Cymru Fu (testun cyfansawdd)

Oddi ar Wicidestun
Cymru Fu (testun cyfansawdd)

gan Isaac Foulkes

I'w ddarllen pennod wrth bennod gweler Cymru Fu

Gellir darllen y testun gwreiddiol fel rhith lyfr ar Bookreader

Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Isaac Foulkes
ar Wicipedia

“CYMRU FU;”


YN CYNWYS


HANESION, TRADDODIADAU,


YN NGHYDA


CHWEDLAU A DAMMEGION CYMREIG.


(ODDIAR LAFAR GWLAD A GWEITHIAU Y PRIF AWDURON).




WREXHAM:


CYHOEDDEDIG GAN HUGHES AND SON, HOPE STREET.

RHAGDRAITH.


Nid oes genym ond hyderu y ca y darlleuydd gymaint o hyfrydwch wrth ddarllen y Gyfrol hon ag a gawsom ni wrth ei chasglu a'i hysgrifenu. Y mae llawer o honi “oddiar lafar gwlad,” heb fod yn argraffedig erioed o'r blaen; ac y mae y gweddill wedi ei loffa o weithiau awduron enwog nad allai y gweithiwr, yr hwn ydyw colofn gogoniant llenyddiaeth Gymreig, byth fforddio eu pwrcasu. Bu raid i ni aralleirio rhai pethau, megys “Ystori Cilhwch ac Olwen,” ond, wrth wueyd hyny, ein hamcan oedd ei chyfaddasu at briodiaith arferedig yr oes hon, ac ar yr un pryd gadw yn ddilwgr yr hen arddull cynwynol a phrydferth Cymreig. “Yn mhob llafur y mae elw,” meddai yr hen ddiareb; os gwir hyn, dylai fod elw mawr iawn ar y Llyfr hwn.

Y DETHOLYDD.

Hydref 25, 1862.

CYNNWYSIAD.

TUDAL.

Arwyddion AngeuOfergoelion .. .. .. 296

Bedd yr Yspeilydd 98

Branwen Ferch LlyrHen Fabinogi Cymreig . . 303

Cader Idris .. .. .. .. .. .. 17

Cae'r MelwrGlasynys .. .. .. .. .. 101

Cant o Hen Bennillion Cymreig .. .. .. .. .. 360

Cantref y Gwaelod . . . . . . . . . . 5

Ceubren yr Ellyll .. .. .. .. .. 48

Chwedl Rhitta Gawr .. .. .. .. .. 46

Chwilio am arian Daear , . . . . . . . 448

Cymru Fu/Dameg yr Hen Wraig a'r Edafedd . . . . . . 184

Dafydd y Garreg Wen.. .. .. .. .. 343

Dalen o Gôf-lyfr y Marw .. .. .. .. .. 26

Diarhebion Cymreig, 300 o.. .. .. .. .. 227

Diarhebion Cymreig .. .. .. .. ..314

Edmund Prys, a Huw Llwyd o Gynfal . . . . 174

Eiry Mynydd .. .. .. .. .. ..180

Einion Ap gwalchmai a Rhian y Glasgoed — Dameg .. .. .. .. .. ..352

Ffynon Llanddwynen . . .. .. .. .. .. ..423

Ffowc Ffitzwarren (Damheg) .. .. .. .. .. ..84

Ffrae Farddol yn yr hen amser .. .. .. .. .. ..81

Ffynon Elian .. .. .. .. .. ..30

Ffynon Gwenfrewi .. .. .. .. .. ..31

Ffynon Tegla . .. .. .. .. .. ..29

Glyndwr a'i Fardd .. .. .. .. .. ..83

Gwrtheyrn a'i Amseroedd .. .. .. .. .. ..108

Gwylliaid Cochion Mawddwy .. .. .. .. .. ..35

Hen Benillion . . .. .. .. .. .. ..489

Hen ddefod gladdu Gymreig .. .. .. .. .. ..173

Hen Lanciau Clogwyn y Gwin .. .. .. .. .. ..487

Iarlles y Ffynon— Hen Fabinogi Gymreig .. .. .. .. .. ..379

Iarll Richmond a'r Brudiwr . . .. .. .. .. .. ..28

Idwal o Nant Clwyd .. .. .. .. .. ..85

Iolo Morganwg .. .. .. .. .. ..331

Jac y Lantern . . .. .. .. .. .. ..355

Llewelyn, ein Llyw Olaf — Bywgraffiad .. .. .. .. .. ..255

Llwyn y nef .. .. .. .. .. ..183

Llyn y Morwynion—Chwedl . . .. .. .. .. .. ..319

Mân-gofion 1.. .. .. 248

Mân-gofion 2 .. .. .. .. .. .. 373

Mân-gofion 3. . . . . . . . . . . . 494

Margred Uch Ifan . . . . . . . . . . 247

Math ab Mathonwy — Hen Fabinogi Gymreig .. 157

Noson yn yr Hafod . . . . . . . . . . 357

Nos Galangauaf yn y Cwm . . . . . . . . 334

Nos Nadolig .. .. .. .. .. ..399

Owen Glyndwr .. .. .. .. .. ..127

Pennod Cynddelw:—

Gefael Gŵn .. .. .. .. .. ..482
Môn, Mam Cymry.. .. .. .. .. ..485
Nawdd Gwraig .. .. .. .. .. ..485
Rhys Grythor .. .. .. .. .. ..486
Tras a Pherthynas .. .. .. .. .. ..483

Priodas yn Nant Gwtheyrn .. 210

Priodi a chladdu yn yr hen amser 88

Rhys Grythor . . . . . . . . 300

Robin Ddu Ddewin . . . 236

Sôn am Ysprydion . . . . 204

Sul Coffa Ifan Delyniwr . . . . . . . . 445

Syr Hywel ab Huw . . . . 37

Syr Lawrence Berkrolles ac Owen Glyndwr. . . . . . . . . . 43

Taliesin Ben Beirdd . . . . . . . . 13

Traeth yr Oerlefain . . . . . . . . 244

Traddodiadau Eryri . . . . . . . . . 465

Tudur Aled a'r Bysgodwraig .. .. . .. 185

Twm Sion Catti . . . . . . . . 371

Twm Gelwydd Teg . . . . . . . . 34

Y Crochan Coel . . . . . . . . 481

Y Creaduriaid Hirhoedlog .. .. .. .. 172

Ystori Cilhwch ac Olwen . . . . . , . . 52

Ystori Doctor y Bendro . . . . . . . . 43

Y Derwydd....... 49

Ystori Doethion Rhufain . . . . . . . 186

Y Diwyd a'r Diog.. .. .. .. .. 375

Y Forforwyn . . . . . . . . . . . . 434

Y Ffynonydd 29

Y Gwiberod .. .. .. .. .. .. 424

Y Pedair-camp-ar-hugain . . . . . . . . 95

Ymddiddan rhwng y Bardd a'r Llwynog. . . . 347

Y Naw Helwriaeth . . . . . . . . . . 96

Y Tylwyth Teg . . . . . . . . 175

Y "Wlad" a "Syr Oracl" . . . . . . . . 23

HANESION CYMREIG, &c.


CANTREF Y GWAELOD.


Cantref y Gwaelod oedd ddarn anferth o dir yn gorwedd ar yr ochr orllewinol i Gymru, a orlifwyd gan y môr, ac a orchuddir yn bresenol gan donau cythryblus Beisfor Aberteifi (Cardigan Bay). Cymerodd hyn le tua chanol y 5ed canrif. Tywysog y Cantref y pryd hwn oedd Gwyddno Garanhir, neu hirgoes, a elwid hefyd Dewrarth Wledig, mab i Gorfyniawn ab Dyfnwal hen, brenin Gwent ab Ednyfed, ab Macsen Wledig. Yn meddiant Gwyddno yr oedd un o dri thlws ar ddeg ynys Prydain, sef "Mwys [cawell] Gwyddno Garanhir, bwyd i ungwr a roid ynddi, a bwyd i ganwr a geid ynddi pen egorid." Math o rwyd pysgota ydoedd hwn, a'r abwyd roid ynddi yn abl i ddigoni ungwr, ac yn foddion i ddal cynifer o bysgod ag a ddigonai gant o wŷr. Yr oedd Gwyddno yn fardd hefyd fel y cawn brofi yn ol llaw.

Gweirglodd-dir cnydfawr oedd y Cantref, llawn o ffrwythgoed a blodau, canys ymddengys fod y trigolion ym bobl foethus, ac yn ymloddesta cryn lawer ar y gwin a'r medd, cynyrch eu gwinwydd a'u gwenyn eu hunain. Pa fodd bynag, perthynai iddo un anfantais bwysig, sef ei fod yn sefyll mor isel fel yr oedd yn angenrheidiol codi gwrthglawdd rhyngddo â'r môr, rhag ei orlifo. Yn y clawdd hwn, ar gegau yr afonydd, yr oedd dorau, y rhai a gauid ar ddystill llanw, ac a agorid ar ddystill trai, er mwyn i'r dwfr, oedd wedi croni a llynio, lifo allan. Swydd bwysig oedd gofalu dros y dorau hyn, oblegyd yr oedd bywyd yr holl Gantref yn crogl wrthi; ac ymddengys y byddai y tywysog yn chwilio am ŵr o sefyllfa led uchel, o ran cyfoeth ac urddas, i ymgymeryd â hi. Y drysawr yn amser Gwyddno ydoedd ŵr o'r enw Seithenyn ab Seithyn Seidi tywysog Dyfed. Pa beth bynag ellir ddywedyd am waedoliaeth Seithenyn, anhawdd fuasai dychymygu person mwy anaddas nag ef i lenwi y swydd hon, oblegyd gosodir ef allan yn y Trioedd fel un o dri “Charnfeddwon Ynys Prydain.” Nid ydym yn gwybod am well testyn i'r areithydd dirwestol na bywyd Seithenyn ab Seithyn Seidi.


Dywed y Trioedd mewn man arall y ceid yn y Cantref “un ddinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon ar Wysg.” “Hafan Gwyddno, yn ngogledd Cymru,” oedd “un o dair prif borthladdoedd ynys Prydain;” a chan ei bod yn sefyll yn y rhan hono o'r môr rhwng Sarn Badrig a gwlad Feirion, nid rhyfedd ei hystyried mor rhagorol. Ysgrifenwr darfelyddol a roddasant yr enw o Mansua i'r porthladd hwn, a dygid masnach helaeth yn mlaen rhyngddo a Llydaw a manau ereill o'r Cyfandir. Gelwid y brif-ddinas yn Gaer Wyddno, yr hon a safai ar gwr eithaf Sarn Gynfelyn, gerllaw Aberystwyth; ac yma yr oedd palas y tywysog. Dynodir y fan yn bresenol gan adfeilion hen furiau.


Dyna hanes byr y Cantref anffodus hwn cyn ei orlifiad; ond y mae deddfau natur yn ddigyfnewid — i fyny y dring y fflam, i'r pant y rhed y dwfr — ac y mae trueni bob amser wrth sawdl afradlonedd. Melldith y bobl hyn fu glythineb, ac ar ŵyliau yn enwedig gollyngent y ffrwyn ar wâr blys. Un o'r gwyliau hyn, tra yr oedd pawb yn ymddigrifo mewn gwleddoedd a rhialtwch, a Seithenyn y drysawr gan wamaled ag un ohonynt, efe yn ei feddwdod a esgeulusodd gau y dorau cyn nos, a daeth y llanw i fewn, yn cael ei hyrddio gan ruthrwynt gollewinol. Goddiweddodd hwynt mor ddirybydd ag angau disyfyd; llwyr ddinystriodd eu perllanau; dadwreiddiodd eu deri; dadsylfaenodd eu haneddau; eu gwartheg a'u hanifeiliaid a laddodd efe â blaen ewyn ei gynddaredd, a'r rhan luosocaf ohonynt hwythau a gyfarfuasant a dyfrllyd fedd. Anmhosibl dysgrifio'r cyfyngder y deffrodd llawer ohonynt ynddo o gwsg trwm meddwdod, yn cael ei drymhau gan si marwol y llanw a'u prysur amgylchynai, a'u deffro yn y diwedd gan ryw dòn wenoer i'w sefyllfa drallodus a diymwared. Y rhai allasant ddianc a ffoisant, rhai i Feirion, rhai i Leyn, rhai i Geredigion, a phob un yn rhedeg am ei einioes i'r ucheldir agosaf ato. Erbyn tranoeth yr oedd y fangre wedi ei llwyr ddinystrio; y lasdon a'i mil myrdd preswylwyr yn chwareu hyd y dolydd meillionog a'r dyffrynau toreithiog; a'r môr fel arwr buddugoliaethus yn ymorchestu yn ei fuddugoliaeth, trwy anfon ei bysg yn llengoedd i chwilio i mewn i ansawdd ei diriogaeth newydd. Pereiddgan yr eos ddylynwyd gan ysgrech annaturiol y fôr-forwyn; morloi a ymbrancient y weirglodd fras, lle ddoe y chwareuai yr ŵyn nwyfus, a phalas tywysogaidd Gwyddno Garanhir, yn Nghaer Wyddno, a lanwyd â llymriaid a chrancod y môr. Yn mysg y rhai diangol yr oedd Gwyddno, tywysog y Cantref; ac er llawened ydoedd oblegyd ei waredigaeth o afael angau mor ddibris, yr oedd edrych ar ei dywysogaeth brydferth yn orchuddiedig â dinystr yn ofid tost iddo. Y mae diareb ar lafar gwlad tua glanau Beisfôr Aberteifi, a ddefnyddir pan fyddo gŵr mewn cyfyngder diymwared, neu pan gyfarfyddo âg aflwydd a chanddo ddim llaw yn ei ddygiad oddiamgylch, fel hyn; —

"Ochenaid Gwyddno Garanhir
Pan droes y don dros ei dir."

Pa un ai Gwyddno ei hun a gyfansoddodd y ddwy linell hyn, ynte rhywun arall, nis gwyddom, ond yr oedd efe yn fardd, ac yn fardd mewn oes ar Gymru pan fyddai bron cymaint syndod gweled un o blant Ceridwen ag ydyw canfod yn yr oes hon Gymro heb honi rhyw berthynas â'r hen wrach hono. Yn Llyfr Du Caerfyrddin, yr hwn a gasglwyd tua dechreu y 9fed ganrif, ceir tri dernyn o ffrwyth ei awen, sef, Cân, Foesol, Ymryson Gwyddno a Gwyn ab Nudd, a Chwynfan oherwydd Gorlifìad Gantrêr Gwaelod, Er mwyn cywreinrwydd, yr ydym yn cyfleu y dernyn olaf o'r rhai hyn yn ei hen wisg Gymreig : —

PAN DDAETH Y MOR TROS GANTREF Y GWAELAWD.

GWYDDNEU A'I CANT.

Seithenin saw di allan ag edrych
Uirde varanres mor maes Gwitneu rhytoos

Boed emendigeit y morwin
A hellyngaut gwydi ewyn
Ffynnawn Wenystyr mor terrwyn

Boed emendigeit y vachdeith
Ai golligaut guydi gweith
Ffynnawn Wenestyr mor diffeith

Diaspad mererit yar van kaer
Hyd ar Duw i dodir
Gnawd gwedi trama tranc hir


Diaspad mererit y ar van kaer
Hetiu hyt ar Duv y dadoluch
Gnawd gwedi traha attregwch

Diaspad mererit am gorchwyt heno
Ac nim haut gorluyt
Gnawd gwedi traha tramcwyt

Diaspad mererit y ar gwineu
Kadir Kedaul Duw ae goreu
Gnawd gwedi gwedi gormod eisseu

Diaspad mererit ain kymhell
Heno wrth vy ystavell
Gnawd gwedi traha tranc pell

Bet seithenin synwyr van
Rhwng kaer kenedyr a glan
Mor, maurhydic a kinran


"Seithenyn, saf allan, a gwel drigfanau cewri; — dyffrymdir Gwyddno a orchuddiwyd gan y môr. Boed melldlgedig y gwrthglawdd, a ollyngodd wedi gwin, ffynonau y dyfnder mawr. Boed melldigedig geidwad y llifddor, a ollyngodd i fewn yn y nos ffynonau yr eigion diffaeth. Llef Mererit [enw a roddid ar y gwynt gorllewinol] oddiar uchelfan y Gaer, gwrandawed Duw arni, 'Gwedi gwynfyd y daw drygfyd.' Llef Mererit oddiar uchelfan y Gaer, atolygir heddyw ar Dduw, 'Y mae diwedd ar drawsedd.' Llef Mererit a'm gorfydd heno, rhy amlwg yw yn fy nglyw, 'Gwedi trawsedd daw tramgwydd.' Llef Mererit oddiar adfeilion y gwinwydd, 'Gwedi gwastraff daw eisieu.' Llef Mererit a'm cymhell, heno wrth fy ystafell, 'falchder y daw dinystr diarbed.' Boed Seithenyn wau synwyr rhwng Caer Cenedir a'r lan, pan fyddo'r môr gythryblus a chynddeiriog."

Y mae un o feirdd godidocaf yr oes hon wedi rhoddi y geiriau canlynol yn ngenau Gwyddno Garanhir, a diameu eu bod cystal dysgrifiad o adfyd y tywysog ar y pryd a'r geiriau blaenorol o'i gyfansoddiad ef ei hunan : —


"O, DDYLIF! O, ddialedd!
Mae'n flin bod ar fin dy fedd.
Tywod sy'n llenwi'n teiau,
A'r pysg yn gymysg sy'n gwau :
Morfeirch dihefeirch, hyfion,
Llymriaid, arw haid, 'r awrhon
Sy'n heigiau'n amlhau y'mhlith
Y gweunydd fu'n dwyn gwenith;
Lle porai defaid dofion
Yn y lle pranciai wyn llon,

Cynulla morgwn hyllion
A mor-gathod — syndod son!
E geir lle bu yd a gwin
Fawr grugiau o for gregin.
Hoff lysoedd a phalasau,
Gan nerth y mor certh, mawr, can,
Eu cydiawl furiau cedyrn
Ddatodid, chwelid'yn chwym :
Ni ddorid eu gwedd eirioes,
Tan eu traed tonau a'u troes;
A'u holl stor, y mor mawrwanc,
A fwria'i wyllt far ei wanc.
O! fy ngwlad, rhaid im' d'adu
Dan y dwr a'i donau du.
Llwybrau rodiwn, garwn gynt,
I'm mawr dristwch mor drostynt
A lifeiria lafoerion
Oerion dig ei erwin don.
O! hen eigion creulon, cred,
Y gelyn calon galed —
Ni bu un a'i raib yn bod
Debyg mor ddigydwybod
A thydi, weilgi mawr wanc,
Didoraeth yw dy daerwanc;
Llyncu'r byd i gyd ar gais
I dy fol mewn du falais
Wnait unwaith, ar hynt anwar,
Hyn ni fu ddigon o far —
Llyncu mad wlad fy nhadau
Wnait i'th grombil, gawrfil gau;
Daw arnat dal diwymi, —
Dial tan — y fo dal i ti !"

Y mae cryn lawer o amrywiaeth barn yn mysg haneswyr mewn perthynas i'r trychineb anaele hwn, Dywed rhai mai traddodiad gwag a disail ydyw y cyfan. o'r un natur a lluaws o'r ffugchwedlau rhamantus 'Cymreig hyny a elwir Mabinogion; ereill a ystyriant yr hanes yn gymysgfa o ffugiaeth {mythology) a Derwyddiaeth; a'r trydydd dosbarth a gredant fod y Trioedd a'r traddodiadau yn ei gylch yn seiliedig ar ffeithiau diymwad. Y dosbarth cyntaf a seiliant eu barn ar yr ymresymiadau hyn: — Fod y Trioedd a soniant am dano yn gloff ac ansicr; fod arwynebedd y fan yn bresenol yn. ymresyniad nerthol na chymerodd erioed le y fath beth a gorlifiad, — paham nad ymgiliai y môr o'r Cantref yn awr ar ddystill trai ? — nad ydyw y manylydd rhyfedd hwnw, Giraldus Cambrensis, yn hanes ei deithiau trwy Gymru, 1188, yn yngan gair yn nghylch dinystr y fath le, a'i fod yn nesaf peth i anmhosibilrwydd i'r hen fwnc beidio croniclo y fath ddygwyddiad, a thynu moeswersi am farn ar annuwioldeb oddiwrth yr hanes; — nad oes dim yn y dysgrifiad a ddyry y Rhufeiniaid o Gymru, yr adeg y goresgynasant hwy ynys Prydain, yn tueddu neb i gredu fod darn mor fawr o dir wedi ei feddianu gan y môr ar ol hyny; na bod dinasoedd na phorthladdoedd o bwys yn bodoli y pryd hwnw lle y saif yn awr Feisfor Aberteifi; — na sonir gair yn nghylch y Cantref na'i ddinasoedd ardderchog yn Itinerary Antonius, na chan Ptolemaus, na Richard o Cirenester.


Davies, awdwr dysgedig y Mythology of the Druids, ydyw arweinydd yr ail ddosbarth. Dywed ef mai yr un person ffugiol ydoedd Gwyddno Garanhir a Thegid Foel, gŵr Ceridwen, a thad tybiedig y bardd Taliesin, — etifeddiaeth yr hwn a safai yn nghanol Llyn Tegid, gerllaw y Bala.[1] Olrheinia yr awdwr hwn Gwyddno a Thegid Foel hyd y diluw, a dywed mai enwau ereill oeddent ar Noa. Llong nofiadwy sydd i'w ddeall wrth "etifeddiaeth yn nghanol y llyn," a'r llong hon ydoedd arch Noa. Aralleg o'r diluw ydoedd dinystr Cantref y Gwaelod, wedi ei chyfansoddi ganrifoedd cyn Cred, i ddwyn yr engraifft hono o ddigllonedd cyfiawn Duw i gyrhaedd amgyffredion a chylch dealldwriaeth yr hen Gymry.


Dosbarth y trydydd a gredant fwy neu lai o'r hanes fel y gosodasom ef i lawr yn y dechreu, ac y maent yn "unfryd unllais" o wirioneddolrwydd ffaith y gorlifiad. Seiliant eu barn ar y Trioedd, cydgasgliad ffeithiau hanesyddol, a daeareg y man y safai y Cantref arno. Dygir y ddau flaenaf gerbron yn nes yn mlaen. Traetha daeareg ei llên yn y Sarnau a geir yn Meisfor Aberteifi. Sarn Badrig (neu Badrhwyg, medd Pennant, oherwydd nifer y llongau a ddryllid arni), yn Meirionydd, a ymestyna 21 milldir i'r môr, ac a welir yn sych, medd rhai, am naw mill- dir, a gynwys olion amlwg o hen fur neu wrthglawdd; Sarn Gynfelyn, gerllaw Aberystwyth, a gyrhaedd saith milldir i'r môr, ac yn ei phen eithaf y mae adfeilion hen Gaer, lle yn ol Lewis Morris, yr oedd palas Gwyddno Garanhir. Y mae tair o sarnau ereill byrach, eithr yn cynwys llawn cymaint o deithi hanesyddol a'u chwiorydd hirach ac enwocach, sef Sarn y Bwch, yn sir Feirionydd, milidir a haner o hŷd; Sarn Dewi, gerllaw Ty-Ddewi, chwarter milldir; a Sarn Cadwgan, milldir a haner o hyd. Hefyd, rai blynyddau yn ol, cafwyd lluaws o goed derw o dan wely y môr yn agos i geg yr afon Dysyni, un o ba rai a fesurâi chwe' troedfedd o drwch. Oddeutu tair milldir i'r gorllewin o Aberaeron, a haner milldir oddiwrth y lan, y mae cylch crwn o furiau peryglus, a elwir gan drigolion y cyrau hyny, "Eglwys y Rhiw." Gwelodd Lewis Morys faen a gafwyd gan' llath islaw pen llanw yn sir Aberteifi, a llythyrenau Rhufeinig wedi eu cerfio arno. Hefyd, darllenwyd papur o flaen y Geological Society, gan foneddwr o'r enw Yates, yn y flwyddyn 1832, ar y "Goedwig Danforawl," a ddarganfyddwyd tua'r amser hwnw yn Meisfor Aberteifi. Dywedai Mr. Tates fod y goedwig hon yn ymestyn ar hyd tueddau Meirion ac Aberteifi, ac yn cael ei gwahanu yn ddwy ran gan ymarllwysiad yr afon Dyfi. Rhyngddi â'r lan, yr oedd traeth tywodog, a chlawdd o raian a cheryg bychain. Tu hwnt i'r clawdd hwn, yr oedd llain o fawndir, a gorchuddid y goedwig gan haen o fawndir.


Y mae gwahaniaeth barn gyda golwg ar amseriad y Gorlifiad yn mysg y sawl a'i hystyriant yn ffaith. Wrth ganfod dystawrwydd cynifer o hen ysgrifenwyr yn ei gylch, tueddwyd rhai i gredu iddo gymeryd lle cyn y cyfnod Crist'nogol, ac y mae hen gywydd yn Meyrik's History of Cardigan yn dweyd yn bendant iddo ddigwydd yn 3591 o oed y byd, neu dros bedwar can' mlynedd cyn Crist. O'r ochr arall, tuedda doabarth lluosog i ystyried y Trioedd yn awdurdod digonol ar y pwnc; a chan fod y Triad hwn wrth law, ac o bwys i'r darllenydd gywir ddeall pa beth mewn gwirionedd a ddywed, yr ydym yn ei ddyfynu: — "Tri Charnfeddwon ynys Prydain : — Ceraint Feddw, brenin Essyllwg, a losges yn ei feddwdod yr holl ŷd yn mhell ac yn agos hyd glawr gwlad, ac o hyny dyrfod newyn bara; ail, Gwrtheyrn Gwrthenau, a roddes Ynys Daned yn ei ddiawd i Hors, am gael ymodinebu â Rhonwen ei ferch ef, a rhoddi hawl a wnaeth efo i'r mab a enid o hyny ar Goron Lloegr; ac yn un â hyny brad a chynllwyn yn erbyn cenedl y Cymry; trydydd, Seithenyn ab Seithyn Seidi, brenin Dyfed, a ollynges yn ei ddiawd y môr dros Gantre'r Gwaelod, oni chollwyd o dai a daear y maint ag oedd yno, lle cyn hyny y caed un dinasdref ar bymtheg yn oreuon ar holl drefydd a dinasoedd Cymru, a gadu yn amgen Gaerlleon ar Wysg; a chyfoeth Gwyddno Garanhir, brenin Ceredigiawn, ydoedd Cantre'r Gwaelod; ac yn amser Emrys Wledig y bu hyny; a'r gwŷr a ddiangasant rhag y bawdd hyny a diriasant yn Ardudwy, a gwlad Arfon, a mynyddoedd Eryri, a lleoedd ereill nad oeddent gyfanedd cyn hyny."

Y mae amseriad y dygwyddiad yn eithaf eglur yma, sef yn "amser Emrys Wledig." Ond pwy, a pha bryd yr amserai, y gŵr hwn ? Rhaid ei fod yn rhywun enwog cyn y galwesid ei oes ar ei enw. Dyma ei fywgraffiad yn ol Williams' Eiminent Welshmen : — Mab oedd Emrys Wledig (Aurelius Amhrosius) i Gystenyn Fendigaid, yr hwn a etholodd y Brutaniaid yn frenin arnynt wedi ymadawiad y Rhufeiniaid â'r ynys. Cystenyn a laddwyd yn un o'i ryfeloedd â'r Ffichtiaid; a'r pryd hyny yr ocdd Emrys yn cael ei addysgu yn Llydaw (Brittany) dan ofal ewythr iddo o'r enw Aldrawd, brenin y wlad hono. Y Brythoniaid, ar farwolaeth ei dad, a ddeisyfasant arno ddyfod trosodd atynt, gyda 10,000 o wŷr, i'w cynorthwyo i orthrechu y Sacsoniaid a wahoddasai Gwrtheyrn y sonia, y Triad blaenorol am dano i Brydain. Cymaint ydoedd llwyddiant Emrys fel rhyfelwr, nes yr etholodd ei gydwladwyr ef yn frenin arnynt, gan orfodi Gwrtheyrn i roddi gorllewinbarth yr ynys i fyny iddo; ac yn fuan wedi hyny, oherwydd fod yr hen frenin trythyll a moethus yn parhau yn fradwrus yn erbyn ei wlad a'i genedl, gwnaed Emrys yn frenin ar yr holl ynys. Dywed Brut y Brenhinoedd a Geofrey o Fynwy mai Emrys a adeiladodd y Cor Gawr Stonehenge, yr hwn a elwir hefyd 'Gwaith Emrys,' er cof am y tri chant pendefigion Prydeinig a fradwrus lofruddiwyd mewn gwledd gan y Seison. Rhydd Geoffrey gymeriad uchel iawn iddo, a dywed mai ei wenwyno a gafodd yn y diwedd yn Nghaerwynt (Winchester), gan ffug-feddyg o Sais o'r enw Eopa, wedi ei logi i'r anfadwaith gan Pascentius, un o feibion Gwrtheyrn. Cymerodd hyn le yn y flwyddyn 500."


Wele brawf arall dros yr un syniad. I Wyddno Garanhir yr oedd mab o'r enw Elphin, ac efe ydoedd noddwr penaf y bardd enwog Taliesin. Talodd y bardd lawer teyrnged o fawl a pharch i'w noddwr, a'r dernyn hwnw elwir "Dyhuddiant Elphin" o'i waith a ystyrd yn mysg ei oreuon. Y mae yr haneswyr Cymreig bron yn ddieithriad yn ystyried y Prif-fardd yn un o ddeiliaid y 5ed canrif.


Dyna ni wedi rhoddi barnau y teirblaid mor deg a diduedd ag y gallem. Ond y mae yn lled amlwg na chymerodd y weilgi damaid mor fawr o dir oddiarnom ar unwaith. Nid yw y Triad yn crybwyll ond am orlifiad un cantref, sef 625,000 o erwau (acres). Gorwedda y beisfor ar naw neu ddeg o'r cyfryw gantrefi; ac y mae yn debyg mai rhan ohono yn unig a orlifwyd yn amser Gwyddno, megys y Traeth Mawr, rhwng Lleyn a gwlad Meirion, neu yn hytrach y darn hwnw o fôr rhwng trwyn Sarn Badiig ac Aberystwyth. Y mae y ffaith nad oedd y Cantref ond math o dalaeth perthynol i Geredigion, ac i'r dinystrydd ddyfod i fewn trwy esgeulusdra cau un o'r llifddorau, yn fafriol i'r dyb hon. Onid yw yn eithaf posibl, ac yn fwy rhesymol, ddarfod i'r gorlifiad gymeryd lle ar amrywiol amserau?


Pan ddelo Cymru mor doreithiog o ddaearegwyr ag ydyw yn bresenol o feirdd, diameu y teflir llawer o oleuni ar bynciau o'r naturyma; ac y mae yn rhyfeddod pa fodd na chododd o'n mysg luaws o enwogion yn y wyddon werthfawr hon, tra y meddwn gynifer o fanteision at astudio ansawdd a chyfansoddiad y ddaear. Mewn llawer ardal cyd gyferfydd pump neu chwech o wahanol haenenau â'u gilydd; ac y mae nifer mor lluosog o'r genedl yn enill bywioliaeth wrth dreiddio i fewn i'w chloddfeydd, a dwyn oddiyno y meini gwerthfawr, o'r gareg las a ddefnyddia y bugail i adeiladu ei luest hyd aur sir Feirionydd; ond er hyn oll, y mae yn ffaith alarus na feddwn yr un daearegwr gwerth son amdano.


Ond, heblaw Cantref y Gwaelod, y mae y môr wedi ysbeilio Cymru o aml ddarn gwerthfawr arall o dir. Dywed traddodiad ddarfod i drychineb gyffelyb oddiweddyd y traeth tywodlyd a pheryglus hwnw sydd yn cyrhaedd o ymyl Biwmaris hyd y Penmaen Mawr, a elwir Traeth y Lafan, neu Traeth y Wylofain, yr hwn a berthynai i dywysog o'r enw Helyg ab Gwlanog. Cymerodd y dygwyddiad le tra y cynelid gwledd fawr yn 'mhalas Helyg. Pan oedd y cwmni yn ymloddesta, tarawyd y telynor, yr hwn oedd broffwyd hefyd, â dychryn wrth ganfod y trychineb yn dyfod o bell; ac un o'r gweision a ddygwyddai fod yn y seler ar y pryd, yn ceisio rhagor o ffrwyth y winwydden i borthi mwythau ei uwchradd, a darawyd â dychryn, ac a redai ymaith fel un gwallgof, dan waeddi, " Y môr! y môr!" Y telynor a'r gwas hwn yn unig a lwyddasant i ddianc i ddiogelwch; y gweddill, yn nghyda'r eiddynt, a gollwyd yn yr elfen ddinystriol.


Dywedir hefyd fod darn mawr o dir wedi ei orlifo o du'r gogledd i dreflan Abergele ac fel prawf o hyny, dyfynir y beddargraff canlynol oddiar hen gareg fedd sydd yn mynwent y lle hwnw: —


"Yma mae'n gorwedd,
Yn mynwent Mihangel,
Gŵr oedd a'i anedd
Dair milldir i'r Gogledd."


Ond yn bresenol y mae y môr o fewn tri chwarter milldir i'r dref. Byddai trigolion yr ardaloedd hyny er's talm yn cynull tanwydd lawer oddeutu milldir oddiwrth y lan; eithr oherwydd eu drygsawr wrth losgi, nid oes neb yn awr yn myned i'r drafferth o ymofyn am danynt.


Dyna hyd y gwyddom yr unig draddodiadau sydd ar gael o'r môr yn cwtogi rhandiroedd Cymru; ac wrth ystyried er's cynifer o filoedd o flynyddau y mae efe yn parhaus ymguro yn erbyn ei glanau eang a phrydferth, a chynifer o brydiau y bu yn ymgynddeiriogi mewn tymestl, gan ymddangos mor fygythiol a phe buasai am lyncu ein Tywgsogaeth ardderchog i'w grombil anferth, y mae yn syndod na syrthiasai rhagor ohoni iddo yn ysglyfaeth.


Yr Hwn a roddodd ei ddeddf iddo ar y cyntaf, a'i ffrwynodd hefyd yn rhwymyn ei derfynau; ac ni ruthrodd efe erioed dros erchwynion ei wely heb ganiatad ei Lywodraethwr.

Nodiadau[golygu]

  1. Gwel Hanes Taliesin yn y llyfr hwn

TALIESIN BEN BEIRDD

NID oes yr un enw Cymreig mor adnabyddus i genedloedd estronol ag enw "Taliesin Ben Beirdd." Cyfenwid ef yn "Ben Beirdd" oblegyd ei fod yn mysg y beirdd hynaf a feddwn fel cenedl; ac ar lawer o ystyriaethau yn rhagori mewn awen a gwybodau ar ei gydoeswyr — Aneuryn, Merddin, a Llywarch Hen. Arddengys yn ei weithiau y fath gydnabyddiaeth eang â chyfrinion Barddas a Derwyddiaeth, nes ydynt yn gwbl annealladwy i'r nifer luosocaf o ddarllenwyr yr oes hon; ac y mae yr hanes canlynol yn perchen llawer o'r cyfyw deithi cyfriniol. Ni byddai ond rhyfyg ynom ni amcanu deongli y fath aralleg henafol, er y tybiwn ar brydiau ein bod yn gweled trwy ei niwl a'i thywyllwch. Gwnaed y darllenydd y goreu allo ohoni. Dywed y Celtic Davies mai dyma y tamaid goreu o hynafiaeth a fedd ein llenyddiaeth; ac y mae efe, trwy Dderwyddiaeth a ffugiaeth, yn gweled y cyfan o'r hanes mor oleu a chanol dydd. Yr argyhoeddiad ar ein meddwl egwan ni, pa fodd bynag, ar ol darllen ei waith dysgedig ar y pwnc ydoedd, ei fod yn gwneud tywyllwch yn dywyllwch eithaf.


HANES TALIESIN

Yr oedd boneddwr gynt yn Mhenllyn elwid Tegid Foel, etifeddiaeth yr hwn a safai yn nghanol Llyn Tegid. Enw ei wraig oedd Ceridwen; ac iddynt yr oedd mab elwid Morfran ab Tegid, a merch elwid Creirfyw, yr hon oedd y fenyw deca yn yr holl fyd; eithr brawd i'r ddau hyn, a elwid Afagddu, oedd y dyn hagraf yn yr holl fyd. A Cheridwen ei fam, yn tybied na chai efe dderbyniad yn mhlith boneddigion, oherwydd ei hagrwch, oni bae arno ryw gampau neu wybodau urddasol, a benderfynodd ferwi pair o awen a gwybodau i'w mab. Cyfarwyddid hi gan lyfrau Pheryllt, a chymerodd hyn le yn amser Arthur a'i ford gron.


Yr oedd y pair hwn i ferwi yn ddidor am un dydd a blwyddyn, ac hyd oni cheid ohono dri dyferyn bendigedig o rad yr Yspryd. Rhoddwyd gofal y pair ar ŵr o'r enw Gwion Bach, mab Gwreng o Lanfaircaereinion, yn Mhowys; a gŵr cibddall, o'r enw Morda, oedd i wylied dros y tân, ac i ofalu na phallai y berw am yr amser penodedig. Ceridwen hithau, wrth lyfrau Astronomyddion, ac wrth oriau y planedau, oedd yn llysieua beunydd yn y meusydd o bob amryfal lysiau rhinweddol. Fel yr oedd hi un diwrnod yn llysieua, yn mhen tua blwyddyn wedi i'r pair ddechreu berwi, damweiniodd neidio a disgyn ar fys Gwion Bach dri dyferyn rhinweddol o'r sudd berwedig, a chan mor boeth oeddent, Gwion a darawodd ei fys yn ei ben. Mor fuan ag y gwnaeth ef hyny, daeth i wybod pob peth, ac yn mysg pethau eraill fod iddo fawr berygl oddiwrth Ceridwen; ac mewn ofn a dychryn efe a ffoes tua'i wlad ei hun. Wedi ymadael o'r tri dyferyn rhinweddol, y pair a holltodd yn ei haner, a'i gynwysiad gwenwynig a lifodd i aber gerllaw; a meirch Gwyddno Garanhir, yn dygwydd yfed ohoni ar y pryd, a fuont feirw; ac o hyny allan y gelwir yr aber hono, "Gwenwyn meirch Gwyddno."


Pan ddychwelodd Ceridwen o lysieua, a chanfod ei llafur blwyddyn wedi myned yn ofer, hi a ymaflodd mewn pastynffon, ac a darawodd Morda gibddall yn ei ben âg ef, onid aeth un o'i lygaid ar ei rudd. "Paham ym hanffurfiaist? " ebai yntau, "ni bu dy golled o'm hachos i" "Gwir a ddywedaist," ebai Ceridwen, "Gwion bach a'm hysbeiliodd," a hi a brysurodd i ddilyn Gwion, yr hwn a'i canfyddodd hi yn dyfod o bell, ac a ymrithiodd yn rhith ysgafarnog, ac a redodd ymaith. Ceridwen a ymrithiodd yn Filast, ac a'i dilynodd at fin afon. Gwion a neidiodd i'r dwfr, ac a drawsffurfiodd ei hun yn bysgodyn; hithau a ymrithiodd yn Ddyfrast, gan ei ymlid mor galed dan y dwfr nes ei orfodi i droi yn aderyn. Eithr ni ddiangodd efe rhag dialedd ei erlynes yn y ffurf hono chwaith, canys Ceridwen a ymrithiodd yn Farcutan, gan ei ymlid yn galetach nag erioed; a phan ar ei orddiwes, ac yntau âg ofn angau arno, efe a ganfu dwr o wenith nithiedig ar lawr ysgubor. Disgynodd ar ei ben iddo, ac ymrithiodd yn un o'r gronynau. Yna ymrithiodd hithau yn iâr ddu gopog; daeth at y twr gwenith, canfyddodd ef ym mhlith y grawn, a hi a'i llyucodd. Dywed yr ystori iddi fod yn feichiog arno naw mis; a phan esgorodd, nis gallai hi gael ar ei chalon ei ladd, gan mor dlws ydoedd. Yna hi a'i gwniodd mewn cwrwgl (bol croen), ac a'i bwriodd i'r môr, at drugaredd y tonau, ar y 29ain o Ebrill.


Y pryd hwnw yr oedd cored (ffishing weir) Gwyddno Garanhir yn sefyll ar y traeth rhwng Dyfi ac Aberystwyth. gerllaw ei gastell ef ei hun; ac yn y gored hono y delid gwerth can punt o bysgod bob nos Calanmai. i'r Gwyddno hwn yr oedd mab a elwid Elphin, un o'r gwŷr ieuainc mwyaf anffortunus yn y byd, yr hyn a ofidiai ei dad yn fawr, gan y tybiai iddo gael ei eni ar awr ddrwg. Trwy anogaeth ei gynghoriaid, boddlonodd Gwyddno roddi iddo dyniad y gored y flwyddyn hono, i edrych a wenai ffawd rywbryd arno, ac er mwyn bod hyny yn gynysgaeth iddo ar gyfer bywyd.


Dranoeth pan ddaeth Elphin at y gored, nid oedd yno un pysgodyn; eithr efe a welai rywbeth wedi glynu ar bawl y gored, a beth ydoedd ond cwrwgl. Yna dywedodd un o'r coredwyr wrth Elphin, " Ni buost ti erioed mor anhapus a heno, canys ti ddinystriaist gymeriad y gored, yn yr hon y ceid gwerth can punt bob nos Calanmai." "Efallai, ar ol y cwbl, fod cyfwerth can punt yn y cwrwgl acw," ebai Elphin; ac efe a barodd i un o'r dynion fyned i'w geisio a'i agoryd. Wedi ei agor, beth oedd o'i fewn ond plentyn tlws odiaeth; a'r dyn a'i cyrchasai a lefodd mewn edmygedd, "Llyma Daliesin! " [gwyneb tlws — fair face]. "Taliesin bid ei enw," ebai Elphin, ac efe a neidiodd ar ei farch, i fyned tua chartref, ac a gymerth y plentyn wrth ei ysgil, yr hwn a farchogai mor ddiysgog a phe buasai yn y gadair esmwythaf. A'r pryd hwnw, yn ol yr Hanes. efe a gyfansoddodd gân o ddyhuddiant a moliant i'w achlesydd Elphin ab Gwyddno, a welir yn niwedd yr ysgrif hon.


Yn mhen ychydig amser wedi i'r bardd sychu y deigryn oddiar rudd ei noddwr, gofynes Gwyddno Garanhir iddo beth oedd efe, ai dyn ai yspryd. Atebodd Taliesin y gofyniad mewn cân, a dechreua trwy ddywedyd mai prif- fardd Elphin ydoedd, ac mai ei wlad gysefin ydoedd bro y cerubin; ac yna crwydra y greadigaeth gan ddyweyd iddo fod yn bobpeth bron, dyben yr hyn, mae yn ddiameu, ydoedd gosod allau yr athrawiaeth Dderwyddol o draws-sylweddiad. Drachefn dygodd Elphin ei gaffaeliad gydag ef i balas Gwydduo, a'r tywysog a ofynes i'w fab pa Iwyddiant a gawsai efe gyda'r gored. Atebodd Elphin iddo gael peth gwell na physgod. "Beth oedd?" ebai Gwyddno. "Bardd" ebai Elphin. "Och! druan, beth dâl hwnw i ti?" Yna Taliesin a atebodd, "Fe dâl hwnw iddo ef fwy nag a dalodd y gored erioed i ti." "A fedri di ddywedyd pa beth, a chyn fychaned wyt" ebai Gwyddno. "Medraf fi ddwedyd mwy nag a fedri di ofyn i mi," ac mewn cân arall, efe a fola yr elfen ddwfr; ac a ymhona hollwybodaeth— "canys gwn a fu ac a fydd rhagllaw;" ac ymddigrifa eto yn athrawiaeth traws- seylweddiad — " teirgwaith i'm ganed, &c."


Dyna Hanes Taliesin, fel ei ceir yn y Myfyrian Archaiology, gydag ychydig gyfnewidiadau, er mwyn y darllenydd cyffredin.

DYHUDDIANT ELPHIN.
TALIESIN A'I CANT.


Elphin deg, taw a'th wylo —
Na chabled neb yr eiddo —
Ni wna les it' ddrwg obeithio
Nid a wyl dyn a'i portho—
Ni bydd coeg gweddi Cynllo —
Ni thyr a'r addawo —
Ni chaed yn nghored Wyddno
Erioed cystal a heno.


Elphin deg:, sych dy ddeurudd—
Ni weryd bod yn rhybrudd;
Cyd-dybiaist na chefaist fudd—
Ni wna les gormod cystudd;
Na ameu wyrthiau Dofydd —
Cyd bwyf bychan, wyf gelfydd;
O foroedd ac o fynydd,
Ac eigion afonydd
Y daw Duw a da i ddedwydd.


Elphin, gyneddfau dyddan,
Anwraidd [1] yw dy amcan;
Nid rhaid it' ddirfawr gwynfan —
Gwell Duw na drwg ddarogan
C'yd b'wyf eiddil a bychan
Ar gorferw mor lydan,
Mi a wnaf yn nydd cyfran
It' well na thrichan' maran. [2]


Elphin, gyneddfau hynod,
Na sor ar dy gaffaelod —
Gyn b'wyf wan ar lawr fy nghod,
Mae rhinwedd ar fy nhafod:
Tra b'wyf fi i'th gyfragod,
Nid rhaid it' ddirfawr ofnod —
Ond coffa enwau'r Drindod,
Ni ddichon dim dy orfod.


Nodiadau[golygu]

  1. Anfilwraidd
  2. Math o bysgodyn

CADER IDRIS.

PRIN y rhaid hysbysu mai mynydd uchel yn sir Feirionydd ydyw Cader Idris. Ar ei grib uchaf y mae toriad yn y graig ar ffurf cader, lle, yn ol traddodiad, y byddai Idris Gawr yn myfyrio seryddiaeth, ac yn olrhain dyrys ddeddfau ac ordinhadau y llu wybrenol. Gosodir y gŵr hwn allan yn y Trioedd, gyda Gwydion ab Don, a Gwyn ab Nudd, fel un o "dri gwyn Serenyddion ynys Prydain," gwybodaeth pa rai o ddeddfau natur oedd y fath fel y gallent ragfynegi yr hyn a ddygwyddai hyd ddydd Brawd. Pa un ai oherwydd fod iddo gorff anferth o faint, ynte oherwydd ei fawr wybodaeth a'i athrylith, y gelwid ef yn "Gawr," nis gwyddom. Dywed un hanesydd y byddai yr hen Gymry yn galw dynion gwybodus a dysgedig yn gewri; ac y mae yn arferiad genym hyd y dydd hwn alw ein pregethwyr dyfnion, a'n hysgrifenwyr galluog, a phobl y teitlau, yn ddynion mawr, er na byddant ond rhyw erthylod ysgeifn, llwydion, llathen a haner o daldra; a galw dynion dienaid ac anwybodus yn gorachod, er eu bod ddwy lath o hŷd yn nhraed eu hosanau. Mae yn ddiameu fod Idris yn gawr o'r dosbarth cyntaf, gan y sieryd hanesiaeth mor uchel am ei ddysg; a myn y wlad gredu ei fod yn gawraidd o gorph hefyd, a dygir engraifft nerthol iawn yn mlaen i brofì hyny: — Y mae tri o feini mawrion, pob un ohonynt yn amryw dunellau o bwysau, heb fod nepell o'r mynydd hwn, eilw pobl yr ardal yn "Dri Graienyn," am i Idris, pan ar un o'i deithiau, eu teimlo yn ei esgid, ac wedi ei thynu oddiam ei droed, efe a'u bwriodd yn y fan hono. Darnau anferth ydynt wedi syrthio o'r graig gerllaw. Yn eu hymyl y mae llyn o ddwfr a elwir, "Llyn y Tri Graienyn."


Oddeutu blwyddyn yn ol, ymddangosodd yr hanesyn canlynol yn un o gyhoeddiadau goreu ein cymydogion; a chan ei fod yn dal cysylltiad â thraddodiad poblogaidd am y Gader, ac mor briodol i ansawdd y llyfr hwn, rhoddwn efelychiad ohono yma: —


"Gerllaw godreu Cader Idris y safai palasdy bychan y Talglyn a breswylid gan ddarn o ŵr boneddig o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd ŵr gweddw ar y pryd, a chanddo ddau fab a thair o ferched. Yr oedd y merched hyn yn meddu cryn lawer o swynion personol, yn enwedig yr ieuangaf, yr hon, er mwyn hwylusdod, a alwn yn Gwenlliw. Anfynych y cyfarfyddodd cynifer o ragorolion yn yr un person. Gwenlliw ydoedd canwyll llygad ei thâd, gan mor debyg ydoedd i w diweddar fam, â'i brodyr a'i chwiorydd a dybient nad oedd ei bath o fewn y byd. Nid oedd yn debygol chwaith y diangasai y ddau lygad gleision dysglaer hyny, a'r gwallt sidanog arianaidd, a'r ffurf luniaidd, wisgi, ysgafndroed, rhag edmygwyr yn mysg cenedl sydd mor hoff o lendid a thegwch gwedd.


Ond nid oedd Gwenlliw chwaith yn ddifai mwy na rhyw dlws daearol arall; ac os gweddus adrodd ffaeledd delw mor bur o brydferthwch, bai y wyryf hawddgar hon oedd ei bod braidd yn rhy ëon a phenderfynol.


Un haf, daeth câr i'r teulu ar ymweliad â'r Talglyn o Loegr, gŵr ieuanc o gyfreithiwr, a swynwyd ef gymaint gan degwch Gwenlliw fel y syrthiodd i gariad i hi tros ei ben. Trwy gydsyniad y rhieni o'r ddwy ochr, dyweddiwyd y pâr ieuanc y pryd hwnw; eithr oherwydd ieuenctid y wyryf, gohiriwyd y briodas am flwyddyn neu ddwy yn mhellach. Dychwelodd Griffin (y boneddwr ieuanc) i Loegr i efrydu a thrin y gyfraith, ac i weled blwyddyn cyhyd ag oes un o'r tadau cynddiluwiaidd; ac er fod amser fel pe wedi sefyll, daeth yr adeg hir ddysgwyliedig i ben, ac ail gyfeiriodd yntau ei gamrau tua Chymru, i syllu ar ardduniant ei golygfeydd digymhar, ond yn benaf oll, i weled ei anwylyd, i gynwys pa un, yn ol ei dyb orphwydlog ef, yr oedd Cymru wedi ei chreu, fel blwch ardderchog i gynwys y diemwnt gwerthfawr. Nid oedd absenoldeb o flwyddyn wedi oeri dim ar serch y naill at y llall; eithr i'r gwrthwyneb, yr oedd yn fwy angerddol, a phrofai yn ddiymwad fod eu dedwyddwch yn gorwedd yn nghwmni eu gilydd. Daeth y gwr ieuanc yn fuan i adnabod neillduolion cymeriadol ei gariadferch; a dyrchafodd hyny ei syniadau am dani — ystyriai ei beiddgarwch yn fath o rinwedd newydd yn ei nodweddiad. Treuliwyd yr wythnos gyntaf o ymweliad Griffin mewn rhodiana hyd fryniau a llechweddau yr ardal, a dawnsiai Gwenlliw ar grib clogwyn ag na buasai gafr yn meiddio sangu arno; hi chwareuai ar geulan rhuadr ag y buaesi llithiiad ei throed bychan yn ei hyrddio ddegau o latheni i'r aig trochionog islaw. Yr oedd gwaed ei chyfeillion yn rhedeg yn oer wrth sylwi ar ei heondra; ond pe ceisiasent ei darbwyllo o'r perygl, ni buasai hyny ond chwanegu ei beiddgarwch.

Ar ol treulio diwrnod yn un o'r ymgyrchiadau hyn, yn yr hwyr cydeisteddai y cwmni oddeutu y tân, a thrôdd yr ŷmddyddan ar Draddodiadau Cymreig. Yn mhlith eraill, dygodd Gwenlliw y traddodiad am Gadair Idris gerbron, sef, fod i bwy byuag a dreuliai noson yn y Gader fod naill ai "yn wallgof, yn fardd, neu yn farw," erbyn tranoeth. Dywedai ddarfod i Taliesin a Merddyn fyned trwy y prawf llymdost, a dyfod i lawr o'r mynydd yn y bore yn feirdd godidog. Dygodd Gwenlliw hefyd gerbron hanes "Pen- defiges y Gader," yn y 13eg ganrif, yr hon a benderfynasai brofi gwiredd y traddodiad yn y gobaith o gael eneiniad corn olew yr awen. Ymdrechodd ei chyffesydd a'i chyfeillion ei pherswadio o annoethineb ei phenderfyniad; ond nid oedd dim yn tycio, yn unig hi esgynodd y mynydd ar y noson apwyntiedig, gan wynebu cynddaredd yr ystorm, ac aneirif ysbrydion y tywyllwch a ddawnsient yn yr oes hygoelus hono ar bob twmpath a bryn. Pan aed i ymofyn am dani bore dranoeth, cafwyd hi yn welw a marw, a'r gwynt dideimlad yn siglo torchau ei gwallt du sidanaidd yn erbyn ceryg llwydion y Gader; a'r difrifohleb argraffedig ar ei gwynebpryd tirion yn profi yn ddiymwad mor galed fu angau wrthi. Gwrthodwyd iddi gladdedigaeth Gristionogol yn meddrod y teulu, oherwydd ei hanufudd-dod i gynghorion ei hoffeiriad; ac o ganlynlad, ychydig o'i chyfeillion a'i pherthynasau galarus a'i claddasant hi yn ddistaw ac wylofus o dan domen o geryg ar lechwedd y mynydd.


Wedi adrodd y prudd-hanes uchod, cymerth Gwenlliw ei thelyn, a chwareuodd arni un o'r hen alawon syml a chynhyrfus Cymreig a wefreiddiant yr enaid, ac a barant i Gymro annghofio ei ddyndod. Dylynai y fanon ieuanc y delyn mewn llais lleddf a thyner, yn gyntaf galar geiriau gwladgarol rhyw hen fardd Cymreig; ac wedyn mewn dernyn coeth teimladol o waith y farddones ddiguro hono Mrs. Hemans.


Yr oedd Gwenlliw wedi ei llyncu i fynu gan "Hanes Pendefiges y Gader" — ystyriai hi yn siampl i fenywod y byd, ac yn arwres deilwng i'w hefelychu. Ond nid felly am y gweddill o'r cwmni; un a'i beiai am ei rhyfyg, y llall a gondemniai ei hanufudd-dod i'w chynghorydd crefyddol, ac arall a wawdiai ei hofergoeledd yn y fath dyb wirionffol; ond Griffin, oherwydd hynodrwydd yr hanes, ac yn unol âg arfer ei gydwladwyr call am bobpeth Cymrieg, a wadai fodolaeth y Bendefiges o gwbl. Nid effeithiodd gwrthwynebiad ei brodyr a'i chwiorydd ond ychydig ar dymer Gwenlliw; ond chwerwodd geiriau diystyrllyd Griffn holl felysion ei henaid, a chan daflu golwg ddirmygus arno, hi a'i hanerchodd — "Nid ydych yn gwybod eto beth ydyw nerth penderfyniad merch; ond diamheu y cewch wybod cyn hir;" ac er fod y geiriau yn cael eu llefaru gyda phwyslais dwys, a gwefr yn neidio o lygaid y ferch ieuanc wrth eu traethu, ni thybiodd neb o'r cwmni fod ystyr pellach iddynt nag arddangosiad o deimlad brwdfrydig ar y pryd. O hyny allan, ni addurnodd gwên wyneb hawddgar Gwenlllw; hi ddrychai yn synedig, fel pe buasai ei meddyliau wedi ymgladdu mewn rhyw gynlluniau pwysig.


Yna daeth adeg y " Nos da'wch," ac "Am y cynta' i lawr yn y bore," ac mewn prudd-der dyeithr yr ymadawodd Gweulliw am ei hystafell wely. Nid oedd meddwl Griffin chwaith yn gwbl dawel oherwydd ei amryfusedd yn gwadu un o hoff dybiau ei anwylyd. Y peth cyntaf a dynodd ei sylw wedi cyrhaedd o hono i'w ystafell, ydoedd chwiban cwynfanus y gwynt oddiallan; ac wedi codi llen y ffenestr, efe a welai yr awyr yn llawn cymylau duon mawrion bygythiol, a holl natur fel pe buasai yn y weithred o ddarllaw rhyw ystorm ddychrynllyd. Tynodd ei hunan yn ol mewn arswyd o ŵydd y fath olygfa gyffrous, a diolchai mai yn ystafell wely gysurus y Talglyn yr oedd i dreulio y noson, ac nid ar fôr, neu ar un o lethrau digysgod y mynydd; ac, er i sŵn pruddaidd y gwynt ei suo yn fuan i gysgu, yr oedd ei feddwl yn llawn bywiogrwydd, yn crwydro o'r naill fangre i'r llall, a chrëu mil myrdd o ddychymygion gwylltion a rhamantus. Ond y lle yr ymsefydlai arno yn fwyaf neillduol oedd Cader Idris. Breuddwydiai ei fod yn crwydro hŷd ei chopa yn mhlith y ceryg mwsoglyd, gerllaw y gadair doredig yn y graig, a'r aphwys dychrynllyd islaw iddo. Ac nid oedd y Gader yn wâg. Eisteddai ynddi un o ymddaugosiad fenywaidd. Efe a welai ei gwisg wen yn siglo trwy dywyllwch y nos; a'i gwallt rhydd yn ymdoni o faen yr awelon, ac un llaw iddi fel pe yn gorchuddio ei llygaid rhag rhyw olygfeydd annymunol, tra yr ymgydiai y llall yn mraich yr orsedd. Rhuai y taranau yn y clogwyni fel pe buasent yn eu malurio yn deilchion, a fflachiai y mellt yn ffyrch fflamllyd gan amgylchu pen y foel â thalaith o dân, ac wed'yn disgynent yn îs, gan dailu eu gwawl brwmstanaidd ar y druanes a eisteddai ei hunau yn nghanol cynddaredd yr elfenau. Yna, ymdywalltai yr ystorm yn ei holl nerth ar ben y mynydd — yn gesair hyrddiedig gan wynt, a'r ffurf welw yn y Gader gyfareddol a oddefai y cyfan.


Clywai y breuddwydiwr leisiau annaearol yn gymysgedig â gruddfanau y corwynt, a gwelai glytiau mawrion o ia yn llithro heibio yn nghanol lluwchfeydd gwlaw a chenllusg; ac yn ngoleuni y fellten ddiweddaf, gwelai y ddrychiolaeth yn tynu ei llaw oddiar ei llygaid, ac yn datguddio gwynebpryd geneth ieuanc — gwyneb Gwenlliw! — mor angeuol ei thremyn, mor llawn o drallod chwerw, fel y deffrodd y breuddwydiwr yn grynedig, a dafnau mawrion o chwys yn crogi ar ei ddwy ael. Bu yn myfyrio am enyd beth allasai fod ystyr y weledigaeth ryfedd, ond meistrolodd cwsg ef eilwaith; a deffrodd mewn bore braf — yr awyr yn las, yr adar yn llawen ganu, a'r coed a'r maesydd wedi adfywio ar ol y dymhestl. Aeth i lawr i'r ystafell foreufwyd gyda chalon ysgafn, lle yr oedd Gruffydd a'i ddau fab a'i ddwy ferch henaf, ac wedi cyfnewid moesgyfarchiadau, gwelwyd fod Gwen yn absenol.


"Anfynych y mae hi yn olaf," ebe ei thad, "anfonwch ei llawforwyn i'w hysbysu ein bod oll yn disgwyl am dani." Daeth y forwynig yn ol, gan ddweyd fod drws ei hystafell yn gloedig, ac iddi guro amryw weithiau, heb gael un ateb.


Synasant at yr hysbysiad hwn; aethant oll i fynu ar frys, yn cael eu blaenori gan y penteulu; yr hwn a alwodd wrth ddrws yr ystafell, mewn llais crynedig, "Gwen! Gwenlliw, fy anwylyd." Dim ateb. Torwyd y ddor, ac yr oedd yr ystafell yn wâg, y ffenestr yn agored, a darn o riban ar yr astelch oddiallan wedi ei fwydo a'i ddrygliwio gan y gwlaw. Adwaenid ef fel eiddo Gwenlliw; a chasglwyd oddiwrth hyn fod y ffoadures allan cyn i'r ystorm ddechreu, ac i hwn syrthio oddiwrthi ar ei "hymdaith. Yr oedd pob mynwes erbyn hyn yn faes ymryson gwahanol opiniynau, a chrebwyll pob un o honynt ar lawn waith; ymddangosai Gruffydd wedi ymgolli mewn syndod, nid ynganai air am enyd wrth neb.


"Rhaid ei bod wedi myned cyn yr ystorm," ebai y ferch henaf. "Neithiwr! yn yr ystorm!" ebai ei thad o'r diwedd, "rhaid fod fy anwyl, anwyl eneth yn wallgof; neu ai tric ydyw y cwbl? na, ni feddai hi galon allai gellwair yn y dull yma."


Tra yr oedd y syfrdandod a'r penbleth hwn yn parhau, ymsaethodd drychfeddwl ofnadwy trwy enaid Griffin gyda nerth a chyflymdra un o'r mellt a welsai yn nghwsg — ei freuddwyd — yr ymryson yn nghylch "Pendefiges y Gader," a'r penderfyniad diysgoghwnw yn argraffedig ar ei hwynebpryd pan ymadawodd efe â hi y noson flaenorol.


"Mi wn i ynmh'le y mae hi," meddai, "ar y mynydd! ar Gader Idris yn wallgof neu yn farw cyn hyn! a minau, hurtyn, fu'r prif achos i'w hanfon yno!"


"Fy anwyl gyfaill ieuanc, y mae eich pryder yn peri i chwi siarad yn ynfyd. Cader Idris! pa fodd y dichon iddi fod yno ? Anmhosibl!" ebai y tad.


"Mae hi yno," atebai Griffin, ac argyhoeddiad dwfn o wirionedd yr hyn a ddywedai yn glywedig yn ei lais. "Hi soniodd neithiwr am fyned trwy y prawf llymidost o dreulio noson yn y Gader; a minau yn cysgu tra yr oedd hi yn marw yn y dymestl. Dilynwch fi yn ddioed; a dygwch gyda chwi ryw gordial adfywiol, os nad yw o drugaredd, yn rhy hwyr."


Llefarai gyda'r fath awdurdod fel y lladdodd bob gwrthwynebiad yn y fan, a chyn pen pum' munud yr oeddynt yn prysuro at odrau y mynydd. Efe a'u blaenorai hwŷnt oll; yr oedd ei galon ar dân; a theimlai mor ysgafndroed a'r ewig buan. i fynu hyd y ceryg rhyddion, heibio i'r twmpathau eithin a'r llwyni grug, heibio i'r ffrydiau sidellog a'r creigiau brawychus, ar hyd llwybrau geifr a mân ddefaid y mynyddoedd, ac efe a safai gan ddyheu ychydig latheni islaw y Gader. Sylweddolwyd ei freuddwyd. Yno yn ei gwisg o fuslin a'i mantell fraith, wedi eu llygru gan y gwlaw a'r pridd, yr eisteddai Gweulllw, mor oer a'r Gader ei hunan. Ei gwallt hir didrefn yn gorchuddio ei gwyneb prydferth; a'i dwylaw bychain wedi eu tŷn blethu yn eu gilydd. Gwasgodd hi i'w fynwes mewn dull haner gwallgofus, galwodd arni wrth ei henw, gwahanodd y gwallt gwlyb oddiar ei hwyneb, a gwelai yno yr un ddelw o drueni — yr un argraff o gyfyngder ac arswyd ag a bortreadwyd iddo gan ei ddychymyg mewn breuddwyd. Ond yr oedd ei thafod hi yn rhy gaeth i ddyferu gair o gysur iddo yn ei adfyd, y llygad gloew bywiog megys wedi sefyll gan hylldremu ar bethau dychrynadwy, a'r galon oedd ddoe yn chwyddo gan serch wedi oeri am byth. Claddwyd hi wedi machlud haul tu cefn i eglwys y plwyf, — lle beddrod estroniaid, a'r dosparth hwnw o ddynolryw a aberthant fywyd ar allor drychfeddwl. Oherwydd amgylchiadau ei marwolaeth, ni ddarllenwyd y Gwasanaeth Claddu. Yr ochenaid yn unig a doiai ar ddystawrwydd y seremoni, hyd oni ddiaugodd y geiriau hyn o enau y tad : — " Gwyn ei fyd y pur o galon;" ac yr atebwyd ei ddymuniad gan "Amen" pawb oedd yn bresenol. Teimlai Griffn ei galon yn hollti yn ysgyrion, a phob peth anwyl ganddo ar wyneb daear yn cael eu claddu gyda'i anwylyd. Daeth yn ol o Gymru, byth i ddychwelyd mwy; a seriwyd delw Cader Idris, a Gwenlliw brydferth farw yn eistedd ynddi, ar lechres ei galon nad all amser a'i amgylchiadau byth eu dileu.

Y "WLAD" A "SYR ORACL."

UN o ddyledswyddau cywreiniaf yr hynafiaethydd ydyw olrhain tarddiad enwau lleol; ac o dan rai amgylchiadau, y mae yn ofynol i'r dysgedigion hyn feddu darfelydd lygadog anarferol, canys nid ellir rhoddi eglurhâd yn y byd ar ambell enw heb lusgo gair neu chwedl gerfydd eu clustiau o'r pellderoedd, ac yna eu naddu a'u tacluso modd yr edrychont yn lled drefnus, ac y caffont eu rhwth-lyncu gan y chwilfrydus a'r addolwr Rhyfeddod. Pan na fyddo darnodiad "Syr Oracl" yn ei boddloni, aiff y "Wlad" at y gwaith o ddarnodi ei hunan, ac y mae yn ddifyr sylwi ar y gwahaniaeth barn sydd rhwng y naill a'r llall. Y mae y blaenaf yn credu mai doethineb ydyw ei fympwy ef, a'r olaf yn tybied mai gwirionedd ydyw ei gredoau yntau. Perthyn i ddosparth y "Wlad" yr wyf fi, canys y mae yn dda genyf bobpeth poblogaidd, ac y mae yn hawddach genyf gredu tystiolaethau diymhongar fy nghydwladwyr, na breuddwydion gwagsaw hen fynachod ffug-santeiddiol y Canol Oesau — y mae yn well genyf draddodiadau Cymreig na hanesion Lladin. Gelwir ni gan yr Oraclau "yn werin anwybodus:" gadewch i hyny fod — y mae llawer o ddysg neu rywbeth arall wedi gyru lluaws o honynt hwythau yn dra ynfyd. Barned y darllenydd oddiwrth y ffeithiau canlynol pa un o'r ddwyblaid sydd deilyngaf o ymddiried.


Dyna darddiad yr enw Rhuthyn. Dywed y "Wlad," yn ei dull prydferth ei hun, mai gwraig o'r enw Ruth oedd yn cadw gwesty yn yr amser gynt gerllaw pen y dref hono; a chan fod ymwelyr a theithwyr yn lletya dan ei chronglwyd, ac mai ei thy hi oedd y mwyaf yn y dref (pentref y pryd hwnw), dechreuwyd galw y lle yn "Ruth Inn." Sillebir yr enw gan y "Wlad" a'r Saeson hyd y dydd hwn yn Ruthin; felly nid oes dim cyfnewidiad yn y gair ond fod yr n olaf wedi ei gadael allan er mwyn arbed papur wrth ysgrifenu. Lol oedd peth. fel hyn yn nhyb Syr Oracl; yr oedd basder o'r fath yn wrthun i'r eithaf yn ei olwg. Wedi iddo gynhyrfu y llwch oddiar ei lyfrau Lladin, a manwl gyniweirio ynddynt am hen enw y lle, cafodd nad oedd enw yn y byd arno. Pa fodd bynag, darganfyddodd mai Castell Coch yn Ngwernfor y gelwid castell Rhuthyn gynt. Eithafion anmhosibilrwydd fuasai priodoli enw presenol y dref i hen enw ei chastell; ac o ganlyniad, nid oedd dim i'w wneud ond dyfeisio gwreiddyn newydd spon, fel hyn : — Saif prif ranau y dref ar graig o dywod coch neu rhudd. Oddiwrth hyn, medd y Doethawr Oracl, y tyfodd enw y lle yn Rhuddyn; a rhag i bobl foneddigaidd yslefrian wrth leisio y sain feddal dd, a rhag i'r gwyryfon ieuainc gael esgus i lispian, diswyddwyd yr dd, a'i clìyfnither th a deyrnasodd yn Rhuthyn yn ei lle hi.


Dyna Dinbych hefyd, sillebir yr enw hwnw gan un Oracl yn "Dimbach," gan farnu mae yn debyg nad oedd dim bachau pysgota ar werth yno gynt. Oracl arall a'i geilw Dimbech, gan roi ar ddeall nad oedd yno bechod na'i ganlyniadau adfydus. Ond sylwer mor dra rhagorol ydyw syniad y "Wlad" ar darddiad y gair : — -Yr oedd math o ddraig neu sarff asgellog frawychus a elwid Bych, yn llochesu tua Chastell Caledfryn yn Rhos (enw henafol Castell Dinbych), yr hwn a laddai ddyn ac anifail, ac a barai i'r hen dref fod yn annghyfanedd. Ni feiddiai neb a byw fyned yn agos at ffau yr angenfil dinystriol hwn, hyd onid anturiodd un o Salsbris, Lleweni, yr hwn a adwaenid yn mhlith ei gydwladwyr wrth yr enw Syr John y Bodiau, am fod iddo wyth bys a dwy fawd ar bob llaw. Y mae cerflun o hono yn yr Eglwys Wen, gerllaw Dinbych, yn bresenol, a'i ddwylaw yn ateb i'r dysgrifiad uchod. Efe a ornestodd â'r Bych, a bu ymladdfa enbydus rhyngddynt — yr angenfil yn poeri tân, ac â'i gynffon anferth yn gwneud pob ymgais i orthrechu y dewrddyn cyntaf a feiddiodd ei wrthsefyll. Pa fodd bynag, llwyddodd Syr John i blanu ei waewffon o dan ei aden. Syrthiodd y bwystfil ar lawr, a chydag ysgrech ddolefus nes oedd y creigiau amgylchynol yn diaspedain, efe a drengodd. Torodd y gorchfygwr ben y bwystfil, a dygodd ef yn fuddugoliaethus ychydig o'r fan, lle yr oedd lluaws mawr o'i gyfeillion a phobl y dref a'r ardal yn disgwyl yn bryderus am dynged yr ornes; a phan ddaeth i'w golwg, gwaeddodd nerth ei ben, "Dim Bych." Os oes rhyw ddyn nad all weled rheswm mewn peth fel hyn, dywedwch witho am brynu spectol bren a chwilio trwyddynt am gath ddu mewn tywyllwch. Gyda llaw, oddiar yr hanesyn hwn o eiddo y "Wlad" Gymreig y sylfaenodd y Sais ei chwedl yn nghylch " Siôr a'r Ddraig."


Sylwer eto ar farn y ddwyblaid o barth tarddiad yr enw Beddgelert. Y Parch. P. B. Williams, mab y diweddar Barch. Peter Williams (o fendigedig goffadwriaeth), a ddywedai i'r lle hwnw gael ei enwi oherwydd i ryw hen feudwy, ar ol ymgilio oddiwrth y byd, ymsefydlu yn y fan, ac adeiladu bwth; ac yn mhen enyd codwyd eglwys lle y safai preswylfa y meudwy a galwyd y lle Bwlch Cilfach Garth. Llygrwyd yr enw yn Bwlch Cilarth, a llygrwyd y gair yna drachefn yn Bethcelert. Dyna lygriad iawn; ond y mae yn rhaid iddo fyned trwy un radd arall o lygredd cyn y cyrhaedda ei berffeithrwydd llygredig presenol— Beddgelert. Yr hynafiaethydd, W. Williams, Llandegai, a ddywedai i'r lle gael ei enw oddiwrth St. Celer, nawddsant Llangeler, Ceredigion. Gyda phob parch i'r ddau awdurdod blaenorol, rhaid i mi gael tarddiad eglurach. Barna Oracl arall mai ei nawddseintio a gafodd y fan ar fynach o'r enw Celert, un o hynafiaid Serigi Wyddel, yr hwn a breswyliai yn ninas Ffaraon, heb fod nepell o Beddgelert. "Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys." Clustfeinier ar y " Wlad" yn traethu ei llên: —

"Llywelyn Fawr a gyfaneddai yn ynys Môn, ac yr oedd iddo hafotty yn mynyddoedd Eryri, gerllaw y fan y saif yn bresenol bentref Beddgelert, lle y treuliai efe rai wythnosau yn yr haf gyda'r difyrwch o hela iwrchod, ysgyfarnogod, &c. Gan y tywysog hwn yr oedd milgi rhagorol a dderbyniasai efe yn anrheg oddiwrth ei dad- yn-nghyfraith, loan, brenin Lloegr, ac enw y ci ydoedd Kilhart. Yn gyffredin dygai Llywelyn ryw ran o'i deulu gydag ef i hafota; a'r tro y cyfeirir ato yma, ei unig blentyn a'i famaeth. Cychwynodd allan i hela un bore, gan adael ei etifedd yn ngofal y forwyn hyd oni ddychwelai. Y famaeth yn llawn chwilfrydedd am weled y golygfeydd swynol oddiamgylch, a adawodd y plentyn yn ei gryd, ac a aeth allan i rodiana [Seisnes oedd hi, meddai Glasynys]. Wedi i Llywelyn a'i gymdeithion ddechreu hela, sylwyd fod Kilhart (neu Celert, yn ol dull pert y Cymro o swnio y gair) yn absenol a synai pawb yn fawr at ei absenoldeb. Pa fodd bynag, dychwelodd Llywelyn a'i osgordd yn gynarach nag arfer y diwrnod hwnw, a chyrhaeddasant yr hafotty o flaen y forwyn; a phan yn ymyl cartref, wela Celert yn orchuddiedig â gwaed yn rhedeg i'w gyfarfod, dan ysgwyd ei gynffon, a dangos pob arwydd o lawenydd ar ei ddyfodiad. Prysurodd tua'r tŷ; ac ar ol myned i fewn, O! olygfa dorcalonus! y llawr yn goch gan waed, a'r cryd a'i wyneb yn isaf, heb olwg ar y baban yn un man. Ymsaethodd y drychfeddwl ofnadwy trwy ei enaid fod ei anwylyd wedi ei ladd, ac mai Gelert oedd y llofrudd, ac heb un foment o betrusder, dadweiniodd ei gleddyf, a throchodd ef yn ngwaed calon y milgi diniwaid. Un ddolef, a dyna y creadur ffyddlon yn ysgerbwd. Yna codwyd y cryd, a chafwyd y plentyn yn cysgu yn dawel, a cherllaw hyny genaw blaidd anferth yn furgyn marw ar lawr mewn llyn o waed. Nid oedd gan y tywysog edifarus ddim i'w wneud ond gofidio oherwydd ei fyrbwylldra. Claddwyd Gelert yn barchus mewn llecyn teg gerllaw, a chodwyd tomen o geryg ar ei fedd, ac adwaenir y fan yn awr fel Bedd Gelert. Oddiar yr hanesyn hwn y tarddodd y diarebion Cymreig — "Cyn dial gwybydd yr achos," ac "Ystyr ddwywaith cyn taro unwaith," a "Gwaith byrbwyll nid gwaith ystyrbwyll," a'r wireb, "Mor edifar a'r gŵr a laddes ei filgi."


Dichon fod y tair engraifft yma yn ddigon i brofi trarbagoriaeth y "Wlad" ar "Syr Oracl," ac os na yrr dysg ei berchenog yn ynfyd, ei fod yn lled aml yn ei wneud yn anmhoblogaidd. Yr wyf yn diolch i'r "Wlad" am arbed rhag difancoll luaws o hen hanesion a thraddodiadau gwerthfawr o'r fath yna ag y buasai "Syr Oracl" wedi eu taflu i'r cŵn er's canoedd o flynyddau. Rhwydd hynt i chwithau gyda rhoddi ar bapur yr hyn a fu cyhyd ar Lafar Gwlad. Eich ufuddaf gydwladwr,

Rhys Ddwfn.

DALEN O GOFLYFR Y MARW.

Y MARW y cyfeirir ato yma ydyw y diweddar Mr. Evan Owen (Allen), Rhuthyn. Cawsom y fraint dro yn ol o daflu golwg tros ei weithiau annghyhoeddedig, ac yn ddiarwybod bron glynodd y dyfyniadau canlynol yn ein cof. Peth cyffrous ac effeithiol ydyw edrych ar lawysgrifen y marw — y mae adgofion yn ymrithio gerbron, ac yn personoli yr ymadawedig nes y teimlir fel pe yn mhresenoldeb yspryd. Gyda'r bardd y mae yr effaith a'r cyffro


hwnw yn fwy, canys y mae ei ddrychfeddyliau ef mor anfarwol ar enaid au cynyrchodd; a bardd or iawn ryw oedd Allen. Gresyn na chyhoeddid ei holl weithiau, oblegyd nid ysgrifenodd efe odid ddim nad ydyw yn werth ei gyhoeddi, ac na buasai yn addurno llenyddiaeth unrhyw genedl dan haul.

Yr engraifft ganlynol a brawf fod ganddo ddawn barddoni ffraeth a pharod annghyffredin: — Un tro yn nghwmni cyfaill, yr oedd efe yn myned heibio i felin fechan a chanddryll, a safai yn ngodreu mynydd. Dymunodd y cyfaill arno wneud Englyn byr-fyfyr ir hen sefydliad gwladaidd a diaddurn, a llifeiriodd y pedair llinell hyn tros ei wefusau mor rhwydd ar dwfr tros gafn y felin:—

Melin yn ngodreu moelydd—na bu un
Oi bath trwy y gwledydd,
Ni fal hon ddigon ar ddydd
O luniaeth ir melinydd.

Y dernyn nesaf ar lechres ein cof a arddengys ôl llafur a chywreiniwydd athronyddol mawr:—

YR ENAID.

GWREICHIONEN ANFARWOL sef anadl y Duwdod
Yn trigo mewn MARWOL adeilad o glai;
YMWELYDD am enyd a llethraur byd isod,
Ond BRODOR y tragwyddol didrai;
Gwir SYLWEDD na ddichon y llygad ei ganfod,
A BYWYD na ddichon yr angau ei ladd;
DIRGELWCH na ddichon meidroldeb ei nabod,
Daearol ei drigfan, ond nefol ei radd.
Perl gwerthfawr anmhrisiawl a gollwyd yn Eden,
A gafwyd, a brynwyd, gan Iesu fy Nuw,
Nid âg aur, nac arian, nac ebyrth anorphen,
Ond â gwaed bendigaid ei bur galon friw."

O ran angerdd teimlad fe ddeil y toddeidiau canlynol eu cymharu âg ebychiadau calon-rwygol Dewi Wyn yn ngafaelion y pruddglwyf:—


MYFYRDOD O DAN DEIMLAD AFIECHYD.

Ow! adfeilio mae peiriant dynoliaeth, —
Ow! fwrwi olwynion i afreolaeth —
O! sicr arwydd aflwydd a dadfeiliaeth —
Poen wedi hilio penyd ehelaeth —
Loes ir fron ddau ddigon ddaeth — Ow! gur garw,
Ow! boen dielw — Ow ! benod o alaeth.}}


Ow ! egr-wydn a chyndyn waed guriadau,
A gwaith hynod yn y gwythenau;
Pa wres, eirias ynt daeog er's oriau ?
Brwydro'n olynol — brad oer yn y Iwynau
F'enaid, ai'r nych ai finau — cyn yr hwyr
Orfydd yn llwyr? — Duw a wyr orau.
Er y cyfan, da i ŵr yw cofio
Ei goll a'i haeddiant, ac mai gwell iddo
Gael sur gystudd, a cherydd, a churio
Ei wedd am enyd, ac nid ei ddamnio
Ys ei haeddiant; a'i suddo'n— dragywydd
I dân gwaradwydd— Duw a'n gwaredo!

IARLL RICHMOND A'R BREUDIWR.

DAFYDD Llwyd o Fathafarn, plwyf Llanfair Cyfeiliog, ac yn meddu etifeddiaeth ar lanau y Dyfì, a gafodd yr anrhydedd o ymweliad gan larll Richmond, ar gyfrif ei enwogrwydd fel Brudiwr. Yr oedd yr larll ar ei ffordd o Aberdaugleddyf i'r Amwythig i ornestu â'r brenin Rhisiart III, am goron Lloegr, pan y tybiodd yn werth ei drafferth droi i ymofyn a Dafydd a fyddai ei ymgais yn llwyddiannus ai peidio. Wedi i'w uchelder hysbysu ei neges, petrusai y Brudiwr roddi ateb iddo, a chynygiodd ohirio hyny hyd fore dranoeth. Pan ddeallodd gwraig Dafydd Llwyd fod ei harglwydd yn petruso ateb cwestiwn syml gŵr o urddas iarll, hi a ddechreuodd ei geryddu : — "Beth! tydi yn fardd, yn broffwyd, yn weledydd, ac yn methu rhoddi ateb i ofyniad fel yna! Dywed yn bendant wrtho y bydd iddo enill y frwydr; ac os try hyny allan yn wirionedd, dyna dy enw yn uchel ac urddasol; ac os aflwyddiannus bydd, ni raid i ti byth ofni y dychwel efe y ffordd yma i'th gondemnio fel gau-brophwyd." Boddlonodd hyn y Brudiwr yn fawr; ac wedi i'r larll gael ar ddeall ei dynged, aeth i'w ffordd yn llawen. Ni raid hysbysu y gwybodus ddarfod i broffwydolaeth gyfrwysgall Dafydd gael ei chyflawni i'r llythyren — syrthiodd yr ymhongar a'r creulon Rhisiart yn y frwydr; a hyny, medd traddodiad, trwy ddwylaw ein cydwladwr dewrwych Rhys ab Tomas; a larll Richmond, ŵyr i Owen Tudur o Benmynydd, Mon, a wisgodd goron Lloegr yn ei le ef, ac a alwyd wrth y teitl Harri VII

LLEN Y FFYNONAU.

YR oedd tair ffynon yn Ngogledd Cymru nodedig am eu teithi cyfareddol, sef Ffynon Tegla, Ffynon Gwenfrewi, a Ffynon Elian. Un o epilion coelgrefydd ac anwybodaeth ydyw priodoli unrhyw rinau goruwchnaturiol i ffynonydd; ac oni buasai fod Pabyddiaeth wedi achlesu yr ofergoel am Ffynon Gwenfrewi, ni chlywsid son am yr ysgymunbeth gwarthus hwn o fewn ein terfynau. Er cyn y diwygiad Protestanaidd dirgel-lynodd Eglwys Rhufain wrth y drychfeddwl o nawdd ac eiriolaeth Gwenfrewi ar a thros bawb ffyddiog a ymofyneut lesâd yn y dwfr elwir ar ei henw; ac yma y bu Pabyddiaeth yn Nghymru fel boncyff, yn llechu fel marw, hyd onid elai rhuthrwyntoedd ei gauaf Protestanaidd heibio. Yn ddiweddar, oherwydd fod awyr Protestaniaeth yn myned yn anmrwd a chlauar, dechreiuodd yr hen foncyff flaendarddu; ac fel y mae yn alarus adrodd, chwenychodd rhai o'n cenedl ei ddail gwenwynig, ac wedi eu bwyta, y maent mor farw i ni, fel cydwladwyr a Christionogion, a phe buasent yn y bedd. Fy nghydgenedl, costiodd y rhyddid gwladol a chrefyddol a feddwn yn ddrud i'n cyndadau, ac a gysgwn ni tra y mae'r gelyn yn ailosod ei gadwynau gormesol ? I lawr a'r mân gecriadau enwadol — i fynu â baner undeb a chariad crefyddol, ac anadled ein Protestaniaeth mor bur nes lladd holl efrau gwenwynig Pabyddiaeth.

FFYNON TEGLA.

Tardda y ffynon hon mewn cors a elwir Gwern Degla, oddeutu dau can' llath oddiwrth eglwys plwyf Llandegla, sir Ddinbych. Yr oedd ei dwfr o dan nawdd a bendith y Santes Tegla, yr hon a argyhoeddwyd gan yr apostol Paul, ac a ddioddefodd ferthyrdod yn Iconium dan deyrnasiad Nero. Nid ymddengys y priodolid unrhyw rinau i'r ffynon hon ond at wella ffitiau, neu fel y gelwir yr anhwyldeb weithiau, Clwyf Tegla, ac yr oedd yn angenrhaid i'r truan claf fyned trwy yseremoniau canlynol cyn derbyn meddyginiaeth :— Dechreuid ar y seremoni wedi machlud haul. Yr oedd yn angenrheidiol i'r dyoddefydd, os gwryw fyddai, gymeryd ceiliog gydag ef— os benyw, iar a gymerai — a'r aderyn hwn a ddygai y claf mewn basged gydag ef yn ei holl symudiadau. Yn gyntaf, efe a gerddai dair gwaith o gwmpas y ffynon tan adrodd Gweddi yr Arglwydd; yna elai i'r fynwent, a cherddai dair gwaith oddeutu yr eglwys drachefn, tan ail-adrodd yr un weddi. "Wedi hyn elai i mewn i'r eglwys, gorweddai, yr orchuddiedig â llawrlen neu garped, odditan fwrdd yr allor, hyd doriad y dydd dranoeth, a chanddo Feibl mawr dan ei ben yn lle gobenydd. Gadawai yr aderyn yn rhydd yn yr eglwys, ac wedi iddo offymu tua chwe' cheiniog ar y bwrdd y bu efe yn cysgu tano y noson flaenorol, dychwelai i'w dŷ ac at ei dylwyth. Ond yr oedd un pryder yn aros eto ar ei feddwl pa un ai llwyddianus y ddefod ai peidio, sef, os na byddai i'r aderyn farw yn yr eglwys, aethai ei holl drafferth yn ofer; ac os marw a wnai y pechaberth gwirion, credid bod yr afiechyd wedi ei drosglwyddo iddo ef, a'r clwyfus wedi derbyn ymwared rhagllaw oddiwrth ei wasgfeuon dirdynol. Cyfiawnder â ffydd yr oes bresenol ydyw hysbysu fod yr arferiad ryfedd hon wedi llwyr ddarfod er ei bod ar rai ystyriaethau yn eithaf diniwaid, ac iddi mewn rhai amgylchiadau, trwy ddylanwadu ar feddwl hygoelus y dyoddefydd, fod o les a meddyginiaeth iddo.

FFYNON ELIAN.

Dywed Pennant fod y ffynon hon unwaith yn enwog am wella clefydon; ac y gellid ymgynghori yn fanteisiol trwyddi mewn arwyddion âg Elian ei nawddsant o barth lladradau, a dirgel-lochesfeydd ysbeilwyr a ffoaduriaid drygionus eraill. Pa fodd bynag, ymddengys, trwy ryw law fedrus mewn cyfaredd, fod ei heffeithiau wedi eu trawsnewid o'r nodwedd gwasanaethgar hyny i fod yn niwaid ac yn felldith. Os byddai ar ryw adyn cythreulig eisiau dial mewn rhyw ddull ar ei gyd-ddyn, prysurai tua ffynon Elian, gosodai ei achos gerbron offeiriad dewinol y ffynon, ac yntau am ychydig arian a ffugiai gyflawni amcanion maleisus y dialydd. Gan belled ag yr ydym yn deall. ysgrifenid enw y truan melldigedig ar ddarn o bapur, rhoddid pin ynddo, ac yna teflid ef i'r dwfr; ac o'r funud hono allan, os na ddeuai y truan i gymod a'i ddialydd, poenydid ef â thrueni ac anffawd hyd ddiwedd ei einioes helbulus; eithr os cymerai y cymod hwn le, dyddimid y felldith trwy dalu rhagor o arian i'r dewin. Mae yn ddiameu hefyd na buasai gan ei urddas dewinol unrhyw wrthwynebiad i godi y papuryn o'r dwfr, heb ganiatâd yr hwn a'i hawdurdododd i'w roddi yno, ar dderbyniad swm go hardd o "ddelwau y brenin," gan y blaid arall.

A fu yr ynfydrwydd uchod erioed yn llwyddianus i niweidio rhyw bersonau, sydd ofyniad rhy anhawdd i ni ei ateb; ond y mae yn eithaf hysbys na waeth i ddyn mo'r llawer fod dan felldith na chredu ei fod felly; a phan ga'i llawer un ar ddeall ei fod yn y ffyuon, tybiai fod pob-peth. mewn natur a rhagluniaeth yn rhyfela yn ei erbyn. Bu hyn yn achos i ambell dddynan gwangalon roddi ei yspryd i lawr a disgyn i fedd anamserol. Pe buasai rhyw allu yn y moddion yma o felldigo, yr oedd y sawl a wnaent ddefnydd o honynt yn gymaint dynladdwyr ag un drwgweithred a dalodd erioed am ei fai ar y crogben. Ond nid yw yn debygol yr ymddiriedai Duw gyflwr tymorol ei greaduriaid i giwed anfad cyrau ffynon Elian. Bellach y mae yr ofergoel hon hefyd, trwy ddylanwad gwareiddiad a'r Efengyl, wedi ei llwyr ddileu, a'r dewin naill ai oherwydd ad-dynerwch cydwybod, neu oblegyd gwaelder arianol y gorchwyl, wedi troi at ryw ddyledswydd well neu fwy enillgar; ac nid edrychir ar Ffynon Elian ond fel ar ryw ffynon arall, megys

" Ysten Duw i estyn dwr."

FFYNON GWENFREWI

.

Yr oedd Gwenfrewi yn byw yn y 7fed ganrif, ac yn hanu o deulu pendefìaidd. Merch ydoedd i Thewith, boneddwr urddasol a breswyliai yn y gymydogaeth lle y saif Treffynon yn bresenol: ac yr oedd ei mam, Gwenlo, yn hanu o deulu hynafol yn sir Drefaldwyn. Ewythr iddi, frawd i'w mam, ydoedd St. Beimo, mynach a meudwy enwog yn ei ddydd, yr hwn a ymneullduodd i Glynog yn sir Gaernarfon, ac yn ddiweddarach a adeiladodd eglwys yno, ac a sefydlodd fynachdy. Wedi hyny efe a ymwelodd â'i berthynasau yn sir Fflint, a chafodd ddarn o dir at adeiladu eglwys yno hefyd gan ei frawd-yn-nghyfraith, lle yr ymgymerodd efe yn gyfan-gwbl â swydd mynach, ac y cymerth dan ei ofal ei nith Gwenfrewi. Gesyd y Pabyddion hi allan fel gwir eilun prydferthwch personol, ac yn burdeb a sancteiddrwydd wedi ymgnawdoli — ei bywyd wedi ei gyflwyno i weithredoedd da, ac yn ymlochesu rhag surdoes y byd drwgpresenol rhwngmuriau yr abades-dŷ. Y mae nerth ffydd y brodyr hyn yn eithaf hysbys; ac y mae yn ddigon naturiol meddwl y medr yr un dwylaw ag a allant " droi gwir ddwfr yn wir waed " dirawsffurfìo cymeriad menyw ieuanc o fod yn rhinweddol fe ddichon i fod yn berffaith a difai, a myned trwy ryw ffurfìau cyfrin yn mhen ugeiniau o flynyddoedd wedi ei chladdu er mwyn ei sancteiddio. Hudodd " prydferthwcn personol" Gwenfrewi serch tywysog ieuanc o'r enw Cradog, mab i'r brenin Alen, ond yr oedd y "sancteiddrwydd" crybwylledig yn rhwystr iddo gael ad-daliad o'r serch hwnw. Ofer fu ei holl ymgeisiadau at enill calon Gwenfrewi — yr oedd hono wedi ei gosod ar wrthddrych uwch na marwol ddyn; ond y mae serch fel yr afon yn enill nerth a gwylltineb trwy rwystrau, neu fel y llysieuyn camomeil, ei wraidd yn dyfnhau ac yn ymledu wrth ei sathru; ac yr oedd serch Cradoc wedi enill y fath nerth trwy ei rwystrau, nes goruwchlywodraethu ar ei reswm, brenin arfaethol yr enaid. Cyfarfyddodd hi wrthi ei hunan un diwrnod, a rhoddodd ei ddymuniadau ger ei bron, mewn dull nad oedd yn hollol gyson â rhinwedd, a hithau mewn dychryn a ymdrechodd ddianc ymaith. Yr oedd y siomiant hwn yn ormod i nwydau y gŵr ieuanc ei oddef — efe a'i hymlidiodd ac a'i goddiweddodd yn mhen y pantle a elwid y pryd hwnw Sychnant — dadweiniodd ei gleddyf, a chydag un ergyd torodd ei phen ymaith. Dialwyd yr adyn yn y fan — tarawyd ef i lawr yn farw, a'r ddaear ddigofus a agorodd ei safn ac a lyncodd ei gorff ysgeler. Dywed un hanesydd fod barn wedi disgyn hyd yn nod ar ei deulu, a'r unig ffordd y celent waredigaeth rhag hyny ydoedd trwy ymweliadau mynych â'r ffynon, neu âg esgyrn y sanctes yn yr Amwythig.

Rholiodd y pen i lawr y llechwedd i'r Sychnant, lle y safai y capel a adeiladwyd gan Beuno Sant, a safodd yn ymyl ei furiau; a'r pryd hyny, o'r fan hono, y ffrydiodd Ffynon Gwenfrewi allan am y waith gyntaf erioed. Y mae y mwswgl oddeutu y llecyn yn beraroglus, ac ar un adeg o'r flwyddyn y mae y ceryg megys yn spotiau o waed, er cof am y dygwyddiad. Cododd St. Beuno y pen oddiar y ddaear, dygodd ef at y corph, asiodd y ddau yn nghyd yn drefnus, ac wedi iddo weddio, ymgododd y lladdedig i fynu yn fyw; ac nid oedd arni unrhyw graith oddigerth rhyw linell wen gul o gwmpas y gwddf yn aros er tystiolaethu am y wyrth ryfeddol.

Nid yw yr hahes yn colli dim o'i deithi dychymygol wrth fyned yn mlaen. Bu Gwenfrewi fyw wedi hyn am bymtheg mlynedd. Tynodd ei hanadl olaf yn y Gwytherin, sir Ddinbych, lle y gorphwysodd ei llwch hyd deyrnasiad Stephan, brenin Lloegr; a'r pryd hwnw, yn nghanol rhialtwch, gweddiau, a defosiynau trystfawr, symudwyd ei rhan farwol i abad-dŷ St. Pedr, yn yr Amwythig. Adgofir ei marwolaeth gyntaf gan eglwys Rhufain ar yr 22ain o Fehefin, a'i hail farwolaeth ar y 3ydd Dachwedd. Bedyddiwyd cloch yn yr Amwythig ar ei henw, a chymerid rhan yn y seremoni gan amryw gyfoethogion. Cymerasant oll afael yn y rhaff, enwasant yr offeryn, a'r offeiriad, gan ei thaenellu â dwfr sanctaidd a'i bedyddiodd yn enw y Tad, a'r Mab, a'r Ysbryd Glân. Yna gwisgwyd hi â brethyn hardd, a chynaliwyd gwledd fawr, a derbyniodd yr offeiriad lawer o arian ar ran y gloch. Wedi ei bendithio fel hyn, yn enwedig â'r bendithion olaf, yr oedd ei chlul yn abl i lonyddu ystormydd, iachau clefydon, a gyru ymaith ysbrydion drwg. Medr yr offeiriad Pabaidd am arian wneud Gabriel o Beelzebub ei hunan.

Dywed ein hanesydd, fod sancteiddrwydd bywyd Gwenfrewi wedi ei brofi trwy wyrthiau dirif. Yr oedd bron gymaint o rinwedd i'w dderbyn oddiwrth ddyfroedd ei ffynon ag oddiwrth lyn Bethesda gynt; iacheid pob math o anhwylderau. Ar y muriau uwchben y dwfr y mae lluaws o ffyn baglau, hen gadeiriau, &c, wedi eu gadael yno yn dystion gan y rhai a dderbyniasant feddyginiaeth, a'r rhai nad oedd angen arnynt am y cyfryw ategion i ddychwelyd; ond yr ydym yn ofni nad ydyw y rhai hyn yn adlewyrchu nemawr mwy o glod ar "sancteiddwydd" Gwenfrewi nag ar chwedlau pen bawd yr hen Fodryb Gwen o Aberdaron. Ymddengys hefyd fod y sanctes yn meddu ysbryd llawer eangach a haelfrydicach na'r gweddill o'i chydgrefyddwyr, canys yr oedd ei charedigrwydd iachaol yr un mor agored i hereticiaid Protestanaidd ag i'r Pabyddion uniongred.

Y mae yn ddiameu fod lluaws o elfenau llesol yn perthyn i'r dwfr oer hwn fel i lawer o ddyfroedd eraill; a dywed pawb ond y sawl sydd wedi eu dallu â i'hagfarn ac anwybodaeth, nad oes dim rhagoriaeth goruwchnaturiol ar ei gyful. Nid ar genedl y Gymry y mae y cyfrifoldeb fod yr ofergoel hon yn fyw yn bresenol: o'i rhan hi buasai wedi ei chladdu er's blynyddau yn medd gwrach y rhibin, bwciod y nos, ac adar y cyrff. Gwyddelod a Saeson Pabyddol Lancashire ydynt yr unig ddosparth bron a ymwelent â'r lle ar ddybenion hygoelus crefyddol; ac nid anfynych, hyd yn nod yn yr oes oleuedig hon, y gwelir hwynt hyd yr ên yn y dwfr yn gweddio, yn ymffurfio, ac yn dwyn eu penydiau. Y mae llysieuwyr enwog wedi profi tu hwnt i bob anmheuaeth nad ydyw y mwswgl peraroglus a'r ystaeniau gwaedlyd ond pethau digon cyffredin. Ceir y cyfryw fwswgl gerllaw amryw ffynonau yn Ngogledd Cymru; ac am y tybiedig waed, y mae yn bur gyffredin yn Lapland, ac i'w gael mewn manau yn Nghymru. Math o ysbwng melfedaidd ydyw. Geilw Linaeus ef Byssus Jolithius.

Dichon fod ffynonau eraill yn y Dywysogaeth â thraddodiadau lled hynod yn eu cylch; ond tybiwn fod y tair y sylwasom arnynt, yn eu gwahanol nodweddau, yn cynddrychioli y gweddill.

TWM GELWYDD TEG

Twm ab Ifan ab Rhys, neu fel y gelwid ef yn gyffredin Twm Gelwydd Teg, ydoedd fab i Ieuan ab Rhys, yr hwn oedd fynach yn Margam, ac a drowyd allan o'r fynachlog oherwydd ei fod yn Lolardaidd ei farn. Nid yn ol ei ystyr presenol y deallid y gair celwydd gynt. Dywed y Dr. Tregelles yn y Brython tudal. 155, cyf. iv.,[1] fod "y gair celwydd yn tarddu oddiwrth celu a gwydd, sef gwybodaeth ddirgel, a bod y gair celfydd o'r un tarddiad;" ac felly yr oedd llysenw Twm ab Ifan yn taflu mwy o glod arno nag anfri. Bu Twm yntau hefyd yn cyflawni rhyw swydd yn mynachlog Margam; a syrthiodd hefyd i'r un dynged a'i dad. Trowyd ef oddiyno, a bu yn ngharchar amryw weithiau yn nghastell Cynffig, gan Syr Matthew Cradoc, yr hwn a'i rhyddhaodd o'r diwedd, ac a fu haelionus tuag ato. Am ysbaid wedi hyn, bu ein harwr yn gwasanaethu yn mhlwf Margam a Llangynwyd, nes iddo syrthio i ryw feddyliau annghyffredin, yr hyn a barodd i Syr George Herbert eilwaith ei garcharu; ac wedi ei ryddhau y tro hwn, ni wnaeth efe nemawr iawn ond rhodio'r wlad fel cardotyn, dyrnu rhyw ychydig yma ac acw, gwneud cwndidau duwiol, a phroffwydo llawer o bethau hynod, ac am hyn y gelwid ef "Twm Gelwydd Teg."

Yr oedd Twm wedi dechreu proffwydo cyn iddo gael ei garcharu gan Syr George Herbert, a hyn, meddir, fu yr achos o'i garchariad. Wedi geni etifedd i Syr George,cynaliwyd gwledd a rhialtwch mawr ar ei fedyddiad, gan bedoli y ceffylau âg arian, a llawer o rwysgfawredd costus cyffelyb. Pan welodd Twm hyn, dywedai : — " Ha ! dyma rwysg a balchder mawr wrth fedyddio plentyn a aned i'w grogi wrth linyn ei dalaith." Cymerwyd ef i fynu yn ddioed, a bwriwyd ef i garchar yn nghastell Cynffìg. Rhoddwyd y plentyn yn ngofal mamaeth, a gorchymyn

caeth arni i'w wylied yn ddyfal ddydd a nos. Pa fodd bynag, yn mhen amser, cyrhaeddodd y sŵn i glustiau Syr Gíeorge "fod yr ymgrafu ar y llances, yr hyn a barodd i'w foneddiges ac yntau anfon am dani yn ddioed i'r neuadd, modd y gwypent a oedd y peth yn wir ai peidio. Wedi cael ar ddeall mai celwydd oedd yr ystori, dychwelasant gyda hi i'r ystafell fagu, a'r peth cyntaf a ganfyddent ar ôl myned i mewn ydoedd y plentyn wedi rhoddi ei ddwylaw dan linyn ei dalaith, ac wedi eu hymddyrysu yn y fath fodd, nes tagu a marw o hono mewn canlyniad; neu fel y gellid dywedyd, wedi " ymgrogi wrth linyn ei dalaith. "Yna danfonwyd yn heinif ddigon i ryddhau Twm o'r carchar; ac wrth nad oedd cosp a charchar yn tycio i ladd cyflawniad ei broffwydoliaethau, rhoddodd y barwnig arian iddo a phob croesaw.

Un tro arall yr oedd efe yn dyrnu mewn ysgubor, a daeth rhyw lanc heibio ac a'i cyfarchodd, " Wel, Twm Gelwydd Teg, pa newydd sydd genyt ti heddyw ?" " Hyn," ebai Twn, "ti a fyddi marw o dri angau cyn y nos heno." " Ha ! Ha !" ebai y llanc, " nid all neb farw ond o un angau;" ac ymaith âg ef dan chwerthin. Yn nghorph y dydd, aeth y llanc i ben pren mawr ar geulan afon i dynu nyth barcutan, a phan roddodd ei law yn y njth., rhwygwyd hi gan neidr a gludwyd yno gan yr aderyn i'w gywion. Parodd hyn iddo golli ei afael a chwympo, yn gyntaf ar gainc fawr o'r bren, a thori ei wddf; ac oddiyno drachefn syrthiodd i'r afon ddofn islaw. Trwy hyn cyarfyddodd â thri angau, sef ei rwygo gan Neidr, tori ei wddf, a boddi.

GWYLLIAID COCHION MAWDDWY

.

TUA chanol yr 16eg ganrif, yr oedd haid o ddrelgwn lladronllyd a llofruddiog yn crwydro ac yn ysglyfaethu yn nghymydogaeth Dinas Mawddwy, a adnabyddid wrth yr enw " Gwylliaid Cochion Mawddwy," neu "Gwylliaid y Dugoed." Lladron pen ffordd oeddynt, o'r rhyw fwyaf trwsgl a barbaraidd; dyhirod ysgymunedig o'u bro eu hunain, wedi dewis y lle anial hwn i ddwyn yn mlaen eu gweithredoedd ysgeler. Barnai Pennant mai gwehilion anfad y rhyfel cartrefol rhwng York a Lancaster oeddynt, wedi eu gorfodi, pan wnaed heddwch, i ddewis maes newydd, er mwyn byw ar eiddo pobl eraill. Dysgwyd brodorion y parthau hyny yn fuan i'w hofni a'u hymogelyd; dygent arfau gyda hwynt pan elent oddicartref, a gosodent bladuriau, ac offerynau miniog eraill, yn eu simneiau i'w lluddias rhag dyfod i'w haneddau trwy y llwybr hudduglyd hwnw. Cymaint ydoedd grymusder, rhif, a threfn y " Gwylliaid," fel yr ymffurfiasent yn gorfforiaeth rheolaidd, a chanddynt ddeddfau yn eu mysg eu hunain, a phenaeth neu arweinydd yn eu llywodraethu. Gyrent ddeadelloedd cyfain o anifeiliaid oddiar faesydd yr amaethwyr i'w llochesfeydd yn y coedydd a'r mynyddau yn llygad haul ganol dydd; ac os byddai i rhyw ddyn neu ddynes fod mor anffodus a syrthio i'w crafangau, ni ollyngid hwynt yn rhyddion heb dalu llawer iawn o arian. Pa fodd bynag, tyfodd eu hesgelerderau i'r fath raddau nes dwyn dialedd ymarhous y wladwriaeth arnynt, (ymarhous yn yr oes hono,) a phenderfynwyd eu cospi â llaw drom. Apwyntiwyd Syr John Wyn ab Meredydd, o Wydir, a LewisOwen, un o farwniaid trysorlys Gwynedd, i ddwyn hyn oddiamgylch. Y ddau foneddwr a gasglasant fyddin o wŷr arfog, ac ar nos Nadolig llwyddasant i ddal tua chant o'r "Gwylliaid," llawer o ba rai a alltudiwyd o'r fangre, ac eraill a grogwyd. Yn mhlith y rhai a dderbyniasant y ddedfryd olaf, yr oedd dau frawd, y rhai a ddeisyfasant yn daer ar Lewis Owen am bardwn. Yntau a'u nacâodd; a'u mam mewn cynddaredd a ddywedodd wrth y barwn gan noethi ei mynwes, "Y mae y bronau hyn wedi maethu rhai a ddialant waed eu dau frawd, ac a olchant eu dwylaw yn ngwaed dy galon di."

Yr oedd y giwed mileinig a weddilliwyd o'r ddalfa nos Nadolig wedi penderfynu ar ddialedd, a buan y cawsant gyfleusdra i roddi eu penderfyniad cythreulig mewn grym. Clywsant fod y barwn i eistedd yn mrawdlys sir Drefaldwym, ac yr oedd ei ffordd tuag yno yn gul, ac yn arwain trwy goed tywyll a chauadfrig. Bwriasant amryw brennau i lawr nes cau y ffordd i fynu, er mwyn gwneud ei ddiangfa yn anhawddach. Pan ddaeth efe i olwg y rhwystr hwn, ei osgordd-weision a fachogasant yn mlaen er ei symud, eithr cyfarfyddasant â'r fath gawod a saethau oddiwrth y gelynion a lechent yn y prysglwyni gerllaw, nes y ffoesant yn ol am eu bywydau. Y Gwylliaid a ymlidiasant y rhai hyn hyd oni ddaethont at y barwn, ac yna ymosodasant arno ef a'i fab-yn-nghyfraith, John Wyn o'r Ceiswyn, y rhai a amddiffynasant eu hunain mor lew a gwrol ag yr oedd yn bosibl i ddynion anmharod wneud. Tynodd Lewis Owen un saeth o'i wyneb, a thorodd hi yn ei haner; ond yr oedd y gelynion yn rhy luosog, a'u holl nwydau barbaraidd wedi meddwi ar ddialedd; ac o'r diwedd efe a syrthiodd, a dim llai na deg-ar-ugain o saethau, fel cenadon angau, yn glynu yn ei gorph. Gadawsant ef ar lawr yn farw yn ei waed. Eithr wedi myned o honynt oddeutu chwarter milltir oddiwrth y fan, meibion yr hen wrach gynddeiriog hono a gofiasant fygythiad eu mam, a ddychwelasant at y corph, a golchasant eu dwylaw llofruddiog yn ngwaed y Barwn Owen. Bu llofruddiad y Barwn yn achlysur i lwyryr ddinystrio "Gwylliaid Cochion Mawddwy;" gweinyddwyd cyfiawnder llymaf y gyfraith arnynt; llawer o honynt fuont feirw fel aderyn ar y "pren;" ac eraill a ymlidiwyd o'r wlad, byth i ddychwelyd mwyach; diwreiddiwyd hwy a'u hliogaeth mor llwyr, fel nad oes un sir yn Mhrydain mor lân oddiwrth ladron a llofruddion a sir onest a rhinweddol Meirionydd — sir y menyg gwynion, a'r dim troseddau.

SYR HYWEL AB HUW.

(CHWEDL ODDIAR LAFAR GWLAD.)

Yn nghwr eithaf cantref Clwyd y preswyliai gŵr o'r enw Syr Hy wel ab Huw, a chanddo yn ei feddiant dri o anifeiliaid pyniog. Prif lafur y rhai hyn ydoedd cario tanwydd i gynesu aelwydydd Syr Hywel a'i gymydogion. Gelwid un o honynt, oherwydd cryfder ei ên, yn Derby; a'r llall yn Lion, am fod blew hirion yn tyfu trosto; a'r olaf a elwid Cwta, am i ryw adyn mewn malais dori'r rhan fwyaf o'i gynflfon ymaith. I Syr Hywel hefyd yr oedd amryw feibion, y rhai a gymerent ofal ei ddâ, 'trwy eu llwytho a'u llywodraethu â phastwn a hoelen flaenllem yn "un pen iddo. Na thybied neb fod hon yn swydd ddiraddiol i blant "Syr," canys credai y Syr yma mai y ddysg werth fawrocaf i blant ydoedd dysgu gweithio.

Yr oedd ystâd Syr Hywel yn hir iawn. Sicrhaodd "oraclau" yr ardal ei bod amryw filldiroedd o hyd; dywedai "doethorion" ei bod yn mhell tros gan' milltir;.ond credai y "wlad" yn ddiysgog ei bod yn cyrhaedd o fôr i fôr; ac er fod y dyb olaf yn swnio braidd yn rhy "gref," yr ydym yn tueddu i'w chredu o flaen y lleill. Y mae yn ddigon naturiol casglu nad oedd Syr Hywel yn bersonol gydnabyddus ond â rhan fechan iawn o etifeddiaeth mor eang; ac o fawreddigrwydd ei galon, gadawai y gweddill at wasanaeth y cyhoedd. Gweddus i ni, pa fodd bynag, hysbysu nad oedd Ued ei ystâd yn gyfartal à'i hỳd, canys oddeutu deg neu ddeuddeg llath oedd ei lled cyffredinol, ac mewn rhai manau gellid myned ar ei thraws ar bedwar cam. Pan ddygwyddai fod tir yr amaethwyr yn ymylu ar yr etifeddiaeth yma, eu dyledswydd hwy ydoedd cadw y cloddiau a'r gwrychoedd yn gyfain (neu gymeryd y canlyniadau), ac fel ad-daliad gymwynasgar am hyny byddai Syr Hywel yn caniatau iddynt hwy a'u teuluoedd y rhyddid o Iwybro ar hyd canol yr ystâd, a dwyn gyda hwynt, os mynent, eu cerbydau, a'u gwartheg, a'u meirch, a phob rhyw eiddo symudadwy arall. Yr oedd y fraint hon at wasanaeth y cyhoedd yn ddiwahaniaeth, a mawr y cyfleusderau a dderbynient trwyddi.

Rholyn o ddyn byr, llydan, tagellog, oedd Syr Hywel, a chanddo wallt coch, tase fo'n waeth o ran hyny, ei drwyn yn nefoedd-gyfeiriol, ac un foch yn dra chwyddedig beunydd oherwydd rhyw ddrwg oedd rhyngddi a'r danedd; ac mor greulon oedd ef fel ysmygwr, nes y sicrhaodd un doethawr " iddo gael ei eni a'i bibell yn ei ben." Yn ei wisg yr oedd yn hollol ddifalch — brethyn cartref oedd ei deunydd, wedi ei goreuro gyda llaid a llwch, a thyllau yn y ddau benelin, ac o dan y ddwy gesail, er mwyn i'r awyr 'gael myn'd i mewn. Tyfodd yn llydan, a magodd dagell, wrth fwyta uwd a llaeth, ac wrth son am gig.

Yr oedd palas Syr Hywel yn sefyll ar lechwedd heulog, a phâr o risiau yn arwain ato, fel pe buasai yn villa ddwyreiniol. O hono ceid y golygfeydd eangaf ar y dyffryn prydferth a ymledai o'i flaen, ac ynddo ceid engraifft gy ir o ddodrefn ein cenedl ddwy ganrif yn ol — yr hen droell fawr a bach, y 'stolion trithroed a'r byrddau derw trymion, o dan eu llwch cysegredig henafol, a buasai y deuluyddes yn ei ystyried yn bechod mawr symud llychyn o'r cyfryw. Tuhwnt i'r dyffryn, safai y Foel Fama fel cadfridog galluog yn ei wylio, a'r moelydd cylchynol fel is-swyddogion yn disgwyl am ei orchymyn. Mewn cyfeiriad arall, yr oedd yr olygfa yn llawer eangach, ymestynai ganoedd o filldiroedd gerbron y llygaid, ac yr oedd syllu arni yn ddigon i wneud bardd o delpyn o bridd. Heblaw ffenestri yn ystlysau ei balas, yr oedd gan Syr Hywel dyllau hefyd yn y tô, fel y gallai weled y blaned Jupiter oddiar wastad ei gefn yn ei wely. Eithr yn ffurf meddwl Syr Hywel yr oedd ei brif hynodrwydd yn gorwedd. Yr oedd yn ostyngedig iawn; ymgomiai gyda'r amaethwr distadlaf, a byddai yn iechyd i'r meddwl isel sylwi arno yn mharlwr y "Bedol" ddiwrnod marchnad yn cysuro yr amaethwyr ddygwyddent fod yno, ac yn tywallt olew cydymdeimlad i friwiau calon yr amaethwyr aflwyddianus. "Wel, y mae hi yn galed arnom ni y ffarmwrs yn awr; ond hi ddaw yn well toc," oedd ei eiriau; ac yna efe a gymerai afael yn holl symud- iadau y byd gwleidiadol, ac a'u gwasgai fel swp o rawnwin, gan dynu casgliadau cysurlawn (megys gwin) ohonynt. Crybwyllasom am ei gymwynasgarwch yn caniatáu i'r cyhoedd lwybro hyd ei dir, ond yr oedd gwrthgyferbyniad rhyfedd rhwng hyn y a'i ymddygiadau dan amgylchiadau eraill. Nid oes ar gael un traddodiad ddarfod iddo erioed roddi elusen i'r tlawd, eithr yn fynychaf gwgai arno; ac mewn dull arglwyddaidd, perffaith gyson â'i urddas ef, gorchymynai iddo brysuro o'i wyddfod. Y gwir am dani ydoedd, ystyriai efe dlodi yn bechod, ac fel y cyfryw cymerai bob cyfleusdra i ysggynygu danedd', arno. Credai yn ddiysgog yn ngallu dyn; mai diogi: ydyw tad tlodi; a'r dyn tlawd yn unig a gyfrifai efe yn bechadurus.

Dyna nodweddiad Syr Hywel fel y mae ar Lafar Gwlad yn y cwr hwnw, ac oddiar yr un awdurdod yr ydym eto yn croniclo y dygwyddiad anarferol a ganlyn mewn cy sylltiad â'i ddâ pyniog : —

Yr oedd natur yn swrth ymollwng i freichiau y nos, a holl gôr y goedwig wedi rhoddi heibio eu telynau, oddigerth y ddyllhuan, telyn pa un, gyda llaw, oedd yn warthus allan o gywair, tra y tynai un o weision Syr Hywel yr ystrodur oddiar gefn cramenllyd Darbi, a gwas arall a ddatodai genglau Cwta, ac ar ol hyny a dynai y ffrwyn o ben ystyfnig Lion, ac yna gollyngasant hwynt i, barc hirfaith eu meistr i bori ac i orphwys tan y bore. Dygwyddai y parc yr adeg yma fod yn lled Iwm a diborfa; a'r hwsmyn, fel gweision da, yn cydymdeimlo â gwrth ddrychau eu gofal, a benderfynasant wneud adwy yn ngwrych cae un o'r cymydogion, modd y gallai yr anlfeiliaid gael tamaid anmheuthyn y noson hono. Yn y cae hwn yr oedd tas o wair wedi ei thori a'i thori nes myned o honi yn gilcyn. Ni ddibrisiodd yr anifeillaid y cynyg haelionus a osodwyd ger eu bronau, a phrysurasant i dori eu hangenion. Bore dranoeth, aeth y ddau was i ymofyn am danynt i'r man y tybient y deuent o hyd iddynt; ac er eu syndod a'u gofid, nid oedd eu hanes yn un man. Dychwelasant yn siomedig at eu borefwyd, a gorfu iddynt ddadblygu yr hanes gerbron Syr Hywel. Gyrodd hyn y meistr yn gynddeiriog wyllt, ac i fathu rhegfeydd newyddion spon; nid oherwydd adwyo o honynt glawdd ei gymydog, eithr am y tybiai fod gan hyny ryw gysylltiad â diflaniad cyfrin yr anifeiliaid. Ar ol borefwyd, aed at yr un gorchwyl diflas drachefn, a chyda'r un aflwyddiant y dychwelasant yn mrig yr hwyr. Nid oedd undyn yn unlle wedi gweled na chlywed dim oddiwrthynt. Yr oedd Ifan, y llanc hynaf, yn darn gredu ddarfod i'r ddaear agor ei safn a'u llyncu yn eu crynswth. Tybient fod yn anmhosibl i neb am foment goleddu y bwriad o'u lladrata; haws na hyny fuasai credu iddynt fagu adenydd, a hedeg ymaith megys dreigiau. Athronwyr clasurol yr ardal a benderfynent fod lau dduw rhyfel, er dwyn brwydr yn mlaen âg un o'i gyd-dduwiau, wedi rhoddi ei fryd arnynt, a'u cipio i fynu i gludo adgyfnerthion i'w fyddin; tra y credai eraill iddynt wneud am danynt eu hunain yn rhy w fangre annghysbell. ond pwy glywodd erioed am un creadur - oddigerth dyn yn cyflawni hunan-laddiad? Aeth tri diwrnod heibio a'r dirgelwch yn aros yr un mor annhreiddiadwy; a Syr Hywel yn tybio mai oferedd 'chwilio mwyach am y colledigion, a roddodd y bechgyn at ryw orchwyl mwy buddiol ac enillfawr.

"Idwal," ebai yr amaethwr Harri ab Sion wrth ei was, "cymer y drol, a dos i'r Maes Meillion i 'nol y cilcyn gwair hwnw sydd wedi syrthio, onidê fe'i handwyir gan y dryghin." Idwai a ufuddhaodd, a ddaeth i'r Maes Meillion, a gafodd y gwair yn llanastr ar lawr, ac a brysurodd i'w godi i'r drol. Tra yn gwneud hyny, synwyd ef yn aruthr wrth weled yr holl swp yn symud ac yn ymrwyfo yn ol a blaen, fel pe buasai bywyd yn mhob gweiryn o hono. Dychrynodd yn ddirfawr, ac ymaith âg ef am ei hoedl, hyd oni chyfarfyddodd rhyw ddyn oerach ei ben nag ef, yr hwn ar ol ymholi yn nghylch ei frys mawr a'i perswadiodd i ddychwelyd, modd y chwilient i wir achos ei ddychryn. "Wedi iddynt chwalu y gwair, beth oedd yno ond y tri anifail colledig. Aethpwyd at y gorchwyl o'u rhyddhau yn ddiymaros; ac er iddynt dderbyn pob cymhorth i godi i fynu, o'r braidd y gallent sefyll ar eu traed, ar ol bod o honynt cyhyd mewu camystum. Ymddengys iddynt bori a phori ar y cilcyn hyd oni ddisgynodd yn ddisymwth ar eu gwarthaf, gan eu llwyr lethu i'r llawr. Danfonwyd am Syr Hywel ar frys gwyllt, ac efe a'i fechgyn, mewn teimladau cymysgedig o lawenydd a galar — llawenydd o'u cael, a galar oherwydd eu cael yn y fath gyflwr — a barotoisant i'w gyru tuag adref. Ond yr oedd edrych ar y trueiniaid yn ceisio cerdded y peth digrifaf a welwyd yn y cwr hwnw er's llawer dydd; edrychent yn debycach i grancod y môr yn null eu cerddediad nag i un creadur arall. Llusgasant eu haelodau cyffiedig at aber o ddwfr oddeutu haner milldir oddiwrth y lle, ac yno y buont yn drachtio nes llwyr atal melin oedd yn sefyll ychydig islaw iddynt. [Y bobl sydd yn dweyd hyn, cofier.]

Dychwelodd Idwal adref wedi i'w ddychryn liniaru, a dywedodd Harri ab Sion wrtho, pe gwybuasai pa beth oedd dan y gwair, na buasai yn ei gythryblu am wythnos neu ddwy yn rhagor; a murmurai rywbeth nad dyna y tro cyntaf iddynt fod yno; ond pe buasai efe yn hollwybodol, mai hwnw fuasai eu tro diweddaf.

Nid oedd Syr Hy wel yn hoffi gweled pobl yn chwerthin wrth fyned heibio iddo ar yr heol, a phlantos yn estyn bys ar ei ol; a phwy all ei feio os ymabsenolodd oddiwrth y cyhoedd am rai wythnosau, ac os oedd ei le yn mharlwr y "Bedol " yn wâg, a'r amaethwyr druain yn colli ei eiriau cysurlawn. Ond cryfach arfer na dysg: yn raddol gwelid ei wyneb eilwaith yn ei rodfeydd; ymwelai âg arwydd y " Bedol " yn achlysurol; ail ymwrolodd i gysuro y gwau ei feddwl, ac i sôn "am danom ni y ffarmwrs yma." Un diwrnod, tra yr oedd Hywel yn adrodd y geiriau hyn wrth un o ffermwyr ceirch godreu mynydd Hiraethog, pwy ddygwyddai fod mewn congl o'r ystafell, ac yn anweledig i Hywel, ond yr amaethwr Harri ab Sion, yr hwn a hiraethasai er's talm am gyfle i ddweyd ei brofiad wrtho. "Dal dy dafod, Hywel," ebai o, "y ffwlach penwan, ai tybied yr ydwyt fod pobl i'w cael mor ffol a thithau, trwy gredu dy gelwyddau dybryd? Yr wyf yn dy adwaen yn rhy dda, Hywel, er's blynyddau bellach. (Hywel yn cochi.) Carwn wybod yn mh'le mae dy fferm di yn sefyll. (Hywel yn glasu.) Y ffordd fawr, debyg gen' i. Yn mh'le mae dy anifeiliaid di, Hywel ? y tri mul hyny sydd wedi byw ar hyd eu hoes ar fy mhorfa i? a dy blant sydd yn' edrych ar eu holau yn îs anifeiliaid na hwythau — mor ddifoes a diddysg ag un asyn yn y byd. Ni weithi dy hun, eithr gyri dy blant truenus i enill dy fwyd a dy ddiod trosot. (Hywel yn codi i wadu yr haeriad, ac yn cael fod ei dafod jn 'cau gweithio; eistedd i lawr mewn cywilydd.) Y maent yn tyfu i fynu fel mwnciod, yn gorachaidd, dilun, ac anhawddgar. Y maent yn haner rewi ar gefnau y mulod, ac y mae'r gair iddynt roddi gwrychoedd pobl ar dân, er mwyn meirioli tipyn ar fêr eu hesgyrn; pryd y dylasent fod yn yr ysgol, yn darpar at dreulio oes mewn rhyw gylch uwch na gyru mulod. Cyn yr ymddygaswn fel tydi, Hywel, at fy mhlant, cawsai fy nwylaw eu gorchuddio â chyrn, a buasai yn well genyf i'r hen freichiau yma wywo wrth fy ystlysau, nag yr ymddygaswn tuag at fy mhlant fel y gwna yr estrys tuag at ei chywion. (Cymeradwyaeth dirfawr oddiwrth yr holl gwmpeini.) Pe buasai pawb fel ti, Hywel, ni buasai genym fel cenedl na phregethwr, na bardd, nac athronydd, nac ysgolor o un math; ac ni buasem nemawr gwell ein gwareiddiad na bwystfulod yr anialwch. Tafl dy rodres a dy frol i'r gwynt, torcha dy lewys, gweithia am dy damaid, ac anfon dy blant am flwyddyn i ryw ysgol, os oes ysgolfeistr yn y wlad gymer arno y dasg o addysgu barbariaid o'u bath."

Dyna ddigon. Ymlithrodd Hywel allan mor ddystaw a phryf genwair, ac ni welwyd ef mwyach yn mharlwr y "Bedol;" ond gellid ei weled am bump yn y bore yn parotoi fel dyn arall at waith. Gwerthwyd yr anifeiliaid am brisiau eu crwyn, a thalwyd am eu blingo allan o hyny, a gwnaeth Syr Hywel anrheg o'i ystad i hen wragedd tlodion allent fforddio cael buwch, er mwyn enill bywioliaeth oddiwrth ei llaeth a'i hymenyn, ac i'r llencyn diffrwyth ac amddifad allai enill ei damaid oddiwrth y drol ful. Anfonwyd y plant i'r ysgol, a chynyddasant mewn gwybodaeth a rhinwedd; llanwasant swyddau pwysig, a buont feirw, fel eu tad, mewn oedran teg. Teimlai Hywel yn ddiolchgar byth i Harri ab Sion; oblegyd priodolai ei ddiwygiad i'w gynghorion ffraethlymnion ef.

Os dygwydd i'r chwedl hon gyfarfod y dyn hunanol ac ymhongar, hyderwn y bydd yn foddion i ddysgu iddo y wers seml a gwerthfawr hono, "nad yn ol ein pwysau ein hunain y'n pwysir gan eraill," ac nad yw gwir yn llai gwir er ei adrodd mewn geiriau pigog; ac y gwasga ar rieni y ddyledswydd o roddi addysg i blant, hyd yn nod pe costiai hyny iddynt ambell bryd o fwyd, a llawer awr o gysgu.

SYR LAWRENCE BERKROLLES AC OWEN GLYNDWR.

Pan oedd Owen Glyndwr yn ymdaith hyd y wlad ar ddull "boneddwr dyeithr, a chydag ef un cyfaill cywir wedi ymwisgo ar agwedd gwas iddo; a chan fod yn beryglus y pryd hwnw dwyn arfau o un math, yr oeddynt eill dau yn anarfog. ac yn myned oddiamgylch er gwybod tueddiadau gwleidyddol y bobl. Daethant hyd at gastell Syr L. Berkrolles, a deisyfodd Glyndwr yn Ffrancaeg am lety noson i'w was ac yntau. Caniatawyd hyn yn rhwydd, a goreuon y castell a roddwyd at ei wasanaeth; ac mor fawr ydoedd caredigrwydd Syr Lawrence, fel y deisyfodd ar y rhyfelwr enwog dario gydag ef am ychydig ddyddiau, a chwanegai ei fod yn disgwyl y byddai Owen Glyndwr yno gyda hwynt yn fuan; " canys yr wyf wedi anfon tenantiaid, a gweision, a llawer o ddynion ymddiriedus eraill, tan lŵ, i'w ddal, a'i ddwyn yn ddiogel i'r castell hwn, yn fyw neu yn farw." "Gorchwyl da iawn fyddai dal y gŵr hwnw," ebai Owen, "pe bae rhywun yn abl i wneuthur hyny." Pa fodd bynag, wedi aros o Owen yn y castell am dridiau neu bedwar, tybiodd mai doethineb ydoedd ymadael; ac wrth ffarwelio â Syr Lawrence, efe a'i hanerchodd fel hyn: — " Y mae Owen Glyndwr, fel dyn cywir-galon, heb falais na brâd yn ei fynwes, yn rhoddi ei law i Syr Lawrence Berkrolles, ac yn diolch iddo am y caredigrwydd a'r croesawiad boneddigaidd a dderbyniodd ef a'i gyfaill oddiar ei law yn y castell; ac y mae efe hefyd yn myned ar ei Iŵ, law yn llaw, a llaw ar galon, na bydd iddo byth feddwl dial bwriadau Syr Lawrence Berkrolles ond yr amcana eu dileu oddiar ei gof ei hun, a'u celu oddiwrth ei berthynasau a'i ddilynwyr. "Yna Owen a'i gyfaill a ymadawsant; eithr Syr Lawrence a darawyd yn fud gan syndod, ac ni ddaeth mwyach air dros ei wefusau. — Iolo Manuscripts.

YSTORI DOCTOR Y BENBRO

.

FEL yr oedd lluaws o bobl Llanfair Bont Stephan yn Neheubarth Cymru yn dychwelyd o Ffair Talsarngrin tan ymgomio yn nghylch trafferth anfuddiol rhyw ofer- ddynion afradus nad arbedrnt gost i fagu a dwyn i fynu yn foethus haid o helgwn barus er mwyn y coegddifyrwch o hela, un a'i enw Gwalchmai a ddywedodd: — " Nid heb achos ynte y clywais ddarfod i'r brenin Pabo, o wlad Fon, dori agos ar ei draws wrth chwerthin am ben y segurwyr hyn." Cynhyrfodd y dywediad hwn gymaint ar chwilfrydedd cydymdeithion Gwalchmai, nes yr atolygasant arno adrodd y chwedl a barasai i ŵr mor enwog a Phabo chwerthin felly.

Ebai Gwalchmai: "Yn y wlad hono yr oedd physigwr nodedig; rhemwth afler o garn Sais, coesgam, annghymroaidd ydoedd, mor ddibris o fywyd dyn ag o fywyd chwanen, a adwaenid wrth yr enw " Doctor y Bendro."Hwn a gymerai arno wneud pob gwallgof a ddygid ato mewn hyn a hyn o amser yn holl iach. Ei ffordd ef o'u trin oedd fel hyn: Yr oedd ganddo yn un pen i'w dŷ ystafell fawr, ac yn hono yr oedd trochlyn o ddwfr budr, drewedig, ac yn nghanol hwnw y rhwymai efe y rhai gwallgofus wrth bost yn gwbl noethion; rhai o honynt hyd eu gliniau, rhai hyd eu bogeiliau, a rhai yn ddyfnach fyth, yn ol graddau yr afiechyd. Ni chaent ddim lluniaeth, oddieithr tair llwyaid o gawl erfìn, neu botes gwyn bach, unwaith bob wyth awr a deugain. Yn y dwfr hwnw goddefent newyn, rhyndod, a drygsawr, nes adferu iddynt eu cof a'u synwyr, neu farw o honynt tan y driniaeth.

"Yn mysg eraill, dygwyd i'r gwallgofdy un Gwion Gwag Siol, yr hwn a roddes efe yn y pwll hyd haner ei forddwyd; ac wedi bod yno yn daru fwydo am bythefnos, efe a ddechreuodd wella. Yna efe a ymbiliodd ar y Doctor am genad i ddyfod o'r pwll, a chafodd ei ddymuniad ar yr amod na byddai iddo fyned allan o'r ystafell; ymfoddlonodd yntau i hyny yn ddiolchgar iawn dros rai dyddiau. Yna deisyfodd gael rhyddid i fyned hyd y tŷ. Caniatawyd hyny iddo, trwy nad elai allan a'r drysau.

"Ryw dro, pan oedd Gwion yn sefyll yn mrig yr hwyr wrth ddrws y tŷ, canfu ŵr ieuanc lled foneddig yn marchogaeth tuag ato ar glamp o geffyl, a gwalch yn un llaw, a phastwn hir yn y llall, dan groch floeddio a chwibianu, a llu o filgwn, cystowgwn, ysbaingwn, corgwn, a mân ddrewgwn eraill ar ei ol; ac o hirbell yn eu dilyn yr oedd tri o wŷr traed — gwehydd, eurych, a chrachuchelwr, wedi i sŵn y corn eu tynu yn y bore oddiwrth eu gorchwylion, yn rhedeg yn fawr eu chwys, a'u traed trwy eu hesgidiau, i gael rhan o'r difyrwch. "Nid oedd Gwion yn cofio dim o'r pethau a welsai gynt cyn anmhwyllo, a synai yn aruthr at yr olygfa ryfeddol hono. Galwodd y gŵr ieuanc ato, yr hwn pan neshaodd, 'Gwrando'r glanddyn,' ebai Gwion, ' ac ateb i mi gwestiwn neu ddau. Pa fwystfil ffromwyllt sydd genyt yna yn marchogaeth arno? ac i ba bwrpas yr ydwyt yn ei gadw?

'March ydyw,' ebai y gŵr ieuanc, ' ac er mwyn y dyfyrwch rhagorol o helwriaeth yr ydwyf yn ei gadw.'

" 'Aie mewn difrif!' ebai Gwion, 'a pha fodd y gelwid y tegan yna sy'n dy law di? a pha beth yw ei ddyben?"

" 'Gwalch ydyw, 'meddai y llall,' defnyddiol iawn at ddal petris, a grugieir coesgochion, a hwyaid gwylltion.'

" ' Hy!' ebai Gwion, ' ond pa beth yw'r haid creaduriaid bolweigion eraill yna sy'n dy ganlyn di, a rhes o fotymau yn tyfu hyd eu cefnau, a'u hystlysau yn debyg i ochr basged, ac i ba beth y maent hwy'n dda?'

" 'Cŵn ydynt,' ebai y llall, "o bob math, ac o'r rhywogaeth oreu yn Nghymru, wedi i mi fy hunan, trwy fawr gôst a gofal, eu dysgu'n rhagorol i olrhain adar a phryfaid gwylltion, trwy ddŵr a thân, gelltydd a choedydd, anialwch a dyrysni. Dyma di-i chwpl o fytheuaid o lin cŵn goreu Brochwel Ysgythrog, tywysog Powys, heb eu gwell yn y wlad at geinach a chadno, dyfrgi a ffwlbart, bronwen a thwrch daear. Dacw ddau gwbl o ddaeargwn o waed digymysg, tu tad-tu fam, o hiliogaeth y cŵn goreu a fu erioed ar helw Rhys ab Tewdwr Mawr o'r Deheu barth. Hen orwyr y milgi acw a gafodd fy nhaid i gau orwyr i un o ŵyrion Cadrod Hardd, arglwydd Talebolion, yn Môn. Yr adargi yna a ddanfonwyd i mi o Wlad yr Haf gan Syr-....'

" 'Ust! Ust!' ebai Gwion, ' digon bellach am achau, bonedd, a gwaedoliaeth dy helgwn. Moes wybod pa faint a dâl yr adar a'r pryfaid hyny yr wyt yn ceisio cynifer o bethau i'w hela, pe bwrit holl helwriaeth y flwyddyn gyda'u gilydd?'

" 'Pw!' ebai'r heliwr, 'nis gwn i'n iawn pa faint;' a phan ddywedodd mai prin y cyrhaeddai werth coron o arian,

" Gwaed fy nghadach,' ebai Gwion, a pha faint y mae cadwriaeth y march, y gwalch, a'r holl lumangwn gwancus yna yn ei gostio i ti?' " ' Dim llai," ebai'r heliwr, ' na chant a haner o bunau, heblaw ambell bunt am ormes y cŵn pan hiraethont, druain, a damaid anmheuthyn, ac yr elont i wledda ar ddefaid y cymydogion." " 'Ho! Ho!' ebai Gwion, 'y mae dy goryn di wedi ei glwyfo'n greulon, y cyfaill penchwiban! Os ceri dy hoedl, dos ymaith o'r fangre hon mor gynted fyth ag y gelli, cyn dyfod y Doctor adref; oblegyd os efe a'th ddeil di yma, efe a'th gyfrif y cadffwl ynfataf ar wyneb y ddaear, wedi i'r bendro wibwrn dy bendifadu, a chorddi dy ymenydd yn lasddwr. Oni ddiengi ar frys yma y bydd dy lety, a chadwynir di yn ddiatreg yn y pwll tomlyd, ffieiddfrwnt, yn mysg llaweroedd a boenir yno eisioes; îe, rhoddir di yn ddyfnach yno na hwynt oll, rhwymir di yn ddidrugaredd hyd yr ên yn y ceubwll aflan. Ac os dy dynged fydd cael dy fwrw i mewn, fel yr haeddit yn fwy na neb, efallai y caniatâ y Doctor un ffafr arbenig i ti, trwy dy fod yn ddarn gŵr boneddig sef cael o honot gymdeithas dyddan dy gŵn o'th amgylch yn mhwll y caethiwed; ac os marw a wnei, fel y mae yn dra thebygol, cyn adferyd it' dy synwyrau, nid cysur bychan fydd i ti gael y cyfryw gymdeithion ffyddlon i gyd-byncio dy farwnad, a llafar-udo dy glul pan fyddych yn trengu.' "

— Tlysau yr Hen Oesoedd.

CHWEDL RHITTA GAWR

.

DAU frenin a fu gynt yn Ynys Prydain, sef oedd eu henwau Nynniaw a Pheibiaw; a'r ddau hyn yn rhodio'r maesydd ar un noswaith oleu, serenog, ebai Nynniaw: "Gwel pa ryw faes helaeth a theg sydd genyf fi."

Peibiaw. "Yn mh'le y mae?"
N. "Yr holl wybren."
P. "Gwel dithau y maint o ddâ a defaid sydd genyf fi yn pori yn dy faes di."
N. "Yn mh'le y maent?"
P. "Yr holl sêr a weli di, yn aur tanlliw bob un o honynt, a'r lleuad yn fugail arnynt, ac yn eu harail."
N. "Ni chant ddim aros yn fy maes i."
P. "Hŵy a gânt."
"Na chant," ebai y llall, wers-tra-gwers, onid aeth hi yn gynhen gwyllt a therfysg rhyngddynt; ac yn y diwedd, o ymryson, myned i ryfel ffyrnig, oni laddwyd gosgordd a gwlad y naill a'r llall yn agos oll yn yr ymladdau.


A chlywed a wnaeth Rhitta Gawr, brenin Cymru, maint y galanastra a wnaeth y ddau frenin anmhwyllgar hyny, a bwriadu a wnaeth efe ddwyn cyrch a gosod yn eu herbyn, a gwedi myned wrth farn a rhaid ei wlad a'i osgorddion, cwnnu a wnaethant a myned yn erbyn y ddau frenin anmhwyllgar a aethant fel y dywespwyd wrth ddifrawd ac anrhaith, gan ddychymygion o wallgof, a'u gorthrechu a wnaethant, ac yna tori ymaith eu harfau a wnaeth Rhitta. A phan glybu y rhai eraill o wyth brenin ar hugain Ynys Prydain y pethau hyn, ymgynull a wnaethant eu holl osgorddion, er dial sarhâd y ddau frenin eraill a ddifarfwyd, a dwyn cyrch a gosod ar Ritta Gawr a'i wŷr ac ymladd glewdaer a fu o bob tu; ond Rhitta a'i wŷr a gawsant y maes. "Llyma fy mawr inau," ebai Rhitta "; ac yna difarfu yr holl frenhinoedd eraill a wnaethant ef a'i wŷr. A breninoedd yr holl wledydd eraill cylch-ogylch a glywsant hyn, ac er sarhâd y breninoedd a ddifarfwyd, ymarfogi yn erbyn Rhitta Gawr a'i wŷr a wnaethant; a thaer a glew y bu yr ymladd, ond Rhitta a'i wŷr yn enill y maes yn bensych. " Llyma'n maes helaeth a theg ninau!" ebai Rhitta; a difarfu yr holl freninoedd hyny hefyd a wnaeth Rhitta a'i wŷr. "Llyma'r anifeiliaid a borasant fy maes i,"ebai Rhitta wrth y breniuoedd anmhwyll 'hyny, "ac mi a'u gyrais hwynt allan oll — ni chânt bori fy maes i." Gwedi hyny y cymerwys Rhitta yr holl farfau hyny, ac a wnaeth o honynt ysgin helaeth o ben hyd sawdl; a gŵr oedd efe gymaint a'r ddeuwr mwyaf a welwyd erioed. A gwedi hyny y gwnaeth efe a'i wlad yn gyntaf a'r a wnaethpwyd erioed o'r fath, drefn a deddf wrth gyfiawnder a phwyll rhwng brenin a brenin, a gwlad a gwlad, yn holl Ynys Prydain, a'r Werddon, a Llychlyn, a'r Almaen, a thir Gâl, a'r Yspaen, a'r Eidal. A hoed byth y cadwer y drefn hono er gwrthladd y cyfryw freninoedd y soniwyd am danynt, rhag myned i ryfel mwyach lle na bo rhaid na chyfiawn achos. Amen. A phoed felly y bo tros byth.

Ac felly y terfyna Chwedl Rhitta Gawr.
Iolo Manuscript.

CEUBREN YR ELLYLL.

Yn mharc ceirw Nannau, yn sir Feirionydd, y safai hen geubren derwen anferth o faint, adnabyddus trwy holl Gymru wrth yr enw Ceubren yr Ellyll. Cafodd yr enw hwn o herwydd fod Llafar Gwlad yn credu ei fod yn nythle ellyllon, bwciod y nos, &c., a'r sawl elent heibio iddo yn y nos a brysurent eu cerddediad, ac a ymdeimlent yn ofnus a chrynedig rhag gweled a theimlo rhai o'i breswylwyr annaearol.

Bu llawer tro ar fyd er pan felldigwyd y pren i fod yn gyfaneddle ysprydion. Tua dechreu y 15fed ganrif, yn amser rhyfeloedd Owen Glyndwr, yr oedd cefnder i'r arwr hwnw yn byw yn Nannau, o'r enw Hywel Sele, yr hwn nid oedd yn teimlo rhyw aiddgarwch mawr tros egwyddorion ei gyfathrachwr, er iddo Iwyddo i gadw hyny yn ddirgelwch. Yn ystod heddwch byr, bwriadodd arglwydd Glyndyfrdwy ymadloni ychydig wrth dreulio diwrnod neu ddau i hela ar ystâd ei gefnder. Cymerodd gydag ef gyfaill mynwesol o'r enw Madog, ac un neu ddau o'i wasanaethyddion, ac yr oeddynt yn hela ar eu taith wrth fyned. Wedi iddynt gyrhaedd hyd gyffiniau ystâd Naunau, pwy gyfarfyddodd yn ddamweiniol â hwynt ond Hywel, yntau hefyd yn hela wrtho ei hun. Wedi cyfarch gwell, cyfeiriasant eu camrau tua'r palas; a charw yn dygwydd croesi eu llwybr, darparasant oll at saethu ato. Hywel yn fradwrus, yn lle anelu at y carw, a drôdd ar ei sawdl, ac a amcanodd saethu ei gefnder, eithr yn ffous methodd yn ei amcan drygionus. Arweiniodd hyn i frwydr law-law rhwng y ddau, a chymaint trechach ydoedd Owen na Hywel, fel y lladdodd efe ef yn y fan. Cymerodd y drafodaeth hon le yn agos i'r hen geubren mawr, ac i hwnw y bwriasant y corph. Gosododd Owen ei gydymdeithion dan lŵ o ffyddlondeb na ddadguddient y gyfrinach hyd ar ol ei farwolaeth ef, ac yna dychwelasant yn brysur yn ol tua Glyndyfrdwy.

Parodd diflaniad sydyn a dyeithr Hywel Sele y trallod dwysaf yn ei deulu; chwiliwyd llawer am dano ond yn gwbl ofer; a'i foneddiges alarus a ymneillduodd oddiwrth y byd, ac anfynych yr elai allau o'i phreswylfa bruddaidd. Aeth blynyddau lawer heibio a'r dirgelwch yn aros yr un mor annhreiddiadwy. Pa fodd bynag, o'r diwedd gwelwyd marchog yn dirgymell ei farch blinedig i fynu yr allt tua Nannau. Madog ydoedd wedi ei ryddhau, trwy farwolaeth Owen, oddiwrth ei Iŵ o ffyddlondeb. Datguddiodd iddynt yr hanes oll, ac arweiniodd hwy at y ceubren, lle cafwyd esgyrn Hywel a'i gleddyf yn ei law ddeau. Claddwyd ef yn mynachlog gymydogaethol y Cymer, yn ol defodau y grefydd Babaidd, a chyflawnwyd gwasanaeth yr offeren, er mwyn rhoddi gorphwysfa i'w yspryd digofus; ond credai y werin bobl yn gadarn, am ugeiniau o flynyddau ar ol hyn, fod yspryd Hywel Sele, yn nghwmni lluaws o gyffelyb ddigofus ysprydion, yn ddiorphwys, ac yn mynychu Ceubren yr Ellyll, pa bryd bynag y caent gefn yr haul.

Y DERWYDD

.

[Yr ydym yn codi y dernyn canlynol o'r Greal, un o'r lluaws cyhoeddiadau rhagorol a ddygwyd allan dan nawdd, a chydag arian, Cymdeithasau y Gwyneddigion a'r Cymreigyddion yn Llundain. Ymddangosodd y Greal hwn yn y fl. 1805, agos i driugain mlynedd yn ol. Ei olygyddion oeddynt y gwladgarwyr anfarwol Owain Myfyr a'r Dr. Owen Pughe, y rhai a wnaethant fwy nag odid neb ar ran ein llenyddiaeth genedlaethol. Arbedasant rhag difancoll gynseiliau hanes y genedl fedd yr hen hanes cyfoethocaf o holl genedloedd gogleddbarth Ewrop, trwy gyhoeddiad, o hen lawysgrifau, y Myyyrian Archaeology. Arian Myfyr, ac athrylith y Dr., fu yn foddion i ddwyn y llyfr anmhrisiadwy hwn trwy y wasg y tro cyntaf. Achlesent eu cyd-genedl ar eu mynediad i'r Brifddinas, a chwilient am sefyllfaoedd cyfaddas iddynt; anfonent arian i gynorthwyo beirdd hen a methiantus yn Nghymru; cyhoeddent wobrau ar destunau cenedlaethol, er mwyn adfywio yr awen Gymreig; ac ystyir yr hanesyddiaeth sydd yn eu cyhoeddiadau yn safon gan lenyddion yr oes annghrediniol hon. Maddeuer i ni am droi oddiâr ein llwybr i daflu blodyn ar fedd dynion y dylem anrhydeddu eu coffadwriaeth — dynion fuasent yn addurn i unrhyw genedl dan haul.]

" Pan oedd cleddyf anorchfygol y Rhufeiniaid gwedi treiddio i eithafoedd pellaf Prydain, ac wedi gorllifo ei meusydd gleision â gwaed y godidocaf o'i haerwyr, Modred y doeth a chwiliodd am achles rhag gwythlondeb rhyfel. Yr oedd ef yn Dderwydd clodfawr oherwydd ei dduwioldeb a'i ddoethineb; ond, ysywaeth, ei dynged oedd iddo fyw i weled yr allor sanctaidd yn cael ei thaenellu â gwaed ei duwiol offeiriaid, a'r llwyni cysegredig jn cael eu halogi â thrythyllwch cadgwn creulawn anniwair. Y lloches a ddewisodd oedd ogof eang, wedi ei rhanu gan ddwylaw anian yn amrywiol ystafelloedd. Yr oedd y llwybr tywyll, graddol-estynedig, yn tywys iddi; ac oherwydd ei afrifed ddyrys gylchdroadau, yr oedd yn anhygyrch i bawb ond y sawl yr oedd llaw garedig y Derwydd yn eu harwain; felly, yr oedd y lle dirgel hwn yn noddfa i ddiniweidrwydd a rhinwedd. Yma yr oedd y wyryf ieuanc dyner yn ffoi rhag llathrudd, a'r wraig ddiwair rhag trais y gelynion; ac yma yr oedd y weddw a'r ymddifad yn ceisio diogelwch a chysur; yma hefyd yr oedd yr hen filwr dewrwych yn troi yn archolledig o'r frwydr, ac wedi ei iachau trwy dduwiol ofal y Derwydd, yn dychwelyd i'r ymladdfa gyda nerth a grym adnewyddol. Bob bore a hwyr y gwelid Modred yn ymgrymedig dan gyssegr-lwyn o dderwag oedd yn addurno y fron gerllaw ei drigfan ef: yno yr adeiladodd allor gysegrlan, ac yn ol arfer ei ddoeth a'i ddysgedig hynafìaid, a osododd arno offrwm sanctaidd o flawd. Wele, dyma fel yr oedd yn treulio ei ddyddiau mewn gweddi, myfyrfod, ac elusengarwch; ei ddiod oedd y dwfr o'r ffrwd ddysglaer ag oedd yn tarddu o'r graig, yn mha un yr oedd anian wedi llunio ei anedd ddiaddurn; a'i fwyd oedd y llysiau iachus oeddynt yn tyfu oddiamgylch ei breswylfod. Cyfryw a hyn oedd Modred y Derwydd, yn ymddygiad pa un yr oedd yn gysylltiedig ddiniweidrwydd mabandod a doethineb henaint.

"Un diwrnod, fel ag yr oedd yn crwydro yn mhellach na garferol i chwilio am lysiau meddyginiaethol, dygwyddodd iddo sylwi bod y ddaear gwedi ei mannu âg amryw ddefnynau o waed; ac wrth ganfod, ychydig o gamrau yn mhellach, bod y defnynau yn fwy ac yn amlach, ei hynawsedd a'i cymhellodd i'w dilyn. Hwy a' iharweinias ant ef i fan lle yr oedd dyn mewn arfwisg yn gorwedd yn estynedig ar y llawr. Yr oedd yn edrych fel pe buasai mewn llewyg; ac fel ag yr oedd ei wyneb yn ddiorchudd, canfu Modred ei fod yn mlodau ei ieuenctyd.

" Yr oedd y Derwydd yn gwybod wrth ei arfwisg ei fod yn perthyn i fyddin y Rhufeiniaid; ond tosturi tuag at y cyflwr gresynus a diymadferth ag yr oedd ef yn ei weled yuddo, a wnaeth iddo annghofìo yn union ei holl elyniaeth; fe a'i cyfododd ef yn ei freichiau, fe dywalltodd idd ei enau sychedig y meddyglyn adfywiol a oedd yn wastad yn ei ddwyn gydag ef, ychydig ddefnynau o ba un a'i hadfywiodd yn rhyfeddol; ond eto er hyn, yr oedd ef mor dra llesg a dirym, oherwydd iddo golli cymaint o waed, a bod iddo, er gwaethaf ei holl ymgais, fethu codi ar ei draed. Modred, pan ganfu y dyeithrddyn yn analluog i gyfodi heb ryw gymhorth mwy nag a allai ef weinyddu iddo ei hun, a brysurodd i'w ogof, ac a ddaeth yn ol yn ddiatreg a llanc ieuanc a elwid Gwydyr gydag ef. "Gwydyr oedd y gwrolaf o holl ieuenctyd Prydain a ddyrchafasant y cleddyf yn eofn a diarswyd i amddiffyn Rhyddid. Yr oedd anian wedi ffurfio ei gorph ef yn ei dull perffeithiaf, a gwedi rhoddi i'w ymarweddiad y fath foddusrwydd ag y mae celfyddyd yn fynych yn nacau i'w hanwylaf addurnwyr. Yr oedd gwedi rhoddi prawf o'i wroldeb mewn amryw o frwydrau a ymladdodd yn erbyn y gelyn cyffredin; ond yr oedd ei wrhydri bob amser yn unedig â hynawsedd a haelio ni. Gyda chymhorth yr arwrwas hwn y dygwyd y dyeithrddyn i ogof Modred; ond oherwydd mai Rhufeinydd oedd, hwy yn gyntaf a gymerasant ofal i roddi mwgwd arno ef, rhag iddo ddysgu y ffordd i'w hymguddia, a bod gwedi hyny yn foddion i'w niweidio.

"Gwedi ei ddwyn ef i'r ogof, hwy a gymerasant y mwgwd oddiar ei lygaid, a dattodasant ei arfwisg, ac a'i gosodasant ar Iwyth o fwswg esmwyth; yna y Derwydd a olygodd ei weliau ef, ac a ganfu y gellid, gydag ychydig o ofal, eu hiachau mewn byr amser; a gwedi gosod arnynt ryw lysiau o rinwedd diballadwy, efe a'i gadawodd dros ychydig i orphwyso. Ar ol treigliad o gylch awr, ailymwelodd âg ef, ac efe a gafodd y dyeithr gwedi dadebru cymaint trwy y feddyginiaeth a weinyddwyd i'w archollion ef, yn nghyda'r ychydig gwsg esmwyth o ba un deffrowyd ef ar ddyfodiad Modred i mewn, a'i fod yn gallu gofyn mewn liais isel a llesg i ddwylaw pwy yr oedd gwedi syrthio; ond pan gyntaf y deallodd mai Prydeiniaid oeddynt, fe ddangosodd ei wynebpryd nad oedd yn dysgwyl ond ychydig o drugaredd oddiar eu dwy- law. Y Derwydd, gan ddyfalu pa beth oedd yn treiglo yn ei feddwl, a ymegniodd i chwalu ymaith ei holl ofalon a'i ddrwg-dybiadau, fel hyn: — " Y gŵr ieuanc," ebai ef, "yr wyt yn nwylaw y rhai hyny ag y mae dy genedl di yn alw yn ddynion gwylltion; ond er mai dyeithriaid ydynt i'r celfyddydau golygus hyny a arferir gan genedloedd diwylliog i roddi gorc'hudd teg dros y dybenion mwyaf dichellgar a drygionus, nid yw y Prydeiniaid ddini yn annghydnabyddus â rhinweddau lletygarwch a hynawsedd; y maent yn caru buddugoliaeth; ond nid' ydynt byth yn ymhyfrydu yn ngwaed eu cydgreaduriaid; am hyny, gyr ymaith dy anesmwythder, a chred, tra byddot yn ogof Modred y Derwydd, y byddi yn ddiogel rag niwed a cham.

"Yr oedd y Rhufeinydd yn synu yn ddirfawr wrth weled yr haelioni annisgwyliadwy hyn; eto nid oedd yn medru llai nag amau y gallai yr ymddygiad hynaws yma fod yn fath o ragrith i gelu dybenion mwy gelyniaethol; ond fel ag yr oedd ef yn barod, gyda gwroldeb Rhufeinaidd, i gyfarfod ei dyngedfen yn llawen a thysgog, pa un bynag ai gwenu ai gwgu a wnai arno, ni ddyoddefodd i hyny aflonyddu tawelwch ei feddwl, yr hyn oedd, yn y fath gyflwr ag yr oedd ef ynddo, yn anhebgorol i adferu ei iechyd. Yn y bore, canfu y Derwydd fod ei westai gwedi gwellau yn rhyfeddol, yrhwn, ypryd hyny, a hysbysodd iddo mai swyddog yn myddin Rbufeiniaid oedd ef, a darfod iddo ymadael â'i wersyll, pa un oedd o gwmpas taith diwrnod oddiwrth y lle hyny, gyda phump eraill o'r un fyddin. Eu hamcan oedd, efe a addefodd, ceisio rhyw ysbysiad o sefyllfa y gelyn; ond ei ddynion, fel ag yr oedd yn tybio, wedi eu cyflogi gan un o'i gyd- swyddogion, rhyngddo a pha un y dygwyddodd ychydig o anghydfod, a droisant eu barfau fel llwyr fradwyr yn ei erbyn ef, ac a'u gadawsant ef megis marw yn y fan lle ei cafwyd gan y Derwydd. Efe a ddiolchodd o'i galon i'r Derwydd am ei fawr garedigrwydd tuag ato ef, ac yn ol deisyfiad Modred efe a'i dilynodd ef allan o'r ogof, yn mha le yr oedd gwedi ymgynull rifedi mawr o bobl o wahanol ryw ac oedran, newydd ddadymchwelyd o fod y boregwaith hwnw yn gwneuthur offrwm."

YSTORI CILHWCH AC OLWEN

NEU HANES Y TWRCH TRWYTH.

(Hen Fabinogi Gymreig).

CILYDD ab Celyddon a roddodd ei fryd ar gael gwraig, a syrthiodd ei serch ar Goleuddydd ferch Anlawdd Wledig.


Wedi eu priodas, gweddiodd y wlad ar iddynt gael etifedd, a chawsant fab trwy weddi y wlad. Ac o'r awr y beichiogodd Goleuddydd, hi a wallgofodd, a chrwydrai fanau annghyfanedd. Pan ddaeth awr ei thymp, dychwelodd ei phwyll. Ac yr oedd hi yn y mynydd, lle yr oedd meichiad yn gwylio cenfaint foch; a chan ofn y genfaint y cafodd hi ei thymp. Dygodd y meichiad y baban i'r palas, a galwyd ef ar yr enw Cilhwch, am ei eni mewn gwâl hwch. Er hyny, dullwedd foneddigaidd oedd ar y mab, a chefnder ydoedd i Arthur; a rhoddwyd ef at wraig arall i'w fagu.

Wedi hyny, clafychodd Goleuddydd hyd farw, a galwodd ei phriod at ei gorweddfa, a dywedodd wrtho, "Marw yr wyf fi o'r clefyd hwn, a gwraig arall a gymeri dithau, ac weithian, rhodd Duw ydyw gwragedd; eithr na lygra dy fab. Ac archaf it' na chymerot wraig hyd oni welot fieren a dau flodyn arni yn tyfu ar fy medd." Hyny a addunedodd Cifydd. Yna hi a erfyniodd arno adgyweirio ei bedd bob blwyddyn fel na thyfai dim arno. A bu y frenines farw. Anfonai y brenin bob bore was i edrych a dyfai y fieren ar y bedd; ac yn mhen saith mlynedd, annghofiodd ei adduned.

Un diwrnod, tra yr oedd y brenin yn hela, efe a farchogodd at y bedd, fel y gwelai ei hunan a oedd dim yn tyfu arno, modd y gallai wreica eilwaith, a chanfu fìeren yn tyfu ar y fan. Yna efe a ymgynghorodd pa le y caffai wraig. Ebai un o'r cynghor, "Mi wn am wraig weddus it', sef gwraig y brenin Doged." Penderfynwyd mynedi ymofyn am dani, a phan ddaethant at y castell, lladdasant y brenin ei gŵr, a dygasant hi a'i huni g ferch gyda hwynt yn ol at Cilydd, a chymerasant etifeddiaeth y brenin.

Un diwrnod, fel yr oedd y frenines yn rhodiana yn y ddinas, daeth at dŷ hen wrach heb ddant yn ei phen, wrth ba un y dywedodd, "Ha, wrach! a ddywedi di yr hyn a ofyuaf it'? Pa le y mae plant y gŵr a'm dygodd trwy drais?" Ebai y wrach, " Nid oes iddo blant." Ebai y frenines, "Gwae fì fy nyfod at ŵr diblant." Ebai y wrach, "Nid rhaid it' ofidio; canys y mae darogan y bydd iddo etifedd ohonot ti; ac y mae iddo eisoes un mab."

Dychwelodd y frenines adref yn llawen, a dywedodd wrth ei phriod, "Paham y celaist dy blant rhagof fi?" "Ni chelaf hyny yn hwy," ebai y brenin; ac a ni anfonwyd cenadau i gyrchu y mab i'r llys. A dywedodd ei lysfam wrtho, "Da fyddai it' gael gwraig, a merch sydd i mi a gerir gan holl enwogion y byd." "Nid wyf eto mewn oedran priodi," atebai y mab ieuanc. "Mi a dyngaf dyngedit', na chyfarfyddi â gwraig hyd oni cheffych Olwen ferch Yspaddaden Pencawr."Gwridodd y llanc, a'i serch at Olwen a ymdaenodd tros eiholl aelodau, er nas gwelsai hi erioed. A gofynodd ei dad iddo, " Pa afiechyd sydd arnat, fy mab?" Yntau a atebodd, "Fy llysfam a'm hysbysodd na bydd i mi wraig hyd oni chaf Olwen ferch Yspaddaden Pencawr." "Hawdd ydyw hyny i ti," ebai y tad, "Arthur sydd gefnder it': dos ato ef i drwsio dy wallt, a deisyf hyn ganddo." Cychwynodd y mab tua llys Arthur ar farch ag iddo ben brithlas, pedwar gauaf oed, cryf o ewynau, a'i garnau oll ar ffurf cragen; ffrwyn o aur cadwynog oedd yn mhen yr anifail, a chyfrwy o aur gwerthfawr oedd ar ei gefn. Yn llaw Cilwch yr oedd dwy waewffon arian, miniog, tymherus, wedi eu blaenllymu â dur: mor finiog oeddynt fel y gallent glwyfo a thynu gwaed o'r gwynt, a chyflymach oedd eu disgyniad na'r gwlithyn oddiar y glaswelltyn i'r ddaear, pan fo trymaf y gwlith yn mis Mehefin. Cleddyf eurddwrn oedd ar ei glun, i'r hwn yr oedd llafn o aur, a llun croes o liw y fellten yn gerfiedig arno; ac o ifori yr oedd ei gorn rhyfel. Dau filgi bronwynion, brychion, a chwareuent o'i amgylch, a thorch o ruddem (ruby) yn cyrhaedd o'r glust i'r ysgwydd am wddf pob un; a'r un ydoedd ar yr ochr aswy a lamai i'r ochr ddeau, a'r un ar yr ochr ddeau i'r ochr aswy, ac yr oeddynt fel môr- wenoliaid yn chwareu o'i ddeutu. Pedair tywarchen a gyfodai pedwar carn ei ryfelfarch fel pedair gwenol i'r awyr uwchben — weithiau uchod, weithiau isod. Llen o borphor pedair-ongl oedd am dano, ac afal aur wrth bob congl — gwerth can buwch oedd pob afal. Gwerth tri chan buwch o aur oedd ar ei esgidiau, ac ar ei wrthaflau o ben, y glun i flaen y troed. Ac mor ysgafndroed oedd y march fel na phlygai y glaswelltyn tano tra y cyrchai at borth llys Arthur. "A oes borthor?" ebai Culhwch. "Oes, ac oni ddystewi bychan fydd dy groesaw. Myfì ydyw porthor Arthur bob dydd Calan lonawr; a'r porthorion y gweddill o'r flwyddyn ydynt Huandaw, a Gogicwc, a Llaescenyn, a Phenpingyon, yr hwna gerdda ar ei ben er mwyn arbed ei draed, nid tua'r nef na thua'r ddaear, eithr treigla fel maen ar lawr llys." "Agor y porth." "Nac agoraf." "Paham nad agori?" "Y mae'r gyllell yn y bwyd, a'r ddiod yn y corn, a llawenydd yn y neuadd, ac ni faidd neb sangu llys Arthur oni fydd frenin gwlad freintiedig, neu gelfyddydwr a ddyco gelf. Eithr rhoddir lluniaeth i dy gŵn ac i dy geffylau, a dygir i tithau olwythion chwaethus, a gwin melus, a dyddan gerddau. Bwyd dengwr a deugain a ddygir atat i'r yspytty, lle yr ymbortha estroniaid a gwestai, a'r sawl nad ydynt yn dyfod o fewn cylch llys Arthur. Ni bydd gwaeth i ti yno na chydag Arthur yn y llys. Menyw a gyniweiria dy wely, ac a'th ddifyra â cherddau dyddan; ac yforu, pan agorir y porth i'r lluaws dyeithriaid a ddaethant yma heddyw, i ti yr agorir ef gyntaf, a chaniateir i ti eistedd yn y lle a ddewisych yn neuadd Arthur o'r naill ben i'rllall o honi."Ebai y gŵr ieuanc, "Ni wnaf ddim o hyn. Os agori y porth, da y w; os na wnei, mi a ddygaf annghlod i'th arglwydd, a drygair i tithau. Ac mi a roddaf dair gwaedd wrth y porth hwn na bu erioed rai mor angeuol, yn cyrhaedd o ben Pengwaed yn Ngherny w hyd yn Dinsol yn y Gogledd, ac hyd i Esgeir Oerfel yn yr Iwerddon; a'r holl ferched beichiog yn y palas hwn, er clafychu, nid allant ymddwyn o'r dydd hwn allan." Ebai Glewlwyd Gafaelfawr, "Pa faint bynag o rwgnach a wnei, ar drawa deddfau llys Arthur, ni'th ollyngir i fewn hyd onid ymddiddanwyf âg ef yn gyntaf.

Pan ddaeth Glewlwyd i'r neuadd, gofynodd Arthur, "Pa newydd sydd o'r porth?" "Deuparth fy einioes i a'th oes dithau a aeth heibio. Mi a fum gynt yn Caer Se ac Asse, yn Sach a Salach, yn Lotor a Eotor. Mi a fum yn yr India Fawr a'r India Fechan. Yr oeddwn yn mrwydr Ynyr, pan ddygwyd y deuddeg gwystl o Lychlyn. Bum hefyd yn Ewrop, ac yn Affrig, ac yn Ynys Corsica; ac yn Caer Brythwch, a Brythach, a Ferthach; ac yr oeddwn i yn bresenol pan leddaist ti Clis ab Merin, a'r Mil Du ab Ducum, a phan oresgynaist wlad Groeg yn y Dwyrain. Ac mi a fum yn Caer Oeth ac Annoeth, ac yn Caer Nefenhyr, lle y gwelsom naw brenin; ac ni welais erioed ddyn cyn hardded a'r hwn sydd wrth y porth yr awrhon."A dywedodd Arthur, "Os tan gerdded y daethost, dychwel tan redeg; a'r sawl a welsant oleuni, ac a agorant eu llygaid, dangosant barch iddo, a gwasanaethant arno — rhai gydag yfgyrn goreurog, eraill gyda golwythion chwaethus, hyd oni byddo'r bwyd yn barod. Anweddus gadael cyfryw ddyn ag a ddywedi di allan yn y gwynt a'r gwlaw." "Myn llaw fy nghyfaill," ebai Cai, " pe gwnelit fy nghynghor i, ni thorit ddeddfau y llys er Y gŵr hwn." "Nid felly fy nghyfaill Cai, anrhydeddir ni pan gyrchir atom; a pho mwyaf y croesaw a roddwn, mwyaf y clod a'r enwogrwydd a dderbyniwn."

Pan ddychwelodd Glewlwyd at y porth, agorodd y dôr ar frys; ac arferai pawb ddisgyn ar yr esgynfaen, eithr Cilhwch a farchogodd i fewn, ac a ddywedodd wrth Ar-thur, "Henffych well, Penteyrn yr Ynys hon; a henffych yr isaf fel yr uwchaf, ac i'th westeion, a'th ryfelwyr, a'th gadfridogion — derbynied pawb yr henffych mor gyflawn a thydi. Boed mawr dy glod a'th enwogrwydd trwy yr holl ynys hon." "Henffych well i tithau," ebai Arthur, "eistedd rhwng dau o'm milwyr, a chei ddyddan gerddau ger dy fron a braint brenin, pa hyd bynag y byddych yma, A phan ranwyf roddion i'm gwestai a'r dyeithriaid yn y llys, i ti eu rhoddaf gyntaf." Ebai y mab, "Nid daethym yma i fwyta ac i yfed; ond os caf yr hyn a geisiaf genyt, dy fawrygu a'th foli a wnaf; os na chaf, dygaf dy annghlod i bedwar ban y byd." Ebai Arthur, "Gan na thrigi di yma, unben, rhoddaf it' y dymuniad a noda dy ben a'th dafod hyd ysych gwynt — hyd y gwlych gwlaw— hyd treigl haul — hyd y dygfor môr — hyd yr ymestyn daear — oddieithr fy llong, fy mantell, Caledfwlch fy nghledd, a Rhongomyant fy ngwaewffon, ac Wyneb Gwrthuchder fy nharian, a Charnwennan fy nghylleil, a Gwenhwyfar fy ngwraig. Myn y nef, ti a gei yr hyn a nodych yn llawen." "Trwsio fy ngwallt a fynaf," ebai Cilhwch. " Hyny a wnaf yn rhwydd," ebai Arthur.

A chymerth Arthur grib aur, a gwellaif ac iddo ddalenau arian, ac a gribodd wallt Cilhwch. Yna gofynodd y brenin i'r llanc, "Pwy ydwyt? canys y mae fy ngwaed yn cynhesu tuag atat, a gwn dy fod yn un o'm gwehelyth; dywed i mi pwy ydwyt." "Dywedaf; Cilhwch ab Celyddon o Oleuddydd ferch Anlawdd Wledig fy mam." "Gwir yw hyny," ebai Arthur, "cefnder wyt â mi; pa beth bynag a ofynech genyf, mi a'i rhoddaf it'." "Ar dy air, ac yn enw dy deyrnas," "Ie, yn llawen." "Dymunaf arnat gael im' Olwenferch Yspaddaden Pencawr yn wraig. A hyn a ddymunaf oddiar law dy filwyr. Oddiar Cai, a Bedwyr, a Greidawl Galldonyd, a Gwythyr ab Greidawl, a Greid ab Eri, a Chynddelig Cyfarwydd, a Tathal Twyll Goleu, a Maelwys ab Baeddan, a Crychwr ab Nes, a Cubert ab Daero, a Percos ab Poch, a Lluber Beithach, a Corfil Berfach, a Gwyn ab Nudd, ac Edoyrn ab Nudd, a Gadwg ab Geraint, a Flowdew Fflam Wiedig, a Ruawn Pebyr ab Doreth a Bradwen ab Moren Mynawc, a Moren Mynawc ei hun, a Dalldefab Cimin Cof, ac ab Alun Dyfed, ac ab Saidi, ac ab Gwiyon, ac Uchtryd Ardywad Cad, a Curwas Carfagyl, a Gwrhyr Gwarthegfras, ac Isperys Ewingath, a Grallcoyt Gofynyat, a Duach, a Grathach, a Nerthach meibion Gwawrddur Cyrfach (o derfynau uffern yr hanodd y gwyr hyn); a Cilyn Glanhastyr, a Canastyr Canllaw, a Cors Cant-Ewin, ac Esgeir Gulhwch Gofyn- cawn, a Drustwm Hayarn, a Glewlwyd Gafaelfawr, a Lloch Llawrwynyawc, ac Anwas Adeiniawc, a Sinnoch ab Seithfed, a Gwenwynwyn ab Naw, a Bedyw ab Seithfed, a Gobrwy ab Echel Forddwytwll, ac Echel ei hun, a Mael ab Roycol, a Dadweir Dallpenn a Garwyli ab Gwythawr Gwy, a Gwythyr ei hun, a Gonnant ab Ricca, a Mennw ab Teirgwaedd, a Digonon ab Alar, a Selyf ab Smoit, a Gusg ab Athen, a Nerth ab Cedarn, a Drudwas ab Tryffin, a Twrch ab Perif, a Twrch ab Annwas, ac Iona brenin Ffrainc, a Sel ab Selgi, a Teregud ab Iaen, a Sulyen ab Iaen, a Bradwen ab Iaen, a Moren ab Iaen, a Siawn ab Iaeu, a Cradawc ab Iaen (gwŷr Caerdathal oeddynt hwy, perthynasau i Arthur o du ei fam); Dirmyg, Justic, Etmic, Anghawd, Ofan, Celin. Conyn, Mabsant, Gwyngad, Llwybyr, Coth, Meilic, Cynwas, Ardwyad, Ergyryad, Neb, Gilda, Calcas, Hueil (meibion Caw oedd y rhai hyn, yr hwn ni ddeisyfodd ddim erioed oddiar law arglwydd). A Samson Finsych, a Taliesin Ben Beirdd, a Manawyddan ab Llyr, a Llary ab Casnar Wledig, ac Ysperni ab Flergant, brenin Llydaw, a Sarhanon ab Glythwyr, a Llawr Eilerw, ac Annyanniawc ab Menw ab Teirgwaedd, a Gwyn ab Nwyfre. a Fflam ab Nwyfre, a Geraint ab Erbin, ac Ermid ab Erbin, a Dyfed ab Erbin, a Gwyn ab Ermin, a Cyndrwyn ab Ermin, a Hyfeidd Unllenn, ac Eiddon Fawr Frydig, a Reidwn Arwy, a Gormant ab Ricca (brawd Arthur o du ei fam; Penhynef o Gernyw oedd ei dad). A Llanrodded Farfawg, a Nodawl Faryf Twrch, a Berth ab Cado, a Rheidwn ab Beli, ac Iscofan Hael, ac Iscawin ab Panon, a Morfran ab Tegid (ni tharawes neb ef yn mrwydr Camlan oberwydd ei hyllwch; pawb a'i tybient yn ddiafol mewn cnawd. Blew oedd arno fel blew carw). A Sandde Bryd Angel (ni chyffyrddwyd ef gan y waewffon yn mrwydr Camlan oberwydd ei brydferthwch; pawb a dybient mai angel o'r nef ydoedd). A Cynwyl Sant (y trydydd dyn a ddiangodd o frwydr Camlan, a'r ddweddaf a ymadawodd âg Arthur ar Hengroen ei farch). Ac Uchtryd, Eus, Henwas Adeinawg, Henbedestyr, a Sgilti Yscawndroed (meibion Erim oedd y rhai hyn; ac i dri o honynt y perthynai y tair cyneddf hyn; — Nid allodd dyn erioed ganlyn Henbedestyr ar draed nac ar farch; nid allodd mîl pedwar carnol erioed ganlyn Henwas Adeiniawg am un erw chwaithach yn mhellach na hyny; a Sgilti Yscawndroed pan yn myned i neges tros ei arglwydd, os byddai ei ffordd trwy goedwig, nid edrychai am lwybr, eithr ar frigau coed y cerddai, ac ni phlygodd deilen erioed tano gan mor ysgafndroed ydoedd). Teithi Hen ab Gwynhant (goresgynes y môír ei gyfoeth ef, ac o'r braidd y diangodd yntau a daeth i lys Arthur; a chyneddf oedd ar ei gyllell er pan y daeth yno — nid arosai carn byth wrth ei llafn, ac oherwydd hyn daeth haint trosto, ac y nychodd hyd farw). A Charneddyn ab Gofynon Hen, a Gwenwynwyn ab Naf Gysefin (pen campwr Arthur); a Llysgadrudd Emys, a Gwrbothu Hen (ewythrod Arthur oeddynt hwy, frodyr i'w fam). Culfanawyd ab Goryon, a Llenlleawg Wyddel o Bentir Ganion, a Dyfnwal Moel, a Dunard Frenin o'r Gogledd, Teirnon Turyf Bliant, a Tegfan Gloff, a Tegyr Tagellawg, Gwrdinal ab Elrei, a Morgant Hael Gwystyl ab Rhun ab Nwython, a Llwyddeu ab Nwython, a Gwydre ab Llwyddeu (Gwernabwy ferch Caw oedd ei fam ef. Hueil ei ewythr a'i harchollodd, ac am hyny y bu gelyniaeth rhwng Hueil ac Arthur). Drem ab Dremhidydd (a welai o'r Gelli Wig yn Nghernyw y gwybedyn yn codi yu y boreu gyda'r haul yn Blathaon, Gogledd Prydain;) ac Eidiol ab Ner, a Gwlyddyn Saer (yr hwn a gynlluniodd Ehangwen, llys Arthur); a Cynyr Ceinfarfawc (pan wybu fod iddo fab, efe a ddywedodd wrth ei briod, "Os yw dy fab di, forwyn, yn perthyn i mi, oer fydd ei galon, ac ni bydd gwres yn ei ddwylaw; a chyneddf arall bydd iddo, os mab imi ydyw, cyndyn fydd; a chyneddf arall fydd iddo, pan ddyco faich mawr neu fach, ni ddichon neb o'i flaen nac o'i ol ei weled; a chyneddf arall fydd iddo, ni bydd neb all wrthsefyll tân neu ddwfr cystal ag ef; a chyneddf arall fydd iddo, ni bydd ei well fel gwas neu swyddog). Henwas a Henwyneb (hen gydymdeithion Arthur); Gwallgwsc (un arall; pan y deuai ef i ddinas, hyd yn nod pe byddai ynddi dri chant o dai, os byddai efe mewn eisieu, nis gadawai i gwsg ddyfod at lygad gŵr tra y byddai efe yno). Berwyn ab Gerenhir, a Paris brenin Ffrainc, ac Osla Gyllellfawr (yr hwn a ddygai gydag ef ddagr fêr lydan; a phan ddelai Arthur a'i luoedd at lifddwfr, ceisid y lle cyfyngaf ar yr aig, a dodid y gyllell hon yn ei gwain ar draws y cyfwng, a digon o bont fyddai i luoedd ynys Prydain, a'r tair ragynys, ac i'w hanrheithiau). Gwydawg ab Menestyr (yr hwn a laddodd Cai, a lladdodd Arthur yntau a'i frodyr er dial ar Cai). Garanwyn ab Cai, ac Amren ab Bedwyr, ac Ely Amyr, a Rhen Rhwyd Dyrys, a Rhun Rhudwern, ac Eli, a Trachmyr (prif helwyr Arthur). A Llwyddeu ab Celgoed, a Hunabwy ab Gwryon, a Gwyn Godyfron, a Gwen Dathar, wenniddawg, a Gweir Cadell ab Talaryant, a Gweir Gwrhyd Ennwir, a Gweir Paledyr Hir (ewythrod Arthur, frodyr i'w fam). Meibion Llwch Llawwynnyawg (o'r tu hwnt i'r môr terwyn). Llenlleawg Wyddel, ac Ardderchawg Prydain. Cas ab Seidi, Gwrfan Gwallt Afwyn, a Gwyllhenhin frenin Ffrainc, a Gwittart ab Oedd brenin Iwerddon, Garselyt Wyddel, Panawr Pen Bagad, a Fleudor ab Naf, Gwynhwyfar maer Cernyw a Dyfneint (y nawfed gŵr a oroesoedd frwydr Camlan). Celi a Cueli, a Gilla Coes Hydd (gallai ef neidio tri chan erw ar un naid. Efe oedd prif neidiwr yr Iwerddon). Sol, a gwadyn Ossol, a Gwadyn Odyeith (gallai Sol sefyll ar ei untroed am ddiwrnod cyfan. Os safai Gwadyn Ossol ar ben ymynydd uwchaf yn y byd, suddai yn gydwastad â'r dyffryndir tan ei draed. Gwreichionai tân o wadnau traed Gwadyn Odyeith, pan darawent yn erbyn rhyw sylwedd caled; efe a arloesai y ffordd o flaen Arthur). Hirerwn a Hirartrwm (pan fyddent hwy ar daith, tri chantref a ddarparent luniaeth iddynt, ac wedi ymloddesta hyd yr hwyr, hwy a gysgent; ac yna penau pryfaid a ysynt fel pe na chawsynt fwyd erioed cyn hyny. Ni weddillient y tew na'r tenau, yr oer na'r brwd, y melys na'r chwerw, y croew na'r hallt, y berwedig na'r diferw). Huarwas ab Aflawn (hwn a ofynodd am ei wala gan Arthur; a chafodd ei ddeisyfiad pan oedd y trydydd pla yn Nghernyw; ni cheid gwên ar ei wynebpryd ond wedi iddo ymddigoni). Gware Gwallt Euryn; dau genaw Gast Rhymni; Gwyddrud, a Gwyddneu Astrus. Sugyn ab Suguedydd (sugnai hwn fôr a thri chan llong arno hyd oni fyddai yn draeth sych. Bron lydan oedd iddo). Rhacymwri gwas Arthur (dangosid yr ysgubor a fynid iddo ef, os byddai cynyrch deg aradr ar ugain o'i mewn, efe a'i tarawai â ffust haiarn nes byddai'r trawstiau a'r tylathau mor fân a'r mân-geirch ar y llawr). Dygyflwng, ac Annoeth Feidawg. A Hir Eiddyl, a Hir Amreu (deuwas i Arthur oeddynt hwy). A Gwefyl ab Gwastad (y dydd y byddai efe drist, gollyngai ei wefus isaf i lawr at ei fogail; a'r wefus uwchaf fyddai fel penguwch ara ei ben). Uchtryd Faryf Draws (yr hwn a ledai ei farf goch annhrefnus tros wyth trawst a deugain llys Arthur). Elidyr Gyfarwydd; Ysgyrdaf, ac Ysgudydd (deuwas i Wenhwyfar oeddynt hwy. Cyn gyflymed a'u meddyliau oedd eu traed pan ar neges). Brys ab Brethach, o Dalredynawc-du, yn Mhrydain. A Grudlwyn Gorr, Bwlch, a Cyfwlch, a Sefwlch, meibion Cleddyf Difwlch (eu tair tarian ymddisgleirient; eu tair gwaewffyn oeddynt awchus a miniog; eu tri chleddyf oeddynt rwygwyr archollion). Glas, Glessic a Gleisiad (eu tri ci, — Call, Cuall, a Cafall; eu tri march— Hwyrdyddwg, a Drwgdyddyd, a Llwyrdyddwg; eu tair gwraig — Och, a Garym, a Diaspad; eu tri ŵyrion — Lluched, a Nefed, ac Eissiwed; eu tair merch — Drwg, a Gwaeth, a Gwaethaf oll; eu tair morwyn — Eheubryd ferch Cyfwlch, Gorcascwn ferch Nerth, Ewaedau ferch Cynfelyn Ceudawd Pwyll, yr haner dyn). Dwrm Diessic Unben, Eiladyr ab Pen Llarcau, a Cenedyr Wyllt ab Heltwn Talaryanf, Sawyl Ben Uchel, Gwalchmai ab Gwyar, Gwalhafed ab Gwyar, Gwrhyr Gwastawd Ieithoedd (yr hwu a wyddai bob iaith), a Cethcrwm Offeiriad. Clustab Clustfeiniat (pe claddesid ef naw cufydd yn y ddaear, gallai glywed gwybedyn ddeng milldir o ffordd yn codi o'i lwth yn y bore). Medyr ab Methredydd o'r Gelliwig, (gallai saethu y dry w trwy ei ddwygoes hyd ar Esgeir Oerfelyn Iwerddon). Gwiawn Llygad Cath (yr hwn a allai dori pilen oddiar lygad gwybedyn yn ddiarwybod iddo). Ol ab Olwydd (saith mlynedd cyn ei eni lladratawyd moch ei dad, ac ar ol iddo dyfu yn ddyn, efe a'u holrheinies, ac a'u dygodd yn ol yn saith genfaint). A Betwini Esgob (hwn a fendigai fwyd a diod Arthur).

Er mwyn merched eurdorchog yr Ynys hon. Er mwyn Gwenhwyfar, prif rian; a Gweuhwyach ei chwaer, a Rathtyeu unig ferch Clemenhill, a Rhelemon ferch Cai, a Tanwen ferch Gweir Dathan Weiniddawg. Gwen Alarch ferch Cynwyl Canhwch. Eurneid ferch Clydno Eiddin. Eneuawc ferch Bedwyr. Eyrydreg ferch Tutfathar. Gwenwledyr ferch Gwaledyr Cyrfach, Erddudnid ferch Tryffin, Eurolwen ferch Gwedolwyn Gorr, Teleri ferch Peul, Indeg ferch Garwy Hir. Morfudd ferch Urien Rheged. Gwenllian Deg (y forwyn fawrfrydig). Creiddylad ferch Lludd Llaw Ereiut (y fenyw ardderchocaf yn nhair Ynys y cedyrn a'u tair ragynys; ac am hono y mae Gwythyr ab Greidawl a Gwyn ab Nudd yn ymladd bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd). Elliw ferch Neol Cyn-Crog (yr hon a fu byw am dair oes). Essyllt Finwen ac Essyllt Fingul. A'r rhai hyn oll a dyngedodd Cilhwch ab Cilhydd i gael ei ddeisyfiad.

Yna y dywedodd Arthur, "Ha, Unben! ni chlywais i erioed am Olwen, nac am ei rhieni; eithr mi a anfonaf genhadau i'w cheisio, yn llawen, os caniatei amser imi." Ebai Cilbwch: "Caniatâf yn rhwydd hyd flwyddyn i heno." Ac Arthur a ddanfonodd genhadau i bob cwr o'r Ynys i chwilio am dani; ac yn mhen blwyddyn, dychwelasant heb gael na chwedl na chyfarwyddyd gan Olwen mwy na'r dydd cyntaf. Yna dywedodd Cilhwch, "Pawb a gawsant eu dymuniad oddigerth myfi. Ymaith yr âf, a dygaf gyda mi dy glod." "Ha, Unben!" ebai Cai, "a warthruddi di Arthur? Dyred gyda ni, ac nid ymadawn â thi hyd oni ddywedych nad ydyw y forwyn hono yn y byd, neu y caffom hi; nid ysgarwn â thi." Yna cyfododd Cai; â gallai Cai ddal ei anadl tan ddwfr am naw niwrnod a naw nos, a byw naw niwrnod a naw nos heb gysgu. Nid oedd feddyg a allai wella archoll cleddyf Cai. Medrus oedd Cai. Cyhyd â'r pren uwchaf yn y goedwig fyddai pan y mynai. Cyneddf arall iddo — mor fawr oedd gwres ei natur, pan fyddai'r gwlaw trymaf, pabethbynag a ddygai yn ei law, dyrnfedd is a dyrnfedd uwch na hwnw a fyddai sych; a phan fyddai mwyaf oerni ei gydymdeithion, byddai ef fel tân iddynt.

Galwodd Arthur ar Bedwyr, yr hwn nid arswydodd gydnegesa â Cai erioed. Cyflymach oedd ef nag ungwr yn yr Ynys hon oddieithr Arthur, a Drych, Ail Cibddar. Ac er nad oedd ganddo ond un llaw, ni thywalltai neb gymaint o waed ag ef ar faes brwydr; a chyneddf arall oedd iddo — ei waewffon a wnai archoll cymaint a naw o waewffyn eraill.

A galwodd Arthur ar Gynddelir Gyfarwydd, "Dos di gyda'r Unben i'r neges hon." Mor gyfarwydd oedd efe mewn gwledydd estronol ag yn ei wlad ei hun.

A galwodd Arthur ar Gwrhyr Gwastawd leithoedd, canys gwyddai ef bob iaith.

A galwodd Arthur ar Menaw ab Teirgwaedd, fel pan elent i wlad farbaraidd, y gallai efe daflu hud a lledrith tros y bobl, fel nas gwelent Cilhwch a'i gyfeillion, tra y gallent hwythau weled pawb.

Teithiasant hyd oni ddaethant at wastadtir eang, ar ba un yr oedd castell anferth, tecaf o holl gastellau y byd. Cerddasant y dydd hwnw hyd yr hwyr; a phan dybiasant eu bod yn ymyl y castell, nid oeddynt agosach ato yn yr hwyr nag yn y bore. Am y ddau ddiwrnod nesaf y teithiasant tuag yno, o'r braidd y gallasant gyrhaedd ato erbyn hwyr y trydydd dydd. A cherllaw y castell, gwelent ddiadell ddirif-ddiderfyn a dibendraw o ddefaid. Ac ar dwyn uchel gerllaw, yr oedd bugail yn eu harail. Am dano yr oedd cwrlid o grwyn, ac wrth ei ochr waedgi blewog, mwy na'r march mwyaf naw gauaf oed. Ni chollodd efe erioed oen chwaithach llwdn; ac nid esgeulusodd erioed gyfleusdra i wneud niwaid. Yr holl goed a thwmpathau ar y gwastadtir a losgodd efe ag anadl ei enau.

Yna dyedodd Cai, "Gwrhyr Gwastawd leithoedd, dos di i gyfarch y gŵr acw." Ebaiyntau, "Cai, nid addewais i fyned gam pellach na thithau." "Yna, awn oll gyda'n gilydd." Ebai Menw ab Teirgwaedd, "Nac ofnwch fyned, canys mi a daflaf hud dros y ci fel nas niweidio un gwr." Aethant i fynu at y bugail, a dywedasant wrtho, "Hardd wyt,! fugail." "Na bo chwi byth harddach nag wyf fi." "Ai tydi yw y penaeth?" "Nid myfi ydyw." "Eiddo pwy ydynt y defaid hyn, ac i bwy y perthyn y castell acw?" "Meredic awyr uwch,[2] gŵyr , pawb tros yr holl fyd mai eiddo Yspaddaden Pencawr ydyw." "Pwy wyt tithau?" " Cystenyn ab Dyfnedic y'm gelwir, â'm priod yr ymlygres fy mrawd, Yspaddaden Pencawr. A phwy ydych chwithau?" "Cenhadau Arthur ydym ni yn erchi Olwen, ferch Yspadden Pencawr." " Ha! wyr, trugaredd nef fo arnoch, na erchwch hyny, er mwyn yr holl fyd, canys ni ddychwelodd neb yn fyw oddiyma a arches yr arch hono." Yna cyfododd y bugail, a Chilhwch a roddodd fodrwy aur iddo. Ceisiodd ei rhoddi am ei fys, eithr rhy fach ydoedd, a dododd hi am fys ei faneg. Pan ddaeth adref, rhoddodd hi i'w briod i'w chadw. Ebai hi wrth y gwr, "O b'le daeth y fodrwy hon? Canys nid dy arfer di i'w cael anrhegion." "Myned i'r môr a wnaethum i ymofyn pysg, a gwelais gelain yn cael ei dwyn gan y tônau, ac ni welais erioed gelain decach; ac oddiar fys hono y cymerais y fodrwy hon." "Ha! ŵr, a ganiatâ'r mor i'w feirwon wisgo tlysau? dangos i mi y gelain." " Ha! wraig, y sawl piau y gelain ti a'i gweli yma heno." "Pwy yw hwnw?" ebai y wraig. "Cilhwch ab Cilydd ab Celyddon Wledig, yr hwn a ddaeth i geisio Olwen yn wraig." A chymysgedig oedd ei theimladau pan glywodd hi hyn — llawen ydoedd oblegyd fod ei nhai fab chwaer ar fedr dyfod ati, a thrist am nas gwelsai neb yn dychwelyd o geisio Olwen a'i einioes ganddo. Cyrchu a wniaethant at dŷ Cystenyn y bugail; a phan glybu hi sŵn eu traed yn dyfod, hi a redodd i'w cyfarfod, ar'fedr eu cofleidio o lawenydd. A chipiodd Cai ddarn o bren o'r pentwr, a gosododd ef rhwng ei ddwylaw, a hi a wasgodd y pren nes y plygodd fel wden. "Ha! wraig," ebai Cai, "pe gwasgesit fi fel yna, ni roddasai neb arall ei serch arnaf. Traserch fuasai hyny." Yna aethant i'r tŷ a chawsant luniaeth; ac ar ol hyn y codasant allan i ymddifyru. Ac agorodd y wraig gist o gareg oedd ar y pentan, a chyfododd gŵr ieuanc pen melyn crycho'r gist. Ac ebai Cai, "Gresyn cuddio y gŵr ieuanc hwn: gwn nad am ddrwg ei dielir." Ebai y wraig, "Nid yw hwn. ond y gweddill; tri mab ar ugain o'm mhlant a laddodd Yspadden Pencawr; ac nid oes genyf fwy o ymddiried am hwn nag am y lleill." Ebai Cai, "Deued yn gydymaith i mi; ac nis lleddir ef oni'm lleddir inau gydag ef." Yna hwy oll a fwytasant. A gofynodd y wraig, "Ar ba neges y daethoch chwi yma?" "I erchi Olwen i'r gŵr ieuanc hwn." Ebai y wraig, "Gan nas gwelwyd chwi hyd yn hyn gan neb o'r castell, dychwelwch fel y daethoch." "Y nef sydd dyst na ddychwelwn ni hyd oni welom y forwyn." Ebai Cai, " A ddaw hi yma fel y gwelom hi?" "Hi a ddaw yma bob dydd Sadwrn i olchi ei phen; ac yn y llestri yr ymylch y gedy hi ei modrwyau, ac ni chyrch hi na'i morwynion hwynt drachefn. Ond y nef ŵyr, ni niweidiaf fi fy enaid, ac ni thwyllaf a'm cret to, oni thyngwch na bydd i chwi wneud cam â hi." "Rhoddwn ein gair," ebynt hwythau. A danfonwyd i gyrchu y forwyn.

Pan ddaeth, gwisg o sidan fflangoch oedd am dani, a chadwen o ruddaur a pherlau emrald oedd am ei gwddf; melynach oedd ei phen na blodau y danadl, a gwynach ei chroen nag ewyn y don. Tecach oedd ei dwylaw a'i bysedd na blodau'r anemoni yn ewyn ffynon gweirglodd. Dysgleiriach oedd ei llygaid na golwg y gwalch a'r hebog. Gwynach oedd ei dwyfron na bron yr alarch gwyn. Coch ach ei dwyrudd na'r claret cochaf. Y sawl a'i gwelai, cyflawn fyddai o'i serch. Pedair o feillion gwynion a dyfent yn ôl ei throed, pa ffordd bynag y cerddai; ac am hyny y gelwid hi Olwen. Yna hi a ddaeth i fewn i'r tŷ, ac a eisteddodd wrth ochr Cilhwch ar ben uwchaf y fainc; ac mor fuan ag y gwelodd hi efe a'i hadwaenodd. Ebai Cilhwch, "Ha, ferch! myfi a'th gerais; a rhag ein henllibio, tyred ymaith gyda mi. Er's llawer dydd y'th gerais." "Nis gallaf wneuthur hyny, canys gwnaethym adduned â'm tad nad ymadawn âg ef heb ei ganiatâd; oblegyd y dydd yr ymbriodwyf y cyll efe ei hoedl. Y sydd, y sydd. Èithr rhoddaf gynghor it': — Dos at fy nhad, a deisyf fi ganddo; a chaniata bob peth a ofyn genyt, a thi a'm cei inau; eithr os gwrthodi iddo un peth, mi nis cei; a ffodus fyddi os diengi a'th einioes genyt." "Addunedaf hyn oll a llwyddaf," ebai Cilhwch. Yna hi a ddychwelodd i'w hystafell, a chodasant hwythau oll, a daethant hyd at y castell. A lladdasant y naw porthor ag oedd wrth y naw porth yn berffaith ddigynhwrf, a'r naw gwaedgi heb i un ohonynt gyfarth; ac aethant i'r neuadd. "Henffych well o nef a daear it', Yspaddaden Pencawr, "ebynt hwy. " I ba beth y daethoch chwi yma?" " Daethom i erchi Olwen yn wraig i Cilhwch ab Cilydd ab Celyddon." "Pa le y mae'm gweision a'm porthorion? Dyrchefwch y ffyrch o dan fy nwy ael, modd y gwelwyf ddull fy mab-yn-nghyfraith." Hyny a wnaethant. " Deuwch y fory a chewch atebiad." Cyfodasant i fyned ymaith, a gafaelodd Yspaddaden Pencawr yn un o'r saethau gwenwynig oeddwrth ei ochr, ac a'i lluchiodd atynt. Daliodd Bedwyr hi, a thaflodd hi yn ol, gan ffyrnig archolli Yspaddaden yn ei lin. " Mab-yn nghyfraith anfwyn yn sicr. Gwaeth y cerddaf oherwydd yr archoll hwn, ac nid oes iddo feddyginiaeth. Fel brath cacynen y meirch ydynt arteithiau yr haiarn gwenwynig hwn. Melldigedig y gôf a'i curodd, a'r eingion ar ba un ei curwyd. Mor dost ydyw!"

Y noson hono lletyasant yn nhŷ Cystenyn y bugail; a chyda chodiad haul dranoeth ymdrwsiasant a daethant i neuadd y castell, a dywedasant, " Yspaddaden Pencawr, dyro dy ferch i ni, a ninau a ddychwelwn ei thlysau a'i hamor (marriage dowry) iti a'i dwy gares. Ac oni roddi, dy einioes a golli trwy hyny." Ebai yntau, "Y mae ei phedair gorhen-nain a'i phedwar gorhendaid eto yn fyw; a rhaid i mi yn gyntaf ymgynghori â hwynt." "Gwna hyny," ebynt hwythau, "awn ninau at fwyd." Ac fel y cyfodant i fyned ymaith, efe a gymerth yr ail saeth oedd wrth ei ochr, ac a'i lluchiodd ar eu holau. Daliwyd hi gan Menaw ab Teirgwaedd, a thaflodd hi yn ol ato, gan ei archolli yn ei ddwyfron nes y treiddiodd allan trwy ei feingefn. "O fab-yn-nghyfraith creulon a melldigedig! Arteithiau yr haiarn caled ydynt fel brathiad cacynen y meirch. Melldigedig y pentan ar ba un ei twymwyd, a'r gof a'i ffurfiodd. Mor dost ydyw! Bellach pan ddringwyf allt, cyfyng fydd ar fy anadl, a phoenus fy nwyfron, a'm cylla yn ddrwg, a diffyg archwaeth." Yna hwy a'i gadawsant, ac a aethant at eu bwyd.

A'r trydydd dydd, pan ddaethant i'r palas, dywedai Yspadden Pencawr, "Na saethwch ataf yn rhagor, os na ddeisyfwch angau. Pa le y mae fy ngweision? Dyrchefwch y ffyrch o dan fy nwy ael, modd y gwelwyf agwedd fy mab-yn-nghyfraith."Hyny a wnaethant; ac fel y gwnelent hyny, cymerodd Yspadden Pencawr y drydedd saeth wenwynig, ac a'i lluchiodd atynt; a daliodd Cilhwch hi, ac a'i tarodd gydag yni yn ol, ac a archollodd Yspadden yn afal ei lygad, nes yr aeth y saeth allan trwy ei wegil. " Mab-yn-nghyfraith, anfwyn a melldigedig! Gwaeth fydd golwg fy llygaid tra fydd- wyf byw; pan elwyf yn erbyn y gwynt, dyfrio a wna, a'r bendro a gaf bob newydd-loer. Melldigedig y tân yn mha un ei twymwyd. Fel brathiad ci cynddeiriog ydyw archoll yr haiarn gwenwynig hwn." Yna aethant at fwyd. A thranoeth, daethant i'r palas, a dywedasant, " Na saetha atom yn rhagor, oni chwenychi ychwaneg o arteithiau a phoenau, ac hyd yn nod dy angau. Dyro dy ferch ini; ac oni roddi hi, dy einioes a golli o'i herwydd." "Pa le mae yr hwn a gais fy merch? Deued yma, modd ei gwelwyf." A dodasant gadair i Cilhwch wyneb yn wyneb âg ef.

Ebai Yspadden Pencawr, "Ai tydi a erchi fy merch i?" " le myfi," ebai Cilhwch. "Ehaid i mi gael llŵ genyt yr ymddygi yn gyfiawn tuag ataf; a phan gaffwyf a ddeisyfwyf genyt, tithau a gei fy merch." " Addawaf hyny ynllaweu, deisyfaddeisyfychgenyf," ebai Cilhwch.

"Wel, a weli di y garth mawr acw?" "Gwelaf." "Ei ddiwreiddio o'r ddaear a fynaf, a'i losgi yn wrtaith ar wyneb y tir, a'i fraenaru a'i hau, ac addfedu o'i gnwd a hyny oll mewn un dydd. Ac o'r grawn hwnw y mynaf wneuthur bwyd a diod i'th neithior di a'm merch. A hyn oll a fynaf ei wneuthur mewn un dydd."

" Rhwydd y gwneir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

" Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. T mae y tir hwn mor wyllt, fel nad oes amaethwr ond Amaethon ab Don a dichon ei arloesi; ac o'i fodd ni ddaw efe, ac o'i anfodd nis gelli dithau ei orfodi." " Ehwydd y ceir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

" Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych, Gofannon ab Don i ddyfod i ben y tir i arbed yr haiarn; ni wna efe waith o'i fodd i neb ond bredin ardaith, ac nis gelli di ei orfodi ef."

"Rhwydd y gwnaf hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

"O ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Dau ŷch gwineuIwyd Gwlwlyd wedi eu cydieuo i aredig y tir dyrys 'draw yn wych. Ni rydd efe hwynt o'i fodd, ac nis gelli dithau ei orfodi."

"Rhwydd y gwnaf hyny."

"O ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Cydieuo y ddau ychain banog wrth yr un aradr, ac un ohonynt sydd yr ochr hon, a'r llall yr ochr hwnt i'r mynydd bân; sef yw y rhai hyny Nynniaw a Pheibiaw, y rhai a drawsffurfiodd Duw yn ychain oherwydd eu pechodau."

"Rhwydd y gwnaf hyny."

"Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. A weli di y tir coch braenedig acw?"

"Gwelaf."

"Pan welais gyntaf fam y forwyn hon, hauwyd ynddo naw llestriaid o had llin, ac ni thyfodd na du na gwyn ohonynt eto, ac y mae'r mesur genyf wrth law yn awr. Rhaid i mi gael yr hâd hwnw i'w hau yn y tir newydd acw, fel y gwneler pen-llian gwyn ohonoi'm merch ddydd ei phriodas."

"Hawdd y gwnaf hyny."

"O ceffi di hyn, y mae nas ceffych. Mêl naw melysach na mêl yr haid wenyn ddihalog, heb ysgim na brychau ynddo, a fynaf i wneud bragod i'r wledd."

"Hawdd y caf hyny."

"Llestr Llwyr ab Llwyryon, yr hwn sydd werthfawr iawn. Nid oes lestr yn y byd all ddal y ddiod ond hwnw. O'i ewyllys da ni chei di y llestr, ac nis gelli dithau ei gymeryd trwy drais."

"Hawdd y caf ef."

"Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Basged Gwyddno Garanhir. Pe deuai yr holl fyd at eu gilydd, tri naw gŵr a gaent y bwyd a fynent ynddi yr un amser. Mi a fynaf fwyta ohoni y noson y daw fy merch yn wraig i ti. O'i ewyllys da ni rydd Gwyddno hi i neb, ac nis gelli dithau ei chymeryd trwy orthrech."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er y ceffi hyny, y mae nas ceffych. Corn Gwlgawt Gogogin i yfed ohono nos dy briodas. O'i fodd ni rydd efe ef, ac nis gelli dithau ei gymeryd o'i anfodd."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er y ceffi hyny, y mae nas ceffych. Telyn Teirtu i'n dyddanu y noson hono. Pan chwenycher, canu a wna ei hunan; a phan ewyllysier iddi beidio, y paid. O'i fodd ni rydd efe hi, ac o'i anfodd nis gelli ei chymeryd."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er y ceffi hyn, y mae nas ceflPych. Pair Diwrnach Wyddel, maer Ödgar, a mab i Aedd brenin Iwerddon, i ferwi y cigfwyd at dy neithior.""Hawdd y caf hyny."

"Er y ceffi di hyny, y mae nas ceffych. Angenrhaid fydd i mi olchi fy mhen a thori fy marf, a dant Ysgythyrwyn Benbaedd a fynaf i ymeillio, ac ni fydd o les oni thynir ef o'i ben ac yntau yn fyw."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid oes neb yn y byd all dynu y dant o'i ben namyn Odgar ab Aedd, brenin Iwerddon."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid ymddiriedaf neb i gadw yr Ysgythrddant namyn Gado o Ogledd Prydain. Arglwydd yw ef ar driugain cantref y Gogledd, ac o'i fodd ni ddaw efe allan o'i deyrnas, ac nis gelli dithau ei ddwyn trwy drais."

"Hawdd y gellir hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

"Er, &c. Rhaid imi ymledu fy ngwallt cyn ei eillo, ac nid ymleda byth o ni chaf waed y Widdon (sorceress) Orddu, ferch y Widdon Orwen, o Ben Nant Gofìd, ar gyffiniau uffern."

"Hawdd y caf hyny, er i ti ei dybied yn anmhosibl."

"Er, &c. Ni fynaf y gwaed oni chaf ef yn gynhes, ac ni cheidw yn gynhes oddigerth yn nghostrelau Grwyddolwyn Gorr, y rhai a gadwant y gwres pe rhoddid yr hylif ynddynt yn y Dwyrain hyd oni ddygid ef i'r Gorllewin. Ac o'i fodd ni rydd efe hwynt, ac o'i anfodd nis gelli dithau eu cymeryd."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nid oes trwy yr holl fyd grib a gwellaif y gallaf drin fy ngwallt â hwynt, gan mor fras ei dyfiant, namyn y crib a'r gwellaif sydd rhwng dwy glust y Twrch Trwyth ab Tared Wledig. Ni rydd efe hwynt o'i fodd, ac o'i anfodd nis gelli dithau eu cymeryd."

"Hawdd y gellir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Grutwyn, cenaw Greid ab Eri."

"Er, &c. Nid oes yn y byd gynllyfan [carai â pha un y daliai yr hebogydd yr hebog] a ddeil y Twrch Trwyth namyn cynllyfan Cwrs Cant Ewin." "Hawdd y ceir hono." "Er, &c. Nid oes torch yn y byd ddeil y gynllyfan namyn torch Cynhastyr Canllaw."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Cadwyn Cilydd Canhastyr i ddal i dorch "wrth y gynllyfan. Ni chei di hon o'i fodd, ac o'i anfodd nis gelli dithau ei chymeryd."

"Hawdd y gwneir hyny."

"Er, &c. Nid oes heliwr yn y byd all hela gyda'r ci hwn namyn Mabon ab Modron. Dygwyd ef pan yn deirnos oed oddiwrth ei fam, ac nis gwyddys pa le y mae, na pha un ai byw ai marw ydyw."

"Hawdd y ceir ef."

"Er, &c. Gwynn Mygdwn, march gweddw, yr hwn sydd cyn gyflymed a'r dôn, i ddwyn Mabon ab Modron i hela y Twrch Trwyth. Ni chei di ef o'i fodd, ac o'i anfodd nis gelli dithau ei gymeryd."

"Hawdd y gwneir hyny."

"Er, &c. Ni ddeui byth o hyd i Fabon, canys ni wyddys pa le y mae, o ni chefi. yn gyntaf Eidoel ab Aer, ei gefnder; ac ofer fyddai i ti chwilio am dano."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Garselit Wyddel, prif heliwr yr Iwerddon, canys nis gellir hela y Twrch Trwyth hebddo ef."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Cynllyfan o farf Disstdl Farfawg, canys dyna yn unig a ddeil y ddau genaw hyny. Ac ni bydd cryfder yn y gynllyfan, oni thynir ei farf ac yntau yn fyw, a'i thynu hefyd gyda gefail bren. Tra byddo byw, ni oddef efe wneud o honot hyny iddaw, a brau a diles fydd y gynllyfan os marw fydd efe."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er, &c. Nid oes heliwr yn y byd a ddeill y ddau genaw hyny oddieithr Cenedyr Wyllt ab Hettwn Glafyrawc, a naw gwylltach yw ef na'r anifail gwylltaf ar y mynydd. Ni ddeli di ef byth, a'm merch inau nis ceffi."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Ni helir y Twrch Trwyth, nes caffael Gwyn ab Nudd, yr hwn a ddodes Duw i reoli deifl ieuainc Annwn, rhag iddynt ddinystrio y genedlaeth bresenol. Ac ni hebgarir ef oddiyno."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er, &c. Nid oes farch yn y byd all gario Gwyn i hela y Twrch Trwyth, namyn Du, march Mor o Oerfeddawg."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Hyd oni ddaw Cilhennin, brenin Ffrainc, nis gellir hela y Twrch Trwyth. Anweddus ynddo ef fyddai gadael ei deyrnas, ac yma ni ddaw efe byth."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth heb fab Alun Dyfed. Medrus yw efe yn gollwng y cŵn."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Aned ac Athlem. Cyflymed ydynt hwy a'r awel wynt, ac nis gollyngwyd hwynt erioed ar unrhyw fwystfil a'r nis lladdasant."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Arthur, a'i gymdeithion i hela y Twrch Trwyth. Gŵr nerthol yw efe, ac ni ddaw i hela erot ti, ac nis gelli dithau ei dreisio ef."

"Hawdd y gallaf hyny."

"Er, &c. Nis gellir hela y Twrch Trwyth oni cheir Bwlch a Cyfwlch [a Sefwlch], ŵyrion y Cleddyf Difwlch. Eu tair tarian ymddysgleiriant; eu tair gwaewffon ydynt awchus a miniog; a'u tri chleddyf ydynt rwygwyr ar- chollion — Glas, Glessig, a Glersag. Eu tri ci — Call, Cuall, a Cafall. Eu tri march — Hwyrdyddwg, Drwgdyddwg, a Llwyrdyddwg. Eu tair gwraig — Och, Garam, a Diaspad. Eu tri ŵyr — Lluched, Fyned, ac Eisiwed. Eu tair merch — Drwg, Gwaeth, a Gwaethaf oll. Eu tair llawforwyn — Eheubryd ferch Cyfwlch, Garasgwrn ferch Nerth, a Gwaeddu ferch Cynfelyn. Y tri ŵyr hyn a ganent eu cyrn, a'r lleill a floeddient, nes y credai pawb fod y nef yn' disgyn i'r ddaear."

"Hawdd y ceir hyny."

"Er, &c. Cleddyf Gwrnach Gawr. Nis gellir lladd y Twrch ond â'r cleddyf hwn. O'i fodd ni rydd efe ef i ti,' ac o'i anfodd nis gelli dithau ei gymeryd. " "Hawdd y gallaf hyny."

"Ti a gyfarfyddi âg anhawsderau a nosweithiau blinion yn ceisio y pethau hyn; ac os na byddi llwyddianus i'w cael, ni chei chwaith fy merch."

"Meirch a marchogion, a'r holl bethau hyn, a gaf gan fy nghyfathrachwr Arthur; a mi a enillaf dy ferch, a thithau a golli dy fywyd."

"Dos rhagot. Ni byddi ddyledus am fwyd na dillad i'm merch tra y byddych yn ceisio y pethau hyn; ac wedi it' orfod dy holl anhawsderau, y derbyni fy merch yn wraig."

Teithiasant hyd hwyr y dydd hwnw, pryd y gwelent y castell mwyaf yn y byd. a gwelent ddyn du anferth cymaint a thri o wŷr y byd hwn, yn dyfod allan o'r gaer. Gofynasant iddo, "O! ddyn, o ba le y daethost?" O'r castell a welwch acw." " Pwy biau y castell?" " wŷr, mor ddiwybod ydych! Nid oes neb yn y byd nas gŵyr i bwy perthyn y gaer hon. Castell Gwrnach Gawr ydyw." "Pa groesaw i ddyeithriaid a dariant ynddo?" "Ha! unben, Duw a'ch noddo; ni ddychwelodd gwestai erioed oddiyma yn fyw, ac ni ollyngir i mewn namyn a ddyco gelf."

Cyfeiriasant at y porth, a gofynodd Gwrhir Gwastawd ieithoedd, " A oes borthor?" " Oes: ac os nad yw dy dafod yn fud yn dy ben, paham yr ymholi?" "Agor y porth." "Nac agoraf." "Paham nad agori?" "Y mae y gyllell yn y bwyd, a'r ddiod yn y corn, a llawenydd yn neuadd Gwrnach Gawr; ac oni byddo gelfwr a ddyco gelf, nid agorir y porth iddo y nos heno." Ebai Cai, "Y porthor, y mae celf genyf fì." "Pa gelf sydd genyt?" "Y goreu yn y byd ydwyf am loewi cleddyfau." " Dy wedaf hyn wrth Gwrnach Gawr, ac a ddycaf ateb it'."

Aeth y porthor i'r llys, a gofynodd Gwrnach, "A oes genyt newydd o'r porth?" "Oes; y mae gwŷr wrth y ddor yn chwenych dyfod i mewn." "A ofynaist a oedd celf ganddynt?" "Gofynais, a ddywedodd un ei fod yn fedrus mewn gloewi cleddyfau." "Y mae angen arnom wrth hwnw. Er's encyd yr wyf yn chwilio am ŵr i loewi fy nghledd, ac nis cefais. Gollwng i mewn hwnw gan fod celf ganddo."

Dychwelodd y porthor, agorwyd y porth, ac aeth Cai i mewn ei hunan, ac a gyfarchodd well i Wrnach Gawr. Rhoddwyd cadair iddo gerbron y Cawr, yr hwn a ofynodd iddo: — Ha ŵr! ai gwir a ddywedir am danat y gelli di loewi cleddyfau?" "Gallaf hyny yn dda." ebai Cai. Dygwyd cleddyf Gwrnach iddo. Cymerth Cai ei galen hogi las odditan ei gesail, a gofynodd, "Pa un oreu genyt ai caboliad glas ynte gwyn?" "Gwna a fyddo da yn dy olwg, fel pe byddai yr offeryn yn eiddo i ti."Ac wedi i Cai loewi haner y llafn, cymerth ef yn ei law a gofynodd, "Ai da hyn yndyolwg?" "Rhoddwn haner fy nghyfoeth pe byddai y gweddill o hono fel hyn. Rhyfedd gennyf fod gŵr o'r fath ag wyt ti heb gydymaith." "Ha, fy arglwydd, y mae im' gydymaith, ond nid yw efe fedrus yn y gelf hon." "Pwy ydyw?" " Hysbysaf i'r porthor ei neillduolion ef fel oi hadnabyddo: — Blaen ei waewffon a ddaw yn rhydd oddiwrth y llafn, a dyn waed o'r gwynt, ac a ddisgyn eilwaith i'w le yn y llafn." Atebodd Bedwyr i'r dysgrifiad, agorwyd y porth, a gollyngwyd ef i mewn. A dywedodd Cai, "Medrus iawn yw Bedwyr, eithr nid yn y gelf hon."

Ac yn mhlith y gwŷr oddiallan yr oedd petrusder oherwydd myned Cai a Bedwyr i mewn. Ac aeth y gŵr ieuanc, unig fab Cystenin y bugail, yntau hefyd i mewn. Parodd i'w gydymdeithion lynu yn agos ato tra yr elynt trwy y tri chadlys, nes y daethant i ganol y castell. A'i gydymdeithion a ddywedasant wrtho, " Ti a wnaethost hyn; goreu gŵr ydwyt;" a galwyd ef o hyny allan, "Goreu ab Cystenyn." Yna ymwasgarasant pob un i'w lety, modd y lladdent eu lletywyr yn ddiarwybod i'r Cawr.

Erbyn hyn yr oedd y cleddyf wedi ei gaboli, a dodes Cai ef yn llaw Gwrnach er mewn gwybod a oedd y gwaith wrth ei fodd; ac ebai yntau, "Da yw y gwaith, a boddlon ydwyf." Ebai Cai, "Y wain a rydodd dy gleddyf; moes efe i mi fel y tynwyf ymaith ei ystlysau pren, ac y rhoddaf rai newyddion yn eu lle." Ac efe a gymerth y wain yn un llaw, a'r cleddyf yn y llall, gan sefyll gyferbyn a'r Cawr, fel pe buasai yn rhoi y cledd yn y wain, eithr yn lle hyny tarawodd y Cawr yn ei ben, ac a'i torodd ymaith âg un ergyd. Yna anrheithiasant y castell, ac ysbeiliasant y dâ a'r tlysau oeddynt yno; ac yn mhen blwyddyn i'r diwrnod, daethant i Lys Arthur, a chanddynt gleddyf Gwrnach Gawr.

Dywedasant wrth Arthur y modd y darfu iddynt, ac ebai yntau, " Pa beth sydd iawnaf ei geisio gyntaf o'r rhyfeddolion hyn?" Ebynt hwythau, " iawnaf ceisio Mabon ab Modron, ac ni cheir ef oni cheir yn gyntaf Eidoel ab Aer, ei gyfathrachwr." Yna cychwynodd Arthur a rhyfelwyr Ynys Prydain i chwilio am Eidoel, a daethant hyd at Gastell Glifi, lle yr oedd efe yn ngarchar. Safai Glifi ar ben y gaer, a dywedodd, " Arthur, beth sydd a fynot â mi? gau nad oes dim o fewn y gaer, ac nad oes genyf na llawenydd na phleser, na gwenith na cheirch. Gan hyny na wna imi niwaid." Ebai Arthur, "Nid i'th niweidio y daethum, eithr i geisio carcharor sydd genyt." "Rhoddaf it' y carcharor, er nas bwriadaswn ei roddi i ungwr, a chyda hyny y derbyni genyf bob cymhorth a chroesaw."

A gwŷr Arthur a ddywedasant wrtho, " Arglwydd, dychwel di adref, nid gweddus it' ddylin dy luoedd ar ymgyrchiadau bychain o'r fath yma." Ebai Ai'thur, " Gwrhyr Gwastawt Ieithoedd, i ti y perthyn y neges hon, canys deallus ydwyt yn mhob iaith, a chyfiaith ydwyt a'r anifeiliaid a'r adar. Dylit tithau, Eidoel, fyned gyda'm gwŷr i geisio dy gefnder. Ac am danoch chwi, Cai a Bedwyr, pa beth bynag a gymeroch mewn llaw, y mae ffydd genyf y llwyddwch.: llwyddwch hefyd yn y neges hon."

Yna teithiasant hyd at Fwyalchen Cilgwri, ac ebai Gwrhyr, gan ei thyngedu yn enw y nefoedd, "Dywed i ni, os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron, a gymerwyd oddirhwng ei fam a'r pared pan yn deirnos oed." Ebai'r Fwyalchen, "Pan ddaethym i'r fan hon gyntaf, aderyn ieuanc oeddwn, ac eingion gof oedd yn sefyll ger- llaw. Ac er y dydd hwnw ni bu traul yn y byd ar ni, ond fy ngwaith i yn rhwbio fy mhig arni bob nos; ac yn awr nid oes swm gymaint a chneuen yn aros o honi; eto, dialedd Duw arnaf, os clywais i erioed am y gŵr y gofynwch. Eithr mi a wnaf yr hyn sydd deg a chyfìawn i genadau Arthur — arweiniaf chwi at genedlaeth sydd yn hŷn na myfì."

Yna daethant at y lle yr oedd Carw Rhedynfre, ac ebynt wrtho, "Cenadau oddiwrth Arthur ydym atat ti, canys clywsom nad oes greadur hŷn na thydi yn y byd. Dywed os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron, yr hwn a gymerwyd oddiwrth ei fam yn deirnos oed." Ebai y Carw, "Pan ddaethym i'r fangre yma gyntaf, gwastattir moel ydoedd, heb ddim coed, namyn un gollen dderwen, yr hon a dyfodd yn bren mawr can' cainc. A bu y dderwen farw, ac erbyn heddyw nid oes yn aros o honi ond ei boncyff gwywedig; eithr ni chly wais erioed am y gŵr yr ymholwch. ond byddaf arweinydd i genadau Arthur at greadur a grëwyd o'm blaen i."

A daethant at y lle yr oedd Dallhuau Cwm Cawlwyd. " Ddallhuan Cwm Cawlwyd, wele genadau oddiwrth Arthur yn ymofyn os gwyddost ti rywbeth am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddiar ei fam?" Pe gwyddwn, dywedwn. Pan gyntaf y daethym i'r lle hwn, glyn coediog ydoedd; a dynion a ddaethant ac a ddiwreiddiasant y coed hyny, a thyfodd ihai eraill yn eu lle; a'r tô presenol o goed ydynt y trydydd cnwd er pan y daethym i i'r lle hwn. Onid yw fy esgyll yn gonynau diffrwyth? Ac o'r dydd hwnw hyd yn awr ni chlywais erioed am y gŵr y gofynwch. Pa fodd hynag, byddaf arweinydd i genadau Arthur at y creadur hynaf, a'r un a deithiodd fwyaf yn y byd oll."

Yna daethant at Eryr Gwernabwy, ac ebai Gwrhyr, "Yn genadau oddiwrth Arthur y daethom atat i'th holi os gwyddost am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddi-wrth ei fam." "Daethym i'r lle hwn er's cryn ysbaid o amser bellach, a'r pryd hwnw yr oedd yma faen mawr, oddiar gopa yr bwn yr oeddwn yn pigo y sêr bob nos; ac yn awr nid ydy w dros ddyrnfedd o uwchder. Er y dydd hwnw ni chlywais am y gŵr y gofynwch amdano, oddieithr un tropan oeddwn cyn belled a Llyn Llyw yn ymofyn ymborth. Yno dodais fy ewinedd mewn eog, gan dŷbied y byddai'n ymborth i ni am hir amser; eithr yn lle hyny, tynwyd fi ganddo i'r dwfn, ac o'r braidd y gellais ddianc am hoedl genyf. Wedi hyny cesglais fy holl genedl er mwyn myned i'w difetha, ond efe a anfonodd genadau i wneud heddwch â mi, ac i ddeisyf arnaf dynu deg tryfer a deugain o'i gefn. Os na ŵyt efe am y gŵr yr holwch yn ei gylch, nis gŵyr neb. Pa fodd bynag, mi a'ch arweiniaf ato."

Wedi iddynt ddyfod ato, ebai yr Eryr, "Eog Llyn Llyw, daethym â chenadau Arthur atat i ymofyn os gwyddost rywbeth am Fabon ab Modron a gymerwyd yn deirnos oed oddiwrth ei fam?" Ebai yr Eog, " Yr hyn a wn a ddywedaf. Myned i fyny yr afon yma yr ydwyf gyda phob llanw hyd oni ddeuaf at furiau Caerloew, ac ni welais gymaint o ddrygioni yn unman ag a welais yno; ac fel y credech yr hyn a ddywedwyf, deued dau o honoch. ar fy nwy ysgwydd, a dygaf hwynt i'r lle." Ac aeth Cai a Gwrhyr Gwastawt Ieithoedd ar ddwy ysgwydd yr Eog, a dygwyd hwynt ganddo at furiau castell Caerloew, yn naeardy pa un y clywsant gwynfan ac wylofain. Ebai Gwrhyr, "Pwy sydd yn cwynfan yn y maendy hwn?" "Nid yn ddiachos y cwyna'r sawl sydd yma. Mabon ab Modron sydd yn ngharchar, ac nid oedd carchariad Lludd Llaw Ereint a Greid ab Eri mor dost a'm carchariad i." " A oes genyt obaith yth rhyddheir er aur, arian, a chyfoeth, neu trwy ymladdau a brwydrau?" "Trwy ymladdau y'm rhyddheir, os rhyddheir fi o gwbl."

Dychwelasant at Arthur, a dywedasant wrtho pa le yr oedd Mabon ab Modron yn ngharchar. Gwysiodd Arthur holl ryfelwyr yr ynys, a daethant i Gaerloew. Aeth Cai a Bedwyr ar ysgwyddau y pysgodyn, tra yr ymosodai milwyr Arthur ar y castell oddiar y tir. A thorodd Cai trwy y mur i'r daeardy, a dygodd y carcharor ymaith ar ei gefn, tra yr ymfrwydrai y ddwyblaid rhyfelwyr â'u gilydd. Dychwelodd' Arthur adref, a Mabon gydag ef yn ŵr rhŷdd. Ebai Arthur, " Pa beth sydd iawnaf eto o'r rhyfeddolion hyn?" " lawnaf fyddai ceisio dau genaw Gast Rhymhi." 74 TSTORI CILH-WCH AC OL-WEN. Ebai Arthur, "A ŵyr rhywun yn mha le y mae hi?" " Yn Aber Dau Gleddyf," ebai un. Yna aeth Arthur i dŷ Tringad, yn Aber Cleddyf, i ymofyn os clywsai y gŵr hwnw am dani. " Yn mha rith y mae hi?" " Yn rhith bleiddast, a chyda hi y mae dau genaw." " Hi a laddodd 'lawer o'm dâ i; mewn ogof islaw Aber Cleddyf y mae hi."

Aeth Arthur ar y môr yn ei long Prydwen i'w hela, a'r lleill aethant hyd y tir. Cylchynasant hi a'i dau genaw; a thrawsffurfìodd Duw hwynt, er mwyn Arthur, i'w ffurf eu hunain.

Yna lluoedd Arthur a ymwahanasant yn un a dau. Ac fel yr oedd Gwythyr ab Greidiawl, un diwrnod, yn teithio tros fynydd, efe a glywai lefain a gruddfan, a chyfeiriodd tuag ato. Wedi cyrhaedd i'r fan, dadweiniodd ei gleddyf, a thorodd âg ef dwmpath morgrug yn glos wrth y llawr, a thrwy hyny achubodd ef rhag ei losgi. A'r morgrug a ddywedasant wrtho, " Bendith nef fyddo arnat, a'r hyn ni ddichon dyn ei roddi it' ni a'i rhoddwn." Yna cyrchasant y naw llestraid hâd llin a archodd Yspaddaden Pencawr oddiar law Cilhwch yn llawn mesur heb ddim yn eisiau ohonynt, oddieithr un hedyn, a'r morgrugyn cloff a ddaeth â hwnw cyn y nos.

Pan oedd Cai a Bedwyr yn eistedd ar ben Pumlymon ar y gwynt mwyaf yn y byd, edrychasant o'u hamgylch a gwelent fŵg tua'r dehau yn mhell oddiwrthynt, nad oedd y gwynt yn ei drosi. Ebai Cai, " Myn llaw fy nghyfaill, wele acw dân rhyw yspeilydd." Prysurasant tuag ato, a daethant mor agos ag y gallent weled Dillus Farfawg yn deifio baedd coed. "Dacw y lleidr penaf a ddiangodd rhag Arthur erioed," ebai Bedwyr wrth Cai. "Adwaenost ti ef?" " Adwaen," ebe Cai, " Dillus Farfawg ydyw, ac nid oes gynllyfan yn y byd a ddeil Drudwyn, cenaw Greid ab Eri, namyn cynllyfan o farf y gŵr hwnw; a diles fydd oni thynir hi ac yntau yn fyw gyda gefail bren; canys os marw fydd efe, brau fydd ei farf." "Pa fodd y gwnawn?" ebai Bedwyr. " Gadawn iddo fwyta ei wala o'r cig, ac wedi hyny efe a gysga," ebai Cai. Yn y cyf- amser, gwnaethant efeilion prenau; a phan oedd Cai yn sicr fod Dillus yn cysgu, efe a wnaeth y pwll mwyaf yn y byd o dan ei draed ef; ac wedi rhoddi iddo ddyrnod trwm, efe a'i gwasgodd ef i'r pwll. A difarfwyd ef yn llwyr gyda'r gefeilion prenau, ac wedi hyn y lladdasant ef.

Oddiyno aethant eill dau i'r Gelli Wig, yn Nghernyw, a chyda hwynt y gynllyfan o farf Dillus, yr hwn a ddodes Cai yn llaw Arthur, ac yna canodd Arthur yr Englyn hwn: —

Cynllynfan a orug Cai
O farf Dillus fab Erai,
Pe iach dy angeu fyddai.

O herwydd hyn sorodd Cai, ac o'r braidd y gallodd rhyfelwyr yr ynys gadw heddwch rhyngddo ef ac Arthur. Ac o hyny allan nid ymyrodd Cai yn mrwydrau Arthur.

Ebai Arthur, "Pa un o'r rhyfeddolion hyn fyddai iawnaf ei geisio nesaf?" "lawnaf fyddai ceisio Drudwyn cenaw Greid ab Eri."

Ychydig cyn hyn, dyweddiwyd Creiddylad ferch Lludd Llaw Ereint gyda Gwythyr ab Greidawl. A chyn eu priodi, daeth Gwyn ab Nudd ac a'i dygodd hi ymaith trwy orthrech; a chynullodd Gwythyr ab Greidawl ei lu i ryfel yn erbyn ab Nudd. Eithr Gwyn a drechodd. ac a wnaeth yn garcharorion Greid ab Eri, a Glineu ab Taran, a Gwrgwsg Ledlwm, a Dyfnarth ei fab; a daliodd hefyd Pen ab Nethawg, a Nwython, a Cyledyr Wyllt ei fab. Lladdasant Nwython, a gorfodasant Cyledyr i fwyta calon ei dad, ac oherwydd hyny yr aeth efe yn wyllt. Pan hysbyswyd hyn i Arthur, efe a aeth i'r Gogledd, ac a wysiodd Gwyn ger ei fron, a rhyddhaodd y pendefigion oedd yn ngharchar, a heddychodd Gwyn ab Nudd a Gwythyr ab Greidawl. Dyma yr heddwch a wnaed rhyngddynt: — Fod y forwyn i aros yn nhŷ ei thad heb fantais i'r naill na'r llall, a bod Gwyn a Gwythyr i ymladd am dani bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd, a'r hwn fuasai fuddugwr y pryd hwnw oedd i'w chael hi.

Wedi heddychu y ddau benaeth hyn y cafodd Arthur Mygdwn, march Gweddw, a chynllyfan Cwrs Nant Ewin.

Yna aeth Arthur i Lydaw, a chydag ef Mabon ab Mellt, a Gware Gwallt Euryn, i geisio dau gi Glythmyr Ledewig. Ac wedi iddo gael y rhai hyn, efe a aeth i orllrwinbarth Iwerddon, ac aeth Odgar ab Aer brenin yr Iwerddon gydag ef. Oddiyno aeth i'r Gogledd, a daliodd Gyledyr Wylli. Yna aeth ar ol Ysgithyrwyn Penbaedd, a chydag ef yr oedd Mabon ab Mellt, a chanddo ddau gi Glythmyr Ledewig yn ei law, a Drudwyn cenaw Greid ab Eri. Aeth Arthur i'r helfa ei hun, gan dywys Cafall ei gi. Caw, o Ogledd Prydain, a farchogai Llamren, caseg Arthur, ac efe oedd y cyntaf yn yr ymgyrch. A Chaw a gymerth fwyall yn ei law, ac mewn dull. beiddgar cyfarfyddodd y baedd, a holltodd ei ben yn ddau haner. Yn awr ni laddwyd y baedd gan y cŵn a enwasai Yspadden, eithr gan Cafall, ci Arthur.

Wedi lladd Yscithyrwyn Penbaedd, Arthur a'i luoedd a ddychwelasant i'r Grelli Wig, yn Nghernyw; ac oddiyno anfonodd Menw ab Teirgwaedd, i edrych a oedd y tlysau rhwng dwy glust Twrch Trwyth, gan mai ofer fuasai ymosod arno oni buasai y tlysau ganddo. Nid oedd amheuaeth o barth ei breswylfan, gan ei fod yn anrheithio trydedd ran Iwerddon. Aeth Menaw tuag ato, a chafodd efyn Esgair Oerfel, Iwerddon. Yna ymrithiodd Menw yn aderyn, a disgynodd ar ben ei ffau, gan amcanu cipio y tlysau oddiarno felly, ac ni chipiodd efe ddim namyn un o'i wrych. Cyfododd y Baedd yn ddigllawn, ac ymysgydwodd nes y syrthiodd peth o'i lafoer gwenwynllyd ar Ellenw, ac ni bu efe byth yn iach o'r awr hono allan.

Wedi hyn anfonodd Arthur genadau at Odgar ab Aer, brenin yr Iwerddon, yn gofyn pair Diwrnach Wyddel, ei faer. Eithr Diwrnach a atebodd, "Y nef a ŵyr pe gwnaethai rhyw les iddo edrych ar y pair, nis cawsai efe hyny."A chenadau Arthur a ddychwelasant o'r Iwerddon gyda'r nacâd hwn. Cychwynodd Arthur gydag ychydig o'i nifer yn ei long Prydwen tua'r Iwerddon, a daethant at dý Diwmach Wyddel; a lluoedd Odgar a welsant eu nerth hwynt. Wedi iddynt fwyta ac yfed eu digon, archodd Arthur y Pair. Atebodd Diwrnach, "Pe'i rhoddasem i rywun, rhoddaswn hi ar air Odgar brenin yr Iwerddon.

Wedi clywed y nacâd hwn, cyfododd Bedwyr, a gafaelodd yn y Pair, gan ei ddodi ar gefn Hygwyd, gwas Arthur, yr hwn oedd frawd o du mam i Cacmwri, gwas arall i Arthur. Ei swydd ef oedd dwyn pair Arthur, a rhoddi tân o tani. A Llenlleawg Wyddel a afaelodd yn Caledfwlch ac a'i chwifìodd. A lladdasant Diwrnach a'i gyfeillion. Yna daeth y Gwyddelod i ymladd â hwynt. Wedi gorchfygu y rhai hyn, aethant tua'r llong gan gymeryd gyda hwynt y Pair- yn llawn o arian Gwyddelig. Tiriodd yn nhŷ Llwydden ab Celcoed yn Mhorth Cerddin, Dyfed; ac yno y mae mesur y pair.

Yno cynullodd Arthur holl fìlwyr tair ynys Prydain a'u tair rhag-ynys, a holl filwyr Ffrainc, a Llydaw, a Normandi, a Gwlad yr Haf, a'r holl wŷr dethol, a'r marchogion clodfawr. A chyda y rhai hyn yr aeth efe i'r Iwerddon, lle yr oedd ofn ac arswyd mawr rhagddo. A phan laniodd efe yn y wlad, daeth seintiau yr Iwerddon ato gan erchi ei nawdd. Ac efe a ganiataodd iddynt ei nawdd, a rhoddasant hwythau iddo eu bendith. A gwŷr yr Iwerddon a ddaethant a bwyd i Arthur. Yna aeth Arthur mor bell ag Esgair Oerfel, yn Iwerddon, lle yr oedd y Baedd Trwyth a'i saith porchell. Gollyngwyd y cŵn yn rhyddion arno oddiar bob tu. Hyd hwyr y dydd hwnw y Gwyddelod a ymladdasant âg ef, ac er hyny pumed ran yr Iwerddon a anrheithiodd efe. Tranoeth. gwŷr Arthur ymladdasant âg ef, eithr gorchfygwyd hwythau, ac ni chawsant un fantais arno. Y trydydd dydd gwrthsafodd Arthur ef ei hunan, ac ymladdodd âg ef am naw diwrnod a naw nos, heb ladd cynifer ag un o'r perchyll. Gwŷr Arthur a ofynasant iddo pa beth ydoedd tarddiad y Baedd, ac efe a atebodd, "mai brenin ydoedd unwaith, ac i Dduw ei drawsffurfìo yn fochyn oherwydd ei bechodau."

Yna anfonodd Arthur Gwrhyr Gwastawt leithoedd i geisio ymddyddan âg ef. Ymrithiodd Gwrhyr yn aderyn, a disgynodd ar ben y ffau lle yr oedd ef a'i saith parchell, a gofynodd iddo, "Yn enw yr Hwn a'th wnaeth ar y ffurf hon, os gelli siarad, deisafaf ar un o honoch ddyfod i ymddyddan âg Arthur. Grugyn Gwrych Ereint (gwrych yr hwn oeddent fel gwifr arian; a pha un bynag ai trwy faes ai trwy goedwig yr elai, gellid ei olrhain wrth ddysgleirdeb ei wrych) a atebodd, " Mŷn yr hwn a'n trawsffurfiodd i'r wedd hon, ni ddenwn i ymddyddan âg Arthur. Digon o ddyoddef i ni ydyw ein trawsffurfio fel hyn heb i chwi ddyfod i ymladd a ni." Ebai Gwrhyr, " Dy- wedaf wrthych. Nid ymladd Arthur ond am y crib, yr ellyn, a'r gwellaif, sydd rhwng dwy glust y Twrch Trwyth." Ebai Crugyn. "Oni chymer efe ei fywyd ef yn gyntaf, ni chaiff y tlysau gwerthfawr hyn. A bore fory, cychwynwn i wlad Arthur, a chymaint o ddrwg ag a allwn a wnawn ni yno. Felly cychwynasant trwy y môr i Gymru. Ac Arthur a'i luoedd, a'i feirch, a'i gŵn, a frysiasant yn y llong Prydwen, gan feddwl eu goddiweddyd; eithr glaniodd y Twrch Trwyth yn Porth Cleis, yn Nyfed; ac oddiyno aeth i Mynyw. Tranoeth hysbyswyd Arthur eu myned heibio, ac efe a'i hymgudiodd ac a'u goddiweddodd tra y lladdynt ychain Curwas Cwr y Fagyl, wedi dyfetha o honynt bob dyn ac anifail yn Aber Cleddyf, cyn dyfodiad Arthur.

Pan ddynesodd Arthur, aeth y Twrch Trwyth yn mlaen i Preselau, ac ymlidiasant hwynt hyd yno, ac anfones Arthur wŷr i'w hela; Eri a Drachmyr yn arwain Drutwyn cenaw Greid ab Eri; a Gwarthegyd ab Caw mewn cŵt arall yn arwain dau gi Glythmyr Ledewig; a Bedwy, yn arwain Cafall, ci Arthur; a'r hoil filwyr wedi eu trefnu o gylch y Nyfer. A daeth tri mab Cleddyf Difwlch, gwŷr a enillasant glod mawr wrth ladd Ysgithyrwyn Penbaedd. O Glyn Nyfer aethaut i Glyn Cerwyn.

Yno y gwrthsafodd Twrch Trwyth, ac y lladdodd bedwar o bencampwyr Arthur, sef Gwarthegyd ab Caw, a Tarawc o Allt Clwyd, a Rheidwn ab Eli Adfer, ac Iscofan Hael. Ac wedi iddo ladd y gwŷr hyn, efe a wrthsafodd eilwaith yn yr un lle, ac a laddodd Gwydre ab Arthur, a Garselit Wyddel, a Glew ab Ysgawd, ac Iscawyn ab Fanod, ac anafwyd y Baedd yno hefyd.

A thranoeth yn y boreu cyn dydd, rhai o'r gwŷr a ymosodasant arno; ac efe a laddodd Huandaw, a Goginwr, a Penpingyon, tri o weision Glewlwyd Gafaelfawr, fel nad oedd ganddo, Duw a'i gŵyr, unrhyw ddyn a wnai gymwynas iddo, oddigerth Llaesgefyn. Ac heblaw y rhai hyn, efe a laddodd luaws o wŷr y wlad, a Gwlydyn Saer, prif saer Arthur.

Ac Arthur a'i goddiweddodd yn Pelymuawc, ac yno y lladdodd efe Madawc ab Teithyon, a Gwyn ab Tringad ab Nefed, ac Eiryon Penllorau. Oddiyno aeth y Twrch i Aberteifi, lle y gwrthsafodd efe drachefn, ac y lladdodd Cyflas ab Cynan, a Gwilhennin brenin Ffrainc. Óddiyno yr aeth efe i Glyn Ystu, a chollwyd ef yno gan y gwŷr a'r cŵn.

Gwysiodd Arthur Gwyn ab Nudd, a gofynodd iddo os gwyddai rywbeth am y Twrch Trwyth. Ac efe a atebodd nas gwyddai.

A helwyr aethant i hela y genfaint mor bell a Dyffryn Llychwr, a Grugyn Gwrych Ereint a Llwydawg Gofyngad a'u lladdasant oll oddieithr un gŵr. A daeth Arthur a'i luoedd i'r fan yr oedd Grugyn a Llwydawg. Gosododd arnynt ei holl gŵn, a chan faint y swn a'r cyfarth, dygwyd y Twrch i'w cymhorth. Ac o'r amser y croesodd efe Fôr Iwerddon, ni chawsai Arthur drem arno hyd y pryd hwnw, a rhoddodd wŷr a chŵn arno nes ei orfodi i ffoi, ac y daeth i Fynydd Amanaw. A lladdwyd yno un o'r moch ieuainc. Yna ymosodasant arno fywyd am fywyd, a lladdwyd Twrch Lawin, a lladdwyd mochyn arall hefyd, Gwys oedd ei enw. Ar ol hyn aeth y Twrch i Ddyffryn Amanaw, a lladdwyd yno Banw a Benwig. O'i holl berchyll nid oedd ganddo yn fyw erbyn hyn namyn Grugyn Gwallt Ereiut, a Llwydawg Gofyngad. Oddiyno yr aeth efe i Lwch Ewin, ac Arthur a'i goddiweddodd yno, ac efe a wrthsafodd. Ac yno y lladdodd Echel Fordwytwll, a Gorwyli ab Gwydawg Gwyr, a lluaws o wŷr ereill a chŵn. Oddiyno aethant i Lwch Tawy, a gadawodd Grugyn hwynt yno ac a aeth i Din Tywi; ac oddiyno i Geredigiawn, ac Eli a Trachwyr ar ei ol gyda thyrfa fawr. Oddiyno i Garth Gregyn, ac yno Llwydawg Gofyngad a ymladdodd yn eu canol, ac a laddodd Rhudfyw Rhys, a llawer eraill heblaw hyny. Oddiyno aeth Llwydawg i Ystrad Yw, ac ymosododd gwŷr Llydaw arno, ac efe a laddodd ohonynt Hirpeisawg brenin Llydaw, a Llygatrudd Emrys, a Gwrhothu, ewythriaid Arthur, a lladdwyd yno Llwydawg hefyd.

Oddiyuo aeth y Twrch Trwyth rhwng Tawy ac Euryas, a gwysiodd Arthur wŷr Cernyw a Dyfneint ato i Aber Hafren, ac anerchodd fìlwyr yr ynys: — " Twrch Trwyth a laddodd lawer o'm gwŷr, eithr yn enw y cedyrn, nid aiff efe i Gernyw a minau yn fyw. Ac nid ymlidiaf ef yn rhagor, eithr ymladdaf âg ef fywyd am fywyd, gwnewch chwi a fynoch." Ac efe a anfonodd gad o fìlwyr yr Ynys gyda chŵn mor bell a Euryas, y rhai oeddynt i'w ymchwelyd at Hairen, al holl filwyr profedig i amcanu ei wthio i'r afon hono.

A Mabon ab Modron a'i goddiweddodd gerllaw Hafren ar Gwyn Mygddon, march Gweddw, a Goreu ab Cystenin, a Menw ab Teirgwaedd; cymerodd hyn le rhwng Llyn Lliwan ac Aber Gwy. A syrthiodd Arthur arno gyda phencampwyr Prydain. A Osla Gyllellfawr a Manawyddan ab Llyr a ddynesasant ato, a Cacmwri gwas Arthur, a Gwyngelli, a ruthrasant arno, gan ei ddal gerfydd ei draedyn gyntaf a'i daflu i'r Hafren, a'i ddymchwelyd yno. Ai- y naill ochr Mabon ab Modron a ysbardynodd ei farch ac a gipiodd yr ellyn oddiarno, a Gelydr Wyllt ar y llaw arall, ar farch yn y dwfr, a gafodd y gŵellaif. Eithr cyn cael ohonynt y crib, adfeddianodd ei draed, ac o'r awr y cyrhaeddodd y lan, nid oedd ŵr, na chî, na march allent ei oddiweddyd hyd oni ddaeth i Gernyw. Os cawsant drafferth yn dwyn y tlysau oddiar y Twrch, cawsant lawer mwy wrth arbed y ddau ŵr rhag boddi. Fel y tynent Cacmwri allan, dau faen melin a'i llusgent i'r dyfnder. Ac fel y rhedai Osla Gyllellfawr ar ol y Baedd, llithrodd ei gyllell o'r wain, a chollodd hi; ac ar ol hyny llanwyd y wain gan ddwfr, a'i phwysau a'i llusgodd i'r dyfnder, fel mai gydag anhawsder y tynwyd ef allan.

Ac Arthur a'i lluoedd a deithiasant i oddiweddyd y Baedd yn Nghemyw, a chwareu oedd y drafferth. pan gafwyd y tlysau wrth yr hyn a gafwyd pan yn ceisio y crib. Ond o'r naill drafferth i'r llall cafwyd ef o'r diwedd. Yna ymlidiwyd ef o Gernyw, a gyrwyd ef i'r dyfnfor; ac ni ŵyr neb hyd y dydd hwn i ba le yr aeth efe; ac Aned ac Athlem gydag ef. Yna aeth Arthur i'r Gelli Wig, yn Nghernyw, i ymeneinio, ac i orphwys oddiwrth ei lafur.

Ac ebai Arthur, "A oes rhai o'r rhyfeddolion eto yn eisieu? "Y mae eto yn eisieu Waed y Wyddones Orddu, merch y Wyddones Orwen o Ben Nant Gofid ar gyffiniau uffern." Cychwynodd Arthur tua'r Gogledd at y lle yr oedd ogof y Wyddones. A chynghorwyd ef gan Gwythyr ab Greidawl a Gwyn ab Nudd i anfon Cacmwri a Llygwydd i ymladd a'r Wyddones. Ac fel yr elynt i'r ogof, rhuthrodd y Wyddones arnynt, a daliodd Llygwydd gerfydd gwallt ei ben, ac a'i taflodd ar lawr o tani. A gafaelodd Cacmwri yn ngwallt ei phen hithau, ac a'i llusgodd oddiwrth Hygwyd; eithr hi a ymosododd arnynt dra- chefn, ac a'u gyrodd eill dau allan, gan eu troedio a'u dyrnodio.

A llidiodd Arthur wrth weled ei was wedi ei haner ladd, a bwriadodd yntau fyned i'r ogof; eithr Gwyn a Gwythyr a ddywedasant wrtho, "Nid gweddus na phriodol genym dy weled yn ymryson â gwrach. Gad i Hiramren a Hireidil fyned i'r ogof." Felly hwy a aethant. Eithr os mawr fu trafferth y ddau gyntaf, llawer mwy fu rhan y ddau hyny. A'r nefoedd ŵyr nis gallai yr un o'r pedwar symud o'r fan hyd oni roddwyd hwy ar gefn Llamrei, caseg Arthur. Yna rhuthrodd Arthur at ddrws yr ogof, a tharawodd y Wyddones gyda Chaerwenau ei ddagr, ac a'i holltodd yn ddwy, nes y syrthiodd i'r llawr yn ddau haner. A chymerth Caw o Ogledd Prydain waed y Wyddones, ac a'i cadwodd.

Yna cychwynodd Cilhwch, a chydag ef Goreu ab Cystenin, a'r sawl a ewyllysiant niwaid i Yspaddaden Pencawr, a chymerasant y rhyfeddolion gyda hwynt i'w lys. A Caw o Ogledd Prydain a eilliodd farf, croen, a chnawd Yspaddaden yn lân at yr asgwrn, o glust i glust. " Aeilliwyd ti, ddyn? " ebai Cilhwch. "Eilliwyd," ebai yntau, "Ai eiddof fi dy ferch yn awr?" "Dy eiddo ydyw," ebai yntau, " ac nid i mi y rhaid it' ddiolch am hyny, eithr'i Arthur yr hwn a gafodd y rhyfeddolion i ti. O'm rhan i ni chawsit fy merch byth; oherwydd wrth ei cholli hi yr wyf fi yn colli fy mywyd." Yna Goreu ab Cystenin a afaelodd ynddo gerfydd gwallt ei ben, a'i llusgodd ar ei ol, a dorodd ymaith ei ben, ac a'i gosododd ar bawl yn y gadlys. A chymerasant feddiant o'i eiddo, ei gastell, a'i drysorau. Y dydd hwnw y daeth. Olwen yn wraig briod i Cilhwch, a hi a fu yn wraig iddo dra y bu fyw. Lluoedd Arthur a ymwasgarasant, pob un i'w fan. Ac felly y cafodd Cilhwch Olwen ferch Yspaddaden Pencawr.


FFRAE FARDDOL YN YR HEN AMSER.

DAU LYTHYR A FU RHWNG SION MAWDDWY A MEIRUG DAFYDD OBLEGID BARDDONIAETH.

(O'r Greal)

Atoch, Meurig Dafydd, hyn o lythyr, i'ch gwybyddu fy mod yn rhyfeddu yn fawr iawn eich bod yn beio ar fy ngherdd cybelled ag y clywaf eich bod. Mi a gaf foneddigion, a chyffredin Cymru, a ddyweto yn amgenach, heblaw dysgyblion a phencerddiaid; eto nid mor rhyfedd hyny a'ch bod yn dywedyd bod eich cerdd chwi cystal a'm heiddo i. Os felly, Meurig, chwi a wyddoch iawn farnu ac iawn ddysgu, trwy gyflawn gydgordiadau ymadroddion, niydr, a sillafau, a chyfoethogrwydd y gerddoriaeth; nid amgen mesurau, cywyddau, awdlau, ag englynion; a chanu y rhai hyny yn awenyddgar yn marn pencerdd, fal y mae yn rhaid iwch, cyn bod yn brydydd wrth fraint a defawd yr hen Brydeiniaid. Ond myfì a welais ŵr fal chwi, a gafas fenthyg pum' llyfr barddoniaeth tros ddwy flynedd; ac a fum fy hunan yn ceisio ei ddysgu, pe yd fuasai dysg yn myned yw ben; ond yr oedd ef mor ddwl at ddysg â gŵydd wyllt, mor falch-ffol â Satan, mor genfigenus â Lucifer, can galled â Ieuan Grod Hen, cyhawsed i ddyn ymddiried iddo ag i Iddawc Cam Brydain; a chantho ben mawr a synwyr bychan i ddysgu canu cerdd blethedig, gysylltiedig, gyfochredig, ddiadwyau, a synwyrau godidawg, ystyriaethawl; er hyny yr oedd ef yn gall i gasglu da'r byd, yn llawn lloriau fal hen gastell, cymaint ei gywilydd a'r afr, cyn daered a'r âb, un wên a Suddas, cybaeled a'r llyffant am y pridd, cymaint ei gariad a'r iar at yr halen, a llawn cymaint ei weniaith â charn putain: a mêl ar ei fin a bustyl yn ei galon, a'r wlad o'r bron yn adrodd ei gampau o'i febyd hyd at henaint; minau a'i hadwaen ef yn awr i'm tyb; nid chwi, Meurig, ydyw hwnw; Ha! Ha! ha! he! he! nage, nage; wrth hyny dau nage a wna un 'ie: byddwch wych, Meurig, oni boch gwrda. Ffarwel i'th fyw.

Sion Mawddwy.

ATEB MEURIG DAFYDD

Derbyiwch hyn yn ateb i'ch llythyr, Sion Mawddwy. Rhyfedd iawn yw hefyd genyf inau achwyn o honoch i mi feio ar eich cerdd: ni feiais i fwy na hyn arni, sef beio ar eich celfyddyd a wnaethym; sef achos ei bod ar Ddosbarth Gwynedd; gwell fyddai ei galw Dosbarth Dafydd ab Ed- mwnd. Beirdd Gwynedd a Deheubarth a'u derbyniant: ond ef a Iwyrymwrthodwyd â hi yn Morganwg. Beirdd gwlad Forgan a gyneiliant yr hen ddosbarth, fel y mae yn llyfrau yr hen ddysgodron godidawg; ac nid canu ffol a ymorchestu, fal chwareu plant bach ar eiriau heb air hy chan yn debyg i synwyr. Cymered beirdd Dafydd ab Edmwnd eu celfyddyd atynt i'w cartref, a balchied pob un ynddi, a chanent y gadwen fer, a gorchest y beirdd, yn awenyddgar synwyrawl, yn marn pencerdd, os medrant; ac yna beirdd Morganwg ni fynaut o hyny allan fod yn feirdd wrth fraint a defawd yr hen Brydeiniaid; ond byddant feirdd wrth fraiut a defawd Dafydd ab Edmwnd. Y chwi, Mr. Mawddwy, yn anad neb o feirdd Morganwg, a hoffasoch wagsain yn fwy na synwyr; gwnaed eich cywreinrwydd i chwi wynfyd calon, a llawenydd i chwi o'ch clod; nid oes fawr, ar a wn i, a genfigena wrthych; ni allaf lai fy hun na thosturio wrthych. Dyben cywreindeb mesur a chynghanedd oedd cynal y Gymraeg, a'i barddoneg, rhag ei cholli; yr hyn beth ni wna lawer o fesurau Dafydd ab Edmwnd, oni ellir cynal iaith a mydr drwy fwrw allan bob synwyr o'i hansawdd. Chwi a soniasoch am iawn ganu, iawn farnu, ac iawn ddysgu; gorchest yn wir yw pob un o'r tri; ond nid aml yr arferwch un o honynt. Dylai cerdd fod yn aml-bar iaith, yn gyfoethawg synwyr, ac yn gywrain fydraeth. Cadwch at hyn, Sion Mawddwy, dilys y byddwch wrth fraint a defawd hen Fryteiniaid; ac nid heb hyny. Gwir yw i mi gael benthyg eich pum' llyfr; ac y mae eu dysgeidiaeth yn fy mhen, pe bae hyny les yn y byd i mi: ond da yw gwybod ffolineb er amlygu callineb, yr hyn a ddengys ôl traed doethineb. Mae genych lawer iawn o sen gelwyddawg yn eich llythyr; ni fyddaf waeth o hyn. Mi adwaenwn Sion y Tincer Fargam cyn iddo briodi etifeddes Mawddwy, a chymeryd benthyg enw yn Ngwynedd. Bu hawdd ymddyddan unwaith âg ef; nid felly y mae yn awr. Mi a ddysgaf i chwi bwnc o addysg, ni wyddoch chwi fawr byd yn hyn am dano. Nid iawn i fardd hoffi. chwaithach ymarfer, â chelwydd; mae defodau yr hen feirdd yn gwahardd y peth hyn. yr ydych chwi chwyddedig iawn eich llafar: ond nid unwaith na dwywaith y gwelais i lawer peth, a dybygid ei fod yn fawr, yn troi o'r diwedd i maes yn o lliprynaidd a salw. — Sion bach! ni flinaf fy mhen mwyach o'th blegyd: bydd wych, a chais fod yn gall — ryw bryd.


Meurig Dafydd.

GLYNDWR A'I FARDD.

Pan ddienyddwyd Dafydd ab Grufuydd yn yr Amwythig, cymerth y cigydd ei galon ac a'i taflodd i'r tân, a neidiodd y galon o'r tân ac a darawodd y cigydd yn ei lygad, ac a dynodd ei lygad ymaith.

Harri IV., brenin Lloegr a ysgrifenodd at Arglwydd Grey o Riuthin, yn erchi iddo ef trwy ryw ystryw fradychu Owain Glyndwr. Yna gyrodd Arglwydd Grey at Owain i'w hysbysu y byddai yn ciniawa gydag ef y dydd a'r dydd. Atebodd Owain y byddai croesaw iddo, o ni ddygai gydag ef uwchlaw dengwr ar ugain. Daeth yr arglwydd yn yr amser penodedig, ac ychydig o gydymdeithion gydag ef; a gallu mawr arfog yn dyfod yn ddirgel ar ei ol. Pan ddaeth amser ciniawa, gosododd Owain osgordd ar ben bryn i wylio tra y byddai ef ar giniaw. Pan oedd Owain ar ganol ciniaw, yr osgordd a welent lonaid y ddôl o wŷr arfog. a dywedasant with Iolo Goch, bardd Owain, er mwyn iddo ef fyned a rhybuddio eu harglwydd o'i berygl. Aeth Iolo i mewn ar frys i'r palas, a chanodd ar ddameg yr englyn rhybudd yma ar osteg, rag i Grey dybied fod twyll ynddo; canys er ei fod yn deall traethawd Cymreig, nid oedd efe yn deall ein mydr ni: —

Coffa ben, a llen, a llywenig —
A las nos Nadolig
Coffa golwyth Amwythig,
O'r tan a fwriodd naid dig.

Deallodd Owain y ddameg, a defnyddiodd ei draed i arbed ei ben.

FFOWC FFITSWAREEN.— Damheg

Yn nghastell Ffowc Ffitswarren, a elwid hefyd Ffowc o Forganwg, a Ffowc, is-iarll Caerdydd, yr oedd y tŵr uwchaf yn holl ynys Prydain. Fel yr oedd Syr Ffowc un Sulgwyn yn adrodd wrth nifer o bendefigion a marchogion am y caledi a ddyoddefodd wrth ymladd â'i elynion a'r Saraseniaid, ac am y modd y gorchfygodd hwynt oll, ebai un Marchog, "Gallaswn inau wneud hyny yn hawdd." "A minau," ebai un arall; "a minau," ebai y Dall; a phob un yn bostio ei fod cystal a Ffowc ei hunan. Ebai yntau, "Peth arall a wnaethum, ond rhaid addef fod hyny yn llai rhyfedd na fy nghampau eraill." "Beth ydoedd?" ebynt oll ar unwaith. Ebai Ffowc, "Neidiais i ben fy nghastell, a rhaid i chwi oll gyfaddef mai hwnw yw yr uwchaf yn y byd." "Gwir a ddywedi o barth uwchder dy gastell," ebynt hwythau, " ond am neidio i'w ben ni wna dim ond gweled yr orchest â'n llygaid ein hunain ein hargyhoeddi o wirionedd hyny." "Da iawn, yn wir," ebai Syr Ffowc, " ac os caf eich cyfeillach i giniawa ryw ddiwrnod yn fy nghastell, cewch fy ngweled yn neidio i'w ben."Pawb a addunedasant fyned, penodwyd y diwrnod. a phan ddaeth, wedi bwyta ac yfed o honynt eu gwala o'r bwyd a'r ddiod oraf. "Ynawr," ebai Syr Ffowc, "am neidio i ben tŵr y castell: dilynwch fi, modd y gweloch yr orchest yn cael ei chyflawni â'ch llygaid eich hunain." Daethant oll hyd at waelod y grisiau; a neidiodd Syr Ffowc ar y ris gyntaf, ac oddiar hono i'r ail ris, ac o hono i'r drydedd, ac yn yr un modd o ris i ris, nes y cyrhaedd- odd ben uwchaf y tŵr. "O!" ebynt hwythau, "gallasem ninau yn hawdd neidio i ben y castell yn y dull yna." "Gwy'ddwn y gallasech, a gallwch yn hawdd wedi fy ngweled i yn gwneud hyny, a'r moddd y gwnaethum. Diffyg gwybodaeth oedd yr achos nas gallasech cyn hyny, neu o'r hyn lleiaf ni ddaeth y dull y gallasech ei wneuthur erioed i'ch meddyliau."

Yr hwn y mae deall ganddo, ystyried y Ddameg, a chymered addysg. O ris i ris y mae cyrhaedd tŵr gwybodaeth ac ucheledd celf, ac nid oes dim mor ynfyd a meddwl eu cyrhaedd ar un naid.

IDWAL NANT CLWYD

(Oddiar Lafar Gwlad)

Yr oedd rhieni Idwal yn amaethwyr cyfrifol a pharchus, ac iddynt luaws o blant, yr oll o ba rai oddigerth ein harwr a fuont feirw yn eu mabandod. Idwal oedd yr ieuengaf, ac fel rhosyn olaf y gwanwyn, yr oedd y deifwynt dinystriol wedi myned heibio'r teulu, a chyflawni ei alanastra cyn iddo ef wneud ei ymddangosiad. Ni raid hysbysu, gan hyny, ei fod yn anwyl iawn gan ei rieni, gan mai trwyddo ef y disgwylient gadw anfarwoldeb eu natur yn y byd hwn. Nid ydyw dyn byth yn marw yn gysurus, os nad all adael rhywun ar ol i drefnu ei angladd, i eneinio ei fedd â dagrau, ac i'w drwsio â blodau; ac oddiar pwy y gellir disgwyl y cymwynasau hyn, os nad oddiar law plentyn! Y mae dyn yn caru credu y bydd tipyn o alaru ar ei ol wedi iddo symud o fyd o amser; a phwy o'r hil ddynol sydd yn ddigon glan oddiwrth y dyb ddiniwaid hon i daflu careg at y llall?

Un diwrnod aeth Idwal allan i hela yn nghymdeithas cyfaill cywir-galon, mab y fferm agosaf at Nant Clwyd. Nid oedd cariad Jonathan a Dafydd yn rhagori ar serch y ddau hyn at eu gilydd. Yr oedd y ddau yn cyd-chwareu- yn cyd-dyfu, yn cyd-garu, a phriodwyd hwy yn yr un eglwys, gan yr un offeiriad, ar yr un dydd ac awr, gyda dwy chwaer. Pa fodd bynag, wedi bod o honynt yn hela am amryw oriau, daethant hyd at Iwyn o frysglwyni, a choed caeadfrig, lle yr ymwahanasant oddiwrth eu gilydd, ac er pob ymdrech methodd ei gyfaill â dyfod o hyd i Idwal drachefn. Ni chauwyd amrant yn Nant Clwyd y noson hono— pryderu, ofni, gobeithio y goreu, ac ofni y gwaethaf, yr oedd pob mynwes. Dranoeth y bore aethpwyd i chwilio o ddifrif am y colledig yn mhob cilfach a lloches oddeutu y fan ei collwyd, a bu pob ymdrech yn ofer. Er mor gynhes oedd cyfeillgarwch y ddau heliwr, ni bu cenfigen heb gynllunio brad yn erbyn cyfaill Idwal, ond yr oedd ei ddull gonest ac wyneb-agored yn ateb pob holiadau, yn lladd pob anmheuon, ac yn peri i genfigen yfed ei gwaed ei hun. Chwiliwyd yn fanwl am Idwal oddeutu y llwyn y collwyd ef; ac yr oedd yr ymchwiliad mor wirioneddol a dwys, nes yr edrychai yr holl deulu fel yfydion yn y fan. Clustfeinient ar y gwynt, eithr ni ddygai hwnw ar ei adenydd yr un lef wan oddiwrth Idwal; a rhugl-drystiad y dail crynedig yn y twyni oeddynt yr unig atebion a dderbynient i'w holiadau enaid-gynhyrfiol. Wedi hir edrych o'u deutu, gwelent gylch Tylwyt Teg yn ymyl y fan; a phenderfynwyd ar unwaith iddo fod mor anffodus a chael ei swyno gan beroriaeth y bodau bychain dyeithr hyny i'w canlyn i wlad hud a lledrith. Yn raddol diflanodd pob gobaith am weled Idwal o Nant Clwyd yn nhir y rhai byw mwyach; ond cyn i hyny gael ei Iwyr ddwyn oddiamgylch, cymerodd dygwyddiad le a'i hail ddygodd mewn dull effeithiol iawn gerbron meddyliau ei deulu. Yn mhen tua phedwar mis wedi iddynt ei golli, ganwyd mab iddo, yr hwn ydoedd wir ddelw a phictiwr ei dad. Tyfodd y plentyn hwn i oedran gŵr, a llanwai le ei dad yn serchiadau ei daid a'i nain. Ymgysylltodd mewn glân briodas â merch ieuanc brydferth o'r ardal, ond nid oedd hawddgarwch a haelioni yn mhlith rhinweddau ei thylwyth. Ni welwyd y ddau nodwedd hyn erioed ar wahân — gefeilliaid cariad ydynt, a haelioni ydyw yr hynaf o'r ddau. Pwy glybu erioed am gybydd hawddgar? Cybyddion oeddynt deulu y ferch ieuanc hon, a phob tynerwch a chydymdeimlad wedi eu halltudio o'u calonau; ac fel y mae gwaetha'r modd, dyna'r anrasau a ddysgent gyntaf i'w phlant. Un o'r nodweddiad yna ydoedd merch-yn-nghyfraith y colledig Idwal. Pa fodd bynag, yn nhreigliad amser bu tad a mam a gwraig Idwal feirw.

Yr oedd haner can' mlynedd o lawenydd a thristwch, o ing a gorfoledd, wedi myned tros ben plant dynion er pan ddiflanodd ein harwr mor gyfrin a dirgel — nid oedd un o honynt yn ddigon uchel i allu osgoi y cwpan chwerw, nac un yn rhy isel i allu cyfranogi weithiau o'r gwpan felus, pan ar brydnawn oerllwm yn mis Chwefror y gwelai teulu Nant Clwyd hen ŵr brigwyn, teneu, tal, yn dynesu at y tŷ. Agwedd cardotyn oedd arno, a rhaid ei fod yn ddyeithr yn y fangre hono, onidê ni chyfeiriasai byth mo'i gamrau at ddrws digardod Nant Clwyd. Yr oedd ei gam yn fyr, a'i wisg yn garpiog; a'r morwynion a'r feistres, wrth sylwi arno yn dyfod a wawdient "yr hen Wyddel." Synasant ychydig wrth weled gŵr ar y dullwedd hwnw yn cerdded i mewn heb guro y drws nac unrhyw rodres, ac yn gofyn pa le yr oedd ei dad, a'i fam, a'i wraig. Gorchymynodd y wraig iddo fyned allan oddiyno mor gynted fyth ag y gallai cyn i'w gŵr ddyfod adref, a rhoddi help iddo gyda blaen ei fotasen. Edrychai yr hen ŵr yntau erbyn hyn yn lled hurt a ffwdanllyd! yr oedd pob peth oddeutu y tŷ wedi cyfnewid — lle yr hen gadair ddwyfraich dderw fawr yn cael ei lenwi gan esmwythfainc, a'r dysglau pewter (looking-glasses yr hen bobl) wedi myned i'r wadd a'r ystlumod, &c., ond eto yr oedd digon o bethau amgylchiadol yn aros yr un i sicrhau meddwl yr hen ŵr mae Nant Clwyd ydoedd Nant Clwyd. Traethodd ei hanes: dywedai iddo y dydd blaenorol fyned allan i hela, ac i drymgwsg rhyfedd syrthio arno yn mrig yr hwyr a barodd iddo dreulio y noson hono yn y coed. "Mi a glywais fy ngŵr yn dweyd fod y gair i'w dad ef fyned ar goll wrth hela, ond credai pawb mai ei ladd a gafodd. "A gwylltiodd y wraig yn enbyd, a pharodd iddo eilwaith fyned allan: cynhyrfodd nwydau yr hen ŵr yntau hefyd, dywedai mai ei eiddo ef oedd y tŷ, ac y byddai iddo yn ddiymaros weithredu ar ei hawl. Yna ymwelodd â'r fferm agosaf, anedd ei hen gyfaill, a gwelodd yno hen ŵr methiantus yn eistedd yn fyfyrgar wrth ochr y tân. Ymddyddanent am ieuenctyd a bore oes, ac ymddangosai y cyfan fel golygfa hafaidd yn y chwareudy. Adnabyddasant y naill y llall, disgynasant ar yddfau eu gilydd gan ymgofleidio, a'r dagrau gloewon yn dylifo ar hyd eu gruddiau rhychedig. Deallodd Idwal ei wir sefyllfa. Yr oedd y gymdeithas mor gynhes cydrhyngddynt, fel na ddychwelodd ein harwr i'w dŷ i Nant Clwyd. Darparwyd gwledd ar frys, a gwahoddwyd holl hen bobl y gymydog- aeth iddi, a threuliwyd y noson yn ddyddan iawn. Ac wedi siarad ac adgofio nes y daeth cwsg yn fwy dmnunol nac ymddyddan, aeth y ddau hen ŵr gyda'u gilydd i gysgu yn yr un gwely. Bore dranoeth, wrth eu gweled cyhyd yn codi, aed i ymofyn am danynt, a chafwyd y ddau WEDI MARW.

Tybiai y werin bobl mai yspryd Idwal ydoedd yr hen ŵr dyeithr wedi dyfod i ymofyn yspryd ei gydymaith; ac i'r cyfaill mor fuan ag y clywodd y neges ofyn caniatâd Llywodraethwr yr ysprydion i fyned ymaith yn uniongyrchol a dirybudd yn nghanol nos. Pa foddbynag, hyn sydd sicr, disgynodd melldith ar deulu Nant Clwyd hyd y pumed âch — pob peth a gymerent mewn llaw anffawd a methiant a fyddai, a gwerthwyd y lle naw gwaith cyn i'r felldith hon gael ei symud.

Cymered y cyfeillion dwrngauad yr amnaid hon o law chwedl: — Nad oes wynfyd i'r sawl a ddirmygont y tlawd, ac na fu bendith erioed ar gybydd-dod.

PRIODI A CHLADDU YN YR HEN AMSER.

Wedi i'r pâr ieuanc gydweled mai "nid da bod dyn eî hunan," un o'r pethau cyntaf wrth ragdrefnu y briodas ydoedd dewis "Gwahoddwr". Swydd y gŵr hwn oedd myned at y cymydogion i'w hysbysu yn nghylch y briodas, yn nghydâ'r dydd a'r lle y bwriedid ei chynal. Yr oedd llawer o deithi prinion yn anhebgorol i wneud "Gwahoddwr" da. Yr oedd yn rhaid iddo fod yn barod a ffraeth ei atebion, yn un dawnus ei ymadrodd wrth ddweyd ei neges, ac yn gyfaill cywir a diragrith i'r pâr ieuanc, rhag na byddai iddo eu henllibio yn lle eu hamddiffyn yn ngŵydd y cymydogion. Wedi penderfynu ar y gŵr cymhwysaf i'r swydd, ac iddo yntau gydsynio, efe a gychwynai ar farch yn y bore i'w daith. Os byddai y gwahoddedigion ychydig uwchlaw y cyffredin, traddodai ei genadwri trwy lythyr; eithr os tlodion ac anllythrenog fyddent, efe a draethai ei len ar dafod leferydd, ac fynychaf ar gân. Yn yr "Hynafion Cymreig", ceir siampl o


GAN Y GWAHODDWR.

Dydd da i chwi, bobl, o'r hynaf i'r baban,
Mae Stephan wahoddwr a chwi am ymddiddan,
Gyfeillion da mwynaidd, os felly'ch dymuniad,
Cewch genyf fy neges yn gynhes ar ganiad.
Y mae rhyw greadur trwy'r byd yn grwydredig,
Nis gwn i yn hollol ai glanwedd ai hyllig
Ag sydd i laweroedd yn gwneuthur doluriad
Ar bawb yn goncwerwr, a'i enw yw CARIAD.
Yr ifanc yn awchus wna daro fynycha',
A'i saeth trwy ei asen mewn modd truenusa';
Ond weithiau a'i fwa fe ddwg yn o fuan
O dan ei lywodraeth y rhai canol oedran.
Weithiau mae'n taro yn lled annaturiol,
Nes byddantyn babwyr yn wir yn hen bobl,
Mi glywais am rywun a gas yn aflawen
Y bendro'n ei wegil yn ol pedwar ugain.
A thyma'r creadur trwy'r byd wrth garwyro
A d'rawodd y ddeu-ddyn wyf trostynt yn teithio,
I hel eich cynorthwy a'ch nodded i'w nerthu,
Yn ol a gewch chwithau pan ddel hwn i'ch brathu.
Yr wyf yn atolwg ar bob un o'r teulu
I gofio y neges wyf wedi fynegu,
Rhag i'r gwr ifanc a'i wraig y pryd hyny,
Os na chan' hwy ddigon, ddweyd mai fi fu'n diogi.

Chwi gewch yno croeso,rwy'n gybod o'r hawsaf,
A bara chaws ddigon, onide mi a ddigiaf,
Ceiff pawb ei ewyllys, dybacco a phibelli,
A diod hoff ryfedd 'rwyf wedi ei phrofi."

Ar brydiau byddai y Gwahoddwr yn cyfarfod â gwrthwynebiadau. Dywedid wrtho nad oedd y yr ieuanc wedi ymddwyn mor gymwynasgar a chymydogol ag i deilyngu unrhyw garedigrwydd oddiar eu llaw; neu fod eu teuluoedd yn euog o weithredoedd anngharedig. Yn ngwyneb hyn ei ddyledswydd yntau ydoedd gwrthbrofi'r cyhuddiad, neu gyfiawuhau yr ymddygiad, a'u hannog i beidio gadael i feiau bychain y mae dynolryw yn gyffredinol mor agored iddynt eu lluddias rhag cydymffurfio â hen ddefod anrhydeddus a ddisgynodd iddynt oddiwrth eu henafiaid doethion. Ond nid oedd y gwrthwynebwyr hyn ond eithriadau, a'r nifer luosocaf o'r cymydogion a falchient yn y cyfleusdra i roddi help llaw i bobl ieuainc yn dechreu

Oherwydd y gwahoddiadau hyn deuai y cyfeillion o ffordd bell i'r neithior yn llwythog gan anrhegion, megys dodrefn tŷ, arian, enllyn o bob math, &c. yr oedd y Gwahoddwr yn gweithredu fel ysgrifenydd i'r briodas. Rhoddai enwau yr oll oeddynt yn bresenol ar lawr, a'u hanrhegion gogyfer a hyny; y rhai oeddynt i gael eu haddalu, ar amgylchiad cyffelyb, os byddai galw am danynt. Gelwid yr hen ddefod hon "Pwrs a Gwregys," ar anrhegion yn "Dalu Pwyddion," ac oddiwrth hyn, mae yn debyg, y deilliodd y gair a ddefnyddir yn yr oes hon "Talu'r Pwyth." Fel hen ddefod gwlad gellid hawlio ad-daliad y Pwyddion trwy rym cyfraith, ond o ran gweddeidd-dra, anfynych y byddai neb yn defnyddio y moddion hyny i'w hadfeddianu.

Bore dydd y briodas ymgynullai nifer o gyfeillion y priodfab i'w dŷ ef, ac oddiyno elent i dŷ y ferch ieuanc. Ac er y byddai y briodferch a'i chyfeillion yn pryderus ddisgwyl am yr osgordd, er mwyn defod a gweddeidd-dra, ffugient eu han ewyllysgarwch iddi fyned i'r ystâd briodasol. Yna cyfeillion y priodfab a ddechreuent ei foli a thraethu ei ragoriaethau mewn prydyddiaeth ramantus a direol, a chanmol cymhwysder yr undeb bwriadedig; tra, ar y llaw arall, cyfeillion y ferch ieuanc a watwarent y priodfab, ac a ddirmygent y briodas. Ar ol y ffug-ymrysonfa hon, deuai y tad neu rhyw berthynas agos i'r briodferch yn mlaen, ac a'i cyflwynai hi i'r cwmni; croesawid hwynt oll; ac wedi hyny cyfeirient eu traed tuag eglwys y plwyf. Ond ar y ffordd tuag yno drachefn, cyfarfyddid â rhwystrau; gwnai y ferch ieuanc lawer cais i ddianc, gan ymddangos yn dra hwyrfrydig i newid byd. ,Pa fodd bynag, o'r diwedd, ymostyngai i'r drefn, ac wedi cyrhaedd yr eglwys, a myned drwy y seremoni arferedig, yr holl gwmni a ddychwelent i dŷ y briodferch, a dechreuent gadw y neithior gyda gwres ac yni mawr am ddyddiau lawer, hyd oni roddai y Sabbath derfyn ar eu rhialtwch. A'r Sabbath hwnw y "ddeuddyn dedwydd" a eisteddent i dderbyn rhagor o Bwyddion a moesgyfarchiadau cyfeillion. Dywed un awdwr y byddai yr anrhegion hyn rai prydiau yn cyrhaedd y swm hardd o 40p. i 50p. Byddai tymor y Pwyddion trosodd erbyn yr ail Sul, a'r dydd hwnw elai y bobl ieuainc i'r eglwys am y tro cyntaf i addoli fel gŵr a gwraig, a mawr fyddai yr ysgwyd llaw ar ol dyfod allan. Nid ydyw yr arferiad hon wedi llwyr farw mewn llawer man yn Nghymru hyd y dydd hwn, er ei bod wedi colli llawer o'i nodweddion cyntefig. Rhaid "Cadw'r Briodas" cyn y bydd gweithrediadau y dydd yn gyflawn; ac wrth hyn y meddyllir — Lluaws o gyfeillion yn cydymgynull yn nhŷ y briodferch i ganu, cynyg iechyd da y pâr ieuanc, a'i yfed mewn cwrw a metheglin. Cyn i'r cwmni ymwahanu, cymer rhyw gyfaill ddysgl, ac el o gwmpas i dderbyn ewyllys da y cwmni. Er fod yr oliad hwn, yn gystal a'r Pwyddion ei hunan, yn ymddangos ar yr olwg gyntaf fel peth cardotus ac anfoneddigaidd, eto y mae pob lle i gredu ei bod duedd ddaionus, megys i gynorthwyo angenoctyd, a meithrin teimladau da.

Y mae cangen arall o'r Pwyddion yn aros, sef y ddefod sydd mewn parthau gwledig a elwir, "Myned i edrych am y wraig ieuanc." Nifer o gymydogesau calon rwydd yn talu ymweliad caruaidd â'u chwaer ieuanc, gan ddwyn gyda hwynt cwarter o dê, neu bwys o siwgr gwyn, yn anrheg; yna, yfed sudd y tê a'r siwgr cyn dychwelyd, yn nghyda beirniadaeth lem ar y gymydoges hon ac arall nad oedd yn digwydd bod yn bresenol ar y pryd. Byddai y cyfarfod hwn hefyd yn foddion i dderbyn y wraig ieuanc yn aelod o'r "Gymdeithas Dê," gwyliau pa un â gynelid yn olynol yn nhai y gwahanol aelodau, pryd y pwysid cymeriadau y gwŷr, y cedwid cwrdd enllibio, ac y medrus ymdrinid â holl faterion teuluaidd y gymydogaeth; ac un o'r gwersi cyntaf a dderbyniai y wraig ieuanc oedd dysgu sut i gymeryd snisin. Ymddengys, fel y mae gwaetha'r modd, fod y Cymdeithasfaau hyn yn marw yn gyflym, oherwydd fod y wlad yn ymanwareiddio cymaint mewn moes, dysg, a chrefydd.


DEFODAU ANGLADDAU

Gellir yn hawdd casglu fod gan y bobl a feddent y fath arferion hynod wrth briodi, hen ddefodau rhyfedd yn eu hangladdau hefyd. Yr oedd gan ein hynafiaid fil a myrdd o ragargoelion am angau, — megis canwyllau cyrph, adar y cyrph, y teulu, udiadau annaturiol cŵn, caniad anamserol y ceiliog, &c, am ba rai y sonir yn mhellach yn mlaen; ac wedi i'r rhagargoelion hyn gael eu cyflawni (i'r llythyren wrth gwrs), gosodid y trengedig yn ei arch, ac addurnid ef yno âg amrywiol flodeu a phwysiau serch.

Y noson cyn yr angladd, cynelid cyfarfod gweddi a elwid Gwylnos. Hen derm Babyddol, mae yn debyg; ond beth bynag am hyny, cyfarfod effeithiol iawn oedd y Wylnos. O ran ei enw a'i darddiad, yr oedd yr un â Wakes y Gwyddel, ond yr oedd anhraethol wahaniaeth rhyngddynt o ran nodwedd ac amcan. Yr oedd defod y Gwyddel yn drewi gan ofergoeledd, ac yn echrydus o anfoesol; ac er fod y galarwyr yn dolefain, "Paham y buost farw ein brawd?" eto, ymddangosai y cyfan yn debycach i loddest feddw nag i alar ar ol y marw. Yn y Wylnos, o'r ochr arall, ceid y teimladau dwysaf a'r gweddiau mwyaf drylliog. Buasent yn ei hystyried yn rhyfyg bod yn llawen yn nhŷ galar; ac yn annuwioldeb gwarthus cellwair tan yr un gronglwyd â'r marw. Cyfeirient at yr ymadawedig mewn ymadroddion cyffrous, gwnaent bwlpud o'i angau i rybuddio y byw o freuder einioes, a meithder a phwysigrwydd tragwyddoldeb. Apelid at gydwybodau y gwrandawyr, yn enw y lle cysegredig y sangent arno, i gymeryd y ffeithiau hyn tan eu hystyriaeth ddifrifolaf, a pharotoi ar gyfer angau, modd y gallent ei wynebu yn ddi-gryn a gorfoleddus.

Cyn'i'r orymdaith bruddaidd gychwyn tua'r Llan, y cyfeillion a'r perthynasau agosaf a ymgynullent oddeutu y corph, i ochaineidio a galaru eu colled ar ei ol; tra y byddai y gweddill o'r cwmni mewn ystafell arallyn yfed "cwrw brwd," ac yn mygu eu pibelli; a'r menywod mewn ystafell arall drachefn yn cydyfed tê. Wedi dwyn yr arch allan o'r tŷ, a'i gosod ar yr elor gerllaw y drws, byddai un o berthynasau y trancedig yn rhoddi bara a chaws tros yr arch i bobl dylodion, y rhai mewn disgwyliad am y rhoddion hyn a fuont yn ddiwyd i gasglu blodau a llysiau i'w rhoddi yn yr arch. "Weithiau chwanegid at hyn dorth o fara a darn o arian ynddi. Yna cydymgrymai yr holl alarwyr, a'r offeiriad, os yn bresenol, a adroddai Weddi yr Arglwydd; ac arosai yr orymdaith, ac adroddid yr un weddi, yn mhob croesffordd, hyd oni chyrhaeddent y Llan. Ymddengys y byddent yn yr hen amser yn arfer claddu drwg weithredwyr mewn croesffyrdd, a thrwy eu bod yn credu nad oedd ysprydoedd drygionus y cyfryw ddynion yn myned nepell oddiwrth y corph, yr oeddynt yn darllen y gweddi er mwyn gwrthladd effeithiau niweidiol yr ysprydion hyn ar yr ymadawedig.

Cludid yr arch gan y perthynasau agosaf, hen ddefod trwy ba un y cyflwynid y parch uwchaf i'r ymadawedig. Oddiwrth y Rhufeiniaid, mae yn debyg, y cawsom ni y ddefod hon, oblegyd yr oedd mewn arferiad ganddynt hwy. Dygid arch Metellus, gorchfygydd Macedon, gan ei bedwar mab. Fel arwydd o barch i'r sawl a haeddent barch gan y Werin-lywodraeth, cludid ef i dŷ ei hir gartref gan Ustusiaid a Seneddwyr; tra y dygid gelynion y bobl gan gaethion a gweision llogedig. Y mae defod gyffelyb hefyd yn Ucheldiroedd yr Alban, a elwir Coranich.

Ond yr arferiad fwyaf swynol mewn cysylltiad âg Angladdau Cymreig ydoedd yr un o ganu ar y ffordd tua'r Llan. Yr oedd gwrando ar y canu hwn, yn enwedig mewn manau annghyfanedd a gwledig, yn wir ardderchog. Dygwyddais fod unwaith yn eistedd ar ben craig fawr a elwir Clogwyn Dinmel, yr hon sydd yn crogi uwchben un o'r nentydd gwylltaf a serthaf yn ngogledd Cymru, sef y Glyn Diphwys, ar y ffordd fawr rhwng Ceryg y Drudion a Chorwen. Yn ngwaelod y Glyn y mae'r afon Ceirw yn ymdywallt dros graig serth, gan ewynu a ffurfio rhaiadr mawreddog a thrystfawr. Y mae y ffordd wedi ei thori yn y graig rhwng Clogwyn Dinmel a gwaelod y Glyn, ond cuddid hi rhagwyf gan goed deiliog a dyfent ar astellau yn y graig uwch ei phen. Tra yn eistedd fel hyn gan edmygu trwst dibaid y rhaiadr ar y naill law, a chaniadau nwyfus yr adar ar y llall, tarawyd fi â syndod trwy i orymdaith angladdol ddechreu caun "Yr Hen Ganfed " yn y ffordd islaw. Yr oedd yr effaith fel perlewyg, dystawodd pob aderyn yn y fan i wrando ar yr acenion galarus, peidiodd yr awel â chwareu ar ei thelyn y dail, ond yr hen raiadr a bistylliai yn mlaen gan ymunaw a chymeryd y bâs isaf yn y beroriaeth. Wedi iddynt ymsymud ymaith, ac i'r gerddoriaeth raddol ddarfod yn y pellder, nid oedd gan y Glyn unrhyw swynion i mi. Gadewais ef, a'i adar yn fudion, a'i raiadr fel gwallgof yn canu wedi i bawb arall dewi, a phrysurais ar ol yr orymdaith. Goddiweddais hwynt pan ddaethant at leoedd cyfanedd, ac yr oeddynt yn parhau i ganu. Deuai y gwragedd allan o'u tai a'r hosan haner wauedig yn eu dwylaw diffrwyth, wylent yn hidl, ac ymunent â'r gân wrth iddi fyned heibio. Daliasant i ganu hyd oni ddaethant at borth y fynwent, weithiau newidient y dôn am yr "Hen Gyfamod," neu "Fryniau Caersalem;" ond pa dôn bynag a genid, yr oedd teimlad yn mhob nodyn, a galar yn mhob acen, ac nid wyf tu yma i Wynfa yn disgwyl eto clywed canu mor ardderchog. Fel hyn y byddai yr hen bobl yn hebrwng eu meirw i'r bedd, ac y mae yn anmhosibl i ddyn ddymuno angladd parchusach nag yn nghanol acenion pruddglwyfus ei gymydogion a'i anwyliad.

Yr offrwm. — Hen ddefod wedi ei threiglo i ni, a'i chadw yn fyw er cyn y Diwygiad Protestanaidd, ydyw yr un o offrymu mewn angladdau. Wedi i'r offeiriad ddarllen y Gwasanaeth Claddu, efe a arosai wrth fwrdd y cymun hyd oni ddelai y perthynas agosaf i fynu yn gyntaf i roddi ei offrwm ar y bwrdd. Os byddai yn lled gyfoethog, efe a offrymai gini; os amaethwr neu fasnachwr a fyddai, offrymu coron a wnai; ac os tlawd, chwe' cheiniog a roddai i lawr. Y sawl a fwriadent offrymu arian, a elent i fynu o un i un, ac a wnaent hyny; yna byddai ychydig seibiant, a'r offrymwyr pres a gymerent eu hoffrwm hwyhau; ond ni offrymid pres mewn angladdau boneddigaidd. Byddai yr offrymau hyn yn fynych yn cyrhaedd deg neu ugain punt mewn blwyddyn. Y mae yn ddiddadl mai arian i'r offeiriad am weddio tros y marw oedd y ddefod yma o offrymu ar y cyntaf, cyfrandaliad tros ei ryddhad buan o'r purdan, neu fe allai iawn am unrhyw wall o'i eiddo yn nhaliad y dreth eglwys neu y degwm. Er fod y ddefod yn parhau mewn amryw fanau, nid ystyrir hi ond teyrnged o barch i'r ymadawedig, neu amnaid o serch tuag at offeiriad y plwyf.

Y mae hen ddefod brydferth arall, a hon ydyw y caredigrwydd diweddaf a ddangosir tuag at y marw, sef addurno y bedd â blodau, a bythwyrddion. Dywed un ymdeithydd ei fod yn Llanfair, swydd Drefaldwyn, ac yn mynwent y lle, bu yn llygad dyst o'r ddefod. Dygid brigau y pren bocs a'r ywen, a phlenid y rhai hyn, fel amlen oddeutu y bedd, a threfnid blodau amryliw a phrydferth yn y canol, fel y gellid adwaen chwaeth y byw wrth eu dull yn arwisgo trigfanau eu meirw. Dynodid bedd y baban gan ganghenau pedair, — y friallen, a'r crinllys, blodau cynaraf y gwanwyn; y rhosyn coch a blodyn y coed a ddynodent fedd y canol-oedran; a'r rhos Mari, a'r hen ŵr, a arddangosent hen ddyddiau. Ond yr oedd pob un i gynwys dail-bythwyrddion fel arwyddlun hardd, ond gwan, o anfarwoldeb. Ac ar ol gwisgo y bedd, ni adewid ef yn ddiamgeledd, eithr y lle a chwynid bob prydnawn Sadwrn gan ddwylaw gofalus, er parch cysegredig i'r un oedd yn gorwedd ynddo. Yn ei Cymibeline cyfeiria Shakespeare mewn dull toddiadol at yr arferiad hon: —

A'r blodau tecaf, ferch, Y llonaf dy brudd fedd; ni byddi'n ôl
O'r blodyn llwyd sydd fel dy wedd, sef y friallen:
Nac o'r clychau asur[3] fel dy wythi llawn,
Na dail yr eglantin, y rhai yn ddisarbad
Ni feddant burach anadl.

Y mae ysgrifenydd arall yn dweyd iddo ymweled â mynwent Llanfair, yntau hefyd ar brydnawn Sadwrn, a dywed yr hanes fel hyn: — "Gwelwn luaws o bersonau yn brysur wrth y gorchwyl prudd-pleserus o drwsio y beddau. Tybiais mai annynol ynwyf fuasai eu cythryblu; ac yr oeddwn ar ymgilio yn ol pan y gwelais eu bod wedi sylwi arnaf, ac y gorchfygwyd fy ngwyleidd-dra gan gywreinrwydd. Wrth ganfod merch ieuanc hawddgar a dirodres, dynesais yn araf tuag ati. Anturiais ofyn iddi beth oedd natur ac ystyr y ddefod; eithr hi a osgôdd fy holiadau, ac a aeth yn mlaen i symud y chwyn. Wrth i mi ei hail holi, trodd ei phen, a dangosodd wynebpryd hardd anarferol, a thristwch dwfn yn argraffedig arno; treiglai y dagrau i lawr ei ddwy rudd, ac mewn llais crynedig dywedodd: — ' yr wyf yn dyfod yma bob dydd Sadwrn i chwynu y lle, ac i alaru ar ol fy anwyl frawd — nid oedd genyf ond un, ac yr oedd efe yn frawd — rhy dda i aros yma — gwyn fyd pe buaswn farw yn ei le.' Wedi yspaid o ddystawrwydd, hi a chwanegodd: — "Hwyrach fy mod yn cyfeiliorni, Syr, ond byddaf yn gweddio yn fynych ar fod i fy mrawd flodeuo yn Mharadwys fel y mae'r blodau hyn ar ei fedd. Dywedwyd wrthyf na ddylwn weddio. tros y marw; ond byddaf yn teimlo yn llawer gwell ar ol gwneud hyny, ac awyddfryd cryfach ynwyf i fyw yn dduwiol, fel y byddwyf barotach yn nghynt i fyned ato." Ychydig nes yn mlaen, yr oedd bedd newydd ei drwsio, a'r cyfaill newydd fyned ymaith. yr oedd tlysni neillduol oddeutu y beddrod hwn; oddifewn i'r amlen fawr yr oedd un arall fechan, at faint baban ieuanc. Wrth ymboli, cefais mai gwraig a gladdwyd yno, yr hon yn y weithred o roddi bywyd i arall a gollodd ei bywyd ei hun. Bu farw ar wely genedigaeth; a chan na fu y plentyn fyw ond ychydig oriau ar ol y fam, rhoddwyd hwy yn yr un arch, a claddwyd hwy yn yr un bedd. Y blodau peraroglaidd hyn a gynddrychiolant y baban yn gorwedd ar y fron. yr oedd y gŵr wedi bod yn cyflawni y gorchwyl trist pleserus o dacluso y fan, gan deimlo yn hapus mae'n ddiddadl ddarfod iddo wneud yr oll a allai i'w ddiweddar gydymaith bywyd y goddefai natur iddo wneuthur; ac yn rhoddi ernes i'w gymydogion fod rhinweddau eu hen gyfeilles heb fyned dros gof, a'i bod yn fyw yn ei serchiadau."

Hir y parhao hen ddefodau prydferth o'r fath yma i addurno mynwentydd Gwyllt Walia; a pheth mwy, i lefaru cyfrolau ar dynerwch teimlad, a pharch a charedig- rwydd y genedl at ei meirw? Os dirmygir y ddefod fel penwendid paganaidd, nid oes gan neb ond gresynu tros y dirmygydd, oblegyd y mae yn rhaid i deimlad gael llefaru weithiau, onidê fe â y genedl benbaladr i ragrithio bob amser a chyda phob peth; ac y mae yn hawddach o'r haner ddadwreiddio rheswm dyn na dadwreiddio ei deimlad. yr unig lecyn heb ei Iwyr ddirywio ar y ddynoliaeth ydyw ei theimlad, ac fel y cyfryw dylid rhoddi pob chwareu teg iddo.

Y PEDAIR CAMP AR HUGAIN,

NEU ADLONLANT YR HEN GYMRY.

O'r pedair ar hugain hyn, deg gwrolgamp sydd; deg mabolgamp, sef campau ieuenctyd; a phedair o'r gogampau, neu fân gampau. O'r deg gwrolgamp, chwech sydd o rym corph: 1, Cryfder; 2, Ehedeg; 3, Neidiaw; 4, Nofiaw; 5, Ymafael; 6, Marchogaeth. Ac o'r chwech hyn, pedair sydd benaf, ac a elwir tadogion gampau, sef Rhedeg, Neidio, Nofio, Ymafael. A hwy a elwir felly am nad rhaid wrth ddefnydd yn y byd i wneuthur yr un ohonynt ond y dyn fal y ganed. Y pedair gwrolgamp o tan arfau ydynt: 1, Saethu; 2, Chareu cleddyf a bwcled; 3, Chwareu cleddyf deuddwrn; 4, Chwareu ffon ddwybig, O'r deg mabolgamp, tair helwriaeth sydd: — 1, Hely a milgi; 2, Hely pysg; 3, Hely aderyn. A saith. gamp deuluaidd: — 1, Barddoniaeth; 2, Canu telyn; 3, Darllen Cymraeg; 4, Canu cywydd gan dant; 5, Canu cywydd pedwar ac acenu; 6, Tynu arfau; 7, Herodraeth, neu negeseuaeth. A'r rhai a elwir Gogampau ydynt: — 1, Chwareu Gwyddbwyll [play at chess]; 2, Chwareu Tawlbwrdd; (nid yw dysgedigion yn cytuno o barth y gamp hon; tebygol mai eilun ohoni ydyw chwareu trensiwr, neu y plât pren, a arferir mewn rhai parthau o Gymru yn bresenol;) 3, Chwareu Ffristial [dice, neu deisiau fel y gelwir ef gan y Cymry]; 4, Cyweiriaw Telyn.

Y NAW HELWRIAETH.

O'r naw helwriaeth, taer helfa gyffredin sydd: — 1, Carw; 2, Haid Wenyn; 3, Gleisiaid. A thair helfa gyfarthfa: — 1, Arth; 2, Dringhedydd; 3, Ceiliog coed. A thair helfa ddolef: — 1,Llwynog; 2, Ysgyfarnog; 3, Iwrch. Y Carw a ddywedir ei fod yn un o'r tair helfa cyffredin, yn gyntaf, am ei fod yn wychaf ac yn wrolaf anifail, y mae helwriaeth arno â bytheiaid ac â milgwn; yn ail, am ei fod yn rhanog rhwng pawb a ddel ato wedi ei ladd, cyn tynu'r croen oddiamdano; oblegyd, os bydd gŵr ar ei daith yn dyfod heibio yr amser hwnw, efe a gaiff ran ohono wrth gyfraith cystal a neb a'i lladdo. Haid wenyn sydd helfa gyffredin, oblegyd pwy bynag a'i caffo ar ei dir ei hun, neu ar dir arall, y mae yn rhanog pawb o honi ar a ddel ati cyn rhoi ohono wystl, sef yw hyny, rhoi nod wrthi i ddangos mai efe a'i cafas gyntaf; ac onis gwna, pawb a ddelo yno a gaiff ran ohoni, ond bod y bedwerydd yn myned i berchenog y tir. Gleisiad a elwir yn helfa gyffredin; oblegyd pan fydder yn eu hely â rhwyd, neu â thryfer, neu modd arall, pwy bynag a ddel ato cyn ei ranu, y mae iddo ran ohono cystal a'r neb a'i dalio, os bydd mewn dŵr cyffredin.

Yr Arth sydd helfa gyfarthfa, am ei bod yn gig hely o'r penaf, ac am na bydd fawr ymlid arni, am nas gall gerdded ond yn araf, ac ni bydd ond ei baeddu, a'i chyfarth, a'i lladd.

Dringhedydd yw pob peth a ddringo i frig pren i'w amddiffyn ei hun. Ac ni ddyly heliwr ddywedyd Bele, neu Gath goed, neu "Wiwair, neu Ffwlbert, ond eu galw Dringhedydd llwyd, Dringliedydd du, neu Dringhedydd coch; ac am nas gall dringhedydd ddianc yn mhell, ond dringo i'r pren, ac yno ei faeddu a'i gyfarth a wneir.

Ceiliog coed a elwir yn helfa gyfarthfa, oblegyd pan ddelo bytheiaid ar ei hynt ef, ei ymlid a wnant oni gymero bren, ac yno ei gyfarth a'i faeddu a wneir.

Y Cadnaw sydd helfa ddolef, oblegyd er maint fu'r gwaeddi a'r canu cyrn ar ei ol, ef a gynal ei helynt oni flino.

Ysgyfarnog sydd helfa ddolef, am ei bod yn cadw ei helynt, er maint fo'r hela arni.

Yr Iwrch a elwir yn helfa ddolef oblegyd yr un achos.

Penaf cig hely yw Carw, ac Ysgyfarnog, a Baedd Gwyllt, ac Arth.

O's gollyngir milgwn i garw neu unrhyw anifail arall. a'i ymlid o'r milgwn tros fryn, allan o olwg, a'i ladd, y milgi blaenaf yn y golwg diweddaf biau y croen. Ond ni chaiff miliast groen, er ei enill, oni bydd hi yn dorog o filgi a enillodd groen, ac yna hi a'i caiff.

Am Ysgyfarnog, pa beth bynag a'i lladdo, y ci neu'r peth arall a'i cotto o'i gwâl a'i piau, os ei cheisio y byddir i'w hymlid.

Y Naw Helwriaeth a ddyly pawb eu gwybod ar a ddyco gorn; ac oni fedr roddi ateb am danynt, ef a gyll ei gorn. Ac os daw neb i hely, a'i gynllyfan am dano, oni fedr roddi ateb am y Naw Helwriaeth, ef a gyll ei gynllyfan. Ond ef a all fod a'i gynllyfan am ei fraich yn ddiddial.

Nid all neb ollwng na milgi na miliast i un anifail pan fo'r bytheuad yn ei ymlid, oni bydd iddo yntan fytheuad yn ei ymlid; ac o ni bydd, fe all y neb a fo yn canlyn y bytheuad dori llinyn gâr ei filgi, os efe a'i gollwug.

Nid rhydd i neb saethu anifail y bo helwriaeth arno pan fo yn ei esmwythdra, tan boen colli ei fwa a'i saeth i arglwydd y tir. Ond efe a gaiff ei saethu, a'i ladd os gall, pan fo'r huaid ar ei ol; ond ni chaiff saethu yn mysg y cŵn.

Os â neb i hely, a gollwng ar anifail, a chyfarfod o gŵn segur - âg ef, a'i ladd, y cŵn cyntaf biaufydd; onid cŵn y brenin fydd y rhai segur. Yr aifail a helier fydd arddelw yr heliwr cyntaf, hyd oni ymchwelo ei wyneb parth ei gartref, a'i gefn ar yr hely; ond o bydd ei gŵn ef yn hely, ac yntau wedi ymadael â'i gŵn, ni ddyly ef ddim cyd-lladdo y cŵn segur ef, ond perchenog y cŵn segur piau fydd.

Felly yr oedd y gyfraith hely gynt.

BEDD YR YSPEILYDD.
(Hanesyn ac ynddo addysg i bleidwyr Deddf Dienyddiad.)

Yn nghymdogaeth Trefaldwyn, tua'r flwyddyn 1819, yr oedd hen balasdy a elwid Oakfied, yr hwn er mwyn rhyw welliantau neu gilydd a drowyd yn ffermdy. Enw tenant y lle y pryd hwnw oedd James Morys, yr hwn oedd ddyn diofal ac afradlon, yn esgeuluso ei fasnach, a'r hw a fu farw mewn dyled, gan adael ei wraig a'i unig ferch mewn meddiant o'r lle. Yn fuan ar ol marwolaeth ei gŵr, cymerodd y wraig i'w gwasanaeth fel hwsmon ddyn ieuanc o'r enw Newton, o Swydd Stafford; yr hwn a gyflawnai ei swydd gyda gonestrwydd a llwyddiant mawr. Yr oedd efe yn berffaith ddyeithr yn y wlad hono, ac ni chyfeillachai â neb o'r cymydogion, eithr cyflwynai ei holl sylw a'i amser at ei alwedigaeth. Anaml yr ymadawai â chartref, oddieithr i ffeiriau a marchnadoedd, ac i'r Eglwys ar y Sul, lle yr ymddangosai yn ddefosiynol iawn wrth wrando yn astud ar wasanaeth nad oedd yn deall yr un gair ohono. Ymddygai yn weddus bob amser; eto ymgadwai mor neillduedig fel y methodd offeiriad y plwyf, er ei holl ymdrech, ffurfio cyfeillach âg ef. ond yr oedd y fferm yn gwella tan ei arolygiaeth; a'i pherchenog yn llwyddo yn y byd. Aeth dwy flynedd heibio, ystyriai y weddw ef yn fwy fel cyfaill nag fel gwas; ac yr oedd yn llon ganddi weled ei hanwyl eneth ac yntau yn ymserchu yn eu gilydd. Un prydnawn yn Tachwedd, 1821, daliwyd ef yn hŵy nag arferol yn y yrallwm, ac am chwech o'r gloch cychwynai ar ei draed tuag Oakfield. Yr oedd yn noswaith dywell iawn; a disgwylid ef yn bryderus adref; ond er disgwyl a phryderu hyd ddau a thri nid oedd yn dyfod; ond cyrhaeddodd y newydd yn y bore ei fod wedi dychwelyd i'r dref yn fuan ar ol ymadael, yn ngofal dau ddyn o'r enw Parcer a Pirs, y rhai a'i cyhuddent o ladrad penffordd, yr hwn drosedd a gospid â marwolaeth y pryd hwnw. Profwyd ef yn euog o'r cyhuddiad yn y Sesiwn ddyfodol ar dystiolaeth y ddau gyhuddwyr hyny, yr hon oedd yn eglur a chyson drwyddi, a dedfrydwyd ef i gael ei grogi. Nid oedd ganddo ddadleuydd, ac ni alwodd unrhyw dyst o'i blaid; ond pan ofynodd y barnwr iddo yn y dull arferol, "a oedd ganddo rywbeth i'w ddywedyd paham na ddylai dedfryd angau gael ei chyhoeddi arno,"efe a anerchodd y llys yn dull rhyfedd a ganlyn: — "Y mae yn eithaf amlwg mai ofer hollol a fuasai unrhyw amddiffyniad o'm heiddo i yn erbyn y fath dystiolaeth. Y mae fy nghyhuddwyr yn ddynion parchus, ac ymddengys eu tystiolaeth yn eglur a phenderfynol, ac nis gallaf feio y rheithwyr am fy nghael yn euog. Yr wyf yn maddeu o'm calon i'r dynion hyn y condemnir fi ar eu camdystiolaeth. Ond, fy arglwydd, yr wyf yn ardystio yn y modd difrifolaf gerbron y llys hwn, gerbron eich arglwyddiaeth, a cherbron y Duw cyfiawn y byddaf yn fuan o'i flaen i'm barnu, fy mod yn hollol ddieuog oddiwrth y trosedd y condemnir fi o'i blegyd. Ni ddygais neb i siarad ar fy rhan. Nid oes ond dwy flynedd er pan y daethum yn ddyeithr i'r wlad hon gyntaf. Ni wnaethum gydnabyddiaeth â neb tu allan i'r teulu a wasanaethwn, ac ymdrechais gyflawni fy nyledswyddau yn ffyddlon a gonest. Nid wyf yn gobeithio nac yn dymuno i'm bywyd gael ei arbed; ond yr wyf yn gweddio na byddo i'r trosedd hwn orwedd ar fy enw. Yr wyf yn gobeithio yr argyhoeddir fy meistres a'i merch garuaidd, na ddarfu iddynt lochesu na bod yn garedig wrth yspeilydd penffordd. Gweddiais lawer yn ystod fy ngharchariad am i'r gobaith hwn gael ei sylweddoli; ac yr wyf yn hyderus ddarfod i'm gweddi gael gwrandawiad. Yr wyf yn beiddio dweyd, os dieuog ydwyf o'r trosedd hwn, na bydd i laswellt dyfu ar fy medd am un genedlaeth o leiaf. Fy arglwydd, "derbyniaf eich dedfryd yn ddirwgnach, a gweddiaf yn daer ar fod i bawb fydd yn fy ngwrando gael eu dwyn i edifeirwch, a'm cyfarfod eto yn y nef."

Pa fodd bynag, pasiwyd dedfryd eithaf y gyfraith ar y truan anffodus; a chladdwyd ef tu cefn i eglwys Trefaldwyn. Dywed un ysgrifenydd ei fod ef wedi ymweled â'r lle yn nghymdeithas Eliott Warburton, yn mhen deng mlynedd ar ugain wedi i Newton gael ei gladdu, ac nad oedd gymaint ag un glaswelltyn yn tyfu ar y bedd. Nid oedd yr un bedd arall yn agos ato; a thrwy ei fod yn gydwastad â'r llawr, yr oedd yn wahanol i'r holl feddau ereill. Yr oedd y tir o'i ddeutu yn nodedig o ffrwythlawn — llysiau preiffion a thoreithiog yn tyfu am gryn bellder oddiwrtho. Llawer gwaith y ceisiwyd gan bobl yr ardal gael gan laswellt dyfu ar y llecyn diffrwyth; rhoddwyd pridd newydd drosto, a hauwyd arno amrywiol fathau o lysiau, ond yn gwbl ofer; disgynai y lle yn fuan i'w sefyllfa gyntefig, yn gleidir oer a chaled.

Mewn perthynas â'r ddau au-dyst annuwiol, ymddengys fod teulu Parcer wedi bod unwaith yn feddianwyr Oakfield; a'i fod ef yn dysgwyl, os ceid ymadael â Newton, y byddai y ffordd yn rhwyddach i'r lle ddyfod i'w feddiant yntau drachefn. Dywedid fod Pirs yn ymgeisio am law y ferch ieuanc tua'r amser y bu Mr. Morys farw, a theimlai fod Newton wedi achub y blaen arno. Ymadawodd â'r gymdogaeth yn fuan ar ol collfarniad ei gydymgeisydd, trodd yn adyn meddw a pheryglus, a lladdwyd ef yn y diwedd mewn chwarel geryg calch wrth danio y graig. Surodd natur Parcer yn sarug a diysbryd, ac ymddangosai bywyd yn faich trwm ac anhawdd ei ddwyn iddo, ac yn ol tystiolaeth hen glochydd Trefaldwyn, curiodd ei gnawd 'oddiam ei esgyrn, a threngodd mewn sefyllfa hynod o angenus a diamgeledd.

Cyfieithwyd yr hanesyn hwn o'r Manchester Weekly Times, gan un o'r enw Mr. W. Williams. yr hwn a ddeisyfodd ar i ryw un o'r lle daflu ychydig oleuni ar y ffaith, a dwyn eu tystiolaeth i'w chywirdeb. Ymgymerodd boneddwr o blwyf cyfagos â'r cais, ac wele ei dystiolaeth: — " Dymunaf hysbysu fy nghydgenedl nas gallaf ddwyn unrhyw dystiolaeth uniongyrchol am y dyn a gafodd ei ddienyddio; ond yr wyf yn cofio, er yn blentyn, glywed llawer o sôn am y bedd rhyfedd yn mynwent Trefaldwyn — nad oedd dim yn tyfu arno; ac yr oedd y chwedlau a draddodid yn ei gylch gan bobl ofergoelus yn amrywiol ac annghyson â'u gilydd. A thrwy fy mod yn annghredu pob chwedlau o'r fath, gwnaethum ymholiad manwl yn ei gylch pan aethum gyntaf i Drefaldwyn; a phe bawn yn ceisio crynhoi sylwedd yr hanes a gefais gan y dynion mwyaf cyfrifol yn y dref, ni byddai ynddo nemawr o wahaniaeth oddiwrth yr hanesyn uchod. Bum yn siarad âg amryw oedd yn cofio yr amser yn dda. Dywedent i'r tyst Pirs golli ei synwyrau yn llwyr o'r dydd y gwnaeth efe y llŵ hyd ei fedd. Bellach yr wyf wedi gweled y bedd ar wahanol dymorau y flwyddyn er's ugain mlynedd, ac y mae bob amser yr un fath, sef heb ddim yn tyfu arno mwy nag sydd ar ganol yr heol, ond nid yw y lle diffrwyth gymaint ei arwynebedd â chauad arch — rhyw- beth fel wyth modfedd o led yn yr ysgwyddau, a phedair neu bump yn y pen a'r traed, ac oddeutu pedair troedfedd a haner o hyd ydyw. Y mae y tir yn mynwent Trefaldwyn yn hynod o fras; a'r gwair sydd yn tyfu ar ni tua diwedd mis Mehefin yn ddeuddeg neu bymtheg modfedd o hyd; ond y mae tua troedfedd o bob tu i'r bedd yn llawer uwch, ac yn ddu ei liw; yr achos o hyn mae yn debyg ydy w y gwrtaith a roddwyd ar y lle gan y gwahanol bersonau a fuont yn ceisio cael gan rywbeth arno. Pan fydd y glaswellt felly wedi tyfu yn uchel, y mae yn naturiol iddo ogwyddo dros y lle noeth, ond y mae pob rhan a ddelo uwchben y bedd yn gwywo, ac yn syrthio fel lludw; ac felly y mae y lle mor Iwm yn nghanol haf ag yn nghanol gauaf. Y mae ei sefyllfa yn mhell oddiwrth y beddau eraill, ar gyfer pen dwyreiniol yr Eglwys. Gelwir ef, "Bedd y dyn a gafodd ei grogi ar gam." Dichon y bydd llawer yn annghredu hyn, oni bai iddynt weled y peth eu hunain; ac nid rhyfedd chwaith, canys y mae cynifer o chwedlau o'r fath yn mhlith y Cymry heb ddim sail iddynt ond mympwy ac ofergoeledd; ac yr wyf yn cyfaddef na chredais hyn fy hunan heb ei weled, a bum am flynyddau lawer yn meddwl fod rhyw rai yn rhoddi cyffeiriau gwenwynig ar y lle er atal tyfiad y llysiau. Ond y mae yn ymddangos fod y peth yn cael ei achosi gan Awdwr deddfau natur; ond pa un ai yn naturiol neu yn oruwchuaturiol, ni cheisiaf ateb. Barned pawb trosto ei hun. Dymunwn i naturiaethwyr, llysieu- wyr, fferyllwyr, a duwinyddion, roddi eu barn ar y pwnc. Yr wyf yn sicrhau fod y fath beth yn bod mewn gwirionedd; a phwy bynag a gymero'r drafferth i fyned i Drefaldwyn, ni chaiff ei siomi yn y tir diffrwyth. Y mae yr hanes a draddodir am y condemniedig a'r tystion tu hwnt i bob anmheuaeth, canys y mae wedi digwydd mor ddiweddar. Casglwyd yr hanes gan un o weinidogion yr Eglwys; ac argraffwyd a chyhoeddwyd ef yn bamphledyn oddeutu saith neu wyth mlynedd yn ol, dan yr enw, The Highwayman's Grave ac o'r pamphledyn hwn y cafodd y newyddiaduron Seisnig yr hanes, mae yn debyg, yr hwn a gyfieithiwyd yn onest a diduedd gan Mr. W. Williams."

CAE'R MELWR.

[Yr ydym yn dyfynu y chwedl ganlynol o waith yr ysgrifenydd gwir dalentog hwnw Salmon Llwyd, a ymddangosodd yn y cyhoeddiad rhagorol Y Brython, gan deimlo yn hyderus y ca pob Cymro o chwaeth ddywenydd wrth ei ddarllen. Y chwedloneg oreu a feddwn yn yr iaith Gymraeg ydyw.]


Er ys llawer blwyddyn hirfaith, wrth danllwyth mawr o fawn, ar aelwyd gynhes Ty'n y Ddol, yn Mlaenau Ffestiniog, yn ystod hirnos gauaf, adroddid chwedlau a chofianau gan hen Gymro syml, a elwid gan ei gydletywyr, Yr Hen Dyn y Cefn.

Ei chwedl hoffaf bob amser oedd yr un ag yr ydwyf fi yn bwriadu ei gosod o flaen y darllenydd. Nid anfuddiol feallai, fyddai dyweyd pa fath un oedd yr adroddwr. Dyn bychan, caled, gweithgar, a'i fryd yn llawn o'r hen chwedlau dyddanus a glywsai pan yn las hogyn gweini yn Nolwyddelen oedd y dyn; a choeliaf nadoedd dim yn hyfrytach ganddo na chlywed son am y pethau rhyfedd a barddonol hyny — y pethau diniwaid a phleserus a fuont unwaith yn cysegru yr aelwyd fynyddig, ac yn enyn awyddfryd arbenig yn meddyliau y rhai a eisteddent i wrando ar y cyfryw. Byddai, ar ol i lafur ei ddiwrnod ddybenu, yn nghanol mwg cudynog ei bibell, mor ddedwydd, ie, yn llawer mwy dedwydd, yn yr hen gader freichiau o dan fantell simddai, na'r un tywysog a fedd y byd, ar ei gedau gwych a'i glustogau esmwyth. Ei ddwy goes ar draws eu gilydd, a'i ddwylaw o dan ei gesail, ac yn haner cau ei lygaid, dechreuai fel hyn: —

Yr oedd ryw dro er ys talm ŵr a gwraig yn byw mewn lle bychan yn nyffryn Llanrwst, o'r enw Cae'r Melwr. Eu heiddo hwy oedd y fau. Yr oedd ar eu tir amryw fythynod neu bentai. Byddai son mawr gan bawb y ffordd hono am arian y bobl hyn. Ni bu ganddynt ond un ferch ar eu helw, ac nid oedd dim diwedd ar y tynerwch a'r serch anwylgu a ddangosid i obaith eu hyfrydwch. Yr oedd yr eneth hefyd yn un dlos odiaeth, ac yr oedd caredigrwydd hyfwyn a thiriondeb hyweddus, yn addurn iddi, yn gystal a gwynder ei chroen a gwrid ei gruddiau crynion. Yr oedd mewn bwthyn ar y tir wreigan weddw yn byw, ac iddi yr oedd un bachgen bochgoch, bywiog, chwareus. Byddai'r plant bob dydd efeo'u gilydd, ac nid oedd neb yn fwy ei barch yn Nghaer Melwr na Jack (oblegyd dyna oedd enw mab y wedw). Aeth amser chwareu heibio, ac yr oedd yn rhaid meddwl am anfon Elen merch Cae'r Melwr, i'r ysgol i Lanrwst, at ryw hen ferch foneddig oedd wedi myned trwy ei chyfoeth.

Gan fod Ele yn un led ofnus, ac yn hytrach yn foethus hefyd fwy na heb, daeth i feddwl yr hen fachgen wneud lle Jack yn yr Ysgol Rad, fel ag y byddai iddo fod yn gwmni i'r eneth i fyned a dyfod. Anfonwyd y ddau yno, a buant yn cyrchu hefo'u gilydd i'r ysgolion am rai blynyddoedd; ond aeth amser ysgol drosodd ar Jack, druan. Cyflogwyd ef yn was bach gan ŵr Cae'r Melwr, bu yno am lawer blwyddyn, a phob pen tymhor caffai godiad. Daeth o fod yn Was bach i fod yn eilwas, ac erbyn iddo dyfu yn llanc ugain oed, cafodd ei wneud yn hwsmon Cae'r Melwr. Yr oedd ei hen fam weddw yn mawr lawenhau -wrth weled ei phlentyn yn esgyn i fynu mor rhwydd; ac yr oedd ei weled yn hwsmon mor ieuanc, i'w golwg hi, yn gymaint peth a phe buasai wedi enill haner teyrnas. Anfonwyd Elen i Loegr i ddysgu Saesneg; ac erbyn iddi ddyfod yn ol yn mhen y flwyddyn yr oedd Jack wedi dyfod yn ddyn mawr iawn efo'i thad a'i mam, ac yn cael ei ystyried yn un o'r dynion mwyaf llygadog a chall yn yr hôll Ddyffryn. Yr oedd yn well am amaethu na neb yn y fro, ac nid peth. hawdd fyddai cael undyn a'i curai am brynu a gwerthu. Gwaith hen ŵr Cae'r Melwr oedd ei ganmol yn mhob cyfryw fan, Sul a Gwyl, a choeliai nad oedd yn y wlad nac ail na chymhar iddo. Yr oedd hithau yr hen wraig hefyd yn hoff hyn od o sôn am Jack ni. Dywedai yn fynych pan elai i Lanrwst mai efe oedd y bachgen goreu o Gaer i Gonwy.

Edrychai Elen arno fel ei chyfaill anwylaf; ac o'r braidd nad ellid ffansio fod rhywbeth rhwng y ddau. Yr oedd gweddw dlawd y bwthyn llwyd gerllaw yn cael cwmpeini y ferch ieuanc yn bur aml, ac nid anfynych y byddai y chwedl yn disgyn am Jack. Dechreuodd pobl y wlad hefyd siarad; a pha beth sydd mor dafodrydd a gwlad pan ddechreu hi ar y gorchwyl? Yr oedd tipyn glew o genfigen yn gymysg a'r cwbl; a pha offeryn llymach a mwy gwenwynig a fedd uffern? Dechreuwyd yn dew ao yn deneu ddywedyd fod Jack yn caru Elen; a daeth y sŵn i glustiau yr hen bobl. Ni wyddent ar faes medion y ddaear pa beth i'w wneuthur. Nid oeddynt yn foddlawn i'w merch — y brydferthaf a'r dirionaf yn y wlad — briodi y gwas. Yr oeddynt yn rhyw ddirge ddysgwyl y deuai rhyw gŵr boneddig, ac y gwelai wyn ar eu merch, ac y caent cyn myned i dŷ eu hir gartref yr hyfrydwch o weled eu hanwyl Elen yn wraig fawr. Yr oedd ei glendid a'i chyfoeth, yn nghyda'i challineb, yn rhyw fath o ernes hefyd mai felly y troai pethau allan. Mwyfwy oedd y twrf, a gofynid i'r hen ŵr beunydd a oedd ei ferch wedi priodi y gwas? Digiai yr hen fachgen drwyddo pan glywai sôn; a llawer gwaith, er mwyn ysmaldod, y gofynwyd y gofyniad iddo. Byddai gŵr Cae'r Melwr yn arfer myned i Wydir i giniawa yn lled fynych. Tua'r amser dan sylw digwyddodd fod yn y lle olaf a enwyd ŵr boneddig o Loegr, ac nid oedd na byw na bywyd os na chai hwsmon Cae'r Melwr i fyned gydag ef i'w wlad oblegyd yr oedd y deisigwair, a'r cyrneni, a'r mydylau ŷd, mor hardd fel ag yr oedd wedi pendroni hefo'u taclusrwydd. yr oedd wrth hela ryw ddiwrnod hefyd wedi gweled Jack, a thaerai na -welsai yn ei oes lanc mwy golygus a glandeg. Ni fynai ei feistr sôn am adael i'w hwsmon fyned ymaith; ond troai ysgweier a Barwn Gwydir arno yn ddigydwybod. Addawodd yntau y gwnai siarad efo Jack yn nghylch y peth, ac y ceid ateb dranoeth. Rywbryd yn y nos yr oedd gŵr Cae'r Melwr yn niyned adref, a siaradai wrtho ei hun. Dywedai, "Dyma'r peth oedd arnaf eisieu. Fe aiff Jack i ffwrdd. Mi fedraf weithian dori pob cysylltiad rhyngddo ac Elen. Gwas da oedd o; ac ydyw hefyd o ran hyny. Colled fawr i mi fydd ei golli; ond beth os ydyw y twrf amdano ef ac Elen yn wir? Rhaid gwneud rhywbeth." Fel yna y siaradai ar hyd y ffordd. Cyrhaeddodd Gae'r Melwr. Nid oedd yno ond Jack- ar ei draed. Ar ol canu "Nos da'wch," aeth i'r tŷ ac i'w wely, i gael dywedyd wrth yr hen wraig yr ymddiddan. Dechreuodd ar ei chwedl cyn cyrhaedd y llofft, a mawr fu'r gyfrinach a'r cynllunio. Dywedent wrth eu gilydd, "Peth garw fydd colli'r hwsmon goreu yn y wlad. Beth os mai celwydd noeth ydyw'r cwbl hefog Elen? ond helynt gwyllt fyddai iddo hudo yr eneth. Gwas ydyw."Penderfynwyd rhoi'r cynyg iddo fore dranoeth; ac felly fu hi. Dywedodd Jack yn ddibetrus fod yn dda ganddo gael y fath gynyg, a diolchodd yn wresog i'w feistr am ei ewyllys da. Aeth yr hen ŵr i Wydir yn ebrwydd i hysbysu y Sais y deuai y llanc. Nid oedd ond deuddydd i wneud parotoadau. Aeth y si ar led ei fod yn myned i ffordd; ac nid oedd gan ei hen fam weddw ond erfyn am nawdd iddo yn ymbilgar o flaen yr orsedd hono — o flaen yr Un Hwnw a wrendy ochenaid ei ffyddloniaid o ddyfnder ing a chymylog leoedd trallod! Yr oedd ei deimladau yntau yn dadmer. yr oedd ei wyneb yn foddfa o ddagrau cysegredig cariad pur. Gweai myrdd o bethau o flaen ei lygaid, fel mân wybed Mehefin. Ac yr oedd un arall heb fod yn nepell a'i chalon fel ffynon oer yn y gauaf. Gwelir hono yn mygu pan fydd yr eira yn gnwd tew o'i chwmpas; ac ni rewa hon pan fydd y llynoedd llonydd yn gloedig gan loyw ddu iâ. Felly calon Elen; er bod gauaf cariad wedi dyfod ati, yr oedd llygedyn byw ei serch mor lân a chlir ac erioed. Aeth Jack i ffwrdd. Clywid yn fawr ar ei ol; ond ni chlywid merch Cae'r Melwr ar un cyfrif yn sôn gair amdano. Ar ol cyrhaedd pen ei daith, ac ymsefydlu yn ei le newydd, gyrodd lythyr adref at ei fam, a chofiai at ei hen gyfeillion "yn fawr, ond dim cymaint a sill am Elen. Dywedai yr hen ŵr wrth yr hen wraig ryw ddechreunos wrth y tân: — " Nid oedd "dim gwir yn y chwedl fod Jack ac Elen yn caru, onide nid aethai byth i ffwrdd fel yr aeth. Rhyw chwiwladron oedd yn cenfigenu wrtho ef a minau." "Nac oedd, O, nac oedd," meddai hithau, "ac y mae'r plant gwirion wedi ofni cymaint fel na fydd Elen un amser yn sôn dim amdano ef, ac ni soniodd yntau ddim gair am dani hithau, yn ei lythyr; ac yr oedd o yn ein henwi ni ill dau." " Rhyfedd iawn, a rhyfedd iawn fel pe tae," ebai yr hen ŵr: "celwydd digywilydd oedd o: yr wyf yn siwr "dda ddigon mai Dafydd Sion Rhys, Pen Isaf y Dref, a ddyfeisiodd y cwbl."

Aeth amser yn ei flaen. Gollyngwyd Jack yn annghof cyn pen hir, oddieithr gan ei fam weddw a —— a phwy?

Cawn weled cyn y diwedd.

Yn mhen llawer o flynyddoedd — dyweder saith mlynedd — daeth i Wydir fab i iarll Northampton i aros. yr oedd rhyw giniaw mawr yno un noson, a gwahoddesid holl foneddigion a boneddigesau y gwledydd yno, ac yn eu mysg Elen, aeres Cae'r Melwr. Dechreuwyd yn yr hwyr ganu a dawnsio; ond nid oedd neb i'w chystadlu â'r rhian brydferth hon. Yr oedd cymaint o wahaniaeth rhyngddi a phob un arall yn y lle, ag sy rhwng afallen sur a phren afalau pêr. Syrthiodd y Sais tros ei ben a'i glustiau i gariad. Cafodd air â hi; ac yr oedd ei geiriau iddo fel cawodydd maethlawn Mai ar sypiau briallu haner crispiedig. Bod yn agos iddi oedd ei wynfyd; clywed ei llais oedd ei beroriaeth; edrych ar ei hystum lluniaidd oedd ei benaf hyfrydwch. Meddwai ei lygaid ar ei phrydferthion, a gwleddai ei galon ar ei thlysni; nid oedd eisieu bod yn ddewin i ganfod teimladau serchus y boneddwr, ac erbyn haner dydd dranoeth yr oedd sôn dros bob man fod Elen Cae'r Melwr a'r gŵr boneddig mawr yn caru. Ymsythai yr hen ŵr, ac ymsioncai yr hen wraig wrth wrando ar eu cymydogion yn cyfarch gwell iddynt ar gorn y newydd da. Bob dydd byddai y gŵr ifanc yn unioni am Gae'r Melwr, a phan âi'r hen ŵr i'r dref, yr oedd pawb yn cymeryd gofal dwbl i ddangos eu parch iddo. Dechreuodd y wlad son am ddydd eu priodas, a chyn pen rhyw lawer o amser daeth y ffug yn fiaith. yr oedd y diwrnod wedi cael ei benu. Aeth y boneddwr adref i Loegr i ymweled â'i deulu a'i gyfeillion cyn newid ei fyd, ac hefyd i wneuthur y darpariadau gogyfer â'r adeg ddedwydd hono — y diwrnod dysglaer hwnw, pan fyddai Elin o Walia yn flodyn têg yn ngardd y Sais uchelfri. Dyrwynodd amser yn mlaen, a phob nos a dydd dynesai yr awr iddynt gael eu —

"Huno yn hyfwyn wrth allor y llan."

Oblegyd amgylchiadau teuluaidd ni fedrodd y boneddwr gychwyn mor brydlawn ag y dymunasai o'i wlad. Ond anfonodd ei gyfeillion o'i flaeu, ac yn Ngwydir yr arosent oll. Nid oedd Elen byth bron yn dyfod allan. Diwrnod cyn dydd y briodas, yr oedd mab larll Northampton yn cychwyn o Langollen yn lled fore, a dau was gydag ef ar gefn ceffylau mawrion. Pan newydd adael y llan, goddiweddasant ŵr boneddig urddasol yn marchogaeth ar hyd yr un ffordd. Ar ol dangos arferion moesgarwch tuag at eu gilydd, gofynai mab yr iarll i'r boneddwr dyeithr, a oedd efe yn myned yn mhell ar hyd y ffordd hono. Atebai yntau ei fod. Gofynodd iddo drachefn, pa mor belled. " Hyd yn Nghapel Garmon, ar bwys Llanrwst." Pan ganfu hyny, dechreuodd ddywedyd mai i le o'r enw Gwydir yr oedd yntau yn myned, ac y gobeithiai y caent gyd-deithio; ac os byddai galwad, y caent achub cam eu gilydd, "oblegyd," meddai, "y mae llawer o ladron y ffordd yma." Myned yn mlaen yr oeddynt, ac o'r diwedd dechreuodd y Sais adrodd wrth ei gyd-deithydd helynt ei feddwl — ei fod yn myned i briodi un o'r morwynion glanaf a welodd llygad dyn erioed — fod y briodas i gymeryd lle dranoeth. Nid oedd dim gair yn dyfod allan o'i enau am hir filldiroedd meithion ond canmoliaethau parhausi'r fun lanwedd o Gae'r Melwr, neu'r friallen ddiwair o Ddyffryn prydferth Llanrwst. Ar ol blino yn canmol, gofynodd o'r diwedd a wnai ei gyd-deithydd ddyweyd tipyn o'i hanes yntau. "Gwnaf, yn union," ebai, " oblegyd y mae yn ddyledus arnaf wneud hyny tuag at un sydd wedi bod mor galon agored tuag ataf. Saith mlynedd yn ol gadewais rwyd ar fy ol yn nghwr Dyffryn Conwy, ac yr wyf yn myned yno yn awr i edrych a ddeil hi i'w chodi."Chwarddai mab yr larll am ben y fath ynfydrwydd, a lled dybiai fod ei gyfaill yn dechreu gwirioni. Yn mlaen yr aed, a chyrhaeddwyd Capel Garmon yn ngwyll y nos. Ysgydwyd law yn serchog, a chanasant yn iach, gan ddymuno llwydd i'w gilydd. Aeth mab yr larll yn mlaen i Wydir, ac arosodd yr hwn a drafaeliai gydag ef mewn tŷ tafarn bach yn y pentref dan sylw. Ar ol bod yno ychydig fynydau, holodd am. yr offeiriad, ac aed i ymofyn ef at y gŵr boneddig yn ddiymdroi. Daeth yntau yno, a bu yn siarad am awr neu ddwy gyda'r gŵr boneddig dyeithr, a dywedodd wrtho am briodas merch Cae'r Melwr, a soniodd rywbeth am Jack. Dywedodd y gwr boneddig wrtho o'r diwedd fod arno ef eisieu cael ei briodi cyn dydd bore dranoeth. ac y rhoddai iddo ddeg gini melyn os y gwnai. Ni faliai yr hen offeiriad ddim llawer mewn na rheol na pheth; cytunodd i wneud rhag blaen; sef am chwech o'r gloch yn y bore.

Ymadawodd y ddau am y noson hono. Aeth y boneddwr yna allau, a bu o'r tŷ am tuag awr, ond daeth yn ei ol a boneddiges gydag ef. Gadawodd hono yno ei hun drachefn, ac aeth ymaith yr ail waith. Aeth at Gae'r Melwr, a churodd wrth y drws; cyfododd yr hen ŵr yn llawn ffwdan. Adnabu lais Jack-. Dywedodd yntau ei neges yn ddiseibiant, sef bod merch ei feistr ganddo yn Nghapel Garmon, a'i fod am briodi yn fore iawn y dydd hwnw (oblegyd yr oedd hi erbyn hyn yn dri o'r gloch y bore). Gofynai hefyd a ddeuai yn was priodas i'w hen was bach. O! deuai rhag blaen. Rhoes beth amdano ynbur ddel; ond nid y dillad newydd tanlliwerai a gawsai gogyfer a, phriodas Ellen. Aethpwyd tua Chapel Garmon; ac wrth fyned, dywedai yr ben ŵr lawer byd o helynt y briodas oedd i fod yno, a gwahoddai Jack a'r wraig yno i dreulio y diwrnod yn llawen a llon hefo nhw. Cyrhaeddwyd y tŷ tafarn, ac erbyn iddynt fyned i'r tŷ, yr oedd yr offeiriad a'r clochydd yn disgwyl er ys awr neu chwaneg. Caed cornaid o ddiod dda, ac yna aed rhag blaen i'r eglwys. Merch y dafarn yn forwyn briodas, a'r Person yn sefyll yn lle gwas, a ben ŵr Cae'r Melwr yn rhoddi'r ferch! Priodwyd. Llwyddai yr ben ŵr y ddau mewn Saesneg clapiog o flaen y person hyd yn nod; a dywedai fod yn rhaid iddo frysio adref. Ond erfyniodd âr Jack fod yn sicr o ddyfod yno i'r briodas. Aeth adref a dywedodd •wrth yr hen wraig pa fath ddynes hardd oedd gwraig Jack. Ond ni welodd mo'i gwyneb unwaith, er iddi roddi cusan iddo wrth borth y mynwent pan oedd o'n dwad adref. Seisnes oedd hi. Mawr oedd y dwndwr yn Nghae'r Melwr y bore hwnw. Pawb yn llawn ffwdan: pawb yn paratoi. Yr oedd yn ddiwrnod braf yn niwedd Hydref, a'r haul yn loew-ddysglaer yn tywallt ei belydron ar fryn, dyffryn, a dôl. Disgwylid i Elen godi; ond nid oedd dim hanes o honi. Disgwyl y buwyd, ond dim na siw na miw o'i thwrf. O'r diwedd penderfynwyd myned i fynu ati i'w chysuro, rhag ofn ei bod yn ddigalon. Daeth y morwynion priodas yno — chwech o forwynion cyn glysed ag a welwyd yn Ngwynedd er dyddiau Morfudd; ond nid oedd Elen wedi dyfod i lawr. Aed i'w hystafell wely: ond nid oedd yno ond cais lle bu. Yr oedd pawb yn synu, rhai yn gwaeddi, eraill yn tywallt dagrau, a'r hen ŵr a'r hen wraig, un o bob tu'r tân, yn fudanod. "Wel," ebai'r hen ŵr, "mi welaf sut y mae hi. Mi rois fy merch â'm llaw fy hun heddyw y bore." "Na faliwch," ebai yr hen wraig, "os na chafodd fab larll, fe ga'dd DDYN." Anfonwyd i'w chyrchu adref, a gorfu ar y Sais, druan, fyned i'w wlad heb Elen. Cae'r Melwr, oblegyd yr oedd wedi priodi Jack. Felly yr eglurhâwyd dameg y rhwyd, yr hon a draethodd Jack wrth y Sais, druan, pan yn cyd-deithio y noson cynt. Daethant eu deuoedd yn dalog adref ar ol cael eu gwahodd, ac ni bu neb dedwyddach yn nglân ystad priodas erioed na'r ddeuddyu hyn; ac ni bu edifar gan hen ŵr Cae'r Melwr roddi ei ferch i Jack.

Dyma chwedl Cae'r Melwr, medd ———— Salmon Llwyd.

GWRTHEYRN.

Un o gymeriadau anffodusaf hanesyddiaeth Brydeinig ydyw Gwrtheyrn Gwrtheneu. Efe oedd brenin y Prydeiniaid pan ymwelodd y Saeson gyntaf â'r ynys, ac i'w Iwfrdra a'i ynfydrwydd ef y priodolir sefydliad y genedl hono ar y dechreu yn Mhrydain. Gelwir ef yn y Trioedd yn un o "dri charnfeddwon Ynys Prydain," ami iddo yn ei feddwdod ynfydu ac ymwerthu i bob drygioni. Daeth i'r orsedd fel blaidd, teyrnasodd fel meddwyn, a diorsedd- wyd ef fel ffwl

Pan fu Cystenyn Fendigaid farw, gadawodd ar ei ol dri mab, sef Constans, Emrys Wledig, ac Uthr Pendragon. Y Cystenyn hwn a ddewiswyd gan y Prydeiniaid yn frenin arnynt ar ol ymadawiad y Rhufeiniaid â'r Ynys hon. Plant ieuainc iawn oedd y ddau olaf; a Chonstans, yr hynaf, a ddyrchafwyd i'r orsedd; a Gwrtheyrn, oherwydd ei ddylanwad a'i gyfoeth, a ddewiswyd i fod yn gynghorydd iddo. Ond yn lle cynghori, trodd Gwrtheyrn allan yn fradwr melldigedig — achlysurodd lofruddiad Constans,

a thrawsfeddianodd ei goron. Methodd gael gan nac esgob nac archesgob ei rhoddi ar ei ben, eithr rhwystr bychan oedd hwn ar ffordd bradwr, canys efe a'i coronodd ei hun. Teimlodd Emrys ac Uthr nad diogel iddynt hwythau aros o hyd cyrhaedd crafangau y trawsfeddianwr, a ffoisant i Lydaw, at eu hewythr Aldroed, brawd i'w tad, a brenin y wlad hono.

Anesmwyth iawn y gorweddai coron Gwrtheyrn ar ei ben. Pryderai o barth cadruthriadau y barbariaid Gogleddol, sef y Gwyddel Ffichti a'r Ysgotiaid, ar y naill law; ac ar y llaw arall, rhag ofn i Emrys ac Uthr ddyfod trosodd o Lydaw i hawlio eu cyfiawn goron a theyrnas.

Yn y cyfamser, glaniodd ysgraff" yn llawn o wyr arfog ar ororau Caint, o dan lywyddiaeth dau frawd o'r enw Hengist a Hors. Pan glybu y brenin am laniad lluaws o ddyeithriaid ar ei gyffiniau, archodd eu derbyu yn heddychol, a'u harwain i'w wyddfod. Gofynodd i'r ddau lywydd o ba wlad yr oeddynt, a pha beth oedd eu neges yn y wlad hon. Atebwyd ef, meddai Jeffrey o Fynwy, yn y geirian hyn: —

"Ardderchocaf frenin! mewn gwlad yn yr Almaen, a elwir Sacsoni, y ganwyd ni; a dyben ein dyfod yma oedd i gynyg ein gwasanaeth i ti neu rhyw dywysog arall. Canys gyrwyd ni allan o'n gwlad ein hunain, oherwydd fod ei chyfreithiau yn galw am hyny. Y mae yn arferiad yn ein mysg, pan orboblogir y wlad, fod i'n tywysogion gydgyfarfod, a gorchymyn i'r holl wyr ieuainc ddyfod ger eu bron; yna etholant trwy goelbren y rhai cryfaf a galluocaf o honynt i fyned at genedloedd estronol i enil eu bywoliaeth. Yn un o'r cyfarfodydd hyn, wedi bwrw coelbren, etholwyd y gwyr a weli o'th flaen, a gorfodwyd. Ni i ufuddhau i hen ddefodau ein cyndadau. Gwnaethant fy mrawd Horsa a minau yn llywyddion arnynt, o barch i'n hynafiaid, y rhai a dderbyniasant gyfryw anrhydedd. O ganlyniad, mewn ufudd-dod i hen ddefod, cychwynasom i'r môr, a than gyfarwyddyd y duw Mercher cyrhaeddasom dy deymas di."

Da oedd gan Wrtheyrn glywed hyn, ac efe yn uniongyrchol a'i cyflogodd i ymladd â'r Ffichtiaid, ac i amddiffyn y goron, os buasai angen, yn erbyn Emrys Wledig. Cydsyniodd Hengist yn rhwydd â'r telerau; a bu brwydrau gwaedlyd rhwng ei fyddinoedd ef a'r Gogleddwyr. Ond cafodd y penaeth Sacsonaidd yn fuan ffug-reswm tros ofyn caniatad y brenin i anfon am chwaneg o'i gydwladwyr i'r wlad hon i'w gynorthwyo i Iwyr orthrechu y Ffichtiaid, y rhai, meddai ef, oeddynt yn llawer lluosocach na'r Saeson. Y brenin yn ei wiriondeb a ganiataodd y dymuniad yn y fan. yr oedd amnaid yn ddigon i'r Almaeniaid newynog ac ysglyfaethus, a daethant trosodd yn llu mawr iawn. Erbyn hyn, yr oedd Hengist yn ymwybodol mai ganddo ef yr oedd y pen "ffyrfaf i'r ffon," a'i chwantau anniwall yn gwaeddi, " Melus, moes mwy." Dymunodd gael darn o dir digon o faint i adeiladu castell arno, fel y byddai cystal ei urddas ef a'r pendefigion Brutanaidd. Ar y cyntaf gomeddodd Gwrtheyrn hyn yn bendant, gan ddweyd y cynhyrfai hyny holl ddigllonedd ei benaethiaid yn ei erbyn; ond taerineb y penaeth a orfu feddaldod y brenin. "Caniata i mi gymaint o dir ag yr elai carai ledr o'i amgylch," meddai. Cais bach a dinod ydoedd hyn; ac nid oedd gan Gwrtheyrn ond ei ganiatau; ond cymerth Hengist groen eidion, ac a'i torodd yn un garai hir, a chyda hono amgylchodd fryn creigiog, wedi ei ddethol fel lle manteisiol i adeiladu caer, ac yno cododd y castell cadarnaf yn Mhrydain. Galwyd y castell hwnw "Caer- garai" yn Gymraeg; ac yn Saesneg, ''Thongcastle." Adwaenir y lle yn bresenol wrth yr enw Caistor; saif tuag ugain milldir i'r gogledd-dde o dref Lincoln. Yn mysg y giwdod ddiweddaf hon o'r Saeson, yr oedd Rhonwen, merch Hengist un o ferched tecaf ei hoes. Yn fuan wedi iddynt ddyfod trosodd, gwahoddodd y penaeth Gwrtheyrn i weled ei gaer a'i filwyr newyddion. Parotowyd gwledd rwysgfawr iddo; a phan ydoedd yn llawn o fedd a gwin tua therfyn y wledd, daeth Rhonwen i'r ystafell gan ddwyn yn ei llaw gwpan aur ysplenydd yn llawn o win. llanwyd y brenin trythyll o'i serch; ac nid oedd dim a'i boddiai ond ei chael yn wraig iddo. Ymgynghorodd Hengist â Hors o barth priodoldeb y fath undeb; a daeth y ddau frawd ariangar i'r penderfyniad i gydsynio, ar yr amod y caent hwythau diriogaeth Caint. Pan hysbyswyd Gwrtheyrn mai gwerth Rhonwen ydoedd gwlad Caint, cytunodd yn ebrwydd heb gymaint a chael cydsyniad Gorangan, llywodraethwr a gwir berchenog, y wlad hono. Creodd hyn deimladau digofus yn y penaethiaid Brutanaidd yn erbyn eu ffwlach brenin; a chwerwodd ei feibion Gwrthefyr, Cyndeyrn, a Pasgen, yn fawr tuag ato.

Yr oedd dylanwad Hengist ar y brenin mor fawr, fel y gallai wueud a fynai ag ef, a lleng ar ol lleng o'r Saeson yn parhaus ymfudo ac ymsefydlu yn Mhrydain, nes iddynt ddyfod mor gryfion a lluosog fel ag i beri i'r brodorion eu cyfiawn ofni. Deisebasant y brenin i atal rhagor o honynt wladychu, ond efe a wrthododd gydsynio. Ymgreulouasant yn ei erbyn, ac wedi ei ddiorseddu gosodasant Gwrthyfyr ei fab ar yr orsedd yn ei le. Ymladdwyd pedair gornest galed rhwng Gwrtheyrn a'i bleidwyr, a Hengist a'i fyddinoedd, ar y naill ochr; a Gwrthefyr a'i bleidwyr yntau ar y llall. Yu y rhfeloedd hyny syrthiodd Hors brawd Hengist, a Cyndeyrn brawd Gwrthefyr, y ddau mewn brwydr law-law. Cymerodd un o'r brwydrau hyn le ar y traeth gerllaw yr ynys Thanet, yn yr afon Tafwys, a phwysodd y Brutaniaid mor dost ar wynt eu gelynion nes eu gorfodi i ffoi i'w hysgraffau; a phan nad oeddynt yn alluog i oddef chwaneg o ymosodiadau, atolygasant gael dychwelyd yn heddychol i'w gwlad; a ffwrdd a hwy wedi cael digon gallesid tybied am byth ar ddewrder gwrhydrus ac yni dihafal yr hen Frutaniaid.

Naturiol i'r darllenydd ymholi paham yr oedd y genedl mor ddiymadferth a bod yn angenrheidiol iddynt gael estroniaid i ymladd eu brwydrau. Y mae yr ateb yn eglur. Yr oedd y Prydeiniaid wedi ymranu yn amrywiol bleidiau. Rhai o honynt yn glynu yn ffyddlon wrth deulu ciliedig Cystenyn Fendigaid, ac yn gobeithio dyfodiad Emrys Wledig, o Lydaw, i gyfiawn hawlio coron ei dad; eraill yn dysgwyl ail ddyfodiad y Rhufeiniaid, y rhai, er eu holl wendidau, oeddynt y gorthrechwyr ardderchocaf fu ar Brydain erioed; tra yr oedd y dull gwaedlyd trwy ba un yr esgynodd Gwrtheyrn i'r orsedd, a'i ymddygiadau ffôl a gorthrymus ynddi, yn peri iddo fod yn hollol annghariadus gan gorff mawr y genedl. Nis gallasai gadw ei goron ond am amser byr oni buasai iddo hurio y Saeson i ymladd trosto. Buasai yn well gan y rhan luosocaf o'i ddeiliaid dynu eu cleddyfau yn ei erbyn nac o'i blaid.

Wedi i Wrthefyr, fel y dywedasom, gael llwyr oruchafiaeth, dechreuodd adfer i'w pobl eu hiawnderau, a daeth yn wrthddrych edmygedd ei holl ddeiliaid. Ond yr oedd marwor brad a gelyniaeth yn dirgel losgi yn mynwesau y gweddillion Sacsonaidd a adawodd Hengist ar ei ol yn ei ffoedigaeth waradwyddus. Gwrthefyr, o barch i'w deimladau mabaidd ei hun, nid alltudiodd Gwrtheyrn gyda'i gynghreiriaid, fel y dylasai, mae yn ddiau; ac o barch i'w dad, goddefodd i Rhonwen aros yn Mhrydain; ond cafodd allan yn fuan na wnai tosturi at sarff, er iddi fod yn sarff brydferth, ddim cyfnewid ei natur. llogodd Rhonwen rhyw hurwas bawaidd am bris mawr i wenwyno Gwrthefyr. llwyddodd y frad, a bu Gwrthefyr farw yn nghanol dagrau a galar ei bobl. Anerchodd ei filwyr mewn dull tra effeithiol yn ei frwydrau olaf. Tyngedodd hwynt i barhau yn wrol tros ryddid ac iawnderau eu gwlad: parodd iddynt godi trostan bres yn y porthladd yr arferai y Saeson lanio, a rhoddi ei arch ar ben y trostan, fel y dychrynid y barbariaid wrth yr olwg arni. Ond, fel y mae chwithaf adrodd, esgeuluswyd ei orchymyn, a chladdwyd ef yn Nghaerludd.

Codwyd Gwrtheyrn eilwaith i'r orsedd; ac ar ddymuniad Rhonwen nid aeth llawer o amser heibio cyn iddo anfon am Hengist, gan ei hysbysu, fel cymhelliad, fod ei elyn Gwrthefyr yn y bedd. Pa fodd bynag, rhoddodd orchymyn caeth arno na ddygai ond gwarchlu bychan gyd- ag ef, rhag cynhyrfu eiddigedd y Prydeiniaid. Ond pan glybu y bradwr llwynogaidd am farwolaeth ei orchfygydd, a bod iddo eto fantais i gyrhaedd awdurdod a goruchafiaeth yn y wlad hon, efe a ddarparodd fyddin fawr iawn, yn cynwys, yn ol rhai haneswyr, tua tri chan mil o wŷr. Pan glybu Gwrtheyrn fod y fath lu afrifed wedi glanio yn Nghaint, digllonodd yn ddirfawr, ac wedi ymgynghori â'i bendefigion, penderfynwyd ymladd at farw gyda'r giwaid digywiiydd. Daeth eu bwriad yn hysbys i Hengist, a thrwy fod brwydrau Gwrtheyn heb eu llwyr ddileu oddiar ei gof, tybiodd mai y dull doethaf iddo gyrhaedd ei amcau oedd ffugio heddwch, na thrwy frwydr onest ar faes agored. Danfonodd genadau at y brenin i'w hysbysu nad ei ddyben wrth ddyfod â'r fath lu mawr ydoedd ei niweidio nac anrheithio ei deyrnas; ond i ymladd â therfysgwyr a'r gelynion Gogleddol. Yr oedd yn barod i gyflwyno ei gleddyf a'i wŷr at wasanaeth y llywodraeth; neu, os mwy dymunol ganddynt, gallent ddethol rhyw nifer o'i fyddin a'u cadw yn Mhrydain at eu gwasanaeth, tra y dychwelai yntau gyda'r gweddill yn ol i'w wlad.

Llwyr orchfygodd y tiriondeb annisgwyliedig hwn holl elyniaeth y Brutaniaid calon-onest. syrthiasant i'r fagl. Yr oedd eu didwylledd eu hunain yn rhwystr iddynt weled twyll yn neb arall. Tybient fod yn anmhosibl i frad lechu dan y fath gochl dêg o gymwynasgarwch! Derbyniasant y Saeson gyda breichiau agored, — nid oedd yr un croesaw yn ormod iddynt, — ac yr oedd yn well gan lawer Prydeiniwr, yn enwedig Gwrtheyrn ei hun, am y Saeson, nag am ei genedl ei hunan.

Er mwyn selio y cyfeillgarwch, ar gynygiad Hengist, penderfynwyd cynal gwledd fawr o tua thri chant o'r swyddogion Sacsonaidd, a'r un nifer, os nad chwaneg, o bendefigion Brutanaidd. Dewiswyd gwastadedd Caer Caradawc [Stonhenge] fel man cyfleus i gynal y wledd; ac yno, yn ymyl yr hen gromlechau mawrion, allorau cysegredig y Derwyddon gynt, yn ngwydd haul dydd Calanmai, y cyflawnwyd y frad erchyllaf, dduaf, a mwyaf dieflig, sydd ar lechres hanesyddiaeth. Er mwyn arddangos llwyr ymddiried y ddwyblaid yn eu gilydd, yr oeddynt i gyfarfod yn anarfog, ac i eistedd bob yn ail oddeutu y bwrdd. Eithr Hengist a orchymynodd i bob un o'i wŷr ddyfod a chyllell yn ei lawes. " Ac," ebai ef, "pan waeddaf, Nemet eour Saxes [Cymerwch eich cyllill], tyned pob un o honoch ei gyllell, a thrywaned y Britwn nesaf ato, ond arbedwch y brenin, er mwyn fy merch, a bydd ei fywyd yn werthfawrocach i mi na'i angau."

Ar y dydd penodedig, ymgynullodd y gwahoddedigion, a'r Brutaniaid, yn hollol ddiofal a dibryder, a ddechreuasant ymgymysgu gyda'r Saeson; a phan oeddynt oll yn nghanol eu hafiaeth, a'r gwin, a'r medd, wedi rhedeg ar y rhwyddaf, yn enwedig yn mhlith ein hynafiaid ni, neidiodd y penaeth bradwrus ar ei draed, a gwaeddodd yn groch, Neinet eour Saxes, ac ar y gair, wele bob giwedyn mileinig yn cwhwfan y llafn hir, ac yn ei gladdu yn nghnawd y Prydeiniad agosaf. Galanastra a chelanedd ofnadwy oedd y canlyniad; trowyd y llawenydd yn angau, y gân yn ysgrech farwol. Ymladdodd y Brutaniaid yn ddewrion; ond pa fantais sydd i ŵr anarfog ac anwyliadwrus wrth ymladd âg adyn arfog a maleisus? Llawer ymdrech glodadwy a wnaed gyda dyrnau moelion, ond yr oedd y llafn hir yn cyrhaedd y galon, ac yn dwyn y bywyd oddiyno ar ei blaen. Dau yn unig a ddiangasant rhag y bawdd, sef y brenin anffodus, ac Eidiol, iarll Caerloew. Gŵr dewr, cryf, ac ymladdgar, oedd Eidiol. Gafaelodd mewn darn o bren a ddigwyddai fod dan ei draed — medodd y bradwyr yn ddidosturi âg ef, a chan chwilfriwio eu haelodau, a phwyo eu hymenyddiau, nid attegodd hyd oni wnaeth ddeg a thriugain ohonynt yn gelaneddau meirwon wrth ei draed. Un o'r darnau mwyaf cynhyrfus yn ngwaith Iorwerth Glan Aled ydyw ei ddisgrifiad o'r frad annynol hon: —

BRITWN.
O laddfa erchyll! cuddied haul ei hun
Mewn cwmwl dudew yn y glwyfus nen

Byth na phelydred ar druenus lun
Y lanerch hon. Yn iach i Brydaian wen.


HENGIST.
Ffyrnigwch eto — sicrhewch y nod;
A'ch Cyllill Hirion cerfiwch yma glod
Eich enwau, ddewrion;
A minau floeddiaf nes bo'r bryniau draw
Yn gwyro'u penau dan ddylanwad braw,
Byw fyddo'r Saeson


EIDIOL
Nid felly'n hollol! tra bo"r trosol hwn
Yn nwylaw Eidiol!.symud beth o'r pwn
Esgorodd brad.
Taw! Hengist! taw! mae dewrder yn fy mryd,
A chryfder yn fy mraich, gwnaf laddfa ddrud
O blaid fy ngwlad!
Gwel hwn! gwel fi! mae gwaed gwrolion lu
Yn chwyddo'm mynwes,— Denwch yma'n hy',
Ysbrydion arwyr f y nhirionaf wlad,
Rhowch nerth i'm braich i ddial ar y brad!
Dyrnodiaf rai o dan fy nerthol draed;
Er nad oes genyf gleddyf llym,
Ca'r Saeson deimlo hwn a'i rym,
A threngu yn eu gwaed!
Gwel, Hengist, brawf yn eu celeiniau gwael
Fod nerth a dewrder gan y Britwn hael."


SAESON AR LAWR.
O! frodyr! rhoddwch help! mae'n hesgyrn ni
Yn ddrylliau man! gwrandewch ein marwol gri,
A lleddwch Eidiol!"


HENGIST
Rhowch frath i Eidiol, sydd fel ellyll braw
Yn angau corphol yn y fangre draw; ::Prysurwch, ddewrion,
Ah! mae'n gynt
Na'r ffrochus wynt
Ar ffo yr awrhon."

Y mae llawer o wadu wedi bod ar y frad hon. Dywed Mr. Stephens, o Ferthyr, mai chwedl ydyw a ddyfeisiodd y Brutaniaid i guddio gwaradwydd brwydr Cattraeth, yn mha un, yn ol y Gododin, y syrthiodd tri chant a thri a thriugain o'r pendefigion Brutanaidd mewn brwydr gyda'r Seison. "Woodward, yr hwn sydd yn edrych trwy ddrychau pur Seisnig ar bobpeth Cymreig, yn ei History of Wales, a hwtia yr hanes fel ffugiaeth anhygoel. O'r ochr arall y mae Carnhuauawc yn adrodd y peth fel ffaith yn ei Hanes y Cymry, a chronichr ef gan Nennius, yr hwn a ysgrifenodd yn yr wythfed ganrif; a chyfieithwyd ef o Frut Tysilio i'r Lladin yn y ddeuddegfed ganrif, gan Gryffydd ab Arthur, alias Jeffrey o Fynmy, yr hwn ydoedd esgob Llanelwy ar y pryd. Nid oes odid un o'r haneswyr Seisnig diweddaraf yn crybwyll gair yn ei gylch; a rheswm da pa'm, canys y mae y fath weithred ddiellig yn ddigon i anurddo y genedl ddysgleiriaf ei chymeriad yn y byd. Ond dylai cyfiawnder a gwirionedd bob amser gael y lle uwchaf gyda'r hanesydd; onidê nid yw ei hanes yn werth ei losgi. Y mae yn chwerthinllyd darllen gwaith ambell i hanesydd Seisnig ar bynciau Cymreig, ymddengys fel pe tyngedasid ef i gamarwain, llurgynio, a gwadu, ac y mae yn gwneyd hyny mor ddoniol a phe byddai yn hollwybod- aeth wedi ymgnawdoli.

Ond i ddychwelyd at linyn ein hanes. Bygythiwyd gwneyd pen ar yr hen Wrtheyrn yn niffyg na throsglwyddai ei ddinasoedd caerog a'i gastellydd trosodd i'r Seison; ac yn ei fraw roddodd iddynt Gaerefrog, Caer Lincoln, a Llundain.

Ar ol cneifio yr hen deyrn gollyngasant ef yn rhydd i fyned fel hwrdd gwyllt i'r man y mynai; ac yntau er mwyn ei ddiogelwch rhag y fath fleiddiaid a ymneillduodd i un gymoedd Eryri. Wedi i blant y fall fel hyn ddistiywio y bendefigaeth Brydeinig, ymosodasant ar y werin bobl, a gwnaethant laddfa fawr.

Gwrtheyrn a gynullodd ato ei ddewiniaid a'i ddoethion, gan ymofyn â hwynt pa beth a wnelai. Hwythau a'i cynghorasant i adeiladu amgaerfa mewn lle a elwir yn awr Nant Gwrtheyrn, fel y byddai yn amddiffynfa iddo rhag ei elynion. Cynullwyd seiri coed a maen, a dech reuwyd ar y gwaith yn ddioedi; ond pa faint bynag a adeiledid y dydd a ddiflanai y nos ddilynol. Wrth ganfod hyn, galwodd Gwrtheyrn am y doethion eilwaith, a holodd hwynt o barth achos y fath ddiflaniad cyfrin. Hwythau, er mwyn cuddio eu hanwybodaeth, a ddywedasant fod yn rhaid iddo gael gwaed mab heb dad i'w daenellu hyd y meini a'r calch. a thrwy hyny y safai yr adeilad. Pe dywedasent fod gan y ddaear gorn gwddwf a cholyddion, fel anifail, ac fod ei safn yn dygwydd sefyll islaw y fan y codid y castell, diameu y buasai Gwrtheyrn ofergoelus yn eu credu. Pa fodd bynag, yn ddiymaros, danfonwyd cenadau i bob cwr o'r ynys i ymofyn y cywrain-beth o fab heb dad. Gallesid tybied mai llafur ofer fuasai y fath ymchwiliad; ond fel yr oedd y cenadau un noson, yn agoshau at borth Caer Fyrddin, gwelent nifer o ŵyr ieuainc yn chwareu. Cododd ymryson rhwng dau o'r gwŷr ieuainc hyn, sef eu gelwid, Annfab y llian a Dunawd. Ebai Dunawd, " Boneddig wyrf fi, a chenyf dad a mam, ac nid oes genyt ti dad." Pan glybu'r cenadau y geiriau hyn, ymholasant yn mhlith y chwareuwyr ai gwir y dywediad. " Digon gwir," ebynt hwythau, " mynaches fucheddol yn eglwys Pedr, Caer Fyrddin ydyw ei fam." Yna aeth y cenadau at lywydd y ddinas a'r castell, a hawliasant Annfab a'i fam yn enw y brenin. Ufuddhaodd y llywydd yn uniongyrchol, a danfonwyd y ddau i Eryri.

Pan gymerwyd hwynt gerbron Gwrtheyrn efe a'u derbyniodd mewn dull parchus a moesgar, oblegyd bonedd y fam, yr hon ydoedd ferch i frenin Dyfed. Gofynodd iddi pa fodd y cenedlwyd Annfab. Hithau a atebodd, "Fy arglwydd frenin, ar fywyd fy enaid, cyffesaf it' yr holl wirionedd. Unig ferch oeddwn i frenin Dyfed, a dodwyd fi yn fynaches yn Nghaer Fyrddin; ac fel yr oeddwn un noson yn cysgu rhwng fy chwiorydd, gwelwn trwy fy hun lanc ieuanc teg yn dyfod ataf ac yn roddi i mi fynych gusanau. Deffroais, ac nid oedd yno ond fy chwiorydd a minau. Beichiogais, a rhoddais enedigaeth i'r llanc. hwn, ac yr wyf yn tystio na bu i mi gymdeithas â gŵr erioed ond hyny. Rhyfeddai Gwrtheyrn yn fawr at y chwedl hon, a galwodd ato Meugant Ddewin, gan ei holi a allai y fath beth fod yn -wir. Atebodd Meugant, "Ceir yn llyfrau y doethion, ac mewn hanesyddiaeth, fod lluaws o ddynion gynt o haniad cyffelyb. Dywed Apelius, yn ei Iyfr ar Ellyll Socrates, fod math o ysbrydion yn preswylio rhwng y ddaear a'r lleuad, allent ymrithio yn wŷr neu yn wragedd pryd y mynent. Gelwid hwynt yn 'Ddieifl Gogwyddedig,' a rhan ohonynt sydd o naturiaeth ddynol, a'r rhan arall sydd angylaidd. Diamheu mai un o'r bodau lledchwith hyny ydyw tad y plentyn hwn."

Yr oedd Annfab yn dyfal wrando ar yr oll a ddywedid; ac wedi i'r dewin draethu ei len, efe a anerchodd y brenin fel hyn: — " I ba ddyben y dygasoch fy mam a minau ger dy fron?" Ebai Gwrtheyrn, "Fy newiniaid a'm cynghor- asant i geisio gwaed gŵr heb dad iddo i daenellu y ceryg a'r calch, modd y safai fy nghastell." " Arch i'th ddewin- iaid," ebai Ànnfab, " ddyfod ger dy fron, a mi a brofaf eu bod yn dychymygu celwydd." Rhyfeddodd y brenin wrth yr ymadrodd hwn, ond o ran chwilfrydedd parodd i'r dewiniaid ddyfod gerbron. Anerchodd y llanc hwynt a dywedodd, " Am nas gwyddoch pa beth ydoedd tan sylfaen y castell yn llesteiriaw i'r gwaith sefyll, anogasoch. y brenin fy rhoddi i farwolaeth, er mwyn cymysgu fy ngwaed gwirion gyda'r defnyddiau, fel pe gwnaethasai hyny ryw les. Dywedwch wrthyf, os medrwch, pa beth sydd dan y sylfaen; canys diameu fod yno rywbeth annghyffredinol."Dechreuodd y dewiniaid ofni, ac nid atebasant air. Ebai y llanc, " Arglwydd frenin, pâr gloddio dan y sylfaen, a thi a gei lyn mawr yn y ddaear, a hyny ydyw yr achos na saif yr adeilad." Wedi cloddio, cafwyd y llyn fel y rhagddywedwyd. Yna gofynodd Annfab eilwaith i'r dewiniaid, "Chwi, dwyllwyr euog, pa beth sydd tan y llyn hwn?" Ond nid atebasant air. Ebai Annfab wrth y brenin, " Gorchymyn i'r llyn gael ei ddyhyspyddu, ac yn ei waelod ceir dau faen gau (hollow stones), ac oddifewn iddynt y mae dwy ddraig yn cysgu." Wedi gweled gwirio rhagddywediad y llanc am y llyn, credodd ei eiriau am y dreigiau hefyd. Dyhyspyddwyd y dwfr, a chafwyd pobpeth fel y rhagddywedasai y llanc. Enillodd hyn iddo ffafr fawr gyda'r brenin, ac edmygodd ei holl osgorddion a phawb oddigerth y dewiniaid. Annfab y llian y gelwid ef cyn hyn, eithr o hyny allan gelwid ef Myrddin, am ei gael gerllaw Caer Fyrddin, a chwanegwyd at yr enw yna Emrys. Myrddin Emrys y Dewin ydyw yr enw wrth ba un yr adwaenir ef yn bresenol.

Fel yr oedd Gwrtheyrn un diwrnod yn eistedd wrth ochr y llyn dyhyspyddedig, daeth i fyny o hono y ddwy ddraig — un yn goch, a'r llall yn wen, a chan ddynesu at eu gilydd, dechreuasant frwydr wir frawychus. Poerent dân, ac ysgydwent eu cynffonau anferth. Ymlidiodd y ddraig wen yr un goch i ganol y llyn; ond gan ymgreuloni, trôdd yr un goch ar ei herlynes, a gorfododd hithau i ffoi. Wedi i'r frwydr ddreigiol hon fyned trosodd, archodd y brenin i Fyrddin ddeongli ei hystyr, a'r Dewin a dorodd i wylo yn chwerw dost, a thraddododd y broffwydoliaeth hon: —

PROFFWYDOLIAETH MYRDDIN EMRYS Y DEWIN.

"Gwae y ddraig goch, canys dynesa dydd ei halltudiaeth. Meddianir ei chuddfanau gan y ddraig wen, yr hon a arwyddocâ y Seison, a wahoddaist ti i Brydain; ond y ddraig goch a arwyddocâ y genedl Frytanaidd, yr hon a ormesir gan y ddraig wen. Oherwydd hyn y mynyddoedd a wneir yn gydwastad a'r glynau, ac afon- ydd y dyffrynoedd a lithiant o waed. Pwyll Cristionogol a ddileir, a'r eglwysi a wneir yn anrhaith. Yn y diwedd, y gorthrymedig a Iwydda, ac a wrthwyneba greulondeb estroniaid. Canys baedd Cernyw a rydd gymhorthwy, ac a fathra eu gyddfau dan ei draed. Ynysoedd yr eigion a ddarostyngir, a gwlad Ffrainc a feddianir ganddo. Gwvr Rhufain a barant i bobl ei anrhydeddu, a'i weithredoedd a fyddant fwyd i'r sawl a'u dadûanant. Chwech o'i epil a lawiant deyrnwialen, ac yna cyfyd pryf Germania. Y môr-flaidd a drecha hwnw, gyda pha un y bydd coedwigoedd Affrig. Crefydd a ddileir eilwaith, a'r archesgobaethau a symudir. Mawredd Llundain a addurna Caergaint, a bugail Caerefrog a fynycha Llydaw. Mynwy a wisgir o fantell Caerllion, a phregethwyr Iwerddon a fyddant fud oherwydd y mab sydd yn tyfu yn y groth. Cawod o waed a ddisgyna, a phoenir plant dynion gan newyn tost. Pan ddel y pethau hyn, y doluria y ddraig goch; eithr pan fyddo ei llafur trosodd, hi a dyf yn gryf eilwaith. Yna y prysura anffoddion y ddraig wen, ac adeiladau ei erddi a dynir i lawr. Saith dygiedydd teyrnwialen a leddir, un o ba rai a fydd sant. Gwragedd beichiogion a rwygir, a bydd trallod dwys ar ddynion, fel yr adferir y brodorion. Yr hwn a wnel hyn a esyd am dano wisg gŵr efyddawl (brazen), ac ar farch efyddawl y gwarchaea efe byrth Llundain. Wedi hyn y dychwel y ddraig goch i'w chynefinol ffyrdd, ac y try ei dialedd arni ei hun. Yn mhob maes y siomir yr amaethwr, ac wrth hyny y daw dial ar y cyfoethog. Marwolaeth a gribddeilia y bobl, a chenedloedd a ddiffrwytha efe, eithr y gweddill o honynt a adawant eu gwlad, ac a heuant hâd mewn tir estronol. Brenin bendigaid a ddarpar lynges; ac yn mhlith y deuddeg gwynfydedigion ei rhifir. Y deyrnas a adewir yn annghyfanedd, a'r ydlanau a ymfoelant yn anffrwythlawn. Cyfyd y ddraig wen, a' merch Germania a wahoddir trosodd. Eilwaith llenwir ein gerddi ni âg estronol hâd, a'r ddraig goch a ddihoena yn nghwr eithaf y llyn. Terfyn gosodedig sydd iddi, yr hwn nis gall fyned trosto. Deng mlynedd a deugain a' chant fydd cyfnod ei darostyngiad, a thri chan mlynedd y gorphwys hi mewn tawelwch. Yna cyfyd gogledd-wynt yn ei herbyn, yr hwn a gribddeifia y blodau a gynyrchodd y dwyrein-wynt. Eurir y temlau, a dadweinir y cleddyfau. Yna y coronir pryf Germania, ac y cleddir y tywysawg efyddawl. O'r braidd y gall draig Germania gyrhaedd ei ffau, canys dial ei frad a'i goddiwedda. Degwm Fflandras a'i llesteiria, canys pobl a ddaw yn ei erbyn mewn gwisgoedd o bren a haiarn, ac a ddialant ei anwiredd. Hwy a adferant y trigolion i'w trigfanau ac estroniaid a ddyfethir. Hâd y ddraig wen a ysgubir o'r gerddi, a gweddill ei genedlaeth a ddegymir. Dygant iau caethiwed, a'u mam a anafant gyda cheibiau ac erydr. Yna dynesa y ddwy ddraig, y naill a leddir gan golyn cenfigen, eithr y llall a ddychwel dan gochl ei henw. Ar ei hol hwynt y daw llew gwirionedd, wrth ru yr hwn y cryn tyrau Ff'rainc, ac y brawycha dreigiau yr ynys. Yn y dyddiau hyny y cesglir ŷd oddiar ddanadl, ac arian a lithra o garnau gwartheg brefedig. Y praidd a wisgant amrywiol gnu, a'r wisg allanol a arwyddocâ y fewnol. Traed cyfarthiaid a dorir ymaith; bwystfilod rheibus a fwynhânt heddwch; dynolryw a ofidir wrth eu poenedigaeth; ffurf masnach a renir, a'r haner a fydd yn grwn. Rheibusrwydd y barcut a ddyfethir, a danedd bleiddiau a ddifinir. Cenawon llewod a gyfnewidir yn bysgod môr; ac eryr a adeilada ei nyth ar fynydd Arafia. Gwynedd a gochir gan waed mamau; a thŷ Corineus a laddant chwe' brawd. yr ynys a fydd wlyb gan ddagrau, a phawb a gynhyrfir i bobpeth. Gwae tydi, Neustria, canys tywelltir arnat ymenydd y llew; ac efe a alltudir gydag aelodau maluriedig o'i wlad gynwynol. Y gwir a anafa y sawl a geir trwy anwiredd, hyd oni roddo am dano ei Dad; gan hyny, yn arfogedig gyda dant baedd coed, efe a esgyn goruwch y mynyddoedd, a chysgod yr hwn a wisga helm. Llidiaw a wna yr Alban, a chan ymgynghori â'i chymydogion. hi a dywallt waed. Rhoddir ffrwyn yn ei phen a wnaed yn arffed Llydaw. Eryr-tor-y-Cynghrair a eura hyny. Cenawon rhuadwy a wyliant, a chan adael y coed, cyniweiriant rhwng muriau y ddinas. Ac nid bychan eu galanas ar y sawl a'u gwrthwynebo, a thorant ymaith dafodau teirw. llwythant yddfau llewod rhuadwy â chadwynau, ac adnewyddant amser eu hynafiaid. Yna o'r cyntaf i'r pedwerydd, o'r pedwerydd i'r trydydd, o'r trydydd i'r ail y trôir y fawd yn yr olew. Y chweched a ddadwreiddia furiau yr Iwerddon, a'r anialwch a dry efe yn wastadedd. Efe a ddarostwng amryw ddosbarthiadau yn un, a choronir ef gyda phen llew. Ei ddechreuad fydd agored i ansefydlogrwydd, ond ei ddiwedd a'i harwain at y gwynfydus. Canys efe a adnewydda eisteddfanau y saint yn eu gwledydd, ac a sefydla fugeiliaid mewn lleoedd gweddus. Dwy gaer a wisg efe â dwy fantell, a rhoddion gwyryfol a rydd efe i wyryfon. Am hyn y derbyn ganmoliaeth yr holl gyfoethogion, a dodir ef yn mhlith y saint. O hono y cerdda hur [lynx, yn yr argraffiad Seisnig gan Giles, Bohn's Library], yr hwn a gyniwairia bob peth, a thuedda at ddistrywio ei genedl ei hun; canys trwyddo ef y cyll Flandras ei dwy ynys, ac o'i hanrhydedd ei hysbeilir. Yna dychwel y trigolion yn ol i'r ynys; canys bydd ymryson rhwng estron genedloedd. Hefyd hen ŵr penwyn, yn eistedd ar farch gwelw a dry wely yr afon Peryddon, ac â gwialen wen a fesura felin arni. Cadwaladr a eilw Cynan, ac a gymer yr Alban yn gynghreiriad. Yna y bydd lladdfa fawr ar estroniaid, yr afonydd a lifant gan waed, ac y llawenhâ mynyddoedd Llydaw. Teyrnwialen a dyf yn mhlith y Brutaniaid; llenwir Cymru â llawenydd, a derw Cernyw a ireiddir. Gelwir yr ynys ar enw Brutus, ac arni estroniaid a ballant. Gynan y cerdda baedd ymladdgar, yr hwn a ddefnyddia ei ys- gythrddanedd (tusks) ar goed Ffrainc; canys efe a dyr i lawr yr holl dderw cryfaf, ac a fydd nawdd i'r rhai gwanaf. Gwŷr Arabia ac Affrig a'i hofnant, canys parhâ ei ruthr hyd eithafoedd Yspaen. Yna dynesa llwch y Castell Serchawl, ac iddo farf arian a chyrn aur, yr hwn a chwytha gwmwl o'i ffroenau nes tywyllu gwyneb yr holl ynys. Heddwch a fydd yn ei amser ef, ac o ffrwythlonder y dywarchen y bydd digonedd o ŷd. Gwragedd a fyddant nadroedd yn eu gwisgiad, a'u holl ymddygiadau fyddant lawn o falchder, yna yr adnewyddir lluestai godineb. Ffynonell yr afon a droir yn waed, a dau frenin a ymladdant ornest am lewes yn Rhyd y Fagl. Gloddest a orchuddia yr holl dir, a dynoliaeth ni phaid a godineb. Hyn oll a wêl tair oes, hyd oni adgyfyd brenin- oedd claddedig yn Nghaer Lundain. Newyu a marwolaeth a ddychwelant, a'r trigolion a alarant oherwydd dinystr dinasoedd. Yna y daw baedd a Gyfnewid. yr hwn a eilw y praidd gwasgaredig yn ol i'r porfeydd a gollasant. Ei fron fydd fwyd i'r newynog, a'i dafod yn ddiod i'r rhai sychedig. Yna y tyf ar dŵr Llundain bren ac arno ond tair cainc, a chan led ei ddail gorchuddia yr holl ynys. Yn ei erbyn y cyfyd gwynt dwyrain, a chyda'i anadl lem crina y drydydd gainc; eithr y ddwy arall a gymerant ei lle hi hyd oni ddinystriant y naill y llall gan amlder eu dail, ac yna y cymer efe le y ddwy hyny, ac y rhydd gynaliaeth i adar pob cenedl Peryglus a fydd efe i adar yr ynys, canys ni fedrant hwy hedeg yn rhwydd yn ei gysgod. Ar ol hyny, y dynesa asyn anwiredd, chwim yn erbyn y gofaint aur, ond araf yn erbyn cribddeil bleiddiau. Yn y dyddiau hyny y llosgir y derw yn y coed, ac y tyf mês ar y Iwyfanen (teitree). Môr Hafren a ymarllwys yn saith cainc, a'r afon Wysg fydd ar dân am saith. mis. Gan y gwres, ei physg a fyddant meirw; ac o honynt hwy y cenedlir seirff'. Yna yr oera dyfroedd Baddon, a'u ffrydiau iachus a fagant angau. Llundain a alara ar farwolaeth ugain mil, a throir yr afon Tafwys yn waed. Gorfodir mynachod i briodi, a chlywir eu dolefau ar fynyddoedd yr Alpau.

Tair ffynnon a gyfyd o Gaer Ŵynt; ffrydiau y rhai hyny a holltant yr ynys yn dair rhan. Y sawl a yf o'r gyntaf o honynt a fwynhâ hir oes, ac ni orthrymir ef âg afiechyd; yr hwn a yf o'r ail. a fydd marw o newyn, a gwelwder a braw a eisteddant ar ei bryd; yr hwn a yf o'r drydedd afon a gymerir ymaith gan angau disyfyd, ac ni chleddir ei gorff. Y sawl a ddeisyfant ysgoi y fath alar, ymdrechant ei guddio âg amryw orchuddiadau, ond. pa beth bynag a roddir arno a drawsffurfir yn rhyw sylwedd arall. Canys y ddaear a droir yn geryg; ceryg yn ddwfr; coed yn lludw; lludw yn ddwfr; os gorchuddir ef gyda hwynt. Eithr cyfyd morwyn o'r Llwyn Llwyd i roddi meddyginiaeth o hyny, ac wedi iddi hi dreulio ei holl ddyfais, hi a sych y ffynonau afiach âg anadl ei genau. Wedi iddi ymadloni gyda'r dyfroedd iachedig, hi a ddwg yn ei llaw ddeau goed Celyddon, ac yn yr aswy, furiau Llundain. Mwg brwmstanawl a ddyrch yn ol 'ei throed, pa ffordd bynag y cerdda, yr hwn fwg a fydd ddauddyblyg. Y mwg hwnw a gyffiry wŷr Rodwm, ac a fydd fwyd i'r rhai yn y dwfn. Hi a dywallta ddagrau edifeuriol, a llenwir yr ynys gan ei gwaedd ddiaspad. lleddir hi gan garw deg cainc, pedwar o ba rai a ar- wisgant goronau aur; y chwech ereill a droir yn gym ych gwyllt (buffalo), a'i hysgymun sain a gyffroant dair ynys Prydain. Yna y sychir llwyn Danet, ac â dynawl lef, llefa: — "Dynesa, I Gymru, a gwasga Cernyw wrth dy ystlys; a dywed wrth Gaer Wynt, 'llynced y ddaear dydi.' Symud eisteddfa dy fugail i borthladd llongau, a'r gweddill a'i dilynant. Canys prysura dydd tranc dy drigolion oherwydd eu hanudoniaeth. Gwynder y gwlan a'th neweidia, â'i eiliw amrywiol. Gwae y genedl anudonol, canys y gaer ardderchog a syrth o'i hachos. Y llongau a orfoleddant, ac un a wneir o ddwy. Draenen droir yn afallen, a hono a ddeilia o'r newydd, ac at ei haroglau, amrywiol adar a ymgasglant. Efe a chwanega ati lys mawr, ac â chwe' chan tŵr ei cadarnheir. Wrthi yr eiddigedda Llundain, a'i muriau a chwanega yn dri dyblyg. yr afon Tafwys a'i cylchyna, a chwedlau y weithred a gerddant tros yr Alpau. Ynddi y cudd y Draenawc ei afalau, a gwneir ffyrdd dan ei daear. Y pryd hwnw ceryg a lefarant, a môr Ffrainc a gyfyngir. Gall gŵr oddiar un lan glywed gŵr ar yr lan arall, a chadernid yr ynys a fwynheir. Dirgelion y dyfnder a ddadguddir, a Llydaw a gryna gan ofn. Ar ol hyn y daw aderyn o Iwyn Caledyr (Calaterium), yr hwn a hed oddeutu yr ynys am ddwy flynedd yn olynol. A gwaedd nosawl y casgl hi yr adar, a phob perchen aden a ymgynull ati. Rhuthrant ar lafur yr amaethwr, a grawn yr ŷd a lyncant. O hyn y daw newyn ar y bobl, ac angau gyda'r newyn. Pan elo hyn trosodd, aderyn ysgymun a ddaw i'r glyn Galabes, ac a'i cyfyd yn fynydd mawr, ar gopa yr hwn hi a blana bren, ac yn ei gangau y nytha hi. Dodwya dri ŵy yn y nyth, o ba rai y daw llwynoges, blaidd, ac arth! Y llwynoges a ladd ei man, ac a ymddyg ar ben asen. Yn y dull angenfilaidd hwn y dychryna hi ei brodyr, ac y gwna iddynt ffoi hyd yn Fflandras. Eithr cynhyrfir y baedd ysgythrant i ymosod ar y llwynoges, a chan ddychwelyd yn llynges, ymosodant arni; ac yna hi a ffugia fod yn farw, nes deffro cydymdeimlad y baedd. Efe a ddynesa at ei chelain, a chan sefyll uwch ei phen, anadla gna ei gwyneb a'i llygaid. Hithau, mewn cyfrwysdra maleisus, a afaela yn ei droed, ac a'i tyn oddi wrth y corph. Yna hi a ruthra arno, ac a gipia ymaith ei glust ddeau a'i losgwrn, ac yn ogofau y mynydd yr ymddirgela. Yna y baedd twylledig a gais gan y blaidd a'r arth adferyd iddo ei aelodau colledig, y rhai wedi peth dadleu a addawant ddau droed, llosgwrn achlust y llwyn- oges iddo, ac o'r rhai hyny gwnaed iddo aelodau hwch. Boddlonir ef ar hyn, gan ddisgwyl yr ad-daliad. Yn y cyfamser, y llwynoges a ddychwel o'r mynydd ac a ymrithia yn fleiddast; a than yr esgus o gynal cynadledd gyda'r baedd, hi a ddel ato, ac a'i llwyr ddinystria. Yna hi a ymrithia yn faedd, a chan ffugio bod yn fyr- o rai o'i haelodau, dysgwylia am ei brodyr; ac yna rhuthro arnynt a'u lladd gyda'i hysgyrthrddant; a choronir hi gyda phen llew. Yn ei dyddiau hi y' dygir sarff allan a fydd yn ddinystr i'r hil ddynol. A'i hyd y cylchyna Lundain, a'r hyn a êl heibio iddi hi a'i llwnc. Yr ych mynyddig a gornir ac efe a wna ei ddanedd yn yr Hafren. Efe a gynull ato ddiadellau yr Alban a Chymru, y rhai a yfant yr afon Tafwys yn sych. Yr asen a eilw y bwch. a'r farf hir, ac a fenthycia ei ffurf. yr ych mynyddig a fydd ddigofus -wrth hyn, a chan alw y blaidd try yn darw corniog yn ei herbyn. Yn ei greulondeb, efe a lwnc eu cnawd a'u hesgyrn, ac yntau a losgir ar gopa Arian. Ei ludw a droir yn eleirch, y rhai allant nofio cystal ar dir sych ag ar ddwfr. Hwy a lyncant bysg mewn pysg, a dynion mewn dynion. Eithr yn eu henaint hwy a droir yn fôrfleidd, ac a weithredant dwyll yn yr eigion. Suddant longau, a chasglant arian lawer. Y Tafwys a red eilwaith, a chan gasglu dyfroedd, gorlifa tros ei glanau. Gorchuddia y dinasoedd cyfagos, a'r mynyddoedd ar ei ffordd. a ddistrywia. Wrth hyny, rhoddir ffynon iddo yn llawn o frad ac anwiredd, a chynhyrfir y Gwyneddwyr i frwydrau ac ymladdau. Deri y llwyni a gydgyfarfyddant ac â chreigiau y Deheuwyr yr ymladdant. Y brain a'r barcutanod a larpiant gelaneddau y meirwon. Dallhuan a adeilada nyth ar furiau Caerloew, ac yn y nyth ymddygir asyn. Hwnw a fâg sarff Malfarn, a dysgir iddo lawer o gastiau drygionus. Efe a esgyn i'r goruchelder, ac yn ei law bydd teyrnwialen, a'r wlad a ddychryna wrth ei lais cras. Yn ei ddyddiau ef y mynyddoedd a grynant, a'r glynau a ysbeilir o'u coed. Canys daw pryf ac iddo anadl tanllyd, a chyda ei chwythiad y llysg efe y coed. O hono y daw saith llew ac iddynt benau geifr. Ag anadl ddrewedig eu geneuau y llygrant wragedd, ac yr achosant i wragedd priod droi yn buteiniaid. Y tad nid adnebydd ei blentyn, canys byddant o duedd anifeilaidd a llygredig. Yna y daw cawr anwiredd, ac a ddychryna bawb gyda llymder ei lygaid. Yn ei erbyn y cyfyd draig Caer Wrangon, ond yn y frwydr y ddraig a ga'r gwaetha', ac efe a orthrymir gan anwiredd y gorchfygydd. Canys y cawr a esgyn ar gefn y ddraig, a chan ymddiosg, efe a eistedd arno yn noeth. Y ddraig a dyf, ac a'i cyfyd i fyny i'r uchder, ac a gura ei orchfygydd noeth gyda'i chynffon. Ar hyny y cawr a gasgl ei holl nerth, a chyda'i gleddyf tyr esgyrn ei ên. O'r diwedd, y ddraig a ymblyg o dan ei llosgwrn, ac a fydd farw o wenwyn. Ar ol hwnw y daw baedd Tytneis (Totness), ac a greulawn orthryma y bobl. A denfyn Caerloew allan lew, yr hwn a aflonydda ar ei orthrymder mewn amryw ymladdau. Efe a'i sathr dan ei draed, ac a'i brawycha gyda'i safn agored. Yn y diwedd y llew a ymrysona gyda'r pendefigion, a daw tarw yn mlaen, ac a'i tery ef gyda'i droed deau. Efe a'i hymlid trwy holl westtai y deyrnas, eithr efe a dyr ei gyrn yn erbyn muriau Rhydychain. Llwynoges Caer Dubal ddiala ar y llew, ac a'i dinystria yn llwyr â'i danedd. Neidr Caer Lincol a'i hamgylcha, yr hon mewn chwys brawychus a rybuddia ddreigiau o'i phresenoldeb. A'r dreigiau a ymladdant, ac a dynant eu gilydd yn ddarnau. yr adeiniog a ormesa ar y diaden, ac a blana eu hewinedd yn y gruddiau gwenwynig. Ereill ddeuant i'r frwydr, ac a laddant y naill y llall. Pumed olynydd y rhai a laddwyd, trwy frad a ddinystriodd y gweddill. Efe gyda'i gleddyf a esgyn ar gefn un, ac a dyr ei ben oddi .wrth ei gorff. A phan ymddiosg, efe a esgyn ar gefn un arall. ac a rydd ei ddeau a'i aswy law ar ei gynffon, ac yn noeth efe a'i gorchfyga ef, pryd nas gallai wneuthur hyny yn wisgedig. Y lleill a boena efe yn eu ffoedigaeth, ac a'u hymlid oddeutu y deyrnas. Yna daw llew rhuadwy, dychrynllyd oherwydd ei angenfilaidd greulonder. Pumtheg rhan a wna efe yn un, ac efe yn unig a rydd arglwydd y bobl. Y cawr claerwyn a ymdywyna, nes peri i'r bobl wynion lwyddo. Pleser a ddarostynga y tywysogion, a hwy a drawsffurfir yn fwystfilod. Yn eu mysg cyfyd llew chwyddedig gan waed dynol. Dan hwnw rhoddir medelwr mewn ŷd, yr hwn tra yn medi a ormesir ganddo. Cerbydydd o Gaerefrog a'u heddycha; ac wedi iddo ladd ei arglwydd, efe a esgyn i'w gerbyd. Gyda chleddyf y bygythia efe y Dwyrain, a llenwir ôl ei olwynion gan waed. Yna efe a ymrithia yn bysgodyn y môr ac yn cael ei gynhyrfu gan chwythiad neidr, efe a genedla gydag ef. O hyn y cynyrchir tri tharw taranllyd, y rhai wedi iddynt Iwyr-fwyta eu porfeydd a drawsffurfir yn brenau. Y cyntaf a gluda fflangell o wiberod, ac a dry ei gefn ar y nesaf ato. Hwnw a amcana gipio y fflangell, eithr cymerir hi gan yr olaf. Troant eu hwynebau oddiwrth eu gilydd hyd oni thaflant ymaith y gwpan wenwyn. Dilynir hwn gan amaethion yr Alban, wrth gefn yr hwn y bydd sarff. Efe a aredig y tir fel y byddo wyn y wlad gan ŷd. Amcana y sarff fwrw ei gwenwyn, a thrwy hyny ddyfetha y cnydau. Gan bla marwol yr ysgubir y bobl ymaith, a muriau y ddinas a fyddant annghyfanedd. Caerloew a roddir yn feddyginiaeth, yr hon a fydd yn gyfrwng gan ferch maeth y sawl a ffrewylla. Canys hi a ddwg y cyffyriau, a'r ynys ar fyrder a adnewyddir. Yna dau a lawiant deyrnwialen, ar ba rai y gwasanaetha y ddraig gorniog. Un a ddaw mewn arfwisg, ac a ferchyg y sarff hedegog. Efe a eistedd ar ei chefn noeth, ac a afaela gyda'i law ddeau yn ei llosgwrn. Wrth ei ddolefau cynhyrfir y moroedd, gan hyny yr ail a frawychir. Yr ail a wna gyfamod gyda'r llew; ond ymrafael yn dygwydd rhyngddynt, hwy a ymladdant â'u gilydd. Doluriant y naill y llall, ond y bwystfil a fydd fuddugol. Yna daw un gyda thympan a thelyn, ac a larieiddia ddywalder y llew. Cenedloedd y deyrnas gan hyny a heddychir, a'r llew ar fantawl ei galwant. Yn ei eisteddfa efe a wnel bwysau cyfiawn, a'i law a estyn efe ar yr Alban. Wrth hyny cymydau y gogledd a dristânt, a drysau eu temlau a agorant. Y blaidd serenog a arwain ei fyddinoedd, a chyda'i losgwrn a amgylcha wlad Cernyw. Gwrthwynebir ef gan filwr mewn cerbyd, yr hwn a drawsffurfia y bobl hyny yn faedd. Y baedd gan hyny a anrheithia y cymydau, ac yn Hafren y cuddia efe ei ben. Gŵr a' gofleidia lew, a dysglaerder aur a ddalla y sawl a edrychont. Arian a wynha yn y cylch, ac a flina y gwinweisg. Dynion a feddwant ar win, ac yn ddibris o nefoedd, byddant brysur a helbulus ar y ddaear. yry y ser eu gwynebau oddiwrthynt, a dyrysir eu cylchdroadau. Yr ydau a grinant wrth eu hagr weddau; ac ni syrth gwlith o'r nef. Y gwraidd a'r cangau a gyfnewidiant leoedd, a newydd-der y weithred a gyffelybir i wyrth. Tanbeidrwydd Mercurius a wanhâ, a'r sawl a edrychont arni a frawychir. Stalbon a symud darian Arcadio, penfestyn Mars a eilw ar Fenus. O benfestyn Mars y gwneir gwasgawd,a chynddaredd Mercurius a gyrhaedd ei derfyn- au eithaf. Orion haiarnawl a symud ei gleddyf, y môr a flina y wyby, Jupiter a edy ei llwybrau cyfreithlon, a Fenus a gyrch oddiar ei llinell. Addfwynder Sadwrn seren a ddygpwyd, ac o rym cryman y lladd hi ddynol- ryw. Deuddeg tu y seren a alarant ymgyrchiadau afreolaidd eu lletywyr; a'r Gremini a omeddant ymgofleid- io, — galwant y celwrn i'r fi'ynonau. Mantol y Punt (Libra) a orwedd yn gam hyd oni roddo'r Maharen (Aries) ei gyrn ceimion o tano. Llosgwrn y Sarff (Scorpio) a gynyrch fellt, a'r Cranc (Cancer) a ymrafaelia gyda'r Haul. Y Wyryf (Virgo) a esgyn gefn y Scythyd (Saggitarius), ac a dywylla ei blodau gwyryfol. Cerbyd y lloer a ddyrysa y Zodiacum, ac ymdora Pleiades allan i wylo. Ni ddychwel neb i wasanaeth Janus, ond ei ddorau cauedig a ymguddiant yn ogofau Ariadne. Ar darawiad paladr y moroedd gyfodant. a lludw yr hynafiaid a adnewyddir. Y gwyntoedd a ymfrwydrant gyda swn brawychus, ar swn a rwyga'r ser."

Yn ddiau, dyma y dernyn hynotaf a mwyaf dyeithr a chywrain o holl gasgliad hynod ddyeithr a chywraia Gruffydd ab Arthur. Amcanodd llawer hynafiaethydd at esbonio a chysoni dygwyddiadau mewn hanesyddiaeth Brydeinig gydag ymadroddion y broffwydoliaeth hon, ond ychydig fu eu llwyddiant. Gwell ydyw ei gadael lle y mae yn engraifft o ddarfelydd wyllt yr hen Ddewin, canys wrth graffu llawer mewn tywyllwch yr ydym yn dueddol i fyned yn ofergoelus, ac i ffol ddychymygu, fel teithiwr yn y nos.

Y mae Brut y Breninoedd hefyd yn croniclo proffwydoliaeth arall o eiddo yr un oracl. Ymddengys fod Gwrtheyrn yn credu pob gair a ddeuai tros wefusau y proffwyd, a'i fod yn ymgynghori âg ef ar bob pwnc o bwys. Gofynodd iddo unwaith pa beth fyddai ei ddiwedd, ac atebodd Myrddin fod dwy farwolaeth yn ei fygwth — y naill, ei ladd gan y Seison; y llall, ei losgi yn ei gastell gan Emrys Wledig. Dranoeth glaniodd Emrys ac Uthr Bendragon ei frawd, a chyda hwynt ddeng mil o wŷr. Prysurai yr holl Frythoniaid i ymuno dan eu baner, a gwnaethant Emrys yn frenin arnynt. Y weithred gyntaf o eiddo Emrys oedd dial gwaed ei dad a'i frawd. Arweiniodd ei fyddinoedd tua Chymru, gwersyllodd o flaen castell y brenin Gwrtheyrn; ac yn ddioedi gosododd ei beirianau ar waith i ddryllio y muriau. Eithr wedi methu darnio y gaer yn mhob cyfryw ffordd, rhoddasant y lle ar dân hyd oni losgodd y tŵr, a Gwrtheyrn Fradwr ynddo.

Dyna oes a diwedd truenus un o dri "Charnfradwyr ynys Prydain."

OWEN GLYNDWR.

(Bywgraffiad.)

Rai misoedd yn ol, cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn y pleser o weled un o gastellydd godidocaf Cymru — y CYMRU FU hyny sydd fel hen bensioners methiantus yn llefaru wrth y Cymru Sydd am lafur, dewrder, a bywyd trallodus ein hynafiaid. Gelwid y castell hwn yn y dyddiau gynt y " Castell Coch yn Ngwernfor." Y mae ei adfeilion yn sefyll ar waelod un o'r dyffrynau prydferthaf yn Mhrydain; ac oddeutu'r adfeilion y mae palas tywysogaidd wedi ei adeiladu. Wrth grwydro hyd wahanol neuaddau y palas, arweinid ni i wyddfod dodrefn henafol ac arluniau gwerthfawr. Gwelsom arlun Catrin o'r Berain, yr hon a flodeuai yn yr 16eg ganrif; y fenyw brydweddol a briodwyd bedair gwaith gyda'r pedwar boneddwr boneddigeiddiaf sangodd erioed ar weirglodd-dir Clwyd. Clywsoch, mae yn ddiamheu, am Morys Wyn, brawd yr enwog Syr John Wyn o Wydir, yn cyfarch Catrin ar ei dychweliad o angladd ei gwr cyntaf, ac wrth sylwi ar ei hymddygiad siriol, yn anturio gofyn iddi am ei llaw, ac iddi hithau ei nacau am y rheswm o'i bod wedi ei haddaw i Syr Risiart Clough ar y ffordd i'r angladd; ond, yn rhoddi ei gair, os byth y byddai ei llaw yn rhydd drachefn, y cai Morys Wyn y cynygiad cyntaf arni. Fel y mae chwithaf adrodd, bu Syr Risiart, ei hail wr, farw, a Morys Wyn oedd ei thrydydd. Ar y pared gyferbyn, dacw ddarlun Syr Huw Myddleton, y peirianydd enwog; ac wrth ei ochr arlun y Cadben Wm. Myddleton (Gwilym Canoldref), y bardd. Yr oedd chwe' brawd o'r Myddletoniaid hyn, a'r chwech yn dalentog a gwladgar i'r gen — gwynfyd pe byddai mwy o son amdanynt yn mysg eu cenedl, a mwy o'u cenedl ar eu delw.

Ond yr hyn â'n dênodd i'r Castell y bore hwnw oedd chwilfrydedd i weled arfwisg Owen Glyndwr. Buom yn syllu arni yn nhymor hafaidd bachgenoed, ond rywfodd yr oedd awydd ynom am ei gweled eilwaith. Y pryd hwnw safai mewn arfdy hir, llawn o waywffyn, cleddyfau, peisarfau, a chywrain-bethau henafol eraill; eithr yr arfwisgoeddy gwrthrych mwyaf dyddorol o'r cwbl. Yno yr ydoedd yn amgylchu rhyw sylwedd annhyblyg, gan arddangos ei meddianydd dewr gynt fel gwr tâl, lluniaidd, a hardd anarferol. Erbyn ymholi am yr Arfdy Hir, cawsom ei fod wedi ei gau, a'i holl drysorau dyddorol "wedi eu chwalu yma ac acw hyd y palas. Yr oedd yr Arfwisg wedi ei symud i'r Servants' Hall, lle y gwelais hi y bore hwnw uwchlaw y tân, ac wrth syllu arni yr oedd fy ngwaed Cymreig yn berwi. Dacw hi yn ei chrwcwd — yn wârgam a gârgam— ar fantell y simnai, a nen yr ystafell yn rhy isel i'w ffurf fawreddog allu sefyll yn syth, ac yn dangos Glyndwr allan fel rhyw gorach crebachlyd, afluniaidd, ac anhardd. Rhedodd fy meddwl at drais Offa, a lorwerth, a mân-arglwyddi Normanaidd y Cyffiniau, a gwelwn halogiad yr Arfwisg hon yn cynrychioli eu holl esgelerderau — yr yspryd o daro'r gwan a diystyru bedd gelyn. O, Gedeon dy genedl! pwy feiddiasai anffurfio dy arfwisg pan y gwisgid hi gan y dewr a'r beiddgar Owen! Cawsai y cyfryw deimlo pwys dy ddwrn a blaen dy ddagr. Eithr dyma derfyn pob rhwysg a mawredd bydol. Pan ddarfyddo bywyd, y mae'r corph a'i addurniadau mewn perygl; a phan rydo'r cledd, y mae gelyn gerllaw.

Ganwyd Owen Glyndwr, yn ol rhai awduron, ar yr '28ain o Fai, 1349. Hynodid y flwyddyn hono, meddant, gan bla dinystriol iawn trosEwrop oll; a'r noson y ganwyd ef gan ystorm ddychrynllyd, a chan olygfeydd annaearol, megys ceffylau ei dad yn yr ystablau at eu tôrau mewn gwaed, yr hyn oedd yn rhagarwyddo ei fywyd rhyfelgar a gwaedlyd. Y mae Shakespeare, yn Harri IV, yn gwneud defnydd tarawiadol o'r traddodiad hwn. Gesyd y geiriau canlynol yn ngenau ein harwr pan yn ymdderu gyda Hotspur: —

Pan anwyd fi,
'Roedd gwyneb nef yn llawn o ffurfiau tanllyd,
A rhedai'r geifr o'r bryniau; a'r diadelloedd
Ddieithr frefent yn y meusydd dychrynadwy:
'R arwyddion hyn a'm hynodasant i,
A holl droellau'm bywyd a ddangosant
Fy mod uwchlaw cyffredin ddyn.

Yr oedd Owen yn hanu o deuluoedd uchel. Ei dad oedd Gruffydd Fychan ab Gruffydd o'r Rhuddallt, ab Madog Fychan, ab Gruffydd arglwydd dinas Bran, ab Madog, ab Gruffydd Maelawr, ab Meredydd, ab Bleddyn ab Cynfyn, tywysog Powys. Ei fam oedd Elin, merch Tomos ab Llywelyn ab Hywel, o'i wraig Elinor Goch, yr hon oedd ferch ac etifeddes Catrin, un o ferched Llywelyn tywysog olaf y Cymry. Felly, yr oedd efe yn cynrychioli llinach tywysogion Powys ar y naill ochr, a thywysogion Gwynedd ar y llall. Ymddengys ddarfod i rai o'i hynafiaid o du ei dad gefnogi Harri III. ac Edward I. yn eu rhyfeloedd yn erbyn y Cymry; ac i'r Saeson yn y diwedd ymddwyn yn ddigon anniolchgar tuag atynt am y gymwynas. Gruffydd, arglwydd Dinas Bran, a briodes Seisones, merch i Arglwydd Audley, yr hon a hudodd ei gariad oddiwrth ei wlad, ac a'i gwnaeth yn fradwr i achos ei ganedl. Enynodd hyn ddigllonedd ei genedl yn ei erbyn, gorfodwyd ef i encilio i'w gastell, lle y bu efe farw mewn tristwch a chywilydd. Gadawodd bedwar o blant bychain amddifaid ar ei ol, tan warcheidwad nifer o rith gyfeillion Seisnig, dau o ba rai, er mwyn cael eu rhan o etifeddiaeth eu tad i'w brodyr eraill, a foddasant yn yr afon Dyfrdwy; a'r ddau arbedwyd fuont garcharorion, fel na chawsant hwythau yr etifeddiaeth ond mewn enw yn unig. Bu y barbareidd-dra hwn yn achlysur i ail-enyn digllonedd y teulu tuag at Saeson; a diau nad oedd ein harwr wedi anghofio y traha pan fflamiodd efe allan mewn gwrthryfel. O du ei fam, drachefn, yr oedd y teulu hwnw wedi ei drwytho mewn gelyniaeth at y Sais i'rf ath raddau fel nad aethai odid i fwyddyn heibio er dyddiau Llywelyn na byddai rhyw gangen ohonynt yn dadlygu lluman gwrthryfel. Dichon fod yr elyniaeth yna wedi lliniaru ychydig erbyn amser rhieni Owen; ond y mae gwrthryfel fel y manwynau, yn anhawdd iawn i'w gael o'r gwaed.

Er mai wrth y cyfenw " Glyndwr' " yr adwaenir Owen yn bresenol, ei enw teuluaidd oedd Fychan; neu yn ol yr hen ddull Cymreig, Owen ab Gruffydd Fychan. Talfynad ydyw Glyndwr o'r gair Glyndyfrdwy; ac yn ol y dull Seisnig, gelwid ef Argìwydd Glyndyfrdwy. Un o'r Fychaniaid hyn oedd Myfanwy Fychan, "rhian nodedig am ei phrydferthwch," yr hon a flodeuai tua diwedd y 14eg ganrif, ac arwres rhiangerddi swynol Eisteddfod fythgofiadwy Llangollen.

Dygwyd Owen i fynu yn gyfreithiwr, a chyrhaeddodd y radd o Dadleuydd (barrister). Pa fodd bynag, nid yn y llinell hono yr oedd ei uchelgais ef yn gorwedd; torodd ei dueddiadau naturiol yn fuan tros ben ei addysg a'i ddygiad i fynu. Yn swn arfau rhyfel yr oedd ei anian ryfelgar ef yn cael boddhad. Newidiodd y wig am y llurig, a'r ysgrifbin am y cledd; a brwydrau y pin a'r tafod, am frwydau y pen a'r gewynau. Ymunodd â byddin Risiart ll, a gwasanaethai fel cadben yn y fyddin hono yn yr Iwerddon yn y flwyddyn 1394. Sylwodd y brenin ar ei degwch a'i wroldeb, ac etholodd ef yn im o'i warchlu; wedi hyny llanwodd y swydd o Ystafellydd i'w Fawrhydi. Gwnaed ef hefyd yn Farchog, canys yn y cyngaws cyfreithiol rhwng Richard le Scrope a Syr Robert de Grosvenor, daw yn mlaen fel tyst tan yr enw Syr Owen de Glendore, Mae yn ddiamheu ei fod mewn ffafr uchel gyda'r brenin Risiart; er mai brenin afradlon diofal ydoedd, a chostiodd hyny iddo yn y diwedd ei goron a'i ryddid. Tra yr oedd efe yn gostegu gwrthryfel yn yr Iwerddon, Harri Bolingbroke, ei gefnder, o dir ei alltud- iaeth — Ffrainc, a laniodd yn swydd Yorc gyda thriugain o ddilynwyr, ac ymdyrodd y Saeson tan ei faner. Pan glybu y brenin am hyn, efe a brysurodd tuag adref; glaniodd yn Aberdaugleddyf; ond yr oedd serch ei ddeiliaid wedi cilio; bu yn crwydro o'r naill fan i'r llall yn Nghymru, gan ymlechu yn ei hamddiffynfeydd, hyd oni ddaliwyd ef yn y diwedd gan ei wrthwynebydd yn Nghastell Fflint, ac y darbwyllwyd ef i roddi ei goron i fynu. Yr oedd Owen gyda'r brenin pan gymerwyd ef, ac wrth ddychwelyd i'w arglwyddiaeth, ysgarwyd ef a breninoliaeth Lloegr am byth— o hyn allan meddyliai am dani i'w chashau; ac ni chyfarfyddodd mwyach â hi. ond fel gelyn diymwad a gwrthwynebydd dewr ac anorchfygol.

Ni a'i dilynwn i Lyndyfrdwy, neu yn hytrach i Sycharth, yn nyffryn Llansilin, canys yno yr oedd ei balas arosol, a chanddo etifeddiaeth yno yn ogystal ag ar lanau'r Dyfrdwy. Dywedir dad oedd ei etifeddiaethau oll nemawr llai na deugain milldir ysgwâr. Treuliodd dair neu bedair blynedd mewn dinodedd yn Sycharth, yn nghanol ei gydwladwyr a'i denantiaid, yn croesawu beirdd a chy- feillion, ac yn mwynhau holl ddyddanwch y boneddwr gwledig. Yn yr amser hwnw arferai'r boneddwr Cymreig gynal ei fardd fel y cynaliai'r Sais a'r Ffrancwr, yn yr Oesoedd Canol, eu ffwl. Gwaith y beirdd hyn oedd cadw achau eu noddwyr, cyfansoddi mawlgerddi iddynt, a dyfyru yn eu gwleddoedd; pan fyddai heddwch, adloni oriau hamddenol — pan fyddai rhyfel, cyffroi teimladau rhyfelgar a digofus. Yr oedd "Bardd y Teulu" yn cael bywiolaeth gysurus ac anrhydeddus, ac ystynd palas y boneddwr Cymreig yn fyr o'i addurn arbenig os yn amddifad o fardd. Dyna paham yr oedd yr awen Gymreig yn blaguro ac yn blodeuo tra yr oedd llwydrew gauafol yn gordoi y gweddill o awenyddiaeth Ewrop. Yr oedd gan Arglwydd Glyndyfrdwy ychwaneg nag un bardd, eithr yr enwocaf ohonynt oedd Iolo Goch. Gellid meddwl mai "canu ar ei fwyd ei hun" yr oedd Iolo, o serch at Glyndwr yn bersonol, a chariad at ei achos; canys yr oedd ganddo etifeddiaeth ar ei elw ei hun yn Nyffryn Clwyd, a elwid y Llechryd. Rhestrir ef yn mhlith goreuon beirdd ein gwlad; a diamheu fod ganddo law fawr yn nygiad y rhyfel oddiamgylch, ac yn ngosodiad Owen yn flaenor arno. Gwelir pedwar cywydd o'i waith yn Ngorchestion Beirdd Cymru yn dal cysylltiad â'n harwr. Yn un ohonyut ceir dysgrifiad o Sycharth, ac oddiwrth y dysgrifiad hwnw gellir tybied ei fod yn lle ardderchog iawn — amgylchid y palas gan ddyfr-ffos, tros pa un yr oedd pont-lusg, gan ei. wneud yn amddiffynfa yn ol dull yr oesau hyny. Yr oedd iddo naw neuadd, a naw wardrob yn perthyn i bob' un, a chydmarai y bardd hwynt o ran gwerthfawredd eu cynwysiad i siopau costus Llundain. Perthynai i'r palas berllan a gwinllan; parciau ceirw a cwningod; dolydd gwair a meusydd cywair; melin deg a cholomendy hardd; pysgodlyn, ac ynddo benhwyaid a gwyniaid; seler lawn o ffrwyth y brag a'r winwydden; pabell o bwrpas i groesawu beirdd a chyfeillion, a phob danteithion yn ac oddeutu Sycharth at wasanaeth eu bwrdd. Yna ceir molawd deulu arglwydd hael y lle dedwydd: —

A gwraig oreu o'r gwragedd —
Gwyn 'y myd o'i Gwin a'i mêdd —
A'i blant a ddeuant bob ddau
Nythed teg: o benaethau!
Anodd yn fynych yno
Weled na chliccied na chlo,
Na gwall, na newyn, na gwarth,
Na syched fyth yn Sycharth.

Ond y mae Sycharth erbyn hyn wedi newid. Pan ymwelodd Mr. George Borrow â'r ardal, dair blynedd yn ol, nid oedd yn aros o Sycharth ond y bryn ar ba un yr adeiladwyd ef; a chraith y ddyfr-ffos heb ei ddileu eto oddiar ei ael. Y mae llwyn o goed gerllaw lle bydd y gwynt ar brydiau yn sturmantu ei alarnad "adgof uwch angof," a elwir llwyn Sycharth; a phentref bychan islaw yn parhau i drosglwyddo yr enw Sycharth i'r dyfodiant. Y mae'r afonig oedd yn cyflenwi'r ddyfr-ffos, ac yn troi olwynion y felin, yn parhau i redeg; ond glaswellt a orchuddia lawr y neuaddau, lle bu'r gân, y ddawns, a'r llawenydd. Gan mai coed oedd defnydd y palas hwn, ymddengys iddo gael ei losgi yn lludw, gan elynion ei berchenog, cyn diwedd y gwrthryfel, ac na wnaeth neb gais byth drachefn at ei ailadeiladu.

Y "wraig oreu o'r gwragedd " oedd Margaret, merch i Syr Dafydd Hanmer, o Sir Fflint, marchog o gread Risiart II., ac un o farnwyr mainc y brenin hwnw. Cymerodd y briodas hon le yn y flwyddyn 1383, ac ohoni bu chwech o feibion, dywedir, a phump o ferched. Bu ei feibion yn gwasanaethu fel swyddogion yn ei fyddin; a dywed Mr. Browne-Willis, yn Hanes Eglwys Cadeiriol Llanelwy, eu bod ar farwolaeth eu tad wedi ffoi i'r Iwerddon; i un o honynt ymsefydlu yn Dublin, tan yr enw Baulf, neu y cryf, a'i fod yn hynafiad i deulu anrhydeddus yn y ddinas hono. Priododd y merched i deuluoedd parchus. Isabella, yr henaf, a briodes Adda ab lorwerth Ddu; Alis, yr ail, Syr John Scudamore o Ewyas, yn sir Hereford; Janet, y drydedd, John Croft, o Gastell Croft, yn yr un sir; Margaret,yr ieuengaf, Roger Monnington, o sir Hereford, ar derfynau Brycheiniog; Jane, Arglwydd Grey, o Ruthyn, ar ol ei ryddhau o garchar gan ei thad. Yr oedd y priodasau hyn yn bwysig, gan fod dylanwad gwladol Owen yn ymledu gyda phob un ohonynt; ac yr oedd ei feibion yn nghyfraith o blith tir-feddianwyr mwyaf y Cyffiniau — dosbarth tra defnyddiol yn nwylaw unrhyw benaeth gwrthryfelgar Cymreig.

Wele ni wedi dwyn ein harwr a'i amgylchiadau, yn ei ddinodedd, mewn cymhariaeth, hyd derfyn y 14eg ganrif, ac hyd at geulan y gwrthryfel; ond cyn y gellir iawn ddeall nodwedd y dyn, rhaid deall nodwedd ei oes. Er fod 120 mlynedd er pan gollasai'r genedl ei rhyddid, nid oedd awydd cysegredig am ryddid wedi diffodd yn ei phlith erbyn dyddiau Owen. Ỳn ystod y cyfnod hwn, ymdrechasant amryw weithiau fwrw ymaith iau eu gorthrymwyr. Rhys ab Meredydd a godes mewn gwrthryfel yn y Deheubarth, ac a barodd llawer o helbul a thrafferth i'r brenin cyn y gallesid ei ddarostwng. Drachefn, bu codiad cyngreiriol rhwng Malgwyn Fychan.yn Mhenfro a Cheredigion; Morgan, yn Morganwg; a Madawg, mab ordderch i Llywelyn, yn Ngwynedd. Acchlysur y chwildroad hwn oedd gwaith y brenin lorwerth yn gosod treth o bumthegfed ran ar eiddo y Cymry, er mwyn cael arian i ddwyn yn mlaen ei ryfeloedd. Daliwyd Malgwyn, a chrogwyd ef yn Hereford; diweddodd wbwb Morgan mewn cytundeb heddychol; ond yr eiddo Madog oedd yn wydnach ac anhawddach ei ddarostwng. Gorfu i'r brenin ddyfod yn bersonol i Gymru i arwain ei fyddinoedd; teithiodd mor bell a Chonwy, lle y bu agos iddo ef a'i luoedd newynu i farwolaeth oherwydd prinder ymborth, llifogydd yr afon, a gwyliadwriaeth ddyfal y Cymry arnynt. Pa fodd bynag, Madawg a ddaliwyd, ac a ddygpwyd i'r Twr Gwyn, lle y carcharwyd ef am y gweddill o'i oes. Gelwid y trydydd codiad "Gwrthryfel Llywelyn Bren." Brodor o Forganwg oedd Mr. Pren; a bu ei ryfel yn effeithiol i dori rhai o lyffetheiriau y Cymry. Bu agos i ni gael un arall i'w gofrestru, sef rhyfel Syr Gruffydd Llwyd; ond rhwysg byr a gafodd y cynhwrf hwnw, canys daliwyd Syr Gruffydd, carcharwydef yn Nghastell Rhuddlan. ac yn y diwedd torwyd ei ben. Cenedl orchfygiedig oeddynt, balch a dewr, yn gwingo yn erbyn symbylau eu gorthrechwyr, a symbylau digon celyd ac anhawdd eu' goddef. Estroniaid a Chymry anwladgar oedd yn llanw yr holl swyddi buddfawr gwladol; ac er i'r cyfryw wrth weinyddu eu swyddau ymddwyn yn y dull mwyaf tyner, eto camddeonglyd eu gweithredoedd goreu naill âi yn ddirmyg neu yn ddichell Y werin bobl oeddynt wedi cynefino cymaint â chaledfyd rhyfel, fel mai mewn rhyfel, ac nid heddwch, yr oedd eu hanian hwy yn cael boddhad; a chyda'u casineb greddfol at y Sais, a'r casineb hwnw yn cael ei ffrwyno gan heddwch gormesol, bywyd trallodus i'r eithaf a arweinient. Diddymddwyd hefyd gyfreithiau cynhenid y wlad, a gosodwyd y rhai Seisnig yn eu lle; at ba rai yr ychwanegwyd erthyglau trymion, gyda'r bwriad o gospi rhyw ddosparthiadau neillduol o'r Cymry, a dileu hen arferion o natur elynol i'r Saeson. Nid oedd y Cymry i ddwyn unrhyw arfau i'r farchnad drefydd, ffeiriau, nac eglwysydd, tan gosp o golli y cyfryw arfau, a chael eu carcharu am dros flwyddyn. Nid oedd y Cymry i feddu tiroedd o fewn trefydd bwrdeisiol Seisnig, tan y perygl o golli y cyfryw diroedd. Nid oedd hawl gan y Cymro i ddwyn ond un mab i fynu mewn urddau eglwysig. Nid oedd unrhyw Gymro i letya dyeithr-ddyn yn hŵy nag un noson, oddieithr y byddai yn atebol a'm weithredoedd y cyfryw ddyn. Nid oedd yn gyfreithlon i'r Cymry wneud cytundeb âm dai a thiroedd, ond am yr yspaid o bedair blynedd, tan y perygl o golli y tiroedd hyny. "Nid oedd i'r Gwestyr a'r Beirdd, a'r Prydyddion, a dynion segur a chrwydrol, y rhai geisiant y gynaliaeth drethol a elwir Cymhortha, gael eu goddef a'u porthi yn y wlad,rhag trwy eu henllibau a'u celwyddau y cyffroant y bobl i ddrwg, ac y gorthrymant y bobl efo'u trethiadau."

Odditan y deddfau a'r mân ormesau hyn yr oedd teimladau gwrthryfelgar yn byw ac yn cynud; nid oedd eisiau ond y llaw gymhwys ddylanwadol i'w cyfarwyddo, a dyna eu holl adnoddau rhyfelgar at ei gwasanaeth. Yr oedd y cymhwysder a'r dylanwad hwnw yn cydgyfarfod yn Owen Glyndwr — yn hanu o deuluoedd breiniol, teithi bwysig gan genedl mor hoff o hynafiaeth â chenedl y Cymry; yn ddysgedig, mor ddysgedig nes y tybiai ei gydoeswyr, yn Saeson a Chymry, ei fod mewn cyfrinach gyda'r yspryd drwg; yn gyfoethog, yn ddewr, ac yn wladgarol. Yr unig , beth diffygiol ganddo oedd rhyw achos uniongyrchol i gymeryd blaenoriaeth yr ysprydoedd digofus hyn; ac nid hir y bu'r diffyg hwnw heb ei lanw.

Rhwng Rhuthyn a Glyndyfrdwy, safai darn bychan o dir, o feddiant amheus, a elwid y Croesau; ac yr oedd Reginald de Grey arglwydd Rhuthyn, ac arglwydd Glyn dyfrdwy yn ei hawlio. Bu cynghaws cyfreithiol rhyngddynt yn ei gylch yn nheyrnasiad y brenin Risiart, a thrwy fod Owen mewn ffafr gyda'r fainc y pryd hwnw, efe a gariodd y dydd. Pan esgynodd Harri i'r orsedd, Reginald a adnewyddodd y cyngaws; enillodd, a chymerodd feddiant cyfreithlon o'r darn tir. Gwelai Owen fod y rhôd yn dechreu troi yn ei erbyn; a'i anffafriaeth yn y llys yn dechreu ysu ei etifeddiaeth. Yna apeliodd trwy ddeiseb at y Senedd, gan ddisgwyl cael gwrandawiad yno, ond byddar oedd hono i'w gais a diystyr o'i ddeiseb. 'Cynhyrodd hyn oll lidiowgrwydd ei enaid. Chwanegwyd yn fuan at y sarhad hwn gamwri arall. Yr oedd Harri yn darparu ymgyrch yn erbyn y Scotiaid, a gwysiodd Owen, yn mhlith barwniaid eraill, i ddarpar gwyr ac ymuno gyda'i fyddin ef. Ymddiriedwyd trosglwyddo yr ŵys hon i de Grey, yn hwn, yn fradwdus, a'i cadwodd hyd onid oedd yn rhy hwyr i Owen allu ufuddhau i'w gofyniadau. Priodolodd y brenin ei anufudd-dod i deyrn-fradwriaeth, a rhoddodd ganiatad i Grey i atafaelu ei feddianau; a chan fod dial yn felys ganddo, buan iawn y dechreuodd hwnw ar y gwaith. Yr oedd John Trevor, esgob Llanelwy, yn rhagweled y distryw, ac efe a anogodd y llywodraeth i gymeryd pwyll, a mabwysiadu moddion mwy heddychol; gan ei sicrhau nad oedd Owen fel gelyn iw ddibrisio, ac y byddai i'r holl genedl ei gefnogi mewn gwrthryfel. Ond gwawdiwyd y bygythiad, a diystyrwyd y cynghor, gan haeru nad oedd fawr berygl oddiwrth rhyw -werinos traed-noethion anwybodus felly.

Erbyn hyn.yr oedd cymylau rhyfel yn prysur ymgasglu. Y beirdd yn goraian molawdiau Owen; y brudwyr yn prophwydo mai efe oedd gwaredydd ei genedl rhag trais yr estron, ac yn dyfynu rhanau o Brophioydoliaeth yr hen Fyrddin Ddewin, gan eu dehongli mai GÍyndwr oedd y "Ddraig Goch,"oedd i ail ddyrchafu hil Gomer yn ben yr Ynys hon, a gwisgo coron Prydain. Yr oedd teimladau y bobl yn dadebru, a'u calonau ar dân am ddial cam eu cydwladwr ar eu caseion. Credent fod gwawrddydd eu rhyddid ar dori; a llwyr waredigaeth eu hynys oddiwrth eillion gormesol gerllaw. Yr oedd y wlad benbwygilydd yn oddaith am ryfel; a thafodau gelynion Owen yn glynu "wrth daflod eu genau — ni feiddient yngan gair yn erbyn y teimlad brwdfrydig hwn. Cam Owen, a'r modd i'w ddial, oeddynt destynau ymddiddan arglwydd wrth arglwydd, a gwladwr wrth wladwr— hyd y prif-ffyrdd a'r meusydd, ac ar yr aelwyd gysegredig fynyddig.

Erbyn canol haf y flwyddyn 1400, wele Owen a thua phedair mil o ddilynwyr, tan arfau, yn cynwys y gwlad- garwyr mwyaf aiddgar, a'r sawl ag yr oedd ganddynt rhyw gam neillduol i'w ddial ar y gelynion, ac edmygwyr a Ffyddloniaid personol y penaeth dewrgalon ei hun. Cymerasant feddiant o eiddo cyfagos ei arch-elyn, Reginald de Grey. Dyna eu gweithred gyntaf, a'r dull hwn a gymerasant i gyhoeddi rhyfel. Mae yn ddiddadl fod y Saeson wedi cadw llygad gwyliadwrus ar eu parotoadau, ac yn hysbys o'u holl ysgogiadau; canys danfonodd y brenin yr arglwyddi Talbot a Grey, gyda byddin luosog, y rhai a ddisgynasant mor ddisymwth ar amddiffynfa ein harwr, fel y bu agos iawn iddynt ei ddal, a damwain a roddodd gyfle cul iddo ddianc i'r coedwigoedd. Nid rhyw ddechreuad calonog ar ryfelgyrch oedd tro fel hwn; ond nid gwr i ddigaloni oherwydd un anffawd oedd Owen Glyndwr. Cynullodd fyddin gryfach nag o'r blaen, ac wedi i hono ei gyhoeddi yn Dywysog Cymru, ymdeithiasant tua Rhuthyn. Cyrhaeddasant ar yr 20fed o Fedi, a chynhelid ffair yno ar pryd; ymosodasant yn ebrwydd, gan gymeryd meddiant o'r eiddo, ac yn y diwedd llosgi y lle yn domen o ludw.

Èrbyn canol haf y äwyddyn 1400, wele O'wen a thua phedair mil o ddilynwyr, tan arfau, yn cynwj's y gwlad- garwyr mwyaf aiddgar, a'r sawl ag yr oedd ganddynt rhyw gam neiUduol i'w ddial ar y gelynion, ac edmygwyr a fiFyddloniaid personol y penaeth dewrgalon ei hun. Cym-' erasant feddiant o eiddo cyfagos ei arch-elyn, Eeginal'd de Grey. Dyna eu gweithred gyntaf, a'r duíl hwn a gymer- asant i gyhoeddi rhyfel. Mae yn ddiddadl fod y Saeson wedi cadw llygad gwyliadwrus ar eu parotoadau, ac yn hysbys o'u hoU ysgogiadau ; canys danfonodd y brenin yr arglwyddi Talbot a Grey, gyda byddin luosog, y rhai a ddisgynasant mor ddisymwth ar amddiöynfa ein harwr, fel y bu agos lawn iddynt ei ddal, a damwain a roddodd gyfle cul iddo ddianc i'r coedwigoedd. Nid rhyw ddechr- euad calonog ar ryfelgyrch oedd tro fel hwn ; ond nid gwr i ddigaloni oherwydd un anfí'awd oedd Owen Glyndwr. Cynullodd fyddin gryfach nag o'r blaen, acwedi ihonoei gyhoeddi yn Dyu-ijsog Cymru, ymdeithiasant tua Ehuthyn. Cyrhaeddasant ar p- 2Öfed o Fedi, a chynhelid ífair yno ar pryd ; ymosodasaut yn ebrwydd, gan gymeryd meddiant o'r eiddo, ac yn y diwedd Uosgi y lle yn domen o ludw. Yna efe a ymgiliodd i'w gaer cadarn gerllaw Corwen, o'r enw Caer Drewyn.

Pan ganfu Harri fod rhybudd prydlon Esgob Llanelwy yn debyg o gael ei wirio, efe a benderfynodd roddi ei droed breiniol ei hun ar fflam y gwrthryfel. Teithiodd i Gymru gyda phob brys, ymwthiodd mor bell â Llanfaes, yn Mon, lle yr oedd mynachdŷ enwog y pryd hwnw, a'i fynachod yn bleidwyr gwresog i achos Owen; ond yr oedd y fflam yn rhy gref, llosgwyd y troed breiniol wrth geisio diffodd yr oddaith; ac wedi rhoddi rhai o'r mynachod truain hyn i farwolaeth, a dwyn eraill ohonynt yn garcharorion, gorfu iddo ddychwelyd i'w wlad yn waglaw a siomedig. Ni chafodd gymaint ag unwaith y cyfleusdra o frwydr gydag Owen, gan ei fod ef yn rhy gall i anturio ei fyddin fechan yn erbyn 25,000 o wyr y brenin, cynefin â dwyn arfau. Creigiau anhygyrch Eryri a'i castellent; a thra byddai gwyr y brenin mewn llaid a thrallod yn croesi yr afon Gonwy, gallasai Owen sefyll yn eu golwg ar y Penmaenmawr, a rhoddi her i'w holl wrthwynebwyr.

Ar yr 8fed o Dachwedd, gwnaeth y brenin anrheg i'w frawd John, iarll Somerset, o holl etifeddiaethau Glyndwr yn Ngogledd a Deheudir Cymru; ond ni buasai waeth. iddo mo'r llawer ei anrhegu â'r blaned Sadwrn, gan fod dylanwad eu meddianydd mor fawr y pryd hwnw, fel mai efe mewn gwirionedd oedd brenin Cymru — "Rhoi'r croen cyn dal y llew." Gwelodd y brenin nad oedd bygythion a moddion gorfod yn debyg o genedlu heddwch; ac o ganlyniad, cynygiodd delerau heddychol, sef maddeuant cyflawn i'r sawl a dalent warogaeth i'w fab, yn Ngaerlleon Gawr. Y Cymry a'i hatebasant, nad oedd heddwch gyda thrais; a'u bod wedi tynu eu cleddyfau, ac wedi colli eu gweiniau.

Felly y terfynodd y flwyddyn gyntaf yn hanes nodedig y rhyfelawd gwydn hwn.


1401

Ni ddigwyddodd dim pwysig yn ystod haner cyntaf y flwyddyn hon. Yr oedd Owen, er yn ddystaw, yn prysur gasglu nerth; tra yr oedd doethineb yn peri i'r brenin ei adael yn llonydd, gan fod ganddo ef lawer o bynciau eraill trymion yn hawlio ei sylw. Yr oedd ei sefyllfa annghyfeillgar gyda brenin Ffrainc, ei deitlau egwain i'r orsedd, a'r ffaith fod llawer yn ymgilio oddiwrtho, tan edifeirwch oherwydd iddynt droi eu cefnau ar y brenin diweddaf, yn bynciau a wasgent yn drwm ar ei feddwl; ac er mwyn bod yn gyfleus ar gyfer unrhyw anhap, arosodd am fisoedd yn Worcester — yn nghanol ei deyrnas. Ei unig weithred tuag at Gymru oedd caniatau pardwn i bawb a'i ceisent, oddieithr Gwilym a Rhys ab Tudur, a'r sawl oeddynt eisoes yn ngharchar.

Yr haf hwn, Owen a ymdeithiodd tua'r Deheudir, ac a wersyllodd, gyda chwech ugain o'i wyr, ar fynydd Pumlumon — man cyfleus iddo i dderbyn adgyfnerthion o bob cŵr i'r dywysogaeth. O gadarnfeydd y mynydd hwn, ei wyr a ddisgynent i'r gwastad-diroedd cylchynol, gan ladd ac anrheithio y sawl nad arddelent hawliau eu penaeth. Dyoddefodd Sir Drefaldwyn yn dost; gan fod llawer o'i gwyr mawr naill ai yn Saeson, neu a'u gogwydd tuag atynt Dinystriodd brif-dref y sir, ac anrheithiodd y Trallwm a'r Cyffiniau; distrywiodd Fynachlog y Cwmhir, yn sir Faesyfed. Cymerodd gastell Maesyfed, a pharodd i'w wyr ddienyddio triugain o'r ceidwaid yn muarth y Castell. Y mae y creulonderau hyn yn aros heb un rheswm wrth eu cefnau, ond dialedd at bobpeth ag arno eiliw Seisnig. Brychau ar gymeriad pob symudiad ydyw creulondeb; y mae yn hacru y cymeriad dysglaeria; ond cyn y beier Owen, cofier fod hol ryfeloedd y 19eg ganril', hyd yn nod, yn dryfrith o greulonderau cyffelyb.

Yn Rhos Penfro ac Aberteifi. yr oedd nifer o Ffleminiaid, hynafiaid pa rai a ddaethant trosodd i'r Ynys hon oherwydd i'r môr orlifo eu gwlad, a chawsant ganiatad brenin Lloegr i wladychu yn y rhannau hyny o Ddeheubarth Cymru. Yn rhwymyn y gymwynas hono, yr oeddynt yn elyniaethus iawn tuag at Glyndwr, ac yntau atynt hwythau; canys y mae gelyniaeth yn cenedlu gelyniaeth, fel y mae cariad yn cynyrchu cariad. Diau fod ei wyr yn gwneud ymosodiadau mynych arnynt o Pumlumon, gan eu cospi yn dost — mor dost fel y daethant i'r penderfyniad o ddial eu cam, a chael llwyr waredigaeth oddiwrtho. Cynullasant fyddin o fil o wyr traed, a chwe' chant o wyr meirch, a daethant ar warthaf Owen a'i wyr mor ddystaw a disymwth, nes eu hamgylchynu cyn iddynt gael rybudd o fath yn y byd. Nid oedd yn bosibl iddo encilio heb golli pob bywyd tan ei ofal; ac os arosai yn llonydd, nid oedd modd iddynt gael ymborth, a marw o newyn fyddai eu rhan. Penderfynodd dori trwy rengau'r gelyn, neu drengu yn yr ymgais. Yna anerchodd ei filwyr:— " Fy milwyr, y mae ein gelynion o'n cylch, eu trugaredd dyneraf tuag atom fydd ein lladd; ond os marw raid, bydded ini farw fel milwyr, a'n harfau yn ein dwylaw, Gan hyny, atynt, fy mechgyn i, ac nac arbedwch un einaid ohonynt." Enynodd y geiriau. hyn deimladau y dynion; rhuthrasant ar eu gelynion; parhaodd brwydr galed am ddwy awr, pryd y dechreuodd y Ffleminiaid Iwfrhau, ymollwng, a ffoi; erlidiwyd hwynt, a chawsant gurfa enbyd. Cymerodd hyn le ar fynydd Hyddgant; a darfu i'r Ffleminiaid golli rhwng pump a chwe' chant o wyr. Chwanegodd y fuddugoliaeth hon lawer at enwogrwydd Glyndwr fel rhyfelwr; lluoedd lawer a ymgasglent tan ei faner, nes ei wneud yn elyn mwy peryglus nag erioed.

Pan glybu y brenin am hyn, yn nechreu Mehefin efe a ddaeth i Gymru gyda byddin gref o haner can' mil o wyr. Dinystriasant fynachlog Ystrad fflur; yspeilient y wlad o'i golud ffordd y cerddent; ac yn eu cynddaredd, llosgent y cnydau ar y meusydd er mwyn tlodi y genedl i'r graddau eithaf. Ond gorfu ar Harri yn fuan encilio mewn gwarth i'w wlad, wedi colli nifer mawr o'i ddynion trwy newyn ac ymosodiadau bychain a pharhaus ein cydwladwr. Cyfarfyddodd a chwe' mil ohonynt ar lan yr Hafren un diwrnod oer, dryghinog, ac er nad oedd rhifedi ei wyr ef ond dwy fil, eto gan ladd llawer a boddi eraill ohonynt, cafodd Owen Iwyr fuddugoliaeth arnynt.

Pa fodd bynag, tybir ddarfod i'r brenin gyrhaedd un dyben pwysig yn y rhyfelgyrch hwn, sef llwgrwobrwyo tua deg ar hugain o foneddigion pleidiol i'r gwrthryfel, y penaf o ba rai oedd Gwilym ab Tudur. Wrth reswm, yr oedd colli cynifer o wyr dylanwadol yn golled fawr; ond rywfodd yr oedd cyfeillion purach yn codi yn eu lle; ac ac Owen mor llwyddiauns, nes y penderfynodd y brenin ddyfod y drydedd waith yn ei erbyn. Cychwynodd y rhyfelgyrch hwn o Worcester, y dydd cyntaf o Hydref— adeg dra anfanteisiol ar y flwyddyn i allu ymosodol dalu ymweliad â Chymru. Dywed Carte, yr unig hen hanesydd sydd yn crybwyll am dynged y rhyfelawd hwn, ei fod yn llawn mor anffodus ag uno'r rhai blaenorol. Dychwelodd y brenin erbyn gwyliau'r Nadolig. Felly terfynodd ail fwyddyn y gwrthryfel.


1402.

Dichon mai hon ydyw y flwyddyn fwyaf doreithiog o ddigwyddiadau pwysig o holl flynyddoedd y rhyfel. Ar ei dechreuad, ymddangosodd comed fawreddog, a'r brudwyr a'r beirdd Cymreig a ganfyddent ynddi ragarwyddion rhyfedd. Y mae cywydd iddi yn ngwaith Iolo Goch, yn mha un cymherir ei hysplandei i'r seren ymddangoses pan anwyd Gwaredwr y byd; ac i'r wib-seren yn amser Uthr Pendragon, pan anwyd Arthur; y tair yn dynodi personau a digwyddiadau pwysig a mawreddog. Dywed y bardd mai "draig [baner-arwydd yr hen Gymry] oedd i Owen;" ac, yn ol ei ddymuniad ei hun, prophwyda: — •

Uchel y mae uwchlaw Môn
Yn ngolwg yr angylion.
Y naill a gawn, gwiwddawn gwyr,
Ai Pab ai brenin pybyr:
Brenin hael am win a mêdd,
Dewr a gawn o dir Gwynedd.
Duw a ddug, fo'n diddigia,
Gwynedd i gael diwedd da."

Bu y gomed a'i hesbonwyr yn dra gwasanaethgar i achos yn mysg cenedl mor hygoelus ag oeddynt y Cymry y pryd hwnw; ac yn wir, am hir amser gallesid tybied fod pob darogan i gael ei wirio. Grey, yn ei fost wag, a roddodd ei fryd ar fod yn offeryn i'w waredu ei hunan a'r Saeson rhag eu gelyn trafferthus o Lyndyfrdwy. Casglodd fyddin o 15,000 o wyr; cyfarfyddodd Glyndwr ef ar lan yr afon Fyrnwy, yn sir Drefaldwyn, gyda 6,000 o wyr traed, a 3,000 o wyr meirch. Bu yno frwydr galed; ond gorfu ar Grey a'i fyddin ffoi, a gadael 2,000 o laddedigion ar y maes. Ffôdd i'w gastell ei hun yn Rhuthyn, ac ymlidiodd' Owen ef gyda chant o wyr hyd i'r gymydogaeth hono. Ac er mwyn tynu sylw Grey at eu nifer bychan, a'i abwydo i'w cynllwyn, dechreuasant ddinystrio meddianau ei gymydogion; llwyddodd y ddyfais; rhuthrodd Reginalld yn rhy fyrbwyll i' w plith, a syrthiodd i'r fagl. Dygwyd ef yn garcharor i ryw gadarnfa anhygyrch yn Eryri, lle y bu am, hir amser, a gorfu i'r brenin yn y diwedd dalu y swm mawr (y pryd hwnw) o P.6,666 13s. 4c., am ei ryddhâd.

Wedi i Grey ad-feddianu ei gyfoeth a'i freintiau, efe a briodes Jane, merch i Glyndwr. Dywed rhai fod y briodas hon yn erthygl yn nghytundeb ei ryddhâd; ac eraill, fod gan Grey ddyben gwladol i'w enill trwyddi, sef ei ddyogelwch parhaol ei hun a'i bobl rhag Ymosodiadau y penaeth Cymreig. Ond y mae yn hawddach credu mai gweinyddu balm cydymdeimlad i'r carcharor Grey yn oriau digysur ei gaethiwed a ddarfu i'r foueddiges Jane Fychan, ac i hyny greu cariad rhyngddynt, ac i'r cariad ddiweddu mewn priodas; a dichon fod rhyw serch-chwedl ddyddorol iawn yn nglyn a'r garwriaeth hon.

Wedi i'n harwr ddyogelu y gelyn hwn, efe a roddodd y ffrwyn ar wâr ei ddialedd tuag at amryw eraill o'i elynion. Yr oedd Castell Caemarfon y pryd hwnw tan ofal Ieuan ab Meredydd o Gefn y Fan, a Hwlkin Llwyd o Lynllifon, dau elyn calon i Glyndwr; ac wedi iddo losgi eu palasau, efe a warchaeodd arnynt yn y Castell. Bu Ieuan farw tua'r amser yma, ac mor ddyfal oedd y gwarchae, fel y gorfodwyd iddynt ddwyn y corph i Benmorfa i'w gladdu mewn ysgraff hyd y dwr.

Tua'r amser yma hefyd y tywalltodd Owen ei lid ar y gwyr eglwysig a ogwyddent at y Saeson. Dinystriodd fynachiogydd Bangor a Llanelwy; Risiart Tounge oedd esgob y lle blaenaf, a Trevor yr olaf. Rhyw geiliog gwynt gwleidyddol oedd Trevor — pluen boliticaidd yn cael ei chwythu gyda'r gwynt. Fel y gellir casglu oddiwrth ei rhybudd yn y Senedd, yr oedd yn ochri at Owen pan ddechreuodd y rhyfel; ond yn fuan cawn ef wedi ymwerthu i wasanaeth y traws feddianwr Harri, yn bleidiwr gwresog iddo, ac yn genhadwr neillduol trosto i lys Spain. Yn mhen dwy flynedd ymunodd drachefn gyda symudiad Owen; gwasanaethai mewn arfau tano yn y flwyddyn 1409, ac er syndod pawb a'i hadwaenai, glynodd wrtho hyd oni ddirywiodd achos Owen, pryd yr enciliodd efe i Ffrainc, lle y bu farw, a dodwyd ei esgyrn lluddedig i orphwys yn mynachlog St. Victoire, Paris.

Yr oedd Harri fel pe buasai yn caru yn Nghymru — yn mynd i weled ei gariad unwaith bob haf; ac mor sicr a'i fyned, yn gorfod dychwelyd yn siomedig, mewn gwarth ac aflwyddiant. Danfonodd wys at siryddion 34 o siroedd Lloegr, yn gorchymyn iddynt gynull gwyr i'w gyfarfod ef yn Lichfield, ar y 7fed o Orphenaf; ond cyn iddo gael y byddin hon yn nghyd, daeth newydd drwg o Gymru fod Owen wedi curo Syr Edmund Mortimer mewn brwydr fawr. Oherwydd hyn gohiriwyd y rhyfelawd hwn.

Boneddwr cyfoethog yn sir Hereford oedd Mortimer, ac ewythr a gwarcheidwad i'r iarll ieuanc March. Bachgen deg oed oedd March y pryd hyn, a chadwai y brenin ef tan wyliadwriaeth ddyal, rhag ofn i'r bobl roddi eu bryd arno a'i wneud yn frenin, gan ei fod yn hanu o Dug Clarence, mab Edward III., a chanddo gryfach hawlia i 'r orsedd nag oedd gan Harri ei hun. Anhawdd ydyw dirnad pa beth a achosodd yr elyniaeth rhwng Mortimer ac Owen. Yr oedd Harri yn elyn i'r ddau, a'u haflwyddiant hwy yn rhwym o fod yn llwyddiant iddo ef; pa fodd bynag, dyna fel y bu. Cymerodd brwydr galed le rhyngddynt ar fynydd y Brynglas, yn sir Faesyfed, ar yr 22ain o Fehefin. Ymddygodd Mortimer yn hynod o ddewr yn mhoethder y frwydr; rhuthrodd ar ei farch yn mlaen trwy rengau y Cymru, gan ymosod ar Glyndwr ei hun. Bu gornest galed law-law, gledd-yn-nghledd, rhwng y ddau, hydoni tharawodd Owen ef yn ei helm nes ydoedd yn haner marw; yna llusgodd ef oddiar ei farch, a chymerwyd ef yn garcharor. Syrthiodd 1,100 o wyr Mortimer; a ffodd y gweddill. Dywed Holinshed fod y merched Cymreig wedi ymddwyn tuag at laddedigion y frwydr hon mewn dull cywilyddus ac anwar — " fod eu hysgelerder gwarthus y fath na fynai clustiau llednais ei glywed, na thafod gwylaidd ei draethu; nid ellid claddu y cyrph heb dalu arian mawr am ryddid i'w dwyn ymaith." Ond dywed Ricardi, Sais eto, mai Rhys Gyrch, un o ganlynwyr Owen, a gyflawnodd yr anfadwaith. Pa fodd bynag, y mae rhyw wir yn y chwedl; a chan nad pwy oeddynt euog, y menywod Cymreig gafodd y bai; a'r Saeson a wnaethant gyfraith nad oedd i Sais briodi Cymraes, dan boen o golli ei feddianau a'i freintiau gwladol. Deisyfodd amryw bendefigion ar y brenin bwrcasu rhyddid Mortimer; ond yr oedd Harri eiddigus yn llawenhau yn anffodion y Mortimers; ac yn haeru mai trwy ei weithredoedd annheungar ei hun y syrthiodd Syr Edmund i grafangau'r penaeth Cymreig.

Dygodd y buddugoliaeth hon adgyfnerthion i Glyndwr o bob parth o'r Dywysogaeth; a pharodd hyny i'r brenin dyngi llw newydd y mynai lethu ei elynion yn Nghymru. Gwysiodd ei luoedd i'w gyfarfod drachefn yn Lichfield, ar y 27ain o Awst, a rhanodd y lluoedd hyny yn dair adran. Y gyntaf, tan lywyddiaeth y brenin ei hun, i gychwyn o'r Amwythig; yr ail, tan yr larllau Stanhope a Ŵarwick, o Hereford; y trydydd, tan Harri, mab y brenin, o Gaerlleon ar Ddyfrdwy; a gallu y tri llu hyn oedd i ddybenu y rhyfel, ac i wneud y Cymry yn deyrngarol. Y mae bron holl fanylion yr ymosodiad hwn wedi llithro i ebargofiant; nid oes ar gael ond y ffaith mai aflwyddiant truenus oedd; y pedwerydd ymosodiad fel y lleill. Nid oedd rhyfelgyrch' anffortunus Napoleon i Rwsia nemawr mwy aflwyddianus na'r rhyfelawd hwn. Yr oedd Owen yn faeslywydd rhy gall i anturio ei fyddin fechan yn erbyn 70.000 lluoedd y brenin; o ganlyniad, enciliodd i'r mynyddoedd, gan yru o'i flaen yr holl ychain a'r defaid a phob defnydd porthiant. Heblaw hyn, yr oedd yr hin yn ystormus ddychrynllyd, a'r elfenau fel pe buasent meŵn cyngrair gydâ Glyndwr. Wrth wylio a cheisio gelyn cyfrwys, dialgar, a sydyn ei ysgogiadau, yn y curwlaw a'r cenllysg didrugaredd, darfu i ludded, newyn, ac afiechyd, deneuo'n fuan rengau byddin fostfawr y Saeson. Bu cenllys yn fwy effeithiol lawer gwaith na thân-belenau yr anelwyr cywiraf. Ac er mwyn celu gwaradwydd yr aflwyddiant hwn, y Saeson a briodolent eu hanffawd i fedrusrwydd Glyndwr mewn swyngyfaredd; "yr hwn," ebai Holinshed, "trwy ddewiniaeth a barodd i'r fath wyntoedd, tymhestloedd, gwlaw, eira, a chesair, boeni byddin y brenin, na chlybuwyd erioed am eu bath."Dichon ei fod, er mwyn brawychu ei gaseion ac ymddyrchafu yn nhyb ei gydwladwyr, yn honi gallu Swyngyfareddol — yn marchog ar ofergoeledd ei oes.

Pan oedd Harri yn llawn tristwch oherwydd ei anffodion yn Nghymru, cafodd y newydd calonogol o'r Gogledd fod larll Northumberland wedi gorchfygu byddin fawr y Scotiaid, a llawer o'r swyddogion Scotaidd wedi eu lladd, eraill wedi eu cymeryd yn garcharorion, yn mysg yr olaf o ba rai yr oedd larll Douglas, ei llywydd enwog. Esgorodd y frwydr hon ar ganlyniadau pywysig, yn enwedig i deulu y .Percies (Northumberland). Yn yr amseroed hyny, eiddo y buddugoliaethwr oeddynt ei garcharorion rhyfel, a phwy ;bynag fyddai yn ddigon ffodus i gymeryd carcharor, ar ei law ef yr oedd ei ryddhau, a'i eiddo ef oeddynt yr arian a delid am ei ryddhad. Ar draws yr hen ddefod hon, danfonodd Harri yn gwahardd i Northumberland roddi y ; carcharorion i fyny, eithr eu trosglwyddo i' w gadwedigaeth , ef ac er mwyn llyfnhau ychydig ar erwinder yr hawliad hwn, y brenin a ganiataodd llawer o diroedd ar gyffiniau Scotland i'r iarll. Ond nid oedd yr abwyd hwn yn ddigon gan y Percies, gollyngasant y Scotiaid yn rhydd, a thrwy hyny enillasant gydymdeimlad a chefnogaeth Douglas a'i gydwladwyr o'u tu. Yr oeddynt wedi tori gorchymyn y brenin, ac oherwydd hyny yn wrthryfelwyr yn erbyn ei awdurdod; o ganlyniad, nid oedd ganddynt ond dysgwyl cosp, a pharotoi ar ei gyfer.

Erbyn hyn yr oedd ysprydoedd gwrthryfelgar gwahanol barthau y deyrnas yn tueddu at ymgasglu yn nghyd; a thrwy uno eu byddinoedd, yn bygwth gwneud gelynion cedyrn iawn i Harri. Yr oedd Northumberland eisoes mewn cyngrair gyda'r Scotiaid; ac ymddygai Glyndwr yn y dull mwyaf hynaws tuag at ei garcharor Syr Edmund Mortimer, gan adgoffa iddo hawliau ei deulu i orsedd Lloegr. Yr oedd pob gelyn i Harri yn gyfaill i Owen. Rhyddhawyd Mortimer; ffurfiwyd cyngrair rhyngddo ef. y Percies, a'r penaeth Cymreig; ac yn y cyngrair hwi w penderfynent adael rhwng y Percies a'r Scotiaid am wlad yr olaf, a rhanu y gweddill o'r Ynys cyd-rhyngddynt. Tynwyd y cynllun hwn allan yn nhŷ Dafydd Daron, deon Bangor; yma y bu'r "baedd, y blaidd, a'r llew," chwedl dehonglwyr prophwydoliaeth Myrddin, yn rhanu yr ysglyfaeth cyn ei ddal. Syr E. Mortimer, ar ran ei nai, a gymerai yr holl wlad o du'r dehau i'r Trent, ac o du'r dwyrain i'r Hafren; y Percies oeddynt i gael yr holl wlad o du'r gogledd i'r Trent; a Glyndwr yr holl wlad o du'i gorllewn i'r Hafren (yr hyn a gynwysai Cymru oll).

Yr oedd Owen yn awr yn anterth ei rwysg a'i ogoniant Gwysiodd holl bendefigion Cymru i'w gyfarfod yn Machynlleth; yno cydnabyddwyd ef yn Dywysog Cymru, a dodwyd coron ar ei ben; a dywedir fod cynrychiolwyr i frenhinoedd Ffrainc a Spain yn bresenol ac yn cymeryd rhan yn y ddefod. Y mae yn aros yn y dref hono adeilad hen, musgrell, a diaddurn, a elwir "Senedd-dŷ Owen Glyndwr," ag y byddai bron yn sarhad ar ysguboriau ereill ei alw wrth yr enw "ysgubor;" ond am y goron, llithrodd hono ar encil i dir angof, ac ni chlybuwyd mwyach air o son am dani. Druan o Gymru! dyma y goron ddiweddaf allodd hi fforddio roddi ar ben yr un o'i harwyr.

Yn y gynadledd a gymerodd le ar ol y coroniad bu agos i Owen golli ei fywyd. Yn mhlith y rhai a ddaethant i dalu gwarogaeth iddo yr oedd boneddwr o sir Frycheiniog, a elwid Dafydd Gam, am fod ei lygaid yn groesion. Y gwr hwn, er ei fod yn briod gyda chwaer Owen. a ddygai y fath gasineb tuag ato fel yr ymddangosodd yn Machynlleth gyda'r bwriad bradwrus o'i lofruddio. Dywed Carte mai Harri oedd wedi anog Gam i wneud hyn; ond ni rydd un prawf. Dywed Pennant, fod Gam yn offeryn cymhwys i gyflawni gweithred o'r fath; ei fod yn ddewr a beiddgar ryfygus, fel y profodd ei hunan yn mrwydr Agincourt, Ffrainc. Wedi ei ddanfon i archwilio rhifedi y gelyn cyn dechreu y frwydr hono, dychwelodd gyda'r hysbysiad, "fod digon o honynt i'w lladd, digon i'w gwneud yn garcharorion, a digon i ddianc ymaith!" Pafodd bynag, er i'r Saeson enill y fuddugoliaeth ogoneddusaf ar lechres eu hanesyddiaeth ar y Ffrancod yn Agincourt, er hyny Gam, Roger Fychan ei fab-yn-nghyfraith, a'i berthynas Gwalter Llwyd, a gollasant eu bywydau eu hunain wrth achub bywyd eu brenin, Harri o Fynwy. Prysurodd y brenin i'r fan yr oeddynt yn marw yn eu gwaed, a chymaint o daledigaeth ag a allai brenin weinyddu iddynt yn eu sefyllfa bruddaidd a dderbyniasant-— gwnaeth hwynt yn Farchogion.

Ond i ddychwelyd at linyn yr hanes, daeth brâd Gam yn hysbys, cymerwyd gafael arno, a charcharwyd ef am ddeng mlynedd, sef hyd y flwyddyn 1412; ac oni bai gwrthwynebiad Owen i dywallt gwaed y diwrnod llawen hwnw, diau na buasai einioes Gam o nemawr werth. Yna Glyndwr a anrheithiodd ei etifeddiaeth, ac a ddialodd gamwedd yr arglwydd ar y deiliaid, trwy ddinystrio eu meddiannau, a llosgi eu haneddau. yna yr- oedd y Gryrnigwen, palas Gam, yn fflamio ac yn mygu, galwodd Owen un o'r gweision ato ac adroddodd wrtho y lliuellau cellweirus a ganlyn: —

O gweli di wr coch, Cam,
Yn ymofyn y Gyrnigwen,
Dywed ei bod hi tan y lam,
A nod y glo ar ei phen.


1403.

yr oedd pob plaid yn gwneud parotoadau mawrion yn nechreu y flwyddyn hon. Hotspur (yr enw a roddid ar Henry Percy, mab rhyfelgar ac enwog larll Northumberland), gan adael ei dad yn glaf yn Berwick, a ymdeithiodd o'r gogledd hyd i sir Gaerlleon, ac yno llawer o bleidwyr y diweddar frenin a ymunasant ag ef. Anfonodd at Owen yn deisyf arno yntau ei gyfarfod, ond ein cydwladwr gwyliadwrus a nacaodd; eithr er hyny llawer o Gymry ddaethant tan faner Hotspur. Ei faner-arwydd oedd yr un a baner-arwydd y diweddar frenin sef llun carw. YnLichfield cyhoeddodd ei resymau tros gymeryd arfau yn erbyn y brenin. Oddi yno ymdeithiodd tuag Amwythig, gan fod ei fyddin ef yn rhy wan i gymeryd y maes ei hunan yn erbyn lluoedd lluosocach ddwywaith ei fawrhydi, a chan ddysgwyl dyfodiad Glyndwr. Ymddengys fod rhyw annealltwriaeth rhwng y Cyngreiriaid, neu ynte fod Owen yn tori y cyfamod, a thrwy hyny yn twyllo ei gyfaill. Ond Pennant a amddiffyna ein harwr rhag y cyhuddiad hwn trwy ddywedyd ei fod yn y cyfamser yn prysur gasglu, drilio, a pharotoi ei wyr; ac o ganlyniad yn anaddfed i gymeryd rhan mewn brwydr apwyntiedig ac ymosodol.

Yr oedd y brenin yn canfod fod peryglon enbyd yn ei amgylchynu, a dechreuai drefnu cynlluniau er dyogelu ei goron. Yn mis Mawrth, apwyntiodd ei fab, Harri o Fynwy, yn rhaglaw ar Gymru oll, er nad oedd hwnw ond bachgen ieuanc pumtheg oed. Danfonodd wys hefyd at sirydd sir Caerloyw, yn erchi iddo amddiffyn Cyffiniau Cymreig y sir hono gyda phob moddion cyrhaeddadwy. Yna teithiodd ar ffrwst mawr tua Burton ar Trent, gan ddysgwyl cyfarfod gyda Hotspur a'i fyddin. Deallodd yno eu bod wedi myned tua'r Amwythig; a gwelodd mai ei amcan yn y symudiad hwn oedd uno ei fyddin gyda'r eiddo Owen a Mortimer. Ei fantais ef oedd atal i'r uniad gymeryd lle; prysurodd tua'r Amwythig, a cyrhaeddodd yno ychydig oriau o flaen Hotspur, a thrwy hyny arbedodd ei goron. Yn y cyfamser, yr oedd Grlyndwr wedi arwain ei wyr hyd at Groesoswallt, ac wedi danfon dosran o 4,000 honynt, tan lywyddiaeth ei frawd-yn-nghyfraith, Syr Jenkyn Hanmer, at wasanaeth Hotspur. Y gwyr hyn a ymladdasant yn anrhydeddus, a lladdwyd eu llywydd yn mhoethder yr ymladdfa. Amcanodd Hotspur groesi y caerau, a gorchfygu y brenin o'u mewn; ond yn gweled hyny yn anmhosibl, enciliodd dair milldir oddiwrth y dref, a gwersyllodd mewn man a elwir oddiar hyny, Battle- field. Ei fwriad, mae yn ddiddadl, yn y symudiad hwn, ydoedd ysgoi brwydr hyd oni chyrhaeddai adgyfnerthion ei gyngreiriaid.

Dyna sefyllfa y pleidiau pan guddiodd yr haul ei wyneb arnynt ar yr 2ilfed o Fehefin. Bore dranoeth, Harri yn awyddus am frwydr, a ymosododd ar Hotspur yn ei wersyll, ac yr oedd y Gogleddwr enwog yn ddigon dewr i sefyll ei dir y tro hwn, er fod corpholaeth byddinoedd ei ddau gyfaill heb ei gyrhaedd. Dechreues y frwydr trwy i fwawyr Hotspur daflu cawod o saethau i rengau eu hymosodwyr, y rhai a wnaethant ddinystr mawr, a bwawyr y brenin a atebasant mewn dull effeithiol; a dechreuodd y ddwyblaid ymladd o ddifrif. Amcan Hotspur, a'i gyfaill Ysgotaidd Douglas, ydoedd lladd y brenin; a chan ddibrisio eu bywydau eu hunain, rhuthrent trwy ei fyddin, a chyrhaeddent i'r fan y safai. Lladdwyd tri o geffylau o tan ei fawrhydi, a chyfarfuasai yntau â'r un dynged oni buasai am ofal ei wyr trosto; lladdwyd ei fanerwr (standard-bearer), cymerwyd ei faner, a dodwyd hi tan ofal gwarchlu o wrthryfelwyr, a chafodd Hotspur gynifer o fanteision yn nechreu y dydd, nes y dechreuid pryderu mai ef a gariai y dydd. Yr oedd cwymp y faner yn tueddu y gwrthryfelwyr i gredu fod y brenin ei huan wedi syrthio, a'r dyb hono yn eu cynhyrfu i ymladd gydag yni adnewyddol, ac i oraian gwaeddi, Harri Percy frenin! Harri Percy frenin!" Yn y cyfwng hwn, tra yr oedd Percy yn gwibio trwy y fyddin freiniol ar ymchwil am y brenin, efe a syrthiodd yn ddisymwth wrtho'i hun yn nghanol ei elynion, ac ni wyddis hyd y dydd hwn pwy a achlysurodd ei farwolaeth. Mor fuan ag y clybu y breniu am y digwyddiad, efe a gasglodd ei nerth lluddedig yn nghyd, a gwaeddodd mewn llais crug egniol, "Harry Percy yn farw!" tra yr oedd y blaid arall yn ei brwdfrydedd yn parhau i waeddi, Harri Percy frenin. Ond pan ddeallodd y gwrthryfelwyr mai gwir ddarfod i'w penaeth syrthio, llwfrhaodd eu hyspryd, a therfynodd y frwydr bron yn uniongyrchol mewn buddugoliaeth Iwyr, fawr, i'r brenin.

Yn y cyfamser yr oedd Glyndwr wedi ymdeithio o fewn milldir i Battlefield, a dim ond yr afon Hafren, yn yr hon yr oedd llifeiriant mawr ar y pryd, yn ei luddias i gymeryd rhau yn ngwaith y dydd. Dangosir derwen yn yr ardal hono, yn mrigau yr hon, meddai traddodiad, y treuliodd efe ran fawr o'r dydd yn gwylio ysgogiadau y pleidiau. Beïir ef yn dost, gan yr haneswyr Cymreig, am esgeuluso cymeryd mantais o bontydd yr Amwythig i groesi yr afon; tra y cyfiawnheir ef gan eraill trwy ddweyd fod y pontydd hyny yn cael eu gwarchod yn ddyfal gan wyr y brenin, a bod gallu bychan yn abl i gadw pont yn erbyn gallu deg gwaith eu rhifedi. Pa fodd bynag, nid ymddengys i ni fod gan Owen nemawr o hyder yn Hotspur trwy yr holl ymdrafod, a dichon fod ei farn yn gywir yn hyn, gan mai gwr uchelfrydig a balch oedd Hotspur, er yn rhyfelwr dewr a medrus. Ond rhaid ini gyfaddef annghywirdeb egwygddor ein harwr yn yr amgylchiad hwn. Paham yr aeth i gyfamod o gwbl ag ef — paham yr hudodd ef o'i wlad ar y telerau o'i gynorthwyo? — paham y safodd draw oddiwrtho yn awr ei berygl? Nid oedd Glyndwr ond meidrol; ac yr oedd ei gasiueb at y Saeson y fath fel nad ystynai y cytundeb mwyaf pendant ag un ohonynt yn rhwymedig.

Ar ol y fuddugoliaeth hon, y brenin a ymdeithiodd tua'r Gogledd, lle y gwnaeth efe heddwch gyda larli Northum- berland, tad yr anffodus Hotspur. Yua dychwelodd at Gyffi ni au Cymru ar y bwriad o gosbi Owen a'i ddilynwyr, ond gorfodwyd ef i ymatal oherwydd prinder ariau a lluniaeth i'w filwyr. Arfaethodd gyflenwi yr angen cyutaf trwy drawsfeddianu eiddo eglwysig; ond lluddiwyd ef ya hyn hefyd gan Archesgob Cauterbury, yr hwn a'i rhy- buddiodd nad oedd i gyíîwrdd â'r cyfryw eiddo, a thrwy hyny cafodd Owen lonyddwch.

Dyna sefyllfa y pleidiau pan y torodd arnynt wawr y flwyddyn

1404.

Yn holl ryfeloedd y Cymry yn erbyn y Saeson, caent gydymdeimlad, ac weithiau gynorthwy Ffrainc, oherwydd mae yn debyg fod llawer ohonynt yn hanu o'r un cyff genedl; ond yn benaf, am eu bod yn cydgasau y Saeson. Y flwyddyn hon gwnaed cyngrair rhwng Owen â Ffrainc; er fod yr olaf, oherwydd prinder arian, wedi arwyddo truce gyda Harri i barhau am ddeng mlynedd ar hugain, eto nid oeddynt erioed wedi cydnabod ei hawliau i goron Lloegr. Y mae yn ddiddadl fod dealltwriaeth rhwng y brenin Ffrengig Charles, â'r Cyngreiriaid, yn ystod y flwyddyn ddiweddaf — fod y Ffrancod i ymosod ar ororau deheuol Lloegr, tra y byddent hwythau yn tynu sylw y brenin at y parthau gogleddol; canys yn ystod yr holl amser hwn yr oedd llynges Ffrainc yn gwibforio y glanau tan gochl gwahanol esgusodion, ac un tro tiriodd rhan o honi ar yr Ynys Wyth (Wight), a gwnaethant gryn lawer o ddifrod. Yr oedd y Saeson yn canfod y cyfeillgarwch elwgar hwn oedd yn bodoli rhwng y Cymry a'r Ffrancod, ac yn gwybod ei fod yn sylfaenedig ar eu gelyniaeth atynt hwy. a gwnaeth eu Senedd ddeddff nad oedd i Ffrancwr na Chymro wasanaethu o gwmpas person eu brenin.

Ond yn nghorph y flwyddyn hon, gwnaed cyngrair ffurfiol, ymosodol ac amddifîynol, rhwng y ddwy genedl. Anfonodd Owen ei ganghellydd, Gruff. Younge, archddeon Meirionydd, a Syr John Hanmer, yn llysgenhadwyr trosto i Paris. Arwyddodd eu papurau yn Nolgellau, ar y 10fed o Fai, yn mha rai yr ymgyfenwai yn "Dywysog Cymru." Cawsant dderbyniad croesawus; arwyddasant y cytundeb ar ran eu penaeth ar y 14eg o Fehefin, yn mhalas Canghellydd Ffrainc, tra yr oedd lluaws o brif ddynion eglwysig a gwladol y wlad hono yn bresenol, fel tystion; a Glyndwr a gadarnhaodd y cytundeb yn nghastell Llanbadarn, ar y 12fed o lonawr, 1406.

Dechreuodd Owen ryfelgyrch y flwyddyn hon gydag egni adnewyddol. Anrheithiodd diroedd ei elyniou, a chymerodd amryw gastellydd, yn mhlith pa rai yr oedd rhai Harlech ac Aberystwyth. Diarfogodd rai ohonynt, ac arfogodd eraill at ei wasanaeth ei hun. Yna trodd ei wyneb tua sir Drefaldwyn, a chyfarfu mintai Seisnig ag ef ar Fynydd Cwm Du. Ymosodasant arno, syrthiodd llawer o'i wyr, a gorfodwyd ef i encilio. Nid oes genym hanes iddo gael ei orchfygu cyn y tro hwn. Eithr yn fuan, efe a sychodd y gwarthrudd hwn ymaith; erlidiodd, goddiweddodd, a gorchfygodd hwynt, mewn lle a elwir Craig y Dorth, gerllaw Mynwy; ffoisant hwythau i gastell y dref hono. a da fod castell yn eu hymyl, onide ni ddiangasai ohonynt hysbysydd dynged y gweddill. Cadben y mintai Seisnig oedd larll Warwick, ac efe yn bersonol a gymerodd faner Owen yn mrwydr y Cwm Du. yr oedd iddo diroedd lawer yn sir Fynwy, ac ofn aurbeithiad y rhai hyny a barodd iddo gymeryd arfau yn erbyn ein cydwladwr.

Nid ymyrodd y brenin ag Owen o gwbl yn ystod y flwyddyn hon.

1405.

Ond er i Hotspur syrthio, parhaodd y cyngrair rhwng Owen a theulu Mortimer; a'r cyntaf yn rhestr digwyddiadau pwysig 1405 oedd cais rhamantus i ryddhau yr larll ieuauc March a'i frawd, neiodd Mortimer, o balas breiniol Windsor, gyda'r bwriad o'i wneud yn frenin. Yr oedd llawer un urddasol a phendefigaidd a chanddynt law yn yr ymgais. Bwriadent ei ddwyn i Gymru, a'i roddi tan nawdd Owen. Nid gwaith hawdd oedd cael yr Iarll ieuanc o'i garchar, gan fod gwarchlu yn ei wylio beunydd, a phob gofal trosto a allai trawsfeddianwr eiddigeddus ei ddyfeisio. Neillduwyd Constance, gweddw Arglwydd Spenser a chwaer Duc Yorc, i ddwyn eu rhyddhad oddiamgylch. Hi a geisiodd ffug-allweddau, a llwyddodd i ddwyn y ddau o'u carchar; ond pan yn prysuro gyda hwynt tua Chymru, goddiweddwyd hi, a dygwyd hi a'i hyspail yn ol. Y bendefiges a garcharwyd; a'r gôf anffodus a wnaeth yr allweddau a gyfarfyddodd â thynged greulon — torwyd ei ddwylaw ymaith ac yna torwyd ei ben.

Rhaid ini yn awr gymeryd ychydig seibiant, er mwyn edrych o'n cwmpas, rhag ymgolli ohonom yn nghanol rhuthr dibaid digwyddiadau pwysig bywyd ein harwr, fel teithiwr yn eistedd ganol dydd ar fin llwybr ei bererindod i adolygu ei hynt foreol. Ond pa bryd y mae canol dydd? Eywbryd rhwng sychiad y gwlith ac ymestyniad y cysgodau — ar ryw foment mor gyfrin fel mai prin y medr yr athronydd cywreiniaf ei nodi allan. Yr ydym yn canfod teyrn ein cyfundrefn yn y bore yn yfed y gwlith oddiar amrant y llysieuyn; ac yn yr hwyr, "yn marw yn ei waed," gan adael ei gyfoeth i oreuro godreu ei gyfeillion y cymylau, modd yr edrychont yn barchus yn ei angladd. Ond pa bryd y mae efe yn nghanol ei yrfa? Y mae yn lled anhawdd ateb; ac os anhawdd hysbysu canolddydd bywyd dyddiol rheolaidd yr haul, yna pa beth am ganol- ddyd bywyd rhamantus dyn! Nid oes genym ond dirnad; ac ŵrth edrych yn ol a blaen, yr ydym yn dyfod yn ymwybodol fod Owen yn nghanolddydd ei fywyd milwrol tua'r flwyddyn hon. Yr oedd haul ei Iwyddiant wedi cyrhaedd ei awr anterth, a chymylau boldduon a ddechreuent ymgasglu ar ddysgleirdeb ei ffurfafen.

Y mae ffawd yn awr yn dechreu gwgu arno. Ar yr 11eg o Fawrth, yr oedd gyda wyth mil o'i ddilynwyr yn Morganwg, ac yn llosgi ac yn anrheithio y wlad o'i amgylch, pryd yr ataliwyd ef yn ei alanasdra gan Syr Risiart Talbot,' yr hwn gyda dyrnaid o wyr a ymosododd arnynt, ac au gorfododd i ffoi yn annhrefnus a gadael agos i fil o'u nifer yn gelaneddau meirwon o'u holau. Dy wedir fod ymddygiad y Cymry yn yr ysgarmes hon yn hollol annheilwng o ddewrder eu cyndadau; ymollyngasant yn llwfr a diegni o flaen eu gelynion.

Gyda'r amcan o ddileu gwarth y gorchfygiad hwn, Owen a ddanfones un o'i feibion ar ol y Saeson, a chymerodd ymladdfa arall le ar y 15fed o'r un mis, ar Fynydd y Pwll Melyn, yn sir Frycheiniog; ond trodd hono drachefn yn' aflwyddiant, a phumtheg cant o'r Cymry naill ai a laddwyd neu a gymerwyd yn garcharorion. Yn mhlith yr olaf, yr oedd eu llywydd; ac yn mhlith y blaenaf yr oedd Tudur brawd Owen, yr hwn oedd mor debyg iddo yn ei bryd nes y taenwyd y chwedl mai efe ydoedd; ond wrth chwilio y corph, cafwyd ei fod yn ddiffygiol o'r ddafaden uwchben y llygad a hynodai Glyndwr.

Yr anffodion hyn a barasant i holl wyr Morganwg ymostwng i'r brenin, oddieithr ychydig gyfeillion selog i Owen, y rhai a ffoisant i Wynedd. Nid oedd ganddo yntau nac arian nac ysbryd i gadw ei wyr yn nghyd; o ganlyniad, gadawsant ef a dychwelasant i'w cartrefleoedd. Mewn byr amser, dirywiodd ei achos i'r fath raddau onid oedd Glyndwr gadarn, falch, gyfoethog, yn ddim amgen na ffoadur trallodus yn gwibio oddiwrth y naill gyfaill at y llall, gan ymlechu mewn manau dirgel ac anghyfanedd. Cadernid yn ffoadur! Cyfoeth yn ymddihynu ar gyfeillion! Balchder yn mynychu ogofeydd— palasau y wâdd a'r ystlumod — er mwyn cael man dyogel i roddi ei ben i lawr ar eu lloriau Ileithion! Y mae ogof yn min y môr yn mhlwyf Llangelynin, Meirion, a adwaenir y dydd hwu wrth yr enw "Ogof Owen," Ile y bu ef yn ymguddio am un yspaid o amser, ac y danfonid ymborth iddo gan foneddwr o'r enw Ednyfed ab Aaron. Yn y cyfwng hwn, y cyfansoddodd Iolo Goch ei "Gywydd i Owen Glyndwr wedi ei fyned ar ddifancoll," oddiwrth pa un y gellir casglu na wyddai hyd yn nod ei gyfeillion mwyaf mynwesol pa le yr oedd ei ymguddfan. Geilw y bardd doniol arno yn ol o Rufain, o'r Dwyrain, o dir Llychlyn, o Ffrainc, o'r Iwerddon, a gwledydd eraill; er y dichon mai dyfais i "daflu'r cwn oddiar Iwybr y pryf " oedd hyn oll. Terfynir y cywydd gyda'r deisyfiad: —

Deigr Cadwaladr Fendigaid,
Dyred a dwg dir dy daid;
Dyga ran dy garenydd,
Dwg ni o'n rhwym dygn yn rhydd.

Ond yr oedd o'r pwys mwyaf gan Ffrainc gadw y gwrthryfel Cymreig yn fyw, nid yn unig er mwyn cwblhau y cytundeb rhyngddynt âg Owen, ond hefyd er mwyn trallodi Harri, a thynu ei sylw oddiwrth eu darpariadau bygythiol hwy eu hunain. Danfonasant ddeuddeg mil o wyr dewisol mewn cant a deugain o longau, o Brest, tua diwedd Mehefin. Yr oedd gofal eu trawsgludiad ar Renaud de Trie, llyngesydd Ffrainc; a Hugueville oedd eu cadlywydd. Cawsent fordaith gysurus oni buasai am eu diofalwch yn darpar digon o ddwfr croyw, ac oherwydd hyny trengodd llawer o'u meirch. Dywedir fod y cadlywydd wedi gwerthu etifeddiaeth helaeth yn Agencourt er mwyn prynu gwisgoedd ac addurniadau costus, yr hyn a brawf frwdfrydedd rhai o'r Ffrancod beth bynag gyda'r rhyfelgyrch hwn. Wedi glanio yn Aberdaugleddyf, cychwynasant yn ddiymaros tua Chaerfyrddin, yr hwn le y pryd hwnw oedd yn meddiant y brenin; ac ar ol gwarchae am yspaid, gorfodwyd y gwarchlu i ymostwng. Ni ddarfu iddynt Ymosod ar Gastell Penfro, gan ei fod mor gadarn; gwarchaeasant Hwlffordd, eithr larll Arundel a'i hamddiffynai mor lew, fel y bu raid i Hugueville godi y gwarchae wedi colli llawer o'i wyr.

Yr oedd yn naturiol i'r Cymry, wrth weled cynorthwy a brwdfrydedd y Ffrancod ar eu rhan, adnewyddu eu nerth, i obaith ail ymgodi yn eu mynwesau, ac iddynt ymgodi eilwaith tan faner eu hen benaeth dewr Glyndwr. Cawn ein harwr eto ar y chwareufwrdd cyhoeddus, a chyda deng mil o wyr yn ymdeithio tua Dinbych y Pysgod (Tenby), lle y cyfarfyddodd y ddwy fyddin. Oddiyma, gan fyned yn unedig trwy Forganwg, teithiasant tua Worcester, gan losgi y Gororau ac anrheithio y wlad o'u hamgylch. Worcester y pryd hwnw oedd prif-ddinas y brenin yn ei randiroedd gorllewinol, ac oherwydd yr ymosodwyd arni chwaithach rhyw dref Seisnig arall. Gadawn hwynt yna, ac olrheiniwn hynt y brenin.

Yr oedd larll Northumberland eilwaith wedi codi mewn gwrthryfel, ac yn mhlith ei wyr yr oedd amryw Gymry a ffoisant ato am noddfa yn amser adfyd Owen. Y brenin yn dra buan a ostyngodd y gwrthryfel hwn, cymerodd feddiant ar gastellydd yr Iarll, a gorfododd ef i ffoi i Scotland, a chydag ef yr oeddynt esgobion Bangor a Llanelwy; llawer o'i ddilynwyr a ddienyddiwyd, ac yn eu plith un Syr John Gruffydd, marchog Cymreig. Yna gan ddychwelyd o'r Gogledd efe a ymdeithiodd i Gymru y pumed waith gyda 37,000 o wyr, a diamheu mai cyfarfod y Ffrancod ac nid y Cymry gwasgaredig oedd amcan y fyddin alluog hon. Eithr eto fyth, gorfodwyd y brenin i ddychwelyd, wedi cael curfa ddidrugaredd gan y gwynt a'r dryghin.

Erbyn hyn yr oedd y ddwyblaid yn deall eu gilydd, ac yn cil-lygadu ar Worcester, fel dau gi ar asgwrn y gynen. Danfonodd y brenin wyr allan yn galwar raglawiad amryw siroedd i godi milwyr, a phenderfynai wneud byr waith ar ei wrthwynebwyr. Arglwydd Berkley a Henry Pay, y llyngeswyr Seisnig, a losgasant bumtheg o longau Ffrengig tra wrth angor yn Aberdaugleddyf, a chymerasant bedair ar ddeg eraill ar y môr agored, yn llwythog o fwydydd a darpariadau i'r fyddin. Ar y 7fed o Awst, cawn y brenin wedi gadael Worcester, yn aros yn Hereford, ac yn bwriadu arwain y fyddin ei hun yn erbyn y gelynion. Pan ddeallodd Huguevile fod y brenin yn agoshau, ymgiliodd yn sydyn i ben bryn uchel tua naw milldir o Worcester, nes yr oedd glyn dwfn rhyngddo â'r fyddin frenhinol. Buont am tuag wyth niwrnod fel hyn yn ymdderu a'u gilydd. Ond byddai glewion y ddwy fyddin yn cyfarfod yn fynych ar lawr y glyn, a gornestu law-law yn cymeryd lle rhyngddynt, y rhai yn aml a derfynent yn angau. Collwyd o wyr trwyddynt tua dau cant o bob tu; a'r Ffrancod a gollasant amryw swyddogion, yn eu plith Arglwydd Mouci, brawd eu llyngesydd,

Tybir mai ar Woodbury Hill, yn mhlwyf Whitley, naw milldir i'r gogledd-orllewinol o Worcester, yr oedd gwersyll Owen. Amgylchid y lle gan ffos ddofn: ac yr oedd yn dra chyfleus, gan y gellid ymgilio o hono i Gymru os byddai hyny yn ofynol. ond bu Harri yn ddigon call i allu atal adgyfnerthion oddiwrth ei elynion, ac oherwydd hyn y gorfodwyd hwynt i euciilo yn y nos tua Chymru. Dywed Hall " i'r brenin eu hymlid o fryn i bant, o bant i goedwig, goedwig i gors, a methu yn lân deg a dyfod o hyd iddynt. Yr oedd yn bleser gweled ei wyr yn teithio, ei wibiadau prys ni - a phoeuns, ei arosiadau helbulus ac ansicr, ei grwydriadau parhaus, ar hyd glynau disathr a chreigiau geirwon y mynyddau erchyll, diffrwyth, ac anial hyny. "O'r diwedd, gorfu i'r brenin droi yn ol, gan nas gallai gynal ei fyddin yn hwy mewn gwlad ag oedd wedi ei difrodi o bwrpas er mwyn newynu y Saeson; ac wrth iddo ymgilio cymerodd y Ffrancod ddeunaw o'i wageni ymborth. Pa fodd bynag, ar ol eu hencil o Worcester, y Ffrancod a gollasant eu holl frwdfrydedd, ac yn fuan dychwelasant oll i'w gwlad oddieithr rhyw bumtheg cant, a'r rhai hyny a'u dilynasant ar derfyn y gauaf.

Ond er i'r Ffrancod dynu eu cynorthwy yn ol, ni Iwfr- haodd yr hen genedl ddewr, ac yr oedd bywyd yn y gwrthryfel. Harri, mab y brenin, a warchaeodd Gastell Llanbedr, sir Aberteifi. Ceidwad y castell ar y pryd oedd un Rhys ab Gruffydd alias Rhys ab Llewellyn; a dygidy gwarchae yn mlaen mor boeth, nes y cytunodd Rhys i roddi y lle i fynu oni chyrhaeddai adgyfnerthion yn mhen ychydig ddyddiau. Dyma y cytundeb, — Fod iddo adael y lle mewn cyflwr da, na niweidiai y preswylfeydd, na feddianai unrhyw long a yrid i'r porthladd gau ddryghin, ac fod iddo ef a'i wyr gael rhyddid i ymadael. Yn mysg yr arfau rhyfel, nad oedd Rhys i'w cymeryd ymaith, ceir cyflegrau, y rhai a ddyfeisiwyd gan y Ffrancod tua chwe' blynedd ar hugain cyn hyny. Pa fodd bynag, daeth y cyfnod i ben, a daliwyd Rhys yn rhwymyn y cytundeb; cymerodd y sacrament er mwyn tyngu i'w ddidwylledd. Ond prin y gellir credu ei fod yn ddidwyll, gan iddo ganiatau i Owen ddyfod i'r Castell a'i droi ef allan tan yr esgus o'i fod yn euog o anffyddlondeb yn ymostwng heb ei ganiatad ef; a chadwodd Owen feddiant ar y Castell am hir amser.

1406.

Ond yr oedd ei achos wedi gwanychu i'r fath raddau nes y bu raid iddo gyfyngu ei weithrediadau i'r rhanau mynyddig o'r wlad, ac oddi yno rhuthrai yn sydyn i'r gwastad-diroedd, ac mor sydyn dychwelai drachefn, gan gymeryd gydag ef foddion cynaliaeth iddo ef a'i wyr; ac er i'r Ffrancod alw eu gwyr adref, eto parhânt i gynorthwyo Owen gyda lluniaeth a moddion rhyfel. Ond yr oedd y Deheudir o gwmwd i gwmwd yn graddol lithro o'i afael, trwy fod y tywysog Harri yn aros yno, ac yn gwibio trwy'r wlad, gau ddod yr iau Seisonig ar warrau'r trigolion trwy deg ac annheg. Er hyny cawn ein harwr yn arfer ei awdurdod fel yn mlynyddoedd anterth ei lwyddiant — yn caniatau maddeuant, dyddiedig o Gefn Llanfair, i Ioan ab Howel Goch; ac ar y sêl wrth. y maddeuant hwnw, yr oedd llun Owen yn eistedd mewn cadair, ac yn dal teyrnwialen yn un llaw a chronen (globe) yn y llall; — ac yn ddigon cadarn hefyd i noddi y ffoedigion Seisnig larll Northumberland ac Arglwydd Bardolph, wedi i'r Scotiaid, oddiwrth, pa rai y ffoisent i Gymru, fwriadu eu rhoddi yn nwylaw eu gelynion, yn gyfnewid am garcharorion. Oddi wrth ymddygiad Senedd Lloegr hefyd gellir casglu fod ei ofn yn parhau arnynt. Deddfasant nad oedd i diroedd nag eiddo y gwrthryfelwyr gael eu rhoddi ymaith hyd yn mhen tri mis ar ol eu hatafaelu, er mwyn iddynt hwy gael amser i chwilio i gyfiawnder yr atafaeliad.

Yn Mon, yr oedd pleidwyr Owen yn gryfion a lluosog, er nad ymddengys i frwydr gymeryd lle yno o gwbl. Diamheu fod llawer o'r Monwysion yn myddin Grlyndwr, a phan ddechreuodd ei achos ddirywio, iddynt ddychwelyd yn ol i'w cartrefleoedd. Ond y brenin a glybu eu hanes, a chan fod Mon bellach tan ei awdurdod, penderfynodd ar gosbi y bobl hyn. Ar yr 11eg o Dachwedd, cynaliwyd brawdlys yn nhref Biwmaris, gerbron Tomas Twkhwl, Philip de Mainwaring, a Robert Paris, ieuangaf, i euog- brofi y sawl a gymerasant ran yn y gwrthryfel. Dengys yr ystadegaeth ganlynol fod y ddyfais freiniol wedi ateb ei dyben yn dda. Rhenid y wlad yn yr hen amser i gwmwdau, a dyma gwmwdau Mon, nifer y rhai a ddirwywyd ynddynt, ac i ba swm: —

Cwmwd Nifer o bersonau £ S C
Llifon 414 100 18 8
Menai 308 65 10 8
Talebolion 399 123 16 4
Twrcelyn 279 83 5 8
Malltraeth 326 83 16 0
Tindaethwy 389 79 19 8
CYFANSWM 2212 537 7 0

Y ddirwy uchaf o'r rhai hyn oedd £8 3s. 4c., a'r leiaf 2s. Dirwywyd dau offeiriad i'r swm o £5 yr un oherwydd iddynt "gamarwain" eu dëadelloedd. lluaws a gyhoeddwyd yn amddifad o nawdd cyfraith, ac eiddo'r lladdedigion yn y rhyfel a fforffedwyd i'r brenin yn ol y gwerth canlynol:— Ceffyl, 2s.; caseg, 1s. 4c.; buwch, 1s. 8c.; aner,' 1s.; dafad (blwyddiad), 4c. Dyua eu prisiau y pryd hwnw; ac yr oedd pob da amaethyddol yr un mor radlon, yr hyn a brawf dylodi yr amseroedd hyny.

1407.

Ychydig ddigwyddiadau gwerth eu crybwyll a gymerasant le yn ystod y flwyddyn hon. Collodd Owen Gastell Llanbedr Pont Stephan a Chastell Harlech, ond adgymerodd y blaenaf drachefn. Er hyny, byrhau yr oedd ei fraich yn barhaus; a Bardolph a Northumberland, ei westeion, wrth weled ei achos yn gwanychu cymaint, a ymadawsant i'w gwlad, ac yno wrth geisio codi gwrthryfel eilwaith, collodd y ddau eu bywydau, ar Bramham Moor, yn sir Gaerefrog.

1408 a '09.


Yn y flwyddyn gyntaf, talwyd diolchgarwch gwresog i'r Tywysog Harri yn y Senedd am ei ymdrechion a'i lafur yn Nghymru. Yn nechreu yr ail, ymddangosai cyfansoddiad dirywiedig y gwrthryfel fel yn adnewyddu ei nerth. Rhuthrodd y Cymry ar y Cyffiniau, a'r rhanau hyny o Gymru ag oeddynt yn gogwyddo at y Saeson, ac anrheithiasant hwynt. Yr oedd Esgob Bangor gyda Glyndwr yn llywio yr ymosodiadau hyn. Tra yn ufuddhau gorchymyn eu penaeth yn sir Amwythig, carcharwyd dau o lewion y Cymry, sef Philip Scudamore a Rhys Ddu; ac ar ol eu caethgludo i Lundain, dienyddiwyd hwynt. Caton a ddywed, i Rhys gael ei lusgo ar lidiard trwy yr heolydd i'r 'dienyddle, Tyburn, ac iddo gyfarfod ag angau teyrnfradwr — ei bedwar aelod a ddanfonwyd i'w harddangos i bedair gwahanol ddinasoedd y deyrnas, a'i ben i'r un dyben a hongiwyd wrth bont Llundain. Cyfarfu eraill o swyddogion Glyndwr â thynged gyffelyb.

Dyna ymgais olaf ein harwr o unrhyw bwys. Lluaws ,o'i wyr a'i gadawsant, a thrwy hyny gorfodid ef i aros yn hollol ar yr amddiffynol. Bu mynyddoedd yr Eryri eto yn dra thirion wrtho; yn eu castellydd cedyrn a naturiol hwy yr oedd yn ddyogel, wedi i'w amddiffynfeydd o waith dwylaw dyn ymollwng a llithro o un i un fel bradwyr i wasanaeth ei elynion.

Yn y blynyddau 1410, '11, a '12, rhwng y mynyddau yr oedd y gwrthryfel yn byw, a Harri IV. a'i fab oeddynt wedi 'cael profion mor fynych o hinsawdd wrthryfelgar y manau hyny, nes y tybient mai doethach gadael llonydd i'r gwrth- ryfel farw ohono ei hun o'u mewn. Parhau yn garcharor yr oedd Dafydd Gam er holl ymgais y Saeson i'w ryddhau. O'r diwedd, tybiodd y brenin mai y ffordd oreu fyddai pwrcasu ei ryddhad mewn modd heddychol, a danfonodd ddau foneddwr o'r enw Syr John Tiplofte a Wm. Butiler i fargenio gyda Glyndwr am ei ollyngdod; ac wedi deng mlynedd o garchariad maith, cyfiawn, a chwerw, gollyngwyd "bradwr Machynlleth." yn rhydd. Arferai Owen gadw ei garcharorion rhyfel mewn adeilad cryf yn mhlwyf Llansantffraid-Glyndyfrdwy. Y mae gweddillion y lle yn aros hyd y dydd hwn; adwaenir ef wrth yr enw " Carchar Owen Glyndwr." {{canoli| 1413.

Yr 20fed o Fawrth, bu farw y brenin Harri IV, wedi iddo deyrnasu pedair ar ddeg o flynyddau mewn gwaed a galanas, gan adael yn gymunrodd i'w olynydd, ei fab Harri V, lawer o waith i gwblhau darostyngiad y gwrthryfel. Yr oedd hyd yn nod y manau oeddynt wedi eu darostwng yn peri trafferth mawr i'r brenin ieuanc; y bobl dywalltent eu Ilid ar y Saeson ddigwyddent breswylio yr un gymydogaeth a hwynt; dialent waed y lladdedigion yn y rhyfel, a chospent am rhyw niweidiau personol a, dderbyniasent; ac er fod eu cleddyfau yn eu gweiniau, yr oedd eu teimladau gelyniaethol at y Saeson yn parhau yn angerddol iawn. Yr oedd ganddynt yn eu cyfreithiau lŵ a elwid Asach, a llŵ rhyfedd ydoedd. Pan gyhuddid dyn o unrhywdrosedd, yr oedd yn angenrheidiol i dri chant o wyr gymeryd math o lŵ meichiafol cyn y gellid ei ryddhau, a'r llŵ hwn oedd yr Asach. Pan gyhuddid Sais yn Nghymru, nis gallaief gael haner y nifer gofynol i'w ddieuogi. Y brenin pan wybu am y gyfraith annheg hon, a'i dileodd, ac a ddeddfodd fod i bwy bynag a geisiai roddi yr Asach mewn gweithrediad, gael ei garcharu am ddwy flynedd a thalu dirwy drom. Mae yn rhaid cyfaddef, mai dyma y ddeddf unionaf o'r holl ddeddfau eithriadol a roddodd y Saeson ar y Cymry; ac adlewyrcha anrhydedd mawr ar ddoethineb y teyrn ieuauc a'i ffurfiodd.

Daliodd Glyndwr ei dir am ddwy flynedd yn mhellach, hyd 1415; a'i ofn ar y Saeson hyd yn nod yn y flwyddyn hono. Ymostyngodd y brenin i gynyg telerau heddwch iddo, a danfonodd ato Syr Gilbert Talbot gyda llawn allu i ffurfio cytundeb, a chaniatau maddeuant rhad iddo ef a'i ddilynwyr os byddai hyny yn angenrheidiol. Ond marwolaeth Glyndwr a ataliodd yr amcan y tro hwn. Dygwyd y cytundeb oddiamgylch drachefn, gyda Meredydd, mab i Glyndwr, ar y 24ain o Chwefror; ac felly, plygwyd y faner wrthryfelgar i fynu, a chyda hyny darfu y Cymry a rhyfela tros eu hiawnderau cynhenid a'u hannibyniaeth cenedlaethol; y ddwy genedl a fuont elynion am yn agos i fil flynyddoedd a ysgydwasant ddwylaw, ac edrychasant yn myw llygaid eu gilydd; gwelodd y naill nad Rhys Gyrch oedd y Cymry oll, a'r llall nad Hengist oedd pob Sais. Dechreuwyd chwalu eu Clawdd Offa cymdeithasol; ac erbyn hyn, y mae yr hen elyniaeth wedi ymgolli bron yn llwyr mewn cyfeillgarwch.

Bu Owen farw yn yn nhŷ ei ferch yn Monnington, ar yr 20fed o Fedi, 1415, yn 61 oed; a'r hwn a heriodd y ddau Harri a'u galluoedd am bumtheg mlynedd, a wyrodd ei ben fel pabwyren o flaen brenin arall. Yn iaith Islwyn: —

Mae'n bryd it' orphwys, O! y mae yn bryd
I'r fron lonyddu wedi gwaedu c'yd;
I fys oer Angau gau dy aeliau blin,
Yn nhawel nos y bedd, ar falmaidd hûn.

Yn ol y farn gyffredin, claddwyd ef yn mynwent plwyf Monnington; ond nid oes cerfddelw o un math, na chofgolofn, na chymaint a chareg las, yn dynodi ei fedd. Y mae hyd yn nod sicrwydd am y man y claddwyd ef wedi ei gladdu.

Felly y bu fyw ac y bu farw un o'r dynion hynotaf ar lechres hanesyddiaeth ein gwlad. Yn yr hwn yr oedd holl deithi y nodweddiad Cymreig yn cydgyfarfod — yn gyfrwys, dewr, a medrus; yn nwydwyllt a hawdd ei ddigio, yn ystyfnig ac anhawdd ei gymodi. Nid oes enghraifft iddo erioed fradychu Cymro er mantais nac er elw; ond yr oedd ei gasineb at y Seison y fath fel yr ystynai hwynt yn rhy ysgymun i deilyngu breintiau cytundeb — edrychai arnynt fel pe buasent ellyllon wedi ymgnawdoli, Y syniad hwn a barai iddo weithiau ymddigrifo mewn creulonderau tuag atynt; ond yr oedd ganddo ef galon fawr agored bob amser i'w gydwladwyr. Ei enllibwyr a ddywedant mai dialgarwch at y brenin Seisnig, ac nid gwladgarwch, a barodd iddo gymeryd arfau ar y cyntaf; ond yr oedd boddio y naill a'r llall yn gorwedd yn yr un cyfeiriad, a gwrthryfelwr ystyfnig ydoedd pan yn ffoadur tlawd, pryd yr oedd yn anmhosibl iddo ddychymygu y gallai foddio ei ddialgarwch. Aberthodd ei etifeddiaeth fawr, ei gysur teuluaidd, a'i heddwch a'i ddyogelwch personol, ar allor ei wrthryfel; a rhaid fod rhyw deimlad mwy cysegredig na dialedd yn achosi yr aberth mawr hwn. Ysgytiodd lywodraeth Lloegr hyd i'w gwraidd; a bu yn ddrychiolaeth gerbron ei llygaid hyd o ni thynodd angeu ef oddiar ei ffordd; er na safodd unwaith frwydr gyda'r brif fyddin Seisnig. Ei gallineb cyfrwys oedd yn dychrynu ei elynion, a chafodd yr ystormydd a'r dryghin lawer o fai y callineb hwn gan y brenin Harri. Diau y seinir ei enw gan y Cymro gyda brwdfrydedd yn y tymhor gogoneddus hwnw pan byddo'r cleddyfau wedi eu troi yn sychau, a'r gwaywffyn yn bladuriau; canys yr oedd yn caru ei wlad, yn gymydog caredig, yn dad a phriod tyner a hynaws; yn ddewr, yn gall, yn ddysgedig; ac fel arwr rhyfelgar, buasai unrhyw genedl dan haul yn falch ohono.

MATH AB MATHONWY.

(Hen Fabinogi Cymreig.)

MATH AB MATHONWY oedd arglwydd ar Wynedd; a Phryderi ab Pwyll oedd arglwydd ar un cantref ar hugain yn y Dehau, sef oedd y rhai hyny:— Saith cantref Dyfed, a saith cantref Morganwg, pedwar cantref Ceredigion a thri Ystrad Tywi.

Ac yn yr amser hwnw, Math ab Mathonwy ni byddai byw namyn tra fai ei ddeutroed yn mhlyg ar lin morwyn, onibyddai cynhwrf rhyfel yn ei atal; a'r forwyn hono oedd Goewin ferch Pebin, o Ddol Pebin yn Arfon, a hon ydoedd tecaf morwyn ei hoes hyd y gwyddent hwy yno.

A Math a breswyhai beunydd yn Nghaer Dathyl yn Arfon, ac ni allai fyned ei hun oddiamgylch ei gyfoeth, eithr Gilfuethwy ab Don ac Eneyd ab Don, ei neiaint feibion ei chwaer, a amgylchynent y wlad yn ei le ef.

A'r forwyn oedd gyda Math yn wastadol, ac yntau Gilfaethwy ab Don a ddodes ei fryd arni, ac a'i carodd hyd na wyddai pa beth i'w wneud am dani; ac oherwydd hyny, wele ei liw a'i wedd yn dadfeilio hyd nad oedd hawdd ei adnabod.

Ei frawd Gwydion un diwrnod a sylwodd yn graff arno, "Ha! was," ebai ef, " pa flinder sydd arnat?" Ebai yntau, " Paham? beth a weli di:-" "Gwelaf i ti golli'th bryd a'th liw; a pha flinder sydd arnat?" "Arglwydd frawd," ebai yntau, "yr hyn a'm blina i, ni leshâ im' ei draethu i un gwr." "Beth yw hyny, Eneyd?" ebai ef. Ebai yntau, " Ti a wyddost gyneddf Math ab Mathonwy, sef pa sisial bynag a fo rhwng dynion, os cyffwrdd y gwynt â'r sisial hwnw, Math a'i gwybydd." "Gwir;" ebai Gwydion, "taw, bellach, mi a wn dy flinder: caru Goewin yr ydwyt." A phan wybu efe fod ei frawd yn hysbys o'i feddwl, efe a roddodd yr ochenaid drymaf yn y byd. "Taw, Eneyd, â'th ocheneidio," ebai Gwydion, "nid fel yna y gorfyddir; mi a baraf, gan nad ellir heb hyny, gydymgynull Gwynedd a Phowys a Deheubarth i geisio y forwyn. Cymer di gysur, mi a'u paraf."

Yna y ddau a aethant at Math ab Mathonwy. " ArgIwydd," ebai Gwydion, " Mi a glywais ddyfod i'r Deheudir rhyw bryfed na ddaeth erioed eu bath i'r Ynys hon." "Beth y gelwir hwy?" " Hobau, arglwydd." " Pa ryw fath o anifeiliaid ydynt?" " Anifeiliaid bychain, gwell eu cig na chig eidion." "Bychain ydynt?" "le; ac y maent yn newid eu henwau. Weithian, moch y gelwir hwynt." "Eiddo pwy ydynt?" "Eiddo Pryderi ab Pwyll, yr hwn a'i cafodd o Annwn, gan Arawn brenin Annwn; ac y maent eto yn cadw yr enw o haner hwch, haner hob." "Ie," ebai yntau, " pa fodd y ceffir hwynt oddiarno?" " Mi a âf yn un o ddeg, yn rhith beirdd, i geisio y moch ganddo." "Efe a eill eich nacau," ebai Math. " Ni bydd fy ymdaith yn ofer, arglwydd, ni bydd i mi ddychwelyd heb y moch." "Yn llawen, ynte, dos rhagot," ebai Math.

Felly Gilfaethwy ac yntau a deg o wyr eraill a aethant, a chyrhaeddasant Geredigion, i'r fan a elwir yn awr Rhuddlan Teifi, lle yr oedd llys Pryderi. Yn rhith beirdd yr aethant a deryniwyd hwynt yn llawen. Ai' ddeheulaw Pryderi y dodwyd Gwydion y noson hono.

"Yn wir," ebai Pryderi, " da fyddai genym gael chwedl oddiwrth un o'r gwyr ieuainc acw." "Y mae yn arferiad genym ni arglwydd," ebai Gwydion, "y nos y delom at wr mawr, fod i'r pencerdd ddweud ei chwedl yn nghyntaf. Yn llawen, mi a adroddaf chwedl."A Gwydion oedd y chwedlenwr goreu y byd; a'r nos hono, dyddanu y llys a wnai âg ymddiddanau digrif a chwedlau, onid aeth yn dda gan bawb am dano, a dyddan gan Pryderi oedd ymddiddan ag ef.

Ar ddiwedd hyny, " Arglwydd," ebai Gwydion, " ai gwell y gwna rhywun arall fy neges na myfi fy hun?" "Nid gwell," ebai yntau, " tafod ffraeth sydd genyt ti." "Yna, arglwydd, dyma fy neges: Deisyf genyt yr anifeiliaid a anfonwyd i ti o Annwn." Ebai yntau, "Y peth hawsaf yn y byd fuasai hyny,onibai fod cyfamod rhyngwyf fi a'm gwlad am danynt; sef nad elont oddiwrthyf hyd oni hiliont eu dau gynifer yn y wlad." " Arglwydd," ebai yntau, "gallaf dy ryddhau oddiwrth y cyfamod yna, fel hyn: — Na ddyro y moch i mi heno, ac na nacâ fi ohonynt, ac yforu mi a ddangosaf i ti gyfnewid am danynt."

A'r nos hono, Gwydion a'i gydymdeithion agymerasant gynghor yn eu llety. "Ha! -wyr," ebai ef, "ni chawn ni y'moch o'u gofyn," "Aie," ebynt hwythau, "pa fodd ynte y ceir hwynt?" " Mi a baraf eu cael," atebai Gwydion.

Yna efe a ddefnyddiodd ei gelfyddyd a'i hud, a pharodd i ddeuddeg emys [cadfarch; Saes. Charger] ymddangos; a deuddeg milgi bronwynion, a chanddynt ddeuddeg torch a deuddeg cynllyfan, nas gallasai y sawl a'u gwelent wybod nad aur pur oeddynt. Deuddeg cyfrwy oedd ar y meirch, ac ar y manau y dylasai haiarn fod yr oedd aur; a'r ffrwyni oeddynt yr un defnydd. Gyda'r cwn a'r meirch hyn y daeth Gwydion at Pryderi.

"Dydd da i ti, arglwydd," ebai ef; "Duw a'th lwyddo, â chroesawit'," ebai yntau. "Arglwydd," ebai Gwydion, "wele ryddhad iti oddiwrth y geiriau a ddy wedaist wrthyf neithiwr am y moch — nas rhoddit ac nas gwerthit. Ti a eill eu cyfnewid am a fo gwell. Rhoddaf it' y deuddeg meirch hyn,yn nghyda'u cyfrwyau a'u ffrwyni; a'r deuddeg milgi hyn fel eu gweli, gyda'u torchau a'u cynllyfanau; a'r deuddeg tarian euraidd a weli di draw." Y rhai hyn oll a rithiasai Gwydion o'r madrlch [bwyd llyffant; Saes./fungus]. " Mi a gymeraf gynghor," ebai Pryderi. Ac yn y cynghor efe a gafas roddi'r moch iGwyd- ion, a chymeryd y cŵn a'r meirch a'r tarianau yn eu lle.

Yna Gwydion a'i wyr a gymerasant eu cenad, ac a deithiasant ymaith gyda'r moch. " Ha! gyfeillion," ebai Gwydion, "rhaid i ni gerdded yn brysur, canys ni phery y lledrith ond hyd yr un amser yforu." Y nos hono, cyrhaeddasant hyd warthaf Ceredigion, ac arosasant mewn lle a elwdr o'r herwydd Mochdref. Tranoeth, cymerasant eu hynt trwy Melenydd, a'r nos tariasant mewn tref rhwng Ceri ac Arwystli, a elwir hefyd o'r achos hwnw Mochdref. Oddiyno aethant rhagddynt ac arosasant y noson nesaf mewn cwmwd yn Mhowys, a elwid o'r herwydd Mochnant. Yna cerddasant hyd gantref y Rhos, ac yno y buont y noson hono, mewn man a elwir eto Mochdref.

"Fy ngwyr," ebai Gwydion, " rhaid i ni brysur gyrchu gyda'r anifeiliaid hyn i gadarnfeydd Gwynedd, canys y mae llu yn ein hymlid." Felly y teithiasant yn mlaen hyd y dref uchaf yn Arllechwedd; yno y gwnaethant gren (sty) i'r moch, oherwydd hyny gelwid y lle Crenwyryon. Wedi gwneuthur y cren, cyrchasant i Gaer Dathyl, at Math ab Mathonwy. Pan aethant yno, cawsant fod y wlad yn derfysg drwyddi. "Pa newydd sydd yma?" ebai Gwydion. Ebynt hwythau, "Pryderi sydd yn casglu un cantref ar hugain i'th ymlid di. Rhyfedd mor araf y cerddasoch. Pa le y mae yr anifeiliaid yr aethoch i'w hymofyn?" " Gwnaethom gren iddynt yn y cantref islaw," ebai Gwydion.

Ar hyny, Math a'i wyr a glywent sain udgyrn a dygyfor mawr yn y wlad, a gwisgasant amdanynt, ac aethant hyd y Penardd, yn Arfon. A'r noson hono, Gwydion ab Don, a Gilfaethwy ei frawd, a ddychwelasant yn llechwraidd i Gaer Dathyl; a chymerth Gilfaethwy feddiant ar ystafell Math, gan orfodi Goewin i aros a throi y morwynion eraill allan.

Ar lasiad y dydd dranoeth, dychwelasant i'r fan yr oedd Math a'i lu. Pan gyrhaeddasant, yr oedd y gwyr hyny yn ymgynghori pa du yr arhonynt Pryderi a gwyr y Dehau, ac i'r cynghor yr aethant hwythau. Yn y cynghor, penderfynwyd aros yn nghadernid Arfon, ac yn nghanol dwy Faenor yr arosasant, sef Maenor Penardd a Maenor Coed Alun. Yno ymosododd Pryderi arnynt, ac y bu brwydro caled; a lladdwyd yno laddfa fawr o bob ochr. ond bu raid i wyr y Deheu encilio. Enciliasant i le a elwir eto Nant coll; ymlidiwyd hwynt, ac yno y bu aerfa ddifesur ei maint. Enciliasant oddiyno hyd y lle a elwir Dolbenmaen, ac yno ceisio heddwch a wnaethant.

Er mwyn cael heddwch, rhoddodd Pryderi wystlon, sef Gwrgi Gwastra a thri ar hugain o foneddigion eraill. Yna Pryderi a'i wyr a deithiasant mewn heddwch hyd y Traeth Mawr; ond fel yr elent tua Melenryd, nis gellid atal gwyr y wlad rhag saethu arnynt. Pryderi a ddanfonodd genhadau atMath yn deisyf arno luddias y saethu; â gadael rhyngddo ef a Gwydion ab Don, canys efe a barasai hyn oll. Daeth y genad at Math; "le," ebai ef "os da gan Wydion ab Don, mi a'i gadawaf yn llawen; ni chymellaf fi ar neb i ymladd." " Diau," ebai'r cenhadau, "Pryderi a ddywed mai tecach i'r hwn a wnaeth gymaint o gam ag ef ddyfod i ymladdfa law-law ei hunan, a gadael ei luoedd yn segur." Ebai Math, "Myn y nefodd, nid archaf fi i wyr Gwynedd ymladd troswyf; os caf ymladd law-law gyda Pryderi, rhwydd y gwnaf hyny." Dygasant yr ateb hwn at eu harglwydd, "Diau," ebai yntau, "nid archaf finau neb i hawlio fy iawn ond fy hunan."

Y ddau a gyfarfuant mewn arfwisgoedd, ac a ymladdasant; a thrwy nerth cadernid a llidiowgrwydd Math, a hud a lledrith Gwydion, lladdwyd Pryderi. Claddwyd ef yn Maen Tyriawc, uwch. Melenryd, ac yno y mae ei fedd.

A gwyr y Dehau a gerddasant yn drist tua'u gwlad; ac nid rhyfedd, canys eu harglwydd a gollasent, a llawer o'u goreugwyr, a'u meirch, a'u harfau gan mwyaf.

Gwyr Gwynedd ar ol eu buddugoliaeth a ddychwelasant yn llawen. " Arglwydd," ebai Gwydion wrth Math, " onid iawn i ni ollwng gwystlon gwyr y Dehau, ac a ddylem eu dal yn ngharchar?" " Rhyddhaer hwynt ynte," ebai Math. Felly y gwr ieuanc hwnw a'r gwystlon oeddynt gydag ef a ryddhawyd.

Yna aeth Math i Gaer Dathyl. A Gilfaethwy ab Don, a'r rhai oeddynt gydag ef, a aethant i amgylchu Gwynedd yn ol eu harfer, heb fyned i'r llys. Math a gyrchodd i'w ystafell, ac a barodd barotoi lle iddo benlinio, fel y byddai ei draed ar lin y forwyn. "Arglwydd," ebai Goewin, " cais forwyn arall i gynal dy draed: gwraig wyf fi." "Pa ystyr sydd i hyn?" " Ymosodwyd arnaf,' arglwydd, yn ddirybydd; nid oes yn y llys ar nas gwyb ydd amdano, canys ni buom i ddystaw. yr ymosodiad hwn a wnaed arnaf gan dy ddau nai feibion dy chwaer, sef Gilfaethwy a Gwydion ab Don; cam a wnaethant i mi, a chywilydd i tithau." " Diau," ebai ef, " yr hyn a allaf mi a'i gwnaf; mi a baraf i ti gael iawn yn nghyntaf, ac yna mynaf finau iawn. Ac mi a'th gymeraf yn wraig, a dodaf fy holl gyfoeth yn dy law.

Ni ddaeth Gwydion a Gilfaethwy ar gyful y llys, eithr trigo ar gyffiniau y wlad a wnaethant, onid aeth gwaharddiad allan iddynt gael bwyd a diod. Ar y cyntaf ni ddeuent yn. agos at Math, ond o'r diwedd daethant. "Arglwydd," ebynt hwy, "dydd da it'." Ebai yntau, " Ai ni roddi iawn im' y daethoch" "Arglwydd wrth dy ewyllys yr ydym ni." "Pe buasech wrth fy ewyllys, ni chollaswn gynifer o wyr ac arfau. Nis gellwch byth roddi iawn i mi am fy nghywilydd, heb son am angau Pryderi. Eithr gan i chwi ddyfod yma at fy ewyllys, dechreuaf eich cosp yn ddioed."

Yna efe a gymerth ei swynlath, ac a darawodd Gilfaethwy â hi, onid aeth yn ewig yn y fan; ac ymaflodd yn y llall yn ebrwydd rhag iddo ddianc, a chyda'i swynlath efe a'i tarawodd yntau yn garw, gan ddywedyd, "Gan eich bod mewn rhwymedigaeth, mi a wnaf i chwi fyned yn nghyd a bod yn gydmaredig, a meddu anian y creaduriaid yr ydych ar eu ffurf. Ac yn mhen y flwyddyn, dychwelwch yma ataf fî."

Yn mhen blwyddyn i'r diwrnod hwnw, dyna dwrf tan ffenestr Math, a chyda'r twrf, cŵn y llys yn cyfarth. "Edrych," ebai ef wrth un o'r gweision, "pa beth sydd yna oddi allan." "Arglwydd, mi a edrychais, y mae yna garw ac ewig, ac elein (fawn) yn eu canlyn."Ar hyny, Math a gyfodes ac a aeth allan, ac ef a ganfu y tri anifail. Yna dyrchafodd ei swynlath, " Yr hwn oedd ewig y llyuedd, bydded faedd coed eleni; a'r hwn oedd garw y llynedd, bydded garnen goed [a wild sow] eleni;" a tharawodd hwynt â'i swynlath. "Yr ieuanc hwn a gymeraf fi i'w feithrin, a pharaf ei fedyddiaw;" a'r enw a roddwyd arno oedd Hydwn. " Ewch chwithau, a byddwch faedd a garnen goed, ac anian moch fyddo arnoch, a blwyddyn i heddyw byddwch yma tan y pared a'ch etifedd gyda chwi."

Yn mhen blwyddyn, clywid cyfarthfa cŵn tan bared yr ystafell, a'r llys a ymgynhyrfodd. Yna Math a aeth allan, a gwelai y tri bwystfil. A'r bwystfilod a welodd oeddynt faedd coed a charnen coed, a llwdn da yn eu dilyn. A mawr ydoedd o'i oed. "Yn wir," ebai Math, " paraf fedyddio hwn." Ac efe a'i tarawodd ef gyda'i swynlath, onid aeth yn llanc teg, gwallt-wineu (auburn), a galwyd ef Hychdwn. " A chwithau, yr un ohonoch oedd faedd coed y llynedd, bydded fleiddast eleni; a'r hwn oedd, garnen y llynedd, bydded flaidd eleni; a byddwch o anian gyffelyb i'r anifeiliaid yr ydych ar eu ffurf, a dychwelwch yma yn mhen y flwyddyn."

Ac yn mhen y flwyddyn, efe a glywai gynhwrf a chyfarthfa cŵn tan bared yr ystafell. Ac wedi iddo gyfodi a myned allan, canfu flaidd a bleiddast, a chenaw cryf yn eu canlyn. "Hwn a gymeraf fi," ebai ef, "a .pharaf ei fedyddiaw; ac y mae'r enw yn barod, sef yw hwnw, Bleiddwn: —

Tri meib Gilfaethwy enwir,
Tri o ryfelwyr cywir,
Sef Bleiddwn, Hydwn, a Hychdwn hir

Yna efe a'u tarawodd gyda'i swynlath, onid oeddynt yn eu cnawd eu hunain. "Ha! wyr," ebai ef, "os gwnaethoch gam â mi, digon o boen a chywilydd mawr a gawsoch. Darperwch yn awr," ebai ef wrth ei weision, "enaint gwerthfawr i'r gwyr hyn, a golchwch eu penau ac adgyweiriwch hwynt." A gwnaed hyny.

Wedi Iddynt ymdrwsio, daethant at Math. "Ha! wyr," ebai ef, "gan i chwi gael fy heddwch, chwi a gewch hefyd fy nghyfeillgarwch. Rhoddwch im' gynghor pa forwyn a geisiaf." "Arglwydd," ebai Gwydion ab Don, "hawdd ydyw dy gynghori; cais Arianrod ferch Don, dy nith ferch dy chwaer."

Dygpwyd y forwyn ato. "Ha! ferch," ebai ef, "ai morwyn ydwyt?" "Nis gwn, arglwdd, amgen nad wyf."Yna efe a gymerth ei swynlath ac a'i plygodd, "Cama di dros hon," ebai ef, "ac os morwyn ydwyt mi a gaf wybod."Yna hi a gamodd tros y swynlath, ac yn y fan ymddangosodd bachgen teg, ac iddo wallt bras melyn mawr. Ac wrth ddolefain y mab hwn, hi a gyrchodd tuag at y drws. Ar hyny, rhywbeth bychan a welwyd; a chyn y gallai neb gael ailolwg arno, Gwydion a'i cymerth. a rhoddodd lèn o bali o'i gylch, ac a'i cuddiodd. A'r lle y cuddiodd efe ef oedd gwaelod cist wrth draed ei wely.

" Yn wir," ebai Math, " mi a baraf fedyddio y mab hwn, a Dylan ydyw yr enw a roddaf arno."

Felly y mab a fedyddiwyd; ac fel y bedyddient ef, efe a ymsuddodd i'r môr. Ac mor fuan ac yr aeth i'r môr, anian y môr a gafodd, a chystal y nofiai ag un pysgodyn yn yr eigion; ac oherwydd hyn y, gelwid ef Dylan eil Ton. Ni thores tôn odditano erioed. A'r ergyd trwy ba un y daeth efe i'w angau a roddwyd gan ei ewythr, Gofannion. Hwnw oedd " y trydydd anfad ergyd."

Fel y gorweddai Gwydion un diwrnod ar ei wely yn effro, efe a glywai sŵn yn y gist wrth ei draed; ac er nad oedd yn uchel, yr oedd er hyny yn hawdd ei gly wed. Cyododd Gwydion ar frys, ac agorodd y gist; ac wele ynddi fab bychan yn rhwyfo ei freichiau o blygiadau y llen, ac yn ei bwrw o'r neiìldu. Ac efe a gymerth y mab yn ei freichiau, ac a'i cyrchodd i fan y gwyddai fod gwraig a bronau ganddi, a chytunodd gyda hi i fagu y mab; a magwyd ef y flwyddyn hono.

Ar derfyn blwyddyn, edrychai yn debyg i blentyn dwy flwydd oed. Yr ail flwyddyn, yr oedd efe yn fab mawr, ac yn gallu myned ei hunan i'r llys. A phan ddaeth i'r llys, Gwydion a sylwodd arno, ac a synodd. A'r mab a ymgynefinodd ag ef, ac a'i carai yn fwy nag ungwr arall. Yna magwyd ef yn y llys, onid oedd yn bedair oed, ac edrychai mor fawr a phe buasai yn wyth mlwydd.

Un diwrnod, Gwydion a gerddodd allan, a'r mab a'i dilynodd hyd i Gaer Arianrod; a phan aeth Gwydion i'r llys, cyfododd Arianrod i'w groesawu ac i gyfarch gwell iddo. "Duw a roddo dda it'," ebai ef. " Pwy ydyw y mab sydd gyda thi?" "Y mab hwn, mab i ti ydyŵ ef." Ebai hithau, "Och! paham y cywilyddi fel hyn? paham y cedwaist fy nghywilydd cyhyd?" "Oni bydd arnat ti gywilydd mwy na meithrin ohonynt fi lanc cystal â hwn, bychan o beth fydd dy gywilydd." "Pa enw sydd ar y mab?" " Nid oes iddo enw hyd yn hyn." "Tyngaf 'dynged," ebai hi, "na chaffo enw hyd oni chaffo genyf fi." Ebai yntau, "Dygaf y nefoedd yn dyst, mai gwraig ddiriaid wyt ti; ond y mab a gaiff enw, er dy waethaf; yr hyn a'th flina di ydyw na'th elwir mwyach yn forwyn."Ar hyny, efe a ymadawodd yn ei lid, ac a gyrchoddi Gaer Dathyl, ac yno yr arosodd y noson hono.

Tranoeth. cyfododd a chymerth y mab gydag ef, a cherddodd ar hyd glan y môr rhwng hyny ag Aber Menai. Canfu yno hesg a môr-wiail, a gwnaeth fâd ohonynt; ac o'r brigau gwynion a'r hesg y gwnaeth lawer o gordawl (Cordovan or Turkish leather); ac a'u lliwiodd yn y fath fodd, nas gwelsai neb ledr tecach nag ydoedd. Yna efe a •wnaeth hwyl ar y bâd, a'r mab ac yntau a gyrchasant ynddo hyd borth Caer Arianrod. Yno efe a ddechreuodd lunio esgidiau a'u gwnio. Sylwyd ar y ddau o'r Gaer; a phan wybu Gwydion hyny, efe a gyfnewidiodd ei wedd a'i ffurf fel nad adnabyddid ef. "Pa wyr sydd yn y bâd acw?" ebai Arianrod. "Cryddion ydynt," ebynt hwy. "Ewch ac edrychwch pa ryw ledr sydd ganddynt, a pha ryw waith a wnant."

Felly, gwyr Arianrod a ddaethant at y ddau; a chawsant 'hwynt yn britho cordawl ac yn ei oreuro. A'r cenhadon a ddychwelasant gan fynegi hyn wrthi. Ebai hithau, "Mesurwch fy nhroed, ac erchwch i'r cryddion wneuthur esgidiau i mi." A Gwydion a wnaeth yr esgidiau, nid yn 'ol y mesur, ond yn fwy. Dygwyd hwy ati, ac yr oeddynt yn ormod. "Gormod ydynt y rhai hyn," ebai hi, "talaf iddo amdanynt, a gwnaed eto rai a fo llai na hwynt." Yna efe a wnaeth eraill, ac yr oeddynt yn rhy fychain, ac a'u danfonodd iddi; "dywedwch wrtho nad i mi y mae y rhai hyn."A dywedwyd hyny wrtho. Ebai yntau, " Yn wir ni wnaf esgidiau iddi oni chaf weled ei throed." Ebai hithau, " Mi a geddef hyd ato ef." A phan ddaeth hi at y llong, yr oedd efe yn lluniaw esgidiau, a'r mab yn gwniaw. "Dydd da it', arglwyddes," ebai ef. "Duw a roddo dda it',"ebai hithau; " y mae yn syn genyf nas gellit wneud esgidiau oddi wrth fesur." Ebai yntau, "Ni a medrwn, ond medraf yn awr."Ar hyny, wele ddryw yn sefyll ar ystlys y llong; a'r mab a anelodd ato, ac a'i saethodd yn ei goes, rhwng y gewyn a'r asgwrn. Yna hi a chwarddodd. "Diau," ebai hi, "gyda llaw gyffes (steady) y tarawodd y llew ef." Yna ebai Gwydion, " Na ddiolched y nef it, eithr yn awr y bachgen a gafas enw, ac enw da ddigon ydyw hefyd. galwer ef o hyn allan, Llew Llaw Gyffes."

Ar hyny, diflanodd y gwaith, yr hesg, a'r môr-wiail; ac efe nis dilynodd ef yn mhellach. Oherwydd hyn y gelwir Gwydion, y trydydd Eurgrydd. Ebai hi. " Ni bydd dy Iwyddiant yn fwy wrth fy nrygu i." " Ni buom i ddrwg wrthyt ti." Yna efe a droes y mab i'w ffurf briodol ei hun. " Wel," ebai hi, "mi adyngaf dyngedi'r mab hwn na chaffo arfau byth onis gwisgwyf fi hwynt amdano." "Rhyngwyf fi a'r nefoedd," ebai Gwydion, "er gwaethaf dy ddireidi, efe a gaiff arfau."

Yna aethant tua Dinas Dinllef; ac yno meithrinwyd Llew Llaw Gyffes, onid allai farchogaeth pob march, ac onid ydoedd yn ei lawn ffurf o bryd, nerth, a maint. A chanfu Gwydion ei fod yn gwaethygu o eisiau meirch ac arfau, a galwodd ef ato, "Ha! was," ebai ef, " ni a awn ein dau ar neges yforu, a bydd dithau lawenach nag wyt."

"Hyny mi wnaf," ebai y mab.

Ac yn ieuenctyd y dydd dranoeth, cyfodasant, a chymerasant eu ffordd hyd yr arfordir i fynu tuag at Bryn Aryen. Ac ar ben uchaf Cefn Clydno, cymerasant feirch, a daethant at Gaer Arianrod. Yno newidiasant eu pryd, a myned i'r porth a wnaethant yn null dau was ieuainc, eithr fod pruddach pryd ar Gwydion nag ar y gwas. "Y porthor," ebai ef, "dos, a dywed fod yma feirdd o Forganwg."Y porthor a aeth. "Croesaw y nef iddynt; gollwng hwynt i mewn," ebai Arianrod.

Gyda dirfawr lawenydd y croesawyd hwynt; y neuadd a drefnwyd, a'r bwrdd a huliwyd. Wedi darfod bwyta, ymddiddan a wnaeth hi gyda Gwydion am chwedlau a hanesion; chwedlenwr da oedd Gwydion. A phan ddaeth adeg ymadael â'r gyfeddach, ystafell a gyweiriwyd i'r ddau ŵr dyeithr, ac i gysgu yr aethant.

Yn ngwyll y cyfddydd, Gwydion a gyfodes ac a alwodd am gymhorth ei hud; ac erbyn eu bod yn oleu dydd, yr oedd sain udgyrn a thrwst arfau yn diaspedain tros yr holl wlad. Ar hyny clywent guro ar ddrws eu hystafell, ac Arianrod yn erchi ei agoryd. A'r gwas a'i hagorodd, ac i mewn yr aeth hi a morwyn ieuanc gyda hi. "Hawyr da!" ebai hi, " pa le ddrwg yr ydym ni?" Ebai yntau, "ie, mi a glywaf udgym a llefain, beth debygi di o hyn?'"ebai hi, "Diau nis gallwn weled lliw y weilgi gan gynifer o longau sydd yn cyniwair ar hyd-ddo; ac y maent oll yn cyrchu i'r tir. A pha beth a wnawn ni?" Ebai Gwydiôn, "Arglwyddes, nid oes dim i'w wneuthur ond cau y gaer arnom, a'i hamddiffyn hyd y gallom." "Duw a dalo i chwi," ebai hi, " cewch yma ddigon o arfau."

Ar hyny, i nol yr arfau yr aeth hi; a dychwelodd yn ebrwydd a dwy forwyn gyda hi, ac arfau denwr ganddynt, "Arglwyddes," ebaiGwydion, " Gwisga di am y gwr hwn, a'r morwynion a wisgant amdanaf finau. Mi a glywaf dwrf gwyr yn dyfod." "Hyny a wnaf yn llawen;" a hi a wisgodd am dano yn gyfangwbl. " A ddarfu i ti wisgo y gwr ieuanc?" ebai ef. " Do," ebai hithau. "Yr wyf finau wedi darfod," ebai Gwydion; " diosgwn ein harfau weithian, canys ni raid ini wrthynt." "Paham?" ebai hithau, " wele y mae'r llynges oddiamgylch y tŷ." "Ha! wraig, nid oes yna lynges." "Och!" ebai hithau, "ba le yr oedd y swn mawr a glywid?" "Hud ydoedd, i dori dy fwriad di, ac i gael arfau i'th fab. Ac yn awr y mae ganddo arfau, ond heb achos diolch i ti amdanynt." "Rhyngwyf fi â Duw," ebai hithau, "gwr drwg ydwyt. Hawdd fuasai i lawer mab golli ei enaid oblegyd y trwst a wnaethost yn y Cantref hwn heddyw. Eithr mi a dyngaf dynged i'r mab hwn, na chaffo efe wraig byth o'r genedl y sydd ar y ddaear yr awr hon." "Diau," ebai yntau, "gwraig ddiriaid wyt ti erioed, ac ni ddylai neb dy gynorthwyo. Er hyny efe a gaiff wraig."

Yna, y ddau a ymadawsant â Chaer Arianrod, ac a ddaethant at Math ab Mathonwy, ac a achwynasant wrtho yn chwerw oherwydd Arianrod. Gwydion a'i hysbysodd hefyd pa fodd y cawsai arfau i'r gwr ieuanc. Ebai Math, "Wel, nyni, a tydi a minau, trwy hud a lledrith, a wnawn iddo wraig o flodeu. Bellach y mae ef yn wr llawn maint, a chyn deced ei bryd ag un mab a welais erioed." Yna, cymerasant flodeu y derw, a blodeu y danadl, a blodeu yr erweni (meadow-sweet); ac ohonynt ffurfiasant, trwy hud a lledrith, y forwyn decaf a theleidiaf a weles dyn erioed. Ac wrth ei bedyddio, galwasant hi Blodeuwedd.

Wedi iddynt briodi, ac i'r wledd fyned heibio, ebai Gwydion, "Nid hawdd i wr heb gyfoeth fyw yn anrhydeddus."Ebai Math, "Mi a roddaf i'w ddal i'r gwr ieuanc y cantref goreu feddaf." "Pa un yw hwnw, arglwydd?" ebai Gwydion. "Cantref Dunodig," ebai yntau. Gelwir y Cantref yn awr Eifionydd ac Ardudwy. A'r lle y cyfaneddodd efe ynddo oedd balas o'i eiddo a elwid Mur y Castell, yn ngwrthdir Ardudwy. Yno y cyfaneddodd ac y gwladychodd efe, a phawb a fuont foddlawn iddo ef ac i'w arglwyddiaeth. Ac efe a aeth i Gaer Dathyl, i ymweled â Math ab Mathonwy. A'r diwrnod yr aeth efe i Gaer Dathyl, Blodeuwedd a rodiodd o'r llys. A hi a glywaisai corn; ac ar ol sain y corn, wele hydd blinedig yn myned heibio iddi, a chwn a helwyr o'i ol; ac ar ol y cwn a'r helwyr, bagad o wyr traed yn eu dilyn. " Danfonwch was," ebai hi " i ymofyn pwy ydynt y nifer acw." Y gwas a aeth, a gofynodd iddynt pwy oeddynt. "Gronw Pebyr ydyw hwn, y gwr sydd yn arglwydd ar Penllyn,"ebynt hwy. Hyny a ddywedodd y gwas wrthi hithau.

Gronw Pebyr a ymlidiodd yr hydd, a cherllaw yr afon Cynfael goddiweddodd a lladdodd ef. Ac wrth flingo yr hydd a bwydo ei gŵn, yno y bu hyd onid ymdaenodd y nos o'i ddeutu. A phan oedd y dydd yn adfeilio, a'r nos yn nesau, efe a ddaeth at borth llys Mur y Castell. Ebai Blodeuwedd, "Diau gogenir ni gan yr arglwydd hwn os gadawn iddo fyned ymaith mor hwyr heb ei wahodd i mewn." Ebynt hwythau, "Diau, arglwyddes, gweddus i ni ei wahodd."Yna aeth cenhadon ato i'w wahodd, a chymerth yntau ei wahodd yn llawen, ac aeth i mewn i'r llys. A Blodeuwedd a gyfarchodd well iddo ac a'i croesawodd. Ebai ef, "Arglwyddes, ad-daled y nefoedd it' dy garedigrwydd. "

Wedi iddo ymddiosg o'i wisg helwrol, myned i eistedd a wnaeth ef a Blodeuwedd. A hi a edrychodd arno, ac. o'r awr yr edrychodd hi arno, hi a lanwyd o'i gariad. Yntau a edrychodd arni hithau, a daeth yntau hefyd i'r un meddwl, ac nis gallai gelu ei serch rhagddi, eithr ei fynegi iddi a wnaeth. Hyn a barodd iddi lawenydd mawr; ac o barth y serch a'r cariad a roddasai'r naill ar y llall y bu eu hymddiddan y noson hono. A threuliasant yr hwyr hwnw yn ngwmni eu gilydd. Tyranoeth, efe a ddarparodd at fyned ymaith. Ebai hithau, " Deisyfaf arnat nad elych oddiwrthyf heddyw." A'r nos hono ef a arosodd; a buont yn ymgynghori pa fodd y gallent fod beunydd yn nghyd. Ebai ef, "Nid oes gynghor ond un, sef fod i ti gael gwybod gan Llew Llaw Gyffes, a hyny yn rhith gofal amdano, trwy ba ddull y daw efe i'w angau." Tyranoeth drachefn, efe a ddarparodd at fyned ymaith. Ebai hi, "Diau ni chynghoraf di i fyned oddiwrthyf heddyw." Ebai yntau, "Y mae perygl i arglwydd y llys ddychwelyd adref." "Yforu caniatâf iti fyned'," âtebai hithau.

A'r diwrnod nesaf, efe a gychwynodd, ac ni cheisiodd hithau ei luddias. "Cofia," ebai ef, "am yr hyn a ddywedais wrthyf; ac ymddiddan ag ef mewn ysmaldod cariad, ac ymhola pa fodd y daw efe i'w angau."

Y noson hono, Llew Llaw Gyffes a ddychwelodd, a threulio llawer o amser a wnaethant mewn ymddiddan a cherddau a chyfeddach. A'r hwyr aethant i orphwys, ac efe a siaradodd unwaith a dwywaith wrth Blodeuwedd, eithr nid atebodd hi iddo un gair. "Pa beth a ddigwyddodd i ti? a ydwyt iach?" ebai ef." "Myfyrio yr oeddwn am yr hyn nas myfyret ti am danaf fi, sef gofalu am dy angau, os elit o'm blaen i." "Duw a dalo it' am dy ragofal; eithr hyd oni chymer y nef fi, nid hawdd fydd fy lladd." Ebai hithau, "Er mwyn y nef a minau, dywed wrthyf yn mha wedd y daw dy angau; canys y mae fy nghof i yn well i'w ymogelyd na'r eiddot ti." "Dywedaf yn llawen," ebai ef, "nid hawdd y gellir fy lladd, oddieithr trwy ergyd; a rhaid i'r waywffon y'm tarewir ag ef fod flwyddyn yn ei wneuthuriad, heb i neb weithio arni o gwbl ond pryd aberth ddydd Sul." "Ai gwir hyn?" ebai hithau. "Digon gwir; ac nis gellir fy lladd mewn tŷ nac allan o dŷ, ar farch nac ar droed." " Yn mha ddull ynte y gelli' dy ladd?" "trwy wneud badd imi ar lan afon, a dodi cronglwyd uwchben cerwyn y badd, a thoi hwnw yn dda a diddos; a dwyn bwch a'i ddodi ger llaw y gerwyn a dodi ohonof finau un troed ar gefn y bwch a'r llall ar ochr y gerwyn; a phwy bynag a'm tery felly, a bâr fy angau." " Diolchaf i'r nefoedd," ebai hithau, "y gellir osgoi hyny yn hawdd."

Mor gynted ag y cafodd hi yr ymadrodd hi a ddanfon- odd at Gronw Pebyr. Gronw a lafuriodd yn gwueud y waywffon, ac yn mhen un dydd a bwyddyn yr oedd yn barod, ac efe a barodd i Blodeuwedd wybod hyn y. "Arglwydd," ebai hi wrth y llew, " bum yn myfyrio pa fodd y gall yr hyn a ddywedaist wrthyf gynt fod yn wir; a ddangosi di i mi pa fodd y gallet sefyll ar ymyl y gerwyn ac ar y bwch, os darparaf y badd-le?" "Dangosaf," ebai yntau.

Yna hi a ddanfonodd at Gronw, ac a archodd iddo gadlechu yn nghysgod y bryn a elwir yn awr Bryn Cyfergyr ar lan yr afon Cynfael. Hi a archodd hefyd gynull yr holl eifr yn y Cantref, a'u dodi yr ochr arall i'r afon, gyferbyn a Bryn Cyfergyr.

A thranoeth, hi a ddywedodd wrth llew: — "Perais ddarparu y gronglwyd a'r ymdrochle, ac y maent yn barod." Ebai llew, "Awn i edrych arnynt." Tranoeth aethant i -weled y fan. " A â fy arglwydd i'r ymdrochle?" ebai hi. " Af yn llawen ebai yntau, Efe a aeth i'r ymdrochle, ac ymeneiniodd. " Arglwydd," ebai hi, "wele yr anifeiliaid y dywedaist wrthyf mai bychod oeddynt." "Pâr ddal un ohonynt a'i ddwyn yma," ebai "ef. Yna efe a gyfododd o'r ymdrochle, rhoddodd ei lodrau amdano, a dododd un troed ar ymyl y gerwyn a'r llall ar gefn y bwch.

Yna cododd Gronw i fynu o'i helwrfa, a phwysodd ar ben ei lin; ac efe a daflodd saeth wenwynig, yr hon a darawodd y llew yn ei ystlys nes y lluchiodd y paladr ymaith, eithr blaen y saeth a lynodd yn y clwyf. Yna y llew a roddodd waedd galon-rwygol, ac ehedodd i fynu yn ffurf eryr, ac a ddiflanodd yn fuan o'r golwg.

Mor fuan ag y diflanodd llew, Gronw a Blodeuwedd a aethant ynnghyd i'r llys y noson hono. tranoeth, Gronw a gymerth feddiant o Ardudwy; ac wedi iddo oresgyn y wlad, efe a wladychodd yno, onid oedd Penllyn ac Ardudwy yn ei arglwyddiaeth.

Dygwyd y newyddion hyd at Math ab Mathonwy; a thrymder a thristwch a ddaeth arno o'u herwydd; a thristach nag yntau ydoedd Gwydion. Ebai ef, "Argl- wydd, ni orphwysaf byth oni chaf hysbysrwydd am fy nai." "Duwa fo nerth it'," ebai Math. Yna Gwydion a gychwynodd, a cherddodd rhagddo hyd derfynau Gwynedd a Phowys. Wedi darfod hyny, efe a gerddodd Arfon, ac a ddaeth hyd at dŷ aillt (vassal) yn Maenor Penardd. Efe a ddisgynodd wrth y tŷ, ac a dariodd yno y noson hono. Gwr y tŷ a'i dylwyth a ddaethant i mewn, ac yn ddiweddaf oll y daeth y meichiad. Ebai gwr y tŷ wrth y meichiad, " Ha! was, a ddaeth dy hwch heno i mewn?" Ebai yntau, "Do; ac yr awrhon" y daeth hi at y moch." "Pa ryw gerdded sydd ar yr hwch " ebai Gwydion, "Bob bore pan agorer y cren yr â hi allan, ac ni cheir craff arni, ac ni wyddis pa ffordd yr â mwy na phe suddai i'r ddaear." "A wnei di gymwynas a mi" ebai Gwydion, "peidio agoryd dôr y cren oni byddwyf fi yno gyda thi." "Gwnaf yn llawen," ebai ef. I gysgu yr aethant y noson hono. A phau welodd y meichiad liw y dydd, efe a ddeffroes Gwydion. Safasant wrth y cren; " agorodd y meichiad y ddôr, a'r hwch a neidiodd allan ac a gerddodd ymaith yn gyflym. Gwydion a'i canlynes; a hi a groesodd afon, gan gyrchu i nant a elwir yn awr Nant y llew. Yno hi a ymataliodd, ac a ddechreuodd bori o tan goeden fawr. Gwydion a ddaeth o tan y pren, ac a edrychodd pa beth. oedd yr hwch yn fwyta, ac wele bwyta yr oedd gig pwdr crynrhonllyd. Ac efe a edrychodd i ben y pren, ac ar y brig gwelai eryr; a phan ymysgydwai yr eryr, disgynai oddiwrtho bryfaid a chig pwdr, a'r rhai hyn a ysai yr hwch. Ac efe a dybiodd mai'r llew oedd yr eryr, a chanodd iddo yr englyn hwn: —

Y dderwen dyf rhwng dwy lan,
Gorddu yw'r awyr a'r bryn;
Onid adwaenaf ef wrth ei archollion,
Mai llew yw hwn?

Ar hyny yr eryr a ddisgynodd hyd at ganol y pren, a Gwydion a ganodd iddo englyn arall: —

Y dderwen dyf mewn hardd faes,
Onis gwlych gwlaw, onis twym gwres?
Onid angherdd naw ugain tymhestl oddefes?
Rhwng ei changau mae Llew Llaw Gyffes.

Yna'r llew a ddisgynodd onid oedd ar y gainc isaf i'r pren, a thrachefn canodd Gwydion iddo yr englyn hwn: —

Y dderwen dyf tan oriwaered,
Teg a hardd ei llun,
Oni ddywedaf fi y gair?
Disgyn, llew, i'm harffed.

Yna yr eryr a ddisgynodd ar lin Gwydion. A Gwydion a'i tarawes gyda'i swynlath, nes y trawsffurfiwyd llew i" w ffurf ei hun. Ni chanfu neb erioed dremyn truenusach nag oedd arno — nid oedd ddim ond croen ac esgyrn.

Yna hwy a aethant hyd i Gaer Dathyl, a dygpwyd at llew feddygon da yn Ngwynedd, ac yr oedd efe yn holl iach cyn diwedd y flwyddyn.

" Arglwydd," ebai ef wrth Math ab Mathonwy, " y mae yn llawn bryd imi gael iawn gan yr hwn y dioddefais gymaint oddiar ei law." Ebai Math, " Diau nas gall efe ymgynal mewn meddiant o'th eiddo di." "Goreu bo'r cyntaf," ebai yntau, " y caffwyf fi iawn."

Yna cynullasant holl wyr Gwynedd, a chyrchasant i Ardudwy. Gwydion a gerddodd o'u blaen tua Mur y Castell. A phan glybu Blodeuwedd ei fod yn dyfod, hi a gymerth ei morwyniyn ac a ffodd i'r mynydd. Wedi croesi yr afon Cynfael, cyrchasant tuag at lys oedd ar y mynydd; a chan ofn, yr oeddynt yn cerdded drach eu cefnau, oni syrthiasant i lyn yn ddiarwybod; a boddwyd hwynt oll oddieithr Blodeuwedd. Hithau a oddiweddwyd gan Gwydion; ac efe a ddywedodd wrthi, " Ni laddaf dydi, eithr mi a wnaf it' y sydd waeth na hyny, sef dy drawsffurfio yn aderyn, am y cywilydd a ddygaist ar Llew Llaw Gyffes: ac ni feiddi byth ddangos dy wyneb hw dydd, a hyny rhag ofn yr holl adar, canys bydd yn eu hanian dy faeddu a'th anmharchu. Ac ni cholli dy enw, eithr gelwir di drachefn Blodeuwedd." Dallhuan ydyw Blodeuwedd yn iaith yr oes hon; ac oherwydd hyny, yr holl adar a gashant y ddallhuan.

Yna Gronw Pebyr a ymgiliodd i Penllyn, ac oddiyno danfonodd genhadau. A'r cenadau a ofynasant i Llew Llaw Gyffes os cymerai efe dir neu ddaear, neu aur neu arian, yn iawn am ei sarhad. "Na chymeraf, myn y nefoedd," ebai llew, " a dyma y peth leiaf a gymeraf fi ganddo: — Iddo ddyfod i'r man yr oeddwn i pan archollwyd fi gyda saeth ganddo, ac i minau sefyll lle y safai yntau, a chyda saeth anelu ato. A dyma'r iawn lleiaf a gymeraf fi ganddo."

Mynegwyd hyn i Gronw Pebyr. Ebai yntau, "A raid i mi wneud hyn? Fy ngwyr ffyddlon, a'm tylwyth, a'm brodyr maeth, a oes un ohonoch chwi a gymer yr ergyd hwn yn fy lle?" "Nac oes, yn ddiau," ebynt hwythau. Ac oherwydd gomedd ohonynt ddyoddef un ergyd tros eu harglwydd, y gelwir hwynt hyd y dydd hwn, "Y trydydd anniwair deulu." "Wel," ebai ef, " mi a'i cymeraf."

Yna daethant eill dau hyd at lan yr afon Cynfael; a Gronw a safai yn y fan y safai Llew pan ei harchollwyd, a Llew yn y fan y safai Gronw. Ebai Gronw wrth Llew, "Yn gymaint ag imi wneud a wnaethum i ti trwy ystryw gwraig, tyngedaf di yn enw y nefoedd i ganiatau imi roddi rhyngwyf â'r ergyd y llech a welir acw ar lan yr afon." Ebai llew, "Diau ni'th omeddaf o hyny." "Duw a dalo it'," ebai Gronw; ac efe a gymerth y llech, ac a'i dodes rhyngddo a'r ergyd.

Yna llew a daflodd y saeth, nes y treiddiodd trwy y llech ac i gefn Gronw. Felly y lladdwyd Gronw Pebyr. Ac y mae llech eto ar lan yr afon Cynfael, yn Ardudwy, a thwll ynddi; a gelwir y llech hono, llech Gronw.

Eilwaith, cymerodd Llew Llaw Gyffes feddiant o'i diroedd, a gwladychodd yn llwyddianus ynddynt. Ac yn ol yr hanes efe a fu. arglwydd wedi hyn ar Wynedd oll.

Felly y terfyna y gainc hon o'r Fabinogi.

Y CREADURIAID HIRHOEDLOG

.

[DYFYNIR y rhamant bychan, prydferth, a chywrain canlynol o Lyfr Thomas Willams o Drefriw. T. W. a flodeuai tua dau cant a haner o flynyddau yn ol. Yr oedd ei ddysgeidiaeth yn eang ac amryfal iawn. Heblaw amryw lyfrau ar hanesyddiaeth ac at wasanaeth ei genedl, ysgrifenodd Feddyg-lyfr mawr, yr hwn sydd yn bresenoi yn meddiant ein cyfail loan Lleifiad. Yr oedd, er hyny, yn Babydd selog, ac yn hysbys ar holl symudiadau Pabyddion yr oes hono. Dywed traddodiad mai efe a fu yn achlysur i ddadguddio Brad y Powdwr Gwn. Y pryd yma, yr oedd Syr John o Wydir yn aelod Seneddol, a Thomas Williams, yn gyfaill mawr iddo, a'i rhybuddiodd rhag myned i'r Senedd noson y Frad. Yna Syr John a ddadblygodd y gyfrinach gerbron ei gyd-seneddwyr; a thrwy ei ddiffuantrwydd a'i ddyngarwch canmoladwy, arbedodd y wlad hon rhag syrthio eilwaith i grafangau didosturi Pabyddiaeth, ac agorodd ei llygaid eilwaith i weled mai brad a melldith a dinystr ydyw anian ac amcan a bywyd y Babaeth.

Ymddangosodd rhywbeth tebyg i'r rhamant hwn yn Ystori Cilhwch ac Olwen, a diameu mai yno y cafodd Thomas Williams y rhan fwyaf o'i ddefnyddiau.]

ERYR GWERNABWY, wedi bod yn hir yn briod â'r Eryres, a bod iddo lawer o blant o honi, a'i marw hi, a bod o hono yntau yn hir yn weddw, a aeth i briodi gyda Dallhuan Cwmcawlyd. Ond rhag iddo blant o honi, a dirywio o'i rywogaeth, efe a aeth yn nghyntaf at Hynafiaid y Byd i ofyn ei hoedran hi. Ac yn nghyntaf, efe a aeth at Garw Rhedynfre, ac a'i cafodd yn gorwedd wrth hen gelffinen o dderwen, ac a ofynodd iddo oedran y Ddallhuan. Y Carw a'i hatebodd, " Mi a welais y dderwen hon yn fesen y sy yr awrhon ar lawr heb na dail na rhisgl arni; ac ni bu arni draul yn y byd, ond fy mod i yn ymrwbio ynddi bob dydd wrth godi, ac ni welais i erioed y Ddallhuan yn hŷn nac iuu nag ydyw heddyw; ond y mae un sydd yn hyn na myfi, a hwnw ydyw Gleisiad Glynllifon."

Aeth yr Eryr at y Gleisiad, a holodd yntau, ac efe a atebodd, "Mi a wn fy mod i yn flwydd oed am bob gem sydd ar fy nghroen, ac am bob gronyn sydd yn fy mol, ac ni welais i erioed mo'r Ddallhuan ond yr un modd! Ond y mae un sydd hŷn na mi, a hwnw ydyw Mwyalchen Cilgwri."

Yr Eryr a aeth i edrych am y Fwyalchen, a chafodd ef yn eistedd ar gareg fechan, ac a roddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ebai y Fwyalchen, "A weli di y gareg yma sydd danaf? — nid ydyw fwy nag a fedr dyn gario yn eilaw, ac mi a'i gwelais yn Uwyth cant o ychain! ac ni bu arni draul erioed, ond fy ngwaith i yn sychu fy mhig arni bob nos, ac yn taro blaen fy adenydd ynddi wrth ymgodi yn y bore, ac nid adnabum i y Ddallhuan na hŷn nac iau nag ydyw hi heddyw. Ond y mae un hŷn na myfi, a hwnw ydyw llyffant Cors Fochno; ac oni wyr hwnw ei hoedran hi nis gwyr neb."

Yna aeth yr Eryr at y llyffant, a rhoddodd yr un gofyniad iddo yntau. Ac efe a atebodd, "Ni fwyteais I ddim erioed ond a fwyteais o'r ddaear, ac ni fwyteais haner fy nigon o hono, ac a weli di y ddau fryn yna sydd wrth y gors? — mi a welais y fan yna yn dir gwastad, ac ni wnaeth dim hwynt cymaint ond a ddaeth allan o'm corph I, a bwyta cyn lleied; ac nid adnabum i erioed mo'r Ddallhuan ond yn hen wrach yn canu 'tw-hw-hw,' ac yn dychrynu plant gyda'i llais garw, fel y mae heddyw."

Felly Eryr Gwernabwy, a Charw Rhedynfre, a Mwyalchen Cilgwri, a Gleisiad Glyn Llifon, a llyffant Cors- fochno, a Dallhuan Cwmcawlyd, ydynt y rhai hynaf yn y byd oll.

HEN DDEFOD GLADDU GYMREIG

.

Yr oedd yn ddefod yn yr amser digrif a diniwed gynt mewn angladdau Cymreig, i bawb ddwyn yn ei law frigyn o Rôs Mari, a'i daflu i'r bedd gyda bod yr offeiriad yn terfynu darllen y gwasanaeth. Yr oedd hefyd ddefod gyffelyb yn ffynu yn mhlith y paganiaid; eithr taflent hwy frigyn o'r gypreswydden. Dewisent o'r pren hwn am na flagyrai ei frigau yn y ddaear, ond y gwywent yn ddiatreg; ac yr oeddynt felly yn arwyddlun o'u crediniaeth hwy, na byddai i'r marw adgyfodi. O'r ochr arall, y Cristionogion a daflent Rôs Mari i feddau eu hymadawedig, gan arddangos eu ffydd mewn ail-fywyd ac adgyfodiad.

EDMWND PRYS, A HUW LLWYD O GYNFAL.

(GAN CYNDDELW.)

Yr oedd y ddau -wr enwog yma yn gyfeillion mawr yn eu dydd, ac yn meddwl yn uchel iawn am eu gilydd. Mae Edmwnd Prys yn cyfarch Maentwrog ar farwolaeth Huw llwyd yn y modd yma: —

Ni chleddir, ac ni chladdwyd,

Fyth i'r llawr mo fath Huw Llwyd.?

Yr oeddynt eill dau, yn ol chwedlau yr hen oesoedd, yn enwog am "godi cythreuliaid," "hud a lledrith," a phob arddangos. Un tro, ar ddy'gwyl ffair Maentwrog, yr oedd Huw Llwyd mewn tafarn yn yfed, a gwelodd yr Archddeon Prys yn cerdded yr heol; yna, rhoddodd ei ben allan trwy y ffenestr, a galwodd arno i mewn i gael rhan o'r gyfeddach. Eithr ni fynai'r gwr eglwysig ymostwng i hyny, a digiodd yn hytrach wrth Huw Llwyd am ei hyfdra; a thrwy rym ei gelwyddoniaeth, parodd i ddau gorn eidion dyfu mewn munud, un o bobtu pen Huw Llwyd, fel na allai dynu ei siol yn ol o'r ffenestr; ac yno y bu efe, yn destun chwerthin i rai, a braw a dychryn mawr i'r lleill, nes y gwelodd Edmwnd Prys yn dda ei ryddhau. Pa fodd bynag, yr oedd dydd gofwy Edmwnd Prys yn agos; oblegyd wrth fyned adref y noson hono i'r Tyddyn Du, talwyd iddo yn ei arian ei hun. Yr oedd ganddo Felin yn ymyl ei dŷ, a'r "cafn gwyllt," yr hwn oedd yn arwain y dwfr tros y ffordd i ben yr olwyn ddwr yn rhidwll; a'r funyd yr oedd yr Archddeon yn myned o tan y cafn dyferllyd hwnw, dyna un neu ragor o gythreuliaid Huw Llwyd yn ymaflyd yn ei war, ac yn ei ddal dan y dyrferion nes oedd yn wlyb drwyddo! Felly "yr oedd y naill cystal a'r llall, ac yn well hefyd."

HUW LLWYD A'R YSPRYD.

ADRODDIR chwedl arall am Huw Llwyd. Mae yn nghanol rhaiadrau rhamantus Cynfal, y gader geryg, yr hon a adwaeni'r hyd heddyw fel " Pwlpud Huw Llwyd." Yno, i ganol gordduar a chrygddwndwr byddarlef y rhaiadrau, cyrchai yn y nos wrtho ei hunan i fyfyrio, er mawr ofid i'w wraig, yr hon fyddai yn ymgreinio yn y gwely; ac yn. disgwyl bob munud iddo ddyfod i'r tŷ " cyn oered a llyfant." Yn ol y chwedl, Huw Llwyd oedd tad Morgan Llwyd o Wynedd, y pregethwr nodedig. Pa fodd bynag, penderfynodd ei wraig dynu'r arferiad o fyned i'r pwlpud ceryg gefn y nos o'i gwr. Anfonodd ei brawd mewn cynfas wen i'w ddychrynu. Aeth y brawd, gan wneud ystumiau mor fwganllyd ag y medrai. "Holo! pwy wyt ti?" ebai Huw Llwyd wrth ei ganfod yn nesu ato, "Ai ysbryd wyt ti? Pa un ai ysbryd da ai ysbryd drwg wyt ti?" Ond ni feddai y ffug-ysbryd air i'w ateb. "Os ysbryd da wyt ti, ni wnei di ddim niwaid i mi er mwyn Morgan fy mab; ac os ysbryd drwg wyt ti, ni wnei dithau ddim niwaid i mi, 'does bosibl, a minau yn briod â dy chwaer di."Yr oedd y dyn yn y gynfas yn dechreu crynu erbyn hyn: "yr'wan amdani hi, 'r gwyn,"ebai H. Llwyd, "gwyliadi'r Du yna sy'n sefyll wrth dy sodlau di!" Dyna'r dyn "yn cymeryd y carnau" tua'r tŷ am ei fywyd, a Huw Llwyd yn bloeddio nerth ei ben, "Hwi, 'r Du! Hwi, 'r Gwyn," &c., nes oedd ei frawd-yn-nghyfraith bron a llewygu gan ofn; ac aeth i'w wely yn glaf, oherwydd cael ei hela gan ysbryd!

Diau fod dynion dysgedig a chyfrwys yr hen amseroedd yn hôni y gallent drin ysbrydion, er mwyn amddiffyn eu hunain rhag gwerin anwar, lygadrwth, a lladronllyd; ac nid yw y gellyddyd hono ond newydd ddiflanu o'r wlad, canys yr oedd rhai o ddysgedigion yr oes ddiweddaf yn cael y galr o roddi ysbrydion i lawr, dal lladron trwy ddewiniaeth, &c.

Y TYLWYTH TEG.

(Gan GLASYNYS.)

Dyma swp o Draddodiadau a glyw-wyd yn ngwahanol ranau o'r wlad yn nghylch y Tylwyth Teg. Nid wyf am geisio dweyd pa fath rai ydynt, o ba le y daethant, nac i ba le yr ânt: digon yw cymeryd y chwedlau fel ag y traethir hwy mewn llawer parth o'r Dywysogaeth. Dechreuaf hefo'r gyntaf a glywais erioed: —

I

Pan oedd pobl y Gors Goch un hwyrnos newydd fyned i'r gwely, dyma dwrf a chythrwfl anafus o gwmpas y tŷ. Methid yn lan loyw landeg a dirnad pa beth a allai fod


yn cadw nâd yr amser hono o'r nos. Yr oedd y gwr a'r wraig, y naill a'r llall wedi deffro, ac yn methu'n glir a gwybod pa beth a allai fod yno. Deffroes y plant hefyd. Ond ni fedrai neb yngan gair; yr oedd eu tafodau oll wedi glynu wrth daflod y genau. Ond o'r diwedd, medrodd y gwr ystwyrian, "Pwy sydd yna," a "Pha beth sydd arnoch eisiau?" Yna atebwyd ef o'r tu allan gan lais main, arianlef, "Eisio lle cynes i drwsio plant."

Agorwyd y drws, a daeth dwsin o ryw fodau bach i mewn, a dechreuasant chwilio am gunnog a dwfr, ac yno y buant am oriau rai yn ymolchi ac yn ymbincio. Ac ar lasiad y dydd, aethant ymaith, gan adael ar eu holau rodd dlos am y tiriondeb a dderbyniasant, Mynych ar ol hyn y cafodd teulu'r Gors Goch gwmni'r teulu hwn. Ond ryw dro, yr oedd yno yn digwydd bod rolyn o blentyn tlws ac iach. Yr oedd ef yn ei gryd. Daeth y Tylwyth Teg yno; ac oherwydd ei fod heb ei fedyddio, cymerasant eu hyfdra i newid dau blentyn. Cymerasant y plentyn braf i ffwrdd, a gadawsant ryw ledfegyn gwrthun yn ei le, ac ni wnai hwnw ond crio a nadu holl ddyddiau yr wythnos. Yr oedd y fam bron a thori ei chalon oblegyd yr anffawd, ac ofn arswydus dweyd wrth neb am y peth. Ond daeth pawb drwy'r fro i weled fod rhywbeth allan o'i le yn y Gors Goch; a phrofwyd hyny cyn hir, drwy i'r wraig farw o hiraeth ar ol ei phlentyn. Bu'r plant eraill farw o doriad calon ar ol eu mam, a gadawyd y gwr a'r gwiddon bach heb neb i'w cysuro. Ond dechreuwyd yn fuan tua'r adeg hon ail ddod i "drwsio plant," ar aelwyd y Gors Goch; a daeth y rhodd, yr hon gjnt oedd arian gleision, bellach yn aur pur dilin. A chyn pen ychydig o flynyddoedd, daeth y Gwiddon yn etifedd ar le mawr yn Ngogledd Cymru, a thyna paham y dywedai yr hen bobl, "Fe ddaw gwiddon yn fawr ond ei bedoli âg aur." Dyna chwedl y Gors Goch.

II.

Rywbryd, yr oedd William Ellis y Gilwern, yn pysgota ar lan llyn Cwm Silin, ar ddiwrnod niwlog a thywyll. Nid oedd wedi gweled un gwyneb byw bedyddiol er pan ddaeth o waelod Nant y Llef. Ond pan wrthi yn taflyd yr enwair gydag osgo ddenus, gwelai ar ei gyfer mewn llwyn o frwyn, swp anferth o ddynion, neu bethau ar lun dynion, tua throedfedd o daldra yn neidio ac yn dawnsio.

Bu'n edrych arnynt am oriau, ac ni chlywodd yn ei fywyd y fath ganu, meddai. Ond aeth William yn rhy agos atynt, a thaflasant hwythau ryw fath o Iwch i'w lygaid; a thra bu ef yn sychu'r cyfryw, fe ddiangodd y teulu bach i rywle o'r golwg, ac nis gwelodd na siw na miw ohonynt byth wed'yn.

III.

Y mae chwedl go debyg am le o'r enw Llyn y Ffynonau. Yr oedd yno rafio a dawnsio, telynio a ffidlo enbydus, a gwas y Gelli Ffrydau a'i ddau gi yn eu canol yn neidio ac yn prancio mor sionc â neb. Buont wrthi hi felly am dridiau a theirnos, yn ddi-dor-derfyn; ac oni bai bod rhy w wr cyfarwydd yn byw heb fod yn neppell, aci hwnw gael gwybod pa sut yr oedd pethau yn myned yn mlaen, y mae'n ddiddadl y buasai i'r creadur gwirion ddawnsio'i hun i farwolaeth. Ond gwaredwyd ef y tro hwn.

IV.

Mi glywais fy mam, pan oeddwn yn lâs-hogyn, yn myned dros yr hanes a ganlyn lawer gwaith. Ydyw, y mae'r geiriau eglur, yr olwg syml, yr ystum prydferth, y llygaid hyny ag y mae'r ceufedd wedi eu mynnu iddo ei hun, yn fyw o flaen fy llygaid! Pan yn gwau ei hosan ar ddechreunos, o flaen tanllwyth braf o dân, mi fyddai yn ddifyr clywed barddoniaeth mewn iaith rydd — clywed adroddiad drymgais mam wrth ei hanwyliaid er mwyn eu dyddanu.

Yr oedd unwaith fachgen o fugail wedi myned i'r mynydd, Fel llawer diwrnod arall, cynt a chwedi hyn, yr oedd hi yn niwliog anarferol. Er ei fod ef yn 'dra chydnabyddus a phob rhan o'r fro, eto ryw fodd fe gollodd y ffordd, a cherdded y bu ar draws ac ar hyd am lawer o oriau meithion. O'r diwedd, daeth i bantle brwynog, a gwelai o'i flaen amryw gylchoedd modrwyog. Cofiodd mewn munud am y lle, a dechreuodd ofni yr hyn a fyddai gwaeth. yr oedd wedi clywed lawer canwaith am y triniaethau chwerwon yr aeth llawer bugail drwyddynt oher- wydd digwydd ohonynt dd'od ar draws dawnsfa neu gylchau y TYLWYTH TEG. Brysiodd ei oreu glas fyned oddiyno rhag ofn y sibedid yntau fel y rhelyw; ond er chwysu a thagu, yno yr oedd, ac yno y bu am hir amser. O'r diwedd, daeth i'w gyfarfod dorpwth o hen ddyn llygadlas, llygadlon, a gofynodd pa beth yr oedd yn ei wneud. Dywedodd yntau mai ceisio cael hyd i ben y ffordd i fyned adref yr oedd. "Ho!" ebai, yntau "tyr'd ar fy ôl i, a phaid ag yngan gair nes y peraf i ti."Felly y fu hi. Aeth ar ei ol ef o lech i Iwyn nes y daethant at faen hirgrwn; a thyma yr hen dorpwth yn ei godi, ar ol rhoi tri chnoc hefo'i ffon yn ei ganol, Yr oedd yno Iwybr cul, a grisiau draw ac yma i'w gweled. Yr oedd yno hefyd oeleuni llwyd-las-wyn i'w ganfod yn tarddu o'r ceryg. "Dilyn fi yn ddiofn,"ebai'r torpwth, "ni wneir dim niwaid i ti." Yn mlaen yr aeth y bachgen druan, yn wysg ei drwyn, fel ci i'w grogi. Ond toc, dyma wlad dêg, goediog, ffrwythlawn, yn ymledu o'u blaen; a phalasau trefnus yn ei britho, a phob mawredd ymddangosiadol yn rhith-wenu yn eu gwyneb. Yr oedd yr afonydd yn loyw- droellog, y ffrydiau yn sidellog, y bryniau yn lasdwf irwelltog, a'r mynyddoedd yn llyfn-gnuafog. Erbyn cyrhaedd palas y torpwth, yr oedd wedi pensyfrdanu gan mor beraidd-oslefol y pynciai yr adar yn y coedlwyni. Yno drachefn yr oedd aur yn serenu'r llygaid, ac arian yn gwawlio'r golygon. Yr oedd yno bob offer cerdd, a phob rhyw erfyn chwareu. Ond ni welai neb yn yr holl fan. Pan aeth i fwyta, yr oedd y pethau oedd ar y bwrdd yn do'd yno eu hunain, ac yn diflanu hefyd pan ddarfyddid a hwy. Methai'n lân loyw a dirnad hyn. Yr oedd yn clywed pobl yn siarad hefo'u gilydd o'i gwmpas, ac yn ei fyw nis gwelai neb ond ei hen gydymaith. Ebai'r torpwth wrtho o'r diwedd, "Gelli bellach siarad faint y fyd fyw a fynot." Ond pan geisiodd ysgwyd ei dafod, nis symudai hwnw mwy na thalp o rew. Dychrynodd yn aruthir o'r plegyd. Ar hyn, dyma globen o hen wreigan raenus a thirion yr olwg arni yn d'od atynt, ac yn cil-wenu ar y bugail. Yna dyma dair o ferched hardd nodedig yn dilyn eu mam. Syllent hwythau hefyd yn rhyw haner chwareus arno. O'r diwedd, dechreuasant siarad hefog ef. Ond ni wnai'r tafod ysgwyd. Ond ar hyn, daeth un o'r lodesi ato, a chan chwareu hefo'i lywethau melyn-grych, tarawodd glamp o gusan ar ei wefusau fllamgoch. Llaciodd hyn y rhwymyn oedd yn dal y tafod, a dechreuodd arni siarad yn rhydd a doniol. Yno yr oedd, o dan swyn y cusan hwnw, mewn hawddfyd hyfrydlawn. A bu yno am un dydd a blwyddyn heb wybod iddo aros mwy na diwrnod yn eu mysg. Yr oedd ef wedi myned i wlad lle nad oedd dim cyfrif amser. Ond ryw bryd, fe gododd tipyn o hiraeth arno y buasai yn dda ganddo gael myned i roi tro i'w hen gynefin, a gofynodd i'r torpwth a gai ef fyned. Diolchodd hefyd yn dra moesgar am y tiriondeb a gafodd. "Aros ronyn eto, a chei fyned am swrn," ebai yntau; ac felly fu hi. Arosodd, ac yr oedd Olwen, oblegyd dyna oedd enw y fun a'i cusanodd, yr oedd hono yn anfoddlawn iawn iddo ymadael. Byddai yn edrych yn drwm bob tro y soniai am fyned ymaith. Ac yr oedd yntau hefyd yn teimlo rhyw ias oer wrth feddwl ymadael â hi.

Ond ar yr amod o dd'od yn ol câdd fyned a digon o aur ac arian, a thlysau a gemau, ganddo. Pan ddaeth adref, ni wyddai neb pwy oedd. Yr oeddis wedi meddwl fod bugail arall wedi ei ladd am annos ei ddefaid; a bu raid i hwnw gymeryd y goes i'r Amerig draw, onide crogesid ef rhag blaen. Ond dyma Einion Las adref, a phawb yn synu. Yn enwedig, wrth wel'd bugail wedi d'od i edrych fel arlwydd cyfoeth. Yr oedd ei foes, ei wisg, ei iaith, a'i eiddo, yn cyfateb i'r dim i'w wneud ef yn ŵr boneddig. Aeth yn ol drachefn rhyw nos lau cynta'r lleuad, mor ddiswta, yr eil-dro ag yr aeth y waith gyntaf, ac ni wyddai neb pa sut na pha fodd. Yr oedd llawenydd mawr yn y wlad isod pan ddychwelodd Einion yno, ac nid neb a lonodd yn fwy nag Olwen ei anwylyd. Yr oedd y ddau yn wyllt wibwrn am briodi. Ond yr oedd yn rhaid gwneud hyny yn ddystaw, oblegyd nid oedd dim yn gasach yn ngolwg teulu'r wlad isod na thwrf a sôn. Ac felly, mewn dull haner dirgel, fe unwyd y ddau. Yr oedd ar Einion flys garw myned eto i roi tro hefo'r wraig, na bo ond ei son, adref i fysg ei deulu. Ac ar ol hir ymbil hefo yr hen fachgen, cawsant gychwyn ar gefn dau ferlyn gwyn; yn wir yr oeddynt yn debycach i eira na dim arall o ran lliw. Felly fe ddaeth ef a'i briod i'w hen gynefin, a barn pawb oedd, mai y lânaf a welodd yr haul yn un man oedd gwraig Einion.

Pan adref, ganwyd mab iddynt, a galwyd ei enw yn Daliesin. Yr oedd Einion erbyn hyn yn fawr ei alwad, a'i wraig yn derbyn pob parch teilwng. Yr oedd ei golud yn anferth, a buan y daeth ganddynt etifeddiaeth eang. Ond yn lled-agos i hyn, daeth pobl iddechreu holi am achau gwraig Einion. Nid oedd y wlad yn barnu mai peth iawn oedd bod heb achau. Holwyd Einion, ond ni roddai ef un ateb boddhaus. A phenderfynodd y bobl mai un o deulu'r TYLWYTH TEG oedd. "le'n wir," ebai Einion, " nid oes dadl i fod nad un o Dylwyth Teg iawn ydyw; oblegyd y mae iddi ddwy chwaer eto mor lân â hithau; a phe gwelsech hwynt yn nghyd, buasech yn cydnabod fod yr enw yn un iawn." Â. thyma paham y galwyd y teulu hynod sydd yn nhir Hud a lledrith yn DYLWYTH TEG.

EIRY MYNYDD.

EIRY Mynydd, blin yrr'r byd.
Ni ŵyr neb ddamwain golud;
Nid â traha i wereryd;
Ni phery dim ond enyd;
Gnawd gorfod yn ol adfyd;
Twyllo gwirion sy' enbyd;
Byth. ni lwydda un a gwŷd;
Ar Dduw'n unig rhown oglud.
Eiry Mynydd, gwyn corn mŵg,
Hoff gan leidr dywyllwg;
Gnawd galanas o hir gilwg;
Gwyn ei fyd a fo diddrwg;
Hawdd cymhell diriaid i ddrwg;
Nid da digwydd trythyllwg;
Ar benaeth, bai fydd amlwg;
Coelia'n llai'r Glust na'r Golwg.
Eiry Mynydd mawr a rôs,
Gofal herwr ar hirnos;
Anaml lles o rodio'r nos;
Cyn credu myn yr achos;
Cam ffordd i ddieithr na ddangos;
Na wreicca, ond yn agos;
Nag anifeiliaid ar gefn rhôs
Llywodraeth gwyr sydd anos.
Eiry Mynydd, da yw hedd;
Cyn dechreu, gwêl y diwedd;
Mawr gofal dyn mewn blinedd;
Gnawd adfyd yn ol trawsedd;
Gweddwa un peth yw bonedd,
Oni chanlyn rhyw rinwedd,
I wrthwyneb aruthredd:
Ystyrio dyn sydd ryfedd!
Eiry Mynydd, melus Gwin;
Pwy ŵyr dranc mab wrth feithrin?
Ni cheir parch ar gysefin;
Nid gwerthfawr y Cyffredin;
Nid rhybarch rhŷ gynefin;
Nid parhaua llywiadwr gwerin;

Am bechodau'r cyffredin,
Rhydd Duw annoeth frenin.
Eiry Mynydd, llw ŷch llôg,
Bechan teyrnas i chwanog;
Gnawd yr ieuanc yn ddifiog;
Aml tro ar feddwl serchog;
Na thyn chwareu ar daeog;
Na fydd ry hyf ar rywiog;
Gwae'r neb a fo dyledog,
Lle bo annoeth dywysog.
Eiry Mynydd, hoff yw clod,
Ni waeth digon, na gormod;
Yn ol traha, gnawd gorfod;
Mawr y w codiad aur dafod;
Ar ddim na wna mo'r difrod;
Ni ludd i gael y parod;
Nid llai heiniar [4] er cerdod;
Cywira cydymaith, priod.
Eiry Mynydd, Duw fy Nêr,
Trwmaf cwymp o'r uchelder;
Anhardd ar benaeth, balchder;
Gwisg oreu i ferch yw gwylder;
Hardd iawn ar wr yw hyder;
Gwell nag athraw yw arfer;
Gwedi profi ffyrdd llawer,
Mae'r byd i gyd yn ofer.
Eiry Mynydd, dail ar onn,
Tryma dim dwyn gofalon;
Cletta clwyf, clefyd calon;
Nid gŵr i'r byd yw'r Cyfion;
Mwyaf cam y dyn union;
Mwyaf ofnir y trawsion;
Trwy fìloedd o beryglon
Duw a weryd ei wirion.
Eiry Mynydd, ceir gweled
Nad da mynych nâg am gêd;
Nid cybydd yw pob caled;
Na edliwia i neb ei dynged;
Heb fai nid neb a aned;
O fynych fenter, gnawd colled;

Ni lwydd a wneir mewn hoced;
Gwaethaf 'stor oll o'r merched.
Eiry Mynydd, mae'n hysbys
Gnawd edifeirwch o frys;
Drwg fydd lleferydd ffawtus;
Anodd cydfod eiddigus;
Ni fawr gwsg un gofalus;
Mawr gwenwyn y gwenieithus;
Pell amcan y deallua;
Ffola dyn y cenfigenus.
Eiry Mynydd, llydan môr,
Goreu ar Hen ei gynghor;
Dyro i'th well ei ragor;
Gwell celfyddyd na thrysor;
Ffol nwyfus, hawdd ei hepcor;
Un fath a llong ar gefnfor,
Heb raff, heb hwyl, heb angor,
Ydyw'r Ieuanc heb gynghor.

[Llywarch Hen, awdwr y gerdd uchod, oedd dywysog yn mhlith y Prydeiniaid Gogleddol; eithr y llwyth hwnw yn cael ei orchfygu gan y Saeson, Llywarch a enciliodd i Gymru, ac a wladychodd ar lan Llyn Tegid. Yn yr ardal hono drachefn bu brwydrau creulon rhyngddo â chyd- wladwyr Hengist mewn lle a elwir hyd y dydd hwn Rhiw-waedog. Yr oedd iddo bedwar ar hugain o feibion, a 'chollodd yr oll ohonynt yn y rhyfeloedd hyn. Cyfansoddodd farwnad iddynt, yn mha un y sylwai yn effeithiol ar amgylchiadau eu marwolaeth a manau eu bedd. Enw ei fab hynaf oedd Gwên, ac ymddengys mai hwn oedd anwylyd enaid ei dad. Lladdwyd Gwên a'i farch mewn brwydr; ac yn mhen hir amser ar ol hyny, dodwyd penglog yr olaf yn lle careg mewn sarn ar afon yn agos i'r lle y lladdesid ef. Llywarch ar dramwy a ddamweiniodd ddyfod heibio i'r sarn hono, a'i was a ddangoses y penglog iddo gan fynegi ei helynt. Yna y dywedodd Llywarch: —

MI a welais ddydd i'r march,
Ffriw[5]* hydd, taflydd tywarch,
Na sangai neb ar ei ên
Pan oedd tan Gwên ab Llywarch.

Blodeuai tua'r flwyddyn 590; a dywedir ei fod yn 150 oed pan fu farw, am hyny y gelwid ef yn Llywarch Hen.

Nid yw'r geiriau "Eiry Mynydd," neu eira mynydd, ond hoel i hongian arni y gwirebau ffraethbert.]

LLWYN Y NEF.

(GAN GLASYNYS,)

Yr oedd ryubryd gynt yn Ngôr Beuno yn Nghlynog Fawr yn Arfon, fynach myfyrgar defosiynol, ac aml a diflin y myfynai am weledigaethau ysplenydd gwlad y tangnef tragyfyth. Ewyllysiai hefyd beunydd gael un cipolwg, pan "yn y cnawd, ar y breswylfa dawel. Un diwrnod, ar bryd Gosper, daeth i'w feddwl nas gallaill awenydd didranc diddarfod Gwynfa barhau fyth fythoedd yn ei felus flas. Hir-ddygn-feddyliai ar y pwnc, a thueddid ei feddwl i goelio y diflasid hyd yn oed ar aur delynau yr ardal lonydd.

Aeth o dipyn i beth i draethu ei syniadau wrth ei frodyr, a dechreuodd wasgu ar feddyliau y rhai ieuangaf ohonynt yr angenrheidrwydd o restru ei syniad ef yn mysg banau eu ffydd.

Ond un hwymos, ar bryd echwydd, rhodio yr oedd mewn dwysfryd fyfyrdod gyda glanau ffrydig sidellog heb fod yn neppell o'r Fynachlog. Yr oedd aniau yn noswylio, a'r adar cerddber caniadlais wedi tewi yn y cysgodlwyn; yn mlaenyr ymlusgai, a'i feddwl wedi'i lyncu gan fyfyrdod.' Sidellai'r ffrwd "fyth fythoedd ar ei thaith" — wrth frysio am ei chartref yn ngwlad y tonog li; ac elai'r mynach yn mhellach bellach i'r ceulwyn tawelfrig; ond yn ebrwydd, torodd miwsig mwyaf hyfrydlais hyfrydlon ar ei glust a glywsai erioed. Eisteddodd o dan gysgod "pren gwyrddlais," a syrthiodd i ryw fath o ddideimladwy swynol; canai yr aderyn; ä'i amser yn mlaen; ni wydda'r mynach ddim; a bu yn gwrando yn ddedwydd lawenfryd, am ganoedd lawer o flynyddoedd; ond, o'r diwedd, clywai. feluslais meddalfwyn yn galw arno, "Y cysgadir, cais godi." A chyfodi a wnaeth; ac ar ol crwydro enyd yn y coed. daeth o'r llwyn, ond er ei ddirfawr syndod yr oedd pob peth wedi cyfnewid! Y mae yn wir fod yr hen Fynachlog yno; a da oedd hyny, oblegyd yr oedd pob tŷ, bwth, clawdd, a chamfa, wedi cael ei symud er pan welsai ef y fan o'r blaen. Aeth i'r Fynachlog, ond nid adwaenid ef gan neb, ac ni wyddai yntau ddim ar faes medion y ddaear pa beth a ddaethai o'i frodyr yno. Grwnaed yn fawr ohono. Gofynodd yntau yn bur fuan am gael lle i orphwyso. Aeth i'w wely. Ac erbyn i'r brodyr fyned i edrych amdano, ni chaed ohono ond dymaid "bach o ludw." A byth ar ol y digwydd hwn, galwyd y lle gerllaw Clynog yn LLWYN Y NEF; a dyma hanes yr Hen Wr o'r Coed, fel ag y mae yn cael ei hadrodd gan hen bobl oddeutu'r tân yn Arfon.

O. Y. — Dyma sail, y mae yn debyg, yr hen gerdd awenyddol yr Hen Wr o'r Coed. Pwy oedd awdwr y gân? Y mae'r Seven Sleepers, yn y chwedlau aillt, yn debyg iawn i hon, ac ef allai yn hyn na hi.

DAMEG YR HEN WRAIG A'R EDAFEDD.

Yr oedd hen wraig unwaith yn cael ar ddeall fod anghydfod parhaus yn mhlith ei phlant a'i hwynon, yr hyn a barai iddi deimlo yn dra adfydus. Galwodd hwynt oll yn nghyd, ac archodd i bob un ddyfod a phellen o edafedd gydag ef. Cydsynio a wnaethant hwythau a'i chais; a hi a gymerth edafedd oddiar un o'r pelleni ungor, a rhwymes âg ef ddwylaw y gwnaf o'i hwyrion, eithr torwyd hwnw yn ddioed. Rhwymes ei ddwylaw drachefn gydag edefyn ungor cryfach, a hawdd y torwyd hwnw hefyd. Yna parodd yr hen wraig iddynt gyfrodeddu yr holl beleni yn un rhaff; ac wedi iddynt wneud hyny, hi a gyraerth o hono, ac a rwymes ddwylaw y cryfaf o'i meibion. " Tôr di hwn yna, os gelli," ebai hi, eithr nis gallai yntau mewn un modd. Yna yr hen wraig a'u hanerchodd hwynt oll fel hyn; — " Gymaint cadarnach ydyw yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor! Felly chwithau, fy mhlant a'm ŵyron, tra byddoch yn anghydfod â'ch gilydd, pob un trosto ei hun, ac heb gysylltiad rhyngoch, hawdd ydyw eich gorfod. Ond os cydymlynwch yn gydgyfrodedd, nis gall gelyn yn y byd eich gorddiwes." O hyn y tarddodd y ddiareb, "Cadarnach yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor;" a diareb arall, " Nid cadarn, ond cydnerth;" ac un arall, " Hawdd taflu'r mynydd i'r môr ar ol ei wahanu y naill gareg oddiwrth y llall."

TUDUR ALED A'R BYSGODWRAIG

GWR ffraeth ac ysmala iawn oedd Tudur — arferai fyned i farchnad Caerlleon, ac yr oedd yno Gymraes o bysgodwraig dra enwog am dafodi, a byddai'r bardd yn galw arni bob amser er mwyn digrifwch. Un tro, tra ymlonai uwch dyferyn o fetheglin yn nghwmni un o'i gydnabyddion, digwyddai siarad am enllib-arferiad y bysgodwraig: gle,g ebai y cyfaill, gun ffraeth yw hon yna; medr hi hyd yn nod gau pen bardd!g gFelly,g meddai Tudur: gWel, yn gymaint a'th fod a chyn lleied o gred yn ngallu ffraethinebol bardd, mi ddaliaf alwyn o fetheglin â thi, y bydd i mi osod taw ar ei henllib cyn pen pum mynyd.g gPurion,g meddai ei gydnabod, a ffwrdd a hwy i'r marchnaddŷ. Wedi dyfod o hyd i'r wraig, gofynodd Tudur bris y mecryll. g Swllt y dwsin,g oedd yr ateb. gSwllt y dwsin! am ryw erthylod meinion, llygadgoch, tagellrwth, drewllyd fel yna,g meddai yntau. gIe, ac y maent yn rhy dda i dy ddanedd di am y pris.g g A wys ti a phwy yr wyt yn siarad, yr hen Hupynt Byr? Gwn o'r goreu, hefo grigwd o brydydd torsyth, na wyr ddim am fecryll.g gTaw a'th nâd, yr hen Dwyll Synwyr— fe'th welwyd di a dau Broest dan dy gesail o fewn yr wythnos yma, ac yr wyt wedi cuddio dy Gyhydedd Hir ar ben y gwely, yr hen Draethodl

Gyrodd hyn y wraig, yr hon ni wyddai ddim am ystyr y brawddegau barddol hyn, yn gynddeiriog, a dechreuodd arllwys ar ben y bardd gafod o wawd a blagardiaeth. gYna,g meddai Tudur, g yr wyt yn meddwl na wn i ddim o dy hanes di? Nid wyt ti ddim ond Unodl Crwca, ac nid yw dy holl deulu o hil gerdd yn ddim ond Cyhydeddau Nawban a Thawddgyrchau Cadwynog.g Yr oedd y bysgodwraig erbyn hyn bron wedi llanw llestr ei phwyll. g Os nad ei di oddiyma'r mynyd yma, mrth gym'raf o flaen dy well, am fy nyfenwi, un na buost di, na neb o'th deuli, 'rioedyn werth dal canwyll i mi; mae'n ffiaidd gan i siaradad y fath!g Aeth yntau yn mlaen: g Ti yfaist yn Mhenerlag, echdoe, dri pheint o Doddeidiau, a gorfuwyd dy gario adref mewn Berf Fynegol, a chafwyd dwy Gystrawen yn nghoryn dy het, ag oedd yn perthyn i Aneurin Gwawdrydd.g gCelwydd ddeudi di,g llefai'r wraig yn groch, gddygais i ddim 'rioed, y bwbach prydydd tordyn!g g Taw, taw,g ebai Tudur. gTydi yn wir! yr hen Glogyrnach, yr hen Gyrch a Chwta, yr hen Fannod, yr hen Ddybrydsain, yr hen Leddf a Thalgron, yr hen Wreiddgoll, yr hen Gynghanedd Gaeth, yr hen Bengoll, yr hen Gynghanedd Groes o gyswllt ewinog, — cymer di ofal peidio tafodi dy well byth ond hyny; yr hen Ragferf, yr hen Gynghanedd Lusg, yr hen Grych a Llyfn. Yr oedd hyn yn llawn ddigon; eisteddodd y wraig i lawr i nadu ac wylo, heb ddweyd gair o'i phen. Ar hyn daeth cyfaill Tudur yn mlaen, ac a sicrhaodd iddi nad oedd dim anmharch yn nim a ddywedodd, ond mai enwau diniwed ar fesurau y prydyddion, a therms y gramadegwyr oeddynt. Enillodd Tudur y metheglin, a gwnaeth anrheg o hono i'r bysgodwraig. — Y Brython.

YSTORI DOETHION RHUFAIN.

DECLEISIAN oedd ymherawdwr yn Rhufain. Ac wedi marw Efa, ei wraig briod ef, a gado un mab a oedd etifedd iddo ef, efe a ddanfones i nol SAITH DOETHION RHUFAIN ato; sef oedd eu henwau, Banteilas, ac Wystws, a Leteilws, a Malcwidas, Cato Hen, Iesse, a Marteinws. A'r gwyr hyny, wedi dyfod, a ofynasant i'r ymherawdwr pa achos y cyrchasai efe hwynt yno. "Llyma yr achos," ebai'r ymherawdwr, "un mab y sydd i mi, a'i ro'i a wnaf i ddysgu moesau a defodau." "Rhyngwyf fi a Duw," ebai Banteilas, "pe rhoddit ti dy fab ataf fi, mi a ddysgwn iddo gymaint ag a wn inau, mi a'm chwech cydymaith, erbyn pen y saith mlynedd." "Ie," ebai Gwstws, "rhodder y mab ataf fi, a mi a ddysgaf iddo erbyn pen y saith mlynedd gymaint aga wn, mi a'm chwech cydymaith." "Ie," ebai Cato Hen, gherwydd y ddysg a'r athrylith a gymero y mab, addawaf fi ei ddysgu iddo ef." "Ie," ebai Iesse "os ataf finau y rhoddi di dy fab i ddysgu, minau a'i lysgaf ef goreu gallwyf.g Ac yna y cafas yr ymherawdwr yn ei gynghor roddi y mab, ar faeth, at y Saith Doethion; ac adeiladu tŷ a wnaethpwyd ar lan yr afon Deibr, mewn lle caruaidd ar ddyffryn gwastad sych ar Faes Rhufain; fel y b'ai ddisathr y lle hwnw. A hwy a ysgrifenasant y Saith Celfyddyd ar y wal o bob parth i'r tŷ, ac a ddysgasant y mab onid oedd aeddfed ei synwyr, a chymhenddoeth ei barablau, ac araf-gall ei weithredoedd.

Ac yna y priodes yr ymherawdwr ymherodres wych o wlad bell, a dyfod a hi i'w lys ef. Ac ar ben talm o amser, hi a ymofynodd â phob dyn a oedd dim plant i'r ymherawdwr; ac un diwrnod, gofynodd i hen wrach heb un dant yn ei pben, "Er y nef, mynag i mi y gwir." "Nid oes iddo un mab," ebai'r wrach. "Gwae fi ei fod heb yr un," ebai'r ymherodres."Ni raid i ti hyny," ebai'r wrach, "ef a gaiff blant o honot ti, er nas caffai o arall; ac na fydd di drist, un mab y sydd i'r ymherawdwr, yn ei ddysgu gyda Saith Doethion Rhufain." Ac yna y daeth hi at yr ymherawdwr yn llawen, gan ddywedyd wrtho," Paham y celit ti dy blant rhagof fì?" "Nis celaf finau bellach yn hwy," ebai'r ymherawdwr, "ac yforu mi a ddanfonaf un i'w nol ef. "

A'r noson hono, fel yr oedd y mab a'i athrawon yn rhodio yn yr hwyr, hwy a welent yn eglurder y ser a chyffroedigaeth y sygnedd, y byddai y mab yn ŵr dienydd, onibai amddiffyn cymhenddoeth arno. A'r mab ei hun a weles hyny, ac yna y dywed efe wrth ei athrawon fel hyn: —"Pe amddiffynech chwi fi â'ch doethineb y saith diwrnod cyntaf, minau a amddiffynwn fy hun yr wythfed dydd." Ac addo a wnaethant.

A thranoeth, wele genadau yn dyfod oddiwrth yr ymherawdwr yn erchi dyfod â'r mab i'w ddangos i'r ymheredres newydd. Yntau a ymdrwsiodd mewn sidan, a melfed, a brethyn aur; a myned a wnaeth tua llys yr ymerawdwr a'i athrawon gydag ef. Yna, wedi ei ddyfod i'r llys, a'i groesawu gan ei dad a'r holl foneddigion, ni ddywed ef un gair. A drwg yr aeth gan yr ymherawdo weled ei unig fab yn fud; ac erchi ei ddwyn i'w ddangos i'r ymherodres. Pan y gweles hithau ef, hi a enynwyd o'i serch. A hi a'i dug ef i fewn ystafell ddirgeledig, a thrwy gellwair geiriau serchol yr ymddiddanodd hi âg ef, gan geisio ganddo adael llwybrau rhinwedd. A'r gwas ifanc, pan weles hyny, a adewis y tŷ iddi hi; a hithau, pan weles hyny, a roddes lef uchel, a thynu gwisg ei phen, a'i fwrw i'r llawr; a chyrchu tuag ystafell yr ymherawdwr; a rhyfedd nad oedd ysig penau ei bysedd, rhag mor ffested y maeddai ei dwylaw yn nghyd; a myned i gwyno trais a gorddwy wrth yr ymherawdwr rhag y mab, a dywedyd ei fod ef yn ceisiaw dwyn trais arni hi. Ac yna y tyngoddyr ymherawdwr y llŵ mwyaf — un a'm fudaniaeth ei fab, nad oedd waeth ganddo ei farw na'i fyw; yr ail, o achos sarhad y frenines — na byddai ei enaid ynddo yn hwy nag hyd dranoeth.

A'r nos hono, y dywed yr ymherodres wrth yr ymherawdwr,"Ef a dderfydd i ti am dy fab fel y darfu gynt i'r pren pinus mawr o achos y binwydden fechan ag oedd yn tyfu yn ei ymyl, a changen o'r fawr yn llesteirio i'r fechan dyfu. Yna yr erchis y bwrdais bioedd y gwydd i'w arddwr dori cangen y binwydden ben ag oedd yn llesteirio ar y fechan gyfodi. Ac wedi tori y gainc, y pren yn gwbl a grinodd; ac yna yr erchis ei dori oll. Megys hyn y derfydd i tithau am dy fab a roddaist i'w feithrin at y Saith Wyr Doeth, er colled i ti. Y mae ef dan gêl yn ceisio undeb y gwyr da hyn, i'th ddistryw di. "

A'r ymherawdwr a lidiodd, ac a addawodd ei ddyfetha dranoeth. Wedi treulio y dydd hwnw a'r nos hono ar ardduniant a digrifwch i'r frenhines, yn ieuenctyd y dydd dranoeth y cyfodes yr ymherawdwr, a gwisgo amdano, a chyrchu i'r dadleudy, a gofyn i'r doethion pa angau a wneid ar ei fab ef.

Yna, codes Beatilws i fynu, ac a ddywedodd fel hyn: — "Arglwydd ymherawdwr," ebai ef, "os o achos fod dy fab yn fud y peri di ei roddi ef i angau, iawnach fyddai bod yn drugarog wrtho na bod yn greulon. Trymach iddo ef yr anaf nag i neb arall. Os o achos cyhuddiad yr ymherodres y peri di roi dy fab i angau, un ffunud y derfydd iti am dy fab, ag y darfu gynt i farchog boneddig am ei filgi." "Beth oedd hynny?" ebai'r ymherawdwr. "I'm cyffes i Dduw, nis mynegaf it' o ni roddi dy air ar arbed y mab heddyw." "Rhof yn wir'," ebai'r ymherawdwr, " mynag i mi y chwedl."

"Yr oedd marchog cadarn gwych yn Rhufain, a'i lys wrth ystlys y gaer. Ac un diwrnod yr oedd dwrdd mawr rhwng arglwyddi, a marchogion, a gwyr mawr; ac yna myned a wnaeth yr arglwyddes a'i mamaethod i ben y gaer i edrych ar y chwareu, a'r holl ddynion i gyd, heb adael neb yn y palas. Eithr mab bychan oedd i'r marchog llai na blwydd, yn y gadair yn cysgu yn y neuadd, a milgi yn gorwedd ar y brwyn yn ei ymyl. A chan weryriad y meirch, ac angerdd y gwyr, a thrwst y gwyr yn curo wrth y tarianau, y deffroes gwiber o wâl y dref, a chyrchu tua neuadd y marchog, ac ar ganfod y mab yn cysgu yn ei gawell, a dwyn hynt tuag ato. A chyn i'r sarph gael gafael yn y mab, bwrw naid o'r milgi, a gafael yn y wiber, a'r wiber ynddo yntau; a chan ei hymladd ill dau, troi o'r cawell a'i wyneb i waered, a'r mab ynddo; a'r milgi a laddodd y wiber, a'i gado yn ddrylliau yn ymyl y cawell. Yna, pan ddaeth y mamaethod i mewn, a gweled y cawell a'i wyneb i waered, a'r gwaed o bob parth iddo, myned a wnaethant dan lefain at eu harglwyddes, a dywedyd wrthi i'r milgi ladd ei hunig fab hi, yr hwn oedd yn cysgu yn y cawell. Myned a wnaeth hithau dan lefain at y marchog, gan ffusto ei dwylaw yn nghyd, a dywedyd i'r milgi ladd ei unig fab ef. A'r milgi oedd yn gorwedd yn lluddedig yn ymyl y cawell. A phan glywes y milgi ei feistr yn dyfod i fewn, codi a wnaeth i'w gyfarfod; a'r marchog a dynodd ei gledd, ac a dorodd ben y milgi oddiar ei gorph. O achos cyhuddiad y mamaethod, ac er dyddanu yr argIwyddes, y marchog a droes y cawell a'i wyneb i fynu; ac yno yr oedd y mab yn holl iach, dan y cawell yn cysgu, â'r wiber yn ddrylliau mân yn ymyl. Ac yna yr ymofidiodd y marchog ladd o hono ar arch ei wraig filgi cystal â hwnw."

Yna y dywed yr ymherawdwr na leddid ei fab ef y dydd hwnw.

Ac wedi terfyn y dadleu, i'r neuadd yr aethant; a phan oedd barod y swper, i'r byrddau y daethant bawb yn ei radd. A phan wybu yr ymherodres fod yn well gan yr ymherawdwr ymddiddan na bwyta, hi a ymddiddanodd ag ef, ac a ofynodd os rhoddwyd y mab i angau. "Na ddo eto," ebai'r ymherawdwr."Mi a wn," ebai hi, "mai Doethion Rhufain a beris hyny. Un fodd y derfydd i ti o gredu iddynt hwy ag y darfu i'r baedd gwyllt a'r bugail." "Pa fodd y bu hyny " ebai'r ymherawdwr. "Myn fy nghred, nis mynegaf, oni roddi di dy air ar roi'r mab i angau yfory." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr. "Llyma'r chwedl," ebai hi." Pren pêrffrwyth oedd mewn fforest yn Ffrainc; a baedd gwyllt oedd yn y fforest, yr hwn ni fynai ffrwyth un pren yn y coed namyn y pren hwnw. Un diwrnod, bugail a ganfu y pren, a gwelodd yr afalau yn deg arno, ac yn felusber addfed, a chynull llonaid ei arffedog a orug efe ohonynt. Ac ar hyny, dyma y baedd yn dyfod; ac ni chafodd y bugail onid encyd i ddringo i frig y pren, a'i afalau ganto; a phan welodd y baedd nad oedd afalau yno fel arfer, ffroeni ac ysgyrnygu danedd a orug, ac arganfod y bugail yn mrig y pren; a thrwy lid dechreu diwreiddio'r pren a orug y baedd. A phan welodd y bugail hyny, efe a ddechreuodd ollwng afalau i lawr i'r baedd. A'r baedd, wedi bwyta ei wala, a gysgodd tan y pren; a phan y gwelodd yntau ef yn cysgu efe a ddisgynodd i'r llawr, ac â'i gyllell efe a dorodd gorn gwddwg y baedd.

Pelly y derfydd i faedd Rhufain o gredu y Saith Doethion; a'th fab a ddwg ffrwyth dy ymherodraeth oddi arnat." A'r ymherawdwr a dyngodd lŵ mawr na byddai ei fab fyw yn hwy na thranoeth. A thranoeth, trwy ddirfawr lid, efe a ddaeth i'r dadleudy, ac ar hynt erchi dienyddio y mab.

Yna y codes Gwystws i fynu, ac a ddywedodd fel hyn: —" Arglwydd ymherawdwr, na chaniatäed nef iti wneuthur fel y gwnaeth Ipogras am ei nai." "Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr."Myn fy nghred, nis mynegaf, oni roddi di dy air ar amddiffyn y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Llyma'r chwedl: Goreu physigwr yn y byd oedd Ipogras, a nai fab chwaer oedd iddo. A brenin Hungari a ddanfones i erchi i Ipogras ddyfod i iachau mab oedd iddo yn wan-glaf ddiobaith. A hen ŵr dall oedd Ipogras; nis gallai ef na cherdded na marchogaeth ffordd cyn belled â hyny. Ac efe a ddanfonodd ei nai ieuanc yno; yr hwn wedi dyfod i'r llys a fwriodd olwg ar y brenin ac ar y frenines ac ar y mab, ac a ddywed, 'Nis gallaf fi ei feddyginiaethu ef heb wybod yn nghyntaf naturiaeth ei dad.' Yna y dywed ei fam mai ordderch ydoedd o Iarll Nafarn. A'r meddyg ieuanc a barodd roddi cig ych ifanc wedi ei rostio i'r mab, ac efe a ddaeth yn holl iach. Wedi i'r nai ddyfod yn ol, Ipogres a ofynes iddo pa fodd yr iachaodd efe y llanc yn holl iach. 'A chig ych ifanc,' ebai y nai. ' Os gwir a ddywedi, was,' ebai Ipogras, 'o ordderchiad y caed y mab hwnw.' 'Gwir,' ebai'r nai. Pan welodd yr hen wr fod ei nai mor gyfarwydd ag yntau, efe a benderfynodd ei ladd. Archodd iddo ddyfod i rodio gydag ef i le disathr dirgeledig; ac yno efe a ddywedodd, 'Mi a glywaf aroglau llysiau da'; 'mi a'i gwelaf hwynt,' ebai'r nai, 'a fynwch chwi hwynt?' 'Mynaf,' ebai Ipogras, 'hwde fy llaw; arwain fi uwch eu penau.' Ac felly y gwnaeth ei nai. Ac fel yr oedd y gwas ieuanc yn gostwng ei gefn i fedi'r llysiau, tynu ei ddagr a wnaeth Ipogras, a brathu ei nai o'r tu cefn iddo yn ei galon, a'i ladd yn farw. Am hyny y cablodd pawb Ipogras, ac y melldigwyd ef.

Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y'th felldithir dithau, o pheri ro'i dy fab i angau." "Na pharaf yn wir, heddyw," ebai'r ymherawdwr.

A'r nos hono, ar ol swper, gofyn a wnaeth yr yrmherodres a roisid y mab i angau. "Na ddo," ebai yntau." "Ie," ebe hithau, "Doethion Rhufain a beris hyny. Un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu gynt i hen ŵr da y tores ei fab ei ben." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf oni roddi di dy air ar ro'i y mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr. "Llyma'r chwedl," ebai hithau: "Mi a glywais fod ymherawdr yn Rhufain, gwr tra chwanog i dda bydol, sef oedd ei enw, Grasian. Ac wedi iddo gasglu Llonaid tŵr o aur ac arian, a thlysau mawrwerth, gosodes wr o gybydd cyfoethog yn geidwad ar y tŵr hwn, tra f'ai ef yn casglu ychwaneg mewn lleoedd eraill. Ac yr gwr boneddig tlawd yn trigo yn y ddinas, a gwas ieuanc dihafarch-lym yn fab iddo. A'r gwr hwn a'i fab a ddaethant o hyd nos am ben y tŵr, ac a'i torasant, gan ddwyn llawer o'r da yn lladrad. A phan ddaeth y ceidwad i edrych y tŵr, canfu fod llawer o'r da wedi myned; ac yn ystrywgall, efe a osododd lud ardymheredig yn y lle y toresid y tŵr o'r tu mewn, i edrych a allai ddal y lladron, a'u dwyn at yr ym- herawdwr. Y lladron, wedi treulio y da hwnw, a'i osod ar diroedd a phalasau teg, a ddaethant yr ail waith tua'r tŵr; ac ar ol myned i mewn, cawsant ddigon o dda. Ond wrth ddyfod allan, a'u hyspail ganddynt, y gwr hen a syrthiodd i'r gerwyniad lud hyd at ei ên. Yna gofynodd gynghor gan ei fab. Y mab a ddywed: Fy nghynghor fyddai it' dori dy ben, a'i guddio mewn rhyw le dirgel; canys os byw a fyddi, ti a boenir ac a gystuddir, a pherir i ti gyfaddef y da, a'r sawl fu gyda thi yn ei ladrata. 'Och! fy arglwydd fab, nid felly y gwnei di; trugarocaf gwr yn y byd yw'r ymherawdwr; a'r da sydd genyf a roddaf i fynu iddo, a'm bywyd a gaf.' Yna y dywed y mab: — ' Myn y Gwr y credaf iddo, nid anturiaf fi dri pheth yn hytrach na thori dy ben oddiwrth dy gorph. 'Pa dri pheth yw y rhai'ny?' ebai y tad. 'Y da sydd genyf yr awr hon, a'm bywyd fy hun, a'r tiroedd a'r palasau teg a brynaist tithau.' Ac yn greulon efe a dorodd ymaith ben' ei dad."

"Ac felly y pâr dy fab dy ladd dithau o chwant dy deyrnas di a'th gyfoeth." "Myn fy nghred," ebai'r ymherawdwr, "ni bydd efe byw ond hyd y bore yforu." A thranoeth, yr ymherawdwr a aeth i'r dadleudy, ac archodd roddi y mab i farwolaeth yn ddiddeuair.

Yna y codes Lentiliws i fynu, ac y dywed; — "Un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu i hen wr boneddig gynt am wraig ieuanc oedd iddo, yr hon a garai ef yn fawr." "Beth oedd hyny!" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir nis mynegaf, oni roddi di dy air ar gadw y mab ieuanc heddyw." "wnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Llyma'r chwedl," ebai ef,"Hen wr da boneddig gynt a briodes forwyn ieuanc foneddig; ac ni bu'n hir ar ol y briodas oni fwriodd hi gariad lledradaidd ar was ieuanc oedd yn llys arglwydd cyfagos. A hi a gytunodd i gwrdd ei gordderch gefn y nos. Yna myned i'r gwely rhwng ei gwr â'r pared; a chyn gynted ag y cysgodd y gwr hen, hi a godes o'i gwely yn araf a lledradaidd, ac a wisgodd am dani, a myned yn ddystaw trwy ddrws y neuadd, ac yn gymhwys at ei gordderch. Ac ni bu hir wedi hyny nes dihuno yr hen wr, a rhyfeddu glywed ei wely yn wag o'i gymhar; a thrwy lid mawr y codes ef i fynu, a chael canwyll, ac ymofyn am dani yn mhob rhan o'r plas, eithr yn aflwyddianus. Ac efe a ddaeth at ymyl y drws, a'i gael heb un pren, a'i drosolio yn ffest â dau drosol, megys na ddo'i hi i'w dŷ ef byth. Yn mhen yr hir a'r hwyr, hi a ddaeth at y drws, ac a'i cafodd wedi ei folltio yn dŷn; ac erchi agor a wnaeth hi. 'Dyma fy ngair, nas agoraf,' ebai'r gwr, 'ac yforu, yn ngwydd dy genedl, mi a fynaf wneuthur y gyfraith arnat ti'. Sef oedd y gyfraith yn yr amser hwnw, llabyddio â meini i farwolaeth. Ac wrth dalcen y tŷ, yr oedd llyn mawr o ddwfr, tua dau wrhyd o ddyfnder. Yna y dywed y wraig, 'Myn y Gwr y credaf iddo,' ebai hi, 'gwell genyf fi farw na hyny; neu yn y pysgodlyn fy moddi, na bod y dienydd hwnw arnaf.' A hi a gymerth faen mawr, ac a'i cododd ar ei hysgwydd, a'i daflu i ganol y llyn, a rhedeg i gornel i ymguddio. Pan glybu yntau y swn, daeth ar redeg i lawr o'r llofft, agores ddrws y neuadd, a rhedodd i'r llyn hyd ei wâr. Yna y rhedodd hithau trwy y drws, ac i'r llofft, a chan roddi ei phen trwy y ffenestr, hi a ofynodd iddo beth a wnai ef yno. 'Dy geisio di,' ebai ef. 'Yr wyf fi yma ar y llofft yn esmwyth iawn,' ebai hi. A gwylwyr y dref a ddaethant yno, a daliasant y gwr hen, a gwaeddodd hithau trwy y ffenestr, 'Deliwch y cydymaith yna, a gwnewch y gyfraith arno, canys nid iawn i hen wr syn o'r fath yna godi oddi wrth ei wraig briod lân a myned at buteiniaid.' Yna'r gwylwyr a'i dygasant i'r carchar; a gorfu arno ddyoddef yr angau a ddylasai hi ei ddyoddef, cyn haner y dydd hwnw, sef ei labyddio â meini. "

"Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y sioma dy wraig dithau am dy fab; y hi sydd gelwyddog, a'r mab y sydd wir." "Mi a'i harbedaf ef, ynte, heddyw."

Ac wedi darfod swper, hi a ddywed wrtho "Mi a wn na adawodd Doethion Rhufain roi y mab i angau heddyw." "Na ddo yn wir," ebai yntau. "ie," ebai hi," un ffunud y derfydd i ti am dy fab ag y darfu gynt i un o ddinaswyr Rhufain am bren pêrffrwyth oedd iddo, yr hwn oedd anwyl ganddo." Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr." Yn "wir nia mynegaf, oni roddi di dy air ar roi'r mab i anngau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai yntau.

"Llyma'r chwedl," ebai hi, —"Yr oedd i wr boneddig gynt yn Rhufain, bren pêrffrwyth yn tyfu yn ei berllan, ac afallen ieuanc yn tyfu wrth fôn yr hen afallen; ac yr. oedd yn anwyl gan y gwr yr hen afallen, eithr anwylach ganddo yr un ieuanc, oherwydd ei thegwch. 'Yn wir,' ebai'r garddwr, 'pe fy nghynghor i a wnelit, ti a barit dori y pren ieuanc am ei fod yn esgynbren lladron a dynion drwg iddynt allu yspeilio yr hen bren o'i ffrwyth; ac nid oes modd dringo iddo ond ar hyd y pren ieuanc 'Yn wir,' ebai yntau, 'ni thorir dim o'r pren ieuancg Boed felly,' ebai'r garddwr. A'r nos hono y daeth lladron i'r berllan, ac yspeiliasant y pren yn gwbl o'i ffrwyth, a'i adael yn llwm erbyn tranoeth."

"Felly, arglwydd ymherawdr, dy fab dithau a Doethion Rhufain a'th yspeiliant er mwyn dy deyrnas, oni pheri di ro'i dy fab i angau; yr hwn a geisiodd wneuthur siom a chywilydd i mi ac i tithau." "Yn wir," ebai'r ymherawdr, "mi a baraf ei ro'i ef i angau yforu, a Doethion Rhufain gydag ef." Bore dranoeth, efe a ddaeth i'r dadleudy mewn llid mawr, ac a barodd roddi'r mab i angau yn ddiohir, a Doethion Rhufain hefyd.

Yna y codes Malcwidas i fynu, ac y dywed fel hyn: — "Os ar anogaeth dy wraig y peri di roddi dy fab i farwolaeth, hi a'th sioma di, fel y siomodd y blaidd y bugail." "Pa fodd y bu hyny?" "Yn wir ni s mynegaf oni roddi di dy air ar gadw y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai yntau.

"Blaidd creulon oedd gynt yn ceisio cyfle ar y bugail a'i anifeiliaid i'w lladd. Eithr yr oedd cwpl o waedgwn mawr gan y bugail, pa rai a ymlidient y blaidd, pan ddelai yn agos; yntau a gynygiodd heddwch i'r bugail os danfonai y cwn yn rhwym ato ef. A'r bugail ynfyd a gredodd weniaith y blaidd a'i ffalster, ac a ddanfonodd y cwn yn rhwym iddo. Yntau yn gyflym a'u lladdes hwynt; ac yn fuan wedi hyny, yr anifeiliaid; ac o'r diwedd y bugail. "

"Megys y lladdodd y blaidd y bugail a'i holl anifeiliaid, felly y lladd dy wraig dithau, o pheri roddi dy fab i angau o'i hanogaeth hi." "Ni pharaf hyny heddyw yn wir," ebai'r ymherawdwr.

Ac wedi swper y dywed yr ymherodres wrtho, "Megys y tyn dail a sawrau teg yr adwedd oddiwrth y bytheuaid, hyd pan gollont hwy ol y llwdn; felly y mae Doethion Rhufain i'th dynu dithau, trwy eiriau teg a pharablau "wenieithus am dy fab di, hyd oni chaffont dy ymherodraeth di a'th gyfoeth. Canys yr un ffunud y derfydd iti o gredu iddynt hwy ag y darfu gynt i Asian, ymherawdwr Rhufain." "Beth oedd hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf, oni roddi dy air ar roi'r mab i angau yforu" "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr," mynega'r chwedl. "

"Yr amser yr oedd Fferyll yn Rhufain, efe a blanodd golfen yn nghanol Rhufain; ac ar ben hono yr oedd drych o gelfyddyd Igmars; ac yn ydrych hwnw y gwelai Seneddwyr Rhufain pa deyrnas bynag a fyddai'n troi yn erbyn Rhufain. Yna, yn gyflym hwy aent am ben y wlad hono, ac a'i troent tan Rufain yr ail waith. A'r golfen hono oedd yn peri i bob teyrnas ofni Rhufain yn fwy na dim; ac am hyny y cynygiodd brenin y Pwyl beth difesur o dda i'r neb a gymerai arno fwrw y golfen hono i lawr, a thori y drych. Yna y codes dau frawd i fynu yn y fan, a 'dywedyd fel hyn: — 'Arglwydd frenin, pe caem ni ddau beth a geisiem genyt, ni a fwriem y golfen i'r llawr, a'r drych a dorem. 'Beth yw hyny?' ebai'r brenin. 'Nid amgen na'n dyrchu ni mewn cyfoeth ac anrhydedd o hyn allan; a rhaid i ni gael cyfreidiau priodol yr awr hon, nid amgen na dau farilaid o aur; canys chwanocaf gwr o'r byd i aur yw'r ymherawdwr.' 'Hyny a gewch chwi yn llawen,' ebai'r brenin. A'r awr a gawsant, a phen y daith a gyrhaeddasant; ac ar hyd nos hwy a gladdasant y ddau farilaid aur mewn dau fan gerllaw pyrth y dref yn ymyl y ffordd; ac i'r dref yr aethant y nos hono, a lletya. Dranoeth daethant i lys yr ymherawdwr,a chyfarch gwell iddo, a deisyf cael bod o wasanaeth iddo. 'Pa wasanaeth a fedrwch chwi ei wneuthur?' ebai'r ymherawdr. 'Ni a fedrwn fynegi i chwi a fo a ni ' neu arian cuddiedig yn eich. teyrnas chwi; ac o bydd, peri i chwi eu cael hwynt oll' 'Ewch heno ac edrychwch erbyn yforu a oes aur neu arian i'm teyrnas i; ac o bydd, mynegwch i mi; ac o chaf hwy, mi a'ch gwnaf chwi yn anwyliaid im'. Ac i'w llety yr aethant y nos hono. A thranoeth y mab ieuangaf a ddaeth ger bron yr ymherawdwr, ac a ddywedodd gael ohono mewn dewiniaeth wybod pa le yr oedd barilaid o aur yn ymyl porth y dref, yn nghudd. Yna y peris yr ymherawdwr fyned i geisio hwnw; ac wedi ei gael a'i ddwyn iddo, efe y cymerth y gwas yn anwyl wasanaethwr. A thranoeth y daeth y gwas arall ger bron yr ymherawdwr, a dywedyd gael ohono, ar freuddwyd, wybodaeth pa le yr oedd barilaid o aur yn nghudd, yn ymyl porth arall i'r dref. Ac wedi profi hyny, a'i gael yn wir, credu iddynt o hyny allan, a mawr fu gan yr ymherawdwr, am danynt, a'u cymeryd yn anwyliaid iddo. A'r dydd nesaf hwy a ddywedasânt fod aur o dan y golfen a gyfoethogai'r deyrnas. Yna y dywed Seneddwyr Rhufain, o ddiwreiddio'r golfen, na byddai cyn gadarned deyrnas Rhufain o hyny allan. Eithr nid adawodd chwant yr aur a'r arian i'r ymherawdwr fod wrth gynghor y seneddwyr, nes diwreiddio'r golfen a'i bwrw i lawr, a thori y drych yn llaprau. A phan ddarfu hyn, dyfod am ben yr ymherawdwr a wnaethant, a'i ddal, a'i rwymo, a chymheli arno yfed aur berwedig, gan ddywedyd wrtho, ' Aur a chwenychaist, ac aur a yfi.'"

"Yn y modd yna, tithau a wrandewi ar Ddoethion Rhufain, y rhai a'th ddyhuddant ag euraidd barablu, i annghredu fy nghynghor i, am ddienyddio dy fab, hyd oni wnelont dy angau a'th addoed yn ddibris." "Myn fy nghred," ebai ef, "ni fydd byw y mab eithr hyd yforu." A thranoeth y bore, efe a archodd ddienyddio y mab.

Yna y cyfodes Cato Hen, wr cymhenddoeth, a dywedyd fel hyn: "Arglwydd ymherawdwr, nid yn ol ymadroddion ffals, celwyddog, a glywo dy glustiau, y dylit ti farnu; namyn trwy amynedd a cheisio gwirionedd rhwng hen ac ieuanc; ac mor gywir fydd dy wraig i ti, yr hon yr wyt yn ei charu ac yn ei chredu, ag y bu gwraig y Siryf o Lesodonia." "Cato," ebai'r ymherawdwr, "pa wedd fu hyny?" "Dyma fy ffydd, nis mynegaf, oni roddi di dy air na ddienyddir y mab heddyw." "Na ddienyddir, myn fy nghred," ebai ef.

Yr oedd gynt was ieuanc o Rufain yn Siryf yn Lesodonia; ac un diwrnod, yr oedd efe yn naddu paladr, a'i wraig yn cydgam ag ef, ac yntau yn chwareu â hi. Ac wrth chwareu felly, cyfarfu blaen ei gyllell â'i llaw hi, oni ddaeth y gwaed; a chynddrwg oedd ganddo oherwydd hyny, nes y brathodd â chyllell ei fron ei hun, ac y bu farw. Wedi gwneuthur ei gywirdeb, a gwasanaeth yn y llys, efe a ddygpwyd tua'r llan i'w gladdu; a rhyfedd' nad ysig penau ei bysedd rhag ffested y maeddai ei dwylaw yn nghyd, wrth gwyno ei cholled i'w gwr; uwch oedd ei llef a'i diaspedain nag a oedd o gorn a chloch dros wyneb yr holl ddinas. Wedi claddu y gwr, ac i bawb gilio o'r eglwys, ei mam a erchis i'r weddw ieuanc ddyfod gyda hi adref. Hithau a dyngodd i'r Gwr oedd uwch ei phen, nad ai hi oddiyno oni fai farw. ' Nis gelli di,' ebai ei mam, ' gyflawni y gair yna; ac am hyny iawnach iti ddyfod i'th lys dy hun i gwyno dy wr, na thrigo mewn lle ofuog, unig, ac aruthr fel hwn.' 'Mi a brofaf os gallwyf,' ebai hi. Yna y peris ei mam gyneu tân goleu ger ei bron, a gadaw bwyd a diod iddi i'w dreulio pan ddeuai newyn ati, wrth na chyfarch. newyn o'i borthi. A'r nos hono y daeth marchog ar ei farch o'r gaer i wylied herwyr a grogesid y diwrnod hwnw. Ac fel yr oedd efe yn dysgwyl o bell ac o agos, efe a welai oleuni mewn lle nas gwelsai erioed o'r blaen. Aeth ar ei farch i edrych pa le yr oedd y goleuad, a pha achos oedd iddo. A phan ddaeth efe yn agos, efe a welai fur, a mynwent, ac eglwys; ac yn yr eglwys, dân uchel a goleu. Yna ffrwyn-glymu ei farch a orug wrth ystigl y fynwent, a myned i edrych pwy a welai yn yr eglwys. Ac nid oedd yno namyn un forwyn- wraig ifanc, yn eistedd uwch ben bedd newydd, a goleu a thân difwg ger ei bron, a digon o fwyd a diod yn ei hymyl. A gofyn a wnaeth y marchog iddi, beth a wnai un mor ieuanc â hi mewn lle mor ofnog â hyny ei hunan. A hithau a ddywedodd nad oedd arni ofn dim cymaint ag oediad angau i ddyfod ati. Pa achos sydd i hyny?' ebai ef. 'Claddu,' ebai hi, 'y gwr a gerais fwyaf, ac a garaf tra fwyf byw, yn y lle hwn heddyw; a digêl a dyogel genyf, y carai yntau finau yn fwy na neb, pan ddygai ef ei fywyd ei hun o'm hachos.' 'O, unbenes i' ebai'r marchog, 'pe fy nghyngor i a wnelit, ti a newidiet y meddwl yna, ac a gymrit wr a f'ai cystal ag yntau, neu well' 'Na fynaf,' ebai hi, 'myn y Gwr sydd uwch ben, wr byth ar ei ol ef.' A'r marchog a aeth tua'r crogbren; ac efe a gafodd fod un o'r cyrph wedi ei gymeryd oddiar y pren, a drwg oedd ganddo am hyny. Y gwasanaeth hwnw oedd arno i'r ymherawdwr tros ei dir; nid amgen na chadw gwyr boneddigion crogedig rhag i'w cenedl ddwyn eu cyrph i'w claddu. Ac eilwaith y daeth efe at yr unbenes, a dywedyd wrthi ladrata un o'r cyrph. Pe rhoddit ti dy gred ar fy mhriodi i, myfi a'th wnawn yn rhydd oddiwrth y golled yna,' ebai hi. ' Dyma fy nghred, y'th briodaf,' ebai'rmarchog. 'Fel hyn y gwnei di: dadgladd di y corph y sydd yn y bedd hwn, a chrog ef yn lle y lleidr; a hyny nis gwyr neb ond nyni ein dau.' A dadgladd y bedd a wnaeth, hyd oni ddaeth at y corph. ' Dyma'r gelain,' ebai hi, 'bwrw i fynu ef. "I'm cyffes i Dduw,' ebai'rmarchog, 'hawddach fyddai genyf ymladd â thri o wyr na rhoi fy llaw ar un marw.' 'Mi a'i gallaf,' ebai hi; a rhoi naid ysgymun i'r pwll, a'i godi ar y naill ben, a'i fwrw i fynu. 'Dwg di hwn, bellach,' ebai hi, 'tua'r crogbren.' 'Na, nis gallaf fi na'm march gerdded ond yn anhawdd, gan faint sydd o arfau i'm cylch. 'Mi a'i Wnaf', ebai hi, 'dyrcha di ef ar fy ysgwydd.' Ac wedi ei gael ar ei hysgwydd, hi a gerddodd fras-gamau gwrol, nes dyfod ag ef hyd at y crogbren. 'Och!' ebai'r marchog, 'pa les er hyny? yr oedd dyrnod cleddyf ar ben yr hwn.' 'Taro dithau ddyrnod ar ben hwn,' ebai hi. 'Na tharawaf, i'm cyffes,' ebai ef. 'Mi a'i tarawaf,' ebai hi; a chymerth afael yn nghleddyf y marchog, a tharaw y marw lawn dyrnod yn ei ben ag ef. 'Ie,' ebai'r marchog. 'pa les er hyny? yr oedd yr herwr yn fantach, wedi tori tri o'i ddanedd blaen wrth ei ddala.' 'Mi a wnaf hwn felly hefyd, ebai hi,' a chymerth faen mawr, a'i godi ar ei hysgwydd, a'i daro yn erbyn ei drwyn a'iddanedd, nes eu tori hwynt yn ddrylliau mân. 'Ie,' ebai'r marchog, 'nid ydwyt nes; yr oedd yr herwr yn arfoel.' 'Mi a wnaf hwn felly hefyd,' ebai hi; a chymeryd ei ben ef rhwng ei dwy goes, a dechreu plycio ei wallt. Ni fu na gwr yn eillio, na gwraig yn gwnio, haner can gynted ag yr oedd hi yn tyrnu gwallt ei ben ef, nes ei wneuthur yn foel o'i wegil hyd ei dalcen. Wedi hyny yr erchis hi i'r marchog ei grogi ef. 'Dyma fy nghred, nas crogaf, ac nas crogi dithau ef. Pe na f'ai ond tydi yn y byd, ni fynwn dydi; pan fait mor angharedig i'r gwr a'th briodes di yn forwyn, ac a ddug ei fywyd o'th achos di, angharedig o beth fyddit ti i mi, heb weled golwg arnaf hyd heno. A dos di ag ef i'r lle y mynych.' Yna y cymerth hi y gwr ar ei chefn i'w gladdu ei hunan eilwaith. "

"Ym cyffes i Dduw, arglwydd ymerawdwr, cyn anghywired â hyny fydd dy wraig i tithau, yr hon yr wyt yn ei chredu, ac yn ceisio rho'i dy fab i angau o'i hachos." "Yn wir,'i ebai'r ymherawdwr, "mi a'u cadwaf ef heddyw."

A'r nos hono yr ymherodres a ofynes i'r ymherawdwr, os dienyddiwyd y mab. "Naddo eto," ebai yntau. 'Ni dderfydd hyny byth tra fo byw Doethion Rhufain; canys megys y tỳn y famaeth y dyn bach o'i lid a'i gyffro trwy seinio yn ei glustiau, neu ddangos rhywbeth ffol; felly y mae Doethion Rhufain i'th dynu dithau oddiar dy lid a'th gyffro, am fy ngwaradwydd i a'm cywilydd gan dy fab di, trwy eu gweniaith a'u hymadrodd teg. Un ffunud y derfydd i ti o'r diwedd ag y bu i'r brenin a welai trwy ei hun ei ddallu beunydd." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it', oni roddi dy gred ar ro'i'r mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebâi yntau.

"Yr oedd gynt frenin ar un o ddinasoedd Rhufain; ac wedi myned yn mhell mewn oedran, efe a osodes saith o wyr cymhengall i lywodraethu y ddinas. A'r gwyr hyny a ymroddasant i gasglu aur ac arian, onid oedd gyfoethocach y tlotaf o'r saith na'r brenin ei hun, o dda parod; a gwuaethant hyny trwy gydgynghor, fel y gallent hwy ladd y brenin o nerth a chadernid eu da. A'r brenin a welai trwy ei hun, bair a saith droed odditano, a mygdarth mawr yn codi oddiwrth y pair; a hwnw a ddeuai yn nghylch ei lygaid i'w ddallu. Yna y danfones y brenin i bob lle i geisio deongl i'w freuddwydion, a'r gweledigaethau a ddelynt iddo rhagllaw. A'r cenadau ar ddamwain a ddaethant at was ifanc oedd yn rhagori ar bawb mewn hysbysrwydd o ddewiniaeth a deongli breuddwydion. A'r gwas ifanc a ddaeth ger bron y brenin, ac yntau a adroddes ei freuddwydion wrtho. 'Ie,' ebai'r gwas, 'deongli'r breuddwyd a fedraf, a'th gynghori a wnaf; ac o byddi di wrth gynghor, ti a fyddi well; ac oni fyddi, ti a fyddi gwaeth. Y pair a welaist ti, a arwyddocâ ddinas; y saith troed a welaist, ydynt saith o wyr sydd â gormod o gyfoeth, ac yn darparu dy fradychu onis lleddir hwy yn ebrwydd.' Oni ni fynai'rbrenin fod wrth gynghor y gwas, nes iddynt ei ladd ef yn nghyntaf, a dwyn y frenhiniaeth oddiarno. "

"Ac felly, ni byddi dithau wrth gynghor am dy fab a Doethion Rhufain, y rhai sydd i'th fradychu di; a'r rhai, oni leddir hwynt yn ebrwydd, a ddygant dy deyrnas oddi arnat." "Dyma fy nghred y lleddir hwynt yforu." A thranoeth, trwy lid mawr, efe a gyrchodd i'r dadleudy, ac a barodd grogi ei fab a Doethion Rhufain hefyd.

Yna y codes Iesse, i fyny, a dywedyd fel hyn: " Ni ddylai arglwydd fod mor anwadal a gado ei droi drwy ffalsedd a chelwydd, a thwyll; ac fel y siomes y frenines gynt y brenin am y marchog, felly y sioma dy wraig dithau dydi." "Pa fodd y bu hyny?" ebai yntau."Yn wir, nis mynegaf i ti, oni ro'i di dy gred ar gadw y mab yn fyw heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai ef.

"Yr oedd gynt farchog cadarn yn y Dwyrain; ac efe a welai beunydd trwy ei hun ei fod yn ymgaru ag arglwyddes wych, na welsai erioed olwg arni ond trwy ei hun; ac efe a guriodd yn fawr o gariad at yr unbenes. A chafodd gynghor i fyned a rhodio gwledydd pell, a edrych a gaffai ei gweled yn un lle oddieithr trwy ei hun. Ac un diwrnod, fel yr oedd efe yn marchogaeth ar brif-ffordd fawr mewn gwlad ddyeithr, efe a welai gaer fawr, a chastell teg yn ei hymyl, a thŵr teg ar ben y castell, tebyg i'r tŵr a welsai ef trwy ei hûn, ac hefyd yr arglwyddes fwyaf a garasai erioed. Ac i'r ddinas yr aeth efe y nos hono, a dy wedwyd wrtho mai brenin urddedig oedd yn trigo yno. Yr anoeth yr aeth efe i ymyl porth y castell. a galw y porthor ato, a gofyn iddo a fynai y brenin farchog cywir, diffals, yn ei wasanaeth. A'r porthor a ddywedodd y mynai. Ac i'r castell yr aeth, a chanmoledig a fu gan bawb, ac yn mhen amser y brenin a'i gwnaeth ef yn oruchel ystiwart dros ei holl gyfoeth; yna efe a ddywedodd wrth y brenin fod yn rhaid iddo gael ystafell mewn lle dyeithr i feddylio yn nghylch ei swydd a'i gyfrifon. 'Cymer y lle a fynych,' ebai'r brenin. 'Dyma a fynwn i ei gael,' ebai'r marchog, 'adeilad ystafell yn ymyl eich tŵr chwi.' 'Da yw genyf fi hyny,' ebai'r brenin. A'r marchog a beris wneuthur ystafell iddo yn ymyl y tŵr. A'r brenin oedd yn cadw y frenines mewn tŵr cauad; a phan elai allan, cloi y tŵr a wnai, a dwyn yr allwedd ganto. A'r marchog a beris i'r masiwn wneuthur ffordd ddyogel iddo ef fyned i'r tŵr at y frenhines; a'r saer a wnaeth hyny. Ac fel yr oedd y marchog un diwrnod yn gwasanaethu wrth y ford, y brenin a weles y fodrwy anwylaf ar ei elw ar fys y marchog; ac yn llidiog gofynodd iddo pa le y cawsai efe y fodrwy hono. A'r marchog a dyngodd na buasai feddianus neb ar y fodrwy, eithr mai efe a'i prynasai. Yna tewi a wnaeth y brenin nes darfod cino. Y pryd hwnw aeth i'r tŵr i ofyn y fodrwy i'r frenhines; a'r marchog a aeth o'i flaen i roi y fodrwy iddi hi; a hithau a'i dangoses i'r brenin. A'r brenin a ddigiodd wrtho'i hun am feddwl mor ddrwg o'r marchog. Yna y dywed y marchog wrth y frenines: 'Mi a âf i hela yforu gyda'r brenin, ac mi a'i gwahoddaf ef i'w frecffast; ac mi a ddywedaf wrtho ddyfod y wraig fwyaf a gerais erioed ataf o'm gwlad; a bydd di yn yr ystafell erbyn ein dyfod ni adref, ac amryfal wisgoedd am danat; ac er a gymera y brenin o gydnabod arnat ti, na chymer arnat ei adnabod ef, na'th fod wedi ei weled cyn hynny erioed.' 'Mi a wnaf hyny,' ebai hithau. trauoeth aethant i hela, ac wedi darfod hela, y marchog a wahoddes y brenin i ddyfod i'w ystafell ef i frecffast. A phan aeth i mewn, gwelai ei frenhines ei hun yn ystafell y marchog, a gofynodd iddi pa ffordd y daethai yno. ' Anhawdd imi fynegi pa sawl ffordd ddyeithr a gerddais o'm gwlad hyd yma; ac ni wn i am le iawnach i mi fod nag yn ystafell y gŵr mwyaf a gerais i erioed; ac os bwrw cydnabod yr wyt, edrych pa le y mae yr hon yr wyt yn ei cheisio, canys ni welaist ti olwg arnaf fi erioed o'r blaen. Yna tewi a wnaeth y brenin, a meddylio na welsai efe hi erioed. Ac wedi iddynt fwyta eu brecffast, y cyrchodd y brenia tua'r tŵr i geisio deheurwydd am y wraig, megys y cawsai am y fodrwy. A hithau a'i rhagflaenodd y ffordd nesaf, ac a roes y dillad hyny heibio, a gwisgo cartref-wisg amdani. A phan welodd y brenin hyny, digiodd wrtho ei hun yn fwy o lawer nag y darfuasai am y fodrwy. Ac ar ben ychydig o amser, y marchog a welodd nad oedd weddus iddo gadw brenhines y brenin yn ei blas ei hun; ac efe a gafodd yn ei gynghor barotoi llong fawr, a'i llanw o bob rhyw dda; ac yna efe a ddeisyfodd genad gan y brenin i fyned i ymweled â'i wlad, o achos na buasai efe yno er ys talm o amser. A'r brenin a ganiataodd iddo. tranoeth, cyn eu cychwyn oddi cartref, dyfod a wnaeth i'r eglwys at y brenin, lle yr oedd ef yn gwrando yr offeren, a deisyf arno ef beri i'r offeiriad teilwng ei briodi ef a'i ordderch cyn eu myned i'w gwlad; a'r brenin a beris eu priodi; ac ef a roes ei wraig ei hun, ar ddrws ei eglwys, heb yn wybod iddo. Wedi eu priodas, hwy a aethant i'r llong; ac ar fyr wedi hyny, yr aeth y brenin tua'r tŵr, ac a'i cafodd yn wag o'i frenhines, wedi ei myned gyda'r marchog. "

"Ac felly, arglwydd ymherawdwr, y sioma dy wraig dithau, o pheri ro'i dy fab i angau o'i hachos hi." "Na pharaf yn wir heddyw," ebai'r ymherawdwr.

A'r ymherodres a ddywed yn drist ac yn alarus wrth yr ymherawdwr, "Ef a dderfydd i ti megys y darfu gynt i ystiwart brenin y Pŵl." " Beth oedd hyny?" ebai'r ymhaerawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it', oni roddi dy gred ar roi'r mab i angau yforu." "Gwnaf yn wir," ebai'r ymherawdwr.

"Y brenin hwnw a fagasai glefyd o'r tu fewn; ac wedi ei feddyginiaethu a'i wneud yn iach, y meddyg a erchia i'r brenin logi gwraig i gysgu gydag ef y nos hono, er ugain punt. A'r brenin a archodd i'w ystiwart ymofyn y wraig iddo. Sef a wnaeth yr ystiwart, o chwant y da, dwyn ei wraig briod ei hun i'r brenin. Bore dranoeth, yr ystiwart a ddaeth, ac a archodd iddi godi i fynu a myned adref; a'r brenin a gododd i fynu, ac ni adawodd iddi fyned oddiyno. A'r ystiwart a ddaeth yr ail waith, ac a erchis iddi fyned adref ar ffrwst; ac er hyny y brenin a'i cadwodd hi. A'r drydedd waith, yr ystiwart a ddaeth, gan ddweyd wrth ei arglwydd pa fodd y gwnaeth o chwant y da. A phan glybu y brenin ei fod mor chwanog â hyny i gyfoeth, efe a gymerth ei holl dda ef yn fforfed, a dwyn ei swydd oddiarno, a chadw ei wraig gydag ef, a'i anfon yntau o'i frenhiniaeth ef," "Ac felly y derfydd i tithau, o chwant gwrando ar Ddoethion Rhufain, y rhai sydd yn nghylch dy ddileu di a'r deyrnas; ac er hyny, mi a gaf ddigon o dda gan fy nghenedl." Yna yr ymherawdwr a lidiodd yn fawr am y gair hwnw, ac a ddywed y parai ef ro'i y mab i angau bore dranoeth. A'r bore hwnw y daeth efe i'r dadleudy, ac yr erchis ro'i'r mab i angau heb ohir.

Yna y codes Martenws, ac y dywedai fel hyn: "Ef a dderfydd iti megys y darfu i hen wr da boneddig am wraig ifanc a briodes ef." "Pa fodd y bu hyny?" ebai'r ymherawdwr. "Yn wir, nis mynegaf it' oni ro'i di dy gred ar gadw y mab heddyw." "Gwnaf yn wir," ebai ef.

"Hen wr boneddig a briodes wraig ifanc. A hi a fu gywir iddo flwyddyn. Ac ymddyddan a orug â'i mam yn yr eglwys, a dywedyd ei bod hi yn caru gwas ifanc. Yna y dywed ei mam, ' Prawf anwydau dy ŵr priod yn gyntaf, a gwna di fel hyn: Tòr y coed ifainc sydd yn tyfu yn y berllan, a dod hwy ar y tân. Ac wedi darfod iddi hyny, dyma'r gŵr yn dyfod i'r tŷ, yn canfod y coed ar y tân, a gofyn pwy a'u rhoisai ar y tân. A'r wraig a ddywed mai hi a'i rhoisai, er mwyn gwneud tân iddo i ymdwymno wedi ei ddyfod adref. Tranoeth, cyfarfu ei mam a hithau yn yr eglwys, a hi a fynegodd y ddamwain iddi, ac a ddywed ei bod hi yn caru y gwas ifanc yn wastad. A'i mam a erchis iddo brofi anwydau ei gŵr yr ail waith. Ac fel yr oedd y gŵr dranoeth yn dyfod o hela, a bytheuades oedd iddo, ag oedd anwylach ganddo na'r holl gŵn eraill; hono a ddaeth i'r tŷ ychydig o flaen y meistr, a'r wraig a gymerth brac o gyllell hir yn ei llaw, ac a frathodd y fytheuades drwyddi, o ni bu farw, Ac y dywed hithau mai'r âst a sangasai ar bwrffil ei phais newydd hi; ac y dywed na wnai felly mwy. A'r gwr ni ddywed mwy wrthi. A thranoeth hi a ddywed wrth ei mam fel y gwnaeth, a'i bod yn caru y gwas ieuanc i maes o fesur. Gofyn a wnaeth ei mam iddi pwy oedd efe. Hithau ddywed mai yr offeiriad plwyf ydoedd, ac nad oedd iddi hi ddiolch er ei garu. 'Ie' ebai'r fam, 'prawf anwydau dy ŵr priod y drydedd waith, ac ofna yn nghyntaf rhag bod yn greulonach dig ofaint gwr hen pan ddigio na gŵr ifanc' Ac o anog ei mam y profodd hi fel hyn: tranoeth, yr oedd y gŵr yn gwneuthur gwledd i holl foneddigion y ddinas; ac wedi gosod pawb i eistedd, a gwasanaethu y cwrs cyntaf, sef a wnaeth hithau sefyll wrth ben y ford, a rhwymo cornel y llian wrth allwedd ei phrenfol, a dwyn rhedegfa tua'r ystlys arall i'r tŷ, a thynu y lliain, a'r bwyd a'r ddiodoedd arno, i ganol y llawr. Ac esguso drosti a wnaeth y gŵr, a dywedyd mai myned i nol cyllell yr oedd i gerfio y bwyd gerbron y boneddigion. Yna y rhoed lliain newydd ar y bwrdd, a dechreu y gwasanaeth o newydd. A bore dranoeth, y gŵr a ymliwiodd â hi am y tair gweithred hyny; a dywedodd hithau mai amlder o ddrygwaed oedd ynddi oedd yn peri iddi wneuthur hyny, ac mai nid o'i hanfodd y gwnaeth. Yna y gŵr a beris gyneu tanllwyth mawr o dân, ac a beris iddi dwymo ei breichiau wrth y tân yn dda, a'u rhwbio yn ffest; ac ef a beris ollwng gwaed o'i dwy fraich, a'i adael i redeg hyd oni fyddai hi yn ffentio wrth y tân, ac heb allu dywedyd dim; ac yna ef a beris ystopio y gwaed, a'i rhoi hi yn y gwely yn esmwyth. Yna hi a ddanfones at ei mam gan ddywedyd ddarfodi'r gwr ei lladd hi. A'i mam a ddaeth ati, ac a ddywed wrthi, ' Oni ddywedais iti nad creulonach digofaint neb na gŵr hen.' Ac yna y gofynodd ei mam iddi: ' A wyt ti yn caru y gŵr ifanc eto?" Na charaf fi un gŵr byth mwy.'"

"Ac felly gochel dithau, arglwydd ymherawdwr, rhag credu dy wraig yn gymaint a pheri rhoi dy fab i angau o'i 'hachos i; a bid hysbys y llefara dy fab di yforu."Ni chredaf hyny nes y gwelwyf," ebai'r ymherawdwr. A'r nos hono y mynegodd efe i'r ymherodres y llefarai y mab dranoeth. Yna cywilyddio yn fawr a wnaeth hi, yn gymaint ,ag na fedrodd hi ddychymygu dim o hyny allan. A thranoeth, ar godiad haul, y daeth yr ymherawdwr a'i holl wasanaethwyr i'r eglwys; ac wedi'r offeren, y daeth efe i eistedd ar hen taren uchel o dir oddiar y fynwent.

Yna y daeth y mab gerbron ei dad, rhwng dau o'r Doethion, a chyfarch gwell i'w dad, ac erchi ei fendith, o achosa na baeddasai ef ei fâr erioed, gan ddywedyd: "Fy .arglwydd dad, Goruchaf Dduw, y Gŵr a ŵyr bob peth, a ddangoses yn amlwg i'm hathrawon a minau trwy arwydd y lleuad a'r seren oleu yn eu hymyl, o dywedwn i un gair o fewn y saith diwrnod diwaethaf, na ddiangwn i rhag angau cywilyddus; ac am hyny y peidiais i a llefaru. A'r ymherodres a fu i'm cyhuddo i yn ffest wrthyt ti, a mi heb ei baeddu, o achos na ddywedais i ddrwg wrthi na'i gwneuthur, a'i bod hi megys gelynes i mi. Eithr tebyg yw rhyngddi hi â mi ag y bu gynt rhwng marchog a'i fab ar y môr. "Beth oedd hynny" ebai'r ymherawdwr.

"Marchog a'i fab oeddynt mewn ysgraff ar y môr; a dwy frân a ddaethaut a gregan uwch eu penau, a disgyn ar gŵr yr ysgraff. A rhyfedd fu gan y marchog hyny, a gofyn i'w fab: 'Yr wyt yn ysgolhaig da, a wyddost ti beth y mae'r brain yn ei regan arnom ni?' A'r mab a ddywed ' fod y brain yn dywedyd y bydd yn dda genych chwi ddal blaenion fy llewys tra bwyf fi yn ymolchi, a'm. mam yn dala tywel.' A llidio a orug y marchog am y gair hwnw, ac ymafael yn ei fab, a'i fwrw dros y bwrdd i'r môr, a myned ymaith a'i ysgraff ganto. Ac megys yr oedd Duw yn ei fynu, y môr a dewlis y mab i ystlys craig oedd yn y môr; âc ar ei draed a'i ddwylo, myned o'r mab i ben y graig; a daeth. pysgodwyr heibio, a chanfod y mab yno ar farw o newyn, a'i gymeryd i mewn i'w llestr, a'i werthu i ystiwart o wlad bell er ugain punt. Ac oherwydd ei foesgarwch a'i ddysg, efe a gafodd anrhydedd mawr. A'r amser hwnw, brenin y wlad hono oedd yn cael ei flino o achos fod tair brân yn gregan uwch ei ben ef nos a dydd heb orphwys; pa le bynag yr elai, byddai y tair brân yn ei aflonyddu yn wastad. Yna, galw a wnaeth ei gynghoriaid, gan ddywedyd, pwy bynag o ŵr ifanc sengl a gymerai arno dynu y brain oddiwrtho, ef a gai ei ferch ef yn briod, a haner ei frenhiniaeth gyda hi. Gyrwyd cenadau i bob lle; ac nid oeddid yn cael neb a gymerai arno wneuthur hyny. A daeth marchog gerbron y brenin, gan ddywedyd, o cwblhäi ef ei addewid. y tynai yntau y brain oddiwrtho. 'Gwnaf yn wir,' ebai'r brenin. A'r mab a ddywed: 'llyma yr achos y mae'r brain yn aflonyddu arnat, nid amgen nag er's deng mlynedd neu fwy y bu newyn ar yr adar, a'r brain ieuainc mewn perygl o'u bywyd gyda hwynt; yntau a aeth i wledydd pell i geisio ymborth; ac yna y daeth brân arall ati hithau, ac a'i helpiodd hi i amddiffyn ei hadar; ac yn awr, wedi gwellhau y byd, a bod digon o ymborth yn mhob lle, daeth yr hen frân yn ol drachefn; a dywed y ddwy frân arall na chaiff' hi ddyfod; ac y mae'r tair brân wedi bwrw y mater at eich barn chwi, oherwydd eich bod yn frenin. 'Yna y brenin a'i gynghoriaid a'i barnodd hi i'r cymhar diweddaf; yr hwn a'i helpiodd hi a'i hadar pan oedd hi mewn perygl angau, ac a'i dilynodd hi o hyny hyd heddyw; ac nad oedd i'r llall ddim o honi. A'r hen frân a hedfanodd i'r naill ffordd ei hun, gan grio a germain; a'r ddwy frân eraill a hedasant ffordd arall yn llawen ac yn gytûn. "

"Ac yna yr oedd merch y brenin i'r mab yn briod, a haner y frenhiniaeth gyda hi. Ac un diwrnod yr oedd y brenin ieuanc yn myned trwy y sytai, ef a welai ei dad a'i fam yn myned i letya i ostri gyffredin yn nghanol y dref, yn dlodion, wedi darfod o'u da, a gorfod arnynt ado eu gwlad o eisiau da. A'r nos hono, y brenin ieuanc a ddanfones genad i beri parotoi ei frecffast ef yno erbyn naw ar y gloch. Yna y brenin a aeth i mewn ei hunan, er mwyn cael ymddyddan â'i fam a'i dad; can's ef a'i hadwaenai hwynt, ac nid adwaenent hwy ddim ohono ef. A phan aeth ef i mewn, nid oedd neb yn y neuadd namyn ei dad ef a'i fam yn eistedd wrth y tân. Yntau a alwodd am ddwr i ymolchi; a'r hen farchog a godes i fynu, ac a gymerth fasn yn ei law, ar fedr dal dwr i'r brenin, eithr nis mynodd ef; a'i fam a geisiodd ddala tywel iddo, ac nis mynodd ef. Yna, ebai ef yn llawen, tan chwerthin oddifewn, 'llyma ddyfod yn wir a ddywedais i ar y môr, pan oedd y brain yn gregan ar gwr yr ysgraff. Ac na fydded waeth genych chwi er hyny, Duw a'i troes er lles i mi; ac o hyn allan, trigwch gyda mi, i gael bara, a chig, a chwrw, a gwin, a brethyn marchnad, a sidan, a melfed, a groeso tra fyddoch chwi byw. "

"Ac felly, fy arglwydd dad, mor ufudd ag y bu hwnw i'w dad, fyddaf finau i chwithau. Ac atolwg, fy arglwydd dad, na chredwch i mi geisio treisio yr ymherodres, ond iddi ymgynyg imi yr hyn nid oedd deilwng; a phan ballais i o hyny, y tynodd hi wallt ei phen, a thynu gwaed o'i hwyneb â'i hewinedd, a'm hathrodi i wrthyt ti, a cheisio genyt fy rho'i i angau, yr hyn a ddylai hi ei gael: canys y mae gyda hi ddau ŵr mewn dillad gwragedd yn llawforwynion iddi, wedi dyfod gyda hi o'i gwlad, y rhai sydd yn ei hystafell hi yn wastad; ac oni byddant hwy felly, crogwch fi"

Ac yr oeddynt megys y dywedodd ef. Ac yna barnwyd yr ymherodres i'w llosgi. A'r mab wedi hyn y a drigodd gyda'i dad mewn anrhydedd ac urddas, tra fu byw.

Ac felly y terfyna Ystori Saith Doethion Rhufain.


SON AM YSPRYDION.

(Gan Glasynys.)

NID wyf am haeru fod bwganod yn ymrithio i neb. Yr unig bethau ag y mae arnaf flys rhedeg drostynt, ydyw rhyw swp o chwedlau digrif a glywais draw ac yma. Coelied a goelio, a pheidied a beidio, ni bydd hyny yn ddim ar wyneb y ddaear gron genyf fi. A pheth arall hefyd, nid ydyw yn beth o angenrhaid fy mod i, mwy na'r hen bobl a glywais yn adrodd y pethau hyn, yn eu dilys gredu. Nofelau bychain, efallai, ydynt; ac er na feddant ddilysdeb gwir hanesyddol, coeliaf fod ynddynt er hyny addysg a gwir moesol. Yn awr, i ddechreu, hefog un o Fwganod Mawddwy, sef


BWGAN Y BRYN.

Lle rhyfedd odiaeth ydyw hen gwm cordeddog Mawddwy. Y mae ei droadau cornelog a'i lethrau glaswelltog yn addurno'r fro yn dra phrydferth. Ar waelod y cwm, y mae'r hen afon Dyfi fel llinyn arian yn di-sŵn lithro yn nghanol y ceinder a'r tlysineb penaf. Yn nghwr y Pennant, wrth sawdl Bwlch y Groes, ac yn nghanol ysgethrin ddaneddog yr Aran, y mae palas a elwir y Bryn. Nid ydyw o ddim pwys ar y ddaear pwy fu yno yn byw, na pha bryd y bu'r olaf o'r teulu farw; pwy oedd ei briod, nac o ba âch y daethant — nid ydyw erbyn hyn o ddim pwys i neb, am a wn i; ond y mae'r hyn a welodd amryw o bobl meddan nhw, yn deilwng o sylw. Yn y cyfnos du, pan fyddai hen bobl y Cwm yn eu hûn a'u heddwch, fe welodd rhai ag oeddynt yn digwydd bod allan ar yr adeg hono o'r nos, bethau pur wrthun; ac nid neb felly yn fwy na llanc ieuanc o'r enw Deio.

Bachgen tirion a charedig oedd Deio, ac nid oedd neb mwy cymeradwy nag ef; ond rywfodd neu gilydd, nid oedd yn wiw iddo fyned allan ar ol deg o'r gloch, oblegyd yr oedd rhywbeth ar gefn ceffyl gwyn yn ymddangos iddo yn wastadol. Un nos dydd Nadolig pan oedd yn myned i ddanfon adref eneth ieuanc (ei wraig er's blynyddoedd bellach), pan ar Riw'r Offeiriad, dyma'r Ceffyl Gwyn yn dod nerth y carnau ar ei ol; a phan ddaeth gyferbyn â hwynt, arafodd, a cherddodd yn amyneddgar ochr yn ochr hefo'r ddau am hir ffordd. O'r diwedd, troisant hwy i dŷ cyfaill, a da oedd gan eu henaid gael lle i ochel. Yno yr arosasant am oriau yn llawn braw. O'r diwedd, penderfynodd Deio gychwyn adref, a gadael ei gydymaith ar ei ol tan y bore. Nid oedd efe wedi gadael y tŷ neppell, nad oedd yr hen law ar gefn y Ceffyl Gwyn wedi cael trywydd arno drachefn; a thyma'r ddau yn cyd-drafaelio'n law- law. Bu tipyn o ymgom rhyngddynt, a gorchymynwyd i Deio gyfarfod y gŵr march gerllaw y Bryn ar noson bennodol, ac ar adeg a nodwyd. Ac ar ol hyny, ymaith â'r ceffyl a'r marchog drwy'r coed, gfel corwynt. " Y noson apwyntiedig a ddaeth, ac nis gallaf wneud yn well na dyfynu geiriau ei fam er dangos teimladau trwmbluog y bachgen a'i rieni. "Yr oedd Deio, druan," ebai, "yn crynu pan yn cychwyn o'r tŷ fel dail yr aethnen. Mi eis hefog ef mor bell â'r llidiard sy'n myned i'r ffrynt; ac yna fe aeth y creadur gwirion ei hun i lawr tan grynu i'r berllan— a chlyw-wn i ryw siffrwd rhyfedd. Ofnais unwaith fod rhywbeth wedi lladd fy machgen gwirion, oblegyd yr oedd yno'r gruddfaniadau mwyaf torcalouns a glywais erioed. Ond ar ol hir ddisgwyl, mi welwn Deio yn dod yn ol ataf yn araf deg; a'r fynyd y daeth o fewn cyrhaedd, syrthiodd i fy mreichiau yn farw gelain. Bu arnaf fyd chwith yn ceisio ei lusgo adref, ac ni fedrai yngan gair o'i ben am hir amseroedd." Dyna chwedl y fam. Dywed Deio ei hun i'r hen Geffyl Gwyn dd'od yno, a dangos iddo ryw ddirgelwch, ac nas gall ef byth adrodd y cyfryw wrth ungwr byw bedyddiol. Ond nid Deio ydyw yr unig un a welodd y Geffyl Gwyn yn ymyl y Bryn; na choelia'i fawr. Gwelodd Jack y Cwm ef unwaith neu ddwy gefn trymwedd y nos, a dywed eraill iddynt yn aml weled rhywbeth. Yr Hen Gutto, Ty-nant, coffa da am dano, a fu lawer gwaith yn ysgoi'r fan yn mhell bell, er mwyn peidio rho'i siawns i'r peth cas dd'od ar ei draws. Mynych y safai'r ddrychiolaeth ar y grisiau; bryd arall, ysgydwai y tŷ hyd ei sylfeini; ac yr oedd yno un offeryn i gludo glo ar y tân a fyddai yn cael ei herlyd yn ddiwêdd. Byddai hefyd mewn un ystafell yn fynychach na'r un arall; paham, nis gwn — oddieithr fod rheswm da yn peri, sef rhyw erchyllwaith ddieflig. Nid oes dadl na bu'r Bryn yn nythle pob dyhirwaith a fedrai'r Un Drwg ddyfeisio, ac ni d rhyfedd ynte fod y Cryf Arfog yn gwneud ei oreu i gadw ei neuadd; ond dros ba hyd y gwna, nis gwn. Y mae Deio, fodd bynag, wedi cael llonydd ganddo er's tro bellach, ac yn myned heibio'r lle yn lled ddiarswyd; ac nid oes neb yn awr yn cael ei flino yn y lle a'r fan. A gobeithio y ceir llonyddwch o hyn allan tra fo'r Ddyfi lân yn "llyfndeg redeg yn rhydd."

BWGAN LLANEGRYN.

Ond pa beth oedd rhyw erthyl o fwgan fel yna i'w gyffelybu i'r un y bu Williams y Ficer mewn ymdrech mor felltigedig ag ef? Yrwan am dani hi. Rhyw dri ugain a deg, mwy neu lai, o flynyddoedd yn ol, cythryblid pobl plwyf Llanegryn, Meirion, gan ryw ysgerbwd anweledig mewn modd hyn od o annhrugarog. Yr oedd yr hen fachgen dyddan, duwiol, a da, Lewis Williams, o Lanfachraith, yn byw ac yn bod yn yr ardal ar y pryd hwnw, a chan ei fod ef pan yn fyw yn cael ei gyfrif yn ddyn geirwir, ie. geirwir iawn, y ffordd decaf o'r haner ydyw cofnodi yr hwn fyddai ef yn ei ddweyd yn nghylch y trybini y bu ynddo. Hen ŵr eithaf diofn oedd Lewis, ac ymddengys ei fod felly er pan oedd yn llefnyn. Dywedai ei fod yn cofio unwaith bod yn cynull mewn cae yn perthyn i'r tyddyn dan sylw. efe a llawer eraill hefyd; ond ar ol iddynt rwymo tua haner y cae, daeth rhywbeth anweledig i ddatod pob ysgub yn mhob ystwc, gan eu hysgrialu o gwmpas y lle yn dryblith-drablith." Nid unwaith na dwywaith y gwnaed hyn," ebe fe, go flaen fy llygaid, ar gefn canol dydd goleu. " Aeth Lewis William hefyd i gysgu i'r tŷ ryw noson er mwyn ceisio gwastadhau, os oedd yn bosibl, y fath gynhwrf anhyfryd. Ond nid oedd dim siawns cael llonydd; yr oedd rhywbeth ambell dro o dan y gwely, bryd arall uwch ei ben; weithiau tua'r traed, a phryd arall yn tynu'r gobenydd i ffwrdd: ac yn y diwedd fe ysgystiai'r holl dŷ mor gynhyrfus. fel y gorfu ar y teulu chwilio am gymhorth o le arall. Nid dyn digalon, llwfr, a gwael, oedd Lewis William; na. nid ar chwareu bach y rho'ai ef y goreu iddi; ac felly fe benderfynodd wneud ail gynyg arni hi. Cymerth Fibl a chanwyll, ac i'r ystafell a flinid fynychaf yr aeth. gan feddwl treulio'r nos mewn gweddio a darllen y Gair Dwyfol; ond gwarchod pawb! yn mhell cyn haner nos, dyma yr hen gythryblwr yn dechreu arni hi,ac er gwaethaf na Bibl, na gweddi, dechreuodd hel a thrin yn iawn.

Dyma fo'n peri "i fab Sian bach fyned yn nghylch ei fusnes ei hun," ac yn llenwi y lle â drewdod mwyaf annioddefol. Yr oedd oglau mawr ar ddillad Lewis dranoeth. "Noson ofnadsan oedd hono," meddai, "ac nis gwn yn siwr felly, pa sut y fu hi yno i gyd; ond methais, beth bynag, a gwastradedd y peth." Âr ol hyn, awd am yr hen Williams y Ficer, oblegyd nid oedd neb yn yr oes hono yn debyg iddo. Bu ef mewn amryw fanau yn siarad neu rhywbeth efo'r cyfryw gythryblwyr anghyweithas; ac er iddo farw yn werth tua deugain mil o bunoedd, nid oddiwrth y rhai hyny y mae yn cael ei adnabod gan ei ôl-oeswyr, ond fel y dyn a fyddai yn "gostegu cythreuliaid." Awd i ymofyn yr hen Ficer yno o rywle, pe dae waeth, a daeth yntau yn unol â'r cais, a bu yno helynt blin. Methai yn lân loyw landeg a chael na phen na phont ar yr Un Drwg, a dywedai ei chwaer fod ei ddillad pan ddaeth yn ei ol yn drewi yn enbydus; fod oglau brwmstanaidd ar ei gnawd am ddyddiau. Ond bu ef yn fwy ffodus na Lewis William, oblegyd medrodd ef -wastadhau'r cythrwfl, ac ni bu mwyach ddim o'r twrf câs pensyfrdanol yn blino'r bobl a gyfaneddent y lle; a thyna ddiwedd BWGAN LLANEGRYN, yn ol a glywais i.

BWGAN SALI MINFFORDD,

A

CHAMPAU BESSI RISIART

.

Byddai f' Fewyrth Tomos, Esgair Adda (un o hen deulu Mawddwy, heddwch i'w enaid), yn ddefosiynol iawn pan yn adrodd am ystumiau câs y ddwy globen anhywaith hyn, Byddai drychiolaeth yn dilyn Bessi yn wastad, weithian yn weledig, ac weithiau heb fod felly. Unwaith, pan oedd yn ymyl Esgair Adda yn gofyn cymhorth y plwyf (oblegyd tad f' Ewyrth Tomos oedd y Warden), dywedai gyda llŵ rheglyd, os na chai yr hyn a geisiai y byddai yn edifar i'r hen ŵr cyn pen ychydig o fynydau. Dywedodd yntau yn bur ddifater wrthi, "Amser a ddengys, Bessi" Ond cyn pen tri mynyd yr oedd y defaid yn bowlio dros y llechweddau yn ystrim-ystram-ystrellach, ac yn tori eu gyddfau wrth y dwsingau; a da i galon yr hen fachgen oedd gwneud i fynu'r heddwch hefo'r greadures ddieflig. Ond daeth ei hamser i ben (oblegyd coelid ei bod wedi gwerthu ei hun i'r diafol), a rhyw ddiwrnod fe'i cipiwyd i ffwrdd gan rywbeth, ac ymaith â hi dros lechweddi Cowrach fel "rhedynen o flaen corwynt;" a'r olwg gyntaf a gaed arni wedyn oedd yn y gored gerllaw Mallwyd wedi marw yn gelain geg-oer; a dywedir mai golwg pur fawr oedd ar ei chorpws gwrthun. A thyna ddiwedd Bessi, er ei holl ddewiniaeth.

Ond os un gâs oedd Bessi, canwaith mwy cythreulig Sali. Ni chai neb lonydd yn nghwsg nac yn effro gan yr ellylles felynddu hon. Pan oedd yn llafnes o eneth, nid oedd neb yn y cwm a hoffid yn fwy; ond ryw fodd fe aeth yn rhy lac a gwantan hefo ryw drychfil o ŵr mawr oedd yn byw heb fod neppell o'r fan. A chollodd Sali ei choron, ac er y pryd hwnw gwell filwaith fuasai iddi ymgrogi na bod yn gorfod byw fel yr oedd hi. Yr oes i dir melltigedig dewinio, ac nid oedd un peth dan haul y ffurfafen nas gwnai os medrai. Ni cheisiai wneud dim ond poeni a chythryblu pawb. Tarawai laeth ambell i fan fel na fedrent ei gorddi, gwnaent a wnelent: rho'ai hud ar ddefaid le arall, ac ni fedrai cant o fugeiliaid eu cadw ar eu cynefin: gwnai lygad-croes ar fuches fan draw, a myswynogydd fyddai'r holl dda blithion am dair blynedd o leiaf, ac odid fawr nad erthylu fyddai diwedd y trybini llawer geneth wenithaidd iachus a wnaeth yn adyn gwelw afiach; a llawer mam a wnaeth yn amddifad o'r rhai ag yr oedd ei chalon wedi cael ei chyplysu â hwynt. Dywedid na chysgai na dydd na nos, ond y byddai yn gwylio am ymddangosiad drychiolaethau. Ac yr oedd yn medru cael gwybod pob rhyw gynllun a wneid er mwyn ceisio cael ymwared â hi. Pan oedd dau neu dri un noson mewn tŷ tafarn yn y Ddinas wedi bwriadu myned â hi yn un aflwydd cebystr i'r Amwythig, a'i dwyn dan law'r gyfraith, cafodd wybod hyn oll cyn y bore, ac yr oedd wedi peri i chwech o fustych un syrthio tros y graig; wedi medru gyru cŵn yr ail i ladd ei ddefaid o'u cyrau; ac wedi rhoi diofryd arall ar y trydydd fel na fedrai, pe caisai'r byd am ei boen, fod yn llonydd am ddim un mynyd. Yr oedd yn meddwl pan eisteddai fod pigau eithin a drain yn mhob peth, ac felly yr oedd yn gorfod crwydro fel llwdn â'r bendro; eisiau cael eistedd, ac yn methu bod yn llonydd; blino'n crwydro, ac eto nis gallai aros amrantiad yn yr unman.

Ond yr oedd gŵr cyfarwydd yn rhywle yn y Deheudir, ac ato yr aed am swyn ar gefn Sali, a chaed un ofnadwy. Dechrsuodd ei heu gydymaith (cythreulig) ei hysu a'i chigyddio yn arswydus, ac nid oedd derfyn ar ei phoenau; rhedai oddiamgylch gan waeddi'n wyllt, "Dyma fo! dyma fo!" ac yna dyrwygai ei chnawd mewn modd mileinig Pan gaffai rywfaint o seibiant, naill ai byddai yn gweddio, neu yn tyngu, gan erfyn am ychwaneg o boenydiau croesdynns i'r adyn a'i hudodd oddiar lwybrau rhinwedd. Ond erbyn rhyw fore, yr oedd Sali wedi croesi'r llinell. Dy- wedir fod ei chorph yn ysgynon mân — nad oedd yno fodfedd o groen cyfa, nac un asgwrn heb ei falurio. Bu ei thŷ yn annghyfanedd am hir feithion flynyddoedd, ac y "mae nhwn deyd" nad rhyw dawel iawn ydyw y lle hyd yn oed yn ein hamser ni. Cafodd Rhys y Cwm "meddan nhw;" afael ar rai o lyfrau Sali, ond methodd a'u deall, ac felly fe ddarfu am y cwbl o swynion Sali o fewn terfynau Cwm Mawddwy.

Dyna swp o goelion mynyddig.

PRIODAS YN NANT GWRTHEYRN.

Os bydd gan rywun eisiau gweled natur yn ei gwylltineb aruthr ac anngboeth, safed ar ben Craig y Llam — clogwyn anferth o fynyddoedd Eryri sydd yn gwallgof wthio ei drwyn i fôr lwerddon. Safed a'i wyneb tua'r môr, ac o'r tu cefn iddo bydd moelydd uchel yr Eifl, cribau y rhai a amgylchynir yn fynych gan gymylau; o'i flaen, yr eigion eang, yn ymgollli yn y gorwel las; odditano, y Graig erchyll amryw ugeiniau o latheni o ddyfnder, ac astellau culion ar hyd-ddi lle y bydd adar y môr yn eu hamser yn dodwy a deor, a'r lle y collodd aml un ei fywyd wrth ddringo i yspeibo y pethau gwirion o'u trysorau cywrain. Os gall efe daflu cipdrem tros ymyl y geulan ofnadwy hon, neu wrando'n ddiarswyd am bum mynyd ar ruad y tônau yn yr ogofau mawrion a gafniwyd ganddynt o dan y graig, y mae ganddo ewynau gwerth eiddigeddu wrthynt. Ar un llaw iddo bydd nentydd a moelydd, moelydd a nentydd, diddiweddd sir ramantus Caernarfon; ar y llall, glyn dwfn, fel pe buasai'r elfenau tanddaearol yn rhyw gyfnod bore wedid adwreiddio llosgfynydd o'r fan, a'i hyrddio wraidd ac oll i ganol yr eigion, gan adael NNT GWRTHEYRN yn engraifft o nerth y llaw Hollalluog oedd yn eu llywio.

Saif y Nant bon tua haner y ö'rodd rhwng Clynog Fawr a Nefyn. Amgylchynir dwy ochr ohoni gan elltydd caregog a serth, lle ni thyf dim ond grug egwein, eithin haner crispiedig, a chorachod o goed cyll, gwreiddiau y rhai a afaelant am eu bywyd yn y graig odditanynt rhag iddynt syrthio i lawr y goriwaered; ac ar y ddwy ochr arall gan Graig y Llam, a'r môr — yr hwn sydd yn golchi ei godreu ac yn yfed ei chornant fechan. Yna, medda'r hanes, yr ymneillduodd yr ben deyrn Prydeinig Gwrtheyrn rhag ofn ei ddeilaid, wedi iddo'n fradwrus ollwng eillion i feddiant ar lywodraeth Ynys Prydain; ac er hyny allan, ar ei enw ef y cyfenwir y Nant; ac yma y dybenwyd ei fywyd anfad gan fellten, yr hon a darawodd ei gastell, a syrthiodd yntau ei hun yn yr adfeilion. Dy wed Nennius "Iddo trwy ei fywyd afradlon dynu gwg y mynachod, ac iddynt hwythau benderfynu na chai farw fel y cyffredin o blant dynion; ac o ganlyniad, parasant iddo drengu tan arwyddion amlwg o ddigofaint y Nefoedd." Ar ganol y Nant, yn agos i'r môr, y mae bryn bychan naturiol, ond ei ben a'i amgylchedd yn dwyn ol llaw celfyddyd; ac yma, medd traddodiad, y safai hen amddiffynfa. Yr oedd yma hefyd domen o geryg wedi ei gorchuddio gan dywyrch a adwaenid o oes i oes wrth yr enw Bedd Gwrtheyrn; a phobl chwilfrydus yr ardal, tua dechreu y gannf ddiweddaf, a diriasant i'r domen hon, a daethant o hyd i arch yn cynwys esgyrn dyn tâl iawn, a phenderfynent eu bod yn perthyn i neb llai na'r hen frenin. Parodd hyn i lawer gredu fod gwir yn y traddodiad; a daeth lluaws mawr o ddyeithriaid i weled y Bedd, ac i syllu âr urdduniant y llanerch ddiddrain ac annghysbell hon.

Ond mor neillduedig y fan, yr oedd dau o deuluoedd yn preswylio yno, mewn dau fwthyn a safent gyferbyn a'u gilydd, un o bob tu i'r cornant— bythynod gwyngalchog oeddynt, tô gwellt, a gwedd oedranus arnynt oddiallan; gyda gerddi bychain o'u blaen lle byddai'r gwenyn diwyd yn yr haf yn casglu eu lluniaeth erbyn y gauaf, o flodeu'r pytatws. y briallu, a'r crinllys. Ac yr oedd preswylwyr y bythynod yn cymeryd gwersi oddiwrth y gwenyn — tŷ, a, gardd, a fferm fechan, trefnus; a diwydrwydd a rhag ddarbodaeth oeddynt eu nodweddiadau arbenig. Yr oedd y ddressar dderw fawr, a'r dysglau piwtar, yn y naill fwthyn fel y llall, yn loyw fel y ffrwd dryloyw; a'r ardd, a'r deisi bychain o ŷd a mawn, yn drefnus odiaeth, ac ystyried hefyd nad oedd eu taclusrwydd i foddio neb bron ond llygaid pobl Nant Gwrtheyrn yn unig. Ar fin y ffordd fawr a'r llwybr cyhoeddus y bydd y ffermwyr yn caru dangos ei hwsmonaeth; lle byddo ei daclusrwydd yn debyg o gael ei ganmol gan eraill.

Gant a haner o flynyddau yn ol, preswylid y bythynod hyn gan ddau deulu o'r enw Meredydd; un ohonynt gan Rhys Meredydd a'i ddwy chwaer — plant amddifaid; a'r llall gan Ifan Meredydd, hen ŵr gweddw, a'i unig blentyn Meinir Meredydd. yr oedd tadau y plant hyn yn ddau frawd, a'r ddau frawd hyn, trwy eu hynafiaid, oeddent feddianwyr y Nant oll, gyda'i chlytiau o ŷd-dir a'i gweirgloddiau bychain. Llanc gwridcoch, unionsyth, a hardd, oedd Rhys, eithr gwylaidd fel plentyn; a morwyn landeg, luniaidd, o duedd feddylgar a phrudd, oedd Meinir. Yr oedd unigedd tawel y golygfeydd o'i deutu wedi gwneud delw ohonynt eu hunain ar ei meddwl hithau — eangder y môr ar y naill ochr, a mawredd y mynyddau ar y llall; heb gyfeillesau ond ei dwy gyfnither, y rhai oeddynt afiach; y cyfan gyda'u gilydd yn dylanwadu ar feddwl llariaidd y wyryf swyngar, nes y teimlai ei hunan fel pe buasai mewn crefydd-dŷ, yn nghanol mynyddau, gyda'i fiwsig sobr, a chwiorydd wyneb-lwydion. Yr oedd Rhys a Meinir tua'r un oed, ond efe flwyddyn yn hŷn. Yr oeddynt yn cyd-chwareu hyd y perthi, yn cyd-ymdaith tua chyflawn faintioli; yn gyfeillion mawr pan yn blant, a phan aeth dyddiau plentyndod heibio, graddol a greddfol aeddfedodd eu cyfeillgarwch yn GARIAD — yn gariad disigl fel Craig y Llam, pur fel yr awel ar ei chopa, a chryf fel y môr ar dymhestl wrth ei godreu. Yn eu byd bychan hwy, nid oedd neb i ladratta serch y naill oddiar y llall — dim lle i eiddigedd roddi ei droed ysgymun i lawr, ac yr oedd pob peth yn rhagargoeli y terfynasai'r garwriaeth mewn glân ystâd briodas. Nid oedd dadl am gywirdeb dybenion y ddau, nac ychwaith am foddineb eu perthynasau i'r cymhariad, yr oedd y pwnc yn hollol yn nwylaw amgylchiadau. Ond yn ngwmni eu gilydd yr oedd nefoedd y cariadon — hyd y bryniau cylchynol, yn casglu cregyn ar y traeth, a chyda'u gilydd yn mrig yr hwyr ar dywydd tawel yn araf rwyfo mewn bad ar hyd y glanau; hefo'u gilydd ar y llechwedd amlwg yn syllu ar yr haul yn ymsuddo dros y gorwel, ac yna ty wallt ffrydiau serch i eneidiau eu gilydd, nes y byddai eu mân-drallodau yn marw, y dyfodiant yn wynfyd o'u blaen, a Nant Gwrtheyrn sobrddwys yn troi yn baradwys o'u cwmpas. Tan ddylanwad y Cariad hwn, gweddnewidid eu Nant yn Werddonau Llion ger eu bron; canai ei hadar fel adar gwynfyd, a'r coed a'r meusydd bychain a edrychent fel gwyrddlesni anfarwoldeb. Yn wir, meddai eu serch y fath angerddoldeb, fel yr oedd yn anmhosibl iddo gynud yn hir yn awyr dawchus y byd hwn, heb losgi ei hunan allan nes dyfod yn oer ni casineb, neu farweiddio'n farwor yn ymuniad defodol y ddau enaid mewn priodas.

Cariad o'r dosbarth olaf oedd yr eiddo Rhys a Meinir. Penodwyd y diwrnod, a dechreuwyd gwneud parotoadau ar ei gyfer. Y pryd hwnw nid oedd swydd y Gwahoddwr wedi ei dileu, na hen Ddefodau cynwynal y Priodasau Cymreig wedi llwyr ddiflanu o'r tir, er fod dosbarth mawr yn y wlad, a'r bobl ieuainc yn enwedig, yn dechreu diflasu arnynt. Yr oedd Rhys. oddiar ei wyleidd-dra naturiol, a Meinir, oherwydd ei phrudd-der cynhenid, yn erbyn dim rhialtwch; ond ni fynai'r hen ŵr glywed son am briodas heb yr "hen arferion." Felly, oddiar barch calon iddo ef, ymostyngasant i'r hen drefn; a phenderfynwyd ar Ifan y Cillau, gŵr ieuanc ffraeth a doniol, mab y fferm agosaf tros y mynydd, i gymeryd y swydd o Wahoddwr. Y mae anhebgor a dyledswydd y swydd hono wedi eu crybwyll eisoes yn ein Cyfres 1af, fel na raid i ni yn bresenol eu hadgoffa. Digon i'w dweyd ddarfod i Ifan y Gwahoddwr gael derbyniad croesawgar yn mhob man, ac addewidion helaeth am Bwyddion. Yr oedd yr anrhegion hyn yn cael eu cyflwyno y dydd cyn y briodas — dydd Gwener fyddai hwnw fynychaf, gan mai ar ddydd Sadwm fwyaf cyffredin y gweinyddai Hymen yn yr hen amserau wrth yr allorau Cymreig.

Adeg brysur yn Nant Gwrtheyrn oedd y dydd Gwener hwnw. yr oedd pawb ar eu goreu glas yn darparu ar gyfer dyfodiad y cymydogion caredig hefo'u Pwyddion; hyd yn nod yr hen wr methiantus yn ymlisgo o'i gornel i gynorthwyo y merched, cogio, er mwyn gwneud pobpeth yn drefnus. Yna daeth yn amser i'r dyeithriaid ddyfod; ac yr oedd yn bleser edrych arnynt o waelod y Nant yn cynllunio eu llwybrau i lawr y llechweddi serth. yr ieuanc yn cynorthwyo yr hen tros y ceryg, a'r hen yn eu dyddanu hwythau gyda chwedlau a dywediadau digrif a diniwaid; a'r naill fel y llall yn eu dillad goreu, yn dlawd a chyfoethog. Y capiau cambric, gyda'r ffril fawr; a'r hetiau befar yn ddu ddysglaer fel plu y fran, ac yn haner guddio yn fynych wynebau hynod o dlysion; y bais goch, a'r bedgwn glas yn ymsymud i lawr y goriwaered rhwng yr "eithin flodeu aur," a rhosynau cochion y grug; a haul nawn canol haf yn gwenu ar y cyfan, nes gwneud yr olygfa yn hynod o swynol a phrydferth. Yma, yr oedd cyfeilles yn crechwenu mewn iechyd a hawddgarwch wrth ddwyn ei hanrheg o iar a basgedaid o gywion; acw, yr hen wraig gloff wrth ei ffon yn hobian tan gosyn mynyddig o gaws. Rhai yn cyrchu llain o frethyn cartref, eraillyn gwyro tan becyn o flawd ceirch; merch y llaethwr yn prancio tan gunogaid o fenyn; merch y saer yn neidio gydag ystol drithroed ar ei braich; a'r eneth ddall o bentref Llithfaen yn cael ei harwain, gyda'i basgedaid o flodeu gwylltion, a, gasglodd trwy synwyr ei harogledd oddiar y gweunydd. cyfagos er mwyn addurno ystafell y briodasferch ar yr amgylchiad. Pawb wrth eu bodd— mor llawen â'r gog a ganai yn y llwyn gerllaw, mor brydferth â'r blodeu yn masged yr eneth ddall.

Yn y cyfamser, yr oedd hi yn brysur iawn yn y Nant. Meinir yn ymudo yr ychydig ddodrefn a brynasai gyda'i harian gweddill i dŷ Rhys; ac un o'i chwiorydd yntau yn dwyn ei dillad trosodd i dŷ ei hewythr, cany's hy'hi oedd i gymeryd gofal yr hen wr o hyny allan. Yna y briodas ferch a frysiai i dacluso ei thad — i fwclo ei esgidiau, ac i gyweirio ei wallt oedd fel llinynau o arian gwyn. Wrth Wneud hyny, dyrchodd ei llygaid gleision tlysion, as yllodd mor bryderus yn ei wyneb hawddgar nes y tybiodd ei fod yn edrych yn brudd, canys hwn oedd y diwrnod olaf iddi drigo tan yr un gronlwyd ag ef. A disgynodd deigryn mawr tryloyw ar ei ffedog stwff newydd wrth iddi fyfyrio mor ddiymadferth oedd ei rhiant; ac fod y ddyledswydd drafferthus, ond hyfryd er hyny, o'i wisgo a'i ddadwisgo am y pedair blynedd ddiweddaf ar derfynu." Nhad," ebai hi, "peidiwch a bod yn drist, mi a ddeuaf i edrych am danoch yn fynych, a byddaf bob amser o fewn cyrhaedd galw." Byddi, fy ngeneth i; byddi ngeneth anwyl i; y Nefoedd a dalo i ti dy garedigrwydd i'th hen dad diamddiffyn. Byddaf fi wedi myn'd toc, toc; ond bendith y Nef fyddo ar dy ben di byth, ngeneth anwyl i". Ac wrth feddwl am briodas ei ferch, a'i fedd ei hun, llifai'r dagrau tros ei ruddiau heirdd yn hidl. Ar hyny, dyma leisiau'r dyeithriaid yn tori ar eu clustiau, ac yn gyru Meinir ar ffo i'w hystafell i liniaru ei theimladau, a pheri i'r hen wr sychu ei ddagrau ac ymsionci "cynta' gallo".

Nid oes eisiau darfelydd cryf i dybied fod yno londer mawr wrth roddi a derbyn y Pwyddion. Dodwyd cig oen, a bara, a gwydriad da o fetheglin gerbron y bobl ddyeithr. Ewyllysid yn dda i'r pâr ieuanc, hir a dedwydd oes iddynt, ac (na bo ond ei grybwyll) llawer o deulu. Wrth yr ewyllysiad olaf hwn, neidiodd holl wyleidd-dra Meinir yn fflam i'w hwyneb. A oes rhywbeth tlysach na gwyleidd- dra diragrith? Y mae bob amser yn arwydd o burdeb a rhinwedd. Erbyn tua chwech o'r gloch, dechreuodd pawb feddwl am gychwyn adref, a chychwynasant yn nghanol y teimladau mwyaf cynes a charedig.

Yr oedd gwyleidd-dra Rhys wedi ei gadw rhag cymeryd. rhan o gwbl yn ngwaith y dydd hwn. Eithr wedi iddo orphen hefo'r gwair, a'i ddodi yn fydylau bychain i gynauafa dros dranoeth; ac i Meinir odro'r geifr a'r gwartheg duon, a nol dau oenig amddifad adref oddiar lechwedd y mynydd; cyn ei bod yn adeg iddi ddadwisgo ei thad, y cariadon a gymerasant y cyfleusdra o gael haner awr yn nghwmni eu gilydd. Rhodiasant law yn llaw hyd y llechweddau hyd oni ddaethant at hen geubren derwen oedd yn sefyll ar fryncyn glas gerllaw y môr. Mynych y cyrchasent yno i eistedd ar y gareg fawr oedd fei sedd o tan y ceubren. Yno'r eisteddasant gan ymddyddan am faterion tranoeth; a thra yn eistedd felly, syrthiodd llygad Meinir ar ei henw wedi ei dori ar risgl y pren o waith llaw Rhys, ac o tan hyny y geiriau.

"Priodwyd Gorphenaf 5"

Ond yn lle llawenhau wrth weled ôl llaw gelfyddgar ei hanwylyd, Meinir a edrychai ar y weithred fel yn temtio Rhagliniaeth, yn ol dull y wlad o siarad yn yr oes hono. "Rhys bach," ebai hi "hwyrach na phriodir mo honom ni, ar ol y cwbl. "

"Paham! fy ngeneth i, a ninau i briodi yforu," ebai yntau tan chwerthin.

" O! y mae llawer o bethau yn croesi ein bwriadau mwyaf pendant. Onid ydych yn cofio fy nhad er'stalm yn addaw ein cymeryd i Ŵylmabsant Nefyn; a'r dydd Sadwrn cyn yr wyl hono, yn cael ei daro gan y methiantglwyf, fel nas gallasai droi yn ei wely."

Gwelai Rhys mai ffolineb ydoedd dwyn dadl mor brudd yn mlaen y noson o flaen diwrnod mor lawen; ac yn fuan ymgollodd yr ymryson yn yr edrychiad serchus, gwasgiad y dwylaw cynes gan fywyd, a phrophwydoliaethau gobeithiol am y dyfodol.

Eithr dy wedir ddarfod i Meinir aros ar ol Rhys wrth y ceubren, a chyfnewidy gair "priodwyd," am "claddwyd."

Wel, pa fodd bynag, ar ol nos fer, yn ystod pa un ni roddes Meinir na Rhys yr un hunell i'w hamrantau, gan fel y meddylient ac y pryderentyn nghylch tranoeth, daeth "dydd y dyddiau," gyda'i brysurdeb a'i ddyddordeb, ar eu gwarthaf. Rhagarwyddai y bore ddiwrnod braf, ac yn yr hen amser rhagarwyddai diwrnod braf einioes heulog a llwyddianus. Yr oedd "haul ar fodrwy," fel "gwlaw ar yr arch," yn bethau a fawr ddymunid gan yr hen bobl.

Erbyn tua deg o'r gloch y bore hwnw, yr oedd y darpariad wedi ei gwblhau, a safai Meinir yn welw gan bryder wrth gadair ei thad. Syllai yn ddyfal tuag at ben y mynydd, lle yr oedd llwybr, ar hyd yr hwn y disgwyliai hi bob mynyd weled y Gwyr o wisgi oed yn dyfod i'w chyrchu tua'r llan. Y "gwyr" hyn oeddynt gyfeillion y priodfab, a ddeuent, yn ol hen ddefod, i gyrchu y briod- ferch i'r eglwys; ac yn ol yr un hen ddefod, yr oedd hithau i'w hysgoi a chymeryd arni ddianc rhagddynt. Yr oedd Rhys a hithau wedi trenfu pa fodd yr oedd hi i ysgoi ei herlidwyr, a'i gyfarfod ef ar y llwybr yn y coed oedd yn arwain at gefn yr eglwys. O'r diwedd, dacw nhw, ddwsin o lanciau gwridcoch iachus, yn prysuro i lawr yr allt; a'r eiliad y daethant i'r golwg, ffwrdd a Meinir am ei bywyd i ymofyn ymguddle ganddynt. Ni buont yn hir cyn cyrhaedd llawr y Nant; ond yr oedd yr aderyn wedi ffoi. Chwiliwyd pob man am dani — yr ysgubor fechan, yr ydlan ddistadl, oddeutu'r dâs fawn, y llwyni rhedyn tu cefn i'r tŷ, ac agenau'r graig tu cefn i hyny, — chwiliwyd y cwbl, ond yn ofer; a phan ar roddi'r ymchwil i fynu, disgynodd llygaid un o'r cwmni ar droed y ffoadures yn ymrithio allan oddi tan un o'r mydylau gwair yn y maes gerllaw, a rhoddodd y cwmni oll bloedd orfoleddus oherwydd y darganfyddiad. Ac awgrymai y floedd i Meinir mai ffolineb iddi aros yn hwy yn y fan yr ydoedd. Neidiodd i fynu, a disgynai'r gwair a'r meillion oddiwrth ei gwisg; syllodd ar ei hymlidwyr am fynyd, yn haner ofnus, haner awyddus i gael ei dal; ond gan wenu'n chwareus arnynt, ffwrdd a 'hi tua rhyw lwybr anhygyrch yn y goedwig, gan ddiflanu o'u golwg fel duwies y coed (nymph) neu ddrychiolaeth.

Yr oedd y briodas i gymeryd lle yn Nghlynog Fawr, trwy drefniad arbenig, am mai yno y priodasai tad Meinir ei mam, ac ewyllys yr hen ŵr oedd iddi hithau gael ei phriodi yn yr un lle. A'r fath wyl ydyw priodas mewn llan bychan, diog, mynyddig! Daw pob cnawd o'i fewn at eu drysau i weled yr orymdaith yn myned heibio; a bydd y plant wedi haner gwallgofi mewn digrifwch. Trethir y coed a'r ardd i anrhydeddu y digwyddiad. Yr oedd y llwybr rhwng porth y fynwent â'r eglwys wedi ei orchuddio gan gangau a blodeu; ac nid oedd y plant, cofiwch, heb ddisgwyl bendithion crynion am hyn. Yr oedd Dafydd Gloff, y Telyniwr, hefyd, gyda'r un disgwyliad clodwiw, wedi gosod ei hun ar gareg fedd, a'i offeryn cerdd yn ei law, yn barod i daro cainc wrth i'r cwmni fyned heibio; a'r "plant direidus," chwedl yntau, bron, bron a'i fyddaru gyda eu deisyfiadau am alaw ganddo, y dewraf rai o'r dyhirod bychain yn cyffwrdd â'r tanau weithiau, er mwyn lladrata tipyn o sŵn; a Deio, oni ddiangent, yn gosod ei fagl yn lled hwylus ar eu gwarau. Yr oedd rhai ,o'r cywion diriad a llawenfryd wedi dringo'r coed, gan y gallent oddiyno weled milldir o'r ffordd, a dyna lle 'roedd eu cyfoedion ar y llawr yn gofyn iddynt, "Welwch chwi nhw, lads! yden nhw yn dwad?" Ond nid oedd hanes am danynt. Tua'r amser yma hefyd dychrynwyd y dysgwylwyr hygoelus yn fawr gan waith un o'r plant, hogyn haner call, druan, yn taenu dyrnaid o lysiau gwenwynig hyd y llwybr, llysiau a deflid gan elynion a chydymgeiswy r siomedig — arwyddluniau o ddrwg- ewyllys iddynt gael bywyd adfydus. Er mor fechan oedd y weithred hon, eto yn nhyb y bobl ddysgwylgar hyny rhagarwyddai fod rhy w beth o'i le.

Ond yn y cyfamser, pa le yr oedd Rhys? Wel, yr oedd yn y fan apwyntiedig i gyfarfod ei anwylyd, yn foddfa o chwys gan bryder, ac yn methu dirnad na dyfeisio beth a allasai gadw ei Feinir cyhyd. Cerddai yn ol a blaen, curai ei fodiau yn y ddaear, a pho hwyraf yr elai'r dydd mwyaf yn y byd oedd ei benbleth yntau. Yr oedd yr haul eisoes wedi cyrhaedd ei awr anterth; a'r offeiriad, yn ol pob tebyg, wedi blino'n disgwyl, a dychwelyd adref. A pha beth oedd ei syndod pan ddychwelodd "Y gwyr o wisgi oed," a Meinir yn absenol! "Nenw'r anwyl, pa le maeMeinir?" " Ydi hi ddim gyda thi, Rhys!" ebynt hwythau un ac oll. "Y mae hi wedi chwareu cast gyda chwi a minau; yn rhywle yn y Nant y mae hi; rhedwch yn ol, rhedwch yn ol fel am eich bywyd, onide bydd yn rhyhwle!" "I ba beth y rhedwn yno? Nid oes yno yr un enaid byw ond dy ewythr, ac ni welodd ef mo honi er pan ddiangodd hi rhagom oddiwrth y mwdwl gwair." Safai Rhys fel delw; nis gwyddai yn iawn pa beth i'w wneud; a chan chwerthin math o chwerthiniad gwag, dywedai, "Wrantaf fi eu bod hi tu cefn i'r eglwys bellach, ond rhag ofn, mi a âf fy hunan tua'r Nant i chwilio am dani. rhedwch!" ac ymaith ag ef tuag adref fel ar aden y gwynt. Chwiliasant hwythau bob man oddeutu'r eglwys a'r fynwent, ond heb weled na chlywed dim oddiwrthi. Yr oedd Rhys yn benderfynol ei bod yn un o'r ddau fan; ond pan gyrhaeddodd adref, edrychodd yn hurt ar yr hen ŵr wrth gael ar ddeall ganddo nad oedd hi yno, canys yr oedd un aden i'w obaith wedi ei thori. Er hyny, eisteddodd i lawr wrth ochr ei ewythr, a suai ei hunan i heddwch wrth fyfyrio pa berygl allai ei gorddiwes mewn gyrfa mor fer. Yr oedd hefyd yn ganol dydd goleu; nid oedd na chors na phydew ar ei ffordd; na dynion drwg i'w niweidio mewn gwlad na chlybuwyd am yspeiliad pen ffordd na llofruddiaeth o'i mewn yn nghôf neb byw; yr oedd ef ei hun wedi dyfod ar hyd y llwybr y dylasai hi fyned ar hyd-ddo, a phe syrthiasai hi trwy ddamwain ar ei thaith, rhaid fuasai iddo ef ddyfod o hyd iddi. Yn fyr, yr oedd yr anmhosiblrwydd i ddim niwaid ddigwydd iddi, am enyd yn suo ei feddwl i ddyogelwch ac esmwythder. Ond yr eilad nesaf, neidiodd i fynu, "Y nefoedd fawr!" meddai, "paham yr eisteddaf yma?" fel y rhuthrai y dirgelwch ar eifeddwl, acy gwelai fod yr amser i briodi wedi myned heibio; ac yntau, ddylasai fod yn wr priod er's awr bellach, yn eistedd mor hamddenol yno i gyfnewid geiriau diles gyda'i ewythr; a hithau, pwy wyddai pa le?

Ymaith ag ef unwaith yn rhagor i fynu'r allt, a'i wyneb tua'r eglwys, i ymofyn os sylweddolwyd ei obaith olaf bron am ddyfod o byd i'r un a garai. Eithr, nid aethai nepell, oni chyfarfyddodd a'i gyfeillion; a'u golwg adfydus a siomedig yn bradychu'n ddioed i'w feddwl cynhyrfus ef nad oedd ei un anwyl wedi ei chael. Nid oedd eisiau gofyn nac ateb; yr oedd y ffaith alarus yn cael ei llefaru yn eu hwynebau. Edrychasant yn fudanod ar eu gilydd. Hylldremiodd Rhys o'i ddeutu fel un yn edrych am fan i ddianc rhag angau, heb le i guddio ei hunan ofnus; yna, ymdeimlai fel pe yn cerdded i nos ystormus — syrthiodd ar y ddaear, a gorweddai mewn llewyg pan y dynesasant ato, ac yn y sefyllfa hono y dygasant ef adref.

Y nos hono, gwelid goleuni yn ymsymud yn ol a blaen yn mhob cyfeiriad; a chlywid lleisiau yn galw ei henw, yr hyn a ddiaspedid gan y clogwyni, ac atebid gan ddallhuanod, neu gan bysgodwyr lluddedig yn nghyffiniau'r môr; chwiliwyd pob lle tebygol ac anhebygol hefyd, pob twmpath, pob ysgafell, ond yn gwbl ofer; cribau y creig anial a gwaelodion nentydd anhygyrch, ond dim y rhithyn lleiaf o'i hanes:

Chwilio pob man am dani,
A chwilio heb ei chael hi.

Ni ddaeth Meinir mwy i adloni llygaid ei hen dad diallu, nac i gysuro yspryd truenus ei chariad a'i chefnder, gan na welwyd ac na chlybuwyd dim mwy oddiwrthi na phe buasai'r ddaear wedi ei lladd wrthi 'i hun a'i chladdu yn y nos — ei chladdu ar ddydd ei phriodas, fel y rhagddywedasai hi yn gellweirus wrth Rhys y nos flaenorol o tan yr hen geubren.

Pan ddadebrodd Rhys y prydnawn hwnw o'i lewyg, ei lygaid a grwydrent yn wyllt ogwmpas yr ystafell, a gwelai ddarpariadau y briodas yn parhau i'w haddurno; nes y rhuthrodd y cwbl i'w feddwl eilwaith. Tywynai'r haul o fan ei fachludiad trwy y ffenestr fechan ar ei wyneb gwelw, a gwyddai oddiwrth hyny fod y dydd yn tynu i'w derfyn — mor ddymunol a chyson fuasai y fath olygfa i briodfab hapus; ac mor anghyson â'i sefyllfa ef, druan siomedig — llefarai wrtho fod y nos yn nesu, fod oriau heddychol y cyfnos wedi lledu eu hedyn euraidd ac adfywiol ar y byd, — ac yntau mewn clefyd, a'i ymenydd ar dân, yn dihoeni ar ei wely, ie, ei wely priodas — yn unig — a pha le yr oedd Meinir?

Yn unol ag arferiad yr oes hygoelus hono, ymofynwyd yn union deg am gymhorth dewinio. Tra yr oedd un chwaer yn gwylio gwely'r claf, prysurodd y llall gynted gallai at "gwraig hysbys," oedd yn byw mewn bwthyn bychan diaddurn yn uchel, uchel ar un o lechweddau yr Eifl — yn mhell uwchlaw rhodfeydd cyffredin dynion, yn myd y cymylau, y grug, a'r cigfranod. Dynes brudd hagr oedd hi, a'i hymddygiadau haner gwallgof, a'i dull neillduedig o fyw, yn peri i werin y parthau hyny gredu ei bod yn gwybod y dirgelion oll trwy ei chyfathrach â'r Un Drwg. Gerbron y feudwyes hon y daeth yr eneth ieuanc o Nant Gwrtheyrn; ac yr oedd ei hatebion, fel yr eiddo oraclau eraill o ran hyny, yn llawn o eiriau dau-ystyr neu diystyr. "A geir hi?" "Ceir." "Pwy ceiff hi? ac yn mha 'le, ac yn mha fodd!" Ysgydwodd y Ddewines ei phen. "A geiff y priodfab ei anwylyd?" "Ceiff." "Yn y nef neu ar y ddaear?" "Ar y ddaear." Diolch i Dduw," ebai'r chwaer ofergoelus, gan droi gwyn ei llygaid i fynu, plethu ei dwylaw ynnghyd, ac wylo o lawenydd." Ond pa bryd? O, pa bryd?" "Daw goleu o'r Nef, ag a'i dengys. Ni chwiliwch ychwaneg am dani; y Nef a'i dengys hi iddo ef — hwy a safant wyneb yn wyneb yn y goleuni nefol." "Pa hydy bydd hi oddiwrthym?" "Nid ydyw oddi wrthych." Ni fynai'r ddewines ddweydd im yn mhellach na hyn; a dychwelodd y forwyn ieuanc adref. Adroddodd wrth ei chwaer yr hanes, a'r geiriau a glywsai, ac wedi i'r ddwy eu pwyso yn nghlorianau pwyll,nis gallent wneud na choryn na sawdl ohonynt ac o ganlyniad, penderfynasant gadw y peth yn ddirgelwch, a gadael i amser eu hesbonio, os oedd esbonio arnynt hefyd.

Ond parhau yn llesmeiriol yr oedd Rhys, a'i lygaid fel ser safadwy yn ei ben; ni chymerai sylw o neb, a chauai ei ddwrn pan gynygid siarad âg ef. Ni ddarfu gymaint a gofyn beth oedd ffrwyth yr ymofyniad â'r ddewines, fel pe na fynasai ladd yr ychydig obaith oedd yn llechu eto yn ei fynwes. Yr oedd yn anmhosibl i'r edrychydd mwyaf disylw beidio canfod ynddo ar rai amserau ragarwyddion sicr o wallgofrwydd; canys yr oedd ei ymenydd yn prysur doddi tan ddylanwad gwres ei drallod a'i bryder. Bu yn y sefyllfa Yna am ddiwrnod a noswaith, weithiau'n waeth ac weithiau'n well, ond el waeth yn mynd yn hirach a'i well yn fyrach; a phan oedd cysgodau yr ail ddydd yn ymestyn, neidiodd i fynu, gwisgodd ei briodaswig am dano, ymaflodd yn mraich ei chwaer achydag egni ofnadwy ebychodd y gofyniad, "Gafwyd hi eto?" Ni fedrai'r eneth wirion rwygo ei galon drachefn gydag ateb nacaol; ac ni feiddiai ychwaith ei dwyllo â chelwydd; edrychodd edrychiad caruaidd i'w wyneb, a throdd ei phen draw i wylo'n hidl." Gafwyd hi? Gafwyd hi!" Naddo, naddo. " Adroddodd yntau y gair erchyll mewn gwaedd ddolefus uchel, nes oedd y creigiau cylchynaol yn diaspedain. Yna, gan sefyll ar drothwy yr ystafell fechan briodas, newydd ei gwyngalchu, newydd ei haddurno âg arluniau bychain a phwysiau serch; a chwrlid o glytwaith amryliw ar y gwely, gwaith llaw gelfyddgar yr un golledig, sibrydai: — "Dyma'r nos! dyma'r nos! a hithau heb gartref uwch ei phen; na fydded un byth ychwaith uwch fy mheninau!" A rhwygodd ei hunan o afael ei chwaer ofnus, a ffwrdd ag ef ar redeg tua'r coed ar y mynydd. Ni chymerai y sylw lleiaf o alwadau taeraf ei chwiorydd ar ei ol; a sylweddolwyd eu hofnau; yr oedd Rhys yn Wallgof!

Bu yn grwydryn gwyllt o'r awr hono allan. Ni ddychwelai i blith dynion ond pan fyddai newyn yn gwasgu arno; fel rhyw fwystfil gwyllt a orfodir gan newyn yn nryghin gauaf i gyniwair am ymborth o gwmpas trigfanau dyn. Yn y coedwigoedd anial, ac ogofeydd llaith y mynyddoedd, yr oedd ef yn breuddwydio ei fywyd ymaith, nes y daeth yn wrthddrych gresyndod a dychryn y sawl a edrychent arno. Yr oedd ei farf yn hir, ac yn britho yn gyflym; a'i ewinedd yn hirion fel ewinedd barcut. A thrwy ei fod yn esgeuluso ei hun, yn hir ymprydio, ac yn arwain bywyd gwyllt a direol, ei wyneb a grebychodd fel dail yr Hydref, y rhai oeddynt ei sedd y dydd a'i wely y nos. Ar rai adegau, gwaeddai nes byddai yr adsain yn rybedio o glogwyn i glogwyn, y gair hwnw oedd wrth wraidd ei holl drallod, "Naddo," a'r greadigaeth ddireswm o'i ddeutu a ddychrynai, a'r bugeiliaid yn eu hafod-dai a arswydent trwyddynt. Bryd arall, rhuthrai yn ol a blaen ar lan môr tymhestlog Rhagfyr, a'i donau brigwynion yn bygwth claddu yr adyn unig yn ei glafoerion. Yno y safai yn wlyb gan yr ewyn, ac yn rhuo allan gynddaredd cableddus fel pe buasai gyda'i lais cras am or-ruo cynddaredd yr eigion, yn erbyn y drefn galed hono a gelai rhagddo dynged ei anwylyd. Nid aeth i'w dŷ byth drachefn; ac oddiar ei hawl dreftadol i'r lle, ni oddefai i ddodrefnyn gael ei symud, nac i'r adeilad gael ei adgyweirio mewn un modd; ac felly y safai yn dadfeilio yn ddystaw, ac yn ddrychiolaeth o daclusrwydd dirywiedig, hyd oni ddarfu i wyntoedd cryfion o'r môr ysgubo rhan fawr o'r tô gwellt ymaith, ac y glasoddy muriau gwyngalchog oddifewn mor las â'r dywarchen oddi allan; ac yn y diwedd, y ddallhuan a'r ystlum a gyniweirient ei ystafelloedd, a'r llwynog a'r gath coed, yn eu tro, a epilient ac a udent ar y gwely priodas.

Ond er ei fod yn arwain bywyd y gwallgof, eto, er ei alar, yr oedd ei feddwl yn ymwybodol o'i holl drueni; a hyn sydd yn gwneud gwallgofrwydd y cystudd mwyaf arteithiol a ddichon gyfarfod dyn. Y gorpbwylldra hwnw sydd yn dryllio y teimladau naturiol, y serchiadau, y nwydau, a'r arferion, — heb anmharu ond ychydig ar y deall, aadwaenir gan rai meddygon wrth yr enw "Gwallgofrwydd Moesol;" a'r cyneddfau ynddo fel cyneddfau ambell feddwyn pan y byddo mewn man peryglus — yn gweled y geulan erchyll, ond heb allu i'w hysgoi, gan nad oes ganddo lywodraeth ar ei ysgogiadau. Y cysylltiad sydd yn bodoli rhwng y deall a'r aelodau wedi ymddyrysu a thra mae'r meddwl heb ei anmharu, y mae'r ymddygiadau yn hurt a direol. Anobaith, fel bedd, yn agor ei safn i lyncu'r enaid, a'r deall yn ymwybodol o hyny, eto heb allu i osgoi'r gyflafan o gael ei gladdu yn fyw. Dyma'r wedd erchyllaf ar wallgofrwydd; ac i ddanedd y math yma o'r anhwyldeb y syrthiodd Rhys.

Bu am fisoedd rai heb ddweyd gair wrth neb ond ei Gi. Math o gorgi defaid bychan oedd y ci hwn, yn hanu o dylwytho gwn enwog am eu ffyddlondeb i'w meistriaid, a'u greddf ddeallgar. Pan oedd Rhys yn ei bwyll, arferai y Cidwm ei ddilyn hyd y meusydd i aredig, ac hyd y mynydd i fugeilio. Anfynych y gwelid y ci heb ei feistr, na'r meistr heb y ci. A phan gollodd Rhys ei bwyll, ni chollodd cymdeithas Cidwm. Y lledfegyn gwirion a'i dilynai yn ei holl grwydriadau gwamal, heb ond ychydig luniaeth y dydd, ac yn gorwedd y nos wrth ei draed. Ceisiodd yr hen ŵr unwaith ddiddyfnu ei serch oddi wrth ei feistr trallodedig, trwy ei gau i fynu mewn congl o'r beudy; ond gwelwyd mai trengu mewn caethiwed y buasai yn fuan, gan mor swrth a digalon yr edrychai. Gollyngwyd ef yn rhydd, a chrwydrodd y coed oni ddaeth o hyd i'w feistr drachefn. Arferai Rhys siarad gydag ef fel pe buasai 'n Gristion o ddyn, a dweyd wrtho ei brofiad chwerw a'i helynt blin, a hynny mewn tôn mor alarus, nes byddai'r creadur yn edrych yn myw ei lygaid, ac yn udo'n dorcalonus fel pe buasai'n deall y cwbl. Ond pan ddaeth y gauaf oer, a'r barug gwyn i orchuddio'r ddaear bob bore, tra nad oedd caledfyd yn effeithio ond ychydig ar gyfansoddiad y gwallgof (wedi ei gryfhau gan ei wallgofrwydd), y ci truan a ddihoenodd, ac a drengodd o wir newyn ac anwyd; ac a ddisgynodd yn aberth i'w reddf ardderchog — ffyddlondeb. Yr oedd hyn yn ddyrnod arall i feddwl cystuddiol Rhys, gan ei fod yn colli ei unig' gydymaith ar wyneb daear. Yr oedd ei ymddygiad at y gelain farw yr engraifft fwyaf gyffrous o wallgofrwydd y clywsom erioed son am dani, ac yn ddangoseg alarus y fath greadur distadl a thruenus ydyw dyn wedi ei ymddifadu o'i synwyrau. Gwyliai drosti yn barhaus, cofleidiai hi, a dygai hi oddi amgylch yn ei freichiau am ddyddiau lawer, a thywalltai gwynfanau ei enaid uwch ei phen, nes y darfu i Ifan y Ciliau, ei Wahoddwr gynt, a dau o wyr cryfion eraill, o wir dosturi tuag ato, ruthro arno, a mynu claddu yr ysgerbwd mewn man anhysbys iddo.

Ar ol colli y cydymaith hwn, yr hen geubren hwnw ar gŵr y môr oedd ei gyfaill penaf. "Y mae mor debyg i mi!" meddai; wrtho'i hunan yn goddef holl gynddaredd yr ystormydd, felly finau; yn crino yn gyflym, felly finau; yn ysgwyd ei gangau bregus uwchben môr mawr, i ba un y syrth yn fuan, felly finau; bydd ef a minau wedi myn'd toc, a chyn pen ugain mlynedd (O! y mae'n chwithig meddwl y fath beth) daw cenedl i fynu ac a ddywed ' Dyma lle' roedd yr hen geubren! dacw lle talodd Rhys Meredydd ddyled drom ei natur!' Wrthyt ti, bellach, y tywalltaf chwerwder fy enaid; clywaist lawer o'm hymddyddanion serch, gwrando hefyd ar gwynfanau fy ngweddwdod. Ac os nad elli fy nghlywed, wel, nis gelli fy ngwawdio; ac os nad elli gydymdeimlo â mi, nis gelli ychwaith fy mradychu. A oes genyt ti ffynonell o ddagrau i'w dihysbyddu? Neu fynwes i'w dryllio'n chwilfriw gan ocheneidiau, neu galon i hollti'n ddwy tan ddyrnod siomedigaeth? O, gwyn dy fyd! Tan dy aden garuaidd yn ymgysgodaf y nos, ac y breuddwydiaf am fy Meinir. "

Ac yno y byddai ddydd a nos, yn neidio ac yn gorwedd, yn canu ac yn wylo, yn gweddio ac yn cablu, bob yn ail. Daeth ei chwiorydd yn fuan i ddeall pa le y deuent o hyd iddo, a mynych y dygent fwyd ger ei fron, ac y bwyteai yntau gyda rhaib un ar newynu; ond ni ddywedai air, ddim cymaint â diolch. Am hir wythnosau parhaodd yn y mudandod trwynsur hwn, eithr nid oedd caredigrwydd y chwiorydd yn lleihau — parhaent i weini i'w angenion gyda'r hunan-ymwadiad mwyaf canmoladwy. Pa fodd bynag, o'r diwedd, gwelent arwyddion sirioldeb ar ei wyneb prudd, diolchodd hefyd i'w chwaer yn wresog un tro, ac o radd i radd daeth i siarad yn lled rwydd. Gofynwyd iddo paham yr arosai tan y ceubren mwy nag yn rhy wle arall. Atebodd: " Am fy mod yn adwaen yr hen bren er's blynyddau, ac yn gweled Meinir yn fynychach trwy fy ngwsg odditano nag yn unman arall." Ac o dipyn i beth. cafwyd ganddo ddyfod gan belled â Nant Ifan Meredydd, i weled yr hen ŵr; eithr nid eisteddai i lawr, ac ni fwyteai ddim yno. Safai, a cherddai yn ol a blaen, am oriau weithiau; ond pan ddechreuai nosi, "Rhaidimi fyned," meddai," bydd hi'n dysgwyl am danaf yn union; oes genych chi rhyw genadwri ati, f'ewyrth?" "Dim, fy machgen i, ond y byddaf inau yn yr un byd â hithau yn fuan, fuan. "Fel hyn yr oedd ymenydd afiach Rhys yn cenedlu rhyw feddyliau gorphwyllog ei fod yn gweled ac yn ymddyddan â'i anwyldyd yn y nos, nes y teimlai ei hun yn ddedwydd am yr amser; eithr breuddwyd ydoedd, yn gadael ei feddwl twylledig yn fwy trallodus fyth.

Nid arosai byth yn y tŷ ar ddryghin ychwaith. Mor gynted ag y clywai y gwynt yn chwiban, ac y gwelai'r cymylau duon yn hofran uwch ben, ymaith ag ef, gan ddywedyd, "Bydd hi allan tan holl gynddaredd y dymhestl, a chreulondeb ynwyf fi fyddai aros i fewn." Mewn gwirionedd, yn y ddryghin yr oedd ei hindda; a theimlai'n ddedwyddach yn rhuad y taranau a flachiadau y mellt, pan yn wlyb drwyddo gan y gwlaw, na phan fyddai'r haul yn tywynu, a natur oll yn gwenu o'i ddeutu. Yr oedd y blaenaf yn fwy cydweddol â'i yspryd terfysglyd ef. Un prydnawn, tra y rhagarwyddai natur ystorm ddychrynllyd o fellt a tharanau, efe a safai yn nrws y tŷ, ar gychwyn i'w ddewisol fan, o tan yr hen geubren; a Gwyneth a aeth ato ac a ymbiliodd âg ef, am iddo er ei fywyd beidio a gadael diddosfan. "I ba beth yr arosaf, fy ngeneth wirion?" ebai ef," yr wyf mor gynefin â dychrynfeydd fel nad oes gan angau ei hun yr un dychryn i mi. Y mae, ystormydd o'r fath yma yn llai na dim wrth eu cydmaru â'r ymrysonau parhaus sydd yn y fynwes hon rhwng gobaith ac anobaith. Byddaf weithiau yn dewis angau yn hytrach nag einioes, ond pan ar gyflawni yr echryswaith, daw ataf y meddwl o'i bod hi hwyrach eto yn fyw, ac y byddwn yn ei gadael o'm hol; yna, penderfynaf fyw, a theimlaf y byd hwn yn oer a gwag hebddi. yr wyf yn debyg i'r betrisen drallodus yn gregan yn yr hwyr am ei chymar a fyddo wedi syrthio trwy rhyw law anhysbys yn ystod y dydd. Bryd arall, byddaf yn gweddio ar i Dduw tosturiol rwygo y llen hwn sydd yn gorchuddio fy llygaid, a datguddio ei thynged, ei gweddillion, ei bedd. Ni ddymunais hapusrwydd, canys y mae amser hapusrwydd wedi myned heibio arnaf am byth. O, mae fy nghynged yn galed na chawn hyn. Gweddiais am sicrwydd, hyd yn nod pe byddai ond sicrwydd anobaith; byddai hyny yn well na'r ellylldân hwn o obaith sydd yn peri i'm meddwl cythryblus grwydro hyd geulanau marwolaeth a chorsydd trueni. Na, yr ystorm i mi! a dichon y teifl rhyw fellteu oleuni ar ei thynged; ac yna byddaf farw yn dawel." A rhwygodd ei hun o'r gyfeillach hon, a fwrdd ag ef ar garlam tua'r ceubren. Ni buasai yn waeth i chwi geisio atal y ciconia (stork) rhag ufuddhau i'w reddf symudol anorchfygol na cheisio atal Rhys rhag myned i'r lle hwnw ar ystorm.

Ac, yn nhyb ei chwiorydd, nid oedd modd iddo ddewis lle mwy peryglus ar daranau na'r llecyn hwnw; gan fod yr hen bren wedi ei daro deirgwaith gan fellt yn ystod y deng mlynedd diweddaf. Safai yn min y môr, ar glogwyn uchel, ac yr oedd yn nod amlwg i'r elfen ddinystriol. Gan hyny, prysurodd ei chwaer ar ei ol, ar y bwriad o'i berswadio i ddychwelyd adref; neu o leiaf, ei gael o ddanedd y perygl. Wedi iddi gyrhaedd ato, cafodd ef yn eistedd yn hollol ddigyffro, tra yr oedd natur fel pe buasai mewn gwewyr, a'i gwyneb yn ddu fel canol nos. Pan rwygodd y fellten gyntaf fol y cwmwl tywyll, efe a chwarddodd; a phan afaelodd hi yn. ei law i'w anog i ddyfod ymaith, taflodd edrychiad caruaidd ddiolchgar arni, fel pe buasai yn dymuno cydnabod ei gofal dyfal ar ei ran, a chusanodd ei llaw, gan ddywedyd, "Gwyneth anwyl! Eithr pan erfyniodd hi arno mewn iaith ymbilgar arno dd'od i ochel rhag y dymhestl, "Na, Gwyneth bach," meddai," yr wyt yn meddwl fod hyn yn effeithio arnaf fi fel arnat ti? — dim o'r fath beth. Dos adre, eneth anwyl, gad rhyngwyf fi â'r storm; canys heddwch ydyw dryghin i mi, gan ei fod am yr amser yn boddi sŵn y storm sydd yma (gan gyfeirio at ei fynwes); y mae wedi bod y fath storm ddibaid yma, y fath daranfolltau yn rhuo, rhuo yma, fel O! achubwch, arbedwch fi byth rhag edrych eto ar yr awyr las, a daear feillionog! Ystorm i mi." Yna dyna fflachiad. "Rhed, eneth, rhed! Ymae'n beryglus. "

"A thithau hefyd. Yn wir, ni'th adawaf." Dyna fflam ddwyfol arall! dyna ebychiad arall digon nerthol i ddeffro meirw," ebai Rhys, gan adfeddianu ei ddifrawder arferol, "ond taranau a mellt egwein ein byd ni ydyw y rhai hyn; beth am y dydd hwnw pan y byddo natur yn ymddryllio, a'r greadigaeth ar dâu gan fellt; ac y gwelir ni oll wyneb yn wyneb. Tydi, yr Hwn a wyddost bob peth, gwrando ebychiad calonrwygol adyn truenus o ddyfnderau gwae ac anobaith, fy ngweddi olaf: 'Chwâl y gyfrinach erchyll hon, fel y mae'r fellten yn rhwygo y tywyllwch acw (dos adre, eneth, dos adre). Pâr i'r dydd hwn fod i mi yn debyg i'r dydd hwnw y datguddir y dirgelion oll. Tyngedaf y ddaear a'i thrigolion, y môr a'i feirwon, y nef a'i seintiau, i eiriol ar fy rhan. O! fy ngwraig, fy Meinir golledig! o'r cymylau acw, neu o'r dywarchen hon, yn llwch neu yn angel, deisyfaf, erfyniaf, gweddiaf, am dy weled — dy weled am fynyd — un gipdrem arnat, yna rhoddaf fy mhen ar y ddaear oer i farw. "

Cyn iddo bron orphen llefaru, dyna fellten gyda blaen ei haden yn ei daro'n gydwastad â'r llawr wrth fôn y pren; a chlywai Gwyneth drwst ofnadwy yn ei hymyl, fel trwst môr rew yn ymddryllio yn filiwn o ddamau; a phan agorodd hi ei llygaid, gwelodd olygfa a barodd iddi eu cau drachefn mewn llewyg. Yr oedd y pren wedi hollti o'i frig i'w fôn, gan ddangos geuedd mewnol, ffaith na wyddid o'r blaen; a thrwy yr hollt hi a welai wrthddrych erchyll, — ysgrwd (skeleton) yn sefyll yn syth yn y ceuedd — y penglog dignawd wedi glasu gan leithder, a'r esgyrn eraill wedi eu cànu gan yr hin, a llinynau o wisg fraenedig, gwisg briodas Meinir; ac esgyrn y breichiau yn sefyll i fynu yn syth; y cwbl yn llefaru am angau dychrynllyd. Yr oedd y briodasferch anffodus, ar ol myned tros y bryn hwnw lle y gwelsai ei thad hi ddiweddaf, wedi dringo i ben y ceubren, ar y bwriad o ysgoi ei hymlidwyr diwaid, ac wedi syrthio i'r ceuedd a methu dringo i fynu yn ol, gan lynu yno a marw, fel y collodd llawer eu bywydau mewn simneuau.

Amcanodd Gwyneth gelu yr olygfa rhag Rhys, yr hwn erbyn hyn oedd yn dechreu ymysgwyd o'i lewyg; ond yn ofer. Daeth yn mlaen tua'r fan, fel pe buasai'n gwybody cwbl; gwthiodd hi draw, nes y safai wyneb yn wyneb y priodfab curiedig a'r briodferch hir-golledig, a gwedd y byw wedi newid nemawr llai na gwedd y marw. Cyfeiriodd y gwallgofddyn â'i fys at y gwrthddrych sobr, a gwenodd ar ei chwaer y fath wên arswydus, a gyfleai y drychfeddwl o'i hyfrydwch a'i alar wrth gyfarfod yr un yr ymchwiliasai gymaint am dani — a'i chyfarfod felly! Datguddiwyd y gyfrinach o'r diwedd; a pha beth oedd ei deimladau ef nis gwyddis; nid hysbysodd hwynt ond gyda'r wên galonrwygol hono. Gan daflu cipolwg drachefn ar weddillion yr hon fu cyhyd yn absenol, eto yr holl amser mor agos, syrthiodd ar y llawr, a chyn pen ychydig fynydau yr oedd ei enaid helbulus wedi gadael ei farwol ran curiedig.! i'r cyfryw y mae marw yn felus. Arosodd y wên annaturiol hono ar ei wynebpryd pan yn gorph, wedi ei rhewi yno gan farwolaeth. Claddwyd y ddau yn yr un arch; ac os ar wahan mewn bywyd, yr oeddynt yn un yn angau.

Ni bu yr hen ŵr, tad Meinir, fyw ond ychydig fisoedd ar ol caffaeliad ei ferch; pwysodd y peth mor drwm ar ei babell wanllyd, fel y dadfeiliodd yn fuan. Edwinodd Gwendolen, chwaer hynaf Rhys, mewn darfodedigaeth, ac agorwyd y bedd iddi hithau. Geneth brudd fel yr helygen oedd hi. Gwyneth yn unig oedd yn aros, mewn llawn feddiant ar y Nant. Daeth yn llances wridgoch, er holl afiechyd bore ei hoes. Hi a ymbriododd gyda Ifan Huws y Ciliau, gwahoddwr yr anffodus Rhys; a bu'r ddau fyw i oedran teg, a chawsant farw ar obenydd, a blodeu'r pren almon yn addurn i'w penau.

Hwyrach y bydd ambell un yn gofyn pa le y mae moeswers y chwedl brudd flaenorol; nid oes genym ond gadael i'r cyfryw dynu ei gasgliadau ei hun oddiwrthi; gan mai nid ein dyledswydd ni ydyw gwneud chwedloneg yn ddamheg. Yr ydym yn ddyledus i'r Cambrian Quarterly Magazine, cyhoeddiad rhagorol ond prin iawn yn bresenol, am esgyrn a rhai o ddefnyddiau y BRlODAS YN NANT GWETHEYRN.

300 O DDIAREBION CYMREIG.

  • PECHODAU athrawon ydynt athrawon pechodau.
  • A ddysger i fab ddydd Sul ef a'i gwybydd ddydd llun.
  • Gwna dda ni waeth i bwy.
  • Nid oes dŷ heb ei gyfrinach.
  • Gwell myn'd i gysgu heb swper na deffro mewn dyled.
  • Allwedd tlodi, seguryd.
  • A hauo ddrain na fydded droed-noeth.
  • Ni thỳr dyrnod gwrach yr un asgwrn.
  • Ni chêl grudd gystudd calon.
  • Y groes waethaf yw bod heb yr un.
  • Ar ni phortho gath porthed lygod.
  • A wnel Duw a farn dyn.
  • A wnel dyn Duw a'i barn.
  • A wnel dwyll a dwyllir.
  • Nid twyll twyllo twyllwr.
  • Balchder heb droed (h.y. heb foddion i'w borthi.)
  • Po tynaf bo'r llinyn cyntaf oll y tỳr.
  • Breuddwyd gwrach yn ol ei hewyllys.
  • Cadarnach yr edef yn gyfrodedd nag yn ungor.
  • Cyfaill blaidd bugail diog.
  • Cyn fynyched yn y farchnad, croen yr oen a chroen y ddafad.
  • Cynt y cyferfydd dau ddyn na dau fynydd.
  • Câr cywir, mewn ing ei gwelir.
  • Asgre lân diogel ei pherchen.
  • Dadleu mawr yn nghylch cynffon llygoden.
  • Deuparth gwaith yw ei ddechreu.
  • Digrif gan bob aderyn ei lais ei hun.
  • Dyled ar bawb ei addewid.
  • Duw a ran yr anwyd fel y rhan y dillad.
  • Da gan y gath bysgod, eithr nid da ganddi wlychu ei throed.
  • Ewyn dwfr ydyw addewid mab.
  • Aelwyd ddiffydd, aelwyd ddiffaeth.
  • Daw hindda -wedi dryghin.
  • Goganu'r bwyd a'i fwyta.
  • Goreu canwyll pwyll i ddyn.
  • Goreu meddyg, meddyg enaid.
  • Gwae a gâr ac nis cerir.
  • Gwae a gaffo ddrygair yn ieuanc.
  • Gwae y dyn a wnel gant yn drist.
  • Gwae'r anifail nid edwyn ei berchen.
  • Gwell cariad y ci na'i gâs.
  • Gwell bodd pawb na'i anfodd.
  • Y ci a gysgo a newyna, y ci a gerddo a geiff.
  • Gwell Duw yn gâr na holl lu daear.
  • Gwell hir weddwdod na drwg briod.
  • Gwell marw na hir nychdod.
  • Gwell pwyll nag aur.
  • Gwell synwyr na chyfoeth.
  • Gwell un hwde na dau addaw.
  • Gwell y wialen a blygo na'r hon a doro.
  • Gwerthu mêl i brynu peth melus.
  • O bob cwr i'r awyr y chwyth y gwynt y daw y gwlaw.
  • Oed y dyn ni chanlyn y da.
  • O flewyn i flewyn yr â'r pen yn foel.
  • O lymaid i lymaid y derfydd y cawl.
  • Po mwya'r brys mwya'r rhwystr.
  • O gywirdeb ei galon y llefara'r gwirion.
  • Oni byddi gryf bydd gyfrwys.
  • O Sul i Sul yr â'r forwyn yn wrach.
  • Oni heuir ni fedir.
  • Hir yr erys Duw cyn taro, ond llwyr y dial pan y delo
  • Pawb drosto ei hun a Duw tros bawb.
  • Pob cadarn gwan ddiwedd.
  • Po mwyaf y llanw mwyaf y trai.
  • Ni thycia ffoi rhag angau.
  • Rhaid cropian cyn cerdded.
  • Rhy lawn a gyll.
  • Rhy uchel a syrth.
  • Tafl â'th unllaw, casgl â'th ddwylaw.
  • Trech anian na dysg.
  • Trech gwlad nag arglwydd.
  • Trydydd troed i hen ei ffon.
  • Y cynta' i'r felin geiff falu gynta',
  • Cyntaf ei ôg cyntaf ei gryman.
  • Y gath a fedd groen da a flingir.
  • Yn mhob gwlad y megir glew.
  • Yn mhob rhith y daw angau.
  • Wrth geisio y blewyn glas y boddodd y gaseg.
  • Y neb a fo a march ganddo a geiff farch yn menthyg
  • Yn y croen y genir y blaidd y bydd efe marw.
  • Hysbys y dengys y dyn o ba radd y bo'i wreiddyn.
  • Yr aderyn a enir yn uffern, yn uffern y myn drigo.
  • Hawdd cyneu tân ar hen aelwyd.
  • Hawdd yw digio dig.
  • Hawdd peri i foneddig sorri.
  • Haws dywedyd mynydd na myn'd trosto.
  • Heb Dduw, heb ddim.
  • Duw, a digon.
  • Lle caffo Cymro y cais.
  • Nid da rhy o ddim.
  • Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog.
  • Nid yn y bore y mae canmol diwrnod teg.
  • Ni fu Arthur ond tra fu.
  • Nid oes allt heb oriwaered,
  • Y maen a dreigla ni fwsogla.
  • Ni châr buwch hesp, lo.
  • Ni cheir afal sur ar bren pêr.
  • Ni cheir da o hir gysgu.
  • Ni cheir gan lwynog ond ei groen.
  • Gwell câr yn y llys nag aur ar fys.
  • Gwae a ymddiriedo i estron.
  • Gwaethaf celwydd celu rhin.
  • Nac addef dy rin i was.
  • Goreu cynydd, cadw moes.
  • Hir y cnoir tamaid chwerw.
  • Wrth anmhwyll pwyll sydd oreu.
  • Ni bydd cyttun hûn a haint.
  • Gwae'r wraig a gaffo ddrygwr
  • Gwae'r gŵr a gaffo ddrygwraig.
  • Edifeirwch y gŵr a laddes ei filgi.
  • Hwyr hen a hawdd ei orddiwes.
  • Ni bydd doeth yn hir mewn llid.
  • Yn mhob dirgelwch Duw a fydd.
  • A fyno Duw a fydd.
  • Gwaethaf anaf yw drygfoes.
  • Pe traethai'r tafod a wypai, ni byddai'n gymydogol neb rhai.
  • Diwedd lleidr cael gwarth.
  • Duw a phob daioni.
  • Och! rhag gelyniaeth brodyr.
  • Celfydd, celed ei arfaeth.
  • Nis gwyr dyn beth yw ei ddamwain.
  • Pwy wyr ddamwain mab wrth feithrin?
  • O bob crefft a phob campau, gweddio Duw sydd oreu.
  • Gwell goddef cam na'i wneuthur.
  • Nid da gwylder mewn eisiau.
  • Anaml elw heb antur.
  • Nid oes gŵyl rhag rhoi elusen.
  • Gwell yw crothell bach mewn llaw, na gleisiad a fo'n nofiaw.
  • Hardd ar ferch bod yn ddystaw.
  • Hardd ar fab ymgellweirio.
  • Clydwr dafad yw ei chnu.
  • Gwynfyd herwr yw hirnos.
  • Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle.
  • A Duw nid da ymdaraw.
  • A ddyco ŵy a ddug a fo mwy.
  • Da rhoes Duw'n ddiamheu, gorn byr i'r fuwch a'i hwyliai.
  • Dysgu'r doeth â gair, dysgu'r ffol â gwiail.
  • Hir pob aros.
  • Na phryn gath mewn cŵd.
  • Ni thawdd dyled wrth ei ohirio.
  • Ni thores Arthur nawdd gwraig (ei thafod).
  • Ni thynaf ddraen o droed arall, a'i rhoddi yn fy nhroed fy hun.
  • Ni wich ci er ei daro âg asgwm.
  • Ni wna'r llygoden ei nhyth yn llosgwrn y gath. *Ni wyddis werth y ffynon hyd onid elo'n hesp.
  • Namyn Duw nid oes dewin.
  • Nes penelin na garddwrn.
  • Ni bydd dialwr diofn.
  • Ni ddaw drwg i un na ddaw da i arall.
  • Nid all neb ochel tynged.
  • Yr hwn ni lafuria ac ni weddia, nid teilwng iddo'i fara.
  • Ni lwydd eiddo anonest.
  • Ni thyfa egin mewn marchnad.
  • Gwyn y gwêl y frân ei chyw, er fod ei liw yn loywddu.
  • Nid hawdd chwythu tân a blawd yn y genau.
  • Nid oes ar uffern ond eisiau ei threfnu.
  • Ni raid cloch wrth wddf ynfyd.
  • Y cyfoeth goreu yw iechyd.
  • Glanaf o bawb y pysg.
  • Ochenaid Gwyddno Garanhir pan droes y dôn ei dir.
  • Gwaith byrbwyll nid gwaith ystyrbwyll.
  • Y felin a fâl a fỳn ddwfr.
  • Y naill wenwyn a ladd y llall.
  • Nid ar redeg y mae aredig.
  • Hwy pery llid na galar.
  • Hawdd clwyfo claf.
  • Hen bechod a wna gywilydd newydd.
  • Hiraeth am angau ni weryd.
  • Adwyog cae anhwsmon.
  • Addas i bawb ei gydradd.
  • Addaw teg a wna ynfyd yn llawen.
  • A ddwg angau nid adfer.
  • A êl i chware' gadawed ei groen adre'.
  • Aelwyd a gymhell.
  • Po agosaf i'r eglwys, pellaf o Baradwys.
  • Y goreu mewn rhyfel fydd ddyogelaf mewn heddwch.
  • A fydd ddigywilydd a fydd ddigolled.
  • Trechaf treisied, gwanaf gwaedded.
  • A fyno glod bid farw.
  • Gair Duw yn uchaf.
  • A gyniler a geir wrth raid.
  • Allan o olwg, allan o feddwl.
  • Aml bai lle ni charer.
  • Amlwg gwaed ar farch gwelw.
  • Amlwg cariad a châs.
  • Angel penffordd a diawl pen pentan.
  • A ogano a ogenir.
  • Arwydd ddrwg mwg mewn diffaethwch.
  • Annoeth llithrig ei dafod.
  • Boed lyfn dy weddïau, boed rydlyd dy arfau.
  • Po amlaf fo'r bleiddiau, gwaethaf fydd i'r defaid.
  • Can' câr fydd i'r dyn a chan' ŷch.
  • Nid dyddan gwrando caswir.
  • Câs gŵr ni charo'r wlad a'i macco.
  • Bibl i bawb o bobl y byd.
  • Chwareu ac na friw, cellwair ac na chywilyddia.
  • Chwerthin a wna ynfyd wrth foddi.
  • Dangos nef i bechadur.
  • Da yw'r maen gyda'r Efengyl.
  • Deuparth ffordd ei gwybod.
  • Dibech fywyd gwyn ei fyd.
  • Drwg y ceidw diafol ei was.
  • Edifar cybydd am draul.
  • Nid oes dim heb allu.
  • Er heddwch, nac er rhyfel, gwenynen farw ni chasgl fêl.
  • Gadael ein nos waethaf yn olaf.
  • Wedi rhodio gwlad a thre', teg edrych tuag adre'.
  • Gwell aderyn mewn llaw na dau mewn llwyn.
  • Gormod esmwythder sydd anhawdd ei drin.
  • Gwell am y pared â dedwydd nag am y tân â diriaid.
  • Gwell chwareu nag ymladd.
  • Gwell dyn drwg o'i gospi.
  • Gwell cysgu ar wellt nag ar y llawr.
  • Gwell gwegil câr nag wyneb estron.
  • Gwell gŵr o'i barchu.
  • Gwell gwraig o'i chanmol.
  • Gwell i ddyn y drwg a wyr na'r drwg nis gwyr.
  • Gwell migwrn o ddyn na mynydd o wraig.
  • Gwell nâg nag addaw ni wneir.
  • Gwell-well hyd farf, gwaeth-waeth hyd farw.
  • Gwerthu cig hwch, a phrynu cig moch.
  • Diniwaid pawb yn ol ei chwedl ei hun.
  • Gwna dda am ddrwg ac uffern ni'th ddwg.
  • Hael Hywel ar bwrs y wlad.
  • Hardd pob newydd.
  • Hwy pery clod na golud.
  • I'r pant y rhed y dwr.
  • Lle ni bydd dysg ni bydd dawn.
  • Fel y dyn felly ei anifail
  • Mam ddiofal a wna merch ddiog.
  • Melys bys pan losgo.
  • Mwy nag un ci a'm cyfarthodd I.
  • Cludo dwfr mewn gogr,
  • Mynych y syrth mefl o gesail.
  • Heb ei fai heb ei eni.
  • Nid rhodd, rhodd, oni bydd o fodd.
  • Myn'd i gysgu 'run pryd â'r fuwch, a chodi gyda'r hedydd.
  • Ni wyr, ni ddysg; ni ddysg, ni wrendy.
  • Nerth eryr yn ei ylfin.
  • Nerth unicorn yn ei gorn.
  • Nerth sarph yn ei cholyn.
  • Nerth hwrdd yn ei ben.
  • Nerth arth yn ei phalfau.
  • Nerth ci yn ei ddant.
  • Nerth tarw yn ei ddwyfron.
  • Nerth ysguthan yn ei hadenydd.
  • Nerth gwraig yn ei thafod.
  • Ni ddaw henaint ei hunan.
  • O flewyn i flewyn yr â'r pen yn wyn.
  • O ddau ddrwg dewis y lleiaf.
  • Paham y llyf ci y maen? am nas gall ei gnoi.
  • Po cyfyngaf gan ddyn, eangaf fydd gan Dduw.
  • Pob diareb gwir, pob coel celwydd.
  • Ei le i bob peth a phob peth. yn ei le.
  • Po dyfnaf y môr, dyogelaf fydd i'r llong.
  • Pryn hen pryn eilwaith.
  • Rhoi'r càr o flaen y ceffyl.
  • Rhoi'r dorth a gofyn y dafell.
  • Trech gwan arglwydd na chadarn was.
  • Tyf y baban ac ni thyf ei ddillad.
  • Uchenaid gwrach ar ol eu huwd.
  • Unllygeidiog -wna frenin yn ngwlad y deillion.
  • Uwch pen na dwy ysgwydd.
  • Gwyneb trist drwg a'i herys.
  • Y ci y myner ei grogi dyweder ei fod yn lladd defaid.
  • Un yn ceisio ei gaseg a'i gaseg dano.
  • Y llaw a rydd a gynull.
  • Yn mhob clefyd y mae perygl.
  • Yr hoedl er cyhyd ei haros, & dderfydd yn ddydd ac yn nos.
  • Yr oen yn dysgu i'r ddafad bori.
  • Hwde i ti a moes i minau.
  • Anghall fel dall a dwyllir.
  • Angen a ddysg i hen redeg.
  • Drwg yw drwg a gwaeth yw gwaethaf.
  • Hir yw'r ffordd ni cherddwyd ond unwaith.
  • Drych i bawb ei gymydog.
  • Adwaenir y dyn wrth ei waith.
  • Y mae gobaith o alltudiaeth, nid oes gobaith o fedci.
  • Pob peth a ddaw trwy'r ddaear ond y marw mawr ei garchar.
  • Gwell gochel ymryson na'i ddial.
  • Gwell gwir na chelwydd.
  • Gwell tewi na dywedyd drwg.
  • Hawdd cymod lle bo cariad.
  • Melys, moes mwy.
  • Ceiniog a enillir ydyw'r geiniog a gynilir.

CAS BETHAU GWYR RHUFAIN:

  • Brenin heb ddoethineb
  • Marchog heb brofedigaeth.
  • Arglwydd heb gynghor
  • Gwraig heb feistroliaethwr
  • Cyffredin heb gyfraith
  • Gwasanaethwr heb ofn
  • Tlawd balch
  • Cyfoethog di-elusen
  • Ustus heb gyfiawnder
  • Esgob heb ddysg
  • Henddyn heb ddwyfoldeb
  • Ieuanc heb ostyngeiddrwydd
  • Doeth heb weithredoedd da.

DIAREBION AMAETHYDDOL

.

  • lonawr a dery i lawr.
  • Chwefror chwyth ni chwyd neidr oddiar ei nyth.
  • Mawrth a ladd.
  • Ebrill a fling.
  • Ebrill garw parchell marw.
  • Haid wenyn os yn Mai ei cair,
    A dalant lwyth wyth ŷch o wair.
  • Da haid Mehefin os da ei hoen,
    Am haid Gorphenaf ni rown ffloen.
  • Os yn mis Chwefror y tyf y pawr (porfa),
    Trwy'r flwyddyn wed'yn ni thyf e' fawr.
  • Os yn Mawrth y tyf y ddol,
    Gwelir llawndra ar ei ol.
  • Mis Mai oer a wna'n ddi-nâg
    'Scubor lawn a mynwent wâg.
  • Gwell gwel'd dodi mam ar elor
    Na gwel'd hinon deg yn Ionor.
  • Haid o wenyn yn Ngorphenaf
    Had rhedynen ei phris penaf.
  • Blwyddyn gneuog, blwyddyn leuog.
  • Gwanwyn a gwawn, llogell yn llawn.
  • Mai gwlybyrog gantho cair
    Llwythi llawn o ŷd a gwair.
  • Haner Medi yn sych a wna
    Seler lawn o gwrw da.

ROBIN DDU DDEWIN.

Ni wyddis ond y nesaf peth i ddim am y bod rhyfedd hwn heblaw yr hyn a drosglwyddir i ni gan draddodiad a llafar gwlad. Sonir am dano tan yr amrywiol enwau R. Ddu Ddewin, Robin Ddu o Arfon, a Robin Ddu Hiraddug, a chamgymerir ef weithiau am Robin Ddu o Fon, bardd lled alluog a flodeuai yn y pumthegfed ganrif. Tua haner canrif yn ol, gallesid gweled hen adfail ar ochr Arfon i'r afon Menai a elwid y Tŷ Ceryg, neu Furddun Tŷ Robin .Ddu. Y mae hefyd luaws o chwedlau am dano yn dwyn cysylltiad â'r Faynol a'r Bryn Tirion, palasau ar gyffiniau y Fenai; ac oddiwrth hyn gellir casglu iddo dreulio rhyw .ysbaid o'i oes yn y parthau hyny; er ei fod yn frawd i Dafydd Ddu Hiraddug, ac yn enedigol o ry wle tua Hiraddug — moel uchel gerllaw y Rhyl yn perthyn i res-fynyddau Clwyd. Math o glerfardd hir ei ben ydoedd, yn enill ei fywiolaeth wrth ddewinio, brudio, a rhigymu barddoniaeth. Y mae'n ddiau ei fod yn gyfrwys tros ben; canys er fod rhai o'i ddaroganau heb eu cyflawni, y mae eraill, o honynt wedi "dwad fel yr oedd o yn deyd" i'r llythyren. Y mae yn ddiddadl hefyd fod y wlad wedi tadogi llawer gwrhydri iddo nad oedd y cysylltiad lleiaf rhyngddo âg ef. Pa fodd bynag, nid oes genym ni ond adrodd a glywsom am dano gan hen bobl ddifyr yn nghilfachau mynyddau" Gwyllt Walia. "

ROBIN DDU FEL DAROGANWR.

Un tro yn mherfedd nos yr oedd efe ar daith rhwng Capel Curig a Llanrwst, a phan yn dyfod i lawr Nant Bwlch yr Heyrn, goddiweddodd hen amaethwr o Ddolyddelen, yn myn'd i farchnad Llanrwst. Yr oedd yr hen ffermwr hwn yn meddwl ei bod yn tynu at" lasiad dydd," pan mewn gwirionedd nad oedd ond tri o'r gloch y bore gefn y gauaf; nid oedd clociau gan neb y pryd hwnw — cloc yr hall Llanrwst oedd yr unig awrlais yn Nyffryn Conwy. Pa fodd bynag, aeth yn ymgom rhwng Robin a'r gwladwr, ac yn yr ymgom hono dywedai ein harwr, wrth son am y naill beth a'r llall, "Wyddost ti beth? pan dyf bedwen ar dalcen tŷ y Gwydr Isaf yn gyfuwch a chorn y simddai, bydd y Gwydr Isaf yn llyn dwfr a'r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid." Rhyfeddai ac amheuai ei gydymaith y fath ddywediad. "Y mae cyn wired," ebai yntai, "ag y tery cloc Llanrwst dri o'r gloch pan gyrhaeddwn y farchnad." Cyn wired a bod dwr yn Nghonwy, dyma'r cloc yn taro tri mor fuan ag y daeth y ddau i'r farchnadle; er fod y gŵr o Ddolyddelen yn disgwyl yn siwr mai saith neu wyth fuasai yn daro. Rhyfeddach fyth; y mae bedwen iachus yn tyfu oddiar dalcen y Gwydr Isaf, a thuag ugain mlynedd yn ol, yr oedd y pren wedi dringo mor agos i linell derfyn y darogan, nes y tybiwyd yn ddoeth godi y simddai ddwy neu dair llath yn uwch, er mwyn gohirio y trychineb. Felly nid yw Gwydr Isaf yn llyn dwr na'r Gwydr Uchaf yn gorlan defaid, eto; hyd oni thyf y fedwen yn gyfuwch a chorn y simddai.

Gyda'r un rhagwybodaeth cyfrin y daroganodd efe hefyd y canlynol:

Codais, ymolchais yn Môn,
Boreubryd yn Nghaerlleon,
Canolbryd yn y Ŵerddon,
A'r prydnawn wrth dân mawn yn Môn.

Gydag agoriad rheilffordd Caer a Chaergybi gall dyn fod yn bersonol yn y manau uchod, fel y bu Robin Ddu yn ddychymygol.

Dyma Ddarogan arall o'i eiddo:

Dwy flynedd cyn aflonydd
Pont dos Fenai a fydd

.

Agorwyd y Suspension tros Fenai yn y flwyddyn 1826; a'r Britannia yn 1849; ond ni wyddis fod agoriad yr un o'r ddwy yn rhagflaenu unrhyw aflonyddwch annghyffredin. Ond gwyddai yr hen ddewin cyfrwysgall yn dda mai byd aflonydd ydyw hwn, a pha bryd bynag'y cyflawnid y fath orchestwaith, y dilynid hyny gan ryw aflonyddwch neu gilydd. Er hyny, y mae y peth rhyfeddaf o'r cwbl yn aros yn ddirgelwch, sef pa fodd y daeth i galon dyn yn yr Oesoedd Tywyll hyny y codid y fath "Uchelgaer uwch y weilgi," tros grigylloedd enbydus Porthaethwy.

Y Bala aeth, a'r Bala eiff;
A Rhuthyn yn dref harbwr.

Yn nglyn â'r llinellau hyn clywsom y traddodiad hefyd fod y Bala unwaith yn orchuddiedig gan ddwfr; ac hefyd i'r dref gael ei diluwio amryw weithiau pan fyddai gwynt nerthol yn chwythu ar y llyn. Ond y mae pob lle i gredu na chyflawnir y brophwydoliaeth hon byth, oni sudda y dref gryn lawer, neu y dysg dwr fel "balch angenus" fyw uwchlaw ei lefel. Y mae tuag ugain milldir rhwng tref Rhuthyn a bod yn" dref harbwr," ac yn ol pob golwg nid ydyw yn debyg o gael ymweliad gan Dafydd Jones yn oes neb sydd yn fyw yn bresenol. Hwyrach, er hyny, mai "Mi ddown, pan ddown," a fydd hi gyda Dafydd rywbryd eto.

Chwedlau oddiar Lafar Gwlad am dano.

"Gosodir ef allan," ebai Cynddelw, "fel brawd i Dafydd Ddu Hiraddug, ac adroddir y chwedl hon am danynt: Yr oedd Robin wedi penderfynu lladd pwy bynag a ddygai y newydd iddo fod ei fam wedi marw. O'r diwedd, bu farw yr hen wreigan; ond ni anturiai neb â'r newydd i Robin. 'Myfì a fynegaf iddo,' ebai Dafydd ei frawd. Yna Dafydd a gymerth ei ddameg ac a ddy wedodd wrth Robin, 'Syrthiodd y gangen â'n dygodd ni'n dau. 'Fu farw fy mam?' ebai Robin mewn cyff'ro. 'Tydi a ddywedodd y newydd gyntaf,' ebai Dafydd. Felly nid oedd gan Robin hawl i ladd neb yn ol ei fygythiad."

Ystyrid ef hefyd yn ddewin heb ei fath. Yr oedd ei enwogrwydd yn y gangen hon o'r gelfyddyd ddu wedi cyrhaedd hyd i'r Deheudir — i blith mawrion y tir yn gystal a'r werin bobl. Yr oedd gwraig rhyw foneddwr yn Nyffryn Teilo wedi colli tri gèm gwerthfawr iawn, na fynasai mor byd yn eu lle. Chwiliwyd am danynt yn mhob ystafell yn y palas, a holwyd yr holl forwynion a'r gweision yn eu cylch, heb y rhithyn lleiaf o obaith am eu. hadferiad. Ymgynghorwyd â dewiniaid a dewinesau yr holl ardaloedd oddiamgylch. ond yr un mor aflwyddianus. Yr oedd y foneddiges yn dihoeni o'u hachos, canys rhodd oeddynt iddi hi gan chwaer drengedig. Pa fodd bynag, daeth i feddwl y boneddwr am Robin Ddu, a thybiodd oddiwrth y son am dano, os byddai rhywun yn abl i'w cael, mai Robin oedd hwnw. Danfonwyd cenad ar farch ar frys gwyllt i Wynedd i ymofyn y Dewin; ac ufuddhaodd yntau i'r cais. Yr oedd i gael haner cant o bunau os llwyddai i dd'od o hyd i'r trysorau. Eithr wedi cyrhaedd yno ni ddechreuai ef ar y gwaith o gwbl, os na chai y tâl, llwyddianus neu beidio. Barnai y gŵr boneddig fod hyn yn ormod o arian i'w rhoi ar antur, a hysbysodd Robin y carasai wneud prawf o'i allu dewinol yn nghyntaf cyn talu. "Boddlon fi," ebai yntau; er nad oedd ganddo ond ffydd fach nad syrthio trwodd y buasai yn y prawf; "ond," meddai, "mi gefais fy ngludo yma yn rhad, ac nid peth bach ydyw hyny i glerfardd. "Felly yr hunan-fyfynai efe mewn un ystafell, tra yr oedd y boneddwr yn parotoi y prawf mewn ystafell arall. Y prawf a ddewiswyd oedd dodi Robin Goch dôf oedd yn y palas o tan gawgen ar y bwrdd, a pheri i Robin Ddu ddewinio beth oedd o tan y llestr. O'r diwedd, gwysiodd y boneddwr ef ato, a daeth yntau tan grafu ei lechwedd a gwneud golwg hurt, fel dallhuan yn breuddwydio. "Wel," ebai'r gwr boneddig," beth sydd o tan y gawgen yna, Robin?" Ond ni wyddai Robin tu yno i lidiart y mynydd beth i'w ddweyd na'i wneud. Tybiodd o'r diwedd mai y ffordd oreu fyddai iddo addef ei anwybodaeth. "Mae Robin wedi ei dual yr 'rwan," ebai ef. "Da iawn, wir; da iawn, wir," ebai'r boneddwr, sut y gwyddet ti, Robin, beth oedd islaw i'r gawg? Yr wy'n foddlon 'nawr i dalu'r aur." Ac nid oedd gan Robin yn yr oes hono ddigon o gydwybod i'w gwrthod; yn wir, ychydig fuasai yn eu gwrthod yn yr oes gydwybodol hon.

Pa fodd bynag, y peth nesaf i Robin ar ol derbyn yr arian oedd ei henill. I ddechreu, mynodd gael ystafell yn y palas at ei wasanaeth ei hun, a chael allwedd y cyfryw yn hollol tan ei awdurdod. Cafodd un yn rhwydd, ac yno yr aeth, ac yno y byddai yn ocheneidio ac yn darllen rhyw druth o hen lyfrau a ddygasai gydag ef tros yr holl dŷ, er mwyn argyhoeddi y bobl ei fod mewn cyfrinach bwysig â bodau annaearol o barth y lladrad. Ar brydiau deuai allan i'r gegiu, gan lygadu a chlustfeinio, holi a stilio, ar draws ac ar hyd, pawb yn nghylch y gemau. Yr oedd yn llwyr argyhoeddedig oddiwrth ffeithiau amgylchynol, mai rhai o bobl y tŷ oedd yn euog o'r lladrad, a chael allan y pechadur yn eu mysg oedd testyn ei graffder o hyny allan. Un diwrnod aeth i roi tro trwy yr ardal, ac un o'r gweision gydag ef, er mwyn ei gyfarwyddo. Daethant ar ddamwain at fynwent lle yr oedd y torwr beddau wrth ei waith, a hwnw fel grave-digger Shakespeare, yn ddibris ddigon yn taflu esgyrn penglog i fynu o'i weithfa. Wrth edrych ar y gwrthddrych dynolwawdus hwn, tarawyd y dewin gan ddrychfeddwl o gynllun campus. Cododd y danedd a dododd hwynt yn un o'i logellau. Ni wyddai ei gydymaith ar y ddaear beth i'w feddwl o hyn; edrychodd gydag arswyd ar Robin o hyny allan. Wedi cyrhaedd adref aeth y gwas i'r gegin, a Robin i'w ystafell. Adroddodd y gwas hwn wrth ei gydwasanaethyddion pa fodd y bu'r tua'r fynwent; ac edrychent oll ar eu gilydd yn fudanod dychrynedig. Toc, daeth Robin hefyd i'r gegin, ac archodd mewn modd awdurdodol ar i bob enaid yn y lle ymgynull ger ei fron ef. A phawb a ddaethaut. Yna, gan edrych yn sobrddwys a chraff i'w gwynebau, ebai'r dewin, "Fechgyn a genethod, bydd yn noson erchyll yma heno; yr wyf am alw tair lleng at fy ngwasanaeth, y rhai a ddygant gorwynt yn ei hadenydd, ac a nithiant bawb a phobpeth yn y lle mor fân fel yr â gyda'r gwynt, er mwyn d'od o hyd i'r gemau. Ond ni fynwn er dim i'r dieuog gael ei gospi gyda'r euog, am hyny yr wyf yn rhoddi i bob un ohonoch y papuryn hwn (yn estyn i bob un bapuryn yn cynwys un o'r danedd crybwylledig), a'r sawl sydd ddieuog ni chospir mohono; eithr y sawl sydd euog, bydd yn ddigon mân erbyn y bore i fyned trwy ogr. "Yr oeddynt yn delwi ger bron y dewin rhag ofn i'r corwynt hwnw wneud rhyw gamsyniad. "Ond o ran hyny," ebai ef yn mhellach, "ni raid wrth gorwynt na pheth, ond i mi gael y gemau yn fy ystafell o hyn i haner nos; ac ni raid i un ohonoch ofni y bydd i mi achwyn; na, cadwaf y dirgelwch yn nghilfach ddyfnaf fy nghalon. "Yna efe a ddychwelodd i'r ystafell, gan bryderus ddisgwyl pa effaith a gai'r bygythiad llymdost hwnw arnynt. Pa fodd bynag, cyn pen haner awr dyma guro wrth y drws, a daeth un o'r morwynion i mewn tan grynu a dodi y gemau mewn llian o bali yn llaw y dewin." Cofiwch yr amod," ebai hi wrth fyned ymaith. "Ni raid i ti ofni yn nghylch hyny," ebai yntau. Bu agos iddo hollti ar ei draws gan chwerthin a llawenydd oherwydd ei lwyddiant. Yr oedd y fath lwyddiant tu hwnt i'w obeithion disgleiriaf. Ond nid oedd y boneddwr na'i foneddiges yn gwybod dim am yr ymdrafod hwn; ac yr oedd Robin yn penderfynu na byddai iddo dori ei air yn y gegin na datguddio yr euog. Felly yr oedd yn rhaid iddo drethu ei ymenydd drachefn am gynllun a fuasai yn eu dychwelyd i'w perchenog yn ddyogel a diammheuaeth, a fuasai hefyd yn celu y dull y daeth ef o hyd iddynt. ac ar yr un pryd, cynllun a fuasai yn adlewyrchu clod arno ef fel dewin. Ac yn yr olwg ar ei anhawsderau blaenorol nid oedd hwn ond anhawsder bychan. Cyn cysgu y nos hono yr oedd efe yn dyfeisio ei ddyfais. Cododd yn bur fore dranoeth, a gwelai haid o wyddai yn pori ar y maes tu cefn i'r palas; aeth tuag atynt, a'r gemau mewn darn bychan o fara ganddo. Sylwodd yn graff ar un ohonynt a thaflodd y darn bara gerllaw hono, a llyncwyd ef ganddi yn' uniongyrchol. Yna efe a ddychwelodd i'r tŷ, a chyfarfyddwyd ef wrth ddrws yr ystafell gan y boneddwr, yr hwn a ofynai iddo os cawsai efe rhyw awgrym am y gemau eto. Ebai'r dewin, " Deuwch allan gyda fi yn mhen ychydig fynydau, a dangosaf pa un o'ch adar sydd yn cadw eich trysor. "Felly fu; aeth y boneddwr ag yntau i'r maes, a dangosodd Robin iddo yr wydd lwyd. "lleddwch hon yna," ebai ef, "a chewch yn ei choluddion y tri gèm a gollasoch. "Rhyfeddodd y gŵr boneddig yn fawr at y fath ddywediad; ond yr oedd yn rhaid ufuddhau i'r gorchymyn. "Dyma nhw," ebai Robin, wedi lladd ac agor yr aderyn, "yn gyfan a dianaf. Dyna i chwi ddewin!" gan ymsythu a haner gredu ei fod yn rhywbeth uwchlaw dynion cyffredin mewn gwirionedd." Dyfod yn ddamweiniol yn. mhlith yr ysgubion o'r parlwr i'r domen a wnaethant, a'r wydd hon yn ei rhaib a'u llyncodd. "Wel, ni fu erioed y fath groesaw ag a gafodd ef: yr oedd y foneddiges yn barod i fyned ar ei gliniau i ddioich iddo; cafodd yr anrhydedd o ymborthi wrth yr un bwrdd gyda y boneddwr, a diwrnod neu ddau o hela yn ei gymdeithas; ac nid oedd neb yn fwy ei llawenydd na'r forwynig anonest yr arbedodd efe ei bywyd trwy gelu ei chamwedd.

Wedi aros yno am fis yn mhellach, i wledda ac ymddigoni, daeth i'w fryd ddychwelyd adref; a'r boneddwr llawen a wnaeth anrheg iddo ar ei gychwyniad o farch gwineu ysgafndroed llygadlym, ac ar gefn hwnw, a chanddo haner canpunt yn ei logell, y dychwelodd efe i Arfon.

Dyna'r dull a gymerai Robin Ddu i enill ei fara, ac argyhoeddi y werin ei fod yn ddewin, ac mewn cyfathrach â bodau annaearol.

Dyma chwedl y clywais fy nhaid yn ei hadrodd ganwaith gan droi y naill fawd o amgylch y llall: — Yr oedd Robin pan yn hoglanc yn cael ei damaid yn y Faynol, am y gorchwyl safnrwth o ddychryun brain. Ond yr oedd y gyneddf oruwchnaturiol yn dechreu blaen-darddu ynddo y pryd hwnw; ac un diwrnod yr oedd ffair yn Nghaernarfon, ac yntau yn llawn aspri ac awydd am fod ynddi, ond yr andros o honi ydoedd, nid âi'r brain yno gydag ef. Tra y byddai ef yn y ffair, yr oeddynt hwythau yn lled sicr o ddisgyn yn heidiau ar y maes gwenith. Pa fodd bynag, trwy rym ei gelwyddoneg, penderfynodd wneud o'r goreu â hwynt am yr amser. Cynullodd holl frain y fro yn un lleng ddu grawclyd i ysgubor y Faynol, a chlodd y drws arnynt, gan brysuro tua'r ffair a'r allwedd yn ei logell.

Dyna fel y byddai yr hen frawd yn trin y teulu duon — go hwylus, onide?

Ond y chwedlau mwyaf rhamanutus yn ei gylch ydynt y rhai hyny sydd yn son am yr ymdrafodaeth fu rhyngddo â'r diafol yn bersonol. Ymddengys fod Robin a'i gyfaill dieflig mewn math o gyngrair, tebyg i'r un a fodolai .rhwng Faust a Mephistopheles, yn ngwaith Goethe, y bardd Germanaidd rhagorol. Addefa pawb fod y diafol yn un lled graff yn ei fargeinion, ond oddiwrth y chwedlau canlynol gwelir fod Robin yn rhy dost iddo. Rywdro yn nghanol haf addawodd ei hunan iddo, gorph ac enaid, pan fyddai'r coed yn ddi-ddail; eithr pan ddaeth yr Hydref, a'r diafol yn galw am gyflawni yr adduned, ymesgusododd y cyfrwysgall Robin trwy ddywedyd, —

Yr eiddew, a'r celyn, a'r pren yw,
Ni chollant eu dail tra byddaut byw.

Yr oedd ar Robin eisiau myn'd i Lundain ar frys gwyllt i fod yn dyst mewn cynghaws cyfreithiol. Fel y dylai pawb wybod, yr oedd taith o Arfon i Lundain, bedwar can' mlynedd yn ol, mor bwysig ac yn cymeryd cymaint o amser a thaith o Lerpwl i Gaerefrog Newydd yn ein dyddiau ni. Ond nid oedd gan Robin, yn nghanol Gwynedd, ond ychydig oriau na byddai ei eisiau yn y Brifddinas. Trwy rym ei ddewiniaeth galwodd am wasanaeth ei gyfaill, ac ymddangosodd yntau ar ffurf march gwelwlas uchelwaed. Neidiodd y dewin ar gefn y march hwn, ac ymaith ag ef fel pluen ar aden corwynt uwchben nentydd a mynyddau, afonydd a threfydd, y rhai a lithrent heibio iddo fel ffug-olygfeydd mewn breuddwyd gwrach. Cyrhaeddodd ben ei daith yn mhen dwy- awr union i'r amser y cychwynodd. Buasai hyn yn curo pob trên yn deilchion.

Byddai Robin yn cael cymdeithas ei gyfaill yn rhodfeydd cyffredin bywyd; ac yn gwneud iddo trwy ei gyfrwysdra gyflawni llawer o fân orchwylion yn ei le, a a phob amser yn llwyddo i siomi a thwyllo yr archdwyllwr. yr oedd y Dewin un diwrnod ar ei daith i godi pytatws. "I b'le yr ei di?" ebai'r diafol. "I gynull cnwd y maes," oedd yr ateb." Roddi di yr haner i mi am dy helpio?" "Gwnaf," ebai Robin;" pa un fyni di ai'r hyn sydd allan o'r ddaear ai'r hyn sydd yn y ddaear?" "Yr hyn sydd allan o'r ddaear," ebai Apolyon gan dybied mai i fedi yr oeddynt eu dau yn myned. Felly cafodd Robin y pytatws a diafol y gwlydd. Drachefn, yr oedd Robin dro arall yn myned i fedi, a chymerodd geiriau cyffelyb le rhyngddynt, a'r diafol y tro hwnw a ddewisodd yr hyn oedd yn y ddaear, gan iddo gael ei siomi o'r blaen. A chafodd Robin frig y gwenith a'r diafol ei wraidd.

Gwarchod ni! onid allem lanw cyfrol drwchus a thraddodiadau anhygoel cyffelyb? Ar gefn Robin Ddu Ddewin y mae pobl y Gogledd yn rhoddi pob cast a hen chwedl ryfedd. Deallwn mai Sion Cent, bardd enwog yn ei ddydd, ydyw bwch diangol gwyr Gwent a Dyfed; a phriodolir ambell un o'r chwedlau hyn i'r naill a'r llall.

Un ysgub ramantus arall, a dyma ni yn troi pen ar ein mwdwl hwn o chwedlau yn nghylch Robin Ddu. — Efe a addawodd lawer tro y celai y diafol ef ar ol ei farw — pan ar ol dwyn ei gorph trwy ddrws ei fwthyn a thrwy y porth i'r fynwent; a chredai'r bôd ufferuol nad oedd modd iddo gael ei siomi yn hyn beth bynag. Pan fyrhaodd ei anadl, ac y gorweddai ar ei wely cystudd diweddaf. gwyliai y diafol yn ddyfal trosto, rhag iddo trwy ryw ddichell geisio ysgoi cyflawniad yr amod. Ond profodd Robin eto yn rhy dost iddo; yr oedd wedi rhoddi gorchymyn fisoedd yn ol i un o'r cymydogion yn mha fodd ac yn mha le yr oeddid i'w gladdu. Yr oeddynt i dori agen yn mur y bwthyn, a myned a'r arch allan trwy hwnw, er mwyn ysgoi y drws; a gochel porth y fynwent trwy ei gladdu tan wâl y fynwent — haner i mewn ynddi a haner allan o honi.

Felly, ni chafodd y diafol na phytatws, na gwenith, na chorph Robin Ddu; ac er cyfrwysed ydoedd, ac ydyw o ran hyny, efe a gyfarfyddodd â'i gyfrwysach yn mherson y Dewin dichellgar o Arfon. Nid oedd ganddo ond gadael y corph yn y fan yr oedd, a dychwelyd yn waglaw a siomedig i rhyw gŵr arall o'i ymherodraeth. Ac oddiar y traddodiad hwn y tarddodd y ddiareb, "Da fod gan y bwystfil a gornia gyrn byrion;g ac un arall, "Y ci a lyf y gareg am na fedr ei chnoi. "

TRAETH YR OERLEFAIN.

GAN WMFFRE DAFYDD

.

Dyna ydyw enw y maes-draeth a ymestyna o Fangor i Gonwy, gyda glanau y Menai ac afon Gonwy. Dywed traddodiad mai yr achos o'r enw ydoedd hyn: — Yn mhen y flwyddyn ar ol lladd Elidir Mwynfawr, daeth gwŷr Ystrad Glwyd, yn ngogledd Prydain, i Arfon i ddial ei waed, a llosgasant dref Caernarfon yn ulw. Am hyn, penderfynodd Rhun fab Maelgwyn Gwynedd dalu y pwyth iddynt, ac anfonodd lu mawr goresgynol i'w gwlad hwythau, a mab Indo Hen (un o wŷr y pyst penddu), yn ben arnynt. Bu rhyfel fawr ar lan yr afon Gweryd, yn y Gogledd, ac yn y rhyfel gwyr Arfon a orfuant ac a gaethgludasant lawer o oreuon y wlad. Daethant a hwy i Arfon a godreu mynyddoedd Eryri; ac yr oedd yn eu plith amryw o dywysogion y wlad hono, yn eurdorchogion bob un. Yn eu plith yr oedd un gŵr ieuauc o Sais, yr hwn, oblegyd ei ledneisrwydd a'i hynawsedd, a gafodd ffafr neillduol gan Rhun; ond yn benaf oll cafodd ryddid i ddychwelyd i'w wlad gydag anrhegion lawer.

Yr oedd hefyd yn yr amser hwnw foneddiges gyfoethog, yn byw yn maes Tyno Helyg, yr hon oedd ferch i Helyg ab Gwlanog, a'i henw oedd Gwendud, o arferion hynod o anniwair, ac o ymddygiad balch neillduol. Heblaw hi, yr oedd gan yr Helyg hwn amryw feibion a merched, y rhai a droisant i bregethu ffydd yn Nghrist i'r Cymry paganaidd; o ganlyniad, yn hollol wahanol i Gwendud

yn eu harferion. Yn y cyfamser, daeth gŵr ieuanc o gymydog ati i ofyn am ei llaw yn wraig briod; dywedodd hithau na roddai ei llaw i neb oni byddai yn eurdorchog, yr hyn oedd prif arwydd tywysog yn yr oesoedd hyny. Ystyrid gwisgo torch o aur o amgylch y gwddf yn anrhydedd uchel, ac mor anhawdd ei chyrhaedd fei y gyrwyd yr ymgeisydd bron i anobaith am gael ei llaw byth. Ond gan mai meddianu torch oedd yr amod, ac nad oedd hyny yn anmhosibl, penderfynodd na orphwysai hyd oni chelai un. Aeth tua Chaer Rhun, gerllaw Bangor, i edrych beth a ddigwyddai. Yno, daeth i wybod am y Sais crybwylledig, a chafodd allan ei fod ar gychwyn i'w wlad yn llwythog o anrhegion lawer. Prysurodd i'r lle yr oedd y gŵr ieuanc, a chynygiodd ei hun iddo yn arweinydd o'r gaer hono i'r gaer nesaf, gerllaw Conwy, a derbyniodd y Sais y cynygiad yn ddiolchgar a llawen.

Ond ei ddyben oedd llofruddio y Sais, a dwyn ei eurdorch oddiarno. Er mwyn ei gael i le digon dirgel, rhag ofn Rhun, denodd ef ar hyd llwybr cul i fynu i'r mynydd, gan ddweyd wrth ei gydymdeithydd diniwaid fod yn rhy beryglus myned ar hyd y gwastadedd coediog, oherwydd fod yno gynifer o fleiddiaid rheibus. Pan oeddynt ar lan yr afon, a elwid fyth ar ol hyny Afon lladd Sais, efe a roddes ei fwriad ysgeler mewn gweithrediad, a llofruddiodd ei gydymaith diamddiffyn. Yna tynodd ei dorch oddiam ei wddf, a gwisgodd hi am ei wddf ei hun, ac aeth gyn gynted ag y gallai i'r Maes at Gwendud, a dywedodd wrthi, "Dyma'r dorch, moes i mi dy law. "Pa le y cefaist hi?" ebai Gwendud. Dywedodd yntau yr holl hanes. "A gleddaist ti y corph?" " Naddo, "ebai yntau." Wel, rhaid i ti fyned yno heno nesaf a'i gladdu o'r golwg; oherwydd os clyw Rhun am hyn, bydd yn sicr o ddial ei waed, ac ni bydd dy lafur ond ofer. "Dychwelodd yntau i'r fan, a dechreuodd dori bedd i'r corph mewn man a elwir hyd heddyw, Braich y Bedd. Tra yr oedd wrth y gorchwyl hwn, dyma waedd fawr, "Gwaedd uwch adwaedd!" yn llefain uwch ei ben, "Daw dial, daw!" nes yr oedd y graig yr ochr arall i'r cwm yn diaspedain "daw!" Bu y llef dair gwaith, a phob llef yn gryfach na'r llall. Dychrynodd yn fawr; ffodd o'r fan, a daeth at Gwendud a'i wyneb yn welw; dywedodd wrthi am yr oll a fu; ac y byddai yn well ganddo gael y dorch yn ol, a pheidio myn'd yn mlaen hefo'r briodas, na dyoddef y farn ofnadwy a fygythid; ac yr elai efe i rhyw fan i ddwyn ei benyd — yr hyn a ystyrid gynt yn ddigon o iawn am bob pechod. "0 na, nid felly" ebai Gwendud, "eithr dos yn hytrach a myn ei gladdu; ac os daw y llef eto, gofyn pa bryd y daw y dial." Aeth yntau yr ail waith, a dechreuodd yn brysur ar y bedd, a thynodd y corph llofruddiedig iddo, a phan oedd yn rhoddi y rhawiad olaf arno, dyma'r llef yn llawer uwch na'r tro blaen, "Daw dial, daw!" Gofynodd yntau yn wanaidd, pa bryd. Atebai'r llef, "Yn amser plant, wyrion, a gorwyrion, ac oesgynydd." Aeth yntau yn ddychrynedig ac ar frys mawr at Gwendud, ac hysbysodd hi pa bryd y deuai'r "dial." "O," ebe hithau, "byddwn ni cyn hyny yn bridd ac yn lludw." Felly priodi a fynai hi, gan nad oedd y farn i ddyfod yn erbyn y weithred ddrwg yn fuan. Buont byw yn hir, ac mewn rhialtwch mawr, a gwelsant o'u plant y bedwaredd genhedlaeth. Y pryd hwnw, ebai y naill wrth y llall, "Ai ni fyddai yn well i ni gael gwledd i ni a'n gwehelyth oll ar ein haelwyd ein hunain cyn ein marw?" Felly fu; gwledd a fynwyd, a chasglwyd y genhedlaeth fawr i'r un aelwyd. Cyrchwyd bardd o Fangor Dunawd i'w difyru. Mynwyd y mêdd goreu yn yr holl wlad, a lladdwyd y carw goreu yn y parc, a gwnaed pobpeth yn y dull mwyaf costfawr, fel rhagarweiniad i ymadawiad y rhiaint oedranus, yr hyn a gymerai le wrth gwrs yn fuan mewn heddwch a thawelwch mawr. Ha! na choelia i fawr. Pan oedd pobpeth yn barod, a'r wledd ar ddechreu, ebai'r Bardd wrth y forwyn, "Oni wyddost ti mai heddyw y mae Duw yn dwyn dial ar y lle hwn! "Na wn I," ebai hithau, "am beth?" "O," ebai'r Bardd, "am ryw hen dro a wnaed gan yr hen bobl er's amser maith yn ol;" ac ebai'n mhellach, "pan fyddi yn myned i'r seler i ymofyn mêdd, sylwa'n fanwl os gweli ddwfr yn dyfod i mewn, a hwnw yn llawn o bysgod mân." "Rywbryd tua chanol y wledd, daeth y forwyn at y Bardd yn ddychrynedig, a dywedodd fod y seler yn haner llawn o ddwfr, a hwnw yn llawn o bysgod fel y dywedasai. "Wel, yn awr, ebai'r Bardd," ffown am ein bywyd, mae yn hen bryd." Ac ymaith a hwy. A chyn eu bod neppell oddiwrth y palas, clywent sŵn tòn fawr yn taro yn ei erbyn, a chyda hyny waedd erchyll nes peri i'w gwallt sefyll yn syth. ond nid oedd amser i aros dim, gan fod y môr wrth eu sodlau, ac felly o hyd nes y cyrhaeddasant Rhiwgyfylchi. Yno, ar ol dringo i dir uchel, safasant i ddisgwyl y bore, canys nos oedd hi, a nos pur dywell. Ac erbyn y bore nid oedd dim i'w weled ond môr mawr yn gorchuddio holl faes Tyno Helyg. Dywed traddodiad fod murddyn y palas i'w weled hyd y dydd hwn. A thyna chwedl TRAETH YR OERLEFAIN.

MARGRED UCH IFAN.

Gan Wmffre Dafydd.

Yr oedd yr hen fenyw hon yn byw yn Llanberis, tua chant a haner o flynyddau yn ol; a meddai nodweddiad hynod ar lawer ystyriaeth. Gallai wneud telyn a'i chwareu yn gampus. Cyfansoddodd naw o dônau, sef "Megan a gollodd ei gardas," "Merch Megan," a saith eraill, y rhai a ystyrid gan hen delynwyr yn dda iawn. Medrai weithio gwaith crydd a theiliwr. Gwnaeth hefyd ddau gwch cryf; a chludai hi a'i morwyn, yr hon oedd o gyfansoddiad cadarn fel hithau, yr holl gopr a godid yn ngwaith mŵn y Wyddfa hyd lynau Llanberis, trwy gytundeb penodol i hyny. Yr oedd yn meddu llais peraidd annghyffredin, ac yn deall nodau peroriaeth yn well na neb yn yr holl wlad. Yr oedd hefyd yn farddones lled wych. ac y mae rhai o'i chaneuon ar gôf a chadw hyd heddyw. Ond ei phrif ddifyrwch oedd mewn cadw cŵn, a'r rhai hyny o'r rhywogaethau goreu, yn filgwn, bytheiadgwn, adaeargwn. Daliai fwy o lwynogod mewn blwyddyn na holl foneddigion y sir gyda'u gilydd. Yr oedd yn gryfach na'r ddau ddyn cryfaf a ddoi i'r un man â hi. Cafodd lawer cynyg am ei llaw mewn glân briodas, a bu am ysbaid mawr yn cadw pawb draw. O'r diwedd dewisodd yn gymhar bywyd y mwyaf llwfr-galon y gwyddai am dano, fel y byddai'r arglwyddiaeth yn ei llaw yn gyfangwbl

Darfu i gi bychan o'r eiddi, o'r enw Ianto, un tro fwyta bwyd un o'r mwngloddwyr; ac yntau yn ei gynddaredd a'i lladdodd yn gelain. Pan glybu Megan am hyn, aeth at y cloddiwr i'w lety. Cafodd ef yn ymolchi oddiallan i'r tŷ, a than wneud hyny yn rhyw ruo canu. "Ai canu sydd yma?" ebai hi. "Ie," ebai yntau (ac atal dweyd arno), "ca-canu clul Ia-Ianto sydd yma. "Wel, efallai y bydd rhywun yn canu dy glul dithau cyn bo hir iawn," ebai Margred. "Nis gwn i pa-prun am hyny," ebai'r


cloddiwr. Ac ar ol rhyw gymaint o eiriau chwerwon o bob tu, hi a ymadawodd gan ddweyd y deuai i edrych am dano drachefn wedi iddo ymlanhau a bwyta. Dywedodd y cloddiwr, yr hwn oedd yn ddyn mawr a nerthol iawn, nad oedd arno ef ddim o'i hofn. Pa fodd bynag, yn mhen ychydig, wele Margred yn llanw ei gair, ac yn sefyll fel cawres ger bron llety y llanc. Cynygiodd delerau heddwch; dywedodd y talai hi ar ei bedwerydd am y bwyd a gollwyd; ond iddo yntau dalu am y ci. O, aeth y cloddiwr yn bur goeglyd, gan fygwth gyru'r gawres yr un ffordd a'r ci, os rhoddai ychwaneg o dafod iddo ef, ac ymorchestu llawer iawn yn ei nerth. Ond y diwedd fu, beth bynag, i Margred fyned ato a chydag un ergyd ei osod yn gydwastad â'r llawr; a dywedai dau neu dri o'i gydweithwyr a ddigwyddent sefyll gerllaw, pe rhoddasai un arall cyffelyb iddo, na buasai yn syflid bys na llaw byth.

Cyrhaeddodd Marged Uch Ifan yr oedran teg o 102, a bu farw rywbryd tua'r flwyddyn 1789, heb fod awr yn ei gwely erioed oherwydd afiechyd. Bu ei hoff forwyn farw ychydig o'i blaen, wedi ei gwasanaethu am ddeugain a dwy flynyddau.

DYRIAU: —

Mae gan Margred mwyn uch Ifan
Delyn fawr a thelyn fechan;
Un i ganu'n nhre Caernarfon,
A'r llall i gadw'r gŵr yn foddlon.


Mae gan Margred mwyn uch Ifan
Grafanc fawr a chrafanc fechan;
Un i dynu'r cŵn o'r gongol,
A'r llall i dori esgyrn pobol

MAN-GOFION.

Llyn y Dywarchen. — Rhwng Bettws Garmon â Drws y Coed, yn nghanol gwylltineb yr Eryri, y mae llyn wastadlefn o ddwfr gloywlas a adwaenir wrth yr enw llyn y Dywarchen. Dywed Giraldus Cambrensis fod ar y llyn hwn yn ei amser ef ynys fechan symudol o ffurfiad afreolaidd ac oddeutu naw llath o hyd. Ymddangosai fel darn o dorlan wedi i'r dwfr weithio o tani a'i rhyddhau oddiwrth y tir, ac yn cael ei chadw wrth ei gilydd gan wraidd y llysiau a'r brysg-goed a dyfent arni. Gyrid hi yn ol a blaen gan y gwynt, ac ar brydiau dechreuai ail-ymgydio wrth y lan; ond yn sydyn drachefn y gwynt a droai o gwmpas, ac, yn ol Giraldus, cyn y celai yr anifeiliaid a ddigwyddai bori arni gyfleusdra i fyned ymaith; o ganlyniad ni byddai ganddynt ond ymddiried yn nhrugaredd y gwynt am eu dychweliad i dir.

Squire y Graith. — Yn amser Rhyfeloedd y Rhosynau, yr oedd yr enwog Owen Tudur yn ngharchar yn Nghastell Brynbyga (Usk), yn Ngwent, am iddo bleidio teulu Lancaster. Yna aeth ei gefnder, Ieuan ab Meredydd, gyda mintai o gant o foneddigion Gwynedd, tuag yno gyda'r bwriad o'i ryddhau. Wedi llwyddo yn eu hamcan, a thra yn dychwelyd adref, ymosodwyd arnynt gan fintai luosog o bleidwyr teulu Yorc. Cymerodd gornest galed le rhyngddynt; ac Ieuan ab Meredydd a anerchodd ei gydymdeithion gan eu hadgoffa o ddewrder eu hynafiaid, ac atolygu arnynt ymddwyn yn deilwng o'u cenedl a'u gwlad; a diweddu gan obeithio na chelai oesau i ddyfod ddim dywedyd am y lle y sangent arno, "Dyma'r fan y ffodd cant o foneddigion Gwynedd!" ond dweyd yn hytrach "Dyma'r fan y lladdwyd cant o foneddigion Gwynedd wrth roddi ailfywyd i ddewrder eu cyndadau." Yna, gan fod rhai o'i gyfeillion wedi dyfod a'u meibion gyda hwynt, dododd y rhai hyny o'r tu cefn i'r fintai;" a'i feibion ei hunan ar y blaen, ac yntau a lywyddai y gâd. Llwyr orchfygwyd y gelynion, a'r Gwyneddwyr ni chollasant yr un bywyd; eithr derbyniodd Ieuan archoll ddofn dost yn ei wyneb, a adawodd ei hol arno tra y bu efe byw, ac am hyny y gelwid ef Squire y Graith.

Lleucu Llwyd oedd rian rinweddol, nodedig yn mhlith rhianod digyffelyb Cymru am ei glendid a'i phrydferthwch, yn byw yn Mhennal, ar lan yr afon Dyfi, yn y 14eg ganrif. Cerid hi â chariad pur gan Llywelyn Goch ab Meirig Hen o Nannau, gerllaw Dolgellau. Ond nid oedd ei thad mewn un modd yn foddlon i'r garwriaeth, ac ar bob cyfleusdra cymerai fantais i greu annghariad rhyngddynt. Un tro digwyddodd i Lewelyn Goch fyned ar daith i'r Deheubarth, a daeth ei thad at Lleucu gan ddywedyd wrthi er mwyn diddyfnu ei serch oddiwrth y bardd, fod Llewelyn wedi ymbriodi yno â merch arall. Pan glybu Lleucu hyn, y fath oedd ei gofid fel y syrthiodd ar y llawr mewn llewyg, ac y bu farw yn y fan. Dychwelodd Llewelyn; eithr efer ceisio darlunio ei deimladau pan ddeallodd fod prydferthwch ei lygaid ac eilun ei enaid wedi huno yn yr angau. Tan ei deimladau cyffrous ar y pryd, efe a gyfansoddes gywydd marwnad iddi, yr hwn a arddengys y galar dwysaf.

Gair Mwys. — Dafydd ab y llosgwrn a aeth at ei Athraw Pencerdd, sef oedd hwnw Einion Offeiriad, ar fedr ymresymu a chael addysg ganddo. A gofyn a orug y Pencerdd iddo a wyddai efe pa fodd i draethu gair mwys. Yntau, gan gwbl anobeithio cael ychwaneg o ymresymu ag ef, achos na wyddai pa fodd i ateb, a ddywedodd rhyngddo ag ef ei hun, ac mewn anobaith gresynol, "Duw a Mair a'm helpo!" Ond ni wyddai eto mai gair mwys oedd a ddywedasai. Eithr yr Athraw Pencerdd a'i croesawodd yn fawr gan ddywedyd, "Godidog y dy wedaist, dyna air mwys, canys ni wyddis pa un ai Duw a Mair a'm helpo, ynte Duw am air a'm helpo, yw y meddwl". Cyffelyb chwedl a ddywedir am Sion Tudur, y bardd o Lanelwy, pan gurodd efe hen wraig â pholgae, am iddi ddwyn pys o'i gae. Yr hen wraig a achwynodd wrth yr Esgob; yntau, gan holi Sion, a ofynodd yr achos iddo guro yr hen wraig. Sion a atebodd, "Ni wneis i ond ei churo am bys." Yr Esgob, gan dybied mai dywedyd yr oedd," Ni wneis ond ei churo â'm bys," sef â fy mys, a faddeuodd iddo.

Gwaithfoed. — Gwaithfoed, arglwydd Cilwyr a Cheredigion, oedd yn byw yn amser Edgar Frenin. A'r Edgar hwnw a ddanfones at dywysogion Cymru yn gorchymyn iddynt ei gyfarfod ef yn Nghaerlleon Gawr, a rhwyfo ei fâd ef ar y Ddyfrdwy. A Gwaithfoed a ddanfones ateb i Edgar gan ddywedyd na fedrai ef rwyfo ysgraff; a phe medrai, na wnelsai ond er gwaredu brenin neu wreng rhag angau. Edgar a ddanfones eilwaith ato, a chyrda hyny gorchymyn caeth; eithr ni roddai Gwaithfoed ateb am enyd i'r genad, a hwnw yn deisyf ateb a jíha beth a ddywedai wrth y brenin. "Dywed fel hyn wrtho," ebai Gwaithfoed, "Ofner na ofno angau." Ac yna y daeth Edgar ato, a rho'i llaw yn garedig iddo, ac ymhŵedd arno fod yn gâr a chyfaill iddo; a hyny a fu. Ac o hyny allan, arwyddair epil Gwaithfoed fu "Ofner na ofno angau."

Llewelyn ab Cadwgan. — Yn y flwyddyn 1399, daeth gŵr o Gymro (ac ni soniai o ba dylwyth yr hanai), o Ryfeloedd y Groes, i fyw i Gaerdyf. Ei enw oedd Llewelyn ab Cadwgan; a chymaint oedd ei haelfrydedd fel y rhoddai i bob tlawd a geisiai ganddo, neu a welai mewn eisio. Efe a wnaeth dŷ wrth yr hen Dŵr Gwyn at gynal cleifion a hen diallu. Efe a roddai'r maint a geisid gantho, nes rhoi'r cwbl; ac wedi hyny efe a roddes ei dŷ mawr a theg, a elwid y Plasnewydd, i'r Mathanaid, a rhoddes ei werth, nes darfu'r cyfan; ac yn y diwedd bu farw o newyn ac eisiau, ac ni roddai neb iddo, gan ddanod iddo ei wastraff ar gyfoeth.

Hen Gyfraith Gymreig. — Ymddengys oddiwrth hen gyfraith un o dywysogion Cymru, fod cath ddof yn greadur gwerthfawr a gwasanaethgar. Yr oedd ceiniog am un fechan cyn iddi agor ei llygaid; dwy geiniog o'r amser hwnw hyd oni ddaliai lygoden; a chymaint â hyny bedair gwaith pan ddeuai i'w chyflawn faintioli. Yr oedd hyny yn brisiau mawr iawn wrth gyferbynu gwerth arian y pryd hwnw a'u gwerth yn ein dyddiau ni. Dirwyid pawb a laddai gath y tywysog pan fyddai hi yn gwylied ystordy ŷd (granary), i dalu mamogiad, a'i chroen, a'ihoen; neu gymaint o wenith ag a fyddai yn ddigon o swm i guddio blaen ei chynffon trwy ei dy wallt ar y gath yn cael ei dal i fynu gerfydd ei chynffon a'i phen yn cyffwrdd y llawr.

Diwedd Dafydd ab Llewelyn. — Gwedi i'r Penwyn a'i feibion, am ddeg punt a buarth o wartheg, fradychu Dafydd brawd Llewelyn, Iorweth brenin Lloegr a ddaeth a'i gŵyn yn ei erbyn, fel yn erbyn un o'i ddeiliaid ei hun. Gorchymynodd un ar ddeg o ieirll a chant o farwniaid y deyrnas i'r frawdle; a'r brenin oedd yn bresenol. Nid oedd ynddynt deimlad nefolaidd drugaredd; ac yn marn John de Vaus, prif ynad Lloegr, yr oedd rhywbeth agos tu hwnt i ddychymygion trigolion uffern — iddo gael ei lusgo wrth gynffonau meirch drwy heolydd Amwythig i fan y dyoddefaint, am iddo geisio bradychu y brenin a'i gwnaeth yn farchog; iddo gael ei grogi am ladd Fulk Trigald a marchogion eraill yn nghastell Hawardin; a'i galon a'i gylla i'w llosgi, am iddo wneuthur y gelanedd ar ddydd Sul y blodau; a thori ei ben oddiwrth ei gorph, a'i aelodau i'w crogi i fynu, mewn pedwar lle cyhoeddus, mewn amryw fanau yn Lloegr o achos iddo fwriadu angau y brenin. Celain Dafydd a ddyoddefodd hyn i'r eithaf; a chymaint oedd gorfoledd y Saeson, fel y bu ymryson taer rhwng trigolion Caer Efrog a Chaer Wynt am yr anrhydedd o gael y fraich ddehau; ond yr anrheg gigyddlyd a farnwyd yn deilwng i Gaer Wynt; a'r aelodau eraill a ddanfonwyd ar frys gwyllt i Gaer Efrog, Bristol, a Northampton; ac er fod trigolion Caer Ludd mewn llawenydd, ei ben a osodwyd ar bawl yn y Twr Gwyn, yn agos i ben ei frawd. — Y Greal.

Athronddysg:

  • Yn y talcen y mae y deall.
  • Yn y gwegil y mae y côf.
  • Yn y iad y mae y dosparth.
  • Yn y deall, a'r côf, a'r dosparth, yn un, y mae y pwyll.
  • Yn yr ysgyfaint y mae'r anadl.
  • Yn y ddwyfron y mae y chwaut.
  • Yn yr afu y mae y gwres.
  • Yn y gwythi y mae y gwaed.
  • Yn y bustl y mae y digofaint.
  • Yn y ddueg y mae y llawenydd.
  • Yn y galon y mae y cariad.
  • Yn y rhai hyn i gyd y mae y serch.
  • Yn y serch y mae yr enaid.
  • Yn yr enaid y mae y meddwl.
  • Yn y meddwl y mae y ffydd.
  • Yn y ffydd y mae Mab Duw.
  • Yn Mab Duw y mae bywyd didranc.
  • Yn mywyd didranc y mae gwynfyd anorphen.

A gwyn ei fyd y neb a wnelo yn iawn â'r yniau a ddodes Duw ynddo, er cyrhaeddyd gwynfyd anorphen hyd byth bythoedd. — Y Bardd Glas o'r Gadair a'i dywed.

Chwedl y Mynyddoedd. — Cof genyf wrth groesi gwahanol ranau o fynyddoedd Berwyn, pan yn fachgen, weled olion aredig mewn llawer o fanau. yn uchel a phell oddiwrth dai; yr oedd y grynau yn wastad ar i fynu yn erbyn y tir. A oes modd gwybod yn mha oesoedd y bu yr hen Gymry yn aredig y mynyddoedd ' Tybiwn i fod y lleoedd hyny yn rhy uchel i ddwyn cnwd yn awr; ond a oes rhyw gyfnewidiad yn hinsawdd ein gwlad rhagor yn yr hen oesoedd? Dywed Gutyn Peris, mewn ysgrif ger fy mron: "Yr oedd mynyddoedd Arfon yn goediog i'w cribau uchaf agos, hyd amser Edward y Cyntaf." Adiau fod Berwyn felly hefyd; canys y mae y mawndir yn llawn o goed, fel y gwyr y trigolion yn dda. ond yr wyf fi yn cymysgu pethau mi welaf, oblegyd y mae y tymhor y cwympodd coed y fawnog yn mhellach yn ol na'r hyn y cyfeiria G. Peris ato. — Cynddelw yn y Brython.

Chwedl y Cawri. — Y mae Berwyn hefyd yn hynod am ei Gawri. Mae Pant y Cawr yn agôs i Bistyll Rhaiadr, ond o dan Graig y Ferwyn y trigai y Cawr, meddai y chwedl.

Yr oedd y Gawres, y forwyn, ac yntau, unwaith yn cyrchu beichiau o Graig y Mwn i wneud pont dros "Bant y Cawr," ond cyn iddynt fyned neppell, canodd y ceiliog, â gorfu iddynt ffoi, a gadael "baich y Cawr," "baich y Gawres. " a "ffedogaid y forwyn." yn y man y gwelir hwy hyd y dydd hwn. Y mae Gwallter Mechain, yn Hanes Plwyf Llan, yn son am Rhuddlwm Gawr, a Chawr Myfyr, sef Cawri y Plwyf hwnw; ond ni wyddai, er ei fod agos a gwybod pob peth, yn mha le y trigai Cawr Berwyn. Dangosir ei wely hyd heddyw yn agos i Langan, rhwng Maen Gwynedd a Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Yr oedd post careg wrth ei obenydd, ac o dan hono, meddent hwy, y cadwai ei drysorau; a bu rhai mor hygoelus, yn fy nghof i, a dymchwelyd y golofn, a cheibio yn ddwfn oddi tani, mewn gobaith am yr hen gist a'r arian. —Yr un.

Yr Ogofau. — Nid wyf yn cofio ond am un chwedl ogofawl mewn cysylltiad â Berwyn; yr oedd hono yn Nghraig y Rhiwarth, ger Llangynog. Nis gwn a oes ogof yn y graig hono, ai nad oes, ond clywais y chwedl fod un yn y cŵr nesaf i Gwm Llanhafan, ac i ddynion ei theithio cyhyd ag y parhaodd pwys o ganwyllau, a bod yno hen wrach yn wastadol yn golchi dillad mewn padell bres!

Ogof ryfedd y cyfrifid "Ogof Tal Clegir," sef Ness Cliff, yn agos i'r Mwythig. I hono yr aeth rhyw Ned Puw dan ganu, ac nis gwelwyd ef mwyach; ond cofiwyd y dôn a ganai, a galwyd hi yn" Ffarwel Ned Puw. " — Yr un.

Cyfenwau Cymreig. — Cyn amser y frenhines Elizabeth. yr oedd cyfenwau y Cymry yn cynwys achau hirion, megys Hywel ab Iorweth ab Ifan, ac felly yn mlaen am saith neu wyth o genhedlaethau. Yr oedd y cyfreithwyr a'r ustusiaid Seisnig a ddeuent i Gymru i weinyddu y gyfraith, yn myned yn gynddeiriog wyllt yn erbyn yr achau hyn, gan na fedrent hwy, drueniiaid anhymig, ddim seinio yr ch a'r ll, na chofio yr enwau pereiddsain oeddynt yn dolenu y gadwen. Dywedir fod rhyw ustus yn amser Harri VIII., a flinid yn fynych gan yr achau hyn, wedi apelio at y Cymry am iddynt fabwysiadu rhyw gynllun tuag at gwtogi eu henwau, ac i amryw ufuddhau i'w gais. Ond yn yr Eisteddfod fawr a gynaliwyd yn Nghaerwys, yn 1568, trwy orchymyn a dirprwyaeth y frenhines Elizabeth, rhoddwyd gorchymyn ar y Cymry gymeryd ac ymarfer â chyfenwau teuluaidd, cyffelyb i gyfenwau deiliaid eraill ei Mawrhydi; ac fod i'r Beirdd a'r gwŷr wrth gerdd dafod, gynghori a threfnu a gweled hyny; ac o hyny allan y Cymry a gymerasant gyfenwau gwahanol, rhai herwydd eu tadau, eraill yn ol fel eu gelwid cyn hyny, megys Elis Jones a Sion Wyn; ac eraill oddiwrth y rhanau o'r wlad a drigianent, megys Huw Gonwy, a William Llŷn. A chyn hyny nid oedd gan y Cymry gyfenwau, eithr dangos âch a bonedd a wnelid; a'r lle ni cheid y cyfryw, dodid damwain o enw fel ,y cydnabyddid ef yn llys y Brenin, ac am hyny y dywedir llysenw. A'r dull cyfreithiol a gymerwyd i gadarnhau yr enwau hyn oedd eu rhoddi yn ysgrifenedig ar bapur i glarcod y Sesiynau, a cheiniog gyda hwynt, ac enw y drigfan; yna dodid yr enw ar register y llys, ac o hyny allan adwaenid y person a'i wehelyth tros byth wrth y cyfenw hwnw.

LLEWELYN EIN LLYW OLAF.

BYWGRAFFIAD.

Gelwid Llywelyn ab Iorwerth, oherwydd ei ddoethineb fel llywodraethwr a'i fedr fel rhyfelwr, yn Llywelyn Fawr. Ŵyr iddo ef oedd Llywelyn ab Gruffydd, neu, fel y gelwir ef yn gyffredin, "LLEWELYN EIN LLYW OLA'" am mai efe oedd yr olaf yn llinach hir y brenhinoedd a'r tywysogion fuont yn llawio teyrnwialen y Cymry, ac yn amddiffyn eu hiawnderau, yn erbyn rhuthradau parhaus estron- genedl drahaus ac anniwall. Er mwyn iawn ddeall cymeriad a chysylltiadau ein harwr, rhaid ini droi dalen neu ddwy yn ol yn hanes ei deulu. Bu ei daid, Llewelyn ab Iorwerth, yn dywysog ar Wynedd, a'r rhan fwyaf o'r Deheubarth, am y cyfnod hirfaith o chwech a deugain o flynyddau; a'i fywyd yn un bennod fawr o ryfeloedd, - yn wrthrych digasedd a gelyniaeth y Saeson, a brad a chynllwynion rhai eiddigeddus ac annoeth o'i genedl ei hun. Yn ei ieuenctyd, priododd Tangwystl, merch Llywarch Goch, arglwydd cantref y Rhos. Y cantref hwn a gynhwysai yr holl wlad rhwng yr afonydd Conwy, Aled, a'r Clwyd, â'r môr, O'r briodas yna, bu un ferch o'r enw Gwladus, yr hon a briodes Syr Ralph Mortimer; a mab dibris a dewr o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd tad ein harwr. Tangwystl a fu farw yn fuan ar ôl genedigaeth y plant hyn, a Llewelyn ab Iorwerth a ail-briodes gyda Joan, merch. Ioan, brenin Lloegr. O'r briodas hon y deilliodd Dafydd ab Llewelyn, olynydd ei dad yn nhywysogaeth Cymru. Dadblygwyd anian eon Gruffydd pan oedd yn bur ieuanc; ac fel y gallai arfer ei hun i ddyledswyddau milwr a thywysog, ei dad a'i gosodes yn rhaglaw ar gantref Ardudwy, ym Meirionydd; ac oddiwrth y ffaith hon gellid casglu mai Gruffydd oedd anwylyn ei dad yr amser hwn, a'i olynydd bwriadedig i'r orsedd, eithr trwy ei ymddygiad anffodus canlynol, efe a gollodd ffafr ei riant, ac aberthodd ei fraint fel olynydd iddo. Ymdorodd ei yspryd anniwall allan mewn gwrthryfel agored, gan hawlio y cantref yn eiddo iddo ei hun, yn hollol annibynnol ar un awdurdod uwch. Gorchymynnodd ei dad iddo ddyfod ger ei fron ef, a rhoddi cyfrif o'i oruchwyliaeth, ond ni chydsyniodd Gruffydd. Yna Llewelyn a arweiniodd fyddin gref i fyned yn erbyn ei fab anufudd; a Gruffydd, yntau a gasglodd wŷr ar fedr anturio brwydr; ond yn ffodus, cymodwyd y ddau tra yr oedd y pleidiau rhyfelgar yng ngŵydd eu gilydd, ac ar fin ymladd. Y mae pob lle i gredu mai ffug oedd yr adgymodiad hwn, o du y tad; nid anghofiodd efe byth amryfusedd Gruffydd, a chymerodd oddiarno bob hawl i gantref Ardudwy. Pa fodd bynnag, cafodd drachefn lywyddiaeth adran o'r fyddin Gymreig, yn mha sefyllfa yr hynododd efe ei hun fel dyn galluog a dewr, hyd oni ddygodd ei yspryd gwrthnysig ef eilwaith dan wg ei dad, a bu yn ngharchar o'r herwydd am chwe' blynedd. Pan ryddhawyd ef, yr oedd yn amlwg i bawb fod Dafydd, ei frawd, wedi ennill oddiarno ei enedigaeth-fraint.

Gruffydd a briododd Sina, merch Caradog ab Thomas, gor-wyres i'r enwog Owen Gwynedd; ac y mae hanesyddiaeth yn cyfeirio at bedwar o'u plant, sef, Owen, Llywelyn, Dafydd, a Roderick. Treftadaeth Gruffydd oeddynt y pedwar cantref, Rhos, Rhufoniog, Tegengl, a Dyffryn Clwyd; ac yn ystod carchariad ei dad, a'i frawd Owen, Llewelyn oedd prif feddiannydd y cantrefi hyn.

Llewelyn ab Iorwerth pan heneiddiodd, a barodd i'w benaethiaid, a'i arglwyddi, ei gyfarfod ef yn Ystrad Fflur; ac yno talu eu gwarogaeth iddo ef, a'i fab Dafydd, fel ei olynydd yn y Dywysogaeth. Boddlonai yr olyniaeth hon y brenin Harri III yn awr, a'r blaid. Seisnig-Gymreig, neu y Dic Siôn Dafyddion, canys yr oeddynt hwy yn cancro eu cenedl yn mhell cyn i Glanygors eu bedyddio â'r enw, na thuchanu eu mursendod; tra yr oedd plaid gref arall yn cydymdeimlo â'r anffodus Gruffydd, yn edmygu ei berson hardd, ac yn galaru ei gyflwr diraddiol, a phan ddaeth angau yn mlaen i ddiosg Llewelyn oddiwrth ei swyddaua a'i ofalon daearol, bu cryn gynhwrf yn y wlad, a bron n thorrodd allan yn oddaeth o wrthryfel o blaid Gruffydd' Nid ystyrid Dafydd ond hanner Sais, ac yr oedd y drychfeddwl o hanner estronddyn yn eistedd yn nghadair Cadwaladr Fendigaid, bron lladd pob Cymro twymgalon a gwladgarol. Credai pawb mai offeryn fyddai yn llaw y teyrn Seisnig i boeni y Cymry, a diffodd y wreichionen olaf o dân cysegredig rhyddid a gyneuai yn eu mynwesau. Pa un ai Llewelyn cyn marw dododd Gruffydd yn ngharchar er mwyn sicrhau yr olyniaeth i Dafydd, ynte Dafydd ei hun ar ei esgyniad i'w swydd, nis gwyddis; modd bynag, yn ngharchar tan grafangau ei frawd yr oedd Gruffydd, ac Owen ei fab hynaf gydag ef, - sefyllfa druenus i'r eithaf i dywysog ieuanc dewr, o deimladau rhyddidgarol fel yr eiddo ef, - ac yn garcharor hefyd tan law brawd! ran hynny, gelyniaeth frodyr oedd yr elyniaeth greulonaf yn mhlith yr hen dywysogion Cymreig; hon oedd wrth wraidd eu holl ymladdau ynfyd yn eu plith eu hunain; hon, fel ellylles hagr ei gwedd, a yfodd waed goreu ein cyndadau; ac fel y dangosir cyn diwedd ein herthygl, hon a fu y prif achlysur yn y diwedd i'r genedl golli ei hannibyniaeth.

Er bod Gruffydd yn ngharchar, cynyddu yr oedd ei blaid yn y wlad, ac yn ei phlith lawer o ŵyr mawr, yn eglwysig a gwladol. Esgob Bangor, a Syr Ralph Mortimer - brawd- yn-nghyfraith Gruffydd, a ymdrechasant trwy resymau cedyrn ddarbwyllo y tywysog i ryddhau ei frawd, ond yn ofer. Yna yr Esgob a ysgymunodd Dafydd; a brysurodd i Lundain er gosod yr achos o flaen y brenin. Digwyddai fod ymrafael ar y pryd rhwng y brenin a'r tywysog Cymreig. Disgwylid y buasai hyn yn fanteisiol i'r ymdrafodaeth, gan i'r brenin ddyfod i lawr i'r Amwythig, ar fedr cospi ei nai ystyfnig; ac yno iddo dynnu cytundeb gyda Sina, priod Gruffydd ac amryw foneddigion, yn cynnwys os talai Gruffudd warogaeth gyflawn iddo ef, y rhyddheid ef o garchar, ac yr adferid ef i'w dreftadaeth,

Eithr nid oedd hyn oll ond malais Harri, er mwyn ychwanegu'r anghydfod rhwng y ddwy blaid Gymreig, a rhoddi cyfleusdra iddo ddwyn ei amcanion trawsfeddianol oddi amgylch. Yn lle cosbi Dafydd ailgymododd ag ef; ac yn lle rhyddhau Gruffydd, ar ddymuniad y tywysog, cymerodd ef a'i fab Owen gydag ef i Lundain, gan eu carcharu yn y Tŵr. Fel yna y byddai brenhinoedd Lloegr yn cyflawni cytundebau; ac yr oedd bai ar y Cymry os dychwelent hwythau yr echwyn adref? Peth fel dilledyn oedd cyf- iawnder yn nhyb Harri, - i'w roi a'i ddiosg fel y byddai amgylchiadau'n galw; a chadwyd Gruffydd yn ngharchar am ddwy flynedd yn mhellach. Y mae'r meddwl yn clafeiddio wrth fyfyrio ar gyflwr y bonheddwr ieuanc hwn, yn dihoeni ei ddyddiau goreu rhwng muriau carchardy, yn alltud oddiwrth ei gyfiawn hawliau fel tywysog ei anwyl wlad, - adgofion am yr hon a surent ei fyfyrdodau y dydd, ac a lonnent ei freuddwydion y nos; - fel eryr mewn cawell, wedi trethu ei holl gyneddfau i ddyfeisio gwaredigaeth, a sugna ei waed ei hun gan ddewis angau yn hytrach na chaethiwed. Ac fe ddaeth yr ymwared prudd. Un noson, efe a rwymodd ddillad ei wely wrth eu gilydd, a dechreuodd ddisgyn wrthynt o'i garchar-ystafell uchel: ond gan ei fod yn ddyn trwm a chorphorol, torrodd ei raff, a syrthiodd yntau ddegau o lathenni i ffos islaw, lle y cafwyd ef yn y bore yn hollol farw, a'i ben wedi ei wthio bron i'w gorph. A dyna ddiwedd tad ein harwr.

Gallesid disgwyl y buasai'r ddamwain alarus hon yn meddalu hyd yn nod galon Harri III., ac yn ei dueddu i ollwng yn rhydd Owen, mab y trengedig; ond, nid felly, y brenin a barodd roddi gwyliadwriaeth ddyfalach arno, rhag y llwyddasai ef yn yr hyn y bu ei dad mor aflwyddiannus. Gallesid hefyd ddisgwyl y buasai Dafydd yn ddedwydd wedi cael ymwared o'i wrth-ymgeisydd. Eithr gwrthbrofir hyn gan ffeithiau tanllyd gweddill ei oes. Mewn ymrafaelion parhaus gyda'r Saeson, mewn anghariad rhan luosog o'i genedl ei hun, a gwaed ei frawd yn llefain yn nghlust ei gydwybod, y treuliodd Dafydd ab Llewelyn relyw ei fywyd. Ac yn mhen dwy flynedd ymollyngodd ei gyfansoddiad tan bwys ei drallodion, a hyrddiwyd ef, ar ôl ei frawd, gan y ddarfodedigaeth tros drothwy amser. Bu farw yn ddiblant yn ei balas gerllaw Aber, sir Gaerynarfon, a chladdwyd ef yn mynachlog Conwy.

1246.

Yna bu penbleth am olynydd iddo. Yn ol deddf olyniaeth disgynnai’r Dywysogaeth i feddiant Syr Ralph Mortimer, yr hwn a briodasai Gwladus merch Llewelyn ab Iorwerth. Ond y Cymry ni fynnent fod tan ei awdurdod ef, gan ei fod yn hanu o estron genedl; a'i deimladau a'i ragfarnau, wrth gwrs natur, yn Seisnig. O ganlyniad, yn lled ddibetrus, dodwyd ei hawliau ef o'r neilldu, a phenodwyd ar Owen a Llewelyn, meibion hynaf yr anffodus Gruffudd. Ymddengys i galon y brenin ymdoddi o'r diwedd tuag at Owen, ac iddo ei dderbyn fel anwylddyn i'w lys, lle y bu am yspaid mewn parch a ffafr uchel gan bawb; ond pan glybu am y digwyddiadau diweddar yn Nghymru, ymneillduodd o Loegr, a chyrhaeddodd adref yn ddyogel. Llewelyn, cyn ei ddyrchafiad. A drigfanai yn Maesmynan, sir Fflint, ar ei etifeddiaeth dreftadol, yn cynnwys cantrefi Tegengl, Dyffryn Clwyd, Rhos, a Rhufoniog , yr holl wlad rhwng Conwy a'r Dyfrdwy, yr hon feddiant a ddaliasai, er gwaethaf y diweddar dywysog ar y naill law a brenin Lloegr ar y llall, fel y dyn rhwng y llewpart â'r morflaidd tra y cnoent hwy eu gilydd, yntau a gai lonyddwch.

1247.

Pan gymerth y tywysogion ieuainc awenau y llywodraeth mewn llaw, yr oedd y genedl mewn cyflwr truenus i'r eithaf,- yn gruddfan tan gyfreithiau gorthrymus eu gelynion, heb aidd nac yspryd i fasnachu nac amaethu; wedi eu hyspeilio o borfeydd eu hanifeiliaid, ac yn grwydriaid adfydus hyd y moelydd diffaith, tra yr oedd difrod yn gorwedd ar eu dyffrynau maethlawn, a gorthrwm yn mathru eu tywysogaeth hardd a'u hannibyniaeth hen. Yr oedd llaw trallod mor drwm ar fawrion ag ar dlodion y tir - ar y gwŷr llên fel y gwŷr lleyg. Dywed Mathew Paris fod Esgob Tŷ Ddewi wedi tori ei galon; ac Esgob Llandaf wedi galaru ei hunan yn ddall; tra yr oedd Esgobion Bangor a Llanelwy, o herwydd tlodi y wlad, yn gorfod cardota eu lluniaeth o fannau eraill.

Ar farwolaeth Dafydd yr oedd y ddwy wlad mewn rhyfel a'u gilydd, a'r Saeson yn fuddugol bron yn mhob man; felly un o weithredoedd cyntaf y tywysogion ieuainc oedd ceisio heddwch costied a gostio, a chawsant ef o'r diwedd gyda'r telerau celyd canlynol: - Colli eu hawl am byth i'w pedwar cantref treftadol, sef Rhos, Tegengl, Dyffryn Clwyd, a Rhufoniog; cadw mil o wyr traed. A phedwar-ar- hugain o wyr meirch, wedi eu dilladu a'u harfogi i fod yn barod ar bob achlysur i wasanaethu y brenin, yn Nghymru neu ar eu cyffiniau; yr oedd yr holl farwniaid i dalu eu gwarogaeth i frenin Lloegr, ac nid i'r tywysogion Cymreig, fel cynt; os byddai iddynt dori yr amodau hyn, atafaelid eu meddiannau, a chollent bob enw o hawl ar y dywysogaeth Gogledd Cymru. Wedi iddynt arwyddo y cytundeb hwn, caniatawyd iddynt faddeuant a hawl i'w tywysogaeth, eithr yr oeddynt i'w dal trwy ffafr brenin Lloegr am byth.

1251

Y brenin a roddodd y cantrefi uchod i ŵr o'r enw Allan de Zouch, i'w trin ar hyd breichiau, am y swm o 1.100 o farciau; gan adael iddo wneud y geiniog uchaf ohonynt trwy eu hail osod; a phrofodd Allan ei hun yn feistr caled i'w denantiaid Cymreig - yn eu hardrethu'n uchel, ac yn disgwyl medi lle nis hauasai. Yn ychwanegol at hyn, y brenin a drethodd y pedwar cantref yn drwm, er mwyn ei alluogi ef i gymeryd rhan yn Rhyfeloedd y Groes. Yr oedd eu cyd genedl yn y rhannau eraill o'r wlad yn gweled eu cystudd, eithr nis gallent estyn ymwared iddynt gan mor luddiedig eu nerth, a dirywiedig eu hyspryd.

1254.

Ond tra yr oeddynt fel hyn yn nyfnderau anobaith, wele ddial ymryson brodyr yn dyfod yn mlaen gan gythryblu eu teimladau, a'u deffro o'u hunlle annaturiol. Nis gallai Owen, y tywysog hynaf, oddef rhannu y swydd o dywysog gyda Llewelyn, ac wedi iddo lwyddo i hudo Dafydd ei frawd i'r un bwriad ag ef, y ddau a arweiniasant fyddin gref i'r maes yn erbyn eu brawd. Brwydr faith a gwaedlyd fu y frwydr annaturiol hon, ond y gwrthryfelwyr a lwyr orchfygwyd, a'u dau bennaeth a ddaliwyd ac a garcharwyd am yspaid hirfaith yn Nghastell Padarn, wrth droed y Wyddfa; a thrwy hyn, Llewelyn a adawyd yn unig feddiannydd gweddillion yr hen deyrnas Frutanaidd.

Yn awr yr oedd cleddyf y Cymry o'i wain, a'u teimladau rhyfelgar wedi dadebru; a phenderfynasant daro'r gormesydd, ac ymegnio unwaith yn rhagor i dynnu eu hunain o grafangau yr estron. Pan welsant eu perygl, y gwelsant hefyd ddaioni undeb a brawdgarwch. Agorasant eu llygaid ar y gamdriniaeth a dderbynient oddiar law y tywysog Iorwerth, mab y brenin, yr hwn a drigiannai yn Nghaerlleon ar y pryd, ac a wasanaethai fel ystiwart y brenin yn Nghymru, ac fel pennaeth arglwyddi rheibus y Cyffiniau. Gwelent fod eu tiroedd yn cael eu trawsfeddiannu oddiarnynt trwy anghyfiawnder am y troseddau lleiaf; a phan gwynent o'i herwydd, ni chaent gan y llys Seisnig ond gwatwared. Cyd-osodasant eu cwynion ger bron Llewelyn, gan ddeisyf arno gymeryd eu hachos mewn llaw, a thyngu wrtho mai gwell ganddynt farw ar y maes na dwyn eu penyd yn mhellach. Fel y gallesid disgwyl, derbyniodd y tywysog eu cynygion yn ddibetrus; ac mewn dull cysegredig tynghedodd ef a hwythau i'w gilydd y buasent yn gwaredu eu gwlad neu yn trengu yn yr ymgais.

Y mae yn anhawdd darnodi tywysogaeth Cymru yn y cyfnod hwn, ond y mae pob lle i gasglu nad ydoedd nemawr mwy na siroedd presennol Môn ac Arfon; gau fod Trefaldwyn, a rhan isaf sir Ddinbych a Fflint, yn nwylaw arglwyddi gelynol i Llywelyn, a chynhwysai y pedwar cantref tan Allan de Zouch y gweddill o'r siroedd olaf; yr oedd y brenin -wedi gwthio ei diriogaeth hyd yn nod mor bell a sir Feirionydd, canys un o weithredoedd cyntaf Llewelyn i roddi ysgogiad yn y penderfyniad uchod oedd adgymeryd y sir honno. Ond y mae'n ddiamheu fod yn y cynghrair luaws o arglwyddi dylanwadol o barthau eraill Cymru.

Ar ol sicrhau Meirionydd a chanolbarth Gwynedd, ymdeithiodd i Geredigion, gan ddarostwng yno feddiannau y tywysog Iorwerth, a chantref hefyd yn sir Faesyfed, o'r enw Gwrthrynion.

1256.

Yn haf y flwyddyn hon, efe a wnaeth ymgyrch ar Powys, y rhan o'r wlad a berthynai i Gruffydd ab Gwenwynwyn, er dial ar y gŵr hwnnw ei amryfusedd yn ymuno â'r Saeson. Cymerodd ei feddiannau bron heb wrthwynebiad; a rhoddodd hwynt i'w swyddogion milwrol. Dangosai hyn ei ddigybydd-dod; ac enynnai serch yn y cyfryw swyddogion tuag ato. Pan glybu y brenin am ei rwysg annisgwyliadwy, efe a anfonodd fyddin fawr gyda'r môr i Ddeheudir Cymru, i gynorthwyo ei ffyddloniaid oeddynt yno eisoes. Y fyddin frenhinol a warchaeodd gastell Dinefwr; eithr Llewelyn a ymosododd arni, ac a'i gorchfygodd, gau ladd 2,000 o'i nifer. Yna efe a ddiffeithiodd sir Benfro, gan chwalu castelli Abercorran, Llanstephan, Maenclochog, ac Arberth; a dychwelodd gydag yspail lawer i'r Gogledd. Cynyrfodd y llwyddiant hwn holl gynddaredd y tywysog Iorwerth, ac arfaethai yntau gyfarfod Llewelyn ar ei ffordd adref, a gwneud hafog erchyll yn ei fyddin. Ond er fod gan Iorwerth yspryd uchel, isel iawn oedd ei bwrs ar y pryd; ac yr oedd ei dad yn anfoddlon, ac yn wir yn alluog, i'w helpio. Yn ngwyneb y pethau hyn, efe a apeliodd at Iarll Cernyw, ei ewythr, am fenthyg arian, yr hwn a fenthyciodd iddo 40,000 o forciau. Ond erbyn cael yr arian, yr oedd y gaeaf ar ei warthaf - y glawogydd wedi disgyn; yr afonydd wedi chwyddo tros eu glannau, gan orchuddio y morfeydd, a gwenu'n drahaus ar ei yspryd balch a'i arian echwyn. Ychydig o rwyddineb gafodd yntau gyda chosbi y dewrion.

Erbyn hyn, yr oedd yspryd gwladgar a dialgar wedi disgyn yn helaeth ar Gymry y Deheudir cystal a'r Gwyneddwyr; a'r naill ormes ar ol y llall yn cenhedlu dygasedd yn eu calonnau tuag at eu gorthrymwyr - gormes a fuasai yn cynhyrchu gwroldeb yn mynwesau llyfriaid wrth natur. Yr oedd pob cwmwd a phentref yn afon gwyr i gynorthwyo yn y gwaith, cysegredig yn eu tyb hwy, o ysgubo'r wlad yn lân oddiwrth eillion ysgymun. Chwyddodd byddin Llewelyn i faintioli dirfawr; yn ol Warrington i'r rhif anhygoel o 60,00, a 1,000 o wyr meirch; nes y daeth porthiant y fath lu mawr, mewn gwlad fynyddig fel Cymru, a than ddiffyg cludiaeth yr oes hono, yn bwnc pwysig i'w Chadlywydd. Er goddiweddyd y rhwystrau hyn, efe a rannodd ei fyddin yn ddwy adran, ac a ymdeithiodd gyda hwynt i'r Cyffiniau, gan anrheithio o boptu’r Dyfrdwy hyd i byrth Caerlleon; ac Iorwerth, y tywysog Seisnig, yn ymgilio o'i flaen fel cangen grin o flaen y llifeiriant; er fod Gruffydd ab Madog, o Ddinas Bran, arglwydd Powys Fadog, wedi bradychu ei genedl, ac mewn undeb âg ef. Yna'r tywysog Cymreig a drodd ei wyneb eilwaith tua'r Deheudir, ac yno wedi meistroli amrai gantrefi, a meddiannu dau gastell, dychwelodd i Wynedd. Ar ei ddychweliad, amcanodd Iorwerth ei luddias; eithr gorfu arno wedyn encilio mewn ffrwst a chywilydd; a chafodd Llewelyn gyfleusdra i gosbi y bradwr Gruffydd ab Madog, trwy anrheithio ei feddiannau.

1257.

Yn nechreu'r flwyddyn hon, ymosododd ar Gastell Dyganwy, ar fin yr afon Conwy, yr hon oedd y safle gadarnaf a feddai'r Saeson yn Nghymru; ac ar ennilliad pa un y gwyddai'r tywysog Cymreig yn dda yr oedd tynged rhyddid ei wlad yn troi. Nid ymddengys i'r ymosodiad hwn fod yn llwyddiannus; ond, i'r gwrthwyneb, bu yn foddion i ddeffro y brenin Harri o'i syrthni, yn nghylch symudiadau y Cymry - iddo alw at ei wasanaeth ei holl adgyfnerthion rhyfelgar, yn wyr o bob cẁr i'r deyrnas, ac yntau ei hun yn gadlywydd arnynt; ac yn Wyddelod mewn llongau, i ymosod yn y cyfamser ar Ynys Môn a'r parthau mordirol. Yr oedd y brenin a'i lu i gychwyn o Gaerlleon ar yr 11eg o Awst; a byddin arall, tan lywyddiaeth Iarll Caerloyw, i gychwyn o Bristol am y Deheudir, yr un diwrnod; fel y byddai gan y Cymry dri man i'w wylio, ac y sicrheid eu darostyngiad, sef y brenin o Gaer, Iarll Caerloyw o'r Deheudir, a'r Gwyddelod o Fôn.

Er mor gyfrwysgall y cynllun, diweddodd yn hynod o anffodus. Pan ddeallodd Llewelyn am y gad lynges Wyddelig, danfonodd nifer o longau i'w chyfarfod, a gorfu ar hono ddychwelyd yn frysiog a drylliog i'r Ynys Werdd. Trwy ryw gamddealltwriaeth, ni chychwynnodd Iarll Caerloyw i'w ymgyrch o gwbl. Ac nid esgeulusodd y tywysog ychwaith ddarpar ar gyfer y brenin. Cyn dyfodiad Harri, Llewelyn a barodd ddinystrio y melinau, a dryllio y pontydd, a chodi y gwarchae ar Dyganwy; yna, gan yrru yr anifeiliaid o'i flaen tros y Gonwy, ymgiliodd i Eryri. Gwthiodd y brenin mor bell â'r afon hono, a chafodd y wlad yn ddiffaethwch noethlwm; a chyn pen ychydig wythnosau, o herwydd fod ei wyr yn marw o newyn, ac yn disgyn yn ysglyfaeth i ruthriadau ffyrnig a sydyn y Cymry, gorfu arno ymgilio yn ol i'w wlad mewn gwarth a chywilydd,

Effeithiodd caledi a gwarth y cadgyrchiad hwn gymaint ar gyfansoddiad y brenin, nes ei dallu i dwymyn poeth, yn mha un y parhaodd am hir amser; ac i'w fab Iorwerth benderfynu ymwrthod a'i feddianau yn Nghymru am byth, a rhoddi ei ddeiliaid i fynnu fel pobl anorchfygadwy. Canlyniad arall i'r aflwydd Seisnig uchod: Gruffydd ab Madog, gŵr dewr a chall, ond lled brin yn y nwyddau gwerthfawr o egwyddor a chydwybod, yn gweled nad oedd y brenin yn abl i'w amddiffyn ef a'i feddianau rhag ei elynion, a droes yn ei garn, gan ddarostwng i Llewelyn, tyngu llw o ffyddlondeb iddo, a chyflwyno ei holl alluoedd rhyfelgar at ei wasanaeth.

Nid oedd yn naturiol y buasai'r fath lu buddugoliaethus yn aros yn segur; o ganlyniad, aethant i'r Deheudir drachefn. Yno, Llewelyn, a gafodd warogaeth holl arglwyddi y wlad hono; ac wedyn ymosododd yn ddi-oed ar y Cyffiniau. Daeth ar draws byddin Seisnig, yr hon a enciliodd o'i flaen tua Chastell (enw yr hwn ni roddir, ond tybir ei fod o fewn cyfoeth Iarll Caerloyw,) ar fedr amddiffyn ei hun rhag ei herlynwyr mewn man cul a chorslyd. Ond y Cymry a ddanfonasant nifer o wyr i dori cyfarfod a hwynt; a'r encilwyr a gawsant eu hunain mewn magl, gan gyfarfod gelynion lle y disgwylient gyfeillion. "Ac yno," medd Mathew Paris," megys rhwng dau faen melin, hwy a orthrechwyd, ac a lwyr ddrylliwyd, ac a laddwyd â galanasdra mawr. Yn y frwydr hon, syrthiodd nifer dirfawr o'r Saeson, ac yn eu plith luaws o bendefigion. "

Yr oedd Ffawd erbyn hyn yn gwenu ar y Cymry yn mhob man. Yr oeddynt yn nerthol am eu bod yn unol, ac yn unol am eu bod yn nerthol. Ac er mwyn plannu yn ei fyddin dduwiolfrydedd â chysegredigrwydd ei hachos, Llewelyn a'u hanerchodd yn y geiriau enaid-gynhyrfiol a ganlyn: - "Hyd yn hyn Arglwydd Dduw'r lluoedd a'u cynorthwyodd; canys amlwg yw i bawb nas gellir priodoli ein llwyddiant i'n dewrder ein hunain, ond i ffafr Duw; yr hwn a all arbed gydag ychydig cystal â chyda lluaws. Canys pa fodd y gallasem ni, bobl dlodion, weiniaid, ac anymladdgar, wrth ein cydmaru â'r Saeson, feiddio gwrthsefyll y fath gadarn allu, oni buasai nawdd Duw ar ein hachos? Canfu ei lygaid Ef ein trallod, a pha fodd y poenydid ni gan Geoffrey de Langley, ac offerynnau creulawn eraill o eiddo y brenin, a Iorwerth ef fab. Hwy a'n bradychasant yn ein diniweidrwydd. O hyn allan, gan hynny, y mae pob peth a feddwn yn y fantol. Nis syrthiwn i ddwylaw ein gelynion, nid oes trugaredd i'w ddisgwyl. Byddwn bur i'n gilydd. Yn unol, yr ydym yn anorchfygadwy. Chwi a welwch pa fodd yr ymddyga'r brenin at ei ddeiliaid ei hun - fel y mae'n ysglyfio'u meddianau, yn tlodi eu teuluoedd, ac yn chwerwi eu teimladau. A erbyd efe, gan hyny, nyni! wedi inni ei cynddeiriogi gymaint eisoes, a phan ddarffo inni ddwyn i ben ein bwriadau rhyfelgar presennol! Na wna; ei amcan fydd ein dileu oddiar lechres bodolaeth. O ganlyniad, onid gwell inni farw yn y frwydr, a myned at Dduw, na byw ar drugaredd ansefydlog gelyn; ac yn y diwedd, hwyrach, drengu yn waradwyddus trwy ddwylaw ysgymun y dihenyddwr?"

Dengys yr araeth uchod dueddfryd grefyddol y Cymry yn yr oes hono, onide ni buasai Llewelyn yn eu hanerch yn y cyfrwng pwysig hwnw â geiriau diflas ganddynt. Gwyddai yn dda pa rai oedd eu teimladau cryfaf, ac apeliai at y cyfryw. A'r geiriau hyn yn merwino eu clustiau, marweiddiai ofn yn eu mynwesau, a phob rhwystr a ddiflannai oddi ger eu bron megys mwg. Llwyr ddarostyngasant sir Benfro; a daethant o hyd i halen - nwydd gwerthfawr yr oeddynt wedi dyoddef llawer o'i eisiau er y pryd y dinystriasai Harri eu gweithydd yn sir Gaerlleon.

1258.

Ond tra yr oedd y Cymry yn ymlawenhau yn eu llwyddiant, Harri a adferwyd o'i dwymyn, ac enynnwyd ei lid wrth ganfod rhwysg ei elynion. Daeth mor bell â Chaer, a'r cynhauaf oedd hi; eithr ni lwyddodd mewn dim ond mewn llosgi'r cnydau.

Ac yn awr, daw llinell gwerthfawr yn nghymeriad Llewelyn i'r golwg. Er ei fod yn gadarnach nag erioed, er fod pendefigion ei wlad tan lw o ffyddlondeb iddo, a'r werin bobl yn ei ddarn addoli; a llawer baner buddugoliaeth yspail rhyfel yn ei feddiant; eto, er hyn oll, cawn ef yn cynyg telerau heddwch i'r brenin Seisnig:. Oddiar serch at ei wyr, y rhai oeddynt wedi gorphen eu gwaith pwrpasol o adfeddiannu rhyddid eu gwlad; ac oddiar ei gallineb, yn hyderu y gallai gael telerau anrhydeddusach iddo ei hun a'i wlad, o herwydd ei gryfder presenol, mae'n ddiau y cynygiodd efe yr heddwch hwn. Pa fodd bynag, nacaodd y brenin; ac nid oedd gan Llewelyn ond gwneud y goreu o'r gwaethaf - rhyfel.

Rhyfel ar y Cyffiniau yn chwilfriwio cestyll yr arglwyddi Normanaidd, yn diffaethio eu meddianau ac yn lladd pob Sais fel pe buasai bryf dystrywgar a diles. Yn mhlith arglwyddi y Cyffiniau y pryd hwnw yr oedd pendefig newydd ddyfod o Germani, o'r enw Jacobus de Ændelia [Audley, medd Powell, merch yr hwn a briododd Gruffydd Maelawr]: gŵr cyfoethog a chadarn ydoedd, a daeth yntau i mewn am ran o ddialedd y Cymry. Yntau a ddanfonodd i'w wlad, ac a gafodd lu mawr o wyr arfog y rhai a ryfelent ar feirch gorchuddiedig â dur. Y rhyfelwyr hyn a ymosodent ar y Cymry, y rhai nid oeddynt yn adnabod y dull newydd hwn o elynion, a buan y gorfodid hwy i encilio. Pa fodd bynag, y Cymry a gynllwynasant eu galanas. Aethant eilwaith i gyfoeth Audley, a daeth y marchogion allan fel o'r blaen i'w cosbi; a'r Cymry a ffugiasant ddianc gan hudo eu hymlidwyr i fan cyfyng, corslyd, ac anghysbell. Yno troisant arnynt a thrywanu eu ceffylau, a gwneud y marchogion yn ddim amgen na gwyr traed, a thrwy hyny hawdd fu eu gorddiwes. Pan nad oedd ond gŵr yn erbyn gŵr, llwyr orthrechwyd y Germaniaid, a chollasant nifer mawr o wyr.

Fel hyn, yr oedd y naill ddigwyddiad ar ol y llall yn pwyso ar wynt y brenin; a thueddwyd ef o'r diwedd i wneud cadoediad am un flwyddyn gyda'r Cymry. Neillduodd ar farchog o'r enw Padrig de Canton i gyfarfod dirprwywyr Cymreig yn nhref Caerfyrddin, er mwyn llawnodi a selio y cytundeb hwn. Dafydd, brawd Llewelyn, yr hwn a ryddhesid yn ddiweddar o garchar, a gynrychiolai ei frawd yn y llawnodiad. Deallodd y dirprwywyr Seisnig fod gosgorddlu Dafydd yn wannach na'r eiddynt hwy. O ganlyniad, Padrig a'i wyr a lechasant yn fradwrus ar fin ffordd y Cymry, ac a ruthasant yn sydyn arnynt gan ladd lawer o honynt cyn y gallent drefnu eu hunain i frwydr. Ond cafwyd trefn cyn hir, a'r bradwyr oll bron a gyfarfuant a'u gwobr gyfiawn, ac yn mhlith y cwympiedig yr oedd .Padrig ei hun. Dengys y ffaith hon y fath bobl iselwael, diymddiried, ac annynol oedd gan ein cyndadau i ymwneud â hwynt; ac nid rhyfedd fod holl adnoddau dialeddol eu heneidiau yn berwi allan yn eu herbyn. Ac i goroni yr holl anferthwch, Harri yn lle cosbi gweddillion y dialedd hwn, o herwydd iddynt lychwino ei gymeriad ef fel brenin, a ffromodd yn aruthr wrth Llewelyn, am i'w wyr ef feiddio amddiffyn eu bywydau eu hunain. a chosbi cynllwynion dyhirod.

1260 a '61.

Yna, digwyddodd mân frwydrau, yn mha rai yr oedd y Cymry bron yn ddieithriaid yn fuddugol; a chyn pen ychydig fisoedd, gymaint oedd doethineb calon Llewelyn, fel yr ail gynygiodd delerau heddwch; y rhai a wrthodwyd gan y brenin. Yr oedd y barwn Normanaidd, a chefnder Llewelyn, Syr Roger Mortimer, mewn lle poeth rhwng tân y Cymry a'r Saeson. Ammheuid ei gywirdeb weithiau gan yr olaf, a gorfodid ef i dalu gawrogaeth wasaidd i'r brenin; bryd arall, byddai Llewelyn yn ei gosbi am ryw anffyddlondeb i'w achos yntau. Yr oedd Mortimer wedi digio Llewelyn; ac yntau a arweiniodd fyddin gref yn erbyn un o'i gastellau, ac wedi dinystrio y lle, ymgiliodd ychydig o'r neilldu. Yn y cyfamser, daeth Mortimer gyda byddin o wyr a gasglasai gan ei gymydogion barwnol; ac fel gwir arwr gosododd ei hun yn yr adfail castell digysgod hwn. Dychwelodd Llewelyn yn fuan at y murddyn, a darparodd at y dasg rwydd o orchfygu a dal ei gefnder diamddiffyn. Eithr pan ganfu Mortimer yr ynfydrwydd o ddal ymosodiad yn y fath le, gyda gradd helaeth o hunan hyder danfonodd at y tywysog am ganiatâd i ymadael. Yr ydym yn gweled y wên gellweirus a chwareuai ar wynebpryd ein harwr wrth foneddigaidd ganiatáu y fath ddymuniad gwynebgaled. Nid oedd ei galon dyner ef yn gweddu i'r oes galon haerllug hono. Yr oedd yn rhy dda i'w genhedlaeth. Nid gŵr rhyfel ydoedd; er iddo ar draws ei anian gyflawni gwrhydri ar faes y gwaed fuasai'n anrhydedd i gymeriadau Alexander a Bonaparte. Mewn oes dawel a heddychol y cawsem weled gwir deithi ei enaid yn y golwg; ni ryfeddasem ei weled yn urddasoli cystadleuon amaethyddol â'i bresenoldeb; neu yn llywydd mewn Eisteddfod, neu un o gyfarfodydd y Wyddon Gymdeithasol. Fel yr oedd, rhaid inni edrych arno fel cawrfil yn y weilgi, neu lefiathan mewn coedwig, yn byw mewn elfen anghydnaws a'i natur.

1262.

Yr ydym yn awr yn dyfod at gyfnod pwysig yn mywyd ein harwr, cyfnod a effeithiodd yn fawr ar y gweddill o'i fywyd, sef y tair blynedd y bu efe mewn cynghrair gyda Simon de Montforte. Ffrancwr o genedl oedd Simon, a chymerodd ei dad ran flaenllaw yn erlidiad gwaradwyddus y Waldensiaid truain. Daeth trosodd i'r wlad hon, a chafodd iarllaeth Leicester. Yr oedd plaid luosog yn Lloegr y pryd hwnw a goleddent y syniadau mwyaf annheyrngarol. Montforte oedd pen y blaid hon, er y rhagrithiai gariad mawr at y brenin, ac er ei fod yn un o anwyliaid ei lys. Yr oedd yn naturiol i'r blaid hon ymgynhesu gyda'r Cymry; am fod Harri yn elyn gan y naill fel y llall. Gwnaed cynghrair rhwng Llewelyn a phennaeth y blaid hon, yn mha un y sicrheid i'r blaenaf annibyniaeth ei Dywysogaeth. Eithr nid oedd pleidwyr Montforte yn hollol aeddfed i ddechreu ar eu gwaith; felly Llewelyn am yspaid a weithredai ei hunan. Cyn bod Gwyliau'r Nadolig bron drosodd, efe a ruthrodd ar y Cyffiniau Seisnig gyda thri chant o wyr meirch a 30,000 o wyr traed, a chan anrheithio y wlad mor bell a Wigmore, cymerth feddiant ar ddau gastell perthynol i'r anlwcus Syr Roger Mortimer. Cynullodd y bonheddwr hwnw luaws mawr o wyr, a chymerodd llawer ysgarmes le; weithiau Llewelyn yn fuddugol, weithiau Mortimer. Y tywysog, pa fodd bynag, o'r diwedd a gafodd y goreu; ac oddiyno ymdeithiodd tua iarllaeth Caerlleon, a gwnaeth anrhaith fawr ar gyfoeth Iorwerth.

Wrth glywed am rwysg Llewelyn, dychrynodd y brenin Harri, a danfodd am ei fab Iorwerth o Ffrainc, lle yr ymddifyrai y gŵr ieuanc ei hunan y pryd hwnw gyda gwrolgampau a twrnament, difynon rhyfelgar ei oes. Mae'n ddiamheu hefyd fod sibrwd am amcanion Montforte a'i ddilynwyr, gan i Iorwerth ddwyn trosodd gydag ef gant o farchogion, i gymeryd lle, mae'n ddiddadl, y pendefigion anfoddog Seisnig.

1263.

Ar ei laniad yn Mhrydain, mab y brenin yn ddiatreg a ymdeithiodd tua Chymru. Ond yr oedd y Cymry wedi gwneud mawr waith cyn y cyrhaeddodd. Yr oeddynt wedi cymeryd castell Dyserth, a chadarnfa Dyganwy. Felly Dyganwy a syrthiodd, yr hon a fu unwaith yn gastell a phalas i Malgwyn Gwynedd, a llinach tywysogion Cymru am oesoedd, ond a chwilfriwiwyd gan fellten yn nyddiau Cynan Tindaethwy; yr hon a adeiladwyd drachefn gan Harri III, yn 1245, ac wedi bod am ddeunaw mlynedd yn ogof ellyllon i'r Cymry, hi a ddinystriwyd gan dywysog ei gwlad ei hun, ac yn awr saif ei gweddillion yn nghanol y dyffryn paradwysaidd hwnw fel colofn halen, a'i cherrig rhyddion fel meirwon di-fedd.

Ar ddynesiad Iorwerth a'i lu, Llewelyn a ymneillduodd tros y Gonwy, ac ni buasai dim ond gwallgofrwydd yn tueddu neb i ymosod arno yn Eryri. Bu tad Iorwerth mor garedig wrtho a galw'n swyddogol arno adref rhag y torasai ei galon yn ngwyneb y fath aflwyddiant. Dim ond i Llewelyn encilio tros y Gonwy, a dodi ei wyr ei hun mewn dyogelwch, gofalai deddfau anian am ryfela hefo'i elynion. Yr oedd Llewelyn yn gryfach yn awr nag erioed. Gruffydd ab Gwenwynwyn, arglwydd Powys, a adawodd y Saeson, ac a ddychwelodd at ei ddyledwyddau tuag at ei wlad. Efe a ymosododd ar Gastell Wyddgrug, cadarnle olaf y Saeson ar gyffiniau Gogledd Cymru, ac a'i llwyr ddinystriodd, fel nad oes y dydd hwn gymaint ag un o geryg ei adfeilion yn aros. Yr oedd y Cyffiniau Seisnig erbyn hyn yn hollol ddiamddiffyn; a phob argoel fod annibyniaeth Cymru wedi ei sefydlu am byth.

Bellach, ymgasglodd y gwaed drwg Seisnig at ei gilydd; ac wele Simon de Montforte, iarll Leicester, yn ben ar wrthryfel nerthol. Efe a ddanfonodd ei ddau fab gyda byddin luosog i Gymru, i gynorthwyo Llewelyn ar y Cyffiniau. Cymerasant gastell Maesyfed, a gwnaethant alanasdra mawr, er fod Mortimer ac arglwyddi eraill, â'u holl egni yn eu gwrthwynebu. Pan glybu y tywysog Iorwerth am rwysg a llwyddiant anarferol y cynghreiriaid, efe a brysurodd tua maes y frwydr. Cymerodd Gastelli Hay, Huntingdon, a Brycheiniog oddiarnynt, trwy nad oedd gwarchluoedd y cyfryw fanau ond ychydig a gweiniaid. Erbyn iddo ddyfod i'r lle olaf, cyrhaeddodd Mortimer ato am ddyogelwch, wedi ffoi yn afreolaidd o flaen Llewelyn a'i gyfeillion. Llu o Gymry hefyd, tan dywysiad William de Berkley, a aethant i Wlad yr Haf, ac a anrheithiasant am yspaid yn ddiwrthwynebiad, ond yn y diwedd, gyrrwyd hwy ymaith gyda galanastra mawr, a'u llywydd a laddwyd. Dywed Warrington, oddiar awdurdod Rymer, fod cadoediad wedi cymeryd lle rhwng y brenin a'r cynghreiriaid, yn yr hwn gytundeb y gelwid Llewelyn yn gynghreiriad Simon de Montforte, ac y maddeuid iddynt bob troseddau; eithr Carnhuanawc, gyda llawer mwy o resymoldeb, a ddywed mai ar ol marwolaeth Montforte y cymerodd cadoediad o'r fath le, ac iddo gael ei ddwyn oddiamgylch trwy offerynoliaeth Ottobonus, swyddog y Pab yn Nghymru; a'r llysgenhadwr Ffrengig.

1265.

Pa fodd bynag, hyn sydd sicr, fod Harri a'i fab Iorwerth wedi eu dal yn garcharorion gan Montforte, yn mrwydr Lewes; ac yna yr oedd y rhan fwyaf o Loegr tan awdurdod y gwrthryfelwyr. Ei elynion cryfaf bellach oeddynt arglwyddi Normanaidd y Cyffiniau, ac yn ben arnynt hwy yr oedd Syr E. Mortimer. Ar ol cryn lawer o fân frwydrau gorfu iddynt hwythau ymostwng; er i'r Pab yn y cyfamser fygwth Llewelyn ag ysgymundod onid ymneillduai o'r cynghrair. Yr arglwyddi Normanaidd a addawsant roddi eu cyfoeth a'u castelli i iarll Leicester, a gadael y deyrnas am un flwyddyn. Ac yn ystod y flwyddyn hon Llewelyn a Leicester a gytunasant, yn nhref Hereford, i fod mewn heddwch parhaol a'u gilydd.

Ond tra yr oedd ein harwr ar y naill law yn chwanegu cryfder, ar y llall yr oedd yn gwanychu. Daeth Diafol y gelyniaeth brodyr yn mlaen drachefn, a thueddodd Dafydd ab Gruffydd i adael achos ei wlad a'i frawd, ac ymuno a'u gelynion. Pa un ai yn ffurf cenfigen, ynte rhyw anghydwelediad ar faterion gwladol, yr ymrithiodd y "diafol" y waith hon, nis gwyddis. Cymerodd Dafydd swydd yn myddin arglwydd Audley, a'r barwniaid Cyffiniol, y rhai yn dra naturiol a anghofiasant eu hadduned o adael y wlad am flwyddyn; eithr gorchfygwyd y fyddin hono gerllaw Caerlleon gyda cholled fawr.

Ymddengys mai mewn rhyw ddull lled drwsgl a di-drefn y gofalai Montforte am ei lwyddiant a'i ysbail rhyfel. Iorwerth y tywysog a ddiangodd o'i afael, ac a ymunodd ag arglwyddi hanner gorchfygedig y Cyffiniau, y rhai ar ei ddyfodiad a gymerasant galon, ac yn fuan yr oeddynt yn feistriaid ar yr holl wlad rhwng Hereford a Chaerlleon. Yna rhuthrasant mor ffyrnig ac annysgwyliadwy ar Montforte a'i fyddin, mewn lle a elwid Evesham, fel nad oedd gan y gwrthryfelwr ddim i'w wneud ond naill ai disgyn i ddwylaw ei elynion neu ffoi am ddyogelwch at Llewelyn. Tra yn aros gyda Llewelyn y waith hon yr addawodd Montforte ei ferch, Eleanor, iddo yn wraig; ac yn gweithredu fel brenin Lloegr, addawodd adfer iddo ei holl freintiau fel tywysog Cymru, ac anrhegodd ef hefyd a chantrefi yr Eglwyswen, gerllaw Gwrecsam, ac Ellesmere yn sir Amwythig; a chastelli Matilda, sir Drefaldwyn; Llaneurgain, a Threfaldwyn, Ar ol hyn Llewelyn a ruthrodd gyda rhan o'i fyddin i Forganwg; tra yr ymunodd y rhan arall gyda gŵyr Leicester, er mwyn ei dynu allan o'i drybini, a'i gynorthwyo i dori drwy rengau y brenin, ond ymddengys fod y dduwies Ffawd wedi ei adael, ac yn lle dryllio rhengau y gelyn gorfu arno ffoi o'u blaen i'r Casnewydd. Yno, drachefn, gwarchaewyd ef; ac i ochelyd gorchfygiad gwaradwyddus enciliodd yn nyfnder nos ystormus, a chyrhaeddodd derfynau Llewelyn yn ddihangol. Yma y bu am yspaid yn ddyogel; ond gan nad oedd dull y Cymry o fyw yn dygymod â'i wyr, sef yn bennaf ar gig a llaeth heb ond ychydig o fara, yr oedd ei rengau yn teneuo yn barhaus trwy angau ac enciliaeth. Er mwyn cadw y gweddill, gorfu arno ymadael; ac wedi wythnosau o flin deithio trwy goedwigoedd a ffyrdd anhygyrch, cyrhaeddodd ei hen wersyll yn Hereford. Pa fodd bynag, trwy or-lafur ac iselder yspryd yn fuan ar ol hyn efe a fu farw; a'i blaid, i ba un yr oedd yn fywyd ac enaid, a fu farw bron gydag ef. Bu brwydr Evesham yn achlysur rhyddhad y brenin, a'i adferiad i'w holl urddau cynhenid; a'r barwniaid yn mhlaid ddiweddar Montforte, wedi rhoddi arfau i lawr a ffugiasant deyrngarwch. {[canoli| 1267.}} Cafodd y teyrn Seisnig yn awr hamdden i adfyfyrio ar y rhan bwysig a gymerasai Llewelyn yn y gwrthryfel diweddar; a phenderfynodd y cawsai yntau yn awr deimlo holl bwys ei ddialedd. Gyda'r bwriad hwn, daeth gyda byddin gref i'r Amwythig. Ond Llewelyn, heb gynghreiriad, ac yn rhy wan o hono ei hun i wrthsefyll byddin alluog y brenin, a dybiodd mai doethach cynyg telerau heddwch, a thrwy gyflafareddiad Ottobannus, cenhadwry Pab yn y llys Cymreig, penderfynwyd ar y cytundeb manteisiol canlynol, yr hwn a ddengys fod yn hawddach cael gwaeth Harri' na'i well: - Fod yr holl diroedd ar y naill ochr fel y llall i gael eu hadferyd; fod deddfau a defodau y Cyffiniau i aros fel yr oeddynt; fod i Harri ganiatáu i 'Llewelyn a'i olynwyr am byth Dywysogaeth Cymry; fod iddynt ddwyn y teitlau o dywysogion Cymru, a derbyn gwarogaeth y barwniaid Cymreig oddigerth yr eiddo Meredydd ab Rhys o'r Deheubarth, yr hwn oedd i wriogaethu i'r brenin. Y brenin hefyd a ganiataodd i Llywelyn feddiant ar y Pedwar Cantref. Yn gyfnewid am y breintiau hyn yr oedd yn rhaid i'r tywysog Cymreig ystyried brenin Lloegr fel ei frenin ef, a thalu gwarogaeth iddo, yn ol arferiad yr hen dywysogion Cymreig; a thalu y swm o 20,000 o forciau mewn arian. Y cytundeb a dynnwyd yn Nghastell Trefaldwyn, a lawnodwyd gan y brenin ei hun, ac a gadarnhawyd ar ran y Pab gan ei genhadwr. Wrth syllu ar sefyllfa annibyniaeth Gymreig, yn y cyfnod hwn, gallesid brudio hir oes iddo, ac fod ei ddydd drwg yn mhell; ond cyffelyb ydoedd i bren yn ysgwyd ei gangau irion yn y gwynt tra'r oedd y dorlan oddi tano yn ymollwng tua'r dibyn erchyll islaw,

1268.

Y flwyddyn hon yr oedd heddwch wedi ei adferyd trwy holl derfynau y llywodraeth Seisnig, a'r tywysog Iorwerth, gan nas gallai fyw allan o sŵn tincian arfau, a aeth i wlad Canaan, i gymeryd rhan yn Rhyfeloedd y Groes. Yn ei absenoldeb, aeth pedair neu bum mlynedd heibio yn heddychol a dedwydd iawn ar y Cymry, ac ni chymerodd' ddim pwysig le hyd

1273.

Yn y flwyddyn hon y bu farw Harri III., wedi teyrnasu am 56 o flynyddau; ac er iddo ymladd llawer o frwydrau gyda'n cenedl ni, yn ystod ei deyrnasiad hirfaith, eto, nid ymddengys fod y gwaith o'u darostwng nemawr pellach yn mlaen ar ddydd ei farwolaeth nag ydoedd ar ddydd ei goroniad. Gyrwyd gyda phob brys am y tywysog Iorwerth i gymeryd gorsedd ei dad. Eithr gan y byddai o angenrheidrwydd rai misoedd cyn y gallai ddychwelyd, apwyntiwyd rhaglawiaeth; ac un o weithredoedd cyntaf y rhaglawiaeth hon oedd, gwysio Llewelyn i Drefaldwyn i dalu gwarogaeth iddi, ac i gydnabod ei hawdurdod. Yntau ni chymerodd y sylw lleiaf o'r alwad — yn gweled mae'n debyg nad oedd waeth iddo dori yr amodau heddwch yn fuan, gan y byddai Iorwerth, oddiar ei anian ryfelgar, a'i gasineb tuag at y Cymry, yn sicr o wneud hyny yn hwyrach.

Ond cyrhaeddodd Iorwerth, a choronwyd ef yn Llundain gyda rhwysg ac urddasolrwydd mawr; brenin Scotland a dug Llydaw, fel deiliad iddo, yn gweinyddu ar yr achlysur. Gwysiwyd Llewelyn yntau i gyflawni yr un warogaeth yn yr Amwythig; eithr efe a nacaodd adael ei deyrnas a dodi ei hun yn nwylaw teyrn mor elynol, oni roddid gwystlon am ei ddyogelwch. Y gwystlon, medd Rymer, a hawliai Llewelyn y tro hwn oeddynt Edmwnd brawd y brenin, iarll Caerloew, a Phrif Ganghellydd Lloegr. Y mae yn anmhosibl peidio caru ei wladgarwch, ac edmygu ei gallineb, yn gwrthod cydsynio â'r wŷs sarhaus hon. Beth, Llewelyn, yr hwn oedd bywyd rhyddid ei wlad ar y pryd, a'r hwn a brofodd mor fynych wagder a thwyll y cyfamodau Seisnig, yn anturio ei einioes yn nwylaw ei archelyn Iorwerth? Iorwerth! yr hwn a lochesai yn ei lys frodyr gwrthryfelgar Llewelyn, sef Dafydd a Roderic! - Mab Harri III., yr hwn a fradychasai Gruffydd ab Iorwerth, tad ein harwr, ac a fu yn achlysur o'i ddiwedd truenus! Yr oedd hyd yn oed y Pab bydolelwgar yn gorfod cyfaddef fod doethineb mewn gwrthod gwneud y fath aberth; a rhoddes orchymyn i Archesgob Canterbury nad ysgymunai y tywysog Cymreig.

Tair gwaith yn mhellach, medd Rymer, y gwysiwyd ef; eithr nid oedd modd ei argyhoeddi nad ei faglu oedd yr amcan. Ac er mwyn dangos i'r byd nad ei amcan ef oedd enyn rhyfel, danfonodd lythyr gyda mynachod Conwy ac Ystrad-fflur at Archesgobion Canterbury a Llundain, cynghorwyr y brenin, yn cwyno fod Iorwerth yn llochi Dafydd ei frawd a Gruffydd ab Gwenwynwyn; eithr os enwai y brenin rhyw delerau a lle y gallai ef eu derbyn yn ddyogel, ei fod yn foddlon i ddyfod a thalu ei warogaeth iddo.

Yr oedd dystawrwydd Iorwerth i'r cynygion hyn yn awgrymu i Llewelyn fod tymestl yn darllaw, ac yn hwyr neu yn hwyrach yr ymdorai gyda chynddaredd arswydus ar ei wlad ac yntau. Adwaenai gymeriad ei elyn yn rhy dda i dybied am foment yr anghofiai gosbi; o ganlyniad, dechreuodd ymbarotoi ar gyfer y gwaethaf. Cofus gan y darllenydd ei fod wedi ei ddyweddïo gyda merch i iarll Leicester, ac er fod y bonheddwr hwnw wedi marw yr oedd ei blaid, er yn ddystaw, eto yn lluosog yn Lloegr. Mewn sicrwydd y byddai cydweithrediad y blaid hon yn gymorth mawr iddo yn ei gyfwng presenol, ac yn ddiau oddiar serch tanbaid at y foneddiges ieuanc, penderfynodd fod i'r briodas gymeryd lle yn uniongyrchol. Y pryd hwn, yr oedd y ddyweddi yn trigo yn nghrefydd-dy Montargis, Ffrainc; a Llewelyn a ddanfones at frenin y wlad hono yn gofyn iddo anfon Eleanor de Montforte i Gymru i briodi. Cydsyniodd y teyrn hwnw; a chychwynnodd y ddywediedig a'i brawd, offeiriad ieuanc o'r enw Amaury, ar eu mordaith tua Chymru. Ond pan oedd eu llong yn neshau tuag Ynysoedd Scilly, wele bedair o longau rhyfel Iorwerth yn eu cyfarfod, ac yn dwyn y llestr trwy drais i borthladd Bristol, a'u cymeryd hwythau oddi yno i lys y brenin. Y brenin, yn lle rhoddi y forwyn Ieuanc ar unwaith i ddwylaw ei chariad yn ol deddfau boneddigeiddrwydd yr oes hono, a'i cadwodd yn y llys i weinyddu ar y frenhines; a'i brawd a garcharodd efe am amrai flynyddau - yn nghyntaf yn Nghastell Corfe, a thrachefn yn yr eiddo Sherburne; ac yn y diwedd rhyddhawyd ef trwy i'r Pab ei hawlio fel ei gaplan, ac wedi iddo yntau ei hun dyngu llw yr ymadawai â'r deyrnas, ac na chymerai byth ran yn ei gwladlywiaeth.

Ar ol y fath weithred elynol o eiddo Iorwerth, yr oedd pob ffug wedi ei dynu oddiar ei fwriadau. Ni buasai heddwch bellach ond rhith, a phrofodd pob cais tuag ato yn oferedd a difrod ar amser. Penderfynai Iorwerth yn awr gyflawni prif amcan ei fywyd, sef llwyr ddarostyngiad y genedl Gymreig. Ond, tra yr oedd yn darparu at hyn, Archesgob Canterbury ac amryw esgobion ac arglwyddi eraill a atolygasant arno gael caniatâd i geisio dwyn y Cymry i heddwch cyn apelio at y cledd. Gyda'r bwriad hwn, yr archesgob a ddaeth i Gymru; eithr cyn iddo gyrhaedd yr oedd Llewelyn wedi agor y rhyfelgyrch, trwy anrheithio y Cyffiniau; a dyma Ddechreuad y Diwedd. Nid oedd gan y cenhadwr hedd ond dychwelyd yn waglaw. Ar gyfarfyddiad y Senedd, rhoddes adroddiad o'i genadwri ger eu bron, yr hŷn a gynhyrfodd eu holl nwydau dialgar; deddfasant yn y fan fod treth o'r 15fed yn cael ei gosod ar bob eiddo symudadwy trwy Loegr oll, er mwyn codi arian i alluogi'r brenin yn ei waith o ddarostwng y Cymry. Yn y cyfamser, Llewelyn a amlygodd drachefn ei barodrwydd i fyned naill ai i Groesoswallt neu'r Amwythig a rhoddi gwarogaeth i'r brenin; ond ar y telerau y cydnabyddid y cytundeb a wnaed rhwng Harri III ag yntau, ac hefyd y rhyddheid Eleanor de Montforte a'i gosgorddion, "y rhai." meddai, "gagedwir genych yn groes i ddeddfau moesgarwch cenhedloedd." Ond gwrthodwyd y ceisiadau rhesymol hyn gyda dirmyg; ac mewn uchel lys cyfraith, yn ngwydd y teyrn Seisnig a'i gynghorwyr, barnwyr y Goron, a lluaws o esgobion, ieirll, a barwniaid, darllenwyd yr holl ymdrafodaeth trosodd, a chyhoeddwyd Llewelyn yn deyrnfradwr, yn euog o derfysgu'r heddwch a wnaed rhyngddo â'r diweddar frenin, ac o anrheithiadau ar y Cyffiniau. Penderfynwyd hefyd ar ei ddorostwng gyda phob brys, trwy alw ar ddeiliaid milwrol y Goron i gyfarfod yn Worcester yr haf dilynol gyda meirch ac arfau priodol i gychwyn ar ryfelgyrch i Gymru. A thra y byddai'r rhyfelgyrch yn cael ei ddwyn oddiamgylch, trefnwyd fod i'r Cyffiniau gael eu gwarchod yn dda; fod i'r brenin omedd i'w ddeiliaid yn Lloegr, Iwerddon, a Guiene (yn Ffrainc), eu cyflenwi a lluniaeth, neu unrhyw nwydd defnyddiol arall tan y perygl o gael eu hystyried yn elynion i'r brenin, a'u cosbi yn gyson â hyny. Nid oedd awdurdodau eglwys Rhufain ychwaith yn ddystaw yn y cyfwng pwysig hwn. Arfer y Butain bob amser, pan ddigwyddai cweryl rhwng ei chariadon oedd ochri gyda'r blaid gryfaf a chyfoethocaf; mor debyg i butain! Danfonodd Archesgob Canterbury lythyr at Llewelyn yn mha un y bygythid ef gyda'r dialeddau trymaf, onid ymostyngai; ac yn mhen ychydig amser, ysgymunwyd ef, a dodwyd ei holl feddianau tan felldith.

1277.

Yn gynnar yn y gwanwyn, Iorwerth a ddanfones gatrawd o dri chant o wŷr meirch i luddias rhuthriadau y Cymry ar y Cyffiniau. Apwyntiodd Syr Roger Mortimer yn gadben milwrol iddo yn siroedd Amwythig a Hereford; a neillduodd Mehefin 1af yn ddiwrnod i'w wŷr ei gyfarfod ef yn Worcester. Nid arbedai Iorwerth unrhyw foddion, pa mor anweddus ac isel bynag, tuag at ddwyn ei fwriadau i ben. Profai hanesyddiaeth mai yn ymraniadau y Cymry yr oedd eu gwendid, a rhoddodd ei holl falais ar waith i fegino anghydfod rhwng eu penaethiad. Danfonodd at Iarll Warwick, ei gadlywydd yn sir Gaerlleon; ac at Payen de Chaworth, swyddog cyffelyb yn Neheudir Cymru, yn peri iddynt gyhoeddi heddwch i bob arglwydd a ymostyngai i'w awdurdod. Bu y cynygiad hwn yn abwyd llwyddiannus, canys Rhys ab Meredydd, Gruffydd ab Meredydd, Cynan ab Merydydd, a Rhys Windawd, arglwyddi cedyrn yn y Deheubarth, a droisant eu cefnau ar y Tywysog, ac a ymunasant â'r Saeson. Bu hyn yn angau i achos Llewelyn yn y parthau hyny, canys dilynwyd y gwŷr dylanwadol hyn yn eu hanwladgarwch gan y mân arglwyddi cymydogol; syrthiodd castell Ystradwy, ac ymwthiodd y gelynion mor bell ag Aberystwyth, lle yr adeiladasant gastell.

Yr oedd yr ystorm erbyn hyn yn dechreu ymdorri ar ein hanffodus dywysog, a haul annibyniaeth y genedl yn gogwyddo at fachlud; ac ni bydd gennym bellach, er mor annifyr y gwaith, ond cofnodi digwyddiadau pruddaidd y machludiad hwn, a gwylio symudiadau Llewelyn ddewr hyd yr awr felltigedig hono y syrthia efe yn ysglyfaeth i gynllwynion bradwyr. Yn fuan ar ol y Pasg, Iorwerth a ymadawodd o Lundain am ororau Cymru, er mwyn rhagddarparu pethau. Trefnodd fod i lynges y Pum Porthladd Diffynol (Cinque Ports) gydweithredu ar y môr, ac ymosod ar Ynys Môn, gan mai oddiyno y cai'r Cymry y rhan fwyaf o'u lluniaeth yn amser rhyfel. Anfonodd fyddin hefyd i'r Deheubarth, i adgyfnerthu Payen de Chaworth, fel y gallai hwnw wthio yn mlaen i'r Gogledd; a thrwy hyn y byddai gan Llewelyn dri ymosodiad i'w gwylio ar unwaith. Nid oedd y cynllun hwn yn wreiddiol i Iorwerth, canys ei dad o'i flaen a'i defnyddiasai ugain mlynedd yn ol gydag aflwyddiant truenus; gwyn fyd y Cymry pe gallesid dweyd yr un peth am ei ffrwyth y tro hwn o flaen byddin luosog y Deheudir, Rhys ab Maelgwn a gŵyr Geneu'r Glyn, yr unig ffyddloniaid yn y cŵr hwnw, a giliasant i Wynedd, gan adael eu tir yn ddiffaeth. Gauafodd Iorwerth ar Forfa Caer - yno yr oedd ei brif wersyll, eithr ei wŷr a dreiddiasent amryw filldiroedd yn mhellach i'r wlad, ac a adeiladasent gastell yn Fflint. Oddiyno aethant gan belled a Rhuddlan, ac adgyweirio y castell hwnw hefyd a wnaethant.

Yn yr haf, y brenin yn gweled fod y Cymry wedi gadael y Perfeddwlad, a orymdeithiodd mor bell a'r afon Gonwy. Yr oedd Llewelyn wedi croesi yr afon hono o'i flaen, ac yn ymlechu yn nghadarnfeydd Eryri; ac er holl gynddaredd a chryfder y brenin y tro hwn eto ni feiddiai efe groesi yr afon a ddywedasai gynifer o weithiau wrth drais a gorthrwm "hyd yma yr ewch a dim yn mhellach," A diau pe buasai ein harwr wedi darparu ar gyfer porthiant ei wŷr lluosog, trwy ddwyn digon o luniaeth gydag ef o'r iseldiroedd cyn encilio, y cawsai drachefn y pleser o weled byddin fostfawr y Sais yn dihoeni gan afiechyd a newyn, ac yn gorfod dychwelyd yn ol i'w gwlad mewn gwarth a chywilydd. Ond fellu'r anffawd, nid oedd ganddo ef a'i wŷr ond ychydig iawn o luniaeth ar eu cyfer eu hunain, a'r lluaws ffoaduriaid oedd tan eu nawdd. O ganlyniad, dechreuodd newyn hylldremu yn eu hwynebau; a thra yr oedd Môn yn nwylaw'r gelyn, a'r Iseldiroedd wedi eu hanrheithio ganddo, a'i lynges yn gwibforio hyd y glennydd, er atal pob cymorth o Ffrainc ac Iwerddon, daeth cyfyngder mawr yn Eryri; a thybiodd Llewelyn mai y llwybr doethaf fyddai dyfod i ryw fath o heddwch. Gwyddai mai anfanteisiol iawn iddo ei hun fyddai'r cyfryw heddwch o angenrheidrwydd, onide, ni dderbynnid hwy gan y blaid wrthwynebydd. Cydsyniodd y brenin i dderbyn ei gynygiad ar y telerau fod iddo roddi ei hun ar ei diriondeb ef. Nid oedd ond tiriondeb creulawn i'w ddisgwyl oddiar ei law; ac er mor anhawdd i dywysog fel Llewelyn ymostwng, eto, yr oedd gwaredigaeth ei gydwladwyr newynog yn galw am iddo wneud hyny; ac awgryma llawer hanesydd fod ei serch anorchfygol at y garcharedig Eleanor de Montforte yn ei ddirgel gyfeirio at ffafr Iorwerth, fel yr unig lwybr y gallai gael gafael ar obaith ei lygaid. Felly penderfynwyd ar y telerau canlynol: Fod i'r tywysog ryddhau ei holl garcharorion rhyfel, a thalu i'r breniu ddeng mil a deugain o forciau. Fod i bedwar cantref y Perfeddwlad gael eu rhoddi i fynnu i'r brenin a'i hiliogaeth tros byth. Fod pleidwyr y Saeson i gael eu hadferyd i'r holl feddianau oedd eiddynt ar ddechreu y rhyfel. Fod i'r tywysog gadw meddiant o Ynys Môn, a thalu i'r brenin fil o forciau bob blwyddyn am dani; eithr os byddai efe farw yn ddi epil fod i'r Ynys syrthio i feddiant y brenin a'i etifeddion hyd byth. Fod i'r holl farwniaid Cymreig ddal eu tiroedd tan y brenin, oddieithr pum arglwydd Eryri, y rhai oeddynt i arddel Llewelyn fel penteyrn am ei oes ef. Fod i Llewelyn ddyfod i Loegr bob Nadolig i dalu gwarogaeth i'r brenin; ac fod iddo, mor fuan ag y cai ryddhad oddi wrth ei ysgymundod, ddyfod i Ruddlan ac ymostwng ger bron ei orchfygydd; a myned i Lundain ar amser penodedig i gyflawni defod gyffelyb yno wedyn. Am ei oes ef yr oedd yr enw Dywysog Cymru i gael ei arddel; ac ar ôl hyny, yr oedd pum' barwn Eryri i ddal eu tiroedd tan y brenin. Er mwyn sicrhau cyflawniad yr amodau hyn, yr oedd y Tywysog i roddi yn wystlon ddeugain o brif bendefigion Gwynedd. Fod iddo bob blwyddyn, gyda deugain o foneddigion gymeryd llw i gadw yr amodau hyn; ac os byddai iddo mewn un modd ballu cyflawni yr hyn a addawsai, fod y boneddigion hyny yn rhwym trwy eu llwon i ymadael ag ef, a phleidio'r brenin. Fod iddo ryddhau ei frawd Owen o garchar, ac adferyd iddo ei feddianau; talu mil o forciau yn y flwyddyn i'w frawd Roderic; a phum' cant mhorc i'w frawd Dafydd. Dyma y cyfeiriad cyntaf a geir at Roderic - wedi dianc o garchar yn nwylaw Llywelyn yr ydoedd yn awr, ac ymuno a'r Saeson. Yr oedd Dafydd hefyd y pryd hwn yn ngwasanaeth Iorwerth, yr hwn a'i gwnaeth yn farchog, ac a roddes iddo mewn priodas ferch iarll Derby, Ystafellyddes i'r frenhines; gweddw brydferth newydd gladdu ei gŵr. Gwnaed Dafydd hefyd yn arolygwr yr holl gestyll Seisnig yn Nghymru; a'r brenin a wnaeth anrheg iddo o gestyll Dinbych, a Frodsham yn sir Gaer, gyda thir yn perthyn iddynt gwerth mil o bunnau yn y flwyddyn.

Fel breintiau i'r tywysog, chwanegwyd y telerau canlynol: Os efe a hawliai diroedd, oddieithr y rhai yn meddiant y brenin, neu yn mhedwar cantref y Perfeddwlad, gweinyddid cyfiawnder yn ol defodau yr ardaloedd yn mha rai y digwyddai y cyfryw diroedd sefyll. Fod camymddygiadau a beiau pob plaid i gael eu dileu a'u llawn faddeu. Fod i'r deiliaid a ddalient diroedd yn y pedwar cantref, eu dal ar yr un telerau a chyn dechreuad y rhyfel. Fod pob ymrafael a ddigwyddai rhwng y tywysog, os ar y Cyffiniau y digwyddent, gael eu terfynu yn ol deddfau y parthau hyny; os yn Nghymru, yn ol cyfreithiau Cymru. Y byddai pob elw oddiwrth y llongddrylliadau a gymerent le ar forlenydd y tywysog yn eiddo iddo ef; yn nghyda phob breintiau eraill cyffelyb a fwynheid gan ei hynafiaid; ac fod pob cweryl i gael ei benderfynu yn yspryd y cytundeb blaenorol. Yr amodau hyn a gadarnhawyd ai ran Llewelyn gan Tudur ab Ednyfed a Gronw ab Heilyn; ac ar yr ochr arall gan wŷr cyfrifol.

1278.

Y brenin, o'i ewyllys da, a wrthododd y tâl blynyddol; dwy fil o forciau yn unig a dderbyniodd, a hyny yn Rhuddlan. Yna efe a ddychwelodd yn fuddugoliaethus i Lundain, a derbyniwyd ef yno gyda llongyfarchiadau a llawenydd mawr. Tybiai fod ei waith yn gyflawn, a'i droed ar annibyniaeth y Cymry. Yn mysg ei osgorddlu, ac yn chwanegu at rwysg ei orymdaith, yr oedd y llew gorchfygiedig, mewn cyflwr diraddiol mae'n wir, ond yn llew er hyny. Yr oedd y deugain gwystlon hefyd oll yn arglwyddi cyfrifol Cymreig, yn urddasol yr orymdaith hono ar eu taith i'r Brifddinas gyda'u Tywysog i dalu gwarogaeth yno drachefn, a hwynt-hwy i aros yno yn sicrwydd am gyflawniad y cytundeb rhag-grybwylledig. Wedi i ddefod y warogaeth fyned heibio, y barwniaid hyn a letyent mewn rhan o Lundain a elwid Islington, a phentrefydd cyfagos; a chawsant hwy, a'r lluosog wasanaethyddion a ddygasent gyda hwynt o Gymru, brofi yn fuan o wermod chwerw dibyniaeth. Yr oedd y llaeth yn brin; ac nid oeddynt hwythau yn hoffi, a diamheu na buasai yn dygymod a'u cyfansoddiad, gwrw a gwinoedd a mwythderau Llundain. Yn chwanegol at hyn, byddai lluaws o bobl, pa bryd bynag y deuent allan o'u lletai, yn eu dilyn ac yn sylldremio'n ddirmygus arnynt fel pe buasent gynifer o anwariaid, ac yn gwawdio eu golwg dyeithr, a'u hymddangosiad anghyffredin. Hyn a barai iddynt ystyried y Saeson yn bobl anniwylliedig a digroesaw i ddyeithriaid, a gweled bod yn well dwyn y cledd hyd lechweddau noethlymion eu gwlad eu hunain, na derbyn moethau yn mhlith estroniaid, ar drugaredd galed gormeswr a'i ddeiliaid gwawdus ac erledigaethus. Daethant i'r penderfyniad o wrthryfela y cyfleusdra cyntaf, a marw yn wŷr rhyddion yn hytrach na byw yn gaethion.

Yr oedd yn amlwg i bawb yn awr mai amcan Iorwerth ar farwolaeth Llewelyn oedd uno Cymru oll a'i goron. Ond efe a wyddai yn eithaf da na byddai dewrder a chariad yr hen genedl Gymreig at ryddid ddim marw gyda ei Thywysog; o ganlyniad, nid arbedai unrhyw drafferth tuag at ennill ei hewyllys da, a dileu eu rhagfarnau hyny a fyddent yn sicr o wrthweithio ei fwriadau. Yr oedd yn hysbys iddo fod traddodiad yn ffynnu yn eu mysg y byddai i'w hen Frenin Arthur ail-ymddangos i ddial eu camwri, ac adennill iddynt eu hollol annibyniaeth a'u breintiau cyntefig. Gyda'r amcan o ddileu yr ofergoeledd hon, Iorwerth a'i frenhines a gyrchasant i Lys Afallen (Glastonbury), ar gyffiniau Gwlad yr Haf, lle y dywedid fod esgyrn Arthur yn gorwedd; a than yr esgus o anrhydeddu ei weddillion, parodd eu cyfodi a'u harddangos yn gyhoeddus, ac yna dodwyd hwynt i orwedd yn y fynachlog gerbron yr allor; ac yn gerfiedig ar yr arch yr oedd hysbysiad beth oedd ei ;chynhwysiad, ac i'r esgyrn o'i mewn gael eu gweled gan frenin a brenhines Lloegr, ar y dydd a'r dydd, pan oedd hefyd yn bresennol Iarll LaToy, Esgob Norwich, a lluaws o bendefigion ac arglwyddi.

Yn ystod arosiad y brenin yn Glastonbury, cynhaliwyd senedd yno; a gwysiwyd Llewelyn i ymddangos ger ei bron, gyda'r amcan, mae'n ddiamheu, o argraffu ar ei feddwl yntau a'i osgorddlu y sicrwydd am farwolaeth y hen frenin, a'r anmhosiblrwydd o sylweddoli y dychymygion gwagsaw am ei ailddyfodiad. Pa fodd bynag, cafodd Iorwerth brawf fod annibyniaeth y Cymry eto yn fyw; ac er ei holl fost o'u gorchfygu, yr oedd eu cariad at ryddid yn anorchfygol; ac fel eu cynrychiolydd, gwelodd Llywelyn yn dda anufuddhau y wŷs hon o Glastonbury.

Nid gŵr i oddef sarhad oedd Iorwerth; ond, er hyny, yr oedd yn ddigon call i wybod nad cosbi Llywelyn oedd y llwybr sicraf iddo gyrhaedd ei amcan mawr, sef darostyngiad y genedl yr oedd Llywelyn yn ben arni. Methasai yn hyn trwy ddewrder, yn awr beth fyddai iddo roddi prawf ar ffalsder. Prysurodd, a'i frenhines gydag ef, i Worcester; a thrachefn gwysiodd Llewelyn i ddyfod yno. Eithr rhag y gwrthodai eilwaith, galwyd y wys hon yn gwahoddiad i wledd," a meluswyd hono drachefn gan addewid y byddai i'r brenin roddi Eleanor de Montforte yn wraig iddo. Tarawodd y brenin ar ei lecyn gwan - ei serch; ac yr oedd ymostwng i elyn trahaus yn bris bychan mewn cymhariaeth am gaffaeliad dyweddi mor hawddgar. Llewelyn a aeth i Worcester; a'r brenin a wnaeth y goreu o'i fargen i drymhau yr iau arno. Y mae Gwladgarwch a Dynoliaeth yn troi draw oddiwrth yr olygfa a gymerodd le. Pan ddygwyd ef gerbron Iorwerth, efe a ymostyngodd hyd at draed y trawsfeddiannwr, gan apelio at ei drugaredd a dodi ei hunan yn gyfangwbl yn ei law. Yna archwyd i'r ymostyngydd gyfodi; ac oherwydd ei ymddangosiad edifeiriol, y brenin a rasusol gymerth drugaredd arno, ac a faddeuodd iddo ei aml gamweddau: eithr tan rybuddion trystfawr os efe a anufuddhai wedyn nad allai ddisgwyl ond y cospedigaethau llymaf. Dyma y weithred fwyaf darostyngol a gyflawnodd yn ei holl fywyd: ac nis gall dim ddileu y gwarthrudd hwn oddiar ei gymeriad ond y ffaith ei fod yn gaethwas cariad ar y pryd; ac wrth adfyfyrio arno yr ydym yn barod i ofyn, Ai hwn ydyw'r Llewelyn a wrthsafodd holl allu a chynllwynion Lloegr am y cyfnod hirfaith o 36 o flynyddau, a ysgydwai ei gleddyf nes y crynai teyrnas Lloegr hyd ei gwraidd, ac a syrthiodd yn y diwedd yn mhlith adfeilion ei wlad yn aberth ar ei hallor?

Yna'r brenin wedi llwyddo i iselhau Llewelyn i'r diystyrwch pennaf, a roddodd iddo Eleanor de Montforte, yn nghydag etifeddiaeth ei diweddar dad. Ond ar fore dydd y briodas, tra yr oedd ef a'i ddyweddi ar gyrchu i'r offeren, Iorwerth a chwanegodd amodau eraill arno, sef fod iddo ddyfod i dalu gwarogaeth ddwy waith bob blwyddyn; ac na byddai iddo noddi yn ei diriogaeth neb gelynol i frenin Lloegr. Pa fodd bynag, o'r diwedd, cymerodd y brioda le ar y 13eg o Hydref.

Mor fuan ag yr oedd y ddefod briodas drosodd, Llewelyn a'i briod a brysurasant tua Chymru, yn ddiolchgar iawn, mae'n ddiamheu, am waredigaeth o grafangau'r fath ormeswr. Yr oedd sefyllfa wladol y genedl tua'r amser hwn yn isel iawn - eu darostyngiad yn gorwedd fel hunlle ar eu hysprydoedd, a galaru yr oeddynt am eu rhyddid gyda galar chwerw; eithr yn rhy weiniaid i'w adennill. Eto, er ar lawr, nid oeddynt feirwon; er tan iau yr estron, yr oedd eu cariad at ryddid a'u breintiau cynhenid mor fyw ag erioed, a'r cariad hwn a chwyddai bob gormes bychan yn drosedd anfaddeuol o fawr. Y penaethiaid Cymreig hyny a ddiystyrwyd yn Llundain, ac a ryddhawyd o'u gwystlaeth ar briodas y Tywysog, pan ddychwelasant i'w gwlad, a ddechreuasant hau hadau gwrthryfel yn mhlith eu cydgenedl, a'u hanog i anufudd-dod pa bryd bynag y deuai'r amser cyfaddas. Hefyd, yr oedd cyngaws cyfreithiol rhwng Llewelyn a Gruffydd ab Gwenwynwyn yn nghylch ystâd a ddaliai gan y brenin ar y Cyffiniau Seisnig. Gwysiwyd Llewelyn, yn groes i'w urdd fel tywysog, i fod yn bresennol yn y cyngaws hwnw. Nid oedd Dafydd, ei frawd, ychwaith er wedi gadael ei wlad ac ymuno â'i gelynion, ddim heb achwynion celyd yn erbyn ei gyfeillion mabwysiedig. Gwysiwyd yntau gan Sais o'r enw Wm. Venables, yn groes i ddefodau Cymru, ac yspryd yr amod rhyngddo â'r brenin, i ymddangos yn nhref Caerlleon, o achos rhyw gamwri yn mhentref Estyn. Y swyddog hwnw hefyd a gymynasai goedwigoedd ar etifeddiaeth Dafydd yn Lleweni, Dyffryn Clwyd, gan eu cludo i'r Iwerddon, a chadw arian eu gwerthiant iddo ei hun. Reginald de Grey swyddog Seisnig arall, hefyd a fygythiodd ddwyn oddiarno gastell Hope, a chymeryd ei blant yn wystlon am ei iawn-ymddygiad yn y dyfodol. Llawer o benaethiaid Cymreig ereill a gwynent yn barhaus o herwydd trais anniwall eu goresgynwyr. I goroni y cyfan, Iorwerth a apwyntiodd lysoedd cyfreithiol Seisnig, ac a rannodd Gymru yn siroedd, ar ddull siroedd Lloegr; a chan ddileu hen gyfreithiau doethgain Hywel Dda, sefydlodd y rhai Seisnig yn eu lle. Y mae yn syn pa fodd y darfu i deyrn mor lwynogaidd a Iorwerth erioed feddwl am gyflawni gweithred mor ynfyd. Dylasai wybod fod defodau a chyfreithiau cenedl yn bethau tra anwyl ganddi, a'u diwreiddio tan yr amgylchiadau mwyaf ffafriol yn orchwyl peryglus. Pa faint mwy felly gyda chenedl mor hoff o hynafiaeth, ac mor effro i bob sarhad, â'r genedl Gymreig? Penderfynasant fel un gŵr na fynnent na chyfreithiau na defodau ond eu cyfreithiau a'u defodau henafol eu hunain.

Heblaw trallodion cyhoedd Llewelyn, cyfarfyddodd a thrallod deuluaidd chwerw. Bu farw ei wraig, Eleanor, cyn pen dwy flynedd wedi ei phriodas, ar enedigaeth merch fach. Fel hyn, ar ol disgwyl blynyddau lawer am dani, a'i chael yn y diwedd trwy waseiddio ei hunan, byr a darfodedig fu ei fwynhad gyda hi. Trwy ei bod o haniad Seisnig, ac yn berthynas i'r brenin, ymddengys fod ynddi dueddfryd gref at heddychu y ddwy genedl; ac yn ei marwolaeth hi, torrwyd y cysylltiad olaf rhyngddynt.

1282.

Fel y crybwyllwyd, yr oedd y ddau frawd, Llewelyn a Dafydd, wedi bod ar delerau tra anfrawdol er dechreuad cynghrair y blaenaf gyda Simon de Montforte. Ond yn eu caledi presenol adgymodwyd hwynt, a gwelsant mai yn llwyddiant y naill yr oedd dyogelwch y llall. Tyngwyd cytundeb rhyngddynt, a Dafydd a ymgiliodd yn ddirgel oddiwrth y Saeson, ac a ddaeth i Gymru. Dechreuwyd gwaith y gwrthryfel yn ddiatreg, trwy i Dafydd ruthro yn sydyn ar gastell Hawarden, a'i gymeryd. Roger de Clifford, ceidwad y castell hwn ar y pryd, oedd y prif farnwr Seisnig yn Nghymru; daliwyd ef yn ei wely, a than archoll tost cludwyd ef yn garcharor i Eryri; daliwyd marchog hefyd o'r enw Paen Gamers, a lladdwyd Ffulk Trygold, a lluaws heblaw ef, yn farchogion a gwŷr cyffredin. Cymerodd yr ymosodiad hwn le ar nos Sul y Blodau. Yna y ddau frawd a unasant eu byddinoedd, ac a warchaeasant ar gestyll Fflint a Rhuddlan; ac yr oedd Cymru benbwygilydd yn dân gwrthryfel. Rhys ab Malgwyn, yn y Deheudir a oresgynnodd gastell Penwedig; a Gruffydd ab Meredydd a gymerth gwmwd Mefenydd. Amryw bendefigion ereill a godasant, ac a ymosodasant ar y Cyffiniau Seisnig, gan eu hanrheithio.

Yr oedd Iorwerth yn cynnal gwyliau'r Pasg, yn nhref Devizes, pan glybu am y digwyddiadau hyn, a chanfu ar unwaith mai rhagdraith i wrthryfel nerthol oeddynt. Danfonodd adgyfnerthion i' w gestyll gwarchaedig, a gwysiodd ei ddeiliaid milwrol i'w gyfarfod ef yn mis Mai, yn nhref Worcester. Cyfododd dreth ar y deyrnas, echwynnodd arian gan y marsiandwyr a'r gwŷr eglwysig, yn ei wlad ei hun a'r Iwerddon. Yr oedd ei ddeiliaid oll yn frwdfrydig tros ei gynorthwyo yn ei amcan o lwyr ddarostwng y Cymry y tro hwn, a diffodd am byth yr ysprydiaeth terfysglyd hwnw at ryddid yn eu mynwesau. Lledaenodd y brwdfrydedd hwn hyd yn nod i blith y Scotiaid, a chynygiasant eu help, heb feddwl fawr fod Iorwerth ar y pryd yn arfaethu eu darostyngiad bwythau, ac y caent bwythau cyn pen ychydig flynyddau wybod a theimlo beth oedd ei egwyddorion rheibus. Anfonodd at y ddau archesgob hefyd, yn peri iddynt ysgymuno Llewelyn a'i ddilynwyr fel bradwyr a therfysgwyr heddwch.

Pa fodd bynag, cyn myned i'r eithafion hyn, John Peckham, archesgob Canterbury, yn ddiarwybod i'r brenin, meddai ef, a ddaeth i Gymru eilwaith ar fedr heddychu y gwrthryfelwyr. Ni chynhyrchodd ei ymweliad ond ychydig, os dim lles. Yn y cyfamser, Iorwerth a gychwynnodd i'w ymdaith, a chyrhaeddodd Worcester yn niwedd Ebrill. Deallodd y cai lawer mwy o waith darostwng ar y gwrthryfel nag a ddychymygasai wrth gychwyn. Oddiyno gwysiodd ei ddeiliaid i'w gyfarfod yn Rhuddlan yn mis Mehefin. Ar ei daith rhwng Worcester a Chaerlleon, pobl y wlad a ymunasant âg ef, y rhai a osododd efe ar waith i agor ffyrdd o'i flaen yn Nghymru. Ar ol tario yn Nghaer am bumthegnos, i adfywio ei wŷr, efe a ymosododd ar gastell Hope. Y gadarnfa hon, meddiant y tywysog Dafydd, a roddwyd i fynu bron ar ei ddyfodiad. Pan ddynesodd efe hefyd at Ruddlan y tywysogion Cymreig a godasant y gwarchae, ac a enciliasant tuag Eryri, gan ddewis yn hytrach orchfygu mân finteioedd y brenin, nag anturio brwydr agored gyda'r fath fyddin fawr anghyfartal. Eithr nid oedd yr enciliad hwn ond ffug i faglu eu gelynion; troisant ar eu herlynwyr, adran gref o'r fyddin Seisnig; ac mewn brwydr a gymerodd le rhyngddynt â hi, daliasant bedwar-ar-ddeg o'i swyddogion: lladdwyd yr arglwydd Audley, ac eraill wŷr o urddas; a chymaint oedd braw y brenin ei hun, o herwydd y gorchfygiad hwn, fel yr ymgiliodd o Ruddlan i gastell Hope er ei ddyogelwch. Ond erbyn canol Gorphenaf yr oedd efe wedi ân- turio i Ruddlan eilwaith; ac yr oedd yn gyneuaf cyn y gallodd ddechreu ar unrhyw symudiad o bwys. O Ruddlan, efe a ddanfonodd wysiadau at siryddion y siroedd cyfagos, yn gorchymyn iddynt ddanfon gwŷr ato i gymynu'r coed, ac arloesi ffordd i'w fyddin ymwthio yn mhellach tua'r Gonwy. Ac er mwyn chwanegu sêl at ei achos, rhannodd y Pedwar Cantref, y rhandir ag oedd eisoes tan ei awdurdod, rhwng arglwyddi Seisnig.

Yr ydym yn awr yn myned i gyfnod newydd yn mywyd ein harwr - cyfnod y cyflafareddiad (arbitration), pryd yr amcanai Iorwerth trwy deg gyflawni yr hyn yr ofnai nas gallai ei gyflawni trwy annheg - cyfnod yr ysgrifennu llythyrau, yn mha un y daw ochr ddisglaer ar gymeriad Llewelyn i'r golwg, a'i allu a'i athrylith yn llewyrchu lawer mwy tanbaid ynddo nag wrth garu y cledd. Nid ydym am ddibrisio egwyddor fawr ogoneddus cyflafireddiad (bydd hi yn ben toc, a brysied y dydd!); ond yn offeryn yn llaw malais, ffiaidd beth ydyw - drewdod yn nwylaw gŵr fel Iorwerth, canys amlwg yw mai llyfu y garreg yr ydoedd am nas gallai yn rhwydd ei chnoi. Yrra yn bygwth ar y naill law, denai ar y llall. Danfonodd archesgob Canterbury i Gymru y drydedd waith gyda'r amcan o ymresymu y gwrthryfel i lawr. Ond cafodd y gŵr urddasol allan fod ei apeliadau yn wannach na milwriaeth ei frenin, nad oedd gan ei resymau nemawr gwell traed i sefyll arnynt na hawliau egwein y teyrn Seisnig i ymryson â'r Cymry, a bod y tywysogion Cymreig yn deall logic cystal ag y deallai yntau, er mor "farbaraidd" yr ystyrid hwynt gan eu gelynion. Y mae'r brwydrau papurol hyn ar gael; a chan y dangosant wir sefyllfa pethau ar y pryd, ni a ddifynwn rai o'r llythyrau dyddorol a phwysig a ysgrifennwyd gan y ddwy ochr.

Ar y cyntaf, yr archesgob a atolygodd ar Llewelyn, Dafydd, a'r Cymry oll, i ymostwng yn ddiamod; a'r tywysog a atebodd ei fod yn barod i ymostwng i'r brenin, ond ar yr amod fod iddo gael cadw ei gydwybod yn ddilwgr, trwy yr hon yr oedd yn rhwym i gynorthwyo ei bobl; a chadw hefyd urddasoldeb ei sefyllfa. Yr Archesgob a ddychwelodd gyda'r ateb hwn at y brenin, ac yntau a atebodd na fynnai ddim amodau gan y Cymru oddieithr ymostyngiad llwyr i'w awdurdod ef. Da y gwyddai'r Archesgob na dderbynnid hyn gan y blaid arall. Yna efe a ymgynghorodd â'r arglwyddi Seisnig, a chytunwyd ar y telerau canlynol, y rhai a ddygodd yr archesgob, gyda chaniatâd llechwraidd y Brenin, at y Tywysog: -

A ganlyn a ddarllenwyd i Llywelyn yn ngwydd ei gyngor.

"Ni dderbyn y brenin ddim amodau o barth y Pedwar Cantref, y rhai a roddes efe i'w bendefigion; nac ychwaith yn nghylch Ynys Môn.

" Am wŷr y cantrefi hyn, os dychwelant i heddwch, efe a ymddwyn tuag atynt fel y gweddo i'w Fawrhydi. Ond credu yr ydym yr ymddwyn efe yn dirion os ymblygant i'w awdurdod; ninau a'n cyfeillion a egniwn ein goreu i ddwyn hyn oddiamgylch, a chredu yr ydym hefyd y byddwn yn llwyddiannus.

" Am Llewelyn ei hun, ni allasem gael un ateb arall na bod iddo ymostwng yn ddiamodiad i ewyllys y brenin; a chredwn y bydd i'r brenin ymddwyn yn dirion tuag ato. Ac i ddwyn hyny i ben, bwriadwn gyda'n cyfeillion eraill, lafurio â'n holl egni; ac hyderwn y cawn ein gwrandaw gyda llwyddiant.

A ganlyn a ddywedwyd wrth y Tywysog yn ddirgel.

" Yn 1af, Fod y pendefigion wedi cytuno ar y dull hwn o'r tiriondeb brenhinol; sef ar ymostyngiad yr arglwydd Llywelyn, y bydd i'w Fawrhydi ddarparu cynhaliaeth anrhydeddus iddi o fil o bunau yn y flwyddyn a rhyw iarllaeth gyfaddas yn Lloegr; ond ar y tir y byddai i Llewelyn roddi i'r brenin feddiant o Eryri yn gyflawn ac am byth. Y brenin a ddarparai hefyd tros ferch y Tywysog yn weddus megis i'w briod waed ei hun. Ac y maent yn gobeithio llwyddo i dueddu meddwl y brenin at hyn.

"Eto, os digwydd i Llewelyn gymeryd gwraig, a chael o honni blant, y pendefigion a fwriadant erfyn ar y brenin fod i'r hiliogaeth hyny ddilyn Llewelyn yn y diriogaeth, sef yr iarllaeth, mewn etifeddiaeth fythol.

" Eto, am y bobl dau briodol lywodraeth y Tywysog, yn Eryri cystal ag yn mhobman arall, darperir yn gyflawn am eu dyogelwch a'u hanrhydedd. Ac at hyn y mae tiriondeb y brenin yn ddigon tueddol, gan ddymuno darpar ar gyfer cysur ei bobl."

A ganlyn a ddarllenwyd wrth Dafydd brawd Llewelyn yn ddirgel.

" Os, er clod i Dduw ac iddo ei hun, y cymer efe y groes ac yr â i'r Tir Sanctaidd, darperir iddo yn anrhydeddus yn ol cyfaddasrwydd ei sefyllfa; ond ar y telerau na ddychwelai oni elwid arno trwy diriondeb y brenin. Ac ni a erfyniwn ar ei Fawrhydi, ac yr ydym yn gobeithio ymwrandawiad llwyddiannus, y bydd i'w Fawrhydi wneud darpariad iddo ef a'i epil.

" At y pethau hyn yr ydym o'n hewyllys da ein hunain y'n ychwanegu fod pob peryglon yn hongian uwch ben eich cenedl, peryglon llawer trymach nag yr ydym ni wedi son am danynt. Yr ydym yn ysgrifennu pethau celyd, ond llawer caletach fyddai rhuthro arnoch trwy nerth arfau, ac yn y diwedd eich hollol ddyddimu; ac y mae'r peryglon hyn yn cynyddu yn barhaus.

"Eto, peth anhawdd iawn ydyw bod bob amser mewn rhyfel; byw mewn blinder corph ac yspryd, a beunydd yn ymddigasu mewn dichellion; ac heblaw hyn, byw a marw mewn pechod marwol diderfyn, a chenfigen.

"Eto, bydd ein galar yn fawr os na ddenwch mewn rhyw fodd i heddwch, canys ofni yr ydym y bydd raid cyhoeddi dedfryd Eglwysig arnoch oherwydd eich troseddau, oddiwrth y rhai nis gellwch ymesgusodi, ac am y rhai y cewch ryddhad od ymostyngwch. Ac am y pethau hyn rhodder i ni ateb ysgrifenedig."

Ateb y Tywysog.

:"At y Parchedicaf Dad, &c., Ioan, Archesgob Caergaint, &c., Llewelyn, tywysog Cymru ac Arglwydd Eryri, yn anfon annerch.

" SANCTAIDD DAD. - Yn unol â'ch cyngor, yr ydym yn barod i ddyfod i heddwch â'r brenin, ond eto mewn dull diberygl a gweddus i ni ein hunain. Ond gan nad ydyw y dull cynwysedig yn y telerau danfonedig atom ddim yn y lleiaf yn weddus nac yn ddiberygl, fel ag yr ymddengys i ni a'n cyngor, ac am ba un y mae pawb a'u clywsant yn rhyfeddu yn fawr, am ei fod yn tueddu yn fwy i'n dinystr, a distryw ein pobl a ninau, nac i'n hanrhydedd a'n 'dyogelwch; ni ad ein cyngor i ni mewn un modd gytuno iddo, pe dymunem; a'r pendefigion eraill hefyd, a'r bobl dan ein llywodraeth, ni chydsyniant iddo, oherwydd y diamheuol ddinystr a dilead a ddigwyddent o hyny.

"Ond eto erfyniwn ar eich Tadoldeb, gan eich bod wedi llafurio cymaint hyd yn hyn tuag at ffurfio heddwch dyledus, gweddus, a dyogel, y bydd i chwi barhau hyny, gan ddwys ystyried y telerau y rhai a ddanfonom atoch yn ysgrifenedig. Oherwydd y mae yn fwy anrhydeddus ac yn fwy cyson â chywirfarn, fod i ni, y rhai sydd genym iawn hawl i'r tiroedd, eu dal hwy dan yr arglwydd Frenin, na'n dietifeddu ni a'u traddodi i ddyeithriaid.

"Rhoddwyd yn Ngarthcelyn."

Atebion y Cymry.

"Yn 1af, Er na fyn y brenin delerau amodiad am y Pedwar Cantref, a'r tiroedd eraill a rannodd efe rhwng ei bendefigion, nac am Ynys Mon; eto ni chaniatâ cyngor y Tywysog iddo ffurfio heddwch oddieithr gydag amodiad am y cyfryw. Oblegyd iawn feddiant y Tywysog ydynt y cantrefi hyn, a berthynent o wir gyfiawnder i'w hynafiaid tywysogaidd ef er amser Camber mab Brutus, heblaw eu bod yn rhan o'r Dywysogaeth gadarnhaol iddo gan y parchus Ottobonus, cenhadwr y Pab yn y wlad hon, trwy gydsyniad yr arglwydd Frenin Iorwerth, a'i dad ef, fel y gwelir oddiwrth eu hysgrifau hwy. Ac hefyd, mwy cyfiawn i'r gwir etifeddion ddal y cantrefi hyny dan yr arglwydd Frenin, am arian a'r arferol warogaethau, na'u rhoddi i ddyeithriaid a dyfodiaid; y rhai pe llywodraethent yn un man a lywodraethent trwy drais a chywilydd.

"Hefyd, deiliaid holl gantrefi Cymru a ddywedant un ac oll na roddant eu hunain ar drugaredd y Brenin yn ol ei ewyllys ef. (1.) Oherwydd na chadwodd yr arglwydd Frenin o'r dechreuad na'r amodau na'r llwon na'r gweithredoedd ysgrifenedig tuag at eu harglwydd y Tywysog, na thuag atynt hwythau. (2.) Oherwydd iddo ymddwyn fel y traws-lywodraethwr creulonaf tuag at yr Eglwys a'r gwŷr Eglwysig.

" Na chymerent hwy delerau y Brenin, am mai gwŷr y Tywysog oeddynt, yr hwn ei hun oedd yn barod i ufuddhau yn ol y defodau arferol.

" Am yr hyn a ddywedir, ' Fod i'r Tywysog ymostwng yn hollol a diamod i ewyllys y Brenin,' atebant, gan na feiddia yr un o'r cantrefi rhagenwedig ymostwng i'w ewyllys, oherwydd yr achosion rhagenwedig, ni chaniatâ eu cariad at y Tywysog iddo yntau ymostwng mewn un modd.

"Eto, mewn perthynas i'r pendefigion yn darparu fod mil o bunau yn cael eu rhoddi i'r Tywysog mewn rhyw fanyn Lloegr; atebant, na ddylai y cyfryw gynhaliaeth gael ei derbyn, oherwydd ei bod yn cael ei darparu gan y pendefigion hyny a ymdrechant ddietifeddu y Tywysog, fel y gallont gael ei diroedd yn Nghymru. Ac nid iawn i'r Tywysog ymadael â'i etifeddiaeth ef a'i hynafiaid yn Nghymru er amser Brutus, ac hefyd yn gadarnedig iddo ef gan genhadwr y Sedd Apostolaidd, fel y mynegwyd eisoes; a derbyn tir yn Lloegr, lle y byddai yn anwybodus o'r iaith, a'r moesau, a'r cyfreithiau, a'r defodau: a lle y dichon i rhyw ddadleuon gyffroi y Saeson yn ei erbyn o hen gasineb, trwy yr hyn y collai efe y tir hwnw tros byth.

"Eto, gan fod y Brenin yn bwriadu ymddifadu y Tywysog o'i gysefin etifeddiaeth, nid ydyw yn debyg y bydd i'r Brenin ganiatáu iddo feddiannu tir yn Lloegr, ar ba le nid ymddengys fod ganddo unrhyw hawl. Ac os na chaniateir i'r Tywysog feddiannu y tir anffrwythlawn a diffaeth, ei eiddo cynhenid trwy iawnder etifeddol yn Nghymru, pa fodd y caniateir iddo feddiannu tir maethedig a ffrwythlawn yn Lloegr?

"Eto, am fod i'r Tywysog roddi i'r arglwydd Frenin feddiant o Eryri yn hollol, yn fythol, ac yn heddychol; atebir gan fod Eryri yn rhan o Dywysogaeth Cymru, yr hon a biau ef a'i flaenafiaid er dyddiau Brutus, fel y dywedwyd eisoes, ni chaniatâ ei gyngor iddo ymadael a'r lle hwnw, a chymeryd lle llai dyledus iddo yn Lloegr.

"Eto, pobl Eryri a ddywedant, er y byddai i'r Tywysog roddi eu rhandiroedd i'r Brenin, eto hwynt-hwy ni phlygent i unrhyw estron, o iaith, a moesau, a chyfreithiau, yr hwn y byddent yn hollol anwybodus; oherwydd dichon y dygid hwynt felly i gaethiwed parhaus, a'u trin gyda chreulonder, megis y triniwyd cantrefi eraill oddiamgylch, gan swyddogion y brenin a'i weision, yn fwy creulon na Saraceniaid, fel ag y gwelir yn yr ysgrifau a ddanfonasant atoch, Sanctaidd Dad. "

Yn ngeiriau y gwladgarol Carnhuanawc, yn ei Hanes y Cymry, o ba lyfr y codasom yr ohebiaeth hon, bron air yn ngair, gan fod y cyfieithiad o honi ganddo mor dda fel nas gellir ei well; yn ngeiriau'r athrylithgar Garnhuauawc,"Clod i'ch coffadwriaeth anrhydeddus, chwi Bobl Eryri. Da y meithriniasoch y wreichionen ddiweddaf o annibyniaeth Cymraeg. Nid ymffrost wag a wnaethpwyd genych, pan lefarasoch y penderfyniad hwn; ond ad-brynasoch eich ymwystliad â gwaed eich calonnau - gwaed goreu Ewropa, yr hwn a ffrydiodd yn helaethlawn rhwng creigiau Eryri, pan, wedi syrthiad eich Tywysog, yr aberthasoch chwithau eich einioes yn yr un achos gogoneddus. Clod i'ch coffadwriaeth; a bydded i'r un yspryd, yr hwn a'ch bywiocaodd chwi, eto weithredu yn ein cenedl pa bryd bynag y goddefont ormes. Collasoch eich bywyd, mae'n wir; ond enillasoch i'ch plant barch a breintiau, y rhai ni fuasent byth yn eu mwnau ar law y gorthrymydd, oni buasai eich ymarweddiad dihafarch."

Ateb Dafydd ab Gruffydd.

"Pan elo efe i'r Tir Sanctaidd, efe a â o'i fodd ac o'i galon i Dduw ac nid i ddynion; a thrwy ganiatâd Duw nid â yno yn anfoddlawn, canys gwyrfod gwasanaeth trwy drais yn anfoddlawn gan Dduw. Ac os digwydd iddo ar ôl hyn fyned i'r Tir Sanctaidd o'i wir ewyllys ei hun, ni ddylai ef a'i etifeddion o achos hyny gael eu dietifeddu, ond yn hytrach enill gwobrwy. Heblaw hyn, nid yw y Tywysog a'i bobl yn cynnal rhyfel yn erbyn neb o achos dygasedd, neu elw, trwy ymosod ar diroedd eraill; ond er amddiffyn eu hetifeddiaeth a'u breintiau, a'u rhyddid eu hunain; a'r arglwydd Frenin a'i bobl a gynhaliant ryfel er mwyn hen ddygasedd ac yspeilio ein tiroedd ni. Yr ydym yn credu ein bod yn cynnal rhyfel gyfiawn; a gobeithiwn yn hyn y bydd i Dduw ein cynorthwyo, a thrwy Ei ddwyfol ddialedd yn erbyn difrodwyr yr eglwysi, y rhai yn llwyr a ddinystriasant, ac a losgasant, ac a yspeiliasant o'u dodrefn sanctaidd; a laddasant yr offeiriaid, y crefyddwyr llenyddol, y cloffion, y byddariaid, y mudion, y plant yn sugno bronau, y methedig, a'r cystuddiedig, heb arbed na gwryw na benyw; felly bydded yn mhell oddiwrth eich Sanctaidd Dadoldeb daranu unrhyw ddedfryd yn erbyn neb oddieithr y sawl a gyflawnasant y cyfryw bethau. Canys nyni, y rhai a ddyoddefasom y cyfryw bethau gan swyddogion y brenin, ydym yn gobeithio derbyn eich tadol gysur o'u herwydd, a cheryddu o honnoch y cyfryw gysegr-yspeilwyr a'u cefnogwyr, y rhai nid ellir amddiffyn eu gweithredoedd hyn mewn un modd, rhag, o achos eisiau adferyd dyledus gerydd arnynt hwy y bydd i'r drygau rhag-enwedig gael eu gwneud yn gynllun gan eraill.

" Hefyd, y mae llawer yn ein gwlad yn rhyfeddu eich bod yn ein cynghori i adael ein gwlad ein hunain, a thrigo yn mhlith gelynion, canys os nad allwn gael heddwch yn ein cyfiawn wlad gynhenid, pa fodd y cawn heddwch mewn gwlad ddieithr yn mhlith estroniaid? Ac er mai caled yw bywyd rhyfel a chynllwynion, eto caletach fyddai cael ein llwyr ddyfetha. Duw a luddias i bobl Gristionogol gael eu diddymu am amddiffyn eu gwlad a'u breintiau. Felly gorfodir ni i hyn gan angenrheidrwydd a chan drachwant ein gelynion; a chwychwi, Sanctaidd Dad, a ddywedasoch yn ein gwydd eich bod am gyhoeddi dedfryd y rhai, er mwyn dygasedd neu elw, a gythryblant yr heddwch; ac y mae yn amlwg i bawb pwy ydynt y cyfryw.

"Gan hyny, cymhellir ni i ryfel gan ofn angau a charchariad, neu ddietifeddiant parhaus, gan ddirmygiad amodau, creulawn lywodraethiad, a llawer o bethau cyffelyb. A hyn a ddangoswn i chwi, a deisyfwn genych dadol gynhorthwy.

"Yn mhellach, sylwn fod llawer eraill yn nheyrnas Lloegr wedi digio y brenin, ond eto ni ddietifeddodd efe neb o honynt am byth, fel y dywedir. Ac os darfu i neb ohonom ninau ei ddigio ef yn anghyfiawn, dylem wneuthur boddlonrwydd iddo hyd y gallom, eithr ni ddylai ef ein dietifeddu. A chan ein bod yn ymddiried ynoch, erfyniwn arnoch ymdrechu tuag at ddwyn hyn oddi amgylch, Sanctaidd Dad. Haerir yn ein herbyn ein bod wedi tori yr heddwch, eithr hwynt-hwy yn hytrach a'i torasant a phob amod a chytundeb gydag ef."

Y mae yn anhawdd dirnad am ddim mwy rhesymol, teimladol, ac yn cynnwys mwy o wladgarwch pur a diragrith, na'r llythyrau hyn; eithr atebwyd hwynt gan Archesgob Canterbury, mewn llythyr maith, yn cynnwys y syniadau mwyaf bustlaidd, cyfrwysgall, a gwawdus. "Diystyrasom," meddai'r prelad maleisus dduwiol, "anhawsderau a pheryglon y daith, a daethom atoch i ddychwelyd defaid crwydredig:, ac i fynegu i chwi a'n lleferydd ein hunain eich peryglon a'r modd i'w hysgoi." Yna gan gymeryd enw y Goruchaf yn ofer, a'i alw yn dyst o ddidwylledd y gennad, â yr Archesgob yn mlaen mewn dull trahauslyd, mwy gweddus i swyddog Iorwerth I nag i ŵr Duw. Yn y rhan olaf hon o'r ohebiaeth y mae'n amlwg fyd y prelad wedi colli ei natur dda, ac arwydda ei dymer ddrwg fod ei resymau wedi gwisgo allan. Haera mai enciliad oeddynt y Cymry o Troi, ac fod rhan o'r genedl Seisnig yn Mhrydain cyn dyfodiad y Cymry, sef y Cewri y sonia traddodiad am danynt. Edliwiai iddynt wendid y Brutaniaid yn gorfod gwahodd y Saeson trosodd i'w hamddiffyn rhag rhuthriadau y Pictiaid a'r Scotiaid. Galwai hwynt yn llofruddion ac yspeilwyr; a dywedai i Hywel Dda ffurfio ei gyfreithiau trwy awdurdod y diafol. Danodai nad oeddynt yn amddiffyn yr Eglwys yn erbyn Paganiaid trwy filwriaeth [ergyd i Dafydd ab Gruffydd oedd hon yna]; nac ond ychydig o honynt yn ei haddurno trwy lenyddiaeth; ond yn treulio eu hamser mewn segurdod "fel braidd y gwŷr y byd eich bod yn bobl oddieithr trwy yr ychydig ohonoch a welir yn cardota. "

Bellach, rhoddwyd yr ysgrifbin i dwyllo o'r neilldu, a chymerwyd y bidog yn ei le i drechu. Ac er holl aflwyddiant yr ymdrafodaeth flaenorol, llwyddodd i ddynoethi bwriadau yr Archesgob, ac i brofi mai blaidd mewn croen dafad oedd efe, ac nad oedd ei holl broffesiadau o gyfeillgarwch yn nechreu yr ohebiaeth ond twyll a rhagrith. Efe a seliodd y rhagrith hwn yn mhellach trwy felldithio Llewelyn, a thywallt ar ei ben phiolau barnedigaethol Eglwys Rhufain. Ac ni buasai'r prelad ychwaith mor barod i warthruddo a drwg-liwio ein cenedl, oni buasai fod ei gelynion yn nerthol a lluosog. Gwyddai ef yn dda pa blaid oedd y gryfaf, a pharai hyn iddo siarad yn haerllug a hyf. Tra yr oedd Lloegr a'i chynghreiriaid Gwyddelig a Ffrengig yn unol, a'r Cymry, o'r ochr arall, yn ymranedig, nid oedd angeu dewin i hysbysu pwy fyddai drechaf.

Yn y cyfamser, nid oedai Iorwerth ei ddarpariadau; a chyn bod yr ohebiaeth drosodd, yr oedd wedi gwersyllu ei fyddin ar fin y Gonwy, wrth wadnau Eryri. Yna efe a ddanfonodd lynges o forwyr a gŵyr traed i ymosod ar Ynys Mon. Gwaith rhwydd a gafodd y rhai hyn, canys y rhan luosocaf o arglwyddi yr Ynys oeddynt tan lŵ o ffyddlondeb i'r brenin er yr heddwch diweddaf; ac felly ychydig o'r ffyddloniaid a ymgynullasant i wrthsefyll y glaniad, a'r rhai hyny oll bron a ddinystrwyd. Ar ol cael safle yn Mon, ac y mae yn rhaid cyfaddef mai safle bwysig ydoedd, bwriad nesaf y gelyn oedd croesi'r Fenai, a chael cefn y Cymry i ymosod arnynt yn Arfon. Gwnaethant bont o fadau wrth Moel y Dôn, yr hon oedd yn ddigon llydan i dri ugain o wyr gerdded ochr yn ochr ar hyd-ddi. Ond yr oedd llygaid y Cymry ar eu hysgogiadau, a dirgel ddarparent ar gyfer eu croesawu trwy godi gwrthgloddiau yn y coedwigoedd gerllaw. Cyn cwblhau'r bont, Syr William Latimer, gyda lluaws mawr o wyr goreu'r fyddin, ac arglwyddi Gascony a'r milwyr Yspaenaidd, yn gweled dim gelynion yn Arfon, nac yn wir yn malio dim am danynt wedi ymwroli yn fawr oherwydd eu llwwddiant yn Mon, a ddaethant trosodd a buont am amser yn ymddifyrru ac yn gwybeta ar hyd y traeth. Risiart ab Walwyn oedd cadlywydd y Cymry, ac efe ni chythryblodd ar yr ymosodwyr, gan y gwyddai y deuai'r llanw i mewn yn fuan, ac y torrid eu llwybr encil. A phan ddaeth yr amser cyfaddas, y Cymry a ruthasant o'u cuddfannau arnynt. Yna y bu mwstwr a ffrwgwd. Gwaed rhai o honynt a liwiai y traeth, eraill wrth ymgyrhaedd at y bont a gyfarfuant a dyfrllyd fedd; gwaedd angheuol rhai a rybediai yn y clogwyni gwatwarus (yr oedd ceryg ateb Arfon yn wladgarol y pryd hwn), gwaedd eraill foddid yn y weilgi safnrwth; os troent at y dwfr angau oedd yn ei si, os edrychent i'r tir cleddyfau sychedig am waed eu calonnau oedd yno; ac wrth garnau'r cleddyfau hyny ddynion wedi cael cam, wedi eu mathru gan orthrwm i ddyfnderau isaf dialedd, a thrais wedi alltudio o'u mynwesau bob tosturi a chyd- ymdeimlad. Syrthiodd o Saeson y dydd hwnw bumtheg barwn, deuddeg ar hugain o ysweiniaid, a mil o wyr cyffredin; ac yn mhlith y lladdedigion yr oedd Syr Lucas de Thany, Syr Wm. Dodingles, a Syr Wm. de la Zouch. Syr Wm. Latimer, eu cadben, yn unig allodd ddianc, a thrwy gryfder ei farch y diangodd ef. I'r amgylchiad uchod canodd rhy w fardd, o'r enw Cadwgan Ffol, yr englyn bras ond ergydiol a ganlyn; -

Llawer bran sy'n eisiau i'r brenin, - heddyw
Hawdd gallwn chwerthin,
Llawer Sais leubais libin
A'r gro yn do ar ei ***

Rhwygid awyr Eryri gan oroian oherwydd y fuddugoliaeth hon. Dychwelodd colomen gobaith eilwaith i blith y Cymry, a gwelent nad oedd byddin fostfawr Iorwerth yn anorchfygadwy. Aethant drachefn i oruwch-ystafelloedd eu cof i 'nol daroganau Myrddin, ac o honynt sugnent y grediniaeth y byddai Llewelyn yn ben teyrn yr Ynys hon; a thra y tybient hwy fod gwawl euraidd yn ymdroi arnynt nid oedd y cwbl ddim ond fflachiad mellten cyn ymdoriad y dymestl. Pa fodd bynag, dychrynwyd y brenin Iorwerth yn aruthr, a chiliodd o Gonwy i Ruddlan, gan na feiddiasai ymlid ei elynion yn mhellach i'r mynyddoedd, ac nad oedd yn ddyogel iddo aros yn hwy wrth eu godreu.

Cyrhaeddodd y newydd am y fuddugoliaeth hon i'r Deheudir, a chalonogodd bleidwyr y tywysog yn fawr. Rhys ab Maelwyn a Gruffydd ab Meredydd, penaethiaid y blaid hon, a enillasant amrai gantrefi oddiar y Saeson yn Ngeredigion a sir Gaerfyrddin; a'r brenin a ddanfones Iarll Gloucester a Syr Edmwnd Mortimer yno i ddarostwng y gwrthryfelwyr. Cymerodd brwydr le ger Llandilo Fawr, yn mha un y gorchfygwyd y Cymry gyda cholled fawr; a'r Saeson a gollasant heblaw lluaws o wyr cyffredin, bum' marchog, un o ba rai oedd William de Valence, cefnder y brenin.

Llewelyn, yn gweled fod Eryri yn ddyogel oherwydd ymgiliad y brenin, a ymddiriedodd wyliadwriaeth y rhan hono i'w frawd Dafydd, ac a orymdeithiodd gyda chwe' mil o wyr tua'r Deheudir, er mwyn calonogi ei gyfeillion yno, a dial ar ei elynion; yn eu plith Rhys ab Meredydd yr hwn a fradychasai ei egwyddorion, ac a droesai at y Saeson. Diffeithiodd Geredigion, cyfoeth y Rhys hwn; ac oddiyno cyfeiriodd ei gamrau tua chantref Buallt, lle yr oedd wedi addaw cyfarfod gŵyr o'r wlad hono er mwyn cynghreirio â hwynt. Daeth ei symudiadau i'r Deheudir i glustiau y brenin, ac efe a ddanfonodd orchymyn at Oliver de Dyneham, un o'i swyddogion yn swydd Maesyfed, iddo groesi yr Hafren i sir Gaerfyrddin, a gwylio pob cyfleusdra i orthrechu'r tywysog.

Llewelyn, er mwyn cyflawni ei addewid o gyfarfod gŵyr Buallt, a adawodd gorph ei fyddin ar fryn cyfagos i bentref Mochryd, tua thair milldir oddiwrth yr afon Wy, y rhai oeddynt i wylio a gwrthsefyll ymosodiad Dyneham; a chan nad oedd yn ofni perygl o'r un cyfeiriad arall, ni chymerth ond ychydig o wyr gydag ef. Gyda'i fintai fechan aeth gan belled ag Aberedwy, a rhoddes y gwŷr i wylio Pont Orewyn, yr unig bont dros yr afon Wy yn yr ardal hono, fel na ddeuai perygl oddiyno ychwaith. Dywed un hanes fod gan y Tywysog balas yn Aberedwy, ac mai yn y palas yr oedd y cyfarfod i gymeryd lle, ond nid ydyw hyny yn rhesymol, gan fod Buallt ers amser maith cyn hyn bron yn gyfangwbl tan lywodraeth y Saeson; dywed eraill, yr hyn yn ôl pob argoelion sydd gywir, eu bod i gyfarfod mewn llwyn o goed ychydig oddiar nant yr afon Wy, a rhwng y ddwy adran o'r fyddin Gymreig. Ond y mae pob rheswm i gasglu fod y cynllun wedi ei ddatguddio gan yr arglwyddi hynny oeddynt i gyfarfod Llewelyn. Yn mhen ychydig fynydau wedi iddo adael Pont Orewyn, ymosodwyd ar ei gwarchlu gan John Gifford a Syr Edmwnd Mortimer, gyda byddin gref, rhan fawr o ba un oeddynt ŵyr Buallt. O'r llwyn coed hwnnw clybu yswain y Tywysog sŵn ymladd tua'r bont, a dywedodd wrth ei arglwydd fod y Saeson yn ymosod ar y gwarchlu. "A ydynt yn dal eu tir," ebai ef. "Ydynt." Yna ni syflaf oddiyma pe byddai holl Loegr yr ochr draw;" a diamheu ei fod yn gywir ei farn am ei ddyogelwch oni buasai fod bradwr yn mysg y gelynion. Y fintai a amddiffynnodd y bont gyda dewrder dihafal; a'r Saeson yn gweled nad allasent ei chymeryd, un o'r enw Helias Walwyn, brodor o'r ardal, a ddangosodd iddynt ryd ar yr afon ychydig islaw y bont, yr hwn, er ei fod yn beryglus, a groesasant. Yr oedd yn anmhosibl i'r fintai fechan ddal ymosodiad yn ôl a blaen; o ganlyniad, gadawsant y lle a ffoisant.

Bellach nid oedd dim rhwng Llywelyn a'i elynion, ac yr oeddynt yn eithaf hysbys, trwy yr arglwyddi bradychus, pa le y deuent o hyd iddo. Amgylchynasant y llwyn coed, a thra yr amcanai Llewelyn encilio at gorph ei fyddin i Mochryd, daeth swyddog Seisnig, o'r enw Adam de Ffrancon, yn mlaen ac a'i trywanodd ef â gwaywffon, heb feddwl unwaith nad un o osgorddlu y Tywysog ydoedd. Eithr Ffrancon wedi chwilio y llwyn, a chael nad oedd neb ynddo, a ddychwelodd at yr archolledig ac a'i cafodd yn prysur farw, a neb gydag ef ond ei gyfaill yr yswain. Yn mhen ychydig fynydau, bu farw. Dechreuwyd archwilio ei gorph, a chafwyd amryw lythyrau pwysig yn ei feddiant a'i sêl dywysogaidd. Yna Ffrancon a dorrodd ben y Tywysog, ac a'i danfonodd i'r brenin yn Rhuddlan, yr hwn dderbyniodd yr anrheg waedlyd gyda llawenydd mawr, ac a'i danfonodd i Lundain i'w arddangos yn gyhoeddus, lle y coronwyd ef a choron o fedw er dirmyg ar y darogan y byddai i Llewelyn wisgo coron yn ninas Llundain. Am y corph, oherwydd fod y Tywysog wedi marw tan ysgymundod, gellir tybied bron i sicrwydd ei fod wedi ei gladdu, mewn croesffordd ar lain o dir a elwir Cefn y Bedd, tua thair milldir o Buallt. Yn ôl yr hen ddefodau Cymreig mewn croesffyrdd y cleddid drwgweithredwyr, ac yr oedd pawb a fyddent farw tan felldith yr Eglwys Babaidd yn dyfod tan y cyfenw hwn.

Y fyddin Seisnig wedi lladd a gwasgaru y ddeadell fechan a warchaeai'r bont a ruthrasant tua chorph y fyddin Gymreig ar y bryn gerllaw Mochryd. Ymddygoddy Cymry yn ddewr a chanmoladwy iawn er nad oedd eu Tywysog yno i'w llywyddu. Parhaodd y frwydr yn amheus am dair awr, wthiau’r Saeson yn ennill, weithiau'r Cymry. Eithr pan glybu'r olaf am dynged eu llywydd. Ymollwngasant a ffoisant yn anhrefnus, gan adael dwy fil, tua thrydedd ran eu nifer, yn feirwon ar y maes. Cymerodd y gad hon le ar y 10fed o Ragfyr.

Gadawodd Llewelyn ar ei ôl un ferch, a honno ond plentyn dwyflwydd oed, a'r brenin a'i dodes hi mewn mynachlog lle y cymerodd hi urddau fel mynaches. Yr oedd iddo hefyd un mab ordderch o'r enw Madawc; sonnir am dano yn Cymru Fu, tu dal. 132. Disgynai'r Dywysogaeth i Dafydd brawd Llewelyn, ond er iddo ef gymeryd yr awenau i'w law am ysbaid byr, yr oedd yspryd y genedl wedi diffygio ac yntau a ddaliwyd mewn coedwig yn y cyflwr truenusaf, danfonwyd ef gyda'i wraig a'i ddau fab a'i saith merch yn garcharorion i Ruddlan, ac oddiyno i'r Amwythig, Lle y dienyddiwyd ef yn y dull creulonaf, (gwêl Cymru Fu, tu dal. 251).

Y ddau berson mwyaf blaenllaw yn yr hanes brysiog a ysgrifenasom ydynt Iorwerth I a Llewelyn ab Gruffydd, ac y mae arnom awydd dweyd gair byr am gymeriad y ddau cyn terfynu. Na chyhudder ni o ragfarn gwladgarol na dallbleidiaeth mympwyol pan ddywedom mai dyn ffals, creulawn, bostiog, a rhyfelgar, oedd Iorwerth, o'r stamp Fonipartaidd waethaf. Sylwer arno yn gwahodd Llewelyn i'r "wledd" yn Worcester, ac ar ei ymddygiad llechwraidd yn anfon y gor-dduwiol Archesgob Canterbury i ragrithio cyfeillgarwch tuag at y Cymry, er mwyn iddo ef gael hamddem i ddarpar ar gyfer eu gorthrechiad; ac yn eu twyllo yn y diwedd gyda thywysog o'i lwynau ei hun, ac os na weli ffalsder yn hyn, yr wyt yn ddall. Creulawn! buasai Nero ei hun yn gwrido wrth arddel gweithredoedd cyffelyb i anfoniad y "pen gwaedlyd" i foddio cywreinrwydd y Llundeiniaid gwawdus, a'i waed yn rhedeg yn oer wrth orchymyn llofruddiad barbaraidd Dafydd ab Gruffydd. Edrycher eto arno yn dwyn Llewelyn yn ei orymdaith fuddugoliaethus o Cymru, yn rhoddi ystâd tad Eleanor de Montforte iddi ar ddydd ei phriodas, ac yn galw Cymru yn eiddo iddo ei hun, tra nad oedd ganddo y rhithyn lleiaf o hawl ar y wlad hono ond trwy drech a thrais a rhaib anniwall, a dyna o'ch blaen fost wedi ymgnawdoli. Yr oedd fel Gwyddel am ryfel, os na cha'i un gyfiawn efe a godai un anghyfiawn — rhyfelasai gyda'i dad a'i fam, ei wraig a'i nain, a phawb a phobpeth, cyn y buasai byw'n heddychol. Gallasai Lloegr a Scotland, Ffrainc a Phalestina, gyddystio â Chymru mai dyn gwaedlyd ydoedd. Dyn nad oedd byth mewn heddwch ag ef ei hun, ond pan mewn rhyfel ag eraill, os na wylodd ar lan y mor Indiaidd, os na threiddiodd gymyl bol-dduon bwlch St. Bernard, ac os na sathrodd ar adfeilion y Colisseum, dim diolch iddo— byr oedd ei allu ac nid ei ewyllys. Ni fwriadodd ddaioni erioed; gwnaeth ddaioni efallai, ond yn hollol anfwriadol. Dywed llawer, a'r Saeson yn enwedig, mai daioni oedd uno Cymru a Lloegr, os felly, ac i Iorwerth fod yn foddion i ddwyn hyny oddiamgylch, mewn camgymeriad y gwnaed y daioni, ac uchelgeisiaeth, rhaib, at ragor o awdurdod, a chasineb greddfol at y Cymry, oeddynt ei amcanion mawr, yn ngheseiliau pa rai y cafwyd y daioni, os cafwyd ef hefyd. Ei uchelgais a'i gwnai yn rhyfelgar, a'i ryfelgarwch a'i gwnai yn greulawn, neu yn ffals, fel y byddai amgylchiadau yn galw. Boddio ei nwyd o uchelgais oedd prif bleser ei fywyd; a than effaith y boddineb hwnw troid gwaedd câd yn beroriaeth yn ei glustiau, a thrueni rhyfel yn olygfa baradwysaidd i'w lygaid.

Nid oedd Llewelyn ychwaith yn ddifai. Cyfiawn gyhuddir ef o greulonder dialw-amdano tuag at ei frawd Owen, yr hwn a garcharodd efe am yspaid hirfaith yn nghastell Padarn. Mewn gallu milwrol nid oedd i' w gydmaru am fynyd gyda'i wrthymgeisydd Iorwerth. Fel cadlywydd yr oeddyn ddiffygiol mewn rhagolwg, er engraifft, ei esgeulusdra yn darpar ar gyfer ei gydwladwyr newynog yn Eryri, pan warcheid hwynt gan y Saeson yn y flwyddyn 1277; a'i hyder anoeth yn ymddiried ei hunan yn nwylaw ei fradwyr yn nhir Buallt — ychydig o wyliadwriaeth a'i lluddiasai i ymadael ag Eryri yn y cyfwng peryglus hwnw. Llinell euraidd ei gymeriad ef oedd ei ffyddlondeb i'w egwyddorion, a'r penaf o'i egwyddorion oedd ei gariad disigl at ei wlad a'i genedl. Ni cheir ond un bwlch yn y linell hon, a hyny pan ddiraddiodd ei hunan yn Worcester er mwyn Eleanor de Montforte. Ei wladgarwch oedd arweinydd ei holl symudiadau; yr oedd ei holl egwyddorion yn eraill yn is-wasanaethgar i hwn, a than ei llywodraeth y cyflawnodd efe lawer o amryfuseddau a beiau ei fywyd. Heddwch ei wlad a barodd iddo garcharu ei frawd Owen, llwyddiant ei hachos oedd ganddo mewn golwg wrth ymgyngreirio gyda Simon de Montforte; ac ar neges tros ei gydwladwyr yr ydoedd yn Muallt pan blanwyd y waywffon farwol yn ei fynwes. Bwriadai ddaioni, ac os methodd ei gyflawni bob amser, nid oedd ganddo ef mo'r help am hyny. Dyna Llewelyn, yr olaf a'r goraf ar lawer o ystynaethau o'r tywysogion fuont yn llawio hen deyrnwialen Frutanaidd y Dywysogaeth am saith can' mlynedd, canys yn ei angau ef ysgubwyd olion olaf ei hannibyniaeth, dilewyd ei chyfreithiau, ac unwyd hi a theyrnas gyfoethog a galluog Prydain Fawr. Pe rhyfelasai Llewelyn ar feusydd Marathon, neu yn Nghulfor Thermopylce. diau y canmolasid ei ymdrech am gyfiawnder i'w gydwladwyr a'i wrhydri ar ddalenau'r classics. Ond dyben Iorwerth oedd dileu pob adgof a chofnod am dano. Pa fodd bynag, dagrau ei gyd- wladwyr a wlychasant ei fedd, beirdd ei wlad a ganasant ei glodydd, a galerid ei dynged gan bawb a edmygent ddewrder, ffyddlondeb, a chalon gywir a gwladgaroi.

TRADDODIADAU YN EI GYLCH.

Dywed Traddodiad ddarfod i Llewelyn, tra yn gorwedd yn ei waed, ddanfon ei yswain i grefydd-dŷ gerllaw, i ymofyn mynach; ac idd ar gyffes o'i bechodau dderbyn y Sacrament o law y gŵr crefyddol, trwy yr hyn y rhyddheid ef oddiwrth ysgymundod a melldith Eglwys Rhufain. Defnyddiwyd y traddodiad, gan gyfeillion y diweddar Dywysog, fel rheswm tros gael caniatad i gladdu y marw mewn tir cysegredig. Matilda Longspee, larlles Salisbury ac wyres Llewelyn ab Iorwerth, a Mortimer ei hun, a ddeisyfasant yn daer am hyn o hynawsedd tuag at yr hyn oedd farwol o'u cyfathrachwr, eithr gwrthodwyd hyd yn nod y ffafr fechan hon.

Y mae Traddodiad arall, ddarfodiLlewelyn gael rhybydd o ddyfodiad y Saeson, ac iddo amcanu ffoi rhagddynt, achan fod eira ar y ddaear ar y pryd, iddo droi i efail gôf o'r enw Madawc Goch Min Mawr, a hwnw a droes bedolau eifarch er mwyn twyllo ei ymlidwyr. A phan ddaeth yr ymlidwyr hyd at efail y gôf hwnw, Madawc a fradwrus ddatguddiodd iddynt gyfrinach y pedolau, trwy yr hyn y daliwyd ac y llofruddiwyd y Tywysog.

Arferai hen bobl Buallt adrodd y traddodiad canlynol gyda llawn sicrwydd yn ei gywirdeb. Ddarfod i Llewelyn pan yn ymguddio yn y llwyn coed hwnw geisio ymlechu mewn twmpath o fanadl, a chan i'r banadl fethu ei guddio rhag ei elynion, iddo regi y cyfryw goed fel na thyfodd banadlen byth drachefn yn mhlwyf Llanganten. Wrth bobl y plwyf hwnw, ni raid hysbysu fod y felldith, os bu erioed mewn grym, wedi ei llwyr ddileu er's llawer blwyddyn.

ARWYDDION ANGAU.

(OFERGOELION.)

BEIIR ni, mae'n ddiamheu, gan ddynion bychain crebachlyd eu meddyliau, am roddi ar gof a chadw rhyw Ofergoelion fel y rhai hyn ; pan yn anwybodus buasem ninau yn cydweled â hwynt. O'r ochr arall, pe gadawsem y gorgredoau allan, nid ystyriasai y gwybodus a'r deallgar ein Cymru Fu yn gyflawn hebddynt; gan mai y dull goreu i adnabod ansawdd wareiddiol a chymeriad deallol pob oes a chenedl ydyw gwybod pa bethau a gredid ganddynt. Hyd derfyn y ganrif ddiweddaf, credai tua naw o bob deg o'n cenedl mewn ofergoelion a rhagarwyddion mor gadarn ag y credent yr Efengyl ei hun; ac ystyrient y sawl a amheuai ddilysrwydd y cyfryw bethau yn ddim gwell nag Atheist. Yn wir, ychydig o flynyddau yn ôl, gan ddosparth lluosog o'n cydwladwyr, ystyrid pob dyn ychydig callach na'r cyffredin fel mewn cyfathrach â'r diafol, ac yn ddyledus i'w fawrhydi Satanaidd am eu rhagoriaeth mewn dysg a gwybodau. Felly yr ystyrid y Dr. John Dafydd Rhys Dr. John Cent, yr Archddiacon Prys, Huw Llwyd o Gynfal, ac yn bendifaddau y Dr. W. Owen Puw; ac ni bu erioed hen fechgyn glanach eu moes, a phurach eu dybenion, tra y chwarddent yn braf am ben mympwyon gwrachod a chorachod safnrhwth eu hoes. Ond clywsom ddynion gwybodus, dynion diarhebol am eu geirwiredd a'u duwioldeb, yn dweyd yn y dull mwyaf pendant eu bod wedi gweled gweledigaethau, a chlywed clywedigaethau, nad oedd modd eu priodoli i ddim cyffredin a naturiol. Wrth wrando ar y gwŷr geirwir hyn yn dweyd eu profiadau gyda'r rhan ysprydol o'r greadigaeth, ymgodai yn ein meddwl bob amser y cwestiwn. Tybed fod rhy w wyddon gywrain mewn ysprydiaeth nad ydym ni eto yn ei deall? Tybed fod cymundeb cymdeithasol rhwng yspryd ag yspryd dignawd, nad ydy w'r ysprydion mewn cnawd wedi ei chwilio allan? Beth am y cydgyfarfyddiad rhyfedd a gymerant le rhwng meddyliau a meddyliau pan byddo'r corph yn absennol? Beth am freuddwydion?

Gyda hyn o ragymadrodd, ni a awn yn mlaen i gofnodi yr Arwyddion Angau a gredid gan ein cyndadau, heb roddi ein gair tros ddilysrwydd y naill na'r llall o honynt: -

1. Canwyllau Cyrph. Math o oleuni nwyol yn tarddu oddiar leithder a llygredd oedd y "canhwyllau" hyn; fel yr Ellylldan (Jack-a'- Lantern) yn codi oddiar gors afiach. Y mae yn ddirgelwch pa fodd y priodolwyd erioed grwydradau direol y goleuni hwn i ragflaeniad marwolaeth, ac y galwyd hwynt yn" Ganiwyllau Cyrph. " Ond dyna'r ffaith. Pobl Dyfed pan ganfyddent y llewyrch (annaturiol, yn eu tyb hwy), yn ymlithro ar hyd rhyw ffordd neu lwybr, a benderfynent yn y fan y byddai corph un o'u cymydogion yn myned ar hyd yr unrhyw ffordd neu lwybr yn bur fuan. Clywsom y chwedlau anhygoelaf a ddisgynasant ar ein clustiau erioed am y Lampau Lledrithiog hyn. Dywedid y byddent yn amrywio yn eu maintioli yn ôl oed a maintioli yr hwn y rhybuddient ei farwolaeth. Fel hyn: - yr oedd "cannwyll" baban yn debycach i fagïen nag i gannwyll; tra y byddai "cannwyll" gŵr yn mlodeu ei ddyddiau yn cynud yn fawr fel fflam o goelcerth anferth. "Canwyll" wen a âi o flaen menyw, ac un goch a ragflaenai wryw. Dy wedid na byddent yn cerdded ar nosweithiau gwlybion; ond ar dywydd sych a thesog, gwelid hwynt mor aml â gwybed min nos yn Ngorphenaf. Canfyddid hwynt ar brydiau yn y fynwent yn tan heidio uwch ben y bedd a agorid ar fyrder. Y cyfryw oeddynt y rhamantau dieithr a goelid yn Nyfed, ac mewn mannau eraill o ran hynny, hyd ddechreu y ganrif hon, ac nid oedd y cwbl ond natur yn llosgi ei phydredd ei hun - trydan yn d'od i gyffyrddiad a'r nwy anmhur yn y gors a'r fynwent, a hwnnw we'di tanio yn aros yn llonydd neu yn cerdded o gwmpas wrth drugaredd y gwynt. Y mae'r "canhwyllau" hyn i'w gweled hyd y dydd hwn yn Môn, Dyfed, Dyffryn Clwyd, ac isel- diroedd Maldwyn; ond o drugaredd, ni frawychir y trigolion ddim mwy wrth edrych arnynt nag wrth edrych ar lewyrn (meteor), "syrthiad seren," yn nhŷ byr hen bobl.

2. Yr oedd sŵn, tebyg i sŵn cloch yn y glust yn arwydd sicr o farwolaeth; a digwyddai'r alaeth bob amser yn y cyfeiriad y digwyddai'r glust fod ar y pryd. Yn yr amser gynt hefyd, byddai cloch y llan yn dra gwasanaethgar fel rhybuddiwr, dywedai fod amser ymddatodiad rhai o'r plwyfolion parchus a chyfrifol gerllaw trwy roddi tri thinc o honni ei hun, a hynny yn nghefn trymaf y nos. Hynodid cloch Blaenporth, yn Ngheredigion, yn arbenigol yn hyn o beth. (Brython, cyf.v. tudal. 225). Rhyw ddiaspad prudd, prudd, prudd, oedd y tri chlul hynny, digon a pheri i ffŵl haf dori ei galon a marw o'r melancoli.

3. Cwn Annwn, neu Gwn Bendith y Mamau. Barna y Parch. O. Jones, Manchester, mai llygriad o gwn lledrithiog Pwyll Pendaran Dyfed, y sonnir am danynt yn y Mabinogion Cymreig, ydynt y Cwn Annwn. Ychydig a wyddis am danynt yn y cymeriad o Rybuddion. Dywed y Parch. Edmwnt Jones o'r Transh, (dyna'r dyn mwyaf ysprydol y cawsom ni erioed y fraint o ddarllen ei waith; y mae Swedenborg yn anhraethol islaw iddo) am y Cwn hyn, mai" Po agosaf i ddyn y byddont, lleiaf a fydd eu sŵn; a pho bellaf, uwchaf a fydd, gan ymchwyddo weithiau fel udfa bytheuad, neu waedgi mawr." Llafar Gwlad, a dyma'r safon ar hynciau o'r natur yma, a ddywed fod eu hudiadau yn annhraethadwy grasach a chrasach nag oernadau bleiddiaid rheibus. Bydd Vox populi yn son am danynt, wrth y tân mawn ar hirnos gauaf, fel haid o gwn duon bychain tan lywyddiaeth rhyw lymangi mawr cymaint ag eidion pum' mlwydd. Udent fynychaf mewn croesffyrdd a'r mannau mwyaf cyhoeddus. Yr oedd yn beryglus erchyll sefyll ar eu llwybr, gan y brathent yn gynddeiriog, ac yr oedd eu brathiadau yn angheuol. Weithiau ymgynullent yn un haid gethernus at fedd yr hwn y rhagflaenent ei farwolaeth, ac wedi udo a chwynfan yn y lle am gryn amser ymsuddent i'r ddaear, ac nis gwelid hwy mwy. A dyna Gwn Annwn.

4. Ond yr arch-ddrychiolaeth oedd yr hon a elwid y Teulu. Pobl Dyfed bron yn unig oeddynt wedi eu breintio a llygaid i ganfod hon hefyd. Darlun ysprydol cyflawn ydoedd o'r angladd a gymerai le. Pawb a phopeth yn ysprydol yn ei briodol le a'i swydd. Yspryd ceffyl yn tynnu yspryd hearse, yn mha un yr oedd yspryd arch ac yspryd y marw: ac yn caul yn ysprydion anmherffeithiedig y cymydogion wedi bod yn bwyta yn helaeth cyn cychwyn o yspryd y bara a'r caws, ac yfed yn helaeth o yspryd y cwrw brwd. Ac wedi i yspryd yr offeiriad ac yspryd y clochydd ddarllen yspryd y gwasanaeth, ac i'r holl ysprydion gydganu salm ueu emyn, a rhoddi yspryd y corph yn yspryd y bedd, a'i briddo gydag yspryd o raw, yr holl ysprydion a ddychwelent i'w cartrefleoedd. Ni fynychid y rhybudd hwn, gan ei fod braidd yn drafferthus i ysprydion fyned trwy'r ddefod fwy nag unwaith. Sonid llawer am gosb y sawl trwy ddamwain neu anystyriaeth a ymyrrent a'r Teulu ar eu taith; ond gan fod y Teulu wedi marw ni byddai'r cyfryw hanesion o unrhyw wasanaeth i'r oes hon.

5. Y Gyhiraeth. Nid drychiolaeth mo'r rhybudd hwn, eithr clywolaeth. Rhyw ddolef gras annaturiol ydoedd yn gwibio tua'r awyr yn nyfnder nos; fynychaf, uwchben croesffyrdd, a'r llwybrau y dygid y marw ar hyd-ddynt. Byddai'r cryfaf yn delwi wrth ei sŵn, y meddw yn sobri, a'r tyngwr yn syrthio ar ei liniau i weddïo. Y mae pob lle i gredu nad ydyw'r Gyrhiraeth wedi ymadael â Chymru hyd y dydd hwn, ond yn aderyn y ceir ef yn bresennol wrth yr enw Coblin y coed (Woodpecker).

Chwanegwn y rhybuddion canlynol, y rhai, os na chredir hwynt, eto ydynt ar flaen tafod y Wlad hyd yn nod y dydd hwn: -

6. Dallhuan yn ysgrechian.

7. Ci yn udo.

8. Aderyn y corph yn ymguro yn erbyn ystafell wely y claf, a dyna bobpeth trosodd gyda'r truan hwnnw. Yn ôl llafar Gwlad, aderyn rhyfedd oedd hwn heb blu nac adenydd, yn crwydro drwy'r ffurfafen yn y dull mwyaf cyfrin, ac yn byw, ond pan ar negesau rhybuddiol i'r byd hwn, yn ngwlad Hud a lledrith.

9. Pren afalau yn blodeuo'n anamserol, - arwydd sicr o farwolaeth ei berchennog yn ystody tymor hwnw ydoedd.

10. Ceiliog yn nhrymder nos yn canu yn ei glwyd.

11. Iâr yn cannu fel ceiliog.

12. Breuddwydio eich bod yn mhriodas rhyw gyfaill. Sicrhai hynny y byddwch yn fuan yn ei gynhebrwng.

13. Gauaf glas, mynwent fras.

Pe gallesid rhoddi pwys ar y rhagargoelion hyn, diau mai pobl hapus fuasai'r hen Gymry, trwy y gallasent fyw mewn rhusedd eu gwala hyd oni ddaethai y "rhybudd," ac yna iawn dreulio eu hamser gweddill. Ond am danynt oll bron gellir dywedyd mai dychmygion mynachod yr oesoedd tywyll oeddynt wedi eu dyfeisio o bwrpas er cyffroi dynion i ystyriaeth o'u camweddau, a byrdra eu heinioes. Rhyw fath gadffwl gwlad yr ystyrid Rhys, ac, fel ffyliaid yn gyffredin yn gall a chyfrwys tros ben; ac yn crwydro hyd y wlad heb yn unman gartref, a'i Grwth (math o fiddle) gydag ef, o dŷ y bonheddwr hwn i dŷ y bardd draw, o'r dafarn hon i'r dafarn acw, weithiau ar ei fferau ei hun a thro arall ar yspryd o hen geffyl y buasai'n ffitiach ei fod yn y barcdy ers blynyddoedd. Ond byddai drws agored i Rhys yn mhob man; yr oedd ei hyfder gwatwarus yn lladd pob gelyniaeth, a gorfodid y costowcaf ei dymer i ddweyd fel y dywed mam am ei phlentyn, "Mae'n ân mhosibl edrych yn ddig arno." Gymaint oedd yr alwad am ei wasanaeth ar adegau fel y byddai beirdd yn cyfansoddi rhimynnau hirion o gywyddau i "Ofyn am ei fenthyg." Cyfansoddodd William Cynwal un felly ar gais Elis Prys o Blasiolyn, i ofyn Rhys gan Sion Tudur o Wigwair; a gwae i'r Crythor byth fyned tan sylw eu hawen, Nid oedd derfyn ar ei ddawn ymadrodd, a byddai yn

Siarad yn serth drafferthus
Hwff, haf, bwff, baff, rwff raff, Rys.

Y mae dyn yn sadio ac yn sobri cryn lawer fel yr ymestynna cysgodau'r hwyr o'i gylch, ond yn ôl Sion Tudur yr oedd Rhys yn eithriad i'r rheol hon: -

Yn neuben ei fyd yn ebol — diriad,
Yn aderyn lledffol,
Yn ifanc, ffiaidd lanc ffôl;
Ac yn hen yn gynhwynol.

Ac -wedi marw a chladdu Rhys Grythor ni pheidiodd ef a bod o ddifyrrwch mawr i werin bobl Gwynedd. Ymddifyrant yn fynych wrth adrodd y chwedlau canlynol a'r cyffelyb am dano: - Rhys a ddamweiniodd fod ar noson yn Mettws Abergele, yn canu i foneddigion; ac a hwy yn nghanol ei digrifwch deuai i mewn yno un Thomas Lewis, o Lanfachraeth yn Môn, gŵr o atebion parod tebyg i Rhys. Wedi myned o honynt yn gydnabyddus o gyneddfau eu gilydd, drwy ymryson crasineb, ebai Rhys, "Pebuasai fy nhad erioed ar ei ymdaith yn Mon, dywedaswn dy fod ti yn frawd imi." "O," ebai Thomas, "nid anhaws inni fod yn frodyr er hynny, canys byddai fy nhad i yn arferol a dyfod i borthmona i'r wlad hon, ac efallai iddo daro wrth dy fam di." A dyna i Rhys slap yn ei fawd. Un ffraeth ei dafod oedd y gŵr hwn o Lanfachraeth. Nid oedd wasanaeth yn eglwys ei blwyf un tro, ac yntau a aeth i Fangor o bwrpas i achwyn wrth yr Esgob o'r herwydd, ac erfyn arno gymeryd ymaith y pwlpud, gan ei fod yn beth trwsgl diddaioni. A'r Esgob gan ddeall ei feddwl, a ddywed y gyrrai ef bregethwr iddynt. A'r Sul cyntaf y deuai, ac wrth esgyn i'r pwlpud, o fod y llawr yn gnyciog ac anwastad, tripiodd y pregethwr. Yna y dywedai Thomas, "Cymerwch ofal, syr, canys y mae ef yn wyllt iawn; ni farchogwyd mono ers blwyddyn. "Yna'r offeiriad a bregethodd yn Seisnig iddynt, ac wedi dyfod allan o'r eglwys, cyfarch gwell a wnâi y gŵr parchedig i Thomas, a gofyn iddo pa fodd yr hoffai ei bregeth; yntau a atebodd, "Yn wir mi a'i tebygwn i iâr yn magu cywion hwyaid."

Nod saethau a direidi Rhys bron bob amser oeddynt ei gyfeillion y tafarnwyr. Un tro bu yn bwyta ac yn diota mewn gwesty yn Nyffryn Clwyd am fis; ac am yspaid, mawr fyddai'r cyrchu at gwrw'r tafarnwr, er mwyn cael gweled Rhys. Tra y cymerai hyn le, yr oedd iddo groesaw mawr gan y publican a'i deulu; a dyna lle byddai'r Crythor yn chwareu nes llawenhau pob calon; ond y bobl a flinasant toc ar y ddiod sur, yn hytrach nag ar gwmnïaeth Rhys. Ac o hynny, chwerwodd tymer y tafarnwr cribddeilgar, a dechreuodd godi yn ddrud ar Rhys am ei fwyd a'i ddiod; ac ni chymerth yntau arno nad eithaf boddlon ydoedd i dalu. Siaradai, yfai, gwawdiai, fel arfer. "Wyddoch chwi beth," ebai ef wrth ei westywr un diwrnod, "y mae gan i ddyfais i groywi diod sur. "Dyna'r very peth oedd gen innau eisio. "Punt am dani?" ebai Rhys. "Boddlon. "Wel, fy nyfais ydyw rhoddi rhaff wair un-darn o gylch y baril cwrw bedwar tro, gan orchuddio'r baril bob tro, a chroywa'r ddiod suraf yn y wlad mewn dwy awr. " Awd i wneud y rhaff wair - y publican yn un pen iddi yn gollwng y gwair, a'r pechadur yn y pen arall yn troi y droell; a'r dyledwr a'r gofynnwr yn myned bellach, bellach, oddiwrth eu gilydd o hyd; a Rhys tan edrych yn sobr anwedd, yn troi ac yn troi nes y trodd o amgylch congl rhyw adeilad. Yna rhoddodd geiniog i hogyn bychan a safai gerllaw am droi yn ei le - a ffwrdd ag ef ymaith, tan ddywedyd, "Nid twyll twyllo twyllwr," a gadael y cwrw gan sured ag erioed, a thymer y gofynnwr yn lled debyg iddo, ac nid anrhydeddodd y Crythor y lle hwnnw mwyach â'i bresenoldeb.

Dro arall, Rhys mewn tafarndy bychan yn Môn, yn gofyn am lasiad o gwrw, a gwelai nad oedd nemawr ddim yn y gwydr o'i flaen ond dwr. "Rhoswch chwi," ebai ef, gan gymeryd y gwydr i'w law, "beth ydyw enw'r afon yna sy'n myn'd heibio'r tŷ hwn ? Chofiwn i yn fyw myw, ac y mae ar flaen fy nhafod i hefyd;" a chyda'r gair cymerth lwnc o'r ddiod. Bron na laddodd efe ŵr y tŷ gyda'r ergyd. Crybwyllasom y byddai ef weithiau ar ei geffyl. Ceffylau erchyll o deneuon fyddent ei geffylau, nes peri i lawer synu sut na holltasai yn ddau wrth eu marchogaeth. Anrhegion fyddent gan ryw foneddig neu gilydd i Rys, wedi iddynt dori eu gwynt, neu fod yn rhy hen i weithio. Ar un o'r bwystfilod hagr hyn, yr aeth ef un diwrnod i ffair Nefyn, a dodes ef mewn ystabl yn muarth rhyw dafarndy; yna aeth i rodio hyd y dref. Yn ei absenoldeb, daeth tri o grach-foneddwyr i'r buarth hwnw, hwythau hefyd ar feirch, y rhai a ddodwyd yn yr un ystabl â cheffyl Rhys, ar ba un yr edrychasant gyda gradd helaeth o syndod a digrifwch. “Pwy biau'r rinoseros hwn?” ebynt hwy wrth yr hostler. "Rhys Grythor," oedd yr ateb. Ac yna direidus gynllwynasant alanas ar y rinoserus, chwedl hwythau. Torasant ymaith ei fwng, a blew ei gynffon, ei amrantau, a'i glustiau, nes peri i'r hwn oedd hyll gynt yn awr yn edrych yn saith hyllach; a mawr oedd eu digrifwch a'u llawenydd oblegyd eu direidwaith. Yna aethant hwythau ymaith, a dychwelodd Rhys i'r ystabl. Holo!” ebai ef, “pwy wnaeth yr anmharch hwn ar fy Ngharnwenan (canys dyna'r enw a roddai ar ei feirch bob amser er cof am farch yr enwog Arthur) ?” “Y bonedd- wyr biau y ceffylau hyn," ebai'r hostler. “Mi a wnaf o'r goreu â hwynt," ebai ef ynddo ei hun; a chymerydei gyllell a rhwygo safnau meirch y crach-foneddigion a wnaeth Rhys. Ar hyn hwythau a ddaethant yn ol, a dechreu edliw a gwatwar i Rhys ei farch anffurfiol a diolwg a wnaethant. Yn mh'le y cefaist ti yr harddbeth hwn, Rhys?” ebai un, "'Rwyt yn rhoi gormod o fwyar duon iddo," ebai'r ail ; “Y mae pobl Caer wedi myned a'i gig oddiarno i'w werthu yn lle cig eidion, a'i rawn i wneud perwigau i'r merched,” ebai'r trydydd. Gwrandawai Rhys ar ei crasder g yda gwen gyfrwys nas gallasent hwy mo’i ddeall sut yn y byd Wel, mae yn ddigrif, mae yn ysmala," ebai'r tri ar unwaith. Ydyw," ebai Rhys, mae'ch ceffylau chwi yna wedi rhwygo eucegau wrth chwerthin am ei ben!”

Llawer o bethau cyffelyb ellid ddweyd am y Crythor, ond digon hyn i brofi ei arabedd a'i ffraethder. Yn Eisteddfod fawr Caerwys 1568, graddiwyd ef yn Ddysgybl Cerdd Dafod. Diamheu ei fod o gyneddfau cryfion annghyffredin, ond, ysywaeth fel llawer o feib talentog Cymru, o'i flaen ac

o'i ol, yn claddu ei ddefnyddioldeb yn meddau'r blys.

BRANWEN FERCH LLYR.

(Hen Fabinogi Gymreig.)

BENDIGAID-FRAN ab Llyr oedd frenin coronog ar yr Ynys hon, ac ardderchogid ef â choron Llundain. Ac un prydnawngwaith yr oedd efe yn Harddlech, yn Ardudwy, yn ei lys: ac eistedd yr ydoedd ar graig Harddlech uwchben y weilgi, a Manawyddan ab Llyr, ei frawd gydag ef, a dau frawd arall un-fam iddo-Nissyen ac Efnissyen, a phendefigion eraill gweddaidd o gylch brenin. Y ddau frawd un-fam ag ef meibion oeddynt i Eurosswydd a'i fam ef Penardin ferch Peli ab Manogan. Y cyntaf o'r gwyr hyn gwas da ydoedd, ef a barai dangnefedd rhwng ei deulu pan y byddant lidiocaf, sef oedd hwnw Nissyen; a'r llall a barai ymladd rhwng ei ddau frawd pan y byddent heddychaf. Ac fel yr eisteddent felly, gwelent dair llong ar ddeg yn dyfod o ddeau Iwerddon, ac y cyflym gyrchu tuag atynt, -y gwynt o'u holau yn eu nesau yn ebrwydd. "Mi a welaf longau draw," meddai y brenin "yn dyfod yn brysur i'r tir; erchwch i wyr y llys wisgaw am danynt a myned i edrych pa amcan sydd ganddynt." Felly y gwyr a ymwisgasant, ac a aethant i waered atynt, ac wedi gweled y llongau, diau oedd ganddynt nas gwelsant erioed longau cywreiniach eu hansawdd na hwynt. Hwyliau teg a gweddus o bali oedd arnynt. Ac wele un o'r llongau yn rhagflaenu y lleill, ac uwchlaw ei bwrdd gwelent ddyrchafu tarian, a swch y darian tuag i fynu yn arwydd tangnefedd. A'r gwyr a nesasant atynt fel y gallent glywed eu gilydd. Yna bwrw badau allan a wnaethant, a dyfod i dir, a chyfarch gwell i'r brenin. Y brenin a'u clybu o'r lle yr ydoedd, ar graig uchel uwch eu pen: "Nawdd Duw a chroesaw i chwi," ebai y brenin, "eiddo pwy ydynt y llongau hyn? a phwy ydyw y llywydd arnynt?" Arglwydd," ebynt hwythau, y mae Matholwch Wyddel yma, a'i eiddo ef ydynt." "Beth," ebai y brenin, "a fyn efe? a fyn efe ddyfod i dir?" "Na fyn, arglwydd," ebynt hwythau,"neges sydd ganddo â thi; ac ni lania efe oni cheiff ei neges." "Pa ryw neges sydd iddo!" ebai y brenin, "Mynu ymgyfathrachu a thi, arglwydd:" meddent hwythau, "I erchi Branwen ferch Llyr y daeth efe ; ac os da yn dy olwg, efe a fyn rwymo Ynys y Cedyrn gydag Iwerddon, fel y byddont cadarnach". "Ie", ebai X yntau, "deued i dir, a chynghor a gymerwn ninau." A dygwyd yr ateb yna at Matholwch, ac ebai, "Mi a af yn llawen." Efe a ddaeth i dir, a derbyniwyd ef yn groesawus, allawenydd mawr fuyn y llys y noson hono, rhwng ei wyr ef a gwyr y llys. Dranoeth cymerwyd cynghor, pryd y penderfynwyd rhoddi Branwen i Fatholwch; a Branwen oedd un o dair brif rian yr Ynys,—tecaf morwyn yn y byd oedd.

Neillduwyd Aberffraw fel man yr oedd hi i ddyfod yn briodferch iddo; ac aethant tuag yno,—Matholwch a'i luoedd yn eu llongau a Bendigaid-Fran a'i luoedd yntau ar dir hyd oni ddaethant i Aberffraw. Ac yn Aberffraw dechreuwyd y wledd, ac yr eisteddasant. Ac fel hyn yr eisteddent: Brenin Ynys y Cedyrn a Manawyddan ab Llyr ar y naill ochr iddo, a Matholwch ar y llall, ac wrth ei ystlys ef yr eisteddai Branwen. Nid mewn tŷ yr oeddynt, eithr mewn pebyll; nid oedd dy allai gynwys Bendigaid-Fran. A'r gyfeddach a ddechreuodd, a gloddesta ac ymddiddan y buont hyd oni welsant mai melysach hûn na gloddest; yna cysgu a wnaethant; a'r nos hono y priodwyd Matholwch a Branwen.

Tranoeth y cyfodasant, a gwyr a swyddwyr y llys a ddechreuasant drefnu a rhanu eu ceffylau, a'u rhanu a wnaethant yn mhob cyfair hyd at y môr.

Ac un diwrnod, wele Efnissyen, y gŵr anheddychol a grybwyllwyd uchod, yn dyfod i'r fan yr oedd meirch Matholwch, ac yn gofyn pwy bioedd y merch. "Meirch Matholwch, brenin yr Iwerddon, a briodes Branwen dy chwaer, ei feirch ef ydyw y rhai hyn." "Ac Felly y gwnaethant hwy a morwyn cystal a hono!—a chwaer a mi —ei rhoddi heb fy nghenad, ni allent daflu mwy o ddirmyg arnaf," ebai ef. Yna efe a wanodd y meirch, ac a dorodd eu gweflau wrth eu danedd, a'u clustiau wrth eu penau, a'r rhawn wrth eu cefnau, ac os cai graffar eu hamrantau efe a'u torodd wrth yr esgyrn, ac efea'u hanffurfiodd felly hyd onid oeddynt hollol ddiwerth.

Dygwyd yr hanes hwn at Matholwch a dywedwyd wrtho fod ei feirch wedi eu hanffurfio, a'u llygru hyd nad ellid da o honynt. "Ie," ebai un, "dy waradwyddo wnaethpwyd, a dyna yr amcan." "Os dyna yr amcan, y mae yn syn genyf pa fodd y rhoddasant imi forwyn mor urddasol ac mor anwyl gan ei chenedl a Branwen!" "Arglwydd," ebai un arall, "ti a weli pa fodd y mae, ac nid oes iti i'w wneuthur ond cyrchu i'th longau." Ac ar hyny cyrchu tua'i longau a wnaeth efe.

Pan glybu Bendigaid-Fran fod Matholwch yn ymadael â'r llys heb gymeryd ei genad, efe a ddanfonodd genadau ato i ofyn yr achos. Y cenadau hyn oeddynt, Iddic fab Anarawd, a Hefeydd Hir. Y rhai hyn wedi ei oddiweddyd, a ofynasant iddo, "Pa beth yr oedd yn ei wneuthur, a phaham yr elai ymaith?" "Diau," ebai yntau, "pe gwybuaswn ni ddaethwn yma. Cefais fy nirmygu, ni chafodd neb driniaeth waeth nag a gefais i yma."Beth yw hyny?" ebynt hwythau. "Rhoddi i'm Franwen ferch Llyr, un o dair prif rian yr ynys hon, a merch i Frenin Ynys y Cedyrn, ac wedi hyny fy ngwaradwyddo: a rhyfedd genyf na'm dirmygesid cyn rhoddi imi y rhian ardderchog "Diau, arglwydd," ebynt hwythau, "nad o fodd neb yn y llys, nac yn y cynghor, y gwnaed y gwaradwydd hwn iti; a chan iť gael dy ddirmygu y mae y gwarthrudd o hono yn fwy ar Fendigaid-Fran nag arnat ti" Ydyw yn wir,” ebai yntau, "er hyny nis gall efe ddileu y gwaradwydd." Y cenadau a ddygasant yr ateb yma i'r lle yr ydoedd Bendigaid-Fran, a mynegasant iddo yr ateb a roddasai Matholwch. Yn wir," ebai yntau, "nid oes yr un llwybr i'w luddias rhag myned ymaith na bydd imi ei ddefnyddio."

"Ie, arglwydd," ebynt hwythau, "anfon genadau ereill ar ei ol." Ebai y brenin, "Cyfodwch Fanawyddan ab Llyr, a Hefeydd Hir, ac Unic Glew Ysgwydd, a mynegwch wrtho y caiff efe farch iach am bob un a niweidiwyd: ac yn iawn am y dirmyg, efe a gaiff hefyd ffon o arian cyn ffurfed a chyn daled ag ef ei hun; a chlawr o aur cyn lleted a'i wyneb. A mynegwch iddo pwy a wnaeth hyny, ac i'r ysgelerder gael ei wneud yn erbyn fy ewyllys; ac fod yr hwn a'i gwnaeth yn frawd un-fam a mi, ac nid hawdd genyf ei ladd na'i ddyfetha. A deued Matholwch i'm cyfarfod, ac mi a wnaf dangnefedd ag ef yn ol ei gynllun ef ei hun."

Y cenadau a aethant ar ol Matholwch, ac a fynegasant iddo eiriau Bran yn garedig, ac yntau a'u gwrandawodd. "Wŷr," ebai ef, "ni a gymerwn gynghor." Ac efe a aeth i'r cynghor, a phenderfynasant os gwrthod ycynygiad hwn a wnelynt y byddent debycach o gael cywilydd a f'ai fwy na chael iawn a f'ai gymaint; gan hyny derbyniasant y cynyg, a dychwelasant i'r llys mewn heddwch.

Yna trefnwyd y pebyll ar ddull neuadd, ac eisteddasant i fwyta, ac fel yr eisteddent ar ddechreu'r wledd, felly'r eisteddent yn awr. A Matholwch a Bendigaid-Fran a ddechreuasant ymddiddan, a thybiai Bran nad oedd ei gyfaill yn ymddangos mor llawen ag o'r blaen, a thybiai mai bychander yr iawn a roddwyd iddo a barai ei fod yn athrist. "Ha! unben," ebai Bendigaid-Fran, "nid ydwyt mor llawen heno âg oeddit y noson cynt. Os ydyw hyn o herwydd bychander dy iawn, ychwanegaf ati yr hyn a fyddo da yn dy olwg, ac yfory telir iti y ceffylau." "Arglwydd," ebai yntau, Duw a dalo iti." "Mi a chwanegaf dy iawn befyd," ebai Bendigaid-Fran, “rhoddaf bair i ti, cyneddf yr hwn ydyw, os lleddir un o'th wyr heddyw a'i fwrw i'r pair hwn, erbyn tranoeth efe a fydd cyn iached ag y bu erioed, eithr efe a gyll ei barabl—nid all efe siarad. Ac efe a ddiolchodd yn fawr am hyny, a llawen ydoedd o'r achos.

Tranoeth y bore talwyd y meirch i Fatholwch hyd y cyrhaeddodd y meirch dofion. Yna cyrchasant i gwmwd arall a rhoddasant ebolion iddo hyd oni thalwyd y nifer oll, a galwyd y cwmwd hwnw o hyny allan Talebolion.

Yr ail noson eisteddasant yn nghyd. "Arglwydd," ebai Matholwch, "pa le y cefaist y pair a roddaist imi ?" "Cefais ef gan ŵr a fu yn dy wlad di, ac ni fynwn ei roddi i neb ond i un o'r wlad hono." "Pwy oedd hwnw ?" ebai ef. "Llassar Llaesgyfnewid, a ddaeth i'r wlad hon o'r Iwerddon, a chydag ef Cymideu Cymeinfoll ei wraig, y rhai a ddiangasant o'r Ty Haiarn yn Iwerddon, pan wnaed y lle yn boeth wynias o'u hamgylch, ac y ffoisant oddiyno. Y mae yn syn genyf na wyddost yr hanes." "Mi a wn ychydig yn ei gylch, a chymaint ag a wn I hynya hysbysaf iti. Un diwrnod yr oeddwn yn hela ar fryn yn mhen llyn yn Iwerddon, a elwir Llyn y Pair, ac mi a welwn wr melyngoch mawr yn dyfod o'r llyn a pair ar ei gefn. A gŵr helbulus yr olwg arno ydoedd, ac erchyll ei wedd: gwraig a'i canlynai, ac os oedd ef yn fawr, mwy ddwywaith na ef oedd y wraig. A chyrchu ataf a wnaethant, a chyfarch gwell inni. Ebe fi, 'pa le y cyrchwch?' Ebai yntau, 'Hyn ydyw achos ein cyrchiad. Yn mhen mis a phythegnos yr esgora y wraig hon. A'r mab a aner y pryd hyny a fydd ryfelwr llawn arfog.' Felly cymerais hwynt, a buont gyda fi am flwyddyn, a'r flwyddyn hono cefais hwynt yn ddiwarafun. Eithr o hyny allan dechreuwyd grignach rhagddynt, canys o ddechreuad y pedwerydd mis y gwnaethant eu hunain yn gas gan y bobl, trwy ei sarhadau yn y tir, a thrwy afionyddu a blino pendefigion a phendefigesau y wlad. O hyny allan fy neiliaid a atolygasant arnaf ymadael a hwynt, ac y rhoddasant ddewis imi, ai fy neiliaid ai hwynt. Minau a ymgynghorais pa beth wnelid â hwynt, canys o’u bodd nid elynt ymaith, ac o'u hanfodd trwy ymladd nis gellid eu gyru. Yn y cyfwng hwn, gwŷr y cynghor a benderfynasant ar wneuthur ystafell o haiarn oll. Ac wedi bod yr ystafall yn barod, cyrchu pob gôf yn Iwerddon yno, a phawb ag oedd yn perchen gefail a morthwyl. Yna peri gosod glo cyfuwch a chrib yr ystafell, a pheri fod i'r gwr a'r wraig a'u plant gael digonedd o fwyd a diod; a phan wybuwyd eu bod yn feddwon, dodi y glo oddeutu yr ystafell ar dân, a'u chwythu gyda meginau nes oedd y tŷ yn eiriasdân. Yna cynaliasant gynghor ar ganol llawr eu hystafell. A'r gŵr a arosodd hyd onid oedd y pleit (plates) yn wynion gan wres; a'r pryd hwnw oherwydd y dirfawr wres, efe a ruthrodd a'i ysgwydd yn erbyn y pleit, ac a'i tarawodd allan; a'i wraig a'i dilynodd, eithr namyn ef a'i wraig ni ddihengis neb oddiyno. "A'r pryd hwn, mae yn debygol," ebai Matholwch wrth Fendigaid-Fran, "y daeth efe trosodd yma atat ti." "Diau ei ddyfod yma, ebai Bran, a rhoddi y pair imi." "Yn mha ddull y derbyniaist ti hwynt?" "Mi a'u dosberthais tros fy holl deyrnas, ac y maent yn lluosogi ac yn ymddyrchafu yn mhob lle, ac yn cadarnhau y manau y b'ont gyda gwŷr ac arfau yn y dull goreu a welais erioed."

Y nos hono, dilyn ymddiddan a cherdd a chyfeddach a wnaethant, hyd oni welsant fod cwsg yn well; yna i gysgu yr aethant. Felly treuliasant y wledd hono trwy ddigrifwch, ac ar ei diwedd cychwynodd Matholwch a Branwen gydag ef tuag Iwerddon; ac o Aber Menai y cychwynasant mewn tair llong ar ddeg, a daethant hyd yn Iwerddon. Yn Iwerddon bu dirfawr lawenydd o herwydd eu dyfod. Ac nid ymwelodd na phendefig na phendefiges â Branwen ar na roddai hi iddynt naill ai cae (clasp), ai modrwy, ai teyrndlws, teilwng i'w gweled yn myned o'r llys: felly y treuliodd hi y flwyddyn yn ddifyr a chlodfawr. Ac yn yr amser hwnw beichiogiad a ddamweiniodd iddi, ac yn y priod amser ganwyd iddi fab, a galwyd ef Gwern ab Matholwch, a rhoddwyd ef i'w famaethu yn y fan yr oedd goreuwyr yr Iwerddon. Ac yn yr ail flwyddyn wele derfysg yn Iwerddon o herwydd y sarhad a dderbyniasai Matholwch yn Nghymru, a'r taliad a gafodd am ei feirch; a'i frodyr-maeth [foster-brothers], a'r rhai oeddynt nesaf ato, yn edliw yn ddigêl a pharhaus iddo ei waradwydd. Ac nid oedd heddwch iddo gan y terfysg hyd oni chaent ddial ei sarhad. A'r dial a wnaethant ydoedd gyru Branwen o'i ystafell ef, a'i gwneud yn gogyddes i'r llys, a pheri i'r cigydd wedi iddo ddryllio y cig bob bore roddi bonclust iddi. A dyna ei phenyd. "Ie, arglwydd," ebai ei wŷr wrth Fatholwch, "pâr weithian wahardd y llongau, yr ysgraffau, a'r coraclau, fel nad el neb i Gymru; ac a ddel o Gymru carchara hwynt, rhag na ddychwelont, ac adrodd yr hanes." Ac efe a wnaeth hyny, ac felly y bu am dair blynedd.

A Branwen a feithrinodd aderyn drytwen (starling), odditan y noe bobi, ac a ddysgodd iaith iddo, a dysgodd i'r aderyn pa fath wr oedd ei brawd. A hi a ysgrifenodd lythyr yn dysgrifio ei phoenau a'i hanmarch, a'i rhwymodd am fôn aden yr aderyn, ac a'i hanfonodd tua Chymru. A'r aderyn a ddaeth i'r Ynys hon, a chafodd Bendigaid- Fran yn Ngher Seiont yn Arfon mewn cynghor, ac efe a ddisgynodd ar ei ysgwydd, ac a ysgydwodd ei blyf oni chanfyddwyd y llythyr, a gwybuwyd i'r aderyn gael ei feithrin mewn modd aneddog.

Yna cymerodd Bendigaid-Fran y llythyr, ac edrychodd arno; ac wedi iddo ei ddarllen, doluriodd yn fawr o herwydd trallod Branwen. Ac yn ebrwydd efe a ddanfonodd o'r lle hwnw genadau i wysio yr holl Ynys, a pharodd ddyfod pedair gwlad a saith ugain hyd ato, ac efe ei hun a gwynodd wrth y cyngor o herwydd trallod ei chwaer. Felly ymgyngorasant, a phenderfynasant fyned i'r Iwerddon, a gadael saith o wyr yn dywysogion yma, a Charadog ab Bran yn benaf arnynt hwy a'u saith marchog. Yn Edeyrnion y gadawyd y gwyr hyn; ac oblegyd hyny gosodwyd y saith marchog ar y trefydd. Ac enwau y gwŷr hyn oeddynt Caradawc ab Bran, a Hefeydd Hir, ac Unic Glew Ysgwydd, ac Iddic ab Anarawd Gwallgrwn, a Fodor ab Erfyll, a Gwlch Minascwrn, a Llassar ab Llaesar Llaesysgwydd, a Phendaren Dyfed yn was ieuanc gyda hwynt. A'r rhai hyn oeddynt y saith cynweisiaid a gymerent ofal yr Ynys, a Charadawc ab Bran yn benaf o honynt.

Bendigaid-Fran a'r lluoedd hyn a hwyliasant tua'r Iwerddon, ac ni buont hir ar y môr cyn dyfod i ddwfr bâs lle nid oedd ond dwy afon-Lli ac Archan eu gelwid, a'r gwyr a orchuddient y môr. Yna efe gymerth hyny o luniaeth oedd ganddo, ac a'i dygodd ar ei gefn tua thir Iwerddon. A meichiaid Matholwch oeddynt ar lan y weilgi, a hwy a ddaethant at Fatholwch, ac a gyfarchasant well iddo. Duw a'ch noddo," ebai yntau, "pa chwedlau sydd genych o'r môr?" "Arglwydd," ebynt, "y mae genym newydd rhyfedd. Coed a welsom ar y weilgi yn y lle nas gwelsom erioed yr un pren. Y mae hynyna yn rhyfedd. A welsoch chwi ddim heblaw hyny ?" Gwelsom, arglwydd," ebynt hwy, "fynydd mawr yn cerdded gerllaw y coed, ac ar y mynydd yr oedd esgeir ("ridge") uchel, a llyn o bob tu i'r esgeir. A'r coed, a'r mynydd, a phobpeth o honynt oll yn ymsymud." "Yn wir," ebai yntau, "nid oes neb yma all ddehongli hyn oddigerth Branwen."

Danfonwyd cenadau at Branwen. Arglwyddes, "ebynt hwy, beth debygi di am hyn?" "Gwŷr Ynys y Cedyrn ydynt wedi dyfod trosodd wrth glywed am fy mhoen a'm anmharch." Beth ydynt y coedwig a welir ar v weilgi?" ebynt hwy. "Gwernenau (yards) a hwylbreni llongau," obai hi. "Och," ebynt hwy, "beth oedd y mynydd mawr a welem with ystlys y llongau?" "Bendigaid-Fran, fy mrawd I," ebai hi, "oedd hwnw, yn dyfod i ddwfr bâs, canys nid oes mewn dwr bâs, a'i cynal ef." Beth yw yr esgeir uchel hwnw, a'r llyn ar bob ochr o hono?" Ebai hi. "Llidiog ydyw efe wrth edrych tua'r Ynys; a'i ddau lygaid un o bobtu i'w drwyn ydynt y ddau lyn un o bob tu i'r esgair."

Yna cynullwyd holl ryfelwyr yr Iwerddon ar frys, a chymerwyd cynghor. "Arglwydd," ebynt ei bendefigion wrth Fatholwch, "nid oes gynghor namyn cilio tros y Llinon (afon yn Iwerddon), a chadw yr afon rhyngom ag ef, a thori y bontsydd ar yr afon, canys y mae maen-sugn (loadstone) ar waelod yr afon nas gall na llong na llestr ei chroesi." Felly hwy a groesasant yr afon ac a dorasant y bont.

Bendigaid-Fran a ddaeth i dir gyda glan yr afon a'i lynges gydag ef. "Arglwydd," ebai ei bennaethiaid, "a wyddost ti natur yr afon yma na ddichon dim fyned trosti ac nad oes bont arni? Beth yw dy gynllun yn nghylch pont?" "Nid oes genyf gynllun," ebai yntau, "namyn a fo pen bid pont. Myfi a fyddaf bont." A dyma'r waith gyntaf yr arferwyd y ddiareb, yr hon a arferir yn bresenol. Ac wedi gorwedd o hono ar draws yr afon, gosodwyd clwydi arno, ac aeth ei luoedd trosto.

Ac fel y cyfodai wele genadau oddiwrth Fatholwch yn dyfod ato ac yn cyfarch gwell iddo, ac yn ei anerch yn enw Matholwch ei gyfathrachwr, ac yn ei hysbysu na haeddai efe oddiar ei law namyn da; "canys y mae Matholwch yn rhoddi brenhiniaeth Iwerddon i Wern fab Matholwch, a dy nai dithau fab dy chwaer. A hyn a esyd efe o'th flaen di am y cam a'r dirmyg a wnaethpwyd ar Branwen: ac fel y mynech di, ai yma ai yn Ynys y Cedyrn yr ymdeithia Matholwch.” Ebai Bendigaid-Fran, "Os nad allaf fi fy hun gael y frenhiniaeth; weithian cymeraf gynghor am eich cenadwri chwi. O hyn hyd hyny dyna yr unig ateb a gewch genyf." "Ie," ebynt hwythau, "y genad oreu a gawn ni i ti, a ddygwn ni atat, ac aros dithau ein cenad ni" “Arosaf," ebai ef, a deuwch yn ebrwydd."

Y cenadau ddychwelasant at Matholwch. "Arglwydd," ebynt hwy "parotoa genad well i Fendigaid-fran ni wrandawai ef ar y genad a ddygasom ni ato. "Ha wyr," ebai Matholwch, "beth ydyw eich cynghor chwi?" "Arglwydd," ebynt hwy, "nid oes it' gyngor namyn un. Ni bu efe erioed mewn tý; gan hyny gwna dŷ i'w gynwys ef a gwŷr Ynys y Cedyrn yn y naill barth, a thithau a'th lu yn y parth arall o hono, a dyro dy frenhiniaeth yn ei law, a thal warogaeth iddo. Ac o herwydd anrhydedd gwneuthur y tŷ, gan na chafodd erioed dŷ i'w gynwys ynddo, efe a ymheddycha â thi." A'r cenadau a ddaethant a'r genadwri yna at Fendigaid-fran.

Ac efe a gymerth gynghor, a phenderfynwyd derbyn y genad, a thrwy gynghor Branwen y bu hyn oll rhag i'r wlad gael ei dinystrio. A'r cytundeb hwn a gywiriwyd, —tŷ mawr a chryf a adeiladwyd. Eithr y Gwyddelod a gynllwynasant ystryw, sef dodi gwanas (bracket)o bobtui'r can' colofn ag oeddynt yn y tŷ, a dodi bol croen ar bob gwanas, a gwr arfog yn mhob un o honynt. Yna Efnissyen a ddaeth i mewn o flaen lluoedd Ynys y Cedyrn, ac a edrychodd olygon gorwyllt ac annrhugarog ar hyd y tŷ, a chanfyddodd y boliau croen wrth y pyst. "Beth sydd yn y boly hwn?" ebai ef wrth un o'r Gwyddelod. "Blawd, enaid,” oedd yr ateb. Ac Efnissyen a'u teimlodd hyd oni ddaeth at ben y dyn, ac yna gwasgodd y pen nes y teimlodd ei fysedd yn cyfarfod yn yr ymenydd trwy yr esgyrn. Gadawodd hwnw a rhoddodd ei law ar y nesaf, a gofynodd pa beth oedd ynddo. "Blawd,” ebai y Gwyddel. A'r un modd y gwnaeth efe a phawb o honynt, hyd nad adaw- odd o'r ddau-canwr namyn un yn fyw, a phan ddaeth ato ef gofynodd pa beth ydoedd ynddo. “Blawd, enaid," ebai y Gwyddel. Yna efe a deimlodd hyd oni chafodd ei ben, a gwasgodd hwnw fel y rhai eraill; eithr a glywai arfau am ben hwnw, ac nis gadawodd ef nes ei ladd. Yna canodd yr englyn hwn:-

Y sydd yn y boly hwn amryw flawd
Ceimet, cynifeit, disgymfeit,
Yn trin rhac cytwyr cat barawt,"

" There is in bag a different sort of meal,
The ready combatant, when the assault is made
By his fellow warriors, prepared for battle."

LADY CH. GUEST.

Ar hyny daeth y lluoedd i'r tŷ. Gwyr Ynys Iwerddon i'r tŷ ar y naill ochr, a gwŷr Ynys y Cedyrn ar y llall. Ac mor fuan ag yr eisteddasant yr oedd cyfundeb rhyngddynt; a rhoddwyd y frenhiniaeth i'r bachgen. Wedi cwblhau yr heddwch Bendigaid-fran a alwodd y mab ato, ac oddiwrth Bendigaid-fran y mab aeth at Manawyddan; a phawb ar ei gwelai oedd yn ei garu. Ac oddiwrth Fanawyddan galwyd ar y mab gan Nissyen mab Eurosswydd; ac wele y mab a aeth ato yn dirion. "Paham," ebai Efnissyen, "na ddaw fy nai fab fy chwaer ataf fi? Pe na byddai frenin yn Iwerddon da fyddai genyf yndirioni â'r mab." "Aed atat yn llawen," ebai Bendigaid-fran. A'r mab a aeth ato yn llawen. "Myn fy nghyffes i Dduw," ebai Efnissyen yn ei galon, "ni thybia y tylwyth y gyflafan a wnaf yr awrhon." Yna cyfododd a chymerodd y mab gerfydd ei draed, a chyn i neb yn y tŷ gael gafael arno bwriodd y mab yn ngwysg ei ben i'r tân poeth. Branwen pan welodd ei mab yn y tân a amcanodd hefyd neidio i'r tân o'r lle yr eisteddai rhwng ei dau frawd. Eithr Bendigaid-fran a gydiodd ynddi ag un law, ag yn ei darian a'r llall. Ac yna yr oedd pawb yn ffrystio hyd y tŷ, a thyna y trwst mwyaf a fu erioed yn yr un tŷ; a phawb oeddynt yn ymarfogi. Yna y dywed Morddwydtyllyon, "Gwern grwngwch fuwch Forddwydtyllyon," (The gadflies at Morddwyd's cow,-march gacwn buwch Morddwydtyllyon). A thra yr oeddynt yn ceisio eu harfau Bendigaid-fran a gynhaliai Branwen rhwng ei darian a'i ysgwydd. Yna y Gwyddelod a gyneuasant dân tan bair yr adeni, a bwriasant gyrff meirw i'r pair hyd onid ydoedd yn llawn, a thranoeth daeth y rhai hyn allan o hono yn rhyfelwyr cystal ag o'r blaen oddieithr nad allent lefaru. Ac Efnissyen yn gweled nad oeddynt wyr Ynys y Cedyrn yn adfywio yn un man a ddywedodd yn ei galon, "Gwae fi! imi fod yn achos yr alanas hon ar wyr Ynys y Cedyrn; a drwg im'oni cheisiaf wared rhag hyn." Ac efe a ymfwriodd i blith celanedd y Gwyddelod, a daeth dau Wyddel bonllwm (unshod) heibio iddo, ac a'i bwriasant i'r pair gan dybied mai Gwyddel ydoedd. Ac efe a ymestynodd yn y pair nes y torodd y pair yn bedwar dryli, ac yna torodd ei galon yntau.

Oherwydd hyn yr enillodd gwŷr Ynys y Cedyrn gymaint ag a enillasant; eithr ni fuont fuddugol gan na ddiangodd onid saith o honynt, a brathwyd Bendigaid-Fran yn ei draed a gwenwyn-waew. Y seithwyr a ddiangasant oeddynt Pryderi, Manawyddan, Gluneu Eil Taran, Taliesin, Gnawc Grudyen ab Murgel, a Heilyn ab Gwynn Hen.

Yna parodd Bendigaid-fran iddynt dori ymaith ei ben; "a chymerwch chwi y pen," ebai ef, a dygwch hyd y Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch ef yno a'i wyneb ar Ffrainc. A chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Yn Harddlech, byddwch saith mlynedd yn gwledda, ac adar Rhianon yn canu i chwi yn y cyfamser. A bydd gystal genych gymdeithas y pen ag y bu oreu genych pan fu arnaf fi erioed. Ac yn Gwales, yn Mhenfro, y byddwch bedwar ugain mlynedd; ac oni agorwch y drws sydd a'i wyneb tua Henfelen a thua Chernyw, y pen a erys yn ddilwgr. A phan agoroch y drws hwnw nis gellwch aros yno yn hwy; cyrchwch i Lundain i gladdu y pen yn ddioedi. Felly torasant ei ben ymaith, a'r seithwyr hyn a'i dygasant trosodd; a Branwen yn wythfed gyda hwynt. Yn Aber Alaw yn Talebolion y daethant i dir, ac eistedd a wnaethant a gorphwys. A Branwen a edrychodd tuag Iwerddon a thuag Ynys y Cedyrn, ac wedi eu gweled, "Gwae fi!" ebe bi, "fy ngeni, dwy ynys a ddiffeithiwyd o'm hachos," a hi a roddodd ochenaid fawr, ac a dorodd ei chalon ar hyny. Gwnaethant iddi fedd petrual, a chladdasant hi ar lan yr Alaw.

A'r saith wyr a deithiasant tua Harddlech, gan ddwyn y pen gyda hwynt, ac fel yr elent wele lu o wragedd a phlant yn eu cyfarfod, "A oes genych newydd?" "Nac oes," ebynt hwythau, "ond fod Caswallon ab Beli wedi goresgyn Ynys y Cedyrn, a'i fod yn frenin coronog yn Llundain". "Beth ddaeth o Garadawg ab Bran a'r seith- wyr a adawyd gydag ef yn yr Ynys hon?" "Daeth Caswallon arnynt ac a laddodd y chwe gŵr, a thorodd Caradog yntau ei galon gan ofid, am weled y cleddyf yn lladd ei wyr ac nis gwypai pwy a'i llawiai. Yr oedd Caswallon wedi taflu hud trosto, fel nas gallai neb ei weled yn lladd y gwŷr, ei gleddyf yn unig ellid weled. Ni fynai Caswallon ei ladd ef gan ei fod yn nai iddo fab ei gefnder. Efe oedd y trydydd a dores ei galon gan ofid. Pendaran Dyfed oedd yn was ieuanc gyda hwynt a ddiangodd i'r coed," ebynt hwy.

Yna cyrchasant i Harddlech, a gorphwysasant, gan ddechreu bwyta ac yfed. A daeth tri aderyn gan ddecreu canu iddynt ryw gerdd, ac anfwyn oedd pob cerdd a glywsant erioed wrth eu cydmaru a hi; ac er fod yr adar i'w clywed fel yn mhell oddiwrthynt eto gan amlyced oedd eu cân a phe buasent gyda hwy. Yn y wledd hon buont felly am saith mlynedd.

Ac yn mhen saith mlynedd y cychwynasant tua Gwales, yn Mhenfro; ac yno yr oedd iddynt le teg brenhinaidd uwchben y weilgi, a neuadd. I'r neuadd y cyrchasant, a dau o'r drysau oeddynt yn agored, ond y trydydd yn ngauad a gwyneb hwn ydoedd tua Chernyw. "Gwel acw," ebai Manawyddan, "y drws ni ddylem ni ei agor." Treuliasant y noson hono yn ddieisiau a dyddan. Ac am yr holl fwyd a welsant yn eu gwydd, ac y clywsant am dano, nid oeddynt yn cofio dim; nac am alar o fath yn y byd. Yno y treuliasant bedwar ugain mlynedd, yn ddiarwybod iddynt erioed dreulio ysbaid mwy digrif a difyr. Nid oedd flinach ganddynt ar ddiwedd yr ysbaid nag ar ei ddechreu, ac nis gwyddai yr un o honynt pa hyd y buont yno; ac nid annifyrach ganddynt fod y pen yno na phe buasai Bendigaid-Fran gyda hwynt ei hun. Ac o herwydd y pedwar ugain mlynedd hyny gelwid yr ysbaid "Ysbaid gwledda yr urddawl ben". Gwledd Branwen a Matholwch a fu cyn eu myned i'r Iwerddon.

"Un diwrnod," ebai Heilyn ab Gwyn, "Drwg a'm goddiweddo onid agoraf y drws i wybod ai gwir a ddywedir am hyny." Agor y drws a wnaeth, ac edrych ar Gernyw ac ar Aber Henfelen. A phan edrychasant yr oeddynt oll mor ymwybodol o'r colledion a gawsant, ac o'r holl geraint a chyd-ymdeithion a gollasent, ac o'r holl drueni a'i goddiweddasant, a phe digwyddasai y cyfan iddynt yn y fan hono; ac yn benaf am dynged eu harglwydd. Ac oherwydd eu haflonyddwch meddwl nis gallasent orphwys eithr cyrchasant gyda'r pen tua Llundain, a chladdasant ef yn y Gwynfryn. A hwnw fu y trydydd mad-cudd-pan guddiwyd; a'r trydydd anfad ddatgudd -pan ddatguddiwyd; gan na ddeuai ormes byth i'r ynys hon tra byddai y pen yn y cudd hwnw.

Ac fel hyn y mae'r hanes am y gwŷr a deithiasant o'r Iwerddon.

Yn Iwerddon nis gadawyd neb yn fyw namyn pump o wragedd beichiog mewn ogof yn y diffeithwch: ac i'r pump gwragedd hyny yn yr un cyfnod y ganed pum'mab a'r pum' mab hyny a fagasant hwy hyd oni ddaethant yn weision mawr, ac oni feddyliasant am wragedd. Chwe- nychasant gael gwragedd, a chymerasant famau eu cyd- ymdeithion yn wragedd, a gwladychu a chyfaneddu a rhanu y wlad rhyngddynt a wnaeth y pump. Ac o achos y rhaniad hwnw y gelwir eto "Pum' rhan Iwerddon." Ac edrych y wlad a wnaethant ffordd y buasai ymladdau, a chawsant aur ac arian hyd oni ddaethant yn gyfoethog: Dyna fel y terfyna y rhan hon o'r Fabinogi yn nghylch palfawd (blow) a roddwyd i Branwen, yr hwn a fu drydydd anfad balfawd yn yr ynys hon: ac yn nghylch gloddest Bran pan aeth lluoedd deng wlad a thriugain trosodd i'r Iwerddon i ddial palfawd Bronwen; ac yn nghylch y wledd a fu yn Harddlech saith mlynedd: ac am ganiad adar Rhianon; ac ymdeithiad y pen am yr yspaid o bedwar ugain mlynedd.

DIAREBION CYMREIG.

(GAN CYNDDELW.)

"ONI BYDDI GRYF BYDD GYFRWYS."

Mae cyfrwysdra yn cael ei reoli gan onestrwydd yn beth canmoladwy, canys y mae gwybodaeth yn nerth, ac y mae dyn yn cyflawni drwy gyfrwysdra yr hyn nas gall ei wneuthur drwy gryfder. Mae chwedl "Y cawr a'r gwenhudiw” yn egluro y ddiareb hon. Yn yr hen amseroedd, pan oedd cawri a chorachod ar y ddaear, aeth dau o honynt, sef cawr a gwenhudiw i ddwyn moch. Dylid cofio nad oedd neb y pryd hwnw yn meddwl fod lladrata anifeiliaid yn bechod, oblegyd praidd, —anrhaith, ysglyfaeth, oedd yr enw cyffredin arnynt; ac y mae "moch preiddyn" ac "anrhaith o foch" yn eiriau mynych mewn hen awdwyr. Pa fodd bynag aeth y cawr a'r gwenhudiwi barc un o'r Dyledogion i geisio "moch preiddyn." Yr oedd y cawr o faintioli a nerth dirfawr, ac yn ymddiried mwy i'w gryfder nag i'w ddoethineb; a'r gwenhudiw, fel dynion bychain yn gyffredin, yn hunanol a chyfrwys. Wel, aeth y ddau i'r Parc lle'r oedd llawer o foch, a rhai yn fawrion a chigog, wedi pesgi ar fês, a ffrwythau ereill. Ymosododd y cawr ar y rhai mwyaf, a thewaf, a chododd luaws o honynt dros yr amgae i'r tir gwyllt; a daliodd y gwenhudiw ychydig o berchyll heb nemawr ond blew arnynt. Ar ol boddloni eu hunain aethant i edrych am y moch: "Ond," ebai'rcawr, "ar ol eu cael, sut y gwyddom pa rai a ddalias i, a pha rai a ddaliaist dithau? Dylai pob un gael ei eiddo ei hun." "Dylai yn ddiamheu," ebai'r gwenhudiw, gan wenu yn hudol ar y cawr; "ond," ebai'n mhellach, "yr oedd tro yn nghynffon pob un a ddaliais i." Hyny, fel y mae yn hysbys yw nôd mochyn cadwrus. Am hyny aeth y gwenhudiw a phob mochyn o werth, a gadawodd y rhai teneuon cynffonlipa i'r cawr. Yr addysg yw fod y cyfrwys yn byw ar gefn y cryf. Y gweithiwr yw y cawr difeddwl, a'i feistr yn fynych yw y gwenhudiw cyfrwys.

“Goreu cyfrwysdra gonestrwydd.”

"ESMWYTH CWSG POTES MAIP."

"Melus cwsg cawl erfin." Ni wyr y deheuwyr nemawr am botes maip, ac ychydig a wyr y Gogleddwyr am gawl erfin, er mai yr un peth ydynt. Bywioliaeth wael iawn yw potes maip, ie, gwaelach na "photes blawd a dŵr." Cawl dall ydyw; a gwelwyd bechgynach lawer tro yn "tywys y gŵr dall” ar ol colli y potes yn anfwriadol (?) hyd y bwrdd. Ond at y ddiareb:-

Amser maith yn ol yr oedd dau gymydog yn byw dan yr un to, yn agos i'r mynydd, mewn hafod, a chan bob un o honynt luaws o blant. Bychan oedd eu henill, ac, fel y gallesid meddwl, caled ydoedd ar un o honynt. "Potes maip" a bara caledlwyd oedd eu hymborth fynychaf, yn y tŷ arall yr oedd cawl bras llygadog, a chyflawnder o gig defaid. Ond yr oedd cryn amheuaeth yn nghylch gonestrwydd y teulu hwn, a llawer yn meddwl nad oedd defaid y cymydogion yn cael llonydd ganddynt. Pa fodd bynag, un noswaith yn nyfnder y gauaf dyna guro wrth y drws y ffermwyr a swyddogion cyfiawnder yn dyfod i chwilio y ty, a chafwyd digon o olion lladrad i gymeryd y gŵr i garchar ganol nos. Wrth glywed y swn a'r terfysg yn y tŷ dihunodd teulu y tŷ nesaf. "Wel, wel," meddai'r wraig, yr oeddwn i yn ofni mai fel yna y buasai'n dod. "O hirddrwg daw mawrddrwg." 'Drwg y ceidw diawl ei was.' Codwch Gruffydd. "Gad lonydd i mi," ebai Gruffydd, — Esmwyth cwsg potes maip, a rhoddodd ei ben ar y gobenydd, a chysgodd yn dawel dan y bore. "Llaw lân diogel ei pherchen." "Asgre lân diogel ei pherchen," medd diareb arall. Mae tlodi a gonestrwydd yn well na llawnder a lladrad: canys "Gwell angeu na chywilydd." "Gwell gochel mefl na'i ddial." "Gwell gwichio'r coludd na chochi'r ddeurudd."

"CYN BELLED AG Y CYFARTHODD CI."

Mynych y clywir y ddiareb hon ar lafar gwlad. Pan fydd rhywun yn son am fyned yn mhell—ffwrdd o'r wlad, -dywedir iddo fyned "cyn belled ag y cyfarthodd ci." Mae'r ddiareb hon yn seiliedig ar gyfreithiau Dyfnwal Moelmud, deddfroddwr hynaf y Cymry. "Tair clud ddeol y sydd; murn a chynllwyn; brad teyrnedd, sef brad gwlad a chenedl; ac anrhaith-ledrad amwyllyniawg; sef y dylai pawb yn nghlyw y corn, ffordd y cerdder, fyned yn nghyrch y deol hyny, bob rhyw ac oedran; a chynnal cyfarth gan gwn, yn ydd eler hyd rhoddi ar fôr, ac ydd elo a ddeoler driugeinawr o'r golwg." Yr oedd pawb o bob rhyw ac oedran i uno yn y gyfarthfa gyffredinol i yru y troseddwr o'r wlad. Ond dywedir mewn lle arall "Tri dyn y sydd a'u braint nas byddant wrth gorn gwlad;- bardd, fferyllt, a gwr llys; sef nis gellid hebgor un nac arall o'r tri." "Clud ddeol" oedd fod y wlad yn codi i alltudio y tri throseddwr a nodir yn y gyfraith. "Murn a chynllwyn” oedd lladd drwy gynllwyn, a rhuthr o'r llwyn ar ddyn yn ddisyfyd. Brad teyrnedd yn erbyn y llywodraeth. "Amwyllyniawg"—treiglwn y gair-gwyll, amwyll—tywyll o bob tu, amwyllyn-un yn cael ei amgylchu gan dywyllwch, am wyllyniawg-peth mewn tywyllwch. "Anrhaithledrad amwyllyniawg—irretrievable spoliation–lledrad anadferadwy. Y ffordd i ddeol y cyfryw bechaduriaid o'r wlad oedd chwythu corn i alw pob rhyw ac oedran, gyda holl gŵn y wlad i'w hela tua'r môr, a chadw'r cwn i gyfarth nes i'r ffoadur fyned ar y môr, a chynnal y cyfarth i fyny am 60 awr wedi i'r troseddwr fyned o'r golwg. Dyna beth yw myned cyn belled ag y cyfarthodd ci." D. S.-Ġelwir cyfreithiau Dyfnwal Moelmud yn Drioedd y Carcludau (Car-motes). Symudiadau ar geir mae'n debyg yw yr ystyr. Mae gwŷr Powys yn arfer y gair Carmowta yn fynych am gerdded oddiamgylch i chwilio am rywbeth,—cardota.

BARDDONIAETH DDIAREBOL YR HEN GYMRY.

Hyfforddiadau diarebol yw llawer o farddoniaeth hynaf y Cymry. Yr anhawsdra mwyaf yn ffordd eu deall yw hendra y cyfeiriadau, a byrder yr ymadroddion. Cyfranogant i raddau o ddullwedd addysgiadol Diarebion Solomon. Nodwn rai engreifftiau o farddoniaeth y gauaf:

CALANGAUAF—lli yn nant,
Cyfnewid Sais a'i ariant,
Dign enaid mam geublant."

Yr unig syniad neillduol i'r tymhor, yn y pennill yna, yw "lli yn nant," canys y mae'r nentydd oedd yn sychion yr hâf yn llifo gan wlawogydd y gauaf. Pethau gwastadol yw "cyfnewid Sais a'i ariant," arian a masnach yw ei awyddfryd ef erioed yn mhob gwlad, felly hefyd "mam geublant," sef llysfam, "dign" a diserch yw ei henaid hithau at "geublant," sef plant nad ydynt yn eiddo gwirioneddol iddi.

"CALANGAUAF—Cul hyddod,
Melyn blaen bedw, gweddw hafod,
Gwae a haedd mefl er bychod."

Aeth yr Hydref, neu'r Hyddfref (rutting season) heibio, am hyny mae'r hyddod yn deneuon:-

"Calan bydd—fref cain cynnwyre,

Cyfarwydd dwfr yn ei ddyfrlle."

Mae blaen bedw wedi melynu, yn gyferbyniol i'r "bedw briglas" ddechreu haf. "Gweddw hafod." Trigai y Cymry gynt yn yr hafod yr haf, ac yn yr hendref y gauaf. Ddechreu haf gadawent yr hendref, a chychwynent tua'r hafod. Dyna'r cargychwyn. "Dyn cargychwyn yw dyn rhodiad, a fo yn symud ei gàr a'i fod bob amser." —Cyf. Hywel Dda. Yn y càr y rhoddent y celfi angenrheidiol i fyned i'r Hafod i odro'r gwartheg, y defaid, a'r geifr. Calangauaf oedd adeg y càrddychwel, sef dyfod a chynnyrch yr haf i lawr i'r hendref i fyw arno y gauaf, a gadael yr hafod yn weddw hyd yr haf nesaf.

"Gwae a baedd mefl er bychod."

Mefl yw gwarth neu gywilydd. "Brychau a meflau," 'gweithiwr difefl." "Ni ddylir maeddu gwraig, namyn o dri achaws, sef, am roddi peth ni ddylys; am gaffael gwr arall genddi; ac am ddyuno mefl ar farf ei gwr." —Cyf. Cymru. "Gwell gochel mefl na'i ddial." "Mefl i'r llygoden untwll.” - Tri mefl fethiant gŵr bod yn arglwydd drwg, a bod yn ddryg-garwr, a bod yn llibinwr yn nadlau." Mefl in côg ni lyfo oi law.”

Mefl ar dy farf yn Arfon,

Ac ar dy wefl mefl yn Mon."

D. AB GWILYM.

BYCHOD.

Bychod–bach, bychan, bychod, bychydedd, bychodrwydd, bychydig, &c. Peth bychan, ychydig o beth. "Gwell bychod yn nghod na chod wag." "Gormod yw bychod o bechodau." "Bychodedd o Gristionogion oedd yr amser hyny." " Na werth er bychodedd." "Baich o bechodau, nid bychodrwydd." "O bychydig y daw llawer." "Nid yw'rbyd ond bycbydig." Gan hyny ystyr y ddiareb yw, gwae y sawl a haeddo gywilydd o herwydd peth bychan, canys y mae yn fwy o warth i ddyn dori ei gymriad am ychydig nag am lawer.

CELWYDD.

Mae'r gair hwn wedi colli ei fonedd a'i barch er ys oesoedd lawer: ond bu unwaith yn arwyddo doethineb. Cel-gwydd yw ei haniad; nid celu o wydd, fel y dywed rhai, ond celwyddoniaeth-gwybodaeth geledig. Ogwydd y daw gwyddor, egwyddor, gwyddon, gwyddoniadur, &c. Gwybodaeth gyfrinachol y doethion oedd celwydd yn yr hen amseroedd. "Gwaith celwydd yw celu rhin." Ond yn nhreigliad oesoedd aeth y gair a ddynodai gyfrinion y celfydd i arwyddo peth croes i wirionedd.

CATH.

Clywais lawer gwaith ar lafar gwlad, "Ceiniog yw pris Cath yn mhen Tre Llundain." Bychan y gwyddwn fod y dywediad hwnw yn seiliedig ar gyfreithiau Hywel Dda. Dyma'r hen gyfraith, yn ol "Dull Gwynedd," wedi diweddaru y sillebiad. Gwerth Cath a'i theithi yw hyn:-

1. Gwerth cenaw Cath yw, o'r nos ei ganer hyd oni agoro ei lygaid, ceiniawg cyfraith. 2. Aco hyny hyd oni laddo lygod, dwy geiniawg cyfraith. 3 Agwedi y lladdo lygod, pedair ceiniog cyfraith, ac ar hyny y trig fyth. 4. Ei theithi yw, gweled, a chlybod, a lladd llygod, ac na bo twn yn ei hewin, a meithrin, ac nad yso ei chenawon; ac os ei phrynu a dderfydd, o bydd un o'r teithi hyn yn eisiau, adferer traian ei gwerth yn ol. Yn ol "Dull Gwent," teithi Cath yw bod yn gyfglust, gyflygad, gyfddanedd, gyflosgwrn, gyfewin, ac yn ddifán o dàn; a lladd llygod yn dda; ac nad yso ei chenawon; ac na bo gathderig ar flaen pob lloer.

Y neb a laddo Gath a warchatwo dŷ ac ysgubor y brenin, neu ai dyco yn lledrad, dodi a wneir ei phen ar y ddaear, a'i llosgwrn i fyny, a'r ddaear fydd ysgubedig, ac yna dineu (tywallt) grawn gwenith glân am dani (o'i chwmpas), oni chuddio flaen ei llosgwrn; a hyny o wenith yw ei gwerth. Y neb a ddalio gath yn llygota yn ei ardd lin, taled ei pherchenawg y llwgr.

Gallesid ychwanegu amryw o ddeddfau am Gathod; ond dengys hynyna fod "Cymru Fu" yn dra llawn o

lygod, onide ni buasai Cath mor werthfawr.

LLYN Y MORWYNION.

———————

GAN GLASYNYS.

———————

(Y Chwedl.)

“RYWBRYD yn yr oesoedd Canol digwyddodd fod prinder mawr o ferched ieuaingc yn Nyffryn Ardudwy, a'r gwŷr ieuaingc gan deimlo eu hunigoldeb a benderfynasant dori dros y bryniau, & myned a wneddynt cyn belled a Dyffryn Clwyd. Wedi aros ennyd yno cafas rhai rianod, a diattreg groesi y mynyddoedd yn ol a wnaethant. Pan genfu gwŷr Clwyd hyn, ffrommasant, ac ar eu hol yn arfog yr aethant, a phan ar bwys Ffestiniog goddiweddasant wŷr Ardudwy a'r Morwynion. Cymmerth ffrwgwd waedlyd le rhwng y ddeu-lu. Gwyliai'r Morwynion y cad ar faes o ben cnicyn o graig gyfagos.

Lladdwyd gwŷr Ardudwy oll. A'r morwynion wrth weled hyn a redasant i'r llyn gerllaw, ac yno y cawsant fedd diarch diamdo, ac fyth wed'yn galwyd ef yn Llyn y Dorwynion. Heb fod yn neppell oddiwrtho mae Beddau Gwyr Ardudwy." Gwel y BRYTHON, Cyf i. tu dal. 91.

NOD. Cymmerais fy hyfdra i dynu can o'r defnydd uchod, gan roddi rhai pethau i mewn a gadael eraill allan. Rhoddais enwau hefyd ar brif gymmeriadon y gan. Gweddus hefyd yn ddiddadl egluro yng nghylch y CHWIFLEIAN. Prin y mae eisiau crybwyll mai'r un gwrthrych sydd gennyf yma o dan sylw, ag sydd mor fynych yn cael ei dwyn o'n blaen yng Ngwaith y CYNFEIRDD; ac yn bendifaddeu, yn y MABINOGION. Dyma ddywed MYRDDIN yng NGYFOESI MYRDDIN A GWENDDYDD EI CHWAER,' "A chwedlau Chwibleian." Gwel MYF. ARCH. Cyf. i. tu dal. 143. Neu fel hyn yn ol Llyfr arall "A chwedle doet Cnibleian." Yr un ydyw hon y mae'n debyg a VIVIANNE; sef y globen ystumddrwg waedwyllt ag sydd gan Mr. Alfred Tennyson yn ei IDILIS OF THE KING. Gwelais yn y GREAL hefyd ei hanes hi a Myrddin yn croesi o Ynys Enlli mewn "tŷ gwydr", ac yn glannio yn Llydaw; ond nid ydyw 'r Llyfr hwnw wrth law gennyf heddyw,gan hynny, nid oes ond cyflwyno fy nghân isylw'r neb a ewyllysio ei darllen; a lled-awgrymu mai SIBYLL yr hynafiaid ydyw fy CHWIFLEIAN I.

"Cared doeth yr Encilion."

Nadolig, 1859

I.

Mor gu yw gwedd Traddodiad! merch hynaf amser yw;
Mae'n cadw Brutiau 'r oesoedd, cofiannau dynolryw,
Mae 'n wraig i Cof wybodus; a'u hunig ferch yw Coel:—
Ac maent yn gwastad wledda ar seigiau ffeithiau moel.
Mae ganddynt Gastell costus, yn llawn o greiriau hud,
Ar ar ei dyrrau pigfain mae 'n gwarchod Engyl mud:
Ac ynddo ceir gwyryfon yn canu nos a dydd
A phob rhyw lần ysprydion yn yfed awen rydd!
Traddodiad! mae dy adlais yn swyno meddwl dyn,
Goleua ddunos gofid, diddana gŵyn a gwŷn.
Dwyfoldeb sydd yn dalaith addurnol ael dy ben,
Dy eiriau sydd yn feddal fwyn, a'th wisg yn llaes a gwen.
Mor anwyl a morwynig! mor lân a'r Awen wir,
Mor ddwyfol ag angyles bur, mor gynnes ag yw'r GWIR!

Y gwrid sydd ar dy ruddiau, gwirionedd ydyw hwn,
A'r Gallu anweledig yw cludydd cryf dy bwn!
Mae'th gyfrin fel yr yspryd, a'th ddysg o gylch y byd:
Lledneisrwydd a thirioni glân sy'n llenwi'th fron a'th fryd.
Traddodiad, Cof, a'r cyfan, O! rhoddwch help yn awr,
I adrodd digwyddiadau hen oesoedd blaen y wawr!
O! tyred Coel ddiniwaid, a thithau Hanes llwyd,
Rhowch olwg ar eich trysor drud, ac yna'm hawen gwyd
Ar edyn esmwyth ffansi, —i chwareu yn y gwynt,
Ac yna gwir olygfa gaf ar chwedlau'r oesau gynt,
Fel eira yn lloerenod ar fron y mynydd draw,—
Neu'r afon pan fo'r rhewynt blin yn rhoddi arni daw,—
Er ceisio llesg ymlusgaw,—y dwfr ei hun yw'r clo,
Am fod ei wyneb fel y dur,—mae dros y dw'r yn dô;—
Cyffelyb digwyddiadau, damweiniau dynolryw,
Er darfod ni ddarfyddant byth: er marw maent yn fyw.
Gan hyny fwyn Draddodiad, a'th acceniadau coeth,
Rho dro am unwaith etto ar hyd y bryniau noeth.
Perora nefol gerddi; melusber gerddi hud
A chwareu ar dy delyn aur nes cana'r creigiau mud.
Cyfuna oesau amser, dolenna barthau'r byd
A gloywa brudd-feddyliau bardd a goleu dwyfol fryd!
Hawddamor fyth-awenol! er fod dy iaith yn syn
Cawn rodio unwaith law-yn-llaw gerglannau'r gloyw Lyn.

II.

Eisteddai hên awenydd ar faen mwsoglyd gynt
A'i hirion wyn-gudynau a droellid gan y gwynt:
Ei delyn yn ei ymyl a'i phwys ar foncyff cam,—
Y delyn bêr a gafodd yn gofrodd gan ei fam.
Sibrydai ffrwd furmurog ar fron briallog fryn
Gan frysio tua'r gwastad er gloywi gwedd y glyn:
Gerllaw'r oedd hên fasarnen, —hoff le 'r ysguthan lwyd, —
O dan y deiliog gysgod, "Cwyn, cwyn," oedd cân y glwyd.
Pan oedd yn hanner huno daeth ato forwyn wen,
A'i gwallt yn grych-fodrwyog-frith-emmog gylch ei phen.
Dechreuodd rydd-ymddiddan ag acceniadau coeth:-


Y Chwifleian.

“Myfi yw morwyn Anian-Chwifleian ddiddan ddoeth:
Mae gennyf, fwyn Awenydd, gyfrinion dyfnion dysg,—
Danghosafddwfn ddirgelion,—dadlennaf chwedl y pysg,—
Mae Llyn yng nghesail bryniau ac arno donnau mân,
Bydd hwn yn fêdd diamdo morwynion glwysion glân."

Diflanodd y Chwifleian tu hwnt i geulan werdd,
A'r bardd yn haner effro a dybiai glywed cerdd
Yn llwytho yr awelon,—a'r dail yn dawnsio'n rhydd,
Ac "Adar Glyn Rhianon," perorion nos a dydd
Yn mud a distaw wrando,—yn synu ar y said:
Ond canfu'r bardd ar barlas pwy oedd y canwyr cain.
A chlywodd eu cyd-odlau, —deallodd air neu ddau,—
"Y Llyn," a "Gwyr Ardudwy," ac hefyd "bywyd brau."
Aeth yn ei flaen yn ffodog, a'i delyn ar ei gefn,
A cheisiai wrth ymlwybran ddirnadu 'r ryfedd drefn:—

Yr Awenydd.

"Rhagluniaeth," meddai, "Tynghed, dy ferch, mae hono'n ddall,—
Paham mae hon yn rhoddi i'r annoeth fwy na'r call?
Mae dreiniog lwybrau eisoes heb foes, yn groes eu greddf,—
Diodid nid da ydyw rhoi bai ar ddifai ddeddf.
Er hyny, (Duw fo 'n maddeu) mae rhywbeth hynod gam
I'w garfod ar y ddaear. Mae rhai'n gyfoethog: pa'm?
Ac eraill yn ymlusgo yn salw o dan draed;
A'r cyfan oll yn frodyr—heb ddim gwahaniaeth gwaed."

Pan oedd yn syn-fyfyrio fe welai langciau llon—
Rhai'n ymchwedleua'r ddifyr,—rhai'n taflu "careg" gron,
Neu ynte “drosol" anferth, —er dargos grym a nerth;
A swp o wyr oedranus dan gysgod deiliog berth
Yn sôn am ddyddiau maboed, —yn ieuaingc, er yn hên,—-
Eu bywyd mewn deng mynyd ail fywient gyda gwên.
Aeth attyrt: Fe roed crechwen groesawus iddo'n awr,
Ac megis cylch o'i gwmpas daeth pawb—yn fach a mawr:
Yr hên yn dawel syllai, —yr ieuaingo graifai'n syn
Ar wyneb yr Awenydd mwyn, a'i hir gudynau gwyn.

Gofynwyd iddo aros am enyd yn eu mysg—

Mervin, Arlwydd Ardudwy.

"O! aros," ebai Mervin, cawn genyt ti ryw ddysg :
Tydi yw'r gwr a welais yn nhawel oriau'r nos,
A choelio'r wyf y medri ro'i hanes Enid dlos
Fy ngobaith;—cydmar enaid;—gwyr pawb mai unig wyf
Gwn daw o dannau'th delyn feddyglyn i fy nghlwyf.

Tyr'd heno i fy neuadd, cawn eto hir ymgom:
Pa le mae Rhys neu Hywel? Dowch: ewch a'r delyn drom,"—
Fel mellten drwy'r ffurfafen daeth meinwen at y bardd
A cherddai wrth ei ochor nes cyraedd godre'r ardd,
Ond yno sydyn safodd a llinyn yn ei llaw,
A chlywodd pawb hi 'n sibrwd,—

Y Chwifleian.

"Y drefn sy'n tynu draw.
Mesuraf fi amseroedd, a llanwaf fodd y llyn:
Mae 'r rhosyn heno ’n wridog a'r lili ’n las a gwyn!"

Syn-safai 'r hen Awenydd,—dywedai 'r gwir yn noeth;

Yr Awenydd.

"Wel, dyna rydd-ymddiddan, Chwifleian ddiddan ddoeth."

III.—Mervin,

"Mae genyf," meddai Mervin—Pan yn ei Neuadd lawn
Gyfrinach a'r Awenydd. Foreuddydd a phrydnawn,
Breuddwydio'r wyf am rywun: a hyny yn barhaus:
Pwy ydyw'r anwyl feinir ? Paham mae yn sarhaus?
Mae yma hefyd heno gyfeillion fel fy hun—
Mewn dwfn deimladau beunydd o herwydd nad oes mûn
I'w chael yn nhud Ardudwy. Pur galed ydyw hyn:
Moes i ni'n awr dy gynghor :"-

Yr Awenydd.

"Mi welais ar y llyn
Aderyn balch yn nofio, a'i wisg fel eira gwyn,
Ei hunan mewn unigedd, a'i olwg oedd yn syn."

Y Chwifleian.

"A fedri di, Awenydd, hysbysu in' paham
Mae rhai yn gorfod bydio heb neb i luddio 'u cam?
Mae arnom eisiau rhiain cariadus heinif heirdd,"
Rhai tebyg i'r anwyliaid ddesgrifir gan y beirdd.
Os medri, brysia, dywed,—tosturia wrth ein nwyd.—

Attebwyd o'r tu allan.

Y Chwifleian.

"Draw, draw yn Nyffryn Clwyd,
Mae Enid dlos y Glasgoed yn curio er dy fwyn,
Cyferfydd di y fory yn nghệl cysgodol lwyn,
Dos yno â'th farchogion, mewn gwisgoedd gwyrdd a gwyn,
Ond cofia'r 'bedd diamdo,' a 'llonydd dwfn y llyn.'
Dos dithau'r mwyn Awenydd, ac arfer eiriau coeth
I'w dilyn,—dyna gynghor Chwifleian ddiddan ddoeth."

Yr Awenydd.

"Rhaid" ebai'r Bardd, "yn ufudd, os myni gael y fûn,
I ti a'th ddewr farchogion yn union bod ag un,
Ddod drosodd i Rufoniog—yn gefnog, wrth y gais,
Daw Enid ar ei hunion i'r llwyn pan glyw fy llais
Yn canu 'Mwynder Meinwen?: 'r wy'n adwaen rhian dlos
Y Glasgoed er's blynyddoedd. Na falier yn y nos:
Rhaid cychwyn: galw'th ddynion: na chymer fir na bwyd,
Cawn ddigon o radlondeb ar waelod Dyffryn Clwyd."

IV.

Pan oedd y wawrddydd las-wen yn agor dorau'r dydd,
A'r bywiog chwim a welon yn plygu cangau'r gwŷdd,
O ben Hiraethog noethlwm canfyddid cyrrau'r fro—
Y wlad lle'r oedd y dewrion am aros dros eu tro,
Pan oedd y meirch golygus yn gorphwys enyd fâch,
A hwythau 'r glàn farchogion,-i gyd o uchel âch,—
Yn ymddifyru'n llawen, —a'u penau oll yn noeth,
Disgynodd yn eu canol y lân Chwifleian ddoeth.
Dywedai 'n llym wrth Mervin:-

Y Chwifleian.

"Bydd llwyddiant ar dy daith,
Ond gwylia 'r 'Llyn mynyddig a'r rhosdir grugog llaith."

Aeth ymaith ar amrantiad gan farchog meirch y nef,
A thaerai rhai o'r dewrion eu bod yn clywed llef
Yn treiddio trwy 'r clogwyni; a'r adsain ar y bryn
Yn atteb, "cymer ofal o'r rhosdir llaith a'r llyn."

V.

Bu'r dderwen fawr yn fesen: bu 'r afon ddofn yn ffrwd:
Bu 'r haul yn ddwl lygiedyn yn rhodio yn y rhwd:
Ond troellir gan Ragluniaeth a Thynged gibog gâs
Ddigwyddion byd yn sydyn hyd derfyn bywyd bâs.
Ymwawria 'r dydd yn raddol—a'r adar per eu cerdd
Ddyhidlent felus odlau yn nghudd y goedlan werdd;
A'r lleiniau teg meillionog, toreithiog lwythog le,—
Edrychent mor wyryfol a thyner lesni'r Ne'.
Tirioni a Thlysineb, y ddwy rodianant draw,
A blodau glân a blagur yn dusw yn eu llaw!
Gorweddai gwŷr Ardudwy gerllaw afonig lefn,
O'u blaen y dyffryn eang, a mynydd o'r tu cefn:
Torasant dalaith fedw,—plethasant hi yn hardd,
Brithasant hi a blodau yn addurn ael y bardd :
Dechreuodd yntau chwareu Alawon pêr ei wlad-
Alawon mwynlawn cariad sy'n llawn tymerau mâd.
Mor odiaeth lon edrychai gwyr tirion Meirion fro,—
Pan oeddynt yn ymolchi yn gryno ar y gro:
A Mervin;—dyn agored, a'i wyneb llawn yn llon;—
Dau lygaid du 'n serenu,-a'i rudd yn goch a chron:
Ysgwyddau llydain grymus, a'i wallt 'r un lliw a'r frân,
Yn arwr mewn gwirionedd ;—ond cariad oedd y gân!
Ond ofnai hyn yn erwin, a chofiai 'r breuddwyd hwn—
Yr ydoedd ar ei feddwl a'i bwys yn llethol bwn!
Un noson yn y gwanwyn daeth hunlle ar ei hynt,
Ac yn ei dull arferol fe bwysodd ar ei wynt.
Cyn hyny, gwelai rïan, yn cerdded yn y coed
Gyn laned ag un angel; ond gwelai am ei throed
Ryw gadwyn haiarn rydlyd a phwysau wrthi 'n dỳn:
Ar fynyd ciliodd ymaith, a suddodd i ryw Lyr.
Ond pan oedd hi yn cwympo daeth hunlle megis arth
A gwasgodd nerth ei enaid fel gwasga'r haul y tarth.

VI. Yr Awenydd.

"Dos draw i'r llwyn cyfagos ac eistedd ar y faingc
Sydd yno dan Grïafolen, a gafael mewn tair caingc:
Ymgroesa wed'yn deirgwaith, ac adrodd y tri gair,
Ac yna taer ddeisyfa, ymbiliau'r Forwyn Fair.
Daw Enid yno atat;-y brydferth Enid fwyn-
Anwylaf o'r anwylion i wrando ar dy gwyn.
Dos yno: gwyr y cyfan; Chwifleian ddiddan aeth
I'w denu i'th gyfarfod : a dwyn ei chalon wnaeth!

Bydd Enid glws y Glasgoed yn eiddo itti mwy;
Prysura 'n union atti nac aros ddim yn hwy."

Aeth Mervin drwy 'r coedlannau yn ffodog at y fan,
Ond O! daeth ofn fel afon nes boddi 'i enaid gwan:
Daeth arno arswyd creulon y Widdan,—morwyn ffawd,
Ac hefyd cofiai 'r breuddwyd oedd bicell yn ei gnawd.
Yng nghanol llwyn canghenog, mi welai faingc a phren
Criafolen yn ymwyro, ar osgo uwch ei phen:
Dechreuodd ei ddefosiwn: darfyddodd : ni ddaeth neb!
Eisteddodd: cysgodd ennyd fêr a'i wridog rudd yn wleb;
Y cyntaf peth a deimlodd oedd llaw morwynig wên
Yn chwareu 'n anwyl hefo hir gudynau du ei ben.
Agorodd ei olygon, a gwelai fyd yn grwn;
Dattodwyd tidau gofid caeth: a darfod wnaeth y pwn.
Sisialai 'r ddau 'n gariadlon yn mynwes gynes serch
Ac engyl pur a syllent drwy lygaid glas y ferch:—
Ymdoddent mewn anwyldeb;—neu fel yr enfys draw,
Ymollwng ar ol cawod wna i'r goleu gwyn gerllaw:
Cyffelyb golwg Enid; O serch y lluniwyd hwy
A thyna 'r achos iddynt ro'i amrywiol farwol glwy'.
Carasant oriau hirion,—ond byrrion, byrrion iawn
Yn nhyb y ddau: chwenychent hwy bob awr, yn ddiwrnod llawn.
Carasant oriau hirion.—dwy galon aeth yn un;—
Mae rhywbeth hyfryd, oes mewn serch yn adgenhedlu hun!"

Enid.

"Tyr'd Mervin, tyr'd i'r Glasgoed, cei groeso nhad a mam:
Moes glywed fy anwylyd glân, paham na ddeui; pa'm?"

Mervin.

"Mae ngwŷr yn aros accw am danaf hefo 'r bardd." —

Enid.

"Na, tyred i fy nghalon aur: mor bell achlawdd yr ardd?"

Mervin.

"Mae arnaf awydd dyfod, ond beth o'm gwŷr, fy mûn?"

Enid.

"Na falia, Mervin anwyl, hwy gysgant dawel hôn
Wrth ddisgwyl am dy weled! Awn, awn, mae mantell lwyd
Yn agorei goblygion llaith:—noswylia'r clodfawr Clwyd!”

VII.

Y bore fel arferol, ymrithiai hunan haf,
Ond gwelid ar ei wyneb brith argoelion bod yn glaf.
Cyn hir fe dduai'r wybren;—pistylliai'r gwlaw er gloes;
A'r hin hyfrydlon noson cynt, yn ddryghin erwin droes.
Ond os oedd du 'r ffurfafen, 'r oedd calon dau yn wyn,—
Nes clywent wich y Widdan gâs yn brudio am ryw Lyn.
Adgofiodd hyn i Mervin y pethau drwg ei hynt,
Ond buan aethant ymaith oll fel niwl o flaen y gwynt.
Pan soniwyd am briodi, mor barod oedd y ddau!
Y tad gynghorai aros peth—"hyd nes gwisgïai 'r cnau."
Y fam, er hyn, oedd foddlon: ei duw oedd Mervin hardd :
Hên gariad iddi oedd ei dad, a chafodd ei gwahardd
fod yn briod iddo:—ei chariad oedd er hyn ;
A pharai serch ELIO LLWYD yr un at OWEN WYNN.)
Ond Enid feddal addfwyn, a'i bron yn llawn o dân,
Gynlluniodd ìi ddïengyd—(a thair genethig glân
I'w chanlyn ;) hefo Mervin i dud Ardudwy draw,—
Ac am y bryniau 'r aeth y pump er gwaetha 'r gwynt a'r gwlaw!

VIII.

Ha! dacw wŷr Ardudwy ar lethr y mynydd serth
Yn canu ac yn dawnsio'n rhydd dan gysgod dreiniog berth ;
Pan welsant hwy'r rhianod,—lliw'r manod ar y bryn
Yn dyfod hefo Mervin ar gefn merlynod gwyn;
Rhoed uchel floedd gyfarchol,—plygasant ar eu glin,—
A phawb a geiriau swynol serch yn llifo dros ei fìn.
Yn osgordd deg ymffurfiwyd: y Bardd oedd ar y blaen,
Ac yna Mervin ddenol—ar farch oedd deg ei raen ;—
Ac Enid dlosgain hefyd ; a'r tair mor lawen lon
Ag wynos pan yn campio yn nwyfusar y fron.
O'u deuttu ac yn dilyn, Marchogion glân eu gwedd
A ddeuent fel cynhebrwngmawr—(heb feddwl am y bedd,—
Y bedd cyfriniol hwnw, "diamdo fedd" y Llyn)—
Gan rydd chwedleua 'n ddifyr ddoeth wrth groesi nant a glyn

Mynachlog! neu Yspytty! mor swynol sŵn dy gloch!
Mae'n seinio dros y cymmoedd cudd—"yn iach! yn iach y bo'ch."
Mor hyfryd i'r pererin ar ol ei ludded maith,
Fydd clywed clir wahoddiad hon i orphwys ar ei daith!
Ceiff yma gartref tawel; a phawb fydd yno'n frawd;
Yn ceisio dysgu 'r naill y llall i wrthladd byd a'r cnawd.
Yr oriau gedwir yma i ymbil am y rhâd,
A gluda 'r egwan, er mor lesg, i dawel dŷ ei Dad!
Tŷ gweddi,—tŷ elusen,—tŷ cariad,—cennad Iôr—
Na foed i'r Aberth bythol mwy gael gwawd o fewn dy gôr!
Ond bydded presennoldeb yr Hwn a roddes gri
"Fy Nhad, O! maddeu iddynt hwy,"—ar groesbren Calfari
Ddylenwi côr a changhell, a chafell heb wahân,
Nes byddo'r byd yn teimlo gwres cynhesol Dwyfol dân!

I hen Yspytty Ifan; i ŵydd yr Abbad ffraeth
Yr aed; a chyn pryd Gosper llawn, eu dyweddio wnaeth;
Ac wedy'n ail-gychwynwyd yn osgordd, fel o'r blaen,
A'r Abbad ddaeth i'w hebrwng yn dirion dros y waen.
Ei fendith iddynt rhoddes, ac adref troes yn awr,
A hwythau aethant tua'u bro yn gwmni teg eu gwawr.

IX.

Pan draw ar frig y bryniau, yng ngolwg bro eu bryd, —
Hwy welent yr eangfor yn cysgu yn ei gryd:
Pinaglau draw ac yma,—hen greigiau noeth eu gwlad,
Oastell il caerog Anian lwys,—nawddleoedd rhyddid rhad.
Fe safodd pawb i syllu ar waedlyd wrid y nen,
A'r haul fel coch-farworyn mawr,—heb belydr am ei ben.
Pan yn eu syn-fyfyrdod daeth twrw ar eu clust,
Ni wyddai nebo b'le naphwy: sibrydai Mervin, "Ust."
Ond cyn pen haner munud, fe welid ar y bryn,
Rhyw lu yn gyrru 'n ffyrnig, a phawb asylla 'n syn!
Dynesu wnaent yn dalog,—rhai mewn cynddeiriog nwyd,
Ac ereill ofnent na chaent byth un gip ar Ddyffryn Clwyd.

X.—Rolf, Arglwydd Dinbych.

"O ladron melltigedig! a hyllig deulu'r fall!
Cewch yma, myn y nefoeddfawr, gael profì pwys eich gwâll!
Yn barod! Ha! Ellyllon; yn drawsion ewch dan draed,
Ceiff grug y mynydd feddwi'n awr wrth yfed nodd eich gwaed.

Mervin.

"Yn araf, ddyn, yn araf; defnyddia, os oes pwyll: —
Ni wnaethom ddim yn haeddu'r fath enwau llawn o dwyll,
Mae'n wir i Enid anwyl;

Rolf.

"'Taw, fulain, taw a'th sŵn."

Mervin.

"O'r goreu, Rolf; dim coegni: ni thrinir ni fel cŵn,
Myn gwaed fy nheidiau dewrion! farchogion blaen y gâd
Arfogwch; dim ond ymladd: nac ofner briw na brad."

Enid.

"Na, na, fy Mervin anwyl; dim ymladd; tyr'd ym mlaen;
Nid felly'n awr fy nghalon bach."

Gwŷr Ardudwy.

I'r waen! i'r waen!! i'r waen !!!

VI.—Yr Awenydd.


"Yn 'Enw Duw a'i dangnef,'pa beth? pa beth yw hyn?
Ystyriwch air o gynghor doeth hen ŵr a'i walltyn wyn;"—

Gwŷr Clwyd.

"Bydd ddistaw! ffŵl! yn barod," —

Mervin.

"Ymladdaf fi fy hun
A dau o'ch rhai dewisol," —

Gwŷr Clwyd.

"Pa le mae ROLF yn un?

Mervin.

"Tyrd Rolf; yn awr yw'r adeg: nid dyma amser twrf,
Rhyw ddau oth wyr a thithau! Tyrd, tyr'd, yr adyn llwfr."

Enid.

"Moes gusan, Mervin, gwrando; fy nghalon! dyro ddau!
O! Dduw a Mair Fendigaid! mae f'enaid yn llesghau."

Rolf.

"I'r maes, ddyhirwyr anfad."—

Mervin.

"Doed dau i'th ddilyn di,
Ymladdaf a chwi 'n lawlaw : neu ynte deued tri.

Rolf.

"Dos ymaith, Enid, brysia, cei eto weled pa'm
Y buost mor fursenllyd a gwadu 'th dad a'th fam."

Mervin.

"Hyd angau, Enid anwyl; drwy angau awn yn un
Dau ydym annattodol, brïododd serch ei hun."

I'r maes oedd bloedd aflafar y tingcian arfau rhydd,
Ac ar y rhosdir brwynogllaith terfynwyd gwaith y dydd!

XI.

Ar gopa craig uchelgrib uwch-ben y rugog rôs
Y safai'r glân rianod pur wrth ymyl Enid dlos:
Ond, Ow ! mae'n gwylltio; gwrando!—

Enid.

O!'r fyth Fendigaid Fam,
Eiriola ! danfon gymhorth i MERVIN rhag cael cam.

  • * * * * * * * *

Y maes oedd wastad hynod; a'r ddwyblaid ddaeth yn mlaen;—
A'r oergri ruddfan dystiai fod marwolaeth ar y waen!
Daeth Rolf i arfod Mervin, a gerwin oedd eu grym,—
Nesaent yn hyf,—ond dyma dri â bwyill miniog llym,
Yn rhedeg yno i helpu,—ond dacw ddau i lawr,
A Rolf a'i ben fel ceubren hyll, yn brathu gwellt y llaw

Ond ar y funud yna, daeth saeth o'r ochr draw,
A suddodd yn ei fraicli yn ddwfn; ond nid oedd ofn na braw.
Parhau i wir weddio 'r oedd Enid yn ddi ball:—

Enid.

"O Argwydd cadw Mervin fwyn ! Tydi yn unig all.
Mae 'n medi ei elynion! ! Fah y Forwyn hur,
O! Cadw Mervin imi 'n wr, er giuaethaf llidiog gur.
Mae chwech yn rhedeg atto,— mae chwech yn erbyn un,—
Mae pedwar wedi cwympo, a'r pum," — * * *
Duw ei hun
Faddeuo. Dowch Enethod. Fy Nuw a Mair a'i myn.
Cawn noddfa etto rhag eu llid yn mynwes lawn y Llyn."
"I'r llyn," oedd gwaedd y pedair,—neidiasant,— cawsant fedd
Diamdo dan ei donnau mân; a theulu'r tawel hedd —
Y Forwyn Fair a'r seintiau a'r pur wyryfon sydd,
Yn cyfeillachu efo 'r rhain yng ngoleu 'r nefol ddydd !

XII.

Mae "Beddau gwŷr Ardudwy" ar waenydd Serw 'n awr,
Yn ddalen waedlyd er coffâu y flin ymladdfa fawr;
A thonau "Llyn Morwynion" wrth olchi min y làn
Yn sibrwd beunydd am y "bedd diamdo" sy 'n y fan.
A dywed mwyn Draddodiad, — " ar lawer noson oer
Bydd Enid hyd y rhosdir llaith yng ngoleu'r welw loer
Yn chwilio am ei Mervin; ond cyn daw bore gwyn
Bydd wedi suddo yn ei hôl yn llonydd dwfn y Llyn."

IOLO MORGANWG.

(GAN CYNDDELW.)

TYBIAF na bydd ychydig o nodiadau ar ddyn mor hynod a IOLO MORGANWG yn anghydweddol ag ysbryd ac amcan "CYMRU FU." Un o'r dynion rhyfeddaf a fagodd Cymru erioed ydoedd. Dyn isel yn y byd—dyn yn diystyru cyfoeth, ac yn hollol amddifad, mae'n debyg, o ddoethineb a chyfrwysdra y byd hwn. Mynai fod yn dlawd, gweithiai â'i ddwylaw i gadw ei deulu, ac ymroddai i'w swydd, fel Bardd a Derwydd,i gasglu pob math o wybodau dichonadwy iddo, yn enwedig gwybodau henafol a Chymruaidd; a bu farw mewn oedran teg, yn nghanol cyflawnder o ysgriflyfrau gwerthfawr, yn y flwyddyn 1826. Ni bu dyn mwy caredig, dyngarol, a dirodres yn rhodio daear erìoed. Nid oedd un aberth yn ormod ganddo i'w gwneuthur er lles eraill; a'i awydd a'i hyfrydwch penaf oedd cyfranu addysg i'r ymgeisydd ieuanc ac athrylithgar. Ond o herwydd gwreiddiolder ei olygiadau ar braidd bob peth, annibyniaeth ei farn, hynodrwydd penderfynol ei ddull, ac o herwydd iddo ymddangos mewn oes hynod o ragfarnllyd mewn pethau gwladol a chrefyddol, treuliodd ei oes faith a llafurus heb ennill y sylw a'r parch a ddylasai gan y cyffredin; yr oedd llawer yn elynion diachos iddo, ac ychydig yn ei fawrhau fel pe buasai brophwyd o'r nefoedd.

Dywedir i IOLO yn more ei oes benderfynu chwilio perfeddwlad America i edrych am y Madogwys; canys credid y pryd hwnw eu bod yn hawdd eu cael, dim ond myned i hela am danynt. Yr oedd IoLo yn gerddwr dihafal, a gallai gerdded llawer ar ychydig iawn o fwyd; ond barnai y byddai raid iddo ar ei hynt Fadogaidd oddef mwy o galedina chyffredin, am hyny bu yn caledu ei hun at y gwaith, yn pori glaswellt, yn cysgu allan, &c., nes i ddiffyg anadl, a phoenau ereill, ei argyhoeddi o'i gamsyniadau. Ystyrid IOLO yn dderwydd ymarferol, sef yn fab heddwch, yr hwn na ddynoethid arf yn ei wyddfod; eto mae cof am dano yn cefnogi y Dr. Dafydd Samwel i ymornestu a Ned Mon yn Llundain; ond barna rhai mai fel dyddiwr y cymerodd IOLO y swydd, yn hytrach nag fel cefnogwr y fath gyflafan. Pa fodd bynag, ni bu yno dywallt gwaed, canys ni ddaeth Ned Mon i'r maes. Dyna ffordd hynod i feirdd a llenorion i roddi terfyn ar eu hymrysonau Eis teddfodawl.

Yr oedd bywyd Iolo yn hynod o ddiaddurn a chyntefig,

"O Ddawon afon yfai, Ac yn ei nerth canu wnai."

Dwfr, a llaeth, a thê oeddynt ei ddiodydd cyffredin; a phelled a hyn y gwrthbrofir, ynddo ef, yr hen haeriad—

"Ni fu ddoeth a yfo ddw'r."

Yr oedd yr afonig Dawon yn gymydoges hoff ganddo, pan y rhodiai ar ei glenydd, ac yr yfai o honi.

Tybiaf fod Iolo yn fwy o feddyliwr na neb yn ei oes.

"Ni chytunai a Burnet, Whiston, Buffon, Whitehurst, na Hutton, yn eu dychymygion yn nghylch ansawdd ein daear, a'r achosion o'r annhrefn, neu yn hytrach y drefn bresenol o amrywiol osodiadau a sefyllfaoedd y gwelyau a'r colofnau o greigiau a sylweddau ereill yn ei harwynebedd. Yr oedd ganddo gyfundraith o'i eiddo ei hun.—
G. Mechain.

Mae yn anhawdd gwybod yn iawn pa beth oedd ei farn grefyddol. Nid oedd Waring, ei fywgraffydd, yn gwybod chwaith. Yn ei Salmau y gwelir mwyaf o'i syniadau crefyddol. Mae yn amlwg ei fod yn ddyn bucheddol a chymwynasgar, yn feddyliwr dwfn ar bethau dwyfol, fod ganddo syniadau goruchela pharchus am Dduw, ac am yr Ysgrythyr Lân fel amlygiad o'i ewyllys. Yr oedd y Diweddar Ddr. Jenkins, o Hengoed, yn gydnabyddusiawn a Iolo, a chlywais ef yn son cryn lawer am dano. Yn ol fel y dywedai ei gyffes wrth Dr. Jenkins, yr oedd efe yn Undodwr mewn rhai pethau, yn Grynwr mewn pethau ereill, yn Fethodist yn nhrefn y weinidogaeth, ac yn Fedyddiwr mewn bedydd. Nid oedd neb yn ei foddio yn mhob peth, ac yr oedd efe yn cymeradwyo rhywbeth yn mhawb. Soniai am ysgrifenu llyfr i ddangos fel yr oedd pawb yn cyfeiliorni, o dan yr enw—"Ymweliad y Diawl ag Eglwysi Cymru." Ond ni chyflawnodd ei amcan yn hyn fel mil o bethau ereill a fwriadodd. Gwir nad oedd Iolo, er ei holl wybodaeth a'i barodrwydd i gyfranu addysg, ond athraw gwael i'r dysgybl diathrylith. Yr oedd ei olygiadau ef yn wreiddiol braidd ar bob pwnc, a chanddo rywbeth i'w ddywedyd yn erbyn pob plaid a syniad mewn crefydd ac athroniaeth; ond nid allai y dysgybl pendew lyncu dim ond y syniadau nacaol, ac felly ni ddysgent nemawr o ddim ond amheu a gwrthddadleu. Yr oedd tuedd naturiol yn hyny i ladd yspryd crefydd, ac i nychu dawn ac athrylith; a'r canlyniad yw, na fagodd Iolo, er ei holl gymhwysderau cynhenid, cymaint ag un dysgybl gwerth son llawer am dano. Yr oedd awyr farddonol y Gogledd yn wahanol. Bu D. Ddu, G. Mechain, ac eraill yn fwy ffodus i gynnyrchu beirdd uchelryw ac awenddrud.

Er mai yr Undodiaid, neu y Sociniaid, fel eu gelwir, oedd yn hawlio Iolo fel brawd, eto mae'n debygol na bu efe erioed yn aelod eglwysig gyda hwy. Gellid meddwl mai aelod anhydrin mewn cymdeithas fuasai, oddigerth gydag ychydig o feirdd y rhai a edrychasent arno fel eu horacl. Ond dywedwn air eto am Iolo fel Emynwr. Cyfansoddodd tua thair mil o emynau, a thua thri chant o Erddyganau i'w canuarnynt. Dyna dystiolaeth ei fab, T. ab Iolo. Gan hyny mae 2500 o'i Salmau heb eu cyhoeddi eto; canys tua 500 o honynt sy'n argraffedig yn y ddau Lyfr. Mae ei Emynau yn rhagori mewm nifer ar eiddo Williams Pantycelyn, ac yn rhagori'n ddirfawr mewn celfyddgarwch hefyd. Wrth ystyried hyn, amledd ei fyfyrdodau ereill, gwaeledd gwastadol ei iechyd, a chyfyngder ei amgylchiadau bydol, yr ydym yn synu at amrywioldeb ei ddoniau, a'i ddiwydrwydd diflino. Wedi'r cwbl, ni ddaw Emynau Iolo byth yn boblogaidd yn Nghymru. Er nad oes ynddynt syniadau tramgwyddus i neb am a wn i, eto maent yn amddifad o'r elfen fywydol hono sy'n gwneud hymn yn flasus ac effeithiol. Nid yw cwymp dyn yn Adda a'i achubiaeth drwy angau Crist, yn un rhan o'i syniadau crefyddol; eto cydnebydd Iesu Grist fel athraw dwyfol wedi dyfod i ddysgu'r ffordd i'r bywyd, a gwynfydedigrwydd y sawl a wrendy arno, ac a'i dilyna. Nid oes yno ddim o'r newyn a'r syched am gyfiawnder sydd yn Emynau Williams. Mae Williams yn canu angen a phrofiad y werin yn eu dull a'u hiaith sathredig hwy eu hunain; a dyna athroniaeth ei boblogrwydd Emynol. Gosodwn rediad y Salmau yn ngeiriau yr hen fardd ei hun, fel diweddglo i'n hysgrif.

Dechreuodd Iolo ei lafur Emynawl ar ol cyhoeddi ei farddoniaeth Seisnig tua 1796, ar anogaeth y Dr. Gregory, y Dr. Kippis, Theophilus Lindsey, ac ereill. Ei amcan oedd "ysgrifenu rhyw faint o Salmau neu Hymnau Cymraeg, o'r cyfryw ag y gallai Cristionogion diragfarn, o bob enw a phlaid, ymuno ynddynt i folianu'r UN DUW A THAD OLL." "Amcenais gadw mor agos ag y medrai fy neall gwan i, at feddwl yr Ysgrythyrau; cymerais waith y Brenin Dafydd yn rhagddarlun imi, amcenais, er cloffed fy neall, ei ddilyn, ac ymgadw, mor agos ag y medrwn, at ei ffordd ef; fy Ngheinmygedau, yn gyffredin, ydynt fal ei rai yntau; mawl i Dduw; rhagoroldeb ei air a'i gyfraith; gwynfydedigrwydd y cyfiawn a rodio yn eu hol; addewidion Duw i'r sawl a'i hofnant, a'i carant, ag a ufuddhânt iddo; gwelir rhai o'm Salmau yn athrawiaethol, yn annog cyfiawnder, cariad, trugaredd, addfwynder, gobaith, a chred yn Nuw; yn annog i lynu yn gadarn wrth y gwir, ei ddilyn i ba le bynag y bo'n harwain, a hyny hyd farw drosto, lle bo achos yn gofyn: i ufuddhau ì Dduw yn hytrach nag i ddyn."

Nid ein bwriad oedd ysgrifenu Cofiant Iolo Morganwg, ond cofnodi ychydig o'i hynodrwydd fel dyn a Derwyddfardd

Dilys mai codiad Iolo—a gwnodd
Forganwg o angho',
A hir y cedwir mewn co'—gan ddoethion
Hen gyfrinion a gofir yno.
Iolo fawr oedd haul i feirdd,
Ac i dorf o gadeirfeirdd
Uthredig Athraw ydoedd,
A'i air clwm eu horacl oedd ;
Mewn barddrin a chyfrin chwedl—mae'n amlwg,
IOLO MORGANWG HAUL MAWR Y GENEDL.

CYNDDELW.

NOS GALANGAUAF YN Y CWM

GAN GLASYNYS.

Pwy bynnag a chwenycho weled a chlywed dulliau a chwedlau yr hen bobl dda sydd wedi ein gadael er's llawer oes, deued hefo ni am noson i Gwm Blaen y Glyn. Beth bynnag, yr y'm ni am fyned yno'n brydlon fel y caffom ran o ddifyrwch diniwaid pobl wreiddiol y byd,—pobl nad oes ond un argraffiad ystrydebol o honynt i'w gael ar glawr daear. Amser hyfryd i deithio ydyw diwedd Hydref, os y bydd hi'n sych. Bydd y grug yn gochach, y mynyddoedd yn felynach, y goedwig yn fwy rhwd-goch yr adeg hon nag un amser arall, y planhigfeydd yn llawn dail, er fod llawer wedi cwympo: a'r llwyni derw tewfrig heb ddynoethi eu canghenau esgyrniog, er fod aml i gorwynt cuchiog beiddgar wedi cynnyg eu hysgrialu. Bydd yr afonydd erbyn hyn wedi llenwi eu gwelyau, ac yn ffurfio'n fath o linynau arianliw, ar draws, ac ar hyd mynwes y mynydd ban. Ond os bydd yr hin yn ddryghinllydd, bydd yn dywydd enbyd? Bydd y gwynt fel pe bae wedi d'od o'i garchar, ac yn ymruthro, ac yn ysgubo llon gau'r môr a choed y maes. Us bydd yn gwlawio, pistylla'r cymmylau nes hanner boddi'r byd. Poed hyn fel y bo, amser hyfryd ddigon ydyw mis Hydref; a'r noson olaf o hono ydyw ei brif ogonmiant, sef Nos Galangauaf! Y mae rhyw swyn arbenig y' mywyd syml, tawel, a digynhwrf y mynyddoedd; yma ceir unigrwydd syn a llawenydd gorhoenus yn cydfyw yn llaw-law hefo'u gilydd. 'Yr hên ŵr a'i gudynau fel yr eira, a'r bachgen gwridgoch, yn cyd-ymddifyru 'n fwyn-lon;—yr hen Neina druan ag amser wedi tynu ei og ddrain dros ei gwynebpryd hirgrwn, a'r eneth ieuangc a dwy-foch fel gwaed, yr hon, braidd, y plyg y babwyren ir o dan ei throed, yn cyd-fwynhâu yr un campau diniwaid: unent yn yr un floedd chwerthinllyd; ac ymlonent yn gyd-radd pan gaffent gymmorth i chwerthin gan rai o'r plant a fydd yn ben y gamp am chwedl ddigrif, neu ryw ystumiau gwamal. Bywyd hyfryd yw bywyd yn y mynyddoedd. Desgrifir ef fel hyn yn un o Fugeilgerddi a * * :—

Ryw noson oer ddryghinog yn HAFOD LWYFOG lan,
O dan y simneu fawr yn glyd yn profi blas y tân :
Eisteddai TAIR cenhedlaeth, —y Plant,—y Tad a'r Fam,
A Neina yn ei chadair wellt,—a Theida 'n hen a cham
Mewn cadair freichiau dderw, yn trin y tân a'i ffon,—
A'r plant oedd yn ymryson bod odan ei lygaid llon!
Hen arfer HAFOD LWYFOG er dyddiau "Cymru Fu,"
Oedd adrodd chwedlau wrth y plant ar hirnos gauaf du;
Un hynod iawn oedd Neina am gofio naw neu ddeg
O bethau glywodd gan ei Nain, am gampau'r Tylwyth Teg,
Wrth gribo gwlan ddechreunos:—a'i merch yn diwyd wau ;
A'i gŵr yn prysur wneud llwy bren, neu yntau efail gnau ;
Ond Teida oedd y goreu am hen gofiannau gwlad
Y rhai a ddysgodd yn y Cwm wrth gadw praidd ei dad.

Dyna ddarlun o dai'r mynyddwr aramseroedd cyffredin; ond ar Nos Galangauaf, nid un teulu fyddai yn nghyd; ond pawb trwy'r Cwm yn ddiwahân; gwan hen, a gwan ifangc: y llangciau cryf esgyrniog, a'r lodesi glandeg chwim ar eu troed; y tadau gwybodus, a'r mamau llawn pryder, a syberwyd. Byddai yr henlangc consetlyd yno, a'r hen ferch wastad ei chwedl, yn anghofio am dro weled bai ar bawb a phob peth yn dangos ei wyneb. Ym Mlaen y Glyn y byddai pawb yn y Cwm, er cyn cof, yn arfer cadw Nôs Galangauaf. Hen dŷ hir, digon symol yr olwg arno oddiallan, oedd Blaen y Glyn. Yr oedd yno ddwy neu dair o goed ynn yn tyfu gerllaw iddo, allwyn o frysgyll tew heb fod yn neppell. Yr oedd yno hefyd bistyll yn y buarth; a thipyn yn mhellach draw yr oedd y fuches. O flaen y drws yr oedd llei'r ystenau godro, ac wrth y pen deheuol ryw ddwsin a hanner o gychod gwenyn yn rhes. Bellach, beth fyddai i ni fyned i'r tŷ i ro'i tro? Hen ddrws derw mawr heb brofi blas paent erioed: yna hen gul-fan eang: y llawr o gerig llyfnion yn lân. Trown i mewn ar y llawchwith. Dyma hen simneu fawr anwyl yn ddigon o'i maint i gynwys dau ddwsin ar unwaith: lle i gadw mawn yn y gornel bellaf. Tân ddigon i rostio eidion ar yr aelwyd, a dau neu dri o gŵn yn gorwedd yn hamddenol o'i flaen. Un ochr i'r gegin (oblegid yn y gegin yr ydym; a lle iawn yw hen gegìn lanwaith llawer man rhwng y bryniau)—un ochr y mae bwrdd, a hwnw gyn wyned a'r talch; nid calch dealler, ond talch; o'r tu draw, ar y silffoedd y mae rhesi o drenswriau cyn wyned ac yntau; dippyn yn mhellach y mae'r dressel; ben dresselddu: coed a dyfodd ar y tir yw ei defnydd. Y mae pedair llythyren ar ei phen uchaf, a'r flwyddyn y gwnaed hi mor amlwg a hyny. Yr oedd y platiau pewter gyn loywed ag y gellid gweled eì gysgod ynddynt. Yr ochr arall yr oedd hen gwpwrdd tri-darn: yroedd hwnw wedi cael eì wneud yn rhodd brïodas i dad-cu-hen-daid y gŵr!! Dyfaler felly ei oed. Yr oedd yno res o ystolion gwynion: a chryn lawer o gadeiriau derw da. Yr oedd. y llawr cerig yn llyfn ddisglaer, a fflamau'r tân yn gwenu wrth weled eu llun yn mhob peth o'u deutu. Dyna Flaen y Glyn i chwi.

Yn awr i ddechreu ar ein chwedl. Y mae mwy na deugain mlynedd er pan y digwyddodd yr olygfa. Ac fel hyn y cymerth y peth le. Yr oedd hiyn brydnawn heulog;—ond dihangodd yr haul dros gribau y mynyddoedd: a gadawodd ni i gymeryd ein siawns pan yn croesi o'r Griafolen rhyngom a'r Bwthyn llwyd lle trigai'n mam. Pan oedd cysgodion y nos yn ymwasgu am danom, daeth hen chwedlau a chofion ein maboed ì'n meddwl yn dryblith drablith. Brasgamu yr oeddynt yn mlaen, oblegid nid oedd ugain mlynedd wedi llwyr ddileu oddiar y meddwl yr hen lwybrau a gerddwyd cenym pan yn crwydro ar ol defaid ein rhieni. Ar ol hir chwysu daethpwyd o'r diwedd i ben gallt serth, a chlywem oddi tanom ryw sŵn siarad; ambell i chwerthiniad llawen, a sibrwd adseiniol. Eisteddwyd am enyd ar hen faen mwsoglyd. Cyfarthai y cŵn wrth un fan, ac attebid hwy gan gwn o'r ochr arall i'r Cwm. Rhedai mil-fil o feddyliau ar draws eu gilydd yn yr enaid, fel gwybed bach ar hwyrnos yn Mehefin. Ond codwyd, ac aed i lawr o lêch i lwyn. Weithiau byddem mewn caregle garw, bryd arall ar lecyn mor esmwyth â'r melfed; croeswyd ffrwd o ddwr, ac odditanodd yr oedd cornant yn frydar ei felusgerdd un-dônol. Ond yn nghesail y bryn gerllaw gwelem oleu. Cofiwyd pa le ydoedd, ac unionwyd ato gyn gynted ag y gellid. Wedi curo wrth y drws: er nad oedd eisiau hyny er mwyn cael gwybod a oedd neb yn y tŷ, oblegyd yr oedd digon o dwrf o'r tu mewn, yn profi hyny yn ddigon amlwg i bawb o'r tuallan. Daeth y ferch i'r drws, ac i mewn a ninau. Yr oedd yno gryn ddwsin o ferched o wahanol oed, a phedwar neu bump o hen bobl yn ymgomio yn ddifyr wrth y tân. Cyfarchwyd gwell; ac yr oedd yno rai oedd yn cofio ein taid yn las-lefnyn: ac un hen wraig wedi bod ganwaith hefo ein nain yn Ngwyl Mabsant y Llan. Yr oedd Blaen y Glyn yr un fath yn union ag oedd pan oeddym wedi bod yno cyn gadael ein hen fro gynhenid. Yr hen gloc, gwyneb du felyn yn y gornel wrth ochr y cwpwrdd tri-darn, &c. Wedi eistedd, erfyniwyd arnom aros yno i gael rhan o'r difyrwch, a phenderfynwyd yn ddigon diseremoni. Yr oedd y bechgyn, meddynt, yn tanio'r coelcerth ar ben y Bryn, ac yr oeddynt oll i dd'od yno yn union deg i godi afalau o'r dw'r ; i ro'i cnau yn y tân er mwyn cael gwybod tesni: ac yr oeddynt hefyd yn disgwyl Rhydderch y Crythor yno. Ar ol bod yn y tŷ am ryw ddeng mynyd,a chael cynyg rhywbeth yn fwyd o leiat deirgwaith yn ystod pob mynyd o'r cyfamser, awd allan yn nghwmni tair neu bedair o'r genethod i weled y Coelcerth. Erbyn hyn yr oedd wedi ei danio, a'i oleu yn gwneyd y Cwm o ben i ben felun ganghell Eglwys ysplen- ydd ar fore y Nadolig. Rhoddai wrid i'r afon gordeddog; a grym yn nghochni hydrefol daily coed. Canai y bechgyn; chwarddai y plant; a chyfarthai y cŵn, a llawenhaem ninau. Ond dyma rywun yn d'od! "Pwy ydyw tybed?" ebai y naill wrth y llall. "Pwy ydwyf? ond Rhydderch y Crythor debyg" ebai llais dwfn yr hên fachgen. "Wel," ebe merch Blaen y Glyn, "Iechyd i dy galon di Rhydderch, yr oedd fy Nain yn dweyd na fethaist di ddim unwaith a do'd yma er's mwy na deugain mlynedd." "Pawb yn iach gobeithio," meddai yr hen Grythor: "O," ebe hithau, "pob peth fel arferol. Mi fyddwn yn dechreu arni gyn gynted ag y daw'r bechgyn o ben y Bryn. Aethom yn ôl hefo'n gilydd i'r tŷ: a chyn pen ychydig o fynydau yr oedd y rhai oeddynt hefo'r coelcerth; yn bob gradd o honynt, wedi do'd ilawr. Yr oedd yno rai yn edrych arnom ni fel pe buasai gyrn ar ein pen. Ni wyddent pa lwyth, iaith, neu genedl oeddym. Ond dyma'r Crwc yn llawn dwfr; a Gwen, canys dyna oedd enw merch y tŷ, yn dyfod a llonaid ei ffedog o afalau croendeg, ac yn bwrw rhyw ddwsin o honynt iddo, a'r hogiau yn dechreu arni nesu am y digrifwch. Yr oedd yno un llefnyn digrifach na'r lleill, ei enw oedd Ifan Dafydd. Efe oedd y cyntaf i benlinio with y Crwc; cododd Ifan ddau afal yn lled ddiboen, a rhoes un i hen wraig Blaen y Glyn, a'r llall i ninau. Yr oeddym ni yn llu o gylch y tân, yn chwerthin ac yn siarad; ond dyma linyn yn cael ei grogi wrth fach dan y llofft; a phren yn cael ei rwymo wrtho; yna rhoed afal ar un pen iddo, ac yn y pen arall yr oedd hollt, ac yn yr hollt y rho'id darn oganwyll frwynen, ac nid ychydig y llonder a geid pan fyddis yn ceisio sugno'r afal i'r genau, ac os methid, ond odid fawr na thrôai y ganwyll, ac y llosgai fochgern yr ymgeisydd. (Onid oes cryn debygrwydd yn hyn i'r wedd y digwydd i ymgeiswyr aflwyddianus ein Heisteddfodau, nid yn unig collant y wobr, ond llosgir eu bochgernau hefyd yn fynych.) Erbyn hyn yr oedd y ddiod Griafol yn cael ei thywallt, a digonedd o Feth wedi do'd ary bwrdd. Ar ford yn un gongl,—(nid oedd llian arni, oblegid yr oedd cyn wyned ag un llian a fedd Cymru ;) yr oedd bara ceirch wedi eu troi bron yn grwn, a lwmp o fenyn a dagrau ar ei olwg-melyn; yn ei ymyl yr oedd clobyn o gosyn iraidd, a phawb yn cael helpu ei hun, heb gymhell yn ychwaneg na "dyma 'r bwyd;" ond nid bwyd oedd y pethau ar Nôs Galangauaf. Yr oedd yno dori cnau; a gwaith difyr yw hyny os y ceid hwy yn llawnion. Ond codi yr afalau o'r dwfr oedd y prif beth yn ngolwg y bechgyn. Pan y codai Rhys Puw un gwelid ef yn ei wthio yn hanner dirgel i gil llaw Elin y Bryn: a phan y byddai Cydwelyn Lewis yn methu, a rhoi o'r plant direidus yn taro eì ben tan ddw'r, gellid darllen effaith gofid ar ruddiau Lwlan Sion. Ni wyddent hwy etto ddim am garu; ond yr oedd rywbeth yno er hyny; a'r "rhywbeth" hwnw yn gyffredin a lefarai a "Gwnaf" wrth allor y Llan, yn y pen draw.

Yn un cwr o'r tŷ yr oedd f'ewyrth Reinallt Wmffra: hen wryn bach ystwyth ei chwedl; ac mewn gwirionedd yr oedd yn anhawdd gwybod pa'r un oedd y mwyaf diddan ai gwrando arno ef a Morgan Llwyd yn dweyd eu cofion; ai ynte edrych, a rhoi clust i ddywediadau y rhai ifangc. Yr oedd yno beth arall hefyd. Yr oedd yno glic parhaus yr hosanau a'r gwëill; o herwydd nid oedd dwylaw 'r merched un mynyd yn llonydd. "Pobl ddiwyd yw pobl y mynyddoedd," meddem wrthym ein hunain. "Dyma lawer o'r hen Ewyrthod, a'r oll o'r hen fodraboedd "yn diwyd wau" hyd yn nod pan yn ymddifyru."Ond Yn mha le y mae Rhydderch Crythor? Dyma fo! A fyni di, ddarllenydd, glywed neu weled pa fath un oedd ? Wel! haf ati ynte.

Y mae'n debyg na thynwyd llun creadur mwy afrosgo erioed, ond na falier hyny, gwnawn ein goreu. Ac os methwn; methwn wrth geisio.. Yroedd, ymae'n ddiddadl, wedi gweled o leiaf dri—ugain gauaf; felly yr oedd yr ychydig wallt a feddai, wedi froi fel llin wedi ei gânu. Clamp o ddyn tua dwylath o daldra: pur eiddil, a thipyn o wâr ganddo. Gwyneb hir pantiog, a chlobyn o drwyn, a allasai, pe cymerasid gofal o'r defnydd, wneyd y tro, o leiaf, rhwng tri: hyny ydyw, pe buasid yn rhyw haner cynil hefo'r cyfryw ddefnyddiau. Yr oedd hwnw hefyd yn troi yn fwâiog, a chrwbi mawr yn ar ei ganol. Ceg ledgam, ac un wefl yn croes—guddio y llall;—yr isaf yn darn guddio'r uchaf. Gên hir, a thipyn o dro ynddi. Ei ysgwyddau yn cantio at eu gilydd: a dau lygad: un yn edrych y ffordd yma, a'r llall yn serenu'r ffordd draw. Ryw ysgrifinllyn fel yna oedd Rhydderch; ond yr oedd, er hyny, yn bur siongc ar ei droed, ac yn ffraeth eithaf ar ei dafod. Wedi cael digon ar godi'r afalau, a llosgi'r bochgernau; a'r cnau wedi lleihau cryn lawer yn y fwydor,—oblegyd yn y fwydor y rhoddesid y cnau; dyna Gwen Llwyd, merch y tŷ at ei mam, ac yn erfyn am dro newydd ar y droell. Dylesid sôn cyn hyn, efallai, am un bachgen llwyd—denau a eisteddai yn nghil y pentan. Nid oedd ef yn cymeryd dim sylw yn y byd o ddim ag oedd yn cymeryd lle. Gwrandawai yn astudar bawb, ac ambell dro, pan welid ei lygaid, gellid canfod ynddynt ddwysder a threiddgarwch wedi cyd—gymysgu. Yr oeddeigorgi blewog ambell dro yn llyfu ei law. Ond distaw fud oedd efe, yn gweu ambell bwyth ar hosan Reinallt Wmffra. Amlwg oedd fod rhywbeth ar ei feddwl. Yr oedd Gwen hithau yn edrych weithiau, a'i llygaid dros ei hysgwydd, tua'r fan yr eisteddai, ond nid oedd dim byd arall yn cymeryd lle rhyngddynt. Priciodd rhywbeth ni er hyny. Peth rhyfedd yw y rhywbeth yma, ni waeth hynnag ychwaneg. Ond dyma'r ganwyll frwyn i lawr, a thacw'r crwc yn cael symud ei borfa. A phawb ar ôl cael eu rhan o'r ddiod Griafol, neu o'r Meth, yn hwylio am fod yn barod i wrando ar Rhydderch yn rhwbio ei Grwth. Mymiai f' ewyrth Reinallt mai canu pennillion oedd y goreu, ac nid oedd. neb A feiddiai groesi yr hen fachcen. Felly dechrenwyd o ddifrif hogi arfau. "Pawb a'i bennill yn ei gwrs," oedd y drefn, ac nis esgusodid hen nac ieuangc. Dyma ddechreu rhwbio'r tanau, a'r rhai hyny yn gwichian ar y cyntaf, yn waeth eu sŵn na chant o gywion dallhuanod pan yn ymladd a'u gilydd. Ond chware teg i'r hen law, medrodd o'r diwedd gyweirio ei hen offeryn, a chafwyd llawer darn digon di falc ganddo cyn darfod. Chwareuodd "Serch Hudol," i ddechreu, a tharodd Hen ŵr Blaen y Glyn y pennill cyntaf o "Forwynion Glan Geirionydd" yn odiaeth dda; dilynwyd ef nes aed dros y Gân. Yn y fan hon, newidiwyd y dôn. Ond y mae'n fwy nathebyg, ernewid y dôn, mai yr un oedd miwsig calon fri neu bedwar oleiaf yn y fana'r lle! Aeth y Crythor yn ei flaen, ac erbyn hyn, yr oedd clic y gweill weditewi, a phawb o lwyrfryd calcn yn gwylio ei adeg. Ond pan ddaeth amser Twm Pen Camp i ganu, (cenaw ystumddrwg ofnadwy, fel yr oedd yn hawdd gweled wrth ei lygaid, oedd Twm,) ac fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod efe oedd i ganu yn nesaf, ar ol f'ewyrth Reinallt Wmffra, yr hwn, er bod ei lais yn crynu, a ddatganodd yn bur dda, chwareu teg iddo. —A thyma Twm yn dechreu ar ei ol ef, a thyma ei bennill :

'Roedd ci gan Reinallt Wmffra
Yn firiad arei fera',
Ac yn ci fyw ni ddringai riw—
Mor waned ei gymala'.

"Gyn siwred a mod i yma mi 'th darawaf di Twm," ebai yr hen Reinallt, ac yn chwilio am ei ffon mewn ffwdan gwyllt, "Gwna, nid elai byth o'r fan yma," ebai, a thyna bawb mewn llewygon. "Wel, arhoswch f'ewyrth Reinallt," meddai Twm, "mae ail gynygi Gymro gael." Felly, ar ol i bawb ro'i goreu i chwerthin, a'r hen ŵr ddo'd dipyn atoei hun, dyma'r Crythor yn dechreu rhwbio drachefn: yna daeth Twm allan yr eiltro, a chanodd fel hyn:

Pan oedd y ci ryw noson
Yn ceisio crafu'r crochan,
'Roedd Reinallt Wmtfîra a Mari Sion
Yn cynal bon ei gynffon.

"Os drwg cynt, gwaeth gwedy'n." Yr oedd Reinallt am ddarn ladd Twm; chwiliai am ei ffon, a bygythiai ei ddwyn o flaen ei well am ei ysgandarleisio. " Ond," ebai'r Llange llonydd, "'na hitiwch, f'ewyrth Reinallt, mi dalaffiiiddofoc." Tawelwyd yn lled lew; er y byddai pyffiiau o chwerthin yn d'od yrwan ac yn y man, nes y byddai pawb yn ddiwahân yn ymollwng, a f'ewyrth Reinallt yn dechreu ail fygwth yn waeth nag erioed. Er mwyn cael llonyddwch dyma'r Llangc llonydd yn dweyd y canai ef gerdd newydd. Ac ar ol cael cip ar lygaid gleision Gwen, dechreuodd ar ei waith :

Nos G'langauaf ydyw heno
Y mae tân yn llygaid Gweno;
Tân a welsom yn y Goelcerth,
Oedd yn adrodd tesni prydferth.

Nos G'langauaf, "cnau" i'w bwyta,
Er fod allan "Hwch ddu Gwta :"
METH i'w yfed a llawenydd,
A Morwynion Glân Meirionydd.

"Dyna fesglyn ar ol," ebe Reinallt, "thâl oddim'! thâlo dlim baw!" "Wel! aroswch iddo orphen, yn enw dyn," meddai Morgan Llwyd, "Dos yn dy flaen Huw Bifan," canys dyna oedd enw y Llangc llonydd,

Neithiwr bum yn Neuadd Nannau,
Yno'n tiwinio hefo'r tanau;
Wrth dd'od adref dros y Roballt
Gwelais Gi fy Ewyrth Reinallt.

"Ar fy nghydwybod i! fyna' i ddim fy ysgandarleisio fel yma; lle y mae fy ffon i, mi âf fi adref, ni waeth genyf beth fo ungwr." "Aros, aros," ebai Morgan Llwyd, "hwde! gorniad o Feth cyn cychwyn." Ac ar ol cael hwnw i'w law, dyna bob peth heibio, a Thwm Pen Camp ac yntau yn ffrindiau rhag blaen. Yn awr daeth amser rhoi cnau y merched yn y tân. Yr oedd pob geneth i gael dewis ei chneuen, ac i'w rhoddi yn y tân a'i llaw ei hun. Yr oedd yn rhaid i Gwen, merch y tŷ, ddewis y gyntaf, a'i rhoi yn y marwydos. Os y rhoddai y gneuen glec, dyna arwydd dda; ond os rhyw fud—losgi a wnai, dyna argoel ddrwg. Taflodd Gwen un i'r tân, ac yr oedd yn crynu wrth wneyd; ond dyma glec dros y tŷ, aphawb yn chwerthin am yr uchaf. Bychan a wyddent hwy mai'r un fynyd, ïe, yr un amrantiad yr oedd clec arall yn cymeryd lle: yr oedd bwa serch yn rhoi clec yn mynwes un na's gwelodd hi mono erioedo'r blaen, hyd y noson hono, a hyny ar yr un amrantiad. Y mae rhywbeth hynod yn y clecian yma. Gan igneuen wisgi Gwen wneyd yr hyna ddylasai, ac i ddarn o honi neidio o'r tân i wyneb Rhywun, codwyd y darn i fynu, ac erbyn edrych, yr oedd haner y cnewyllyn yno: cadwasom ef yn ofalus mewn mynyd. Ni fynai'r genethod ereill gynyg am goel. Yr unig un, ar ol hir grefu, a dreiodd, oedd Cadi Reinallt. Hên lodes ryfedd oedd hon, nad oedd hyd yn oed amser yn gwneyd dim o'i ol arni wrth fyned heibio. Rhyw bwtan fêr wedi gwneyd bargen dda yn ffair y trwynau ydoedd; a llawer byd o ysmaldod a hylldod yn perthyn iddi. Ond druan oedd Cadi! ni wnai ei chneuen hi ond mud—losgi, heb un arwydd clec yn agos ati. Yn y cyfamser, yr oedd Rhydderch yn rhydd-ymgomio; a'i hen ffidil a'r bwa, un pen a'i bwys ar ochr ei glun, a'r pen arall ar y llawr. Yr oedd Twm Pen Camp yn bwyta brechdan a chaws heb fod yn neppell oddiwrtho. A thra yr oedd y Crythor wrthi yn adrodd wrthym hanes ryw Fwgan oedd wedi d'od i'w gyfarfod yr wythnos cynt, wrth fyned adref o ryw noswaith lawen; cymerth Twm yr ymenyn oddiar ei fara, a rhwbiodd y tanau a'r bwa ag ef. O'r diwedd, daeth un o'r cŵn heibio, a dechreuodd lyfu'r ffidil. "Holo!" ebai Cadi Reinallt, "y mae Mottyn am ro'i tiwn i ni, f'ewyrth Rhydderch." Cipiodd yr hen fachgen y ffidil ar ei lin, a dyna fu am y tro. Yr oedd hi erbyn hyn wedi tynu yn hwyr; ond yr oedd yn rhaid cael un dôn wed'yn cyn cadw noswyl. Felly penderfynwyd, ar gais Morgan Llwyd, cael yr hen dôn swynol "Anhawdd ynadael." Dyma'r hen Rydderch yn hel ei gelfi, ac yn rhoi ei hun mewn ystum deilwng. Ond pan ddechreuodd rygnu nid oedd dim sŵn. Ail-gynyg. Dim gwell. Ceisio wed'yn; ond dim yn tycio; a chafodd Mottyn druan y bai. Yr oedd yr hen Grythor am ladd y ci, a phawb yn ei ddondio yn arswydus. Felly ar ol i'r cymydogion gael corniad o Feth bob un, a chanu nos da'wch, aeth pawb adref yn un a chytûn; f'ewyrth Reinallt wedi llwyr anghofio pob peth, oddigerth penillion Twm Pen Camp. Huw Bifan yntau ar ol cael un cip-olwg ar lygaid Gwen, a gychwynodd a'i galon yn llawn o serch. Cadi Reinallt hithau, er gwaethafanffawd y gneuen, a edrychai mor llon a'r gôg ar frig y ganghen. Yr oedd hi a'i meddwl ganthi. Gwyddai y deuai dydd ar ol nos; ei bod hi eisoes yn dechreu blawrio. Ar ôl i bawb ymadael, cawsom ninau hir ymddiddan hefo theulu'r tŷ. A rhywbryd cyn toriad y dydd, aeth pawb i'w hûn a'u heddwch. Ond eri mifyned i ystafell o'r neilldu, yr oedd pob peth yn clecian o'm cwmpas. Yr oedd y grisiau wrth imi fyned i fynu yn clecian. Yr oedd y llotft wrth i ni ei cherdded yn clecian. Yr oedd y gwely wrth i mi orwedd yn clecian. A phob tro a roddais ynddo, yr oedd yn clecian. Ac ni wnaethi hyn nac ychwaneg, yr oedd rhywbeth yn ein calon ninau yn clecian. Pan hunem gysgu, yr oedd y glec yn ein deffro. Pan ddeffroem yr oedd y clec yn ein süo yn ol drachefn.

Bore dranoeth, pan aethom i lawr, pwy oedd yn cyfarfod wrth droed y Grisiau ond Gwen Llwyd : dyna glec eto. Ar ôl boreubryd, fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod, aethom allan, a phwy oedd wrth y pistyll yn golchi cunog ond Gwen; gofynwyd iddi'r cwestiwn, ac o dan gwmwl o wrid, daeth y giec i ben. * *

Mae Nôs Galangauaf yn anwyl byth wedi hyn. Ac y mae'r plant a Gwen a minnau yn hoffi'r swynol noson, a phob tro y daw ar gylch byddwn yn bwyta cnau, ac yn yfed Meth er côf am y glec gyntaf yn Mlaen y Glyn.

DAFYDD Y GARREG WEN.

GAN GLASYNYS.

Rywbryd, pan ar fy mhererindod "Yn fy anwyl hen Eifionydd," fe ddigwyddodd i mi gyfarfod â dyn ar ddamwain; os oes y fath beth a chyfarfod ar ddamwain yn bod ? Hyn sydd amlwg, fodd bynag, na wyddai ef ar faes medion y ddaear pwy oeddwn i, ac nad oedd dim peth mwy anfwriadol ar fy rhan inau, na dechreu siarad âg ef; ond fel yr oedd rhywbeth yn mynu bod, i siarad yr aethom, ac ni bu yn edifar genyf ddechreu. Ni wnaf ddesgrifio fy nghydymaith; ond troaf ar fy union yn ei gwmni i fonwent Ynys Cynhaiarn. Beddau aml a cherrig coffhaöl destlus! Pob peth yn lanwaith gryno : ac nid wyf yn meddwl y ceir cymaint o englynion beddargraph da mewn un fonwent yn Nghymru! Wrth rodio yn ol ac yn mlaen o gylch y beddau, daethom o'r diwedd at feddfaen wahanol i'r lleill. Carreg a llun telyn arni! Dechreuais ddarllen, a chanfum yn ebrwydd mai bedd Dafydd Owen, neu Dafydd y Garreg Wen, ydoedd. Ar ol syllu ennyd ar fan fechan ei fedd, gofynais ychydig o hanes y Telynor. Gan fod yr hin yn lled frwd, aethom ein deuodd i Borth y fonwent, ac yno yr eisteddasom i rydd ymgomio am hwn a'r llall, ac ym mysg y cofianau a roed i mi o'r rhai sydd yno'n huno, dywedodd fy nghyfaill wrthyf mewn dull syml a diseremoni, rywbeth yn debyg i hyn am DAFYDD OWEN, neu Ddafydd y Garreg Wên. Yr oedd ei rieni yn byw mewn Tyddyn lled fychan ym mhlwyf Treflys. Merch lle o'r enw Issallt oedd hi, a'i henw bedydd oedd Gwen. Teulu pur glyfar am feddyga oedd teulu Issallt, a dywedir eu bod yn deilliaw lin o lin o FEDDYGON MYDDFAI, sef o Rhiwallon a'i Feibion, (ac y mae teulu Dolffanog hefyd yn deillio o'r unrhyw.) Yr oedd Gwen yn medru prydyddu ambell i bennll siawns, ac yn hoff odiaeth o ganu hefo'r delyn. Nid ydwyf yn cofio, pe trigwn, pwy na pha beth oedd enw ei gŵr: ond yn y Garreg Wên yr oeddynt yn byw. Bu iddynt amryw o blant, ac yn eu mysg Dafydd. Nis gwyddis pa bryd y dechreuodd gyweirio telyn, ond gellid coelio yn hwylus i hynny gymeryd lle pan. oedd yn bur ieuangc. Gartref yr oedd Dafydd hefo'i dad a'i fam. Aeth Rhys, brawd iddo, i ffwrdd, a throes allan, ar ol hir grwydro draw ac yma, yn arddwr i ryw ŵr boneddig yn Ysgotland. Byddai Dafydd yn arfer cadw nosweithiau llawen mewn gwahanol fanau yn fynych. Daeth yn gerddor medrus, ac aeth son am dano ar draws ac ar hyd y wlad. Rywbryd pan oedd yn dyfod adref un bore yn nechreu hâf, ar ol bod yn chwareu mewn palas heb fod yn neppell o'i gartref, eisteddodd ar faen mwsoglyd, a rhoes bwys ei ben ar ei delyn: y mae'n debyg ei fod wedi blino wedi bod wrthi hi trwy gydol y nos... Cododd yr hedydd o'i wely gweiriog yn ei ymyl i achub blaen y wawr, a dechreuodd hidlo cân. Fely dywedodd rhywun am dano,—y mae'n debyg y teimlai Dafydd :—

"Fel cwmmwl uwch y gweunydd, yn hidlo odlau blith
Ymgodai'n syth, a'i esgyll yn wlyb o berlog wlith
Yr Hedydd lafar hudol, a'i gu awenol gan,—
Fe wlawiai yn gawodau ei fwyn Emynau mân."

Cyffelyb, yn ddiddadl, oedd o flaen Dafydd; ac ar amrantiad d yma'r hên orchudd i ffwrdd oddiam y delyn, a chwareuodd y Cerddor GODIAD YR HEDYDD: un o alawon pereiddiaf, a mwyaf dynwaredol, a fêdd Cymru! Ryw dro arall yr oedd wedi blino gartref, a chychwynodd, a'i delyn ar ei gefn, i chwilio am ei frawd Rhys; ac ar ol hir grwydro, daeth o hyd iddo, draw yn mryniau'r Alban, a bu yno'n aros mewn parch a llawenydd am hir amser. Wedi blino yno, a phan ar gychwyn tuag adref, gofynodd y boneddwr, gyda'r hwn yr oedd ei frawd yn aros, am dôn ganddo fel coffhâd o'i arhosiad yn y fan a'r lle. Pa beth a wnaeth Dafydd ond rhoddi iddo'r dôn oedd newydd wneyd cyn cychwyn oddicartref, erbyn Gwylmabsant Criccieth, sef, Difyrwch Gwyr Criccieth, a galwyd hi yn yr Alban yn Roslin Castle. Ar ol iddo ddyfod yn ol, yr oedd yn amlwg ddigon nad oedd teithio wedi gwneyd llawer o ddaioniiddo. Yr oedd yn pesychu yn enbyd. Ei lygaid wedi suddo i eigion ei ben. Ei wyneb dealltwrus a welwai, a gwelid argoelion fod angau yn chwareu alaw leddf ar delyn ei fywyd! Curio wnaeth; ac nid yn hir y bu heb orfod rhoi goreu i dynnu'r tannau, o herwydd yr oedd ei nerth yn rhy egwan: ond er hynny, bob tro y caffai awr led ddiboen, ymlusgai at ei hen offeryn, a chwareuai rai,

O'r hen Alawon tyner
Sydd wedi tynnu deigr o lygaid amser."

Parhâu i wanychu yr oedd, ac o'r diwedd, prin y medrai adael ei wely. Un. diwrnod edrychai yn bur gysglyd; gwylid ef yn ddyfalgan ei anwyl fam. Pan yn ei wylio, gwelai fath o wên ar ei wynebpryd, a chanfyddai ei fysedd yn ystumio yn olac yn mlaen. Daeth ei wêdd hefyd i edrych fel yr oedd cyn iddo fyned yn sâl. Llenwai'r pantiau, ac ymledai ei foch-gernau! Ofnai Gwen ei fod yn marw! Ond ar fynyd, agorodd ei lygaid, a dywedodd, er yn floesg, "O! mam, mi welais y peth harddaf a welodd neb erioed!". Yna tynnai ei anadl yn hirllaes, a rhoes rhyw haner tro ar ei ben; ac yna aeth yn mlaen,— "Ni chlywais i erioed o'r blaen y fath ganu! Y Miwsig! O! mam, rhowch i mi fy nhelyn! Medraf, mi fedarf chwareu hono!" Yna syrthiodd i fath o bêr—lewyg esmwyth. A'i fam yn ei wylio; pwy wyr nad oedd hithau yn gweled rhyw oleuni drwy'r dagrau gloywon a ddylifiai o'i dau lygad tyner. Fel ag yr adbelydrir goleu yr haul yn y manwlith; pa'm nad ad-dywynai dwyfoldeb yn ei heiddo hithau ? Deffrodd Dafydd yr eiltro, a gofynai hefo'i olwg yn gystal ag hefo'i lais, "A gaf fi, mam anwyl, fy nhelyn amunwaith eto?" Pwy fedrai ei ommedd . Nid Gwen: nid y fam. Dygodd y delyn i mewn. ac araf a thyner gododd y Telynor; a rhoes ef i eistedd ar echwyn y gwely. Rhoes glustogau a gobenyddiau i'w gyna lnes yr oedd fel mewn cadair. Ac yna

Dechreuodd DAFYDD chwareu;—a'i fam gynhaliai 'i ben—
O'r tanau mwyn y tynnodd HEN ALAW 'R GARREG WEN.

Ar ol cael ei wala ar yr hen delyn, rhoed ef yn ol yn ei wely, a theimlai ei hun yn llawer gwell a mwy diboen. Ar ol gorphwys gronyn, dywedodd wrth ei fam pa fodd y dysgodd y don. Yr oedd, meddai, wedi bod mewn byd arall. Dyma ei eiriau :—" Gwelwn fy hun mewn gwlad goediog: pob deilen yn werddlas: pob brigyn yn îr, a phob canghen yn llawndwf. Y gwrychoedd yn ddail i gyd, a'r dolydd yn llawn o feillion aroglber. Yr afonydd yn loywon, ac yn araf ddiog lithro, heb sŵn na dadwrdd. Gwelwn fy hun wrth Neuadd hardd; ac o flaeny drws yr oedd gardd lysiau. Mewn deildŷ, yng nghongl yr ardd, clywwn rywun yn chwareu ar y delyn; a'r alaw oedd yr hon a chwareuais i, mam. O flaen y deildŷ, yr oedd dwy golomen lwydlas yn gwrando. Aethum yn araf a digon gostyngedig at y fan a'r lle, ac er fy mawr syndod, nid oedd yno na thelyn na pheth. Synnais beth wrth hyn. Ond etto, yr oedd y canu yn para; a pha beth oedd ond Yr awel yn d'od o'r berllan i'r deildŷ, drwy wiail wedi eu cordeddu! O! mam! fel yr oeddwn yn blysio i chwi gael clywed canu! Ond ni welwn yn fy myw neb ond y ddwy golomen. Ar hyn mi ddeffroais, a gwelais chwi, fy mam anwyl," Distawodd; ac amlwg oedd ei fod wedi llesgâu, a bod ei "ddaearol dŷ" yn prysur ddadfeilio,—fod ei luesttŷ yn cael ei brysur ddattod. Chwibianai Angau, ei alargerdd, yn ei fonwesei hun! Bu fyw am ychydig o ddyddiau: a'i fam a ddywedodd y cyfan a ddywedodd Dafydd wrth ei chydnabod. Yr oedd hi yn medru yr Alaw hefyd ar dafod leferydd, ac nid oedd dim yn lloni y Telynor yn fwy na chlywed ei fam yn canu'r Alaw Newydd.

Cyn hir, fe hunodd! Aeth adref i ardal lonydd yr aur delynau!

"Claddwyd ef yn yr Ynys yma," ebai'r Cofiadur; "a thyma'i fedd. Ar ddiwrnod ei ganhebrwng, yr oeddis yn canu'r Alaw, o'r Garreg Wen bob cam i'r Eglwys, ac hefyd ar lân y bedd! Ond y peth rhyfeddafo gwbl ydoedd, i ddwy golomen dd'od at dŷ'r Garreg Wên pan ddygwyd y corph allan i'r drws, ac i'r ddwy ddilyn yr elor o hyd, drwy gydol y ffordd;—iddynt fyned i'r Eglwys, ac aros yn llonydd yno tra buwyd yn darllen y Gwasanaeth; a phan aed at lân y bedd yr oeddynt hwythau yn ymyl yr arch. Ond pan ddywedodd yr Offeiriad "Daear i'r ddaear pridd i'r pridd, lludw i'r lludw," ehedodd y ddwy ymaith, ac ni's gwelwyd mo'nynt mwy!" A thyna gefais i o hanes

DAFYDD Y GARREG WEN.

PENNILLION A GANT Y TELYNOR WRTH FARW.

Fy nhelyn! fy nhelyn! Ga'i nhelyn mam ?
Mae'r Angel yn dyfod yn araf ei gam!
Mae sŵn tragwyddoldeb yn boddi fy mryd,—
Mi ganaf fy marwnad wrth adael y byd.

Fy nhelyn! mae f'enaid yn llenwi pob tant,
A gobaith yn sibrwd y caf fod yn sant,
Rwy'n myned! rwy'n myned i lysoedd y nen
I seinio'r fwyn Alaw,—yr HEN GARREG WEN.

Mi wela'r Golommen, O! gwelaf y ddwy;,
Hwy ddeuant i'm hebrwng i fynwent y plwy':
Gobeithio caf DELYN yn ninas yr hedd
A THELYN i nodi man fechan fy medd!

Ffarwel! Y mae'r Angel yn galw'n ddi daw,
Mae ganddo DELYNAU ddigonedd wrth law :
"Rwy'n myned yn dawel i lysoedd y nen,
Wrth fyned 'rwy'n canu yr HEN GARREG WEN,
GLASYNYS.

YMDDIDDAN RHWNG Y BARDD A'R LLWYNOG.

GAN HUW LLWYD O GYNFAL.

(O Hên Ysgriflyfr.)

Y BARDD.

DYDD da i'r llwynog o'r ogof,
Gelyn pob aderyn dôf;
Dy waneg a adwaenwn,
Croeso'n wir i'r rhydd-dir hwn,
Mynega fyth mewn gwiw faes
Pa hyd ŵr taerllyd torllaes ?
Wyt teg a glân, ti a gei glod,
A lluniaidd bob lle ynod;
Lliwiwyd ti a lliw tywyll
Melyn a choch mal na chyll;
Dy drwyn eiddil sydd filain,
Dy ddannedd rhyfedd yw'r rhain;
Gefel chwith a gafael chwyrn
Draw a wesgi drwy esgyrn;

A'th lygad mor seliad syn,
Hwn a drois mal hen drawsyn;
Ar dy ben, wrda, beunydd
Rhyw fonion gythion y sydd,
Dy war isel a drwsiwyd
I'r drwyn, dy ystum da wyd.
Bol costog dan banog bais,
Llyna fol llawn o falais;
Troedfyw glew, trwy dewfrig lwyn,
Trotianwr taer at wanwyn.
Bonllost, neu ysgub unllath,
Rhy lawn fodd, rholyn o fath.
Ffagod hyd frig ceryg carn
Ffagodwas o'i ffau gadarn,
Da yw dull dy dŷ di
A dirgel rhag daeargi.
Bwriad drwg, byw yr wyd draw,
Was boliog, wrth ysbeiliaw;
Chwilena, o chei lonydd,
Ydyw dy waith 'r hyd y dydd;
Myni gig tra fo man i'w gael
Defaid, o d'on yn d' afael.
Byw yn lân lle bo wân lu
Digam it i degymu;
Dwg yn rhad di a gei'n rhydd
Wydd ag iar yn ddigerydd.
Diddwl wyd i ddal adar,
Gallt neu gors, gwylltion a gwâr.
Campus pob modd ii'th roddwyd,
Lle bo gas, llew wbywiog wyd;
Ag o daw hynt gyda hwyr,
Oes un mor llawn o synwyr!
Neu neb well mewn dicbellion,
Na'th di lwynog difiog don!
Na lle, mi a wn, mewn llwyn iach
Y caf reswm cyfrwysach.
Minau sydd ddi-ymanerch,
Ddigalon, ddison, ddi-serch;
Difalais, a didrais draw,
A dirym yn mhob ymdaraw.
Da yr haeddit air heddyw;
Dangos yn rhodd fodd i fyw.
Perhoid im' gyngor rhagorawl
Gwnaet im' fyth ganu dy fawl!

Y LLWYNOG.

Taw son, ddyn iach, nac achwyn,
Na chais na chymhorth na chwyn;
Gwel fod, hynod yw hyn,
Ddwy ffordd i ddyn amddiffyn,—
Un ffordd iawn, gyfiawn a gwedd,
Un arall drwy anwiredd;
Oes eisio llwyddo a gwellhau,
Mynwn it' fyw fel minau.
A fo gwirion, a llonydd,
Difalais, difantais fydd.
Lladrata, a fentra fyd,
Treia synwyr tros enyd.
Dysgwylia aur, dysgwyl wall,
Nac eiriach un nac arall;
Cofia wrth wraidd cyf'rwyddyd,
Cofia wrth fawl—cyfraith fud;
Dyfeisia, gwylia gilwg
I bawb draw gwybydd bob drwg;
Daioni na wna di yn d'oes,
I'r un dros golli'r einioes.
Pâr d'adnabod lle rhodi,
Rhag ofn gwna d'annhegu di.
Nid haws byw heddyw heb wâd,
Er a geir o wir gariad.
Os myni fyw yma'n faith,
Dos, ac yna dysg weniaith;
Ag ar weniaith bob gronyn
Dysg fedru bradychu dyn.
Dywed yn deg dy neges;
O'th law na ollwng mo'th les;
Dywaid bob geiriau duwiol,
A'th drais, a'th falais i'th fol;
Na âd i un wedi ei eni
Wybod mewn man dy amcan di,
Dyna'r ffordd i dreisiwr, ffwl—
Ef a addef ei feddwl.
Treisia'r gwan, nid traws y gwaith,
Trina gadarn trwy weniaith.
Gwna hyn oll ag ni cholli,
Trwy dwyll draw ymdaraw di.
Gwna ddrwg heb ei ddiwygiaw,
Iti, ddyn, byd a ddaw,

Ni chaf 'chwaneg fynegi,
Y ffordd arall deall di.
Ci a welaf i'm calyn,
Nid hawdd im' siarad ond hyn;
Nac aros yn min gorallt—
farwel,—rhaid im' ffoi i'r allt !

ARALL O WIATH YR UN AWDWR

YR UN TESTYN.

Y BARDD.

Y LLWYNOG, a'r lliw anhardd,
O flaen hyn fu lân a hardd;
Ai ti, hwyliwr at helynt,
Is gallt a welais I gynt!
Fe'th newidiwy d, wynllwyd wedd,
Dy amheu 'rwyf, dyma ryfedd!

Y LLWYNOG.

Un ydwyf a newidiwyd,
Myfi heddyw sy' ar lliw llwyd;
Newidiodd amser wedi,
Ac yn hwn newidiwn ni;
Fy ngwisg ban yn fuan fodd
Dda fawrglod a friglwydodd.
Fy nanedd blin fuchedd fu,
Ffaelio wnaethon' a phylu;
Rhai yn adwy aeth o'r ên hon,
A rhai heddyw yn rhyddion.
Fy winedd a fu enyd,
Llymion a chryfion uwch rhyd,
Gan gerig o frig y fron
Hyd y fyn y darfuon'.
Bu fy dare buan i rhedynt,
Yn tramwy nos—trymion ŷnt.
Fy ngolwg, gwn fy nzwaeledd,
A'm clywed aeth waeth-waeth wedd.
Fy amser yn ofer un wedd,
A weriais mewn anwiredd.

Chwimwth fum, droed a chymal,
A heddyw'n wir hawdd yw'n nàl:
Pob gŵr, pob bachgen, pob gwas,
Pob dyn o amgylch pob dinas,
Pawb a rydd is glaswydd glyn
Ar f'ol waedd (oerfel iddyn');
Pob pï a fydd i'm 'spio,
Pob brân o gwmpas pob bro;
Ar dir, pob rhyw aderyn
A'm dengys, hysbys yw hyn.
Mae dialedd i'm dylid;
Er hyn, gwaeth na'r rhain i gyd,
Fy nghydwybod sydd yn codi
Mawr boen waeth i'm herbyn I;—
I'm hir gyhuddo mae hon.
Yn dyst fal mil o dystion.
Ni chaf, Och y fi! heno
Un dryll cyntun tremyn tro
Na bwy'n gweled lle rhedwn,
F'aelodau'n garpiau gan gŵn.
Cefaist gynghor, o cofi,
Ynai fyw genyf fi.
O ystyrio holl ystryw hwn
Llai oedd nag oll a wyddwn.
Ni fynwn â hwn enyd
I bawb ei wybod o'r byd.
Gwnaethost yn nysg mawrgost maith
Ganu fy moliant ganwaith.
Cefais air byth fe'm cofir,
A sôn am dana 'mhob sir;
Un gair gan inau dan gof
A gei'n wir, o gwnei erof,
Caria i bawb, câr ei bod,
Ddiball, ddilwgr, gydwybod—
Trysor dda i gael ni ffaelia,
I ddyn yw cydwybod dda.
Fe gaiff lle yr eiff llwyr iach
Nis metha hun esmwythach;
Gwell trysor, gwall yw treisiaw,
I ddyn ryw ddiwrnod a ddaw.
Cydwybod lân ddianair.
(Gwae lid ffol a golud ffair)
Nid ofna ryfel gelyn;
Er gwan na chryf gwn na chryn,
Nac a ddêl ysbail asbriw

Yn ei dai yn enw Duw.
Nac a ofnith mo'i gefnu,
Da ei ffydd yn y dydd du.—
Os anesmwyth llwyth y'ch llog
Dau waeth cydwybod euog;
Swmbwl dibwl cydwybod
Sydd flin ei feithrin a'i fod.
Cna' oer gwael yn cnoi'r galon,
Heb beidio ond hysio hon.
Ail pryf yn nghanol pren,
Moel dôn yn malu derwen.
Gwna'r tro a weddo i ŵr
Na fydd fawr frwydydd fradwr.
Mados bellach ymadael
Cyn ffoi i'r allt, can' ffarwel;
Rwyf fi yn ofnog o'm gogylch,
Clywaf swn y cŵn o'm cylch.

EINION AP GWALCHMAI A RHIAN Y GLASGOED.—DAMHEG.

EINION ap Gwalchmai ap Meilir o Drefeilir yn Mon, a briodes Angharad ferch Ednyfed Fychan; ac efe un bore teg o haf yn rhodio coedydd Trefeilir canfu Rian dlosgain a thra hardd ei thyfiant, a manylbryd ei hwyneb a'i lliw, yn rhagori ar bob coch a gwyn yn ngwawr bore ddydd a manodmynydd, ac ar bob harddliw yn mlodeu coed a maes a mynydd. Ac yna efe a glywai ferw serch anfeidrol yn ei galon, a myned yn nes ati a wnaeth yn foneddigaidd ei foes; a hithau yn nesau ato yntau; ac efe a gyfarches iddi, a hithau a'i hadgyfarches yntau; a gwedi ymgyfarch tra serchogaidd rhyngddynt, efe a weles ei mwynder a'i thremiadau llygadlon, a gwybu y gallai â hi a fynai, a phorthi trachwant. Ac yna efe a edryches ar ei throed ac wele carnau yn lle traed oedd iddi. Diglloni yn fawr a wnaeth efe, eithr hi a'i hatebes mai ofer oedd iddo ei ddigllondeb, ac ni thalai ronyn iddo. "Rhaid iti," ebai hi, "fy nilyn i lle bena'r elwyf tra pharwyf i'm blodeu, canys hyny y sydd o'r serch fu rhyngom." Yna efea ddeisyfodd arni ro'i cenad iddo fyned i'w dŷ i gymeryd ei genad a rhanu'n iach i Angharad ei wraig, a'i fab Einion. "Myfi,"

ebai hi, "a fyddaf gyda thi yn anweledig i bawb onid i ti dy hunan; dos, ymwel a'th wraig a'th fab.". A myned a wnaeth ef, a'r Elylles gydag ef, a phan welodd ef Angharad efe a'i gwelai yn wrach mal un wedi gorheneiddio; ond cof dyddiau a fuont oedd ynddo, a thraserch ati fyth, ond nis gallai ymddatod o'r rhwym oedd arno. "Y mae yn rhaid imi ymadael," ebai ef, "dros amser nas gwn pa hyd â thi, Angharad; ac â thithau, fy mab Einion;" a chydwylaw a wnaethant, a thori modrwy aur rhyngddynt a wnaethant—efe a gedwis un haner, ac Angharad y llall—a chydymganu'n iach a wnaethant, a myned gyda Rhian y Glasgoed a wnaeth ef, ac ni wyddai i b'le, canys hud gadarn oedd arno; ac ni welai le yn y byd, na dyn o'r byd, na pheth o'r byd, pa bynag, yn ei wir wedd a'i liw, ond yr haner modrwy yn unig. Ac wedi bod yn hir o amser, nis gwyddai pa hyd, gyda'r Ellylles, sef Rhian y Glasgoed, efe a fwris olwg un pen bore pan oedd yr haul yn codi ar yr haner modrwy, ac a feddylis ei dodi yn y man anwylat ganddo yn nghylch ei gorph, ac yna ei dodi tan amrant ei lygad. Ac fel yr oedd efe yn ymegnio gwneuthur hyny, efe a welai ŵr mewn gwisg wèn, ac ar farch gwyn manodliw, yn dyfod ato; a'r gŵr hwnw a ofynes iddo pa beth yr ydoedd ef yn ei wneuthur yno, ac efe a ddywed wrtho mai adgofio'n glwyfus am ei briod Angharad yr ydoedd. Chwenychit ti ei gweled," ebai'r Gŵr Gwyn. "Chwenychwn," ebai Einion," yn fwyaf o holl bethau a gwynfydau'r byd." "Os felly," ebe'r Gŵr Gwyn, "esgyn ar y march hwn wrth fy ysgil." A hyny a wnaeth Einion; a chan edrych o'i amgylch, ni welai efe drem yn y byd ar Rian y Glasgoed, sef yr Ellylles ; eithr ol carnau aruthrol eu maint a'u hanferthwch fel ar daith tua'r Gogledd. Pa orbwyll sydd arnat." ebe'r Gŵr Gwyn; ac atebodd Einion ac y dywed oll mal y bu rhyngtho a'r Ellylles. Cymer y ffon wen hon i'th law," ebe'r Gŵr Gwyn, ac Einion a'i cymeres. A'r Gr Gwyn a erchis iddo ddymuno a fynai ac efe a gai ei weled. Y peth cyntaf a ddymunes ef oedd cael gweled Rhian y Glasgoed, canys nid oedd efe hyd yma wedi llwyr ymryddhau o'r hud; ac yna hi a ymddangoses yn widdones, erchyllbryd anferthol ei maint, canmil mwy aflan ei gwedd na'r aflanaf o bethau aflan a welir ar glawr daear. A rhoddi bloedd ofnadwy gan ddychryn a wnaeth Einion. A'r Gŵr Gwyn a fwries ei wisg dros Einion, ac mewn llai na gwingciad y disgynes Einion fal y dymunes ar Gefn Trefeilir, ar ei dŷ ei hunan, lle nid adnabai ef nemawr o ddyn, na neb yntau.

Yr Ellylles gwedi myned oddiwrth Einion ap Gwalchmai, myned a wnaeth hi hyd yn Nhrefeilir, yn rhith gŵr urddasol o bendefig arglwyddaidd breninol, yn hardd a thra chostus ei wisg, ac yn anfeidrol y rhif ar ei aur a'i arian, ac yntau yn mlodeu ei oedran, sef deng mlwydd ar hugain oed; ac efe a ddodes lythyr yn llaw Angharad, ac yn hwnw dywedid fod Einion gwedi marw yn Llychlyn er's mwy na naw mlynedd, ac yna dangos ei aur a'i urddasoldeb i Angharad a wnaeth; a hithau wedi bwrw llawer o'i hiraeth ymaith yn nghyfangoll amser, a wrandewis ar ei lafar serchogaidd ef, a'r hud a syrthwys arni, ac o weled y gwnelid hi yn bendefiges urddasol dros ben, hi a enwis ddydd i ymbriodi ag ef. A bu parotoad mawr o bob hardd a chostus wisgoedd, a bwydydd a diodydd, ac o bob ardderchog o wahoddedigion urddasol, a phob rhagorgamp cerddorion a thant, a phob darpar ac arwest llawenydd. A gwedi gweled o'r pendefig urddasolbryd a theg rhyw delyn harddwych yn ystafell Angharad, efe a fynai ei chanu; a'r telynorion oeddynt yno (goreuon gwlad Cymru) a geisiasant ei chyweiriaw, ac nis gallent. A phan ydoedd pob peth mewn parotoad i fyned i'r Eglwys, fe ddaeth Einion i'r tŷ, ac Angharad a'i gwelai ef yn hen gleiriach gwywllyd blorynwallt yn crynu gan oedran, ac yn wisgedig â charpiau; a hi a ofynes iddo a drothai ef y berw tra pobit y cig. "Gwnaf," ebe ef; ac aeth yn nghyd a'r gwaith a'i ffon wen yn ei law, ar wedd Gŵr yn dwyn ffon fendigaid. A gwedi paratoi ciniaw, a phawb o'r cerddorion yn ffaelu a chyweiriaw'r delyn i Angharad, y codes Einion ac a'i cymerth yn ei law, ac a'i cyweiriodd, ac a chweris arni gainc a garai Angharad, a synu yn anfeidrol a wnaeth hi, a gofyn iddo pwy ydoedd. Yna yr atebodd ef gân ac englyn fel hyn :—

Einion aur galon y'm gelwir—o gylch
Fab Gwalchmai ap Meilir;
Fy hud ehud, bu ohir,
Drwg y nhyb am drigo'n hir.

Pa le y buost ti ?

Yn Nghent, ac yn Ngwent, yn Ngwydd,—yn Mynwy,
Yn Maenol Gorwenydd;
Ac yn Nyffryn Wynn ap Nudd.
Gwel yr aur, gloeyw yw'r arwydd.

A rhoddes iddi'r fodrwy.

Nac edrych, lewyrch goleuwyn—y gwallt
Lle bu gwyllt fy nhrenyn;
Llwyd heb gel lle bu felyn—
Blodeu'r bedd—diwedd pob dyn.


Y blaned fu'n hir i'm blino—madwys
I'm ydoedd niweidio;
Ni chad Angharad o ngho'—
Eingan aeth i ti'n angho'.

Eithr nis gallai hi ei atgofio. Yna y dywed ef wrth y Gwahoddedigion:—

Os collais a gerais, deg eirian—ei nwyf
Merch Ednyfed Fychan,
Ni chollais, ewch chwi allan,
Na'm gwely, na'm tŷ, na'm tân.

Ac yna rhoi'r ffon wen a wnaeth yn llaw Angharad, a hi welai yr Ellyll, a welsai hi o'r blaen yn bendefig urddasol, yn anghenfil anfeidrol ei anferthwch, a llewygu gan ei ofn a wnaeth hi, ac Einion a'i hymgeleddes. A phan agores hi ei llygaid nis gwelai yno na'r Ellyll, na neb o'r Gwahoddedigion, na neb o'r cerddorion, na dim yn y byd ond Einion, a'i mab, a'r delyn, a'r tŷ yn ei drefn gartrefol, a'r ciniaw ar y ford ac eistedd i lawr i'w fwyta a wnaethant Einion, ac Angharad, a'u mab Einion, a mawr iawn oedd eu llawenydd, a gwelsant yr hud a roddes yr Ellyll cythreulyw arnynt.

Ac oddiwrth hud o ddigwydd gwelir mai serch ar degwch a mwynder rhianaidd yw yr hud mwyaf ar ŵr; a thrachwant urddas a'i rodres a'i gyfoeth yw'r hud mwyaf ar wraig; ac nis anghofia gŵr ei wraig briod oni edrycho efe ar degwch merch arall; na gwraig ei gŵr priod onis edrych ar gyfoeth a golud, ac anrhydedd o rodres arglwyddaidd a gwychder balchineb. Ac felly y terfyna.

Hopkin ap Thomas o Dir Gwyr a'i gwnaeth, ebe'r IOLO MSS.

JAC Y LANTERN

(Oddiar Lafar Gwlad)

Y PETH a glywais ganwaith, a ysgrifenaf unwaith. Er's llawer dydd, yr oedd hen ŵr yn byw ar fynyddoedd Arfon a adwaenid wrth yr enw Sion Dafydd, Bwlch y Ddauafaen. Mae y Bwlch hwnw agos i haner y ffordd rhwng Llanbedr ac Abergwyngregin. Ond at yr hen ŵr a'i hanes. Yr oedd Sion Dafydd yn cyfeillachu llawer byd ag un o blant y pwll diwaelod, nes y byddent yn cyfarfod a'u gilydd yn rhyw fan y naill ddydd ar ol y llall. Pa fodd bynag, yr oedd Sion ryw fore ar ei daith i Lanfair Fechan, a ffust ar ei ysgwydd, gan fod ganddo dir llafur yno. Ond beth a'i cyfarfyddodd ond ei hen gyfaill o'r pwll diwaelod, a chŵd ar ei gefn, a dau o'r tylwyth bach ynddo o'r un rhywogaeth ag ef ei hun. Dechreuasant ymddiddan a'u gilydd am y peth hyn a'r peth arall, ond cwympasant allan a'u gilydd, ac o fygwth aed i daro, a tharo a wnaethant na fu erioed fath ymladdfa. Yr oedd Sion yn dyrnu yn ddigydwybod â'r ffust, a dyrnu a wnaeth nes aeth y cwd yn yfflon mân ar gefn ei wrthwynebydd; a diangodd y ddau oedd yn y cŵd nerth eu traed, neu eu hadenydd, i Rywgyfylchi, a dyna'r amser y gwnaed y lle hwnw yn waeth nag un lle arall trwy i blant y tywyllwch fod yno yn trigo. Yna aeth Sion i'w daith yn llawen; a bu yspaid maith o amser cyn iddo gyfarfod â'i elyn drachefn. Ond cyfarfod a wnaethant, ac ar y cyntaf edrychai'r ddau yn lled ddigofus ar eu gilydd. Y tro hwn, yr oedd Sion yn myned i hela à dryll (gwn) ar ei fraich. Ond, er y cyfan, gofynodd y diafol beth oedd ganddo ar ei fraich, ac atebodd Sion mai pibell oedd, ac mai'r bai mwyaf arni oedd ei bod yn drom iawn. "A ga'i fygyn o honi?" ebai'r Hen Fachgen. "Cei," ebai Sion; a chyda'r gair rhoddi ffroen y gwn yn ngheg y diafol, a thynnu'r trigger a wnaeth Sion; a dyna'r ergyd fwyaf ei thrwst a glywwyd ar wyneb daear erioed. Ach—tô—tơ!" meddai'r ysmociwr, rhyw frycha melltigedig ynddo; ac ymaith ag ef fel mellten na wyddai neb i b'le; a meddyliodd Sion y cawsai waredigaeth oddiwrtho am byth wedi ei saethu fel hyn. Ond, yn mhen yspaid maith o amser, cyfarfyddodd ag of wed'yn ar ddull gŵr boneddig; ond deallodd Sion mai y Twyliwr ydoedd, ac eto gwnaeth fargen ag ef y pryd hwnnw y bu yn edifar ganddo o'r herwydd tra fu byw ar y ddaear, sef gwerthu ei hun iddo am ryw swm mawr o arian, a'r rhai hyny ar ei law; ond ar yr amod hefyd, os gallai gael gafael mewn unrhyw beth, y byddai'n rhaid i'r diafol ei ollwng yn rhydd drachefn. A thrwy yr amod hwn gwaredwyd ef lawer tro. Ond unwaith daeth ar warthaf Sion yn ddisymwth, pan oedd ef yn nghylch ei orchwyl yn garddu. Cipiodd ef i fyny rhwng nef a llawr; ac yr oedd Sion wedi rhoddi pob gobaith o'r neilldu bron, pan feddyliodd am ofyn cenad i droi yn ol er mwyn cael afal i'w sipian yn ngwlad yr haner nos; ac i hyny cytunwyd, ac yn ol â hwy. Pan ddaethant at y coed afalau dyna Sion yn lygio'n ffast yn un o'r prenau; a bu raid i Dywysog Llywodraeth yr Awyr ei ollwng yn rhydd drachefn. Ac er ceisio lawer gwaith wedyn methodd a'i gymeryd oddiar y ddaear hon; a chan ei fod yn rhy ddrwg i fyned i wlad y gwynfyd, a'i wrthwynebydd wedi methu ei gymeryd trwy fodd nac anfodd i wlad y poenau, fo ydyw JAC Y LANTERN; ac os gwir y chwedl, mi a'i gwelais lawer gwaith—er ei fod yn hen, y mae yn hen ŵr sionc eto.

Oddiwrth hen frawd o Lanbedr y Cenin.

NOSON YN YR HAFOD.

O! DIRIONDEB! pa beth sydd ar wyneb y ddaear mor gu ac anwyl a thydi? Yn enwedig felly, pan y ceffir gafael arnat yn nghelfannau'r mynyddoedd, lle'r wyt heb gael llychwino dy ddiliad glân gan anfoes ac annhrefn. I'r mynyddoedd ynte, o ganol dwndwr byddarllyd y trefydd, —O ganol trybestod cibddall gwagymhonwyr coegfalch,—o blith teulu torrog Cenfigen, a phlant ufudd bwriad drwg ac anghariadoldeb! I'r mynyddoedd, i wrando chwiban dolefus y gwynt rhwng dannedd ysgythrog y creigiau; i glywed crawcoer—grasy gigfran; brefgwynfanusyddafad, bloedd gydseiniol y bugail, a chyfarthiad cleplyd y cwn wrth annos! I'r mynyddoedd i gysgu ein heinioes allan mewn unigoldebgwyryfol,—mewn tawelwch gwastadol,— ym mysg ceinion morwynol anian,—a'r rhai hynny yn gweini fel cyfryngau pennodol, yn cyfuno'r amserol a'r Tragwyddol a'u gilydd. Fel ag y mae cribau y mynydd— oedd yn ymsuddo i eigion gwyrddlesni'r ffurfafen, ac fel yn ymgolli yng ngwawl disglaerwyn y nefoedd, felly yn union y cyfunir yno fywyd pur, tawel, a digynhwrf, hefo'r bywyd parhaol hwnw na wêl anfarwoldeb derfyn arno. Am hynny i'r mynyddoedd, Ddarllenydd. Wel, i ba le y cawn ni fyned? Pa un fydd fwyaf difyr a'i cilfechydd Eryri, ai ymguddleoedd y Berwyn? Pa'r un yw'r lle hyfryttaf, ai gwaelodion Nant Conwy a'i uthredd Cadair Idris? Pa'r un yw'r lle tawelaf, rhwng bryniau glasgroen Maldwyn, a'i yng nghanol gwytilineb Ystrad Yw, neu Ystrad Towy? Cyttunwn i fyned i Gwm Cowarch. Sut le ydyw hwnw? Yn mha le y mae? Na falier, awn i Gowrach, ac arhoswn yn yr Hafod noson gyfan. Yn mha le y cawn damaid a llymmaid, neu'wlyb a gwely," chwedl pobl chwarelydd? Pob peth yn iawn, dim ond myned i Gowrach? Cwm ydyw Cowrach tua dwy filltir o hyd, afon wrth gwrs yn rhedeg drwy ei ganol, a digon o frithylliaid ynddi bob amser. Tai bob ochr i'r Cwm; rhai a'u talceni i'r allt, ac ambell un a'i gefn yno. Math o wtra, nid ffordd na llwybr sydd yno, yn dirwyn ar draws ac ar hyd, nes ein dwyn i le gwastad a fu unwaith yn fawnog, ond erbyn hyn sydd gyttir gwastadlyfn. Ym mhen uchaf y Cwm saif craig anferth fel mewn blys syrthio bob munud. Y mae ganddi hên wyneb hagr—bygythiol! Ond o dan ei gên, y mae'r Hafod. Hên dy hirgroes, heb weled erioed galch ond o bell yw'r lle: ond awn i mewn. Mae yno groeso calon i bob gwyneb byw bedyddiol. Y mae hynny yn rhywbeth onid ydyw? Nid ofnem na chaem weled peth newydd—mae pob peth i'r teithydd yn newydd pan y mae yn y mynyddoedd. Sut le yw'r Hafod? Y mae yno globen o gegin fawr, a simneu gymmaint a pharlwr go lew: a thwll mawn ddigon o faint i roi gwely ynddo pe buasai angen. Pan gurasom yn y drws fe'n hattebwyd yn gyfarthiadol gan ryw haner dwsin o gorgwn blewog, a dau ddaear-gi neu dri. Ond daeth rywun at y drws, a chawsom wrth ysgwyd llaw ysgwyd calon hefyd: nid ryw hên ddefod lugoer moni hi yma; ond y mae y galon i'w theimlo yn curo yn y bysedd ac yng nghledr y llaw. y Wedi cael maidd a brechdan fara ceirch teneu, yr ydym am drin y byd ei helyntion a'i gofion. Y mae'r tân yn olwyth, a'r flammau yn chwyrnu wrth ymryson esgyn! Ninnau, ddau ohonom, yn eistedd mewn dwy gadair freichiau; un o dderw du, a'r llall o fasarn gwyn. Gyferbyn a ni, sef yw hynny am y tân, yr oedd f'ewyrth Rolant, yn siarad ac ar yr un pryd yn trin ei ysturmant. Y mae modryb Gwen a'i golwg lawen tua'r cwppwrdd tridarn yn chwilio am gwyr i rwbio bwa ei ffidil; ac y mae'r mab hynaf yn cyweirio ei delyn yn ymyl y bwrdd mawr. debyg i hên wydd yn clegar am geiliogwydd y byddwn yn ystyried nâd annifyr y Glarioned bob amser; etto yn yr Hafod,—yng nghesail y mynyddoedd, yr oeddym yn foddlon i ddigymmod hefo unrhyw fath o offer cerdd. Wedi dodi'r canwyllau yn eu lleoedd priodol, a thaclu'r. Er mai pur tân a rhoi pob peth yn ddel ac yn deidi, cafwyd unawd ar yr ysturmant gan ŵr y tŷ. Er fod pren almon wedi blodeuo ar ei ben er's llawer blwyddyn, ac ôl ewinedd miniog amser ar ei ruddiau; etto chwareuai ei offeryn bach yn dda ddigrifol.—Twt Roli," ebe Modryb Gwen, dyro'r goreu iddi hi bellach; tyr'd am Ddifyrwch Gwyr Dyfi," ebai wrth y Telynor, a deuawd cywrain a gawsom; ac ar ol hyn caed Cydgân: yr ysturmant a'r delyn y crwth a'r glarioned: y ffeiff a thwmbarîn gan Deio Wmffra! Yr oedd y tŷ yn dadsain, a phawb yn gwneyd ei waith fel y dylasai. Ar hyn dyma rywun yn curo yn drws, a phwy oedd yno ond Deio Puw. Hên law digrif iawn. Byddai yn d'od i'r Hafod bob rhyw dair wythnos yn gylch er's cryn ddeugain mlynedd, ac hen fachgen doniol lawen oedd efe hefyd. Medrai adrodd holl chwedlau ysprydion y fro, a chwareu ffidil yn hylaw. Wedi cael tôn ar y ffeiff,—un wyllt—siongc—nwyfus,—dyma modryb Gwen yn gwaeddi yr eiltro, " Roli tyr'd i'r llawr," a'r hên ŵr yn ufuddhau i'r alwad mewn munud; er danghos hyn, dyna fo yn taflu ei ddwy glocsan, ac yn piccio atti hi i agor y ddawns! Yr oedd yno o leiaf saith o honynt wrthi hi yn ysgwyd eu berrau yn hwylus heinyf! Hên ac ieuangc yn ymddifyru gyda'r un ynni ac awydd a'u gilydd! Ar ol cael eu gwala o glettsio eu traed: eisteddwyd wed'yn a chaed cystal dysglaid o dê, ac a dywalltwyd erioed drwy big y tebot! Yn wir yr oedd tê'r Hafod yn dda! Pawb yn un a chyttun heb air garw na golwg sarug! Arol hyn caed canu hefo'r tannau. Pawb yn hyddysg a'r gwaith o'r ieuengaf hyd yr hynaf, ac nid oedd fawr o berygl cael mesglyn allan o'i le yn eu gwaith. Holwyd hwy a fyddent yn arfer cael noson felly yn fynych, a chaed ar ddeall mai dim ond ryw deirgwaith yn yr wythnos! Fel hyn yn swn awen, cân, a thelyn, y mae'r teulu yma'n treulio eu hoes. A thyma beth arall, pan ddaw hi yn amser cadw dyledswydd nid oes neb dwysach a thaerach wrth orseddgrasnaf'ewyrth Rolant pan fydd ar ei liniau;—nac un sydd ryddach" ei chalon, burach ei moes, a glanach ei thafod, na modryb Gwen. Ni ddaw cardottyn byth i'r drws heb gael ei ddiwallu, ni ddaw'r un o blant tlodion y mân deños yno heb gael am ddim caniad o laeth tew à chlewtan o frechdan; yn y gwyliau, llawer dafad dda a rennir yno, a thrwy gydol y flwyddyn, gellir dweydam yr Hafod ħefo'r anfarwol IEUAN BRYDYDD HIR, pan dorres allan fel hyn:

Agor dy drysor dod ran—yn gallwych
Tra gelli i'r truan:
Gwell ryw awr golli'r arian,
Na chau'r god, a nychu'r gwan.

Ydyw; ac fel, yn unol a'r hyn a ddysg yr Englyn, y mae'r teulu da yma yn hoffi danghos caredigrwydd ac nid sôn am dano: ac yn bennaf oll, nid ydys un amser, erioed, wedi clywed sôn am ddim ystori gelwyddog wedi myned allan o'r Hafod. Yn lle byw ar enllib, cenfigen, ac athrod; y maent hwy yn diangc i fyd y gân. Nid oes yn y cwmpasodd neb mor ddison am danynt a'r teulu hwn drwyddo draw, ac er nad ydynt yn rhyw gyfoethog iawn o ran pethau'r byd: etto nid oes dim plas boneddwr, os ydyw yn Gymro, yn y sir na bu rhai o'r teulu yno rywbryd yn aros, nid oes ychwaith, neb yn y wlad, na wnai bob peth iddynt, pe bae arnynt eisiau. Ond beth yw'r ergyd? Hyn; fod hên fywyd Cymreig fel eiddo pobl yr Hafod yn well—yn ddini weittiach,—yn onestach,—ac felly yn dduwiolach, na surni a chelwydi, balchder ac afrad, y wlad yn yr oes bresenol!

CANT O HEN BENNILLION CYMREIG.

CLYWAIS ddadwrdd, clywais ddwndro,
Clywais bart o'r byd yn beio;
Ond ni chlywais neb yn dadgan
Fawr o'i hynod feiau'i hunan.

Pan fo seren yn rhagori,
Fe fydd pawb a'i olwg arni;
Pan ddaw unwaith gwmwl drosti,
Ni fydd mwy o son am dani.

Dacw lwyn o fedw gleision,
Dacw'r llwyn sy'n torri'm calon;
Nid am y llwyn yr wy'n och'neidio,
Ond am y ferch a welais ynddo,

Tros y môr y mae fy nghalon;
Tros y môr y mae foch'neidion;
Tros y môr y mae f'anwylyd,
Sy'n fy meddwl i bob mynyd.


Hawdd yw d'wedyd, " Daccw'r Wyddfa;"
Nid eir drosti ond yn ara';
Hawdd i'r iach, a fo'n ddiddolur,
Beri i'r claf gymmeryd cysur.

Dod dy law, ond wyt yn coelio,
Dan fy mron, a gwylia'm briwo;
Ti gei glywed, os gwrandewi,
Swn y galon fach yn tori.

Ow, fy nghalon! tor os tori,
Pa ham yr wyd yn dyfal boeni,
Ac yn darfod bob yn 'chydig,
Fal ia glas ar lechwedd lithrig.

Trwm y plwm, a thrwm y ceryg,
Trwm yw calon pob dyn unig;
Trymaf peth tan haul a lleuad,
Canu'n iach lle byddo cariad.

Da gan adar mân y coedydd;
Da gan ŵyn feillionog ddolydd:
Da gan i brydyddu'r hafddydd
Yn y llwyn, a bod yn llonydd.

Nid oes rhyngof ag ef heno
Onid pridd, ar arch, ar amdo:
Mi fum lawer gwaith yn mhellach,
Ond nid erioed â chalon drymach.

Hiraeth mawr, a hiraeth creulon,
Hiraeth sydd yn tori'm calon:
Pan f 'wyf dryma'r nos yn cysgu,
Fe ddaw hiraeth, ac a'm deffry.

Tebyg yw dy lais yn canu
I gog mewn craig yn dechreu crygu;
Dechreu cân heb ddiwedd arni;
Harddach fyddai iti dewi.

Brith yw'r ser ar noswaith oleu,
Brith yw meillion Mai a blodau;
Brith yw dillad y merchedau,
A brith gywir ydynt hwythau.

Rhois fy mryd ar garu glanddyn;
Fe roes hwn ei serch ar rywun;
Hono roes ei serch ar araíl:
Dyna dri yn caru'n anghall.


Yn Hafod Elwy'r gog ni chân,
Ond llais y frân sydd amla';
Pan fo hi decaf ym mhob tir,
Mae hi yno yn wir yn eira.

Llun y delyn, llun y tannau,
Llun cyweirgorn aur yn droiau;
Tan ei fysedd, O, na fuasai
Llun fy nghalon union inau!

Awel iachus sy'n mhen Berwyn,
Lle i weled llawer dyffryn;
Ac oni bai'r Arenig ddiffaeth,
Gwelwn wlad fy ngenedigaeth.

Ni chân cog ddim amser gaua',
Na chân telyn heb ddim tanna';
Ni chân calon, hawdd iwch wybod,
Pan fo galar ar ei gwaelod.

Sawl a feio arnaf beied,
Heb fai arno, nac arbeded;
Sawl sy' dan eu beiau beunydd,
Fe eill rhei'ny fod yn llonydd

Dacw'r llong a'r hwyliau gwynion,
Ar y môr yn myn'd i'r Werddon:
Duw o'r nef, rho lwyddiant iddi,
Er mwyn y Cymro glân sydd ynddi!

Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
Hwy gant fynd i'r fan a fynon—
Weithiau i'r môr, a weithiau i'r mynydd,
A d'od adref yn ddigerydd.

Dyn a garo grwth a thelyn,
Sain cynghanedd, cân, ac englyn,
A gâr y pethau mwyaf tirion
Sy'n y nef ym mhlith angylion.

Yr un ni charo dôn a chaniad,
Ni cheir ynddo naws o gariad;
Fe welir hwn, tra byddo byw,
Yn gas gan ddyn, yn gas gan Dduw.

Cleddwch fi, pan fyddwyf farw,
Yn y coed dan ddail y derw;
Chwi gewch weled llanc penfelyn.
Ar fy medd yn canu'r delyn.


A mi'n rhodio mynwent eglwys,
Lle'r oedd amryw gyrph yn gorphwys,
Trawn fy nhroed wrth fedd f'anwylyd,
Clywn fy nghalon yn dymchwelyd."

Gwedwch, fawrion o wybodaeth,
O ba beth y gwnaethpwyd hiraeth;
A pha ddefnydd a roed ynddo,
Nas darfyddai wrth ei wisgo?

Blodau'r flwyddyn yw f'anwylyd,
Ebrill, Mai, Mehefin hefyd;
Llewyrch haul yn t'wynu ar gysgod,
A gwenithen y genethod.

Geiriau mwyn gan fab a gerais,
Geiriau mwyn gan fab a glywais;
Geiriau mwyn ynt dda tros amser,
Ond y fath a siomodd lawer.

Mwyn, a mwyn, a mwyn yw merch,
A mwyn iawn lle rhoddo'i serch;
Lle rho merch ei serch yn gynta',
Dyna gariad byth nid oera.

Tro dy wyneb ata'i 'n union;
Gyda'r wyneb tro dy galon;
Gyda'r galon tro d'ewyllys;
Ystyria beth wrth garwr clwyfus.

Lle bo cariad y canmolir
Y rhyw ddyn yn fwy na ddylir;
Ond, le byddo digter creulon,
Fe fydd beiau mwy na digon.

Tros y mor mae'r adar duon;
Tros y mor mae'r dynion mwynion;
Tros y mor mae pob rhinweddau;
Tros y mor ma'm cariad inau.

Melys iawn yw llais aderyn
Fore haf ar ben y brigyn;
Ond melusach cael gan Gweno
Eiriau heddwch wedi digio.

Mae cyn amled yn y farchnad
Groen yr oen a chroen y ddafad,
A chyn amled yn y llan,
Gladdu'r ferch a chladdu'r fam.


Ond ydyw yn rhyfeddod
Bod danedd merch yn darfod;
Ond, tra yn eu geneu chwyth,
Ni dderfydd byth ei thafod,

Robin goch sydd ar yr hiniog,
A'i ddwy aden yn anwydog;
A ddyweda mor ysmala,
"Mae hi'n oer, fe ddaw yn eira."

Caued pawb ei ddrws yn sydyn
Mae'r eira'n barod er ben Berwyn;
Hilyn gwyn i hulio'n Gwanwyn
Ddaw i lawr a rhew i'w ganlyn.

Yn y môr y byddo'r mynydd
Sydd yn cuddio bro Meirionydd:
Na chawn unwaith olwg arni,
Cyn i'm calon dirion dori.

Rhywun sydd, a Rhywun eto,
Ac am Rywun 'rwy'n myfyrio;
Pan f'wyf dryma'r nos yn cysgu,
Fe ddaw Rhywun ac a'm deffry.

Bum yn claddu hen gydymaith,
A gododd yn fy mhen i ganwaith;
Ac yr wy'n anmheu, er ei briddo,
Y cyfyd yn fy mhen i eto.

Blin yw caru yma ac acw,
Blin bod heb y blinder hwnw;
Ond o'r blinderau blinaf blinder,
Cur annifyr caru'n ofer.

Mi ddarllenais ddod yn rhywfodd
I'r byd hwn wyth ran ymadrodd;
Ac i'r gwragedd (mawr lles iddynt)
Fyn'd å saith o'r wyth—ran rhyngddynt

Lle bo cariad y canmolir
Mwy, ond odid, nag a ddylir;
A chenfigen a wŷl feion
Lle na byddo dim achosion.

Medi gwenith yn ei egin
Yw priodi glas fachgenyn;
Wedi ei bau, ei gau, a'i gadw,
Dichon droi'n gynauaf garw.


Gwae a gario faich o gwrw
Yn ei fol i fod yn feddw:
Trymaf baich yw hyn o'r beichiau,
A baich ydyw o bechodau.

Hwn yw mam y cam a'r celwydd,
Lladd, a lladrad, ac anlladrwydd:
Gwna gryf yn wan, a gwan yn wanach,
Y ffel yn ffol, a ffol yn ffolach.

Tebyg ydyw morwyn serchog
I fachgen drwg mewr tŷ cymmydog:
"A fyni fwyd?" "Na fynaf mono"
Eto er hyny yn marw am dano.

Canu wnaf a bod yn llawen,
Fel y gog ar frig y gangen;
A pheth bynag ddaw i'm blino,
Canu wnaf a gadael iddo.

Llawn yw'r môr o heli a chregyn;
Llawn yw'r wy o wyn a melyn;
Llawn yw'r coed o ddail a blodau;
Llawn o gariad merch wyf finnau.

Yn nglan y môr mae ceryg gleision;
Yn nglan y môr mae blodau'r meibion;
Yn nglan y môr mae pob rhinweddau;
Yn nglan y môr ma'm cariad innau.

Dacw f'anwyl siriol seren,
Hon yw blodau plwyf Llangeinwen;
Dan ei throed ni phlyg y blewyn,
Mwy na'r graig dan droed aderyn.

Ni thoraf fi mo'm calon lawen,
O drymder gwaith a wnaeth un bachgen:
Trech yw natur na dysgeidiaeth;
Rhodiaf beth,—nid wyf ond geneth.

Mi feddyliais ond priodi
Na chawn ddim ond dawnsio a chanu;
Ond beth a ges ar ol priodi,
Ond siglo'r cryd a sio'r babi.

Siglo'r cryd â'm troed wrth bobi,
Siglo'r cryd â'm troed wrth olchi,
Siglo'r cryd yn mhob hysywaeth,
Siglo'r cryd sy' raid i famaeth.


Gochel neidr mewn gardd lysiau,
Gochel fab a'i fwynion eiriau;
Os caiíf hwnw'n llwyr dy feddwl,
Cilio wna fel haul dan gwmwl.

Tri pheth sydd hawdd ei siglo;
Llong ar fôr pan fo hi yn nofio,
Llidiart newydd ar glawdd ceryg,
A het ar goryn merch foneddig.

Mi fûm yn rhodio glan môr heli,
Gwelwn wylan wen lliw'r lili
Ar y traeth yn sychu ei godrau,
Wedi ei gwlychu gan y tonau.

Mi rois fy mhen i lawr i wylo,
Fe ddaeth y wylan ataf yno;
Mi rois lythyr dan ei haden
I fyn'd at f'anwyl siriol seren.

Pa ham mae'n rhaid i chwi mo'r digio
Am fod arall yn fy leicio?
Er fod gwynt yn ysgwyd brigyn,
Mae'n rhaid cael caib i godi'r gwreiddyn.

Mi rois fy llaw mewn cwlwm dyrys;
Deliais fodrwy rhwng fy neufys;
Dywedais wers ar ol y person, —
Y mae'n edifar gan fy nghalon.

Mi rois goron am briodi:
Ni rof ffyrling byth ond hyny:
Mi rown lawer i ryw berson,
Pe cawn i'm traed a'm dwylaw'n rhyddion.

Pe bai gwallt fy mhen yn felyn,
Fe wnai dannau i'w rhoi'n eich telyn;
Ond am nad yw fy ngwallt ond gwinau,
Rhaid i'ch telyn fod heb dannau.

Yn sir Fôn mae sïo'r tannau;
Yn Nyffryn Clwyd mae coed afalau;
Yn sir Fflint mae tân i ymdwymo,
A lodes benwen i'w chofleidio.

Tebyg iawn wyt i'r ddyllhuan,
O bren i bren bydd hono'i hunan.
A phob 'deryn yn ei churo;
Tebyg iawn wyt ti i hono.


Bum yn caru dau'r un enw,
Un yn lân a'r llall yn salw;
Gyda'r salw y mae'r moddion;—
Bachgen glân a gâr fy nghalon.

Mari lân, a Mari lon,
A Mari dirion doriad;
Mari ydyw'r fwyna'n fyw,
A Mari yw fy nghariad;
Ac onid ydyw Mari'n lân
Ni wiw i Sian mo'r siarad.

Mae yn y Bala flawd ar werth,
A Mawddwy berth i lechu;
Mae yn Llyn Tegid ddw'r a gro,
A gefail go'i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Brân
Ddwy ffynnon lân i'molchi.

Mi af odd yma i Aberdaron,
Lle mae tyrfa o bobl ffolion;
Os oes cymhar imi ar gerdded,
Dyma'r fan lle caf ei weled.

Fe ellir rhodio llawer ffair,
A cherdded tair o oriau,
A charu merch o lawer plwy',
Heb wybod pwy sydd oreu:
Mae'n anhawdd dewis derwen deg,
Heb arni freg yn rhywle.

Aelwyd serch sy rhwng fy nwyfron,
Tanwydd cariad ydw'r galon;
A'r tân hwnw byth ni dderfydd,
Tra parhao dim o'r tanwydd;

A ffyddlondeb yw meginau,
Sydd yn chwythu'r tan i gyneu;
A, maint y gwres, nid rhyfedd gweled
Y dw'r yn berw dros fy llygaid.

Dwy wefus, Bessi bêr,
Sydd iraidd lruer aeron;
Ac mor felfedaidd, geinwedd, gu,
Fal gweunydd blu dy ddwyfron;
Ond yw ryfedd, teg dy liw,
Mor galed yw dy galon!


Mi af oddi yma i'r Hafod Lom,
Er bod yn drom fy siwrnai;
Mi gaf yno ganu cainc,
Ac eiste' ar fainc y simne';
Ac ond odid dyna'r fan
Y byddaf dan y bore.

Gwedd holl aniau a gyfnewid
Cyn y gwelwyf fy anwylyd,
Bydd y meillion ar y meusydd,
Cân yr adar yn y coedydd:
Ond un peth ni all gyfnewid,
Sef fy nghalon i, f'anwylyd.

Yma a thraw y maent yn sôn,
A minnau'n cyson wrando,
Nas gwyr undyn yn y wlad
Pwy ydyw'm cariad eto;
Ac nis gwn yn dda fy hun
A oes im' un ai peidio.

Rhaid i bawb newidio byd,
Fe ŵyr bob ehud anghall;
Pa waeth marw o gariad pur
Na marw o ddolur arall?

Bu'n edifar, fil o weithiau,
Am lefaru gormod eiriau;
Ond ni bu gymaint o helyntion
O lefaru llai na digon.

I ba beth y byddaf brudd,
A throi llawenydd heibio?
Tra b'wyf ieuanc ac yn llon,
Rho'f hwb i'r galon eto;
Hwb i'r galon, doed a ddel,
Mae rhai na welant ddigon;
Ni waeth punt na chant mewn côd,
Os medrir bod yn foddlon.

Tro yma d'wyneb, f'enaid fwyn,
A gwrando gwyn dy gariad;
Gwn nad oes un mab yn fyw
Na sercha liw dy lygaid.


Mi wyf yma, fal y gweli,
Hieb na chyfoeth na thylodi;
Os meiddi gyda mi gydfydio,
Di gei ran o'r fuchedd hono.

Mae llawer afal ar frig pren
A melyn donen iddo,
Na thâl y mwydion tan ei groen
Mo'r cym'ryd poen i ddringo
Hwnw fydd cyn diwedd ha'
Debyca' a siwra' i suro.

Mwyn yw llun a main yw llais
Y delyn fernais newydd,
Haeddai glod am fod yn fwyn—
Hi ydyw llwyn llawenydd:
Fe ddaw'r adar yn y man
I diwnio dan ei 'denydd.

Daw ydyw'r gwaith, rhaid dweyd y gwir,
Ar fryniau sir Feirionydd:
Golwg oer o'r gwaelaf gawn,
Mae hi eto'n llawn llawenydd:
Pwy ddysgwyliai canai cog
Mewn mawnog yn y mynydd.

Er melyned gwallt ei phen,
Gwybydded Gwen lliw'r ewyn,
Fod llawer gwreiddyn chwerw'r ardd
Ac arno hardd flodeuyn.

Mi ddymunais fil o weithiau
Fod fy mron yn wydr goleu,
Fel y gallai'm cariad weled
Fod y galon mewn caethiwed.

Tra bo Môn â mor o'i deutu,
Tra bo dwr yn afon Gonwy,
Tra bo marl dan Graig y Dibyn,
Cadwaf galon bur i rywun.

Meddwch chwi pa oreu im' eto,
Yw bod yn glaf o serch ai peidio?
Nes cael gwybod pwy ennilla,
Ai hi a ga', ai mi a golla'.


Maent hwy yn dywedyd mai lle iachus
Yw glan y môr i eneth glwyfus:
Minau sydd yn glaf o'r achos;
Mi af i lân y môr i aros.

Mi fum gynt yn caru glanddyn,
Ac yn gwrthod pob dyn gwrthyn:
Ond gweld 'rydwyf ar bob adeg,
Mai sadia'r mur po garwa'r gareg.

Maent hwy'n d'weyd na chaf edrych
Ar eich cudyn melyn manwych;
Ni wnaeth Duw mo'r byd cyn dosted
Ni chaiff pawb a'i olwg weled.

Derfydd rhew a derfydd gauaf,
Fe ddaw'r hâf a'i wên dirionaf:
Ond ni ddaw un pêr ddyddanwch
Byth i mi sy'n llawn o dristwch.

Drwg am garu, drwg am beidio,
Drwg am droi fy nghariad heibio;
Drwg am godi'r nos i'r ffenest':
Da yw bod yn eneth onest.

Cwlwm caled yw priodi,
Gorchwyl blin gofalus ydi;
Y sawl nis gwnaeth nis gŵyr oddiwrtho,
Ond caiff wybod pan ei gwnelo.

Blewyn glas ar afon Dyfi
A hudodd lawer buwch i foddi;
Lodes wen a'm hudodd innau
O'r uniawn ffordd i'w cheimion lwybrau.

Nid cymhwys dan un iau y tyn
Ych glân ac asyn atgas;
Dwy natur groes mewn tŷ wrth dân
Ni harddant lân briodas.
Cais i ti ddyn o natur dda
Mewn gweithred a chymdeithas,
Fo'n dilyn ffyrdd gwir deulu'r ffydd,
Cei ddedwydd ddydd priodas.


TWM SION CATTI

GWR boneddig, ac yspeiliwr; hynafiaethydd, a chnaf diriaidus; haelionus i'r tlawd, galluog fel ysgolaig, a dychryn pawb yn perchen eiddo. Dyna y cymeriad a rydd traddodiad i Twm Sion Catti, ac er mor wrthgyferbyniol yr ymddengys ar yr olwg gyntaf, nid ydym ni yn myned i wadu ei wirionedd. Ni buasai mwy o son am y Twm hwn mwy na rhyw Dwm arall oni bai fod neillduolrwydd yn perthyn iddo, a dylid cofio nad ydyw hynodrwydd ond esgus gwan dros annghrediniaeth, er fod yn naturiol i'r farn o'i herwydd fod yn fwy gochelgar.

Dywedir mai mab ydoedd Twm Sion Catti i Syr John Wynn, o Wydir; mai ei enw priodol oedd Thomas Jones, ac i'w ffugenw darddu o Twm, mab Sion a Chatti neu Catherine. Blodeuodd tua'r flwyddyn 1590 hyd 1630. Preswyliai mewn lle o'r enw Porth y Ffynon, yn agos i Dregaron, a gelwir y tŷ hwnw hyd y dydd heddyw gan bobl yr ardal yn Blas Twm Sion Catti. Ystyrid ef yn brydydd a hynafiaethydd mor ragorol fel y dywedodd yr enwog Dr. John Dafydd Rhys, ei gydoeswr, am dano:— "A phenaf a pherpheithiaf, a hynny yn ddiamheu, y bernir Thomas Sion, o Borth y Phynnon, yn ymyl Tref Garon. A phan ddarpho am dano, ef a fydd ddigon petrus y ddamwain allu o hono yr hawc adu yn ei ol un cymhar iddo: na chwaith neb ryw achwr a ddichon, o ran bod mor gyphredin ag ef ynn yr wybodaeth honn, wneuthur cymeint a phwyso parth ac atto." Ond er mor bwysig y dichon y deyrnged hon o barch iddo fel hynafiaethydd fod oddiwrth awdurdod mor uchel eto adwaenir Twm Sion Catti yn well ar gyfrif ei ystranciau a'i ladradau. Mor fawr ydoedd ei ddylanwad ar y wlad yn y cymeriadau hyn fel y dynododd rhywun ef gyda y llinellau hyn:

"Mae llefein mawr a gwaeddi,
Yn Ystradffin eleni;
Mae'r ceryg nadd yn toddi'n blwm
Rhag ofn Twm Sion Catti."

Yn awr rhoddwn engraifft neu ddwy o'i ddiriaidau:— Cyfarfyddodd a dyn yn myned i brynu crochan, ac addawodd gael un rhad iddo. Yna hwy a aethant tua masnachdy, a phan oeddynt yn gofyn pris rhai dywedodd Twm wrth y masnachydd fod twll yn un o honynt, yr hyn a wadodd y dyn yn benderfynol. Er mwyn profi yr hyn a ddywedai, dymunodd Twm ar i'r siopwr roddi ei ben ynddo, ac yna y caffai weled, a thra yr oedd pen y masnachydd yn y crochan, arwyddodd ar i'r dyn tlawd gymeryd crochan arall ymaith. Wedi i'r truan graffu ei oreu, tynodd ei benglog gan sicrhau nad oedd yr un twll yn y crochan. "Yna," meddai Twm, "pa fodd y gallit ti roddi dy ben ynddo?".

Dro arall, efe a ganfu hen wraig yn y farchnad, a rholyn frethyn wrth ei hochr, ac efe a gydiodd un pen iddo wrth ei ddillad ei hunan; a thrwy roddi tro cyflym efe a gymerodd y brethyn oddiamgylch i'w gorph. Wedi i'r wraig wybod ei golli, hi a edrychodd o'i hamgylch yn graff, a phan welodd Twm hi yn syllu yn ammheus ar y brethyn oedd ganddo ef, efe o ddynesodd ati ac a ffugiodd gydofidio â hi, a gresynu fod cynifer o ddyhirod yn dyfod i ffeiriau, a rhyfeddu iddi fod mor esgeulus, a dywedyd ei fod ef bob amser er mwyn diogelwch yn rholio ei frethyn o'i amgylch ac yn ei wnio wrth ei ddillad.

Un tro arall, efe a gafodd wybod fod lleidr pen ffordd nodedig yn y gymydogaeth, ac efe a benderfynodd roddi cais teg ar ei yspeilio. Tuag at ddwyn hyny oddiamgylch, efe a farchogodd ar hen geffyl gwael druenus i'w gyfarfod, gan gymeryd gydag ef god ledr yn llawn o hoelion. Gorchymynodd y lleidr iddo aros, a rhoddi ei arian i fynu. Ymddangosai Twm yn hytrach yn anewyllysgar i wneud hyn, eithr pan fygythiodd y lleidr ei saethu efe a'i taflodd dros y gwrych. Y lleidr dan ei regi a barodd iddo ddal pen ei geffyl; ond tra y bu efe yn myned dros y clawdd Twm a newidiodd ddau geffyl, ac a garlamodd ymaith nes oedd y ffordd yn gwreichioni o tano.

Ac nid rhyw greadur calon oer, caled, ac amddifad o nwyfiant, ydoedd Twm, a'i ddichellion wedi llwyr fogi ei deimladau caruaidd, ond dygai ei gyfrwysdra gydag ef hyd yn nod i awyr gysegredig serch. Efe a syrthiodd mewn cariad ag etifeddes Ystradffin, yn swydd Gaerfyrddin, ond gydag ychydig o obaith am lwyddiant, a'r gobaith hwnw yn treiddio i'w feddwl trwy ei gynllwynion. Efe a ymwelai â'i anwylyd yn yr hwyr, ac nid allai mewn un modd ei pherswadio i ddyfod allan ato, a hyny o ddiffyg cydsyniad ei rhieni. Un noson hi a wrthododd yn deg wrando arno, ac er o'i hanfodd, gorchymynodd iddo beidio dyfod byth yn agos i'r tŷ drachefn. Wel, os rhaid iddi fod felly, "ebe Twm, "yr ydwyf yn deisyf arnoch roddi imi eich llaw unwaith cyn yr ymadawom am byth." Y foneddiges a ostynodd ei llaw drwy y ffenestr, a Thwm yn uniongyrchol a

. afaelodd ynddi, ac yn lle ei chusanu yn awyddus, tyngodd y torai efo ei llaw hi ymaith, os na phriodai hi ef yn ddiatreg. Yr oedd offeiriad gerllaw, y fodrwy a roddwyd am ei bys, a'r seremoni a gyflawnwyd. Ni wyddom pa beth a ddilynodd briodas mor swta ac annaturiol, ond os oes coel ar dyb gyffredin dynolryw am flaenafiaid priodas, nid ellir casglu i'r ddau fwynhau llawer o hapusrwydd oddiwrth eu gilydd. Pa fodd bynag, dywedir fod cyfnewidiad hollol wedi cymeryd lle yn muchedd Twm Sion Catti ar ol hyn; iddo adael llwybrau helbulus lladrad, a chynghori ei hen gymdeithion i wneud yr un modd. Y mae ogof mewn craig yn agos i Ystradffin, a elwir "Ogof Twm Sion Catti," dywedir mai yno y trigai ein harwr cyn iddo briodi.

MAN—GOFION

.

Guto'r Glyn.—Guto'r Glyn wedi heneiddio a gollesei glyw a'i olwg; ac yna y cymerth Abad Llanegwesti ef i'r Fynachlog i dario tra fai byw. Ac ychydig cyn ei farw efe a gysgodd hyd ar ol haner dydd, ac yna y deffroes, ac y gofynodd i'r llanc oedd yn ei wasanaethu, beth oedd hi o'r dydd; ac y dywed yntau ei bod hi wedi haner dydd a bod yr Abad ar ddybenu ei ginio. Yna y dywed Guto "Pa'm na chlywswn i y clychau yn canu? pa'm na chlywswn i ganu yr organ?" Fe ganwyd y clychau a'r organ hefyd, a dylasech eu clywed," ebe'r llanc. Yna Guto a gânt yr Englyn hwn:—

Gwae'r gwan rhan oedran nid edrych,—ni chwerdd
Ni cherdda led y rhych;
Gwae ni wyl yn gynilwych,
Gwae ni chlyw organ na chylch.

Argraffu Cymraeg.–Argraffwyd y llyfr Cymraeg cyntaf yn Llundain, yn y flwyddyn 1516. "Rhedai ei deitl fel hyn, "Yn y Llyvyr hwn traethyr y Gwyddor Cymraeg. Kalendyr. Y Gredo neu Bynceu yr Ffydd Gatholic. Y Pader neu Weddi yr Arglwydd. Y Deng air Deddyf. Saith rinwedd yr Eglwys. Y Campay arferadwy a'r gweddiau gocheladwy ae Keingeu." Ei faint oedd pedwar plyg. Gwaith William Salisbury, cyfieithydd galluog Testament Newydd, ydoedd. Y llyfr a argraffwyd gyntaf

yn Nghymru oedd, "Eglurhad o Gatecism Byraf y Gymanfa, o waith Thomas Vincent, ac o gyfieithiad J. P. a T. P." Argraffwyd ef yn Castell-newydd Emlyn, yn y flwyddyn 1719. Am tua thri ugain mlynedd ar ol hyn, Almanaciau oeddynt brif gyfryngau gwybodaeth y Cymro yn ei iaith ei hun. Argreffid y rhai hyn gan mwyaf yn Nghroesoswallt ac Amwythig. Yr oedd Sion Tudur, o Lanelwy, yn llawn mor adnabyddus fel Almanaciwr ag ydoedd fel Bardd. Ond un tro bu agos i un bachgenyn ladd ei Almanaciaeth yn farw gelain. Ar foreu tesog wybren glir yn nghanol haf, yr oedd Sion yn rhodio ffordd gerllaw ei dŷ, a daeth i'w gyfarfod yr hogyn dywededig, a chanddo wlawlen fawr tan ei fraich. I beth 'rwyt ti 'n cario y wlawlen fawr yna ar fore mor braf a hwn?" ebai'r Almanaciwr. " Am fod Almanac Sion Tudur yn d'weyd mai diwrnod braf a gawn ni heddyw, ac felly y mae hi yn sicr o wlawio cyn y nos," a ffwrdd a'r bychan pert i'w daith gan adael Sion i syn gilgnoi ei damaid chwerw.


Damheg.—Yr oedd unwaith yn Eifionydd hen ŵr hen iawn yn byw gyda'i fab a'i ferch yn nghyfraith, i ba rai yr oedd plentyn penfelyn llonbryd. O'r bron y gallai yr hen ŵr godi y llwy wrth fwyta at ei ben gan fel y crynai ei fraich, a cholli y byddai yn fynych ei wlyb hyd y bwrdd. Yna ei fab a'i ferch yn nghyfraith a'i dodasant mewn congl wrtho'i hun; a rhag y torai llestr pridd, gwneud llestr pren iddo a wnaethant. Dyna lle byddai yn och'neidio'n brudd, ac yn bwrw trwy ei ddagrau aml gipedrychiad athrist tua'r ford, heb gael haner digon i dori ei angen. Pan yn bwyta yn ei gongl un tro, yr oedd ei ŵyr bach yn chwareu gyda darnau o goed ar y llawr. "Beth wyt ti yn ei wneud, machgen i?" ebai'r tad." Gwneud cafn bach i'm tad a'm mam fwyta o hono pan elwyf fi yn ddyn."Teimlwyd yr awgrym; dygwyd yr hen ŵr yn ol at y ford, ymddygwyd yn dirion tuag ato hyd oni pheidiodd y llaw grynedig a chrynu, a'r galon ag ocheneidio. Ac oddiar hyn y tarddodd y ddiareb "Tra gwir, gwir gwirion." Ac arall "A fo brwnt wrth hen boed hen ei hun."

Y DIWYD A'R DIOG.

COFUS iawn genym y dydd hwn, am ddau a adwaenem yn dda pan yn ieuanc gartref, o'r gwahanol nodweddau hyn. Yr oedd preswylfa y diwyd am lawer o flynyddau gerllaw trigle ein rhieni. Os digwyddai iddo fod allan o waith, byddai yn anesmwyth ac annedwydd i'r eithaf iddo ei hun a'i deulu. Siaradai rhyngddo ag ef ei hunan, prociai y tân, ysgytiai y plant, ciciai y gath, a byddai rywyr i Begws, y wraig, hel y carnau o'i olwg. Ond os byddai ganddo olwg ar ddigon o waith o'i flaen, byddai mor llawen a'r côg, ac mor chwareüus a'r ebol. Byddai yn llonaid ffordd ddyn wrth fyned at ei waith y bore a dychwelyd adref yr hwyr. Gosodai ei freichiau yn mhleth, a'i het ar lechwedd ei ben, gan ganu fel y medrai:—

"Fe dyngai madyn eger
Pe ll'w'gai brenin Lloeger
Mi fyna ddafad ag oen gwyn,
Os hapia, erbyn swper.

Gweithio oedd dedwyddwch ei fywyd, ac yr oedd bod allan o waith yn chwerwach nag angau iddo. Cof genym i'n tad ein hanfon i ymofyn am dano at ryw waith ar adeg led segur arno, ac yr oedd yn bur ddrwg ei anwydau, fel yr arferai fod ar y tymhorau hyny: ond pan grybwyllasom ein neges, newidiai ei wedd, a dechreuai chwibanu yn fawreddus ryfeddol; "Ond," meddai yn y man, "ni wn i beth i ddweyd wrthat ti. Y mae Robert y Wern yna, eisio i mi fyn'd yno—a Richard y Cae Coed hefyd; ond aros di, dywed wrth dy dad mai acw y do i." Ni byddai yr hen walch yn foddlawn i addef byth ei fod allan o waith.

Bu yr hen greadur diwyd hwn fyw i oedran teg. Wedi iddo fyned yn rhy wan gan henaint i weithio am gyflog fel cynt, nid ymollyngodd ar y plwyf fel y cyffredin. Yr oedd yspryd gweithio mor fyw a nerthol ynddo ag erioed. Treuliodd flynyddau olaf ei oes ar hyd mynydd Hiraethog; efe oedd arglwydd darn mawr o'r mynydd hwnw. Adwaenid ef yn dda gan filoedd o ddefaid, a merlynod, a chornchwiglod yno. Yn yr haf, byddai yn tori ac yn cynauafu mawn i'w gwerthu. Efe oedd Rothchild mawr y byd yn y farchnadyddiaeth fawnog. Yn hâf gwresog y flwyddyn 1826 cafodd golledion dirfawr drwy i ran fawr o'r mynydd gymeryd tân, yr hwn a losgodd ugeiniau o Iwythi o'i fawn. Mawr oedd gofid a phrofedigaeth yr hen ŵr ar yr achlysur hwn. Yr oedd i'w weled yn fore iawn bob dydd yn myned i fyny i'r mynydd, ac ofnid y gwnaethai losg-aberth o hono ei hun yn nghanol ei fawn. Llawer brwydr galed a fu rhyngddo â'r elfen ddinystriol. Llosgodd ei haiarn gwthio, ei glustog, a'i raw fawn, yn golsion; a haner rostiodd yr hen ŵr ei hun yn y gwres lawer gwaith. Yn y gauaf, byddai hyd y mynydd yn tynu pabwyr, a'r nos ar ol dyfod adref yn eu pilio, ac elai Begws ar hyd y wlad i'w gwerthu hwy a'r ysgubau a wneid ganddo o'r pilion. Fel hyn y bu fyw hyd nes y daeth pilionen ei fywyd i'r pen.

Adwaenem gymydog a chyfoed i'r hen ŵr uchol, yr hwn yntau hefyd oedd yn nodedig ar gyfer ei weithgarwch, ei ddiwydrwydd, a'i onestrwydd; hen Gymro o'r hen ffasiwn oedd efe: pur afrywiog ei dymher, druan; a phan y cyffroid hono, yr hyn a ddigwyddai yn fynych, celai darn fawr o wlad wybod hyny, canys treiddiai ei floeddiadau uchel ac egrddigofus fel taranau trwy y fro. Yr oedd ganddo lais fel udgorn cryf, a gollyngai ef allan yn ei lawn nerth, pa bryd bynag y cynhyrfid ei natur. Yr oedd ar ei anifeiliaid ei ofn fel y gŵr drwg: rhedai y moch i ymguddio am eu bywyd pan ddelai i'w golwg. Llechai'r ieir a'r gwyddau mewn distawrwydd, pan glywent ei lais. Ciliai'r gwartheg rhagddo mewn dychryn pan y'i gwelent; canys yr oedd y creaduriaid oll wedi profi angerdd ei soriant lawer tro, pan wedi troseddu trwy dori i fanau annghyfreithlawn. Efe, bob amser, fyddai y cyntaf i fynu yn y fro. Byddai Dafydd wedi gweithio darn da o ddiwrnod, cyn i neb arall yn mron ddechreu ar ei orchwyl: a daliai wrthi hyd gan hwyred a'r hwyraf.

Yr oedd yr hen greadur hynod hwn yn nodedig am ei gywirdeb a'i onestrwydd hefyd, a mawr berchid ef ar y cyfrif hwnw. Yr oedd ganddo geffyl unwaith yn ei feddiant ag oedd yn peri mawr flinder iddo oblegyd ei fariaeth; torai dros bob clawdd, a gwnai ddifrod mawr ar ydau yr hen ŵr, ac ni allai ei feistroli â llyffetheiriau nac mewn un modd arall. Penderfynodd Dafydd ei werthu, os gallai; a bore ddiwrnod ffair, yn y pentref cyfagos, clymodd y llyffethair am wddf Sharper, ac arweiniodd ef yno. Yn mhen enyd daeth prynwr heibio, ac wedi dal sylw ar y ceffyl, a barnu y gwnaethai ei dro, ymofynodd yn nghylch y pris. "Ond beth sydd genych am ei wddf?" ebe fe. Llyffethair i roi am ei draed o, debyg," meddai Dafydd; os ydych yn meddwl ei brynu o, rhaid i chwi roi hon am ei goesau fo,—mi na' lw nad oes genych yr un clawdd ar eich helw a'i deil o." "Ond sut yr ydych mor ffol ac amlygu y peth am dano, a chwithau eisio ei werthu?" ebe y llall. "Oes y mae arnaf eisio ei werthu i'w grogi," meddai Dafydd; "ond y mae arnaf eisio i'r neb a'i pryno gael gwybod y gwir am yr hen ellyll." "Mi a roddaf i chwi eich pris am y ceffyl," ebai y gŵr; ond gellwch chwi gadw y llyffethair; gwnawn y tro yn burion, oblegyd ni chaiff gyfleusdra i dori cloddiau gyda mi; caiff ei gadw o'r ystabl i'r tresi, ac o'r tresi i'r ystabl." Y mae gwir brydferthwch mewn troion symlion a gonest o'r fath yma; ac y mae Dafydd o'r Gilfach yn deilwng o gael ei gadw mewn coffadwriaeth o'i herwydd.

Y mae addewidion twyllodrus cryddion, gwehyddion, a theilwriaid, wedi peri llawer o boen a theimladau drwg mewn teuluoedd yn Nghymru; ac nid anfynych y cyfyd y ddadl yn nghylch pa un ai gŵr y mynawyd, y nodwydd, neu y wenol, ydyw y mwyaf celwyddog o'r tri boneddwr. Tyr y crydd gynifer o addewidion am bar o esgidiau ag a fydd o bwythau ynddo cyn dechreu ar ei waith, a chwyra esgusion anwireddus drachefn mor barod a deheuig ag y cwyra ei edef. Addawa y teiliwr wasanaeth ei nodwydd ddeng waith i wneuthur pâr o ddillad i'r gŵr ieuanc, cyn y cyflawna; a bydd hwnw o herwydd y siomedigaethau yn ei ddirgel felldithio. Addawa y gwehydd weu corn o wlanen i haner cant o wragedd ar yr un pryd mor rhwydd ac mor rhigl ag y rhed ei wenol; a bydd y rhai hyny drachefn yn ei gablu ac yn gollwng eu tafodau arno fel y lifeiriant, oherwydd iddo eu twyllo âg addewidion gau. Brawd cyfan i'r lleill yw y panwr yntau. Y mae y drwg a'r niwed o gelwyddau o'r fath hyn wedi ei guddio o'r golwg i raddau helaeth gan gyffredinolrwydd yr arferiad o honynt. Ni feddylia y naill na'r llall bod dim allan o le yn y peth, ond y rhaid iddynt ei arfer i gadw eu cwsmeriaid, a'u cadw yn ddiddig; pan mewn gwirionedd y maent yn achosi cynhen ac yn cynyrchu teimladau digofus fwy na mwy.

Yn y teulu, ar yr aelwyd wrth fagu y plant—dyma feithrinfa gyntaf y drwg. Rhieni, drwy fân—gelwyddau a olygant yn ddiniwed—addaw a bygwth heb byth gyflawni—addysgant eu plant i fynu yn y gelfyddyd ddu o'u mabandod. Megir hwy fel hyn yn nghymdeithas celwydd; ymgynefinant â'r gwenwyn o'r bru, yr hwn a wenwyna ei holl gyfansoddiad moesol. Y mae cymdeithas fel hyn yn cael ei gwenwyno yn ei ffynonell. Y rhai a ddysgwyd fel hyn i gellwair âg anwiredd o'u mebyd, ac feithriniwyd o'r groth yn ei gwmpeini, a syrthiant dan ei ddylanwad o angenrheidrwydd; ac anhawdd iawn fydd eu deffro i ystyriaeth a theimlad o'r drwg, a'u cael i ymadael ag ef. Os yn mhen ffordd celwydd yr hyfforddir plentyn gan ei rieni gartref, nid at wirionedd yr ymgryfhâ hwnw ar y ddaear: odid fawr nad myned yn mlaen ar hyd-ddi a wna ar hyd ei oes. Yr unig feddyginiaeth i'r pla mawr yn ei holl raddau ydyw GWIRIONEDD.

Y llall, sef y Diog, nid oedd chwaith yn neppell oddi wrthym. Yr oedd y gwr hwn yn enwog mewn diogi— yr olwg arno yn wir ddelw o'r peth. Yr oedd yn ddyn corffol, cryf, ac iachus; ond ni fynai weithio. Arferai y diwyd a ddysgrifiwyd o'r blaen ddywedyd am dano, "Y mae diogi wedi myn'd i asgwrn mawr Ned." Credem yn ddilys y buasai yn dyoddef merthyrdod dros egwyddorion diogi a seguryd. Os ceid ganddo wneud diwrnod o waith, drwy ddirfawr ymdrech byddai yn chwythu ac yn tagu, yn tuchan ac yn gruddfan, nes y byddai yn boenus i fod o fewn lled cae iddo. Ymddangosai y diwrnod gweithio gyhyd a deng mlynedd yn ei olwg, a byddai gweithio un diwrnod mewn deng mlynedd yn orchest fawr iawn iddo ei chyflawni. Cenedlodd liaws o blant, oll yn ferched, ar ei wir lun a'i ddelw ei hun. Tympathau mawrion, afrosgo, annghymalog, anystwyth, cyffelyb i sachau cynfas wedi eu llenwi â manus, diog i berffeithrwydd ystyr y gair, oeddynt bob un. Nid oedd yn y tŷ, o ddodrefn, ond hen gwpwrdd tridarn, a math o fwrdd, a stol i bob un eistedd, a gwalanod o wellt neu o fanus, a chydau cardota. Unwaith yr ymollygent i'r gwellt, yn iach godi o hono, nes y byddai i eisio bwyd gnoi yn eu coluddion. Yna gwelid y tad a'i fintai ferched yn cymeryd bob un ei gwd, ac yn troi allan i lusgo eu heylau ar draws y wlad o dŷ i dŷ. Nodai y tad, fel blaenor y fyddin, ei chylch cardotëig i bob un o'r merched am y dydd, gan gymeryd y tai agosaf a mwyaf cyfleus dan ei ofal ei hun. Byddai ymladdfeydd dychrynllyd yn tori allan weithiau rhyngddynt, os digwyddai i rai cydau fod yn lled weigion, oblegyd drwgdybid perchenogion y cydau hyny gan y lleill, o fod yn euog o ddiogi ac esgeulusdra yn nghyflawniad gwaith y dydd. Yr oedd eu diogi yn felldith drom iawn ar y teulu annedwydd hwn. Gwrthddrychau dirmyg ac adgasrwydd yr holl blwyf oeddynt. Y dialedd trymaf a allai y naill fachgen ieuanc feddwl am dano i'w roddi ar y llall, pan wedi digio, fyddai danod un o ferched Ned yn gariad iddo; byddai hyny bob amser yn sicr o gyrhaedd i'r byw. Llawer ymladdfa ffyrnig a fu rhwng hoglanciau â'u gilydd oblegyd hyn. Pan fyddai yr holl ystôr o dafod drwg wedi ei dreulio, hon oedd yr olaf a'r benaf; ac nid oedd ond y dyrnau am dani wed'yn. Gwelais hyn, a mi ystyriais yn ddwys; edrychais arno, a chymerais addysg. Eto ychydig gysgu, ychydig hepian, ychydig blethu dwylaw i gysgu; felly y daw dy dlodi arnat fel ymdeithydd, a'th anghen fel gwr arfog."

IARLLES Y FFYNON

(Hen Fabinogi Gymreig.)

YR Ymherawdwr Arthur oedd yn Nghaerlleon-ar-Wysg, ac yn eistedd un diwrnod yn ei ystafell; a chydag ef Owen ab Urien, a Chynon ab Clydno, a Chai ab Cyner; a Gwenhwyfar a'i llaw-forwynion yn gwnio wrth y ffenestr. Ac os dywedir fod porthawr ar Lys Arthur, nid oedd yr un. Glewlwyd Gafaelfawr oedd yno yn gweithredu fel porthawr i groesawu ysp a phellenigion (gwesteion a dyeithriaid), ac i ddechreu eu hanrhydeddu, ac i fynegi moes y llys iddynt, ac i gyfarwyddo y sawl a ddeuent i'r llys neu i'r ystafell, neu a ddeuent yno am letty. Ac yn nghanol llawr yr ystafell yr oedd yr ymherawdwr Arthur yn eistedd ar deml o frwyn, a llen o bali melyn-goch o dano; a gobenydd o bali coch o dan ei benelin. Ar hyny ydywed Arthur, "Hawyr, pei na'm goganech," ebai ef, "mi a gysgwn tra fyddwn yn aros fy mwyd; ac ymddiddan a ellwch chwithau, a chymeryd ystenaid o fedd a golwythion o gig. gan Cai." A chysgu a wnaeth yr ymherawdwr. A gofynodd Cynon ab Clydno i Gai yr hyn a addawsai Arthur iddynt. "Minau a fynaf yr ymddiddan da addewsid i minau," ebai Cai. "Ha! wr," ebai Cynon, "gwell yw i ti wneuthur addewid Arthur yn nghyntaf; a'r ymddiddan goreu a wyddom ninau, ni a'i dywedwn i ti." Felly, aeth Cai i'r gegin ac i'r feddgell, a dychwelodd a chanddo ystenaid o fedd, a chwpan aur, a llonaid ei ddwrn o sciwars a golwython o gig arnynt. A chymeryd y golwython a wnaethant, a dechreu yfed y medd. "Yn awr," ebai Cai, "chwithau biau talu i minau fy ymddiddan." Cynon," ebai Owen, " tâl yr ymddyddan i Cai." "Diau," ebai Cynon, "hŷn gŵr a gwell ymddiddanwr wyt na mi, a mwy. & welaist o bethau godidog; tâl di yr ymddiddan i Cai." "Dechreu di," ebai Owain, " gyda'r hyn odidocach a wypych." "Mi a wnaf," ebai Cynon.

Unig fab fy nhad a'm mam oeddwn I; ac uchelgeisiol oeddwn, a mawr oedd fy rhyfyg. Ac ni thebygwn fod anhawsdra yn y byd a orfyddai arnaf; ac wedi i mi orfod ar bob anhawsdra ag oedd yn yr un wlad a mi, ym— gymerais à cherdded eithafoedd byd a diffeithwch. Ac yn y diwedd, dyfod a wnaethum i'r dyffryn tecaf yn y byd, a choed gogyfuwch ynddo, ac afon redegog oedd ar waelod y dyffryn, a llwybr ar hyd ei hystlys. Cerdded y llwybr â wnaethum hyd haner dydd; a'r partb arall o'r dyffryn a gerddais hyd y prydnawn; ac yna y daethum i faes mawr, ac yn mhen y maes yr oedd Caer fawr lewyrchedig, a llyn yn gyfagos i'r Gaer. A thua'r Gaer yr aethum, a gwelwn yno ddau was pengrych—felyn, a rhagtal (frontlet) aur am ben pob un o honynt; pais o bali melyn am bob un, a gwasgai (clasps ) o aur am fynyglau eu traed. Bwa o esgyrn Elephant oedd yn llaw pob un, llinynau y rhai oeddynt o giau hydd; pelydr eu saethau oeddynt o asgwrn morfil wedi eu haden gyda phlu y pawin (peacock). Penau aur oedd i'w saethau; a llafnau eu cylleill oedd o aur, a'u cainau o asgwrn morfil amryliwiog. Ac yr oeddynt yn saethu eu cylleill.

"Ac heb fod neppell oddiwrthynt mi a welwn ŵr pen— grych melyn, a'i farf newydd ei heilliaw; a phais a mantell o bali melyn am dano, ac ysnoden o eurliw yn mhen ei fantell, a dwy esgid o gordwal brith am ei draed, a dau gnap o aur yn eu cau. Ac mi a ddynesais ato, a chyfarch gwella wnaethum iddo; a chyn ddaed oedd ei foes nid cynt y cyferchais I iddo ef nag y cyfarchodd yntau well i minau. Ac efe a ddaeth gyda rai tua'r Gaer; ac nid oedd yno gyfanedd namyn ag oedd yn y neuadd. Ac yno yr oedd pedair morwyn ar hugain yn gwnio pali wrth ffenestr; a hyn a ddywedaf i ti, Cai, fod yn decach yr hacraf o honynt na'r decaf a welaist ti erioed yn Ynys Prydain. Yr anharddaf o honynt yn harddach oedd na Gwenhwyfar,' gwraig Arthur, pan fu harddaf erioed ddydd Nadolig neu ddydd y Pasg wrth yr offeren. Wrth fy nyfodiad cyfodasant, a chwech o honynt a gymerasant fy march, ac a ddiosgasant fy arwisg innau. A chwech ereill a gymerasant fy arfau ac a'u golchasant mewn llestr onid oeddynt cyn wyned a'r dim gwynaf. A'r trydedd chwech a ddodasant lieiniau ar y byrddau ac a arlwyasant fwyd. A'r pedwerydd chwech a ddiosgasant fy lluddedig wisg, a dodì gwisg arall am danaf, nid amgen crys o lian main, a phais a swrcot (surcoat} a mantell o bali melyn. A gosodasant obenyddiau o danaf ac o'm cylch wedi eu gorchuddio â. llian coch. Yna mi a eisteddais. A'r chwech hyny a gymerasant fy ngheffyl i'w ystablu a wnaethant hyny gystal a phe buasent yr ysweiniaid goreu y n Ynys Pry dain . Yna hwy a ddygasant im' i ymolchi gawgiau arian a dwfr ynddynt, a thywelau o lian gwyrdd a gwyn, ac mi a ymolchais. A daeth y gŵr a welswn gynneu ac a eisteddodd wrth y bwrdd, a minau yn nesaf iddo; a'r gwragedd oll is fy llaw oddieithr y rhai oeddynt yn gwasanaethu. Arian oedd y bwrdd, a llian oedd lleni y bwrdd. Ac nid oedd un llestr yn gwasanaethu ar y bwrdd namyn aur, neu arian, neu fueli (buffalo horn). A daeth bwyd ini; a dywedaf i ti, Cai, ni welais erioed fwyd a diod nad oedd. ef yno; eithr fod y bwyd a'r ddiod a welais yno yn rhagori ar ddim a welais erioed.

Bwyta a wnaethom hyd at haner y bwyd: ac ni ddywedodd na'r gŵr nac un o'r morwynion un gair wrthyf hyd hyny. A phan debygodd y gwr fod yn well genyf ymddiddan na bwyta, efe a ofynodd i mi pwy oeddwn; minau a ddywedais fod yn dda genyf gael un a ymddiddanai â mi, a deall nad oedd llefaru yn drosedd mawr yn y llys hwnw. "Ha! unben," ebai yntau, "nia ymddiddanasem â thi oni buasai ofn llstair ar dy fwyd, ond yn awr ni a ymddiddanwn â thi. "Yna mi a fynegais i'r gŵr pwy oeddwn a pheth oedd amcan fy ngherdded, a dywedyd fy mod yn ceisio a allai fy ngorchfygu, neu ynte a allwn i orchfygu pawb. Y dyn a edrychodd amaf tan wenu ac a ddywedodd, "Pe na thebyg'swn y deuai gormod gofid it', mi a fynegwn iti yr hyn yr ydwyt yn ei geisio." Hyn a barodd imi deimlo'n bryderus a thrist, a'r gŵr a adnabu hyny arnaf, "Os gwell genyt ti imi fynegi'th afles na'th les, mi a'i mynegaf it. Cwsg yma heno," ebai ef, " a chyfod yn fore i fynu, a chymer y ffordd y daethost ar hyd y dyffryn, oni ddelych i'r coed y daethost trwyddo. Ac ychydig yn y coed, fe gyferfydd gwahanffordd â thi, ar y tu dehau iti; cerdda hyd hono hyd oni ddelych i lanerch fawr o faes, a thŵr ar ganol y maes. A thi a weli ŵr du mawr ar ben y tŵr nad ydyw ddim llai na dau o wyr y byd hwn. Untroed y sydd iddo, ac un llygad, a hwnw yn nghanol ei dalcen. Y mae ffon o haiarn ganddo, a diau nad oes deu—wr yn y byd na chaffent eu baich yn y ffon hyny. Ac nid gwr hawddgar ydyw, eithr tra anhawddgar; ac wtwart (ceidwad) yw ar y coed hwnw. A thi a weli fil o anifeiljaid gwylltion yn pori o'i gylch. Gofyn dithau y ffordd iddo i fyned o'r llanerch, ac efe a rydd wrthgloch (ateb) wrthyt, ac a ddengys ffordd iti fel y ceffi yr hyn a geisi."

Hir oedd genyf y nos hono. A bore dranoeth, cyfodi a wnaethum a gwisgaw am danaf, ac esgyn ar fy march, a cherdded rhagof ar hyd y dyffryn i'r coed; ac mi a ddaethum i'r wahanffordd y dywedodd y dyn wrthyf am dani, a chyrhaeddais y llanerch. Ac yr oedd yn dair gwaith rhyfeddach genyf am yr anifeiliaid gwylltion oedd yno nag y dywedodd y gwr wrthyf y buasai. A'r gwr du oedd yno yn eistedd yn mhen yr orsedd. Dywedodd y gwr wrthyf ei fod yn fawr, mwy o lawer oedd efe na hyny. Y ffon haiarn y dywedasai y gwr wrthyf ei bod yn llwyth deu-ŵr, hysbys oedd genyf i, Cai, fod llwyth pedwar milwr ynddi. A hono oedd yn llaw y gŵr du. Ac ni ddywedai efe air wrthyf namyn a ofynwn iddo. Ac mi a ofynais iddo pa feddiant oedd ganddo ar yr anifeiliaid hyny. "Mi a ddangosaf i ti, ddyn bychan,' ebai ef; a chymeryd ei ffon yn ei law a tharaw carw â hi ddyrnod mawr, oni roddodd efe frefiad ddolefus, ac wrth ei frefiad ef, y daeth yno o anifeiliaid gyn amled â'r ser yn yr awyr. Yr oedd yn anhawdd i mi gael lle i sefyll yn y llanerch gyda hwynt—yn seirph a gwiberod ac amryfal anifeiliaid. Ac efe a edrychodd arnynt hwy, ac archodd iddynt fyned a phori; a gostwng eu penau a wnaethant hwythau iddo, fel y gwna gwas idd eu arglwydd.

Yna y dywed y gŵr du wrthyf, "A weli di, ddyn bychan, y meddiant sydd genyf fi ar yr anifeiliaid hyn." A gofyn fy ffordd iddo a wnaethum; garw a chroes a fu yntau, a gofynodd imi pa le y mynwn fyned. Minau ddywedais pâ ryw ŵr oeddwn, a pha beth a geisiwn. A mynegi a wnaeth yntau i mi: "Cymer," ebai ef, "y fordd tua phen uwchaf y coed, a cherdda yn erbyn yr allt uchod oni ddelych i'w phen; ac oddiyno ti a weli ystrad megys dyffryn mawr, ac yn nghanol yr ystrad ti a weli bren mawr, a glasach yw ei frig na'r ffynidwydd glasaf. O dan y pren hwnw y mae ffynon, ac yn ymyl y ffynon y mae llech o farmor, ac ar y llech y mae cawg arian wrth gadwyn arian, fel nad ellir eu gwahanu. Cymer dithau y cawg, a bwrw gawgiad o'r dwfr am ben y llech; yna ti a glywi dwfr mawr, nes y tebygi fod y nef a'r ddaear yn er grynu trwy y twrf. Ar ol y twrf y daw cawod mor ffyrnig fel y bydd yn anhawdd i ti ei goddef a byw. Cenllysg fydd y gawod, ac wedi yr el hon heibio y daw hindda, eithr ni adawodd ei chynddaredd yr un ddalen ar y pren heb eu dwyn. Yna y daw cawod o adar, a disgyn ar y pren a wnant: ac ni chlywaist ti erioed yn dy wlad dy hun gerdd cystal ag a ganant. A phan fo mwyaf dy fwyniant yn ngherdd yr adar, ti a glywi duchan a chwynfan yn dyfod ar hyd y dyffryn tuag atat. Ar hyny ti a weli farchog ar farch du pur, a gwisg a bali purddu am dano, ac ystondard (pennon) o lian purddu ar ei waywffon; ac efe a gyrch tu ag atat mor gynted ag y gallo. O ffoi di rhagddo ete a'th orddiwes; ac os arhosi di yno, a thi yn farchog, efe a'th edy yn bedystyr (ar draed); ac oni chei di ofid ganddo, ni raid iti ofyn gofid tra fyddi byw."

Ac mi a gymerais y ffordd hyd oni ddaethum i ben yr allt, ac oddiyno gwelwn fel y mynegasai y gwr du wrthyf, ac i ymyl y pren y daethum, a ffynon a welwn dan y pren, a'r lech farmor yn ei hymyl, a'r cawg arian wrth y gadwyn. Minau a gymerais y cawg, ac a fwriais gawgaid o'r dwfr am ben y llech, ac ar hyny wele'r twrf yn dyfod yn llawer mwy ffyrnig nag dywedasai y gŵr du wrthyf: ac ar ol y twrf gawod; a diau oedd genyf fi, Cai, ni ddiangasai na dyn na llwdn yn fyw ar a oddiweddai y gawod allan; canys ni safai yr un genllysgen o honi yn y croen nac yn y cig, hyd oni chyrhaeddai yr asgwrn. Ac mi a droais bedrain (flank) fy march tuag ati; a dodi swch fy nharian ar ben fy march a'i fwng, a dodi y rhan arall o honi uwch fy mhen fy hun. Ac felly y goroesais inau y gawod. A phan edrychais ar y pren, nid oedd un ddalen arno. daeth hindda: ac ar hyny, wele yr adar yn disgyn ar y pren ac yn canu; a hysbys yw genyf fi, Cai, na chlywais I gerdd cystal a hono na chynt na chwedi. A phan oedd Yna y fwyaf fy mwyniant yn gwrando yr adar, dyma duchan yn dyfod ar hyd y dyffryn tuag ataf, ac yn dywedyd, "Ha! farchog, beth ddaeth a ti yma? pa ddrwg a wneis i ti pan ddygit ti y fath niwaid i mi? Oni wyddost ti na adawodd y gawod heddyw na dyn na llwdn yn fyw trwy fy holl gyfoeth ar a gafodd allan?" Ar hyny, wele farchog ar farch purddu o dano, a gwisg o bali purddu am dano, ac arwydd (tabard) o lian purddu o'i gylch. Ac ymdaro a wnaethom, a chyn pen ychydig bwriwyd fi i lawr. Yna y marchog a ddododd ei waewffon o fewn ffrwyn fy march, ac ymdaith ymaith a'r ddau farch ganddo, a'm gadael inau yno. Ni ddangosodd efe gymaint o fawredd i mi a'm carcharu, ac nid yspeiliodd efe fi o'm harfau. Felly mi a ddychwelais ar hyd y ffordd y deuais. A phan ddaethum i'r llanerch yr oedd y gŵr du ynddi, fy nghyffes a roddafi ti, Cai, mae'n rhyfedd na thoddaswn yn llymaid rhag cywilydd gan gymaint o watwar a gefais gan y gŵr du. Ac i'r gaer y buaswn o nos gynt y daethum y nos hono. A llawenach fuwyd wrthy fy nos hon na'r nos cynt, a gwell i'm porthed; yr ymddiddan a fynwn gan wyr a chan wragedd a gawn, ac ni chrybwyllai neb ddim wrth y fam fy ymgyrch i'r ffynon; ac nis crybwyllais inau wrth neb. Ac yno y bum y nos hono. Pan godais dranoeth gwelwn farch (palfrey) gwineu-ddu, a ffroenau ganddo gan goched â'r ysgarlad. Ac wedi dodi o honwyf fy arfau, a gadael yno fy mendith, mi a ddychwelais i'm llys fy hun. Ac y mae'r march genyf eto yn yr ystabl acw, ac nis ymadawn ag ef am y march goreu yn Ynys Prydain.

Yn ddiau, Cai, ni chyffesodd dyn erioed ymgyrch mor ddianrhydedd iddo ei hun â hon. Y mae'n rhyfedd na chlywais i byth na chynt na chwedi am ungwr ond fy hunan a wyr ddim am yr ymgyrch, ac i hyn gymeryd lle o fewn cyfoeth yr Ymherawdwr Arthur heb i neb arall ei gael allan.

"Ha! unben," ebai Owen, "onid da fyddai cael allan y lle hwnw!"

"Myn llaw fy nghyfaill," ebai Cai, "mynych y dywedi di ar dy dafod yr hyn nis gwneli ar dy weithred."

"Diau, Cai", ebai Gwenhwyfar, "mai gwell fyddai dy grogi di na dywedyd o honot ymadrodd mor ddiraddiol wrth wr fel Owain."

Myn llaw fy ngyfaill, wreigdda," ebai Cai, "nid mwy dy barch di i Owain na minau."

Ar hyny, Arthur a ddeffrodd, a gofynodd os cysgasai efe ychydig.

Do, dalm o amser," ebai Owain.

"Ai amser i ni fyned at y byrddau?"

"Amser, arglwydd," ebai Owain.

Yna canu corn ymolchi a wnaethpwyd, a myned a wnaeth yr ymherawdwr Arthur a'i holl deulu i fwyta. Ac wedi darfod bwyta, Owain a enciliodd ymaith; a dyfod i'w letty a pharatoi ei farch a'i arfau a wnaeth. A phan welodd efe y dydd dranoeth, gwisgo ei arfau am dano, ac esgyn ar ei farch, a cherdded rhagddo hyd eithafoedd byd a thros ddiffaeth fynyddoedd a wnaeth. Yn y diwedd efe a adwaenodd glyn y mynegasai Cynon am dano, ac efe a gerddodd hyd y glyn gydag ystlys yr afon hyd oni ddaeth efe i'r dyffryn, a'r dyffryn a gerddodd hyd oni welai y gaer. Tua'r gaer yr aeth efe, a gwelai y gweision yn saethu eu cyllill fel y gwelsai Cynon hwynt, a'r gwr melyn a biau y gaer yn sefyll gerllaw. Ac mor fuan ag y cyfarchodd Owain well i'r gŵr melyn, y cyfarchodd y gwr melyn well iddo yntau.

Ac yn mlaen yr aeth efe at y Gaer; a phan ddaeth i'r ystafell, efe a welai y morwynion yn gwnïo pali mewn cadeiriau euraidd. A hoffach o lawer oedd gan Owain eu tecced a'u hardded nag y dywedodd Cynon iddo. A chyfodi a wnaethant i wasanaethu Owain fel y gwasanaethasant Cynon. A hoffach fu gan Owain ei borthiant na chan Cynon. Ac ar haner bwyta ymofynodd y gŵr melyn gan Owain pa gerdded oedd iddo. Ac Owain a ddywed wrtho y cwbl—"Ceisio y marchog sydd yn gwarchadw y ffynon yr ydwyf." A gwenu a wnaeth y gŵr melyn, a dweyd fod yn anhawdd ganddo fynegi i Owain y cerdded hwnw, fel y bu anhawdd ganddo ei fynegi i Cynon. Er hyny, efe a fynegodd y cwbl wrth Owain.

Ac i gysgu yr aethant. A bore dranoeth, yr oedd y morwynion wedi gwneuthur march Owain yn barod, a cherdded a wnaeth Owain rhagddo oni ddaeth i'r llanerch yr oedd y gŵr du ynddi. A rhyfeddach fu gan Owain faint y gŵr du na chan Cynon. A gofyn y ffordd a wnaeth Owain i'r gwr du. Yntau a'i mynegis. Ac Owain a gerddodd y ffordd fel Cynon oni ddaeth i ymyl y pren glas. Ac efe a welai y ffynon a'r llech yn ymyl y ffynon a'r cawg arni, ac efe a gymerodd y cawg, ac a fwriodd gawgiad o'r dwfr ar y llech. Ar hyny, dyma'r twrf, ac ar ol y twrf gawod. Mwy o lawer nag y dywedasai Cynon oeddynt. Wedi y gawod yr awyr a oleuodd, a phan edrychodd Owain ar y pren, nid oedd un ddalen arno. Ac ar hyny wele'r adar yn disgyn ar y pren, ac yn canu. A phan oedd digrifaf gan Owain gerdd yr adar, efe a welai farchog yn dyfod ar hyd y dyffryn, ac efe a baratodd i'w erbyn. Ac ymdaro yn ffyrnig a wnaethant. Ac wedi tori dau waywffon, diweinio cleddyfau, ac ymladd lafn yn llafn. Yna Owain a darawodd y marchog trwyei helm, a'i benffestin, a'r penguwch pwrcwin (visor) a thrwy y croen y cig a'r asgwrn oni chlwyfodd efe ei ymenydd. Yna adnabu y marchog du iddo dderbyn dyrnod angeuol; a throi pen ei farch a wnaeth, a ffoi. Ac Owain a'i hymlidiodd er nad yn ddigon agos i'w gyrhaedd â'r cleddyf. Ar hyny, Owain a welai Gaer fawr lewyrchedig; ac i borth y Gaer y daethant a gollyngwyd y marchog du i mewn, a gollyngwyd y ddor dyrchafiad ar Owain; yr hwn a darawodd ei farch tu cefn i'r cyfrwy, ac a'i torodd yn ddau haner trwyddo. A'r dôr a ddaeth hyd y llawr, a throellau yr yspardynau a darn o'r march oedd oddiallan, ac Owain a'r rhan arall o'r march oedd rhwng y ddau ddôr, a'r dôr arall oedd gauedig hefyd. Ac nid allai Owain fyned oddiyno, ac mewn cyfyng-gyngor yr oedd efe. Ac fel yr oedd Owain felly, efe a welai trwy gyswllt y ddôr heol gyferbyn ag ef, ac ystryd o dai o bob tu i'r heol, ac efe a welai forwyn pengrych-melyn, a rhagtal aur am ei phen, a gwisg o bali melyn am dani, a dwy wintas (esgid) o gordwal brith am ei thraed, a dyfod i'r porth yr ydoedd. A hi a archodd agoryd y porth. "Diau, unbennes," ebai Owain, "nid ellir agor i ti oddiyma, mwy nag y gelli dithau fy ngwared inau oddiyna." "Gwir," ebai'r forwyn, "y mae'n resyn nad ellir dy waredu di; a phob gwraig a ddylai dy wared, canys ni welais i neb ffyddlonach yn ngwasanaeth merched na thydi. Os cyfaill, cyfaill cywir; os cariad, goreu cariad ydwyt. Gan hyny," ebai hi, "yr hyn a allaf fi a wnaf fel y'th ryddhaer. Hwde di y fodrwy hon, a dod ar dy fys, a dod y maen hwn oddifewn dy law a chau dy ddwrn ar y maen, a chyhyd ag y cuddi di ef, efe a'th guddia dithau. Wedi iddynt ymgynghori, hwy a ddeuant i'th gymeryd a'th ddienyddio, a phan na welont dydi drwg fydd ganddynt. A minau a fyddaf ar yr esgynfan acw i'th aros di; a thydi a'm gweli I, er na welaf i dydi; tyred dithau a dod dy law ar ben fy ysgwydd i, ac yna canfyddaf dy ddyfod dithau ataf. A'r ffordd y delwyf fi oddiyno, tyred dithau gyda myfi."

Yna y forwyn a adawodd Owain, ac efe a wnaeth yr hyn oll a erchis hi ganddo. Ar hyny y daeth y gwyr o'r llys i geisio Owain ddienyddio; eithr pan ddaethant, ni welant ddim ond haner y march. A drwg oedd ganddynt hyny, a diflanu a wnaeth Owain o'u plith, a dyfod at y forwyn, a dodi ei law ar ei hysgwydd, a chychwyn a wnaeth hithau rhagddi, ac Owain gyda hi, oni ddaethant i ddrws llofft fawr odidog. A'r forwyn a agorodd y llofft, a myned i mewn a chau llofft a wnaethant; ac Owain a edrychodd ar hyd y llofft, ac nid oedd yn y llofft un hoel heb ei lliwio â lliw gwerthfawr. Ac nid oedd un ystyllen heb ddelw euraidd amryfal arni.

A’r forwyn a gyneuodd dân glo; a chymeryd cawg arian a dwfr ynddo a thywel o lian gwyn ar ei hysgwydd, a rhoddi dwfr i ymolchi a wnaeth hi i Owain. A dodi bwrdd arian goreuraidd ger ei fron, a llian melyn yn llian arno; a dyfod a'i giniaw iddo; a diau oedd gan Owain na welsai erioed neb ryw fwyd na welsai yno ddigon o hono, ond ei fod wedi ei goginio yn well yno nag y gwelsai yn un man arall erioed. Ac ni welsai erioed gymaint o fwyd a diod ag oedd yno. Ac nid oedd un llestr yn gwasanaethu arno namyn llestri o arian neu aur. Ac Owain a fwytaodd ac a yfodd onid oedd yn hwyr brydnawn. Ac ar hyny hwy a glywent swn mawr yn y Gaer. Ac Owain a ofynes i'r forwyn, "Pa waeddi yw hwn!" “ Dodi olew ar y gwrda biau y Gaer y maent," ebai'r forwyn. Ac i gysgu yr aeth Owain.

Ac yr oedd y gwely a ddarparesid iddo gan y forwyn yn deilwng i Arthur, o ysgarlad a gra (fur), a phali, a syndal, a llian. Ac am haner nos hwy a glywent ddiaspedain chwerw, "Pa swn yw hwn, weithion?" ebai Owain. "Y gŵr da biau y Gaer y sydd farw yr awrhon," ebai'r forwyn. A chyda thoriad y dydd y clywent ddiaspad a gweiddi an. feidrol eu maint, ac Owain a ofynodd i'r forwyn, "Pa ystyr sydd i'r gweiddi hwn? "Myned a chorff y gwr da biau y Gaer i'r llan y maent." Ac Owain a gyfododd i fynu, a gwisgo am dano, ac agor ffenestr ei lofft, ac edrych tua'r Gaer; ac ni welai nac ymyl nac eithaf i'r lluoedd oeddynt yn llenwi yr heolydd. Yr oeddynt yn llawn arfog, a gwragedd lawer gyda hwynt ar feirch ac ar draed, a chrefyddwyr y ddinas oll yn canu. A thebygai Owain fod yr awyr yn diaspedain gan y gweiddi a'r udgyrn a'r crefyddwyr yn canu. Ac yn nghanol y llu hwnw y gwelai efe yr elor, a llen o lian gwyn arni, a chanwyllau cwyr yn llosgi yn aml o'i chylch, ac nid oedd undyn tan yr elor yn llai na barwn cyfoethog. Diau oedd gan Owain na welsai erioed gynulleidfa gyn hardded a hono wedi ei gwisgo mewn pali, a seric (silk) a sandal.

Ac ar ol y llu hwnw, y gwelai efe wraig felen a'i gwallt dros ei dwy ysgwydd, ac wedi ei liwio â gwaed, a gwisg o bali melyn am dani wedi ei rhwygo, a dwy esgid o gordwal brith am ei thraed. A rhyfedd oedd na buasai ysig benau ei bysedd gan fel y maeddai ei dwylaw yn nghyd. A hysbys oedd gan Owain na welsai ef erioed wraig gan deced ped fuasai hi ar ei ffurf iawn. Ac uwch oedd ei diaspad nac oedd o ddyn na chorn yn y llu. A phan weles efe y wraig, enynu o'i chariad hi a wnaeth efe.

Yna y gofynodd Owain i'r forwyn pwy oedd y wraig. "Y nefoedd wyr," ebai'r forwyn, "gwraig y gellir dywedyd am dani ei bod y decaf o'r gwragedd, a'r ddiniweiraf, a'r haelaf, a'r ddoethaf, a'r foneddigeiddiaf, fy arglwyddes I yw hon acw, a IARLLES Y FFYNON y gelwir hi; gwraig yw i'r gwr a leddaist ti ddoe."

"Y nef wyr," ebai Owain, "mai y wraig a garaf fi fwyaf o bawb ydyw."

"Y nef a wyr," ebai'r forwyn, "hithau a geiff dy garu dithau nid ychydig."

Ar hyny, y forwyn a gyfododd, a chyneu tân glo, a llanw crochan â dwfr, a'i ddodi i dwymno, a chymeryd twel o lian gwyn, a'i ddodi am fwnwgl Owain, a chymeryd gorflwch o asgwrn elephant a chawg arian, a'i lanw o'r dwfr twymn, a golchi pen Owain. Yna hi a agorodd brenfol (wooden casket), ac a gymerth ellyn a'i charno asgwrn elephant, a dau ganawl (rivets) o aur ar yr ellyn; a hi a eilliodd ei farf ef, a sychu ei ben a'i fwnwgl â'r twel. Yna hi a gyfododd oddi ger bron Owain, a dyfod a'i giniaw iddo, a diau oedd gan Owain na chafodd efe erioed giniaw cystal a hwnw, na'i wasanaethu cystal. Ac wedi darfod o hono ei giniaw, y forwyn a gyweiriodd ei wely, "Dos yma", ebai hi, "i gysgu, a minau a af i garu trosot." Ac Owain a aeth i gysgu; a chau drws y llofft a wnaeth y forwyn, a myned tua'r Gaer. A phan y daeth yno, nid oedd yno namyn tristyd a gofal; a'r Iarlles ei hun yn yr ystafell, heb oddef oherwydd tristwch gweled dyn. A Luned a ddaeth ati gan gyfarch gwell iddi. Eithr yr Iarlles nid atebodd iddi. A'r forwyn a blygodd ger ei bron ac a ddywedodd, "Pabam nad atebych i mi heddyw?" "Luned," ebai'r Iarlles, "paham nad ymwelsit â mi yn fy ngofid? a minau a'th wnaethum di yn gyfoethog; yr oedd yn gam arnat na buasit yn dyfod; hyny fu yn gam ynot." Diau," ebe Luned, "ni thebygais I na buasai well dy synwyr nag y mae: ai da i ti alaru am y gŵr da hwnw, neu unpeth arall, nas gellych byth ei gael" "Rhyngof fi a Duw," ebai'r Iarlles, "nid oes dyn yn y byd cyffelyb iddo." "Gallet," ebai Luned, "gael gwr hagr â f'ai cystal neu well nag ef." "Rhyngof fi â Duw," ebai'r Iarlles, "pe na bai wrthun genyf peri dibenyddio un a fegais, mi a barwn dy ddihenyddio di am gyffelybu wrthyf beth mor annghywir â hyny; eithr dy ddiol di a wnaf.' "Da yw hyny genyf," ebai Luned, ebai Luned, nad oes gengt well rheswm tros dy waith yn gwneud hyny nag am fynegi o honof fi iti dy les lle nis medrit dy hun; a mefl iddi o honom ein dwy a ymgais gyntaf am heddwch, neu a wahoddo gyntaf y llall ati.

Ar hyny, Luned a aeth ymaith; a'r Iarlles a gyfododd ac a'i dilynodd at ddrws yr ystafell a phesychu yn uchel. A Luned a edrychodd drach ei chefn, a'r Iarlles a amneidiodd ar Luned, a daeth Luned drachefn at yr Iarlles. "Rhyngof fi a Duw," ebai'r Iarlles wrth Luned, "drwg yw dy anian; ac am mai fy lles I oeddit ti yn ei fynegi im', mynega pa ffordd f'ai hyny." "Mi a'i mynegaf," ebai hi, "ti a wyddost nad ellir cynal dy gyfoeth di namyn o filwriaeth ac arfau, ac am hyny cais yn ebrwydd a'u cynhalio." "Pa ffordd y gallaf i hyny ebai'r Iarlles. "Dywedaf," ebai Luned. "Oni elli di gynal y ffynon, ni elli di gynal dy gyfoeth; ni all neb gynal y ffynon, namyn un o deulu Arthur, a minau a af hyd i Lys Arthur, a mefl imi," ebai hi, "o deuaf oddiyno heb filwr a gadwo y ffynon yn gystal neu yn well na'r gwr a'i cedwis gynt.

"Anhawdd yw hyny," ebe'r Iarlles,—eithr dos a phrawf yr hyn a ddywedi."

Cychwyn a wnaeth Luned tan yr esgus o fyned i Lys Arthur, a daeth i'r llofft at Owain, ac yno y bu hi gydag Owain onid oedd yr amser iddi ddyfod o Lys Arthur. Yna hi a wisgodd am dani, a dyfod i ymweled a'r Iarlles. A llawen fu y Iarlles o'i gweled. "Chwedlau o Lys Arthur genyt?" ebai'r Iarlles. "Goreu chwedl genyf, arglwyddes," ebai hi, "caffael o honof fy neges. A pha bryd y myni di weled yr unben a ddaeth gyda mi?"

Tyred di ag ef am haner dydd y foru i ymweled â mi, a mi a baraf gynull y dref yn nghyd y pryd hwnw."

Luned a ddychwelodd adref. Am haner dydd dranoeth Owain a wsges am dano bais a swrcot (surcoat) a mantell o bali melyn, ac orffreis (band) lydan o eurlliw oedd ar ei fantell, a dwy esgid o gordwal brith am ei draed, a llun llew o aur ar eu claspiau. A dyfod a wnaethant hyd yn ystafell yr Iarlles.

A llawen fu yr Iarlles wrthynt; a hi a edrychodd yn graff ar Owain. "Luned," ebai hi, "nid oes olwg teithiwr ar y gwr hwn." Pa ddrwg yw hyny, arglwyddes?"

ebai Luned. "Rhyngof fi â Duw," ebai'r larlles, "ni ddwg un gŵr enaid fy arglwydd I o'i gorph namyu y gŵr hwn." "Goreu oll i ti, arglwyddes. canys pe na buasai ef drech na'th arglwydd di, ni ddygasai ef enaid dy ŵr. Nid ellir dim wrth hyny a aeth heibio, poed a fo." "Ewch chwi drachefn adref," ebai'r Iarlles, "a minau a gymeraf gynghor."

A thranoeth, hi a barodd ymgynull ei deiliaid oll i'r un lle. Yna hi a fynegodd iddynt fod yr iarlliaeth yn weddw, ac nad ellid ei chynal onid o rym march, ac arfau, a milwriaeth. "Minau a roddaf i chwi eich dewis ai un o honoch chwi a'm cymero I, ai caniatau a wnewch i mi gymeryd gŵr a gynhalio fy nghyfoeth o le arall." A hwynthwy a gawsant yn eu cynghor ganiatau iddi gymeryd gŵr o le arall. Yna y dug hithau Esgobion ac Archesgobion i wneuthur ei phriodas hi ag Owain. A gwŷr yr iarllaeth a roddasant warogaeth i Owain.

Ac Owain a gedwis y Ffynon trwy nerth cledd a gwaewffon. Ac fel hyn y cedwis efe hi: deuai yno farchog, Owain a'i dymchwelai, ac a'i gwerthai er ei lawn werth. A'r da hwnw a ranai Owain i'w farwniaid a'i farchogion, hyd nad oedd ŵr yn y byd gymaint ei gariad o fewn ei gyfoeth ag efo. A thair blynedd y bu efe felly.

Ac fel yr oedd Gwalchmai un diwrnod yn gorymdaith gyda'r ymherawdwr Arthur, edrych a wnaeth efe ar Arthur a'i weled yn drist gystuddiedig, yr hyn a ddoluriai Gwalchmai yn fawr—gweled Arthur yn y drych hwnw; ac efe a ddywedodd wrtho, "Arglwydd, pa beth a'th dristaodd di?" Ebai Arthur, "Hiraeth mawr y sydd arnaf am Owain, yr hwn a golles er's tair blynedd; ac o byddaf y bedwaredd flwyddyn heb ei weled, ni bydd fy enaid yn fy nghorph. Ac mi a wn mai trwy ymddiddan Cynon fab Clydno y collwyd Owain genym." "Ni raid i ti," ebai Gwalchmai, "gasglu dy luoedd yn nghyd er hyny, canys tydi a gwŷr dy dŷ a ellwch ddial Owain, os lladdwyd ef; neu ei ryddhau os ydyw yn ngharchar; ac os byw ydyw, ei ddwyn gyda thi." A chymeryd cynghor Gwalchmai a wnaed.

Yna Arthur a gwyr ei dŷ a baratoisant i fyned i ymofyn Owain; a'u rhif oedd tair mil heblaw y gwasanaethyddion. A Chynon ab Clydno oedd gyfarwyddwr iddynt. Ac Arthur a ddaeth hyd y Gaer y buasai Cynon ynddi. A phan ddaethant yno, yr oedd y gweision yn saethu yn yr un lle, a'r gŵr melyn gerllaw. A phan weles y gŵr melyn Arthur, cyfarch gwell, a'i wahodd; yntau a dderbyniodd y gwahoddiad. I'r Gaer yr aethant, ac er cynifer oeddynt ni wyddid dim oddiwrthynt yn y Gaer gan mor fawr ydoedd. A'r morwynion a godasant i'w gwasanaethu; a bai a welsant ar bob gwasanaeth erioed oddieithr gwasanaeth y gwragedd hyn. Ac nid oedd waeth wasanaeth gweision y merch y nos hono nag a fyddai ar Arthur yn ei lys ei hun.

Bore dranoeth, Arthur a gychwynes oddiyno, a Chynon yn gyfarwyddwr iddo; a hwy a ddaethant i'r lle yr oedd y gŵr du. A rhyfeddach oedd y gŵr du dan Arthur nag y tybiasai ei fod; a rhyfeddach o lawer ei faint nag y dywedasid wrtho ef. Hyd i ben yr allt y daethant, ac i'r dyffryn hyd y pren glas; ac yno y gwelsant y Ffynon, a'r cawg, a'r llech. Yna y daeth Cai at Arthur ac a ddywedodd wrtho, "Arglwydd, mia wn achos y cerdded hwn oll; ac erfyniaf arnat adael i mi fwrw y dwfr ar y llech a derbyn y gofid cyntaf a ddel." Ac Arthur a ganiataodd iddo. Yna Cai a fwriodd cawgaid o ddwfr ar y llech, a daeth twrf; ac ar ol y twrf, gawod; ac ni chlywsant erioed dwrf a chawod o fath y rhai hyny. Wedi peidio o'r gawod, yr awyr a oleuodd; a phan edrychasant ar y pren nid oedd yr un ddalen arno. Yna adar a ddisgynasant ar y pren; a diau oedd ganddynt na chlywsant erioed gerdd cystal a chan yr adar hyny. Ar hyny, gwelent farchog ar farch purddu, a gwisg o bali purddu am dano; a Chai a gerddodd i'w gyfarfod, ac a baratoddi'w dderbyn. Yna gornestu; ac ni bu hir yr ornest na ddymchwelodd Cai. A'r marchog a babelloedd, ac Arthur a'i lu a babellasant, y nos hono. A bore dranoeth, pan gyfodasant, gwelent arwydd i ornestu ar waewffon y marchog, a daeth Cai at Arthur, ac a ddywedodd wrtho, "Arglwydd," ebai ef, trwy gam y'm dymchwelwyd I ddoe; ac a fydd da yn dy olwg adael imi fyned heddyw eto a gornestu a'r marchog?". "Gadawaf," ebai Arthur. Cai a gyfarfyddodd y marchog. Ac yn y lle, Cai a ddymchwelwyd, a'r marchog a'i tarawodd ef gyda phen ei waewffon yn ei dalcen, nes y torodd efe ei helm a'i benffestin (headpiece) a'r croen a'r cig hyd yr asgwrn—cyfled a phen y baladr. A chai a ddychwelodd drachefn at ei gymdeithion.

Wedi hyn, holl lu Arthur a aethant allau y naill ar ol llall i ornestu a'r marchog hyd nad oedd neb o honynt heb eu dymchwelyd ganddo oddieithr Arthur a Gwalchmai. Ac Arthur a ymbarotodd i'r ornest. "Och! arglwydd", ebai Gwalchmai, "gad imi fyned i ymladd â'r marchog yn nghyntaf." Arthur a ganiatodd iddo, ac efe a aeth. Cwnsallt o bali oedd trosto ef a'i farch, hwn a ddanfonasid iddo gan ferch Iarll Rangyw: ac yn y wisg hon nid adwaenid ef gan un o'r llu. Ac ymgyrchu a wnaethant, a gornestu y dydd hwnw hyd yr hwyr; ac ni bu agos i'r un o honynt fwrw y llall i'r llawr.

A thranoeth yr ymladdasant a gwaewffyn cryfion ganddynt. Ac ni orfu yr un o honynt ar eu gilydd. A'r trydydd dydd, gornestu a wnaethant; a gwaewffyn cadarnfras cryfion gan bob un o honynt; ac enynn o lid a wnaethant, ac ymladd yn galed hyd haner dydd. Yna hwrdd a roddes pob un o honynt i'w gilydd oni thores holl genglau eu meirch, ac oni syrthiodd pob un tros grwpper ei farch i'r llawr. Cyfodi i fyny a wnaethant yn gyflym, a thynu cleddyfau, ac ail ddechreu ymffust. A diau oedd gan y nifer a'i gwelent hwynt felly na welsant erioed ddau ŵr cyn wyched â'r gwyr hyny, na chyn gryfed. Pe buasai yn dywyll nos, hi a fyddai yn oleu gan y tân o'u harfau. Ar hyny, dyrnod a roddes y marchog i Walchmai, hyd oni thores yr helm oedd ar ei wyneb, fel yr adnabu y marchog mai Gwalchmai oedd efe. Yna y dywedodd Owain, Arglwydd Gwalchmai, ni adwaenwn I dydi, o achos dy gwnsallt, a'm cefnder wyt,—hwde i ti fy nghleddyf a'm harfau," Tydi, Owain, y sydd arglwydd, a thydi a orfu; cymer di fy nghleddyf I," ebai Gwalchmai. Ar hyny, Arthur a'u canfu yn ymddiddan, ac a neshaodd atynt: "Fy arglwydd Arthur," ebai Gwalchmai "dyma Owain: efe a'm gorchfygodd, ac ni chymer efe fy arfau." "Fy arglwydd," ebai Owain, "efe a'm gorchfygodd I, ac ni chymer efe fy nghleddyf." "Moeswch i mi eich cleddyfau," ebai Arthur, "ni orfu yr un o honoch ar eich gilydd." Ac Owain a ddododd ei ddwylaw am wddf Arthur, ac ymgofleidio a wnaethant. A'r holl lu a ddaethant i weled Owain, ac i'w gofleidio. Ac fe fu agos a bod celanedd yn yr ymsang hwn.

A'r nos hono yr aethant oll i'w pabellau; a thranoeth Arthur a baratodd i ddychwelyd. Arglwydd," ebai Owain, "nid felly y mae'n iawn iti. Tair blynedd i'r amser hwn y daethum I oddiwrthyt ti, arglwydd; a'r lle hwn myfi a'i piau; ac er hyny hyd heddyw yr ydwyf fi yn darparu gwledd i ti, gan y gwyddwn y deuet i'm ceisio. A thi a ddeui gyda mi i fwrw dy ludded, tydi a'th wyr; a chwi a gewch enaint."

A hwy oll a ddaethant hyd i Gaer IARLLES Y FFYNON; a'r wledd y buwyd dair blynedd yn ei darpar a dreuliwyd mewn tri mis. Ni bu esmwythach iddynt wledd erioed na gwell na hono. Ac Arthur a ddarparodd i ymadael Yna Arthur a ddanfonodd genadau at yr Iarlles yn erfyn arni ollwng Owain i dd'od gydag ef am dri mis fel y dangosai efe ef i bendefigion a phendefigesau Ynys Prydain. A'r Iarlles a ganiatodd, er mai anhawdd fu hyny ganddi. A daeth Owain gydag Arthur i Ynys Prydain. Ac wedi ei ddyfod i blith ei genedl a'i gyfeillion, efe a arosodd am dair blynedd yn lle tri mis.

Ac fel yr oedd Owain, un diwrnod, yn bwyta ar y bwrdd yn Nghaerlleon ar Wysg, wele forwyn yn dyfod ar farch gwineu, mwng-orych, wedi ei orchuddio gan ffroth. Ei gwisg oedd o bali melyn; a'r ffrwyn a'r hyn a welid o'r cyfrwy, aur oedd oll. A hi a ddaeth hyd at Owain, ac a gymerth y fodrwy oddiam ei law; Fel hyn," ebai hi "y gwneir i'r twyllwr, y bradwr anghywir, a'r hocedwr, a'r difarf." Yna hi a drodd ben ei march ac a aeth ymaith. A daeth i gof Owain ei ymgyrch, a thristhau a wnaeth. Ac wedi darfod bwyta, efe a ddaeth i'w letty, ac mewn pryder y bu efe y nos hono. Tranoeth, efe a gyfodes; ac nid i'r llys y cyrchodd efe, namyn i eithafoedd byd a diffaeth fynyddoedd. Ac efe a fu felly hyd oni ddarfu ei ddillad oll, a hyd oni ddarfu ei gnawd o'r braidd, ac hyd oni thyfodd blew hirion trwyddo. Cyd-gerdded a wnai a bwystfilod, a chyd-ymborthi â hwynt, hyd onid oeddynt gynefin ag ef; nes o'r diwedd y gwanhaodd efe fel nad allai gydymdaith â hwynt. Yno dyfod o'r mynyddoedd i ddyffryn, a dyfod at y parc tecaf yn y byd, ac iarlles weddw oedd piau y parc.

Ac un diwrnod, aeth yr Iarlles a'i llawforwynion allan i orymdaith ger ystlys llyn ag oedd yn nghanol y parc, a gwelent yno eilun dyn a'i ddelw, a'i ofni a wnaethant. Er hyny, hwy a aethant ato, a'i deimlo, a'i edrych. Gwelent fod bywyd ynddo, er ei fod yn gwywo o flaen yr haul. A dychwelodd yr Iarlles i'r Castell, a chymerodd lonaid gorflwch o iraid gwerthfawr, ac a'i rhoddes i un o'i llawforwynion. "Dos," ebai hi, "a hwn genyt, a dwg y march acu a'r dillad genyt, a dod hwynt gerllaw y gwr a welsom gyneu. Ac ir ef a'r iraid hwn ar gyfer ei galon; ac o bydd enaid ynddo, efe a gyfyd gan yr iraid hwn. Gwylia hefyd beth a wnel efe."

A’r forwyn a ddaeth rhagddi, a rhoddes y cwbl o'riraid arno, a gadawodd y march a'r dillad wrth ei ymyl, ac a ymguddies i'w wylio. Ac yn mhen ychydig, hi a'i gwelai yn cosi ei freichiau, ac yn codi i fynu, ac yn edrych ar ei gnawd. Cywilyddiodd gan mor hagr oedd y ddelw ag oedd arno. Yna efe a ganfyddodd y march, a'r dillad, ac ymlithro tuag atynt a wnaeth a gwisgo y dillad am dano. A thrwy boen efe a esgynodd ar ei farch. Yna y forwyn a ddatguddiodd ei hun iddo, ac a gyfarchodd weil iddo, ac efe fu lawen o'i gweled. Ac efe a ofynodd iddi pa dir a pha le oedd hwnw. Hithau a ddywedodd, "Iarlles weddw a biau y Castell acw. Pan fu farw ei gŵr, efe a adewis iddi ddwy iarllaeth, a heddyw nid oes ar ei helw namyn yr un tŷ hwn ar nas dycodd iarll ieuangc ag sydd yn gymydog iddi am nad elai hi yn wraig iddo." "Truan ydyw hyny," ebai Owain; a'r forwyn ac Owain a ddaethant i'r Castell. Yno hi a'i dwg ef i ystafell esmwyth, ac a gyneuodd dân iddo, ac a'i gadawodd yno.

A'r forwyn a ddaeth at yr Iarlles, ac a roddodd iddi y gorflwch. "Ha! forwyn," ebai'r Iarlles, pa le mae'r enaint oll?" · Mi a'i harferais oll," ebai'r forwyn. "Ha! forwyn," ebai Iarlles, "nid hawdd genyf faddeu hyn i ti: diriaid oedd i mi dreulio gwerth saith ugain. punt o iraid gwerthfawr ar ddyn heb wybod pwy ydyw. Eithr gwasanaetha di arno oni adfero efe yn gwbl oll.

A'r forwyn a wnaeth hyny, gyda bwyd a diod, a thân, a gwely, ac enaint, onid oedd efe iach. Bu hyny yn mhen tri mis, a'r blew a aethant oddiar Owain, a gwynach oedd ei gnawd nag y buasai erioed o'r blaen.

Un diwrnod, clywed a wnaeth Owain gynhwrf yn y Castell, a swn dwyn arfau i mewn, a gofynodd i'r forwyn pa gynhwrf oedd hyny: "Yr iarll;" ebai hi, "y dywedais i ti, sydd yn dyfod wrth y Castell i geisio difa y wraig hon a llu mawr ganddo." A gofynodd Owain os oedd march ac arfau yn y Castell. "Oes," ebai'r forwyn, "y rhai goreu yn y byd." "A ei di," ebai Owain, " erchi benthyg march ac arfau fel y gallwyf fi fyned ac edrych ar y llu ?" "Af," ebai y forwyn. A'r forwyn a ddaeth at yr Iarlles ac a'i hysbysodd o'r hyn a ddywedasai Owain wrthi. A'r Iarlles a chwarddodd; dyro iddo y march a'r arfau am byth; ni bu ar fy helw erioed farch ac arfau cystal a hwynt; a da genyf fi iddo eu cymeryd rhag i'm gelynion eu cael y foru o'm hanfodd. Eithr nis gwn I beth a fyn efe a hwynt. A daethpwyd a march du godidog, a chyfrwy o ffawydd arno, a digon o arfau gŵr a march, i Owain. 'Yntau a'u gwisgodd am dano, ac a esgynodd ar ei farch. Yna efe a aeth ymaith a dau was gydag ef, ac iddynt geffylau ac arfau. A phan ddaethant i olwg llu yr Iarll, ni welent nac ol nac eithaf iddo. Ac Owain a ofynodd i'r gweision yn mha fyddin yr oedd yr Iarll ynddi. "Y fyddin y mae y pedwar ystondard melynion acw ynddi." ebai'r gweision, "dwy y sydd o'i flaen, a dwy o'i ol." Ie," ebai Owain, "ewch chwi yn ol, ac arhoswch fi wrth borth y Castell." A hwy a ddychwelasant; yntau a gerddodd rhagddo ar ei gyfer ar yr Iarll. Ac Owain a'i tynodd ef oddiar y cyfrwy, ac a drodd ben ei geffyl tua'r Castell; a thrwy ychydig o drafferth, dygodd ef at y porth lle yr oedd y ddau was. Ac i mewn yr aethant, ac Owain a wnaeth anrheg o hono i'r Iarlles, ac a ddywedodd, Wele dal i ti am yr iraid bendigaid."

A'r llu a babellasant o amgylch y castell, a'r Iarll a ddychwelodd i'r Iarlles ei dwy iarllaeth iddi drachefn, fel yr arbedid ei fywyd. Ac am ei ryddhad, efe a dalodd iddi haner ei gyfoeth ei hun, a'r cwbl o'r aur, a'i arian a'i dlysau, a gorfu roddi gwystlon heblaw hyny.

Ac ymaith y daeth Owain, er i'r Iarlles a'i holl ddeiliaid ei wahodd i aros; er hyny, efe a chwenychai yn hytrach gerdded rhagddo eithafoedd byd a diffaeth fynyddoedd. Ac fel yr oedd efe yn cerdded, efe a glywai ddisgrech fawr mewn coed. Ac efe a'i clywai ddwy waith a thair gwaith. Ac efe a ddaeth tua'r fan; a phan ddaeth, efe a welai glogwyn mawr yn nghanol y coed, a chraig lwyd oedd yn ystlys y clogwyn, a hollt oedd yn y graig, a sarph oedd yn yr hollt. A llew purddu oedd yn ymyl y graig: A phan geisiai y llew fyned oddiyno, y sarph a neidiai tuag ato i'w frathu. Ac Owain a ddadweiniodd ei gleddyf, ac a ddynesodd at y graig; ac fel yr oedd y sarph yn dyfod o'r graig, Owain a'i tarawodd a'r cleddrf, onid oedd yn ddau haner. Ac efe a sychodd ei gleddyf, ac a ddaeth i'w ffordd fel o'r blaen. Ac efe a welai y llew yn ei ganlyn, ac yn chwareu o'i gylch fel milgi a fagasai ef ei hun. A cherdded a wnaethont yn nghyd hyd hwyr y dydd. A phan ddaeth amser gan Owain i orphwys, efe a ddisgynodd oddiar ei farch, ac a'i gollyngodd i ddol goediog wastad; chyneu tân a wnaeth Owain. Ac erbyn iddo orphen cyneu y tân yr oedd y llew wedi casglu digon o danwydd iddo am deirnos. A diflanu a wnaeth y llew oddiwrtho. Yn mhen ychydig, dyma fe yn dychwelyd ac iwrch mawr godideg ganddo, ac a'i bwriodd gerbron Owain, ac a aeth am y tân ag ef.

Ac Owain a flingodd yr iwrch, ac a ddododd olwython o hono ar ferau o amgylch y tân. Y gweddill a roddodd efe i'r llew. Ac fel yr oedd Owain felly, efe a glywai och fawr eilwaith a thrydedd waith yn gyfagos iddo, ac Owain a ofynodd os och dyn bydawl oedd yr och a glywai. le," ebai'r llais. Pwy wyt ti?" ebai Owain. "Diau," ebai hi, "Luned wyf fi, llawforwyn IARLLES Y FFYNON.” Beth a wnei di yna?" ebai Owain. Fy ngharcharu," ebai hi, "yr ydys o achos marchog a ddaeth o Lys Arthur i fynnu yr Iarlles yn briod; ac efe a fu yspaid gyda hi, ac a ddaeth ar ymweliad â Llys Arthur, ac ni ddychwelodd byth drachefn. A'r mwyaf a garwn I yn y byd oedd efe. A'i oganu a wnaeth dau o weision ystafell yr Iarlles a'i alw yn dwyllwr; minau a'u hatebais nad allai eu deugorph hwy ymryson a'i uncorph e'. Ac am hyny carcharwyd fi yn y llestr maen hwn; a dywedasant wrthyf na byddai fy enaid yn fy nghorph oni ddeuai ef i'm gwared cyn pen dydd neillduol, ac nid pellach y dydd hwnw na threnydd. Ac nid oes imi neb a'i ceisia. Ei enw yw Owain ab Urien." A wyt ti yn sicr pe gwypai y marchog hwnw hyn y deuai efo i'th amddiffyn" "Yr wyf yn sicr," ebai hi.

A phan oedd y golwython yn barod, Owain a'i rhanodd rhyngddo ef â'r forwyn. A bwyta a wnaethant; ac wedi hyny ymddiddan onid oedd hi yn ddydd dranoeth. Tranoeth, Owain a ofynes i'r forwyn os oedd lle y gallai gael bwyd a llawenydd y noson hono. Oes, arglwydd." ebai hi, "dos yna drwodd, a cherdda y ffordd ger ystlys yr afon, ac yn mhen ychydig ti a weli Gaer fawr, a thyrau aml arni, a'r iarll a biau y gaer hono goreu gwr am fwyd ydyw yn y byd. Ac yno y gelli di fod heno.

Ac ni wylies gwyliwr ei arglwydd erioed yn gystal ag y gwylies y llew ar Owain y nos hono.

Yna Owain a gymerodd ei farch, ac a gerddodd rhagddo trwy y rhyd, oni weles efe y Gaer. Ac efe a aeth i mewn, a derbyniad anrhydeddus a gafodd. Gofalwyd am ei farch, dodwyd dogn dda o fwyd ger ei fron. A myned a wnaeth y llew i breseb y march i orwedd, hyd na lyfasai i neb o'r gaer fyned ar gyful ei geffyl. A diau oedd gan Owain nas gwelsai erioed wasanaeth cystalaga gawsai yno, er fod yno bawb cyn dristed a phe buasai angau yn. mhob un o honynt. A myned i fwyta a wnaethant; a'r iarll a eisteddai ar y naill ochr i Owain, a'i unig ferch ar yr ochr arall i Owain. A diau oedd gan Owain na welsai erioed forwyn harddach na hono. A'r llew a ddaeth ac a orweddodd rhwng deudroed Owain tan y ford; ac Owain a'i porthes a phob bwyd ag oedd ganddo yntau. Ac ni welodd Owain fai yno oddieithr tristwch y dynion. Ac ar haner bwyta, yr iarll a ddechreuodd gyfarch gwell i Owain, "Y mae yn amser i ti fod yn llawen," ebai Owain. Duw a wyr," ebai'r iarll," nad wrthyt ti yr ydym ni yn drist: namyn dyfod tristwchi'n gofal." "Beth yw hyny?" ebai Owain, " Dau fab oedd im', a myned a wnaethant ddoe i'r mynydd i hela. Yno y unae anghenfil, a lladd dynion a wna, a'u hysu; ac efe a ddaliodd fy meibion. Ac yforu y mae'r amser iddo ddyfod yma, ac oni roddaf fi y forwyn hon iddo, efe a ladd fy meibion yn fy ngwydd. Llun dyn sydd iddo, er nad ydyw efe lai na chawr.

"Diau," ebai Owain, "trist yw hyny; a pha un a wnei dithau" Duw a wyr," ebai'r iarll, "fod yn well genyf iddo ddyfetha fy meibion, a gafodd efe o'm hanfodd, na rhoddi fy merch iddo, o'm bodd, i'w llygru a'i dyfetha." Ac ymddiddan a wnaethant am bethau eraill.

Ac yno y bu Owain y noson hono. A bore dranoeth, hwy a glywent dwrf anfeidrol ei faint; sef twrf y gwr mawr yn dyfod, a'r ddau fab ganddo. A'r iarll a fynai gadw y Gaer rhagddo, a rhyddhau ei ddau fab. Yna Owain a ymarfogodd ac a aeth allan i ymladd â'r cawr; a'r llew a'i canlynodd. A phan weles y cawr Owain yn arfog, efe a gyrchodd tuag ato, ac ymladd ag ef; a gwell o lawer yr ymladdai y llew a'r gwr mawr nag Owain. Ac ebai y gŵr wrth Owain, "Ni byddai gyfyng arnaf ymladd gyda thi pe na byddai am yr anifail yna sydd gyda thi." Yna Owain a fwriodd y llew i'r Gaer, ac a gauodd y porth Ac a ddychwelodd i ymladd â'r gwr mawr, fel o'r blaen. A'r llew, yn clywed fod Owain yn cael y gwaethaf, a roddodd ddisgrech uchel, ac a ddringodd i fynu ar neuadd yr iarll, ac oddiar y neuadd ar y Gaer, ac oddiar y gaer efe a neidiodd onid oedd efe gydag Owain. A'r llew a roddodd ddymnod a'i balf i'r gŵr mawr onid oedd ei balf trwy bleth y ddwy glun, nes y gwelid ei ymysgaroedd yn llithraw allan. A'r cawr a syrthiodd yn farw, ac yna Owain a roddes ei ddau fab i'r iarll.

A'r iarll a wahoddodd Owain i aros yno. Eithr nis mynai efe, namyn dyfod rhagddo i'r ddol yr oedd Luned ynddi. Ac efe a welai yno dân mawr yn cyneu; a dau was hardd pengrych wineu yn myned â'r forwyn i'w bwrw i'r tân. Yntau a ofynodd iddynt pa beth a fynent â'r forwyn. A datgan yr amod a wnaethant iddo fel y datganasai y forwyn y nos cynt." Owain ni's gwaredodd hi; ninau a'i llosgwn hi." "Diau," ebai Owain, "marchog da oedd hwnw; a diau pe gwypai efe am gyfyngder y forwyn y deuai efe i'w hamddiffyn. Ond os cymerwch chwi fi yn ei le, mi a ymladdaf à chwi."Gwnawn" ebynt hwythau,“ myn y gwr a'n gwnaeth."

A myned a wnaethanti ymornestu âg Owain; a gofid a gafodd efe gan y ddeuwas. Ar hyny y llew a gynorthwyodd Owain, a hwy a orfuant ar y gweision. Yna y dywedasant hwythau, “Ha! unben nid oedd amod i ni ymladd namyn â thydi dy hun ; ac anhawddach ini ymladd â'r anifail nag â thydi.” Ac Owain a ddodes y llew yn lle y buasai y forwyn yn ngharchar, ac a wnaeth fur o feini ar y drws. Myned i ymladd â'r gwyr fel cynt, eithr ni ddaethai nerth ato. Yr oedd y ddeuwas yn ormod iddo, a'r llew fyth yn disgrechu am fod gofid ar Owain; nes o'r diwedd, efe a rwygodd y mur, ac a gafodd ei ffordd allan. Ac yn gyflym efe a laddodd y naill a'r llall o'r gweision: ac felly yr arbedwyd Luned rhag ei llosgi. Yna y daeth Owain a Luned gydag ef i gyfoeth IARLLES Y FFYNON. A phan y daeth yno, efe a gymerth yr Iarlles gydag ef i Lys Arthur. A hi fu ei wraig tra fu hi byw. A hwy a gymerasant y ffordd oedd yn arwain i lys y gŵr du traws. Ac Owain a ymladdodd ag ef, ac nid ymadawodd y llew ag Owain hyd oni orfu ar y du traws. A phan gyrhaeddodd efe Lys y gŵr du draws, efe a aeth i mewn i'r neuadd, ac yno efe a welai bedair gwraig ar hugain tlysaf a welodd neb erioed. Ac nid oedd y dillad oedd am danynt werth pedair ar hugain o arian; a chyn dristet oeddynt âg angau. Ac Owain a ofynodd ystyr eu tristwch. Hwythau a ddywedasant mai merched ieirll ooddynt, "a daethom yma bob un gyda'r gwr mwyaf a garem o'r byd. A phan ddaethom ni yma, ni a gawsom lawenydd a pharch; a'n gwneuthur yn feddw. A gwedi ein gwneuthur yn feddw, daeth y cythraul a biau y llys hwn, ac a laddodd ein gwyr oll, ac a ddygodd ein meirch ninau, a'n dillad, a'n haur, a'n harian. A chyrph ein gwyr ni sydd eto yn y tŷ hwn, a llawer o gelanedd gyda hwynt. A dyna i ti, unben, ystyr ein tristwch ni. A drwg yw genym dy ddyfod di yma, rhag digwydd drwg i tithau."

A thrist fu Owain wrth hyny, ac efe a aeth i orymdaith allan. Ac efe a welai farchog yn dyfod ato, ac yn ei gyfarch trwy lawenydd achariad fel pe buasai yn frawd iddo, a hwnw oedd y gwr du traws. "Duw a wyr," ebai Owain, "nad i gyrchu dy lawenydd y daethum i yma." "Duw a wyr," ebai yntau, "nas cei dithau ef." Ac yn y lle ymladd a wnaethant ac ymdaraw yn ffyrnig. Ac Owain a ddifarchodd y cawr, ac a rwymodd ei ddwylaw tu ol i'w gefn; ac efe a erfyniodd ei fywyd oddiar law Owain, ac fel hyn y dywedodd efe, "Fy arglwydd Owain," ebai ef, "yr oedd darogan y deuet ti yma i'm darostwug i. A thi a ddaethost, ac a orfuaist arnaf. Yspeiliwr a fum i yma, ac yspeildŷ fu fy nhŷ; eithr os rhoddi di i mi fy mywyd, mi a af yn ysbyttywr, ac a gynaliaf y tŷ hwn yn ysbytty i wan ac i gadarn, tra byddwyf byw, er daioni dy enaid di.” Ac Owain a gymerth hyny ganddo; ac yno y bu Owain y nos hono.

A thranoeth, y cymerth efe y pedair gwragedd ar hugain a'u meirch, a'u dillad, a'r da a'r tlysau ag oedd ganddynt, ac a ddaeth gyda hwynt byd yn llys Arthur. A llawen a fuasai Arthur o'i gael pan y collasai efe ef gynt, eithr llawer llawenach yn awr. Ac o'r gwragedd hyny, yr hon a fynai drigo yn llys Arthur, hi a drigai; a'r hon â fynai fyned ymaith, elai.

Ac o hyny allan, Owain a drigodd yn Llys Arthur, yn fawr ei barch fel penteulu; onid aeth efe ar ei gyfoeth ei hun, sef oedd hyny tri chant o frain a adawsai Cynferchyn iddo. Ac i'r lle y delai Owain gyda y rhai hyn, gorfod a wnai. A'r chwedl hon a elwir Chwedl IARLLES Y FFYNON

NOS NADOLIG.
DISGWYL Y PLYGAIN.

DRIUGAIN mlynedd i heno, yr oedd hên ŵr briglwyd, gwargam, sydd yn adrodd yr hanes yma wrthych yn llanc ieuanc deunaw oed; ac wrth adgofio digwyddiadau difyrus y Nos Nadolig hono, bron na chreda mai deunaw oed ydyw eto, er fod ei ogwydd ar bedwar ugain mlynedd. Wel, y mae gan adgof ei phleserau. Pleserau gobaith ydynt eich pleserau chwi, fy nghyfeillion ieuainc—pleserau edrych yn mlaen; fy mhleser inau ydyw edrych yn ol. Edrych yn ol driugain mlynedd trwy niwl amgylchiadau, a chanfod rhyw lecyn dedwydd ar fy mywyd pan ddechreuodd tân cariad gyneu ar allor fy serch, yn ngoleuni yr hwn y gwelais fy hun yn unig a diamddiffyn.

Wrth edrych yn ol (ar fan i, yr wyf yn teimlo yn

farddonol) y mae'r cryd cymalau yma yn marweiddio yn fy esgyrn, a gwallt cudynog yn ail gyhwfan o gylch fy mhen; irder ieuenctyd yn dychwelyd, a llesgedd yn llesmeirio o'm mewn; bron nad wyf yn amheu a'i fi ydyw fi; a thra y byddwyf tan y gynfaredd wynfydus hon, gadewch imi ddweyd sut y byddem ni, yr hen bobl, yn bwrw rhan o'n Gwyliau heibio.

Yn nghyntaf, byddai pobl dda ein hardal yn cydymgynull i dŷ rhyw gymydog; a chan fod ffermdy yn meddu mwy o gymhwysderau at gynal y fath gwrdd nac un math o dŷ arall, ffermdŷ yn gyffredin a ddewisid; ac ar lawer ystyriaeth, nid oedd ffermdŷ cymhwysach na Bodangharad. Hen dŷ mawr wedi ei adeiladu yn ol y dull hen ffasiwn oedd Bodangharad, ac aelwyd iddo a allai gynwys deugain i eistedd yn gymfforddus o flaen ei thân (y fath dân ag oedd yno, canys yr oedd yno hen foncyff mawr o wreiddyn derwen wedi ei ddarpar tan gamp ar gyfer y Nos Nadolig), a phentanau gymaint â chegin ambell i fan. Yr oedd teulu Bodangharad yn gynwysedig o wr a gwraig llawen-fryd a charedig; ac un mab ac un ferch, geneth bropor tros ben. Penderfynodd y ddau genada etholwyd i ddewis lle, ar wahoddiad wresog oddiwrth bobl Bodangharad, mai yno y disgwyliem y plygain am 1801; ac yno yr aethom yn un torllwyth lliosog.

Noson oer ddryghinog oedd y nos hono—caenen dew o eira wedi ei thaenu tros natur farw, a “gwynt traed y meirw" o'r fath oeraf yn sturmantu ei alarnad ar ei hol yn mhob twll a cheubren. "Gwynt traed y meirw," y galwai yr hen bobl wynt y Dwyrain, am ei fod yn chwythu at draed preswylwyr y mynwentydd; hen bobl farddonol oedd yr hen bobl er's talwm. Ond waeth ichwi be fo nac eira nac amdo, fe ddaeth yno gwmni i Bodangharad nad oeddynt yn malio mewn dim byd ar Nos Nadolig ond am ei threulio hi mor ddifyr ag oedd modd; a barned darllenydd yr adroddiad hwn o'r hyn a gymerth le pa un a iwyddasant ai peidio.

Dechreuwyd y Nadolig yn Bodangharad trwy i gyfeillion ieuainc y fab a'r ferch gyfarfod yno am dri o'r gloch pryd- nawn Rhagfyr 24ain, a buont hwy yn brysur iawn o'r awr hono tan wyth, yn chwareu mwywd yr ieir, tynu cwtws, brathu afalau crogedig, bwyta cyflaith, &c. Yr oedd yno ugain o honynt oll, a'r hen ŵr gwachel yma sydd yn dweyd yr hanes wrthych yn eu mysg, ac erbyn heddyw efe ydyw'r unig un sydd yn aros o'r ugain. Yr oedd Angharad, merch y tŷ, yn un o'r ugain, ond y mae hithau wedi myn'd-wedi mynd er's ugain mlynedd. Pan ddaeth wyth o'r gloch i fynu, torwyd y cwmni hwnw, ac aeth pawb i'r fan gan ddymuno Gwyliau llawen, a blwyddyn newydd dda," a phenderfynu un ac oll bod yn brydlawn yn y Llan am chwech bore dranoeth ar gyfer y plygain. Pa fodd bynag, yr oeddwn I yn gryn law gyda gwr Bodangharad, a thrwy fod fy nhad a'm mam yn aros yno, a minau yr unig blentyn, ac yn gantor lled rigil hefo'r tanau, cefais inau aros hefyd. "Mab a merch y tŷ a minau oeddynt yr unig rai a gawsant aros i ddisgwyl y Plygain, o'r ieuenctyd; a gellwch gredu ein bod yn ei hystyried yn ffafr fawr.

Fel y dywedais, yr oedd yno tuag ugain o honom, a gellid rhanu ein cwmni yn naturiol i ddau ddosparth, sef dosparth y glust a dosparth y tafod. Peth pwysig iawn, 'mhlant I, ydyw i ni ddeall i ba un o'r ddau ddosparth yma y byddwn ni yn perthyn, canys fel y dywed Solmon, "y ffol tra tawo a gyfrifir yn gall, ac o'r ochr arall, gallasai ddweyd, "y call tra tawo a gyfrifir yn ffol," felly pwnc digon anhawdd ei benderfynu ydyw pa un ai i fod yn dafod ynte yn glust y bwriadwyd ni yn y byd yma. Baich drom ar wlad neu gwmni ydyw gormod o dafodau, a rhyw led farwaidd fyddai hi heb yr un hefyd. Tipyn o bob un, 'mhlant I, a'u harfer nhw yn iawn. Beth bynag yr oedd cwmni Bodangharad yn meddu anhebgorion cwmni da a difyr, sef clust a thafod. Eisteddem oll ar yr aelwyd fel lleuad haner llawn; a'r tân o'n blaenau yn gwasanaethu fel haul. Ar gadair ddwyfraich o dderw yn y gornel yr eisteddai gwr y tŷ, ac fel y mae'n alarus dweyd, pibell cyhyd â'i fraich yn ei ben—efe oedd cadeirydd y cyfarfod; ar y pentan wrth ei benelin yr oedd Huw îfan, y telynor dall; ac ar ei ddeheulaw "bardd " y cyfarfod, Ifan "Shibbols" Roberts o Dyddyn Shibbols—efe oedd y cyntaf a arferodd y dull addurnol o ddodi ei ffugenw rhwng ei ddau erw priod—mewn gwirionedd, "tad y trueiniaid a'r tri enw," ydoedd. Ar gyfer y cadeirydd, yn y gongl arall, dacw'r hen chwaer ffraethbert Catrin Davies, neu Cadi Catrin; ac yn union ar gyfer y tân yr oedd y brodyr doniol Robert Cyffin y Gwehydd, Roli Rolant y porthmon, a Huw Bifan yr hen sowldiwr,—galwai y "bardd" y tri hyn "yn drioedd dawn a chwedl," yr ardal hono. Y rhai hyn oeddynt dafod a cwmni, ac edrychasid ar y glust bynag a fynasai draws-feddianu eu lle hwynt gyda chryn lawer o eiddigedd. Beth bynag i chwi, wedi cryn lawer o besychu, symud a threfnu > cadeiriau a stolion trithroed, ac ambell un yn gorbwyso ochr ei stol ac yn cael cwymp lled drwstan, er mawr ddifyrwch i'r gwyddfodolion; ac ar ol i'r chwerthin a'r dyhïan oherwydd hyny fyned heibio, dyma E. Huws,Yswain, Bodangharad, o'i gadair ddwyfraich yn y gongl yn codi i agor y cyfarfod, ac wedi dodi ei bibell hir o'r neilldu, cymeryd corniad da o'r ddiod griafol oedd ganddo ef fel pawb arall o'i flaen, pesychu cryn lawer fel y byddis wrth deimlo pwysigrwydd sefyllfa, dechreuodd.

Fy nghymdogion anwyl,—Dydw'i fawr o siaradwr, fel pe tae; ond y mae geny' feddwl, fel pe tae, taswn I wedi cael dysg fod geny' feddwl mawr, fel tae; mi fydda yn ceisio perswadio fy hun fod esgid fy nhafod I yn rhy fechan i droed fy meddwl I, hyny ydi, fel tae, tyden nhw ddim ffitio'u gilydd. Ond mi geisia dynu fy nhroed i mewn a stretsio fy esgid allan goreu gallaf, fel tae, heno. Mi fydda yn meddwl bob amser mai bendith fawr ydi'r Gwyliau yma, rhyw gareg filltir ydi o ini ar ei siwrnai fawr, fel tae; rhyw inn ar fin y ffordd lle byddwn yn troi i mewn i gael tipyn o spree (nid wrth feddwi ydwi'n feddwl ychwaith, fel tae) rhyw ben y gwys, fel tae, lle byddwn ni, yr hwsmyn yma, yn chwanog i edrych yn ol ar ein gwaith, a phenderfynu gwneud y gwys nesa' yn well, felly o gwys i gwys yr yden ni yn troi ein grwn i gyd, ac yn cael ein symud i ffwrdd, ac eraill yn cym'ryd ein lle. Y mae nhw yn deud fod yr hen dad Nadolig yn hen iawn, cyn hyned a Christionogaeth os nad yn hyn; canys rywbryd tua'r amser yma ar y flwyddyn y byddai'r Derwyddion yn tori yr uchelwydd gyda rhwysg a rhialtwch mawr fel tae, ac yn aberthu y ddau darw gwyn dianaf yn offrwm i'w Duw am y gwydd cysegredig, ac yn rhanu'r cangau rhwng y bobl, a'r rheiny, druain, yn eu hogian ar gapan drysau eu tai er dyogelwch rhag anffodion ac ysprydion drwg am y flwyddyn hono. Pan giliodd Derwyddiaeth o flaen Cristionogaeth, ni ddileodd yr olaf mo'r hen ŵyl arbenig hon, feallai eu bod wedi ei symud ychydig, a pheri i'r hen dad dd'od atom ar amser arall. Nid oedd y Crist'nogion ychwaith i gyd o'r un farn ar y pwnc, mynai rhai iddo ddyfod ar y 25ain o Ragfyr, mynai y lleill iddo dd'od ar y 6ed o Ionawr; a bu raid i'r hen wr am beth amser ddŵad i'n byd ddwy waith yn y flwyddyn; un tro at eglwys Rhufain, a'r tro arall at eglwys Groeg, fel tase. Beth bynag, fe ddaru Julius I., Esgob Rhufain, tua chanol y 4edd ganrif, benderfynu mai ar y 25ain o Ragfyryr oedd yr hen ŵr i ddwad o hyny allan. A felly y daeth o hyd y dydd hwn. Yr ydych yn gwybod mai i gofio genedigaeth Crist y sefydlwyd yr Wyl hon: a chredai llawer am hir amser mai ar gyfer y diwrnod y ganed ein Harglwydd y cedwir yr wyl, a pheth da ydyw cadw y fath enedigaeth mewn coffhad bendigedig. Fe fydde'n tadau ni, yr hen Gymry er's talm, yn credu fod creaduriaid di-reswm hyd yn nod yn talu parch i'r nos yma; byddai'r gwenyn am haner nos yn canu'n braf yn eu cychod; a'r gwartheg yn y beudy yn penlinio fel pe buasent mewn eglwys—talu parch welwch chi, fel tae. Wniddim p'run ydych chi yn coelio peth fel hyn. [Catrin Davies: Bob gair, E. Huws, mi gwelais I nhw fy hun]. Or goreu, Catrin Davies, well imi beidio mynd dim pellach ffordd ene, onite mi dyna ddryghin yn y mhen, fel tae. Ond y mae nhw yn deud nad ar y 25ain o Ragfyr y ganwyd Crist, ac o ganlyniad nad oes dim mwy o rinwedd yn y diwrnod na rhyw ddiwrnod arall. [“Mae nhw yn deud yr hyn a ddeudodd eu nain yn yr Eglwys te,” ebai Cat. Davies]. Wel, p’run bynag, gwyl noble ydy'r Nadolig, a pheth noble ydy'r plygain, a'r gwasanaeth, a'r cyflaith, a'r wydd, a'r cwbl. Hen ŵr noble ydy'r Nadolig. Gyfeillion, gadewch ini 'neyd yn fawr o hono a'i groesawu, ac yfed iechyd da iddo, a llosgi tybacco i'w anrhydedd, a dweyd chwedlau difyr yn ei glustiau, a'i demptio i frysio atom eto, a chan alw ar Mr. Rolant, arglwydd y porthmyn, i ddeud rhyw hapes difyr, yr ydw I yn myn’d yn ol i nghornel tan ewyllysio i chwi. Wyliau Llawen a Blwyddyn Newydd Dda. Wedi tipyn o rodres dyma'r rhychor porthmonol yn ufuddhau i'r alwad.

ROLI ROLANT Y PORTHMON

Pwt o ddyn gwridgoch, yn tynu at ei haner cant oed, oedd Roli, dyddan ei wala, ac ymffrostiwr gwych. Bostiai iddo dalu yn ystod ei fywyd ugain mil o bunau i ffermwyr Cymru am fustachiaid, ac y dylasent hwy beth bynag ei ystyried yn gymwynaswr. Dywedai iddo fod yn Llundain gant o weithiau, ac iddo lawer gwaith gerdded deg milltir a thriugain yn y dydd am dridiau yn olynol, neu yr holl ffordd o Lundain i'w dy ei hun, y Llwyn Ynn, yn Nyffryn Clwyd. Dechreuai: Byddai yn well genyf bob amser gerdded na marchogaeth; 1af, am nad oedd yr un ceffyl a allasai fy nwyn mor gyflym ag y deuwn ar fy neudroed ; 2il, am fod y ffyrdd mor ddrwg mewn llawer man er's talwm fel mai llawer mwy rhesymol fuasai i mi gario y ceffyl hyd ochr clawdd y ffordd, nag i un truan anifail fy nghario I trwy y llaid dwfn fyddai ar ei gwaelod; 3edd, am fod yn hawddach i mi gael fy nghymeryd am ddyn tlawd diarian ar draed, gan y gwylliaid ysglyfus a wylient ddychweliad y porthmon o'r ffair, i'w yspeilio o'r oll a feddai. Byddai Pero, taid y ci acw sydd gennyf yn awr, gyda fi ar fy nhaith bob amser—yn cerdded wrth fy lledol ar hyd y dydd, a'r nos yn cysgu wrth draed fy ngwely. Nid ychydig oedd fy ymddiried ynddo. Ci call oedd o; yr oedd mwy yn mhen Pero nag oedd yn mhen dwsin o gŵn cyffredin. Buom ein dau mewn peryglon mynych; ond rywfodd yr oeddwn yn d'od trwyddynt yn well na'm disgwyliad. Mae llawer o honnoch yn cofio Pero? [Catrin Dafis :—O, ydym; nefoedd i'w enaid]. Wel, yr oeddwn yn d’od adref tros Fwlch Penbarras, yr hwn, fel y gwyddoch, sydd ar yr hen ffordd rhwng Wyddgrug a Rhuthyn, un tro; ac yr oedd hi yn berfeddion o'r nos arna'i yn croesi—rhwng un a dau ar fore Sul, os da 'rwy'n cofio. Ychydig islaw Pen y Bwlch, y mae bedd y Gwyddel hwnnw a lofruddiwyd gan Wyddel arall pan oedd y ddau ar er taith o ffair Rhuthyn; ac fel y mae yn gywilyddus dweyd porthmyn oedd y ddau—fe ddylasent hwy, beth bynnag, wybod gwell pethau. Wel, byth oddiar amser y gyflafan yma, yr oedd cryn lawer o draddodiadau fod ysprydion yn hoffi ymlithro hyd y fangre honno, yr hyn a barai imi glustfeinio a llygadu fy ngoreu bob amser wrth groesi y Bwlch ar y nos. Ac felly yr oeddwn y nos honno.

Gyda fy mod wedi cyrhaedd Pen y Bwlch, dyma Pero yn dechreu chwyrnu, a minnau yn dechreu arswydo; sefyll, gwrando, clywed sŵn siarad. Tan grynu, myned ychydig yn nes; teimlo'n siŵr mai lleisiau dynol oedd y swn, beth bynag a'u llefarai. Pero yn cyfarth yn fygythus, minau yn gwrando drachefn, ac yn meddwl am y porthmon hwnnw, druan, a laddwyd ar y mynydd. Gwrando wed'yn, a deall mai Gwyddelig oedd yr iaith a siaredid gan y lleisiau. Yna rhuthrodd i'm meddwl y syniad ofnadwy, ai tybed mai y llofrudd a'r llofruddiedig oedd yno yn ysprydol ail fyned tros y weithred o un yn lladd y llall : Yr wyf yn cyfaddef fod fy ngwaed a'n newrder i lawr yn rhywle tua gwadnau fy nhraed, os nad yn is. Meddyliais am droi yn ôl, ond yn mlaen y mynai Pero fyned; ac nid oeddwn am i neb gael dweyd fod creadur o gi yn ddewrach na Roli Rolant y Porthmon. Yn mlaen yr aethum inau, er y buasai yn well genyf gerdded deng milltir o ffordd na rhoddi cam yn mlaen y pryd hwnw; ond nid da gan neb gael ei ystyried yn llwfrddyn, chwi wyddoch. Felly, yn a yr mlaen yr eis I; a beth oedd yno debygech chwi?-dau Wyddel mewn cymaint dychryn â finau, a chan ofn wedi sefyll yn y fan yr oeddynt, gan feddwl mai banshee oedd y ci a minau. Wedi i ni ddeall ein gilydd, cefais allan mai myned yr oeddynt o'r Dyffryn i Dreffynon i ymofyn rhai o'u cydwladwyr i'w cynorthwyo i gadw gwyłnos i rhyw frawd ymadawedig. Canasom "Nos Dda," ac aeth pawb i'w ffordd, wedi ei ddychrynu ond nid gan ddrychiolaeth. A dyna fu am y tro hwnw.

Ond yn Birmingham y bu hi yn galed arnom pan yn d'od adref o Lundain, un tro. Byddwn I yn bur fanwl gyda fy lletty; ac arferwn lettya bob amser yn y Ffythars pan yn Birmingham, am fod y bobl yn onest, a'r tŷ yn dý parchus. Ond y tro hwn, yr oedd y Ffythars yn llawn, a dywedodd y wraig wrthyf nad oedd yno wely ar fy ngyfer, ond yr ymorolent hwy am un. Tybiwn inau fod ateb braidd yn gwtta i ddyn fel fi—dyn a mwy na llon'd ei logell o arian, dyn ag yr oedd cynifer o'r Saeson blonegog yn dibynu arno am gig; teimlais fy holl waed porthmonol yn berwi, a phenderfynais y chwiliwn allan am letty troswyf fy hun. Felly, allan yr eis, gan wneud golwg mor ffyrnig fyth ag y medrwn ar bobl y Ffythars. Crwydrais hyd yr heolydd gan edrych ar bob tafarndy gyda llygad dyn parchus yn edrych allan am orphwysfan ddyogel. Gwelais yn fuan fy mod yn un lled anhawdd ei foddloni, ac er mwyn tynu fy hunan o'r cast hwnw, penderfynais gymeryd y tafarndy cyntaf a ddeuai drachefn o'm blaen, neu yn hytrach y deuwn I o'i flaen ef. Ac felly fu. Tŷ bychan digon dèl oedd o; aethum i mewn, a gofynais i'r wraig lygadgroes oedd yn y bar os oedd yno letty i ddyn diarth. Gofynodd hithau i'w gŵr gwyneb-lawen, yntau a gyflwynodd y gofyniad yn ol, a hithau wedi edrych yn lled fanwl arnaf (yr wyf yn meddwl mai arnaf fi yr oedd hi yn edrych), a ddywedodd y byddai yn dda ganddynt fy ngwneud yn gysurus. Aethum i mewn, a Phero wrth fy ngwt, canys yr oedd o gyda fi y tro hwn hefyd. Ac er fod pob man yn edrych yn lân a gweddus o'm cwmpas eto nid oeddwn wrth fy modd—yr oedd yno rywbeth ar ol, beth bynag oedd hwnw. Yr oedd y bobl yn edrych yn ddigon llawen groesawus arnaf fi, ond am Pero, yr oedd o druan naill ai ar y ffordd neu yn y goleuni o hyd; ac nid oes genyf fi fawr o feddwl o'r bobl hyny sydd bob amser a'u dialedd ar greaduriaid direswm. Chwi a ellwch benderfynu mai cas fuasent wrthych chwithau oni buasai am eich rheswm, ac nid iddynt hwy yr ydych i ddiolch am hyny. Fy egwyddor I ar y pwnc ydyw yr hen ddiareb, "A'm caro I, cared fy nghi." Yr oedd rhyw bethau eraill o gylch y teulu hwn na waeth imi heb eu henwi, a barent i mi benderfynu mai dyma y tro olaf y lletywn tan y gronglwyd hono. Beth bynag fe ddaeth amser gwely, a digiwyd fi yn mhellach. Yr oedd Pero, fel y crybwyllais, er mwyn diogelwch fy arian, yn arfer cysgu wrth draed fy ngwely. Ac fel yr oeddwn yn dringo tuag at fy ystafell, a'r ci wrth fy sawdl, dyma waedd o'r tu ol imi yn gofyn, "Os oedd y bwystfil hwnw i gael rhan o'm gwely?" ac yn dymuno fy hysbysu yn y dull mwyaf moesgar" Nad oedd gwelyau wedi eu bwriadu i gwn." Atebais inau yn lled sychlyd nad oeddwn yn bwriadu i'w gwely gael yr anrhydedd o gynal esgyrn lluddedig y ci; ond fod genyf y fath werth arno fel nas goddefwn iddo fod yn mhellach oddiwrthyf na'r llawr wrth draed fy ngwely. Grwgnachai hithau rywbeth rhwng ei dannedd nas gwyddwn ac nas maliwn lawer pa beth. Wedi cyrhaedd fy ystafell, a dodi fy eiddo mewn man dyogel, sef yn fy hosan a hono wedi ei rhwynno am fy nghanol, ymofynais am gwsg i'm hamrantau; ond cwsg d'ai meddyliau gwibiog, ac amheuon ac ofnau. Meddyliwn yn nghyntaf nad pobl garedig oedd y bobl yr oeddwn tan eu cronglwyd, meddyliwn yn ail fod rhywbeth yn amheus yn eu hymddygiad at Pero, yn enwedig yn eu gwrthwynebiad iddo ddyfod i'r un ystafell i orphwys â mi; yna daeth i'm cof luaws o chwedlau a glywswn pan yn hogyn am borthmyn mewn tai yn cael eu hyspeilio, eu lladd, eu darnio, ac yn eu claddu mewn calch o tan gareg yr aelwyd. Bum fel hyn yn magu nadrodd yn fy mynwes fy hun, hyd oni chlywais swn y troed olaf yn darfod oddi ar y grisiau, ac hyd oni chredwn beth bynag fy mod yn clywed dau neu dri yn chwyrnu yn braf o'r ystafelloedd eraill. Yna syrthiais yn ddiarwybod i gwsg trwm o ba un ni ddeffroais am rai oriau. Eithr pan ddeffroais, o ddeffroad! na byddo imi ddeffro eto byth yn y dull hwnw. Yr oedd Pero wrth y drws, yn cyfarth ac yn awphio fel peth cynddeiriog. Rhuthrais inau tua'r un lle a gwelwn oleuni yn myned heibio ol a blaen, a chlywn swn siarad uchel; ond yr oedd yn anmhosibl deall beth a ddywedid gan mor ffyrnig y cyfarthai'r ci. Wedi cael ganddo ostegu ychydig, clywn rhyw eiriau tebyg i "y mae'r ci mileinig yna wedi ei ddychryn o;"—llusgais i y ddwy gadair at y drws gan wneud hwnw mor gadarn ag oedd modd; gwrandewais drachefn, "y mae yn debyg y buasai yn well ganddo fod heb y ci heno :" lusgais y gwely hefyd at y drws; "rhaid i ni frysio ei ladd o tra byddo y dwr yn boeth," ebe llais arall cryf treiddgar, gwaedlyd, llais na chlywais I o'r blaen yn y tŷ hwnw. "Aie, ie!" ebe fi, fy lladd ac yna fy ysgaldio!" rhedais at y ffenestr ar fedr agor hono a gwaeddi allan am help, ond er fy mawr siomedigaeth, ac er ychwanegiad dirfawr at fy helbul, nid oedd moddion agor ar gyful hono; felly mi a droais yn ol at y ddôr gan benderfynu cyfarfod fy nhynged, a phrynu fy angau mor ddrud byth ag y medrwn. Yr oedd y ci yn parhau i gyfarth yn achlysurol, ac yn mhen ychydig, dyma guro trwm ar y drws, "Trowch y ci yna allan i'r buarth," ebe llais gwr y tŷ; Atebais inau yn ddewr, "Os gwele fo yn dda y cadwn fy ci ac y gallai yntau gadw ei dafod." Gyrodd hyn ef yn gaclwn gwyllt, rhuthrodd yn erbyn y. drws, nes y tybiaswn y buasai y fath nerth yn dryllio tri o ddrysau. Yr oedd Pero yn wylltach nag yntau, cyfarthai nes oedd ei dafod allan yn dyheu am anadl. dyn cyntaf a ddaw i mewn i'r room yma," ebe fi, "mi saetha fo yn farw gorn gelain gegoer, mi dryllia fo yn ddigon man i fyned trwy ogr rhawn, mi gochaf y muriau a'i waed o, ac mi-mi-mi geiff y ci yma ysu yr hyn a adewir o hono heb fyned i ganlyn y gwynt,' ac yn ddiarwybod i mi fy hun tra yn traddodi yr araith hon yr oeddwn yn dal darn o bren yn lle gwn, gan anelu at y drws. Ni y chlywais air mwyach gan y gwr, credwn ar y pryd fod y geiriau mawr a arferais wedi ei bendroni, ac mai iddynt hwy yr oeddwn yn ddyledus am fy mywyd. Yr oedd sŵn mwstwr yn parhau yn y gegin, minau yn parhau i wylio, a Phero yn parhau i gyfarth, er wedi crygu. Yn y cyfamser yr oedd fy ofnau weithian yn cilio, ond yr oeddwn yn arswydo wrth feddwl beth fuasai'r canlyniad o ddyfod gŵr y tŷ a Phero i gyfarfod â'u gilydd, ni buasai ond bywyd am fywyd am dani; a dichon y buasai'r ci a minau yn y diwedd yn cyfarfod â'r un dynged. Pa fodd bynag, o'r diwedd, fe wawriodd y bore arnaf i roddi terfyn ar y fath nos flin adfydus, a dechreuodd fy yspryd ymloni o'm mewn. Ac yn mhen yr hir a'r hwyr, tybiwn ei bod yn amser i minau droi allan o'm hystafell-wely: ond sut i edrych yn ngwyneb y fath dylwyth mileinig ag oedd yn y gegin oedd bwnc sobr eto. Beth bynag i lawr yr eis I; ni fwyteais yr un tamaid; gofynais i'r wraig pa faint oedd arnaf am fy lletty annghysurus? Troais gil fy llygaid a gwelwn fochyn newydd ei ladd yn hongian yn y bwtri. Dywedodd hithau mor ffyrnig fyth ag y medrai mai fy mai İ fy hun oedd fod fy lletty ynannghysurus; eu bod hwy yn lladd mochyn y bore a hwnw, a phe buasent yn lladd hyny o foch oedd yn y byd, na buasai raid i'r ci wneud cymaint o stwr; ei fod wedi deffro eu plentyn bychan chwe mis oed a'i ddychrynu i ffitiau bron; "ac yr oeddym oll yn synu sut y gallech chwithau oddef y fath genaw trystfawr yn yr un ystafell a chwi." Ar hyn, minau a ddechreuais agor fy llygaid, a throi y peth yn fy meddwl, ac ystyried ai nid anmheuon ac ofnau oeddynt achosion fy holl anghaffael y noson cynt; ac ai nid y mochyn a feddylid wrth son am ei ladd o, ac ai nid pobl yn cadw trefn dda yn eu tŷ oeddynt pan yn grwgnach am i mi gymeryd Pero gyda fi i'r ystafell-wely. "Hwyrach, ar ol y cwbl," meddwn I, "fod y bobl yma y bobl lanaf, onestaf, trugarocaf (ond at gwn) yn holl dref Birmingham!" Daeth y gŵr yn mlaen o rywle tan chwerthin yn braf, a sylwi ei fod yn meddwl imi gredu fy mod wedi disgyn yn mysg lladron; ac addef ei fod ef unwaith yn credu yn ddiysgog mai dyn haner o'i hwyl oeddwn yn cymeryd y ci hwnw gyda fi i'r gwely; ond fod yr araith fygythus hono wedi haner ei ladd ef wrth iddo chwerthin am ei phen. Lled addefais inau fod genyf un tro feddyliau rhyfedd am y bobl y syrthiaswn i'w plith;— chwarddasom oll yn braf, ac ysgwydasom ddwylaw yn galonog; ac wedi i mi dd'od dipyn ataf fy hun, mi a eisteddais wrth gystal pryd o fwyd ag a ddarparwyd i borthmon erioed. Byth ar ol hyn, yn nhŷ Robert White(canys dyna oedd enw fy llettywr) y llettywn I yn Birmingham. Daeth y teulu yn dra hoff o Pero; ac o hoffi Pero, daethant i hoffi creaduriaid direswm eraill; a byddai y plant yn crechwenu, a'r wraig lygad-groes yn llygadloni, a llawenydd Robert White yn ymsionci, wrth ddyfodiad Pero a minau byth oddiar hyny; ac ni byddai neb mwy ei groesaw yno na Roli Rolant y Porthmon Cymreig a Phero ei gi brych. A dyna fy hanes I; a'r cnewyllyn ydyw hyn, "Nid yn y bore y mae barnu diwrnod teg," ac "Ni bydd doeth yn hir mewn llid."

"Chwedlau da dros ben, fel tae," ebai'r Cadeirydd, "ac addysg i llon'd nhw;" ac ymddangosai yr holl gwmni o'r un fain, ond yn unig Catrin Davies. Yr oedd hi yn meddwl fod sylw Roli ar lygaid croesion yn beth hollol groes i'w golwg hi. "Ti ddylset gofio, Roli, fod llygaid Nelw fy chwaer yn edrych naill ar draws y llall, a pheidio brifo fy nheimladau I fel ene; o ran hyny be ddisgwyliech chwi oddiwrth fustachiaid?" "Mi ddeudaf i chwi be na I, Catrin Davies, mi alwaf arnoch chwi i ddweyd y stori nesaf," ebai Roli tan chwerthin, "gael i chwi wneud yn well;" ac ar hyny dyma waeddi mawr am i'r hen gares draethu ei chwedl.

CATRIN DAVIES O NANT YR HUNLLEF.

Plentyn annghoeth natur oedd hi, yn byw mewn bwthyn unig bychan yn un o'r nentydd mwyaf anghysbell ac anial yn Nghymru; yr hon nant a alwaf Nant yr Hunllef, i'w gwahaniaethu oddiwrth "Nantau" afrifed eraill Cymru; ac fe wel y cyfarwydd â'r lle briodoldeb yr enw, canys yn y glyn coediog hwnw y mae natur bob amser yn ymddangos mor lonydd farwaidd, a phe buasai hunllef trwm yn gorwedd arni. Yr oedd yno tua deg cyfair o dir o gwmpas y bwthyn, lle y cadwai yr hen chwaer fuwch a mochyn at ei bywiolaeth. Y rhai hyn oeddynt ei chyfeillion arbenicaf—cydofidiai â hwynt yn eu trallod—cydlawenychai â hwynt. Ydi'r teulu acw yn iach ?" ebai ambell i genay sobr-wedd wrthi ambell dro. Na wir mae'r mochyn acw wrth hel mês wedi cael pigyn cas iawn yn ei droed," neu, Y mae'r fuwch acw wedi cael Clwy'r Braenar," fyddai ei hatebiad hithau.

Od a fuasai y sawl a ymgymerasai a byw yn y fath le, ac od yn ddiau y gwnelsai y fath le pwy bynag a el'sai i fyw iddo. Nis gwyddom ar bwy yr oedd y bai, ond nid oes dadl nad oedd Catrin Davies yn bentwr o hynodrwydd. Yr oedd edrych ar ffurf ddigrifol ei gwyneb yn ddigon à gwneud i'r sobraf chwerthin; ac yr oedd ei dyn oddifewn yn llawer digrifach fyth. Yr oedd hi yn cashau pob peth newydd â chas perffaith —o ddiafol y byddai pob ffasiwn ganddi ond yr hen ffasiwn. Yr oedd hi yn lanwedd iawn o gorph, am fod hyny yn hen ffasiwn; ond yr oedd golchi lloriau tai rhagor nag unwaith yn y flwyddyn, a hyny ar Nos Sadwrn y Pasg, yn ei thyb hi yn falchder a rhodres anfaddeuol; am nad oedd hyny yn hen ffasiwn. Llawr pridd chwi gofiwch oedd gan yr hen bobl; ni buasai golchi pridd yn ei wneud ddim glanach, ond ei ysgubo y byddent ag ysgub o ddanadl; ac odid fawr na byddent wedi ysgubo y llawr i gyd i'r twll lludw erbyn y Pasg, ac yna byddai raid ail lorio, a dyna "olchi'r llawr" gan yr hen bobl. Yr oedd Catrin Davies yn doriaidd iawn; ac y mae'n debyg mai'r egwyddor hon a barodd iddi beidio a phriodi drwy ei hoes; er iddi, meddai hi, gael llawer cynyg hardd a theg. Yr oedd ei syniadau ar Briodas fel pobpeth arall yn od. "Priodi yn wir," ebai hi, "mi wn bedy Cadi, wn I ddim bedy neb arall. Gŵr yn wir! i ddiogi a meddwi tra byddwn I a'r plant yn ll'w'gu gartre'. Plant! mi ga rywbeth am fagu moch a lloiau; chawn I ddim ond gofid wrth fagu plant." Yr oedd hi cyn dywylled â'r fagddu; ni fedrai ddarllen gair ar lyfr; er hyny, anfynych y cyfarfyddech â neb yn medru ar dafod leferydd gymaint o waith beirdd Cymreig hen a diweddar â hi. Gallai adrodd llawer o interliwdiau Twm o'r Nant mor rigil a disgyniad pistyll; ac o bob bardd efe oedd y penaf yn ei thyb hi. Pan ofynid iddi mewn cwmni fel yma adrodd rhyw chwedl ddifyr, er ei bod yn gwybod ugeiniau o'r cyfryw, yn lle chwedl, troi i ganmol ei hoff awdwr a wnai hi, ac o dipyn i beth, dechreu adrodd rhyw ddarn tarawiadol, er mwyn iddynt gael blas ar y peth, a gofyn iddi am ddernyn hirach. Felly y gwnaeth hi y tro hwn, a dyma y darn a adroddodd; ac fel ffafr fawr hi a'i hail adroddodd wrthyf fi dranoeth, minau a'i hysgrifenais. Rhoddais arno yr enw

DIWEDD ARTHUR GYBYDD.

ENTER Arthur Gybydd, yn glaf.

Arthur. Hai, how, heno, 'r cwmni eglur,
Dyma finau dan erthwch, yr hen Arthur,
Yn edrych am le i eistedd i lawr,
Gan fy ngwaew mawr a'm gwewyr.

Fe'm trawodd rhyw glefyd chwerw,
'Rwy'n ofni y bydda'i marw,
Ow! bobl, bobl, 'does help yn y byd,
I'm tynnu o'r ergyd hwnnw?

'Rwy'n gweled o ben bwy gilydd,
Fy mhechod, a nôd annedwydd,
Cydwybod sydd i mi'n traethu 'nawr,
Fy nghastie, mae'n fawr fy nghystudd.

Dacw'r ddefaid a ddyges, mi wn tros ddeugain,
Yn rhedeg 'rhyd y llethr, a dacw'r pec a'r llathen,
Dacw'r ŷd budr yng ngwaelod y sach,
Dacw'r pwysau bach aflawen.

Dacw'r llaeth tenau, O! 'r felldith donog,
Werthasom ganwaith ddau chwart am geiniog;
A'r mân-ŷd yn y brith-ŷd, sy'n brathu fy nghalon;
Mi wnes gam diawledig â phobl dlodion.

Ow! oes yma neb a fedr weddio?
Na phregethwr, na doctor, yn hynod actio,
O! nid oes i'm hoedl i fawr o drust,
Ow! physic, 'rwyf just a phasio.

ENTER Doctor.

Doctor. O dear heart, you are sick, 'rwy'n cweled!
Arthur. O meistr anwyl, ni fu hi erioed cyn erwined!
'Rydwy'i bron marw'n ddigon siwr,
Coeliwch, mewn cyflwr caled!
Doctor. Let's feel your wrist, mae pulls chwi cweithio?
Arthur. Oes rhywbeth yn ateb bydda'i fyw dipyn eto?
Doctor. Yes, yes, I hope you'll come o'r core.
Arthur. Iechyd i'r galon, os caf fyw tan y Gwyliau.
Doctor. Here's drops for you i lonyddu'ch ysbrydoedd.
Arthur. Os bydda'i marw fel 'nifel, âf byth i'r nefoedd.
Doctor. Don't be afraid, mae Duw'n trugarog.
Arthur. Ni waeth i chwi p'run, 'rwy'n ddiffaith gynddeiriog.
Doctor I'll warrant you'n burion, mi ddof yma'r bore,
To bleed you and bring some more cyffirie,
Cym'rwch a cadwch ddeiet dda,

Yn ddiddychryn hyn yna i ddechre.

[Exit]

Arthur. Wel, bendith eich mam i chwi, meistr anwyl,
Ond a ddaethum yn well nag oeddwn yn ddysgwyl;
Rhaid gyru at y person i ddwyn ar go',
Am roi gweddi, os bydd eisio, Ddydd-Sul.

Os fi ga hoedl eto'n weddaidd,
Mi feddyliaf lawer am fy niwedd,
Ni choelia'i nad ymadawa'i ar frys,
A'm holl afiachus fuchedd.

Mi af i bob cymanfa, lle byddo rhai duwiola,
A rhof elusen i'r tlawd, heb eiriach blawd na bara;
O! hoedl, hoedl eto, i ddarllen a gweddio!
Ow'r amser gwerthfawr rois yn gâs, heb geisio gras yn groeso!

Duwioldeb, duwioldeb, wyneb anwyl!
Tyred i'm dysgu! yr wy'n disgwyl
Y gwnei di fy 'fforddi, mae f' ewyllys yn bur,
'Nol dy archiad, i wneuthur dy orchwyl.

[Enter Madam Duwioldeb

Duwioldeb. Pwy sydd yma, caetha' cwyn,
Yn galw ar dwyn am dana'?
Arthur. Hen bechadur heb fod yn iach,
Sydd a'i galon bach yn gwla.
Duwioldeb. Fel hyn bydd llawer hen bechadur,
Pan ddelo clwy' neu ddolur,
Arthur. O! Duwioldeb, 'da'i byth i ildio,
Mi ddof i dy ddilyn, pwy bynnag a ddelo;

Duwioldeb. Duw roes glefyd i'th rybuddio,
A barodd i'th gydwybod ddeffro;

Arthur. Iechyd i'th galon di, Grefydd dyner
'Rwy'n teimlo fy hun wedi gwella llawer.

Duwioldeb. Deui eto'n iachach nag yr wyd,
Am hynny cwyd o'th gader.

Arthur. Wel, dyma fi ar fy nhraed yn rhodio.
Y cwmni mwyndeg, 'rwy'n ame gwna'i mendio;

Duwioldeb. Gwylia'n odieth ar dy fynediad,
A chymer ofal mawr trwy brofiad;
Os dy ddwylaw ar yr aradr a roi fel Paul,
Ni wiw i ti edrych ar dy ol.

Arthur. Does dim sy gryfach na duwiol grefydd,
Pe dysgit ti Gaenor, fy ngwraig i, ar gynnydd;
'Rwy'i er's deugen mlynedd 'mynd i 'ngwely 'mlaena',
Ac ni ddywedodd hi weddi erioed, mi dynga..
Mi fyddwn i erioed yn gweddio rhyw 'chydig,
Wrth fynd trwy ddwfr neu ryw ffordd ddychrynedig,
Neu ar fellt a tharanau y cofiwn i am Dduw,
Ond bellach byddaf byw'n o bwyllig.

Felly, Duwioldeb, mae gen i rwan
Ryw chwant ac 'wyllys i roi tro tuag allan.

Duwioldeb. Cerddwch, a rhoddwch dro drwy gred,
Cofiwch eich adduned cyfan.

[Exit Arthur.

Yn ddrych i bechaduriaid byd,
Ca’dd hwn ei adael am ryw hyd.

ENTER Arthur, wedi myned yn iach.

Arthur. O, nid wyf am gynhwys yma dduwiol ganu,
Llawer brafiach clywed lloiau'n brefu?
Ac yn lle darllen a gweddio'r nos ar led,
Mwyneiddiach genyf weled nyddu!

Duwioldeb. Ow, ddyn truenus, gresynus anian,
Mae'n drist yr awel, a drois ti’rwan!

Arthur. Beth bynag a drois, ni chewch chwi'n drwch
Mo'ch 'wyllys, cerddwch allan.

Duwioldeb. Onid i mi mae'r addewid hynod
O'r byd sy' ’nawr, a'r byd sy'i ddyfod?

Arthur. Ni chefais i o fantais wrth dy drin,
Un difyn, dal dy dafod.

Duwioldeb. Wel, beth a ddarfu chwi gyneu addo?

Arthur. Trymder fy nolur barodd i mi siarad dan fy nwylo.
Duwioldeb. Och! beth a wnei di, ddyn anraslon,


Pan ddel dy ddiwedd, gwanaidd gwynion ?
Arthur. Beth a wnaf! ond boddloni beb goll,
I'r un digwydd a'm holl gym'dogion.
Duwioldeb. Gwae, gwae di, bechadur chwerw,
Unwaith yn fyw a dwywaith yn farw;
Ymroi i geulo ar dy sorod,
'Rol deffro unwaith dy gydwybod.
Ti addunedaist ger bron Duw,
Y gwellhait dy fuchedd, os cait fyw;
Yn awr, troi 'nol i'th hen ffieidd-dra,
Fel hwch i'r dom, neu'r ci i'w chwydfa!

[Exit.


Arthur. Wel, hawdd ganddi hi b'rablan a b'reblian,
Ni wiw i mi wrando pawb yn lolian;
Rhaid imi bellach flaenllymu'r ddwy big,
A chodi yn o hyllig allan.

Nid oedd ond ffoledd a gofid calon,
I mi fyn'd yn dduwiol, yn inysg rhyw Iuddewon!
'Rwyf yn meddwl nad oes gan neb fel fi,
Gasach llancesi a gweision.

Bu farw dau lo bach yn sydyn,
Ddim byd ond o ddiogi edrych atyn';
Ac ni choeliech chwi byth, y cwmni ffraeth,
Mor wachel yr aeth un mochyn.

A bu farw un hesbwrn, 'rwyf fi'n hysbys,
Mewn mieren, yn nghaeau Moris;
Ac ni fu wiw, 'rwy'n siwr, gan Gaenor na Sian,
Fyn'd yno i ymg'leddu na chroen na gwlan.

'Roedd y gweision a'r gweithwyr oll am y gwaetha',

Heb ronyn o fater, ond am gysgu a bwyta.
'Rwy'n anmheu'n ddigysur y rhoisant hwy gosyn,
I'r hen awph hurtaidd a fyddai'n dweyd ffortyn,
Mi a'u clyweis yn siarad ac yn cadw syryrw,
Fod hono'n ymleferydd y byddwn i farw.

Ac nid ydwy 'n anmheu llai mewn difri',
Nad oeddynt yn erfyn i mi farw i'ngrogi;
'Roedd fy nghlocs gan un o'r llanciau yn y domen,
A'r llall yn dechreu glynu yn yr hen wasgod wlanen.

Ac mi fu'm cyn ddyled ag addoli,
A hel pregethwyr acw'i floeddio ac i goethi.

Hwy fwytasant beth anaele,
Rhwng bacon, beef, ac wyau;

Siawns ond hyny deuaut i'n tŷ ni,
I goethi eu pregethau.
Yr holl gwmffwrdd calon ge's i oddiwrthyn',
Oedd dangos fy nhŷ, a'm stock, a'm tyddyn;
A llawnder fy ŷdlan, wiwlan wedd,
'Roedd hyny'n rhyw rinwedd ronyn.
Ond mae'n debyg fod arnaf eto gyfri',
Gwmpas haner coron i'r apothecari;
Rwy'n foddlon i dalu hyny fy hun,
Fe wnaeth y dyn beth d'ioni.

ENTER Doctor.


Doctor. How do, 'r hen corph, darf'ych mendio clyfar.
Arthur. 'Rwyf yn abl grymusdeg, bendith Huw i
chwi, meistar.
Doctor. Mae'n ta geny' gweled chi mor hearty.
Arthur. Mi fyddwn yn iachach pe cawn dalu ichwi.
Doctor. Here's a bill for the whole cost.
Arthur. Wel, gobeithio nad ydych ddim yn dost.
Doctor. The total sum, one guinea and a-half.
Arthur. Aroswch, gadewch i mi edrych yn graff.

Y gini a haner am cyn lleied a hyny!
Ai diafol a welodd etifedd y fagddu?
Dos oddiyma, leidr, gyda dy lediaith,
Onide, mi dalaf i ti am dy hudoliaeth.

Doctor. Wel, mae genyf ffordd i godi'm cyflog,
Mi fyna'u cael nhw ar fyr bob ceiniog.

Arthur. Ni chei monynt o'm bodd i,
Wyneb ci cynddeiriog.

Ni chefais i o'i ddrugs a'i gelfi dygyn,
Erioed werth deunaw, pe b'ai fo wrth denyn;
Mi feddyliais y buasai'n hyn o le,
Haner coron o'r goreu ceryn.

Yn lle hyny, dyma gini a haner
Fydd raid i mi dalu ar fyrder;
Ei i mi wylltio a myn'd o'm co',
Mi w'rantaf myn e' eto'i fater.

Ond ni choeliaf nad af tuag adref bellach,
Mi fydda' o hyn allan am y byd yma'n hyllach;
Mi wna' i bawb ganlyn ar eu gwaith,
Mi laenia, ac mi â'n saith greulonach.

ENTER Angau.
Angau. Stop, old man, you are to be dead.


Arthur. Ni fedra i fawr Saesneg, be' ddywed e', Ned?
Angau. You have refused to take warning, but now you shall see.
Arthur. Wel, mae ganddo rhyw drwbwl 'rwy'n meddwl i mi.
Angau. Now, it is too late to prepare yourself.
Arthur. 'Rwy'n ofni mai baili, mewn difri', ydyw'r delff.
Angau. In a very short time, to Death you'll be debtor.
Arthur. Mi wariaf ddeg-punt cyn talaf i'r Doctor.
Angau. Thou shalt soon go to eternal life.
Arthur. Fyddai'n well i'r gwalch coeglyd gym'ryd hyny geiff
Angau. I'll stay no more to keep you company,
Arthur. Wel, garw ydyw'r Saeson am siarad yn sosi.
Angau.I have put my hand through thy heart and breast.
Arthur. Beth sy'a fyno'r rôg â fi mwy na'r rest?

O! mae drwg yn ei winedd, fe daflodd ei wenwyn,
'Rwy'n clywed fy hun yn crynu bob gronyn.

Ow! dyma fi yn awr yn fy rhyfyg annuwiol,
Wedi cael fy nharo farwol.

O! meddyliwch, ddynion, am eich hir gartrau;
Fe fu rhai o honoch chwi mewn clefyd fel finau,
Ac ar ol codi allan, yn pechu'n syth,
Heb deimlo byth mo'r pethau.

Felly, ffarwel i chwi, i gyd ar unwaith,
Chwi wyddoch nad yw hyn ond act neu chwar'yddiaeth;
Ond ni bydd gan ANGAU ond chwareu prudd,
Chwi welwch, ddydd marwolaeth.


ROBERT CYFFIN Y GWEHYDD.

Chwi a glywsoch am Syr Johu Salsbri o Leweni, neu Syr John y Bodiau, neu "Sanau glelsion;" canys adwaenid ef wrth y tri hyn; am ei fod yn ŵr boneddig mawr; am fod ganddo gymalau dwbl, a dwy fawd ar bob llaw; ac am fod ganddo ffansi ryfedd bob amser at hosanau o liw glas. Chwi a wyddoch hefyd fod dynion a chymalau dwbl yn gryfion iawn, ac felly Syr John. Yr oedd ef mor gryf, fel y byddai cryn benbleth yn mysg ei gymydogion beth mewn gwirionedd oedd ei nerth. A beth a wnaeth dau neu dri o fyddigions ond ceisio cael allan y dirgelwch. Arfer Syr John bob bore oedd rhoi tro heibio'r Eglwys Wen—heibio'r fynwent er mwyn dwyn ar gof iddo ei hun mai marwol oedd yntau; a beth wnaeth y byddigions hyn ond gosod ar ei lwybr hen geffyl, a sach yn llawn o dywod ar lawr fel pe buasai wedi syrthio oddiar ei gefn, a hogyn yn sefyll gerllaw; a pheri i'r hogyn gymeryd arno grio pan welai Syr John yn dyfod. Hyny a wnaed, a'r byddigions am y gwrych yn dysgwyl pa beth a gymerai le. Yn mhen ychydig, dyma'r boneddwr yn d'od, a'r hogyn yn crio ei oreu glas, " Am be' 'rwyt ti yn crio, machgen i?" ebai'r barwnig cymwynasgar. Am na fedraf gael y sach yma yn ol ar gefn y ceffyl, syr," ebai'r hogyn. Wel aros, gâd i mi weld os gallaf wneud rhywbeth o honi." Yna gafaelodd yn hollol ddidaro yn ngheg y sach, a thaflodd hi ar gefn yr anifail, a'r fath oedd ei phwysau fel y torodd asgwrn cefn yr hen geffyl, druan. Felly nid oedd neb agosach i wybod beth oedd nerth Syr John y Bodiau. Efe hefyd, medden nhw, a laddodd yr anghentil ofnadwy hwnw Bych; ac ar ol gorphen y gwrhydri, a ddolefodd yn orfoleddus " Dim Bych," yr hyn ydyw tarddiad enw tref Dinbych.

Fel y gwyddoch, y mae cerfddelwau o'r barwnig a'i deulu yn yr Eglwys Wen gerllaw Dinbych. Byddai Syr John hefyd yn hoffi tipyn o ddigrifwch diniwaid, er yn myned bob dydd i weled mynwent yr Eglwys Wen; ac yr oedd Gwladus, ei chwaer, wedi priodi gyda gwr boneddig o Lundain—dyn ysmala, llawenfryd, yn gwybod cryn lawer, ond mor anwybodus yn nghylch trin tir a gardd a darn o bren. Mae'n debyg fy mod I, Ifan Huws, yn gwybod llawn cymaint am gyrn yr hen fuwch yna sydd yn yr awyr ag mae'r bobl ddysgedig yn ei galw hi yn Lleuad, ag a wyddai y Llundeiniwr hyn am farmio a garddu. Ond yr oedd Syr John ac yntau yn benau ffrindiau: er fod prif bleser Syr John mewn trin tir, yn enwedig gyda'r ardd. Yn ei ardd ceid casgliad o'r blodeu prinaf ac ardderchocaf. Garddu oedd prif bleser gwr Lleweni. Pan ar ymweliad â Lleweni un tro, daeth y Llundeiniwr i wybod hyn, a phenderfynodd chwareu cast diniwaid ar y Sanau Gleision. "Wyddoch chi beth, nghefnder," medde fo un diwrnod pan oeddynt ill dau yn rhoddi tro trwy yr ardd, "y mae geny' hadyd blodeu, newydd eu cael yn bresant o Jamaica, a ganmolir yn uchel gan y sawl a'u gwelsant yn tyfu yn y wlad hono; ac ni hitiwn I fotwm corn a'u rhanu rhyngoch chwi a minau." "Diolch i chwi, fy nghefnder," ebai Syr John; ac nid allesid addaw odid i rodd mwy derbyniol ganddo na'r rhold hon o ychydig hadyd o Jamaica.

Daeth y pryd i'r gwr boneddig diarth droi ei wyneb tuag adref; a gair olaf Syr John wrtho oedd erfyn arno gofio danfon y rhodd gyda'r cyfleusdra cyntaf. Yntau a adduwodd y gwnai, a bu cystal a'i air. Bu disgwyliad mawr am ddyfodiad y cerbyd o Lundain i Ddinbych; a phan ddaeth, a'r sypyn gydag ef, brysiodd Syr John i'w agor; a chyn wired a'r pader dyna lle 'roedd rhyw ddau ddwsin o hadau cochion bychain wedi d’od yr holl ffordd o Jamaica. Dangosodd hwynt i lawer o'i gymydogion, y rhai a synent yn fawr wrth edrych arnynt, er na wyddent fawr am danynt; ac a synent fwy fod pethau bychain mor ddisylw wedi eu danfon mor bell o ffordd. Beth bynag, wrth i Syr John eu trin a'u trosi, a'u dangos i hwn a'r llall, tybiai fod oglau rhyfedd arnynt, ac ammheuai ai nid oglau penwaig ydoedd; synodd yn aruthr at hyn, ond yn ddios oglau penwaig oedd yr oglau; a pha fwyaf ogleuai arnynt, cryfach cryfach oedd ei gred ar y pwnc. Rhoddodd un o honynt yn ei enau, ac yr oedd blas cryf penog coch arno. Wyddoch chi beth," meddai, rhwng difiri a chwareu, "y mae'r Andros yn Roger yna ya danfon hadau o fol penog coch i mi; ond gadewch iddo, mi dalaf inau y pwyth yr ol." Yr oedd hyn tua'r Nadolig.

Daeth Llundeiniwr ar ymweliad yn mis Ebrill drachefn; mis tra phwrpasol i weithredoedd castiog, it disgwyliai gryn lawer o bleser oddiwrth ei waith yn cogio Syr John gyda'r hadyd. Yr oedd y barwnig, er mwyn chwareu ei ran yntau, wedi crybwyll yn un o'i lythyrau fod yr hadyd yn y ddaear. Parodd hyn i'r Llundeiniwr gredu fod yr abwyd wedi cymeryd; a phan gyrhaeddodd Leweni, un o'r pethau cyntaf yr holodd efe yn eu cylch oedd yr hadựd o Jamaica. "O, d'od yn mlaen yn gampus," ebai Syr John, "y maent wedi egino bron i gyd." "Egino!" ebai'r Llundeiniwr, "egino!" ac edrychodd yn graff yn llygaid ei gyfaill, ac edrychodd drachefn yn graffach; ond nid oedd yno ond y dilysrwydd perffeithiaf i'w weled—dim yr arliw leiaf o rsmaldod. "O ie egino," ebai Syr John, ac heb ychwaneg o siarad, efe a wahoddodd ei gyfaill i gael golwg arnynt; a chan gymeryd y blaen, a'r Llundeiniwr yn ei ddilyn tan fwmian, "Wel, os nad hon ydyw yr wythfed rhyfeddod !" daethant at gongl neillduedig yn yr ardd; ac yn ddigon siwr dyna lle 'roedd tuag ugain o egin penwaig cochion mewn tair o resi ar ddull rhesi maip. a thua throedfedd rhwng pob un, "er mwyn iddynt," ebai Syr John, "gael lle i wreiddio a dail-ledu." Blaen trwyn ambell un o honynt oedd allan o'r ddaear, tra'r oedd llygaid ereill yn sylldremio yn llygaid yr edrychydd; "ond y mae y rhai hyn wedi cael mwy o haul," ebai Syr John, ac yr oedd tagellau y rhai hyny uwchlaw y pridd. Wel, cyn wired a bod mwg yn Llundain," ebai'r gwr diarth, “os gwelais I y fath beth erioed!" ac edrychodd yn llygaid sobr y barwnig, ac edrychodd y barwnig yn ei lygaid synedig yntau, ond nid oedd yr arliw gwanaf o dwyll na hoced yn y sobrwydd na'r syndod. Tir da ydyw hwn; mi dŷf y peth fynoch chwi ynddo," ebai Syr John. 'Ddyliwn wir," ebai'r Llundeiniwr, ac aethant tua'r tŷ yn ol; er mawr ollyngdod i'r pen garddwr, yr hwn oedd yn yr holl gyfrinach, a'r hwn a ymollyngodd i ffit o chwerthin mor fuan ag y cafodd gefn y byddigions. Yr oedd y newydd-beth hwn i'r Llundeiniwr mewn garddwriaeth wedi troi a'i gwadnau i fynu bob tyb ag oedd ganddo o'r blaen ar y pwnc. Pysgodyn o benog, yn tyfu fel meipen! hwyrach y tyfai ceryg mewn "tir da fel gardd y Lleweni; hwyrach y tyfai aur ynddo? Mae'r darganfyddiad yma yn werth rhywbeth. Y mae geny' feddwl am roddi gini yn naear yr ardd yma." Bwriadodd hefyd am wneud y peth yn destun araith yn ei glwb yn Llundain, ac mi baratodd gryn lawer o feddyliau ati. Ac mi feddyliodd gryn lawer o feddyliau ereill cyffelyb, meddai Robert Cyffin, gan droi y sylwedd oedd rhwng ei ddeintle a'i fochgern; ond welwch chwi 'does geny' ddiin amser i fyn'd trostyn' nbw. Digon i mi ydyw dweyd fod yr hyn a welodd efe yn ngardu Lleweni bron wedi synu y boneddwr i farwolaeth. [Catrin Davies:—Dyna dwll newydd i'r byd tragwyddol na wyddwn i ddim am dano o'r blaen). O, ai ie ? (ebai Robert wedi moni braidd). Ond beth bynag i chwi, (gan ail afael yn awenau ei dymher) mae llawer math o angau, Catrin Davies,—angau llawenydd, ac angau gofid, ac angau cariad, ac felly yn y blaen. Ond mi welodd Syr John fod y gwr yn dihoeni, ac fel gŵr boneddig, mi ddeudodd wrtho fo; ac felly fe ddaeth pobpeth i'w le, ac fe gafwyd chwerthin braf uwchben y cast, ac fe gafwyd prawf fod y gwladwr Cymreig llawn cystal cogiwr a'r Sais o brif ddinas Lloegr. A dyna fy chwedl I, Ifan Huws.

HUW BIFAN YR HEN SOWLDIWR

Pan oeddwn I yn gwasanaethu fy ngwlad a'm brenin yn y 'Merica, yr oedd genym ŵr ifanc yn gapten mwyaf rhwydd- galon a welsoch chwi erioed. Nid rhyw glepgi oedd o, na rhyw lêch ffals, ac nid rhyw genaw brwut balch; ond dyn diwyddo draw, ac yr oedden ni i gyd yn ffond dros ben o hono. Yr oedd o mor galon dyner tuag at y troseddwr, mor gymwynasgar i'r claf, mor hawdd ganddo gynorthwyo y tlawd, fel na chyfeiliornwn lawer pe dywedwo ei fod y

mwyaf anwyl gan ei ddynion o holl gapteniaid George III. Yr oedd yr olwg gyntaf arno yn ddigon a pheri i chwi syrthio mewn cariad ag ef. O ran corph nid oedd o ond byr; ond, 'rwy'n siwr na welsoch chwi erioed neb yn edrych yn well mewn dillad sowldiwr. Ond yr oedd yn hawdd gwybod fod rhywbeth yn pwyso yn drwm ar ei feddwl o; beth oedd y rhywbeth hwnw nid oedd ei gyfeillion mwyaf mynwesol y medru dyfalu. Byddai yn ymuno yn y cinio misol ag oedd gan ein swyddogion, ond nid yfai ddim, ac yr oedd y gyfeddach bob amser yn ei sobri yn hytrach nag yn ei lawenhau. Unigrwydd oedd ei brif bleser; a mynych y ceid ef yn y coed wrtho ei hun ac yn ymgomio ag ef ei hun rywbeth nad allodd neb ddyfod yn ddigon agos ato i wybod beth a ddywedai yn iawn. Yr unig air a glywyd oedd, "Felly Gwilym!" Nid oedd neb yn gwybod yn iawn yn mha gwr o'r byd y ganwyd ef; a phan holid ef ar y pwnc dywedai mai yn Nehebarth Cymru, ond ni ddangosai unrhyw awydd i fyned yn mhellach i fanylion ei haniad. Tybid mai y rheswm tros hyn ydoedd ei fod yn hanu o deulu isel; ond yr oedd ei foes a'i arfer foneddigaidd yn lladd y dybiaeth hon hefyd. Ond y penderfyniad y deuwyd iddo oedd mai wedi ei siomi gyda i serch yr ydoedd ; a bod y geiriau a glyvsid o'i hunan-ymddiddan yn cadarnhau y penderfyniad hwyn; ac mai rhyw Gwilym oedd ei withymgeisydd. Ond pwy oedd y Gwilym hwn, ni wyddai neb. Nid amlygai y capten unrhyw bryder ych waith ar fater yn y byd—buasai hyny hwyrach yn rhoi rhyw awgrym i ddatguddio y dirgelwch. Mae'n wir iddo holi unwaith neu ddwy os oedd y 45th foot yn y Merica; a phan hysbyswyd ef nad oedd, ymddangosai braidd yn siomedig; a phan atebwyd ef drachefn fod y regiment ar ei ffordd o Brydain ymddangosai braidd yn llawen. Holai y cornol (colonel) drachefn pa bryd y cyrhaeddai y 48th, ac i ba gwr o'r wlad yr oedd hi i gwartro? Atebai yntau ei bod i gyrhaedd New York ar y 6ed o'r mis canlynol; ac yn ol pob tebyg y byddai iddi aros am yspaid beth bynag gyda ni yn Utica. Nid oedd y ddadl leiaf na wenodd y capten wrth y newydd hyn un o'r gwenau llydain, dyfnion, hyny sydd bob amser a'u tarddiad yn y galon. Ond er hon oll yr oedd dirgelwch ei fywyd llawn mor ddiesboniad ag erioed. A oedd ei wrthymgeisydd yn y regiment, ac yntau yn bwriadu dial! eto nid gwên ffals ddieflig y dialgar oedd ar ei wyneb pan glywsai y newydd. Wedi hyn, ar ystorm, ymddangosai mewn pryder dwfn, a mynych holai ei gyfeillion os meddylient ei bod yn gymaint ystorm ar y dwr ag ar y. tir. O'r diwedd, dyma'r Cornol yn derbyn llythyr yn ei hysbysu fod y 18th wedi cyrhaidd yn ddyogel i New York; ac y byddent gyda ni tua'r 25ain. Yr oedd yn dda genym oll glywed hyn; yr oedd gan rai o honom gyfeillion yn y regiment hono; eraill a ddysgwylient fanylion rhyw newydd o'r hen wlad: ac nid wyf yn meddwl fod gan neb glywed ein bod i gael cwmni y 48th. Ond o bawb, y capten oedd y llawenaf am y newydd hwn; nid oedd dim terfyn ar ei sirioldeb.

Beth bynag i chwi, o'r diwedd fe ddaeth y 25ain o'r mis, a pharatoisom ninau i roddi derbyniad croesawus i'n cydfilwyr; ac yn hyn o beth nid oedd neb prysurach a mwy gwresog na'r capten. Tua haner dydd, dyma ni'n clywed eu seindorf, a ninau yn ymdrefnu mewn dull milwrol i'w chroesawu: dacw nhw a'u baner yn chwifio, a'r wisg goch Brydeinig yn pelydru yn llygad haul; taniwyd y gynau. ac wedi gorphen y ddefod filwrol prysurasom at ein gilydd i roddi cyfarchiad llai ffurfiol ond cynesach; cyfarchiadau calon gynes Prydeiniwr yn cyfarfod Prydeiniwr mewn gwlad bell. Yr oeddwn I yn gwylio'n ddyfal holl ysgogiadau y capten. Gwelwn ef yn carlamu ar ei farch hyd at gapten y 18th, yn ei gyfarch fel milwr, ac yn ysgwyd llaw ag ef yn galonog. Gyda hyn, disgynodd y ddau oddiar eu meirch, gan syrthio ar yddfau eu gilydd ac ymgusanu. Aethun yn nesatyntachlywais y geiriau, "Gwilym anwyl, yr oeddwn yn eich disgwyl!" Luned! Luned!" ebai'r capten arall, "pwy fuasai yn meddwl am danoch chwi, a'ch gweled yn sowldiwr!" Bu llawer ychwaneg o siarad o'r un natur, na byddai ond gwastraff ar amser i mi eu ail adrodd. Aethant ymaith gyda'u gilydd, a'r olwg nesaf a gefais I ar fy nghapten oedd mewn gwisg merch; ac os oedd o (neu hi ddylwn I ddweyd) yn edrych yn dda mewn dillad sowldiwr, welais I neb erioed yn edrych yn well yn nillad boneddiges. Cyn pen y mis i ddyfodiad y 48th i Utica, cefais y pleser o weled priodas fy hen gapten gyda Capten Gwilym Williams, o'r 48th gwyr traed byddin ei fawrhydi George III.

Gyda fod y gymeradwyaeth i araith Huw Bifan wedi gostegu, dyma yr hen gloc derw mawr yn y gornel yn taro dau o'r gloch y bore; a dyma fwyd o'u blaenau mor sydyn, dystawa di-ddysgwyliad, a phe buasai rhai o fodau gwlad hud a lledrith wedi ei ddwyn yno. Ond ni fynai y Cadeirydd son am fwyta, fel tae, cyn gorphen v cyfarfod yn drefnus yn ol y cynllun a osododd efe o'i flaen; ac yr oedd yn aros eto Anerchiad gan y Bardd; a chanu hefo'r Tanuau yn yr hen ddefod o derfynu Nos Nadolig. Yn nghyntaf galwyd ar y Bardd, ac yntau wedi ymsythu a chorn-garthu addywedodd:— "Llyma Myfinau, trwy ras ein cadeiriawl gyfaill, yn meddu yr anrhydeddawl bleser o eich anerch. Gwnaf hyny mewn 70 o Englynion Unodl Union." Taflodd llawer un olwg hiraethus ar y bwrdd a'r swper. Ac yn wir pwy a garasai eistedd o flaen ei swper i wrando ar 70 o Englynion Anerchiadol. Ond yr oedd ein Cadeirydd am drefn,ac yr oedd yn rhaid i'n clustiau ninau fyned tan y driniaeth chwerw; eithr o drugaredd fe ddaeth ymwared annisgwyliadwy. Dechreuodd y Bardd:—

Ddoniol ddynion gor-ddenawl—digrifawl
Dyna grefydd cas gan-ddiawl
Yn cadw'r nos Nadoligawl
Twy'r gwyll hyll, hyd awr gwawr gwawl.

Ar hyn bu mwstwr anghyffredin, pawb yn rhuthro o'i gadair tuag at Catrin Davies yr hon oedd mewn ffit, ac yn ei dau ddwbl weithiau a phryd arall yn ymsythu mor gam a phe buasai am daflu ei chorphyn fel dilledyn dros gefn ei chadair. "Dwr iddi!" ebai un; "gwynt iddi," ebai'r llall. Yn y cythryfwl, rhedodd Angharad ataf fi a rhoddodd ei phwys ar fy mraich; a dyna yr engraiff't gyntaf o'i serch tuag ataf; a neidiodd y marworyn serch a lechasai er's talwm yn fy mynwes I ati hithau yn fflam. Rywfodd neu gilydd anghofìais Catrin Davies yn Angharad Huws. Yr oedd ei genau yn llydan agored, a'i breichiau yn ymluchio yn ol a blaen. Yn mhen tua thri mynyd ymlonyddodd. "Oho! Oho! bobl anwyl," meddai hi, "wel dyna y brydyddiaeth ddigrifaf a glywodd fy nwy glust I erioed. Prydyddiaeth y gath," ebai hi tan chwerthin yn uchel; "wel yr oedd dy Englyn di, Twm, druan, yr un ffunud a phrydyddiaeth Twm y gath acw pan rodd o ei droed yn yr uwd poeth. Paid a deud gair arall, Twm anwyl, onide mi lladdi fi yn farw gorn." A dechreuodd pawb chwerthin yn galonog am ben Catrin Davies ac am ben y farddoniaeth. Pawb ond Shibbols; edrychai ef, a'i bapur yn ei law, cyn sobred â sant, a thybiai fod rhyw deilyngdod uchel yn ei waith pan y cynyrchai y fath effeithiau. Daliai yr hen chwaer i chwerthin a gwaeddi, "Paid Twm anwyl!" ac yn nghanol yr annhrefn, cododd y Cadeirydd i fynu a dy wedodd er mor dda fuasai ganddo sefyll at ei gynllun, a thrwy hyny glywed holl waith y Bardd Thomas Shibbols Roberts, fel tae; eto yn ngwyneb y cynhwrf a greasai yr Englyn cyntaf, ei fod yn erfyn arno gadw y 69 Englynion eraill hyd y Nos Nadolig nesaf.

"Canu hefo'r Tannau

'rwan. I ddechreu; Huw, tara "Serch Hudol"

Y CadeiRydd:—

Hwda! Roli, ar ol yfed,
Cyffin, caffia'r gerdd i gerdded,
Cadi, codwch, myner mwyniant,
Huw, a Shibbols, na foed seibiant.

Roli: O'n ngwaith fy hun pan oeddwn yn y byd o'r blaen, ac yn myn'd tan yr enw Huw Morys:—

Caseg wine coesau gwynion,
Croenwen denau carnau duon;
Camau duon croenwen denau,
Coesau gwynion caseg winau.

Robert Cyffin a Huw Bifan yn datganu Hen Benillion. Catrin Davaes:—

Caffio ddaru Robert Cyffin
Fod rhyw fferdod anghyffredin—
Cociie'n smelio lle ysmala,
A dyua synu yn nhraed hosana'.

"Shibbols am byth!" ebai hi, tyr'd tithau a phill, Twm;" ond yr oedd y Bardd mewn soriant, ac ni ddywedodd air.

Tyr'd dithau Gruffydd, ebai Ifan Huws wrthyf finau; a chan fy mod I yn dipyn o fardd, mi genais fel hyn:—

Bodangharad! boed 'y nghoryn
Mor wyn a'r barug ar y Berwŷn;
Os ymswnio a wna'm syniad
Nad y' nghoron Bodangharad.

Bodangharad! be 'dy ngore
Byw yn ngolwg mwg 'fy nghartre',
Cael yn wraig a fyddo'm cariad,
Bydio yn nghyraedd Bodangharad.

Boed Angharad byw dan goron,
Rheded gwin o'i gwenau gwynion;
Boed i minau fy nymuniad—
Bydio yn nghyraedd Bodangharad.

Yna tawodd sain y delyn, a dechreuodd sŵn y cyllill a'r ffyrch, ond yr oedd yn amlwg fod fy mhenillion musgrell I wedi cael eu hefîaith, canys edrychai Angharad yn yswil gariadlawn arnaf; am y lleill yr wyf yn meddwl fod eu bryd hwy ormod ar y swper i ystyried yn iawn beth a ddywedwn. Buom yn cadw cwmni am bum mlynedd, ac yn briod am yn agos i ddeugain. Ond y mae hi eich nain chwi, 'mhlant I, wedi myn'd er's ugain mlynedd. A dyna, hyd y gallaf fi gofio, fel y cynaliwyd Nos Nadoiig, yn Bodangharad yn y flwyddyn 1804. Aethom yn un criw cariadus i'r Plygain, ac ni welais I ddim o olion digrifwch Bodangharad ar y defosiwn yn Nhy Uduw.

FFYNON LLANDDWYNEN

—————

GAN J. CEIRIOG HUGHES

—————

Pwy bynag a fyddai yn glaf o gariad yn yr hen amseroedd, cynghorid y claf, bid fab bid ferch, i fyned ar bererindod at ffynon Llanddwynen, Sir Fon, ac yfed o'r dwfr hyd oni wellhai ei galon.


MAE ffynon Llanddwynen yn rhedeg o hyd,
Er hyny mae cariad yn byw yn y byd;
Er gwaetha'r ellyllon sy'n byw yn y lli,
'Does dim eill wahanu fy meinwen a mi.

Mi eis i Landdwynen ar ddiwrnod o hâf,
Yn isel fy meddwl, o gariad yn glaf:
Mi yfais o'r ffynon, ond trois yn ddioed,
I garu fy nghariad yn fwy nag erioed.

Gofynais am gynghor, a d’wedai hen wr,
Y dylwn ymdrochi yn nghanol y dŵr:
Mi neidiais i'r ffynon, a suddais fel maen,
Ond codais mewn cariad dau fwy nag o'r blaen.

Mi eis i'm priodi ar fore teg håf,
I eglwys Llanddwynen-helaethu ni wnaf:
Er gwaetha Sant Dwynen, a'r ing imi roed
'Rwyf heddyw mewn cariad mwy pur nag erioed.

Pob parch i Landdwynen a'r ffynon or-ffôl,
Ond cofied y meibion sy'n aros ar ol:
'Does un feddyginiaeth, na dyfais, na dawn,
Eill wella hen glefyd y galon yn iawn.

Hen draddodiad lled ddifyr a diniwed ydyw hwn, a byddai yn resyn iddo farw. O ran hyny, gresyn ydyw colli unrhyw un o'n coel-chwedlau cenedlaethol. Am a wni, mae celwydd bychan prydferth yn llawn mor ddefnyddiol a'r gwirionedd ei hun, ar rai prydiau. Ysgrifenodd y diweddar Ab Ithel, coffa da am dano, fel y canlyn:

"Dwynwen was the VALENTINE of the Britons, the patron Saint of lovers. In former times, particularly about the middle of the 14th Century, a great number of both sexes visited this well, for the purpose of being cured of love-sickness. If its waters ever afforded a remedy in such cases, they must indeed have been endowed with miraculous properties. Cyn bod yr inc Saesneg yna wedi sychu ar fy mhapur, daeth merch ifanc o Sir Gaernarfon ar ymweliad a mi. Dywedais wrthyf fy hun mae'n syn os nad wyr Miss L. rywbeth am ffynon Sant Dwynen. Gyda'r amcan hwnw mewu golwg, ac am ei fod yn bwnc mor bleserus ag un i'w gyffwrdd, trowyd yr ymddyddan at gariadon—breuddwydion a d'weyd ffortun. Yr oedd fy nghyfeilles yn gwybod y cwbl am rinweddau y ffynon, ac yn adnabod llancesau fuont yn ceisio meddyginiaeth YN Y DWFR NESAF ATO, am fod tywod er's llawer dydd wedi gôrchuddio y llygedyn dwfr am yr hwn y byddai cariadon yn sychedu gymaint yn yr hen amser. Gresyn na buasai Ffynon Dwynwen yn llifo eto, a Ffynon Elian yn ei lle wedi ei chladdu gan dywod.

Y GWIBEROD

GAN GLASYNYS

1.—GWIBER PENHESGYN

Yr oedd mewn lle yn Mon a elwir Penhesgyn, yn yr hen amser, wr a gwraig yn byw, ac iddynt bu un mab, ac efe wrth gwrs oedd yr etifedd; ac os gwir y chwedl, etifeddiaeth fawr oedd iddo. Rhyw ddiwrnod, fodd bynag, fe ddychrynwyd y rhieni gan ddaroganiad rhyw ŵr cyfarwydd. Dywedai ef y codai gwiber ar dir Penhesgyn a frddai'n sicr o fod yn achos angau'r etifedd; a chyn pen hir, clybuwyd fod yr anghenfil wedi gwneud ei hymddangosiad mewn dyryslwyn gerllaw, Anfonwyd y bachgen yn ebrwydd yn ddigon pell fel na chaffai'r wiber ddim siawns i wneud ei frâd ef; aethpwyd ag ef i eigion Lloegr. Yn y bryn cyfagos yr oedd y wiber, a mawr oedd ofnad y bobl o'i herwydd, a llawer fu'r dychymygu pa fodd y lleddid hi. O'r diwedd, daeth un hen fachgen hirben i'r penderfyniad fod ganddo ef lwybr difai i'w lladd; a thyma'r ffordd a gymerodd. Aethi gae gerllaw, a thiriodd dwll dwfn yn y ddaear—twll crwn o drawsfesur penodol, ac yna cymerth badell bres fawr, a rhoes hi a'i gwyneb yn isaf ar y twll a gloddiodd. Pan welodd y wiber y pres yn dysgleinio, cynhyrfodd, ac ymaith a hi ato, a gwnaeth ymosodiadau egniol ar y badell am hir amser, nes o'r diwedd iddi lwyr ddiffygio. Yna aed ati, a gorphenwyd ei lladd, a chladd- wyd hi gyda llawenydd yn y bryn lle yr arferai fod o'r blaen yn ddychryn i bawb. Ar ol hyn gyrwyd am etifedd Penhesgyn i ddod adref, gan fodd ei elynes wenwynig wedi ei lladd a'i chladdu; ac adref y daeth yn un cawr, gan fod yr hyn a ofnai wedi darfod am dani. Ar ol bod gartref am dipyn, nid oedd na byw na bywyd i neb os na chai ef weled ysgerbwd yr hen wiber, os oedd dim ohoni ar gael, a mynodd gael agor ei bedd. Gwnawd hyny, ac nid oedd yn aros o honi ddim ond asgwrn y pen. Pan welodd y dyn ieuanc ei phenglog, rhoes gic i'r asgwrn, a gwaeddai yn llawen, "Tydi yn wir fy lladd! yr hen ysgerbwd gwael." Ond gan nad oedd ganddo am ei draed ond esgidiau pur deneuon, a chan iddo yntau roi cic tra egniol, aeth darn o'r asgwrn truy gefn ei esgyd, a thorodd friw bychan ar fawd ei droed, medd rhai; ar gefn ei droed, medd eraill; a bu farw'r dyn ieuanc mewn canlyniad i hyn. Ac felly fe ddaeth geiriau'r gŵr cyfarwydd i ben, sef mai Gwiber fyddai'n angau i etifedd Penhesgyn

2.—GWIBER MOWDDWY

Ryw bryd gynt, gerllaw y Dugoed, yr oedd gwiber fawr ddolenog yn cyflawni peth wmbreth o ysgelerderau; a phawb yn ei hofni oherwydd ei maint a'i gwenwyn echrydus. Ond un diwrnod, rhoes un o drigolion hirben y lle ei feddwl ar waith pa fodd i'w dinystrio, a gwnaeth y cynyg canlynol. Canfu fod rhyw gasineb greddfol rhwng y Wiber â phob peth o liw coch, a pha beth a wnaeth ond gosod i fynu bren wedi ei bicellu yn dda, a thaenodd bais goch yn dô drosto. Pan welodd y Wiber y lliw annymunol, hi a gythruddodd yn gynddeiriog, ac ato yr aeth heb oedi, gan ymosod arno gyda'i holl nerth; ond pa fwyaf nerthol yr ymosodai'r Wiber, dyfnaf yn y byd yr ai'r picellau i'w chnawd, ac with geisio malu y bais goch fe laddodd y Wiber ei hun.

3.—GWIBER COED Y MOCH

BYDDAI ar yr hen bobl ofn ddydd a nos yn Nghoed y Moch, a'r achos o hyny sydd amlwg. Yn y nos byddid yn dysgwyl yn ofnus am glywed swn erchyll ysgrechfeydd aflafar cythreuliaid corniog o gwmpas Ceubren yr Ellyll, ac yn y dydd drachefn byddai'r Wiber yn gwybetta, ac yn barod bob munyd i ddod ar draws y neb a ddeuai'n agos i Goed y Moch. Byddai ambell dro yn tor-heulo yn ddiog ar lan Llyn Cynwch, ac ar brydiau eraill gellid ei gweled yn ymlusgo draw ac yma hyd lethrau Moel Othrwm, ac yn bwrw y llysnafedd glafoeriog sydd erbyn hyn yn gruglwyth gwenwynig ar leppen y mynydd. Creadur bwytteig ofnadwy oedd y Wiber; byddai yn llyncu oen yn ei gorpholaeth ar droiau, ac am ffrwythydd, nid oedd digon iddi hi i'w gael. Tybia rhai iddi ladd llawer dafad, ac yna llusgo'r ysgerbwd at goeden, a chylymu ei hun am un gangen, a gosod y ddafad cyd-rhyngddi â'r pren, ac yra dirwyn am dani nes malurio'r esgyrn yn siwtrws mân. Ond yr oedd un hen law yn byw yn y Ganllwyd ag arno flys mawr gwneud pen arni. Bu yn hir iawn yn dyfeisio pa fodd y dygai ei amcan i ben, ac yr oedd ef yn cael ei ystyried yn rhywbeth uwchlaw y cyffredin yn y parthau hyn; mewn gair efe oedd gŵr cyfarwydd y fro. Yr oedd Arglwydd Nannau wedi cynyg tri ugain muwch i bwy bynag a'i lladdai, ac yr oedd eraill yn cynyg eu rhoddion gwobr am y gamp ofnadwy. Fel yr oedd y Wiber yn myned yn hynach yr oedd ei lladd hi yn beth anhawddach, ac felly yr oedd hi yn rhywyr glas cynllunio rhyw lwybr ymwared.

Byddai yn gallu hud-ddenu creaduriaid ati. Os edrychai yn llygaid unrhyw greadur, ni fedrai ddianc o'i gafael. Yr un fath ag y bydd pry'r ganwyll, er gwibio o amgylch-ogylch, ei ddiwedd fydd—fe fyn fyned i fflam y ganwyll, felly yn union pob creadur a welai lygaid y wiber swyn-hudid ef ati rhag blaen. Yr oedd felly yn fil anħawddach ei difrodi o herwydd hyn. Fodd bynag, yr oedd yr hen ddewin Llwyd o'r Ganllwyd wrthi yn parotoi am ei dihenydd. Cynygiodd unwaith am ei gwaed trwy gyflogi cryn ddwsin o Wylliaid Cochion Mowddwy, y rhai a ystyrid y saethwyr cywiraf yn y wlad, ond ni fedrwyd cael un golwg ar yr anghenfil erchyll yr amser hono, ac felly ni ddaethpwyd i ddim gwell pen yn y diwedd. Ond gan fod y tri ugain buwch yn wobr fawr, a llawer un mewd digon o eisiau'r cyfryw, daeth un o fugeiliaid Cwm Blaen y Glyn i lawr, ar fedr treio ei law. Nid oedd hwn ond llafn o lanc ystwythgryf, prin wedi cyrhaedd ei un ar hugain oed, a chan nad oedd yn foddlon i neb wybod ei hynt rhag ofn iddo fethu yn ei gais, aeth ymaith i chwilio am y Wiber yn ddystaw bach heb ddweud dim gair wrth neb dyn na dynes, ond wrth Ellyw merch yr Hafod-fraith. Yr oedd hono yn y cwnsel. Cychwynodd oddi cartref, ar ol cael cunogiad o faidd, i wylied ei thramwy hefo'i ddau gi. Yr oedd hyn yn beth pur ryfygus, oblegyd yr oedd Dewin y Ganllwyd wedi rhagfynegi mai celain gegoer fyddai pwy bynag a ai yn agos ati heb wisg ddur neu lurig am dano: ond y Bugail o'r Cwm ni faliai fawr yn ei eiriau, oherwydd yr oedd cael y tri ugain buwch i ddechreu byw yn benaf peth ei feddwl.

Cafodd ei brisg yn lled fuan, heb fod yn mhell o Lyn Cynwch, a dilynodd hwnw'n llechwraidd; ac o'r diwedd gwelai'ranghenfil yn cysgu'n dawel o dan berthen o ddrain gwynion. Yr oedd y ddraenen wen yn un gynfas o flodau, a gwyddai'r dyn ieuanc nad oedd dim ar y ddaear las yn well am feddwi'r anghenfil hefo chwsg na sawyr trymllyd y nwy a wasgara'r ddraenen. Aeth yn ol o'i golwg, yn llawn myfyr a chynllun; ond pan yn encilio, tarawodd rhywbeth yn ei ben, os y gallai gael bwyall yn rhywle y medrai ladd y wiber; ac felly gael y tri ugain muwch a phriodi Ellyw, a rhoddi buches iddi yn waddol briodas. (Ac yn wir yr oedd Ellyw wedi cadw ei fywyd ef cyn hyn, pan unwaith oeddynt yn chwilio am eu defaid yn y lluwchfeydd, syrthiodd ef i luwchfa ac ni ddeuasai allan ychwaith oni buasai iddi hi, trwy ei diwydrwydd serchog, dirio i lawr ar ei ol, ac felly rhoi chwareu teg iddo i anadlu.) Tarawodd yn sydyn yn ei ben mai'r ffordd oreu oedd rhedeg i Fynachlog y Fanner, oblegyd gwyddai y cai yno fwyall iawn, ac hefyd "ollyngdod" rhag ofn digwydd y gwaethaf. Prysurodd yno: cafodd y ddau beth a geisiai, sef "gollyngdod" a bwyall, a dychwelodd yn ei ol gyn gynted ag y medrai: tynodd am ei draed yn mhell cyn d'od at y ddraenen; yna yn mlaen yr aeth gan deimlo awch min ei erfyn hefo'i fawd, a theimlo ambell ias oer hefyd o ofn ond odid.

O'r diwedd daeth i olwg y Wiber, a gwelai hi yn uniondeg fel ag ei gadawodd yn dorchau swith. Araf nesäodd, a phan oedd yn codi ei fwyall i'w tharo cil-agorodd hi un llygad, ond cauodd ef yn ebrwydd, a chyn iddi gael amser i ail-agoryd y naill na'r llall yr oedd min y fwyall wedi treiddio trwy ei phenglog, a'r bugail yn dianc ymaith o gyrhaedd ei llosgwrn: ond cyrhaeddodd ef er hyny yn greulon, nes yr oedd yn ymdreiglo o dan bwys y dyrnod, Pan ar ei hyd gyd, teimlai iasau oerion yn dyfod drosto, ac nis gwyddai yn iawn pa'r un ai byw ai marw ydoedd; ond o dipyn i beth dadebrodd, a gwelai'r anghenfil yn eithaf llonydd. Ar ol gwneud gwyden, cylymodd hono am ei chanol, a llusgodd y wiber tua neuadd Nannau, ond methodd a'i thynu yn mhell, a bu raid iddo fyned tua'r lle hebddi. Hysbyswyd y boneddwr pa beth oedd wedi digwydd, a mawr oedd y llawenydd, aed i'r fan a'r lle, a chaed yr anghenfil yno yn ddigon marw; a mawr oedd llondid pob goppa walltog oddigerth Dewin y Ganllwyd, o herwydd teimlai yr hen law fod dewrder eondra wedi llwyr guro ei ysgil ddewinol ef. Cafodd y bugail ei dri ugain buwch yn rhodd, a rhoes pawb eu hewyllys da yn ol cyfraith cymhortha. Claddwyd y Wiber mewn bryn gerllaw i'r fan ei lladdwyd, a chodwyd carnedd anferth arni, a galwyd y bryn fyth wedi hyn yn Fryn y Wiber, a'r garnedd yn Garnedu bedd y Wiber. Aeth y bugail at yr Hafodfraith yn dalog i ddangos ei hun i Ellyw, ond erbyn cyrhaedd yno nid oedd Ellyw gartref, yr oedd wedi myned i edrych am ei chwaer dros y mynydd. Yr oedd hi yn bur niwliog, a thrbiai ei rhieni na ddeuai adref y noson hono oherwydd fod yr hin mor anffafriol, ond ymddengys iddi hi, er hyny, fynu cychwyn gyda'r tywyllnos, a cherdded a wnaeth drwy'r nos; collodd y ffordd yn fuan, a cherdded a phystodi drwy fawnogydd a siglenydd y bu hi. Ni wyddai ddim yn mha le yr oedd, er hyny yn mlaen yr ymlwybrai heb un cydymaith byw yn agos ati, nes iddi o'r diwedd du'od ar draws nyth iâr fynydd. Cododd hono wedi dychryn, a thyna'r unig greadur a welsai, neu yn hytrach a glowsai, yn ei llwybr diarffordd. Cyn pen ychydig o fynydau aeth wedyn i ganol siglen neu donnen, ac yno'r oedd heb allu d'od allan: pob cais a wnai i lawr yr elai, nes o'r diwedd yr oedd wedi suddo hyd at ei cheseiliau. Yn awr dechreuodu adrodd y Pader o ddifrif, a daeth Meredydd i'w meddwl. Ai wedyn i'r Hafodfraith; gwelai ei thad a'i mam, a thorodd allan i wylo, ac yn nyfnder trallod ocheneidiai ei chalon. Pan yn y trybini meddyliol ofnadwy hwn clywai ryw dwrf, ond coeliai nad oedd y cwbl ond ffansi. Yr oedd yn oeri yn brysur, oblegyd dwfr neillduol o fferllyd ydyw gofer siglen; a cheisiai wueud ei henaid yn dawel i wynebu'r byd tragwyddol. Pan yn ceisio bloesg lefaru, "O! na fuasai yn bosibl i Bedo wybod lle'r wyf," dyma rywun yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben, "Ellyw, Ellyw," a phwy oedd yno wedi bod yn crwydro trwy gydol y nos ond Bedo druan. Cychwynodd i fyned i gyfarfod Ellyw o'r Hafodfraith, a phenderfynodd 'os na ddeuai hi i'w gyfarfod ar y ffordd, fyned i dy ei chwaer i ddweud withi fod y Wiber wedi ei lladd, a bod ganddo dri ugain muwch at ddechreu byw, ac yna nid oedd dim bellach yn eisiau ond pennu'r diwrnod priodas. Ac fel y mae pethau yn mynu bol, collodd y ffordd yn glir faes. Ond yn ei fyw nis medrai beidio gwaeddi “Ellyw," a phan oedd efe fel hyn yn ei ddyryswch, clywai rywryderst bloesg, ac adnabu lais main yr hon a garai. Prysurodd at y lle yr oedd y llais, ac o fedd anamserol—o fonwes oer y siglen fferllyd, medrodd o'r diwedd lusgo allan ei Ellyw gariadus. Er ei bod yu haner marw, yr oedd hi iddo ef yn fywyd gwir. Ar ol gwneud ei oreu i'w glanhau a'i chynesu, cludodd hi ymaith ar ei gefn wedi rhoddi o hono ei ddillad ei hun an dani. Cyn pen hir torodd y wawr, a chwalodd y niwl, ac erbyn y plygain yr oedd y ddau wedi cyrhaedd yr Hafodfraith, ac yr. ddiddadl mawr oedd y llawenydd yno. Er iddi hi deimlo am ddeuddydd neu dri oddiwrth yr anghaffael, eto, buan y daeth yr eneth galed ac iachus ati ei hun. Priodwyd y ddau, a bu iddynt genhedlaeth gref; ac oherwydd iddo ef wneud y gwrhydri mawr o ladd y Wiber, daeth i sylw'r gwyr o gyfoeth, ac aeth ei hun yn gyfoethog iawn. do fel Meredydd neu Bedo'r bugail, yn ddewr ëon a phenderfynol y bu ei dylwyth am oesoedd, a daeth rhai o'i eppil i arfer pais arfau, ac arni yr oedd, "Gwiber, bwyall, a ffon bugail, ar faes glas." A thyna ddywed traddodiadau'r mynyddoedd am helynt Gwiber Coed y Moch.

4.-GWIBER LLECHCYNFARWY.

Yr oedd, rhyw dri-ugain mlynedd yn ol, mwy neu lai, Wiber yn mhlwyf Llechcynfarwy. Byddai ar y trigolion ei hofn a'i harswyd yn barhaus. Yn wir, yr ydoedd wedi creu dychryn drwy'r rhan hono yn gyffredinol. Llawer a fu'r dyfeisio pa fodd i'w lladd, ond rywfodd nid oedd fawr o lwydd ar y gwaith. Yno'r oedd y faeden yn tor-heulo'n dawel. Ond, ryw ddiwrnod daeth i ben llanc o ôf i wneud cais am ei lladd. Gwnaeth bastwn pwrpasol; blaenllywodd ef yn ddeheuig, ac yn y Gwanwyn—tua'r Pasg, penderfynodd roddi ei gais mewn grym. Dydd Sul y Pasg oedd y diwrnod. Aeth i'r Eglwys yn y bore, a chymerodd ei gymun, ac yn y prydnawn aeth i chwilio am y Wiber. Cafodd hyd iddi yn dorchau o gwmpas cricyn o gareg, ac aeth ati yn hyderus. Cynygiodd ddyrnod iddi, ond rywsut ni chyffyrddodd mohoni, ac fel y bu gwaethaf yr anlwc torodd ei bastwn yn ddau ddarn. Troes y Wiber ato, a ffodd yntau. Dilynai hithau ef; parhau i redeg yn ei flaen oedd, a chan arfer y darn pren hefug un llaw oreu y gallai i'w churo yn ei hol, cyrhaeddodd wal gerig, a medrodd neidio dros hwnw cyn iddi allu ei oddiweddyd. Pan gafodd fod am y clawdd â hi, troes i edrych yn ei ol, a gwelai er ei fawr lawenydd y Wiber yn gwaedu yn ei thòr. Yna ail-feddyliodd am orphen ei waith, ac ati yr aeth hefo'r darn pren, a churodd hi yn ei phen nes y lladdodd hi.

Ac felly bu diwedd Gwiber Llechcynfarwy. Enw y dyn a wnaeth hyn oedd Owen Tomos Rolant, yr hwn a fu ar ol hyn yn bregethwr hefo'r Methodistiaid Calfinaidd yn Môn, ac y mae crybwylliad am y digwyddiad hwn yn Methodistiaeth Cymru, gan y diweddar Barch J. Hughes, Llerpwl

5.-GWIBER GLAN HAFREN.

HEB fod yn nepell o Lanidloes, yr oedd Gwiber anferth yn gwneud drygau aneirif, a byddai ei harswyd ar bawb am filltiroedd o gwmpas. Ni fedrai'r pysgodwyr fyned at lan yr i bysgota rhag ei hofn, a gadewid pa greadur bynag a elai i'r cyrau lle'r oedd yno heb i neb ymofyn dim o'i ol. Ar lan yr afon yn gyffredin y gorweddai, a dywedid y byddai'r dwfr gloyw yn troi'n wyrddlas weithiau pan fyddai hi yn chwythu arno, neu pan y byddai ar brydiau yn ymdrochi yn rhyw fasle. Yr oedd son am y Wiber yn mhell ac yn agos, a dychryn a braw yn llenwi meddwl y trigolion. Buwyd yn cynllunio llwybr i'w dyfetha, a'r dull a gymerwyd oedd llosgi'r coed yn oddaith, ond cyn gynted ag y daeth y tân yn agos at ei nyth hi, nofiodd dros yr afon yn dawel i'r ochr arall, a gwnaeth ei hun mor ddedwydd yr ochr arall ag oedd o'r blaen yn y lle a losgwyd. Penderfynwyd llosgi'r ochr arall drachefn yn yr un modd: ac ati yr aethpwyd, ond ni thyciodd hyn, oblegyd nofiodd yn ol i'w hen nyth, ac yno yr arosodd am sem o ddyddiau; gwelid hi yn aml yn amgordeddu o gylch boncyffion golosg y coed, ac yn parotoi ei hesgyll. Cyn hir, collwyd hi yn llwyr, a thybiodd pawb ei bod wedi marw. Aed i dynu y boncyffion yr danwydd, ac i chwilio am ei nhyth hefyd; ond pan yr oeddis un diwrnod wedi bachu dau eidion wrth ddarn o goeden, gwelai'r bobl oedd yno ben rhywbeth yn d'od allan rhwng y gwraidd, ac ni arosasant am amrantiad yno gan faint eu hofn, ac ymaith coesiasant yn ddiatreg ymosododd y Wiber ar yr ychain, a lladdodd y ddau yn fuan. Yr oedd y ddau ych, druain, yn beichio'n arswydus, a gelwid y lle fyth wed'yn yn Bant yr Ychain. Dechreuodd y Wiber sugno gwaed y ddau ych, a gwnaeth hyny gyda'r fath awch nes y chwyddodd yn un rholen. Pan ganfu rhyw hen bysgottwr a ddigwyddai fod ar yr afon yn ei gwrwgi hyn, cymerth ei dryfer a chan na allai symud lladdodd hi rhag blaen; a dywedir fod cymaint o waed wedi d'od o honi nes cochi'r afon am filltiroedd, ac i'r fan lle'i claddwyd gael ei alw yn Ddol-goch er cof am y gwaed, ac yn Dir y Wiber er cof am dani hithau. Nid oes dim son am fedd i'r Wiber hon.

6.-Y WIBER NANT

Pan oedd yr afanc yn Llyn yr Afanc, yn uwch i fynu, mewn cainc o'r un afon, yr oedd Gwiber yn peri arswyd i'r neb a elai yn agos at ei glenydd, ac a elwid o'r plegyd yn Wiber Nant, neu Nant y Wibher. Yr oedd yr afanc yn greadur difirodus enbyd, a pha beth a wnaed ond bachu yr ychain banog wrtho, a'i lusgo o'i lyn ei hun yr holl ffordd i Lyn Llydaw yn y Wyddfa, tua'r un adeg gwnaed cais i ddistrywio'r wiber hefyd, oblegyd yr oedd yn berygl bywyd myned yn agos at y lle. Ni wyddai y trigolion ar faes medion y ddaear pa fodd y caent ymwared rhagddi, oblegyd blinai hwynt yn ddi-dor-derfyn, ac yr oedd un peth yn perthyn i'r Wiber hon na feddai yr un o'r lleill mo hono.

Gallai fyw yn y dwfr fel ar y tir, a phan bwysid arni naill ai gan ddynion neu rywbeth arall byddai yn hwylus newid ei sefyllfa. Bu felly am ugeiniau os nad canoedd o flynyddoedd, ebe Edward Llwyd, yn cyflawni direidi. ac yn peri poen a blinder. Ond un o Wylliaid Hiraethog wedi blino clywed pobl yn son ac yn rhuo yn nghylch y Wiber, a benderfynodd fynu ei lladd deued a ddelai.

Cyn dechreu ar ei orchwyl anturus, aeth heibio i ryw hen Ddewin, ag oedd yn byw mewn bwthyn unig ar ei ffordd i ofyn tesni ganddo. "Pa fath farwolaeth fydd i mi?" ebai, yn bur geiliogaidd. "Gwiber a'th frath," ebai'r Dewin. Ofnodd pan glywodd, a rhoes ei antur i fynu. Yn mhen tipyn o amser drachefn aeth at yr un hen Ddewin, mewn gwedd a dull gwahanol, a gofynodd iddo'r un gofyniad. Atebodd yntau, "Torri dy wddf a wnei." Yntau a aeth ymaith gan gilwenu am ben mor amryw oedd chwedl y Dewin. Cyn pen rhyw lawer iawn aeth yno wed'yn a gofynodd rywbeth i'r un perwyl ag a wnaeth v ddau dro cynt. Cafodd ateb, "Boddi a wnei." Chwarddodd y Gwylliad dros bob man am ben anghysondeb dywediadau'r Dewin, a dywedodd wrtho, "Pa fodd y mae'n ddichonadwy i mi gael fy lladd gan wiber, torri fy ngwddf, a boddi?". "Amser a ddengys, amser a ddengys", atebai'r Dewin yn bur ddigyffro. Aeth y Gwylliad ymaith ar lwyr fedr cael gornest hefo'r Wiber. Aeth i'r Nant ac yna y bu yn dyfal geisio y bwysfil gwenwynig: O'r diwedd ar lethr serth pan yn ymgreinio yn mlaen hyd risyn ar fron clogwyn: uwch ei ben dyma'r Wiber yn nesu ato a brathodd ef yn enbyd yn ei law. Pan yn y bang syrthiodd ryw swm o latheni i lawr, ac yna ar ei ail godwm ymgladdodd mewn corbwll dwfn, ac felly daeth y tri pheth i ben yn ol gair y Dewin. Ar ol i'r si fyned ar led am y digwyddiad, ffyrnigodd y Gwylliaid fwy nag erioed o herwydd weithred hon, a phenderfynasant wneud cais o'r newydd, ac felly y gwnaed; a saethodd rywun y Wiber ond nid oedd ddim un mymryn gwaeth. Aeth i'r afon a gwellhaodd ei harchollion yn ebrwydd, ac yno'r arhosodd am lawer o amseroedd meithion ar ol hyn, a daethpwyd i gredu yn ddilys fod rhywbeth yno heblaw Gwiber, a buwyd yn sôn am hir a hwyr am dani. Ond erbyn hyn y mae ei hoes wedi darfod, ac nid oes dim cof am dani oddigerth yr afon fyddarllyd yn neidio hyd y creigleoedd, yr hon a fedr, pe mynai, adrodd y pethau fu yn ddifloesgni wrth y rhai sydd,—nid oes ond yr afon yn gof o Wiber y Nant.

Dyna ddigon o lên y Gwiberod, er fod ugeiniau o chwedlau lled gyffelyb ar hyd a lled Cymru.

(FEL Attodiad i "LEN Y GWIBEROD," dodwn yr hanes canlynol a dderbyniasom oddiwrth Mr. E. Evans, Cynwyd; diau fod hanes llawer Gwiber yn gorwedd ar gyffelyb sail i hanes y Wiber hon.-GOL.)

7.-GWIBER LLANDRILLO

Er's oddeutu haner cant o flynyddoedd yn ol, aeth y gair ar led trwy gymydogaeth Llandrillo yn Edeyrnion fod Gwiber yn cartrefu mewn llwyn yn yr ardal hono, yn agos i le a elwir Plas y Faerdref. Derbynid y newydd ar y cyntaf gydag anmheuaeth, ond gan fod amryw o wyn a mân greaduriaid wedi meirw trwy, fel y credid, ei brathiadau gwenwynig; a bod llawer o bobl eirwir wedi gweled rhywbeth yn ehedeg o gwmpas yr ardal hono ag iddo gorph hir ac adenydd byrion, a thybient hefyd pan arafai ychydig eu bod yn canfod rhyw gèn symudliw hardd i gyd trosto, a bod iddo lygaid fel fflam dân yn ymsaethu trwyddynt; nid oedd neb yn y gymydogaeth yn ddigon rhrfygus i wadu y ffaith.

Cyn hir, yr oedd pwnc y Wiber wedi dyfod mor bwysig, fel mai dyna oedd byrdwn pob stori. Ymddiddenid am dani gyda sobrwydd yn yr efail, a siop y crydd; a phryd bynag y cyfarfyddai dau gymydog a'u gilydd, odid fawr nad y Wiber fyddai testyn yr ymddiddan. Dyna mewn gwirionedd oedd pwnc y dydd, a'r nos hefyd. Yr oedd yn amlwg hefyd fod yn rhaid gwneud rhywbeth heblaw siarad, canys er mor finiog ydyw y tafod, yr oedd yn amlwg nas gallasai ladd y Wiber. Penderfynwyd galw cynadledd o hynafgwyr a doethorion yr ardal. Wedi dwys ystyried y pwnc, daeth y cynghor rhyfel i'r penderfyniad o benodi diwrnod i wneud ymosodiad cyffredinol ar y gelyn. Ac wedi hir ddisgwyl daeth y diwrnod penodedig—diwrnod pwysig oedd hwn ar lawer ystyriaeth. Teimlai llawer mam y pryder dwysaf oherwydd y peryglon yr oedd yn rhaid i'w mab fyned trwyddynt cyn machlud haul; a llawer morwyn landeg a roddai aml i ochenaid ar ran ei chariad. Y diwrnod hwn yr oedd dewrder llanciau y fro i gael ei brofi, a'r gwroldeb hwn yr honai llawer eu bod yn feddianol arno i gael ei ddadblygu. Mewn gair yr oedd dedwyddwch yr ardal yn dybynu yn hollol ar weithrediadau y dydd hwn.

Yn fore iawn, cyn i'r haul ddyfod yn iawn allan o'i ystafell, dyma y fyddin yn cychwyn gan gerdded yn araf eto yn benderfynol at lan yr afon Dyfrdwy. Dyna y fan oedd wedi ei benodi fel maes y frwydr. Yr oedd yn y fyddin hon amrywiaeth mawr, rhai o bob oed a gradd; ac ambell hen batriarch pentyn mewn angen ffon, ond eto yn ddigon gwrol-calon y dydd hwn i fyned hebddi. Ond pa amrywiaeth bynag oedd yn y fyddin, yr oedd mwy yn yr arfau, y rhai yn benaf oeddynt bigffyrch, crymanau, &c., ac ambell hen frawd wedi dyfod o hyd i'r fwyall, gan yr ystyrid y cyfryw arf fel y mwyaf pwrpasol. Mor fuan ag r cyrhaeddodd y fyddin i lan y Dyfrdwy, gosodwyd baner goch i fynu, yn yr hon yr oedd picellau wedi eu gwlychu mewn gwenwyn. Amcan y faner goch oedd hudo y Wiber, oddiar ei chasineb at bob peth coch, i ymguro yn erbyn ei chasbeth, ac felly anafu ei hun. Ond er disgwyl yn bryderus an oriau ni wnaeth y wiber ei hymddangosiad; a pheuderfynodd llywyddion galluog y gàd, mai y doethaf oedd i bawb fyned' ir fau, a phenu diwrnod arall i ail Enrg am frwydr.

Ond cyn i'r diwrnod hwnw ddyfod, fe ddigwyddodd i rywun ddyfod i'r gymrdogaeth oedd wedi gweled mwy o'r byd a'i greaduriaid na'r cyffredin; a thrwy rhyw ddamwain, cafodd olwg ar y Wiber, a hysbysodd y trigolion dychrynedig, er mawr ryddhad iddynt, nad oedd y Wiber yn ddim amgen na CHEILIOG PHEASANT.

Deallwyd wed'yn mai wedi dianc o Wynnstar yr oedd yr aderyn diniwaid, ac wedi crwydro gan belled â Llandrillo, lle na welwyd yr un erioed o'r blaen. A

dyna'r hanes a'r helynt a fu gyda Gwiber Llandrillo.

Y FOR-FORWYN.

GAN GLASYNYS.

Yr oedd Ifan Morgan yn hoff iawn o fod tua glan y môr Sul, Gwyl, a Gwaith; cyn i'r wawr landeg fritho'r dwyrain, ac adar boreuaf y gwigoedd ddeffro, byddai ef yn hwylio at y feisdon. Yr oedd hon yn hen arfer gan ei dad a'i deidiau, oblegyd, mor bell ag y medrai cof fyned, nid oedd neb yn cofio'r un o'r tylwyth yn gwneud dim ond pysgotta ambell dro, a gwylio'r glanau. Ac nid oedd Ifan Morgan ddim wedi newid dim oddiwrth y rhelyw o'i deulu. Byddai yntau yn awr ac eilwaith yn myned allan i'r môr i ddal mecryll yn eu hamser, neu benwaig pan ddelent i'r parthau: ond mwy dymunol ganwaith ganddo, er hyny, oedd rhodio ar hyd glan y môr i edrych pa betha gaffai gan ei "Ewyrth Dafydd Jones," (oblegyd fel yna y galwai ef, a'i deulu o'i flaen, y môr bob amser). Un bore, yr oedd Ifan ar lasiad y dydd yn ymyl ogofau mawrion sydd yn ymledu o dan y bryn sydd ar fin y weilgi fawr, heb weled dim argoel am yr hyn a geisiai. Aeth i mewn yn araf deg i'r ogof, a elwid gan bobl glan y môr yn "Ogof Deio," oblegyd yn hono byddai un o'r hen deulu yn byw a bod y rhan fwyaf o'i amser, ac yr oedd rhyw anmheuaeth rhyfedd yn nghylch y modd yr oedd pethau ya myned yn mlaen yn y gell dan-ddaearol. Byddai'r pysgotwyr yn rhyw sisial hefo'u gilydd fod Deio yn delio hefo rhywun na ddylasai, a'i fod yn cael rhoddion o aur ac arian lawer iawn o rywle nas medrynt hwy, er gwneud eu goreu, rybod o ba le. Coelid yn gyffredin, iddo rywbryd ddod ar draws Mor-forwyn yn y fan, ac y bu i'r ddau gyd-fyw hefo'u gilydd, a chael cryn dorllwyth o blant, os gellid galw'r fath gynyrch ar y fath enw. Hyn oedd ddigon amlwg i bawb, y byddai Deio yn aros yn yr ogof am wythnosau heb ddod ar gyfyl neb; ac er i amryw o'r prsgotwyr fyned yno laweroedd o weithiau, i chwilio am dano ni chlywsant erioed na siw na miw oddiwrtho, ac ni welsant ychwaith un arlliw o hono. Yn ymyl yr ogof hono yr oedd Ifan Morgan mewn tipyn o awydd myned i mewn bore hwn er mwyn ceisio gwella gronyn ar yr amseroedd drwg hyny; oblegyd nid oedd dim llongddrylliad wedi cymeryd lle er's dwy flynedd neu ragor ar y glanau hyn, ac felly digon gwael oedd yr olwg am gael tamaid y gauaf dyfodol. Yr oedd Ifan wedi myned at enau'r ogof, ac mewn penbleth ofnadwy. Methu'n lân yr oedd a gwneud ei feddwl i fynu pa un a anturiai i mewn ai peidio. Er fod y llanw yn myned allan, ac yntau yn nofiwr da, pe digwyddiasai'r gwaethaf iddo, eto, yn ei fyw ni theimlai ar ei galon fentro i'r fath le. Eisteddodd, ar ol cychwyn rhyw deirllath iddi, a siaradai hefog ef ei hun fel hyn, "Pe bae Mor-forwyn yn dyfod ataf mi redwn am fy hoedl. Ond beth dalai hyny? Dim ar wyneb y ddaear las. Rhaid gafael ynddi, a'i charu hi'n iawn i edrych a wneiff hi fy mhriodi fi. Pe cawn i afael ar dipyn go lew o'i harian hi, mi fyddwn ar ben fy nigon. Diawst I; hyny fyddai'n rhywbeth iawn." Cosai ei ben, ac edrychai draw i bellafoedd y lle, a phan yn troi ar gip i edrych allan, gwelai ar darawiad amrant ganwyll werdd mewn cilfach uwch ben llyn o ddwfr. Ac ar garreg gerllaw y llyn, ferch ieuanc dybygasai ef, yn trin ei gwallt. Aeth ati'n araf deg, a dechreuodd siarad hefo'r eneth; ond ni wnai hi ond wylo yn hidl, ac ocheneidio'n drwm. Beth bynag ar a fu, aeth Ifan o'r diwedd i'w hymyl, a chan dynu ei law fawr gyhyrog hyd ei gwallt arafodd dipyn ar ei chri gwylofus. Ond pan afaelodd yn ei llaw, ysgrechiai fel ysgafarnog mewn rhwyd; ac er pob ymgais i'w thawelu edrych yn ofnus a gwyllt yr oedd. Ni wyddai Ifan Morgan ar groen y ddaear pa beth i'w wneud: yr oedd yn gweled ei hun wedi d'od yn bur lwcus;—"cael hyd i ferch ifanc gyfoethog felly; ac fel pe dae, nid oedd eisio dim ond priodi, na byddai yn hen glwch rhag blaen." Yr oedd yn gweled yn ei llaw grib aur, a chadwyn o berlau am ei gwddf, ond yr oedd un peth ar ol; yr oedd hi'n noethlymun groen, heb un edefyn yn agos ati. Ond nid oedd Ifan mor llwfr ar ol cael hyd iddi. Gafaelodd yn ei dwy law, a cheisiai chware hefo rhei'ny fel y byddai yn gwneud hefo phlant ei frawd, i edrych a ddofai hyny ddim arni. O dipyn i beth, daeth yn well o'r haner, a cheisiodd Ifan ei chael ar ei lin: ond gwarchod pawb! dyma hi'n gwichian fel haner dwsin o gywion dyllhuan, a chlywai Ifan ryw "fwrlwm-bwrlwm” yn swnio'n drymllyd gryf yn rhywle draw; "Dos i ffwrdd, dos i ffwrdd," ebai, y mae fy mrawd yn dyfod: brysia, brysia; tyr'd yma fory," a chyda'r gair yna, dyma drochion ewynog yn lluwch llwyd o'u cwmpas, a'r ganwyll werdd yn diffodd; ac Ifan Morgan, druan, yn cael ei luchio yn ol ac yn mlaen; ond pan yn y crychias, dyma rywun yn rhoi rhaff am ei ganol Meddeyliodd Ifan am ddweyd ei Bader, ond nid oedd hamdden: er hyny, ar darawiad llygad, cafodd ei hun heb frifo dim, er fod yno geryg cas yn y gwaelod, a llawer darn cyllellog yn taflu allan o ochrau yr ogof; eto i gyd daeth Ifan Morgan allan o hono heb fod ddim criglyn uwaeth, ond ei fod wedi cael dowcfa dda rïol. Yr oedd y rhaff o hyd am ei ganol; a phan gafodd ei hun ar y feisdon, nis gwyddai yn iawn pa beth i'w wneud: ofnai weithiau godi cynwrf wrth dynu y rhaff ato, ac er hyny yr oedd arno ei blys, oblegyd gwnai raff angor ragorol. Fodd bynag, deued a ddelai, mentrodd ei thynu i'r lan, ac er ei fawr syndod gwelai yn d’od yn nglyn â hi drwnc lled fawr. Tynodd hwnw hefyd i fynu, ond yr oedd mor drwm fel mai prin y medrai ei rowlio o'r dwfr. Ond ar ol hir fustachu, a ffaelu, dyma don yn dyfod ac yn ei gipio ef a'r trwnc i'r môr; ond cyn i hono eu tynu yn mhell, dyma don arall gribog, a'r crib hwnw fel eira, yn d'od ac yn ei gludo ef a'r trwnc i ben y gorlan, nes yr oedd mewn lle glas, yn hollol ddianaf. Agorodd Ifan y trwnc yn union, a chafodd ynddo drysorau beth anrhaith; a bu wrthi drwy gydol y nos yn cario adref. Erbyn bore drauoeth, yr oedd Ifan Morgan wedi cael y cwbl at ei law, ac ni wyddai yn iawn pa fodd i ymddwyn; yr oedd yn gweled ei hun wedi bod mor hynod o lwcus, fel y petrusai fyned wed’yn i'r ogof rhag ofn a fyddai gwaeth: tybiai fod ganddo ddigon i fyw yn wr bonheddig, ac felly, i ba ddyben yr ai ef i ymhel hefo'r fath greadur a'r un a welodd yn yr ogof. Ond wed'yn yr oedd peth arall; pwy a wyddai pa faint a gai, os y medrai ef ddod yn llaw hefo'r For-forwyn; oherwydd gwyddai Ifan o'r goreu, mai unu o'r rhai hyny oedd y neb a welodd. Ar ol hir gynsidro, daeth i'r penderfyniad o fyned; "doed a ddel," meddai, "mi af yno am unwaith beth bynag" ac yno'r aeth. Yr oedd hi'n treio'n gyflym erbyn hyn, ac aeth yntau i'r ogof yn fwy hyderus o lawer y tro hwn, na'r tro cynt. Ond erbyn myned i mewu, nid oedd yno na goleu na 'stwr. Aeth yn ei flaen yn bell bell heb weled na chlywed dim. Bu'n edifar ganddo erbyn hyn na buasai yn d'oda darn o raff gyday ef ermwyn cael goleu. Disgwyliodd am gwrs o amser, ond ni ddaeth neb ar ei gyfyl; troes yn ei ol, a chafodd hyd i geg yr ogof yn lled lwydd, ac aeth adref rhwng rhyw ddau feddwl. Tybiai ambell dro wrth fyned ar hyd y morlan mai wedi breuddwydio y cyfan yr oedd, ac nad oedd y trysor a gafodd yn y trwnc ond un o ffrwythau diddefnydd a diafael cwsg. Cyrhaeddodd adref fodd bynag, ac er ei fawr ddywenydd yr oedd pob peth yno fel y darfu iddo ef eu gadael. Ar ol eu trefnu, meddyliodd mai y peth goreu a allasai wneud yn awr oedd hwylio am ei wely, ac felly y gwnaeth. Cysgodd yn hynod o drwm, ond rywdro gefn trymydd y nos, dyma rywbeth yn d'od ato, ac a dillad llaith yn gafael ynddo. Ceisiodd ymryddhau o'r afael; ond ofer oedd ei waith, oblegyd po mwyaf y treiai, tynaf yn y byd y dirwasgai ei breichiau gwlybion am dano. O'r diwedd, dyma ryw sisial wrth ei glust, "Cofia di fod brydlon fory." "Aros," ebai Ifan Morgan, aros gael i mi oleu canwyll, mi godaf mewn mynyd," ond cyn iddo ddarfod dweyd hyn, nid oedd yno ddim ond cais lle bu y neb oedd yn siarad ag ef. Methodd yn glir a chysgu ddim un mynydyn wed'yn, a chodi a wnaeth i edrych dros ei drysorau, oblegyd yr oedd wedi cael aur ac arian, gemau a pherlau, cadwyni a thlysau beth aneirif! Pan oedd yr haul yn diog hepian draw yn nhir y dwyrain, yr oedd Ifan wedi cychwyn tua glan y môr; yr oedd arno dipyn o arswyd er hyny, a safai'n syn, yn awr ac eilwaith, gan adfyfyrio dros yr hyn a gymerth le: ofnai weithiau mai dyma'r tro diweddaf iddo byth gael golwg ar "y tŷ gwyn a'r tô gwellt". yn yr hwn y ganed ac y maged ef. Waith arall, codai ei galon, a gwelai fyd o hawddfyd o'i flaen. Pan yn nghanol yr adfyfyrion hyn, clywai yn ei ymyl sŵn rhai o'i hen gydnabod, y pysgotwyr, yn tynu eu rhwyd i'r lan. Rhegai y rheiny'n echrydus am na chawsant gymaint ag un pysg odyn: a chlywai un yn dweyd fod rhyw hen globen o For-forwyn wedi agor eu rhwydi, ac achub y pysgod braf oedd ynddynt, ac felly rhoddi eu rhyddid i'r cwbl.

Ciliodd ef oddiwrth y feisdon, ac unionodd am yr ogof: a phan yn safn hono, pwy a'i cyfarfu ond yr eneth a welsai yn "Ogof Deio" yn trin ei gwallt. Yr oedd erbyn hyn wedi cyfnewid yn fawr. Gwisgai fel boneddiges, ac yn un llaw yr oedd ganddi goron o aur pur, ac yn y llall gap o wneuthuriad rhyfedd. Dywedodd wrtho, A ddeuaist ti Ifan Morgan ?--yr wyf am dd'od i fyw am dro yn mysg dynion y tir: cadw hwn," ebai, gan estyn iddo'r cap; chadwaf finau hon," ebai, gan roddi y goron aur am ei phen, —"merch i frenin ydwyf.". Synai Ifan, druan, oblegyd yr oedd hi wedi cyfnewid yn fawr iawn. Pan welodd ef hi gyntaf yn yr ogof, nid oedd ond rhyw lafnes dan oed, ond yn awr yr oedd yn ddynes brydferth wedi llwyr dyfu. Er hyny, yr oedd yn amlwg mai yr un ydoedd drwy'r cwbl. Aethant ymaith pan oedd hi eto ond rhwng dau oleu, ac nis gwyddai Ifan Morgan pa beth i ddweyd. Yr oedd yn fud agos! Ofnai son wrthi am ei fwthyn annhrefnus; ond rhagflaenodd hi'r cyfan. Dywedodd, dan chwerthin, "Gwn dy fod yn awr yn myfyrio pa fodd y medri ddweyd wrthyf am dy gartref: na feddwl ddim am hyny, yr wyf yn ddigon hysbys o hwnw er's amser maith bellach. Yr wyf wedi cadw golwg arnat er yr adeg pan oeddit yn hogyn gwridgoch yn pysgota yn nghwch gwyn dy dad: a chlywais di yn canu rhyw gerdd y pryd hwnw, yr hon a beres i mi dy hoffi.

Pan soniais am dy gân ac y ceisiais ei hail adrodd yn Llys fy nhad, yr oedd ar bawb eisiau ei chael; bum ar ol hyny lawer gwaith yn clustfeinio am dani, ond ni chlywais air o honi byth wedy'n. Ce's o'r diwedd ganiatad gan fy anwylion i dd'od i chwilio am danat hefo thrysorau, gan feddwl na ddysget mohoni heb y cyfryw, i mi; a phan gyfarfuaist fi, canfuais nad oedd gobaith ychwaith ond trwy i mi gael fy ngwneyd fel y gweli fi yn awr. Fy enw, oeddwn yn fy ngwlad fy hun, yw Nefyn, a merch wyf Nefydd Naf Neifion, a nith i Gwyn ab Nudd a Gwydion ab Don: y mae genyf lawer byd o geraint yn eich byd chwi, a'm byd inau bellach: na feddwl ddim mwy am dy fwthyn: ond cyflawna yr hyn a ddywedaist, ac yna bydd pob peth er daioni.' Synodd Ifan Morgan fwy yn awr nag erioed ar ol clywed y fath hanes rhyfedd, a'r penderfyniad rhyfeddach fyth. Bloesg-ofynodd o'r diwedd, a wnai hi aros gydag ef" er gwell ac er gwaeth." Atebodd hithau y gwnâi, ar yr amod iddo ef bob amser guddio y cap o'r golwg, a dysgu'r gân iddi. Nid oes petrusder i fod na chydsyniodd ar unwaith, a phan fwyaf y goleuai'r dydd, mwyaf oll y gwelai Ifan brydferthwch ei ddarpar wraig.

Nid oedd dim ond priodi ar unwaith, ac aed at y gwaith o ddifrif—ac yn wir nid peth i chwarreu ag ef yw priodi—ni ddylid gadael iddo ddyfod ar warthaf dyn fel cawodydd Gwyl Grog. Hwyliwyd ati, ac aed y bore hwnw at y neb ag oedd ganddo awdurdod; a'r pryd hwnw nid oedd dim ond un mewn neb rhyw blwyf yn honi'r fath awdurdod. Ond pan yr aeth Ifan Morgan a Nefyn at y neb rhyw un hwnw, yr oedd y chwedl wedi myned ar led mai Morforwyn oedd hi, ac ni fynai ef gymaint a son am eu huno mewn glân briodas. Ond gwyddai Ifan pa beth a wnai'r tro. Y mae un agoriad a egyr bob clo, ond un; ac yr oedd yr agoriad rhyfedd hwnw ganddo ef. Sisialodd rywbeth, a thawelwyd cydwybod yr hen frawd mewn awdurdod rhag blaen. Rhyfedd y fath allu a dylanwad sydd gan yr offeryn hwn! Gwyr pawb beth yw.

y Priodwyd y ddau rhag blaen, a dyna ddiwedd ar yr annghaffael yna. Buont yn cyd-fyw yn dra chysurus yn mwthyn Ifan dros dro, ac yn crwydro gyda glan y môr yn fynych, ac nid oedd neb yn gwybod pa beth a ddeuai i'w rhan bob tro yr aent i mewn i "Ogof Deio."

Yn awr tröer am fynyd at hanes Deio. Un oedd yntau a fedrodd dynu sylw un o'r Môr-forwynion, ac aeth ef i fyw i'w gwlad atynt, a galwyd ef yno yn Dylan; ac yno yr arosodd, heb ddyfod byth yn nes i dir ei dadau na'r maen a elwir ar ei enw, sef yw hwnw Maen Dylan, ac yn Llanfeuno y mae'r maen hyd heddyw i'w weled.

Ond am Ifan Morgan a Nefyn ei wraig, gwell oedd ganddynt hwy anadlu'r awyr, na llyncu'r môr heli, ac felly, gwnaethant anedd gysurus a phrydferth i fyw ynddo heb fod yn mhell o'r lle y safai'r bwthyn. Ni bu dau erioed yn cyd-dynu yn well, ac yn defnyddio cysuron bywyd yn fwy rhinweddol. Bu iddynt amryw blant; dywedir amryw, oblegyd nid cyd-ryw mo'nynt. Bu iddynt bum mab a phum merch, a thyfodd pob un o honynt i'w maint. Dylid dweyd efallai nad aeth Nefyn gymaint ag unwaith i'w hystafell i orwedd i mewn, heb fod yno fab a merch! Pan fel hyn, yn nghanol eu dedwyddwch, nid anghofient un amser beidio a myned i'r Ogof, ac aml hefyd y byddent yn myned allan mewn cwch i ymddifyru hyd y môr. Un diwrnod, pan allan yn mhell o dir, a chwech neu saith o'r plant hefo hwynt, cyfododd tymhesti anniddan. Yr oedd y tonau yn maeddu poer, ac yn glafoerio fel ci cynddeiriog; a chlywyd ryw wichiadau hollol annaearol. Dychrynai'r plant, ac nid rhyw dawel iawn yr edrychai eu mam; ond yn fuan y gwelid hi yn plygu ei phen dros ochr y cwch, ac yn sibrwd rywbeth; ac er eu mawr syndod tawelodd y cwbl yn y fan! Cyrhaeddwyd y lan yn dawel ar ol hyn, ond yr oedd y plant hynaf yn methu'n lan loyw a dirnad yr oedd eu mam yn gallu tawelu'r môr. Rywbryd, fodd bynag, yn mhen hir a hwyr ar ol hyn, yr oedd plant hynaf Ifan Morgan yn myned heibio i dwr o hen ferched y pentref cyfagos, yn lloffa mewn cae, a chlywent dafodau flib-fflab y rhai hyny yn cabarlatsio yn ddibaid. Aeth un o'r plant atynt i'r cae, a rhyw fodd neu gilydd, tynodd un o'r hen ferched yn ei ben, ac ni fuasai yn waeth iddo dynu haid o wenyn meirch neu gacwn geifr yn ei ben na'r rhai hyn. Edliwiasant ddiogi ei dad iddo, a'i fod yn perthyn i Deio fawr," yr hwn a aeth yn was i'r Forwyn-fôr, a chywion Morwyn-fôr y galwasant ef' a'i frodyr a'i chwiorydd. Peth cas enbyd fydd am y tro cyntaf glywed rhyw hen rinciadau fel hyn yn cael eu taflyd i wyneb rhywun, ac yntau erioed heb glywed dim son am danynt, na breuddwydio unwaith yn eu cylch o'r blaen! Cafodd llawer un pan na wyddai ef yn flaenorol ddim am y peth, agor ei lygaid yn bur ddisermoni mewn tipyn o ymrafael; felly y bu yma. Cafodd y plant druain edliw eu mam ac eraill o epil eu tad yn hynod o ddifloesgni gan y giwaid tafotrwg oedd yn y cae yn lloffa. Parodd hyn i'r bachgen hynaf gymeryd ei feddwl ato, a throi a throsi yn ei fyfyrdod amryw bethau a welodd ef yn digwydd. Cofiai am yr adeg y siaradodd ei fam hefo rywun dros ochr y cwch, ac y tawelodd y tonau creisionog mewn chwiff: hefyd yr oedd rhyw ddirgelwch mawr iddo tuag "Ogof Deio." Yr oedd yn gwybod na byddai ef byth yn cael myned hefo'i dad a'i fam i'r lle hwnw. Yr oedd, yn wir, wedi bod yn yr Ogof ei hun, ond ni welodd ac ni chlywodd ddim byd yno mwy nag mewn rhyw ogof arall : er hyn i gyd, yr oedd yr edliwiad mai Môr-forwyn oeddei fam yn peri cryn drallod meddwl iddo. ClÌywsai ei fam hefyd, ambell dro, yn son am bethau na welodd erioed ddim byd yn debyg iddynt, yn enwedig am "lys Nefydd Naf Neifion," ac am "ddyffrynoedd Gwenhidiw," a "thiriogaethau Gwyn ab Nudd," ac yr oedd y tywysog olaf hwn wedi talu ymweliad a hwynt amryw droion; nid oedd dadl i fod nad teulu cyfoethog iawn oedd pobl ei fam; ond os Môr-forwyn oedd, dyna bob peth ar ben. Yr oedd y plant yn arw am eu mam, a hithau yn dyner, tawel, a thirion, bob amser. Un diwrnod daeth i balas Ifan Morgan ymwelydd,—ymwelydd na chai'r plant ddim cymaint a'i weled, yr hyn beth ni bu hefo neb o'r blaen. A rhyw ddechreunos, pan oedd y Deuad ieuanc newydd suddo dros orwel y Gorllewin, aeth Ifan a Nefyn allan yn ddistaw bach; ac er mor ddidwrf yr aethant, fe anmheuodd rhai o'r plant fod rhywbeth ar droed. Ond yr oeddynt hwy, sef Ifan a'i wraig, wedi dweyd wrth y pen gwas na ddeuent yn ol am dair wythnos neu fis, a chlywodd y bachgen hynaf hyn, a chyfododd ei chwilfrydedd yn fwy nag erioed: aeth ar eu hol hyd at lan y môr, a phan yno, gwelai dòn grychias fel bryn go lew, yn d'od oddi draw yn mhell yn y môr, a gwelai ei fam yn taflu mantell o groen dros ei dad a hithau, ac ill dau yn. ymollwng i fonwes glochog y don fawr; ac ni welodd ddim wed'yn ond y môr fel arferol. Cafodd brawf yn awr mai Môr- forwyn oedd ei fam, ac aeth adref, ac ymhen y naw diwrnod. druan, yr oedd wedi marw. Torodd ei galon yn deilchion mân pan wybu pwy oedd ei deulu! Pan welodd ei chwaer ei brawd wedi marw, aeth hithau i lan y môr a thaflodd ei hun iddo. Ond yn lle boddi, dyma ryw farchog glandeg ar gefn march ysplenydd yn ei chyfodi hi ar ei farch ato, ac yna yn marchogaeth nerth gafaelion y traed hyd wyneb y môr gan garlamu dros y tonau mawr fel ag y gwna ceffylau ein gwlad ni wrth hela. Ni wyddai'r gweision a'r morwynion yn y byd pa beth i wneud, oblegyd yr oedd Nefydd Morgan, sef y mab hynaf, yn gorph marw yno; ac yr oedd Eilonwy Morgan wredi taflu ei hun i'r môr. Yr oeddynt mewn penbleth ofnadwy: "Ond," ebai'r ail fab, sef Tegid Morgan, a bachgen gwrol a dihitio yn nghoegni neb oedd efe, os na ddaw cenad yma heno, rhaid claddu Nefydd, a thyma'r hyn wnawn; nyni a'i cymerwn i'r feisdon, ac ond odid na ddaw rywun i'w nol er mwyn iddo gael ei gladdu yn mysg teulu mam." Ond tua haner nos dyma genad, sef Marchog, yn eu hysbysu "byddai'r angladd y bore hwnw am dri; ond y deuai eu brawd atynt yn ol, am iddynt beidio ag wylo; a bod eu chwaer Eilonwy i gael ei phriodi yn fuan hefo un o farchogion glanaf a gwronaf Gwerddonau Llion: fod eu tad a'u mam hefo Gwyn ab Nudd yn y Gwaelodion, a bod Gwydion ab Dòn i gyfarfod yr angladd, ac i droi'r cwbl yn llawenydd trwy roi calon newydd i Nefydd Morgan, yr hon ni thorai o dan bwysau yr holl fyd crwn cyfa! Yr oedd yr holl bethau hyn yn rhyfedd! Ond tri o'r gloch y bore hyny aed a'r arch i lan y mor, a rhoed ef yn y fan lle bydd y tonau yn ymhyfrydu bod,—yn haner y gorlan: nid cynt nag y cyffyrddodd ton â'r arch nad oedd y cauad yn agor o hono ei hun, a Nefydd yn neidio allan o hono fel llamhidydd o'r dwfr. Ac mna gwelwyd Gwydion ab Dòn yn rhodio fraich-yn-mraich ag ef at long oedd yn aros draw. Iddi yr aethant, ac ni chlywodd y rhai oedd ar y lan y fath ganu peraidd erioed. Hwyliodd y llong ymaith, ac yr oedd yn myned dros y tonau heb gyffwrdd ond a'u brig yn unig.

Rhyfeddai pawb, ac ofnent yngan gair, y naill wrth y llall hyd yn oed, rhag ofn fod yno rywun o deulu eu meistres yn gwrando! Yn mhen un dydd a blwyddyn gron daeth Ifan Morgan yn ei ol, a phrin yr adwaenai ei blant ei hun ef; yr oedd wedi cyfnewid yn fawr nid er gwaeth, fel y mae hi fynychaf; ond yn ddilys er gwell. Ni soniai air am Nefyn, hyd yn oed wrth ei blant; o'r diwedd gofynodd Tegid iddo, pa le mae'n mam?" "Y mae hi yn Nwfn-gwm Eigion Annwn yn chwilio am hynt Eilonwy eich chwaer, yr hon a ddiangodd oddiwrth ei gŵr o Werddonau Llion, ac aeth yn ossymaith hefo Glanfryd ab Gloywfraint. Daw yn ol cyn hir, a chewch yna hanes y rhyfeddodau a welsom ac a glywsom." Aeth Ifan Morgan i'r wely, ond erbyn bore dranoeth yr oedd wedi marw yn ei wely, a choelid yn gyffredinol nad oedd wedi cael chware teg, oblegyd yr oedd y teulu er's tro wedi gweled Marchog Du yn d'od i mewn gefn trymydd y nos, ac yn rhoi tro yn y Neuadd, ac yna'n diflanu i'r ffynon oedd bwrlwmu mewn cul-gell gerllaw. Aethpwyd ar ei ol lawer gwaith, ond ni cheid dim o'i ol; oblegyd diflanai. Yr oeddis wedi ei weled o ddeutu yn lled ddiweddar, a thybid mai ef a wnaeth ben ar Ifan Morgan. Mawr oedd y twrf yn nghylch y digwyddiad, a chlywid aml un o'i hen gydnabod yn dweyd o dan eu danedd, "O hir ddilyn drwg y mawrddrwg a ddaw," a "Drwg yw'r drwg, a gwaeth yw'r gwaethaf," yn nghyda "Llawer bore clir, noswylia yn gymylog."

Ond claddwyd Ifan Morgan yn barchus, a bore ei gynhebrwng yr oedd Nefyn wedi dychwelyd! Wyla i'n hidl am dano, ac ni welwyd mo honi'n llwybro daear ar ol y diwrnod hwnw! Tegid oedd yr etifedd penaf yn awr, a gwnaeth ef dro brawd â'i frodyr a'i chwiorydd, Dygodd hwynt i fynu yn foneddigaidd, a cheisiodd gadw oddi-wrthynt bob chwedl ddrwg yn nghylch eu mam, &c., ac fe anfonodd ei chwiorydd i wlad bell i gael eu haddysgu yn y dull goreu; a dygodd ei frodyr i fynu yn y dull costusaf. Yr oedd Tegid hefyd wedi penderfynu, os oedd modd, fwrw dros gof yr hyn a boenai ei frawd gymaint: ei air cyswyn oedd, "dyn yw dyn; ac nid llai dyn chwaith." a chan ei fod ef yn ddyn, ac yn profi hyny yn feunyddiol mewn mwy nag un dull, ni faliai pa beth a sisialid yn nghylch eu deulu. Yr oedd yn gyfoethog iawn, oblegyd po fwyaf a wariai, mwyaf yn y byd a ddeuai i mewn: ac nid oedd un achos da, nad oedd ef yn gymwynaswr iddo. Yr oedd un peth, er hyny, yn ei flino yn fawr, sef pa fodd y daeth ei dad i ben ei daith mor ddisyfyd. Un diwrnod, pan oedd ef a dau frawd iddo yn pysgota yn yr arfor, daethant, wrth fyned o flaen y gwynt, i'r lle rhyfeddaf a welsent erioed; yr oedd y môr mor lyfn a gwydr, ac mor ddisglaeriaf a'r goleuni cliriaf! Gwelent, heb fod yn mhell iawn oddiwrthynt, faesydd ffrwythlonaf a dolydd mwyaf porfelog: y gwrychoedd a'r cloddiau yn flodeuog arbenig, a'r llwyni gwyrddleision a'r coedwigoedd ireidd-dwf yn cyforio'n ddeiliog! Yr afonydd yn ddiog orwedd gan ymlawenhau wrth edrych ar eu cysgod eu hun. Draw ao yma yr oedd aneddau prydferthaf, cgywrain gynllun a theg adeiladaeth; ac yn y lle, gwelent bob rhyw fath o lawenydd a gorhoenedd; digrifwch a mwyneidd-dra; ac mewn ambell i le, amlwg oedd fod yno berori melus gainc awen a cherdd, yn nghyda'r dawnsio mwyaf ystig. Megis yn y tonau mân gwrymiog yr oedd ad-sŵn yn aros, a phan oeddynt hwy wedi blino'n syllu, yr oedd rhyw sŵn yn eu dilyn nes y daethant i'r lan. Wedi myned adref y noson hono, breuddwydiodd y tri brawd yr un peth; sef fod y Marchog Du yn ymguddio mewn ogof yn nglan y môr. ac mai efe a lindagodd eu tad. Ar ol adrodd eu breuddwydion y naill wrth y llall wrth gymeryd eu boreubryd, penderfynwyd myned yno i'w ddal: ond pan ddaethant i'r ogof, o dan luwch llwyd o ewyn tonog. dihangodd, a gwelent ef yn myned ar hyd gwyneb y môr fel pe buasai ar weirglodd deg yn marchogaeth er mwyn digrifwch. Y diwrnod hwnwyr oedd eu chwiorydd yn croesi cainc o for wrth dd'od adref o'r ysgol, a phan oeddynt tua haner y ffordd cododd yn dymhestl ddychrynllyd, a suddodd y llestr a boddwyd y cwbl, a choeliai'r brodyr mai'r cenaw anhwylus y Marchog Du a wnaeth hyn o ddial arnynt hwy.

Tua'r adeg hon, cododd cynhwrf mawr yn mysg y pysgotwyr oherwydd rhyw for-neidr enbyd a welidi yn awr ac eilwaith yn ymdorchi am y creigiau gerllawyr ogofàu; ac nid oedd na byw na bywyd i Tegid a'i frodyr heb dd'od allan ryw ddiwrnod i'w lladd: allan yr aethant wedi ymarfogi, ond pan yn ymyl y fan lle gwelid hi fynychaf, mewn llais dwfn, gwaeddai rywun, "Cymer ofal niweidio dy chwaer." Synasant yn arw, ac aethant ymaith yn bur ddiswta. Y noson hono aeth Tegid ei hun i lan y môr ac at y lle y meddyliai yroedd y for-neidr, a dechreuodd alw arni erbyn ei henw, ond nid oedd neb yn ateb am yn hir. Pan bron a blino'n disgwyl, gwelai hi yn ymlusgo ato, ac yn adrodd iddo mai cosp arni oedd hyn, ac y byddai'n rhaid iddi barhau felly am beth amser wed'yn; cyfaddefodd pa beth a wnaeth, sef dianc ymaith gydag un na ddylasai. Dywedai iddi hi weled ei chwiorydd yn rhodio hefo'u mam, a bod eu tad i ddod i'r Ogof yn fuan: ar amrantiad dyma'r Marchog Du atynt, a thyma'i gleddyf yr hwn oedd yn disgleinio fel fflam dân, yn cael ei daflyd lawr yn noeth. Yna gydag ef torodd y for-neidr i fil neu fwy o ddarnau; ond ymiachai hi bob gafael, fel erbyn iddo fyned i un pen yr oedd y llall wedi d'où fel o'r blaen ac o'r diwedd ymglymodd y neidr am ei wddf, a brathodd ef yn arswydus yn ei ddwyfron. Pan yn y miri hwn dyma'r Marchog Gwyn yno, ac heb seremoni rhedodd ei waywffon drwy gorph y Du a chwympodd ef yn y fan, ac ymaith a'r Gwyn ar darawiad a'r for-neidr yn dorch am ei wddf. Dihangodd Tegid am ei hoedl, ond nid cyn i ryw anghenfil erchyll ei weled a bygwth am ei fywyd ef. Yr oedd hwn yn anferthach na dim a welodd erioed: ac yn gallu byw yn y tir yr un fath ag yn y dwfr. Croch lefai, "Daw dial, dial daw," a Hir yr erys Duw heb daro, llwyr y dial pan y delo." Troai o gwmpas Tegid yn mhob ystum a dull. Weithiau byddai fel môr, ond medrai Tegid nofio: bryd arall fel mynydd o îa, ond gallai Tegid ei ddringo: ambell waith fel ffwrnes o ufel, ond ni fennai y tân ar Tegid: ond fynychaf fel cyd-grynhöad o beth bwystfil ac anifail ysglyfaethus a gwenwynig: eto Tegid oedd dawel a digynwrf; a phan oedd bron a rhoddi ei galon i lawr dyma ddyn ieuanc ato ac yn gafael yn ei fraich, ac yna'n dywedyd wrtho, "Nac ofna; cei nerth." Ar hyn dyma'r anghenfil yn dianc ymaith gan ysgrechian, a llu mawr o Farchogion mewn dillad ysplenydd ac ar feirch hyweddus yn prancio ac yn ymgodi, ac yn mysg y llu gwelai ei frodyr, ac yntau ei hun hefyd a aeth yn eu gosgordd i wlad ei fam. Ca'dd groesaw arbenig; a chyfarfu a phawb yno'n hapus, ond ei dad. Meddyliodd am fyned i chwilio am dano i'r byd uchod, a chafodd ganiatad ei daid i'r perwyl hwn. Daeth ef a'i fam a'i frodyr i chwilio am gorph Ifan Morgan, a chydag ef yr oedd Gwydion ab Don a Gwyn ab Nudd. Ond ar ol d'od at fedd Ifan Morgan ni fynai ei ddeffro, a pha beth a wnaeth ei ail fab, yr hwn a hoffai ei dad yn fawr, ond gofyn caniatad i orwedd ar ei fedd nes y dadebrai; ac felly y gwnaeth. Ac ar fedd Ifan Morgan yr erys Tegid hyd y dydd hwn, yn dyst o ffyddlondeb a serch mabaidd. Bydd ei fam yno'n d'od i'w ddyddanu, a'i frodyr hefyd yn anfon anrhegion iddo, ac yntau yn anfon ei roddion i Nefydd Naf Neifion ei daid; ac yn byw mewn heddwch a thawelwch a phawb hyd y gall, a dywedir fod ei chwaer Ceridwen, sef ei gyd-gyfaill ef, wedi d'od ato i fyw er's tro hir, a'u bod yn gwneyd y llawen yn llawenach, y tlws yn dlysach, a'r

pur yn burach, ac yn cadw i fynu eu hurddas a'u hanrhydedd mewn heddwch a thangnef, heb doll na mall. Ac felly y terfyn teulu'r Fôr-forwyn.

SUL COFFA IFAN DELYNIWR

YN ein herthygl ar "Gladdu yn yr Hen Amser," Cyf. 1af, tudal. 91, anghofiasom grybwyll am yr hen ddefod o Goffa y marw y Sul cyntaf ar ol yr angladd. Rhyw hen arfer ysmala ddiniwaid oedd y Coffa yma—un o ddigrif bethau crefydd yr hen bobl. Elai perthynasau y marw i'r Llan y Sul ar ol claddu, ac wedi darfod o'r Gwasanaeth elent at y bedd, penlinient yno, ac wedi treulio tua phum' mynyd yn yr agwedd hon, ymadawent, a dyna'r Coffa. Ond y mae rhywbeth swynol iawn mewn hen ddefod, hyd yn nod hen ddefod ryfedd fel hon. Edrycher ar y wyryf ieuanc hawddgar acw, lân o bryd a glân o fuchedd, gyda'i gwefusau cwrel, a'i dwy foch fel pe buasai dau rosyn coch tlws wedi eu cusanu a gadael eu hargraff arnynt, ei gwallt du llywethog, a'i ffurf luniaidd gymesurol—pob tlysni yn cyd-gyfarfod i'w gwneud yn un o gywrain brydferthion natur. Edrycher arni yn dynesu at fedd newydd ei hanwylyd y Sul cyntaf wedi i'r fynwent oer dderbyn ynddo ef glaer obeithion ei serch, ac y mae yn anhawdd canfod golygfa lawnach o deimlad a dyddordeb; canys y mae galar bob amser yn prydferthu prydferthwch fel yr ardderchogir gwyrddlesni Mehefin gan gawod o wlaw. Hi a benlinia tan yr ywen ddu—uwchben gweddillion yr un a garai, a gwlych ei thirion ruddiau â dagrau, lleinw adgofion am dano holl ystafellau ei meddwl, a dichon y twng hi yno i'w gwyryfod na rydd ei serch mwyach ar neb ond ar yr Hwn ac ar yr hyn sydd uchod. Gwnaed llawer adduned di-dor â phurdeb cyn hyn oddiar y bedd Sul y Coffa. Felly, Mr. Surdrwyn Pharisee, ti a weli mai "Gwell hen arfer na drwg fuchedd."

Ond a Sul Coffa Ifan Delyniwr y mae a fynom ni. Un o'r dynion caredicaf a droediodd esgyd erioed oedd Ifan, nis gallai edrych yn ddidostur ar angenoctyd, ac yr oedd y fath ffordd fèr rhwng ei law a'i galon fel yr oedd ei logell bob amser yn wag; a'i fysedd bob amser yn brysur yn lleddfu tylodi a thrueni ei gymydogion. Yr oedd efe yn caru phawb, a pha ryfedd fod pawb yn ei garu yntau. Nid ydym yn meddwl fod yn yr holl fyd crwn elyn iddo. Cynaliai ei rieni yn eu hen ddyddiau o fethiantwch a llesgedd. Pan fyddai y weddw dlawd mewn gwasgfa am arian i dalu ei rhent, yr oedd telyn a thalent Ifan at ei gwasanaeth—dim ond gofyn; a chwyn yr amddifad ni ddiystyrid gan y Telynor calon-lawn. Un felly oedd o; felly y gwnaeth natur o; a buasai yn gymaint cosp arno ei fod yn gybyddlyd ag a fuasai i'r cybydd fod yn hael. Gwnelai hyn ef yn anwylun yr ardal yr oedd yn byw ynddi; a thywelltis llawer bendith galonog ar ei ben. "Dy ewyllys i ti, Ifan bach," a "chwareuer telyn ar dy fedd," oeddynt fendithion cyffredin yr oes hono tua Dyffryn Clwyd. Os caf eich bendith gyntaf, 'wyf yn siwr o'r olaf," fyddai ei ateb yntau. A gafodd efe hyny?- ni a gawn weled.

Y pryd hwn, edrychai ein harwr yn ddyn hoenus cryf, yn dynesu at ddeg ar hugain oed; ac fel pe buasai blynyddoedd lawer o hen ddyddiau ar ei gyfer; ond wele angau yn dechreu araf ddatod y llinynau a gysylltant enaid a chorph, a phob dydd yn d'od a rhyw wendid newydd i'r golwg. Dechreuad ei afiechyd oedd y gwlybaniaeth a gafodd wrth groesi mynydd Hiraethog ar ei ffordd o balas Nannau, lle y buasai am bythefnos yn difyru y boneddigion â

Iaith y delyn, nyth diliau,
A'i mel o hyd yn amlhau.

Pan ar ganol y mynydd diarffordd, daeth yn niwl arno, ac yn y niwl wlaw, ac yn y gwlaw genllysg; collodd yntau ei lwybr; crwydrodd yn y niwl; a churwyd ef mor ddidrugaredd gan y cenllysg nes yr ymollyngodd yn lluddedig o tan lwyn o eithin; ac yno y bu hyd oni thorodd arno wawr dirion y bore. Dyma sylfaen ei afiechyd, a'r afiechyd hwn a derfynodd ei einioes.

P'eth digon sobr ydyw angau pob dyn; ond pan fyddo bardd farw, mae'r achlysur yn cenhedlu yn gyffredin ddwsin o feirdd i farwnadu ei glodydd; ond pan y byddo telynor marw, odid fawr y daw neb i lanw ei le, canys y mae ein telynorion Cymreig fel eosau ein coedwigoedd yn prysur ddiflanu o'r wlad. Suddo yn raddol i dynged dynolrywyr oedd Ifan; ac fel y gellid tybied cydymdeimlai ei gydnabod yn ddwys ag ef, ac amcan pawb oedd lliniaru ei gystudd, a llacio gafael angau arno. Yr oedd ei ystafell wely yn un ystorfa o gynyrchion caredigrwydd serch. Gwelid yno winoedd y boneddwr; ac yno yr oedd "hatling y wraig weddw dlawd," ar ffurf sypiau o Lun Llygaid, Morwyn y Weirglodd, a llysiau eraill a ystyrid o dirfawr leshad rhag y darfodedigaeth; a meddyliai y claf lawn cymaint o sypyn llysiau y tlawd ag o gostrel win y boneddwr, a diolchai am danynt yr un mor galonog. Ond "er gwaedd mil er gweddi mam," suddo yr oedd o, o ddydd i ddydd. Cefnodd gobaith am fyw oddiwrtho toc, a chyda gobaith am fywyd cefnodd hefyd ofn marw; dymunodd gael gweled ei brif gyfeillion wrth erchwyn ei wely; ac mewn teimladau ffeind iawn ffarweliodd â hwynt oll, trwy ddeisyf ganddynt ei ddeisyfiad olaf. Codwyd ef ar ei led orwedd yn ei wely, a chan gasglu ei ychydig nerth yn nghyd, bloesg lefarodd wrthynt fel hyn:—Yr wyf yn myn'd. Carwn gael fy Nghoffa. Ond nid yn yr hen ddull. Yn lle'r hen ddefod, gofynwch i Williams y Merllyn a Richard y Telyniwr, dau o'm disgyblion telynol, dd'od i Eglwys Llanfwrog, a doder fy nwy delyn I iddynt; ac wedi gorphen y Gwasanaeth, cerddant at y bedd; ac eistedded Williams wrth y pen a Richard wrth y traed, a chwareued y ddau saith o hen Alawon Cymreig, gan ddechreu gyda 'Dafydd y Gareg Wen,' a diweddu gyda Thoriad y Dydd.' Y mae y gyntaf yn lleddf fel angau, a'r llall yn sobr fel dydd brawd." Yna diffygiodd ei nerth, ac yn ddiochenaid, cymerodd ei yspryd ei aden, ni a obeithiwn, i well byd: a phenderfynwyd cario allan ddymuniad y Telynor i'r llythyren.

Aeth y gair allan fod rhywbeth rhyfedd i gymeryd lle yn Llanfwrog y Sul hwnw; a phan ddaeth yr amser, yr oedd yno luaws mawr o bobl wedi ymgynull. Dywedai y Clochydd wrthyf na welodd efe erioed gynifer o bobl ag a welodd yn Llanfwrog y bore sanctaidd hwnw-lawer o honynt wedi dyfod ddeg neu ddeuddeg milltir o ffordd er mwyn clywed y newydd-beth o ddwy delyn yn chwareu deuawdiau wrth Goffa; ac na welodd erioed ond y tro hwnw gynulleidfa a phob llygad ynddi a'i lon'd o ddagrau. Bore o Fai oedd hi, a'r adar ar y prenau o gwmpas yn caroli'n braf folawd eu Creawdwr; ond pan darawodd y ddau Delynor eu deuawd yr oedd yr acenion galarus yn peri i gor y goedwig ddal eu hanadl, ac yn dryllio teimladau y bobl yn chwilfriw mân. Ac y mae yn anhawdd dychymygu Coffa mwy gweddus i Delynor na chyda lleisiau yr offerynau cerdd yr ymddifyrau eienaid gymaint yn eu seiniau. Saethir gynau tros fedd y milwr dewr, paham ynte na chwareuer telynau wrth Goffa y Telynor mwyn. Boneddwr uchelwaed oedd "Williams y Merllyn," yn sugno prif ddiddanwch ei fywyd wrth "ddysgu gwaith angylion," ac wrth dynu'r mêl o'r tanau màn," a gresyn na byddai rhagor o'n boneddigion Cymreig yn meddu yr un cyffelyb chwaeth. Dyna a glywsom am Sul Coffa Ifan Delyniwr; a dyna fel y cyflawnwyd bendithion y tlawd a'r weddw; ag y cafodd yntau ddymuniad penaf ac olaf

ei fywyd, sef chwareu telynau ar ei fedd.

CHWILIO AM ARIAN DAEAR.
GAN GLASYNYS.

Y MAE chwilio am arian daear wedi bod yn un o brif. ymchwiliadau rhyw ddosparth o bobl yn yr oesoedd diweddaf. Fyth ar ol i'n gwlad gael mwydo ei dolydd, a gwlychu ei bryniau, â gwaed rhyfelwyr, ac ar ol i ddifrod fod yn ysgubo pob peth o'i flaen am oesoedd; pan y caed heddwch, coeliai'r wlad fod peth wmbreth o drysorau wedi cael eu cuddio yn y ddaear yn yr adegau terfysglyd hyny. Ac yn wir, yr oedd coel arall, hynach a chyffredinach, sef fod rhyw fodau goruwch-naturiol yn meddu cuddfeydd llawnion o drysorau, draw ac yma, yn mysg llawer iawn o genhedloedd heblaw ein cenedl ni, ac y gwnai y rhai hyn, pan ddelai yr un iawn yno i chwilio am danynt, ddatguddio eu cronfa'n rhwydd a rhad, ac felly wneud y cyfryw greaduriaid ffodog yn gyfoethog rhag blaen. Nis gwn am un plwyf nad oes arian daear ynddo yn rhyw le; o'r hyn lle na ddywed rhywun fod yno rai.

Rhyw ddeugain mlynedd yn ol, mwy neu lai, yr oedd crefftwr yn bywyn Môn, ac nid oedd dim ar wyneb y ddaear gron, na than ei gwyneb ychwaith, am wn I, a chwenychai yn fwy na chael arian daear. Pan elai ei gyfeillion i edrych am dano ddechreunos, byddai'n bur debyg o dynu ar draws yr hen bwnc, a hwythau yn ei borthi hefyd yn ddigon hwylus, y mae yn fwy na thebyg, Un noson, yr oedd un o'i gyfeillion penaf yn dweyd ei fod wedi cael gweledigaeth ryfedd yn ystod amser cysgu, a pha beth oedd hono, ond fod arian daear yn un o feusydd mawrion y Plas oedd gerllaw. Dywedodd yr hanes yn fanwl wrth y crefftwr, a synai hwnwyn arw at y fath ddatguddiad rhyfedd. Wy'st ti beth, Robin," ebai, "y mae'n rhaid fod yno rywbeth. Paid ti a son wrth neb, Robin. Mi ddof fi yno hefo thi'r pryd y myni, wy'st ti. Pwy wyr pa faint sydd yno? Paid ti a deud wrth neb, Robin." Addawodd Robin gadw'r peth yn ddirgel. Yn mhen rhyw wythnos wed'yn yr oedd Robin wedi breuddwydio drachefn yr un fath bron yn union. Nid oedd ond rhyw ychydig bach o gymhelliadau ychwanegol yn hynodi tro hwn oddiwrth y tro'r blaen. Aeth at ei hen gyfaill, y crefftwr, a dywedodd wrtho'r hyn a fu, a bod gwahoddiad iddo dd'od i'r parc nos dranoeth rhyw dro dro gefn trymeddion y nos, sef ar ol un-ar-ddeg; a bod arno eisiau cael rywun i dd'od gydag ef. Yr oedd y crefftwr ar dân gwyllt am fyned, ac nid oedd na byw na bywyd i Robin heb addaw iddo gael d'od a bod yn rhanog! Gadawodd yntau iddo gael ar ol tipyn o grefu. Yr oedd ar Robin ofn nad oedd y crefftwr ddim yn ddigon calonog; dyna oedd ei esgus, oblegyd meddai, "Un gwan iawn ydwyf fi: pe gwelwn rywbeth, y mae arnaf ofn na fedrwn ddim dweyd un gair o'm pen. Peth gwael fyddai hyny wedi myned mor agos at y peth !" Sicrheid ef gan ei gyfaill, nad oedd ef yn malio dim mwy yn y nos nag yn y dydd, ac y siaradai ef y cwbl rhag blaen hefo beth bynag fyddai yno. Nos dranoeth a ddaeth, ac yr oedd y ddau wedi rhag-ddarparu pob peth yn eithaf deheuig. Yr oeddynt ill dau yn aros am yr awr benodol yn nhy y crefftwr; ond yr oedd ei wraig ef, druan, bron a thori ei chalon. Tybiai y gwnai'r yspryd aflan gipio ei gŵr yn ging-gong-gafr a'i slanu ef i ffwrdd i ryw le nas gwelai na migwrn nac asgwrn. o hono byth mwy.

Crefai yn galed arno ef beidio myned beth bynag; ond nid oedd yn waeth ceisio cadw llanw'r môr yn llonydd na threio cadw'r gŵr yn y tŷ: na, yr oedd yn rhaid i Robin ac yntau fyned: a myned a wnaethant hefyd. Yr oedd hi'n noson ddwl, dywyll, heb ddim chwà o wynt bron. Yn debyg ddigon o ran hyny, i lawer noson a fu cynt ac wed'yn yn ystod Hydref a Thachwedd: teyrnasai llonyddwch marwol ar bob llaw. Ymaith yr aed, ac at y fan yr oedd Robin wedi breuddwydio gweled ei hun yn cael yr arian. Yr oedd y lle heb fod yn mhell oddiwrth ffynon ag oedd yn y cae; a cheisiasant wneud eu ffordd am hono. Pan oeddynt yn agoshau at y fan, dyna'r Crefft wr yn gofyn i Robin, "A weli di rywbeth, Robin?" Na welaf ddim," meddai yntau, "a weli di rywbeth?" Gwelaf, wel di." Yn mlaen yr aed, y Crefftwr yn gyntaf a Robin yn olaf. Wel ddim 'rwan, Robin," ebai drachefn. Gwelaf," meddai yntan, "rhyw oleu glas bach fel canwyll." Safodd y ddau yn ddistawyn y fan hono am dipyn; ac ebai'r Crefftwr, "Oes arnat ti ofn, dywed?" "Fawr lai," ebai Robin: " A glywi di rywbeth" Ond ar ol sefyll enyd dyma ail-gychwyn at y tân y Crefftwr yn mlaenaf o hyd, a dilynid ef yn araf deg gan Robin. Pan oeddynt wedi d'od o fewn rhyw ddeugain llath at y tân, diffoddodd yn llwyr am fynyd, ac nis gwyddent ar groen y ddaear pa beth i'w wneud. Gofynai y Crefftwr wed'yn, "Oes arnat ti ofn Robin?" 'Nac oes ddim rhyw lawer," meddai yntau, "ond y mae hi'n bur gâs, onid ydyw?" A chyda'r gair yna, dyna'r tân yn d'od i'r amlwg yn fwy o lawer nag o'r blaen, yn un lwmp coch, ac yn codi oddiar y ddaear yn araf deg ac yna yn gostwng drachefn. Codai wed'yn, a gostyngai, a'r ddau erbyn hyn yn sefyll fel mudanod. "Tyr'd Robin,' ebai'r Crefftwr, "tyr'd ato fo." Cychwynodd y ddau, ond ar amrantiad, dyma'r tân yn ymgodi i'r awyr ac yn chwrlio yn y wybr, a gwreichion yn ymdaenu i bob cwr o'r cae. Tyr'd i ffwrdd Robin anwyl," ebai'r Crefftwr, a'r tân erbyn hyn yn gylch mawr bron-bron uwch eu penau, ac ymaith a hwy nerth eu gwadnau. Rhedodd y ddau nes cyrhaedd tŷ y Crefftwr, a da oedd ganddynt yn eu calonau gael lle llonydd. Yr oedd gwraig y Crefftwr, druan o honi, wedi bod mewn llewygon dros ystod yr adeg yr oeddynt wedi bod allan, a da iawn oedd ganddi hithau gael un golwg ar ei gwr gwirion wedi d'od yn ol, ac yr oedd yntau yn llawer mwy gwrol yn ei golwg hi, nag oedd yn ngwydd y tân rhyfedd yn y cae. A thyna'r tal a gafodd y ddau yma wrth fyned allan y nos i chwilio am arian daear: ond os hyn fu eu tal hwy y mae eraill wedi cael llawer deng mynyd o chwerthin difyr ar gorn hyn. A dyma fel y bu pethau: Cenaw cyfrwysddrwg, ystumddrwg, a llawn direidi, oedd Robin, ac yr oedd ganddo ef bartner llawn cyn ddihired ag ef ei hun. Hudodd Robin y Crefftwr i chwilio am yr arian, ac yr oedd ei gyfaill Ifan yno'n barod hefo lantern a ffunen ganddo am dani,—ffunen fflam goch; ac felly, yr oedd y cyfryw nos, fel olwyn o dan! Yr oedd ganddo hefyd wialen bysgota, a pha beth a ddarfu ond rhwymo'r lantern with ei blaen, ac yna ei throi hi yn yr awyr; ac nid dyna'r cwbl, yr oedd ganddo fanwen wedi mwy na haner losgi, a thyna'r peth oedd yn gwreichioni mor ofnadwy: a gwyr pawb mai peth enbyd o wreichionllyd ydyw mawnen linynog, os bydd yn sech. A thyna ddiwedd y chwedl yna, yr hon a adroddir gan ugeiniau yn Môn heddyw.

Clywais hefyd pan yn las-lefnyn am Robert Gruffydd y Fotty a Wil Griffydd Ty Newydd. Yr oedd y ddau hyn wedi bod mewn Festri yn y Llan, ac wedi mwynhau eu hunain yn eithaf da,—os mwynhad ydyw yfed hyd na's gwyddent ragor rhwng llidiart a chlawdd ceryg. Rywle with dd'od adref daeth yn mhen Robert i ofyn i Wil dd'od hefog ef i'r Muriau, oblegyd dyna oedd enw'r lle, i chwilio am arian daear yn y Parc bach. Rywbryd cyn y bore, medrodd ddau gyrhaeddyd yno, a dywedai Robert y gwyddai ef o'r goreu yn mha le yr oedd y trysor; oblegyd pan ryw dro cynt yn pasio'r fan, gwelodd yno ddyn lled fychan a barf wen hir ganddo, ac wedi ymwisgo mewn mantell laes, ac heb ddim am ei ben,-yn cerdded yn ol ac yn mlaen, a gofynodd hwn i Robert a fedrai gadw cyfrinach: dywedodd yntau y medrai; ar hyn, meddai'r hen ŵr gwargam wrtho, Tyred di yma, wythnos i heno; mi gei di ran o'r trysor sydd yn y fan yma yn cael ei gadw ar dy gyfer; ond cofia di beidio son nac yngan un gair am y peth wrth neb." Aeth Robert adref y tro hwnwyn falch iawn o'r newydd, a chymerth ddigon o ofal i beidio crybwyll un gair am y peth yn nghorph yr wythnos hono, fel pe buasai ar ei lw. Ond aeth i'r dref ddydd Sadwrn, ac wrth fyned yno, yr oedd mor benderfynol ag y bu dyn erioed, na soniai wrth yr un creadur. Fodd bynag, wrth dd'od adref, tarawodd ar ddau neu dri o'i hen gyfeillion. ac aethant i dy tafarn oedd ar eu ffordd adref, ac yno yfodd Robert fwy na ddylasai. Ac fel y dywed y ddihareb, "Allwedd calon cwrw da," felly fu hi hefog yntau, druan; dechreuodd frolio'r arian daear oedd i dd'od iddo wrth ei gymdeithion, ac y byddai erbyn nos Sadwrn wed'yn yn globyn o wr boneddig. Aeth adref; ac yn hefyd dyma chwedl yr arian daear allan. Yr wythnos wed'y'n aeth i'r Parc bach, ond er ei ddirfawr ddychryn, yn lle gweled yr hen ŵr caredig a welodd y tro cynt, dyma globyn o Ellyll yno, a'i ben o gymaint a llestr dau gyfyniad, a chloben o geg fel camog trol, "a dannedd 'machgen I, fel danedd cribin doi; a fflamiau gleision yn dwad allan, 'machgen I, o'i geg a'i lygaid o. Dywedai hefyd fod ganddo dwr o aur yn ei ymyl, ac yn codi rhai hyny yn faweidiau! Nid oedd dim i'w wneud pan welodd hwnw ond ei choesio hi nerth yr esgyrn, ac adref yr aeth fel ci wedi tori ei gynffon y noson hono heb ddim dimeu goch y delyn o'r arian daear. Yr oedd arno flys o hyd, er hyny, am gael ei ran o'r trysor, ac yn edifarhau yn enbyd am iddo fod mor ffol a dweyd ei gyfrinach. Dywedai yn aml, mai " dweyd oedd y drwg onite y buasai ef yn ŵr bonheddig. Y noson dan sylw, sef y pryd yr aeth yno hefo'i frawd o'r Festri, yr oedd am wneud ail gynyg; cyrhaeddodd yno fel y crybwyllwyd, rywbryd cyn y bore; a phan oedd wedi cyrhaedd y lle y darfu iddo weled yr hen wr y tro cyntaf a'r Ellyll anferth yr eiltro, gwelai rywbeth gwyn yno. Dyma fo, Wil," gwaeddai, "Dyma fo." Daeth Wil yno rhag ei flaen, a dywedodd, "Dyma fo a deud y gwir, Robin." Aeth y ddau yn nes at y gornel, a thyma rywbeth yn codi, ac yn d'od ar wib atynt, a thaflodd y ddau nes oeddynt yn pellenu ar lawr; a pha beth oedd ond llwdn dafad, a orweddai yn y cysgod; a thyna hynt yr hen fechgyn hyn wrth chwilio am arian daear y Parc bach.

CADWALADR LEWIS Y CRASWR.

OND nid fel yna yr oedd hi hefo Cadwaladr Lewis yn Meirion. Yr oedd sôn fod arian daear mewn hen furddyn heb fod yn mhell o'r odyn lle'r oedd Cadwaladr yn arfer crasu, a mynych y byddai blys arno fyned i'r lle i dirio. Ond yr oedd arno arswyd myned i'r fan ei hun, rhag ofn i rywbeth dd'od ato; ond er hyny, yr oedd y blys yn myned yn gryfach bob dydd, a pho amlaf y soniai am y llonaid crochan o aur oedd yno wedi cael ei guddio, cryfaf yn y byd y teimlai ryw ysfa myned i dreio. Gwnaeth gaib gref, a rhoes droed newydd yn y fatog oedd ganddo yn yr odyn, ar fedr llwyr myned yno ryw noson y gauaf hwnw. O'r diwedd gwnaeth ei feddwl i fynu, ac yno'r aeth ryw noson tua haner nos. Dechreuodd geibio, ac wrthi y bu am yn hir heb weled na chlywed dim. Yr oedd yn gweithio ei oreu glas, a'r chwys yn rhedeg yn ffrydiau dros ei wyneb.

O'r diwedd clywai ryw sŵn gwag odditanodd, a tharawodd ei gaib yn erbyn careg. Wrth dreio'r gaib draw ac yma, yr oedd y gareg yn atsian yn mhob lle. Tybiodd wrth y sŵn gwag fod yno wagle o danodd, a chwiliodd am ei hymyl; cafodd hyd i hwnw, a rhoes flaen ei gaib o dan yr ymyl a rhoes flaen ei droed ar y pen arall, a phwysodd ei oreu, ond nid oedd yn yswigiad. Daeth i'w ben i roi brisgyn dan ei gaib, ac felly dreio ei hysgwyd, ond nid oedd ddim yn chwimio. Rhoes ail gynyg, dyma hi'n gwyntio, a chyda hyny dyma wynt ofnadwy yn d'od allan, a'r ysgrechfeydd cethinaf i'w clywed i lawr yn rhywle yn nyfnder daear. Ar hyn hefyd, daeth rhyw ysgerbwd annaearol, i fynu o'r ddaear, heb ddim cnawd yn agos ato; dim ond yr esgyrn moelion. Y penlglog heb ond ceudyllau lle bu'r genau, y llygaid, a'r clustiau! Asenau yn rhes bob ochr, ac esgyrn y breichiau a'r dwylaw heb ddim am danynt! Safodd y drychiolaeth yn syth ar y gareg, ac agorodd ei safn amryw weithiau; a chlywodd Cadwaladr Lewis ryw lais dwfn yn dywedyd "Ni ddaeth yr amser eto." Ar ol d'od dipyn ato ei hun meddyliodd am ddianc i ffwrdd, ond ni fedrai symud pe cawsai'r byd am ei boen. Yr oedd rhywbeth wedi rhwymo ei draed fel na allasai ysgogi. Yno y bu nes y canodd ceiliog y Felin; ond pan seiniodd mab yr iar y gloch ddydd, diflanodd yr ysgerbwd, a chafodd yntau ei draed yn rhydd, a gellir coelio iddo fyned adref yn nghynt na chynta' gallai, a thyna fu diwedd cynyg Cadwaladr Lewis wrth chwilio am arian daear.

Y PLAS A GYTHRYBLID GAN RYWBETH.

RYWBRYD yn ystod mis Awst, tua naw mlynedd yn ol, yr oeddwn ar "daith yn nhir y de," ac ar fy hynt daethum i le o'r enw Pont Newydd, ar y ffordd rhwng Lanfair-yn- Muallt a Rhaiadr Gwy. Pan oeddwn yn dyfod ar hyd y ffordd fawr, yr oedd rhyw deimladau trwmbluog yn llen wi fy mynwes. Yr ydoedd yn nosi'n drwm, a phob peth o'm deutu'n swnio, ac yn edrych yn bruddglwyfus. O'r diwedd, cyrhaeddais y lle a enwyd, ac aethum i'r Gwesty er mwyn cael tamaid o fwyd a llymaid o ddiod; ac os oedd modd, lety noson. Erbyn myned i mewn, yr oedd yno chwech neu saith o ddynion pur barchus yr olwg arnynt yn "difyru uwch ben diferyn" o rywbeth, pe buasai'n waeth o ran hyny pa beth.

Yr oedd yno gegin lanwaith helaeth, a phob peth ynddi yn edrych yn lân a threfnus. Eisteddais i orphwyso yn eu cwmni, a ches lasiad o Sider o dan gamp gan wraig y tŷ yr hon a edrychai yn llawen, fwyn, a charedig. Pan aethum I yno, fel y deallais wed'yn, yr oedd un o'r rhai oedd yn eistedd yn adrodd chwedl oedd wedi ei chlywed yr wythnos cynt, am ddigwyddiad hynod oedd wedi cymeryd lle mewn cwr o sir Faesyfed, heb fod yn rhyw bell iawn o Fynachlog y Cwmhir. A thyma'r hyn a loffais I o honi. Yr oedd yno ŵr a gwraig newydd briodi, ac mewn awydd mawr am gael lle i fyw. Gan fod gan y wraig gynnysgaeth dda, a chan y gŵr lawer o dyddynod yn ei eiddo ei hun, heblaw swm mawr o arian a gafodd ar ol hen ewyrth iddo, yn ol llythyr cymun ei dad;-felly yr oeddynt yn gyfoethog, ac yn naturiol yn chwilio am le amgen na chyffredin. Bu'r ddau, a'u teuluoedd, yn edrych allan am le cymwys am yn hir, ac yn ffaelu cael eu plesio am dro : ond o'r diwedd cawsant ar ddeall fod Syr Hwn-a-Hwn, (gwell peidio rhoddi'r enw'n llawn, gwnaiff y ffug-enw hwn y tro), am osod hen balas ag oedd wedi bod yn wag er's amryw flynyddoedd;—yn wag er's rhai ugeiniau, oddigerth fod yno un hen wreigan yn cysgu ynddo, ac yn cadw tân o'r naill ystafell i'r llall. Ni chysgai yr un o'r gweision yn y tŷ pe blingid hwy: os yr arosent yno am ddwy noson pan ddeuent yno gyntaf, byddent yn sicr o fynu cael myned allan i'r ystablau neu rywle, neu ymadawent oddiyno rhag blaen. Er nad oedd y perchenog yn ei ollwng ef o'i law un amser; oblegyd yr oedd hyny yn ewyllys yr hen lanc a'i rhoddes ef i'r teulu, sef nad oedd y lle fyth i gael ei osod i eraill, ond i gael ei gadw yn rhan o leoedd byw Syr Hwn-a-Hwn o oes i oes yn ddiball. Yr oedd o leiaf dair oes wedi myned drosodd er pan oedd wedi d'od yn eiddo'r teulu anrhydeddus, ac yr oedd pob un o'r teulu, rywbryd yn eu hoes, wedi gwneud cais am fyw ynddo, ond ni bu'r un o honynt erioed ynddo fwy na dwy noson olynol, ac nid oedd neb yn medru dyfalu paham ar y cyntaf; ond daeth y peth yn chwedl pen gwlad o dipyn i beth, ac nid oedd dim cyfrinach yn mysg bobl ag oedd yn byw o gwmpas, paham nad oedd yno neb yn aros yno ddim ond am gyn lleied ag y medrent. Bu'r lle yn wag am hir feithion flynyddoedd, er hyny, cedwid ef yn drefnus; oblegyd yr oedd yn rhaid gwneud hyny yn ol y rhoddiad. Aeth sï ar led fod y palas ar osod, ac nid oedd na byw na bywyd, i'r gŵr ieuanc oedd newydd briodi, gan ei wraig, nad elai heb atreg i chwilio am dano. Myned a wnaeth ryw ddiwrnod hefog ewyrth iddo at y neb a edrychai ar ol y lle, er mwyn cael gwybod a oedd rhyw sail i'r son a wneid, a cha'dd wybod gan hwnw, na osodid mo'r lle, ond ei fod yn meddwl "y cai fyned yno i fyw, heb na threth na degwm, am yr hyd y mynai; yr oedd yr un ag oedd wedi bod yno y rhan oreu o gan' mlynedd newydd farw, ac nid oedd neb yn tywyllu mo'r fan ond gefn dydd goleu er pan fu hi farw." Dywedodd y deuai, os ewyllysient, y diwrnod hwnw at yr hwn a'i pioedd, ac y caent felly sicrwydd yn nghylch y peth. Myned a wnaethant, a chawsant Syr Hwn-a-Hwn yn ei lyfr-gell: caed derbyniad croesawus, a phan glywodd eu neges, dywedodd ar unwaith na osodai mo'r palas, ond bod cyflawn groesaw i'r gŵr ieuanc fyned yno i fyw am yr hyd a ddymunai, ac y cai le i gadw ychydig o wartheg a cheffylau am ardreth resymol, yn y dolydd gerllaw iddo. Gwnaed y cytundeb yn ddinac, ac wed'yn cychwynwyd tua thref yn llawen o herwydd pa mor ffodus a fuant y diwrnod hwnw. Wedi cyrhaedd adref nid oedd yno ddim ond llawenydd, ac nid neb a lawenychai yn fwy na'r wraig ieuanc, pan wybu fod y palas i'w gael. Yr oedd hi ar unwaith yn ei meddwl yn dechreu trefnu pethau ynddo. Yr ystafelloedd a'r dodrefn. Y morwynion a phob peth; a chan eu bod yn cael y lle am ddim yr oedd am dori tipyn o gyt er mwyn dangos i'r wlad yn enw dyn, eu bod hwythau yn rhywun. Garwydyw'r byd am fod yn rhywun!

Paratowyd i fyned yno'n union deg, a lle hynod o dlws ydoedd. Safai'r tŷ ar gwm gwastad lled eang, drwy ganol hwn yr ymddolenai afon loyw. Ar gyfencyd yr oedd bryniau coediog yn graddol a diog ymgodi: tra o'r ochr arall ymsythai mynydd serth wedi cael ei wisgo'n dewglyd hefo grug a mwsogl. Yr oedd y gwastadedd wedi cael ei ranu'n ddolydd mawrion, a'r cloddiau'n llawn o goed iraidd gan mwyaf o goed afalau perion. Yn gylch o gwmpas y palas yr oedd derw canghenog, ynn talfrigog, masarn deiliog, a ffinwydd talog: mewn gair, yr oedd yn un o'r lleoedd prydferthaf a ellid weled yn y rhan hono o'r wlad. Yr oedd yno hefyd bysgodlyn o flaen y drws, ac elyrch cyn wyned ag eira yn araf nofio, hefo'u gyddfau bwâog o'u hesgyll ymchwyddog, ar hyd ei wyneb mandonog. Ofer crybwyll am y gwelyau o flodau symudliw, a'r gerddi ffrwythlon, yn nghyda'r berllan drefnus oedd gerllaw iddo; gan hyny, awn i mewn i edrych pa fath olwg sydd yno,

Nid oedd modd fod dodrefn gwell, eu hunig fai a'u prif brydferthwch ydoedd eu bod yn bur hen. Y mae'n wir fod ryw fath o leithder awyrol yn yr ystafelloedd: ond nid oedd hyn ond effaith peidio ag agor y ffenestri, a diffyg goleu tanau: deuai pethau fel hyn i'w trefn yn bur fuan wedi cael pobl iawn i fyw ynddo. Daeth y par ieuanc yno hefo'u gweision a'u morwynion, ac yr oedd pob peth yn addaw hawddfyd iddynt yn eu lle newydd. Caed pob peth i drefn yn fuan, a choeliai pawb fod llawenydd a dedwyddyd yn aros ac am fod yn eu plith. Ond, "Nid wrth ei big y mae prynu cyffylog," ac nid wrth y diwrnod a'r noson gyntaf yr oedd barnu pa fodd y digwyddai yn y plas. Tua haner nos, pan oedd pawb yn eu gwelyau y noson gyntaf, clywid y drysau yn dechreu clepian, a sŵn gwynt mawr yn suo drwy'r coed llwyfen oedd yn rhes yr ochr draw i'r pysgodlyn, a rhyw dwrw cerdded hefyd o'r naill fan i'r llall. Deffroes pawb drwy'r tŷ, ond ni fedrodd neb gael ar ei feddwl godi. Ysgydwai'r muriau fel llong mewn tymhestl, neu'r coed gan gorwyntoedd, ac yna distewai'n ddisymwth. Tua dau o'r gloch caed heddwch. Sisialai'r gweinidogion y bore dranoeth, ac yr oedd dau neu dri o honynt wedi cael digon ar eu hoedl yn y fath le, a phenderfynasant fyned at eu meistr a'u meistres mor fuan ag y deuent i lawr i ddweyd na fedrent aros yno am un noson wed'yn. Yn wir yr oedd y cwbl yn hollol o'r un feddwl a theimladau, ond fod rhai o honynt yn fwy tafodog, ac yn haws ganddynt ddweyd yr hyn oedd ar eu calon na'r lleill. Ar ol i'w meistr godi aed ato, a dywedwyd wrtho nad oedd dim posibl byw yno,—eu bod ganwaith wedi clywed son am y twrw a'r trwst a gedwid gan Rywbeth yn y plas, ond na choeliasant neb tan y noson hono. Na chymerasant yr holl fyd am geisio byw yno. Crefodd yntau arnynt aros am un noson wed'yn. Fod y wraig yn sâl iawn wedi dychryn, ond meddai, hwyrach y daw pethau yn well. Ar ol ystyried am dipyn a siarad a'u gilydd, ac ymresymu'r y naill hefo'r llall, gaddawasant aros am y noson nesaf, ac yna'r aed oll at eu gorchwylion, naill at y peth yma a'r llall at y peth arall. Yr oedd y diwrnod hwnw yn myned heibio yn rhy gyflym o'r haner, a chas beth pob un o honynt oedd meddwl am y nos. Yn ystod y dydd ni welodd neb mo'u meistres, a choelid ei bod hi yn sâl iawn, ond pan aeth un o'r merched i'w hystafell nid oedd yno un hanes o honi. Methid a deall i ba le yr aethai !

Daeth eu meistr atynt i'r gegin ac ni soniai air am dani hi. Cafodd pawb ddechreunos digon dyddan, ac yr oedd pawb yn ceisio dangos ei fod ef yn ddi ofn pwy bynag oedd fel arall. Ond fel y gellid gweled galar y weddw yn ei dagrau crynion, er y bydd yn treio gwenu ar ryw ddigwyddiad trwstan diniwaid, felly hefyd yma, hawdd oedd gweled nad ellid galw eu llawenydd ond llygiedyn o haul rhwng dwy gawod o wlaw. Arosasant ar eu traed hyd nes oedd "un-ar-ddeg yn agos:" ac yna hwyliwyd am eu gwelyau. Cyn ymadael dywedodd y gŵr ieuanc fod ei wraig wedi dianc adref er y bore, ac buasai yn dda ganddo gael cwmni un o'r llanciau am y noson hono. Ond ni chai un fyned heb y llall, a'r ddau a aethant er mwyn bod hefo'u gilydd. Prin y cawsant fyned i'w hystafell nad oedd yno rywun yn curo wrth y drws; aeth y tri yno gan feddwl nad oedd yno ddim y pryd hwnw ond y merched yn d'od i'w dychryn; agorwyd y drws ond nid oedd yno neb. Cauwyd ef wed'yn yn ddyogel. Yn fuan dyma dri chnoc trwm ar y ddôr drachefn. Ond ni wnaethant ond neidio i'w gwely oddieithr y meistr ieuanc, yr hwn ei hun yn awr a aeth at y drws ac agorodd ef yn llydan, ac fe aeth allan i ben y grisiau a'r ganwyll yn ei law. Pan yno, clywai, dybygai, rywbeth yn llithro ar hyd y canllaw yn drwm, gan sŵnio yn bur debyg fel ag y bydd eira'n tyrfu wrth lithro'n araf hyd y to pan fo hi yn dadmer. Ar hyn clywai waedd ddychrynllyd yn ei ystafell ei hun, a pha beth oedd yno, meddai'r llanciau ar ol hyn, ond dynes heb un pen ganddi yn sefyll wrth y ffenestr. Yr oedd hwnw, sef y pen, yn cael ei droi o gwmpas ei ben ei hun gan ddyn mawr a safai wrth draed y gwely: yr oedd yn gafael yn mlaen y gwallt! Aeth y meistr atynt a'r ganwyll yn ei law; ond pan yn d'od oddiwrth ben y grisiau, clywai rywun yn cerdded o'r tu ol iddo. Troes i edrych, ond ni welai ddim. Pan gyrhaeddodd yr ystafell o'r hon y daethai allan, yr oedd hono'n llawn o ryw darth tew llinynog, ac o'r braidd y cyneuai'r ganwyll ynddo. Yr oedd y llanciau, druain, yn ceisio ymguddio o dan dillad y gwely, ac yn wylo'n dorcalonus. Safodd yntau yn y tawch yn ddiysgog, a dechreuodd groesi ei hun a dywedyd ei Gredo a'i Bader. Pan ddaeth at enw'r IESU yn y Credo, cliriodd pob peth ar darawiad amrant, a goleuodd y ganwyll fel o'r blaen. Meddyliodd yn awr fod pob peth drosodd, ond nid cynt nag y diffoddodd y ganwyll nad oedd y tŷ drwyddo draw yn ferw cynddyrus drachefn o ben i ben. Ysgydwid y gwelyau: ysgytid y llofftydd, cauai ac agorau y drysau, a chlywid ambell dro sŵn cadwynau yn singl-sanglo yn eu gilydd. Felly ar ol hir oddef, daeth yn blygain, ac ymadawodd pob peth a aflonyddai, a chaed y tŷ yn glir a thawel. Pan wawriodd bore dranoeth, cododd y llanciau, ac ni welwyd yr un o honynt yno am fynyd yn hwy nag y medrasant agor y drws a myned allan. Y merched, hwythau, ar ol cael noson flin aflonydd, a ddechreuasant hel eu dillad yn nghyd cyn gynted ag y daethant dros yr erchwyn, ac nid oedd yno neb yn y plas ond y meistr yn unig yn mhen ychydig ar ol iddi ddyddio. Cododd yntau, ac ar ol aros tipyn yno i edrych o'i gwmpas ac i ryfeddu pa beth a allai fod yr achos o'r cynhwrf dychrynllyd, cychwynodd tuag adref ar ol cloi'r drysau. Pan ar y ffordd, cyfarfyddodd â Meddyg ieuanc, yr hwn a adwaenai er pan oeddynt eu deuoedd yn blant. Gofynodd hwnw iddo, gan wenu, pa fodd yr oedd y pethau yn troi allan y plas? a dywedodd yntau wrtho'r holl helynt. Ymadawsant y pryd hwnw heb ddim byd yn neillduol rhyngddynt heblaw fod y Meddyg yn gwrando'n astud ar bob peth a ddywedodd wrtho.

Aeth adref a chafas ei wraig yn drymglaf, a'i theulu mewn syndod dirfawr wrth glywed eu hanes o'r pethau a welsent ac a glywsent yn y plas. Cyn y nos daeth y Meddyg yno i chwilio am y gŵr ieuanc, ac i ddymuno arno dd'od gydag ef am un noson i'r plas, er mwyn cael gweled, os oedd modd, pa beth oedd gwir achos yr holl gynhwrf a'r rhith-ymddangosiadau hyn. Coeliai'r Meddyg nad oedd y cwbl ond effaith rhyw nwy, ac fod yn bosibl rhoi terfyn ar y cyfan. Ar ol cryn ystyried, addawodd fyned, ac felly, hwyliasant eu hunain yn gysurus gogyfer a'r hyn oedd o'u blaen. Yr oedd gan y Meddyg gostowci milain a chryf gartref, a phenderfynodd fyned a hwnw yn nghyda llaw-ddryll a chleddyf yno, rhag na byddai dim diffyg arfau, os y byddai galwad am danynt. Aethant i'r plas yn lled gynar, a dechreuasant hwylio gwneud tân mewn un ystafell,—yr ystafell ag y bu'r gŵr ieuanc ynddi y ddwy noson cynt; a chan fod yno ddigon o gynud sych wrth law, nid rhyw hir y buont nad oedd yno ddigon ohono. Yr oedd y ddau yn hapus ddigon yn sôn am y peth yma neu'r peth draw, a'r ci mawr yn gorwedd yn dawel o flaen y tân. Rhwng un-ar-ddeg a haner nos, dyma'r ci yn codi ei glustiau ac yn eu moelio yn enbyd: cododd ar ei golyn; clustfeiniai'n astud. O'r diwedd cododd yn sydyn ar ei draed, ac edrychai at y drws, ac yna at ei feistr. Ni ddywedodd neb yr un gair, ond dyma fo'n dechreu crynu ac yn ymwasgu rhwng coesau'r Meddyg. Nid oeddynt hwy yn gweled nac yn clywed dim. Ar hyn, dyma dwrw cerdded oddiwrth ben y grisiau at ddrws eu hystafell hwy, ac yna dyna dri chnoc ar ddôr. "Dewch i mewn," ebai'r Meddyg, a gafaelodd yn ei law-ddryll, "Dewch i mewn. Yr oedd arnom eisiau cael cwmni." Ac at y drws ag ef; ceisiodd ei agor, ond ni fedrai mo'i chwimiad. Ar hyn, gwelai, pan droes at y tân, ddyn yn sefyll a'i gefn at y simneu, ac fel yn rhoi pwys ei gefn ar y fantell, a'i ddwylaw o'r tu ol o dan gynffon ei gôt. Gofynodd i'w gyfaill nesu oddiar y ffordd y saethai ef beth bynag oedd yno: ond dyma rywbeth yn gafael yn ei ddwy fraich o'r tu'n ol ac yn ei gyffio ar unwaith. Ceisiodd waeddi, ond ni ddeuai ei lais allan. Yr oedd ei gyfaill yn eistedd ar erchwyn y gwely, ac yn gwylied crwydriadau ryw oleu bach gwyrdd a dreiglai hyd y llawr. O'r diwedd dyma fe'n cynyddu'n bêl goch, ac yn suddo i'r coed. O'r fan yr aeth y tân o'r golwg, dyma lawyn d'od allan! Cipiodd yntau y cleddyf oedd ar y bwrdd a cheisiodd i thori. Ond er iddo roddi'r cleddyf drwyddi laweroedd o weithiau, dyna lle'r oedd hi o hyd. Edrychodd arni yn graff, a phan oedd yn gwneud hyny, teimlai y llofft o dano fel yn codi bob mymryn. Meddyliodd y pryd hyny am ofni," "ond na," meddai wrtho'i hun, er fod arnaf arswyd, cadwaf fy meddwl yn lân oddiwrth ofn. Nis gall y pethau rhyfedd hyn wneud dim niwaid i mi, os y medraf gadw fy MEDDWL yn glir." Ond yn awr dechreuodd pethau edrych yn hyllach o'r haner nag o'r blaen. Daeth cloben o neidr anferth i mewn o dan y drws, ac ymlusgai i'r gwely, a thyma ryw greadur arall anferthach fyth yn ei dilyn, ac un arall ar ol hyny, a danedd ganddo fel danedd og, a'r rhai hyny yn dân byw. Ac o gwr arall i'r ystafell, heb fod yn mhell o'r fan y gwelwyd y llaw, dyma ryw wreichion mân yn dechreu codi allan, ac yn hedeg o amgylch-o-gylch yr holl le. Rhyw fath o chwysigenod bob lliw a llun,-rhai gwyrddion, rhai cochion, rhai melynion, rhai glas-gwan, ac eraill rhudd-goch fel tân marwor. Hedent yma ac acw,-i lawr ac i fynu, ac o'r diwedd dechreuasant ymffurfio yn fath o ddrychfilod anolygus, cyffelyb i'r bwystfilod cethin a welir gyda chwydd-wydr mewn diferyn o ddwfr, ac yna dinystrient a llyncent y naill y llall. Ond yr oedd yr ystafell yn llawn o honynt: yr oeddynt hyd fy nillad, yn cripio hyd fy ngwyneb yn llenwi fy ffroenau, ac yn ymlusgo hyd fy nghlustiau! Yr oedd y tân hefyd yn ymddangos fel pe wedi diffodd, a'r ganwyll yn pallu goleuo. O'r diwedd, dyma'r sarph dorchog oedd wedi dolenu o gwmpas post y gwely, yn llyncu pob trychfil o honynt, ac yn siag-wigio'r ddau beth hyll a ddaeth i mewn ar ei hol, ac yna'n ymchwyddo, nes oedd yn haner llonaid yr ystafell, ac yn trawsffurfio ei hun i fenyw brydferth tua phump ar hugain oed! Yr oedd y ganwyll erbyn hyn wedi d'od i oleuo fel cynt, a'r tân lawn mor siriol ag oedd pan ddaeth y pethau i'n cythryblu. Ond nid oedd yno ddim hanes o'r Meddyg. Safai'r ffurf yno'n ddiysgog. "A minnau," ebe'r gwr ieuanc wed'yn yn mhen blynyddoedd, "a geiriau ddigon ar fy nhafod, ond yn fy myw nis medrwn eu hysgwyd allan." Diflanodd hon yn araf drwy y ffenestr, ac yna nid oedd ond y gŵr ieuanc yn yr ystafell, a phob peth o'i mewn oedd fel cynt, heb eu rhwygo na'u cyfnewid. Eisteddodd wrth y tân am enyd hir i edrych a ddeuai ei gyfaill ddim o rywle yn ol. Wedi blino'n disgwyl a phob peth yn llonydd, aeth at ben y grisiau: ond ni welai ddim arlliw o hono. Aeth yn ei ol, ond pan wrth ddrws ei ystafell dyma ddyn yn sefyll o'i flaen,—dyn mewn dillad hollol wahanol i ddim a wisgir gan neb sefyllfa yn y dyddiau hyn. Rhoes ei law ar ei ysgwydd, yna diflanodd! Yr oedd y tân erbyn hyn yn dechreu myned yn isel, a'r ganwyll wedi byrhau cryn lawer; aeth yntau i mewn i'r ystafell, ond ni chauodd y drws. Eisteddodd yn y gadair ger hyny o dân oedd yno. Ond cyn cael hamdden i feddwl dim, dyma gorach o hen ŵr wrth ei ffon i mewn, a rhoes dro ar y llawr a dywedodd,—"Mi fum I yma'n byw." Yna diflanodd gan daro ei phon deirgwaith yn y ddor wrth fyned allan. Daeth un arall ar ei ol,— dyn canol oed, a golwg bruddglwyfus arno;—ei wallt yn llywethau hirion, a'i wyneb rheolaidd a phrydferth fel yn arwyddo dyn o feddwl a threiddgarwch digyffelyb. "Cefais inau'r lle gan fy nhad, a rhoddais ef i Dduw." Syn-safodd hwn yno ar ol siarad, ac wrth ymadael ymgrymodd yn foneddigaidd. Dywedodd y gŵr ieuanc yn awr wrtho'i hun, "Mi ddywedaf finau rywbeth trwy gymorth, wrth bwy bynag a ddaw yma nesaf." A chyda'r gair, dyma ryw dduwch mawr yn d'od drwy'r drws. Yn wir yr oedd yn ei lenwi, ac yr oedd rhywbeth yn ei ffurf yn debyg i ddyn: yr oedd ganddo lygaid fel dwy bellen werdd, a rhai hyny yn edrych drwy rywun. Ac anadlai arogl brwmstanaidd. Siglai'r tŷ fel rhedynen mewn gwynt yn niwedd y flwyddyn, a thybiai'r dyn druan y melid ef yn eisin sil heb ball nac aros. Ond cyn iddo lwyr lewygu gan ofn, dyma lais dwfn cras yn dywedyd wrtho, "Bu'r lle hwn yn eiddo i mi." Yna bu distawrwydd trwyadl am ronyn. "Y mae trysor allan: ond pwy a'i caiff." Yna corwyntoedd allan drwy'r drysau, nes oedd pob man yn crynu ac yn crensian. Yr oedd y gŵr ieuanc bron iawn a darfod am dano: ond yn y cyfamser dyma ddyn ieuanc glandeg a mwyn yn d'od i fynu drwy'r llawr, bron o dan ei draed. "Tyred allan ar frys," ebai, a gafaelodd yn y gŵr ieuanc. Aeth ag ef allan, a thrwy'r berllan, ac i lawr i ddyrysle dreiniog a mierïog. Tarodd ei law wrth fon coeden yno; safodd am fynyd heb chwifliad. Dyma'r lle: cloddia yma: cei drysor. Yna gafaelodd ynddo drachefn a chymerth ef i'r ochr bellaf i'r pysgodlyn; ac wedi cyrhaedd cwr y coed, safodd drachefn a dywedodd, "Agor a thiria, yna wrth fon y goeden cei olwg ar beth gwerth ei gael, ac yna ceir llonyddwch yn y plas." Yna fel olwyn o dân aeth ymaith gan adael y gŵr ieuanc yn y coed. Ni wyddai yn awr pa un ai yn nghwsg ai yn effro yr oedd, a dechreuai chwys oer ddyfod trosto, a chryndod iasaog ei feddianu. Nid oedd na siw na miw i'w glywed yn un man. Pob man a pheth mor ddistaw a'r bedd llonydd ei hun. Cododd yn mhen tipyn a cheisiodd gerdded, ond gollyngai ei aelodau ef. Ni ddalient mo hono ddim. Dwfn ocheneidiai yn ei galon, a gwaeai weled y nos hon erioed. Aeth i feddwl gweddio, ond yr oedd yn rhy lesg a di-yni at y gwaith. Methai ysgwyd ei dafod, ac ni symudai ei yspryd. Pan yn y trybini hwn, clywodd geiliogod y tai oddeutu yn cyhoeddi plygain; siriolodd hyn beth arno, ac aeth yn araf deg gan afael yn y coed at y plas. Yr oedd yn disgwyl o hyd fod y Meddyg yn rhywle o'r cwmpas. Wedi cyrhaedd yno; (nid oedd dim arswyd mwy, oblegyd yr oedd wedi pasio caniad y ceiliog), aeth i mewn o lech i lwyn, ond nid oedd yno neb ar ei gyfyl. Rhoes goed ar y marawydos, ac yna gorweddodd ar y gwely: pan oleuodd y tân gwelai'r ci yn un clap wedi ymwthio i ryw gornel fach, ond ni feddyliodd fod dim ond effaith dychryn arno. Erbyn iddi wawrio ac iddo yntau agor y ffenestr, gwelai fod y ci wedi marw yn gelain gegoer, a bodolion mathru a gwasgu arno. Synodd pa beth a allai fod wedi dyfod o'r Meddyg, a dechreuodd fyfyrio pa'r un oedd goreu iddo, ai myned i'r lle bu gyda'r dyn (os dyn oedd efe hefyd) yn ystod y nos, ai ynte myned adref a pheidio byth wed'yn a d'od ar gyfyl y lle, na son gair am a welodd ac a glywodd. Bu rhwng dau feddwl am dipyn; ond o'r diwedd dechreuodd ochri o blaid gwneud cais, poed a fo, i weled a oedd yno rywbeth ai peidio. Yn chwil fore aeth a rhaw bâl ar ei gefn at y lle, yn y sinach, yr ochr bellaf i'r berllan, a daeth o hyd i'r fan a nodwyd iddo heb rhyw lawer o drafferth. Dechreuodd balu a chloddio, ac ofn erbyn hyn wedi cymeryd lle arswyd; pan yn cloddio, daeth ar draws careg wastad, ac o dan hono dyma grochan pridd lled fawr, ac yn hwnwyn uchaf peth yr oedd rhol o femrwn. Cododd y memrwn a gwelai bethau eraill digon cymeradwy yr olwg arnynt o dano, ac yn eu mysg ddysgl wen a dŵr ynddi. Cauodd y lle yn ol, ac ni chymerth ond y meinrwn yn unig gydag ef ymaith. Troes ei wyneb tuag adref yn dra diffygiol; er hyny, erbyn hyn, yr oedd yn fwy ystig nag y buasid yn meddwl; oblegyd yr oedd yr hyn a addodd ar ol ei weled, yn ymyl y berllan, wedi ei fywiogi yn anwedd. Pan wedi myned gryn encyd oddiwrth y plas, cwrddodd brawd i'w wraig ef mewn cerbyd, ac felly cyrhaeddodd adref; ond heb fwyta un tamaid nag yfed un gyffiniad aeth i'w wely, a chysgodd; ac yn y cwsg poeth berwedig hwnwy bu am fwy na naw niwrnod yn ddi-dor! Pan yn y dwymyn boeth, yr oedd yn siarad peth enbyd am yr hyn a welodd; a chan ei fod yn anhawdd ar brydiau ei ddal yn ei wely, galwyd am yr hwsmon yno i'w wylied, —yn ei glefyd yr oedd wedi colli arno'i hun, ac yn siarad hefo'r pethau a weles yn ddi-ball. Ac nid oedd dim yn fwy aml ganddo na'r crochan pridd, a'r lle arall yr ochr draw i'r llyn wrth fcnyn y goeden, &c. Coelient oll mai wedi dyrysu'r oedd, ac nad oedd y cwbl a draethai ond creadigaethau ffansi, wedi cael ei gollwng yn rhydd oddiwrth ofal rheswm. Bu felly yn y cyflwr gwyllt hwn am yn agos i bythefnos, a phan ddechreuodd droi ar fendio, hir ac anniben fu heb dd'od ato'i hun fel cynt.

Yn awr, pa le'r oedd y meddyg? Bu ef ar goll am ddeuddydd neu dri. A'r pryd y cafwyd ef, yr oedd mewn sefyllfa mor lawn o bob ofnau fel y meddyliodd y rhai a ddaethant ar ei draws mai myned ag ef ar ei union i'r gwallgofdy oedd y peth goreu. Mewn coedwig, ryw ugain milltir oddiwrth ei gartref, yr oedd hen dderwen fawr gafniog. Yr oedd o'r tu mewn yn holwy gwag. Ryw ddiwrnod wrth fyned drwy'r coed, ac ar ddamwain yn pasio'r hen goeden, troes dau ddyn i'w hedrych, ac o'r tu mewn, fel pe buasai wedi marw, cafwyd y Meddyg; yr oedd ganddo law-ddryll llwythog gydag ef, a'i wyneb yn gripiadau dyfnion, a'i ddillad yn llyfreiai gwylltion am dano. Yr oeddynt yn meddwl pan welsent ef gyntaf ei fod wedi marw, ond ar ol nesu ato gwelsant mai cysgu yr oedd; deffroisant ef; ond nid oedd ganddo ddim croen ar ei chwedl, a choeliai y dynion hyn mai wedi yfed ar y mwyaf yr oedd, a bod y pethau gleision hyny wedi ymddangos iddo a'i yru'n wallgof! Cariasant ef at dy tafarn cyfagos, ac yno y cawsant hanes am y "Noson yn y Plas," &c. Aed ag ef adref, a bu am fisoedd mewn sefyllfa beryglus. Gwellhaodd i raddau, ond nid byth fel cynt. Ni ddilynodd ei waith ar ol hyn, ac yr oedd ei olwg hurt yn dangos ei fod wedi cael ei gynhyrfu gymaint fel nad allai byth dd'od ato'i hun fel ag yr oedd cyn i'r peth mawr yma gymeryd lle. A thyna gafas y Meddyg; ond y gwr ieuanc ar ol ychydig o wythnosau a wellhäodd rhag blaen, ac aeth at y plas cyn gynted ag y medrodd; ond er ei fawr syndod yr oedd rhywun wedi bod yno, ac wedi cael hyd i'r crochan pridd, a'i gynwys, chwi a ellwch feddwl. Aeth i'r ochr arall i'r llyn, ac yno dan wraidd hen foncyff o bren mansarn, cafodd goffr derw, ac yr oedd yn rhaid cael gwif i'w dynu'n rhydd. Ond tynwyd ef allan, ac aeth y gŵr ieuanc ag ef adref heb ei agor. Ond pan gafodd ei agor yr oedd yn llawn o drysorau gwerthfawr. Chware teg iddo! aeth dranoeth at Syr Hwn-a- Hwn a dywedodd wrtho pa beth oedd wedi digwydd, a dangosodd iddo'r memrwn. Ar ol ei edrych yn fanwl gofynodd y boneddwr iddo a welodd ef rywbeth yn y crochan heblaw y peth hwnw. "O! do," ebai yntau, "yr oedd yno aur laweroedd, ac yr oedd yno hefyd ryw ddysgl fach a dwr gloyw ynddi, ac ar y dwr yr oedd cnepyn o bren tri-sgwâr yn nofio yn aflonydd. Mi gymerais I hwnw allan ac mi deflais y ddysgl, oblegyd yr oedd yn drewi yn arswydus, ac mi dorodd, ac wed'yn mi a gymerais y memrwm ac a gauais ar crochan gan feddwl myned yno drachefn, ond gan i mi fod yn sàl iawn, nis gellais fyned yno mewn pryd, oblegyd pan aethum nid oedd yno ddim ond lle bu'r crochan a'r oll oedd yuddo; ond mi fum yn fwy ffodus hefo choffr a gefais mewn lle arall, ac yr wyf am i chwi gael gwybod ei gynwys." "O! na," meddai Syr Hwn-a-Hwn, "cymer a gefaist a dyro'r diolch i Dduw am danynt," a bu'n llawen ganddo oherwydd hyn. Cymerth y memrwn, ac ebai'r boneddwr witho pan yn cychwyn adref, "Cymer ofal o hwn yna. Cei lonydd i fyw yn y plas mwy. Dos yno'n fuan a gwna yn fawr o'th ddigwyddiad, a deuaf yno cyn hir i ymweled a thi.” Wrth fyned ar hyd y ffordd adref nid oedd dim ond dau beth yn ei flino, sef colli yr hyn oedd yn y crochan, ac afiechyd parhaus ei gyfaill dewr y Meddyg. Am yr olaf nis gallai wneud dim ond cynyg rhan o'r cwbl a gafodd, ond ni fynai hwnw son am y peth. Ac am y blaenaf daeth i'w ben wneud un cynyg am gael y peth allan. Yr oedd yn gwybod erbyn hyn, fod yr hwsmon gydag ef pan oedd yn ei anhwyl, a phriciodd rhywbeth ef y gallasai ddweyd cymnaint am y crochan pan yn ei glefyd nes peri i'r dyn fyned i'r fan a'r lle i chwilio am dano a'i gael. Aeth adref, a chymerth y memrwn yn ei law, ac aeth at dy'r hwsmon, a thyma fe'n agor y rhôl femrwn, ac yn dweyd mai hwnw a barai'r helynt fwyaf o bob peth. Os y dywedasai'r hwsmon pa faint a gafas, yrholiaiy memrwn yn y fan: ond os na wnai, fe gai'r hwsmon fyned drwy'r un prawf ag yr aeth ef ei hun drwyddo! Dychrynodd yr hwsmon pan welodd y memrwn a rhedodd dan y gwely, ac yno'r oedd y crochan yn haner llawn. Am iddo fod mor anonest digiodd y gŵr ifanc witho. Er hyny, rhoddodd iddo ddigon i fyw yn dawel am y gweddill o'i oes, ac nid oes dadl nad aeth y gŵr yn gyfoethog iawn, ac fe ddywedir fod ei deulu fel yntau yn gyfoethog o hilgerdd ar ei ol. Aeth y gŵr ieuanc i'r plas i fyw, ac ni chlywodd na chynhwrf na chythrwf yno fyth ar ol y noson fawr," a "chlywes fy nhaid ei hun yn doidid pw mor enbid," ebe'r adroddydd, "oidd hi arno fe y nosweth hyni." A thyna ddiwedd y chwedl yna, heblaw crybwyll fod un o deulu cyfoethocaf yn deilliaw o'r gŵr a gafodd yr arian daear.

TRADDODIADAU ERYRI.
GAN GLASYNYS.

Y DDWY DDRAIG YN LLYN DINAS

PAN oedd Merddin Emrys wedi adeiladu castell i Gwrtheyrn Gwrthenau, myned a wnaeth y brenin i'w ben un diwrnod, a chanfod a ddarfu ddwy ddraig yn ymladd yn y llyn, sef draig goch a draig wen. Ar ol edrych arnynt a sylwi ar y ddwy yn ymornestu mor filain, galwodd ato Merddin Ďdewin, a gofynodd iddo pa beth oeddynt. Merddin yn wybyddus yn nghyfrinion a chel-ddysg ddew- inol yr oesau. a eglurodd iddo, neu ynte a brophwydodd pa wedd y byddai ar genedl y Cymry am ganrifoedd lawer. Y ddraig goch oedd cenedl y Cymry, neu'r Brutaniaid, a'r wèn y Saeson. Neu y ddwy elfen anghydfod. Yr oeddynt wedi cael eu "cuddio" er's llawer oes gan "Lludd ap Beli yn ninas Affaraon, yn nghreigiau'r Eryri," ac yn amser Gwytheyrn y datguddiwyd y cudd, sef y dreigiau. Dywed Nennius i Myrddin egluro cyfrin y dreigiau; a dywed eraill hanesyddwyr, i'r dreigiau ladd y naill y llall, ac i'w gwaed lifo mor ofnadwy nes cochi dwfr y llyn. Ond y goel gyffredin ydyw i'r ddraig a welwyd yn y llyn gyntaf, yr hon oedd dawel a diniwaid, ar ol ffrwgwd echrydus, ladd y llall a daeth ar ei hol i'r dwfr, a chyfodi o honi ar ol diwedd yr ymgyrch uwchlaw gwyneb y llyn, ac ysgerbwd ei gwrthwynebydd ganddi ar ei chefn, a'i bod yn fflamgoch o waed ei hymosodydd. Iddi, er cael ei briwo'n dost aethus, orchfygu; ac er hyny daeth Pendragon yn gyfenw unbenol ar ein Tywysogion, yn enwedig y rhai a lywyddent eu byddinoedd yn erbyn eu gelynion, a thyna ddechreu yr hen ddywediad milwrol ac unbenaethol, "Y Ddraig Goch a ddyry gychwyn."

O. Y. Y mae'n wir i Deio ab Ieuan Ddu ddefnyddio'r llinell, mewn Cywydd o'i eiddo yr hwn sydd yn Ngorchestion Beirdd Cymru, yn llawn llythyr, ond er hyny y mae'n debyg mai dihareb gyffredin ydoedd o oes lawer hynach.

OGO'R GWR BLEW.¹

"Ac yn ngheunant afon Ierch² (yn Nanhwynen³) y mae ogo'r gwr blew; yr hwn gynt a ddaeth i'r Ty'n 'r ow all⁴ (ychydig islaw'r Ogo) lle yr ydoedd gwraig ar ei gwely, ac ei hun yn unig yn y tŷ, o ran fod rhai o'r teulu wedi myned i'r llan, (yr hwn hefyd oedd yn yr ymyl yno, fel y cewch glywed yn y màn,) i fedyddio'r plentyn, a'r lleill yn edrych ar ol rhyw beth allan; ond roedd y drws yn gaead, fe a estynodd ei law flewog dros y drws, ar fedr ei agor, pan welodd y wraig hyn hi a dorodd y llaw yn wrol â'r fwyall, a phan ddaeth y bobl adref nhw a olrhanasant y gwaed hyd yr eira tan na ddaethant i'r ogo a elwir hyd heddyw "ogo'r gwr blew." Yn agos yma yn y bu lan⁵ yn yr hen amser; mae sylfaen'r eglwys i'w gweled eto; ag a elwir y Tyddyn oddiwrth hyny Hafod y llan. Yn ymyl Llan Trawsfynydd y mae Tomon y mûr, neu lys Ednowen Bendew,⁶ un o 15 llwyth Gwynedd. Yn nglan Llyn Dinas y mae 3 bedd⁷ a elwir:—Bedde'r tri llanc, a 3 thri gŵr, a 3 milwr, (sef milwyr Arthur,) a bedde'r gwyr hirion: a 2 fedd a elwir Bedd y Crythor a'i wâs, neu fedd y Crythor du a'i wàs. A rhwng y Dinas a'r llyn y mae Bedd Sr. Owen y Mhaxen,⁸ yr hwn a fu yn ymladd a'r cawr a phellenau dûr, mae pannylau yn y ddaear lle'r oedd pob un yn sefyll i'w gweled eto, mae rhai eraill yn dywedyd mai ymladd â saethau yr oeddynt, a'r pannylau a welir heddyw yno cedd lle darfu iddynt gloddio i amddiffyn eu hunain, ond ni escorodd yr un mo'r tro. Pan welodd y Marchog nad oedd dim gobaith iddo fyw fawr hwy; fe ofynwyd iddo p'le y myneu gael ei gladdu, fe archodd saethu saeth i'r awyr, a lle y disgynai hi y gwnaent ei fedd ef yno.

Un o filwyr Arthur a'i enw March⁹ (ne Parch) ymherchion oedd hyna Castellmarch yn Llŷn; yr hwn oedd ganddo glustiau march (tebyg i Midas), a rhag i neb wybod hyny'r oedd ef yn lladd pawb ar a oedd yn ei geisio i dori ei farf, rhag na fedrai ef beidio a rhoi'r gair allan a lle'r oedd ef yn claddu nhw y tyfodd cyrs, a thorodd rhywun un o'r rhai'n i wneuthur pîb, ni chanai'r bîb ddim ond "Mae clustiau march i Barch y Meirchion;" pan glybu'r milwr hyn braidd na buasai'n lladd y dyn gwirion oddiwrth hyny, oni bai iddo ef ei hun fethu a gwneuthur llais arall yn y byd ar bib; ond ar ol gwybod lle y tyfasai y Gorsen, ni cheisiodd ef na chelu'r mwrdwr na chuddio'i glustiau ddim yn hwy.

Hwn a ddygodd Esyllt gwraig Trustan (neu Drustan ei wraig ef, nis gwn pa ryw un, ond pa ryw un bynag, nid o'i hanfodd hi,) ag a ffoes i'r coed hefo hi, ac nid oedd ef yn dyfod i'w dalfa nhw y rhai oedd yn ceisio cytuno'r ddwy blaid, gan ddywedyd haws yw dyddio o goed nag o gastell, ond ar ol hir grefu efe a fu yn foddlon i roi ar farn Arthur, yr hwn a farnodd i un i'w chael hi tra byddai'r dail ar y coed, a'r llall i'w chael hi tra byddai'r coed heb ddail, ag i'r gwr priod i gael ei ddewis gyntaf, yr hwn a ddewisodd ei chael hi tra byddai heb ddim dail ar y coed; hithau a atebodd yn llawen, "Bendigedig yw Barn Arthur ; Celyn, Eiddew, ac Yw, Ni chyll mo'i dail tra b'o nhw byw." A'r gŵr a ganodd fel hyn neu ryw un trosto.-"Tybygaswn, teg Esyllt, ffriw dirion, ffrwd oerwyllt, gwawr raddol, eurad wallt, (neu gwawr raddol ireidd wyllt, neu gwawr rudded eurad wallt, neu wyllt yn lle gwallt os oes y fath air yn arferedig,) gwiw roddiad gad gain; Na, besit bûn weddaidd, gnwd eira, gnawd iredd, gwadolwedd, mawr foledd mor filain."

Tair gwaith y sylfaenwyd Capel Gwyneu, ac yn ol darogan Rhobin (neu Ddafydd) ddu, y mae eto, ag a fydd byth, yn anorphen, sef heb ei gysegru. Hafod Lwyfog₁₀ a enwir felly o ran fod yno brenau Llwyfane, ond heblaw yr enw hwnw, mae iddi enw arall mewn Cywyddau, sef Hafod Lwyddog. Yr achos fod coed yn ngwaelod llynau wedi eu tori, yw o ran bod coed cyn amled mewn dyffrynoedd ag na ellid er's talwm mor myned ond ar hyd penau mynyddoedd, ac yr oedd hyny yn anghyfleus i gario pynau a llawer byd o bethau heblaw hyny; ag o ran hyny ddarfod tori derw mawr a'u taflu i'r llynau, ac y mae rhai yn cofio oherwydd clywed dywedyd fod rhai gan dewed y derw yn eu tori ac yn eu llosgi ar y maes, ond odid nad oeddynt yn gwneuthur hyn pan allent eu bwrw nhw yn haws i lynau. 'Roedd y deyrnas hon gynt yn llawn o anialwch, fel y gwyddoch; ag y mae llawer o fanau wedi cael eu henwi oddiwrth goed, (yn Nghymru). Yn Nanthwynen 'roedd coed cyn dewed fel na welid dyn ar farch gwyn o Lyn Dinas i ben y gwryd, ond mewn dau fan, ag a elwir un o'r manau yma er hyny y Goleugoed,₁₁ y rhai'n oedd uwch ben fan lle'r adeiladwyd tref Nanhwynen. Mae Llwybr Elan Lueddog12 rhwng Maen Gwynedd a Bwlch y Ddwylech ar fynydd Berwyn, ag a elwir llwybr cam Elan. Mae llwybr arall yn mlaen Ffestiniog, yr hwn sy'n dyfod tros fwlch careg y fran, ac o ran ei fod ar draws y ffordd, a elwir croes ar saru; ag y mae'n dyfod i Gwm Penammeu, lle y gelwiref Ffordd-wneuthur, ag yn myned oddiyno trwy blwy Dolydd Elan trwy Lyn Llugwy ag a elwir Sarn ar fynydd, ac y mae yn myned trwy blwy Llan Rhychwyn ag i Gonwy. (Aber Cowneu o ran fod dwy gowneu yn cyrhaedd tros yr afon mewn un man, lle y mae hi yn draeth llydan yn awr). Elan a ddaeth o Gonwy i Nant tal y llyn lle lladdodd Cidwm gawr o'i gastell a saeth ei mab hi; mae tỷ lle y claddwyd ef ag a elwir tŷ yn medd y Mab, ac Ysgubor Ifan (wrth hyn mae rhai yn meddwl mae Ifan oedd gelwid ef,) hi a ddaeth tros Gadair yr Ychain (cadair aur wrychyn) lle y gwnawd Sarn o'i blaen hi, hi ddaeth oddiyno gyda glan Llyn Dinas, lle y mae ei sarn hi fyth, ag oddiyno trwy Nantmor, a tros fwlch (lle bu faes rhyngddi a rhyw un) a elwir er hyny Bwlch y Battel, ag i gwm lle y clybu hi gyntaf farw o'i mab, ac ar ol y newydd anedwydd hwnw hi a ddywedodd Croesawr13 fel y gelwir hi hyd heddyw y cwm hwnw. Chwi a wyddoch o b'le y cafodd Beddgelert yr enw hwnw. Mae llech yn Nanhwynen lle yr oedd gynt geffylau yn tripio, rhag hyn y darllenwyd yr Efengyl arni ag a elwir Llech yr Efengyl.14"-Allan o'r Cambrian Journal. Alban Elfed 1859. Edward Llwyd 1693.

Yn y darn blaenorol y mae'r hynafiaethydd penigamp E. Llwyd yn cyffwrdd ag amryfal chwedlau, ac yn eu cymysgu yn ddi-drefn ddi-reol: er mwyn eu crynhoi yn daclusach a'u gosod yn drefnusach, rhoddaf hwy yn fath o eglurhad ar y gwaith uchod yn llawn llythyr gan adgyweirio ei amryfuseddau aml ef. Nid o'i fodd ond oherwydd diffyg hyfforddiant, yr aeth ef iddynt, oblegyd ni bu neb hynafiaethydd yn ein gwlad a ystyrid yn fwy manwl a chywir oddieithr Iolo Morganwg, nag Edward Llwyd. Yn wir y mae ei waith yn faen prawf a threul- iodd oes ddiwyd a llafurus dros ben yn egluro tywyll, dyryslyd, a throellog, bethau hynafol ei wlad. Er hyny gwnaeth amryw gam-gymeriadau pur bwysig.

amgylch ogylch godreuon y Wyddfa. Pan ganfu ei fod wedi colli ei gyfeillion, dianc a wnaeth i'r fan hon, a gwneud ei drigfod yn yr ogof. Yr oedd yn byw yn hollol ar ladrad. Yn y tywyllnos byddai fel eraill gwylliaid, yn d'od allan i gyniwair am rywbeth i dori ei angen. Gan fod ei ddull o fyw yn wyllt ac annhymig, tyfodd cnwd o flew trosto fel eidion, ac yr oedd yn ddychrynllyd yr olwg arno. Buwyd am hir amser yn methu a chael allan ei guddle. Ond fodd bynag, daeth un diwrnod eiryawg i Dy'n 'row allt," a thorodd y wraig à bwyall ei law (Onid oes yma gyfeiriad at Chwedl Owain Lawgoch?) wrth iddo geisio d'od i'r tŷ; dihangodd yntau yn ebrwydd, ond yr oedd brisg y gwaed ar hyd yr eira yn dangos ei lwybr, ac hefyd yn arwain tua'i guddfan, a thyna'r ffordd y deuwyd o hyd i'w ogof. Wedi darogan llawer, a thalm o amser fyned heibio, penderfynwyd ceisio ei ddal, a chronwyd yr afon fel i'w dynu allan neu ynte ei foddi yn ei ffau. Ond pan ddechreuodd y dwfr lenwi ei ogof dyma fo allan yn glamp, ac ymaith ag ef dros lechwedd y Lliwedd fel milgi, ac ofer oedd anelu bwa ato oblegyd ni thyciai y saethau er eu cyflymed, i'w orddiwes. Ac ni chlybuwyd dim gair o'i helynt am hir amser, ond un boregwaith yn mhen hir a hwyr caed achlust ei fod yn byw yn ymyl Maen Ddu'r Arddu mewn agen yn y graig, ac aed yno i'w hela; ond cyn bron glywed eu trwst yn dynesu ato, cymerth y goes a thros ben y Wyddfa, ac i lawr trwy Gwm Llan, a thros Flaen Nanmor i ogof arall sydd eto i'w gweled wrth sawdl y CNICHT. Pa hyd y bu yno ni ddywedir, ond byth ar ol hyn cafodd lonydd, ac nis gwyr neb pa bryd y bu farw nac yn mha le y claddwyd y "Gwr blew."

2.—Afon Ierch, h.y. Afon Ferch gerllaw Bwlch Mwyalchen. Y mae'r ffrwd hon eto i'w gweled, ond ni elwir moni ar yr enw uchod. Y mae yspaid dau can' mlynedd yn gwneud cyfnewidiad enbyd ar yr enwau. Yr ydys wedi colli peth ddigydwybod o enwau yn gystal a choelion yn ystod y ddau gant diweddaf. Yn wir, pe crynhoesid pethau yn fwy trefnus ddwy oes yn ol cawsid trysorfa ardderchog o chwedlau.

3.—Nanhwynen. Y farngyffredin yw mai Nant Gwyn— ant ydyw iawn sillebiad yr enw: er hyny caf cyn pen hir sylwi mai nid peth anhebyg ydyw fod ystyr arall i'r gair a bod y dull yma yn llawn cyn agosed i'r un cywir a neb rhyw un arall a feddir. Yn wir, mai dyma'r gwir ystyr, sef yr un sydd i dd'od.

4.—Ty'n'r ow allt.—Nid ydwyf yn fy myw yn medru canfod un tŷ yn awr yn dwyn yr enw dan sylw. Ond o ran hyny, y mae cymaint o gyfnewidiadau wedi cymeryd lle er oes "Y gwr blew," fel mai peth gwyrthiol fuasai gallu d'od o hyd i fwthyn yn meddu yr un enw yn awr a'r pryd hwnw.

5.—Y bu lan, &c.—Y mae Edward Llwyd yn camgymeryd. Nid oes yn awr, ac ni fu dim cymaint ag un crybwylliad gan yr un awdwr am gapel nac eglwys ar dir Hafod Llan, nac ychwaith yn nes ato na phen uchaf y nant. Tu isaf i Hafod Lwyfog, gerllaw y fordd fawr, y mae ol Capel Gwyneu. Os edrychir i "Fonedd y Saint, ceir fod Gwyneu yn Santes, a bernir fod Llanwnen yn Ngheredigion wedi cael ei gysegru ganddi. Y mae y fynwent yno i'w weled yn awr, ac hefyd adfeilion neu olion y sylfaeni. Hafod y Llan, a Cwm Llan oeddynt ran o'r glasdir ag oedd yn perthyn i Fynachlog Beddgelert. Dywedir fod gan Robert, Prior y lle, fuches fawr, a pha le cymhwysach i gadw Hafod na'r lle hwn gan fod y porfeldir cylchynol yn eiddo'r Fynachlog. Ond hyn sydd amlwg ddigon fodd bynag, nad oes yma'n awr ar gof a chadw na thraddodiad na pheth yn nghylch y Llan hon : tra y ceir am y llall ddigonedd o honynt.

6.—Ednowain Bendew.—Y mae awdwr dysgedig Enwogion Cymru wedi syrthio i'r un amryfusedd ag Edward Llwyd. Dyry Ednowain Bendew yn lle Ednywain ab Bradwen. Pe creffid ar eu pais arfau, gellid yn hawdd ganfod mai nid yr un ydynt. Pais arfau y Pendew oedd tri phen baedd, a'i gyswyn ofner na ofno angau," tra y mae pais arfau y llall yn dwyn, Gules, tair neidr yn nghwplws mewn cnottyn triongl o arian. Deillia y blaenaf o Gwaethfoed fawr o Bowys, ac yn ngororau Dyffryn Clwyd y mae ei hil hyd yn awr. Disgynydd o hono ef oedd y diweddar Dr. Bethel, Esgob Bangor; ac hefyd ein gwladgarwr dysgedig Ab Ithel. Ond y mae disgynyddion uniongyrchol yr olaf wedi pallu. Ednyfed ab Aaron, uno honynt, a guddiodd Owain Glyndwr am hir o amser, unwaith mewn ogof ar lan y môr heb fod yn neppell o Lan Gelynin, a gelwir y lle hyd heddyw, "Ogof Owain Glyndwr." Y fan yr oedd Ednywain ab Bradwen yn byw ydoedd Llys Bradwen yn nghwmwd Cregenau yn Meirion. Y mae olion y Llys i'w gweled eto. Gerllaw i lan yr afon Cregenau y mae gweddillion adeilad lled fawr. Y mae'r lle yn rhyw ddeg llath ar hugain petryal : a'r porth yn eithaf saith droedfedd o led. Y mae'n debyg mai cymeryd Tomen y Mur yn lle'r llall a wnaeth. Neu ynte, efallai, mai Ednywain a bioedd y lle hwn, oblegyd yr oedd yn Arlwydd cyfoeth mawr. Yr oeddynt eu deuoedd, sef y Pendew, ac ab Bradwen, yn perthyn i bymtheg llwyth Gwynedd.

7.—Y mae tri bedd, &c.—Nid gwaith hawdd ydyw cael allan beddau hyn yn awr. Ar ol dyfal chwilio a chlustfeinio fy ngoreu glas, nid oes dim byd o werth i'w gael yma. Y mae'n wir fod ar y lleindir sydd islaw Dinas Emrys ryw wrymiau. Ac hefyd y mae ar fin y llyn, wrth geg yr afon, ryw ddau neu dri o dwmpathau neu domenydd bychain. Gwn am fedd y Crythor Du, y mae ef yn uwch i fynu. Marw o oerfel a wnaeth ef a'i gydymaith wrth dd'od i Wylmabsant Beddgelert, ac nid oes rhyw lawer er hynny Tybiaf mai yr un rhai a olygir yma a'r dewiniaid. Deuddeg oedd nifer y gwyr hyny, a deuddeg sydd yma yn cael eu coffhau; ond feallai mai amryfus ddywediad ydyw, ac mai yr un lle a olygir. Oblegyd yr ydys eisoes wedi canfod amryw gamgymeriadau parthyddol yn yr Erthyglau o eiddo'r hybarch Edward Llwyd, megis dywedyd fod Cricerth gerllaw Aber y Traeth mawr, tra y mae amryw filltiroedd dybryd rhyngddynt. Sonir mai Milwyr Arthur oeddynt. Milwyr y Pedragon hwn yr ystyrid pob marchog yn y cyn—amseroedd, a thybia ei fod ef yn fyw yn mhen canrifoedd ar ol ei gladdu.

8.—Bedd Sr Owen Mhaxen.—Cymerodd ymgyrch ffyrnigwyllt le cyd—rhwng Owen ab Maxen mab Elen Lueddog, ac Eurnach Gawr, wrth ymyl Dinas Ffaräon. Lladdasant y naill y llall. A dywed traddodiad fod gwaed y ddau ar geryg y fan yn gof—arwydd parhaus o'r ymladd creulon a gymerth le rhyngddynt. Y mae bedd Owen ab Maxen ar y weirglodd yn dwmpath i'w weled, ac yn wir y mae'r pannylau" yno hefyd, a dywedir mai ôl traed dau gawr ydynt.

9.—March.—Meirchion oedd un o farchogion Arthur; cybydd ofnadwy oedd, ac iddo yr oedd clustiau march, a thyna paham y galwyd ef felly. Pa beth bynag y cyffyrddai ei law arno tröai yn aur. Y mae lle o'r enw Castell March, yn Lleyn, meddir wedi bod unwaith yn anedd iddo, a bernir mai efe a'i sylfaenodd. Digon tebyg mai un o wyr Celyddon ydoedd, a chyfoesai a Gwallawg ab Llênawg ac eraill, a ddaethanti lawr o'r Gogledd ac ymsefydlasant yma a thraw ar hyd arfordir Arfon. Yr oedd iddo nai o'r enw Trystan ab Tallwch, neu Trystan ail March, oblegyd yr un oeddynt. Digwyddodd iddo ef, sef Trystan, syrthio "dair llath dros ei ben" mewn cariad hefog Esyllt, gwraig March, ac am hyny gelwir ef yn y Trioedd yn un o "dri serchawg' Ynys Prydain, y ddau arall oedd Caswallon ap Beli a Cynon ap Clydno. Gyrodd Arthur wyth ar hugain o farchogion i'w ddala, ond ffoes ef a hithau i'r coed, a methasant yn glir faes a'u dwyn at y brenin, hyd nes i Gwalchmai dafod aur ei hudo; a rhaith Arthur oedd iddynt ei chael bob yn ail, sef un tra byddai dail ar y coed, a'r llall pan byddai diddail a moelion yr unrhyw. Dewisodd March yr amser diddail: ac am hyn y tores hithau allan yn orfoleddus fel yma, "Bendigedig yw barn Arthur,

Celyn, Eiddew, Ffaw ac Yw,
Ni chyll mo'n dail tra bo nhw byw."

Pan glywodd March hyn, edrychodd yn ddifrifddwys arni, a thyma ei atebiad galaethus, iselfryd, a thrymglaf iddi. Ond eithaf gwers i hen glymach cybyddlyd oedd hyn, Nid ag arian y prynir serch:—

"Ty'gaswn teg Essyllt, ffriw dirion, ffrwd oerwyllt,
Gwawr ruddedd eurad—wyllt, gwiw roddiad gad gain:
Na besit bun weddaidd, gnwd eira gnawd iraidd,
Gwadolaidd, mawr folaidd, mor filain."

Ymddengys mai un o foesau lled anghyweithas oedd Esyllt, ac y mae hi a'i dwy chwaer yn cael eu cyfenwi yn barhaus yn y Trioedd, yn dair anniweirwraig Ynys Prydain." Y ddwy arall oedd Bun, gwraig Fflamddwyn (Ida, brenin Northumberland); a Penarwen, a gwraig Owain ap Urien Rheged ydoedd. Y mae Trystan yn gymeriad arbenig yn y Mabinogion, ac y mae chwedleu— oniaeth fydryddol hynafol y Cyfandir yn cael eu haddurno à champau Syr Tristram.

10. Hafod Lwyfog.—Hen balasdy mynyddig o gryn lawer o enwogrwydd yn yr oesoedd gynt. Tebyg ddigon mai oddiwrth y llwyn llwyfanau y cafodd ei enwi felly. Yr un fath a Celynog o Celyn, Rhedynog o Rhedyn, &c., cyffelyb yntau: yn wir y mae o gwmpas y lle eto amryw lwyf, ac arwyddion amlwg fod er's talm lawer byd yn ychwaneg. Y mae'n wir i rai o'r beirdd yn yr unfed cant ar bymtheg er mwyn y gynghanedd newid yr enw yn Llwyddog," ac y mae chwedl wneuthur lled ddiweddar fel hyn am y lle.

HAFOD LWYDDOG.

YR oedd yma gynt fugail yn aros yn Nghwm Dyli, a myned y byddai bob haf i fyw yn mysg y defaid mewn caban sitrach gerllaw y Llyn Glas. Un bore, pan yn deffro yn ei hafoty wledig, canfu er ei fawr brofedigaeth ferchetan ddigon glan a chryno yn trin plentyn yn ei ymyl, ac nid oedd ganddi nemawr i roi am y truan bach anwydog. Cyfododd y bugail ar ei benelin ac edrychodd yn dosturiol arni, ac yna cymerth afael mewn hên grys tipiog a thaflodd ef iddi, a dywedai, "Cymer hwn, druan, a rho fo am dano." Cymerodd hithau y dernyn hen grys yn eithaf diolchgar, ac aeth ymaith. Bob nos, yn brydlon, ar ol hyn, mewn hen glogsan ag oedd yn y caban, ceid dernyn o arian gleision. Parhaodd felly am hir feithion flynyddoedd, ac aeth Meirig yn gyfoethog ddidrefn. Priododd, a daeth i'r Hafod i fyw, a pha beth bynag a drinai, llwyddai o dan ei law, ac oddiwrth hyny y galwyd y lle yn Hafod Lwyddog oblegyd y llwydd anghyd- marol a ddilynodd ymdrechion Bugail Cwm Dyli. Yr oedd y Tylwyth Teg yn talu eu hymweliadau nosol â'r Hafod, ac ni thyciai gŵg un rwyll, na swyn-gyfaredd un ddewines yn erbyn y fan, canys yr oedd " bendith y mamau yn cael eu hidlo yn gawodydd ar y teulu; felly, er symud, caed yr un fath roddion ganddynt, ac yn naturiol ddigon yr oedd Meirig Llwyd, a'i epil ar ei ol, yn cael eu cyfrif yn arianog i'w ryfeddu. A thyma chwedl Hafod Lwyddog.

HAFOD LWYFOG.

Yr oedd pobl Hafod Lwyfog tua haner can' mlynedd yn ol yn cael eu haflonyddu yn enbyd gan ryw fod anweledig. Ddydd a nos, yn hwyr ac yn fore, byddai y drychiolaeth yn cythryblu'r teulu! Ni chai y defaid gwirion ar lechwedd y mynydd, na'r gwartheg druain ar y porfeldir, mwy na'r teulu yn y tŷ, ddim llonydd. Lluchid y gweision, a llybindid y morwynion y ddibaid, nes yr oeddis wedi meddwl ei bod hi yn haner uffern yno. Awd i Laneilian a Dinbych, ond ni lwyddasid. Methwyd a gostegu'r pethau anhywaith a flinent bobl Hafod Lwyfog. O'r diwedd, penderfynwyd myned at ŵr eglwysig pur nodedig yn ei ddydd. Yr oedd eisoes wedi medru gostegu cythrwfwl Gwynfynydd, neu Yspryd mawr Llanegryn.' Yno y daeth yr offeiriad hybarch, ac ar ol ymdrech ofnadwy gallodd orthrechu y cryf arfog; ac o hyny allan caed llonyddwch i mewn ac allan, a myn y werin mai hen felldithwraig fawr Beddgelert oedd achos yr holl gyf-ymliw a'r trybini anesgorol hwn. Ni welwyd moni hi, beth bynag, fyth ar ol hyn, allan o'i bwthyn, a choeliai y rhan fwyaf o'r oes o'r blaen, mai ei meistroli a'i diofrydu a gafodd. Y mae ei hepil yn hawdd eu hadnabod: oblegyd y maent oll a "llygaid croesion" ganddynt, fel nôd difeth eu bod yn perthyn i'r faeden ystumddrwg a barodd gymaint o ofid yn y cyffiniau hyn yn yr amser a aeth heibio; a da, hyd yn oed yn awr, os ydyw arswyd rhai o'r hil wedi diflanu yn Meddgelert.

11.—Y Goleugoed.—Y mae'r lle hwn yn dwyn yr un enw eto; digon tebyg mai teneuach y coed ar y grimpan greiglyd hon, ac y gellid gyda mwy o rwyddineb ganfod teithwyr yma o'r herwydd.

12.—Elan Lueddog.—Merch ydoedd y rhian hon i Eudaf, arglwydd Caer Eudaf, sef yw hyny, Caer yn Arfon, a phriodi a wnaeth Maxen Wledig neu Clemens Maximus, llywydd y fyddin Rufeinig yn Mhrydain, o dan yr ymer— awdwr Grasian. Cyfododd yn erbyn ei feistr tua'r flwyddyn o. c. 383. Dywed traddodiad, a phwy wyr yn well, mai ei llwybrau hi ydyw y gwahanol ffyrdd sydd yn croesi, yn groes—ym—groes, y wlad o ben bwygilydd. Gel— wir y cyfryw yn Sarn Helen. Y mae ôl un o'r llwybrau yma i'w weled ar lan Llyn Dinas, er i'r cyfryw rywsut ddianc o olwg llygadgraff y Parch. H. L. Jones, yr hwn sydd wedi llafurio yn galed iawn, i gofrestru ac i gael allan yr olion Rhufeinig. Camgymera Edward Llwyd trwy geisio dilyn ffordd Elen o Nant Tal y Llyn i Ddinas Emrys. Methais yn glir a chael dim tipyn o weddillion y cyfryw, r dyfal chwilio. Nid oes rhith o honi yn Nghwm Llan, nac ychwaith ar hyd yr holl lechwedd o'r Ffridd i Ddinas Moch. Pe buasai rywbryd wedi bod, y mae'n ddilys genyf y gallesid naill ai cael rhyw olion o honi, neu ynte rhyw draddodiad yn ei chylch. Coelio yr wyf, os byddid yn croesi, nad oedd yr un ffordd na llwybr penodol y pryd hyny. Gellir gweled llwybr Elen ar un o gaeau Meillionen, ac hefyd rhwng y Gwesty a Chwm Cloch, fel ag y crybwyllais o'r blaen, ac yn ddiameu, ar hyd yr ochr hon yr oedd ei gyfeiriad. Sonir am Gastell Cidwm. Darn o graig anferth ydyw, yn nhalcen y Mynydd—mawr, a dywedir fod yn y graig ogof o'r hon y saethodd yr anghenfil cynddyrus" y Mab." Canodd dau fardd fel hyn i Gastell Cidwm yn ddiweddar.

Castell Cidwm, trwm y tro,—a fwriwyd
O'i fawredd i angho':
Clogwyni ceulawg yno
Wela'i fyth i'w wylio fo.

Lle llid fu Castell Cidwm.—y clegir
A'r clogwyn yn gwlwm:

Anferth dwr ger cwr y cwm !
Aruthrol fan i orthrwn.

Er's cwrs o flynyddoedd yn ol, pan oeddid yn aredig gerllaw pen isaf Llyn Cwellyn; (Tarddyni yr hen feirdd) caed cist—faen. Agorwyd yr unrhyw, a chaed ynddi olosg a thipyn o esgyrn braenllyd. Nid oedd ynddo ddim arwydd fod yno ddim Garn wedi bod. Gelwid y fan bob amser "Gweirglodd bedd y mab;" ond nid oedd yno na thy na thwlc yn agos i'r fan, ac nid oes yno, ychwaith, argoel i'r un gael ei chwalu. Nid ydyw'r lle yn mhell o'r Caeau Gwynion, a gwyr pobl y nant yn weddol dda am Fedd y Mab. Barna rhai mai yr un chwedl hanesyddol, wedi ei thrawsgyfleu, ydyw ag eiddo Owain Finddu; ac mai'r un ydyw Cidwm Nant Tal-y-llyn ag Eurnach Gawr Dinas Ffaraon. Ac os gwir, mai tri mab oedd gan Elen, nid oes dim tebygolrwydd i'r ddau ddigwyddiad gymeryd lle. Gwneir hyn yn fynych ddigon â chwedlau hanesyddol. Ceir crynhodeb cymhwysiadol i holl chwedlau Cymru oddeutu godre y Wyddfa, ac yn wir, y mae'n dra thebyg i amryw ddigwydd yn y cyrchle nodedig yma, oblegyd yr Eryri oedd dinas noddfa ein hynafiaid bob amser yn y dydd blin.

13.—Croesor. Y mae'r cwm hwn yn Mlaenau Nanmor, ac y mae "ffynon Elen" yno, yn bwrlymu grisial-ddwr gloywber. Pan ar ei hymdaith naill ai o Domen y Mur, tuag adref, neu ynte pan yn myned yno, y goddiweddwyd hi â'r newydd annedwydd o farwolaeth ei mab. Gwaeddodd yn wylofus "Croesawr i mi," a thyna paham y gelwir y cwm cul cornelawg hwn ar yr enw yna.

14.—Llech yr Efengyl.—Heb fod yn neppell o Blas Gwynant y mae'r fan hon; ac un o fynachod Beddgelert a wnaeth y weithred. Dywed eraill mai'r un ydyw a "Chareg y Dewin," rhwng Dinas Emrys a'r pentref: ond hwyrach y bu rhaid gwneud rhywbeth cyffelyb yn y ddau le.

DYN YN PRIODI UN O'R TYLWYTH TEG.

Yr oedd mab Drws Coed un diwrnod niwliog yn bugeilio ar ochr y mynydd dipyn yn is na Chwm Marchnad: a phan yn croesi gwaen frwynog canfyddai yn nghysgod twmpath fenyw fach brydferth odiaeth. Yr oedd ei gwallt crych— felyn yn gudynau modrwyog, a'i llygaid yn gyfliw y lâs— wybr oleu; ei thalcen

gyn wyned a'r donog luwchfa
Neu eiry un—nos ar lechweddi'r Wyddfa."


Ac ar ei dwy-rudd crynion "ddau rosyn coch, un ar bob boch," a'i genau mindlws yn ddigon a pheri codi chwant cusan ganddi ar angel. Y llanc meddalfwyn a ymdoddai mewn gwres serchiadol, a dynesu ati a wnaeth yn llednais gariadlawn, a gofyn iddi a wnaeth, a gai ef ymgom; hithau a wenodd yn hynaws, a chan estyn ei llaw, dywedai, "Eilun fy ngobeithion, yr wyt wedi d'od o'r Dechreuasant ymgyfrinachu, a beunydd ym- gyfarfyddent draw ac yma, ar hyd y gweunydd sydd o amgylch glanau Llyn y Gadair: o'r diwedd, aeth eu serch yn eirias danllyd, ac ni fedrai y dyn ieuanc fod yn llonydd yn nghwsg nac yn effro. Mynych y byddai'n selgyugian rywbeth yn debyg i'r penill melusber hwn:- diwedd.'

"O! BELLA'r wy'n hoffi dy rudd,
Mil harddach dy wefus na rhos
Myfyriaf am danat y dydd,
Tydi yw fy mreuddwyd y nos.
F'anwylyd mae nghalon yn dan,
A'm henaid yn oddaith o serch
O! tyred, atebs fy nghan,
Yr ydwyt yn fwynach na merch."


Collid y llanc pen-felyn am hir amseroedd weithiau, ac nis medrai neb frudio ei dreigl: coelid gan ei gydnabod ei fod wedi ei hudo: o'r diwedd caed allan ei gyfrinach. Yr oedd o amgylch Llyn y Dywarchen lwyni cysgodol hudd, ac yno yr elai, a phob tro yr ai yno, byddai'r wyddan yn sicr o fod yno yn ei aros, ac oblegyd hyn galwyd y lle yr arferent gyfarfod yn "Llwyn y Forwyn;" ar ol caru yn anwyl am hir amser, penderfynwyd priodi; ond yr oedd yn rhaid cael cenad tad y fun. Ryw noswaith loergan cytunwyd cyfarfod yn y coed, ac yno y daethpwyd, ond nid oedd hanes y teulu tan-ddaearol, nes yr aeth y lleuad tu hwnt i'r Garn. Yna dyma'r ddau yn d'od, a'r hen ŵr yn ddiseibiant a ddywedai wrth y cariadfab, "Ti a gei fy merch ar amod na tharewi hi â haiarn. Os cyffyrddi byth ei chnawd â'r peth yna, ni bydd mwy yn eiddo i ti, eithr dychwel at ei cheraint. Cydsyniai'r dyn yn ebrwydd, a mawr oedd ei lawenydd, ac ni sonid y pryd hyny am gynhysgaeth, oblegyd serch oedd yr unig gymeradwy waddol, er y byddai y rhieni, os gallent, yn gofalu am wneud eu rhan tuag at eu plant.

Dyweddiwyd y ddau, ac nid aml y gwelwyd pâr glanach a phrydferthach wrth yr allor ar ddydd eu priodas. Sonid fod swm enfawr o arian gwaddol wedi d'od hefo'r rhian dlosgain i Ddrws Coed noson ei neithior, ac yn fuan ar ol hyn, yr oedd bugail mynyddig Cwm Marchnad yn ddyn cyfoethog a thra chyfrifol. Yn ol trefn gyffredin anian, bu iddynt blant amryw, ac ni bu dau ddedwyddach yn cydfydio erioed. Yr oedd pob peth yn myned yn mlaen yn drefnus a chariadlon am swm o flynyddau, a golud yn ymdywallt yn gronfa i'w rhan, oblegyd un ryfedd ddigon ei throion ydyw Tynghedfen. Hon ydyw merch hynaf Rhagluniaeth, ac iddi hi yr ymddiriedodd ei mam ei thrysorau i'w cyfranu yn ol ei hewyllys. A dywed yr hên air "mai i'r pant y rhed dwfr," felly yn union bu yma. Aethant yn gyfoethog dros ben. Ond "ni cheir mo'r melus heb y chwerw." Un diwrnod aeth y ddau allan i farchogaeth, a digwyddodd iddynt fyned i ymyl Llyn y Gadair, aeth ei cheffyl hi i'r donen a suddodd at ei dòr. Wedi tynu ei anwyl Bella oddiar ei gefn, a ffwdanu cryn lawer, caed y ceffyl i'r lan, a gollyngwyd ef. Yna cododd hithau ar gefn ei un ei hun, ond yn anffortunus wrth frysio ceisio rhoi ei throed yn y gwrthol (gwrthafl), llithrodd yr haiarn a tharawodd, neu yn hytrach cyffyrddodd, a phen glin y Wyddan. Cyn eu bod wedi cyrhaeddd haner y ffordd adref yr oedd amryw o'r teulu bach yn ymrithio, a chlywai sŵn canu soniarus ar ochr y bryn; a chyn cyrhaeddyd Drws Coed yr oedd wedi myned oddiarno, a bernir iddi ddianc i Lwyn y Forwyn, ac oddiyno i'r byd isod, i wlad hud. Gadawodd ei blant bach anwyl i ofal ei hanwylyd, ac ni ddaeth mwy ar eu cyfyl. Ond dywed rhai y byddai ar brydiau, er hyny yn cael golwg ar ei hanwyl un yn y wedd a ganlyn. Gan na oddefai cyfraith ei gwlad iddi rodio ar y ddaear gyda neb un daearol, dyfeisiodd ei mam a hithau ffordd i osgoi'r naill a chaffael y llall. Rhoed tywarchen fawr i nofio ar wyneb y llyn, ac ar hono y byddai am oriau meithion yn rhydd-ymgomio yn anwylfryd â'i phriod, a thrwy y cynllun hwn medrasant gael byw gyda'u gilydd nes y gollyngodd ef ei enaid allan gan awel." Bu eu hepil yn perchenogi Drws Coed am lawer oes, a chyfathrachasant a chymysgasant a phobl y wlad, a bu llawer ymladdfa fileinig, mewn oesoedd diweddarach, yn Ngwyl-mab-santau Dolbenmaen a Phenmorfa, oblegyd y byddai gwŷr Eifionydd yn gwaeddi Bellisiaid ar bobl y Penant. Yma y terfyn chwedl y Wyddan.

NODIAD. Dylwn efallai sylwi, fod y chwedl hon yn cael ei lleoli mewn amryw fanau, heb nemawr gyfnewidiad oddigerth bod enwau a lleoedd gwahanol yn cael eu cymhwyso at ei hangen. Peth rhyfedd hefyd ei bod bob amser yn canlyn llwybr Elen. Hyny ydyw, mai yn ymyl y cyfryw, hyd ag y medrais i gael allan, yr ydys yn gosod y digwyddion i lawr. Sonia W. Williams, Llandegai, yn ei "Lyfr ar yr Eryri," mai yn yr Ystrad, gerllaw Bettws Garmon, y cymerth hyn le, a dilynir ef yn ei haeriad gan ysgrifenydd yn yr Herald Cymraeg am Rhagfyr, 1855. Y mae un arall yn Taliesin, yr 2il ran, yn yr Erthygl ar "Chwedlau a thraddodiadau plwyf Llanfachraith," yn ei dwyn i Feirion. Rhiwfelen (neu Riw Elen fel yr awgryma yr ysgrifenydd yno) ydyw'r lle y dywedir i hyn ddamweinio yn y wlad hono.

ELFOD Y BUGAIL

PAN oedd Elfod yn rhyw ddeuddeg neu dair ar ddeg oed, ac yn blino edrych ar ol praidd ei dad, ymgiliodd i lwyn o frysgyll, lle bu am ddeuddydd a dwy noswaith heb archwaethu tamaid. O'r diwedd ymddangosodd iddo ddau ddynyn rhithiawg, cwta droedfedd a haner o daldra. Dywedodd un o honynt wrtho yn hynaws ac addfwyn, Tyred hefo ni, a thi a gei bob peth a ddymuna dy galon." "Deuaf," ebe Elfod, "a da gan fy nghalon ydyw dyfod" yna canlynodd ar eu hol nes y cyrhaeddasant ddôl deg, ac yno suddasant a threiddiasant i grombil daear, nes o'r diwedd iddynt dd'od i wlad wastadlyfn hyfryd, lle'r oedd afonydd tryloywon yn troelli trwy ddoldir meilliondwf—lle'r oedd meusydd cnydiog, a choed— lanau blodeuog yn cynyrchu pob melusber ffrwyth: ond nid oedd yn oleu; lled dywyll oedd yr awyrgylch, os gweddus galw nenfwd o'r fath ar y fath enw. Nid oedd y trigolion yn amgen na chorachod; ond yr oeddynt yn lân odiaeth: penfelyn pob un o honynt, a'u cnawd fel trochion llyn.

Ond, er hyny, yr oeddynt yn ddewr eu gwala, ac yn marchogaeth ceffylau hyweddfalch cyflym-garn, tua'r un faint ac ysgyfarnogod. Eu bwyd oedd pob rhyw fath o afalau ac aeron, yn nghyda llaeth a gwreiddiau. Ni chlywid dim twrf o'r naill ben i'r llall iddi, ac ni chlybüid na llw na rhêg o ben neb, ac nis gallent feddwl goddef twyll na chelwydd yn eu cyffiniau.

Bu Elfod am lawer o flynyddoedd yn y byd isod, a mawr oedd ei barch a'i urddas yno. Ond er mor ddedwydd ei le, deuai awydd weithiau am fyned yn mysg eraill i'r byd uchod, oblegyd yr oeddynt yn medru myned a dyfod pan fynent, a dywedai y byddai ysgelerder gweithredoedd y byd hwn yn eu blino yn ddidrefn. Yr oedd aur ac arian mor luosog yno fel yr oedd hyd yn oed teganau chware y plant yn fwnau gwerthfawr oll. Pan oedd yno, addawodd beidio byth myned oddiwrthynt, ac byddai mwy fel un o honynt hwy eu hunain. Ond cododd rywbryd awydd arno am weled ei deulu am unwaith, a phenderfynodd dori ei flys, a dechreuodd hel pethau at eu gilydd gogyfer â'r daith.

Cymerth lawer byd o eiddo, ac ymaith ag ef am wlad ei enedigaeth: yr oedd pawb yn sôn an Elfod ar ol ei ddyfod: ond ni fynai ef ddweyd yn mha le y bu. Dywedodd, fodd bynag, wrth ei fam, fod yno ddarnau o arian ac aur fel ceryg; a chynghorai hithau iddo dd'od yno drachefn a pheli aur, a lympiau arian. Aeth yntau yn ol gyda'r bwriad hwnw, ond methodd yn glir faes a chael hyd i'r twll, a thra bu ef allan daeth dau ddyn i chwilio am dano, ar gefn merlynod gwynion: ac aethant a'i hudlath o'r tŷ, oblegyd pe buasai ei ffon wen ganddo, medrasai gael gafael ar y ffordd i lawr: ond gan iddo golli hono, ffaeliodd byth a chael gafael ar y twll.

Ar ol hyn, rhoes ei fywyd ar bethau dwyfol, ac aeth i'r Fynachlog i arwedd bywyd crefyddol. Urddwyd ef yn Offeiriad, a bu yn ŵr cymhwys a duwiol dros ystod ei oes, ac nid aeth ei feddwl fyth oddiar y golygfeydd a'r pethau a welodd ac a ddysgodd, yn y wlad isod, yn mysg y Tylwyth Teg. Yma y terfyn chwedl Elfod, a alwyd tua phen olaf ei oes, Elfod Offeiriad.

LLAM Y TRWSGL.

Yr oedd clobyn o gawr esgyrniog yn byw yn Nghwm Trwsgl. Byddai yn arfer myned i garu i'r Hafod Wydyr; ond nid oedd teulu'r ferch yn rhyw fodlon iawn i'r garwriaeth. Er hyny talu ymweliadau mynych a wnai y cawr er gwaethaf pob anhwylusdod. Ni ddywedir pa deimladau a achlesid gan y ferch; ond tebygol fod yno "dalu'r echwyn adref." Un noswaith, penderfynodd gwŷr y Nant wneud ymgais i'w ddal, ond rhedodd y cawr ymaith o'u blaenau, a llamodd o ben craig uchel nes yr oedd yr ochr arall, ac y mae ol ei droed yn glewt yno fyth : ond druan gŵr, cwympodd yn wysg ei gefn, a syrthiodd yn un gledren nes yr oedd fel pont ar draws yr afon. Fyth wedi hyn galwyd y lle yn "Llam y Trwsgl," a'r cwm yr ochr arall i'r Nant yn "Gwm Trwsgl," oherwydd y digwyddiad annghysurus a grybwyllwyd.

Y TYLWYTH TEG

PRIF le y Tylwyth Teg ydoedd Cwm Llan, a byddai bugeiliaid Hafod Llan yn eu gweled beunydd yn yr oesoedd ffyddiog sydd wedi diflanu. Unwaith, ar brydnawngwaith niwliog, yr oedd un o honynt rywdro wedi bod yn chwilio am ddefaid yn ochr Nant y Bettws. Pan wedi croesi Bwlch Cwm Llan, ac yn brysio'n ffwdanus i lawr, gwelai beth dirifedi o bobl bach, yn canu ac yn dawnsio yn hoenus ysgafndroed, a'r merched tlysaf a welsai erioed yn unlle, yn parotoi gwledd. Aeth atynt a chafodd ran o'u danteithion, a thybiai na phrofasai yn ei oes ddim byd yn eilfydd i'w seigiau. Pan ddaeth dechreunos lledasant eu pebyll, ac ni welodd y dyn y fath harddwch a chywreindeb yn ei einioes. Yr oeddynt yn rhoi iddo wely esmwyth o fan-blu tyner, a chynfasau o'r lliain meinaf; aeth yntau i'w orphwysfa mor gymenllyd a phe buasai yn dywysog. Ond bore dranoeth, dyn a'i catto, ar ol yr holl rialtwch â rhith ysplander, agorodd y truan ei lygaid, ac nid oedd ei wely yn ddim ond llwyn llafrwyn, na'i obenydd ond twmpath mwswg. Ond er hyny, cafodd lawer o arian gleision yn ei esgidiau: a chafodd ar ol hyn am hir amser ddernyn bob wythnos o arian bâth rhwng dwy gareg yn ymyl y lle y bu'n cysgu. Ond, fe ddywedodd ryw ddiwrnod wrth gyfaill iddo ei gyfrin yn nghylch yr arian, ac ni cha'dd ddim byth wed'yn.

Yr oedd un arall, rywbryd yn anos yn Nghwm Llan, a chlywai ryw rydwst mewn agen craig. Troes i edrych pa beth oedd yno, a chafodd allan fod rhyw greadur yno yn wylo yn hidl. Aeth i'r fan a'r lle a thynodd enithig allan, ond cyn pen nemawr dyma ddau ddyn canol oed yn d'od ato, a diolchasant iddo am ei gymwynas, ac wrth ymadael rhoes un o honynt ffon yn rhodd iddo fel cof-arwydd o'i weithred ddaionus. Y flwyddyn wedi hyn, yr oedd gan bob dafad a feddai ar ei helw, ddwy oen fanyw. Ac felly y parhaodd ei ddefaid i epilio am flynyddoedd rai. Ond un noson yr oedd wedi aros yn y pentref nes yr oedd hi'n bur hwyr, ac ni fu noswaith fawr erioed mwy tymhestlog na hono; udai y gwynt a phistylliai'r cymylau, ac yr oedd mor dywyll fel na welid ond y nesaf peth iddim; pan yn croesi yr afon sy'n d'od i lawr o Gwm Llan, a'r llif yn genlli enbyd yn ysgubo pob peth o'i flaen, aeth y ffon ryw fodd o'i law ac erbyn bore dranoeth pan awd i fynu i'r Cwm, gwelwyd fod ei ddefaid oll agos wedi cael eu hysgubo ymaith gan y llif, a bod ei gyfoeth wedi myned i

ffwrdd bron fel ag y daeth-hefo'r ffon.

TREF NANHWYNEN.

YN nghwr uchaf Nant Gwynant yr oedd tref fawr unwaith, yn cyrhaedd o lan y llyn i sawdl Gallt y Gwryd. Yr oedd y trigolion yn perthyn i'w gilydd i gyd, ac yn arwedd bywyd penrhydd a diofal. Nid oedd un pechod yn rhy annghariadus ganddynt i'w gyflawni, ac nid oedd "ofn Duw o flaen eu llygaid." Mynych y cynghorai ac y rhybuddiai y mynachod hwy, ond ni thyciai na gŵg na gwên i'w cyfnewid. Yn raddol ymgaledasant gymaint fel ag y llwyr fwriadasant ladd pob Offeiriad a ddeuai atynt. Rhoisant rybydd i'r cyfryw i ymogel d'od i'w tref: ond ni fynai gweision Duw hyny, eithr fel o'r blaen, deuent yno i'w rhybuddio hwy i edifarhau. Un diwrnod ar ol i ddau fynach fod yn pregethu bygythion dialeddol Duw am bechod wrthynt, ymroisant i'w lluchio â cheryg, a merthyrasant y ddau yn ddiseibiant. Y noson hono ymddangosodd i un lodesig, yr hon nid oedd o'r un dras a phobl y dref, a'r hon hefyd a wylai yn hidl wrth weled yr ysgelerder, angel claerwyn, a dywedodd wrthi, "Brysia, tyred allan: ffoa o dan gysgod fy aden." Cododd hithau ac aeth ymaith hefo'i gwarchodydd ysprydol. Wedi cyrhaedd allan o'r dref, eisteddodd ar gareg, a gwelai lif o dân gwreichionllyd yn disgyn o'r awyr yn gawod wyrddlas-goch. "Nac ofna," ebe'r angel, a llewygodd hithau, ac erbyn iddi ddadebru rywbryd dranoeth yr oedd tref Nanhwynen yn domen o ludw. Arosodd hi yn yr un lle am ddyddiau rai, yn gweddio Duw ac yn canu ei fawl Ef, ac er cof o'r digwyddiad, galwyd man ei gwaredigaeth fyth wedi hyn Gwastad Annas, oblegyd dyna oedd ei henw: (Agnes y mae'n debyg; ac y mae tŷ anedd yn awr heb fod yn neppell o'r lle y dywedir bod y dref unwaith yn sefyll, yn dwyn yr enw uchod.)

Y CROCHAN COEL

GAN NICANDER

DAETH i'm llaw, ychydig wythnosau yn ol, gyfrol o lyfr dyddanddoeth ffraethbert o'r enw Cymru Fu. Llawer prydnawn yr wyf wedi bod yn darllen y llyfr hwn i'r teulu; y fi yn darllen yn yr hen gadair dderw un ochr i'r tân mawn, a'r hen wraig mewn cadair arall yr ochr arall yn gwau hosan o gochddu'r ddafad, a'r plant yn eistedd ar stolion trithroed o gwmpas y bwrdd crwn bach, oll yn gwrando ar Hanes Glyndwr, Gwylliaid Cochion Mawddwy, a Robin Ddu Ddewin.

Clywais fy nain, yr hen Fargaret Wyn, dros haner can' mlynedd yn ol, yn adrodd lawer gwaith yr hanes canlynol nad yw yn Cymru Fu am Robin Ddu Ddewin.

Byddai Robin Ddu yn dewinio trwy rinwedd callineb a barn yn llawn mor fynych a thrwy nerth swyngyfaredd: a dyma i chwi un esampl. Yr oedd darn o ŵr boneddig yn sir Ddinbych wedi colli cwpan arian fawr, o werth gryn haner can' punt, ag oedd wedi bod yn y teulu er's oesoedd nad wyf fi ddim yn cofio pa faint. Methu'n glir las ulw a chael y cwpan, er pob ymchwilio a holi ac ymofyn. Gyru am Robin Ddu i swyngyfareddu'r gwpan i'r golwg. Y Robin yn dyfod yn llyfn rhag ei flaen heb golli amser. Dywedwyd yr holl hanes a'r holl amgylchiadau wrth y Robin, ac ychwanegu fod rhyw faint bach o achos i ddrwgdybio'r bwtler. Wrth i wr y ty (ni ddywed- odd fy nain ddim a oedd yno wraig ynte peidio) fyned dros y stori, Robin yn cosi tipyn ar lechwedd ei ben, ac yna yn cosi tipyn ar y llechwedd arall, a rhyw led besychu tipyn, tan wrando. Yna dywedodd, "Os oes neb o'ch tylwyth," eb ef, "wedi lladratta'r gwpan, mi a fynaf ei gael i'r amlwg cyn haner nos heno." Galw'r holl dylwyth bob copa ohonynt yn nghyd at eu gilydd i'r neuadd. Robin yn ei gap coch, a spectol bren anferthol ar ei drwyn, yn gofyn â llais gerwingroch pa un ohonynt oedd wedi lladratta'r cwpan. Pawb yn gwadu. "Os glân ydych oddiwrthi," ebe yntau, "ni bydd gan neb ohonoch wrthwyneb i fyned trwy brawf dewiniaeth." Pawb yn foddlon. Robin yn dweyd bod yn rhaid iddo gael crochan a cheiliog. Cyrchu'r ceiliog o'r glwyd, a'r crochan o'r gegin. Robin yn gosod y crochan yn y pantri a'i wyneb yn isaf, a'r ceiliog dano. "Yn awr," ebe Robin wrth yr holl deulu ymgynulledig, "rhaid i chwi oll fyned i'r un pantri o un i un, a rhwbio'r crochan yn dda â'ch dwylaw, a dychwelyd yma ar ol gorphen; ac os oes neb ohonoch yn euog o'r trosedd, bydd y ceiliog yn sicr o ganu wrth i hwnw rwbio ei ddwylaw yn y crochan. Y morwynion yn myned o un i un i'r pantri, lle yr oedd canwyll yn oleu, ac yna yn dychwelyd: ac yna'r gweision yr un modd. Ar ol gorphen y seremoni hon, Yna," ebe Robin, "dangoswch eich dwylaw i gyd ar unwaith." Pawb yn eu dangos; dwylaw pawb yn barddu hyd yr arddyrnau, ond yn unig dwylaw'r bwtler; dwylaw hwnw yn berffaith lân; yr oedd hwnw wedi ofni cyffwrdd â'r crochan. Cafwyd wrth hyn mai efe oedd y lleidr; cyffesodd ei fai ac adferodd y cwpan, a chospwyd y gwalch yn ol ei haeddiant.

PENNOD CYNDDELW

Gefail-gŵn

PEIRIANT rhyfedd oedd mewn bri a gwasanaeth yn yr Oesoedd Tywyll yw "Gefail-gŵn." Hen offeryn pwysig ac anhebgorol i "Gymru Fu" oedd hwn. Math o binsiwr pedwar aelod ydoedd, o hen dderwen gadarn, at ymaflyd yn ngàrau ci, neu yn ei wàr, a'i lusgo allan o'r Eglwys, os digwyddai iddo ymladd ag un o'i frodyr, neu ymddwyn yn anweddaidd yn amser y gwasanaeth. Mae amryw o'r gefeiliau henafol hyn i'w gweled hyd heddyw yn crogi ar barwydydd hen eglwysi plwyfol Mon ac Arfon. Gwelais un ohonynt yn Eglwys Llanelian, yn Mon, yn ddiweddar. Yr oedd y man gafaelyd ar ddull safn ci, a hoelion yn lle danedd iddo. Gwasgai yn anoddefol. Wrth ei agor, crebychai y pedwar aelod fel Jack y Jumper, fel y gellid ymaflyd mewn ci a fyddai yn ymyl y gweinyddwr; ond wrth wasgu, ymestynai yn sydyn, nes y byddai tua hyd pigfforch rhwng y ci a'i boenydiwr-felly nid oedd modd iddo gnoi mewn hunan-amddiffyniad. Yr oedd swyddog pwrpasol yn yr hen Lanau i ddefnyddio'r Efail-gŵn, a man pwrpasol iddo eistedd i wylio ysgogiadau y cwnach. Gwelais yr eisteddfa yn Llanelian. Y mae astyllen o dderw ar y pared yn ymyl, a "gwarcheidwad y Deml" yn doredig arni. Dyna enw swyddog yr "Efail-gŵn.' Pan oedd y wlad yn llawn o ddeadelloedd a bugeiliaid, byddai llawer o gŵn yn eu canlyn i'r llanau ar y Sul, a gwaith mawr fyddai cadw heddwch a gweddeidd-dra yn eu plith; a rhwng y cyfarth, yr ymladd, a'r udleisio yn nghrafangau yr "Efail-gŵn," byddai y cŵn a'u perchenogion mewn digon o helbul yn fynych.

Tras a Pherthynas.

YR oedd y Cymry yn ddiarebol yn yr hen oesoedd am arddelwi âch a pherthynas a'u gilydd. Mae'r wythfed a'r nawfed âch i'w clywed yn fynych ar lafar gwlad, er nad yw yr oes hon yn cydnabod prin ond yr ail a'r drydedd gradd mewn cyd-dylwyth. Gair cyffredin Gwent a Morganwg am geraint, neu berthynasau, yw cyd-dylwyth. Yr oedd gofal yr hen dadau am eu hachau yn dangos serch ac ymlyniad y Cymry wrth eu gilydd. 'Llyma y pum achos sydd i gadw achau:—1. O blaid priodasau teilwng. 2. O blaid etifeddiaethau tir a daear. 3. O achos-o achos tri pheth a bair tyngu anudon, cariad—gwerth—ac ofn. 4. O blaid cas a galanastra. 5. O blaid arfau; canys od â gŵr yn rhaid y brenin, a chael gradd fel y perthyn iddo ddwyn arfau; a gofyn i'r hores (herald) nid yw gymmesur i foneddig, os bydd arfau iddo ef ei hun, a hyny fyddai cydnabod nad oes bonedd iddo yn ei wlad." Hyd y drydedd âch yn unig y gellid hawlio "tir a daear." "Tri pherchenogaeth tir"; ar gyntefig, heb wahardd hyd yn nghwbl y trydedd âr; pentan cyntefig; a brodoriaeth gyntefig, sef yw hyny, rhoddi y frawd gyntaf yn llys, yn mraint a berchenogai y tir hyny o Gymro cynnwynol, bod prawf o hyny hyd gylch rhieni; sef yw rhieni, gwr, ei dad, ei hendad, a'i orhendad; ac o hyny hyd y nawfed âch edryd gerni eu gelwir." Dylai dyn wybod dosbarth a synwyr ar ei rieni, ei gyd-etifeddion, a'i blant. Canys rhieni dyn yw ei dad, ei hendad, a'i orhendad; cyd-etifeddion ynt brodyr, a chefndyr, a chyfyrdyr; etifeddion dyn yw y rhai a hanffo o'i gorph, megys mab, ŵyr, a gorwyr. Pan fo marw dyn o un o'r tair ach o gorph y cyff cynaliawdr, (sef y llinell union-syth,) yn ddietifedd o'i gorph, efe a wyr y dyn (cyfrwys) deallgar pwy a ddylai gaffael y tir hwnw oherwydd cyfraith. Canys hyd y drydedd âch y mae priawd ran ar dir yn llys cwmwd neu gantref, ac y gellir ei hawlio yn y cyfryw lys hwnw; ac ni ellir canlyn cwyn âch ac edryd (a plaint of kin and descent) i maes o lys dygynull, lle bo brawdwr penadur o blaid y brenin yn eisiau."

Hefyd, os oedd mantais yn dyfod i ddyn drwy ei âch, yr oedd anfantais fawr iddo, os byddai ei berthynas yn llofrudd. Disgynai dirwy am alanas (dynladdiad) ar y llofrudd a'i dylwyth. Yr oedd deuparth y ddirwy ar y llofrudd, a'r traian ar ei dad a'i fam. Os byddai ganddo blant mewn oed byddai raid iddynt hwythau dalu eu rhan hefyd; a byddai cenedl y fam, chenedl y tad, hyd y seithfed âch, yn gorfod talu. Felly yr oedd llu mawr o geraint yn gorfod dwyn gwarth pob trosedd a gyflawnid gan y llwyth hwnw. Yr oedd y brawd, y cefndyr, y cyfyrdyr, y cyfnai, y gorchyfuai, y gorchaw, a neiant feibion gorchaw, yn gorfod talu eu rhan o'r galanas. Bellach dyna ni yn gosod graddau tras a pherthynas i lawr:—

I. Y llinell ddisgynedig.—1. Tad, mam. 2. Mab, merch. 3. Wyr, wyres. 4. Gorwyr, gorwyres. 5. Caw, cawas. 6. Gorchaw, gorchawes. 7. Hengaw, hengawes. Gorhengaw, gorhengawes.

II. Y llinell esgynawl.—1. Tad, mam. 2. Tad cu, mam gu. 3. Hendad, henfam. 4. Gorhendad, gorhen fam. 5. Taid, nain. 6. Hendaid, hen-nain. 7. Gorhendaid, gorhen-nain.

III. Llinach gyfredol ddisgynedig.—1. Brawd, chwaer. 2. Cefnder, cyfnither. 3. Cyfyrdir. 4. Ysgiwion. 5. Gwrthysgiwion. 6. Cifyn. 7. Gorchifyn. 8. Gerni. 9. Gwrtherni.

IV. Gradd arall o linach gyfredol.—1. Ewythr, modryb. 2. Nai, nith. 3. Cyfnai, cyfnith. 4. Gorchyfnai, gorchyfnith. 5. Clud. 6. Câr clud. 7. Gwrth clud. 8. Câr o waed.

Yr oedd i ddyn brofi ei fod o genedl y Cymry, o fewn y "nawfed âch," cyn y cydnabyddid ef yn briodawr, neu ŵr rhydd. Byddai alltud yn hir iawn cyn y deuai ei hiliogaeth yn Gymry diledryw. "O derfydd dyfod alltud a gwrhan i'r brenin, a rhoddi tir iddo, a'i fod yn gwarchadw y tir yn ei oes, a'i fab, a'i wyr, a'i orwyr; y gorwyr hwnw a fydd priodawr o hyny allan." O derfydd o'r gorwyr hwnw gwedi hyny roddi ei ferch i alltud, mab y ferch hono sydd a hawl famawl gyda phlant y gorwyr hwnw." "O derfydd i alltud pan ddel o'r wlad wrhan i uchelwr, a myned oddiwrth hwnw at uchelwr arall, a cherdded o hono, a'i fab gwedi ef, a'i wyr, a'i orŵyr, a'i oresgynydd, o uchelwr i'w gilydd, heb wastattau yn un lle mwy na'u gilydd, byddent hwythau ar fraint alltudion hyd tra f'ont heb wastattau felly."

Yr oedd cadw achau fel hyn yn fuddiol ar lawer ystyr:— 1. I gadw y genedl yn bur a diledryw rhag cymysgu ag estroniaid.

2. I gadw moesoldeb a rhinwedd i fynu yn nghorph y genedl yn gyffredin.

3. I feithrin urddas a gwroldeb yn y Cymry, wrth gofio dewrder eu hynafiaid, a'u cadw rhag dwyn gwarth a mefl ar enwau yr hen wroniaid cyntefig.

4. Achau hefyd oedd yn rhoddi hawl i'r dyledogion i'w hetifeddiaethau.

5. Yr oeddynt yn fuddiol hefyd i sicrhau eu breiniau, a'u hanrhydedd i'r dinasyddion.

6. Gan eu bod fel y nodwyd yn rhanu y dirwyon am droseddau rhwng y perthynasau yr oedd yn iawn cadw achau fel y gwybyddid ar bwy i syrthio am dâl; ac yr oeddynt yn cael eu rhwymo fel hyn yn giwdodau wrth eu gilydd yn nghwlwm cymdeithas, yr hyn a'u gwnelai'n fwy anorchfygol fyth. Mae yr yspryd hwnw heb farw eto; am hyny dywedant Cymru fu, Cymru fydd," hyd byth anorphen.

Nawdd Gwraig

"Nawdd gwraig" oedd y nodded neu'r amddiffyniad a roddai gwraig i ffoadur yn amser rhyfel. Ymosod ar y cyfryw un, pan fyddai dan nodded gwraig, oedd "tori ei nawdd." O dair ffordd y sarhâeir y frenines: un yw, tori y nawdd a roddo."—Cyf. H. Dda.

Dynion annewr ac anfilwraidd a ddiystyrent, ac a dorent, "nawdd gwraig," drwy ruthro ar y gelyn tra o dan y cyfryw amddiffyniad. Ni wnelai y mawreddig a'r anrhydeddus hyny, am eu bod yn ormod o ddynion i ymladd a menywod, ac oherwydd eu parch i'r rhyw deg; ac o hyny y tarddodd y ddiareb, "Ni thores Arthur nawdd gwraig."

Môn, Mam Cymru.

Paham y gelwir Môn yn fam Cymru? Mae Giraldus, yr hwn a ymwelodd â Môn yn 1188, yn ateb: ai cywir ai annghywir yw'r atebiad, barned y cywrain. Dyna, beth bynag, oedd barn yr oes hono. "Mae'r ynys hon yn fwy ffrwythlon o ddim cymhariaeth mewn yd nag un parth arall o Gymru; ac o hyny y cododd y ddiareb Gymreig, Mon mam Cymru." Pan mae'r cnydau yn ddiffygiol yn mhob parth arall o'r wlad, mae'r ynys hon, oherwydd braster y tir a helaethrwydd y cynyrch, yn abl i ddiwallu angen holl Gymru." Nid oedd Dyffryn Clwyd, Dyffryn Wysg, a Bro Morganwg, dan driniaeth y pryd hwnw mae yn debyg, onide nis gallasai Môn ragori cymaint arnynt.

Rhys Grythor.

AT yr hyn a ddywedwyd eisoes am Rhys Grythor yn Cymru Fu, gellir nodi rhai mân—gofion yn mhellach. Ymddengys, wrth englynion Sion Tudur, i Rhys fyw i hen oedran, a'i fod mor ffol pan yn hen a phan ydoedd yn ieuanc. Yr oedd Rhys yn Eisteddfod gyntaf Caerwys yn 1525, a graddiwyd ef yn ddysgybl dysgyblaidd Cerdd Grwth. Gwelir ei enw ef hefyd yn yr ail Eisteddfod a gynaliwyd yno yn 1567; ac nid oedd tros ddeugain mlynedd o ymarferiad wedi codi ei radd un gronyn yn uwch nag o'r blaen. Treuliodd ei oes i ofera a chrasdafodi, eto yr oedd Sion Tudur yn dywedyd, er garwed oedd ei dafod,—

"Mwyn yw ei Grwth, myn y grog!"

Dyma chwedl am ei wrhydri. Yr oedd pawb yn adnabod Rhys; ond achwynai ei wraig nad oedd neb yn ei hadnabod hi. Penderfynodd Rhys o'r diwedd, er mwyn cael taw a llonyddwch, ddwyn ei wraig i sylw hefyd. Ar ddydd gwyl ffair yn Ninbych, cyfeiriodd ei sylw at grydd oedd yn gwerthu esgidiau, a dangosodd iddi bâr neillduol oedd yn crogi ar hoelen, a dywedodd, "Yr wyf wedi prynu yr esgidiau acw i ti; dos i'w ceisio." Aeth y wraig annichellgar a chymerodd yr esgidiau, gan dybied fod Rhys wedi talu am danynt; ar hyny, dyna wawch fawr yn codi fod lladrones yn dwyn pâr o esgidiau, a'r holl ffair yn cynhyrfu i'w dal a'i chosbi. Pwy yw hi? oedd y cri cyffredinol. "Gwraig Rhys Grythor!" oedd yr atebiad parod o bob genau: a chyn nos yr oedd pawb yn adnabod gwraig Rhys Grythawr.

Yr oedd Rhys yn honi y medrai gyflawni castiau goruwchnaturiol mewn ffordd o gonsuriaeth; ac yn un o ffeiriau Dinbych, penderfynodd osod ei dalent mewn gweithrediad. Yr oedd Potiwr yn gwerthu llestri ar yr heol: aeth Rhys ato, a dywedodd wrtho y talai iddo werth yr holl lestri, os cymerai efe ei ffon a'u curo'n gandryll pan welai efe Rhys yn cau ei ddwrn yn ffenestr llofft y dafarn oedd uwch ei ben. Dyna ben, ebe y Potiwr; hyn a hyn yw eu gwerth. Aeth Rhys i'r llofft hono at gyfeddach, a dechreuodd frolio ei ddawn i drin ysprydion, &c. Aeth y cwmni i'w ammheu, a gofyn beth a allai ef wneud mwy na dyn arall. Edrychwch ar y Potiwr yna," ebe Rhys, "pe bawn I ddim ond cau 'nwrn arno, elai o'i go' wyllt, a drylliau ei holl botiau yn yfflon." "Lol i gyd," ebe'r lleill. "Mi ddalia i chwi hyn," ebe Rhys. "Dyna ben," ebe hwythau. Yna aeth Rhys yn ddefosiynol iawn i ymgroesi, mwngialu iaith ddyeithr, a gwneud amrywiol ymdumiau, er mwyn tynu sylw, a dyna fo yn y ffenestr, yn cau ei ddwrn yn y modd mwyaf awdurdodol ar y Potiwr, nes oedd hwnw yn neidio ac yn gwylltio, yn chwilio am ei gwlbren, ac mewn mynydyn yn malurio ei holl lestri yn gregia uswydd màn deilchion.

HEN LANCIAU CLOGWYN Y GWIN.

GAN GLASYNYS.

WRTH sawdl y Wyddfa, yn nghwr uchaf Nant y Bettws heb fod yn neppell o lyn Cawellyn, y saif olion muriau hen dỹ Clogwyn y Gwin. Rhywle tua phedwar ugain mlyn- edd yn ol, yr oedd yno'n byw dri neu bedwar o frodyr ystig. Llabystiaid esgyrniog cyd-nerth, wedi cael eu magu yn ol dull iach yr hen amser, sef ar uwd a llymru, a bara ceirch a maidd, a chig defaid, a choch yr wden, &c.

Yn wir yr oedd rhywbeth hynod o gylch sodlau y Wyddfa tua'r adeg dan sylw. Yr oedd hen Lanciau'r Clogwyn yn ieuanc y pryd hyny, a Ffowc Tŷ du yn ei breim.. Cadi'r Cwm glas yn lodes lysti, a Margred Uch Ifan tua Phen-llyn, mor heinyf a phe buasai yn ddim ond un-ar-hugain oed, ac yntau Rhisiart William, delynor, ei gŵr, mor ffraeth a diddan a neb tafarnwr a fu'n cadw cil pentan mewn un oes.

Ni roisai llawer un yn awr gryn lawer am gael dim ond haner diwrnod yn nghwmni yr hen greaduriaid hynod hyn; pa un bynag ai'n hela hefo Modryb Margred, neu'n lladd mawn hefo Chadi'r Cwm glas, neu ynte'n taflu maen a throsol hefo Ffowc Tŷ-du, neu, os ceid cyfle, chwareu mig hefo Llanciau'r Clogwyn. Criw direidus enbyd oedd y rhai'n. Unwaith yr oedd y Teiliwr wedi bod yn addaw d'od i'r Clogwyn i weithio am yn hir, ac yn eu siomi. Ond ar ol hir a hwyr ddisgwyl daeth, ac nid oedd ond "talu i'r Teiliwr" ar ol iddo ddyfod. Felly dyma ddau o honynt i'r tŷ, a chloben o raff rawn o dan gesail un o honynt. Yna aethant un o bobtu'r bwrdd, a dechreuasant o ddifrif "dalu i'r Teiliwr" am ddweyd celwydd. "Aros di, Twm," ebai Ned Owen, "mi gei di fyn'd i gyfri'r sêr oddiar gefn yr ebol melyn. Tyr'd yrwan 'y mrawd." Gafaelodd y ddau ynddo, ac allan ag ef, a'r hen wraig eu mam yn mwynhau y driniaeth cyn gysted a neb. Daliwyd yr eboles felen yn hwylus a rhwymwyd y Teiliwr hefo'r rhaff rawn ar ei chefn, ac yna'r cwn ar ei hol ar hyd y llechwedd, a thrwy ganol y corsydd, i lawr at Lyn Cawellyn, ac i fynu at Gwm Planwydd, nes oedd yr hen gorphilyn bron wedi marw rhwng ofn a phobpeth. Troes y ferlen ei phen tuag adref, ac unionodd am Glogwyn y Gwin, a'r meibion wrth fodd eu calonau wedi cael gweled boneddwr y nodwydd ddur yn chwrlio ar gefn yr eboles felen. Yr oeddynt wedi dysgu campau ystumddrwg i'r eboles, oblegyd dyna fel y galwent hi, er ei bod yn ddiddadl wedi bod yn pori ar y weirglodd gerllaw am o leiaf ddeuddeg haf. Ar ol i Tomos y Teiliwr gael ei ryddhau, oblegyd yr oedd ei ddwylaw a'i draed yu rhwym pan ar gefn yr anifail, cymerwyd ef i'r tŷ, a gorfu arno fwyta cryliad o faidd. Yna cafodd lonydd am y diwrnod hwnw. Dro arall yr oedd Tomos yno'n gweithio, ac erbyn hyn nid oedd neb arall a ddeuai'n agos at y tŷ, rhag ofn a fyddai gwaeth iddo. Yr oedd Ifan Hir y Waun fawr wedi gorfod bwyta crochanaid o uwd yno rywbryd, ac yfed tri chwart o hen gwrw or ol hyny, nes y bu yn sâl am wythnos gyfan. Ac yr oedd Deio bach Nant Cwm Brwynog wedi cael gwasgu'r fêg arno, a'i ddowcio'n dda ganddynt rywbryd. Yr oedd Deio'n llawn mor gastiog a hwythau, ac ni phryfociodd neb mo Lanciau'r Clogwyn haner mor ddeheuig ag ef am gymaint o amser. Byddai Deio'n myned dros y mynydd yn fynych ddydd Sul i ad-dalu am a wnaed iddo gynt. Byddai yn myned uwchben Clogwyn y Gwin ac yn gwaeddi nerth esgyrn ei ben,

"Yr hogiau mawr diog,
Mae DEIO CWM BRWYNOG
Yn gofyn am gyflog
Yn gefnog ar gan:
Dowch allan, lebanod,
I odro eich gafrod,
Chwiorydd cam bychod, Cwm Bychan."


Byddai hyn yn sicr o dynu'r holl deulu allan, a'r cwbl yn wibwrn wylit. Rhedai un ffordd yma, fel milgi ar ol ysgyfarnog, ac un arall a wadnai'r ffordd draw fel ebol gwyllt, ond nid oedd yn ddim haws dal mellten pan yn gwibio drwy'r awyr na cheisio dal Deio. Byddai yn sicr o gael eu blaen a chyrhaedd Cwm Brwynog yn groeniach hollol. Ond i fyned yn ol at Twm y Teiliwr: yr oedd ef bob amser yn cael haner ei ferthyru ganddynt pan elai yno i bwytho. Y tro dan sylw, yr oedd y Teiliwr ar ben y bwrdd ryw ddechreunos, a dyma'r cŵn yn cyfarth yn ddi-drefn. Dyma un o'r brodyr yn myned allan, ac yn gwaeddi, "Myn cigfran, hogiau, y mae Jac y Lanter ar weirglodd Cawellyn." Piciodd y Teiliwr oddiar y bwrdd, ac am y drws, a chyda hyny dyma ddau o genawon yn ei gipio i ffwrdd ac at lan yr afon yr aed, ac yno rhoed tri chynyg iddo: y 1af oedd myned at gorn ei wddf i gorbwll; yr 2il, neidio tros bladur a gafael yn modiau ei droed; a'r 3ydd, yfed cowdal, milar strộc. Dewisodd Twm yr ylaf. Aeth i'r tŷ ar wâr un ohonynt, ac yna dechreuwyd o ddifrif wneud y cowdal ar ei gyfer. Ond mynai Ned mai lledr yfent a mêl oedd y peth goreu iddo, a chan na fedrent gytuno cafodd y Teiliwr lonydd y tro hwn. Daeth Twm Deiliwr yn araf deg i ddeall y Llanciau; a phan elwid arno, yno yr âi yn union deg, a chaffai groeso calon ganddynt. Y mae dwy neu dair eraill o chwedlau pen gwlad am danynt, ond cadwn y rhai hyny hyd rywbryd eto. Y mae Hen Lanciau Clogwyn y Gwin wedi myned i ffordd yr holl ddaear er's blynyddau, a'u campau drwy drugaredd wedi diflanu.

HEN BENILLION

Pan eis I i fyw yn gynil, gynil,
Fe aeth un ddafad imi'n ddwyfil;
Pan eis I i fyw yn afrad, afrad,
Fe aeth y ddwyfil yn un ddafad.


Pan oeddwn gyfoethog cyn myn'd yn dylawd,
Yr oeddwn yn gâr ac yn gefnder i bawb;
Pan eis yn dylawd ac i fyw mewn dyled,
Nid oeddwn yn gâr na chefnder i neb.


Da gan ddiog yn ei wely
Glywed swn y droell yn nyddu;
Gwell gan inau, dyn a'm helpo,
Glywed swn y tannau'n tiwnio.

O, fy anwylyd! tyr'd ar gais
I wrando llais yr adar,
Lle mae'r llanerch deca' roed,
Tan gysgod llingoed Llangar.

Myn'd i'r ardd i dori pwysi,
Pasio'r lafant, pasio'r lili,
Pasio bwnsh o rosys cochion—
Tori bwnsh o ddeiliau poethion.

Pan brioda Sion a minau
Fe fydd cyrn ar benau'r gwyddau;
Ieir y mynydd yn blu gwynion,
Ceiliog twrci fydd y Person.

Gwyn ei fyd na lwfiai'r gyfraith
I'm briodi dau ar unwaith;
'Rwyf yn caru dau 'run enw,
Sion ŵr ifanc, Sion ŵr gweddw.

Gwyn ei fyd na fedrwn hedeg
Bryn a phant a goriwaered,
Mynwn wybod er eu gwaetha'
Lle mae'r gog yn cysgu'r gaua'.

Yn y coed y mae hi'n cysgu,
Yn yr eithin mae hi'n nythu;
Yn y llwyn tan ddail y bedw,
Dyna'r fan y bydd hi farw.

Tebyg yw y delyn dyner
I ferch wen a'i chnawd melusber;
Wrth ei theimlo mewn cyfrinach,
Fe ddaw hono'n fwynach, fwynach.

O, f'anwylyd, cyfod frwynen
Ac ymafael yn eu deupen;
Yn ei haner tor hi'n union,
Fel y toraist ti fy nghalon


Na chais it' wraig o ferched Heth,
Nid yw ond peth anweddus;
Cais un o dylwyth tŷ dy dad,
Os ceisi râd priodas.

Dacw nghariad ar y dyffryn,
Llygaid hwch a danedd mochyn;
A dau droed fel gwadn arad',
Fel dallhuan y mae hi'n siarad.

Dacw nghariad ar y bryn,
Rhosyn coch a rhosyn gwyn;
Rhosyn coch sy'n bwrw'i flodeu,
Rhosyn gwyn fydd 'ngariad inau.


F'anwylyd, f'anwylyd, pa beth yw eich bryd,
Ai dringo pob cangen o'r goeden i gyd ?-
Y brig sydd yn uchel, a'r codwm sy'n fawr;
Fe geir eich cwmpeini pan ddeloch i lawr.

Mae 'ngariad i'n caru fel cawod o wlaw,
Weithiau ffordd yma, ac weithiau ffordd draw;
Ond cariad pur ffyddlon ni chariff ond un :
Y sawl a gâr lawer gaiff fod heb yr un.


Lleisiau a chydgordiad llon
A wna i'r galon lamu,
Tynu mêl o'r tanau mân,—
Holl anian yn llawenu;
Hynaws dôn yw nos a dydd,
Efelydd i'r nef wiwlu.


Tra fu genyf geffyl mi gawn fenthyg march,
Tra gellais ei ganlyn gan bobdyn cawn barch;
A chroesaw, cymeriad, a chariad, a chwyn,
A nosdawch, a dy'dawch, a d'wedyd yn fwyn—
Anwadal fynediad yw rhediad y rhod,
Y golud pan giliodd newidiodd y nod.


Mi a brynais gan y brenin
Frig y borfa a chreigiau Berwyn,
I fidlo castell ar le gwastad
Uwchlaw Corwen gyda'm cariad.


Mae nhw'n d'wedyd yn Sir Fon
Fy mod I'n hangmon meddw,
Ni welodd neb o fewn fy safn
Erioed 'run dafn o gwrw,
A thra bo'r frân yn gwneyd ei nhyth,
Ni'm gwelir byth yn feddw.


Tri pheth sy'n anhawdd imi:-
Cyfri'r ser pan fyddo'n rhewi,
Rhoi fy llaw ar gŵr y lleuad,
Gwybod meddwl f'anwyl gariad.


Sion a Gwen sarug y nos wrth y tân,
Wrth son am eu cyfoeth i mremian yr ân';
Sion fynai ebol i bori ar y bryn,
A Sian fynai hwyaid i nofio ar y llyn:
Ond digon synwyrol y dywedai'r hen wraig
Mai cyrch a gwair lawer i'r ebol sydd raid,
I'w gadw'n lysti, a hyny sy'n siwr,
Fe helith yr hwyaid eu rhaid 'rhyd y dwr.


Dau lanc ifanc yn myn'd i garu
Hefo'r afon ar i fynu;
Un a'i wn a'r llall a'i gledde,
Cysgod bedwen trodd hwy adre.

Dau lanc ifanc yn myn'd i garu,
Ar noswaith dywyll fel y fagddu;
Sŵn cacynen yn y rhedyn
Trodd hwy adre'n fawr eu dychryn.


Mae geny' ddafad gorniog, ac arni bwys o wlân.
Yn pori yn nglan yr afon, yn mhlith y ceryg mân;
Fe ddaeth rhyw hogyn heibio a hysiodd iddi hi,
Ni welais I byth mo'n nafad, os gwn I welsoch chwi?

Mi gweles hi yn y Bala newydd werthu'i gwlan,
A phibell a thybaco, wrth danllwyth mawr o dân.

O! deydwch wrth fy nafad am dd'wad at John Ddu;
Ni welais I byth mo'n nafad, ai tybed y gwelsoch chwi!


Tra bu'm I'n ŵr cynes a'm lloches yn llawn,
Fy marnu'n synwyrol ragorol a gawn;
Troi'n ynfyd a wnaethum pan aethum yn ol,
Di ras a di reswm a phendrwm a phol:
Ni cheir un gymwynas gyweithas fel gynt,
Ni roir i mi garrai lle gweriais I bunt.


Chwi fedrwch droi coronau crynion
I fyn'd yn fân ddimeuau cochion;
Ond mawr na fedrwch yru'r ddimau,
Gwana' gwaith yn geiniog weithiau.

Mi ddymunas fil o weithiau
Fod fy mron o wydr goleu,
Fel y gallai'r fun gael gweled
Fod y galon mewn caethiwed.

Mi alla'n hyfach ofyn ceiniog
Im' llaw fy hun na llaw 'nghymydog;
Haws i'm gadw a ge's nac enill;
Llwm a llesg fydd gwalch heb esgyll.

Llwm fydd llwdn newydd gneifio,
Fe fydd gormod o biogod yn ei bigo;
A gwael fydd gwr â gwisg o sidan,
A'i bocedau hwyr a bore'n hir heb arian.

Dysgwch fyned i farchnata
Lle mae pleser goreu cellwair y gwyr calla',
Ni cheir o fyn'd i ffair y ffyliaid
At rai barus i dai gwallus ond y golled.

Hardd yw'r 'fallen ddyddiau C'lanmai,
Hardd yw'r llwyn o tan ei flodeu;
Y Gauaf nid yw rhai'n cyn hardded,-
Felly mûn, hardd ei llun, pan gyll ei chariad.

'Roeddwn efo'r hwyr yn rhodio
Gerddi gwyrddion i'm comfforddio,
Uwch fy mhen clywn fwyn lymysten,
Oes yw'r loes! beraidd foes, yn uchel ochen.

Nesu wnes yn ewyllysgar,
At fwyn ei llais a main ei llafar,
A than ufudd ofyn iddi,
Er mwyn dyn, fwynaf fun, beth yw dy g'ledi?

Dyma'i hateb a'i hesgusion,
Aml gnoc a dyr y galon :
Unig wyf yn mysg yr adar,

A'm gado'n gaeth yma wnaeth fy nghymwys gymhar.

MAN-GOFION.

DAFYDD DDU ERYRI a ddamweiniodd fod unwaith yn Llangar, sir Feirion, yn cynal noswaith lawen gydag amryw eraill feirdd; a deisyf ganddo a wnaethant ganu englyn gan dant, yntau a ganodd yr Englyn hwn:—

Wrth chwarau tanau tynion—diesgus
Dysgwch waith angylion;
Gwnewch o'r ddaear hawddgar hon
Baradwys i'ch ysbrydion.

TRIOEDD LL. LLAWRWM O'R COETTY.—Tri dyn na thalant eu cwnu oddiar y domen; gloddestwr, ymbinciwr, a chrach-chwerthinwr.

Tri pheth goreu fydd eu crogi; eog hallt, het wleb, a chybydd.

Tri dewisbeth y Bardd Glas o'r Gadair; tân heb fŵg, ffordd heb laid, a gwraig heb dafod.

Tri pheth a ddylai gŵr eu meddu cyn yr elo i ymgyfreithio; clawdd aur, wyneb pres, a chalon ddur.

SYR RHYS AB TOMOS oedd arglwydd Deheubarth tan deyrnasiad Risiart Gefngrwm, brenin Lloegr, a than lŵ i'r brenin na oddefai i elyn lanio yn y gororau hyny, heb gerdded tros ei gorph ef; eithr pan glybu am ymgyrch Harri Tudur, ei gydwladwr, am goron Risiart, ymgyngreirio a wnaeth ag ef, a'i groesawu pan laniodd, ac er mwyn cadw ei lŵ, gorwedd ar lawr, a Harri a gamodd trosto. Felly yr oedd cariad Syr Rhys at ei wlad yn gryfach na'i gariad at ei deyrn. Y mae elfenau ffug-hanesiad campus yn muchedd ryfedd y gŵr dewr hwn.

  1. Y Brython Ebrill 1860 t155
  2. Geiriau o ddiystyrwch at anwybodaeth.— E. Llwyd
  3. Hare-bells, a elwid fynychaf "Clychau Bangor," blodyn bychan tlws o liw yr awyr las.
  4. cnwd y maes
  5. wyneb