yn gwrando cân gywreindeg
Ab Gwilym, heb i'w galon
Feddwl am ryw Forfudd lon
Yn rhywle'n yr oreuwlad,
Rhyw annwyl le'n yr hen wlad?
Ond ofer fu serch Dafydd;
Ni chadd ei Wen wych i'w ddydd.
I'w deg henaint y cwynwys
Ei hynt hir a'i somiant dwys:
"Hir oedi'm serch a'm rhydawdd,
"A byw o hyd ni bu hawdd.
"Dan fy swydd, lawer blwyddyn,
"Gorfod bod hebod, er hyn."
Ni bu'r galed dynged hon
Yn gwbl i'r hen ddisgyblion.
Diameu in, D. M. ŵyl
Oedd ddisgybl na chadd ddisgwyl,
Na'r Pencerdd hoywgerdd yn hir,
Na fynnodd yntau 'i feinir.
A phuraidd Archoffeiriad
Yn mynnu Gwen gymen gad,
Ac Archdderwydd dedwyddair,
A'r dôn leddf, a'r doniol air.
Daeth pob un o honun' hwy
Ymaith o'r Rhyd i dramwy;
Ac wrth rodiaw yn llawen
Ar ei hynt yng Nghymru wen,
Cyfarfu â'r decaf Forfudd,—
Canu'n iach bellach ni bydd;
Di ball eu mwynhad bellach,
Heb draha 'r un Bwa Bach.
Heddyw ym Môn rhyw sôn sydd
Wrthyf am Arogldarthydd
A aeth ac a wnaeth, yn wir,
Yr un modd a'r rhain, meddir.
Y llonnaf oll hwn a fu
O'r dilesg hygar deulu;
Ac ef a faith gofiaf fi—
Ystyriaf ei ffraeth stori;
Ac yn aml dychmygu wnaf,
Yn bur ddedwydd breuddwydiaf
Fy mod yn canfod y cylch
Yn ymgom fyth o'm hamgylch;
Hyglod ŵr yr arogl darth
Yn didor greu ei dewdarth,
Ac aml y mae 'i gwmwl mwg
Yn ei gelu o'n golwg;
Ond wrth ffrwd ei araith ffri,
Hynod bob gair o honi,
Wrth ei nåd a'i chwerthin o,
Adweinir ei fod yno.
A gwir iawn mai gŵr hynaws
A llon oedd, didwyll ei naws;
Aml awr bu fawr fy hiraeth
Am wir ffrind, ac un mor ffraeth.
Wedi byr gerdded y byd
E welodd ei anwylyd;
Ei anwylyd oedd Neli,
A'i Forfudd ddedwydd oedd hi;
Ac o flodeu Deheudir
Ni welai ail Neli, wir;
Neli oedd ei lili lon,
A Neli aeth a'i galon.
E gadd y lleill, gwiwddull wedd,
O geinaf flodau Gwynedd,
Neu bwysi teg Bowys dir,
Hyfrydwch penna'r frodir.
Oni welais mo Neli
Irdwf hardd, ni chredaf fi
Fod o fun yn Nyfed faith
Ail i Neli wen eilwaith.
E wyr y llanc geinder llun,
A Neli gaffai'n eilun.
Anwylodd ef ei Neli,
A cha'r tâl o'i chariad hi;
Ca ryw nef o dangnefedd
Yn awr yn ei hinon wedd
A'i golygon hoywlon hi,
Ac yn heulog wên Neli;
A Neli wen ei haul yw,
Hyn a wyddom ni heddyw.
Ef yn siriol fwyn Seren
Yn tywynnu bu uwchben
Ryw eirian belydr araul—
Yn Neli wen wele 'i haul.
A chaffed ef dangnefedd
Fyth yn llewych gwych ei gwedd;
A'i londer ef fo'n peri
Lonni o'i hoff galon hi,
I gynnal yn ei gwiwnef
Ei heulaidd wawl iddo ef.
A hyd byth, byth, felly bid
I Londer ac i Lendid.
Nac anghofiant chwaith, weithiau
I'w hoenedd oll, ffrind neu ddau
Mewn oer som yn aros sydd,
A du ofid fel Dafydd.
Ond er dim na rwystred hyn
Eu mwynhad un munudyn.
Bendithion haelion y nef,
A'i heddwch ar eu haddef!
Rhagfyr 1891.
AWDLAU
CYMRU FU : CYMRU FYDD
I wlad Gymru bu mil beirdd,—a'u mêl wawd
Aml ydoedd; a phrifeirdd
Ynddi yn gwau odlau heirdd.
Wele, di gêst, wlad y gân,
Do, beraidd wawd y beirdd hên ;
Cefaist Ddafydd gywydd gwin
Yn eu mysg, a Gronwy Môn.
Hen feirdd fu i Gymru gynt—
Oedd gynnes cerdd a genynt,
Annisbur odlau 'sbrydlon
Yn frwd o eigion y fron.
O, fal y cenid, o fawl acenion,
Gerddi dwys agwrdd i dywysogion,
Didlawd ofegwawd i bendefigion,
Hen wŷr i daro dros Gymru dirion,
Colli eu gwaed dan draed er hon, —wladgar
Wyr dewrwych, a hygar eurdorchogion.
Molai Taliesin
Urien ac Elffin
Gynt, ac Aneirin gant gân hiraeth—
Canu Gododin
"Cydwyr cyfrenin,"
Wylo am fyddin cytrin Catraeth.
Oer och oedd i Lywarch Hen
Alaru ar ol Urien;
Eilwaith wedi Cynddylan
Erys co'i alarus gân:
"Stafell Gynddylan ys tywyll—heno,
"Heb dân heb gerddeu;
"Dygystudd deurudd dagreu."
Meilir gynt, molai ar gân,
Cwynai ar ol Ap Cynan;
Gwalchmai'n hoyw i'r gloyw ei gledd
A ganai—Owain Gwynedd;
Cynddelw unddelw a wnâi,
Neu Gyfeiliog a folai;
E gant Cyfeiliog yntau,—
Llyw oedd a bardd, llwydd ei bau,—
Ys moli aerweis Maelor,
Nifer gwych, yfwyr ei gorn.
I'w lyw y canai Lywarch
Ap Llywelyn—myn fy mharch;
Godidog eurfant gantawr
Fu ef i Lywelyn fawr.
Bleddyn fardd a'i wawd harddaf,—a'r enwog
Ap yr Ynad gofiaf,
Os cofiaf y dewraf dyn,
"Llywelyn ein llyw olaf."
Nid oes i ni dywysog,
A gwir yw, wedi ei grog.
Walia wen, O, alanas!
Ei holaf lyw, ef a las.
O lwyr ing i wylo'r af,
I ddirgeledd ergiliaf,
Och! fy nhud, a chofio wnaf
Lywelyn dy lyw olaf.
Ar ol Llywelyn eraill a welaf,
Yn urdd o ryw gewri, feirdd rhagoraf.
Iolo Goch, ynad glew gwych a enwaf;
Engir ydd eiliodd wawd angerddolaf
Yn hwyrddydd ei oes harddaf—i Lyn Dŵr—
Mawr ddiffynnwr Cymru oedd a'i phennaf:
"Dyre i'n gwlad, dur iawn gledd,
"Deyrnaswr drwy ynysedd ;
"Dyga ran dy garennydd,
"Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd!"
Cofiaf gu harddaf gerddi—hael awen
Lewis o Lyn Cothi;
Goleuddawn fawl arglwyddi,
Golud a nawdd ein gwlad ni,—
Dewr i'w gwarchadw rhag archoll,
Neu gam ran, hen Gymru oll.
Yntau â'i gân a'u taniai,
Yn enw y Nef, hynny wnâi :
"Arth fry ydwyt wrth fradwr ;
"Tâl frad, trwy gennad un Gŵr."
I ryfela, dewr filwyr;
Fuon' hwy, a chyfiawn wŷr:
"Ar gelwydd y gyr gilio,
"Ac ar y ffals y gyr ffo."
Gwŷr iawn a garai heniaith,
Gwŷr hael a garai eu hiaith:
"Yn y plas cwmpas y caid
"Brud heniaith y Brutaniaid."
Ein hiaith i'n bonedd heddyw,
"Barb'rous jargon" weithion yw;
Sŵn traws y peasant," a rhu
I'r " ignorant" i'w rygnu.
Bwy, fy ngwlad, yn geiniad gai
I philistiaeth a'i phlasdai,
Tref Gath a'i Goliathau?
Am salmydd, Ddafydd neu ddau!
Uchel loyw—wawd, na chlywem!—sain hygar
I Seisnigaeth falchdrem;
Rhydd eilier rhyw gerdd hoywlem―megis tân,
Hoyw brysur fo'r gân i breserfwyr gêm.
Rhown arwyrain aur-eiriog—am radau
Ein Nimrodiaid nerthog;
Heliant gadarn 'sgyfarnog
Heb eiliw ofn, ac heb lôg!
Geir adrodd eu gwrhydri
A'u glewdid i'w hymlid hi?
A dygwch ddethol folawd,
A pharch i chwareuon ffawd,
A dygwch i redegwyr
Ceffylau—a gorau gwŷr;
Moeswch, llefwch yn llafar
Eu peraidd glod, giwdod gwâr!
Rhyw chwai eiriau rhy chwerwon?
Chwerw, fy mrawd, a chur fy mron.
Hen fonedd a fu unwaith
I'n gwlad gu, loywed eu gwaith!
I'w lle daeth bonedd heddyw,
A'u goreu waith gware yw;
Gware yw eu goreuwaith,
Ba waethaf eu gwaethaf gwaith?
Yn rhyw garn Saeson trawsion y troesant,
A'r groyw—iaith wiwdeg Gymraeg wrthodant,
Sarhaus, trahaus y'i diystyrasant.
Eres trwy oesoedd eu gwlad rwystrasant,—
Yn lle'i llywyddu i wellwell lwyddiant,
O'u calon yn gyson dirmygasant
Ei holl ddyhewyd, ei chŵyn a'i mwyniant;
A'i chrefydd lwys, dwys y'i herlidiasant ;
Un da o Walia welant :—y rhenti
 rheibus egni o'r bau a sugnant.
Ond prif wyddfod
Yr Eisteddfod
Am aur y god, O Gymru! gânt;
Ac yn y lleoedd uchaf y safant,
Dieithr eu drych, odiaeth, yr edrychant,
A'u Saesneg carnbwl geciant—i foli
(Ys diwerth stori!) iaith ddiystyrant.
Adrodder teg, hardd—deg hynt,
A hanes un ohonynt.
Am ei ddawn ef, meddiannu
A chydio maes wrth faes fu;
Gormesu bu ar y bobl,
O dir cyd myned a'r cwbl,
I'w feddu oll ef oedd abl.
I wirion tlawd yn aros
Yr oedd ochr ffordd a chwr ffos.
Daw rhyw wan truan un tro,
Ag amrant ŵyl, rhyw Gymro,
Yn isel iawn i geisio
Lle i'w fwth, y lleiaf fo;
Gofyn darn i fyw arno
O annwyl dir ei wlad o!
A'r lleidr mawr, mor llawdrwm yw!
Rhyw gidwm terrig ydyw;
'Dos,' medd ef, 'os dewisi,
'Yno dod dy fwthyn di;
'Ac i'th arglwydd bob blwyddyn
' Rhoi'n rhent ryw hyn a rhyw hyn.'
Mwy yna o swm enwir
Na holl werth y diwerth dir.
'Ond cofia, daw y cyfan
'Yn eiddo i mi'n y man.
'Dos, fel hyn, os dewisi,
'I fyw'n rhad ar fy nhir i.'
O wron! O wladgarwr!
O haelionus serchus wr!
“Oes genau na chais ganiad,
"A garo lwydd gwŷr ei wlad?"
Awn ymlaen ddeugain mlynedd,
Y mawr fawr ysbeiliwr fedd
Faith dref a'r holl gartrefi
A wnaeth ei thrigolion hi;
Ni fu raid i'w fawrhydi—godi maen,
Na rhoi ar faen un maen o'i meini.
Yna'r hocedwr cadarn
Aeth o fyd yn noeth i farn.
A ddywedwyd yn ddidwyll
Erioed am ei ddirfawr dwyll,
Am i'r gwr orthrymu'r gwan,
A'i hynaws garu'i hunan?
Neu gadd yr arglwydd a'i lwyddiant—ei droi
Yn drist i fro'i haeddiant,
Bro gyfiawn ebargofiant,
Yn ddison, heb dôn, heb dant?
Naddo; eithr fe gyhoeddir
Eisteddfod hynod cyn hir;
A rhennir cadair honno
Am ddidawl fawl iddo fo.
Gyda'r ferth gadair e fydd
Melynaur i'r moliennydd.
Yna'r beirdd er y wobr ddaw
I eiliaw cân o foliant;
Yn ddilesg iawn ydd eiliant, ei ddirit
Haelioni foliannant;
Wedi gwau ei radau gant,
Ei haelioni ail enwant.—
Y wlad a'r tai ladrataodd,—yna
Ambell geiniog rannodd;
Weithion ei waith (a thawn ni)
Heb wyrni Duw a'i barnodd.
Wenhieithwyr, gwybyddwch chwithau,—melltith
A malltod i'n ffroenau
Yw'ch odli gwag, a'i chwedl gau,
Anfadwaith eisteddfodau.
Ai er gwobr, neu am ryw ged
Yr wylodd Tudur Aled ?—
A hynny am wŷr uniawn,
Ac am wŷr oedd Gymry iawn.
Wedi'u marw dyma’i araith—
A mawr ei ofn am yr iaith—
"Duw gwyn, er digio ennyd,
"Ai difa'r iaith yw dy fryd?"
Yr awr hon, nid er yr iaith—na'n cenedl
Hen y cawn gywreinwaith;
Ond cawn aflerw oferwaith,
Lawer, er mael—gwael yw'r gwaith.
Ie'r wobr a â a hi,
A'r elw sydd yn rheoli ;
Rhyw genedl gaeth—saeth yw sôn—
Yma ŷm yn llaw Mamon.
Arglwyddi, yn wir, gwleddant
Yn segur ar gur rhyw gant;
A beirdd sydd ofer gleriach
Yn brefu am ryw wobr fach;
A gweision Iôn, hyn sy'n waeth—
Boddio am gydnabyddiaeth,
Neu ymladd am hen waddol,
A'r wir efengyl ar ol.
Am ysbryd dewr y cewri
Welid un waith i'n gwlad ni!
Ymosod ar bechodau,
Dinoethi pydrni ein pau;
Pregethu'r Mab a'i aberth,
A'i fyw hardd, mwyaf ei werth.
Nid un budd, cydnabyddiaeth,—na degwm
A'u dug i'r filwriaeth;
Taniodd Iôn eu calonnau
Â’i rasusau, hwythau aeth.
Nid rhyw ffurfiol reolau,—a dadwrdd
Gosodedig eiriau;
Un allor na chanhwyllau,
Nid rhwysg gwag a rhodres gau.
Nid naddu diwinyddiaeth,—a hollti
Gwelltyn coeg athroniaeth,
A hedeg uwch gwybodaeth,
O olwg gŵr, i niwl caeth.
Ond yn goedd, argyhoeddi—y byd drwg
O bob trais drygioni;
Ni wyrent genadwri
Crist ei hun—ein heilun ni.
A fu ail neu hefelydd,—neu goethed
Pregethwr y Mynydd?
Paul oedd burion athronydd—
Ond awn at Ffynnawn y ffydd.
Hyd ddaear werdd bu'n cerdded,—a rhoes wir
Esiampl i'w dynwared;
Ac athro fu 'mhob gweithred,
A geiriau Crist yw gwir Cred.
Ni ddaeth i ddiddymu'r ddeddf :
E roddes in oreuddeddf
Gyflawnach na'r ddeddf arall,
Fanylach, llymach na'r llall.
A nod angen ei gennad—
'A wnêl ewyllys fy Nhad!'
Pa le y mae gwŷr ëon
A faidd fynegi'r ddeddf hon?
Ym mryn a dyffryn mae Cymru'n deffro—
'Mae y cyfryw oedd i'm cyfarwyddo?
'Mae y dewrion, heb ofni ymdaro,
'El i wyneb y gelyn heb gilio—
Wŷr o ffydd a'i gyr ar ffo?—mae'r cyfiawn?
'Mae im wŷr uniawn? Mae a'm harweinio?
Eithr os du yw, na thristawn;
Mewn da bryd, cyfyd cyfiawn
I'th arwain o gaeth oror
I rydd wasanaeth yr Iôr;
Dwyn o aflan wasanaeth
Gau Famon feibion dy faeth :
E dyr gwawr, wlad ragorwen,
Nac wyla, O Walia wen.
Di fegi bendefigion,—oreugwyr,
Uchelwyr, â chalon
I'th garu, fy nglân fanon,
A charu 'th iaith, heniaith hon.
Ac fe ddaw it heirdd feirddion—i ganu
Gogoniant y cyfion;
Ac â newydd ganeuon,
A thanbaid enaid y dôn'.
Gwyr crefydd a geir, cryfion—yn nerth Duw,
Wrth y dyn, yn eon
Gryf a lefair air yr Iôn—
Ofni Duw'n fwy na dynion.
Ystryw ac anonestrwydd—celwyddog
Gladdant mewn gwaradwydd;
Rhagrith diafil a'i bob aflwydd,
Gweniaith, ffug waith, ffy o'u gwydd.
Ni bydd rhith lledrith anlladrwydd—drwot,
Distrywir pob arwydd;
Gwlad ry eurglod i'r Arglwydd,
A thi'n wlad o faith iawn lwydd.
Ni thrig annoeth ddrygioni—ynod mwy,
Na dim ol gwrthuni;
Nac anwybod na thlodi,
Yn wir, nid adwaeni di.
Ynod bydd pob daioni,—hoff bau deg,
A phob digoll dlysni;
Pob gwybod a medr fedri;
Aml fydd dy ddrud olud di.
Gras a dysg, oreu ystôr,
Ynod gaf yn dygyfor;
Ba ryw wall a fydd i'm bro?
Ba ddawn a'r na bydd yno?
Geiriau annwyl Goronwy,
Yr awr hon fe'u gwirir hwy :
"Yn lle malais, trais, traha,
"Byddi 'n llawn o bob dawn da,
"Purffydd, a chariad perffaith,
"Ffydd yn lle cant mallchwant maith;
"Yn lle aflwydd, tramgwydd trwch,
Digon o bob rhyw degwch,
"Undeb, a phob rhyw iawnder,
"Caru, gogoneddu Nêr. "
Dyma wlad wen ysblennydd,
O feirdd, wele Gymru fydd!
Och wŷr, na syllwch arni
Heddyw am ei bod ddu hi;
Caeth yw, ac ar ei haraul
Hoff wedd hi y craffodd haul;
Ac ym mro Aifft, Gymru wiw,
Os du wlad, ys telediw!
Bwy gei o'th feib, o gaeth fan,
A'th ddwg yna i'th Ganaan?
Chwi feib awen, eleni,
Cyfodwch, cychwynnwch chwi :
I'r anghred rhodder enghraifft,
Rhodder her i dduwiau'r Aifft.
Cenwch ogoniant Canaan,
Cenwch ei phryd, gloywbryd glân;
Amled ynddi lili lon,
A rhyw siriol ros Saron;
Ac O, yr enwog rawnwin
A geir i'w gwinllannoedd gwin!
Gwridog o ryw deg aeron
Llwyni a pherllannau hon;
A'i ffrydiau hoff a redodd
Laeth a mêl, helaeth modd;
O chenwch, cenwch bob cân
Ag wyneb tua'r Ganaan.
***
A gâr rhyw fab gwir ei fam?
Un eilfydd i'w anwylfam?
Minnau, ai hoff i'm henaid
Fal Cymru gu un fro gaid?
Gweddw fam gynt a'm magodd fu,
Hon gerais os gwn garu;
Gymru lân, wyt ychwaneg—
Chwaer wyt im, a chariad deg.
Pob rhyw aur, rhuddaur roddwn,
Mwy na gwerth pob meini, gwn,
Rhyw iesin feini crisiant,
Neu iasbis gwych hysbys gant;
A pha'r oroff fererid,
Neu ba'r em fyddai'n rhy brid?
Mwy na pherl, gem na phuraur,
Rhof iddi well rheufedd aur—
Rhoi'r fron a'r galon i gyd,
A'r llaw fau, a'r holl fywyd,
Pob myfyr pwyllig digoll,
Yn barod iawn a'm bryd oll:
Fy nyddiau rof yn addwyn,
Ië, rhoi'm hoes er ei mwyn.
Ac mae rhyw fil, Gymru fau—
Dynion canmwy eu doniau—
Ddyry eu hardd einioes ddrud,
Ddihefelydd fyw olud!
O, deced ymysg gwledydd,
Ac O, mor fawr Gymru fydd!
Dy loyw ddawn dy gyfiawnder—yna geir
Yn deg wawl goleuber;
A thi, ys hardd ymhlith sêr,
Dywynni'n gannaid Wener;
Ac ar goedd, holl bobloedd byd
A wêl hefyd dy leufer.
Fy nhudwedd, dyma 'ngweddi—
Weld awr deg dy loywder di.
A thithau, gorthaw, f'awen;
Doed yr awr, Iôr mawr. Amen.
Salm i Famon
I
CANAF, brwd eiliaf ryw dalm—o loyw fawl |
Cyfled yw dy gred â daear gron, |
Yn neuadd yr hen addef |
Aeth i'w byrth i'w aberthu. |
Gorhoffwaith hen argraffwyr; |
Fe'u medd hwynt, ac fe'i medd hi. |
A'i geyrydd enwog a'i ardduniant; |
Dilun a diles, |
II.
Ti'n uchaf a ddyrchafwyd—a'th gryfion |
|
A haul nef, a glaw hefyd, |
Plotos pa elw yw iti |
Ond gwatwarwyd ei broffwydi, a'i deg. |
Yna'i diddig Iôr a ddigiwyd, |
III.
|
Rhyddid i bawb a rodier—yw rheol |
"Nid cyson Mamon â Mi": |
Byddi'n ei ffugiol foli |
Fe'u rhoist oll i'th ffafrweis tau; |
O fawr chwant dy ariant di: |
I'r chydig etholedigion—fyw'n wych, |
Gwerth bob rheufedd a feddi |
Diau y dywedai, "Adyn |
CYFIEITHIADAU
O'r Almaeneg
CATHLAU HEINE
Ganed Heinrich Heine, o rieni Iddewig, yn nhref Düsseldorf ar y 23ain o Ragfyr, 1799. Bywyd helbulus a fu iddo. Yn 1831 fe aeth o'i wir fodd i drigo'n alltud yn ninas Paris; ac yno, wedi cystudd maith a phoenus, y bu farw, ar y 17eg o Chwefror, 1856. Seinier yr enw Heine yn ddwy sillaf, fel petai'n air Cymraeg.
I
Codi'r bore wnaf, a gofyn,
"Ddaw f'anwylyd i?"
Gorffwys yn yr hwyr, a chwyno,
"Draw'r arhosodd hi.
Gorwedd yno'r nos yn effro,
Gyda'm gofid prudd;
Wedyn crwydro'n hanner huno
Dan freuddwydio'r dydd.
II
Brydferth grud fy holl ofalon,
Brydferth fedd fy heddwch i,
Brydferth ddinas, rhaid im d'adael,
Rhaid im ganu'n iach i ti.
Canu'n iach i'r santaidd hiniog,
Lle'r ymdrý ei hysgafn droed;
Canu'n iach i'r fangre santaidd,
Lle gwelais f'annwyl gynta' rioed.
Pe erioed na'th ganfuaswn,
Ti frenhines deg fy mron,
Heddyw ni buaswn isel
Yn fy mhrofedigaeth hon.
Ni fynnais fennu ar dy galon,
Am dy serch ni cheisiais i;
Digon im oedd byw yn dawel
Lle'r ehedai d'anadl di.
Tithau sy'n f'alltudio ymaith,
Gair dy enau chwerw yw;
Mae gwallgofrwydd i'm meddyliau,
Ac mae 'nghalon glaf yn friw.
Llusgaf draw ar ffon pererin
Gorff lluddedig llwyd ei wedd,
Nes cael rhoi fy mhen i orffwys
Yn fy oer bellennig fedd.
Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/112 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/113 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/114 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/115 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/116 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/117 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/118 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/119 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/120 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/121 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/122 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/123 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/124 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/125 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/126 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/127 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/128 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/129 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/130 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/131 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/132 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/133 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/134 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/135 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/136 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/137 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/138 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/139 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/140 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/141 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/142 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/143 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/144 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/145 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/146 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/147 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/148 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/149 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/150 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/151 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/152 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/153 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/154 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/155 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/156 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/157 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/158 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/159 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/160 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/161 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/162 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/163 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/164 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/165 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/166 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/167 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/168 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/169 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/170 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/171 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/172 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/173 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/174 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/175 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/176 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/177 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/178 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/179 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/180 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/181 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/182 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/183 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/184 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/185 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/186 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/187 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/188 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/189 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/190 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/191 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/192 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/193 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/194 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/195 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/196 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/197 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/198 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/199 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/200 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/201 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/202 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/203 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/204 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/205 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/206 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/207 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/208 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/209 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/210 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/211 Tudalen:Caniadau John Morris-Jones.djvu/212
RHYDYCHEN: FOX. JONES AND CO., ARGRAFFWYR, KEMP HALL
Nodiadau
[golygu]Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.